Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
04/12/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Cwestiwn 1, Hefin David.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth cerbydau ar y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd? OAQ54785
Gwnaf, wrth gwrs. Yn y tymor byr, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig defnyddio cerbydau dosbarth 769 ar reilffordd Rhymni hyd nes bod cerbydau newydd yn dechrau cael eu cyflwyno yn 2023, a bydd hyn wedyn yn eu galluogi i gynyddu amlder y gwasanaeth, fel rhan o drawsnewidiad y metro.
Yn dilyn trafodaethau gydag etholwyr ynghylch y defnydd o'r rheilffordd ac yn dilyn y ddadl a gawsom bythefnos yn ôl, cyfarfûm â swyddogion Trafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf i drafod rhai o'r problemau gorlenwi a rhai o'r problemau gyda gwasanaethau. A buom hefyd yn siarad am randdirymu Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, ac o ganlyniad i hynny, gan nad yw'r Senedd yn eistedd ar hyn o bryd, rwyf wedi ysgrifennu at Grant Shapps—y llythyr hwn—i ofyn am randdirymu’r Ddeddf yn gyflym. A allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â hynny, ond hefyd, a gawn ni ateb pendant yn awr ynglŷn â faint yn rhagor o drenau a fydd ar y rheilffordd y flwyddyn nesaf a sut y bydd capasiti yn gwella yn ystod y ddwy flynedd nesaf? Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cofnodi hynny’n bendant ac er eglurder.
Yn sicr, ac mae'r Aelod yn llygad ei le. Credaf fod ei etholwyr yn haeddu gwybod faint o drenau ychwanegol a fydd ar y rheilffordd bwysig honno yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Ond os caf nodi'r pwynt pwysig iawn ynglŷn â’r cais am randdirymiad mewn perthynas â gofynion y ddeddfwriaeth pobl â chyfyngiadau symudedd, dylid nodi, Ddirprwy Lywydd, nad ydym ar ein pennau ein hunain. Rydym yn deall fod llawer o gwmnïau gweithredu trenau eraill, gan gynnwys Scot Rail, Great Western Railway, Northern ac East Midlands Trains mewn sefyllfa debyg, a deellir eu bod yn ceisio rhyddhad i weithredu nifer sylweddol o drenau nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd yn 2020. Rwy’n falch o allu rhoi gwybod i’r Aelodau o'm rhan i fod yr holl waith wedi’i gwblhau’n foddhaol gan swyddogion yma ac yn Llundain, ac rydym bellach yn aros am gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol cyn gynted ag y bydd yr etholiad cyffredinol wedi dod i ben, pwy bynnag fydd yr Ysgrifennydd Gwladol hwnnw. Mae’n rhaid i mi ddweud, serch hynny, Ddirprwy Lywydd, mai ein barn ni yw nad oedd angen i'r penderfyniad gael ei ohirio y tu hwnt i 12 Rhagfyr ac y gallai fod wedi'i wneud yn ystod cyfnod yr etholiad.
Gan droi at wasanaethau ar reilffordd Rhymni, rwy'n ymwybodol, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol, o'r pryderon ynghylch capasiti. Gallaf roi gwybod i’r Aelod y bydd trenau Pacer ar waith fel trenau pedwar cerbyd ar y rhan fwyaf o wasanaethau rheilffordd Rhymni wedi’r newid i’r amserlen ar 15 Rhagfyr, gyda'r trenau dosbarth 37 sy'n cael eu tynnu gan injan yn parhau i weithredu wrth i’r trenau dosbarth 769, sy’n fwy o faint ac yn fwy modern o lawer, mae'n rhaid dweud, gael eu cyflwyno yn 2020. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno naw uned dosbarth 769, a fydd yn gwasanaethu rheilffordd Rhymni. Bydd gan bob un o’r rhain bedwar cerbyd ac felly bydd ganddynt gapasiti o 558 y trên. Mae hynny'n cymharu â chyfanswm capasiti o 422 ar gyfer pedwar cerbyd Pacer, a chyfanswm capasiti o tua 320 ar gyfer y trenau sy'n cael eu tynnu gan injan.
Wrth gwrs, yn 2023, bydd trenau rhyng-ddinesig a rhanbarthol ysgafn cyflym tri-moddol Stadler newydd yn cael eu cyflwyno ar y rhwydwaith, ac ar reilffordd Rhymni. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod fod Trafnidiaeth Cymru bob amser yn adolygu’r amcanestyniadau o nifer y cwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau, a gallant weithredu mewn modd hyblyg i sicrhau y gellir cynyddu'r capasiti os bydd y galw’n gwneud hynny’n ofynnol.
Gan ychwanegu at gwestiwn Hefin, mae'r newyddion fod y ddarpariaeth o gerbydau i gynyddu capasiti rheilffyrdd y Cymoedd wedi’i gohirio wedi golygu bod teithwyr yng Nghymoedd de Cymru'n teimlo’n rhwystredig ac yn siomedig. Mae gorlenwi'n broblem ddifrifol, ac mae nifer y teithwyr ar reilffyrdd y Cymoedd yn cynyddu 7 y cant bob blwyddyn. Weinidog, a allwch roi diweddariad i'r Cynulliad ynghylch pryd rydych yn disgwyl i Trafnidiaeth Cymru roi'r cerbydau newydd ar waith? Rydych newydd sôn am rai ychwanegol erbyn y flwyddyn nesaf a 2023. Credaf ei bod yn mynd yn rhy hwyr i'r math hwn o beth wella, ond beth yw'r rhwystr rhag gallu rhoi'r cerbydau ar waith, ac a allwch ddweud wrthym pa drafodaeth rydych wedi'i chael gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â lliniaru’r problemau gorlenwi sydd eisoes yn bodoli ar reilffyrdd Cymoedd de-ddwyrain Cymru ac mewn mannau eraill? Diolch.
Mae Mohammad Asghar yn codi pwynt sydd wedi’i drafod yn rheolaidd yn y Siambr hon, ac mae'n ymwneud â'r diffyg camau gweithredu a gymerwyd o dan gytundeb y fasnachfraint flaenorol, a gytunwyd ar sail dim cynnydd yn nifer y teithwyr, ac felly roedd diffyg trenau ar gael pan etifeddwyd y fasnachfraint—a dros y cyfnod hwnnw, yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr. Roeddem yn ymwybodol o'r angen i sicrhau, pan ddaethom yn gyfrifol am y fasnachfraint, fod cerbydau ychwanegol ar gael, a dyna pam yr archebwyd unedau dosbarth 769, a oedd i fod i gael eu cyflwyno ym mis Mai 2018. Ac o ganlyniad i fethiant y cwmni i ddarparu’r unedau 769, bu'n rhaid i ni geisio'r rhanddirymiad hwnnw gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd. Rwy'n falch o ddweud bod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio'n ddiflino i nodi o ble y gallant gael cerbydau newydd—a cherbydau yn lle cerbydau eraill—er mwyn gwella capasiti. Ac fel y dywedais wrth Hefin David, bydd cynnydd sylweddol yn y capasiti ar reilffordd Rhymni o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Ac wrth i ni agosáu at gyflwyno'r trenau newydd sbon hynny yn 2023, byddwn yn gweld cynnydd pellach yn y capasiti ar draws y rhwydwaith. O fis Rhagfyr eleni, byddwn hefyd yn gweld cynnydd sylweddol, o fwy na 60 y cant, yn nifer y seddi a'r gwasanaethau sydd ar gael ar ddydd Sul. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen, ac mae’n sicrhau bod y fasnachfraint yn wasanaeth saith diwrnod yr wythnos go iawn.
Weinidog, mae'r teithwyr ar reilffordd Rhymni wedi cael addewidion ynghylch y trenau 769, a mwy o gapasiti, ers mis Mai 2018, ac maent yn dal i aros. Nawr, rwy’n derbyn eich pwynt ynglŷn â’r hyn rydych wedi'i ddweud wrth Hefin David—sef, pan fydd y trenau 769 yn cael eu cyflwyno, y bydd hynny’n arwain at gynnydd yn y capasiti. Ond dywedasoch y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu mewn modd hyblyg o ran edrych ar gapasiti'r trenau newydd pan fyddant yn rhoi trenau ar waith yn lle’r trenau 769 yn 2023. A allwch gadarnhau mai dim ond capasiti uwch o gymharu â nawr yw’r capasiti uwch y byddwn yn ei weld yn 2023, ac nad yw'n gapasiti uwch—fel y mae pethau, ar ôl y trenau 769, bydd gostyngiad yn y capasiti yn 2023?
Credaf fod rhywun sy’n frwdfrydig a galluog iawn ym myd trenau wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil. Fodd bynnag, nid wyf yn argyhoeddedig fod y data a ddefnyddiwyd yn gwbl gywir. A chyfarfûm heddiw, mewn gwirionedd, â Trafnidiaeth Cymru, i drafod yr union fater hwn eto, ac roeddem yn cytuno bod gwir angen nid yn unig cynyddu capasiti yn y tymor byr—yn y ddwy flynedd nesaf—ond cynnal y capasiti hwnnw wedyn, ac os oes angen, ei gynyddu ymhellach fyth, os yw’r teithwyr yn galw am hynny. Os bydd galw'r teithwyr yn cynyddu ymhellach, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu mewn modd hyblyg i ateb y galw gan etholwyr yn y rhan honno o Gymru.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid grant ar gyfer busnesau lleol yn Aberconwy? OAQ54790
Gwnaf, wrth gwrs. Rydym yn cynnig ystod eang o opsiynau cyllido i bob math o fusnesau ledled Cymru. Fel enghraifft o gyllid diweddar yn Aberconwy, rydym wedi cefnogi 16 o fusnesau gyda'u prosiectau ymchwil a datblygu drwy SMARTCymru â chyfanswm o £1.1 miliwn, gyda hanner y ffigur hwnnw yn gyllid grant.
Diolch. Gan fod Cymru'n dathlu Dydd Sadwrn y Busnesau Bach y penwythnos hwn, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru, a chithau fel Gweinidog, yn gwneud popeth yn eich gallu i gefnogi datblygiad busnesau, ac yn sicr mae gan Aberconwy ystod wych o fusnesau bach. Nawr, yn ôl adroddiad siopau lleol Cymru 2020, mae 73 y cant o siopau cyfleus annibynnol yn ariannu buddsoddiadau yn eu busnesau eu hunain o’u cronfeydd wrth gefn. Mae llawer iawn, iawn ohonynt—y rhan fwyaf, mewn gwirionedd—yn mynd heb unrhyw gymorth ariannol. Felly mae'n debyg fod hynny yn ein gwneud yn awyddus i graffu ar y grantiau rydych yn eu darparu, er mwyn sicrhau eu bod wedi'u darparu’n ddoeth.
Nawr, yn 2016, darparodd Llywodraeth Cymru £400,000 i G.M. Jones, i adeiladu swyddfeydd pwrpasol hollol wych. Nawr, gwyddoch fy mod i wedi codi sawl cwestiwn ysgrifenedig yn y Cynulliad ynglŷn â hyn, gan fod yr eiddo wedi bod yn wag am fwy o flynyddoedd nag y cofiaf, a dim ond am ychydig fisoedd y bu rhywun yno cyn i'r busnes fynd i’r wal, yn anffodus. Mae pobl yn cysylltu â mi yn rheolaidd ynghylch busnesau llai o faint sy’n awyddus i ddefnyddio'r swyddfeydd hyn o bosibl. Rwyf wedi ffonio fy hun, wedi siarad â Busnes Cymru, ac rwyf wedi ceisio, yn groes i bob gobaith, sicrhau bywyd newydd i'r eiddo, oherwydd, yn y pen draw, mae wedi cael £400,000 o arian trethdalwyr, ac erbyn hyn nid oes busnes yno o gwbl. Mae yn y rhan wledig o fy etholaeth. Felly, rwy'n awyddus iawn i weld y busnes hwn yn cael ei feddiannu a'i ddefnyddio'n llawn fel na allwn ddweud bod arian trethdalwyr wedi’i wastraffu. Pa gamau rydych yn eu cymryd neu y gallech fod yn eu cymryd i weithio gyda'n hawdurdod lleol a rhanddeiliaid eraill i weld sut y gallwn ddatrys y mater hwn yn y dyfodol, gan y gallaf ddweud wrthych fod perchnogion busnesau eraill yng Nghonwy, ac yn wir, y trigolion, yn gandryll wrth weld y swyddfeydd gwych hyn yn dirywio am eu bod yn wag?
Wel, yn sicr, mae yna alw am unedau busnes, am ofod swyddfa, ac am unedau diwydiannol hefyd ar draws gogledd Cymru, ac yn arbennig yn yr ardal y mae'r Aelod yn ei chynrychioli. Fe ofynnaf i fy mhrif swyddog rhanbarthol yng ngogledd Cymru gysylltu â Busnes Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i asesu'r galw sy'n bodoli ar hyn o bryd am unedau busnes o'r math hwn ac i sicrhau eu bod yn ateb y galw hwnnw gyda gweithredwyr yr unedau dan sylw fel y gallwn sicrhau bod swyddi'n cael eu creu yn yr ardal honno.
Mae'n rhaid dweud bod Busnes Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol ar draws gogledd Cymru ers 2015 wrth helpu i greu mwy na 740 o fentrau newydd, sydd, yn eu tro, wedi creu mwy na 2,780 o swyddi. Byddaf yn sicrhau bod ein tîm rhanbarthol yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol a gyda Busnes Cymru i wireddu potensial y cyfleuster penodol hwn.
Diolch am eich ateb, Ken—ar ran Conwy. Mae hynny'n hollol wych. Rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.
Weinidog, microfusnesau a busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi. Rwy’n falch fod fy mhlaid yn cydnabod hyn ac wedi ymrwymo i sicrhau mwy o chwarae teg. Rydym yn addo adolygu'r drefn ardrethi busnes a rhoi'r hwb sydd ei angen ar fusnesau lleol a'n stryd fawr. Beth yw eich cynlluniau i gefnogi busnesau lleol yn rhanbarth y ddau ohonom?
Wel, mae ystod enfawr o fentrau ar gael gan Lywodraeth Cymru a'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol. Rydym wedi darparu £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn darparu mwy o ryddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i fusnesau lleol, gan ganiatáu iddynt ymateb i anghenion lleol penodol. Yn 2019-20, bydd oddeutu £9.5 miliwn mewn rhyddhad ardrethi yn cael ei gynnig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda £6.4 miliwn ohono'n cael ei gynnig drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach.
Fodd bynnag, byddwn hefyd yn cynnig cefnogaeth drwy Busnes Cymru, drwy Fanc Datblygu Cymru, a thrwy gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a byddaf yn sicrhau, fel rhan o ddatblygiad y fframwaith economaidd rhanbarthol yng ngogledd Cymru, fod busnesau bach ar draws y rhanbarth yn cael eu hystyried yn llawn wrth iddynt ddatblygu mentrau yn y dyfodol.
Diolch. Symudwn ymlaen yn awr at gwestiynau'r llefarwyr a’r cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, yn ôl y rhagolwg economaidd diweddaraf ar gyfer y DU gan PricewaterhouseCoopers, ni fydd economi Cymru ond yn tyfu 1 y cant yn unig eleni ac yn cwympo ychydig yn 2020 gyda chyfradd twf bach o 0.8 y cant yn unig. A ydych yn fodlon â dadansoddiad PwC y bydd economi Cymru yn tyfu ar un o'r cyfraddau arafaf mewn unrhyw ran o'r DU y flwyddyn nesaf? Ac mewn ymateb i'r ymchwil, pa gamau penodol y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â chynhyrchiant isel?
Wel, na, nid wyf yn fodlon, ac mae'n gwbl amlwg fod Brexit yn parhau i lesteirio twf, yn enwedig yma yng Nghymru, lle mae 60 y cant o'n hallforion yn ddibynnol ar y 500 miliwn o gwsmeriaid yn yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn cynyddu cynhyrchiant, drwy'r cynllun gweithredu ar yr economi, rydym yn canolbwyntio ein grantiau, ein benthyciadau—ein cymorth i fusnesau ar bob ffurf—ar fusnesau'r dyfodol: busnesau a fydd wedi'u diogelu at y dyfodol o ran deallusrwydd artiffisial a digideiddio.
Cafwyd enghraifft wych o sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau'n strategol yn hyn o beth ddydd Iau diwethaf pan agorwyd y Ganolfan Ymchwil i Weithgynhyrchu Uwch gennym yng ngogledd Cymru—canolfan a fydd yn arwain at ddiogelu rhaglen Adain Yfory ac a fydd yn ychwanegu £4 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros at yr economi ranbarthol. Dyna enghraifft berffaith o sut y defnyddiwn ein hadnoddau i wella cynhyrchiant.
Mae'n werth dweud, ers datganoli, mai yng Nghymru y bu'r pumed cynnydd uchaf o ran gwerth ychwanegol gros y pen o gymharu â gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod twf yr economi yn cael ei lesteirio gan drychineb Brexit.
Wel, Weinidog, bwriad datganoli oedd gwella perfformiad economaidd Cymru yn sylweddol, ond serch hynny, o ran ailfywiogi economi Cymru, yn lle achub ar y cyfle i roi hwb rhagweithiol i'r economi, buaswn yn awgrymu bod y Llywodraeth wedi methu creu'r amodau cywir i ddenu buddsoddiad o'r tu allan.
Yn eich ymateb, Weinidog, fe sonioch chi am gynnig grantiau i fusnesau amrywiol, ond buaswn yn dweud, yn lle hynny, fod polisi busnes Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar daflu arian at fusnesau fel Kancoat, Mainport Engineering a Griffin Place Communications—mae pob un wedi cael arian gan y Llywodraeth ac mae pob un ohonynt yn brosiectau sydd wedi methu. Buaswn yn derbyn yn llwyr fod angen i'r Llywodraeth fentro. Rwy'n derbyn hynny. Ond mae'n rhaid i chi hefyd ystyried y cydbwysedd rhwng risg a budd, a chredaf fod y cydbwysedd hwnnw'n anghywir. Ac mae'r archwilydd cyffredinol yn derbyn hyn ei hun, gan ddweud
'Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu dull o gydbwyso'r risgiau a'r manteision posibl'.
Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, gyda'r fath restr o fuddsoddiadau gwael, sut y gall pobl Cymru fod yn hyderus y gall Llywodraeth Cymru wneud penderfyniadau cyfrifol mewn perthynas â busnesau Cymru a rheoli economi Cymru yn effeithiol?
Am bob rhestr o fuddsoddiadau gwael honedig, gallwn gynhyrchu rhestr o fuddsoddiadau llwyddiannus, buddsoddiadau mewn busnesau fel Aston Martin Lagonda, sydd wedi dewis Cymru fel cartref trydaneiddio; busnesau fel INEOS Automotive, a sicrhawyd gennym yn ddiweddar iawn yn wyneb cystadleuaeth frwd o bedwar ban byd; busnesau fel Airbus, yr ydym yn eu cynorthwyo i ddiogelu dyfodol rhaglen Adain Yfory. Credaf ei bod yn bwysig dweud ein bod yn aml yn cael ein cyhuddo o fod yn amharod i fentro yn Llywodraeth Cymru. Rydym yn cael ein cyhuddo yr un mor aml o fentro gormod. Mae'n anodd iawn cael y cydbwysedd yn iawn ym marn pob unigolyn.
Mae llawer o'r buddsoddiadau y mae'r Aelod wedi'u hamlinellu ac y gallai eu hamlinellu yn fuddsoddiadau yn y gorffennol a wnaed cyn y cynllun gweithredu ar yr economi, ac yn benodol y contract economaidd sy'n rhaid i fusnesau sy'n ceisio ein hadnoddau ariannol ei lofnodi. Ac yn y contract economaidd, mae'n rhaid iddynt ddangos yn glir sut y mae ganddynt botensial i dyfu, nid yn unig eu hunain ond hefyd ar gyfer y gadwyn gyflenwi; sut y maent yn hyrwyddo gwaith teg; sut y maent yn arwain tuag at ddatgarboneiddio Cymru a'u hôl troed eu hunain; a hefyd sut y maent yn cyfrannu at welliannau ym maes iechyd ac iechyd meddwl yn y gweithlu. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig dros y 18 mis diwethaf gyda'r nod nid yn unig o sbarduno cynhyrchiant, ond o sbarduno twf cynhwysol hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn hynod falch ohono.
Yn ogystal, mae'r holl dystiolaeth bellach yn dangos bod cefnogaeth i fusnesau gan Busnes Cymru wedi arwain at gyfraddau goroesi uwch nag ymhlith busnesau nad ydynt wedi cael cefnogaeth gan Busnes Cymru, ac o ganlyniad i flynyddoedd o fuddsoddi strategol, mae gennym bellach gyfraddau cyflogaeth sydd bron gyfuwch ag erioed, cyfraddau anweithgarwch is nag erioed, mwy o fusnesau'n bodoli nag erioed o'r blaen yng Nghymru, a chyfradd genedigaethau uwch yma yng Nghymru na chyfartaledd y DU, ac yn hanfodol bwysig, mae gennym gyfleoedd yn dod i'r amlwg ledled Cymru bellach i fusnesau gychwyn drwy'r gefnogaeth honno y mae Busnes Cymru yn ei chynnig.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n derbyn ei bod hi'n anodd cael y risg honno'n iawn rhwng mentro a sicrhau'r cydbwysedd iawn rhwng y ddau, ond wrth gwrs, mae'r archwilydd cyffredinol wedi dweud
'Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu dull o gydbwyso'r risgiau a'r manteision posibl'.
Wrth gwrs, un maes y mae angen i ni ganolbwyntio arno yw ein busnesau bach a chanolig gan eu bod yn wynebu cyfnod ansicr iawn ar hyn o bryd gyda chystadleuaeth gan gwmnïau ar-lein, ac rydym hefyd yn cael llai o bobl ar ein strydoedd mawr yng Nghymru yn anffodus, nag a welir mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, dros yr wythnos ddiwethaf, bûm yn hyrwyddo—gwn fod Aelodau eraill o amgylch y Siambr hon wedi bod yn hyrwyddo—Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, ymgyrch sy'n annog pobl i siopa'n lleol, yn enwedig y penwythnos hwn.
Roeddwn hefyd yn falch o fynychu lansiad adroddiad Cymdeithas y Siopau Cyfleus ddoe, a gynhaliwyd o dan ofal fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders. Mae rhai o'r materion a godant yn eu hadroddiad wedi'u datganoli'n llwyr i Lywodraeth Cymru, materion fel ardrethi busnes, ymestyn rhyddhad ardrethi'r stryd fawr y tu hwnt i fis Mawrth 2020, cael gwared ag ardrethi busnes yn gyfan gwbl, cynllunio, yn ogystal ag amddiffyn canolfannau manwerthu a sicrhau bod y system gynllunio yn galluogi manwerthwyr i arallgyfeirio'n haws. Mae rhai o'r pethau hyn yn cael eu cyflawni mewn rhannau eraill o'r DU ac nid ydynt yn cael eu cyflawni yng Nghymru.
Felly, Weinidog, gyda Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar y ffordd y penwythnos hwn, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i gefnogi busnesau Cymru? Ac a allwch ddweud wrthym hefyd pa gamau newydd y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd yn awr i greu'r amodau cywir ar gyfer twf busnesau bach, canolig ac annibynnol yma yng Nghymru?
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiwn ac adleisio'i gefnogaeth i Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach? Gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi'r fenter honno ac yn annog eu hetholwyr i wneud hynny hefyd.
Mae llawer iawn o feysydd cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig sy'n cyfrannu at fywiogrwydd canol trefi wrth iddynt wynebu cyfnod anhygoel o heriol, yn anad dim oherwydd ymddygiad defnyddwyr sy'n arwain at fwy o archebu ar-lein a llai ar y stryd fawr. Ond un fenter newydd arbennig y credaf y bydd gan yr Aelod ddiddordeb ynddi yw'r un sy'n cael ei datblygu gan fy nghyd-Aelod Hannah Blythyn, ac sy'n ymwneud â dull 'canol y dref yn gyntaf', nid yn unig o ran manwerthu, ond hefyd o ran ble mae'r sector cyhoeddus yn dewis buddsoddi mewn swyddfeydd a chyfleusterau. Credaf ei bod yn hanfodol bwysig inni edrych ar yr enghraifft ym Mhontypridd a gweld sut y mae Trafnidiaeth Cymru wedi dewis buddsoddi yng nghanol y dref yno, ac mae hynny, yn ei dro, yn arwain at fuddsoddiad pellach gan fusnesau eraill. Dyma'r math o fodel rydym am ei weld yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. Ac wrth gwrs, mae'r Gweinidog cyllid yn ymwybodol iawn o'r angen i sicrhau bod y drefn ardrethi busnes o fudd i'r busnesau hynny sy'n wynebu dyfodol ansicr.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rŵan, Weinidog, rydyn ni’n gwybod bod oedi ar drenau a gorlenwi ar drenau yn gallu cael effaith uniongyrchol ar gynhyrchiant o fewn yr economi yng Nghymru. Mae llawer o weithwyr yng Nghymru yn gorfod penderfynu gadael eu cartrefi yn gynharach er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cael ar drên neu gyrraedd gwaith mewn pryd. Mae pobl eraill yn cyrraedd y gwaith yn hwyr. Ydy’r Llywodraeth wedi gwneud asesiad o faint mae oedi a gorlenwi trenau yn ei gostio i’r economi, yn cynnwys oriau sy’n cael eu colli yn y gweithle?
O bryd i'w gilydd, rydym yn gallu cyfrifo faint o amser sy'n cael ei golli ac yna, gan osod hynny yn erbyn enillion cyfartalog, gallwn asesu'r math o golled i'r economi yn ei chyfanrwydd. Yn amlwg, nid ydym am weld teithwyr yn colli unrhyw amser ac nid ydym am weld yr economi'n colli'r un geiniog, a dyna pam ein bod yn buddsoddi £5 biliwn yn nghyfnod y fasnachfraint hon yng nghytundeb y fasnachfraint newydd, gan gynnwys £800 miliwn ar gyfer cerbydau newydd a bron i £200 miliwn ar gyfer gwella gorsafoedd.
Rydym hefyd yn integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus yn well drwy ddeddfwriaeth, gan gynnwys Bil bysiau (Cymru) a diwygiadau pellach i wasanaethau bysiau; cyflwyno gwell seilwaith ar gyfer teithio llesol ac ar gyfer bysiau cyflym, fel y gall pobl ddewis gadael eu car gartref gan wybod yn iawn y byddant yn gallu cyrraedd y gwaith ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn cyn lleied o amser ag y byddent yn ei wneud yn eu car eu hunain, os nad mewn llai o amser na hynny.
Mae gorlenwi’n gallu ei gwneud hi’n brofiad amhleserus ar drên hefyd. Roeddwn i’n clywed gan aelod o dîm Plaid Cymru yma yn y Cynulliad, yn digwydd bod, yn gynharach, yn trio teithio ar drên Maesteg i lawr i gêm y Barbariaid dros y penwythnos, a theithwyr yn methu â chael ar drên oherwydd bod trenau’n llawn. Mi oedd fy merch fy hun yn adrodd am siwrnai ar draws llinell y gogledd yn yr wythnosau diwethaf lle'r oedd pobl yn sefyll yn y tŷ bach oherwydd bod y trên yn rhy llawn. Dydy o ddim yn dderbyniol.
Gwyddom fod gennym ddiffyg capasiti ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, rydych yn sôn am eich uchelgais i gynyddu capasiti, sy'n beth da, ond mae'n destun pryder fod y capasiti ar gyfer y trenau newydd, y trenau rhyng-ddinesig a rhanbarthol ysgafn cyflym tri-moddol newydd, a fydd yn cael eu cyflwyno yn 2023, a'r capasiti a ddyfynnwyd gan Trafnidiaeth Cymru ar gyfer teithwyr sy'n sefyll ar eu traed yn uwch na'r ffigur a ddyfynnir ar daflen ddata'r gwneuthurwr. Mae ffigurau'r gwneuthurwr yn seiliedig ar ddarparu 0.3 metr sgwâr y pen, tra bo Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio 0.25 metr sgwâr. Dyma'r ffigur isaf yn y DU, rwy'n credu, gan fod y mwyafrif o weithredwyr yn defnyddio 0.45 metr sgwâr. Mae hyd yn oed rheilffordd uwchddaearol Llundain wedi newid i ddefnyddio 0.35 ers 2017.
Rydych yn dweud a dweud wrthym am eich cynlluniau i gynyddu capasiti, ond ymddengys i mi mai'r hyn rydych yn bwriadu ei wneud yw eu pentyrru'n uchel, ac ni fydd hynny'n creu profiad da i deithwyr.
Na, ddim o gwbl, nid gyda'r llyfr archebion yn dod i gyfanswm o £800 miliwn a threnau o'r radd flaenaf ar waith o 2023. Mae Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio canllawiau'r diwydiant a safonau'r diwydiant wrth gyfrifo capasiti, ac rwy'n falch o ddweud y byddwn yn gweld trenau dosbarth 170 yn cael eu cyflwyno ar reilffordd Maesteg. Byddant ymysg y 12 trên dosbarth 170 a fydd yn cael eu cyflwyno o fis Rhagfyr eleni, a byddant yn sicrhau yn y tymor byr fod problemau capasiti'n cael sylw wrth inni aros am y cerbydau newydd o 2023.
Rydym yn sôn am orlenwi yn awr, a diffyg capasiti yn awr, mewn cyfnod, wrth gwrs, pan ydym am i fwy o bobl ddefnyddio trenau yn y dyfodol. Un peth a wneir i geisio perswadio mwy o bobl hŷn i ddefnyddio trenau yw caniatáu iddynt ddefnyddio tocynnau bws rhatach i gael gostyngiadau amrywiol. Mae rhai rheilffyrdd yn caniatáu teithio am ddim.
Cysylltodd defnyddiwr rheilffyrdd o'r gogledd â mi, serch hynny, ar ôl clywed am yr hyn a oedd ar gael i deithwyr mewn rhannau eraill o Gymru. Gellir cael gostyngiad o draean oddi ar gost tocynnau wrth deithio ar rwydwaith Caerdydd a'r Cymoedd yn ystod adegau tawel—sy'n beth da, wrth gwrs—ond ni cheir gostyngiad cyfatebol i deithwyr yn y gogledd. Nawr, credaf fod hynny'n annerbyniol. Mae angen i ni drin defnyddwyr y rheilffyrdd yn gyfartal, ble bynnag y maent. Rwy'n ddiolchgar am lythyr a gefais gennych yn dweud y byddwch yn cyflwyno gostyngiad o 10 y cant ar draws y gogledd. Pam y gostyngiad o draean mewn un rhan o Gymru a gostyngiad o 10 y cant mewn rhan arall?
Rwyf wedi bod yn sgriblan yma hefyd, ac yn cymharu dwy siwrnai debyg, un ohonynt yn ardal Caerdydd a'r Cymoedd. Mae Treherbert i Gaerdydd yn daith 25 milltir ac mae tocyn trên yn costio £6.10. Mae hynny'n swnio'n iawn i mi. Gyda gostyngiad o draean, mae hynny'n dod i lawr i £4. Mae Caergybi i Fangor yn siwrnai 25 milltir eto—yr un pellter. Mae hynny'n costio dros £10 y siwrnai. Gyda gostyngiad o 10 y cant, daw hynny â'r gost i lawr i £9. Sut y gallwch dalu £4 am siwrnai mewn un rhan o Gymru, a dros £9—mwy na dwywaith hynny—mewn rhan arall o Gymru? Mae'n ymddangos i mi, a bydd yn ymddangos i lawer o bobl, gyda ffigurau fel hynny a diffyg cydraddoldeb i deithwyr, nad yw rheilffordd y blaid Lafur yn rheilffordd sy'n trin teithwyr yn gyfartal ble bynnag y maent yng Nghymru.
Dylwn atgoffa'r Aelodau o'r cychwyn cyntaf fod pris rhai siwrneiau yn brisiau a reoleiddir gan Lywodraeth y DU, a bod eraill o dan ein rheolaeth ni. Lle maent o dan ein rheolaeth, rydym wedi gweld gostyngiad yn y prisiau—fel y cydnabuwyd yn gyhoeddus yn ddiweddar—o 1 y cant ar gyfartaledd. Mewn rhai rhannau o Gymru, bydd gostyngiadau sylweddol iawn yn y prisiau, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Mae Rhun ap Iorwerth yn iawn i dynnu sylw at y gostyngiad o 10 y cant yno. Ar draws y rhwydwaith, cafwyd gostyngiad o 34 y cant ym mhrisiau tocynnau adegau tawel a osodwyd gan Trafnidiaeth Cymru ar gyfer deiliaid tocynnau tymor blynyddol, ar eu cyfer hwy eu hunain a hyd at un unigolyn arall o fewn ffiniau daearyddol diffiniedig. Nawr, mae hynny'n bwysig.
Mae teithio rhatach ar adegau tawel i blant dan 11 oed hefyd yn bwysig. Rydym yn symud tuag at brisiau tocynnau tecach o lawer i bobl ifanc. Rydym yn cynnig teithio rhatach ar adegau tawel i rai dan 16 oed, a bydd y cerdyn rheilffordd i fyfyrwyr yn fwy buddiol hefyd, a cherdyn 'saver'. Lle bynnag y gallwn, rydym yn cyflwyno prisiau tocynnau tecach i deithwyr. Rwy'n falch o hynny, boed yng ngogledd Cymru, lle rydym yn gweld gostyngiad o 10 y cant yn y prisiau, neu ar reilffordd Rhymni—fel y crybwyllwyd yn gynharach—lle bydd prisiau tocynnau diwrnod dwyffordd unrhyw bryd yn gostwng 9.52 y cant, rydym yn cyflwyno cryn dipyn o gyfiawnder cymdeithasol i drefn brisiau tocynnau trafnidiaeth gyhoeddus.
Diolch. Llefarydd Plaid Brexit, David Rowlands.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mehefin eleni fod cwmni modurol TVR wedi dewis cwmni yng ngorllewin Cymru i ddodrefnu eu huned ffatri ar safle technoleg fodurol Glyn Ebwy, a oedd yn gyhoeddiad calonogol iawn ynddo'i hun—eu bod wedi dewis cwmni o Gymru i wneud hynny—a all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar adnewyddu'r uned honno? Ac a all roi unrhyw syniad i ni pryd y bydd TVR yn dechrau cynhyrchu ceir?
Wrth gwrs. Mae'r trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda’r cwmni, ac rydym yn aros am eu cadarnhad eu bod wedi codi’r buddsoddiad angenrheidiol.
Wel, diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Mewn gwirionedd, gofynnais fy nghwestiwn mewn gobaith yn fwy na disgwyliad, o gofio, yn amlwg, mai gan gwmni TVR eu hunain y byddai'r dyddiadau ar gyfer dechrau.
Gan droi at ddatblygiad y parc ei hun, a allwch roi unrhyw fanylion inni ynglŷn â chwmnïau eraill sydd wedi mynegi diddordeb mewn dod i Lyn Ebwy, ac a allech gadarnhau adroddiadau fod cwmni Williams Advanced Engineering Ltd, sy'n rhan o dîm Fformiwla 1 Williams, yn dal i fod â diddordeb mewn datblygu presenoldeb ar y safle? Mae hwn, wedi'r cyfan, yn brosiect hanfodol os ydym am adfywio ardal sydd wedi bod yn economaidd farwaidd ers cau'r gwaith dur oddeutu 17 mlynedd yn ôl.
Rwy'n falch iawn o allu dweud y byddaf gyda Williams yfory, yn yr uwchgynhadledd fodurol rydym wedi'i chynnull, ac yn y cinio nos yfory ar gyfer fforwm modurol Cymru. Rwy'n siŵr na fyddent yn bresennol yng Nghymru yfory pe na bai ganddynt ddiddordeb mewn presenoldeb yng Nghymru yn y tymor hwy. Byddaf yn trafod hynny gyda hwy, ac wrth gwrs, os gallwn ddenu cwmni mor enwog, bydd Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol.
3. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r economi yng Nghanol De Cymru dros y 12 mis nesaf? OAQ54789
Byddwn yn parhau i gefnogi'r economi drwy'r cynllun gweithredu ar yr economi, ac yn achos busnesau yng Nghanol De Cymru, drwy brif swyddog rhanbarthol de-ddwyrain Cymru.
Diolch. Nawr, mae trafnidiaeth yn rhan allweddol o'r economi, ac rydym wedi clywed cryn dipyn o sôn yn barod y prynhawn yma am y broblem gyda gorlenwi ar y gwasanaethau rheilffyrdd. Rydym wedi clywed am hynny yng nghwm Rhymni ac rydym wedi clywed am hynny ar reilffordd Maesteg, ond wrth gwrs, mae gorlenwi difrifol yn nodwedd o bob un o'n rheilffyrdd, bron â bod. Nawr, rydych wedi sôn am gynyddu'r capasiti, ond wrth gwrs, rydym oll yn aros, ac wedi bod yn aros ers amser maith, am welliant. Ym maniffesto Llafur ar gyfer yr etholiad cyffredinol, nodaf eich bod yn addo gostyngiad o draean i bris tocyn tymor. Wel, mae pob un ohonom yn sylweddoli bod Corbyn yn addo'r ddaear mewn ymgais i lwgrwobrwyo'r etholwyr, ond yn ôl yn y byd go iawn, sut ar y ddaear y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu ymdopi â'r cynnydd tebygol yn y galw pan ydych eisoes yn ei chael hi'n anodd darparu gwasanaeth addas?
Wel, yn wahanol i'r adeg pan oedd cytundeb y fasnachfraint flaenorol yn cael ei lunio, pan oeddem yn gweithio ar drefniadau'r fasnachfraint gyfredol, gwnaethom sicrhau bod gwahanol weithgarwch modelu teithwyr yn cael ei ystyried fel nad oedd gan y gweithredwr a'r partner datblygu unrhyw amheuaeth ynghylch pa dasgau y byddai'n rhaid eu cwblhau i ateb y galw gan deithwyr. Felly, o ganlyniad, mae cyfleoedd gwirioneddol a sylweddol i allu cynyddu capasiti ar bwyntiau penodol yn y contract, yn ôl yr angen. Yn wahanol i'r cytundeb blaenorol, mae Trafnidiaeth Cymru yn gallu gweithredu mewn modd hyblyg o dan y cytundeb hwn, ac fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn buddsoddi £5 biliwn yn y rhwydwaith rheilffyrdd dros y 15 mlynedd nesaf.
Weinidog, ers 2012, mae cyfraddau gweithgarwch economaidd yn Rhondda Cynon Taf wedi cynyddu o 69 y cant i 75 y cant—mae llawer o hyn, rwy'n credu, wedi digwydd drwy gydweithredu gweithredol y tu ôl i'r llen, beth bynnag, rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac rwy’n eich canmol am y gwaith hwnnw. Ymddengys i mi fod sgiliau a hyfforddiant yn arbennig o bwysig i gyflawni'r ffigurau gwell hyn, a chan eich bod yn pwysleisio'r economi sylfaenol, ymddengys i mi fod y dull hwn bellach yn dwyn ffrwyth yn rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig.
Yn sicr. Ni allwn gytuno mwy â David Melding, ac o ran cronfa her yr economi sylfaenol, rwy'n falch fod Cymdeithas Tai Rhondda wedi llwyddo i sicrhau £100,000 i adfywio canol tref Tonypandy gyda dulliau newydd creadigol o ddefnyddio sgiliau lleol a sicrhau bod dyfodol cynaliadwy a hirdymor i ganol y dref.
4. Pa fentrau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru i wella economi Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OAQ54788
Rwy'n falch o ddweud bod gennym nifer o fentrau ar gyfer gwella economi Cymru gyfan, gan gynnwys, wrth gwrs, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Nodir y rhain yn y cynllun gweithredu ar yr economi ac maent yn cynnwys buddsoddi mewn pobl, mewn lleoedd a busnesau, drwy sgiliau, seilwaith a chymorth uniongyrchol i fusnesau.
Diolch, ond hoffwn wybod sut y mae hynny'n trosi'n gamau gweithredu. Y penwythnos diwethaf, cynhaliwyd ffair Nadolig yng nghastell Penfro, ac roedd yn ddigwyddiad gwych. Daeth llwyth o bobl i Benfro i fynd i’r ffair Nadolig, ond wrth i mi gerdded yn ôl at fy nghar, a oedd ar ben arall stryd fawr Penfro, cefais fy atgoffa unwaith eto o farwolaeth y stryd fawr honno. Pan symudais i Sir Benfro gyntaf oddeutu 15 mlynedd yn ôl, roedd yn stryd fawr fywiog, brysur, roedd ganddi archfarchnad yno yng nghanol y dref, roedd ganddi lawer iawn o siopau unigol—roedd ganddi'r cigydd, ac i bob pwrpas, y pobydd a'r gwneuthurwr canwyllbrenni. Ond bellach, dim ond—beth ydych chi'n galw'r bobl sy'n gwneud betiau rasio? Siopau betio, dyna ni—[Torri ar draws.] Bwcis. Diolch. Nid oeddwn am grybwyll eu henw—nid wyf ond yn gallu cofio eu henw. [Chwerthin.] Nid oeddwn yn ceisio eu hysbysebu. [Chwerthin.] [Torri ar draws.] Diolch. Na, peidiwch.
Felly, bwcis, siopau elusen, ac mae popeth, fwy neu lai, ar gau, a tybed beth y gallwn ei wneud mewn gwirionedd i ddod â'r math o fywyd yn ôl i'r math hwnnw o stryd fawr, oherwydd os nad ydym yn sôn am Benfro, rydym yn sôn am Ddoc Penfro, ac am Arberth, sydd wedi bod yn un o drysorau Sir Benfro ers amser maith. Hendy-gwyn ar Daf—cwbl farwaidd. Sanclêr—mae'n mynd yr un ffordd. Mae'r siopau traddodiadol yn cau, ond nid wyf yn gweld sut y gellir trosi'r polisïau hyn sydd gennych. A gwn fod maniffesto’r Ceidwadwyr yn bwriadu sefydlu cronfa trefi marchnad i helpu i wella’r economi leol, a sylwaf i chi grybwyll menter wrth fy nghyd-Aelod Russell George, ond tybed a allech ymhelaethu ar hynny, gan ei bod yn drist iawn gweld y trefi gwych hyn yn dirywio.
Yn sicr, ac nid yw hon yn broblem sydd wedi'i chyfyngu i etholaeth yr Aelod. Gallwn bwyntio at ganol trefi ledled y DU a thu hwnt, lle mae trafferthion yn sgil newid yn ymddygiad cwsmeriaid. Ac mae'n gwbl iawn ein bod yn canolbwyntio yn awr nid yn unig ar fanwerthu fel proses o gyfnewid nwyddau ac arian, ond manwerthu fel profiad, ac mae rhai o'r ardaloedd lle mae canol y dref a'r stryd fawr yn ffynnu yn fannau lle mae'r awyrgylch yn fywiog, lle mae gweithgareddau'n cael eu cynnal yn rheolaidd iawn, lle nad manwerthu'n unig sydd gennym, ond cymysgedd cryf iawn o fusnesau'n gweithredu yno.
Mae'r fenter 'canol y dref yn gyntaf' y soniais amdani wrth ateb Russell George yn cael ei harwain gan Hannah Blythyn, sydd yma yn awr. Fe ofynnaf i Hannah roi mwy o fanylion i'r Aelodau ynghylch y fenter benodol hon.FootnoteLink Mae'n cynnwys datblygu mwy o ardaloedd gwella busnes, gan y credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod busnesau hefyd yn cael cyfrifoldeb dros wella bywiogrwydd y stryd fawr. Yr hyn rwyf wedi gallu ei werthfawrogi yw mai'r trefi mwyaf gwydn yn wyneb prynu ar-lein yw'r rhai sy'n cynnig nifer dda o weithgareddau fel ffeiriau Nadolig ac ati, ac yn fy etholaeth fy hun, y trefi a'r pentrefi sy'n ffynnu yn wyneb her yw'r rheini sy'n dod â phobl i mewn i ganol y dref ar gyfer gweithgareddau amrywiol o wythnos i wythnos.
Credaf ei bod hefyd yn bwysig dweud, er bod pob un ohonom yn dymuno cefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ddydd Sadwrn, y dylai'r egwyddorion sy'n sail i Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach fod yn berthnasol i bob diwrnod o'r wythnos a phob wythnos o'r flwyddyn, ac mae'n bwysig ein bod ni fel Aelodau yn annog ein hetholwyr i gefnogi canol trefi. Mae'n rhy hawdd weithiau i ninnau, er hwylustod, alw mewn archfarchnad yn hytrach na mynd i ganol y dref. Mae angen inni arwain drwy esiampl. Mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ymrwymo i'w wneud fy hun, nid yn unig y dydd Sadwrn hwn, ond wedi hynny. Ond credaf y bydd y fenter 'canol y dref yn gyntaf', a'r gwaith o annog mwy o ardaloedd gwella busnes, sy'n ymyrraeth y profwyd ei bod yn gweithio, yn arwain at fwy o fywiogrwydd yng nghanol ein trefi.
5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus o fewn cymoedd y gogledd? OAQ54802
Gwnaf, wrth gwrs. Rydym yn bwrw ymlaen gyda'n gweledigaeth uchelgeisiol i ail-lunio seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau bysiau lleol, gwasanaethau rheilffyrdd, teithio llesol, prosiectau'r metro, ac wrth gwrs, Bil bysiau (Cymru).
Diolch am eich ateb cyffredinol, Weinidog. Nawr, nid hwn oedd y cwestiwn atodol roeddwn wedi bwriadu ei ofyn, ond mae tarfu diweddar ar wasanaethau rheilffyrdd yn fy nghymuned wedi newid fy ffocws heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi cael perthynas dda gyda Trafnidiaeth Cymru ers iddynt ddod yn gyfrifol am y gwasanaethau, ond roedd y digwyddiadau yr wythnos diwethaf yn anhrefn llwyr—trenau wedi'u canslo, teithwyr yn cael eu taflu allan mewn gorsafoedd ar hap, taith rhai pobl i'r gwaith ac adref yn cymryd mwy na phedair awr a hanner yno ac yn ôl, a chael eu gollwng mewn gorsafoedd nad oeddent yn agos at eu cartref, ac effaith hynny ar ofal plant a phob math o bwysau eraill. Nid yw hyn yn dderbyniol o gwbl. Rwy'n derbyn bod rhai problemau, fel nam i gyfarpar gerllaw'r rheilffyrdd, y tu hwnt i reolaeth Trafnidiaeth Cymru, ond mae angen cynllun B. Dylid rhagweld problemau gyda chael mynediad at fysiau yn ystod yr oriau brig pan fydd y bysiau arferol yn cludo plant i ac o'r ysgol, a dylid cael cynllun wrth gefn ar gyfer hynny. Bu llawer o sôn am y newidiadau i'r amserlen ar 15 Rhagfyr, ond i lawer o fy etholwyr, mae siom wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i unioni hyn? Pa fesurau a roddir ar waith i leihau risg y problemau a welwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf, fel nad yw fy etholwyr yn dioddef gwasanaethau mor wael eto?
Hoffwn ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiwn, ac am godi'r mater hwn gyda mi yn uniongyrchol cyn hyn. Llwyddais i siarad eto â Trafnidiaeth Cymru y bore yma, gan bwysleisio'r angen diamod i sicrhau fod cynlluniau wrth gefn ar waith ar frys.
Fel y nododd yr Aelod, yn gwbl gywir, ar brynhawn dydd Mercher, 27 Tachwedd, bu tarfu ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar reilffordd Aberdâr oherwydd problem gyda'r signalau, sydd, wrth gwrs, yn cael eu rheoli gan Network Rail. Gwaethygwyd y broblem gan yr anhawster i ddod o hyd i fysiau i weithredu yn lle'r trenau, gan fod bysiau lleol, ar y pryd, wrthi'n darparu cludiant o'r ysgol. Cafwyd tarfu pellach yn ddiweddarach y noson honno ar ôl i fws daro pont reilffordd, ac yna bu’n rhaid i Network Rail, yn gwbl briodol, gynnal archwiliadau diogelwch i sicrhau ei bod yn ddiogel i drenau ei chroesi. Llwyddodd Trafnidiaeth Cymru i ddod o hyd i fysiau yn lle'r trenau ac ail-agorwyd y rheilffordd am 8 o’r gloch yr hwyr, ond rwy’n cydnabod bod llawer iawn o etholwyr fy nghyd-Aelod wedi eu cythruddo gan y diffyg gwasanaeth amserol ar yr achlysur penodol hwnnw.
Er bod y digwyddiadau hyn y tu hwnt i reolaeth Trafnidiaeth Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhoi sicrwydd i mi eu bod yn mynd ati ar frys i adolygu'r ffordd y caiff bysiau yn lle trenau eu caffael, gan eu bod hwythau hefyd yn teimlo ei bod yn iawn i deithwyr allu disgwyl i wasanaethau gychwyn cyn gynted â phosibl ar ôl digwyddiad. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau cyn bo hir gyda manylion y gwaith brys hwnnw a'i ganlyniadau.
Mae gan lawer o bobl ddiddordeb yn y potensial i ymestyn gwasanaethau trên i'r gogledd yng nghwm Rhondda, ac mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ar hyn ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n mawr obeithio y gall y Llywodraeth hon a Trafnidiaeth Cymru sicrhau bod hynny'n dwyn ffrwyth. Byddai'r gwahaniaeth y gallai gorsaf newydd yn Nhynewydd ei wneud ar ben uchaf y Rhondda yn enfawr. Byddai'n gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn llawer mwy hygyrch i rai o'r cymunedau mwyaf ynysig yn fy etholaeth. Nid oes rheilffordd yn y Rhondda Fach. Roedd cyswllt bws a thrên yn arfer gweithredu o'r Maerdy dros y bryn i Benrhys i orsaf Ystrad Rhondda.
Beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf o ran ymestyn y rheilffordd i'r Rhondda Fawr i Dynewydd? Ac a allwch ddweud wrthym beth yw'r posibilrwydd o wella cysylltiadau â'r Rhondda Fach o ran y rheilffyrdd? Ac effeithiwyd ar bobl yn y Rhondda hefyd gan y problemau gorlenwi diweddar, ac maent wedi cael llond bol ar wrando ar esgusodion. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei ddarparu y bydd digon o gapasiti i'r bobl yn y Rhondda, p'un a yw'r gwelliannau rwyf wedi eich holi amdanynt y prynhawn yma yn dwyn ffrwyth ai peidio?
Gallaf roi sicrwydd i bobl y Rhondda ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â materion capasiti ar rwydwaith y rheilffyrdd. Mae'n bwysig, serch hynny, nad ydym yn ystyried y gwasanaeth rheilffordd ar wahân i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus eraill. Credaf ei bod yn hollol iawn i bobl ddisgwyl gwasanaeth bysiau a rheilffyrdd integredig, a dyna pam y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i'r Siambr hon y flwyddyn nesaf ar gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol, fel y gallwn ailgyflwyno masnachfreinio, fel ein bod yn caniatáu i gwmnïau bysiau trefol gael eu ffurfio, fel y gallwn integreiddio tocynnau ac amserlennu ac fel bod gennym y math o wasanaeth integredig a oedd yn arfer bodoli. Credaf mai gwasanaeth cyswllt bws a thrên y Rhondda Fach roedd pobl yn y Rhondda yn ei werthfawrogi. Hoffem weld mwy o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus integredig o'r fath yn cael eu cyflwyno ledled Cymru.
O ran estynadwyedd y metro, dyma un o'r enghreifftiau mwyaf cyffrous o waith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd—camau'r metro yn y dyfodol—mae'r fframwaith yn cael ei gwblhau gan Lywodraeth Cymru. Rydym eisoes yn darparu pum gorsaf newydd o dan gytundeb y fasnachfraint gyda'r gweithredwr a'r partner datblygu. Ac yn y dyfodol, fel rhan o weledigaeth metro de Cymru, byddwn yn gweld mwy o orsafoedd yn cael eu hagor, mwy o hen reilffyrdd yn cael eu hailagor, a rheilffyrdd newydd yn cael eu cyflwyno.
A gaf fi ddweud wrth y Gweinidog fod pobl ym mhob gorsaf o Faesteg i Gaerdydd yn edrych ymlaen yn fawr at weld y cerbydau 170 wedi'u hadnewyddu yn cael eu cyflwyno, a'r gwasanaeth ar ddydd Sul o ganol y mis hwn ymlaen? Bydd yn hwb gwirioneddol i'r rheilffordd honno ac i amlder gwasanaethau, yn enwedig ar ddydd Sul. A diolch iddo am yr ateb ysgrifenedig a gefais ganddo heddiw ar fy ymgyrch nesaf, sef trenau hwyrach o Gaerdydd i bob gorsaf ar hyd y rheilffyrdd i Faesteg.
Ond a gaf fi ddweud, mae tri o fy nghymoedd—ac rwy'n dweud hyn dro ar ôl tro—cymoedd Garw, Ogwr a'r Gilfach, yn cael eu gwasanaethu'n llwyr gan drafnidiaeth bws. Nawr, er enghraifft, yng nghwm Garw Uchaf, heb—. Mae bron i 30 y cant o bobl yng nghwm Garw Uchaf heb fynediad at drafnidiaeth breifat, a 15 y cant yn fwy na'r cyfartaledd cenedlaethol wedi'u categoreiddio'n weithwyr lled-fedrus, gweithwyr llaw heb sgiliau neu mewn swyddi ar raddfeydd is, neu'n ddi-waith, ac yn ceisio dod o hyd i waith. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dosbarthu'r gymuned yn gymuned wledig 100 y cant ac rydym yn dibynnu'n llwyr ar fysiau. Mae 50 y cant o'r boblogaeth yno'n teithio rhwng 10km a 30km i'r gwaith, ac maent yn dibynnu ar fysiau. Felly, a gaf fi ofyn iddo: wrth inni fwrw ymlaen â'r diwygiadau hyn, yn enwedig o ran dadwneud y weithred drychinebus o ddadreoleiddio'r bysiau ddegawdau yn ôl, pa obaith y gallaf ei roi i'r etholwyr hynny y gallwn gael gwasanaeth bysiau sydd wedi'i gynllunio'n lleol ac yn rhanbarthol, sy'n mynd i'r lleoedd y mae pobl am fynd iddynt, ar yr adeg y maent am fynd yno, gyda phrisiau tocynnau fforddiadwy y gallant fforddio talu amdanynt, gwasanaeth sydd ar gyfer y bobl ac nid er budd cyfranddalwyr?
Wel, mae'r Aelod yn llygad ei le: byddwn yn dylunio, drwy ddeddfwriaeth a diwygiadau pellach, system drafnidiaeth ar gyfer bysiau ac ar gyfer mathau eraill o drafnidiaeth sy'n blaenoriaethu buddiannau teithwyr dros gymhelliant elw. A boed hynny trwy greu cwmnïau bysiau trefol, trwy ailgyflwyno masnachfreinio, trwy ddiwygiadau eraill, byddwn yn darparu gwell trafnidiaeth bysiau sydd wedi'i hintegreiddio â rheilffyrdd.
Nawr, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig ynghylch amserlennu gwasanaethau i sicrhau bod pobl sy'n gweithio y tu allan i oriau yn gallu mynd a dod o'u gwaith. Enghraifft dda o sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymyrryd yn y maes hwn yn awr yw cynllun peilot trafnidiaeth O’r Cymoedd i’r Gwaith, a ddatblygwyd gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, ac rydym wedi gallu cyhoeddi cynllun peilot bws mini y tu allan i oriau i fynd â phobl i'w gwaith. Credaf fod honno'n enghraifft wych o sut y gallwn ddarparu cyfleoedd i bobl fynd a dod o'r gwaith ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod oriau anghyfleus drwy weithio mewn ffordd is-ranbarthol gyda'r holl bartneriaid.
Tynnwyd cwestiwn 6 [OAQ54787] yn ôl. Cwestiwn 7, Nick Ramsay.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wella'r rhwydwaith cefnffyrdd yn Sir Fynwy? OAQ54782
Gwnaf, wrth gwrs. Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn hanfodol i'n heconomi ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau rhwydwaith ffyrdd cadarn sy'n cael ei gynnal yn dda. Amlinellir ein blaenoriaethau ar gyfer gwella'r rhwydwaith yn ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol a ddiweddarwyd ym mis Mai eleni.
Diolch, Weinidog. Y tro diwethaf i mi godi'r broblem ynghylch llifogydd ar yr A4042 yn Llanelen gyda'ch cyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, nododd, yn gywir, fod y problemau'n dra chyfarwydd a'i bod yn anodd mynd i'r afael â hwy, ac y dylwn roi gwybod i chi os oedd gennyf unrhyw atebion i'r problemau. Wel, ymddengys i mi, wrth feddwl am hyn wedyn, fod un ateb amlwg i'w gael, er ei fod yn gostus, sef ffordd osgoi i’r pentref, er mwyn osgoi’r rhan arbennig o broblemus hon yn gyfan gwbl, yn ogystal ag osgoi’r bont, sy'n peri problemau hefyd. Mae cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi Llanelen a ffordd osgoi ymhellach i'r de ym Mhenperlleni wedi eu crybwyll ers degawdau ond maent wedi parhau i fod yn freuddwydion gwrach oherwydd y gost. Gan fod ysbyty newydd, Ysbyty Athrofaol y Grange, bellach ar y gweill ac yn agor, rwy’n credu, y flwyddyn nesaf, tybed a allem ailedrych ar y posibilrwydd o ffordd osgoi ar gyfer y rhan broblemus hon o’r A4042, oherwydd ar ryw adeg yn y dyfodol, gallai bywydau cleifion ddibynnu arni a byddai cymudwyr yn sicr yn awyddus i weld gwelliannau.
Wel, drwy strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru, a gyhoeddir y flwyddyn nesaf, byddwn yn gallu ystyried yr holl gyfleoedd i wella cydnerthedd y rhwydwaith ffyrdd, ac nid yn unig cydnerthedd y rhwydwaith ffyrdd, ond dulliau eraill o fynd â phobl o A i B. Rydych wedi gweld, er enghraifft, gwasanaethau bysiau, teithio llesol a gwasanaethau rheilffyrdd. Nawr, credaf ei bod yn deg dweud, yn dilyn trafodaethau gyda'r tirfeddiannwr a'r ffermwr tenant, fod y ffermwr wedi gwneud gwaith rhyfeddol yn clirio ffosydd ar ei dir yn ôl yn 2018, 2019. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith hwnnw i helpu gyda'r llifogydd ar yr A4042. Rydym yn monitro'r sefyllfa yn agos a byddwn yn ystyried pob ffordd o fynd i'r afael ag unrhyw lifogydd pellach.
Diolch yn fawr, Weinidog.
Eitem 2 ar yr agenda yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit. Daw cwestiwn 1 gan Suzy Davies.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch darparu addysg ar ôl Brexit? OAQ54800
Prynhawn da. Rwy’n trafod materion ôl-Brexit yn rheolaidd gyda’r Gweinidog Addysg, gan gynnwys drwy is-bwyllgor y Cabinet ar drefniadau pontio'r UE a phrif gyfarfodydd y Cabinet, ac rwyf hefyd wedi cyfarfod â hi ar wahân i drafod hyn ar sawl achlysur.
Rwy'n falch o glywed hynny, Weinidog. Ym mis Mawrth, fe ddywedoch chi wrthyf, ac rwy’n dyfynnu, fod angen gwneud gwaith pwysig mewn perthynas â'r cymwysterau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu derbyn gan athrawon a ddaw yma i weithio o wledydd yr UE, y gwledydd y gwnaethant gymhwyso ynddynt. Pan alwais am ddiweddariad am y gwaith hwn gan y Trefnydd ym mis Mehefin, yn anffodus, ni lwyddodd fy helpu, ond ers hynny, o fis Medi eleni, bydd angen i Gyngor y Gweithlu Addysg gymeradwyo cymwysterau pob athro newydd. Mae naw mis wedi bod bellach ers i chi ddweud y byddai'r gwaith pwysig hwn yn angenrheidiol. Sut rydych chi a'r Gweinidog addysg wedi gweithio gyda'ch gilydd i sicrhau y gall gwladolion yr UE barhau neu hyd yn oed ddechrau dysgu yma o'r diwrnod rydym yn gadael? Diolch.
Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y Cynulliad wedi cael rheoliadau sydd, i bob pwrpas, mewn senario 'dim cytundeb', er enghraifft, yn darparu, ar sail unochrog, cydnabyddiaeth o gymwysterau presennol ar gyfer gwladolion yr UE sy'n gweithio ym mhob math o broffesiwn a reoleiddir yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys y proffesiwn addysgu. Mae'r set honno o reoliadau'n darparu trefniadau ar gyfer gweithwyr presennol, ac maent hefyd yn ceisio dilysu neu gydnabod cymwysterau'r rheini y mae eu ceisiadau yn y system ar hyn o bryd, ac yn wir, y rheini a ddaw i mewn i'r system ar ôl i ni adael. Ond ceir risg barhaus i ddinasyddion y DU sy'n gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd o dan yr amgylchiadau hynny, pe baem yn gadael heb gytundeb—nid ydym yn gwybod, wrth gwrs, ar ba sail, os o gwbl, y byddwn yn gadael ar hyn o bryd—ni fydd y cysylltiadau hynny yn elwa o'r trefniadau dwyochrog sy'n bodoli ar draws yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd. Ac felly bydd y gweithwyr sy'n gweithio mewn gwahanol rannau o'r Undeb Ewropeaidd yn dibynnu ar y drefn reoleiddiol ym mhob aelod-wladwriaeth unigol i sicrhau bod eu cymwysterau penodol yn cael eu cydnabod yn y dyfodol.
2. Pa ddarpariaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud ar gyfer cydweithredu trawsffiniol ym Mhrydain ar ôl Brexit? OAQ54780
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn annog gweithio trawsffiniol, er enghraifft drwy Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, a byddwn yn parhau i gefnogi cydweithredu trawsffiniol ar ôl Brexit. Rydym yn credu'n gryf mewn meithrin cysylltiadau economaidd presennol o fewn a'r tu allan i Brydain, ac yn gresynu at y ffordd y mae Llywodraeth ymadawol y DU wedi rhoi blaenoriaeth i ideoleg ar draul buddiannau economaidd Cymru.
Ni allwch ymwrthod â'r demtasiwn, oni allwch? Fel y gwyddoch, mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 y DU, a gafodd gydsyniad deddfwriaethol gan y Siambr hon, yn datblygu fframweithiau i sicrhau, ni waeth beth sy’n digwydd ar ôl Brexit, fod marchnad sengl i'w chael yn y DU fel nad oes gennym rwystrau mewnol rhwng gwledydd y DU. Yn amlwg, mae trafodaethau fframwaith wedi eu gohirio ar hyn o bryd hyd nes y cawn ganlyniad yr etholiad cyffredinol a bydd gennym Lywodraeth newydd mewn grym yn y DU, ond os ydym yn cyrraedd y sefyllfa honno, pa argymhellion sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer corff i oruchwylio, ac os oes angen, i orfodi, pan fo'r fframwaith ar gyfer yr amgylchedd, diogelwch anifeiliaid, safonau bwyd ac ati yn cael ei dorri?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, ac mae'n tynnu sylw, ac rwy'n ddiolchgar iddo am wneud hynny, y gwaith pwysig sydd wedi bod yn mynd rhagddo rhwng y Llywodraethau yn y DU mewn perthynas â fframweithiau cyffredin ar feysydd polisi sy'n ymwneud â'r farchnad fewnol os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae is-set i hynny sy'n ymwneud yn benodol â'r farchnad fewnol, sy'n ymdrin â'r mathau o faterion yr ymdrinnir â hwy ar sail reoleiddiol ar hyn o bryd fel rhan o farchnad sengl yr UE. Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r trefniadau hynny yw sicrhau y gall busnesau Cymru barhau i fasnachu â busnesau ledled y DU, sy'n farchnad bwysig iawn, fel y mae'n amlwg yn deall, i fusnesau Cymru, a sicrhau, wrth wneud hynny, ein bod yn gallu cynnal y safonau uchel yr hoffem eu gweld yma ar gyfer hawliau llafur, hawliau cymdeithasol ac amgylcheddol, er enghraifft, a sicrhau hefyd fod y setliad datganoli yn cael ei amddiffyn yn llwyr yn y trefniadau hynny.
Fel rhan o'r gwaith cyffredinol ar y fframweithiau cyffredin, rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych i weld a ellir rheoli'r datganiadau gan Lywodraeth y DU sy'n awgrymu dull llawer mwy dadreoleiddiol nag y byddai unrhyw un ohonom yma'n gyfforddus ag ef, rwy'n siŵr, o fewn y fframweithiau cyffredin presennol hynny a'r rhai arfaethedig.
Ar gwestiwn corff rheoleiddio, y mae ei gwestiwn yn fy holi'n uniongyrchol yn ei gylch, nid yw'n glir ar hyn o bryd a fydd ei angen. Fe fydd yn gwybod mai'r dewis a ffafrir gennym yw sicrhau bod cysylltiadau rhynglywodraethol ar waith, gan arwain yn y pen draw at gyngor Gweinidogion ledled y DU, sy'n gallu rheoli cysylltiadau rhwng Llywodraethau'r DU, gan alluogi i bolisïau gael eu dargyfeirio ar sail a reolir. Felly, dyna lle mae'r drafodaeth ar hyn o bryd. Yn amlwg, rwy'n bwriadu rhoi diweddariad i'r Senedd ar ddatblygiadau yn y maes hwn dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Un o feysydd allweddol cydweithredu trawsffiniol ar ôl Brexit, ond ar ôl yr etholiad cyffredinol mewn gwirionedd, fydd faint o ymgysylltu a geir rhwng Llywodraeth Cymru, Gweinidogion Swyddfa Cymru ac adrannau Whitehall ar fater ffrydiau cyllido sy'n berthnasol i Gymru a'r DU. Nawr, wrth gwrs, prin yw'r manylion sydd gennym ar hyn o bryd ynglŷn â chronfa ffyniant gyffredin y DU, ac yn ystod yr etholiad a chyn hynny, ymddengys ei bod wedi mynd i guddio mewn rhai ffyrdd, ond o ran canlyniadau mater buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi a ddaw o lefel y DU, ac o lefel yr UE cyn hynny hefyd—mae dyfodol Erasmus a Horizon 2020, mae adran Whitehall o fusnes, o ynni, o seilwaith sy'n llifo ac a allai fod yn llifo i Gymru.
Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: ar ôl yr etholiad cyffredinol, a fydd yn curo ar ddrysau nid yn unig Swyddfa Cymru i lawr y ffordd, ond hefyd adrannau Whitehall, er mwyn cael sicrwydd, yn enwedig, mae'n rhaid i mi ddweud, ynghylch y £370 miliwn y flwyddyn sydd mewn perygl ar hyn o bryd yn sgil colli cronfa'r UE, y dywedir wrthym y bydd yn rhan o gronfa ffyniant gyffredin y DU, ond fel y mae'r Llywodraeth wedi dweud yn gwbl glir, yn fwy na'r cwestiwn o sicrhau bod arian ar gael i Gymru, mae angen sicrhau ei fod yn cael ei roi i Gymru a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yng Nghymru yn unol â'r fframwaith polisi sydd gennym? Ond mae angen sicrhau hynny ac agweddau eraill, gan fod yr ansicrwydd parhaus hwn—. Er bod y grŵp a gadeiriaf yn ceisio datblygu'r fframwaith hwn ar lefel genedlaethol a rhanbarthol o ran cyllid yng Nghymru yn y dyfodol, mae angen eglurder arnom gan Lywodraeth y DU ynghylch yr hyn y maent yn ei gynnig.
Wel, os caf ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a hefyd am ei waith yn cadeirio'r grŵp y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn, sy'n gwneud gwaith arloesol a chreadigol iawn, yn fy marn i, ar nodi, yn enwedig ar sail arferion gorau rhyngwladol, sut y gallwn ddefnyddio cronfeydd buddsoddi rhanbarthol yn y ffordd orau yn y dyfodol. Mae'n siarad am gysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a gwahanol adrannau Llywodraeth y DU. Yn fy mhrofiad i, mewn perthynas â'r meysydd a nododd yn ei gwestiwn, mae'r trafodaethau hynny wedi bod—i'r graddau y buont yn gynhyrchiol o gwbl—yn fwy cynhyrchiol mewn trafodaethau uniongyrchol â'r adrannau perthnasol.
Mae'n sôn am ymchwil ac arloesi, a gwn y bydd yn ymwybodol o ba mor ddibynnol, er enghraifft, yw ein sector addysg uwch ar gyllid gan Horizon 2020. Mae'n bendant yn wir ein bod wedi mynnu ar bob cyfle gyda Llywodraeth y DU fod yn rhaid i ni gael cyllid llawn yn lle'r cronfeydd y byddem yn eu colli pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Er bod y Ceidwadwyr yn ailadrodd yr honiad cyffredinol a glywsom yn rheolaidd gan Lywodraeth y DU heb unrhyw sylwedd hyd yn hyn, efallai y bydd wedi gweld sylwadau yn eu maniffesto sy'n awgrymu hefyd y gallai'r gwaith o reoli'r cronfeydd hynny fod yn digwydd ar lefel y DU gyfan. A gwn ei fod yn rhannu fy ngwrthwynebiad llwyr i a'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon i'r ffordd honno o weithredu yn y dyfodol. Mae'n hanfodol, o safbwynt democrataidd a safbwynt datganoli, ond hefyd o safbwynt buddsoddiad effeithiol mewn blaenoriaethau ledled Cymru, fod y penderfyniadau ynglŷn â sut y caiff y cyllid hwnnw ei wario yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar y math o gyngor y gwn y bydd yn deillio o'r gwaith y mae ei bwyllgor yn ei wneud.
Symudwn ymlaen yn awr at gwestiynau’r llefarwyr, a llefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mantra'r Torïaid ar gyfer yr etholiad hwn yw eu bod yn mynd i gael Brexit wedi'i wneud. Gwyddom fod hynny'n gelwydd, ac yn fwy na hynny, mae'n amlwg bellach fod y bygythiad o 'ddim cytundeb' ar ddiwedd 2020 hyd yn oed yn fwy. Weinidog, a ymgynghorodd Boris Johnson neu Michael Gove â Llywodraeth Cymru cyn dweud wrth y wasg nad oes ganddynt unrhyw fwriad i ymestyn y cyfnod pontio?
Nid wyf yn ymwybodol fod hynny wedi digwydd, a chredaf y bydd hi'n gwybod mai un o'n pryderon mwyaf ynghylch telerau'r cytundeb a gyflwynodd Prif Weinidog y DU i'r Senedd—a gwn ei bod yn rhannu'r pryder hwnnw—yw'r ffaith, fel y dywedodd yn ei chwestiwn, nad oes unrhyw obaith o gwbl mewn gwirionedd y bydd trefniadau y byddem yn eu hystyried yn dderbyniol mewn unrhyw fodd yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu rhoi ar waith erbyn diwedd y cyfnod pontio.
Ie, sefyllfa druenus iawn yn wir. Weinidog, fe fyddwch yn gwybod y bydd ein Senedd, y prynhawn yma, yn trafod cynnig Plaid Cymru ar breifateiddio'r GIG. Yng ngwelliannau eich Llywodraeth i'r cynnig, nid ydych wedi dileu cymalau sy'n nodi y gallai cytundeb masnach ôl-Brexit yn y dyfodol rhwng y DU a'r UDA yn hawdd fod yn drychinebus i GIG Cymru. Felly, rwy'n cymryd bod y Llywodraeth yn cytuno â'r pwynt hwnnw, ond nid ymddengys y byddwch yn cefnogi ein hateb, sef, yn rhannol, diddymu adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Nawr, mae'r adran honno'n caniatáu i Lywodraeth y DU anwybyddu datganoli i bob pwrpas mewn perthynas â chytundebau masnach. Rwy'n sylweddoli nad yw masnach yn rhan o'ch portffolio, ond rydych wedi siarad yn y gorffennol ynglŷn â sut y mae angen edrych ar adran 82 eto gan iddo gael ei ddrafftio cyn Brexit. Pam na fyddech yn cefnogi ei diddymu?
Gwn y bydd yr Aelod yn gyfarwydd â gwaith yr Institute for Government a'u hadolygiad trylwyr o'r trefniadau a wnaed gan nifer o gyfansoddiadau, nifer o wladwriaethau, hyd yn oed y rheini sy'n meddu ar gyfansoddiadau ysgrifenedig ffederal, o ran y modd y maent yn ymdrin â chwestiynau ynghylch effaith cytundebau rhyngwladol ar yr hyn y byddem yn ei ddisgrifio yma fel cymhwysedd datganoledig. Rwy'n gwbl glir ei bod hi'n llygad ei lle'n dweud bod gennyf bryderon sylweddol ynglŷn â'r hyn y gwyddom ei fod wedi codi o'r ddogfen a wnaed yn gyhoeddus yn ddiweddar a'r mandad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth yr UDA mewn perthynas â'u dyheadau ynghylch cytundeb masnach gyda'r DU. Mae'n gwbl amlwg o hynny mai eu bwriad yw ceisio cael mynediad at y GIG, a'i fasnacheiddio, ei farchnadeiddio a'i ddefnyddio i godi costau meddyginiaethau er budd eu cwmnïau fferyllol eu hunain. Felly, rhannaf ei phryderon difrifol ynghylch yr hyn yr ymddengys ei fod dan ystyriaeth.
Ond y math o drefniant y mae hi a chynnig Plaid Cymru o'i blaid yw feto, yn y bôn, ar gytundebau rhyngwladol, a'n barn ni—a chredaf ei bod wedi'i mynegi yn glir iawn, yn fwyaf diweddar yn y ddogfen a gyhoeddodd y Prif Weinidog am ddiwygio'r cyfansoddiad yn gyffredinol—yn gyson â phob cyfansoddiad ffederal arall, rwy'n credu, nid fy mod yn honni bod ein cyfansoddiad ni'n ffederal, ar wahân i gyfansoddiad Gwlad Belg, yw mai'r mecanwaith priodol ar gyfer ymdrin â hynny yw sefydlu mecanwaith i wladwriaethau nad ydynt yn cyfateb i'r wladwriaeth ffederal yn y cyfansoddiadau hyn i ddylanwadu'n wirioneddol ar fandad a negodiadau'r cytundebau hynny. A chredaf fod honno'n ffordd well inni fwrw ymlaen mewn perthynas â'r cwestiwn hwn.
Diolch am eich eglurhad, Weinidog. Nid wyf yn synnu eich bod yn rhannu ein pryder ynglŷn â'r sefyllfa, a buaswn yn eich annog, os gwelwch yn dda, i ailystyried cefnogi ein hateb i hyn hefyd yn y ddadl y prynhawn yma. Ond rydych wedi sôn eisoes fod rhan arall o’r cynigion a gyflwynwyd gennym yn ein cynnig yn ymwneud â chael feto ar gytundebau masnach, ac rydych hefyd wedi cyfeirio at y ffaith bod cynsail i hyn yn Walonia yng Ngwlad Belg. Rhanbarth o Wlad Belg yw hwnnw. Weinidog, os caf ofyn i chi: os oes gan ranbarth Walonia yng Ngwlad Belg hawl i amddiffyn ei ddinasyddion drwy gael feto ar gytundebau masnach, ac unwaith yn unig y maent wedi'i defnyddio; nid yw'n rhyw fath o fesur rhwydd y maent yn ei ddefnyddio drwy'r amser, ond os oes gan un o ranbarthau Gwlad Belg yr hawl honno, pam, Weinidog, nad ydych yn credu y dylai cenedl Cymru gael yr un peth?
Oherwydd nad wyf o'r farn fod unrhyw fodd cymharu trefniadau cyfansoddiadol Gwlad Belg â chyfansoddiad y Deyrnas Unedig. Ac mae'r safbwynt y mae'n dadlau o'i blaid yn gyson â'r cwestiwn ynghylch annibyniaeth, a dyna lle mae'r cwestiwn yn dechrau ac yn gorffen, ac mae hi'n gwybod nad yw'r meinciau hyn yn cefnogi'r amcan cyfansoddiadol hwnnw.
Hoffwn dynnu ei sylw at y ffaith mai'r enghraifft a nodir amlaf fel esiampl o gyfranogiad Llywodraethau is-wladwriaethol, fel y'u gelwir yn aml, wrth negodi trefniadau gyda'r Undeb Ewropeaidd, yw enghraifft Canada, lle bu rhai o daleithiau Canada yn rhan uniongyrchol o'r trafodaethau hynny i bob pwrpas. Nid yw cyfansoddiad Canada, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn adlewyrchu'r egwyddorion y mae hi'n dadlau o'u plaid, ac mae Plaid Cymru yn dadlau o'u plaid yn eu cynnig heddiw, ond serch hynny, roedd y taleithiau yn yr enghraifft honno'n rhan o'r trafodaethau hynny. A dyna'r mathau o drefniadau y credwn eu bod yn effeithiol o ran eu sylwedd, a dyna ddylem ganolbwyntio arno. Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i roi set bragmatig a synhwyrol o drefniadau ar waith a fyddai’n caniatáu inni gymryd rhan arwyddocaol yn y gwaith o gytuno ar y mandad.
A dywedaf hefyd, o safbwynt ein partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd, eu bod yn cydnabod bod goblygiadau i'w cael o ran sut y caiff cynnwys unrhyw berthynas yn y dyfodol ei weithredu a'i wireddu yng nghyfansoddiad datganoledig y Deyrnas Unedig. Felly, ein dadl ni yw ei bod o fudd i Lywodraeth y DU, a'i hygrededd yn y trafodaethau hynny, i'n Llywodraeth ninnau gael llais wrth drafod y mandadau a'r trafodaethau hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio, yn gywir, rwy'n credu, iddo ef a minnau drafod y mater diwethaf hwnnw gyda Llywodraeth Fflandrys ym Mrwsel.
Wythnos cyn etholiad cyffredinol y DU, mae'n ddealladwy y byddech yn cyfeirio'n ddilornus, fel y gwnaethoch ychydig eiliadau yn ôl, at faniffesto Ceidwadwyr y DU. Ond serch hynny, a wnewch chi o leiaf groesawu’n ofalus y datganiad a geir ynddo y bydd cronfa ffyniant gyffredin y DU yn cael ei defnyddio i ddod â'r Deyrnas Unedig gyfan ynghyd, ac na fydd unrhyw gyllid cyfatebol yn cael ei golli yng Nghymru?
Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud gormod o ddatganiadau a heb wneud digon o weithredu. Ac rydym wedi dweud yn glir dro ar ôl tro ein bod am weld cyflawniad, nid geiriau teg. Ac mae Llywodraeth y DU yn gweithredu o dan y camsyniad, mewn perthynas â'r gronfa ffyniant gyffredin, fod yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn (a) yn ymgysylltu'n briodol â Llywodraeth Cymru a buddiannau Cymru yn y broses o gynllunio hynny, a (b) yn parchu'r setliad datganoli mewn unrhyw fodd. Felly, er i mi ddarllen y llinell honno yn y maniffesto, nid oedd hi ronyn yn fwy credadwy na'r nifer o achlysuron eraill y cafodd ei defnyddio, heb unrhyw ganlyniad.
Wel, fe ddywedaf wrthych beth y mae'r Blaid Geidwadol wedi rhoi manylion yn ei gylch: byddwn yn gwarantu na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid; byddwn yn darparu cyllid cyfatebol ar gyfer amaethyddiaeth drwy gydol Senedd nesaf y DU; ac yn bwysicaf oll, byddwn yn cyflawni'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ac y maent yn parhau i'w gefnogi.
Mae eich maniffesto ar gyfer y DU yn dweud wrthym sut nad ydych am i gyllid gael ei ddyrannu, ond nid yw'n rhoi unrhyw syniad inni sut y byddech yn dyrannu cyllid—Llafur yn cymylu'r dyfroedd yn y gobaith na fydd pobl Cymru yn sylwi eich bod yn bradychu Brexit am nad ydych eisiau ei gyflawni. Felly, os na fyddai ots gennych ddarparu manylion, o'ch safbwynt chi, pa gynigion sydd gennych chi a'ch plaid yn lle'r ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu ar ôl i'r DU adael yr UE?
Wel, fe'i cyfeiriaf at gynnwys y ddogfen a gyhoeddwyd gennym ar ddiwedd 2017, sy'n disgrifio ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol cyllid rhanbarthol yng Nghymru a gwaith y grŵp llywio a gadeirir gan Huw Irranca-Davies, sef pwnc ein trafodaeth flaenorol ac sydd wedi arwain at gynigion interim diddorol iawn yn fy marn i. Rydym wedi dweud yn glir iawn beth yw'r blaenoriaethau yr hoffem eu gweld fel Llywodraeth yn sgil buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol—sef cefnogi cymunedau cynaliadwy, busnesau cynhyrchiol, economi ddi-garbon, a hyrwyddo cydraddoldeb ledled Cymru, a gwneud hynny ar sail lle mae'r cenedlaethol, y rhanbarthol a'r lleol yn gweithio gyda'i gilydd yn y ffordd fwyaf effeithiol i gyflawni hyn ar lawr gwlad.
Hoffwn ddweud fy mod yn clywed enghreifftiau dro ar ôl tro gan Lywodraeth y DU o sut y mae polisi rhanbarthol wedi gweithio’n effeithiol yn Lloegr. Mae arnaf ofn os mai dyna’r model sydd gan Lywodraeth y DU mewn golwg ledled y DU, gan y daethpwyd i'r casgliad dro ar ôl tro—yn enwedig gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Senedd—fod y ffordd y mae’r cwmnïau menter lleol, er enghraifft, ledled Lloegr wedi ymdrin â'r cwestiwn ynghylch buddsoddiad rhanbarthol yn druenus o annigonol. Ac rwy'n ofni mai dyna sydd gan y Ceidwadwyr mewn golwg ar gyfer Cymru.
Wel, roeddwn yn cyfeirio at faniffesto eich plaid ar gyfer y DU, nad yw’n rhoi unrhyw syniad sut y byddent yn dyrannu’r cyllid. Felly, ymddengys naill ai nad ydynt wedi darllen eich dogfen neu nad ydynt yn cytuno â hi.
Ond fe ddywedoch chi'n gwbl gywir na ddylai Cymru golli unrhyw gyllid cyfatebol o ganlyniad i adael yr UE a bod yn rhaid parhau i wneud pob penderfyniad ynghylch y cyllid hwn yng Nghymru, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae'n ofynnol mewn perthynas â phob dyfarniad cyllid Ewropeaidd fod prosiectau'n gallu darparu tystiolaeth lawn i gefnogi eu holl wariant a gweithgarwch y prosiect. Felly, mae angen i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru gasglu a dadansoddi'r wybodaeth a'r ystadegau a gasglwyd o brosiectau unigol, gan fod y cyllid Ewropeaidd hwnnw'n arian cyhoeddus, ac mae'n rhaid i bob prosiect wynebu lefel o archwilio a dilysu i sicrhau cymhwysedd gwariant a gweithgarwch, gyda gwiriadau yn erbyn canllawiau rhaglenni a dyfarniadau grantiau a chontractau unigol, a hyd yn oed y posibilrwydd y gellid hawlio arian yn ôl.
Felly, pan fyddwn yn gadael yr UE, pa gynigion sydd gennych ar waith, i sicrhau bod system newydd yn barod i fynd, gyda swyddfa cyllid y DU yng Nghymru a fydd yn gallu darparu tystiolaeth lawn i gefnogi'r holl wariant a gweithgarwch prosiectau yn unol â rheolau marchnad sengl y DU y bydd y pedair Llywodraeth wedi cytuno arnynt erbyn hynny, gobeithio?
Wel, rwy’n canmol yr Aelod am ymwneud â manylion hyn mewn ffordd yr ymddengys bod ei gyd-Aelodau seneddol yn San Steffan wedi gwrthod ei wneud â Llywodraeth Cymru.
Fe'i cyfeiriaf at y ddau edefyn o waith rydym wedi'u trafod yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Un yw'r gwaith, unwaith eto, sef gwaith y grŵp llywio a gadeirir gan Huw Irranca-Davies, sy'n cael sylwadau gan bob sector yng Nghymru. A'r ail faes gwaith sy'n berthnasol i hyn yw adolygiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gomisiynodd y Prif Weinidog pan oedd yn Weinidog Cyllid, adolygiad y bwriedir iddo lywio'r ffordd y datblygwn ac y defnyddiwn y cronfeydd rhanbarthol yn y dyfodol, gan ddefnyddio arferion gorau o rannau eraill o'r byd.
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr, fel y mae ei gwestiwn yn ein herio, i ddarparu system sy'n ymatebol, yn hyblyg, yn integreiddiadwy ac sydd hefyd yn rhoi'r pwysigrwydd cywir i'r cwestiwn ynghylch archwilio a thryloywder, sef yr hyn y mae ei gwestiwn yn ei nodi. Ac rydym yn gobeithio y bydd y gwaith hwnnw'n ein harwain i allu ymgynghori yn fwy manwl yn y flwyddyn newydd mewn perthynas â'r rheini. Ond mae set ddatblygedig iawn o ffrydiau gwaith, sy'n ymdrin â'r un math o gwestiynau y mae'n eu codi yn ei gwestiwn, a'r unig beth y buaswn yn ei ddweud yw y buaswn yn ailadrodd y cais a wneuthum i Lywodraeth y DU i ymgysylltu â ni ar hyn. Rydym wedi datblygu ein hystyriaethau yma i raddau pell iawn ac rydym yn awyddus iddynt ymgysylltu â ni'n briodol ar y cwestiwn hwn yn hytrach na pharhau i roi'r addewidion y maent wedi methu eu cadw hyd yn hyn.
3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb? OAQ54791
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n rheolaidd â Llywodraeth y DU ar lefel weinidogol ac ar lefel swyddogol i sicrhau bod Cymru mor barod â phosibl ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' a allai fod yn drychinebus. Rydym bob amser wedi bod yn glir nad ydym yn cefnogi canlyniad 'dim cytundeb', ond bod cyfrifoldeb arnom i baratoi.
Wel, nid oes y fath beth â Brexit 'dim cytundeb' da wrth gwrs. Byddai'n drychinebus i Gymru. Gwyddom y byddai'n gwneud niwed enfawr i'r diwydiannau sy'n dibynnu ar gytundebau masnach gyda'r UE, ei bod hi'n debyg fod ein GIG gwerthfawr ar werth, ac y bydd effaith negyddol ar ein diogelwch a'r amgylchedd a hawliau gweithwyr. Ac eto, ni fydd Llywodraeth y Torïaid yn ei ddiystyru; maent yn gadael 'dim cytundeb' ar y bwrdd.
Ar y llaw arall, Llywodraeth Lafur y DU yw'r unig blaid sy'n cynnig ffordd ddemocrataidd i bobl Cymru a'r DU gyfan allan o'r llanastr hwn drwy gael gwared ar fygythiad Brexit 'dim cytundeb', negodi cytundeb gwell a'i roi gerbron y bobl mewn dewis naill ai i dderbyn y cytundeb hwnnw neu i aros yn yr UE. A byddai Llafur Cymru'n ymgyrchu i aros pe bai'r refferendwm hwnnw'n cael ei gynnal. Felly, a ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid i bobl Cymru gael y gair olaf ar Brexit?
Rwy'n cytuno â hynny, ac rwy'n cytuno â'r Aelod y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn tynnu Brexit 'dim cytundeb' oddi ar y bwrdd, gan fy mod yn cytuno â hi nad oes y fath beth â Brexit 'dim cytundeb' da. Ond credaf ei bod hithau a minnau hefyd yn cytuno nad oes y fath beth â Brexit da, ac felly, yn y sefyllfa honno, pe baem yn cael cyfle i gael refferendwm, gwn y byddai hithau a minnau yn ymgyrchu gyda'n gilydd, fel y byddai'r holl Aelodau ar y meinciau hyn, i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cynnal refferendwm arall ar Brexit yn ei chael ar economi Cymru? OAQ54796
Mae bygythiad Brexit wedi crebachu twf yr economi a byddai cael gwared ar y bygythiad hwnnw, heb os, yn darparu ysgogiad economaidd. Yn 'Dyfodol mwy disglair i Gymru', gwnaethom nodi'r dystiolaeth i ddangos pam mai aros yn yr Undeb Ewropeaidd yw'r ffordd orau o ddiogelu buddiannau Cymru.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'n drueni i Gymru eich bod chi a'ch Llywodraeth a'ch brodyr dros y ffin am barhau â'r ansicrwydd sy'n amharu ar fusnesau Cymru gan na chawsoch chi a'ch cynghreiriaid yn y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru sydd o blaid aros eich ffordd yn 2016. Mae Llafur wedi dweud y byddech yn ymgyrchu i aros pe cynhelid refferendwm arall. Rydych am i'r dewis fod rhwng Brexit mewn enw yn unig ac aros—refferendwm wedi'i rigio ar gyfer aros yw hynny a dim arall.
Ni weithiodd yr holl godi bwganod ar yr etholwyr, felly rydych wedi cael eich gorfodi yn awr i fod yn ddi-flewyn-ar-dafod ynglŷn â'ch diffyg parch tuag at ewyllys democrataidd pobl Prydain a phobl Cymru. Felly, gan mai eich nod yw nid yn unig gohirio Brexit ond gwrthdroi Brexit, a ydych yn credu y bydd pleidleiswyr yn deall bod pleidleisio dros Lafur yn union yr un fath â phleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru?
Mae'n syndod i mi fod gan yr Aelod, sy'n cynrychioli rhan o Gymru sydd wedi elwa cymaint o aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd ac sy'n parhau i ddibynnu ar gyfleoedd cyflogaeth a gefnogir gan aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, agwedd mor ffwrdd-â-hi mewn perthynas â'r cwestiwn economaidd sylfaenol hwn. Ac mae'n ein gwahodd i edrych ar fyd lle mai achos yr ansicrwydd yw ein polisi yma, pan wyddom yn iawn y byddai'r math o Brexit caled neu Brexit 'dim cytundeb' y mae'n dadlau o'i blaid yn golygu y byddem yn cael sgyrsiau am Brexit yn y Siambr hon am y degawd nesaf a thu hwnt.
Mae'r syniad bod y math o Brexit y mae hi am ei weld yn dod â'r ansicrwydd i ben yn hytrach nag arwain at ddegawdau o ansicrwydd parhaus yn gwbl ffug. Yr unig ffordd o dynnu llinell o dan hyn yw rhoi'r mater hwn yn ôl gerbron y cyhoedd ac ymgyrchu a llwyddo gyda'r ymgyrch dros aros.
Credaf fod y ffaith bod Michelle Brown yn gofyn, 'Sut y gwyddoch pa fath o Brexit rwyf ei eisiau?' yn dangos yn eithaf clir fod ansicrwydd hyd yn oed ymhlith meinciau'r rhai sydd yma oherwydd Brexit. Nid ydynt yn gwybod beth y maent ei eisiau.
Ond y gwir amdani—rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Weinidog—yw fod refferendwm o leiaf yn caniatáu i bobl Cymru edrych ar y dystiolaeth sydd gennym bellach, nad oedd gennym yn 2016, er mwyn llunio barn ynglŷn â'r hyn sydd orau i ni. Ac wrth gwrs, mae yna wahanol asesiadau o'r hyn y gallai Brexit ei wneud i'r economi, ac a fyddech chi fel Gweinidog yn cytuno mai'r hyn sydd gennym yn y gwahanol asesiadau hynny yw y gallai fod yn ddrwg, yn ddrwg iawn, neu'n ofnadwy o ddrwg?
Ydw. Credaf fod yr Aelod yn taro'r hoelen ar ei phen—mae'r cyfle i roi'r cwestiwn yn ôl gerbron y cyhoedd yn caniatáu i bobl werthuso'r dystiolaeth sydd gennym bellach. Ac nid ydym yn siarad mwyach am ganlyniadau damcaniaethol ceisio gadael yr Undeb Ewropeaidd; rydym eisoes yn sôn am y canlyniadau go iawn, ac nid ydym wedi gadael eto. Felly, gwyddom fod yr economi 2.5 y cant yn llai nag y byddai fel arall. Cawsom ddadansoddiad yn ddiweddar sy'n cefnogi hynny. Gwyddom fod buddsoddiad mewn busnesau oddeutu 26 y cant o dan duedd, ac nid ffigurau ar bapur yn unig yw hynny, ond swyddi, bywoliaeth pobl ac arian yn eu pocedi.
Ac mae'n llygad ei le i ddweud, hyd yn oed yn ôl dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun, fod hyd yn oed y fersiwn orau o'u cytundeb yn cael effaith andwyol iawn ar yr economi. Mae'n syndod i mi y gallai Llywodraeth y DU ddadlau o blaid llwybr gweithredu sydd, yn ôl eu ffigurau eu hunain, yn niweidio economi'r DU.
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch statws gwladolion tramor yr UE sy'n byw yng Nghanol Caerdydd, pe bai'r DU yn gadael yr UE yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf? OAQ54795
Rydym yn cyfathrebu'n rheolaidd ar lefel weinidogol a swyddogol gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynllun statws preswylydd sefydlog i ddinasyddion yr UE a statws gwladolion yr UE sy'n preswylio yma. Er nad y cynllun yw'r math o drefniant y byddem yn dymuno'i weld ar waith yn ddelfrydol, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod dinasyddion yr UE yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill yn ceisio am statws preswylwyr sefydlog.
Diolch. Yr wythnos hon, siaradais â theulu—mae un ohonynt o Gymru, a'r llall o Wlad Pwyl—ac mae'r ddau ohonynt yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol ac yn gofalu am ddau blentyn bach. Maent yn poeni y gallent gael eu gwahanu pe bai Brexit yn digwydd, gan gofio, yn amlwg, yr hyn a ddigwyddodd gyda thrigolion Windrush. Rwy'n deall pam eu bod mor bryderus ynglŷn â hyn, ac nid hwy yw'r unig etholwyr sydd â phryderon o'r fath.
Rwy'n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru rywfaint o wybodaeth dda ar-lein ynglŷn â sut y dylai pobl geisio am statws preswylwyr sefydlog, gan gynnwys fideo sy'n arwain pobl drwy'r broses, sy'n amlwg yn ddefnyddiol iawn. Ond sut rydym yn sicrhau bod holl ddinasyddion yr UE yn gallu, ac yn sicrhau eu bod yn ymwybodol sut i wneud cais am statws preswylwyr sefydlog ac yn cael eu cynorthwyo i sicrhau eu bod yn ei gael? Oherwydd mae gennyf etholwyr eraill nad yw eu lefelau llythrennedd yn dda iawn. Nid ydynt o reidrwydd yn gweithio, ond efallai eu bod wedi byw yma ers amser maith, ac mae eu hanfon yn ôl i ryw wlad y gallent fod wedi eu geni ynddi yn swnio'n anhygoel o anaddas. Felly, tybed pa sgyrsiau, neu pa sicrwydd a gawsoch gan y Llywodraeth Geidwadol ymadawol hon na fyddwn yn gweld yr un peth yn digwydd i ddinasyddion Ewropeaidd â'r hyn a ddigwyddodd i ddioddefwyr Windrush, a gafodd eu hel o'r wlad hon a'u hanfon dramor, byth i weld eu plant neu eu hwyrion eto am eu bod yn rhy dlawd i ddychwelyd?
Wel, diolch i’r Aelod am dynnu ein sylw at y sefyllfa benodol honno, a chredaf ei bod yn disgrifio amgylchiadau sydd—. Rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom wedi cael etholwyr yn dod atom gyda'r lefel hon o bryder ynglŷn â'u gwahanol amgylchiadau personol. Er bod hwn yn fater a gedwir yn ôl, ac yn fater i'r Swyddfa Gartref ei hyrwyddo, fe fydd hi'n gwybod ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn darparu adnoddau Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio sicrhau bod pobl yn deall, ac yn cael eu cynorthwyo i wneud cais am y cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE.
Mae hi'n sôn am y fideo rwyf wedi'i ail-drydar drwy ffrwd Twitter y Llywodraeth heddiw, sy'n esbonio'n syml iawn i bobl sut y gallant wneud cais ar-lein. Buaswn hefyd yn ei chyfeirio hi ac Aelodau eraill at wefan eusswales.com, sy'n dwyn ynghyd yr holl adnoddau a ffynonellau cymorth a chyngor y gall dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru eu ceisio er mwyn eu cynorthwyo i ymgeisio am statws preswylwyr sefydlog.
Ond credaf fod ei chwestiwn yn awgrymu pryder sy'n dweud, 'Wel, nid yw pawb yn byw eu bywyd ar-lein, efallai, ac ni fydd pawb wedi nodi'r angen i roi'r camau hyn ar waith.' A chredaf fod hwnnw'n bryder go iawn. Er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r garfan honno o bobl, a allai fod yn eithaf sylweddol, rydym wedi ceisio dosbarthu posteri a thaflenni drwy ystod o sianeli. Mae peth o'r gwaith y mae'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, a Settled, a elwid gynt yn the3million, wedi bod yn ei wneud fel rhan o grŵp cydgysylltu EUSS Cymru wedi ceisio nodi rhwydweithiau anffurfiol gwahanol gymunedau o ddinasyddion yr UE. Felly, golyga hynny edrych ar ble y gellir darparu gwybodaeth mewn siopau bwyd, mewn caffis, mewn eglwysi a grwpiau cymdeithasol eraill, er mwyn ceisio defnyddio'r fforymau hynny i godi ymwybyddiaeth.
Credaf i chi sôn bod un o'ch etholwyr yn gweithio yn y GIG, a chafwyd ymdrech i godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithlu'r GIG—yn amlwg, mae nifer sylweddol o'r rheini'n ddinasyddion yr UE—fel eu bod yn deall pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt gan Lywodraeth Cymru.
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau Brexit i GIG Cymru? OAQ54797
Mae gan Brexit ystod o oblygiadau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn y tymor byr ac yn hirdymor. Prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru bob amser fydd diogelu a gwarchod buddiannau GIG Cymru, ei gleifion a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Diolch, Weinidog. Fe gyfeirioch chi yn eich ateb cynharach i Delyth Jewell at y ddogfen a ddatgelwyd yr wythnos diwethaf gan y Blaid Lafur. Roedd y ddogfen honno'n datgelu'r ffaith bod ein GIG yn sicr yn agored i'w werthu mewn unrhyw sgyrsiau masnach rhwng y DU a'r UDA. A ydych yn rhannu fy mhryder, os aiff Brexit yn ei flaen o dan Lywodraeth Dorïaidd, y byddwn yn rhoi ein GIG mewn perygl o gael ei fasnacheiddio a'i farchnadeiddio, ac a fyddech yn cytuno â mi mai'r unig ffordd i atal hynny yw drwy aros yn yr Undeb Ewropeaidd a chael gwared ar y Llywodraeth Dorïaidd hon?
Yn sicr. Buaswn yn cymeradwyo'r hyn y mae'r Aelod newydd ei ddweud 100 y cant. Byddai Llywodraeth Geidwadol newydd yn rhoi’r GIG ar y bwrdd mewn trafodaethau masnach gyda Donald Trump. Nid wyf wedi fy narbwyllo o gwbl, a gwn na fydd hithau chwaith, gan ymdrechion Arlywydd yr UDA i'n taflu oddi ar y trywydd hwnnw, sy'n amlwg i bob un ohonom yn fy marn i.
Mae'r ddogfen, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn ymwneud â sgyrsiau a gafwyd rhwng swyddogion y DU a'r UDA cyn i fandad negodi'r UDA gael ei gyhoeddi. Felly, nid yw'r mandad hwnnw, os ydych wedi'i ddarllen, yn dweud yn unman fod gwasanaethau iechyd wedi eu tynnu oddi ar y bwrdd, fel yr ymddengys bod Llywodraeth y DU bellach yn ceisio ein perswadio. Mae'n mynd allan o'i ffordd i sôn am fynediad marchnadoedd fferyllol i'r DU. Un peth yn unig y gall hynny ei olygu yng nghyd-destun system ofal iechyd y DU. Felly, cytunaf yn llwyr â hi. Naill ai fod Llywodraeth y DU heb dynnu hyn oddi ar y bwrdd, neu nid yw wedi gwneud hanner digon i egluro'n glir i Lywodraeth yr UDA nad oes unrhyw ffordd y bydd y GIG yn destun negodi, a chytunaf yn llwyr â hi fod yn rhaid i ni sicrhau nad ydym yn cael Llywodraeth Geidwadol newydd a fyddai'n gwneud y GIG yn agored i'w werthu.
Diolch. Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ54794] yn ôl a thynnwyd cwestiwn 8 [OAQ54801] yn ôl. Felly, cwestiwn 9, Vikki Howells.
9. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ynghylch sut y bydd cronfa ffyniant gyffredin yn gweithio yn y dyfodol? OAQ54783
Rydym yn bryderus iawn fod argymhellion y Blaid Geidwadol ar gyfer y gronfa hon yn bygwth tanseilio datganoli a'r gwaith sy'n mynd rhagddo yng Nghymru. Pan ffurfir Llywodraeth newydd y DU, byddwn yn atgyfnerthu ein safbwyntiau mewn perthynas â chael y cyllid llawn a bod Llywodraeth Cymru yn cadw ei hymreolaeth ar sut i'w wario.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Mae cynllun olynol i gyllid strwythurol Ewropeaidd yn gwbl hanfodol i economi Cymru, ac ategwyd hyn unwaith eto bythefnos yn ôl mewn datganiad ar y cyd gan Prifysgolion Cymru, ColegauCymru, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Siambr Fasnach De Cymru, yr Undeb Prifysgolion a Cholegau a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae'r holl lofnodwyr hyn yn cytuno ac yn adeiladu achos cryf fod y cyllid hwn yn sylfaen hanfodol i ffyniant Cymru. Maent hefyd yn dadlau’n gryf fod yn rhaid i unrhyw benderfyniadau gwariant ar y rhaglen olynol gael eu gwneud yng Nghymru. A ydych yn cytuno â mi fod hyn yn hollbwysig os yw'r setliad datganoli i'w barchu?
Rwy'n cytuno â chi ar hynny, a chredaf fod y rhestr rydych wedi'i darllen o sefydliadau a chyrff yng Nghymru sy'n pryderu ynglŷn â'r perygl y bydd Llywodraeth y DU yn methu cyflawni'r addewidion mawr a wnaeth yn y maes hwn yn dangos, yn fy marn i, ehangder a dyfnder ac undod y farn ar y cwestiwn hwn ym mhob cwr o Gymru. Nid barn leiafrifol mo hon. Mae'n bryder mawr ym mhob sector ledled Cymru, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i siarad ag un llais ar y cwestiwn hwn. Ysgrifennais at Lywodraeth y DU ychydig wythnosau yn ôl, yn dweud yn gwbl glir nad oeddwn o'r farn fod y ffordd roeddent yn ymdrin â thrafodaethau ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin yn parchu'r setliad datganoli mewn unrhyw ffordd, ac yn dweud yn glir, os oeddent am fwrw ymlaen i ymgynghori ar y gronfa ffyniant, y dylid gwneud hynny ar sail gwbl ddatganoledig, felly byddent yn ymgynghori yn Lloegr a byddem yn ymgynghori fel Llywodraeth Cymru mewn perthynas â threfniadau yma yng Nghymru. Rwyf wedi gwneud y cais hwnnw sawl gwaith ac nid wyf wedi cael ateb sy'n cadarnhau mai dyma fyddant yn ei wneud, ac os yw hynny'n golygu mai fel hyn y mae Llywodraeth y DU yn dymuno bwrw ymlaen â hyn, credaf na fydd hynny er budd Cymru o gwbl a bydd yn torri'r addewid y maent wedi'i wneud dro ar ôl tro.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol.
Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn y prynhawn yma. Mae'r cyntaf i'w ateb gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. David Rees.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel ynghylch colli 1,000 o swyddi yn y DU? 372
Gwnaf, wrth gwrs. Mae'r cyhoeddiad hwn yn newyddion hynod o siomedig a bydd hwn yn gyfnod pryderus iawn i weithwyr Tata Steel a'u teuluoedd. Rwy'n parhau i ymgysylltu â'r cwmni ac undebau llafur i ddeall beth y mae hyn yn ei olygu i'r busnes yng Nghymru a'r miloedd lawer o bobl deyrngar a gyflogir ar ei safleoedd.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Dair wythnos yn ôl yn unig, clywsom y newyddion gan Tata y bydd 3,000 o’u swyddi'n cael eu colli ledled Ewrop, ac roeddwn yn gwerthfawrogi eich datganiad ysgrifenedig ar 18 Tachwedd a'ch datganiad llafar ar 19 Tachwedd yn fawr. Dair wythnos yn ddiweddarach, ac rydym bellach yn cael datganiad arall sydd yr un mor amwys, ar un ystyr, â'r datganiad cyntaf. Yn y datganiad llafar ar 19 Tachwedd, fe ddywedoch y byddai'r cwmni'n gweithio dros yr ychydig fisoedd nesaf, lle byddent yn nodi'r swyddogaethau gwaith, ac eto dair wythnos yn ddiweddarach, cawn y cyhoeddiad hwn y bydd 1,000 ohonynt yn y DU. Tybed a oeddech yn ymwybodol o'r hyn a wnaeth iddynt newid eu meddyliau a gwneud cyhoeddiad pellach mewn cyn lleied o amser.
Nid wyf yn ymddiheuro heddiw, Weinidog, am ailadrodd llawer o'r pethau a ddywedwyd gennym ddwy, dair wythnos yn ôl, gan eu bod yn faterion pwysig y mae Aelodau yn y Siambr hon am gael atebion iddynt, ac yn bwysicach fyth, mae gweithwyr dur a'u teuluoedd am gael atebion iddynt. Fel y dywedwch, mae gweithwyr dur yn wynebu ansicrwydd. Yn 2016, ychydig ar ôl y Nadolig, cawsom gyhoeddiadau gan Tata a oedd yn rhoi gweithwyr dur o dan fygythiad. Ychydig cyn y Nadolig hwn, yn 2019, rydym yn gweld cyhoeddiadau tebyg, sy'n peri ansicrwydd i weithwyr dur a'u teuluoedd, gyda phosibilrwydd o golli swyddi yn y misoedd i ddod. A ydych yn cytuno fod hon yn ffordd wael o drin y gweithwyr—fel y dywedoch chi, gweithwyr teyrngar ac ymroddedig sydd wedi rhoi ymrwymiad i'r diwydiant i sicrhau hyd eithaf eu gallu ei fod yn parhau'n ddiwydiant cynaliadwy, hyfyw?
Rydych wedi nodi eto eich bod wedi siarad â'r undebau llafur. A ydych wedi cael ymrwymiad gan Tata y bydd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gyda’r undebau llafur yn cael ei barchu fel na fydd yn rhaid dileu swyddi unrhyw weithwyr yn orfodol, gan iddynt ildio ymrwymiad yn eu cynlluniau pensiwn i ganiatáu’r cytundeb hwnnw?
A oes gennych fwy o fanylion ynglŷn â ble y gallai'r swyddi hynny gael eu colli? Mil yn y DU. Mae oddeutu 8,000 yn gweithio i Tata UK. Mae mwyafrif y rheini, os nad pob un ohonynt, bron â bod, yng Nghymru. Felly, mae'n amlwg y bydd hyn yn arwain at oblygiadau i swyddi dur Cymru. Ac felly, mae'n bwysig eich bod yn ystyried ble mae'r swyddi hyn a'r ardaloedd y mae angen i chi weithio gyda hwy i helpu'r cymunedau hynny.
Unwaith eto, buom yn siarad am gadwyni cyflenwi, oherwydd os bydd swyddi'n cael eu colli yn Tata, mae'n debygol yr effeithir ar gadwyni cyflenwi neu gontractwyr a'r rheini sy'n dod i mewn i wneud y swyddi eraill. A ydych wedi gwneud dadansoddiad ac wedi cael trafodaethau gyda Tata ynglŷn â'r effaith ar eu cadwyni cyflenwi?
Weinidog, fe dynnoch chi sylw hefyd at y ffaith iddynt grybwyll pedwar maes yn y llythyr gwreiddiol yn gynharach ym mis Tachwedd. Roedd costau cyflogaeth yn un ohonynt. A ydych wedi cael trafodaethau ar y tri arall, ynglŷn â sut y maent yn bwriadu edrych ar gynhyrchu gwell cymysgedd o gynnyrch? Sut y maent yn bwriadu lleihau costau caffael? Pa brosesau optimeiddio neu gynhyrchu a fydd yn cael eu defnyddio? Ac a fyddant yn edrych am gymorth yn y meysydd hynny? A yw'r trafodaethau hynny wedi cychwyn eto?
Ac a ydych yn dal i fod yn sicr na fydd y swyddi hyn yn cael eu colli tan fis Mawrth 2021, o ystyried ein bod wedi cael diweddariad, bythefnos ar ôl y cyhoeddiad gwreiddiol, yn dweud y bydd 1,000 o swyddi'n cael eu colli yn y DU? Pryd y cawn yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â ble fydd y swyddi hynny’n cael eu colli? Mae mwy na hanner gweithwyr Tata UK yn gweithio ym Mhort Talbot. Ni allaf weld sut na fydd cyfran fawr o'r 1,000 o swyddi hynny ym Mhort Talbot. Maent yn etholwyr i mi, maent yn ffrindiau i mi, maent yn deulu i mi.
Mae angen i ni ddeall beth y mae hyn yn ei olygu i'r gymuned a'r gweithwyr hynny a'u teuluoedd. Mae amser yn mynd yn ei flaen, maent yn gwneud y sylwadau parod hyn a’r rhybuddion mawr ynghylch colli llawer o swyddi, ond heb unrhyw fanylion. Nid oes unrhyw un yn dweud wrthym ble y byddant yn cael eu colli, nid oes unrhyw un yn dweud wrthym pa swyddogaethau, pa feysydd, heblaw 'dwy draean yn weithwyr coler wen, a thraean yn weithwyr coler las'. Nid yw hynny'n golygu dim i lawer o weithwyr. Gallai gyfeirio at unrhyw un yn y gweithfeydd. Mae'n bwysig ein bod yn cael y manylion ac mae'n bwysig yn awr eu bod yn cyfathrebu â'u gweithlu fel y gallant roi sicrwydd iddynt ynglŷn â phwy yr effeithir arnynt.
A gaf fi ddiolch i Dai Rees am y cwestiwn amserol hwn? Mae llawer o'r hyn y mae wedi'i ddweud heddiw wedi cael ei ategu gan y Cyngor Gwaith Ewropeaidd a'r undebau llafur sy'n datgan yn glir iawn eu bod yn dymuno cael ymgynghoriad ystyrlon â Tata dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac er mwyn cael yr ymgynghoriad ystyrlon hwnnw, mae angen iddynt gael cymaint o fanylion â phosibl cyn gynted â phosibl.
Ddirprwy Lywydd, ar ôl y cyhoeddiad, roeddwn yn clywed rhai sylwadau fel, 'Wel, un peth da yn hyn i gyd yw'r ffaith y bydd dwy ran o dair o'r swyddi'n swyddi coler wen, byddant yn swyddi mewn swyddfeydd.' Edrychwch, swyddi yw'r rhain, pobl yw'r rhain. Ni waeth a ydynt yn gweithio ar lawr y ffatri neu mewn swyddfa, mae'r bobl hyn yn wynebu colli eu bywoliaeth. Ac ni waeth a ydynt yn swyddi coler wen neu'n swyddi coler las, rydym yn cydymdeimlo â'r sefyllfa y maent ynddi, a byddwn yn eu cefnogi ym mha ffordd bynnag y gallwn.
Bydd yn gyfnod eithriadol o anodd i lawer o bobl a fydd yn cwestiynu a fydd ganddynt swydd yn Tata ym mis Mawrth 2021. Nid yw'r cyhoeddiad diweddaraf yn ychwanegu llawer mwy at y cyhoeddiad a wnaed ar 18 Tachwedd. Yn y bôn, mae'n cadarnhau'r dyfalu a oedd yn digwydd yn ôl yng nghanol mis Tachwedd, pan gyhoeddodd y cwmni y byddai hyd at 3,000 o swyddi'n cael eu colli ar draws Ewrop. Ac ar y pwynt hwnnw, roedd llawer o ddyfalu y gallai tua 1,600 ohonynt fod yn yr Iseldiroedd a 350 arall mewn mannau eraill. Felly, roedd pobl yn tybio wedyn y byddai oddeutu 1,000 ohonynt yma yn y DU. Mae'r cyhoeddiad, yn ei hanfod, yn cadarnhau hynny, ond nid yw'n ychwanegu mwy o fanylion am y swyddi na lleoliad y swyddi a allai gael eu heffeithio. Dywedwyd wrthym eto y bydd y gwaith a fydd yn digwydd rhwng nawr a'r flwyddyn newydd yn cael ei wneud ar sail rolau unigol fel y byddwn yn gwybod, erbyn mis Chwefror y flwyddyn nesaf, pa swyddi y disgwylir iddynt gael eu colli yn ogystal â lleoliad y swyddi hynny.
Rydym yn cadw'r opsiwn o greu tasglu i gynorthwyo yn agored. Os oes crynhoad o swyddi'n cael eu colli ar unrhyw safle, byddai tasglu yn sicr yn ffordd synhwyrol o gefnogi'r gweithwyr hynny yr effeithir arnynt, ac felly rydym am gadw'r opsiwn hwnnw'n agored.
O ran goblygiadau i'r gadwyn gyflenwi, rydym yn gweithio drwy hyn yn awr. Rwyf eisoes wedi hysbysu Aelodau y bydd uwchgynhadledd weithgynhyrchu arbennig yn cael ei chynnal yn y flwyddyn newydd. Bydd y gadwyn gyflenwi ar gyfer y diwydiant dur, wrth gwrs, yn bryder allweddol yn yr uwchgynhadledd honno. Erbyn yr uwchgynhadledd, rydym yn gobeithio y byddwn wedi gallu cynnal dadansoddiad trwyadl o oblygiadau'r cyhoeddiad hwn i'r lleoliadau hynny yn ac o amgylch safleoedd presennol Tata yng Nghymru. Rwyf wedi cael gair byr â Tata ynglŷn â'r meysydd eraill lle maent yn ceisio arbed costau, gan gynnwys datblygu gwell cymysgedd o gynnyrch a'r gostyngiad mewn costau caffael a chostau nwyddau a gwasanaethau drwy drefniadau caffael mwy effeithiol ac effeithlon.
Hoffwn ddweud mai mis Mawrth 2021 yw'r dyddiad terfynol ar gyfer cwblhau gweithrediad y rhaglen drawsnewid ar gyfer gweithwyr. Fy awydd yn 2020 fydd sicrhau bod cyfnod pontio di-dor i unrhyw un a allai fod yn ddi-waith erbyn 2021 i waith arall o ansawdd uchel sy'n talu'n dda yn y rhanbarth.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn longyfarch Dai Rees ar gynrychioli'r sector dur, ac yn enwedig y gweithwyr ym Mhort Talbot, gyda'r fath egni dros flynyddoedd lawer. Rydym wedi cael nifer o sgyrsiau, rydym wedi sefyll ysgwydd wrth ysgwydd ar sawl achlysur i fynnu gwell bargen i'r sector dur yng Nghymru, ac mae'n briodol ein bod unwaith eto yn awr yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud hynny ac i gytuno ar fargen i'r sector dur a allai fod yn drawsnewidiol i'r sector, ac i sicrhau, unwaith ac am byth, ei bod yn datrys problem y prisiau ynni anghystadleuol.
Diolch ichi am yr atebion hynny, Weinidog. Tybed a allaf eich gwthio ychydig ymhellach ar rai o'r cwestiynau a gawsoch gan David Rees. Hoffwn ddechrau gyda'ch sylwadau olaf, fodd bynnag, ynglŷn â'r ffaith mai mis Mawrth 2021 yw'r dyddiad y bydd y rhaglen drawsnewid hon yn dod i ben. Mae'n gyfleus iawn, onid yw, fod hynny, yn y bôn, ar ddiwedd y warant pum mlynedd ar swyddi a roddwyd i ni gan Tata, a diwedd y tasglu o bosibl a'r cynnig o £60 miliwn a wnaethoch i Tata hefyd? Rwy'n meddwl tybed a gawsoch unrhyw arwydd gan Tata eu hunain mai un o'r rhesymau, efallai, nad ydynt yn gwneud hyn yn gyflymach yw oherwydd y cynnig a wnaeth Llywodraeth Cymru iddynt dros y blynyddoedd, neu a yw'n rhywbeth ychydig yn fwy sinigaidd na hynny, eu bod yn cael y gorau y gallant ei gael gennym cyn eu bod yn ei heglu hi.
Buaswn yn ddiolchgar hefyd pe gallech roi rhyw syniad i ni faint yn union rydych wedi ei wybod ac ar ba adegau yn ystod y tair wythnos diwethaf. Fel y gwyddoch, rwyf wedi ysgrifennu atoch ychydig o weithiau ac wedi cael gwybod, 'Wel, wyddoch chi, mae'r wybodaeth yn dod, ond nid ydym yn gwybod beth ydyw.' I fod yn deg, rwy'n credu fy mod wedi cael rhywbeth gennych heddiw sy'n dweud y bydd rhagor o wybodaeth ar gael gan Tata ym mis Chwefror 2020.
Ond dychwelaf at gwestiynau David Rees ynglŷn â'r dadansoddiad o ba fathau o swyddi a fydd yn cael eu colli a ble, oherwydd mae'n ddigon hawdd gwneud y cyhoeddiadau hyn, ond heb ddweud wrthym sut y maent wedi penderfynu pa fathau o swyddi fydd yn cael eu colli, dylem fod yn gofyn pam eich bod yn gwneud y cyhoeddiadau hyn o gwbl. Oherwydd os ydych yn siarad am—. Rwy'n credu eich bod wedi dweud mai costau cyflogaeth oedd y rheswm dros wneud y cyhoeddiad. Dylai fod gennym ryw fath o syniad pa swyddi y maent yn sôn amdanynt mewn gwirionedd. Ac rwy'n ymwybodol iawn, wrth gwrs, yn ôl yn 2016, fod nifer o'r swyddi a gollwyd yn y gyfres fawr o golledion yno yn swyddi gweithwyr coler wen. Mae'n debygol nad oes cymaint â hynny ar ôl yn Tata Port Talbot.
Yn olaf, roeddwn eisiau gofyn i chi, nid oes llawer o amser wedi bod ers i chi ddweud wrthym eich bod yn bwriadu cyfarfod â Tata i drafod eich cyhoeddiad argyfwng hinsawdd. A yw Tata wedi rhoi unrhyw arwydd i chi fod hwnnw wedi dylanwadu ar yr hyn sy'n debygol o fod yn newyddion drwg i Gymru? Ac os ydynt wedi awgrymu wrthych fod hynny'n ffactor, beth a wnaethoch i sicrhau Tata na ddylai fod yn rhywbeth iddynt ei ystyried yn eu hymrwymiad i Gymru yn y dyfodol? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Nid yw'r datganiad argyfwng hinsawdd wedi bod yn ffactor wrth iddynt wneud eu penderfyniadau. Mae Tata eu hunain yn cydnabod bod angen iddynt ymateb i'r argyfwng hinsawdd, fod angen iddynt wneud arbedion o ran costau ynni, a bod angen iddynt sicrhau eu bod yn datgarboneiddio eu hôl troed. Rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy, fel y gŵyr yr Aelod, ar y cynnig o fuddsoddiad o £8 miliwn yng ngorsaf bŵer Port Talbot a hefyd £666,000 ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu i ddatblygu cynnyrch newydd. Nawr, roeddem yn gwneud cynnydd da iawn yn y trafodaethau hyn o ran sicrhau bod yr amodau'n ddigonol, yn enwedig y rheini a oedd yn ymwneud â diogelu swyddi. Yn ein tro, roeddem yn agos iawn at ddod i gytundeb ar amodau yn gynharach eleni. Ond ers hynny, fe wyddom beth sydd wedi digwydd.
Mae nifer o gyhoeddiadau wedi bod, gan gynnwys methiant y fenter arfaethedig ar y cyd â ThyssenKrupp; y bwriad i gau Orb a'r cyhoeddiad diweddaraf yn awr. Mae hynny wedi peri oedi cyn cwblhau cytundeb ar amodau, ond ni fyddwn yn rhyddhau'r arian hwnnw nes ein bod yn hyderus y bydd y buddsoddiad yn cynnig gwerth am arian ac y bydd yn arwain at ddiogelu swyddi am nifer dda o flynyddoedd. Rydym yn gwbl benderfynol o ddefnyddio ein hadnoddau ariannol i warantu bod swyddi'n cael eu diogelu a bod buddsoddiad yn cael ei ddiogelu yng ngweithfeydd Cymru.
Mae'r Aelod yn gofyn am yr amserlen ar gyfer dadansoddi'r swyddogaethau a allai gael eu colli o ganlyniad i'r cyhoeddiad. Yr hyn y mae Tata wedi'i ddweud wrthym yw y byddant yn edrych ar ddwy ran o dair o'r swyddi'n dod o rolau rheoli a rolau swyddfa. Byddwn yn cyfarfod â hwy eto'n fuan iawn, ac mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd iawn, mewn ymdrech i gael gwell asesiad o ba rolau yn union a allai gael eu colli, fel y gallwn ddechrau'r broses o adeiladu systemau cymorth ar gyfer y bobl sydd fwyaf tebygol o golli eu swyddi.
O ran dyfodol hirdymor Tata, mae Tata wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro mai nod y mesurau hyn, y rhaglen drawsnewid, yw sicrhau bod y sector dur, neu, yn hytrach, gweithrediadau Tata o fewn y sector dur yn y DU, yn goroesi yn y tymor hir, ac y bydd yn rhyddhau buddsoddiad ar gyfer y safleoedd yng Nghymru ac ar draws y ffin hefyd. Nid oes gennyf reswm i beidio â chredu bod hyn yn hollol wir. Credaf fod Tata yn gweithredu'n ddidwyll pan fyddant yn fy sicrhau bod hyn yn ymwneud â buddsoddi yn nyfodol y gweithfeydd hynny. Serch hynny, buaswn yn annog Tata i sicrhau eu bod yn ymgynghori'n ystyrlon ac yn ymgysylltu'n briodol ag undebau llafur i sicrhau bod pob cymorth y gellir ei gynnig i weithwyr yn cael ei ddarparu.
Rwy'n gwybod bod llawer o'r cwestiynau wedi cael eu gofyn ond rwy'n gwybod, o'm safbwynt i, nad wyf yn gwerthfawrogi'r diferion o wybodaeth sy'n dod i'r amlwg fel hyn, yn enwedig yn y cyfnod hwn sy'n arwain at y Nadolig. Nid yw'n weithredu blaengar ar ran y cwmni ac mae hefyd yn erydu hyder y gweithlu. Fel y dywedais y tro diwethaf, mae'r cyfan wedi bod yn eithaf cyfrinachol. Nid yw llawer o'r bobl sy'n siarad â mi yn cael unrhyw wybodaeth glir am yr hyn sy'n digwydd. Anfonais e-bost at Tata pan anfonwyd y datganiad i'r wasg atom, yn gofyn am ddadansoddiad ar gyfer Cymru. Os ydynt wedi creu dadansoddiad ar gyfer y DU, sydd wedi deillio o'r dadansoddiad o'r swyddi a gollwyd yn Ewrop, does bosibl na allant gynnig rhyw fath o ffigur ar gyfer Cymru fel y gallwn roi pennau at ei gilydd a cheisio deall sut y bydd hyn yn effeithio ar Gymru. Felly, er eu bod wedi rhoi llawer o adnoddau i'r ardal leol—ac nid oes amheuaeth eu bod wedi gwneud hynny—rwy'n credu y bydd ymddiriedaeth yn y cwmni yn erydu os byddant yn parhau i weithredu fel hyn.
Roeddwn eisiau dweud, ers y tro diwethaf, rwy'n credu eich bod wedi camddehongli fy nghwestiwn ychydig bach ynglŷn â'r buddsoddiad. Nid oeddwn yn dweud na ddylem fuddsoddi ond rwy'n dweud, fel yr ategwyd gan yr hyn a ddywedodd Suzy Davies, os ydym yn buddsoddi, mae angen i ni fod 100 y cant yn sicr y bydd y cynlluniau'n mynd rhagddynt, fel rydych wedi'i ddweud, Weinidog, ar gyfer cadw'r gweithfeydd yma yng Nghymru yn y dyfodol. Felly, fy nghwestiwn yw: pa mor hyderus ydych chi y gallwn gael y cytundebau hynny er mwyn sicrhau bod y cytundebau a wnaethom rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, o ran yr orsaf bŵer a'r buddsoddiad sydd ei angen arnom, yn gallu mynd rhagddynt yn yr amgylchedd hynod fregus hwn? Rydym yn y tywyllwch, ond mae'r bobl sy'n gweithio yno yn y tywyllwch hefyd, ac nid ydym mewn sefyllfa dda i allu craffu'n effeithiol mewn trybini o'r fath.
Credaf fod y rhan fwyaf o'r cwestiynau wedi cael eu gofyn yn barod, ond rwy'n eich annog, gyda phwy bynnag sy'n bodoli yn Llywodraeth y DU, boed yn swyddogion neu'r Prif Weinidog, i edrych ar sut y gallwn ailafael yn y gwaith o gynllunio'r gweithlu dur ar lefel y DU, fel y gallwn weithio gyda'n gilydd ar hyn a gwneud yn siŵr fod dyfodol y diwydiant dur yn fyw ac yn iach yng Nghymru, yn hytrach na'i fod yn cael ei erydu dro ar ôl tro.
Mae'r Aelod yn llygad ei lle, mae hon yn broblem i'r DU gyfan. Mae llawer o ffactorau byd-eang, sydd, i raddau, y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth y DU, ond lle gall Llywodraeth y DU ddylanwadu, mae'n rhaid iddi ddylanwadu ar yr amodau a fyddai'n darparu dyfodol mwy sicr i gynhyrchu dur yn y DU. Nid wyf yn aros tan ddiwedd cyfnod yr etholiad cyffredinol i gysylltu â Llywodraeth y DU. Ar 25 Tachwedd, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gofyn iddi ailgynnull y cyfarfodydd bwrdd crwn ar ddur y DU a gafodd eu canslo ac y cyfeiriodd yr Aelod atynt yn briodol. Yn fy marn i, mae angen trafodaethau yn awr. Ni allwn aros tan y flwyddyn newydd cyn dechrau trafod, oherwydd mae'r sefyllfa'n newid bob dydd, gyda chyhoeddiadau fel hwn yn creu mwy a mwy o ansicrwydd i'r bobl a gyflogir yn y sector.
Roedd y cyhoeddiad yn eang iawn; roedd yn bendant yn ffigur pennawd o hyd at 3,000, heb unrhyw fanylion wedi'u hychwanegu ato. Ac o ganlyniad, mae hyd at 3,000 o swyddi yn dangos nad yw'r ffigur hwnnw o 3,000 yn sefydlog, a dyna pam rwy'n credu bod yn rhaid ymgynghori mewn ffordd ystyrlon a chyflym gydag undebau llafur i ganfod a oes ffyrdd o leihau'r ffigur hwnnw a chanfod, yn arbennig, a allwn leihau'r ffigur a gyhoeddwyd ar gyfer y DU ac yn benodol yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr, Weinidog. Bydd yr ail gwestiwn amserol y prynhawn yma'n cael ei ateb gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip. Leanne Wood.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r bygythiad i ddinasyddion Cymru yn dilyn yr ymosodiad terfysgol yn Llundain ddydd Gwener diwethaf? 373
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw wybodaeth sy'n awgrymu bygythiad uniongyrchol i ddinasyddion Cymru, ond mae lefel bygythiad y DU yn parhau'n sylweddol. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r heddlu, adrannau Llywodraeth y DU a gwasanaethau eraill sy'n ymateb i'r digwyddiadau trasig ddydd Gwener diwethaf.
Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'r ddau berson ifanc a lofruddiwyd ar Bont Llundain yr wythnos diwethaf, Saskia Jones a Jack Merritt, ac i'r gwerthoedd a goleddent. Roedd geiriau dewr tad Jack Merritt, o dan yr amgylchiadau, yn ysbrydoledig. Ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pob Aelod yma ac eraill ledled Cymru pan ddywedaf ein bod yn cydymdeimlo â'r teulu a'u ffrindiau agos, ac y bydd pob un ohonom eisiau gwneud yr hyn a allwn i leihau'r tebygolrwydd y bydd trychineb fel hon yn digwydd eto.
Mae gennyf nifer o gwestiynau i'n Llywodraeth. Mae'r cyntaf yn fater sy'n dod o dan y setliad datganoli, ac addysg yw hwnnw. A allwch ddweud wrthym pa fentrau sydd ar waith i ymladd eithafiaeth asgell dde yn ei holl ffurfiau, yn enwedig lle mae trais yn risg? Sut y caiff ideoleg oruchafiaethol, sy'n rhoi pobl uwchlaw'r rheini y maent yn eu 'harallu', boed hynny o ran lliw croen, cenedligrwydd, crefydd neu unrhyw beth arall, ei herio yn ein system addysg? Sut y caiff athrawon a gweithwyr ieuenctid eu hyfforddi i sicrhau bod y gwaith sensitif ac anodd hwn yn cael ei wneud? Sut y mae'r ideolegau goruchafiaethol hyn yn cael eu herio o fewn system addysg y carchardai, i'r bobl sy'n bwrw dedfrydau am droseddau sy'n gysylltiedig â therfysgaeth mewn carchardai yng Nghymru ac i'r carcharorion Cymreig sy'n bwrw eu dedfrydau yn Lloegr?
Hoffwn wybod hefyd pa sylwadau sy'n cael eu cyflwyno i'ch swyddogion cyfatebol yn San Steffan ynghylch y toriadau i'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'r methiannau y mae'r digwyddiad terfysgol diweddaraf wedi'u hamlygu o ran asesu a monitro cyn-garcharorion a ryddhawyd ar drwydded. A yw'r methiannau hyn yn gysylltiedig â chyni a phreifateiddio?
Rwy'n gobeithio'n fawr eich bod eisoes yn gofyn y cwestiynau hyn a'ch bod yn gwneud popeth a allwch i wireddu'r galwadau parhaus i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru cyn gynted ag y bo modd, fel y gallwn greu system sy'n canolbwyntio ar atal y digwyddiadau erchyll, treisgar hyn sydd wedi'u llywio gan ideoleg, ac sy'n cadw pobl ym mhob un o'n cymunedau'n ddiogel.
Diolch yn fawr i Leanne Wood am y cwestiwn hwnnw, ac a gaf fi ymuno â hi a mynegi ein cydymdeimlad dwysaf â theuluoedd Saskia Jones a Jack Merritt? Rydych yn llygad eich lle, ac rwy'n siŵr fod nifer ar draws y Siambr hon yn teimlo'r un fath. Mae'n ymwneud â'r ffaith ein bod yn teimlo, fel y dywedwch mor rymus, dros y teulu a'u ffrindiau agos. A hefyd, cawsant eu lladd ddydd Gwener yn yr ymosodiad yn Fishmongers' Hall yn Llundain, ond hefyd rydym yn cydnabod gwroldeb enfawr ac eithriadol a dewrder aelodau o'r cyhoedd. Rydym yn deall mai Jack Merritt a aeth allan—dyn ifanc a oedd yn gweithio gyda throseddwyr. Roedd mewn digwyddiad—rhaglen Learning Together. Roedd y ffaith iddo fynd allan, a bod cyn-droseddwyr hefyd yn ceisio amddiffyn yr aelodau o'r cyhoedd a oedd yn gweithio yn Fishmongers' Hall—gwelsom ddewrder rhyfeddol yn y digwyddiad ofnadwy hwn. Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn dysgu o'r digwyddiad hwn, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn heddiw oherwydd rwy'n credu bod eich pwynt cyntaf, ynglŷn ag addysg, yn gwbl hanfodol ac rwy'n falch fod y Gweinidog addysg yn y Siambr.
Yn ddiddorol, yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r comisiynydd gwrthsefyll eithafiaeth i drafod canfyddiadau ei hadroddiad—Sara Khan—'Challenging Hateful Extremism'. Mae'n adroddiad a gyhoeddasant yn ddiweddar iawn a byddaf yn ei rannu gyda'r Siambr. Rydym wedi bod yn cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu prosiect gwerth £350,000 ar droseddau casineb mewn ysgolion. Mae'n ymwneud ag adeiladu sgiliau meddwl beirniadol plant, adnabod a herio iaith casineb ar-lein neu all-lein. Cafodd arferion da eu cydnabod yn 2018 yn adroddiad yr archwiliad i droseddau casineb. Mae cydlyniant cymunedol rhanbarthol yn hynod bwysig hefyd. Fel y byddwch yn gwybod—mae'r Aelodau'n gwybod ein bod wedi buddsoddi arian ychwanegol drwy gronfa bontio'r UE i gefnogi ein rhanbarthau cydlyniant cymunedol.
Rwyf am ateb eich cwestiwn am system addysg y carchardai. Byddaf yn ymweld ag Abertawe a Chaerdydd cyn bo hir. Rwyf hefyd wedi ymweld â charchardai Eastwood Park a Styal—carchardai i fenywod—ond rwy'n ymweld â'r carchardai yng Nghymru a byddaf yn gofyn cwestiynau ac rwyf wedi gofyn cwestiynau am y systemau addysg ynddynt. Mae'n rhaid inni fod yn gyfrifol mewn perthynas â'n cyfrifoldebau datganoledig yn y gwasanaethau hynny, ac unwaith eto, mae hynny'n golygu gweithio gyda'r Gweinidog addysg, yn ogystal â chydnabod yr adroddiad pwysig a gyhoeddwyd yn ddiweddar am addysg yn y carchardai a chydnabod yr argymhellion sy'n rhaid i ni fynd ar eu trywydd yn awr.
O ran cyflwyno sylwadau i San Steffan ar y toriadau i'n gwasanaethau, effaith cyni, ac wrth gwrs, mae hynny'n glir iawn o ran y niwed i Gymru, gan gynnwys y system gyfiawnder—. Mae'n rhaid i mi ddweud, unwaith eto, fel y gwyddoch yn glir, fod y toriadau i gymorth cyfreithiol yn ogystal â'r argyfwng yn ein system cyfiawnder troseddol wedi gwneud ein cymunedau'n llai diogel, wedi rhoi llai o gymorth i ddioddefwyr ac wedi gwneud pobl yn llai abl i amddiffyn eu hawliau, a dyna pam fod ein comisiwn cyfiawnder mor bwysig, comisiwn Thomas. Ac rwy'n credu, yn bwysig, fod y materion ynglŷn â'r gwasanaeth prawf a'r ffaith ein bod wedi brwydro'n galed i ailuno'r gwasanaeth prawf—mae hynny'n digwydd yn awr. Mae gennym gyfle i helpu i lywio cyfeiriad y gwasanaethau prawf yn y dyfodol a bydd yr ailuno'n digwydd yn gynt yng Nghymru nag yn Lloegr, ac yn sicr byddaf eisiau adrodd yn ôl ar hynny oherwydd mae hynny'n digwydd. Ac wrth gwrs, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidogion cyfiawnder y DU ac yn egluro'r trawsnewid ac effaith y newid hwnnw yn dilyn etholiad cyffredinol y DU.
Diolch yn fawr, Weinidog.
Eitem 4 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae gennym ddau yr wythnos hon. Y cyntaf—Helen Mary Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Eleni, mae'n ddeng mlynedd ers sefydlu'r Panel Cynghori Affrica Is-Sahara, cynghrair o 35 o sefydliadau ledled Cymru sy'n gweithio gyda chymunedau alltud Is-Sahara ac Affrica. Mae'r sefydliadau'n gwneud amrywiaeth eang o waith. Mae rhai ohonynt yn cefnogi dinasyddion newydd sydd wedi cyrraedd Cymru. Mae rhai ohonynt yn gweithio i godi arian ac adnoddau a darparu cymorth i gymunedau yn y gwledydd y mae eu teulu'n hanu ohonynt.
Heddiw, rydym yn croesawu eu Diwrnod Datblygu Cymreig-Affricanaidd i'n Cynulliad Cenedlaethol, i'n Senedd, ac roeddwn wrth fy modd pan ofynnwyd i mi gyflwyno'r digwyddiad hwn. Bydd gan ddeg o'r sefydliadau stondinau yma a byddant yn cael cyfle i ddangos eu gwaith i'w cynrychiolwyr. Bydd perfformiadau, siaradwyr gwadd, ac rwy'n arbennig o ddiolchgar fod y Gweinidog materion tramor wedi cytuno i siarad yn y digwyddiad pwysig iawn hwn.
Heddiw, bydd y Panel Cynghori Affrica Is-Sahara yn lansio adroddiad o'u gwaith dros y 10 mlynedd diwethaf ac yn edrych ymlaen i'r dyfodol i 10 mlynedd nesaf eu gwaith pwysig yma yng Nghymru. Rwyf wrth fy modd eu bod yn gallu gwneud hynny yma yng nghartref ein democratiaeth, ac mae'n gyfle gwych i ni, yma yn ein Senedd, i ail-gadarnhau, i dros 17,000 o ddinasyddion Cymru sydd â gwreiddiau Affricanaidd ac sy'n byw yn ein gwlad, gymaint rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniad i'r genedl fywiog, gynhwysol hon sy'n edrych tuag allan, y gweithiwn gyda'n gilydd i'w hadeiladu.
Wrth inni nesáu at y Nadolig, yr adeg brysuraf o'r flwyddyn ar gyfer siopa, rwyf eisiau talu teyrnged i'r stryd fawr yng Nghymru. Mae enghreifftiau gwych i'w cael o sut y gall canol tref ddenu pobl i mewn a dod ag arian i economi leol. Mae stryd fawr Treorci yn enghraifft wych. Cydnabuwyd ei bywiogrwydd a'i hatyniad mewn cystadleuaeth i ddod o hyd i'r stryd fawr orau yn y DU. Roedd y ffaith bod 80 y cant o'r busnesau yn Nhreorci yn siopau boutique annibynnol, fod 10 busnes newydd wedi agor ar y stryd fawr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a bod pobl eisiau eu cefnogi, wedi plesio'r rhai a oedd yn llunio'r rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth. Mae'r pleidleisio bellach ar ben a chyhoeddir yr enillydd yn y flwyddyn newydd. Rwy'n dymuno'r gorau i gais Treorci, ac os enillwn, bydd yn gwbl haeddiannol. Yn y dyfodol, hoffwn sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i bob un o'n strydoedd mawr yn y Rhondda fel y gallant ddilyn llwyddiant Treorci.
A wnaiff pobl roi eiliad i feddwl ble y byddant yn prynu eu hanrhegion a'u bwyd Nadolig eleni? Nawr, rwy'n gwybod bod rhai pethau na ellir eu prynu mewn tref fach, ond mae yna ddigonedd y gellir eu prynu. Mae llawer o fusnesau bach yn byw ac yn marw yn sgil eu perfformiad dros y Nadolig, felly os gwelwch yn dda, bawb, ystyriwch sut y gallwch feddwl yn fyd-eang a siopa'n lleol eleni.
Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: gwasanaethau nyrsio cymunedol ac ardal. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig—Dai Lloyd.
Cynnig NDM7210 Dai Lloyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Awst 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Dyma'r pedwerydd yn y gyfres o ymchwiliadau byr a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y pwyllgor.
Cynhaliodd y pwyllgor ymchwiliad undydd i waith timau nyrsio cymunedol a arweinir gan nyrsys ardal ac i ansawdd y gofal nyrsio a ddarperir i bobl yn eu cartrefi. Ar y pwynt hwn, hoffwn gydnabod y grŵp trawsbleidiol ar nyrsio a bydwreigiaeth, gan mai drwy eu gwaith nhw y daeth yr ymchwiliad hwn i fod, a chydnabod arweiniad David Rees.
Mae natur newidiol y ddarpariaeth gofal iechyd a'r symudiad i ddarparu mwy o ofal y tu allan i ysbyty yn golygu bod rôl nyrsys cymunedol wedi dod yn fwyfwy heriol. Mae yna gydnabyddiaeth y gallai'r timau nyrsio cymunedol hyn gyfrannu at wasanaethau gofal iechyd yn y dyfodol, ond prin yw'r wybodaeth am y gwasanaeth hwnnw. Does dim darlun cywir o nifer y timau nyrsio na beth yw eu sgiliau. Dydyn ni ddim yn gwybod faint o bobl sy'n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain, na lefel y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Nid yw'n glir chwaith sut mae gwaith timau nyrsio cymunedol yn cael ei fesur a'i gofnodi, na sut mae ansawdd a diogelwch y gwasanaethau hyn yn cael eu monitro. Yn wir, cawsom ein dychryn o glywed nyrsys cymunedol yn disgrifio'u hunain fel y 'gwasanaeth anweledig'.
Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol wrthym fod dwy ran o dair o'i aelodau'n gweithio yn y gymuned, yn diwallu anghenion cleifion oedrannus, anabl ac agored i niwed a allai, fel arall, ei chael hi'n anodd ymweld ag ysbyty. Mae'r symudiad tuag at ddarparu mwyfwy o wasanaethau iechyd yn y gymuned wedi cynyddu disgwyliadau pobl o allu cael mynediad at driniaeth yn y modd hwn, ac mae datblygiadau mewn meddygaeth wedi gwireddu hyn. Dywedodd tystion wrthym fod pobl eisoes yn disgwyl gallu cael triniaeth gymhleth iawn yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r galw'n debygol o gynyddu o ganlyniad i ryddhau pobl o'r ysbyty yn gynharach, cadw pobl gartref i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty, a bod mwy o bobl yn dioddef o gyflyrau cymhleth a lluosog.
Mae timau nyrsio cymunedol yn gweithredu fel cyswllt gwerthfawr rhwng gwasanaethau acíwt a gofal sylfaenol ac maent yn hyrwyddo byw'n annibynnol. Felly, mae clywed bod nyrsys yn ei chael yn fwyfwy anodd ateb y galwadau cynyddol hyn arnynt yn destun pryder. O'r herwydd, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod rôl hanfodol nyrsio cymunedol wrth ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol yn cael ei chydnabod yn briodol wrth gynllunio gweithlu, recriwtio nyrsys ac mewn hyfforddiant, a dyna argymhelliad 1.
Gan droi at nyrsys cymunedol i blant: y neges gan dystion yw fod yn rhaid cael cynnydd yn nifer y nyrsys cymunedol i blant. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae ardal o faint cyfartalog sydd â phoblogaeth o 50,000 o blant angen o leiaf 20 o nyrsys cymunedol i blant, cyfwerth ag amser llawn, i ddarparu gwasanaeth nyrsio cymunedol cyfannol ar gyfer plant. Mae hyn yn rhannol oherwydd y nifer cynyddol o blant ag anghenion cymhleth sy'n derbyn gofal gartref. Mae clywed felly nad oes gennym ddarlun clir o nifer y nyrsys plant sy'n gweithio yn y gymuned ar hyn o bryd yn destun pryder. At hynny, mae clywed bod plant yn llai tebygol o dderbyn gofal gartref ar ddiwedd eu hoes nag oedolion oherwydd prinder nyrsys cymunedol sydd â'r sgiliau addas yn destun pryder mawr iawn.
Gan droi at ofal lliniarol a diwedd oes, er gwaethaf y rôl hollbwysig y mae nyrsys cymunedol yn ei chwarae yn galluogi cleifion sydd ag anghenion gofal lliniarol i aros gartref, clywsom nad yw'r cynllun cyflawni ar gyfer darparu gofal lliniarol a diwedd oes yn cyfeirio llawer atynt. Heb ddealltwriaeth well o bwy sy'n derbyn gofal a lle, a chan bwy, mae'n amhosibl pennu lefel yr angen am ofal lliniarol sydd heb ei ddiwallu. Rydym yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi diweddariad ar gynnydd a wnaed ar ddatblygu'r cynllun gweithredu hwn yn awr—argymhelliad 3 yw hwnnw—a gwahoddaf y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y pwynt hwn heddiw.
Gan droi at staffio nyrsys ardal, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn parhau'n ymrwymedig i ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys lleoliadau ychwanegol. Fodd bynnag, ar gyfer nyrsys ardal, nid yw'n debygol y bydd offeryn priodol ar gyfer cynllunio'r gweithlu, sy'n ofynnol o dan y Ddeddf i gyfrifo'r lefel staff nyrsio sydd ei hangen, yn barod am rai blynyddoedd. Felly, rydym yn argymell bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gynhyrchu a chyhoeddi strategaeth ar gyfer ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys pob lleoliad, gan gynnwys gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, ac argymhelliad 4 yw hwnnw.
Gan droi at forâl staff, daeth rhywfaint o'r dystiolaeth fwyaf trawiadol a gafodd y pwyllgor gan nyrsys a oedd yn gweithio yn y gymuned, a ddywedodd wrthym, ac rwy'n dyfynnu:
'Gadewais nyrsio ardal ar ôl 18 mlynedd gan na allwn i ymdopi mwyach â’r straen. Cynyddodd y llwyth gwaith, roedd mwy o alw am waith papur, dim digon o staff ac ni allai cleifion gael y gofal yr oeddent yn ei haeddu.'
A dyfyniad arall:
'Mae’r pum mlynedd diwethaf wedi gweld llai o adnoddau mewn gwasanaethau rheng flaen. Nyrsys yn gadael a phroblemau recriwtio. Nid ydym bob amser yn gofalu am ein staff yn dda iawn, rydym yn disgwyl mwy a mwy ganddyn nhw.'
Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol wrthym fod morâl yn eithaf isel, yn enwedig ar lefelau uwch, oherwydd y pwysau aruthrol sydd wedi bod ar nyrsys cymunedol ers amser maith. Yn ddiddorol, nid oedd hwn yn ddarlun roedd cynrychiolwyr y byrddau iechyd y buom yn siarad â hwy wedi ei nodi yn eu hardaloedd, ac roedd clywed safbwyntiau mor wahanol yn peri pryder.
Yn olaf, hoffwn droi at seilwaith TGCh a thechnoleg, gan mai un o'r prif faterion a godwyd gan nyrsys sy'n gweithio yn y gymuned oedd eu hanallu i ddefnyddio'r dechnoleg fwyaf priodol i'w galluogi i gyflawni eu rolau'n effeithiol. Dywedodd hanner y nyrsys ardal a'r nyrsys cymunedol y gofynnwyd iddynt am eu profiadau o gymorth TG eu bod yn defnyddio amrywiaeth o offer, gan gynnwys gliniaduron a dyfeisiau 'Blackberry'. Nododd yr hanner arall nad oedd ganddynt ddyfais symudol o gwbl at eu defnydd. Dywedodd un tyst wrthym:
'Does gennym ni ddim system gyfrifiadurol ar gyfer dogfennaeth - mae’n bapur i gyd.'
Mater arall a godwyd gan y nyrsys oedd eu hanallu i gael mynediad at galendr a negeseuon e-bost y swyddfa. Nid yn unig y mae diffyg technoleg briodol yn effeithio ar nyrsys, mae hefyd yn effeithio ar gleifion sy'n ceisio cysylltu â'u gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Os nad ydym yn darparu'r dechnoleg ddiweddaraf i nyrsys, sut yn y byd y gallwn ddisgwyl iddynt gyfathrebu â'u cleifion a rhoi'r cymorth gorau posibl iddynt?
Daeth Suzy Davies i’r Gadair.
Mae'n annerbyniol nad yw nyrsys sy'n gweithio yn y gymuned yn gallu cael mynediad at wybodaeth am gleifion, apwyntiadau neu negeseuon e-bost ar ddyfeisiau llaw, a'u bod nhw'n dal i ddibynnu ar systemau papur a thechnoleg sydd wedi dyddio. Arhosaf i glywed sylwadau eraill yn y ddadl hon. Diolch yn fawr.
Rwy'n ddiolchgar iawn i gael cymryd rhan yn y ddadl hon ar adroddiad y pwyllgor. A'r peth cyntaf, mewn gwirionedd, yr hoffwn ei wneud yw talu teyrnged enfawr i'r holl nyrsys ardal a nyrsys cymunedol sydd yng Nghymru. Rwy'n siarad o brofiad personol pan ddywedaf, ar ôl genedigaeth fy merch gyntaf, mai'r nyrs ardal a helpodd fi i gadw fy mhwyll, oherwydd, yn sicr, nid oedd gennyf syniad beth oeddwn i fod i'w wneud ar ôl i mi gyrraedd adref. Maent yn arwyr nad ydynt yn cael digon o glod, ac mewn gwirionedd, mae ein hadroddiad yn eu disgrifio fel 'y gwasanaeth anweledig'. Ac rwy'n credu ei bod yn werth i bawb ohonom gofio nad oes darlun cywir, ar lefel genedlaethol, o nifer a chymysgedd sgiliau timau nyrsio, y niferoedd yn ein timau na lefelau aciwtedd y cleifion y maent yn gorfod ymdrin â hwy. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn effeithio ar gynllunio'r gweithlu, ar recriwtio a chadw staff. A chredaf fod Cadeirydd y pwyllgor wedi nodi'n glir iawn y lefelau straen y mae nyrsys ardal a nyrsys cymunedol yn eu hwynebu, a sut y mae hyn yn gwneud i bobl adael proffesiwn rydym ei angen yn daer, yn enwedig, Weinidog, os ydych yn bwriadu parhau â chyfeiriad teithio rydym i gyd yn ei gefnogi, sef trin pobl gartref, yn y gymuned, yn eu cartrefi, yn hytrach na'u hanfon i ysbytai neu gyfleusterau eraill.
Ac rwy'n canfod—. Ac rwyf eisiau siarad yn benodol am argymhellion 6, 7 ac 8. Mae 6 yn ymwneud â data, a 7 ac 8 yn ymwneud â hyfforddiant a recriwtio. Oherwydd gwelaf fod argaeledd data am wasanaethau nyrsio yn wael tu hwnt. Rwy'n cydnabod bod byrddau iechyd yn deall hynny, ond mae'n rhaid bod peidio â gwybod yn sicr faint o nyrsys yn y gymuned sy'n nyrsys ardal, neu beidio â gwybod faint o nyrsys ardal sy'n ymarferwyr nyrsio, yn rhwystro'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau yn ddifrifol. Ac mae cydnabod bod heriau sylweddol o ran data a datblygu'r seilwaith TGCh yn y dyfodol yn gam ymlaen. Ond mae'n rhaid i mi nodi bod hwn yn gam y mae Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd wedi bod yn sefyll arno ers blynyddoedd. Felly, hoffwn wybod pryd y bydd system wybodaeth gofal cymunedol Cymru yn cael ei chyflwyno. Nid yw'r system ond ar waith mewn un bwrdd iechyd ar hyn o bryd, a Phowys yw hwnnw.
Hoffwn ddarllen ychydig o ddarnau sydd wedi'u hamlygu yn yr adroddiad hwn. Dyma'r hyn y mae'n rhaid i'r bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cymunedol ymdopi ag ef—ac rydych yn meddwl am yr holl dechnoleg sy'n ein hamgylchynu yma i'n helpu i wneud ein gwaith—
'Mae gennym ni ffonau symudol heb fynediad at ddyddiadur nac e-bost, er bod cydweithwyr yn yr awdurdod lleol yn meddu ar system electronig weithredol ar gyfer cofnodion iechyd.'
Ond nid oes gan nyrsys ardal, nyrsys cymunedol, fynediad at y pethau hyn.
'Ychydig iawn o TG sydd gennym i gefnogi integreiddio a gwaith Timau Adnoddau Cymunedol. Mae Nyrsys Ardal ar bapur; mae rhai staff therapi ar Therapy Manager; cydweithwyr gofal cymdeithasol ar WCCIS.'
'Mae gan y rhan fwyaf o’r tîm ddyfeisiau ‘blackberry’, ond tydyn nhw ddim yn gweithio’n ddigon da.... Does gennym ni ddim system gyfrifiadurol ar gyfer dogfennaeth—mae’n bapur i gyd.'
Ac un o'r pryderon sydd gennyf—ac mae'n rhedeg ar draws amrywiaeth eang o'r gwasanaeth iechyd mewn gwirionedd—yw fy mod yn ysgrifennu atoch yn aml iawn, Weinidog, i ofyn am ddata ar amrywiaeth o bynciau, ac fe ddowch yn ôl ataf yn eich ateb ysgrifenedig, a dweud , 'Ni chedwir unrhyw ddata yn ganolog'. Iawn, rwy'n derbyn hynny. Byddaf yn cyflwyno cais rhyddid gwybodaeth wedyn ar bob bwrdd iechyd, yn dilyn eich ateb, a dyfalwch beth y maent yn ei ddweud? 'Ni chedwir unrhyw ddata yn ganolog. Nid oes unrhyw ddata wedi'i gofnodi. Nid yw'r data hwn yn hysbys; nid yw'n cael ei dorri a'i rannu yn y ffordd hon.' Os nad oes gennym y data hanfodol hwn, sut y gallwn ni reoli a chynllunio'r gweithlu, sut y gallwn fynd ati o ddifrif i dargedu recriwtio a chadw staff? Onid ydym yn sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru i fethu, oherwydd, os na allwn gael gafael ar y data, ac yn amlwg nid yw'r data gan y Gweinidog, nid wyf yn tybio am un eiliad fod y data gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru chwaith.
Hoffwn wybod hefyd pwy fydd yn gwerthuso llwyddiant cynllun peilot meddalwedd Malinko yng Nghwm Taf. Byddai diddordeb gennyf mewn gwybod pwy fydd yn ei werthuso, pryd rydych yn disgwyl i'r gwerthusiad ddigwydd. Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, os yw'n gwneud popeth y dywed y mae'n ei wneud, byddai'n beth da iawn i'w gyflwyno ar draws ein holl fyrddau iechyd. Ond hoffwn iddo gael ei werthuso'n annibynnol, o ystyried sefyllfa bresennol Cwm Taf.
A'r pwynt olaf a therfynol yr hoffwn ei wneud, sydd yn yr adroddiad hwn i raddau ond sy'n ategiad iddo—mae pawb yn gwybod bod gofal sylfaenol yn seiliedig ar y model tîm amlddisgyblaethol. Fodd bynnag, mae'n cael ei lesteirio ar adegau gan linellau adrodd, ac mae hynny'n berthnasol i nyrsys ardal a nyrsys cymunedol, oherwydd, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn adrodd yn ôl i fyrddau iechyd, yn hytrach na chlystyrau neu bractisau meddygon teulu. Nawr, rwyf wedi cael un neu ddau o achosion lle roedd gennym etholwyr difrifol wael—canser angheuol, mae'r meddyg teulu wedi mynd allan, mae angen cefnogaeth nyrs ardal arnynt. Ond gan nad oes ffurflen 13 tudalen wedi'i llenwi, nid yw eu meddyg, sy'n dweud, 'Rhaid i nyrs ardal nyrsio'r person hwn a gofalu amdano yn ei gartref', wedi gallu ei wneud, oherwydd bod yn rhaid iddynt ddychwelyd i'r bwrdd iechyd a dilyn llwybr troellog iawn er mwyn gallu darparu'r gwasanaeth hwnnw. Felly, a gawn ni edrych ar hynny a'i dynhau? Oherwydd maent yn rhan annatod o'r tîm gofal sylfaenol, ac mae angen iddynt fod o dan adain y rhai sy'n arwain y swyddogaeth gofal sylfaenol.
Hoffwn ychwanegu fy llais at yr hyn y mae siaradwyr eraill eisoes wedi'i ddweud—diolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad. Hoffwn dalu teyrnged i'n Cadeirydd. Rwy'n credu bod yr ymchwiliadau undydd, byr a sydyn hyn yn fodel defnyddiol iawn sy'n ein galluogi i fynd at wraidd pethau'n gyflym iawn. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r staff nyrsio a ddarparodd dystiolaeth.
Y peth a arhosodd yn fy mhen ar ôl yr ymchwiliad hwn oedd y term 'gwasanaeth anweledig', ac mae hynny eisoes wedi cael ei grybwyll gan eraill—y ffaith nad yw'r gwaith y mae'r nyrsys hyn yn ei wneud yn cael ei weld, i raddau helaeth, oni bai eu bod yn peidio â'i wneud neu oni bai fod rhywbeth yn mynd o'i le—a hefyd y dystiolaeth a roesant am lefel cyfrifoldeb nyrs ar ei phen ei hun mewn cartref teuluol, mewn cartref nyrsio, efallai, lle nad oes ganddynt rwydwaith o gymorth gan staff nyrsio sydd ar gael i staff nyrsio sy'n gweithio mewn ysbytai.
Nawr, fel llawer o bobl eraill, rwy'n siŵr, roeddwn yn falch iawn o weld y Gweinidog yn derbyn naw o'r 10 argymhelliad, nes i mi ddarllen yn fanwl yr hyn a ddywedodd mewn ymateb i'r argymhellion hynny. Ac rwy'n ofni mai'r hyn a ddywedodd wrthym oedd fod llawer o'r hyn y gofynnem amdano, yr hyn y gofynnai'r staff nyrsio amdano, eisoes yn digwydd. Wel, fel y dywedodd Dai Lloyd, mae'n anodd weithiau pan fydd gennych dystiolaeth sy'n gwrthdaro, ond pan fo gennyf nyrsys o fy mlaen a phan fo gennyf uwch reolwyr o fy mlaen, rwy'n dueddol o gredu'r staff rheng flaen, sy'n gwybod yn well beth sy'n digwydd ar lawr gwlad.
Roeddwn yn pryderu'n benodol nad yw ymateb y Gweinidog ond yn tynnu sylw at adnoddau ychwanegol, neu adnoddau ychwanegol posibl, ar gyfer un o'r argymhellion y mae'n eu derbyn. Oherwydd os ydym am wireddu ei ddyhead—dyhead, rwy'n credu, a rennir ar draws y Siambr hon a ledled Cymru—i weld mwy o wasanaethau'n cael eu symud i'r gymuned, bydd yn rhaid inni gael gweithlu mwy, gyda mwy o gefnogaeth, gyda gwell adnoddau, ac ni chawn hynny yn rhad ac am ddim.
Hoffwn droi'n fyr at yr argymhelliad y penderfynodd y Gweinidog ei wrthod, sef argymhelliad 4, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru gynhyrchu a chyhoeddi strategaeth ar gyfer ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys pob lleoliad, gan gynnwys gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Nawr, er fy mod yn derbyn ei bod yn anos gwneud hynny—. Mae'n gymharol hawdd canfod faint o nyrsys, gyda pha lefel o sgiliau, sydd eu hangen i gefnogi set benodol o gleifion mewn ward benodol oherwydd ei bod yn gymharol hawdd canfod beth yw lefel eu hangen—lefel angen y cleifion. Ac mae wedi bod yn anodd gwneud hynny, ac mae hyn, wrth gwrs, yn bwydo i mewn i'r pwyntiau y mae Angela Burns eisoes wedi'u gwneud am y problemau gyda gwybodaeth.
Ond os ydym o ddifrif ynglŷn â thrin gwasanaethau cymunedol gyda'r un parch ag y byddwn yn trin gwasanaethau a ddarperir mewn ysbytai, os ydym o ddifrif ynglŷn â darparu'r un lefel o barch a'r un lefel o gymorth i staff nyrsio cymunedol, does bosibl nad oes rhaid inni wneud yr asesiadau hynny, canfod aciwtedd a salwch y cleifion y maent yn ymdrin â hwy a'r sgiliau y maent eu hangen a'r amser y maent ei angen, ac felly, nifer y nyrsys cymunedol a'r nyrsys ardal sy'n ddiogel ar gyfer y boblogaeth benodol honno. Ac ni allaf ddeall pam nad yw'r Gweinidog yn cytuno. Buaswn wedi bod yn berffaith hapus i'w weld yn dweud y byddai hyn yn cymryd mwy o amser, efallai, nag y gofynnem amdano fel pwyllgor, ond mae awgrymu nad yw'n angenrheidiol yn peri pryder gwirioneddol.
Hoffwn dynnu sylw at un agwedd benodol y credaf efallai fod y Gweinidog yn rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â hi, sef materion yn ymwneud â thelerau ac amodau ar gyfer nyrsys a gyflogir gan bractisau meddygon teulu yn hytrach nag yn uniongyrchol gan y byrddau iechyd. Mae'n amlwg iawn i mi fod y telerau a'r amodau i rai o'r nyrsys hynny yn llusgo ar ôl telerau nyrsys a gyflogir yn uniongyrchol. Un pryder penodol a godwyd gyda mi gan nyrsys unigol yn fy rhanbarth yw nad oes ganddynt amser ar gyfer dysgu yn aml. Nawr, rydym yn gwybod bod honno'n broblem ar draws y sector cyfan, ond os ydych yn nyrs ar eich pen eich hun, efallai, wedi'ch cyflogi gan bractis meddyg teulu gwledig, gall fod yn anhygoel o anodd i chi gael eich rhyddhau i wella eich sgiliau. Rwy'n credu y gallai'r gwaith a amlygwyd gan y Gweinidog y diwrnod o'r blaen o ran gwneud yn siŵr fod practisau meddygon teulu yn adrodd ar y lefelau staffio sydd ganddynt helpu gyda hynny, ond rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn diogelu telerau ac amodau'r grŵp pwysig hwnnw o staff nyrsio.
Rwy'n credu bod yna elfen o gytundeb ynglŷn â'r materion sy'n ein hwynebu. Y cwestiwn yn awr yw pa mor gyflym a pha mor effeithiol y gallwn fynd i'r afael â'r materion hynny. Mae'n air rwy'n ei ddefnyddio dro ar ôl tro, ac nid yw'n un rwyf eisiau ei ddefnyddio fel y cyfryw, ond ofnaf fod elfennau o ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwn sy'n ymddangos yn hunanfodlon ac yn fwy difrifol, maent yn ymddangos yn hunanfodlon i'r gweithlu nyrsio. Mae staff ein gweithlu nyrsio yn haeddu gwell na hynny. Mae ein gweithlu nyrsio cymunedol yn haeddu gwell na hynny gan bawb ohonom, ac yn bwysig iawn, mae eu cleifion yn haeddu gwell na hynny hefyd.
Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno â'r Gweinidog fod angen inni ddatblygu ein gwasanaethau cymunedol, ond oni bai ein bod yn rhoi adnoddau a pharch priodol i'n gweithlu nyrsio cymunedol, ni fyddwn yn gallu gwneud hynny.
Diolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ei adroddiad ar wasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Mae nyrsio cymunedol yn wasanaeth hanfodol sy'n helpu i gadw cleifion allan o'r ysbyty ac yn caniatáu iddynt aros yn eu cartrefi eu hunain. Wrth i'n demograffeg newid, wrth i ni gyd fyw'n hwy gyda salwch cronig mwyfwy cymhleth, mae'r gwasanaethau a ddarperir gan nyrsys ardal a nyrsys cymunedol yn dod yn fwy hanfodol.
Dros y ddau ddegawd diwethaf, rydym wedi colli dros 5,000 o welyau ysbyty'r GIG, er bod ein poblogaeth wedi cynyddu dros 200,000. Heb nyrsys ardal a nyrsys cymunedol, byddai ein GIG yn boddi. Er gwaethaf hyn, nid yw'r gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi'n ddigonol o hyd. Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, disgrifiodd nyrsys cymunedol eu hunain fel y 'gwasanaeth anweledig', ac mae hyn yn drist iawn i'w glywed. Felly, rwy'n croesawu argymhellion y pwyllgor, sydd wedi'u hanelu at wella'r ddarpariaeth, ond yn bwysicach, rwy'n cydnabod y rôl gwbl hanfodol y mae ein nyrsys ardal a'n nyrsys cymunedol yn ei chwarae wrth ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn naw o'r 10 argymhelliad. Yr hyn nad wyf yn ei ddeall yw rhesymeg y Gweinidog dros wrthod argymhelliad 4. Ymestyn y Ddeddf lefelau staff nyrsio i gynnwys pob lleoliad yw'r peth iawn i'w wneud. Rwy'n derbyn na fydd yn hawdd ac na fydd yn bosibl ei wneud dros nos, ond nid yw hynny'n rheswm dros wrthod yr argymhelliad ar unwaith. Dylai Llywodraeth Cymru dderbyn, mewn egwyddor o leiaf, fod angen dechrau ar y gwaith o sicrhau lefelau staffio diogel yn awr, nid ar ryw ddyddiad amhenodol yn y dyfodol.
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn pob un o'r 10 argymhelliad a gweithredu arnynt yn gyflym os ydym am sicrhau dyfodol y gwasanaeth. Mae morâl yn is nag erioed, ac eto fel gwlad rydym yn mynd yn fwy dibynnol ar y gwasanaethau a ddarperir gan ein nyrsys ardal a nyrsys cymunedol ymroddedig a gweithgar. Mae'n rhaid inni ddangos ein bod yn gwerthfawrogi ein nyrsys cymunedol; byddai derbyn a gweithredu pob un o'r 10 argymhelliad yn ddechrau da. Diolch.
Diolch yn fawr. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei ymchwiliad a'i adroddiad ar wasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal yng Nghymru. Rwy'n falch o ddweud bod yr argymhellion yn adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru yn fras o ddarparu mwy o ofal yn nes at adref, fel y'i nodwyd yn ein gweledigaeth 'Cymru Iachach'. Fel rhan o ddull amlddisgyblaethol o gyflawni'r nod hwn, gwyddom y bydd nyrsys cofrestredig yn parhau i chwarae rhan ganolog.
Mae'r rhan fwyaf o'r argymhellion yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gweithlu cymunedol o ran cynllunio, recriwtio a hyfforddi. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud eisoes ar gynyddu'r gweithlu nyrsio yma yng Nghymru gyda chanlyniadau cadarnhaol. Fodd bynnag, nid ydym byth yn hunanfodlon ac rydym yn cydnabod bod heriau'n gysylltiedig â recriwtio a chadw nyrsys mewn nifer o leoliadau. Dyna pam fy mod, unwaith eto, wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer addysg iechyd 13 y cant ar gyfer y flwyddyn nesaf, o'i gymharu â'r flwyddyn hon. Aethom drwy'r ffigurau ddoe mewn perthynas â'r cynnydd sylweddol mewn addysg a hyfforddiant i nyrsys yma yng Nghymru dros y chwe blynedd diwethaf.
Gyda sefydliad Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym bellach mewn gwell sefyllfa—sefyllfa well nag erioed—i sicrhau dull strategol cenedlaethol o ddeall ein gweithlu a chynhyrchu cyflenwad cynaliadwy o staff nyrsio ar gyfer y dyfodol. Mae cyfarwyddwr gweithlu a datblygu sefydliadol Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos ag Arolygiaeth Iechyd Cymru, wrth iddynt ddatblygu eu strategaeth ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol, a bydd hynny'n sicrhau bod argymhellion 1 i 3 a 6 i 8 yn ffactor yn y gwaith hwnnw.
Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, y rôl hollbwysig y mae technoleg yn ei chwarae mewn nyrsio cymunedol, rhywbeth y cyfeiriwyd ato gan nifer o Aelodau yn y ddadl. Dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phob bwrdd iechyd i gefnogi buddsoddiad mewn dyfeisiau modern. Rwy'n cyfarfod â nyrsys ardal yn fy etholaeth a ledled y wlad ac maent yn disgrifio rhai o'r rhwystredigaethau y mae rhai Aelodau wedi cyfeirio atynt. Unwaith eto, mae'n rhan o'r her rwy'n ei disgrifio'n rheolaidd am ddal i fyny â'r hyn sy'n fywyd normal bellach a'n gallu i wneud pethau ar ddyfeisiau symudol. Mae hyn yn cynnwys y gwaith a ddisgrifiais o fewn y Llywodraeth—blaenoriaethu dyfeisiau symudol ar gyfer nyrsys cymunedol ac eraill nad ydynt wedi'u lleoli mewn ysbyty. Gwnaethom ymrwymo yn 'Cymru Iachach' i gynyddu'r buddsoddiad mewn technoleg ddigidol yn sylweddol fel ffactor allweddol sy'n galluogi newid, ac ategir hynny gan bwyslais cynyddol ar safonau cenedlaethol cyffredin ar draws dyfeisiau a chymwysiadau digidol.
Bydd yr Aelodau'n cofio fy mod wedi cymeradwyo egwyddorion y prif swyddog nyrsio ar gyfer nyrsio ardal yn 2017. Mae'r rhain yn gam hanfodol yn y paratoadau i gyflwyno Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ymhellach. Mae'r wybodaeth a ddarperir o hynny, a'r monitro y mae fy swyddogion o swyddfa'r prif nyrs yn ei wneud yn rheolaidd, yn gam pwysig, a deallaf fod cynnydd yn digwydd ar lawr gwlad.
O ran gwaith pellach ar sut y dylai'r model edrych, rydym yn cynnal gwerthusiad o'r model nyrsio ardal seiliedig ar gymdogaeth. Yn amodol ar werthusiad llwyddiannus, byddaf wedyn yn ystyried opsiynau ar gyfer dechrau ei gyflwyno ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf fel rhan o'n hymateb i'r cylch cyllideb nesaf.
Mae'n ddrwg gennyf na allwn dderbyn holl argymhellion y pwyllgor, a deallaf fod Aelodau wedi cyfeirio'n arbennig at yr un na wneuthum ei dderbyn. Argymhelliad 4 oedd hwnnw, sy'n ymwneud ag ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru). Mae adran 25A o'r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) eisoes yn berthnasol i bob lleoliad lle mae gofal nyrsio naill ai'n cael ei ddarparu neu ei gomisiynu. Mae'r ddyletswydd hon yn nodi cyfrifoldeb trosfwaol byrddau iechyd i sicrhau bod digon o nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif, ac mae byrddau iechyd yn ymrwymedig i gyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw.
O ran ymestyn adran 25B, C ac E o'r Ddeddf i gynnwys pob lleoliad, y gwir plaen yw na fyddai'n bosibl mynegi gweledigaeth strategol gydag unrhyw fanylder y gellid ei ystyried yn werthfawr ac yn fuddiol ar hyn o bryd. Mae gwahaniaethau sylweddol a sylfaenol i'r gwahanol leoliadau lle mae nyrsys yn darparu gofal, ac mae'n rhy gynnar i ddechrau deall y cymhlethdod sydd ynghlwm wrth yr amrywioldeb ar draws pob lleoliad.
Bydd angen i raglen staff nyrsio Cymru wneud gwaith mapio sylweddol cyn y gellir ystyried strategaeth genedlaethol, ond mae rheolwr y rhaglen wedi dechrau ar gamau cynnar y gwaith hwnnw. Tanlinellir hynny gan realiti'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo ac sydd wedi bod yn sail i gam cyntaf y broses gyflwyno, y gwaith sydd eisoes ar y gweill ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, y gwaith a wnaed cyn fy natganiad ysgrifenedig heddiw, lle roeddwn yn cadarnhau fy mod wedi dechrau'r broses ddeddfwriaethol i ymestyn y Ddeddf i gynnwys wardiau cleifion mewnol pediatrig, gyda'r nod o sicrhau y bydd yr estyniad ymarferol yn ei le erbyn Ebrill 2021. Wrth gwrs, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor yn nodi'r cynnydd cyfredol ar draws holl ffrydiau gwaith y rhaglen staff nyrsio.
Credaf fod yna bwynt terfynol sy'n werth ei grybwyll o ran y ddadl, sef y ffaith bod adroddiad y pwyllgor wedi cael ei gyhoeddi ym mis Awst. Yna, cyhoeddodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y rheoleiddiwr proffesiynol, ei fod yn bwriadu cynnal adolygiad llawn o gymwysterau cofnodadwy ar ôl cofrestru, ac mae wedi nodi cymwysterau ymarfer arbenigol yn benodol. Gallai hynny arwain at oblygiadau sylweddol o bosibl i rolau yn y gymuned a'r ffordd y cânt eu diffinio. Mae rolau o'r fath yn cynnwys, yn benodol, nyrsys practis, nyrsys cymunedol i blant, a nyrsys ardal yn enwedig. Fodd bynnag, byddaf yn sicrhau bod y Cynulliad—drwy'r pwyllgor—yn ymwybodol o ganlyniad yr adolygiad hwnnw a'r ffyrdd y gallai hynny effeithio ar weithrediad ymarferol polisi Llywodraeth Cymru.
Diolch yn fawr. Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Ddirprwy Lywydd. Yn yr ychydig funudau prin, gallaf grynhoi'r ddadl yma gan ddiolch i bawb am eu sylwadau. Angela Burns yn olrhain heriau technoleg, IT a phrinder data; a Helen Mary Jones a Caroline Jones yn olrhain yr angen i ymestyn y ddeddfwriaeth ar lefelau staffio i nyrsys yn y gymuned. Dwi'n clywed ymateb y Gweinidog i hynny o beth. Ond, i grynhoi, felly, mae'n hanfodol bod rôl a gwerth nyrsio cymunedol yn cael ei gydnabod yn iawn, a bod ein nyrsys cymunedol a'n nyrsys ardal yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddarparu gofal o'r ansawdd uchaf i'n cleifion ni yng Nghymru heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar eiddo gwag. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Cynnig NDM7212 John Griffiths
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Eiddo gwag', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar eiddo gwag, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad. Mae eiddo gwag yn broblem wirioneddol sy'n effeithio ar ein holl gymunedau. Mae tua 27,000 o dai gwag hirdymor ledled Cymru, felly mae angen gweithredu ar fyrder i fynd i'r afael â'r broblem. Rydym wedi gwneud 13 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac mae 12 ohonynt wedi'u derbyn yn llawn neu mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom am fentrau sydd wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn sicrhau bod eiddo'n cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond mae'r cynnydd wedi aros yn ei unfan. Credwn fod angen dull strategol er mwyn i newid sylweddol ddigwydd. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn arwain ar hyn, gan ymgysylltu ag awdurdodau lleol i flaenoriaethu'r mater a deall y cymorth y gall ei ddarparu.
Rwy'n falch bod argymhelliad 1 wedi'i dderbyn. Mae hwn yn argymhelliad allweddol sy'n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer mynd i’r afael ag eiddo gwag, a ddylai gynnwys pennu blaenoriaethau a thargedau. Gwnaethom argymell y dylid cyhoeddi’r cynllun gweithredu erbyn mis Hydref y flwyddyn nesaf. Bydd hwn yn gam pwysig ymlaen o ran pennu blaenoriaethau cenedlaethol a darparu'r cyfeiriad strategol y mae awdurdodau lleol ei angen i flaenoriaethu ymdrechion i fynd i'r afael â'r broblem.
Wrth gwrs, mae sicrhau bod y lefel gywir o adnoddau ar gael yn gwbl allweddol os yw awdurdodau lleol am gael eu harfogi'n llawn i fynd i'r afael â'r materion hyn. Gall cael swyddog eiddo gwag penodol wneud gwahaniaeth sylweddol; gall roi mwy o ffocws i waith yr awdurdod a chydlynu'r gweithgareddau amrywiol sy'n cael eu cyflawni ar draws adrannau. Wrth gwrs, mae pawb ohonom yn gwybod bod adnoddau'n dynn, ond mae'r effaith hirdymor y gall eiddo gwag ei chael, yn economaidd ac yn gymdeithasol, yn cyfiawnhau'r penderfyniad i nodi hwn fel maes blaenoriaeth. Clywsom gyngor arbenigol y dylai swyddog penodedig dalu am eu hunain sawl gwaith drosodd, felly mae'n cynrychioli gwerth da am arian.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan awdurdodau lleol becyn cymorth sy'n angenrheidiol ar gyfer eu hanghenion ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau sydd eu hangen erbyn mis Medi y flwyddyn nesaf.
Roeddem yn pryderu am y dystiolaeth a glywsom ynghylch defnyddioldeb data a ddefnyddir i fesur cynnydd wrth ymdrin ag eiddo gwag. Yn benodol, y ffaith nad yw'r data ond yn cynnwys eiddo ar restr y dreth gyngor, sy'n golygu nad yw'n cynnwys adeiladau segur ac eiddo amhreswyl—sydd, wrth gwrs, yn ffynhonnell i lawer o gwynion yn gysylltiedig ag eiddo.
Clywsom hefyd fod eiddo sy'n wag am dros 12 mis yn fwy problemus ac yn fwy tebygol o gael effaith negyddol ar gymdogion a chymunedau. Yn aml, byddai'r rhai a oedd yn wag am gyfnodau byrrach yn cael eu defnyddio unwaith eto heb unrhyw ymyrraeth gan yr awdurdod lleol. O ganlyniad, roeddem yn argymell defnyddio ffrâm amser o 12 mis i ddiffinio eiddo gwag yn y dyfodol, yn hytrach na'r chwe mis presennol, a bod dangosyddion perfformiad perthnasol yn cael eu diweddaru i adlewyrchu hyn.
Rwy'n falch fod ein hargymhellion 5 a 6 ynglŷn â data wedi cael eu derbyn. Dylai'r newidiadau hyn sicrhau bod y data a gesglir yn fwy defnyddiol ac yn adlewyrchiad cywir o waith awdurdodau lleol ar fynd i'r afael â'r broblem hon. Mae gan awdurdodau lleol ystod o opsiynau gorfodi ar gael iddynt eisoes, ond clywsom nad yw defnyddio'r pwerau hynny'n syml. Anaml y defnyddir rhai o'r pwerau, a hynny'n aml oherwydd eu cymhlethdod, sydd wedi arwain at sefyllfa lle nad yw swyddogion wedi datblygu digon o arbenigedd i fod yn hyderus wrth eu defnyddio. Rydym wedi argymell y dylid datblygu ffynhonnell arbenigedd ranbarthol neu genedlaethol, a fyddai ar gael i dimau eiddo gwag ei defnyddio pan fydd ei hangen. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn, yn ogystal â'n hargymhelliad y dylid cyflwyno hyfforddiant ar yr opsiynau gorfodi i aelodau a swyddogion awdurdodau lleol. Edrychaf ymlaen at y diweddariad rydym wedi gofyn amdano gan y Dirprwy Weinidog ynglŷn â'r cynnydd a wnaed ar ddarparu'r sesiynau hyn erbyn y Pasg y flwyddyn nesaf.
Clywsom rai enghreifftiau o waith da sy'n cael ei wneud gan landlordiaid cymdeithasol, yn enwedig Cymdeithas Tai Unedig Cymru, sydd wedi mynd ati'n rhagweithiol i sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu hailddefnyddio. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector cymdeithasau tai i ddeall y cynlluniau sydd ganddo ar waith, sut y gellir rhannu arferion da a chyflwyno cynlluniau effeithiol ledled Cymru. Rwy'n croesawu ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i gydweithio â'r sector i gyflawni hyn.
Opsiwn arall sydd ar gael i awdurdodau lleol yw gweithredu premiwm treth gyngor o hyd at 100 y cant ar eiddo gwag hirdymor. Mae hyn yn ddisgresiynol ac mae rhai awdurdodau wedi dewis cyflwyno premiwm.
Pan gyflwynwyd y polisi yn 2014, roedd y memorandwm esboniadol a oedd yn cyd-fynd â Bil Tai (Cymru) yn nodi gobaith Llywodraeth Cymru y byddai awdurdodau lleol yn defnyddio'r pwerau ychwanegol a fyddai ar gael iddynt a'r refeniw a gesglid i helpu i ddiwallu anghenion tai lleol. Clywsom fod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu dyrannu ei refeniw ychwanegol at ddibenion tai, ond rydym yn pryderu mai ychydig o dystiolaeth a geir mewn mannau eraill fod arian yn cael ei gyfeirio yn y fath fodd.
Felly, rydym yn siomedig fod ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru archwilio'r posibilrwydd o glustnodi'r refeniw wedi'i wrthod, yn enwedig gan fod y Dirprwy Weinidog wedi mynegi awydd i ymchwilio i opsiynau o'r fath yn ei phapur tystiolaeth i ni. Er ein bod yn sylweddoli nad yw'r refeniw a gesglir drwy'r dreth gyngor wedi'i neilltuo, mae'n ymddangos bod peidio â defnyddio'r arian at ddibenion tai yn mynd yn groes i nodau'r ddeddfwriaeth wreiddiol. Felly, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog roi ystyriaeth bellach i sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr adnodd hwn yn cael ei ddefnyddio i liniaru problemau tai.
Clywsom dystiolaeth anecdotaidd hefyd am bobl yn ceisio osgoi'r premiwm drwy wneud cais i newid categori eu heiddo gwag, naill ai drwy honni ei fod yn cael ei ddefnyddio fel llety hunanddarpar neu fod aelod o'r teulu wedi symud i mewn. Hoffem weld rhagor o wybodaeth yn cael ei chasglu ar hyn er mwyn cael gwell syniad o hyd a lled arferion o'r fath. Sylwaf fod awdurdodau lleol wedi cael eu gwahodd i gyflwyno enghreifftiau sydd ganddynt, ac edrychaf ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn maes o law.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae diffyg cynnydd wedi bod o ran sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond credaf y bydd ein gwaith yn cyfrannu at wneud y mater pwysig hwn yn faes blaenoriaeth. Rydym yn croesawu'r ffaith bod tîm penodol wedi'i sefydlu o fewn Llywodraeth Cymru a bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn bron bob un o'n hargymhellion. Rwy'n gobeithio y bydd y camau hyn yn darparu ffocws newydd ac yn arwain at newid gwirioneddol. Byddwn yn parhau i fonitro'r mater fel pwyllgor, gan gynnwys effeithiolrwydd y dull o weithredu, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael y diweddariadau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo i'w darparu fel y gallwn wneud asesiadau pellach o effeithiolrwydd polisïau, timau a syniadau newydd.
Fel y dywed ein hadroddiad, mae tua 27,000 o gartrefi sector preifat yng Nghymru wedi bod yn wag am fwy na chwe mis. Nodwyd gennym fod llawer o berchnogion,
'nad ydynt yn dymuno gweld eu heiddo yn gorwedd yn segur a dylid eu cynorthwyo i’w hailddefnyddio. Pan fydd ymdrechion i fynd i’r afael â’r broblem yn methu’n anffurfiol, mae gan awdurdodau lleol bwerau i ymdrin ag eiddo gwag; ond nid yw hyn yn fater syml.’
Fel y clywsom, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn 10 o'n 13 argymhelliad. Bydd cael cynllun gweithredu cenedlaethol ar waith, mabwysiadu dulliau cymunedol go iawn, mesurau atebolrwydd a sefydlu ffynhonnell o arbenigedd cyfreithiol i dimau eiddo gwag gael mynediad ati yn allweddol. Fel y dywedasom, dylai hyn gynnwys gwaith i ddeall yr effeithiau y gall cael swyddog penodol â chyfrifoldeb am eiddo gwag eu cael, a bydd hyfforddiant i swyddogion ac aelodau o awdurdodau lleol ar yr opsiynau gorfodi sydd ar gael yn hanfodol, ynghyd â darparu atebion cyllido hyblyg sy'n sensitif i anghenion lleol a chynorthwyo perchnogion eiddo.
Fel cyn aelod o fwrdd gwirfoddol cymdeithas dai, rwy’n croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru i’r ffaith bod cymdeithasau tai yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond bydd angen inni weld tystiolaeth eu bod wedi'u cynnwys yn iawn gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Er bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod clustnodi refeniw a gesglir gan awdurdodau lleol trwy bremiwm y dreth gyngor ar gartrefi gwag at ddibenion tai, rhaid inni weld tystiolaeth fod awdurdodau lleol wedi cael eu hannog i ddefnyddio'r cyllid i fynd i'r afael ag anghenion y cyflenwad tai lleol.
Mae'n destun gofid mawr nad yw Llywodraeth Cymru ond wedi cytuno mewn egwyddor i'n hargymhelliad eu bod yn cynnal adolygiad gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o'r pwerau gorfodi statudol cyfredol sydd ar gael i awdurdodau lleol fynd i'r afael ag eiddo gwag er mwyn eu symleiddio a'u gwneud yn fwy effeithiol.
Mae'n destun pryder hefyd nad ydynt ond wedi cytuno mewn egwyddor i'n hargymhelliad eu bod hwy a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnal ymarfer i asesu a yw perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu premiwm y dreth gyngor trwy gofrestru eu heiddo'n ffug fel busnes hunanarlwyo neu honni bod aelod o'r teulu wedi symud i mewn. Gwnaethpwyd honiadau difrifol wrthym ynglŷn â hyn ac mae angen y ffeithiau arnom, yn enwedig lle gallai hyn gynnwys gweithgaredd twyllodrus.
Fodd bynnag, fel y dywedais pan oeddem yn trafod Cyfnod 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae perygl mai perchnogion ail gartrefi sydd wedi rhoi eu cynilion bywyd tuag at wireddu eu breuddwydion fydd yn cael eu taro galetaf gan bremiwm y dreth gyngor, ac sydd felly'n gosod eu hail gartrefi ar rent yn hytrach na'u colli, pan na fydd yn effeithio ar y bobl sy'n gallu ei fforddio. Wrth ymateb i mi yn y pwyllgor, nododd cynrychiolydd Cyngor Gwynedd:
'[nid yw’r] syniad yma bod lot o'n heiddo gwag ni o dan berchnogaeth pobl o'r tu allan i Wynedd ddim… yn llwyr, oherwydd mae yna nifer o dai gwag yng Ngwynedd dan berchnogaeth pobl leol’
Ychwanegodd fod dros 1,000 eiddo wedi trosglwyddo. Ac fel y dywedais yma ym mis Hydref:
'gan weithio gyda'r swyddfa brisio, rhaid i Lywodraeth Cymru, felly, roi sylw i ganlyniad ei deddfwriaeth a allai fod yn anochel... ni ddylent gosbi'r cyfraniad a wneir gan fusnesau hunanddarpar... i'n heconomi dwristiaeth, na pherchnogion ail gartrefi sy'n dilyn y rheolau, ond [a orfodir] i gynhyrchu incwm ychwanegol ar sail fforddiadwyedd.’
Clywsom gan dystion yn y pwyllgor y bydd sawl awdurdod yn Lloegr yn mabwysiadu model partneriaeth ranbarthol, gan benodi swyddog rhyngddynt i rannu'r gost ac adnoddau; fod cael swyddog cartrefi gwag yn hollbwysig a bod dull strategol corfforaethol yn helpu i fynd i'r afael ag oedi a rhwystrau enfawr; fod chwe phrosiect cymunedol yn Lloegr wedi cael £3 miliwn ar gyfer adnewyddu cartrefi gwag ac wedi creu 65 o gartrefi ar gyfer pobl leol dros dair blynedd; fod angen cyllid mwy hirdymor os yw'r cynllun Troi Tai’n Gartrefi yn mynd i gyrraedd y nod; fod y bonws cartrefi newydd yn Lloegr yn sicrhau bod cartrefi a fu’n wag yn hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto; fod profiant a phrofedigaeth yn yr Alban yn eithriad penodol o bremiwm y dreth gyngor; fod Cymru ar ei hôl hi yng nghyd-destun y safon tai addas symlach a fabwysiadwyd yn yr Alban; a bod dulliau cymunedol effeithiol yn chwarae rhan allweddol oherwydd bod pobl yn teimlo eu bod yn rhan o’r broses a bod ganddynt lais go iawn yn y modd yr adnewyddir cartrefi.
Fel y dywedais yma yn 2011, gan ddyfynnu swyddog cartrefi gwag Sir Ddinbych ar y pryd, a gyllidwyd gan gymdeithasau tai yng ngogledd Cymru, mae gan bob cartref gwag stori wahanol, a'r allwedd yw deall pam y mae'n wag a gweithio'n agos gyda'r perchennog i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Diolch yn fawr.
Nid oes angen ailadrodd y ddadl ganolog yn fanwl yma. Gyda thua 27,000 o gartrefi gwag yng Nghymru, gallai sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio unwaith eto wneud gwahaniaeth sylweddol i'n cyflenwad tai, yn enwedig pe gallem alluogi darparwyr tai cymdeithasol i'w prynu, eu hadnewyddu, a'u defnyddio i gartrefu teuluoedd incwm isel. Tra bod tai'n parhau’n wag mewn cymunedau, gallant fod yn falltod i’r cymunedau hynny. Ac mae'r dadleuon hyn wedi cael eu derbyn i raddau helaeth ar draws y Siambr, ac maent wedi cael eu derbyn ers cryn dipyn o flynyddoedd bellach.
Pam felly nad yw problem cartrefi gwag wedi'i datrys? Wel, yn rhannol am nad y cartrefi sy'n wag heddiw yw’r un cartrefi ag a oedd yn wag flwyddyn yn ôl. Wrth i un gael ei ddefnyddio unwaith eto, daw un arall yn wag. Ond rheswm arall yw am nad yw'r gwahanol haenau o Lywodraeth yn defnyddio'r pwerau sydd ganddynt i wneud tolc go iawn yn y broblem. Nid yw rhai awdurdodau lleol yn defnyddio'u pwerau i osod cyfraddau cosbol o’r dreth gyngor ar berchnogion eiddo gwag. Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, mae cymaint â 14 o awdurdodau lleol yn dal i roi gostyngiad i berchnogion cartrefi gwag, ac mae bylchau yn y gyfraith sy'n golygu bod yr awdurdodau lleol sydd am godi tâl ychwanegol am gartrefi gwag wedi cael eu rhwystro rhag gwneud hynny.
Ceir rhywfaint o ddryswch hefyd. Dywedodd un cynghorydd Plaid Cymru wrthyf, mewn dadl yn y cyngor ar gael gwared ar y gostyngiad hwn, nad oedd swyddogion yn yr awdurdod lleol penodol hwnnw, nad wyf yn mynd i’w enwi, i’w gweld yn ymwybodol fod gan awdurdodau lleol bŵer nid yn unig i gael gwared ar y gostyngiad ond hefyd i osod cyfradd gosbol. A dengys hyn fod problem gyfathrebu glir rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
At hynny, gwyddom nad oes gan bob awdurdod lleol swyddogion cartrefi gwag penodol, y dangosodd tystiolaeth ein pwyllgor eu bod yn eithaf hanfodol ar y mater hwn. Pan fydd swyddogion cartrefi gwag ar waith, nid yw pob un ohonynt yn gallu cael cymorth cyfreithiol ac ar brydiau, gall defnyddio pwerau gorfodi arwain at risg ansicr.
Mae rhwystrau eraill a amlygwyd gan ein hadroddiad yn ymwneud â'r anawsterau sy’n codi mewn awdurdodau lleol mewn perthynas â rhannu data, yn ogystal â'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer ymchwilio i ymdrechion i osgoi premiymau’r dreth gyngor. Gwneir nifer o argymhellion yma i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn, er y gallem ddadlau bod un allweddol ar goll, sef bod cyni parhaus ar lywodraeth leol yn anghydnaws â llawer o’r amcanion ar yr agenda hon y mae’r mwyafrif ohonom am eu gweld.
Gobeithio bod hon yn ddadl ddefnyddiol i'r Gweinidog, pe na bai ond er mwyn sefydlu bod angen seilwaith mwy sylfaenol i gyflawni'r polisïau y mae pawb ohonom wedi'u cefnogi ac y mae pawb ohonom am eu gweld yn cael eu gweithredu.
Er nad wyf yn aelod o'r pwyllgor hwn, hoffwn eu canmol am yr hyn y credaf ei fod yn waith pwysig iawn. Bydd pawb ohonom wedi gweld canfyddiadau syfrdanol Shelter y bydd y nifer uchaf o blant ers 12 mlynedd mewn tai dros dro y Nadolig hwn ledled Prydain. Nawr, mae cyfraddau Cymru yn is nag mewn mannau eraill o'r DU ond maent yn dal i fod wedi codi dros chwarter dros y pedair blynedd diwethaf. Mae llawer o’r bai ar gyni a newidiadau lles creulon. Ond un ateb i hyn yw troi eiddo gwag yn gartrefi ac mae'n dda iawn gweld bod yr adroddiad hwn yn rhoi cyfle inni ganolbwyntio ar y cysyniad hwn heddiw. Yn fy nghyfraniad, roeddwn eisiau canolbwyntio ar yr hyn y mae fy awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf, yn ei wneud i fynd i'r afael â chartrefi gwag, a chrybwyllir eu strategaeth cartrefi gwag yn yr adroddiad, felly roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol pe bawn yn ei archwilio’n fanylach yn y Siambr.
Datblygodd y cyngor y polisi am eu bod yn cydnabod bod y cartrefi gwag yn y fwrdeistref yn gyfle i ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen i breswylwyr, a hefyd am eu bod yn cydnabod y problemau a achosir gan gartrefi gwag. Gallant niweidio lles cymunedol, a pheri trallod i breswylwyr yr effeithir arnynt gan eu hymddangosiad hyll, a gweithredu fel magnedau ar gyfer trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Felly, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi datblygu ystod o wahanol offer a dulliau i annog defnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Ac fe af drwy rai o brif elfennau eu strategaeth yn sydyn.
Y cyntaf yw gweithgaredd gorfodi yn maes tai; yn ail, darparu benthyciadau Troi Tai’n Gartrefi, gan ddefnyddio cyllid ad-daladwy Llywodraeth Cymru; y trydydd yw darparu grantiau, gan ddefnyddio cyllid y cyngor ei hun, a olygodd dros £4 miliwn yn y blynyddoedd 2016-17 yn unig; yn bedwerydd, cynlluniau tai fforddiadwy sy'n sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto; pump, cyngor a chymorth i ddarpar berchnogion tai; y chweched elfen ohono yw darparu cartrefi uwchben adeiladau manwerthu yng nghanol trefi, rhywbeth a fu'n llwyddiant arbennig yn Aberdâr, gan ailddefnyddio adeiladau a fu’n wag yn y gorffennol; y seithfed yw dileu gostyngiad y dreth gyngor o 50 y cant ar gyfer cartrefi gwag, ac roedd grant cartrefi gwag disgresiynol y cyngor yn allweddol i hyn, grant sy'n cefnogi cyflawniad blaenoriaeth fuddsoddi'r cyngor a Llywodraeth Cymru o sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.
Mae'n cynnig llety addas i bobl leol ond mae hefyd yn helpu i adfywio cymunedau ehangach hefyd. Rhoddir meini prawf cymhwysedd cadarn ar waith hefyd i sicrhau cynaliadwyedd y cynllun. Felly, yn allweddol, er enghraifft, rhaid i ymgeiswyr fod yn ddarpar berchen-feddianwyr, nid yn landlordiaid, sy'n bwriadu byw yn yr eiddo fel eu prif breswylfa am gyfnod o bum mlynedd o leiaf. Rhaid bod yr eiddo wedi bod yn wag am gyfnod o chwe mis cyn ei brynu ac ar adeg y cais am grant, rhaid iddo fodloni anghenion tai teulu'r ymgeisydd sy'n bwriadu meddiannu'r eiddo, ac mae'n ofynnol i ymgeiswyr wneud uchafswm cyfraniad o 15 y cant o gyfanswm cost gwaith sy'n gymwys i gael grant. Gall y grant hwnnw fod yn unrhyw beth rhwng £1,000 ac £20,000, ac fe'i defnyddir wedyn i wneud yr eiddo'n saff ac yn ddiogel.
Mae'r fenter wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Ers 2016, fe'i defnyddiwyd yn uniongyrchol i sicrhau bod 165 o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, ac yn gyffredinol mae dull y cyngor o fynd i'r afael â chartrefi gwag yn effeithio’n sylweddol ar nifer y cartrefi gwag ar draws y fwrdeistref. Felly, os edrychwch ar gofnodion y dreth gyngor, er enghraifft, rhwng 2017-18 a 2018-19, y cyfnod y gweithredwyd y strategaeth cartrefi gwag mewn gwirionedd, dangosant fod 671 yn llai o gartrefi gwag ar draws y fwrdeistref. Rwy'n credu bod hwnnw'n ffigur rhagorol. At hynny, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sicrhaodd Rhondda Cynon Taf fod cyfanswm o 213 o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto yn uniongyrchol yn sgil ymyrraeth y cyngor. Ar 7.4 y cant, mae'n gynnydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a bron i 3 y cant yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Mae dull Rhondda Cynon Taf o fynd i'r afael â chartrefi gwag yn feiddgar ac yn edrych tua'r dyfodol. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod eu hymarfer fel un sy'n arwain y sector. Yn fwyaf arbennig, mae'n newyddion gwych fod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, fel cadeirydd tasglu'r Cymoedd, wedi cytuno i ddarparu cyllid o £10 miliwn i gyflwyno grant cartrefi gwag Rhondda Cynon Taf ar draws holl awdurdodau tasglu'r Cymoedd. Bydd Rhondda Cynon Taf yn gweithredu fel y corff arweiniol ac yn cydlynu’r gwaith o ddarparu'r grant. Bydd y buddsoddiad llwyddiannus hwn yn darparu cefnogaeth bellach ac yn cyflymu nifer y cartrefi gwag sy'n cael eu defnyddio eto ar draws y Cymoedd i gyd. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r Dirprwy Weinidog, y Gweinidog tai, cynghorwyr a swyddogion o Rondda Cynon Taf ar gyfer y cyhoeddiad y bydd yn cael ei gyflwyno yn Ynys-y-bŵl, ac edrychaf ymlaen at ddilyn cynnydd y polisi yn y dyfodol.
Hoffwn gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor a phawb a gymerodd ran yn ein hymchwiliad i eiddo gwag. Nid oeddwn ar y pwyllgor ar ddechrau'r ymchwiliad ac ni chefais gyfle i holi'r rhan fwyaf o'r tystion, ond rwy'n ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i'n goleuo.
Mae gennym argyfwng tai yng Nghymru, ac mae dros 60,000 o aelwydydd ar restr aros, ond llond dwrn yn unig o dai cymdeithasol newydd sy'n cael eu hadeiladu bob blwyddyn. Cyhoeddodd Shelter Cymru ffigurau brawychus ddoe sy'n dangos y bydd tua 1,600 o blant yn treulio'r Nadolig mewn llety dros dro oherwydd digartrefedd, nifer sydd wedi codi bron i hanner mewn pedair blynedd. Dangosodd data a ddatgelwyd gan ITV Cymru fis diwethaf fod ychydig dros 43,000 eiddo gwag yng Nghymru, ac fel y canfu ein pwyllgor, mae tua 27,000 eiddo preifat wedi bod yn wag ers dros chwe mis.
Gyda chymaint o deuluoedd angen cartref yn ddybryd, mae'n ofnadwy gweld cynifer o gartrefi gwag, ac yn aml gall fod yn falltod ar y dirwedd, gan annog fandaliaeth. Fodd bynnag, rhaid inni gofio hefyd y gall fod llu o resymau pam y mae eiddo'n wag. Gallai'r eiddo fod mewn profiant, sy'n gallu cymryd blynyddoedd lawer i'w ddatrys. Pan ddaw allan o brofiant, efallai y bydd y perchnogion newydd yn cael trafferth gwerthu ac yn methu talu'r bil treth etifeddiant. Yn aml, gall landlordiaid ei chael hi'n anodd dod o hyd i denantiaid, sy'n golygu y gall eu heiddo fod yn wag am fisoedd. Gall eiddo gael ei adael yn wag am na all y perchennog fforddio'r bil atgyweirio i bobl allu byw yn yr eiddo. Ac rwy'n derbyn y gall fod problem gyda chartrefi gwyliau, ond mae'r rhain yn rhan lai o'r darlun cyfan, a gyda datblygiadau megis Airbnb, mae eiddo o'r fath wedi dod yn llai gwag.
Yn Rhondda Cynon Taf y mae'r nifer fwyaf o gartrefi gwag, nid ar y traeth, felly mae cynifer o achosion pam fod eiddo'n wag fel na allwn fynd ati i chwilio am un ateb i bawb. Rhaid inni hefyd ddefnyddio'r abwyd yn fwy na'r ffon, ac mae Llywodraethau'n sôn yn aml am gamau gorfodi a chosbi perchennog eiddo gwag drwy drethi eiddo caeth, ac nid yw dull o'r fath yn helpu'r rhai sy'n cael trafferth gydag eiddo na allant ei ddefnyddio neu na allant ei werthu ac mae diffyg cymorth cyfreithiol o ran gorfodaeth yn gwneud bywyd y swyddog gorfodi'n anos. Dyna pam rwy'n cefnogi trydydd argymhelliad y pwyllgor: gall swyddog penodol sydd â chyfrifoldeb dros eiddo gwag gysylltu â pherchennog eiddo a chanfod y rhesymau pam ei fod yn wag. Gyda'i gilydd, gallant ddod o hyd i atebion, boed yn gymorth i wneud yr eiddo'n addas i bobl fyw ynddo neu ganiatáu i gyngor neu landlord cymdeithasol cofrestredig brynu'r eiddo i'w ddefnyddio fel eiddo rhent cymdeithasol. Mae disgresiwn cyngor ar gartrefi gwag yn amrywio o gyngor i gyngor, sy'n peri ansicrwydd i'r perchennog ac i weithiwr cyngor, ond yr ymateb difeddwl yn aml yw dweud y bydd yr eiddo hwn yn datrys ein hargyfwng tai, a byddai'n wych pe bai'n gwneud hynny, ond a bod yn realistig, bydd yn helpu i fynd i'r afael â'r angen am dai os gallwn ddefnyddio'r eiddo, ond nid yw hynny'n rhyddhau llywodraethau olynol o'u methiant truenus i ddarparu digon o dai fforddiadwy.
Bydd argymhellion y pwyllgor yn mynd beth o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â phroblem cartrefi gwag. Nid oes neb am weld eiddo gwag, yn enwedig perchnogion y cyfryw eiddo. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi argymhellion y pwyllgor. Diolch.
Siaradaf fel rhywun nad yw'n aelod o'r pwyllgor, ond rwy'n cael y fraint o siarad am dai ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, felly mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr adroddiad hwn. Nawr, er gwaethaf nifer o gynlluniau da a weithredwyd dros y blynyddoedd gan Lywodraeth Cymru, megis canllawiau arferion da ar gartrefi gwag, yn 2010 rwy'n credu, a chyflwyno'r cynllun Troi Tai'n Gartrefi, ymddengys nad ydym eto wedi datrys y broblem, ac yn wir, efallai fod cynnydd wedi arafu ychydig. Felly, rwy'n credu ei bod yn briodol iawn ein bod yn edrych ar y mater eto.
Rydym wedi clywed y ffigurau: tua 27,000 o gartrefi yn y sector preifat sy'n wag. Nawr, mae'n anochel y byddai nifer benodol o gartrefi yn wag ar unrhyw un adeg, ond does bosibl nad yw'r lefel hon yn llawer uwch nag elfen amrywiol o'r fath y byddech yn ei disgwyl mewn marchnad dai. Felly, mae'n rhywbeth y mae gwir angen ei ddatrys. Pan fyddwn yn ei gymharu â tharged Llywodraeth Cymru ar gyfer pum mlynedd gyfan y Cynulliad hwn i godi 20,000 o gartrefi fforddiadwy, mae'n ei roi mewn persbectif, maint yr her a nifer yr eiddo gwag sydd ar gael. Rwy'n sicr yn credu bod rhai o'r cynlluniau sydd wedi'u hawgrymu, sy'n ei gwneud yn haws pan fydd pobl yn etifeddu eiddo nad yw mewn cyflwr da iawn neu nad oes ganddynt fodd i ymdrin ag ef, ac os bydd cymdeithas dai, er enghraifft, neu'r cyngor yn gallu cynnig bargen resymol i'r perchennog i werthu'r eiddo a'i fod yn dod ar gael fel cartref cymdeithasol, dyna ffordd ddeniadol iawn yn fy marn i, a ffordd sy'n llawn dychymyg o helpu i ddatrys y broblem hon a lleihau'r perygl o ddigartrefedd hefyd neu—. Y peth arall sydd gennym—a soniodd Caroline am yr argyfwng tai ehangach—mae gennym lawer iawn o aelwydydd mewnblanedig. Aelwydydd yw'r rhain nad ydynt wedi gallu ffurfio oherwydd nad oes unrhyw dai priodol iddynt fynd iddynt. Felly, maent mewn tai anaddas, yn aml gyda'u rhieni, ac mae hyn, rwy'n credu, wedi bod yn falltod go iawn ar y genhedlaeth bresennol hon, ac un na wnaeth y rhan fwyaf ohonom ni—rhai fy oed i yn sicr—ei hwynebu pan oeddem yn ein 20au. Felly, mae angen i'r cyflenwad tai gynyddu'n sylweddol, ac mae hyn yn rhan o'r ateb.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig eu strategaeth dai, 'Cartrefu Cenedl', a datgelwyd ystadegau a ddangosai fod tua 4,000 o dai cymdeithasol gwag yng Nghymru ar hyn o bryd. Nawr, sylwaf yn yr adroddiad hwn ei fod yn dweud 1,400, ac mae problem gyda'r modd y byddwch yn cyfrif cartrefi gwag—beth yw'r trothwy lle dylid eu categoreiddio yn y fath fodd? Ond rwy'n credu bod problem gyffredinol ynghylch casglu data, a byddai gwella'r ystadegau yn help mawr i ni. Ac o ganlyniad, rwy'n croesawu argymhelliad 5 yn yr adroddiad hwn yn enwedig. Felly, rwy'n meddwl bod angen edrych ar hynny, a chael strategaeth—rwy'n credu bod hynny'n allweddol iawn. Rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth fod â thargedau pendant ac ni ddylem adael i bethau lithro fel y gwnaethant ers 2010, dyweder—yr ymdrech benderfynol olaf i'n symud ymlaen ar y mater hwn. Ac rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth anelu, er enghraifft, at sicrhau bod yr holl gartrefi cymdeithasol gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto; ni ddylid eu gadael yn wag yn hir, ac nid am dros chwe mis yn sicr. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei weld cyn gynted ag y bo modd.
Rwyf hefyd yn meddwl bod problemau gyda defnyddio cronfa ddata'r dreth gyngor ei hun ar gyfer llawer o'r gwaith casglu data, oherwydd—ac rwy'n meddwl bod Caroline, eto, wedi sôn am hyn—nid yw'n dweud llawer wrthych pam y mae eiddo'n wag, a dyna sydd angen i ni ei wybod mewn gwirionedd. Ac rwy'n cymeradwyo'r sefydliad Action on Empty Homes am eu gwaith yn y maes hwn, lle maent wedi amlinellu'r nifer o resymau pam y gallai eiddo fod yn wag, ac abwyd yn hytrach na ffon sy'n mynd i wella'r sefyllfa mewn gwirionedd. Felly, mae amryw o resymau pam y mae eiddo'n mynd yn wag, ac rwy'n sicr yn meddwl bod gan y wladwriaeth ac awdurdodau lleol rôl i'w chwarae yn hyn o beth.
Rwyf am orffen drwy gymeradwyo'r pwyllgor am ei adroddiad. Mae'n ddefnyddiol iawn, ac rwy'n gobeithio y gwelwn fwy o weithredu'r math o bolisïau sydd eu hangen arnom—mae llawer ohonynt wedi cael eu derbyn bellach ers 10 mlynedd neu fwy, gyda chonsensws rhwng y pleidiau, fel y nododd Leanne yn gynharach. Felly, mae gwir angen inni fwrw iddi a gwneud hyn.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor a hefyd i'r Cadeirydd am ei stiwardiaeth ragorol ar hyn, fel bob amser? Roedd yn wych fod y Cadeirydd a'r pwyllgor wedi penderfynu dychwelyd at y mater hwn yn hytrach na gwthio adroddiadau blaenorol i'r naill ochr a gadael iddynt, ond yn hytrach, eu bod wedi dychwelyd ato gyda'r bwriad o annog, cynorthwyo, dangos i'r Llywodraeth lle mae angen inni wneud cynnydd o hyd. Ac rwy'n credu ei bod yn werth i bwyllgorau wneud hynny'n arfer—ailedrych ar y gwaith y maent wedi'i wneud. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl dystion a ddaeth ger ein bron a rhoi gymaint o'u hamser a'u harbenigedd hefyd.
Aeth Vikki, fy nghyd-Aelod—rydym yn rhannu awdurdod lleol yn Rhondda Cynon Taf—drwy'r arferion da a gyflawnwyd yno, a'r ffaith bod Rhondda Cynon Taf yn cael ei weld yn awr fel esiampl i'w dilyn gan Lywodraeth Cymru. Ac mewn gwirionedd, caiff y gwaith y mae wedi'i wneud ei gyflwyno bellach ar draws ardal tasglu Cymoedd de Cymru. Yn wir, mae'n debyg ei fod ychydig ar y blaen yn hyn o beth. Cyfeirir at lawer o bethau yn yr adroddiad mewn perthynas â'r dull o weithredu dan arweiniad arbenigwyr, y cyswllt â'r gymuned, gan gynnwys gydag elfennau megis mentrau tai cydweithredol a mentrau dan arweiniad y gymuned hefyd. Maent wedi mynd o'n blaenau ni yma, ac maent yn dangos y ffordd yn dda iawn. Felly, gwyddom y gellir ei wneud, ac maent wedi defnyddio pob arf sydd ar gael iddynt, nid pwerau gorfodi yn unig, nid cyllid grant a mecanweithiau ariannol eraill yn unig, ond gweithio gyda pherchnogion yr eiddo a'r perchen-feddianwyr yn ogystal i ddweud, 'Iawn, sut y defnyddiwn hyn, nid yn unig i adfywio cartrefi ond i adfywio cymunedau ar raddfa lawer ehangach?'
Rwy'n croesawu'r adroddiad yn fawr a'r ymateb cadarnhaol gan y Llywodraeth i hyn hefyd—mae pob un ond un o'r argymhellion wedi'u derbyn. Mae un wedi'i wrthod, a dof yn ôl at hwnnw mewn munud, ac un neu ddau wedi'u derbyn mewn egwyddor. Ond yr un sylfaenol cyntaf, yr alwad hon am gynllun gweithredu cenedlaethol—rwy'n croesawu'n fawr eich bod wedi cytuno i gyflwyno hwnnw'n gynt, ac i'w gyflwyno erbyn dyddiad—cawsom rywfaint o drafodaeth yn y pwyllgor—y credem y byddai'n un heriol. Llwyddwyd i gytuno ar fis Hydref y flwyddyn nesaf, ac roeddem yn meddwl, 'A all y Llywodraeth wneud hyn?' Nawr, rydych wedi cytuno i gyflwyno'r drafft erbyn hynny, ac rwy'n credu y gallwn fyw gyda hynny. Ac yna, ddeufis yn ddiweddarach, erbyn mis Rhagfyr—Hydref, Tachwedd, Rhagfyr—ddau fis yn ddiweddarach, cyflwyno'r un terfynol. Mae hynny'n eithaf uchelgeisiol, ond rwy'n credu ein bod yn hapus ynglŷn â hynny, ac yn enwedig ynglŷn â'r ffaith eich bod wedi cytuno i'w wneud.
O ran y dulliau dan arweiniad y gymuned, a gaf fi argymell i'r Gweinidog, wrth iddi geisio ymateb i'r hyn y mae'r pwyllgor wedi'i ddweud ac edrych ymlaen—? Cafwyd cyflwyniad rhagorol yma yn adeiladau'r Senedd y diwrnod o'r blaen, a drefnwyd, mewn gwirionedd, gan fy nghyd-Aelod, yn ei rôl fel cadeirydd yn sefydliad cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol y fenter tai Tai Fechan ar ystâd Gellideg. Dyna enghraifft o'r radd flaenaf o ymgysylltu â'r gymuned, oherwydd mae'r bobl hynny'n ymwneud â llawer mwy nag adfywio eu cartrefi, maent yn rheoli'r gwaith o adfywio eu cartrefi ar y cyd â'r awdurdod lleol, ac maent wedi sefydlu eu hunain fel cydweithfa. Nawr, mae llawer mwy o botensial yn hyn, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Gweinidog, yn unol â'n cefnogaeth i'r mudiad cydweithredol a hefyd i fentrau tai dan arweiniad y gymuned, faint yn fwy y gallem ei wneud ar hyn.
Mae gennym 137 o gartrefi cydweithredol mewn chwe awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru. Ymddengys i mi y gallai hyn fod yn rhan sylweddol o'r ateb mewn cymunedau lle mae eiddo wedi bod yn wag nid yn unig ers misoedd, ond ers blynyddoedd lawer—eu galluogi i gamu ymlaen a chymryd rheolaeth dros adfywio cartrefi a chartrefi fforddiadwy yn eu hardaloedd.
Hoffwn droi at yr arbenigedd sy'n bodoli mewn awdurdod. Mae hon yn thema gyffredin a nodwyd gennym, a dyna pam y gwnaethom gyflwyno argymhellion i gael swyddog o fewn awdurdod. Nawr, rwy'n meddwl bod y Gweinidog yn ymateb y Llywodraeth wedi derbyn hynny wrth gwrs, ond nid wyf yn siŵr eu bod wedi nodi y dylid cael swyddog ym mhob awdurdod lleol, y dylai'r holl offer fod ar gael. Felly, hoffwn wybod beth yw barn y Gweinidog ar hynny: os nad swyddog, sut y gwnawn yn siŵr fod yr arferion da y clywsom amdanynt yn digwydd ym mhob awdurdod lleol?
Mae'r arbenigedd cyfreithiol yn argymhelliad hollbwysig. Clywsom dro ar ôl tro fod pryder mewn rhai awdurdodau lleol nad oedd eu swyddogion yn gallu manteisio ar arbenigedd cyfreithiol digonol yn fewnol pan oeddent yn defnyddio rhai o'r pwerau gorfodi llymach, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw. Rwyf hefyd yn falch nad ydym wedi gwrthod y syniad o archwilio ymhellach y gorchmynion gwerthu gorfodol y maent yn eu treialu yn yr Alban. Mae ymateb y Llywodraeth yn peri penbleth i mi:
'Rydym yn hapus i adolygu’r Gorchymyn Gwerthu Gorfodol mewn ymgynghoriad â'n cydweithwyr yn y maes cynllunio, gan ystyried a fyddai’n ymarferol ei weithredu yng Nghymru.'
Rwy'n gwybod, Weinidog, fod yn rhaid i chi edrych i weld a yw'n gweithio'n effeithiol yn yr Alban, ond dywedwyd wrthym fod potensial gwirioneddol i hyn, am ei fod yn cael gwared ar y fiwrocratiaeth a'r costau a'r risgiau i awdurdodau lleol o ddilyn trywydd y gorchmynion prynu gorfodol.
Dyma fy nghwestiwn olaf i'r Gweinidog: sut y mae hyn yn ein harwain i ymdrin ag eiddo masnachol amhreswyl hefyd—yr adeiladau lawn mor hyll hynny mewn cymunedau sy'n eiddo masnachol a adawyd yn wag flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn aml ar y ffordd i mewn i gymunedau, ac maent yn falltod go iawn ar y cymunedau hynny. A oes gwersi i'w dysgu o hyn y gallwn eu cymhwyso ar gyfer y rheini hefyd?
A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am archwiliad manwl o'r materion niferus sy'n ymwneud ag eiddo gwag, ac i'r Aelodau sydd hefyd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad a'r ddadl heddiw. Roedd yr ymchwiliad a'r adroddiad yn fanwl ac yn ddiduedd, a bydd y dadansoddiad a'r argymhellion sy'n deillio ohono yn ein helpu i ffurfio rhaglen gynhwysfawr a chynhwysol i gefnogi ein gwaith ar wella gorfodaeth.
Rydym am i'r rhaglen ei gwneud yn norm, yn hytrach nag yn eithriad, i fynd i'r afael ag eiddo gwag drwy orfodaeth. Rydym am ddatblygu gwybodaeth a gallu a'i gwneud yn glir i berchnogion eiddo o'r fath nad yw'r malltod hwn ar ein cymunedau a'n trefi yn dderbyniol mwyach ac y byddwn yn eu targedu. O'r herwydd, rydym yn derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor—fel y clywsom—y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cymru. Mae ein sail resymegol wedi'i nodi'n fanylach yn fy ymateb ffurfiol i'r adroddiad, felly nid fy mwriad y prynhawn yma yw ailadrodd yr ymateb hwnnw'n fanwl iawn.
Ond wrth roi'r agenda hon ar waith, ein her gyntaf fel Llywodraeth yw creu amgylchedd ar gyfer cydweithredu. Gwyddom fod adnoddau o dan bwysau, ac yn aml, gall mynd i'r afael ag eiddo gwag gael ei weld, neu mae wedi cael ei weld, fel rhywbeth sy'n 'braf i'w gael' yn hytrach na'i fod yn cynnal gwasanaethau statudol allweddol megis iechyd, gofal cymdeithasol, addysg ac yn y blaen. Ond mae'n bwysig sefydlu'r amodau lle mae ein partneriaid cyflenwi yn gweld budd y gwaith, boed drwy lai o achosion o gwynion yn ymwneud â diogelwch, iechyd yr amgylchedd neu, fel y clywsom heddiw, ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy'n aml yn ymddangos fel pe bai'n tynnu at neu'n ymgynnull o amgylch eiddo gwag. Mae effaith ganlyniadol i hyn oll ar ein cymunedau a hefyd ar lwyth gwaith swyddogion, a gellid mynd i'r afael â hyn drwy ymyrraeth gynnar ar eiddo gwag.
Mae angen inni chwalu'r rhwystrau mewnol ac allanol i ymdrin ag eiddo gwag drwy ddod o hyd i ffyrdd gwell o weithio, darparu atebion pwrpasol a nodi sut y gall awdurdodau lleol weithio'n fwy clyfar ac yn fwy effeithlon. I gefnogi hyn, mae Llywodraeth Cymru yn caffael arweinydd diwydiant i weithredu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ac i gynorthwyo i weithredu cynlluniau gweithredu lleol. Rydym am ddatblygu sgiliau pob un o'n hawdurdodau i fod mor effeithiol ac effeithlon ag sy'n bosibl wrth ymdrin â'r eiddo gwag yn eu hardaloedd, gan greu cronfa heb ei hail o arbenigedd, lle mae awdurdodau'n cydweithio ar ffyrdd arloesol o weithio, yn hytrach na'u bod yn teimlo her efallai, neu reidrwydd i fod yn ymosodol. Ond i fod yn glir, nid yw'r dull newydd hwn yn adlewyrchiad o berfformiad yn y gorffennol, ac mae'n ymwneud mwy â sut rydym eisiau ailsefydlu ein dull o weithio gyda'n gilydd yng Nghymru i fynd i'r afael â'r broblem hon.
Bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ddarparu'r offer a'r adnoddau cywir i gyflawni hyn, a bydd tîm mwy hyderus yn gallu creu atebion mwy arloesol a nodi cysylltiadau gwell er mwyn mynd i'r afael â'r problemau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Rydym wedi ymrwymo i nodi'r bylchau hyn, dod o hyd i'r arfau cywir, a chefnogi ein partneriaid i deithio ar hyd y llwybr problemus hwn. Er enghraifft, rydym wrthi'n adolygu cylchlythyr a llawlyfr gweithredu'r gorchymyn prynu gorfodol er mwyn galluogi awdurdodau lleol i wneud y defnydd gorau o'r dulliau sydd ar gael iddynt i geisio sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.
Rwy'n credu bod yn rhaid i bobl a lleoedd fod yn ganolog i'r hyn a wnawn. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth leol yn aml yn adnodd nad yw'n cael ei werthfawrogi na'i ddefnyddio'n ddigonol yn fy marn i, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod mwy o gynigion yn cynnwys y gymuned er mwyn cynyddu cynaliadwyedd ac atebolrwydd ein cynlluniau, a bod angen nodi mwy o atebion yn y gymuned a chreu llwyfan ar gyfer arferion gorau, a pharhau i feithrin yr adnodd hwn fel bod gan ein partneriaid cyflenwi fwy o opsiynau ar gael iddynt. Rydym wedi clywed heddiw am fenter gydweithredol Tai Fechan, ac mae'n rhywbeth rydym yn awyddus i'w archwilio'n fanylach o ran sut y gallem edrych ar hynny a defnyddio hynny. Rwy'n deall fy mod i fod i gyfarfod â chynrychiolwyr yr wythnos nesaf i weld sut y gallwn fynd â hyn ymhellach.
A wnaiff y Gweinidog ildio yn y fan honno? Tybed a fyddai'r Gweinidog yn edrych yn ogystal ar fodelau adfywio ymddiriedolaethau cymunedol llai o faint. Bûm yn ymwneud â'r rhain yn y gorffennol, ac ar lefel y stryd, mae eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth leol, a rhai pobl sydd â bwriadau da—os oes ganddynt yr arbenigedd iawn y tu ôl iddynt a'r cymorth ariannol cywir i'w roi ar ben ffordd, mawredd, gallant wneud gwaith aruthrol yn eu hardaloedd, o ran gwaith adfywio. Felly, y tu hwnt i ymwneud y cwmnïau cydweithredol mwy o faint a'r cymdeithasau tai, mae potensial gan yr ymddiriedolaethau cymunedol llai hyn hefyd yn fy marn i.
Yn bendant, ac mae'n ymwneud â darparu'r cymorth a'r atebion pwrpasol, felly, os oes gan unrhyw Aelodau yn y Siambr enghreifftiau yn eich etholaethau neu'n lleol, cysylltwch â ni a'u bwydo i mewn i wneud yn siŵr y gallwn ddefnyddio'r arbenigedd ac adeiladu arno.
Hyd yn hyn, rwyf wedi amlinellu'r hyn a wnawn i gefnogi ein partneriaid, ond i fod yn glir, nid yw'r cymorth hwn yn golygu ein bod yn camu'n ôl, ond yn hytrach y byddwn yn sefyll yn gadarn. Neges y Llywodraeth i berchnogion eiddo gwag yw: gweithiwch gyda ni ac fe weithiwn ni gyda chi a'ch helpu i gael adnoddau fel sy'n briodol i allu sicrhau bod eich eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond os nad ydych yn ymwneud â ni ac yn meddwl y gallwch barhau fel rydych chi, fe fyddwch yn camgymryd yn arw, a byddwn yn rhoi unrhyw gamau fydd eu hangen ar waith.
Byddwn yn rhoi cymaint o gymorth ag sydd ei angen i'r awdurdodau lleol gyflawni cymaint o gamau gorfodi ag y bo angen, a bydd y canlyniad yr un fath, ond dewis y perchnogion eiddo gwag yw sut y maent yn dymuno cyrraedd yno.
A wnewch chi ildio? Gan gyfeirio at y sylwadau blaenorol ynghylch ymddiriedolaethau cymunedol, yn y gorffennol, roedd gan Lywodraeth Cymru raglen ar gyfer hyn a gyflwynwyd gyda Keith Edwards yn Sefydliad Tai Siartredig Cymru, pan oedd yn gyfarwyddwr, a gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru. Euthum i lansiad y rhaglen yng Ngorllewin Rhyl, er enghraifft, a châi ei gweithredu ar y cychwyn gan gymdeithas dai, gyda'r nod o drosglwyddo i ymddiriedolaeth gymunedol, ond roedd y problemau a wynebwyd yn deillio o fethiant ar y dechrau i ymgysylltu'n briodol ac yn gydgynhyrchiol gyda'r gymuned leol honno, ac rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod yn rhaid i hynny ddod yn gyntaf.
Yn hollol. Fel y dywedais yn gynharach, rwy'n meddwl bod gwybodaeth leol—nid gwybodaeth leol yn unig sy'n aml yn adnodd nad yw'n cael ei weithredu a'i ddefnyddio'n ddigonol, ond os ydym am sicrhau bod yr atebion hyn yn gweithio ar ran y cymunedau lle maent wedi'u lleoli, mae angen i'r gymuned fod yn rhan iawn o hynny. Felly, wrth fwrw ymlaen â'r cam gweithredu hwn, byddwn yn cefnogi awdurdodau i ddod yn ffynhonnell o niwsans cyson fel rwy'n ei ddisgrifio—niwsans cyson i'r rhai nad ydynt yn dymuno ymgysylltu neu sy'n credu ei bod yn iawn iddynt wneud cyn lleied â phosibl. Ac fel rhan o hyn, rydym yn mynd i'r afael â sut y gallwn weithredu cosbau llymach a nodi llwybrau mwy llwyddiannus ar gyfer gorfodi.
Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor wrth agor fod eiddo gwag yn broblem sy'n effeithio ar ein holl gymunedau, ac nid wyf yn credu bod yna gynrychiolydd etholedig yma neu'r tu allan i'r lle hwn sydd heb gael pobl yn dwyn y broblem hon i'w sylw, neu heb gael sylwadau yn ei chylch. Wrth gloi, rwyf am ailddatgan bod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn croesawu'r adroddiad yn fawr, adroddiad sydd, yn ffodus, yn atgyfnerthu rhai o'r camau rydym yn eu cymryd a'r cynlluniau sydd ar y gweill. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor unwaith eto am ei ganfyddiadau, ac rwy'n falch fy mod i a fy swyddogion wedi gallu chwarae rhan a oedd yn adeiladol ac yn gynhyrchiol, gobeithio, ac edrychaf ymlaen at fwrw ymlaen â'r gwaith fel nad yw Cymru mwyach yn wlad lle caiff eiddo gwag ei adael i bydru, i ddod yn falltod ar ein cymunedau, ac i effeithio ar ein balchder mewn lleoedd. Rydym yn gweithredu ac fe fyddwn yn gweithredu.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar John Griffiths i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran? Rwy'n credu ei bod yn glir fod consensws cryf ynglŷn â phwysigrwydd y materion hyn, a hefyd, yn gyffredinol, y math o gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â hwy. Ond roedd rhywfaint o gonsensws hefyd, rwy'n credu, ynglŷn â'r ffaith fod y consensws rwyf newydd ei ddisgrifio wedi bod yno ers cryn dipyn o amser, ond nid ydym wedi gweld parhad o'r cynnydd a fu'n digwydd dros y blynyddoedd diwethaf mewn gwirionedd. Felly, mae angen inni gryfhau ein hymdrechion ac adnewyddu ein ffocws, ac rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd yr adroddiad hwn yn gatalydd i hynny.
Dechreuodd Mark Isherwood drwy sôn am yr angen i weithio gyda pherchnogion a deall eu hamgylchiadau unigol. A chredaf i hynny gael ei gyfleu'n gadarn yn y dystiolaeth a gawsom mai dyna yw dull yr awdurdodau lleol o weithredu. Yn y lle cyntaf, mae'n amlwg eu bod am weithio gyda pherchnogion yn hytrach nag ymdrin â phroblemau mewn ffordd lawdrwm. Maent am weithio gyda pherchnogion, deall eu hamgylchiadau, a gweld a allant helpu i sicrhau bod yr eiddo'n cael ei ddefnyddio unwaith eto. Ond yn amlwg, ni fydd hynny bob amser yn bosibl, a dyna pam rwy'n croesawu'r ymrwymiad a roddodd y Gweinidog tuag at ddiwedd ei haraith fod rhaid gweithio gyda pherchnogion mewn modd mor effeithiol â phosibl, ond os na fydd rhai perchnogion—ac rwy'n siŵr mai lleiafrif fyddent—yn agored i ba awgrymiadau bynnag a pha gymorth bynnag a gynigir, yna, yn amlwg, rhaid cael dull wrth gefn sy'n galw am orfodaeth a ffordd gadarn o sicrhau bod yr eiddo'n cael eu defnyddio'n bwrpasol unwaith eto.
Siaradodd Mark hefyd am gymdeithasau tai a sut y mae angen i ymwneud â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fod yn ddiffuant, ac unwaith eto, credaf y byddai pawb yn cytuno â hynny. Wedyn, soniodd Mark, a daeth yn ôl ato hefyd yn ei ymyriad yn ddiweddarach pan oedd y Gweinidog yn siarad, am ddull cymunedol o weithredu. Ac unwaith eto, rwy'n credu bod cryn dipyn o gefnogaeth i hynny. Cawsom enghreifftiau gwych gan Vikki Howells a Huw Irranca-Davies i ddangos sut y mae'r dulliau hynny'n dwyn ffrwyth. Rwy'n credu bod Rhondda Cynon Taf wedi cael sylw yn yr adroddiad, ac roedd yn wych gweld Vikki'n nodi rhai o elfennau eu strategaeth effeithiol, ac yn galw'n briodol am ei chydnabod a lledaenu arferion da o amgylch Cymru, buaswn yn gobeithio.
Gwn fod gan Huw gysylltiad gwych â'r sector cydweithredol a grwpiau cymunedol, a rhaid wrth ddull gweithredu o'r gwaelod i fyny o'r math hwnnw. Fel y dywedwyd, mae'n rhaid iddo fod yn ddiffuant. Mae'n rhaid iddo ymwneud â chydgynhyrchu ystyrlon o'r cychwyn cyntaf, heb unrhyw ymdeimlad fod unrhyw beth yn cael ei orfodi na diffyg didwylledd a chyfathrebu angenrheidiol.
Rwy'n credu bod Leanne wedi disgrifio rhai o'r anawsterau—Leanne Wood—gyda haenau o Lywodraeth yn rhan o hyn a methiant i ddefnyddio pwerau'n effeithiol bob amser, ac effaith cyni dros y 10 mlynedd diwethaf wrth gwrs, a diffyg adnoddau. Ac rwy'n meddwl, unwaith eto, y bydd llawer ohonom yma yn cydnabod hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a amlygwyd yn sgil gwaith y pwyllgor yn casglu tystiolaeth. Felly, rwy'n gobeithio y byddai'r hyn a ddywedodd y Gweinidog, ac ymateb ysgrifenedig y Llywodraeth, yn mynd beth o'r ffordd tuag at ddiwallu'r pryderon ynghylch y materion hynny.
Soniodd Caroline Jones am yr angen i helpu i fynd i'r afael â'r angen am dai, ac yn wir, dechreuodd Vikki Howells drwy sôn am adroddiad Shelter a pharhad y sefyllfa ofnadwy sydd gennym o ran digartrefedd, ac wrth gwrs, gallu eiddo gwag sy'n cael ei ddefnyddio unwaith eto i gyfrannu tuag at gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Ac mae honno'n agwedd bwysig iawn ar yr adroddiad hwn, onid yw, a'i arwyddocâd.
Soniodd David Melding am eiddo a etifeddwyd, a sut y gallai'r sector tai cymdeithasol ymgysylltu â phobl sy'n etifeddu eiddo ac sy'n cael anhawster i ddod o hyd i ffordd ymlaen i'r cartrefi hynny. Ac rwy'n meddwl bod angen dulliau arloesol ac mae angen cyflwyno llawer o syniadau, ac rwy'n croesawu'r holl syniadau a'r cynlluniau posibl sy'n cael eu cynnig.
Ac mae'n bwysig iawn, fel y dywedodd David Melding, fod gennym ddata cywir sy'n mynd i'n goleuo ynglŷn â ble rydym arni a hefyd i roi gwybod a ydym yn gwneud y math o gynnydd sy'n rhaid inni ei wneud. Felly, rwy'n credu bod ein hargymhelliad 5 yn arwyddocaol ac y bydd yn welliant pwysig ar yr hyn sydd gennym yn awr.
Rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog wedi rhoi sylw i lawer o'r pryderon ac wedi sôn am arwyddocâd malltod. Ac mae hynny'n ganolog i'r materion hyn, onid yw? A chlywsom hynny fel pwyllgor—fod eiddo gwag yn falltod go iawn ar gymunedau. Maent yn denu problemau iechyd yr amgylchedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol, maent yn gwneud adfywio a buddsoddi mewn cymunedau yn anos, ac maent hefyd yn gwneud i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny deimlo—mae eu hymdeimlad o les yn llai o ganlyniad i'r eiddo gwag a'r malltod nag y byddai fel arall. Felly, mae'n wirioneddol arwyddocaol mewn cymaint o ffyrdd. Mae rhywfaint ohono'n ymarferol iawn ac mae rhywfaint ohono'n ymwneud â delwedd ac enw da ardal. Felly, roeddwn yn falch iawn, fel y dywedais, o glywed ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i ganolbwyntio ar y materion hyn yn awr a'u blaenoriaethu, i weithredu ar argymhellion y pwyllgor ac i ddatblygu ein safbwyntiau a'n hargymhellion.
Ac i gloi, rwy'n adleisio'r hyn a ddywedodd y Gweinidog, sef y byddai pob un ohonom, fel cynrychiolwyr etholedig, yn ymwybodol o'r materion hyn; rwy'n siŵr eu bod wedi cael eu dwyn i sylw pob un ohonom gan ein hetholwyr mewn cymorthfeydd ac fel arall, felly nid oes unrhyw un ohonom o dan unrhyw gamargraff na chamddealltwriaeth ynglŷn â'r angen i wneud cynnydd ar yr adroddiad hwn.
Daeth Suzy Davies i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw i nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Iawn, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ni ymlaen at y ddadl nesaf, y ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Russell George.
Cynnig NDM7213 Russell George
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i'r: Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd dros dro. Cyflwynaf y cynnig yn fy enw i.
Mae sgiliau o ansawdd uchel yn bwysig. Maent yn helpu pobl i gael swyddi o ansawdd uchel a chyflogau gwell, ac maent yn gwbl hanfodol os yw busnesau ac economi Cymru am arloesi a ffynnu. Maent yn un o'r allweddi i gynyddu ffyniant i bawb, a dyna pam rwy'n siomedig iawn, nid yn unig gyda'r ffaith bod ymateb Llywodraeth Cymru yn methu'r darlun mwy a nodwyd gennym yn ein hadroddiad, ond bod yr ymateb ei hun, yn fy marn i, wedi'i ddrafftio mewn modd arwynebol a diofal. Weinidog, fe ddywedoch chi wrthym eich bod yn mynd i ystyried argymhellion ein pwyllgor yn ofalus, ond mae arnaf ofn nad oes fawr o dystiolaeth o ystyriaeth ofalus yn ymateb Llywodraeth Cymru.
Mae ein hadroddiad yn egluro bod llawer o bobl yng Nghymru wedi'u dal mewn trap sgiliau isel. Felly, i Aelodau nad ydynt yn ymwybodol efallai o'r hyn y mae hynny'n ei olygu, cylchoedd yw trapiau sgiliau isel lle nad yw cyflogwyr eisiau neu angen sgiliau lefel uwch i fod yn broffidiol, sy'n arwain at ddiffyg galw gan bobl i ennill y sgiliau lefel uwch hynny. Gall hyn arwain at weithluoedd camgymharol sy'n cynnwys gweithwyr â sgiliau isel a gweithwyr â gormod o gymwysterau. Mae canlyniadau dynol i'r trapiau hyn hefyd, wrth i bobl gael eu dal mewn swyddi o ansawdd isel ar gyflogau isel, heb fawr o obaith o esgyn ar yr ysgol.
Rwyf wedi bod yn eithaf negyddol hyd yma, felly efallai y symudaf at rywbeth mwy cadarnhaol. Mae'n galonogol fod y pwyllgor a Llywodraeth Cymru yn cytuno ar rai o'r problemau sylfaenol y mae angen mynd i'r afael â hwy. Yn gyntaf, os yw trapiau sgiliau isel i gael eu torri, a rhaid eu torri, cytunwn fod yn rhaid inni fynd i'r afael â'r cyflenwad o sgiliau ac ysgogi'r galw am sgiliau lefel uwch ar yr un pryd. Yn ail, rydym yn cytuno ynglŷn â pha mor galed y mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gweithio, ond mae angen iddynt hefyd ddiwygio a chryfhau, mae angen i ni eu cryfhau hefyd, ond gofynnir iddynt wneud gormod am y nesaf peth i ddim, ac rwy'n meddwl bod y disgwyliadau a'r rhestr 'i'w gwneud' yn llawer mwy na'r adnoddau sydd ganddynt. Ac yn drydydd, rydym hefyd yn cytuno bod yn rhaid gwella gallu casglu data a dadansoddi'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn helaeth a gwella'r ymgysylltiad â busnesau bach a chanolig eu maint. Nid oes unrhyw beth a all gymryd lle data a dadansoddi da wrth gynllunio sgiliau.
Felly, rydym yn cytuno ar yr heriau sy'n ein hwynebu, ond mae'n gwbl amlwg nad ydym yn cytuno ar y ffordd ymlaen. Yn ein hargymhellion, canolbwyntiwyd nid yn unig ar yr hyn y mae angen ei newid ond sut y dylid cyflawni'r newid hwnnw. Roeddem am gael atebion ymarferol a oedd yn cynnig y newidiadau mawr sydd eu hangen os ydym o ddifrif ynglŷn â thorri'r trapiau sgiliau isel hyn. Ein nod oedd bod yn adeiladol, gan gynnig argymhellion ymarferol, defnyddiol a chadarn i'r Gweinidog. Felly roedd yn siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £10,000 ar adolygiad annibynnol o bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, adolygiad a gomisiynwyd ar ôl i'n hymchwiliad gychwyn. Ac os byddwch yn ei ddarllen, fe welwch ei fod hyd yn oed yn defnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd gennym gan dystion. Felly mae'n anodd cysoni gweithredu o'r fath gan Lywodraeth Cymru a'i hymateb gyda'r parch a ddylai fod ganddi tuag at ymchwiliad gan y Cynulliad hwn.
Ond i ddychwelyd at ein hadroddiad, hoffwn sôn am dair thema allweddol y mae'r adroddiad yn eu cyflwyno, ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt. Yn gyntaf, roeddem am gynnig eglurder a ffocws. Roeddem yn argymell rhoi enw newydd i'r partneriaethau, byrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol, i adlewyrchu rôl newydd fel cynghorwyr arbenigol. Y pwynt oedd mai'r rolau cynghori fyddai'r meddylwyr, nid y rhai sy'n gwneud y gwaith mewn system sgiliau ehangach. Roeddent i fod i roi cyngor nid yn unig ar gyflenwi sgiliau, ond hefyd ar ysgogi galw gan gyflogwyr, sydd, fel y dywedais eisoes, yn gwbl sylfaenol er mwyn torri trapiau sgiliau isel. Yma, nid ydym ar ein pen ein hunain yn ein hargymhelliad. Yn ei adolygiad 'Cymru 4.0', argymhellodd yr Athro Phil Brown hefyd y dylai partneriaethau sgiliau rhanbarthol chwarae rôl yn ysgogi'r galw gan gyflogwyr am sgiliau lefel uwch.
Ond lle roeddem am gael eglurder, mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi cynnig dryswch. Yn ei hymateb, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad ar y rôl gynghori, ond wedyn mae'n mynd rhagddi i ddweud ei bod yn gwrthod y pwynt y dylent roi cyngor ar fynd i'r afael â'r trapiau ac nad rôl iddynt hwy oedd ysgogi'r galw gan gyflogwyr am sgiliau lefel uwch yn y dyfodol. Pwy, heblaw partneriaeth sydd eisoes yn cynnwys cyflogwyr a chynrychiolwyr darparwyr hyfforddiant, sydd mewn gwell sefyllfa i gynnig y cyngor hwnnw? Nid wyf yn credu ei bod yn gwbl glir a yw'r argymhelliad wedi'i dderbyn ai peidio. Mae arnaf ofn fod yr ymateb i'r argymhelliad yn enghraifft o'r esgeulustod sy'n amlwg yn ymateb Llywodraeth Cymru drwyddo draw.
Mae'r Llywodraeth yn egluro ei bod yn gwrthod yr ailfrandio'n 'fyrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol' gan ddweud bod y gair 'bwrdd' yn awgrymu pwerau gwneud penderfyniadau. Beth am Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru a Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru felly? Neu'n wir, fod y partneriaethau sgiliau rhanbarthol eu hunain eisoes yn bodoli fel byrddau.
Nid yw ymateb y Llywodraeth i'n hail syniad allweddol yn llawer gwell. Fe wnaethom nodi dwy ffordd o wella gallu'r partneriaethau i gasglu a defnyddio data i ymgysylltu â busnesau. Yn gyntaf, mae'r ddwy ffordd yn pwyso ar yr asedau hynod werthfawr sydd gan Gymru yn ein hymchwil o safon fyd-eang yn ein prifysgolion, ac yn ail, ar y rhwydwaith o gysylltiadau busnes sydd gan ein darparwyr prentisiaethau a ariennir yn gyhoeddus. Mae unrhyw fusnes yn gwybod gwerth rhwydwaith parod o gysylltiadau ac ymgynghoriaeth da. Ond gwrthododd y Llywodraeth yr argymhelliad am bartneriaeth fwy ffurfiol gyda phrifysgolion, ac rwy'n ofni y collwyd y darlun mwy yma eto. Ac mae arnaf ofn iddo gael ei golli i ymateb pitw'n egluro'n nawddoglyd fod prifysgolion eisoes yn cael eu cynrychioli ar y byrddau—fel y mae ymateb y Llywodraeth yn eu galw.
Mae'n rhwystredig gweld bod pwynt yr argymhelliad fod byrddau partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn harneisio arbenigedd ein ysgolheigion a'n hymchwilwyr yn hedfan mor bell dros ben Llywodraeth Cymru, a chredaf ei fod yn gwneud anghymwynas â'n hacademïau o ymchwilwyr sy'n gweithio yn ein prifysgolion. Gyda chronfa Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o £15 miliwn a fwriadwyd ar gyfer cefnogi cydweithio rhwng prifysgolion a busnesau, mae'n eglur i ni fod yna gyfle amlwg i helpu prifysgolion i gyfrannu eu harbenigedd ymchwil i gryfhau ymchwil partneriaethau sgiliau rhanbarthol.
Yn olaf, aethom ati i rymuso ein colegau addysg bellach i ymateb i'r heriau a nodwyd gan y byrddau newydd, gan gamu'n ôl o ficro-reoli cwricwla colegau i raddau nad oes unrhyw ddarparwr sgiliau arall yn ddarostyngedig iddynt. Yn lle hynny, roeddem am weld colegau'n cael lle i arfer eu harbenigedd a'u profiad sylweddol i ymateb i gyngor y byrddau partneriaeth mewn ffyrdd arloesol. Pan lansiwyd yr adroddiad, ymwelais â phrentisiaid yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, a chefais fy nharo a fy mhlesio gan y cysylltiadau dwfn roedd y coleg wedi'u meithrin ei hun â chyflogwyr lleol a rhanbarthol.
Denodd yr argymhelliad hwn—un o'r rhai pwysicaf yn yr adroddiad—un o'r ymatebion byrraf a mwyaf diystyriol a ddadleuai y byddai'n effeithio ar broses gyllido Llywodraeth Cymru y maent hwy eu hunain wedi'i newid sawl gwaith yn ystod y degawd diwethaf. Nid yw dweud y byddai newid yn tarfu ar un o brosesau Llywodraeth Cymru yn ddadl o unrhyw fath dros y status quo. Mae gan ein colegau gysylltiadau busnes agos a dwfn. Maent yn helpu i ddatblygu'r sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn galw amdanynt, ni waeth pa gyrsiau y mae dysgwyr yn eu dilyn. Ac mae ganddynt genhadaeth gymdeithasol sy'n rhaid ei chydbwyso â'r angen i ymateb i alw diwydiant am sgiliau. Dylem barchu eu harbenigedd a dylem ymddiried yn eu barn ac yn gyfnewid am hynny, disgwyliwn iddynt ateb yr heriau a nodir mewn cynlluniau sgiliau yn y dyfodol gan ddefnyddio'r arbenigedd a'r farn honno. Unwaith eto, y darlun mwy, y lle i arloesi, dyna a fethwyd gan Lywodraeth Cymru yn fy marn i.
Felly, mae'n flin gennyf fod hwn wedi bod yn ymateb negyddol iawn, ond roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn negyddol i adroddiad ein pwyllgor. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ymateb yn gadarnhaol, yn y pen draw, yn ymateb y Llywodraeth. Mae wedi argymell na fydd yn newid dim ynglŷn â'i dull o weithredu, ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn arddel barn wahanol yn ei sylwadau cloi yn nes ymlaen, ac edrychaf ymlaen at weld yr Aelodau'n cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.
Mae dysgu oedolion, uwchsgilio ac ailsgilio yn allweddol i ddatblygu syniadau mewn economi amrywiol. Rydym i gyd yn cydnabod pa mor bwysig yw rhoi i bobl y sgiliau y mae ar gyflogwyr eu hangen i gael swyddi da a chynaliadwy. Mae'n ffaith drist fod economi Cymru'n wynebu prinder sgiliau difrifol. Fel rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, profodd economi Cymru lawer o aneffeithlonrwydd a chamgymhariadau sgiliau yn y gweithlu. Mae'r arolwg diweddaraf o sgiliau cyflogwyr yn dangos, lle mae'r bylchau sgiliau yn y gweithluoedd presennol wedi parhau yr un fath at ei gilydd, fod cynnydd yn nifer y swyddi gwag a oedd yn anodd eu llenwi oherwydd prinder sgiliau. O ganlyniad, mae cyflogwyr yn wynebu prinder sgiliau wrth geisio llenwi swyddi gwag, gyda bylchau sgiliau yn y gweithlu presennol a thanddefnyddio sgiliau.
Nod yr adroddiad hwn yw nodi rhai o'r problemau sy'n wynebu busnesau Cymru ac mae'n cynnig mesurau i fynd i'r afael â'r problemau hynny. Nid yw hyfforddi a gwella sgiliau pobl yn ddigon. Rhaid inni ddarparu'r math o hyfforddiant sgiliau sydd ei angen ar fusnesau yng Nghymru. Un o'r problemau a nodir yn yr adroddiad hwn yw'r trapiau sgiliau isel. Mae hyn yn cynnwys cylch o alw cyfyngedig am weithwyr medrus iawn, sy'n arwain at weithlu sgiliau isel. Mae hyn, yn ei dro, yn gosod terfynau ar arloesi a thwf, gan barhau'r galw cyfyngedig am weithwyr medrus iawn. Yr her a nodir yn yr adroddiad hwn yw ysgogi'r galw am sgiliau lefel uwch gan gyflogwyr. Os na wnawn hyn, mae perygl y daw gormodedd o sgiliau aneffeithlon i gymryd lle'r trap sgiliau isel. Os ydym am sicrhau bod y gweithlu'n bodloni anghenion busnesau, rhaid cael mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, diwydiant a sefydliadau addysg.
Mae'n ofid i mi fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynnig i ailenwi partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn 'fyrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol'. Byddai ailfrandio'r partneriaethau yn gwneud eu rolau yn y system sgiliau ehangach yn gliriach yn fy marn i. Byddai gan y byrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol ragolwg a chylch gwaith strategol clir, gan wella ymgysylltiad cyflogwyr, y broses o gasglu data a dadansoddi.
Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector addysg uwch i ddatgloi gallu ymchwil helaeth ein prifysgolion. Mae angen mwy o ymgysylltu rhwng prifysgolion a chyflogwyr. Un o fanteision mawr prentisiaethau gradd yw eu bod yn cael eu hysgogi gan gyflogwyr ac wedi'u llunio i ddiwallu anghenion sgiliau. Mae prifysgolion yng Nghymru yn awyddus i ddatblygu ystod eang o brentisiaethau gradd. Fodd bynnag, nid yw'n ddigon i'r system sgiliau yng Nghymru wneud dim ond ceisio dal i fyny â newidiadau. Rhaid iddi ragweld newid a hyd yn oed helpu i'w lunio.
Mae hyn yn arbennig o wir ym maes sgiliau digidol. Maent yn cael effaith enfawr wrth i dechnolegau newydd gael eu mabwysiadu, ond mae newid yn symud yn gyflym. Mae'r sector digidol yn datblygu ar y fath gyflymder fel bod darparwyr addysg yn ei chael hi'n anodd dal i fyny. Rydym yn wynebu her enfawr o ran sicrhau bod hyfforddiant digidol yn gyfredol. Mae hyn yn hanfodol os ydym am ddiwallu'r galw am weithwyr â sgiliau digidol, yn enwedig mewn meysydd arbenigol, megis seiberddiogelwch.
Lywydd, rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i'r heriau a darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar ein gweithlu er mwyn gwireddu ein potensial economaidd llawn. Credaf fod yr adroddiad hwn yn nodi'r mesurau ymarferol ac effeithiol sydd eu hangen i alluogi economi Cymru i dyfu a ffynnu. Diolch.
Yn gyntaf, hoffwn ddweud diolch wrth bawb a ddaeth i roi tystiolaeth oherwydd roeddwn yn meddwl ei fod yn groestoriad da o gymdeithas ac roedd yn ddiddorol clywed eu profiadau o'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Roedd rhai yn eithaf cadarnhaol, er nad oedd eraill, ac rwy'n siŵr y byddaf yn ymhelaethu ar hynny yma heddiw.
O'n hymchwiliadau ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, mae'n amlwg mai asesiad o anghenion sgiliau yn y dyfodol yw'r bwlch sydd angen i'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol ei lenwi, a dyna pam ein bod wedi argymell yng ngham gweithredu 10 na ddylai Llywodraeth Cymru ofyn i bartneriaethau sgiliau rhanbarthol—neu fyrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol, fel rydym yn argymell eu galw—wneud argymhellion gweithredol ar niferoedd dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach o hyn ymlaen, hyd yn oed ar lefel bresennol y pwnc sector. Yn hytrach, dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau addysg bellach ystyried yr adroddiadau mwy strategol sy'n seiliedig ar wybodaeth y gallai'r bwrdd eu cynhyrchu yn lle hynny. Byddai hyn, wrth gwrs, yn grymuso ac yn cymell sefydliadau i ymateb i'r materion a nodwyd yn yr adroddiadau hynny. Ynghyd â'r argymhellion eraill, gellir ysgogi'r galw gan gyflogwyr am sgiliau uwch, gan ddechrau cau'r trapiau sgiliau isel a geir mewn rhannau o economi Cymru.
Ond er gwaethaf y dystiolaeth a'r mewnbwn a roddwyd i ni ar y pwyllgor gan randdeiliaid allweddol, mae'n siomedig iawn, fel y dywedwyd, fod Llywodraeth Cymru wedi dewis gwrthod cam gweithredu 10, gan ddatgan y byddai symud o gael y bwrdd cynghori ar sgiliau rhanbarthol i wneud argymhellion gweithredol i Lywodraeth Cymru, a dyfynnaf,
'yn gwanhau'r broses gynllunio a chyllido strategol newydd.'
Yn hytrach, maent yn mynnu canolbwyntio ar niferoedd dysgwyr, ac yn ôl ColegauCymru, mae'r dull hwn yn rhy rhagnodol a dwys, gan greu gwaith diangen nad yw'n arwain at enillion pendant. Drwy'r cwricwlwm newydd, canolbwyntir yn sylweddol ar feithrin ymddiriedaeth mewn arweinyddiaeth a gallu o fewn y system addysg cyn-16 mewn ysgolion. Nid yw Llywodraeth Cymru yn pennu lefel eu darpariaeth ôl-16. Yn yr un modd, nid yw Llywodraeth Cymru yn pennu fawr ddim mewn addysg uwch chwaith. Yn y cyfamser, mewn addysg bellach, buaswn yn dweud mai'r hyn sy'n ddiffygiol yw'r annibyniaeth a'r parch at y sector hwnnw. Nid yw hyn yn ymddangos yn iawn i mi ac nid yw'n ymddangos yn iawn i ColegauCymru. Pam fod angen chwistrelliad o ficroreolaeth mewn perthynas â'r niferoedd sy'n dilyn cyrsiau yma yn wahanol i'r hyn a geir ar unrhyw lefel addysgol arall?
Mae'n destun penbleth arbennig hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn gan nad ein hadroddiad ni yn unig a ddaeth i'r casgliad y dylai gweithgarwch cynllunio ddigwydd ar lefel fwy strategol, ond yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth ei hun gan SQW hefyd, a ddaeth i'r un casgliad. Ar nodyn cysylltiedig, rwy'n mynegi rhwystredigaeth ynghylch amseriad yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth gan iddo ddigwydd ym mis Mawrth 2019, fisoedd ar ôl i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ddechrau ei ymchwiliad ei hun. Gellid dadlau bod cost o £9,918 wedi'i wastraffu ar adroddiad a oedd mewn perygl o ddyblygu yn hytrach nag aros i glywed canfyddiadau penodol ein pwyllgor.
Gan ddychwelyd at rôl colegau a phartneriaethau sgiliau rhanbarthol, caiff safbwynt y colegau ei grynhoi'n eithaf da gan yr hyn a ddywedodd David Jones o Goleg Cambria wrthym, ac rwy'n dyfynnu:
Ni allwn adael i brifysgolion fwrw ymlaen a gwneud eu pethau eu hunain—oherwydd yn y pen draw mae arian cyhoeddus yn mynd i mewn i brifysgolion; o'r fan honno y daw yn y pen draw—a chanolbwyntio'n unig ar ryw fath o gynllunio rhanbarthol wedi'i yrru gan yr economi ar gyfer addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn unig. Mae'n wallus os ydych yn ei wneud yn y ffordd honno.
Rhaid bod ffordd i bartneriaethau sgiliau rhanbarthol gydweithio mewn modd mwy cyfartal ar draws y sectorau. Ni chymerodd y pwyllgor dystiolaeth a ddadleuai o blaid cefnu ar bartneriaethau—ond roeddwn yn teimlo rhywfaint o betruster rhag eu canmol yn ddiamod pan gawsom ein craffu—ond yn hytrach, fod corff cydgysylltu sgiliau rhanbarthol yn angenrheidiol ac yn ddefnyddiol. Felly, dyna'r elfen y gwelsant yn dda i'w hyrwyddo.
Mater arall y canolbwyntiodd y pwyllgor arno yw i ba raddau y mae'r partneriaethau yn cynrychioli'r cymdeithasau y maent yn byw ynddynt mewn gwirionedd a sut y gall pobl ryngweithio â'r partneriaethau sgiliau hynny. Mae'n amlwg nad ydynt yn cyrraedd eu potensial llawn. Mae rhai'n pwyso'n drwm ar fusnesau, rhai heb fod yn pwyso llawer ar golegau, a sut y mae hynny'n adlewyrchu'r cymdeithasau y maent yn byw ynddynt? Mae rhai yn wan iawn o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau ac nid yw rhai yn gynhwysol iawn o ran amrywiaeth y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Ceir diffyg ymgysylltu hefyd â nodau'r iaith Gymraeg, a chyrraedd targed Cymraeg 2050. A bu i ni holi llawer ohonynt am eu perthynas â bargeinion dinesig a bargeinion twf: sut y mae cynlluniau'r bargeinion twf yn cyd-fynd ag agenda sgiliau'r partneriaethau rhanbarthol?
Mae mwy o reswm i symud i ffwrdd oddi wrth y strwythur o'r brig i lawr a symud at ddull llorweddol. Ac fel yr awgrymwyd ymhellach gan Prifysgolion Cymru, gellid gweld gwelliant drwy ymgysylltu'n ehangach â data a gwneud defnydd arbenigol ohono. Mae angen gwneud mwy o waith i ymgysylltu â llais dysgwyr a graddedigion fel y gellir adlewyrchu profiadau a chymhellion y rhai sy'n ymuno â'r gweithlu yng Nghymru a'r rhai sydd eisoes yn rhan ohono. Un peth yw llywio eu hastudiaeth, ond efallai nad yw pennu eu hastudiaethau ar sail yr hyn sydd ei angen ar yr economi drwy'r amser yn gweddu i'r hyn y mae pobl am ei wneud yn eu gyrfaoedd addysgol mewn gwirionedd.
Felly, diolch i chi am y gefnogaeth a gawsom yn yr ymchwiliad pwyllgor hwn, ond eto, gan adlewyrchu'r hyn y mae'r Cadeirydd wedi'i ddweud, nid ydym mor hapus â rhai o'r ymatebion gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn gobeithio y gallwn weithio'n gadarnhaol o hyn ymlaen.
Mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol ar waith i ysgogi buddsoddiad mewn sgiliau drwy ddatblygu ymatebion yn seiliedig ar anghenion lleol a rhanbarthol. O gofio bod y Llywodraeth yn dweud mai eu cylch gwaith yn syml yw darparu ystadegau a gwybodaeth ac nid adnewyddu gwaith gweithredol na chynghori, a ydynt yn cyflawni fel y rhagwelwyd?
Deallwn fod tair partneriaeth sgiliau ranbarthol yng Nghymru ar gyfer de-ddwyrain Cymru, de-orllewin a chanolbarth Cymru a gogledd Cymru. Mae pob partneriaeth sgiliau ranbarthol yn cynhyrchu ac yn dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur, yn ymgysylltu â chyflogwyr rhanbarthol, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ddarpariaeth sgiliau yng ngoleuni mewnwelediad dan arweiniad cyflogwyr. Mewn geiriau eraill, ymgais y Llywodraeth yw hon i ganiatáu i ddiwydiant nodi gofynion sgiliau.
Fel y crybwyllodd Russell George a Bethan Sayed, ym mis Mawrth 2019, comisiynwyd SQW gan Lywodraeth Cymru i ystyried cysondeb y mewnwelediad a'r wybodaeth sgiliau a gesglir gan bartneriaethau sgiliau rhanbarthol a sut y cânt eu defnyddio a'u cyflwyno, a hefyd sut y mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn cyfrannu at, yn llywio, ac yn cael eu llywio, gan gynlluniau'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf. Cynhaliwyd yr ymchwil ym mis Mawrth a mis Ebrill, gan gynnwys ymgynghori â rheolwyr a chadeiryddion partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ogystal â rhanddeiliaid ehangach. Roedd hefyd yn ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol ar y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, a redai'n gyfochrog â'r astudiaeth hon, yn rhyfedd iawn.
Gwelwn fod cam gweithredu 4 wedi'i dderbyn yn yr ystyr fod y Llywodraeth yn cydnabod bod adroddiad SQW wedi dweud bod angen rôl fwy strategol ar gyfer partneriaethau sgiliau rhanbarthol, a nodwn fod y Llywodraeth yn sefydlu cynlluniau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol tair blynedd. Yn ôl adroddiad SQW, ar hyn o bryd, ceir amrywiaeth rhwng y partneriaethau sgiliau rhanbarthol o ran dyfnder ac ehangder y cysylltiad uniongyrchol â chyflogwyr. Fodd bynnag, gan fod hyn yn greiddiol i gylch gwaith y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ac o ystyried y ceir tystiolaeth o arferion da yn hyn o beth, a oes digon o waith yn cael ei wneud i annog croesbeillio rhwng partneriaethau sgiliau rhanbarthol?
Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw'r syniad o strategaeth datblygu sgiliau dan arweiniad y diwydiant yn nod canmoladwy iawn, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw'r nodau hyn yn cael eu llethu gan strwythur darparu gorgymhleth.
Diolch yn fawr. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch. A gaf fi ddechrau fy ymateb drwy ddiolch i Russell George, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ac aelodau'r pwyllgor am eu hadroddiad hynod o gadarnhaol ar bartneriaethau sgiliau rhanbarthol? Rwy'n arbennig o falch fod yr adroddiad yn cydnabod rôl bwysig partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn y tirlun sgiliau ehangach yng Nghymru. Argymhellodd y pwyllgor y dylai fod gan bartneriaethau sgiliau rhanbarthol ragolwg clir a strategol. Amlinellais y dull rhanbarthol o weithredu ar sgiliau pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn ôl yn 2014, gyda'r datganiad polisi ar sgiliau. Sefydlwyd partneriaethau sgiliau rhanbarthol fel mecanwaith i gyflogwyr a rhanddeiliaid rhanbarthol ddod at ei gilydd i drafod a hefyd i gytuno ar flaenoriaethau a fyddai, yn eu tro, yn dylanwadu ar y defnydd o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer sgiliau.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r broses wedi aeddfedu a gwnaed llawer o waith ar fireinio'r system. Gall y tri rhanbarth yng Nghymru bennu eu blaenoriaethau drwy ymgysylltu â phartneriaid, yn rhanbarthol ac yn lleol, a thrwy gasglu safbwyntiau gan rwydweithiau busnes rhanbarthol, a galluogi dull mwy gronynnog yn seiliedig ar le drwy hynny, a symud oddi wrth y strategaethau cenedlaethol blaenorol a gâi eu harwain gan sectorau. Mae hon yn elfen hanfodol o'r cynllun gweithredu economaidd.
Mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ganolog i'n system gynllunio strategol newydd ar gyfer darparu addysg a sgiliau ar draws addysg ôl-16. Rwy'n falch fod eu hargymhellion blynyddol ar gyfer newid wedi arwain at system sgiliau fwy ymatebol ac adweithiol yng Nghymru, wrth i golegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith gysoni'r ddarpariaeth i ddiwallu anghenion economaidd rhanbarthol. Mae'n bwysig fod partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn parhau i chwarae'r rôl strategol o gynghori Llywodraeth Cymru ar awdurdodau rhanbarthol, fel y nodir yn y cynlluniau amlinellol rhanbarthol. Dyma'r prif fecanwaith i gyflogwyr ddylanwadu ar arlwy'r cwricwlwm a wneir gan ddarparwyr prentisiaethau a cholegau addysg bellach.
Nawr, er mwyn sicrhau bod gennym y fframweithiau prentisiaeth cywir a'r mewnbwn cywir gan gyflogwyr, sefydlwyd panel cynghori ar brentisiaethau Cymru. Y partneriaethau sgiliau rhanbarthol sy'n llywio gwaith y panel, gan ddarparu mewnwelediad rhanbarthol gwerthfawr yn seiliedig ar wybodaeth gan gyflogwyr. Ni ellid bod wedi sicrhau'r cyflawniadau hyn pe bai partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gyrff gwneud penderfyniadau, a dyna pam nad wyf yn sicr y dylid ail-greu partneriaethau sgiliau rhanbarthol ar ffurf byrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol. Adeiladwyd ein llwyddiant hyd yn hyn ar y cynsail fod partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gweithredu fel partneriaethau gwirfoddol annibynnol yn hytrach na bod ganddynt bwerau i wneud penderfyniadau yn eu hawl eu hunain. Roedd adroddiadau SQW a Graystone yn cydnabod cryfder cynnal partneriaethau sgiliau rhanbarthol fel partneriaethau annibynnol hyd braich, yn hytrach na'u sefydlu fel cyrff lled-Lywodraethol gyda phwerau i wneud penderfyniadau.
Ond gwrandewais ar yr Aelodau y prynhawn yma, yn enwedig yr achosion cymhellol a gyflwynwyd gan Russell George a Bethan Sayed ar gamau gweithredu 1 a 10. Mae wedi fy arwain i gredu bod angen ystyriaeth bellach yn y flwyddyn newydd, ac rwy'n ymrwymo i wneud hyn, yn enwedig gan fod yr Aelodau'n teimlo bod fy ymatebion yn annigonol. Mae'r dull presennol yn rhoi rôl glir i bartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn system sgiliau Cymru a ddeellir gan bartneriaid a rhanddeiliaid. Ond rwy'n ymrwymo i adolygu trefn lywodraethu a statws cyfreithiol y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, fel yr argymhellwyd gan adroddiad y pwyllgor, yn ystod 2020.
Cododd y pwyllgor gwestiwn ynglŷn ag adnoddau hefyd, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Mae angen inni adolygu'r lefelau o adnoddau ar draws y tair partneriaeth sgiliau ranbarthol. Unwaith eto, rwy'n ymrwymo i gynnal adolygiad trwyadl o ddarpariaeth adnoddau'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn 2020. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn yn ystyried y dulliau gweithredu gorau gan ddefnyddio'r mecanweithiau sydd ar gael i roi newidiadau ar waith a gwneud gwelliannau.
Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol i wella'r data a sicrhau bod gennym yr adroddiadau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol gorau posibl. Mae'n ymwneud â mwy nag adroddiadau ffurfiol yn unig. Mae gwybodaeth feddal yn hanfodol bwysig hefyd, ac rwy'n falch fod partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn cymryd rhan weithredol yn ein grwpiau ymateb ar gyflogaeth ranbarthol a sefydlwyd i ddatblygu atebion cyflym ar draws ein rhanbarthau i gyflogwyr o ganlyniad i ansicrwydd yn sgil Brexit. A byddwn yn ymrwymo i weithio gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn y gofod hwn dros y misoedd nesaf i weithredu newid ac i drafod y ffordd orau o gyflawni hyn.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ailddatgan pwysigrwydd y Gymraeg, a ddylai fod yn ystyriaeth ar draws ein holl weithgarwch yn ddyddiol wrth i ni weithio. Byddaf yn gofyn i'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol weithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau bod anghenion y Gymraeg ar draws y sector addysg uwch yn cael eu hadlewyrchu wrth ddatblygu eu cynlluniau cyflogaeth a sgiliau. Byddaf hefyd yn gofyn iddynt ddatblygu dull o gasglu gwybodaeth sy'n cefnogi ein dull gydol oes o wella cyfleoedd iaith Gymraeg yma yng Nghymru.
Wrth gloi, hoffwn ailddatgan fy ymrwymiad i'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a chryfhau'r rôl sydd ganddynt i'w chwarae yng Nghymru. Mae adroddiad y pwyllgor wedi tynnu sylw at nifer o feysydd y bydd angen inni eu hystyried yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, a cheisiaf ailedrych ar y camau gweithredu hynny, yn enwedig 1 a 10, a'u hailystyried. Rwy'n falch ein bod eisoes yn symud ymlaen mewn meysydd sy'n parhau i adeiladu rôl strategol y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ac rwy'n hyderus y gallwn wella'r system sgiliau yng Nghymru ymhellach er mwyn hybu twf economaidd ar draws rhanbarthau Cymru yn eu tro er mwyn gwella ein ffyniant fel cenedl.
Diolch, Weinidog. Galwaf nawr ar Russell George i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd dros dro. Roedd ein hargymhellion a'n hadroddiad yn ymwneud ag ail-egnïo'r ymdrechion, mewn gwirionedd, i fynd i'r afael â'r trapiau sgiliau isel a rhoi i Gymru y sgiliau sydd eu hangen arni. Dyna oedd diben ein hadroddiad, a thynnodd fy nghyd-Aelod Oscar Asghar sylw at yr angen i dorri'r trapiau sgiliau isel hynny. Rwy'n credu bod hynny'n hanfodol er mwyn cynyddu ffyniant a chreu swyddi o ansawdd uchel. Dyna sydd angen inni ei wneud. Deallwn mai dyma un o'r tasgau mwyaf heriol sy'n wynebu ein heconomi o bosibl. Dylwn ddweud nad oeddem yn esgus o gwbl y bydd ein hadroddiad yn datrys y broblem hon, ond roeddem hefyd yn credu'n bendant na fydd gwneud dim yn gwneud hynny chwaith.
Rwy'n credu hefyd y dylwn ddweud fy mod yn diolch i fy nghyd-Aelodau, Bethan Sayed a David Rowlands, am ymhelaethu ar rai o'r pwyntiau a godais yn fy sylwadau agoriadol ac am ymdrin â rhai meysydd eraill hefyd. Fel y dywedodd Bethan, mae diffyg cynrychiolaeth ar y byrddau, a cham gweithredu 3 y pwyllgor oedd y dylid cael mwy o gynrychiolaeth a chydbwysedd rhwng y rhywiau, ac roedd hi'n siomedig fod y Llywodraeth wedi gwrthod yr agwedd honno.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig fy mod yn ychwanegu at yr hyn a ddywedodd Bethan Sayed o ran diolch i'r rhanddeiliaid niferus a roddodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i'n pwyllgor. Rwy'n pryderu bod llawer ohonynt—a dweud y gwir, rwyf wedi cael adborth yn barod—yn teimlo'n siomedig ynglŷn ag ymateb y Llywodraeth, gan eu bod wedi rhoi llawer o amser ac ymdrech i gyflwyno dadleuon a thystiolaeth i ni. Roeddem yn siomedig nid yn unig gyda'r ymateb gwreiddiol i'n hargymhellion, ond hefyd ynghylch ansawdd yr ymateb, y credem ei fod, mae'n ddrwg gennyf ddweud—yn sicr, dyna roeddwn i'n ei gredu—wedi'i ddrafftio'n wael ac wedi'i ddrafftio'n ddiofal. Rwy'n credu bod y pwyllgor, y Senedd a'r rhanddeiliaid a roddodd eu hamser i ni yn sicr yn haeddu gwell na hynny.
Ond rwy'n falch iawn fod y Gweinidog, ar ôl clywed y drafodaeth heddiw, gennyf fi ac Aelodau eraill, wedi dweud ei fod yn barod i edrych ar hyn eto. Diolch o galon i'r Gweinidog am hynny. Os gallwn edrych ar hyn eto, efallai yn y flwyddyn newydd, os yw'r Gweinidog yn hapus i ail-ymgysylltu â'r pwyllgor, rwy'n credu y gallwn ail-archwilio rhai o'r problemau ac edrych ar rai o'n hawgrymiadau ac edrych ar ymateb y Llywodraeth a gweld a allwn ddod o hyd i dir cyffredin rhyngom. Felly, rwy'n ddiolchgar am ymateb y Gweinidog yn hynny o beth. Diolch i'r Aelodau am eu hamser a'u cyfraniadau i'r ddadl hon y prynhawn yma.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar Brexit a masnach yn y dyfodol, a galwaf ar Delyth Jewell i gyflwyno'r cynnig. Delyth.
Cynnig NDM7214 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod y DU ar fin gadael yr UE ar 31 Ionawr 2020;
b) bod trafodaethau masnach anffurfiol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau ynghylch bargen fasnach yn y dyfodol wedi dechrau, ac mae hynny, yn ôl y sôn, yn cyfeirio at farchnadeiddio patentau/prisio cyffuriau'r GIG;
c) bod cytuniadau rhyngwladol y tu allan i gwmpas pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
d) bod adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth ryngwladol.
2. Yn credu:
a) mai'r ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru fyddai drwy barhau i fod yn aelod o'r UE ac y dylid cynnal refferendwm rhwng aros ac opsiwn credadwy ar gyfer gadael;
b) na ddylai GIG Cymru gael ei orfodi gan Lywodraeth y DU i agor ei farchnad ar gyfer mwy o ddarpariaeth breifat, neu orfod derbyn cynydd mewn costau cyffuriau a osodir arno o ganlyniad i unrhyw gytundeb rhyngwladol sy'n ymestyn patentau ac yn cyfyngu ar y defnydd o gyffuriau generig;
c) byddai cytundeb masnach yn y dyfodol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau a fyddai'n cynnwys darpariaethau'n ymwneud â'r GIG yn drychineb i GIG Cymru;
d) bod y system gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi methu â rheoleiddio'n briodol y modd y caiff opioidau eu marchnata a'u rhagnodi, ac mae'n nodi bod yr amgylchedd rheoleiddiol annigonol hwn wedi cyfrannu at dros 70,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau oherwydd gorddos o opioid yn 2018, a dim ond un enghraifft yw hyn o beryglon dadreoleiddio a allai ddilyn cytundeb masnach a ysgrifennwyd er budd cwmnïau fferyllol yr Unol Daleithiau
e) na ddylai Llywodraeth y DU allu cyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd camau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli sydd â'r potensial i gael effaith andwyol ar wasanaethau cyhoeddus Cymru.
3. Yn galw am:
a) i seneddau datganoledig y DU gael feto ar faterion masnach sydd â'r potensial i effeithio ar feysydd datganoledig;
b) i Aelodau Seneddol o Gymru gefnogi Bil diogelu'r GIG sydd i'w gyflwyno yn San Steffan yn y tymor newydd;
c) diddymu adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae ein GIG mewn perygl enbyd. Wythnos sydd i fynd cyn yr etholiad erbyn hyn. Yr etholiad sydd i fod i gael Brexit wedi'i wneud, yn ôl Boris Johnson. Yn y cyfamser, mae Donald Trump yn ymweld â'r DU i roi sicrwydd i ni nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i gael mynediad i'r farchnad am ein GIG. Mae'r ddau safbwynt yn gelwydd. Ni fydd cynlluniau Brexit y Ceidwadwyr yn sicrhau bod Brexit yn cael ei wneud. Dim ond diwedd y dechrau fydd pasio'r cytundeb ymadael, ac mae'r negodiadau ar y berthynas yn y dyfodol eto i ddechrau. Ac mae sicrwydd Donald Trump mor ddibynadwy ag ymrwymiad maniffesto Torïaidd i Gymru, yn anffodus.
Dywedodd Trump ddoe na fyddai'n dymuno i'r GIG fod yn rhan o unrhyw gytundeb, ac nad oedd ganddo syniad chwaith pwy ddechreuodd y si faleisus hon yn y lle cyntaf. Wel, gallaf ei helpu gyda hynny oherwydd mai Donald Trump ei hun wrth gwrs a wnaeth yn union hynny. Yn ystod ymweliad â'r DU ar 4 Mehefin, gofynnwyd iddo a ddylai'r GIG fod ar y bwrdd, a'i ateb oedd:
Pan fyddwch chi'n ymwneud â masnach mae popeth ar y bwrdd, felly'r GIG neu unrhyw beth arall neu lawer mwy na hynny ond bydd popeth ar y bwrdd, yn bendant.
Felly, mae hynny'n glir. Ddeuddydd yn gynharach, roedd y llysgennad Americanaidd, Woody Johnson, wedi dweud yr un peth wrth Andrew Marr. Mae tystiolaeth glir hefyd fod cael mynediad rhannol i'r GIG yn rhan fawr o amcanion masnach yr Unol Daleithiau, sydd i'w canfod mewn dogfen swyddogol gan adran fasnach yr UDA o dan y pennawd 'United States-United Kingdom Negotiations'. Cafwyd rhagor o dystiolaeth yn y dogfennau a ryddhawyd yr wythnos diwethaf gan y Blaid Lafur, sy'n dangos bod trafodaethau archwiliadol eisoes yn mynd rhagddynt a bod patentau a phrisiau cyffuriau, yswiriant iechyd a dyfeisiau meddygol wedi'u trafod. A ddoe ddiwethaf, cyfaddefodd Dominic Raab ar Sky News y gallai cwmnïau o'r UDA godi prisiau cyffuriau ar gyfer y GIG yn wir drwy ddarpariaethau sy'n debygol o gael eu gweithredu mewn cytundeb masnach yn y dyfodol.
Nawr, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol rhoi rhywfaint o fanylion ynglŷn â beth yn union y mae'r UDA ei eisiau yma, a sut y gallai effeithio ar gleifion yma. Nid ydym yn sôn am breifateiddio'r gwasanaeth iechyd cyfan. Ni fyddai gan gwmnïau preifat unrhyw ddiddordeb mewn rhedeg adrannau damweiniau ac achosion brys, er enghraifft, oherwydd, a siarad yn blwmp ac yn blaen, nid oes elw hawdd i'w wneud yno. Yr hyn y maent ei eisiau yw dewis a dethol y rhannau mwyaf proffidiol o'r farchnad, er mwyn dargyfeirio arian o wasanaethau rheng flaen y GIG i bocedi cwmnïau fferyllol mawr yr UDA. Y ffordd symlaf o wneud hyn yw drwy newid rheolau'n ymwneud â phatentau a phrisio cyffuriau, a dyna'n union pam mai'r ddau ffactor hwn sy'n ffurfio'r brif ran o ofynion negodi'r UDA. Nawr, pe bai'r UDA yn llwyddo i gael mynediad llawn i'r farchnad i gyffuriau'r Unol Daleithiau, byddent yn cyfyngu'n fawr ar allu'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i benderfynu pa feddyginiaethau y gall cleifion eu cael. Yn yr Unol Daleithiau, mae prisiau cyffuriau wedi'u chwyddo i lefelau sy'n anweddus a dweud y gwir, oherwydd bod y drefn drwyddedu'n hirfaith ac o dan reolaeth lobïwyr pwerus, sy'n golygu mai ychydig gwmnïau'n unig sy'n meddu ar yr arbenigedd i lywio drwy'r broses.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Pan ddywed fod cwmnïau cyffuriau yr Unol Daleithiau am gael mynediad llawn i'r farchnad i'r GIG mewn perthynas â chyffuriau, beth a olyga wrth 'fynediad llawn i'r farchnad', ac i ba raddau nad oes ganddynt fynediad o'r fath ar hyn o bryd?
Byddai cwmnïau fferyllol mawr yr UDA eisiau dadreoleiddio'r farchnad gyfan, fel y gallai cyffuriau yr Unol Daleithiau gystadlu. Ac mae pawb ohonom wedi darllen y straeon, Mark, ynglŷn â sut y mae fferyllfeydd yn y DU ar hyn o bryd—er enghraifft, ar gyfer unrhyw fath o barasetamol, mae'r pris yn llawer is na'r hyn y byddai ar gyfer cyffur cyfatebol yn yr Unol Daleithiau. Felly, os oes gennych dystiolaeth i'r gwrthwyneb, yn eich cyfraniad y byddwch yn siŵr o'i wneud yn ddiweddarach, buaswn yn falch iawn o'i chlywed.
Ond fel roeddwn yn dweud, mae prisiau cyffuriau'r UDA yn warthus ac ychydig iawn o gwmnïau sydd â'r arbenigedd i lywio drwy'r broses gymhleth sy'n rheoli hynny. Mae hyn felly'n caniatáu i fwlturiaid diegwyddor gaffael cyffuriau di-batent rhad i wthio prisiau i fyny. Felly, pan fydd Trump yn dweud bod prisiau cyffuriau yn Ewrop yn rhy isel, yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd yw nad ydynt yn cael eu chwyddo'n artiffisial er mwyn cynyddu elw'r diwydiant fferyllol. Felly, dyma'r realiti hunllefus a allai ein hwynebu yn y DU. Pe bai'r UDA yn llwyddo i newid rheolau patentau a phrisiau, byddai'r DU naill ai'n gorfod cynyddu maint cyllideb y GIG yn ddramatig i dalu'r costau ychwanegol enfawr hyn, neu symud arian y GIG o wasanaethau i wariant ar gyffuriau.
Nawr, yr ail fygythiad mwyaf yw'r effaith y byddai dadreoleiddio presgripsiynau cyffuriau yn ei chael ar iechyd cleifion. I weld sut y gall hyn effeithio ar iechyd y cyhoedd, nid oes angen edrych ymhellach na'r argyfwng opioid yn yr Unol Daleithiau, argyfwng sydd wedi arwain at bron 0.5 miliwn o farwolaethau dros yr 20 mlynedd diwethaf. Llwyddodd y diwydiant fferyllol i newid y polisi presgripsiynu yn yr UDA fel bod opioidau yn cael eu presgripsiynu am amrywiaeth eang o resymau y tu hwnt i'r defnydd a fwriadwyd ar eu cyfer, gan arwain at gamddefnydd a dibyniaeth eang. Felly, mae'r bygythiad yn un gwirioneddol.
Mae ein GIG yn wynebu perygl clir a real. Y cwestiwn yw beth y gallwn ei wneud yn ei gylch? Y ffordd hawsaf o gael gwared ar y bygythiad yn llwyr fyddai peidio â gadael yr UE. Pe baem yn penderfynu aros yn dilyn refferendwm, byddai'r bygythiad i'n GIG yn diflannu, a byddai gennym fwy o arian i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus hefyd oherwydd byddem wedi osgoi ysgariad drud a dirwasgiad tebygol. Ond os etholir Llywodraeth Dorïaidd wythnos i yfory, mae'n anodd gweld sut y gellid osgoi Brexit caled wedi'i ddilyn gan gytundeb masnach peryglus gyda'r Unol Daleithiau, oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn ei anwybyddu am nad yw'n wleidyddol gyfleus inni gyfaddef ei fod yn bosibl yn ystod cyfnod etholiad.
Mae Plaid Cymru yn cynnig tri mesur heddiw i amddiffyn GIG Cymru. Yn gyntaf oll, rydym am i'r deddfwrfeydd datganoledig gael feto ar gytundebau masnach y DU sydd â photensial i effeithio ar feysydd datganoledig. Ni fyddai'r DU yn cynnwys mesurau a fyddai'n annerbyniol i Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon pan fydd Stormont yn cael ei ailgynnull, oherwydd byddent yn dymuno osgoi gweld y feto'n cael ei defnyddio. Nid yw ein cynnig yn ddi-gynsail, gan fod ardal Walonia yng Ngwlad Belg yn meddu ar y feto hon ac yn ei defnyddio mewn ffordd gyfrifol. Un waith yn unig y maent wedi'i defnyddio, mewn perthynas â chytundeb masnach CETA rhwng yr UE a Chanada, cyn caniatáu i'r cytundeb fynd rhagddo ar ôl iddynt sicrhau'r consesiwn y gofynnent amdano. Drwy bleidleisio yn erbyn ein cynnig, bydd Llafur yn pleidleisio yn erbyn rhoi feto ar breifateiddio'r GIG. Efallai y byddant am ystyried hyn cyn gwneud hynny.
Rydym hefyd yn galw ar Aelodau Seneddol o Gymru i gefnogi Bil diogelu'r GIG sydd i'w gyflwyno yn San Steffan yn y tymor newydd gan yr SNP gyda chefnogaeth Plaid Cymru. Byddai hyn yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i'r GIG yn erbyn effaith cytundeb masnach yn y dyfodol.
Ac yn olaf, rydym am ddiddymu neu addasu adran 82 o Ddeddf Cymru er mwyn dileu'r pwerau sydd gan San Steffan ar hyn o bryd i orfodi Gweinidogion Cymreig i weithredu cyfarwyddebau i roi cytundebau rhyngwladol ar waith. Ein hofn yw y gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio'r adran led anghyfarwydd hon i orfodi mesurau preifateiddio niweidiol ar y GIG yng Nghymru. Eto, ni allaf ddeall pam nad yw Llafur yn cytuno â hyn. Does bosibl na fyddai'n well ganddynt beidio â gadael i Alun Cairns ddweud wrthynt beth i'w wneud mewn meysydd datganoledig? Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein cynigion i ddiogelu GIG Cymru rhag bygythiad dwbl Boris Johnson a Donald Trump.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf fi alw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar?
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser.
3. Yn croesawu'r cyfleoedd i Gymru a fydd yn codi o ganlyniad i gytundebau masnach rydd newydd ar ôl ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r UE.
4. Yn cydnabod, o dan y setliad datganoledig, mai mater i Lywodraeth y DU yw'r cyfrifoldeb dros gytuniadau rhyngwladol.
5. Yn cydnabod y sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â mynediad i'r farchnad i'r GIG mewn cytundebau masnach yn y dyfodol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Unwaith eto, mae'r cenedlaetholwyr yn gwadu Brexit. Ar 23 Mehefin 2016 pleidleisiodd y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Pleidleisiodd Cymru i adael. Pleidleisiodd Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam i adael. Pleidleisiodd Sir Gaerfyrddin i adael. Pleidleisiodd y Rhondda i adael, fel y gwnaeth gweddill Cymoedd de Cymru. Ailadroddwyd y patrwm hwnnw ganddynt yn yr etholiadau Ewropeaidd eleni, a chafodd ei ailadrodd yn isetholiad Brycheiniog a Maesyfed hyd yn oed, pan bleidleisiodd dros 50 y cant dros ymgeiswyr a oedd yn gryf o blaid Brexit ym mis Awst.
Ac eto, mae Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur, sydd i fod yma ar fandad democrataidd, yn dal i wrthsefyll ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru. Pe bai refferendwm wedi bod ar annibyniaeth Cymru, gyda 52.5 y cant o blaid, mae'n annirnadwy y byddai'r cenedlaetholwyr yn awgrymu nad oedd pobl yn gwybod dros beth roeddent yn pleidleisio, neu'n galw am ei gynnal eto. Yn hytrach na chael Brexit wedi'i wneud a dechrau gwella'r rhaniadau, byddai refferendwm arall yn mynd â'r DU yn ôl i'r dechrau, yn erydu ymddiriedaeth yn y system wleidyddol ac yn gwneud ein democratiaeth yn destun sbort.
Mae gwneud cyhuddiadau am eich gwrthwynebwyr fel ffordd o ennill pleidleisiau hefyd yn erydu ymddiriedaeth, ac mae'r cynnig hwn yn parhau'r codi bwganod am ddyfodol y GIG. Mae maniffesto'r Ceidwadwyr yn gwbl glir: nid yw ein GIG ar werth. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Pan fyddwn yn negodi cytundebau masnach, ni fydd y GIG ar y bwrdd. Ni fydd y pris y mae'r GIG yn ei dalu am gyffuriau ar y bwrdd. Ni fydd y gwasanaethau y mae'r GIG yn eu darparu ar y bwrdd.
Yr wythnos diwethaf—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ar bob cyfrif.
A yw'n dweud hefyd nad yw patentau a newid rheolau patentau ar y bwrdd?
Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais yr hyn a ddywedoch chi.
A yw hefyd yn dweud na fydd newidiadau i'r rheolau ar batentau ar y bwrdd? Oherwydd mae hwnnw'n ffactor pwysig wrth benderfynu ar y cyllid a phrisiau'r meddyginiaethau a ddaw o'r tu allan.
Mwy o godi bwganod yw hynny.
Yr wythnos diwethaf yn wir, ni allai Barry Gardiner o'r Blaid Lafur nodi unrhyw dystiolaeth y byddai'r GIG ar y bwrdd mewn trafodaethau masnachol. Mae Jeremy Corbyn wedi honni y byddai cost meddyginiaethau yn y DU o dan gytundeb masnach rydd gydag America £500 miliwn yr wythnos yn uwch. Dyna £27 biliwn y flwyddyn. Fodd bynnag, dim ond £18 biliwn yw cyfanswm bil cyffuriau blynyddol y DU.
Yr wythnos diwethaf, cyhuddodd Jeremy Corbyn Geidwadwyr o gynllwyn yn erbyn y GIG a dywedodd:
Dychmygwch agor bil pum ffigur ar gyfer eich triniaeth ganser. Dychmygwch dalu i roi genedigaeth. Talu i gael archwiliad gan feddyg teulu.
Mae'r tactegau enbyd hyn i greu ofnau yn diraddio gwleidyddiaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd pob ochr i'r Siambr yn condemnio'r rhai sy'n aflonyddu ar bobl sâl a bregus gyda'r honiadau ffug hyn. Mae'n dangos pa mor anobeithiol yw'r Blaid Lafur—a Phlaid Cymru—nad oes ganddynt ddim byd cadarnhaol i'w ddweud am ddyfodol Prydain.
Mae saith y cant o wasanaethau GIG y DU mewn dwylo preifat ar hyn o bryd. Nid o dan y Ceidwadwyr y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn gweithgarwch preifat yn y GIG, ond o dan Lywodraethau Llafur Blair a Brown. Dyma'r diweddaraf mewn rhes hir o honiadau propaganda mewn etholiadau cyffredinol—yn 1979, 1983, 1987, 1992, 2010, 2015 a 2017—pan honnodd y Blaid Lafur y byddai'r Ceidwadwyr yn preifateiddio neu'n dinistrio'r GIG pe bai'r blaid yn ennill yr etholiad. Wel, mae'r Ceidwadwyr wedi ennill saith o'r 10 etholiad cyffredinol diwethaf, ac wedi amddiffyn y GIG yn llawer gwell nag y mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi rheoli'r GIG yng Nghymru. Ni allwn ymddiried yn yr unig blaid wleidyddol yn y DU a dorrodd gyllideb y GIG erioed. Mae GIG Cymru yn dal i ymadfer yn sgil penderfyniad Llafur, gyda thargedau aros allweddol i gleifion heb gael eu cyrraedd unwaith yn y degawd diwethaf a chleifion yn gorfod talu'r pris. Nid yw ein GIG yn ddiogel yn nwylo Llafur.
Mae pwynt 3a yng nghynnig Plaid Cymru yn galw am i'r Seneddau datganoledig gael feto ar faterion masnach sy'n amlwg heb eu datganoli. Gwnaeth y DU benderfyniad cyfunol i adael yr UE, a bydd y DU yn negodi cytundebau masnach yn y dyfodol â gweddill y byd. Ac rydym yn credu bod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae yn hynny, ond un o fanteision eraill ein Teyrnas Unedig yw y gallwn ymgysylltu â gwledydd eraill fel undeb o bedair gwlad, gan roi llawer mwy o ddylanwad inni yn fyd-eang fel màs critigol o bron i 70 miliwn o bobl.
Mae'n drist fod y Blaid Lafur a'r cenedlaetholwyr yn ymladd yr etholiad hwn ar sail codi bwganod. Mae Boris Johnson wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'i flaenoriaethau: sicrhau bod Brexit wedi'i wneud erbyn 31 Ionawr i barchu canlyniad y refferendwm; recriwtio mwy o heddlu; buddsoddi yn ein GIG; a rhoi mwy o arian i ysgolion. Mae'n weledigaeth gadarnhaol i fanteisio ar gyfleoedd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, i ddatgloi buddsoddiad yn ein heconomi ac i ryddhau potensial Cymru. Dylai fod gennych gywilydd ohonoch eich hunain.
A gaf fi ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw am:
a) i’r sefydliadau datganoledig gael rôl ffurfiol mewn negodiadau ar gytundebau rhyngwladol pan fyddant yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig, a hynny i ddigwydd ar bob cam o’r negodiadau a chyda chefnogaeth statudol.
b) confensiwn cyfansoddiadol i’r DU gyfan i sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol yn y dyfodol yn adlewyrchu hyn ac i atal Llywodraeth y DU rhag diystyru’r Cynulliad Cenedlaethol lle bo’n gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig.
Yn edrych ymlaen at ethol Llywodraeth yn y DU sydd wedi ymrwymo’n llawn i ddiogelu’r GIG yng Nghymru ac ar draws y DU.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol. Diolch. Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. O ran realiti'r bygythiad hwn, rydym wedi clywed llawer o bobl yn defnyddio'r ymadrodd 'codi bwganod' ac rwyf am ddweud ychydig bach mwy am fater a grybwyllwyd yng nghyfraniad Delyth Jewell ynglŷn â'r argyfwng opioid yn UDA. Nawr, rydym i gyd wedi clywed amdano. Mae'n codi mewn ffuglen boblogaidd. Mae cannoedd o filoedd o ddinasyddion yr UDA yn gaeth i sylweddau na ddylid bod wedi'u presgripsiynu ar eu cyfer yn y lle cyntaf.
Defnyddir opioidau'n briodol wrth gwrs ar gyfer cleifion sydd â salwch angheuol, sy'n dioddef poen difrifol iawn, ond maent wedi'u presgripsiynu ar draws yr UDA yn ddiwahân ar gyfer pob math o gyflyrau y maent yn gwbl anaddas ar eu cyfer. Priodolwyd dros 70,000 o farwolaethau y llynedd i'r caethiwed hwn; dros 400,000 yn yr 20 mlynedd diwethaf. Felly, sut oedd modd i hyn ddigwydd? Wel, gallodd ddigwydd yn sgil trefn gymhleth a oedd yn ymwneud â dadreoleiddio rhai mathau o gyffuriau, rheoleiddio eraill yn amhriodol, gorchwyddiant mewn perthynas â meddyginiaethau penodol, mwy priodol efallai, fel y mae Delyth Jewell eisoes wedi crybwyll.
Nawr, rwy'n credu bod pawb ohonom yn y Siambr hon—buaswn yn derbyn bod Mark Isherwood hefyd yn ôl pob tebyg—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Oni fyddech yn cytuno bod cannoedd o filoedd o bobl yn y wlad hon yn dioddef yn sgil gorbresgripsiynu cyffuriau—yn y wlad hon, ar hyn o bryd?
Mae'n sicr yn wir fod problemau wedi bod, ond nid oes unrhyw beth yn debyg i raddfa'r argyfwng a wynebwn ar hyn o bryd. Nawr, nid oes neb yn dweud bod ein system bresennol ar gyfer rheoleiddio meddyginiaethau yn berffaith. Mae rhai ohonom ar ein traed yn rheolaidd yn y Siambr hon yn gofyn i'r Gweinidog iechyd sicrhau bod meddyginiaethau ar gael nad ydynt wedi mynd drwy broses NICE, ond y realiti yw fod proses NICE yno i ddiogelu pobl, ac os cawn y cytundeb y mae Donald Trump ei eisiau—ac mae'n berffaith glir mai dyna mae ei eisiau—os cawn y cytundeb hwnnw, bydd yn rhaid i'n GIG fod yn agored i'r mathau o arferion a geir yn yr Unol Daleithiau, oherwydd os ydynt—[Torri ar draws.] Os hoffai Janet Finch-Saunders ymyrryd, buaswn yn falch iawn o glywed ganddi, fel bob amser. Fel arall, efallai y gallai ganiatáu i mi barhau.
Diolch ichi am dderbyn ymyriad. Yn ddiweddar, cysylltodd rhywun sy'n gweithio yn y proffesiwn meddygol yng ngogledd Cymru â mi, ac maent yn datgan yn awr fod y bwrdd iechyd dan ein Gweinidog iechyd eisoes, mewn perthynas â thriniaethau i osod pengliniau a chluniau newydd, yn ymdrin ag America o ran y ddarpariaeth o bengliniau a chluniau, ac mae'r patent ar eu cyfer yn America. Felly, pam nad ydym yn eu prynu'n fewnol yn awr yn ein gwlad? Pam ein bod eisoes yn ymdrin ag America—
Mae'n ddrwg iawn gennyf orfod torri ar draws—
—os yw mor ddrwg?
—Janet, ond mae fy amser yn brin. Wrth gwrs, rydym yn prynu a gwerthu meddyginiaethau ac offer o UDA, ond maent yn ddarostyngedig i system reoleiddio drylwyr sy'n dechrau yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn gorffen ym meddygfeydd ein meddygon teulu. Ac rwy'n gwybod pwy rwy'n ymddiried ynddynt a phwy nad wyf yn ymddiried ynddynt. Mae unrhyw un sy'n credu y byddai unrhyw fath o gytundeb ystyrlon i'w wneud ag UDA oni bai fod y materion hyn ar y bwrdd yn byw â'i ben yn y cymylau. Nawr, gwyddom fod hyn yn rhan o'r stratosffer y mae llawer o Geidwadwyr yn byw ynddo, ond y gwirioneddau yw'r gwirioneddau. Oni bai bod gennym stwff i'w roi i UDA, pam y byddent yn taro bargen o gwbl?
Nawr, rwyf am fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, wrth i mi ddod â fy sylwadau i ben: wrth gyflwyno'r cynnig hwn heddiw nid yw Plaid Cymru yn derbyn bod Brexit yn anochel. Gobeithiwn yn fawr y bydd canlyniad yr etholiad yn un lle bydd digon o Aelodau Seneddol sydd am aros yn yr UE i allu gofyn i'r bobl eto, ond nid yw hynny'n rheswm, fel y dywedodd Delyth Jewell, dros beidio â bod yn barod am yr opsiwn gwaethaf posibl. Nawr, rwy'n credu bod Mark Isherwood yn credu'r hyn a ddywed, ond pan ddarllenwch am y cysylltiadau ar lefelau uchaf y Blaid Geidwadol yn y DU â melinau trafod asgell dde a fyddai'n ddigon hapus i ddatgymalu ein GIG, rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod Mark yn siarad drosto'i hun, ac nid wyf yn credu ei fod yn siarad dros fwyafrif y bobl ar y brig yn ei blaid yn San Steffan. A dyna'r bobl sy'n rhaid i ni eu hofni. [Torri ar draws.] Dyna'r bobl sy'n rhaid inni eu hofni. Os hoffai Mark Isherwood ymyrryd, os gwnaiff y Dirprwy Lywydd ganiatáu hynny—. [Torri ar draws.] Wel, wrth gwrs, mae'r Dirprwy Lywydd—
Wel, nid yw'n codi. Nid yw'n codi, felly parhewch.
—eisoes wedi clywed ganddo.
Mark Isherwood a gododd—
O, o'r gorau, ydy, mae'n codi.
Gwyddom beth—.
Wel, ie, rydych chi wedi bod yn gwahodd—.
Ai 'ie' neu—?
Rwy'n credu—. Rydych chi wedi ei wahodd. Mae ar ei draed, felly—.
Oherwydd imi gael fy ngwahodd, dyna'r unig reswm. Dyfynnais yn union beth y mae'r adran hon yn y maniffesto yn ei ddatgan. A ydych chi wedi'i ddarllen?
Do, fe wnes, y rhan o'r maniffesto a allai effeithio'n uniongyrchol ar Gymru, a'r broblem yw nad wyf yn ei gredu, ac nid wyf yn siŵr—[Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr, oherwydd pan fydd cyd-Aelodau Ceidwadol yma'n codi ar eu traed ac yn malu awyr yn hir, daw'r dyfyniad Shakespearaidd i'r meddwl bob amser, 'Me thinks, my lord, he doth protest too much', oherwydd credaf fod yna elfennau y gallech fod lawn mor bryderus â minnau yn eu cylch.
Rwyf am ddod â fy sylwadau i ben drwy ddweud hyn: credaf fod consensws ar feinciau'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru fod hwn yn fater difrifol. Yn amlwg, dyna'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi dewis diwygio'r cynnig hwn. Os yw'r Llywodraeth yn credu ei fod yn fater difrifol, yr hyn na allaf ei ddeall yw pam nad yw'n barod i gefnogi gwneud rhywbeth ymarferol yn ei gylch, oherwydd, os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn mynd i ofyn imi gredu bod unrhyw Lywodraeth Geidwadol yn mynd i drin unrhyw Lywodraeth Cymru â pharch yn y materion hyn, mae arnaf ofn ei fod yn un arall sydd â'i ben yn y cymylau.
Roeddwn wedi meddwl y byddai'r ddadl hon yn ymwneud â Brexit a masnach, ond clywais lefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma mewn cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yn dweud ei fod yn ymwneud â phreifateiddio'r GIG, ac nid wyf wedi clywed am ddim heblaw preifateiddio'r GIG y prynhawn yma. Fe geisiaf gadw rhag hynny cymaint ag y gallaf a chanolbwyntio ar faterion masnach. I mi gael tynnu sylw at rywbeth, cynhyrchodd y pwyllgor adroddiad neu mae wrthi'n cynhyrchu adroddiad ar gytundebau masnach rhyngwladol. Mae i'w gyhoeddi'n fuan, ac rwy'n annog pawb i'w ddarllen. Fe wnaf osgoi defnyddio gormod ohono heddiw gan ei fod yno i chi ei weld yn y dyfodol.
Nawr, rwy'n croesawu'r cynnig y prynhawn yma, ac yn enwedig y modd y mae'n ystyried cytundebau rhyngwladol yn y dyfodol a ddylai gael eu strwythuro yn dilyn Brexit. Nid wyf yn anghytuno â dau bwynt cyntaf y cynnig ac yn wir, rwy'n meddwl—roeddwn yn cytuno'n llwyr â phob dim a ddywedodd Delyth Jewell yn hanner cyntaf ei chyfraniad; yr ail hanner sy'n peri trafferthion i mi o bosibl, yn enwedig yr effaith—. Nid wyf am dynnu sylw at effaith cytundeb rhwng y DU ac UDA ar y GIG. Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ni waeth beth y mae Mark yn ceisio'i wneud, neu y mae'r Ceidwadwyr yn ceisio'i wneud, i wadu hynny, mae'n debygol o fod ar y bwrdd, ac mae'r drafodaeth—a buom yn sôn am opioidau—yn un agwedd arni. Mae pawb ohonom yn gwybod am feddyginiaethau; rwy'n credu bod Delyth Jewell wedi cyfeirio ato—y costau. Gadewch i mi roi rhai uchafbwyntiau i chi: inswlin, £16.61 yn y wlad hon, £215 yn yr Unol Daleithiau; epipens—ac os ydych yn gwybod am epipens, mae'n rhaid i chi eu cael; nid ydych yn eu defnyddio o reidrwydd, ond mae'n rhaid i chi eu cael, ac ar ôl ychydig, maent yn dyddio ac ni allwch eu defnyddio—£52 yn y wlad hon, £523 yn yr Unol Daleithiau. Nawr, dyna'r math o brisio y mae'r Unol Daleithiau am ei weld yn y DU drwy ddadreoleiddio a chael gwared ar batentau. Felly, mae'n bendant yn fygythiad i'r GIG mewn unrhyw negodiadau masnach. Mae'n real, ac mae'n peryglu ein dinasyddion. Gadewch i ni beidio â chuddio rhag y ffaith honno, ni waeth beth fydd y Ceidwadwyr yn ceisio'i gelu.
Fodd bynnag, y cwestiwn yw hwn: sut y gellir diogelu Cymru rhag gorfod dioddef canlyniadau cytundebau masnach o'r fath? Mae'n gwestiwn sy'n rhaid ei ateb, ond nid wyf yn credu y caiff ei ateb drwy sefydlu feto, er fy mod yn siŵr y byddai Plaid Cymru wrth eu bodd yn gallu defnyddio'r fath wrthodiad fel rheswm arall dros annibyniaeth.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith ffurfiol i sicrhau y byddai gan Lywodraeth Cymru na'r Cynulliad unrhyw lais yn negodi a chadarnhau’r cytundebau hyn, hyd yn oed mewn amgylchiadau lle maent yn ymwneud â chymhwysedd datganoledig. Mae sôn wedi bod am gyd-gyngor gweinidogion ar fasnach ryngwladol—nid yw hynny wedi digwydd eto, ac os yw'n digwydd, a fydd ganddo'r un dannedd â'r cyd-gynghorau gweinidogion eraill, yn enwedig cadernid ac effaith cyd-gynghorau gweinidogion, sydd wedi cael eu beirniadu'n hallt gan lawer yn y Siambr hon? Felly, ar un ystyr, nid yw'n fecanwaith y byddem yn ei gefnogi mewn gwirionedd.
Gellid ystyried bod feto yn gynnig deniadol i lawer sy'n dymuno dangos na all Cymru gael ei gorfodi i weithredu yn erbyn y polisïau yr etholwyd Llywodraeth Cymru arnynt. Fodd bynnag, mae pryderon amlwg yn codi ynghylch amseriad penderfyniad o'r fath. Mae feto'n digwydd ar ddiwedd proses negodi. Yr hyn rydym am ei wneud yw sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu cynnwys ar ddechrau'r broses. Dyna'r elfen hollbwysig. Mae'n ymwneud â gosod cyfeiriad y negodiadau a chael ei chynnwys wrth sefydlu'r mandad ar gyfer negodiadau. Mae'n golygu bod yn rhan o bethau'n gynnar, bod yn yr ystafell lle mae negodiadau'n cael eu trafod, ac yn enwedig pan fyddant ar gymwyseddau datganoledig, a bod yno pan fydd materion sy'n effeithio ar gymwyseddau datganoledig—. Mae hyn yn aml yn wir ar draws ein cymdogion Ewropeaidd ac mewn mannau eraill yn y byd. Mae'n digwydd.
Mae ymchwil gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y ffaith mai'r unig enghraifft yn Ewrop, y soniwyd amdani o'r blaen, yw Gwlad Belg, lle gall deddfwrfa is-wladwriaethol unigol a etholwyd atal cytundeb rhag cael ei gadarnhau, a digwyddodd hynny yn achos Walonia yng nghytundeb CETA, nid Fflandrys ac nid Brwsel, ond Walonia, felly dyna un, a arweiniodd at oedi yn y wlad honno gan arwain at oedi gyda chais y 28 gwlad arall ar y pryd. Felly, dyna'r unig enghraifft yn Ewrop.
Mewn gwladwriaethau eraill, mae llywodraethau is-genedlaethol yn rhan o'r broses o ddatblygu polisïau, a gwneir hyn trwy gyfansoddiad a phwerau cyfyngedig a roddir iddynt drwy'r Llywodraeth—cyfansoddiadau ysgrifenedig. Nid oes gennym un o'r rheini—nid oes gennym gyfansoddiad ysgrifenedig, felly mae'n ei gwneud yn anos i ni. Mae'r Almaen yn enghraifft dda, lle mae'r Länder yn dylanwadu ac yn gallu dylanwadu ar gytundebau rhyngwladol a allai effeithio'n negyddol ar eu pwerau. Gwneir hynny drwy roi rôl ffurfiol iddynt yn y trafodaethau a'r negodiadau pan fydd materion wedi'u datganoli. Maent hefyd yn gallu gweithredu drwy ail Senedd, y Bundesrat, yn ogystal. Felly, ceir enghreifftiau lle gall deddfwrfeydd weithio mewn cytundebau heb y feto a dylanwadu ar y cytundebau er lles pennaf eu dinasyddion. Mae hwnnw'n ateb posibl y dylem edrych arno.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi edrych ar yr agenda wrth symud ymlaen ac wedi cyflwyno ei phapurau ei hun yn ddiweddar, 'Diwygio ein hundeb: cydlywodraethu yn y DU'. Yn y ddogfen, mae'n sôn am y peirianwaith rhynglywodraethol sydd ei angen i edrych ar yr agendâu polisi hyn, ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny. Mae angen inni edrych ar gynnydd yr agendâu.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, ac felly rwyf am gloi drwy edrych ar welliant y Ceidwadwyr. A dweud y gwir, edrychais arno a meddwl, 'Maent yn gwadu bod pryderon dilys ynglŷn â safbwynt negodi masnach presennol y Llywodraeth hon. Maent yn ceisio'u cau o feddyliau pobl, gan geisio'u cuddio rhag y cyhoedd.' Mae'r gwelliant yn datgan na ddylai fod gennym ran o gwbl mewn negodiadau masnach, am ei fod yn fater a gadwyd yn ôl. Maent yn meddwl y gall San Steffan wneud yn well ar ein rhan, heb ein cyfranogiad na'n mewnbwn. Credaf y dylent fod â chywilydd o feddwl felly—maent yn cynrychioli pobl Cymru ac eto credant y gall San Steffan wneud yn well ar ran pobl Cymru. Dylai fod arnynt gywilydd o'r gwadu hwnnw.
Nawr, bydd cytundebau masnach yn y dyfodol yn bwysig, ar ôl i ni adael diogelwch y cytundebau rydym wedi elwa arnynt fel aelodau o'r UE, lle mae angen parchu gwledydd datganoledig yn y cytundebau hynny. Ac o'r herwydd, mae'n rhaid eu negodi a chytuno arnynt gan gynnwys y Llywodraethau datganoledig a'r deddfwrfeydd datganoledig yn llawn.
Rhaid imi ddweud, mae'n hynod naïf fod y Blaid Geidwadol yn meddwl y gall y DU, rywsut, ddisgwyl dod i gytundeb â'r Unol Daleithiau sy'n rhoi'n union beth y mae arni ei eisiau i'r DU heb roi rhywfaint o'r hyn y mae ar yr UDA ei eisiau. Rwy'n credu ei bod hyd yn oed yn fwy naïf i feddwl y gall y DU fynnu rywsut fod yr Unol Daleithiau'n cefnu ar elfennau allweddol o'i safbwyntiau negodi sylfaenol. Mae popeth ar y bwrdd; dyna'n hollol amlwg y mae Donald Trump yn ei ddisgwyl. A phan fydd Llywodraeth y DU yn dechrau mynnu'r hyn sydd, a'r hyn nad yw ar y bwrdd, rwy'n eithaf siŵr y bydd yr Unol Daleithiau'n dweud wrth y DU i fynd i chwilio am fwrdd arall i eistedd wrtho.
Pan fyddwn yn sôn am fasnach, cytundebau masnach a chwilio am gytundebau masnach, mae'n ymwneud â mwy na dim ond yr hyn sy'n cael ei brynu a'i werthu, pa nwyddau y gellir eu prynu a'u gwerthu yn ôl ac ymlaen, mae'n ymwneud hefyd â sut y cânt eu gwerthu, pa reolau sy'n berthnasol i'r gwerthiannau hynny, pa fframweithiau rheoleiddio neu gysoniadau rheoleiddio sydd eu hangen er mwyn caniatáu'r fasnach honno, ac efallai pa dariffau sydd ar rai nwyddau, fel quid pro quo am rai eraill. Mae angen ystyried llu o elfennau, ac nid â nwyddau'n unig y mae'n ymwneud chwaith wrth gwrs, mae'n ymwneud hefyd â gwasanaethau. Ac o ran nwyddau a gwasanaethau, mae'n gwbl amlwg fod bygythiad enbyd i'r GIG o gael cytundeb masnach rhwng y DU a'r UDA, ac ofnaf y byddai'r DU mewn sefyllfa wan iawn yn mynd i mewn i'r negodiadau hynny.
Nawr, gallwn siarad am wasanaethau. Bydd y Ceidwadwyr yn dweud wrthych nad oes ganddynt unrhyw argymhellion i werthu'r GIG. Wrth gwrs, yr hyn na fyddant yn ei atal yw'r farwolaeth drwy fil o doriadau, cyflwyno mwy a mwy o elfennau preifat, cwmnïau preifat yn gweithio o fewn y GIG, yn elwa o'r GIG. Yn anffodus, gwelwn hynny gan y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru hefyd. A bydd darparwyr gwasanaethau iechyd yn yr Unol Daleithiau yn fwlturaidd, yn cylchu'r GIG yn y DU, gan edrych am ffyrdd i mewn drwy gytundeb masnach rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU.
Ond rwy'n mynd i ganolbwyntio ar gyffuriau. Cofnodwyd Trump yn dweud ei fod yn credu bod prisiau cyffuriau yn Ewrop yn rhy isel. Mae diwydiant fferyllol yr Unol Daleithiau wedi cyflwyno dadleuon i negodwyr masnach yr UDA yn cwyno am rwystrau mynediad hirsefydlog y DU i'r farchnad. Mae'n bosibl y bydd cytundebau masnach, er enghraifft, yn ei gwneud yn ofynnol i NICE newid y ffordd y mae'n arfarnu costeffeithiolrwydd cyffuriau. Gallai hynny fod yn un o elfennau'r print mân mewn cytundeb masnach o'r fath. A gallai olygu newidiadau i drefniadau prynu cyfunol, oherwydd caiff trefniadau o'r fath eu gweld gan rai yn niwydiant fferyllol yr Unol Daleithiau a'r Llywodraeth, mae'n ymddangos, fel rhai gwrth-gystadleuol.
Nawr, dylem i gyd ddeall y bydd cynyddu amddiffyniadau patent yn golygu mwy o gostau i'r GIG—cyfeiriwyd at hynny eisoes. Rydych yn cadw'r amddiffyniadau patent sy'n cadw rhai cyffuriau'n ddrud iawn ac yn amlwg, gallai hynny effeithio arnom ni, pe bai'n rhaid i'r GIG dalu'r prisiau hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch, Rhun. A fyddech yn cytuno bod gennym gytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau ymhell cyn inni ymuno â'r UE a bod cyfle ar hyd yr amser, o 1948 pan gawsom y GIG, hyd at 1975 pan aethom i mewn i'r UE, i ddiwydiant fferyllol yr Unol Daleithiau a'r holl ddiwydiannau eraill fod wedi gwneud yn union beth rydych chi'n ei ddweud i'r GIG bryd hynny?
Dau beth: cytundebau organig oedd y rheini a gyrhaeddwyd dros amser, yn hytrach na'r ffordd druenus y mae'r Deyrnas Unedig yn begian am gytundeb gan yr Unol Daleithiau, ond hefyd, cenhedlaeth arall yw hon yn awr. Nid yr un genhedlaeth yw hi, David, ac roedd honno'n adeg cyn fy ngeni i. Mae angen inni ystyried yr adeg y bydd fy mhlant a fy wyrion yn byw, oherwydd dyna'r adegau y mae angen inni eu diogelu yn awr.
Cyfeiriais at y cyffuriau a ddiogelir gan batentau; mae ofnau gwirioneddol ynghylch cyffuriau generig hefyd. Mae'r ffordd y mae'r system yn gweithio yn yr Unol Daleithiau, rydym wedi'i weld yn stori Martin Shkreli—cefnogwr Trump, sy'n ddrwgweithredwr a gafwyd yn euog—yn y ffordd y defnyddiodd gyffuriau generig a gwthio eu prisiau i fyny yn yr Unol Daleithiau. Pan fydd gennych gyffur generig, byddech yn disgwyl i rymoedd economaidd ddod yn weithredol a gwthio'r costau i lawr. Y gwrthwyneb sy'n wir oherwydd y mae'r Unol Daleithiau'n gweithio. Rydym yn lobïo yn yr Unol Daleithiau i sicrhau—. Mae'n broses hirfaith pan fydd cwmni eisiau cyflwyno cyffur generig. Dyna'r math o broses y byddant eisiau ei chyflwyno yma hefyd. Un enghraifft yw Cuprimine, sy'n gyffur arbenigol. Fe'i cymeradwywyd yn yr Unol Daleithiau yn 1970, cyffur generig a'i bris ar hyn o bryd yn $31,000 am 20 o gapsiwlau yn yr Unol Daleithiau. Cost y cyffur generig cyfatebol ym Mhrydain yw $230 am 120 o gapsiwlau. Dyna'r math o system, y fframwaith rheoleiddio, y cyd-destun y byddai'r cwmnïau fferyllol yn yr Unol Daleithiau'n dymuno gweithredu o'i fewn ac ymdrin â gwasanaeth iechyd gwladol y Deyrnas Unedig.
Fe'i gadawaf yn y fan honno, ond nid wyf yn credu am eiliad pan fydd Trump a Boris Johnson, am resymau etholiadol yn yr etholiad cyffredinol hwn, yn dweud bod y GIG rywsut yn mynd i gael ei adael heb ei gyffwrdd; mae'n amlwg nad yw hynny'n wir, a bydd diwydiant fferyllol yr Unol Daleithiau yn sicrhau nad yw hynny'n wir.
Rwy'n llongyfarch Plaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon a chynnig eithaf hirfaith. Byddai'n her i ymateb i bob pwynt ynddo, ond yn gyffredinol, nid wyf yn gwybod a yw Plaid Cymru wedi cyflwyno'r cynnig hwn oherwydd ei fod yn ymdrech sinigaidd i fanteisio ar y GIG a chodi bwganod am gytundeb masnach â'r Unol Daleithiau cyn yr etholiad, neu a yw'n deillio o bryder gwirioneddol, er yn gyfeiliornus, ynglŷn â'r ffordd y mae'r farchnad iechyd a rheoleiddio yn gweithredu yn yr Unol Daleithiau.
Rwy'n cytuno â phwynt 1(a) eu cynnig ynglŷn â gadael yr UE ar 31 Ionawr 2020, ac rwy'n credu bod pwyntiau 1(c) a (d) yn ffeithiol. Ond rwy'n credu fy mod am fynd i'r afael â phwynt 1(b) a'r cyfeiriadau yn 2(b) ac (c) at eu credoau yn gyfunol. Maent yn cyfeirio at farchnadeiddio patentau. Caiff patentau eu cyhoeddi gan Lywodraethau neu eu swyddfeydd patentau a chânt eu gorfodi drwy'r llysoedd. Gall rhywun sydd â phatent brynu neu werthu'r patent hwnnw, ond ni chredaf y bydd unrhyw negodiadau masnach yn dylanwadu ar brynu na gwerthu patentau.
Y cyfeiriadau—credaf yn fras eu bod yn creu nifer o ofnau. Un, ac rwy'n credu bod awgrym wedi'i wneud nad ydynt yn credu hyn mewn gwirionedd, yw fod y GIG yn mynd i gael ei werthu i ddarparwyr o'r Unol Daleithiau. Mae'r GIG yn costio tua £140 biliwn y flwyddyn ledled y DU, ac at ei gilydd nid yw'n derbyn refeniw, felly nid yw'n ddeniadol i ddarparwr preifat geisio ei brynu. Yn amlwg, mae yna faterion eraill y byddaf yn troi atynt, ond fe dderbyniaf yr ymyriad gan Rhun.
Yn fyr iawn, fel y dywedais yn fy nghyfraniad yn gynharach, nid yw'n fater o werthu'r GIG fel un uned; mae'n ymwneud â'r sector preifat yn cael troedle mwy a mwy o fewn y GIG, ac yn elwa o'r GIG.
Rwy'n parchu'r pwynt hwnnw, ac rwy'n meddwl bod Plaid Cymru wedi bod yn glir nad ydynt yn awgrymu gwerthu ehangach yn y ffordd y mae rhai pobl ar ochr Corbyn wedi'i wneud o bosibl. Er mwyn mynd i'r afael â'r pwynt a wnânt, credaf mai'r ehangu mwyaf a welwyd gan y sector preifat i mewn i'r GIG oedd y canolfannau diagnosteg a thriniaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Blair. Deddfwyd ar eu cyfer, yn Lloegr o leiaf—[Torri ar draws.] Yn wir, mae'r Prif Weinidog yn gwneud y pwynt cywir na chawsant eu cyflwyno yng Nghymru. Nid wyf yn derbyn yr ymyriad; mae angen i mi fwrw yn fy mlaen. Yr hyn a wnaethant oedd—cawsant eu cyflwyno yn Lloegr yn 2003 ac mae iddynt hanes cymysg. Nid wyf yma i'w hamddiffyn. Credaf eu bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant cyfyngedig yn lleihau rhestrau aros mewn ardaloedd penodol, ond credaf hefyd y gellir cyfiawnhau peth o'r feirniadaeth ohonynt am ddewis a dethol yr achosion hawsaf. Ond o ran unrhyw effaith fasnachol yn sgil y rhain, ni welaf sut y byddai'n niweidiol iawn, oherwydd yn y wlad hon, rydym wedi tueddu i beidio â bod yn ddiffyndollol yn y sector cyhoeddus. Mae rheolau ynglŷn â hynny o fewn yr UE, ond nid ydym wedi tueddu i hepgor darparwyr o'r tu allan i'r UE. Mewn rhai meysydd lle mae tendro cystadleuol gorfodol—yn wir, galwai am fynediad cyfartal i wledydd tramor. Rydym yn tueddu i'w roi beth bynnag.
Yn ddi-os, mewn cytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau, hoffem ddileu rhai o ddarpariaethau eu 'Buy American Act' yn eu sector cyhoeddus, ond yn gyffredinol, nid wyf yn credu bod ein sector cyhoeddus yn arbennig o ddiffyndollol. Ac yn achos un o'r canolfannau diagnosteg a thriniaeth hynny, pe bai darparwr o'r Unol Daleithiau wedi dod i mewn ac wedi cynnig ei wneud yn rhatach neu ar sail ansawdd gwell na darparwyr eraill, tybiaf y byddai Llywodraeth Blair wedi derbyn hynny. Ar ôl llunio contract gyda'r darparwr hwnnw, a fyddem wedyn am i hynny gael ei ddiddymu gan Lywodraeth yn y dyfodol? Buaswn yn disgwyl i'n llysoedd amddiffyn buddsoddwr o dramor yn y cyd-destun hwnnw beth bynnag, ac rwy'n amau y bydd yr UDA yn bryderus iawn am hynny yn y ffordd yr oedd gyda'r bartneriaeth masnach a buddsoddi trawsatlantig, oherwydd pryderon am rai llysoedd Ewropeaidd mewn rhai gwledydd, nid ydynt o reidrwydd—[Anghlywadw.] Cymeraf yr ymyriad yn fyr.
Diolch. Mewn perthynas â'r ddogfen 460 tudalen rydym yn cyfeirio ati ar y potensial ar gyfer masnach, ac rydym wedi siarad ychydig bach am ddiagnosteg, beth oedd diben y ddogfen honno yn eich tyb chi? Sut y byddech yn aralleirio'r ddogfen astrus honno, y gwyddom bellach ei bod ar gael yn gyhoeddus i unrhyw un ei chodi ac edrych arni?
Wel, trafodaethau anffurfiol gyda grwpiau perthnasol ydynt yn hytrach na negodiadau, oherwydd ein dehongliad neilltuol o gyfraith yr UE. O ran y darnau y mae Llafur wedi tynnu sylw atynt ac yn ceisio gwneud rhywbeth mawr ohonynt, nid oes yr un ohonynt i'w weld i mi yn brawf digamsyniol o unrhyw beth. Rwy'n credu mai mater patentau yw'r un y maent wedi'i ystumio fwyaf yn ôl pob tebyg. Ond yn fras, mae system batent y DU a'r Unol Daleithiau yn gymharol debyg o ran lefel a hyd yr amddiffyniad a roddir. Mae'r hyn sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau i raddau helaeth yn adlewyrchu strwythur eu marchnad a'r ffordd y mae'r cwmnïau yswiriant yn gweithio. Oherwydd mai'r GIG yw'r prynwr cyffuriau monopsoni, ac oherwydd bod gennym y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i ystyried a yw'n mynd i fod yn gosteffeithiol, dyna'r ddau beth sy'n cadw costau'n isel ym marchnad y DU.
Yr hyn sy'n gwneud prisiau cyffuriau'n drybeilig o uchel mewn rhannau o'r GIG—ac mae'n wir fod GlaxoSmithKilne ac AstraZeneca yn elwa hefyd o hynny pan fyddant yn gwerthu i'r UDA—yw strwythur lle mae'r cwmnïau yswiriant yn prynu'r cyffuriau hyn heb reolaeth effeithiol ar gostau. Ac mae hynny'n rhannol oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dal i gynnig cynlluniau i weithwyr lle gallant fynd at unrhyw feddyg y dymunant, ac os yw'r meddyg hwnnw'n presgripsiynu, bydd y cwmni yswiriant yn talu'r cwmni cyffuriau. Felly, nid oes cystadleuaeth effeithiol o ran y farchnad na rheoleiddio cyffredinol neu ddarparwr monopsoni, fel sydd gennym ni.
Nid yw trafodaethau masnach yn mynd i ddylanwadu ar ddim o'r pethau hynny. Am y rheswm hwnnw, rwy'n ystyried mai codi bwganod yw hyn. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd am yr opioidau, a chredaf fod hynny'n adlewyrchu ymddygiad presgripsiynu yn y farchnad a natur y berthynas rhwng y claf a'r meddyg, sy'n annhebyg i'r hyn sydd gennym yn y wlad hon, ac na fyddai gennym ni waeth pa gytundeb masnach a fyddai gennym â'r Unol Daleithiau.
I ymdrin yn gyflym â phwynt 3, nid ydym yn cytuno â feto ar bolisi masnach am ei fod yn fater a gadwyd yn ôl ac nid ydym yn cefnogi Cymru sofran annibynnol yn y ffordd y mae Plaid Cymru yn ei wneud. Byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, y credwn ei fod yn eithaf gonest o gofio ei bod yn gyfnod cyn etholiad, a byddwn yn ymatal ar gynnig y Llywodraeth, gan fod gennym rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio'i wneud ac rydym yn credu y dylai Cymru gael rôl ymgynghorol briodol mewn negodiadau masnach. Ond nid ydym yn credu mewn cael feto na chyfansoddiad ffederal gyda'r Goruchaf Lys yn ei oruchwylio yn y ffordd y credaf eu bod yn awgrymu.
O ran y ddadl hon ar y GIG ac ar gytundebau masnach, un o'r pethau y mae cynnig Plaid Cymru yn galw amdano yw i'r GIG yng Nghymru gael ei ddiogelu gan y gyfraith fel nad yw cymhwysedd datganoledig yn cael ei golli ar ôl Brexit. Nawr, mae Delyth, Rhun a Helen wedi amlinellu'r achos yn huawdl, oherwydd rydym yn byw mewn cyfnod brawychus—cyfnod anodd, ansicr a phegynol. Arweiniodd digwyddiadau cythryblus at greu'r GIG yn y lle cyntaf. Dileodd Aneurin Bevan ofnau unigolion ynglŷn â thalu am ofal iechyd. Fel cymuned, fel gwlad, mae pawb ohonom yn ysgwyddo'r gost ar y cyd, fel nad yw unigolion yn cael eu gwneud yn fethdalwyr er mwyn talu am eu hiechyd. Cofiwch, nid ydym wedi cyrraedd yno mewn perthynas â gofal cymdeithasol o hyd, ond stori ar gyfer diwrnod arall yw honno.
Nawr, mae fy mab ieuengaf yn byw yn Oklahoma yn UDA. Ac felly, fel teulu, gwyddom bopeth am yr heriau o dalu am ofal iechyd fel unigolion drwy yswiriant iechyd, yn dibynnu a oes gennych chi swydd a pha fath o swydd. Ac yn union fel yswiriant car, gall y premiwm fod yn uchel iawn os oes gennych risgiau ychwanegol. Mor uchel, weithiau, fel nad oes modd i chi gael yswiriant. Ac yn amlwg, os oes rhywbeth arall ar ben hynny, fel profion pelydr-x neu brofion gwaed neu gyffuriau unigol, mae'r gost yn codi. Codir tâl arnoch fel unigolyn. Felly, gall olygu biliau gofal iechyd drud iawn i unigolion.
Nawr, fe'i clywsom—'Codi bwganod yw hyn i gyd', clywaf bobl yn dweud, ond cawn ein hamddiffyn yma yng Nghymru rhag realiti'r GIG mewn mannau eraill ar yr ynysoedd hyn hyd yn oed. Rydym yn cwyno am y GIG yma yng Nghymru, ond mae'r GIG yng Nghymru'n cyflawni gwyrthiau beunyddiol ar y nesaf peth i ddim, gyda staff eithriadol, hynod o wych dan ormod o bwysau, ond sy'n mynd y filltir ychwanegol honno, a ninnau'n anghofio'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill.
Nawr, fe wnaeth Llywodraeth Cymru'n Un yma yng Nghymru, rhwng 2007 a 2011, wahardd comisiynu meddygon teulu a'r fenter cyllid preifat ym maes iechyd. Nid felly yn Lloegr, lle mae comisiynu meddygon teulu bellach yn digwydd ar ffurf grwpiau comisiynu clinigol. Maent wedi'u dadreoleiddio i raddau helaeth ac yn galluogi rhannau enfawr o'r GIG yn Lloegr i gael eu preifateiddio bellach o ganlyniad i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012, deddf drychinebus, a chreadigaeth faleisus Andrew Lansley. Felly, o ganlyniad, mae gofal iechyd preifat Virgin wedi cael gwerth dros £2 biliwn o waith GIG yn y blynyddoedd diwethaf, gyda dros 400 o gontractau yn amrywio o ofal dementia i'r henoed—dewis a dethol, fel y crybwyllodd Delyth—y rhaglenni imiwneiddio ysgolion sy'n breifat mewn llawer o ardaloedd yn Lloegr, i ofal iechyd mewn carchardai, gweithredu ymddiriedolaethau GIG a gwasanaethau meddygon teulu unigol. Dyna beth y mae gofal iechyd Virgin yn ei wneud yn awr.
Ac mae tafelli enfawr o wasanaethau iechyd meddwl eisoes wedi'u preifateiddio ac yn cael eu gweithredu am elw mawr gan gwmnïau gofal iechyd Americanaidd yn Lloegr heddiw—unedau preswyl preifat a weithredir gan gwmnïau o America ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl heriol i'r glasoed ac oedolion ar gyfer awtistiaeth, anabledd dysgu, problemau cymhleth, natur drafferthus. Maent yn codi crocbris ar y GIG a llywodraeth leol am eu gwasanaethau, a gall pobl o Gymru fod yn yr unedau hyn a chodir tâl ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn sgil hynny. Dyna'r realiti heddiw.
Mae Arcadia, corfforaeth iechyd a leolir yn Tennessee, yn brolio ynglŷn ag ennill £188 miliwn mewn cwta dri mis gan wasanaethau cyhoeddus Prydain yn ôl adroddiadau yr wythnos hon. Mae Cygnet yn sefydliad iechyd arall yn yr Unol Daleithiau sy'n ennill miliynau wrth weithredu yn yr un meysydd iechyd meddwl cymhleth lle nad oes gennym ddarpariaeth breswyl yn y GIG. Felly, nid oes pwynt gweiddi nad yw'r GIG ar werth. Mae rhannau mawr ohono eisoes wedi'u gwerthu. Ond iechyd meddwl yw hynny, onid e? Mae'n iawn—nid oes neb yn poeni.
Ac mae ein data iechyd personol yn gyfle euraid i gewri fferyllol Americanaidd hefyd. Rhaid inni ddeddfu i warchod ein data personol ein hunain. 'Adfer rheolaeth', fel y dywedodd rhywun rhywbryd. A pheidiwch â gadael i mi ddechrau ar ddadreoleiddio presgripsiynu gan nad oes gennyf ddigon o amser, ond mae David Rees a Rhun wedi rhoi sylw trylwyr i hynny.
Felly, yr alwad o'r cynnig hwn yw pleidleisio i amddiffyn y GIG yng Nghymru drwy'r gyfraith. Os ydych chi'n meddwl mai codi bwganod ydyw ac nad yw byth yn mynd i ddigwydd, er yr holl dystiolaeth o'r realiti ar lawr gwlad ei fod yn digwydd eisoes, wel, beth am bleidleisio dros y ddeddfwriaeth beth bynnag? Oherwydd os na chaiff byth mo'i gweithredu, pa niwed sydd yna? Ond os ydych yn meddwl, os ydych yn credu'n wirioneddol, fel rydym ni, fod y GIG yng Nghymru mewn perygl, pleidleisiwch dros y cynnig hwn gan Blaid Cymru i ddiogelu trysor godidog ein GIG mewn cyfraith. Gall Walonia wneud hynny.
A gaf fi alw yn awr ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ddadl hon. Mae’n amserol oherwydd mae’n rhoi goblygiadau ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd o dan y chwyddwydr, felly hefyd ganlyniadau posibl ymddiried mewn Llywodraeth Dorïaidd dan arweiniad Boris Johnson i ymgymryd â’r broses honno.
Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynnig gwreiddiol i raddau helaeth. Adlewyrcha safbwynt y mwyafrif o Aelodau’r Senedd y dylai’r Deyrnas Unedig barhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ac na ddylai’r egwyddor y cafodd y gwasanaeth iechyd gwladol ei sefydlu yn unol â hi, sef bod gwasanaethau yn rhad ac am ddim adeg eu darparu, gael eu rhoi yn y fantol.
Rydym ni hefyd yn cytuno bod y setliad cyfansoddiadol presennol yn gwbl annigonol i ymdopi â heriau dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mynegon ni ein barn ar hyn yn gwbl glir yn ein dogfennau polisi, 'Brexit a Datganoli' a 'Diwygio ein Hundeb'. Os na fyddwn ni’n parhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, yna mae perygl y bydd y llinell rhwng negodiadau rhyngwladol a meysydd lle mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli yn cael ei chroesi.
Rydym ni wedi cynnal sawl dadl ar Brexit yn y Siambr hon, ond, er gwaethaf hynny, rydym ni'n dal i glywed gan y rheini sydd am 'get Brexit done' neu 'clean-break Brexit', galwadau sydd yn gwbl niweidiol i fuddiannau Cymru. Amlygwyd unwaith eto y niwed a fyddai'n cael ei achosi pe byddai'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn y tymor byr a'r tymor hir gan y National Institute of Economic and Social Research yn yr wythnos diwethaf. Fe ddaethon nhw i'r casgliad, yn union fel y mae economegwyr Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, mai bach iawn yw'r manteision o negodi cytundebau masnach rydd gyda gwledydd nad ydyn nhw'n perthyn i'r Undeb Ewropeaidd. Ar y llaw arall, byddai'r niwed yn sgil ymadael â marchnad sengl ac undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd yn sylweddol ac yn parhau am flynyddoedd maith i ddod.
Mae cael Brexit wedi'i wneud yn golygu difrodi'r economi, peryglu bywoliaeth ein dinasyddion ac amddifadu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol o'r buddsoddiad sydd ei angen. Eto i gyd, mae'r Ceidwadwyr yn ystod ymgyrch yr etholiad unwaith eto wedi bod yn gwneud addewidion nad oes unrhyw fodd o'u cyflawni, er enghraifft, y gallwn droi ein cefn ar ddull yr UE o weithredu cymorth gwladwriaethol a chystadleuaeth a dal i gael cytundeb masnach well na'r un gyda'r Undeb Ewropeaidd. Os byddant yn dychwelyd i rym, duw a'n helpo, byddant yn sylweddoli'n fuan fod hyn yn rysáit ar gyfer methiant y negodiadau.
Felly, gan droi at y gwelliannau gan y Ceidwadwyr Cymreig, er ein bod wrth gwrs yn cefnogi rhinweddau masnach rydd, mae perygl mawr i fuddiannau Prydain pe bai Llywodraeth Doraidd yn rhuthro i gofleidio gweinyddiaeth America yn gyntaf Trump, gweinyddiaeth sydd wedi dangos ei bod lawn mor ddidostur a di-hid yn gweld masnach fel gêm 'swm sero', lle na all America ennill heblaw ei bod yn dinistrio buddiannau ei phartner negodi. Ni allwn gredu'r sicrwydd a roddwyd gan Boris Johnson na fydd y GIG byth yn cael ei aberthu mewn negodiadau gyda'r UE fwy nag y gallem gredu y byddai'n cyflawni Brexit erbyn 31 Hydref doed a ddelo.
Gadewch imi fod yn gwbl glir: mae'r GIG yng Nghymru yn cael ei weithredu yng Nghymru ar gyfer Cymru, ac o dan y Llywodraeth hon, bydd yn parhau yn nwylo'r cyhoedd. Nid yw ein GIG ar werth. Ac mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwneud yr un camgymeriadau yn ei pharatoadau ar gyfer negodiadau masnach â'r Unol Daleithiau ag a wnaeth wrth ddechrau negodi'r cytundeb ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—cyfuniad angheuol o ddifaterwch, anwybodaeth a gorbwysleisio cryfder ein llaw negodi yn druenus. Mae wedi methu—nid yw hyd yn oed wedi ymdrechu, mewn gwirionedd—mynegi gweledigaeth ar gyfer masnach yn y dyfodol a rennir gan holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig, a cheir diffyg tryloywder llwyr hefyd. Nid yw'r DU wedi cyhoeddi mandad negodi drafft hyd yn oed ar gyfer negodiadau â'r Unol Daleithiau. Ond gwyddom erbyn hyn, wrth gwrs, fel y nodwyd yn y ddadl eisoes, fod misoedd o drafodaethau cudd eisoes wedi digwydd, wedi'u crynhoi mewn mwy na 400 o dudalennau o nodiadau a chofnodion. Mae hyn yn tanio drwgdybiaeth ac yn tanseilio ymddiriedaeth, yn enwedig pan allai'r effaith ar bobl, ar fusnesau, ar gymunedau ar draws y DU gyfan fod mor ddifrifol.
Mewn cyferbyniad, rydym wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU fod angen i ni ymwneud yn ffurfiol ac yn strwythuredig â phob agwedd ar negodiadau masnach, sy'n dod â mi at ran olaf y cynnig gan Blaid Cymru. Mae'r cynnig yn nodi'r heriau cywir, ond nid yr atebion cywir, mae arnaf ofn. Fel Llywodraeth, rydym o blaid ailwampio'r cyfansoddiad fel ei fod yn llwyr gydnabod ac yn parchu awdurdod cyfartal y pedair Llywodraeth a Senedd i ymdrin â materion sydd o fewn eu cymhwysedd.
Ond nid yw hyd yn oed cyfansoddiadau cwbl ffederal fel Canada, fel yr Almaen, Awstralia neu UDA yn rhoi feto i lywodraethau unigol is-na-lefel-llywodraeth-ffederal ar gytundebau masnach. A buaswn yn pwysleisio bod hyn yn wir yng Nghanada hefyd, lle mae ymwneud eu taleithiau ym mhroses gynhwysfawr y cytundeb economaidd a masnach yn aml yn cael ei gynnig fel enghraifft. Byddai gwneud hynny, wrth gwrs, yn gwneud rôl y Llywodraeth ffederal yn cynnal negodiadau rhyngwladol yn amhosibl yn ymarferol. Yn hytrach, maent yn sefydlu hawliau llywodraethau gwladwriaethol, llywodraethau talaith, neu lywodraethau Länder i helpu i ffurfio negodiadau, ac yn cynnwys y posibilrwydd mewn rhai achosion, fel y crybwyllodd David Rees yn ei gyfraniad, fod y Länder yn gweithredu ar y cyd i rwystro cytuniadau, boed hynny drwy eu cynrychiolaeth, fel y dywedodd David, yn y seneddau ffederal.
Yng Ngwlad Belg yn unig y mae gan lywodraethau unigol ar lefel wladwriaethol rôl ffurfiol yn cadarnhau ac o bosibl, yn nacáu cytundebau rhyngwladol. Ond mae'r setliad datganoli yng Ngwlad Belg yn datganoli masnach, ond nid yw'n datganoli iechyd. Felly, dyna arwydd inni o'r gofal sy'n rhaid inni ei gymryd wrth edrych ar gynsail mewn mannau eraill. Ac mae'r rheini sy'n dadlau dros feto ar gytundebau rhyngwladol gan y Senedd, neu gan Senedd yr Alban, i bob pwrpas yn argymell peidio â diwygio, a diddymu'r undeb yn ymarferol. Ac er nad wyf yn cefnogi'r amcan hwnnw o gwbl, rwy'n credu y byddai o leiaf wedi bod yn fwy tryloyw i adlewyrchu hynny yn y cynnig.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Ai eich blaenoriaeth yw diogelu'r undeb neu'r GIG?
Ein blaenoriaeth yw diogelu'r undeb a'r GIG, a'r ffordd orau o wneud hynny yw ethol Llywodraeth Lafur i San Steffan ar ôl yr etholiad hwn. Ein blaenoriaeth yw parhau, mewn gwirionedd, i bwyso ar Lywodraeth y DU i adael i Lywodraeth Cymru gymryd rhan lawn ar bob cam o'r broses negodi ryngwladol ar faterion datganoledig, a hefyd i gael llais mewn materion sy'n effeithio ar gyfrifoldebau datganoledig.
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Mae enghraifft ddiddorol iawn sydd eisoes wedi dod i sylw'r pwyllgor, dan gadeiryddiaeth alluog David Rees, sef negodi, neu ail-negodi, cytundeb masnach rhwng y DU a Korea, o'i gymharu â'r cytundeb masnach blaenorol rhwng yr UE a Korea. Yng nghytundebau masnach yr UE, mae wedi dod yn arfer cyffredin i roi hawliau dynol yn rhan o'r cytundeb cyfreithiol rwymol. Mae'n arfer cyffredin. Yn y cytundeb rhwng y DU a Korea, mae wedi cael ei israddio i ran o'r protocol ysgrifenedig sy'n dod gydag ef. Nawr, ar y sail honno, mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu ar faterion a ddatganolwyd, sy'n cynnwys fframweithiau polisi llesiant cenedlaethau'r dyfodol, fel y gallwn ddweud wrth Weinidogion y DU nad ydynt i israddio rhwymedigaethau hawliau dynol ar unrhyw gyfrif pan allai hynny wneud pobl ym mhen draw'r byd yn dlotach pan fyddwn yn cymryd cynnyrch a gwasanaethau ganddynt.
Ie, a dyna'r union rôl y gofynnwn amdani, y pwyswn amdani, cael rhan mewn negodiadau, yn y broses o gytuno ar y mandadau hynny, a rôl uniongyrchol mewn negodiadau. A'r rheswm am hynny yw y gallwn sefyll yn uniongyrchol dros fuddiannau Cymru mewn perthynas â chymwyseddau datganoledig. A bydd gan y Senedd hon rôl graffu wedyn, yn cwestiynu ac yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynrychioli buddiannau Cymru yn yr union ffordd honno. Byddai trefniadau cydweithio a chytuno cadarn rhwng y Llywodraethau sy'n hwyluso gwaith craffu gan yr holl ddeddfwrfeydd perthnasol yn helpu i sicrhau na fyddai sefyllfaoedd byth yn codi lle gallai Llywodraeth y DU gyfiawnhau defnyddio pwerau ymyrraeth eithafol, fel y rhai yn adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ac er y gall fod angen y pwerau hynny mewn achosion eithafol i atal y tair Llywodraeth arall rhag bod ar drugaredd un, byddai eu defnydd mewn unrhyw sefyllfa arall yn anfad mewn termau cyfansoddiadol.
Mae angen diwygio'r setliad datganoli i adlewyrchu'r newid yn y cyd-destun ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol, ond nid ateb cyflym yw hwn. Rydym wedi galw am gonfensiwn cyfansoddiadol, ac mae'n rhaid i'r broses honno fynd i'r afael â'r cwestiynau pwysig hyn ynghylch cysylltiadau rhyngwladol a datganoli, fel rydym wedi dadlau'n fanwl mewn man arall.
Ddirprwy Lywydd, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant y Llywodraeth.
Diolch. A gaf fi alw ar Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, diolch i bawb wnaeth gyfrannu i'r ddadl yma heno. Diolch i David Rees am ei gyfraniad, oedd yn cytuno gyda rhan o'n cynnig ni o leiaf. Rwy'n cytuno â beth mae David yn ei ddweud am y bygythiad i'r NHS. Yn amlwg, buasem ni ddim, ym Mhlaid Cymru, dim ond eisiau feto, a dyna pam mae e ddim ond yn un o'r pethau dŷn ni'n ei gynnig yn ein cynnig ni heddiw. Ond rwy'n cytuno gyda analysis David o ran gwelliant y Ceidwadwyr, oherwydd bydd San Steffan byth yn ein rhoi ni yn gyntaf.
Fe wnaeth Helen Mary Jones esbonio beth fyddai effaith dadreoleiddio ar ddiogelwch cleifion, ac rwy'n siŵr y bydd llawer oedd yn gwrando yn cytuno bod yn rhaid inni atal sefyllfa o'r fath rhag codi. Fel dywedodd hi, mae'r system NICE yno er mwyn diogelu pobl. Rwy'n falch bod Mark Reckless o leiaf yn cytuno â'r dystiolaeth am yr opioids. Roedd cyfraniad Rhun hefyd yn werthfawr dros ben wrth iddo esbonio beth fyddai effaith y cynnydd mewn prisiau ar gyffuriau mae'r Unol Daleithiau ei eisiau ar gyllideb ein gwasanaeth iechyd. Diolch i Dai Lloyd am ddod â phersbectif rheng flaen i'r ddadl unwaith eto ac am ei araith angerddol.
Nawr, o ran y ffordd y clywsom Mark Isherwood, David Rowlands ac eraill yn gwadu eu bod yn meddwl nad oes gan yr Unol Daleithiau unrhyw fwriad o gael mynediad at y GIG, rwy'n credu bod hynny'n rhyfeddol yn wyneb yr holl dystiolaeth. Mae Trump wedi bod yn agored am ei bolisi 'America yn gyntaf'. Dywedodd ar 4 Mehefin ei fod am i'r GIG fod ar y bwrdd mewn cytundeb masnach, ac mae gennym dystiolaeth o ddogfennau a ryddhawyd yr wythnos diwethaf, a ddangosai fod marchnadeiddio prisiau cyffuriau, patentau, dyfeisiau meddygol ac yswiriant iechyd wedi cael ei drafod. Mae gennym gopi o flaenoriaethau negodi adran fasnach yr Unol Daleithiau. Mae'r dystiolaeth yn aruthrol ac ni allaf ond dod i'r casgliad fod rhai pobl yn gwrthod derbyn y realiti hwn am nad yw'n cyd-fynd â'u safbwynt hwy am y byd. Rwy'n ofni nad yw'n safbwynt rwy'n ei rannu.
O ran yr hyn a glywsom oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr yn bennaf am eu ffydd y bydd Boris Johnson yn cadw ei air mewn perthynas â'r GIG, rwy'n credu y bydd pobl Cymru yn gwybod yn iawn na ellir ymddiried yn yr addewidion y mae'n eu gwneud. Dywedodd Boris Johnson mewn colofn yn The Telegraph yn y gorffennol ei fod am godi tâl ar gleifion i weld eu meddyg teulu; dywedodd wrth Business Insider y byddai pobl yn gwerthfawrogi'r GIG yn fwy pe bai'n rhaid iddynt dalu amdano; galwodd am chwalu'r hyn a alwodd yn GIG 'monolithig, monopolistig' yn Nhŷ'r Cyffredin. A'r hyn sy'n peri'r pryder mwyaf, rwy'n credu, yw fod ei wir gredoau wedi'u hadlewyrchu mewn sylwadau a wnaeth mewn araith i'r Ganolfan Astudiaethau Polisi. Dywedodd fod gan 16 y cant 'o'n rhywogaeth ni'—ei eiriau ef—IQ isel ac y dylid gwneud mwy i gefnogi'r 2 y cant gyda'r IQ uchaf. Dywedodd
Po galetaf y byddwch yn ysgwyd y pecyn, hawsaf oll fydd i rai creision ŷd gyrraedd y brig.
Darlun Darwinaidd o'r byd yw hwn yn y pen draw. Yr hyn y mae Boris Johnson yn ei gredu yw y dylai pobl sy'n agored i niwed gael eu gadael i bydru fel bod y mwyaf llwyddiannus 'o'n rhywogaeth ni'—ei eiriau ef unwaith eto—yn gallu ffynnu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe wnaf dderbyn ymyriad.
A gytunech hefyd nad Boris Johnson yn unig yw hyn? Ideoleg yw hon sy'n gyffredin ym mhob rhan o'r Cabinet, ac os edrychwch ar eiriau Dominic Raab yn y llyfr a gyhoeddodd heb fod mor bell yn ôl â hynny, yr un athroniaeth yn union yw hi eu bod am werthu rhannau, yn araf neu'n gyflym, o'n GIG i'r UDA.
Diolch am yr ymyriad. Rwy'n cytuno nad yw hyn yn rhywbeth sy'n canolbwyntio'n llwyr ar Boris Johnson. Rwy'n credu bod nifer o Aelodau'r Cabinet—wel, y Cabinet presennol ydynt o hyd—fel y dywedoch chi, fel Dominic Raab, y credaf fod peth o hyn—. Mae fel yr olwg Ddickensaidd ar y byd fod y byd ffyniannus yn cynaeafu'r holl wobrau ac rwy'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw. Mae'n peri pryder mawr. Unwaith eto, gobeithio, rwy'n erfyn ar Aelodau meinciau cefn Llafur i gefnogi'r cynnig, am mai gwerthu'r GIG fyddai'r ffordd orau i'r blaid honno wireddu'r weledigaeth ddystopaidd hon.
Mae'n rhaid imi ddweud bod disgrifio pryderon dilys am ddyfodol ein GIG fel 'codi bwganod', 'tactegau enbyd i greu ofnau' ac 'aflonyddu ar bobl agored i niwed sy'n defnyddio'r GIG' yn rhyfeddol. Credaf fod y sylw olaf yn arbennig yn sarhaus o ystyried mai amddiffyn pobl agored i niwed yw diben y cynnig hwn.
Gwrandewais yn astud iawn ar esboniad y Gweinidog ynglŷn â pham nad ydynt am gael feto ar gytundebau masnach a pham nad ydynt am newid y gyfraith i atal Llywodraeth y DU rhag gallu preifateiddio'r GIG. Dywedodd fod Plaid Cymru, yr hyn rydym yn ei gynnig, yn swnio'n rhy debyg i annibyniaeth at ei ddant ef—sylw a adleisiwyd gan David Rees, ac un roeddwn braidd yn siomedig yn ei gylch. Rwy'n cefnogi annibyniaeth, nid wyf byth am wadu hynny, ond nid dyna rydym yn ei argymell heddiw. Galwn yn syml am roi feto i Gymru ar unrhyw gytundeb masnach a fyddai'n gallu gwneud niwed i'n gwasanaethau cyhoeddus.
Gallai hyn weithio'n dda iawn yn ymarferol. Ni fyddai Llywodraeth y DU am inni ddymchwel cytundeb masnach drwy ddefnyddio'r feto. Felly, byddai'n rhaid iddynt negodi o'r dechrau fel bod gennym gytundeb sy'n cadw ein GIG yn gyfan. Byddai'n cyflawni'r hyn y mae Llywodraeth Cymru ei eisiau, sef bod y llywodraethau a'r deddfwrfeydd datganoledig yn gallu dylanwadu ar negodiadau masnach cyn iddynt ddechrau, sef yr hyn y credaf fod Huw Irranca-Davies yn cyfeirio ato yn ei gyfraniad.
Rwy'n credu ei bod yn drist iawn fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu dyfodol undeb sydd wedi gadael Cymru'n amddifad a heb unrhyw bŵer dros ddyfodol ein GIG. Rwy'n annog Aelodau meinciau cefn Llafur i geisio darbwyllo'r Llywodraeth i ailasesu ei blaenoriaethau cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio yn awr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen at y bleidlais. Na? O'r gorau. Iawn. Felly, mae'r bleidlais heddiw ar ddadl Plaid Cymru, Brexit a masnach yn y dyfodol, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig saith, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.
NDM7214 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 7, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 11, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
NDM7214 - Gwelliant 1: O blaid: 11, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 2, 26, tri yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 2.
NDM7214 - Gwelliant 2: O blaid: 26, Yn erbyn: 15, Ymatal: 3
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7214 fel y'i diwygiwyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod y DU ar fin gadael yr UE ar 31 Ionawr 2020;
b) bod trafodaethau masnach anffurfiol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau ynghylch bargen fasnach yn y dyfodol wedi dechrau, ac mae hynny, yn ôl y sôn, yn cyfeirio at farchnadeiddio patentau/prisio cyffuriau'r GIG;
c) bod cytuniadau rhyngwladol y tu allan i gwmpas pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
d) bod adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth ryngwladol.
2. Yn credu:
a) mai'r ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru fyddai drwy barhau i fod yn aelod o'r UE ac y dylid cynnal refferendwm rhwng aros ac opsiwn credadwy ar gyfer gadael;
b) na ddylai GIG Cymru gael ei orfodi gan Lywodraeth y DU i agor ei farchnad ar gyfer mwy o ddarpariaeth breifat, neu orfod derbyn cynydd mewn costau cyffuriau a osodir arno o ganlyniad i unrhyw gytundeb rhyngwladol sy'n ymestyn patentau ac yn cyfyngu ar y defnydd o gyffuriau generig;
c) byddai cytundeb masnach yn y dyfodol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau a fyddai'n cynnwys darpariaethau'n ymwneud â'r GIG yn drychineb i GIG Cymru;
d) bod y system gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi methu â rheoleiddio'n briodol y modd y caiff opioidau eu marchnata a'u rhagnodi, ac mae'n nodi bod yr amgylchedd rheoleiddiol annigonol hwn wedi cyfrannu at dros 70,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau oherwydd gorddos o opioid yn 2018, a dim ond un enghraifft yw hyn o beryglon dadreoleiddio a allai ddilyn cytundeb masnach a ysgrifennwyd er budd cwmnïau fferyllol yr Unol Daleithiau
e) na ddylai Llywodraeth y DU allu cyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd camau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli sydd â'r potensial i gael effaith andwyol ar wasanaethau cyhoeddus Cymru.
3. Yn galw am:
a) i’r sefydliadau datganoledig gael rôl ffurfiol mewn negodiadau ar gytundebau rhyngwladol pan fyddant yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig, a hynny i ddigwydd ar bob cam o’r negodiadau a chyda chefnogaeth statudol.
b) confensiwn cyfansoddiadol i’r DU gyfan i sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol yn y dyfodol yn adlewyrchu hyn ac i atal Llywodraeth y DU rhag diystyru’r Cynulliad Cenedlaethol lle bo’n gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig.
4. Yn edrych ymlaen at ethol Llywodraeth yn y DU sydd wedi ymrwymo’n llawn i ddiogelu’r GIG yng Nghymru ac ar draws y DU.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 26, saith yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM7214 - Dadl Plaid Cymru Wrthblaid fel y'i diwygiwyd: O blaid: 26, Yn erbyn: 11, Ymatal: 7
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Gan na chyflwynwyd eitem ar gyfer y ddadl fer, daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:22.