Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
04/10/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw’r Aelodau i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a’r cwestiwn cyntaf, Rhun ap Iorwerth.
Addysg Feddygol yng Ngogledd Cymru
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysg feddygol yng ngogledd Cymru? (OAQ51097)[W]
Diolch, Rhun. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ddatganiad ym mis Gorffennaf ynghylch addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, a oedd yn cydnabod yr angen am fwy o addysg feddygol yn yr ardal. Ein huchelgais yw cyflawni hynny drwy ddull cydweithredol sy’n seiliedig ar gydweithio agosach rhwng prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor.
Diolch, ac rwy’n sylweddoli mai i’r Ysgrifennydd iechyd rwyf wedi bod yn gofyn am addysg feddygol yn y gogledd hyd yma, ond mae’n braf cael cyfle i ofyn y cwestiwn i chi fel Ysgrifennydd addysg heddiw. Rŵan bod cytundeb cyn-gyllideb wedi sicrhau arian datblygu ar gyfer addysg feddygol is-raddedig ym Mangor, a wnewch chi fel Ysgrifennydd addysg ddweud wrthym ni pa fath o rhaglen waith fyddech chi’n dymuno ei gweld yn cael ei rhoi mewn lle i ddechrau adeiladu at gyflwyno cwrs is-raddedig llawn ym Mangor ar gyfer myfyrwyr meddygol wedi’i angori ym Mhrifysgol Bangor, a hynny mewn partneriaeth efo ysgol neu ysgolion meddygol eraill, yn ogystal â’r cam all ddigwydd yn syth o sicrhau rhagor o leoliadau i fyfyrwyr yn y gogledd?
Fel chi, Rhun, rwy’n falch ein bod wedi gallu sicrhau cyllid o £7 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf i gefnogi ein cynlluniau ar gyfer datblygu addysg feddygol israddedig yng ngogledd Cymru. Mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad yn yr hydref, a dyna yw’r bwriad o hyd, ond a gaf fi ddweud wrthych fod swyddogion yn gweithio gyda’r tri sefydliad i fwrw ymlaen â’r cynnig ac i nodi’r camau ymarferol sy’n angenrheidiol er mwyn ei roi ar waith. Y tro diwethaf i’r swyddogion gyfarfod â phrifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor, ynghyd â’r ddeoniaeth, oedd ar 21 Medi.
Nid yw nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn yng ngogledd Cymru wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, er y cynnydd yn y boblogaeth, a bod nifer y contractau meddygon teulu wedi treblu, ac mae nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu yng ngogledd Cymru wedi bod ar y lefel isaf erioed ers degawd bellach. Yn y Cynulliad dair blynedd yn ôl, galwodd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru am ailsefydlu’r cyswllt gydag ysgol feddygol Lerpwl, o ble yr oedd llawer wedi dod i weithio yng ngogledd Cymru ac wedi cael eu hyfforddi yma fel meddygon ifanc. A phan ofynnais i’r Prif Weinidog ynglŷn â hyn, dywedodd ei bod yn hynod o bwysig fod unrhyw ysgol feddygol yn cydweithio’n agos ag eraill er mwyn sicrhau y cedwir y cynaliadwyedd hwnnw yn y dyfodol. Sut rydych yn ymateb, felly, i’r galwadau parhaus gan feddygon teulu ar bwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru am yr atebion rydych yn eu hargymell i ymgorffori cysylltiadau cryfach â Lerpwl a Manceinion mewn perthynas â’r cyflenwad o feddygon newydd a meddygon ifanc i ardal gogledd Cymru?
Diolch i Mark am ei gwestiwn, ond nid mater ar gyfer fy mhortffolio i yw addysg feddygol ôl-raddedig, ond ar gyfer fy nghyd-Aelod Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Ond rwyf bob amser yn awyddus iawn i brifysgolion a sefydliadau Cymru geisio cydweithio ble bynnag y gallant, boed hynny yng Nghymru neu’r tu allan i Gymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y darganfuom yn y pwyllgor iechyd, mae pobl ifanc yng Nghymru sy’n astudio meddygaeth yng Nghymru yn fwy tebygol o aros yng Nghymru, a dyna pam ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn gwella cyfleoedd addysg feddygol yng ngogledd Cymru. Nid yn unig fod prinder meddygon a nyrsys yng Nghymru, ond mae radiolegwyr yn brin iawn hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i annog mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa mewn diagnosteg feddygol, a beth a wnewch i gynyddu nifer y lleoedd a chyfleoedd hyfforddi ym maes radioleg?
Mae’r Aelod yn gwneud pwynt dilys iawn, ac ers fy amser ar y pwyllgor iechyd, a fwynheais yn fawr, mae materion sy’n ymwneud â diagnosteg feddygol yn hanfodol, wrth gwrs, os ydym am fynd i’r afael â phroblemau gydag amseroedd aros ar gyfer y profion hynny. Rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn parhau i weithio’n agos ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn cefnogi addysg feddygol a phroffesiynau sy’n gysylltiedig â meddygaeth, ac rydym yn buddsoddi dros £350 miliwn bob blwyddyn, gan gynorthwyo mwy na 15,000 o fyfyrwyr a hyfforddeion gyda’u haddysg a’u hyfforddiant mewn ystod o broffesiynau gofal iechyd ledled Cymru, gan gynnwys, fel y dywedais, meddygon a phroffesiynau eraill.
Lefelau Cyrhaeddiad mewn Ysgolion
2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r effaith y bydd cynyddu cyfranogiad rhieni yn ei chael ar lefelau cyrhaeddiad mewn ysgolion? (OAQ51127)
Diolch, David. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall ymgysylltiad teuluol gael dros chwe gwaith yn fwy o ddylanwad ar gyrhaeddiad addysgol plentyn na gwahaniaethau yn ansawdd yr ysgol. Mae ein pecyn cymorth Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd a’n hymgyrch Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref yn parhau i sicrhau bod ymgysylltiad teuluol â dysgu plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ymarferwyr.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n ofynnol i ysgolion gynnwys manylion yn eu cynlluniau datblygu ynglŷn â sut y byddai’r corff llywodraethu yn ceisio bodloni targedau gwella ysgolion ar gyfer y flwyddyn drwy weithio gyda theuluoedd disgyblion yn yr ysgol. Mewn arolwg gan PTA Cymru, canfuwyd mai 66 y cant yn unig o rieni a ddywedodd fod ysgol eu plentyn yn cyfathrebu’n dda â hwy, o gymharu â 76 y cant yng Ngogledd Iwerddon a 73 y cant yn Lloegr. Felly, mae’r awdurdodaethau hynny o’n blaenau yn hynny o beth. Rwy’n pryderu’n benodol ynghylch y modd y mae ysgolion yn cysylltu â gofalwyr maeth, sydd, yn amlwg, yn camu i rôl rhieni. Credaf fod hwn yn fater pwysig iawn ac y dylid ei flaenoriaethu mewn ysgolion i sicrhau eu bod yn ymgymryd â’r cyswllt hanfodol hwn yn effeithiol.
Diolch, David. Rwy’n parhau i edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o adeiladu’r berthynas rhwng ysgolion a rhieni, o ystyried y rôl hanfodol y gallant ei chwarae wrth wella cyrhaeddiad. Mae’r pecyn cymorth Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd, fel y dywedais, wedi cael ei groesawu’n fawr gan lawer o ymarferwyr mewn ysgolion. Mae’r consortia’n gweithio gydag ysgolion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio.
Rydych yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â gofalwyr maeth. O beth o’r gwaith achos yn fy etholaeth i, rwy’n gwybod y gall gofalwyr maeth ei chael hi’n anodd sicrhau lleoedd i blant a osodir yn eu gofal weithiau os ydynt wedi dod o’r tu allan i’r sir. Felly, diolch am godi’r mater pwysig hwn a byddaf yn ymchwilio ymhellach gyda swyddogion i weld beth arall y gallwn ei wneud yn y maes pwysig hwn ar gyfer y grŵp pwysig hwnnw o blant a’u gofalwyr.
Diolch i David am godi hyn gan y credaf fod cyfranogiad rhieni yn rhan annatod o lwyddiant yr ysgol. A fyddai’n cydnabod, fodd bynnag, fod rhai ysgolion yn wynebu heriau mwy sylweddol o ran ymgysylltu â rhieni, ac yn gyffredinol hefyd o ran ymgysylltiad rhieni â’u plant? Efallai y gallai roi sylwadau ar ba fesurau y gall eu rhoi ar waith o fewn Llywodraeth Cymru i oresgyn y rhwystrau hynny? Mae hi wedi ymweld â rhai o’r ysgolion yn fy etholaeth—a chroesawaf hynny—sy’n wynebu’r heriau hyn.
A hoffai roi sylwadau hefyd ar bwysigrwydd rhaglenni Dechrau’n Deg yn cychwyn yr ymgysylltiad cynnar hwn â rhieni, gan fod yn rhan o fywydau eu plant hefyd? Roedd yn bleser mynychu agoriad dwy ganolfan Dechrau’n Deg newydd yn fy etholaeth yr wythnos diwethaf yn Lewistown ac yn Garth. Dyma’r deuddegfed ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Maent yn cael cryn dipyn o effaith o ran ymgymryd â’r rôl honno o gynnwys y rhiant ym mywydau eu plant, ac yn y pen draw, ym mywyd yr ysgol hefyd a’u haddysg yn y dyfodol.
Diolch, Huw. Nid yw Dechrau’n Deg yn rhan o fy mhortffolio, ond rydych yn llygad eich lle i dynnu sylw at ei rôl hollbwysig. Rwy’n cytuno mai po gynharaf y gallwn ymyrryd ym mywydau plant i sicrhau budd cadarnhaol, y cyfleoedd gorau y gall dysgwyr o gefndiroedd mwy difreintiedig eu cael yn ddiweddarach yn eu bywydau. Dyna pam y cyflwynasom y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer y blynyddoedd cynnar—mae’n ddrwg gennyf, y grant datblygu disgyblion ydyw bellach—ym mis Ebrill 2015 i ddarparu cymorth ychwanegol i’n dysgwyr ieuengaf, gan gynnwys cymorth gyda datblygu lleferydd ac iaith a datblygiad cynnar sgiliau llythrennedd, sy’n gallu bod yn heriol weithiau. Rydym yn ategu’r gwaith hwnnw, er enghraifft, drwy gynorthwyo BookTrust Cymru i ddarparu deunydd darllen ar gyfer teuluoedd yn ogystal â’r ymgyrch ‘Magu plant. Rhowch amser iddo’ a’n hymgyrch Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref, lle y mae gan deuluoedd fynediad at adnoddau rhad ac am ddim i’w helpu i helpu eu plant.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi cydnabod wrthyf yn y Siambr hon—ac mae’r Prif Weinidog, a phob tegwch, wedi dweud yr un peth—nad yw’r Llywodraeth yn gwneud cystal ag yr hoffai o ran athrawon cyflenwi yma yng Nghymru. Wrth gwrs, cyhoeddodd y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad, yn awgrymu camau gweithredu yn y Cynulliad diwethaf. Sefydlwyd tasglu’r model cyflenwi gweinidogol y llynedd a chyflwynasant eu hadroddiad ar ddechrau’r flwyddyn. Gyda’r sector yn teimlo’n fwyfwy rhwystredig oherwydd y diffyg cynnydd, awgrymai eich llythyr diweddaraf at y pwyllgor addysg yr wythnos diwethaf y gallai fod yn ddwy flynedd arall yn awr cyn y bydd model newydd yn cael ei ddatblygu, a’i roi ar waith yn y pen draw. Mae hynny ymhell dros bedair blynedd wedi i’r Llywodraeth dderbyn yr holl argymhellion yn adroddiad y pwyllgor hwnnw yn ôl yn 2015. Felly, a ydych yn cydymdeimlo â rhwystredigaeth y sector yn hyn o beth, ac a oes ganddynt achos cyfiawn dros fod yn ddig ynglŷn â pha mor araf y mae’r Llywodraeth yn ymgymryd â’r gwaith o ddiwygio?
Llyr, mae mater athrawon cyflenwi yn un cymhleth a sensitif. Fe fyddwch yn gwybod bod y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan y Gweinidog blaenorol wedi cydnabod yn eu hadroddiad eu hunain, a gyflwynwyd i mi, nad oes un ateb unigol a all fynd i’r afael â mater athrawon cyflenwi. Nid yw’n deg dweud nad oes unrhyw gamau wedi eu cymryd. Rwyf wedi sefydlu grŵp i ystyried canfyddiadau’r adroddiad gorchwyl a gorffen a’u rhoi ar waith. Felly, er enghraifft, mae gan athrawon cyflenwi fynediad at Hwb bellach, lle nad oedd hynny’n wir o’r blaen. Rydym yn gweithio ar drefniadau hyfforddi newydd ar gyfer athrawon cyflenwi. Mae gennym drefniadau cydweithredol newydd ar waith mewn nifer o awdurdodau lleol mewn perthynas ag athrawon newydd gymhwyso sy’n gweithio ar y llwybr cyflenwi er mwyn eu cefnogi’n well yn eu rôl. Ac rydym yn parhau i edrych ar fodelau newydd o ddarparu athrawon cyflenwi.
Fel y dywedais yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, mewn cwestiwn a ofynnoch bryd hynny, rwy’n credu, mae swyddogion wedi bod yng Ngogledd Iwerddon yn ddiweddar i edrych ar brofiad Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, hyd nes bod y broses o ddatganoli cyflog ac amodau athrawon wedi’i chwblhau, rydym wedi ein cyfyngu braidd yn ein gallu i gyflwyno’r model newydd arloesol yr hoffwn ei weld.
Wel, mae etholwr wedi cysylltu â mi—ac roeddech chi’n sôn am gyflog ac amodau—ac roedd hi’n ennill £115 y dydd fel athrawes gyflenwi. Mae hi bellach wedi cael llythyr gan ei hawdurdod lleol yn dweud bod yn rhaid i bob ysgol weithio drwy’r asiantaeth athrawon cyflenwi breifat, New Directions, gydag ychydig iawn o eithriadau. Ac mae hi’n dweud wrthyf y bydd hynny’n golygu y bydd ei chyflog yn gostwng i £85 y dydd, gan fod New Directions yn cadw oddeutu 30 y cant o’r arian a delir gan ysgolion am athrawon cyflenwi. A oes unrhyw syndod fod prinder cynyddol o athrawon cyflenwi, yn enwedig mewn rhai pynciau? A ydych yn derbyn bod ein hathrawon cyflenwi yn haeddu gwell cynnig a chyflog tecach?
Mater i ysgolion unigol yw cyflogi athrawon cyflenwi. Nid oes yn rhaid i ysgolion fynd drwy’r gweithdrefnau unigol hynny o reidrwydd. Anogir awdurdodau lleol i ddefnyddio trefniadau’r consortia, gan fod hynny’n rhoi rhywfaint o sicrwydd inni, er enghraifft, ynglŷn â gwiriadau ar gyfer yr ymarferwyr unigol a all fod yn gweithio yn ein hysgolion. Un o’r problemau a welsom gyda’r grŵp gorchwyl a gorffen yw nad yw rhai o’r sefydliadau llai o faint sy’n trefnu ac yn darparu athrawon cyflenwi yn dilyn rhai o’r gwiriadau sylfaenol yr hoffem sicrhau eu bod yn digwydd yn ein hysgolion.
Felly, fel y dywedais, yn y pen draw, ceir model ar gyfer ysgolion unigol, ond buaswn yn disgwyl bod yr holl amddiffyniadau priodol ar waith ar gyfer ein gweithlu athrawon cyflenwi. Yr hyn sy’n bwysig i mi yw ein bod yn defnyddio athrawon cyflenwi pan fo angen, ond nad yw athrawon cyflenwi yn dod yn ddewis diofyn mewn llawer o’n hysgolion, ac mae hynny’n amharu ar ddysgu, o bosibl, ac yn effeithio ar safonau.
Wel, nid ydych wedi ateb y cwestiwn ynglŷn ag a ydynt yn cael cynnig teg yn hyn o beth. Oherwydd mae athro cyflenwi arall yn dweud wrthyf ei fod yn ystyried rhoi’r gorau i swydd y mae wedi’i gwneud ers 18 mlynedd oherwydd y gostyngiad sylweddol y mae’n ei wynebu yn ei gyflog. Ac yn y cyfamser, wrth gwrs, mae’n dweud wrthyf ei fod yn gweld New Directions yn talu difidend o £100,000 yr un i’w gyfarwyddwyr, a chyfran mewn difidend pellach o £430,000 gan riant-gwmni’r cwmni. Ar yr union adeg y mae ein hysgolion yn dibynnu fwyfwy ar athrawon cyflenwi am eu gwasanaethau a’u cymorth, rydych yn gwthio’r posibilrwydd o ddiwygio ddwy flynedd, efallai tair blynedd, ymhellach i’r dyfodol. Nawr, yn y cyfamser, mae cyflogau athrawon cyflenwi yn gostwng. Felly, a ydych yn credu ei bod hi’n iawn fod asiantaeth breifat yn mynd â thraean o gyflog athrawon cyflenwi?
Fel y dywedais, mater i’r ysgolion yw trefniadau cyflogi athrawon cyflenwi unigol. Un o’r enghreifftiau mwy diddorol o fodel amgen a ystyriwyd gan y grŵp gorchwyl a gorffen yw’r model cydweithredol a sefydlwyd gan yr athrawon eu hunain yn ne-orllewin Lloegr, ac rwy’n awyddus iawn i weld a oes unrhyw wersi y gellir eu dysgu o hynny.
O ran defnyddio asiantaethau preifat, mae hwnnw’n un o’r rhesymau pam ein bod wedi sefydlu’r trefniadau consortia newydd hyn gydag awdurdodau lleol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso, fel mai’r awdurdodau lleol, mewn gwirionedd, sy’n gyfrifol am leoli athrawon cyflenwi yn yr ardaloedd hynny. Ac mae’r mathau hynny o fodelau, a’r contract cymdeithasol sydd gennym rhyngom ni fel Llywodraeth Cymru a’n gweithlu addysgu, yn un rwy’n awyddus i adeiladu arno.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yr haf hwn, cafwyd y canlyniadau TGAU gwaethaf yng Nghymru ers degawd, gyda’r cyfraddau pasio ar eu lefelau isaf ers 2006. Mae hynny’n rhoi tystiolaeth bellach inni fod gweinyddiaethau olynol o dan Lafur Cymru—a’r Llywodraeth glymblaid hon bellach—yn gwneud cam â phlant a phobl ifanc yma yng Nghymru. Beth a wnewch i wella’r sefyllfa hon?
Yr hyn rwyf am ei wneud yw gweithredu cynnwys ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl’, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac yr atebais gwestiynau yn ei gylch yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf.
Nid ydych wedi dweud beth yn benodol y byddwch yn ei wneud i wella’r canlyniadau TGAU. Un peth a fyddai’n ddefnyddiol, wrth gwrs, yw sicrhau bod gwerslyfrau TGAU ar gael yn Gymraeg i’r disgyblion sy’n dymuno sefyll eu harholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond fel y gwyddoch, mae’n debyg, o ran y fanyleb newydd ar gyfer TGAU astudiaethau crefyddol, sydd eisoes wedi’i chyhoeddi—nid oes unrhyw werslyfrau ar gael ar gyfer TGAU astudiaethau crefyddol, yn Gymraeg nac yn Saesneg. Felly, ni fyddwn yn gweld unrhyw welliannau hyd nes y bydd eich Llywodraeth yn gwneud rhywfaint o waith i sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol gan yr athrawon, a bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at yr adnoddau angenrheidiol, er mwyn codi’r safonau hyn. Rhoesoch sicrwydd inni yn y gorffennol fod y materion hyn wedi eu datrys. Rydym bellach ar ddechrau mis Hydref ac nid yw’r gwerslyfrau hyn ar gael o hyd yn y naill iaith neu’r llall, yn enwedig ar gyfer TGAU astudiaethau crefyddol. Pryd rydych yn mynd i dynnu’r ewinedd o’r blew a datrys y sefyllfa hon?
A gaf fi fod yn gwbl glir gyda’r Aelod mewn perthynas â chyfraddau pasio TGAU yr haf hwn? Ar gyfer pobl ifanc 16 oed, roedd y gyfradd a basiodd yn 66.7 y cant, ac mae hynny’n cyd-fynd â’r lefelau uchaf erioed a welsom dros y tair blynedd diwethaf. Yn bwysig i mi, mae canlyniadau ar lefel A*—y myfyrwyr sy’n cyflawni orau oll—wedi aros yn sefydlog, a chafwyd gwelliannau yng nghanlyniadau’r haf ar lefel A* i C mewn meysydd pwnc gyda nifer fawr yn eu sefyll, megis canlyniadau gwell mewn llenyddiaeth Saesneg, canlyniadau gwell mewn hanes, canlyniadau gwell mewn daearyddiaeth, ac yn bwysig, canlyniadau gwell mewn Cymraeg ail iaith.
Mae’r mater sy’n ymwneud â gwerslyfrau yn un dilys. Ni fydd Cymwysterau Cymru—wrth gwrs, mae cymwysterau hyd braich o’r Llywodraeth hon bellach—yn cymeradwyo cwrs newydd gan CBAC oni bai eu bod yn fodlon fod yr adnoddau ar gael. O ran adnoddau dwyieithog, rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn croesawu’r cyhoeddiad ddoe y bydd adnoddau ychwanegol ar gael ar gyfer cynhyrchu adnoddau cyfrwng Cymraeg, o gofio bod y Llywodraeth hon a Phlaid Cymru yn rhannu uchelgais i gynyddu adnoddau yn y maes hwnnw.
Un esgus am y canlyniadau TGAU gwael na chlywsom eu rhestru gennych, wrth gwrs—fe geisioch wneud y pwynt hwn ar sawl achlysur—yw mai TGAU newydd yw’r rhain. Ond wrth gwrs, mae gennym y Safon Uwch newydd, ac fe wellodd y canlyniadau mewn perthynas â’r Safon Uwch, er eu bod, fel y dywedais yn gynharach, wedi gwaethygu mewn perthynas â TGAU yma yng Nghymru.
Rydym wedi clywed addewidion gennych yn y gorffennol ynglŷn â sicrhau bod gwerslyfrau Cymraeg ar gael. Codwyd y materion hyn yn gynharach eleni, ac nid ydych wedi mynd i’r afael â hwy o hyd. Rwy’n derbyn eich bod wedi gwneud ymrwymiad tebyg yn awr, ond os na chyflawnwyd yr ymrwymiad gennych yn flaenorol, yn gynharach yn y flwyddyn, sut y gallwn ymddiried ynoch i gyflawni’r ymrwymiad hwnnw yn awr? Gwyddom eisoes fod yna ddysgwyr o Gymru nad ydynt yn gallu sefyll arholiadau seicoleg ac economeg eleni, gan nad yw’r arholiadau ar gael yn y Gymraeg o ganlyniad i aflerwch gan Cymwysterau Cymru, a’ch Llywodraeth yn wir am beidio â’u dwyn i gyfrif am hynny. Felly, gofynnaf ichi eto: pa bryd y byddwch yn mynd i’r afael â’r sefyllfa hon er mwyn sicrhau bod dysgwyr cyfrwng Cymraeg yn gallu sefyll eu harholiadau yn eu hiaith ddewisol a bod gwerslyfrau ar gael iddynt? Mae hyn yn ychwanegu at faich—baich gwaith—athrawon yn ein hysgolion. Fe ddywedoch eich bod am ei leihau—mae hyn yn ychwanegu ato, gan eu bod yn gorfod cyfieithu adnoddau i’w rhoi i’r plant yn eu dosbarthiadau. Mae’n annerbyniol ac mae angen gweithredu, nid geiriau caredig yn unig.
Wrth wraidd fy ymagwedd at addysg, mae’r mater o degwch. Ni ddylai unrhyw blentyn fod o dan anfantais, pa un a ydynt yn dewis astudio drwy gyfrwng y Saesneg, pa un a ydynt yn dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu ba un a ydynt yn dewis mynychu ysgol ddwyieithog. Cynheliais uwchgynhadledd yn y gwanwyn i fynd i’r afael â’r broblem hon gydag adnoddau cyfrwng Cymraeg. Cawsoch wahoddiad ac ni ddaethoch, Darren, sydd efallai’n dangos eich gwir ddiddordeb yn y pwnc. Ers hynny, rydym wedi gweithio gyda CBAC i ddarparu copïau ar-lein a chopïau electronig o adnoddau cyfrwng Cymraeg i leihau’r amser y mae’n rhaid aros amdanynt. Rydym yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a CBAC i edrych ar sut y gallwn ddatblygu diwydiant cyhoeddi Cymru er mwyn cyhoeddi ein gwerslyfrau ein hunain, yn hytrach na gorfod dibynnu ar gwmnïau cyhoeddi mawr dros y ffin yn Lloegr. Yn hollbwysig, rydym wedi gallu cytuno ar adnoddau ychwanegol rhyngom ni a Phlaid Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn.
Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, dywedodd Philip Hammond ei fod yn ystyried torri oddeutu £5,000 y flwyddyn oddi ar ffioedd dysgu mewn sefydliadau addysg uwch yn Lloegr. Felly, mae gennym sefyllfa lle y mae’n bosib y bydd y ffioedd dysgu yn lleihau yn Lloegr ac rydych wedi cyflwyno benthyciadau myfyrwyr newydd yng Nghymru. Felly, yn y bôn, bydd myfyrwyr Cymru yn edrych ar Loegr os ydynt yn gwneud hyn mewn gwirionedd, ac yn meddwl, ‘Wel, bydd gennyf lai o ddyled os af i astudio yn Lloegr’. Beth yw eich asesiad o’r newid posibl a awgrymwyd gan Philip Hammond, ac a ydych yn debygol o leihau ffioedd dysgu er mwyn achub y blaen arnynt a denu myfyrwyr yn ôl i Gymru?
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir nad yw’n credu bod y systemau addysg uwch yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu ar eu pen eu hunain, a bod yn rhaid inni ddarparu’r fframwaith ariannol a rheoleiddiol i ganiatáu i’n sefydliadau gystadlu yn ddomestig ac yn rhyngwladol. Ar y sail honno, rwy’n cadw llygad barcud ar y polisi yn Lloegr, a byddaf yn ystyried goblygiadau unrhyw newidiadau cyn cyflwyno deddfwriaeth yma yn y Siambr hon. Ar gyfer 2017 a 2018, mae lefel y ffioedd yng Nghymru ar hyn o bryd yn is na’r uchafswm a ganiateir yn Lloegr.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ôl ffigurau a roddwyd gan y BBC yn gynharach eleni, amcangyfrifir bod dyled myfyrwyr yng Nghymru oddeutu £3.7 biliwn, gyda’r ddyled gyfartalog ymysg graddedigion yng Nghymru eisoes ychydig dros £19,000. Roedd hynny cyn i chi orfodi myfyrwyr Cymru, i bob pwrpas, i ysgwyddo rhagor o ddyled. Gallwch ddweud yr eir i ddyled yn gyfnewid am yr hyn a elwir yn bremiwm graddedigion, ond gadewch i ni gofio y bydd y graddedigion hynny’n talu trethi drwy’u trwynau yn nes ymlaen yn eu bywydau fel y gweddill ohonom, felly mae hynny braidd yn gamarweiniol. Fel y dywedais, rydych wedi penderfynu cynyddu dyledion myfyrwyr Cymru hyd yn oed ymhellach. Yn y pen draw, bydd ganddynt ddyledion cymaint â morgais, a byddant yn cymryd blynyddoedd i’w had-dalu wrth iddynt ddechrau mewn bywyd. A ydych yn credu bod hyn yn helpu economi Cymru, ac os felly, sut?
Un cyhoeddiad a groesawaf yn fawr gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yw eu bod wedi cytuno i newid y trothwy ad-dalu ar gyfer benthyciadau myfyrwyr. Yn wir, ysgrifennais at Jo Johnson, y Gweinidog prifysgolion a gwyddoniaeth, yn ôl ym mis Gorffennaf ac ym mis Medi eleni i egluro fy mhryderon ynglŷn â faint o log a oedd yn cael ei dalu ar fenthyciadau, yn ogystal â mater y trothwy. Felly, croesawaf yn fawr y penderfyniad i gynyddu’r trothwy i oddeutu £25,000, a byddaf yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y gellir rhoi’r newid hwnnw ar waith yma yng Nghymru yn gyntaf. Ond yr hyn nad yw’r Aelod yn ei gydnabod yw nad benthyciadau ffioedd yw’r gwir rwystr i bobl, yn enwedig pobl o gefndiroedd tlotach, rhag cael mynediad at addysg uwch, ond yn hytrach, costau a delir ymlaen llaw. Sut rydych yn talu am eich llety? Sut rydych yn talu am eich adnoddau? A dyna pam fod y Llywodraeth hon yn cyflwyno’r system fwyaf blaengar yn Ewrop i roi cymorth i israddedigion, myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedigion.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, gallwch ei alw’n flaengar os mynnwch; gosod baich dyled ar bobl ifanc rwyf fi’n ei alw. Felly, dyna’r sefyllfa rydym ynddi beth bynnag; rydych wedi arddel eich safbwynt. Fel y dywedais, bydd y myfyrwyr hyn yn mynd i lawer iawn o ddyled ar adeg yn eu bywydau pan nad ydynt, efallai, wedi arfer trin symiau mawr o arian, rheoli cyllideb fisol neu reoli cyllideb chwarterol yn effeithiol. Felly, sut y bwriadwch sicrhau bod y myfyrwyr hyn yn cael cyngor ariannol cyfrifol a thrylwyr cyn cael benthyciad, fel nad ydynt yn gwneud pethau fel cael benthyciadau diwrnod cyflog a chardiau credyd er mwyn talu am lety a ddylai gael ei ddarparu gan y prifysgolion yn y pen draw? Felly, pa systemau cymorth y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyngor ariannol cywir cyn gwneud y penderfyniadau hyn, a pha fath o gyngor ar ddyledion a fydd ar gael i raddedigion pan fyddant yn gadael?
Gadewch imi fod yn hollol glir, oherwydd nid wyf yn siŵr a yw’r Aelod yn deall. Bydd pob myfyriwr yng Nghymru y flwyddyn nesaf yn gymwys i gael grant o £1,000 nad oes angen ei ad-dalu. Ar gyfer myfyrwyr o’n cefndiroedd tlotaf, byddant yn cael yr hyn sy’n cyfateb i gyflog byw tra byddant yn astudio i dalu am y llety y siaradoch amdano. Dyma’r system fwyaf blaengar yn Ewrop. Rydych yn llygad eich lle: mae materion yn codi o ran sut y gallwn gynorthwyo myfyrwyr i ddefnyddio’u hadnoddau’n briodol. Dyna pam rydym yn gweithio gyda’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i weld a allem ddarparu’r grantiau hynny’n fisol yn hytrach na rhoi siec fawr ar ddechrau’r flwyddyn.
Tynnwyd cwestiwn 3 (OAQ51130) yn ôl. Felly cwestiwn 4—Eluned Morgan.
Lles Disgyblion mewn Addysg
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddiad ar les disgyblion mewn addysg? (OAQ51106)[W]
Diolch, Eluned. Rydym wedi sicrhau bod lles ein dysgwyr yn ganolog i’n system addysg ac adlewyrchir hynny yn ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl’. Mae ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yn cynnwys maes dysgu a phrofiad sy’n benodol i iechyd a lles, i gydnabod ei gysylltiad pwysig â gwell cyrhaeddiad addysgol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod bod dewis y pynciau cywir i’w hastudio yn gwneud gwahaniaeth mawr i fwynhad plant yn yr ysgol, ond mae angen inni annog pobl hefyd i astudio pynciau a fydd yn arwain at swyddi da a boddhaus. Yn benodol, mae llawer iawn llai o ferched na bechgyn yn astudio pynciau STEM sy’n arwain at gymwysterau peirianneg. Y bore yma, bûm yn ymarfer gyda thîm y Scarlets—[Torri ar draws.] Rwy’n edrych fel chwaraewr rygbi, onid wyf?—gyda thîm y Scarlets a merched o Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Roeddem yn ceisio tynnu sylw at y ffaith—ar y cyd â Valero, un o’r cwmnïau peirianneg mwyaf yng Nghymru—at y ffaith mai dim ond 220 allan o gohort o 38,000 o ferched ôl-16, neu 0.6 y cant, sy’n mynd ar drywydd cymwysterau peirianyddol yng Nghymru. Ar gyfer peirianneg adeiladu, mae’r ffigurau hyd yn oed yn waeth, gyda 0.2 y cant o ferched yn astudio’r cymwysterau perthnasol. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet esbonio sut y gallwn ysbrydoli merched 12 ac 13 oed, yn arbennig, er mwyn sicrhau eu bod yn astudio pynciau STEM, nid yn unig ar lefel TGAU, ond ar gyfer Safon Uwch ac ar lefel prentisiaeth? Ac a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod mwy o beirianwyr benywaidd yn cael eu gwahodd i ysgolion fel modelau rôl i ferched astudio’r pynciau pwysig hynny?
Diolch yn fawr iawn, Eluned. Rydych yn codi pwyntiau pwysig iawn. Yr hyn a welwn wrth edrych ar y patrymau yw cwymp, ar bob cam, yn nifer y menywod ifanc sy’n penderfynu astudio gwyddoniaeth. Felly, mae cwymp rhwng TGAU a Safon Uwch, a chwymp arall pan fo pobl yn mynd i’r brifysgol, a chwymp arall ar lefel astudio uwchraddedig yn y brifysgol. Rydym yn cydnabod hynny ac rydym yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod Julie James i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i hyrwyddo cyfleoedd STEM i fenywod ifanc a sicrhau eu bod yn gwneud y cyswllt hollbwysig hwnnw rhwng astudio pynciau STEM yn yr ysgol a’r rhagolygon am gyflogau da iawn a llwyddiant yn y dyfodol. Mae hynny’n hanfodol, gwneud y cysylltiadau hynny. Rwyf bob amser yn falch iawn o ddefnyddio modelau rôl yn mynd i mewn i ysgolion lle y gallwn wneud hynny.
Un o’r materion eraill hefyd yw sicrhau bod y modd rydym yn addysgu gwyddoniaeth a phynciau STEM mor atyniadol â phosibl. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi sefydlu ein rhwydwaith rhagoriaeth newydd ar gyfer addysgu gwyddoniaeth a pheirianneg yn ddiweddar, gydag adnoddau newydd, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael profiad gwirioneddol gadarnhaol yn gynnar yn eu gyrfa academaidd, gan fod hynny’n hanfodol. Mae hynny’n golygu profiad cadarnhaol o wyddoniaeth yn yr ysgol gynradd.
Ysgrifennydd y Cabinet, dengys ffigurau Stonewall Cymru fod dros hanner y bobl ifanc Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru wedi wynebu cam-drin corfforol neu eiriol yn yr ysgol. Dim ond chwarter y disgyblion Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol a oedd wedi cael eu bwlio a ddywedodd fod yr athrawon wedi ymyrryd, ac mae hynny’n peri cryn bryder a gofid i mi ar yr un pryd. Mae Stonewall Cymru yn awyddus i’r holl staff ysgol gael eu hyfforddi i fynd i’r afael â bwlio gwrth-Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, ac i Estyn chwarae rhan weithredol yn sicrhau bod ysgolion yn creu amgylchedd diogel i ddisgyblion Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i ddiogelu disgyblion Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yn ein hysgolion yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr iawn, Oscar, am eich cwestiwn. Gadewch imi ddweud yn gwbl glir: nid wyf yn derbyn—ac mae gennyf ymagwedd dim goddefgarwch tuag at—unrhyw fwlio yn ein system addysg. Ni allwn ddisgwyl i’n plant wneud y gorau o’u cyfleoedd a gwireddu eu potensial os nad ydynt yn teimlo’u bod yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn ein hysgolion. Fe fyddwch yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn adnewyddu ei pholisïau ar hyn o bryd ar fynd i’r afael â bwlio yn ein hysgolion, yn ogystal ag edrych ar sut y gallwn gynorthwyo athrawon i weithredu’r polisi hwnnw yn eu hysgolion unigol. Un peth arall y mae’n rhaid inni ei wneud yw sicrhau bod gan ein plant fynediad at addysg rhyw a pherthnasoedd o’r radd flaenaf, gan mai addysgu plant yw’r ffordd orau o geisio atal bwlio, a dyna sut y gallwn gael effaith go iawn. Fe fyddwch yn gwybod bod yr Athro Emma Renold o Brifysgol Caerdydd yn cadeirio grŵp arbenigol ar hyn o bryd i edrych ar y mater hwn, a chredaf fod ei hadroddiad i fod i gael ei gyflwyno i mi y mis hwn.
Safonau Proffesiynol Newydd
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth? (OAQ51118)[W]
Diolch, Llyr. Mae’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth wedi’u cyhoeddi ar Dysgu Cymru ac yn y pasbort dysgu proffesiynol, sydd, fel y gwyddoch, yn cael ei gynnal gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae athrawon newydd gymhwyso sy’n dechrau eu cyfnod ymsefydlu o’r mis Medi hwn yn defnyddio’r safonau newydd, a bydd gweddill yr athrawon ac arweinwyr ysgolion yn mabwysiadu’r safonau newydd erbyn mis Medi 2018.
Diolch i chi am eich ateb. Yr hyn rydw i am holi yw: pwy ŷch chi’n credu ddylai nawr fod â pherchnogaeth o’r safonau hynny? Pwy ŷch chi’n credu ddylai fod yn eu gyrru nhw yn eu blaen a sicrhau eu bod nhw’n cael eu defnyddio yn well na’r rhai blaenorol? A fydd Cyngor Gweithlu Addysg Cymru, er enghraifft, â rôl yn hynny o beth, oherwydd ym mhob gwlad arall, y corff cyfatebol sy’n cyflawni’r rôl honno?
Llywydd, mae’r Aelod yn gofyn pwy a ddylai berchnogi’r safonau hyn: y proffesiwn. Dylai’r proffesiwn berchnogi’r safonau, ac rwy’n falch o ddweud bod cefnogaeth eang yn y proffesiwn i’r safonau newydd hyn. Mae ein cynigion newydd yn gosod pum safon allweddol newydd yn lle’r 55 o safonau blaenorol, ac wrth gwrs, mae gan Gyngor y Gweithlu Addysg rôl bwysig iawn yn helpu i’w datblygu. Ar hyn o bryd, mae’r safonau hynny wedi’u hymgorffori ym mhasbort dysgu proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg, a byddaf yn parhau i adolygu a ddylai rôl Cyngor y Gweithlu Addysg fod yn fwy yn y maes penodol hwn.
Wel, ni allwn aros i chi wneud penderfyniad ynglŷn â hyn. Gwnaed penderfyniad, mewn gwirionedd, gan y Cabinet blaenorol yn y Llywodraeth flaenorol, ac ni roddwyd y penderfyniad hwnnw ar waith o ran ymestyn cylch gwaith Cyngor y Gweithlu Addysg, sef y proffesiwn, i bob pwrpas, yng Nghymru. Rydych yn dweud y dylai’r proffesiwn berchnogi’r pethau hyn. Pam na allwch roi cyfrifoldeb i gorff y proffesiwn, Cyngor y Gweithlu Addysg, i fod yn gyfrifol am lunio’r safonau proffesiynol o hyn ymlaen? Rydych yn dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd pum safon yn unig yn cymryd lle 55 o safonau. Mewn gwirionedd, pan fydd pobl yn chwilio ar-lein i weld beth y mae’r safonau hyn ei olygu a sut y gallai hynny effeithio ar eu hymarfer, maent i bob pwrpas yn mynd trwy gyflwyniad PowerPoint â thua 100 o sleidiau.
Pan fyddwch yn gwneud penderfyniad yn y pen draw ynglŷn â chylch gwaith Cyngor y Gweithlu Addysg, a wnewch chi hefyd ystyried diffyg gallu Cyngor y Gweithlu Addysg ar ei ffurf bresennol i atal pobl rhag cofrestru pan wneir honiadau difrifol? Fel y gwyddoch, mae sawl achos wedi bod yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf o bobl yr honnir eu bod wedi cyflawni troseddau difrifol iawn weithiau. Ac er eu bod, efallai, wedi cael eu hatal rhag gweithio gan eu cyflogwyr at ddibenion cyflogaeth, maent yn parhau i fod ar gofrestr Cyngor y Gweithlu Addysg, ac nid oes unrhyw bŵer, yn wahanol i rai cyrff proffesiynol eraill, i atal eu cofrestriad er mwyn eu hatal rhag gweithio yn ein hysgolion. Credaf fod problem ddiogelu yma y mae angen mynd i’r afael â hi. A allwch gadarnhau y byddwch yn ystyried hynny hefyd pan fyddwch yn edrych ar gylch gwaith Cyngor y Gweithlu Addysg yn y dyfodol?
Rwyf am fod yn gwbl glir: mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi chwarae rhan yn natblygiad y safonau proffesiynol, ynghyd ag Estyn ac undebau’r gweithlu, ac fe gawsant yr holl wybodaeth drwy gydol y broses. Ar hyn o bryd, nid fy mwriad yw ymestyn eu cylch gwaith i safonau addysgu proffesiynol.
O ran y mater arall a godwyd gennych, mae fy swyddogion wedi gofyn i Gyngor y Gweithlu Addysg am dystiolaeth gadarn ynglŷn â pham y dylid cyflwyno’r newidiadau y maent yn eich lobïo amdanynt. A phan ddaw’r dystiolaeth honno i law, byddaf yn ei hystyried.
Un Filiwn o Siaradwyr Cymraeg
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni targed Llywodraeth Cymru o un filiwn o siaradwyr Cymraeg drwy’r system addysg? (OAQ51112)
Mae addysg yn un o’r meysydd allweddol sy’n sail i’n huchelgais i gyflawni’r targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd sicrhau’r cynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn flaenoriaeth i bob un ohonom.
Diolch. Hoffwn sôn am brofiad ysgol yn fy rhanbarth, sef Ysgol Gymraeg Nant Caerau yng ngorllewin Caerdydd. Yn 2012, roedd gan yr ysgol 86 o ddisgyblion ar safle a gynlluniwyd ar gyfer plant pedair i saith oed. Erbyn hyn, mae gan yr ysgol 240 o ddisgyblion rhwng pedair ac 11 oed, ac maent yn gorfod troi plant ymaith. Mae ysgolion mewn ardaloedd eraill wedi cael eu hymestyn, ond mae’n rhaid i Nant Caerau fodloni ar safle bychan ac mae maint yr arwynebedd yn llai na hanner yr hyn a argymhellir yng nghanllawiau’r Llywodraeth. Mae darn o dir ger yr ysgol y gellid ei ddefnyddio, ac mae hynny’n gwneud synnwyr perffaith i mi a phawb arall, bron â bod, ond mae’r cyngor yn llusgo’u traed.
Felly, a ydych yn cytuno, os ydym am gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg mewn ardaloedd fel Caerau a Threlái, fod angen inni fuddsoddi mewn safleoedd fel hyn? Ac a wnewch chi gyfarfod â rhieni i annog cyngor Caerdydd i wneud rhywbeth ynglŷn â’r safle cyn gynted ag y bo modd?
Llywydd, bydd yr Aelodau’n ymwybodol, o’r datganiad busnes ddoe, y byddaf yn gwneud datganiad llafar ar gynlluniau addysg Gymraeg ddydd Mawrth nesaf. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fy mod wedi comisiynu Aled Roberts i edrych ar yr holl gynlluniau strategol ar gyfer addysg a gyhoeddwyd gan yr awdurdodau lleol, yn y gwanwyn, a chyhoeddodd yr adroddiad hwnnw yn yr haf. O ran yr enghraifft a grybwyllodd yr Aelod, buaswn yn awgrymu y dylai godi’r mater gyda’i gyngor lleol.
Gweinidog, mewn datganiad yn ôl ym mis Ebrill, a gyfeiriai, yn rhannol o leiaf, at hybu defnydd o’r Gymraeg, fe egluroch chi sut yr hoffech ganolbwyntio ar gydgysylltu a chomisiynu cymorth ymarferol i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith busnesau bach. Nawr, daeth oddeutu £4 miliwn o’r brif gyllideb addysg i gyllideb y Gymraeg eleni at ddibenion cefnogi addysg, a thybed a yw’n glir eto a yw’r broses o baratoi pobl ifanc ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, sef y gefnogaeth orau y gallwch ei rhoi, yn amlwg, yn cael ei chefnogi drwy’r system addysg, drwy fagloriaeth Cymru, hyfforddiant technoleg gwybodaeth, neu yn anad dim, drwy ymgorffori’r defnydd o’r Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ar gyfer gyrfaoedd sy’n ymwneud â’r cyhoedd.
Rwy’n gobeithio bod hynny’n digwydd. Cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i drafod sut y gallwn ehangu a pharhau i gyflawni’r gwaith a argymhellwyd gan Delyth Evans yn ei grŵp gorchwyl a gorffen, a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn yr haf. Byddwn yn disgwyl ac yn rhagweld y bydd yn rhaid i’r holl elfennau gwahanol hynny fod ar waith. Byddaf yn cyhoeddi cynllun ar gyfer cynnwys dysgu’r Gymraeg mewn addysg erbyn diwedd y flwyddyn, a bydd rhai o’r elfennau hynny’n cael sylw yn y cynllun hwnnw. Fel arall, fe welwch o’r strategaeth a gyhoeddwyd gennym cyn toriad yr haf fod gennym dargedau ar waith i gynyddu nifer yr athrawon a staff addysgu sydd ar gael i allu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac i addysgu Cymraeg—cynnydd sylweddol erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn—ac rydym eisoes wedi sefydlu ein rhaglenni ar gyfer cyflawni’r targedau hynny. Byddwn yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar adegau priodol drwy gydol tymor y Cynulliad hwn.
Yn ôl adolygiad Aled Roberts o gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, a gwblhawyd ar ran y Llywodraeth—mae Aled Roberts yn dweud bod y cynlluniau
yn dangos bod angen gwneud llawer iawn mwy os ydym am adlewyrchu’r dyheadau yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2010 heb sôn am ofynion mwy uchelgeisiol strategaeth newydd y Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’
ac mae’r mwyafrif o awdurdodau lleol yn awyddus i gyfrannu at ddyheadau’r Llywodraeth o sicrhau 1 filiwn o siaradwyr. O edrych ar eich strategaeth iaith chi, Cymraeg 2050, nid oes yna dargedau a meini prawf cenedlaethol a dim targedau a meini prawf ar gyfer pob awdurdod lleol er mwyn nodi sut fydd pob awdurdod yn cyfrannu at gyrraedd y nod uchelgeisiol yma. Rydych chi’n sôn eich bod chi’n gwneud datganiad yr wythnos nesaf ynglŷn â’r WESPs. A fyddwch chi, yn eich ymateb i adroddiad Aled Roberts, yn cyflwyno’r targedau a’r meini prawf angenrheidiol yma ar gyfer y Llywodraeth ac ar gyfer awdurdodau lleol?
Mi fuaswn i’n awgrymu, yn garedig iawn, fod yr Aelod yn darllen eto’r strategaeth y bu imi ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf. Ac os byddech chi’n darllen y rhaglen waith a gafodd ei chyhoeddi ar yr un pryd, mi fuasech chi’n gweld bod meini yn hynny sy’n dangos ein bod yn cynllunio ar gyfer cynyddiad yn nifer y plant sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg a faint o athrawon fydd eu hangen i gyrraedd y targedau felly, ac mae’r targedau yno ar gyfer diwedd y Cynulliad yma ac ar gyfer y blynyddoedd wedi hynny. Felly, mae yna rywfaint o dargedau yn y fanna, yn y rhaglen gwaith ac yn y strategaeth ei hun.
Pan mae’n dod i gyhoeddi’r cynlluniau strategol, wrth gwrs, mater i’r awdurdodau lleol ydy hynny. Nid yw’n fater i’r Llywodraeth yma i wneud hynny. Mae’n fater i bob awdurdod ei hun i wneud hynny, ac rydw i wedi ysgrifennu at bob un o’r awdurdodau lleol yn ystod yr haf ac rydw i’n disgwyl i’r awdurdodau gyhoeddi eu cynlluniau, fe fuaswn i’n gobeithio, cyn diwedd y flwyddyn.
Disgyblion sy’n Wynebu neu’n Profi Digartrefedd
7. Pa drefniadau sydd ar waith i sicrhau bod cefnogaeth ddigonol ar gael i ddisgyblion sy’n wynebu neu’n profi digartrefedd? (OAQ51093)
Mae deddfwriaeth flaengar Cymru ar ddigartrefedd yn blaenoriaethu aelwydydd â phlant ac yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddod o hyd i gartref iddynt. Mae digartrefedd yn enghraifft o brofiad niweidiol iawn yn ystod plentyndod. Bydd sefydlu canolfan gymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn gallu rhoi’r gefnogaeth fwyaf priodol i’r dysgwyr hyn sy’n agored iawn i niwed.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n debyg y byddwch yn ymwybodol fod oddeutu 3.33 y cant o aelwydydd a ystyrid yn ddigartref mewn perthynas â’n grwpiau blaenoriaeth yn 2016-17 yn bobl ifanc 16 a 17 oed, ac wrth gwrs, gwyddom fod yr oedran hwnnw’n amser anodd iawn oherwydd bod ganddynt arholiadau, yn aml iawn, yn ystod y cyfnod hwnnw. A gaf fi ofyn a ydych wedi ystyried darparu canllawiau i awdurdodau addysg lleol, ac yn wir, i ysgolion ynglŷn â sut i gefnogi pobl mewn sefyllfaoedd o’r fath, oherwydd mae’n amlwg fod angen cymorth ychwanegol arnynt, ar ben yr hyn a ddarperir yn gyffredinol i ddisgyblion yn eu dosbarthiadau, ar yr oedran penodol hwnnw? Felly, tybed a ydych wedi ystyried cyhoeddi canllawiau statudol ar y mater hwn.
Fel y dywedais, Darren, diben sefydlu’r ganolfan gymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yw helpu ysgolion i gefnogi plant sy’n dioddef o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac mae digartrefedd yn brofiad niweidiol arwyddocaol iawn yn ystod plentyndod. Fe ddywedaf wrthych beth, Darren, efallai y gallwn daro bargen. Efallai y gallwn ystyried cyhoeddi canllawiau statudol pan fydd eich Llywodraeth yn San Steffan yn rhoi’r gorau i arddel y fath bolisi tai didostur mewn perthynas â phobl ifanc 16 a 17 oed, sy’n eu gorfodi’n aml i sefyllfaoedd peryglus, gan nad ystyrir bod ganddynt yr un hawliau â phobl hŷn o ran digartrefedd a budd-daliadau, a gwnewch chi rywbeth i atal y credyd cynhwysol.
Tybed a allech ddweud mwy wrthym ynglŷn â sut y mae pobl ifanc yn ymwneud â mater digartrefedd mewn ysgolion. Yn amlwg, rwy’n ymwybodol o becyn cymorth Shelter Cymru, a ddefnyddir mewn llawer o ysgolion yng Nghymru, ond tybed sut y gellir ychwanegu at hynny, oherwydd cawsom ddadl yr wythnos diwethaf gan bobl ifanc yn Wrecsam—nid Wrecsam, mae’n ddrwg gennyf—Ynys Môn, a ddaeth i lawr i’r Cynulliad Cenedlaethol, ac fe welsant yn eithaf clir fod problemau i’w cael, os cânt eu gwneud yn ddigartref, fod astudio’n anodd iawn gan nad oes ganddynt amgylchedd cyfforddus, ac yn aml nid oes ganddynt Wi-Fi. Felly, sut rydych yn edrych ar y problemau posibl hynny a grybwyllwyd gan bobl ifanc sydd ar y rheng flaen yn hyn o beth?
Mae’r Aelod yn gwneud pwynt gwerth chweil, ac mae angen inni ystyried, bob amser, sut y gallwn gael gwared ar y rhwystrau sy’n effeithio ar allu pobl i ddysgu. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi datblygu ein llwybr atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc, a lansiwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn hwyr y llynedd, sy’n nodi dull cynhwysfawr o gynorthwyo pobl ifanc i osgoi digartrefedd, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi cyhoeddi £2.6 miliwn ychwanegol yn gynharach y mis diwethaf ar gyfer prosiectau newydd, a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd ymhlith pobl ifanc.
Lleihau Beichiau Diangen ar Athrawon
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i leihau beichiau diangen ar athrawon? (OAQ51109)
Diolch, Joyce. Mae lleihau biwrocratiaeth ddiangen a galluogi athrawon i dreulio mwy o amser yn cefnogi dysgu disgyblion yn flaenoriaeth i mi ac i’r Llywodraeth. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r proffesiwn i feithrin capasiti a lleihau baich gwaith, drwy leihau biwrocratiaeth, gweithredu polisïau yn well, a ffyrdd gwell a mwy craff o weithio.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn sicr, rwy’n croesawu’r buddsoddiad mawr ei angen hwnnw gan Lywodraeth Cymru. Fel y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn cytuno, rwy’n siŵr, er bod gweithgarwch nad yw’n ymwneud ag addysgu yn hanfodol i’r gwaith o redeg ysgol, byddai’n llawer gwell pe bai amser athrawon yn cael ei dreulio’n addysgu, ac mae lleihau beichiau diangen yn hanfodol er mwyn cyflawni hynny. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd cynllun peilot yn cael ei gyflwyno mewn 11 ardal awdurdod lleol mewn grwpiau o ysgolion cynradd. A oes gennych unrhyw fanylion ynglŷn ag a fydd unrhyw un o’r rheini yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac a oes gennych unrhyw syniad pa bryd y gallwn ddisgwyl gweld yr ysgol gyntaf yn cyflogi rheolwyr busnes?
Joyce, rydych yn llygad eich lle. Ni ddylai treulio eu hamser yn ceisio archebu papur neu bapur tŷ bach, rheoli contractau glanhau, neu geisio ymdrin â materion sy’n ymwneud â’r adeilad neu dechnoleg gwybodaeth fod yn waith i benaethiaid. Mae angen i’r bobl broffesiynol hynny ganolbwyntio ar addysgu a dysgu, datblygu’r cwricwlwm, a chynorthwyo eu staff i sicrhau bod eu plant yn cael profiadau a gwersi rhagorol. Rydych yn llygad eich lle, dyna pam rydym wedi lansio cynllun peilot yn ddiweddar, ac rwy’n falch iawn o ddweud bod cynghorau Powys a Sir Gaerfyrddin wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru tuag at recriwtio rheolwyr busnes ysgolion ar gyfer clystyrau o ysgolion cynradd, yn bennaf, yn eu hardaloedd lleol. Bydd hyn yn cynnwys cyfanswm o dros 30 o ysgolion ym Mhowys a Sir Gaerfyrddin, ac mae’r broses o benodi rheolwyr busnes yn mynd rhagddi ar hyn o bryd, a dylent fod wrth eu gwaith yn nes ymlaen eleni.
Ysgrifennydd y Cabinet, un ffordd o helpu i leihau beichiau diangen ar athrawon yw annog mwy o ddeialog rhwng arweinwyr ysgolion ac athrawon drwy asesiadau effaith anffurfiol o lwyth gwaith pan fydd polisïau newydd yn cael eu cyflwyno, er mwyn sicrhau bod trafodaeth adeiladol a gonest am effaith polisïau’r Llywodraeth yn mynd rhagddi’n barhaus. Felly, byddwn yn ddiolchgar os gallwch ddweud wrthym a yw hyn yn rhywbeth rydych yn ei argymell, ac os felly, a allech ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y mae eich trafodaethau gyda phenaethiaid ac arweinwyr ysgolion ynglŷn â chyflwyno rhyw fath o asesiadau effaith o lwyth gwaith yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd?
Diolch yn fawr, Paul. Mae’n bwysig iawn fod arweinwyr ysgolion a’u staff yn rhannu dealltwriaeth o’r disgwyliadau. Weithiau, ysgogir y disgwyliadau hynny gan fesurau atebolrwydd allanol, felly mae arweinwyr ysgolion yn rhoi gwaith i staff am eu bod yn credu mai dyna sy’n ddisgwyliedig, naill ai gan eu consortiwm rhanbarthol, gan yr awdurdod addysg lleol, neu yn hollbwysig, gan Estyn. Dyna pam, yn gynharach eleni, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi lansio adnodd ar gyfer pob ysgol a phob ymarferydd yn nodi disgwyliadau’r consortia rhanbarthol ac Estyn yn glir iawn, er enghraifft, ynglŷn â’r mater yn ymwneud â marcio ac asesu. Mae pob un o undebau’r athrawon wedi cefnogi hynny, a gobeithiaf y bydd yn adnodd gwerthfawr iawn ym mhob un o’n hysgolion, ac y bydd arweinwyr ysgolion o ddifrif yn ei gylch.
Mae angen i ni droi at y proffesiwn yn gyson i weld sut y gallwn weithio’n fwy craff ac yn well gyda’n gilydd, a herio ein hunain fel Llywodraeth: a ydym yn mynnu pethau gan ysgolion sy’n ychwanegu at fiwrocratiaeth, heb ychwanegu at ddysgu? Byddwn yn adolygu hynny’n gyson pan fyddaf yn cyfarfod ag arweinwyr ysgolion, drwy gyfres o gynadleddau rydym yn eu cynnal.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. A’r cwestiwn cyntaf, Mohammad Asghar.
Gwasanaethau i Bobl â Phroblemau sy’n Effeithio ar y Bledren a’r Coluddyn
1. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella gwasanaethau i bobl â phroblemau sy’n effeithio ar y bledren a’r coluddyn yng Nghymru dros y 12 mis nesaf? (OAQ51099)
Diolch am y cwestiwn. Gall problemau gyda’r bledren a’r coluddyn effeithio ar bobl o bob oed am amryw o resymau. Gallant achosi cryn ofid ac anghyfleustra, ac amharu’n sylweddol ar fywydau’r rhai yr effeithir arnynt. Gall problemau o’r fath groesi nifer o arbenigeddau, ac rwy’n falch o ddweud bod GIG Cymru yn rhoi camau ar waith i gydgysylltu gwasanaethau, er enghraifft, drwy waith bwrdd wroleg Cymru.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Gweinidog. Mae therapi symbylu’r nerf sacrol yn helpu rhai sy’n dioddef embaras, anghysur a phoen o ganlyniad i broblemau gyda’r bledren a’r coluddyn. Mae’n driniaeth sy’n newid bywydau yn syml iawn. Fodd bynnag, ychydig iawn o gyllid sydd ar gael ar gyfer therapi symbylu’r nerf sacrol, ac nid oes unrhyw ganolfan ar gael yng Nghymru ar gyfer cyflawni’r triniaethau angenrheidiol, gyda chleifion yn gorfod teithio i Loegr i gael triniaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, cyfarfûm â meddyg ymgynghorol yr wythnos diwethaf a ddywedodd fod triniaeth resymol a rhad iawn ar gael yn Lloegr—ac yn y wlad hon hefyd, mae’r gweithwyr proffesiynol yma—i blannu sglodyn syml iawn yng nghefn y corff i reoli’r bledren, sy’n ffordd syml iawn o roi cysur i’n pobl hŷn, yn enwedig gan mai menywod yw 90 y cant o’r rhai sy’n dioddef gyda hyn. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi ar waith i wella mynediad at driniaethau symbylu’r nerf sacrol ar gyfer ein hannwyl famau a thadau, er mwyn sicrhau ansawdd bywyd gyda phroblemau’r bledren a’r coluddyn, er mwyn gwella eu hansawdd bywyd yng Nghymru? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn dilynol. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ganol Caerdydd, Jenny Rathbone, ynglŷn â’r mater hwn mewn gwirionedd, oherwydd yr heriau penodol ynghylch menywod sy’n dioddef anafiadau anymataliaeth ysgarthol wrth roi genedigaeth, lle y mae’r broblem yn un sylweddol. Nid wyf yn hollol siŵr a yw’r mater y cyfeiria’r Aelod ato yn un sy’n effeithio ar bobl hŷn yn bennaf, ond rwy’n awyddus i sicrhau bod gennym driniaeth yng Nghymru a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Nid yw ar gael yn ddigon cyson yng Nghymru ar hyn o bryd—mae pobl yn teithio y tu allan i Gymru ar sail comisiwn i gael y driniaeth—ac felly, yn dilyn cyfarfod gyda Jenny Rathbone rai misoedd yn ôl, rwyf wedi dweud wrth y gwasanaeth fy mod yn awyddus i weld dull mwy cyson o weithredu. Cyn hyn, yn anffodus, cafodd nifer o bobl eu cyfarwyddo i ddefnyddio proses y Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol. Dyma un o’r achosion lle’r oedd proses y Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol yn cael ei chamddefnyddio, gan fod hon yn driniaeth a gymeradwyir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Nid yw’n driniaeth gymwys ar gyfer y Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol. Mater i’r gwasanaeth yw datblygu dull cyson o ymdrin â phroblem sy’n gymharol gyffredin. Felly, rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau a ddaw yn awr gan y grŵp gorchwyl a gorffen sy’n cael ei sefydlu dan arweiniad Julie Cornish, llawfeddyg arbenigol y colon a’r rhefr ar fwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf, sy’n arwain y gwaith hwnnw. Dylai hynny sicrhau bod gennym gynllun wedyn i ddarparu gwasanaeth mwy cyson i fenywod yng Nghymru sy’n haeddu cael y driniaeth honno ar gael iddynt ar y sail honno.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg gall problemau gyda’r bledren arwain at gathetreiddio pobl am amryw o resymau. Mewn adroddiad crwner yn ddiweddar ar farwolaeth mewn cartref nyrsio yn fy etholaeth, yn y Cymer, nodai naratif y crwner nad oedd y staff wedi cael hyfforddiant digonol, gan olygu bod unigolyn a oedd wedi eu cathetreiddio’n hirdymor wedi dioddef o ganlyniad i hynny, a bu farw’r unigolyn hwnnw. A wnewch chi sicrhau bod y byrddau iechyd yn gwbl ymwybodol o’r hyfforddiant sydd angen ei ddarparu er mwyn ymdrin â phreswylwyr a chleifion sy’n cael eu cathetreiddio am gyfnodau hir, fel nad ydynt yn wynebu sefyllfa lle y gallant gael heintiau a septisemia o ganlyniad i hynny, sy’n arwain at farwolaeth yn y pen draw?
Diolch am eich cwestiwn, ac am godi mater arferion diofal mewn cyfleusterau preswyl, nid yn unig mewn ysbytai neu ofal yn y cartref. A dweud y gwir, mae yna her yn hyn o beth sy’n ymwneud â phroses nad yw’n anarferol, ac sy’n eithaf syml mewn gwirionedd; mae’r her yn ymwneud â’r ffordd yr ymdrinnir â chathetrau sydd wedi blocio a’r gofal priodol. Felly, byddaf yn sicr o fynd ar drywydd y mater a byddaf yn edrych eto ar sut y gallwn geisio sicrhau, wrth gomisiynu gofal yn y sector gofal cymdeithasol, ein bod yn deall beth rydym yn ei gomisiynu, ansawdd y gofal a ddarperir, ond yn ogystal â hynny, fod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn deall eu cyfrifoldebau mewn perthynas â’r hyn sydd, yn ei hanfod, yn elfen sylfaenol o ofal a thriniaeth i bobl ym mha ran bynnag o’r system gofal iechyd y maent.
Addysg a Gwella Iechyd Cymru
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru fel awdurdod iechyd arbennig? (OAQ51095)
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig gyda manylion y cynlluniau ar gyfer Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Gosodwyd y ddeddfwriaeth i sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru fel awdurdod iechyd arbennig ar 13 Medi, ac yn amodol ar ewyllys y Cynulliad, bydd yn dod i rym ar 5 Hydref.
Nodaf hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn hysbysebu am aelodau anweithredol i fwrdd yr awdurdod iechyd ac wedi gwneud cryn dipyn o waith o ran yr adroddiadau a oedd gennym eisoes gan Mel Evans a’r Athro Williams. Tybed a all ddweud beth y mae’n ei wneud i sicrhau y bydd y bwrdd yn gweithredu’n wirioneddol annibynnol, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn ogystal â sicrhau bod y gwahanol fuddiannau proffesiynol yn cael eu cynrychioli’n briodol ar y bwrdd hwnnw. Credaf y dylai o leiaf dri o’r aelodau anweithredol fod yn siaradwyr Cymraeg. Beth y mae’n ei wneud i sicrhau bod y bwrdd hwnnw’n ystyried proffesiynau penodol yn briodol, er enghraifft nyrsio, gan fod y Cynulliad hwn wedi rhoi cymaint o bwyslais ar yr angen am gymarebau staffio mwy diogel?
Diolch am y cwestiwn. Credaf fod hwn yn gyfle defnyddiol i egluro diben a phwrpas y bwrdd, gan nad yw’r bwrdd yn mynd i fod yn fwrdd cynrychiadol, wedi ei lunio o wahanol grwpiau buddiant. Pe baem yn gwneud hynny, bydd gennym grwpiau gwahanol yn ymladd ac yn cystadlu â’i gilydd, yn hytrach na chael bwrdd gyda digon o arbenigedd i ymgymryd â’r gwaith o gynllunio’r gweithlu a swyddogaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Pe bai gennyf gynrychiolydd nyrsio, byddai gennyf lobi am gynrychiolydd meddygon, byddai gennym lobi am wahanol gynrychiolwyr ar gyfer meddygon ymgynghorol a chlinigwyr gofal sylfaenol, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ac eraill. Dyna’r ffordd anghywir o fynd o’i chwmpas. Cyn hir, byddem mewn sefyllfa lle y byddai angen bwrdd mwy o lawer arnom er mwyn bodloni’r holl anghenion gwahanol hynny, a byddai cyfarfodydd y bwrdd yn troi’n gynadleddau bychain.
Rwy’n disgwyl y bydd modd i Addysg a Gwella Iechyd Cymru gaffael digon o arbenigedd, drwy eu prif weithredwr, eu huwch swyddogion ac aelodau annibynnol y bwrdd, i gynorthwyo’r gwasanaeth iechyd i ddeall yn iawn y broses o gynllunio’r gweithlu, drwy ddod â’r gwahanol gyrff, y cydnabu adroddiadau Evans a Williams eu bod yn bodoli, at ei gilydd i greu cyfangorff mwy cydlynol. A dyna yw diben Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae’n cael ei sefydlu ar sail briodol lle y bydd y cadeirydd, ar ôl mi wneud fy mhenodiad cychwynnol, yn mynd drwy broses benodi gyhoeddus briodol, a dylai hynny roi sicrwydd i’r Aelodau ar bob ochr ynglŷn ag ansawdd yn ogystal ag annibyniaeth yr aelodau hynny wrth iddynt ymgymryd â’r her hon a’u swyddogaethau ar ran pob un ohonom.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr. Gweinidog, bydd cyfnod 2 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn dod i rym ym mis Ebrill, a chlywsom yn y grŵp trawsbleidiol ar nyrsio a bydwreigiaeth neithiwr fod angen i gomisiynwyr a darparwyr gynllunio ar gyfer hyn, ac fe fydd angen rhywfaint o gynllunio mewn gwirionedd. Clywsom hefyd, er y bu peth ymgysylltu â rhanddeiliaid, na rannwyd y cynlluniau i leihau presenoldeb nyrsys cymwysedig mewn cartrefi nyrsio gyda’r cyhoedd, sydd bellach, efallai, yn talu am drefniant gofal sy’n wahanol i’r hyn roeddent wedi’i ddisgwyl. A wnewch chi ymrwymo heddiw i gyhoeddi map, erbyn diwedd y mis hwn—rhyw fath o amserlen o’r camau y byddwch yn eu cymryd rhwng nawr a mis Ebrill—er mwyn rhoi rhywfaint o eglurder i gomisiynwyr a darparwyr? Ac a fydd y map hwnnw’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â phryd y byddwch yn lansio ymgyrch wybodaeth i’r cyhoedd?
Diolch am eich cwestiwn, a buaswn yn hapus i roi datganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad yn ystod yr wythnosau nesaf ar y map a’r amserlenni penodol sydd gennym ar gyfer gweithredu’r rhan hon o’r Ddeddf.
Wel, diolch am eich ateb. Gall ‘wythnosau nesaf’ olygu unrhyw beth, felly rwy’n gobeithio y gallwch wneud hynny o fewn ychydig iawn o wythnosau.
Fel y gwyddoch, mynegwyd pryderon difrifol yn yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid ynglŷn â chael gwared, i bob pwrpas, ar bresenoldeb nyrsio 24 awr mewn cartrefi nyrsio a newid i oruchwylio gofal nyrsio o bell gan unigolyn cyfrifol, a fyddai’n nyrs, ac a allai fod yn goruchwylio unrhyw nifer o gartrefi. Yn benodol, dywedwyd wrthym y byddai hynny’n arwain at fwy o alw am nyrsys ardal a darpariaeth y tu allan i oriau yn lleol pe bai’r unigolyn cyfrifol gryn bellter i ffwrdd pan fyddai’r angen am ofal nyrsio’n codi. Rwy’n siŵr y buasech yn cytuno bod ymyrraeth nyrsio yn gynnar yn atal angen rhag gwaethygu’n rhywbeth sy’n peri mwy o ofid i’r unigolyn ac sy’n costio mwy i’r GIG. A allwch ddweud wrthyf am unrhyw asesiad rydych chi neu Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r galw dadleoledig hwn, a pha waith modelu a wnaed i nodi a oes unrhyw gapasiti i’n niferoedd gostyngol o nyrsys ardal a’n gwasanaeth y tu allan i oriau allu diwallu’r galw dadleoledig hwnnw?
Diolch am eich cwestiwn. Yn sicr, roeddem yn argymell y dylid cael gwared ar y gofyniad am nyrsys 24 awr yn y rheoliadau gan ei fod yn llym ac yn gaeth iawn, ac mewn gwirionedd, nid oedd yn darparu’r hyblygrwydd sydd ei angen ar gartrefi preswyl—yr hyblygrwydd y credwn sydd ei angen arnynt—i ddiwallu anghenion y bobl y maent yn gofalu amdanynt yn y ffordd fwyaf priodol. Felly, yn y dyfodol, bydd y datganiad o bwrpas a ddarperir gan gartrefi gofal yn gwbl hanfodol o ran nodi’r gofal y maent yn ei ddarparu ar gyfer y mathau o gyflyrau a fydd gan bobl a’r hyn y byddant ei angen. Felly, credaf fod honno’n ffordd fwy priodol o fwrw ymlaen â’r strwythur staffio yn y cartrefi gofal. Rwy’n deall bod rhywfaint o nerfusrwydd ynghylch hynny; wrth gwrs fy mod. Yn ddiweddar bûm ar ymweliad a drefnwyd gan David Rees â chartref gofal yn ei etholaeth ef, ymweliad a drefnwyd ar y cyd â’r Coleg Nyrsio Brenhinol. Felly, cawsom gyfle i ddatrys rhai o’r pethau penodol a’r pryderon penodol a godwyd gan y proffesiwn nyrsio. Yn sicr, byddwn yn ystyried y rhain i gyd wrth benderfynu ar y camau nesaf.
Mae’n ddefnyddiol gwybod hynny. Mae hynny’n rhywfaint o dystiolaeth, ond nid ydym wedi mynd yr holl ffordd at asesiad o’r effaith debygol ar nyrsys ardal, a chredaf y gallai hynny fod yn rhywbeth yr hoffech ei ystyried. Ond fe gyfeirioch at anghenion staffio cartrefi nyrsio unigol, ac mae cyfansoddiad unrhyw dîm mewn cartref nyrsio yn hanfodol i lwyddiant y gofal a ddarperir ganddo. Mae cael gwared ar nyrs oddi ar y safle yn un math o bwysau ar y tîm hwnnw, ond mae sicrhau sgiliau cywir yn lle’r rhai a allai fod wedi’u colli wrth i bobl adael yn fath arall o bwysau.
Mae datblygu sgiliau staff presennol, pa un a ydynt yn gynorthwywyr nyrsio neu’n weithwyr cymorth gofal iechyd, yn dda o ran lefelau cadw staff a datblygiad personol, ond ceir anawsterau ymarferol yn gysylltiedig â dod o hyd i amser i hyfforddi staff mewn cartrefi nyrsio a gofal cartref. Mae hyn yn arbennig o berthnasol pan fo angen i unigolyn arfer crebwyll a deall goblygiadau ymyrraeth yn hytrach na gallu cyflawni tasg yn fecanyddol, os mynnwch. Sut y gallwch roi sicrwydd inni nad yw ansawdd a safonau’n dioddef pan fo datblygiad proffesiynol parhaus yn anghyson oherwydd y pwysau hwn? A sut y bydd yr anghysondeb wrth gaffael sgiliau yn creu anghysondeb o ran pryd yn union y mae unigolion yn penderfynu eu bod bellach yn ddigon cymwys i gofrestru?
Diolch am eich cwestiwn. Yn bersonol, mae datblygu’r gweithlu a rhoi sicrwydd i’r cyhoedd yn ddwy flaenoriaeth allweddol, ond maent hefyd yn flaenoriaethau i Gofal Cymdeithasol Cymru, a sefydlwyd, fel y gwyddoch, ym mis Ebrill eleni. A chredaf fod y ddau fater yn rhan bwysig o’u cynllun strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Ac maent yn canolbwyntio’n bendant ar ba gymwysterau y bydd yn ofynnol i bobl sy’n gweithio yn y sector eu cael yn y dyfodol. Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, neu credaf ei fod newydd gael ei lansio’r wythnos hon neu’r wythnos nesaf, o ran pa gymwysterau y byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bobl yn y sector gofal cartref feddu arnynt yn y dyfodol, gan ein bod yn awyddus i sicrhau bod gennym gymwysterau, pan fo pobl yn cofrestru, sy’n berthnasol, ac a fydd yn rhoi hyder i’r cyhoedd, ond mae angen inni sicrhau hefyd ein bod yn cynnal y sgiliau meddal hynny y mae cymaint ohonynt gennym yn y sector gofal cartref. Mae pobl wedi bod yn gweithio yn y sector hwnnw ers blynyddoedd lawer, ac mae ganddynt brofiad ac maent yn bobl dosturiol. Maent yn darparu gofal o ansawdd da; maent yn deall yr unigolion. Mae’n anodd mesur y pethau hynny, felly mae angen inni sicrhau’r cydbwysedd o ran y sgiliau meddal a’r agweddau a’r doniau i allu gwneud y gwaith, yn ogystal â’r cymwysterau mwy ffurfiol, wrth i ni geisio proffesiynoli’r gweithlu er mwyn gwneud y gwaith yn fwy deniadol i bobl yn y dyfodol ac i roi’r math o glod a pharch a strwythur gyrfaol yr hoffem eu gweld yn y gweithlu hefyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Nawr, mae gormod o gleifion yn dal i wynebu amseroedd aros gormodol ar gyfer triniaeth, a hoffwn ganolbwyntio yn gyntaf ar amseroedd aros orthopedig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae gennyf etholwr sydd wedi cael blaenoriaeth glinigol fel rhywun sydd angen llawdriniaeth orthopedig ar frys. Ar hyn o bryd, mae wedi bod yn aros am y driniaeth frys hon ers 66 wythnos ac nid yw’n disgwyl cael triniaeth tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mewn llythyr a gefais yn ddiweddar gan y bwrdd iechyd, dywedwyd wrthyf fod rhai cleifion yn gorfod aros am fwy na 100 o wythnosau. Ac nid yw hyn yn dderbyniol mewn unrhyw fodd. Wynebodd eich rhagflaenydd broblem debyg yn ne Cymru mewn perthynas â llawdriniaeth y galon, a gwnaeth benderfyniad ar y pryd i drefnu rhai llawdriniaethau drwy gontract allanol er mwyn lleihau’r rhestrau aros hynny. A wnewch chi’r un peth ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn?
Rwy’n cydnabod bod rhai pobl yn aros am amseroedd annerbyniol o hir, ac mae yna her wirioneddol o ran y bobl sy’n aros am amser hir, yn enwedig yng ngogledd Cymru, a gallu’r bwrdd iechyd i gael y capasiti priodol, gan gynnwys capasiti’r unedau therapi dwys ar gyfer pobl sydd ag anghenion mwy cymhleth. Felly, nid yw’n sefyllfa dderbyniol. Mae’n fater rwyf wedi’i godi’n uniongyrchol, yn amlwg, gyda’r cadeirydd; rwyf mewn cysylltiad rheolaidd bellach gyda’r cadeirydd a’r prif weithredwr. Rwy’n disgwyl i’r cynllun orthopedig y mae’r bwrdd iechyd yn ei gyflwyno fynd i’r afael â’r problemau eleni, yn hytrach nag edrych tua’r dyfodol pan ddywedant y dylai’r broblem fod wedi’i datrys. Os nad ystyrir bod y cynllun hwnnw’n ddigonol, a byddaf yn derbyn cyngor gan swyddogion yma hefyd, bydd yn rhaid i mi ystyried mesurau eraill. Ond mae’n rhaid gwneud hynny ar sail cynnwys y cynllun, a yw’n gredadwy mewn gwirionedd, gan fy mod yn disgwyl i bobl yng ngogledd Cymru allu cael mynediad at ofal amserol o ansawdd da, ac rwy’n cydnabod nad yw hynny’n digwydd o gwbl yn achos rhai pobl.
Rydych newydd ddisgrifio beth yr hoffech ei weld yn digwydd ymhen amser, ac rydych yn aros am adroddiadau; byddwch yn ystyried yr adroddiadau. Mae hyn yn digwydd yn awr, pobl yn aros am dros 100 o wythnosau, ac roedd fy nghwestiwn yn ymwneud yn benodol â beth y gellid ei wneud yn awr er mwyn lleihau’r amseroedd aros i bobl sydd wedi bod yn aros mewn poen, gan arwain at ragor o broblemau gyda’u hiechyd. Rydych yn honni’n aml fod amseroedd aros yn gwella. Mae rhai ohonynt yn gwella. O gymharu â 2014 yn hytrach na 2011, mae’r duedd hirdymor yn eithaf amlwg o ran amseroedd aros yn mynd yn hwy ac yn hwy. O bryd i’w gilydd, rydych yn cyhoeddi arian ar gyfer mentrau i fynd i’r afael â meysydd problemus, ond mae methiannau o ran cynllunio’r gweithlu yn tanseilio eu cynaliadwyedd. Flwyddyn i fis Awst diwethaf, fe fyddwch yn cofio lansio gwasanaeth thrombectomi yng Nghaerdydd i drin cleifion strôc—gofal o’r ansawdd uchaf. Gohiriwyd y gwasanaeth ym mis Mai eleni o ganlyniad i broblemau staffio, sy’n golygu na fydd 500 o gleifion y flwyddyn yn cael y driniaeth orau sydd ar gael bellach. Pam fod rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn gallu gwneud hyn yn iawn, ond nid GIG Cymru o dan arweiniad y Blaid Lafur?
Mae mwy nag un rhan i’r sylwadau a’r cwestiynau a wnaed, ac mewn gwirionedd, o ran gwelliant eleni, rwy’n disgwyl y caiff gwelliannau eu gwneud eleni. Rwy’n disgwyl i’r cynllun orthopedig gan fwrdd iechyd gogledd Cymru gael ei ddarparu o fewn y mis nesaf. Dyna rwy’n ei ddisgwyl, ac rwy’n disgwyl i hynny gael ei ystyried yn briodol wedyn o ran pryd y caiff ei roi ar waith. Y bwriad yw i’r arian ychwanegol sydd wedi bod ar gael yma wneud gwelliannau eleni ar gyfer pobl sy’n aros ar hyn o bryd. Mae hynny’n cynnwys comisiynu capasiti y tu allan i ogledd Cymru hefyd. Ni fyddai’n iawn i mi roi ymrwymiad ynglŷn â pha bryd y bydd y mater yn cael ei ddatrys cyn i mi weld eu cynllun a deall pa mor effeithiol y mae’n debygol o fod, ond dywedaf eto: os nad wyf yn hyderus y caiff y mater ei ddatrys, bydd angen i mi gael trafodaeth wahanol ynglŷn â sut i sicrhau gwelliannau ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru.
Ynglŷn â’ch pwynt am thrombectomi, mae hon yn driniaeth gymharol newydd sydd ar gael, a gall gael cryn effaith ar gleifion strôc. Comisiynwyd y gwasanaeth yng Nghaerdydd, a daeth yn weithgar gyda thri meddyg ymgynghorol yn gweithio gyda’i gilydd mewn tîm—aseswyd mai dyna’r nifer gywir o bobl ar gyfer anghenion pobl ar draws de Cymru. Yn anffodus, mae dau o’r tri meddyg ymgynghorol wedi gadael bellach, oherwydd amgylchiadau sydd, at ei gilydd, y tu hwnt i reolaeth y bwrdd iechyd. Yr her oedd recriwtio pobl i’r swyddi hynny. Mae un person wedi cael ei recriwtio a bydd yn dechrau’r mis hwn. Fodd bynnag, bydd yn treulio cyfnod dan oruchwyliaeth am y pedwar mis cyntaf, sy’n gwbl arferol. Rwy’n disgwyl y bydd camau pellach yn cael eu cymryd wedi hynny i sicrhau bod y gwasanaeth yn darparu hyd at y capasiti unwaith eto. Golyga hynny ein bod, ar hyn o bryd, yn comisiynu capasiti ychwanegol o system Lloegr.
Dylid nodi hefyd fod pob rhan arall o system y Deyrnas Unedig yn wynebu her, mewn gwirionedd, o ran diwallu’r angen am y gwasanaeth newydd hwn. Fe nodwch, yn y darn y penwythnos hwn, ei fod yn dweud bod rhannau sylweddol o Loegr yn wynebu heriau tebyg o ran sicrhau gwasanaeth wedi’i staffio a’i weithredu’n llawn, a gellid dweud yr un peth am yr Alban hefyd. Felly, mae hyn yn ymwneud â sut y dychwelwn at driniaeth gymharol newydd, er mwyn ei chomisiynu’n briodol ac ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae hon, wrth gwrs, yn flaenoriaeth bwysig i mi a’r gwasanaeth.
Unwaith eto, mae hon yn neges rydym yn ei chlywed dro ar ôl tro, nad yw hwn yn fater unigryw i Gymru, ei bod yn broblem ledled y DU, boed o safbwynt recriwtio neu gadw neu beth bynnag, ond fe wyddom fod hwn yn wasanaeth sy’n cael ei ddarparu mewn rhannau eraill o’r DU. Yn wir, mae arweinydd strôc Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste wedi dweud bod y methiant i gael trefn ar bethau yng Nghaerdydd ac yng Nghymru, yn arbennig, yn golygu bod Cymru’n destun gwawd y gymuned niwrofasgwlaidd ryngwladol. Nid wyf fi, ac nid yw cleifion a staff, eisiau i bobl siarad am ein GIG yn y ffordd honno. Oni allwch weld bod gwahaniaeth enfawr rhwng yr hyn a ddywedwch chi a Llywodraeth Cymru, y disgwyliadau rydych yn hoffi eu creu, a’r realiti i staff a chleifion y GIG, sydd, a bod yn onest, yn haeddu gwell?
Efallai nad ydych yn hoffi ei glywed, Rhun, ond dyma’r gwir yn onest ynglŷn â lle’r ydym o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig hefyd. Fe nodwch, o’r darn yn The Guardian a ddyfynnwyd gennych, ei fod yn nodi, mewn gwirionedd, fod yna heriau sylweddol mewn rhannau eraill o Loegr hefyd. Nid yw’n wir i ddweud mai Cymru’n unig sy’n gwneud yn wael yn yr achos hwn. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn teimlo bod y sylw a wnaed gan yr ymgynghorydd ym Mryste yn arbennig o sarhaus a chibddall. Teimlwn fod rhoi sylwadau ar wasanaethau a ddarparir gan gomisiynau ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig yn y ffordd honno yn sarhaus, fel y dywedais. Mae hon yn her sydd y tu hwnt i—. Nid yw’n rhywbeth lle y mae’r bwrdd iechyd wedi achosi problem gyda dau o bobl yn gadael o fewn cyfnod byr iawn; yr her yw sut y down yn ôl, ac mewn gwirionedd, rydym yn dibynnu ar berthynas dda rhwng rhannau’r system yng Nghymru, ond hefyd gyda chydweithwyr yn Lloegr, ac fel arall hefyd.
Mae her yma ynglŷn â sut y gallwn greu rhwydwaith priodol i wasanaethu anghenion pobl yng Nghymru ac mae angen inni weithio gyda chydweithwyr yn Lloegr i ddeall sut y gallem ac y dylem wneud hynny mewn ffordd sy’n gynaliadwy ar gyfer pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Felly edrychaf ymlaen at sgwrs fwy aeddfed rhwng cydweithwyr yng Nghymru ac yn Lloegr am y ffordd y mae’r driniaeth hon sy’n datblygu, a allai effeithio’n sylweddol ar wella cyfraddau marwolaethau ac anabledd y gellir ei osgoi i bobl sy’n cael strôc, yn cael ei chyflwyno ar sail gynaliadwy at ei gilydd. Nid yw’n bwysig iawn i mi a ydych yn rhwystredig ynglŷn â chael ateb gonest am ein sefyllfa, ond rwy’n credu bod y gonestrwydd yn bwysig, oherwydd fel arall, nid ydym yn mynd i gael y math o system gofal iechyd rydym yn awyddus i’w chael ac y mae pobl Cymru yn haeddu ei chael.
Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mis Hydref yw mis ymwybyddiaeth o ganser y fron ac i nodi’r achlysur, mae Breast Cancer Now wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n edrych ar lwybr cleifion canser y fron, ac yn gwneud argymhellion i wella canlyniadau i gleifion. Rydym bellach yn gwneud cynnydd o ran gwella cyfraddau goroesi canser y fron. Mae cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn a phum mlynedd wedi cynyddu 1.7 y cant dros y degawd diwethaf. Mae lefelau canfod canser y fron yn gwella, ond nid ydym bob amser yn trin y canser yn ddigon cynnar. Ni chyrhaeddwyd targedau rhwng atgyfeirio a thriniaeth canser y llwybr brys a heb fod yn frys yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae Breast Cancer Now yn galw arnoch i fonitro perfformiad yn erbyn amseroedd aros yn agos ac i roi camau unioni ar waith. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn yr argymhelliad hwn ac amlinellu’r camau rydych yn eu cymryd i gyrraedd targedau rhwng atgyfeirio a thriniaeth?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Dyma fater lle y ceir pryder gwirioneddol ar draws y Siambr ac oddi mewn a thu allan i’r pleidiau gwleidyddol. Mewn gwirionedd, mae’r cyflawniad yn y gwasanaethau canser yn arwydd o’r llwyddiant a gawsom yn y GIG, ond hefyd o’r her na chafodd ei goresgyn sy’n dal i fodoli. Rwy’n falch eich bod wedi nodi bod cam mawr ymlaen wedi’i wneud yn y cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn a phum mlynedd yng Nghymru. Yn ystadegol, rydym yn yr un lle â phedair gwlad arall y DU. Rydym hefyd yn gweld mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio a mwy o bobl yn cael eu trin, a’u trin o fewn yr amser. A hynny ar gefn cynnydd o 40 y cant yn nifer yr atgyfeiriadau yn y pedair blynedd diwethaf.
Ond y gwir na ellir ei osgoi yw bod pob un o’r pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig yn dal i fod ar waelod tabl cynghrair canlyniadau’r gwledydd eraill yn Ewrop. Mae llawer mwy i ni ei wneud. Nawr, nid wyf yn derbyn popeth y mae arolwg Breast Cancer Now yn ei ddweud, ond o ran yr angen i geisio gwneud rhywbeth am sgrinio—oherwydd, yn anffodus, mae canlyniadau sgrinio canser y fron wedi gostwng; nid ydym yn cael yr un nifer o fenywod yn dod drwodd—mae yna her i ni wneud yn siŵr fod y neges yn cael ei deall yn glir y bydd sgrinio cynnar yn helpu i achub bywydau. Hefyd o ran yr heriau yn ein capasiti diagnostig yn ogystal—ac mae hynny’n bendant yn rhan o’r hyn y bwriadwn ei wneud, nid yn unig gyda’r arian perfformiad uniongyrchol eleni, ond ar sail fwy hirdymor a mwy cynaliadwy. Ac rwy’n sicr yn monitro perfformiad yn agos.
Mae amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn bethau y bydd pob cadeirydd yn disgwyl gorfod eu trafod gyda mi ac yn wir, pan fo gwasanaethau’n gwaethygu, rhoddir rhagor o sylw. Enghraifft dda o hyn yw bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro. Nid oes llawer iawn o amser er pan oedd ffigurau canrannau yn y 70au yn erbyn y targed 62 diwrnod—cwbl annerbyniol. Maent wedi datrys ac wedi edrych ar y problemau hynny ac maent bellach mewn lle llawer gwell ar dros 90 y cant. Yr her ar gyfer gweddill Cymru yw sut i gael yr un lefel o ddealltwriaeth o’u heriau a’u cyflawniad wedyn, a gwneud hynny ar sail gynaliadwy yn wyneb galw cynyddol.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o’r gwelliannau mwyaf y gallwn ei wneud i ofal canser y fron—a holl ddiben y mis ymwybyddiaeth—yw gwneud y cyhoedd yn ymwybodol o arwyddion a symptomau canser y fron. Mae canfod canser y fron yn gynnar yn gwella eich gobaith o oroesi, fel y gwn o brofiad personol. Mae hi bellach yn ddeng mlynedd ers i mi gael canser y fron ac achubwyd fy mywyd gan i mi sylwi ar bant yn hytrach na lwmp a chefais ofal o’r radd flaenaf gan y staff rhagorol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Ysgrifennydd y Cabinet, gall canser y fron ymddangos mewn sawl ffordd, felly mae’n hanfodol fod y cyhoedd yn ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau. Ceir llawer o ddynion nad ydynt yn sylweddoli y gall canser y fron effeithio arnynt—nid yw 54 y cant o ddynion yn y DU erioed wedi archwilio eu hunain am symptomau. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynnal ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd am ganser y fron, gan dargedu dynion a menywod?
Fe edrychaf, ond nid wyf yn ymwybodol fod yna gynllun penodol gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch wedi’i thargedu at ddynion, ond rydym yn cydnabod bod y trydydd sector yn mynd ati’n arbennig o weithgar i hyrwyddo ymwybyddiaeth. Rwy’n meddwl mewn gwirionedd mai’r peth mwyaf a wyddom, gan fod tystiolaeth fod hyn yn effeithiol ar sail sgrinio poblogaeth, yw gwneud yn siŵr mewn gwirionedd fod mwy o bobl yn defnyddio gwasanaeth sgrinio canser y fron yn y dyfodol. Mae gennym her gyda dynion a’u hymwybyddiaeth o ganser y fron—gyda dynion yn gyffredinol a’u hymwybyddiaeth o’u hiechyd eu hunain ar ystod eang o bethau mewn gwirionedd. Mae yna her ehangach, nid yn unig o ran deall bod problem, ond rwy’n credu y gellir gwneud y cynnydd mwy ym maes atal sylfaenol mewn gwirionedd, a deall y patrymau ymddygiad—drwy ddeiet, ymarfer corff, alcohol ac ysmygu—lle’r ydym yn fwy tebygol o fynd yn sâl, gan gynnwys dioddef amryw o ganserau, a chymryd mwy o berchnogaeth a rheolaeth dros y pethau y gallwn eu gwneud drosom ein hunain.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym i gyd yn gwybod bod atal yn well na gwella. Er y gallwn roi camau ar waith i fynd i’r afael â rhai o’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â chanser y fron, mae Breast Cancer Now yn tynnu sylw at y ffaith na allwn fynd i’r afael â’r ffactorau risg mwyaf: bod yn fenyw a mynd yn hŷn. Fodd bynnag, gallwn roi camau ar waith i leihau’r risg o gael canser y fron yn lledaenu i rannau eraill o’r corff. Mae Breast Cancer Now yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at feddyginiaethau ataliol, megis bisffosffonadau. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella mynediad at feddyginiaethau oddi ar y patent ar gyfer cleifion canser y fron yng Nghymru?
Yn ddiddorol, roedd yr Aelod yn yr ystafell pan gefais gyfarfod ar yr union bwnc hwn tua chwe wythnos yn ôl gyda’r Aelod dros Torfaen a’i chydweithiwr seneddol. Mae’r rhain yn feysydd rydym wrthi’n eu hystyried. Rydym yn dechrau gweld bod mwy y gallwn ei wneud i gael dull wedi ei arwain gan dystiolaeth i sicrhau bod y triniaethau mwyaf effeithiol a chymesur ar gael yn ein gwasanaeth.
Tynnwyd cwestiwn 3 (OAQ51130) yn ôl. Cwestiwn 4, felly, Lee Waters.
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i adolygu strwythurau llywodraethu Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru? (OAQ51096)
Rwy’n disgwyl adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y system technoleg a rheoli gwybodaeth ehangach yn GIG Cymru. Rwy’n disgwyl iddo gael ei gwblhau o fewn y tri neu bedwar mis nesaf, a bydd y trefniadau llywodraethu yn rhan o’r adolygiad hwnnw gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac wrth gwrs, byddaf yn disgwyl i hynny gynnwys Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Wedyn byddaf yn ystyried argymhellion yr adolygiad hwnnw ar ôl iddynt gael eu cwblhau.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Daw’r adroddiad hwnnw gan y swyddfa archwilio yn sgil sawl beirniadaeth gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad o berfformiad Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru. Dyma sefydliad sydd â chyllideb o dros £53 miliwn a 500 o staff, ond nid oes ffordd dryloyw o allu monitro eu perfformiad neu eu dwyn i gyfrif. Nid oes ganddynt fwrdd annibynnol ac nid ydynt yn cyhoeddi unrhyw adroddiadau blynyddol, felly buaswn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ystyried yr adroddiad hwnnw, i feddwl yn ddiwygiol sut y gallwn sicrhau ei bod yn system fwy trylwyr.
Diolch i chi am fy annog i feddwl yn ddiwygiol. Rwy’n cydnabod y pwyntiau a godwyd, oherwydd cânt eu lletya gan Felindre ac mae’r trefniadau lletya fel y maent am fy mod yn credu y byddai’n her i geisio eu sefydlu fel corff cyfan gwbl ar wahân o’r GIG, ond mae gennyf ddiddordeb, nid yn unig mewn trafodaeth, ond mewn dod o hyd i ateb o ran sut y gallwn greu mwy o ymwybyddiaeth o’r hyn y maent yn ei wneud a mwy o oruchwyliaeth lywodraethol o’r hyn y maent yn ei wneud, boed hynny yn Felindre ai peidio. Felly, mae gennyf feddwl cwbl agored ynglŷn â’r hyn y byddai gan Swyddfa Archwilio Cymru i’w ddweud, gan fy mod yn credu ei fod yn rhywbeth y byddai’n rhaid i ni ei ddatrys wrth symud ymlaen i wneud yn siŵr fod mwy o ymwybyddiaeth a chraffu, a chredaf fod hynny’n hollol iawn a phriodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, nododd yr adolygiad seneddol diweddar o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru fod y rhan fwyaf o’r 534 o staff Gwasanaeth Gwybodeg y GIG ar hyn o bryd yn ymwneud â chynnal gwasanaethau a seilwaith digidol yn hytrach na datblygu systemau newydd. Nawr, o ystyried y pryderon eang—ac rydym wedi ei drafod yma—ynglŷn â data agored, casglu data a rhannu gwybodaeth, er enghraifft gyda nodiadau cleifion rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn wir, rhwng ysbytai yn yr un bwrdd iechyd hyd yn oed, pa ymrwymiad y gallwch ei roi y byddwch yn ystyried adolygu er mwyn sicrhau allbwn mwy rhagweithiol ac arloesol o’r gwasanaeth hwn?
Wel, dyna fwy am allu Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i gyflawni cenhadaeth ar y cyd mewn gwirionedd, cenhadaeth wahanol, i ddatblygu cynnyrch newydd ac ar yr un pryd i gynnal y bensaernïaeth sylweddol sydd gennym. A gwelsom, yn yr ymosodiadau seiber diweddar, allu’r Gwasanaeth Gwybodeg fel corff cenedlaethol i gydlynu gwaith er mwyn cynnal ein system gyfan. Roedd honno’n dasg sylweddol. Rwyf wedi dweud o’r blaen yn y Siambr hon, mewn gwirionedd, fy mod yn cydnabod yr her o ran y capasiti go iawn i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru barhau i ddatblygu cynnyrch newydd, i fodloni disgwyliad y cyhoedd ynglŷn â’r ffordd y maent yn byw eu bywydau yn y presennol, y disgwyliad i allu symud data a gwybodaeth er mwyn ei rannu mewn ffordd sy’n bwysig iddynt mewn gwirionedd. Dyna pam y mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi bod o gymorth i ni, er enghraifft, wrth greu system fferylliaeth gymunedol, fel ein bod bellach yn gallu cael fersiwn a rennir o’r cofnod meddyg teulu. Mae llawer o gynnydd i’w wneud o ran iechyd o drosglwyddo a rhannu cofnodion yn ddiogel ac yn effeithiol. Unwaith eto, rwy’n cadw meddwl agored ynglŷn â’r angen inni geisio dod â mwy o bobl i mewn i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i wella a chynyddu eu capasiti neu ba un a oes angen inni gael perthynas wahanol gyda phobl eraill sy’n datblygu cynnyrch eu hunain. Mae honno’n her sy’n ymwneud ag eiddo deallusol. Mae’n her hefyd i bwrs y wlad allu gwneud hynny mewn cyfnod o gyni cynyddol. Dyma’r unig ran o’r gwasanaeth cyhoeddus lle y ceir disgwyliad parhaus y gallwn wario mwy o arian a chyflogi mwy o staff. Mae’n rhaid inni allu mesur ein disgwyliadau yn erbyn y blaenoriaethau sydd gennym yn y gwasanaeth cyfan, ond mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a thechnoleg gwybodaeth yn bendant yn rhan o’n pensaernïaeth wrth symud ymlaen ac yn rhan sylweddol o’r enillion iechyd sy’n dal i gael eu gwneud. Felly, mae hwn yn fater o flaenoriaeth i mi, wrth symud ymlaen.
Gwasanaethau i Famau ar ôl rhoi Genedigaeth
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro pa wasanaethau sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer mamau sy’n dioddef anafiadau i sffincter yr anws wrth roi genedigaeth? (OAQ51126)
Mae gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn gweithio ar y cyd â gwasanaethau ffisiotherapi a gwasanaethau ymataliaeth arbenigol. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu asesiad ac yn nodi problemau sy’n cynnwys anymataliaeth ysgarthol ac wrinol, gan atgyfeirio at wasanaethau arbenigol ar gyfer triniaeth a chynlluniau gofal unigol.
Ysgrifennydd y Cabinet, nodais y sylwadau a wnaethoch yn gynharach. Gan eich bod wedi mynychu rhan o’r cyfarfod a gynhaliwyd yn Nhŷ Hywel yr wythnos diwethaf, fe fyddwch yn ymwybodol fod hon yn broblem fawr ac mae’n cael sylw gan elusen newydd o’r enw MASIC i famau sydd wedi cael anafiadau i sffincter yr anws wrth roi genedigaeth. Roedd hi’n drawiadol clywed tystiolaeth gan dair o fenywod a oedd wedi dioddef anafiadau a oedd wedi newid eu bywydau o ganlyniad i rwygiadau o’r drydedd a’r bedwaredd radd yn ystod genedigaeth. Mae eu hanymataliaeth ysgarthol wedi ei gwneud hi’n ofynnol i bob un ohonynt roi’r gorau i’w gyrfaoedd—roedd un ohonynt yn nyrs damweiniau ac achosion brys ac un arall yn ficrobiolegydd—ac yn amlwg, effeithiai’n helaeth ar bob dim yn eu bywydau.
Mae gwybod bod nifer yr anafiadau hyn wedi treblu yn y degawd diwethaf yn destun pryder. Yn gyffredinol, amcangyfrifir bod un o bob 10 o fenywod yn cael eu heffeithio gan anymataliaeth ysgarthol, yn enwedig erbyn adeg y menopos. Felly, mae’r broblem yn eang a heb gael ei thrafod nes yn awr. Mae’n dda ein bod wedi cael cwestiwn cynharach ar bwnc anymataliaeth; nid ydym yn aml yn siarad am y math hwn o beth. Mae gennyf ddau gwestiwn, mewn gwirionedd. Un yw: pam nad oes ffisiotherapi ar gael i bob mam ar ôl rhoi genedigaeth? Mae’n arferol mewn llefydd fel Ffrainc. Yn ail, pam mai Cymru yw’r unig ran o Gymru a Lloegr lle na all mamau gael triniaeth anymyrrol i symbylu’r nerf sacrol, er iddi gael ei chymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol ers dros 10 mlynedd a’i bod yn driniaeth lwyddiannus yn nhri chwarter yr achosion o anymataliaeth ysgarthol lle y mae triniaeth gadwrol fel ffisiotherapi wedi methu?
Diolch am y cwestiynau dilynol. Unwaith eto, rwy’n cydnabod mai’r Aelod dros Ganol Caerdydd a dynnodd fy sylw’n iawn at y mater hwn am y tro cyntaf. Rwy’n credu bod angen inni gychwyn gyda’r pwynt fy mod yn wirioneddol falch o gael y swydd hon, i allu sefyll a gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd gwladol, ond mae’n rhaid i mi gydbwyso hynny â’r gydnabyddiaeth nad yw’r gwasanaeth bob amser yn ei gael yn iawn. Dyma faes nad wyf yn credu ei fod wedi cael y sylw a ddylai yn y gorffennol o bosibl.
Yr her bellach yw sut y gallwn gyrraedd lle y dylem fod wedi cyrraedd. Dyna pam y mae’r grŵp gorchwyl a gorffen sy’n cael ei arwain gan Julie Cornish yn bwysig, ac rwy’n disgwyl iddo ddod o hyd i ffordd ymlaen i’n gwasanaeth. Rydych yn llygad eich lle: bu cynnydd sylweddol yn y rhwygiadau sy’n cael eu canfod, ond hefyd yn nifer y menywod a welir sy’n dioddef o anymataliaeth ysgarthol yn arbennig. Yr her wedyn yw sut y gallwn ddiwallu’r angen dealladwy sy’n bodoli. Rwy’n credu hefyd ei fod yn ymwneud â deall bod gennym anghenion heb eu diwallu yn y gorffennol.
Felly, dyna pam y nodais y bydd yna grŵp gorchwyl a gorffen, a dyna pam fy mod wedi cydnabod nad yw’n dderbyniol nad ydym wedi gallu comisiynu a darparu digon o wasanaethau symbylu’r nerf sacrol yma yng Nghymru yn y gorffennol. Mae angen i hynny wella, oherwydd rwy’n cydnabod, os yw’r driniaeth fwy cadwrol o feddyginiaeth a ffisiotherapi yn arbennig wedi methu, mae symbylu’r nerf sacrol yn effeithiol mewn oddeutu 75 i 80 y cant o achosion, felly mae’n driniaeth amgen hynod o effeithiol.
O ran eich pwynt ynglŷn â ffisiotherapi, mae pwynt yma ynglŷn â beth sy’n ddarbodus neu fel arall. Yn fy marn i, nid yw darpariaeth ar raddfa eang, heb fod yr angen darbodus ar gael, yn un y buaswn o reidrwydd yn ei derbyn ar y cychwyn, ond pe bai’r dystiolaeth yn newid ac mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud, buasai gennyf ddiddordeb yn y ffordd y byddem yn cynllunio gweithlu wedyn i ddiwallu’r angen gofal wedi ei arwain gan dystiolaeth.
Mae hefyd yn werth nodi y bydd arolwg cenedlaethol yn dechrau yr wythnos nesaf, lle’r ydym yn gofyn i fenywod siarad am eu profiad o famolaeth a rhoi genedigaeth. Rydym yn awyddus i gael dealltwriaeth go iawn o’r da, y drwg a’r cyffredin, gan fod hyn yn cael ei arwain mewn gwirionedd gan fydwragedd ymgynghorol ledled Cymru i geisio sicrhau bod gennym y ffynhonnell orau o wybodaeth er mwyn asesu effeithiolrwydd ein gwasanaethau ac er mwyn eu gwella ar gyfer y dyfodol.
Technoleg Gynorthwyol Ddatblygol mewn Gofal Cymdeithasol
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio technoleg gynorthwyol ddatblygol mewn gofal cymdeithasol? (OAQ51105)
Mae gan Technoleg Iechyd Cymru gylch gwaith i asesu technolegau sy’n dod i’r amlwg ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a gwneud argymhellion o ran eu mabwysiadu. Mae ein cronfeydd effeithlonrwydd drwy dechnoleg a gofal integredig yn cefnogi gwerthuso cyflym ac uwchraddio technolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg mewn lleoliadau gofal yn y byd go iawn.
Diolch i chi am hynny. Mae yna ddatblygiadau newydd, fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, mewn technoleg wisgadwy i gefnogi pobl hŷn yn eu cartrefi; offer i helpu i reoli meddyginiaeth, i helpu i ddefnyddio offer cegin ac i rybuddio gofalwyr; a thechnoleg adnabod llais a datblygiadau eraill. Ceir technoleg robotic hyd yn oed yn Siapan sy’n helpu gyda thasgau corfforol cyffredin yn y cartref. Gall hyn helpu pobl sy’n byw yn y cartref gyda chymorth a rheoli eiddilwch cynyddol heb orfod troi at ofal preswyl. Mae’n enghraifft hefyd o arloesi yn yr economi sylfaenol, sy’n gyfle i greu cyflogaeth yn ogystal. Yng ngoleuni hyn, a fyddai hi’n cefnogi creu cronfa technoleg gofal i annog buddsoddi mewn syniadau technoleg gofal yng Nghymru er budd ein trigolion, pa un a ydynt angen gofal neu waith?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw a’r gydnabyddiaeth i’r amrywiaeth enfawr o dechnolegau cynorthwyol a geir, a’r potensial enfawr sydd ganddynt i wella’r gofal a gynigiwn i bobl. Mae mecanweithiau ariannu sefydledig ar waith eisoes ynghyd â dulliau sefydledig o ran mabwysiadu ac ehangu defnydd o dechnolegau cynorthwyol. Er enghraifft, mae ein strategaeth iechyd a gofal ddigidol ar gyfer Cymru yn darparu llwybr ar gyfer annog mwy o ddefnydd o dechnoleg i drawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a sicrhau canlyniadau gwell i bobl. Ac mae ein rhaglen gofal a alluogir gan dechnoleg hefyd yn datblygu dull cenedlaethol o gynyddu’r defnydd o deleiechyd a theleofal yng Nghymru, ac mae’r rhaglen honno’n gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru i nodi’r blaenoriaethau a’r defnydd mwyaf effeithiol a chyson y gallem ei wneud o’r technolegau newydd hyn.
O ran cyllid, eisoes mae gennym raglen effeithlonrwydd drwy dechnoleg, sef cronfa gwerth £10 miliwn i gefnogi asesu technolegau newydd, a’u datblygu a’u mabwysiadu’n gyflym ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Hefyd, wrth gwrs, mae ein cronfa gofal integredig yn cynnig cyfleoedd enfawr i ddefnyddio’r technolegau newydd hyn i gadw pobl yn eu cartrefi, yn hytrach na chael derbyniadau diangen i’r ysbyty, ac yn amlwg, i ddod â phobl adref yn gynt o’r ysbyty hefyd. Rydym wedi darparu £60 miliwn o gyllid sydd ar gael ledled Cymru ar gyfer y gronfa gofal canolraddol y flwyddyn hon, a cheir rhai enghreifftiau yn ein hardal ym Mae’r Gorllewin lle y defnyddiwyd y cyllid hwn. Er enghraifft, mae’r rhanbarth newydd dderbyn arian ar gyfer prynu pecynnau technoleg gynorthwyol Just Checking, a byddant yn cael eu defnyddio mewn cartrefi ar gyfer tenantiaethau byw â chymorth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Ac felly bydd y gwasanaeth yn defnyddio’r pecynnau i fesur y gefnogaeth y bydd unigolion ei hangen yn y cyfnod gosod cychwynnol, ac yna gallant ddefnyddio’r pecynnau hyn i dargedu oriau cymorth, yn ystod y dydd a’r nos, ar y lefel gywir ar gyfer yr unigolyn dan sylw.
Rydych newydd grybwyll Bae’r Gorllewin, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod bargen ddinesig bae Abertawe mewn sefyllfa dda iawn i feithrin cwmnïau sydd am ddatblygu’r ymyriadau technoleg hyn mewn gwirionedd ar gyfer ailalluogi a gofal cymdeithasol arall, yn enwedig yn y cartref. Nodwyd y cyfle eisoes. Tybed felly pa sgyrsiau y gallech fod wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i sicrhau bod unrhyw gwmnïau newydd sy’n dangos diddordeb yn y maes gweithgaredd hwn yn edrych yn ffafriol ar ardal bargen ddinesig bae Abertawe, yn hytrach na mannau eraill. Rwy’n credu y byddai o gysur mawr i bawb ohonom wybod y bydd hwnnw’n gyfle i staff a’r economi yn ogystal â chleifion. Diolch.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, ac rwy’n sicr wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ynglŷn â’r ffaith ein bod wedi nodi gofal cymdeithasol fel sector o bwys strategol cenedlaethol. Ac wrth gwrs, fe fyddwch wedi gweld yn ‘Ffyniant i Bawb’ ei fod yn un o’n themâu trawsbynciol allweddol ochr yn ochr â thai, sydd hefyd â chysylltiad â’r math hwn o faes hefyd. Felly, byddaf yn sicr yn cael y drafodaeth benodol honno ar botensial y fargen ddinesig. Credaf fod hwnnw’n gynnig cyffrous gyda photensial cyffrous yno hefyd, felly rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth y gallem weithio i gael cyfarfod ar y cyd yn ei gylch.
Chwaraeon Cyswllt
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r risg o niwed i blant a phobl ifanc drwy chwarae chwaraeon cyswllt fel rygbi? (OAQ51113)
Diolch. Mae Prif Swyddog Meddygol y DU wedi comisiynu pwyllgor gweithgarwch corfforol y DU i ystyried y dystiolaeth sy’n galw am wahardd rygbi cyswllt ar gyfer plant oedran ysgol. Gwrthododd y pwyllgor yr alwad i wahardd taclo ac nid oedd yn teimlo bod chwarae rygbi yn peri risg annerbyniol o niwed.
Diolch am yr ateb, ac mae’n ymateb go galonogol. Gofynnwyd y cwestiwn mewn perthynas ag erthygl a ymddangosodd yn ddiweddar yn y ‘British Medical Journal’, a gafodd gryn dipyn o gyhoeddusrwydd, felly rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol ohoni. Wrth gwrs, rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r risgiau, ond rydym hefyd yn ceisio annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. Felly, rwy’n chwilio am sicrwydd nad oeddem yn mynd i orymateb i’r erthygl hon. Felly, rwy’n meddwl bod eich ymateb yn galonogol yn y goleuni hwnnw, ac rwy’n casglu nad oes dim wedi newid o ganlyniad i’r erthygl hon yn y BMJ.
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn effro iawn i bwysigrwydd cadw plant yn ddiogel yn yr ysgol ym mhob modd, ond rydym yn rhoi pwys arbennig ar ddiogelwch chwaraeon ysgol. Mae’n bwysig rhoi camau cymesur ar waith i greu amgylcheddau diogel i blant allu cymryd rhan mewn chwaraeon. Gall anafiadau ddigwydd mewn unrhyw weithgaredd hamdden wrth gwrs, er bod rhai chwaraeon, yn amlwg, yn cynnwys mwy o risg nag eraill. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau ar gyfergyd ac anafiadau i’r ymennydd i gynorthwyo pobl sy’n ymwneud â chwaraeon ysgol a chymuned hyd at 19 oed er mwyn lleihau’r posibilrwydd o anaf. Cynhyrchwyd y canllawiau hynny ar y cyd ac mewn cydweithrediad ag ystod o bartneriaid gan gynnwys y GIG, Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Felly, mae’n bwysig mabwysiadu ymagwedd gymesur tuag at y mater, gan wneud chwaraeon mor ddiogel ag y gallwn ond gan gydnabod hefyd y manteision enfawr y mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu rhoi i unigolion.
Gweinidog, diolch i chi am eich atebion hyd yma ar hyn. Rwy’n derbyn y pwynt fod yna gorff o dystiolaeth ar gael sy’n werth ei archwilio, ond rwy’n cytuno â’r teimladau a fynegoch mai camau cymesur yw’r hyn sydd ei angen. Fel rhywun sy’n hoffi meddwl ei fod wedi elwa o chwaraeon cyswllt dros y blynyddoedd ac sydd â phlant a fu’n cymryd rhan mewn pob math o chwaraeon hefyd, rwy’n gweld y manteision ehangach. Ond mae’n creu rhwymedigaeth arnom ni fel gwleidyddion a chi fel Llywodraeth yn wir, i weithio gyda’r cyrff rheoli chwaraeon sy’n cael eu nodi’n chwaraeon cyswllt i wneud yn siŵr fod y cyfleusterau diweddaraf ar gael lle y caiff y chwaraeon hynny eu chwarae. Hoffwn wybod pa ryngweithio a wnewch gyda’r cyrff rheoli—gan ein bod yn ei weld yn Stadiwm y Mileniwm, wyddoch chi, meddygon ar ymyl y cae os oes rhywun yn cael cyfergyd ac yn y blaen—pa gyfleusterau sydd ar gael, ar lefel fwy cymunedol, i wneud yn siŵr nad oes neb yn agored i risg ddiangen a bod cydymffurfio’n digwydd â’r camau cymesur y soniwch amdanynt ar lefel gymunedol, lle y bydd y rhan fwyaf o bobl yn chwarae’r chwaraeon cyswllt hyn?
Mae Chwaraeon Cymru, fy swyddogion a minnau mewn cysylltiad rheolaidd â’r cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol ac wrth gwrs, eu cyfrifoldeb hwy hefyd yw gwneud yn siŵr fod unigolion sy’n cymryd rhan yn y chwaraeon hyn yn gwneud hynny’n ddiogel. Gwn fod y cyrff rheoli wedi rhoi arweiniad da yn y maes hwn. Er enghraifft, mae’r undeb rygbi wedi cyhoeddi eu cyfarwyddyd eu hunain ynghylch cyfergyd a chaiff ei adolygu’n flynyddol gan bwyllgor ymgynghorol meddygol Undeb Rygbi Cymru. Maent hefyd wedi dweud bod cyfergyd yn faes blaenoriaeth iddynt ac maent yn gweithio gyda dyfarnwyr yn arbennig dros y flwyddyn hon. Hefyd, ceir protocolau cyfergyd gorfodol yn y gêm ar lefel ryngwladol, proffesiynol a lled-broffesiynol, a chaiff hynny eto ei gyflwyno drwy ddogfen meini prawf safonau gofynnol URC. Caiff honno ei harchwilio’n flynyddol hefyd. Mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn mynd i ddarparu eu canllawiau cyfergyd eu hunain cyn hir, gan fod pryderon wedi’u mynegi o’r blaen ynglŷn â phenio peli, er enghraifft. Felly, mae canllawiau cyfergyd ar y ffordd yn fuan iawn gan Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru. Bydd y rheini’n cael eu dosbarthu i bob clwb yng Nghymru, gyda thaflenni a phosteri ar gael i gynorthwyo gyda chodi ymwybyddiaeth o’r materion hyn.
Rwy’n falch bod y Gweinidog newydd sôn am chwaraeon eraill, achos er bod rygbi wedi cael tipyn o sylw, mae’n wir dweud bod pob math o chwaraeon tîm â rhyw elfen o risg a chyswllt. Wrth gwrs, mae’n rhaid diogelu plant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yn hynny. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, pa arfau a dulliau sydd gan Lywodraeth Cymru i fesur a phwyso’r risg a ddaw mewn ambell i chwaraeon cyswllt, ond hefyd y budd ehangach sy’n dod o annog y genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc i feddwl yn nhermau cadw’n iach, cadw’n actif a bod yn rhan o chwaraeon fel budd ehangach wedyn i’r gymdeithas gyfan?
Fel y dywedais, mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda chyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol ac mewn gwirionedd hwy sydd yn y sefyllfa orau i ddeall meysydd risg penodol y chwaraeon hynny ac maent yn darparu eu canllawiau eu hunain ar gyfergyd. Pan ydym wedi darparu cyfarwyddyd, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda’r cyrff hynny. Rwy’n gwbl ddiwyro ynghylch pwysigrwydd annog plant i ddod o hyd i chwaraeon y maent yn dwli arnynt a chael cymaint o gyfleoedd â phosibl i roi cynnig ar wahanol chwaraeon, gan ein bod yn gwybod bod pobl sy’n gwneud gweithgarwch corfforol yn wynebu 30 y cant yn llai o risg o farw’n gynnar. Credaf fod y ffigur hwnnw ynddo’i hun yn go drawiadol, yn ogystal â’r ffaith, er enghraifft, fod 50 y cant yn llai o risg o ddiabetes math 2 a 30 y cant yn llai o risg o gwympiadau, os ydych yn berson hŷn. Rwy’n credu ein bod yn gallu gweld manteision gweithgarwch corfforol yn amlwg ar draws y rhychwant oes, felly mae’n bwysig mabwysiadu ymagwedd wybodus a chymesur i ddiogelwch mewn chwaraeon.
Diolch i’r Gweinidog.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau amserol. Mae’r cwestiwn gan Bethan Jenkins.
Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r cyhoeddiad y bydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn colli contractau gyda Jaguar Land Rover ar ôl 2020? (TAQ0049)
Galwn ar Jaguar Land Rover i gadarnhau na fydd y symud yn aberthu swyddi yng Nghymru. Cyfarfu’r Prif Weinidog a minnau â Ford yn ddiweddar a chyda chynrychiolwyr undebau i drafod dyfodol hirdymor y safle, ac rwy’n falch o ddweud y bydd gweithgor yn ymchwilio i’r holl bosibiliadau ar gyfer y cyfleuster.
Diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw. Gwelais yr arwyddion clir cyntaf o gythrwfl ym mis Mawrth, ac ar 21 Awst pleidleisiodd y gweithlu, fel y gwyddoch rwy’n siŵr, dros weithredu diwydiannol, sydd bellach wedi ei ohirio. Mae wedi bod yn hysbys ac wedi cael ei ddweud gan aelodau o’ch Llywodraeth chi fod arferion gwaith wedi cael eu caniatáu i dyfu fel problem ers nifer o flynyddoedd. Cawsom gyfarfod trawsbleidiol ym mis Mai gydag undebau llafur lle y mynegwyd pryderon o’r fath. Roedd yr undebau a’r gweithlu eisiau ymyrryd ar y pryd ac roeddent am helpu i arallgyfeirio ar y pryd a chyfryngu gyda’r rheolwyr ar y pryd. Felly, rwy’n chwilfrydig ynglŷn â pham y mae wedi cymryd nes y pwynt hwn i sefydlu’r grŵp gorchwyl a gorffen. Pa amgylchiadau lliniarol eraill a olygodd na chafodd ei sefydlu’n gynt? Hoffwn wybod pwy fydd yn aelodau ohono a sut y bydd yn adrodd wrthych. A fydd yn dod atom ni fel Cynulliad ac a fydd yn canolbwyntio ar arallgyfeirio? Mae cynrychiolwyr ar ran Ford wedi dweud y gellid defnyddio’r injan Dragon newydd fel sylfaen ar gyfer uned bŵer hybrid ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth edrych ar geir y genhedlaeth nesaf. Felly, a allwch ein sicrhau yma heddiw y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen penodol hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod Pen-y-bont ar Ogwr yn dod yn ganolfan fodurol ac yn gwella’i statws o ran datblygu technolegau newydd yn yr ardal? Credaf mai’r hyn y mae gweithlu Ford yn ei ddweud wrthyf, ac eraill rwy’n siŵr, yw eu bod eisiau gallu edrych ar ffyrdd newydd o gynnal y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae angen inni wneud hynny yn awr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Yn hollol. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am gydnabod pwysigrwydd y gweithgor a sefydlwyd mewn partneriaeth gymdeithasol go iawn rhwng Llywodraeth Cymru, undeb Unite, Ford a Fforwm Modurol Cymru. Bydd yn edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer y cyfleuster, gan gynnwys technolegau newydd ar gyfer injans trydan a hybrid. Bydd yn adrodd wrthyf yn rheolaidd, ac rwy’n rhoi fy ymrwymiad yn fy nhro i adrodd wrth y Siambr hon yn rheolaidd hefyd.
Mae Unite wedi cadarnhau yn ddefnyddiol y byddai’n well ganddynt ddeialog yn hytrach na gweithredu diwydiannol ffurfiol. Mae hwnnw’n gam sydd i’w groesawu’n fawr gan yr undeb, ac rwy’n falch o ddweud yn ogystal fod y Prif Weinidog wedi cynnig gweithredu fel brocer rhwng y safle a’r undeb. Unwaith eto, cafodd hyn dderbyniad da iawn. Nid oes amheuaeth fod wyneb y sector modurol yn newid, fod technolegau newydd yn cynnig cyfleoedd a heriau, ond gyda’r £100 miliwn yn barod i gael ei fuddsoddi yn y parc technoleg fodurol yng Nglyn Ebwy, mae cyfle enfawr i gwmnïau fel Ford fanteisio ar y technolegau sy’n datblygu a fydd yn pennu dyfodol y sector.
O ran gweithgareddau eraill yn y maes hwn, euthum i Cologne i gyfarfod â phrif swyddogion Ford yn Ewrop yn ystod yr haf. Roeddwn yn falch o’r ymateb. Mae Ford Europe a Ford Britain wedi mynegi eu dymuniad i edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer dyfodol hirdymor y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a cheir awydd gwirioneddol i leihau dibyniaeth ar yr injan draddodiadol ac i ganolbwyntio yn lle hynny ar gynhyrchu injan hybrid a thechnolegau eraill sy’n datblygu. Dirprwy Lywydd, hoffwn ddweud hefyd ein bod yn galw ar JLR i gadarnhau na fydd y symudiad hwn yn aberthu swyddi yng Nghymru ac yn eu symud yn lle hynny i orllewin canolbarth Lloegr.
Diolch i Bethan am ddwyn hyn i’n sylw heddiw. Mae’n fater pwysig, ac roedd yn newyddion siomedig iawn ein bod wedi cael cadarnhad y byddai’r llinell gynhyrchu yn dod i ben, ond nid yn unig hynny—y byddai’n dod i ben dri mis yn gynharach nag a drafodwyd erioed o’r blaen. Mae’n dangos yn glir fod bwriad gan linell gynhyrchu JLR i symud cyn gynted ag y bo modd, ac mae hynny’n hynod siomedig. Rwy’n ddiolchgar am y ffordd gadarnhaol y mae’r Gweinidog a Llywodraeth Cymru wedi ymwneud â hyn. Rydym wedi cyfarfodd â’r undebau fel Aelodau Cynulliad, ond hefyd cyfarfu Chris Elmore a minnau â chynrychiolwyr Ford yn San Steffan wythnos a hanner yn ôl i lobïo’r achos dros fuddsoddi yn y ffatri yn y dyfodol. Roeddent am bwysleisio eu bod yn awyddus i gymryd rhan yn gadarnhaol mewn deialog, nid yn unig gyda’r undebau, ond hefyd roeddent yn ganmoliaethus iawn o rôl Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i bob llwybr posibl, nid yn unig i ddod â’r hyn y byddem yn ei alw’n gynhyrchiant y system yriant draddodiadol i’w modelau newydd, ond hefyd pethau fel cynhyrchu cerbydau trydan neu gynhyrchu batrïau ac yn y blaen. Mae’n dda, ac rwy’n annog y Gweinidog yn gryf i fwrw ymlaen â hynny.
Ond fe orffennodd drwy ddweud y pwynt ynglŷn ag i ble y mae cynhyrchiant JLR yn symud. Rydym wedi gweld arwyddion sy’n peri pryder fod cynhyrchiant JLR yn symud—ac yn symud yn gynt na’r disgwyl—i safle yn Wolverhampton yn seiliedig ar gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth y DU i linell gynhyrchu fodurol newydd. Os yw hynny’n wir, mae’n golygu bod swyddi a ddylai fod ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae eu hangen yn ddybryd, yn cael eu dwyn yn uniongyrchol. Os felly, a allai dynnu sylw’r Ysgrifennydd Gwladol at hyn yn ei drafodaethau ac a wnaiff ofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol: beth y maent yn mynd i’w roi yn ôl i dde Cymru a Phen-y-bont ar Ogwr i wneud iawn am hyn? Oherwydd os yw’n wir fod buddsoddiad Llywodraeth y DU yn dwyn y swyddi hyn o Gymru, yna rydym eisiau’r buddsoddiad hwnnw yn ôl er mwyn creu rhagor o swyddi a chynnal y swyddi sydd yma ar hyn o bryd.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau ac am ei angerdd wrth eu gofyn? Mae’n gwbl ymroddedig i weithlu Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel y mae’r Aelod lleol ac eraill yn y Siambr hon, a hoffwn ei longyfarch am sicrhau bod y cyfarfod yn Llundain yn digwydd, cyfarfod a oedd, o ran y briff a roddodd i mi, yn hynod o gynhyrchiol yn fy marn i. Gwyddem y byddai’r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gweld lleihad yng nghapasiti’r injan AJ wrth i ffatri weithgynhyrchu Wolverhampton ddod yn weithredol. Fodd bynnag, rwy’n chwilio am sicrwydd nad yw Llywodraeth y DU wedi cael unrhyw ran yn trosglwyddo gwaith yn gynnar i’r safle yn Wolverhampton. Mae’n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn gweithredu mewn ffordd sydd o fudd i’r DU yn gyfan ac sy’n cadw cydbwysedd economi’r DU, fel y mae strategaeth ddiwydiannol y DU yn ei amlinellu.
Gallaf hefyd ddweud bod fy swyddogion yn cymryd rhan ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth y DU a chyda’r Sefydliad Buddsoddi Modurol i ymchwilio i ffyrdd ategol o ddefnyddio safle Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn sicrhau cyfleoedd yn y dyfodol, gan gynnwys buddsoddiad. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig. Gallai hefyd gyd-fynd yn daclus â’r gronfa her, ac yn arbennig â her Faraday. I’r perwyl hwnnw, yn ystod yr haf, roeddwn yn falch hefyd o gyfarfod â Richard Parry-Jones, sydd â rôl hanfodol yn yr her arbennig honno, a buom yn trafod nifer o gyfleoedd a allai fod yn berthnasol i Ford Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn amlwg, mae hwn yn newyddion drwg, yn enwedig gan ei bod yn fwy tebygol y daw cynhyrchiant i ben yno. Rwyf wedi clywed yn eich atebion heddiw ac i fod yn deg, yn ystod y chwe mis diwethaf, neu fwy na hynny hyd yn oed, fod Ford a’r diwydiant modurol yn wynebu newid cyflym a’u bod yn parhau i edrych am gyfleoedd uwch-dechnoleg eraill ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym wedi clywed heddiw eich bod yn fodlon iawn â’r sgyrsiau gyda Ford ac ymdrechion i gasglu gwybodaeth o bob cwr o Ewrop a gweddill y byd—credaf fod cyflwyniadau cynharach wedi cyfeirio at hynny yma. Mae hyn i gyd yn galonogol iawn, ond nid oes gennyf deimlad cryf o ba bryd y byddai rhyw ymrwymiad penodol yn cael ei wneud gan Ford. Rwy’n deall mai Ford a ddylai ei wneud, yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Ar ryw bwynt, a ydych yn rhoi pwysau ar Ford i ddweud, ‘A wnewch chi roi rhyw fath o ateb pendant inni erbyn rhyw ddyddiad penodol?’? Nid wyf yn awgrymu beth y dylai’r dyddiad hwnnw fod, ond mae angen dod â rhywfaint o sicrwydd i mewn i’r broses.
Yn ail, tybed a fyddech yn ddigon caredig i ateb cwestiwn na wnaethoch ei ateb gan Bethan Jenkins ynglŷn â’r gweithgor. Yn sicr, pan gysylltodd yr undebau â’r holl Aelodau Cynulliad perthnasol i ddweud bod y grŵp yn cael ei sefydlu, roedd yna deimlad y byddai ACau yn rhan o hynny, ac nid wyf yn siŵr a yw hynny’n wir. Nid wyf yn gwybod a oes unrhyw un yn y Siambr wedi mynd ar ei drywydd.
Ac yn drydydd, rwyf eisiau sôn eto ynglŷn â’r fargen ddinesig a’r ganolfan arloesi dur. Gwn fod hyn yn eithaf pell i ffwrdd, felly nid yw’r amseriad yn berffaith yma, ac yn amlwg, nid yw’r safle yn ardal y fargen ddinesig, ond mae ar garreg y drws, ac mae’n gyfleuster enfawr lle y mae cynhyrchu cynhyrchion modurol newydd gan ddefnyddio deunyddiau newydd, wedi’u datblygu drwy’r ganolfan wyddoniaeth o bosibl—mae’n gyfle na ellir ei anwybyddu. Fel rwy’n dweud, nid yw’r amseru’n wych o ran hynny, ond byddai colli arbenigedd y gweithlu hwn gyda hynny ar y gorwel yn ergyd ddifrifol, yn amlwg, i’r gweithwyr yr effeithir yn uniongyrchol ar eu teuluoedd—ac maent wedi cael eu trin yn wael iawn yn ystod y broses hon—ond hefyd i deuluoedd eraill hefyd sy’n rhan o economi y rhan hon o dde Cymru. Felly, er ein bod yn sôn am geir hybrid ac yn y blaen, gall deunyddiau newydd gynnig cyfleoedd modurol eraill. Diolch.
Ac mae’r Aelod yn hollol iawn. Mae’r gweithgor yn edrych yn frwd ar gyfleoedd a ddaw yn sgil y fargen ddinesig a chyfleoedd y gall strwythurau buddsoddi eraill sy’n rhan o strategaeth ddiwydiannol y DU, er enghraifft, eu cynnig hefyd. Mae’r diwydiant yn newid yn gyflym a phennir buddsoddiadau mewn cynhyrchion yn y dyfodol gan gylchoedd buddsoddi. Mae cynhyrchion newydd yn debygol o fod yn seiliedig ar dechnoleg sy’n datblygu, yn seiliedig yn bennaf ar fodelau injan hybrid a modelau injan drydan, ac rwyf wedi pwyso ar Ford yn Ewrop, ar lefel yn Cologne, i sicrhau bod Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn cael pob cyfle i wneud cais am y cynhyrchion newydd hyn ac i’w cael. Bydd y dyddiadau’n cael eu pennu gan benderfyniadau’r cylch buddsoddi, h.y. pan fydd yr injans presennol yn cael eu diddymu’n raddol ac injans newydd yn cael eu cyflwyno, ond rwyf wedi gofyn am gael fy nghadw mewn cysylltiad llawn â Ford dros eu cylchoedd buddsoddi. Ond mae cyfleoedd eraill y gellid eu sicrhau ar gyfer safle Ford ar ffurf cynhyrchu a gorffen injans sy’n cael eu gorffen yn rhywle arall ar hyn o bryd, ac unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y mae’r gweithgor yn mynd ar ei drywydd ar hyn o bryd.
O ran cyfansoddiad y gweithgor, rwyf eisoes wedi amlinellu bod yr aelodaeth yn cynnwys y fforwm modurol, Llywodraeth Cymru, Ford ei hun ac undeb Unite. Bydd yn adrodd wrthyf yn rheolaidd a minnau, yn fy nhro, yn adrodd wrth Aelodau’r Cynulliad. Pe bai Aelodau’r Cynulliad yn dymuno cyfarfod ag aelodau eraill o’r gweithgor, rwy’n siŵr mai grŵp trawsbleidiol fyddai’r fforwm mwyaf perthnasol a phriodol ar gyfer gwneud hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, er ei bod yn siomedig fod Jaguar Land Rover wedi penderfynu cynhyrchu eu hinjans yn fewnol, nid oedd unrhyw sicrwydd y byddai Ford wedi ennill y contract pan oedd i fod i gael ei adnewyddu ym mis Rhagfyr 2020. Felly, mae gennym ddwy flynedd a hanner i fod yn gadarnhaol a dod o hyd i gontractau ychwanegol ar gyfer safle Pen-y-bont ar Ogwr. Yr hyn nad oes ei angen yn awr yw bygythiad o streic. Mae angen i’r undebau, Ford, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i gontractau eraill. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, cyhoeddodd Ford heddiw y byddant yn buddsoddi’n drwm yn y cerbydau trydan. Rwy’n gwybod bod y rhan fwyaf o hyn wedi’i ateb yn barod, ond hoffwn gofnodi’r hyn rwy’n ei drafod. Pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai safle Pen-y-bont ar Ogwr ddarparu’r system yriant ar gyfer fflyd drydan a hybrid Ford yn y dyfodol? Hefyd, hoffwn gael fy ngwahodd i unrhyw gyfarfodydd sydd i ddod, neu o leiaf gael gwybod amdanynt, fel y nododd Suzy Davies. Diolch.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig i bob Aelod gael yr holl wybodaeth ynglŷn â datblygiadau mewn perthynas â Ford Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwy’n addo gwneud yn siŵr fod y newyddion diweddaraf yn cael ei gynnig i’r Aelodau’n rheolaidd ac fel y dywedais wrth Suzy Davies, efallai mai mewn grŵp trawsbleidiol fyddai’r adeg fwyaf priodol i gyfarfod ag Aelodau eraill y gweithgor ac i archwilio rhai o’r cyfleoedd wrth iddynt gael eu datblygu ymhellach. Rydych yn gywir fod gan Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddwy flynedd a hanner i sicrhau cynhyrchion newydd i’w cynhyrchu ar y safle, ac rydym yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod hynny’n digwydd. Rwy’n falch o ddweud bod undeb Unite wedi dewis deialog yn hytrach na gweithredu diwydiannol ffurfiol, ac mae arweinyddiaeth yr undeb yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod dyfodol hirdymor a chynaliadwy i’r safle a’i weithlu medrus.
Mae llawer o drafodaethau wedi digwydd eisoes ynglŷn â’r potensial i ddenu systemau gyriant trydan i’r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y trafodaethau hynny’n parhau ac fel y dywedais wrth Suzy Davies ac eraill, rydym yn benderfynol o fanteisio ar bob cyfle sy’n cael eu cynnig gan y technolegau newydd sy’n dod i’r amlwg yn gyflym.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef y datganiadau 90 eiliad. A daw’r datganiad 90 eiliad cyntaf heddiw gan Elin Jones.
Artist ei bobl oedd Aneurin Jones, a’i bobl oedd cymeriadau ei febyd ym Mrycheiniog ac, yn ddiweddarach, yng nghefn gwlad y gorllewin. Ei gynfas oedd ail hanner yr ugeinfed ganrif yn y cymdeithasau gwledig hyn, a’i gymeriadau i’w gweld yn sefyll a chloncan yn y mart, yn rhedeg merlod mynydd a chobiau, yn canu neu’n chwarae draffts, yn bwydo’r ffowls neu’n sefyll wrth iet y capel. I fi, fel llawer arall, rydw i’n siŵr, rydw i’n gweld ffedog liwgar fy mam-gu a ffrâm sgwâr fy nhad-cu yn y delweddau yma.
Roedd Aneurin Jones yn artist poblogaidd, gydag ymwelwyr cyson i’w stiwdio neu ei gartref yn Aberteifi i brynu ei waith. Nid oes llawer o artistiaid yn medru cynnal oriel stryd fawr, ond mi oedd Aneurin a’i fab, Meirion, yn artistiaid felly, gyda’u horiel yn Awen Teifi, Aberteifi. Mi oedd Aneurin yn llawn gymaint o gymeriad â’r holl rai yn ei luniau—yn athro, yn dynnwr coes, yn gymwynaswr, yn Gymro cadarn. Mi fu’n driw i’w bobl. Nid oedd ei waith yn mawrygu na bychanu ei bobl, ond yn cofnodi eu byw mewn celf, a’r gwaith celf hwnnw’n cael ei gymeradwyo a’i ganmol gan ei gydartistiaid yng Nghymru a thu hwnt.
Bu farw Aneurin yr wythnos diwethaf, yn un o artistiaid mawr ein gwlad, artist a oedd yn adnabod ei bobl ac yn perthyn i’w dir. Mae’n fraint i gydnabod camp a chelfyddyd Aneurin Jones heddiw, yma yn ein Senedd.
Diolch. Suzy Davies.
Diolch, Elin, am hynny hefyd—rwy’n cydymdeimlo.
Last week, Swansea’s application to become the UK City of Culture for 2021 was finally submitted. There’s more to Swansea than its culture from the past, although we shouldn’t overlook the Dylan Thomas legacy, nor that of Kingsley Amis, Peter Ham, Ceri Richards, and, of course, this week’s star, Vernon Watkins, nor that it’s 160 years since some of the earliest pictures of the moon were taken from Swansea by John Dillwyn Llewelyn. Swansea contributes to the culture of the world with the likes of Karl Jenkins, Spencer Davies, Glenys Cour, Hannah Stone, as well as well-known performers like Ria Jones, Rob Brydon and Catherine Zeta-Jones. The city hosts cultural events like the Swansea festival and fringe, the jazz festival, BBC proms in the park and even the Wales airshow. While there are similar events elsewhere in the UK, much like the Swans’ style of football, Swansea does it in its own special way.
This unique culture is reflected in its people, warm and funny, together, they are showing great imagination in reinventing this ‘ugly, lovely town’ and creating a true city. From Swansea business club and the Ospreys to Clyne Farm Centre, Swansea tidal lagoon and the universities, public and private bodies, this is a bid that represents the whole of the city and the whole of Wales. Disappointed last time out, Swansea is back on its feet and fighting once more. Northern Ireland had 2013, England is represented in 2017, so let’s make sure it’s Wales next.
Diolch. Julie Morgan.
Diolch. Mahatma Gandhi—ddydd Llun, dadorchuddiwyd cerflun o Mahatma Gandhi ym Mae Caerdydd, gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru. Canlyniad tair blynedd o waith caled a chodi arian gan Gyngor Hindwaidd Cymru oedd hyn, a hoffwn dalu teyrnged i’r sefydliad a’i gadeirydd, Vimla Patel, sydd wedi gweithio’n ddiflino i wneud y cerflun yn realiti. Mynychodd cannoedd o bobl y seremoni i weld y cerflun, a wnaed yn India gan y cerflunwyr Ram Sutar a’i fab Anil Sutar. Mae’r cerflun 6 troedfedd o uchder, y bydd llawer ohonoch eisoes wedi ei weld o bosibl, yn dangos Gandhi yn dal ffon ac ysgrythur Hindwaidd, a chredaf fod hwn yn ddiwrnod gwych i India, yn ddiwrnod gwych i Gaerdydd ac yn ddiwrnod gwych i Gymru. Ac i mi, roedd yn anrhydedd cael bod yn un o noddwyr y prosiect hwn.
Rwy’n gobeithio y bydd plant a phobl ifanc Caerdydd a Chymru yn dysgu am Gandhi a’i werthoedd, sy’n gynyddol bwysig mewn byd mor ansicr a threisgar. Cefais y fraint o eistedd wrth ymyl gor-ŵyr Gandhi yn y seremoni, ar y diwrnod a fyddai wedi bod yn ben-blwydd ei hen daid. Roedd yn addas iawn ein bod yn dadorchuddio cerflun ohono ar yr adeg hon, 70 mlynedd ar ôl rhaniad India. Roedd Gandhi wedi ymrwymo i annibyniaeth India ac yn ymroddedig i’r dull di-drais. Mae’r cerflun hefyd yn cydnabod y cysylltiadau cryf rhwng Cymru ac India. Fe ddof i ben gyda geiriau Gandhi:
Y dull di-drais yw’r grym mwyaf at ddefnydd y ddynoliaeth. Mae’n gryfach na’r arf dinistr mwyaf aruthrol a grewyd drwy ddyfeisgarwch dyn.
Diolch yn fawr iawn.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 5 ar yr agenda, sef datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyflwyno Bil a gynigir gan bwyllgor—Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Galwaf ar Simon Thomas, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n dda gen i ddweud, ar ddydd Llun, 2 Hydref, gosodais Fil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yn ffurfiol gerbron y Cynulliad. Dyma’r tro cyntaf i bwyllgor gyflwyno Bil ers i’r Cynulliad gael pwerau deddfu sylfaenol llawn. Mae’r Bil wedi bod yn destun gwaith helaeth dros nifer o flynyddoedd a hoffwn gofnodi fy niolch i Bwyllgor Cyllid y pedwerydd Cynulliad, dan gadeiryddiaeth Jocelyn Davies, am ei ymrwymiad i ddatblygu’r Bil.
Ar hyn o bryd, mae’r ombwdsmon yn ymgymryd â’i rôl o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae’r Bil hwn yn ailddatgan y Ddeddf honno, gan amlinellu hefyd nifer o bwerau newydd i greu un darn o ddeddfwriaeth ddwyieithog a fydd yn rhan o lyfr statud Cymru. Mae Deddf 2005 wedi hwyluso mynediad y cyhoedd at wasanaethau’r ombwdsmon. Mae wedi arwain at ddatrys anghydfodau ac wedi bod yn ffordd i unigolion gael iawn am gamwedd. Drwy ganolbwyntio ar ymdrin â chwynion yn y sector cyhoeddus, mae Deddf 2005 hefyd wedi ysgogi gwelliant o ran y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu. Fodd bynnag, ers cyflwyno Deddf 2005, mae’r arfer gorau a’r safonau rhyngwladol ar gyfer ombwdsmyn wedi symud ymlaen. Mae’r datblygiadau hyn yn cynnwys cryfhau pwerau ombwdsmyn yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn y pedwerydd Cynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad cyhoeddus i lywio ei ymchwiliad i’r cynigion i ymestyn pwerau’r ombwdsmon. Yn dilyn yr ymchwiliad hwn, lluniwyd Bil gan y pwyllgor. Ymgynghorodd y pwyllgor hwnnw ar y Bil drafft ddechrau mis Hydref 2015. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion yn gefnogol o ddarpariaethau’r Bil drafft. Gan nad oedd digon o amser yn y pedwerydd Cynulliad i gyflwyno Bil, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylid cyflwyno’r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosib yn y pumed Cynulliad.
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn y pumed Cynulliad wedi ystyried y Bil drafft, gan ofyn am dystiolaeth gan yr ombwdsmon, yn ogystal â rhoi ystyriaeth bellach i’r amcangyfrifon o gostau a manteision darpariaethau’r Bil. Cytunodd y Pwyllgor Cyllid, felly, i gyflwyno’r Bil i gryfhau rôl yr ombwdsmon, gan baratoi’r ddeddfwriaeth ar gyfer unrhyw beth a ddaw yn y dyfodol a gan sicrhau ei bod yn canolbwyntio ar y dinesydd.
Gwnaf sôn nawr ychydig am y darpariaethau newydd yn y Bil hwn. Bydd y Bil yn caniatáu i’r ombwdsmon dderbyn cwynion llafar, gan wella cyfiawnder cymdeithasol, felly, a chyfle cyfartal, ac yn cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Cymru deg a chyfiawn. Rydym yn credu y bydd yn hwyluso a gwella’r broses o wneud cwynion gan yr aelodau mwyaf bregus ac amddifadus o gymdeithas, fel pobl ag anawsterau dysgu, pobl ddigartref a’r henoed. Drwy gael gwared ar y gofyniad i wneud cwyn yn ysgrifenedig yn unig, bydd y Bil hefyd yn sicrhau mynediad at wasanaethau’r ombwdsmon yn y dyfodol, gan ganiatáu i’w swyddfa ddatblygu canllawiau i ymateb i ddatblygiadau’r dyfodol, megis datblygiadau ym maes technoleg—’apps’, ‘smartphones’ ac ati.
Bydd y Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i’r ombwdsmon gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Bydd angen bodloni meini prawf sydd wedi’u pennu ar wyneb y Bil cyn dechrau ymchwiliad o’r fath, ond bydd y pŵer i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hunan yn ffordd o ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed a rhoi sylwi i urddas unigolion. Mae manteision ehangach i hyn hefyd. Bydd yn galluogi’r ombwdsmon i ymateb yn well i ddinasyddion gan ei fod yn caniatáu iddo fe ymchwilio i faterion a ddaw i law yn ddienw, gan gryfhau llais y dinesydd.
Mae’r Bil yn caniatáu i’r ombwdsmon ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â’r elfen gwasanaethau iechyd preifat, gan gynnwys triniaeth feddygol a gofal nyrsio, a ddaw mewn cwyn mewn llwybr cyhoeddus/preifat gyda’i gilydd. Bydd hyn yn galluogi’r ombwdsmon i ymchwilio i’r gŵyn gyfan, sy’n golygu y gall ymchwiliadau ddilyn y dinesydd yn hytrach na dilyn y sector. Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf 2005, mae gan yr ombwdsmon yr awdurdod i ymchwilio lle mae’r gwasanaeth iechyd gwladol wedi comisiynu triniaeth feddygol yn breifat i gleifion, ond nid lle mae cleifion eu hunain yn comisiynu triniaeth o’r fath. Os yw cleifion yn comisiynu triniaeth breifat, ar hyn o bryd mae’n rhaid iddyn nhw wneud cwynion ar wahân ar gyfer yr elfennau cyhoeddus a phreifat i’r ombwdsmon a’r darparwr sector preifat. Nid yw hyn yn foddhaol i ddinasyddion Cymru.
Er enghraifft, wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid yn egluro’r problemau hyn, soniodd yr ombwdsmon am gŵyn ddiweddar. Roedd aelod o’r cyhoedd wedi cysylltu â’i swyddfa ynghylch y driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar ŵr a gafodd driniaeth drwy’r gwasanaeth iechyd gwladol, yna triniaeth breifat, cyn dychwelyd i’r gwasanaeth iechyd eto. Dywedodd yr ombwdsmon y bu’n rhaid i’r unigolyn aros pum mlynedd a hanner i gael ymateb, sy’n amlwg yn annerbyniol.
Bydd darpariaethau’r Bil hefyd yn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac o ran ymdrin â chwynion. Mae model o bolisi cwynion ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd i helpu i sicrhau cysondeb ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Mae tystiolaeth yn dangos, er bod y sefyllfa’n gwella, nad yw’r sector cyhoeddus yn ei fabwysiadu mewn ffordd gyson. Rydym yn gobeithio y bydd y Bil yn mynd i’r afael â hyn. Mae darpariaethau’r Bil ar gyfer ymdrin â chwynion a gweithdrefnau yn cynnig dull tebyg i Gymru i’r hyn sydd yn yr Alban ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu, am y tro cyntaf, y bydd data rheolaidd, dibynadwy a chymaradwy ar gael ynglŷn â chwynion ar draws y sector cyhoeddus. Bydd hyn, gobeithio, yn ysgogi atebolrwydd a gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn arwain at dryloywder o ran adrodd ac yn grymuso’r broses graffu, lle mae data a gwybodaeth yn hanfodol.
Fel pwyllgor, rydym yn credu ei bod hi’n bwysicach nag erioed fod gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru a bod yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn cael y grym priodol i sicrhau bod ein gwasanaethau’n canolbwyntio ar y dinesydd. Mae angen i’r cyhoedd fod â hyder yn yr ombwdsmon a swyddogaeth yr ombwdsmon i ymchwilio os ydynt yn credu eu bod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi neu rhyw gamwedd drwy gamweinyddiaeth, neu yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, ac rydym yn credu y bydd y Bil hwn yn mynd dipyn o’r ffordd i gyflawni hyn. Dyma pam, ym marn y Pwyllgor Cyllid, fod angen Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), ac felly, ar ran y pwyllgor, rwy’n cymeradwyo’r Bil i’r Cynulliad.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr. A gaf ddweud i ddechrau gair o ddiolch i Simon Thomas ac aelodau eraill y Pwyllgor Cyllid am y gwaith maen nhw wedi’i wneud yn barod i baratoi’r Bil ar hyn o bryd, ac i gyflwyno’r Bil heddiw? Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi rôl yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n darparu gwasanaeth pwysig wrth fod yn gyfrwng i helpu dinasyddion sydd heb dderbyn y lefel o wasanaeth gan y sector cyhoeddus y mae ganddyn nhw yr hawl i’w ddisgwyl. Bydd Llywodraeth Cymru yn edrych mewn modd cadarnhaol ar fesurau a fydd yn helpu’r ombwdsmon i gyflawni ei rôl e.
Felly, er enghraifft, byddem yn croesawu’r cynnig y dylai fod yn gallu derbyn cwynion ar lafar. Gall hyn helpu’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan gynnwys y rheiny sydd â nodweddion gwarchodedig. Rwy’n siŵr y bydd y pwyllgorau fydd â’r cyfrifoldeb i graffu ar y Bil hefyd am ystyried sut y bydd y bobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn cael eu cefnogi i ddehongli’r ddeddfwriaeth arfaethedig.
Ar y llaw arall, Dirprwy Lywydd, mewn perthynas â rhai agweddau eraill ar y Bil, mae gan Lywodraeth Cymru bryderon y gallai ehangu rôl yr ombwdsmon arwain at bobl yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu gor-reoleiddio yng Nghymru, ac y gallai arwain at orgyffwrdd neu ddryswch yn rolau gwahanol reoleiddwyr. Edrychwn ymlaen at gynnal rhagor o drafodaethau ar y materion hyn a rhai pethau eraill yn y Bil yn ystod y broses graffu.
Rydych chi siŵr o fod yn disgwyl i mi ddweud hyn, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ond dylwn hefyd ychwanegu fod gennym bryderon am y gost gynyddol a fyddai’n cael ei hysgwyddo yn sgil y ddeddfwriaeth hon, ar adeg pan fo’n rhaid i weddill y gwasanaethau cyhoeddus ddal yn ôl. Mae pob punt ychwanegol a chaiff ei gwario yma, neu arbedion na chaiff eu gwneud, yn bunt na ellir ei throsglwyddo i wasanaethau rheng flaen.
Bydd hefyd angen edrych yn bellach ar yr agwedd hon yn ystod y broses graffu, ond credaf fod angen i ni fod yn hollol sicr y byddai Cymru yn cael buddion sylweddol am y costau ychwanegol a ysgwyddir. Yn y cyfamser, wrth i’r Bil cael ei gyflwyno’n ffurfiol, mae Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen at gymryd rhan adeiladol ac agos yn y broses graffu sydd ar y gweill. Diolch yn fawr.
A gaf ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ymateb i’r datganiad, ac am osod, yn y lle cyntaf, ei fod yn mynd i gymryd agwedd gadarnhaol tuag at y Bil hwn? Mae wedi’i rhoi’i fys ar un peth amlwg, lle mae’r Bil yn mynd i’r afael â gwendid presennol, lle nid oes modd gwneud cwynion ar lafar. Mae’n amlwg o ran y ffordd y mae technoleg yn datblygu a’r ffordd y mae rhai pobl, fel yr oedd e’n ei ddweud, gyda ‘protected characteristics’, fel petai, yn cael eu gwarchod hefyd, fod angen unioni’r sefyllfa honno.
Roedd e hefyd, wrth gwrs, yn briodol iawn fel cynrychiolydd y Llywodraeth, yn sôn am y rhychwant, yr ystod o reoleiddwyr eraill, a phobl eraill sydd yn gweithredu yn y maes yma, ac am osgoi gorgyffwrdd â gwaith rheoleiddwyr eraill. Mae’r Bil, fel y mae wedi cael ei ddrafftio ar hyn o bryd, yn cynnwys nifer o ddarpariaethau ar gyfer sicrhau bod cydlynu yn hynny. Ond, wrth gwrs, wrth i ni graffu ar y Bil, mae’n bosib iawn y bydd angen edrych ar hynny i wneud yn siŵr ei fod yn ddigon cadarn ac nad oes modd—neu, yn hytrach, fod modd osgoi’r pryderon yr oedd y Gweinidog wedi sôn yn eu cylch.
Yn olaf, wrth gwrs, mae’r gost yn gwestiwn cwbl briodol i’w godi ar y mater yma. Byddwn i jest am atgoffa’r Cynulliad cyfan mai chi, y Cynulliad, sy’n talu am y gost yma ac felly jest i bawb fod yn ymwybodol bod unrhyw gostau ychwanegol sy’n deillio o’r Bil yma yn dod atoch chi yn y pen draw, yn amcangyfrifon yr ombwdsman gwasanaethau cyhoeddus, sy’n cael eu trafod gan y Pwyllgor Cyllid ac, yn eu tro, yn cael eu cymeradwyo yn fan hyn. Ond, wrth gwrs, mae’n dod o’r arian bloc. Mae’n rhan o’r arian bloc, ac felly fe fydd yr Ysgrifennydd Cabinet, fel y person sydd yn bennaf gyfrifol am y rhan fwyaf o’r arian yn yr arian bloc, rwy’n siŵr, eisiau cadw llygad barcud ar y gwariant yma, ond mae’n siŵr y bydd Aelodau eraill y Cynulliad hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod y costau sydd ynghlwm—ac sydd wedi’u hamlinellu’n drylwyr iawn, rwy’n meddwl, yn y memorandwm esboniadol—yn briodol i’r enillion y byddwn ni’n eu hennill wrth basio’r Bil neu’r darpariaethau newydd sydd yn cael eu hawgrymu yn y Bil. Felly, rwy’n edrych ymlaen at y drafodaeth honno.
Rwy’n sicr yn croesawu mwy o bwerau i’r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus o dan y Bil hwn a chynnwys y Cynulliad yn y broses benodi. Roeddwn yn gefnogol iawn i hyn pan ddaeth gerbron y pwyllgor y tymor diwethaf ac edrychaf ymlaen at graffu yn ein pwyllgor pan ddaw gerbron.
Credwn yn gryf y dylai’r ombwdsmon fod yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac nid i Lywodraeth Cymru’n unig, felly mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn falch o nodi y bydd yr enwebiad ar gyfer y rôl hon yn digwydd yma drwy’r Cynulliad. Fodd bynnag, hoffwn gael rhywfaint o eglurhad pellach ynglŷn â sut y bydd Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwydo i mewn i bob lefel o broses enwebu’r ombwdsmon, ac nid camau olaf y penodiad yn unig.
O ran hygyrchedd, rydym yn croesawu cynigion i ddiddymu’r gofyniad i wneud cwyn yn ysgrifenedig ac i’r ombwdsmon ddal i allu cychwyn ymchwiliadau. Pum aelod arall o Gyngor Ewrop yn unig sydd ag ombwdsmyn heb y pŵer hwn, felly mae’n hen bryd i hyn ddigwydd, mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau nad yw Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU ac Ewrop. Wrth sicrhau gwrthrychedd mewn perthynas â’r pŵer hwn, sut y bydd y darpariaethau yn y Bil yn tynnu llinell derfyn glir rhwng ymrwymiad yr ombwdsmon i gynrychiolaeth a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru? A sut y bydd y Bil yn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru a gwasanaeth cyhoeddus yn fwy agored i dderbyn canlyniadau ymchwiliadau?
Mae’r polisi cwyno enghreifftiol cyfredol yng Nghymru yn wirfoddol a nododd y Pwyllgor Cyllid yn flaenorol nad oedd y modd y cafodd ei fabwysiadu ar draws y sector cyhoeddus yn gyson. Felly, yn gyntaf, pa ystyriaeth y gellid ei rhoi i sail statudol y canllawiau a gyhoeddir gan yr ombwdsmon i fod yn gymwys ar gyfer gwasanaethau iechyd preifat yn ogystal? Yn dilyn y drafodaeth diwrnod agored yr wythnos diwethaf, bydd y pŵer newydd penodol hwn yn golygu y byddwn yn gallu casglu data rheolaidd, dibynadwy a chymaradwy ar gwynion ar draws y sector cyhoeddus. Yn ail, felly, sut y caiff y data hwn ei gasglu er mwyn mynd ati’n gadarn i hyrwyddo atebolrwydd a thryloywder mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan rymuso’r broses graffu?
Ac yn olaf, sut y pennir arferion gorau wrth edrych i’r dyfodol? A fyddwn yn gallu craffu ar enghreifftiau o arferion gorau o bob cwr o’r DU a thu hwnt er mwyn sicrhau bod cwynion gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon ac yn effeithiol o ganlyniad i’r Bil hwn? A fydd hyn yn cael ei adolygu fel rhan o’r adolygiad pum mlynedd gan y Cynulliad hwn?
Diolch i’r pwyllgor a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am dderbyn hyn mewn ysbryd da. Edrychaf ymlaen at weithio gyda phawb, yn fy rhan ar y pwyllgor, a phan ddaw i’w graffu yma, er mwyn sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn. Diolch.
Diolch i Janet Finch-Saunders am ei sylwadau a’i chroeso cyffredinol i’r hyn y mae’r Bil yn cynnig ei wneud. A gaf fi ddweud ar y dechrau fod y Bil yn seiliedig ar—nid yw’n newid y ddeddfwriaeth bresennol o ran atebolrwydd yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus i’r Cynulliad Cenedlaethol, nid i’r Llywodraeth? Ef ydyw. Ar hyn o bryd mae’n ombwdsmon annibynnol, ac wedi ei benodi am—. Rwy’n credu bod nifer o flynyddoedd i fynd o hyd tan ddiwedd ei benodiad. Ni allaf gofio’n union pa bryd y dechreuodd yn y swydd—rhywbeth fel 2013, rwy’n meddwl, neu 2014. Mae’r Bil yn rhoi sicrwydd penodol na chafodd ei benodiad ei dorri drwy basio’r Bil hwn—felly nid ydym wedi ymyrryd â’r pwerau sydd ar waith—a phan ddown i benodi ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus newydd, nid yw’r Bil yn newid y trefniadau presennol sy’n sicrhau mai’r Cynulliad hwn sy’n gyfrifol am hynny, hyd at ac yn cynnwys penodi drwy bwyllgor. Felly, rwy’n gobeithio y gellir edrych ar rai o’r datblygiadau arloesol eraill hefyd a gawsom yn y Pwyllgor Cyllid, er enghraifft gyda gwrandawiadau cyn penodi ac yn y blaen, nid yn unig ar gyfer yr ombwdsmon, ond ar gyfer yr archwilydd cyffredinol newydd, sef yr apwyntiad nesaf a wneir gan y Cynulliad hwn mewn gwirionedd.
Croesawaf y ffaith eich bod at ei gilydd am weld y pwerau hyn ac yn credu bod y pwerau cwynion llafar a phwerau i weithredu ar ei liwt ei hun, sef un o’r pwerau mwy arloesol yn hynny o beth y fy marn i, a ddefnyddir, fel y dywedoch, gan ombwdsmyn eraill drwy Gyngor Ewrop i gyd. Nid yw’n unigryw yn yr ystyr honno, felly mae angen inni ddeall y gymhariaeth ryngwladol honno. Pe bai’r ombwdsmon yma ei hun, rwy’n siŵr y byddai’n siarad am y rhwydwaith o ombwdsmyn sy’n bodoli. Ceir cynadleddau rhyngwladol, ac maent yn dod at ei gilydd. Yn wir, mynychais un yn Aberystwyth y llynedd i glywed gan ombwdsmyn eraill sut y caiff eu gwaith ei wneud.
O ran y mater penodol yn ymwneud â chasglu data, rwy’n credu ei bod yn bwysig cofio bod yr ombwdsmon yn llunio adroddiad blynyddol i’r Cynulliad hwn, sy’n cael ei graffu, rwy’n meddwl, gan y pwyllgor rydych yn aelod ohono, ond mae ar gael i holl Aelodau’r Cynulliad. Buasech yn disgwyl i’r adroddiad blynyddol, os daw’r Bil hwn yn ddeddf, gynnwys y data hwnnw, a chynnwys y gymhariaeth o’r data. Yn sicr, mae’r asesiad effaith rheoleiddiol yn ystyried rhai o’r costau a allai godi mewn perthynas â hynny ac wrth gwrs, mae gennych rai costau sefydlu cychwynnol i wneud yn siŵr fod gennych y seilwaith yn ei le er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Ond y wers glir yn hyn—pwynt olaf Janet Finch-Saunders, rwy’n meddwl—oedd sut y mae hynny wedyn yn llywio arferion gorau, ac rydym yn awyddus i weld hynny wedi ei adlewyrchu yn adroddiadau blynyddol ombwdsmyn yn y dyfodol. Rydych yn hollol iawn; yn y Bil ei hun, ceir gofyniad penodol i’r Cynulliad wneud adolygiad pum mlynedd o’r Bil a’i weithrediad, ond nid yw hynny, mewn unrhyw ffordd, yn rhwystro unrhyw adolygiad arall rhag cael ei wneud gan unrhyw un o bwyllgorau’r Cynulliad neu unrhyw gorff allanol y gellid ei gomisiynu i wneud hynny.
Rwy’n credu, o ran y polisi enghreifftiol, system wirfoddol yw honno ar hyn o bryd, fel y dywedoch yn hollol gywir. Byddai gennym safon aur o’i rhoi ar sail fwy statudol yn fy marn i. Buaswn yn gobeithio, er enghraifft, y byddai darparwyr gofal iechyd preifat wedyn yn awyddus i fod yn rhan o’r safon aur oherwydd byddai hynny, yn ei dro, yn dangos sut y maent yn chwarae eu rôl yn diwallu anghenion dinasyddion ac yn diwallu anghenion pobl Cymru.
Mae fy nghroeso’n gynnes iawn hefyd i gyflwyno’r Bil cyntaf hwn a gynhyrchwyd gan bwyllgor. Ddeunaw mlynedd ar ôl i ni bleidleisio dros ddatganoli mae gennym bellach Fil wedi ei gyflwyno gan un o bwyllgorau’r Cynulliad. Rwy’n credu bod hwnnw’n gam enfawr ymlaen. Roeddwn yn rhan o’r Pwyllgor Cyllid yn y Pedwerydd Cynulliad, ac a gaf fi ymuno â Simon Thomas i roi clod i Jocelyn Davies am y gwaith a wnaeth fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw ar symud y Bil hwn i’r cam y mae arno ar hyn o bryd?
Mae’r ombwdsmon yn darparu gwasanaeth hynod o bwysig i lawer o’r bobl sy’n byw yng Nghymru. Yn aml, yr ombwdsmon yw’r dewis olaf i bobl sy’n ceisio cael cyfiawnder. Maent wedi cael eu siomi gan y system drwyddi draw. Yr ombwdsmon yw’r person olaf y gallant droi ato. Mae’r Bil arfaethedig yn darparu llawer o welliannau posibl. A gaf fi sôn am gwynion llafar? Ni all yr ombwdsmon gymryd cwynion llafar. Buaswn yn tybio bod pob un ohonom yn yr ystafell hon yn cymryd cwynion llafar. Os na fyddem yn gwneud hynny, byddem yn torri oddeutu un rhan o dair oddi ar nifer y cwynion a gawn gan etholwyr. Pe na baem yn eu derbyn ar lafar, ac yn aml iawn mewn mannau amhriodol, pan fyddant eisiau dweud wrthych am bethau—. Mae llawer o bobl yn hoffi dweud pethau wrthych yn hytrach na gorfod eu hysgrifennu. Mae yna broblem lythrennedd ymhlith llawer o bobl nad ydynt yn hoffi ysgrifennu pethau ar bapur, yn enwedig yn swyddogol, pethau y bydd y byd swyddogol yn ymdrin â hwy. Maent yn nerfus yn ei gylch. Maent yn nerfus ynglŷn â’u sgiliau llythrennedd. Yn bwysicaf oll efallai, rwy’n credu eu bod yn ofni gwneud camgymeriad. Rwy’n credu y bydd caniatáu i’r ombwdsmon dderbyn pethau ar lafar yn golygu y bydd pobl yn cael gwared ar yr ofn hwnnw. Nawr, gallai hynny gynyddu nifer y cwynion sy’n mynd at yr ombwdsmon, ond gallai hefyd atal cwynion yn y dyfodol, oherwydd, os yw’r ombwdsmon yn cael llawer o gwynion mewn un maes, yn hytrach na’i fod yn gorfod aros yn barhaus am y nesaf—ac rwy’n dweud ‘ei fod’ yn hytrach nag ‘ei bod’ am mai ef ydyw ar hyn o bryd—bydd yn gallu ymdrin â’r mater.
Felly, os nad yw’n gwneud dim arall, byddai cwynion llafar yn newid yr ombwdsmon yn llwyr o fod yn rhywun sy’n gweithio yn y math hwnnw o faes technegol y mae pob un ohonom ni’n teimlo’n gartrefol ynddo, ond un na fyddai nifer fawr o fy etholwyr yn teimlo felly ynddo, i rywun sy’n barod i wrando ar gwynion yn yr un modd ag y mae pob un ohonom ni yn ei wneud.
Un cwestiwn sydd gennyf i Simon Thomas: a wnaiff amlinellu ymhellach sut y mae’r ddeddfwriaeth yn adeiladu ar y ddeddfwriaeth bresennol i fod o fudd i’r hyn y dylem fod â diddordeb ynddo’n unig: pobl Cymru?
Diolch i Mike Hedges, nid yn unig am ei sylwadau heddiw, ond am y gwaith a wnaeth ar y Pwyllgor Cyllid yn flaenorol, ac wrth gwrs rwy’n cefnogi’n fawr iawn yr hyn a ddywedodd am Jocelyn Davies. Rwy’n gobeithio y gallaf barhau—. Rwy’n credu bod gan Jocelyn ddull o weithredu lle’r oedd hi’n awyddus i weithio gyda phob plaid yma, ac rwy’n gobeithio bod—. Yn sicr, mae tywys Bil drwodd, mae angen i mi wneud hynny, ac rwy’n ymwybodol iawn fod angen i mi adeiladu cefnogaeth i’r Bil hwn ar ran y pwyllgor.
Hoffwn ddweud, cyn ateb y cwestiwn yn benodol, i gefnogi’r hyn roedd Mike Hedges yn ei ddweud am yr angen am gwynion llafar, mae pawb ohonom wedi eistedd yn ein cymorthfeydd ac yn ein swyddfeydd gyda phobl sy’n barod iawn i ddweud eu stori wrthym ond nad ydynt am lofnodi’r darn o bapur neu ddweud nad ydynt wedi dod â’u sbectol, wyddoch chi, ac mae’n rhaid i ni lywio ein ffordd drwy hyn. Ond wrth edrych ar y Bil hwn, cefais fy nharo gan ffigurau anllythrennedd gweithredol, i bob pwrpas, yng Nghymru. Mae mor uchel â 25 y cant o’r boblogaeth sy’n oedolion, ac yn uwch yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Felly, rwy’n meddwl bod yna angen gwirioneddol inni agor y drysau i’r ombwdsmon glywed y cwynion llafar hynny.
Wrth gwrs, mae’n rhaid cael rhyw fath o broses ddilysu a byddai’n rhaid i ni sicrhau bod yr ombwdsmon yn gallu gwneud yn siŵr fod y cwynion yn cael eu hystyried yn llawn. Ond gellid gwrthbwyso’r cynnydd posibl yn nifer y cwynion wedyn, fel y dywedodd Mike Hedges, â dealltwriaeth well o batrwm y cwynion mewn sector penodol, a allai arwain at ymchwiliad ar ei liwt ei hun, ac yn ei dro, hefyd, â’r rhan o’r Bil sy’n ymwneud â safoni, sydd, yn sicr yn achos ombwdsmon yr Alban, wedi arwain at lai o gwynion yn symud ymlaen o’r cam cyntaf mewn gwirionedd. Mewn geiriau eraill, mae pethau’n cael eu datrys yn gynt a cheir rhai arbedion o fewn y system oherwydd hynny.
I ymateb yn benodol i Mike Hedges, rwy’n ei sicrhau ef a’r Cynulliad cyfan nad yw’r Bil ond yn adeiladu ar y Biliau cyfredol; nid yw’n diddymu unrhyw bwerau. Yn ogystal â’r pwerau cwynion llafar, fel y dywedais, bydd yn galluogi’r ombwdsmon i gael y pwerau hynny i weithredu ar ei liwt ei hun. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cofnodi nad ydym yn ysgrifennu siec wag i’r ombwdsmon fynd i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Mae’n dweud ar wyneb y Bil sut y mae’n rhaid i’r ymchwiliadau hynny ymwneud â’i waith ac anghenion ehangach y dinesydd. Rwy’n gobeithio, wrth graffu ar y Bil, y caiff anghenion y dinesydd eu cydnabod fel rhai sy’n ganolog i’r Bil hwn, ac wrth gwrs, efallai y bydd yna syniadau sy’n dod i mewn drwy’r broses ddiogelwch a fydd yn ein cynorthwyo ac yn ein helpu i gyflawni’r nod hwnnw.
Hoffwn innau hefyd ddiolch i Simon Thomas, fel Cadeirydd y pwyllgor, am y gwaith y mae wedi’i wneud yn dod â’r Bil yma ymlaen. Yn wir, mae nifer o’r pwyntiau roeddwn i’n mynd i’w codi wedi cael eu codi eisoes gan Aelodau eraill. Ond rwy’n meddwl ei fod yn bwynt pwysig i’w wneud—mae Mike Hedges wedi sôn am hyn yn enwedig—y pwynt yma ynglŷn â chostau yn ymwneud â derbyn cwynion ar lafar. Achos, wrth gwrs, os oes cynnydd yn mynd i fod yn nifer y cwynion oherwydd bod modd gwneud y cwynion ar lafar, bydd hynny efallai yn meddwl bod yna gost ar gychwyn y broses yna, ond, yn yr hir dymor, fe allwn ni sicrhau, drwy’r broses yma, fod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio’n well ac yn fwy effeithlon, ac felly bydd yna arbediad. ‘Invest to save’, efallai—y model yna.
Rwy’n gweld Aelod y Cabinet yn gwenu. Rwy’n gwybod ei fod yn awyddus iawn i gadw costau o dan reolaeth, am resymau amlwg, ond rwy’n meddwl fod hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Mae nifer o’r bobl sy’n ymwneud yn rheolaidd gyda gwasanaethau cyhoeddus, ac sydd wedyn angen system er mwyn cwyno i gael cyfiawnder, yn bobl sydd angen pob modd a chefnogaeth bosibl er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael triniaeth gyfartal efallai y byddai rhai ohonom ni’n teimlo’n fwy hyderus yn gwneud yn ysgrifenedig.
Hoffwn i ofyn i Gadeirydd y pwyllgor sut mae fe’n rhagweld y bydd modd hysbysu ymysg ein dinasyddion ni bod y broses newydd yma ar gael iddyn nhw. Sut fath o broses bydd angen rhoi yn ei le i sicrhau bod dinasyddion yn gwybod bod modd iddyn nhw wneud cwynion ar lafar? A, hefyd, roedd y Cadeirydd wedi sôn nifer o weithiau yn ei ddatganiad ef, am resymau da iawn, ynglŷn â ‘futureproof’—nid ydw i’n siŵr beth yw hynny’n Gymraeg, ond sicrhau bod pethau’n dda ar gyfer y dyfodol ynglŷn â thechnoleg ac yn y blaen. Wrth gwrs, mae technoleg yn gallu bod yn beth arbennig o dda, yn ei gwneud hi’n haws i bobl cysylltu, yn arbennig â phobl mewn swyddi cyhoeddus, ond, wrth gwrs, mae hynny’n mynd i greu lot fawr o waith os oes modd derbyn cwynion, er enghraifft, drwy Twitter. Gallaf i ddychmygu y byddai hynny, efallai, gyda canlyniadau na fyddai rhywun yn eu rhagweld neu moyn yn y lle cyntaf. So, hoffwn i ofyn, fel roeddwn i’n ei ddweud, yn y lle cyntaf: sut rydym ni’n mynd i sicrhau bod dinasyddion, ar yr un llaw, yn gwybod bod ganddyn nhw’r hawl i wneud y cwynion yma ar lafar a chael y gefnogaeth i wneud hynny, ond, ar y llaw arall, sut rydym ni’n mynd i gadw’r cydbwysedd yna, gan gofio bod Mr Drakeford yn mynd i fod yna’n edrych ar y costau—sut rydym ni’n mynd i sicrhau bod hynny’n cael eu cadw o fewn rhyw fath o reolaeth, ac ein bod ni ddim yn defnyddio cyfleoedd technolegol, achos byddai hynny efallai’n creu sefyllfa nad ydym ni eisiau ei weld?
Diolch yn fawr i Steffan Lewis am y cwestiynau yna. A gaf i ddechrau drwy ddweud bod yna newyddion da fan hyn yn y cyd-destun ehangach, sef, os edrychwch chi ar adroddiadau’r ombwdsman gwasanaethau cyhoeddus dros y blynyddoedd diweddar, mae nifer y cwynion, heb y ddeddfwriaeth arfaethedig, wedi bod yn codi’n gyson? Nawr, a ydy hynny’n adlewyrchu ar safon gwasanaethau cyhoeddus, neu a ydy’n adlewyrchu ar well gwybodaeth am wasanaethau’r ombwdsman? Nid yw hynny’n gwestiwn fedraf i ei ateb nawr, ond beth gallaf i ddweud yw, wrth i nifer y cwynion gynyddu, mae’r gost fesul cwyn i’r ombwdsman o ddelio â’r cwynion yna wedi bod yn gostwng. Felly, mae fe’n ddiddorol i weld bod y cwynion yn mynd i fyny ond mae’r gost fesul cwyn yn gostwng, sy’n golygu bod yr ombwdsman hyd yma wedi bod yn llwyddo i lyncu, os leiciwch chi, y costau hynny ac eu absorbio nhw tu fewn i’r ffordd mae’n gweithio fel swyddfa a darparu mwy o wasanaeth heb, o reidrwydd, fynd i’r holl gostau ychwanegol o hynny.
Mae hefyd yn wir i ddweud bod yr ombwdsman wedi gosod nenfwd gwirfoddol wrth ddod i’r Pwyllgor Cyllid. Ni fyddai fe’n gofyn am fwy na 0.03 y cant o’r bloc cyfan. Felly, er bod hynny’n wirfoddol, mae’n rhywbeth y gall y Pwyllgor Cyllid, ac, yn ei tro, y Cynulliad, wastad mynnu mewn cyd-destun. Felly, mae rheolaeth dros gostau, i raddau, yn nwylo’r Cynulliad a’r pwyllgor. Felly, nid yw hwn, fel roeddwn i’n ei ddweud, yn fath o siec blanc i alluogi hynny i ddigwydd. Ond mae’n wir i ddweud y gall mwy o wybodaeth am wasanaethau a mwy o hygyrchedd i’r gwasanaethau yna arwain at gynnydd mewn nifer y cwynion. Os edrychwch chi ar y ffaith ein bod ni’n trafod deddfwriaeth sy’n seiliedig ar Ddeddf 2005, wel, nôl yn 2005, nid oedd iPhone, nid oedd ‘apps’, nid oedd modd o gwbl o gysylltu’n uniongyrchol yn y modd yna. Nid oes unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth bresennol sy’n galluogi’r ombwdsman i estyn allan a hysbysebu ei wasanaethau yn y modd yna; mae popeth yn gorfod cael ei wneud ar ffurf ysgrifenedig, a’r ffordd mwyaf electronig yw derbyn e-bost. Wel, byddech chi’n dymuno—efallai nid ar Twitter, achos rydym ni i gyd o bryd i’w gilydd yn cael cwynion ar Twitter, mae’n siŵr, na Facebook, ond byddech chi yn disgwyl dros gyfnod i’r gwasanaethau rhyngweithiol yna, drwy ddulliau ‘app’, ffonau doeth neu beth bynnag yw e, gael eu datblygu gan yr ombwdsman, ond mae’n anodd gwneud hynny tra bod y pwerau mor gyfyngedig i gwynion ysgrifenedig yn unig.
Diolch yn fawr iawn.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar newid yn yr hinsawdd, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig y cynnig. Simon.
Cynnig NDM6509 Simon Thomas, Adam Price, David Melding, Mike Hedges
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr angen i liniaru cynhesu byd eang a chefnogi cytundeb Paris o’r 21ain gynhadledd o’r partïon (‘Cytundeb Paris’) drwy dorri allyriadau carbon a nodi bod hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
2. Yn nodi bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy wedi’i hymgorffori yng ngwaith y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil pellach i ddichonoldeb cynllun peilot cyfrifon carbon personol yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Newid cyflym, Dirprwy Lywydd, a hoffwn awgrymu wrth yr Aelodau, os ydych wedi cael digon arnaf yn barod yna ystyriwch gael mwy o Aelodau yn y Cynulliad er mwyn inni allu rhannu ychydig mwy ar y gwaith. [Chwerthin.] Ond rwy’n falch iawn o gyflwyno dadl Aelodau’r meinciau cefn ar y cysyniad o gael ein cyfrifon carbon personol ein hunain. Cyd-destun hyn, wrth gwrs, yw bod Deddf yr amgylchedd yma yng Nghymru yn gosod targed i leihau allyriadau carbon 80 y cant erbyn 2050, ac yma yn y Cynulliad rydym yn sôn llawer am yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, rydym yn siarad llawer, efallai, am yr hyn y mae rhai busnesau preifat yn ei wneud, rydym yn sôn am syniadau newydd, fel y morlyn llanw neu beth bynnag y gallai fod, ond nid ydym yn siarad cymaint am yr hyn y gallai ein cyfraniad personol ni fod i hynny. Felly, cefais fy nharo’n fawr, pan gyfarfûm â Martin Burgess, sy’n un o fy etholwyr yn Aberystwyth, ond yn y cyd-destun hwn, mae’n ymchwilydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac wedi bod yn gweithio ar y cysyniad o gyfrifon carbon personol ers tua degawd bellach, ac wedi helpu i ddatblygu o fewn y brifysgol, ond hefyd yn fwy cyffredinol, sut y gellid datblygu’r cysyniad hwn.
Rwy’n credu ar y dechrau fy mod eisiau dweud, er bod yna gysyniad go iawn yma y gellid ei weithio ar lawr gwlad, mae yna drafodaeth fwy diddorol hefyd—neu lawn mor ddiddorol—ynglŷn ag a ydym yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb personol am ein defnydd o garbon, ac rwy’n gobeithio y bydd y ddadl hon yn ein galluogi i drafod a sbarduno hynny hefyd.
Bu bron i’r cysyniad ddwyn ffrwyth: comisiynodd David Miliband, fel Ysgrifennydd yr amgylchedd, adroddiadau annibynnol ar gyfrifon carbon personol. Aeth yr adroddiadau yn y diwedd at Hilary Benn—daeth yn Ysgrifennydd yr amgylchedd yn 2008. Cafodd ei roi i’r naill ochr, mae’n rhaid dweud, ond rwy’n credu ei fod yn syniad y mae ei amser yn sicr wedi dod i’w drafod yn y Cynulliad.
Felly, sut y byddai hyn yn gweithio fel cysyniad? Wel, yn syml iawn, mae gan bob un ohonom ein defnydd personol ein hunain o garbon yn y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau bob dydd, y ffordd yr ydym yn siopa, y ffordd yr ydym yn gyrru, y ffordd yr ydym yn teithio i’r gwaith, y ffordd yr ydym yn prynu ein nwyddau, a’r ffordd yr ydym yn effeithio ar yr amgylchedd. Mae cyfrif carbon personol yn ffurf ar fasnachu carbon personol, sy’n golygu ei fod yn trosglwyddo i chi fel rhyw fath o gyfrif banc neu gerdyn credyd neu ddebyd—ond mae’n fwy o gerdyn credyd, mewn gwirionedd, oherwydd eich bod yn cael y cyfrifon ymlaen llaw.
Bob mis, neu bob blwyddyn, mae’r Llywodraeth yn caniatáu—yn ystyried—defnydd personol pawb o garbon: lwfans carbon rhad ac am ddim, os mynnwch, bob mis. Bob tro y byddwch yn defnyddio carbon, boed hynny ar ffurf nwyddau arbennig o ddrud-ar-garbon y gallech fod yn eu prynu, neu eich defnydd o danwydd, eich defnydd o wres, neu ba ddefnydd bynnag y gallai fod, caiff hynny ei dynnu o’ch cyfrif. Felly, y syniad, wrth gwrs, yw gwneud i bobl feddwl am eu defnydd o garbon. Yn hyn o beth, rwy’n meddwl ei fod yn mynd law yn llaw â newidiadau eraill ehangach rydym eisoes yn eu gweld: cynlluniwyd mesuryddion deallus i wneud i chi feddwl am eich defnydd carbon unigol. Mae gennym apiau bellach y gallwn eu defnyddio i ddweud wrthym ac i’n galluogi i droi’r gwres i lawr yn y cartref pan fyddwn oddi cartref, i ddiffodd y goleuadau, ac i ddweud wrthym faint o ynni a ddefnyddiwn. Mae hyn yn gwreiddio ac yn cyfleu’r neges ar lefel lawer mwy personol.
Yn bwysig iawn, gallwch bob amser brynu rhagor o garbon—ond ei brynu a wnewch—ond gallwch hefyd werthu unrhyw garbon nad ydych wedi ei ddefnyddio. Mewn geiriau eraill, mae’n gyfrif masnachu personol. Rhaid datgan un peth pwysig yn awr, sef nad treth yw hon. Nid yw’r Llywodraeth yn cael unrhyw arian o hyn; mae’n berthynas bersonol rhyngoch chi a’ch defnydd carbon. Gallech ei wneud fel masnachu carbon, fel y dywedais, felly gallech brynu mwy neu werthu, ond nid yw’r Llywodraeth yn cael dim o hyn. Mae’n ymwneud â sicrhau bod defnydd carbon pawb wedi ei gyfrif a rhoi ar ddeall i unigolion sut y gallent leihau eu defnydd o garbon.
Felly, mae’n gysyniad y gallai cyfrifon carbon personol chwarae rhan bwysig yn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau cenedlaethol a rhyngwladol i leihau allyriadau carbon, a dyna pam rwy’n gobeithio y bydd y ddadl hefyd yn cael ei gweld yng nghyd-destun cytundeb ehangach Llywodraeth Cymru a phleidlais y Cynulliad hwn yn wir i gefnogi cytundebau Paris ar newid yn yr hinsawdd.
Mae yna effaith bersonol go iawn i’w chael o hyn hefyd. Rydym wedi gweld adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ynghylch ansawdd aer gwael iawn yn Llundain, ond peidiwch â meddwl bod ansawdd aer yn Llundain yn wael a bod ansawdd ein haer ni yng Nghymru yn wych. Ceir pum ardal yng Nghymru lle y mae gennym ormod o nitrogen deuocsid, ac mae gormodedd ohono’n berygl go iawn i iechyd; mae wedi cael ei alw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn un o’r risgiau mwyaf i iechyd—y trydydd risg uchaf i iechyd, rwy’n credu—sy’n ein hwynebu. Felly, mae gwir angen mynd i’r afael â’n defnydd o garbon, yr effaith ar yr amgylchedd, ac effaith y llygredd yn sgil hynny.
Efallai y byddwch yn meddwl y byddai pobl yn amharod iawn i wneud hyn neu i gredu yn hyn, ond nid oeddem yn meddwl y byddai 5c ar fagiau plastig yn newid ymddygiad pobl—yn sicr, fe wnaeth. Mae astudiaethau gan brifysgolion Caerdydd a Nottingham wedi canfod bod 88 y cant o bobl yn credu bod yr hinsawdd yn newid ac am weld mwy o weithredu gan Lywodraethau mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Cafwyd sgwrs genedlaethol gan Cynnal Cymru, ‘Y Gymru a Garem’—bydd llawer o’r Aelodau yn ei chofio—a gwelwyd bod 26 y cant o bobl a gymerodd ran yn y sgwrs yn teimlo mai newid yn yr hinsawdd oedd y mater pwysicaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol. Felly, mae yna agwedd arall ar y cysyniad hwn sy’n cyd-fynd nid yn unig â Deddf yr amgylchedd, ond gyda Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, wrth gwrs, ac rwy’n meddwl weithiau mai Deddf sy’n edrych o gwmpas am ffordd o gael ei defnyddio’n weithredol yn ymarferol yw honno. Rwy’n credu y gallai hyn fod yn ffordd ymarferol o ddefnyddio’r Ddeddf honno.
Ategu’r hyn y mae Llywodraeth yn ei wneud yn unig a ddylai cyfrifon carbon personol ei wneud, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn rhannu’r baich—nad ydym ond yn beio Llywodraeth pan fyddant yn gwneud camgymeriad, ond ein bod yn rhannu gyda’r Llywodraeth sut y gallem gyflawni hynny. Rwy’n credu ei fod yn gyffrous iawn yn gysyniadol y gallai pob un ohonom gael cyfrif carbon o’r fath. Rwy’n credu hefyd ei bod yn eithaf diddorol edrych ar waith gan yr adran ddaearyddiaeth ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a ddangosai fod 58 y cant o gartrefi ar hyn o bryd yn allyrru llai o garbon na’r cymedr. Mewn geiriau eraill, byddai cyfrif carbon o fudd i 58 y cant o’r cartrefi, a byddai’n anfantais, os mynnwch, i’r 40 y cant arall. Byddai’n gynyddol oherwydd, ar y cyfan, y rhai sy’n defnyddio fwyaf o garbon yw’r bobl gyfoethocach a gwell eu byd mewn cymdeithas. Mae yna rai enghreifftiau, wrth gwrs, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle na fyddai’n gweithio lle’r ydych yn ddibynnol ar danwydd solet, lle na allwch fforddio cael eich tŷ wedi ei inswleiddio’n iawn, lle na allwch ddewis eich cyflenwr tanwydd; mae’r rhain yn faterion a allai fod yn niweidiol i gyfrifon carbon personol. Felly, mae’n rhaid iddynt fynd law yn llaw â materion buddsoddi ehangach mewn perthynas â thlodi tanwydd, mewn perthynas ag inswleiddio ac mewn perthynas â sicrhau mynediad cyfartal at syniadau newydd megis paneli solar neu daliadau trydan, neu beth bynnag y bo.
Ond yn y cyd-destun ehangach, nid oes amheuaeth ei fod, fel cysyniad, yn cyd-fynd â’n dull o weithredu ar leihau carbon. Mae’n sicr yn cyd-fynd â’r targedau roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod iddi’i hun ar gyfer lleihau carbon yng Nghymru, ac mae’n rhywbeth y gellir ei gyflwyno, mewn cynllun peilot fan lleiaf, yma yng Nghymru, ac mae hynny’n rhywbeth arbennig o gyffrous yn fy marn i. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y ddadl hon yn caniatáu i bobl o leiaf drafod y cysyniad o gyfrifon carbon personol, trafod y syniad o sut y gallwn wneud newidiadau ein hunain, ac rwy’n gobeithio clywed gan Lywodraeth Cymru—rwy’n siŵr y byddaf yn clywed rhai o’r problemau a fyddai gan brosiect o’r fath—a yw, fel cysyniad o leiaf, yn rhywbeth y gallwn ei drafod a’i ddatblygu, ac efallai ei gadw mewn cof fel ateb arbennig o Gymreig i her ryngwladol.
Credaf fod hon yn ddadl bwysig iawn am mai hyn a hyn sy’n bosibl i chi ei wneud gyda deddfwriaeth. Mae’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig yn amhosibl i’w blismona. Ac yn yr un modd, os ydych yn dechrau codi tâl ar bobl i wneud y peth iawn, mae’n cael effaith wahaniaethol ar bobl ar incwm isel a gall pobl sydd â llawer o arian ei anwybyddu. Ni all pobl heb gar fynd â dodrefn diangen i’r ganolfan ailgylchu; maent yn dibynnu ar y cyngor neu elusen i’w casglu ar eu rhan. Buasai cyllidebau carbon personol yn annog pobl sydd â cheir i wneud teithiau byr ar droed, yn hytrach na mynd i mewn i’r car bob tro.
Byddai hefyd yn ein hannog i feddwl am ôl troed carbon yr hyn rydym yn ei fwyta, ac mae hwn yn faes nad ydym yn siarad amdano’n aml. Mae rhai sefydliadau megis Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig—maent hwy wedi cyfrifo bod un rhan o bump o’r holl allyriadau a achoswyd gan bobl yn deillio o ffermio cig, cynnyrch llaeth ac wyau, ac mae sefydliadau eraill yn cyfrifo bod y ffigur hwnnw’n nes at hanner yr holl allyriadau, felly mae hwn yn amlwg yn bwnc y mae angen inni daflu mwy o olau arno. Ond rwy’n credu y gallwn gytuno bod y bwyd rydym yn ei fwyta yn effeithio’n fawr ar ein hôl troed carbon, a byddai angen i unrhyw gyfrif carbon personol ystyried hynny. Mae ychydig yn fwy cymhleth na chyfrif faint o ynni rydym yn ei ddefnyddio i wresogi’r cartref.
Ond mae’n ddiddorol nodi bod—. Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir drwy gyfuno tyfu, magu, ffermio, prosesu, cludo, storio, coginio a chael gwared ar y bwyd ar ein platiau yn rhywbeth y mae angen i ni edrych arno’n gyfannol. Os ydym yn prynu ffa gwyrdd o Kenya, yn amlwg mae’r ôl troed carbon yn llawer uwch na phe baem yn ei dyfu’n lleol. Mae ôl troed carbon o ddim ond 1 kg o gig oen yn 39.2 kg o garbon deuocsid mewn allyriadau, sy’n cyfateb, mae’n debyg, i yrru 91 milltir mewn car. O’i gymharu â hynny, dim ond 1.1 kg o garbon deuocsid yw ffrwythau, sy’n cyfateb i yrru 2.5 milltir. Mae llaeth ychydig yn fwy, ond 1.9 kg o garbon deuocsid, sy’n cyfateb i yrru 4 milltir mewn car. Felly, gan gig a chaws y mae’r ôl troed carbon uchaf. Mae ôl troed carbon ffrwythau, llysiau, ffa a chnau yn llawer is.
Mae’r Co-op wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil ar eu ffermydd ac maent wedi nodi bod 54 y cant o allyriadau carbon ar eu ffermydd yn dod o allyriadau methan ac ocsid nitraidd o’u da byw. Mae’r methan yn llawer mwy grymus na charbon deuocsid. Felly, maent wedi bod yn monitro eu ffermwyr dros chwe blynedd i ddangos bod methan 28 gwaith yn fwy grymus na charbon, ac mae ocsid nitraidd 260 gwaith yn gryfach. Mae’r rhain i gyd yn ffigurau mawr, ond un o’r pethau y mae’n tynnu sylw ato yw ei bod yn bwysig iawn nad yw pobl yn rhoi gwastraff bwyd i mewn gyda’u gwastraff gweddilliol, gan ei fod yn mynd i safleoedd tirlenwi ac yna, wrth gwrs, mae’n achosi methan.
Rwy’n gwybod ei bod yn heresi i hyd yn oed ystyried hyn, ond pe baem yn symud oddi wrth ddeiet yn seiliedig ar gig, byddem yn cael effaith sylweddol iawn ar ein hôl troed carbon personol. Dangosai pump deiet gwahanol a gymharwyd fod bwyta cyw iâr yn lle cig eidion yn torri chwarter allyriadau carbon bwyd mewn un cam syml. Nid wyf yn argymell na ddylem byth fwyta cig oen bendigedig o Gymru, ond rwy’n dweud bod angen inni feddwl yn ofalus ynglŷn â pha mor aml rydym yn ei fwyta ac a ydym yn ei fwyta fel ein bwyd rheolaidd. Rwy’n meddwl bod y rhain yn faterion pwysig iawn y mae angen i ni eu cadw mewn cof.
Nid eich iechyd yn unig sy’n gwella o newid y bwydydd rydych yn eu bwyta. Mae hefyd yn mynd i wella eich ôl troed carbon personol. Rwy’n meddwl mai dyma rai o’r pethau y mae angen i ni eu hystyried yn ofalus i ddeall sut y byddem yn ei wneud mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed gwybod faint o garbon y mae’n ei gymryd i gynhyrchu unrhyw eitem benodol o fwyd yn beth pwysig iawn ac efallai y dylai fod ar y labeli. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i fy nghymydog, bellach, Simon Thomas, am gychwyn y ddadl hon heddiw. Rydym wedi croesi cleddyfau ar faterion cysylltiedig sawl gwaith yn ystod y flwyddyn neu ddwy y bûm yn Aelod o’r Cynulliad hwn ac roeddwn yn meddwl efallai, lle y mae dadlau wedi methu, y byddai mwy o obaith cyrraedd consensws drwy osmosis.
Nid oes gennyf wrthwynebiad penodol i gyfrifon carbon personol ac rwy’n sicr yn cytuno â rhai o’r pwyntiau a wnaed heddiw am ansawdd aer—maent yn bwysig iawn. Mae ocsid nitraidd a nwyon eraill, wrth gwrs, yn llygryddion. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni gydnabod hefyd nad yw carbon deuocsid yn nwy gwenwynig ac nid yw’n llygrydd fel y cyfryw. Gwn mai damcaniaethau ynghylch cynhesu byd-eang sy’n sail i’r cynnig hwn, ond mae’n bwysig cydnabod bod y carbon deuocsid sydd yn yr atmosffer ar hyn o bryd, 390 rhan y filiwn—mewn llong danfor, ar gyfartaledd, mae’n 1,500 rhan y filiwn, ac fe wyddom nad yw hyd at 8,000 rhan y filiwn yn amharu ar iechyd pobl. Felly, nid yw hyn yn berygl i iechyd ynddo’i hun. Rwy’n cytuno’n gryf â llawer o’r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone am filltiroedd bwyd. Rydym yn tyfu llawer o’n llysiau ein hunain ac yn y blaen gartref. Rwy’n arddwr brwdfrydig a hoffwn pe bai rhagor o bobl yn rhannu fy mrwdfrydedd ynglŷn â hynny. Rwy’n credu y byddai pawb ohonom yn well ein byd.
Hoffwn fynd i’r afael â’r cymhelliad sy’n sail i’r cynnig hwn ac i ba raddau y gall y costau a osodir gan y polisïau gwrth-gynhesu-byd-eang fod yn groes i’r graen weithiau. O ganlyniad i gostau ynni uchel, sydd wedi deillio o benderfyniadau polisi bwriadol llywodraethau, nid yn unig yn y wlad hon, ond mewn mannau eraill yn y byd, yr hyn a wnaethom yw cyflymu prosesau dad-ddiwydiannu’r gorllewin, a chanlyniad gwrthnysig hynny oedd allforio cynhyrchiant ynni-ddwys iawn fel dur, alwminiwm, gwydr a sment i rannau o’r byd nad ydynt wedi derbyn y rhwymedigaethau sydd gennym yn y gorllewin i leihau ein hôl troed carbon. Felly, mewn gwirionedd, o ganlyniad i hyn, rydym wedi gwneud pethau hyd yn oed yn waeth. Rwy’n siŵr na fydd Ysgrifennydd yr amgylchedd yn dymuno clywed y gair ‘Tsieina’ eto fyth yn fy araith, ond mae Tsieina’n cynhyrchu 30 y cant o allyriadau carbon y byd mewn gwirionedd, ac India’n cynhyrchu 7 y cant arall, ac fel nad wyf byth yn blino ei nodi, nid yw cytundebau Paris yn ei gwneud yn ofynnol iddynt leihau eu hôl troed carbon mewn gwirionedd. Y cyfan y maent yn mynd i’w wneud yw lleihau allbwn carbon y pen wrth i’w heconomïau dyfu. Felly, mae gan Tsieina gerdyn gwyrdd i bob pwrpas, yn yr ystyr y byddant yn cael cynyddu eu hallyriadau carbon am o leiaf 20 mlynedd arall. Felly, ni fydd unrhyw newidiadau a ddaw yn sgil ein polisïau domestig yn effeithio mewn unrhyw fodd mesuradwy ar yr hyn sy’n digwydd yn y byd ac yn sicr, ni fyddant yn effeithio dim ar dymereddau’r byd. Mae gennyf broblem gyda hyd yn oed y cysyniad o dymheredd byd-eang, gan nad oes ffordd hawdd o’i fesur. Am gyfnod cymharol fyr yn unig y buom yn casglu data lloeren, felly nid oes gennym y math o ddilyniant amser sydd ei angen arnom er mwyn dod i gasgliadau synhwyrol o’r math y seilir polisi arnynt, yn enwedig casgliadau sy’n mynd i arwain at newidiadau dramatig yn ein ffordd o fyw a phatrymau cyflogaeth.
Hoffwn dynnu sylw’r Cynulliad at bapur a ymddangosodd yr wythnos diwethaf neu’r wythnos cynt mewn cyhoeddiad academaidd o’r enw ‘Nature Geoscience’, sy’n mynd i’r afael â phroblem cynnydd mewn tymheredd byd-eang. Oherwydd, dros yr 20 mlynedd diwethaf, nid ydym wedi cael unrhyw gynnydd amlwg yn nhymheredd y byd, ac nid yw’r modelau cyfrifiadurol y seiliwyd y rhagfynegiadau enbyd o ofid a gwae arnynt yn gallu egluro’r saib hwn. Dywedodd Myles Allen, sy’n athro gwyddoniaeth geosystemau ym mhrifysgol Rhydychen wrth ‘The Times’ ychydig ddyddiau’n ôl,
Nid ydym wedi gweld y cynnydd mawr yng nghyflymder cynhesu ar ôl 2000 a welwn yn y modelau. Nid ydym wedi gweld hynny yn yr arsylwadau.
Mae’r modd y mae’n amddiffyn y modelau hyn yn ddiddorol. Dywedodd eu bod wedi eu cyfosod ddegawd yn ôl, felly nid oedd yn syndod eu bod yn gwyro oddi wrth realiti. Eto, yr union fodelau hynny sy’n cael eu defnyddio i wneud rhagfynegiadau ynghylch 50 neu 100 mlynedd i’r dyfodol sydd wedi peri’r fath gostau enfawr i drethdalwyr i dalu am ffynonellau ynni amgen. Felly, fe ddylem oedi, rwy’n meddwl, yn yr un ffordd ag y mae tymheredd byd-eang i’w weld fel pe bai wedi oedi, a gofyn i ni ein hunain a oes angen inni fwrw iddi mor gyflym gyda’r cynlluniau hyn i leihau ein hôl troed carbon pan nad ydym, yn gyntaf oll, yn gwybod a yw hynny mewn gwirionedd yn mynd i gael ei ddilyn gan wledydd eraill yn y byd sy’n llygru mwy na neb arall, os ydym yn ystyried carbon deuocsid yn llygrydd, ac yn ail, mae’n rhaid i ni ystyried yr effaith ar safon byw ein pobl, yn enwedig y rhai ar waelod y raddfa incwm, sef y rhai y mae’n fwyaf amlwg eu bod yn ddifreintiedig.
Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau ac rwy’n croesawu’r ddadl amserol hon. Bydd cyd-Aelodau’n ymwybodol fy mod wedi gwneud cyhoeddiad ychydig cyn toriad yr haf ar ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus a’r wythnos diwethaf, gwneuthum ddatganiad ar ein targedau ynni adnewyddadwy. Y mis nesaf, byddaf yng Nghonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, COP23, yn Bonn i rannu llwyddiannau Cymru ac wrth gwrs, i ddysgu gan eraill. Rwy’n credu bod presenoldeb Llywodraeth Cymru yn y digwyddiadau hyn yn dangos o ddifrif ein hymrwymiad i liniaru cynhesu byd-eang a’n cefnogaeth i gytundeb Paris. Efallai y dylwn atgoffa Neil Hamilton fod 195 o aelodau Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd wedi llofnodi hwnnw, felly nid wyf yn meddwl mai rhywbeth sy’n effeithio ar y gorllewin ydyw. Wrth gwrs, nid yw Cymru yn barti i’r cytundeb, ond rydym yn gwybod bod y camau a gymerir ar lefel y wladwriaeth a’r lefel ranbarthol yn hanfodol er mwyn cadw’r cynnydd yn nhymheredd y byd yn ystod y ganrif hon o dan 2 radd. Rwy’n credu ei fod hefyd yn gyfle gwych i siarad am y fframwaith deddfwriaethol arloesol a’r sylfeini rydym wedi eu gosod yma yng Nghymru, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at siarad am ein profiadau a’u rhannu yn Bonn.
Nododd Simon Thomas fod gwir angen i ni rannu’r baich mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, a dyna pam y cyflwynasoch y ddadl hon ar gyfrifon carbon personol, ond roeddwn eisiau amlinellu peth o’r gwaith a wnawn fel Llywodraeth Cymru. Felly, fe soniais fy mod, ychydig cyn toriad yr haf, wedi datgan fy uchelgais i greu sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 ac wedi lansio galwad am dystiolaeth gan ofyn i randdeiliaid rannu eu barn ar y cyfleoedd a’r heriau, targedau interim posibl a monitro cynnydd, a byddwn yn cyhoeddi’r camau nesaf yn y maes yn fuan.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais dargedau newydd heriol ar gyfer cynhyrchiant ynni adnewyddadwy i gyfeirio camau gweithredu ar draws y wlad a sicrhau mwy o fanteision i Gymru. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Phwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd hefyd i ddiffinio’r manylion o dan y prif darged. Ac rwyf wedi derbyn cyngor y pwyllgor ar sut y byddwn yn rhoi cyfrif am allyriadau yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at dderbyn y rhan nesaf o’u cyngor cyn bo hir. Bydd hyn yn llywio ein penderfyniadau ar dargedau interim a chyllidebau carbon. Mae’r pwyllgor hefyd wedi cynnwys rhanddeiliaid i sicrhau bod eu cyngor yn cynrychioli ystod eang o safbwyntiau.
Wrth gwrs, mae datgarboneiddio yn cyd-fynd yn agos iawn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae angen i ni ystyried y tymor hir a mabwysiadu dull integredig ar draws y Llywodraeth ac ar draws y gymdeithas. Mae angen i ni gydweithio ag eraill, gan na allwn wneud hyn ein hunain ac mae angen inni alluogi a chynorthwyo pobl i weithredu.
Felly, efallai mai lleihau allyriadau yn awr i osgoi niwed sydd hyd yn oed yn fwy sylweddol i’r hinsawdd yw’r mesur ataliol mwyaf posibl, ac nid oes dim yn bwysicach i’r cenedlaethau i ddod na chael amgylchedd i’w cynnal. Felly, rwy’n gweithio gyda fy nghyd-Aelodau yn y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol i sicrhau y bydd ein polisïau a’n cynigion ar draws y Llywodraeth yn lleihau ein hallyriadau ac o fudd i’n heconomi a’n hiechyd. Mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar allyriadau yn ôl sector, oherwydd dyma sut yr adroddir am allyriadau ar draws y byd. Rwy’n credu bod hon yn ffordd ddefnyddiol iawn o ystyried y broblem a nodi polisïau.
Gan droi yn awr at gyfrifon carbon personol, yn amlwg rwy’n ymwybodol iawn o’r cysylltiad rhwng allyriadau sector a’r dewisiadau a wnawn fel unigolion. I raddau helaeth, mae allyriadau’r sector trafnidiaeth yn gynnyrch miliynau o bobl yn dewis hedfan, gyrru, beicio neu gerdded, ac fel y dywedodd Simon, mae ein dewisiadau o ran y ffordd yr ydym yn byw yn amlwg yn effeithio ar ein defnydd carbon personol. Felly, rwy’n meddwl o ddifrif fod angen i ni gynyddu ein hymwybyddiaeth o garbon, ein hymwybyddiaeth o effaith ein dewisiadau a meddwl am ein defnydd carbon os ydym am weld y newid sydd ei angen arnom. Mae cyfrifon carbon personol, wrth gwrs, yn un ffordd o wneud hyn.
Felly, gan y byddwn yn pennu cyllidebau carbon cenedlaethol, rwy’n meddwl ei bod yn ymddangos yn eithaf rhesymegol i fynd un cam ymhellach a chymhwyso’r ffigurau hynny ar lefel bersonol. Soniodd Simon—ac roeddwn yn ymwybodol iawn o’r gwaith a wnaeth Llywodraeth Lafur y DU yn y maes pan oeddent yn edrych ar gyfrifon carbon personol, ac yn wir, fe ddaethant i’r casgliad ei fod yn syniad o flaen ei amser, ac rwy’n gwybod bod—
Roedd hynny 10 mlynedd yn ôl, cofiwch.
Ddeng mlynedd yn ôl. Wel, yn union, ac mae pethau wedi symud ymlaen mor gyflym yn y 10 mlynedd hynny. Gwn fod Martin Burgess—fe gyfeirioch at y myfyriwr PhD sy’n un o’ch etholwyr—mae fy swyddogion wedi ei gyfarfod i drafod hyn ac rydym wedi edrych ar ba ddeddfwriaeth a fyddai ei hangen ar gyfer cyfrif carbon personol, a buaswn yn dweud ei bod yn annhebygol ar hyn o bryd fod gennym y pwerau hynny. Hefyd, mae’r cynllun peilot y cyfeirioch chi ato, rwy’n meddwl, unwaith eto, gallai’r un sail mewn perthynas â chymhwysedd deddfwriaethol rwystro hynny hefyd. Ond fel y dywedoch, mae 10 mlynedd wedi mynd heibio ac rwy’n credu bod ein dealltwriaeth o wyddoniaeth hinsawdd yn sicr wedi cynyddu’n ddramatig, a hefyd—ac mae hyn yn ôl pob tebyg yn bwysicach—mae’r angen i weithredu wedi dod yn fwy amlwg—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy’n deall beth y mae’r Gweinidog yn ei ddweud, yn sicr o ran rhai o’r materion cymhwysedd ac yn y blaen sy’n ymwneud â chynllun cyfrif carbon personol ffurfiol, ond mae’r cysyniad o bob un ohonom yng Nghymru yn gwybod beth yw ein carbon personol—sut rydym yn ei ddefnyddio, sut rydym yn ei wario, gan gysylltu â phwyntiau Jenny Rathbone ynglŷn â chynhyrchu bwyd yn ogystal—yn rhywbeth y dychmygaf y gallai Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth ag ef a gallai helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion mewn gwirionedd.
Ydy, yn hollol—roeddwn yn dod at hynny. Oherwydd, fel y dywedais, mae fy swyddogion yn siarad, neu wedi bod yn siarad â Martin Burgess, gan eich bod yn hollol iawn: er bod yr heriau a nodwyd ddegawd yn ôl yn parhau i fod yn berthnasol heddiw o bosibl, ac mae’n debyg eu bod, ac yn sicr mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth, rwy’n credu bod angen inni alluogi ac ysbrydoli unigolion i gymryd y camau hynny. Felly, rwy’n awyddus tu hwnt i archwilio beth allai weithio yng Nghymru o fewn y terfynau a osodais, gyda chyfrif carbon personol yn bendant yn rhan o’r drafodaeth honno. Felly, rwy’n gefnogol iawn i’r gwaith ymchwil sy’n edrych ar ddulliau o gynyddu ein hymwybyddiaeth garbon i helpu pobl i wneud dewisiadau wedi’u llywio gan yr effaith a gaiff nid yn unig ar genedlaethau’r dyfodol, ond ar genedlaethau presennol hefyd. Felly, rwy’n falch iawn o gefnogi’r cynnig, ar y sail ein bod yn edrych ar ystod ehangach o ddulliau.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Mike Hedges i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Simon Thomas, nid yn unig am gyflwyno’r ddadl, ond am fynd o gwmpas a chael pobl i’w chefnogi? Oherwydd mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn dechrau trafod materion fel hyn. ‘Lleihau’r defnydd o garbon 80 y cant’—mae’n nod aruthrol. Sut y gwnawn ni hynny? Wel, mae’n rhaid iddo fod yn gyfraniadau personol, rwy’n credu bod Simon Thomas yn hollol gywir ynglŷn â hynny, ac mae angen inni ysgwyddo cyfrifoldeb personol am hynny. Nid oes gennyf unrhyw syniad beth yw fy nefnydd carbon personol. Buaswn yn tybio bod hynny’n wir am bawb, neu bron bawb yn yr ystafell hon yn ôl pob tebyg. A hoffwn ei leihau? Hoffwn, ond nid wyf yn gwybod a wyf fi’n ei leihau o lawer neu o ychydig iawn. Felly, a ddylwn gael fy nebydu am ei ddefnyddio? Dylwn, fe ddylwn deimlo ei fod yn costio rhywbeth i mi. Hyd yn oed os nad yw’n arian, dylai gostio teimlad drwg i mi, am fy mod mewn gwirionedd yn defnyddio mwy o garbon nag y dylwn. Po fwyaf y meddyliwn am y peth, y mwyaf y byddwn yn ei leihau. Credaf fod pobl yn cymryd hynny gyda gwariant. Os ydych yn cyfrif pob ceiniog a wariwch, byddwch yn gwario llawer iawn llai. Bydd yn union yr un fath gyda charbon, oni fydd? Pe baech yn cyfrif yr hyn a ddefnyddiwch, byddai’n llawer iawn llai. Fel y dywedodd Simon Thomas, nid treth ydyw, ond mae’n ymwneud â chyfrifoldeb.
Mae Jenny Rathbone yn llygad ei lle: hyn a hyn sy’n bosibl gyda deddfwriaeth. Mae angen i bawb ohonom wneud ymdrech i weithio ar wneud pethau i leihau ein defnydd o garbon. A bwyd—un o fy rheolau yn ein tŷ ni: ni fyddwn byth yn prynu unrhyw fwyd sydd wedi teithio ymhellach na mi, ac rwy’n credu bod—. Ni fyddaf yn gofyn i Jenny Rathbone wneud hynny gan fy mod yn gwybod faint mae hi wedi teithio, ond nid ydym yn prynu bwyd sy’n dod o wledydd sydd ymhellach nag y teithiais i erioed, ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y gallai pawb ohonom feddwl amdano o bosibl. Mae’n dod o lawer iawn o wledydd egsotig, gan gario llawer o filltiroedd awyr, ac mae angen inni ystyried yn ofalus yr hyn rydym yn ei fwyta. Rwy’n credu bod hyn yn wirioneddol bwysig, ac rwy’n siarad fel rhywun sy’n cefnogi prynu cynnyrch Cymreig lleol, felly mae hynny’n sicr yn helpu.
Rwy’n cytuno â Neil Hamilton: mae ansawdd aer yn bwysig. Rwy’n credu bod pawb yn cytuno bod ansawdd aer yn bwysig, ac rydym yn gweld y gwelliannau sy’n digwydd yn yr Hafod yn ddiweddar. Nid gwenwyn yw carbon deuocsid—hollol gywir. Fodd bynnag, mae’n nwy tŷ gwydr. Bydd yn arwain at godi tymheredd. Rydym yn gwybod hynny oherwydd fe ddylai tymheredd y ddaear fod o gwmpas -24, -26 gradd canradd pe na bai carbon deuocsid yn yr atmosffer. Rydym eisiau peth ohono i’w gael i fyny at dymheredd y gellir byw ynddo. Yr hyn nad ydym ei eisiau yw cael gormod ohono, sy’n ei symud i dymheredd lle na allwn fyw ynddo. Rwy’n credu, Neil, fod y Ceidwadwyr yn y 1980au wedi gorfodi costau ynni i fyny, ac arweiniodd hynny at ddinistrio’r diwydiant alwminiwm ar draws de Cymru. Efallai eich bod yn un o’u haelodau yn y dyddiau hynny.
Mae angen diweddaru modelau cyfrifiadurol. Maent bob amser angen eu diweddaru. Rhan o fy ngwaith flynyddoedd lawer yn ôl oedd ysgrifennu modelau cyfrifiadurol, ac rydych yn eu diweddaru pan fyddwch yn cael data pellach, ond rydym i gyd yn gwybod bod tymereddau’n codi. Maent wedi cynyddu, ac mae’r Americanwyr yn elwa ohono, os ydych yn ei alw’n hynny, o’r corwyntoedd y maent yn eu cael. Fe ildiaf.
Mae academyddion yn derbyn bod y tymheredd wedi codi 0.9 gradd canradd ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid ydym yn sôn am ffigurau sy’n newid yn aruthrol yma.
Ie, ond cyfartaledd ydyw, onid e? Ac felly mae’n rhaid i chi weld faint o iâ sy’n torri i ffwrdd yn Antarctica ac yn yr Arctig, ac mae hynny’n mynd i arwain at lifogydd mewn nifer fawr o ardaloedd isel, a gwledydd yn diflannu o bosibl.
Y peth arall roeddwn yn mynd i ddweud oedd, os ydych am helpu’r tlawd: gwell inswleiddio. Mae llawer ohonom wedi ymweld â phobl yn eu tai, ac yn sicr nid ydynt yn gynnes. Mae’n debyg eu bod yn gwario mwy ar gadw eu tŷ yn gynnes nag a wnaf fi, ond oherwydd mai gwres canolog gwael sydd ganddynt, a ffenestri gwydr sengl, gyda bylchau rhwng y ffrâm a’r wal, mae ganddynt aer oer yn dod i mewn—. Byddai hynny’n gwneud mwy o effaith nag unrhyw daliadau ychwanegol.
A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei sylwadau? A chynyddu ymwybyddiaeth o garbon—mae angen i ni wybod beth rydym yn ei wneud. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i atal cynnydd yn y tymheredd byd-eang yn hysbys, ac yn rhywbeth rwyf fi, a’r rhan fwyaf o bobl, os nad pawb, yn yr ystafell hon, rwy’n siŵr, yn ei werthfawrogi o ddifrif, oherwydd mae’n eithaf tebyg i’r gwelltyn a chefn y camel, onid yw? Ie, gwlad fach ydym ni, ond pe bai pob gwlad fach yn gwneud yn union yr un peth ac yn parhau i godi tymheredd, yna byddai’r cyfan yn codi.
Rwy’n cefnogi’n fawr dyhead Ysgrifennydd y Cabinet fod yn rhaid inni fod yn uchelgeisiol oherwydd, fel y dywedodd rhywun unwaith, un byd sydd gennym. Nid yw’r ffaith bod rhai ohonom yn y gorllewin yn defnyddio adnoddau’r byd fel pe bai yna dri byd yn golygu bod gennym dri byd i ymelwa arnynt. Felly, mae angen inni ddechrau lleihau’r hyn a wnawn, a mesurau ataliol i leihau allyriadau carbon deuocsid—ni allwn ofyn am fwy na hynny. Ond mewn gwirionedd, dychwelaf at yr hyn y dechreuodd Simon Thomas ag ef: cyfrifoldeb personol. Os yw pobl yn gwybod faint o garbon y maent yn ei ddefnyddio, bydd y rhan fwyaf o bobl yn ceisio’i leihau, ac am hynny y mae hyn yn gofyn mewn gwirionedd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 7 ar ein hagenda, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Gwireddu’r Uchelgais—Ymchwiliad i Strategaeth Iaith Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru’. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Bethan Jenkins, i gyflwyno’r adroddiad.
Cynnig NDM6518 Bethan Jenkins
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ei ‘Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2017.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Gwireddu’r Uchelgais: Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru’. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Os yw’r uchelgais yma am lwyddo, bydd yn golygu dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg mewn ychydig dros genhedlaeth. Dyma bolisi uchelgeisiol y mae’r pwyllgor wedi ei gefnogi a gwnaethom gytuno i gynnal ymchwiliad i edrych ar agweddau ymarferol i weithredu’r polisi hwn yn llwyddiannus.
Clywsom ystod eang o dystiolaeth, gan gynnwys sesiynau ymgysylltu allanol anffurfiol gyda rhanddeiliaid a disgyblion ysgol o bob cwr o Gymru. Mae’n amlwg, o ystyried y dystiolaeth, er mwyn cael llwyddiant bydd angen gwaith caled, adnoddau ychwanegol sylweddol a thargedau clir. Bydd hefyd angen iddo fod yn seiliedig ar gefnogaeth barhaus gan holl bobl Cymru, yn siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd.
Roedd ein hargymhellion, ar y cyfan, yn ymwneud â’r agweddau ymarferol sy’n gysylltiedig â sut y gellir troi’r uchelgais yn realiti, ynghyd â’r angen am gamau eglur ar hyd y ffordd. Ein prif bryder oedd nad yw goblygiadau’r nod o gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg wedi’u hystyried yn llawn a bod angen rhagor o fanylder ac eglurder o ran sut y caiff y nod ei gyflawni.
Roeddem hefyd yn pryderu nad yw graddfa debygol yr adnoddau a’r buddsoddiad ychwanegol sy’n ofynnol i gyflawni’r nod wedi’u gwireddu yn llawn. Mae ystod eang o gwestiynau eraill yn dal i fod o ran sut y gellir cyflawni’r strategaeth yn ymarferol, yn enwedig o ran yr adnoddau sydd eu hangen i droi’r uchelgais yn realiti. Fodd bynnag, rwy’n falch bod ymateb y Llywodraeth a’r strategaeth derfynol ei hun yn adlewyrchu ac yn mynd i’r afael â’r materion a gafodd eu cynnwys yn yr adroddiad.
Mae addysg yn amlwg yn ganolog i’r strategaeth gyfan. Ar y cyfan, roeddem am i Lywodraeth Cymru fod yn fwy eglur ynghylch y cyfraniad cymharol a wneir gan fesurau addysg cyfrwng Cymraeg, Cymraeg mewn ysgolion eraill, addysg cyn-ysgol a mesurau i normaleiddio er mwyn cyflawni’r nod cyffredinol. Yn ogystal, a oes bwriad o gael gwahanol ffocws ar gyfer gwahanol ymyriadau wrth i’r strategaeth fynd rhagddi? Roedd rhywfaint o bryder hefyd y gallai ail-lunio’r system addysg er mwyn helpu i gyflawni strategaeth y Gymraeg amharu ar gyflawni blaenoriaethau addysg eraill. O’r herwydd, dylai unrhyw adnoddau a chapasiti i weithredu’r polisi fod yn ychwanegol at y gwariant presennol ar addysg.
Rhannodd y pwyllgor bryder Comisiynydd y Gymraeg a Gweinidog y Gymraeg bod gormod o awdurdodau lleol heb fod yn weithgar o ran ennyn ac asesu’r galw am ragor o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nid yw cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, er enghraifft, wedi cael eu gweithredu fel y bwriadwyd ac mae nifer o awdurdodau lleol ond yn asesu’r galw presennol, heb edrych i weld sut y gellir hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau bod rhagor o alw.
Mae’r strategaeth yn sôn am symud ysgolion ar hyd continwwm ieithyddol. Yn ein barn ni, y prif fater yw sicrhau bod rhagor o ddisgyblion yn symud i fod yn rhugl drwy’r system addysg. Mae 75 y cant o ddisgyblion Cymru yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg. Gyda gwell canlyniadau, gallai’r ysgolion hyn fod yn ffynhonnell gyfoethog o siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol. Mae angen felly i Lywodraeth Cymru ddangos sut y mae’n bwriadu gwella addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae gan addysg cyn-ysgol hefyd gyfraniad hanfodol i’w wneud os yw’r nod gyffredinol am gael ei chyflawni, yn enwedig o ran normaleiddio’r iaith o oedran cynnar. Wrth gwrs, os yw’r nod o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg i fod yn ystyrlon, rhaid i hyn olygu mwy na dim ond gallu dweud ychydig o ymadroddion yn y Gymraeg. Mae’n rhaid iddo olygu deall a chynnal sgyrsiau naturiol ar y rhan fwyaf o bynciau bob dydd. Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith ar ganfod ffordd wrthrychol o fesur cynnydd sy’n cael ei dderbyn yn eang.
Cafodd ein hadroddiad ei gyhoeddi ym mis Mai a chafwyd ymateb ffurfiol gan y Llywodraeth cyn toriad yr haf. Tua’r un amser, cyhoeddodd y Llywodraeth ei strategaeth derfynol, ‘Cymraeg 2050’, a oedd, fel y soniais, yn mynd i’r afael â nifer o’r materion a nodwyd yn ein hadroddiad.
Rydym, wrth gwrs, wedi cael cynigion gan Lywodraeth Cymru am Fil y Gymraeg newydd, y cynhaliwyd dadl arno ddoe. Er bod y fframwaith cyfreithiol yn rhan bwysig o’r jig-so, mae’n fater sydd rhywfodd ar wahân i’r materion a nodwyd yn ein hadroddiad, ond mae’n sicr y byddwn ni yn edrych ar gynnwys y Bil mewn manylder.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae materion a nodwyd yn rhai o argymhellion penodol yr adroddiad, ac yn ymateb y Llywodraeth i’r argymhellion hynny, yr hoffwn sôn amdanynt ac y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ymateb iddynt yn ei gyfraniad i’r ddadl. Felly, trwy edrych ar rhai o’r argymhellion penodol, roedd argymhelliad 5 yn galw am ragor o gymorth a chefnogaeth i gyflogwyr a busnesau’r sector preifat er mwyn iddyn nhw ddatblygu ac ehangu eu darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Derbyniodd Llywodraeth Cymru’r argymhelliad hwn a dywedwyd y câi rhagor o fanylion eu cyhoeddi yn y strategaeth newydd. A allai’r Gweinidog roi gwybod pa gymorth a chefnogaeth ychwanegol sydd yn mynd i gael ei ddarparu?
Argymhelliad 6 oedd yn un o’r prif argymhellion. Roedd yn galw am asesiad brys o’r nodweddion ychwanegol y bydd eu hangen i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys y proffil gwariant dros gyfnod cynnar y strategaeth a chost gymharol y gwahanol ymyriadau y bydd eu hangen o bosibl. Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad yn rhannol, gan gyfeirio at y £10 miliwn ychwanegol sydd eisoes wedi’i ymrwymo i ddechrau cyflawni’r strategaeth newydd, nid oes asesiad strategol o lefel yr adnoddau y bydd eu hangen o hyd. Yn wir, roedd yr ymateb yn dweud nad oedd unrhyw oblygiadau ariannol i weithredu’r strategaeth y tu hwnt i’r £10 miliwn hynny sydd eisoes wedi cael ei ymrwymo. So, roeddwn i eisiau trio deall a ydy hynny’n debygol o ddigwydd. A fydd angen mwy na’r £10 miliwn yna i weithredu’r polisi yn y maes yma? A yw’r Gweinidog wedi cynnal asesiad o’r adnoddau y bydd eu hangen, y modd y mae proffil ohonynt a phryd y bydd yn gwneud mwy o gyhoeddiadau ynghylch adnoddau ychwanegol?
Argymhelliad 11: roedd hwnnw yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi’n fanwl sut y mae’n bwriadu symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol, a sut y bydd hyn yn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon gan rieni a’r gymuned ehangach. Roedd ymateb y Llywodraeth, yn eithaf cywir, yn canolbwyntio ar rôl awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer lleoedd mewn ysgolion a datblygu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg drwy gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Fodd bynnag, roedd yr ymateb hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu’r rheoliadau a’r canllawiau i gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg er mwyn annog, ac rydw i’n dyfynnu,
symud ar hyd y continwwm ieithyddol’.
A allai’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch y cynnydd a wnaed yn y gwaith hwnnw, a sut y caiff awdurdodau lleol eu hannog i symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol?
Roedd argymhelliad 14 yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi’n glir nifer yr athrawon ychwanegol y byddai eu hangen a all addysgu Cymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n falch bod y strategaeth yn nodi targedau penodol yn hynny o beth. Er enghraifft, bydd angen i nifer yr athrawon cynradd a all addysgu drwy’r Gymraeg gynyddu o 2,900 yn bresennol i 3,900 erbyn 2031, ac i 5,200 erbyn 2050. Yn yr un modd, roedd hyn yn cael ei efelychu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector uwchradd. Fodd bynnag, byddwn ni’n ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog ddarparu ychydig yn rhagor o wybodaeth ynghylch sut y caiff y targedau hyn eu cyflawni, ac yn benodol sut y caiff y cynnydd sylweddol hwn mewn darpariaeth ei ariannu.
Mae cwestiynau tebyg yn cael eu codi gydag argymhelliad 15, o ran sut y gellir cynyddu nifer y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n mynd i mewn i’r proffesiwn addysg ei hun. Unwaith eto, a oes modd i ni gael mwy o fanylder am sut y caiff hwn ei gyflawni a pha adnoddau y bydd eu hangen?
Roedd argymhellion 17 ac 18 yn ymwneud â sicrhau gwelliannau mewn addysgu Cymraeg fel ail iaith, gyda’r consensws eang nad yw’r hyn sydd yn deillio o’r addysg honno gystal ag y dylai fod. A allai’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, felly, am y cynnydd a wnaed o ran cyflwyno un continwwm dysgu i’r holl ddisgyblion yng Nghymru fel rhan o’r cwricwlwm newydd?
Cyn i mi ddod i ben, hoffwn i ddweud yn fras fy mod i’n croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru i gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. A gaf i hefyd ddweud fy mod yn falch bod y strategaeth wedi dechrau ateb nifer o’r cwestiynau ymarferol ynghylch sut y gellir gwireddu’r uchelgais honno? Bron nad oes angen dweud bod yn dal angen lot mwy o waith ar y mater hwn, ond rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Gweinidog yn hynny o beth.
Roedd y cyfrifiad diwethaf yn dangos dirywiad bach ond sylweddol yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg. Yn y cyd-destun hwn, mae 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn. Fodd bynnag, os ydym am ddod â’r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg i ben, a gwrthdroi tueddiad y ganrif ddiwethaf, yna mae angen bod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol. Felly, rydw i’n croesawu yr hyn y mae’r pwyllgor wedi ei wneud—a holl aelodau y pwyllgor hwnnw—yng nghyd-destun y ffaith hefyd fod y staff wedi gweithio yn gryf ar hyn. Rydym ni yn cefnogi’r uchelgais, ond eto mae angen inni weld yn glir sut y mae hynny yn mynd i gael ei weithredu. Diolch.
A gaf i ddiolch hefyd i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad hwn, gan gynnwys y tystion a’r staff cymorth?
Roedd y Gweinidog eisoes wedi rhoi arwyddion eang am ei weledigaeth ar gyfer Cymru ddwyieithog, ac roedd hynny wedi cael lefel o gonsensws, fel yr ydym yn ei wybod; felly, roeddem yn credu ei bod yn ddefnyddiol i brofi’r consensws hwnnw drwy ofyn cwestiynau rhagarweiniol i helpu hwylio’r Gweinidog at rai o’r manylion cynnar. Er bod un o’r manylion cynnar, sef y Papur Gwyn, efallai wedi methu cyrraedd consensws yn y ddadl ddoe, mae pethau yn edrych ychydig yn fwy addawol o ran ein hadroddiad.
Fel arfer, mae’r Llywodraeth yn awyddus i dderbyn argymhellion adroddiadau’r Cynulliad, a chroesawn hynny, wrth gwrs, ond nodwn ei bod yn hawdd derbyn argymhellion pan fyddant yn dod heb gost i’r Llywodraeth. Ond mae’n well bod yn glir ar hyn. Bydd y goblygiadau cost o gytuno â’r argymhellion yn cael eu diwallu gan ‘ailflaenoriaethu cyllidebau rhaglenni presennol’. Rwy’n awyddus i ddeall beth fydd y newid a thros ba gyfnod. Y gyllideb adrannol ar gyfer y flwyddyn gyfredol yw £36.2 miliwn, a gwyddom fod £5 miliwn o hynny yn mynd i hyfforddiant yn y gweithle ac i hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r Gymraeg. Rwy’n tybio, er nad yw’n glir, fod y £2 miliwn y cyfeiriwyd ato mewn ymateb i argymhellion 3 a 21 yn rhan o’r £5 miliwn hwnnw. Y naill ffordd neu’r llall, mae’n gadael llawer o le i ailflaenoriaethu cyllidebau rhaglenni presennol, rwy’n credu. Rwy’n gobeithio y gall y Gweinidog roi rhyw syniad i ni beth fydd cost debygol gweithredu’r argymhellion, a beth y bydd yn ei newid i ddarparu ar gyfer hynny. Pa raglenni a fydd yn cael eu gollwng, neu eu torri, a pha dystiolaeth o effaith y mae’n dibynnu arni i gyfiawnhau ei benderfyniad? Hoffwn y manylion hyn oherwydd, y flwyddyn nesaf, mae’n debyg y bydd £10 miliwn ychwanegol yn dod i’r adran am flaenoriaethau allweddol. A fydd y £10 miliwn hwnnw yn cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl gan wella’r Gymraeg yn y gweithle, hyrwyddo’r Gymraeg a chefnogi’r sector addysg, neu a fydd unrhyw geiniog yn mynd at yr argymhellion i osgoi’r angen i ddibynnu ar ailflaenoriaethu cyllidebau’r rhaglenni dirgel hynny?
Ymdriniwyd â rhai o’r argymhellion yn strategaeth 2050, a bydd yn rhaid i ni, rwy’n credu, fonitro’r ddarpariaeth yn erbyn ein gofynion wedi i’r strategaeth gael ei rhoi ar y gweill. Nid yw’r risg yn y syniadau, ond yn y gweithredu, a bydd cynllunio’r gweithlu i athrawon yn her fawr. Weinidog, rydych chi’n cydnabod hynny yn eich ymateb i argymhelliad 4, pan ddywedwch y bydd angen strategaethau gwahanol i sicrhau cyflenwad digonol. Mae hynny’n swnio’n ddrud, ac yn ddrud dros lawer o flynyddoedd, nes ein bod ni’n cyrraedd más critigol o sgiliau dwyieithog yn y boblogaeth gyffredinol. Byddwn i’n synnu’n fawr pe bai ailflaenoriaethu cyllidebau rhaglenni yn rhoi ffrwd incwm parhaus i chi ar gyfer hyn. Dim ond rhywfaint o £10 miliwn y flwyddyn nesaf a fydd yn mynd i gefnogi’r sector addysg, beth bynnag, ac nid yw’n glir a yw cefnogi’r sector addysg hyd yn oed yn cynnwys cynllunio gweithlu. Rwy’n derbyn na allwch ymrwymo arian yn y tymor hir oherwydd y cylch cyllideb blynyddol, ond gallech ddarparu ffigurau arwyddol o’r gost ar gyfer y maes gwaith penodol hwn—y flaenoriaeth allweddol hon. Ni wnaethom weld hynny mewn ymateb i argymhellion 4, 6 nag 14.
Roedd y rhan fwyaf o’n hargymhellion yn ymwneud ag addysg, fel y byddech yn disgwyl. Dyna ble mae’r Gweinidog wedi dechrau hefyd. Felly, i orffen, hoffwn dynnu sylw at rai o’r argymhellion sydd ar waelod ein rhestr o argymhellion—y rhai sy’n cyfeirio’n fyr at hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gymunedol ac yn y gweithle, a chymorth i oedolion sy’n dysgu. Yn y dyfodol, bydd y rhain yn llai o broblem oherwydd y twf mewn sgiliau dwyieithog yn y boblogaeth gyffredinol, ond mae’n rhaid i ni gyrraedd y pwynt hwnnw, a bydd newid diwylliant yn gyfnod pontio hir sy’n gofyn am ddyfalbarhad, amynedd ac arian.
Rwy’n gobeithio y bydd yn broses o wella, yn hytrach na dyheadau sy’n lleihau, ond bydd y cynnydd yn erbyn anfantais a gwrthsefyll yn araf. Bydd hynny’n gwneud y gwaith hwn yn agored i doriadau neu ailflaenoriaethu mewn blynyddoedd i ddod. Mi fydd pwysau cyllidebol bob amser, pwy bynnag sy’n rhedeg y wlad. Felly, gofynnodd argymhelliad 22 gwestiwn anodd iawn am yr ymdrech a ddylai fynd mewn i Gymraeg i oedolion. A oes posibilrwydd y bydd y Llywodraeth yn gorfod cau ei llygaid ar oedolion heddiw er mwyn sicrhau bod oedolion yfory yn wirioneddol ddwyieithog?
Rwy’n credu bod Bethan Jenkins wedi crynhoi’r argymhellion yn yr adroddiad yn deg iawn, felly nid wyf am ailadrodd yr hyn a ddywedwyd eisoes. Felly fe wnaf gyfraniad byr, yn gyntaf oll i dynnu sylw at y consensws a gafwyd yn y pwyllgor a’r ffordd y gwnaethom i gyd weithio gyda’n gilydd ar sail drawsbleidiol i fyfyrio ar gynigion y Llywodraeth ac i dynnu sylw at ein barn ynglŷn â rhai o’r pwyntiau ymarferol y mae angen mynd i’r afael â hwy yn awr. Rwy’n credu ei bod yn werth pwysleisio pa mor feiddgar a radical yw’r polisi diwylliannol hwn, wedi ei osod yn erbyn cefndir o 100 mlynedd neu fwy o ddirywiad yn yr iaith Gymraeg. Mae unrhyw Lywodraeth sy’n dweud ei bod yn mynd i geisio dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg yn un ddewr a chredaf y dylid canmol y beiddgarwch hwnnw.
Ond rwy’n credu wrth wneud hynny fod angen i ni gydnabod bod hwn yn darged ymestynnol, a hefyd ei fod yn darged sy’n esblygu. Mae’n amlwg nad yw’r Llywodraeth wedi dod at y polisi hwn gyda glasbrint manwl ymlaen llaw; mae’n rhywbeth y mae’n meddwl drwyddo wrth i ni fynd. A dweud y gwir, pe bai wedi ei wneud yn y ffordd arall, mae’n debyg na fyddem yn cychwyn ar hyd y llwybr hwn, gan ei fod mor anodd. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn iawn ein bod wedi bwrw iddi gyda’r targed uchelgeisiol a’n bod yn ôl-lenwi wrth i ni ddatblygu. Mae adroddiad y pwyllgor yn ymgais ddiffuant i geisio awgrymu rhai pethau y gallai’r Llywodraeth eu hystyried wrth iddi lunio’r cynllun hwn.
Mae’n werth cydnabod bod gennym yn y Prif Weinidog a’r Gweinidog dros yr iaith Gymraeg ddau wleidydd sy’n ymrwymedig iawn i weld hyn yn digwydd, a Llywodraeth Lafur Cymru sy’n gwneud ymrwymiad beiddgar am lawer o genedlaethau i ddod. Rwy’n credu bod angen inni weld hwn fel prosiect aml-genhedlaeth.
Felly, dau brif sylw sydd gennyf: un, fel sydd eisoes wedi cael ei grybwyll, nid canolbwyntio’n syml ar y sector cyfrwng Cymraeg yw’r her fawr yma, ond edrych ar y sector nad yw’n gyfrwng Cymraeg. Mae tua thri chwarter y disgyblion yn cael eu haddysgu mewn ysgolion nad ydynt yn gyfrwng Cymraeg, mae tua 16 y cant o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a 10 y cant mewn ysgolion dwyieithog. Rydym yn gwybod bod problemau gyda chael disgyblion yn y lleoliadau hynny i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn llawnach y tu allan i’r ysgol. Ond rwy’n credu mai’r her fawr i gyrraedd y targed hwn yw bod tri chwarter yr ysgolion yn gyfrwng Saesneg ar hyn o bryd, a gwyddom ei bod yn ofynnol iddynt yn gyfreithiol i addysgu Cymraeg, ond mae’r rhai ohonom sydd â phrofiad o’r ysgolion hynny yn ein hetholaeth neu fel disgyblion ynddynt yn gwybod, yn ymarferol, nad oes y nesaf peth i ddim Cymraeg gan y bobl ifanc sy’n dod allan o’r ysgolion hynny yn aml.
Rwy’n siarad fel rhywun a oedd, cyn i mi gael fy ethol, yn gadeirydd llywodraethwyr ysgol gynradd cyfrwng Saesneg a weithiodd yn galed iawn i geisio recriwtio athrawon a oedd yn siarad Cymraeg er mwyn gwella sgiliau’r staff a’r disgyblion ac i wneud y Gymraeg yn rhan fywiog o amgylchedd yr ysgol. Llwyddasom am gyfnod byr, ond roedd cadw staff medrus yn amhosibl. Yn syml iawn, nid oes athrawon ar gael ar hyn o bryd i wneud y dyhead hwn yn ystyrlon, ac rwy’n meddwl ein bod wedi clywed cyfeirio yn araith Bethan Jenkins at y ffaith bod nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru ar gyrsiau TAR Cymraeg yn gostwng.
Felly, mae gennym waith newid cyfeiriad syfrdanol i’w wneud er mwyn cyflawni hyn, ond rwy’n meddwl o ddifrif fod yn rhaid i’n ffocws fod ar sut y gallwn gael y continwwm i weithio mewn ffordd ystyrlon mewn ysgolion sy’n rhai cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd, ac mae hynny’n anodd iawn. Ymwelais â nifer o ysgolion yn fy etholaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf lle y mae’r penaethiaid yn meddu ar lefelau amrywiol o frwdfrydedd, rwy’n credu, a bod yn deg. Ond mae hyd yn oed y rhai sy’n gwbl gefnogol i gyflawni hyn yn cael trafferth yn ymarferol i wybod sut i’w wneud heb fod ganddynt adnoddau neu staff i bwyso arnynt. Felly, rhaid i hynny fod yn ffocws allweddol yn fy marn i.
Mae yna demtasiwn i fynd am enillion cyflym i geisio dangos rhywfaint o gynnydd yn y tymor byr, ac rwy’n credu bod hynny’n ddealladwy. Pan edrychwch ar y ffigurau ar nifer yr athrawon yn ein hystafelloedd dosbarth sy’n gallu siarad Cymraeg, 33 y cant ar hyn o bryd sy’n siarad Cymraeg ond 27 y cant ohonynt yn unig sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae ein hadroddiad yn sôn am y demtasiwn i edrych ar y 5 i 6 y cant ar hyn o bryd sy’n siarad Cymraeg i ryw raddau, ond sydd ddim yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn cyrraedd y targed hwnnw. Ac wrth gwrs, dyna fan cychwyn dealladwy, ond mae’r broblem yn dal i fod gyda ni. Ar ôl bod mewn ysgol gynradd ddwyieithog, yn y ffrwd Gymraeg yn y dosbarth iau a’r ffrwd Saesneg yn yr ysgol gyfun, mewn amgylchedd dwyieithog, rwy’n gwybod bod hyd yn oed y plant sy’n cael eu haddysgu mewn lleoliad cyfrwng Saesneg yn dal yn agored i lawer iawn o Gymraeg; mae’n rhan o’u hawyrgylch, mae’n rhan o leoliad yr ysgol, ac mae’n lliwio eu teimlad tuag at yr iaith. Ac rwy’n meddwl y dylem fod yn edrych, fel rhan o’r gwaith ar ddatblygu’r continwwm, i ledaenu’r ysbryd hwnnw mewn cymaint o ysgolion cyfrwng Saesneg ag y bo modd fel bod pob ysgol yn y tymor byr i’r tymor canolig yn anelu at ddod yn ysgol ddwyieithog ac yn y ffordd honno, rwy’n meddwl y gallwn gyrraedd y targed hwn a dod â chalonnau a meddyliau’r bobl gyda ni. Diolch.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar adroddiad ein pwyllgor ni ar ‘Gwireddu’r Uchelgais—Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, y nod, fel rydym ni wedi ei glywed llawer tro, ydy cael miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae o’n nod mentrus iawn, fel rydym ni’n nodi fan hyn yn y rhagair bendigedig gan Cadeirydd bendigedig y pwyllgor yma. Wrth gwrs, mae goroesiad yr iaith Gymraeg yn rhywbeth hollol ryfeddol, achos y cyd-destun ydy weithiau rydym ni’n mynd yn llwm ac yn oeraidd ac ychydig bach yn isel ynglŷn â dyfodol yr iaith, ond, o gofio bod yna dros 7,000 o ieithoedd ar wyneb ddaear, mae yna un iaith yn diflannu oddi ar wyneb y ddaear bob yn ail fis. Dyna realiti’r sefyllfa, ac, o dderbyn y cyd-destun yna, wrth gwrs, mae goroesiad y Gymraeg yn rhyfeddol yn y lle cyntaf, a’r ffaith bod yna dros 0.5 miliwn o bobl yn dal i’w siarad o heddiw yn dal yn rhyfeddol.
Ac, wrth gwrs, yr hen Gymraeg ydy iaith wreiddiol ynys Prydain. Wrth gwrs, mae’r gair ‘Britain’ yn dod o ‘Prydain’, achos, nôl yn y chweched ganrif, roedd pawb o Gaeredin i lawr yn gallu siarad yr hen Gymraeg. Dyna pam mae’r holl enwau Cymraeg yna gyda ni, fel Ystrad Clud—Strathclyde—a Lanark, o Llannerch, ag Ecclefechan—Eglwys Fechan—yn Dumfries, a Chaerliwelydd ydy Carlisle, ac yn y blaen. So, mae hyn yn rhan o hanes—ddim jest hanes pobl Cymru, ond hanes pobl Prydain. Wedi dweud hynny, mae’r nod o filiwn o siaradwyr i’w gefnogi, ac rydw i’n llongyfarch y Gweinidog ar y nod yna. Wrth gwrs, mae’r Gweinidog hefyd yn gwybod ein bod ni wedi bod yn fan hyn o’r blaen. Jest dros ganrif yn ôl, roedd gyda ni filiwn o siaradwyr Cymraeg o’r blaen, a wedyn rydym ni’n sôn yn fan hyn am angen adennill y tir, a wedyn dyna beth oedd bwriad ein pwyllgor ni wrth gyflawni’r adroddiad yma: edrych ar sut rydym ni i gyd—nid jest tasg i’r Llywodraeth yw hyn—yn mynd i adennill y tir yna o gael miliwn o siaradwyr.
Ac, wrth gwrs, yn allweddol bwysig yn y lle cyntaf ydy hyrwyddo. Mae yna gryn dipyn o sôn yn yr adroddiad yma am yr angen i hyrwyddo—hynny yw, fel y mae Suzy Davies wedi ei nodi, newid y diwylliant sydd mewn rhai ardaloedd yng Nghymru ar hyn o bryd, newid agwedd rhai pobl sydd yn gryf yn erbyn y Gymraeg, sydd yn ddilornus o’r Gymraeg. Ac mae yna jobyn o waith i wneud yn hynny, ac mae i lawr i bawb. Hynny yw, mae hwn—yn drysor i’w drysori ydy’r iaith yma sydd gyda ni. Rydym ni wedi cael twf enbyd o’r blaen a mi allwn ni gael twf enbyd eto. Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gael y tirwedd sydd yn deall pa mor bwysig ydy hwn i’n plant a phlant ein plant. A, drwy hyrwyddo, mae’n bwysig hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg. Mae yna rai pobl allan fan yna’n credu os ydych chi’n anfon eich plentyn i ysgol gynradd Gymraeg nid ydyn nhw’n dysgu Saesneg o gwbl. Wel, na, lol—yn naturiol rydych chi’n cael addysg cyfrwng Cymraeg ond rydych chi’n dysgu Saesneg hefyd. Felly, rhagoriaeth y sefyllfa ydy pan fyddech chi’n anfon eich plentyn i ysgol cyfrwng Cymraeg o dair i bedair blwydd oed ymlaen, erbyn iddyn nhw gyrraedd 11, maen nhw’n rhugl mewn dwy iaith. Mae eisiau cael y wybodaeth sylfaenol yna allan: os ydych chi’n anfon eich plentyn i ysgol cyfrwng Cymraeg, erbyn 11 oed maen nhw’n dod allan yn rhugl mewn dwy iaith.
Mae’r plant yn dysgu—maen nhw fel sbwng bach. Nid ydyn nhw’n stopio ar ddwy iaith; medrwch chi ddysgu trydedd iaith iddyn nhw, neu bedwaredd iaith—mae hynny’n digwydd mewn nifer o wledydd. Mae’n rhaid i rai pobl ddod dros yr ‘hang-up’ yma ynglŷn â ‘rhaid ichi jest siarad Saesneg, neu chi’n drysu’n plant’. Wel, mae hynny’n agwedd hen ffasiwn—hen ffasiwn iawn. Mae’n rhaid symud ymlaen o hynny a bod yn ymwybodol ei bod hi’n drysor gallu siarad o leiaf dwy iaith pan, yn nes ymlaen, a hyd yn oed yn rhai o’n hysgolion cynradd ni, fo’n plant ni’n dysgu trydedd iaith, fel Ffrangeg neu’r Almaeneg, fel y gwnaeth fy mhlant i. Cafodd fy mhlant i’r cyfle i fynd i ysgol cyfrwng Cymraeg—ges i ddim. Roedd yn rhaid i mi fynd i ysgol cyfrwng Saesneg achos rwyf mor hen, wrth gwrs—cyn y twf yma mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar.
Mae hi hefyd yn dechrau cyn yr ysgolion, gyda meithrinfeydd. Cawsom ni gryn dipyn o dystiolaeth ynglŷn â phwysigrwydd Mudiad Meithrin a meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg, achos, i gael y rhuglder yna yn yr iaith, mae’n rhaid i chi gael gafael ar ein plant ni mor gynnar â phosibl. Mae hynny hefyd yn elfen, ac, wrth gwrs, mi oedd yna argymhelliad—argymhelliad 7—i’r perwyl yna, ond nid ydw i’n credu bod Mudiad Meithrin yn mynd i gael beth yr oedden nhw’n gofyn amdano—yn y tymor byr, ta beth.
Rwy’n cymell ac yn gwerthfawrogi ymgais y Llywodraeth i fynd amdani am y filiwn o siaradwyr, ond nid jest gwaith i’r Llywodraeth yw hi—mae’n jobyn i ni i gyd. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog i gyfrannu i’r ddadl—Alun Davies.
Diolch yn fawr i chi, Llywydd. Rwy’n credu fy mod i’n gallu dechrau gyda diwedd araith Dai Lloyd, achos rydych chi’n hollol iawn yn eich dadansoddiad chi: gall Llywodraeth osod pob math o strwythurau yn eu lle, ond, ar ddiwedd y dydd, mae’n gymuned, mae’n genedl, ac mae’n wlad sy’n siarad iaith ac nid Llywodraethau’n unig. Felly, mae yn rhywbeth i ni fel cymuned genedlaethol, a dyna pam rwyf wastad wedi pwysleisio pwysigrwydd creu undod o gwmpas y drafodaeth yma a dim rhoi’r un pwyslais yr ŷm ni’n ei weld ambell waith ar rannu pobl yn ystod y trafodaethau yma.
A wnewch chi gymryd ymyrraeth ynglŷn â’r pwynt yna’n benodol?
Ocê.
Rydych chi’n sôn am adeiladu consensws o gwmpas yr iaith, ond, yn anffodus, yn dilyn y drafodaeth a gawsom ni ddoe ar Fil y Gymraeg, mae’n ymddangos bod y consensws yna’n dechrau cael ei danseilio. Mae siaradwyr Cymraeg ym mhob cwr o’r wlad, mudiadau iaith, ac arbenigwyr cynllunio iaith, i gyd yn cytuno y bydd Bil y Gymraeg yn gam yn ôl ac yn gwanhau yn hytrach na chryfhau’r ymdrechion sydd gennych chi o dan sylw o ran eich strategaeth i gyrraedd miliwn o siaradwr erbyn 2050.
Rwy’n anghytuno â chi, ac rydw i’n credu beth sy’n rhannu pobl yw defnyddio iaith fel ‘brad’—dyna beth sy’n achosi rhaniadau yn y wlad, ac nid dyna’r ffordd o drafod rydw i’n credu ein bod ni eisiau clywed yn ein Senedd genedlaethol ni, ac nid ydw i’n credu bod hynny’n rhan o unrhyw gonsensws. Rwy’n dweud wrthoch chi nawr: nid yw’n mynd i fod yn rhan o unrhyw gonsensws yr wyf i’n arwain arno. So, rydw i’n hynod o—[Torri ar draws.] Mae’r Aelod—
Anwybyddwch e—nid yw e ar ei draed. Anwybyddwch e, Gweinidog, a chariwch ymlaen.
Nid yw e wedi bod yma ar gyfer y drafodaeth; mae’n cyrraedd yn hwyr ac yn dechrau poeri—
Rŷch chi methu ag ei anwybyddu fe. Cariwch ymlaen, Gweinidog.
Rydw i wedi bod yn ei anwybyddu ers amser hir.
Rydw i yn ddiolchgar am y ffordd y mae Bethan Jenkins ddim jest wedi arwain y drafodaeth y prynhawn yma ond wedi arwain y pwyllgor hefyd. Rydych chi wedi gofyn sawl cwestiwn yn ystod eich araith agoriadol, a Suzy Davies, hefyd, yn ystod ei haraith hi. Rwy’n teimlo ambell waith efallai y byddai’n well dod gerbron y pwyllgor i ateb rhai o’r cwestiynau a mynd i mewn i fanylder amboutu ambell peth yr ydych chi wedi gofyn i fi yn lle trio ymateb y prynhawn yma, ac mi fuaswn i’n falch iawn o gael y cyfle i ddychwelyd i’r pwyllgor ar gyfer y math yna o drafodaeth.
Ond, yn y dadansoddiad rydym ni wedi ei rannu ar draws y Siambr y prynhawn yma, un peth sy’n sefyll mas, ac un peth sy’n bwysig, ac mae’n dod nôl at gyfraniad Lee Waters hefyd: mae’n rhaid i bob dim newid. Mi fuasai fe wedi bod yn rhwydd iawn i unrhyw Lywodraeth gael ei hethol a gosod agenda i’r iaith yn yr un ffordd ag yr ydym ni wedi ei gwneud yn y gorffennol—ein bod eisiau gweld yr iaith yn tyfu a’r iaith yn ffynnu; pa bynnag iaith a geiriad yr ydym ni’n eu defnyddio. Mi wnaeth y Llywodraeth yma rywbeth gwahanol. Mi wnaethom ni rywbeth gwahanol, rhywbeth radical, a rhywbeth bowld, yng ngeiriau Lee Waters, wrth osod targed o greu miliwn o siaradwyr, dyblu faint ohonom ni sy’n defnyddio ac yn siarad Cymraeg ar hyn o bryd. Mae hynny yn bwysig dim jest oherwydd y rhif, y targed ei hun, ond beth mae hynny yn ei feddwl i’r Llywodraeth yma, i’r Senedd yma, ac i ni fel gwlad. Mae’n meddwl bod yn rhaid i bethau newid. Mae’n rhaid i bob dim newid. A dyna pam rydw i’n gwadu’r lleisiau ceidwadol rydw i’n glywed yn y Siambr yma ambell waith a tu fas, ac mae Sian Gwenllian wedi sôn am hynny yn barod. Rydw i eisiau gweld ni’n meddwl, o’r diwedd, o’r newydd amboutu’r polisi yma a sut rydym ni yn cyfrannu at ehangu a dyblu faint ohonom ni sy’n siarad Cymraeg. Rydw i’n credu bod adroddiad y pwyllgor wedi bod yn gyfraniad pwysig i hynny. Mae’r cwestiynau y mae Bethan Jenkins a Suzy Davies wedi eu gofyn y prynhawn yma yn gwestiynau pwysig ac yn ddilys iawn, ac mae’n mynd at galon y drafodaeth mae’n rhaid i ni ei chael yn ystod y misoedd nesaf.
Pan oeddwn i’n cyhoeddi’r strategaeth a’r weledigaeth dros yr haf, roeddwn i eisiau symud yr agenda ymlaen, yn amlwg, ond mae hefyd yn bwysig i mi i beidio â jest cyhoeddi’r strategaeth ei hun, ond i gyhoeddi rhaglen waith hefyd a’r targedau sy’n rhan ohoni. Mae’r targedau rydym ni wedi eu gosod yn dargedau ar gyfer y Cynulliad yma, y Lywodraeth yma, a’r Gweinidog yma. Nid ydyn nhw jest yn dargedau ar gyfer 2030, 2040, a 2050; maen nhw’n dargedau ar gyfer y Cynulliad yma, ar gyfer y Lywodraeth yma, ac rydw i’n credu bod hynny yn hynod o bwysig. Rydym ni wedi cael cyfle i drafod y Papur Gwyn yn barod yr wythnos yma, ac nid oes gen i fwriad y prynhawn yma i fynd nôl at y drafodaeth yna, jest i ddweud y byddaf i’n parhau i arwain trafodaeth yn y wlad yma a phob rhan o Gymru, ym mhob un cymuned ar draws y wlad, ac yn arwain consensws newydd i newid y strwythurau sydd gyda ni ar hyn o bryd. Mae’n rhaid i bob dim newid.
Yng nghanol hyn i gyd mae rôl allweddol addysg, ac mae sawl un—rwy’n credu pob un o’r siaradwyr y prynhawn yma—wedi sôn am y rôl sydd gyda ni yn ein system addysg ni. Mi fydd Aelodau’n ymwybodol iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi gwneud cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ar ein cynllun gweithredu ar gyfer addysg yng Nghymru, ac mae hi wedi rhoi pwyslais pwysig ar ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg a gwella addysgu a dysgu Cymraeg i bob un dysgwr fel rhan o’r system addysg. Rydw i’n cydnabod y pwyntiau mae Lee Waters wedi eu codi yn ei araith amboutu bwysigrwydd y system Saesneg. Gormod o weithiau, rydym ni yn canolbwyntio ar y system Gymraeg, ac nid ydym ni’n meddwl amboutu’r rhan fwyaf o blant a dysgwyr Cymru sydd yn y system Saesneg. Mae’n rhaid i bob un rhan o’r system gael ei hystyried yn y dyfodol; rydw i’n cytuno gyda phob un o’r pwyntiau mae Lee wedi eu gwneud.
Byddaf i’n gwneud datganiad, Llywydd, yr wythnos nesaf ar gynlluniau datblygu addysg, ac rwy’n credu bod yna groeso wedi bod ar draws y Cynulliad yma i waith Aled Roberts. Liciwn i gyhoeddi fy niolchiadau i Aled nid jest am y gwaith mae wedi ei wneud, ond y ffordd mae wedi mynd o gwmpas ei waith. Mae wedi bod i greu a chynnal trafodaethau gydag awdurdodau ar draws Cymru, ac wedi herio awdurdodau ar draws y wlad ar sut rydym ni’n gallu cyrraedd ein targedau—yn union y math o heriau yr oedd Bethan yn sôn amdanyn nhw yn ei haraith agoriadol. Rydym ni, fel canlyniad i’r broses honno, wedi cyrraedd pwynt ble rydym ni’n gallu dweud gyda rhywfaint o hyder y bydd gyda ni y math gynlluniau addysg Gymraeg yn eu lle a fydd yn ein galluogi ni i gyrraedd ein targedau.
Rwy’n gweld bod amser yn symud ymlaen. A gaf i jest fennu drwy ddweud hyn? Gofynnodd Bethan Jenkins gwestiwn yn ei haraith am fusnesau bach a sut rydym ni’n mynd at i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg gyda busnesau bach. Mi fydd Aelodau’n ymwybodol bod y Prif Weinidog wedi gwneud datganiad ar grant newydd ar hynny yn ystod y brifwyl eleni yn sir Fôn ac mi fyddwn ni’n parhau i wneud datganiadau ar sut rydym ni’n symud ymlaen ar hynny.
Llywydd, rwy’n ddiolchgar iawn am waith y pwyllgor ar hyn. Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad pwysig: mae wedi cyfrannu at ddatblygiadau polisi’r Llywodraeth, mae wedi cyfrannu at drafodaeth genedlaethol sydd ei hangen arnom ni i sicrhau nad yw polisi’r Llywodraeth ddim jest yn bolisi i’r Llywodraeth ond, yng ngeiriau Dai Lloyd, yn bolisi sy’n gallu uno Cymru a pholisi fydd yn cael ei gefnogi ar draws ein gwlad. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Bethan Jenkins is ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Hoffwn i, yn fras, ddiolch i bawb am gyfrannu yn y ddadl yma heddiw. Rwy’n credu, er ein bod ni wedi cael trafodaeth ddoe ar y Bil, ei bod hi wedi helpu, mewn ffordd, cael trafodaeth yn yr un wythnos i ni allu edrych ar y mater yma mewn ffordd gynhwysfawr yn hynny o beth.
Diolch i Suzy Davies am ei chyfraniad. Yr hyn roeddech chi’n ei ddweud ynglŷn ag addysg i oedolion oedd yr hyn oedd yn fy nharo i—o ran cau llygaid ar oedolion heddiw er mwyn helpu oedolion y dyfodol. Byddwn i’n gobeithio na fyddem ni’n cau ein llygaid yn llwyr ar oedolion nawr, gan eu bod nhw, wrth gwrs, yn rhan o’r gymdeithas ac yn rhan bositif o eisiau dysgu. Ond rwy’n cytuno â’r pwynt yr oeddech chi’n ceisio ei wneud, sef efallai bod angen—nid ydw i’n gwybod beth yw’r gair Cymraeg chwaith—’frontload-io’ neu ddechrau pan mae pobl yn ifanc—[Torri ar draws.] Beth yw e? Blaenlwytho—i bobl ifanc fel eu bod nhw’n gallu wedyn bod yn ddigon cymwys fel na fyddai angen addysg i oedolion yn y dyfodol. Gobeithio y cawn ni gyrraedd y realiti hwnnw.
Mae Cymraeg yn y gweithle a Chymraeg yn y gymuned hefyd yn bwysig iawn. Nid Cymraeg mewn addysg yn unig sydd o bwys yma. Rydym ni i gyda fel Aelodau Cynulliad yn gwybod y sialens sydd ar lawr gwlad i ennyn pobl i siarad Cymraeg yn eu bywydau bob dydd. Rwy’n credu y bydd hynny yn ddarn ychwanegol o waith i ni ei wneud fel pwyllgor, oherwydd bod yna lot o stereoteipiau yn dal mas yna, ac mae yna lot o gonsýrn o ran pobl yn cael yr hyder i siarad yr iaith. Rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth i ni edrych arno yn y dyfodol.
Efallai nad yw’r mater o arian, o ran ein cwestiynau ni, Suzy, i’r Gweinidog, ddim wedi cael ei ateb yn hynny o beth, ond efallai y cawn ni’r Gweinidog yn ôl i’r pwyllgor i ymateb i rai o’r cwestiynau penodol ar ariannu y cynllun.
Thank you to Lee Waters for your contribution and for your praise to the Welsh Government. I’m sure they’ll be very proud of your contribution here today. I do agree with you when you say there’s that critical mass already who are competent to speak Welsh but they don’t actually teach through the medium of Welsh. That’s something we could go for straightaway in relation to encouraging them to move and to teach through the medium of Welsh. You were really passionate in the committee about English language education. When we did outreach, I went to the one in Swansea and, you know, we were hearing that. We were hearing that young people liked to learn but they felt that sometimes the things that they were learning were not relevant to their everyday lives. I’m hopeful that, with changes to the education system, that will be reflected in the comments that we get back from people as well.
Diolch i Dai am ei gyfraniad. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i ni edrych ar y ffaith bod dal gennym ni’r iaith Gymraeg yma a bod lot o wledydd eraill lle nad yw’r iaith gynhenid yn ddefnyddiol yn eu bywydau bob dydd. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr iaith yn tyfu. Gwnaethoch chi bwynt pwysig hefyd, Dai, o ran dysgu’r iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ac ieithoedd eraill—mae’n rhywbeth y dylem ni fod yn ei sbarduno ac yn ei hyrwyddo o fewn ein hysgolion. Rydym ni wedi gweld bod ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg—Ffrangeg ac Almaeneg, ac yn y blaen—wedi mynd yn is yn ein hysgolion, ac efallai bod hynny yn rhywbeth y mae angen i ni edrych arno hefyd. Os ydym ni’n cael y sgiliau ieithyddol cynhenid hynny, pam nad yw ieithoedd modern yn ffynnu fel y dylen nhw fod? Rydw i’n credu bod hynny yn rhywbeth pwysig.
Rydw i’n credu hefyd, o ran materion eraill y tu allan i addysg, nad ydym wedi’u trafod heddiw—er ein bod ni’n trafod S4C yn aml iawn—bod angen i ni normaleiddio’r iaith trwy’r cyfryngau a thrwy sianeli fel S4C. Er enghraifft—ac nid yw hyn jest yn ‘cheap shot’ achos fy mod yn cynrychioli Port Talbot—os ydych chi’n gwylio’r rhaglen ‘Bang’, rydych chi’n gweld bod yna ddeialog sylweddol yn y Saesneg, ond wedyn mae’n symud i’r Gymraeg yn y sin ei hun. Rydw i’n credu bod hynny’n rhywbeth sydd yn dda ar gyfer S4C er mwyn iddyn nhw drio cael pobl, efallai sy’n dod o ardaloedd di-Gymraeg, i wylio, yn y lle cyntaf, ac i gadw ac i ddwyn eu sylw nhw. Felly, byddwn i’n argymell, fel rhan o unrhyw strategaeth yr iaith Gymraeg, ein bod ni’n ennyn S4C, ennyn y cyngor celfyddydau, ennyn y sectorau celfyddydau a chwaraeon, er enghraifft, i ymwneud â’r strategaeth yna, fel roedd Dai yn ei ddweud, fel ei bod yn eiddo i bawb, a fel bod yna ‘onus’ ar bob un ohonom ni yma i sicrhau ein bod ni’n gweithredu er mwyn cyrraedd y targed hwnnw. Nid yn unig targed i Lywodraeth Cymru yw hwn, ond targed i ni fel unigolion i’w wireddu hefyd. Diolch yn fawr iawn i bawb.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.
Dyma ni’n cyrraedd dadl Plaid Cymru ar weithlu’r gwasanaeth iechyd. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6520 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn peri risgiau i ddiogelwch cleifion a’r gallu i gyflenwi gwasanaethau’n ddiogel.
2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun gweithlu effeithiol a chynaliadwy ar gyfer GIG Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Un o’n trysorau mwyaf gwerthfawr ni, sy’n cael ei werthfawrogi uwchlaw pob gwasanaeth cyhoeddus arall yng Nghymru, rydw i’n siŵr, ydy’r gwasanaeth iechyd, yr NHS, ac adnodd mwyaf gwerthfawr yr NHS ydy’r gweithlu—y bobl hynny sydd, drwy gyfuniad o’u sgiliau nhw, a’u hymroddiad nhw, yn sicrhau bod pob un ohonom ni yn gallu cael y gofal gorau posib pan rydym ni ei angen o fwyaf. Un o’r dyletswyddau mwyaf sydd gan Lywodraeth Cymru wedyn ydy gwneud yn siŵr bod y gweithlu yna yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arno fo—yn cael ei gynllunio yn ofalus, fel bod gennym ni y bobl iawn yn y llefydd iawn efo’r sgiliau iawn i ofalu am gleifion, a bod yna ddigon o bobl yn cael yr anogaeth i ddod i mewn i’r gwasanaeth iechyd ac yn derbyn y hyfforddiant gorau posibl i’w wneud o yn wasanaeth cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Yn anffodus, rydym ni yn gwybod yna wendidau mawr yn y cynllunio gweithlu yna ar hyn o bryd, sy’n creu gwir broblemau ac yn bygwth gallu’r NHS i ddarparu ar gyfer pobl Cymru. Mi fydd rhai ohonoch chi wedi gweld adroddiadau newyddion yr wythnos yma yn dilyn ymchwil Plaid Cymru i gofrestrau risg byrddau iechyd Cymru, lle mae pob un ohonyn nhw yn adnabod diffygion gweithlu—prinder meddygon, prinder nyrsys—fel risgiau gwirioneddol ar y lefel uchaf. Mae adroddiadau risg y byrddau yn sobri rhywun: yn sôn am anallu i ddarparu gwasanaethau neu gleifion yn wynebu risg o niwed y gellid ei osgoi. Y prynhawn yma, mi wnawn ni fynd drwy rai o’r gwahanol elfennau o gynllunio gweithlu yr ydym ni’n meddwl mae’n rhaid eu blaenoriaethu yn llawer mwy nag ydym ni’n ei weld gan y Llywodraeth Lafur ar hyn o bryd. Mae cleifion Cymru, mae staff yr NHS rŵan, a staff yr NHS yn y dyfodol, yn haeddu gwell.
Mi wnaf i yn gyntaf drio paentio darlun o le rydym ni arni rŵan. Caiff rhai o’m cyd-Aelodau ymhelaethu ar sawl agwedd o gynllunio gweithlu ac effaith cael gweithlu sydd ddim yn gynaliadwy rŵan ar gleifion. Cymru sydd ag un o’r lefelau isaf yn Ewrop o feddygon y pen. Mae prinder mewn nifer o arbenigeddau, yn cynnwys meddygaeth frys, paediatreg, obstetreg, sydd wedi arwain at golli’r gwasanaethau hyn yn llwyr mewn rhai llefydd, canoli mewn llefydd eraill, troi at wasanaethau wedi’u harwain gan nyrsys mewn llefydd eraill, a chanlyniadau yn cynnwys amseroedd aros hirach, triniaethau wedi’u canslo, diffyg staff yn siarad Cymraeg, ac mae hynny’n cael effaith gwirioneddol ar allbynnau i gleifion sy’n dymuno cael gofal Cymraeg. Yn y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach heddiw, mi dynnais i sylw’n benodol at y ffaith bod triniaeth thrombectomi wedi cael ei thynnu’n ôl yng Nghaerdydd dim ond rhyw naw mis ar ôl iddi gael ei chyflwyno oherwydd bod staff wedi’u colli a neb i gymryd eu lle nhw.
Mae gofal sylfaenol yn wynebu heriau difrifol—problemau recriwtio, problemau cadw staff yn arwain at amseroedd aros hirach am apwyntiadau a phwysau annerbyniol, wedyn, yn cael ei roi ar y meddygon teulu sydd gennym, ac mae’r nifer hwnnw’n gostwng. Mae niferoedd meddygon teulu wedi gostwng mewn termau absoliwt o 2,026 i 2,009 dros y tair blynedd diwethaf. Dim ond 25 yw’r nifer, ond pan rydych chi’n ystyried bod mwy a mwy yn dewis gweithio’n rhan-amser, mae’r nifer cyfatebol o GPs llawn-amser yn debyg o fod wedi gostwng ar raddfa llawer mwy, ac nid yw’r ffigwr hwnnw o ‘full-time equivalents’ ddim yn cael ei gyhoeddi bellach, ers 2013, oherwydd pryderon am safon data. Rydym ni angen y data hynny er mwyn gwybod lle rydym ni arni.
Ystyriwch wedyn bod chwarter ein holl feddygon teulu ni o fewn degawd i oed ymddeol, ac mae graddfa’r broblem o’n blaenau ni yn dod i ffocws cliriach. Mi ddywedodd Dr Eamonn Jessup, cadeirydd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru yn ddiweddar ei fod o’n bryderus am gynaliadwyedd un o bob tri o bractisys meddygon teulu’r Gogledd. Mae prinder staff meddygol llawn amser yn arwain at gostau mawr hefyd—costau locyms a gweithwyr asiantaeth bellach o gwmpas £150 miliwn yn flynyddol ac yn codi; £44 miliwn y flwyddyn ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn unig, i fyny o £31 miliwn mewn mater o dair blynedd. Felly, rydym ni angen mwy o feddygon.
Ond ar yr un pryd, rydym wedi gweld gostyngiad o 13 y cant y llynedd yn nifer y rhai o Gymru a wnaeth gais i astudio meddygaeth. Un y cant o ostyngiad oedd yna ar draws Prydain. Dim ond rhyw 30 y cant o fyfyrwyr meddygol yng Nghymru sy’n hanu o Gymru, o’i gymharu ag 85 y cant o fyfyrwyr meddygol Gogledd Iwerddon yn dod o Ogledd Iwerddon, ffigwr cyfatebol o 80 y cant yn Lloegr a 55 y cant yn yr Alban. Rydw i wedi adrodd y ffigurau yma dro ar ôl tro yma, ond mae yn dangos sefyllfa wir druenus. Rydym yn awchu am ragor o feddygon ond yn methu ag annog ein pobl ifanc i ystyried meddygaeth fel gyrfa, neu ddim digon ohonyn nhw, ac wedyn yn methu â rhoi llefydd i ddigon ohonyn nhw i astudio yma yng Nghymru. Mi wnaiff Sian ymhelaethu ar hynny, yn cynnwys, wrth gwrs, ein galwad ni ar ddatblygu addysg feddygol israddedig llawn ym Mangor.
A ydym yn hyfforddi mwy o feddygon teulu o ystyried ein bod ni’n ddesprad hollol am fwy ohonyn nhw? Er bod y pwysau ar ofal sylfaenol wedi cynyddu’n sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf, mae’r targed ar gyfer y nifer rydym eisiau’u hyfforddi wedi aros yn ei unfan—136. Yn Lloegr, mae’r targed wedi codi 30 y cant oherwydd eu bod nhw’n sylweddoli maint y broblem. Rydym ninnau hefyd angen gosod targedau uwch.
Mi wnaf i droi at nyrsio. Ar newyddion ITV ddoe, yn ymateb i ymchwil Plaid Cymru y gwnes i sôn amdano ar gofrestrau risg, mi ddywedodd Tina Donnelly o’r Coleg Nyrsio Brenhinol,
If you’re saying that an extreme risk is that you have got a shortage of nursing staff, then the responsibility would be to close beds because you should not be operating at that level where you are knowingly staffing your wards with insufficient staffing levels because that will compromise patient safety. And that is unacceptable.’
This is what Hywel Dda’s risk register says:
There is a risk of: Avoidable harm to patients, avoidable detriment to the quality of patient care and delays in A&E pathway. This is caused by: Lack of Registered Nurses leading to unsafe staffing levels in Emergency Departments.’
and
Baseline staffing levels not meeting NICE guidelines. Vacancies within registered nurse establishments.’
A study of UK wards by Professor Anne Marie Rafferty found that mortality increased by 26 per cent on wards with lower nurse staffing levels. In California, where a safe staffing law was introduced, mortality rates for 30 days fell by 10 to 13 per cent. A 2011 review of RCN members showed that 25 per cent of RCN members were not receiving continuous professional development, and in 2013, that rose to 43 per cent. Many LHBs have placed a moratorium on nursing staff being allowed to undertake any training. Welsh nurses are less likely to have received so-called mandatory training—we’re talking about equipment training, moving and handling, infection control—than in any other UK country. And 9.7 per cent in 2013 had received no such training at all—almost double the figure for the UK as a whole. This paints a really bleak picture of an NHS where nursing staff aren’t being given the supports that they need, and that is bad for patients.
The chief nursing officer’s guidance recommends a ratio of one registered nurse to seven patients cared for on medical and surgical wards—1:11 at nights. The responses to a recent Royal College of Midwives survey of members indicates that, on average, 9.7 patients to one registered nurse on day shifts in Wales. Eighty-five per cent of the respondents reported more than seven patients to one registered nurse. That’s not good enough. Other survey findings: only 55 per cent of nurses felt satisfied with the care they could give; 32 per cent felt they had enough time to care for patients. I could go on. We already have accepted the principle, through legislation here, of the need to ensure safe staffing levels. We cannot let slip the need to get the right number of nurses with the right training, the right support, in order to give patients the care that they need.
I’ll leave it there for now. We’ll have more from my Plaid Cymru colleagues here. In 2014, we launched a detailed policy paper on how we would train and recruit 1,000 extra doctors. A 10-year plan, with marginal gains, involving a range of policies: financial incentives; making the NHS more attractive for doctors to work; investments in medical education and training, including the development of medical training in the north. In 2016, we added the training and recruitment of 5,000 nurses and midwives over a 10-year period. We know this can’t be done overnight, but we need to be setting a trajectory. Now, this is a challenge, and these are challenges for Government. I’m looking forward to the debate this afternoon, looking forward to the response from the Cabinet Secretary, because I can tell you, lots of people working hard in the NHS in Wales are looking for far better from the Government and workforce planning than what they currently see.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi’r effaith y gall prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ei chael ar ddarparu gwasanaethau.
2. Yn croesawu ymrwymiad holl staff GIG Cymru i ddarparu gofal iechyd tosturiol o safon uchel.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Mark Reckless i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Reckless.
Gwelliant 2—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â sectorau perthnasol i sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn digwydd mewn modd cydlynol.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Rwy’n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies.
Pan soniais am gynllunio gweithlu’r GIG bythefnos yn ôl yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog, gofynnais pam, ar ôl 20 mlynedd o Lafur yn rheoli Cymru, fod yna adroddiadau Llywodraeth Cymru sy’n dweud bod angen gwaith sylweddol o hyd ar recriwtio a chadw staff meddygol i fod yn addas at y diben. Ni chefais ateb gan y Prif Weinidog ar y pryd, a gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud nad yw ond wedi bod yn ei swydd ers blwyddyn, ond ni all Llafur ddweud nad ydynt wedi cael amser i weithredu cynllun. Maent wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 20 mlynedd. Datganolwyd pwerau gan Lafur i Lafur. Llafur yng Nghymru a benderfynodd flaenoriaethu eu ffrindiau mewn llywodraeth leol yn hytrach na’r GIG, ac nid oes neb i’w feio felly am fylchau yn y GIG yng Nghymru ar wahân i Lafur.
Er gwaethaf hynny, byddant yn ddiau yn ceisio rhoi’r bai ar y Ceidwadwyr yn San Steffan, ac eto byddai’r meddyg neu’r nyrs ieuengaf a hyfforddwyd yng Nghymru, y byddai’r Blaid Geidwadol yn gyfrifol am eu hyfforddi, yn 38 mlwydd oed erbyn hyn. Llywodraeth Cymru a ddylai ateb pam y mae 187 yn fwy o feddygon a 287 yn fwy o nyrsys wedi gadael y GIG yng Nghymru yn y 10 mis diwethaf nag sydd wedi ymuno â’r gwasanaeth. Nid yw’n ddigon i’r Llywodraeth nodi, yn ei gwelliant, fod prinder o weithwyr iechyd proffesiynol. Mae angen iddynt dderbyn eu bod yn gyfrifol.
Dros bedair blynedd gyntaf y Cynulliad, roedd Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am gynllunio gweithlu’r GIG. Ers hynny, maent wedi rhoi cynnig ar amrywiaeth o ddulliau a strwythurau gyda lobsgows o wahanol gyrff wedi cymryd rhan. Rwy’n gobeithio’n wirioneddol y bydd y dull o weithredu a argymhellir yn awr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd o gael awdurdod iechyd arbennig ar gyfer cynllunio’r gweithlu yn fwy llwyddiannus na’r hyn a aeth o’r blaen.
Mae gennyf dri chwestiwn penodol rwyf eisiau eu gofyn iddo os gall eu hateb ar ddiwedd y ddadl am y cynlluniau hynny. Y cyntaf: yn y pen draw, a fydd yr awdurdod iechyd arbennig yn annibynnol go iawn neu a fydd yn gwneud yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud? Yr ail: sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau bod yr awdurdod iechyd arbennig yn sicrhau hyder y rhai sy’n gweithio yn y GIG? Pam fod yna gymaint o bryder, o ystyried adroddiadau Mel Evans a’r Athro Williams? Rwy’n derbyn yr hyn a ddywedodd yn gynharach—na fydd yn gorff cynrychiadol—ond a yw’n deall hyd a lled y pryder ynglŷn â hyn, yn enwedig yn y Coleg Nyrsio Brenhinol, fel y mae ein gwelliant yn ei nodi? A beth fydd yn ei wneud i leddfu’r pryderon hynny? Yn olaf, sut y byddwn yn gwybod, ar ddiwedd tymor y Cynulliad, fod cynllunio gweithlu’r GIG yn gweithio? Ac a wnaiff dderbyn y cyfrifoldeb os nad yw’n gweithio?
Unwaith eto, mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl ar faterion gweithlu’r GIG, ac yn amlwg, byddaf yn canolbwyntio ar feddygon a nyrsys, y rhannau rwy’n gwybod fwyaf amdanynt. Yn amlwg, mae pawb ohonom yn ymwybodol iawn o’r prinder meddygon teulu. Mae ffigurau Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dangos bod oddeutu 400 o swyddi meddygon teulu’n wag yng Nghymru heddiw. Pan fo practisau’n hysbysebu am feddyg teulu newydd, weithiau ni fyddant yn cael unrhyw geisiadau o gwbl. Mae’n anodd iawn gorfod llenwi swyddi gwag y dyddiau hyn.
Nawr, nid fel hyn y bu erioed. Rwyf fi gryn dipyn yn hŷn nag oed y myfyrwyr meddygol y soniodd Mark Reckless amdanynt, ac yn yr hen ddyddiau, roedd bod yn ymarferydd cyffredinol yn alwedigaeth ddewisedig. Mewn geiriau eraill, roedd yna giw o bobl, a byddai’n rhaid i chi ymladd yn galed iawn i gael swydd meddyg teulu nôl yn y 1980au cynnar. Felly, nid oedd hi bob amser fel hyn, ond mae llawer o bethau wedi newid. Un o’r pethau a newidiodd, yn amlwg, oedd bod y Ceidwadwyr yn 1990 wedi cyflwyno’r farchnad fewnol ac wedi dryllio gwaith cynllunio’r gweithlu a gawsom yn y GIG yn y 1960au, y 1970au a’r 1980au yn llwyr. Rydym yn dal i fod heb adennill y tir yn llawn.
Nawr, mae ymarfer cyffredinol ei hun wedi newid, yn amlwg. Mae bellach yn ddi-baid ac yn ddi-dor. Unwaith eto, yn ôl yn y 1980au a’r 1990au—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark.
A yw’n dweud o ddifrif fod y broblem gyfan sydd gennym gyda chynllunio’r gweithlu a phrinder staff yn y GIG, gan gynnwys meddygon teulu yng Nghymru, yn deillio o ganlyniad i gyfnod o saith mlynedd rhwng 1990 a 1997?
Fy ail iaith yw hi, ond ni ddywedais hynny, iawn. [Chwerthin.] Ond dechreuodd y pydredd yn 1990, oherwydd roedd gennym drefniadau cynllunio’r gweithlu cenedlaethol hyd at y pwynt hwnnw, ac fe’i dinistriwyd gan gystadleuaeth y farchnad fewnol. Rydym yn adennill pethau yn awr, yn araf, ond rydym yn dal i fod heb adennill y tir a gollwyd. Felly, erbyn hyn, mae ymarfer cyffredinol yn ddi-baid, yn ddi-dor, gydag achosion cymhleth sydd angen eu datrys bob 10 munud drwy gydol y diwrnod gwaith—50 neu 60 o gleifion, pob un â phroblemau cymhleth—gan fod y materion symlach wedi’u brysbennu allan i gael eu gweld gan gyd-weithwyr iechyd proffesiynol.
Felly, sut y mae hyn yn effeithio ar gleifion sydd wedi cael anhawster mawr i weld meddyg teulu? Amseroedd aros cynyddol am apwyntiadau rheolaidd, dim sicrwydd y cewch weld eich meddyg teulu y buoch yn ei weld ers blynyddoedd, ac nid oes nyrs practis ar gael bob amser, gan fod prinder nyrsio yn ogystal. Mae hynny’n golygu, yn y pen draw, fod cynnydd yn y niferoedd sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn ogystal. Mae diffyg nyrsys ardal yn golygu, fel arfer, eich bod fel claf yn gweld nifer o wahanol nyrsys yn awr, ac nid yr un neu ddau o wynebau cyfarwydd a arferai fod pan oedd nyrs ardal yn gysylltiedig â phob practis meddyg teulu yn ddi-ffael. Nid yw hynny’n wir bellach, gan nad oes gennym ddigon o nyrsys ardal. Nawr, mae ein cleifion yn ymwybodol iawn o’r pwysau gormodol hwn. Mae’n trosglwyddo i’n cleifion, ac nid yw rhai ohonynt yn ein ffonio pan ddylent, ac mae hynny’n niweidiol iddynt hwy hefyd.
Felly, beth sydd angen digwydd? Wel, mae’n ymwneud â recriwtio a chadw staff, fel y nododd Rhun. Os af ymlaen, mae cadw nyrsys a meddygon yn ymwneud â’r telerau a’r amodau hynny. Mae’n ymwneud â chael gwared ar y cap cyflog ar gyfer gweithwyr y GIG, yn enwedig nyrsys. Mae’n ymwneud â chydnabod ymrwymiad, allgaredd a gwaith caled, teithio’r filltir ychwanegol, ar ran nyrsys, meddygon, porthorion, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a’r gweddill i gyd—yn cael eu gwerthfawrogi gan y rheolwyr adnoddau dynol yn ein hysbytai, ac nid yw hynny’n wir bob amser bellach, fel nad yw staff yn teimlo eu bod yn cael eu hecsbloetio, eu gorweithio, dan bwysau i weithio shifftiau ychwanegol i lenwi’r bylchau yn y rota, bob amser yn gorfod brwydro am amser o’r gwaith i astudio, i sefyll arholiadau neu i wneud gwaith ymchwil. Mae meddygon wedi colli eu hystafell gyffredin, lle’r arferent siarad â chydweithwyr am bethau, ar alwad. Bellach, nid ydynt mewn timau penodedig, mae’r hen gwmnïaeth wedi mynd—maent bob amser ar alwad gyda gwahanol feddygon. Nid oes byth ddigon o welyau.
Mae pethau felly’n cynyddu’n bwysau annioddefol pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau bywyd a marwolaeth nad oes gennych amser i ailedrych arnynt. Gyda dyletswydd o onestrwydd—ardderchog—i ddweud y gwir bob amser—gwych—sut y mae cysoni hynny â’r modd y caiff chwythwyr chwiban eu trin, gan fod chwythu’r chwiban, er gwaethaf yr holl eiriau caredig, yn dal i allu rhoi diwedd ar yrfa? Dyna un o’r pethau y mae meddygon iau hefyd yn ei ddweud wrthym ac y mae ein nyrsys yn ei ddweud wrthym. Ond hyd yn oed pe baem yn llwyddo i atal y gwaedlif o nyrsys a meddygon cymwys iawn sy’n gadael y GIG yn awr, ac yn cadw’r staff sydd gennym yn llawn—hyd yn oed pe baem yn gwneud hyn oll, nid ydym yn hyfforddi digon o feddygon a nyrsys yn y lle cyntaf. Hyd yn oed os yw pob meddyg sy’n graddio o Gaerdydd ac Abertawe yn aros yng Nghymru, yn aros yn y GIG, nid oes gennym ddigon o feddygon iau a meddygon teulu yn awr. Mae angen inni hyfforddi rhagor yn y lle cyntaf. Yn ogystal â rhoi trefn ar y materion cadw, mae angen inni hyfforddi rhagor yn y lle cyntaf. Dyna pam y mae angen ysgol feddygol newydd ym Mangor. Dyna pam y gallem ddyblu nifer y myfyrwyr meddygol sy’n graddio o Abertawe—wyddoch chi, gwasgaru’r llwyth o gwmpas. Mae angen i ni hyfforddi mwy o feddygon, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig, ar gyfer ardaloedd Cymraeg eu hiaith, i ychwanegu at yr hyfforddiant sydd eisoes yn ardderchog yn Abertawe a Chaerdydd yn awr. Diolch yn fawr.
Rwy’n codi i gefnogi’r gwelliannau i’r cynnig a gyflwynwyd gan arweinydd y tŷ, yr Aelod dros Fro Morgannwg.
Mae’r gwasanaeth iechyd gwladol yn un o greadigaethau mwyaf unrhyw Lywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd yn hanes y ddynoliaeth. Mae’n cael ei gydnabod yn fyd-eang fel y model gofal gorau posibl. Rydym ni, ar y meinciau Llafur Cymru hyn, yn clodfori cyflawniadau Llywodraeth Lafur 1945 yn creu gwasanaeth iechyd gwladol i genedlaethau dilynol ei fwynhau. Rwy’n cofio hanes fy nhad-cu, glöwr yn y Cymoedd, a ddywedodd wrthyf ei fod wedi mynd at y bwrdd cymorth ariannol i ofyn am arian i’w wraig feichiog, a’i fod wedi cael ei wrthod ac fe aeth adref, a bu farw ei wraig. Ac roedd hyn yn y dyddiau cyn y gwasanaeth iechyd gwladol.
Yn y ddau ddegawd ers i’r Cymry bleidleisio o blaid datganoli, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo’n ddifrifol i bobl Cymru ei bod yn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn aros yn driw i egwyddorion Nye Bevan a’r gweledyddion Llafur a’i creodd. Rydym wedi rhoi ein harian ar ein gair. Ar ben hynny, rydym hefyd, fodd bynnag, yn cydnabod yn llawn, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, fod yna brinder mewn mannau penodol mewn nifer o feysydd, gan adlewyrchu’r patrwm ar draws gwasanaeth iechyd gwladol y Deyrnas Unedig. Dywedwyd rywdro fod gwir berffeithrwydd yn amherffaith, ac roedd y doethion hynny o Fanceinion, y brodyr Gallagher o’r enwog Oasis, yn iawn—mae’r GIG yn ymgorffori hyn—mae’n berffaith oherwydd ei fod yn amherffaith.
Mae’r GIG yn gwasanaethu bodau dynol sydd bob un ohonynt yn rhannu un nodwedd gyffredin, sef eu marwoldeb. Salwch, afiechyd a marwolaeth yn y pen draw fydd tynged pawb yn y Siambr hon. Fe wnaeth hyd yn oed y Deresa May gref a chadarn heddiw, ar ddiwedd cynhadledd y Torïaid, fradychu ei dynoliaeth gydag amddiffyniad hurt o gyfalafiaeth na ellid ond prin ei ddehongli drwy ei pheswch di-baid, a dymunaf wellhad buan iddi—er y gwnewch faddau i mi os gobeithiaf y caiff hi ei P45 cyn gynted ag y bo modd, er lles ac iechyd pobl Cymru.
Diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Lafur Cymru, erbyn hyn mae mwy o feddygon a nyrsys yng Nghymru nag erioed o’r blaen. Rhwng sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 a 2016, rydym wedi gweld cynnydd o 44 y cant yn nifer y nyrsys, cynnydd o 88 y cant yn nifer y meddygon ymgynghorol, a chynnydd o 12 y cant yn nifer y meddygon teulu yng Nghymru.
Diolch i Lafur Cymru, mae mwy yn cael ei fuddsoddi bellach mewn gofal iechyd nag erioed o’r blaen. Mae Cymru yn gwario £160 yn fwy y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi’u cyfuno nag yn Lloegr. Ac mae’r buddsoddiad hwn wedi golygu bod y GIG yng Nghymru yn trin mwy o bobl nag erioed o’r blaen, yn gyflymach nag erioed o’r blaen, wrth i fwy o feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill lenwi swyddi ar draws Cymru.
Mae honiadau ynglŷn â phroblemau staffio yng Nghymru yn haerllug hefyd pan ddônt gan Lywodraeth Dorïaidd y DU sydd wedi torri £1.2 biliwn oddi ar gyllideb gyffredinol Llywodraeth Lafur Cymru o’i gymharu â 2010-11, ac sydd wedi torri £4.6 biliwn oddi ar wariant gofal cymdeithasol yn Lloegr. Gadewch i ni feddwl am y toriad i gyllideb Llywodraeth Cymru dros y saith mlynedd ddiwethaf o bolisi cyni aflwyddiannus y Llywodraeth Dorïaidd: £1.2 biliwn hyd yn hyn, gyda mwy i ddod. Mae’n haerllug braidd, onid yw? Pan fo angen, gall y Canghellor Torïaidd, ‘Spreadsheet Phil’, ddarganfod coeden arian hud a’i hysgwyd i gael £1 biliwn i’w roi i’r DUP, i gadw Llywodraeth flinedig ac aflwyddiannus yn ei lle ar amser benthyg. Ac rwy’n gwybod ei fod yn wirionedd anghyfleus i rai o’r Aelodau yma, ond bob tro y gofynnir i’r Cymry pwy yr hoffent eu cael i’w llywodraethu, mae pobl Cymru yn siarad yn glir ac yn pleidleisio Llafur Cymru, ac mae’n ymddiriedaeth nad ydym yn ei chymryd yn ganiataol. Dyna pam y gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, sy’n gyd-Aelod talentog iawn o Lafur Cymru, yr Aelod dros Dde Caerdydd a Phenarth, yn rhoi ei egni’n ddyddiol i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn heini i ateb gofynion cynyddol poblogaeth sy’n heneiddio.
Rwy’n falch fod Llafur Cymru wedi buddsoddi yn y bwrsari hyfforddi nyrsys pan fo Lloegr wedi torri’r llwybr hwn i broffesiwn hynafol a gwerthfawr tu hwnt.
Rwyf am gloi drwy ddiolch i ddynion a menywod ymroddedig y gwasanaeth iechyd gwladol—y meddygon, y nyrsys, y parafeddygon—sy’n ymrwymo i un o’r ymdrechion mwyaf a wnaed gan unrhyw Lywodraeth: diogelu iechyd a lles ein pobl, a byddwn ni yn Llafur Cymru yn eu cefnogi. Diolch.
Rydym ni’n wynebu argyfwng yng Nghymru o ran niferoedd meddygon. Mae hynny’n gwbl glir, ac mae’r argyfwng yn bodoli yn sgil methiant y Llywodraeth i gynllunio’r gweithlu, i hyfforddi meddygon newydd, yn ogystal â recriwtio o wledydd eraill.
Mae Plaid Cymru yn blaid sydd yn ymdrechu i gynnig atebion i broblemau sydd yn bodoli yma yng Nghymru. Mae’r argyfwng ar ei waethaf yn y gogledd. Ym Mai 2017, roedd 141 o swyddi meddygol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn wag. Mae hyn yn cynrychioli 37 y cant o’r holl swyddi sy’n wag yn NHS Cymru. Felly, mae’r ateb yn amlwg: sefydlu ysgol feddygol newydd yn y gogledd er mwyn hyfforddi cenhedlaeth newydd o feddygon er budd cynaliadwyedd y gwasanaeth iechyd yn y tymor hir. Ond, yn anffodus, mae’r Blaid Lafur yn dal ati yn styfnig i wrthod y syniad yma, er gwaethaf yr holl dystiolaeth a barn arbenigol, fel yr ydym ni wedi eu hamlinellu yn ein hadroddiad ni ‘Delio â’r Argyfwng’.
Mae yna sôn wedi bod am y gost, ac rydw i wedi delio efo’r gost o’r blaen yn y Siambr yma, felly nid wyf i’n mynd i ymhelaethu ar hynny, dim ond eich hatgoffa chi o hyn: dros y tair blynedd diwethaf, fe wariodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dros £80 miliwn ar feddygon locwm. Wedyn, yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Prif Weinidog hyn yn y lle yma,
Rydym ni’n gwybod y byddai’n anodd’—
Hynny yw, yn anodd sefydlu ysgol feddygol ym Mangor—
gan fod ysgolion meddygol mawr mewn dinasoedd mawr ag ysbytai mawr, sydd â llawer mwy o amrywiaeth mewn arbenigedd.’
Mwy o esgusodion di-sail. Y broblem ydy bod y Llywodraeth yn colli’r pwynt yn gyfan gwbl yn y fan hyn, oherwydd mi fuasai’r tair ysbyty ar draws y gogledd yn hyfforddi myfyrwyr ar leoliad gwaith, ac mi fuasen nhw’n derbyn hyfforddiant yn y gymuned hefyd. Dim ond 800 o welyau sydd gan Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac mae gan y brifysgol dros 1,500 o fyfyrwyr meddygol. Mae’r brifysgol yn defnyddio ysbytai eraill ar draws y rhanbarth yn yr un modd ag y buasai ysgol feddygol ym Mangor yn defnyddio’r holl ysbytai a’r holl gyfleusterau sydd ar gael ar draws y gogledd. Mae gan Iwerddon saith ysgol feddygol, ac mae yna bump yn yr Alban, sy’n awgrymu bod cymhareb o un ysgol feddygol i bob miliwn o bobl yn ymarferol. Byddai trydedd ysgol feddygol yng Nghymru yn cyfateb i’r strwythurau yn yr Alban ac Iwerddon. Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sydd efo’r boblogaeth fwyaf o holl fyrddau iechyd Cymru—bron i 700,000 o bobl. Ychwanegwch boblogaeth siroedd gwledig eraill Cymru, ac mi gyrhaeddwch ffigwr o 1 filiwn o bobl yn fuan iawn.
Mae’r Prif Weinidog wedi honni hefyd fod diffyg amrywiaeth mewn arbenigedd yn y gogledd. Heblaw am arbenigaethau bychain arbenigol iawn fel cardiothorasig a ‘neurosurgery’, mae gennym ni bob dim sydd ei angen yn y gogledd. Digon hawdd fyddai sortio dysgu’r ddau arbenigedd yna hefyd efo mymryn o weledigaeth. Mae cefnogaeth Llafur—diffyg cefnogaeth Llafur—yn dechrau mynd yn jôc, a’r esgusodion yn wan. Mae llawer o brifysgolion yn Lloegr ac ar draws y byd efo ysbytai bychain yn eu hymyl nhw, er enghraifft Lancaster a Keele. Mewn tref fechan o’r enw Salina, rhyw dair awr o Ddinas Kansas yn yr Unol Daleithiau, mae yna ysgol feddygol wedi cael ei sefydlu efo’r bwriad o sicrhau bod y graddedigion yn gwasanaethu mewn ardaloedd gwledig wedi iddyn nhw raddio. Gwirionedd y sefyllfa ydy nad ydyw unrhyw un o honiadau’r Llywodraeth yn dal dŵr. Efo uchelgais ac arweinyddiaeth gref, fe all y Llywodraeth fynd i’r afael efo’r argyfwng yn y gogledd—yr argyfwng sy’n bodoli oherwydd diffyg doctoriaid a staff meddygol. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth fod yn barod i fod yn flaengar, i wrando ar dystiolaeth, ac i roi plwyfoldeb i’r naill ochr.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon a’r cyfle i siarad ynddi. Rwy’n cytuno â’r teimlad sy’n sail i’r cynnig hwn. Mae prinder staff o fewn y GIG yn niweidiol i ofal cleifion. Nid oes diwrnod yn mynd heibio pan nad ydym yn wynebu erthyglau newyddion sy’n amlinellu effaith prinder staff ar y GIG yng Nghymru. Rydym wedi gweld cynnydd o 400 y cant yn nifer y cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn am lawdriniaeth, ac mae 39 y cant o bobl Cymru yn ei chael hi’n anodd gwneud apwyntiad gyda meddyg teulu. Yn ogystal â’r effaith y mae prinder staff yn ei chael ar y claf, mae’n rhaid i ni ystyried yr effaith y mae’n ei chael ar weithwyr y GIG. Mae prinder staff yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff presennol.
Yn fy mhrofiad i, drwy gydol y toriad, fel y nodais, roedd yna ysbyty yn fy rhanbarth lle’r oedd staff yn brin dros ben ar yr uned gardiaidd—i’r graddau eu bod yn gofyn i aelod o staff ddychwelyd i wneud shifft ddwbl. Felly, er mwyn ateb y galw hwn, mae ein staff GIG gweithgar ac ymroddedig yn cael eu gorfodi i weithio am fwy o amser a threulio llai o amser gyda chleifion. Mae hyn yn effeithio ar ysbryd staff ac mae mwy a mwy o staff yn gadael y GIG, gan waethygu’r sefyllfa.
Mae dros 5 y cant o staff ysbyty yn absennol oherwydd salwch a gorfodir byrddau iechyd i ddibynnu ar staff asiantaeth drud i wneud iawn am y diffyg. O ganlyniad, mae gwariant ar nyrsys asiantaeth a meddygon locwm wedi codi i’r entrychion ac wedi gorfodi llawer o fyrddau iechyd i orwario. Mae diffyg gwaith priodol ar gynllunio’r gweithlu dros y degawdau diwethaf wedi ein gadael mewn sefyllfa beryglus. Mae gennym brinder staff yn cael eu recriwtio ym mhob arbenigedd, ac eto mae’r galw am wasanaethau’n cynyddu. Nid ydym eto mewn sefyllfa lle y caiff diogelwch cleifion ei roi mewn perygl yn rheolaidd, ond oni bai ein bod yn gallu cau’r bwlch, dyna fydd yn digwydd.
Yn ôl Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, gallai bron i chwarter y gweithlu meddygon teulu ymddeol yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Maent yn galw am gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu, i godi i 200 y flwyddyn. Pan ystyriwch mai 127 o leoedd hyfforddi yn unig oedd gennym eleni, mae’n dangos maint y broblem sy’n ein hwynebu.
Ddoe, clywsom y newyddion fod cleifion strôc yn ne Cymru, fel y nododd Rhun, yn cael eu hamddifadu o’r driniaeth orau sydd ar gael oherwydd sefyllfa’r tri radiolegydd sy’n gallu cyflawni thrombectomi: mae un wedi ymddeol, mae un yn absennol oherwydd salwch, ac mae’r trydydd wedi derbyn swydd yn rhywle arall. Mae prinder radiolegwyr yn golygu bod gennym fwy a mwy o bobl yn aros yn hwy ac yn hwy am brofion diagnostig.
Rhaid i ni hefyd sicrhau nad yw unrhyw newidiadau a gyflwynwn i iechyd a gofal cymdeithasol yn gosod beichiau ychwanegol ar y staff presennol. Bydd cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu cam 2 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn arwain at ddileu’r gofyniad i gael isafswm o nyrsys mewn cartrefi gofal sy’n darparu gofal nyrsio. Bydd hyn yn niweidio gwasanaethau eraill fel gwasanaeth nyrsys ardal, sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd ateb y galw sy’n aruthrol uwch na’r capasiti.
Rydym yn cyrraedd pwynt o argyfwng ac edrychaf ymlaen at glywed sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd ati i gynllunio’r gweithlu yn y dyfodol. Mae arnom angen ymgyrch recriwtio meddygol sy’n blaenoriaethu myfyrwyr domestig ac yn annog pobl ifanc yng Nghymru i ddod yn radiolegwyr, seicolegwyr, ffisiotherapyddion, a’r llu o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, nid nyrsys a meddygon yn unig. Mae angen inni gynllunio ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio a gweithlu sy’n heneiddio. Ac yn anad dim, mae angen inni gynllunio ar gyfer gweithlu sy’n gallu ateb y galw yn y dyfodol a darparu gofal i gleifion sy’n ddiogel, yn effeithiol ac yn fforddiadwy. Mae’r ddibyniaeth gynyddol ar staff asiantaeth a meddygon locwm drud—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe wnaf mewn munud—yn anghynaliadwy ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i gynllunio i wneud mwy o ddefnydd o staff banc. Gyda’r pwyntiau hyn mewn golwg, bydd UKIP yn cefnogi’r cynnig yn ogystal â gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Byddwn yn ymatal ar welliant Llywodraeth Cymru gan ei fod yn cydnabod yr effaith y mae prinder staff yn ei chael ar ein staff ymroddedig yn y GIG, ond mae’n methu mynd i’r afael â’r mater.
Hoffwn ofyn cwestiwn i chi hefyd, os caf, Rhianon. A wyf fi’n cael gwneud hynny?
Na chewch.
Roedd hi eisiau ymyrryd.
Nid yw yn y Llywodraeth eto, felly ni chewch ofyn cwestiwn iddi ar y pwynt hwn.
Na, na, roedd hi eisiau ymyrryd.
A ydych wedi gorffen eich cyfraniad?
Ydw. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru—
Nid yw’n bosibl ymyrryd felly.
Fe ildiais i chi.
Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Rydw i jest am dreulio munud neu ddwy yn sôn am un agwedd bwysig o’r ddadl yma, yn sicr un y gwnaeth Rhun gyfeirio ati’n gynharach, sef argaeledd gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, wrth gwrs, oherwydd os ydym ni’n meddwl bod yna broblem—ac mae yna broblem o safbwynt niferoedd doctoriaid, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill—yna mi allwch chi ddychmygu cymaint yn fwy yw’r broblem o argaeledd y bobl iechyd broffesiynol hynny sydd yn medru cynnig eu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i’n siŵr y bydd nifer ohonom ni wedi bod yn delio â gwaith achos— yn gyson yn fy achos i, ac rydw i’n siŵr eraill hefyd—lle mae yna rieni yn trio cael gwasanaethau iechyd i’w plant ac yn methu cael gafael ar yr ymarferwyr yn y maes sydd yn gallu cynnig y gwasanaethau yna trwy gyfrwng y Gymraeg.
Digwydd bod, bore yma’n unig, mi roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn delio â gwelliannau Cyfnod 2 ar gyfer y Bil anghenion dysgu ychwanegol, ac mi gawson ni, yng nghwrs datblygu argymhellion yng Nghyfnod 1 y Bil, dystiolaeth eang iawn ynglŷn â diffyg argaeledd gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn y maes penodol yna. Wrth gwrs, mae hynny yn signal clir i ni fod cynllunio’r gweithlu fel ag y mae hi wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yn fethiant yn y maes yma, ac rydym ni nawr fel pwyllgor yn ffeindio’n hunain yn cynnig gwelliannau er mwyn gosod yn y Ddeddf disgwyliadau o safbwynt cynllunio’r gweithlu ac argaeledd ymarferwyr cyfrwng Cymraeg. Nawr, nid dyna’r ffordd i gynllunio’r gweithlu, ond rydym ni’n ffeindio’n hunain, i bob pwrpas, yn gorfod gwneud hynny drwy’r drws cefn er mwyn ateb y galw sydd allan yna, ac yn alw y mae’r Llywodraeth yma a Llywodraethau blaenorol wedi methu â cwrdd ag ef.
Mae yna, wrth gwrs, hefyd achosion wedi codi yn ddiweddar, ac wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau, lle mae yna ddiffyg meddygon teulu. Mae meddygfa Dolwenith ym Mhenygroes, wrth gwrs, ac mi glywon ni i gyd am hanes honno yn cau: yr unig ddoctor yn y dyffryn a oedd yn medru’r Gymraeg yn gorffen, ac o ganlyniad, wrth gwrs, dim darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rydw i eisiau sôn ychydig am gefn gwlad hefyd, oherwydd yng nghefn gwlad Cymru, wrth gwrs, mae meddygon teulu ar gyfartaledd yn hŷn, yn nes at oed ymddeol, ac mae lefelau recriwtio yn is hefyd, felly mae’r broblem yn cael ei dwysáu.
I was looking at some of the statistics, and they tell their own story: a total of 54 per cent of core medical training places were unfilled in hospitals in Betsi Cadwaladr and Hywel Dda health boards, compared to just around half that level, 23.6 per cent, in other Welsh health boards. Sian Gwenllian, earlier in this debate, referred to vacancy levels: 37 per cent of all the vacancies listed were in Betsi Cadwaladr, despite Betsi, of course, only serving around 22 per cent of the population of Wales. As an Assembly Member representing the North Wales region, then I am particularly concerned about the situation there. And the largest hospital in north Wales, of course, Wrexham Maelor Hospital—this is something I raised with the First Minister earlier this week—currently, there are 92 vacancies for nurses in that hospital and, as a result, we’re now seeing some specialist nurses having to work on general wards. The Royal College of Nursing are concerned that wards might have to close. A growing number of those nurses who are working there are approaching retirement age, and just as we’ve seen with GPs in Wrexham and other places actually, many are opting to retire early after many years of service. Betsi Cadwaladr board have engaged a private agency to recruit abroad in Barcelona and in India in recent years, and many nurses recruited in Barcelona were unable to work for some time due to their language limitations, and they’ve largely now returned home. Only four nurses from India have passed the language test. All of this feels more like a short-term panic measure and not the long-term, thought-out strategy that we should have in place for north Wales and other parts of the country.
You know, Betsi Cadwaladr has been for the past two and a half years in special measures, so the Government has to accept responsibility for failing to adequately plan to ensure enough nurses are trained and recruited here in north Wales. And we also need, of course, to focus more on retention and returnees, as well as ensuring that new recruits come through. To make things worse, I have to say, Glyndŵr University, less than half a mile from the Maelor—practically across the road—has now started to train nurses on a new course, a full slate, 35 trainee nurses have enrolled this year, which is great news, but none of these trainees will go on placements within Betsi Cadwaladr hospitals. Instead, they’ll be going to placements in Telford, in Chester, and some private healthcare providers locally. This is because the Welsh Government is refusing to recognise the course because the nurses are not eligible for the bursary. So, trainee nurses are not getting the practical training in their local hospital and therefore are more likely to settle into work across the border as a result. It’s a sad loss of talent for north Wales, but it does reflect the state of workforce planning in our health service in Wales today.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, Vaughan Gething.
Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, a’r cyfle i dynnu sylw at y gwaith sylweddol sy’n cael ei wneud eisoes gan y Llywodraeth hon a’r gwasanaeth iechyd gwladol. Mae’n ddrwg gennyf, fodd bynnag, na fydd mwy o amser i ateb a thrafod yr holl bwyntiau a wnaed yn y ddadl, ac rwy’n wirioneddol hapus i barhau sgwrs ag Aelodau sydd â diddordeb mewn gwneud hynny am yr hyn a wnawn y tu allan i’r busnes ffurfiol yn y Siambr heddiw.
Unwaith eto, rwy’n nodi, fel y gwneuthum yn yr ystafell hon, mewn ystafelloedd pwyllgor, ac mewn lleoliadau eraill, fod y Llywodraeth hon yn cydnabod yr heriau recriwtio go iawn mewn ystod o’n proffesiynau a’n harbenigeddau, ac mae’n cydnabod eu bod yn fwy difrifol mewn rhai rhannau o Gymru nag eraill. Rwy’n deall yn dda iawn y gall yr heriau hyn effeithio ar y modd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae’n wir, wrth gwrs, nad yw hon yn her unigryw sy’n wynebu Cymru’n unig, ond mae’r rhain yn heriau y mae angen i ni fynd i’r afael â hwy. Rydym wedi cymryd cam sylweddol ymlaen o ran ein hymrwymiadau yn ‘Symud Cymru Ymlaen’ a ‘Ffyniant i Bawb’ i ddenu a hyfforddi mwy o feddygon teulu. Dyna pam y datblygwyd ymgyrch ‘Hyfforddi, Gweithio, Byw’ gennym, gan weithio gyda phobl ar draws y gwasanaeth ac o fewn y proffesiwn. Mae honno wedi bod yn ymgyrch lwyddiannus, gan arwain at gynyddu ein cyfradd lenwi ar gyfer meddygon teulu i 91 y cant, sy’n gam mawr ymlaen. Ond byddwn yn ail-lansio’r ymgyrch honno yn ddiweddarach y mis hwn mewn pryd ar gyfer ffair yrfaoedd y British Medical Journal, gan ddysgu o’r hyn a weithiodd y llynedd a dysgu hefyd o’r hyn na weithiodd cystal ag y byddem wedi dymuno y llynedd hefyd, a rhan yn unig o’r ystod o fesurau rydym yn awyddus i’w rhoi ar waith yw’r rhain. Byddwn hefyd yn ehangu’r ymgyrch honno i gynnwys arbenigeddau meddygol eraill lle y ceir heriau penodol a difrifol o ran recriwtio.
Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gweithlu meddygol yn y dyfodol gyda’n hymrwymiad i gynyddu addysg feddygol israddedig yng ngogledd Cymru. Byddwn yn cadw at y dull cydweithredol rhwng prifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe, i gyd-fynd â fy natganiad ysgrifenedig ym mis Gorffennaf, ond hefyd cytundeb y gyllideb a gytunwyd gyda Phlaid Cymru ar symud y mater hwn ymlaen yn ymarferol. Bydd hynny hefyd yn rhan—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
[Yn parhau.]—o’n hymrwymiad nid yn unig i addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, ond i weld cwricwlwm yn cael ei ddatblygu sy’n annog pobl ac yn grymuso pobl i dreulio mwy o’u hamser mewn meddygaeth wledig, ac nid mater ar gyfer y gogledd yn unig fydd hynny.
Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Efallai ei bod yn adeg dda yn awr i ddweud y byddwch yn ystyried datblygu, gan ddefnyddio’r cyllid newydd a gytunwyd gennym cyn y gyllideb, ac archwilio cyrsiau israddedig blwyddyn 1 i flwyddyn 5 ym Mangor, mewn partneriaeth â Chaerdydd, Abertawe, unrhyw un arall, nid yn unig y lleoliadau ychwanegol i fyfyrwyr o fannau eraill yn y gogledd.
Byddwn yn edrych ar y cylch gwaith cyfan i ddeall lle y cawn y gwerth mwyaf er mwyn hyfforddi’r nifer fwyaf o bobl. Ac wrth gwrs, rydym am wneud yn siŵr y bydd y buddsoddiad hwnnw’n arwain at fwy o bobl yn aros yng Nghymru i wasanaethu yma, gan mai dyna’r pwynt a’r diben. Rydym yn buddsoddi mwy o arian i geisio cael mwy o feddygon i aros yng Nghymru hefyd. Ac fel rhan o’r fargen, y quid pro quo, gyda’r sector prifysgolion—ceir heriau o ran yr hyn y gallwn ac na allwn eu mandadu i’w wneud—bydd rhaid cael rhyw ddealltwriaeth am y genhadaeth sydd gennyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o ran cymryd adnoddau gwerthfawr ar adeg pan fo’r gyllideb yn lleihau i’w rhoi i’r maes hwn.
Nawr, yn ogystal â ‘Hyfforddi, Gweithio, Byw’ ar gyfer meddygon, rydym hefyd wedi lansio ‘Hyfforddi, Gweithio, Byw’ ar gyfer nyrsys. Roeddwn yn falch iawn o lansio’r ymgyrch hon yn y gwanwyn eleni, a chafodd dderbyniad da iawn yn y lansiad ac yng nghynhadledd y Coleg Nyrsio Brenhinol yn Lerpwl. Roedd nyrsys Lloegr yn falch iawn o weld Llywodraeth a oedd ar eu hochr go iawn ac yn ceisio recriwtio nyrsys i fod yn falch o bwy ydynt hefyd. Mae’r ymgyrch honno, unwaith eto, yn llwyddo, ond gwyddom nad recriwtio ar ei ben ei hun yw’r ateb. Wrth gwrs, rydym yn gweithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yng Nghymru—y gyntaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig, y gyntaf o’i bath yn Ewrop. Rydym hefyd yn hyfforddi mwy o nyrsys yma yng Nghymru. Ddwy flynedd yn ôl, gwnaethom fuddsoddi mewn hyfforddiant i nyrsys er mwyn cynyddu’r niferoedd 22 y cant. Y llynedd, gwnaethom gynyddu nifer y nyrsys sy’n hyfforddi 10 y cant; eleni, cynnydd o 13 y cant. Rydym yn mynd ati i geisio hyfforddi mwy o nyrsys yma yng Nghymru. Dyma’r buddsoddiad mwyaf mewn addysg a hyfforddiant ar gyfer nyrsys ers datganoli. Yn ogystal, gwnaethom gynyddu hyfforddiant i fydwragedd 40 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf. Ac fel y cawsom ein hatgoffa gan Rhianon Passmore, rydym wedi cynnal y fwrsariaeth i fyfyrwyr yma yng Nghymru, sy’n llwybr cwbl groes i’r un a gymerwyd gan y Torïaid yn Lloegr. Mae hynny’n bwysig, nid yn unig i nyrsys, ond hefyd i weithwyr proffesiynol eraill perthynol i iechyd mewn hyfforddiant. Ond wrth gwrs, mae ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant yn cynnwys y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac mae’r pecyn £95 miliwn a gyhoeddais yn gynharach eleni wedi arwain at 3,000 o fyfyrwyr newydd yn ymuno â’r rheini sydd eisoes yn astudio rhaglenni addysg gofal iechyd ar draws Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ymestyn yr ymgyrch ‘Hyfforddi, Gweithio, Byw’ i gynnwys fferyllwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Yn benodol ar radiolegwyr, a gafodd eu crybwyll fwy nag unwaith, nid yn y ddadl heddiw’n unig, ond yn y Siambr, rydym yn disgwyl y bydd y buddsoddiad o £3.4 miliwn a gyhoeddais mewn academi ddelweddu ym Mhencoed yn gwneud gwahaniaeth go iawn i recriwtio a chadw radiolegwyr yma yng Nghymru. Unwaith eto, mae’n arwydd ein bod yn buddsoddi yn hyn ac yn gwerthfawrogi holl rannau amrywiol a gwahanol ein gweithlu. Oherwydd fe wyddom fod angen inni gynyddu cymysgedd sgiliau’r staff sydd gennym eisoes a’r ystod o wahanol o staff sydd gennym yn y gwasanaeth, gan y byddant yn gweithio’n gynyddol mewn timau amlddisgyblaethol. Felly, roedd y pecyn £95 miliwn y cyfeiriais ato yn cynnwys £0.5 miliwn ychwanegol i gefnogi gofal iechyd lleol, i ddatblygu ymarfer uwch, addysg, a sgiliau estynedig yn ein clystyrau gofal sylfaenol. Felly, byddwn hefyd yn cefnogi rolau newydd a rhai sy’n datblygu, gan gynnwys y cynlluniau peilot ar gyfer rhaglenni cymdeithion meddygol yn Abertawe a Bangor, a rolau gofal cymdeithasol gyda ffocws penodol ar y rhai sy’n lleddfu pwysau presennol ac yn cyfrannu at integreiddio a chanlyniadau gwell i unigolion.
O ran cynllunio’r gweithlu, mae rheoleiddio yn chwarae rôl allweddol hefyd, felly rwy’n falch fod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar leisiau yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU ar gyfer rheoleiddio cymdeithion meddygol. Mae’n gam da a chadarnhaol ymlaen i ganiatáu i ni gynllunio ar gyfer eu rôl yn y gweithlu yn y dyfodol. Fodd bynnag, rwy’n amheus iawn ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU i reoleiddio cymdeithion nyrsio. Ymddengys i mi mai amnewid rolau ar sail costau yw hynny yn hytrach na’r dull darbodus o weithredu ar sail ansawdd y dymunwn ei fabwysiadu yma yng Nghymru.
Yn ogystal, byddwn yn parhau i ddatblygu’r gweithlu cymorth gofal iechyd, sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr a chynyddol amrywiol i’r modd y darparir gwasanaeth yn y gwasanaethau clinigol ac anghlinigol. Unwaith eto, dyna rywbeth y cawsom gytundeb yn ei gylch mewn partneriaeth â chynrychiolwyr yr undebau llafur a staff y gwasanaethau iechyd o ran sut i ddatblygu’r rôl honno i’w defnyddio i’w photensial llawn.
Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi yng ngweithlu’r GIG o un flwyddyn i’r llall. Mae’n werth gwneud y pwynt hwn, gan gadw mewn cof y sylwadau a wnaed yn y ddadl. O 2015-16, y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau cyflawn ar ei chyfer, cynyddodd gweithlu cyfwerth ag amser llawn y GIG 3.2 y cant, a hynny yn wyneb blwyddyn ar ôl blwyddyn o bolisïau cyni Torïaidd. Mae hynny’n ffaith. Rydym yn dod i’r lle hwn, ac rydym yn trafod y dewisiadau anodd sy’n rhaid inni eu gwneud a’r hyn y mae’n ei olygu i barhau i roi mwy o arian tuag at y gwasanaeth iechyd gwladol—beth y mae hynny’n ei olygu i wasanaethau cyhoeddus eraill sy’n colli staff a phenderfynu beth na allant ei wneud mwyach. Yn y cyd-destun hwnnw, mae parhau i roi mwy o arian i’r GIG, parhau i weld nifer y staff yn cynyddu, yn gyflawniad gwirioneddol a sylweddol y dylai pawb ohonom ei nodi, ac nid yw’n dod yn hawdd. Dyna gyd-destun y ddadl hon rydym yn ei chael ynglŷn â’r galwadau am fwy o staff mewn mwy o arbenigeddau. Nid yw’n golygu nad ydym yn bwriadu cynyddu staff lle y mae angen i ni eu cael, ond gadewch inni beidio ag esgus ei fod yn beth hawdd i’w wneud.
Felly, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatblygu cynllun gweithlu 10 mlynedd, ac mae egwyddor hynny eisoes wedi cael ei datblygu. Ond ni allwn ac ni ddylwn osgoi’r ffaith bod pob plaid yn y Siambr wedi cytuno i adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol. Ni fyddai’n gwneud synnwyr i gyhoeddi cynllun gweithlu manwl cyn cyhoeddi adroddiad terfynol yr adolygiad. Bydd yr adolygiad, heb os, yn effeithio ar ein ffordd o feddwl a’r modd y cynlluniwn y gwasanaethau ar gyfer y dyfodol a’r gweithlu i ddarparu’r gwasanaethau hynny i’r cyhoedd, ac mae hynny’n briodol. Nid yw hynny’n golygu bod y GIG yma yng Nghymru yn sefyll yn llonydd. Mae cynllunio’r gweithlu yn cael ei wneud ar bob lefel yn ein sefydliad, gan weithio ar y cyd â phartneriaid i sicrhau bod y gweithlu’n iawn, yn meddu ar y sgiliau iawn, yn awr ac yn y dyfodol. Mae’n rhan hanfodol o’r broses gynllunio tymor canolig integredig.
Felly, rydym yn parhau i fwrw ymlaen â nifer o gamau gweithredu strategol ar gyfer gweithlu’r GIG. Mae hynny’n cynnwys sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, a bydd hwnnw, wrth gwrs, yn cynnal ei ddull annibynnol o weithredu. Nawr, yn hollbwysig, bydd disgwyl i Addysg a Gwella Iechyd Cymru weithio gyda chyrff eraill, fel Gofal Cymdeithasol Cymru, er mwyn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion y gweithlu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Gallaf weld nad oes gennyf lawer o amser, Llywydd, felly fe orffennaf yn awr. Fe’i gwnaf yn glir y byddwn yn cefnogi gwelliant 2, ond wrth nodi ein cyfeiriad ar gyfer y dyfodol, rwy’n ailddatgan ein bod yn gwerthfawrogi dyfeisgarwch ac ymroddiad ein gweithlu GIG i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Rydym yn cydnabod bod yna heriau o ran recriwtio. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid, gyda’r gwasanaeth, i fynd i’r afael â’r heriau hynny a sicrhau ein bod yn cael y gwasanaeth y byddai pawb yma ei eisiau a’r gwasanaeth y mae’r cyhoedd a phobl Cymru yn eu haeddu.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Rydym ni i gyd yn dod â phrofiad, onid ydym, at drafodaeth fel hyn. Mae rhai ohonom ni, fel Dr Dai Lloyd, yn dod â phrofiad proffesiynol, meddygol. Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n dod â phrofiad o siarad efo gweithwyr proffesiynol o fewn y gwasanaeth iechyd, a’r pwysau y maen nhw’n ei ddweud wrthym ni’n gyson sydd arnyn nhw, a phob un ohonom ni, heb os, yn siarad efo cleifion ynglŷn ag effaith y gwendidau efo cynllunio gweithlu ar eu triniaeth nhw o fewn y gwasanaeth iechyd.
Rydw i’n ddiolchgar i bawb am eu cyfraniadau nhw. Rydw i’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet—yn sicr yn ddiolchgar am ei gadarnhad y bydd edrych ar hyfforddiant llawn israddedigion, o’r flwyddyn gyntaf hyd at y pumed, yn rhan o’r astudiaeth rŵan o ddatblygu addysg feddygol yn y gogledd. Rwy’n edrych ymlaen at weld y broses honno yn parhau yn unol â’r cytundeb cyn y gyllideb.
Beth rydym ni wedi’i gael, mewn difrif, ydy ailadrodd yr hyn yr ydym ni yn ei glywed gan y Llywodraeth dro ar ôl tro yn gyffredinol ynglŷn â beth sydd eisoes yn cael ei wneud.
We get this reiteration from the Cabinet Secretary of what the Government is already doing. You can’t continue to keep on doing the same thing time and time again and expect to get different outcomes. I understand that the Cabinet Secretary is trying to manage the NHS within very difficult constraints, not least because of policies of Tory austerity. I absolutely recognise that, but it’s not a management that we need because of the deep problems that we have within the NHS in Wales, but a real vision about a way forward. I’m afraid that the Member for Islwyn epitomises much of the problem that we have in that, yes, she paints a rosy picture of what Labour has done for the NHS that she dearly loves, and we all dearly love, but, when you have a party that has been running the NHS in Wales for 18 years, the failure to be able to admit the depth of the problems shows that—. [Interruption.] That is because to admit to those would mean they are your problems and problems that you have created. Unless we recognise the depth of the problems, we cannot move forward with visionary changes that can lead to a more sustainable NHS for the future.
And, yes, you praise the Cabinet Secretary, and I don’t doubt for a second that he is a very, very hard-working Cabinet Secretary. But you know what? I’m not interested in how many hours he puts in in his work. He may be here first thing in the morning before anybody else. He may be the last one out of the Government offices at the end of the day. I’m interested in how high he sets the bar, how ambitious he’s willing to be, how innovative he’s willing to be for the NHS and for patients in Wales. I want to see that; the NHS needs to see that.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch. Felly, pleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar weithlu’r gwasanaeth iechyd: galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 30 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd y cynnig.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 11, Yn erbyn 30, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6520.
Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, pedwar yn ymatal, 14 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 23, Yn erbyn 14, Ymatal 4.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6520.
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 2.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 41, Yn erbyn 0, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6520.
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM6520 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r effaith y gall prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ei chael ar ddarparu gwasanaethau.
2. Yn croesawu ymrwymiad holl staff GIG Cymru i ddarparu gofal iechyd tosturiol o safon uchel.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â sectorau perthnasol i sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn digwydd mewn modd cydlynol.
Agor y bleidlais. O blaid 33, naw yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig NDM6520 fel y’i diwygiwyd: O blaid 33, Yn erbyn 0, Ymatal 9.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6520 fel y diwygiwyd.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw’r ddadl fer. Mi fyddaf i’n galw ar y ddadl fer i gychwyn unwaith y bydd rhai Aelodau wedi gadael y Siambr. Lee Waters.
Diolch, Llywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i fy nghyd-Aelodau Mike Hedges, Jenny Randerson a David Melding—Jenny Rathbone, rwy’n ymddiheuro.
Gadewch i mi ddechrau drwy ddweud y gall yr M4 fod yn erchyll. Yn ystod oriau brig, rwy’n gyson yn eistedd mewn traffig sy’n ciwio’n ddiddiwedd, ac nid yn nhwnelau Bryn-glas yn unig y mae hyn yn broblem, ond mewn sawl man ar hyd y draffordd, ac os oes damwain wedi bod, ni fydd neb yn symud o gwbl. Ac mae pobl, yn ddigon teg, wedi cael llond bol ar y sefyllfa, yn arbennig y ffaith ein bod wedi bod yn siarad am weithredu ers 15 mlynedd, ac eto nid oes dim i’w weld yn cael ei wneud byth. Rwy’n rhannu’r rhwystredigaeth.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Ond mae angen inni lunio ateb a fydd yn para—M4 sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ac nid wyf yn credu o gwbl y bydd y ffordd liniaru arfaethedig yn ddim mwy nag ateb drud dros dro. Yn wir, fel polisi, mae’n llwyddo i wneud rhywbeth rhyfeddol: mae’n llwyddo i fod yn hen ffasiwn ac yn gynamserol ar yr un pryd. Yn hen ffasiwn am mai tystiolaeth yr 50 mlynedd ddiwethaf o bolisi trafnidiaeth yw nad yw adeiladu ffyrdd newydd, cynyddu capasiti, ond yn arwain at fwy o bobl yn defnyddio’u ceir, gan lenwi gofod newydd yn gyflym. Ac yn gynamserol, am nad yw’n rhoi unrhyw sylw i’r newidiadau pellgyrhaeddol sydd ar y ffordd. Nawr, rwy’n meddwl mai Einstein oedd i fod wedi dweud mai’r diffiniad o wallgofrwydd yn gwneud yr un peth drosodd a throsodd ond gan ddisgwyl canlyniad gwahanol. Wrth gynllunio trafnidiaeth, rydym yn parhau i wneud hynny; rydym yn gaeth i’r dull ‘rhagweld a darparu’ o weithredu fel y’i gelwir, sydd, o’i roi’n syml, yn golygu bod peirianwyr yn rhagweld y bydd y traffig yn tyfu yn y dyfodol, felly maent yn adeiladu mwy o ffyrdd i ymdopi â hynny. A dyna fodel diddiwedd o dwf traffig, a nodwyd yn gyntaf 30 mlynedd yn ôl, ac a dweud y gwir, mae’n nonsens.
Meddyliwch am y peth. Pe baem yn mynd â hynny i’w ben draw rhesymegol ac yn dilyn y tueddiadau, byddai’r dull hwn yn rhagweld y byddai pob un ohonom yn ennill incwm o £1 filiwn erbyn y flwyddyn 2205, a lori ar y ffordd am bob dyn, dynes a phlentyn. Nawr, ar wahân i’r codiad cyflog, nid wyf yn credu bod hwn yn ddyfodol y bydd unrhyw un ohonom eisiau byw ynddo ac yn sicr nid y math o ddyfodol y crewyd Deddf cenedlaethau’r dyfodol gennym i geisio’i ffurfio. Oes, mae problem yn ystod yr oriau brig o amgylch twnelau Bryn-glas. Oes, mae’n rhaid gwneud rhywbeth am y peth. Ond ni allwn adeiladu ein ffordd allan o’r broblem hon. Rydym wedi bod yn ceisio gwneud hynny ers cenedlaethau ac nid yw’n gweithio. Mae traffig yn cynyddu, mae ffyrdd, unwaith eto, yn llenwi ac rydym yn ôl yn sgwâr un unwaith eto. Os na fyddwn yn ofalus, mae’n bosibl mai maes parcio gwerth £1 biliwn fydd gennym yn y pen draw.
Eisoes, mae’r Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau—corff lobïo’r diwydiant cludo nwyddau—yn dweud y bydd traffordd dair lôn newydd yng Nghasnewydd yn annigonol i ateb y galw a dylem fod yn creu pedair lôn. Mae ceisio lleddfu tagfeydd drwy adeiladu ffyrdd mwy a mwy o faint yn ddim mwy nag ateb tymor byr ac un drud ar hynny. Amcangyfrifir bod y darn newydd o’r M4 ar hyn o bryd yn costio £1,100 miliwn am 15 milltir o darmac yn unig. Gan gofio bod pobl, ddwy flynedd yn ôl, yn mynnu y byddai’r gost ymhell o dan £1 biliwn, gall godi hyd yn oed ymhellach.
Ddoe, amlinellodd yr Ysgrifennydd Cyllid y darlun economaidd llwm sy’n ein hwynebu a sut y bydd yr arian hyd yn oed yn dynnach yn y blynyddoedd nesaf. A yw’n ddoeth inni glymu ein holl gapasiti benthyca mewn un cynllun mewn un cornel o Gymru? Rwy’n gofyn i fy nghyd-Aelodau o’r Cynulliad: pe bai’r Llywodraeth yn cynnig £1.1 biliwn i unrhyw un ohonom i’w wario ar rywbeth a fyddai’n gwneud Cymru’n well, faint ohonom yn onest a fyddai’n gallu dweud y byddem yn adeiladu traffordd chwe lôn dros wlyptir gwarchodedig? Bydd ein llinell gyfan o gredyd newydd yn cael ei wario ar brosiect a fydd, o safbwynt economaidd, prin yn ad-dalu’r buddsoddiad dros 30 mlynedd. Hyd yn oed o ddefnyddio fformiwla sydd wedi ei hystumio i orbwysleisio manteision cynlluniau ffyrdd, ni fyddwn ond yn gweld elw ar fuddsoddiad o £1.60 yn unig am bob £1 a wariwyd, ac mae’r Trysorlys yn ystyried honno’n lefel isel o werth am arian. Yn y cyfnod o amser hwnnw o 30 mlynedd, mae’n bosibl iawn y bydd datblygiadau technolegol cyflym a phrosiect metro cwbl weithredol yn trawsnewid y ffordd y teithiwn.
Sy’n dod â mi at fy ail bwynt. Rydym yn ceisio cael ateb sefydlog i broblem sy’n esblygu’n gyflym. Rydym yn gyfyngedig yn ein dull o reoli trafnidiaeth wrth inni fethu edrych ar y darlun ehangach, ac mae yna newidiadau sylweddol yn agosáu’n gyflym. Os siaradwch â phobl fusnes, maent yn cydnabod bod byd gwaith yn newid yn gyflym. Cyn bo hir, ni fydd angen i ni gludo pobl yn ôl ac ymlaen rhwng desgiau bob dydd. Mae technoleg sy’n esblygu’n gyflym yn golygu bod angen inni ddatblygu seilwaith digidol nid seilwaith trafnidiaeth, ond nid yw’r ystafelleidiau llawn o beirianwyr priffyrdd ym Mharc Cathays byth yn mynd i wynebu hynny o’u gwirfodd. Mae’r fformiwla a ddefnyddir i gyfiawnhau ffordd fel y modd gorau o ymdopi â thagfeydd yn nhwnelau Bryn-glas yn edrych ar y manteision posibl yn y ffordd fwyaf optimistaidd. Yn y cyfamser, mae rhagamcanion metro Caerdydd yn edrych arnynt yn y ffordd fwyaf pesimistaidd. O’r 11,000 o deithiau a wneir bob awr yn ystod oriau brig ar yr M4, awgrymodd swyddogion trafnidiaeth wrth yr ymchwiliad cyhoeddus na fydd y metro, ar ei orau, ond yn cael gwared ar 200 ohonynt. Nid wyf yn credu hynny. Ond hyd yn oed os yw hyn yn wir, os na fydd ond yn cael effaith fach iawn ar y traffig oriau brig, pam nad ydym yn bwrw iddi i ddatblygu system drafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn mynd i’r afael â galw oriau brig ar yr M4?
Rwy’n ofni bod y prosiect hwn, y metro, yn cael ei sefydlu er mwyn iddo fethu. Mae’n cael ei amddifadu o fuddsoddiad drwy fod Llywodraeth y DU yn canslo trydaneiddio, a thrwy ddiflaniad grantiau’r UE oherwydd Brexit, a chan y lobi adeiladu ffyrdd sy’n ceisio lleihau ei effaith. Llunwyr polisi a ddylai ddweud wrth beirianwyr beth sydd ei angen ar gymdeithas, nid fel arall. Yr arloesedd arall sydd ger ein bron yw datblygiad cerbydau awtonomaidd. Nid ydym yn gwybod eto beth fydd effaith ceir heb yrrwyr, ond mae’n debygol iawn y bydd y dechnoleg newydd hon, gyda cheir yn gyrru ochr yn ochr a thrwyn wrth gynffon, yn ein galluogi i ddefnyddio gofod ffyrdd presennol yn llawer mwy effeithlon, gan wneud y capasiti ychwanegol yn ddiangen.
Ond efallai mai’r datblygiad mwyaf y mae’r dull hwn o weithredu yn methu ei ystyried yw’r ddeddf a basiodd y Llywodraeth hon a’r Cynulliad hwn gwta ddwy flynedd yn ôl: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ar 13 Medi, cafwyd ymyrraeth arwyddocaol gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol—y person a rymuswyd yn gyfreithiol gan y Cynulliad hwn i fod yn warchodwr annibynnol y Ddeddf. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru, yn ei dull o weithredu ar yr M4, yn gosod cynsail peryglus yn ei dehongliad o un o’n darnau mwyaf newydd o ddeddfwriaeth. Yn ei thystiolaeth i’r ymchwiliad cyhoeddus, cyfaddefodd y Llywodraeth y bydd y draffordd newydd yn achosi niwed. Ond, dadleuodd, gellir cyfiawnhau’r niwed oherwydd y manteision economaidd uniongyrchol y bydd yn eu creu—cyfaddawd hen ffasiwn, neu, fel y dywedodd Cwnsler y Frenhines y Llywodraeth yn hyfryd, mewn ffordd na fyddai neb ond Cwnsler y Frenhines yn ei wneud,
cydbwysedd rhwng desiderata gwahanol.
Llywydd, dyma’r safbwynt safonol: mae pedair elfen i ddatblygu cynaliadwy, medd y ddadl. Mae un ohonynt yn economaidd, ac felly mae prosiect sy’n creu manteision economaidd, drwy ddiffiniad, yn helpu i sicrhau datblygu cynaliadwy.
Her Sophie Howe i’r Llywodraeth yw bod hyn yn anghywir fel mater o gyfraith. Ni all un golofn o ddatblygu cynaliadwy fod yn bwysicach na’r lleill. Nid yw cyfaddawdau’n gyfreithlon yng Nghymru bellach. O dan Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol, ni allwn fargeinio buddiannau hirdymor cenedlaethau’r dyfodol am fanteision byrdymor heddiw. Nid wyf yn gweld sut y gellir labelu menter sydd nid yn unig yn ymgorffori twf traffig, ond sy’n codi lefelau allyriadau ar gyfer y cenedlaethau i ddod gan eu gorfodi i ysgwyddo’r costau ar yr un pryd, fel unrhyw beth ond niweidiol i ddyfodol Cymru. Mae hon yn her sylweddol gan gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, ac yn un na ddylid ei chyfyngu i ddadl ymhlith cyfreithwyr yn yr ymchwiliad cyhoeddus, ac roedd yr ymyrraeth heddiw yn gatalydd gennyf fi i geisio dod â’r ddadl hon i lawr ein Cynulliad Cenedlaethol, lle y dylai fod.
Pan ddaeth Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn gyfraith, dylai Llywodraeth Cymru fod wedi edrych o’r newydd ar broblem tagfeydd o amgylch twnelau Bryn-glas a datblygu ateb a fyddai’n gyson â holl egwyddorion y Ddeddf, nid yn unig yr un a weddai i’w chynllun a bennwyd ymlaen llaw. Ac mae yna atebion i broblemau tagfeydd. Ceir llawer o dystiolaeth ynglŷn â sut y gall gwella trafnidiaeth gyhoeddus ac ar gyfer teithiau byr o ddydd i ddydd, leihau’r defnydd o geir, lleihau tagfeydd, lleihau’r pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd. Yn ogystal â metro uchelgeisiol, gellir lleihau tagfeydd drwy nifer o ymyriadau, ac rwy’n cynnig rhai fel enghraifft—nid yw’n rhestr hollgynhwysol: lonydd blaenoriaeth i fysiau; goleuadau traffig sy’n rhoi blaenoriaeth i drafnidiaeth gynaliadwy; parcio a theithio; taliadau parcio ceir yn y gweithle; gwybodaeth wedi’i thargedu a’i theilwra am lwybrau bysiau ac amserau. Profwyd bod cyfuno polisïau i annog newid ymddygiad gyda seilwaith caled i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio. Nid yw hyn yn chwyldroadol. Mae hyn yn digwydd mewn dinasoedd llwyddiannus ar draws y byd. Yn yr 50 mlynedd diwethaf rydym wedi troi ein cefn arno, ac yn awr rydym yn talu’r pris, drwy ansawdd aer gwael, tagfeydd, a’r lefelau uchaf yn Ewrop o ordewdra ymysg plant.
Mae yna ffordd o fynd i’r afael â’r problemau ar yr M4 nad yw’n niweidio anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Yn wir, gall helpu amrywiaeth eang o ymyriadau polisi rydym yn ceisio eu cael i weithio, a buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sefydlu grŵp arbenigol ar fyrder i ddod o hyd i ateb i broblemau tagfeydd ar yr M4 nad yw’n cynnwys cyfnewid anghenion cenedlaethau’r dyfodol am nodau byrdymor heddiw. Nid yw’r ymchwiliad cyhoeddus yn gwneud hynny. Mae’n edrych ar gyfres o opsiynau’n ymwneud â ffyrdd i ymdrin â phroblem tagfeydd. A phwy y gofynasom iddo farnu beth yw’r ateb gorau? Peiriannydd sifil.
Buaswn yn annog y Llywodraeth i beidio â gwrthod barn y comisiynydd annibynnol ar hyn. Os byddant yn ei hymladd yn y llysoedd, maent mewn perygl o danseilio eu deddfwriaeth flaengar eu hunain y dywedasom wrth y byd ein bod mor falch ohoni. Ni sydd wedi creu’r Ddeddf hon. Mae’n gofyn am ddull newydd o weithredu, nid amddiffyniad ôl-weithredol o’r hyn roeddem yn bwriadu ei wneud o’r cychwyn. Diolch.
Gallaf gael fy argyhoeddi bod angen ffordd liniaru i’r M4, ond ar hyn o bryd nid wyf wedi fy argyhoeddi. Rydym bob amser yn siarad yma am benderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth. A ydym yn gwybod lle y mae pobl yn ymuno â’r M4 a lle y dônt oddi arni, gan ddefnyddio technoleg adnabod rhifau? A oes angen iddynt ddefnyddio’r M4, neu a oes ffyrdd eraill? A oes unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i gyfeirio pobl at Gastell-nedd, Abertawe a gorllewin Cymru, yn ogystal â’r Fenni? Mae pobl fel fi yn parhau i ddod i lawr i’r M4 a throi ar yr M4 pan fyddai’n well inni fynd ar ffordd Blaenau’r Cymoedd yn ôl pob tebyg, ond mae’n dweud ‘Y Fenni’, ac rwy’n gwybod nad wyf am fynd i’r Fenni—nid bod gennyf unrhyw beth yn erbyn Y Fenni. A gawn ni fodelu effaith metro de Cymru ar symudiadau traffig yr M4? Mae yna lawer iawn o feddwl ac astudio a allai fynd i mewn i hyn. Iawn, rwy’n argyhoeddedig os ydym ei hangen, ond mae gwir angen fy argyhoeddi.
Mae yna rôl i’r M4. Os wyf fi’n teithio i orllewin Cymru i fynd i wersylla gyda fy mhlant, fy nghath a fy nghaneri, yn amlwg, rwy’n mynd i deithio yn y car—nid wyf yn mynd i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Am ddarlun. [Chwerthin.]
Ond os ydych yn teithio drwy rannau o Gymru sydd heb eu cysylltu gan y gwasanaeth rheilffordd, mae’n rhaid i chi fynd yn y car. Felly, yn amlwg, mae angen i’r M4 gysylltu’r rhan honno o dde Cymru sy’n mynd o’r dwyrain i’r gorllewin. Ond ni fwriadwyd i’r M4 fod yn ffordd osgoi o gwmpas Casnewydd neu lwybr cymudo i mewn i Gaerdydd.
Mae’r polisi adnoddau naturiol newydd yn addo newid moddol oddi ar ffyrdd i bobl a nwyddau, gyda’r nod o leihau allyriadau ac effeithiau trafnidiaeth ar yr amgylchedd ac iechyd pobl. Byddai ffordd liniaru’r M4 yn gwneud y gwrthwyneb. Mae Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn cyfaddef y byddai’n cynyddu’r traffig, ond yn ceisio dadlau y byddai’n lleihau tagfeydd a llygredd aer o ganlyniad i hynny. Fodd bynnag, gallai leihau tagfeydd yn ardal Casnewydd dros dro, ond ni fyddai ond yn symud y broblem i’r gorllewin i Gaerdydd. Mae gan Gaerdydd ardaloedd sy’n gweld llawer o dagfeydd eisoes yn fy etholaeth, gan effeithio ar o leiaf bum ysgol sydd â lefelau anghyfreithlon o lygredd aer. Byddai ffordd liniaru’r M4 yn gwneud hynny’n llawer iawn gwaeth. Nid yw hyn yn ddefnydd effeithiol o dros £1 biliwn. Yn lle hynny, gallem a dylem fuddsoddi’r arian hwnnw yn y metro, a fyddai’n cyflawni’r newid moddol y mae ein prifddinas sy’n tyfu ei angen ar frys.
Rwy’n gobeithio nad y caneri yw cinio’r gath. Mae’r daith rydych yn ei gwneud yn swnio’n ddiddorol.
Fel Tori ofnadwy o faleisus, rwy’n amheus o nwyddau am ddim, ac wrth gwrs, un o’r nwyddau rhataf sydd gennym yw’r ffyrdd. Pan fyddwn yn gwneud buddsoddiad cyhoeddus gwirioneddol enfawr fel hyn, rwy’n credu bod angen inni edrych ar yr holl dystiolaeth a rhagweld beth sy’n debygol o ddigwydd ymhen 10 neu 20 mlynedd. Ymhen 10 mlynedd, rwy’n rhagweld yn hyderus y bydd yna drefn brisio ffyrdd gynhwysfawr. Ni fyddwn yn gallu trethu modurwyr mwyach fel rydym bob amser wedi ei wneud drwy gyfrwng prisiau tanwydd, a bydd technoleg yn ein galluogi i wneud hynny. Byddwn yn cael defnydd llawer mwy rhesymol o’r ffyrdd pan fydd gennym drefn brisio ffyrdd, ac rwy’n gweld oes pan na fydd cymaint o dagfeydd yn y dyfodol o bosibl. Felly, mae angen i ni feddwl o ddifrif am y materion hyn.
Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ymateb i’r ddadl. Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau, ac yn enwedig yr Aelod dros Lanelli am gyflwyno’r ddadl hon heddiw? Roeddwn i eisiau dechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i Lee hefyd am y trafodaethau rydym ni ac Aelodau eraill wedi eu cael dros yr ychydig fisoedd diwethaf ynglŷn â’r mater hwn. Efallai nad ydym wedi cytuno bob amser, ond rwyf wedi gwerthfawrogi’r her ymarferol y mae Lee ac eraill wedi ei darparu i’r prosiect hwn. Yn yr un ysbryd, mae yna rai pethau pwysig rwyf am roi sylw iddynt yn fy ymateb heddiw.
Mae’n hanfodol ein bod yn dechrau drwy gydnabod y problemau parhaus sy’n gwaethygu ar yr M4 o amgylch Casnewydd a bod yn rhaid eu datrys. Nid cymudwyr yn unig sy’n wynebu’r problemau hyn ar y draffordd, maent yn broblemau a wynebir gan drigolion Casnewydd ac economi ehangach Cymru: problemau tagfeydd o amgylch twnelau Bryn-glas; problemau pan fo bysus yn hwyr yn rheolaidd neu’r heddlu a’r cyngor yn cael eu hatal rhag gwneud eu gwaith gan bobl sydd ond yn ceisio osgoi’r tagfeydd ar y draffordd; problemau ansawdd aer, wedi eu gwaethygu gan draffig yn stopio ac ailgychwyn; yr effaith ar enw da ac effaith economaidd porth i Gymru sy’n annibynadwy; a rhwystr i fewnfuddsoddiad. Mae annigonolrwydd yr M4 fel y mae ar hyn o bryd o amgylch Casnewydd yn glir i bawb ei weld.
Cafodd y ffordd ei chynllunio yn gyntaf yn y 1950au nid fel traffordd, ond fel ffordd osgoi Casnewydd. Mae ymhell islaw’r safon ar gyfer traffyrdd modern, gyda chyfyngu ar nifer lonydd, lleiniau caled ysbeidiol, aliniad gwael a chyffyrdd aml. Mae gwelliannau i’r llain ganol a therfyn cyflymder newidiol wedi gwella’r sefyllfa, ond nid yw ‘gwneud y tro a thrwsio’ bellach yn ddewis polisi cynaliadwy i ddiwallu anghenion hirdymor Cymru. Mae mynd i’r afael â’r tagfeydd a moderneiddio’r hyn sy’n ddarn hollbwysig o seilwaith yng Nghymru yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Dyna pam y dywedodd y Llywodraeth ddiwethaf yn glir iawn yn y Cynulliad diwethaf ei bod am ddarparu ffordd liniaru ar gyfer yr M4, ac ailddatganodd fy mhlaid yr addewid hwnnw yn ei maniffesto ar gyfer etholiad y Cynulliad 2016. Pleidleisiodd pobl Cymru ar yr ymrwymiad hwnnw wedyn, ac aeth i mewn i’n rhaglen lywodraethu. Nid yw’r ymrwymiadau a’r gefnogaeth hon yn rhoi siec wag i Lywodraeth Cymru, ond yr hyn y maent yn ei roi yw addewidion, ac mae gennym fandad democrataidd y dylid ei barchu a gweithredu arno.
Byddai’r coridor M4 arfaethedig o amgylch Casnewydd yn fuddsoddiad seilwaith o bwys yng Nghasnewydd, a daw ag achos busnes cryf yn ei sgil a chyfres o fesurau digolledu a lliniaru amgylcheddol wedi’u hymgorffori ynddo. Mae’r arfarniad economaidd yn dangos bod y cynllun yn darparu gwerth da am arian. Mae’r gymhareb cost a budd a addaswyd, sy’n sicrhau manteision o gynyddu dwysedd economaidd, mwy o gystadleuaeth a mwy o fynediad at y farchnad lafur, yn fwy na 2. Mae hynny’n golygu dros y cyfnod arfarnu o 60 mlynedd, fod mwy na £2 o fudd am bob punt a werir ar y cynllun, heb gyffwrdd ar y manteision economaidd ehangach sy’n debygol o ddeillio o’r cynllun, megis canfyddiad cryfach o Gymru fel lle i fuddsoddi, rhywbeth na ellir ei fesur. Byddai’n ategu ac yn integreiddio gyda’n cynlluniau ar gyfer metro dinas-ranbarth Caerdydd, gan ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth cyfannol sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Mae’r ymchwiliad cyhoeddus i’r prosiect hwn gan arolygwyr annibynnol yn caniatáu craffu agored a chadarn i weld a yw’n ateb hirdymor cynaliadwy i’r problemau difrifol sy’n gysylltiedig â’r porth hwn i Gymru. Mae trylwyredd y broses ymchwilio’n briodol i bwysigrwydd y pwnc, ac mae canlyniad yr ymchwiliad hwn o bwys gwirioneddol i Gymru.
Croesewir mewnbwn comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol i’r ymchwiliad hwnnw; rwyf am wneud hynny’n glir iawn. Mae rôl y comisiynydd yn sicrhau bod y dehongliad o’r Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn gadarn yn hynod o bwysig. Rwy’n credu nad yw hi ond yn deg, fodd bynnag, fy mod yn cywiro’r hyn y teimlaf ei fod yn gamddehongliad o lythyr diweddar y comisiynydd yn y wasg. Y ffaith amdani yw bod y comisiynydd yn benodol heb wneud sylwadau ar honiadau a wnaed gan eraill nad yw prosiect yr M4 yn cydymffurfio â’r Ddeddf. Gallaf sicrhau’r holl Aelodau fod egwyddorion, dulliau o weithio a nodau’r Ddeddf wedi cael eu hystyried wrth ddatblygu’r prosiect hwn, a byddant yn parhau i gael eu hystyried yn llawn ac yn gyfartal yn y broses o wneud penderfyniad terfynol ar y prosiect hwn.
Fel rhan o’r dystiolaeth a roddwyd gerbron, cyflwynwyd gwerthusiad o gynaliadwyedd cyffredinol y cynllun i’r ymchwiliad. Cyflawnwyd yr adolygiad gan John Davies, ac roedd yn asesiad trylwyr seiliedig ar dystiolaeth o’r cynllun yng nghyd-destun deddfwriaeth a pholisi perthnasol, gan gynnwys Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Ei gasgliad yw bod y cynllun yn hanfodol i lesiant pobl Cymru, ac y dylai fynd yn ei flaen.
Mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy, a ymgorfforwyd yn gyntaf yn Neddf Llywodraeth Cymru, a’i hatgyfnerthu wedyn yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, yn atal rhai sy’n gwneud penderfyniadau rhag mabwysiadu ymagwedd fyrdymor ar draul cenedlaethau’r dyfodol. Roedd y pum ffordd o weithio yn nodi’n glir y rhwymedigaethau ar Lywodraeth Cymru i osgoi peryglu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r ffyrdd o weithio yn cydnabod y ffaith y gall fod cyfaddawd rhwng amcanion a nodau dymunol. Mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn galw am gael cydbwysedd. Mae’r egwyddor yn datgan yn glir fod rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried pwysigrwydd cydbwyso anghenion byrdymor â’r angen i warchod y gallu hefyd i ddiwallu anghenion hirdymor.
Yn ddiweddar, Dirprwy Lywydd, camodd Llywodraeth Cymru i mewn i ddarparu cymorth ariannol i helpu’r diwydiant dur yng Nghymru, pan roddodd Tata ei safleoedd yn y DU ar werth yn 2016. Mae’r gefnogaeth a roesom wedi bod yn hanfodol i gadw swyddi dur a chynhyrchiant dur yng Nghymru, yn ei safleoedd ym Mhort Talbot, Shotton, Llanwern a Throstre. Cyfaddawd oedd y penderfyniad a’n hwynebai. Nid y diwydiant carbon isel rydym eisiau iddo fod yw’r diwydiant dur heddiw, ond roedd ein penderfyniad i roi cymorth ariannol i achub swyddi yn y gweithfeydd yn ne Cymru, ac yng ngogledd Cymru, yn gyfaddawd yn y tymor byr i roi amser inni gynllunio ar gyfer mwy o dechnegau ynni effeithlon yn y dyfodol, a dyfodol i’r diwydiant y mae pawb ohonom eisiau ei weld, rwy’n siŵr—canlyniad mwy cynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol na rhoi miloedd o weithwyr Cymru allan o waith yn y tymor byr. Mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn mynnu bod y penderfyniadau anodd hyn yn cael eu gwneud yng ngoleuni eu goblygiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn y tymor byr a’r tymor hir. Mae’r achos hwnnw’n wahanol iawn i’r un rydym yn ei drafod yma, ond mae’n enghraifft arall o’r cydbwysedd sy’n rhaid ei daro.
Clywais rai’n dweud y byddai modd defnyddio’r arian a ddyrannwyd i’r cynllun hwn yn well ar ehangu opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth. Wrth ddatblygu model traffig manwl ar gyfer y prosiect, rydym wedi rhagweld effaith cael gwared ar dollau pont Hafren, ac wedi edrych ar effaith gweithredu ein gweledigaeth ar gyfer y metro. Rydym wedi bwrw golwg hirdymor ar yr hyn sydd ei angen i baratoi rhwydwaith trafnidiaeth de-ddwyrain Cymru ar gyfer y dyfodol; fodd bynnag, mae yna derfyn i’r hyn y byddai metro wedi ei ehangu yn ei wneud. Fel y mae ein dadansoddiad manwl yn egluro, bydd effaith gadarnhaol fwyaf y metro ar batrymau teithio o’r gogledd i’r de, ac nid y teithiau o’r dwyrain i’r gorllewin y mae’r M4 yn darparu ar eu cyfer. Mae’r adroddiad trosolwg ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi asesu effaith holl elfennau rheilffordd y metro hyd at 2037, a gorsaf parcio a theithio arfaethedig Llanwern, a gwelodd y byddai llai na 4 y cant o’r traffig ar yr M4 yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd, hyd yn oed o ystyried y rhagdybiaethau mwyaf ffafriol ar gyfer newid moddol.
Bydd canlyniad yr ymchwiliad M4 yn llywio penderfyniad ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â’r gwaith adeiladu y flwyddyn nesaf. Nid wyf yn gallu gwneud unrhyw sylwadau pellach ar y broses statudol barhaus heblaw dweud y bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gyda safbwynt yn seiliedig ar y wybodaeth lawn ac ar yr holl ddeddfwriaeth, gan gynnwys Deddf cenedlaethau’r dyfodol. Gan edrych yn ehangach na’r M4 yn unig, rwy’n awyddus inni weld y ffordd benodol honno yng nghyd-destun yr uchelgeisiau ehangach sydd gennym fel Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio’r system drafnidiaeth. Un o’r datblygiadau allweddol yn y gwaith hwn fydd y comisiwn seilwaith cenedlaethol rydym yn ei sefydlu i chwarae rôl allweddol yn y gwaith o gynllunio anghenion seilwaith Cymru—anghenion a gynllunnir dros y tymor hir, yn annibynnol ar y Llywodraeth, a helpu i flaenoriaethu penderfyniadau buddsoddi strategol. Rydym yn datblygu ein gwaith cynllunio trafnidiaeth yn barhaus fel y gall gynllunio ar gyfer twf mewn modd cynaliadwy. Mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol ei hun wedi croesawu model newydd yr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru a ddatblygwyd gennym ar gyfer prosiectau cynllunio a thrafnidiaeth.
Dirprwy Lywydd, rhaid inni barhau i ymdrechu i gyflawni newid moddol yn ein system drafnidiaeth, a sicrhau mwy o gydbwysedd yn y ffordd y cynlluniwn atebion trafnidiaeth. Fodd bynnag, dychwelaf at y mater canolog dan sylw: nid yw’r seilwaith presennol ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn addas i’r diben. Dyna yw ein casgliad wedi bod ers peth amser. Gwnaed gwelliannau tameidiog a defnyddiol dros amser, a fydd yn gwella’r sefyllfa, gan gynnwys terfyn cyflymder newidiol a moderneiddio twnelau Bryn-glas, ond gohirio’r broblem yn unig y maent wedi ei wneud. Mae’r darn hwn o seilwaith angen ei uwchraddio’n helaeth ar gyfer y tymor hir. Bydd yr ymchwiliad yn dod i ben yn fuan ac rwy’n ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn ag unrhyw gynnydd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:26.