Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/09/2024

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Croeso nôl i chi i gyd wedi toriad yr haf. Cyn i ni gychwyn ar yr eitem gyntaf, hoffwn hysbysu’r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar ddydd Llun 9 Medi, a bod Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar ddydd Llun 16 Medi.

1. Enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau

Eitem 1 sydd nesaf. Enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion pwyllgorau yw hwn, a dwi nawr yn mynd i wahodd enwebiadau, o dan Reol Sefydlog 17.2F, i ethol Cadeiryddion pwyllgorau. Dim ond aelod o’r grŵp gwleidyddol y dyrannwyd y pwyllgor hwnnw iddo a all gael ei enwebu’n Gadeirydd, a dim ond aelod o’r un grŵp plaid sy’n cael cynnig yr enwebiad. Cytunwyd ar y dyraniad Cadeiryddion grwpiau gwleidyddol yma yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A ac 17.2R. Pan fo gan grŵp plaid fwy nag 20 Aelod, mae’n rhaid i’r enwebiad gael ei eilio gan aelod arall yn yr un grŵp. Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu enwebiad, neu os ceir dau enwebiad neu fwy ar gyfer yr un pwyllgor, bydd yna bleidlais gyfrinachol yn cael ei chynnal.

Felly, symudwn ni ymlaen yn gyntaf i wahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, sydd wedi ei ddyrannu i’r grŵp Llafur. Oes yna enwebiad i gadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau? Hannah Blythyn. 

Oes, mae wedi cael ei eilio gan Mick Antoniw. Oes yna enwebiad arall ar gyfer cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau?

Mae Carolyn Thomas wedi ei henwebu gan Buffy Williams. Oes yna eilydd i’r enwebiad hynny?

Mae Joyce Watson yn eilio'r enwebiad yna o Carolyn Thomas, felly. A oes rhagor o enwebiadau ar gyfer y gadeiryddiaeth yma? Nac oes, does yna ddim rhagor o enwebiadau. Gan, felly, fod yna fwy nag un enwebiad, mi fydd yna bleidlais gyfrinachol ar gyfer y gadeiryddiaeth yna.

Dwi’n symud ymlaen nawr i wahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, hwn eto wedi ei ddyrannu i’r grŵp Llafur. Oes yna enwebiad ar gyfer y gadeiryddiaeth yma?

Oes, mae yna eilyddio i hynny gan Lesley Griffiths. A oes rhagor o enwebiadau? Na, dim rhagor o enwebiadau. Felly, gan taw un enwebiad yn unig sydd, a oes yna wrthwynebiad i’r enwebiad hynny—unrhyw wrthwynebiad i’r enwebiad o Hannah Blythyn yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad? Nac oes. Gan fod un enwebiad heb ei wrthwynebu, felly, dwi’n datgan bod Hannah Blythyn wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a phob hwyl gyda’r gwaith yna.

Gan fod yna fwy nag un enwebiad ar gyfer y Pwyllgor Deisebau, fe fydd yna bleidlais nawr yn cael ei chynnal. Bydd y bleidlais yna’n un gyfrinachol ac yn cael ei chynnal yn ystafell briffio 13, a bydd Aelodau yn derbyn e-bost yn fuan i’w hysbysu bod y pleidleisio yn agor am 2.15 p.m., ac fe fydd y cyfnod pleidleisio yn dod i ben am 4.15 p.m. Fe fyddwn ni yn cyfri’r bleidlais ac yn datgan yr enillydd ar ddiwedd y prynhawn. Reit, dyna'r housekeeping wedi ei wneud. 

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Fe awn ni ymlaen nesaf at gwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae’r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Buffy Williams.

Y Warant i Bobl Ifanc

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y warant i bobl ifanc? OQ61541

13:35
Toriadau Posibl i Wariant gan Lywodraeth y DU

2. Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU am effaith toriadau posibl i wariant gan Lywodraeth y DU ar drigolion Gorllewin De Cymru? OQ61501

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

13:45

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rhyw ychydig dros fis sydd yna ers roedden ni'n sefyll yn y fan hyn yn llongyfarch y Prif Weinidog newydd ar ei phenodiad. Rŵan, yn ein sesiwn gyntaf i'w holi hi, beth rydym ni'n ei ganfod o hyd, neu beth rydym ni'n trio ei ganfod, ydy beth yn union mae'r penodiad newydd yn ei olygu i Gymru.

13:50
13:55
Ynni Prydain Fawr

3. Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynghylch sut y bydd Ynni Prydain Fawr o fudd i Ganolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61507

Yn ystod ymweliad â fferm wynt yn sir Gâr, ces i drafodaethau cynnar, cadarnhaol iawn gyda'r Prif Weinidog. Er bod Ynni Prydain Fawr ar gam cynt o lawer na'n cwmni ynni ni, rŷn ni’n ystyried sut gallai gweithio mewn partneriaeth sicrhau manteision i bob rhanbarth yng Nghymru.

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o glywed eich bod chi wedi dod i sir Gâr i weld fferm wynt ym Mrechfa gyda Syr Keir Starmer. Ac ynddi hi, gwnaeth e ddweud yn hyderus iawn, iawn y byddai GB Energy yn dod â manteision hollbwysig i Gymru. Nawr, ers yr ymweliad, dwi wedi bod yn stryglo ychydig bach i ddeall beth yn union mae hynny yn ei olygu; gobeithio y byddwch chi'n gallu esbonio mwy prynhawn yma. Fel dwi'n gweld pethau, mae GB Energy'n tanseilio'n gallu ni fel cenedl i ddatblygu sector ynni adnewyddadwy domestig sy'n elwa'n cymunedau ni, gan gynnwys drwy'r gwaith mae Ynni Cymru yn ei wneud. I fi, mae GB Energy'n edrych fel cyfrwng ar gyfer unwaith eto defnyddio adnoddau naturiol Cymru er budd Ystad y Goron ac, yn y pen draw, y Trysorlys, a bod yr un hen batrwm rŷn ni wedi'i weld dros y blynyddoedd o'n glo, ein dur, ein dŵr, ein llechi ac yn y blaen yn cael eu hecsbloetio er budd San Steffan, nid er budd cymunedau Cymru.

Nawr, dim ond drwy ddatganoli Ystad y Goron y gallwn ni ddatblygu system ynni sydd wir o fudd i'n cymunedau, ac rŷch chi fel Llywodraeth yn cytuno â ni ar hynny. Felly, a allwch chi gadarnhau, Brif Weinidog, eich bod chi'n barod wedi cael sgwrs gyda San Steffan ynglŷn â datganoli Ystad y Goron?

Diolch yn fawr. Wel, roeddwn i'n falch dros ben bod Keir Starmer wedi dod i Gymru yn gynnar iawn, unwaith y gwnaethom ni ei wahodd e, a'i fod e'n falch iawn o ymweld â'r fferm wynt yna yn sir Gâr, achos mae hwn yn rhan o sut rŷn ni'n mynd i dyfu'r economi, yr economi werdd, yng Nghymru. Mae lot mawr o botensial gyda ni, ond dyw hi ddim yn rhywbeth sy'n rhwydd i'w wneud, ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n defnyddio pob gallu sydd gyda ni, nid jest yng Nghymru, ond ddefnyddio'r leverage ychwanegol yna sy'n dod o gydweithredu gyda'r Llywodraeth newydd yn San Steffan.

Beth gallaf ei ddweud yw bod Trydan Gwyrdd Cymru ar flaen y gad. Rŷn ni wedi dechrau ar yr ymgyrch yma yn barod. Mae eisoes ffermydd gwynt wedi eu codi mewn ardaloedd sydd eisoes yn dod ag arian nôl i mewn i'r pwrs cyhoeddus. Ond mae Trydan Gwyrdd Cymru dim ond yn gallu gwneud stwff sydd ar dir. Dwi'n meddwl bod yna gyfle nawr inni gydweithio gyda GB Energy i weld pa mor bell rŷn ni'n gallu mynd trwy gydweithredu pan fo'n dod i offshore developments hefyd. Felly, mae'r trafodaethau yna wedi dechrau, o ganlyniad yr ymweliad yna gan Sir Keir Starmer, maen nhw'n barod iawn ac yn awyddus i ddysgu o beth rŷn ni wedi'i wneud yn barod, ond wrth gwrs bydd y swm sydd gyda nhw i'w roi i mewn i'r cyllid yn help aruthrol i ni, ac maen nhw'n awyddus iawn i fod o help i ni.

14:00
Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd? OQ61515

14:05
Parcffordd Caerdydd

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiad arfaethedig Parcffordd Caerdydd yn Llaneirwg? OQ61542

14:10
Ansawdd Dŵr mewn Afonydd

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gamau Llywodraeth Cymru i wella ansawdd dŵr mewn afonydd? OQ61498

14:15
Llifogydd

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau y mae llifogydd yn effeithio arnynt? OQ61532

Gwasanaethau Iechyd ym Mhreseli Sir Benfro

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ61491

Ers 2022, mae nifer y llwybrau cleifion sy'n aros dwy flynedd wedi mynd i lawr 80 y cant ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Er hynny, mae mwy i'w wneud. Drwy ymyrraeth wedi'i thargedu, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd i wella mynediad at iechyd a gofal diogel ac amserol.

14:20
3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Mae'r eitem nesaf wedi ei ohirio—eitem 3, sef y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol.

4. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Nawr fe gawn ni, o dan eitem 4, gynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal yr eitem nesaf o fusnes. Y Prif Weinidog sy'n cynnig hwn yn ffurfiol.

Cynnig NNDM8655 Eluned Morgan

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8654 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 17 Medi 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Oes yna wrthwynebiad i atal y Rheolau Sefydlog dros dro? Nac oes. Felly, mae hynny wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Cynnig i gymeradwyo enwebu Cwnsler Cyffredinol

Mae hynny'n ein caniatáu ni i gymryd eitem 5, sef y cynnig i gymeradwyo enwebu Cwnsler Cyffredinol. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud yr enwebiad yna. Eluned Morgan.

Cynnig NNDM8654 Eluned Morgan

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi y Brenin benodi Julie James AS yn Gwnsler Cyffredinol.

Cynigiwyd y cynnig.

Does neb arall eisiau cyfrannu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn a Julie James wedi ei hethol yn Gwnsler Cyffredinol. Pob hwyl gyda'r gwaith yna.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hwn. Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:24:00
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon, fel y nodir ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.

14:25

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau beth o ran busnes y Senedd, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, sicrwydd y bydd cysondeb, rŵan, o ran busnes y Llywodraeth, rŵan bod Llywodraeth wedi'i phenodi, yn hytrach na newidiadau munud olaf a'r ansicrwydd a wnaeth ein hwynebu ni cyn toriad yr haf, ac, felly, dros yr wythnos diwethaf o ran busnes heddiw. Yn ail, hoffwn wybod pryd fydd y rhestr o gyfrifoldebau gweinidogol yn cael ei rhannu fel ein bod yn gwybod pa Ysgrifennydd y Cabinet neu Weinidog sy'n gyfrifol am beth. Mae yna gymaint o heriau yn wynebu Cymru a dydy'r ansicrwydd yma ddim yn help i unrhyw un o bobl Cymru. Felly, mae dirfawr angen hynny. 

Hefyd, o ran y rhanbarth, hoffwn ofyn am ddiweddariad ynglŷn â’r adolygiad o’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mi gawson ni wybod nad oes yna arian. Dŷn ni’n deall hynny, ond buaswn i yn hoffi gwybod gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth, a hefyd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, pa asesiad sydd wedi ei wneud o effaith hyn ar bresenoldeb dysgwyr. Sut ydyn ni’n mynd i sicrhau bod dysgwyr yn medru cyrraedd yr ysgol, oherwydd dwi’n clywed yn barod am heriau dirfawr—sydd yn benodol yng Nghaerdydd—sy’n stopio dysgwyr rhag cyrraedd yr ysgol oherwydd bod yna ddim trafnidiaeth ysgol a bod y bysys ddim ar gael? Felly, mae’n rhaid inni gael sicrwydd ar hyn os ydyn ni eisiau i’n disgyblion ni fod yn yr ysgol.

14:30
14:35
14:40

A gaf i ofyn am ddatganiad, naill ai gan y Gweinidog materion gwledig neu'r Gweinidog â chyfrifoldeb dros gynllunio, neu efallai'r ddau gyda'i gilydd a dweud y gwir, ynglŷn â'r sefyllfa o safbwynt delio â cheisiadau cynllunio yn ymwneud â siediau ieir yng Nghymru? Nawr, rŷn ni'n gwybod bod yna nifer ohonyn nhw yn eistedd ar ddesg Gweinidogion yn aros i gael eu penderfynu arnyn nhw ac wedi bod felly ers amser maith. Mae angen amserlen, o leiaf, i fod yn glir ynglŷn â beth gall disgwyliadau'r unigolion yma fod.

Ond dwi hefyd eisiau cyfeirio at rywbeth bach yn wahanol, sef, wrth gwrs, y gofynion lles anifeiliaid newydd mae archfarchnadoedd yn eu gosod ar gynhyrchwyr pan mae'n dod i ddofednod, sy'n gofyn am fwy o le i ddofednod yn y siediau sy'n cynhyrchu. Ac er mwyn cynnal lefel y cynhyrchiant, mae'n rhaid i'r cynhyrchwyr yna gael mwy o le, felly mae angen codi sied newydd. Er bod yna ddim mwy o ddofednod, bydd yna ddim mwy o dail, ddim mwy o wastraff ac yn y blaen, bydd angen mwy o le. Dwi'n gwybod am un busnes bwyd yn y gogledd, sy'n gweithio gyda'u cynhyrchwyr ar draws y gogledd, fydd angen 24 sied newydd dim ond i aros yn llonydd. Felly, mae yna nifer fawr o geisiadau ychwanegol ar y ffordd i gyfeiriad y Llywodraeth cyn mis Chwefror, a dwi eisiau clywed gan y Gweinidogion beth yw eich cynllun chi i fedru delio gyda'r rheini yn effeithiol a sicrhau y bydd y ceisiadau hynny'n cael eu delio â nhw mewn modd rhesymol, ond hefyd amserol pan mae'n dod i gyrraedd y nod o gyflawni hyn erbyn mis Chwefror. 

14:45

Gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros yr economi, ynni a chynllunio am gynlluniau Llywodraeth Cymru i edrych eto ar yr amodau cynllunio wnaeth alluogi i ddatblygwr greu ystâd o dai ym Mrynteg yn Ynys Môn? Mae Brynteg yn bentref bendigedig. Mae’n ystâd fendigedig o dai sy’n edrych yn addas iawn ar gyfer teuluoedd lleol, ond mae’r tai ar gael i brynwyr ail gartrefi yn unig. Mi gafodd y caniatâd ar gyfer y datblygiad ei roi yn 2010. Mae’r ail phase ar werth erbyn hyn am bris rhad, a hynny mewn cyfnod lle mae hi’n mynd yn fwy a mwy anodd i bobl leol sy’n gobeithio cael eu troed ar yr ysgol dai i ffeindio cartref i’w brynu neu i’w rentu. Bwriad yr amodau cynllunio fyddai i hybu gweithgaredd economaidd, ac, ohoni’i hun, mae hynny’n egwyddor sy’n iawn. Ond dwi’n siŵr y bydd y Trefnydd yn cytuno efo fi a nifer o drigolion Ynys Môn yn ein rhwystredigaeth ni bod cynllunio a rheolau cynllunio yn caniatáu datblygiad fel hyn sydd yn eithrio ac yn gwahardd teuluoedd lleol rhag prynu tai. Felly, mi fyddai datganiad yn gyfle i ni glywed ymrwymiad, gobeithio, gan y Gweinidog i edrych eto ar yr amodau cynllunio i sicrhau nad yw datblygiad o’r math yma yn gallu digwydd.

14:50
7. Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru
8. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Yr economi werdd
9. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau rhynglywodraethol
10. Datganiad gan y Prif Weinidog: Blaenoriaethau'r Llywodraeth

Eitem 10 heddiw yw datganiad gan y Prif Weinidog ar flaenoriaethau'r Llywodraeth, a galwaf ar y Prif Weinidog, Eluned Morgan. 

Rydw i wedi penodi Gweinidog Cyflawni a fydd yn arwain y newid hwn. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn ni'n datblygu rhestr gynhwysfawr o'r hyn sy'n cael ei gyflawni, pryd y bydd angen ei gyflawni, a gan bwy, o fewn yr adnoddau ariannol sydd gennym ni. Bydd y Cabinet wedyn yn cwrdd yn fisol i fonitro cynnydd ein huchelgeisiau a’n hamcanion pwysicaf.

Ond, os ydyn ni eisiau cyflawni ei hamcanion ar y cyd, mae’n rhaid inni fod yn onest ac yn realistig. Mae penderfyniadau anodd o’n blaenau ni. Mae’n rhaid inni flaenoriaethau amser ac adnoddau cyfyngedig y Llywodraeth. Dwi’n gwybod na fydd hyn yn hawdd, a dwi’n gwybod am y niwed y mae 14 mlynedd o gamreolaeth y Ceidwadwyr wedi’i wneud i gyllid y Deyrnas Unedig. Fel y dywedodd Nye Bevan, sylfaenydd yr NHS, iaith blaenoriaethau yw crefydd sosialaeth. Dyw hynny ddim cweit yn gweithio yn y Gymraeg.   

Heddiw, mae gyda ni'r cyfle gorau mewn mwy nag 14 mlynedd i wireddu ein huchelgeisiau dros Gymru. Am gyfnod rhy hir, mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi rhwystro ein pwerau datganoledig ac wedi ceisio atal ein huchelgeisiau ar bob cyfle. Ond nawr mae newid wedi dod.

Ychydig ddyddiau yn ôl, dangosodd y cytundeb rhwng Tata Steel a Llywodraeth y Deyrnas Unedig sut mae cael Llywodraeth Lafur o fudd i fywydau pobl yng Nghymru, a sut y bydd y buddiannau yma'n parhau. Nawr yn y Llywodraeth, mae'r Blaid Lafur wedi ymrwymo i gronfa cyfoeth cenedlaethol gwerth £2.5 biliwn i ailadeiladu'r diwydiant dur. Mae'r pecynnau diswyddo sy'n cael eu cynnig i weithwyr dur yn fwy hael na'r rhai a gafodd eu cynnig o dan y Torïaid chwe mis yn ôl. Byddaf yn gwneud datganiad mwy manwl am y diwydiant dur yn hwyrach heddiw.

Nawr mae gyda ni bartneriaeth mewn pŵer: dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio dros Gymru. Dyma'r foment inni godi ein huchelgeisiau, ac rŷn ni eisoes wedi dangos beth y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd. Achos, yr wythnos diwethaf, fe wnaethon ni gyhoeddi cynigion cyflog i weithwyr y sector cyhoeddus sydd wedi codi mwy na chostau byw a chwyddiant, gan dderbyn yn llawn yr argymhellion cyflog gan gyrff adolygu cyflogau annibynnol, ac yn adlewyrchu barn y cyhoedd sydd wedi dweud wrthym ni ar y strydoedd dros yr haf fod gwasanaethau cyhoeddus a'r bobl sy'n gweithio ynddyn nhw o bwys. Mae hynny'n golygu dyfarniad cyflog o 5.5 y cant i athrawon, 6 y cant i ddoctoriaid a deintyddion, yn cynnwys meddygon teulu, gyda £1,000 ychwanegol ar gyfer doctoriaid iau, a 5.5 y cant i staff y gwasanaeth iechyd sydd ar delerau ac amodau 'Agenda ar gyfer Newid'.

15:00
15:05
15:10

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am y datganiad? Ac, ar ddechrau tymor seneddol, dwi'n dymuno'n dda iawn iddi yn ei gwaith. Mi fyddaf i'n ei hannog hi i ddangos uchelgais go iawn bob un dydd, ond, yn anffodus, dydy'r dystiolaeth sydd wedi ei chyflwyno drwy'r datganiad yma ddim yn rhoi llawer o hyder i rywun. Cwestiwn ymarferol ar y dechrau, os caf i. Roeddwn i o dan yr argraff mai ymgynghoriad Llywodraeth oedd yn cael ei gynnal yr haf yma. Dwi'n reit siŵr bod y Prif Weinidog wedi defnyddio arian cyhoeddus i wneud y gwaith, ac eto mae'n dweud mai arolwg gan y Blaid Lafur gafodd ei gynnal, a data wedi ei gasglu gan y Blaid Lafur oedd hwn. Efallai y gall y Prif Weinidog egluro beth yn union oedd natur y berthynas yna. Mae rhywbeth sydd ddim cweit yn iawn yn y fan yna, ond yn sicr mae o'n cadarnhau—ac mae hynny'n bwysig—mai darn o waith ar gyfer tawelu'r dyfroedd o fewn y Blaid Lafur oedd hyn, yn hytrach na rhywbeth er budd pobl Cymru. 

Rŵan, mae gwaddol y rhestrau aros hiraf erioed, y cwymp mewn safonau yn ein hysgolion, cyflogau isel, yn dangos inni fod Llywodraethau Llafur wedi cael eu cyfle ac wedi methu. Dwi'n gwybod beth mae pobl yn ei ddweud wrthyf i, nid mewn rhyw ychydig o wythnosau o ymgynghoriad tawelu'r dyfroedd, ond yn gyson. Beth maen nhw'n ei ddweud ydy eu bod nhw angen gobaith am NHS cynaliadwy, am system addysg sy'n cryfhau. Ac ydych chi'n gwybod beth, mae'r gobaith yna wedi mynd yn beth prin iawn, iawn dan Lywodraethau Llafur erbyn hyn, a dyna pam bod yn rhaid cael dechrau ffres, ac rydym ni'n cynnig hyny. Roedd hynny'n wir cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf; rŵan, mae teyrngarwch Llafur i'w penaethiaid yn San Steffan yn datblygu i fod yn broblem fwy nag yr oeddwn i wedi'i hofni, hyd yn oed—yr amharodrwydd yna i frwydro cornel Cymru go iawn rhag cynhyrfu'r dyfroedd. Allwn ni ddim fforddio Llywodraeth felly.

Mae Cymru angen Llywodraeth sydd ddim yn ofni herio San Steffan, pwy bynnag sydd â'r allwedd i Rif 10 Downing Street. Dim ond felly y gallwn ni drio cael tegwch i'n cenedl ni, tegwch cyllidol, tegwch cyfansoddiadol, agwedd newydd at daclo tlodi, yr angen am fuddsoddi strategol mewn gofal iechyd ataliol, ffocws ar godi safonau addysg, ar greu cyfoeth, meithrin sgiliau, codi cyflogau, cefnogi nid cosbi busnesau bach, cefnogi cefn gwlad ac amaeth, a cheisio cadw a denu talentau ifanc. Dyna fydd blaenoriaethau Plaid Cymru, a dwi'n edrych ymlaen at fanylu mwy ar ein gweledigaeth dros y 18 mis nesaf, tra'n dal y Llywodraeth Lafur yma i gyfrif ar ran pobl Cymru. Felly, efo'r cwestiwn yma i gloi: pryd cawn ni dargedau ar iechyd, ar addysg, ar drwsio ffyrdd, ar dwf economaidd? Achos, fel arall, mae hwn wirioneddol yn ddatganiad tenau y prynhawn yma.

15:15
15:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

15:25

Er yr holl siarad am ailosod ac ailfywiogi'r Llywodraeth yma, ar ôl treulio naw mis yn rhoi blaenoriaethau’r Blaid Lafur yn flaenaf ar draul llywodraethu Cymru, roedd yna dôn cyfarwydd iawn i'w glywed yn y blaenoriaethau a nodwyd am iechyd a gofal, oherwydd mae'r hyn yr ydym ni wedi'i glywed heddiw, a dros yr wythnosau diwethaf, yn syfrdanol o debyg i'r hyn a ddywedodd ei rhagflaenydd yn ôl ym mis Ebrill. Neu yr hyn a ddywedodd ei ragflaenydd o. Ac yn wir yr hyn a ddywedodd ei ragflaenydd yntau. Edrychwch ar unrhyw un o ddatganiadau cenhadaeth unrhyw un o'r chwe Aelod Llafur sydd yn bresennol yma heddiw sydd wedi dal y portffolio iechyd ac mi welwch chi ddatganiadau tebyg. Ac, ydy, mae honna’n ystadegyn syfrdanol, onid ydyw? Mae yna chwech ohonoch chi bellach yn y Siambr yma sydd wedi dal y portffolio iechyd ac yn parhau i fethu. Dydy cysondeb, wrth gwrs, ddim yn beth gwael, ond er mwyn cael unrhyw hygrededd, yna mae'n rhaid profi bod dweud a gwneud yr un peth drosodd a throsodd yn dwyn ffrwyth. A dyna lle mae'r Llywodraeth yma wedi methu, dro ar ôl tro. Yn hytrach na gwella safonau, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld ydy normaleiddio methiannau, a safonau yn disgyn o dan fethiannau Llafur yng Nghymru.

15:30

Doedd yna ddim sôn yn eich datganiad am dlodi plant. Mae’n hynod siomedig. Gofynnais i chi, pan ddaethoch chi’n Brif Weinidog, i roi trechu tlodi plant ar frig eich agenda ac adfer targedau. Dyna beth sy’n rhoi delivery i chi, Brif Weinidog—targedau, targedau i roi terfyn ar dlodi plant. Pan ollyngwyd y targed gan Lywodraeth Cymru yn 2016, dywedwyd bod hyn oherwydd bod polisi Llywodraeth San Steffan wedi gwneud y targed yn anghyraeddadwy. Un o'r polisïau hynny oedd y rhaglen diwygio lles, a'r ffaith nad oedd gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i wneud y newidiadau sydd eu hangen i, er enghraifft, y cap dau blentyn a'r terfyn ar fudd-daliadau. Felly, pa newidiadau polisi y bydd Llywodraeth Cymru'n gofyn i Lywodraeth newydd San Steffan eu gwneud a fydd yn eich helpu chi i gyflawni amcanion eich strategaeth tlodi plant? Ac a fydd targedau i roi terfyn ar dlodi plant yn cael eu hadfer nawr bod Llywodraeth Lafur mewn grym yn Llundain?

15:35

Rŷch chi'n ei galw hi'n bartneriaeth pŵer, ond, eto, dim ond chi sy'n cael siarad am y bartneriaeth, mae'n debyg.

Gaf i ofyn, ar fater arall, heblaw am y ffaith eich bod chi eisoes wedi tynnu nôl y Bil cwotâu rhywedd, ydych chi fel Prif Weinidog yn dal i fwriadu delifro pob Bil oedd yn rhaglen ddeddfwriaethol eich rhagflaenydd chi fel Prif Weinidog?

11. Datganiad gan y Prif Weinidog: Tata Steel

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar Tata Steel. Felly, y Prif Weinidog sy'n gwneud y datganiad yma eto. Datganiad ar Tata Steel—y Prif Weinidog.

Mae gan Tata Steel drefniadau i barhau i wasanaethau eu cwsmeriaid drwy gydol y cyfnod pontio. Bydd hyn hefyd yn diogelu gweithfeydd dur yn Llanwern, Shotton a Throstre. Mae'r cwmni wedi cynnal ymarferion ymgynghori cyhoeddus ac yn bwriadu gwneud cais am gymeradwyaeth cynllunio erbyn mis Tachwedd eleni. Os bydd hyn yn cael ei gymeradwyo, bydd y gwaith adeiladu ar gyfer y trawsnewid yn dechrau tua mis Gorffennaf 2025, ac rŷn ni'n disgwyl i'r ffwrnais arc drydan fod yn weithredol o fewn tair blynedd. Mae Tata wedi dweud bydd y newid i wneuthuriad dur arc trydan drwy ddefnyddio sgrap sy'n cael ei gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig yn lleihau allyriadau carbon diwydiannol y Deyrnas Unedig gan 8 y cant, a 90 y cant ym Mhort Talbot. Bydd hwn yn gosod meincnod o ran yr economi gylchol, gan ymateb i ofynion cwsmeriaid diwydiannol am ddur gwyrdd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae rhan ganolog ar fwrdd pontio dur Tata, gan weithio yn agos ac ar y cyd gyda'r partneriaid ar y bwrdd i sicrhau bod pawb sy'n cael eu heffeithio yn derbyn y cymorth cywir. Yn ogystal â helpu unigolion, eu teuluoedd, busnesau'r gadwyn gyflenwi a'r cymunedau, bydd y bwrdd pontio hefyd yn edrych ar brosiectau adfywio ar gyfer y tymor byr, canolog a hirdymor i fynd rhywfaint o'r ffordd i leihau effaith colli swyddi ac i ddarparu golwg gadarnhaol ar y rhanbarth yn y dyfodol. Wrth ystyried y ddibyniaeth gynyddol ar ddur sgrap domestig fel y brif ffordd o gyflenwi'r ffwrnais arc drydan, dylai sicrhau'r cyflenwad hwn fod yn flaenoriaeth strategol i Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig wrth symud ymlaen, gan ddarparu cyfleoedd yn ogystal â heriau. 

15:45
15:50
15:55
16:00
16:05
16:10
16:15
16:20
12. Datganiad gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Cyflogau'r sector cyhoeddus

Yr eitem nesaf, eitem 12, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar gyflog yn y sector gyhoeddus. Felly, yr Ysgrifennydd Cabinet, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y Prif Weinidog gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y cyrff adolygu cyflogau annibynnol ar gyfer 2024-25. Fe wnaeth hi hefyd gyhoeddi y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu cynnydd o hyd at gyfartaledd o 5 y cant i’r gwasanaeth sifil a staff sy’n cael eu cyflogi mewn cyrff hyd braich yng Nghymru, yn amodol ar eu negodiadau eu hunain gyda'r undebau llafur. Gyda’i gilydd, mae hyn yn golygu bydd dros 180,000 o weithwyr y sector gyhoeddus, o weithwyr glanhau ysbytai i athrawon a gweision sifil, yn cael dyfarniad cyflog sy’n uwch na chwyddiant eleni.

Gweithwyr y sector gyhoeddus yw asgwrn cefn y gwasanaethau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. Ar ôl blynyddoedd o ostyngiadau gwirioneddol yng nghyflogau’r sector gyhoeddus oherwydd y ffordd roedd Llywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig yn rheoli cyllid a degawd o gyni, mae’r dyfarniad cyflog hwn yn adlewyrchu’r gwerth yr ydyn ni a’r cyhoedd yn ei roi ar wasanaethau cyhoeddus, a’r gwaith hanfodol y mae gweithwyr ymroddedig y sector gyhoeddus yn ei wneud. Mae darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol yn fater sydd o bwys i holl ddinasyddion Cymru, ac mae cydnabyddiaeth deg i’r gweithwyr yn allweddol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gallu cyflawni.

16:25
16:30

Hoffwn ddechrau heddiw drwy groesawu’r Ysgrifennydd Cabinet i’w rôl newydd a mynegi fy niolch hefyd i’w ragflaenydd, Rebecca Evans, am ei pharodrwydd i gyfarfod a chydweithio yn y cyfnod byr roeddwn i'n eich cysgodi chi, felly diolch yn fawr iawn.

Mae ein hathrawon gweithgar a staff y gwasanaeth iechyd yn rhan anhepgor o'n cymdeithas, a does dim dwywaith eu bod nhw wedi bod dan straen aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf. Bu’n dorcalonnus ymuno â nhw ar linellau piced, a chlywed yn uniongyrchol gan staff am y straen aruthrol sydd arnynt a pham nad ydy’r sefyllfa sydd ohoni yn gynaliadwy. Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn deall pam bod cynifer wedi gadael y proffesiynau hyn, neu’n ystyried gadael. Mae wedi bod yn amser anodd dros ben. Pan rydych chi'n ystyried bod banciau bwyd wedi gorfod cael eu sefydlu mewn rhai o'n hysbytai ni, oherwydd yr argyfwng costau byw ac effaith hynny ar staff, mae'n sefyllfa ddirdynol, felly mae'n rhaid inni fod yn croesawu y newyddion hwn. 

Rhaid cydnabod hefyd nad yw'r setliad ddim chwaith yn rhoi'r sicrwydd i’r gweithwyr hyn o ran tâl yn y blynyddoedd i ddod, na chwaith yr heriau ariannol ehangach mae’r sector cyhoeddus yn eu hwynebu. Ac fel yr ydych chi'n nodi, wrth gwrs, yn y datganiad, dydy staff llywodraeth leol ddim yn rhan o’r setliad hwn. Rydych chi'n cyfeirio at yr angen i drafod yn bellach gyda llywodraeth leol a’r gefnogaeth posibl fydd ar gael iddynt. A gaf i ofyn a oes yna broses ac amserlen wedi'i osod ar gyfer y trafodaethau hyn, ac os nad oes yna eto, a wnewch chi ymrwymo i ddiweddaru’r Senedd o ran y gwaith hwn yn fuan?

Mae’r ffaith bod y Llywodraeth Lafur yn San Steffan yr un mor gaeth, mae'n ymddangos, i lymder â’u rhagflaenwyr Torïaidd yn bryderus dros ben, a byddwn yn gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet—. Roeddech chi'n crybwyll rŵan ynglŷn â'r ymrwymiad o ran adfer lefelau cyflog i rai blaenorol—rhywbeth, wrth gwrs, rydyn ni'n cytuno efo fo—ond pa mor gyraeddadwy ydy hyn mewn gwirionedd o fewn cyd-destun yr agenda economaidd a osodwyd gan Rachel Reeves, a pha drafodaethau byddwch chi'n eu cael efo Llywodraeth Prydain er mwyn i ni gyrraedd yr uchelgais hwnnw? Oherwydd mi fyddai unrhyw beth yn llai na hyn unwaith eto yn amlygu'r addewidion gwag a wnaed o ran y manteision i Gymru o gael dwy Lywodraeth Lafur naill ben yr M4.

Wrth gwrs, er bod tâl yn ffactor o ran y gweithredu diwydiannol rydyn ni wedi'i weld, mae’n bwysig ein bod ni hefyd yn cydnabod bod staff hefyd wedi dewis gweithredu oherwydd eu pryderon ynglŷn ag amodau gwaith. Mae hynny wrth gwrs ynglŷn â'r cyllid sydd ar gael o ran y pethau ychwanegol hynny. Felly, tra rydyn ni'n croesawu'r cyhoeddiad hirddisgwyliedig am gyflog, mae’n bwysig ein bod heddiw’n cofio ac yn cydnabod nad yw hyn yn mynd i ddatrys yr holl broblemau sy’n wynebu’r gweithlu, na chwaith yn mynd i’r afael a’r trafferthion sy’n ein hwynebu o ran recriwtio a chadw staff. Er enghraifft, mae angen inni gyflwyno patrymau gwaith mwy hyblyg yn y gwasanaeth iechyd. Bydd hyn yn eithriadol o bwysig o ran ymdrechion i ddatrys problemau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ymwneud â chadw staff. Mae Llywodraeth Cymru wedi tueddu i gefnogi mewn egwyddor, ond wedi methu i raddau helaeth â chyflawni'n ymarferol.

Mae'r cyfyngiadau ar gyfleoedd ar gyfer datblygiad gyrfa parhaus hefyd yn asgwrn cynnen sy'n codi dro ar ôl tro i rai fel yr RCN, sydd wedi nodi'n gywir sut mae nyrsys y gwasanaeth iechyd o dan anfantais yn hyn o beth o gymharu â meddygon. Byddwn i felly’n annog Llywodraeth Cymru i ailgysylltu â’r materion ehangach hyn gyda phwrpas o’r newydd er mwyn sicrhau bod y gwerth a roddwn ar waith ein staff gwasanaeth iechyd ac athrawon ysgol yn adlewyrchu’n llawn ei werth i les ein cenedl. Gaf i ofyn felly sut byddwch chi'n gweithio gyda’ch cyd-aelodau Cabinet i sicrhau bod yr heriau cyllidol ehangach hefyd yn cael eu datrys?

Yn olaf, hoffwn groesawu bod y datganiad hwn hefyd yn sôn am gyrff hyd braich, a bod ymrwymiad i ariannu cynnydd o hyd at 5 y cant—rhywbeth, wrth gwrs, sydd ddim bob amser wedi digwydd. Mae trafod wedi bod am flynyddoedd bellach ynglŷn â’r angen i ariannu codiadau cyflog y cyrff hyn yn ganolog yn hytrach na'n bod ni'n mynd o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd os nad ydyn nhw'n derbyn hwn, wrth gwrs, mae o'n doriad o ran y gyllideb. Rydyn ni wedi gweld hyn gyda'r llyfrgell genedlaethol ac Amgueddfa Cymru yn y gorffennol. Felly, gaf i ofyn a ydy hi’n fwriad gennych i fynd â’r gwaith hwn rhagddo?

16:35

Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y sylwadau yna, a diolch iddi hi am beth roedd hi'n ei ddweud o ran croesawu beth rydym ni wedi'i gyhoeddi. Fel y dywedais i wrth Peter Fox, rŷn ni'n derbyn y ffaith nad yw'r datganiad ddim yn datrys yr holl broblemau sydd gyda ni yn y gweithlu yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Ond o ran y pethau eraill roedd hi'n sôn amdanynt, rŷn ni'n delio gyda phethau fel yna trwy'r patrwm o bartneriaeth gymdeithasol sydd gyda ni yn y maes iechyd, yn y maes addysg ac yn y blaen. So, mae pethau gyda ni yn barod ble gallwn ni ddod at ein gilydd gyda'r undebau llafur, gyda'r cyflogwyr, ac i weithio gyda'n gilydd ar bethau ehangach na'r cyflog ei hun. 

Wrth gwrs dwi eisiau gweld sefydlogrwydd yn y system o gyflogi pobl yma yng Nghymru. Mae'n amlwg bod Llywodraeth newydd San Steffan yn mynd i gymryd amser i baratoi am y tymor hir. Mae jest yn deg iddyn nhw gael yr amser i wneud hynny a dwi'n siŵr bydd hwnna'n mynd i fwydo i mewn. Rŷn ni fel Llywodraeth yma yng Nghymru wedi dibynnu blwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyllid un flwyddyn. Nawr, bydd cyfle inni gael rhyw fath o gyllid am y tymor hir, a bydd hwnnw'n mynd i’n helpu ni yn y gwaith rŷn ni'n ei wneud.

Dwi'n ymwybodol, wrth gwrs, fel y dywedais i yn y datganiad, am yr her sy'n wynebu awdurdodau lleol o ran dod i gytundeb gyda'r undebau yn y maes yna. Ar ddiwedd y dydd, eu cyfrifoldeb nhw yw hi. Maen nhw'n annibynnol, maen nhw'n ddemocrataidd annibynnol, ac mae'n bwysig i ni gydnabod hynny. Ond, fel y dywedais i, rŷn ni'n ymwybodol o'r sefyllfa ariannol sydd yn eu hwynebu. Rydw i, fel yr Ysgrifenydd dros gyllid, eisiau trafod pethau gyda nhw, ac mae pethau yn y dyddiadur yn barod i helpu i wneud hynny.

16:40
16:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Wel, diolch yn fawr i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Dwi'n edrych ymlaen at fod o flaen y pwyllgor bore fory, wrth gwrs.

13. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Glanhau ein hafonydd, llynnoedd a moroedd

Eitem 13 yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: glanhau ein hafonydd, llynnoedd a moroedd. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:48:35
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dros yr haf, rydym wedi bod yn gweithio yn gyflym i fynd i'r afael â llygredd yn ein hafonydd, llynnoedd a moroedd, gan gynnwys cynyddu ein hymdrechion ar y cyd â Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig.

Rwy'n falch o ddweud ein bod yn dechrau tymor yr hydref y Senedd gydag ysbryd newydd o gydweithio trawsffiniol.

Rwy'n falch o'r cynnydd rydym eisoes wedi ei wneud o ran gwella ansawdd ein dŵr, a byddaf yn parhau i weithio yn agos gyda phartneriaid yn y Llywodraeth ac ar draws y sector dŵr i wireddu ein nodau cyffredin o Gymru wyrddach a mwy llewyrchus i ni ac i'r rhai sy'n dod ar ein holau. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

16:55
17:00
17:05

Diolch i chi, Dirprwy Brif Weinidog, am y datganiad. Ac mae fe'n ddatganiad rili bwysig a rili amserol, achos adnodd sylfaenol, wrth gwrs, ydy dŵr ar gyfer cynnal bywyd. Mae gennym ni yng Nghymru berthynas unigryw, sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn, â dŵr. Mae llawer o'n poblogaeth yn byw neu'n gweithio ar hyd yr arfordir. Mae ein hafonydd, ein llynnoedd a’n moroedd yn ganolog i'n heconomi ni a'n ffordd o fyw.

Ond, fel sydd wedi cael ei gydnabod yn barod, mae dŵr hefyd wedi bod yn ffynhonnell tensiwn. Mae ganddo fe, ie, wrth gwrs, arwyddocâd hanesyddol, os ydym yn mynd yn ôl at beth oedd wedi digwydd gyda Thryweryn—anghyfiawnder, camfanteisio—ond hefyd o ran beth sydd yn digwydd heddiw. Mae’r problemau gydag iechyd ein hafonydd yn rheolaidd yn cyrraedd uwchdeitlau’r wasg. Mae fe'n hanfodol bwysig i graffu ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag ansawdd dŵr a herio a ydych chi, fel Llywodraeth, yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r pryder cynyddol.

Dwi wir yn gwerthfawrogi ac yn croesawu’r ffaith bod y datganiad yma wedi dod ger ein bron ni yn y Senedd ar y diwrnod cyntaf yn ôl. Rwy’n gobeithio bod hynny’n dangos eich bod chi wir eisiau mynd i’r afael â hyn—a, gosh, mae angen inni wneud hynny, achos mae bron i un o bob pum afon yng Nghymru wedi'u llygru gan garthffosiaeth. Eto, dŷn ni’n sôn am hyn drwy’r amser, ond mae fe’n rhywbeth sy’n troi stumog rywun, os ydych chi’n meddwl amdano fe—mae carthffosiaeth yn yr afonydd.

Mae Dŵr Cymru, fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, wedi cael rhybudd o erlyniad am ei fethiant i gyflawni gwelliannau ystyrlon. Eto mae'r cyhoedd yn dal i deimlo'n ddi-rym i allu wynebu’r mater yma, y carthion yn ein dyfrffyrdd. Mae fe'n broblem barhaus. Mae fe’n tanseilio, efallai, hyder y cyhoedd mewn cwmnïau dŵr a’r fframwaith rheoleiddio sydd gan y Llywodraeth. Mae grwpiau lleol fel Save the River Usk yn sir Fynwy, Angela Jones yn eu plith, maen nhw'n gwneud gwaith clodwiw, ond gwaith y Llywodraeth ydy hyn. Dwi wir eisiau clodfori’r gwaith sy’n cael ei wneud, ond mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael â’r peth.

Un o'r cwestiynau mwyaf dybryd yw: pa gamau pendant y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod y cwmnïau dŵr yn cael eu dal yn gwbl atebol am eu methiannau? Rwy’n gweld bod hwn yn rhywbeth bydd yn rhaid cydweithio gyda’r Llywodraeth yn Steffan arno, ond mae'r cyhoedd yn haeddu mwy nag addewidion yn unig. Maen nhw angen gweld gweithredu ac, os oes angen, cosbau llym i'r cwmnïau hynny sy'n methu â chyrraedd y safonau derbyniol dro ar ôl tro.

I droi at fater arall, mae mater llygredd plastig, yn enwedig microblastigau, yn cymhlethu'r her o lanhau ein hafonydd a'n moroedd. Mae microblastigau, sydd bellach—. O, gosh, rŷch chi’n gallu dod o hyd iddyn nhw yng nghorneli mwyaf anghysbell y byd. Mae’n fygythiad uniongyrchol i iechyd pobl. Mae gronynnau wedi cael eu ffeindio mewn ysgyfaint dynol, llaeth y fron; maen nhw wedi cael eu ffeindio yng ngwaed pobl. Felly, pa gamau penodol fydd yn cael eu cymryd i wella monitro a gorfodi cwmnïau dŵr, lle mae eu practisau yn cyfrannu at lygredd plastig a microblastig? A sut ydych chi’n bwriadu cryfhau deddfwriaeth i ddiffinio a gorfodi lefelau diogel o lygredd microblastig yn ein dyfrffyrdd, i wneud yn siŵr nad oes mwy na hynny?

Mae risgiau hirdymor i fioamrywiaeth ac i iechyd y cyhoedd o hynny. Mae bywyd gwyllt dyfrol sy'n byw yn yr ardaloedd hyn—. Mae fe’n cael effaith ar ecosystemau, a hynny’n beryglus. Dydy’r bygythiadau yma, yn amlwg, ddim wedi cael eu hynysu i fywyd gwyllt; mae ganddyn nhw'r potensial i effeithio ar boblogaethau dynol hefyd. So, a allwch chi gadarnhau, plîs, pa fesurau fydd yn cael eu cyflwyno o fewn y ddeddfwriaeth llywodraethu amgylcheddol sydd ar ddod i fynd i’r afael â hyn?

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, cyn imi redeg mas o amser, pwynt hanfodol dŷn ni ddim yn gallu ei anwybyddu, dwi ddim yn meddwl, yw'r angen i Gymru gael rheolaeth lawn dros ei hadnoddau dŵr. Mae Plaid Cymru wedi galw'n gyson am ddatganoli’r pwerau hyn i Gymru, gan alinio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd â ffiniau daearyddol ein cenedl. A fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn yn ffurfiol am y pwerau i alluogi hynny i ddigwydd? Ac a allwn ni ddisgwyl i ddeddfwriaeth yn y dyfodol osod cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff ar sail statudol, gan sicrhau bod cwmnïau dŵr yn cyflawni’r hyn sy’n ofynnol arnynt? Diolch yn fawr iawn.

17:10

Diolch, Delyth, a diolch am y croeso i'r datganiad hefyd. Mae llawer o gwestiynau yna.

17:15
17:20
17:25
17:30

Mi gyfeirioch chi, Ysgrifennydd Cabinet, yn eich datganiad at yr adolygiad ar reoliadau rheoli llygredd amaethyddol. A allwch chi jest gadarnhau mai ffocws canolog yr adolygiad yna bydd edrych ar y posibilrwydd o fabwysiadu technolegau newydd i geisio cyflawni'r nod y mae'r rheoliadau'n ceisio ei gyflawni? Rŷn ni wedi cyfeirio'n aml at y gwaith mae pobl fel Gelli Aur ac eraill wedi'i wneud i ddatblygu technolegau cyfoes yn y maes yna, a hefyd y defnydd posib o facteria cyfeillgar, probiotics ac yn y blaen, i fynd i'r afael â rhai o'r elfennau yma sydd â'r potensial i lygru cyn iddo fe ddod yn broblem. Byddai gwneud hyn, wrth gwrs, yn caniatáu wedyn i rai o'r rheoliadau yma symud oddi wrth rai o'r dulliau mwy cyntefig sydd gyda ni, fel ffermio yn ôl y calendr.

17:35
14. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd

Eitem 14 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar brydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.

17:45
17:50
17:55

Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad. Does dim amheuaeth bod prydau ysgol am ddim ymhob un o'n hysgolion cynradd ni yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau miloedd o blant ac yn helpu teuluoedd ledled Cymru ar adeg pan fo'r argyfwng costau byw yn gwasgu'n galed ac yn cael effaith gwirioneddol.

Nawr, dwi'n croesawu'r datganiad gennych chi, Ysgrifennydd Cabinet, ac yn falch o'ch clywed chi'n canmol y polisi sydd yn cyferbynnu yn llwyr iawn, wrth gwrs, gyda'ch safbwynt blaenorol chi fel y Blaid Lafur ac fel Llywodraeth yn y lle hwn. Allwn ni ddim anghofio'r ffaith, ar ddiwedd tymor y pumed Senedd a dechrau'r chweched Senedd hon, fe bleidleisiodd Aelodau'r grŵp Llafur a'r Llywodraeth yn erbyn galwadau Plaid Cymru am brydau ysgol am ddim i bawb. Mae'n amlwg eich bod chi â chof byr iawn, achos fe welon ni luniau yr wythnos cyn diwethaf ohonoch chi yn gwenu'n braf gyda phlant ysgol, yn canmol y polisi ac yn ei groesawu, ond gallwch chi ddeall y siom yr oeddwn i'n ei deimlo nad oedd unrhyw gydnabyddiaeth o gwbl yn y datganiadau yna o rôl Plaid Cymru, drwy'r cytundeb cydweithio, a oedd wedi sicrhau bod y polisi yma yn dod yn realiti. Ond o leiaf yn y datganiad rŷch chi'n cydnabod hynny, a dwi'n croesawu hynny, ac fe wnaeth y Prif Weinidog yn gynharach gydnabod rôl Plaid Cymru hefyd o safbwynt sicrhau bod y polisi yma yn weithredol, bellach, yn ein hysgolion cynradd ni.

Rhaid canmol hefyd y ffordd mae'r cynllun yma yn helpu i leihau tlodi a diffyg maeth. Ond rhaid sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu yn y ffordd fwyaf posibl. Rŷm ni wedi clywed yn barod mai tua 75 y cant sydd eisoes yn derbyn y cynnig, ac roeddwn yn falch i glywed bod yna gynlluniau gyda chi i sicrhau bod yna gysondeb ar draws awdurdodau lleol, a chynlluniau i wella’r ffigur hwnnw.

Felly, beth sy’n bwysig yn awr, wrth edrych ymlaen, yw mai'r cam nesaf amlwg yw i’r Llywodraeth ystyried ehangu’r prydau ysgol yma i’r sector uwchradd, ar gyfer y rhai sy’n dod o aelwydydd sy’n derbyn y credyd cynhwysol. Dyna’n galwad ni fel Plaid Cymru yma'n y Senedd. Dylem anelu at weithredu mwy uchelgeisiol byth i sicrhau bod dyfodol ein pob ifanc ni, a dyfodol ein cenedl, yn cael y sylw y mae’n ei haeddu, a bod ein pobl ifanc yn cael eu gwaredu rhag tlodi.

Gallai ehangu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol uwchradd o dan yr amodau dwi wedi’u nodi sicrhau na fydd miloedd o blant o aelwydydd incwm isel yn mynd heb bryd o fwyd, a fydd, i bob pwrpas, yn lliniaru effeithiau tlodi plant ar gyrhaeddiad mewn ysgolion.

I gloi, felly, a fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn barod i gydnabod mai hwn yw’r cam amlwg nesaf i’w gymryd, a’ch bod chi’n barod i godi’r ffôn i’ch cyfeillion yn Llywodraeth Lafur y Deyrnas Gyfunol, yn mynnu cyllid teg o San Steffan a fyddai’n helpu i wneud hyn i gyd yn bosibl?

18:00
18:05
18:10

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. 

Cyn i ni orffen, byddaf yn datgan canlyniad y bleidlais ar gyfer cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau. Bwriwyd cyfanswm o 54 pleidlais. Cafodd Rhianon Passmore 15 o bleidleisiau, a chafodd Carolyn Thomas 39 o bleidleisiau. Felly, mae Carolyn Thomas wedi'i hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Llongyfarchiadau. 

A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:11.