Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

19/02/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Wrth i ni gychwyn y prynhawn yma, mae'n briodol i ni gofio am gyfraniad yr Aelod Seneddol Paul Flynn i fywyd gwleidyddol Casnewydd a Chymru. Dyn hoffus a charedig, triw i'w wlad ac i'r Senedd yma, gydag annibynniaeth barn a chadernid egwyddor yn nodweddu ei fywyd gwleidyddol. Coffa da amdano, a phob cydymdeimlad i'w deulu a'i ffrindiau oll. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly symudwn ymlaen at agor ein busnes am y prynhawn yma gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd. 

Cau Ysgolion yn Abertawe

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i gau ysgolion yn Abertawe? OAQ53443

Wel, diolch yn fawr, Llywydd, a, chyda'ch caniatâd, hoffwn adleisio rhai o'r geiriau yr ydych chi newydd eu mynegi am Paul Flynn. Gwas enfawr i ddinas Casnewydd, siaradwr hynod yn Nhŷ'r Cyffredin ac ar lwyfannau mewn mannau eraill yng Nghymru, ond rhywun yr wyf i'n credu y bydd yn cael ei gofio fwyaf am siarad ar ran pobl ac achosion lle'r oedd ond ychydig o gefnogaeth boblogaidd yn bodoli ar y pryd, ac roedd hynny'n cynnwys datganoli ar ddechrau ei yrfa ei hun. Mae rhai yn ein swyddogaeth ni yn fedrus o ran gallu gweld llanw sydd eisoes ar ei ffordd i mewn ac yn gallu ei reidio i'r lan. Rwy'n credu mai uniondeb a dewrder Paul Flynn oedd bod yn barod i siarad dros y pethau hynny pan nad oedd y llanw hwnnw wedi dechrau llifo eto ac yna gwneud pobl eraill yn fwy parod i ddilyn yn ei sgil. Bydd colled enfawr ar ei ôl, fel y dywedasoch, Llywydd, ymhlith teulu a ffrindiau, ond caiff ei gofio am amser maith gennym ninnau i gyd hefyd.

Jest i droi at y cwestiwn cyntaf, ac i ddweud bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi cyhoeddi hysbysiadau i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre ac Ysgol Gynradd Craigcefnparc. Daeth y cyfnod gwrthwynebu ar gyfer y ddau gynnig i ben ar 6 Chwefror. Rhaid i gabinet y cyngor benderfynu nawr a ydyn nhw am gymeradwyo neu wrthod y cynigion. Does dim modd i mi wneud sylw ar gynigion a allai gael eu cyfeirio yn nes ymlaen at Weinidogion Cymru.  

Diolch am yr ateb yna. Ar lethrau unig, rhamantus y Parsel Mawr saif pentref Felindre, ac mae Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre, a leolir mewn ardal naturiol Gymreig i'r gogledd o Abertawe, wedi'i rhestru ymhlith yr ysgolion bychain gwledig a warchodir gan god gan Lywodraeth Cymru. Er bod y broses o gau'r ysgol wedi dechrau cyn i'r cod gwarchodol yma ddod i fodolaeth, fe ddywedodd Cyngor Abertawe y bydden nhw'n dilyn egwyddorion ac ysbryd y cod yna. Ond, er yr addo yma, mae'r gymuned leol yn hynod o siomedig gan taw cau'r ysgol yn hytrach na ffederaleiddio gydag ysgol arall, neu edrych ar opsiynau eraill hyd yn oed, oedd ymateb y cyngor i'r ymgynghoriad cyhoeddus. Os taw dyma fydd profiad ardaloedd eraill yng Nghymru, siom enfawr fydd y cod newydd yma wrth drio amddiffyn ysgolion gwledig Cymraeg. 

Mae rhyw 600 o blant yr un yn ysgolion Cymraeg dinesig cyfagos, fel Lôn Las a Phontybrenin, ond ar yr unigeddau, mae'r sefyllfa angen ateb amgen. Felly, Brif Weinidog, a wnewch chi edrych mewn i'r achos yma—rwy'n clywed beth rŷch chi'n ei ddweud, ond mae'r mater yma'n hollbwysig—a gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod y gymuned yn Felindre, a chymunedau tebyg, yn derbyn chwarae teg yn ôl eich cod eich hunan chi?

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Dai Lloyd am y pwyntiau pwysig yna. Rwy'n eu clywed nhw i gyd, ond, fel dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, mae'r penderfyniad yn dal i fod yn nwylo Cyngor Dinas a Sir Abertawe, a dwi'n siŵr bod yr Aelod wedi gwneud y pwyntiau yna i'r cyngor—y pethau mae e wedi'u dweud i ni fel Llywodraeth heddiw. Maen nhw'n dal ar y record, ac os yw'r penderfyniad yn dod i mewn i Weinidogion Cymru, byddwn ni'n gallu ailedrych ar y pwyntiau y mae e wedi'u gwneud heddiw. 

Wel, fel y dywedwch, mae trigolion, athrawon a disgyblion wedi bod yn ymladd penderfyniad Cyngor Abertawe i gau Ysgol Gynradd Craigcefnparc hefyd, ac rwyf i wedi bod yn falch iawn o'u cefnogi yn y frwydr honno. Yn rhan o'r frwydr dros y ddwy ysgol, a dweud y gwir, rwyf i wedi gofyn i Gomisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru sut a phryd y dylid cynnwys eu disgwyliadau yn y prosesau y mae cynghorau yn eu dilyn wrth ystyried cau ysgolion. Oherwydd nid mater o'r cod ysgolion yn unig ydyw erbyn hyn; mae pethau eraill i'w cymryd i ystyriaeth. Rwy'n sylweddoli na allwch chi wneud sylwadau ar achosion unigol, ond a allwch chi ddweud a oes gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth o gynghori cynghorau o ran faint o bwys y dylen nhw ei roi ar gyfarwyddyd comisiynwyr, neu a ydych chi'n fodlon gadael i hynny fod yn fater i'r llysoedd?

13:35

Llywydd, mae cod trefniadaeth ysgolion Llywodraeth Cymru yn nodi'r gofynion y mae Gweinidogion Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ac eraill yn y mater hwn. Fel y dywed Suzy Davies, nid y cod yw'r unig fater sydd ar waith. Ond mae'n rhaid ystyried pob cyfres o amgylchiadau ar ei rhinweddau ei hun, ac rwy'n credu y ceir y ddealltwriaeth orau o'r rhwymedigaethau eraill y mae angen i sefydliadau sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau hyn eu cymryd i ystyriaeth, rwy'n credu, yn y cyd-destun lleol hwnnw a'u cyfrifoldeb nhw yw eu pwyso a'u mesur.

Rwyf i wedi arfer â rhieni yn cwyno am ddosbarthiadau oedran cymysg ac yn mynnu bod eu plant yn cael eu haddysgu gyda phlant yn yr un grŵp blwyddyn â nhw. Ac rwy'n credu bod addysg yn dioddef pan fydd ysgol yn llai na maint penodol, a bod addysgu mwy na dau grŵp blwyddyn gyda'i gilydd yn yr ysgol gynradd yn rhoi'r dysgwr o dan anfantais—y rheswm pam mae gennym ni addysg. Ac mae angen i ysgolion uwchradd fod yn fwy na maint penodol i allu cyflawni'r cwricwlwm cenedlaethol. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau ar feintiau gofynnol ysgolion cynradd ac uwchradd, fel bod pobl yn gwybod yn union faint o ddisgyblion y mae angen iddyn nhw eu derbyn? Rwy'n deall bod o leiaf un ysgol i lawr i ychydig dros ffigurau sengl.

Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn atodol yna. Gwn y bydd yn ymwybodol bod ein cyn gyd-Aelod Huw Lewis, pan oedd yn Weinidog addysg, wedi gofyn i Estyn—yr arolygiaeth—ystyried yn benodol y mater hwn o ba un a oedd maint gofynnol y dylid ei fodloni ar gyfer ysgol. Rwy'n credu mai'r ffeithiau yw bod yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013 wedi canfod bod ffactorau eraill a oedd yn fwy perthnasol i lwyddiant ysgol na maint. Ac, yn wir, rwyf i wedi hen arfer â chlywed yr Aelod yn llawn perswâd wrth ddadlau'r achos y mae e'n ei wneud o ran awdurdodau lleol, pan ei fod o'r farn gyffredinol nad maint yw'r ffactor allweddol o ran pa un a all awdurdod lleol fod yn llwyddiant ai peidio. Mabwysiadodd gwaith Estyn yr un safbwynt o ran ysgolion, gan ddweud bod ansawdd yr arweinyddiaeth, er enghraifft, yn fwy arwyddocaol na maint o ran pa un a oedd ysgol yn perfformio'n dda ai peidio. Ond mae'r mater y mae'r Aelod yn ei godi yn un un pwysig a bydd yn sicr yn parhau i gael ei adolygu'n gyson gan Lywodraeth Cymru.

Cyflwyno'r Credyd Cynhwysol

2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyflwyno'r credyd cynhwysol? OAQ53458

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae Gweinidogion Cymru yn aml wedi mynegi ein pryderon dwys i Lywodraeth y DU am ddiffygion sylfaenol y cynllun credyd cynhwysol a'i effaith ar y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Byddwn yn parhau i wneud yn union hynny.

Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y byddwch chi wedi darllen y ffigurau gan Ymddiriedolaeth Trussell, fel yr wyf innau, sy'n dangos cynnydd ledled y wlad o 52 y cant i'r defnydd o fanciau bwyd lle mae credyd cynhwysol wedi bod ar waith ers blwyddyn neu fwy, o'i gymharu â 13 y cant mewn ardaloedd lle nad yw hynny'n wir. Cydnabuwyd gan Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, bod y cynnydd hwn yn rhannol oherwydd y problemau wrth gyflwyno credyd cynhwysol, a'i fod wedi arwain at ansicrwydd bwyd i filoedd o unigolion a theuluoedd ledled y wlad. Ac eto rydym ni'n gweld Llywodraeth y DU yn benderfynol o barhau i fwrw ymlaen â'r cyflwyniad hwn er gwaethaf y ffeithiau hyn. Felly, a gaf i erfyn arnoch, Prif Weinidog, os gwnewch chi barhau i gynnal trafodaethau—trafodaethau brys—gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn, a galw arnyn nhw i atal cyflwyno'r hyn sy'n system drychinebus ac yn fudd-dal diffygiol?

A gaf i ddiolch i Joyce Watson am y pwyntiau yna? Mae'n gwbl warthus bod Gweinidog y DU sy'n gyfrifol am y system hon wedi dweud ar gofnod bod y polisi y mae ei Llywodraeth wedi ei ddilyn yn gyfrifol am y cynnydd i bobl yn gorfod troi at fanciau bwyd i fwydo plant yma yn y Deyrnas Unedig. Mae angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â chredyd cynhwysol a chydnabod na fydd rhyw fymryn o ddiwygio ar ei ymylon yn gwneud y gwahaniaeth sydd ei angen. Mae angen iddyn nhw atal ei gyflwyniad, fel y mae Joyce Watson wedi ei ddweud. Mae angen iddyn nhw gymryd yr ymgyrch y mae Ymddiriedolaeth Trussell yn ei chyflwyno o ddifrif. Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod Ymddiriedolaeth Trussell fy hun yn yr wythnosau nesaf. Maen nhw'n rhedeg ymgyrch, fel y bydd yr Aelodau yn y fan yma yn gwybod, i leihau'r arhosiad o bum wythnos am gredyd cynhwysol cyn y gall pobl gael taliad cyntaf—ymgyrch #5WeeksTooLong—oherwydd dyna pam, ymhlith problemau eraill, yr ydym ni'n gweld y defnydd cynyddol o fanciau bwyd a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar blant sy'n ceisio dysgu yn ein hysgolion.

13:40

Bob blwyddyn, mae cynghorau yng Nghymru yn cael arian taliad disgresiwn at gostau tai gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac, y llynedd, beirniadwyd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf ac Ynys Môn am roi arian yn ôl a ddylai fod wedi mynd i bobl sy'n cael budd-dal tai neu gredyd cynhwysol ac angen cymorth ychwanegol gyda chostau rhent neu dai. Gan wneud sylwadau ar hyn, dywedodd Merthyr Tudful:

Nid yw anfon yr arian hwn yn beth drwg i ni. Mae ein niferoedd ar fudd-daliadau yn lleihau—mae'r ceisiadau tua hanner yr hyn yr oedden nhw y llynedd.

Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r pryder a fynegwyd yr wythnos hon gan Dai Cymunedol Cymru bod cymorth ar gyfer costau tai wedi ei gynnwys yn y taliad credyd cynhwysol erbyn hyn, nad oes angen rhyngweithio gyda'r awdurdod lleol mwyach er mwyn hawlio budd-daliadau prif ffrwd, a bod hyn yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd hawlwyr yn manteisio ar fudd-daliadau awdurdod lleol y gallai fod ganddyn nhw'r hawl iddynt, fel taliadau disgresiwn at gostau tai neu ostyngiad i'r dreth gyngor neu brydau ysgol am ddim? Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru i weithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru i gyd-leoli gwasanaethau a chaniatáu i geisiadau am fudd-daliadau awdurdod lleol gael eu gwneud ar yr un pryd â'r apwyntiad cyntaf ar gyfer credyd cynhwysol.

Wel, Llywydd, mae nifer o bwyntiau pwysig yn yr hyn y mae'r Aelod wedi ei godi. Gadewch i mi ddechrau trwy gytuno â'r hyn a ddywedodd am bwysigrwydd taliadau disgresiwn at gostau tai a'm gobaith bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn defnyddio'r gronfa honno cymaint â phosib i gynorthwyo'r rhai hynny o'u trigolion sy'n cael eu heffeithio mor wael gan y rhyngweithio rhwng credyd cynhwysol a chostau tai.

Y pwynt yr wyf i'n credu y mae'r Aelod yn ceisio ei gyrraedd yw bod ei Lywodraeth ef wedi penderfynu rhoi'r gorau i dalu awdurdodau lleol i allu rhoi cyngor i hawlwyr ar gredyd cynhwysol ac, yn hytrach, maen nhw'n bwriadu ariannu'r swyddfeydd cyngor ar bopeth ar gyfer un cyfarfod gyda hawlwyr i'w cynorthwyo gyda'r ddrysfa credyd cynhwysol sy'n eu hwynebu. Bydd hyn yn arwain, yn fy marn i, at anawsterau ychwanegol i hawlwyr, anawsterau ychwanegol i ddarparwyr tai, a bydd yn rhoi rhai asiantaethau cyngor mewn sefyllfa wirioneddol annheg pryd y byddant yn gwybod na fydd yn bosibl datrys cymhlethdodau rhai hawliadau credyd cynhwysol mewn un sesiwn darparu cyngor.

Felly, er fy mod i'n deall yr hyn y mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi ei ddweud yr wythnos hon, nid yw'r problemau gwirioneddol yn nwylo awdurdodau lleol na darparwyr tai; maen nhw'n rhan annatod o'r budd-dal diffygiol sy'n cael ei gyflwyno a'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ceisio symud cyfrifoldeb am ddarparu cyngor da a pharhaus i bobl sydd ei angen er mwyn gwneud yn siŵr bod eu hawliau sylfaenol i gael lle boddhaol i fyw ynddo a digon o arian i fwyta arno yn cael eu cynnal.

Mae credyd cynhwysol, ynghyd â budd-daliadau eraill a gyflwynwyd yn San Steffan, wedi bod yn drychineb llwyr i Gymru. Rwy'n siŵr y byddai pawb yn cytuno â hynny, ac eithrio'r rhai draw yn y fan yna efallai. Mae fy swyddfa i wedi clywed cymaint o enghreifftiau o brofiadau gwirioneddol ddiraddiol. Nawr, oherwydd llesgedd Llywodraeth Cymru ynghylch datganoli'r broses o weinyddu budd-daliadau, nid yw pobl yn cael eu diogelu rhag polisïau dideimlad y Torïaid. I'r gwrthwyneb, yn yr Alban maen nhw wedi llwyddo i weld y broses o weinyddu'r system budd-daliadau yno yn cael ei datganoli, a byddan nhw'n gallu diogelu dinasyddion yn well. Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban dim ond yr wythnos hon ei bod yn gwahardd cwmnïau preifat rhag cynnal asesiadau budd-daliadau er mwyn ceisio creu system fwy trugarog. Felly, hoffwn i fynd un cam ymhellach. Hoffwn i gael gwared ar gredyd cynhwysol yn gyfan gwbl. Prif Weinidog, a ydych chi'n bwriadu gwneud iawn am yr amser a gollwyd nawr a gwneud popeth yn eich gallu i gael datganoli'r broses o weinyddu budd-daliadau, fel y gallem ninnau yma yng Nghymru, hefyd, drin pobl gyda'r trugaredd y maen nhw'n ei haeddu, yn hytrach na'r creulondeb y maen nhw'n ei ddioddef ar hyn o bryd? A allwch chi wneud rhywbeth am hyn, Prif Weinidog: a wnewch chi ei wneud?

13:45

Wel, Llywydd, mae'r broblem y mae'r Aelod yn cyfeirio ati yn un yr wyf i'n cytuno y mae'n rhaid i ni wneud ein gorau i fynd i'r afael â hi a'i datrys. Yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud yw fy mod i eisiau i'r achos dros ddatganoli'r broses o weinyddu budd-daliadau lles gael ei ystyried yn briodol ac yn drwyadl. Hoffwn i ni gymryd cyngor pwyllgorau'r Cynulliad yn hynny o beth, ac rwy'n bwriadu archwilio yn ystod yr wythnos nesaf, gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, pa un a yw hwn yn waith y gallen nhw ei wneud ar ein rhan.

Ond nid wyf i'n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn ni gytuno iddo ar unwaith tan ein bod ni'n gwbl ymwybodol o beth fyddai'r cymhlethdodau a beth fyddai'r costau. Gwariodd yr Alban £16 miliwn ar gymryd y cyfrifoldeb hwn. Nawr, efallai pan fyddwn ni'n ymchwilio iddo, y byddai hwnnw'n £16 miliwn a fyddai'n cael ei wario yn dda, ac rwy'n gwbl agored i hynny fod y casgliad a ddaw, ond nid oes gennym ni £16 miliwn yn eistedd yn gwneud dim byd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, nac unrhyw beth yn agos at hynny. Felly, os byddwn ni'n ysgwyddo cyfrifoldebau newydd, byddai'n rhaid i ni gael ein hariannu'n briodol i ymgymryd â nhw, a bydd y gwaith archwilio yr hoffwn ei weld yn digwydd yn ystyried hynny a'r dadleuon eraill sy'n bodoli dros ddatganoli'r broses o weinyddu budd-daliadau lles.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Llywydd, gyda'ch caniatâd, a gaf innau hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i Paul Flynn ac, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, estyn ein cydymdeimlad i'w deulu, ei ffrindiau, ac i'r mudiad Llafur? Roedd yn seneddwr o'r radd flaenaf a safodd bob amser dros yr hyn yr oedd yn credu ynddo. Nid oes unrhyw amheuaeth ei fod yn caru ei etholaeth, ac roedd yn Gymro balch a oedd bob amser yn hyrwyddo'r Gymraeg ar bob cyfle. Mae'n gwbl eglur y bydd Tŷ'r Cyffredin yn llawer tlotach hebddo.

Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn addas i'w diben?

Rwy'n credu bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gwneud gwaith ardderchog ar ran cleifion yma yng Nghymru. Rydym ni'n adolygu ei gynnydd. Mae gennym ni gynigion yr ydym ni'n bwriadu eu cyflwyno i gryfhau'r gwaith y mae'n ei wneud.

Wel, rwy'n credu o'r ateb yna, Prif Weinidog, ei bod yn ymddangos i mi eich bod chi'n credu ei bod yn addas i'w diben. Felly, ceir diffyg cysylltiad eglur, rwy'n credu, Prif Weinidog, yn eich diffiniad chi o 'addas i'w diben' a fy un i. Er gwaethaf swyddogaeth hollbwysig AGIC o sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn bodloni safonau gofal, dyma'r unig gorff arolygiaeth o'i fath yn y DU nad yw'n gwbl annibynnol ar y llywodraeth y mae i fod i'w monitro. Oni allwch chi weld y gwrthddywediad yn y fan yma, Prif Weinidog?

Rydym ni wedi gweld nifer o achosion uchel eu proffil o ddiffygion difrifol mewn gofal mewn byrddau iechyd yn GIG Cymru, o sgandal Kris Wade ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i'r pryderon diogelwch difrifol yn y gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, a'r methiannau erchyll yn Nhawel Fan. Er i AGIC godi pryderon ynghylch yr holl fethiannau echrydus hyn, nid oedd ganddi'r grym i ymyrryd pan oedd angen iddi wneud hynny heb gael caniatâd gan eich Gweinidog chi yn gyntaf. Nid yw'n annibynnol ar eich Llywodraeth, felly. A wnewch chi ymrwymo heddiw felly, Prif Weinidog, i gryfhau annibyniaeth AGIC ac i roi pwerau gorfodi i'r arolygiaeth trwy ei gwneud yn gorff cwbl annibynnol, fel Estyn, er enghraifft?

Wel, Llywydd, rwyf i eisoes wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Bil a fydd yn ymdrin â nifer o'r materion hyn, gan gynnwys y rhan sy'n cael ei chwarae gan AGIC yng ngwasanaethau iechyd Cymru.

Nid wyf i'n derbyn am eiliad, fodd bynnag, yr hyn a ddywedodd yr Aelod bod annibyniaeth AGIC yn cael ei pheryglu gan ei pherthynas â Llywodraeth Cymru. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, ni allwn gofio bryd hynny, ac ni allaf gofio ers hynny, unrhyw enghraifft pan nad oedd AGIC yn gallu gwneud beth bynnag y dywedodd yr oedd yn dymuno ei wneud, i adrodd ar beth bynnag yr oedd yn dymuno adrodd arno, i wneud gwaith dilynol ar yr adroddiadau hynny ym mha ffordd bynnag yr oedd yn dewis. Mae annibyniaeth weithredol AGIC yn un o gryfderau pwysig GIG Cymru, ac nid yw erioed wedi cael ei pheryglu gan unrhyw diffyg annibyniaeth.

13:50

Rydych chi'n gwybod yn iawn, Prif Weinidog, na chânt ymyrryd heb ganiatâd eich Llywodraeth ac, felly, nid yw'n wirioneddol annibynnol. Mae'n ymddangos mai polisi eich Llywodraeth yw tanariannu AGIC hefyd, i'r pwynt lle nad oes ganddi unrhyw gapasiti nac adnoddau i ddwyn ein gwasanaethau iechyd i gyfrif. Nid yw'r problemau tanariannu hyn yn newydd. Yn ôl yn y Cynulliad diwethaf, clywsom gan adolygiad Marks bod AGIC yn methu â chadw pobl yn ddiogel mewn ysbytai, ac nad oedd yn gallu cynnal digon o arolygiadau gan fod yn rhaid iddi fonitro gormod o wasanaethau. Er gwaethaf hyn, mae eich Llywodraeth wedi dewis lleihau ei chyllid yn gyson. Ac ni allwch chi geisio rhoi'r bai ar gyni cyllidol am hyn, Prif Weinidog. Mae'r penderfyniad i dorri cyllid AGIC yn eglur. Tra bod Estyn yn cael £11.3 miliwn bob blwyddyn, ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael £13 miliwn y flwyddyn ar gyfer 2018-19, mae cyllideb flynyddol AGIC wedi gostwng i £3.5 miliwn, ac mae ar fin cael gostyngiad arall o £190,000 yn y flwyddyn ganlynol. Pam nad ydych chi eisiau cefnogi'r corff hwn sy'n chwarae rhan mor bwysig i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd yn darparu gwasanaethau diogel ac atebol?

Llywydd, y cwestiwn cyntaf un y gwnaeth yr Aelod ei ofyn i mi oedd a oeddwn i'n cefnogi AGIC, ac rwyf i'n sicr yn ei chefnogi, ac rwy'n ei chefnogi mewn ffordd ymarferol yn hytrach na'r ffordd rethregol y mae'r Aelod wedi ceisio ei wneud y prynhawn yma. Mae'n lol iddo fe—yn lol llwyr iddo fe—ymddwyn fel pe na byddai'r cyllidebau llai y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu yn cael unrhyw effaith ar ein gallu i ariannu llawer o swyddogaethau pwysig a gyflawnir ar ran ein Llywodraeth. Serch hynny, mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi arallgyfeirio arian o'i gyllideb i AGIC er mwyn ei chynorthwyo yn y gwaith pwysig y mae'n ei wneud. Yn hytrach na cheisio dod o hyd i resymau dros godi amheuaeth ynghylch y gwaith pwysig y mae AGIC yn ei wneud, byddai'n well pe byddai'r Aelod yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith hwnnw, a'i chefnogi yn ei gweithgareddau.

Diolch yn fawr, Llywydd. Gaf i hefyd estyn cydymdeimladau i deulu a chyfeillion Paul Flynn, a dweud hyn: hynny yw, ces i'r pleser o gyd-wasanaethu yn y Senedd arall yna yn San Steffan am rai blynyddoedd, ac roedd e wastad yn barod iawn i gynnig gair o gyngor ac o gefnogaeth, hyd yn oed ein bod ni'n dod o bleidiau gwahanol. Ambell waith hefyd, tynnu fi lan lle roedd e'n meddwl gallwn i wneud yn well. Roedd e'n un o'r creaduriaid prin yna a oedd yn gallu symud o'r dwys i'r difyr, nôl i'r difrifol, ac yn y blaen. Ac er yn ymgnawdoliad o angerdd, doedd hynny byth wedyn yn caledu yn chwerwder nac atgasedd, ac mae e'n esiampl yn hynny o beth i ni i gyd. 

A all y Prif Weinidog rannu â ni asesiad Llywodraeth Cymru o'r effaith bosibl o ran swyddi ar gwmnïau cyflenwi yng Nghymru yn sgil cyhoeddiad Honda heddiw? A all ef gadarnhau y gallai hynny effeithio ar hyd at ddwsin o gyflenwyr mawr, fel G-Tekt yn Nhredegar a Mitsui yn fy etholaeth i, yn ogystal â llawer mwy o gyflenwyr ail haen a thrydydd haen? Sector modurol Cymru yw un o'n prif ddiwydiannau, ac eto gwelsom gyda glo a dur, oni wnaethom, sut y gall y sefyllfa honno ddirywio'n gyflym iawn gyda chanlyniadau hirdymor trychinebus? O gofio bod colled o 600 o swyddi wedi ei chyhoeddi eisoes yn Ford a Schaeffler, a bod Chatham House wedi cadarnhau bod Cymru wedi gweld y gostyngiad cyflymaf i fuddsoddiad uniongyrchol tramor ers y refferendwm o holl wledydd a rhanbarthau'r DU, a yw'n cytuno bod aelodaeth o'r farchnad sengl yn gwbl hanfodol i oroesiad sector modurol Cymru, ac iechyd economi ehangach Cymru? O gofio mai'r unig lwybr realistig nawr i sicrhau hynny yw trwy bleidlais y bobl, a yw'n gallu addo ei gefnogaeth ddiamwys, ddigymysg i'r polisi hwnnw heddiw?

Diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd yn ei gyflwyniad, ac am dynnu sylw at yr effaith y bydd y newyddion gan Honda heddiw yn ei chael ar economi Cymru, yn ogystal â'r economi yn Swindon. Bydd cyflenwyr o Gymru i gyfleuster Honda yn Swindon yn cael eu heffeithio, wrth gwrs, gan y newyddion hyn.

Mae swyddogion fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn Llundain heddiw yn siarad â swyddogion yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol sy'n gweithio yn y maes modurol, ac mae hynny'n rhan o'n hymdrech uniongyrchol i ganfod o ble y bydd bygythiadau i economi Cymru ac i sector modurol Cymru yn dod o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwnnw sy'n peri pryder mawr. Ac wrth gwrs, mae Adam Price yn llygad ei le i dynnu sylw at bwysigrwydd y sector modurol yma yng Nghymru—oddeutu 150 o gwmnïau sy'n cyflogi tua 19,000 o bobl.

Ac mae Brexit yno yn y cefndir i'r gyfres hon o gyhoeddiadau yr ydym ni wedi eu gweld yn ddiweddar. Pan gefais gyfarfod, gyda Ken Skates, gyda swyddogion uchaf cwmni moduron Ford yma yn y Deyrnas Unedig, fe wnaethon nhw gyfeirio at bwysigrwydd y farchnad sengl ac at rwystrau di-dariff a thariff. Cyfeiriwyd ganddynt fwy fyth, Llywydd, at effaith Brexit ar symudiad gweithwyr a'u gallu i symud staff yn rhwydd ac yn gyflym ar draws ffiniau.

O ran y pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud, mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yr un y pleidleisiwyd drosto ar lawr y Cynulliad hwn nifer fach o wythnosau yn unig yn ôl, bod yn rhaid i Dŷ'r Cyffredin barhau i ddod o hyd i gytundeb y gellid ei gefnogi, a fyddai'n cefnogi economi Cymru a swyddi Cymru. Os na fydd Tŷ'r Cyffredin yn gallu gwneud hynny, ac mae'r wythnosau yn diflannu'n gyflym, yna rydym ni'n dweud mewn sefyllfa o anghytundeb llwyr bod yn rhaid i'r penderfyniad, fel y dywedodd Adam Price, fynd yn ôl at y bobl. Ac, oherwydd bod yn rhaid peidio â diystyru'r dewis hwnnw dim ond oherwydd nad oes paratoadau wedi eu gwneud ar ei gyfer, yna rydym ni hefyd yn dweud bod yn rhaid i baratoadau i alluogi hynny i ddigwydd, pe byddai ei angen, ddechrau ar unwaith.

13:55

Prif Weinidog, ar 22 Ionawr, dywedasoch wrth y Siambr hon:

'y ddadl yn y Senedd dros yr wythnos nesaf yw'r cyfle olaf i gefnogi'r ffurf honno ar Brexit...sy'n seiliedig yn y bôn ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau...os na ellir gwneud hynny,...yr unig ddewis sydd ar ôl wedyn yw pleidlais gyhoeddus unigol er mwyn datrys yr anghytundeb llwyr.'

Nawr, dehonglwyd hynny yn eang fel eich bod yn dweud bod terfyn amser o saith niwrnod. Methodd y Senedd â bodloni'r terfyn amser a bennwyd gennych chi, a dyma ni sawl wythnos yn ddiweddarach. Felly, mae fy nghwestiwn i chi yn syml iawn: beth yw eich terfyn amser newydd? Ai ymhen wyth diwrnod, sef 27 Chwefror? Ai diwedd y mis hwn? Ai ym mis Mawrth? Neu ai 10.59 p.m. ar 29 Mawrth?

Wel, Llywydd, un o'r pethau yr ydym ni i gyd yn sicr wedi eu dysgu yw bod terfynau amser y mae'n ymddangos bod Tŷ'r Cyffredin yn eu pennu ac y mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn eu pennu, pan fydd y diwrnodau hynny'n cyrraedd, mae'n bosibl y gall y terfynau amser hynny ddiflannu ac y gall terfynau amser newydd gael eu pennu. Nawr, rwy'n gresynu at hynny. Rwy'n gresynu'n fawr iawn na chymerodd Prif Weinidog y DU gyngor y ddogfen a gyhoeddwyd ar y cyd gennym ni rhwng Llafur a Phlaid Cymru yma yn y Cynulliad fwy na dwy flynedd yn ôl. Pe byddai wedi gwneud hynny, yna byddem ni mewn sefyllfa wahanol iawn, rwy'n credu, o ran ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, er mawr rwystredigaeth i ni, mae Tŷ'r Cyffredin yn parhau i ymaflyd â'r mater hwn, ni chyrhaeddwyd anghytundeb llwyr eto, yn fy marn i. Ac mae'n rhaid i ni fod yn barod i gadw ein pennau i ganiatáu i'r cyfle hwnnw ddigwydd, bob amser gyda'n datganiad eglur os na ellir ei ddatrys yn y modd hwnnw, yna'r unig ateb democrataidd ymarferol yr ydym ni wedi gallu dod o hyd iddo yw bod yn rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl at y rhai â'i wnaeth yn y lle cyntaf.

Prif Weinidog, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch am y mynd rownd mewn cylchoedd yr ydym ni'n ei weld yn San Steffan, ond y terfyn amser y gofynnais i chi amdano oedd yr un y gwnaethoch chi eich hun ei bennu, o ran penderfynu pryd mae angen i ni symud ymlaen a dweud yn ddigamsyniol mai'r unig ffordd ymlaen yw pleidlais y bobl. Ac un o'r beirniadaethau yr wyf i wedi eich clywed chi'n ei wneud o Lywodraeth Theresa May yw eu bod nhw'n amharod i wrando arnoch chi, ond a yw eich mainc flaen Llafur eich hun yn San Steffan yn gwrando arnoch chi? Er gwaethaf y bleidlais y cyfeiriasoch ati yn y Cynulliad hwn i baratoadau ddechrau ar unwaith, nid oedd llythyr Jeremy Corbyn at Theresa May ar 6 Chwefror yn sôn am bleidlais y bobl o gwbl. Fel y dywedodd un o'ch ACau Alun Davies, pan gyhoeddwyd y llythyr:

Mae'n ymddangos bod Jeremy Corbyn a Llafur y DU wedi cefnu ar ein polisi ar refferendwm yn y paragraff cyntaf.

Dywedodd Tonia Antoniazzi, AS Gŵyr,

Braf cael fy mriffio am hyn @UKLabour @WelshLabour—os hoffech chi ymgynghori ag ASau ar UNRHYW adeg a hefyd cymryd cynnig cynhadledd y Blaid Lafur i ystyriaeth...rhowch wybod i mi...Diolch...

Ni chafodd ASau nac ACau eu briffio. Y cwestiwn yw: a gawsoch chi? A oeddech chi'n cytuno na ddylai'r llythyr gynnwys cyfeiriad at bleidlais y bobl a gefnogwyd yn y fan yma? A ydych chi'n gwybod beth mae Jeremy Corbyn yn ei ddweud nawr wrth iddo annerch y Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianneg? Mae ein dyfodol yn Ewrop ymhlith y pryderon mwyaf dybryd sy'n wynebu ein cenedl. Onid ydych chi'n teimlo dim ond rhyw fymryn o gywilydd ynghylch methiant eich plaid i gyflwyno safbwynt eglur? Ac a yw'n unrhyw syndod o gwbl bod cynifer yn cefnu arni nawr?

14:00

Wel, mae polisi'r Blaid Lafur, Llywydd, yn eglur. Y polisi yw'r un a nodwyd ym mhenderfyniad cynhadledd mis Medi, ac dyna'r polisi yr wyf i wedi ei gefnogi byth ers hynny. Rwyf i yn y sefyllfa ffodus o allu trafod y materion hyn gyda llefarwyr mainc flaen Llafur: Syr Keir Starmer, a oedd yma yng Nghaerdydd yn ystod y pythefnos diwethaf; roeddwn i'n gallu ei drafod gyda Jeremy Corbyn pan oeddwn i yn Llundain yr wythnos diwethaf. Rwy'n croesawu ei lythyr dyddiedig 6 Chwefror. Fe'i croesawyd yn eang ym Mrwsel hefyd fel cyfraniad pwysig a oedd â chyfle, pe byddai Llywodraeth a fyddai'n barod i gynnal trafodaethau a negodiadau gwirioneddol gydag eraill ar lawr Dŷ'r Cyffredin. Roedd y llythyr hwnnw yn cynnig ffordd i gytundeb y gellid ei daro, a allai sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin ac y gellid ei gefnogi ar lefel yr Undeb Ewropeaidd hefyd. Dyna'r hyn y mae fy mhlaid i eisiau ei gael allan o hyn i gyd. Dim ond os gwnaiff y Llywodraeth sy'n gyfrifol am hyn i gyd, sydd wedi bod yn gyfrifol am hyn i gyd ers y refferendwm—. Dim ond os byddan nhw'n methu â symud i gyfeiriad lle gellir sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin y bydd yn rhaid i ni wedyn wneud, fel y mae'r Aelod wedi ei ddweud—ac rwyf i wedi cytuno ag ef nawr am y trydydd tro y prynhawn yma, o dan yr amgylchiadau hynny, byddai'n rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl at y bobl a'i gwnaeth yn y lle cyntaf.

Diolch, Llywydd. A gaf innau hefyd ychwanegu fy nghydymdeimlad i deulu Paul Flynn? Er iddo gael ei gysylltu â Chasnewydd ers blynyddoedd lawer, brodor o Gaerdydd ydoedd yn wreiddiol, trwy enedigaeth a magwraeth, felly mae'r ddwy ddinas yn ei hawlio i ryw raddau. Cysylltais â Paul Flynn yn ystod cyfnod cynnar ymgyrch y refferendwm. Gan ei fod yn wleidydd wirioneddol annibynnol ei feddwl, roedd gen i ddiddordeb, a dweud y gwir, yn ei safbwynt ar hynny, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am yr e-bost a gefais yn ôl ganddo. Nid oeddwn yn adnabyddus i'r cyhoedd ar y pryd, felly roeddwn i'n falch iawn o gael ei ymateb, ac eglurodd ei safbwynt. Roeddem ni ar wahanol ochrau i'r ffens, fel y digwyddodd, ond roeddwn i'n ddiolchgar am ei ymateb, a gwn fod ganddo o leiaf un person yma a weithiodd iddo yn y gorffennol, ac, wrth gwrs, fel y dywedasoch, roedd yn gefnogol i ddatganoli, felly mae ei etifeddiaeth, mewn sawl ffordd, yn parhau.

Prif Weinidog, bythefnos yn ôl, fe wnaethoch ch ateb cwestiynau yma yn y Siambr gan arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, pan fynegwyd dymuniadau Llywodraeth Cymru gennych i fynd i'r afael â materion gwadu'r Holocost a chyffredinrwydd cynyddol gwrth-Semitiaeth mewn cymdeithas. A wnewch chi ail-bwysleisio mai'r dymuniadau hynny yw eich safbwynt o hyd a bod Llywodraeth Lafur Cymru yn dal i fod yn wirioneddol ymrwymedig i fynd i'r afael â'r problemau hyn?

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i herio stigma lle bynnag y bydd yn codi, i amddiffyn hawliau pob aelod o'n cymdeithas, beth bynnag fo'i ffydd neu ei ddiwylliant. Mae hynny'n hollol wir o ran gwrth-Semitiaeth, ond mae'n wir o ran mathau eraill o gam-drin y mae cymunedau eraill yng Nghymru wedi eu dioddef, ac rydym ni wedi ymrwymo i hynny yn gyffredinol.

Iawn. Diolch, Prif Weinidog, am yr ymrwymiad yna. Nid wyf i'n siŵr bod y Blaid Lafur yn debygol o fod yn gyfrwng effeithiol ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem benodol o wrth-Semitiaeth, fodd bynnag. Ddoe, gwelsom fod saith o ASau Llafur yn teimlo y dylent adael y Blaid Lafur. Un o'r rhesymau a nodwyd ganddyn nhw yw'r achosion cynyddol o wrth-Semitiaeth o fewn y Blaid Lafur. Yn wir, dywedodd un ohonyn nhw fod y Blaid Lafur bellach yn sefydliadol wrth-Semitaidd. Nawr, cawsom ddatganiad Llywodraeth Cymru ar hyn 18 mis yn ôl, a gyfeiriodd at hyfforddiant i swyddogion i'w gwneud yn fwy ymwybodol o wrth-Semitiaeth a gweithio gyda Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i nodi achosion o hyn. O ystyried ei bod yn ymddangos bod y broblem yn cynyddu, a oes angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy erbyn hyn?

14:05

Rwy'n credu bod hyfforddiant ymwybyddiaeth yn bwysig iawn ac mae'n hanfodol, wrth i heriau newydd ddod i'r amlwg, bod pobl yn cadw hwnnw'n gyfredol. Ac mae hynny'n wir nid yn unig am bobl sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru, mae'n wir am bobl sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru, a, Llywydd, byddwn yn dweud ei fod yn wir am unrhyw Aelod o'r Cynulliad hwn hefyd.

Ie, rwy'n cytuno â'ch safbwyntiau, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod angen i chi edrych yn ofalus ar eich plaid eich hun. Cafwyd un ymchwiliad gan Shami Chakrabarti—[Torri ar draws.] Cafwyd un ymchwiliad gan Shami Chakrabarti, a danseiliwyd braidd pan ymunodd â'r Blaid Lafur yn syth. Yna, o fewn wythnosau i orffen yr ymchwiliad honedig, rhoddwyd sedd mainc flaen Llafur iddi yn Nhŷ'r Arglwyddi. Roedd yn amlwg mai achos o wyngalchu oedd hyn yn hytrach nag ymchwiliad gwirioneddol. Mae gennym ni ymchwiliad arall sy'n cael ei gynnal erbyn hyn, lle mae ysgrifennydd cyffredinol eich plaid yn gwrthod datgelu faint o gwynion o wrth-Semitiaeth o fewn y Blaid Lafur y mae wedi eu cael, gan fod y gwir yn achosi gormod o gywilydd. Prif Weinidog, am ba hyd y gall eich Llywodraeth Cymru barhau i esgus bod yn erbyn y math hwn o hiliaeth pan fod y broblem hon yn bodoli drwy eich plaid gyfan o'r brig i'r gwaelod?

Llywydd, mae fel cyrraedd bydysawd cyfochrog i gael cwestiynau gan y blaid sy'n croesawu Tommy Robinson a'r credo y mae'n barod i'w hyrwyddo, ac yna sy'n gofyn i bleidiau eraill esbonio eu hunain. Gadewch i mi fod yn eglur, Llywydd: does dim lle o gwbl yn fy mhlaid i nac yn unrhyw le arall yng Nghymru ar gyfer rhagfarn yn erbyn pobl o hiliau neu grefyddau eraill. Ac nid yw hynny'n cynnwys y rhai y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw heddiw yn unig, ond at bob un arall y mae ef, yn y gorffennol, wedi bod yn barod i ymosod arnynt yn y swydd y mae ynddi erbyn hyn.

Y Panel Adolygu Cynghorau Cymuned

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgymeriadau presennol y panel adolygu cynghorau cymuned? OAQ53452

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Darparodd y panel adolygu annibynnol ei adroddiad terfynol i Lywodraeth Cymru ar 3 Hydref 2018. Ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, cyflwynodd datganiad ysgrifenedig y camau i'w cymryd yn y flwyddyn galendr hon a thu hwnt mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw.

Diolch, Prif Weinidog. Ac, wrth gwrs, yn ystod eich cyfnod chi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol y gwnaethoch chi sefydlu'r panel hwnnw. Roedd y panel adolygu annibynnol, ar ôl cyflwyno ei adroddiad terfynol ar swyddogaethau'r cynghorau hyn yn y dyfodol, yn credu ei bod yn bwysig iawn bod cynghorau yn atebol am yr arian cyhoeddus y maen nhw'n ei wario, a'u bod nhw'n cael eu rheoli'n dda o ran gonestrwydd ariannol. Wrth gwrs, mae'r adroddiad gan yr archwilydd cyffredinol hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith fod nifer y barnau archwilio amodol wedi dyblu yn 2017-18, ac mae gennym ni 340 o gynghorau y mae hynny'n berthnasol iddyn nhw erbyn hyn. Ceir nifer o argymhellion yn yr adroddiad hwnnw. Yn Aberconwy, mae gennym ni sefyllfa o ddigalondid ar hyn o bryd bod cyngor cymuned ym Mhenmaenmawr wedi gwario dros £100,000 o arian wrth gefn dros gyfnod o dair blynedd, gan beri llawer o bryder, yn enwedig pan nad yw rhai o'r cynghorwyr ar y cyngor hwnnw yn gwybod sut y mae'r arian hwn yn cael ei wario.

A wnewch chi ddatgan, os gwelwch yn dda, erbyn pryd y byddwch chi'n gweithredu ar argymhellion y panel adolygu annibynnol? Ac a wnewch chi hefyd egluro sut y byddwch chi, fel Prif Weinidog Cymru erbyn hyn, yn cymryd camau i gryfhau arferion ariannol cadarn a thryloywder o ran gwariant treth gyngor o ran hyn, ei braesept? Oherwydd roedd gan y cyngor penodol hwn ym Mhenmaenmawr braesept o 21 y cant flwyddyn neu ddwy yn ôl, ac mae trigolion yn bryderus dros ben erbyn hyn nad yw'r cynghorwyr eu hunain yn gwybod sut y gwariwyd y £100,000 hwn. Ceir cynghorau cymuned ledled Cymru, lle, yn syml, nad oes ganddyn nhw unrhyw arferion archwilio ar waith, ac mae atebolrwydd ariannol yn wael iawn. Felly, a wnewch chi ymchwilio i hyn os gwelwch yn dda fel mater o gryn flaenoriaeth fel bod y panel adolygu annibynnol hwnnw a'i waith yn dod yn ystyrlon yn hytrach na'i fod yn ddiystyr?

Wel, diolch i'r Aelod am hynna ac am y diddordeb y gwn iddi ei ddangos yn yr adolygiad ei hun. Gwn o'm trafodaethau gyda hi ei bod hi eisiau gweld sector cynghorau cymuned a thref sydd yn gryf ac a fydd yn gallu gwrthsefyll craffu hefyd. Rwy'n rhannu pryder yr archwilydd cyffredinol gyda'r nifer uchel parhaus o gynghorau cymuned sydd wedi cael barnau archwilio amodol. Nawr, cyfeiriodd yr Aelod at 340 ohonyn nhw, ac rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud, fel yr wyf i'n siŵr y gwnaiff hi gydnabod, fod y rhan fwyaf o'r rheini yn dramgwyddau cymharol fân o gyflwyniadau yn cael eu gwneud ychydig ddiwrnodau y tu hwnt i'r dyddiad terfyn a pheidio â defnyddio'r ffurflen gywir weithiau ac ati. Ond ceir enghreifftiau lle mae'r anhawster yn mynd y tu hwnt i hynny, a lle ceir adroddiadau buddiant cyhoeddus y bu'n rhaid i'r archwilydd cyffredinol eu cyhoeddi oherwydd ei bryder ynghylch cywirdeb yn y ffordd y defnyddiwyd arian cyhoeddus, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol.

Nawr, mae'r archwilydd cyffredinol wedi cytuno erbyn hyn y bydd yn adolygu digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau archwilio presennol i sicrhau eu bod yn addas i'r diben hwn, a bydd yr adolygiad hwnnw yn rhoi cyfle i ni wneud yn siŵr bod gennym ni drefn ar waith sy'n sicrhau bod y cynghorau cymuned yn atebol yn annibynnol, a phan fyddan nhw'n defnyddio arian cyhoeddus, eu bod nhw'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n gadarn, mewn modd y gellir ei amddiffyn ac sy'n gallu gwrthsefyll craffu gan y rhai o'r tu allan i aelodaeth y cynghorau hynny.

14:10

Bydd y Prif Weinidog yn cofio mai un o'r argymhellion yn yr adolygiad oedd i'r Llywodraeth archwilio sut y gellid sicrhau bod cronfa o glercod cymwysedig ar gael i gefnogi cynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Rwy'n gwbl ymwybodol bod rhai o'r cynghorau cymuned llai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli, weithiau'n cael trafferth i ddod o hyd i'r person cywir i gefnogi eu gwaith, ac mae hynny, wrth gwrs, yn hollbwysig o ran rhai o'r materion y mae Janet Finch-Saunders eisoes wedi eu codi. Gall y mater hwn o lywodraethu da ac atebolrwydd ddibynnu ar fod â'r aelod priodol o staff mewn swydd. Cynghorwyr yw llawer ohonyn nhw sy'n gwneud hyn ar sail rhan-amser dros ben, yn ddi-dâl, gan roi llawer i'w cymuned, ond ni ellir disgwyl iddyn nhw o reidrwydd fod â'r lefel honno o arbenigedd fel unigolion, felly mae angen y cymorth proffesiynol hwnnw arnyn nhw. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn helpu i gynorthwyo cyflenwad clercod sydd â'r cymwysterau a'r profiad priodol i gynghorau cymuned?

Diolchaf i Helen Mary Jones am y pwynt pwysig yna. Mae hi'n hollol iawn wrth ddweud y rhoddodd yr adroddiad bwyslais ar y cyngor cymwysedig ac annibynnol sydd ar gael i gynghorau cymuned gan eu clercod. Treuliais neithiwr, Llywydd, yng nghyfarfod cyngor cymuned Pentyrch yn fy etholaeth i. Rwy'n ymweld ag ef unwaith y flwyddyn, ac mae'n gyngor cymuned llwyddiannus iawn. Rhan o'i lwyddiant yw ei fod yn gwneud yn siŵr ei fod yn neilltuo rhai adnoddau i anfon ei glerc ar y cyrsiau hyfforddi diweddaraf, gan wneud yn siŵr bod y person hwnnw wedi'i baratoi'n dda iawn i ddarparu'r cyngor sydd ei angen arnyn nhw. Fel Llywodraeth, rydym ni'n neilltuo rhywfaint o gyllid ychwanegol i gynorthwyo cynghorau cymuned lleol i allu cael mynediad at y cyrsiau hyfforddi hynny i'w staff, a byddwn yn gweithio drwy Un Llais Cymru, y sefydliad ambarél ar gyfer cynghorau tref a chymuned, i geisio annog mwy o gynghorau i fanteisio ar y cynnig sydd yno iddyn nhw erbyn hyn.

Gwella Gwasanaethau Rheilffyrdd Cymru

4. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i wella gwasanaethau rheilffyrdd Cymru dros y pum mlynedd nesaf? OAQ53445

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd rheilffyrdd Cymru yn gweld gwasanaethau gwell ac ychwanegol, a gwell trenau, gwaith uwchraddio eang i orsafoedd, gwelliannau i wasanaeth tocynnau a gwybodaeth a mwy o gyfleusterau parcio a chyfnewid i deithwyr.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, sydd wedi torri addewid i drydaneiddio prif reilffordd y de i Abertawe ac sydd wedi darparu 1 y cant pitw o gyllid seilwaith rheilffyrdd y DU i Gymru, mae Llafur Cymru wedi buddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf pa welliannau y gall teithwyr ddisgwyl eu gweld yn ystod y ddwy flynedd nesaf?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna ac am y gwaith, wrth gwrs, a wnaeth i sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa i wneud y gwelliannau hyn yma yng Nghymru. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno cerbydau ychwanegol. Yn ystod y flwyddyn hon, bydd y trenau ychwanegol hynny yn cael eu defnyddio i leddfu gorlenwi ac i gyflwyno gwasanaethau newydd. Bydd hynny'n rhagflaenu trenau newydd y byddwn yn eu cyflwyno dros y ddwy flynedd nesaf. Byddwn yn gweithredu i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau ffisegol yn ein gorsafoedd yn gwella yn y flwyddyn galendr hon trwy raglen well o lanhau dwys sydd ar waith ledled Cymru. O fis Rhagfyr eleni, bydd cynnydd o 22 y cant i filltiroedd ar y Sul a gwasanaethau ychwanegol i deithwyr ar y diwrnodau hynny. Bydd gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod teithwyr yn fwy gwybodus am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu. Rydym ni'n ymdrin â threfn docynnau newydd a fydd yn creu 3,000 o docynnau ymlaen llaw newydd i leihau'r gost o fynd ar deithiau hirbell. Dim ond rhai o'r pethau y byddwn ni'n eu gwneud yma yng Nghymru yw'r rhain i wneud yn siŵr bod gan bobl yng Nghymru wasanaeth y maen nhw'n ei haeddu ac y byddan nhw'n falch ohono i'r dyfodol.

14:15

Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod trigolion Carno wedi bod yn ymgyrchu dros gael gorsaf newydd yng Ngharno ers blynyddoedd lawer. Maen nhw wedi bod yn rhwystredig bod y broses arfarnu cam 2 yn ymddangos fel ei fod wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl, ond rwy'n ddiolchgar i Helen Mary Jones, a ofynnodd gwestiwn i'ch cyd-Aelod yr wythnos diwethaf, i wybod bod y broses cam 2 honno wir yn dod i ben a bod cam 3 ar fin dechrau. Nawr, rwyf yn deall bod ymrwymiad eisoes i fwrw ymlaen â dwy orsaf newydd yn y gogledd, yng Nglannau Dyfrdwy ac yn Wrecsam, ond a allwch chi gadarnhau sut y mae hynny'n cyd-fynd â'r broses dri cham hon pan nad yw'r trydydd cam wedi dechrau eto? A allwch chi gadarnhau bod proses werthuso Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu gorsaf newydd yn broses deg?

Wel, mae'r broses WelTAG, Llywydd, yn broses deg. Fel y dywed yr Aelod, mae'n broses tri cham lle caiff cynigion ar gyfer mentrau newydd eu profi drwy'r gwahanol gamau. Mae arfarniad gorsaf Carno yn dod tuag at ddiwedd cam 2. Mae ein gallu i fwrw ymlaen â chynigion yng ngham 3 yn dibynnu ar fod gennym yr adnoddau er mwyn gwneud hynny, ac mae, fel ag erioed yn y maes hwn—fel y lleill yr ydym wedi eu trafod y prynhawn yma—lleoedd lle yr hoffem ni allu gwneud mwy a lle y byddem ni'n gwneud mwy, os daw'r cyllid i Gymru i'n galluogi i wneud hynny.

Ar fy siwrnai bump awr o Fangor i Gaerdydd neithiwr, roeddwn i'n edrych ar fap o rwydwaith rheilffordd Cymru, ac roedd yn fy atgoffa nad rhwydwaith wedi'i greu ar gyfer Cymru ydy hwn mewn difrif. Mae angen buddsoddi mewn ehangu'r rhwydwaith, wrth gwrs, er mwyn cysylltu Cymru. Mae angen buddsoddi ar holl arfordir gorllewinol Cymru. Ond mae buddsoddi mewn ehangu'r rheilffordd yn costio llawer o arian, wrth gwrs. Mae angen meddwl yn ofalus am y buddsoddiadau hynny. Ond mae yna un buddsoddiad y gallen ni ei wneud ar unwaith, un cymharol fach, er mwyn ehangu'r rhwydwaith, a hynny ydy ailagor y rheilffordd sydd yno'n barod rhwng Gaerwen ac Amlwch yng ngogledd Ynys Môn. A ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi y dylid symud ymlaen efo hynny ar fyrder rŵan, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau economaidd anodd sy'n wynebu'r rhan yna o Ynys Môn?

Wel, diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Dwi'n gallu cadarnhau bod yr enghraifft y mae wedi cyfeirio ati—mae honna'n rhan o'r rhaglen rŷn ni'n gweithio arni ar hyn o bryd. Yn gyffredinol, wrth gwrs, beth mae Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud yn wir. Dydy'r system sydd gyda ni ar hyn o bryd ddim yn un rŷn ni wedi ei dyfeisio ar gyfer yr anghenion sydd gyda ni yng Nghymru. Ond, nawr, gyda rhai o'r cyfrifoldebau sydd yn ein dwylo ni, rŷn ni'n gallu gwneud mwy i baratoi am anghenion y dyfodol.

Annog Pobl Ifanc i Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? OAQ53476

Llywydd, o 1 Mawrth, bydd unrhyw berson ifanc rhwng 16 a 21 oed yn cael gwneud cais i deithio ar fysiau am bris gostyngol yng Nghymru. O fis Ionawr y flwyddyn nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn ymestyn teithio ar reilffyrdd am ddim i blant dan 11 mlwydd oed. Bydd y ddwy fenter hon yn helpu i greu defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus y dyfodol.

Diolch. Diolch, Prif Weinidog. Ymunodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, â myfyrwyr yn Wrecsam yr wythnos diwethaf i ddathlu cyhoeddi'r cynllun poblogaidd mytravelpass sy'n rhoi gostyngiad i bobl ifanc. Ers i'r cynllun ddechrau yn 2014, cafwyd cyfanswm o 20,953 o ddeiliaid cardiau ac amcangyfrifwyd y bu 1,344,000 o deithiau gostyngol yn 2017-18. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf pryd y gallwn ni ganfod faint o gyfranogiad sydd yn Islwyn ei hun a sut, yn y dyfodol, y gall Llywodraeth Cymru gynyddu eto nifer y bobl ifanc y mae'r fenter bwysig a chadarnhaol iawn hon yn eu cyrraedd?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna ac am dynnu sylw at y ffigurau rhagorol hynny a grybwyllwyd ganddi—dros 1,300,000 o deithiau gostyngol a ddigwyddodd o ganlyniad i'r fenter mytravelpass yn 2017-18. Yn yr ychydig ddyddiau ers i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth lansio'r ceisiadau am y cerdyn newydd ac estynedig, yr wythnos diwethaf, mae dros 500 o geisiadau wedi dod i law, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod yn ystyried ffyrdd y byddwn yn gallu dadgyfuno'r data hynny a rhoi gwybod i Aelodau o gwmpas y Siambr sut y defnyddir y cerdyn yn eu hetholaethau eu hunain.

14:20

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn ôl yn 2017, cyflwynodd fy mhlaid i rai cynigion clir iawn ar gyfer teithio ar fysiau am ddim, nid teithiau bws hael yn y modd yr ydych chi'n ei gynnig, sy'n ddim ond disgownt, ond cynllun llawer mwy hael i alluogi'r rhai hynny sydd rhwng 16 a 24 i deithio am ddim ar y rhwydwaith bysiau. Fe wnaethoch chi ar y pryd ei ddisgrifio fel 'economeg ffantasi ar becyn sigaréts', ond y gwir amdani, wrth gwrs, yw y cafodd y polisi ei fabwysiadu gan Blaid Lafur y DU yn fuan wedyn, ac maen nhw erbyn hyn yn cefnogi'r cynllun. Gan fod hon yn rhaglen y mae'r costau wedi'u nodi'n llawn ar ei chyfer, sy'n dda ar gyfer pobl ifanc, sy'n dda ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ac sy'n dda ar gyfer yr amgylchedd, oni wnewch chi edrych eto ar ein cynllun a'n cynigion, sydd hefyd yn ymestyn gostyngiadau i'r rhwydwaith rheilffyrdd ar gyfer y bobl ifanc 16 i 24 mlwydd oed hynny, llawer ohonyn nhw heb ddewis arall heblaw defnyddio bysiau oherwydd costau cynyddol premiymau yswiriant ar eu cerbydau modur?

Wel, Llywydd, byddwn yn barod i edrych ar gynigion yr Aelod ar yr amod y gall ef wneud dau beth: yn gyntaf oll y bydd yn darparu costau sy'n rhesymol ac yn ddibynadwy, ac yn ail y bydd ef yn dweud wrthyf o ble yn Llywodraeth Cymru y mae'n cynnig fy mod yn cymryd yr arian i dalu am ei syniad newydd.

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, a dwi'n galw'r cwestiwn cyntaf, Hefin David.

Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Sector Gwirfoddol

1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector gwirfoddol? OAQ53472

Mae sector gwirfoddol cryf ac annibynnol yn hanfodol i les Cymru a'n cymunedau. Mae perthynas gynaliadwy â'r sector gwirfoddol drwy ein cynllun trydydd sector a'n grant trydydd sector Cymorth Cymru yn darparu'r seilwaith y gall y sector ffynnu arno.

Diolch. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i groesawu'r Dirprwy Weinidog i'w swydd. Rwy'n siŵr y bydd hi'n dod i arfer yn gyflym iawn. [Chwerthin.] Ond at fy nghwestiwn: mae llawer o grwpiau gwirfoddol yn fy etholaeth i, bron gormod i sôn amdanyn nhw, ond rwyf am sôn am dri. Un yw Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned, sydd bellach yn fenter gymdeithasol ffyniannus—canolbwynt yn y gymuned. Ysbyty oedd ef yn wreiddiol, mewn gwirionedd, lle cefais i fy ngeni ac mae wedi'i weddnewid gan wirfoddolwyr. Grŵp Treftadaeth Cwm Aber—maen nhw'n allweddol o ran sefydlu Cofeb Lofaol Genedlaethol Cymru yn Senghennydd. Dyna'r safle lle digwyddodd trychineb lofaol waethaf Cymru ym 1913. A hefyd y Ganolfan Galw Heibio ar gyfer Pobl Ifanc yn Senghennydd, neu SYDIC, sy'n cysylltu pobl ifanc â'r gymuned leol ac sy'n datblygu ymdeimlad o gydlyniant yno—hynod bwysig yn Senghennydd. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ymrwymo i gymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiectau hyn a phrosiectau tebyg?

Wel, a gaf i ddiolch i Hefin David am ei eiriau caredig a'i gwestiwn? Rydych chi wedi tynnu sylw at waith sefydliadau lleol sydd wedi'u gwreiddio yn nhreftadaeth a hanes eich cymuned. Wrth gwrs, maen nhw hefyd yn cefnogi anghenion cymdeithasol ac yn gwella lles. Felly, a gaf i ddweud, mewn ymateb i'r cwestiwn, fod gwirfoddoli, wrth gwrs, yn parhau i fod wrth wraidd cymunedau ledled Cymru a bod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi gwirfoddoli fel mynegiant pwysig o ddinasyddiaeth ac yn elfen ganolog o ddemocratiaeth, ac rydym ni'n darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, wrth gwrs, yn ogystal â'r cynghorau gwirfoddol sirol hynny ledled Cymru i ddarparu cymorth trydydd sector.

Hoffwn innau hefyd groesawu'r Dirprwy Weinidog i'w swyddogaeth. Roeddwn yn falch o weld bod yr elusen o Lanelli Threshold DAS, a arferai gael ei alw'n Cymorth i Fenywod Llanelli, wedi cael grant o £1.5 miliwn i ddarparu rhaglen ledled Cymru a fydd yn cynnig cymorth i fenywod a merched sydd wedi eu heffeithio gan gam-drin a thrais domestig. A yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau trais domestig a rhywiol yn arbennig yw drwy grwpiau trydydd sector lleol, wedi'u harwain gan y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain? A pha gamau y gall y Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru eu cymryd i wrthdroi'r duedd o golli llawer o'r gwasanaethau hynny drwy brosesau tendro i gwmnïau mawr, rhyngwladol nad ydyn nhw'n deall o gwbl y cymunedau y maen nhw i fod i'w gwasanaethu, heb sôn am y dioddefwyr y maen nhw i fod i'w cynorthwyo?

Diolch i Helen Mary Jones am y cwestiwn hwnnw ac rwy'n cydnabod hefyd fod gwasanaethau, o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, wrth gwrs, wedi dechrau yn y trydydd sector—wedi dechrau gyda Cymorth i Fenywod Cymru, a sefydlwyd Cymorth i Fenywod Caerdydd gan fenywod yn eu cymuned leol. A'r hyn sy'n bwysig hefyd, wrth gwrs, o ran gwasanaethau cam-drin domestig, yw'r symudiad cryf tuag at alluogi goroeswyr i helpu i lunio'r gwasanaethau sydd mor bwysig ac, wrth gwrs, ein helpu ni i lunio ein hymateb a'n camau gweithredu rhagweithiol o ran cyflawni Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

14:25

Gweinidog, a allwch chi ddweud wrthyf pa gymorth yr ydych chi'n ei roi i gymunedau ffydd i gefnogi eu hymgysylltiadau sector gwirfoddol? Byddwch yn ymwybodol o ddarn o waith ymchwil a gwblhawyd y llynedd i effaith enwadau pentecostaidd Cymru—y tri prif enwad pentecostaidd Cynulliadau Duw, Elim a'r Eglwys Apostolaidd—ac mae'r ymchwil hwnnw wedi canfod bod dros 2,700 o wirfoddolwyr yn cyfrannu gwerth 5,000 awr o waith gwirfoddol bob wythnos yn y tri enwad hynny yn unig, sy'n cyfrannu mwy na £3 miliwn i economi Cymru wrth wneud hynny. Mae hwnnw'n waith gwirfoddol nad yw'n hunanwasanaethu'r sefydliadau penodol hynny ond mewn gwirionedd sy'n gwasanaethu eu cymunedau. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n dymuno inni ddathlu hynny, ond pa waith ydych chi'n ei wneud i ymgysylltu â'r sector ffydd yn fwy eang er mwyn hybu'r math hwn o waith fel y gallwn gael mwy o werth ohono?

Wel, wrth gwrs, fel y dywedwch, Darren Millar, mae'r grwpiau ffydd yn cyflawni swyddogaeth bwysig iawn yn eu cymunedau drwy wirfoddolwyr, drwy grwpiau eglwysi, ac rydym yn gwybod, er enghraifft, y caiff llawer o'n banciau bwyd eu rhedeg gan, a chyda, eglwysi a chapeli ledled Cymru. Ac rydym yn gwybod, wrth gwrs, hefyd fod gan y Gymdeithas Lles Mwslimaidd ran hefyd o ran y math hwnnw o weithgarwch gwirfoddol. Mae'n bwysig iawn, drwy ein fforwm rhyng-ffydd a'r gwaith a wnawn i gefnogi'r trydydd sector, ein bod yn edrych yn ofalus ar yr anghenion hynny, sydd, wrth gwrs, yn cael eu gwella, hefyd, gan gynlluniau grant eraill fel Deddf Eglwys Cymru 1914, fel, hefyd, y ffaith y gallan nhw gael gafael ar gyllid trydydd sector, nid yn unig yn lleol, ond ar sail Cymru gyfan hefyd.

Effaith Economaidd Anghydraddoldeb

2. Pa drafodaethau mae’r Dirprwy Weinidog wedi eu cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar effaith economaidd anghydraddoldeb yn sgil adroddiad Chwarae Teg, Cyflwr y Genedl 2019? OAQ53473

Diolch yn fawr. Dwi’n cwrdd â’r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth ar 6 Mawrth i drafod yr adolygiad gydraddoldeb rhywedd. Bydd gan y cynllun cyflogadwyedd, y contract economaidd a’r Comisiwn Gwaith Teg i gyd rôl bwysig wrth daclo’r diffyg cydraddoldeb y mae adroddiad Chwarae Teg yn sôn amdano.

Diolch yn fawr, a llongyfarchiadau mawr ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y Siambr. Un her allweddol fydd cefnogi mwy o ferched i weithio, ond, wrth gwrs, mae gofal plant yn parhau i fod yn rhwystr. Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol na dynion o sôn am ofalu am y teulu neu’r cartref fel rheswm dros beidio â gweithio. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y cynnig gofal plant newydd ar gyflogaeth rhieni? Ac a fydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i newid y meini prawf cymhwysedd os bydd y gwerthuso yn dangos bod angen newid?

Wel, diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Rwy’n credu bod yr adroddiad 'Cyflwr y Genedl 2019' gan Chwarae Teg wedi bod yn werthfawr iawn gan iddo ystyried menywod yn yr economi, cynrychiolaeth menywod, a menywod mewn perygl, ac, fel y dywedwch chi, dangosodd yr ystadegau o'r adroddiad yn glir iawn bod menywod yn fwy tebygol o fod yn anweithgar yn economaidd oherwydd eu bod yn gofalu am y teulu a'r cartref. Ac mae'n amlwg bod angen i ni ystyried hyn, fel yr ydym ni yn ein cynnig gofal plant.

Nawr, mae'r cynnig gofal plant ar hyn o bryd, fel y gwyddoch chi, yn cynnwys o leiaf 10 awr o ddarpariaeth feithrin y cyfnod sylfaen, hyd at 20 awr o ofal plant gyda darparwr cofrestredig, ac mae'r grant cyfalaf sydd yn cael ei roi ar gael bellach i sicrhau bod digon o leoedd gofal plant o ansawdd da ar gael i alluogi'r holl blant sy'n gymwys i fanteisio ar y ddarpariaeth i'w groesawu'n fawr. Ond, wrth gwrs, mae gwerthuso yn hollbwysig, fel y dywedwch chi, o ran gweithredu cynnar—mae llawer o ganfyddiadau cadarnhaol o hynny—ond hefyd wrth ystyried ffyrdd y gallwn ni gefnogi nid yn unig rhieni sy'n gweithio ond dileu'r rhwystrau i gyflogaeth y mae rhieni yn eu hwynebu. Felly, mae canfyddiadau calonogol o'r canlyniad hwnnw, o'r gwerthusiad, ond hefyd cyfle i ystyried hyn o ran ffyrdd y gallwn sicrhau bod y cynnig gofal plant yn cyflawni, fel y gall leihau'r rhwystrau hynny i fenywod sy'n dechrau gweithio ac sy'n cymryd rhan mewn cyflogaeth.

14:30

Nid wyf yn credu y gall y cynnig gofal plant, ynddo'i hun, egluro'r gwahaniaeth yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau rhwng gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru. Ar un pen y sbectrwm, mae gennym ni Ynys Môn, â bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 25.5 y cant ymhlith trigolion yn ei dalgylch yn y fan honno, ac yn agos iawn wedyn mae Bro Morgannwg, eich etholaeth chi—23.4 y cant. Ond ar ben arall y raddfa, mae gennym ni Gwynedd â bwlch o -0.2, a Chonwy â bwlch o -8.7. Beth fyddwch chi'n ei ofyn i Weinidog yr economi ei ystyried pan fydd yn penderfynu ar y cymorth a roddir i wahanol fathau o fusnesau, a allai helpu i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn?

Wel, rwy'n falch iawn, Suzy Davies, eich bod wedi tynnu sylw at y diffyg cysondeb hwnnw o ran gweithredu camau i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, sydd wedi gostwng ychydig yn 2018, ond tua 8 y cant yw'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Llywodraeth Cymru. Nid yw hynny'n dderbyniol. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gweithredu ar hyn, a byddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog, fel y dywedasoch chi, o ran ysgogi hyn drwy'r cynllun cyflogadwyedd, a hefyd, drwy'r contract economaidd. Mae'r cynllun cyflogadwyedd, wrth gwrs, yn hollbwysig, oherwydd mae angen inni sicrhau bod hwnnw'n ystyried y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Os byddwn yn dadansoddi'r wybodaeth am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, os edrychwn ni ar gwmnïau sy'n cyflogi dros 250 o bobl, mae angen inni annog cwmnïau i, er enghraifft, dalu'r cyflog byw gwirioneddol a monitro ein holl raglenni, yn enwedig y rhai economaidd, i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau wrth wraidd y camau gweithredu. Felly, dyna yn sicr y byddaf yn canolbwyntio arno yn fy nghyfarfod gyda Ken Skates yn yr wythnos neu ddwy nesaf.

Rheolaeth drwy Orfodaeth

Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, gyda chaniatâd y Llywydd, hoffwn ychwanegu fy ngeiriau at y teyrngedau i Paul Flynn. Roedd yn gyfaill ac yn fentor gwych i mi yn bersonol. Ac roedd Paul yn ddatganolwr brwdfrydig, yn hyrwyddwr dros y Gymraeg, ac roedd yn hynod falch o weld y Senedd hon yn cael ei sefydlu. Roedd yn hoff iawn o Gasnewydd, a gwn ei fod yn hynod falch bod pobl Gorllewin Casnewydd wedi cadw ffydd ac wedi ymddiried ynddo am dros 30 mlynedd. A hoffwn hefyd ddiolch i'r Llywydd am ganiatáu i mi wneud datganiad byr yn deyrnged iddo ef yfory. Mae ein meddyliau a'n cariad gyda'i wraig, Sam, a'i deulu.

Gan symud ymlaen at fy nghwestiwn:

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth? OAQ53474

Wel, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i Jayne Bryant am ei theyrnged i'ch mentor a'ch ffrind annwyl iawn, yr ysbrydoledig Paul Flynn? Roeddwn yn ffodus i adnabod Paul a gweithio a dysgu ganddo yn ôl pan oeddwn i'n weithiwr cymunedol yn Pilgwenlli, ac yntau'n gynghorydd Llafur. Rydym wedi clywed llawer o deyrngedau gwych ar draws y Siambr hon, ac wrth gwrs, mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwfn â'i deulu.

Mewn ymateb i'ch cwestiwn, lansiais yr ymgyrch 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' ym mis Ionawr. Mae hon yn ymgyrch blwyddyn o hyd sy'n codi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi'r gweithlu sector cyhoeddus i allu nodi rheolaeth drwy orfodaeth drwy ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol.

Diolch, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'n fawr iawn ymgyrch 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yng Nghasnewydd fis diwethaf gennych chi. Ac ymhlith y rhai hynny a oedd yn siarad yn y lansiad yn Theatr Glan yr Afon oedd Luke Hart, y llofruddiwyd ei fam a'i chwaer gan ei dad ar ôl blynyddoedd o gam-drin. Mae Luke a'i frawd Ryan, ers hynny, wedi dechrau prosiect o'r enw CoCo Awareness. Mae addysgu pobl am arwyddion cam-drin yn hollbwysig, yn ogystal â sicrhau bod pobl sy'n dioddef cam-drin yn gwybod y cânt eu clywed ac y bydd pobl yn gwrando arnyn nhw pan eu bod yn gofyn am gymorth. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu sut y bydd ymgyrch Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda goroeswyr, yr heddlu a sefydliadau eraill sydd â swyddogaeth hanfodol bwysig o ran codi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth a galluogi pobl i adrodd am hynny?

Diolch i Jayne Bryant am y cwestiwn yna. Roeddwn yn ffodus i fod yn lansiad yr ymgyrch hon, ac i glywed y cyflwyniad pwerus iawn gan Luke Hart o CoCo Awareness am ei brofiad. Ac mae ef a'i frawd wedi ymrwymo eu bywydau bellach i godi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth, a arweiniodd at farwolaeth eu mam a'u chwaer. Felly, mae'r ymgyrch hon yn bwysig i ni wrth fwrw ymlaen â'n gwaith o godi ymwybyddiaeth o natur dwyllodrus, cronnol rheolaeth drwy orfodaeth. A bydd yn annog dioddefwyr i ddeall bod yr hyn y maen nhw'n ei brofi yn ymddygiad gorfodol, rheolaethol—mae'n amhriodol ac yn gamdriniol, a gallan nhw ofyn am gymorth. Mae'n ymgyrch blwyddyn o hyd, ac, yn amlwg, caiff ei chyflawni o ganlyniad i ymgysylltu â phob un o'r partneriaid hynny sy'n rhan o'n strategaeth genedlaethol o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth trais yn erbyn menywod. Ac yn olaf, ar y pwynt hwn, yn bwysig iawn o ran y sector cyhoeddus, mae dros 135,000 o weithwyr proffesiynol wedi'u hyfforddi drwy ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

14:35

Ers mis Rhagfyr 2015, mae rheolaeth drwy orfodaeth wedi bod yn drosedd, a chaiff ei gydnabod bellach fel math o gam-drin domestig. Fodd bynnag, mae cyflawnwyr yn arbennig o fedrus o ran gallu cuddio eu gweithredoedd, am wneud i'r dioddefwyr amau eu hunain drwy ddulliau seicolegol ac am osgoi cyfiawnder—ac rwy'n gwybod hyn yn iawn o'm profiad o weithio gyda Cymorth i Fenywod Cymru. Gan ei bod yn drosedd, mae'n rhaid i swyddogion yr heddlu gael eu hyfforddi'n dda, er mwyn sicrhau y gall y rhai hynny sy'n dioddef gael cyfiawnder. Dangosodd ymchwil a gynhaliwyd gan Blaid Cymru y llynedd nad oedd llawer o swyddogion yr heddlu yng Nghymru wedi cael yr hyfforddiant hwnnw, ac roedd y ffigurau hynny yn dangos mai ein heddlu mwyaf, Heddlu De Cymru, oedd â'r gyfran isaf o swyddogion wedi'u hyfforddi yng Nghymru i ymdrin â rheolaeth drwy orfodaeth. Yn absenoldeb cyfrifoldeb a phwerau uniongyrchol dros y system cyfiawnder troseddol, beth arall y gellir ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r drosedd hon, yn enwedig ymhlith yr heddlu, i sicrhau bod cyflawnwyr—pob un ohonyn nhw—yn cael eu dwyn gerbron llys?

Diolch i Leanne Wood am y cwestiwn pwysig yna. Yn ddiddorol, ddoe, roeddwn yn y bwrdd plismona, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, lle'r oedd prif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throseddu yn trafod troseddu yn eu cymunedau. Ac, yn wir, codwyd cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod gan brif gwnstabliaid fel problem yr oedden nhw'n bryderus iawn amdani, o ran eu blaenoriaethau. Mae'n hanfodol bod yr heddlu yn ymgymryd â'r hyfforddiant hwn, sydd ar gael erbyn hyn o dan ein fframwaith hyfforddiant cenedlaethol, ond hefyd ein bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn ni sicrhau bod pobl yn deall bod rheolaeth drwy orfodaeth—fel y dywedwch chi, yn drosedd—yn Nghymru a Lloegr, yn drosedd benodol yn rhan o Ddeddf Troseddu Difrifol 2015. Ac, yn wir, cofnodwyd mwy na 9,000 o droseddau rheolaeth drwy orfodaeth gan yr heddlu yn 2018. Felly mae'n rhaid i ni sicrhau—a gwelais hynny ddoe yn y bwrdd plismona—fod yr heddlu yn flaenllaw yn ein hymgyrch yn erbyn rheolaeth drwy orfodaeth.

Gwella Diogelwch Cymunedol

4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gwella diogelwch cymunedol yng Nghymru? OAQ53448

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar faterion o ddiddordeb cyffredin, er mwyn gwneud cymunedau yn fwy diogel, gan gynnwys gweithredu strategaethau troseddu cyfundrefnol difrifol a thrais difrifol y Swyddfa Gartref. Mae'r rhaglen cymunedau mwy diogel y bûm yn ei chadeirio yn ddiweddar yn cynnwys cynrychiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Diolch am yr ymateb yna. Ond un ffordd o wneud yn siŵr bod diogelwch cymunedol yng Nghymru yn gweithio yw bod Cynulliad Cymru yn ariannu 500 o swyddogion cymorth cymunedol ledled Cymru, i helpu â'r gwelliant hwnnw. Fodd bynnag, rwy'n siŵr, fel finnau, eich bod yn pryderu am arolwg Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr a ddangosodd fod 90 y cant o swyddogion yr heddlu o'r farn bod eu heddlu nhw yn brin o staff, ac, ers 2010, bu gostyngiad o 21,000, mewn termau real, yn niferoedd y swyddogion ledled Cymru a Lloegr, yn sgil toriadau uniongyrchol i'r cyllid. Ac oherwydd y prinder staff hwn, mae swyddogion bellach yn adrodd eu bod yn gorfod mynd allan ar eu pennau eu hunain, ac, yn amlwg, nid yw hynny yn sefyllfa ddiogel iddyn nhw, ac nid yw'n sefyllfa ddelfrydol iddyn nhw i gadw eu cymunedau'n ddiogel. Felly, Dirprwy Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael â Llywodraeth y DU ynghylch y gostyngiad yn niferoedd yr heddlu a sut y bydd yn cael ei ddatrys, i sicrhau bod iechyd a diogelwch swyddogion yr heddlu, ond hefyd y cyhoedd, yn cael ei gynnal?

14:40

Wel, rwy'n ddiolchgar i Joyce Watson am godi'r cwestiwn hwn ac yn arbennig am dynnu sylw at yr arolwg yr wythnos diwethaf a wnaed gan Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr. Yn ogystal ag awgrymu bod 90 y cant o swyddogion yn credu nad oes digon ohonyn nhw i wneud eu gwaith yn iawn, maen nhw'n gweld bod hynny hefyd yn rhoi'r bobl y maen nhw'n dymuno eu gwasanaethu yn eu cymunedau mewn perygl.

Rwyf wedi crybwyll y ffaith bod gennym fwrdd plismona yr oedd y Prif Weinidog yn ei gadeirio ddoe, ac fe godwyd y materion hyn yn y cyfarfod hwnnw. Mae'n dda, er gwaethaf cyni, er gwaethaf gostyngiadau i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU, ein bod ni wedi diogelu buddsoddiad ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny, wrth gwrs, yn hollbwysig ar gyfer gwaith hwnnw yn y gymuned. Ond mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei drafod gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, oherwydd ei fod yn golygu, o ran diogelwch cymunedol a'r ffaith bod yr heddluoedd yng Nghymru yn pryderu ynghylch sicrhau eu bod yn gallu, fel y dywedon nhw ddoe, canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar, cymorth gwrthdyniadol, gweithio gyda phobl ifanc a chymunedau—. Yn wir, ddoe, fe wnaethom ni drafod hefyd yr angen am waith rhyng-asiantaethol yn ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac mae angen y gefnogaeth arnyn nhw ac mae angen i Lywodraeth y DU roi hynny iddyn nhw.

Mae gwefan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud bod partneriaethau diogelwch cymunedol, sy'n cynnwys cynghorau, yr heddlu, yn ogystal â gwasanaethau tân ac achub, byrddau iechyd a gwasanaethau prawf, yn gweithio i gynnig dull amlasiantaeth effeithiol. Ond heblaw am gyfeirio at weithio gyda chynghorau a chymunedau, nid oes unrhyw gyfeiriad at y trydydd sector. Fodd bynnag, dywedodd Llywodraeth Cymru, yn ei dogfen ‘Gweithio gyda’n Gilydd i greu Cymunedau mwy Diogel: Adolygiad gan Lywodraeth Cymru o drefniadau gweithio mewn partneriaeth i wella diogelwch cymunedol yng Nghymru’ a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, fod asiantaethau trydydd sector yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau diogelwch cymunedol yn gynyddol, gan gynnwys cymorth i ddioddefwyr, rhaglenni ar gyfer tramgwyddwyr a chynlluniau dargyfeirio ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gweithgareddau gwrthradicaleiddio. Fodd bynnag mae ymatebwyr o asiantaethau'r trydydd sector wedi adrodd mai siarad yn unig y mae asiantaethau statudol yn ei wneud yn aml ynghylch y syniad o’u cynnwys nhw a chyd-gynhyrchu â nhw. 

Pa gamau ydych chi wedi eu cymryd, neu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, felly, ar ei datganiad yn yr adroddiad hwnnw mai eich gweledigaeth yw Cymru lle

'Mae gan y Llywodraeth ac asiantaethau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector gydgyfrifoldeb am gydweithio gyda’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a’r sector preifat i fynd i’r afael â gweithgarwch neu ymddygiad sy’n anghyfreithlon, yn wrthgymdeithasol, yn niweidiol i unigolion a’r gymdeithas ac i’r amgylchedd'

a

'Cryfhau rôl a statws sefydliadau’r trydydd sector o fewn trefniadau gweithio mewn partneriaeth i wella diogelwch cymunedol'

yn allweddol?

Wel, Mark Isherwood, fe fyddwch yn ymwybodol, fel yr ydych eisoes wedi ei adrodd, fod grŵp gorchwyl a gorffen yr adolygiad diogelwch cymunedol wedi arwain at sefydlu'r bwrdd rhaglen cymunedau mwy diogel. Yn wir, fe'i sefydlwyd gan gyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, ac mae'n gweithio'n agos iawn—nawr ei fod wedi ei sefydlu—gyda'r Swyddfa Gartref. Mae'n gweithio'n agos gyda llywodraeth leol a'r trydydd sector ac, yn wir, cadeiriais gyfarfod diweddar. Mae'n cwrdd yn chwarterol; mae'n cynnwys Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, comisiynwyr heddlu a throseddu—. Wrth gwrs, mae ganddo weledigaeth a rennir, sy'n ymwneud â phartneriaeth, bod pob cymuned yn gadarn, yn ddiogel ac yn hyderus, ac, yn bwysig o fy safbwynt i, ac o'ch safbwynt chithau rwy'n siŵr, Mark Isherwood, ei fod yn darparu cyfle cyfartal a chyfiawnder cymdeithasol, cydnerthedd a chynaliadwyedd i bawb. Ond—yn hollbwysig—mae'n gyfrifoldeb a rennir ar y Llywodraeth, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwy'n galw ar y Trefnydd i wneud ei chyhoeddiad, Rebecca Evans. 

Ceir dau newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad cyn bo hir ar y datblygiadau diweddaraf yn nhrafodaethau Brexit Llywodraeth y DU, a bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma ar y rhaglen cartrefi cynnes. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cysylltiad â darparu’r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yn y gogledd. Cefais gopi o e-bost heddiw gan Dai Williams, cyfarwyddwr cenedlaethol Diabetes UK Cymru, a anfonwyd at Gary Doherty, prif weithredwr y bwrdd iechyd yn y gogledd. Yn ôl yr e-bost hwnnw, mae 42,605 o unigolion yn y gogledd, yn ardal Betsi Cadwaladr, sy'n dioddef o ddiabetes, a £136 miliwn yw’r pris sydd ynghlwm wrth hynny o ran ymdrin â goblygiadau'r canlyniadau iechyd ar gyfer yr unigolion hynny. Ac mae’r e-bost yn awgrymu bod modd gochel rhag 80 y cant o'r costau hynny i raddau helaeth.

Ond yr hyn sy’n peri pryder mawr i mi yw bod Dai Williams yn cyfeirio at gyfarfod diweddar y grŵp cynllunio a chyflawni diabetes pan nad oedd y cadeirydd yn gwybod pwy oedd yr arweinydd gweithredol yn y bwrdd iechyd mewn cysylltiad â’r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes. Mae'n mynd ymlaen i ddweud y bu'n mynychu’r cyfarfodydd ers 10 mlynedd ac unwaith yn unig y mae ef erioed wedi gweld yr arweinydd gweithredol. Ni ŵyr neb pwy yw’r unigolyn hwnnw ar hyn o bryd, ac mae hyn yn dangos yn glir bod bwlch enfawr rhwng clinigwyr ac uwch reolwyr y bwrdd. Mae'n disgrifio rhanddeiliaid sy'n dweud bod hyn yn ddigon i godi cywilydd ar rywun a’u bod nhw’n synnu at y diffyg eglurder hwn.

Mae'n gorffen trwy ddweud bod yr amser am esgusodion ar ben a bod angen arweiniad gwirioneddol ar y bwrdd hwnnw i allu mynd i’r afael â’r broblem hon. Nawr, wrth gwrs, bwrdd iechyd yw hwn sydd mewn mesurau arbennig—mae Llywodraeth Cymru yn ymyrryd yn y bwrdd iechyd hwn am bob math o wahanol resymau. Rwyf i'n credu bod hyn yn fater arall y mae angen sylw arno. Gwn fod y system yn llawer gwell yn rhai o’r byrddau iechyd eraill, ac rwyf i'n credu bod angen datganiad arnom i roi rhywfaint o hyder i bobl yn y gogledd bod y Llywodraeth yn cymryd camau priodol i ymdrin â hyn.

A gaf i alw hefyd am ddatganiad ar hyfforddiant i feddygon teulu yn y gogledd? Fe ddychrynais yn fawr wrth weld bod 50 y cant o ymgeiswyr cymwys am hyfforddiant meddygon teulu yn y gogledd wedi eu troi ymaith yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl y pwyllgor meddygol lleol yn y gogledd. Wrth gwrs, mae hyn ar adeg pan fo prinder meddygon teulu yn y rhanbarth. Rydym ni wedi gweld nifer o bractisau meddygon teulu yn cau. Yn wir, rydym ni wedi gweld tri phractis meddygon teulu yn cau, bernir bod pedwar mewn perygl, bernir bod pedwar mewn perygl yn ôl meini prawf anffurfiol, ac mae 14 yn cael eu rheoli yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd yn y rhanbarth hwnnw. Ac eto, er gwaethaf hyn, er gwaethaf y ffaith bod pobl yn gymwys i gael yr hyfforddiant pe byddai rhagor o leoedd ar gael, ni chynigiwyd unrhyw leoedd ychwanegol mewn gwirionedd. Ym Mangor, gwnaeth 24 o unigolion gais, bodlonodd 16 y meini prawf, ond 12 o unigolion yn unig gafodd cynnig lle ar yr hyfforddiant. Yn Wrecsam, lle mae gwasanaethau meddyg teulu a meddygfeydd wedi cau, fe fodlonodd 11 y meini prawf cymhwystra, ond saith o unigolion yn unig gafodd cynnig lle, ac mae hwn yn batrwm a welwyd dro ar ôl tro yn ystod cyfnod o ddwy flynedd. Gwelaf fod y Gweinidog iechyd yn pryderu am hyn. Tybed beth y gallwch ei wneud mewn gwirionedd i fynd i’r afael â hyn fel y gallwn ddiwallu’r diffyg hwn yn nifer y meddygon teulu, fel nad yw pobl yn gorfod teithio milltiroedd i feddygfeydd ac nad ydyn nhw’n cael y mathau o anawsterau y maen nhw'n eu cael ar hyn o bryd o ran trefnu apwyntiad â meddyg teulu. Mae angen datganiad arnom ar hyn cyn gynted â phosibl, os gwelwch yn dda.

14:45

Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hynny. Roedd y ddau ohonyn nhw'n gwestiynau manwl ac rwy'n credu eu bod yn haeddu atebion manwl. Felly, ynghylch y cyntaf, fe fyddai'n ddefnyddiol pe byddech yn rhannu copi o'r llythyr a gawsoch ynghylch y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes â ni, a byddwn ni'n sicr yn gwneud ymholiadau ac yn sicrhau eich bod yn cael ymateb sylweddol.

Ac ynghylch yr ail, fe fydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad ar recriwtio meddygon teulu ym mis Ebrill eleni.

Trefnydd, ar 4 Hydref y llynedd, fe ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio ar y pryd yn gofyn i Lywodraeth Cymru alw’r llosgydd gwastraff arfaethedig yn ardal Llansamlet Abertawe i mewn. Mae’r cais i ddatblygu llosgydd gwastraff yn Llansamlet, yn ddealladwy, yn achosi pryder sylweddol yn lleol, o gofio mai ychydig o gannoedd o fetrau yn unig oddi wrth ystad breswyl y byddai ac yn agos at Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las a’i 600 o ddisgyblion. Mae yna bryderon clir ynghylch y llosgi 24 awr arfaethedig ar y safle ac effaith hynny ar ansawdd yr aer lleol, yn enwedig i'r eiddo preswyl a’r plant ysgol gerllaw. Rwy'n credu bod y cais yn mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Lywodraeth Cymru a pholisïau ansawdd aer, ac mae’n codi materion o bwys cenedlaethol o ran agosrwydd y llosgwyr at ysgolion ac anheddau preswyl. Dyna pam mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i alw’r cais hwn i mewn.

Nawr, yn ogystal â phryderon clir o ran effeithiau ansawdd yr aer ar drigolion a phlant ysgol yn Llansamlet—ac fe fyddwch yn cofio fy nadl fer yr wythnos diwethaf ar lygredd aer—yn syml, nid yw adeiladu gorsaf bŵer arall sy'n allyrru carbon ar hyd coridor yr M4, ardal sydd eisoes yn dioddef o lefelau uchel o lygredd, yn gwneud synnwyr. Mae angen inni ddatblygu ffynonellau pŵer dilygredd yng Nghymru, ac mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau, yn cynnig cyfeiriad cenedlaethol ac yn sicrhau y glynir at yr egwyddorion sydd yn ei deddfwriaeth llesiant cenedlaethau’r dyfodol a’r polisïau ansawdd aer. Fodd bynnag, yr hyn sy’n arbennig o siomedig yw, bedwar mis ar ôl fy nghais gwreiddiol, nad yw Llywodraeth Cymru byth wedi gwneud penderfyniad ynghylch y cais i alw i mewn. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo bellach i wneud penderfyniad ar y mater pwysig hwn a chynnig y cyfeiriad y mae’r bobl leol yn Llansamlet yn galw amdano?

14:50

Diolch am godi'r mater hwn. Byddwch yn gwerthfawrogi y byddai'n amhosibl gwneud datganiad ar y cais i alw i mewn heddiw. Fodd bynnag, bydd yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru a bydd penderfyniad gyda chi cyn gynted â phosibl.

Rwyf innau hefyd yn galw am i'r llosgydd yn Llansamlet gael ei alw i mewn, fel yr wyf yn credu bod Suzy Davies wedi ei wneud hefyd. Nid oes unrhyw ddadl wleidyddol dros y ffaith ein bod ni i gyd yn erbyn adeiladu'r llosgydd hwn yn y fan yna.

Mae gen i ddau gwestiwn ar wahân i hynny. Ar yr un cyntaf, hoffwn i ofyn am ddatganiad. Wrth i gyllidebau ysgolion gael eu pennu, mae cost gynyddol cyfraniad cyflogwyr i bensiynau athrawon yn peri pryder. Rwyf yn gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ariannu cost gynyddol pensiynau athrawon a pha drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda Thrysorlys San Steffan ynghylch cyllid ychwanegol i ddiwallu'r cynnydd hwn.

Y datganiad arall yr wyf yn gofyn amdano yw datganiad ynghylch cynllun y Llywodraeth i gefnogi adeiladu tai cyngor. Gwyddom mai'r unig adeg ers yr ail ryfel byd pan adeiladwyd digon o dai i fodloni'r galw am dai oedd pan adeiladwyd tai cyngor ar raddfa fawr gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol yn y 1950au a'r 1960au. Hoffwn i ddychwelyd at hynny o ran cael pobl i mewn i dai digonol, yn hytrach na chysgu ar y strydoedd neu mewn llety annigonol. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ynghylch sut yr ydym yn mynd i gael mwy o dai cyngor, neu adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr yn y dyfodol agos?

Diolch yn fawr iawn am godi hyn. Mae cyllidebau ysgol yn fater sydd wedi ei drafod droeon yn y Siambr hon, yn ogystal â'n rhwystredigaeth ynghylch y diffyg gwybodaeth gan y Trysorlys. Yn gynharach y mis hwn, fe ysgrifennodd y Prif Weinidog ar y cyd ag arweinwyr llywodraeth leol i uwch-gyfeirio mater cost gynyddol pensiynau athrawon yn uniongyrchol i'r Canghellor, a dim ond yn awr yr ydym wedi cael ymateb i'n cais am esboniad ynglŷn â newidiadau pensiwn Llywodraeth y DU ac arian ar gyfer y costau hyn yng Nghymru, yn dilyn ceisiadau sydd, mewn gwirionedd, yn mynd yn ôl i fis Hydref diwethaf. 

Felly, mae ymateb Llywodraeth y DU yn hwyr iawn, wrth i gyrff y sector cyhoeddus geisio pennu eu cyllidebau ar gyfer 2019-20, ac fe gefais y cyfle i godi hyn yn uniongyrchol â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys pan gyfarfûm â hi ddydd Gwener diwethaf. Yn fy nhrafodaethau â hi, fe wnaeth hi gytuno i roi rhagor o fanylion imi. Rwyf yn aros amdanynt, ond yn eu disgwyl cyn bo hir. Pan fydd y manylion terfynol gennym, fe fyddwn yn gallu gweithio drwy’r hyn y mae’n ei olygu i’n cyrff sector cyhoeddus, ac rwy'n gobeithio rhoi cymaint o eglurder â phosibl iddyn nhw cyn gynted â phosibl. Ond, fe wnaf gadarnhau, fel yr wyf eisoes wedi nodi, mai fy mwriad i o hyd yw pasio unrhyw arian a gawn at y diben hwn i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru i'w cynorthwyo â'r costau hyn. 

Rwy'n rhannu eich uchelgais i weld awdurdodau lleol yn adeiladu tai cyngor yn gyflym ac ar raddfa fawr, a byddwch yn ymwybodol, yn rhan o'n cytundeb tai â Chartrefi Cymunedol Cymru, ac yn rhan o'n hymdrechion i gyrraedd y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, y disgwylir i’r awdurdodau lleol ddarparu tua 1,000 o’r cartrefi newydd hynny. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed am ganlyniadau’r arolwg tai fforddiadwy, a fydd hefyd yn ystyried sut y gallwn ni gefnogi awdurdodau lleol i ddechrau adeiladu yn gyflym ac ar raddfa fawr. 

Gwn fod Mike Hedges wedi codi mater y cap benthyca droeon yn y Siambr, ac rwy'n falch o gadarnhau bod swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â’n hawdurdodau lleol, a bod pob un o’r 11 o awdurdodau lleol a oedd yn dilyn hynny yn ddarostyngedig i'r cytundebau gwirfoddol a oedd yn eu galluogi nhw i adael hen system cymhorthdal y cyfrif refeniw tai bellach wedi cytuno eu bod yn dymuno i'r cytundebau gwirfoddol hynny gael eu terfynu. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld awdurdodau lleol yn dechrau adeiladu yn gyflym ac ar raddfa fawr.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch y goblygiadau i gyflenwyr o Gymru yn dilyn y cyhoeddiad gan Honda eu bod nhw am gau eu ffatri yn Swindon? Yn ôl Fforwm Modurol Cymru, mae tua 12 o gwmnïau yng Nghymru y gallai hyn effeithio arnynt, o bosibl, gan gynnwys Kasai ym Merthyr Tudful, fy rhanbarth i. Er nad yw'r ffatri i gau tan 2021, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa fesurau y bydd ef yn ystyried eu rhoi ar waith i gefnogi cyflenwyr y diwydiant ceir yng Nghymru y bydd y cyhoeddiad hwn yn effeithio'n andwyol arnynt? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am godi hyn. Fe fyddwch wedi clywed ymateb y Prif Weinidog i'r pryderon ynglŷn â chynlluniau Honda i gau ei ffatri yn Swindon, gan golli 3,500 o swyddi erbyn 2021, yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma, ac, yn amlwg, mae hyn yn newyddion ofnadwy i'r gweithwyr a'u teuluoedd, ond rydym hefyd yn gwybod bod yna gwmnïau o Gymru sy'n cyflenwi'r cyfleuster hwnnw yn Swindon, y bydd y newyddion hwn, wrth gwrs, yn effeithio arnynt. Ynghyd â Fforwm Modurol Cymru ac adran fusnes, menter a strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, bydd swyddogion Ken Skates yn gweithio gyda'r cwmnïau hyn, gan ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i nodi a hwyluso strategaethau lliniaru pan fo hynny'n bosibl. Ac fe fyddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn Llundain heddiw yn cael y trafodaethau hynny i ystyried y modd gorau y gallwn ni gefnogi'r busnesau dan sylw.

14:55

Fe dderbyniais lythyr oddi wrth brifathrawon yn y Rhondda yn ddiweddar yn amlinellu effaith toriadau yn y gyllideb eleni ar ysgolion. Nawr, rwyf wedi clywed Gweinidogion yn gwadu bod ysgolion yn wynebu toriadau. Wel, maen nhw yn wynebu toriadau, ac fe gaiff y sefyllfa ei disgrifio yn haeddiannol fel argyfwng sydd eisoes yn cael effaith niweidiol ar ddisgyblion. Mae’r llythyr yn dweud nad oes gan ysgolion ddewis mewn rhai achosion heblaw gosod cyllidebau annigonol, ac mae hynny'n golygu dosbarthiadau mwy o faint, llai o staff cymorth, a thoriadau i weithgareddau allgyrsiol. Maen nhw’n dweud wrthyf fod y disgyblion sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu rhoi mewn perygl. A allwn ni ddisgwyl gwadu parhaus ynghylch yr argyfwng hwn yn ein system addysg sy'n effeithio ar gyfleoedd bywyd cynifer? Neu yn hytrach, a gawn ni gynllun gweithredu gan y Llywodraeth sy’n cynnwys dangos sut nad yw bron i £0.5 biliwn—bron i un rhan o bump o’r holl wariant sydd wedi ei ddyrannu i ysgolion—yn mynd yn agos at y rheng flaen oherwydd ei fod yn cael ei gadw gan awdurdodau lleol a chonsortia? A allwn ni gael Gweinidog y Llywodraeth i roi rhai atebion ynghylch hyn i’r Aelodau cyn gynted â phosibl, os gwelwch yn dda?

Fe ofynnais i chi ddarparu strategaeth Llywodraeth ynghylch dyfodol gofal a chartrefi gofal yn ddiweddar, ac fe ddywedasoch chi wrthyf i'w godi yn y cwestiynau gyda'r Gweinidog iechyd. Fe fyddaf yn gwneud hynny, ond mae'r sefyllfa gofal yn fy etholaeth i, a llawer o leoedd eraill, bellach yn fater brys. Mae rheoliadau newydd i wella llety mewn cartrefi gofal yn her i lawer o ddarparwyr cartrefi gofal, yn enwedig awdurdodau lleol. O ganlyniad, mae nifer o awdurdodau lleol yn ceisio rhoi’r gwaith o ddarparu hyn i'r sector preifat. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi bod economi gofal cymysg yn ddymunol—mae'n hanfodol bod hwn yn wasanaeth y mae cynghorau lleol yn parhau i’w ddarparu, ac mae llawer o fy etholwyr y mae hyn yn effeithio arnyn nhw yn pryderu'n fawr ynglŷn â faint o welyau mewn cartrefi gofal a lleoedd gofal dydd fydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol. Mae darparu gofal yr un mor bwysig â’r ddarpariaeth iechyd, ond eto nid yw’r ddau yn cael cydraddoldeb. A wnaiff y Gweinidog iechyd gyflwyno strategaeth gofal cynhwysfawr gerbron y Senedd sy’n amlinellu sut y gallwn sicrhau bod pob angen yn cael ei ddiwallu yn y dyfodol ac nad ydym ni’n colli mwy o welyau gofal?

Mae cwymp tri chwmni adsefydlu cymunedol preifat yr wythnos diwethaf yn rhoi diwedd ar breifateiddio ideolegol trychinebus y gwasanaeth prawf gan y Torïaid. Gan gymryd, o fewn cyfnod o ddwy flynedd, y bydd llawer o waith y cwmnïau adsefydlu cymunedol yn dod yn ei ôl i'r sector cyhoeddus, pam na weithredwn ni yn awr i ailuno’r gwasanaeth prawf yn y sector cyhoeddus yn awr, heddiw? Gadewch i ni beidio ag aros. Ni fyddai rhoi darparwr preifat arall wrth y llyw yn y cyfamser yn cyflawni unrhyw ddiben o gwbl. Felly, a gawn ni weld camau brys gan y Llywodraeth ar hyn, os gwelwch yn dda?

Ac fe hoffwn longyfarch a rhoi parch haeddiannol i’r bobl ifanc yng Nghymru a aeth ar streic gan fynd ar y strydoedd i brotestio ynghylch yr argyfwng hinsawdd ddydd Gwener diwethaf. Newid yn yr hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf, os nad yr her fwyaf sy'n wynebu gwledydd ledled y byd, ac nid oes digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael ag ef. Ac nid yw eich Llywodraeth chi yn eithriad, gyda’ch targed 10 mlynedd eich hun ar dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2020 yn debygol o fethu. Yn wahanol i lawer o'r beirniaid yn San Steffan, rwyf i'n cymeradwyo egni, penderfyniad a gweithredoedd rhagweithiol pob aelod unigol o'r bobl ifanc a fu'n cymryd rhan yn y streic newid yn yr hinsawdd ddydd Gwener diwethaf, ac fe hoffwn weld mwy o'r gweithgarwch hwn yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi gytuno â mi y dylid annog gweithgarwch gwleidyddol gan bobl ifanc? Ac a wnewch chi gytuno â mi a nhw hefyd mai nawr yw'r amser i ddatgan argyfwng hinsawdd, ond hefyd nad yw geiriau yn ddigon; mae angen ichi weithredu yn unol â hynny, hefyd? Felly, a wnewch chi?

Fe ddechreuaf gyda'ch pwynt cyntaf, sef y cyllidebau ysgol, ac, wrth gwrs, agenda gyni barhaol Llywodraeth y DU sydd wedi arwain at doriad o bron i £1 biliwn yng nghyllidebau cyffredinol Cymru, ond byddwn yn parhau i alw am arian ychwanegol i'w wario ar ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion. Fe wnaf i ddweud, o ran llythyr agored Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru ynghylch ariannu ysgolion, nad ydym ni’n cydnabod y ffigur o £450 miliwn y cyfeiriwyd ato yn y llythyr. Bydd swyddogion yn cwrdd â Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau yn ddiweddarach yr wythnos hon i drafod y pwyntiau a wnaed ganddyn nhw ynghylch awdurdodau lleol a chonsortia.

O ran darpariaeth cartrefi gofal, wrth gwrs mae gennym strategaeth iechyd a gofal ar y cyd eisoes yn ‘Cymru Iachach’, sef ein hymateb i'r arolwg seneddol. Ond, fel yr ydych yn dweud, fe fyddwch yn codi eich cwestiynau ychwanegol yn uniongyrchol â'r Gweinidog iechyd maes o law. Fe fydd y Gweinidog wedi clywed eich sylwadau ynghylch y gwasanaeth prawf, ac efallai y gofynnaf i am ymateb ysgrifenedig i gael ei gyflwyno i chi ynghylch hynny.

Yn sicr, rydym ni’n awyddus iawn i glywed lleisiau plant a phobl ifanc o ran yr her newid hinsawdd, oherwydd rydym ni'n gwybod y bydd pobl ifanc, yn amlwg iawn, ar reng flaen effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, ac yn sicr, fe all pobl ifanc gymryd rhan wrth lunio’r deialog hwn gydag ysgolion, Llywodraeth Cymru ac eraill er mwyn cyflwyno camau gweithredu sy'n cryfhau ein hymateb i newid yn yr hinsawdd. Rydym ni’n cefnogi llawer o weithgareddau sy'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu at y broses o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys ein rhaglen eco-ysgolion, sy'n gweithredu yn 95 y cant o’r ysgolion yng Nghymru. Dyna un o'r cyfraddau cyfranogi uchaf mewn prosiectau tebyg yn y byd, ac yn y pen draw, wrth gwrs, rydym i gyd yn dymuno i’n pobl ifanc fod yn aelodau moesol, gwybodus, gwerthfawr o’n cymdeithas, a dyma’r union egwyddorion sy'n llywio ein gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm ysgol newydd.

15:00

Trefnydd, roeddwn i wedi gobeithio codi gyda'r Prif Weinidog yn gynharach, gynnydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ei hymwreiddio yn ei gwahanol adrannau. O ran deddfwriaeth, rwy'n credu mai’r Ddeddf yw un o gyflawniadau mwyaf canmoladwy Llywodraeth Cymru, oherwydd ei bod hi’n eich herio chi i feddwl a gwneud yn wahanol.

Rydym ni bellach wedi cyrraedd tair blynedd ers i’r Ddeddf ddod yn gyfraith, ac mae llawer o sefydliadau ledled Cymru sy'n gwneud gwaith gwych, gan gynnwys Coleg Cambria yn fy etholaeth fy hun. Maen nhw wedi creu eu cynllun cenedlaethau'r dyfodol eu hunain er nad oes rhaid iddyn nhw. Rwyf yn credu eu bod nhw yn amlwg yn cydnabod pwysigrwydd y Ddeddf a'r cyfleoedd y mae hi'n ei chyflwyno. Felly, yn gyntaf, Trefnydd, a wnewch chi groesawu’r datblygiadau a wnaed gan Goleg Cambria ac eraill? Ac, yn ail, fe hoffwn i ofyn i’r holl Weinidogion roi diweddariadau llafar yn y Siambr hon ynghylch yr hyn y mae pob adran yn ei wneud i weithredu'r Ddeddf fel rhan o'u gwaith.

Yn olaf, ar bwnc ychydig yn wahanol, nid yw hi ond yn briodol, rwy'n credu, fy mod i’n crybwyll canlyniadau Nomadiaid Cei Connah ddydd Sadwrn a aeth ymlaen i rownd derfynol Cwpan Irn Bru. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ddweud ‘da iawn’ i'r clwb, ‘llongyfarchiadau’ a dymuno pob lwc iddyn nhw yn y rownd derfynol yn yr Alban, lle byddan nhw’n cynrychioli Cymru gyfan ym mis Mawrth? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. O ran y cwestiwn cyntaf ynghylch Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn hynod o falch o'i gyflawni yma yng Nghymru. Ac rwy'n wirioneddol falch bod Coleg Cambria ac eraill wedi mabwysiadu ysbryd y Ddeddf honno. Er nad ydyn nhw yn ddarostyngedig i'r Ddeddf eu hunain o reidrwydd, maen nhw'n cymryd camau i weithredu o fewn ffyrdd o weithio y Ddeddf honno er mwyn sicrhau bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn cael effaith gadarnhaol ar y cenedlaethau a fydd yn dilyn.

Yn fy mhortffolio, rwy'n sicr yn awyddus i weithio'n agos iawn gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Rwyf yn cwrdd â hi cyn hir i drafod pennu cyllidebau o fewn Llywodraeth Cymru. Ar ôl yr ail gyllideb atodol, rydym ni'n bwriadu cael digwyddiad bord gron, rhyw fath o gymryd stoc, mewn gwirionedd, i ystyried pa wersi y gallem ni eu dysgu ynghylch y broses o bennu cyllideb drwy'r flwyddyn.

Fe wnaf yn sicr ymuno â chi i ddweud 'Da iawn a phob lwc i Nomadiaid Cei Connah' ar gyfer eu gêm sydd i ddod.

Mae’n rhaid imi ddweud bod fy ngyrrwr tacsi i, sy’n byw yng Nghei Connah, wedi codi’r gêm gyda mi hefyd, felly roeddwn i’n cadw llygad barcud arni. Roeddwn i yng Ngholeg Cambria ddoe ar gyfer digwyddiad cymunedol a dweud y gwir—digwyddiad colli golwg Vision Support Sir y Fflint—ac roedd rhai o'ch cydweithwyr a’ch ffrindiau chi yno hefyd, felly rwy'n cefnogi eich sylwadau yn hynny o beth.

Rwyf yn galw am un datganiad ynghylch cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol. Mae llyfr gwaith y cynghorydd yn dweud, ynghylch cyllid llywodraeth leol, fod y cronfeydd wrth gefn

sydd wedi'u clustnodi wedi eu cyfyngu gan gytundeb lleol i ariannu mathau penodol o wariant, ond gellir eu hailystyried neu eu rhyddhau os bydd cynlluniau’r cyngor ar gyfer y dyfodol neu eu blaenoriaethau yn newid.

Yn setliad llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, mae Caerdydd, gyda chyfanswm defnyddiadwy o gronfeydd wrth gefn o £109.6 miliwn, yn cael cynnydd o 0.9 y cant; mae Rhondda Cynon Taf, sydd â chronfeydd wrth gefn o £152.1 miliwn, yn cael cynnydd o 0.8 y cant; mae Casnewydd, sydd â chronfeydd wrth gefn o £102.3 miliwn, yn cael cynnydd o 0.6 y cant; mae Abertawe, sydd â chronfeydd wrth gefn o £95.1 miliwn yn cael cynnydd o 0.5 y cant. Ond mae’r cynghorau â'r toriadau mwyaf o -0.3 y cant yn cynnwys sir y Fflint sydd â chronfeydd wrth gefn o £49.4 miliwn, Conwy â dim ond £22.7 miliwn, ac Ynys Môn â £24.1 miliwn.

Nawr, fel yr ydych yn ymwybodol, yn Ynys Môn, mae’r allbwn economaidd fesul unigolyn, ffyniant, ychydig o dan hanner y ffigur ar gyfer Caerdydd, sef £13,935 y pen yn unig—yr isaf yng Nghymru. Mae Ynys Môn a Chonwy ymhlith y pum awdurdod lleol yng Nghymru lle mae 30 y cant neu fwy o’r gweithwyr yn cael cyflog sy’n llai na'r cyflog byw gwirfoddol. Ddoe, adroddwyd yn y Daily Post bod prif swyddog cyllid cyngor Ynys Môn yn rhybuddio, os nad oedd y cyngor yn rhoi mwy o arian yn ei gronfeydd wrth gefn, y gallai’r awdurdod fynd yr un ffordd â swydd Northampton, nad oedd yn gallu mantoli ei gyfrifon ac, i bob pwrpas, a ddaeth yn fethdalwr y llynedd. O ystyried y pwyntiau hyn, rwy'n gobeithio y cawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, â chyn lleied o feio pobl eraill â phosibl, ac sy’n pwysleisio gymaint â phosibl ar sut y daethom i’r sefyllfa hon o fewn y gyfran sydd ar gael yng Nghymru, a sut ar y ddaear yr ydym ni am gael ein hunain allan ohoni fel na fydd rhaid i gynghorau fel Ynys Môn ystyried mynd yr un ffordd â swydd Northampton.

15:05

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu i roi'r setliad gorau posib i'r awdurdodau lleol, ond nid ydym dan unrhyw gamargraff ei fod yn gyfnod anodd iawn i'r awdurdodau lleol, ar ôl naw mlynedd o agenda cyni'r Llywodraeth Geidwadol. Cofiaf i'r Gweinidog blaenorol wneud datganiad ysgrifenedig ar gronfeydd wrth gefn llywodraeth leol yn ddiweddar, ond byddaf yn trafod â'r Gweinidog presennol a oes rhagor i'w ychwanegu ar y mater hwn ar hyn o bryd.

Mi fyddwch chi’n gwybod ein bod ni wedi holi sawl gwaith yn y Siambr ynglŷn â disgwyliadau’r Llywodraeth o ran ein byrddau iechyd ni, a pha mor dryloyw maen nhw’n gweithredu. Mi fyddwch chi’n gwybod hefyd fy mod i’n teimlo bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, sydd dan eich rheolaeth chi, wrth gwrs, gan eu bod nhw mewn mesurau arbennig, yn ceisio gwneud penderfyniadau pwysig am wasanaethau trwy’r drws cefn. Rŵan, mae’r Gweinidog iechyd wedi dweud wrthyf i nad ydy hynny ddim yn digwydd, ond syndod mawr, felly, oedd canfod yr wythnos yma na fydd y bwrdd yn cyfarfod yr wythnos nesaf. Os ewch chi i’r wefan, mi welwch chi 'Cyfarfod wedi ei ganslo'—'Meeting stood down' mae'r wefan yn ei ddweud. Rŵan, roeddwn i’n mynd i fynd i’r cyfarfod yna’r wythnos nesaf—dyna pam roeddwn i’n chwilio am y manylion—oherwydd yn y cyfarfod yna mi oedd trafodaeth i fod ynghylch cynllun tair blynedd y bwrdd iechyd a oedd yn mynd i sôn am newidiadau pwysig i wasanaethau lleol. Ond, mae’r cyfarfod yna wedi diflannu. Hoffwn i wybod a ydy o wedi cael ei ganslo’n gyfan gwbl i’r cyhoedd, ynteu a ydy o wedi cael ei ganslo i’r cyhoedd yn unig. Felly, mae angen gwybod, a pham ei fod wedi cael ei ganslo.

Dwi’n deall hefyd nad ydy’r bwrdd wedi cadarnhau’r tro pedol fyddai wedi golygu colli’r gwasanaethau fasgwlar brys o Ysbyty Gwynedd—rhywbeth sydd yn poeni llawer iawn o’m hetholwyr i. Dŷn ni wedi clywed gan y bwrdd fod y tro pedol yma wedi digwydd, ond dydy’r bwrdd ddim wedi’i gadarnhau o, felly buaswn i’n hoffi eglurder, ar fyrder, ynglŷn â beth sy’n digwydd efo’r gwasanaeth yna hefyd.

Diolch yn fawr iawn. O ran gwasanaethau fasgwlaidd yng ngogledd Cymru, nid yn unig y mae ad-drefnu'r gwasanaeth fasgwlaidd wedi elwa o fuddsoddiad o bron £2.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn bwysicach na hynny, mae wedi bod yn hollbwysig o ran denu staff hanfodol er mwyn cyflawni canlyniadau clinigol rhagorol i fod yn gynaliadwy.

Er yr ymgynghorwyd yn gyhoeddus a chytunwyd ar y gwaith ad-drefnu ychydig flynyddoedd yn ôl, yn dilyn ymgysylltu'n helaeth â'r cyhoedd a rhanddeiliaid i ddatblygu'r cynnig, mae'r bwrdd iechyd wedi parhau, yn ystod y cam gweithredu, i weithio â chyrff proffesiynol, staff a grwpiau sydd â diddordeb, i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir er lles diogelwch y cleifion. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ymdrech a wnaed gan y bwrdd iechyd i gwrdd â chanllawiau'r Gymdeithas Fasgwlaidd a sicrhau bod sgrinio am ymlediad yng Nghymru yn unol â safonau ansawdd. Mae pobl Cymru yn haeddu'r gwasanaethau gorau y gallwn eu darparu, ac nid yw o gymorth i barhau i gwestiynu'r model, sydd ond wythnosau o'i weithredu terfynol, ac felly yn ychwanegu at yr ofnau ynghylch diogelwch cleifion.

O ran y mater pam mae'r cyfarfod wedi'i ganslo neu a yw wedi'i ohirio, byddwn yn awgrymu bod hynny'n cael ei godi'n uniongyrchol â'r bwrdd iechyd, ond gallwch hefyd ysgrifennu at y Gweinidog iechyd am ragor o wybodaeth.

15:10

Trefnydd, a gaf i ofyn am sawl datganiad, os gwelwch yn dda? Mae'r  cyntaf mewn cysylltiad ag uned ffibrosis systig ysbyty Llandochau. Gwerthfawrogaf fod achos busnes wedi mynd at y Gweinidog iechyd gan y bwrdd iechyd. Ond wrth siarad ag ymarferwyr lleol yn yr uned ffibrosis systig yno, mae pryder nad yw'r cynnydd mor gyflym ag y dylai fod. Bu gwaith rhagorol yn digwydd ar y safle yno, gwelliannau enfawr yn y canlyniadau i gleifion, a byddai'n hwb i'w groesawu i'r canlyniadau i gleifion ac i'r clinigwyr sy'n gweithio ar y safle, pe gellid o bosib fapio pryd fydd modd cwblhau'r gwelliannau i'r uned, a gobeithio y bydd hynny yn y dyfodol agos.

Yn ail, a gawn ni ddiweddariad gan y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth mewn cysylltiad â'r ffordd ddosbarthu ddwyreiniol yma yng Nghaerdydd? Neu welliant Rover Way—mae ganddi lawer o deitlau. Dyna'r bwlch olaf sydd ar goll yng nghadwyn y ffordd gylchol o amgylch Caerdydd, ac mae unrhyw un sy'n teithio ar y darn hwnnw o ffordd yn sylweddoli bod y tagfeydd yno bron bob adeg o'r dydd, â dweud y gwir, yn y man cyfyng hwnnw yn y rhwydwaith trafnidiaeth o amgylch Caerdydd. Diweddariad ar y cynnydd—deallaf fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal astudiaeth ddichonoldeb ynghyd â chyngor dinas Caerdydd, a gwerthfawrogir yr astudiaeth ddichonoldeb honno'n fawr er mwyn deall a fydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i fwrw ymlaen ag unrhyw waith i wella'r man cyfyng iawn hwnnw, sydd erbyn hyn yn brif wythïen drafnidiaeth o amgylch Caerdydd.

Hefyd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr economi mewn cysylltiad â tholl teithwyr awyr? Credaf ei bod yn hanfodol. Ni allaf ddod o hyd i ddadl resymegol pam—ac rwyf yn beirniadu fy Llywodraeth fy hun yma—nid yw'r doll teithwyr wedi'i datganoli yma i Gaerdydd  felly, yn amlwg, ni ellir ei defnyddio er budd Maes Awyr Caerdydd. Credaf fod cyfle gwirioneddol yma. Rwyf wedi cymryd safiad hirhoedlog, pan oedd y comisiwn Silk yn cyfarfod hefyd, ac roedd yn un o argymhellion y comisiwn Silk. A chredaf, yn hytrach na darllen am hyn yn y wasg, fel yr oeddem wedi'i ddarllen ddoe, y byddai datganiad ar lawr y Senedd yn cael ei werthfawrogi'n well—yn sicr gennyf i fy hun, ond gan Aelodau eraill, rwyf yn siŵr—fel y gallwn ddeall mewn gwirionedd pam mae'r rhwystrau ffordd hyn yn bodoli.

Ac, ar nodyn ysgafnach, a gaf i hefyd dynnu sylw'r Cynulliad at y brif gêm rygbi sy'n digwydd ddydd Sadwrn, tîm rygbi'r Cynulliad yn chwarae yn erbyn Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi? Rwy'n addo cadw fy nghrys ymlaen; rwy'n credu y bu imi ddychryn llawer o bobl pan dynnais fy nghrys rai blynyddoedd yn ôl, gan feddwl bod angen i mi ei gyfnewid. Ond gwn fod Rhun, un o'r Aelodau sy'n cymryd rhan, Hefin David—rydym yn chwarae yn ei etholaeth ef yng Nghaerffili—a Huw Irranca wedi bod yn gefnogwyr mawr o'r hyn y mae'r clwb wedi ceisio'i gyflawni yn ystod y 12 mis diwethaf. Codwyd dros £35,000 ar gyfer Bowel Cancer UK, ac elusennau eraill ers ei sefydlu, yn ôl yn 2005/2006, rwy'n credu. Ac os oes unrhyw Aelodau sy'n clywed hyn eisiau dod i chwarae ddydd Sadwrn, neu, yn amlwg, dim ond i gefnogi'r tîm, gwn y byddai pawb yn gwerthfawrogi hynny'n fawr. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. Dechreuaf â mater yr uned ffibrosis systig yn Llandochau. Mae'r Gweinidog iechyd wedi cadarnhau i mi ei fod yn aros am yr achos busnes hwnnw, a byddwn yn gobeithio y byddai hwnnw gydag ef cyn bo hir.

Ar y ffordd ddosbarthu ddwyreiniol, yn sicr, gofynnaf i'r Gweinidog roi diweddariad ar y gwaith hwnnw i chi.

A gwn y bu gennych farn ers tro ynghylch toll teithwyr awyr, sydd yn gyson iawn â barn Llywodraeth Cymru ar doll teithwyr awyr. Cefais y cyfle i godi'r mater yn benodol â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ein cyfarfod ddydd Gwener diwethaf. Gwnes yr holl ddadleuon yr ydych chi wedi'u gwneud a bod eraill wedi'u gwneud, ac ymddengys nad oes unrhyw reswm pam na fyddai hyn yn cael ei ddatganoli i Gymru. Mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn parhau i fynd ar ei drywydd. Edrychaf ymlaen at roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig ar y mater hwn hefyd.

Ac, wrth gwrs, y gêm bwysicaf ddydd Sadwrn, mae pob un ohonom yn edrych ymlaen ati a dymunwn y gorau i dîm rygbi'r Cynulliad.

Nid ydym yma yr wythnos nesaf, oherwydd y toriad, ond mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta ac mae yna ymgyrch, 'I'm socking it to eating disorders', lle maen nhw'n gofyn i bobl wisgo sanau smart, lliwgar a phostio hyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Gan gymryd bod gan Aelodau'r Cynulliad sanau smart, lliwgar, byddwn yn annog pobl i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta drwy gymryd rhan yn y gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwyf hefyd yn gofyn am ddiweddariad gan y Llywodraeth ar adolygiad y fframwaith ar gyfer anhwylderau bwyta. Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n gadarnhaol â'r sector yn y broses adolygu hon. A gawn ni fanylion y cynnydd ar hynny? Rwyf wedi bod yn feirniadol o'r Llywodraeth ar lawer o bethau, ond hoffwn ddiolch i'r Llywodraeth am groesawu'r cysyniad o weithio â dioddefwyr a'u teuluoedd i adnewyddu'r fframwaith hwn, fel y gallwn gael y fargen orau i'r rhai sydd ag anhwylderau bwyta yng Nghymru.

Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â rhywbeth yr wyf wedi'i godi sawl gwaith erbyn hyn mewn cysylltiad â sefyllfa'r Cwrdiaid yma yng Nghymru a thu hwnt. Cynhaliwyd gwrthdystiad yng Nghasnewydd dros y penwythnos. Rwyf wedi gweld lluniau o'r heddlu yn ymddwyn yn ddi-lol tuag at ymgyrchwyr a oedd ond yn protestio, h.y. yn protestio'n heddychlon, yn cerdded ar hyd y stryd, yn codi pryderon am wleidyddion Cwrdaidd a garcharwyd gan gyfundrefn awdurdodaidd Twrci. Rwyf yn siomedig â'r ffordd y mae'r heddlu yn y wlad hon wedi trin protestwyr. Credaf fod angen inni gael dadl ar gydlyniant cymunedol, oherwydd rwyf  hefyd wedi gweld rhai sylwadau yn y cyfryngau cymdeithasol gan bobl o Gymru yn dweud, 'Wel, os ydynt yn dymuno ymgyrchu dros y materion hyn, dylent fynd i Dwrci i wneud hynny.' Onid ydynt yn sylweddoli, petaent yn mynd i Dwrci, lawer ohonynt, yn enwedig os ydynt yn fenywod, byddent yn cael eu carcharu a'u curo ar strydoedd Twrci oherwydd iddynt sefyll dros hawliau'r bobl Gwrdaidd a'r gwleidyddion? Felly, byddwn yn eich annog yma i roi datganiad inni ar yr hyn y gall yr heddlu ei wneud i gael cysylltiadau cadarnhaol â'r gymuned Gwrdaidd yma yng Nghymru, ac mae llawer ohonynt yma, fel y gallwn sicrhau ein bod yn dod at setliad gwleidyddol heddychlon. Gwyddom y gall ymosodiad ddigwydd yn fuan gan Dwrci ar y ffin rhwng  Syria a Thwrci ac mae gwir angen inni gefnogi pobl nid yn unig yn y wlad hon, ond hefyd dangos cefnogaeth i'r rhai yn Nhwrci sydd o'r gymuned Gwrdaidd, a'n bod yn parhau i wneud hynny.

15:15

Diolch yn fawr iawn. Cymeraf eich pwynt olaf yn gyntaf. I gadarnhau, cyfarfu'r Gweinidog dros gysylltiadau rhyngwladol â llysgennad Twrci yn ddiweddar a chododd y mater penodol hwn yn uniongyrchol ag ef. Mae eich pwynt am gydlyniant cymunedol yn un pwysig ac yn un amserol. Credaf ein bod ni i gyd yn pryderu am yr hyn yr ydym wedi'i glywed am y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar bobl am amryw o resymau yn dilyn pleidlais Brexit. Yn sicr, mae'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono wrth inni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd. Byddaf yn sicr yn siarad â'n cyd-Aelod i ystyried y ffordd orau i roi'r diweddaraf am weithredoedd Llywodraeth Cymru yn y maes hwnnw.

Ar Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, diolch yn fawr iawn am eich sylwadau am sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â'r adolygiad. Deallaf fod yr adroddiad wedi dod i law a'i fod yn cael ei ystyried ar hyn o bryd a bydd y Gweinidog yn rhoi ymateb i hynny maes o law. Wrth gwrs, byddwn yn hapus i gefnogi'ch digwyddiad sanau smart yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau. Edrychaf ymlaen at weld sanau smart fy nghydweithwyr.

Yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod Lucy Bagnall wedi cael ei thynnu oddi ar y rhestr o weithiwr cymdeithasol a hynny ar unwaith. Cafwyd hi'n euog ar bob cyfrif gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Daeth i'r amlwg fod Bagnall wedi dweud celwydd am fy etholwyr a honnir hefyd y dywedwyd wrth drydydd parti y byddai gorchymyn gofal sy'n destun dadl yn parhau a bydd y teulu byth yn gweld eu plant eto. Galwaf am hefyd gael datganiad gan y Llywodraeth am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu teuluoedd sy'n agored i niwed a gyhuddwyd ar gam mewn adroddiadau gwasanaethau plant. Pa fecanwaith sy'n galluogi teuluoedd i geisio cyrchu cymorth a chywiro camgymeriadau? Oherwydd nid wyf yn ymwybodol o un sy'n bodoli yng Nghymru.

Diolch i chi am godi'r mater hwn. Yn amlwg, fel y dywedwch, byddwch chi'n codi'r achos penodol hwn yn uniongyrchol â chyngor sir Pen-y-bont ar Ogwr. Yn sicr, awgrymaf eich bod, yn y lle cyntaf, yn ysgrifennu at y Gweinidog am eich pryderon ynghylch pa gymorth y gallai fod ar gael i deuluoedd sy'n canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd fel yr un yr ydych chi'n ei disgrifio.

15:20

Trefnydd, ni allai fy etholwyr yng Nghas-gwent wneud dim ond edrych yn eiddigeddus yr wythnos diwethaf wrth i adroddiadau newyddion am ffordd osgoi'r Drenewydd, sydd newydd agor, lenwi eu sgriniau teledu, a chyfweliadau gan Ken Skates, Russell George ac eraill yn eu hategu'n fedrus, ac, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn croesawu agor y ffordd osgoi honno. Mae wedi bod ar y gweill ers tro byd. Fodd bynnag, wrth i'r adroddiadau newyddion hynny gylchredeg, roedd tagfeydd yn llyffetheirio Cas-gwent ar yr union adeg honno: canlyniad i waith ffordd wedi ei gynllunio'n wael ar yr M48 a phont Hafren. Yr olaf o'r rhain oherwydd dileu'r tollbyrth yn dilyn diddymu'r tollau.

A gaf i wneud fy mhle arferol am ddatganiad, yr wybodaeth ddiweddaraf, o ran lle'r ydym ni arni ynglŷn â chael ffordd osgoi i Gas-gwent, sydd ei dirfawr angen ar y dref? Ond hefyd, a gaf i ychwanegu at hynny yr angen am lawer mwy o gydweithio rhwng awdurdodau priffyrdd yng Nghymru ac ar draws y ffin yn Lloegr? Gallai'r gwaith ffordd hwnnw fod wedi ei gynllunio'n well yn drawsffiniol. Gwelsom lawer o draffig yn gadael Cas-gwent ac yn tagu'r ffyrdd mân oherwydd cau yr M48 a'r bont ar gyfer gwaith ffordd ar yr un pryd. Felly, rwy'n credu y gallai'r dryswch hwnnw yr wythnos diwethaf fod wedi cael ei ddatrys. Ond pe gallem ni ddatrys y problemau hynny yn y dyfodol, rwy'n gwybod y byddai fy etholwyr yng Nghas-gwent yn ei werthfawrogi'n fawr. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gael y datganiadau gan y Gweinidog perthnasol.

Diolch yn fawr iawn ac, wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o'ch pryder ynglŷn â ffordd osgoi Cas-gwent. Ond ynglŷn â'r mater ynghylch llawer mwy o gydweithio ar draws ffiniau, rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig sy'n haeddu rhywfaint o drafodaeth bellach rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran sut orau y gallwn ni sicrhau bod traffig yn symud yn araf ac nad yw diffyg cydgysylltu a chyfathrebu yn atal hynny.

3. Statement by the First Minister: Latest developments in the UK Government's Brexit Negotiations

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y datblygiadau diweddaraf yn negodiadau Brexit Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Rydw i'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.  

Diolch yn fawr, Llywydd. Gyda 38 diwrnod i fynd bellach nes bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid ydym ni ronyn yn agosach at ddatrysiad i fater mwyaf dybryd ein hoes. Yr wythnos diwethaf, methodd Llywodraeth y DU â phasio hyd yn oed cynnig diflas yn Nhŷ'r Cyffredin oherwydd taerineb penboeth Brexitwyr digyfaddawd fod dim cytundeb yn ganlyniad derbyniol. Dangosodd hynny unwaith eto pa mor hynod beryglus ac annoeth yw polisi Prif Weinidog y DU o ddibynnu ar yr un grŵp yn Nhŷ'r Cyffredin sy'n barod i weld y wlad hon yn mynd dros ymyl dibyn Brexit. Ni fydd eu cefnogaeth, hyd yn oed os gellid ei sicrhau, byth yn rhoi'r mwyafrif dibynadwy sydd ei angen i lywio cytundeb a'i holl ddeddfwriaeth gyfatebol drwy'r broses Seneddol. Mae'r ffordd ddi-glem y mae Prif Weinidog y DU wedi mynd ati yn tanseilio ymhellach unrhyw gymorth posib sy'n dal yn weddill gartref ac yn afradu'r gweddillion pitw o ewyllys da sy'n parhau tuag at y DU yng ngweddill yr UE. Siawns ei bod hi'n amlwg bod yn rhaid i'r Prif Weinidog fynd ati yn awr i ddod o hyd i fwyafrif, y credaf fod modd dod o hyd iddo, ar gyfer y math o Brexit a nodir yn y cynigion a gyhoeddwyd gennym ni a Phlaid Cymru dros ddwy flynedd yn ôl, ac a adlewyrchwyd yn y llythyr a anfonwyd gan arweinydd y gwrthbleidiau at Brif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf.

Llywydd, mae gwaith archwilio priodol yn dangos pa mor ddiffygiol yw pob gwrthwynebiad o eiddo'r penboethiaid i'r math o berthynas economaidd yr ydym ni'n ei chynnig. Yn gyntaf oll, mae Grŵp Ymchwil Ewropeaidd y Blaid Geidwadol yn dweud na allan nhw ystyried aelodaeth o undeb tollau gyda'r Undeb Ewropeaidd, ond nid bygythiad dirfodol yw undeb tollau, mae'n anghenraid ymarferol fel ein bod ni'n dal i allu masnachu'n effeithiol ar y llwyfan byd-eang. Yn ail, dywedir wrthym ni y byddai trefniant o'r fath yr ydym ni'n ei hyrwyddo yn llesteirio gallu'r DU i daro bargeinion masnach newydd ledled y byd. Wel, Llywydd, dyna ichi ddadansoddiad economaidd y Llywodraeth ei hun, sy'n dweud y byddai cytundebau o'r fath, hyd yn oed o ystyried y rhagdybiaethau mwyaf cadarnhaol, dim ond yn cael effaith ymylol ar ein heconomi, ac nid wyf i hyd yn oed yn cyfeirio at y methiant truenus i sicrhau mynediad parhaus i 40 cytundeb masnachu gyda 70 o wledydd eraill yn Ewrop, yr ydym ni'n eu mwynhau heddiw drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, heb sôn am y cytundebau newydd â Japan, Awstralia, Seland Newydd a Chile, y mae'r UE wedi bod yn eu negodi wrth i ninnau ymhél â Brexit. Nid yw ein ffordd ni o fynd ati, Llywydd, yn rhoi terfyn ar yr uchelgais i'r DU ymrwymo i gytundebau masnach newydd. Fel sydd eisoes wedi ei nodi gan sefydliadau megis Siambr Fasnach Iwerddon Prydain, mae yna gyfle, os gellir dangos hyblygrwydd digonol, i alluogi i'r DU negodi cytundebau masnach newydd ochr yn ochr â'r UE. Y dewis arall yw'r trychineb sy'n datblygu o ymadael heb gytundeb, a dewisais y gair hwnnw'n fwriadol, Llywydd. Mae'r anhrefn eisoes wedi dechrau, gyda buddsoddwyr yn tynnu'n ôl ac yn terfynu cynlluniau. Bydd hyn yn gwaethygu bob dydd y caniateir i'r ansicrwydd hwnnw barhau. Os wnawn ni ddisgyn dros ymyl clogwyn Brexit, mae peryg inni nid yn unig o ran y sioc tymor byr a ddaw yn sgil hynny, ond oherwydd y byddwn ni'n tanseilio ein dyfodol economaidd hirdymor.

Yr wythnos diwethaf, cawsom wybod y byddai Ford yn ystyried dyfodol ei weithrediadau yn y DU pe na fyddai cytundeb. Roedd hyn yn adleisio sylwadau gan Airbus fis diwethaf. Heddiw, mae gennym ni'r cyhoeddiad gan Honda, yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf bod Nissan wedi penderfynu peidio â buddsoddi. Beth arall sydd ei angen, Llywydd, i ddangos methiant y Llywodraeth hon i gynnal amgylchedd sefydlog ar gyfer buddsoddi rhyngwladol gyda'r canlyniadau sy'n dod yn sgil hynny? Ni allwn ni sôn mwyach am y posibilrwydd y bydd Brexit yn niweidio ein heconomi—mae'r difrod yma, mae'r difrod yn digwydd, ac mae pob dydd o ansicrwydd yn erydu ymhellach hyder buddsoddwyr busnes, gyda goblygiadau hynny'n effeithio ar fywydau teuluoedd sy'n gweithio yma yng Nghymru.

Llywydd, does ond angen i chi siarad â sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau llai i glywed bod ofn cau ar bob stryd fawr ac ar bob ystâd ddiwydiannol ac ym mhob rhan o Gymru a'r Deyrnas Unedig. Mae Siambrau Masnach Prydain wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o'u gadael yn ddiymgeledd os bydd Brexit heb gytundeb. Ac wrth i amser brinhau, mae'r swyddi sy'n cael eu colli yn cael eu colli nawr. Mae'r buddsoddiad wedi lleihau a hynny er gwaetha'r ffaith bod llawer o gwmnïau yn casglu cyflenwadau ynghyd ar gyfer y dyfodol. Er mwyn y dyfodol hwnnw, boed i Brif Weinidog y DU wrando ar gyngor gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn—diystyru dim cytundeb, ceisio estyniad i erthygl 50 a llunio cytundeb sy'n rhoi anghenion swyddi, bywoliaeth pobl a'n heconomi yn gyntaf. Mae pob rheidrwydd ar Brif Weinidog y DU i ddiystyru dim cytundeb, a dylai wneud hynny ar unwaith. Mae'n anghyfrifol hefyd i barhau i hawlio bod y broses ymadael, sy'n cynnwys deddfwriaeth sylfaenol bwysig dros ben i ymgorffori'r cytundeb ymadael mewn cyfraith, hyd yn oed os gellir pasio pleidlais ystyrlon—y gellir gwneud hynny i gyd ymhen chwe wythnos. Nid oes posib ei wneud. Ac mae gohirio gofyn i'r Undeb Ewropeaidd yn hwy yn cynyddu'r perygl na ellir cytuno ar estyniad o'r fath. Nawr, Llywydd, os nad yw Llywodraeth y DU yn gweithredu er budd cenedlaethol, yna mae'n rhaid i'r Senedd wneud hynny, ac os yw'r Senedd ei hun yn methu â dod i benderfyniad, yna, fel y gwnaethom ni ei drafod yn gynharach y prynhawn yma, rhaid dychwelyd y penderfyniad i'r bobl.

Yn y cyfamser, ac ers y trafodwyd y mater hwn ddiwethaf yn y fan yma, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n ddiflino i gynrychioli ein buddiannau cenedlaethol bob cyfle a gawn ni. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf i fy hun wedi cyfarfod â'r Prif Weinidog, Prif Weinidog yr Alban, arweinydd yr wrthblaid, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, llefarydd y blaid Lafur ar Brexit, Syr Keir Starmer, Cadeirydd Pwyllgor Brexit Tŷ'r Cyffredin a llawer o rai eraill. Rwyf wedi bod i is-bwyllgor Cabinet Llywodraeth y DU ynglŷn â pharatoi ar gyfer Brexit, a gynhaliwyd yn Llundain, a byddaf yn mynd i Lundain drachefn i wneud hynny yfory. Rwy'n ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma am neilltuo amser i gwrdd â mi ar delerau lle gallwn i rannu gwybodaeth o'r cyfarfodydd hynny gydag ef a cheisio ei farn yntau hefyd.

Mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar yr agenda hanfodol hon. Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi bod i ddau gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Ewrop ac ar y negodiadau Ewropeaidd. Mae wedi bod yng Nghaeredin i fforwm gweinidogol ar negodiadau'r UE, ac mae wedi bod yn Llundain yn is-bwyllgor Cabinet y DU ynglŷn â pharatoadau Brexit. Ddydd Gwener diwethaf, cynhaliodd y Gweinidog cyllid gyfarfod pedair ochrog y Gweinidogion cyllid, fel y clywsoch chi, yma yng Nghaerdydd. Bu Eluned Morgan mewn cyfarfod pedair ochrog Gweinidogol ar fasnach ryngwladol yn Llundain ddoe, a bu Lesley Griffiths yn cymryd rhan mewn cyfarfod pedair ochrog Gweinidogion yr amgylchedd ddoe. Yma yn y Cynulliad, mae Gweinidogion wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a phwyllgorau penodol eraill i gyflwyno adroddiadau am ein camau gweithredu, a bu'r adroddiadau hynny yn destun craffu. Y tu hwnt i'r Cynulliad, rydym ni'n dal mewn cysylltiad agos â'r amrywiaeth ehangaf o bartneriaid yma yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, roedd Ken Skates yn cadeirio cyfarfod Cyngor Datblygu'r Economi i drafod y paratoadau ar gyfer Brexit, a heddiw, mae'r Gweinidog iechyd wedi cadeirio cyfarfod o'r grŵp rhanddeiliaid iechyd Ewropeaidd.

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i helpu i baratoi a lliniaru effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol, a gyhoeddwyd yn gynharach y bore yma, yn cyfeirio at swyddogaeth flaenllaw Llywodraeth Cymru o ran nodi a rheoli risgiau cenedlaethol a strategol, gan weithio gydag eraill yng Nghymru a thu hwnt i wneud hynny. Ond y gwir plaen o hyd, Llywydd, yw bod gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn peri risg na ellir mo'i liniaru, ond y gellir ei osgoi. Rhaid i Brif Weinidog y DU newid cyfeiriad cyn iddi fynd yn rhy hwyr i hynny ddigwydd.

15:30

A gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, mae'n gwbl hanfodol bod ymgysylltu rheolaidd a chynhyrchiol yn digwydd yn y Senedd hon i helpu paratoi Cymru ar gyfer y sefyllfa, gobeithio, annhebygol y byddwn ni'n gadael yr UE heb gytundeb. Felly, mae hi'n hanfodol bwysig, fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, bod arweinwyr Cymru yn rhoi eu gwahaniaethau gwleidyddol o'r neilltu a throi pob carreg o ran paratoi Cymru ar gyfer bywyd ar ôl 29 Mawrth, a dyna pam y derbyniais eich gwahoddiad i gyfarfod i drafod goblygiadau Brexit rai wythnosau yn ôl.

Nawr, yn eich datganiad heddiw, Prif Weinidog, rydych chi'n beirniadu aelodau digyfaddawd yn y Blaid Geidwadol. Wel, fyddwch chi ddim yn synnu nad wyf i am gymryd unrhyw wersi gennych chi a'ch plaid ynglŷn ag aelodau digyfaddawd ac anghytundebau, o gofio y gwelsom ni ddoe diwethaf grŵp annibynnol newydd yn cael ei ffurfio gan saith AS Llafur a oedd wedi eu dadrithio, na allen nhw wasanaethu o dan Jeremy Corbyn. Ni allen nhw aros mewn plaid gyda'r fath ansicrwydd ynglŷn â safbwynt y Blaid Lafur ar Brexit, ac, yn wir, ynglŷn â chymaint o faterion eraill. A phrin fod hyn yn dangos plaid unedig. Nawr, hoffwn ailddatgan yr ymrwymiad—[Torri ar draws.] Nawr, hoffwn ailddatgan yr ymrwymiad a wnaed gan Brif Weinidog y DU ynghylch parhau i weithio'n galed gyda phob plaid i geisio sicrhau cytundeb, fel y gallwn ni adael yr UE gyda chytundeb a fydd yn gweithio i bawb. Ac rwyf yn awr yn falch, o'r diwedd, bod arweinydd y Blaid Lafur wedi cyfarfod â Phrif Weinidog y DU ac yn ymgysylltu yn y broses hon.

Nawr, rwy'n gwybod yr hoffech chi weld sefyllfa o ymadael heb gytundeb yn cael ei diystyru, Prif Weinidog. Fel yr wyf i wedi dweud wrthych chi o'r blaen, rwyf hefyd yn awyddus i adael yr UE gyda chytundeb, ond yr unig ffordd y gallwch chi sicrhau cytundeb yw annog eich cydweithwyr i gefnogi cytundeb. Felly, a wnewch chi gadarnhau heddiw, os bydd y Prif Weinidog yn llwyddiannus yn gofyn am newidiadau i'r cytundeb presennol, y byddwch chi felly yn annog eich cyd-Aelodau yn San Steffan i geisio dangos eu cefnogaeth i'r cytundeb hwnnw, er mwyn sicrhau nad ydym ni'n gadael yr UE heb gytundeb?

Wrth gwrs, rwy'n bryderus iawn o glywed fod busnesau yn pryderu am ansicrwydd Brexit. Yn naturiol, fel chi, Prif Weinidog, rwyf wedi fy nigalonni'n arw o glywed y bydd Honda yn cau ei ffatri yn Swindon, ac effaith enfawr hynny ar gyflenwyr o Gymru. Fodd bynnag, mae Honda wedi dweud bod y penderfyniad oherwydd newidiadau byd-eang yn y diwydiant ceir, felly mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn, iawn, pan fyddwn ni'n defnyddio enghreifftiau, yr adroddir yn gywir am benderfyniadau cwmnïau. Nawr, mae pob busnes yr wyf i'n siarad â nhw eisiau cytundeb fel y gallan nhw gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac mae gennym ni ddyletswydd i fusnesau i gydweithio a sicrhau cytundeb. Nawr, Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol fod Prif Weinidog y DU wedi negodi cytundeb arbennig gyda'r UE sydd yn cynnwys cyfnod gweithredu 21 mis, lle byddai'r holl reolau masnachu yn parhau mewn grym. Byddai hyn yn rhoi eglurder i fusnesau, ac mae angen i hyn ddigwydd.

Rwy'n gwybod y byddwch chi'n cyfarfod â Phrif Weinidog y DU eto yfory i gynnal trafodaethau pellach. Felly, a allwch chi ein sicrhau ni y byddwch chi'n cynrychioli busnesau yn briodol ac yn gywir, gan fod llawer o fusnesau wedi bod yn gyson gefnogol o gytundeb presennol Prif Weinidog y DU?

Nawr, rwy'n dal yn bryderus ei bod hi'n ymddangos na wnaed fawr ddim cynnydd ers i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gyhoeddi ei adroddiad ynghylch paratoi ar gyfer Brexit, flwyddyn yn ôl. Cafwyd arweiniad clir gan y pwyllgor yn ei ganfyddiadau fod angen i Lywodraeth Cymru gyfathrebu'n well gyda sefydliadau unigol, drwy roi mwy o anogaeth i gyrff cynrychioliadol rannu gwybodaeth gyda'r holl sefydliadau cysylltiedig. Ac mae'n eithriadol o bwysig bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael mwy o wybodaeth i baratoi'n effeithiol ar gyfer Brexit, a, Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i'r tro diwethaf imi eich holi am hyn bod llawer o waith wedi'i wneud. Fodd bynnag, mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ynglŷn â Brexit, y cyfeirir ato yn y datganiad heddiw, yn cadarnhau mai dim ond lleiafrif o gynghorau sydd â chynlluniau clir i ymdrin â'r peryglon posib a nodwyd ganddynt. Yn yr adroddiad hwn, mynegwyd pryderon mewn gwirionedd ynghylch diffyg capasiti mewn gwasanaethau cyhoeddus i reoli Brexit, sydd hefyd yn cael sgil-effaith sylweddol ar feysydd gwasanaeth eraill. Yn yr amgylchiadau hynny, sut ydych chi fel Llywodraeth yn ymateb i'r pryderon penodol hyn, a pha fesurau ydych chi'n eu rhoi ar waith i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol hyn, wrth gamu i'r dyfodol?

Ac felly, i gloi, Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad heddiw? Mae amser, wrth gwrs, yn y fantol bellach, ac felly a gaf i ailadrodd unwaith eto bod fy nghydweithwyr a minnau wedi ymrwymo i weithio, lle gallwn ni, â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru?

15:35

Llywydd, diolch yn fawr i'r Aelod am y sylwadau yna, ac am y cwestiynau.

Y rheswm pam y gwnaethom ni benderfynu cyflwyno'r datganiad hwn heddiw oedd nad oedden ni eisiau i'r Cynulliad beidio â chael y cyfle i drafod y materion hanfodol bwysig hyn cyn y toriad. Ac rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn ei sylwadau agoriadol am yr angen i wneud yn siŵr bod ymgysylltu'n llawn yn digwydd yma yn y Senedd hon. Rwy'n anghytuno â'r Aelod ar nifer o bwyntiau, ac fe wnaf i ymdrin â'r rhai hynny yn fyr, cyn mynd ymlaen i ymdrin â rhai o'r pethau lle rwy'n credu ein bod ni'n gytûn yn eu cylch. 

Yn gyntaf oll, rwy'n credu bod yr amser wedi hen fynd pan fyddai ystyried y posibilrwydd o ymadael heb gytundeb o unrhyw ddefnydd i Brif Weinidog y DU yn ei negodiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Efallai—roeddwn yn amheus o'r peth bryd hynny, ond o leiaf byddwn wedi bod yn barod i dderbyn y posibilrwydd damcaniaethol cynnar y byddai ystyried hynny efallai wedi bod yn ddefnyddiol. Ond, wrth i'r wythnosau dreiglo heibio, mae'r syniad bod hynny'n rhoi unrhyw fantais o gwbl i Brif Weinidog y DU yn ei thrafodaethau mewn mannau eraill wedi hen chwythu ei blwc. Yn hytrach, mae bellach yn rhwystr i gael y math o gytundeb yr ydym ni'n dibynnu ar ein partneriaid yn Ewrop i ddod ynghyd â'n helpu i gytuno arno. Byddai o gymorth i Brif Weinidog y DU i sicrhau'r mwyafrif sydd ei angen arni ar lawr Tŷ'r Cyffredin pe bai hi ond yn cael gwared â'r posibilrwydd hwnnw. Ac fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid gyfarfod â Phrif Weinidog y DU oherwydd bod Tŷ'r Cyffredin wedi pasio cynnig yn diystyru 'dim cytundeb', ac roedd wedi dweud wrthi erioed mai dyna oedd un o'r amodau y byddai angen eu bodloni cyn iddo gyfarfod â hi. Pan bleidleisiodd Tŷ'r Cyffredin o blaid y cynnig hwnnw, cytunodd i gyfarfod ar unwaith, ac roedd y math o drefniadau ar gyfer Brexit a nodwyd yn ei lythyr, fel y dywedais yn gynharach, yn rhai yr oedd croeso cyffredinol iddyn nhw yn yr Undeb Ewropeaidd o ran ffurfio sail ar gyfer y math o gytundeb a allai ennill mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin ac y byddid yn gallu ei drafod â nhw.

Nawr, Llywydd, nid wyf yn amau am eiliad ddiffuantrwydd arweinydd yr wrthblaid pan fo'n mynegi ei bryderon am ganlyniadau economaidd y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud sy'n effeithio ar fywydau pobl yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu nad oedd gan Brexit unrhyw ran ym mhenderfyniad Honda. Rwy'n cytuno fod hwnnw'n benderfyniad cefndirol yn hytrach nag un uniongyrchol, a phenderfyniadau uniongyrchol yw'r rhai y mae'r cwmni wedi cyfeirio atyn nhw mewn cysylltiad â newidiadau rhyngwladol yn y diwydiant modurol. Ond, pan es i gyfarfod â Ford gyda Ken Skates yr wythnos diwethaf, yr hyn a ddywedwyd wrthym ni oedd nad yw'r heriau sy'n eu hwynebu wedi eu hachosi gan Brexit yn bennaf, ond bod Brexit yn eu dwysáu. Mae Brexit yno yn y cefndir ac yn gwneud bywyd i'r holl gynhyrchwyr mawr hyn yn fwy anodd nag y byddai fel arall. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith bod Prif Weinidog y DU wedi cytuno i estyniad, i gyfnod pontio, os gellir sicrhau ei chytundeb, oherwydd buom ni'n dadlau am hynny o'r cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd gennym ni gydag aelodau o Lywodraeth y DU ar ôl refferendwm mis Mehefin 2016. A byddaf yn sicr yn cyflwyno barn busnesau Cymru. Mae ymysg y pethau mwyaf grymus y gallaf eu gwneud mewn cyfarfodydd gyda Gweinidogion y DU: i drosglwyddo iddyn nhw'r farn y mae busnesau Cymru wedi ei throsglwyddo'n uniongyrchol i ni.   

O ran y cwestiynau terfynol a holodd yr Aelod sy'n deillio o adroddiad yr archwilydd cyffredinol, wel, bydd wedi gweld yr adroddiad sy'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati mewn modd cadarnhaol i ymgysylltu ag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus drwy'r cyngor partneriaeth. Fe gawsom ni gyfarfod arbennig ohono ynglŷn â Brexit ym mis Ionawr. Rydym ni'n parhau i ymgysylltu ag arweinwyr llywodraeth leol ac eraill. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â nhw, Llywydd. Dyma nhw, o dan bwysau, fel y clywn ni o amgylch y Siambr hon wythnos ar ôl wythnos, gydag Aelodau yma eisiau i fwy gael ei wario ar wasanaethau rheng flaen, fel yr ydym ninnau hefyd, ac y gofynnir iddyn nhw yn awr gymryd arian oddi ar y gwasanaethau hynny i baratoi ar gyfer posibilrwydd y maen nhw'n gobeithio'n fawr na fydd yn digwydd, ac mae hynny'n sefyllfa annheg i unrhyw arweinydd awdurdod lleol fod ynddi. Serch hynny, rydym ni'n parhau i weithio gyda nhw, gan ddarparu cyllid iddyn nhw hefyd, er mwyn eu cynorthwyo yn y gwaith y bydd angen iddyn nhw ei wneud petai Brexit heb gytundeb mewn gwirionedd yn digwydd.

15:40

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am gael gweld ei ddatganiad ymlaen llaw. Rydych chi'n nodi yn y datganiad y cafodd y cynigion a nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' eu hadlewyrchu yn llythyr Jeremy Corbyn i Theresa May yr wythnos diwethaf. Ond nid yw hynny'n hollol wir, nac ydi? Rwy'n dyfynnu o 'Diogelu Dyfodol Cymru':

'Mae Undeb Tollau’r UE yn cynnig manteision i fusnesau Cymru.... Rydym o’r farn ar hyn o bryd mai parhau i fod yn aelod o Undeb Tollau’r UE, gan gynnwys cynhyrchion sylfaenol amaethyddiaeth a physgodfeydd, yw’r sefyllfa orau i fusnesau Cymru a’r DU.'

Yr hyn y mae Jeremy Corbyn yn galw amdano yw undeb tollau parhaol a chynhwysfawr ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd a fyddai'n cynnwys alinio gyda chod tollau'r undeb, tariff allanol cyffredin a chytundeb ynglŷn â pholisi masnachol sy'n cynnwys hawl i'r DU leisio ei barn ar gytundebau masnach yr UE yn y dyfodol. Nawr, nid dyna yw undeb tollau'r UE fel y deallwn ni hynny, yn sicr, ac, yn wir, mae'r cynnig hwnnw'n amhosib ar hyn o bryd yn gyfreithiol o dan gyfraith cytuniad yr UE. Felly, a fyddai'n derbyn—? O ran y farchnad sengl hefyd, roedd y cytundeb y buom yn ei drafod rhwng ein dwy blaid—. Roedd yn well gennym ni aelodaeth, roedd yn well gennych chithau gymryd rhan, ond, yn y bôn, roedd ynglŷn â pharhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl, ond dim ond y prynhawn yma dywedodd Jeremy Corbyn, pan holwyd ef yn benodol am hynny, ei fod yn gwrthod y syniad hwnnw ac mai'r hyn y mae yntau ei eisiau yw cytundeb masnach di-dariff. Felly, a yw o leiaf yn derbyn mewn gwirionedd nad yw'r hyn y mae Jeremy Corbyn yn ei hyrwyddo yr un peth â'r hyn y gwnaethom ni ei drafod rhwng ein dwy blaid?

O ran y trefniant wrth gefn, i mi mae'n parhau i fod yn un o'r elfennau mwy rhyfedd o safbwynt meinciau blaen y Blaid Lafur yn San Steffan eu bod yn parhau i fynegi eu pryderon am y trefniant wrth gefn, er gwaethaf sylwadau gwahanol y mae cynrychiolwyr y Blaid Lafur wedi eu gwneud yn y fan yma. Mae Ysgrifennydd yr wrthblaid ar Brexit yn dal i ddweud bod anawsterau gyda hynny ac mae'n adleisio'r hyn y mae'r DUP a rhai pobl ar gyrion eithaf y Blaid Geidwadol yn ei ddweud.

Yn olaf, i ganolbwyntio ar y mater creiddiol mewn gwirionedd, 38 o ddiwrnodau nes y byddwn ni'n ymadael yn ddisymwth, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, rydym ni'n glir nad oes ond un ffordd ymarferol yn bosib bellach o osgoi hyn sef pleidlais y bobl. Roeddwn yn mynd i'ch cystwyo mewn gwirionedd am ei hepgor yn llwyr o'ch datganiad. Ail-ddarllenais ef. Nid oedd yn y datganiad ysgrifenedig, nac oedd? Cafodd ei ychwanegu mewn ymateb i'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Felly, mae'n wir, nid ydyn nhw'n wastraff llwyr ar amser. Rydych chi bron fel Jeremy Corbyn o chwith. Roedd ganddo yntau gyfeiriad at bleidlais y bobl yn y drafft cyntaf o'r llythyr ac fe gafodd hynny ei ddileu. Doeddech chi ddim yn cyfeirio at bleidlais y bobl yn eich drafft ysgrifenedig ond rhoesoch ef i mewn. Ond rwy'n llawenhau am hynny. Roeddech yn rhwyfo'n ôl, ac, yn sydyn, cam bach i'r cyfeiriad cywir.

Ond, wyddoch chi, pryd ydym ni'n mynd i gael cynnydd? Rydych chi'n siarad am bwysigrwydd 'dim cytundeb', ond mae dim cynnydd o leiaf mor niweidiol o ran y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Felly, pryd mewn difrif gawn ni ddatganiad diamwys gennych chi, Prif Weinidog, o blaid galw am bleidlais y bobl nawr?

Dywedodd Jeremy Corbyn mewn gwirionedd y prynhawn yma ei fod yn cefnogi penderfyniad poblogaidd ar ddiwedd y broses. Does gen i ddim syniad beth yw ystyr hynny. Efallai y gallwch chi egluro ymhellach. A yw'n golygu refferendwm terfynol ar ddiwedd y cyfnod pontio—posibilrwydd sydd wedi ei gyflwyno o'r blaen gan Mick Antoniw? A yw'n golygu bod mainc flaen Llafur yn mynd i gefnogi gwelliant Kyle-Wilson? Yn ôl pob golwg, mae John McDonnell yn dweud eu bod yn mynd i wneud penderfyniad yr wythnos hon ynglŷn â hynny, o ran refferendwm cadarnhau. Wnaethoch chi drafod hynny yn y Cabinet y bore yma? Ydych chi'n gallu dweud beth yw'r sefyllfa?

Fe wnaethoch chi gyfeirio, yn olaf, at eich cyfarfod a gawsoch chi ag arweinydd yr wrthblaid. Wel, dyma gynnig diffuant: pam na wnawn ni ddim cydgyfarfod i ddechrau paratoadau—y paratoadau diymdroi yr ydym ni wedi galw amdanyn nhw—ar gyfer pleidlais y bobl? Beth am i chi a minnau gyfarfod i ddechrau'r paratoadau, nid yn unig o ran galw am y refferendwm hwnnw, ond i'w chynnal a'i hennill yma yng Nghymru?

15:45

Wel, Llywydd, rwyf bob amser yn ceisio bod yn ofalus o'r hyn yr wyf yn ei ddweud ar lawr y Cynulliad, a'r hyn a ddywedais oedd yr adlewyrchwyd y ddogfen a luniwyd rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yn y fan yma yn y llythyr a anfonwyd gan arweinydd yr wrthblaid. Ni ddywedais y cafodd ei ailadrodd. Dywedais y cafodd ei adlewyrchu. A dewisais y gair hwnnw yn fwriadol, oherwydd fy mod yn credu—[torri ar draws.] Na, rwy'n deall y byddai'n well gan Aelodau inni beidio â bod yn fanwl-gywir yn y ffordd yr ydym ni'n siarad am bethau, ond pan ddefnyddiais y gair 'adlewyrchu', defnyddiais hynny oherwydd fy mod yn credu y caiff prif fyrdwn yr hyn a drafodwyd gennym ni yma ei adlewyrchu yn y llythyr hwnnw. Nid dyblygiad mohono; ac nid yw'n ymdrin â phob manylyn, ond fe wnaethom ni ddweud yn y fan yma bod aelodaeth o undeb tollau yn hanfodol i fusnesau yng Nghymru, ac mae undeb tollau wedi ei gadarnhau yn y llythyr a anfonwyd gan arweinydd yr wrthblaid. Rydym ni wedi dweud bod mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yn bwysig. Rwy'n credu y caiff hynny ei adlewyrchu yn y llythyr a anfonwyd gan arweinydd yr wrthblaid hefyd.

Felly, wyddoch chi, rwy'n credu ei bod hi'n well, pan fyddwn ni'n gweld pethau'n symud i'r cyfeiriad yr hoffem ni weld pethau'n symud iddo, ein bod yn croesawu'r pethau hynny ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gynorthwyo yn y broses honno, yn hytrach na, fel y credaf y gwelwn ni weithiau, rhyw fath o ddiddordeb dadansoddol ysol mewn ceisio canfod bylchau mân rhwng yr hyn a ddywedwyd mewn un datganiad ac un arall, beth yw cynnwys un llythyr a dogfen. Nid yw o unrhyw ddiddordeb i unrhyw un y tu allan i'r Siambr hon, credwch fi. Ni fyddai neb o gwbl yn ymddiddori yn y pwyntiau a wnaeth arweinydd Plaid Cymru i mi'r prynhawn yma. Gwell o lawer fyddai inni geisio gwneud yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ceisio'i wneud, sef cytuno prif fyrdwn y pethau yr ydym ni'n credu eu bod yn bwysig ac wedyn ceisio dwyn y maen i'r wal gyda'n gilydd. Ac mae hynny'n ymdrech yr wyf yn sicr yn barod i barhau i'w gwneud, ac rwyf yn barod i wneud hynny gyda phobl pryd bynnag, yn y Siambr hon, mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn sicrhau canlyniad a fyddai'n briodol i Gymru.

Rwyf bob amser yn hapus i drafod materion Brexit yn y Siambr hon, ond byddai wedi bod yn ddigon hawdd i'r Prif Weinidog ddod yma heddiw a gwneud datganiad llawer byrrach na'r un a wnaeth. Gallai fod wedi dweud, 'Ni fu unrhyw ddatblygiadau yn yr ychydig fisoedd diwethaf', ac mae hynny oherwydd fy mod yn cytuno ag ef, nad ydym ni gam yn agosach at ddatrysiad, ac mae hynny oherwydd nad yw Prif Weinidog y DU yn gofyn y cwestiynau cywir. Ac o'r dechrau, roedd arni eisiau llunio rhyw gybolfa o gytundeb sydd yn ei hanfod yn ein cadw yn yr UE er ei fod mewn enw yn edrych fel petaem ni wedi ei adael. Ac mae hynny'n rhywbeth sydd yn sicr o fethu, oherwydd, yn amlwg, nid yw'r UE byth yn mynd i dderbyn y math hwnnw o drefniant. Iddyn nhw, mae'n rhaid i chi naill ai fod i mewn neu allan. Felly, rydym ni wedi gwastraffu'r ddwy flynedd a hanner diwethaf, ac fe allwn ni i gyd feirniadu'r Llywodraeth am yr ansicrwydd, neu'r ansicrwydd ychwanegol, a achosodd hyn, ac mae'n feirniadaeth haeddiannol iawn nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud paratoadau digonol, neu yn wir, unrhyw baratoadau cyn belled ag y gallwn ni eu gweld sydd o unrhyw sylwedd, ar gyfer ymadael heb gytundeb. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn un o'r problemau mawr y mae'n rhaid inni ymdrin â nhw.

Nid yw'r iaith yn y datganiad yn helpu, wrth gwrs—

taerineb penboeth Brexitwyr digyfaddawd fod dim cytundeb yn ganlyniad derbyniol.

Wrth gwrs, dyna ichi daerineb penboeth arhoswyr digyfaddawd y dylem ni wneud popeth posib i danseilio canlyniad y refferendwm. Nid yw'r math hwnnw o iaith mewn gwirionedd yn fodd inni gyflawni unrhyw beth, ond y rheswm pam fod gennym ni'r taerineb penboeth hyn ar ddwy ochr y ddadl yw nad oes neb yn ymddiried ym Mhrif Weinidog y DU. Hanner y ddadl yw bod arnyn nhw ofn ei bod hi'n mynd i'n tynnu ni allan o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ac mae'r hanner arall yn ofni y cawn ni mewn gwirionedd ein cadw yn yr UE. Iaith fwriadol aneglur a gofalus Prif Weinidog y DU sydd wedi esgor ar y canlyniad hwn, ac a yw'r elfen fwyaf gwenwynig yn y cymysgedd hwn. Felly, i'r graddau hynny, gallaf dderbyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog heddiw.

Ond nid yw mynediad parhaus i 40 cytundeb masnach yn mynd i fod yn hollbwysig i'n dyfodol fel cenedl. Beth yw'r cytundebau masnach hyn y mae'r UE wedi llwyddo i'w cyflawni yn ei hanes o ryw hanner canrif? San Marino, Andorra, Beilïaeth Guernsey, Ynys Manaw, Beilïaeth Jersey, Monaco, a bellach mae gennym ni Serbia, Montenegro ac Albania, Moldofa, Georgia. Wel, mae'r rhain i gyd gytundebau cwbl deilwng y gellid eu gwneud, ond ar wahân i Mecsico, y daeth yr UE i gytundeb â hi rai blynyddoedd yn ôl, ac yn fwyaf diweddar Japan dim ond eleni, Canada ac ati, yna mae'r UE—[Torri ar draws.] Bydd hi'n llawer haws i ni nag i'r UE, oherwydd bod yr UE yn gynllwyn diffyndollol, lle nad ydym ni.

Ac mae cytundebau masnach rydd mewn gwirionedd yn saeth wedi ei hanelu'n syth at galon yr UE, fel mae penderfyniad cwmnïau ceir Japan wedi profi yn ddiweddar, oherwydd mai un o'r elfennau ym mhenderfyniad Honda yn ymwneud â chytundeb masnach rydd gyda'r UE, yw fe allan nhw bellach gael mynediad di-dariff i farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd, ond mewn gwirionedd dydyn nhw ddim angen cynhyrchu yn yr UE. Felly, mae hynny wedi cau eu cegau nhw ychydig draw yn y fan yna, onid yw e? Felly, ydynt, mae cytundebau masnach rydd yn rhan bwysig o ddyfodol Prydain y tu allan i'r UE, a dyna pam mae aelodaeth o'r undeb tollau yn anghydnaws â hynny. 

Nawr, o ddatganiad Prif Weinidog Cymru heddiw, byddech yn credu bod economi cyfan Prydain, i ddefnyddio ei ymadrodd, yn mynd dros y dibyn. Ond mae data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol am y farchnad, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, yn dangos yn chwarter diwethaf 2018 y cafodd 167,000 yn fwy o bobl eu cyflogi; mae hynny'n 440,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yn y Deyrnas Unedig yn ystod blwyddyn galendr 2018. Mae'r gyfradd gyflogaeth felly'r uchaf erioed—60,000 yn llai o bobl mewn contractau dim oriau, y diweithdra isaf ers 1974—roedd 100,000 yn llai yn ddiwaith yn 2018. Mae cyflogau wedi cynyddu 3.4 y cant, 1.3 y cant mewn termau real, ac eto pan gyhoeddwyd canlyniad y refferendwm ac, yn wir, cyn hynny, y rhagolygon oedd y byddai'r economi gyfan yn mynd i mewn i bwll du. A rhagfynegiadau'r Trysorlys ar y pryd oedd y byddai diweithdra ym Mhrydain 500,000 i 800,000 yn uwch nag yr oedd ym mis Mai 2018. Dyna ragolygon y Trysorlys ichi, sydd yn ddim mwy na phropaganda gwleidyddol gan Ganghellor y Trysorlys sydd ar dân dros aros. 

Datblygiad diddorol arall yn ystod y dyddiau diwethaf yw bod yr Eidal bellach yn ceisio cytundeb Brexit ar wahân gyda Phrydain, oherwydd eu bod nhw'n cydnabod pwysigrwydd Brexit heb gytundeb o'r UE iddyn nhw. Mae FoodDrinkEurope wedi dweud

Bydd ymadawiad y DU o'r UE heb gytundeb yn gyfystyr â sefyllfa lle na fydd neb yn elwa o ran y gadwyn fwyd-amaeth gyfan.

Bydd yr effaith yn uniongyrchol ac yn ddidrugaredd. Ceir dwy ochr i'r ddadl hon, wrth gwrs—yr UE a'r DU. Mae'r DU wedi dweud o'r cychwyn cyntaf ac, yn wir, dywedodd Mr Tusk ar y dechrau fod arno eisiau cynnig cytundeb masnach rydd i'r DU. Mae Prif Weinidog y DU wedi gwrthod manteisio ar y cynnig hwnnw, ac mae anhyblygrwydd Juncker a Barnier ar y llaw arall wedi cadw'r ateb hwn o'r trafodaethau negodi. Dyna'r ffordd ymlaen i Brydain.

Mae byd y tu allan i'r UE. Dim ond 15 y cant o economi'r byd yw'r UE o'i gymharu â 30 y cant 30 mlynedd yn ôl, a bydd yn hanner hynny eto ymhen 30 mlynedd. Mae'r twf yn y byd yn digwydd yn y rhannau hynny o'r byd y mae cwmnïau ceir yn awr yn adleoli iddyn nhw, ac nid yn unig o Brydain, oherwydd mae Honda yn cau ei linell gynhyrchu Honda Civic yn Nhwrci, ac efallai mewn gwirionedd yn cau ei holl weithrediadau yn y fan yna. Ac mae Twrci yn yr undeb tollau. Mae Donald Trump yn sôn am osod tariff o 25 y cant ar allforwyr ceir o'r UE i'r Unol Daleithiau oherwydd ein bod yn mynnu cael tariff o 10 y cant ar geir Americanaidd, tra bo ganddyn nhw dariff o 2.5 y cant yn unig yn gyfnewid. Bydd diwydiant ceir yr Almaen yn sicr yn gweld newid byd os bydd hynny'n digwydd, a gan mai Prydain sy'n prynu un o bob saith cerbyd a gaiff ei wneud yn yr Almaen, bydd Brexit heb gytundeb hefyd yn anhawster difrifol iddyn nhw gan fod economi'r Almaen wedi bod yn gwanhau ers dau chwarter—rhywbeth nad ydyn nhw wedi ei weld ers blynyddoedd lawer—tra bo Prydain yn parhau i gynnig cyfleoedd busnes i ddiwydiannau twf y dyfodol. Sefydlwyd cronfa dechnoleg £400 miliwn yr wythnos hon yn Llundain gan fuddsoddwr gwladwriaethol Abu Dhabi, cwmni buddsoddi Mubadala a Softbank, gan mai'r DU sy'n arwain y byd o ran arloesedd technegol. Rhain yw diwydiannau'r dyfodol y dylem ni fod yn canolbwyntio arnyn nhw. Mae'r rhain yn gyfleoedd sy'n agored i ni ar ôl Brexit. Nid wyf eisiau Brexit heb gytundeb—rwyf eisiau cytundeb masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd, dyna fu fy nymuniad erioed—ond mae'r anallu i siarad yn blaen am y materion hyn yn rhywbeth fydd yn broblem fawr i ni.

Y broblem fawr arall i'r diwydiant ceir, wrth gwrs, yw disel. A pholisi'r UE a'r Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar allyriadau yw un o'r problemau mwyaf i weithgynhyrchwyr ceir Ewropeaidd. Dyna un o'r rhesymau mawr pam mae Nissan wedi penderfynu rhoi'r gorau i gynhyrchu yn Sunderland—oherwydd ni fydd neb eisiau car disel cyn bo hir, ac eto'r rhain yw'r llinellau cynhyrchu presennol.

Felly, byddai'n dda gennyf pe gallai'r Prif Weinidog fod yn fwy cytbwys yn ei ddatganiadau. Bydd, bydd problemau pontio wrth adael yr UE. Hyd yn oed yn fwy felly heb gytundeb—ac mae'r bai am hynny, rwy'n credu, yn bennaf ar 10 Stryd Downing. Ond mae cyfleoedd hefyd, ac nid bychanu economi Prydain yn barhaus yw'r ffordd ymlaen, ac yn sicr nid y ffordd ymlaen os oes gennych chi ddiddordeb yn lles pobl Cymru.

15:55

Dywedodd yr Aelod fod strategaeth Prif Weinidog y DU yn un o aneglurder bwriadol. O na allwn i gredu ei fod wedi'i gynllunio i fod felly. Rwy'n credu bod gennym ni'r aneglurder heb y bwriad, mewn gwirionedd—y cwbl sydd gennym ni yw symudiad rhwng carfanau gwahanol wrth iddi gael ei cholbio, ddydd ar ôl dydd, gan yr holltau o fewn ei phlaid ei hun.

Darllenodd yr Aelod enwau rhai o'r 40 o wledydd y mae gennym ni gytundebau â nhw. Dyma'r union gytundebau yr oedd yntau a'i debyg yn eu canmol wrthym yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm. Dyma ateb Tipp-Ex drwgenwog Dr Fox, os cofiwch chi, pan ddywedodd mai'r rhain fyddai'r cytundebau hawsaf yn hanes masnach. Y cyfan oedd ei angen oedd potel o Tipp-Ex i allu rhoi Tipp-Ex dros y blaenlythrennau 'EU' ac ysgrifennu'r blaenlythrennau 'UK' yn eu lle. Beth mae wedi llwyddo i'w gyflawni hyd yn hyn? Wel, rydym ni wedi taro bargen â'r Swistir, felly mae ein cyflenwad o glociau cwcw yn ddiogel ar ôl Brexit, ac rydym ni wedi dod i gytundeb ag Ynysoedd Ffaro. Felly, bydd unrhyw un a hoffai siwmper wlanog i gadw'n gynnes yn oerfel Brexit yn gweld bod darpariaeth ar eu cyfer nhw hefyd.

Dywedodd yr Aelod fod cytundebau masnach rydd yn anghydnaws ag undeb tollau. Dywedodd hynny yn syth ar ôl iddo amlinellu'r cytundebau masnach rydd y mae'r UE wedi eu llunio yn ystod yr wythnosau diwethaf, er, fel y cofiaf i, eu bod yn dal i fod mewn undeb tollau. Dywedodd hefyd fod popeth yn economi'r DU yn mynd yn rhwydd, er gwaetha'r ffaith bod ffigurau Banc Lloegr yn awgrymu bod economi'r DU 2 y cant yn llai heddiw nag y byddai pe na baem ni wedi cael refferendwm, a bod pob teulu yng Nghymru £800 yn waeth eu byd o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw.

Mae'n fy nharo i, fel erioed, Llywydd, fel capten y Titanic. Rydym ni'n hwylio mor gyflym ag y gallwn tuag at y mynydd iâ, gan nodi y bydd rhai problemau ar adeg y gwrthdrawiad, ond y bydd yn ddrwg calon gan y mynydd iâ—y bydd yn ddrwg iawn gan yr Undeb Ewropeaidd am y niwed y mae hyn i gyd yn ei wneud iddo yntau. Rydym ni'n clywed y byddwn yn aelodau o Brydain Eofn, gwlad hud a lledrith y Brexitwyr, lle byddwn yn rhydd o'r cyfyngiadau sydd wedi peri i economi'r Undeb Ewropeaidd fod yn gymaint o lwyddiant ers 40 mlynedd, a byddwn yn gallu mentro ar ein pen ein hunain a thorri ein cwys ein hunain. Nid yw hynny'n cyfateb mewn unrhyw fodd â realiti economi fyd-eang integredig ac mae'n dyddio'n ôl i gyfuniad o amgylchiadau nad ydyn nhw'n berthnasol heddiw ac na fyddant yn sicr yn berthnasol os ydym ni'n ymadael yn ddisymwth â'r Undeb Ewropeaidd.

16:00
4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Gronfa Trawsnewid

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa drawsnewid. Rwy’n galw ar y Gweinidog, felly—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Yn 2016, cytunodd y pedwar grŵp plaid yn y Cynulliad hwn i sefydlu adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad yr arolwg seneddol ym mis Ionawr 2018. Roedd yr adroddiad hwnnw yn cydnabod ein fframwaith deddfwriaethol sy'n arwain y byd, y strwythurau sefydliadol sy'n sail iddo, ac ymroddiad ein gweithlu iechyd a gofal. Ond roedd hefyd yn cynnwys rhai negeseuon anodd i ni, gan osod her inni drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Y neges syml wrth wraidd yr arolwg seneddol oedd nad yw ein system iechyd a gofal cymdeithasol presennol yn addas ar gyfer y dyfodol. Nid dim ond dymunol yw newid. Mae newid yn hanfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu argymhellion yr adolygiad. Drwy gydol y gwanwyn y llynedd, buom yn gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid ym maes iechyd, llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a'r maes tai i ddatblygu ein hymateb. A chyhoeddais 'Cymru Iachach', ein cynllun cyntaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ym mis Mehefin y llynedd. Wedi ei grynhoi mewn 40 gweithred, mae'n nodi'r camau y byddwn ni'r Llywodraeth yn eu cymryd ynghyd â'r camau y mae angen i'n partneriaid eu cymryd gyda ni, ac yn bennaf y camau y mae ein partneriaid yn cytuno sydd angen eu cymryd i fynd ati gyda'n gilydd i ddiwygio a thrawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

O fewn wythnosau ar ôl cyhoeddi 'Cymru Iachach', cyhoeddais fod rhaglen trawsnewid wedi ei sefydlu—argymhelliad allweddol yn yr adolygiad. Cefnogir y rhaglen honno gan gronfa trawsnewid gwerth £100 miliwn, a bwriad y gronfa yw gweithredu fel catalydd i gyflymu uwchraddio modelau gofal newydd sydd â'r potensial i newid yn sylfaenol sut yr ydym ni'n darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ac nid yw'r newid hwnnw yn hafaliad ariannol yn unig. Mae'n rhaid inni sicrhau mwy o werth yn y ffordd y mae pob partner yn defnyddio ei adnoddau i wella ansawdd y gofal. Gwell canlyniadau a gwell profiadau gyda ac ar gyfer ein pobl sy'n sbarduno'r rhaglen hon ar gyfer newid.

Gwyddom y bydd y galw am iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i gynyddu. Y rheswm dros hyn yn rhannol yw'r newidiadau yn y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau, newidiadau i ddisgwyliad oes, technoleg, newidiadau yn y cyd-destun economaidd-gymdeithasol a newid yn y disgwyliadau o ran beth ddylai gofal iechyd modern allu ei ddarparu. Caf fy atgoffa'n rheolaidd, er gwaethaf bron i ddegawd o gyni, nad yw disgwyliadau'r cyhoedd na gwleidyddion wedi gostwng o ran ein gwasanaeth iechyd gwladol. Yn ogystal ag ystyried gweithdrefnau gofal iechyd newydd, meddyginiaethau newydd, gofal cymdeithasol wedi ei alluogi drwy dechnoleg newydd, dylai modelau newydd ystyried hefyd beth sy'n bwysig i bobl—y bobl sy'n ceisio gofal cymdeithasol neu ofal iechyd a'r bobl sy'n ei ddarparu. Ar ryw adeg yn ein bywydau, mae hyn yn golygu pawb.

Mae'n hanfodol bod modelau newydd ar gyfer gofal yn gydlynol ac yn fforddiadwy. Rydym ni eisiau cysylltu a symleiddio gwasanaethau ar lefel ranbarthol, felly mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn hanfodol er mwyn gwneud i hyn ddigwydd. Croesawaf y ffordd y mae partneriaid wedi gweithio gyda'i gilydd drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol wrth ddatblygu cynigion yn gyflym ar gyfer y gronfa trawsnewid. Mae'r modelau a gefnogir gan y gronfa wedi'u cynllunio i ddarparu gofal yn agosach at gartref, gan gyfuno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda mwy o bwyslais ar atal.

Rydym ni i gyd yn cydnabod nad yw trawsnewid y system gyfan yn dasg hawdd na chyflym, ond rydym ni'n wynebu heriau sylweddol. Ni all y gronfa ddatrys pob un o'r pryderon hyn, ond gall helpu i ddangos sut y gallwn ni wneud pethau'n wahanol a sut y gallwn ni wneud pethau'n well. Hyd yma, rwyf wedi cymeradwyo saith o gynigion gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol ledled Cymru. Caiff y rhain eu cefnogi gan hyd at £41.2 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer y cynlluniau hynny sydd wedi'u cymeradwyo. Rwy'n disgwyl cael mwy o gynigion yn fuan iawn i mi eu hystyried. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol. Rwy'n disgwyl gweld cynnydd gwirioneddol yn y ffordd y mae gwasanaethau yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl fanteisio arnyn nhw, ac wrth gwrs, i sicrhau gwell canlyniadau.

Mae'r cynigion yr ydym ni wedi'u cael hyd yma yn fy nghalonogi. Mae pob partneriaeth ranbarthol wedi cyflwyno syniadau ac ymrwymiad i drawsnewid. Mae gennym ni gynigion portffolio o Gaerdydd a'r Fro, gorllewin a gogledd Cymru, sy'n cwmpasu amrywiaeth o wasanaethau, o ofal ataliol i ofal heb ei drefnu, i ofal ar ôl gadael yr ysbyty. Mae gennym ni gynigion o Went a Bae'r Gorllewin, gogledd Cymru a Chaerdydd a'r Fro, gyda phwyslais ar symud gofal o ysbytai yn agosach i'r cartref, ac o'r gorllewin, ynglŷn â'r bwriad i ddefnyddio technoleg gynorthwyol, asedau cymunedol a'r cymorth sy'n pontio'r cenedlaethau ar draws cymunedau.

Mae rownd gyntaf y cynigion yn dangos ymateb bywiog a hyderus gan ein partneriaethau rhanbarthol. Maen nhw'n dwyn  partneriaid ynghyd o bob rhan o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol ac yn dechrau llunio'r trawsnewid y mae 'Cymru Iachach' yn ei ddisgrifio. Rydym ni'n gweld ymdrechion i rannu arfer da y tu hwnt i ffiniau rhanbarthol ac, yn galonogol, ceir themâu cyffredin o ran ffurf y newid hwn. Ceir pwyslais cryf ar bontio bylchau ac ail-lunio sut y mae pobl yn manteisio ar ofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae datblygu'r gweithlu yn thema gref yn y cynigion, sy'n adlewyrchu'r pwyslais ar bobl sy'n elfen greiddiol o 'Cymru Iachach', gan gynnwys y nod pedwarplyg. Heb ymroddiad y bobl sy'n gweithio yng ngwasanaethau rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol ac yn y trydydd sector, ni allwn ni gyflawni'r trawsnewid hanfodol sydd ei angen.

I sicrhau ein bod ni'n aros ar y trywydd iawn, rydym ni'n gwerthuso ac yn herio ein hunain wrth ddatblygu rhaglen trawsnewid. Bu'r adolygiad cyflym diweddar a gomisiynwyd gennym ynglŷn â graddfa ac ymlediad y cynigion yr ydym ni wedi eu hariannu drwy'r gronfa trawsnewid yn galonogol. Mae hi yn bwysig y caiff modelau newydd sy'n dod i'r amlwg eu gwerthuso fel y maen nhw'n datblygu er mwyn i'r dulliau mwyaf addawol gael eu datblygu ar gyfer eu mabwysiadu'n ehangach ledled Cymru. Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfres o ddangosyddion cenedlaethol a fydd yn cefnogi'r nod hwn. Rwy'n ffyddiog, gyda chymorth parhaus ac ewyllys da ein partneriaid, y gallwn ni gyflawni'r newid yr ydym ni i gyd yn cydnabod sydd ei angen, a'i angen yn awr. Ein her yw sicrhau y ceir trawsnewidiad gwirioneddol a'n bod yn osgoi'r demtasiwn i ganolbwyntio ar yr anghenion mwyaf enbyd yn unig.

Mae edrych y tu hwnt i anghenion uniongyrchol a dybryd yn gofyn am ymdrech ychwanegol, a dim ond os gweithiwn ni mewn partneriaeth y mae modd ei gyflawni. Felly, bydd rhan y partneriaethau rhanbarthol yn hyn yn parhau i fod yn hollbwysig, wrth iddyn nhw ddarparu'r cyfrwng i arweinyddion ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio ag eraill i gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion poblogaethau lleol.

Ychydig dros flwyddyn ar ôl cyhoeddi'r adolygiad seneddol, mae ein cronfa trawsnewid eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Gallai pob model newydd a gefnogir helpu i lywio a thrawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy pwysig yw ein bod wedi dechrau gweld newid a chysylltiadau gwell yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol drwyddo draw, gyda mwy o ymdeimlad o rannu uchelgais. Mae hynny'n mynd ymhell y tu hwnt i'r gronfa trawsnewid a bydd angen ewyllys da ac arweinyddiaeth i gynnal y dull gweithredu hwnnw a sicrhau'r newid sydd ei angen. Mae gennym ni lawer i'w wneud o hyd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

16:05

Diolch, Gweinidog, am gopi o flaen llaw o'ch datganiad y prynhawn yma. Rwy'n falch iawn o weld y buddsoddir arian parod i drawsnewid ein gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Fe wyddom ni ein bod ni ar ei hôl hi mewn rhai agweddau o gymharu â rhai rhannau eraill o'r DU, yn enwedig o ran datblygu gweithio'n agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Ond mae'n galonogol ein bod o'r diwedd yn buddsoddi yn y modelau newydd hyn o ofal er mwyn cael canlyniadau gwell ar gyfer ein cleifion. Mae'r arian parod, fodd bynnag, a gafodd ei wario hyd yma yn debyg i biso dryw yn y môr o gymharu â'r gyllideb iechyd gyffredinol, fel y gwyddom ni i gyd. Felly, rwy'n credu bod y disgwyliad sydd gennych chi y bydd hwn yn gatalydd ar gyfer newid sylweddol yn ystod y Cynulliad hwn efallai ychydig yn rhy uchelgeisiol.

Nawr, sylwaf ichi ddweud eich bod chi eisoes wedi cymeradwyo saith cynnig, ac rwy'n credu bod hynny'n dda. Rwy'n credu yn y datganiad diwethaf, dim ond dau mewn gwirionedd oedd wedi eu cadarnhau ar y pryd. A allwch chi ddweud wrthym ni: a yw pob un o'r rhain wedi dechrau erbyn hyn? Rydych chi wedi cyfeirio at y ffaith eu bod yn gynigion sy'n adlewyrchu pob rhan o Gymru; bod rhywbeth yn gweithredu ym mhob ardal partneriaeth ranbarthol unigol, ond nid ydych chi wedi rhoi llawer iawn o fanylion ac eithrio dwy neu dair brawddeg am yr hyn sy'n digwydd yn benodol mewn gwahanol leoedd. Ac nid ydych chi chwaith wedi rhoi dosraniad inni o'r £41.2 miliwn i ddangos yn lle y mae'r arian yn cael ei wario mewn gwirionedd. Felly, rwy'n gofyn ichi ym mha ardaloedd byrddau iechyd ac ardaloedd byrddau partneriaeth rhanbarthol y mae'r £41.2 miliwn hwnnw yn cael ei wario? A yw'n cael ei wario'n hafal ym mhob rhan o Gymru, neu a oes rhai yn elwa mwy nag eraill?

Tybed hefyd, yn benodol, beth sy'n newydd ynghylch yr arian a fuddsoddir, oherwydd o'r hyn a ddisgrifiwch—er enghraifft, y defnydd o dechnoleg gynorthwyol, asedau cymunedol, gweithgareddau ar draws y cenedlaethau, rhywfaint o'r gwaith ataliol sy'n mynd rhagddo, gofal heb ei drefnu ar ôl dychwelyd o'r ysbyty—mae llawer o hynny yn digwydd beth bynnag yn ein hardaloedd byrddau iechyd, a hynny'n gwbl briodol. Dylen nhw fod yn buddsoddi yn y mathau hyn o bethau oherwydd mae modd arbed arian yn ddiweddarach. Felly, sut gallwch chi fod yn sicr bod y prosiectau yn ychwanegu gwerth at y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo yn ein hardaloedd byrddau iechyd ac nid yn cefnogi'r byrddau iechyd hynny yn unig, rhai sydd efallai ychydig yn ddiog eu hagwedd ynghylch trawsnewid gwasanaethau yn eu hardaloedd eu hunain?

Rydych chi wedi sôn bod cynllunio gweithlu, neu ddatblygu gweithlu, yn thema gref. Rwy'n falch o glywed hynny, oherwydd fe wyddom ni y buom ni'n warthus yma yng Nghymru o ran cynllunio gweithlu, boed hynny yn weithlu nyrsio, gweithlu bydwreigiaeth, gweithlu meddygon teulu. Fe wnes i grybwyll eisoes y ffaith eich bod chi'n gwrthod pobl sydd eisiau hyfforddi fel meddygon teulu a dod i weithio yng Nghymru. Mae'n gwbl wallgof, i fod yn onest, nad ydych chi'n creu mwy o leoedd hyfforddi i ddiwallu'r angen sydd gennym ni yng Nghymru o ran y prinder yn rhai o'r disgyblaethau hyn. A wnewch chi ddweud yn union faint o staff ychwanegol yr ydych chi'n disgwyl a fydd o bosib yn cael eu recriwtio a'u datblygu o ganlyniad i'r cynigion sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd?

Nid ydych chi chwaith wedi rhoi unrhyw syniad inni o sut y mae'r buddsoddi yn cael ei rannu rhwng gofal cymdeithasol, gofal cymunedol, gofal sylfaenol, gofal eilaidd. Rydym ni'n gwybod, pan fyddwch chi'n buddsoddi mewn gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, ei fod yn tueddu i dynnu'r pwysau oddi ar ofal eilaidd, sydd yn aml yn gallu bod yn ddrutach. Felly, ar gyfer pa ran o faes gofal y bwriedir yr arian hwn? A yw ar gyfer gofal ysbyty, neu a yw ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol, sef y lle rwy'n credu y mae angen o bosib inni ganolbwyntio arno?

Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr adolygiad cyflym yr ydych chi wedi ei wneud, o raddfa a lledaeniad y cynigion. Fe ddywedoch chi fod canlyniad yr adolygiad cyflym yn galonogol. A allwch chi gyhoeddi manylion yr adolygiad? A allwch chi ddweud wrthym sut yr aethoch chi ati i gynnal yr adolygiad, i brofi beth oedd yn digwydd ar lawr gwlad? Fe wn i ei bod hi'n ddyddiau cynnar o ran rhai o'r prosiectau hyn, ond mae rhai wedi bod yn mynd rhagddynt ers cryn amser bellach, ac rwy'n credu y dylem ni weld yn eithaf buan pa un a ydyn nhw'n llwyddo ac yn gynaliadwy neu beidio, a pha rai y gellir eu lledaenu o ran eu hymarfer ledled Cymru.

Fe wnaethoch chi hefyd gyfeirio at ewyllys da partneriaid wrth gyflawni'r newid sydd ei angen. Nawr rwy'n gwybod y bu ymgysylltu da a chadarnhaol â phartneriaid fel Ambiwlans Sant Ioan a'r Groes Goch Brydeinig yn ddiweddar, a dyna waith rwy'n ei gymeradwyo, sydd wedi bod yn digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru. A allwch chi ddweud wrthym ni a yw'r partneriaid hyn, yn enwedig partneriaid y trydydd sector, mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn unrhyw un o'r prosiectau hyn, ac os felly, ym mha ffordd? Oherwydd rwy'n credu y byddai'n dda gwybod a ydych chi'n adeiladu ar yr hyn sy'n amlwg wedi bod, yn sicr o'r argraff a gefais i, yn llwyddiant mawr iawn gyda'r Groes Goch Brydeinig yn y gogledd.

Rwy'n credu mai dyna'r cyfan o'r cwestiynau sydd gennyf ar hyn o bryd, Dirprwy Lywydd, ond fe hoffwn i ddweud ein bod yn croesawu'r buddsoddiad hwn. Rydym ni'n croesawu symudiad i'r cyfeiriad cywir. Ond rwyf yn credu bod yn rhaid inni sicrhau bod hyn yn fuddsoddiad yn y mannau priodol ac nid dim ond yn disodli buddsoddiad a ddylai fod ar waith eisoes, a gwaith a ddylai fod yn digwydd eisoes yn ein hardaloedd byrddau iechyd.

16:10

Diolch am yr ymagwedd adeiladol i raddau helaeth at y chwech neu saith, rwy'n credu, maes holi. O ran eich pwynt cyntaf, sef ein bod ni ar ei hôl hi o gymharu â rhai ardaloedd yn y DU o ran gweithio gyda'n gilydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol—mewn gwirionedd rydym ni ar y blaen i rai eraill hefyd. Roedd yn ffaith a gafodd ei chydnabod gan Stephen Dorrell—cyn Weinidog iechyd Ceidwadol, sydd bellach yn gadeirydd Cydffederasiwn y GIG—pan ddaeth i ginio Conffederasiwn GIG Cymru. Roedd yn cydnabod bod cynllun y GIG yn Lloegr yn sôn am yr angen i gael y berthynas well honno, sy'n fwy integredig, ond roedd yn cydnabod ein bod ni ymhellach ar y blaen ar y daith honno yma yng Nghymru. Nid ydym ni bob amser yn llwyddiannus yn cael, os mynnwch chi, cydnabyddiaeth ar y rhwydwaith newyddion o'r hyn yr ydym ni mewn gwirionedd yn ei wneud yma yng Nghymru.

Ym mhob rhan o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU, mae gwir ddiddordeb yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac rwyf eisiau gweld proses wirioneddol agored a phroses ddwyffordd, lle mae gennym ni ddiddordeb nid yn unig mewn hyrwyddo a dweud wrth weddill y DU beth yr ydym ni'n ei wneud, ond lle'r ydym ni mewn gwirionedd yn edrych ar yr hyn y mae gweddill y DU yn ei wneud hefyd. Mae'n rhaid mynd ati mewn modd gwirioneddol gynhwysfawr. Dyna mewn gwirionedd oedd wrth wraidd yr araith a draddodais yng nghynhadledd Cydffederasiwn y GIG yn Lloegr yn Lerpwl tua 18 mis yn ôl.

O ran lle'r ydym ni arni gyda'r ceisiadau, wel, rydym ni wedi cadarnhau pob un o'r saith ardal a bellach mae'n bryd i'r byrddau partneriaeth gyflawni yn unol â'r ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno ganddyn nhw. O ran lle maen nhw arni, Caerdydd a'r Fro, bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent—cymeradwywyd dau gais gan fwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru. Bae'r Gorllewin, sydd yn fuan yn newid i ardal bwrdd iechyd prifysgol bae Abertawe, cymeradwywyd dau o'u ceisiadau nhw, ac mae'r gorllewin wedi cael un. Rwy'n disgwyl ceisiadau o ardaloedd eraill i'w hystyried—rhai yr wythnos hon a mwy ar y gweill. Nawr, yn gyffredinol, mae'r cyfanswm yn £41.2 miliwn. Wrth wneud pob cyhoeddiad, rydym ni wedi amlygu beth yw'r symiau hynny. Er enghraifft, y gorllewin, dros £11 miliwn yn y cais a gymeradwyais yn ddiweddar; Gwent, y pennawd oedd £13 miliwn—maen nhw'n bwriadu newid y proffil hwnnw, ond nid cael gwared ar raddfa na ffurf yr uchelgais—ac eraill yn symiau amrywiol.

Nawr, y pwynt yw nad wyf eisiau i bobl ymgolli ynghanol arian, fel petai hwn dim ond yn cael ei ddyrannu ar sail cyfran deg ar gyfer pob ardal, oherwydd bod yr arian ar gyfer pob un o'r ceisiadau hynny yn seiliedig ar beth yw'r cynnwys a'r hyn sy'n ofynnol ar gyfer pob un ohonyn nhw. Felly, o ran eich pwynt ynglŷn â niferoedd staff—wel, nid yw'r ceisiadau yn seiliedig ar niferoedd staff a fyddai'n cael eu cefnogi gan y ceisiadau; mae'n ymwneud â'r ffordd yr ydym ni'n trawsnewid y model o'r hyn yr ydym ni'n ei ddarparu yn hytrach na siarad am niferoedd staff. Felly, mae'r gwariant yn dibynnu ar y ceisiadau y cytunwyd arnyn nhw, ac mae niferoedd staff yn dibynnu ar y ceisiadau y cytunwyd arnyn nhw hefyd. Ond, yn hollbwysig, mae hyn ynghylch y ffordd yr ydych chi'n trawsnewid yr hyn a ddaw. Felly, mae'n ymwneud â'r hyn sy'n dod ar ddiwedd pob cais, gan fod hon yn rhaglen gyfyngedig yn yr ystyr bod amserlen iddi, a'r hyn yr ydym ni'n edrych amdano yw strategaeth glir i ddeall, i werthuso, a yw'n gweithio, ac yna, os yw'n gweithio, sut mae mynd ati i'w huwchraddio ac yna sut y mae'r partneriaid hynny mewn gwirionedd yn gwario eu hadnodd craidd, yn hytrach na chwilio am arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae'r ffordd y mae'n ychwanegu gwerth yn bwysig.

Un rhan o'ch cyfres o gwestiynau a wnaeth i mi wingo ychydig oedd pan oeddech chi'n sôn am wneud yn siŵr nad yw hyn yn cefnogi byrddau iechyd a allai fod braidd yn ddiog ynglŷn â thrawsnewid. Nid wyf yn credu bod hynny'n ddisgrifiad teg na defnyddiol o unrhyw fwrdd iechyd penodol, neu yn wir y partneriaid rhanbarthol, ac rydym ni wedi trefnu hyn yn fwriadol fel ceisiadau sy'n gorfod cael cefnogaeth y bwrdd partneriaeth rhanbarthol cyfan. Felly, nid dim ond rhaglen trawsnewid a arweinir gan iechyd yw hon, mae'n ymwneud mewn gwirionedd ag iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd. Felly, mae iechyd a llywodraeth leol a'u partneriaid yn y trydydd sector, yn eistedd o amgylch y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, ac mewn ychydig wythnosau, bydd y maes tai yno yn rheolaidd hefyd. A'r pwynt yw bod yn rhaid iddyn nhw ddilyn yr egwyddorion dylunio yr ydym ni wedi eu cynnwys yn y canllawiau ac felly, mae hynny yn ystyried y ffordd y mae'n ychwanegu gwerth. Mae'n rhaid iddo ymwneud â bod yn wirioneddol drawsnewidiol a bod â photensial gwirioneddol ei ymestyn, yn hytrach na bod yn brosiect micro y bydd pawb sy'n byw o amgylch y prosiect yn sôn amdano ond heb unrhyw obaith o weithio ar draws y system gyfan. Rwyf eisoes wedi ei gwneud hi'n glir mai'r lefel sylfaenol a'r bartneriaeth rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yw'r maes lle bydd y gronfa hon yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn fy marn i. Felly, nid wyf yn edrych am brosiectau i'w trawsnewid o fewn gwasanaethau mewn ysbytai. Nid yw'n diystyru neu'n dweud na allai gwasanaeth mewn ysbytai wneud cais, ond mae'r nod a'r gwerth mwyaf a'r cynnydd sydd i'w wneud yn bodoli yn y bartneriaeth honno gyda gofal sylfaenol a'r bartneriaeth â gofal cymdeithasol.

O ran yr adolygiad, mae'n adolygiad a gomisiynwyd yn annibynnol. Mae wedi cael ei rannu gyda'r panel trawsnewid. Roedd yn amrywiaeth o gyfranwyr allanol y tu allan i'r Llywodraeth hefyd. Mae ganddo bwyntiau ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i wella ein sefyllfa bresennol, yn ogystal â'r meysydd lle'r ydym ni'n gweithio'n dda ynddyn nhw. Rwy'n hapus i rannu'r prif negeseuon ynglŷn â hynny. Gallai fod yn ddefnyddiol petawn i yn ysgrifennu at yr Aelodau, ar ôl inni wneud y cylch nesaf o gyhoeddiadau, i roi rhai o'r penawdau ynghylch yr adolygiad annibynnol hwnnw—ac rwy'n sylweddoli bod Cadeirydd y pwyllgor iechyd ac eraill yn yr ystafell—a rhannu'r prif negeseuon hynny ag aelodau'r pwyllgor, a rhai o'r pwyntiau ynghylch beth yw ein sefyllfa ar hyn o bryd o ran y gronfa trawsnewid ac yn ehangach o ran darparu 'Cymru Iachach' hefyd. Rwy'n llwyr ddisgwyl cael fy ngwahodd i'r pwyllgor ar ryw adeg i esbonio beth yn union yw ein sefyllfa ni.

O ran cyfraniad y trydydd sector, mater i bartneriaid rhanbarthol yw'r penderfyniad hwnnw. Nid wyf yn mynd drwy bob cais a dweud fy mod yn disgwyl i swm arbennig gael ei ddyrannu i bartner y trydydd sector. Rwy'n ymwybodol iawn, yn achos ystod eang o'r ceisiadau a gyflwynwyd, y bydd yn cynnwys y trydydd sector nid yn cytuno o ran dim ond beth sy'n digwydd, nid dim ond partner y trydydd sector o amgylch bwrdd partneriaeth rhanbarthol, ond yn fwy eang na hynny, mewn gwirionedd, bydd angen y trydydd sector i'w gyflawni a bydd yn amrywio o fwrdd i fwrdd, gan ddibynnu ar y cais a'r maes trawsnewid y maen nhw'n bwriadu ei gyflawni.

16:20

Hoffwn groesawu datganiad y Gweinidog ac ailddatgan cefnogaeth fy mhlaid i'r gronfa trawsnewid. Mae ychydig fel defnyddio un tynfad i geisio troi'r Titanic, ond mae'r Gweinidog wedi cydnabod hynny, ac mae i gyd yn ymwneud â nodi arfer da. Roedd hi hefyd yn galonogol clywed y Gweinidog yn dweud ar ddiwedd ei ddatganiad bod gennym ni lawer i'w wneud o hyd, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod hynny, ond mae potensial yma yn rhai o'r prosiectau yr wyf yn bersonol yn ymwybodol ohonyn nhw a gafodd eu cyflwyno gan rai o fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn fy rhanbarth i—rhai ohonyn nhw'n syniadau eithaf syml, ond yn syniadau a oedd angen adnoddau i'w rhoi ar waith a rhai a allai wneud gwahaniaeth aruthrol. Mae'r Gweinidog yn gywir, wrth gwrs, pan ddywed ei bod hi'n her i ddarparwyr gwasanaethau, yn enwedig mewn cyfnod anodd, edrych y tu hwnt i angen dybryd ac uniongyrchol, ac mae'r gronfa trawsnewid, rwy'n derbyn, wedi rhoi cyfle iddyn nhw wneud hyn ac i edrych ar weithio gyda'i gilydd mewn ffordd newydd.

Fe hoffwn i ofyn rhai cwestiynau penodol i'r Gweinidog. Mae'r cyntaf yn ymwneud â faint o'r £100 miliwn mewn gwirionedd sydd wedi'i ymrwymo hyd yn hyn. Mae'r Gweinidog yn sôn am £41.2 miliwn yn ei ddatganiad i ni heddiw. Caf ar ddeall, yn y papurau sydd wedi eu hanfon at—rwy'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ddarparu papurau—y pwyllgor iechyd, bod swm o £65 miliwn wedi ei grybwyll. Nawr, efallai mai prosiectau yw'r rheini sy'n cyfeirio at—. Efallai bod hynny'n cyfeirio at brosiectau y mae'r Gweinidog yn disgwyl eu cymeradwyo—fel y crybwyllodd eisoes—yn ddiweddarach yr wythnos hon, ond byddai'n ddefnyddiol cael rhywfaint o eglurhad ynghylch hynny. Mae'n rhaid imi ddweud, os mai £65 miliwn yw'r swm, yna rwy'n falch iawn o glywed hynny, gan fy mod i'n credu y byddai'r Gweinidog yn iawn i gredu po gyflymaf y cawn ni'r arian allan, y cyflymaf y bydd y prosiectau yn gweithredu, a'r cyflymaf y gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw. Ond byddwn yn croesawu'r eglurhad hwnnw.

Nawr, mae'n amlwg o ymatebion y Gweinidog i Darren Millar nad ydym ni hyd yn hyn wedi cael cynigion gan bob un o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Unwaith eto, mae papurau'r pwyllgor iechyd yn cyfeirio'n benodol at y ffaith nad oes dim eto wedi cael ei gytuno ar gyfer Powys. Nawr, yn amlwg, gan fy mod yn un o gynrychiolwyr Powys yn y Cynulliad, mae hyn yn rhywbeth sy'n peri pryder i mi. Felly, tybed a all y Gweinidog ddweud ychydig bach yn fwy wrthym ni y prynhawn yma ynghylch pa gamau y mae ef a'i swyddogion yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod ceisiadau yn cael eu cyflwyno gan fyrddau ledled Cymru. Rwy'n deall yn llwyr y pwyntiau y mae wedi eu gwneud i Darren Millar, nad yw hyn yn rhyw fath o ymarfer ticio blychau, nad yw'n bwriadu dweud, 'Rydym ni'n gwario'r swm hwn o arian yn y fan yma a'r swm hwn o arian yn y fan acw a'r swm hwn o arian yn y fan acw.' Nid dyma oedd bwriad y gronfa hon, ac roeddem ni i gyd yn cefnogi hynny, ond buaswn yn siomedig iawn yn bersonol petaem ni'n cyrraedd pwynt pan nad oedd o leiaf un prosiect posib ym mhob man yng Nghymru. Ac rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd y Gweinidog: Rwy'n siŵr bod y rhai sy'n gweithio'n galed i gyflwyno ein gwasanaethau ac yn gweithio yn y byrddau partneriaeth rhanbarthol wirioneddol eisiau defnyddio'r arian hwn i sicrhau'r effaith orau, ond byddai'n drueni mawr pe bai unrhyw gymuned yng Nghymru heb gael rhywfaint o fudd posib.

Os caf i gyfeirio, felly, at y byrddau partneriaeth rhanbarthol, gan eu bod, yn amlwg, yn mynd i barhau i fod yn hollbwysig wrth gyflwyno'r gwaith hwn, a gaf i ofyn i'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynghylch sut y mae ef a'i swyddogion yn monitro perfformiad byrddau partneriaeth rhanbarthol? Soniwyd wrthyf i am rai pryderon penodol ynghylch atebolrwydd oherwydd, yn amlwg, mae pobl o'r holl gyrff gwahanol hyn yn dod at ei gilydd. Sut maen nhw'n atebol i'r cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli? Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed ychydig yn fwy gan y Gweinidog heddiw am y canllawiau a ddarperir i'r byrddau o ran beth yw'r berthynas rhyngddyn nhw â'u cymunedau.

Os caf i gyfeirio, felly, unwaith eto, at yr holl faes o uwchraddio'r prosiectau, y cyfeiriodd y Gweinidog ato yn ei ddatganiad gan ddweud ychydig yn fwy mewn ymateb i Darren Millar am yr adolygiad cyflym. Roeddwn yn falch o glywed bod hwnnw'n annibynnol ac edrychaf ymlaen at y Gweinidog yn ysgrifennu atom ni gyda mwy o fanylion am yr hyn y canfu'r adolygiad, ond, ar yr un pryd, mae datganiad y Gweinidog yn sôn am ddatblygu cyfres o ddangosyddion cenedlaethol. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym ni heddiw ychydig ynghylch beth oedd y meini prawf a ddefnyddiwyd yn yr adolygiad cyflym? Os nad yw'r dangosyddion cenedlaethol gennym ni ar hyn o bryd—ac rwy'n croesawu'n fawr iawn y ffaith bod partneriaid yn cymryd rhan yn y broses hon—ar ba sail oedd yr adolygiad cyflym yn barnu ynghylch yr hyn a gyflawnwyd hyd yma?

Mae'r £100 miliwn i'w groesawu'n fawr, fel y dywedais, ond mae'n swm bach iawn o'i gymharu â'r £7.5 biliwn sef cyfanswm y gyllideb iechyd a gofal. Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn cydnabod ein bod yn hanesyddol yng Nghymru wedi dioddef ychydig o 'glwy'r prosiectau'—sef bod gennym ni syniadau da sy'n cael eu profi, yn cael cadarnhad eu bod yn gweithio, ac wedyn yn diflannu pan ddaw'r cyllid grant i ben. Nawr rwy'n gwybod nad yw'r Gweinidog yn bwriadu i hyn ddigwydd o ran prosiectau a ariennir gan y gronfa trawsnewid, ond a all y Gweinidog ddweud wrthym ni ychydig mwy ynghylch sut mae'n bwriadu sicrhau nad y 'clwy prosiectau' hwn—y prosiect da hwnnw sy'n diflannu pan fo'r arian wedi terfynnu—fydd tynged rhywfaint o'r gwaith cadarnhaol iawn y gellir ei ariannu gan y gronfa trawsnewid? Ac a all amlinellu inni heddiw y broses y bydd yn ei defnyddio i sicrhau bod y prosiectau llwyddiannus y tro hwn yn cael eu huwchraddio ac na fyddwn ni ymhen pum mlynedd unwaith eto'n dweud 'Rydym ni'n gwybod bod hynny wedi gweithio'n dda iawn, ond, am ba reswm bynnag, ni wnaethom ni wneud i'r gwaith hwnnw lwyddo ledled Cymru'? Rydym ni, wrth gwrs, yn wlad o gymunedau amrywiol iawn. Ni fydd pethau bob amser yn gweithio o un lle i'r llall, ond holl ddiben, fel y deallaf i, y gronfa trawsnewid yw darparu arfer da y gellir ei uwchraddio, ac rwy'n credu ei bod hi'n hollbwysig bod y Siambr hon yn deall sut mae'r Gweinidog yn mynd i wneud i hynny ddigwydd.

16:25

Diolch am y cwestiynau am amrywiaeth o feysydd. Y £41.2 miliwn yw'r ffigur ar gyfer y saith cais yr wyf i wedi cyfeirio atynt. Y swm mwy yr ydych chi'n cyfeirio ato yw'r potensial yn y ceisiadau a dderbyniwyd eisoes ac yr wyf yn edrych ymlaen at eu hadolygu—dros yr wythnos hon yw fy uchelgais; fe hoffwn i wneud dewisiadau ynghylch y rheini i alluogi pobl i fwrw ati i gyflawni. Mae ceisiadau eraill ar y gweill, ac rwy'n hapus i dawelu meddwl yr Aelod a'r Siambr, ac unrhyw un sy'n gwylio, gan fy mod yn ffyddiog yn disgwyl bod gan bob bwrdd partneriaeth rhanbarthol unigol yn y wlad gais. Yn hollol ffyddiog. Mae hynny'n cynnwys Powys, mae hefyd yn cynnwys Cwm Taf—mae eu ceisiadau yn cael eu trafod â swyddogion. Felly, maen nhw ar gam datblygedig, yn hytrach nag ar gam o feddwl, pendroni ac ystyried. Ac, mewn gwirionedd, mae bod mewn sefyllfa i ddechrau gwneud cyhoeddiadau, fel yr oeddwn i yn yr hydref, yn ddefnyddiol o ran cyflymu pethau mewn rhannau eraill o'r wlad—does neb eisiau ymddangos fel petai'n cael ei adael ar ôl—ond o ran rhannu'r wybodaeth yn y meysydd sy'n cael eu cynnwys hefyd ar y cychwyn. Ac, yn fwy na hynny, ein cynllun yw rhannu gwerthuso a dysgu drwy'r broses hon hefyd. Felly, wrth inni fwrw ymlaen, bydd y dysgu yn rhyngweithiol hefyd, ac rwyf eisiau gwneud yn siŵr fod hynny wedi'i gysylltu'n fwriadol. Felly, rhan o'r diben o gael adolygiad cyflym yw sicrhau y gallwn ni ddeall blaenoriaethau gwerthuso ymhob cais, a hefyd y blaenoriaethau polisi o fewn 'Cymru Iachach' a'r egwyddorion dylunio a amlinellwyd gennym ni, i wneud yn siŵr ein bod ni mewn gwirionedd—wrth gael adolygiad allanol, pa un a ydynt yn cymeradwyo cynigion mewn gwirionedd sy'n driw i'r blaenoriaethau polisi a'r egwyddorion dylunio eraill a amlinellwyd gennym.

O ran byrddau partneriaeth a'u cysylltiadau â chymunedau lleol, rwy'n credu ein bod yn crwydro ychydig o'r gronfa trawsnewid, ond, wrth gwrs, mae gan aelodau llywodraeth leol eu mandad eu hunain a'u mandadau democrataidd eu hunain i gyflawni eu swyddogaethau. Fe wnaethom ni gytuno yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i greu byrddau partneriaeth rhanbarthol i geisio denu pobl at ei gilydd. Felly, fe wnaethom ni, fel sefydliad cenedlaethol, benderfynu creu'r strwythur hwnnw, a rhan o'n her ni yn awr yw sut ydym ni'n cydnabod y gwahanol bartneriaethau sydd gennym ni a gwneud defnydd priodol ohonyn nhw. Felly, maen nhw'n fforymau lle gall pobl wneud yn siŵr eu bod yn cytuno ar yr hyn y dylen nhw ei wneud ac yna mynd ati i gyflawni hynny. Ac mae gennym ni ddulliau atebolrwydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol amrywiol ar gyfer hynny, gan gynnwys, wrth gwrs, y sgwrs hon yn y Siambr heddiw.

Nid yw'r gronfa trawsnewid, fel yr wyf wedi dweud droeon, yn ymwneud cymaint â hynny â'r defnydd o'r £100 miliwn. Mewn gwirionedd rwy'n ceisio osgoi cael fy nhynnu i mewn i'r cyfrannau ar gyfer gwahanol rannau o'r wlad. Catalydd yw'r £100 miliwn; mae'n ffordd o gynllunio a darparu'r dyfodol—i ddwyn ynghyd y syniadau gorau i gael yr effaith trawsnewidiol mwyaf. Ac mae hynny llawn cymaint ynghylch fod gan ein system iechyd a gofal cymdeithasol rywfaint o uchelgais ar y cyd a chydnabod yr hyn y gallan nhw ei wneud. Felly, os nad oes cronfa trawsnewid, yna rydym ni wedi creu'r math o ddiwylliant ac amgylchedd lle, mewn gwirionedd, gall y partneriaid hynny, gyda'i gilydd, barhau i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol. Oherwydd ni fyddwn ni'n gwneud popeth y mae angen inni ei wneud yn y ddwy flynedd nesaf ac yn ystod hyd oes y gronfa. Felly, mae a wnelo hynny â'r effaith sy'n trawsnewid y defnydd o'r adnodd presennol a rennir o tua £9 biliwn sydd gan iechyd a gofal cymdeithasol, nid ynghylch sut gallwn ni wario'r £100 miliwn ei hun.

Ac o ran sut yr ydym ni'n mynd i allu gwneud hynny a sut yr ydym ni'n mynd i allu dangos a gwerthuso effaith y gronfa, wel, bydd gwerthusiad ar ddiwedd pob prosiect. Ond, yn fwy na hynny, mae'n ymwneud â'r hyn a welwn ni wedyn yn cael ei ddarparu yng nghyd-gynlluniau'r partneriaid, yn ymwneud â chael cyd-gynlluniau iechyd a gofal cymdeithasol y bydd pobl yn eu cefnogi, ac, os oes prosiect llwyddiannus, yna bydd y bartneriaeth honno yn gallu datblygu hwnnw, ac, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â pha mor llwyddiannus ydym ni o ran uwchraddio hwnnw ar lefel genedlaethol. Felly, mae rhan i'w chwarae gan bartneriaid unigol o fewn hynny. Mae rhan i bartneriaethau rhanbarthol ei chwarae, ac, wrth gwrs, mae rhan i'r Llywodraeth hefyd. Er enghraifft, pan fyddwn ni'n cymeradwyo cynlluniau tymor canolig integredig byrddau iechyd a fyddwn ni'n gweld, a fydd disgwyl—os wyf i yn y swydd, gallwch ddisgwyl y byddai—i syniadau llwyddiannus gael eu huwchraddio ac y byddwch yn gweld y ffordd flaengar y byddan nhw'n cael eu rhoi ar waith yn yr ardaloedd byrddau iechyd a'u dechreuodd nhw, ond hefyd yn yr ardaloedd byrddau iechyd hynny nad ydyn nhw'n datblygu'r ceisiadau penodol hynny? Felly, rwy'n disgwyl gweld mewnbwn gwirioneddol genedlaethol. Ac enghraifft dda fyddai, er enghraifft, y trawsnewid yng Ngwent i wasanaethau plant ac ymagwedd fwy ataliol tuag at iechyd meddwl. Wel, mewn gwirionedd, mae hynny'n rhan o'r hyn y maen nhw'n edrych arno. Nawr, os bydd hynny'n gweithio yng Ngwent, byddai angen ichi fy narbwyllo pam na fyddech chi ac na ddylech chi eisiau gweld hynny'n cael ei uwchraddio mewn rhannau eraill o'r wlad, ac mae gennym ni ddulliau gwahanol o ran sut y gallem ni geisio gwneud hynny.

16:30
5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Rhaglen Cartrefi Clyd

Eitem 5 yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y rhaglen Cartrefi Clyd, ac rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig—Lesley Griffiths.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, gan nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Cenedlaethol o Dlodi Tanwydd, roedd National Energy Action Cymru, gyda chymorth SSE, yn cynnal ei gynhadledd tlodi tanwydd eleni dan yr enw 'Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd ac Anghydraddoldeb: Y Ffordd Ymlaen'. Dyma gyfle i Lywodraeth, Ofgem a phartneriaid allweddol yn cynrychioli'r sector ynni a'r trydydd sector ddod ynghyd i rannu'r llwyddiannau a nodi'r heriau, ond yn bwysicach i ystyried sut y gallwn weithio orau gyda'n gilydd mewn partneriaeth i gefnogi pobl yn ein cymdeithas y caiff eu bywydau eu handwyo'n barhaus yn sgil byw ar aelwyd oer. Heddiw, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni ein tai, gan fod yn ddinasyddion byd-eang da drwy leihau ein hôl troed carbon a lleihau'r gyfran o adnoddau'r byd a fynnwn ar gyfer ein hanghenion ni.

Dylai pawb gael byw mewn cartref gweddus. Mae tai gweddus yn creu cymunedau gweddus y gall pawb gymryd rhan ynddyn nhw. Mae tai clyd a fforddiadwy yn atal afiechyd, maen nhw'n helpu ein plant i wneud yn dda yn yr ysgol ac yn sicrhau bod rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed yn teimlo'n fwy diogel. Dyma pam ei bod mor bwysig inni ganolbwyntio ar greu cartrefi gweddus a mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ers ei lansio bron ddeng mlynedd yn ôl, mae'r rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n cynnwys y cynllun Nyth sy'n cael ei arwain gan y galw a'r cynllun Arbed sy'n seiliedig ar ardal, wedi rhoi cyngor ar effeithlonrwydd ynni i fwy na 112,000 o bobl ac wedi gwella mwy na 50,000 o gartrefi drwy sefydlu mesurau effeithlonrwydd ynni. Heb y cymorth hwn, amcangyfrifwn y byddai mwy na 80,000 o gartrefi wedi ei chael hi'n anodd iawn cadw'n gynnes y gaeaf hwn. Drwy ymestyn y rhaglen hon hyd 2021 bydd modd inni wella hyd at 25,000 o gartrefi eraill yn ychwanegol.

Mae'r buddsoddiad o £248 miliwn a roddwyd drwy raglen Cartrefi Clyd hyd at ddiwedd mis Mawrth 2018 yn ychwanegol at y cymorth a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU drwy'r cynllun rhwymedigaeth cwmni ynni. Bellach, mae gan y cynllun rhwymedigaeth newydd hwn fwy o bwyslais ar bobl sy'n byw ar incwm is. Bydd hyn yn hwyluso'r cwmnïau ynni mawr i chwarae eu rhan i sicrhau mwy o gynhesrwydd fforddiadwy.

Mae'r buddsoddiad a wnaed i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru, ynghyd â'n buddsoddiad parhaus i weithredu safon ansawdd tai Cymru yn y sector tai cymdeithasol, yn cael effaith gadarnhaol. Mae canlyniad yr arolwg diweddaraf ar gyflwr tai Cymru yn dangos mai sgôr tystysgrif perfformiad ynni cyfartalog cartrefi yng Nghymru yn yr arolwg diweddaraf hwn yw band D, o'i gymharu â sgôr gyfartalog o fand E yn 2008. Ond er gwaethaf ein hymdrechion ni, mae nifer y bobl sy'n cael trafferth cadw eu cartrefi'n glud a diddos yn ystod y gaeaf yn parhau'n ystyfnig o uchel. Mae mwy nag un ym mhob pump o aelwydydd, yn anffodus, yn parhau i fyw mewn tlodi tanwydd.

Cynlluniwyd ein cynllun peilot ar gyfer cyflyrau iechyd, a gyflwynwyd yn 2017, i gefnogi ein hymdrechion i leihau cyfraddau afiechyd a marwolaethau cynamserol yn ystod y gaeaf, sy'n gwaethygu drwy fyw mewn cartref oer. Mae'r cynllun peilot yn ymestyn y cymhwyster i alluogi ein cynllun Nyth i gefnogi pobl sy'n byw ar incwm is, nad ydyn nhw'n derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, ac sy'n byw gyda chyflwr iechyd anadlol cronig neu gyflwr tebyg. Rwyf wedi cytuno i ymestyn y cynllun peilot hwn am flwyddyn arall. Bydd hyn yn sicrhau y gall y bobl sydd â'r perygl mwyaf o ddioddef o gyflyrau anadlol a chyflyrau cysylltiedig barhau i dderbyn y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw a bydd hynny'n cyfrannu at ysgafnu pwysau'r gaeaf ar ein gwasanaethau iechyd.

Y gaeaf hwn, rwyf wedi cytuno hefyd i sicrhau bod cyllid ar gael i ddarparu cymorth ar gyfer ein dinasyddion mwyaf agored i niwed sy'n byw mewn cartref oer gan na allant dalu'r ffi galw allan ar gyfer atgyweirio boeler gwres canolog sydd wedi torri. Dylai gefnogi pobl i allu trwsio'r system sy'n gwresogi eu cartref, yn arbennig mewn cartrefi sydd â phlant, pobl hŷn a phobl anabl, fod yn un o'r blaenoriaethau a rannwn ni.

Gan droi at y dyfodol, fy mwriad yw cyhoeddi ein cynllun newydd ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd yng nghynhadledd ymwybyddiaeth tlodi tanwydd y flwyddyn nesaf, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr hydref. Bydd y cynllun newydd yn cynnwys amcanion sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n uchelgeisiol. Eto i gyd, bydd yn rhaid inni fod yn ofalus y gellir gwireddu ein dyheadau yn y tymor byr, canolig a hir, a'u bod yn cyd-fynd yn amlwg â'n hagenda ehangach o ddatgarboneiddio. Ar y sail honno, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weithio gyda'r sector ynni, ein rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, Llywodraeth y DU a'r rheoleiddiwr ynni, i sicrhau ein bod yn datblygu a chyflawni cynllun sy'n gwireddu ein huchelgeisiau cyffredin. Os ydym eisiau cyflawni ein dull egwyddorol ni o weithredu, bydd cydbwyso'r angen i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac ar yr un pryd leihau allyriadau carbon o'r 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru, yn gorfod bod wrth wraidd ein cynlluniau i'r dyfodol.  

16:35

Diolch am eich datganiad. Fe wnaethoch ddechrau unwaith eto drwy gyfeirio at gynhadledd National Energy Action Cymru ddydd Iau diwethaf sef 'Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd ac Anghydraddoldeb: Y Ffordd Ymlaen', o flaen Diwrnod Ymwybyddiaeth o Dlodi Tanwydd ddydd Gwener ac roeddwn innau'n siarad hefyd yn y digwyddiad hwnnw yn ystod y prynhawn, ac yn eistedd ar banel holi wrth i ni symud ymlaen.

Nawr, fel y gwyddoch, yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf, er ei fod sawl blwyddyn ar ei hôl hi bellach, mae 291,000 o aelwydydd yng Nghymru—23 y cant—mewn tlodi tanwydd. A wnewch chi ddweud wrthym pa bryd yr ydych yn disgwyl y cyhoeddir y ffigurau diweddaraf? Rydym ar ddeall bod Llywodraeth Cymru yn debygol o wneud hynny yn ystod y gwanwyn hwn.

Roedd monitor tlodi tanwydd National Energy Action 2017-18 yn cyfeirio at nod 2010 Llywodraeth Cymru o ddileu tlodi tanwydd erbyn Rhagfyr 2018, gan nodi

nad oes camau gwirioneddol eglur wedi bod hyd yn hyn tuag at wneud ymrwymiad tlodi tanwydd newydd a all ysgogi camau gweithredu strategol ar leihau tlodi tanwydd yn lleol nac yn genedlaethol.

A bod

consensws y dylid datblygu strategaeth tlodi tanwydd a chynllun gweithredu newydd, a ddylai gynnwys nodau uchelgeisiol i wella cartrefi hyd at safon isaf ofynnol, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid.

Ond yn eich datganiad chi, fe wnaethoch chi gadarnhau eich bod yn bwriadu cyhoeddi cynllun newydd ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn y gynhadledd y flwyddyn nesaf, fwy na thebyg ymhen 12 mis arall, a'ch bod chi'n awyddus i weithio gyda'r sector. Sut ydych chi'n bwriadu gweithio gyda'r sector cyn yr ymgynghoriad y gwnaethoch chi gyfeirio ato, i sicrhau y caiff hynny ei ddatblygu mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid? Oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae modd cyflawni hynny mewn nifer o ffyrdd gwahanol, rhai yn fwy effeithiol nag eraill, er mwyn ysgogi cynllun strategol cenedlaethol gyda nodau uchelgeisiol.

Yn amlwg, gall hynny gynnwys pethau fel inswleiddio gwell, goleuadau a chyfarpar mwy clyfar, systemau gwresogi mwy clyfar, a phob un ohonyn nhw'n arbed arian i ddeiliaid tai. Ond hefyd, fel y dywedodd NEA Cymru rai misoedd yn ôl, er inni wybod bod aneffeithlonrwydd ynni yn ffactor sy'n cyfrannu at dlodi tanwydd, ni wnaiff hynnny ddatrys y broblem ar ei ben ei hun. Mae angen strategaeth newydd, sy'n amlinellu dull mwy cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, cyngor a gwasanaethau iechyd, yn ogystal â sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol yn y gymdeithas.

Mae hynny'n cysylltu â'm cwestiwn blaenorol i, ond sut y byddwch chi'n sicrhau nad cynllun neu strategaeth sy'n canolbwyntio'n unig ar effeithlonrwydd ynni sydd yma, er bod hynny'n bwysig, ond ei fod yn canolbwyntio ar yr agenda cyfiawnder cymdeithasol ehangach hefyd?

Yn dilyn strategaeth 2010 Llywodraeth Cymru, nifer y marwolaethau ychwanegol yn ystod gaeaf 2011-12 yng Nghymru oedd 1,250. Fodd bynnag, mae data ONS a ryddhawyd fis Tachwedd diwethaf yn dangos bod nifer y marwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yng Nghymru wedi cyrraedd 3,400 yn 2017-18, gyda chynnydd yng Nghymru ac ym mhob rhanbarth yn Lloegr, ond yng Nghymru y cafwyd y mynegai rhanbarthol uchaf.

Yr hydref diwethaf, fe wnaethoch chi ddweud wrth y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni y byddech yn datblygu cynllun tywydd oer ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ac mae hyn yn adleisio'r alwad ym monitor tlodi tanwydd yr NEA ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun tywydd oer, yn debyg i'r cynllun yn Lloegr a gynhyrchir gan Public Health England. Roedd yn galw hefyd ar y cenhedloedd datganoledig i fabwysiadu canllaw'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Gofal, a'r safon gyfatebol o ran afiechyd sy'n gysylltiedig ag oerfel a marwolaethau ychwanegol y gaeaf.

Sut ydych chi'n ymateb i'r galwadau arbennig hynny? Ers blynyddoedd lawer bellach maen nhw wedi bod yn galw am fabwysiadu canllaw NICE, nid yn unig un yr NEA, ond y gynghrair tlodi tanwydd yn ehangach yng Nghymru, a sut ydych chi'n ymateb i'w galwad yng nghyd-destun y gwaith a wneir gan Public Health England dros y ffin?

Yn ôl y monitor tlodi tanwydd, gallai Llywodraeth Cymru warchod aelwydydd agored i niwed gyda chronfa argyfwng ar gyfer gwresogi mewn argyfwng pan fo eu hiechyd yn y fantol. A ydych chi'n ystyried neu a fyddech chi'n ystyried cronfa argyfwng i ateb, unwaith eto, yr alwad sydd wedi ei gwneud ers blynyddoedd lawer? Ac maen nhw'n galw hefyd am fuddsoddiad i wella effeithlonrwydd ynni'r cyflenwad tai presennol yng Nghymru sydd angen ei ehangu ar fyrder. Gwyddom mai gan Gymru y mae'r gyfran uchaf o dai hŷn sy'n lleiaf addas i dderbyn mesurau effeithlonrwydd ynni modern. Felly, sut ydych chi'n ymateb i'r cynigion yn ein maniffesto diwethaf ar gyfer pecyn cymorth ôl-osod yn seiliedig ar ddull adeilad cyfan, a gymeradwywyd gan y Sustainable Traditional Building Alliance, i gydnabod y mater allweddol hwnnw?

Dau bwynt i orffen. Byddwch yn ymwybodol o gynllun gwres fforddiadwy sir y Fflint a lansiwyd yn 2013, a oedd yn cynnwys cronfa argyfwng ar gyfer pobl na allen nhw fforddio i wresogi eu cartrefi a'u bod angen cymorth ar unwaith. Ond y llynedd, collodd y partner trydydd sector allweddol, y North Wales Energy Advice Centre, a oedd yn ysgogydd i'r cynllun hwnnw mewn gwirionedd, brif ffynhonell ei gyllid. Ac fe wnaethon nhw ysgrifennu ataf i ddweud y dylai'r cynllun gwres fforddiadwy yn sir y Fflint fod yn brosiect blaenllaw i'w efelychu ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig fel dull fforddiadwy o roi cymorth gwirioneddol,  ymarferol ac effeithiol i'r rhai sydd â'r angen mwyaf amdano. Ond yn ôl pob tebyg, bydd y prosiect hwn yn dod i ben nawr. Felly, unwaith eto, o ystyried y sylwadau cynharach am yr angen i weithio gyda rhanddeiliaid, sut allwn ni sicrhau nad yw arfer da fel hwnnw yn mynd ar goll, ond yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth wirioneddol â'r rhanddeiliaid allweddol?

Ac yn olaf, yn y digwyddiad ddydd Iau diwethaf, un o'r bobl ar y panel gyda ni oedd rheolwraig polisi ac ymgyrchoedd Age Cymru. Atgoffodd ni fod cylchlythyr Cynghrair Henoed Cymru y gaeaf diwethaf wedi dweud bod cynrychiolwyr y trydydd sector ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio ac mai dim ond rhan fach sydd gan y trydydd sector i'w chwarae a dim ond ychydig iawn, os o gwbl, o ymgysylltiad strategol â chynllunio. A dywedodd mai ei blaenoriaeth gyntaf o ran rhoi tanwydd tlodi wrth galon yr agenda yng Nghymru fyddai mynd i'r afael â hynny a sicrhau bod y trydydd sector yn cael bod yn wir effeithiol ac yn cael ymgysylltiad gwirioneddol â'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Unwaith eto, a ydych chi'n cytuno â hi? Ac os felly, sut, ymhen blwyddyn arall, y byddwch chi'n gweithio â chymheiriaid i sicrhau bod hynny'n digwydd?

16:40

Diolch, Mark Isherwood, am y gyfres o gwestiynau. Rydych chi'n holi ynghylch pa bryd y byddwn ni'n cyhoeddi'r ffigurau newydd. Fy nealltwriaeth i yw y bydd hynny yn y gwanwyn, ac rwy'n gwybod y gall hynny gwmpasu sawl mis yn y flwyddyn, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod i ddweud pa bryd yn union y credaf y byddwn ni'n cyhoeddi'r ffigurau hynny.

Fel y dywedodd Mark Isherwood, roeddwn i'n bresennol yn y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, yr ydych chi'n ei gadeirio, tua diwedd y llynedd, rwy'n credu, ac yn sicr, fe'i cefais yn fuddiol iawn i gael y sgwrs honno gyda chynifer o randdeiliaid brwdfrydig. Ac, yn fy marn i, wrth fynd ymlaen, buom yn sôn am y strategaeth newydd, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau gweithio gyda rhanddeiliaid. Credaf fod angen inni ddod o hyd i ffordd o sicrhau y bydd ganddyn nhw ymateb ystyrlon i'r modd y byddwn ni'n datblygu'r strategaeth tlodi tanwydd newydd. Ac yn sicr byddaf yn ystyried a oes angen rhyw fath o drafodaeth bwrdd crwn neu ryw fath o grŵp i'n helpu i gyflwyno'r strategaeth honno. Nid wyf yn credu y dylai fod yn rhy fawr—rwy'n credu ichi restru nifer o wahanol sefydliadau, ac weithiau mae braidd yn anodd cael gormod o amgylch y bwrdd. Ond, yn sicr, bydd angen yr arbenigedd sydd ganddyn nhw, yn fy marn i.

Fel y gwnaethoch chi ei grybwyll, roeddwn i'n sôn yn fy natganiad agoriadol ein bod ni erbyn hyn yn dechrau edrych at ddatblygu strategaeth tlodi tanwydd newydd i'w chyflwyno yn 2020—tua'r adeg hon y flwyddyn nesaf, mae'n debyg. Rwy'n gobeithio ei chyhoeddi yn y gynhadledd. Byddwn yn mynd allan i ymgynghoriad yn yr hydref, felly mae angen braenaru'r tir o'r gwanwyn ymlaen, i wneud yn siŵr ein bod ni'n barod i gael yr ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw yn yr hydref, a fydd wedyn yn datblygu'r cynllun newydd i'w gyhoeddi yn gynnar yn 2020. Soniais ei bod hi'n bwysig iawn fod ein hamcanion yn uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy. Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ymarferol i'r dyfodol.

O ran y cynllun tywydd oer, yn sicr, pwyswyd arnaf yn drwm iawn, rwy'n credu, yn y grŵp trawsbleidiol, ynghylch y cynllun tywydd oer, a gofynnais i'm swyddogion, fel y dywedais, ddatblygu cynllun tywydd oer yn rhan o'r cynllun newydd i ymdrin â thlodi tanwydd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Rwyf i o'r farn bod angen i'r cynllun ganolbwyntio ar y ffordd orau i warchod pobl agored i niwed sy'n byw mewn cartrefi oer yn ystod misoedd y gaeaf. Fel mesur dros dro ar gyfer y gaeaf hwn, rwy'n derbyn mai gaeaf arbennig o dyner a gafwyd, rwyf wedi gwneud trefniadau i sicrhau y caiff mesurau eu rhoi ar waith i warchod pobl sy'n agored i niwed yn rhan o'n cynllun gwytnwch ar gyfer y gaeaf, a gaiff ei lunio gan fy nghyd-Aelod Julie James. Soniais hefyd fy mod wedi rhoi rhywfaint o arian ychwanegol gerbron i sicrhau ein bod yn cefnogi pobl na allant dalu'r ffi galw allan, sy'n rhwystr enbyd i rai pobl. A chaiff hynny ei gyflawni gan y gronfa cymorth dewisol, y bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn ohoni, a gwn ei bod wedi cael ei defnyddio. Yna, pan fydd yr alwad allan wedi bod a dim modd trwsio'r boeler, gellir darparu gwresogi mewn argyfwng. Ac, unwaith eto, gellir atgyfeirio at Nyth am gymorth ychwanegol.

Gofynnodd yr Aelod am ariannu mewn argyfwng, felly rwyf newydd gyfeirio at y ffi galw allan. Fe allwn i ystyried cronfa argyfwng ond, yn amlwg, byddai'n rhaid i'r arian ddod o rywle arall, a byddai'n rhaid i mi chwilio am ffynhonnell i'r cyllid hwnnw. Ond rwy'n sicr yn credu, wrth inni edrych ar ddatblygiad y strategaeth tlodi tanwydd newydd, y byddai hynny'n rhywbeth y gallwn ni ei ystyried.

Roedd Mark Isherwood yn sôn am gynllun sir y Fflint, yr wyf i'n ymwybodol ohono, yn amlwg, oherwydd ei fod yn y gogledd. Credaf ei bod yn bwysig nad ydym ni'n colli'r arferion da hynny. Felly, unwaith eto, byddwn yn hapus iawn i glywed am brofiadau eraill ac, eto, efallai wrth inni ddatblygu'r strategaeth y gallen nhw fod â rhan yn hynny.

16:45

Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? A gaf i ddweud ar y cychwyn fy mod i, wrth gwrs, yn cydnabod y cyfraniad mae rhaglen Cartrefi Cynnes ac Arbed a Nyth wedi ei wneud wrth geisio taclo tlodi tanwydd? Ond dwi'n mynd i ddweud yr hyn dwi'n ei ddweud bob tro dwi'n cyfeirio at y rhaglenni yma: dyw maint y rhaglenni yma ddim yn cyfateb i faint yr her sydd yn ein hwynebu ni yng Nghymru, wrth gwrs, o safbwynt tlodi tanwydd, heb sôn am newid hinsawdd. Rŷn ni'n gwybod bod bron i 500 o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yn gysylltiedig â thlodi tanwydd yng Nghymru bob blwyddyn. Rŷn ni'n gwybod hefyd fod tua chwarter o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae'r ystadegau yma yn grisis ac yn sgandal cenedlaethol. Ar y raddfa bresennol o fynd i'r afael â thaclo tlodi tanwydd, mi fyddai'n cymryd 48 mlynedd i Gymru gael gwared â thlodi tanwydd. Felly, dyna pa mor annigonol, dwi'n ofni, mae'r ymateb wedi bod.

Felly, wrth estyn y rhaglen Cartrefi Cynnes, gaf i ofyn a fyddwch chi'n ehangu'r adnoddau sydd ar gael, a gwneud hynny yn sylweddol? Neu a ydyn ni'n mynd i gael dwy flynedd ychwanegol o'r un peth? Oherwydd dyw'r cynnydd sydd wedi cael ei ddelifro hyd yn hyn, wrth gwrs, ddim yn ddigonol. Nawr, mi fuodd Plaid Cymru yn glir yn ein maniffesto ni yn yr etholiad Cynulliad diwethaf y buasem ni wedi cyflwyno'r rhaglen retroffitio fwyaf a welodd Cymru erioed, gwerth £3 biliwn dros nifer o flynyddoedd, a dyna'r math o ymateb uchelgeisiol a radical sydd ei angen.

Nawr, mae'r Llywodraeth—ac rydych chi'n dweud yn eich datganiad—wedi gwario rhyw £248 miliwn dros, bron, y 10 mlynedd diwethaf, so beth yw hynny—rhyw £25 miliwn y flwyddyn? Ond rŷn ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru yn gwario £100 miliwn bob blwyddyn ar drin mynediadau i'r ysbyty yn ymwneud â'r oerfel—cold-related hospital admissions.

Felly, mae'r Llywodraeth hon yn gwario £25 miliwn y flwyddyn ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac mae'n costio o leiaf £100 miliwn y flwyddyn i'r GIG ymdrin â rhai o ganlyniadau hynny. Ac, wrth gwrs, nid yw'r £100 miliwn hwnnw'n cynnwys y gost o fynd i'r afael â chanlyniadau cyflyrau anadlu yn sgil byw mewn cartref oer a llaith, a chanlyniadau iechyd meddwl yn sgil mynd i ddyled er mwyn prynu tanwydd ac yn y blaen, ac yn y blaen. Felly, beth mae hynny'n ei ddweud am ba mor ddifrifol y mae'r Llywodraeth hon yn ystyried ei rhwymedigaethau o ran y dull ataliol a hybwyd yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, pan fo eich ymateb i'r argyfwng tlodi tanwydd yng Nghymru, a dweud y gwir yn blaen, mor annigonol?

Nawr, rwy'n croesawu'r cynllun newydd arfaethedig ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Yr hyn nad wyf yn ei groesawu, wrth gwrs, yw na chaiff hwnnw ei gyhoeddi tan flwyddyn i nawr, a dyna pryd y caiff ei gyhoeddi, felly nid ydym ni'n hollol siŵr ai dyna pryd y bydd yn dechrau gweithredu. Yn ôl pob tebyg, yn 2021 y bydd hynny'n digwydd pan ddaw'r rhaglen Cartrefi Clyd presennol i ben. Felly, erbyn 2021, byddwn fwy na thebyg wedi gweld bron 1,000 o bobl yn marw yng Nghymru yn sgil marwolaethau ychwanegol y gaeaf a fydd yn ymwneud â thlodi tanwydd. Nawr, nid yw hynny'n dderbyniol, mae'n amlwg. Felly, pa mor uchelgeisiol fydd y cynllun newydd? A fydd y cynllun newydd, er enghraifft, yn cynnwys targed ar gyfer dileu tlodi tanwydd, o gofio, wrth gwrs, eich bod wedi methu'n druenus i fodloni'r targed hwnnw o ddileu tlodi tanwydd erbyn 2018? Nawr, yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn eich datganiad yw y bydd y cynllun yn cynnwys

amcanion uchelgeisiol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau

Wel, dyna'r math gwaethaf o barablu gwasanaeth sifil yr wyf i wedi ei weld ers amser maith iawn, mewn unrhyw ddatganiad, debygwn i. Pryd mae targed ddim yn darged? Pan fydd yn amcan uchelgeisiol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth yw ystyr hynny, Gweinidog? A wnewch chi roi enghraifft i ni, efallai, o sut beth allasai hwnnw fod, yn eich barn chi? Ac, a wnewch chi egluro a fydd y cynllun newydd yn cynnwys targed i ddileu melltith tlodi tanwydd yng Nghymru?

Dau gwestiwn i orffen. Mae 16 y cant o gwsmeriaid ynni yng Nghymru yn defnyddio trydan a nwy gyda mesuryddion talu ymlaen llaw, sef, wrth gwrs, y dull mwyaf costus o dalu. Felly a wnewch chi ddweud wrthym ni beth yn ychwanegol y bydd eich Llywodraeth chi yn ei wneud i helpu'r bobl hynny, y bydd llawer ohonyn nhw'n amlwg yn ei chael hi'n anodd ac yn byw mewn tlodi tanwydd? Ac yn olaf, y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru ystyried lefelau effeithlonrwydd ynni tai newydd, fe wnaethoch chi golli eich plwc. Fe wnaethoch chi ymgynghori, wrth gwrs, ar Ran L y rheoliadau adeiladu, ac ymgynghori ar darged o 23 y cant neu 40 y cant arfaethedig ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni, ac fe ddewisoch chi welliant syfrdanol o gymedrol o 8 y cant, gan roi clo ar ragor o aneffeithlonrwydd ynni, wrth gwrs, ym mhob tŷ newydd sy'n cael ei adeiladu yng Nghymru, ac yn rhoi clo ar yr aneffeithlonrwydd hwnnw am hyd at 100 mlynedd. Gan eich bod yn adolygu Rhan L y rheoliadau adeiladu eleni, a wnewch chi roi sicrwydd inni na fyddwch chi'n colli eich plwc eto?

16:50

Diolch, Llŷr Huws Gruffydd am y gyfres o gwestiynau. Ni allaf esgus bod—. Byddai'n dda gennyf fod â llawer mwy o arian i'w roi i bob un o'n cynlluniau Cartrefi Clyd. Rydych chi'n dweud mai'r addewid yn eich maniffesto chi oedd rhoi £3 biliwn—dros dair blynedd, rwy'n credu i chi ddweud—[Torri ar draws.]—nage, dros gyfnod hwy. Hynny yw, mae'n rhaid i chi ystyried o ble y deuai'r cyllid hwnnw. Nid yw fy nghyllideb i yn £1 biliwn y flwyddyn hyd yn oed, ac, yn amlwg, mae hynny ar draws yr adran i gyd. Felly, rwy'n derbyn yn llwyr a byddwn yn dymuno rhoi mwy o arian i'r cynllun i ni allu ôl-osod llawer mwy o dai.

O ran y datgarboneiddio—ac anghofio'r agwedd Cartrefi Clyd—rwy'n gwybod, os ydym eisiau cyrraedd ein targed allyriadau carbon, fod angen inni roi llawer mwy o ymdrech yn ein cartrefi. Ond, unwaith eto, rydych chi'n dychwelyd at uchelgais, mae'n rhaid ichi fod yn ymarferol, mae'n rhaid ichi fod yn realistig. Rwy'n awyddus i fod yn uchelgeisiol, rwy'n awyddus i gael dyheadau, ond, yn yr un modd, mae'n rhaid inni fod yn ymarferol hefyd. Rwyf wedi cyfarfod â darparwyr Arbed a Nyth lawer tro, nid yn unig ers imi fod yn y portffolio hwn, ond yn Aelod Cynulliad yn fy etholaeth i fy hun, ac ni allwn ond gwneud yr hyn a fedrwn â'r cyllid a'r adnoddau sydd gennym. Ond mae un farwolaeth yn un farwolaeth yn ormod, ac yn sicr nid ydym eisiau cael y niferoedd yr ydych chi newydd gyfeirio atyn nhw yng Nghymru.

Credaf ei bod yn bwysig iawn fod gan y strategaeth hon ei tharged. Roeddech chi'n sôn am darged 2018, ac o edrych yn ôl, mae'n sicr nad oedd modd ei gyflawni, ac felly nid wyf i'n gweld diben cael targedau, yn arbennig pan fyddwch chi'n Weinidog ac yn meddwl, 'Wel, ni fyddaf yma ymhen 10 mlynedd', a gallwch addo unrhyw beth a fynnoch. Nid person felly ydw i ac nid wyf eisiau gwneud hynny. Ond rwyf yn credu, o fewn y strategaeth, fod angen gosod targedau realistig y gellir eu cyflawni.

Fe wnaethoch chi ofyn am Ran L y rheoliadau adeiladu—mae hynny'n cael ei ddatblygu erbyn hyn gan fy nghyd-Aelod Julie James. Yn sicr byddaf yn gofyn iddi hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n parhau i roi gwybod i'r Aelodau am y targedau sydd i'w cyflwyno.

Roeddech chi'n sôn am fesuryddion talu ymlaen llaw. Rwyf i o'r farn bod gormod o bobl yn talu gormod am yr anghenion ynni yn eu cartrefi, oherwydd yn syml eu bod nhw ar fesurydd talu ymlaen llaw. Pan edrychais i ar niferoedd y bobl sydd ar y mesuryddion hyn, tua 5 y cant ydyn nhw o'r perchen-feddianwyr. Yn y sector preifat, mae'r niferoedd yn cynyddu i 23 y cant ar gyfer mesuryddion talu ymlaen llaw am drydan, a 26 y cant ar gyfer nwy. Pan fyddwch yn ystyried tai cymdeithasol, mae'n codi i 46 y cant ar gyfer trydan a 44 y cant ar gyfer nwy. Gwn fod yn well gan rai pobl eu defnyddio nhw, ac mae hynny'n berffaith iawn, ac rwy'n gwybod mai'r rheswm am hynny yw eu bod yn ofni mynd i ormod o ddyled. Ond credaf fod yn rhaid inni wneud llawer mwy i gefnogi pobl i gael mynediad at dariffau fel y gallant fod ar y tariff gorau posib i wresogi eu cartrefi am bris fforddiadwy. Byddwch yn ymwybodol o gyflwyniad y cap ar fesuryddion talu ymlaen llaw, a wnaed yn dilyn  argymhellion gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, a chredaf fod hynny i'w groesawu'n fawr iawn. Serch hynny, rwyf wedi cael y trafodaethau hyn gyda'r cwmnïau ynni—a chredaf fod yn rhaid iddyn nhw wneud llawer mwy i roi cynnig llawer gwell i gwsmeriaid sy'n talu ymlaen llaw, yn arbennig y cwsmeriaid sy'n agored i niwed, i sicrhau nad yw'r cyflenwadau yn cael eu torri yn ystod misoedd y gaeaf, oherwydd gwn fod yna hunan ddatgysylltiad, a chredaf fod gan y cwmnïau ynni ddyletswydd foesol i wneud hynny.

16:55

Rwy'n diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae'n amlwg bod nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel. Mae hi'n achos gofid hefyd ein bod ni'n gweld hynny ochr yn ochr â chynnydd yn nifer y banciau bwyd, a chynnydd mewn digartrefedd, a bod hyn yn ei hanfod yn arwydd o glefyd degawd o gyni. Fy ofn mawr i yw y bydd Brexit yn gwneud pethau'n waeth, yn llawer gwaeth. Fel mae pethau'n sefyll, caiff tua 5 y cant o drydan y DU a hyd at 12 y cant o'n nwy ei fewnforio o'r UE, felly byddai unrhyw dariffau neu rwystrau ar fewnforio yn gwthio'r costau i fyny, a chwsmeriaid, fel bob amser, fyddai'n talu'r bil hwnnw. Hefyd, mae'r gymdeithas fasnach ar gyfer diwydiant ynni Prydain, Energy UK, wedi rhybuddio y bydd biliau yn debygol o godi i aelwydydd o ganlyniad i'r ansicrwydd ynghylch a fydd Prydain yn parhau i fod yn rhan o system masnachu allyriadau'r UE, a cheir ansicrwydd mawr o ran pethau eraill hefyd. Er enghraifft, disgwylir y bydd y pedwar cebl pŵer sy'n cysylltu Prydain â'r cyfandir yn cael ychwanegiad o wyth arall atynt yn y dyfodol agos. A fydd y prosiect hwnnw'n cael ei ollwng, ac os felly, faint fydd hynny'n ei gostio i'r defnyddiwr? Fel y dywedodd Arglwydd Teverson, cadeirydd Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE, ar ôl Brexit,

Bydd ymraniad ac ni fyddwn wedi ein hintegreiddio. Mae hynny'n golygu y bydd masnachu ynni yn mynd yn llai effeithlon ac y bydd prisiau manwerthu yn codi.

Rydym wedi gweld heddiw unwaith eto yr hyn a gafodd ei ddiystyried fel 'prosiect codi ofn' yn cael ei wireddu ledled y diwydiant ceir yn y DU a'r effaith ddinistriol a gaiff hynny ar y cymunedau hyn. Ond beth fydd cost Brexit i sector ynni ffyniannus Cymru, yn benodol y gweithredwyr allweddol yn Aberdaugleddau?

Ar bwynt i gloi, roeddech chi'n siarad am dystysgrifau perfformiad ynni o ran arolwg i gyflyrau tai Cymru. Mae llawer o'm hetholwyr i oddi ar y rhwydwaith ac maen nhw'n defnyddio tanwydd solet neu hylif nwy, ac mae hynny, wrth gwrs, yn llawer mwy costus. Ond seilir y tystysgrifau perfformiad ynni ar gostau rhedeg, ac nid yw hwnnw'n fesur dibynadwy o ran effeithlonrwydd ynni ar gyfer yr achosion penodol hynny. Rwy'n deall mai mater i Lywodraeth y DU yw strwythur y tystysgrifau perfformiad ynni, ond a gaf i ofyn i chi godi'r mater hwnnw gyda'ch Gweinidog cyfatebol yn San Steffan ac edrych ar yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i unioni'r hyn sy'n annhegwch sylfaenol?

Diolch, Joyce Watson, am y cwestiynau hynny a'ch sylwadau chi. Credaf eich bod yn llygad eich lle: mae degawd o gyni yn siŵr o fod yn effeithio ar nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Roeddech chi'n siarad am Brexit, ac rwyf innau'n bryderus, yn arbennig am effaith Brexit 'dim cytundeb' ar brisiau ynni'n benodol, unwaith eto yng nghyd-destun y ffactorau economaidd a allai godi hefyd pe byddai senario 'dim cytundeb'. Felly, rydym newydd ddechrau cael—. Byddwch chi'n ymwybodol o'r cyfarfodydd pedair ochrog yr wyf yn eu cael ar lefel amaethyddol gyda Michael Gove. Felly, rydym newydd gychwyn ar ymgysylltiad tebyg â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae Ken Skates a minnau wedi bod yn ceisio rhoi hyn ar waith ers cwpwl o flynyddoedd. Rydym newydd gael y cyfarfod cyntaf. Cafodd hwnnw ei gadeirio gan Claire Perry, a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod ni wedi cael tynnu sylw at ein pryderon ni, yn enwedig ynglŷn â Brexit 'dim cytundeb'. Rhoddodd Llywodraeth y DU wybod inni ei bod wedi gwneud rhyw fath o asesiad ynglŷn â graddfa debygol y codiadau mewn prisiau. Nid ydyn nhw wedi rhannu'r wybodaeth honno â ni. Mae angen inni gael golwg ar y manylion hynny fel y gallwn ni weithio allan beth fydd unrhyw effeithiau posib ar bobl Cymru, a busnesau hefyd. Credaf fod llwyr angen hynny ar frys os ydym eisiau deall a chynllunio ar gyfer unrhyw effeithiau posib ar lefelau tlodi tanwydd yma yng Nghymru wrth inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Credaf fod angen hefyd ystyried prisiau ynni yng nghyd-destun yr effeithiau cronnol, ac ystyried y rhyngberthynas rhwng prisiau ynni ac effeithiau economaidd eraill a allai fod gennym ni wedi Brexit. Felly, o ran eich cwestiwn am dystysgrifau perfformiad ynni, byddaf yn sicr yn hapus iawn i ddwyn hynny gerbron gyda Claire Perry—os nad yn y cyfarfod pedair ochrog nesaf o'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol nesaf, byddwn i'n hapus iawn i ysgrifennu ati.

Wel, rwy'n croesawu'r datganiad, ac wrth gwrs rwy'n llwyr o blaid y rhaglen Cartrefi Clyd. Rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi buddsoddi £248 miliwn ynddi dros gyfnod o flynyddoedd. Mae hwn yn fuddsoddiad cost-effeithiol iawn yn ddiamau i gadw cartrefi pobl yn gynnes. Fel y nododd Llŷr Gruffydd yn gynharach, byddai methu â gwneud hyn yn effeithiol mewn cartrefi newydd yn creu effeithiau parhaol efallai am 100 mlynedd, sef oes yr eiddo. Felly, mae'r rheoliadau Rhan L yn elfen bwysig yn hyn o beth ac rwy'n sicr yn cefnogi'r achos a wnaeth ef dros wneud hwn yn faes blaenoriaeth i'r Llywodraeth ei wneud yn fwy effeithiol.

Yn sicr, y rhannau eraill o'r datganiad—bod sgôr tystysgrifau perfformiad ynni ar gyfartaledd yng Nghymru nawr ym mand D, ar ôl bod ym mand E 10 mlynedd yn ôl—mae hynny'n galonogol iawn. Rwy'n sicr yn gefnogol iawn i'r cynllun peilot ar gyflyrau iechyd, a hefyd y cynllun llawn dychymyg i helpu pobl gyda ffioedd galw allan i drwsio boeleri gwres canolog sydd wedi torri ac ati yn ystod y gaeaf. Mae'r mathau hynny o fân fesurau, yn fy marn i, yn ddymunol iawn ynddyn nhw eu hunain, yn gwbl ar wahân i unrhyw faterion cynhesu byd-eang sydd y tu ôl i'r polisïau hyn.

Felly, ydw, rwy'n croesawu hynny i gyd, ac rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, ond byddai'n fwy trawiadol pe na fydden nhw'n gwneud cymaint i'w achosi yn y lle cyntaf. Rydym wedi cael y dadleuon hyn lawer tro o'r blaen. Ond o gofio bod biliau trydan a nwy pobl 20 y cant yn uwch erbyn hyn na'r hyn ddylen nhw fod oherwydd trethi—ac, yn wir, mae cyfarwyddeb orfodi TAW yr UE yn ychwanegu 5 y cant yn ddiangen at filiau pobl, y byddwn yn gallu ei diddymu ar unwaith pan fyddwn yn gadael yr UE yn y pen draw—ceir cyfleoedd gwych yn sgil Brexit pe byddem ni'n adolygu ein safbwyntiau o ran polisïau'r UE ar gynhesu byd-eang, a fyddai'n bosibl i ni ei wneud ar ôl Brexit. Byddwn yn gallu sicrhau gostyngiad sylweddol ym miliau rhai o'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas.

Fel y nododd Mark Isherwood, y ffigurau yr ydym ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw yw 23 y cant o'r tai yng Nghymru mewn tlodi tanwydd sy'n gwario mwy na 10 y cant o'u hincwm—10 y cant o'u hincwm—ar gadw'n gynnes yn y gaeaf. Mae'r rhain yn ffigurau syfrdanol mewn gwlad ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain a ddylai fod yn un o'r gwledydd mwyaf datblygedig yn y byd. Credaf fod hynny'n adlewyrchiad cywilyddus o fethiant Llywodraethau olynol o bob plaid fod cynifer o'n dinasyddion yn dioddef yn y modd hwn a dylai hyn fod yn un o'n blaenoriaethau pennaf i weithredu arni.

Ond beth sy'n cael ei ennill oherwydd y polisïau hyn sy'n llwytho beichiau mawr o'r fath ar y bobl sydd leiaf abl i'w cario? Beth sy'n digwydd yng ngweddill y byd? Honnir y bydd cynnydd mewn allyriadau carbon deuocsid yn 2018—dim ond nawr mae'r ffigurau'n cael eu cyhoeddi—o 2.7 y cant. Dyna gynnydd mawr mewn allyriadau byd-eang o ystyried y cyfnod o sefydlogrwydd a gafwyd ers 2014-16, a'r cynnydd o 1 y cant a gafwyd yn 2017. O ble y daw hyn? Wel, yn ôl y Global Carbon Project, mae holl wledydd y byd yn cyfrannu at y cynnydd hwn, ac allyriadau yn Tsieina yn codi 4.7 y cant, yr Unol Daleithiau 2.5 y cant, ac India, yn syfrdanol, 6.3 y cant ar y flwyddyn flaenorol, a ysgogir yn bennaf gan dwf economaidd o 8 y cant, sy'n beth da ynddo'i hunan.

Caiff hyn ei ysgogi gan yr holl sectorau tanwydd hefyd. Yn India, er enghraifft, mae'r twf hwn o 6.3 y cant yn digwydd oherwydd cynnydd o 7.1 y cant yn y defnydd o lo, a chynnydd o 2.9 y cant yn y defnydd o olew, a chynnydd o 6 y cant yn y defnydd o nwy. Maen nhw'n mynd i'r cyfeiriad arall yn llwyr i'r un y mae'r Ysgrifennydd ynni'n dweud y dylai Cymru fynd. Mae Cymru yn cyfrannu 0.01 y cant i allyriadau carbon deuocsid byd-eang. Roedd y cynnydd mewn allyriadau a welwyd yn India y llynedd yn gyfystyr â phum gwaith hynny. Fe allem ni gau'r economi gyfan yng Nghymru i lawr, fe allem ni anfon yr holl boblogaeth o Gymru—yn wir fe allen nhw i gyd farw—a byddai Cymru heb unrhyw ôl-troed carbon. Byddai India yn canslo hynny oherwydd y cynnydd yn ei heconomi mewn 10 wythnos yn unig. Dyna'r pris y mae'r holl bobl mewn tlodi tanwydd yn ei dalu am 10 wythnos o gynnydd mewn allyriadau carbon yn India.

Rwyf i o'r farn mai polisi rhyfeddol o afresymol yw hwn ar ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac yn wir yr Undeb Ewropeaidd cyfan. UKIP yw'r unig blaid yn y Cynulliad hwn sy'n cynnig ffordd arall. Ein polisi ni yw sicrhau bod lles economaidd pobl, ac yn enwedig y bobl dlotaf mewn cymdeithas, yn dod yn gyntaf, nid polisïau llawn ffantasi am gynhesu byd-eang, na allwn ni wneud dim i'w newid.

17:00

Felly, dewch inni ddychwelyd at dlodi tanwydd, a Chartrefi Clyd. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi buddsoddi cymaint yn ein cynlluniau Cartrefi Clyd. Roeddech chi'n sôn am £248 miliwn ar ddiwedd mis Mawrth 2018. Erbyn diwedd tymor hwn y Cynulliad, bydd hynny'n £344 miliwn a bydd dros 75,000 o gartrefi wedi elwa ohonynt. Rydych yn sôn bob tro am—. Fel un sy'n amheus o newid hinsawdd, rydych chi'n sôn bob tro am Tsieina; rydych chi'n sôn bob tro am India. Ond, wyddoch chi, nid yw fy etholwyr i sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn awyddus i glywed am bolisïau UKIP a'r hyn y maen nhw'n dymuno ei wneud; polisïau llawn ffantasi yw'r rhain. Rydym ni'n cyflwyno rhaglenni Cartrefi Clyd sy'n helpu pobl mewn tlodi tanwydd. Roeddwn i wedi sôn—a gwn eich bod chi wedi dweud mai dyna'r peth iawn i'w wneud—am y ffi galw allan. Ni all pobl fforddio i alw peiriannydd allan i edrych ar foeler sydd wedi torri. Hunan-ddatgysylltu yw hynny, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl.

17:05
6. Rheoliadau Dyletswydd Gofal Gwastraff o ran Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019

Eitem 6 ar yr agenda yw'r Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig hwnnw, Hannah Blythyn.

Cynnig NDM6970 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2019.  

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ar gyfer y Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019. Bydd y rheoliadau hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a Chyfoeth Naturiol Cymru roi cosbau penodol ar gyfer troseddau dyletswydd gofal o ran gwastraff cartref. Mae gan ddeiliaid tai gyfrifoldeb i sicrhau, pan fyddant yn trosglwyddo eu gwastraff i rywun arall i'w waredu, eu bod yn gludydd gwastraff cofrestredig. Os na, maen nhw'n peryglu cael eu herlyn. Mae awdurdodau lleol wedi dweud wrthym nad erlyn deiliaid tai yw'r ymateb mwyaf priodol i'r math hwn o drosedd a gall hefyd fod yn broses feichus. Mewn ymateb, ac i helpu i fynd i'r afael â hyn, bûm yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno cosbau penodedig newydd, a gafodd gefnogaeth eang.

Gofynnodd ymatebwyr i'r ymgynghoriad hefyd am ddull cenedlaethol cyson o osod swm y gosb a bod lefel y gosb yn gymesur â'r tramgwydd. Dyna pam y cytunais i osod y gosb benodedig yn £300 ac rwyf wedi caniatáu i awdurdodau gorfodi gynnig ad-daliad cynnar o £150 yn ôl eu disgresiwn. Credaf fod y dull hwn yn sicrhau bod y cosbau penodedig yn gweithredu fel rhwystr digonol gan hefyd adlewyrchu'r pryderon a godwyd yn yr ymgynghoriad. Gall awdurdodau lleol gadw eu derbyniadau er mwyn cyfrannu at y gost o ymdrin â throseddau gwastraff. Byddant hefyd yn gallu parhau i ddefnyddio pwerau erlyn troseddol am droseddau y maen nhw'n eu hystyried yn amhriodol ar gyfer cosb benodedig. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dull cytbwys o orfodi ac yn disgwyl y bydd cosbau penodedig ond yn cael eu defnyddio pan fydd yr awdurdod gorfodi yn fodlon bod y dystiolaeth a gasglwyd yn dangos bod tramgwydd wedi cael ei gyflawni.

Dirprwy Lywydd, gwn fod tipio anghyfreithlon yn weithred wrthgymdeithasol a all fod yn falltod ar ein cymunedau ac yng nghefn gwlad, ac rwyf yn falch o gymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr.

Hoffwn groesawu'r Gweinidog i'w rôl newydd a'i datganiad. Gweinidog, mae gennyf amheuon ynghylch y rheoliadau arfaethedig newydd hyn, a bydd UKIP yn pleidleisio yn eu herbyn heddiw. Fel y dywedwch, mae gennym broblem gynyddol â thipio anghyfreithlon, ac rydym o'r farn mai'r ffordd orau yw ei gwneud mor hawdd â phosib i bawb—yn drigolion a gweithredwyr masnachol—ddefnyddio tipiau'r cynghorau i waredu deunydd, sy'n cael ei ailgylchu wedyn. Gwyddom fod llawer o weithredwyr diegwyddor yn osgoi ffyrdd cyfreithiol o gael gwared ar sbwriel ac yn troi at y weithred ofnadwy o dipio anghyfreithlon, sy'n andwyo'r amgylchedd. Rhaid inni wneud yr hyn a allwn i gyfyngu ar yr arfer hwn, ond nid wyf yn siŵr y bydd cyflwyno rheoliad arall pan fo'r arfer eisoes yn anghyfreithlon yn mynd i wella pethau o reidrwydd.

Mae'n ymddangos i mi fod llawer o reolau gor-fiwrocrataidd ynghylch pwy all ddefnyddio'r tipiau'r cynghorau, yn hytrach, dylid ei wneud yn haws i bawb ddefnyddio'r cyfleusterau hyn—hynny yw, os mai'r nod yw lleihau gwastraff a chynyddu ailgylchu. Ond mae hyn yn ein drysu oherwydd mae gan gynghorau lleol y rheidrwydd masnachol i gynyddu ei refeniw drwy godi tâl ar bwy bynnag a allant i ddefnyddio'u cyfleusterau ailgylchu. Nid yw hyn ddim ond yn effeithio ar weithredwyr masnachol. Mae hefyd yn effeithio ar drigolion, sydd nawr, mewn llawer o ardaloedd, yn gorfod talu er mwyn i eitemau swmpus gael eu casglu. Ychydig flynyddoedd yn ôl, gellid trefnu'r casgliadau hyn am ddim.

Credaf, os ydym eisiau gweld mwy o ailgylchu, rhaid inni ymbellhau oddi wrth y syniad o godi tâl ar bobl neu fod angen iddynt ddangos prawf o'u cyfeiriad neu'n cael eu cyfyngu i hyn a hyn o ymweliadau i'r tip mewn blwyddyn galendr, y cyfan ohonynt bellach yn gyfyngiadau a osodir gan y rhan fwyaf o gynghorau ar bobl sy'n defnyddio'r depos ailgylchu. Os ydym eisiau gweld mwy o ddeunydd yn cael ei ailgylchu, mae'n well ein bod yn lleihau'r mân gyfyngiadau hyn fel y gall mwy o bobl ailgylchu mwy o ddeunydd mewn cyfleusterau sy'n cael eu cynnal gan y cynghorau. Felly, credwn fod llai o reoleiddio yn well o ran lleihau tipio anghyfreithlon, ac am y rhesymau hynny rydym yn gwrthwynebu'r rheoliadau newydd heddiw. Diolch yn fawr.

17:10

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n synnu mewn gwirionedd. O'r hyn a ddywedwch, rydych yn cydnabod bod problem â thipio anghyfreithlon, eto i gyd nid ydych yn cefnogi'r rheoliadau, sy'n ceisio nid yn unig orfodi ond rhwystro hyn. Rydym yn falch o'n record ailgylchu yng Nghymru; dyna pam mai ni sy'n gyntaf yn y DU a thrydydd yn y byd. Ac rydym eisiau adeiladu ar hynny, a dyna pam y byddwn yn cyflwyno diweddariad o 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' yn ddiweddarach eleni, a hefyd byddwn yn ymgynghori ar Ran 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a fydd yn gosod yr un cyfrifoldeb ar fusnesau a sefydliadau eraill i wahanu eu gwastraff ar gyfer casglu, fel y gwneir eisoes gan ddeiliaid tai mewn cymunedau a siroedd ar draws Cymru.

Dim ond i ailadrodd—. Sawl gwaith yr wyf wedi sefyll yma ac ymateb i Aelodau sydd â phryderon o ran tipio anghyfreithlon yn eu hardal leol—fe wyddoch, mae angen inni gymryd pa gamau bynnag y gallwn i fynd i'r afael â hynny. Gwyddom ei bod yn falltod ar ein cymunedau ac ar ein cefn gwlad hyfryd fel arall, a dyna pam mae angen dull cyfannol arnom sydd nid yn unig yn annog pobl i ailgylchu ond hefyd yn ysgogi newid ymddygiad. Felly rydym mewn gwirionedd yn lleihau'r malltod tipio anghyfreithlon ar ein gwlad. Byddwn yn gwahodd yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau hyn, a fydd yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i gynnig y gallu i ryddhau atebolrwydd am euogfarn ar gyfer troseddau dyletswydd gofal yn ymwneud â gwastraff drwy dalu cosb benodedig. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly rydym yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon nes yr amser pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Eitem 7 y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad blynyddol Estyn, 2017-18, a galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig y cynnig — Kirsty Williams.

Cynnig NDM6969 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.

2. Croesawu bod y 'newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a hunan-wella yn parhau ar ei raddfa cyflym'.

3. Nodi bod safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn gynnydd ar y llynedd.

4. Nodi, er bod safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion uwchradd, bod amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac fe agoraf y ddadl hon heddiw drwy ddiolch i Meilyr Rowlands am ei adroddiad blynyddol, yr un cyntaf sy'n seiliedig ar drefniadau arolygu newydd Estyn a gyflwynwyd ym mis Medi 2017. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth werthfawr inni yn seiliedig ar ddadansoddiad Estyn o dystiolaeth o arolygiadau ynghylch perfformiad a safonau ledled Cymru. Fel Llywodraeth, byddwn yn defnyddio'r casgliad hwn o ddata i'n helpu i fonitro perfformiad, llywio polisi a chodi safonau addysgu a dysgu.

Mae'r prif arolygydd yn iawn i ddweud bod gan Gymru lawer i fod yn falch ohono. Mae'n arbennig o galonogol bod Estyn wedi darganfod bod y newid yn y diwylliant tuag at system sy'n fwy cydweithredol ac yn un sy'n annog hunan-welliant yn parhau i ddatblygu. Mae hyn yn hollbwysig os ydym yn dymuno parhau i godi safonau ar gyfer pob un o'n pobl ifanc. Mae'r adroddiad yn nodi bod y patrwm cadarnhaol yn parhau mewn meithrinfeydd nas cynhelir, ysgolion arbennig a gynhelir ac yn ein colegau addysg bellach. Ac mae'n galonogol iawn bod safonau yn dda neu'n well mewn naw o bob 10 o leoliadau y tu allan i'r ysgol ac yn gwella ar raddfa sy'n uwch na'r ganran a nodwyd y llynedd.

Mae'r safonau yn dda neu'n well hefyd mewn wyth o bob 10 ysgol gynradd—sy'n gynnydd ar nifer y llynedd—gyda mwy ohonynt yn mynd ymlaen i gael eu barnu i fod yn rhagorol. Mae'r gwelliannau yn yr hanfodion, megis presenoldeb a llythrennedd sylfaenol dros y blynyddoedd diwethaf, i'w croesawu ac maent yn paratoi'r ffordd ar gyfer gwelliannau cyffredinol ar draws ein sector cynradd. Er hyn, wrth nodi bod hanner ein hysgolion uwchradd yn parhau i gynnal eu safonau o fod yn dda neu'n well, rwy'n derbyn bod hynny'n golygu nad yw hanner yr ysgolion yn cyflawni hynny, a chredaf nad yw hynny'n dderbyniol, ac mae angen gwella. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod llawer o waith i'w wneud.

Mae pump y cant o ysgolion cynradd a 15 y cant o ysgolion uwchradd wedi cael eu nodi fel rhai sydd angen gwelliant sylweddol neu o fod mewn mesurau arbennig. Credaf mai'r her i'r system yw sicrhau bod ysgolion sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi'n gynharach a'n bod yn gweithio'n agos gyda'r ysgolion a'r proffesiwn fel y gallwn ymdrin â'r materion hyn. Mae'r ffaith fod ysgolion yn cael eu gosod yng nghategori statudol Estyn flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nodi, fel y dywedais, fod angen gwneud mwy i nodi'r ysgolion sy'n peri pryder yn gynharach, ac yna, yn hollbwysig, ddarparu cymorth priodol i'w galluogi i wella.

Rwyf ar hyn o bryd yn ystyried sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r mater hwn ac yn nodi dulliau newydd y gellid eu rhoi ar waith i ddarparu cymorth i wneud gwelliannau yn yr ysgolion hyn. Mae'n galonogol bod ein polisïau megis y safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, a datblygiad parhaus y cwricwlwm newydd, wedi hwyluso'r cynnydd ac wedi gwella profiadau addysgu a dysgu i ddisgyblion. Cynlluniwyd y safonau proffesiynol, sydd wedi eu gwreiddio mewn addysgeg, i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu mewn ffordd a fydd yn eu paratoi i wynebu heriau'r dyfodol.

Rwyf hefyd yn falch o nodi bod ysgolion a cholegau wedi ymateb yn gadarnhaol i newidiadau yn y cyrsiau TGAU Saesneg, Cymraeg a mathemateg. Fodd bynnag, rwyf yn cydnabod bod y ddarpariaeth ar gyfer bagloriaeth Cymru yn fwy amrywiol. Mae bagloriaeth Cymru yn rhan allweddol o'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau drwy wella sgiliau a gwybodaeth ein pobl ifanc. Cafodd ei chynllunio i roi profiad ehangach i bobl ifanc na'r hyn y maent yn ei gael yn arferol drwy eu haddysg academaidd draddodiadol. Mae ymdrech benodol i wella trefniadau gweithredu bagloriaeth Cymru yn cael eu gwneud drwy gydweithio parhaol grŵp partneriaeth sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a CBAC, gan gynnwys camau gweithredu ar y maes allweddol o egluro disgwyliadau ar gyfer myfyrwyr ar wahanol lefelau.

Fel y gwŷr pob un ohonom yn y Siambr hon, mae cysylltiad cryf rhwng lles a deilliannau addysgol. Croesawaf felly fod lles ac agweddau tuag at ddysgu yn dda neu'n rhagorol mewn dwy ran o dair o'n hysgolion uwchradd ac wedi eu nodi fel cryfder yn ein sector cynradd. Mae'n hanfodol bod pob ysgol yn datblygu ethos i gefnogi iechyd meddwl a lles ehangach eu dysgwyr, a fydd yn ei dro yn helpu i atal datblygiad neu gynnydd nifer o faterion eraill, gan gynnwys materion iechyd meddwl.

Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau addysg i bobl ifanc. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd a fydd yn cefnogi gwella ysgolion a chodi safonau ymhellach. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw ynghylch y trefniadau hyn. Mae hyn yn cynnwys y gwaith fydd yn deillio o argymhellion o fewn adroddiad annibynnol Estyn, 'Arolygiaeth Dysgu'. Bydd symud tuag at y model newydd hwn o werthuso a gwella yn dod â ni'n agosach at systemau sy'n perfformio'n dda ar draws y byd, a bydd yn cefnogi'r arolygiaeth i ddarparu'r sicrwydd bod safonau yn cael eu cyflawni wrth gefnogi ysgolion i gynnal gwelliant ar yr un pryd. Mae'r polisïau a roddwyd ar waith gennym ni yn helpu i ysgogi gwelliannau, ond mae'n bwysig ein bod yn cynnal y momentwm i sicrhau gwelliannau pellach a chyson, yn ogystal â chefnogi ysgolion drwy gyfnod o ddiwygio addysg sylweddol.

Dirprwy Lywydd, rwyf yn ddiolchgar iawn i athrawon, arweinwyr a rheolwyr ledled y sector am eu hymdrechion parhaus a'u cyfraniadau. Rydym i gyd yn rhannu'r un uchelgais: uchelgais o godi safonau, lleihau bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac yn un sy'n ennyn hyder pobl Cymru.

17:15

Diolch. Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliant 1 yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at ganfyddiadau Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru ar gyfer 2017-18 ar gyfer disgyblion yn hanner ysgolion uwchradd Cymru, nad yw mwyafrif y disgyblion ar draws pob oedran a gallu yn gwneud digon o gynnydd.

2. Yn gresynu nad yw mwyafrif y disgyblion, yn hanner yr ysgolion, yn cyflawni yn unol â'u galluoedd erbyn iddynt gyrraedd diwedd addysg orfodol.

3. Yn gresynu at y gostyngiad parhaus yn nifer y lleoliadau sy'n darparu addysg ar gyfer plant 3 a 4 oed.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio unrhyw brosesau archwilio mewnol sydd ganddi o ran consortia rhanbarthol a rhannu canlyniadau unrhyw archwiliad mewnol neu allanol a allai fod wedi cael ei gynnal ers cyhoeddi canllawiau dilynol Estyn ar gyfer consortia rhanbarthol ac arolygwyr ym mis Medi 2017.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig ein gwelliant.

Hoffwn ddweud ar gyfer y cofnod, serch hynny, na chafodd ei fwriadu i fod yn welliant 'dileu popeth', ond dyna sydd gennym, ac felly symudwn ymlaen ar y sail hwnnw.

A gaf i hefyd ategu'r teimladau a fynegwyd yng ngwelliant cyntaf Plaid? Mae unrhyw welliant i'w groesawu am ei effaith ar y bobl ifanc unigol sy'n elwa ohono, yn ogystal â staff yn yr ysgolion.

Roeddwn yn awyddus i ddechrau yn fyr gyda'r gostyngiad yn nifer y lleoliadau sy'n cynnig addysg ar gyfer plant tair a phedair oed. Caf fy siomi bob amser fod rhai cynghorau yng Nghymru wedi dewis cyfyngu'r cynnig hwn i feithrinfeydd y cyngor yn unig, a gall hyn fod yn rhannol gyfrifol am y gostyngiad. Ond rwyf hefyd yn pryderu am y gostyngiad yn nifer y lleoliadau ar adeg pan fydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r cynnig o 30 awr o ofal plant i rieni sy'n gweithio mwy nag 16 awr. Yn ogystal â rhagweld cynnydd yn y galw, beth am y plant sydd ond yn gallu cael 10 awr o addysg, gan fod eu rhieni'n gweithio 15 awr yn hytrach nag 16? Mae angen iddynt ddod o hyd i bum awr arall o ofal plant, yn yr un lleoliad â'r addysg a gynigir, os oes modd, ond wrth gwrs, rhaid iddynt dalu amdano. Dyma hefyd y lle ar gyfer egino hadau'r polisi 1 miliwn o siaradwr Cymraeg, felly efallai fod modd i'r Gweinidog roi ei barn inni ar hynny.

Mae pwynt 4 yn ein gwelliant yn gyfle i'r Gweinidog rannu â ni am y modd y rheolir o fewn y Llywodraeth y proffil risg a'r rheolaeth ariannol sy'n gysylltiedig â pholisïau sydd â'r nod o wella ysgolion. Y consortia a'r awdurdodau lleol, yn gweithio gyda'i gilydd, sydd i fod i yrru gwelliant ysgolion. Dim ond cyfeiriad byr sydd atynt yn yr adroddiad hwn, ond y prif ganfyddiad ynddo yw, o ganlyniad i amrywiaeth o fethiannau mewn un consortiwm, fod y gwelliant mewn ysgolion uwchradd yn rhy araf ac yn peri pryder. Ond, nid yw trafferthion penodol mewn un consortiwm yn esbonio'r amrywiad gwyllt ym mherfformiad ysgolion ledled Cymru. Rhaid derbyn bod peth amrywioldeb. Gwelir hynny o fewn ysgolion yn ogystal â rhwng ysgolion—un o ganfyddiadau'r OECD yn ei adroddiad yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, ac nid yw hynny wedi newid ryw lawer. Felly, wrth longyfarch yr ysgolion hynny sydd â staff brwdfrydig yn cael eu harwain yn dda a dysgwyr hapus sy'n cyflawni eu potensial, ni allwn adael i hynny guddio'r pegwn arall lle mae nifer sylweddol iawn o ddysgwyr sydd heb gyflawni, yn y ffordd a amlygwyd gennym yn nau bwynt cyntaf ein gwelliant.

Yn awr, fel y dywedwch, Gweinidog, mae 5 y cant o ysgolion cynradd a 15 y cant o ysgolion uwchradd mewn mesurau arbennig neu angen gwelliant sylweddol. Mae'r rheini'n ganrannau eithaf uchel pan ydym yn sôn am isafbwynt perfformiad, ac nid yw'r pryderon hyn yn newydd. Felly, sut mae'r archwilio a rheoli risg o fewn eich adran chi wedi eich helpu i wella monitro a gwerthuso polisi cynllunio a gweithredu? Yn fyr, beth ydych chi wedi ei newid o ganlyniad i'r gwaith hwnnw?

Gyda dim ond 8 y cant o'n hysgolion cynradd yn cael eu hystyried i fod yn rhagorol o ran safonau, pam mae 88 y cant ohonynt yn cael eu categoreiddio fel gwyrdd ac angen y lefel isaf o gymorth arnynt? Dim ond prin hanner ein hysgolion uwchradd sy'n dda, heb sôn am fod yn rhagorol, eto i gyd bydd 78 y cant ohonynt ond yn cael 10 diwrnod neu lai o gymorth. Sut y daethpwyd i'r sefyllfa lle mai dim ond traean o'n hysgolion pob oedran—y fformat ffasiynol ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth bellach—a farnwyd i fod yn dda am arweinyddiaeth a rheolaeth, heb sôn am safonau, ac addysgu a dysgu—dim ond traean ohonynt. Nid oedd yr un ysgol ragorol.

Dengys yr adroddiad hwn y gall unrhyw un o'n hysgolion fod yn rhagorol ar draws y pum maes arolygu er gwaethaf y ddemograffeg a'r heriau eraill sy'n eu hwynebu. Felly pam mai dim ond ychydig o'n hysgolion cynradd sy'n cyflawni hynny, a sut mae gennym y fath eithafion rhwng llwyddiant a methiant yn y sector uwchradd? Nid yw'n cyd-fynd â'r categoreiddio. Nid yw'n cyfateb â'r ffaith bod angen arolwg dilynol ar hanner ein hysgolion, ac er gwaethaf rhai canlyniadau dymunol iawn, iawn, fel y dywedasoch, ynglŷn â lles, nid yw hynny o reidrwydd yn cyd-fynd â safonau uwch, gan fod Estyn yn dweud nad ydych yn gweld hynny heblaw pan fydd yr ysgolion yn eithriadol o gryf o ran lles.

Ond erbyn hyn credaf fod y brys mwyaf yn ymwneud â hunanarfarnu. Dywedodd yr OECD fod gennym broblemau gyda hyn o'r blaen, ac mae'n hollol amlwg bod gormod o lawer o ysgolion ac arweinwyr ysgolion yn cael trafferth gyda hyn hyd yn oed yn awr—hanner yr ysgolion uwchradd. Dyma'r ysgolion yr ydych chi'n gofyn iddynt gymryd cymwysterau newydd a chwricwlwm newydd, cwricwlwm newydd a gafodd ei herio unwaith eto heddiw yn y Times Educational Supplement, cwricwlwm sy'n ddibynnol ar hunanarfarnu a hunanwella o fewn ysgolion i gyflawni ei nodau, ac fe ddywedasoch fod hynny'n hanfodol.

Os yw'r newid tuag at ddiwylliant o hunan-welliant, fel yr hawliwyd, yn symud yn gyflym, pam nad yw'r safonau'n gwella'r un mor gyflym? Dywed Estyn ei bod yn parhau i fod yn wir, er gwaethaf mentrau amrywiol, gan gynnwys bandio a chategoreiddio, nad yw'r ysgolion hyn—y rhai sy'n perfformio'n wael—yn cael eu nodi'n ddigon cynnar, ac nad oes digon yn cael ei wneud i'w cefnogi. Fe ddywedasoch hynny yn eich sylwadau agoriadol, a dywedasoch eich bod ar hyn o bryd yn ystyried sut.

Gweinidog, mae gennych y pwerau i ymyrryd er mwyn chwyldroi'r ysgolion, y cynghorau a'r consortia hyn, sy'n parhau i fethu'r plant. Defnyddiwch nhw os gwelwch yn dda.   

17:20

Diolch. A gaf i alw ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth?

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ymroddiad parhaus athrawon a staff cynorthwyol yn ein hysgolion yn eu gwaith o godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad Donaldson ar Estyn, Arolygiaeth Dysgu; Adolygiad annibynnol o Estyn a gyhoeddwyd yn Mehefin 2018, ac sydd heb dderbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru hyd yma.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Cut to the Bone?' sy’n cadarnhau bod gwariant ysgol yn 2017-18 £324 y disgybl yn is mewn termau real na’r ffigwr cyfatebol yn 2009-10.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi llythyr agored ASCL Cymru a’i sylwadau fod yna argyfwng cyllid difrifol mewn ysgolion yng Nghymru sydd yn cael effaith andwyol ar bobl ifanc Cymru.

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gwariant teg o’r gyllideb a fydd yn ysgafnhau’r pwysau presennol sy’n bodoli ar ein hysgolion.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6.

Diolch yn fawr, a dwi'n symud y gwelliannau hynny. 

Diolch yn fawr am y cyfle i drafod canfyddiadau adroddiad Estyn 2017-18. Mae sefyllfa ein hysgolion uwchradd yn fater o bryder mawr, gyda disgyblion mewn hanner ein hysgolion uwchradd, sef mewn tua 100 o ysgolion, yn cael eu gadael i lawr. Hynny yw, dydy'r plant ddim yn cyrraedd eu llawn botensial erbyn iddyn nhw adael yr ysgol.

Mae hyn yn sobor i bob un person ifanc sy'n cyrraedd y sefyllfa honno, ac mae o hefyd yn sobor o ran ffyniant y genedl yn gyffredinol. Mae Cymru angen cyfundrefn addysg o'r radd flaenaf er lles y genedl a chenedlaethau'r dyfodol. Dim ond 195 ysgol uwchradd sydd yna yng Nghymru. Dydy hyn ddim yn rhif anferth, ac mae'n rhaid felly fod yna rywbeth mawr o'i le nad oes modd sicrhau safonau cyrhaeddiad uwch a chyson ar draws Cymru. Y cwestiwn pwysig ydy: sut mae gwella'r sefyllfa?

Mi nododd prif arolygydd Estyn yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn Rhagfyr y llynedd fod angen gwneud tri pheth. Yn gyntaf, mae angen adnabod yr ysgolion yn gynt, hynny yw, yr ysgolion sy'n tanberfformio. Yn ail, mae angen gwneud yn siŵr eu bod nhw yn cael gwell cefnogaeth ac, yn drydydd, mae angen cydgordio'r gefnogaeth maen nhw'n ei chael ar hyn o bryd yn well.

Dwi'n mynd i hoelio sylw ar y trydydd pwynt yma, sydd yn hollbwysig, dwi'n meddwl, ac yn haeddu sylw. Ar hyn o bryd, mae cymaint o haenau yn y system—yr ysgolion eu hunain a'u timau rheoli, y llywodraethwyr, yr awdurdodau lleol, y consortia ac adran addysg Llywodraeth Cymru—pwy sydd yn cymryd y cyfrifoldeb? Ydy o'n gyfrifoldeb i bawb, ac i neb, yn y pen draw? Mae hyn yn bryder. Mae angen gwella atebolrwydd yn y system drwyddi draw a hynny ar frys, ac mae angen adolygu'r trefniadau a'r angen am yr holl haenau er mwyn gwneud cydgordio'r gefnogaeth yn well, sef un o amcanion y prif arolygydd.

Troi at adroddiad Donaldson ar yr arolygiaeth dysgu—prif fyrdwn hwnnw oedd y dylai fod gan Estyn fwy o rôl o ran cefnogi'r broses o wella ysgolion. Hynny yw, y dylai Estyn fod yn fwy gweithredol yn yr ymateb, yn hytrach na dim ond yn y diagnosis. Ac mae yna ddadleuon o blaid ac yn erbyn hynny, a'r bore yma, fe gafwyd datganiad gan y Llywodraeth yn dweud eu bod nhw yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad yna.

Ond un cyhoeddiad heddiw sydd wedi dychryn pawb ydy hwn, sef y bydd yna fwy o arolygiadau, ac Estyn, nid Donaldson, sydd wedi sôn am hyn. Mae o wedi llwyddo i gynddeiriogi bron pawb sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru. Doedd yna ddim cyfeiriad at hyn yn adroddiad Donaldson, hyd y gwelaf i, ac os rhywbeth, mae'r adroddiad yn rhoi'r argraff mai symud i'r cyfeiriad arall sydd angen, efo'r pwyslais ar ddilysu hunanarfarnu, nid ar fwy o arolygu. Ond mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion, ac felly, os ydy'r Llywodraeth am weld Estyn yn rhoi mwy o gefnogaeth i'n hysgolion ni, yna mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: beth ydy pwrpas y consortia? Mae'n rhaid edrych o ddifri ar eu rôl nhw os ydy Estyn yn mynd i fod yn cymryd rhai o'r cyfrifoldebau drosodd.

Un arall o ganfyddiadau Estyn oedd hyn: mae arweinyddiaeth yn ddigonol ac angen gwelliant mewn pedair o bob 10 ysgol, ac yn anfoddhaol mewn rhyw un o bob 10 ysgol. Mae'r ymyrraeth sy'n dod o wahanol gyfeiriadau yn gwneud swydd pennaeth yn un anodd iawn. Dyma reswm arall dros greu llai o haenau yn y system, a chreu llinellau atebolrwydd cadarn drwyddi draw. A dwi ddim yn credu y gellir edrych ar y problemau sy'n cael eu hamlygu gan adroddiad Estyn heb edrych ar y cyd-destun ehangach sy'n wynebu ein hysgolion a'n hathrawon. Does yna ddim dwywaith fod y proffesiwn dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, a fedrwn ni ddim sôn am godi safonau heb sôn am gyllid ac adnoddau. Yn ôl y Llywodraeth ei hun, mae diffyg yng nghyllideb dwy o bob pum ysgol a arolygwyd. Mae'n rhaid inni unioni'r sefyllfa yma, ac mae angen i'r Llywodraeth gynnal adolygiad brys o gyllido ysgolion. Ydy'r lefel cyllido yn ddigonol? A beth am y sleisen o'r gacen sy'n mynd at addysg? Oes digon ohono yn mynd at ein hysgolion? Gobeithio y bydd y drafodaeth prynhawn yfory yn amlygu rhai o'r problemau yma a bod gwaith y pwyllgor plant a phobl ifanc hefyd yn bwydo i'r drafodaeth honno.

Dwi'n gorffen ar hyn: gwaith y Llywodraeth yma ydy edrych yn hir ac yn galed ar y dystiolaeth a dod i gasgliadau a gweithredu yn ôl y dystiolaeth.

17:25

Hoffwn ddiolch i Brif Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru am ei adroddiad blynyddol. Mae'n gerdyn adroddiad ar berfformiad system addysg Cymru, ac  ymddengys nad ydym yn gwneud yn ddigon da. Er y bernir bod wyth o bob 10 o ysgolion cynradd yn dda neu'n well, dim ond 8 y cant o ysgolion cynradd Cymru a fernir yn ysgolion rhagorol. Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu cael mynd i ysgol ragorol, ac ni ddylai safon eich addysg ddibynnu ar ble mae eich rhieni yn dewis byw, os oes ganddynt ddewis. Mae llawer o deuluoedd heb y dewis hwnnw hyd yn oed.

Ac mae'r rhagolygon ar gyfer ein hysgolion uwchradd yn fwy llwm o lawer—dim ond tua hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru a fernir i fod yn dda neu'n well, ac roedd angen camau dilynol ar hanner yr ysgolion uwchradd a arolygwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf tra rhoddwyd dwy mewn mesurau arbennig. Y broblem, yn ôl yr Athro David Reynolds, cyn gynghorydd addysg i Lywodraeth Cymru a'r DU, yw ein bod yn cyflwyno cwricwlwm newydd ar yr un pryd â'r ymgais i wella safonau mewn system lle nad yw popeth yn wych o'i chymharu â safonau rhyngwladol. Mae safonau wedi gwella ychydig, ac wrth gwrs mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond mae gennym un o'r systemau addysg sy'n perfformio waethaf yn y byd. Rydym yn siomi cenedlaethau'r dyfodol ac yn condemnio ein hunain i nychu ar waelod y tablau cynghrair economaidd. Rydym yn atal hanner pobl ifanc Cymru rhag cyflawni eu gwir botensial. Rydym yn gwybod ers blynyddoedd nad ydym yn helpu ein dysgwyr disgleiriaf, ond, fel yr amlygwyd gan adroddiad y prif arolygydd, nid ydym yn cyfarfod ag anghenion disgyblion ar draws pob ystod oedran a galluoedd.

Cefais y pleser o fod yn bresennol yn agoriad swyddogol Ysgol Carreg Hir yn fy rhanbarth i, ysgol gynradd newydd sy'n deillio o uno tair ysgol gynradd: Bryn Hyfryd ac Ynysymaerdy, ac un a oedd mewn mesurau arbennig, Llansawel. Rhaid imi ddweud fy mod wedi fy mhlesio'n fawr gydag adeiladau'r ysgol newydd, y staff a'r disgyblion. Mae'r disgyblion fel petaent yn ffynnu yn yr amgylchedd newydd, ac roedd hyn yn ffafriol i'w dysgu ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yr ysgol newydd yn llawer gwell na'i gwahanol rannau, ac y bydd, diolch i'r staff, disgyblion a rhieni, yn cael ei barnu'n rhagorol pan ddaw arolygwyr Estyn i ymweld â hi.

Fodd bynnag, nid yw ein plant a'n pobl ifanc i gyd yn ddigon ffodus o gael amgylcheddau dysgu modern. Mae llawer iawn o ddisgyblion yn cael eu gwasgu i ddosbarthiadau sy'n dadfeilio gydag offer sy'n hen-ffasiwn ac wedi torri. Mae athrawon a disgyblion fel ei gilydd yn gwneud eu gorau, ond mae tanfuddsoddi enfawr a thoriadau yn y gyllideb wedi gadael eu hôl. Cyfarfûm yn ddiweddar â phennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd i drafod dyfodol addysg cyfrwng Cymraeg ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont. Cafodd yr ysgol adroddiad da gan Estyn a sgoriodd bum seren yn y 'Real Schools Guide', ond esboniodd ei bod yn mynd yn anoddach ac yn anoddach ymestyn y gyllideb i fynd mor bell ag sydd ei angen er mwyn cynnal y safonau hyn. Mae'r diffygion yn yr adeiladau a'r tanfuddsoddi dirfawr yn gadael eu hôl, ac nid yw ei brofiad ef yn unigryw o bell ffordd. Mae'r gwariant fesul disgybl lawer is nag yn Lloegr neu'r Alban, ac mae wedi gostwng dros £300 yn ystod y degawd diwethaf. Does dim syndod fod Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru wedi eu gorfodi i ysgrifennu am yr argyfwng ariannu difrifol ac effaith hynny ar ysgolion Cymru.

Yn anffodus, os na fyddwn yn datrys yr argyfwng ariannu, bydd mwy a mwy o ysgolion yn sicr o fethu. Mae pob person ifanc yng Nghymru yn haeddu cael mynychu ysgol ragorol fel Ysgol Carreg Hir, yn haeddu derbyn addysg o'r radd flaenaf ac yn haeddu cael eu meithrin a'u herio i ddarganfod eu gwir botensial. Felly, dylai'r adroddiad hwn gan Estyn ein deffro, gan ein bod yn methu pobl ifanc Cymru mewn llawer o ardaloedd, ac mae'r cerdyn adroddiad yn dweud, 'rhaid gwneud yn well.'

17:30

A gaf i ddechrau, Dirprwy Lywydd, drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniad y prynhawn yma? Os caf i ddechrau drwy ymdrin â rhai o'r sylwadau a wnaed gan Suzy Davies, nid fi yw'r un sy'n hawlio bod y diwylliant o gydweithrediad a hunanwelliant yn symud yn gyflym. Dyna adroddodd y prif arolygydd ei hun, a'r symudiad hwnnw tuag at athrawon yn gweithio gydag athrawon eraill yn eu hysgol eu hunain ac ysgolion yn gweithio gydag ysgolion eraill yn y diwylliant hwnnw o gydweithio a hunanwelliant fydd mewn gwirionedd yn ysgogi'r canlyniadau. Nid ymyrraeth o'r brig i lawr gan y Llywodraeth yn unig sy'n gallu symud y system a symud y nodwydd yn y ffordd y mae'n rhaid i ni ei wneud.

Nawr, mae'r Aelod yn iawn i ddweud ein bod ni'n rhoi mwy o bwyslais ar hunanwerthuso, ac yn y gorffennol, nodwyd gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd nad yw hyn wedi bod yn gryfder yn ein system. A dyna pam mae Estyn yn gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i lunio pecyn cymorth hunanarfarnu i sicrhau bod cysondeb yn yr ymagwedd at hunanwerthuso ar draws y system addysg yng Nghymru a bod y cysondeb hefyd yn ymagwedd gadarn at hunanarfarnu. A diben arolygiaeth ddiwygiedig yw i Estyn allu dilysu gwaith hunanwelliant ysgol. Os yw Estyn yn ffyddiog bod yr ysgol honno yn gwneud hyn yn dda a bod eu hunanarfarnu yn gadarn ac yn ysgogi newid, yna bydd gan yr ysgol honno fwy o ymdeimlad o fod wedi haeddu awtonomiaeth cyn bydd Estyn yn dod yn ôl. Petai gan Estyn bryderon ynglŷn â'r ymagwedd honno, yna fe fydden nhw yn ôl yn yr ysgol yn amlach, a dyna sut y byddwn ni'n ysgogi'r system i symud ymlaen.

Nawr, gwnaeth yr Aelod bwynt ynghylch lleoliadau nas cynhelir, ac nid yw'r adroddiad ei hun yn dweud pa un a yw'r gostyngiad yn y niferoedd yn beth da neu'n beth gwael. Beth y mae'n ei ddweud—ac mae'r Aelod yn iawn i nodi—yw nad lle'r lleoliadau a gynhelir yn unig yw cynnig rhagoriaeth i'n dysgwyr ieuengaf. Yn wir, gwnaeth y prif arolygydd sylw ynglŷn ag ansawdd ein sector nas cynhelir, a'r ddarpariaeth nas cynhelir ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf yw un o gryfderau ein system.

Byddwch yn gwybod erbyn hyn, ac fe wnaethoch chi gyfeirio ato, ein bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau bod mwy o undod rhwng y cynnig gofal plant ochr yn ochr â chyfnod sylfaen, gyda chyfle ar gyfer cyd-leoli er mwyn ei gwneud hi mor rhwydd â phosib i rieni, a byddwch hefyd yn ymwybodol bod Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru nawr yn gweithio ar arolygiadau ar y cyd ar gyfer y sefydliadau hynny hefyd, sydd, rwy'n credu unwaith eto, yn well ffordd o symud ymlaen.

Os caf i droi at Siân Gwenllian, soniodd hi am atebolrwydd: ble mae atebolrwydd yn y system a gwaith pwy yw bod yn atebol? Wel, y gwir amdani yw bod cyfrifoldeb ar wahanol lefelau, ac felly y dylai hi fod. Mae atebolrwydd yn dechrau gydag atebolrwydd proffesiynol pob person unigol sy'n gweithio yn ein system addysg—yr atebolrwydd proffesiynol hwnnw sy'n ysgogi cymaint o'n haddysgwyr i sicrhau eu bod yn ymdrechu bob dydd i wneud gwaith gwych ar gyfer y plant y maen nhw'n gweithio â nhw. Mae'r llinell gyntaf o atebolrwydd, felly, ar ôl hynny, yn gorwedd gyda'n llywodraethwyr ysgol sydd, o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos, yno i ddwyn i gyfrif uwch reolwyr eu hysgolion, y maen nhw'n eu llywodraethu. Wrth gwrs, mae gan ein consortia rhanbarthol, ein gwasanaethau gwella ysgolion ac awdurdodau addysg lleol gyfrifoldeb dros ysgolion unigol yn eu hardaloedd, ond hefyd ar sail ranbarthol. Mae Estyn yno i roi sicrwydd annibynnol ar gyfer y system yn ei chyfanrwydd, ac mae Llywodraeth Cymru yn atebol am ansawdd y system yn ei chyfanrwydd.

Nawr, mae angen inni symud i sefyllfa lle mae Estyn yn rhoi mwy o gymorth ar gyfer gwella ysgolion pan fo Estyn wedi canfod ysgol nad yw mor dda ag y gallai fod. Gadewch i mi roi enghraifft i chi o pam mae hyn mor angenrheidiol. Rwy'n meddwl yn ôl am ysgol yn fy etholaeth i, a oedd yn cael ei hystyried, am flynyddoedd lawer, yn ysgol a oedd angen mesurau arbennig. Bob tro y daeth Estyn i'r ysgol honno, cafwyd adroddiad ganddyn nhw cyn iddyn nhw ddiflannu a dod yn ôl sawl mis yn ddiweddarach gyda grŵp o arolygwyr gwahanol yn gofyn i'r ysgol neidio drwy gyfres wahanol o gylchoedd. A phan oedd yr ysgol yn methu â gwneud hynny, aethant i ffwrdd unwaith eto, dim ond i ddod yn ôl fisoedd yn ddiweddarach gyda gwahanol grŵp o bobl unwaith eto. Nawr, nid dyna'r ffordd yr wyf i eisiau i'n Harolygiaeth ni ymddwyn. Mae angen inni gael Estyn, ein harolygwyr, o amgylch y bwrdd gyda'n gwasanaethau gwella ysgolion, gyda'n hawdurdodau addysg lleol, i greu cynllun ar gyfer yr ysgol honno ac i weithio gydag eraill i sicrhau bod y cynllun hwnnw yn cael ei gyflawni a bod yr ysgol honno yn symud allan o gategori yn gynt nag y mae rhai o'n hysgolion ni yn ei wneud ar hyn o bryd. Ac mae'n weledigaeth yr wyf i'n ei rhannu â'r Prif Arolygydd, oherwydd fy mod i'n credu bod gan Estyn fwy i'w wneud nag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd.

O ran amlder arolygiadau, mae'r mater yn deillio o'r ffaith eich bod chi'n cael rhoi eich plentyn i mewn i'r system addysg yng Nghymru ar hyn o bryd, ac y gall eich plentyn fynd drwy'r system addysg drwy ei yrfa'n gyfan gwbl heb fod yn destun arolygiad ysgol. Yr hyn a wyddom yw bod rhai ysgolion sydd mewn categori yn gallu gwella'n gyflym iawn, ond gwyddom hefyd y gall ysgolion da waethygu'n gyflym iawn, ac mae'r system hon a gynigir heddiw ac yr ymgynghorir arni yn y man yn gyfle inni roi gwell data amser real a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn eu hysgolion i rieni. Efallai nad yw Plaid Cymru eisiau—. Fe ddywedon nhw eu bod eisiau mwy o atebolrwydd—efallai nad yw Plaid Cymru eisiau'r atebolrwydd hwnnw, ond credaf fod rhieni eisiau gweld mwy o ddata mwy amserol a chyfredol ynghylch yr hyn sy'n mynd ymlaen yn ysgolion eu plant nag sydd ar gael ar hyn o bryd. Ac mae'n rhaid inni symud i ffwrdd—. Mae'n rhaid i Blaid Cymru gydnabod ein bod ni'n symud i fath gwahanol o system arolygu, ac rydym yn gwneud hyn i'n helpu ni i wneud yn siŵr bod ein plant i gyd yn cael addysg ardderchog.

A gaf i ddweud, ynghylch Caroline Jones—? Mae hi'n dweud bod gennym ni'r system waethaf yn y byd, ond rwy'n falch iawn ei bod hi wedi mynd ymlaen i egluro hynny drwy roi rhai enghreifftiau o ysgolion gwych yn ei rhanbarth ei hun sy'n gwneud gwaith da iawn. Mae hi'n dweud nad ydym ni'n gwneud digon dros ein myfyrwyr mwy galluog a thalentog. Rydym wedi cyflwyno rhaglen fwy galluog a thalentog, rydym yn ymestyn ein rhaglen Seren nid yn unig i fyfyrwyr chweched dosbarth a dysgwyr ôl-16, ond i ddysgwyr iau. Ac o ran adeiladau ysgolion, bydd band A, sy'n dod i ben, a band B, sydd i ddechrau cyn bo hir, yn gweld y buddsoddiad mwyaf yn ein rhaglen adeiladau ysgolion a cholegau ers y 1960au. A gaf i —

17:40

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch yn fawr iawn. Roeddwn yn gwrando ar yr hyn yr ydych newydd fod yn ei ddweud, yn arbennig ynghylch cyfraniad Caroline Jones. Rwyf yn dal i gredu nad ydych chi wedi rhoi ateb i ni pam mae gennym ni gymaint o ysgolion sy'n methu'n barhaus—a defnyddiaf 'methu' yn ystyriol. Mae carfan arbennig o ysgolion sydd dal yn methu â symud allan o fesurau arbennig ac ati, er gwaethaf blynyddoedd a blynyddoedd o ymyrraeth. Beth yw e?

Cytunaf â chi fod rhai ysgolion yn ymddangos yn y categorïau coch ac yng nghategorïau Estyn yn rhy aml, ac mae'n debyg y gallem ni i gyd, rhyngom, enwi'r ysgolion hynny, a dyna pam y cyfeiriais i yn fy araith at newid swyddogaeth Estyn fel nad ydyn nhw yno ddim ond i feirniadu—mae'n rhaid iddyn nhw fod yn rhan o'r cynllun gwella ysgolion hwnnw, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn fwy rhagweithiol o ran gwella ysgol na dim ond beirniadu—a pham yr wyf wedi dweud y byddwn yn adolygu sut y gallwn wneud ymyriadau mwy effeithiol ar gyfer yr ysgolion hynny, oherwydd nid yw'n iawn fod yr ysgolion hynny yn cael eu gadael yn y sefyllfaoedd hynny, weithiau am flynyddoedd. Mae'n rhaid inni fod â ffordd fwy effeithiol o symud yr ysgolion hynny yn gynt nag a wnawn ar hyn o bryd, ac fe wnes i gydnabod hynny yn fy araith agoriadol. Ac mae hynny'n ymwneud â herio awdurdodau lleol am eu pwerau ymyrraeth, a phan nad ydyn nhw'n barod i ddefnyddio'r pwerau ymyrraeth, yna naill ai cael gwared ar gyrff llywodraethu, cael gwared ar gyfundrefnau ariannol dirprwyedig neu gael ymyraethau eraill, yna bydd yn rhaid i ni, fel Llywodraeth Cymru, wneud hynny.

Os caf i gloi, oherwydd fy mod i ar fin rhedeg allan o amser. Yn fy araith i gloi roeddwn yn mynd i drafod, yn hytrach nag ymateb i gwestiynau, rai o'r materion a godwyd yn fy natganiad ysgrifenedig y prynhawn yma. Mae diwygiadau addysg sylweddol yn digwydd. Ni all Estyn ddianc rhag y diwygiadau hynny. Rwy'n falch fy mod yn gweithio gyda'r prif arolygydd i weithredu canfyddiadau adolygiad Graham Donaldson o arolygiaeth ddiwygiedig, sydd, rwy'n credu, yn hollbwysig i wireddu ein dyheadau i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad i system addysg o'r radd flaenaf. Ond fel y dywed y prif arolygydd ei hun, Dirprwy Lywydd—a hoffwn pe byddai mwy o'n Haelodau wedi cydnabod hyn y prynhawn yma—mae llawer i ymfalchïo ynddo yn ein system.

Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Bydd yn rhaid i chi weiddi 'gwrthwynebu' yn gynt ac yn llawer uwch hefyd.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Llywydd, dim ond i wneud sylw, mae fy system wedi torri am y trydydd tro heddiw, ac rwy'n hapus i bleidleisio â llaw.

Rwy'n cael ar ddeall o ffynhonnell ddibynadwy cyn belled â bod eich goleuadau'n gweithio pan fyddwn yn pleidleisio, nid oes angen y system arnoch. Felly, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf nawr yn mynd i symud at y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Iawn. Felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar Reoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y rheoliadau 41, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Felly mae'r rheoliadau wedi eu derbyn.

NDM6970 - Rheoliadau Dyletswydd Gofal Gwastraff o ran Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019: O blaid: 41, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn yn awr i bleidleisio ar y ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn, a galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 18, un wedi ymatal, 24 yn erbyn. Nid yw gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

NDM6969 - Gwelliant 1: O blaid: 18, Yn erbyn: 24, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 42, un wedi ymatal. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

NDM6969 - Gwelliant 2: O blaid: 42, Yn erbyn: 0, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

17:45

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 19, neb wedi ymatal, 24 yn erbyn. Felly, nid yw gwelliant 3 wedi ei dderbyn.

NDM6969 - Gwelliant 3: O blaid: 19, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 18, neb wedi ymatal, 25 yn erbyn. Felly nid yw gwelliant 4 wedi ei dderbyn.

NDM6969 - Gwelliant 4: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 18, neb wedi ymatal, 25 yn erbyn. Felly nid yw gwelliant 5 wedi ei dderbyn.

NDM6969 - Gwelliant 5: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 18, neb wedi ymatal, 25 yn erbyn. Felly, nid yw gwelliant 6 wedi ei dderbyn.

NDM6969 - Gwelliant 6: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM6969 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.

2. Croesawu bod y “newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a hunan-wella yn parhau ar ei raddfa cyflym”.

3. Nodi bod safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn gynnydd ar y llynedd.

4. Nodi, er bod safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion uwchradd, bod amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.

5. Yn nodi ymroddiad parhaus athrawon a staff cynorthwyol yn ein hysgolion yn eu gwaith o godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 26, 11 wedi ymatal, chwech yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6969 - Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18, cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 26, Yn erbyn: 6, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 17:46.