Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

16/03/2021

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Llywydd
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol')
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Rhyngweinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol
6. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif
7. Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021
8. Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021
9., 10., 11., 12., 13., 14., 15., 16., 17. & 18. Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) 2021, Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021, Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021, Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021
19. Gorchymyn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Estyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
20. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021
21., 22., 23. & 24. Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021
25. Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
26. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-Drin Domestig
27. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol
Datganiad gan y Dirprwy Lywydd
28. Cyfnod Pleidleisio

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, wrth gwrs. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Dai Lloyd. 

13:30
Morlyn Llanw Bae Abertawe

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn natblygiad posibl morlyn llanw ym mae Abertawe? OQ56472

Diolch am y cwestiwn, Llywydd. Ers i Lywodraeth y DU wrthod cefnogi'r prosiect, cefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn ariannol ac yn wleidyddol, sydd wedi helpu’r tasglu lleol i gadw’r potensial ar gyfer datblygu morlyn llanw bae Abertawe yn fyw. Rydym yn parhau i weithio gydag eraill i ddatblygu’r achos o blaid ynni’r môr yng Nghymru.

Diolch yn fawr. Prif Weinidog, mae'r diffyg mewn gwneud penderfyniadau ar y mater hwn yn dod yn destun rhwystredigaeth enfawr yn lleol. Fel y dywedasoch, rydym ni'n gwybod na wnaiff Llywodraeth y DU fuddsoddi yn y prosiect hwn, ond yr hyn sy'n dod i'r amlwg yn anffodus yw nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gymryd perchnogaeth o'r prosiect hwn ychwaith. Ni chafwyd ymateb cyhoeddus manwl i adroddiad dinas-ranbarth bae Abertawe ym mis Mai 2019, ac er i arweinydd Llafur Cyngor Abertawe honni yn ôl ym mis Mehefin 2020 ei fod yn gobeithio gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau ar gyfer y morlyn diwygiedig 'o fewn yr wythnosau nesaf', dyfynnaf, nid ydym wedi clywed dim. A yw pobl yn Abertawe yn iawn i ddod i'r casgliad felly bod Llywodraeth Cymru wedi troi ei chefn ar y morlyn llanw, ac, os nad ydych chi, pa dystiolaeth allwch chi ei darparu i ddangos eich bod chi'n gweithio tuag at ddarparu'r cynllun?

Wel, mae degau o filoedd o bunnoedd o dystiolaeth yn dangos, pe na byddai cefnogaeth oddi wrth y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, na fyddai unrhyw gynllun o gwbl yn Abertawe i fwrw ymlaen ag ef mewn unrhyw ffordd. Pan gamodd Llywodraeth y DU yn ôl oddi wrth y buddsoddiad yr oedden nhw wedi ei addo yn morlyn llanw bae Abertawe, ymyrrodd Llywodraeth Cymru i gefnogi'r awdurdod lleol a buddiannau lleol eraill gyda'r cyllid yr oedd ei angen arnyn nhw i allu datblygu cysyniad Ynys Ynni'r Ddraig. Nawr, gwn fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi bod yn cynnal trafodaethau gydag arweinyddiaeth cyngor Abertawe ynghylch sut y gellir bwrw ymlaen â'r cysyniad hwn. Yn anffodus, er gwaethaf llawer o eiriau gwresog, ni nodwyd unrhyw gyllid o gwbl yng nghyllideb yr wythnos diwethaf i allu cefnogi'r hyn yr oedd Llywodraeth y DU wedi bod yn ei awgrymu oedd eu diddordeb cadarnhaol yn y gyfres newydd o gynigion.

Nawr, ysgrifennais at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 20 Hydref diwethaf, yn cynnig dull partneriaeth, lle byddai Llywodraeth Cymru wrth y bwrdd ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a buddiannau lleol. Cefais ateb cyflym iawn gan yr Ysgrifennydd Gwladol—roedd yn ateb cadarnhaol—ar 2 Tachwedd, yn dweud ei fod yn fwy na pharod i gyfarfod. Yn anffodus, ni fu unrhyw amser ar gael yn nyddiadur yr Ysgrifennydd Gwladol ers hynny ar gyfer cyfarfod o'r fath. Roedd i fod i ddigwydd gyda'm cyd-Weinidog Lee Waters, arweinydd y Llywodraeth ar fargen ddinesig bae Abertawe. Roedd i fod i ddigwydd yr wythnos diwethaf ar 10 Mawrth. Yn anffodus, nid oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gallu cadw'r ymrwymiad hwnnw. Mae'n ôl yn y dyddiadur ar gyfer 23 Mawrth ac, y tro hwn, gadewch i ni obeithio y bydd y cyfarfod yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn fwy na pharod i gytuno iddo fisoedd yn ôl yn digwydd, oherwydd mae angen i Lywodraeth y DU fod wrth y bwrdd hwnnw os ydym ni'n mynd i gyfateb y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu ac y mae'r awdurdod lleol wedi ei ddarparu, gyda'r cymorth y gall Llywodraeth y DU yn unig ddod ag ef at y bwrdd hwnnw. 

Yn ôl ym mis Ebrill 2019, Prif Weinidog, cadarnhaodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd bryd hynny bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gefnogwr brwd o'r cynnig bryd hynny a bod cyllid yn dal ar y bwrdd pe byddai 'cynnig hyfyw yn cael ei gyflwyno'—rwy'n ei dyfynnu hi yn y fan yna. A ydych chi'n credu bod cynnig Ynys y Ddraig yn un hyfyw, ac, os felly, faint o arian sydd wedi ei neilltuo yng nghyllideb eleni fel cyfraniad tuag ato wrth symud ymlaen, neu a ydych chi mewn sefyllfa fel Llywodraeth Cymru i ddweud, 'Wel, mewn gwirionedd, efallai nad yw ar gyfer Abertawe, yr arian hwn; gallai fod ar gyfer prosiectau llanw eraill', fel yr awgrymwyd gan y Trefnydd mewn cyfraniadau diweddarach ar y math hwn o gwestiwn? A yw ar gyfer y morlyn ai peidio?

13:35

Llywydd, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur o'r cychwyn—rydym ni wedi ymrwymo i ynni'r llanw ac i ynni morol yng Nghymru. Mae'n amlwg mai morlyn llanw bae Abertawe oedd y cystadleuydd blaen yn hynny i gyd, gan ei fod wedi datblygu ei gynigion, ac roedd yn credu bod ganddo gefnogaeth Llywodraeth y DU i wneud hynny. Fe'i disgrifiwyd gan adolygiad Charles Hendry, a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i'w chynghori ar y posibilrwydd, fel y bydd yr Aelod yn cofio, fel buddsoddiad dim edifar. Yna cymerodd Llywodraeth y DU 18 mis i ymateb i adolygiad Hendry, cyn ei wrthod ym mis Mehefin 2018. Rydym ni angen i Lywodraeth y DU ddod at y bwrdd, ei wneud mewn ffordd a fyddai'n gwneud prosiect Ynys Ynni'r Ddraig yn gynnig hyfyw, oherwydd bydd yn gynnig hyfyw dim ond os caiff ei wneud ar sail partneriaeth. Os bydd hynny yn digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yno i chwarae ein rhan, fel yr ydym ni wedi ei ddangos. Fel y dywedais, pe na byddai am yr arian a gyfrannwyd gennym ni at ddatblygu'r cynnig amgen hwnnw, ni fyddai unrhyw beth i'w drafod. Ond mae yno oherwydd y gwaith yr ydym ni ac, wrth gwrs, Cyngor Abertawe a buddiannau lleol wedi ei wneud arno. Os gwnaiff Llywodraeth y DU gefnogi ei geiriau gwresog gyda rhywfaint o weithredu pendant a rhywfaint o arian caled, bydd Llywodraeth Cymru yno hefyd.

Ein prif ased o ran ynni adnewyddadwy yw'r symudiad llanw yn aber afon Hafren. Mae'n cyfateb i ynni dŵr a phŵer geothermol yng Ngwlad yr Iâ, a phŵer dŵr yn Tsieina a Brasil. Ni fu amheuaeth erioed ynghylch cefnogaeth Llywodraeth Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog barhau i bwyso ar Lywodraeth San Steffan o ran cynhyrchu trydan drwy forlyn llanw, gan ddechrau gydag Abertawe yn amlwg?

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Mike Hedges newydd nodi pam mae methiant Llywodraeth y DU i weithredu ar hyn mor rhwystredig, ac mor rhwystredig i Gymru. Mae gennym ni gyfleoedd unigryw yng Nghymru ym maes ynni morol, boed hynny yn y Fenai, boed hynny o gwmpas sir Benfro, neu gyda thechnoleg morlynnoedd llanw, i fanteisio ar y gwaith arloesol sydd eisoes wedi ei wneud i baratoi ar gyfer prosiect arddangos yn Abertawe. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i esbonio i Lywodraeth y DU y cyfleoedd unigryw y mae cyrhaeddiad llanw aber afon Hafren yn eu cynnig. Mae angen i Gymru a'r Deyrnas Unedig fod ar flaen y gad yn y chwyldro ynni byd-eang y bydd ei angen yn y blynyddoedd i ddod. Mae gennym ni'r holl asedau naturiol i ganiatáu i ni fod yn y sefyllfa honno, ac rwy'n sicr yn rhannu rhwystredigaeth Mike Hedges am fethiant Llywodraeth y DU i gydnabod y potensial hwnnw ac i weithredu arno.

Perthnasau Rhynglywodraethol

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am statws y berthynas rynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? OQ56457

Llywydd, mae'r berthynas yn parhau, yn rhy aml, i fod yn anrhagweladwy, yn ad hoc, wedi ei tharfu gan weithredoedd unochrog ymosodol gan Lywodraeth y DU, a heb y sylfaen angenrheidiol o weithdrefnau ar gyfer cydweithredu rhynglywodraethol sydd ei hangen i gynnal y DU a chaniatáu iddi ffynnu fel cymdeithas wirfoddol o bedair gwlad.

Prif Weinidog, rydych chi'n hoffi rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU am broblemau neu ymddygiad ymosodol yn y berthynas, ond oni ddylech chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb? Fe wnaethoch chi ddewis cael eich hun wedi eich ffilmio yn dweud bod Prif Weinidog y DU yn wirioneddol ofnadwy. Sut mae hynny yn helpu i ddod â Llywodraeth y DU at y bwrdd? Rydych chi wedi dod i'r casgliad bod y DU ar ben; rydych chi'n defnyddio ymgeiswyr sy'n cefnogi annibyniaeth yn yr etholiad sydd i ddod. Y bore yma, cefnogodd un o'ch Gweinidogion benodiad BBC Cymru o gyn-brif weithredwr Plaid Cymru fel ei gyfarwyddwr cynnwys. Onid oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn iawn i ddweud wrthyf i yr wythnos diwethaf bod hyn i gyd yn ymwneud â chi'n ymgyfeillio a Phlaid Cymru gyda golwg ar glymblaid ar ôl yr etholiad, a, chyhyd ag y bydd gennym ni ddatganoli, y byddwn ni ar lethr llithrig i annibyniaeth?

Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru, dro ar ôl tro, ers degawd, o dan yr arweiniad a roddodd fy rhagflaenydd, Carwyn Jones, i'r holl agenda hon, wedi dadlau dros gonfensiwn cyfansoddiadol i roi'r Deyrnas Unedig ar sail a fyddai'n caniatáu iddi ffynnu yn y dyfodol, a dyna fy safbwynt i a safbwynt fy mhlaid. Rydym ni'n credu bod y Deyrnas Unedig yn well ei byd o fod â Chymru ynddi a bod Cymru yn well ei byd o fod yn y Deyrnas Unedig. Nid oes unrhyw amwysedd o gwbl yn ein safbwynt ni. Yr hyn nad oes gennym ni yw Llywodraeth y DU sy'n barod i weithredu mewn ffordd sy'n cydnabod, 20 mlynedd ers datganoli, na fydd ceisio gwneud i Lywodraethau datganoledig ufuddhau yn hytrach na dod â ni yn nes at ein gilydd, byth yn rysáit ar gyfer sicrhau parhad Teyrnas Unedig lwyddiannus.

Dro ar ôl tro, mae Carwyn Jones a minnau wedi annog Gweinidogion y DU i gynnal y sgyrsiau difrifol sydd eu hangen i sefydlu gweithdrefn rynglywodraethol, i ddod o hyd i ffyrdd annibynnol o ddatrys ac osgoi anghydfod rhwng y cenhedloedd, i wneud hynny ar sail cydraddoldeb cyfranogiad a pharch. Yn hytrach, rydym ni'n wynebu Llywodraeth y DU sy'n cymryd cyllid yn unochrog ac yn ymosodol, yn cymryd pwerau oddi wrth Lywodraethau datganoledig ar draws y Deyrnas Unedig ac, yn ei gweithredoedd bob dydd, yn bwydo'r grymoedd a fydd yn arwain at chwalu'r Deyrnas Unedig, oni bai bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i gydnabod ffolineb ei dull gweithredu ac yn dilyn, yn hytrach, y mathau o ddadleuon a chynigion adeiladol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyfrannu yn gyson at y ddadl hon.

13:40

Prif Weinidog, a gaf i eich holi am gamau cadarnhaol y gallwch chi eu cymryd gan weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud Cymru yn lle mwy diogel i bawb? Goleuais i, ynghyd â llawer o Aelodau a phobl eraill ledled Cymru, fy stepen drws nos Sadwrn i gefnogi ymgyrch Reclaim the Streets, nid yn unig i dalu teyrnged i Wenjing Lin a Sarah Everard, ond hefyd i ddangos ymrwymiad i wneud ein cymunedau ledled Cymru yn lleoedd mwy diogel. Rydych chi newydd sôn am gymunedau. Mae angen llawer mwy o weithredu nawr i helpu menywod a phobl i deimlo yn fwy diogel yn ein cymunedau. A allwch chi gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i gydweithio yn gadarnhaol gyda Llywodraeth y DU ar y mater penodol hwn? Ac a allech chi ddweud ychydig mwy wrthym ni hefyd am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i rymuso menywod ac i dawelu meddyliau pobl eu bod nhw'n ddiogel mewn cymunedau ledled Cymru?

Wel, Llywydd, diolchaf i Nick Ramsay am y cwestiwn difrifol a pherthnasol iawn yna, ac wrth gwrs bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn gadarnhaol ac yn adeiladol gyda Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid i fenywod yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig fod yn ddiogel a theimlo yn ddiogel. Ac os yw hynny yn mynd i ddigwydd yng Nghymru, yna dim ond gyda chyfuniad o wasanaethau sydd wedi eu datganoli ac nad ydyn nhw wedi eu datganoli y gall hynny fod. Os yw Llywodraeth y DU eisiau cael sgwrs ac ymgysylltiad adeiladol ar y mater hwnnw, yna, wrth gwrs, byddan nhw'n canfod partner parod ar gyfer hynny yn y fan yma.

O ran y camau y gallwn ni eu cymryd, nodwyd y rhain yn y datganiad a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw gan fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, sydd wedi neilltuo ei gyrfa wleidyddol gyfan i hyrwyddo achosion menywod a merched yma yng Nghymru. Cymeradwyaf y datganiad i Aelodau'r Senedd. Mae'n nodi'r camau y byddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ymgymryd â nhw ac, fel y dywedais, wrth ateb Nick Ramsay, pan fo eraill yn barod i weithredu gyda ni mewn modd gwirioneddol gydweithredol, byddwn ni bob amser—byddwn ni bob amser—yn barod i wneud hynny yn y ffordd fwyaf adeiladol.

Prif Weinidog, ni allaf orbwysleisio pa mor ddwfn yr wyf i'n anghytuno â phopeth y mae Mark Reckless yn sefyll drosto erbyn hyn. Mae'n ymddangos i mi mai un o'r prif rwystrau i gysylltiadau rhynglywodraethol da rhwng Cymru a Lloegr yw swyddogaeth ddi-rym, i raddau helaeth, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'r deiliad, Simon Hart, wedi dweud yn ddiweddar y dylai Llywodraeth Cymru

roi'r gorau i ofidio am eu statws bach eu hunain yng Nghaerdydd ac...edrych ar y darlun ehangach.

A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r darlun ehangach y mae angen i ni edrych tuag ato, cyn i ni sicrhau'r annibyniaeth a fydd yn ein grymuso, yw diddymu swyddogaeth Ysgrifennydd Cymru, o ystyried bod ei Lywodraeth ac yntau mor benderfynol o danseilio'r datganoli y mae pobl Cymru wedi pleidleisio drosto ar ddim llai na 14 achlysur, trwy ddau refferendwm a darparu mwyafrifoedd o blaid datganoli ym mhob etholiad ers 1997?

13:45

Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno â Delyth Jewell nad oes gen i unrhyw gydymdeimlad o gwbl â'r hyn y mae Mr Reckless yn sefyll drosto nac yn ei gynnig. Rwy'n teimlo'n aml, pan fydd yr Aelod hwnnw yn gofyn cwestiynau i mi, mai'r hyn y mae'n ei wneud mewn gwirionedd yw fy nghyhuddo i o fod yn Gymro. Ac mae'n gyhuddiad, Llywydd, yr wyf i'n pledio yn euog iddo, wrth gwrs—y tu chwith allan, y tu ôl ymlaen, wyneb i waered; dywedwch chi ef, dyna'r hyn yr wyf. Ni fydd yr Aelod, mae arnaf i ofn—Mr Reckless—byth yn deall hynny, ac mae'n arwain at y gyfres gamsyniol o syniadau y mae'n eu rhoi ger ein bron.

O ran swyddfa'r Ysgrifennydd Gwladol, rwyf i wedi credu ers tro—rwyf i wedi credu ers dros ddegawd, tra'r oedd Llywodraethau Llafur yn ogystal â Llywodraethau Ceidwadol—bod y ddadl barhaus dros Ysgrifenyddion Gwladol tiriogaethol, fel y'u gelwir, wedi lleihau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rwy'n credu bod dadl dros weinyddiaeth yn Whitehall sy'n cymryd cyfrifoldeb adeiladol am y berthynas rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod hwnnw yn uchelgais priodol. Ond mae Ysgrifenyddion Gwladol tiriogaethol yn oroesiad o'r dyddiau cyn datganoli ac, fel y dywedais, rwy'n cytuno â Delyth Jewell bod y ddadl o'u plaid yn gwanhau drwy'r amser, ac yn sicr yn cael ei gwanhau pan fydd unrhyw un o ddeiliaid y swydd honno yn defnyddio'r math o iaith fychanol a diraddiol yr ydym ni wedi ei gweld gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, heddiw rydym ni'n nodi pen-blwydd prudd iawn y farwolaeth gyntaf a gofnodwyd o ganlyniad i COVID-19 yng Nghymru. Rydych chi wedi sôn am yr angen am ymchwiliad cyhoeddus yn y dyfodol a fydd yn ceisio nodi gwersi o'r 12 mis diwethaf. A ydych chi'n rhannu'r farn, fel yr wyf i, a fynegwyd yn ddiweddar gan Syr Mansel Aylward, mai un o'r gwersi eglur yw y bu methiant i gynllunio a pharatoi yn iawn ar gyfer y pandemig? Yn benodol, a ydych chi'n credu bod y pwyslais ar y ffliw gan eithrio coronafeirysau fel syndrom anadlol acíwt difrifol neu syndrom anadlol y dwyrain canol yn y cynllun pandemig wedi arwain at rai o'r camgymeriadau cynnar yn yr ymateb? Awgrymodd yr wyddoniaeth o amgylch pandemig ffliw ei bod hi'n anodd dros ben, neu hyd yn oed yn ofer, ceisio atal trosglwyddiad cymunedol ar ôl iddo ddod yn endemig, nad yw'n wir, fel y gwyddom erbyn hyn, gyda COVID. A yw hynny'n esbonio'r ddau brif gamgymeriad yn gynnar—y methiant i fabwysiadu cyfyngiadau symud yn ddigon cynnar a chefnu ar brofi ac olrhain cymunedol, a ail-fabwysiadwyd yn ddiweddarach, wrth gwrs?

Wel, Llywydd, gadewch i mi ddiolch i Adam Price am dynnu sylw at y diwrnod difrifol a phrudd iawn yr ydyw pan fyddwn ni'n nodi pen-blwydd y farwolaeth gyntaf o coronafeirws yma yng Nghymru, profiad sydd wedi cael ei ailadrodd i lawer iawn gormod o deuluoedd. Roeddwn i'n falch iawn heddiw o allu gwneud y cyhoeddiad am goetir coffa, yn y gogledd ac yn y de, lle bydd teuluoedd sydd wedi dioddef y golled honno yn gallu cael cofeb barhaol i'r profiad ofnadwy hwnnw. Mae Mr Price yn iawn hefyd, Llywydd, i dynnu sylw at y ffaith bod cynllunio ar gyfer pandemig ar draws y Deyrnas Unedig wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar y ffliw, a'r gwersi a ddysgwyd o brofiadau cynharach o hynny.

Rwy'n credu ei bod hi'n rhy gynnar i sôn am gamgymeriadau ac i briodoli achosion i bethau y gellid bod wedi eu gwneud yn wahanol. Rwy'n eithaf sicr y byddai pethau wedi cael eu gwneud yn wahanol pe byddem ni'n gwybod bryd hynny yr hyn yr ydym ni'n ei wybod nawr. Felly, nid yw hynny yn gwadu mewn unrhyw ffordd y gellid bod wedi gwneud pethau yn wahanol. Mae gallu dweud, 'Roedd oherwydd hyn, neu oherwydd hynna, a, phe byddem ni wedi gwybod, byddem ni wedi gwneud rhywbeth yn wahanol'—rwy'n credu bod hynny'n llawer anoddach i fod yn bendant. Mae angen cynnal ymchwiliad. Mae angen i'r ymchwiliad hwnnw fod ar sail y DU, neu ni fydd byth yn gwneud synnwyr o'r profiad yma yng Nghymru mewn ffordd lawn, ac mae angen ei wneud ar adeg pan fo gan y system—sy'n dal i ganolbwyntio, bob dydd, ar ymdrin ag effeithiau gwirioneddol argyfwng iechyd y cyhoedd—y lle sydd ei angen arni i allu meddwl amdano a chyfrannu at y cwestiynau y bydd ymchwiliad o'r fath yn eu codi yn briodol.

13:50

Mae llawer o bobl, Prif Weinidog, yn tynnu sylw at y ffordd y mae COVID-19 wedi amlygu a gwaethygu ymhellach yr anghydraddoldebau iechyd presennol y mae fforwm polisi iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, sy'n dod â'r sefydliadau blaenllaw yn y sector yng Nghymru ynghyd, wedi ysgrifennu atoch yn eu cylch, yn gofyn i chi ymrwymo i strategaeth draws-Lywodraethol i leihau'r anghydraddoldebau hyn, gan fynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol dyfnach afiechyd, tai gwael, bylchau mewn cyfleoedd addysgol a'r pandemig blaenorol o dlodi sydd wedi creithio gormod o bobl yng Nghymru am amser rhy hir o lawer.

Mae'r cyhoeddiad yr ydych chi newydd gyfeirio ato—creu cofeb fyw i'r rhai sydd wedi colli eu bywydau—yr wyf i'n credu sy'n feddylgar iawn ac i'w groesawu yn fawr, ond oni fyddai'n gofeb fwy fyth i ni benderfynu gyda'n gilydd i roi terfyn ar newyn a thlodi plant, i roi terfyn ar ddigartrefedd a thai gwael, a rhoi terfyn ar dâl tlodi, gan ddechrau gyda gweithwyr allweddol, fel arwydd o'n penderfyniad ar y cyd i beidio â dychwelyd i sut yr oedd pethau o'r blaen?

Wel, Llywydd, mae'r rheina yn bwyntiau pwysig hefyd. Rwy'n falch iawn bod y fforwm gofal cymdeithasol wedi bod yn gweithio'n galed ar yr agenda hon. Rwy'n credu y bydd gwaith cyngor y bartneriaeth gymdeithasol, Llywydd, pan fyddwn ni'n dod i fyfyrio ar y 12 mis eithriadol hwn, yn sefyll allan fel ffordd o weithio yma yng Nghymru sydd wir yn dod â phob parti â buddiant o amgylch y bwrdd at ei gilydd. Mae wedi cyfarfod bob pythefnos, mae wedi sefydlu'r fforwm gofal cymdeithasol yn rhan o'r trefniadau hynny, ac rwy'n credu y dangosir eu bod nhw wedi ein rhoi ni mewn sefyllfa dda iawn.

Fy uchelgais pendant y tu hwnt i coronafeirws yw adeiladu yn ôl yn decach, oherwydd os na wnawn ni adeiladu yn ôl yn decach, yn sicr ni fyddwn ni'n adeiladu yn ôl yn well. Ac mae coronafeirws wedi amlygu—yn gwbl eglur—yr annhegwch a'r anghydraddoldebau dwfn, sylfaenol hynny sydd yno yng nghymdeithas Cymru ac sydd wedi eu gwaethygu yn ystod degawd o gyni cyllidol bwriadol. Yr hyn y mae angen i ni ei weld nawr yw Llywodraeth yn San Steffan sy'n barod, wrth i ni ddod allan o hyn i gyd, i beidio â llwytho'r cyfrifoldeb amdano ar ysgwyddau y rhai yr ydym ni wedi dibynnu fwyaf arnyn nhw yn ystod y 12 mis diwethaf, ac eto rwy'n ofni'n fawr mai dyna fyddwn ni'n ei weld. Ac yn hytrach nag erydu anghydraddoldebau, bydd Llywodraeth Cymru unwaith eto yn wynebu ceisio gwneud popeth y gallwn ni ei wneud i liniaru effeithiau Llywodraeth y DU y mae ei gweithredoedd yn ychwanegu at yr effeithiau strwythurol yr ydym ni wedi eu gweld yn cael eu tynnu i'r wyneb yn ystod y pandemig yn hytrach na mynd i'r afael â nhw.

Prif Weinidog, dywedasoch yn y gorffennol eich bod chi'n rhannu uchelgais fy mhlaid i o dalu gweithwyr gofal yn deg, gydag isafswm cyflog gwarantedig o £10 yr awr, ond dywedasoch mai dim ond os bydd eich plaid yn San Steffan yn llwyddo i berswadio Llywodraeth y DU i fabwysiadu polisi o'r fath y gall hynny ddigwydd. Siawns na allwn ni fforddio i roi penderfyniad mor sylfaenol ar gontract allanol i Lywodraeth Dorïaidd y DU—nid ydyn nhw byth yn mynd i adeiladu yn ôl yn decach, ydyn nhw? Bum mlynedd ar hugain yn ôl, roeddem ni'n arfer sôn am y difidend datganoli fel un o'r dadleuon craidd dros greu'r sefydliad hwn, y Senedd. Onid yw hi'n bryd i'r difidend hwnnw gael ei dalu i'r grŵp hwn o weithwyr? Felly, a wnewch chi ymrwymo i ariannu gofal cymdeithasol, Prif Weinidog, yn ddigonol, fel y gall pob gweithiwr gofal gael y cyflog byw gwirioneddol o leiaf, fel ymgorfforiad o'r Gymru newydd y dylem ni ymdrechu i'w chreu fel etifeddiaeth gadarnhaol o'r pandemig ofnadwy hwn?

Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi ddweud bod y difidend datganoli yno bob dydd ym mhrofiad dinasyddion Cymru, ac yno mewn ffordd sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol ag anghydraddoldebau hefyd. Nid yw pobl yma yng Nghymru sy'n cael cyflog isel yn talu am eu presgripsiynau, ond, dros y ffin, maen nhw'n talu bron i £9 am bob eitem. Nid oes treth ar salwch yma yng Nghymru, ac mae hwnnw yn ddifidend datganoli. Yn nhymor y Senedd hon, rydym ni wedi creu'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unman yn y Deyrnas Unedig, unwaith eto fel bod teuluoedd sy'n gweithio yn gwybod y gallan nhw fynd i'r gwaith ac ymdrin â gofal plant o safon a'i fod ar gael iddyn nhw, ar gyfer pobl ifanc tra eu bod nhw yn y blynyddoedd ffurfiannol hynny. Mae gennym ni frecwastau am ddim yn ein hysgolion cynradd o hyd—unwaith eto, gyda'r nod pendant o wneud yn siŵr bod gan y plant hynny a oedd yn dod i'r ysgol yn rhy llwglyd i ddysgu, rywbeth yng Nghymru y gwyddom y bydd yn atal hynny rhag digwydd. Mae'r difidend datganoli yno bob un dydd ym mywydau teuluoedd Cymru. Ac o ran gweithwyr gofal cymdeithasol, wrth gwrs mai uchelgais y Llywodraeth hon yw y dylai ein gweithwyr gofal cymdeithasol gael eu cydnabod yn briodol a'u talu yn briodol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i dalu £500 i weithwyr gofal cymdeithasol i gydnabod y gwaith eithriadol y maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig. Nawr bod cyllideb y Canghellor allan o'r ffordd, yna mae fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans, gyda Julie Morgan a Vaughan Gething, yn edrych i weld sut y gallwn ni ddefnyddio ein cyllideb i barhau i ddatblygu ein hagenda o gydnabod a gwobrwyo gweithwyr gofal cymdeithasol am y gwaith hanfodol y maen nhw'n ei wneud yma yng Nghymru.

13:55

Diolch, Llywydd, ac rwy'n cysylltu fy hun â sylwadau arweinyddion eraill yn y fan yma y prynhawn yma wrth fyfyrio ar ben-blwydd y farwolaeth COVID gyntaf yng Nghymru. Pwy fyddai wedi meddwl, 12 mis yn ddiweddarach, y byddem ni'n dal i fod yn gweld mwy o farwolaethau trasig yn cael eu hadrodd o COVID, ac yn parhau i fynd drwy'r cyfyngiadau sy'n cael eu gosod ar ein bywydau bob dydd? Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog hefyd—. Oherwydd, wrth i ni ddod allan o argyfwng COVID, gyda'r rhaglen frechu yn ei hanterth ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, ar gyfandir Ewrop, mae llawer o arweinyddion yn troi eu cefnau ar frechlyn AstraZeneca bellach ac yn rhoi sylwadau yn y wasg sy'n arbennig o annefnyddiol i gyflwyniad y brechlyn—. Rydych chi wedi defnyddio'r llwyfan yn y fan yma, neu'r darllenfwrdd, ddylwn i ddweud, i gyfleu neges i'r arweinyddion ar gyfandir Ewrop pan oedd trafodaethau Brexit yn eu hanterth. Prif Weinidog, beth yw eich neges i'r Arlywydd Macron a'r Canghellor Merkel pan fyddan nhw'n siarad yn negyddol am frechlyn AstraZeneca? Oherwydd, tan y byddwn ni wedi brechu cymdeithas ledled y byd, mae'n mynd i fod yn fwyfwy anodd i ni ddychwelyd i'n bywydau arferol. A pha effaith ydych chi wedi ei chael—? Pa effaith ac asesiad ydych chi wedi eu gwneud o'r sylwadau ar gyflwyniad y brechlyn yma yng Nghymru—o'r sylwadau a wnaed yn Ewrop?

Wel, Llywydd, mae fy neges i i bobl yma yng Nghymru ar y mater pwysig hwn, ac mae fy neges i bobl yng Nghymru yn syml iawn: mae brechlyn Rhydychen yn ddiogel. Nid yw'r pryderon a fynegwyd amdano mewn mannau eraill yn cael eu rhannu gan y rheoleiddiwr meddyginiaethau yma yng Nghymru, nid ydyn nhw'n cael eu rhannu gan Sefydliad Iechyd y Byd, nid ydyn nhw'n cael eu rhannu gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, ac yn sicr nid ydyn nhw'n cael eu rhannu gan ein prif swyddog meddygol a'n cynghorwyr gwyddonol. Cafodd y Gweinidog iechyd a minnau gyfle ddoe i brofi'r holl dystiolaeth hon yn uniongyrchol gyda'n prif swyddog meddygol, a daethom i ffwrdd o hynny yn gwbl gryfach yn ein dealltwriaeth bod y clotiau gwaed y sonnir amdanyn nhw mewn papurau newydd—nid oes dim mwy o berygl o glot gwaed o gael brechlyn AstraZeneca-Rhydychen nag a fyddai yn y boblogaeth yn gyffredinol ar unrhyw adeg. Mae clotiau gwaed yn digwydd drwy'r amser yn y boblogaeth, ac nid yw'r brechlyn—nid yw—yn mynd i gynyddu eich risg o hynny. Felly, o ran y pwynt pwysig a wnaeth Andrew R.T. Davies, nid wyf i eisiau i neb yng Nghymru a allai fod yn betrusgar am y brechlyn betruso mwy oherwydd y straeon y byddan nhw wedi eu gweld neu eu clywed.

Mae'r rhaglen frechu yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth. Adroddwyd y niferoedd uchaf erioed ddwywaith yn ystod yr wythnos diwethaf, ddydd Gwener a dydd Sadwrn, o ran nifer y bobl a gafodd frechiad mewn un diwrnod. Adroddwyd dros 40,000 o bobl mewn un diwrnod ddydd Sadwrn—ffigur eithriadol; dros 1 y cant o boblogaeth gyfan Cymru yn dod ymlaen i gael eu brechu. Dyna'r hyn y mae angen i ni ei weld yn y dyddiau a'r wythnosau i ddod, a gwn y bydd hynny yn cael ei gefnogi yn gryf gan bleidiau ar draws y Siambr hon, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i atgyfnerthu'r negeseuon hynny unwaith eto y prynhawn yma.

Diolch, Prif Weinidog. Ac rwy'n croesawu'r sylwadau cadarnhaol hynny, er gwaethaf y negyddoldeb sy'n dod o wledydd eraill, a gobeithio y gallwn ni ddychwelyd, yn y gwledydd hynny, at broses frechu arferol, oherwydd, fel y dywedais, oni bai ein bod ni i gyd yn glynu wrth y rhaglen frechu, byddwn ni i gyd yn dioddef cyfyngiadau symud yn y dyfodol, fel yr ydym ni'n eu gweld mewn gwledydd ledled Ewrop ar hyn o bryd.

Ond fe hoffwn i ddod â chi yn ôl at eich cynllun rheoli eich hun, y cynllun rheoli coronafeirws, a gyhoeddwyd gennych chi ym mis Rhagfyr, ac yn arbennig, roedd y cynllun hwnnw wedi'i seilio ar amrywiolyn Caint fel y feirws amlycaf, a nodwyd gennych chi ar 21 Rhagfyr. Ailadroddodd y Gweinidog iechyd hyn wrthyf i ym mis Ionawr, pan oeddwn i'n gofyn am fap ffordd allan o'r cyfyngiadau symud ac, yn benodol, pyrth o gyfle i agor yr economi ac agor cymdeithas. Fe wnaethoch chi ailadrodd hefyd pwysigrwydd y cynllun rheoli coronafeirws i'm cyd-Aelod Laura Anne Jones ym mis Chwefror, ac eto fy nealltwriaeth i yw bod y cynllun rheoli coronafeirws wedi ei roi o'r neilltu erbyn hyn a'i fod yn aros am ddiweddariad. Pam mae'n cymryd cyhyd i ddiweddaru'r cynllun rheoli coronafeirws, gan ei fod wedi bod yn ganolog i'ch syniadau hyd at ychydig wythnosau yn ôl? Ac a allwch chi, i sicrhau tryloywder, gyhoeddi'r holl ganllawiau wedi'u diweddaru yr ydych chi'n eu defnyddio pan eich bod chi'n ystyried mesurau i ddatgloi cymdeithas wrth i ni fynd ymhellach i'r gwanwyn a dechrau'r haf?

14:00

Wel, Llywydd, roedd y cynllun rheoli, y lefelau rhybudd, yn gwbl allweddol i'r cyhoeddiad yr oeddwn i'n gallu ei wneud ddydd Gwener yr wythnos diwethaf: cyfres eglur iawn o gerrig milltir i'n system addysg, i'n bywydau personol ac yn y gymuned fusnes, yn esbonio sut yr ydym ni'n gobeithio manteisio ar y gwaith yr ydym ni wedi ei wneud gyda'n gilydd i atal y feirws yma yng Nghymru, i gael mwy o blant yn ôl yn yr ysgol, mwy o gyfleoedd i bobl gyfarfod, mwy o fusnesau yn gallu ailagor unwaith eto. Nodais gyfres o ddyddiadau, hyd at 12 Ebrill, a nodais y materion a fydd yn cael eu hystyried yn ystod cyfnod yr adolygiad y tu hwnt i hynny, cyn belled ag y bo'r amodau yn caniatáu hynny. Roedd hynny i gyd yn manteisio yn drwm iawn ar y cynllun rheoli.

Rydym wrthi'n diweddaru rhai o'r metrigau sydd ynddo i roi ystyriaeth lawn i amrywiolion newydd a risgiau sy'n dal i fodoli, oherwydd er bod niferoedd yng Nghymru yn gostwng ar hyn o bryd, a bod nifer y bobl yn yr ysbyty yn gostwng hefyd, ni ddylai yr un ohonom ni droi ein golwg oddi wrth y risgiau sy'n parhau i fod yno. Adroddodd tri chwarter gwledydd Ewrop gyfraddau coronafeirws sy'n cynyddu dim ond yr wythnos diwethaf, ac yma yng Nghymru, mae gennym ni rai ardaloedd lle nad yw'r niferoedd yn gostwng. Felly, er bod y sefyllfa, am y tro, a gobeithio yn barhaus, yn mynd i'r cyfeiriad iawn, ni fydd yn parhau i wneud hynny os na fyddwn ni'n rhoi sylw i'r holl risgiau sy'n parhau i fod yno. Bydd y cynllun coronafeirws wedi'i ddiweddaru yn gwneud yn siŵr bod gennym ni asesiad cytbwys iawn, o bopeth sydd wedi ei gyflawni, o'r effaith gadarnhaol y bydd brechu yn parhau i'w darparu, ond hefyd nad ydym ni'n peryglu popeth sydd wedi ei gyflawni, drwy beidio â bod yn wyliadwrus yn barhaus ynghylch y risgiau y gall y feirws hwn ddal i'w hachosi i bob un ohonom ni ac i fywydau pobl yma yng Nghymru.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n synnu braidd at y pwysigrwydd y gwnaethoch chi ei neilltuo i'r cynllun rheoli coronafeirws yn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf, oherwydd cadarnhaodd y Gweinidog iechyd nad oedd cydymffurfiad â'r cynllun, fel y'i lluniwyd, wrth ystyried y cynlluniau a gyhoeddwyd gennych chi ddydd Gwener, a chyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at y diweddariad hwnnw, yr ydym ni'n dal i aros amdano, yn ei gyfweliad ar raglen Politics Wales ddydd Sul. A allwch chi gadarnhau pryd y bydd y cynllun newydd hwnnw ar gael i ni i gyd ystyried pa fatrics y mae'r Llywodraeth yn gweithio yn unol ag ef?

Yn bwysig, pan ddaw'n fater o ymchwiliad cyhoeddus, rydych chi wedi gwneud sylwadau yn ddiweddar nad ydych chi'n credu y byddai'n briodol cychwyn ymchwiliad cyhoeddus cyn i'r pandemig ddod i'w derfyn naturiol, os gwnaiff ddod i'w derfyn fyth, yn wir. Rydym ni hefyd wedi darganfod gan gyngor sir Gaerfyrddin, er enghraifft, bod dwywaith cymaint o bobl wedi marw mewn cartrefi gofal yn ail don yr achosion o goronafeirws. Felly, mae'n bwysig iawn bod gennym ni ein bod ni'n cael ymchwiliad annibynnol a thrylwyr i edrych ar yr holl agweddau hyn, fel y gallwn ni gynllunio ar gyfer y dyfodol, dysgu'r mesurau diogelwch y mae angen i ni eu rhoi ar waith i achub bywydau yn y dyfodol. Gwn fod gennym ni etholiad ar 6 Mai, a byddwn ni i gyd yn brwydro i gymryd y swydd sydd gennych chi, a byddwch chithau'n brwydro i gadw'r swydd honno, ond mae'n bwysig bod aelodau'r cyhoedd yn deall yn union pwy sydd yn y gadair yna, yr hyn y bydd yn ei wneud wrth gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus o'r fath. O'm safbwynt i, rwyf i eisiau gweld ymchwiliad cyhoeddus cyn gynted â phosibl yn gwneud cynnydd, ac, yn hytrach na'i golli mewn ymchwiliad cyhoeddus ehangach yn y DU, cael ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru. A allech chi egluro eich sylwadau fel y gallwn ni ddeall yn union pryd yr ydych chi'n credu y dylai ymchwiliad cyhoeddus ddechrau, a'ch bod chi'n cytuno y dylai fod yn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i Gymru yn unig, yn edrych ar y mesurau y mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth drostyn nhw, yn hytrach na chael ei foddi mewn ymchwiliad ehangach yn y DU?

14:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Wel, Llywydd, rwy'n credu y bydd ymchwiliad yn rhan angenrheidiol a phwysig o'r ffordd yr ydym ni'n dysgu gwersi y 12 mis eithriadol yr ydym ni wedi byw drwyddyn nhw. Ni ddywedais ddoe fy mod i'n meddwl y dylai aros tan fod y coronafeirws ar ben; dywedais fy mod i'n meddwl y dylai aros tan ein bod ni i gyd yn ffyddiog fod y coronafeirws y tu ôl i ni. Felly, byddwn ni'n dal i ymdrin â coronafeirws, ac yn gwneud hynny am gryn amser i ddod, ond pan fyddwn ni'n sicr ein bod ni'n symud allan ohono ac nad ydym ni mewn perygl y bydd yn ailymddangos unwaith eto, yna bydd capasiti yn y system i wneud y meddwl a'r gwaith o gyfrannu at ymchwiliad cyhoeddus.

Nid wyf i'n cytuno ag ef ynglŷn ag ymchwiliad Cymru yn unig. Rwyf i wedi colli cyfrif o'r nifer o weithiau y mae wedi annog i mi ddilyn dull pedair gwlad, ond ar y mater hwn mae'n ymddangos ei fod yn credu ei bod hi'n synhwyrol ei wneud ar ein pen ein hunain. Ni fyddai ymchwiliad Cymru yn unig yn gallu mynd i'r afael â rhestr faith o faterion a fydd yn hanfodol i allu dysgu'r gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd. Ni fyddai'n gallu edrych ar faterion teithio tramor a mewnforio'r feirws i'r Deyrnas Unedig, ac eto roedd yr achosion cyntaf a welsom ni yma yng Nghymru yn feirysau a ddaeth o fannau eraill yn y byd. Ni fyddai'n gallu ymdrin â phenderfyniadau COBRA a'r ffordd y mae hynny wedi effeithio ar hynt y feirws yma yng Nghymru. Ni fyddai'n gallu ymdrin â'r rhaglen frechu, oherwydd mae'r rhaglen frechu yn dibynnu'n helaeth ar waith llwyddiannus Llywodraeth y DU o ran sicrhau cyflenwadau o'r brechlyn. Ni fyddai'n gallu ymdrin â'r rhaglen brofi, oherwydd unwaith eto, ar gyfer y rhaglen brofi, rydym ni'n dibynnu ar y labordai goleudy am ran sylweddol o'r rhaglen brofi yma yng Nghymru, ac mae'r labordai hynny a'r penderfyniadau amdanyn nhw yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU. Llywydd, fe allwn i barhau. Ceir rhestr faith iawn o bethau sy'n gwbl ganolog i ddeall y ffordd y mae coronafeirws wedi cael effaith yma yng Nghymru.

Bydd hynny, yn gwbl briodol, yn edrych ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru hefyd, ond ni fyddai ceisio gwneud hynny ar wahân i'r penderfyniadau a wnaed ledled y Deyrnas Unedig a chan Lywodraethau eraill yn ogystal â phenderfyniadau a wnaed ar y cyd, hyd yn oed yn dechrau cyfleu darlun o'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod y 12 mis diwethaf, ni fyddai'n werth chweil fel ymdrech. Ar y mater hwn, rwy'n cytuno â'r cyngor y mae'n ei roi i mi fel rheol, mai ymchwiliad y DU gyfan, lle bydd penderfyniadau pob haen o Lywodraeth yn sylfaenol, dyna'r ffordd i ddysgu'r gwersi, mewn ffordd sy'n iawn, yn briodol ac yn effeithiol. Ac mae hynny yn rhywbeth yr wyf i'n ymrwymedig iawn i wneud yn siŵr ei fod yn digwydd. 

Dwyn Cŵn

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y cŵn a gaiff eu dwyn yng Nghymru? OQ56467

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Er nad yw dwyn cŵn yn fater sydd wedi ei ddatganoli, mae swyddogion ledled y DU yn cydweithio i ddatblygu cynigion i fynd i'r afael ag achosion o ddwyn anifeiliaid anwes. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu gydag eraill i sicrhau bod unrhyw gynigion o'r fath yn cael effaith effeithiol yma yng Nghymru.

Diolch, Prif Weinidog. I lawer o bobl, nid anifail anwes yn unig yw eu ci, maen nhw'n aelod o'r teulu, ac mae cael yr aelod hwnnw o'r teulu wedi ei rwygo yn ddisymwth oddi wrthych chi fel y gall rhywun wneud elw y tu hwnt i'm dychymyg i, ac rwy'n siŵr bod pob person sydd â gronyn o dosturi yn teimlo felly. Ni allaf ddychmygu y gofid calon y mae'r bobl hynny yn ei ddioddef. Felly, er fy mod i'n derbyn, Prif Weinidog, bod materion troseddu a dedfrydu wedi eu cadw yn ôl ar gyfer Llywodraeth y DU, gallwn ni gymryd camau i wneud y troseddau hyn yn fwy anodd eu cyflawni. Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried gosod cyfyngiadau llymach ar werthiannau trydydd parti o anifeiliaid anwes i sicrhau nid yn unig bod safonau lles anifeiliaid llym yn cael eu bodloni ond i ddileu'r farchnad ddu mewn gwerthiannau anifeiliaid? Diolch.

Llywydd, a gaf i ddiolch i Caroline Jones? Rwy'n rhannu ei barn ar yr effaith y mae achosion o ddwyn cŵn yn ei chael ar deuluoedd pan fo gofalu am anifail yn rhan ganolog o'r hyn y mae'r teulu hwnnw yn ei wneud. Rwy'n cofio yn eglur, Llywydd, sgwrs gynnar gyda banc bwyd yr ymwelais ag ef am bwysigrwydd gallu darparu bwyd i anifeiliaid yn rhan o'r gwasanaeth yr oedden nhw'n ei ddarparu i'r teuluoedd hynny a oedd yn dibynnu ar gwmnïaeth y ci yr oedden nhw'n treulio llawer o'u hamser a llawer o'u bywydau gydag ef, felly bydd cael ci wedi ei ddwyn yn drychinebus i gynifer o deuluoedd. Ac rwy'n falch iawn o allu dweud o ran y cwestiwn atodol y bydd Llywodraeth Cymru, yr wythnos nesaf, yn cyflwyno dadl ar 23 Mawrth ar gynigion cyfraith Lucy—fel y'u gelwir weithiau—i wahardd gwerthiannau anifeiliaid anwes trydydd parti yma yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at y ddadl honno ac, rwy'n siŵr, at gefnogaeth i'r camau hynny gan Aelodau mewn sawl rhan o'r Siambr.

14:10

Prif Weinidog, fel un sy'n hoff o gŵn, rwy'n gwybod mai eich ci yw eich ffrind gorau yn aml ac, fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, mae'n sicr yn aelod o'r teulu. Nawr, mae'n peri pryder mawr i wybod bod troseddwyr yn targedu cŵn ac anifeiliaid anwes eraill i'w dwyn. Mae'r bobl hyn yn gwbl warthus, yn gwbl warthus. Prif Weinidog, pa sgyrsiau y mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r heddlu a'r Swyddfa Gartref i sicrhau bod y troseddwyr hyn yn cael eu dwyn i gyfiawnder, a pha sgyrsiau ydych chi wedi eu cael am effaith toriadau heddlu Ceidwadwyr y DU a'u methiant i ddarparu'r 62 o heddweision ychwanegol a addawyd yng Nglannau Dyfrdwy?

Llywydd, diolchaf i Jack Sargeant am hynna. Rydym ni newydd fod yn trafod effaith y pandemig yma yng Nghymru, ac mae'r cwestiwn hwn yn gysylltiedig â hynny hefyd. Rydym ni'n gwybod bod llawer o deuluoedd, o dan amodau gorfod gweithio gartref ac aros gartref, wedi caffael anifeiliaid anwes, ac mae hynny'n golygu bod y cyfle ar gyfer ymddygiad troseddol wedi cynyddu gan fod prisiau cŵn wedi codi yn gyflym iawn dros y 12 mis diwethaf. Ac mae'n warthus, rwy'n cytuno yn llwyr â Jack Sargeant, y dylai pobl geisio manteisio ar agweddau agored i niwed pobl yn y ffordd honno.

Rydym ni'n cael sgyrsiau, wrth gwrs, gyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu a'n heddluoedd. Mae'n dda iawn gweld bod Heddlu Dyfed-Powys wedi penodi prif arolygydd yn ddiweddar i arwain eu tasglu ar y mater hwn. Ond mae ein heddluoedd yn cael eu hymestyn i bob cyfeiriad, ac mae plismona'r pandemig ac ymdrin â niferoedd troseddu nad ydyn nhw wedi lleihau, mewn sawl ffordd, yn ystod y cyfnod hwnnw, yn creu pwysau enfawr iddyn nhw ac mae'r pwysau hynny yn cael eu gwaethygu gan ddegawd o doriadau, degawd o doriadau gan y Torïaid mewn heddluoedd, niferoedd yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn.

Camodd Llywodraeth Cymru i mewn—fel y bydd Jack Sargeant yn gwybod, ac roedd ei dad yn rhan fawr o hyn—camodd i mewn i ariannu 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yma yng Nghymru, i ganiatáu i'n heddluoedd lleol gael mwy o bobl ar lawr gwlad mewn cymunedau sy'n gallu ymdrin â materion fel dwyn cŵn a'r effaith y mae hynny yn ei chael ar deuluoedd. Gwn fod y Blaid Geidwadol wedi ymrwymo i sicrhau, pe byddai ganddyn nhw unrhyw ran i'w chwarae yn Llywodraeth nesaf y Senedd, na fyddai unrhyw gyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer materion nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Wel, dyna ddiwedd ar 500 o swyddogion cymorth yr heddlu yng Nghymru, oherwydd rydym ni wedi cyfrannu ein harian i ddiogelu cymunedau lle mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi methu, ac os cawn ni ein dychwelyd i'r Llywodraeth ar ôl 6 Mai, yna gall pobl yng Nghymru wybod bod y plismyn rhawd hynny—y bobl y maen nhw'n eu cyfarfod ddydd ar ôl dydd yn eu cymunedau—yn ddiogel gyda Llywodraeth Lafur, hyd yn oed tra bod y Torïaid yma yng Nghymru yn benderfynol o ddiddymu eu cyllid.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r dyraniadau cyllid arfaethedig i Gymru o ganlyniad i gronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU? OQ56469

Dirprwy Lywydd, mae ein hasesiad yn eglur: mae cronfa ffyniant gyffredin y DU yn methu ag anrhydeddu ymrwymiadau cyhoeddus mynych a wnaed gan Lywodraeth y DU ac ymgyrchwyr 'gadael' yng Nghymru na fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu ceiniog yn llai ac na fyddai unrhyw bwerau datganoledig yn cael eu colli i Gymru.

14:15

Diolch, Prif Weinidog. Rydym ni wedi clywed llawer ond wedi gweld ychydig iawn o naill ai'r gronfa ffyniant gyffredin na'r gronfa lefelu, y mae'r ddwy ohonyn nhw yn dod yn fwyfwy tebyg i gronfa etholiadol Geidwadol wedi'i hariannu gan y cyhoedd nag ymgais o ddifrif i rannu ffyniant y Deyrnas Unedig. Prif Weinidog, a ydych chi'n rhannu fy mhryder i y bydd Cymru ar ei cholled, y bydd cyllid buddsoddi yng Nghymru yn cael ei dorri, ac y bydd cymorth i gymunedau Cymru sy'n adfer yn sgil COVID yn cael ei dorri gan Lywodraeth Dorïaidd yn y DU sydd, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi darparu mwy o arian i'w ffrindiau a'i rhoddwyr nag y mae wedi ei fuddsoddi i gynnal economi Cymru? Felly, a ydych chi'n cytuno â mi mai dim ond Llywodraeth Cymru y gallwn ni ymddiried ynddi i gyflawni dros Gymru, ac nid Llywodraeth Dorïaidd y DU sy'n gwneud dim ond edrych arnom ni gyda dirmyg o bell?

Mae'r toriadau hynny eisoes yn digwydd. Mae'r toriadau hynny wedi eu sicrhau nawr gan y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer cronfa lefelu, fel y'i gelwir, ac ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin. Bydd Cymru yn colli miliynau ar filiynau ar filiynau o bunnoedd, a bydd cymunedau fel Blaenau Gwent yn dioddef fwyaf o hynny—cymunedau y mae'r Llywodraeth Geidwadol hon yn gwybod fawr ddim amdanyn nhw ac yn poeni llai. Yn y penderfyniadau ymarferol hynny yr ydym ni'n mynd i'w gweld, yn hytrach na'r cyllid saith mlynedd oedd gennym ni o dan gronfeydd strwythurol, yn hytrach na dull partneriaeth gyda buddiannau yma yng Nghymru ar y lefel leol honno, yn penderfynu sut y dylid gwario'r arian hwnnw—rydym ni'n mynd i weld cyfres ymrannol, biwrocrataidd, ar hap a gwastraffus o drefniadau yn cael eu gorfodi arnom ni.

Rwy'n rhannu'n fawr y pryder a fynegodd Alun Davies yn ei gwestiwn atodol agoriadol. Rydym ni'n mynd i fod yn nwylo'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, y dywedodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin amdano, ym mis Gorffennaf 2019, ar y cronfeydd menter lleol yn Lloegr, er gwaethaf gwario £12 biliwn, nad oedd gan y weinyddiaeth honno unrhyw ddealltwriaeth o ba effaith a gafodd y gwariant hwnnw ar dwf economaidd lleol. Dywedodd yr un pwyllgor, wrth sôn am y gronfa trefi a phenderfyniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol Robert Jenrick, ei fod

wedi peryglu enw da y Gwasanaeth Sifil am onestrwydd a didueddrwydd

a'i fod wedi gweithredu mewn ffyrdd a oedd

yn cyfrannu at gyhuddiadau o duedd wleidyddol

pan ddewisodd gynllun a oedd yn rhif 536 ar y rhestr o 541 a luniwyd gan ei weision sifil a phenderfynu ei ariannu. Nid yw'n syndod y daethpwyd i'r casgliadau bod y penderfyniad hwnnw wedi'i ysgogi gan y ffyrdd cul, pleidiol a gwleidyddol hynny o gyflawni busnes. Nawr, bydd Cymru yn agored i'r un Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau yn Whitehall, gan ochrgamu pobl yma yng Nghymru. Byddwn yn edrych bob dydd ar y ffordd y mae'r penderfyniadau hynny yn cael eu gwneud i wneud yn siŵr bod gwleidyddiaeth pwrs y wlad o'r math a welwn gan y Llywodraeth Dorïaidd hon yn Whitehall—nad ydym ni'n cael ein llygru ganddi yma yng Nghymru.

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin fis diwethaf, dywedodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru y bydd y swm o arian sy'n mynd i gael ei wario yng Nghymru pan gyflwynir y gronfa ffyniant gyffredin

yn union yr un faint neu'n fwy na'r swm o arian a wariwyd yng Nghymru a oedd yn dod oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd,

ac y bydd y DU yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw ddatblygu fframwaith buddsoddi y gronfa i'w gyhoeddi. Wrth siarad mewn cyfarfod ar y cyd o bwyllgorau cyllid a materion allanol y Senedd yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y bydd yr arian sy'n cael ei ddarparu i Gymru, wedi'i ategu gan y sicrwydd 'dim ceiniog yn llai', yn rhoi cyfleoedd i Gymru wneud hyd yn oed yn well nag y mae hi wedi ei wneud o'r blaen o ran ffrydiau ariannu, a'u bod yn gofyn i awdurdodau lleol ymuno â rhanddeiliaid, eu Haelodau o'r Senedd, swyddogion Llywodraeth Cymru a chydag Aelodau Seneddol i feddwl am syniadau gwirioneddol arloesol naill ai fel awdurdodau unigol neu ar y cyd ag awdurdodau eraill, a gwneud cais am yr arian sydd ar gael, lle bydd y gwersi a ddysgwyd eleni yn ffurfio sail i'r gronfa ffyniant gyffredin wirioneddol, sy'n becyn llawer mwy o arian o ddiwedd 2021 ymlaen. Sut gwnewch chi ymgysylltu â hynny ac yn sgil hynny osgoi, fel y dywedwch y mae'n rhaid i ni ei wneud, dulliau cul, pleidiol a chyda cymhelliant gwleidyddol?

14:20

Nid yw'r ffaith bod lol yn cael ei siarad ar lawr Tŷ'r Cyffredin yn ei wneud yn ddim llai disynnwyr. Ac mae'n amlwg yn ddisynnwyr. Y flwyddyn nesaf, mae'r gronfa adnewyddu cymunedol—yr enw diweddaraf ar y gronfa ffyniant gyffredin—werth £220 miliwn ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan. Roedd gan Gymru ar ei phen ei hun £375 miliwn mewn cronfeydd strwythurol. Ac nid oes yr un geiniog ohono wedi'i sicrhau—i ddefnyddio'r gair hwnnw. Mae'n gronfa y DU ar sail ceisiadau. Nid oes unrhyw arian ynddi sy'n dweud 'Cymru' arno o gwbl. Byddwch yn gallu gwneud cais ac yna bydd Gweinidog Torïaidd yn Whitehall yn gwneud penderfyniadau yn erbyn yr hanes yr wyf i newydd ei chyflwyno i'r Aelodau yn y fan yma. Ym mha ystyr posibl—ym mha ystyr posibl—y gallai unrhyw un amddiffyn hynny fel ffordd o drin Cymru? Rydym ni'n cael ein twyllo allan o arian, rydym ni'n dioddef lladrad pan ddaw i'n pwerau, ac mae hanes parhaus llywodraeth y DU yn San Steffan yn darparu cyllid annigonol i Gymru bob un dydd.

Profi, Olrhain, Diogelu

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiolrwydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru? OQ56440

Mae profi, olrhain, diogelu yn ddull hanfodol o ganfod, rheoli a diogelu pobl rhag lledaeniad y feirws. Mae'r dull partneriaeth gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni wedi ei fabwysiadu yng Nghymru wedi diogelu arian cyhoeddus, wedi ei ddefnyddio yn onest ac yn ddidwyll, ac wedi darparu system effeithiol iawn i Gymru mewn modd effeithlon.

Prif Weinidog, diolch am yr ateb yna. Y rheswm pam yr wyf i'n codi'r cwestiwn hwn yw oherwydd, yn frawychus, adroddwyd yr wythnos diwethaf, a dyfynnaf, 'nad oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod rhaglen profi ac olrhain gwerth biliynau o bunnoedd Llywodraeth Geidwadol y DU i fynd i'r afael â COVID-19 yn Lloegr wedi cyfrannu at ostyngiad i lefelau heintiad coronafeirws.' Ond yn waeth byth, Prif Weinidog, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin bod y swm enfawr a wariwyd ar y cynllun hwn yn gadael yr argraff bod pwrs y wlad wedi cael ei ddefnyddio fel pwynt arian parod, gan ddod i gyfanswm o £37 biliwn dros ddwy flynedd. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â gwasanaeth profi, olrhain a diogelu GIG Cymru, a oedd, ddiwedd mis Chwefror, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi cyrraedd 99.6 y cant o achosion positif a oedd yn gymwys, ynghyd â 95 y cant o'u cysylltiadau agos. A fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, ei bod hi'n sicr yn well buddsoddi arian y mae trethdalwyr yn gweithio yn galed i'w ennill mewn gwasanaethau cyhoeddus profedig sydd â hanes cadarn o gyflawni, a bod y £37 biliwn a wastraffwyd gan Lywodraeth y DU, a dweud y gwir, yn gwneud eu cynnig o godiad cyflog o 1 y cant yn is na chwyddiant i nyrsys hyd yn oed yn fwy sarhaus?

Mae Huw Irranca-Davies yn iawn; mae'r ffigur o £37 biliwn yn dyfrio'r llygad—dosbarthwyd £6 biliwn o bunnoedd mewn contractau drwy ddyfarniad uniongyrchol, heb gystadleuaeth am y contractau hynny o gwbl. Rydym ni wedi gwneud darpariaeth yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf i redeg ein system profi, olrhain, diogelu hynod lwyddiannus hyd at ddiwedd mis Medi, a bu angen i ni roi £60 miliwn o'r neilltu er mwyn gwneud hynny. £60 miliwn yw hynny, y gost yma yng Nghymru, nid y symiau sy'n dyfrio'r llygad a feirniadwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hwnnw dros y ffin. Rydym ni wedi gwneud hynny, fel y mae'r Aelod yn gwybod, gan ein bod ni wedi dibynnu ar y gwasanaeth cyhoeddus—dim ymgynghorwyr £1,100 y dydd yma yng Nghymru, dim cwmnïau yn rhedeg y gwasanaeth er mwyn gwneud elw preifat. Rydym ni wedi dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus a gweision cyhoeddus, a nhw sydd wedi darparu'r system hynod lwyddiannus sydd gennym ni. Rwy'n cytuno ag ef; dychwelaf at yr ateb a roddais yn gynharach ynglŷn â'r ffordd y gallwn ni weld y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn cymryd camau i wneud yn siŵr bod canlyniadau'r pandemig hwn yn cael eu llwytho ar ysgwyddau'r rhai lleiaf abl i'w hysgwyddo. A phan fyddwn ni'n dweud mai ein gwasanaeth cyhoeddus a'n gweision cyhoeddus sydd wedi ein harwain ni drwy'r argyfwng hwn, yn y ffordd y mae ein system profi, olrhain, diogelu yn ei ddangos, ni fydd y bobl hynny yn cael unrhyw godiad cyflog o gwbl y flwyddyn nesaf. Dyna eu gwobr gan Lywodraeth y DU. Byddai gan y Llywodraeth hon, a Llywodraeth Lafur ar lefel y DU hefyd, gyfres wahanol iawn, iawn o flaenoriaethau, ac rwy'n credu bod y blaenoriaethau hynny yn cael eu rhannu gan bobl yma yng Nghymru.

14:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Cynnig da gan y siaradwr blaenorol i 'redeg ar y Llywodraeth Dorïaidd ddrwg yn San Steffan'. Prif Weinidog, clywais eich ymateb ynglŷn â phreifat yn erbyn cyhoeddus, ond rydym ni i gyd yn gwybod, wrth gwrs, mai Kate Bingham a gyflogwyd yn breifat a wnaeth ddiogelu'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru, mewn gwirionedd, yn llwyddiannus dros ben, o ran y brechlynnau, trwy brynu, buddsoddi a chefnogi'r holl wyddonwyr rhyfeddol hynny. Felly, gadewch i ni glywed clod i'r sector preifat hefyd. Pan fyddwch chi'n sôn am gael system profi, olrhain a diogelu hynod effeithiol i Gymru, dyna'n union yr wyf i ei eisiau, ond gadewch i ni fod yn eglur: mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai system olrhain cysylltiadau lwyddiannus yw un sy'n gallu olrhain 80 y cant o gysylltiadau o fewn tri diwrnod. Mae eich system profi, olrhain a diogelu chi yn cyrraedd 90 y cant o gysylltiadau—da iawn—ond o fewn naw diwrnod ar ôl y cyswllt cychwynnol hwnnw. Mae llawer o ledaenu yn ystod y cyfnod hwnnw o naw diwrnod, sy'n llawer mwy nag argymhelliad awdurdod iechyd y byd mai tri diwrnod y dylai fod. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i geisio torri'r bwlch hwnnw o naw diwrnod i'r tri diwrnod a argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd, er mwyn sicrhau bod gennym ni'r system profi, olrhain a diogelu fwyaf effeithiol yma yng Nghymru?

Nid wyf i'n cydnabod y ffigur naw diwrnod o gwbl. Bydd yr Aelod yn falch iawn o wybod, o ystyried ei phryderon, y cyrhaeddwyd 90 y cant o gysylltiadau agos yr wythnos diwethaf o fewn 24 awr, ac y cyrhaeddwyd 93 y cant o achosion mynegai o fewn 24 awr. Felly, o ble mae'r naw diwrnod yn dod, wn i ddim, ond yr wythnos diwethaf dyna'r ffigurau a adroddwyd. Mae hynny yn llawer iawn gwell na'r tridiau y mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi ei nodi, ac rwy'n credu bod hynny yn dangos unwaith eto lwyddiant y system sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Gwasanaethau Gofal Sylfaenol

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod pandemig COVID-19? OQ56449

Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol wedi newid yn gyflym ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu'n rhaid i wasanaethau addasu fel bod cleifion yn gallu cael mynediad at ofal sylfaenol mewn modd diogel ac effeithiol. Mae llawer ohonyn nhw'n defnyddio technoleg ddigidol i wneud hynny.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Wrth gwrs, bu'n rhaid i fyrddau iechyd wneud newidiadau i'r ddarpariaeth o ofal sylfaenol. Un enghraifft yn fy rhanbarth i yw y bu'n rhaid cau'r feddygfa ym mhentref Trimsaran dros dro fel ei bod yn cael ei chadw fel lle y gellir ei ddefnyddio i drin cleifion COVID os oes angen. Mae'r gymuned wedi derbyn hyn, ond maen nhw'n bryderus am y sefyllfa uniongyrchol, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw deithio i Gydweli nawr, ac ar yr un pryd mae'r gwasanaethau bysiau wedi cael eu cwtogi oherwydd COVID—storm berffaith, ond efallai na ellir ei hosgoi. Ond mae amheuaeth y gallai'r bwrdd iechyd ddefnyddio argyfwng COVID i gau'r feddygfa honno yn barhaol. Yn amlwg, rwy'n credu y byddem ni eisiau llongyfarch y bwrdd iechyd ar sut y mae wedi ymdrin â'r argyfwng, ac nid yw'r materion gweithredol hyn yn faterion i'r Prif Weinidog, ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog heddiw a allai ef dawelu meddyliau fy etholwyr i yn Nhrimsaran nad yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl i unrhyw newidiadau i wasanaethau gofal sylfaenol sydd wedi eu gwneud oherwydd argyfwng COVID gael eu hymestyn y tu hwnt i'r pandemig heb asesiad ac ymgynghoriad priodol?

Wel, gadewch i mi bwysleisio rhan olaf yr hyn a ddywedodd yr Aelod, oherwydd, ar y sail honno, yna gallwn ymrwymo i'r hyn y mae hi newydd ei ddweud, oherwydd roeddwn i ar fin dweud wrthi cyn iddi wneud y pwynt olaf yna, wrth gwrs, o ran llawer o'r newidiadau sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig, y byddwn ni eisiau eu gweld yn parhau wedyn. Ond mae angen ymgynghori yn briodol arnyn nhw, ac mae angen eu deall yn iawn. Ond, mae'r ffaith bod gennym ni filoedd o ymgynghoriadau fideo yn digwydd bob dydd, ac nad yw pobl bellach yn gorfod teithio pellteroedd anghyfleus, a gwneud pethau a oedd yn anodd iddyn nhw eu gwneud, byddwn ni eisiau cadw'r pethau hynny hefyd.

Mae'r pwynt penodol y mae Helen Mary Jones yn ei wneud yn tynnu sylw at gyfyng-gyngor. Gofynnwyd i mi nifer o weithiau ar lawr y Senedd feddwl am gael ysbytai COVID yn unig, ac, felly, ysbytai eraill sy'n ymdrin â'r holl bethau nad ydyn nhw'n rhai COVID. Ond pan fyddwch chi'n gwneud hynny, mae'n anochel, fel y gwelwch chi yn Nhrimsaran, na fydd y pethau y byddech chi'n mynd i'r ysbyty ynglŷn â nhw fel rheol ar gael i chi mwyach, ac mae'n rhaid i chi deithio pellter hirach fyth i ddod o hyd iddyn nhw. Felly, mae ymdrin â'r pandemig a cheisio cadw pobl yn ddiogel, a cheisio gwneud yn siŵr nad yw pobl sydd angen y gwasanaeth iechyd am resymau nad ydyn nhw'n rhai COVID yn wynebu'r risg o ddal y clefyd yn wirioneddol anodd. Ac mae wedi ei deimlo yn ein gofal sylfaenol, yn ogystal ag yn ein gwasanaethau ysbyty.

Wrth i ni symud y tu hwnt i'r pandemig, rwy'n awyddus iawn i ni ddysgu'r gwersi cadarnhaol, y gyfradd syfrdanol o newid y mae'r gwasanaeth iechyd wedi llwyddo i'w hwyluso yn ystod y 12 mis diwethaf, ond wrth gwrs, mae'r rheini yn bethau y mae angen eu gwneud mewn ymgynghoriad â phoblogaethau lleol, ac i wneud yn siŵr bod cleifion yn cael eu cynnwys ar y daith honno.

14:30
Economi Sir Benfro

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi economi Sir Benfro drwy gydol pandemig COVID-19? OQ56435

Llywydd, mae dros 4,000 o fusnesau yn Sir Benfro wedi cael mwy na £91 miliwn mewn grantiau ers dechrau'r pandemig er mwyn cefnogi yr economi leol honno.

Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Nawr, cafodd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Gwener ymateb o rwystredigaeth arbennig ymhlith busnesau lleol nad ydyn nhw'n rhai hanfodol yn Sir Benfro, yr oedd rhai ohonyn nhw wedi cynllunio ar gyfer ailagor posibl yr wythnos hon ac wedi mynd i gostau i wneud hynny. Awgrymwyd gennych chi yn y gorffennol y dylai busnesau sy'n gwerthu cynhyrchion nad ydyn nhw'n hanfodol geisio ailagor o ddydd Llun nesaf, ac mae hynny wedi ei oedi hyd at 12 Ebrill erbyn hyn. Yng ngoleuni'r newid cyfeiriad hwn gan Lywodraeth Cymru, a allwch chi gadarnhau yn union pa dystiolaeth wyddonol a ddefnyddiwyd i barhau i atal ailagor siopau manwerthu nad ydyn nhw'n hanfodol tan 12 Ebrill, ac a allwch chi gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn digolledu busnesau am y costau yr aethpwyd iddynt, fel na fydd y busnesau hynny, o leiaf, o dan anfantais ariannol ychwanegol o ganlyniad i'r oedi cyn ailagor siopau manwerthu nad ydyn nhw'n hanfodol?

Wel, Llywydd, rwyf i wedi cymryd y rhagofal o ddod gyda mi yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd ar 19 Chwefror wrth edrych ymlaen at yr adolygiad tair wythnos presennol. Ni ddywedais yr hyn y mae Mr Davies wedi ei awgrymu o gwbl. Felly, gadewch i ni edrych ar yr hyn a ddywedwyd mewn gwirionedd. Dyma fe. Dywedais, 'Byddwn wedyn yn edrych'—ac roeddwn i'n sôn am y tair wythnos hon—'i weld pa un a'—felly, 'pa un a'—'y gallwn ni ddechrau'—felly, 'dechrau'—'ailagor rhai'—rhai—'siopau manwerthu nad ydyn nhw'n hanfodol.'

Dyna'r hyn a ddywedais i. Y byddem ni'n ystyried pa un a allem ni ddechrau ailagor rhai siopau manwerthu nad ydyn nhw'n rhai hanfodol. Ac, mewn gwirionedd, Llywydd, dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud, a dyna'n union y byddwn ni'n ei wneud, oherwydd, o 22 Mawrth ymlaen, bydd y siopau hynny sydd eisoes ar agor yn gwerthu nwyddau hanfodol yn cael gwerthu'r ystod lawn o nwyddau y bydden nhw'n eu cynnig fel arfer, a bydd hynny hefyd yn cynnwys yr holl eitemau hynny nad ydyn nhw'n hanfodol. Mae'n ddiogel gwneud hynny oherwydd bod y siopau hynny eisoes ar agor. Maen nhw eisoes yn cydymffurfio â'r rheoliadau cryfach a roddwyd ar y llyfr statud gennym ni yma yng Nghymru ym mis Ionawr, i gymryd amrywiolyn Caint i ystyriaeth. Mae manwerthwyr eraill nad ydyn nhw'n rhai hanfodol yn gwybod erbyn hyn, ar 12 Ebrill, yr un diwrnod ag yn Lloegr—cofiwch y dull pedair gwlad hwnnw yr oedd y Blaid Geidwadol yn awyddus i'w hyrwyddo—ar yr un diwrnod ag yn Lloegr, bydd yr holl siopau manwerthu eraill nad ydyn nhw'n rhai hanfodol yng Nghymru yn ailagor. Yn y cyfamser, bydd y sector yn cael ei gynorthwyo gan £150 miliwn o gymorth ychwanegol yr oeddwn i hefyd yn gallu ei gyhoeddi ddydd Gwener diwethaf, i gymryd i ystyriaeth y ffaith y byddai'n well gan y busnesau hynny, wrth gwrs, fod ar agor. Byddai'n well ganddyn nhw fod yn agor, byddai'n well ganddyn nhw fod yn masnachu nag yn aros am grant gan Lywodraeth Cymru—rwy'n deall hynny yn llwyr. A chyn gynted ag y bydd hi'n ddiogel i wneud hynny, a chyn gynted ag y gallan nhw gymryd yr wythnosau nesaf i ystyriaeth i wneud eu hunain yn ddiogel, yna, ar 12 Ebrill, byddant hwythau nhw i gyd yn cael ailagor hefyd.

14:35
Trafnidiaeth yn Ne-Ddwyrain Cymru

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OQ56468

Llywydd, rydym ni eisoes yn bwrw ymlaen â llawer o'r awgrymiadau a wnaed gan gomisiwn Burns. Bydd ei gyfres uchelgeisiol o argymhellion yn arwain at welliannau trafnidiaeth sylweddol i'r rhanbarth. Mae adroddiad dros dro adolygiad Hendy yn tynnu sylw at yr achos dros welliannau i brif reilffordd de Cymru, fel y cynigiwyd gan y comisiwn.

Diolch. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i'm cwestiwn am gefnogaeth Cyngor Dinas Casnewydd i refferendwm ar ffordd liniaru'r M4, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol,

Os oes galw am refferendwm lleol, yna rydym yn sicr yn hapus i weithio gyda chyngor Casnewydd i weld sut y gellid cyflawni hynny.

Aeth Julie James ymlaen wedyn i ddweud ei bod hi o blaid pobl leol yn cael cyfle sylweddol i leisio barn ar yr hyn sy'n digwydd yn eu rhanbarth neu eu hardal. Rydych chi wedi dweud wrthym ni heddiw pa mor bwysig yw democratiaeth leol i chi, Prif Weinidog. Felly, o ganlyniad, a fyddech chi'n cynnal refferendwm ar ffordd liniaru'r M4, fel y galwyd amdano gan gyngor Casnewydd?

Llywydd, nid oes gennyf ddim i'w ychwanegu at yr hyn y mae fy nghyd-Aelod eisoes wedi'i ddweud wrth yr Aelod am y mater hwnnw. Rwy'n falch iawn serch hynny o'i chlywed yn troi at benderfyniadau lleol. Bydd yn teimlo mor ddig â mi, felly, fod Gweinidogion yn ei Llywodraeth yn Llundain yn esgus yn barhaus fod ganddyn nhw bwerau i wneud penderfyniadau yn gysylltiedig â ffordd liniaru'r M4—does ganddyn nhw ddim. Gwneir y penderfyniadau hynny'n briodol yn y fan yma, ac mae croeso mawr i dröedigaeth yr Aelod at hynny.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol')

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch goblygiadau cyfansoddiadol cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin? OQ56434

Mae'r goblygiadau'n glir: mae hon yn ymgais i fynd â phethau'n ôl i ddegawdau yn ôl, pan oedd San Steffan yn gwybod orau. Nid sarhad ar bobl Cymru yn unig yw anwybyddu sefydliadau etholedig Cymru, a bydd yn amlwg yn arwain at ganlyniadau gwaeth i Gymru hefyd.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb yna. A thynnaf ei sylw at ymddangosiad yr Ysgrifennydd Gwladol yr wythnos diwethaf o flaen y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, lle y'i gwnaed hi'n glir iawn, iawn nad oes bwriad gan Lywodraeth y DU i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, ac nad yw dehongliad Ysgrifennydd Gwladol Cymru o ddatganoli—a sybsidiaredd a gwneud penderfyniadau—yn cynnwys Llywodraeth Cymru, ac nid yw yn cynnwys partneriaethau economaidd rhanbarthol ychwaith. Ond ar ben hynny, roedd anwybodaeth bryderus—bwriadol neu fel arall—o'r fframwaith polisi yng Nghymru, gan gynnwys fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nawr, siawns, Cwnsler Cyffredinol, nid yn unig fod gan hyn oblygiadau ariannol i Gymru, ond goblygiadau cyfansoddiadol gwirioneddol i'n setliad datganoli presennol.

Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn atodol yna. Drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, mae'n sicr yn wir bod Llywodraeth y DU yn ceisio cyflawni mewn meysydd datganoledig heb unrhyw fewnbwn gan Lywodraeth Cymru ar ei chynlluniau, a heb unrhyw ymgysylltu â rhanddeiliaid nac ymgynghori â'r cyhoedd. Ac yn ymarferol, byddai hynny'n golygu bod Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau ar faterion datganoledig yng Nghymru heb fod yn atebol i'r Senedd ar ran pobl Cymru. Mae hynny, yn amlwg, yn groes i'r setliad cyfansoddiadol. Ac, er fy mod yn cydnabod sylwadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn cyd-destun arall, a dynnodd sylw at y diffyg statws, rwy'n credu, yr oedd yn credu bod Llywodraeth Cymru yn pryderu amdano, byddwn yn ei annog i gofio mai setliad cyfansoddiadol yw hwn, y mae pobl yng Nghymru wedi pleidleisio drosto'n ddemocrataidd, a bod y penderfyniad i fwrw ymlaen yn groes i'r trefniadau cyfansoddiadol yng Nghymru yn fater difrifol o safbwynt democrataidd, ond mae hefyd yn aneffeithiol o ran sicrhau manteision i bobl yng Nghymru. Ac mae'r achwyniad sydd gennym ni, a sydd gan bobl ledled Cymru, ydy, mae'n gyfansoddiadol, ond mae hefyd yn ymwneud â chronfa nad yw'n mynd i fod yn effeithiol, nad ymgynghorwyd arni, nad yw'n adlewyrchu blaenoriaethau busnesau yng Nghymru, na ellir ei hintegreiddio a, lle caiff penderfyniadau eu gwneud gan adran o Lywodraeth y DU y mae ei chamreoli o'r gronfa drefi eisoes wedi'i beirniadu'n ddifrifol yn y Senedd. Ac, mewn cyfarfod diweddar, gydag Ysgrifennydd Gwladol perthnasol Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, roedd hi'n gwbl glir mai'r bwriad yw i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wneud y penderfyniadau hyn, gan gynnwys ar sail swyddogion a benodir yng Nghymru i wneud hynny. Mae'r Llywodraeth hon o'r farn bod hynny'n gwbl annerbyniol yn gyfansoddiadol a, hefyd, nad yw er budd economi Cymru.

14:40
Diogelu Da Byw Rhag Ymosodiadau Gan Gŵn

2. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y pwerau cyfreithiol sydd ar gael i gryfhau'r gallu i ddiogelu da byw rhag ymosodiadau gan gŵn yng Nghymru? OQ56443

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n gweithio’n agos gyda lluoedd yr heddlu, gyda Llywodraeth y DU, y llywodraethau datganoledig eraill a rhanddeiliaid i ystyried beth yw’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â’r mater difrifol hwn o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw ac atal effeithiau dinistriol hyn.

Ond dŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, Gwnsler, bod gan yr Alban y pwerau sydd eu hangen arnyn nhw i weithredu i daclo'r broblem yma, ac mae yna Fil eisoes wedi, wrth gwrs, ei osod a'i gyflwyno yn y Senedd yn fanna. Yn anffodus, rydym ni, ar y cyfan, yng Nghymru, yn ddibynnol ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu, ond maen nhw wedi gwrthod gwneud hynny. Maen nhw wedi gwrthod rhoi mwy o hawliau i'r heddlu gymryd samplau DNA, er enghraifft, gan gŵn sy'n cael eu hamau o ymosod, mwy o hawliau i atalfaelu cŵn mewn rhai achosion, cryfhau dirwyon, digolledu perchnogion da byw am eu colledion ac yn y blaen.

Felly, rydym ni wedi bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers blynyddoedd. Gwnes i godi hyn dros ddwy flynedd yn ôl. Onid yw hi'n amser nawr i chi ymuno â fi ac eraill i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan nad ydyn nhw, yn amlwg, yn bwriadu gweithredu ar y mater yma—. A wnewch chi ymuno â ni i alw am ddatganoli'r pwerau angenrheidiol i ni fan hyn, yn y Senedd, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, wrth gwrs, er mwyn i ni allu taclo'r broblem yma unwaith ac am byth?  

Wel, mae'r Aelod yn gwybod mai fy swyddogaeth i yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n gweithio o fewn ei phwerau cyfansoddiadol, ond hefyd sicrhau ein bod ni'n gallu gweithio i'r eithaf pellaf o'n pwerau datganoledig, a hefyd yn ymchwilio am bob cyfle i sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei ddiwygio mewn ffordd sydd yn gweithredu er budd pobl Cymru. Mae'r Gweinidog dros yr amgylchedd wedi ysgrifennu'n ddiweddar at y Llywodraeth yn San Steffan i ofyn am newidiadau yn y maes hwn o ran deddfwriaeth yn seiliedig ar y math o feirniadaethau roedd yr Aelod yn sôn yn ei gwestiwn. Ac rŷn ni'n sicr, fel Llywodraeth, yn cefnogi'n gryf diwygio'r ddeddfwriaeth yn San Steffan, sydd yn ein galluogi ni, felly, yn y dyfodol i wneud mwy nag sydd yn bosibl ar hyn o bryd. 

Diffygion Mewn Adeiladau Uchel Iawn

3. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'w gyd-weinidogion ar gynorthwyo lesddeiliaid sy'n wynebu rhwymedigaethau ariannol wrth fynd i'r afael â diffygion mewn adeiladau uchel yng Nghymru? OQ56446

Mae Llywodraeth Cymru’n edrych ar ddewisiadau i ddiogelu lesddalwyr rhag gorfod talu costau llawn unioni materion diogelwch adeiladau. Mae’n hollbwysig, wrth gwrs, ein bod ni’n sicrhau bod yr holl opsiynau’n cael eu hystyried yn briodol, y cynhelir asesiadau risg ar yr opsiynau a’n bod ni’n deall yr effeithiau’n llawn cyn cyhoeddi modelau ariannu penodol. 

Diolch yn fawr, Gweinidog. Nawr, yn y cyfnod ôl-Grenfell hwn, Cwnsler Cyffredinol, efallai eich bod yn ymwybodol o'r materion sy'n wynebu lesddeiliaid yng Nghei Meridian yn Abertawe, lle mae'r cwmni adeiladu a'r yswirwyr ill dau wedi cael eu diddymu. Mae hyn wedi gadael lesddeiliaid mewn sefyllfa lle maent yn teimlo eu bod yn gaeth, ystyrir bod eu fflatiau'n ddiwerth ac ni allan nhw werthu. Nawr, gobeithio, bydd ymdrechion i gael iawndal drwy Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol yn dwyn ffrwyth, ac rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y mater hwn.

Byddwn yn ddiolchgar, fodd bynnag, pe gallech amlinellu pa drafodaethau rydych chi'n eu cael yn y Llywodraeth ar y £3.5 biliwn o gyllid a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar, ac a ydych chi'n teimlo y byddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru gynnig indemniad i lesddeiliaid mewn sefyllfaoedd fel yr honno yng Nghei Meridian, yn enwedig ar gyfer costau canlyniadol, megis yswiriant cynyddol a chostau cyfreithiol cynyddol.

Wel, rydym ni yn sicr yn disgwyl i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid, o ganlyniad i'r ymrwymiadau gwario a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Lloegr, a bydd hynny, wrth gwrs, yn ein galluogi i baratoi ymateb i lesddeiliaid sydd yn y sefyllfa hon. Mae cyfnod o ymgynghori ar y Papur Gwyn y mae'r Gweinidog wedi'i gyhoeddi tan 12 Ebrill, a byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn i annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Ond mae ein safbwynt fel Llywodraeth yn glir iawn, iawn: nid ydym yn credu y dylai lesddeiliaid orfod talu i unioni materion sy'n gyfystyr â methiant i adeiladu i safonau ansawdd priodol. Rydym ni eisoes wedi cyhoeddi £10.5 miliwn eleni a gwerth £32 miliwn pellach o gyllid cyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a'n bwriad, gallaf dawelu meddwl yr Aelod, yw sefydlu cynnig cyllid i Gymru sy'n mynd ymhellach fyth na'r hyn sy'n cael ei ystyried mewn rhannau eraill o'r DU, sy'n edrych ar adfer adeiladau yn eu cyfanrwydd, y tu hwnt i gladin, i gynnwys rhai o'r mathau eraill o agweddau y soniodd amdanynt yn ei gwestiwn ac mae eraill wedi bod yn galw amdanynt hefyd. Gwn y bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gwneud cyhoeddiad maes o law ynghylch sut y gellir cael gafael ar y math hwnnw o gyllid.

14:45
Ymwybyddiaeth o Reolaeth y Gyfraith

4. Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cymryd i annog gwell ymwybyddiaeth o reolaeth y gyfraith ymhlith oedolion ifanc yng Nghymru? OQ56447

Mae ymwybyddiaeth o reolaeth y gyfraith yn rhan annatod o'n gwaith fel Llywodraeth ac i'n hymdrechion i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Mae nifer o fentrau ar y gweill a fydd yn cael eu dwyn ynghyd mewn rhaglen ffurfiol, yn unol â'r ddeddfwriaeth a basiwyd yn y Senedd hon, ar ddechrau tymor nesaf y Senedd.

Diolch. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol y cynhaliwyd Wythnos Cyfiawnder 2021 rhwng 1 Mawrth a 5 Mawrth gyda COVID-19 yn gefndir. Roedd yr Wythnos Gyfiawnder yn gyfle pwysig i ddysgu am ein hawliau, ein system gyfiawnder ac, yn y pen draw, rheolaeth y gyfraith. Fel yr amlinellwyd mewn erthygl ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr, mae'r coronafeirws wedi effeithio'n drwm ar blant drwy gau ysgolion, ac ni ymgynghorwyd â'r rhan fwyaf o bobl ifanc erioed ar y penderfyniadau. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn cefnogi addysg gyfreithiol gyhoeddus ac yn tynnu sylw at y Wers Gyfreithiol Fawr yn ystod yr Wythnos Gyfiawnder. Menter adnoddau ystafell ddosbarth yw hon a gynlluniwyd gan athrawon i gyflwyno plant a phobl ifanc i reolaeth y gyfraith. Mae'r adnoddau'n helpu i ymgyfarwyddo pobl ifanc â phynciau fel pam mae gennym ni gyfreithiau, beth yw Bil a sut mae cyfraith yn cael ei chreu. Mae saith cant a thri deg dau o ysgolion bellach yn cymryd rhan eleni. A wnewch chi gysylltu â Kirsty Williams AS i weld beth y gellir ei wneud i geisio sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y Wers Gyfreithiol Fawr y flwyddyn nesaf?

Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn atodol yna, ac roeddwn wrth fy modd, er mwyn trafod cwestiynau am reolaeth y gyfraith gyda phobl ifanc, i fod wedi cymryd rhan yn ddiweddar gyda rhai myfyrwyr o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn eu cynhadledd cyfraith a throseddeg, i drafod yr union fath hwn o fater. Ac yn y ffordd yr oedd hi'n awgrymu yn ei chwestiwn, roedd llawer o'r drafodaeth honno'n ymwneud ag effaith pandemig y coronafeirws.

Wrth gwrs, yng Nghymru, rydym ni wedi gweithio gyda'r comisiynydd plant i geisio canfod barn plant a phobl ifanc yn benodol iawn am effaith COVID ar eu bywydau yn benodol. Ond, fel mae hi'n dweud, mae mwy i'w wneud bob amser o ran sicrhau bod disgyblion mewn ysgolion yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o'r materion sy'n ymwneud â rheolaeth y gyfraith, atebolrwydd democrataidd, ac yn y blaen. Rwy'n ffyddiog iawn y bydd y Bil cwricwlwm newydd, pan ddaw'n Ddeddf, yn hwyluso'r math hwnnw o addysg, ac mae'n destun gofid na ddewisodd ei phlaid gefnogi hynny.

Troseddau Gwledig

5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU ynghylch cyflwyno mesurau cyfreithiol i fynd i'r afael â throseddau gwledig? OQ56448

Rydym ni'n cymryd troseddau gwledig o ddifrif, a dyna pam y gwnaethom ni sefydlu grŵp bywyd gwyllt a throseddau gwledig Cymru. Er nad yw plismona, wrth gwrs, yn fater datganoledig yn anffodus, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a heddluoedd Cymru i sicrhau bod anghenion diogelwch y cyhoedd yn cael eu diwallu ledled Cymru.

Diolch. O waith craffu blaenorol yr wyf wedi ei gyflwyno ger eich bron, byddwch yn ymwybodol o'm barn fod gan Lywodraeth Cymru yn sicr ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â throseddau gwledig. Hoffwn dynnu sylw at erthygl mewn cyhoeddiad diweddar gan Farmers Guardian. Mae'r pennawd yn darllen:

Mae gangiau cyfundrefnol yn targedu beiciau cwad.

Felly, nid ydym yn sôn am ambell feic cwad yn cael ei ddwyn, ond rydym yn sôn nawr am gangiau cyfundrefnol, ac mae hynny'n llawer mwy sylweddol o ran ymddygiad troseddol. Mae data gan NFU Mutual yn dangos bod lladradau'n parhau i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, i fyny o 1.8 miliwn yn 2015 i 2.6 miliwn mewn tair blynedd yn unig. Mae'r Ditectif Gwnstabl Chris Piggott, swyddog cudd-wybodaeth troseddau cerbydau gwledig yn y Gwasanaeth Cenedlaethol Gwybodaeth am Droseddau Cerbydau, wedi dweud ei bod hi'n ymddangos bod sawl gang bellach yn symud ar draws ffiniau'r heddlu a bod y rhan fwyaf o Gymru, ar hyn o bryd, yn cael ei thargedu. Anfonodd Lesley Griffiths AS lythyr ataf yn ddiweddar yn esbonio ei bod yn gohebu â'r Arglwydd Goldsmith, tîm troseddau gwledig gogledd Cymru a chydweithwyr yn DEFRA. Rwy'n croesawu hynny, ond dim ond meddwl ydw i tybed a ydych chi wedi cael mwy o drafodaethau gyda'r Gweinidog ynglŷn â chefnogi'r galwadau am ffurfio tasglu troseddau gwledig cenedlaethol i Gymru. A wnewch chi gefnogi cynnig o'r fath, i ddod â rhanddeiliaid o Gymru at ei gilydd i weithio ar ymateb addas gan Lywodraeth Cymru er mwyn diogelu ein cymunedau gwledig ac, wrth gwrs, er mwyn creu llwyfan ar gyfer anfon gohebiaeth allweddol o Gymru at Lywodraeth y DU ac y gallwn ni gael gwell cydweithio ar droseddau gwledig, wrth symud ymlaen? Diolch.

14:50

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn eto. Mae hi wedi, wrth gwrs, fel y gwnaeth hi sôn yn y cwestiwn, dod â hyn at fy sylw o'r blaen, ac mae'n amlwg yn fater pwysig iawn, iawn yn ei hetholaeth ac ar draws Cymru. Rwy'n credu bod tystiolaeth dda iawn o gydweithio rhwng yr asiantaethau perthnasol yng Nghymru, sydd, rwy'n credu—ac rwy'n gwybod y byddai hi'n cydnabod hyn—wedi cael ei ystyried yn arfer gorau mewn mannau eraill. Mae'r sylw y mae hi'n ei wneud yn benodol ynghylch dwyn cerbydau, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Mae'n sicr yn un o'r blaenoriaethau o blith yr amrywiaeth bresennol, yn anffodus, o droseddau gwledig a bywyd gwyllt yng Nghymru. Mater i'r Gweinidog yn y portffolio perthnasol yw hyn, yn bennaf, wrth gwrs, ac rwy'n ymwybodol ei bod hi wrthi'n ystyried cynnig penodol i gynyddu'r pwyslais ar droseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yng Nghymru, ac fe allwn ddisgwyl cyhoeddiad ganddi ar y mater hwnnw yn ystod y dyddiau nesaf.

Ymddiheuriadau, Llywydd, roeddwn i'n credu ein bod ni wedi tynnu'r cais hwnnw'n ôl. Ymddiheuraf.

O'r gorau. Mae hynny'n iawn.

Dim problem.

Iawn, mae hynny'n dod â'r sesiwn gwestiynau honno i ben.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans. 

Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw. Mae'r cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021 wedi'i ohirio tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer wythnos olaf y tymor wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad yr wythnos hon, os gwelwch chi'n dda, y cyntaf gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â gwrthsemitiaeth ym mhrifysgolion Cymru? Mae Llywodraeth Cymru a llawer o gyrff cyhoeddus ledled Cymru wedi mabwysiadu diffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth, ond mae'n destun gofid mawr, rwy'n credu, nad yw rhai prifysgolion yng Nghymru wedi mabwysiadu'r diffiniad hwnnw eto. Fel yr ydych chi'n ymwybodol, mae Llywodraeth y DU wedi mynd ati i annog prifysgolion yn Lloegr i fabwysiadu diffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth, ac rwy'n credu y byddai'n dda iawn i bobl Cymru wybod a yw Llywodraeth Cymru yn cymryd camau tebyg i fynd i'r afael â phla gwrthsemitiaeth mewn rhai rhannau o'n sector addysg uwch yma yng Nghymru.

Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ei gael yw un sy'n rhoi eglurder i'r diwydiant hamdden ynghylch a fydd campfeydd a phyllau nofio yn gallu ailagor yng Nghymru. Rwyf wedi cael nifer o etholwyr sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi ynglŷn ag effaith niweidiol cau eu campfa leol a'u pwll nofio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol, ac, wrth gwrs, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod hyn wirioneddol yn rhywbeth sy'n effeithio ar bobl o bob oedran, nid pobl ifanc yn unig. Rwyf wedi cael myfyrwyr, wrth gwrs, yn byw ar eu pen eu hunain, hyfforddwyr ffitrwydd sydd heb incwm, a chleifion cardiaidd nad ydyn nhw wedi gallu gwneud eu hymarferion adfer, sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae'r dystiolaeth yr wyf i wedi'i gweld, Trefnydd, yn awgrymu bod y risgiau o niwed drwy haint sy'n gysylltiedig â champfeydd a phyllau nofio yn isel iawn, a bod canlyniadau peidio â gwneud ymarfer corff digonol, fel gordewdra, yn sylweddol iawn. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddoeth cael datganiad ynglŷn ag amserlen ar gyfer ailagor campfeydd a phyllau nofio cyn gynted â phosibl.

Diolch i Darren Millar am godi'r ddau fater hynny. Yn amlwg, nid oes lle o gwbl i wrthsemitiaeth yn unman yng Nghymru, a byddwn i'n falch o ofyn i'r Gweinidog Addysg ysgrifennu atoch ar y mater penodol hwnnw a godwyd gennych, ynghylch mabwysiadu diffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost

Ac, o ran campfeydd a phyllau nofio, mae arnaf i ofn nad oes gennyf i unrhyw beth arall y gallaf ei ychwanegu at yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ddydd Gwener o ran y camau nesaf a darparu dyddiad penodol. Ond, yn amlwg, mae'r holl faterion hyn yn cael eu hadolygu'n gyson, ac rydym ni'n cydnabod y cyfraniad pwysig i iechyd a lles corfforol a meddyliol y gall campfeydd a phyllau nofio ei wneud i bobl o bob oedran, fel y dywedwch chi, ac rydym yn ymwybodol iawn, iawn o effaith y cyfyngiadau ar bobl a'u bywydau. Felly, cyn gynted ag y gallwn ni ddarparu dyddiad, gwn y byddem yn awyddus i wneud hynny.

14:55

Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch chi'n dda, ynghylch pwysigrwydd hanfodol helpu pobl ifanc i ymadfer o'r argyfwng, yn enwedig eu hiechyd meddwl a'u lles. Rwyf wedi siarad yn y Senedd o'r blaen am y gwaith gwych y mae Canolfan Galw Heibio Ieuenctid Senghennydd—neu SYDIC—yn ei wneud i ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd i bobl ifanc. Rwyf wedi siarad â Dave Brunton, sy'n gwneud gwaith rhagorol i'r ganolfan, ac rwy'n ymwybodol o'i bryderon ef a nifer o bobl eraill am yr effeithiau y mae'r cyfyngiadau symud wedi'u cael ar bobl ifanc gan fod eu cyfle i weld teulu estynedig a ffrindiau, a'r gefnogaeth y maen nhw'n ei gael gan grwpiau fel Canolfan Galw Heibio Ieuenctid Senghennydd, wedi'u lleihau. Mae mwy a mwy o bobl ifanc wedi mynd i deimlo'n isel, yn unig ac yn ynysig. Siawns nad oes angen i weithgareddau a chymorth ieuenctid fod yn ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n adfer ar ôl COVID; y nhw sy'n gonglfaen. Oherwydd cynifer o doriadau i gyllid yn ystod y blynyddoedd, maen nhw’n brwydro i oroesi, ond bydd angen cyswllt ystyrlon ar bobl ifanc, ymyriadau wedi'u targedu i helpu i oresgyn yr ynysigrwydd cymdeithasol a'r materion iechyd meddwl sydd wedi digwydd oherwydd y pandemig. Felly, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch chi'n dda, yn nodi'r hyn fydd yn cael ei wneud i sicrhau bod llesiant pobl ifanc yn egwyddor ganolog o'r adferiad o COVID. Diolch.

Diolch am godi'r mater. Wrth ichi siarad, roeddwn i'n edrych ar y cwestiynau i'r Gweinidog Addysg yfory, ac mae cyfle penodol i ymdrin â llesiant plant a phobl ifanc yno. Ond rwy'n gwybod y byddech chi'n awyddus i gael datganiad ehangach, a bydd y Gweinidog wedi clywed popeth yr oedd gennych chi i'w ddweud.

Rwyf i wedi bod yn falch, yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, o ddarparu cynnydd yn y cyllid ar gyfer iechyd meddwl i bobl ifanc, i gydnabod yr amser anodd iawn y maen nhw wedi'i gael. Hefyd rydym wedi darparu cyllid ychwanegol sylweddol i'n colegau a'n prifysgolion er mwyn iddyn nhw hefyd gefnogi anghenion iechyd meddwl y bobl y maen nhw'n darparu'r gwasanaethau addysgol ar eu cyfer. Ond rwy'n ddiolchgar i chi am godi hynny, ac am roi'r cyfle hefyd i ddweud 'diolch' i bawb yng nghanolfan galw heibio Senghennydd am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud dros gyfnod hir, ac rwy'n gwybod eu bod yn awyddus iawn i allu dychwelyd at eu swyddogaeth lawn maes o law.

Yn San Steffan ac mewn cynghorau lleol, mae'r gyllideb a'r ddadl ar y gyllideb yn ddigwyddiadau mawr, hyd yn oed pan nad oes unrhyw amheuaeth y caiff y gyllideb ei phasio gyda mwyafrif mawr. Yn y Senedd, mae'n cael ei hystyried yn deilwng o ddadl awr yn unig. Nid yw'r ddadl ar y gyllideb yn rhan o waith craffu, sydd, yn fy marn i, yn rhywbeth nad yw rhai aelodau o'r Llywodraeth—ac nid wyf i'n golygu'r Gweinidogion, ond y gweision sifil—wedi'i deall yn iawn. Nid ydym yn craffu ar y gyllideb, rydym yn pennu'r gyllideb, ac rwy'n credu bod honno'n sefyllfa gwbl wahanol. Mae'n bleidlais rwymol ar wariant y Llywodraeth; meiddiwch chi golli un a byddwch chi'n darganfod pa mor bwysig ydyw. Siawns nad yw'n deilwng o ddadl brynhawn llawn. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried y cais hwn ac adrodd yn ôl i'r Senedd?

Ie, diolch i Mike Hedges am godi'r gyllideb. Wrth gwrs, mae gennym ni bedwar cyfle i drafod y gyllideb ar lawr y Senedd: mae gennym ni'r ddadl gynnar ar y gyllideb sydd, yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, wedi'i chyflwyno a'i harwain gan y Pwyllgor Cyllid, fel y gallwn ni fyfyrio ar y gwaith y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi'i wneud o ran ei waith ymgysylltu; yna mae'r datganiad ar ddadl y gyllideb ddrafft; ac yna'r ddadl ar y gyllideb ddrafft; ac yna'r ddadl derfynol ar y gyllideb yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn. Rwy'n cydnabod bod yna awydd am ddadleuon hwy, a mater i'r Llywodraeth nesaf nawr fydd penderfynu ar hyd y dadleuon hynny. Rwy'n siŵr y bydd cyfleoedd i gael trafodaethau, o bosibl, o fewn y Llywodraeth ac o fewn y Pwyllgor Busnes, ar gyflwyno'r dadleuon hynny yn y dyfodol, ond rwy'n credu mai mater i'r weinyddiaeth nesaf yw hynny nawr.

A gaf i ychwanegu fy nghefnogaeth i'r cais a gafodd ei wneud gan Darren Millar ynghylch datganiad ar wrthsemitiaeth yn ein prifysgolion? Byddwn i wedi gofyn hynny fy hun hefyd, ond mae gennyf i ddau gais arall, os caf i. Mae un i'r Gweinidog Addysg, yn gofyn am ddatganiad sy'n nodi rhai canllawiau i ysgolion ar graffiti ar waliau ysgolion, a pha mor gyflym y dylid ymdrin â hynny. Tynnwyd fy sylw at y ffaith bod arwydd 'Cofiwch Dryweryn' wedi bod yn Ysgol Bro Hyddgen yn Nyffryn Dyfi ers rhai misoedd bellach ac er bod hynny'n coffáu'n ddilys ddigwyddiad pwysig yn hanes Cymru, rydym ni i gyd yn gwybod ei fod wedi dod yn gysylltiedig â mudiad gwleidyddol penodol nawr, ac felly fe fyddwn i'n dweud ei bod yn amhriodol fod ysgol yn ymwneud â hynny.

Ac yna, yn olaf, a gaf i ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Amgylchedd? Rwy'n ailadrodd yr alwad arni i gynghori'r Aelodau ar unrhyw newidiadau i ganllawiau sy'n helpu cyrff cyhoeddus i gydbwyso blaenoriaethau sy'n cystadlu pan fydd yn rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau sy'n deillio o benderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru. Trefnydd, fe fyddwch chi'n gwybod eich hun am y cyfyng-gyngor y mae fy etholwyr i ym Mayals yn sicr wedi bod yn ei wynebu wrth ddewis rhwng llwybr teithio llesol a thorri coed i lawr. Ond, hyd yn oed pan fydd brwdfrydedd dros lwybr teithio llesol, sut mae sicrhau nad yw bywyd gwyllt, cynefin a bioamrywiaeth yn cael eu sathru yn y broses o greu llwybr teithio llesol? Mae'n debyg y byddwch chi'n ymwybodol o hyn oherwydd adran Clun yng Ngŵyr. Mae'n fy nharo i braidd yn rhyfedd fod gennym bolisi sydd â'r bwriad o wella iechyd a lleihau llygredd, ond mae'r modd o weithredu hynny yn golygu dinistrio cynefin lleol o bwysigrwydd sylweddol. Felly, tybed a oes modd gofyn am ddatganiad ynghylch pa ganllawiau sydd ar gael ar hyn o bryd i helpu gyda'r penderfyniad hwnnw, a pha atebion sydd ar gael i etholwyr sy'n credu na chafodd y prosesau ymgynghori eu dilyn yn ddigonol. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau'n cytuno â mi pan ddywedaf nad yw adolygiad barnwrol yn ateb o gwbl i'r etholwr cyffredin, oherwydd cost hyn. Diolch.

15:00

Diolch am godi'r ddau fater hynny, a byddaf yn gwneud yn siŵr fod yr ohebiaeth yr oeddwn i wedi cyfeirio ati yn fy ateb i Darren Millar yn cael ei hanfon atoch chi hefyd. O ran y cwestiwn cyntaf, ynglŷn â pha mor gyflym y dylid dileu graffiti, a gaf i ofyn i chi ysgrifennu at y Gweinidog ar y mater hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yn gallu darparu rhagor o wybodaeth a'ch cyfeirio at unrhyw ganllawiau a allai fod ar gael? Ac yna ar fater y newidiadau i ganllawiau a'r ffordd anodd y mae'n rhaid cydbwyso blaenoriaethau amrywiol, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch. Rwy'n gwybod bod rhai materion penodol ynglŷn â'r llwybr teithio llesol ym Mayals. Fy nealltwriaeth i, o drafodaethau gyda'r cyngor, yw y byddai'r coed hynny wedi gorfod dod i lawr yn y dyfodol agos beth bynnag, ond rwy'n credu bod y rheini'n drafodaethau manwl, efallai nid ar gyfer y datganiad busnes, ond gwnaf i'n siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth yr ydych chi'n chwilio amdani.

Yn ystod yr wythnos diwethaf, rwyf wedi cael pentwr o gwynion gan rieni yn y Rhondda sydd heb lwyddo i sicrhau lle i'w plentyn neu eu plant yng nghlwb brecwast yr ysgol. Nawr, mae hwn yn fater a ddaeth i fy sylw tua diwedd y llynedd, pan gafodd y cylch diwethaf o leoedd brecwast eu llenwi'n gyflym iawn, gan adael llawer o rieni nid yn unig yn siomedig ond mewn anobaith. Ar y pryd, ysgrifennais at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac at eich Llywodraeth chi yn galw am flaenoriaethu lleoedd clybiau brecwast ar gyfer plant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol. Cefais wybod nad oes modd gwneud hyn, gan nad yw'r ddeddfwriaeth yn caniatáu hynny. Er bod hynny'n siomedig i'w glywed, dim ond ateb dros dro fyddai wedi bod beth bynnag. Mae angen buddsoddiad mawr mewn clybiau brecwast mewn ysgolion ledled Cymru er mwyn cynyddu'r capasiti fel y gall y cyflenwad fodloni'r galw sydd ar gael. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch sefyllfa bresennol y clybiau brecwast yng Nghymru, ac a allech chi roi gwybod inni a yw eich Llywodraeth yn bwriadu gwneud unrhyw beth ynghylch y broblem hon, sy'n dal i godi bob tro y bydd cylch newydd o geisiadau?

Byddaf i'n siarad â'r Gweinidog Addysg am fater clybiau brecwast i ddeall pa mor eang yw'r broblem o ran capasiti, gyda golwg ar archwilio beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn y maes hwn yn y dyfodol. Ond os gallech chi anfon rhagor o wybodaeth ataf am lefel y galw ychwanegol yr ydych chi'n ymwybodol ohono, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Gwn y byddwn ni hefyd eisiau ei godi gyda chyngor Rhondda Cynon Taf.

15:05

O ran yr alwad gan Darren Millar a Suzy Davies am ddatganiad ar sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth yn ein prifysgolion, a allai'r datganiad hwnnw egluro a yw'r prifysgolion wedi llofnodi Cynghrair Cofio Rhyngwladol yr Holocost neu beidio? Mae'n rhaid i bob prifysgol gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sydd, yn amlwg, yn amddiffyn pobl Iddewig fel pobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Rwy'n credu y byddai'n bwysig egluro hynny. Cafodd y Ddeddf Cydraddoldeb ei phasio gan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU.

Yn ail, es ar fy meic i lawr i Westy'r Angel yng nghanol Caerdydd amser cinio i'w llongyfarch ar eu cynnig o le diogel i bob menyw a merch sy'n ystyried eu bod mewn perygl, ac mae hynny'n gyfraniad pwysig iawn i sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel i fod allan yng Nghaerdydd unwaith y bydd y bywyd nos yn ailddechrau. Ond, yn amlwg, mae llofruddiaethau Sarah Everard a Wenjing Xu yn tynnu sylw at y trais beunyddiol sy'n bygwth pob menyw, yn anffodus, bob dydd o'r wythnos. Rwy'n nodi datganiad y Dirprwy Weinidog ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn tynnu sylw at y cyllid ychwanegol sydd wedi'i roi ar gyfer y llinell gymorth am ddim. Ac mae gennym ni hefyd yr addysg cydberthynas a gwerthoedd newydd yn y cwricwlwm, sydd, yn fy marn i, yn gyfraniadau pwysig iawn i ymdrin â chasineb at fenywod. Yn anffodus, nid yw Lloegr wedi llwyddo i wneud hyn eto. Tybed a oes unrhyw beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod menywod yn teimlo'n llai pryderus ynghylch y ddwy lofruddiaeth hyn.

Ac yn olaf, roeddwn i'n siomedig iawn o ddarllen bod cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, yn ôl pob tebyg, yn elyniaethus i'r syniad o leoli'r ganolfan breswyl newydd i fenywod yno. Felly, tybed a yw'r Llywodraeth yn gallu egluro pa waith sydd wedi'i wneud gyda Llywodraeth y DU i nodi Caerdydd fel dewis amgen posibl, lle rwy'n siŵr y byddem eisiau cynnal canolfan mor bwysig fel nad oes angen anfon menywod sydd wedi troseddu i garchardai yn Lloegr, ac y bydd modd eu hailsefydlu'n nes at gartref y menywod.

Diolch am godi'r ddau fater pwysig iawn hynny, ac rwy'n falch eich bod chi wedi tynnu sylw at y datganiad y mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi'i gyhoeddi heddiw, yn myfyrio ar y digwyddiadau trasig diweddar sydd, rwy'n credu, wedi ein hatgoffa ni pa mor aml y mae menywod yn teimlo'n anniogel. Rwy'n credu ei bod yn bositif iawn bod busnesau fel Gwesty'r Angel yng Nghaerdydd, ond hefyd westai a siopau ledled Cymru a ledled y Deyrnas Unedig, bellach yn camu ymlaen i ddweud y byddan nhw'n lle diogel i fenywod sydd eu hangen. Rwy'n credu bod hynny'n dangos nad swyddogaeth i Lywodraeth Cymru yn unig yw hon, er gwaethaf yr holl waith da a wnawn ni, a gafodd ei grynhoi yn y datganiad ysgrifenedig heddiw, ond mewn gwirionedd mae gan bob un ohonom ni ein rhan i'w chwarae fel dinasyddion unigol ac fel pobl yn ein swyddi proffesiynol a'n swyddi gwaith, waeth ble y gallai hynny fod. Felly, rwy'n credu bod ymyrraeth gan unigolion a siopau ac ati wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth.

O ran y ganolfan breswyl i fenywod, mae'n ymrwymiad allweddol yn y glasbrint troseddu menywod a fydd yn darparu cymorth adsefydlu dwys i fenywod fel rhan o ddedfryd gymunedol, lle bydden nhw fel arall wedi cyflawni dedfryd fer o garchar. Nid wyf i'n ymwybodol o drafodaethau y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi'u cael â Llywodraeth Cymru o ran nodi safle; nid yw hynny'n golygu nad yw'r trafodaethau wedi digwydd, ond nid ydynt wedi cyrraedd fy nesg i. Ond gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch hynny. Rwy'n deall bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud eu bod yn ystyried tri safle a'u bod wrthi'n ystyried cyflwyno cais cynllunio. Dyna'r holl wybodaeth sydd gennyf i ar hyn o bryd, ond byddaf i'n sicrhau y bydd gennych chi ragor o fanylion. 

Rwy'n galw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar gymorth i ddarparwyr addysg awyr agored yng Nghymru. Anfonodd cynrychiolydd o'r sector e-bost ataf i ddoe yn dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Roeddwn i eisiau eich gwneud chi'n ymwybodol o'r mater hwn sy'n effeithio ar y Gymru wledig ac, yn wir, y gogledd yn ddifrifol iawn. Rwy'n gofyn ichi fynd â'r mater i Lywodraeth Cymru. Mae'r sefyllfa wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol ac, a dweud y gwir, mae'r ffordd y mae'r sector hwn yn cael ei drin gan Lywodraeth Cymru yn anhrefnus iawn. Pan gafodd llythyr agored, wedi'i lofnodi gan 49 o gwmnïau a sefydliadau ledled Cymru, ei anfon at Weinidog yr Economi Ken Skates a'r Prif Weinidog Mark Drakeford, roeddwn i'n gandryll pan gafwyd ateb cyffredinol torri a gludo yn ôl yn dweud bod y Gweinidogion yn rhy brysur i ymateb yn bersonol.' Mae'n mynd ymlaen i ddweud: 'Mae'r ffordd y mae'r sector hwn yn cael ei drin yn ofnadwy, ac mae sylw Llywodraeth Cymru i Gymru Gefn gwlad unwaith eto'n wael iawn.' 'At hynny', meddai, 'Rwy'n pryderu'n fwyfwy am iechyd meddwl y rhai sy'n gweithio yn y sector hwn, nad ydynt wedi gallu masnachu am 12 mis llawn ac mae'n ymddangos nad oes ganddyn nhw unrhyw ffordd o leisio eu barn i Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn codi'r cwestiwn pam y dylid rhedeg busnes yng Nghymru o gwbl.'

Ac mae'r llythyr agored y cyfeirir ato yn datgan: 'Ar 16 Mawrth 2020, caeodd canolfannau addysg preswyl eu drysau i blant a phobl ifanc ar deithiau ysgol o bob rhan o'r DU. Yn wahanol i lawer o sectorau'r economi, mae rheoliadau Llywodraeth Cymru wedi ein hatal ni rhag ailagor ar unrhyw adeg ers hynny.' Ac fel y mae'r llythyr agored yn dod i'r casgliad, 'A wnaiff Llywodraeth Cymru gydnabod y rhan hanfodol y bydd y sector yn ei chwarae fel rhan o'r ateb adfer ar ôl COVID, neu a fydd yn caniatáu dirywiad yn y ddarpariaeth addysgol o safon ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol?' Mae taer angen am gymorth ariannol wedi'i dargedu a deialog adeiladol â Llywodraeth Cymru ar y sector i'w alluogi i oroesi'r misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.

15:10

Wel, rydym ni i gyd wedi cael yr un ohebiaeth ac rwy'n gwybod fy mod i wedi gofyn am gopi o'r ymateb a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn y lle cyntaf o ran addysg awyr agored. Wrth gwrs rydym ni'n cydnabod y rhan bwysig y mae addysg awyr agored yn ei chwarae ym mhrofiad dysgu plant a phobl ifanc ond hefyd o ran meithrin eu hunan-barch, eu hyder a'r sgiliau eraill hynny na allwch eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Felly, pan welaf i gopi o hynny, byddaf yn edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i ddeall pa gymorth, os o gwbl, y mae'r busnesau penodol hynny wedi gwneud cais amdano. Ein dull ni o weithredu fu peidio â darparu cymorth unigol, cul iawn, ond darparu pecynnau cymorth drwy'r gronfa cadernid economaidd i gynnwys sylfaen mor eang â phosibl. Ond, pan fyddaf i wedi cael cyfle i adolygu'r llythyr hwnnw, rwy'n siŵr y byddwn ni'n ymateb ymhellach.

Ni wnaeth llawer o'r materion a nodwyd yn y gwaith yn arwain at y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn anffodus, gael eu datblygu fel rhan o'r Bil terfynol, yn benodol nifer yr Aelodau yn y Siambr hon. Un ffordd o wella llwyth gwaith a chraffu, problemau a nodwyd yn glir dros y blynyddoedd diwethaf, byddai ystyried o ddifrif y mater o rannu swyddi. Mae hyn yn dod yn fwy cyffredin ym myd busnes nawr, ac mae'n caniatau i fenywod, yn enwedig menywod â theuluoedd a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ddychwelyd i'r gwaith mewn ffordd sy'n gweddu i'w ffordd nhw o fyw ac yn gallu datrys materion rydyn ni'n gwybod sy'n bodoli yn ein cymdeithas, fel cydbwysedd gwaith a hyblygrwydd. A allwn ni gael datganiad ar hyn, ac a all y Trefnydd wneud sylwadau ynghylch a fyddai hi'n hoffi gweld unrhyw Lywodraeth sy'n rheoli ym mis Mai yn cymryd y materion hyn o ddifrif yn y Senedd nesaf?

Yr ail gais am ddatganiad yr hoffwn i ei wneud yw hwn: bydd llawer ohonom ni wedi gweld datblygiadau gofidus yn achos y dyn croenddu Mohamud Hassan, fel y gwyddoch chi, a bu farw yn dilyn arhosiad yn nalfa'r heddlu yn gynharach eleni. Cawsom wybod heddiw gan y cyfreithiwr teuluol, Lee Jasper, fod pedwar o swyddogion yr heddlu bellach yn wynebu ymchwiliad ffurfiol yn yr achos hwn, ac mae datblygiadau ers hynny'n awgrymu bod gweithredoedd yr heddlu yn gwbl groes i'r datganiadau cychwynnol a gafodd eu gwneud gan Heddlu De Cymru. Ac eto i gyd, mae Heddlu De Cymru yn dal i gyfathrebu drwy ddatganiad i'r wasg, nid ydynt eto wedi rhyddhau lluniau camera corff, ac rwy'n deall nad yw'r swyddogion dan sylw wedi'u gwahardd wrth i'r ymchwiliad hwn gael ei gynnal. Mae hyn i gyd yn gwbl annerbyniol. Nid yw'r teulu a'r gymuned yn cael eu trin yn deg nac mewn ffordd gyfiawn. Felly, a fyddwn ni'n gallu cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch eu cyfathrebu â Heddlu De Cymru ar yr achos penodol hwn ac a oes modd ein sicrhau ni bod yr ymchwiliad hwn yn cael ei gynnal mewn ffordd deg a diduedd?

15:15

Diolch i chi am godi'r mater yna. Rydym wedi dweud o'r blaen ei bod yn bwysig iawn cynnal yr ymchwiliad hwnnw'n gyflym iawn a'i fod yn dod i'w gasgliadau'n ddi-oed, o ystyried sensitifrwydd gwirioneddol y sefyllfa a'r dolur a oedd i'w deimlo yn y gymuned. Felly, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip sydd â'r brif swyddogaeth o ran cysylltu â'r heddlu ac fe wn i y bydd hi'n codi'r mater hwn yn arbennig gyda nhw.

Ac o ran sut y gallwn ni ddenu grŵp mwy amrywiol o bobl i mewn i wleidyddiaeth, rwyf i o'r farn fod hynny'n rhywbeth a fydd yn bwysig iawn i'w ddatblygu yn y Senedd nesaf. Rydym wedi gweld llawer o waith trawsbleidiol da, rwy'n credu, o ran llunio syniadau i sicrhau y bydd Senedd y dyfodol yn un lle y gall pawb chwarae eu rhan. Yn amlwg, nid ydym mewn sefyllfa i wneud newidiadau gyda'r etholiadau'n digwydd ymhen ychydig wythnosau, ond yn sicr, fe fyddech chi'n gobeithio mai trafodaethau yw'r rhain a fydd yn parhau yn y Senedd nesaf gyda'r nod o sicrhau bod y Senedd yn lle sy'n fwy hygyrch i bawb.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf ar frechiadau COVID-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud ei ddatganiad.

Diolch, Llywydd. Mae gwaith caled pob un sy'n cymryd rhan yn rhaglen frechu COVID-19 wedi parhau unwaith eto'r wythnos hon. Y ni sydd yn cynnal y gyfradd frechu orau yn y DU ac mae cyfran uwch o bobl yng Nghymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn o'i chymharu ag unrhyw ran arall yn y DU.

Dim ond mis arall sydd i fynd tan ganol mis Ebrill sef y dyddiad targed ar gyfer cyrraedd carreg filltir dau yn ein strategaeth ni. Rydym ni'n symud ymlaen yn hyderus ac yn gyflym tuag at y garreg filltir allweddol nesaf hon o gynnig brechiad cyntaf i bawb yn y naw grŵp blaenoriaeth presennol. Gyda mwy o gyflenwad o frechlynnau erbyn hyn, rydym yn disgwyl gweld niferoedd uwch o ddosau cyntaf yn cael eu gweinyddu gan gadw at gyflymder ein rhaglen ni ar gyfer yr ail ddos hefyd. Rydym wedi cynyddu ein capasiti i weinyddu hynny'n unol â'r cynnydd o ran cyflenwadau. Y sefyllfa o hyd yw, os caiff y cyflenwadau eu darparu, yna fe fyddwn ni'n eu gweinyddu nhw.

Mae mwy na 90 y cant o bobl rhwng 65 a 69 oed wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn eisoes, ac mae pobl rhwng 50 a 64 oed yn dechrau cael eu galw am eu hapwyntiadau nhw. Rydym ni'n gwneud cynnydd mawr.

Mae ein rhaglen ni ar gyfer ail ddosau wedi bod ar waith ers tua mis erbyn hyn, ac mae dros 0.25 miliwn o bobl yma yng Nghymru wedi cael eu cwrs llawn o'r brechlyn eisoes, sy'n newyddion calonogol iawn, wrth gwrs. Mae hyn yn cynnwys mwy na thraean y preswylwyr mewn cartrefi gofal a thros hanner eu staff gofal nhw. Mae'r ail ddos yn hanfodol ar gyfer amddiffyniad yn y tymor hwy, felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn derbyn y cynigion o ail ddos.

Diolch i bawb sydd wedi derbyn eu cynnig o ail ddos hyd yn hyn. Ac rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cynnig o frechlyn ac yn annog eich ffrindiau chi a'ch teulu chi i wneud yr un fath. Fe gefais i fy nos cyntaf i ddydd Sul, ac rwy'n edrych ymlaen at gael fy ail ddos maes o law.

Ac rwy'n awyddus i sicrhau'r Aelodau mai diogelwch pobl fydd yn dod gyntaf bob amser. Rydym yn adolygu'r adroddiadau ynglŷn â diogelwch y brechlynnau yn ofalus trwy'r amser ac mae'r rheoleiddiwr annibynnol, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ynglŷn â diogelwch. Rwy'n ymwybodol o'r adroddiadau am rai gwledydd yn Ewrop sy'n gohirio gweinyddu brechlynnau AstraZeneca am y tro oherwydd pryderon ynghylch clotiau gwaed. Ledled y DU, mae dros 12 miliwn dos o'r brechlyn AstraZeneca wedi eu gweinyddu erbyn hyn ac mae'r MHRA yn datgan:

Nid yw'r adroddiadau a fu am glotiau gwaed hyd yn hyn yn fwy na'r nifer a fyddai wedi digwydd yn naturiol yn y boblogaeth a frechwyd.

Fe ddylai pobl barhau i fynd i gael eu brechlyn COVID-19 pan ofynnir iddyn nhw wneud hynny.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd, yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, Thrombosis UK a phob un o bedwar prif swyddog meddygol y DU i gyd yn cefnogi safbwynt yr MHRA ynglŷn â diogelwch ein brechlynnau ni, a'r risg a fyddai fel arall o beidio â bod â'r amddiffyniad a ddarperir gan y brechlynnau. Mae'r risg fel arall oherwydd COVID yn cynnwys, ymysg pethau eraill, mwy o berygl o glotiau gwaed, difrod parhaol i organau ac, wrth gwrs, marwolaeth.

Mae gennym hyder yn ein brechlynnau ni ac rydym yn sicr bod yn rhaid inni barhau â'r momentwm. Dros y penwythnos, fe gofnodwyd bod mwy na 40,000 o frechlynnau wedi'u gweinyddu mewn un diwrnod—mae hynny'n gyfforddus fwy nag 1 y cant o'r boblogaeth yn cael ei brechu mewn un diwrnod. Mae gennym fwy i'w gyflawni eto i gadw Cymru'n ddiogel. Eto i gyd, rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth o bob ochr wleidyddol a chan y cyhoedd i'n rhaglen lwyddiannus ni o ddarparu brechiadau. Wrth gwrs, fe fyddaf i'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ac i'r cyhoedd.

15:20

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n falch iawn o'ch clywed chi'n dweud mor ddiamwys fod yn rhaid i bobl fynd allan a chael eu brechlyn nhw, boed hwnnw'n frechlyn Pfizer neu un AstraZeneca, ac rwy'n ymuno â chi i ddweud bod y risg o glotiau gwaed oherwydd unrhyw frechlyn o bosibl yn llawer iawn llai nag unrhyw beth arall. O gofio hynny, pa neges gyhoeddus—? Ac rwyf i wedi clywed eich neges chi, ac rwyf innau wedi dweud hynny, ac mae'r Prif Weinidog wedi dweud hynny, ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yma'n arddel hynny, ond sut mae cyfleu'r neges honno i'r ardaloedd yng Nghymru lle mae pobl yn bryderus iawn, ac efallai wedi cymryd yn erbyn y brechlyn ryw gymaint am wahanol resymau, ac fe fydd hyn wedi ategu'r safbwynt hwnnw? Rwy'n crefu arnoch i ystyried ymgyrch iechyd cyhoeddus gadarn iawn, ac rwy'n holi beth allai eich barn chi fod am hynny.

O ran preswylwyr mewn cartrefi gofal, nid oes amheuaeth nad yw'r ystadegau sy'n amlinellu'r nifer sydd wedi manteisio ar y dosau cyntaf o'r brechlyn yn drawiadol, ond mae gennyf i rai pryderon ynghylch y data ynddyn nhw, sef maint y grŵp o breswylwyr mewn cartrefi gofal. Nawr, rhwng 1 a 2 Mawrth fe ostyngodd maint y grŵp hwn o 17,630 i 15,398, sef gostyngiad o 2,232. Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod nifer y preswylwyr mewn cartrefi gofal yn 13,780. Felly mae gostyngiad wedi bod o 17,630 i 13,780 mewn cyfnod o 16 diwrnod, sef gostyngiad o 3,850 ym mhoblogaeth cartrefi gofal Cymru mewn llai na hanner mis. Gweinidog, fel rwyf i wedi dweud yn gyson, y data sy'n ben arnom ni, ledled y DU, y data sy'n ysgogi camau'r Llywodraethau, ac nid dyddiadau. Felly, mae angen inni fod yn hyderus iawn fod y data sydd gennym ni'n ddibynadwy. Pan fo eich data chi'n dangos bod dros 95 y cant o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu brechu, mae'n hanfodol ein bod yn gallu ymddiried yn hynny, wyddoch chi, sef bod y data hynny'n gywir. Nawr, er fy mod i'n derbyn y gallai rhai preswylwyr mewn cartrefi gofal yn anffodus fod wedi marw, a wnewch chi egluro pam mae gostyngiad o 21.9 y cant wedi bod yn nifer y preswylwyr mewn cartrefi gofal dros gyfnod o hanner mis?

Fe hoffwn i droi'n fyr at yr anawsterau wrth newid dyddiadau profion. Rwy'n parhau i gael llawer iawn o negeseuon e-bost am yr anawsterau y mae pobl yn eu cael wrth aildrefnu profion a drefnwyd drwy ganolfannau brechu torfol. Rwy'n pryderu ein bod ni'n wynebu'r risg o weld dosau'n cael eu gwastraffu os na fyddwn ni'n mynd i'r afael â'r broblem hon, yn enwedig wrth inni symud tuag at frechu'r boblogaeth o oedran gweithio sydd, o bosib, â mwy o gyfyngiadau ar eu hamser nhw, ac yn methu â gollwng popeth a bod yn bresennol ar yr amser a roddwyd iddynt oherwydd materion gwaith neu ofal plant. A wnewch chi ddweud wrthym ni beth y gellir ei wneud i helpu i fynd i'r afael â hyn?

Yn olaf, fe hoffwn i sôn am yr astudiaeth a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe, yn dilyn y profion torfol ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr yn ardaloedd Merthyr Tudful a Chwm Cynon, sy'n dangos mai cyswllt agos ar aelwydydd oedd y ffynhonnell fwyaf arwyddocaol o ran trosglwyddiad. Gyda rheolau'r cyfyngiadau symud ar waith ers bron pedwar mis erbyn hyn, a Merthyr unwaith eto'n dangos cynnydd bach yn nifer yr achosion yng Nghymru, pa adnoddau a mesurau diogelu ychwanegol y gallwch chi eu rhoi ar waith yn lleol i liniaru achosion lleol fel yr un yr ydym ni'n eu gweld ym Merthyr? A pha negeseuon cymunedol y gallwn ni eu rhoi ar goedd ynglŷn â'r angen, nid yn unig i fynd i'r afael â'n mesurau ni o ran hylendid, ond i fanteisio ar y brechlyn hefyd, i sicrhau nad ydym ni'n gweld unrhyw frig arall mewn achosion eto? Diolch.

Diolch i chi am y cwestiynau yna. Rwy'n credu, o ran eich pwynt chi am nifer y preswylwyr mewn cartrefi gofal—mae daeargi'r Alban wedi gadael yr adeilad erbyn hyn—yna fe fyddaf i'n sicrhau y byddaf i'n darparu esboniad am lanhau data nid yn unig i chi, Angela, ond i'r Aelodau hefyd; rwy'n siŵr y bydd yna rywfaint o ddiddordeb ehangach. Ac rwy'n credu y gallai hynny naill ai fod yn ddatganiad ysgrifenedig neu, ar un ystyr, yn fersiwn nesaf o'r naratif a ddarperir ar ddydd Mawrth neu ddydd Iau i roi esboniad priodol o ran sut y daethpwyd i'r ffigur hwnnw, a'r newid sydd wedi'i wneud i'r ffigur dros amser.

O ran eich pwynt chi ynglŷn ag aildrefnu apwyntiadau, mae trefnu'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn ymdrech aruthrol. Mae hynny'n golygu fod yna lawer o ddiddordeb ac mae yna bobl sy'n poeni ac yn cael gafael ar rifau ffôn ac yn ffonio pan nad oes angen iddyn nhw ffonio. Mae yna lawer o ddisgwyliadau a galw mawr o du'r cyhoedd. Pan fu'n rhaid i mi aildrefnu apwyntiad fy mam, fe ffoniais i'n ddiweddarach yn ystod y dydd ac roeddwn i'n gallu gwneud hynny, oherwydd fe sylwais i nad oedd hi'n hawdd cael drwodd ganol dydd nac yn y bore. Felly, y pwynt yw bod angen dyfalbarhau a bod yn awyddus i aildrefnu ond, mewn gwirionedd, y man cychwyn yw'r awydd i gael pobl yn bresennol ar yr amser y cynigir apwyntiad iddyn nhw.

Ac mae hwnnw'n rhywbeth y gwnaethom ni ei drafod yng nghyngor partneriaeth gymdeithasol yr wrthblaid, lle'r oedd undebau llafur yn awyddus i gael dealltwriaeth o anogaeth gan y Llywodraeth i gyflogwyr ddangos cydymdeimlad a rhyddhau pobl o'u hamser, oherwydd nid yw bob amser yn hawdd mynd i gael y brechiad os nad yw'r cyflogwr yn cydymdeimlo. Roedd cynrychiolwyr y cyflogwyr ar y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn gadarnhaol ynghylch dymuno i bobl gael eu brechu, gan eu bod nhw yn gallu gweld bod budd i'r unigolion hynny, ond yn fwy, i'w busnesau ac i'r bobl y maen nhw'n gweithio ochr yn ochr â nhw hefyd. Po fwyaf y gwnawn ni frechu pobl a'u hamddiffyn, y mwyaf y byddwn ni'n ei wneud i greu Cymru sy'n fwy diogel i bob un ohonom ni, yn ogystal â chreu amgylchedd i'r busnesau hyn wella eu rhagolygon eu hunain hefyd.

Ac felly, rydym yn ystyried nid yn unig roi neges gyhoeddus am hynny, ond negeseuon hefyd ar ddwy ochr y berthynas gyflogaeth, am geisio bod yn gadarnhaol a galluogi pobl i gael eu brechlynnau heb fod cost bersonol iddyn nhw, yn hytrach na dweud bod angen i bobl wneud hynny yn eu hamser nhw eu hunain. Byddai hynny'n llesteirio ein hymdrechion ni, mewn gwirionedd. Ac fe fydd hyn yn bwysicach byth wrth inni fynd drwy bob carfan o oedran. Pan fyddwn ni'n cyrraedd y rheini dan 50 oed, fe fydd angen i fwy a mwy o bobl o oedran gweithio fod â dull sy'n gyson ac sy'n galluogi cyfraddau brechu i barhau ar y cyflymder a welsom hyd yn hyn.

O ran cyswllt rhwng aelwydydd, ac roeddech chi'n sôn am Ferthyr Tudful yn benodol, ac rwy'n deall mai o gwmpas Gellideg yn benodol y digwyddodd hyn, gydag ychydig o strydoedd a oedd â nifer uchel iawn o achosion. Roedd teuluoedd estynedig a chyswllt wedi digwydd lle mae'n ymddangos bod cadw pellter cymdeithasol wedi mynd yn angof, ac mae'n ymddangos bod cyswllt wedi bod rhwng aelwydydd. Mae hynny'n amlygu'r ffaith mai'r cymysgu rhwng aelwydydd eraill—cymysgu dan do—yw'r ffordd y mae coronafeirws yn fwyaf tebygol o ymledu o hyd, ac ymledu'n gyflym iawn, fel rydym ni wedi gweld gyda'r clwstwr arbennig hwn. Ac mae'n pwysleisio pam y gwnaethom ni ofyn i'r cyhoedd wneud y peth iawn, nid er fy mwyn i'n bersonol, ond gan eich bod yn gallu gweld clwstwr gwirioneddol o achosion a fydd yn rhwystr mawr i ffordd pobl o fyw, ac fe allai rhai o'r bobl hynny fynd yn ddifrifol wael; ac fe allai rhai golli eu bywydau hefyd. Felly, mae yna bris i'w dalu, yn anffodus, os na wnaiff y cyhoedd barhau i gefnogi'r hyn sy'n anodd iawn—. Ac fe wn i nad yw'n ffordd ddymunol o fyw, hyd yn oed wrth inni ddod allan o'r cyfyngiadau symud, ond mae yna ystyr a diben priodol i hyn er mwyn ein cadw ni i gyd yn ddiogel. Ac rwy'n gobeithio y bydd yr achosion ym Merthyr yn atgyfnerthu ymddygiadau cadarnhaol pobl eraill, nid yn unig ym Merthyr ond ledled y wlad ynglŷn â'r peryglon sy'n bresennol o hyd, yn enwedig o ran amrywiolyn swydd Caint.

Ac o ran eich pwynt dechreuol chi ynglŷn â diogelwch y brechlyn a'r negeseuon cyhoeddus ynglŷn â chlotiau gwaed, rwy'n disgwyl cael cyfle i siarad am hyn eto. Mae'r prif swyddog meddygol wedi bod yn siarad am hyn heddiw ar y cyfryngau hefyd. Fe geir adroddiadau cyson ac amlwg iawn ar bob un o lwyfannau'r cyfryngau, radio a theledu, ac fe wn i fod y BBC, ITV a Sky i gyd wedi darlledu yn sylweddol ar y pwnc hwn, yn arbennig felly gan fod yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd y prynhawn yma wedi dweud eu bod nhw'n ailddatgan eu ffydd gadarn yn niogelwch y brechlynnau, ac mae balans y risg yn bendant yn ochri gyda chymryd y brechlyn a'r amddiffyniad ychwanegol y mae hwnnw'n ei roi. Yn fy marn i, yr hyn a wnaiff fwyaf o les fyddai i'r gwledydd Ewropeaidd hynny sydd wedi gwneud y penderfyniad hwn ar hyn o bryd, y bydden nhw'n ailfeddwl am eu dewisiadau ac yn ailgychwyn defnyddio'r brechlyn AstraZeneca.

Wrth gwrs, rydyn ni wedi llwyddo i frechu mwy o'n poblogaethau ni na'r rhan fwyaf o wledydd eraill yn Ewrop, ac maen nhw'n parhau i fod wrthi'n brechu pobl dros 70 oed lle mae'r risg o niwed yn uwch, hyd yn oed. Felly, mae yna achos gwirioneddol dros allu gweld rhaglen frechu sy'n cynnwys y brechlyn AstraZeneca yn cael ei rhoi ar y trywydd iawn unwaith eto, ac fe fydd hynny'n helpu pobl a allai fod fel arall yn bryderus iawn yn y wlad hon i fynd am yr amddiffyniad y mae'r brechiad yn ei gynnig. Ac fe ddylwn i egluro hefyd mai brechlyn AstraZeneca oedd yr un a gefais innau dros y penwythnos.

15:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Rhyw ddau gwestiwn a dau bwynt sydd gennyf fi i'w gwneud, Weinidog. Mae'r ddau gwestiwn yn ymwneud â chwestiynau sy'n cael eu codi efo fi gan fy etholwyr i, a dwi'n siŵr efo Aelodau eraill gan eu hetholwyr nhw, ynglŷn â'r broses. Dwi eisiau dechrau, wrth gwrs, drwy ddiolch i bawb sy'n rhan o'r broses frechu. Mae'n dal yn gweithio'n dda. Rydyn ni'n amlwg ar y trywydd iawn.

Un o'r cwestiynau ydy beth sy'n digwydd ar ddiwedd y dydd. Mae pobl yn clywed o bosib o hyd am bobl yn cael i mewn drwy'r drws cefn achos eu bod nhw'n adnabod rhywun ac yn y blaen. Mae strategaeth ar gyfer defnyddio dosys sy'n mynd i fod ar ôl pan mae pobl yn peidio â throi fyny ar ddiwedd y dydd yn bwysig iawn. Rydych chi'n gwybod fy mod i'n eiddgar i weld pobl mewn swyddi penodol yn gallu cael eu blaenoriaethu. Rydych chi'n anghytuno efo fi ar hynny, ond a ddylid bod rŵan ymgais yn cael ei wneud i ddod â'r rheini i mewn mewn strategaeth gadarn iawn, hyd yn oed os mai dim ond i ddefnyddio'r dosys sbâr ar ddiwedd y dydd yw hynny?

Yn ail, rydych chi'n gwybod fel mae pobl yn dilyn data yn ofalus iawn, ac yn gweld beth sy'n digwydd o fewn eu bwrdd iechyd a gweddill Cymru ar hyn o bryd. Mae pobl yn gweld weithiau, ac yn anecdotaidd, o bosib, teimlad bod eu hardal nhw yn disgyn ar ei hôl hi. Dwi'n grediniol ein bod ni yn debyg o gyrraedd at y pwynt yn y pen draw rydyn ni i gyd eisiau ei gyrraedd tua'r un pryd. Ond pa fonitro ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau cysondeb ar draws Cymru, ac o fewn byrddau iechyd, ar gyflymder y broses frechu, i sicrhau nad oes yna wahaniaethau mawr o ardal i ardal?

Rŵan y ddau bwynt sydd gennyf i i'w gwneud. Mae fy etholaeth i, fy sir i, yn un o'r llefydd lle mae yna nifer ystyfnig o uchel o achosion o hyd. Dwi'n apelio arnoch chi i barhau i chwilio am ffyrdd arloesol a newydd o gyfathrebu peryg y feirws o hyd iddyn nhw, ac hefyd i chwilio am fwy o ffyrdd o gefnogi pobl. Mae yna bobl sy'n dal yn dewis peidio â mynd am brawf, neu sydd yn dewis peidio hunanynysu, oherwydd eu bod nhw'n poeni am oblygiadau hynny; o bosib pobl ar gyflogau isel sydd yn poeni am yr effaith ariannol arnyn nhw. Parhewch i chwilio, fel dwi wedi galw arno fo o'r dechrau, am ffyrdd o gefnogi'r rheini, a sicrhau bod pobl yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw i hunanynysu ac i fynd am brawf. 

Mae'r llall o gwmpas AstraZeneca. Jest i wneud y pwynt fy hun, rydw innau'n meddwl ei bod hi'n hollol iawn bod pobl yn cymryd diddordeb mawr ac yn gofyn cwestiynau ynglŷn â diogelwch y brechlyn, ond mae'n rhaid atgoffa ein hunain, os oes yna brawf o gysylltiad efo ceulad gwaed—a does yna ddim eto—rydyn ni'n sôn am, o bosib, un mewn hanner miliwn o bobl sy'n cael y brechiad, fel yr eglurwyd inni mewn briefing y bore yma. Roeddwn i'n sbio ar adroddiad heddiw a oedd yn dweud bod un o bob pump sydd â COVID yn gallu cael math o geulad gwaed, ac un o bob tri o bobl sydd mewn adran gofal dwys. Felly, dyna'r realiti o ran lle mae'r risg go iawn. 

O ran eich sylw chi ynglŷn â strategaeth ar gyfer brechiadau ar derfyn dydd, o ystyried y garfan oedran yr ydym yn gweithio drwyddi ar hyn o bryd, sef pawb 50 oed ac yn hŷn, a'n bod ni'n cynnal ein rhaglen i roi ail ddos i bobl, fe fyddwn yn gallu defnyddio'r cyflenwadau sydd gennym ni nawr heb unrhyw anhawster. Rydym yn cyfeirio pigiadau Pfizer, i raddau helaeth iawn, ar hyn o bryd tuag at y rhaglen i roi'r ail ddos, oherwydd dyna'r cam yr ydym ni'n parhau i weithio drwyddo o ran y dosau cyntaf a gawsom ni cyn i bigiadau AstraZeneca fod ar gael a'u cyflwyno'n ehangach. Ond o ran ein defnydd ni o AstraZeneca, nid yw'n wir ein bod ni'n disgwyl gweld llawer iawn o wastraff, a dyna un o'r pethau gorau, yn fy marn i, yr ydym wedi'i wneud gam cynnar; rydym wedi bod yn cyhoeddi ein ffigurau o ran gwastraff, sy'n dangos bod y rhaglen yng Nghymru nid yn unig yn mynd rhagddi'n gyflym iawn, ond yn effeithlon iawn hefyd, gyda chyfraddau isel iawn o wastraff. Mae hynny, unwaith eto, er clod i'r rhaglen a'r amser a gymerwyd yn fwriadol ar y dechrau i drefnu popeth yn iawn yn y ffordd y gwnaethom sefydlu'r rhaglen. Wrth inni nesáu at ddiwedd y garfan hon, ac wrth inni geisio dechrau arni gyda'r ystod oedran nesaf, efallai y byddwn ni'n gweld amser pan fydd yr angen am gynllun terfyn dydd yn mynd yn fwy tebygol. Rydym wedi paratoi canllawiau ysgrifenedig a'u rhoi i'r gwasanaeth ynglŷn â gwneud hynny, felly nid ydym yn dymuno gweld unrhyw frechlyn yn cael ei wastraffu, mae hynny'n bendant. Rydym wedi cael amrywiaeth o sgyrsiau gyda gweithwyr yn y gwasanaethau brys ac eraill—ond nid wyf i o'r farn fod honno'n broblem i ni ar hyn o bryd, o ystyried maint y gwaith a niferoedd y bobl y mae'n rhaid inni eu brechu a'r carfannau sy'n dal i fod ar gael. 

Fe fydd yn rhaid imi drafod gyda swyddogion ynghylch symud at y grŵp oedran dan 50 oed hefyd. Fe gofiwch ein bod ni fwy neu lai wedi cwblhau pan oeddem wedi gweinyddu 80 y cant o grwpiau 1 i 4 i bob pwrpas, a'r lleill wedyn yn cael eu gwahodd i'w hapwyntiadau nhw. Bryd hynny, roeddem ni'n gallu dechrau gwahodd pobl yn yr ystodau oedran nesaf fel mater o drefn, ar gyfer rhan nesaf y broses gyflwyno. Felly, mae angen inni edrych eto ar y dull y byddwn yn ei gymryd a chadarnhau cyn gynted â phosibl yr hyn fydd yn digwydd ar gam nesaf y rhaglen frechu. Ac rydym yn edrych ar y cyflymder ledled Cymru; mae honno'n sgwrs yr ydym ni'n ei chael yn wythnosol yn y bwrdd brechu. Felly, mae honno'n sgwrs, ac mae'n sgwrs agored, mewn ffordd gystadleuol bendant. Mae pob rhan o Gymru yn eiddgar i weld pa mor gyflym y gellir gwneud cynnydd. Ym mhob rhan o Gymru, rwy'n credu bod y rhaglen frechu mewn sefyllfa dda, ac mae honno'n broblem dda i'w chael o ran pa mor gyflym y gallwn ni fynd, yn hytrach na chael pobl ar ei hôl hi neu'n eithriadau. Ac eto, pan gymharwch chi ni â gwledydd eraill yn Ewrop, rydym ni'n gwneud yn arbennig o dda.

Fe hoffwn i ailadrodd y dylai pobl gael prawf a cheisio cymorth. Mae profi, olrhain a diogelu yn cynnwys olrhain cysylltiadau, ond hefyd y rhan gefnogol o'r drefn hon, sef yr elfen honno o 'ddiogelu'. Mae pobl sy'n ynysu'n cael galwadau rheolaidd—i sicrhau eu bod nhw'n ynysu, ond hefyd, ac yn bennaf, i sicrhau bod yna wiriad o'u llesiant nhw, bod cyfle i siarad â rhywun, a sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o ble y gallan nhw gael cymorth a chefnogaeth ymarferol i ymdopi ag unigedd. Mae hunanynysu yn parhau i fod yn bwysig iawn er mwyn amddiffyn y bobl o'ch cwmpas chi. Dyma un o'r pethau mwyaf effeithiol y gallwn ni ei wneud i atal lledaeniad y feirws, ac fe fydd hynny'n bwysicach byth wrth inni fynd trwy bob cam o ddatgloi rhagor o gyfyngiadau.

Ac yn olaf, o ran clotiau gwaed, mae'n fater o ffaith bod y perygl o glotiau gwaed ar hyn o bryd yn fwy, yn ôl y dystiolaeth fel yr ydym ni'n ei deall hi, yn y boblogaeth sydd heb ei brechu, o'i chymharu â'r boblogaeth sydd wedi cael brechlyn AstraZeneca. Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod y cyfraddau ychydig yn llai mewn gwirionedd. Ac nid oes unrhyw dystiolaeth yn cysylltu clotiau gwaed â'r brechlyn AstraZeneca ynddo'i hun. Rwy'n sylweddoli bod gwledydd eraill yn dymuno gweithio eu ffordd drwy hyn. Ond rwyf i'n bendant yn hyderus yn y dystiolaeth sydd gennym ni ledled y DU, ar ôl gweinyddu mwy na 12 miliwn o ddosau o'r brechlyn AstraZeneca. Mae niferoedd y bobl sydd wedi cael clot gwaed heb unrhyw dystiolaeth fod hynny wedi digwydd oherwydd y brechlyn yn is nag yng ngweddill y boblogaeth. Felly, mae hyn yn ofid. Gadwech inni obeithio y bydd pobl yn edrych ar y dystiolaeth, ac yn gweithredu yn ôl y dystiolaeth, er mwyn eu hamddiffyn nhw eu hunain ac annog pobl eraill i gael yr amddiffyniad hwnnw. Oherwydd mae cael COVID yn golygu eich bod chi'n llawer mwy tebygol o gael clot gwaed ac yn llawer mwy tebygol o ddioddef niwed difrifol.

15:35
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Rhyngweinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol

Eitem 5 ar yr agenda'r prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol. Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith y grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol. Ers fy niweddariad diwethaf i, mae ein gwaith ni i archwilio goblygiadau anghenion cynyddol y boblogaeth i wasanaethau gofal cymdeithasol, a datblygu dewisiadau ymarferol i fynd i'r afael â hyn, wedi parhau. Yn anochel, mae'r pandemig wedi effeithio ar ein cynlluniau ni. Yn anffodus, nid oedd modd cynnal y sgwrs genedlaethol a gyhoeddais i yn fy natganiad blaenorol, am resymau yr wyf i'n siŵr y bydd yr Aelodau yn eu deall. Mae'r pandemig wedi amlygu pwysigrwydd a breuder y sector. Mae'r heriau hirdymor yn parhau, a phan fyddwn ni wedi dod trwy'r pandemig, fe fydd angen mynd i'r afael â nhw eto.

Mae'r galw am ofal a chymorth yn y boblogaeth yn golygu na fydd gwasanaethau sydd dan bwysau eisoes yn ateb anghenion y dyfodol heb i gamau gael eu cymryd. Mae'r Sefydliad Iechyd wedi defnyddio gwaith gan Ysgol Economeg Llundain i ragweld costau gofal cymdeithasol i oedolion a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru. Mae hwnnw'n dangos y gallai costau gynyddu 80 y cant mewn termau gwirioneddol rhwng 2015 a 2030, ac mae'r amcangyfrifon hyn yn ategu dadansoddiad byrdymor gan Wasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025. Er mai da o beth ar ryw ystyr yw poblogaeth sy'n heneiddio, ac yn rhywbeth i'w ddathlu, mae ymgodymu â thalu am ofal yn ymdrech enfawr i lawer o Lywodraethau. Rydym ni o'r farn y byddai'n well cael datrysiad i gyllid gofal cymdeithasol sy'n cynnwys y DU gyfan, oherwydd fe allai hynny roi ystyriaeth briodol i'r cysylltiad pwysig rhwng y system dreth a budd-daliadau. Eto i gyd, o gofio bod datrysiad ledled y DU yn annhebygol iawn am beth amser i ddod, mae angen inni ddatblygu atebion hirdymor sy'n gynaliadwy i Gymru, a fydd yn gofyn am rywfaint o gytundeb ar draws y pleidiau.

Mae'r grŵp rhyngweinidogol yn awyddus i rannu'r wybodaeth a gafwyd am y materion heriol hyn. I ategu ein gwaith ni, fe gafodd dadansoddiad ei gomisiynu gennym, cyn y pandemig, ynglŷn â phwysau'r gost o fewn y sector, ac rwyf i wedi gwneud yn siŵr bod yr adroddiad hwn ar gael i'r Aelodau heddiw. Mae dadansoddiad o ddata a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi dangos gwariant cyfredol net ar wasanaethau cymdeithasol yn codi yn unol â'r senario cost uchel a ddisgrifiwyd yn y dadansoddiad. Pe byddai'r duedd honno'n parhau, fe allai gwariant cyfredol net ar wasanaethau cymdeithasol fod hyd at £400 miliwn yn uwch yn 2022-23 nag yr oedd yn 2019-20, ac mae hyn yn awgrymu bod pwysau cost cynyddol o'n blaenau ni er mwyn cynnal y gyfradd bresennol o ddarpariaeth yn unig. Fe wnaethom ni hefyd gomisiynu LE Wales i ddarparu dadansoddiad a chostau manwl o rai opsiynau ar gyfer addewid o ofal cymdeithasol. Rwyf wedi rhannu'r adroddiad hwn heddiw hefyd. Fe ystyriwyd diwygiadau posibl i'r mecanwaith presennol o godi tâl, a'r tri opsiwn a ystyriwyd yn fanylach oedd: darparu gofal personol a ariennir yn llawn, yn y cartref ac mewn gofal preswyl; gofal dibreswyl a ariennir yn llawn; a chyfraniad tuag at gostau preswyl.

Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i opsiynau'r gweithlu ynglŷn â gwelliannau i gyflogau, telerau ac amodau. Mae'r rhain yn cynnwys talu'r cyflog byw gwirioneddol a gweithredu'n llawn ar gyflog a thelerau ac amodau sy'n cyfateb i Agenda ar gyfer Newid y GIG, ymhlith pethau eraill. Yn ogystal â'r opsiynau hyn, rydym ni'n cydnabod swyddogaeth bwysig tai o ran cyflymu'r newid i fodelau newydd o ran gofal. Mae'r opsiwn 'tai â gofal', sy'n cael ei ystyried y tu hwnt i adroddiad LE Wales, yn ceisio adeiladu ar raglen gyfalaf bresennol y gronfa gofal integredig. Mae'r opsiwn hwn yn cynnig nifer o opsiynau ar gyfer buddsoddi cyfalaf i gryfhau'r seilwaith tai a gofal cymdeithasol.

Mae'n amlwg o'r dadansoddiad bod y costau posibl sy'n gysylltiedig â phob un o'r opsiynau, fel yr oeddem ni'n disgwyl, yn uchel iawn. Mae hyn yn arwain at ein hystyriaethau ni ynghylch sut y gellid ariannu'r addewid o ofal cymdeithasol. Fe fuom ni'n archwilio rhai egwyddorion o ran dylunio treth, gan adeiladu ar nifer o gysyniadau a nodir yn adroddiad Athro Holtham, ac roedd y rhain yn cynnwys nodi faint o arian y byddai angen ei godi bob blwyddyn ac yn rheolaidd i ariannu addewid o ofal cymdeithasol; pwysigrwydd neilltuo cyllideb o'i gymharu â hyblygrwydd cyllidebol; a allai'r budd fod ar gael yn unig ar sail cyfraniad; a chyfleoedd i fynd i'r afael â thegwch rhwng y cenedlaethau. Yn ogystal â hynny, fe wnaethom ni ystyried casglu a gweinyddu unrhyw opsiwn o ran trethiant, yn ogystal ag unrhyw awydd gan Lywodraeth y DU i ddatganoli trethiant ymhellach.

Mae'r pandemig a'r camau i'w reoli wedi arwain at gynnydd sydyn ym menthyca a dyled Llywodraeth y DU. Yn yr amgylchedd cyllidol heriol hwn, mae'r rhagolygon ar gyfer gweithgarwch economaidd a chyllid y sector cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i fod yn ansicr iawn. Fe fyddai'n rhaid i unrhyw benderfyniad ynghylch yr angen i Lywodraeth y DU ddefnyddio ysgogiadau o ran polisi treth yng Nghymru, yn ogystal â dull ac amseriad hynny, ystyried y posibilrwydd y gallai Llywodraeth y DU weithredu mesurau cyllidol eraill a fyddai'n effeithiol yng Nghymru, a'r angen i gefnogi adferiad economaidd yng Nghymru wrth gynhyrchu'r refeniw treth i dalu am wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Gan ystyried effaith y pandemig a'r hinsawdd economaidd ac ariannol heriol, ein casgliad ni yw bod datrysiad o ran trethiant ar gyfer codi arian ar gyfer gofal cymdeithasol bellach yn fwy o ateb posibl yn y tymor hwy ac nid ateb sy'n debygol yn y dyfodol agos. Fe fyddai peidio â chynyddu trethiant yn golygu na allwn ni gynyddu nac ailgyfeirio adnoddau i wella gofal cymdeithasol yn y ffordd y byddem ni wedi hoffi gwneud hynny drwy'r addewid o ofal cymdeithasol. Rwy'n awyddus i bwysleisio nad ydym yn osgoi mynd i'r afael â'r materion hyn, ond rydym wedi mabwysiadu'r hyn sydd, yn fy marn i, yn ddull gonest a phragmataidd o ystyried yr amgylchedd cyllidol yr ydym ni ynddo.

Mae hyn yn fy arwain i at fesurau a nodwyd yn sgil ein gwaith ni a allai, yn amodol ar flaenoriaethu cyllideb gan Lywodraeth newydd, gael eu gweithredu ar fwy o gyflymder ac felly fod yn bont i ddiwygiadau eraill mwy eang yn y tymor canolig i'r hirdymor. Mae'r mesurau hyn, y gellid cychwyn arnyn nhw yn y tymor byr, a'u gweithredu cyn gynted ag y bo hynny'n fforddiadwy, yn cynnwys gweithio tuag at gyflwyno cyflog byw gwirioneddol i'r gweithlu. Roedd LE Wales yn amcangyfrif y byddai hyn £19 miliwn yn ychwanegol uwchlaw'r codiad isafswm cyflog cenedlaethol rhagamcanol ar gyfer blwyddyn 1, a rhywfaint o fuddsoddiad cyfalaf i alluogi gwell datrysiadau o ran tai, tua £70 miliwn i £80 miliwn y flwyddyn am raglen o bum mlynedd.

Fe fyddai cefnogaeth i'r cyflog byw gwirioneddol yn gyson â'n hagenda gwaith teg ni. Rydym ni'n gweithio, yn rhan o'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, i ystyried beth arall y gellir ei wneud i helpu i sicrhau bod gofal cymdeithasol yn weithle mwy deniadol i fod ynddo. Fe fyddai hyn yn cael ei wella hefyd drwy gynigion yn ein Papur Gwyn diweddar ni, 'Ailgydbwyso gofal a chymorth', sy'n argymell fframwaith comisiynu cenedlaethol ar gyfer arwain unrhyw fuddsoddiad ychwanegol gan y gweithlu. Yn y bôn, mae'r her sy'n wynebu Cymru o ran demograffeg yn golygu na ellir peidio â rhoi sylw i'r materion a archwiliwyd gan y grŵp. Fe fydd angen i'r Llywodraeth nesaf barhau i ganolbwyntio ar y maes allweddol hwn. Rydym ni wedi datblygu corff cyfan o dystiolaeth, gan osod sylfaen gref ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i ddiolch i holl swyddogion Llywodraeth Cymru a grwpiau allanol eraill sy'n cefnogi gwaith y grŵp rhyngweinidogol, a diolch i'm cyd-Weinidogion i ac, yn benodol, i'r cyn-gadeirydd, Huw Irranca-Davies, am y gwaith a wnaeth ef wrth arwain y gwaith hwn ar y cychwyn.

15:45

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Fe fyddai unrhyw un yn meddwl fod yna etholiad ar droed, oherwydd mae'r datganiad hwn yn amlwg iawn yn gohirio eich syniadau chi am fod â threth gofal cymdeithasol ac yn ceisio anghofio amdanyn nhw, ac nid wyf i'n synnu o gwbl eich bod chi wedi gwneud felly. Serch hynny, wrth edrych yn ôl ar adroddiad y grŵp rhyngweinidogol, mae hwn yn sicr, drwy eu gwaith nhw, wedi gosod sylfaen ar gyfer treth gofal cymdeithasol y Blaid Lafur, ac rwyf i yma i ddweud na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn trethu'r henoed i ddarparu am ofal cymdeithasol.

Rydym ni'n credu mai hawl pobl oedrannus yw cael y gofal haeddiannol sydd ei angen arnyn nhw, ac fe wyddom ni fod yna arian yn y system, ond ni cheir yma'r cynllunio clir na'r ymdrech ddigonol i ddatrys y broblem hon. Felly, nid wyf i'n gallu cytuno â'r sylw arall y gwnaethoch chi ei gelu'n ddwfn yn y datganiad hwn ynglŷn â chyflwyno ardoll yn y tymor hwy. Eto i gyd, rwy'n cytuno bod y sector gofal cymdeithasol yn fregus, ac mae'n rhaid cymryd camau'n fuan, ac rwy'n cytuno ein bod ni'n wynebu her ddemograffig. Mae honno'n her i'w chroesawu—mae oes hir yn rhywbeth i'w ddathlu—ond mae'n her serch hynny.

Rwyf wedi darllen yr adroddiad gan LE, ac mae hwnnw'n ddiddorol iawn, ac rwyf i o'r farn fod llawer iawn ynddo y dylem ni ddysgu oddi wrtho a'i ddefnyddio ar gyfer llunio datrysiad posibl. Ond yr hyn yr hoffwn i ei wybod a'i ddeall yw, yn ystod gwaith y grŵp rhyngweinidogol yn y gorffennol, faint o amser a roddwyd i edrych ar y 'sut' a'r gost bosibl wrth ein cyfeirio ni i gyd tuag at ffyrdd o fyw sy'n fwy iach. Rydym ni wedi siarad llawer am y ffaith mai tlodi, gordewdra, dibyniaeth ar sylweddau, ysmygu, alcohol, diffyg ymarfer corff, yng nghwrs ein bywydau ni, o oedran plentyn hyd at yr oedolyn hŷn, fydd y dylanwadau sylweddol ar ansawdd ein blynyddoedd diweddarach ni. Dyna'r maes y mae angen inni dreulio amser yn mynd i'r afael ag ef, yn hytrach na dim ond dweud, pan fyddwch chi wedi cyrraedd oedran teg ac nid ydych chi mewn cyflwr da dros ben, 'Mae'n rhaid ichi dalu am eich gofal.' Felly, fe fyddai'n dda iawn gennyf i glywed beth maen nhw wedi bod yn edrych arno o ran hynny.

A ydych chi hefyd, hoffwn i wybod, yn cytuno â'r egwyddor y dylai talu am ofal cymdeithasol fod yn risg a rennir ledled ein cenedl ni yn yr un modd ag yr ydym ni'n talu am ein GIG? Oherwydd os ydym yn dweud, 'Rydym ni am wneud ichi dalu am eich gofal cymdeithasol pan fyddwch chi'n hyn', dyna ddiwedd ar unrhyw degwch yn fy marn i.

Rydych chi'n sôn hefyd am yr angen i wella telerau cyflog staff gofal. Rwy'n cytuno'n llwyr, ac mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun cadarn iawn i recriwtio a grymuso staff gofal, i dalu isafswm absoliwt o £10 yr awr iddyn nhw, a mwy gyda hyfforddiant a chyfrifoldebau. Felly, a ydych chi am geisio recriwtio a grymuso staff gofal yn y byrdymor, oherwydd rydych chi'n dweud mai problem fyrdymor yw hon yn ogystal â bod yn gynllun i'r hirdymor?

Wrth edrych ar y cynigion a gyflwynodd Gerry Holtham, roedden nhw i bob pwrpas yn golygu y gallech fod yn talu mwy o dreth yn syth ar ôl ichi ymddeol ac fe fyddai eich incwm chi'n lleihau. A edrychodd y grŵp gweinidogol ar y materion a fyddai'n effeithio ar gyfrifiadau Holtham, megis diweithdra, oherwydd rwyf i o'r farn fod honno'n elfen wirioneddol allweddol, mewn gwirionedd, ac fe fyddai hi'n dda iawn gennyf gael gwybod a wnaeth LE adolygu hynny hefyd?

Rydych chi'n sôn am yr angen i gynnwys cytundeb trawsbleidiol i allu cyflwyno hyn dros y tymor hwy, ac nid wyf i'n anghytuno â hynny o reidrwydd. Ond a wnewch chi amlinellu hefyd sut y bydd pobl hŷn, ac ystod eang o'u cynrychiolwyr nhw, yn gallu bod â rhan wrth gynhyrchu unrhyw bolisi newydd ar y cyd mewn ffordd sydd o werth gwirioneddol?

Yn olaf, yn fy marn i, hyd nes y caiff y cyllidebau eu cyfuno'n llwyr o fewn gofal cymdeithasol a gofal iechyd, fe fydd yna frwydr galed i integreiddio gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac, yn fy marn i, fe fydd yn rhaid i rywun wynebu'r ffaith honno er mwyn i hynny ddigwydd. Dyna wnaiff ysgogi hynny oherwydd yr arian sydd yn ben ar wasanaethau cyhoeddus a dyna fydd yn ysgogi'r integreiddio hwnnw ac yn gwneud y dull hwn o wneud penderfyniadau a chynllunio penderfyniadau yn llawer, llawer haws ac yn llawer iawn mwy cydlynol. Diolch, Gweinidog.

15:50

Diolch i chi am y sylwadau a'r gyfres yna o gwestiynau. Yn rhyfedd iawn, mi fyddwn i'n cytuno â rhai ohonyn nhw—rhai o'r sylwadau a wnaethoch chi—ac mae yna eraill nad wyf i'n cytuno â nhw. Fe fyddaf i'n gweld eisiau Angela pan na fydd hi yn y Siambr mwyach, er mai ei dewis hi yw hynny, a'r pleidleiswyr fydd yn pennu fy nhynged i yn yr etholiad sydd i ddod.

Ond rwyf i yn credu fod yno her wirioneddol i'r Ceidwadwyr Cymreig a'u hagwedd tuag at y dyfodol. Rwy'n credu bod clywed y Blaid Geidwadol yn sôn yng Nghymru am godi tâl i bobl yn y sector gofal cymdeithasol yn rhywbeth i'w groesawu—mae hwnnw'n newydd da yn fy marn i. Ond rwy'n credu y ceir her wirioneddol ynglŷn â'r dull o gyflawni hynny, oherwydd fe fydd hynny'n gofyn am flaenoriaethu mewn termau cyllidebol. Ac o ran her ein sefyllfa ni, nid wyf i'n credu y bydd modd ysgogi'r symiau o arian i gynyddu'r hyn y gallwn ni ei wneud o fewn gofal cymdeithasol heb ystyried cymorth ariannol mwy sylweddol ar gyfer hynny. Ac nid wyf i'n credu y bydd y cynllunio clir i ryddhau arian yn eich galluogi chi i gyflawni hynny—dull y consuriwr yn tynnu rhywbeth o'i het i wneud pethau'n fwy effeithlon ac y gallwch chi dynnu symiau enfawr o arian o'ch het hudol. Pe byddem ni'n siarad â llywodraeth leol o bob lliw a llun gwleidyddol, gan gynnwys awdurdodau Ceidwadol neu glymblaid, nid wyf i'n credu y bydden nhw'n dweud bod adnoddau enfawr heb eu defnyddio ar gael o fewn y system yn aros i rywun eu canfod a'u rhoi ym mhocedi'r gweithwyr. Rwy'n credu y bydd yn cymryd mwy na hynny. Ac fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'r duedd bresennol yn dangos y gallai fod angen inni wario hyd at £400 miliwn erbyn 2022-23, a hynny ddim ond er mwyn darparu'r hyn sydd gennym ni eisoes, ac nid i ddarparu gwell gofal ond i ddarparu'r un gofal; a pheidio â chodi cyflogau'r staff, ond eu cadw nhw ar yr un cyfraddau cyflog a'r un math o ofal. Ac mae hynny'n dangos lefel yr her sy'n ein hwynebu ni.

Felly, wrth gwrs, mae hon yn her, ac ar hyn o bryd yn y cylch economaidd—economeg Keynes clasurol yw hyn—nid dyma'r amser i godi trethi. Felly, nid yw'n golygu gohirio ac anghofio; mae'n golygu ymateb i'r sefyllfa bresennol. Ac fe newidiodd y cyd-destun yn ystod gwaith y grŵp rhyngweinidogol, wrth gwrs, oherwydd roeddem ni ar fin dymuno dechrau sgwrs genedlaethol, i siarad am hyn yr oeddem ni'n ei olygu a sut y gallem ddenu symiau sylweddol o adnoddau ychwanegol i'r sector gofal cymdeithasol. Mae'r pandemig wedi newid nid yn unig ein gallu ni i gael y sgwrs, ond y cyd-destun yr ydym yn gweithredu ynddo, a hynny'n gwbl sylfaenol.

Felly, ydym, rydym ni'n ystyried amrywiaeth o feysydd eraill. Rwyf wedi sôn am yr opsiynau tai eisoes. Ac ni chaiff yr her sydd gennym ni ei datrys drwy newid ein ffordd ni o fyw, yn fy marn i. Fe wyddom fod gennym her ehangach o ran iechyd y cyhoedd a dyna'r gwaith y mae Eluned Morgan yn arwain arno ar hyn o bryd. Mae ein rhaglen 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn bwysig i bobl o bob oed ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod ni'n byw'n iach. Ond mewn gwirionedd, pan fyddwch chi'n meddwl am ein heriau ni o ran tai, rydym wedi amcangyfrif y bydd angen cynnydd sylweddol mewn unedau gofal ychwanegol arnom ni. Wel, dim ond tua 500 o unedau gofal ychwanegol a ddarparwyd ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Felly, mewn gwirionedd, mae angen cymryd cam bras ymlaen o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i allu ymateb i'r her, yn ogystal â dymuno gwella canlyniadau iechyd y cyhoedd i'r boblogaeth gyfan.

O ran eich pwynt chi ynglŷn â thalu am ofal cymdeithasol sydd â risg a rennir, fel y GIG, wel, fe fydd hynny'n gofyn am rywfaint o gytundeb. A rhan o'r her wrth wneud hynny yw'r ffordd yr ydym ni wedi ein strwythuro ar hyn o bryd ac mae'r diffyg o ran datrysiad i'r DU gyfan yn rhan o'r hyn sy'n ein rhwystro ni. Fe fydd yna derfyn ar yr hyn y gallwn ni ei wneud cyn y gallwn ddechrau ymyrryd a gweld canlyniadau anfwriadol o bosibl yn y system dreth a budd-daliadau ehangach. Yn wir, fe gynhyrchodd y pwyllgor dethol trawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin, cyn yr etholiad diwethaf, adroddiad yn mynegi safbwynt o blaid codi refeniw treth ar gyfer gallu cyflawni ar raddfa llawer mwy sylweddol. Ac fe fyddai hynny wedyn wedi bod yn rhywbeth y byddem ni'n ei rannu ledled y DU gyfan, gyda symiau sylweddol o arian a fyddai wedi dod i bob Llywodraeth genedlaethol ddatganoledig. Roedden nhw'n cefnogi math o drethiant hefyd sy'n gysylltiedig ag oedran, yn debyg iawn i'r hyn sy'n digwydd yn Japan. Felly, mae yna ddadl agored anorffenedig a pharhaus ynglŷn â'r hyn y gallai'r dyfodol ei gyflwyno inni. Dyma'r sefyllfa ar hyn o bryd: y gallu i wneud gwahaniaeth drwy fwrw ymlaen â'r gwaith ar integreiddio y cyfeiria'r Aelod ato, o ran gwella'r cyfraddau cyflog ac ansawdd y gofal a ddarperir, ac mae gennym weithlu brwdfrydig mewn system a allai, gyda'r diwygiadau a nodir yn y Papur Gwyn yr ymgynghorir arno ar 6 Ebrill, newid gofal cymdeithasol yn sylweddol, ond rydym ni'n cydnabod y bydd mwy gan y Llywodraeth nesaf i'w wneud eto. Ond rwy'n credu, fel y dywedais i yn y datganiad, fod hon yn sylfaen gref ar gyfer datblygu'r gwaith hwnnw ar gyfer unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol. 

Yn ysbryd bod yn bositif, mi ddywedaf i, i ddechrau, fy mod i'n cydymdeimlo, yn sicr, efo'r Gweinidog, i'r graddau bod y pandemig, wrth gwrs, wedi cael impact dwys iawn ar y cyd-destun ehangach ac ar ein capasiti ni i gyd i bwyso a mesur yr hirdymor ar gyfer iechyd a gofal. Ac mae'r pwysau yna ar gapasiti, wrth gwrs, yn bwysau go iawn. Rydym ni yn ei weld o ym mlinder ein staff ni. Rydym ni'n ei weld o yn y pwysau ariannol digynsail sydd yna ar y coffrau cyhoeddus yn y cyfnod acíwt yma o hyd o ymateb i'r pandemig. Ond i mi, rhoi mwy o reswm i ni weithredu, nid llai, mae profiad y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni wedi gweld yn blaenach nag erioed y diffyg statws, y diffyg sylw a buddsoddiad sydd wedi mynd i mewn i ofal cymdeithasol. Rydym ni wedi gweld y diffyg parch oedd yna i staff gofal. Rydym ni wedi cael prawf cliriach nag erioed bod ein gwasanaethau iechyd ni'n anghynaliadwy, yn or-ddibynnol ar ewyllys da staff, mewn cyflwr o reoli crisis yn llawer rhy aml, ac efo prinder staffio ddylai fod wedi cael ei ddatrys ers blynyddoedd. Felly, tra buasai Llywodraeth Plaid Cymru yn sicr eisiau rhoi cynllun gweithredu brys mewn lle i adfer gwasanaethau ar ôl COVID, nid dod yn ôl i normal fyddai'r nod, ond trawsnewid gwasanaethau ar gyfer yr hirdymor, ac mae hynny yn yr hinsawdd yma, wrth gwrs, yn anferth o her.

Wrth galon ein cynlluniau ni, mae creu gwasanaeth iechyd a gofal newydd sy'n cynnig fframweithiau clir, fel rydym ni'n eu gweld nhw, ar gyfer sut mae byrddau iechyd a Llywodraeth leol yn delifro iechyd a gofal mewn ffordd unedig, seamless, efo cyllidebau wedi'u huno, ac ati. Mae hynny'n golygu trin y gweithlu iechyd a gofal ar yr un lefel, yr un amodau a graddfeydd cyflogau, p'un ai ydyn nhw'n weithwyr gofal neu iechyd.

A'r rhan arall cwbl allweddol i hyn wedyn, wrth gwrs, ydy beth sydd gennym ni o'n blaenau ni heddiw yma, sef dyfodol gofal cymdeithasol a sut rydym ni'n talu amdano fo. Yn syml iawn, mae'n rhaid i ni symud rŵan at ddarparu gofal am ddim lle mae ei angen o, fel mae gofal iechyd. Sut mae hi'n gwneud synnwyr o hyd bod rhywun efo dementia yn gorfod talu, a rhywun efo salwch arall, fel canser, ddim? A dwi ddim am eiliad yn dweud bod hyn am fod yn hawdd, neu buasai o wedi'i wneud ers talwm, mae'n siŵr. Yn wir, mae'r Gweinidog wedi nodi ei hun rhai o'r heriau sydd gennym ni, yn cynnwys, wrth gwrs, y damcaniaethau ar gyfer y cynnydd mawr mewn costau gofal mewn blynyddoedd i ddod. Ond cofiwch mai cynnydd ar y raddfa yna os ydym ni'n cadw pethau fel maen nhw ydy hynny. Ac mae'n rhaid i ni gynnwys, fel rhan o'r hafaliad ar gostau, yr hyn ddylem ni fod yn anelu i'w arbed drwy chwyldroi'r ffordd rydym ni'n meddwl am yr ataliol, yn cadw pobl i fyw yn fwy ffit, yn fwy annibynnol yn hirach.

Dwi'n ddiolchgar iawn i Age Cymru am grynhoi'n dda iawn beth ydy eu gweledigaeth nhw mewn datganiad wnaeth ymddangos yn fy inbox i heddiw. Mae o'n ddrych o beth dwi eisiau ei weld, mewn difrif. Mae hyn yn gwestiwn o degwch cwbl sylfaenol, medden nhw. Mae eisiau tegwch o ran pwy sy'n talu a sut rydym ni'n talu, ac maen nhw'n nodi, ymhlith eu hegwyddorion craidd nhw, bod rhaid rhannu'r risg ar draws cymdeithas. Wrth gwrs, mae yna fwy nag un ffordd o rannu risg. Dwi'n dal yn grediniol bod modd cynnwys hwn o dan y drefn trethiant gyffredinol os ydym ni'n edrych arno fo fel rhan o dirwedd iechyd a gofal sydd wedi ei thrawsnewid, a dyna sut dwi eisiau gwireddu hyn. Ond, wrth gwrs, mi edrychwn ni ar bod opsiwn mewn Llywodraeth. Fy nghwestiwn i'n syml: ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod yr amser wedi dod rŵan, o'r diwedd, i weithredu ar hyn, a bod heriau yna i'w goresgyn, nid i'n stopio ni?

15:55

Wel, rwy'n credu fy mod wedi nodi yn fy natganiad fod yna gamau yr ydym ni'n bwriadu eu cymryd. Mae yna gamau i'w cymryd, ond mae yna heriau na allwch chi eu hosgoi na'u hanwybyddu. Os na chawn ni ateb ledled y DU, mae angen inni feddwl am yr adnoddau sydd ar gael i ni, sut rydym ni'n eu defnyddio nhw, a sut rydym ni'n nodi'r amcanion y gellir eu cyflawni i ddwyn pethau ymlaen. Nawr, rydym wedi nodi'r gost ar gyfer cyflog byw gwirioneddol. Rydym wedi nodi y byddem ni'n dymuno gweld cynnydd yn cael ei wneud o ran tai, fel blaenoriaeth uniongyrchol arall. Ac mae'n werth nodi fy mod i'n credu, yn y casgliad y daethom iddo, ein bod ni o'r farn y byddai angen o leiaf 1,500 o gyfleusterau gofal ychwanegol arnom ni yng Nghymru erbyn 2025, a hynny ar ben y 500 a ddarparwyd ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Felly, fe fyddai hynny'n gynnydd sylweddol o ran darparu gwell opsiynau o dai a fyddai'n cynnig gwell gofal, ac yn caniatáu, unwaith eto, i bobl aros yn eu cartrefi nhw eu hunain. Fe fyddai hynny'n ein helpu ni o ran yr agenda ataliol a lles yn fwy eang, ac mewn gwirionedd nid yw hyn yn rhywbeth sy'n cymryd lle gwneud cynnydd ar yr agenda ataliol, nid yw'n rhywbeth sy'n disodli trawsnewid y ffordd yr ydym ni'n darparu iechyd a gofal. Nid yw hyn yn rhywbeth sy'n disodli symud tuag at system gofal iechyd sy'n wirioneddol gynaliadwy ac sy'n gweithio ochr yn ochr fel partner integredig priodol â gofal cymdeithasol.

Ac rwy'n dwyn i gof y cyfarfod a gefais gydag aelodau cabinet gofal cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a'r briff a roddais i iddyn nhw, gyda swyddogion CLlLC, yn llythrennol ychydig cyn inni ddechrau cymryd y camau eithriadol wedyn yn ystod y gwanwyn y llynedd. Roeddem ni ar fin cyhoeddi'r dogfennau ynglŷn â'r sgwrs genedlaethol, ac roeddwn i'n dweud wrthyn nhw pryd fyddai hynny'n debygol o ddigwydd a'r hyn y gallen nhw ddisgwyl ei weld yn y rhain. Ac yna fe fu'n rhaid oedi a rhoi'r gorau i bopeth. Felly, mae'r gwaith ar stop. Nid yw'n ddewis bwriadol ein bod yn gadael hyn tan drothwy etholiad; dyma'r sefyllfa wirioneddol yr ydym ni ynddi. Ond roeddwn i'n awyddus, fel yr oedd cydweithwyr gweinidogol eraill, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cyhoeddi ac yn darparu'r wybodaeth hon, fel ei bod ar gael cyn i bobl wneud eu dewisiadau terfynol nhw ac i helpu i dywys y Llywodraeth nesaf, er nad wyf i o'r un farn â'r Aelod mai Llywodraeth Plaid Cymru fydd honno—dyna un o'r posibiliadau llai tebygol, yn fy marn i—ond gadewch inni weld sut y bydd y pleidleiswyr yn penderfynu.

Ond o ran yr heriau posibl, fe wyddom fod cost ynghlwm wrth bob un o'r pethau yr hoffem ni eu gwneud. Fe wyddom hynny—ac fe ddaw hyn o'r gwaith a wnaed gan weision sifil a chyngor allanol hefyd—byddai gofal a chymorth rhad ac am ddim ar ddull y GIG yn costio tua £700 miliwn y flwyddyn. Fe fydd symud i'r un telerau ac amodau â'r 'Agenda ar gyfer Newid' yn debygol o gostio tua £135 miliwn yn ychwanegol at y £700 miliwn hwnnw. Felly, mae yna grocbris i'w dalu ar gyfer gwella amodau yn y maes hwn, ac ni fyddai'r amgylchiadau hynny'n ymdrin â hyd yn oed rai o'r heriau eraill hyn sydd gennym ni ychwaith. Felly, dyna pam, rwy'n credu, y bydd angen i'r consensws trawsbleidiol y bydd ei angen arnom fod yn bragmatig ac yn onest o ran yr hyn y gellir ei gyflawni, sut rydym yn cynnal pob un o'r gwelliannau hynny, a sut rydym am barhau i symud ymhellach ymlaen eto.

Felly, rwy'n edrych ymlaen at gael sgwrs gyda'r cyhoedd. Ac yn wir, sut olwg bynnag fydd ar y Senedd nesaf, rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r sgwrs ac o wneud penderfyniadau, gobeithio, am sut yn union y byddwn yn gwneud yr union beth y byddai pob un ohonom yn dweud ein bod yn dymuno ei wneud, sef gwella ansawdd gofal, gwella canlyniadau i bobl ac, yn wir, gwella'r ffordd y caiff ein staff eu gwobrwyo a'u cydnabod.

16:00
6. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar y rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a galwaf ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac rwyf wedi bod yn freintiedig iawn, yn ystod fy nghyfnod yn Weinidog addysg, i weld y gwelliant yn y lleoliadau addysgol i'n plant a'n pobl ifanc ledled ein gwlad a ddarperir drwy raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain.

Yn ystod y tymor hwn, rydym ni wedi llwyddo i ddarparu'r don gyntaf o £1.4 biliwn o gyllid rhaglenni o fewn y pum mlynedd, fel yr addawyd, gyda rhai ychwanegiadau pwysig iawn. Gan fynd y tu hwnt i'r 150 o brosiectau ysgol a addawyd yn wreiddiol, mae buddsoddiad wedi arwain at 170 o ysgolion newydd ac wedi'u hadnewyddu ym mhob cwr o Gymru, gan roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'n disgyblion. Rydym ni wedi newid yr amgylchedd dysgu ar gyfer dros 100,000 o ddisgyblion yn ystod y don gyntaf, wedi rhoi ysgogiad economaidd yn ystod cyfnod anodd, rydym ni wedi creu swyddi yn ogystal â chyfleoedd dysgu ac ymgysylltu i gymunedau, a manteision i gadwyni cyflenwi lleol.

Mae'r llwyddiant hwn wedi paratoi'r ffordd ar gyfer buddsoddiad pellach o £2.3 biliwn drwy ail don cyllid y rhaglen, a lansiais ym mis Ebrill 2019. Gyda chyfradd ymyrraeth rhaglen well, mae hyn wedi cynyddu fforddiadwyedd y rhaglen ar gyfer ein partneriaid cyflenwi, ac mae cymysgedd o gyllid cyfalaf a refeniw i sicrhau'r buddsoddiadau mwyaf strategol yn yr ystad ysgolion bellach ar gael wrth i ni symud ymlaen. Rwyf wrth fy modd bod £1.5 biliwn wedi'i wario hyd yma o dan y rhaglen, ac rydym ni wedi gallu buddsoddi mewn ysbrydoli ysgolion a cholegau ym mhob un rhan o Gymru. Ac rwy'n arbennig o falch bod y flwyddyn ariannol hon, yn yr amgylchiadau anoddaf a heriol, bod y rhaglen wedi parhau, ac, mewn rhai achosion, bod y ddarpariaeth wedi cyflymu, fel y dangosir gan nifer y prosiectau sydd ar y gweill neu sy'n cael eu cwblhau cyn amserlen y rhaglen.

Rydym ni wedi cyflawni'r gwariant blynyddol mwyaf ar raglen o dros £300 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, sy'n dangos ac yn tystio i benderfyniad Llywodraeth Cymru a'n partneriaid cyflenwi i barhau i gyflawni ar gyfer dysgwyr ledled Cymru. Fodd bynnag, nid yw'r rhaglen yn ymwneud â dim ond adeiladau newydd ac ailfodelu lleoliadau addysgol sy'n bodoli eisoes; mae'n ymwneud â darparu amgylcheddau sy'n buddsoddi yn y bobl sy'n eu defnyddio, gwerthfawrogi ein hathrawon a staff ysgol rhagorol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n dysgwyr.

Dirprwy Lywydd, rwyf wedi mwynhau'n arbennig gallu gweld hynny'n uniongyrchol—weithiau, yn wir, gyda chi, Dirprwy Lywydd—yn yr ysgolion yr wyf wedi gallu ymweld â nhw. Mae wedi bod yn hyfryd siarad â'n plant a'n pobl ifanc a staff yr ysgol sydd wedi dangos i mi fanteision y buddsoddiad yn eu hysgol, beth sydd wedi gwneud iddyn nhw deimlo'n falch iawn, beth sydd wedi gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael cefnogaeth wirioneddol, a'r hyn sydd wedi rhoi'r penderfyniad iddyn nhw lwyddo.

Drwy gydol yr amser hwn, rwyf wedi bod yn arbennig o ymwybodol o gyflwr yr ystad ysgolion, ac rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn cydnabod hyn ar gyfer yr ysgolion a'r disgyblion nad ydyn nhw, ar hyn o bryd, yn ddigon ffodus i fwynhau cefnogaeth o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Felly, rydym ni wedi bod yn awyddus i sicrhau bod cyllideb cynnal a chadw flynyddol ar gael i gefnogi ysgolion fel y gallan nhw fod yn y cyflwr gorau posibl i ddysgwyr. Cyhoeddais werth £50 miliwn o gyllid cynnal a chadw cyfalaf yn ddiweddar, gan roi arian ychwanegol i ysgolion i reoli costau cynnal a chadw, ac rwy'n falch iawn heddiw o gadarnhau y caiff hyn ei wella gyda £45 miliwn ychwanegol sy'n cael ei ddyrannu i ysgolion ledled Cymru i gefnogi costau cynnal refeniw.

Yn ystod tymor y Llywodraeth hon, yn bersonol, rwyf wedi bod yn arbennig o falch o'r ffordd arloesol yr ydym ni wedi buddsoddi cyllid cyfalaf er mwyn helpu i barhau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog; Yn 2018, cafodd y grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg ei sefydlu, gwerth £46 miliwn, sydd wedi cefnogi prosiectau, unwaith eto ledled Cymru, gan greu bron i 3,000 o leoedd mewn ysgolion a gofal plant. Fodd bynnag, er mwyn adeiladu ar y momentwm hwn, yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi £30 miliwn arall i barhau â'r gwaith pwysig hwn. Ac, wrth gwrs, yn dilyn £5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, roeddwn yn falch iawn, fis Medi diwethaf, o allu ymweld, gyda'r Llywydd, â neuaddau Pantycelyn sydd newydd eu hadnewyddu ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gynnal y gymuned o 200 o fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol.

Mae 2020 wedi dangos pa mor gwbl allweddol ac angenrheidiol yw amgylchedd yr ysgol o hyd fel man lle mae plant yn dysgu, yn tyfu ac yn teimlo'n ddiogel, a bu'n fodd o'n hatgoffa i gyd o bwysigrwydd yr ystâd ysgolion i'r gymuned ehangach. Rwyf wedi bod yn gredwr cryf bod yn rhaid i ysgolion fod â rhan hanfodol yn eu cymunedau. Dyna pam mae manteision cymunedol yn ystyriaeth mor bwysig i'n holl brosiectau addysg arfaethedig, a pham rwyf wedi bod yn falch iawn o fuddsoddi £15 miliwn yn benodol i ariannu prosiectau peilot sy'n ceisio annog defnydd ehangach o asedau cymunedol. Mae 21 o brosiectau ar y gweill ar hyn o bryd, gan arddangos rhagoriaeth mewn canolfannau dysgu cymunedol, darpariaeth gymunedol ac ysgolion bro. Mae hyn yn gynnydd da, ond, Dirprwy Lywydd, mae angen inni fwrw ymlaen a rhoi mwy o bwyslais ar ehangu ymgysylltiad rhieni, cynyddu'r gweithgareddau i deuluoedd ac sy'n ymwneud â rhianta, ac ehangu'r defnydd o gyfleusterau y tu hwnt i'r diwrnod ysgol. 

Dim ond yn ôl yn nechrau'r flwyddyn hon y nododd ein prif arolygydd mai un o'r ychydig iawn o agweddau cadarnhaol y pandemig ofnadwy hwn yw'r cynnydd mewn cyfathrebu a meithrin perthynas rhwng rhieni ac ysgolion. Gadewch i ni beidio â cholli hyn wrth i ni symud ymlaen. Yn wir, gadewch i ni gynllunio ar gyfer hyn a'i gefnogi o ran defnyddio mwy o gyfleusterau cymunedol yn ein hysgolion. Mae'n amlwg i mi hefyd y bydd yr hyn a wnawn ni nawr yn effeithio ar yr amgylchedd yr ydym yn ei adael i genedlaethau'r dyfodol fyw, dysgu a gweithio ynddo, a dyna pam mae'n bwysig ein bod yn sicrhau ein bod yn cynnwys ein staff, ein plant a'n dysgwyr ifanc mewn penderfyniadau am eu hysgolion a'u colegau. A dyna pam rwy'n credu'n gryf bod y sector addysg yn allweddol i symud ein cenedl tuag at economi carbon isel sy'n sicrhau'r manteision mwyaf posibl i bawb yng Nghymru a'n hamgylchedd. Mae'n bwysig ein bod yn gweithredu'n awr i sicrhau bod cynigion ar gyfer ysgolion newydd yn cael eu cyflawni yn unol ag ymrwymiad tymor hwy Llywodraeth Cymru tuag at leihau allyriadau carbon a'r strategaeth adeiladau sector cyhoeddus sero-net. Mae hon yn strategaeth yr ydym ni yn ei hymgorffori yn ein rhaglen drwy brosiect peilot carbon sero-net, sy'n ein helpu i ddatgarboneiddio ein hysgolion a'n colegau. A bu'n bleser mawr gweld dechrau adeiladu'r ysgol sero-net gyntaf yng Nghymru: yr ysgol gynradd newydd yn Llancarfan ym Mro Morgannwg. At ei gilydd, gobeithiaf y bydd fy nghyd-Aelodau'n cytuno bod y rhaglen hon yn wir yn achos dathlu, ac yn un y gallwn ni fel cenedl ymfalchïo ynddi. Diolch yn fawr.

16:05

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n mynd i gytuno â chi bod y rhaglen yn wir yn achos llongyfarch mewn rhai achosion, ond mae gennyf rai cwestiynau i chi o hyd lle mae cwestiynau i'w gofyn yma. Rwy'n credu ei bod hi'n bwynt pwysig i'w wneud hefyd bod y cynnydd wedi cyflymu yn ystod blwyddyn anodd, ac fe drof at hynny mewn munud. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weld rhai o'r ysgolion sydd wedi'u hadeiladu o ganlyniad i ran band A o'r rhaglen yn fy rhanbarth i, ac mae'n hollol gywir bod yr amgylchedd dysgu yn effeithio ar brofiad y dysgwr yn ogystal â'r staff yno, boed hynny'n teimlo'n fyglyd yn rhai o'r ystafelloedd gorgynnes hynny yr ydym ni i gyd yn syrthio i gysgu ynddyn nhw, neu rewi yn ystafelloedd dosbarth drafftiog oes Fictoria neu hyd yn oed adeiladau mwy modern sy'n cael eu dal gyda'i gilydd yn y bôn gan binnau diogelwch a phlastr gludiog.

O ran band A, daeth y rhan hon o'r rhaglen i ben yn 2019, ond mae saith ysgol a elwodd ar hynny sydd naill ai'n dal i gael eu hadeiladu neu nad ydyn nhw eto wedi dechrau cael eu hadeiladu, sef dwy flynedd ar ôl i'r gronfa gau, i bob diben. Tybed beth y gallwch chi ei ddweud wrthym ni am y rhesymau dros yr amser y mae rhai o'r prosiectau hyn yn ei gymryd ac a allai materion fel lleoliad ysgol newydd fod yn ffactor perthnasol yn yr oedi. Os yw hynny'n wir, a oes dadl dros ddweud bod angen i'r broses ymgeisio, yn sicr wrth inni symud ymlaen, fod yn fwy penodol o ran rhai cwestiynau neu rai agweddau o sicrwydd er mwyn i'r rhaglen adeiladu symud ymlaen yn gyflymach?

O ran band B, yn 2017, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn gwerth £2.3 biliwn o geisiadau amlinellol strategol; mae'n ffigur yr ydych chi wedi cyfeirio ato eto heddiw. Ond dyma ni yn 2021 a dim ond pedwar o'r prosiectau hynny sydd wedi'u cwblhau, a dim ond gwerth £448 miliwn o waith sydd wedi'i gymeradwyo. Nawr, mae hynny'n 20 y cant, yn fras, o'r £2.3 biliwn y cyfeirir ato. Tybed pam ei bod hi'n cymryd yr amser hwnnw, o gofio mai dim ond am ychydig o flynyddoedd eto y mae'r rhan hon o'r prosiect ar agor, a tybed hefyd a allwch chi ddweud wrthym ni am y cydbwysedd rhwng yr hyn sy'n ysgolion newydd a beth yw adnewyddu, oherwydd mae wedi bod yn anodd iawn cael yr wybodaeth yna. Mae wedi bod yn anodd iawn cael y wybodaeth yna drwy gwestiynau adran yr ymchwilwyr i Lywodraeth Cymru. Ni allaf briodoli ffigurau unigol o hyd i brosiectau unigol o'r wybodaeth sydd gennyf.

Grantiau cynnal a chadw blynyddol—mae hyn yn newyddion gwych, ond byddwn yn synnu os nad yw pob Aelod yma'n dal i dderbyn ceisiadau am gymorth gan wahanol ysgolion. Felly, beth allwch chi ei ddweud wrthym ni ynglŷn â sut y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu? Os caiff ei ddosbarthu drwy gynghorau lleol, a yw wedi'i neilltuo yn hytrach na'i fod ar drugaredd hawliadau eraill am y grant cynnal refeniw, a pha mor hyderus ydych chi ei fod yn cael ei wario mewn gwirionedd ar gynnal a chadw ysgolion yn hytrach nac unrhyw beth arall?

Ac yna, i orffen, y £15 miliwn ar ddefnydd cymunedol o ysgolion. Ie, ie, ie. Tanlinellais hynny deirgwaith. Tybed pam mae angen inni fod yn gwario arian ar rywbeth a ddylai fod yn digwydd beth bynnag. Mae gennym ni ysgolion cymunedol a ddylai ymddwyn fel ysgolion cymunedol yn barod, ac rwy'n credu y bu hi'n destun siom i ni i gyd nad ydynt. Ac yna, i droi am ennyd at ysgolion Cymru a'r defnydd o'r arian y gwnaethoch chi sôn amdano yn eich datganiad, a yw hynny'n golygu eich bod wedi dargyfeirio arian o brif grwpiau gwariant Cymru, os mynnwch chi, i addysg, neu a yw hyn yn ychwanegiad at y £2.3 miliwn yr ydych chi wedi'i ymrwymo i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Nid oeddwn yn hollol siŵr beth roeddech chi'n ei ddweud yn y rhan honno o'ch datganiad, felly byddai croeso mawr i unrhyw eglurder ynglŷn â hynny. Diolch.

16:10

Diolch yn fawr iawn, Suzy, am hynny. Da eich gweld chi'n ôl. A gawn ni ddweud ein bod wedi'ch colli'n fawr yr wythnos diwethaf yn ein dadl ar y Bil cwricwlwm ac asesu, o ystyried eich holl waith caled wrth graffu ar y Bil hwnnw?

A gaf i ddweud eich bod yn gywir o ran bod yna rai prosiectau a glustnodwyd i ddechrau ar gyfer band A y rhaglen? Mae amgylchiadau penodol ym mhob achos. Mae unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i wario arian yn rhaglen yr unfed ganrif ar hugain yn amodol ar awdurdodau lleol yn cwblhau'r holl brosesau cynllunio arferol, ac weithiau gall hynny fod yn heriol. Rydym ni yn ymwybodol o achosion lle, weithiau, y bu oedi cyn cwblhau'r prosiect drwy amgylchiadau na chawsant eu rhagweld, fel contractwr yn mynd i'r wal a allai fod wedi'i glustnodi i ddechrau neu sydd wedi dechrau gweithio ar brosiect, sydd weithiau wedi arwain at oedi ac awdurdodau lleol yn gorfod sicrhau contractwyr newydd, yn unol, wrth gwrs, â'r holl reoliadau sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus. A hefyd, weithiau, fel gydag unrhyw brosiect adeiladu, er gwaethaf ymdrechion gorau pawb, weithiau gall nodweddion a heriau ychwanegol ddod i'r fei ar safle na chawsant efallai eu rhagweld yn llawn ar ddechrau'r prosiect. Felly, gallai'r rheini fod yn rhai o'r rhesymau pam rydym ni wedi gweld rhai prosiectau na chawsant eu cyflawni cyn gynted â phosibl.

Unwaith eto, rydych chi'n gwneud pwynt da ynghylch mwy o dryloywder rhwng adnewyddu ac adeiladu o'r newydd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn pwysleisio unwaith eto bod y prosiect yn caniatáu ar gyfer y ddau. Weithiau, mae camargraff mai'r unig ffordd o sicrhau arian ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yw cael adeilad newydd. Nid yw hynny'n wir. Mae'r rhaglen hefyd yn caniatáu adnewyddu cyfleusterau presennol neu, yn wir, adnewyddu a helaethu cyfleusterau hefyd. Rwyf wedi ymweld â rhai prosiectau hynod arloesol lle mae ysgol wedi bod yn adeilad rhestredig ac wedi cael ei hehangu'n dringar iawn i ddarparu capasiti ychwanegol lle mae'r awdurdod lleol wedi teimlo bod yr ysgol yn sicr yn y lleoliad cywir a bod galw mawr am leoedd, ond na all yr adeilad presennol ddiwallu'r galw hwnnw. Felly, mae'n bwysig bod hyblygrwydd yn y rhaglen i allu bodloni dymuniadau ein partneriaid i ddatblygu eu hystad. Ond byddaf yn ceisio rhoi mwy o fanylion i'r Aelod am y rhaniad rhwng adeiladau newydd, adnewyddu ac estyniadau, pe bai hynny'n ddefnyddiol i'r Aelod.

O ran arian refeniw, mae hynny'n wir yn mynd i awdurdodau lleol. Mae gan bob awdurdod lleol ddyraniad sydd wedi'i seilio'n rhannol ar nifer y disgyblion, ond sydd hefyd yn rhannol ar nifer yr ysgolion sydd gan awdurdod lleol. Mae dwy gronfa o arian eleni. Mae'r cyntaf ar gyfer costau cyfalaf. Byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol ddyrannu—yn wir, neilltuo—yr adnoddau hynny at ddibenion cynnal a chadw ysgolion. Byddai'r rheini, er enghraifft, yn brosiectau mwy na fyddent fel arfer yn gallu cael eu cynnwys yng nghyllideb gyfalaf ysgol ei hun, megis ailosod to yn ei gyfanrwydd, er enghraifft, a'r math yna o beth. Ac yna caiff y gyllideb refeniw, unwaith eto, ei chynnwys yng nghyllidebau ysgolion i dalu costau rhywfaint o waith cynnal refeniw y byddent wedi'i wneud eu hunain. Mae wedi'i neilltuo, ond mae'n mynd drwy'r awdurdodau lleol.

O ran ysgolion bro, rydych chi'n iawn, Suzy, dylai pob un o'n hysgolion fod yn ysgolion bro. Defnyddiwyd y gronfa benodol hon o arian i arbrofi gyda dulliau gweithredu lle mae awydd gwirioneddol yn yr ysgol i ddarparu mwy o ddefnydd cymunedol, ond ble mae rhai cyfyngiadau mewn gwirionedd ar yr adeilad. Felly, nid ydym yn sôn yma am brydlesu neuadd yr ysgol ar gyfer digwyddiadau mwy; mae hyn yn ymwneud, er enghraifft, â chael y lle i ddatblygu ystafell ddosbarth newydd a ddefnyddir yn benodol i ddysgu rhieni, neu allu creu gofod newydd ar ystâd yr ysgol sy'n caniatáu i dimau rhyngddisgyblaethol weithio gyda rhieni. Felly, nid yw hyn yn ymwneud ag ysgolion nad ydynt yn fodlon gwneud hynny, mae'n ymwneud ag ychwanegu cyfleusterau ychwanegol i ysgolion er mwyn gallu ehangu'r hyn y gallan nhw ei gynnig i rieni a lle mae cyfyngiadau ar yr ystad bresennol mewn gwirionedd. Felly, mae awydd gwirioneddol ar ran yr ysgol, yr awdurdod lleol a'r gymuned, ond mewn gwirionedd nid oes digon o le yn yr adeilad hwnnw i ganiatáu i'r gweithgareddau hynny ddigwydd. Felly, dyna pam mae'r arian yno. Ond rydych chi'n gywir, mae angen i ni barhau i gael sgyrsiau gyda chyrff llywodraethu, oherwydd wrth gwrs, unwaith y bydd yr ysgol yn cael ei throsglwyddo i'r corff llywodraethu, eu cyfrifoldeb nhw yw hi, ac mae angen i ni ennyn disgwyliad bob amser bod yr adeilad hwnnw, ydy, yn perthyn i'r ysgol, ond mewn gwirionedd mae'n gyfle gwych i'r gymuned ehangach. Mewn rhai cymunedau, gall yr ysgol fod yn offeryn olaf y wladwriaeth; efallai mai dyma'r unig adeilad cyhoeddus mewn ardal, ac felly dylid cael cyfle. Ond mae hyn er mwyn edrych yn benodol ar fannau ychwanegol ar yr ystad ysgolion sy'n caniatáu i'r ysgol honno fynd yr ail filltir i ddatblygu'r cydberthnasau hynny.

Caiff y £30 miliwn ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ei neilltuo o wariant cyfalaf addysg, ond mae wedi'i neilltuo i gefnogi ehangu cyfrwng Cymraeg yn benodol, boed hynny mewn ysgolion neu mewn lleoliadau meithrin.

16:20

Diolch am y datganiad a'r diweddariad. Wrth drafod ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, rydych chi'n parhau i ddefnyddio'r cysyniad o adeilad i ddisgrifio ysgol. Mae adeiladau newydd sydd wedi'u dylunio'n dda yn gallu cyfrannu at greu awyrgylch sy'n annog creadigrwydd a dysgu, a dwi innau hefyd yn gyfarwydd â sawl adeilad ysgol newydd sbon yn Arfon sydd wedi derbyn croeso brwd ac wedi cael eu codi yn sgil y rhaglen benodol rydyn ni'n ei thrafod heddiw. Mae angen bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan gwbl ganolog o'r strategaeth hirdymor o ran is-adeiledd addysgol y dyfodol, o gofio'r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr, a dwi ddim yn credu eu bod nhw yn greiddiol i'r strategaeth ar hyn o bryd ac mai arian ychwanegol sydd yn cael ei ddefnyddio yn aml iawn yn hytrach na bod y rhaglen yn cynnwys adeiladau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg o'r cychwyn cyntaf.

Mae'r pandemig wedi ein dysgu ni bod yn rhaid sicrhau bod ysgolion yn fannau diogel sydd yn helpu i leihau'r risg o ledaenu heintiau, ac felly mae awyru yn hollbwysig, ac mae angen sicrhau bod ysgolion yn addas i'r diben drwy fuddsoddi mewn technolegau sy'n caniatáu awyru effeithlon ac effeithiol yn ein hysgolion i gyd. Ydych chi'n cytuno bod angen rhaglen waith benodol i sicrhau bod problemau diffyg awyru digonol yn cael sylw priodol yn y tymor byr yn ogystal â'r hir dymor?

I fynd yn ôl at fy mhwynt cyntaf am yr ysgolion unfed ganrif ar hugain, nid adeilad ydy ysgol; ysgol ydy criw o blant a phobl ifanc yn cyd-ddysgu, dan arweiniad athrawon medrus sy'n gallu ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol, a dwi'n credu ei bod hi'n bryd i ni symud at ddiffiniad llawer mwy eang wrth drafod ystyr 'ysgol' yn y byd modern, ac mi wnaf i edrych jest ar un agwedd yn unig o'r diffiniad newydd sydd angen inni symud tuag ato fo. Fe all ysgol ddigwydd tu hwnt i furiau ystafell. Mae rhai gwledydd eisoes yn arwain y ffordd o ran addysg awyr agored—Denmarc, y Ffindir, Singapore a Seland Newydd—efo'r gwledydd yma yn defnyddio addysg yn yr awyr agored i gryfhau cysylltiadau dysgwyr efo'r byd naturiol tra'n cefnogi lles a iechyd meddwl hefyd. Felly, hoffwn i wybod pa arian mae eich Llywodraeth chi yn ei glustnodi yn benodol tuag at ddatblygu dysgu yn yr awyr agored, fel bod ysgol yn yr unfed ganrif ar hugain yn dod yn gysyniad sydd yn cynnwys hyn yn ogystal.

Mae'r sector addysg awyr agored, gan gynnwys y canolfannau preswyl, efo cyfraniad pwysig i'w wneud hefyd, ond mae'r sector yma ar ei gliniau ar hyn o bryd, ac mae'n hynod siomedig nad ydyn nhw'n cael eu cefnogi'n ddigonol gan y Llywodraeth yn sgil y pandemig. Allan o'r 44 o ganolfannau yng Nghymru, mae yna bump wedi cau yn barod mewn diwydiant sydd werth tua £40 miliwn i'r economi yma yng Nghymru. Dwi wedi cael nifer o gyfarfodydd efo cynrychiolwyr o'r sector, ac mi wnes i drefnu hefyd iddyn nhw gael rhoi eu hachos am gefnogaeth yn uniongyrchol i swyddogion y Gweinidog economi, ond siom o'r mwyaf ydy eu bod nhw'n dal i ddisgwyl am gefnogaeth. Felly, yn olaf gen i, ydych chi'n derbyn bod y sector angen cefnogaeth, a bod yr argyfwng yn rhoi cyfle i roi cyfeiriad newydd i addysg awyr agored fyddai'n cynnwys cryfhau'r cysylltiadau efo ysgolion a cholegau lleol?

Mi fyddwn i'n falch o glywed eich sylwadau chi am y ddau fater penodol yma, sef awyru adeiladau a phwysigrwydd addysg awyr agored.

A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian, Dirprwy Lywydd, am ei sylwadau? Mae'n codi cysyniad diddorol o'r hyn ddylai ysgol fod, ac rwy'n credu, dros y pum mlynedd diwethaf, ein bod ni, Lywodraeth Cymru, wedi dangos ein hymrwymiad i gydnabod addysg ar ei ffurf ehangaf bosibl. Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn gyfarwydd iawn â'r adeilad hollol ragorol ac arloesol yn Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth, ysgol i rai o'n plant mwyaf arbennig, ac mae'r cysyniad o'r adeilad hwnnw yn un o ofod hynod hyblyg ac ymatebol sy'n diwallu anghenion y disgyblion sy'n mynd yno mewn gwirionedd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, un o'r pethau yr wyf yn arbennig o falch ohono yw cychwyn ein e-sgol, ysgol rithwir sy'n caniatáu i blant allu ymgysylltu ag athrawon a chyfleoedd o bob cwr o'r byd. Dim ond ychydig wythnosau'n ôl, cafodd myfyrwyr yng Nghymru gyfle i dderbyn gwersi gan Sefydliad Technoleg Massachusetts, prifysgol fwyaf blaenllaw'r byd. Doedd dim rhaid iddyn nhw deithio i Gaergrawnt, Massachusetts i wneud hynny; roeddent yn gallu gwneud hynny yn eistedd yn eu cartrefi eu hunain. Rydym yn darparu symiau cynyddol o ddysgu o bell drwy ein model e-sgol, model a sefydlwyd i ddechrau i ymateb i rai o'r heriau logistaidd o ddarparu addysg mewn lleoliad gwledig, ond erbyn hyn mae awdurdodau fel Caerdydd yn dangos diddordeb gwirioneddol yn y ffordd y gallant fabwysiadu'r model hwnnw ar gyfer eu plant a'u pobl ifanc eu hunain, er mwyn cynyddu profiadau addysgol yma yn ein prifddinas.

Mae'r Aelod hefyd yn gywir i siarad am addysg awyr agored, a dyna pam nad yw cefnogaeth Llywodraeth Cymru i leoliadau blynyddoedd cynnar wedi'i chyfyngu i adeiladau. Rydym ni wedi gweld yn ystod y pum mlynedd diwethaf 'skogsmulle' yn egino, sy'n lleoliad meithrin heb le dan do, lle treulir y diwrnod cyfan—wel, y rhan fwyaf o'r dydd—yn dysgu y tu allan. Felly, mae'r ystod o raglenni ariannu sydd gennym ni yma yng Nghymru yn gwbl abl i gynnwys ysgolion yn y diffiniad ehangaf posibl.

A gaf i ddweud wrth yr Aelod, pan ddywed nad yw addysg cyfrwng Cymraeg yn ganolog i gynllun yr unfed ganrif ar hugain, yn yr wythnosau diwethaf rwyf wedi arfer â'r math hwn o rethreg gan yr Aelod, ond a gaf i ei chyfeirio at y datganiad? Rwyf wedi cyhoeddi heddiw, ar ben y £48 miliwn sydd eisoes wedi'i fuddsoddi—hynny yw 100 y cant o'r costau cyfalaf a delir gan Lywodraeth Cymru i allu cynorthwyo awdurdodau lleol i ddatblygu eu cynlluniau Cymraeg mewn addysg—£30 miliwn arall heddiw. Mae hynny'n wahanol i'r cyfraddau ymyrryd arferol ar gyfer y rhaglen. Mae'n un ffordd yn unig yr ydym ni'n datblygu addysg cyfrwng Cymraeg, ac wrth gwrs rydym yn dibynnu, dylwn atgoffa'r Aelod, ar y ffaith bod y cynlluniau a gyflwynir i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn gynlluniau gan ein hawdurdodau addysg lleol. Nid ydym yn eu gorfodi ar ein partneriaid; nhw sy'n cyflwyno'r cynlluniau a'r blaenoriaethau sydd ganddynt. Yr hyn y gallwn ni, Lywodraeth Cymru, ei wneud yw peri i'r cynlluniau hynny fod yn fwy fforddiadwy o ran addysg cyfrwng Cymraeg.

O ran awyru, wel, mae awyru'n cael ei reoleiddio gan reoliadau adeiladu. Rhaid i bob ysgol gymeradwy gydymffurfio â'n cyfundrefn rheoleiddio adeiladu yng Nghymru, ac wrth gwrs, ers y pandemig, mae canllawiau COVID ar awyru wedi'u cyhoeddi hefyd.

O ran addysg awyr agored, mae'n bwysig cydnabod bod y darparwyr addysg awyr agored hynny, y mae llawer ohonyn nhw wedi gallu cael cymorth gan grantiau ac ymyriadau'r Llywodraeth sydd wedi bod ar gael i bob busnes yn ystod y pandemig. Rydym ni yn cydnabod ei bod hi'n gyfnod heriol eithriadol i'r gweithredwyr hynny sydd naill ai'n fusnesau preifat, mae rhai'n eiddo i awdurdodau lleol—yn wir, mae rhai ohonyn nhw yng Nghymru yn eiddo i awdurdodau lleol nad ydyn nhw yng Nghymru—ac mae rhai ohonyn nhw yn sefydliadau elusennol, ond rwy'n cydnabod bod pob un ohonyn nhw wedi'u heffeithio. Ond fel busnesau, maen nhw wedi gallu elwa ar yr ystod o gronfeydd sydd ar gael. Ac yn wir, i rai o'n darparwyr amlycaf, fel yr Urdd, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ymyrryd i gefnogi'r sefydliad hwnnw yn arbennig. Ond rwy'n parhau i weithio gyda'm cyd-Aelod Ken Skates ar y materion hyn, oherwydd rwy'n cydnabod unwaith y gallwn ni gael plant yn ôl y tu allan a mwynhau'r gweithgareddau hyn, mae gan y canolfannau addysg awyr agored hyn swyddogaeth wirioneddol werthfawr yn ein hadferiad o'r pandemig. Mae rhoi cyfle i blant eu defnyddio yn bwysig iawn i mi. Dyna pam rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth, cyn diwedd y tymor hwn, Dirprwy Lywydd, mewn sefyllfa i ddarparu symiau ychwanegol o gymorth a chefnogaeth. 

16:30

Gweinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad ac am waith y Llywodraeth hon yng Nghymru i sicrhau y gallwn barhau â'r gwaith o ailadeiladu ein seilwaith ysgolion yng Nghymru ar frys. Addysg, ar wahân i gariad, rwy'n credu, yw'r rhodd fwyaf y gallwn ei rhoi i'n plant. Fel cymdeithas, mae'n tystio i bwy a beth ydym ni, i'r hyn yr ydym ni yn ei flaenoriaethu a'n gwerth fel cenedl flaengar a deinamig. Yn Islwyn, mae cyflwyno'r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain gwerth £3.7 biliwn wedi gweld ysgolion fel Ysgol Uwchradd Islwyn yn cael eu creu, gyda buddsoddiadau ar raddfa fawr i ysgolion uwchradd yn Nhrecelyn a'r Coed Duon.

Rydym ni, fel awdurdod addysg lleol a phartneriaeth Llywodraeth Cymru, wedi darparu ysgolion cynradd newydd sbon o'r radd flaenaf, eco-ysgolion, ar draws y fwrdeistref, a chyda llawer mwy i ddod. Dylai ein hysgolion a'n mannau dysgu fod yn eu hadeiledd yr hyn y maen nhw yn ei ymgorffori mewn enaid ac ysbryd i'r cymunedau y maen nhw yn eu gwasanaethu, beth bynnag eu haddysgeg. Ac ar ôl degawdau o ddiffyg buddsoddiad cronig gan Lywodraeth Dorïaidd drwy Whitehall, mae cymunedau Islwyn yn gwerthfawrogi ein hysgolion yr unfed ganrif ar hugain gymaint ag y maen nhw'n gwerthfawrogi eu hathrawon a'u staff addysg, sy'n ffurfio calon ac enaid ein cymunedau.

Cytunwn fod angen iddyn nhw fod yn fwy nac addas i'r diben, oherwydd mae ein plant a chenedlaethau'r dyfodol yn haeddu'r gorau y gall y genhedlaeth hon ei gynnig iddynt. Felly, Gweinidog, beth yw'r heriau yn y blynyddoedd i ddod sy'n wynebu'r rhaglen arloesol hon sydd ond ar waith yng Nghymru? Beth yw'r rhwystrau a wynebwn ni wrth inni brysuro i gyflawni hynny fel bod pob cymuned yn Islwyn a ledled Cymru yn parhau i brofi'r gwerth hynod bwysig hwn yr ydym ni yn ei roi ar y gwaddol pwysicaf oll i genedlaethau'r dyfodol?

Wel, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i eisiau defnyddio pob adnodd sydd gennyf, neu fel arall ni fydd gennyf ddim i ateb yr Aelod yfory, oherwydd rwy'n gwybod fod ganddi gwestiwn am ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn Islwyn ar y papur gorchymyn brynhawn yfory. Dydw i ddim eisiau defnyddio fy holl linellau gorau heddiw, neu fel arall ni fydd gennyf ddim i'w ddweud wrth yr Aelod yfory, heblaw eich bod chi, Rhianon, yn llygad eich lle gan fod yr adeiladau'n fwy na dim ond cragen. Mae'n neges i blant y cymunedau hynny ac addysgwyr y cymunedau hynny bod yr hyn y maen nhw yn ei wneud yn bwysig. Mae'n arwydd o'r gwerth a roddwn ni arnyn nhw a'u gwaith.

Yr hyn sydd wedi fy nharo pan rwyf wedi cael y cyfle i deithio o amgylch Cymru i ymweld â'r adeiladau hyn yw pa mor aml, yn enwedig yn rhai o'n cymunedau mwy difreintiedig, y mae'r plant yn ei chael hi'n anodd credu bod yr adeilad ar eu cyfer nhw mewn gwirionedd. Rwy'n credu y bydd y Dirprwy Lywydd yn cytuno â mi; pan ymwelais â'i hysgol uwchradd newydd sbon, yr ymateb llethol gan y plant pan welson ni hi oedd, 'Ai i ni y mae hyn mewn gwirionedd? A yw hi go iawn wedi'i adeiladu ar ein cyfer ni?' Ni allen nhw gredu'n iawn—llawer ohonyn nhw yn byw bywydau gwirioneddol anodd—eu bod yn cael eu hystyried mor bwysig fel bod eu hawdurdod lleol a'u Llywodraeth wedi adeiladu'r adeilad hwnnw ar eu cyfer. Ac os nad oes dim byd arall yn rhai o'n cymunedau caletaf, rwy'n gobeithio y bydd yr adeiladau hyn yn dangos ymrwymiad yn ein cenhadaeth genedlaethol, waeth o ble rydych chi'n dod neu beth bynnag yw eich cefndir, rydym ni eisiau i chi gyflawni eich potensial. Ac mae adeiladu'r ysgolion yr ydych chi newydd gyfeirio atyn nhw yn neges i'r plant yn eich etholaeth bod eu dyfodol yn bwysig i ni, oherwydd pan fyddwn yn gwneud pethau'n iawn iddyn nhw, byddwn yn gwneud pethau'n iawn i'r genedl gyfan.

Fel y dywedais wrth Suzy Davies, weithiau'r rhwystrau sy'n ein hwynebu yw ystyriaethau cynllunio hirfaith a materion yn ymwneud â'r safleoedd adeiladu, ond yr hyn sy'n rhyfeddol i mi yw nad yw pandemig byd-eang hyd yn oed wedi gallu arafu'r rhaglen hon. Rwy'n rhagweld, gyda'r berthynas waith gref sy'n bodoli rhyngom ni a'n partneriaid mewn awdurdodau lleol, a'n cyd-Aelodau yn y sector addysg bellach, y gallwn ni barhau i ddarparu mwy o'r adeiladau gwych hynny, fel y gall mwy o blant weld bod eu dyfodol yn wirioneddol bwysig.

16:35
7. Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021

Awn ymlaen i eitem 7, sef Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021. Galwaf ar y Gweinidog Addysg i wneud y cynnig hwnnw—Kirsty Williams.

Cynnig NDM7643 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021. Mae'r Gorchymyn yn mynd i'r afael ag argymhelliad 21 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei adroddiad ar yr ymchwiliad i ddysgu ac addysg broffesiynol athrawon, sef 

y dylid ymestyn cylch gwaith Cyngor y Gweithlu Addysg i roi iddo'r grym i atal athrawon mewn amgylchiadau priodol.

Fodd bynnag, mae'n bwysig imi dynnu sylw at y ffaith bod y Gorchymyn yn mynd ymhellach gan y bydd yn galluogi'r cyngor i atal pob categori o bersonau cofrestredig, nid athrawon ysgol yn unig. Defnyddir gorchmynion atal dros dro yn gyffredin gan reoleiddwyr proffesiynol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig fel modd i atal dros dro gofrestriad person wrth ymchwilio i bryder difrifol, neu hyd nes y ceir canlyniad achos troseddol sy'n ymwneud â thaliadau difrifol. Ni fydd gorchymyn atal dros dro yn orchymyn disgyblu, ond yn hytrach yn fesur dros dro i'w weithredu wrth aros am ymchwiliad a gwrandawiad disgyblu.

Gall rhywun apelio yn erbyn cyflwyno gorchymyn atal dros dro, a bydd y gorchymyn hwnnw wedyn yn destun adolygiad rheolaidd. Y cyfnod hwyaf y gall gorchymyn atal dros dro fod yn berthnasol iddo, heb gais i'r Uchel Lys am estyniad, yw 18 mis. Ni fyddai'r penderfyniad i gyflwyno gorchymyn atal dros dro yn golygu penderfynu'n derfynol ar ffeithiau sy'n ymwneud â'r honiadau yn yr achos. Prif ddiben cyflwyno gorchymyn atal dros dro yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn a'u diogelu, gan y byddai'n sicrhau na fyddai unigolyn sydd â honiad difrifol iawn yn ei erbyn yn parhau i fod â statws person cofrestredig tra bo'r prosesau ymchwilio a disgyblu yn cael eu cynnal.

Mae'r Llywodraeth yn credu bod y Gorchymyn yn darparu amddiffyniad diogelu ychwanegol sylweddol i blant a phobl ifanc, ac felly gofynnaf i Aelodau'r Senedd gymeradwyo'r Gorchymyn sydd ger ein bron heddiw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore ddoe, ac nid yw ein hadroddiad ond yn cynnwys un pwynt rhinwedd, y byddaf yn ei grynhoi'n fyr i'r Aelodau y prynhawn yma. Mae erthygl 12 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chais am adolygiad o orchymyn atal dros dro gan y sawl y mae'n ymwneud ag ef. Mae paragraffau 1 a 2 o Erthygl 12 yn nodi'r broses a'r cyfnodau amser y mae'n rhaid i gamau penodol ddigwydd ynddynt, fel yr amlinellwyd gan y Gweinidog. Pan fo'n rhaid i Gyngor y Gweithlu Addysg gynnull gwrandawiad, mae effaith paragraffau 1 a 2 yn golygu mai ychydig iawn o amser a allai ei gael i wneud hynny. Yn ein hadroddiad, rydym ni wedi darparu enghraifft i ddangos ein pwynt y gallai fod llai na diwrnod rhwng person yn cyflwyno cais i'r cyngor yn gofyn iddo adolygu gorchymyn atal dros dro, ac yna'r cyngor wedyn yn gorfod cynnull gwrandawiad i ystyried yr achos. Yn ei hymateb i'n hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr amseroedd fel y'u nodir yn ein henghraifft. Mae ymateb y Llywodraeth hefyd yn cynghori bod y Gorchymyn wedi'i ddrafftio yn dilyn sylwadau gan randdeiliaid, gan gynnwys y cyngor, na fynegodd unrhyw bryder ynglŷn â'r amserlenni a gyflwynwyd. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Nid oes gennyf Aelodau sy'n dymuno siarad ac nid oes gennyf neb sydd wedi dweud yr hoffen nhw ymyrryd. Felly, galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl honno.

A gaf i ddiolch i Mick Antoniw a'i bwyllgor am ystyried y Gorchymyn? Rwy'n atgyfnerthu'n llwyr y sylw bod Cyngor y Gweithlu Addysg nid yn unig yn credu nad oedd unrhyw broblemau gyda'r materion amseru a amlygwyd gan Mick Antoniw, ond bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn croesawu'r pwerau gorchymyn atal hyn yn fawr. Mae wedi bod yn gofyn amdanyn nhw am gryn dipyn, ac rwyf wrth fy modd, hyd yn oed wrth i ni ddod at ddiwedd tymor y Senedd hon, ein bod wedi gallu ymateb yn gadarnhaol i gais Cyngor y Gweithlu Addysg ond hefyd i'r pwyllgor plant a phobl ifanc. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

16:40

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld gwrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021

Eitem 8 ar ein hagenda yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM7648 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig. Fel y bydd yr Aelodau yn cofio efallai, fe wnaethom ni reoliadau brys y llynedd i ganiatáu i gyrff llywodraeth leol gyfarfod o bell a chyhoeddi dogfennau cyfarfodydd yn electronig. Ni fyddai'r cyrff hyn fel arall wedi gallu cyfarfod yn gyfreithlon nac yn ddiogel, na pharhau â'u busnes yn ystod y pandemig.

Fe'u croesawyd yn gynnes gan randdeiliaid ac mae'r rheoliadau hyn hefyd wedi galluogi cyrff i weithio'n fwy hyblyg ac effeithlon, ac mae prosesau gwneud penderfyniadau wedi bod ar gael i gynulleidfa ehangach o lawer. Mae rhai cyrff mewn gwirionedd wedi adrodd am fwy o bresenoldeb mewn cyfarfodydd. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau brys hyn wedi eu cyfyngu o ran amser a dim ond yn berthnasol ar gyfer cyfarfodydd hyd at ddiwedd mis Ebrill. Fe wnaeth diwygiadau'r Llywodraeth i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ddarpariaeth barhaol sy'n galluogi cyfarfodydd awdurdodau lleol i gael eu cynnal yn gyfan gwbl o bell a darparu ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau o gyfarfodydd a dogfennau cyfarfodydd eraill yn electronig. Rwy'n bwriadu dod â'r darpariaethau hyn i rym ar 1 Mai. Bydd cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn cael eglurder ynghylch sut y byddan nhw'n cynnal eu cyfarfodydd ac yn gweithredu eu busnes pan fydd y rheoliadau argyfwng yn peidio â bod yn effeithiol, a byddai hyn hefyd yn dod â gweithdrefnau cyfarfod i'r unfed ganrif ar hugain. Bydd y rheoliadau sydd ger eich bron heddiw yn sicrhau bod y diwygiadau canlyniadol angenrheidiol yn cael eu gwneud fel bod y ddeddfwriaeth gysylltiedig bresennol yn adlewyrchu'n gywir y newidiadau deddfwriaethol sy'n deillio o'r diwygiadau hyn.

Mae'r rheoliadau hefyd yn mynd i'r afael ag anghysondeb o'r rheoliadau brys. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i unrhyw ddogfennau a gyhoeddir yn electronig o dan y rheoliadau hynny, sy'n ymwneud â chyfarfod a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a 30 Ebrill 2021, neu i benderfyniad gweithredol a wnaed yn ystod y cyfnod hwnnw, fod ar gael yn electronig am gyfnod amhenodol. Bydd y rheoliadau hyn yn cyfyngu ar y gofyniad hwn i chwe blynedd o ddyddiad y cyfarfod neu'r penderfyniad, sy'n gyson â'r cyfnodau cadw y darperir ar eu cyfer yn y darpariaethau parhaol a nodir yn Neddf 2021. Bydd hyn yn sicrhau dull cymesur sy'n cydbwyso hygyrchedd y cyhoedd â beichiau gweinyddol ar awdurdodau.

Dylwn hefyd hysbysu'r Aelodau bod dau fân newid technegol i ddrafftio'r rheoliadau ers iddyn nhw gael eu gosod ar ffurf drafft, sef mân gywiriad i droednodyn a mewnosod y flwyddyn mewn enw deddfiad. Diolch. 

Diolch, Dirprwy Lywydd, unwaith eto. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod bore ddoe, unwaith eto, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys un pwynt technegol ac un pwynt rhinweddau.

Mae'r pwynt adrodd technegol yn nodi bod rheoliadau 10 ac 11 yn ei gwneud hi'n ofynnol i hysbysiadau neu ddogfennau a gyhoeddwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a 30 Ebrill 2021 barhau i fod ar gael yn electronig am gyfnod o chwe blynedd, fel yr amlinellodd y Gweinidog. Ni fydd y rheoliadau yn dod i rym tan 1 Mai 2021. Fe wnaeth ein pwynt adrodd ymchwilio i ba un a yw rheoliadau 10 ac 11 yn ôl-weithredol yn newid y gyfraith sy'n ymwneud â dogfennau a gyhoeddwyd cyn i'r rheoliadau ddod i rym. Nid yw'r darpariaethau galluogi ar gyfer y rheoliadau hyn yn Neddf 2021 a Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu awdurdod datganedig i'r rheoliadau fod ag effaith ôl-weithredol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad yn cadarnhau nad oes gan rheoliadau 10 ac 11 yr effaith gyfreithiol ôl-weithredol honno. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym mai darpariaeth ôl-weithredol, yn ei barn hi, yw unrhyw ddarpariaeth sy'n newid y gyfraith berthnasol fel ei bod yn dod i rym o adeg cyn i'r ddarpariaeth honno ddod i rym. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod rheoliad 10 yn newid y gyfraith o ran digwyddiadau sy'n digwydd ar neu ar ôl y diwrnod y mae'r gyfraith mewn grym. O ran rheoliad 11, nid yw Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn newid y gyfraith fel ei bod ag effaith o adeg cyn i'r ddarpariaeth honno ddod i rym.

Mae'r pwynt adrodd ar rinweddau ond yn nodi na chynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch y rheoliadau. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Unwaith eto, nid oes gennyf siaradwyr nac unrhyw un sy'n dymuno gwneud ymyriad. Felly, y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth y bore yma a'u hystyriaeth gyflym o ymateb y Llywodraeth. Galwaf ar yr Aelodau i gymeradwyo'r rheoliadau.

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae gwrthwynebiad. Byddwn yn gohirio pleidleisio ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod gwrthwynebiad, caiff y 10 cynnig o dan eitemau 9 i 18 eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig hwn.

9., 10., 11., 12., 13., 14., 15., 16., 17. & 18. Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) 2021, Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021, Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021, Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021

Cynnig NDM7633 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynnig NDM7632 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynnig NDM7638 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynnig NDM7629 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynnig NDM7631 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynnig NDM7630 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynnig NDM7637 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynnig NDM7634 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynnig NDM7635 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynnig NDM7636 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

16:45

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynigion. Mae Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a basiwyd gan y Senedd y llynedd, yn darparu ar gyfer sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig drwy reoliadau. Bydd cyd-bwyllgorau corfforedig, neu CJCs fel y'u gelwir, yn arf pwysig i lywodraeth leol ei ddefnyddio i gefnogi cydweithredu, gweddnewid, a chynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus yn y tymor hwy. Maen nhw hefyd yn gyfle i gefnogi ad-drefnu nifer o drefniadau gweithio rhanbarthol presennol ac arfaethedig. Bydd cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff corfforedig, wedi eu ffurfio o'r prif gynghorau cyfansoddol, wedi eu galluogi i gyflogi staff yn uniongyrchol, dal asedau a rheoli cyllid.

Drwy'r pecyn o reoliadau yr ydym ni'n eu trafod heddiw, rwy'n ceisio rhoi'r ddarpariaeth statudol angenrheidiol ar waith i sefydlu pedwar cyd-bwyllgor corfforedig yng Nghymru, un yr un ar gyfer y canolbarth, y gogledd, y de-ddwyrain a'r de-orllewin. Gwneir hyn yn unol â'r dewis a fynegwyd gan lywodraeth leol i gyd-bwyllgorau corfforedig fod â'r un ôl troed daearyddol â'r ardaloedd bargen ddinesig a bargen twf presennol. Bydd y pedwar cyd-bwyllgor corfforedig yn cael eu sefydlu gan y pedair cyfres ganlynol o reoliadau: Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig Canolbarth Cymru 2021; Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig Gogledd Cymru 2021; Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig De-ddwyrain Cymru 2021; a Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig De-orllewin Cymru 2021. Yn ogystal â darparu ar gyfer sefydlu pob un o'r pedwar cyd-bwyllgor corfforedig arfaethedig, mae'r rheoliadau sefydlu hyn hefyd yn cynnwys y trefniadau cyfansoddiadol craidd a'r manylion allweddol, megis aelodaeth, staffio a chyllidebau. Mae'r rheoliadau sefydlu hefyd yn darparu ar gyfer y swyddogaethau a fydd yn cael eu harfer gan bob cyd-bwyllgor corfforedig: cynllunio datblygu strategol; cynllunio trafnidiaeth ranbarthol; a'r pŵer i wneud pethau i hybu neu wella lles economaidd eu hardaloedd.

Mae'r rheoliadau sefydlu wedi eu llywio gan yr ymatebion i'r ymgynghoriad a lansiwyd gennyf i ar 12 Hydref 2020 a'r gweithgarwch ymgysylltu yr wyf i a'm swyddogion wedi ei gynnal gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid allweddol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i arweinyddion yr awdurdodau lleol a'u swyddogion am eu hymagwedd adeiladol tuag at gyd-ddatblygu y rheoliadau hyn.

Ochr yn ochr â'r rheoliadau sefydlu, mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 a'r memorandwm esboniadol cysylltiedig hefyd wedi eu gosod. Mae'r rheoliadau yn gwneud yr addasiadau angenrheidiol i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i'w gwneud yn ofynnol i'r cyd-bwyllgorau corfforedig ddatblygu polisïau trafnidiaeth a sefydlu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer eu hardaloedd. Mae pum offeryn statudol arall hefyd wedi eu gosod ochr yn ochr â'r rheoliadau sefydlu i sicrhau, o'r pwynt y cânt eu sefydlu, bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i safonau ymddygiad priodol, a'u bod yn dod o dan gylch gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; yn ddarostyngedig i ddyletswyddau cyfrifyddu a rheoli ariannol priodol ac yn dod o fewn cylch gwaith Archwilydd Cyffredinol Cymru; yn ddarostyngedig i ddyletswydd cydraddoldeb y gwasanaethau cyhoeddus; a byddan nhw'n ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg. Mae hyn yn sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig a'u haelodau yn destun goruchwyliaeth a gofynion rheoli ac ymddygiad priodol o'r dechrau.

Fy mwriad i yw y bydd yr offerynnau statudol yr ydym ni'n eu trafod yma heddiw yn dod i rym o 1 Ebrill eleni. Mewn cytundeb â phob un o'r rhanbarthau, bydd y swyddogaeth cynllunio datblygu strategol, y swyddogaeth cynllunio trafnidiaeth ranbarthol, a'r swyddogaeth llesiant economaidd wedyn yn dechrau yn 2022. Bydd hyn yn rhoi'r amser y mae llywodraeth leol wedi gofyn amdano i roi'r trefniadau llywodraethu a gweinyddu angenrheidiol ar waith. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw. Diolch.

Diolch Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau technegol iawn hyn, sydd wedi eu grwpio i'w trafod y prynhawn yma, yn ein cyfarfod ar 8 Mawrth. Bydd fy sylwadau y prynhawn yma yn canolbwyntio ar Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021, a Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021. Nid ydym wedi gwneud unrhyw sylwadau ynglŷn â'r rheoliadau eraill sy'n cael eu hystyried yn y grŵp hwn, ac rydym wedi gosod adroddiadau clir yn gysylltiedig â'r rheoliadau hynny. Mae ein hadroddiad ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 yn cynnwys dau bwynt adrodd technegol ac un pwynt rhinwedd.

Nododd ein pwynt technegol cyntaf y dylai pennawd pwnc y rheoliadau gynnwys 'llywodraeth leol', i nodi'r maes cyfreithiol y mae'r offeryn yn ymwneud ag ef. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'n barn ac, yn ei hymateb i'n hadroddiad, mae wedi nodi, pe byddai'r rheoliadau'n cael eu cymeradwyo y prynhawn yma, y bydd y pennawd pwnc ychwanegol yn cael ei gynnwys yn y fersiwn sydd i'w llofnodi gan y Gweinidog.

Mae ein hail bwynt technegol yn ymwneud â'r hyn yr oeddem yn ei ystyried yn gamgymeriad yn y pwerau a nodwyd yn y rhagymadrodd i'r rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno â'n hasesiad ni ar hyn, ac mae ei hymateb i'n hadroddiad yn nodi'r rhesymeg dros y pwerau a nodwyd.

Mae'r un pwynt adrodd ar rinweddau sydd gennym yn amlygu'r hyn yr ydym yn ei ystyried yn gyfeiriad amherthnasol yn y memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â'n hasesiad, a nodaf fod y memorandwm esboniadol wedi ei ddiweddaru i ddisodli'r cyfeiriad gwallus.

Gan symud ymlaen at ein hadroddiad ar Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021, dim ond un pwynt rhinwedd y mae ein hadroddiad yn ei gynnwys, sydd unwaith eto yn ymwneud â phennawd pwnc y rheoliadau. Mae pennawd pwnc y rheoliadau a ddrafftiwyd ar hyn o bryd yn cyfeirio at 'lywodraeth leol, Cymru'. Fodd bynnag, prif bwyslais y rheoliadau yw trosglwyddo swyddogaethau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth leol i'r cyd-bwyllgorau corfforedig perthnasol sydd newydd eu ffurfio. O'r herwydd, nid yw'n glir pam nad yw'r pennawd pwnc yn cynnwys 'trafnidiaeth' hefyd. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'n barn ni ac wedi nodi, pe byddai'r rheoliadau'n cael eu cymeradwyo y prynhawn yma, y bydd y pennawd pwnc ychwanegol yn cael ei gynnwys yn y fersiwn sydd i'w llofnodi gan y Gweinidog. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:50

Ni all y Ceidwadwyr Cymreig ymrwymo 100 y cant i'r rheoliadau hyn o hyd. O dan y rheoliadau, bydd cynghorau'n cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn cyd-bwyllgorau corfforedig newydd, cyrff cyhoeddus a fydd yn gwneud penderfyniadau rhanbarthol ar bopeth—addysg, trafnidiaeth, defnydd tir a lles economaidd. Diben y rheoliadau hyn yw gwella cydweithredu a gweithio rhanbarthol rhwng cynghorau ac, yn y bôn, tacluso'r strwythurau cydweithredol. Bydd cyd-bwyllgorau corfforedig yn cynnwys aelodau etholedig yn eu prif gynghorau cyfansoddol, yn ogystal ag aelodau cyfetholedig a fydd yn gallu cyflogi staff a dal asedau a chyllid. Byddai'r rheoliadau hyn yn trosglwyddo nifer o swyddogaethau i'r cyd-bwyllgorau corfforedig hyn, megis y swyddogaeth llesiant economaidd, trafnidiaeth a'r swyddogaeth cynllunio strategol.

Yn ystod Cyfnod 1 y trafodion ar Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, codwyd nifer o bryderon ynghylch cyd-bwyllgorau corfforedig. Cododd Cartrefi Cymunedol Cymru bryderon am ddarpariaeth gyfyngedig trefniadau atebolrwydd cyd-bwyllgorau corfforedig, sy'n groes i ymrwymiad y Bil i wella mynediad a chyfranogiad mewn penderfyniadau lleol. Yn y cyfamser, dadleuodd Un Llais Cymru y bydd gwasanaethau yn dod yn fwy rhanbarthol ac ymhellach ac yn fwy anghysbell oddi wrth etholwyr lleol.

Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er ei bod yn gefnogol i gyd-bwyllgorau corfforedig gwirfoddol, yn pryderu am yr effaith y byddai cyd-bwyllgorau corfforedig a orfodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei chael ar gynghorau, gan fwriadu bod ganddi bryderon sylfaenol ynghylch yr egwyddor o orfodi, yr ystyrir ei bod yn tanseilio democratiaeth leol.

Er ein bod yn cydnabod bwriadau'r cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyffredinol, mae'n rhaid iddyn nhw beidio ag arwain at gydweithredu dim ond er mwyn cydweithredu. Mae'n rhaid i ni fod yn siŵr y bydd unrhyw gyd-bwyllgorau corfforedig yn gwella cydweithredu yn hytrach na dim ond dyblygu yr hyn sy'n bodoli eisoes. Fodd bynnag, rydym ni'n pryderu bod cyd-bwyllgorau corfforedig gorfodol yn tanseilio'r datganoli mewnol a'r gwaith partneriaeth lleol sydd eisoes wedi'i sefydlu ac y bydd yn arwain at uno cynghorau drws cefn ym mhopeth ond enw. Rydym o'r farn bod trefniadau gweithio cydweithredol yn gweithio orau pan eu bod nhw'n organig, pan fo pob aelod cyfansoddol yn mynd ati i geisio cydweithio i wella'r gwasanaethau a ddarperir yn rhanbarthol er budd cymdeithasol ac economaidd i'r trigolion, a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barchu ymreolaeth cynghorau lleol. Yn syml: mae angen i ni weithio gydag awdurdodau lleol, nid gorfodi pethau arnyn nhw. O'r herwydd, rydym ni wedi cyflwyno cyfres o welliannau yn ystod hynt y Ddeddf llywodraeth leol, i gydnabod y pryder a oedd gan randdeiliaid ynghylch creu cyd-bwyllgorau corfforedig. Fodd bynnag, roeddem yn siomedig iawn bod y Gweinidog wedi penderfynu gwrthod ein holl welliannau, a oedd yn adeiladol eu natur ac a oedd â'r bwriad o ymateb i bryderon rhanddeiliaid, ac yn enwedig cynrychiolwyr llywodraeth leol.

Cafodd y dadleuon a ddefnyddiwyd gan y Gweinidog eu gwrth-ddweud yn uniongyrchol hefyd gan y sylwadau a wnaed gan randdeiliaid y buom yn gweithio gyda nhw drwy gydol y broses ddiwygio. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod ideoleg uwchlaw barn arbenigol rhanddeiliaid. Mae pryderon wedi parhau i gael eu codi gan randdeiliaid amrywiol am gyd-bwyllgorau corfforedig, ac mae'n ymddangos bod y rheoliadau hyn yn anwybyddu pryderon dilys llawer o fewn y sector llywodraeth leol a thu hwnt. Ar adeg pan fo pobl yn dymuno i benderfyniadau fod yn agosach at bleidleiswyr a chan gynrychiolwyr sy'n uniongyrchol atebol, bydd hyn yn creu cyrff sy'n rhoi pŵer yn nwylo unigolion na chafodd eu hethol ac ymhellach i ffwrdd oddi wrth gymunedau. Dyna pam y byddwn yn gwrthwynebu y rhan fwyaf o'r rheoliadau hyn.

Bydd Plaid Cymru'n pleidleisio yn erbyn y prif reoliadau i sefydlu'r cydbwyllgorau corfforedig heddiw. Byddwn ni'n galw ar bob Aelod i wneud yr un peth. Mae Plaid Cymru yn credu y dylai llywodraethiant Cymru i'r dyfodol barhau i gynnwys haenau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn cytuno bod angen y strwythurau cywir mewn lle i gefnogi gwneud penderfyniadau effeithiol ar y lefel iawn a chyda atebolrwydd democrataidd clir i'r bobl y mae'r strwythurau yn eu gwasanaethu.

Mae angen i unrhyw newid ddigwydd fel rhan o weledigaeth glir ar gyfer llywodraethiant Cymru yn ei chyfanrwydd er mwyn cyflawni egwyddorion penodol, ac yn anffodus, dwi ddim yn meddwl bod hwnna yn wir fan hyn—egwyddorion fel trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, codi'r genedl, cysylltu holl gymunedau Cymru, sicrhau y budd mwyaf o arian trethdalwyr ac osgoi dyblygu strwythurau. Yn anffodus, dim cynllun ar gyfer y tymor hir sydd yma ond ymgais annerbyniol, buaswn i'n dweud, i ruthro newid pellgyrhaeddol drwy'r Senedd gydag wythnos i fynd o'n mandad fel Aelodau etholedig yng nghanol pandemig, heb unrhyw weledigaeth nac egwyddorion clir o unrhyw werth yn sail i'r newidiadau yma.

Yn amlwg, oherwydd COVID, mae'r holl broses wedi digwydd yn frysiog. Daeth y ddeddfwriaeth gynradd sy'n galluogi cyflwyno'r cydbwyllgorau corfforedig i rym ym mis Ionawr tra roedd mwyafrif y cyrff sy'n cyflawni'r gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn cael eu heffeithio gan hyn yn brwydro ton waethaf eto y pandemig. Mae'r ymgynghori annigonol, buaswn i'n dweud, sydd wedi digwydd, wedi ennyn ymateb chwyrn gan awdurdodau lleol, a hefyd cymdeithas sifig, fel sydd wedi cael ei osod mas, i gyd yn poeni am effaith y newidiadau annemocrataidd.

Mae disgwyl i'r rheoliadau ddod i rym—os ydyn nhw'n cael eu pasio heddiw gan y Senedd—ar 1 Ebrill pan na fydd y Senedd yma'n eistedd rhagor. Pwrpas etholiadau yw gadael i bobl benderfynu, felly, yn amlwg, buaswn i'n dweud mai'r peth priodol i'w wneud byddai gadael i'r pleidiau i roi eu gweledigaeth ar gyfer llywodraethiant Cymru o flaen pobl Cymru fel y gall y bobl benderfynu os ydyn nhw'n cytuno. Mae cydweithio rhanbarthol gwirfoddol, wrth gwrs, yn rhywbeth really pwysig, ac mae'n digwydd ers nifer o flynyddoedd yng Nghymru, i wahanol raddau o lwyddiant, ond mae'r newid sy'n cael ei gynnig yma yn syfrdanol, fel rydyn ni wedi clywed eto. Mae'n bellgyrhaeddol; mae'n creu endidau newydd fydd yn gallu cyflogi staff, fel mae Laura Jones wedi'i osod mas, gan gynnwys prif weithredwyr, uwch staff, caffael, adeiladau, adnoddau, a byddai'n golygu newid mawr yn nhirlun llywodraethiant Cymru.

Ond nid yn unig ar sail diffygion y broses ac absenoldeb gweledigaeth i'r peth y byddwn ni'n gwrthwynebu, ond ar sail y sylwedd hefyd, oherwydd mae'n gynllun sydd yn amlwg fydd yn gostus iawn. Buaswn i'n dweud byddai fe'n wastraff o'r arian yna, yn ogystal â'r problemau o ran diffyg democratiaeth. Yn y gogledd, er enghraifft, mae'r Gweinidog wedi cadarnhau bydd yna ddau strwythur rhanbarthol cyfochrog ar gyfer cyfrifoldebau datblygu economaidd y bwrdd uchelgais sydd yn endid ar staff a chynllun strategol, ac sydd wedi'i sefydlu gan y city deals Prydeinig a'r cydbwyllgor corfforedig. Dwi jest ddim yn gweld sut byddai hwnna yn gallu gwneud synnwyr.

Mae'r pandemig wedi dangos na allwn ni roi ein ffydd mewn grymoedd pell i ffwrdd—a dwi'n gwybod bod y pwynt yma wedi cael ei wneud yn barod, ac mae hyn wedi ennyn teimladau cryf iawn, dwi'n meddwl. Oherwydd gwrthwynebiadau pobl leol o ran y trosglwyddo pwerau sydd yn mynd i ddigwydd, buaswn i'n dweud ei bod hi'n bwysicach i ni beidio â dilyn map San Steffan, sydd yn parhau i'n gwneud ni'n ddibynnol ar friwsion oddi ar fwrdd rhywun arall, yn hytrach na chysylltu cymunedau a gwireddu potensial ein gwlad ni'n hunain. 

Buaswn i'n cau, Dirprwy Lywydd, drwy ddweud fy mod i'n obeithiol y bydd y rheoliadau yma'n dod i ben mor gyflym â'u bod nhw wedi dod i rym, gan y bydd Llywodraeth Cymru yn eu disodli ar unwaith ac yn edrych i godi'r genedl yng nghysgod y pandemig, nid ei rannu ymhellach.

16:55

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sydd wedi nodi eu bod yn dymuno ymyrryd, felly galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Julie James.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd ac aelodau'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder am y pwyntiau y maen nhw wedi'u gwneud, ac mae'r Cadeirydd yn llygad ei le wrth grynhoi ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwyntiau hynny—nid oes gennyf ddim byd pellach i'w ychwanegu at y ddau hynny.

Mae Laura a Delyth, mae arnaf i ofn, wedi ceisio ail-gynnal y sgwrs a ddigwyddodd yn y Senedd cyn pasio'r Ddeddf yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3. Nid y rhain, wrth gwrs, yw'r egwyddorion sylfaenol yr ydym yn sôn amdanyn nhw heddiw, dyma'r rheoliadau sy'n galluogi'r Ddeddf, a basiwyd yn ddemocrataidd gan y Senedd, fel y dywedodd y ddwy ohonyn nhw yn gywir, yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Felly, nid yw ail-gynnal y drafodaeth ar y materion sylfaenol sy'n ymwneud â'r Ddeddf, a gafodd eu hailadrodd yn helaeth yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3, mewn gwirionedd yn mynd i'r afael ag unrhyw un o faterion y rheoliadau sydd ger ein bron heddiw.

Felly, nid wyf i'n bwriadu mynd yn ôl drwy'r holl ddadleuon a gawsom o flaen y Senedd pan basiwyd y Ddeddf honno mewn modd democrataidd, Dirprwy Lywydd. Fe ddywedaf i hyn, serch hynny: rydym ni wedi gwneud hyn mewn cydweithrediad llwyr â llywodraeth leol yr holl ffordd drwodd. Rwyf fi fy hun wedi buddsoddi llawer iawn o amser ac egni yn siarad yn uniongyrchol ag arweinyddion bob wythnos, weithiau bob dydd, drwy'r pandemig. Rydym ni wedi ymgynghori'n eang ynglŷn â hyn, ac mae swyddogion ym mhob rhan o lywodraeth leol wedi ein cynorthwyo i roi'r rheoliadau hyn a'r canllawiau sy'n mynd gyda nhw ar waith. Gwnaed hyn drwy gyd-ddatblygu drwy gydol y daith gyda phobl sy'n deall yn llwyr sut mae llywodraeth leol yn gweithio, gwerthfawrogi ei lle yn ein teulu o atebolrwydd democrataidd ac sy'n awyddus iawn i lywodraeth leol allu cymryd ei lle ar lwyfan priodol.

Felly, gwrthodaf yn llwyr, o'r ddwy ochr, mewn gwirionedd—ac mae'n ddiddorol bod eu hymosodiadau o ochrau hollol wahanol—gwrthodaf hynny'n llwyr. Yr hyn y mae hyn yn ei wneud yw grymuso llywodraeth leol, mae'n rhoi arf pwysig ar gyfer cydweithredu. Bydd yn cefnogi adferiad strategol ac yn gweddnewid y modd y darperir gwasanaethau yng Nghymru. Mae'n rhoi offeryn i lywodraeth leol na fu ganddyn nhw erioed o'r blaen yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y byddan nhw yn ei ddefnyddio'n ddoeth, oherwydd rwy'n credu mewn democratiaeth leol ac mewn llywodraeth leol, ac mae'r Ddeddf hon yn dangos bod hynny'n wir. Diolch, Dirprwy Lywydd.

17:00

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 9. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf yn gweld gwrthwynebiad. Felly, byddwn yn pleidleisio arno yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 10. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf bod gwrthwynebiad i eitem 10. Felly, byddwn yn pleidleisio yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 11. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad yn y fan yna, felly rydym yn gohirio'r pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 12. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ac mae gwrthwynebiad. Felly, unwaith eto, rydym yn gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 13. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae gwrthwynebiad. Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 14. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae gwrthwynebiad. Felly, byddwn yn pleidleisio, unwaith eto, yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 15. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad ar 15. Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 16. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad ar eitem 16. Felly, rydym ni, unwaith eto, yn gohirio'r pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 17. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad. Felly, byddwn yn pleidleisio ar eitem 17 yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 18. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf yn gweld bod gwrthwynebiad. Felly, cytunwn i ohirio'r pleidleisio ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

19. Gorchymyn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Estyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Eitem 19 ar ein hagenda yw Gorchymyn Asesu Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Ymestyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig y cynnig. Jane Hutt.

Cynnig NDM7642 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Estyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mae hefyd wedi eu hatal rhag bwrw ymlaen â rhywfaint o waith lle mae hyn yn gofyn am gyswllt wyneb yn wyneb â chymunedau. O dan adran 101 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae dyletswydd ar awdurdodau tai lleol i gwblhau asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, neu GTAA fel y'i gelwir. Ar gyfer y rhan fwyaf o awdurdodau, roedd yr asesiad hwn i fod i gael ei wneud ar 25 Chwefror 2021. Mae cyfyngiadau COVID wedi golygu nad yw awdurdodau tai lleol wedi gallu ymgymryd â gwaith ymgysylltu yn effeithiol, ac mae eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn dibynnu ar hynny. Mae'r Gorchymyn sy'n cael ei drafod heddiw yn rhoi 12 mis ychwanegol i awdurdodau tai lleol gwblhau eu hasesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr.

Bydd y Gorchymyn drafft yn diwygio Deddf Tai (Cymru) 2014 i ymestyn y cyfnod adolygu presennol o bum mlynedd i chwe blynedd. Ar ôl hynny, bydd cyfnod yr adolygiad yn dychwelyd i gylch pum mlynedd. Bydd y cyfnod ymestyn yn caniatáu i awdurdodau tai lleol gynnal asesiad priodol o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy'n byw yn eu hardal, ac i wneud hynny mewn ffordd sydd fwyaf tebygol o arwain at ymgysylltu cryf â chymunedau. A'm gobaith i yw y byddwn, wrth ddarparu'r estyniad, yn caniatáu amser i awdurdodau lleol gynnal yr asesiad mwyaf cadarn o angen posibl fel bod anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru yn cael eu nodi a'u diwallu yn llwyr. A bydd hyn, yn ei dro, yn gwella canlyniadau i Sipsiwn a Theithwyr a hefyd yn gweithredu i leihau gwersylloedd diawdurdod. Felly, rwy'n ddiolchgar i awdurdodau tai lleol, grŵp rhanddeiliaid arbenigol Llywodraeth Cymru, a rhai aelodau o'r gymuned am eu cyngor a'u cefnogaeth ynghylch yr estyniad arfaethedig hwn. 

17:05

Diolch unwaith eto, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y Gorchymyn yn ein cyfarfod ar 8 Mawrth. Dim ond dau bwynt rhinwedd oedd yn ein hadroddiad ac, o'r herwydd, bydd fy sylwadau yn y ddadl y prynhawn yma yn fyr. Mae ein pwynt rhinwedd cyntaf yn nodi na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y Gorchymyn. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at nifer o baragraffau yn y memorandwm esboniadol sy'n manylu ar y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd, gan gynnwys ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae ein hail bwynt rhinwedd yn nodi y bydd awdurdod tai lleol na wnaeth gynnal ei ail asesiad erbyn 24 Chwefror 2021 ar hyn o bryd wedi torri'r ddyletswydd yn adran 101 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac y bydd yn parhau i fod wedi torri'r ddyletswydd honno hyd nes y daw'r Gorchymyn i rym ar 18 Mawrth 2021. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Rwy'n credu ei bod yn synhwyrol i roi'r 12 mis ychwanegol i alluogi awdurdodau lleol i drafod gyda Sipsiwn a Theithwyr, oherwydd mae'n anodd iawn cael unrhyw ymgynghori ystyrlon tra ein bod o dan y cyfyngiadau presennol, yn enwedig gan nad oes gan lawer ohonyn nhw unrhyw ddyfeisiau rhyngrwyd a fyddai'n galluogi cyfarfodydd Zoom ac ati. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio na fydd awdurdodau lleol yn ystyried hyn yn esgus i ohirio'r mater hwn, oherwydd rwy'n credu—. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn bod y Gweinidog wedi ysgrifennu ataf mewn ymateb i'r mater a godais ym mis Chwefror yn y Cyfarfod Llawn am y digwyddiad ar y safle yn Queensferry a'r defnydd o gwmnïau diogelwch i orfodi ymddygiad cymunedau yn gysylltiedig â'r rheoliadau coronafeirws, pan mai'r hyn yr oedd ei angen mewn gwirionedd oedd rheoli tai gweddus, a oedd yn amlwg yn absennol yn yr achos hwnnw.

Felly, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog pa un a oes unrhyw awdurdodau lleol nad ydyn nhw hyd yn hyn wedi darparu safle Sipsiwn a Theithwyr yn eu hawdurdod lleol, oherwydd dyma un o'r pethau a ymgorfforwyd yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015, heb sôn am unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, Dirprwy Weinidog, pa un a oes unrhyw awdurdodau lleol o'r fath sydd wedi methu yn eu dyletswydd i ddarparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, ac, os felly, beth fydd yn cael ei wneud ynglŷn â hynny?

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sydd wedi dweud eu bod yn dymuno gwneud ymyriad, felly galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'i bwyllgor am ystyried y Gorchymyn arfaethedig? Dim ond i ymateb i'r ddau bwynt y gwnaethoch chi dynnu sylw atyn nhw a oedd yn haeddu craffu, o ran eich pwynt cyntaf, ar ddiffyg ymgynghori ffurfiol ar y Gorchymyn, mae'n iawn i ddweud nad oes ymgynghoriad ysgrifenedig ffurfiol wedi ei gynnal. Er hynny, rydym wedi ymgysylltu yn eang gydag awdurdodau lleol a gyda chydweithwyr arbenigol eraill yn y trydydd sector ar y mater hwn. Mae cefnogaeth eang i'r Gorchymyn arfaethedig hwn, ac rydym yn ffyddiog bod yr hyblygrwydd sydd wedi ei gynnwys yn ein dull arfaethedig yn golygu y gallwn ni gefnogi awdurdodau lleol ar unrhyw adeg yn eu proses dyletswydd asesu llety. Ac, yn gysylltiedig â'r ail bwynt, bydd awdurdod tai lleol na wnaeth ail asesiad erbyn 24 Chwefror 2021, fel y dywedwch chi, yn torri'r ddyletswydd yn adran 101 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ar hyn o bryd a bydd yn parhau i fod wedi torri’r ddyletswydd hyd nes y daw'r Gorchymyn i rym. Ond mae awdurdodau tai lleol wedi derbyn hysbysiad ysgrifenedig o'r Gorchymyn arfaethedig i sicrhau ein bod ni'n cynnig cymaint o eglurder ag y gallwn ni o dan yr amgylchiadau presennol, a byddwn ni'n ysgrifennu eto ar ôl canlyniad y bleidlais heddiw.

Rwy'n ddiolchgar am bwyntiau a chwestiynau Jenny Rathbone y prynhawn yma wrth gynnig y cynnig hwn, oherwydd rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i weithio gydag awdurdodau tai lleol i sicrhau bod gan Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru y gallu i ddefnyddio darpariaeth safleoedd o ansawdd uchel sydd wedi eu teilwra i'w hanghenion ac sy'n briodol yn ddiwylliannol, ac yn wir mae hyn yn ymwneud â mynd i'r afael ag anghenion heb eu bodloni sy'n ymwneud, er enghraifft, â darpariaeth tramwy. Ac er mwyn rhoi sicrwydd i chi, ers i ni greu dyletswydd y Ddeddf tai yn 2014, rydym ni wedi gweld ymhell dros 200 o leiniau newydd naill ai wedi eu creu neu eu hadnewyddu—ac mae'n dda cofnodi hynny y prynhawn yma—ac mae hynny'n cymharu â dim ond llond llaw o leiniau newydd a grëwyd rhwng 1997 a 2014. Nid yw'r cynnydd hwnnw'n digwydd ym mhob rhan o Gymru, ac mae angen i hynny ddigwydd, ac rydym ni wedi darparu cyllid sylweddol i fynd i'r afael â'r angen. Felly, mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at y pedwar awdurdod lleol y mae eu cynnydd yn peri'r pryder mwyaf, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio drwy ffyrdd—yn amlwg, o ganlyniad i'r pandemig—y gallwn eu defnyddio i wneud y newid hwnnw drwy gydweithredu a gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi a diwallu'r anghenion hyn. Ond mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hyn, a byddwn i'n dweud, o ran camau gweithredu yn y dyfodol, efallai y bydd yn rhaid i ni gymryd cyngor ynghylch y potensial o ddefnyddio pwerau a amlinellir yn y Ddeddf Tai.

Ac yn olaf dim ond i ddweud bod y cyngor yr ydym ni wedi ei gyhoeddi i awdurdodau lleol yn glir, ac mae hyn yn ymwneud â safle Sipsiwn a Theithwyr Riverside yn Sir y Fflint. Mae'n amlwg bod yn rhaid i reoli digwyddiadau COVID-19 ar y safle hwn fod yn seiliedig ar gyfathrebu clir, meithrin ymddiriedaeth a chymryd amser i ofyn pa gymorth sydd ei angen ar breswylwyr. Nid yw defnyddio cwmnïau diogelwch i orfodi ymddygiad cymunedau yn dderbyniol, a gobeithio na fyddwn byth yn clywed am sefyllfa o'r fath eto. Mae'n rhaid i hyn ymwneud â sut yr ydym ni'n hybu rheolaeth a chysylltiadau da rhwng tenantiaid a landlordiaid, sy'n hanfodol er mwyn cyflawni cydymffurfiad iechyd y cyhoedd â rheoliadau COVID-19, ac rwy'n ddiolchgar i TGP Cymru, sydd wedi ymgysylltu â ni ac sydd hefyd yn meithrin yr ymddiriedaeth rhwng gwasanaethau cyhoeddus, Sipsiwn a Theithwyr a chymunedau lleol. Felly, rwyf yn cynnig y cynnig hwn. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

17:10

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, nid wyf i'n gweld unrhyw wrthwynebiad, felly, o dan Reol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

20. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021

Eitem 20 ar ein hagenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Julie James.

Cynnig NDM7641 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014, neu reoliadau 2014, yn ei gwneud yn bosibl i bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo allu gwneud cais am lety tai ac am gymorth tai. Rydym wedi gwneud y Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021 drafft i ychwanegu dosbarth arall o bersonau, y rhai hynny sydd â chaniatâd di-wladwriaeth i aros yn y DU, i gael cymhwystra i gael llety a chymorth tai. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn croesawu'r gwelliant i reoliadau 2014, gan y bydd yn sicrhau bod deddfwriaeth tai yng Nghymru yn gyson â'r ymrwymiadau y mae'r Deyrnas Unedig wedi eu gwneud drwy gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn 1954 sy'n ymwneud â statws personau di-wladwriaeth. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i lofnodwyr y confensiwn roi mynediad i bobl ddi-wladwriaeth at dai ar delerau nad ydynt yn llai ffafriol na'r rhai a roddir i estroniaid yn gyffredinol o dan yr un amgylchiadau—er enghraifft, pobl y caniatawyd lloches iddynt.

Gwnaed newidiadau tebyg yn ddiweddar ar draws gweddill y DU. Bydd y rheoliadau diwygiedig yn mynd i'r afael â'r sefyllfa hon o ran llety a chymorth tai ac yn dileu gwahaniaethu posibl. Nid wyf i'n disgwyl i'r gwelliannau arwain at gynnydd yn y galw am dai a chymorth tai; yng Nghymru, gallai fod ychydig iawn o alw, neu ddim o gwbl, am wasanaethau cyhoeddus, oherwydd natur anghyffredin y cyflwr o fod yn ddi-wladwriaeth. Fodd bynnag, dylai'r rhai sydd yn ddi-wladwriaeth, sy'n byw bywydau ansicr, wybod, os byddan nhw'n dod i Gymru a dewis ei gwneud yn gartref iddyn nhw, y byddan nhw'n ei chanfod yn lle croesawgar, lle gallant ddod o hyd i ddiogelwch am gyhyd ag y maen nhw'n dymuno aros. Bydd y rheoliadau drafft yn ein helpu i gyflawni'r nod hwn. Rwy'n gobeithio felly y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig ar gyfer y ddadl hon a'r rheoliadau.

Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr ar gyfer y ddadl, felly y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, unwaith eto, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y pedwar cynnig o dan eitemau 21 i eitem 24, rheoliadau'r amgylchedd a newid yn yr hinsawdd 2021, eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau i hynny. Nac oes.

17:15
21., 22., 23. & 24. Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021

Cynnig NDM7647 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021.

Cynnig NDM7646 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021.

Cynnig NDM7645 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021.

Cynnig NDM7644 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn 2016, fe wnaeth y Senedd ddeddfu ar gyfer y targed lleihau allyriadau statudol cyntaf i Gymru i leihau allyriadau gan o leiaf 80 y cant yn 2050. Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth y Senedd ddeddfu ar gyfer tri tharged allyriadau dros dro a dwy gyllideb garbon gyntaf Cymru, a wnaeth ein rhoi ar y trywydd iawn ar gyfer yr 80 y cant. Ers hynny, daeth Cymru y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Rydym wedi gweld effaith gynyddol hinsawdd sy'n cynhesu yng Nghymru ar ffurf llifogydd, tirlithriadau a'r effaith ar ein hamgylchedd morol. Rydym wedi gwrando ar bobl o bob oed a chefndir, sy'n mynnu gweld gweithredu i ddiogelu treftadaeth naturiol Cymru a'n cymunedau, yn ogystal ag ecosystemau mwyaf hanfodol y byd. Mae'n iawn, felly, i ni ailedrych ar ein targedau hinsawdd cyn i dymor hwn y Senedd ddirwyn i ben.

Fel bob amser, rydym ni wedi ein harwain gan uchelgais ac, yn hollbwysig, gan dystiolaeth. Pan roddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd gyngor i Lywodraeth Cymru fabwysiadu targed o 95 y cant ar gyfer lleihau allyriadau, derbyniais eu cyngor gan hefyd nodi ein huchelgais i ddod o hyd i ffyrdd o fynd ymhellach. Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn glir bod y targed lleihau o 95 y cant ar gyfer Cymru yn gofyn am yr un lefel o ymdrech, a llawer o'r un camau gweithredu, a oedd yn ofynnol gan wledydd eraill i gyrraedd eu targedau nhw. Nid dal i fyny oedd fy uchelgais i, gan nad oeddem ni erioed wedi syrthio ar ei hôl hi, ond yn hytrach i Gymru arwain y ffordd. Cefais gyngor ac argymhellion gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd ym mis Rhagfyr, ac roeddwn i'n falch eu bod wedi gallu cadarnhau ein huchelgais ar gyfer targed sero net i Gymru sy'n gyson ag ysbryd cytundeb hinsawdd Paris. Mae'n gredadwy ac yn fforddiadwy, yn seiliedig ar y dystiolaeth.

Cynhyrchodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd hefyd argymhellion ar gyfer ein targedau dros dro a'n dwy gyllideb garbon nesaf. Nododd y pwyllgor yn fanwl sut yr oedden nhw o'r farn y gall Cymru gyflawni'r targedau newydd, eu glasbrint. Wrth gwrs, mae lle ar gyfer technolegau carbon isel a dim carbon newydd ac arloesol, ond mae maint yr her yn golygu na fydd atebion technolegol yn unig yn ddigonol. Bydd angen pob corff cyhoeddus, busnes a chymuned yng Nghymru er mwyn i ni lwyddo i gyflawni'r newid cymdeithasol sydd ei angen i gyflawni ein nodau hinsawdd cynyddol uchelgeisiol. 

Cafodd cyngor y pwyllgor ei lywio gan ddau ddigwyddiad ymgynghori yng Nghymru, ochr yn ochr â galwad am dystiolaeth. Rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at y broses hon ac a wnaeth y cyngor mor gadarn â phosibl. Rwyf i hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig am ystyried y rheoliadau drafft ac am argymell bod y Senedd yn eu cymeradwyo. Ar gais y pwyllgor cytunais i ohirio'r ddadl heddiw er mwyn caniatáu mwy o amser i graffu. O ganlyniad, os caiff y rheoliadau eu cymeradwyo heddiw, Dirprwy Lywydd, bydd angen i mi ddiwygio'r dyddiad y byddant yn dod i rym cyn eu llofnodi.

Os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau, bydd Cymru yn ymuno â nifer fach iawn o wledydd ledled y byd sydd â tharged sero-net yn y gyfraith. Bydd Cymru yn gweithredu mewn undod â'r gwledydd hynny sy'n profi effeithiau hinsawdd mwy dinistriol fyth nag yr ydym ni'n eu gweld ar hyn o bryd yng Nghymru, ond nad ydyn nhw wedi elwa ar yr economi carbon uchel sydd wedi achosi'r broblem yn y lle cyntaf. Bydd Cymru yn gweithio gyda'n partneriaid rhyngwladol i ysgogi gweithredu gan wledydd, gwladwriaethau a rhanbarthau ledled y byd, cyn cynhadledd COP26 hollbwysig y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow yn ddiweddarach eleni.

Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i wthio terfynau ein pwerau datganoledig i sicrhau newid teg a chlir i sero net. Mae angen gweithredu gan Lywodraeth y DU hefyd fel y gall holl wledydd y DU barhau i ddatblygu nodau hinsawdd cynyddol uchelgeisiol, a chyflawni'r camau gweithredu sydd eu hangen i'w cyflawni. Yn ystod y misoedd diwethaf rydym ni wedi sefydlu grŵp gweinidogol rheolaidd, pedair gwlad i lywio'r gwaith o gyflawni sero-net. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r ymgysylltu hwn i gydweithio ledled y DU, ac i bob gwlad herio a chefnogi ei gilydd i fynd ymhellach. Bydd angen cyfraniad cryf arnom ni gan Lywodraeth y DU os yw Cymru am gyrraedd y targedau newydd hyn mewn modd sy'n sicrhau cyfiawnder cymdeithasol o gofio mai eu cyfrifoldeb wedi ei gadw yn ôl hwy yw llawer o'r meysydd polisi hanfodol yn bennaf, megis cynhyrchu ynni a'r fframwaith cyllidol cyffredinol y mae Llywodraethau datganoledig yn gweithredu oddi mewn iddo.

Rydym ni wedi ymgysylltu yn eang i ddatblygu'r cynllun cyflawni i fodloni cyllideb garbon nesaf Cymru, sydd i'w chyhoeddi erbyn diwedd 2021 yn nhymor newydd y Senedd. Mae'r ymgysylltu hwn yn cynnwys Wythnos Hinsawdd Cymru fis Tachwedd diwethaf, pan gyfrannodd dros 2,000 o bobl at y trafodaethau am gynllun cyflawni nesaf Cymru. Yn fwy diweddar, rydym ni wedi cefnogi sefydlu cynulliad dinasyddion ar yr hinsawdd ym Mlaenau Gwent, ac rydym yn gobeithio y gall hynny fod yn dempled ar gyfer darparu cyfleoedd newydd i gymunedau lunio gweithredu ar gyfer yr hinsawdd yn uniongyrchol ar lefel genedlaethol. Yr haf diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi ein cynllun ymgysylltu a oedd yn nodi ein hymrwymiad i weithio gyda chyrff cyhoeddus, busnesau a chymunedau i lunio cynllun ar gyfer Cymru gyfan. Yn ogystal â digwyddiadau ymgysylltu, rydym yn gwahodd eraill i gynnwys eu gweithredoedd yn y cynllun ei hun, sy'n golygu nad cynllun gan y Llywodraeth yn unig yw'r cynllun, ond cynllun a gaiff ei ddatblygu a'i gyflawni gan Gymru gyfan.

Ni all y rheoliadau sydd gerbron y Senedd heddiw fod yn derfyn ar ein huchelgais, ond rwy'n credu eu bod yn gam nesaf hanfodol i sicrhau'r dilyniant yr ydym ni wedi ei gyflawni yn ystod y tair blynedd diwethaf. Bydd gosod fframwaith cyfreithiol cyntaf Cymru ar gyfer targed sero-net yn gam mawr ymlaen, ac yn sail gref i gydweithio ar draws economi a chymdeithas Cymru er mwyn parhau i gyflymu'r camau a gymerwn. Dirprwy Lywydd, cymeradwyaf y rheoliadau hyn i'r Senedd.

17:20

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Mike Hedges?

Diolch. Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Gosodwyd y rheoliadau ar 9 Chwefror. Y diwrnod canlynol, fe wnaethom ni ysgrifennu at y Gweinidog yn unol â Rheol Sefydlog 27.8 i'w hysbysu y byddem ni'n adrodd ar y rheoliadau. Rydym ni'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ohirio'r ddadl ar y rheoliadau am wythnos i'n galluogi i gyflwyno adroddiad. Fodd bynnag, mae gennym ni bryderon ehangach o hyd am y broses o wneud rheoliadau, gan gynnwys diffyg cyfle i graffu'n allanol ar y targedau carbon arfaethedig.

Er mwyn llywio ein gwaith craffu ar y rheoliadau, cawsom dystiolaeth gan Arglwydd Deben, cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, a chynrychiolwyr Cyfeillion y Ddaear a WWF Cymru. Hoffem ddiolch iddyn nhw am eu cyfraniad ac am gytuno i roi tystiolaeth ar fyr rybudd. Dywedodd y sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol wrthym y bydden nhw wedi hoffi gweld trafodaeth ehangach ar y targedau carbon arfaethedig, a bod mwy o amser yn cael ei neilltu i graffu arnyn nhw. Galwodd y Pwyllgor am yn union hynny pan adroddodd ar y gyfres gyntaf o reoliadau newid yn yr hinsawdd yn 2018. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried drafft o unrhyw reoliadau yn y dyfodol i hwyluso gwaith craffu y Senedd ac yn allanol, ac rydym yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â gwneud hyn.

Gan droi at fanylion y rheoliadau yn ein hadroddiad ar reoliadau 2018, fe wnaethom ni dynnu sylw at y ffaith nad oedd targed Cymru i leihau allyriadau gan 80 y cant i lefelau 1990 erbyn 2050 yn ddigonol i gyflawni nodau cytundeb Paris. Mae rheoliadau 2021 yn unioni hyn, gan osod targed i gyflawni sero-net erbyn 2050, targedau dros dro mwy uchelgeisiol a chyllidebau carbon tynnach. Mae'r targedau sero-net newydd yn dod â Chymru yn unol â gwledydd eraill y DU, ac rydym yn croesawu hynny'n fawr. Mae hyn yn arbennig o amserol wrth i'r DU baratoi i gynnal ar y cyd Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, COP26, ym mis Tachwedd.

Fodd bynnag, dywedodd cynrychiolwyr sector yr amgylchedd wrthym fod potensial i Gymru ddangos mwy o uchelgais, a mynd ymhellach fyth na'r targedau a nodir yn rheoliadau 2021. Rydym ni o'r farn bod rhinwedd mewn ailedrych ar y targedau maes o law, yn enwedig er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pandemig COVID-19 yn llwyr. Gosod targedau mwy uchelgeisiol yw'r rhan hawdd; bydd cyflawni'r targedau hynny, drwy gyfaddefiad Llywodraeth Cymru ei hun, yn eithriadol o heriol. Mae adroddiad cynnydd diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn nodi nad yw Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i sicrhau gostyngiad o 80 y cant, heb sôn am sero-net erbyn 2050. Mae'r pwyllgor wedi ei gwneud yn glir bod angen gweithredu ar draws pob maes a phob sector yn ddi-oed er mwyn cyflawni sero-net.

Gwyddom y bydd y targedau sero-net yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Er bod Llywodraeth Cymru wedi sôn am gynyddu ei hymdrechion a chynyddu graddfa a chyfradd yr ymdrech polisi, mae'n rhaid iddi bellach gyflawni ar yr addewidion hynny. Disgwyliwn i'r cynllun cyflawni carbon isel nesaf, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2021, adlewyrchu'r targedau newydd a mwy uchelgeisiol a nodir yn rheoliadau 2021. Bydd y cynllun yn hollbwysig nid yn unig i sicrhau bod cyllideb garbon 2021-25 yn cael ei chyflawni, ond y gellir cyrraedd targed dros dro 2030.

O ystyried arwyddocâd y cynllun, mae'n anhygoel na fyddai rhanddeiliaid ac Aelodau'r Senedd yn cael cyfle i ystyried y cynllun cyn iddo gael ei gwblhau yn derfynol. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod i ymrwymo i ymgynghori ar ei drafft o'r cynllun. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ailystyried y penderfyniad hwn a rhoi ymrwymiad mewn egwyddor i wneud hyn. 

Yn olaf, mae ein gwaith craffu ar reoliadau 2018 a 2021 a'n gwaith ehangach ar y newid yn yr hinsawdd wedi amlygu gwendidau allweddol yn y fframwaith statudol ar gyfer lleihau allyriadau carbon. Mae ein hadroddiad ar reoliadau 2021 yn cyffwrdd â sut y gellir mynd i'r afael â'r gwendidau hyn. Rydym ni o'r farn bod darn mwy sylweddol o waith i'w wneud i adolygu'r fframwaith statudol, gyda'r bwriad o gyflwyno gweithdrefnau craffu mwy trwyadl, gwella tryloywder, a chryfhau trefniadau atebolrwydd. Rydym yn bwriadu cynnwys hyn yn ein hadroddiad etifeddiaeth, i'n pwyllgor olynol yn y chweched Senedd ei ystyried.

Rydym yn falch o argymell i'r Senedd ei bod yn cymeradwyo'r rheoliadau. Mater i'r chweched Senedd fydd sicrhau bod yr addewid o weithredu i gyrraedd y targedau newydd yn cael ei gyflawni. Diolch yn fawr, Llywydd.

17:25

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac ar ôl adroddiadau mor fanwl ar faterion polisi mor bwysig yn ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd, mae arnaf i ofn y gallai fy adroddiad fod braidd yn siomedig. Gwnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn wedi'u grwpio i'w trafod y prynhawn yma yn ein cyfarfod ar 1 Mawrth. Roedd ein hadroddiad ar bob un o'r pedair set o reoliadau yn cynnwys yr un pwynt adrodd technegol. Nododd y pwynt hwnnw wall yn y rhagymadrodd ar gyfer pob set o reoliadau. Mewn ymateb i'n hadroddiadau, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y gwallau, ac rydym ni'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gywiro'r gwallau yn y fersiynau wedi'u llofnodi gan y Gweinidog. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Hoffwn i siarad unwaith ar y pedwar offeryn wedi'u enwi ar y cyd yn rheoliadau newid yn yr hinsawdd (Cymru) 2021. Ar ôl ystyried y rhain yn ein Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a darllen yr adroddiad byr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, mae'n bleser gennyf i roi fy nghefnogaeth lawn i'r rheoliadau hyn. Nawr, er bod hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir, er hynny, mae'n symbol o rywfaint o ddiffyg uchelgais sydd wedi bod yn wir am Lywodraeth Cymru ers iddi ddatgan argyfwng hinsawdd ym mis Mehefin 2019.

Wrth gwrs, mae'n newyddion da bod adran 29 yn cael ei diwygio, fel bod '80%' yn cael ei disodli gan '100%', ond ni yw'r olaf yn y DU i gyd-fynd â'r targedau sero-net. Yn wir, rwy'n cytuno â'r farn y mae'r sector amgylcheddol wedi'i mynegi bod potensial i Gymru ddangos mwy o uchelgais a mynd ymhellach fyth na'r targedau sydd wedi'u nodi yma yn y rheoliadau hyn. Enghraifft wych yw'r sector amaethyddol. Er ein bod ni wedi'ch gweld chi'n torri un addewid drwy nodi adnoddau Llywodraeth Cymru i dargedu llygredd amaethyddol yn anghymesur ledled Cymru, a thorri un arall drwy fethu â chyflawni Deddf aer glân, mae angen i ni ddathlu a chefnogi'r ymdrech enfawr sy'n cael ei gwneud gan ein ffermwyr ledled Cymru.

Rwyf i'n falch o'r ffaith bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi gosod y nod uchelgeisiol o gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net ledled amaethyddiaeth gyfan yng Nghymru a Lloegr erbyn 2040. Fel y mae llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru wedi tynnu sylw ato'n briodol, nid un ateb sydd. Er mwyn cyflawni'r nod, mae angen amrywiaeth o fesurau arnom ni sy'n dod o dan dri phennawd cyffredinol: gwella effeithlonrwydd cynhyrchiol ffermwyr; gwella rheoli tir a gwella'r defnydd o dir er mwyn dal mwy o garbon; hybu ynni adnewyddadwy a'r bioeconomi ehangach. Felly, rwyf i'n eich annog chi i gymeradwyo adroddiad 'Cyflawni Sero Net: Amcan 2040 Amaeth', a gweithredu ar ei ofynion, gan gynnwys: datblygu polisi amaethyddol yn y dyfodol sy'n darparu ymrwymiad hirdymor i gefnogi'r newid i amaethyddiaeth sero-net, gan ganolbwyntio ar gynhyrchiant sy'n seiliedig ar fesurau i ddarparu sefydlogrwydd ac ymdrin ag ansefydlogrwydd y tu hwnt i reolaeth busnesau fferm unigol; cefnogi deunyddiau adeiladu ac inswleiddio newydd fel gwlân defaid, a mesurau polisi i hwyluso rhagor o defnydd, gan fynd i'r afael â'r rhwystrau presennol; a llwybr i farchnata ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy bach i fawr.

Rydych chi eisoes yn gwybod fy mod i'n credu bod Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) yn methu â hyrwyddo cynhyrchiant ac y gallai, yn anffodus, arwain at fwy o ddibyniaeth ar fewnforio. Rydych chi eisoes yn gwybod fy mod i eisiau i chi gefnogi fy addewid gwlân Cymru. Ac rydych chi eisoes yn gwybod fy marn o ran eich methiannau gydag ynni adnewyddadwy, fel y cam yn ôl diweddaraf o gael gwared ar grantiau ardrethi busnes ar gyfer cynlluniau ynni dŵr mewn perchnogaeth breifat o 1 Ebrill 2021, ac mae gan hyn y posibilrwydd o gael effaith negyddol ar 75 y cant o weithredwyr ynni dŵr ar raddfa fach yng Nghymru. Ar adeg pan fo adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn nodi nad yw Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i sicrhau gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau, heb sôn am sero-net erbyn 2050, rwy'n eich annog chi i fyfyrio ar eich gweithredoedd a nodi'r farn gyfunol a gafodd ei fynegi yn adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y rheoliadau, ac rwy'n dyfynnu:

Rhaid i rethreg gael ei hwynebu gan weithredu beiddgar a phendant erbyn hyn.

Mae'r argyfwng hinsawdd yn digwydd nawr—rydym ni wedi bod â 'newid hinsawdd' ac yna 'argyfwng hinsawdd'; mae'n deg dweud ein bod bellach mewn creisis hinsawdd. Gobeithio y bydd Llywodraeth nesaf Cymru, pwy bynnag y bo, yn darparu'r camau beiddgar a phendant y mae taer angen eu cymryd nawr wrth i ni symud ymlaen. Diolch.

17:30

Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r rheoliadau yma heddiw, ond, wrth gwrs, y cwestiwn sydd angen i ni i gyd ofyn i'n hunain yw: ydy'r targedau yma'n ddigonol? Ydyn ni'n symud yn ddigon cyflym? Ac ydy cyrraedd net sero erbyn 2050 yn ddigon uchelgeisiol yn wyneb yr argyfwng hinsawdd a natur rŷn ni'n ei brofi? 

Pan gefnogodd y Senedd yma gynnig Plaid Cymru i ddatgan argyfwng hinsawdd ddwy flynedd yn ôl, roedden ni i gyd yn disgwyl ymateb gan y Llywodraeth a fyddai'n debycach i'r ymateb dŷn ni wedi'i weld yn sgil y pandemig, nid y diffyg gweithredu trawsnewidiol rŷn ni wedi'i weld hyd yma. Dwi ddim yn meddwl bod y targedau yma yn ddigonol; rwy'n gryf o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyrraedd net sero lawer cynharach na 2050. Fe soniodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol ynglŷn â'r angen i alfaneiddio gwledydd eraill yn eu hymdrechion i fynd i'r afael â hyn. Wel, mae yna nifer o wledydd o gwmpas y byd sy'n anelu at drosglwyddo'n gyflymach na ni i net sero. Mae Sweden yn anelu at 2045, mae Gwlad yr Iâ yn anelu at 2040, Awstria 2040, y Ffindir 2035. Ac mae yna ranbarthau iswladwriaethol sy'n llawer mwy uchelgeisiol eto, hyd yn oed os nad yw'r wladwriaeth ei hun yr un mor uchelgeisiol. Nawr te, dyna chi gymhariaeth gyda'n sefyllfa ni yng Nghymru. Mae Jämtland, rhanbarth yn Sweden, yn anelu at net sero erbyn 2030; mae dinasranbarth Copenhagen yn Nenmarc yn targedu 2025.

Dwi'n gwybod mai gweithredu argymhellion y Pwyllgor Newid Hinsawdd mae'r rheoliadau yma, ond dylem ni ddim jest bodloni â hynny. Proses o drafod a negodi gyda nhw sydd ei hangen fan hyn; cyflwyno cynllun gwaith a rhaglen weithredu llawer mwy uchelgeisiol, ac yna, mi fyddai hynny'n cael ei adlewyrchu yn y targedau y maen nhw'n eu hargymell ar ein cyfer ni. Ac mae angen mwy o uchelgais. Mae rhaglen amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig wedi dangos mai gostyngiad o 7.6 y cant y flwyddyn mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yw'r isafswm cyfartaledd byd-eang sy'n ofynnol i aros o fewn nod cytundeb Paris, ac ar ben hynny, wrth gwrs, mae cytundeb Paris yn disgwyl i wledydd cyfoethog, fel y Deyrnas Unedig a Chymru, fod yn llawer mwy uchelgeisiol o ran lleihau allyriadau, o'u cymharu â gwledydd sy'n datblygu, ac nid yn sylweddol waeth o ran uchelgais.

Felly, tra y byddwn ni yn cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw, dwi eisiau ei gwneud yn glir y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn y Senedd nesaf yn adolygu'r targedau yma ac yn newid y targedau yma er mwyn ymrwymo i dargedau net sero llawer mwy uchelgeisiol na'r hyn sydd o'n blaenau ni heddiw.

Rwyf i'n croesawu'r targedau newydd yn fawr, ac rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom ni wneud yr hyn a allwn ni ym mhopeth a wnawn ni; nid mater i'r Llywodraeth yn unig yw hyn, mae'n ymwneud â phob un ohonom ni. Cau gorsaf bŵer glo Aberddawan oedd y peth a oedd yn hawdd i'w wneud. Roeddem ni bob amser yn gwybod y byddai'n un mawr o ran lleihau ein hallyriadau carbon, ond mae hynny'n beth cymharol syml i'w wneud. Mae'n rhaid i ni weithredu nawr er mwyn i'r gwaith caled gael ei wneud cyn 2030 os ydym ni eisiau cyrraedd ein targed di-garbon ar gyfer 2050. Y rheswm, Janet Finch-Saunders, mai Cymru oedd yr olaf i ddatgan sero-net oedd ystyried y ffaith bod gennym ni ein treftadaeth o ddiwydiant trwm, gan gynnwys dur, y mae gweddill y DU yn dibynnu arno. Bydd y Ddeddf aer glân yn dilyn yn y Senedd nesaf cyn belled â bod Llafur Cymru yn cael ei dychwelyd fel y brif blaid, a dim ond oherwydd COVID y mae wedi'i gohirio.

Rwyf i eisiau canolbwyntio ar yr angen i sicrhau bod ein holl adeiladau'n sero-net, cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny'n ymarferol. Rwy'n falch iawn o ddarllen bod Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu wir wedi meddwl am hyn ac wedi dweud bod angen i ni greu o leiaf 12,000 o swyddi arbenigol erbyn 2028 er mwyn nid yn unig adeiladu gorsafoedd pŵer y dyfodol, a fydd yn gartrefi, ond hefyd i ôl-ffitio ein holl adeiladau presennol, a fydd yn dal i fod yn 80 y cant o'n hadeiladau yn 2050. Mae'r rheini'n gyfraniadau pwysig iawn i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd lle mae angen i ni fod, ond mae pethau eraill y mae angen i ni eu harchwilio ymhellach. Roeddwn i'n synnu'n fawr yn adroddiad yr Arglwydd Deben am Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU i weld y nifer fach iawn o bympiau gwres sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru, sy'n syndod, dim ond bod cynifer o gartrefi nad ydyn nhw ar y grid, ac mae pympiau gwres yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy arall dda iawn i adeiladau mewn ardaloedd nad ydyn nhw ar y grid. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ddatblygu ymhellach.

Bydd angen i ni ddeddfu hefyd i sicrhau na fydd unrhyw adeiladau newydd yn ddim llai na sero-net. Rwy'n falch o ddweud bod bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn derbyn hyn fel un o'r pethau y mae'n rhaid i ni ei wneud. Yn sicr, mae gan y ffordd yr oedden nhw wedi datblygu adain Glan-y-Llyn, ysbyty Nightingale yn y Mynydd Bychan, yr holl nodweddion y dylem ni eu disgwyl gan bob adeilad newydd. Ac i'r adeiladwyr tai hynny sy'n parhau i adeiladu i'r un hen hen safonau, mae angen i ni gyflwyno deddfwriaeth i roi terfyn ar hynny cyn gynted ag y gallwn ni.

17:35

Rwy'n croesawu'r gwelliannau i'n targedau allyriadau. Gan ein bod ni'n wynebu un o'r bygythiadau mwyaf i'r blaned, ein cenedl a'n ffordd o fyw, nid oedd yr ymateb blaenorol yn ddigon i fynd i'r afael â'r bygythiad yn uniongyrchol. Diolch byth, mae'r ddadl wedi symud ymlaen o weld a yw gweithgarwch dynol wedi niweidio'r hinsawdd yn anadferadwy i'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud yn ei gylch. Hyd yn oed gyda ni'n cyflawni sero-net yn ystod y tri degawd nesaf, bydd yn rhaid i genedlaethau'r dyfodol fyw gydag effaith newid yn yr hinsawdd. Bydd digwyddiadau tywydd eithafol aml yn gweld Cymru'n cael ei churo gan lifogydd gaeaf a sychder yn yr haf, gan effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau. Yn ychwanegol at hyn, bydd cynnydd yn lefelau'r môr yn bygwth ein cymunedau arfordirol, ac mae hynny gyda ni'n gweithredu. Os byddem ni wedi cadw at dargedau blaenorol Llywodraeth Cymru, byddem ni'n cyfrannu at effeithiau llawer mwy niweidiol ar ein hinsawdd a'n ecosystem. Fel y mae, sero-net erbyn 2050 yw'r isafswm y dylem ni fod yn anelu ato. Rwy'n croesawu Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r newidiadau hyn nawr, ac rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag sydd mewn Llywodraeth yn dilyn etholiadau'r Senedd yn ymrwymo i gyflymu'r amserlen. Bydd, bydd cyflawni'r gostyngiadau hyn yn anodd, ond bydd pethau hyd yn oed yn anoddach os na wnawn ni hynny. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi pob un o'r pedair set o reoliadau er budd cenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr. Diolch.

Diolch. Nid oes gennyf i unrhyw Aelodau sydd wedi dweud eu bod am ymyrryd, felly rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd cyrraedd y targedau newydd yn her enfawr, ond mae cost gweithredu yn cael ei orbwyso'n sylweddol gan gost diffyg gweithredu, ac mae'r llwybr newydd i bob pwrpas yn dod â'n targed presennol o 80 y cant ymlaen gan 15 mlynedd i 2035. Mae Janet Finch Saunders yn dweud bod diffyg uchelgais; wel, nid wyf i'n gweld y diffyg uchelgais hwnnw o gwbl. Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi dangos camau beiddgar a phendant iawn. Bydd y newidiadau sydd eu hangen yn effeithio ar bob person, pob cartref, pob gweithle, a bydd yn ddramatig iawn. Rwy'n credu bod Jenny Rathbone wedi cydnabod hynny pan ddywedodd na allai'r Llywodraeth wneud hyn ar ei phen ei hun. 

Os gaf i godi ychydig o'r pwyntiau gan Mike Hedges, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, nid wyf i'n cydnabod unrhyw un o'r pwyntiau ynglŷn â diffyg ymgynghori; cawson nhw i gyd eu hamlygu yn y datganiad a'r cynllun ymgysylltu—ac ymgynghori ar feysydd polisi penodol hefyd. Felly, rwy'n credu bod yna ymrwymiad, yn amlwg, i wneud hynny. Dydw i ddim yn credu bod yr ymateb i'r pwyllgor yn gwrthod ymgynghori ar y cynllun. Rydym ni wedi cytuno bod angen gweithio'n agos iawn gyda phwyllgorau'r Senedd i wneud y gorau o ymgysylltu, ac mae'n amlwg bod cael cynllun Cymru gyfan yn golygu bod gan bobl y cyfle i gyfrannu'n uniongyrchol, yn ogystal â llunio'r cynllun cenedlaethol.

Nid yw'n ymddangos bod Janet Finch-Saunders yn deall bod ein proffil allyriadau yn wahanol iawn i broffil Lloegr a'r Alban, a dyna pam mae gennym ni ddyddiadau gwahanol. Collodd Llyr Huws Gruffydd y pwynt; rydym ni wedi cyflwyno dyddiadau cynharach yn seiliedig ar dystiolaeth ac uchelgais, nid dim ond uchelgais yn unig. Mae hynny'n ffordd gadarn, rwy'n meddwl, o fwrw ymlaen, a ni yw'r unig ran o'r DU i gyflwyno dyddiad cynharach ers cyngor 2019. Rydym ni'n arwain y ffordd. Fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato, es i yn ôl at y Pwyllgor Ar y Newid yn yr Hinsawdd pan gyflwynon nhw'r 95 y cant yr oedden nhw'n credu y gallem ni ei gyflawni erbyn 2050 a gofyn iddyn nhw edrych ar sut y gallem ni gyflawni sero-net. Nid oedd llawer o'r enghreifftiau a roddodd Llyr Huws Gruffydd o ddyddiadau sero-net cynharach mewn deddfwriaeth. Uchelgeisiau oedden nhw. Wrth gwrs, rydym ni'n rhannu'r uchelgais i fynd yn gyflymach hefyd, ond mae hyn yn ymwneud â gosod yr ôl-stop cyfreithiol.

Bydd yn rhaid i'r Llywodraeth nesaf ddatblygu'r gwaith yr ydym ni wedi'i ddechrau i sicrhau bod y newidiadau hyn yn cael eu rhannu'n deg ledled ein cymdeithas a phob rhanbarth yng Nghymru, a bydd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r adfer a'r ailadeiladu rhag y pandemig i wneud y 2020au yn ddegawd pendant ar gyfer gweithredu o ran yr hinsawdd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau sydd wedi nodi cefnogaeth i'r rheoliadau hyn heddiw. rwy'n credu bod yr hyn y bydd hynny'n ei wneud yn ychwanegu'n wirioneddol at y momentwm sydd gennym ni yma yng Nghymru o ran ein cyfraniad at gynhesu byd-eang—drwy roi eu cefnogaeth i'r rheoliadau hyn heddiw a gosod nod sero-net cyntaf Cymru. Diolch.

17:40

Y cynnig yw ein bod ni'n derbyn y cynnig o dan eitem 21. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld gwrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, mae'r cynnig hwnnw'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 22. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld gwrthwynebiadau. Felly, unwaith eto, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, mae'r cynnig yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 23. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir eitem 23 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 24. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 24 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

25. Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Eitem 25 ar yr agenda yw Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021—na, nid yw hynny'n digwydd, mae wedi'i dynnu'n ôl. Rwy'n ymddiheuro. Rwyf newydd weld hynny nawr. Ar ôl darllen y cyfan allan ac ymarfer ble i roi'r cromfachau i mewn, mae wedi'i dynnu'n ôl.

26. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-Drin Domestig

Eitem 26 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i wneud y cynnig. Jane Hutt.

Cynnig NDM7649 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cam-drin Domestig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n falch o gynnig y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ac rwy'n croesawu'r cyfle i egluro pam yr wyf i'n credu y dylai'r Senedd ei gymeradwyo? Mae'n amserol iawn ein bod ni'n trafod hyn heddiw. Rwyf i eisiau dechrau drwy gynnig ein cydymdeimlad—ac rwy'n siŵr bod hyn yn cael ei rannu ledled Senedd—i deulu Sarah Everard. Fel y dywedais i yn fy natganiad ysgrifenedig, a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach heddiw, mae'r Llywodraeth hon bob amser wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'n huchelgais i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, ac mae'r protestiadau yn sgil marwolaeth Sarah yn ein hatgoffa ni i gyd o bwysigrwydd hanfodol yr holl gamau y gallwn ni eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn. Wrth gwrs, mae hynny'n seiliedig ar ein deddfwriaeth a'n strategaeth trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Ond mae'r ddadl heddiw hefyd yn amserol iawn.

Hoffwn i ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am graffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 2. Rwy'n credu bod y Bil hwn yn nodi darn gwerthfawr o ddeddfwriaeth, a dylai elfennau ohono fod yn berthnasol i Gymru hefyd. Bydd y Bil yn ymdrin â rhai meysydd pwysig iawn y byddaf i'n tynnu sylw atyn nhw yn fyr heddiw. Wrth gwrs, fel y dywedais i, yng Nghymru, mae gennym ni eisoes ein Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sy'n creu diffiniad statudol o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais Rhywiol. Yn yr un modd, bydd y diffiniad o fewn y Bil Cam-drin Domestig yn sicrhau bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei ddeall yn briodol, ei ystyried yn annerbyniol, a'i herio ym mhob agwedd ar fywyd ledled gwasanaethau datganoledig a gwasanaethau nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Ac mae hyn yn cyd-fynd yn dda â diben strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol y Llywodraeth hon i wella'r broses o atal pob math o gam-drin domestig a thrais.

Mae'r Bil yn gwneud newidiadau amrywiol i brosesau llysoedd, gan gynnwys gwahardd y cyhuddedig rhag croesholi'r achwynydd mewn achosion sifil, fel sy'n digwydd eisoes mewn achosion troseddol. Ac mae hyn hefyd yn cyd-fynd â'n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i roi cymorth i ddioddefwyr a'u diogelu. Mae'r Bil yn creu swydd comisiynydd cam-drin domestig Cymru a Lloegr fel deiliad swydd statudol. Rydym ni wedi cael gwelliant i'r Bil fel y cafodd ei gyflwyno'n wreiddiol a fydd yn atal y comisiynydd rhag ymyrryd ar faterion datganoledig. Rwyf i eisoes wedi cael dau gyfarfod gyda'r darpar gomisiynydd, Nicole Jacobs, ac mae hi'n awyddus i weithio gyda'r Llywodraeth hon, awdurdodau lleol Cymru a sefydliadau'r trydydd sector i gyfrannu at ddarpariaeth a gweithredu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. 

Bydd gwelliant diweddar Llywodraeth y DU a gafodd ei gyflwyno ar 1 Mawrth ac sydd wedi'i gynnwys yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 3 yn sicrhau bod gan y comisiynydd gopi o adroddiadau adolygu dynladdiad domestig terfynol, a fydd yn helpu i ddatblygu arfer da mewn gwasanaethau nad ydyn nhw wedi'u datganoli, fel yr heddlu a'r gwasanaethau prawf yma yng Nghymru. Rwy'n arbennig o gefnogol i welliannau diweddar Llywodraeth y DU a fydd yn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer goroeswyr yng Nghymru ymhellach, sydd wedi'u cynnwys yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 3. Mae'r gwelliant ar gyfer tagu nad yw'n angheuol yn ei gwneud yn drosedd i dagu neu'i fygu unigolyn arall yn fwriadol, yn enwedig pan nad yw ymosodiad o'r fath yn gadael unrhyw anafiadau gweladwy neu dim ond mân anafiadau gweladwy. Bydd y drosedd newydd a phenodol hon yn ei gwneud yn haws dod â throseddwyr o'r fath i gyfiawnder. A rhoddais i fy nghefnogaeth gref i'r drosedd hon pan wnaethom ni gyfarfod yn ddiweddar â'r Gweinidogion Chalk ac Atkins, noddwyr y Bil hwn. Rwyf i hefyd yn croesawu'r gwelliant i ymestyn y tramgwydd o reoli ymddygiad neu ymddygiad rheolaeth drwy orfodaeth o ran perthynas deuluol neu berthynas agos at gyn-bartneriaid ac aelodau o'r teulu nad ydyn nhw'n byw gyda'i gilydd. Rydym ni'n gwybod yn iawn nad yw trais yn dod i ben dim ond oherwydd nad yw pobl yn byw gyda'i gilydd mwyach.

Ac i orffen, hoffwn i groesawu gwelliant Llywodraeth y DU sy'n sicrhau nad yw ffi yn cael ei chodi ar ddioddefwyr gan ymarferwyr meddygol am adroddiad neu lythyr i'w galluogi i gael cymorth cyfreithiol sifil. Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu nad yw hwn yn fater mawr yng Nghymru, ond ni fyddwn i eisiau gweld dioddefwyr camdriniaeth, sydd mor aml yn anghenus gyda fawr ddim, neu dim arian o gwbl, yn gorfod talu am adroddiad o'r fath i'w helpu i brofi at ddibenion cymorth cyfreithiol eu bod wedi dioddef cam-drin domestig. 

Cyfeiriais i at laddiad Sarah Everard ar ddechrau fy araith i, sydd wedi effeithio ar bob un ohonom ni. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol a gyda heddluoedd Cymru, comisiynwyr heddluoedd a throseddu, byrddau diogelwch cyhoeddus a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae'n rhaid i'r Bil hwn gynnig yr amddiffyniad cryfaf posibl i fenywod, ac anogaf yr Aelodau i gynnig cefnogaeth i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol pwysig hwn, ac rwy'n cynnig y cynnig hwn. 

17:45

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil ym mis Medi a mis Hydref y llynedd, ac fe wnaethom ni ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol yn ein cyfarfod ar 8 Chwefror. Fe wnaethom ni gyflwyno un adroddiad ar y ddau femorandwm ar 25 Chwefror.

Mae ein hadroddiad yn nodi asesiad y Dirprwy Weinidog o'r darpariaethau yn y Bil y mae angen cydsyniad y Senedd ar eu cyfer, yn benodol bod cydsyniad yn cael ei geisio o ganlyniad i ddiben cyffredinol ehangach y Bil. Fe wnaethom ni ofyn am eglurhad gan y Dirprwy Weinidog ynghylch pam yr oedd Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen cydsyniad. Roeddem ni o'r farn y dylai dadansoddiad ac esboniad mwy trylwyr yn hyn o beth fod wedi eu cynnwys yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol. Nid oeddem ni o'r farn y gallai cymalau 65, 66 a 68 fel y maen nhw wedi'u drafftio ar hyn o bryd gael eu gwneud gan y Senedd. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'n gohebiaeth â'r Dirprwy Weinidog ac o'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol, fod Llywodraeth Cymru wedi ystyried y materion hyn yng nghyd-destun ehangach dibenion ehangach y Bil, sef cam-drin domestig, sydd mewn maes datganoledig.

Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at ofynion Rheol Sefydlog 29, sy'n nodi bod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol pan fydd Bil yn gwneud darpariaeth at unrhyw ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gan ystyried y farn ehangach hon, rydym ni'n cytuno bod y darpariaethau hyn yn ymwneud â diben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

O ystyried mai dim ond prynhawn dydd Gwener y cafodd memorandwm Rhif 3 ei osod, nid ydym wedi cael amser i roi unrhyw ystyriaeth iddo yn y pwyllgor. Fodd bynnag, rwyf i yn nodi bod nifer o welliannau eraill wedi eu gwneud i'r Bil sy'n effeithio ar gymwyseddau datganoledig. Diolch, Dirprwy Lywydd.

17:50

Yn dilyn yr hyn y mae'r Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, newydd ei ddweud ar ddechrau ei chyfraniad, hoffwn i ei roi ar gofnod hefyd fod teulu Sarah Everard yn gadarn yn ein meddyliau ni yng Ngheidwadwyr Cymru hefyd, a'n bod yn rhannu ei theimladau. Mae ei llofruddiaeth yn amlygu yn anffodus yr angen i ni wneud mwy, a'r angen i bob un ohonom ni gydweithio i sicrhau diogelwch menywod yn ein gwlad.

Mae'r Bil Cam-drin Domestig yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth a fydd yn trawsnewid ymateb y Llywodraeth i ddioddefwyr yng Nghymru ac yn helpu i sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell. Mae yna ryw 2.4 miliwn o ddioddefwyr cam-drin domestig bob blwyddyn, rhwng 16 a 74 oed, ac mae dwy ran o dair ohonyn nhw'n fenywod. Ac mae mwy nag un o bob 10 o'r holl droseddau sy'n cael eu cofnodi gan yr heddlu yn gysylltiedig â cham-drin domestig. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau cynyddol—yr ydym ni wedi tynnu sylw ato droeon yn y Siambr hon—y mae mesurau cyfyngiadau symud sydd wedi eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r pandemig yn eu rhoi ar deuluoedd a pherthnasoedd.

Ym mis Rhagfyr 2019, cafodd Llywodraeth y DU ei hethol gydag ymrwymiad maniffesto i gefnogi pawb sy'n dioddef cam-drin domestig a phasiodd y Bil Cam-drin Domestig, a gafodd ei gyflwyno yn wreiddiol yn y Senedd ddiwethaf. Nod y Bil yw sicrhau bod gan ddioddefwyr yr hyder i gyflwyno eu hunain ac adrodd eu profiadau, gan wybod y bydd y wladwriaeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i'w cefnogi nhw a'u plant a mynd ar drywydd y camdriniwr.

Yng ngwanwyn 2018, cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad cyhoeddus ar drawsnewid yr ymateb i gam-drin domestig, a ddenodd dros 3,200 o ymatebion. Cafodd ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad a'r Bil Cam-drin Domestig drafft ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2019. Nododd ymateb y Llywodraeth 123 o ymrwymiadau, rhai deddfwriaethol a rhai anneddfwriaethol, a gafodd eu cynllunio i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a'u teuluoedd, trawsnewid y broses gyfiawnder, blaenoriaethu diogelwch dioddefwyr a darparu ymateb effeithiol i gamdrinwyr, ac ysgogi cysondeb a gwell perfformiad wrth ymateb i gam-drin domestig ym mhob ardal, asiantaeth a sector lleol.

Mae cam-drin domestig yn drosedd ffiaidd sy'n bygwth bywydau dioddefwyr yn eu cartrefi eu hunain, lle dylen nhw deimlo'n ddiogel. Felly, mae'n iawn ein bod ni'n rhoi'r cymorth sydd ei angen ar ddioddefwyr i'w helpu nhw a'u plant i ailgydio yn eu bywydau. Felly, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig hwn.

Nid oeddwn i'n meddwl y gallem ni fynd heddiw heb ddweud rhywbeth am y pandemig o drais gan ddynion yn erbyn menywod ar ôl digwyddiadau'r pythefnos diwethaf. Y penwythnos cyn diwethaf, cafodd Wenjing Lin 16 oed o'r Rhondda ei lladd o ganlyniad i drais gan ddyn. Wedyn fe wnaethom ni glywed bod corff Sarah Everard wedi'i ganfod, ac mae'n ymddangos y cafodd hithau ei lladd hefyd o ganlyniad i drais gan ddyn. Rydym ni'n meddwl am anwyliaid Wenjing a Sarah, a holl anwyliaid y bobl yr ydym ni wedi eu colli o ganlyniad i drais gan ddynion. A hoffwn i dalu teyrnged hefyd i bawb sy'n byw ag ôl-effeithiau trais gan ddynion. Mae ofn ar lawer o fenywod ar hyn o bryd; prin yw'r ffydd sydd gan lawer o fenywod, os ydyn nhw'n cwyno, y bydd yn cael ei ystyried o ddifrif. Ac ie, wrth gwrs, nid pob dyn sy'n peri risg i ni, ond sut yr ydym ni i fod i wybod pa rai yw'r rhai da, a pha rai sy'n bwriadu achosi niwed i ni?

Rydym ni'n gwybod bod menywod yn fwy tebygol o gael eu lladd gan rywun y maen nhw'n ei adnabod yn dda. Rydym ni'n gwybod nad yw menywod yn y gwaith, ar y stryd, yn y dafarn, ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn ddiogel ac nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel. Rydym ni'n gwybod oherwydd bod ymddygiad o'r math cymharol fân i'r math eithaf difrifol yn digwydd yn gyhoeddus yn rheolaidd ac yn amlach na pheidio, nid yw'n cael ei herio. Mae gormod o bobl yn barod i edrych y ffordd arall, i beidio ag ymwneud â'r sefyllfa, a dyma'r hyn y mae'n rhaid ei newid. Mae Llywodraeth y DU wedi colli nifer o gyfleoedd i amddiffyn menywod a merched yn y Bil hwn, ac rwy'n mawr obeithio y caiff ei gryfhau. Mae yn cynnwys elfennau da, ac rwyf i'n croesawu'n arbennig y datblygiadau ar y mater o dagu. Ond gallai fod wedi mynd gymaint ymhellach. Cyflwynodd Plaid Cymru welliannau, ac un ohonyn nhw oedd creu cofrestr cam-drin domestig. Mae adroddiad yn 2016 gan Brifysgol Caerdydd yn dweud

Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o droseddwyr cam-drin domestig sy'n ddynion yn droseddwyr aml, wrth i ymchwil o Loegr nodi ffigur o 83% o fewn cyfnod o chwe blynedd.

Mae elusennau cam-drin domestig hefyd wedi galw am gofrestr i ymdrin â hyn. Maen nhw hefyd wedi galw am ddim gwahaniaethu yn erbyn menywod o gefndir mudol wrth geisio a defnyddio gwasanaethau, yn unol â chonfensiwn Istanbul. Ni ddylai diogelwch i fenywod fod ar gyfer rhai menywod, ni ddylai fod ar gyfer menywod gwyn yn unig, dylai fod ar gyfer pob menyw.

Mae'n rhaid mai ein nod, siawns, yw rhoi terfyn ar y pandemig hwn o drais gan ddynion. Nid oes neb yn elwa arno. Mae cynifer o bobl yn byw mewn ofn ohono. Mae wedi'i wreiddio mewn casineb at fenywod sydd bellach yn rhywbeth sefydliadol, a dyna y mae angen mynd i'r afael ag ef. Mae'n rhaid i'r dynion sy'n gwneud hyn roi'r gorau iddi. Mae'n rhaid i'r gymdeithas sy'n eu galluogi nhw a'r sefydliadau sy'n eu hamddiffyn nhw newid. Mae casineb at fenywod yn lladd, a nawr mae'n rhaid i ni ladd casineb at fenywod.

17:55

Diolch. Nid oes yr un Aelod wedi gofyn am gael ymyriad, felly rwy'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, ymateb yn fyr i'r ddadl. Jane Hutt.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddiolch i chi i gyd am y cyfraniadau. Yn gyntaf, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—rwy'n credu y gwnaethoch chi ateb y pwynt, Mick Antoniw, y gwnaethom ni weld, fel y gwnaethoch chithau weld, bod Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai angen cydsyniad mewn cysylltiad â darpariaethau Cymru yn y Bil hwn, ac rwyf i'n credu bod y ddadl hon wedi atgyfnerthu'r achos hwnnw yn eithaf clir. Ond rwy'n ddiolchgar, nid yn unig am eich ystyriaeth chi, ond hefyd am ystyriaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nad oedd yntau yn gweld unrhyw wrthwynebiad i gytundeb y cynnig.

Hoffwn ddiolch i Laura Anne Jones a Leanne Wood am eu cyfraniadau heddiw, a'u hystyriaethau a'u safbwyntiau a'u geiriau, gan gydnabod bod hyn yn rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y cawn ni gefnogaeth drawsbleidiol amdano i sicrhau ein bod yn amddiffyn ein menywod a'n merched yng Nghymru, ac yn cymryd pob cam angenrheidiol i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a phob math o gam-drin yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i Leanne Wood am sôn am Wenjing Lin—mae ein meddyliau gyda hi a'i theulu—ac i gofio mai dim ond yr wythnos diwethaf yr oedd yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, pan gyhoeddais i ddatganiad yn ymwneud â hyn ac â'r cynnydd rydym ni'n ei wneud o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac roedd Jess Phillips, yr AS Llafur yn San Steffan, unwaith eto yn darllen enwau'r menywod hynny sydd wedi eu lladd o ganlyniad i drais gan ddynion. Felly, mae hi wedi bod yn ddadl bwysig iawn i ni heddiw.

Rwyf i'n gobeithio hefyd, o ran cefnogi'r cynnig hwn, y gwelwch chi fy mod i, yn fy natganiad heddiw, yn galw ar Lywodraeth y DU i gryfhau'r Bil Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd i sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn amddiffyn menywod a merched yn llawn. Diolch yn fawr.

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld unrhyw wrthwynebiadau, ac felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

27. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol

Mae eitem 27 ar ein hagenda yn gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol, ac unwaith eto rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i wneud y cynnig, Jane Hutt.

Cynnig NDM7650 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gwasanaethau Ariannol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig bod y Senedd yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yng nghymal 34 o Fil Gwasanaethau Ariannol Llywodraeth y DU. Mae cymal 34 o'r Bil yn gwneud darpariaethau sy'n ymwneud â rheoli dyledion personol, sydd wedi'i gynllunio i helpu pobl sydd mewn dyled broblemus i ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus ganddyn nhw i'w credydwyr mewn ffordd reoledig. Mae angen cydsyniad oherwydd bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Yn fy marn i, dylai Senedd y DU wneud y darpariaethau gan mai dyma'r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf priodol a chymesur i alluogi drafftio'r rheoliadau a fydd yn caniatáu i'r cynllun ad-dalu dyledion statudol fod yn gymwys yng Nghymru.

Hoffwn i ddiolch i ddau bwyllgor y Senedd sydd wedi craffu ar y memorandwm. Dywedodd y ddau bwyllgor eu bod yn fodlon bod y Bil yn gwneud darpariaeth at ddiben o fewn cymhwysedd y Senedd, a daeth Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i'r casgliad nad oes unrhyw reswm dros wrthwynebu i'r Senedd yn cytuno ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Y cynllun ad-dalu dyledion statudol yw ail ran y cynllun seibiant dyledion, ac fe wnes i arwain y ddadl fis Tachwedd diwethaf pan gymeradwyodd y Senedd y rheoliadau ar gyfer rhan gyntaf y cynllun seibiant dyledion, lle i anadlu, i fod yn gymwys yng Nghymru. Bydd lle i anadlu yn rhoi'r amser sydd ei angen ar unigolyn i gael cyngor proffesiynol i nodi ei lwybr gorau allan o ddyled, ac, o'i gyflwyno, bydd y cynllun ad-dalu dyledion statudol yn cynnig ateb i ddyled i bobl a fydd yn eu helpu i ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus ganddyn nhw i'w credydwyr dros amserlen ymarferol pan fyddan nhw'n gadael y lle i anadlu. Trwy gydol ei gynllun ad-dalu dyledion statudol, bydd unigolyn yn cael amddiffyniadau cyfreithiol gan ei gredydwyr sy'n cymryd camau gorfodi neu'n ychwanegu taliadau llog a ffioedd at ei ddyled. Ac o ystyried faint o amser y gallai cynllun ad-dalu dyledion statudol bara, byddai wedi ei gynllunio i fod yn hyblyg fel y gall ymateb i'r amgylchiadau newidiol y mae pobl yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod y maen nhw'n talu eu dyledion o dan y cynllun.

Bydd swyddogion yn gweithio'n agos gyda llunwyr polisi Llywodraeth y DU i sicrhau bod rheoliadau'r cynllun ad-dalu dyledion statudol yn cyd-fynd ag anghenion penodol pobl yng Nghymru, a bydd y rheoliadau'n cael eu gosod gerbron y Senedd i'w cymeradwyo. Felly, o ystyried y problemau ariannol yr ydym ni'n gwybod y mae pobl yn eu hwynebu oherwydd COVID-19, yr anghydraddoldebau hynny sy'n dyfnhau, rhan hanfodol ein gwasanaethau cynghori, y gronfa gynghori sengl, sydd wedi cael hwb eleni, mae'n siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu dyddiad penodol i weithredu'r cynllun ad-dalu dyledion statudol. Felly, wrth gynnig y cynnig hwn, rwyf i'n annog Llywodraeth y DU i wneud y rheoliadau yn ystod y misoedd nesaf a gweithredu'r cynllun ad-dalu dyledion statudol cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wedi hynny. Diolch.

18:00

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?

Diolch eto, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol ym mis Tachwedd y llynedd, a chafodd ein hadroddiad ei gyflwyno fis Rhagfyr diwethaf. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod y Senedd wedi cydsynio i Ddeddf Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau 2018 ym mis Chwefror 2018, a darparodd ar gyfer creu cynllun seibiant dyledion, a oedd yn cynnwys dwy ran: lle i anadlu a'r cynllun ad-dalu dyledion statudol. Ystyriodd ein pwyllgor ran gyntaf y cynllun—hynny yw Rheoliadau'r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020—fis Tachwedd diwethaf. Cymeradwyodd y Senedd y rheoliadau hyn wedyn gan y Senedd ar 10 Tachwedd 2020.

Mae'r Bil Gwasanaethau Ariannol, fel y mae'r Gweinidog wedi ei amlinellu, yn gwneud darpariaeth o ran ail ran y cynllun, yn ymwneud â'r cynllun ad-dalu dyledion statudol. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom ni nodi asesiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bod cymal 32 yn gofyn am gydsyniad y Senedd ac esboniad Llywodraeth Cymru o pam mae'n briodol gwneud darpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil. Fe wnaethom ni hefyd nodi y bydd angen i unrhyw reoliadau y mae Gweinidogion y DU yn eu gwneud yn y dyfodol, i'r graddau y byddan nhw'n darparu i'r cynllun ad-dalu dyledion statudol fod yn berthnasol o ran Cymru, gael eu gosod gerbron y Senedd a'u cymeradwyo drwy benderfyniad er mwyn iddyn nhw fod yn berthnasol yng Nghymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch. Nid oes gen i unrhyw Aelodau sydd wedi gofyn am gael siarad na gwneud ymyriadau. Felly, gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ymateb yn fyr i'r ddadl.

Dim ond i ddweud yn fyr fy mod i'n croesawu'r sylwadau a'r ystyriaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac, unwaith eto, ddweud ei bod yn hanfodol i Aelodau gefnogi'r cynnig bod y Senedd yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yng nghymal 34 y Bil Gwasanaethau Ariannol, er mwyn i ni allu cefnogi ein dinasyddion, gan fod COVID-19 wedi rhoi cyllid cartrefi ledled Cymru o dan straen mor enfawr, a gallwn ni symud ymlaen fel hyn trwy gefnogi'r cynnig hwn heddiw i gefnogi ein pobl yng Nghymru sydd yn y sefyllfa hon. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw ein bod ni'n derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf i'n gweld gwrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Datganiad gan y Dirprwy Lywydd

Cyn i ni symud at yr egwyl ar gyfer pleidleisio, mae gen i ddatganiad i'w wneud. Hoffwn i hysbysu'r Senedd bod Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw.

A nawr rydym yn torri, ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rwy'n gohirio'r cyfarfod cyn symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:05.

18:05

Ailymgynullodd y Senedd am 18:07, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

28. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 8. Eitem 8 yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, dau yn ymatal ac un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 8 - Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021: O blaid: 46, Yn erbyn: 1, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9, sef y Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, pedwar yn ymatal ac 18 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i dderbyn. 

Eitem 9 - Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021: O blaid: 28, Yn erbyn: 18, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 10 yw'r bleidlais nesaf, ar y Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021. Rwy'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig yma yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, tri yn ymatal ac 19 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i dderbyn, felly.

Eitem 10 - Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021: O blaid: 28, Yn erbyn: 19, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

18:10

Eitem 11 yw'r bleidlais nesaf, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, tri yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 11 - Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021: O blaid: 28, Yn erbyn: 19, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 12 yw'r eitem nesaf i bleidleisio arni. Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) 2021 yw'r rhain. Ac felly dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, tri yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 12 - Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) 2021: O blaid: 28, Yn erbyn: 19, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 13 yw'r bleidlais nesaf, Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, tri yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 13 - Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021: O blaid: 36, Yn erbyn: 11, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 14 yw'r eitem nesaf i bleidleisio arni, a'r rhain yw Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, tri yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 14 wedi ei dderbyn.

Eitem 14 - Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021: O blaid: 36, Yn erbyn: 10, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 15 sydd nesaf, Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, pedwar yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 15 wedi ei dderbyn.

18:15

Eitem 15 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021: O blaid: 43, Yn erbyn: 4, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 16 yw'r Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. 

Cau'r bleidlais.

O blaid 44, tri yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae'r cynnig o dan eitem 16 wedi'i gymeradwyo.

Eitem 16 - Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021: O blaid: 44, Yn erbyn: 3, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 17 sydd nesaf. Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 yw'r rhain. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, tri yn ymatal, 19 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Eitem 17 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021: O blaid: 28, Yn erbyn: 19, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 18 yw'r eitem nesaf a'r bleidlais olaf. Rhain yw'r Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, tri yn ymatal, 19 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna o dan eitem 18 wedi ei gymeradwyo hefyd. 

Eitem 18 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021: O blaid: 28, Yn erbyn: 19, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Felly, diolch yn fawr i chi i gyd. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am y dydd heddiw. Noswaith dda.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:18.