Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/07/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Rees.

Twf Economaidd yn Aberafan

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd yn Aberafan? OAQ54227

Gwnaf, wrth gwrs. Mae ein hagwedd gyffredinol at ddatblygu economaidd yn Aberafan, a ledled Cymru, wedi'i nodi yn y cynllun gweithredu ar yr economi.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r holl agwedd. Rwy'n siŵr y byddaf yn bwrw golwg dda arall ar y cynllun gweithredu. Ond fel y gwyddoch, mae gennyf ymrwymiadau cryf i'r diwydiant dur yn fy etholaeth ac mae digwyddiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda Ford, wedi tynnu sylw unwaith eto at yr angen i ddatblygu economi amrywiol yn Aberafan, fel nad ydym yn dibynnu ar un cyflogwr yn unig. Mae twristiaeth yn un sector sy'n gallu darparu rhan o'r amrywiaeth honno, ac mae nifer o safleoedd gwych yn fy etholaeth—rwy'n annog unrhyw un i ddod i'r traeth hyfryd, tair milltir o hyd sydd gennym, abaty hanesyddol Margam, neu barc Margam, neu ardal ryfeddol cwm Afan hyd yn oed. Mae'r rhain i gyd yn cynnig cyfleoedd enfawr i gryfhau'r economi leol a hynny drwy gynnig twristiaeth—ar raddfa fawr neu fach.

Un prosiect mawr sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar yw parc gwyliau cwm Afan, cysyniad sy'n dangos bod twristiaeth sy'n seiliedig ar weithgareddau'n addas iawn ar gyfer ein topograffi mewn gwirionedd, ac yn un a allai ddod ag adfywiad economaidd i ardal o amddifadedd. Rwy'n cydnabod, fel y crybwyllwyd ddoe, y pryderon difrifol a godwyd ynghylch trafodion ariannol y cwmni sy'n datblygu ac sydd y tu ôl i'r cynllun, ac o ganlyniad, buaswn yn disgwyl i'r rheini gael eu trin yn y ffordd briodol. Fodd bynnag, credaf fod cysyniad y prosiect yn un y dylem ei archwilio ymhellach, gan ei fod yn gallu cynnig cyflogaeth, a chyfleoedd, ac adfywiad i lawer yn fy etholaeth.

Weinidog, a allwch chi gadarnhau yn gyntaf nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw arian i'r prosiect hwnnw? Ac a ydych yn cytuno y dylid parhau i ystyried cynigion o'r fath fel cyfle cadarnhaol i adeiladu profiad twristiaeth cryf yn ein cymoedd a chynnig llawer o gyfleoedd i gymunedau, a pha gymorth y gallwch ei roi i brosiectau lleol, llai o faint sy'n gallu ychwanegu at y cynnig twristiaeth yn y cwm?

A gaf fi ddiolch i Dai Rees, nid yn unig am ei gwestiynau, ond hefyd am y pwynt pwysig y mae'n ei wneud am yr asedau naturiol ac adeiledig gwych yn ei etholaeth ac ar draws y rhanbarth? Wrth i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth fwrw ymlaen â chynllun gweithredu newydd ar gyfer twristiaeth, a fydd yn destun ymgynghoriad, bydd amrywiaeth o fewn y sector ac ar draws pob rhanbarth yn chwarae rôl allweddol. Mae twf busnes enfawr wedi bod yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y blynyddoedd diwethaf—twf dau ddigid o ran busnesau newydd—ac rydym ni fel Llywodraeth, boed hynny mewn cysylltiad â'r sector twristiaeth neu unrhyw sector arall, yn benderfynol o sicrhau bod y twf hwnnw'n parhau yn y dyfodol.

Mae'r Aelod hefyd yn codi mater difrifol iawn sydd wedi'i hyrwyddo'n fawr yn y cyfryngau, ac sydd wedi bod yn destun ymchwiliad gan ITV a The Guardian yn benodol. Diolch iddynt am eu gwaith ar y prosiect arbennig hwn. Gallaf sicrhau'r Aelodau heddiw yn wir nad ydym wedi addo, nac wedi darparu, ceiniog o gyllid i Gavin Woodhouse na Northern Powerhouse Developments ar gyfer datblygu'r parc antur arfaethedig yng nghwm Afan. Ond mae'n bwysig fod Llywodraethau'n edrych ar y cynigion a gyflwynir sy'n cynnig potensial trawsnewidiol. Buaswn yn ymuno ag Aelodau sydd wedi apelio am eglurder ar draws y Siambr hon yn y dyddiau diwethaf ynglŷn ag a ellir gwireddu'r weledigaeth a gynigir ar gyfer cwm Afan, sy'n gwm syfrdanol yn ne Cymru.

Mae David Rees yn llygad ei le. Ac mae'r cyfle, nid yn unig yng nghwm Afan, ond yng nghymoedd Castell-nedd hefyd, i ddatblygu twristiaeth, yn anhygoel. Ac rwy'n dal i'w ystyried yn gyfle a gollwyd. Mae'r hyn sydd ar gael ym mwrdeistref Castell-nedd Port Talbot yn anhygoel. Mae'n amlwg ein bod wedi cael ein taro gan newyddion drwg yn ddiweddar, nid yn unig mewn perthynas â'r erthyglau papur newydd rydych wedi cyfeirio atynt, ond y newyddion trist am Jistcourt hefyd, felly gallem wneud gyda newyddion da. A allech chi ddweud wrthyf pryd oedd y tro diwethaf i chi gael diweddariad gan fwrdd bargen ddinesig bae Abertawe am y cynnydd tuag at y ganolfan arloesi dur genedlaethol?

Ar hyn o bryd, rwy'n derbyn diweddariadau bron bob dydd gan fy swyddogion ynglŷn â bargen ddinesig bae Abertawe a phob un o'r prosiectau, fel y mae fy Nirprwy Weinidog. Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud datganiad cadarnhaol yn fuan iawn mewn perthynas â'r fargen honno.

Nid oes neb yn gwadu'r ffaith bod y cysyniad o barc antur Afan yn un da. Ac mewn gwirionedd, byddem yn cefnogi'r syniad hwnnw, oherwydd fel sydd wedi cael ei ddangos yn y cwestiynau yn awr, rwy'n credu ein bod yn gwybod beth yw potensial a harddwch ac atyniad cwm Afan, ac rydym eisiau gweld yr ardal yn llwyddo. Felly, yn eich sgyrsiau gyda'r cyngor, gyda'r fargen ddinesig ac eraill, pa ymdrech rydych yn ei gwneud yn awr i sicrhau y gallwn gael y buddsoddiad mawr ei angen hwnnw mewn rhanbarth lle rydym wedi gweld Jistcourt, yn ogystal â Ford bellach o bosibl, a methiannau economaidd niweidiol eraill yn effeithio ar yr ardal, fel y gallwn gyflwyno syniadau newydd amgen a diogelu ein hunain rhag rhai o'r pethau hyn yn y dyfodol? Rwy'n derbyn eich bod wedi diolch i The Guardian ac ITV, ond sut y gall y Llywodraeth, a'r gymuned yn gyffredinol, ddiogelu eu hunain ar gyfer y dyfodol pan ydym yn edrych ar rai o'r syniadau mawreddog hyn i ddeall pa mor hyfyw ydynt yn y dyfodol mewn gwirionedd, fel nad ydym yn mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n bosibl? Gallwn freuddwydio o hyd, ond nid ydym yn credu bod y syniadau hyn yn bethau na ellir eu cyflawni mewn gwirionedd, maent yn bosibl, ac maent yn rhai sy'n gwneud synnwyr economaidd, ac yn cynnig gwerth am arian yn y pen draw hefyd.

13:35

Wel, fel rwyf wedi'i ddweud—. Ac rwy'n croesawu'r pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud ynglŷn â bod yn gefnogol i'r weledigaeth a gynigiwyd. Mae hynny'n wahanol iawn i fod yn gefnogol i'r cwmni a oedd y tu ôl i'r weledigaeth; maent yn ddau beth gwahanol iawn. Y gwir amdani yw bod Cymru ar flaen y gad o ran twristiaeth antur yn Ewrop, ac mae'n rhaid i ni edrych ar bob cynnig a fydd yn gwella ein henw da. Credaf fod yr Aelod hefyd yn codi pwynt pwysig iawn am y ffordd rydym yn asesu dilysrwydd y cynlluniau a gyflwynir i ni, yn enwedig y rheini y mae unigolion yn addo y byddant yn drawsnewidiol ar gyfer rhanbarth cyfan neu, yn wir, ar gyfer gwlad gyfan.

Ac rwy'n siŵr nad oes angen i mi, ond rwyf am atgoffa'r Aelodau o'r diwydrwydd dyladwy anhygoel o ofalus a orchmynnais ar gyfer un o'r cynlluniau mwyaf dadleuol rydym wedi ymdrin ag ef dros y blynyddoedd diwethaf—Cylchffordd Cymru—a dynnodd sylw at nifer o heriau. O ganlyniad i'r diwydrwydd dyladwy hwnnw, gallasom osgoi peryglu mwy na £300 miliwn o arian trethdalwyr, £300 miliwn o fuddsoddiad a allai fynd at ysgolion, ysbytai a gwasanaethau eraill. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod, o ran fy adran, o ran Llywodraeth Cymru, fod diwydrwydd dyladwy trwyadl yn cael ei wneud ar bob prosiect sy'n addo trawsnewid bywydau pobl, a byddwn yn parhau i wneud yr ymdrech honno i sicrhau nad ydym yn buddsoddi mewn prosiectau nad ydynt yn gallu cyflawni ac nad ydynt yn hyfyw.

Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn rhoi ein gobaith i gyd mewn prosiectau unigol sy'n addo newid cymunedau cyfan, a dyna pam fy mod o blaid sicrhau bod gennym amrywiaeth o fusnesau ym mhob rhanbarth. Ac o ran y sector twristiaeth, er y gallech gael seilwaith strategol allweddol yn ei le, megis Zip World neu Surf Snowdonia yn y gogledd, mae'n rhaid i chi sicrhau bod cymysgedd cefnogol o atyniadau a seilwaith o ansawdd uchel iawn o'i amgylch. Ac felly, o ran cwm Afan, o ran y gymuned ehangach a'r rhanbarth ehangach, rydym yn edrych ar bob cyfle drwy'r cynllun gweithredu newydd i fuddsoddi yn y broses o wella ansawdd y cynnig yn yr ardal, yn ogystal â'r atyniadau sydd yno, yn seiliedig ar yr amgylchedd naturiol godidog a chan fanteisio'n llawn ar ein hasedau hanesyddol hefyd.

Defnyddio Caffael Cyhoeddus i Gefnogi Busnesau Lleol

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r cabinet ynghylch defnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau lleol? OAQ54222

Diolch. Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi derbyn adroddiad a gomisiynwyd ar sut y gall caffael blaengar ddatblygu gwariant lleol gyda busnesau lleol. Rydym wrthi'n datblygu dull strwythuredig o weithredu sy'n cynnwys cael byrddau gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i edrych ar ddulliau o gyflawni hyn.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, nid mater i'r Trefnydd yn unig yw hwn, oherwydd, yn amlwg, mae llawer o'r gyllideb yn cael ei gwario gan y Gweinidog addysg, y Gweinidog iechyd, ac ati. Rwy'n ymwybodol bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn ceisio cael mwy o geisiadau gan fusnesau lleol, er mwyn lleihau milltiroedd bwyd yn ogystal â gwella ffresni bwyd, sy'n amlwg yn faes rwy'n arbennig o awyddus i'w archwilio gyda chi.

Gwn, er enghraifft, fod un cyflenwr lleol, Castell Howell, yn eich etholaeth chi, wedi sicrhau dros 40 y cant o'r contractau caffael cyhoeddus ar gyfer bwyd i'n hysbytai, ein hysgolion a'n cartrefi nyrsio. Fodd bynnag, 18 y cant yn unig o'r hyn y maent yn ei ddarparu sy'n tarddu o Gymru mewn gwirionedd. Felly, mae'n amlwg bod llawer iawn mwy o waith i'w wneud ar hyn ac mae'n ymddangos bod Sir Gaerfyrddin a Chaerffili ar flaen y gad o ran sicrhau bod pob plentyn ysgol yn gallu bwyta bwyd ffres yn hytrach na'i fod yn dod o dyn a ŵyr ble. Er enghraifft, dechreuodd Woosnam Dairies, cynhyrchydd llaeth, drwy gyflenwi llaeth i'r ysgolion cynradd yng Nghaerffili ac mae bellach yn cyflenwi llaeth i'r GIG yn ogystal â dau awdurdod lleol arall. Felly, mae'n enghraifft dda o'r ffordd y gall dechrau'n fach alluogi busnes i dyfu, a bod yn dda i'r gwasanaethau cyhoeddus rydym yn ymdrechu i'w cynnig, ond hefyd i sicrhau bod mwy o fwyd yn cael ei dyfu'n lleol. Felly, yng ngoleuni'r posibilrwydd o Brexit 'dim bargen', a allai darfu'n llwyr ar ein diogelwch bwyd, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i ledaenu a graddio'r arfer da hwn, sy'n golygu tyfu mwy o fwyd ffres yng Nghymru?

13:40

Wel, diolch am y cwestiwn. Mae hwn yn faes rydym wrthi'n gweithio'n galed arno. Rydych yn sôn am Sir Gaerfyrddin a Chaerffili fel enghreifftiau o arferion da, a gallem ychwanegu Ceredigion a Chaerdydd at hynny. Yn sicr, mae nifer o awdurdodau lleol yn gwneud gwaith da yn y maes hwn. Un o'r problemau sydd gennym yw bod y perfformiad ar draws Cymru yn dameidiog, a bod y sgiliau a'r gallu a'r capasiti yn dameidiog hefyd. Felly, mae gwaith mawr yn cael ei wneud ar draws y Llywodraeth. Mae'r Gweinidog cyllid yn arwain y gwaith o drawsnewid y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ac rwy'n gweithio ochr yn ochr â hi drwy gronfa arbrofol yr economi sylfaenol a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus i geisio nodi arferion da a lledaenu a graddio'r arferion da hynny. Felly, mewn perthynas â'r enghraifft rydych yn sôn amdani, a Castell Howell yn benodol, gwn fod Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, wedi gwneud cais i'r gronfa arbrofol i sicrhau mwy o fwyd lleol i ysgolion lleol. Felly, rydym yn barnu'r ceisiadau hynny dros yr haf, gan greu cymuned o arferion gorau lle gallwn rannu a lledaenu'r gwersi a ddysgwyd o hyn.

Rwy'n credu mai un o'r materion y mae angen i ni edrych arnynt—. Mae'r prosiect economi sylfaenol drwy gaffael yn ymwneud â mwy na denu mwy o fusnes i Gymru, mae'n ymwneud â newid y ffordd y mae'r sectorau o fewn yr economi sylfaenol yn gweithio fel bod y manteision hynny'n cael eu lledaenu. Ac rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch bwyd lleol a tharddiad a photensial hynny, yn enwedig yn dilyn Brexit. Rwy'n sicr yn effro i'r pwynt y mae'n ei wneud a byddaf yn cadw mewn cysylltiad â hi wrth i'r gwaith ddatblygu dros y misoedd nesaf.

Weinidog, ar bwnc bwyd a chaffael lleol o hyd, mewn datganiad busnes diweddar, codais fater Raglan Dairy, un o gyflenwyr llaeth Sir Fynwy, sydd wedi ennill contractau gan yr awdurdod lleol i ddarparu poteli llaeth di-blastig ar gyfer ysgolion lleol. Mae hyn yn wych ar gyfer busnes, yn dda i'r ysgolion ac yn dda i'r amgylchedd ac ymdrechion i leihau llygredd plastig. Mae hon yn enghraifft wych o'r ffordd y gellir defnyddio caffael cyhoeddus yn lleol gan awdurdodau lleol i gefnogi busnesau lleol a gwella'r amgylchedd. A allwch chi ddweud wrthym sut y gallwch rannu'r arferion da hyn, yn ychwanegol at yr hyn rydych wedi'i ddweud wrth Jenny Rathbone? Ac efallai, pwy a ŵyr, efallai dros y toriad, os ydych yn rhydd—os ydych yn digwydd mynd drwy fy ardal i—gallem ymweld â Raglan Dairy a gallem weld y gwaith da y maent yn ei wneud drosom ein hunain.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Rwy'n credu bod honno'n enghraifft ardderchog o arfer da. Yn fy etholaeth fy hun, mae plant mewn ysgolion lleol yn anhapus i orfod yfed llaeth o boteli plastig, ond nid oes gan yr awdurdod lleol hyblygrwydd yn eu contract i'w ddiwygio ar hyn o bryd ac rydym yn siarad â hwy ynglŷn â hynny. Felly, mae'r gwaith rydym yn ei wneud gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn edrych i weld sut y gellir lledaenu'r arferion da hyn. Mae Kevin Morgan, o Brifysgol Caerdydd, yn aml yn sôn am arferion gorau nad ydynt yn teithio'n dda yng Nghymru, a bod yr un sy'n arwain a'r un sydd ar ei hôl hi foch ym moch â'i gilydd—bydd gennych un awdurdod lleol yn gwneud gwaith arloesol a bydd yr awdurdod cyfagos ymhell ar ei hôl hi. Felly, rydym yn gweithio ar gysoni'r anghydraddoldebau hyn gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd. Cefais gyfarfod â detholiad ohonynt ychydig wythnosau'n ôl ac mae llawer iawn o frwdfrydedd dros ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fynd i'r afael â'r agenda hon. Felly, rwy'n nodi'r enghraifft honno o arfer da, a byddaf yn siarad â swyddogion i weld sut y gallwn sicrhau ei fod wedi'i ddeall yn eang, ac i weld a oes potensial i'w efelychu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Diolch, Lywydd. Ddoe, yn y Siambr, dywedwyd wrthym nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian yn uniongyrchol i brosiect cwm Afan. Rydych wedi cadarnhau hynny eto heddiw. Er hynny, rhoddodd Llywodraeth Cymru arian i gwmni Northern Powerhouse Developments i ddatblygu gwesty Caer Rhun yng Nghonwy. Rhoddwyd tua £0.5 miliwn a bellach mae'n amlwg bod pryderon ynghylch dyfodol y gwesty y buddsoddwyd arian Cymru ynddo. A allwch chi wneud sylw am yr asesiadau a wnaethpwyd o sefyllfa'r cwmni cyn gwneud y penderfyniad hwnnw i fuddsoddi £0.5 miliwn?

Wrth gwrs, roedd hwn yn fater i fy nghyd-Aelod yn y Llywodraeth, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ond gallaf sicrhau'r Aelod nad oes unrhyw gyllid wedi'i ryddhau ar gyfer y prosiect penodol hwnnw. Roedd amodau sylweddol ynghlwm wrtho sy'n dal heb eu bodloni, ac felly mae swyddogion twristiaeth yn y broses o ystyried tynnu'r cynnig o £0.5 miliwn i Caer Rhun yn ôl.

13:45

Mae'n gysur gwybod hynny ac edrychaf ymlaen at weld mwy o fanylion ynglŷn â sut y bydd hynny'n mynd rhagddo.

Yn achos prosiect cwm Afan, wrth gwrs, mae'n bosibl nad oes unrhyw arian wedi cael ei gyfnewid, ond yn sicr cafwyd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar ffurf eich ymddangosiad mewn fideo i hyrwyddo cynlluniau Northern Powerhouse Developments, a roddodd yr argraff gyhoeddus iawn fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cwmni. Dyna'n union oedd y datblygwr ei eisiau, wrth gwrs, ac mae'n siŵr ei fod wedi helpu i ddenu buddsoddwyr. Wrth edrych yn ôl, a ydych yn credu bod eich ymddangosiad yn y fideo hwnnw'n syniad da? Mae nifer o wythnosau wedi bod bellach ers i bryderon difrifol iawn gael eu codi am y cwmni hwn. A allwch chi gadarnhau, ar yr adeg y cafodd y pryderon hynny eu mynegi, p'un a wnaeth Llywodraeth Cymru ofyn iddynt dynnu'r fideo hwnnw i lawr? A fyddai'n foesol gywir, o wybod am y pryderon ar yr adeg honno, i barhau i ddangos fideo o'r fath a glymai gefnogaeth Llywodraeth Cymru wrth brosiect?

Wel, yn gyntaf oll, credaf y dylem ystyried yr hyn a ddywedodd eich cyd-Aelod eich hun, Bethan Sayed, sef: mae'n rhaid i chi wahanu gweledigaeth y prosiect oddi wrth y bobl a oedd yn cynnig ei ariannu. O ran y prosiect ei hun, mae'n addo trawsnewid ardal. O ran y cyllid sydd ei angen ar gyfer hynny, yn amlwg, mae'r cwmni y tu ôl iddo'n wynebu cwestiynau difrifol iawn. Ac unwaith eto, hoffwn ategu fy niolch i'r rhai sydd wedi datgelu gwybodaeth arwyddocaol a arweiniodd at y cwestiynau hynny.

Wrth gwrs, byddai'n well gennyf pe bai'r fideo'n cael ei dynnu i lawr—nid oes amheuaeth am hynny—oherwydd os oes unrhyw awgrym fy mod i neu Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r cwmni, mae hynny'n anghywir. Rwy'n cefnogi potensial trawsnewidiol y cynllun, ond nid wyf yn cefnogi'r bobl y dangoswyd dros yr wythnosau diwethaf fod angen iddynt ateb cwestiynau difrifol iawn.

Ac rwy'n sicr yn cytuno â fy nghyd-Aelod, Bethan Sayed, sydd bellach yn eistedd y tu ôl i mi, o ran y potensial, ac rydym yn sôn am ardal sydd eisiau gweld y potensial hwnnw'n cael ei wireddu. Ac mae perygl bob amser y bydd gobeithion pobl yn cael eu codi drwy ddilyn y llwybrau anghywir. Ond rydych yn dweud wrthym dro ar ôl tro, yn gwbl briodol wrth gwrs, am y cyfyngiadau ar gyllid Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn, yn strategol iawn ac yn eithaf didostur hefyd o ran y modd y gwariwn yr arian hwnnw.

Lansiwyd y prosiect hwn gyda llawer o gyhoeddusrwydd ac roedd y Llywodraeth, wrth gwrs, yn gefnogol iawn iddo, ar ôl mynd drwy brosesau diwydrwydd dyladwy, mae'n debyg, i fesur priodoldeb sefydlu perthynas â'r buddsoddwr penodol hwnnw. Yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd a'r hyn sy'n dod i'r amlwg, a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo yn awr i gyhoeddi'r manylion yn eu cyfanrwydd ynglŷn â sut a phryd y cydweithredodd â phrosiect cwm Afan a Northern Powerhouse Developments, a'r hyn a wnaeth, yn benodol, i ddiogelu credydwyr a buddsoddwyr pan ddaeth yn amlwg fod yna amheuon difrifol ynglŷn â'r cwmni oedd yn ei gefnogi?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi chwarae mwy o ran nag y gwnaeth. Nid oedd unrhyw gydweithredu o gwbl: ni wnaethom addo arian, ni wnaethom roi arian i'r prosiect hwn. Byddai unrhyw gais am gyllid wedi arwain at broses drylwyr, ddidostur o ddiwydrwydd dyladwy, fel y noda'r Aelod. Ac rwyf eisoes wedi nodi un prosiect yma yn ystod y cwestiynau heddiw a aeth drwy'r broses drylwyr honno. Ac er gwaethaf cefnogaeth a phwysau eglur—yn wir, gan blaid yr Aelod ei hun, mae'n rhaid dweud, yn enwedig yr arweinydd, a ddywedodd efallai y dylem dorri'r broses o ddiwydrwydd dyladwy yn fyr mewn rhyw ffordd, arhosais yn gadarn; gwneuthum yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn ystyried buddiannau trethdalwyr uwchlaw popeth. Byddaf yn gwneud hynny dro ar ôl tro. Pe baent wedi gofyn am arian, pe bai unrhyw gais wedi bod am arian ar gyfer y prosiect penodol hwn, byddem wedi bwrw ymlaen â'r un dull gweithredu a'r un egwyddorion.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a oeddech yn cytuno â'r Prif Weinidog pan ddywedodd fod gwelliannau mawr wedi bod i economi Cymru ers datganoli?

Ydw, mae gwelliannau mawr wedi bod i economi Cymru ers datganoli. Rydym wedi helpu i greu mwy na 300,000 o swyddi ers datganoli, mae cyfraddau cyflogaeth yn uwch nag erioed, mae anweithgarwch economaidd yn is nag erioed—yn wir, am y tro cyntaf erioed, mae ar lefel gyfartalog y DU. Yn ogystal â hyn, rydym wedi gweld lefel cymwysterau'n codi yn anhygoel o gyflym. Rydym wedi gweld lefelau cynhyrchiant economaidd yn codi'n gyflymach na chyfartaledd y DU yn y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n credu bod gan economi Cymru lwyddiant enfawr i'w ddathlu, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni hyn ar ei phen ei hun, mae wedi cael ei gyflawni drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, busnesau a phartneriaid cymdeithasol eraill.

13:50

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae eich Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, wedi dweud yn ddiweddar fod Llywodraeth Cymru wedi esgus gwybod beth y mae'n ei wneud mewn perthynas â'r economi dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac nad yw ymdrechion i wella'r economi dan ddatganoli wedi gweithio. Yn bersonol, credaf ei bod yn braf clywed Gweinidog yn siarad yn onest iawn am yr economi. Roeddwn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod dros Flaenau Gwent pan ddywedodd y byddai'n well ganddo glywed Gweinidog sy'n siarad yn blaen ac yn glir am yr heriau sy'n wynebu economi Cymru. Rwy'n credu bod y cyhoedd yn cytuno â hynny hefyd. Gyda hyn mewn golwg, a ydych bellach yn cydnabod ei bod yn bryd ymdrin â'r economi mewn ffordd wahanol? Rydym wedi cael tair strategaeth economaidd bwysig ers datganoli, ond nid yw'r ymdrechion hyn i wella'r economi wedi gweithio ac nid ydynt wedi gwella rhagolygon economaidd Cymru. Nawr, mae'r cynllun gweithredu ar yr economi yn cwmpasu nifer fawr o wahanol themâu ond nid yw'n cynnwys unrhyw dargedau ar gyfer mesur cynnydd, felly credaf ei fod hefyd yn cael ei wrth-ddweud a'i danseilio gan gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018, nad yw'n darparu unrhyw gyllid newydd i gefnogi unrhyw un o sectorau blaenoriaeth allweddol y cynllun gweithredu. Felly, a allwch chi, Weinidog, ddweud beth y bwriadwch ei wneud i newid, a sut y bydd eich dull yn wahanol yn dilyn sylwadau'r Dirprwy Weinidog fel y gallwn sicrhau mynediad symlach at gymorth busnes, fel y gallwn gysoni strategaeth fusnes a diwydiannol effeithiol, fel y gallwn ddiwygio'r strategaeth ddiffygiol sydd gennym ar gyfer caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau bach a chanolig, gwella sgiliau'r gweithlu ac adlewyrchu'r hwb hwn drwy wella seilwaith yn briodol?

Mae'r hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog yn adlewyrchu, mewn sawl ffordd, yr heriau a amlinellais pan oedd y cynllun gweithredu ar yr economi yn cael ei ddatblygu, sef, er ein bod wedi cael llwyddiant ysgubol mewn sawl ffordd o ran datblygiad economaidd ers datganoli, nid yw'r twf hwnnw wedi'i rannu'n deg ar draws pob rhan o Gymru, mae'r twf hwnnw wedi bod yn anwastad ac mae angen i ni unioni'r anghydraddoldeb hwnnw rydym yn ei weld o hyd—nid ar draws y rhanbarthau'n unig, ond o fewn y rhanbarthau hefyd. Dyna pam y lluniwyd y cynllun gweithredu ar yr economi, i lywio'r broses o ddiogelu busnesau Cymru ar gyfer y dyfodol ac i sbarduno twf cynhwysol. Ac wrth wraidd y cynllun gweithredu ar yr economi, wrth gwrs, mae'r contract economaidd, a gynlluniwyd i ddarparu gwaith teg, gwaith o ansawdd uchel a sgiliau gwell.

Nawr, mae'r Aelod yn sôn am strategaethau economaidd eraill, gan gynnwys strategaeth ddiwydiannol y DU, ac wrth gwrs, lluniwyd y cynllun gweithredu ar yr economi i ategu a chydasio â honno, ac mae hynny wedi'i gydnabod gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Ac at hynny, o ran targedau a mesuriadau, y rheswm pam rydym wedi cyflwyno'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i'r broses o gynnig her yw er mwyn sicrhau ein bod yn mesur, yn y ffordd gywir, sut y mae twf cynhwysol yn cael ei gyflawni.

Wel, diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn siarad yn onest am rai o heriau economi Cymru hefyd. Mae dwy brif elfen i'r cynllun gweithredu ar yr economi, y cynlluniau busnes rhanbarthol a'r cynllun ar gyfer yr economi sylfaenol, sy'n dal heb eu cyflawni. Felly, rwyf am ofyn i chi a fyddech yn edrych ar rai o'r syniadau sydd gennym ar y meinciau hyn, er enghraifft ar gyfer defnyddio llysgenhadon masnach ledled y byd i hybu buddsoddiad yng Nghymru, a sicrhau newid i economi a strategaeth lle rydym yn cefnogi busnesau Cymreig bach a chynhenid yn ogystal. Rydym eisiau gweld busnesau bach a chynhenid yng Nghymru yn tyfu. Mae'n hawdd iawn i fusnesau eraill ddod i mewn a symud allan, gan fynd â buddsoddiad gyda hwy, ond mae angen i ni gefnogi'r busnesau bach a chynhenid hyn sydd gennym yng Nghymru hefyd. Sut y gallwn osgoi'r posibilrwydd y bydd Gweinidog yn edrych yn ôl ymhen 20 mlynedd ac yn dweud, 'Deugain mlynedd ers datganoli, nid oes neb yn gwybod beth rydym yn ei wneud mewn perthynas â'r economi'? Sut y gallwn osgoi'r posibilrwydd y bydd Gweinidog yn dweud hynny ymhen 40 mlynedd?

Yn ystod 20 mlynedd cyntaf datganoli, rydym wedi datrys un her y mae Cymru wedi'i hwynebu dros gyfnod dad-ddiwydiannu i bob pwrpas, sef lefel uwch o ddiweithdra na chyfartaledd y DU. Rydym wedi gostwng y lefel i gyfartaledd y DU ac yn wir, ar sawl achlysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi gostwng yn is na chyfartaledd y DU, ac am y tro cyntaf, fel y dywedaf unwaith eto, mae cyfraddau anweithgarwch wedi gostwng i gyfartaledd y DU.

Felly, yr hyn rydym wedi'i wneud dros yr 20 mlynedd diwethaf, ar lefel facro, yw datrys diweithdra ac anweithgarwch. Fodd bynnag, mae hynny ar lefel gyffredinol. Yr hyn rydym yn dymuno ei wneud yn awr yw ysgogi twf cynhwysol fel ein bod yn mynd at wraidd y broblem, yn cyrraedd y cymunedau nad ydynt wedi elwa cymaint o'n twf dros yr 20 mlynedd diwethaf, a sicrhau bod cydraddoldeb a thwf cynhwysol yn ganolog i bopeth a wnawn. Nawr, mae datblygiad economaidd rhanbarthol sy'n seiliedig ar leoedd yn gwbl hanfodol, yn enwedig lle nad oes gennych effeithiau cydgrynhoad, ac nid ydych yn tueddu i gael effeithiau cydgrynhoad mewn ardaloedd trefol o lai na 0.5 miliwn o bobl. Dyna pam ein bod wedi datblygu'r unedau rhanbarthol newydd o fewn y cynllun gweithredu ar yr economi, dyna pam eu bod yn datblygu cynlluniau rhanbarthol ar y cyd ag awdurdodau lleol, partneriaid y fargen ddinesig a phartneriaid y fargen twf, fel y gall pawb ohonom weithio gyda'n gilydd i'r un diben, i gynllunio ymyriadau i sicrhau bod ein buddsoddiad wedi'i anelu at yr un diben ym mhob un o'r rhanbarthau fel nad ydym yn cystadlu, fel nad ydym yn dyblygu ond fel ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un nod. Ac rwyf o'r farn, drwy gael dull sy'n seiliedig ar leoedd, y gallwn nodi'r cyfleoedd, yr entrepreneuriaid, a'r busnesau a all sbarduno twf cynhwysol yn rhanbarthau Cymru yn well.

Rhaid i mi ddweud, o ran cefnogi busnesau bach cynhenid, rydym wedi gwneud gwaith gwych yn ddiweddar drwy Busnes Cymru ac yn fwy diweddar, drwy sefydlu'r banc datblygu. Rydym wedi clywed cwestiynau heddiw am gwm Afan ac awdurdod lleol fy nghyd-Aelod, Dai Rees, sef Castell-nedd Port Talbot, lle rydym wedi gweld cynnydd o 18.8 y cant yn nifer y busnesau ers 2011, cynnydd o 6,455 i 7,670. Nid yw honno'n sefyllfa anarferol yng Nghymru. Bellach, mae gennym y nifer uchaf erioed o fusnesau yng Nghymru. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud, yn y cam nesaf, i ddatblygu'r cynllun gweithredu ar yr economi yw sicrhau ein bod yn troi mwy o'r busnesau bach hynny'n gwmnïau cryfach, yn gwmnïau gwreiddiedig mwy o faint yng Nghymru, er mwyn inni allu sicrhau bod cyflogaeth yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir a'n bod yn dal cymaint o'u gwariant ag sy'n bosibl ar gyfer cymunedau lleol.

13:55

Diolch Lywydd. Weinidog, pan oeddwn yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, buom yn ymweld â Thrawsfynydd, lle cawsom wybod am ddatgomisiynu'r orsaf ynni niwclear. Bryd hynny, cafwyd trafodaethau ynglŷn â'r posibilrwydd o ddefnyddio'r safle ar gyfer yr adweithyddion niwclear modiwlaidd bach sy'n dod i'r amlwg. A yw'r Gweinidog wedi archwilio'r opsiwn hwn mewn unrhyw ffordd?

Do, rwyf wedi gwneud hynny. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at botensial Trawsfynydd fel ardal y gellid ei defnyddio i ddatblygu a chynnal adweithyddion modiwlar bach. Nid wyf ar fy mhen fy hun yn hyn o beth. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn rhannu'r penderfyniad i archwilio pob cyfle ar gyfer Trawsfynydd, a dyna pam, o fewn bargen twf gogledd Cymru, y ceir mynediad at y rhaglen ynni clyfar, sydd wedi'i chynllunio i hyrwyddo ffurfiau adnewyddadwy o ynni a photensial adweithyddion modiwlar bach yn yr ardal benodol honno o ogledd Cymru.

Iawn. Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Deallaf fod Rolls-Royce ar flaen y gad o ran y math hwn o dechnoleg. O'r herwydd, gallai datblygiad yn Nhrawsfynydd fod o fudd i ddiwydiant Prydain yn ei gyfanrwydd. Rwyf hefyd yn credu bod llawer o'r seilwaith grid sy'n cysylltu â system y grid cenedlaethol yn dal i fod yn ei le yn Nhrawsfynydd. Felly, o ystyried yr arbenigedd lleol a thueddiad cyffredinol yn yr ardal at bŵer niwclear, byddai Trawsfynydd yn sicr o fod yn lleoliad delfrydol ar gyfer y dechnoleg sy'n datblygu. Mae hefyd yn rhan o raglen ddatgarboneiddio gyffredinol Llywodraeth Cymru, a byddai gosodiad o'r fath hefyd yn helpu i leddfu'r galw ychwanegol a ragwelir ar y seilwaith trydan y bydd dyfodiad y car modur trydan yn anochel o'i greu i'r diwydiant trydan yn ei gyfanrwydd. Dylai hyn—ac o ystyried rhai o'r penderfyniadau anffafriol a wnaethpwyd mewn perthynas â Chymru yn ddiweddar, rwy'n pwysleisio 'dylai'—wneud Llywodraeth y DU yn fwy agored i ddatblygiad o'r fath. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i hyrwyddo'r prosiect hwn sy'n arwain y diwydiant mewn perthynas â Thrawsfynydd?

Gwnaf, yn sicr. Yn wir, rwy'n falch o ddweud fy mod wedi cyfarfod â Rolls-Royce i drafod yr union fater hwn yn uniongyrchol mewn perthynas â Thrawsfynydd, fel y mae aelodau o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi'i wneud, ac rwy'n credu ei bod yn werth dweud wrth yr Aelodau heddiw fod ynni yn un o dri phrif gryfder economi ranbarthol gogledd Cymru yng ngweledigaeth y bwrdd uchelgais economaidd ar gyfer y rhanbarth. Mae hefyd yn un o'r pedwar ffactor galluogi allweddol o fewn bargen twf gogledd Cymru. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod, nid yn unig o fewn Llywodraeth Cymru, ond yn rhanbarthol ar draws yr awdurdodau lleol ac ar y cyd fel yr uned ranbarthol newydd, ein bod yn ymwybodol iawn o botensial ynni yn y Gogledd, ac yn gefnogol iawn iddo, nid yn unig mewn perthynas ag adweithyddion modiwlar bach, ond hefyd, yn hollbwysig yn fy marn i, mewn perthynas â'r sector ynni adnewyddadwy, lle y ceir cryfder ac arbenigedd aruthrol yng ngogledd Cymru, a dyna pam ei fod wedi'i gynnwys yn elfen mor hanfodol o fargen twf gogledd Cymru.

14:00
Gwasanaethau Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau arfaethedig i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ54225

Gwnaf, wrth gwrs. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwella ac yn cynyddu gwasanaethau rheilffyrdd ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan gynnwys, rwy'n falch o ddweud, Lywydd, cyflwyno trenau newydd sbon yn 2022, sydd â mwy o gapasiti, system aerdymheru a socedi trydan.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb, yn enwedig o ran capasiti. Codwyd problem gorlenwi ar y rheilffyrdd gyda'r Prif Weinidog yn y lle hwn ddoe. Yn anffodus, nid un achos o'r broblem a welwyd. Mae etholwyr o bob rhan o ranbarth y canolbarth a'r gorllewin wedi bod yn cysylltu â mi i nodi pryderon gwirioneddol am y rheilffordd sy'n rhedeg ar draws canolbarth Cymru i'r Amwythig yn fwyaf arbennig. Ymhlith yr enghreifftiau roedd achosion o oedi'n amrywio o 30 munud i awr fel mater o drefn ynghyd â diffyg cynyddol o gerbydau a seddi ar y trenau hynny—dywedodd un etholwr ei fod wedi cyfrif 26 o bobl yn sefyll mewn un cerbyd—ac yn amlwg, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi nad yw hyn yn dderbyniol ac mae'n anffodus mai dyma'r un mathau o gwynion a glywsom o dan y fasnachfraint flaenorol. Fis Gorffennaf diwethaf, rhoddodd y Gweinidog fanylion i ni am y cytundeb masnachfraint newydd sy'n mynnu y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cael ei chosbi os bydd teithwyr yn cael eu gorfodi i sefyll am fwy nag 20 munud. A allai'r Gweinidog dawelu meddyliau fy etholwyr y bydd yr ymrwymiad hwnnw i leihau'r nifer sy'n gorfod sefyll ar drenau yn cael ei anrhydeddu ac a allai roi rhyw fath o syniad i ni o'r amserlen ar gyfer y capasiti ychwanegol y soniodd wrthyf amdano yn ei ateb gwreiddiol?

Wrth gwrs. Mae gennyf wybodaeth gynhwysfawr o fy mlaen ar ddarparu trenau newydd a gwasanaethau gwell. Yn ogystal â hynny, rwyf wedi sefydlu cyfle i Aelodau gael eu briffio ar y datblygiadau ar rwydwaith masnachfraint Cymru a'r Gororau yr wythnos nesaf a bydd canolfan galw heibio'n agored rhwng 10 a.m. a 2 p.m. Credaf ei bod yn werth datgan bod pwysau ar gapasiti yn rhywbeth sy'n dal i effeithio ar y fasnachfraint reilffyrdd oherwydd ein bod wedi etifeddu rhywbeth a ddyluniwyd ar sail dim twf ond a dyfodd yn sylweddol, mewn gwirionedd, o tua 19 miliwn o deithwyr i 27 miliwn o deithwyr pan ddaeth y fasnachfraint i ben y llynedd, ond rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwerth £800 miliwn o drenau dros gyfnod y fasnachfraint hon. Rydym eisoes wedi cyflwyno'r system ad-dalu prisiau teithio os yw teithwyr yn wynebu oedi o 15 munud neu fwy; rydym wedi cyflwyno 3,000 o docynnau ymlaen llaw newydd; rydym wedi lansio'r gwasanaeth newydd rhwng Wrecsam a Lerpwl ar hyd llinell tro Halton; mae trenau dosbarth 153 ychwanegol wedi cael eu cyflwyno i'r fasnachfraint; mae prosiectau gweledigaeth rheilffyrdd cymunedol newydd wedi cael eu datblygu a'u lansio; bellach mae gennym wasanaeth dosbarth 37 sy'n gweithredu ar reilffordd Rhymni; a bydd gwaith ar orsaf Ffynnon Taf yn dechrau'r mis hwn.

Yn ystod y misoedd nesaf, rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Aelod y bydd trenau marc 4 yn cymryd lle trenau Pacer a threnau marc 3. Ym mis Medi, bydd ceisiadau'n agor ar gyfer y cardiau teithio rhatach arddull newydd ar gyfer deiliaid cardiau cyfredol. Ym mis Medi eleni eto, byddwn yn lansio gweledigaeth gwella gorsafoedd. Bydd partneriaethau rheilffordd cymunedol newydd yn cael eu sefydlu yn yr un mis. Byddant yn ymwneud â llinell Treherbert, Aberdâr a Merthyr yn ogystal â'r llinell rhwng Caerdydd a Rhymni.

Byddwn yn gweld newidiadau i'r amserlen ym mis Rhagfyr eleni a fydd yn darparu pedwar trên yr awr rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, ac ar ddydd Sul, bydd dros 200 yn fwy o wasanaethau'n rhedeg ledled Cymru. Yn y flwyddyn newydd, ym mis Ionawr, bydd y fenter tocynnau i bobl ifanc yn dechrau, gyda theithio am ddim i blant dan bump oed yn cael ei ymestyn i bobl ifanc dan 11, a bydd teithio am ddim i bobl ifanc dan 16 oed ar adegau tawel pan fyddant yng nghwmni oedolyn.

Erbyn canol y flwyddyn nesaf, rwy'n falch o hysbysu'r Aelodau y bydd gorsaf newydd Bow Street wedi agor a bydd Trafnidiaeth Cymru wedi symud eu pencadlys i Bontypridd erbyn mis Medi y flwyddyn nesaf. Mae cyffro mawr a llawer iawn o waith yn digwydd ar hyd a lled Cymru ac ardal y gororau ar hyn o bryd. Mae trenau newydd a fydd yn gweithredu ar y rheilffyrdd yn cael eu hadeiladu yng Nghasnewydd ar hyn o bryd gan gwmni CAF, a ddenwyd yma o Sbaen, ond gallaf sicrhau'r Aelodau, os ydych yn dymuno cael unrhyw wybodaeth bellach neu ofyn unrhyw gwestiynau pellach, gwnewch hynny yn y sesiwn galw heibio ddydd Mercher nesaf rhwng 10 a.m. a 2 p.m.

Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi mai un ffordd o wella gwasanaethau rheilffordd i bobl sy'n byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yw lleihau amseroedd teithio. Nawr, byddai parcffordd arfaethedig gorllewin Cymru i'r gogledd o Abertawe yn sicrhau bod amser teithio hyd at 15 munud yn llai bob ffordd i gymudwyr sy'n teithio o fy etholaeth i Gaerdydd drwy gael gwared ar yr angen i deithio drwy ganol Abertawe. Gallai annog newid moddol o'r car i'r trên hefyd a byddai hynny, yn ei dro, yn helpu i leihau tagfeydd ar ffyrdd allweddol yn y rhanbarth yn ogystal. Felly, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y prosiect arfaethedig hwn, a pha drafodaethau rydych yn eu cael fel Llywodraeth mewn perthynas â'r cynllun arfaethedig hwn?

14:05

Rwyf wedi trafod y cynllun penodol hwn gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru dros yr wythnosau diwethaf. Rydym yn cefnogi'r cynnig mewn egwyddor, ar yr amod y gallwn gael sicrwydd mewn perthynas ag arian ychwanegol hefyd, nid yn unig i gyflwyno trenau ar y rheilffyrdd, ond hefyd i sicrhau bod y trenau hynny'n gallu gweithredu. Byddwn angen cynnydd yn y cymhorthdal gan yr Adran Drafnidiaeth neu, yn wir, gan Drysorlys y Deyrnas Unedig.

Rwy'n credu bod yna botensial hefyd, os gellir dileu gwrthwynebiadau, i weithredwr mynediad agored, fel Grand Union Trains, ddefnyddio'r orsaf barcffordd benodol honno, os caiff ei datblygu, i weithredu gwasanaethau cyflym rhwng Abertawe a Llundain. Ond wrth gwrs, mae adolygiad Keith Williams yn fater arall, a buaswn yn ailddatgan safbwynt Llywodraeth Cymru ar yr adolygiad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, sef adolygiad ar ddatganoli pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd, a chyllid ar gyfer gwneud hynny wrth gwrs.

Rheilffordd y Cambrian

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau trên ar reilffordd y Cambrian? OAQ54198

Gwnaf. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau ar reilffordd y Cambrian. Mae trenau cyfredol yn cael eu haddasu i wella mynediad ar gyfer pobl anabl, a bydd trenau newydd sbon yn cymryd lle'r fflyd gyfan erbyn 2022. Mae gwelliannau mewn perthynas ag amlder gwasanaethau hefyd yn cael eu cynllunio ar hyd y llinell.

Diolch i chi, Weinidog. Rwy'n falch o glywed yr ateb hwnnw. Mae aelod o grŵp mynediad Sir Drefaldwyn wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod wedi derbyn cwyn arall gan ddefnyddiwr cadair olwyn am nad oeddent yn gallu defnyddio toiled ar reilffordd y Cambrian, sy'n golygu, mewn rhai achosion, fod pobl wedi gorfod, yn eu geiriau hwy, gwisgo cewynnau oedolion. Yn sgil Deddf Cydraddoldeb 2010 wrth gwrs, mae'n rhaid i Trafnidiaeth Cymru roi addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer pobl anabl. Addasiad rhesymol ar gyfer trên, lle gallech fod yn eistedd am dair awr ac 20 munud o Aberystwyth i Birmingham International, yw toiled anabl a gynlluniwyd yn briodol ar gyfer pobl anabl. I bobl anabl sydd fel arfer yn defnyddio'r toiled, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi ei bod yn gwbl annerbyniol, amhriodol a diraddiol nad ydynt yn gallu gwneud hynny ar y trên. Felly, tybed a wnewch chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru er mwyn gwella mynediad at doiledau i bobl anabl ar reilffordd y Cambrian, a hynny ar unwaith, yn hytrach nag aros am gerbydau newydd gyda'r cyfleusterau priodol ar gyfer pobl anabl.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Byddaf yn falch o godi'r mater hwnnw gyda Trafnidiaeth Cymru. Credaf ei bod yn werth nodi, ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau, fod Trafnidiaeth Cymru yn cwblhau addasiadau i'w trenau ar hyn o bryd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn hygyrch ar gyfer pobl anabl ac mae'n rhaid i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

Rwy'n falch hefyd o allu dweud wrth yr Aelod, mewn perthynas â'r ardal y mae wedi'i nodi, fod gorsaf Machynlleth wedi cael ei argymell ar gyfer treialu amgylchedd sy'n ystyriol o ddementia. Rwyf hefyd yn falch o hysbysu'r Aelod ein bod, drwy Trafnidiaeth Cymru, bellach yn gweithio gydag Anabledd Cymru a'r RNIB i gynorthwyo staff sy'n ymwneud â chwsmeriaid o fewn Trafnidiaeth Cymru. Ac wrth gwrs, rydym yn clustnodi £15 miliwn ar gyfer gwelliannau hygyrchedd mewn gorsafoedd. Un o'r egwyddorion allweddol sy'n sail i ddatblygu Trafnidiaeth Cymru yw bod yn rhaid iddynt sicrhau bod trafnidiaeth integredig yn cael ei darparu ar gyfer pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, ac rydym yn benderfynol o gyflawni'r egwyddor honno.

Effaith Economaidd Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith economaidd twristiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ54199

Mae'r sector twristiaeth yn cyflogi ychydig dros 9 y cant o weithlu Cymru, ac mae'r 11,500 o fusnesau'n cynhyrchu oddeutu £6.3 biliwn y flwyddyn—cyfraniad enfawr i economi Cymru. Mae hefyd yn un o'r ysgogwyr economaidd allweddol yng ngogledd Cymru; credaf ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i ddatblygu'r sector yn y rhanbarth a'n bod yn parhau i wella cryfder allweddol y rhanbarth o ran denu gweithredwyr ac atyniadau twristiaeth antur.

Rwy'n siŵr y byddwch chi, fel fi, yn croesawu'r ffaith ein bod wedi gweld niferoedd cynyddol o ymwelwyr rhyngwladol, yn enwedig o lefydd fel Japan, dros y blynyddoedd diwethaf. Efallai eich bod yn ymwybodol fod Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi cynlluniau fis diwethaf i greu pum parth twristiaeth yn y Deyrnas Unedig er mwyn rhoi hwb i'r sector a rhoi hwb o 9 miliwn i nifer yr ymwelwyr, yn ogystal â chreu 130,000 o ystafelloedd gwesty newydd. Ac fel Aelod Cynulliad o ogledd Cymru, gwn pa mor hanfodol bwysig yw cael pobl i aros dros nos yn hytrach nag ymweld am y dydd yn unig er mwyn gwella'r effaith ar yr economi leol. O ystyried na ddynodwyd y parthau hyn eto, a gaf fi eich annog, fel Llywodraeth Cymru, i gydweithio â Llywodraeth y DU a cheisio denu a sicrhau bod gogledd Cymru yn un o'r parthau hynny fel y gallwn elwa ar rai o'r manteision a ddaw yn sgil y buddsoddiad hwn y bydd Llywodraeth y DU yn ei wneud?

14:10

Yn sicr, byddaf yn siarad â'r Gweinidog, fy nghyd-Aelod Eluned Morgan, a'r Dirprwy Weinidog ynglŷn â'r datblygiad hwn, oherwydd, wrth gwrs, gallai chwarae rhan allweddol yn y strategaeth ryngwladol yr ymgynghorir arni cyn hir. Byddai hefyd yn cydweddu'n daclus â'r strategaeth partneriaeth ar gyfer twf cyfredol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru, sy'n ceisio cynyddu nifer y gwestai o ansawdd uwch yng Nghymru. Mae wedi bod yn her arbennig dros lawer o flynyddoedd o ran denu datblygwyr o ansawdd da, ond gwestai fforddiadwy hefyd, mae'n rhaid dweud. Nawr, mae'r Aelod yn iawn fod gwariant y pen y diwrnod yn uwch ar gyfartaledd gydag ymwelwyr dros nos na'r hyn ydyw gydag ymwelwyr dydd, a dyna pam ei bod mor bwysig ysgogi ymwelwyr dydd i ddod yn ôl am ymweliadau dros nos, ac mae hyn wedi bod yn ganolog i'r strategaeth partneriaeth ar gyfer twf, sy'n dod i ben y flwyddyn nesaf. Ac wrth i'r Dirprwy Weinidog ddatblygu'r cynllun gweithredu a fydd yn ei ddilyn ar gyfer twristiaeth, rwy'n siŵr y bydd yn benderfynol o sicrhau mwy o atyniadau a gwestai o ansawdd uchel yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

Rŷn ni'n gwybod bod ymwelwyr yn dod ag o gwmpas rhyw £70 miliwn i economi leol ardal Eryri bob blwyddyn, ond gyda hynny, wrth gwrs, mae yna broblemau'n dod o safbwynt y delweddau dŷn ni'n eu gweld o bobl yn ciwio ar gopa'r Wyddfa. Mae yna lwybrau'n cael eu herydu, meysydd parcio'n gorlifo, mae yna broblemau gyda seilwaith eraill fel casglu sbwriel a thoiledau cyhoeddus ac yn y blaen. Felly, mae yna risg, wrth gwrs, fod y llwyddiant yn golygu bod profiad yr ymwelwyr yn dirywio, ac felly bod hynny'n lleihau, efallai, y potensial i dyfu'r sector yma.

Nawr, dwi'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi clustnodi ychydig o arian ychwanegol ar gyfer cryfhau seilwaith twristiaeth yn gynharach eleni, ond, wrth gwrs, yr hyn rŷn ni eisiau'i weld yw ateb cynaliadwy hirdymor. Dwi jest eisiau gwybod pa drafodaethau, er enghraifft, rŷch chi wedi'u cael gyda'ch cyd-Weinidogion ar y posibilrwydd o ddarparu adnoddau gwell i'r parciau cenedlaethol, ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn y cyd-destun yma'n benodol, oherwydd, tra ein bod ni wedi gweld niferoedd ymwelwyr yn dyblu yn yr 20 mlynedd diwethaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gweld ei adnoddau'n haneri, felly, mi allwch chi glustnodi ychydig pob hyn a hyn, ond yr ateb cynaliadwy, wrth gwrs, byddai sicrhau bod y parciau cenedlaethol yn cael eu hariannu'n iawn yn y lle cyntaf.

Mae nifer enfawr yn ymweld â'r Wyddfa ei hun, ac Eryri yn ehangach, oes, ond mae'r mynydd ei hun yn gweithredu ar gapasiti llawn i bob pwrpas o ran faint o bobl sy'n gallu ei ddringo ar unrhyw un adeg. Un o'r pryderon sydd wedi bod gennym ar draws y Llywodraeth yw bod angen i ni sicrhau ein bod yn rhannu'r cyfoeth yn fwy cyfartal ar draws y rhanbarth a'n bod yn codi rhywfaint o'r pwysau oddi ar gymunedau yn Eryri, yn enwedig yn yr ardaloedd y mae pobl yn ymweld â hwy, drwy hybu cyfleoedd eraill iddynt ymweld â hwy, er enghraifft, yr ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, ac rydym yn chwilio am ffyrdd gwell o hyrwyddo perthnasedd ac atyniad ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd, yn arbennig, er mwyn creu mwy o gyfleoedd yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, heb amharu ar y cynnig arbennig iawn yn Eryri.

Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod pob partner yn gweithio gyda'i gilydd, ac nid yw hynny'n golygu Llywodraeth Cymru a'r parc cenedlaethol yn unig, ond Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd. Mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae yn hyrwyddo'r amgylchedd naturiol yn Eryri. Yn ddiweddar, cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod potensial economaidd Eryri, ac yn arbennig, rhai o'r asedau, yr adeiladau, y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn berchen arnynt, y gellid eu defnyddio er mwyn darparu ar gyfer mwy o bobl sy'n ymweld â'r ardal ac ysgwyddo rhywfaint o'r baich sydd ar y cymunedau hynny, fel y dywedais, sy'n croesawu cynifer o ymwelwyr bob blwyddyn.

Tynnwyd cwestiwn 6 [OAQ54214] yn ôl a tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ54219] yn ôl, felly cwestiwn 8—Nick Ramsay.

Lliniaru Sŵn ar yr A40
14:15

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion i liniaru sŵn ar hyd y A40 yn Sir Fynwy? OAQ54218

Rwy'n falch iawn o roi gwybod i'r Aelod bod gwaith datblygu cynlluniau lliniaru sŵn a gwaith gosod wyneb ffordd ar gyfer ardal flaenoriaeth y cynllun gweithredu ger y Bryn ar yr A40 yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd, a bydd y gwaith yn dechrau yn ystod yr haf a'r hydref eleni.

Rydych eisoes wedi ateb fy nghwestiwn atodol, Weinidog. Yn amlwg, mae'r cwestiwn hwn wedi treulio cymaint ag arwyneb y ffordd honno ar yr A40, ac rwy'n ei godi'n aml. Fel rydych newydd ei ddweud, mae trigolion sy'n byw yn y Bryn a'r cymunedau cyfagos sy'n agos at ffordd ddeuol yr A40 yn dioddef llygredd sŵn dyddiol oherwydd yr arwyneb ffordd concrid sy'n heneiddio ar y rhan honno o'r ffordd, ac mae angen ei adnewyddu ar ryw bwynt â tharmac tawel. Gwn fod eich swyddogion wedi bod yn gweithio ar gynigion lliniaru sŵn, gan gynnwys ffensio acwstig—rydych eisoes wedi sôn am hynny, felly buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi amserlen i ni ar gyfer hynny. Hefyd, rhywbeth a gododd mewn cyfarfod preswylwyr yn ddiweddar—a roddwyd unrhyw ystyriaeth i'r posibilrwydd o ostwng y terfyn cyflymder ar y rhan honno o'r ffordd o leiaf? Oherwydd mewn ardaloedd eraill lle mae'r terfynau cyflymder wedi'u gostwng, efallai i 50 mya, mae hynny'n cynhyrchu lefel is o lygredd sŵn. Gall fod yn ateb hawdd a chyflym i fynd i'r afael â pheth o'r llygredd sŵn hwnnw.

A gaf fi, os gwelwch yn dda, Lywydd, wirio a yw'r ardal benodol honno'n rhan o'r 600 o safleoedd rydym yn eu hasesu ar hyn o bryd o dan yr adolygiad terfynau cyflymder? Mae'n ddigon posibl ei bod, ond fe edrychaf a rhoi gwybod i'r Aelod. O ran y cwestiwn arall a ofynnodd, gallaf gadarnhau y bydd y cynllun lliniaru sŵn yn cael ei gyflwyno rhwng Rhaglan a'r Fenni yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Rwyf hefyd yn falch o roi gwybod i'r Aelod y bydd cynllun pont Gwy yr A40, sy'n werth £4 miliwn, yn lleihau'r tagfeydd ar yr A40 sy'n dod i mewn i Gymru, yn ogystal â gwella'r llif traffig yn Nhrefynwy. Rydym yn buddsoddi cymaint ag y gallwn gydag adnoddau prin i sicrhau bod gennym well cysylltedd ar draws Cymru.

Datblygu Economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd

9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu economaidd yn ardal Blaenau'r Cymoedd? OAQ54195

Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wedi'u nodi yn ein cynllun gweithredu ar yr economi, ac mae cynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd yn cysoni ac yn canolbwyntio ar gamau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan gynnwys cryfhau'r economi sylfaenol.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol y bydd y costau terfynol ar gyfer deuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yn fwy na £2 biliwn—mwy na'r cynlluniau a wrthodwyd ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Bydd rhan olaf y ffordd honno, sef yr 16 milltir diwethaf, yn fwy na'r cyfanswm y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wario ar fetro de Cymru. Nawr, rwy'n cefnogi'r ffordd, rwy'n credu ei bod wedi gwneud pethau gwych i wella diogelwch ac mae ganddi botensial economaidd mawr. Cafwyd rhai manteision ymylol i'r cymunedau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu, ond yr hyn yr hoffwn ei ofyn i chi yw: beth yn fwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, wrth symud ymlaen, i sicrhau bod y cymunedau hynny yn y Cymoedd gogleddol, sef rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig, yn gallu elwa ar yr ased economaidd anferth hwn?

Diolch am y cwestiwn. Mae'r Aelod yn iawn i nodi'r buddsoddiad sylweddol iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ym Mlaenau'r Cymoedd drwy ddeuoli'r ffordd. Mae hefyd yn nodi'r manteision cymunedol sydd wedi deillio o'r gwaith o gyflawni'r cynllun, gan gynnwys prentisiaethau a hyfforddiant, cyflogi pobl leol, gwariant gyda chwmnïau lleol, ymgysylltu ag ysgolion lleol a chefnogi digwyddiadau a grwpiau cymunedol. Ond mae hefyd yn iawn i nodi nad yw adeiladu ffyrdd ynddo'i hun yn gwarantu elw economaidd cadarnhaol i ardal. Mae angen i ni ei ddefnyddio fel llwyfan i ddatblygu y tu hwnt i hynny. Mae hon yn sgwrs rwyf wedi'i chael gyda hi a chydag Aelodau eraill o ardaloedd Blaenau'r Cymoedd drwy'r grŵp a sefydlwyd gennym i gysgodi tasglu'r Cymoedd, ac o ganlyniad i hynny, byddaf yn sefydlu is-grŵp i dasglu'r Cymoedd i edrych yn benodol ar sut y gellir manteisio ar ddeuoli'r ffordd er mwyn sicrhau bod manteision yn llifo i'r rhanbarth gyfan. Mae potensial enfawr, fel y mae'r Aelod wedi'i nodi o'r blaen, i dwristiaeth, i gynhyrchu bwyd, gan ddarparu rhydwelïau i mewn i economïau canolbarth Lloegr a de Cymru. Felly, rwy'n credu bod llawer y gellir ei wneud i adeiladu ar y buddsoddiad sylweddol iawn rydym wedi'i wneud, ac rwy'n awyddus i weithio gyda hi a'i chyd-Aelodau i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas gyda hynny.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit)

Felly, dyma ni'n cyrraedd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Alun Davies.

Fframweithiau Cyffredin y DU

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ddatblygiad fframweithiau cyffredin y DU? OAQ54215

14:20

Mae cynnydd da'n parhau ar fframweithiau, er yn arafach na'r disgwyl o ganlyniad i effaith cynllunio ar gyfer 'dim bargen'. Rydym wedi ymrwymo i fframweithiau fel system hirdymor ar gyfer llunio polisi rhynglywodraethol, ac roeddwn yn falch o rannu'r fframwaith drafft cyntaf gyda'r Cynulliad yr wythnos diwethaf.

Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol bod hwn yn fater a drafodwyd gyda'r Prif Weinidog yn y pwyllgor materion allanol ddydd Llun. Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb llawn iawn i'r cwestiwn hwnnw. Onid yw'n rhannu fy mhryder ein bod, wrth greu fframweithiau cyffredin, bron yn creu gwladwriaeth gudd o fewn y Deyrnas Unedig lle mae llawer o benderfyniadau'n cael eu gwneud heb graffu cyhoeddus a thu hwnt i gyrraedd y cyhoedd? A yw'n rhannu'r pryder ein bod yn gweithio heb unrhyw fframwaith, fel petai, ar gyfer y fframweithiau cyffredin, ac o'r herwydd, yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod craffu cyhoeddus yn digwydd a hyder cyhoeddus yn y system hon yw strwythur statudol sy'n gosod y sylfaen ar gyfer y fframweithiau hyn ar sail gyfreithiol, ac sy'n hwyluso atebolrwydd democrataidd rhyngsefydliadol a chraffu ar waith y fframweithiau hyn a'r Deyrnas Unedig newydd sydd fel pe bai'n cael ei chreu y tu ôl i len?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Y cynsail sylfaenol y tu ôl i'r cytundeb rhynglywodraethol, sef ffynhonnell y rhaglen fframweithiau, oedd mai ein safbwynt diofyn, os mynnwch, yw na ddylai fframweithiau fod yn angenrheidiol, ac felly rydym wedi ymdrin â'r dasg o nodi lle gallai fod angen fframweithiau o'r man cychwyn hwnnw. Fel y bydd yn gwybod, rydym wedi dod i gytundeb â Llywodraethau eraill yn y DU y bydd rhai fframweithiau'n gwbl anneddfwriaethol—h.y. byddant yn seiliedig ar gytundebau rhwng Llywodraethau—a bydd rhai fframweithiau, mae'n siŵr, yn galw am eu gosod ar sail ddeddfwriaethol. Rydym wedi rhannu ein dadansoddiad â'r pwyllgor o ran beth y gallai'r gwahaniaethau hynny fod. Un o'r meysydd ffocws wrth ddatblygu'r fframweithiau cyffredin, ac un o'r rhesymau pam ein bod wedi pwyso'n galed am gynnydd, yw awydd dealladwy a chwbl ddilys y pwyllgorau craffu ym mhob deddfwrfa yn y DU i ymgysylltu'n ystyrlon â'r broses o ddatblygu'r fframweithiau a sut y byddant yn gweithredu yn y dyfodol. Felly, mae'n resyn nad ydym wedi gallu rhannu mwy o wybodaeth yn gynt nag y gwnaethom, ond rwy'n ofni bod hynny wedi digwydd o ganlyniad, fel y dywedais, i ddargyfeirio egni i gynllunio ar gyfer 'dim bargen'. Un o ddimensiynau'r fframweithiau cyffredin yw'r cwestiwn o lywodraethu ac adolygu parhaus. Fel y gŵyr, mae hynny'n rhan o gyfres ehangach o drafodaethau rydym yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ar wella ansawdd a pheirianwaith cysylltiadau rhynglywodraethol, ac mae llawer o'r gwaith hwnnw'n cyffwrdd â mater llywodraethu, sydd â chysylltiadau clir iawn â'r materion a godwyd gan yr Aelod heddiw. Byddem wedi gobeithio bod wedi gwneud cynnydd pellach yn y maes hwnnw hefyd, fel y bydd wedi gweld o fy llythyr ar y cyd â Llywodraeth yr Alban yr wythnos diwethaf, ond gall fod yn dawel ei feddwl ein bod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael cyfle i gyfrannu at y datblygiad a'r gweithrediad ac i'n dwyn ni i gyfrif, ac, yn bwysig, pwyllgorau craffu yn y Cynulliad hwn ac mewn deddfwrfeydd eraill ar draws y DU.  

Nodaf, ar yr adeg hon yn y broses o ddatblygu fframweithiau cyffredin y DU, mai'r nod yw ehangu ymgysylltiad ac ymgynghoriad, ac yn wir, datganodd Llywodraeth y DU ar 3 Gorffennaf eu bod wedi datblygu cynllun ymgysylltu manylach i fandadu mwy o ymgysylltiad ac i wella tryloywder. Nawr, mae'n ymddangos i mi mai dyma'n union sut y dylai'r system weithredu. Sylwaf fod gennych rai pryderon, ond yn gyffredinol, mae hwn yn newid eithaf radical i broses lywodraethu'r DU, ac mae'n ymddangos i mi ei fod yn mynd i'r cyfeiriad cywir at ei gilydd. Mae angen i'r gymuned ehangach o randdeiliaid gymryd rhan, yn amlwg, er mwyn sicrhau tryloywder a chraffu priodol.

Diolch i'r Aelod am hynny. Mae ei gwestiwn yn cydnabod mai'r fframwaith cyffredin a rennir hyd yma yw'r cyntaf, fe obeithiwn, o nifer o fframweithiau y gallwn eu rhannu. Ac maent yn hollol—. Wyddoch chi, nid yw'n fait accompli. Mae yno ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid. O ran y fframwaith penodol hwnnw, cynhaliwyd cynllun peilot ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid ac rydym yn gobeithio dysgu o hwnnw wrth i ni ddatblygu'r broses graffu ac ymgysylltu mewn perthynas â hyn yn y dyfodol. Mae'n wir dweud, o'r holl feysydd cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n deillio o Brexit, fod y broses o ddatblygu'r fframweithiau cyffredin, sydd wedi digwydd i raddau helaeth ar lefel swyddogol, ymhlith y mwyaf cynhyrchiol, hyd yn oed os nad oes llawer wedi bod erbyn y cam hwn i'w gyflwyno'n gyhoeddus. Mae ansawdd yr ymgysylltu yn siŵr o fod yn well yno nag yn unrhyw ran arall o'r broses.

14:25
Effaith Brexit ar y Diwydiant Gweithgynhyrchu Ceir

2. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effaith Brexit ar y diwydiant gweithgynhyrchu ceir? OAQ54226

Rydym yn cynnal deialog reolaidd â chwmnïau yn y sector, Fforwm Modurol Cymru a chyrff sector cenedlaethol ynghylch effaith bosibl Brexit 'dim bargen', a fyddai'n drychinebus i'r diwydiannau modurol ac i ddiwydiannau eraill yn wir.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Fe fydd yn ymwybodol fod 80 y cant o'r ceir sy'n cael eu cydosod yn y DU yn cael eu gwerthu dramor yn ôl Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Moduron Ewrop. Mae tua 58 y cant o'r rheini'n cael eu hallforio i'r UE. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, os na chawn ryw fath o gytundeb masnach, gallai'r tariffau ar allforion ceir fod yn ddifrifol iawn—hyd at 10 y cant—a byddant yn ergyd i gystadleurwydd gweithgynhyrchwyr Cymru yn y sector gwirioneddol bwysig hwn.

Bydd hefyd yn ymwybodol o adroddiad Ysgol Fusnes Caerdydd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2017, sy'n amlygu sut y gallai cwmnïau sy'n gysylltiedig â'r sector modurol yn Llanelli, megis Calsonic a Schaeffler, fod yn agored i risg yn y sefyllfa hon. Rydym yn gwybod erbyn hyn, wrth gwrs, fod 200 o swyddi mewn perygl yn safle Schaeffler yn Llanelli. Felly, a all y Cwnsler Cyffredinol ddweud ychydig yn rhagor wrthym am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith bosibl Brexit ar y buddiant allweddol hwn, yn enwedig mewn sefyllfa 'dim bargen'?

Wel, diolch i'r Aelod am ei chwestiwn pellach. Mae'n iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd y sector modurol i economi Cymru. Mae'n cyflogi tua 11 y cant o'r gweithlu gweithgynhyrchu, sef oddeutu 18,500 o bobl yng Nghymru, ac mae'n denu refeniw o tua £3 biliwn. Felly, mae'n gyfrannwr sylweddol iawn i economi Cymru. Mae'n iawn i dynnu sylw at y niwed y byddai masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd yn ei achosi i'r sector—a gweithredu y tu allan i undeb tollau yn wir. Yn ddiweddar, amcangyfrifodd PwC y gallai cyflenwadau i'r Almaen o'r DU, y gellir eu cyflawni mewn tua 12 awr ar hyn o bryd, gymryd hyd at 72 awr. Gwn ei bod yn gwybod y bydd yr effaith a gaiff hynny ar drefniadau'r gadwyn gyflenwi mewn union bryd yn y sector modurol yn arwyddocaol iawn.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig yn disgrifio gweithgarwch parhaus i gefnogi a hybu sector modurol Cymru yn y cyfnod anodd hwn. Mae hefyd wedi cyfarfod â phobl allweddol sy'n gweithio yn y diwydiant, gan gynnwys y rheini, er enghraifft, yn gynharach eleni a gafodd eu heffeithio gan gyhoeddiad Honda, a oedd yn gyhoeddiad a wnaed yn Lloegr, yn ddaearyddol, ond a achosodd sgil-effeithiau yma yng Nghymru. Mae 20 o gyflenwyr Honda yng Nghymru, a rhai ohonynt yn agored iawn i'r hyn sy'n digwydd i'r cwmni hwnnw.

Fe fydd hi'n gwybod hefyd am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r sector modurol, o ran buddsoddi mewn sgiliau ac mewn ffyrdd eraill, er enghraifft drwy'r gronfa bontio Ewropeaidd. Rydym yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i sicrhau nad ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar delerau a fyddai'n gosod tariffau sy'n cosbi a rhwystrau nad ydynt yn dariffau ar y diwydiant modurol, ac ar sectorau pwysig eraill i'n heconomi yn wir.

Yn unol â'r holl bleidiau yn y Siambr hon, mae Plaid Brexit yn hynod siomedig ynglŷn â phenderfyniad Ford mewn perthynas â'r gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn cydymdeimlo gyda'r gweithlu, sydd wedi gwneud ymdrechion aruthrol i gydymffurfio â threfniadau gwaith Ford dros y blynyddoedd. Ond gadewch i ni fod yn glir yma: nid oes gan benderfyniad Ford ddim o gwbl i'w wneud â Brexit. Mae rheolwyr Ford wedi datgan hynny'n bendant. Fel gyda phob busnes mawr, ac mae hyn yn cynnwys yr holl weithgynhyrchwyr modurol a'r holl is-weithgynhyrchwyr, bydd Ford yn dewis yr opsiwn gorau i'r cwmni. Mae'n rhaid i ni gofio eu bod wedi symud y gwaith o gynhyrchu eu faniau cludiant i Dwrci—ac i atgoffa pawb, nid yw Twrci yn yr Undeb Ewropeaidd hyd yn oed. Er bod yr UE wedi ariannu'r gwaith yn Nhwrci yn rhannol—[Torri ar draws.] Fe wnaeth yr UE ariannu'r gwaith yn Nhwrci yn rhannol—[Torri ar draws.]

Os na allaf fi glywed y cwestiwn, rwy'n siŵr nad yw'r Aelod yn gallu clywed y cwestiwn chwaith.

Mae'n rhaid cofio y bydd unrhyw dariffau a osodir ar unrhyw rai o'r allforion, yn enwedig yn y diwydiant ceir, ar ôl Brexit, yn cael effaith andwyol iawn ar weithgynhyrchwyr ceir Ewropeaidd. Ac nid ydym yn sôn am ddiwydiant ceir yr Almaen yn unig; rydym yn sôn am ddiwydiant ceir Ffrainc, sy'n gynyddol ddibynnol ar eu hallforion i'r DU. Felly, mae dweud y bydd Brexit yn cael yr effaith niweidiol hon ar y diwydiant ceir yn nonsens llwyr. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gytuno â mi ar y pwyntiau hynny?

14:30

Na wnaiff. Os ydym yn mynd i werthuso effaith Brexit ar ein heconomïau yn briodol, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod gan ein sylwadau ryw gysylltiad â gwirioneddau'r hyn sy'n digwydd. Ac rwy'n credu ei fod wedi anghofio'n gyfleus iawn y datganiad a wnaed gan uwch-swyddogion gweithredol Ford ddiwedd y llynedd, a oedd yn dweud yn glir iawn am effaith niweidiol Brexit 'dim bargen' ar y sector modurol yma yng Nghymru. Cyfeiriaf yr Aelod at y sylwadau a wneuthum yn gynharach mewn perthynas â'r niwed a fyddai'n cael ei achosi i'r sector hanfodol hwn drwy'r llwybr gweithredu y mae'n lladmerydd angerddol drosto.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi o ganlyniad i Brexit?

Wel, mae'n bwysig ceisio gweld y pethau hyn yn glir, onid yw? Rydym yn credu'n bendant mai negyddol i raddau helaeth iawn fydd effaith Brexit ar Gymru. Byddai Brexit 'dim bargen', y mae ef yn hapus i'w oddef—a'r hyn y mae'r ymgeisydd yn ras arweinyddiaeth y Ceidwadwyr y mae'r Aelod yn ei gefnogi yn fwyfwy brwd yn ei gylch—yn arbennig o niweidiol i Gymru. Ond ceir agweddau ar y broses y buom yn ymwneud â hi hyd yma a allai gynnig elfennau optimistaidd ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, os yw Llywodraeth y DU yn gwireddu ei haddewidion na ddylem fod geiniog ar ein colled ac na fydd pŵer yn cael ei gipio oddi wrthym mewn perthynas â chronfeydd strwythurol yn y dyfodol yma yng Nghymru, mae cyfleoedd i'r cronfeydd hynny gael eu defnyddio mewn ffyrdd a allai gefnogi economi Cymru hyd yn oed yn well o fod yn rhydd o gyfyngiadau rhaglenni Ewropeaidd penodol. Ond efallai y gall ymuno â mi i bwyso ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth y DU i gadw at yr ymrwymiadau hynny, ymrwymiadau y maent wedi methu'n lân â'u cyflawni hyd yma. Ceir cyfleoedd hefyd, os derbynnir y cynigion y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno, i gryfhau'r setliad datganoli, ac atgyfnerthu systemau rhynglywodraethol, y dangoswyd o ganlyniad i Brexit eu bod mor annigonol. Ond bydd wedi gweld o'r datganiadau y mae'r Prif Weinidog a minnau ac eraill wedi'u gwneud yn ystod yr wythnos i 10 diwrnod diwethaf, fod Llywodraeth y DU, hyd yn hyn o leiaf, ar ei hôl hi'n sylweddol o ran hynny hefyd.

Wel, y gwir amdani, er gwaethaf y darogan gwae parhaus gan Lywodraeth Cymru, a gennych chi, Weinidog, y realiti yw y bydd yna gyfleoedd gwych i Gymru ar ôl cael gwared ar y rhwystrau sydd yn eu lle ar hyn o bryd a'r hualau sydd yno ar hyn o bryd o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Bellach, ni fydd yn rhaid inni gerdded ar bigau'r drain, yn poeni ynglŷn â chydymffurfio â rheolau'r UE, pan gyflwynir deddfwriaeth, er enghraifft, i'r Siambr hon. Ac rwy'n synnu na chyfeirioch chi—[Torri ar draws.] Rwy'n synnu na chyfeirioch chi at ddeddfwriaeth o gwbl yn eich ymateb. Oherwydd, fel y gwyddoch, mae Portiwgal wedi sefyll yn ffordd y cynnig i gyflwyno isafswm pris alcohol yma yng Nghymru—rhywbeth y pleidleisiodd y Siambr hon o blaid ei gefnogi er lles iechyd a lles dinasyddion Cymru. Felly, a ydych yn cytuno â mi fod gadael yr UE yn rhoi cyfle inni fwrw ati i hybu iechyd a lles ein dinasyddion drwy gyflwyno isafswm pris alcohol, cam a gefnogwyd gan y Siambr hon? Ac a allwch ddweud wrthym pa gamau yr ydych yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod y rhaglen ddeddfwriaethol yn y dyfodol yn manteisio ar y cyfleoedd a allai ymddangos ar ôl Brexit?

Wel, o ran deddfwriaeth, credaf ei fod yn camddeall y sefyllfa. Mae ymyrraeth Portiwgal yn rhan o set o hawliau a phrosesau sy'n bodoli ar draws yr Undeb Ewropeaidd, sy'n sail i'r fframwaith deddfwriaethol yr ydym wedi bod yn gweithredu drwyddo, ac yn parhau i weithredu drwyddo fel aelod-wladwriaethau. Ac rwy'n credu ein bod yn falch o'r ffaith yn y lle hwn ein bod yn gweithredu o fewn fframwaith cyfraith Ewrop, sydd wedi datblygu rhwydwaith o hawliau dynol a mesurau diogelu i'n dinasyddion yma yng Nghymru, mesurau diogelu amgylcheddol, mesurau diogelu cymdeithasol, mesurau diogelu'r gweithlu, y byddai ei blaid ef—neu ef yn sicr—yn barod iawn i gael eu gwared, mae'n ymddangos, yn ôl y gefnogaeth y mae'n ei dangos i Brexit 'dim bargen'. Dylem fod yn falch o hynny yma, yn hytrach na'i ystyried yn fwrn. Rydym wedi gweithio'n galed iawn yn Llywodraeth Cymru, gyda llywodraethau eraill ledled y DU, i sicrhau ein bod wedi bod yn trosglwyddo corff cyfraith yr UE i mewn i gyfraith Cymru fel nad yw'r hawliau hynny'n cael eu colli wrth ymadael, oherwydd ein bod yn eu hystyried yn gaffaeliad i fywyd cyhoeddus Cymru yn hytrach na'r baich rheoleiddiol y mae'n awgrymu y byddent.

14:35

Mae'n siarad cyfrolau, a bod yn onest, Weinidog, y bydd y weinyddiaeth hon yma yng Nghymru yn manteisio ar bob cyfle posibl i feirniadu Llywodraeth y DU, ni waeth pa mor annheg yw'r feirniadaeth honno, ac eto rydych yn achub ar y cyfle i ganmol yr Undeb Ewropeaidd ni waeth pa mor anhaeddiannol yw'r ganmoliaeth honno o bosibl. Clywsom yr wythnos hon fod blaenoriaethau'r Blaid Lafur yng Nghymru yn glir. Yr Undeb Ewropeaidd yn gyntaf, ac undeb y Deyrnas Unedig yn olaf. Ac am nad yw'r Siambr hon yn mynd i'w glywed gan y Gweinidog Brexit, gadewch imi ddweud wrthych am y cyfleoedd a welwn, oherwydd, wrth gwrs, byddwn yn gweld y baich rheoleiddiol yn cael ei leihau, o bosibl, i lawer o fusnesau nad oes angen iddynt fasnachu dramor gydag allforion. Byddwn hefyd yn gweld rhai arbedion sylweddol i'r trethdalwr wrth gwrs. Bydd gennym y gronfa ffyniant gyffredin i gymryd lle'r cronfeydd Undeb Ewropeaidd a gollwn. Ac wrth gwrs, mae'r ddau ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, y bydd un ohonynt yn dod yn Brif Weinidog, ill dau'n sicr na fydd Cymru'n colli'r un geiniog o gyllid Ewropeaidd o gymharu â'r arian y mae'n ei gael hyd yma.

Felly, yn hytrach na gorfod gweithredu rheolau yma yn y DU sydd o fudd i ffermwyr yn Ffrainc, pysgotwyr yng Ngwlad yr Iâ, cynhyrchwyr gwin ym Mhortiwgal, onid ydych chi'n meddwl y byddai'n well gallu cael ein rheolau ein hunain sy'n cefnogi ffermwyr yma, cynhyrchwyr bwyd a diod yma yng Nghymru? Ac a allwch egluro sut rydych yn parchu canlyniad y refferendwm, sef yr hyn yr addawoch chi ei wneud yn dilyn y refferendwm yn ôl ym mis Mehefin 2016? Fe ddywedoch chi y byddech yn parchu'r canlyniad fel Llywodraeth Cymru ac yn ceisio gweithredu'r canlyniad hwnnw. Fe safoch ar faniffesto a ddywedai y byddech yn parchu'r canlyniad. Bellach, wrth gwrs, rydych wedi camu'n ôl oddi wrth hynny, a chicio tywod i lygaid yr etholwyr, gan wrthod y penderfyniad a wnaethant i adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, a allwch egluro pam eich bod wedi newid eich safbwynt i'r fath raddau, a pha bryd y gwnewch chi ddihuno, wynebu'r gwirionedd, ac edrych ar Brexit fel cyfle bendigedig a gogoneddus i Gymru, nid y math o wae rydych chi'n ei ddarogan?

Wel, rwy'n mynd i ymwrthod â themtasiwn breuddwyd gwrach llefarydd yr wrthblaid yn hyn o beth. A gaf fi godi un pwynt? Mae'n sôn am y gronfa ffyniant gyffredin a'r ymrwymiadau a wnaed yng nghyswllt hynny. Gadewch i ni fod yn glir: roedd yr hyn a ddywedodd Boris Johnson ddydd Gwener diwethaf yn warth cyfansoddiadol—y ffaith y byddai'n well defnyddio'r arian hwnnw pe bai elfen Geidwadol yn perthyn iddynt, nid elfen Llywodraeth y DU, ond elfen Geidwadol. Beth yw ystyr hynny? Os yw am i'r Ceidwadwyr reoli'r arian hwnnw, mae angen i'r Ceidwadwyr ennill etholiad yma yng Nghymru, rhywbeth nad ydych wedi'i wneud dros y 100 mlynedd diwethaf. [Torri ar draws.]

Fe ddywedaf wrthych i ba raddau y mae Llywodraeth y DU yn parchu'r setliad datganoli yng nghyswllt hynny. Pan gododd y Gweinidog yn Nhŷ'r Cyffredin a dweud wrthym na fyddem yn clywed unrhyw beth am y gronfa honno tan y flwyddyn nesaf, dyna'r tro cyntaf inni glywed am hynny. Nid oedd ganddynt y cwrteisi i ddweud wrthym beth oedd y cynlluniau, er i ni bwyso am hynny. Felly, dyna hyd a lled y parch at y ffin ddatganoli.

Mae'n gofyn i mi ynglŷn â pharchu canlyniad y refferendwm diwethaf. Mae'n gwybod yn iawn ein bod ni ar y meinciau hyn wedi dadlau dros gyfnod hir am ffurf ar Brexit a oedd yn parchu canlyniad refferendwm 2016 gan wneud y niwed lleiaf posibl i Gymru. Ac roedd anhyblygrwydd y Prif Weinidog dros ei blaid yn y Senedd yn sefyll yn ffordd y canlyniad hwnnw. Ac rydym yn cydnabod yma y dylai yntau gydnabod ein bod wedi cyrraedd pen y daith mewn perthynas â hynny, a'r unig ffordd o osgoi Brexit 'dim bargen', nad oes mandad ar ei gyfer yng nghanlyniad refferendwm hwnnw, yw'r refferendwm yr ydym yn galw amdano.

Weinidog, polisi newydd Brexit Llafur yw cefnogi refferendwm ar Brexit ac ymgyrch dros aros os yw Boris Johnson neu Jeremy Hunt yn Brif Weinidog, gyda'r bwriad o ailnegodi a gadael os yw Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog. Rwy'n siŵr y bydd pobl sydd wedi bod yn dilyn esblygiad polisi Llafur yn dod i'r casgliad fod cymaint o gamau'n ôl wedi bod erbyn hyn am bob cam ymlaen fel bod traed Jeremy Corbyn wedi baglu ar draws ei gilydd ac mae bellach yn gorwedd mewn pentwr dryslyd trosiadol ar y llawr. [Torri ar draws.] Canlyniad rhesymegol y polisi newydd hwn yw mai'r unig ffordd i sicrhau bod Llafur yn ymgyrchu dros aros mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol yw sicrhau nad yw eich plaid chi mewn grym yn San Steffan.

14:40

Na, nid yw allan o drefn. A wnewch chi barhau, Delyth Jewell, os gwelwch yn dda? Ac a gawn ni rywfaint o dawelwch o feinciau cefn y Blaid Lafur?

Weinidog, a ydych yn cytuno felly, os ceir etholiad cyffredinol, y byddai'n gwneud synnwyr i bobl sy'n dymuno gweld Llafur yn ymgyrchu dros aros yn yr UE mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol bleidleisio dros bleidiau a fydd yn ymgyrchu i aros mewn unrhyw amgylchiadau?

Wel, pan fydd rhywun wedi bod yn galw am refferendwm, rwy'n credu ei bod hi braidd yn anfoesgar i beidio â chroesawu'r ffaith bod y blaid honno wedyn yn addo refferendwm fel cydnabyddiaeth o gynnydd. Ond mae'r Aelod yn gwybod yn glir beth yw ein sefyllfa yma fel Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Rydym wedi dadlau dros safbwynt a ddisgrifiwyd yn y papur a gawsom ar y cyd â Phlaid Cymru. Rydym wedi cydnabod ein bod wedi cyrraedd y pen draw mewn perthynas â hwnnw, a galwn am refferendwm mewn perthynas â gadael ar unrhyw delerau neu adael 'dim bargen', pa Brif Weinidog bynnag sy'n negodi'r telerau hynny. Bydd yn gwybod ein bod yn parhau i ddadlau o blaid hynny yn ein holl drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ac yn gofyn iddynt gymryd camau rhagweithiol i wireddu hynny. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at holl Aelodau Seneddol Cymru yn gofyn iddynt ymuno â'r galwadau o blaid refferendwm ac i sicrhau bod y Senedd yn chwarae ei rhan i wireddu hynny, ac rydym yn hapus i weithio gydag unrhyw blaid arall sy'n rhannu'r amcan hwnnw.

Diolch yn fawr, Weinidog. Dyna ymgais ddewr i gyfiawnhau'r ffurf ddiweddaraf ar bolisi Brexit eich plaid, er fy mod yn tybio y bydd y bobl sy'n gwylio am ffurfio'u casgliadau eu hunain p'un a yw'r ddadl honno'n dal dŵr.

Dywedodd Boris Johnson yn ddiweddar, pe bai'n Brif Weinidog y byddai am weld dylanwad Ceidwadol cryf dros y modd y gwerir y cynllun i adnewyddu cyllid yr UE—y gronfa ffyniant gyffredin—yng Nghymru, ac mae'r Ceidwadwyr yn y Siambr hon heddiw wedi dweud, 'Ni ddylid ymddiried ynoch chi i wneud hynny'. Eu geiriau hwy nid fy ngeiriau i. Gan nad yw'r Ceidwadwyr mewn grym yma, mae hyn yn awgrymu bod Boris Johnson am i'r gronfa gael ei gweinyddu o San Steffan, neu efallai fod rhywfaint o wirionedd yn y si fod ei gyfaill, nid fy nghyfaill i, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, am iddi gael ei gweinyddu gan awdurdodau lleol. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, y byddai hyn yn gipio pŵer amlwg, rhywbeth a fyddai'n mynd yn groes i Ddeddf Cymru 2017, ac y dylai hefyd fod yn anghyfreithlon, o bosibl, am fod pwerau dros ddatblygu economaidd, gan gynnwys gweinyddu a gwario arian rhanbarthol, wedi'u datganoli i'r Cynulliad hwn?

Wel, rwy'n ategu'r teimladau yng nghwestiwn yr Aelod. Fel y soniais ychydig funudau yn ôl, credaf y byddai'n warthus pe bai hynny'n digwydd. Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud ymrwymiadau, ac nid yw'n eu cyflawni. Mae Boris Johnson, drwy wneud y datganiad hwnnw, yn canu larymau, fel y mae ei chwestiwn yn awgrymu. Rydym yn gwbl glir na ddylem ddioddef cael ceiniog yn llai o'r cyllid y buom yn ei gael yma yng Nghymru, ac y dylai'r pwerau dros yr arian hwnnw gael eu harfer yma yn y Cynulliad hwn gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru, gan mai ni sydd yn y sefyllfa orau i reoli ein datblygiad economaidd yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Weinidog. Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ddiweddar fod eich Llywodraeth yn datblygu llinellau coch mewn perthynas â meysydd datganoledig nad yw'n dymuno iddynt gael eu cynnwys mewn cytundebau masnach yn y dyfodol. Weinidog, a allwch ddweud wrthym beth yw'r llinellau coch hynny? Dywedodd wrthym hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn fodlon mynd â Llywodraeth y DU i'r llys pe bai'n ceisio gwerthu GIG Cymru fel rhan o gytundeb masnach â'r Unol Daleithiau yn y dyfodol. Ond fel y gwyddoch, o dan adran 82 o Ddeddf Cymru, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol bŵer i gyfarwyddo Gweinidogion Cymru i weithredu cyfarwyddebau a geir o fewn cytundebau nad ydynt yn rhan o'u cymhwysedd datganoledig. A allech roi sicrwydd inni felly ynglŷn â pha gamau y gallai eich Llywodraeth eu cymryd pe bai Llywodraeth y DU yn gweithredu adran 82 er mwyn ceisio gorfodi Gweinidogion Llywodraeth Cymru i weithredu mesurau niweidiol nad ydynt yn cytuno â hwy, ac a fyddai hyn yn golygu mynd â Llywodraeth y DU i'r llys o bosibl, fel y nododd eich cyd-Aelod, y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol?

Wel, nid ein safbwynt ni fel Llywodraeth yw y dylem gael feto mewn perthynas â'r materion hyn, ond lle mae Llywodraeth y DU yn llunio safbwynt negodi ar gyfer negodiadau rhyngwladol o ba fath bynnag, ni ddylent fwrw ymlaen â'r mandad negodi hwnnw fel arfer oni bai eu bod wedi sicrhau cytundeb y gweinyddiaethau datganoledig, lle yr effeithir yn uniongyrchol ar gymwyseddau datganoledig, neu, lle y gellir effeithio arnynt yn anuniongyrchol, dylem fod yn rhan o'r trafodaethau hynny. Ymddengys i ni fod hwnnw'n gais sylfaenol resymol, ac yn rôl briodol i Lywodraeth Cymru yn y trafodaethau hynny. Ni allwn ddisgwyl, ac ni ellir disgwyl i unrhyw weinyddiaeth ddatganoledig, gydweithredu yn y ffordd y gweithredir y rhwymedigaethau rhyngwladol hynny os na fyddwn wedi cael llais yn y broses o lunio'r safbwyntiau hynny ar y dechrau.

Buaswn yn dweud bod hon yn egwyddor ddatganoli bwysig, ond mae hefyd yn egwyddor bwysig o safbwynt hygrededd Llywodraeth y DU. Mae'r Undeb Ewropeaidd, a'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd, yn gwybod yn iawn beth sydd wedi'i ddatganoli i wahanol wledydd yn y Deyrnas Unedig, a gwyddant yn iawn y bydd y gwaith o weithredu'r rhwymedigaethau hynny'n disgyn ar ysgwyddau'r gweinyddiaethau a'r deddfwrfeydd datganoledig. Ac felly, byddai bwrw ymlaen yn wyneb gwrthwynebiad i weithredu rhai o'r rhwymedigaethau hynny yn naïf iawn a byddai'n effeithio'n sylfaenol ar hygrededd Llywodraeth y DU yn y trafodaethau hynny.

Gwneuthum y pwynt hwnnw'n uniongyrchol iawn yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodadau'r UE) diwethaf wrth David Lidington, pan nodais yr hyn a ddywedwyd yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill, sef pe bai Llywodraeth y DU yn y dyfodol yn ceisio bwrw ymlaen â'r math o gytundeb masnach yr oedd Donald Trump yn ei hyrwyddo yn y gynhadledd i'r wasg gyda Theresa May ychydig wythnosau'n ôl, byddai Llywodraeth Cymru yn gwrthod gweithredu'r gwaith o breifateiddio'r GIG yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â hynny. Dyna fu ein safbwynt; dyna yw ein safbwynt o hyd a dyna fydd ein safbwynt.

14:45
Busnesau Bach a Pharodrwydd ar gyfer Brexit

3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â busnesau bach ar barodrwydd ar gyfer Brexit? OAQ54221

Rydym wedi cefnogi busnesau bach a microfusnesau drwy grant cydnerthedd Brexit ac yn darparu gwybodaeth am barodrwydd gyda busnesau a rhanddeiliaid, yn enwedig drwy ein gwefannau. Rydym yn trafod yn barhaus â sefydliadau allweddol sy'n cynrychioli buddiannau a phryderon busnesau bach, y cynrychiolir nifer ohonynt ar weithgor ymadael yr UE, un o is-bwyllgorau ein cyngor datblygu economaidd.

Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol ymgysylltu â busnesau ledled Cymru, wrth gwrs, er mwyn paratoi ar gyfer Brexit. Fe sonioch eich bod wedi bod yn siarad â rhai o'r sefydliadau allweddol ac maent o amgylch y bwrdd yn eich cyfarfodydd hefyd. Ond rwy'n pryderu'n arbennig am fusnesau bach, annibynnol nad ydynt o bosibl yn aelodau o sefydliadau fel Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach. Sut yr ymgysylltwch â'r mathau hynny o grwpiau nad ydynt yn perthyn i gyrff aelodaeth?

Wel, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, os caf ddweud, a gwn ei fod yn cynnig safbwynt penodol ar hynny. Roeddwn mewn digwyddiad ddydd Gwener yr wythnos diwethaf yn fy rhanbarth i, a gynhaliwyd gan Siambr Fasnach De Cymru, a'r heriau hyn oedd y mathau o bethau a drafodwyd yno. Mae'r cwestiwn ynglŷn â sut y mae rhywun yn lledaenu gwybodaeth yn eang iawn yn her.

Rydym wedi darparu adnoddau ar-lein y gobeithiwn eu bod yn cynnig esboniad hawdd o rai o'r camau syml y dylai busnesau o unrhyw faint ystyried eu cymryd, yn rhannol i asesu eu parodrwydd eu hunain ar gyfer Brexit. Gall rhai fod yn agored i Brexit mewn ffyrdd gwahanol i eraill, ond ceir rhai camau syml ar ein gwefan 'Paratoi Cymru i ymadael â'r UE' ac rydym yn annog busnesau o bob maint i'w cymryd.  

Ceir adnodd penodol sydd, unwaith eto, yn hawdd ei ddefnyddio a gall busnesau o unrhyw faint ei ddefnyddio gan ei fod yn galluogi busnesau i edrych ar faterion yn ymwneud â'r gweithlu, amodau masnachu, diogelu data—agweddau ymarferol iawn ar fywyd busnes—ac anogwn fusnesau o bob maint yng Nghymru i edrych ar hynny, i edrych ar yr adnoddau a ddarparwyd gennym ar-lein a defnyddio'r arfau hynny. Mae'n anodd iawn i fusnesau bach wneud penderfyniadau mewn maes sy'n ansicr iawn. Mae'n ddigon anodd i gwmnïau mawr, ond os ydych yn fusnes bach, heb adnoddau sbâr i'w defnyddio ar gyfer gwahanol ganlyniadau posibl, rydym yn deall mor anodd yw'r gyfres honno o amgylchiadau.

Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig anfon y neges a gobeithio y bydd Aelodau yn y Siambr yn gwneud yr hyn a allant yn eu hetholaethau a'u rhwydweithiau i rannu'r gyfres honno o negeseuon gan Lywodraeth Cymru fod yna rai camau y dylai busnesau ystyried eu cymryd, fel eu bod yn rhoi eu hunain yn y sefyllfa orau bosibl am yr hyn a allai fod yn amser eithaf caled i lawer ohonynt yn y dyfodol.

Cyfarfodydd i Drafod Brexit dros Doriad yr Haf

4. Pa gyfarfodydd y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u trefnu gyda Llywodraeth y DU i drafod Brexit dros doriad yr haf? OAQ54193

Mae'r anhrefn yn Llywodraeth y DU yn golygu ei bod yn eithriadol o anodd trefnu cyfarfodydd yn ystod y toriad, ac mae dechrau'r broses honno'n cyd-daro â phenodi Prif Weinidog newydd. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog newydd yn parhau â'r arfer o wahodd Llywodraeth Cymru i gael ei chynrychioli yng nghyfarfodydd Cabinet y DU pan fyddant yn trafod parodrwydd ar gyfer Brexit, ac rydym yn barod i ddod i'r cyfarfod yn ystod y toriad a thu hwnt. Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn canolbwyntio ar barhau i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit 'dim bargen', a fyddai'n drychinebus, yn groes i farn y rhai sy'n dymuno bod yn Brif Weinidog Ceidwadol nesaf.

14:50

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n cymryd o'r ymateb nad oes gennych unrhyw gyfarfodydd wedi'u trefnu dros doriad yr haf. A wyf yn gywir i ddweud hynny?

Mae gennyf gyfarfodydd, wedi'u trefnu ac yn fy nyddiadur. Ond fel yr eglurais i'r Aelod, mae cael sylw gan Weinidogion Llywodraeth y DU i bennu'r gyfres o gyfarfodydd y byddai rhywun am eu gweld dros yr wythnosau i ddod wedi bod yn her gan fod Llywodraeth y DU yn amlwg yn wynebu newid arwyddocaol iawn o ganlyniad i newid Prif Weinidog.

Effaith Brexit ar Argaeledd Cymorth Cyfreithiol

5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd Brexit yn ei chael ar y cymorth cyfreithiol fydd ar gael? OAQ54209

Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw darparu cymorth cyfreithiol a bu'n destun toriadau sylweddol ers cyflwyno Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012. Rydym yn pryderu y gallai difrod economaidd Brexit arwain at doriadau pellach, a fyddai'n rhwystro mynediad at gyfiawnder ymhellach.

Diolch ichi am hynny. Ond ers cyflwyno toriadau cymorth cyfreithiol gan Lywodraeth San Steffan dros chwe blynedd yn ôl, mae nifer y rhieni sy'n gorfod cynrychioli eu hunain yn awr mewn achosion gwarchodaeth plant wedi mwy na dyblu. Mae llawer o deuluoedd yn methu fforddio talu am gynrychiolaeth gyfreithiol, ac maent yn gorfod llywio materion cymhleth ar eu pen eu hunain heb unrhyw ddealltwriaeth o'r gyfraith honno. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhoi pwysau aruthrol ar deuluoedd ac mae ymgyrchwyr wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu, fod

lles pennaf plant yn cael ei wneud yn "aneglur".

Mae gan Brexit botensial i effeithio ar bob agwedd ar fywyd yn y DU, gan gynnwys fframwaith cyfreithiol y DU. Felly, Gwnsler Cyffredinol, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch y modd y bydd Brexit yn effeithio ar deuluoedd sydd ar hyn o bryd yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol yn y llys teulu?

Diolch i'r Aelod am daflu goleuni ar fater anodd iawn. Rwy'n meddwl ei bod hi'n berffaith iawn i nodi'r perygl difrifol, yn fy marn i, y bydd yr ystod o ganlyniadau Brexit yn rhoi pwysau ar deuluoedd ar hyd a lled Cymru. O safbwynt cymorth cyfreithiol, rydym yn bryderus, yn enwedig ynghylch effaith economaidd Brexit 'dim bargen', y byddai hynny'n rhoi pwysau pellach fyth ar adnoddau cyhoeddus i ariannu cymorth cyfreithiol. Yn amlwg, gwyddom pa mor arwyddocaol yw'r toriadau wedi bod hyd yma, a byddai mwy fyth o bwysau ar y cyllidebau hynny'n drychineb.

Ond mae problem hefyd o ran y pwysau y mae'r toriadau hynny'n ei roi ar wasanaethau cyhoeddus sydd eu hunain o dan bwysau, a gallai hynny'n sicr ddwysáu yng nghyd-destun Brexit. Mae'n siarad am y llysoedd teulu yn arbennig, ac rwy'n meddwl bod angen inni gydnabod bod y pwysau ar deuluoedd yn sgil yr ansicrwydd a achosir gan Brexit hyd yn oed yn awr, ynghyd â'r posibilrwydd o golli swyddi ac yn y blaen, yn mynd i fod yn fater difrifol yn fy marn i. Mae'n un o'r pethau rydym yn eu hystyried ar hyn o bryd yn y Llywodraeth: sut y gallwn fynd i'r afael â pheth o'r pwysau y tu allan i gyd-destun cymorth cyfreithiol.

Buaswn yn dweud wrth yr Aelod hefyd, er hynny, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, byddai hynny'n rhoi'r cwestiwn ynglŷn â chydweithrediad barnwrol sifil o fewn yr UE o dan bwysau difrifol, a bu Cymdeithas y Gyfraith ac eraill yn cynghori cyfreithwyr am y camau y gallant eu cymryd yn y cyd-destun hwnnw. Cydnabyddwn y pwysau sydd ar sefydliadau i ddarparu cyngor i unigolion yn y math hwn o sefyllfa, a bydd yn gwybod, wrth gwrs, ein bod wedi darparu cyllid i nifer o sefydliadau, ac yn arbennig yng nghyd-destun Brexit, i roi cyngor cyfreithiol ynghylch statws mewnfudo, fel y gall dinasyddion yr UE fanteisio'n llawn ar eu hawliau a gwneud cais am statws sefydlog yr UE yma yng Nghymru.

Weinidog, mae Brexit yn tueddu i gynhyrchu llawer mwy o wres na golau y dyddiau hyn, gyda sïon a honiadau a gwrth-honiadau'n chwyrlïo o'n hamgylch, ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i geisio dysgu'r gwirioneddau sydd yno ar lawr gwlad. Ein cyd-Aelodau Seneddol yn San Steffan—ceir grŵp o'r enw Cyfreithwyr Cymorth Cyfreithiol Ifanc sydd wedi mynd â thua 45 o aelodau gyda hwy, i'w cysgodi, allan ar lawr gwlad i wneud cymorth cyfreithiol, a deall yn iawn beth yw'r problemau sy'n eu hwynebu, a'r heriau o'u blaenau gyda Brexit ac i deuluoedd, ni waeth beth fydd y canlyniad. Mae aelodau'r grŵp hwnnw'n cynnwys, er enghraifft, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol sy'n gyfrifol am gymorth cyfreithiol ac Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid dros Gymru. A fyddech yn ystyried cefnogi'r grŵp hwn a cheisio cyflwyno menter o'r fath yma yng Nghymru o bosibl, er mwyn i ninnau hefyd allu mynd allan a dysgu'r realiti hwnnw?

14:55

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw ac am y modd y'i cyflwynodd, os caf ddweud, a rhannaf ei theimlad ar ddechrau ei chwestiwn. Buaswn yn hapus iawn i edrych ar waith y grŵp hwnnw a gweld sut y gallaf gefnogi eu gwaith neu gymryd rhan yn yr hyn y maent yn ei wneud. Buaswn yn hapus iawn i edrych ar hynny, a diolch iddi am wneud yr awgrym hwnnw.

Trefniadau Llywodraethu'r DU ar ôl Brexit

6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael ynghylch trefniadau llywodraethu'r DU ar ôl Brexit? OAQ54196

Rwyf wedi cynnal nifer o drafodaethau yn ymwneud â threfniadau llywodraethu’r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, a’r mwyaf diweddar o’r rhain oedd cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau Ewrop) ar 28 Mehefin.

Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Fel y byddwch chi’n ymwybodol, gwnaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddarn o waith y llynedd a chyhoeddodd y pwyllgor adroddiad o’r enw 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd', ac yn yr adroddiad yma argymhellwyd y dylai'r Llywydd, ar y cyd â llefaryddion a llywyddion deddfwrfeydd eraill y Deyrnas Unedig, sefydlu cynhadledd y llefaryddion gyda'r nod o benderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu gweithio rhyng-seneddol yn y Deyrnas Unedig. Pwrpas y gynhadledd yma fyddai ystyried sut i ddatblygu gweithio ar y cyd rhwng y Llywodraethau y tu fewn i'r Deyrnas Unedig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn sicrhau bod fframweithiau cywir yn cael eu datblygu yn y dyfodol. Dwi'n deall bod modelau o gynhadledd y llefaryddion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, ond allwch chi fel Llywodraeth ddweud wrthym ni pa drafodaethau rŷch chi wedi'u cael ynglŷn â'r syniad yma, a hefyd, yn dilyn ymlaen o gwestiwn cynharach oddi wrth yr Aelod dros Flaenau Gwent, ydych chi'n meddwl bod hyn yn ffordd effeithiol i sicrhau bod mecanweithiau rhyng-seneddol cywir yn cael eu sefydlu yn y dyfodol?

Mae'r cwestiwn yna'n gwestiwn pwysig. Mae gyda ni lot o ffordd i fynd i ddelio â'r newidiadau a ddaw yn sgil Brexit i sicrhau bod y setliad cyfansoddiadol a'r berthynas rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig yn gweithio mewn ffyrdd gwell nag ŷn nhw nawr. Mae ein ffocws ni fel Llywodraeth wedi bod, ar y cyfan, ar sut mae'r mecanwaith rhwng y Llywodraethau yn gweithio, oherwydd dyna'n remit cyfansoddiadol ni, ond rhan hollol gynhenid o hynny yw'r broses o sut mae'r Llywodraethau yn atebol i'w deddfwrfeydd. A rhan o hynny, yn sicr, yw—ac rŷm ni wedi gweld mantais hyn yn trafodaethau—sut mae'r pwyllgorau'n benodol yn y deddfwrfeydd wedi bod yn galw am fwy o gyfleoedd i graffu a datblygu systemau a ffyrdd newydd o wneud hynny yng nghyd-destun Brexit. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith sydd ar y cyd ynglŷn â'r perthnasau rhwng y deddfwrfeydd. Mater i'r Cynulliad ac i'r Llywydd yw'r rheini yn gyfansoddiadol, ond, wrth gwrs, mae'r math yna o greadigrwydd a dychymyg ynglŷn â sut rŷm ni'n ail-ffurfio'r berthynas rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig yn hollol graidd i system gyfansoddiadol sefydlog yn y dyfodol ar ôl Brexit.

Amddiffyn Busnesau os nad oes Cytundeb Brexit

7. Pa gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i amddiffyn busnesau os bydd Senedd y DU yn methu â rhwystro'r DU rhag gadael yr UE heb gytundeb? OAQ54223

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth y gall i helpu busnesau i baratoi ar gyfer ymadael â'r UE drwy gyngor, canllawiau ac adnoddau yr ydym ni a Banc Datblygu Cymru yn eu darparu. Fodd bynnag, ni all unrhyw baratoadau liniaru effeithiau Brexit 'dim bargen' yn llawn.

Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach eisoes yn nodi bod busnesau yng Nghanol Caerdydd yn dioddef o bethau fel amrywiadau yn y gyfradd gyfnewid, sy'n ei gwneud yn eithriadol o anodd i bobl allu prisio eu nwyddau'n fanwl gywir heb wynebu'r perygl o wneud colled. Mae gennym gwmnïau adeiladu sy'n colli staff oherwydd bod pobl yn dychwelyd i'w mamwlad, ac mae cwmnïau TG llai o faint yn dweud eu bod yn cael trafferth prynu stoc am fod cwmnïau TG mwy yn pentyrru deunyddiau ac offer. Credaf ei bod yn gyfnod arbennig o anodd i fusnesau bach, a nodaf fod Iwerddon a'r Iseldiroedd yn cynnig cymorth i fusnesau bach ar ffurf talebau cyngor ar Brexit neu fathau eraill o gymorth ariannol neu anariannol i helpu busnesau bach drwy'r ansicrwydd. Mae'n syfrdanol nad yw Llywodraeth y DU wedi cynnig unrhyw gymorth o'r math hwn i fusnesau yn y DU eto; mae'n ymddangos eu bod yn rhy brysur yn trefnu contractau cludo nwyddau gyda chwmnïau heb longau. Felly, tybed a yw hyn yn rhywbeth rydych wedi'i drafod gyda Llywodraeth Cymru, neu'n rhywbeth y byddwch yn ei godi.

15:00

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac rwy'n llwyr gydnabod y mathau o heriau y dywedodd fod cwmnïau a busnesau yn ei hetholaeth yn eu hwynebu—yn arbennig yr heriau i fusnesau bach, nad oes ganddynt yr adnoddau na'r amser na'r gallu i fynd i'r afael â'r hyn sydd, i bob un ohonom, yn heriau rhyng-gysylltiedig a chymhleth iawn. Efallai fod hyn yn arbennig o wir i unig fasnachwyr neu i fusnesau bach, ac rydym wedi cadw hynny mewn cof o ran sut rydym wedi ceisio teilwra rhywfaint o'r cymorth y teimlwn y gallwn ei roi, ac rydym yn gwbl ymwybodol mai cyfraniad rhannol yw'r cymorth hwnnw i set gymhleth o heriau.

Bydd yn ymwybodol ein bod wedi sefydlu cronfa cydnerthedd busnesau Brexit, sy'n galluogi busnesau i wneud cais i Lywodraeth Cymru am gymorth ariannol ar gyfer prosiectau a allai eu galluogi i bontio drwy gyfnod anodd, cythryblus i fyd ôl-Brexit. Mae hwnnw'n gynllun arian cyfatebol, ond mae'n darparu mynediad at ffynonellau refeniw eithaf sylweddol. Ar hyn o bryd, ceir mwy o geisiadau nag y gellir darparu ar eu cyfer, ond rydym yn edrych ar hynny.

Mae swm sylweddol o arian hefyd wedi'i ddarparu i Fanc Datblygu Cymru i dargedu busnesau o wahanol feintiau, gan gynnwys busnesau bach, ac mae rhywfaint ohono ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau ariannu tymor byr ac ati. Ond o ran y mathau o heriau a nodir ganddi mewn perthynas â risg gyda'r gyfradd gyfnewid, a hefyd, fel y clywais mewn mannau eraill, y ffaith bod cwmnïau sydd wedi cronni eu stoc hyd at ddiwedd mis Mawrth neu Ebrill bellach o dan anfantais gystadleuol, os mynnwch—. Felly, yn sicr, mae'r rhain yn heriau cymhleth. Gobeithiwn allu darparu rhywfaint o gefnogaeth drwy rwydwaith Busnes Cymru a thrwy borth Brexit, sydd ar gael i gwmnïau yn ei hetholaeth drwy wefan Paratoi Cymru. Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y bydd yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth honno i'w hetholwyr, ei chwmnïau a'i busnesau.

Cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit

8. Pryd mae’r Cwnsler Cyffredinol yn disgwyl derbyn gwybodaeth allweddol gan Lywodraeth y DU a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gwblhau ei chynlluniau ar gyfer Brexit? OAQ54206

Wel, dydw i ddim yn gwybod. Mae'n dibynnu ar y Prif Weinidog newydd. Rwyf wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig dro ar ôl tro i rannu gwybodaeth ar baratoadau ar gyfer pob canlyniad Brexit posib. Mae'r llif gwybodaeth wedi gwella, yn enwedig o ran paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb, ond dyw e ddim yn berffaith o hyd.

Dŷch chi ddim yn gwybod, dŷn ni ddim yn gwybod, does neb yn gwybod. Hynny yw, does gennym ni ddim cliw, oes e, beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl diwedd mis Hydref? Ydy honno'n neges rŷch chi wedi'i chyfleu i'ch Gweinidog amaeth, oherwydd mae hi wedi lansio ymgynghoriad, wrth gwrs, ar drawsnewid y gefnogaeth i'r sector amaeth yng Nghymru, ac mae'r ymgynghoriad yn gorffen ddiwrnod cyn Brexit? Ac ar ôl y diwrnod yna, wrth gwrs, fe allem ni fod yn wynebu trafferthion cael mynediad i farchnadoedd rhyngwladol, fe allem ni fod yn wynebu trafferthion o safbwynt tariffau. Does gyda ni ddim clem faint o arian y byddwn ni'n derbyn. Felly, tra'ch bod chi wedi dweud wrthyf i, i bob pwrpas, fod gyda chi ddim cliw beth fydd y trefniadau, ydych chi wedi pasio'r neges ymlaen at Lesley Griffiths?

Wel, nid dyna ddywedais i. Dywedais i nad ydw i'n gwybod pryd fyddai'r wybodaeth ar gael oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig. O ran paratoadau, mae'n bwysig, onid yw e, ein bod ni'n gwneud pob paratoad y gallwn ni i sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau posib pan ddaw'r amser i adael, os daw'r amser i adael? Mae'n berffaith sicr bod gennym ni ddim y wybodaeth gyflawn ar hyn o bryd mewn nifer o feysydd. Dyw hynny ddim yn beth i'w groesawu, wrth gwrs. Ond buasai'r Aelod hefyd yn ein beirniadu ni petasem ni ddim yn cymryd unrhyw gamau nawr i baratoi ar gyfer y senario yma, ac mae e wedi ein beirniadu ni mewn cyd-destunau eraill ein bod ni ar ei hôl hi, yn ei eiriau fe, yn dod allan â deddfwriaeth amgylcheddol, er enghraifft.

Felly, o'n safbwynt ni fel Llywodraeth, mae'n rhaid cymryd camau pwrpasol i sicrhau ein bod ni'n creu fframwaith i allu dodi yn ei le ar ôl cyfnod Brexit. Rŷn ni wedi bod yn trafod heddiw, yn gynharach, y cwestiwn yma o ffynonellau arian strwythuro rhanbarthol ac ati. Mae lot o waith yn digwydd yn y maes hwnnw hefyd—dŷn ni ddim yn sicr beth fydd y gyllideb ar gyfer hwnnw. Mae'n rhaid inni ddarparu systemau ar gyfer sut y gallwn ni ddarparu'r ffynonellau yna o arian yn well yn y dyfodol. Ac mae'n berffaith amlwg—ac rwy'n gwybod bod yr Aelod yn gwybod hyn yn glir—fod y sialens i'r sector amaethyddol yn sialens enfawr, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cydweithio â nhw, fel y mae'r Gweinidog yn gwneud, i allu disgrifio'r math o sefyllfa y byddwn ni'n ei hwynebu ar ôl Brexit a pharatoi orau y gallwn ni ar gyfer hynny. Ond rwy'n sicr y byddai'r Gweinidog yn awyddus i glywed safbwynt y sector yn ehangach yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad.

15:05
3. Cwestiynau Amserol

Dwi wedi derbyn un cwestiwn amserol. Mae'r cwestiwn i'w ateb gan y Cwnsler Cyffredinol a'i ofyn gan Alun Davies.

Yr Adolygiad o Ddatganoli

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am yr adolygiad o ddatganoli a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Brif Weinidog y DU? 335

Gellir croesawu rhai agweddau ar adolygiad Dunlop. Mae ganddo'r potensial i gefnogi'r cydadolygiad cysylltiadau rhynglywodraethol, ond ceir cwestiynau sylfaenol ynglŷn â'r setliad datganoli a rôl swyddfeydd tiriogaethol, sydd y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad, ond serch hynny, mae angen rhoi sylw iddynt.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn hollol warthus fod Prif Weinidog y DU wedi gwneud datganiad o'r fath heb hyd yn oed ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig. Dywedodd Prif Weinidog Cymru'n glir iawn wrth ateb cwestiwn yn y pwyllgor ddydd Llun mai'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru glywed am hyn oedd pan oedd araith Prif Weinidog y DU yn cael sylw yn y cyfryngau, pan oedd ar ei thraed yn siarad. Un o agweddau sylfaenol datganoli yw y dylai fod yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Llywodraethau yng ngweddill y Deyrnas Unedig, ac os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn teimlo y gallant gyhoeddi adolygiad heb hyd yn oed ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig, y Llywodraethau yng Nghymru a'r Alban, mae hynny'n dweud wrthych beth yn union yw eu barn am ddatganoli.

Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi fod hon yn ffordd sarhaus iawn o weithredu, ei fod yn safbwynt ofnadwy i'w arddel a'i fod yn crynhoi agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i gyfleu'r teimladau hyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, teimladau a rennir, rwy'n siŵr, gan bob rhan o'r Siambr? Ac a wnewch chi sicrhau hefyd fod Llywodraeth y DU yn deall bod y broblem gyda datganoli yn dechrau ac yn gorffen gyda hwy?

Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol. Credaf y bydd yn cofio'r araith a wnaeth Prif Weinidog Cymru i'r Institute for Government ychydig wythnosau yn ôl, lle dywedodd nad mater o beth sy'n digwydd yng Nghymru yn unig yw datganoli, ond ei fod hefyd yn gwestiwn ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan, ac mae'n ddyletswydd ar San Steffan i edrych ar sut y gall San Steffan a Whitehall weithredu mewn ffordd wahanol er mwyn rhoi cefnogaeth lawn i'r setliad datganoli. Credaf y gallwn groesawu rhai rhannau o'r araith honno. Dywed Prif Weinidog y DU fod y DU yn dibynnu ar, ac yn cael ei diffinio gan gefnogaeth ei phobl, yn yr ystyr o fod yn gymdeithas wirfoddol o wledydd, ac rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth fod datganoli bellach yn rhan sefydlog a pharhaol o gyfansoddiad y DU, fel y nododd yr araith. Os yw San Steffan a Whitehall o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â sut y maent yn ailwerthuso'r ffordd y maent yn gweithio i gefnogi datganoli, credaf y bydd hynny'n beth da, ond os ydych am roi araith am ddyfodol yr undeb a dyfodol datganoli fel rhan o hynny, rwy'n ategu ymateb yr Aelod mai'r peth lleiaf y gallwch ei wneud yw cael sgwrs gyda'r gweinyddiaethau datganoledig cyn hynny er mwyn cadw a gwarchod, fel y dywed, yr ymdeimlad hwnnw o gyd-fenter y setliad cyfansoddiadol.

Ond a dweud y gwir, mae pwynt ymarferol iawn i hyn: rydym wedi bod yn galw yma am gynnydd ar yr adolygiad rhynglywodraethol dros y 15 mis diwethaf, ac ychydig iawn sydd gennym i'w ddangos mewn perthynas â hynny hyd yn hyn. Bydd wedi gweld y cyhoeddiad a wnaed gan David Lidington yr wythnos diwethaf ac ymateb Llywodraethau Cymru a'r Alban i hynny. Mewn gwirionedd, byddai bwrw ymlaen â'r cynnydd hwnnw wedi bod yn ffordd dda iawn o ddangos ymrwymiad i'r setliad datganoli yma yn y DU, ac roedd lansio adolygiad arall heb gydnabod hynny yn anffodus yn fy marn i. A phe bai'r Prif Weinidog wedi ceisio cyngor y gweinyddiaethau datganoledig, credaf y gallem fod wedi cael trafodaeth adeiladol ynglŷn â'r cylch gorchwyl ac ynglŷn â sut y gellid ei lunio'n well i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sylweddol sy'n ein hwynebu wrth ymdrin â Llywodraeth y DU. Nodwn yn arbennig y pwyslais ar bwysigrwydd y swyddfeydd tiriogaethol yn yr adolygiad, a chredaf fod Prif Weinidog Cymru wedi dweud yn glir yn ei araith yn ôl ym mis Mai fod cyfle ac angen bellach, mewn gwirionedd, i ailystyried rôl swyddfeydd Cymru a'r Alban yn radical yn y byd ôl-Brexit hwn.

15:10

Rwy'n gwerthfawrogi ymateb y Gweinidog a dweud y gwir, oherwydd wrth gwrs, dim ond ceisio ymateb oedd Llywodraeth y DU i geisiadau gan y Llywodraeth hon, a Llywodraeth yr Alban hefyd, ynghylch y ffordd y mae adrannau Whitehall a'r DU yn gweithredu. Ac rydym yn croesawu'r ffaith bod Prif Weinidog y DU wedi ymateb mewn ffordd mor gadarnhaol drwy gyhoeddi'r adolygiad hwn. Mae Rhif 10 wedi datgan yn gwbl glir na fydd yr adolygiad yn ymwneud â meysydd sydd wedi'u datganoli. Mae hyn yn ymwneud â chryfhau datganoli, cydnabod ble mae'r ffiniau a sicrhau bod peiriant y Llywodraeth yn Llundain yn gallu ymateb yn gywir ac yn briodol i faterion a ddaw iddynt, lle gall fod cymhwysedd datganoledig neu berthynas ddatganoledig y mae angen ei chydnabod. Felly, croesawaf y ffaith eich bod yn croesawu llawer o agweddau ar araith Prif Weinidog y DU. Rwy'n siŵr fod yna adegau pan allai'r cyfathrebu fod yn well rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a chredaf fod pawb yn cydnabod bod yna adegau weithiau pan mae'n dda cael rhybudd ynglŷn â'r pethau hyn. Yn amlwg, nid oedd hynny'n wir y tro hwn. Efallai fod hynny'n drueni.

Ond fel y dywedaf, y gwir amdani yw bod hon yn Brif Weinidog y DU sy'n ymateb yn gadarnhaol i geisiadau gan Lywodraeth Cymru a'r Llywodraeth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sy'n awyddus i ystyried y mater hwn ac i sicrhau bod adrannau Whitehall a Llywodraeth y DU yn gweithredu'n briodol. Felly, o ran yr ymgysylltu a wnewch gyda Llywodraeth y DU, a gaf fi ofyn i chi groesawu'r penderfyniad a wnaed gan Brif Weinidog y DU yn ffurfiol, ac a wnewch chi sicrhau eich bod yn cydweithredu â'r adolygiad hwnnw er mwyn helpu Llywodraeth y DU i ganfod ble mae'r diffygion fel y gellir eu cywiro yn y dyfodol?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Wel, nodaf y pwyntiau a wnaed gan yr Aelod. Nid mater o gael rhybudd yn unig yw hyn. Credaf fod hynny, mewn ffordd, yn datgelu'r her sy'n ein hwynebu. Nid mater o ddweud wrthym beth sy'n digwydd yn unig yw hyn. Mae'n fater o gymryd rhan yn briodol ac yn drwyadl yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, a dyna'r darn sydd ar goll. Rydym yn cael digon o rybudd, er nad ar yr achlysur hwn; yr hyn nad ydym yn cael digon ohono yw ymgysylltiad aeddfed priodol ar sail gydradd, a hynny, yn fy marn i, sydd wrth wraidd yr her sy'n ein hwynebu.

Os daw'r adolygiad i'r casgliad mai'r ateb syml i ddyfodol yr undeb yw cryfhau Swyddfa Cymru, fel y darllenais, rwy'n credu, mewn rhai o'r briffiau i'r wasg a oedd braidd yn hyperbolig, credaf fod hynny'n gamddarlleniad sylfaenol o'r hyn sydd ei angen i gryfhau'r undeb. Yr hyn sydd ei angen i gryfhau'r undeb yw gwell cysylltiadau a gwell peirianwaith rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig, nid cryfhau'r swyddfeydd tiriogaethol.

Ond edrychaf ymlaen at glywed casgliad yr adolygiad. Fel y dywedaf, byddai'r cylch gorchwyl wedi bod yn llawer cryfach ac yn fwy defnyddiol pe baem wedi cael ymgysylltiad priodol ymlaen llaw, ond edrychwn ymlaen at weld yr hyn sydd gan yr adolygiad i'w ddweud maes o law.

Ar fore'r dydd y cyhoeddwyd yr adolygiad hwn o ddatganoli gan Brif Weinidog y DU, cefais e-bost gennych, Weinidog, a oedd yn cynnwys diweddariad ar y gwaith rydych wedi bod yn ei wneud i geisio gwella gweithio rhynglywodraethol yn eich rôl fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE). Fe gyhoeddoch chi fod y pwyllgor wedi cytuno ar egwyddorion drafft ynglŷn â sut y dylid cynnal y cysylltiadau hynny yn y dyfodol, a chawsant eu croesawu. Fe'u drafftiwyd gan Lywodraeth Cymru. Maent yn cynnwys, a dyfynnaf,

Cynnal cysylltiadau cadarnhaol ac adeiladol, yn seiliedig ar gyd-barch tuag at gyfrifoldebau llywodraethau ar draws y DU a'u rôl gyffredin yn y gwaith o lywodraethu'r DU. Adeiladu a chynnal ymddiriedaeth, yn seiliedig ar gyfathrebu effeithiol.

Ychydig oriau yn ddiweddarach, cawsom y cyhoeddiad hwn gan Brif Weinidog y DU y byddai ei Llywodraeth yn cynnal adolygiad o ddatganoli. Ni chafodd y gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys eich un chi, Weinidog, wybod ymlaen llaw fod hyn ar y ffordd. Onid dyna'r pwynt allweddol yn y fan hon? Ni chawsoch wybod am fanylion, cwmpas na chylch gorchwyl yr adolygiad, ac ni wnaethoch gydsynio iddo. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, fod yr egwyddorion drafft ar gyfer gwaith rhynglywodraethol yn y dyfodol, y mae wedi cymryd mwy na blwyddyn i gytuno arnynt ac a gynhyrchwyd gan eich Llywodraeth, wedi'u torri o fewn ychydig oriau i'w cyhoeddi? Onid yw hyn yn dweud popeth y mae angen i ni ei wybod ynglŷn ag a oes modd ymddiried yn Llywodraeth y DU i weithredu gyda phob ewyllys da mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol? Mae David Lidington, Dirprwy Brif Weinidog y DU, cystal â bod wedi cydnabod heddiw eu bod yn ystyried bod Cymru wedi cael cam gan San Steffan. Mae'r setliad datganoli presennol sydd wedi'i gynnwys yn Neddf Cymru yn fater o gyfraith. A allwch roi sicrwydd inni felly, beth bynnag fydd canlyniad yr adolygiad amheus hwn, y bydd pwerau Cymru, fel y'u hymgorfforir yn y ddeddfwriaeth honno, yn cael eu diogelu? Ac yn olaf, o ystyried ymddygiad Llywodraeth y DU yn hyn o beth ac o ran peryglu dyfodol economaidd ein cenedl gyda Brexit 'dim bargen', a ydych o'r un farn â Phrif Weinidog Cymru, yn yr ystyr nad yw eich ymrwymiad i undeb y DU yn ddiamod, ac os felly, onid yw'n dilyn y gallai eich Llywodraeth ddod i'r casgliad ryw ddydd y byddai Cymru yn well ei byd fel gwlad annibynnol?

15:15

Wel, gallaf roi sicrwydd iddi, yn sicr, y bydd y Llywodraeth hon bob amser yn ymladd i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hadlewyrchu orau yn yr holl drafodaethau a negodiadau a gawn gyda Llywodraeth y DU ac na fyddwn yn goddef i unrhyw bwerau gael eu cymryd oddi wrth y Cynulliad hwn neu Lywodraeth Cymru. Gallaf roi sicrwydd pendant iddi ynglŷn â hynny.

Bydd wedi nodi fy ymateb i gyhoeddi'r egwyddorion yr wythnos diwethaf ar y cyd â Michael Russell, fy swyddog cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban. Roeddem yn croesawu'r ffaith bod yr egwyddorion hyn wedi'u gwneud yn gyhoeddus a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n arwain ar y gwaith hwnnw ac yn arwain ar y gwaith hwnnw'n effeithiol iawn. Roedd yn siomedig—mae'n siomedig—mai hon oedd yr unig ran o'r adolygiad y teimlem ei bod yn ddigon aeddfed ac wedi'i datblygu'n ddigonol i'w gwneud yn gyhoeddus. Un o'r pethau y bydd angen iddynt ddigwydd yw cyfarfod llawn buan o'r Cydbwyllgor Gweinidogion rhwng penaethiaid y Llywodraethau, ac rwy'n siŵr y bydd myfyrio ar yr adeg honno ynglŷn â sut y mae angen cyflawni'r egwyddorion hynny, yn hytrach na'u cyhoeddi'n unig.

Ac o ran ei phwynt ynglŷn â'r trafodaethau a gafodd gyda Phrif Weinidog Cymru yn y pwyllgor y diwrnod o'r blaen, buaswn yn dweud ein bod wedi dweud yn glir iawn ein bod yn credu mai'r ffordd orau o ddiogelu buddiannau Cymru yw fel rhan o undeb sy'n gweithio'n dda, a dyna pam ein bod yn gweithio mor galed i geisio diwygio'r agweddau ar hynny nad ydynt yn gweithio orau er budd Cymru ar hyn o bryd. Credaf fod y Prif Weinidog wedi manteisio ar yr hyn a ddylai fod yn gyfle mewn pwyllgor i gael trafodaeth fwy myfyriol, ystyriol a phwyllog am rai o'r pethau hyn, i gymryd rhan yn hynny, a rhaid i mi ddweud fy mod yn meddwl bod y ffordd yr ymatebwyd i hynny braidd yn anffodus. Gwnaeth y Prif Weinidog y pwynt, yn syml iawn yn fy marn i, pe baech yn dweud—. A oes modd i unrhyw wleidydd ddweud, ymhell yn y dyfodol, o dan unrhyw amgylchiadau, o dan unrhyw fersiwn o'r—[Torri ar draws.]—o dan unrhyw fersiwn o'r—y byddai buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn y ffordd orau? Nid yw hynny'n—ni all rhywun ddweud hynny, ond rydym yn credu'n angerddol iawn fod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu orau fel rhan o'r Deyrnas Unedig ac undeb sy'n gweithio'n dda, ac undeb y mae angen iddo weithio'n well nag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd.

Nid dyma'r achos cyntaf, wrth gwrs, lle mae buddiannau democrataidd cynrychioliadol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cael eu hanwybyddu, i ryw raddau, neu eu rhoi o'r neilltu wrth i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â rhywbeth heb drafod nac ymgynghori. Mae i'w weld yn rhyfedd iawn. Roedd yr un blaenorol, wrth gwrs, yr un mor arwyddocaol, ar gronfa ffyniant gyffredin y DU. Felly, tybed—yn amlwg, nid ydynt yn dysgu eu gwers, neu maent yn parhau'n fwriadol i anwybyddu dymuniadau Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth yr Alban a'r ddau Gynulliad hefyd, y ddwy Senedd, ond ble rydym ni ar y gronfa ffyniant gyffredin? Oherwydd, yn y cyfamser, yng Nghymru, fel yr awgrymiadau a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a chan Lywodraeth yr Alban ar strwythurau datganoli yn y dyfodol, rydym hefyd yn gweithio ar ffyrdd ymlaen ar gyfer dyrannu cyllid yn briodol ledled Cymru. Felly, mae'r grŵp rwy'n falch iawn o'i gadeirio—y grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol i Gymru—yn gweithio'n frwd ledled Cymru gyda chynrychiolwyr o gymdeithas ehangach Cymru i edrych ar y strwythurau cywir, ac eto mae Llywodraeth y DU yn gweithio ar gronfa ffyniant gyffredin y DU, ac ni wyddom lawer am hynny. A wnaiff y Gweinidog rannu ble rydym ni arni ar hynny ar hyn o bryd? A oes gennym unrhyw eglurder ar hynny ar hyn o bryd? Oherwydd gallai hynny ddangos i ni'r ffordd y maent yn bwriadu bwrw ymlaen â'r gwaith diweddaraf hwn.

Wel, diolch i'r Aelod am hynny. A gaf fi fanteisio ar y cyfle hefyd i ddiolch iddo am ei waith yn cadeirio'r grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol, sy'n waith pwysig ac sy'n mynd at wraidd y pwynt a wneuthum i Llyr Gruffydd yn gynharach ynglŷn â'r angen i gymryd camau rhagweithiol mewn ffordd greadigol a dychmygus iawn i edrych ar sut y gallwn ddarparu rhai o'r ffynonellau ariannu hyn yn y dyfodol yn wahanol i'r modd y gallasom wneud hynny hyd yma? Felly, diolch iddo ef ac i aelodau'r grŵp llywio am y gwaith a wnânt yn y maes pwysig hwnnw.

Credaf fod y pwynt a wnaed ganddo mewn perthynas ag eglurder gwybodaeth a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â'r gronfa ffyniant yn gwbl hanfodol, onid yw? Rydym wedi dweud yn glir nad dyma'r ffordd i fwrw ymlaen os ydych am barchu ffiniau datganoli, a chredaf y bydd yn rhannu fy siom ynghylch y sylwadau a wnaed gan Boris Johnson—yng Nghaerdydd, o bob man—ddydd Gwener diwethaf mewn perthynas â hyn. Rwy'n gobeithio'n fawr mai mater o wleidyddiaeth plaid oedd hynny wrth iddo geisio enwebiad ei blaid. Rwy'n ofni nad oes gennyf lawer o hyder yn hynny. Fel y mae pethau heddiw, ni allaf ddweud wrtho fod gennyf unrhyw fewnwelediad i beth yw'r argymhellion nac unrhyw fanylion sylweddol, a chredaf y bydd yn rhannu fy siom ynglŷn â hynny.

15:20
4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad. Daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Leanne Wood.

Hoffwn dalu teyrnged i un o feibion ​​enwocaf y Rhondda, yr actor Glyn Houston, a gafodd ei eni a'i fagu y tu ôl i dŷ fy mam-gu yn Nhonypandy. Pan oedd yn blentyn, symudodd ei rieni i Lundain i ddod o hyd i waith ac i ddianc rhag y tlodi a'r diweithdra aruthrol yn y Rhondda. Ni allai ei rieni fforddio mynd â phob un o'r tri phlentyn, a chafodd Glyn ei adael ar ôl a'i fagu gan ei fam-gu, Gwenllian. Cafodd y plant eu haduno yng ngofal Gwenllian dair blynedd yn ddiweddarach mewn amgylchiadau trasig oherwydd marwolaeth gynnar eu mam.

O'r trallod hwn, cynhyrchodd y teulu nid un ond dau actor enwog, wrth i frawd hŷn Glyn, Donald, hefyd ddod yn enwog yn fyd-eang. Gwasanaethodd Glyn yn yr ail ryfel byd yn yr heddlu milwrol, ac ar ôl ymddangos yn ei ffilm gyntaf, The Blue Lamp, ym 1950, aeth yn ei flaen i serennu mewn ffilmiau fel The Cruel Sea, Turn the Key Softly, Private's Progress a Tiger Bay. Cafodd yrfa ddisglair ar y teledu hefyd. Yn 2009, derbyniodd wobr cyflawniad oes gan BAFTA Cymru, a oedd yn anrhydedd haeddiannol iawn i actor a oedd wedi cyffwrdd â bywydau cenedlaethau lawer o wylwyr ffilmiau ledled y byd drwy ei waith.

Nawr, rwy'n sylweddoli na fydd llawer o bobl ifanc heddiw yn y Rhondda wedi gweld unrhyw un o ffilmiau na rhaglenni teledu Glyn, ond hoffwn feddwl y byddent yn awyddus i wybod amdano. Mae ei yrfa yn ein dysgu y gallwch ymdopi â thrallod ar oedran ifanc, gallwch ddod o gefndir anodd, a gallwch fynd yn eich blaen i gyflawni unrhyw beth a ddymunwch os ydych yn gwneud y gwaith a'ch bod yn benderfynol.

Diolch, Glyn, am y gwersi. Cwsg mewn hedd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddydd Sadwrn, byddaf yn mynychu dathliadau i nodi 150 o flynyddoedd ers agor parc Aberdâr. Y parc—'parc y bobl', fel y'i gelwid ar y dechrau—oedd y parc cyhoeddus cyntaf yng Nghymru. Fe'i datblygwyd gan y bwrdd iechyd lleol, ac mae'n ymestyn dros bron i 50 erw a oedd yn arfer bod yn rhan o dir comin hynafol Hirwaun. Daeth y tir diffaith, heb ei drin a oedd o dan ddŵr hyd at eich ffêr, i fod yn dir parc a chaeau hamdden o ansawdd. Cymerodd y gwaith hwnnw dair blynedd. Cynhaliwyd yr agoriad swyddogol ar 29 Gorffennaf 1869 ar ôl gorymdaith enfawr o bwysigion a phobl leol o ganol tref Aberdâr i fynedfa'r parc. Ger mynedfa'r parc, mewn arwydd symbolaidd, camodd y pwysigion i'r naill ochr i adael i drigolion lleol gwblhau'r lap gyntaf o'r parc. Wedi'r cyfan, eu parc hwy ydoedd, a'u parc hwy ydyw o hyd.

Dros y blynyddoedd, datblygodd y parc mewn ymateb i natur ac effeithiau dynol: cychod, baddonau, ffynnon ddŵr gyhoeddus, a mwy. Yn ystod gŵyl banc mis Awst 1906, ymwelodd 30,000 o bobl â'r parc. Bob blwyddyn ers 1950 hefyd, mae'r parc wedi cynnal rasys beiciau modur rhyngwladol enwog. Mae'r rhain yn dod ag ymwelwyr o bob cwr o'r DU i Aberdâr ar gyfer yr hyn y dywedir ei fod yn un o'r llwybrau rasio gorau ac anoddaf eu meistroli. Yn 1956, cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y parc. Mae cerrig yr Orsedd yn dal i atgoffa pobl o'r digwyddiad hwnnw.

I gloi, hoffwn dalu teyrnged i Gyfeillion Parc Aberdâr, grŵp gwirfoddol y mae eu haelodau'n gweithio'n ddiflino i wella'r parc i bawb, a gwahodd pob AC i ymuno â mi i ddathlu 150 o flynyddoedd ers agor parc y bobl.

Ar 20 Gorffennaf 1969, mi laniodd dyn ar y lleuad a, 50 mlynedd yn ddiweddarach, dwi am gofio'r digwyddiad, ie, fel naid enfawr i ddynoliaeth, ond hefyd fel cam rhyfeddol yng ngyrfa dyn o Ynys Môn a oedd yn un o brif benseiri'r glaniad.

Yn Llanddaniel y ganwyd Tecwyn Roberts yn 1925. Ar ôl dechrau ei yrfa fel prentis yn ffatri awyrennau Saunders-Roe ar gyrion Biwmares, ac wedyn ennill gradd mewn peirianneg, mi aeth o draw i ogledd America i fyw. Mi wnaeth yrfa iddo fo'i hun yn y maes awyr ofod yng Nghanada, yn gyntaf, cyn ymuno â NASA yn 1959, lle cafodd ei allu ei ddefnyddio i'r eithaf wrth drio gwireddu gweledigaeth Kennedy. Fo lywiodd y gwaith o greu mission control a'i systemau cyfathrebu a rheoli newydd oedd eu hangen ar gyfer rhaglen glanio ar y lleuad.

Ar ddiwrnod y glanio ei hun, mi oedd ei rôl o'n gwbl allweddol. Fyddai Armstrong ac Aldrin ddim wedi glanio hebddo fo. Yng nghanol yr ocheneidiau o ryddhad, mi oedd yna un dyn o Sir Fôn yn gwybod bod ei waith o wedi cael ei wneud—ar wahân i gael y gofodwyr yn ôl adref, wrth reswm. Mae hi'n stori ryfeddol, a dwi'n edrych ymlaen at ddysgu mwy mewn rhaglenni arbennig efo Tudur Owen ar S4C a Radio Cymru yn y dyddiau nesaf. Mae'n addas iawn bod y cloc yn cyfrif lawr ar ddiwedd fy 90 eiliad—tri, dau, un. [Chwerthin.] Efallai fy mod i'n bersonol wedi methu tystio i'r glanio o ryw dair blynedd, ond mi oedden ni yno—mi oedd Cymru yno, mi oedd Ynys Môn yno—drwy Tecwyn Roberts, y peiriannydd o Fôn aeth â'r byd i'r lleuad.

15:25
5. Cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019, a galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig—Suzy.

Cynnig NDM7106 Suzy Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

Yn cytuno y dylid dirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mehefin 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig.

Cyflwynais y cynnig hwn heddiw am ddau reswm penodol. Y cyntaf yw bod y rhain yn newidiadau go bwysig i'r system bresennol o asesu perfformiad ysgol, a'r ail, nad yw'n fater i'r Gweinidog hwn yn arbennig, ond i'r Llywodraeth yn gyffredinol, gobeithio—gobeithio, Weinidog, y byddwch yn maddau i mi am ddefnyddio'r enghraifft arbennig hon i wneud y pwynt.

Mae'r Gweinidog eisoes wedi esbonio wrthym y gall y system gyfredol o asesu perfformiad ysgolion arwain at ganlyniadau anfwriadol. Bob blwyddyn, mae'n rhaid i lywodraethwyr ysgol osod targedau ar gyfer perfformiad disgyblion yn yr ail a'r trydydd cyfnod allweddol ym mhynciau craidd mathemateg, Saesneg, Cymraeg a gwyddoniaeth a cheir proses debyg, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ar gyfer myfyrwyr sy’n cyrraedd 16 oed ac yn wynebu arholiadau allanol. Mae'n rhaid iddynt hefyd osod targedau perfformiad mewn dau neu dri phwnc arall, nad ydynt wedi'u pennu. Yna, gellir barnu'r ysgol ar ei pherfformiad yn ôl ei llwyddiant neu fel arall i gyflawni’r targedau hyn—rhywbeth sy'n dod yn weladwy iawn ar ddiwedd blwyddyn 11, lle na wneir y gymhariaeth rhwng targedau ac asesiad athro, ond rhwng targedau a chanlyniadau arholiadau. A gall hynny, fel y clywsom, beri i ysgolion wneud ymdrech anghymesur i amserlennu ar gyfer y pynciau craidd a chwarae’r system drwy gyflwyno myfyrwyr ar gyfer arholiadau na allant ond gynhyrchu cyfwerth â TGAU gradd C.

Fel rhan o ddiwygiadau ehangach, ac i atal yr ymddygiad hwn, mae'r Gweinidog yn symud tuag at drefniadau gwerthuso a gwella newydd. Credaf fod gennym eisoes rai mesurau perfformiad cyfnod allweddol 4 dros dro y gweithir drwyddynt ar gyfer arholiadau’r haf hwn. Ac nid yw'r broses bresennol o osod targedau yn cyd-fynd â'r mesur perfformiad newydd hwn ac nid yw'n cyfrannu at hunanwerthuso a gwella ysgol. Yn ychwanegol at hynny, gofynnir i lywodraethwyr osod targedau ar set o ofynion na fyddant yn weithredol mwyach. Credaf mai dyna yw craidd dadl y Gweinidog, ond os wyf wedi camddeall, rwy'n fwy na pharod i gael fy nghywiro.

Nawr, mae'r rheoliadau hyn yn dal i’w gwneud yn ofynnol i lywodraethwyr osod targedau; chwech ohonynt o hyd, yn ôl pob golwg. Ond bydd y gofyniad i unrhyw un o'r rheini fod yn bynciau craidd Saesneg, Cymraeg neu fathemateg yn diflannu, yn ogystal â'r angen i adrodd ar ganran y disgyblion sy'n cyflawni'r targedau hynny. Nawr, mae'n bosibl y bydd gennym broblem gyda'r syniad na fydd llywodraethwyr ysgol yn gosod ei thargedau heb wybod pa mor agos neu bell oddi wrth y targedau hynny oedd canlyniadau ei disgyblion. Ond nid prif ddiben cyflwyno'r cynnig hwn i'r Siambr yw herio cyfeiriad teithio cyffredinol y Gweinidog, ond yn hytrach, i roi cyfle i chi, Weinidog, esbonio'n uniongyrchol i ni pam eich bod yn fodlon i ysgolion allu osgoi gosod targedau ar gyfer y tri phwnc hyn yn benodol.

Mae sgiliau da mewn Saesneg a mathemateg, ac yn gynyddol, Cymraeg, yn dal i gael eu hystyried yn ofynion hanfodol mewn unrhyw gais am swydd. A hyd yn oed os yw'r fframwaith perfformiad newydd yn ymwneud â hunanwerthuso a hunanwella, a hyd yn oed os yw disgyblion yn gwneud yn dda yn y pynciau craidd hyn, onid oes dadl dros gadw'r tri phwnc hyn yn bwynt ffocws ym mhob ysgol, gan gofio eu statws penodol ar gyfer camu ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu waith?

Nawr, rwy'n derbyn bod dadl y gall ysgol unigol benderfynu bod angen iddi wella mewn chwe maes cwbl wahanol. Ond ni allaf weld unrhyw beth yn y rheoliadau presennol na'r rheoliadau newydd sy'n atal gosod targedau mewn mwy na chwe maes. Hyd nes yr awn i mewn i’r cwricwlwm newydd yn llawn, ac y gallwn weld sut y mae meysydd dysgu a phrofiad mathemateg a rhifedd ac ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn gweithio, rwy'n gofyn i'r Aelodau ystyried bod yn rhaid i lywodraethwyr gadw'r tri phwnc hyn yn eitemau targed blynyddol hyd nes y bydd y cwricwlwm newydd wedi ymsefydlu ychydig, ac—oni bai y gall y Gweinidog ein perswadio ni fel arall—i gefnogi dirymu'r rheoliadau penodol hyn.

Yr ail reswm dros gyflwyno'r cynnig hwn yw mai dyma’r unig ffordd o ddod â hyn i'r Siambr. Nid bai'r Gweinidog yw hyn, ond mae’n enghraifft berffaith o pam y dylem fel deddfwrfa ochel rhag gadael gormod i is-ddeddfwriaeth lle gellir colli golwg ar bwerau Gweinidogion Cymru. Nawr, mae'r rheoliadau hyn yn deillio o statudau San Steffan, ond mae'r pwynt yn berthnasol i'n deddfwriaeth sylfaenol hefyd. Mae hwn yn newid pwysig i drosolwg ac o bosibl i statws Saesneg, Cymraeg a mathemateg yn ein system addysg bresennol, a gyflwynwyd drwy'r weithdrefn negyddol, na fuaswn wedi gwybod unrhyw beth amdano pe na bawn wedi digwydd bod mewn Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ddiwrnod penodol.

Ac rwy'n gofyn: a yw'n iawn fod gofyn i ni fel deddfwrfa ddeddfu, yn achos y weithdrefn negyddol, drwy gydsyniad tybiedig, os nad ydym yn gwybod bod y rheoliadau hyn ar y ffordd? Ac felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru ystyried ffordd fwy rhagweithiol o gyhoeddi ei his-ddeddfwriaeth yn uniongyrchol i lefarwyr, o leiaf. Mae’r Ddeddf ddeddfwriaeth yn ymwneud â hygyrchedd y gyfraith, ac nid yw’r rheidrwydd arnom ni fel Aelodau i dreillio’n ddall drwy'r archifau cenedlaethol yn y gobaith y byddwn yn dod o hyd i rywbeth yn cyfrif fel hygyrch. Ac er fy mod yn ailadrodd, Weinidog, nad mater i chi yn unig yw hwn, credaf ei fod yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru ei ystyried gan ei fod yn ein rhwystro rhag gwneud ein gwaith. Diolch.

15:30

Mi fydd Plaid Cymru yn atal pleidlais ar y mater yma, nid oherwydd ein bod ni'n eistedd ar y ffens ynglŷn â'r rheoliadau, ond fel arwydd o'n hanfodlonrwydd efo'r broses. Mae'r rheoliadau yn cael gwared ar yr angen statudol i ysgolion osod targedau penodol oherwydd bod y mesuriadau wedi newid. Mae hynny yn synhwyrol, ac mi rydym ni hefyd yn cytuno efo'r newid, a'r symud i ffwrdd o'r ffocws cul ar raddau sydd ar y ffin, sef y ffocws cul yma ar godi graddau o D i C. Yn gyffredinol, dwi'n credu bod ysgolion yn croesawu'r newid, ac mi fydd o'n rhoi'r gallu iddyn nhw ddatblygu targedau go iawn, fydd yn helpu codi safonau ar gyfer pob disgybl. Felly, nid ydym ni'n atal pleidlais oherwydd y pwnc dan sylw. Y rheswm ein bod ni am atal ydy er mwyn gwneud y pwynt y mae Suzy Davies wedi ei amlinellu fel ei hail rheswm hi dros gyflwyno'r cynnig, sef mai dyma'r unig ffordd o gael trafodaeth ar hyn yn y Siambr. Maen bwysig nad ydym ni'n defnyddio deddfwriaeth eilaidd a'r broses negyddol yn ormodol. Mae peryg i Weinidogion ddefnyddio eu pwerau a gwneud newidiadau heb fawr o drafodaeth. Dydy hynny ddim yn iach i ddemocratiaeth. Mae angen i Lywodraeth fod mor agored a thryloyw â phosib. Maen bwysig bod y ddeddfwrfa yn cael craffu yn llawn ar faterion o bwys. Ac yn sicr, dyna un rheswm pam ein bod ni'n credu bod angen symud ar frys i gael mwy o Aelodau Cynulliad yn Senedd Cymru, er mwyn bod y craffu yn gallu digwydd yn llawn. Dwi'n cytuno efo Suzy hefyd y byddai'n fuddiol i'r Llywodraeth fabwysiadu dull tryloyw o gyflwyno deddfwriaeth eilaidd. Dwi'n gwybod nad mater penodol i'r Gweinidog ydy'r ail ran o beth dwi newydd ei ddweud rŵan, ond dwi yn gobeithio y bydd y drafodaeth yma yn sbarduno'r newid sydd ei angen. 

Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am godi'r mater hwn, oherwydd yn amlwg, roedd 6 Mehefin yn ddydd Iau pan nad oeddem yn eistedd, ac roedd yn ddatganiad ysgrifenedig, felly gallai'n hawdd iawn fod wedi digwydd heb i neb ohonom sylwi. A chredaf fod y pwnc o dan sylw yma—mae'n edrych yn ddiflas iawn ac mae'n eithaf anodd deall beth yn union fydd disgwyl i lywodraethwyr ei wneud. Ond yn y bôn, mae hwn yn fater gwirioneddol bwysig. Felly, credaf ei bod yn werth ei drafod yn y Senedd.

Credaf fod yn rhaid i ni osgoi addysgu ar gyfer y prawf, sef yr hyn sydd wedi bod yn digwydd—mewn rhai ysgolion yn sicr. Nid oes pwynt dysgu pethau fel peiriant, gan na fydd hynny o fudd i bobl ifanc yn y dyfodol, pan nad yw'r swyddi y bydd angen iddynt eu gwneud yn y dyfodol yn bodoli. Felly, mae'n rhaid i ni gael rhywbeth sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd a'r meysydd dysgu a gallu'r myfyrwyr i addasu eu dysgu i weddu i amgylchiadau annisgwyl. Ymddengys i mi fod hynny'n wirioneddol bwysig.

Felly, gallaf weld y gwerth mewn galluogi llywodraethwyr yn unigol i allu edrych ar dargedau penodol yn eu hysgol. Er enghraifft, os yw Estyn wedi tynnu sylw at y ffaith bod cerddoriaeth neu'r cynnig ail iaith yn wan, mae'n amlwg y bydd y corff llywodraethu hwnnw yn awyddus i osod targed ar gyfer sut y mae'r ysgol yn gwneud cynnydd ar fynd i'r afael â'r gwendidau hynny. Ond credaf mai'r hyn y mae angen i ni ymbellhau oddi wrtho yw'r ffocws cul ar y ffin C/D, nad yw o fudd i'r rhan fwyaf o ddisgyblion. Rwyf am weld pob ysgol yn cael ei barnu yn ôl y gwerth y maent yn ei ychwanegu at ddysgu pob unigolyn, yn hytrach na'r dull blaenorol, a oedd yn caniatáu i ysgolion segura yn y maestrefi deiliog, fel y'u gelwid, lle roedd hi'n eithaf hawdd cyflawni'r targedau roeddem yn eu gosod ar y cyfan, targedau nad oedd yn eu barnu yn erbyn y deunyddiau crai a oedd yn dod i mewn i'r ysgol yn y lle cyntaf.

Felly, croesawaf y ddadl hon yn fawr iawn. Credaf ei bod yn un y gallwn ac y dylem ddychwelyd ati. Felly, diolch, Suzy Davies.

15:35

Hoffwn longyfarch Suzy Davies am gyflwyno'r cynnig hwn i ddirymu heddiw, a hefyd am dynnu fy sylw at y cynnig hwn yn y Siambr pan godais hyn, bythefnos yn ôl rwy'n credu, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan ddeuthum ag ef i'r Siambr mewn cyd-destun arall. Yn gyffredinol, rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd Suzy am ei gwneud yn haws ac yn fwy hygyrch i lefarwyr, ac yn wir, i Aelodau eraill y Cynulliad nodi'r hyn a gynigir, yn enwedig pan fo'r hyn a gynigir yn bwysig. Yn yr achos hwn, roeddwn yn ymwybodol o'r rheoliadau hyn, a dyna pam y'u codais gyda'r Prif Weinidog. Ni allaf gofio beth a ddarllenais, mewn gwirionedd, neu beth a welais a’m gwnaeth yn ymwybodol ohonynt—rwy'n falch iawn fod hynny wedi digwydd. Ond rwyf hefyd yn cefnogi trefniadau i'w gwneud yn haws i ni fod yn ymwybodol o'r materion pwysig y dylem eu trafod yn y Siambr hon, fel rydym yn ei wneud heddiw, diolch i chi, Suzy.

Credaf fy mod yn anghytuno, fodd bynnag, gydag un neu ddau o’r pwyntiau a godwch—neu o leiaf mae fy mhwyslais yn wahanol. Buaswn yn herio cyfeiriad teithio cyffredinol y Llywodraeth hon o ran targedau perfformiad ysgolion. Credaf fod problem wirioneddol yng Nghymru, a phroblem wirioneddol—boed yn Llywodraeth Lafur, neu’r ffaith bod Democrat Rhyddfrydol yn y swydd, gall fod gwahaniaeth barn. Ond ceir diffyg atebolrwydd, diffyg gallu i rieni wneud cymariaethau ystyrlon rhwng ysgolion mewn ffordd sy'n cael ei chymryd yn ganiataol yn Lloegr. A phan fyddwch yn cymharu trywydd a pherfformiad cyffredinol y system ysgolion yn Lloegr o gymharu â Chymru, ac yn nodi bod hynny wedi digwydd yn erbyn cefndir lle mae mwy o wybodaeth o lawer wedi’i chyhoeddi yn Lloegr, a'i chyflwyno mewn ffordd lle gall rhieni ac eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig, ei chymharu er mwyn dwyn ysgolion a’r Llywodraeth i gyfrif—credaf ei bod yn ormod ystyried bod hynny'n gyd-ddigwyddiad.

Rhoddodd Suzy y pwyslais ar y Gymraeg neu'r Saesneg a mathemateg. Ac ydy, mae hynny'n rhan o'r trothwy hefyd, ond mae hefyd yn bum TGAU da ar radd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg a mathemateg. A'r trothwy hwnnw, efallai, oedd y prif sbardun o ran y targedau a osodwyd yn Lloegr, ac sydd wedi arwain at berfformiad o'r fath mewn perfformiadau cyffredinol yn erbyn y targedau hynny, ond yn enwedig yn Llundain. Yn anffodus, nid ydym wedi gweld hynny yng Nghymru. A byddai symud oddi wrth hyn, yr un maes lle mae gofyn i ysgolion osod targed, ar drothwy penodedig, lle gallwn eu cymharu, lle gellir rhoi pwysau ar wahanol ysgolion o ran eu perfformiad, a pham nad yw’n well, neu sut y mae'n cymharu ag ysgolion eraill—. Os byddwn yn colli hynny, byddwn yn colli dull pwysig iawn o wella, gobeithio, perfformiad ysgolion. Nid yw hyn wedi bod yn digwydd yng Nghymru, ac rwy'n ofni mai'r rheswm allweddol nad yw wedi bod yn digwydd yw'r methiant i gyhoeddi gwybodaeth yn gyson, i osod targedau yn gyson ac i ddwyn ysgolion i gyfrif.

Credaf hefyd fod y trothwy C/D yn un pwysig iawn. Cydymdeimlaf â’r dadleuon ynghylch chwarae'r system, ac yn benodol, credaf fod cyflwyno disgyblion yn gynnar ar gyfer arholiadau a'r camau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i gyfyngu ar hynny o leiaf, o gymharu â'r hyn a welwn, yn dda. Ond mewn gwirionedd, os ydych yn cael C neu D, mae hynny’n bwysig iawn i'r unigolyn hwnnw. Mewn llawer o swyddi, mae'n ofynnol fod gennych lefel C o leiaf mewn Saesneg neu Gymraeg a mathemateg, ac os nad oes gennych hynny, efallai na fydd cyfleoedd ar gael a fyddai ar gael fel arall. Felly, mewn gwirionedd, os oes pwyslais sylweddol ar ysgolion i geisio sicrhau bod plant yn cael pum TGAU da a sicrhau eu bod o leiaf ar y lefel y mae angen iddynt fod arni yn y pynciau allweddol hynny, credaf fod hynny'n rhywbeth i’w groesawu. Mae'n darged y dylem ei gael ar gyfer ysgolion. Gresynaf yn fawr at y ffaith bod y Llywodraeth yn argymell cael gwared â’r gofyniad gorfodol i osod y targed hwnnw o leiaf, ac edrychwn ymlaen at gefnogi cynnig Suzy Davies i ddirymu.

15:40

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf yn fawr iawn y cyfle i ymateb i'r cynnig hwn ac i egluro'r angen am y gwelliannau rheoliadol hyn. Rwy’n derbyn bod cynnydd diwygio addysg yng Nghymru, fel y nodir yng nghenhadaeth ein cenedl, yn symud yn ei flaen yn gyflym, ac rwyf bob amser yn croesawu craffu ar bob cam. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi gwneud pum datganiad llafar neu ysgrifenedig ar faterion sy’n ymwneud â'n system newydd o atebolrwydd ysgolion. Mae'r rhain wedi darparu diweddariadau ar newidiadau polisi sy'n rhan o’r broses o roi’r argymhellion sy'n deillio o 'Dyfodol Llwyddiannus’ ar waith, rhywbeth sydd wedi cael, ar y cyfan—nid wyf yn hollol siŵr sut y mae Plaid Brexit yn teimlo amdano—cefnogaeth drawsbleidiol yn y Siambr hon.

Yn gyntaf, gadewch i mi ddweud yn glir na fydd dirymu’r rheoliadau hyn yn gwrthdroi'r newidiadau a gyhoeddais ym mis Mai 2018 i fesurau perfformiad cyfnod allweddol 4, a ddatblygwyd drwy gydweithio â phenaethiaid a rhanddeiliaid allweddol. Fodd bynnag, byddai'n creu sefyllfa afresymol lle byddai disgwyl i ysgolion osod targedau ar gyfer mesurau cyflawniad na fyddant yn adrodd arnynt mwyach. Nid yw'r rheoliadau gosod targedau, fel y maent ar hyn o bryd, yn cyd-fynd â’r mesurau perfformiad ar gyfer cyfnod allweddol 4 y byddwn yn adrodd arnynt—rydych yn llygad eich lle, Suzy—o eleni ymlaen.

Dangosodd canlyniad yr ymgynghoriad ar y rheoliadau diwygio hyn fod rhanddeiliaid, a oedd yn cynnwys ysgolion, awdurdodau lleol ac undebau athrawon, yn gyffredinol yn cefnogi'r cynigion a'r bwriadau polisi. Yn gyffredinol, mae ysgolion a'r rheini sydd wedi craffu ar ein system addysg o’r farn nad yw gofyn i ysgolion osod targedau yn seiliedig ar set gul o ddangosyddion rhagnodol iawn yn ddefnyddiol, a bod hynny wedi arwain at ffocws penodol iawn ar elfennau o ansawdd ar draul myfyrdod a hunanwerthuso mwy cyflawn.

Efallai fod Mr Reckless yn ddigon hapus gyda'r ffocws hwnnw ar y ffin C/D, ac nid oes gennyf unrhyw ddadl gydag ef os yw plentyn ar y ffin honno—mae C, wrth gwrs, yn ddefnyddiol iddynt. Ond beth am gynnydd y plentyn a ddylai fod wedi cael A* neu A, lle'r oedd eu hysgol efallai wedi dweud wrth y rhiant, 'Rwyf am gyflwyno eich plentyn i sefyll haen benodol o bapur mathemateg neu bapur Saesneg', gan wybod mai'r uchafswm y gallent ei gael oedd C? Nawr, mae hynny'n iawn ar gyfer mesurau perfformiad yr ysgol, ond os gallai'r plentyn hwnnw fod wedi cael B neu A neu A*, maent wedi colli’r cyfle hwnnw, ac mae'r system sydd wedi helpu'r ysgol i gyflawni'r hyn a ddymuna, ond nad yw o reidrwydd yn helpu'r plentyn i gyflawni—[Torri ar draws.] Fe ildiaf.

Os felly, yr hyn sydd ei angen arnom yw atebolrwydd, mesuriadau, targedau, a'r gallu i gymharu'r pethau hynny, yn hytrach na hunanwerthuso mwy cyflawn y gellir ei ddisgrifio fel arall yn ysgolion yn marcio eu gwaith cartref eu hunain?

Yr hyn a fydd gennym yn lle hynny, o'r haf hwn, yw system sgorio sy’n seiliedig ar bwyntiau, lle caiff cyflawniadau pob plentyn eu cyfrif—pob plentyn, o'r disgyblion sy'n perfformio orau i'r rhai y mae cael D yn gyflawniad enfawr iddynt. A bydd gennym brif fesurau o hyd ar gyfer cyfrif Saesneg, mathemateg, yn ogystal â gwyddoniaeth. Nid ydym yn cael gwared ar atebolrwydd. Rydym yn symud tuag at atebolrwydd mwy deallus lle mae pob plentyn yn bwysig yn ein system, lle mae perfformiad pob plentyn yn bwysig yn ein system, ac yn hollbwysig, lle rydym yn mesur effaith cynnydd y plentyn hwnnw drwy'r system addysg. Felly, os ydych yn dod i mewn gan ddisgwyl gradd benodol ym mlwyddyn 7, gallwn olrhain cynnydd y plentyn hwnnw a'r effaith a gafodd yr ysgol honno ar y plentyn.

Yr hyn a wyddom yw—. A Suzy, yn eich ymateb i fy natganiad y llynedd, credaf ichi gydnabod bod y canlyniadau anfwriadol—p'un a ddylent fod wedi eu rhagweld gan Lywodraethau blaenorol neu heb eu rhagweld—wedi arwain at gulhau'r cwricwlwm, ac yn wir, amserlennu sydd wedi arwain at gael gwared ar bynciau fel hanes, daearyddiaeth, drama, celf, cerddoriaeth a Ffrangeg o'r cwricwlwm, wrth i athrawon ganolbwyntio eu gwersi amserlen, weithiau am hanner tymor cyfan, ar Saesneg a mathemateg yn unig, gan hepgor popeth arall y dymunwn i’n plant eu dysgu a’u cyflawni yn ein hysgolion.

Nawr, nid diben y rheoliadau diwygio hyn yw cael gwared ar reoli ansawdd o'n system atebolrwydd ysgolion. Bydd ysgolion yn parhau i gael eu harolygu; bydd rhieni a gwarcheidwaid yn parhau i dderbyn adroddiadau ar gynnydd dysgwyr; bydd yn ofynnol o hyd i ysgolion osod targedau ar gyfer gwella a bydd awdurdodau lleol yn parhau i sicrhau ansawdd y targedau hynny; a bydd Estyn hefyd yn arolygu awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ac yn barnu'r trefniadau sydd ar waith ym mhob rhanbarth, er mwyn sicrhau trylwyredd a chysondeb. Ac mae'n gamsyniad dweud nad oes gan rieni fynediad at wybodaeth. Nid oes ond yn rhaid ichi fynd ar wefan ‘Fy Ysgol Leol’ y ​​prynhawn yma yn y Siambr, ac fe gewch ddarlun llawn a chyfoethog iawn o'r hyn sy'n digwydd mewn ysgolion unigol.

Nawr, mae cenhadaeth ein cenedl yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer system atebolrwydd sy'n deg, yn gydlynol, yn gymesur, yn dryloyw ac yn seiliedig ar ein gwerthoedd cyffredin ar gyfer system addysg Cymru, yn hytrach na gwerthoedd y farchnad, Mr Reckless. Bydd y trefniadau gwerthuso a gwella newydd yn helpu i sicrhau'r newid diwylliannol sydd ei angen yn y pen draw i gefnogi’r gwaith o wireddu ein cwricwlwm newydd.

15:45

A wnaiff yr Aelod ildio? Nid oes unrhyw un yn awgrymu marchnad—dim ond fod rhieni'n gorfod talu er mwyn gallu cymharu pa mor dda y mae ysgolion yn perfformio, er mwyn llywio eu barn o ran (1), ble maent am i'w plant fynd i'r ysgol, a (2), sut i helpu'r ysgolion hynny i wella wedyn drwy eu dwyn i gyfrif.

Mae'n swnio'n debyg i farchnad i mi, Ddirprwy Lywydd, ac mae hynny'n iawn. Mae gan yr Aelod berffaith hawl i arddel y gwerthoedd hynny’n sail i'w ymagwedd at bolisi addysg. Mae hynny'n hollol iawn. Realiti byw yn ein gwlad, Mark—realiti byw yn y wlad hon—yw nad yw plant yn gallu symud o gwmpas—[Torri ar draws.] Y realiti yw bod angen i bob ysgol fod yn ysgol leol dda heb allu cael sefyllfa lle mae rhieni sy'n gallu fforddio symud i'r dalgylchoedd cywir yn gallu gwneud hynny. Mae angen i bob ysgol fod yn ysgol dda waeth ble maent wedi’u lleoli. Ac nid ydym yn helpu ysgolion i wneud cynnydd drwy beri iddynt gystadlu â’i gilydd.

Hanfod y mater yw hunanwerthuso trylwyr a pharhaus ar gyfer pob haen o'r system addysg yn hytrach nag athrawon yn cadw'r hyn sy’n arferion da yn eu hysgolion oddi wrth ysgolion eraill. Mae angen i ni agor hynny a rhannu'r arferion da hynny, ac nid ydych yn gwneud hynny os ydych yn creu system farchnad lle mae ysgolion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, a lle mae hunan-fudd i'w gael o beidio â rhannu'r arferion da hynny.

Nawr, mae angen i ni ddefnyddio'r targedau hyn hefyd, ynghyd â deialog broffesiynol, i gefnogi dysgu a gwella, ymwreiddio cydweithredu, fel y dywedais, adeiladu ymddiriedaeth yn ein proffesiwn, hybu hunanwella a chodi safonau i'n holl ddysgwyr. Bydd atebolrwydd allanol yn parhau i fod yn un o nodweddion ein system, ond byddwn yn darparu mwy o annibyniaeth i ysgolion hunanwella a datblygu targedau go iawn sy'n cyfrannu at y gwaith o wella ansawdd addysg mewn ysgolion a safonau cyflawni eu dysgwyr sy'n benodol i'w hanghenion yn eu hysgolion.

Bydd y gofyniad i gyrff llywodraethu ysgolion osod targedau mesur perfformiad yng nghyfnod allweddol 4 yn cael ei ddileu er mwyn cynyddu nifer y targedau amhenodol sy'n rhaid eu gosod, yn seiliedig ar werthusiad ysgolion. Felly, mewn gwirionedd, rydym yn gofyn iddynt osod mwy o dargedau nag y maent yn eu gosod ar hyn o bryd, ond bydd ganddynt ryddid i fyfyrio ar eu perfformiad eu hunain a barnu lle mae angen iddynt wneud gwelliannau. Mae ein cynlluniau'n ymwneud â sicrhau bod y ffordd rydym yn asesu perfformiad ysgolion yn cynrychioli perfformiad yr ysgol yn ei chyfanrwydd a byddwn yn ymddiried mwy yn ein haddysgwyr proffesiynol sydd yno bob dydd yn ein hystafelloedd dosbarth a'r rheini sy’n arwain ein hysgolion i nodi'r materion sydd bwysicaf iddynt hwy yn eu cyd-destun lleol.

Gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y cynnig heddiw a pheidio â chymryd cam yn ôl ar gam pwysig, ymarferol yn y gwaith o helpu i sicrhau'r newid diwylliannol y credaf fod ei angen yn ein hysgolion yn y pen draw, ac y bydd ei angen er mwyn cyflawni cenhadaeth ein cenedl. Rwy’n derbyn y pwynt a wnaeth Suzy Davies ynglŷn â gweithdrefnau. Rwy'n fwy na pharod i ystyried y ffordd rydym yn cyflawni'r gweithdrefnau hynny yng nghyd-destun yr adran addysg, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth ehangach yn myfyrio ar y pwyntiau a wnaed heddiw. Nid yw'r weithdrefn wedi bod yno i osgoi craffu, ond byddaf yn ystyried hynny gydag unrhyw ddeddfwriaeth neu reoliadau pellach y byddwn yn eu cyflwyno yn yr adran addysg.

15:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n falch, Jenny Rathbone, eich bod yn meddwl bod hyn yn ddigon pwysig i'w drafod. Efallai y gallaf ddechrau gyda phwyntiau'r Gweinidog. Mae hyn wedi'i gyflwyno ar lefel uwch i'r Siambr o'r blaen; nid yw'n newyddion llwyr i ni. Ond o ran y manylion penodol ynghylch Saesneg, mathemateg a Chymraeg, ni chawsom gyfle i'w trafod. Er fy mod yn cytuno â'r hyn a ddywedoch chi yn eich ymateb i'r ddadl hon, ein bod wedi cael gwybod am hyn o'r blaen a bod angen i rywbeth newid, ni chredaf i chi sôn yn benodol am Saesneg, mathemateg a Chymraeg, gan fod y pynciau penodol hynny, yn ein system bresennol—nid ein system addysg bresennol, ond yn ein system economaidd bresennol, ein system addysg bellach ac uwch—yn meddu ar statws unigryw. Gofynnir amdanynt bob amser, a buaswn yn bryderus iawn pe bai ysgolion yn cael cyfle i beidio â gwneud y tri maes pwnc hynny'n un o'r chwech neu fwy y byddant yn gosod targedau ar eu cyfer yn y ffordd newydd, a dyna pam y dewisais y rheoliadau penodol hyn yn hytrach nag unrhyw rai eraill. Felly, efallai y gallwch fyfyrio ychydig yn fwy ar hynny.

Dysgu ar gyfer prawf—ie, rydym yn cytuno â chi ynglŷn â hynny, Jenny, ond fel y dywedaf, mae'r tri phwnc hyn yn flaenoriaethau yn fy marn i ar gyfer unrhyw ysgol, waeth pa mor dda yw hi a pha mor dda y mae wedi bod yn perfformio yn y tri maes hyd yma.

Mwy o Aelodau—nawr, ni fydd hynny'n datrys y broblem os yw'r rheoliadau hyn wedi'u cuddio. Gallwn gael 160 o Aelodau, ond os na allwn ddod o hyd i'r rheoliadau hyn, ni all unrhyw un graffu arnynt. Felly, rwy'n ddiolchgar ichi, Weinidog, am y pwyntiau olaf a wnaethoch.

Byddai cael mwy ohonom yn golygu bod mwy ohonom ar gael i edrych am y rheoliadau neu unrhyw beth sydd wedi'i guddio. Fy mhroblem i yw bod llawer na wyddom amdano, a chan fod cyn lleied ohonom, nid oes gennym amser i ymchwilio i'r diffyg tryloywder y mae'r Llywodraeth i'w gweld yn hoff ohono.

Mae'n ateb cwbl deg, Siân. 'ACau ydym ni, nid ditectifs,' a fyddai fy ymateb i hynny mae'n debyg, ond nid yw'n rheswm dros beidio â chael mwy o ACau, fel mae'n digwydd.

Mark Reckless—perfformiad ysgol a sut i'w farnu. Mewn gwirionedd, credaf fod hyn yn deilwng, efallai, o ddadl lawn ar ryw adeg. Buaswn yn falch iawn pe bai arweinydd Plaid Brexit yn cyflwyno hynny. Ar hyn o bryd, credaf fod yn rhaid i rywbeth newid, ac rwy'n fwy na pharod i roi cyfle i syniadau newydd y Gweinidog i weld sut y maent yn gweithio. Efallai y byddant yn wych ac y cawn syniad da iawn am berfformiad ysgol, neu efallai na fyddant yn gweithio. Mae angen i ni roi cyfle iddynt, ac mae angen i ni gael cyfle i weld a ydynt yn gweithio. Rwy'n gobeithio y byddant yn gweithio wrth gwrs, er lles ein plant a'n hathrawon a'n staff. Nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'u hargyhoeddi ynghylch hynny ar hyn o bryd, ond mae'n rhaid i ni roi cyfle teg i hyn. Felly, diolch i bawb a gymerodd ran heddiw.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Eitem 6 ar yr agenda—[Torri ar draws.] Nid oes ots gennyf, clywais 'gwrthwynebu', felly—[Torri ar draws.] Na, na, clywais 'gwrthwynebu', ac felly gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon. Nid wyf yn poeni pwy alwodd 'gwrthwynebu'; fe'i clywais.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Bethan Sayed.

Cynnig NDM7116 Bethan Sayed

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar yr Ymchwiliad i Gynyrchiadau Ffilm a Theledu Mawr yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2019.

.

Cynigiwyd y cynnig.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn. I gychwyn, hoffwn ddiolch i holl arweinwyr y diwydiant a gyfrannodd at yr ymchwiliad penodol hwn a phawb a roddodd dystiolaeth. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Llywodraeth am eu hymateb i'r adroddiad a gynhyrchwyd gennym ar y diwydiant ffilm a theledu. Roedd y pwyllgor yn ffodus i weld y dalent ddiweddaraf ym Mhrifysgol De Cymru pan lansiwyd ein hadroddiad, a chawsom ddefnyddio'r sgriniau gwyrdd yno i fod yn greadigol ein hunain, felly gwnaethom fwynhau hynny. Roedd yn wych gweld nifer y cynyrchiadau proffil uchel a'r amrywiaeth o swyddi y mae'r myfyrwyr yn rhan ohonynt. Felly, llongyfarchiadau i'r myfyrwyr yno.

Yn amlwg, mae rheswm da i ddathlu llwyddiant y diwydiant ffilm yn y wlad hon. Dros y degawd diwethaf, mae'r twf wedi bod yn fwy na'r twf ledled y DU, ac mae stiwdios yma yn gyfrifol am lwyddiannau rhyngwladol fel Doctor Who, His Dark Materials a Hinterland. Ond mae'n rhaid i ni symud yn gynt ac ymateb yn gyflymach i ofynion y diwydiant mewn ffordd fwy ystwyth, ac ni chredaf fod hynny'n digwydd hyd eithaf ein gallu ar hyn o bryd yma yng Nghymru.

Felly, mae'r adroddiad hwn yn mynd i'r afael â phob agwedd ar y diwydiant, o ariannu, hyfforddi, cynhyrchu a hyrwyddo. Ond hoffwn ganolbwyntio ar ariannu ac ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gefnogaeth i’r sector, a gwn y bydd Aelodau eraill yn siarad am elfennau eraill o'r adroddiad.

Cyllideb buddsoddi yn y cyfryngau—dŷn ni'n falch o weld y ffigurau ar y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau o’r diwedd. Deallaf nad yw rhai o’r prosiectau wedi cyrraedd eu potensial masnachol llawn eto, ond ar ôl aros mor hir am y wybodaeth hon, mae’n siomedig gweld bod gwir berfformiad y gronfa mor wahanol i’r rhagamcanion cychwynnol. O’r saith project a reolir gan Lywodraeth Cymru, dim ond un sydd wedi adennill unrhyw arian. Am gyfanswm o fwy na £5.1 miliwn o fuddsoddiad, dim ond elw o £75,000 sydd i’w ddangos, ac nid yw hwn yn ddigonol.

Mae’r darlun yn edrych ychydig yn well os edrychwn ni ar y projectau a reolwyd yn flaenorol gan Pinewood, ond mae’n dal i ddangos bod llai na hanner y bron i £10 miliwn a fuddsoddwyd wedi’i adennill. Nid yw’n fater o ddifaru bod yr elw mor fach ar ôl cymaint o amser. Mae’n sioc gweld bod y colledion mor fawr, a hoffwn ddeall barn benodol y Gweinidog, yn y man, am realiti'r sefyllfa yma.

Roedd y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau i fod yn gronfa fuddsoddi, gan gynhyrchu elw a fyddai’n cael ei ailfuddsoddi mewn cynyrchiadau eraill, ond y nod arall oedd gwarantu gwariant gan gynyrchiadau mawr yng Nghymru. Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi mai’r bwriad o sefydlu cronfa gwerth £30 miliwn oedd cynhyrchu £90 miliwn o bunnoedd o wariant yng Nghymru. Ond, ers 2014, dim ond hanner y gyllideb sydd wedi’i wario, ac fe gynhyrchodd ychydig dros £25 miliwn o wariant yng Nghymru.

Felly, hoffwn i'r Dirprwy Weinidog nodi pam mai 15 y cant yn unig o'r gwariant Cymreig a ragwelir a gynhyrchwyd gan y gyllideb fuddsoddi, a beth y mae'n ei wneud i newid y sefyllfa hon. Wedi'r cyfan, mae'r gyllideb hon wedi bodoli ers pum mlynedd. Credaf fod rhywbeth mawr wedi mynd o'i le. Naill ai fod yr amcangyfrifon cychwynnol yn ofnadwy o obeithiol, neu mae perfformiad y prosiectau wedi bod yn eithriadol o wael. O gofio bod panel y sector diwydiannau creadigol wedi mynegi pryderon am y gyllideb yn gyntaf ym mis Awst 2016, mae digon o amser wedi bod i ddysgu o'r camgymeriadau ac i unioni pethau.

Mae'r problemau gyda 'chytundeb cydweithredu' Pinewood wedi cael llawer o sylw gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. A oes unrhyw beth wedi newid o ganlyniad i'r adroddiadau hyn?

O ran Cymru Greadigol, bob tro dwi'n siarad am Gymru Greadigol yn y sector, mae pobl yn tynnu gwynt rhywfaint, yn aros am ryw fath o fanylion pellach. Yn ystod twf y diwydiant ffilmiau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sawl menter i hybu’r sector. Ond, roedd rhanddeiliaid yn teimlo nad oedd ffocws i’r mentrau hyn. Dywedodd Screen Alliance Wales wrthym fod prosiectau wedi’u hariannu ar hap yn seiliedig ar broffil y cwmni, ond heb edrych ar etifeddiaeth gynaliadwy, hirdymor i Gymru. Pryd bynnag y mae’r pwyllgor wedi gofyn am fwy o ffocws, dywedwyd wrthym mai corff sydd eto i’w sefydlu, sef Cymru Greadigol, fyddai’n rhoi’r arweinyddiaeth hon.

Ers iddo gael ei gyhoeddi’n gyntaf yn 2016, rydym ni'n dal i aros am fanylion am Gymru Greadigol. Dywedwyd wrthym ym mis Chwefror y byddai’r Gweinidog yn cyhoeddi manylion am ffurf, swyddogaeth, aelodau’r bwrdd a ffafriwyd a threfniadau llywodraethu Cymru Greadigol ym mis Ebrill eleni. Nid yw’r datganiad a ryddhawyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r materion hyn. Mae’n llawn ymadroddion sydd â bwriadau fel,

'Mae partneriaethau a chydweithio yn allweddol i unrhyw gyflawni llwyddiannus',

ac y bydd Cymru Greadigol yn cofleidio synergeddau rhwng yr economi a diwylliant Cymru. Ond dyw e ddim yn datblygu'r ateb am sut bydd hynny yn digwydd, ac mae'r sector yn gofyn sut maen nhw'n gallu ymwneud a sut maen nhw'n gallu rhoi ceisiadau gerbron Cymru Greadigol, iddyn nhw allu buddio o'r hyn dŷch chi fel Llywodraeth eisiau gwneud.

Felly, mae hi bellach yn fis Gorffennaf ac rydym yn dal i aros am y manylion, fel yr addawyd. Dywed ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, a dyfynnaf,

'Ar hyn o bryd, rydym yn penderfynu ar strwythur llywodraethu Cymru Greadigol’.

Beth yw'r oedi, oherwydd mae’r sector yn aros ac yn aros? Cafwyd digon o ymgynghori. Dywedir wrthym fod y

'tîm wedi ymgysylltu â… 120 o gwmnïau, cyrff cyhoeddus, sefydliadau o'r trydydd sector ac undebau’.

I ba ddiben? Beth yw canlyniad yr ymgynghoriad hwn? Ac mae angen atebion arnom yn awr. Pwy sy'n arwain Cymru Greadigol? Beth yw'r strwythurau llywodraethu? Beth yw'r cylch gorchwyl? I bwy maent yn atebol? A sut y caiff llwyddiant ei fesur? Mae'r diffyg gwybodaeth yn arbennig o rwystredig gan fod y Llywodraeth wedi dewis derbyn rhai o'n hargymhellion ar strategaeth ac amodau ariannu Cymru Greadigol yn y dyfodol. Ond sut y gallwn asesu a fydd ein hargymhellion yn cael eu cyflawni heb y manylion a addawyd inni ers mis Chwefror? Mae'r diffyg penderfyniadau yn golygu nad yw pobl yn gallu deall sut i wneud cais na’n gwybod ble i gael gafael ar arian. Mae'r rhain yn sgyrsiau go iawn rwy’n eu cael gyda phobl yn y diwydiant ar sail wythnosol, os nad yn ddyddiol.

Mae'r diwydiant hefyd yn teimlo'r rhwystredigaeth y mae'r pwyllgor yn ei theimlo ynglŷn â'r prinder manylion mewn ymateb i'n hadroddiad. Er bod enghreifftiau unigol o lwyddiant, fel y bartneriaeth a gynlluniwyd gyda NBC International, mae perygl gwirioneddol y bydd momentwm yn cael ei golli. Mae angen i'r rheini sy’n awyddus i fuddsoddi yng Nghymru wybod beth fydd yn dod yn lle’r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau a sut y gallant fanteisio ar y gronfa honno. Rwyf wedi bod yn gofyn cwestiynau am gyllid a llywodraethu ers i'r Dirprwy Weinidog ddod i'n pwyllgor ym mis Gorffennaf y llynedd. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai ateb ein cwestiynau heddiw.

Rwyf am gloi gyda hynny. Gwn y byddai aelodau eraill y pwyllgor yn awyddus i gyfrannu at y ddadl, ac edrychaf ymlaen at glywed beth fydd ymateb y Dirprwy Weinidog. Cawsom amryw o argymhellion ar nifer o wahanol faterion—o sicrhau bod gennym gwotâu ar gyfer talent ar y sgrin, a oedd yn un o'n syniadau; roeddem am sicrhau bod y cynlluniau prentisiaeth yn gliriach; ac roeddem am ddeall pa gefnogaeth briodol y gellid ei rhoi i wyliau ffilm. Rydym yn gyfeillgar yn hynny o beth. Rydym am weld beth sy'n digwydd yma yng Nghymru, ond rydym am sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn awr fel y gallwn wireddu'r potensial sydd gan Gymru i'w gynnig yn y diwydiant ffilm yma yng Nghymru.

16:00

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon, er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan roedd yr adroddiad yn cael ei lunio. Rwyf wedi bod yn falch iawn o ddilyn y gwaith wrth iddo gael ei gyhoeddi a'i lansio wedyn, fel y nododd y Cadeirydd. Credaf ei fod wedi bod yn faes gwaith pwysig iawn, ac mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ffyrdd ymarferol iawn y gallwn wella’r diwydiant cynhyrchu ffilm a theledu mawr yng Nghymru.

Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod wedi fy nghalonogi’n fawr gan ymateb Llywodraeth Cymru wrth iddynt dderbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor, er fy mod yn nodi rhwystredigaeth y Cadeirydd fod rhywfaint o'r derbyniad hwnnw'n ddibynnol ar weithrediad Cymru Greadigol pan gaiff ei sefydlu.

Credaf ei bod yn iawn nodi'r twf yn y sector hwn ers 2007—cyflymach na'r twf yng ngweddill y DU. Unwaith eto, cyfeiriwyd at hyn eisoes. Ond mae llawer i’w wneud o hyd. Credaf fod Cymru, fel cenedl, yn gwneud yn dda iawn o gymharu ag unrhyw ranbarth yn Lloegr y tu allan i Lundain a'r de-ddwyrain, a Manceinion, o bosibl. Ond rydym yn dal i fod ymhell o unrhyw gyfran a oedd yn gysylltiedig â'r boblogaeth, o ran faint o werth ychwanegol gros rydym yn ei gynhyrchu drwy'r diwydiant ffilm a theledu. Mae'n debyg y gallem ei gynyddu ddwy neu dair gwaith, a dim ond cyrraedd rhyw fath o gyfrifiad bras wedyn o'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl yn ôl poblogaeth. Felly, er ein bod yn cael cryn lwyddiant ac yn un o'r prif ardaloedd ar gyfer cynhyrchu—mae ein diwydiannau creadigol wedi perfformio'n eithriadol o dda dros y 10 mlynedd diwethaf, ac rwy'n siŵr ei fod yn sector a fydd yn parhau i dyfu—ni ddylem gyfyngu ar ein huchelgais. Dylem ymestyn ein disgwyliadau ar gyfer y sector hwn.

Credaf fod angen buddsoddi'n benodol mewn prosiectau iaith Gymraeg a phrosiectau iaith Gymraeg y gellir eu cynhyrchu'n ddwyieithog hefyd. Nid oes amheuaeth ynghylch y potensial a welsom yn weddol ddiweddar o ran cyfresi fel Hinterland, sy'n normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg yn llwyr, yn ogystal â chynhyrchu fersiwn Gymraeg ac un sy’n Saesneg yn bennaf, ond gyda defnydd o'r Gymraeg. Rwy'n siŵr fod hyn wedi gwneud llawer o les i bobl ledled y Deyrnas Unedig wybod ei bod yn gyffredin clywed y Gymraeg os ydych yn gyrru o gwmpas Ceredigion. Credaf fod hynny’n—. Cododd fy nghalon wrth weld hynny.

Credaf hefyd y dylem gofio bod hyn yn marchnata Cymru i weddill y byd. Cymru yw rhan ddiwylliannol fwyaf unigryw ynysoedd Prydain gan fod gennym ddiwylliant nad yw'n ddiwylliant Saesneg, yn ogystal â diwylliant Cymraeg-Saesneg hefyd wrth gwrs, a diwylliant Prydeinig. Mae'r holl draddodiadau godidog hyn yn cymysgu ac yn hynod greadigol, a cheir cryn awydd i rannu hyn, yn fyd-eang o bosibl, a dyna pam y credaf fod angen buddsoddi'n glyfar mewn cynhyrchu ffilmiau yng Nghymru. Yn amlwg, yn achlysurol yn unig y cewch lwyddiant sy'n cyrraedd seremonïau gwobrwyo'r Oscars neu beth bynnag, ond ar y cyfan, ar y lefel honno, credaf fod y math hwnnw o ragoriaeth greadigol yn cael effaith ar y sector cyffredinol hefyd, a chredaf y gallem ei alinio â'r strategaeth 'Cymraeg 2050'—unwaith eto, normaleiddio'r Gymraeg a phortreadu ein gwlad fel un wirioneddol ddwyieithog. Felly, credaf fod angen edrych ar hynny, a'r cyllid. Dyma'r un maes lle mae gennym gyfrifoldeb gwirioneddol dros hyrwyddo’r agwedd honno ar y gwareiddiad Celtaidd sy'n parhau i ffynnu yng ngorllewin Ewrop. Credaf fod angen i fwy o bobl weld ein drama yn hynny o beth.

Nodaf fod angen cryfhau'r strategaeth sgiliau. Rydym yn gwneud yn eithaf da, fel y gwelsom pan aethom i adeilad yr Atrium ym Mhrifysgol Morgannwg, ond mae angen gwella sgiliau o hyd, yn enwedig o ran allbwn iaith Gymraeg.

Credaf hefyd y gallai'r Llywodraeth wneud ychydig yn fwy o ran cydgysylltu gwyliau ffilm a sicrhau bod eu gwerth yn cael ei hyrwyddo’n ehangach. Gwn fod gwahaniaeth barn i raddau ynghylch y ffordd orau o wneud hynny, ond credaf y gallai ymagwedd fwy canolog a chydgysylltiedig fod yn werthfawr.

A gaf fi gloi gyda phle ei bod hi'n bryd i Cymru Greadigol gamu ymlaen? Fe’i rhagwelwyd yn 2016, sef pan gafwyd y refferendwm ar Brexit, ac os awn ymlaen fel hyn efallai y cawn Brexit cyn i ni gael Cymru Greadigol. Buaswn yn hapus iawn i weld Cymru Greadigol 10 gwaith. Ni wnaf grybwyll fy agwedd tuag at ddyfodiad Brexit, pan ddaw.

16:05

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am eu hadroddiad. Cefais y pleser o wasanaethu ar y pwyllgor yn ystod peth o'r ymchwiliad a hoffwn ddiolch i'r clercod a phawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Rhoddodd fewnwelediad gwerthfawr iawn i ni.

Mae'r sector ffilm a theledu yn rhan hanfodol o'n heconomi ac mae gan Gymru draddodiad hir o gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel a bod yn gefndir i rai o ffilmiau mwyaf poblogaidd y byd. Y sector diwydiannau creadigol yw un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae cwmnïau fel Netflix, HBO ac Amazon yn treulio cymaint o amser ar gynhyrchu teledu ag y mae rhai o stiwdios Hollywood yn ei dreulio ar ffilmiau.

Nid yw dyfodol y sector yn golygu denu Hollywood i ddod i dde Cymru; mae'n ymwneud â datblygu talent ein hunain yng Nghymru, megis Bad Wolf. Mae'r hyn y mae Julie Gardner a Jane Tranter wedi'i wneud yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae Cymru ar flaen y gad yn cynhyrchu rhaglenni teledu, ac os ydym am fanteisio ar y sector sy'n tyfu, mae angen i ni fabwysiadu'r ymagwedd iawn, gan ddysgu gwersi o fethiannau yn y gorffennol. Mae'n hanfodol ein bod yn cofleidio'r newidiadau yn sector y diwydiannau creadigol sydd wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf; mae'n hanfodol ein bod yn symud oddi wrth yr hen batrymau; mae'n hanfodol ein bod yn meithrin ein pobl dalentog ein hunain yng Nghymru yn hytrach na brwydro i ddenu Hollywood i Gymru. Gallwn gystadlu gyda'r gweddill drwy fod y gorau. Mae angen y buddsoddiad arnom, dyna i gyd. Mae angen i ni hysbysebu ein talentau Cymreig.

Felly, rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor—argymhellion a fydd yn ein helpu i osgoi gwneud camgymeriadau'r gorffennol, osgoi helynt arall fel Valleywood, a ffiasgo arall fel Pinewood. Yr her yn awr yw sicrhau ein bod yn dal i fyny â'r farchnad sy'n newid. Wrth i stiwdios traddodiadol geisio cystadlu â chwmnïau fel Netflix ac Amazon, rydym yn gweld ffrwydrad o wasanaethau tanysgrifio i ffrydio. Mae hyd yn oed y BBC yn dechrau gwneud hyn. Y perygl gyda llu o wasanaethau sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd yw gostyngiad yn y galw gan ddefnyddwyr. Felly mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw'r rhuthr traddodiadol ymhlith y stiwdios i ail-greu’r rhwydweithiau teledu cebl yn yr Unol Daleithiau ar gyfer cenhedlaeth sy'n ymbellhau oddi wrth teledu traddodiadol yn niweidio'r farchnad gyfan. Rhaid i ni sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn parhau i gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel ar gyfer pob platfform, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan ein diwydiannau cynhenid ​​fantais gystadleuol drwy gynnig economi treth isel wedi'i chefnogi gan seilwaith digidol a ffisegol uwch-dechnolegol.

Mae Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i ragori yn y sector diwydiannau creadigol. Rydym yn ddigon bach i fod yn ystwyth ac yn ddigon mawr i allu cynnig darpariaeth o faint. Mae bellach yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth, yma ac yn Llundain, sicrhau bod gennym yr amodau cywir i gefnogi'r diwydiannau creadigol ac i roi'r sgiliau angenrheidiol i genedlaethau'r dyfodol. Ac efallai na fyddwn yn gallu cystadlu â Netflix, ond gallwn sicrhau bod eu rhaglenni'n llawn o gynnwys a grëwyd neu a gynhyrchwyd yng Nghymru. Diolch yn fawr.

16:10

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd gweithredol, a diolch i'r pwyllgor am ei weithgaredd ac i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl yma heddiw. Mae’r adroddiad yma yn cynnig nifer o argymhellion adeiladol ac ystyriol sut y gallwn ni gefnogi'r diwydiannau creadigol yn well fel Llywodraeth, ac yn enwedig cynyrchiadau teledu a ffilm ym mhen uchaf y farchnad. A dyna pam ein bod ni, yn yr adroddiad, wedi derbyn neu dderbyn mewn egwyddor yr 14 o argymhellion sydd wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru allan o’r 17. Mae yna un argymhelliad wedi'i gyfeirio at S4C, a dwi’n sicr y byddan nhw’n yn ymateb i hwnnw. Mae yna ddau argymhelliad wedi’u gwrthod oedd yn ymwneud yn benodol â gwyliau ffilm, gan fod yna drefniadau eisoes gan y Llywodraeth yn y maes yna.

O ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiannau creadigol, a’r gweithgaredd sydd wedi cael ei sbarduno gan y cwmnïau sy’n weithredol yng Nghymru, dyma, fel y clywsom ni yn y ddadl yma, un o’n sectorau economaidd sydd wedi tyfu gyflymaf, gyda throsiant blynyddol o dros £2 biliwn, 58,000 o bobl yn cael eu cyflogi—50 y cant yn fwy na 10 mlynedd yn ôl. Mae Caerdydd bellach yn cael ei chydnabod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer dramâu a ffilmiau, ac mae Cymru wedi dod yn lle cystadleuol a dibynadwy i ddiwydiannau ac yn ddewis amgen i Lundain a de-ddwyrain Lloegr.

Mae ein cefnogaeth ni fel Llywodraeth wedi bod yn allweddol o ran denu cynyrchiadau o'r ansawdd uchaf o'r tu fas i Gymru, ac wedi cyfrannu at yr economi leol drwy wario cyllidebau yn lleol. Diolch i’r help ariannol ac ymarferol gan y Llywodraeth, mae gwariant y sector teledu a ffilm yng Nghymru wedi cynyddu o fwy na £35 miliwn yn 2016-17 i £55 miliwn yn 2018-19.

Rydym ni wedi rhoi help ariannol i dros 20 o brojectau cynhyrchu cynhenid, sydd, yn ogystal â bod yn hanfodol i dwf cynaliadwy'r sector yng Nghymru, wedi cyfrannu'n anferthol hefyd at hyrwyddo'r Gymraeg—fel y clywsom ni yn y ddadl yma gan David Melding—drwy bedwar ban byd dros y blynyddoedd diwethaf. Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru, law yn llaw ag S4C, wedi cefnogi 15 o gynyrchiadau Cymraeg, gan gynnig mwy na £2.4 miliwn o gyllid cysylltiedig. Ac fe glywsom ni’n barod am y cynyrchiadau rhyngwladol gan S4C, megis Un Bore Mercher, Y Gwyll a Bang, sydd wedi cael eu gwerthu ledled y byd.

Yn awr, dwi am ddod at Gymru Greadigol. Mi fydd Cymru Greadigol yn gyfrifol am ddatblygu a llunio strategaeth i gefnogi a chynnal twf y diwydiant sgrin yng Nghymru, yn ogystal â sectorau eraill, yn arbennig cerddoriaeth, yn y diwydiannau creadigol. Yn unol ag argymhelliad 1, a dderbyniwyd gennym ni, mi fydd Cymru Greadigol yn parhau i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ardderchog ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu, ond mi fydd hefyd yn edrych ar sut mae modd datblygu sgiliau a'r gadwyn gyflenwi hyd yn oed yn well nag y maen nhw ar hyn o bryd, er mwyn rhoi i'n busnesau creadigol y galluoedd i greu, a fydd yn hybu eiddo deallusol a pherchnogaeth ddeallusol yn economi Cymru.

Mi fydd Cymru Greadigol yn datblygu strategaeth sgiliau a fydd yn ateb y gofyn yn y farchnad. Mi fydd yna ddarpariaeth hyfforddi amserol ac ymatebol drwy ddarparwyr arbenigol, yn ogystal â sicrhau bod talentau'n cael eu meithrin drwy weithio mewn partneriaeth â'r cyrff a'r sefydliadau perthnasol a gydag arbenigwyr y diwydiant.

O ran argymhelliad 12, mi fydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n glos gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth, yn arbennig gyda'r Is-adran Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, i gynnal ein hagenda sgiliau ac i ystyried yn fanwl sut y gall y diwydiant sgrin fanteisio'n llawn ar gynlluniau prentisiaeth Llywodraeth Cymru.

Fel y nodir yn argymhelliad 2, mae nifer o sesiynau wedi'u cynnal ledled Cymru i ofyn i'r diwydiant am ei farn ynghylch sut y gall Cymru Greadigol ddiwallu anghenion y diwydiant orau. Mae cyfraniadau ein cwmnïau cynhenid ni wedi bod yn hanfodol i'n helpu ni i ddeall sut i wella'n cefnogaeth i'r diwydiant a datblygu sector creadigol o'r ansawdd gorau yng Nghymru.

Wrth fanylu ar y modd y mae mecanweithiau ariannu Cymru Greadigol yn gweithio, mae swyddogion y Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth arbennig i'r broses yma. Mi fyddwn ni yn ymgeisio—ac mae hwn yn ymrwymiad—mi fyddwn ni yn ymgeisio yn galed i symleiddio'r broses i fusnesau ym maes diwydiant creadigol, yn ogystal â chael y gorau o wariant Cymru, a'r buddiannau a ddaw o hynny i economi a chwmnïau o Gymru. [Torri ar draws.] Ie.

16:15

Allwch chi jest esbonio i ni pryd fydd Cymru Greadigol felly yn weithredol? Dyna sydd yn dod ataf i—bod lot o bobl yn y sector ddim yn siŵr pryd fydd e'n cychwyn ei waith. A yw e wedi cychwyn y gwaith? Os felly, sut byddwch chi'n hybu hynny?

Mae'r broses o greu corff hyd braich o fewn Llywodraeth Cymru yn un rydym ni'n gorfod ei wneud yn ofalus. Fe wnes i hynny gyda Cadw, ac rydym ni'n dilyn yr un broses wrth sefydlu Cymru Greadigol. Fe fydd yna, felly, hysbyseb—dwi ddim am roi dyddiad, ond mi fydd yna hysbyseb am swydd cyfarwyddwr i Cymru Greadigol ar y lefel uchaf briodol o fewn Llywodraeth Cymru. Unwaith y mae'r cyfarwyddwr—a fydd yn swyddog profiadol, rydym ni'n hyderus, yn y maes yma—yn cael ei phenodi neu ei benodi, drwy'r broses caffael a hysbysu allanol arferol, mi fydd yna symud wedyn i benodi cadeirydd. Ac yna, unwaith y mae'r cadeirydd wedi'i benodi, mi fydd yna alwad am aelodau o'r bwrdd. Felly, dwi'n hyderus y bydd y broses o gwblhau sefydlu Cymru Greadigol wedi'i chwblhau tua'r un amser ag y bydd Brexit yn digwydd. Ac os nad ydy hynny'n ddigon clir—medraf i ddim rhoi rhagor o fanylion dyddiadau, oherwydd mae unrhyw broses o recriwtio yn dibynnu ar yr ymateb y byddwn ni'n ei gael.

Os caf i ddod yn ôl at argymhelliad 10: mi fydd Cymru Greadigol yn rhoi mwy o bwyslais ar arddangos talentau Cymru, ac mi fyddwn ni'n ystyried gofyn i gynyrchiadau drama mawr i gynnal clyweliadau lleol fel amod ariannu. Mae'n ymddangos i mi yn beth rhyfeddol iawn fod pobl yn gorfod mynd i Lundain am glyweliadau pan maen nhw wedyn yn gweithio yng Nghymru.

Fel yr awgrymwyd yn argymhelliad 11, rydym ni'n ymchwilio hefyd i sut y gall cwmnïau sy'n derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru ddefnyddio mwy o dalentau Cymru ar y sgrin. Ac er bod llawer o waith sylweddol wedi cael ei wneud i hyrwyddo a chydnabod y Gymraeg fel iaith ryngwladol drwy gynyrchiadau o Gymru, mae'n rhaid inni ganolbwyntio hefyd ar wneud yn fawr o'r llwyddiannau hynny. Ac yn unol ag argymhelliad 7, mi fydd yna ymdrechion i hyrwyddo'r Gymraeg a fydd yn cyd-fynd â strategaeth Cymraeg 2050, a bydd hynny yn amod o'n strategaeth ar gyfer ariannu Cymru Greadigol yn y dyfodol.

O safbwynt cydnabyddiaeth ryngwladol, fel y dywed argymhelliad 15, rydym ni'n cydweithio i ddatblygu Cymru yn ganolfan ryngwladol o ragoriaeth, ac y mae gwaith sylweddol cwmnïau fel Fox, NBCUniversal, Netflix a HBO yn dewis Cymru ar gyfer eu cynyrchiadau yn profi bod y strategaeth yma yn gweithio. 

Mae Llywodraeth Cymru, felly, yn achub ar bob cyfle i hyrwyddo diwydiannau sgrin Cymru a'r doniau creadigol sydd i’w cael yma yn yr holl wyliau ffilm a theledu mawr rhyngwladol. Mae hynny'n cynnwys Gŵyl Ffilmiau Cannes, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Berlin, Marchnad Ffilmiau America, MIPCOM, MIPTV, Realscreen, a Gŵyl Ffilmiau Animeiddio Ryngwladol Annecy. Mae hefyd yn sicrhau bod yna gyfleoedd i ddoniau creadigol Cymru fanteisio ar gymorth i fynd i'r gwyliau yma—mae'r broses yna i gyd mewn lle—ac i ymuno â'r holl deithiau masnach rhyngwladol, trwy'r gefnogaeth yr ydym ni ein hunain yn ei rhoi, fel Llywodraeth, ac mae'r cymorth yna'n cael ei roddi gan yr Adran Fasnach Ryngwladol.

Fodd bynnag, mae yna wastad gyfle i gael mwy o fri rhyngwladol, a dwi'n sicr y bydd Cymru Greadigol, a fydd yn cael ei sefydlu, fel y dywedais i, yn yr amseriad yr argymhellais i ac a awgrymais i heddiw, yn arwain at farchnata rhyngwladol o ddiwydiannau creadigol Cymru drwy frand Cymru Greadigol. Dyna ydy'r bwriad. Dwi'n awyddus iawn i ddangos nad yr un peth yw Creative England a Creative Scotland â Chymru Greadigol. Dwi am i'r sefydliad, y corff, gael ei weld fel corff sydd yn rhan o Lywodraeth Cymru ond sydd yn rhan sydd yn gallu gweithredu yn annibynnol ac yn fasnachol. 

Yn unol ag argymhelliad 17, rydym ni wedi darparu'r ffigurau gwariant ac elw diweddaraf, fel y clywsoch chi. A dwi'n falch bod y ffigurau wedi cael eu croesawu hyd yn oed er bod sylwadau beirniadol, fel y buaswn i'n disgwyl, wedi cael eu gwneud arnyn nhw. Mi fyddwn ni yn parhau i gyhoeddi'r ffigurau yma, ac mae'n dda gen i ddweud bod y ganolfan yng Ngwynllyw—yng Ngwynllŵg, mae'n ddrwg gen i, nid Gwynllyw—yng Ngwynllŵg yn wir bellach yn gwneud elw.

16:20

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Gwnaf, credaf fod hynny'n lle da i ddirwyn fy sylwadau i ben, drwy ddathlu llwyddiant masnachol mewn man lle mynnodd rhai Aelodau na allai fyth ddigwydd.

Diolch yn fawr iawn, a diolch i'r Aelodau Cynulliad hynny a oedd wedi meddwl bod y ddadl yma'n ddigon pwysig i gyfrannu ati. Yn sicr, mae e'n bwysig iawn i'r economi yma yng Nghymru, ond yn sicr yn bwysig iawn i'r sector creadigol. 

David Melding, diolch am eich cyfraniadau mewn perthynas â'r prosiectau iaith Gymraeg. Credaf ei bod yn hollbwysig, er nad yw'r Gweinidogion yn yr ystafell ar hyn o bryd, ein bod yn ceisio cysylltu hyn â Cymraeg 2050, a sut y gallwn sicrhau bod y cyfleoedd iaith Gymraeg yn cael eu cynyddu. Rwy'n derbyn bod S4C wedi dweud wrthym yn eu briff ar gyfer y ddadl heddiw eu bod yn gweithio ar ffilmiau amrywiol, ond nid ydym wedi gweld hynny'n ymddangos ar y sgrin ers cryn amser. Felly, rwy'n deall bod ganddynt berthynas â'r sector annibynnol a'u bod yn ddibynnol ar gydgynhyrchu i ryw raddau, ond mae angen i ni weld agwedd ychydig yn fwy rhagweithiol, yn fy marn i, gan fod S4C ar eu hôl hi tra bo eraill ar eu hennill. Ond credaf fod pwynt Caroline Jones mewn perthynas â'r gwasanaethau ffrydio yn rhywbeth y mae S4C yn elwa ohono. Rydym yn gweld y rhaglenni Cymraeg, fel Hinterland, yn dod yn llwyddiannus ar y gwasanaethau ffrydio hynny, lle mae gwylio ffilmiau tramor neu Nordic noir, er enghraifft, yn arferol, ac mae pobl yn teimlo bod hynny'n rhywbeth y gallant ymgysylltu ag ef, ac mae ei wylio yn y Gymraeg yr un mor arferol â phe baent yn ei wylio mewn Daneg neu Norwyeg.

Credaf i chi wneud pwynt da mewn perthynas â'r farchnad—sut rydym yn marchnata Cymru i'r byd. Credaf fod hynny'n dal i fod yn her o ran sut rydym yn gwneud Cymru’n unigryw. Oes, mae gennym yr iaith, ond mae'n rhaid i ni werthu cyfleoedd mewn perthynas â'r lleoedd y gall pobl ddod i ffilmio yma yng Nghymru, boed yn fynyddoedd neu lan y môr—yr hyn y mae'n well dod yma i’w wneud yng Nghymru nag yn yr Alban. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae arnaf ofn ein bod ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU a rhannau eraill o'r byd, lle mae cwmnïau rhyngwladol yn gweld y byddent yn dymuno dod yma, ond nid yw prosesau'n digwydd mor gyflym ag y byddem yn dymuno ac felly maent yn symud eu gweithrediadau i wledydd eraill. Felly, rwy’n falch iawn fod y Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd cyhoeddiad ynghylch Cymru Greadigol ar yr un pryd â Brexit. Ac eto, gallai’r pyst symud ar gyfer Brexit, ac mae’r pyst wedi symud ar gyfer Cymru Greadigol sawl gwaith hefyd. Felly, gobeithio na fydd hynny’n digwydd ac y byddwn yn edrych ymlaen at lansio Cymru Greadigol maes o law.

Ni chrybwyllais yn fy araith yr hyn a nodwyd gennym yn ein hadroddiad, sef gofyn am gronfa a allai ehangu’n gyflym. Gwelsom fod gennych geisiadau Ffilm Cymru, a oedd yn gyfleoedd ffilmio ar raddfa fach, ac yna roedd gennych y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau ac yna, yn y canol, roedd pobl yn colli cyfle ac yn methu gwneud cais am ddim o'r cyllid am nad oeddent yn cyrraedd lefelau’r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau, ond eu bod o bosibl, yn rhy fawr i Ffilm Cymru. Felly, byddaf yn awyddus i glywed mwy eto yn y dyfodol gan nad dyma ddiwedd y stori o ran sut y gellir hyrwyddo'r cyfleoedd ar y lefel ganol honno ar gyfer cwmnïau cynhenid o Gymru sydd am dyfu ac ymsefydlu yma yng Nghymru. Credaf fod hynny'n hollbwysig.

Unwaith eto, gan gyfeirio'n gyflym at y gwasanaethau ffrydio, nodaf fod Netflix newydd ddweud y byddant wedi’u lleoli yn Llundain, a chredaf fod hynny'n rhywbeth na ddylem droi ein cefnau arno a dylem geisio gweithio mwy ag ef mewn perthynas â’r hyn y gallent ei fuddsoddi yn y dyfodol yma yng Nghymru. Nid yw'r ffaith eu bod wedi'u lleoli yn Llundain yn golygu na allant ddod i siarad â ni yma yng Nghymru am y cyfleoedd ffilmio. Nid oes a wnelo hyn â Netflix yn unig, mae llawer o wasanaethau ffrydio eraill y gallwn eu defnyddio, ond maent wedi penderfynu ymsefydlu yma ac mae hynny'n rhywbeth na ddylem droi ein trwynau arno.

Credaf ei bod yn bwysig iawn sôn am y problemau mewn perthynas â'r hyn a ddywedodd Equity am gyfleoedd i gael clyweliadau yng Nghymru. Mae hon wedi bod yn broblem ers cryn dipyn o amser. Mae gennyf ffrindiau sy’n actorion sydd wedi bod ar y trên gyda'i gilydd i geisio am ran sy'n cael ei ffilmio yng Nghymru ond maent yn mynd i Lundain i gael y clyweliadau hynny. Mae'n hollol hurt. Ac mae hynny'n rhywbeth rwy’n falch fod y Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd yn edrych arno.

I gloi, credaf mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw sut rydym yn edrych ar y potensial sgiliau. Gwnaethom gydnabod bod y sgiliau'n datblygu, ac nid ydym am danseilio unrhyw beth sy'n digwydd yn ein prifysgolion neu yn rhai o'r cwmnïau cynhyrchu, ond yr hyn a glywsom pan lansiwyd yr adroddiad hwn gennym oedd bod ôl-gynhyrchu yn rhywbeth y mae taer angen buddsoddi ynddo yma yng Nghymru. Felly, er nad yw ein hadroddiad yn crybwyll ôl-gynhyrchu yn benodol mewn du a gwyn, rydym am sicrhau’r diwydiant fod hynny'n rhywbeth yr hoffem edrych arno. Clywsom fod llawer o fenywod a oedd wedi cymryd absenoldeb mamolaeth a fyddai wedi gallu cyflawni rhai o'r rolau hynny ar eu colled pan fyddent yn dychwelyd i'r system gan nad oeddent yn cael eu huwchsgilio’n briodol i gyflawni'r rôl honno, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom fod yn ymwybodol ohono.

Credaf hefyd y dylem siarad am argymhelliad 5, sy'n cyfeirio at

‘ymchwilio i weld os oes modd mynnu fod cynyrchiadau sy'n derbyn cyllid yn llunio cytundebau cyd-gynhyrchu â chwmnïau yng Nghymru’.

Ac y dylid:

‘gwario o leiaf 35% o'r gyllideb gynhyrchu 'islaw'r llinell' ar gyflenwyr, cast, criw a chyfleusterau lleol'.

Roeddem am ychwanegu'r holl elfennau gwahanol hynny gan y clywsom dystiolaeth yn rhai o'r digwyddiadau rhwydweithio a gawsom fod rhai o'r corfforaethau rhyngwladol hyn yn dod â chriwiau a gwasanaethau arlwyo yma o rannau eraill o'r DU, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym am iddo ddigwydd pan fo gennym y cyfoeth hwnnw o dalent yn y diwydiant bwyd a diod yma yng Nghymru, yn ogystal â chyflenwyr lleol a all ddod yn rhan o'r llwybr caffael.

Felly, nid dyma ddiwedd y broses, ond rwy'n ddiolchgar fod pawb wedi dangos diddordeb cadarnhaol yn yr adroddiad hwn.

Gobeithio y bydd pobl yn gallu ymwneud yn fwy gyda’r hyn dŷn ni’n gwneud fel pwyllgor yn y byd ffilm, a sylweddoli ei bod yn bwysig ein bod ni nid yn unig yn tyfu talent o Gymru yma yng Nghymru, ond ein bod ni’n sicrhau bod y byd rhyngwladol yn gweld Cymru fel lle i ddod i ffilmio, ac yn ei gweld fel rhywle positif i weithio ynddi. Mae angen i brosesau symud yn glouach, dwi’n credu, er mwyn hybu hynny, a hybu’r posibiliadau fod Cymru yn gallu cael ei gweld fel rhywle gwych i ffilmio. Gyda’r prydferthwch sydd o’n cwmpas ni yn ein hardaloedd lleol, pam ddim dod i Gymru i ffilmio? Mae e’n rhywbeth i ni i gyd ddathlu, ac mae’n rhywbeth i ni i gyd fod yn lladmeryddion ar ei gyfer pan dŷn ni’n cwrdd â phobl ar y stryd, neu phan dŷn ni’n cwrdd â busnesau yn ein hardaloedd lleol hefyd. Felly, diolch yn fawr iawn i bawb.   

16:25

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.

16:30

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Symudwn ymlaen at eitem 7 ar yr agenda, sef dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Galwaf ar y Llywydd i gyflwyno'r ddadl.

Cynnig NDM7115 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Mae'n bleser gennyf ddechrau'r ddadl heddiw ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Dwi'n ddiolchgar i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am drafod y Bil yn drylwyr ac i bawb sydd wedi cymryd rhan wrth ddatblygu'r hwn a'i waith craffu. Byddaf yn ymateb yn ysgrifenedig i'r argymhellion a wnaed gan y ddau bwyllgor yn llawn ac mewn da bryd ond mi wnaf ymateb i rai'r prynhawn yma hefyd. Mae nifer o argymhellion i Gomisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, a chefais drafodaethau adeiladol gyda’r Cwnsler Cyffredinol am yr argymhellion hynny'r wythnos diwethaf.

Cyn troi at argymhellion allweddol y pwyllgorau, hoffwn ailadrodd mai amcan cyffredinol y Bil hwn yw creu Senedd fwy effeithiol a hygyrch, gan sicrhau bod fframwaith ein democratiaeth yn addas at y diben, gan gofio bod cwmpas pwerau'r Cynulliad yma wedi cynyddu'n sylweddol ers ei sefydlu gyntaf yn 1999. Mae'r Bil hwn yn gam sylweddol i'r cyfeiriad hwnnw, ac rwy’n croesawu’r ffaith bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar ei egwyddorion cyffredinol. Byddaf yn trafod y gwahanol rannau yn y drefn y maent yn ymddangos yn y Mesur.

Newid enw'n gyntaf: mae'r dystiolaeth a gafodd y pwyllgorau'n adlewyrchu'r gefnogaeth sylweddol am newid enw'r Cynulliad. Pan fydd y sefydliad hwn yn dathlu 21 o flynyddoedd ers ei sefydlu'r flwyddyn nesaf, rwy'n hyderus y byddwn yn rhoi enw newydd iddo sy'n adlewyrchu'n gywir ei statws fel deddfwrfa genedlaethol i Gymru. Cyflwynwyd safbwyntiau gwahanol yn ystod Cyfnod 1 ynghylch yr hyn y dylai'r enw newydd fod a sut y dylid geirio'r ddeddfwriaeth gysylltiedig. Roeddwn wedi rhagweld y byddai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn mynegi safbwynt ar y dystiolaeth a gafwyd ar y materion hynny. Rwy’n tybio y bu gan aelodau’r pwyllgor safbwyntiau gwahanol ar y mater, ac mi fyddwn wedi elwa o weld y rhain yn cael eu hamlinellu yn yr adroddiad.

Mae’r Bil yn cynnig bod enw'r Cynulliad yn cael ei newid i 'Senedd', ac y gall y Senedd honno hefyd cael ei galw'n 'Welsh Parliament'. Gan nad yw’r pwyllgor wedi awgrymu enw gwahanol, nid ydw i’n gweld rheswm dros ddiwygio’r rhan hon o’r Bil. Erbyn hyn, mater, felly, i'r Aelodau yn y Siambr hon yw penderfynu beth ddylai'r enw hwnnw fod. Nid mater o newid dim ond enw’r sefydliad ei hun yw hyn, ond o adlewyrchu ei statws yn enwau’r Aelodau hefyd. Mae yna symlrwydd gosgeiddig i’r enw 'Senedd' a’n galw ni’n 'Aelodau o’r Senedd—Members of the Senedd'.

Mae'r Bil hefyd yn cynnig gostwng yr oedran pleidleisio i 16. Rwy'n falch bod cefnogaeth glir y cyhoedd a fynegwyd yn ymgynghoriad 'Creu Senedd i Gymru' wedi'i hadlewyrchu yn y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgorau ar y mater yma. Mae datblygu'r rhan hon o'r Bil wedi bod yn ymdrech ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gan adlewyrchu ei bod hefyd yn bwriadu gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Rwy'n ddiolchgar am eu cefnogaeth i sicrhau dull cydweithredu cyson ar hyn.

Mae'n briodol bod y pwyllgorau wedi pwysleisio pwysigrwydd addysg am ddinasyddiaeth a gwleidyddiaeth er mwyn sicrhau y caiff pobl ifanc eu hannog i arfer eu hawl i bleidleisio. Ers i mi roi tystiolaeth i’r pwyllgorau, mae cyfrwng strategol y gwaith hwn, sef grŵp adnewyddu democrataidd Llywodraeth Cymru, wedi ei sefydlu ac wedi cwrdd. Bydd cyrff sifig, gan gynnwys ysgolion a sefydliadau ieuenctid, yn cymryd rhan yn y gwaith dan arweiniad y grŵp yma.

Mae sawl argymhelliad yn gofyn am fwy o wybodaeth am gyfrifoldebau, cyllid a chostau am weithredu’r gostwng oedran pleidleisio. Byddaf, wrth gwrs, yn hapus i wneud hyn ac i ddiweddaru’r asesiad costau cyn Cyfnod 3. Rwyf wedi trafod y pwyntiau a godwyd gan y pwyllgorau gyda'r Cwnsler Cyffredinol, a fydd yn ymateb i'w hargymhellion gyda rhagor o wybodaeth.

Gan droi nawr at gyllid ac atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, trosglwyddodd Deddf Cymru 2017 gyfrifoldeb am etholiadau datganoledig Cymru i'r Cynulliad hwn. Rwy'n credu bod angen meithrin perthynas newydd, felly, rhwng y Cynulliad a rheoleiddiwr yr etholiadau hynny, sef y Comisiwn Etholiadol, cyn etholiad nesaf y Cynulliad. Rwy'n meddwl bod mwyafrif yr Aelodau'n rhannu'r farn honno. Mae adran 27 o'r Bil yn paratoi'r ffordd ar gyfer y berthynas newydd honno. Fel y gŵyr yr Aelodau, eglurais fy mod yn rhagweld y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cyflwyno gwelliannau i'r adran hon. Nid yw’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn fodlon ar y dull gweithredu yma. Yn yr un modd, mae'r Pwyllgor Cyllid yn gofyn bod gwelliannau drafft yn cael eu cyflwyno cyn trafodion Cyfnod 2. Rwy'n deall nad yw hyn oll yn ddelfrydol. Byddai wedi bod yn well gennyf gynnwys cynigion sydd wedi'u ffurfio'n llawn yn y Bil cyn ei gyflwyno neu wrth ei gyflwyno, ond nid oedd hynny'n bosib gan y byddai oedi wedi golygu colli'r cyfle i wneud newidiadau cyfansoddiadol pwysig erbyn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021, megis, yn enwedig, gostwng yr oedran pleidleisio.

Argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid bwrw ymlaen â hyn drwy’r Bil llywodraeth leol yn lle hynny. Rwyf wedi trafod hyn gyda'r Cwnsler Cyffredinol, a, serch hynny, mae’n debyg mai'r Bil Senedd ac etholiadau yw’r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf addas ar gyfer cyflawni’r newid yma yn barod at etholiadau 2021. 

Rwyf wedi cael trafodaethau adeiladol â'r Cwnsler Cyffredinol o ran pa wybodaeth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei rhannu cyn cychwyn trafodion Cyfnod 2 mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Cyllid. Rwyf wedi egluro wrth y pwyllgorau fy rhesymeg dros gynnig y dylai’r Comisiwn Etholiadol fod yn atebol i bwyllgor newydd wedi'i gadeirio gan y Llywydd. Gwn fod y sefydliadau Cymreig eraill a gaiff eu hariannu’n uniongyrchol o gronfa gyfunol Cymru yn atebol i’r Pwyllgor Cyllid, a gwerthfawrogaf bryderon y Pwyllgor Cyllid ynghylch sefydlu trefn wahanol ar gyfer y Comisiwn Etholiadol. Ond er mwyn sicrhau cysondeb â’r trefniadau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac yn unol â dymuniad y Comisiwn Etholiadol hefyd, credaf mai sefydlu pwyllgor newydd fyddai'n addas yn yr achos yma.

Pe bai hynny’n digwydd, byddwn, wrth gwrs, yn cymryd camau i fynd i’r afael â rhai o bryderon y Pwyllgor Cyllid. Er enghraifft, awgrymaf y gallai Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid fod yn aelod o’r pwyllgor newydd er mwyn rhoi llais i’r Pwyllgor Cyllid wrth graffu ar waith y Comisiwn Etholiadol a sicrhau cysondeb gyda datganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid. Rwyf wedi dechrau trafod hyn gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a dwi'n edrych ymlaen at ragor o drafodaethau yn ystod Cyfnod 2.

Gan symud ymlaen i’r adran ar anghymhwyso: yn ganolog i'r adran hon mae’r egwyddor y dylid caniatáu i gynifer o bobl â phosib sefyll mewn etholiadau. Roeddwn yn falch o weld cefnogaeth y pwyllgorau i'r agweddau hyn ar y Bil, a byddaf yn ystyried y pwyntiau penodol y maent wedi'u gwneud.

Mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i alluogi Gweinidogion Cymru i weithredu argymhellion ar ddiwygio cyfraith etholiadol a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith. Er y cafwyd cefnogaeth i egwyddor diwygiadau o'r fath, mynegwyd pryderon ynghylch eu dull gweithredu. Felly, byddaf yn derbyn yr argymhelliad ac yn dileu adran 36 o'r Bil.

At ei gilydd, rwy'n gryf o'r farn bod y diwygiadau a gyflwynwyd yn y Bil hwn yn newidiadau cyfansoddiadol pwysig i gryfhau cyfranogiad democrataidd yng Nghymru a gwneud gwelliannau gweithredol i'n Senedd genedlaethol. Gyda'i gilydd, maent yn cyfrannu at greu Senedd i Gymru sy'n addas at y diben am yr 20 mlynedd nesaf a mwy, a dwi'n edrych ymlaen y prynhawn yma at glywed barn fy nghyd-Aelodau.

16:35

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae hwn yn ddarn mawr o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol Gymreig, a chafodd sylw gofalus a difrifol iawn gan y pwyllgor, fel y gellid disgwyl. Craffodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil rhwng mis Chwefror a mis Mehefin eleni. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus a chlywsom dystiolaeth lafar mewn cyfarfodydd ffurfiol. Hefyd, gofynnwyd am farn pobl ifanc ynglŷn â phleidleisio yn 16 oed, gan ddefnyddio fforwm ar-lein Dialogue y Senedd, ac yn ystod ymweliad ag Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yng Nghaerdydd, a hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith hwnnw ac i'r rhai a gymerodd ran yn y gwahanol sesiynau tystiolaeth.

Gwnaethom 19 o argymhellion yn ein hadroddiad, argymhellion a anelai'n bennaf at wella'r ddeddfwriaeth a'i chyflwyno'n effeithiol gan ganolbwyntio ar arferion deddfwriaethol da. Er bod gennym rai amheuon ynghylch y dull o ddeddfu a fabwysiadwyd ar gyfer cyflwyno'r Bil, serch hynny, fe wnaethom argymell y dylid cytuno ar ei egwyddorion cyffredinol.

Felly, gan droi at Ran 2 o'r Bil a'r cynigion i ailenwi'r Cynulliad Cenedlaethol yn 'Senedd', clywsom dystiolaeth yn cyflwyno achos dros yr enw uniaith 'Senedd' neu 'Senedd Cymru' neu'r enw dwyieithog 'Senedd Cymru' a 'Welsh Parliament'. Fodd bynnag, yn fwriadol ni wnaethom fynegi barn ar enw a ffefrir, gan ein bod yn credu bod yn rhaid i'r dewis o enw fod yn benderfyniad a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfanrwydd, a'r hyn a wnaf yw tynnu sylw'r Aelodau at y dystiolaeth a glywsom am hyn, sydd wedi'i nodi yn ein hadroddiad.

Nodwyd bod y Cwnsler Cyffredinol yn ystyried diwygio'r Bil gan ddefnyddio geiriad a allai fod mewn perygl o gael ei herio ac am y rheswm hwnnw ac er mwyn osgoi amheuaeth, credwn y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth y DU gyflwyno Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol fel nad yw'r risg o her yn codi mwyach.

Mae pleidleisio a chymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn ganolog i gymdeithas iach a gweithredol, ac felly rydym wedi cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan 3 o'r Bil. Yn ein barn ni, mae gostwng yr oed pleidleisio i 16 yn gyfle i sicrhau cymdeithas sy'n ymgysylltu'n well â'r broses ddemocrataidd dros y tymor hir a dylid croesawu hynny. Rydym yn argyhoeddedig y bydd gostwng yr oedran pleidleisio yn galw am godi ymwybyddiaeth a chymorth addysgol digonol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn defnyddio'r cyfle hwn. Am y rheswm hwnnw, rydym yn pryderu ei bod hi'n ymddangos nad oes cynllun gweithredu cydlynol ar gael i sicrhau pleidlais i rai 16 oed yn barod ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2021. Yn ein barn ni, Lywydd, nid oedd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Addysg yn ddigon clir ynghylch eu cynlluniau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ac addysg. Os yw pobl 16 ac 17 oed i arfer eu hawl i bleidleisio yn 2021, mae angen cynllun clir, cydlynol, wedi'i amserlennu a'i gostio ar gyfer codi ymwybyddiaeth ac addysg ddinesig ar frys.

Rydym yn cydnabod bod gwaith ar y gweill i gydlynu gweithgarwch yn ffurfiol drwy grŵp rhanddeiliaid, fel y crybwyllwyd. Er y croesewir ei gydweithrediad, nid ydym yn glir o hyd beth yw cyfansoddiad, cyfrifoldebau ac amserlen weithredol y grŵp rhanddeiliaid; edrychwn ymlaen at weld y manylion pellach y mae'r Llywydd wedi nodi y byddant yn cael eu darparu yn yr ymateb i hyn. O ystyried y dylanwad posibl a allai fod gan y grŵp rhanddeiliaid, argymellasom y dylai'r Llywydd gyhoeddi aelodaeth a chylch gorchwyl y grŵp rhanddeiliaid, gan gynnwys y cerrig milltir allweddol a'r amserlenni ar gyfer cyflawni, ac wrth gwrs, mae'r Llywydd wedi cyfeirio at hyn. Yn dilyn ymlaen o hyn, argymhellwyd y dylai'r grŵp rhanddeiliaid baratoi cynllun gweithredu ar gyfer cydlynu'r holl waith sy'n ymwneud â pharatoi ymgyrch godi ymwybyddiaeth a deunyddiau addysgol ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2021, gan nodi'n glir y llinellau atebolrwydd yn ogystal â chyfrifoldeb am baratoi ffrydiau gwaith penodol.

Rydym yn cytuno â'r Llywydd a Llywodraeth Cymru na ddylai'r Bil gynnwys dyletswyddau penodol mewn perthynas â materion addysgol. Fodd bynnag, rydym o'r farn fod angen canllawiau i sicrhau darpariaeth addysgol ddigonol a chyson ledled Cymru i'r perwyl hwnnw, a chroesawyd ymrwymiad y Gweinidog Addysg yn ystod y sesiynau tystiolaeth i ystyried y mater hwn ymhellach yn dilyn cyngor gan y grŵp rhanddeiliaid. Felly, argymellasom y dylai'r Gweinidog Addysg gyhoeddi datganiad yn egluro sut y caiff dinasyddiaeth ac addysg wleidyddol eu cyflwyno mewn pryd ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2021, gan gynnwys yr amserlen ar gyfer unrhyw ganllawiau cysylltiedig y mae'n bwriadu eu cyhoeddi. Argymellasom hefyd y dylai'r Llywydd gyhoeddi datganiad ysgrifenedig cyn gynted â phosibl yn nodi'r cyllid sy'n cael ei ddarparu gan bob corff sy'n cyfrannu at godi ymwybyddiaeth ac addysg yn barod ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2021.

Hoffwn roi sylw'n fyr yn awr i faterion sy'n ymwneud â'r broses gofrestru etholiadol. Mae angen i'r trefniadau gweinyddol sy'n galluogi pobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad yn 2021 weithredu'n effeithlon er mwyn sicrhau nad yw profiad pleidleiswyr newydd yn un negyddol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y gall pleidleisio yn yr etholiad cyntaf y mae rhywun yn gymwys i bleidleisio ynddo effeithio ar eu tuedd i bleidleisio yn y dyfodol. Daeth yn amlwg inni fod angen mwy o eglurder ynglŷn â phwy sy'n arwain a chydlynu'r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod y rhai sy'n ennill hawl i bleidleisio'n cael eu cofrestru ac yn gallu arfer eu hawl i bleidleisio yn 2021. Mae angen eglurder hefyd ynghylch ariannu'r newidiadau sydd eu hangen. Felly, argymellasom y dylai'r Llywydd gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn nodi pwy sydd â'r cyfrifoldebau dros yr holl newidiadau sydd eu hangen ar gyfer y prosesau gweinyddu a chofrestru etholiadol, yn ogystal â mynd i'r afael ag ariannu'r newidiadau.

Hoffwn roi sylw yn awr i adran 27 y Bil, ynghylch goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Cytunwn â'r Llywydd, y Cwnsler Cyffredinol a'r Comisiwn Etholiadol y dylai'r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru fod yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol fel mater o egwyddor. Fodd bynnag, rydym o'r farn y dylid bod wedi cynnwys darpariaethau wedi'u datblygu'n llawn yn y Bil wrth ei gyflwyno, yn hytrach na'r dull sy'n cael ei awgrymu yn awr o gael gwelliannau yng Nghyfnodau 2 a 3. Roedd yr ohebiaeth a gawsom gan y Llywydd a'r Cwnsler Cyffredinol am adran 27 tua diwedd Cyfnod 1 yn atgyfnerthu her y dasg hon: bydd angen i'r gwelliannau sydd i'w gwneud i'r Bil fod yn sylweddol ac yn gymhleth.

Rydym yn cydnabod y byddai'n well yn gyfansoddiadol pe bai trefniadau ar waith cyn etholiad y Cynulliad yn 2021. O dan yr amgylchiadau, argymhellwyd y dylai darpariaethau'n nodi'r trefniadau manwl ar gyfer goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru gan y Cynulliad Cenedlaethol gael eu dileu o'r Bil ac yn absenoldeb Bil annibynnol, dylid eu cynnwys yn y Bil llywodraeth leol arfaethedig sydd wedi'i addo. Cyfeiriwyd at hyn eisoes, wrth gwrs, yn y sylwadau gan y Llywydd, ond credwn y byddai hyn wedi caniatáu ar gyfer craffu ar y darpariaethau hynny yn ystod proses Cyfnod 1, gan ganiatáu ymgysylltiad â rhanddeiliaid ar fanylion y darpariaethau pwysig hyn. Dyna pam y gwnaethom argymhelliad cyffredinol, gan ailadrodd un a wnaed gan y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn ei adroddiad 'Deddfu yng Nghymru', y dylid cyflwyno Biliau i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ystyried yn rhesymol eu bod wedi'u datblygu'n llawn wrth eu cyflwyno.

Rydym yn croesawu'r cynigion yn Rhan 4 o'r Bil sy'n gweithredu argymhellion gan y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn y pedwerydd Cynulliad yn ymwneud ag anghymhwysiad rhag bod yn Aelod Cynulliad. Roedd ein hunig argymhelliad yn ymwneud â'r Llywydd a Llywodraeth Cymru yn sicrhau eu bod yn fodlon ar yr atodlen sy'n rhestru'r categorïau o bobl sydd wedi'u hanghymhwyso a deiliaid swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso. Yn olaf, fel y nodwyd, rhannwn bryderon y Cwnsler Cyffredinol ynghylch rhoi pwerau i Weinidogion Cymru fel y darperir ar eu cyfer yn adran 36 o Ran 5 o'r Bil. Rydym wedi rhybuddio'n gyson yn erbyn defnyddio is-ddeddfwriaeth i weithredu newidiadau polisi sylweddol, ac felly, rydym yn argymell y dylid dileu adran 36 o'r Bil. Rwyf felly'n croesawu sylwadau a chynnig y Llywydd i ddileu adran 36 o'r Bil. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.

16:45

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o'r cyfle i gyfrannu at y ddadl yma i amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid ar oblygiadau ariannol y Bil yma. Rŷn ni wedi gwneud 15 o argymhellion, ac rwy’n gobeithio y bydd y Llywydd, fel dwi'n siŵr y bydd hi, yn ystyried pob un ohonyn nhw wrth i’r ddeddfwriaeth symud ymlaen. Wrth gwrs, mae hi wedi cyfeirio at rai yn barod, ac mi bigaf i i fyny ar hynny mewn munud. Mae’r pwyllgor yn cydnabod amcanion y Bil, yn enwedig y pwysigrwydd cyfansoddiadol o newid enw’r sefydliad i adlewyrchu ei sefyllfa fel y prif sefydliad democrataidd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae ein prif bryderon yn ymwneud â threfniadau ariannu a goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol.

Dri diwrnod ar ôl i’r Bil gael ei gyflwyno, fe ysgrifennodd y Llywydd ataf i yn nodi ei bwriad i ddiwygio’r Bil yng Nghyfnod 2 er mwyn sefydlu trefniadau i’r Comisiwn Etholiadol gael ei ariannu gan y Cynulliad, a bod yn atebol iddo, pe bai’r Cynulliad o blaid gwneud hynny. Nawr, mae’r Pwyllgor Cyllid yn amlwg yn siomedig nad oedd y maes polisi hwn wedi’i ddatblygu fwy cyn cyflwyno’r Bil, gan y gallai fod goblygiadau sylweddol o ran cost. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth gyda’r Llywydd, gofynnwyd a oedd bwriad i’r Comisiwn Etholiadol gael ei ariannu’n uniongyrchol o gronfa gyfunol Cymru. Ers hynny, mae’r Llywydd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ddweud mai dyma’r opsiwn y mae hi yn ei ffafrio. Mae’r Llywydd hefyd wedi cadarnhau mai’r hyn y mae hi’n ei ffafrio yw bod y Comisiwn Etholiadol yn atebol i bwyllgor y Llywydd.

Pan roedd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y Bil, doeddem ni ddim yn gallu dod i safbwynt ar ba mor briodol fyddai pwyllgor y Llywydd gan nad oeddem ni'n gwybod sut y byddai’r Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu. Fel y mae’r Cynulliad yn gwybod, ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor Cyllid yn goruchwylio’r holl gyrff sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol o gronfa gyfunol Cymru a, phe byddai pwyllgor arfaethedig y Llywydd yn ariannu’r Comisiwn Etholiadol yn uniongyrchol ac yn craffu arno fe, yna mae’r Pwyllgor Cyllid, fel y mae'r Llywydd wedi cydnabod, yn pryderu y byddem ni'n colli’r rôl oruchwylio yna o allu sicrhau bod cynigion y gyllideb yn cael eu gosod yng nghyd-destun y cyfyngiadau cyllideb ehangach yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r Llywydd, wrth gwrs, wedi nodi nawr ei bwriad, os caiff pwyllgor y Llywydd ei sefydlu i graffu ar y Comisiwn Etholiadol—ei bod hi'n debygol neu'n bosib y gallai Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid fod yn rhan o’r pwyllgor hwnnw. Dwi'n cydnabod hynny fel cam positif, ac yn sicr mai hynny yn rhywbeth y bydd y Pwyllgor Cyllid yn awyddus i'w drafod ymhellach. Dwi hefyd wedi ysgrifennu at y Llywydd yn gofyn am ragor o wybodaeth ynghylch ariannu’r Comisiwn Etholiadol. Dwi'n gobeithio y bydd y Llywydd yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor Cyllid ystyried goblygiadau cost unrhyw ddiwygiadau cyn trafodion Cyfnod 2.

Dwi nawr am droi at rai o'n hargymhellion eraill ni fel pwyllgor. O ran newid yr enw o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r Senedd, a fyddai'n digwydd ym mis Mai 2020, rŷm ni’n cydnabod bod y Bil fel y mae hi yn cymryd, neu'n trio cymryd, ryw ddull prudent—dyna dwi'n credu yw'r gair—tuag at wneud hynny, ac na ddilynwyd opsiynau drutach posib. Fodd bynnag, dŷn ni yn pryderu na fydd yr holl arwyddion, er enghraifft, yn cael eu newid ar y dyddiad hwn, ac y gall rhai cael eu newid mor hwyr â mis Mai 2021, i gyd-fynd, wrth gwrs, ag etholiadau nesaf y Cynulliad. Er ein bod ni'n gweld manteision ariannol yn hynny o beth, rŷm ni yn pryderu efallai y gallai hyn arwain at rywfaint o ddryswch ymhlith y cyhoedd, gyda rhai arwyddion yn newid nawr a rhai yn hwyrach. Rŷm ni yn argymell, beth bynnag, fod y Llywydd a Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos er mwyn sicrhau bod cyfathrebu clir â’r cyhoedd ynghylch newid yr enw.

Fel rhan o’n gwaith craffu ar y Bil, roeddem ni'n awyddus hefyd i edrych ar ffyrdd o leihau costau cynnal etholiadau. O ystyried cynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil llywodraeth leol, mae hwn, dwi'n meddwl, yn gyfle da i ni, efallai, amlygu rhai o'r materion pwysig yma. Rydym wedi gwneud nifer o argymhellion rŷm ni'n gobeithio y bydd y Llywodraeth a'r Llywydd yn eu hystyried, ac yn gweithio gyda’i gilydd i symleiddio etholiadau ac i beidio ychwanegu at gymhlethdodau’r system bresennol. Mae’r argymhellion, er enghraifft, yn cynnwys ystyried cael un gofrestr etholiadol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ac etholiadau’r Cynulliad, yn hytrach na chael 22 o gofrestri ar wahân; a hefyd, y posibilrwydd o gael cofrestru awtomatig. Er enghraifft, gallai pobl ifanc 16 oed gael eu cofrestru’n awtomatig i bleidleisio pan fyddan nhw yn derbyn eu rhif yswiriant gwladol. Rŷn ni'n credu hefyd y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o’r ffioedd sy'n cael eu talu i swyddogion canlyniadau fel rhan o’r uchafswm lwfans adenilladwy, gyda'r bwriad, wrth gwrs, o ystyried a ellir gwneud arbedion. 

Yn olaf, gan droi at weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith, dwi’n falch o glywed fod y Llywydd wedi ymrwymo i ddileu adran 36 o’r Bil. Rŷm ni'n cytuno â’r Cwnsler Cyffredinol nad yw hi'n briodol i Weinidogion Cymru newid cyfraith etholiadol drwy is-ddeddfwriaeth, gan y gallai hyn, wrth gwrs, arwain at ddiwygiadau yn cael eu gwneud heb waith craffu digonol, ac rŷm ni'n falch bod y Llywydd yn ystyried hynny. Felly, gyda hynny o sylwadau, gaf i ddweud ein bod ni'n edrych ymlaen at barhau i ymwneud â thaith y Bil yma drwy'r Cynulliad? Diolch yn fawr iawn i chi am eich gwrandawiad.

16:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth agor, gaf i gydnabod sylwadau'r Llywydd am ein trafodiadau cynhyrchiol, a diolch iddi am rheini? Rwyf am ddiolch, hefyd, i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith yn craffu ar y Bil ac am eu hadroddiadau, a diolch hefyd i'r cadeiryddion am eu cyfraniad i'r drafodaeth hon. Rwyf am roi sylw i'r argymhellion sydd angen ymateb gan Lywodraeth Cymru—yn gyntaf, argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

O ran argymhelliad 4, fe allaf i gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn egluro yn ein memorandwm esboniadol ar gyfer y Bil llywodraeth leol sut y byddai'r diwygiadau sy'n cael eu cynnig i ddeddfwriaeth etholiadol bresennol yn edrych yn eu cyd-destun.

O ran argymhelliad 6, rwy'n dal i gredu y byddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i ddiwygio geiriau agoriadol adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rwy'n nodi sylwadau ychwanegol y pwyllgor am Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ond mae'r amserlen ar gyfer sicrhau bod y diwygiadau pwysig hyn yn cael eu cyflawni yn golygu y bydd cyflwyno'r fath Orchymyn yn heriol tu hwnt.

O ran argymhelliad 7, mae'r rhain yn faterion i Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n cydweithio'n agos gyda'r gweinyddwyr etholiadol a'r Comisiwn Etholiadol drwy fwrdd cydlynu etholiadol Cymru a fforymau eraill. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth ariannol pan fydd yr is-ddeddfwriaeth sy'n diwygio'r broses ganfasio yn cael ei gosod gerbron y Cynulliad.

O ran argymhelliad 10, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori yn y gorffennol ar wella'r system gofrestru ar gyfer etholwyr. Byddwn yn cynnwys darpariaethau yn y Bil llywodraeth leol sydd ar ddod. Ond, yn ein barn ni, ni ddylid gwneud newidiadau pellach i'r broses gofrestru ar yr un pryd â newidiadau i'r etholfraint a diwygio'r system ganfasio. Byddai gwneud hynny'n achosi perygl sylweddol i uniondeb etholiadau datganoledig yma yng Nghymru.

Ar argymhellion 11, 12 a 13, mae Llywodraeth Cymru yn creu'r grŵp rhanddeiliaid a bydd yn gwneud fel y mae'r pwyllgor yn ei argymell, gyda'r cafeat y bydd y gwaith yn fwy eang ei gwmpas nag y mae argymhelliad 12 yn ei awgrymu. Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu ag ystod mor eang â phosibl o randdeiliaid yn ein gwaith ar godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau i'r etholfraint sydd wedi'u cynnwys yn y Bil ac yn y Bil llywodraeth leol ac etholiadau sydd ar y ffordd. Byddwn yn cyhoeddi'r cylch gorchwyl a'r cynllun gwaith ar gyfer ein grŵp ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y dyfodol agos.

Ar argymhelliad 14, bydd y Gweinidog Addysg yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i amlinellu'r modd y caiff dinasyddiaeth ac addysg wleidyddol eu cyflwyno ledled Cymru o haf 2020. O ran argymhelliad 15, mae'r rhain hefyd yn faterion i Lywodraeth Cymru, a chânt eu hystyried fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb ar gyfer 2020-21. Gan y bydd yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn cynnwys ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol, mae arnaf ofn nad yw'n bosibl nodi'r gost ar gyfer pob etholiad mewn ffordd ystyrlon. Ond byddwn yn ystyried a oes unrhyw wybodaeth arall y gallem ei darparu er mwyn rhoi darlun llawnach.

Ar argymhellion 16 a 17, nid yw'r Bil llywodraeth leol yn gyfrwng addas yn ein barn ni ar gyfer darpariaethau'n ymwneud ag atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol. Mater i'r Senedd yw hwn, nid i lywodraeth leol. Y Bil Senedd ac Etholiadau yw'r cyfrwng cywir ar gyfer y darpariaethau hyn, ac nid wyf am weld unrhyw oedi ar hyn, yn enwedig gan fod Comisiwn y Cynulliad a'r Comisiwn Etholiadol yn cytuno y dylai ddigwydd, a bod Llywodraeth yr Alban yn bwriadu deddfu mewn modd tebyg, er enghraifft. Fodd bynnag, rwy'n llwyr gydnabod y pryderon a fynegwyd gan bwyllgorau, ac rwyf am ddweud rhagor am hynny yn nes ymlaen. Yn olaf, ar ddeunawfed argymhelliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, rydym yn sicr yn fodlon fod yr anghymwysiadau a nodir yn y Bil yn briodol, a byddwn yn cyflwyno unrhyw welliannau y credwn eu bod yn angenrheidiol yng Nghyfnod 2.

Trof yn awr at argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Llywydd i fynd i'r afael ag argymhellion 1 a 2 ar gostau hysbysiadau ac awdurdodau lleol. Mae argymhellion 3 a 4 ar gofrestru etholiadol yn faterion i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi ymgynghori ar hyn a byddwn yn cynnwys darpariaethau yn y Bil llywodraeth leol. Ond fel y dywedais yn gynharach, nid ydym yn bwriadu gwneud newidiadau pellach ar yr un pryd â'r rhai ar gyfer yr etholfraint a diwygio'r canfasiad, gan y byddai hynny'n creu risgiau sylweddol yn ein barn ni.

Nid ydym yn derbyn argymhellion 5 a 6. Materion i awdurdodau lleol yw'r rhain. Nid ydym ychwaith, mae arnaf ofn, yn derbyn argymhellion 7 ac 8. Nid ydym yn credu ei bod yn briodol mynd i'r afael â chyhoeddi gwariant etholiadau'r Cynulliad na ffioedd swyddogion canlyniadau mewn deddfwriaeth sylfaenol, ond rydym yn bwriadu mynd i'r afael â'r ddau fater drwy ddulliau eraill. Bydd y costau y gofynnir amdanynt yn argymhelliad 11 yn cael eu cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Bil llywodraeth leol. Rydym yn derbyn argymhelliad 12. Bwriadwn gynnwys aelodaeth eang ar y grŵp llywio adnewyddu democrataidd a'r is-grwpiau.

Yn olaf, rydym hefyd yn derbyn argymhelliad 13. Fel y soniais yn gynharach, fy mwriad yw cyflwyno gwelliannau mewn perthynas ag atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol yng Nghyfnod 2. Mae hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys a fydd unrhyw gydsyniad Gweinidog y Goron y gallai fod angen inni ei geisio yn cael ei roi. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am fy nghynigion ar hyn ar ôl toriad yr haf, ond yng ngoleuni pryderon y pwyllgor, rwyf wedi penderfynu gohirio'r cynnig ar y penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hyd nes y byddaf mewn sefyllfa i ddarparu'r wybodaeth honno.  

Fel y dywedais pan gyflwynwyd y Bil, mae'n gam pwysig ar ein taith ddatganoli. Mae'n bwysig ein bod yn defnyddio ein pwerau newydd yn y maes hwn i sicrhau y gall ein deddfwrfa barhau i wasanaethu pobl Cymru'n effeithiol mewn tirwedd gyfansoddiadol sy'n newid. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil yn llawn.

17:00

Ddirprwy Lywydd, gobeithio y maddeuwch i mi am ddechrau mewn hwyliau ychydig yn fwy dathliadol gan mai pwrpas canolog y Bil hwn o'm rhan i yw ymestyn yr etholfraint i grŵp pwysig iawn o bobl ac i mi, roedd y profiad o weld sut oedd pobl ifanc 16 a 17 oed wedi cyfrannu at refferendwm yr Alban yn 2014 yn gadarnhad go iawn fod hwn yn gam cadarnhaol. Yn hytrach na bod yn ddifater, fe wnaethant fachu ar y cyfle. Canfu arolwg ar ran y Comisiwn Etholiadol fod 75 y cant o bobl ifanc 16 a 17 oed wedi pleidleisio yn y refferendwm hwnnw. Aeth miloedd o bobl ifanc nad oeddem yn credu bod ganddynt ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth i'r gorsafoedd pleidleisio gyda'u rhieni a'u neiniau a'u teidiau er nad oedd ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o wneud hynny.

Ond y profiad hwnnw, a'r modd y gwnaethant gymryd rhan yn y dadleuon a oedd yn cydredeg â'r refferendwm, a ysbrydolodd lawer o Geidwadwyr yn yr Alban i gefnogi'r achos hwn, a chredaf ei fod yn beth pwysig iawn i'w gofio—sut y gwnaeth y pleidleiswyr newydd ymddwyn a dangos bod ganddynt gymaint o ddiddordeb mewn cymryd rhan lawn yn y cwestiwn gwleidyddol hwnnw. Mae hynny'n sicr wedi fy ysbrydoli i i roi fy nghefnogaeth lwyr i ymestyn yr etholfraint yma yng Nghymru.

Ac mae hefyd yn ymwneud â dinasyddiaeth, Ddirprwy Lywydd, a pharatoi ar gyfer cymryd rhan weithredol mewn llywodraethu cyffredinol. Gallwn gryfhau'r cysyniad o ddinasyddiaeth, ei hawliau a'i chyfrifoldebau trwy raglen baratoi yn ein hysgolion a'n colegau. Rydym yn wynebu argyfwng dinasyddiaeth, a dweud y gwir, a'i gysylltiad â'r dyletswyddau o redeg democratiaeth, ac mae hon i'w gweld yn un ffordd y gallwn ddechrau unioni hynny a chael delfrydiaeth yn ôl i mewn i'r broses ddemocrataidd, rhywbeth y mae ei gwir angen arni i allu ffynnu.

Fodd bynnag, credaf fod ymestyn yr etholfraint mewn unrhyw wlad yn foment dyngedfennol yn ei hanes, a dylid ei wneud gyda'r difrifoldeb sy'n briodol. Fel y dywedais, rwyf fi'n bersonol yn cefnogi'n frwd y symudiad i ostwng yr oedran pleidleisio, ac felly byddaf yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw, a buaswn hefyd yn argymell bod pob Aelod yn y Siambr hon yn gwneud yr un fath. Fodd bynnag, fel grŵp, byddwn yn caniatáu pleidlais rydd er mwyn i Aelodau allu penderfynu drostynt eu hunain ynglŷn â'r diwygiad cyfansoddiadol pwysig hwn.

Wedi dweud hynny, fodd bynnag, a dathlu'r hyn rwy'n gobeithio y byddwn yn ei wneud yn y misoedd nesaf, credaf ei bod yn bwysig fod y Bil hwn yn cael ei gryfhau hefyd. Mae'n llai na boddhaol gadael cwestiwn yr etholfraint a'i gostwng mewn etholiadau awdurdodau lleol i Fil yn y dyfodol. Dylem fod wedi edrych ar yr egwyddor o ostwng yr etholfraint i rai 16 a 17 oed, neu ei hymestyn iddynt, i gynnwys pob etholiad o fewn ein cwmpas, ac mae hynny'n golygu etholiadau llywodraeth leol hefyd. Rydym wedi cael addewid o Fil ac mae'n siŵr y bydd un yn cael ei gyflwyno, ond mae hwn yn faes dadleuol iawn o ran diwygio llywodraeth leol a gallai'r Bil hwnnw wynebu trafferthion. Rwy'n gobeithio na fydd, o ran materion yr etholfraint, beth bynnag.

A gaf fi droi at y ddyletswydd i addysgu? Er bod amryw o ddadleuon o blaid ac yn erbyn gostwng yr oedran pleidleisio i 16, un pryder cyffredin a bwysleisiwyd yw'r angen am addysg a chodi ymwybyddiaeth i gyd-fynd â'r newid hwn, ac yn wir iddo ddigwydd beth bynnag, fel bod dinasyddion yn cael eu paratoi'n briodol ar gyfer eu dyletswyddau gwleidyddol. Barnodd ystod gyfan o dystion fod y lefel bresennol o gymorth addysg weithiau, neu hyd yn oed yn aml efallai, yn annigonol. Er enghraifft, dywedodd Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru fod addysg wleidyddol yn gymharol wael, a'n bod wedi ymddieithrio i raddau oddi wrth wleidyddiaeth ddatganoledig yn arbennig. Mae hynny'n wendid. Wrth nodi'r arferion ragorol mewn rhai ysgolion, cyfaddefodd y Gweinidog Addysg hyd yn oed fod y ddarpariaeth addysg dinasyddiaeth yn amrywio rhwng ysgolion, a chydnabu fod yr angen am gysondeb yn y negeseuon y mae pobl ifanc yn eu cael mewn perthynas ag addysg wleidyddol drwy'r cwricwlwm newydd yn bwysig.

Fodd bynnag, yn fwy cadarnhaol, mae myfyrwyr Cymru yn galw'n daer am well ymgysylltiad ac addysg wleidyddol. Dangosodd arolwg barn yn 2017 fod 60 y cant ohonynt yn anghytuno eu bod wedi cael paratoad gwirioneddol dda ar gyfer gwleidyddiaeth, ond eu bod eisiau iddo fod yn well o lawer. Dywedodd llawer ohonynt, fodd bynnag, fod llawer o'u gwybodaeth yn dod o ffynonellau fel Facebook ar hyn o bryd. Ac unwaith eto, credaf fod angen inni fynd i'r afael â hynny. Heb raglen addysg gref y tu ôl i'r newidiadau hyn, credaf fod perygl y byddwn yn gweld rhai o'r problemau a wynebwyd yn yr Alban, lle'r oedd 25 o'r 32 o awdurdodau wedi datblygu canllawiau i brifathrawon—rwy'n cymryd na wnaeth y gweddill hynny—ond nid oedd llawer o gysondeb canolog, a chredaf y gallem wella pethau yma drwy baratoi'n fwy effeithiol yn gyffredinol a chael yr arweiniad canolog hwnnw. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n faes pwysig.

Rwy'n sylweddoli bod fy amser wedi dod i ben, ond rwy'n gobeithio y goddefwch i mi gyfeirio at yr enw. Mae anawsterau yma ynglŷn â dehongliad cyfreithiol, ond ar y funud, rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno fod adran 2 neu gymal 2—ni allaf fyth gofio os yw'n adran neu gymal—yn dweud:

'(1) Mae Cynulliad Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf 2006 i’w alw’n “Senedd”.

(2) Caniateir galw’r Senedd hefyd yn Welsh Parliament.'

Wel, pe caem y gair 'congress' i mewn i'r ddwy linell hynny, credaf y byddem wedi cael bingo gwleidyddol ac y byddem wedi gallu gweiddi, 'house'—efallai y byddai wedi bod yn briodol. Rwy'n credu bod angen gwella hyn. Rwy'n credu bod angen enw dwyieithog arnom. Mae hynny'n hynod bwysig. Mae amryw o bethau y byddaf yn eu cyflwyno pan fyddwn yn edrych ar hyn, ond mae ein barn mewn gwirionedd yn—. Dylwn ddweud 'fy marn i', oherwydd nid oes gan y grŵp un yn dechnegol. Ond mae fy marn i'n cyd-fynd yn agos â'r Cwnsler Cyffredinol y dylai ddweud y bydd yna 'parliament' i Gymru, a elwir yn Senedd Cymru. Credaf mai dyna lle mae angen inni ei gyrraedd. Hefyd, buaswn wedi gwneud sylwadau am—

17:05

Rwy'n gwybod bod fy amser ar ben, ond a gaf fi gofnodi fy niolch, fel cyn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y bydd yr argymhellion ar anghymhwyso yn mynd ati'n eithaf llawn yn awr i ddatblygu gwaith y pwyllgor yn y pedwerydd Cynulliad? Rwy'n falch o weld hynny.

Allaf innau hefyd groesawu geiriau agoriadol y Llywydd a'i llongyfarch ar ei huchelgais efo'r Bil yma, ac yn naturiol yn cytuno efo egwyddorion cyffredinol Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)? Wedi'r cwbl, mae hyn yn deillio o gyhoeddiad yn Chwefror 2017 ar sefydlu panel arbenigol i ddarparu cyngor gwleidyddol diduedd—dyna oedd y geiriad—ar nifer yr Aelodau Cynulliad, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau Cymru. Yn y Bil yma dŷn ni'n gweld newid enw'r sefydliad—mwy am hynny yn y man—gostwng yr oedran isaf i bleidleisio, a materion eraill fel diwygio'r gyfraith sy'n ymwneud ag anghymhwyso. Ond dim rhagor o sôn am gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad na newid y system etholiadau. Mae’r elfennau yma yn destun dadl Plaid Cymru sydd yn dilyn y ddadl yma'n syth, a chaiff Aelodau gyfle i bleidleisio ar y ddwy elfen yma, sef cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad a newid y system bleidleisio, yn nes ymlaen.

Mae'n bwysig nodi, fel y mae Cadeirydd y pwyllgor materion cyfansoddiadol eisoes wedi'i nodi, pwysigrwydd yr achlysur yma. Dyma gam cyntaf gweithredu ar y cynigion angenrheidiol i greu Senedd sy'n ffit i bwrpas yma yng Nghymru ac y mae pobl Cymru yn haeddiannol ohoni. Ac mae Plaid Cymru yn hollol gefnogol i hynny.

O ran y prif ddarpariaethau, mi wnaf i ddechrau efo gostwng yr oedran pleidleisio i 16. Wrth gwrs, mae gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau'r Senedd yn rhywbeth rydym ni'n ei groesawu'n frwd fel plaid. Rai wythnosau'n ôl, fe gawsom ni'r fraint o gynnal dadl ar y cyd yma yn y Siambr rhwng Aelodau'r Senedd yma ac Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Edrychwn ymlaen, felly, a rhown ein cefnogaeth frwd felly i'r ddarpariaeth yn y Bil ar gyfer sicrhau y gall holl bobl ifanc Cymru ddylanwadu ar y Senedd yma.

Yn nhermau enw'r Senedd, mae'r blaid yma o'r farn y dylai'r enw 'Senedd' gael ei arddel fel enw swyddogol y sefydliad yn y ddwy iaith, gan fod y Gymraeg, fel y Senedd yma ei hun, yn perthyn i holl bobl Cymru ac yn cynrychioli'r holl ddinasyddion. Wrth gwrs, mae enghreifftiau fel Dáil, Knesset a Duma yn dod o brofiad rhyngwladol, ac wrth gwrs yn cyfoethogi ein profiad ninnau. Mae yna ddefnydd helaeth o'r enw 'Senedd' yn barod yma dros y misoedd diwethaf. Mae pobl yn sylfaenol yn gwybod beth yw Senedd. Dwi'n credu ei bod hi braidd yn ddilornus ac yn sarhad i awgrymu bod pobl Cymru, hynny yw, y sawl sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg, ryw ffordd ddim yn gallu deall beth yw Senedd. Dwi yn credu bod hynny'n gallu bod yn sarhad ar y sawl sydd ddim yn naturiol yn siarad Cymraeg.

Mae'n bwysig nodi bod y ddarpariaeth yn y Bil yn pwysleisio felly mai 'Members of the Senedd' y bydd enwau Aelodau’r Senedd yn y ddwy iaith, ac mai'r 'Senedd Comission' fydd yr enw swyddogol ar y Comisiwn yn y ddwy iaith. O ran y bwriad i gyflwyno'r descriptor 'Welsh Parliament', fe allaf i weld yr achos dros gael strapline yn y Saesneg yn esbonio swyddogaeth y Senedd, ond mae yna drafodaeth i'w chael yn ystod Cyfnod 2, wrth inni graffu'n fanylach, ynghylch ai'r ddarpariaeth fel ag y mae yn y Bil ar hyn o bryd yw'r ffordd orau o gyflawni'r nod hwnnw. Mae cynnig amgen y Llywodraeth yn awgrym diddorol o ran sut i gyflawni hyn.

Felly, dwi'n falch bod y ddadl hon yn gosod y tir yn berffaith ar gyfer dadl Plaid Cymru, nawr yn y man, ar fwrw ymlaen gyda'r gwaith diwygio i allu trawsnewid ein Senedd a'n gwleidyddiaeth yma yng Nghymru. Pleidleisiwch o blaid y cynnig. Diolch yn fawr.

17:10

A gaf fi ddechrau drwy ddweud pa mor gyffrous ydw i i gael y sgwrs hon a'r ddadl hon yn y lle hwn y prynhawn yma? Ddirprwy Lywydd, credaf fod yna adegau, a dywedaf hyn gyda'r parch mwyaf at bawb sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon, pan all gormes y broses seneddol sugno'r bywyd allan o unrhyw uchelgais a'r weledigaeth fwyaf argyhoeddiadol. I lawer ohonom, mae a wnelo hyn â chyflawni ymgyrch canrif o hyd am ymreolaeth a sefydlu seneddau ar ynysoedd Prydain. Keir Hardie, pan etholwyd ef gyntaf i gynrychioli Merthyr Tudful ac Aberdâr—nid yw Vikki yma, ond fe gaiff glywed os anghofiaf hynny—pan etholwyd ef gyntaf, cafodd ei ethol ar lwyfan ymreolaeth, ac rwy'n gobeithio y gallwn oll, neu'r rhan fwyaf ohonom o leiaf, uno o amgylch yr uchelgais hwnnw.

Credaf fod datganoli yn air hyll ofnadwy; mae'n ymwneud â phroses a dim byd am gyrchfan. I mi, rwy'n gobeithio y bydd y bobl rwy'n eu cynrychioli'n rhannu fy ngweledigaeth ynghylch Senedd ymreolaethol yma yng Nghymru. Fel y dywedodd Donald Dewar, mae hunanlywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig, yn cyflawni dros bobl Cymru, yn cyflawni dros y bobl a'n hetholodd ni yma, gan ganolbwyntio nid yn unig ar y sefydliad ond ar yr hyn yr ydym yma i'w wneud ac yma i'w gyflawni. Cytunaf â phopeth a ddywedodd David Melding ar yr holl faterion eraill. Roeddwn yn meddwl ei bod hi'n araith a estynnodd ein gweledigaethau yma y prynhawn yma. Buaswn yn cymeradwyo'r holl argymhellion a wnaeth. Nid af ar ôl y ddadl honno am y rheswm hwnnw.

Ond gadewch i mi ddweud hyn: rydym yn dioddef mewn sawl ffordd heddiw oherwydd diffyg paratoi yn ystod y 1990au ar gyfer creu Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Digwyddodd y paratoadau hynny yn yr Alban wrth gwrs ac mae eu taith wedi bod yn fwy esmwyth o lawer o ganlyniad i hynny rwy'n credu. Ond ers hynny rydym wedi cael llu o gomisiynau a phwyllgorau'n edrych ar amrywiol agweddau ar weithrediad llywodraethu datganoledig yng Nghymru. Ac rydym wedi methu—wedi methu'n llwyr—â nodi'r holl bobl hynny a'r holl waith hwnnw. Rhaid i'r methiant hwnnw ddod i ben heddiw a rhaid iddo ddod i ben yn awr. Mae arnom angen y dewrder gwleidyddol a'r weledigaeth ar ôl 1999 i gyflawni'r hyn y ceisiwn ei gyflawni.  

I mi, mae'r term 'Parliament' yn bwysig, ac rwy'n derbyn fy mod wedi newid fy safbwynt ar hyn. Fe'm perswadiwyd gan Ddirprwy Weinidog yr economi, sydd wedi fy mherswadio ynghylch llawer o bethau yn y gorffennol, mae arnaf ofn—nid yw helynt byth yn bell i ffwrdd—fod modd adnabod y term 'Senedd', mewn ffordd debyg iawn i'r ffordd y mae Dai Lloyd wedi'i disgrifio. Fodd bynnag, rwyf wedi fy narbwyllo. Nid oes gennyf wrthwynebiad, dylwn ddweud, i ddefnyddio'r term 'Senedd' yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ond daeth yn amlwg i mi wrth i'r ddadl hon esblygu fod pobl am inni ddefnyddio'r ddwy iaith yn gyfartal, ac mae'r rhai nad yw'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt am inni ddefnyddio'r term 'Parliament' ac nid y term 'Senedd' yn unig. Nid ein sefydliad ni yw hwn. Mae'n sefydliad sy'n perthyn i'r bobl a gynrychiolwn. Mae gennym gyfrifoldeb llwyr i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli'n gyfartal gan y sefydliad hwn ac o fewn y sefydliad hwn. Ac i mi, mae hynny'n ei gwneud hi'n gwbl glir mai Senedd i Gymru yw hon, i bawb yng Nghymru; ein Senedd ni, Senedd Cymru, ond mae'n Parliament ac yn Senedd, sy'n cynrychioli pawb yn gyfartal, ac mae angen inni allu gwneud hynny a gwneud hynny yn nheitl y sefydliad hwn.  

Gwrandewais ar y sylwadau a wnaethpwyd gan fy nghyfaill o Bontypridd, a darllenais yr adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar sut yr awn ati i sicrhau'r newid hwn, ac mae'n rhaid imi ddweud ei fod wedi crynhoi'r holl anawsterau gyda newid cyfansoddiadol yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae'n ymddangos bod dadl o ran ein gallu i wneud popeth sydd angen i ni ei wneud oherwydd deddfwriaeth 2006 ac yn y blaen. Mae angen inni allu symud yn gyflymach, yn gliriach ac yn fwy syml i wneud y newid hwn, ac mae angen inni wneud hynny ar hyd y llinellau ac o fewn yr amserlen sy'n cael ei chyflwyno gan y Llywydd.

A phan fyddwn yn creu'r Senedd hon, rydym yn galw ein hunain yn Aelodau ohoni. Rwyf wedi clywed pob math o ddadleuon gwahanol, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni symud i ffwrdd o bryfocio cae chwarae yn y ddadl hon. Mae hon yn ddadl ddifrifol, aeddfed ynglŷn â phwy ydym ni a beth ydym ni fel cenedl. Rwyf am fod yn Aelod o Senedd Cymru, sef ASC, sy'n gweddu'n dda i ddealltwriaeth a disgwyliadau pobl o'r modd y caiff pobl fel ni ein disgrifio. Mae pobl wedi arfer ag ASA, ASE ac AS, a bydd pobl yn dod i arfer ag ASC. Efallai nad ydynt ar hyn o bryd, ond mae'n amlwg bod angen inni wneud hynny.  

Mae fy amser wedi dod i ben, Ddirprwy Lywydd, ond hoffwn innau ofyn i chi fod yn oddefgar hefyd. Mae Senedd yn fwy na chasgliad o bobl ac yn fwy na phennawd llythyr, mae'n fwy na theitl. Mae angen inni gael yr Aelodau a chyfreithlondeb system etholiadol sy'n ethol yr Aelodau hynny i wneud i'r lle hwn weithio'n effeithiol ac i fod yn Senedd y mae'r bobl am ei chael. Mae'n ofid i mi fod Plaid Cymru wedi cyflwyno'u dadl a'u cynnig y prynhawn yma, sy'n ceisio rhannu yn hytrach nag uno. Gobeithio y bydd fy mhlaid yn chwarae ei rhan i sicrhau bod gennym y niferoedd yma i wneud y gwaith, wedi'u hethol yn y fath fodd fel eu bod yn darparu ar gyfer cydraddoldeb ac atebolrwydd. Nid oes gennym yr un o'r pethau hynny ar hyn o bryd, ond os ydym am greu Senedd a fydd wedi ei gwreiddio nid yn unig yn neddfwriaeth y wlad hon ond yng nghalonnau a meddyliau pobl y wlad hon, mae arnom angen dewrder gwleidyddol i fynd â'r ddadl honno allan, i wneud y newidiadau, i basio'r ddeddf, i greu'r Senedd honno. Diolch yn fawr.  

17:15

Rwy'n cytuno â'r sylwadau a wnaeth yr Aelod yn awr mewn perthynas â bod yn Senedd i Gymru a bod yn Aelodau o Senedd Cymru. Gresynaf ei fod, mae'n debyg, wedi dweud y gwrthwyneb yn y broses a arweiniodd at ddod â'r Bil i ni ar y ffurf y mae ynddi heddiw, oherwydd ym memorandwm esboniadol y Llywydd, mae'n dweud, yn gryno:

'Diben y Bil yw: ailenwi’r Cynulliad yn “Senedd”.'

Yna mae'n gwneud dau bwynt arall:

'gostwng yr oedran pleidleisio isaf',

ac yna cyflwyno nifer o ddiwygiadau eraill.

Byddwn yn gwrthwynebu'r Bil hwn heddiw am nad ydym yn cefnogi ailenwi'r Cynulliad yn 'Senedd'. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi—eto o leiaf, er fy mod yn rhannu barn rhai o'r Aelodau sydd â diddordeb arbennig a ddaeth i'r sesiwn a gawsom ar y cyd â'r Senedd Ieuenctid. Roeddwn innau'n llawn edmygedd hefyd; nid wyf yn diystyru cael fy argyhoeddi o'r achos dros newid yr oedran pleidleisio ar bwynt diweddarach, ond nid ydym wedi cael ein hargyhoeddi eto. A'r diwygiadau eraill—mae gennym farn gymysg ar y rheini.

Fe'm trawyd, ychydig flynyddoedd yn ôl, gan yr ymateb pan ddywedodd Andrew R.T. Davies, a oedd yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y pryd, neu arweinydd grŵp y Cynulliad o leiaf, fod y Ceidwadwyr o blaid ailenwi'r sefydliad hwn yn 'Welsh Parliament'. Ac rwy'n credu bod hynny wedi cael cryn dipyn o sylw yn y wasg. Nid oeddwn yn meddwl ei fod yn beth ofnadwy o ddadleuol i'w ddweud, ond gan fod y blaid wedi bod yn fwy amheus o ddatganoli, yn y gorffennol o leiaf efallai, câi ei weld fel rhywbeth arwyddocaol. Nid wyf yn ei weld mor ddadleuol y dylem gael ein galw'n 'Welsh Parliament', gan mai dyna ydym ni. Ers y refferendwm diwethaf, rydym wedi cael pwerau deddfu llawn, o leiaf yn y meysydd sydd gennym, ac rydym yn deddfu—dyna'r hyn y mae deddfwrfa'n ei wneud—ac rydym hefyd yn codi trethi. Cyn hynny, rwy'n meddwl ein bod wedi rheoleiddio'r hyn yr oedd cynghorau lleol yn ei wneud o ran sut y câi'r dreth gyngor ac ardrethi busnes eu codi, ond roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid ar gyfer y ddwy dreth newydd a gyflwynwyd gennym, ac erbyn hyn mae gennym gyfraddau treth incwm Cymru hefyd. Felly, credaf fod corff sy'n pasio deddfau ac yn codi symiau sylweddol o drethi yn Senedd a dylid ei galw'n hynny. Mae'n ddrwg gennyf nad yw hynny wedi'i gynnig ar wyneb y Bil dyna i gyd. Iawn, fe wnaf ildio.

17:20

Hoffwn wybod beth yw safbwynt plaid Brexit—. Gwyddom beth yw safbwynt plaid Brexit ar Ewrop ond fawr o ddim arall. Ai safbwynt plaid Brexit yn awr yw diystyru mabwysiadu polisi UKIP o ddiddymu'r Cynulliad? Felly, nid ydych yn llwyr o blaid diddymu'r Cynulliad.

Nid ydym o blaid diddymu'r Cynulliad.

Nawr, ar y pwynt iaith, cawsom ymgynghoriad, ac mae memorandwm esboniadol y Llywydd yn dweud wrthym fod 53 y cant yn credu bod yr enw 'Senedd' yn disgrifio'n dda yr hyn y mae'r sefydliad hwn yn ei wneud. Nid yw'r memorandwm esboniadol yn dweud wrthym fod yr ymgynghoriad wedi dangos—neu nid wyf wedi darllen ynddo, ac rwyf wedi edrych yn weddol ofalus—fod 73 y cant o'r ymgynghoriad wedi dweud y dylem gael ein galw'n 'Welsh Parliament'. Ac yn Neddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012—mae'n datgan y bydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef y Gymraeg a'r Saesneg, ac y dylid eu trin yn gyfartal. Nid yw hynny'n wir yn y Bil fel y mae ar hyn o bryd. Rhoddir blaenoriaeth i 'Senedd' dros 'Welsh Parliament', ac mae'r fersiwn Saesneg o'r Bil yn dweud 'Senedd' yn hytrach na 'Welsh Parliament'. Credaf fod hynny'n anghywir, a chredaf ei fod yn peri pryder gwirioneddol nad yw pobl allan yno yn ymgysylltu cymaint ag y byddem yn ei hoffi â'r lle hwn. Ac mae arnaf ofn fod hynny'n fwy gwir ymysg pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na'r rhai sy'n gwneud hynny.

Cyfeiriaf yn unig at y sylw arweiniol ar yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym mewn perthynas ag a ddylem gael enw uniaith Gymraeg:

Dylid cymryd gofal mawr i sicrhau ei fod yn adlewyrchu holl boblogaeth Cymru yn hytrach na pharhau i atgyfnerthu'r canfyddiad o'r Senedd fel rhywbeth ar gyfer elît sy'n siarad Cymraeg.

Rwy'n gresynu bod y Bil wedi cael ei gyflwyno yn y ffordd a wnaethpwyd.

O ran mesurau eraill sydd gennym, dywedodd y Llywydd yn ei haraith fod yr Aelodau yn gyffredinol eisiau adeiladu perthynas newydd â'r Comisiwn Etholiadol. Nid ydym eisiau gwneud hynny. Rydym o'r farn nad yw'r Comisiwn Etholiadol yn sefydliad effeithiol na chryf. Rydym yn pryderu nad yw'n dilyn y broses briodol ac nad yw'n gweithredu'n deg. Yn wir, buaswn yn cysylltu fy hun â sylwadau'r Heddlu Metropolitanaidd am y Comisiwn Etholiadol, sylwadau a wnaethant yn ddiweddar, ac nid wyf wedi fy argyhoeddi y byddai cael pwyllgor Llywydd yma, ynghyd â'r problemau a nodwyd gan Aelodau eraill, o gymorth gyda'r Comisiwn Etholiadol a'i safbwynt. Credwn fod angen rhywbeth yn ei le. Mae'n ddrwg gennym fod y rhan fwyaf o'r Bil hwn—nid ydym yn cefnogi dwy o'r elfennau allweddol a nifer o'r diwygiadau eraill. Felly, byddwn yn pleidleisio yn erbyn yr egwyddorion cyffredinol heddiw.

Fe ddechreuaf gydag ymestyn yr etholfraint. O ran cymhwysedd trigolion i bleidleisio, rwy'n cydnabod bod rhai safbwyntiau cryf iawn ar y naill ochr a'r llall i'r ddadl ar ostwng yr oedran pleidleisio i 16. O'm rhan i'n bersonol, mewn egwyddor, nid wyf yn gwrthwynebu'r cynnig i ostwng yr oedran pleidleisio, ond rwy'n credu ei fod yn anghyson tra bo gennym gynifer o weithgareddau sydd wedi'u gwahardd nes bod pobl ifanc yn cyrraedd 18 oed. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi dod i'r casgliad fod yna nifer o bethau nad yw rhai o dan 18 oed yn llwyr ddeall goblygiadau ymgymryd â hwy ac felly maent wedi deddfu i'w diogelu. Os ydym am gadw at yr egwyddor fod rhai pethau na ddylai'r gyfraith ganiatáu i bobl ifanc eu gwneud nes eu bod yn 18 oed, sut y gallwn ni hefyd arfer yr egwyddor fod pobl 16 oed yn ddigon aeddfed i fod yn rhan o'r broses sy'n penderfynu beth y maent a beth nad ydynt yn ddigon aeddfed i gymryd rhan ynddynt? Mae'n anghyson.

Mae negeseuon anghyson hefyd yn cael eu hanfon at blant 16 i 18 oed yn awr mewn ffyrdd eraill. Ar y naill law, ceir rhestr gyfan o bethau, fel cael twll mewn rhan bersonol o'r corff, yfed alcohol ac ati, y mae'r lle hwn ac eraill wedi pennu bod pobl ifanc yn rhy anaeddfed i benderfynu drostynt eu hunain ynglŷn â'u gwneud o dan 18 oed. Ond ar y llaw arall, mae'r Bil hwn yn dweud wrthynt eu bod nhw'n ddigon aeddfed i bleidleisio i benderfynu pwy sy'n rhedeg y wlad. Hynny yw, pa un yw hi am fod?

O ran elfennau eraill y Bil, gallaf gefnogi'r egwyddor o newid enw'r Cynulliad, ond dim ond ar y sail fod yr enw newydd yn ei gwneud yn haws i bobl Cymru ddeall beth y mae'r lle hwn yn ei wneud mewn gwirionedd. Nid oedd o gymorth yn y lle cyntaf fod y Siambr etholedig yng Nghymru wedi cael ei galw'n Gynulliad, a chytunaf â'r hyn a ddywedodd Alun Davies yn gynharach am ddatganoli ac am newid enw Aelodau'r lle hwn. I bob pwrpas, cafodd Cymru Siambr etholedig a oedd yn senedd israddol, a chafodd Cymru a'r Alban eu hanfon ar lwybr esblygol honedig a olygai y byddai'n rhaid i'r ddau le frwydro dros ddatganoli llywodraethu. Nid oedd o gymorth. Fel y gwyddom i gyd, mae datganoli wedi symud ymlaen erbyn hyn. Felly, rwy'n deall ac rwy'n cefnogi'r cynnig i newid enw'r Cynulliad.

Nawr, nid oes gennyf broblem gyda'r enw 'Senedd' a nodaf hefyd fod adran 2 yn caniatáu i 'Welsh Parliament' gael ei ddefnyddio yn lle 'Senedd', gan adlewyrchu'r ffaith bod dwy iaith swyddogol yng Nghymru, ond dyna lle mae'r dwyieithrwydd yn dod i ben. Mae adrannau 3 i 8 yn ailenwi organau'r Cynulliad yn y Gymraeg yn ogystal â'i Aelodau, sy'n gwbl resymegol wrth gwrs, ond wedyn mae'r cyfieithiad Saesneg yn gymysgedd a allai fod yn gamarweiniol o'r Gymraeg a'r Saesneg, er enghraifft 'Senedd Commission' yn hytrach na 'Welsh Parliament Commission'. Defnyddir yr enw 'Senedd' ar hyn o bryd fel dewis arall yn lle 'Assembly', felly pan ychwanegir 'Welsh Parliament' i'r gymysgedd, gall ymddangos i rai pobl fod 'Welsh Parliament' yn sefydliad ychwanegol yn hytrach na dim ond enw arall. Gallai enwau newydd yr Aelodau, y Comisiwn ac ati arwain at y camddealltwriaeth hefyd fod yna Senedd a 'Welsh Parliament', ac nad yw'r enwau newydd arfaethedig a nodir yn adrannau 3 i 8 yn gwneud ein rolau ni na rolau cyrff y lle hwn yn fwy dealladwy. Ac fe allwch addysgu pobl, ond po fwyaf aneglur y byddwch yn gwneud enwau'r cyrff ac Aelodau'r sefydliad hwn, y mwyaf o arian y trethdalwyr fydd ei angen i addysgu'r boblogaeth.

Bwriad y newid enw yw adlewyrchu realiti cyflwr presennol y Cynulliad fel deddfwrfa go iawn a helpu pobl hefyd i ddeall yr hyn rydym yn ei wneud yma. Nid yw'r newid enw a gynigir yn adrannau 3 i 8 yn ei gwneud yn hawdd i'r cyhoedd ddeall beth y mae'r lle hwn a'i Aelodau yn ei wneud mewn gwirionedd, ac felly nid ydynt yn ei wneud yn fwy hygyrch i'r cyhoedd.  

Rwy'n teimlo bod y Bil yn colli cyfle i gynyddu ymgysylltiad y cyhoedd â'r lle hwn ar hyn o bryd drwy beri datgysylltiad oddi wrth unrhyw un nad yw'n siarad Cymraeg neu nad yw'n deall ieithwedd y Cynulliad hwn, sef y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru, gan fod ffocws anghyfartal ar yr enw 'Senedd'. Hoffwn ofyn i'r Llywydd felly pam y gwnaed y penderfyniad i ddefnyddio'r cymysgedd hwn o Gymraeg a Saesneg yn y cyfieithiad Saesneg honedig o'r enwau Cymraeg yn adrannau 3 i 8—[Torri ar draws.] Rwyf ar fy nhri gair olaf.

17:25

Wel, mae'r Saesneg am ddeddfwrfa yn defnyddio'r gair benthyg 'parliament' o'r Ffrangeg, ac yn y Gymraeg, rydym yn defnyddio gair benthyg o'r Lladin, 'senedd'.

Wel, diolch, ond nid wyf yn credu bod hynny'n helpu oherwydd y pwynt rwy'n ceisio ei wneud yw bod 'Senedd', er ei fod yn air hollol dderbyniol, nid yw'n hygyrch i lawer o bobl. Hynny yw, faint o bobl allan yno mewn gwirionedd sy'n deall ar unwaith beth y mae 'Member of the Senedd' yn ei olygu? Os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad â'r Cynulliad ers peth amser, iawn, fe allech chi—fe fyddwch yn gyfarwydd â'r gair, ond—. Mae hyn yn ymwneud â bod yn ddealladwy ac yn hygyrch.

Felly, fodd bynnag, wedi dweud hynny i gyd, rwy'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil mewn gwirionedd, a chyda hynny, fe ddof i ben.

Hoffwn siarad yn fyr iawn am y Bil hwn. Rwy'n codi gyda chalon drom i ddweud y byddaf yn pleidleisio yn erbyn yr egwyddorion cyffredinol heddiw, nid oherwydd nad wyf yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn sydd yn y Bil hwn, gan fy mod wedi cael llawer o sgyrsiau gyda'r Llywydd yn y gorffennol, ond oherwydd yr egwyddor hon o ymestyn yr etholfraint i bleidleiswyr iau 16 a 17 oed. Ac nid oherwydd—[Torri ar draws.] Wel, nid yw hynny'n wir, ac mae'n dipyn o honiad i chi ei wneud. Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad os ydych am wneud un. Ond rydym yn gwybod bod cael cyfle i bleidleisio yn un o'r breintiau pwysicaf yn ein cymdeithas ac mae'r bleidlais wedi rhoi grym go iawn i ddynion a menywod, gan roi'r gallu iddynt gael gwared ar lywodraethau, i luchio cynghorwyr lleol a gwleidyddion allan, i sefydlu seneddau newydd, a phenderfynu ar ein tynged, wrth gwrs, mewn perthynas â'n haelodaeth o'r UE. A'r ffordd y mae bob amser wedi gweithio yn ein democratiaeth yw bod gan oedolion hawl i bleidleisio ac nad oes gan blant hawl i wneud hynny, ac fel y dywedwyd eisoes, mae oedran cyfrifoldeb cyffredin wedi'i dderbyn ar gyfer y rhan fwyaf o bethau, sef 18 oed. Wrth gwrs, pan oeddwn i'n iau, hyd yn oed pan oeddwn i'n 18, ni chawn bleidleisio—sefyll etholiadau, yn hytrach—[Torri ar draws.]—oherwydd mae'n rhaid ichi fod yn 21 oed i allu sefyll etholiad, er fy mod yn cael pleidleisio'n 18. [Torri ar draws.] Rwy'n fodlon derbyn ymyriad.

17:30

A wyddoch chi beth sy'n ddiddorol i mi? Clywaf yr her hon yn rheolaidd. Pan af i ysgolion ac mae pobl yn gofyn i mi beth yw fy marn ar hyn, ac rwy'n egluro wrthynt—[Torri ar draws.]—ac rwy'n egluro wrthynt mai fy mhrif bwynt yw hwn: nid fy mod o reidrwydd yn gwrthwynebu i bobl 16 a 17 oed gael y bleidlais, ond fy mod o blaid cael oedran cyfrifoldeb cyffredin yn y wlad hon, ac nid oes gennym hynny ar hyn o bryd, oherwydd mae gennym wahanol oedrannau cyfrifoldeb—[Torri ar draws.]—ar gyfer pob math o wahanol bethau—. Rwy'n fodlon derbyn ymyriad.

A fyddech chi felly'n gwrthwynebu caniatáu i unrhyw un o dan 18 oed i ymuno â'r lluoedd arfog ym Mhrydain?

Buaswn yn hapus i gael oedran cyfrifoldeb cyson. Ar hyn o bryd, bernir mai 18 yw'r oedran cyfrifoldeb hwnnw ar gyfer y rhan fwyaf o bethau: ar gyfer yfed, er enghraifft. Hyd yn oed ar gyfer defnyddio gwelyau haul; rydym wedi deddfu ar gyfer hynny yma yng Nghymru, ac o ganlyniad i hynny felly, rwy'n meddwl ei fod yn cael ei gydnabod nad yw pobl ifanc o dan 18 oed, gan gynnwys eu gallu meddyliol weithiau, wedi datblygu'n llawn—nid pawb; gwyddom fod pobl yn datblygu ar gyflymder gwahanol. [Torri ar draws.] Gwyddom fod pobl yn datblygu ar gyflymder gwahanol, ond y ffaith amdani yw nad yw eu croen yn datblygu ar y—nid croen oedolion sydd ganddynt, a dyna pam yr ydym yn ceisio eu hamddiffyn. Ac yn y pen draw, er ein bod i gyd yn adnabod pobl sy'n aeddfedu'n llawn yn 14 oed, y realiti yw eich bod yn fwy tebygol o fod ag unigolion sydd wedi datblygu'n llawn yn 18 oed. Ac am y rheswm hwnnw—y rheswm o fod angen oedran cyfrifoldeb cyffredin—y credaf fod angen inni—[Torri ar draws.]—y credaf fod angen newid pethau.

Nawr, os ydym yn sôn am bobl yn dadlau y dylem ganiatáu i bobl ifanc yfed yn 18 oed, am eu bod yn ddigon aeddfed i wneud y penderfyniad hwnnw, sydd, o ddilyn rhesymeg pawb yma, yn ffordd y gallai pobl ddymuno mynd, nid wyf yn argymell hynny. Nid wyf yn credu y dylem ostwng yr oedran y gall pobl ifanc fynd i brynu alcohol ar eu pen eu hunain. Nid wyf yn credu y dylem—[Torri ar draws.] Nid wyf yn credu y dylem ostwng yr oedran i 18, a dyna pam rwy'n credu mai 18 yw'r oedran gorau o ran oedran cyfrifoldeb, a dyna'r un y buaswn i'n ei argymell.

Ac mae'n gamsyniad awgrymu, os nad oes gennych chi bleidlais, na allwch chi ddylanwadu ar wleidyddiaeth, oherwydd y realiti yw ein bod ni, fel gwleidyddion, yn ymwneud â'n hysgolion, yn mynd i ysgolion. Pan fyddaf yn gofyn iddynt beth yw eu barn ynglŷn ag a ydynt yn credu y dylent fod â hawl i bleidleisio, nid yw pawb yn dweud eu bod yn ddigon aeddfed i wneud penderfyniad gwybodus. Dyna pam y mae addysg wleidyddol, wrth gwrs, yn bwysig, ac addysg am ein democratiaeth. Ond y gwir yw nad yw llawer o bobl yn teimlo'n ddigon hyderus ar yr oedran hwnnw ac nad ydynt yn meddwl y dylent ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw. Ac mae'r bobl ifanc hynny'n llywio fy marn yn y Siambr. Mae barn eu rhieni a'u teidiau a'u neiniau, wrth gwrs, sydd â diddordeb ym marn pobl ifanc hefyd, yn helpu i siapio'r sylwadau a wnaf i Weinidogion ac eraill yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn hefyd.

Felly, o ran ymgysylltu â phobl ifanc, gallwch ddal i gymryd rhan, gallwch ddal i wrando arnynt, gallwn ddal i gynrychioli eu safbwyntiau, hyd yn oed os nad oes ganddynt lais uniongyrchol yn yr etholiadau hynny drwy ymestyn yr etholfraint. Felly, gadewch i ni gael oedran cyfrifoldeb cyffredin a rhywfaint o gytundeb a dadl ar yr hyn y dylai'r oedran cyffredin hwnnw fod, oherwydd rwy'n credu bod honno'n ddadl bwysicach nag ymestyn yr etholfraint pan fo gennym wahanol oedrannau ar gyfer gwahanol gyfrifoldebau ar hyn o bryd.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac, wrth gyflwyno'r Bil yma, dwi'n falch bod Alun Davies wedi cadarnhau fy mod i wedi gwneud hynny yn nhraddodiad anrhydeddus home rule Keir Hardie a Donald Dewar. Falch iawn roeddwn i wedi sylweddoli pan oeddwn i'n cyflwyno'r Mesur ychydig fisoedd yn ôl taw yn y traddodiad hwnnw roedd hyn yn cael ei gyflwyno. Ond mae'n ddeddfwriaeth gyfansoddiadol bwysig i ni yma yng Nghymru. Diolch am gydnabod hynny a'n hatgoffa ni o'n hanes ar hynny.

Nawr, dwi'n cydnabod hefyd fod y ddau Gadeirydd a'u hadroddiadau nhw wedi gofyn am fwy o wybodaeth, wrth gwrs, a dwi, ynghynt y prynhawn yma, wedi ymrwymo i roi rhywfaint—cymaint ag y gallaf i—o wybodaeth ychwanegol i fod o fudd i'r prosesau sgrwtini pellach sydd yn mynd i'n hwynebu ni ar daith y Mesur yma. Dwi'n falch hefyd o glywed bod y Cwnsler Cyffredinol wedi cadarnhau hefyd y bydd e mewn sefyllfa ar gyfer nifer o agweddau i fod yn rhoi mwy o wybodaeth i gwrdd â gofynion y ddau bwyllgor, a hefyd bod y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn ei gyfraniad wedi cadarnhau y bydd y cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp strategol a fydd yn arwain ar y gwaith o newid yr etholfraint—fod hwnnw yn cael ei gyhoeddi a bydd mwy o wybodaeth eto ar hynny yn cael ei roi i'r Cynulliad cyn ystyried Cyfnodau 2 a 3.

Hefyd, fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol, yn ei gyfraniad, gadarnhau ym marn y Llywodraeth taw nid y Mesur llywodraeth leol yw'r Mesur priodol i gyflwyno atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol mewn deddfwriaeth ac felly taw'r Bil etholiadau yma yw'r cyfrwng mwyaf priodol i wneud hynny, a dwi'n cytuno ar hynny. Mae'r pwynt hefyd, wrth gwrs, o ran datganoli gwaith y Comisiwn Etholiadol a'u gwneud nhw'n atebol o ran cyllid ac atebolrwydd cyffredinol i'r Cynulliad yma, fod yr un gwaith yn mynd yn ei flaen yn Senedd yr Alban ar hyn o bryd a bod yna ddeddfwriaeth o flaen Senedd yr Alban i gyflwyno'r atebolrwydd yma erbyn 2021 hefyd. Dwi'n credu y byddai'n dda o beth, felly, ein bod ni'n cydredeg y gwaith yma, ac yn sicr mae'r Comisiwn Etholiadol yn awyddus i hynny ddigwydd yng Nghymru ac yn yr Alban ar yr un pryd.

Diolch i David Melding am ei gyfraniad i'r ddadl a bod mor gryf ac mor frwdfrydig o blaid cyflwyno pleidleisiau i 16 ac 17; brwdfrydedd gafodd ei ddilyn gan Dai Lloyd hefyd—ambell i un yn y Siambr ychydig yn llai brwdfrydig ar y pwyntiau yma, ond cofiwch, wrth gwrs, fod y Cynulliad yma mewn pleidlais flaenorol wedi cefnogi'r egwyddor o gyflwyno pleidleisiau i 16 ac 17. Dwi'n mawr hyderu bod y mwyafrif yna yn bodoli, yn parhau, o blaid cyflwyno pleidleisiau i 16 ac 17.

Ar newid enw'r Cynulliad, fe oedd yna amrywiaeth barn—ambell i un yn newid eu barn o un ddadl i'r nesaf ac yn cydnabod hynny. Dwi'n falch—. Ar un pwynt manwl ynglŷn â'r cymhwysedd deddfwriaethol ar newid yr enw, dwi'n falch bod y Cwnsler Cyffredinol wedi rhoi ar y record ei farn e ei bod hi'n annhebygol ar y pwynt yma y medrid cael Gorchymyn—Order in Council—er mwyn rhoi eglurder ar y mater cymhwysedd ac felly dyw hynny ddim yn debygol o fod yn gyfrwng i egluro'r cymhwysedd yn wahanol i'r hyn sydd o eglurdeb ar hyn o bryd.

Mae'n amlwg, felly, o'r hyn sydd wedi cael ei gyflwyno mewn cyfraniadau'r prynhawn yma, fod yna amrywiaeth barn ar newid yr enw. Nid mater i fi, bellach, yw cyflwyno unrhyw welliannau ar y newid hwnnw, gan, yn enwedig, fod y pwyllgor cyfansoddiadol a deddfwriaethol heb gyflwyno unrhyw argymhellion penodol ar hynny, ond mae'n siŵr y daw yna welliannau ar hynny o beth wrth inni symud at Gyfnodau 2 a 3.

I orffen, felly, dwi eisiau'r prynhawn yma diolch i'm cyd-Gomisiynwyr am eu hymrwymiad i gydweithio—

17:35

Dwi'n cydnabod y ffordd dŷch chi wedi ymateb i'r drafodaeth. Dwi'n gwerthfawrogi hynny. Mae yna newidiadau barn ar draws y Siambr, ond mae yna hefyd gytundeb ar draws y Siambr. A fuasai'n bosibl i chi fel Llywydd gynnal trafodaethau tu fas i'r broses ddeddfu rhwng Aelodau i weld lle mae yna ofod ar gael i ddod at gytundeb a chael cytundeb ehangach ar draws y Siambr cyn bod y Bil yma'n mynd trwy'r broses ddeddfu?

Dwi, wrth gwrs, yn cydnabod pwysigrwydd gwneud hynna, ac, os caf i ddweud, fe wnes i geisio gwneud hynna cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn y lle cyntaf, wrth geisio cynnal trafodaethau rhwng pleidiau, gydag Aelodau yn unigol hefyd, i weld lle'r oedd y mwyafrif, yr uwch fwyafrif, yn bodoli. Mae'n amlwg bod angen parhau i wneud hynna. Byddwn i'n falch iawn o farn a chydweithio gyda phawb yn y lle yma i ffeindio modd o gyrraedd yr uwch fwyafrif yna o 40 o Aelodau fydd angen i bleidleisio dros unrhyw newid enw, dros unrhyw newid etholfraint, pan ddaw i basio ac i gyrraedd Cyfnod 4 yn y lle yma. Wrth ddweud hynny i gyd, mae'n briodol i atgoffa Aelodau fe fydd Cyfnod 2 a 3 yn digwydd yn yr hydref, ac fe fydd yna welliannau bryd hynny. Cadwch mewn cof, felly, yr angen, mewn deddfwriaeth o'r math yma, i gael mwyafrif o 40 allan o 60 cyn cyflwyno unrhyw welliannau yn ystod y drafodaeth. Parhewch i drafod â'ch gilydd ynglŷn â materion lle does yna ddim consensws llawn ar hyn o bryd, a dwi'n siŵr y gallwn ni weld, maes o law, y bydd y darn yma o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol ddiddorol a phwysig yn derbyn cymeradwyaeth y Cynulliad yma. Diolch ichi am gyfrannu y prynhawn yma, ac fe wnawn ni symud ymlaen at Gyfnod 2 a 3 yn yr hydref.

17:40

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Blaid Cymru: Diwygio'r Cynulliad

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Caroline Jones, gwelliant 2 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar ddiwygio'r Cynulliad, a galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig—Adam.

Cynnig NDM7118 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw am gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad.

2. Yn galw am weithredu ar unwaith er mwyn cynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad erbyn dechrau’r Chweched Cynulliad.

3. Yn galw am ddiwygio system etholiadol y Cynulliad a chyflwyno system pleidlais sengl drosglwyddadwy o ethol Aelodau erbyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o godi i wneud y cynnig yn enw fy mhlaid ac yn wir, i adeiladu ar drafodaeth y ddadl flaenorol ynglŷn ag o ble y daethom, sut rydym wedi datblygu fel Senedd, a sut y gallem ddatblygu ymhellach. Wrth feddwl am fwa democratiaeth Gymreig, os mynnwch, rwy'n credu mai un ffordd o'i weld yw ein bod wedi dechrau fel Senedd a oedd yn fach o ran maint a hefyd yn wan o ran ein pŵer, ac rydym bellach yn Senedd fach, bwerus.

Fodd bynnag, rwy'n credu bod gwendid yn y disgrifiad hwnnw. Ffordd wahanol o grynhoi'r helynt rydym ynddo yn awr yw dweud, 'Oes, mae gennym fwy o arfau ar gael inni, sydd i'w groesawu, ond mae gennym yr un nifer o ddwylo'. Ac mae problem gyda hynny, onid oes? Oherwydd gall pwerau a ddelir ond na ellir eu defnyddio'n effeithiol fod yn waethaf o bob byd mewn rhai ffyrdd, oherwydd maent yn creu disgwyliadau o newid trawsnewidiol eang, er enghraifft, na ellir ei wireddu'n llawn wedyn, gan greu perygl o elyniaethu dinasyddion a thanseilio ffydd yn y sefydliad ei hun yn y pen draw. Yn yr ystyr hwnnw, rydym yn Senedd sy'n meddu ar bwerau newydd, ond heb y pŵer i'w defnyddio i'r eithaf. Rydym yn Senedd nad yw'n gweithredu ar bŵer llawn, os mynnwch, gyda bwlch enfawr yn y capasiti rhwng yr hyn y gallwn ei wneud o safbwynt cyfreithiol yn awr, a'r hyn y gallwn ei wneud yn ymarferol, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, i ddwyn y Weithrediaeth i gyfrif.

Nawr, mae'r cwestiwn ynglŷn â maint seneddau'n swnio fel pe bai'n fater ymylol, yn faes ar gyfer gîcs cyfansoddiadol. Mae'n unrhyw beth ond hynny. Mae mor sylfaenol yn natblygiad democratiaeth ei hun nes i James Madison ac Alexander Hamilton ysgrifennu Papur Ffederal amdano. A gwibiwch ymlaen at heddiw, a lluniodd y New York Times erthygl olygyddol amdano yn ddiweddar, gan ddadlau'r achos dros ethol mwy o Aelodau o Dŷ'r Cynrychiolwyr—fel yr awgrymwn yn y cynnig hwn—ar sail pleidleisiau sengl trosglwyddadwy mewn etholaethau aml-Aelod. Nawr, mae'n ffordd bell o Capitol Hill i Fae Caerdydd, ond yr un yw'r ddadl yn ei hanfod. Mae ein Senedd yn rhy fach, ac mae hynny'n creu perygl mawr i iechyd ein democratiaeth.

Nawr, dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi cael tri ymchwiliad annibynnol mawr, a phob un yn dod i'r un casgliad—os yw'r lle hwn i weithio'n effeithiol, mae angen mwy o Aelodau. Cawsom gomisiwn Richard yn 2004, Comisiwn Silk yn 2012, ac yn olaf, panel arbenigwyr McAllister y llynedd. Dywedodd Comisiwn y pedwerydd Cynulliad nad oes gennym ddigon o bŵer a'n bod o dan ormod o bwysau, a chytunodd Comisiwn presennol y Cynulliad, a dyna pam y bu iddynt gomisiynu'r panel arbenigol.

Sut na allech ddod i'r casgliad hwn? Wrth i bwerau a llwyth gwaith y lle hwn gynyddu'n gyson, rwy'n credu bod yr achos o blaid rhagor o Aelodau wedi dod yn fwyfwy diymwad. Mae gennym Drysorlys Cymru, ond a oes gennym bwyllgor Trysorlys mewn gwirionedd? Nid amharchu'r Pwyllgor Cyllid yw dweud nad yw Pwyllgor Cyllid sy'n cynnwys chwech o bobl yn ddigon i graffu ar y pwerau trethu a ddatganolwyd yn ddiweddar ac i oruchwylio gwerth £2 biliwn a mwy o bwerau trethu. Fel y dywedodd panel McAllister, gan ddyfynnu Comisiwn Silk,

'Rhaid wrth graffu da i gael deddfwriaeth dda, ac mae deddfwriaeth dda yn talu amdani ei hun.'  

Nawr, heb gyfrif Gweinidogion a deiliaid swyddi eraill, er enghraifft, dim ond 44 o Aelodau sydd yn y lle hwn, yn y Senedd hon, sy'n gallu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a chraffu'n effeithiol ar ddeddfwriaeth fel Aelodau meinciau cefn. Mae hynny'n cymharu â 113 yn Senedd yr Alban yn y sefyllfa honno, a 522 yn San Steffan. Daeth panel McAllister i'r casgliad y dylai Cadeiryddion pwyllgorau polisi a deddfwriaeth, neu bwyllgorau arwyddocaol eraill, fod yn aelodau o'u pwyllgorau eu hunain yn unig fel pwynt o egwyddor, ac na ddylai Aelodau eraill fod yn aelodau o fwy na dau bwyllgor. Ond gyda dim ond 60 o Aelodau, dywedasant nad yw hyn yn gyraeddadwy o fewn system bresennol y pwyllgorau. Fel Aelodau, rydym i gyd yn gwybod; rydym yn symud yn barhaol o un cyfarfod neu un mater i'r llall, ac am lawer o'r amser nid ydym yn cael cyfle hyd yn oed i ddarllen, heb sôn am fyfyrio'n iawn ar y dogfennau sydd wrth wraidd y cyfarfodydd hynny. Mae'r terfynellau cyfrifiadurol erchyll hyn sy'n clodfori amldasgio yn dyst i'r ffaith nad oes gennym ddigon o Aelodau gyda digon o amser. Nid oes gennym amser i wrando ar ein gilydd, heb sôn am feddwl.

Rhyngddynt, edrychodd Richard, Silk a McAllister yn drylwyr ar ddeddfwrfeydd gwledydd bach cyfatebol ledled y byd. Gwelsant fod 60 o Aelodau yn eithriadol o fach ar gyfer Cynulliad deddfwriaethol sydd hefyd yn darparu gweithrediaeth. Rydym ar ben draw cynffon hir. Canfu'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol mai tua 100 o gynrychiolwyr yw'r norm yn rhyngwladol hyd yn oed ar gyfer deddfwrfeydd datganoledig â swyddogaethau gweithredol fel ein hun ni. Ni yw'r unig genedl yn y byd y gallais ddod o hyd iddi lle mae gan siambr cyngor y brifddinas fwy o aelodau na'r Senedd genedlaethol ei hun. Maint cyfartalog Seneddau cenedlaethol ar gyfer gwledydd fel ein hun ni, gyda rhwng 1 filiwn a 6 miliwn o ddinasyddion, yw tua 140 o Aelodau. Yn wir, pe baech yn defnyddio rheol enwog y trydydd isradd—rwyf yn nhiriogaeth y gîc cyfansoddiadol yn llwyr yn awr—sef canfyddiad y gwyddonydd gwleidyddol o Estonia, Rein Taagepera, fod corff deddfwriaethol mwyaf deddfwrfa genedlaethol yn tueddu i fod yn drydydd isradd o'r boblogaeth, nifer sydd, o'i lluosi â'i hun ddwywaith, yn cynhyrchu'r boblogaeth oedran pleidleisio, byddai gan y Senedd tua 140 o Aelodau.

Nawr, roedd adroddiad McAllister, wrth gwrs, yn argymell y cynnig llawer mwy cymedrol a rhesymol o rhwng 80 a 90 o Aelodau, ond does bosibl nad oes rhaid i ni dderbyn bod 60 yn llawer rhy fach i ni allu gwneud y gwaith a neilltuwyd ar ein cyfer. Mae angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, ac mae angen inni ei wneud yn awr. Gwn fod rhai pobl heddiw wedi fy nghyhuddo o chwarae gwleidyddiaeth gyda hyn, felly gadewch imi ddyfynnu rhywun sy'n addefedig anwleidyddol, cyn-Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, a ddywedodd hyn yn ei lythyr atom ar ei ymadawiad:

'byth ers i mi fod yn aelod o Gomisiwn Richard yn 2002-04, mae wedi bod yn glir i mi fod cynnydd yn nifer Aelodau’r Cynulliad yn angenrheidiol, er mwyn i’r Cynulliad ei hun barhau i fedru craffu ar y weithrediaeth yn effeithiol. Gyda’r cynnydd parhaus yn amrywiaeth y pwerau sy’n cael eu datganoli i Gymru dan Ddeddf 2015, yn enwedig o ran codi trethi, mecanweithiau cyllido arloesol a chludiant, ystyriaf fod yr angen am Aelodau Cynulliad ychwanegol yn awr yn dod yn un difrifol'.

Nawr, rwy'n credu bod llawer o Aelodau yn y Siambr yn gwybod fy mod yn dweud y gwir. Rwy'n credu mai dyna pam y mae'r Prif Weinidog a'i blaid, a bod yn deg, wedi datgan o blaid mwy o Aelodau mewn egwyddor. Mae hanfod safbwynt presennol y Blaid Lafur, fel y'i deallaf, yn ysbryd Awstin Sant i raddau: 'Gwnewch ni'n fwy effeithiol, ond ddim eto'. Ac rwy'n ofni ein bod yn disgyn i fagl gyfarwydd iawn yma. Cymaint o weithiau dros yr 20 mlynedd diwethaf rydym wedi cael yr uchelgais mwyaf ond dim brys o gwbl, ac mae peryglon yno i bawb ohonom.

17:45

Rwy'n cydnabod y ddadl a roddwyd gennych—eich bod am ei gael yn awr, ac rydych am iddo gael ei gyflwyno yn 2021—ond yn yr ymrwymiad a gefnogwyd gan gryn nifer o Aelodau trawsbleidiol presennol heddiw i wneud hyn, yn sicr, ond ei wneud erbyn 2026, gan gydnabod ychydig o realpolitic er mwyn cyflawni hynny, nid dim ond Llafur ac un neu ddau o Aelodau Ceidwadol a Democratiaid Rhyddfrydol ac ati sy'n dweud hynny, ond mae rhai aelodau nodedig o Blaid Cymru—pobl a arweiniodd Blaid Cymru—ar y rhestr honno hefyd, cyn-Aelodau'r Cynulliad yma. Felly, yn syml, hoffwn ofyn iddo gydnabod y gallai fod amcan cyffredin yma, ond y cwestiwn yw sut y gallwn adeiladu'r consensws a chyflawni hyn gyda'n gilydd y tu hwnt i'r ddadl heddiw.

17:50

Ond hanfod y ddadl rwy'n ei chyflwyno yw na allwn fforddio aros tan 2026. Nid yw hon yn broblem y gellir ei gohirio tan yfory, heb sôn am bum mlynedd arall—mae'n argyfwng yn ein democratiaeth y mae'n rhaid inni ei unioni heddiw. A gallwn ei wneud heddiw os ydym yn cefnogi'r cynnig hwn. Ac i'r rhai sydd ag unrhyw amheuaeth p'un a oes gennym amser, hoffwn eich atgoffa mai 20 mis oedd yna rhwng y refferendwm yn 1997 a'r etholiadau i'r Cynulliad cyntaf, wrth gwrs, yn ôl yr hyn rwy'n ei gyfrif. Mae gennym 22 mis cyn yr etholiad nesaf, ac nid wyf yn credu y byddai neb ohonom eisiau dadlau bod gennym lai o allu na San Steffan i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer cryfhau democratiaeth Cymru.

Adam, synhwyraf fod cefnogaeth i'r safbwynt yr ydych yn ei argymell, ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae gofyn cael cymaint o undod â phosibl hefyd, cymaint o gytundeb â phosibl, ac oni fyddai'n ymagwedd fwy deallus pe baech chi ac eraill yn chwilio am y cytundeb hwnnw ac nid cyflwyno cynnig ar brynhawn dydd Mercher os ydych chi'n wirioneddol o ddifrif ynghylch cyflawni'r ymdeimlad hwnnw o undod? Oherwydd fel arall, byddwn yn mynd drwy'r broses eto, ac fe gaiff ei golli.

Wel, rwy'n meddwl ein bod ni wedi bod yn glir ac yn gyson iawn ynglŷn â hyn. Rwy'n deall yr ysbryd y mae'n gwneud y pwynt ynddo, ond ble arall y gallwn gael y ddadl am ddyfodol y Senedd nag yn y Senedd ei hun? Mae arnaf ofn nad wyf yn mynd i ymddiheuro am hynny. Dyma'r fforwm lle gallwn gael y drafodaeth honno. Nawr, gellir ei wneud ar sail amhleidiol, a chredaf mai yn yr ysbryd hwnnw y gwneuthum fy sylwadau heddiw. Nawr, rwy'n credu y gallem weithredu heddiw. Gallem weithredu heddiw. Gallem benderfynu cynyddu maint, ac felly effeithiolrwydd y Senedd hon, y prynhawn yma. Ni ddylem drosglwyddo hyn ymlaen i Senedd yn y dyfodol. Dylem gymryd cyfrifoldeb a gweithredu yn awr ar y mater hwn, cyn i'n hanallu i weithredu'n effeithiol ym mhob maes arall ddechrau erydu ymddiriedaeth y cyhoedd, mae arnaf ofn, yn sylfeini'r Senedd hon.

Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mark Reckless i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones.

Gwelliant 1—Caroline Jones

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le;

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad.

2. Yn credu nad oes awydd ymysg y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng Nghymru ar hyn o bryd, ac y dylai ymdrechion ganolbwyntio yn hytrach ar:

a) deddfu cynigion adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin;

b) cyflymu'r broses o ddiwygio etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Caroline. Diolch i'r Aelod am ei araith. Roeddwn i'n meddwl ei fod wedi siarad mewn ffordd bwyllog tu hwnt. Mae eraill yn dweud y gallai fod yn chwarae gwleidyddiaeth. Credaf fod yr ymadrodd hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n aml naill ai pan fo grwpiau'n rhanedig ymysg eu hunain o ran eu safbwynt neu pan fydd safbwynt yr Aelod ei hun yn wahanol, efallai, i safbwynt y rhai y maent yn eu cynrychioli, a chredaf fod arweinydd Plaid Cymru wedi cyffwrdd â'r ddau heddiw o bosibl.

I'n grŵp ni, rydym yn glir—rydym wedi cynnig ein gwelliant ein hunain. Yn gyntaf, rydym am nodi adroddiad panel arbenigol y Cynulliad ar ddiwygio etholiadol. Er na fyddwn yn gallu ei gefnogi o bosibl, hyd yn oed pen isaf yr ystod o ACau a roddodd y Panel, rwy'n werthfawrogol iawn o'r gwaith a wnaeth yr Athro Laura McAllister a'i chyd-Aelodau uchel eu parch, a hoffwn gofnodi ein diolch, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad dros eraill yn hynny o beth.

Ein hail bwynt yw ein bod o'r farn nad oes awydd ymhlith y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn syml, credwn fod hynny'n wir. Efallai fod yr Aelodau am gynyddu'r nifer. Efallai fod yr Aelodau'n cyflwyno dadleuon penodol, ac efallai fod rhai ohonynt yn ddadleuon da dros wneud hynny, ond nid oes awydd ymhlith ein hetholwyr i wneud hyn. Fe geisiaf egluro pam nad oes awydd i wneud hynny; y cynnydd yn nifer y gwleidyddion sy'n fwyaf o dân ar eu crwyn yn fy marn i. Rydym yn ymhelaethu rhywfaint ar hyn yn y ddau is-bwynt ym mhwynt 2. Hoffem weld adolygiad 2018 o etholaethau seneddol ar lefel San Steffan yn cael ei weithredu. Nid wyf yn gwybod beth yw safbwynt Plaid Cymru ar hynny. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru gynrychiolaeth rhy fawr yn San Steffan. Efallai yr hoffent iddi gael ei gorgynrychioli hyd yn oed yn fwy. Ond rwy'n meddwl pan fydd gennym ddatganoli mae'n anodd—[Torri ar draws.] Nid ydynt eisiau i ni fod yno o gwbl. Maent yn cuddio hynny weithiau, ond nid heddiw—y gefnogaeth ddiamwys i annibyniaeth a nododd y Prif Weinidog ddoe.

O ran poblogaeth, rwy'n credu y byddai gan Gymru 29 sedd yn hytrach na 40 yn Nhŷ'r Cyffredin. Dyna a ddywedai'r adolygiad seneddol a gawsant, ond nid yw'n ymddangos fel pe bai'n mynd i gael ei weithredu. Felly, byddai hynny'n golygu 11 Aelod yn llai. Yna, rydym i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd; byddai hynny'n arwain at bedwar Aelod o Senedd Ewrop yn colli eu swyddi. Felly, 15 o wleidyddion i gyd na fyddai'n cael eu talu o'r pwrs cyhoeddus mwyach. Ac yn y senario honno, efallai yr hoffai'r Aelodau gyflwyno eu dadleuon eto ac y byddwn yn gwrando ar y dadleuon hynny. Ond ar hyn o bryd, nid oes awydd i ehangu maint y lle hwn, ac mae hynny'n rhannol oherwydd bod gennym ormod o ASau yn San Steffan ac mae gennym ASEau yn Senedd Ewrop a ninnau wedi pleidleisio tair blynedd yn ôl i adael.

Y ddadl a wnaeth Adam oedd ein bod yn fach o ran maint ar y dechrau ac yn wan o ran pwerau, ac wrth inni ddatblygu mwy o bwerau, dylem gael mwy o bobl. Ond does bosibl mai canlyneb y ddadl honno yw y dylai'r sefydliadau yr ydym wedi cymryd grym oddi wrthynt—h.y. San Steffan a'n cynrychiolaeth yn y fan honno a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, gobeithio—weld y niferoedd hynny'n gostwng. Nid yw hynny wedi digwydd, ac eto cawn y brys hwn i'w wneud erbyn 2021, cyn i hynny ddigwydd o bosibl. Rwy'n credu mai dyna sy'n gwneud hwn yn gynnig anodd iawn iddo ei gyflwyno a pham na fydd yn cael y gefnogaeth y byddai'n gobeithio ei chael gan eraill yn y Siambr.  

Rwy'n tynnu sylw i orffen hefyd at y sefyllfa gyda llywodraeth leol. Rwy'n meddwl bod Llafur wedi ceisio lleihau nifer y cynghorau yng Nghymru ddwywaith, efallai dair gwaith. Ceir dadleuon eithaf cryf o blaid gwneud hynny, ond bob tro maent wedi cilio rhag ei wneud ac mae gennym 22 cyngor o hyd sy'n llawer llai ar gyfartaledd na chynghorau yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Mae gennym gostau ar gyfer pob un o'r 22 cyngor, a llawer ohonynt yn cael eu hailadrodd 22 o weithiau. Pe bai gennych lai o gynghorau, pe bai gennych lai o gynghorwyr, yn ogystal â—

17:55

Rwy'n cymryd y cywiriad hwnnw'n llwyr, diolch yn fawr iawn—llai o gynghorwyr. Mae hynny'n peri embaras mawr i mi. Llai o gynghorwyr, 11 yn llai o ASau, a phedwar yn llai o ASEau—efallai yr hoffai'r Aelod ddod â'i ddadl yn ôl bryd hynny. Ond nid yw ein grŵp ni wedi ein darbwyllo ynglŷn â’r achos dros gynyddu maint y Cynulliad ac nid ydym yn credu y bydd Aelodau eraill yn gallu dod â phobl y wlad gyda hwy ar hyn o bryd. Diolch i chi.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion.

2. Yn cytuno bod angen cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.

3. Yn galw am ragor o waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Siaradaf am y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i, ac nid wyf yn siarad heddiw ar ran Llywodraeth Cymru, ond fel prif chwip grŵp Llafur Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol, a hefyd fel Jane Hutt AC, i osod safbwynt Llafur Cymru ar gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad yn y sefydliad hwn. Rydym yn trafod y mater hwn ychydig funudau ar ôl trafod egwyddorion cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) a fydd yn paratoi'r ffordd at wneud y Cynulliad hwn yn Senedd i Gymru a chyflwyno’r bleidlais i rai 16 a 7 oed—ac rwy'n siŵr y caiff ei basio yn ddiweddarach heddiw.

Fel y dywedodd David Melding yn y ddadl flaenorol, credaf fod hwn yn bwynt ar gyfer dathlu, yn gyfle i gryfhau dinasyddiaeth, sy’n arbennig o briodol ar ôl y sesiwn a gawsom bythefnos yn ôl gyda'n Senedd Ieuenctid, a cham pwysig iawn yn ein democratiaeth. Ond roeddwn hefyd yn falch o fod yma—fel yr oedd David, yn wir, ac eraill—yn 2004, pan adroddodd yr arglwydd Llafur, yr Arglwydd Richard o Rydaman, ar ei adolygiad annibynnol o bwerau a threfniadau etholiadol y Cynulliad hwn, a chroesawais ei argymhellion bryd hynny. Mae'n werth myfyrio ar ei argymhelliad mewn perthynas â maint y Cynulliad a'i rôl a'i gyfrifoldeb. Argymhellodd fod cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i 80—a dyfynnaf—yn hanfodol er mwyn galluogi’r ACau i gynyddu eu gwaith craffu ar ddeddfwriaeth Cymru a pholisïau Llywodraeth Cymru.

Wel, mae 15 mlynedd ers yr adolygiad hwnnw ac erbyn hyn mae gennym bwerau deddfu sylfaenol, pwerau etholiadol, pwerau benthyg, a phwerau i godi ac amrywio trethi, gyda'r cyfrifoldebau a'r dyletswyddau ar gyfer cyflawni'r rheini’n effeithiol. A’r llynedd, buom yn trafod adroddiad Comisiwn y Cynulliad, 'Creu Senedd i Gymru' yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Athro McAllister. Roeddwn yn falch iawn o siarad yn y ddadl honno fel aelod o’r meinciau cefn, ac roeddwn yn croesawu'n arbennig argymhellion y panel i ehangu cyfranogiad menywod a phobl ifanc yn y Cynulliad. Ac fe ddywedais ar y pryd, fel un o'r ACau gwreiddiol, a oedd yn falch o gael fy ethol yn 1999 ac ar ôl gwasanaethu fel Gweinidog ac fel aelod o'r meinciau cefn, rwyf am i ni gymryd y camau i wneud ein Cynulliad yn Senedd sy'n gweithio i Gymru, gyda menywod a phobl ifanc ar flaen y gad yn yr ymdrech honno.

Ddirprwy Lywydd, Llafur a gyflwynodd ddatganoli ac mae Llafur Cymru yn parhau i fod yn blaid sy’n danbaid dros ddatganoli. Roedd Alun Davies yn gwneud sylwadau ar y gair 'datganoli' yn gynharach y prynhawn yma, ac rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â phenderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru. A chredwn mewn Cymru gref, fel rhan o Deyrnas Unedig lwyddiannus, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, ond i wneud hynny, mae ein plaid yn cefnogi'r dadleuon a wnaed yn adolygiad McAllister fod angen mwy o ACau i wneud gwaith y ddeddfwrfa hon yn effeithiol a dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn briodol.

Fodd bynnag, mae’r farn yn rhanedig ynglŷn â sut y dylid ethol ACau mewn unrhyw system ddiwygiedig, a phan ofynnwyd i aelodau ein plaid, roedd yr ymatebion yn cefnogi'r farn nad yw'r achos dros system etholiadol newydd mewn Cynulliad mwy o faint wedi'i wneud yn ddigonol eto gyda'r cyhoedd. Mae'n hollbwysig ein bod yn ymgysylltu â'r cyhoedd wrth ystyried y materion hyn ac yn pwyso ar y dystiolaeth helaeth a gasglwyd gan banel arbenigol McAllister ac ymgynghoriadau ein plaid ein hunain.

Ond hoffwn dynnu sylw at y llythyr gan y Llywydd y mis diwethaf, a ddywedai na fyddai ail gam diwygio etholiadol yn digwydd y tymor hwn, ond cadarnhaodd y byddai Comisiwn y Cynulliad yn parhau i archwilio'r materion sy'n ymwneud â maint y Cynulliad a sut y câi Aelodau eu hethol. Ac roedd o gymorth fod y Llywydd wedi cadarnhau yn ei llythyr i ni i gyd y bydd y gwaith hwn yn parhau i gynorthwyo'r ddadl gyhoeddus a'r pleidiau gwleidyddol wrth iddynt ystyried eu barn ar y materion hyn. Felly, credwn y byddai gweithgor trawsbleidiol i archwilio'r materion hyn ymhellach yn adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed eisoes gan Laura McAllister a'i phanel a’i grŵp cyfeirio arbenigol.

Nawr, roedd yn syndod i mi—

18:00

A gaf fi ddweud faint rwy’n croesawu cywair a chynnwys eich cyfraniad, brif chwip—bu bron i mi ddweud 'Gweinidog'? Os caf ddweud, mae’r Prif Weinidog newydd—mae yn ei sedd, felly mae'n rhaid i mi fod yn ofalus iawn beth rwy'n mynd i'w ddweud yn awr—[Chwerthin.]—wedi dangos arweinyddiaeth go iawn ar faterion yn ymwneud â chyfeiriad teithio'r lle hwn yn y dyfodol, y Senedd hon, o ran niferoedd, systemau etholiadol a'r gweddill? A yw'n bryd inni, gyda'n gilydd, fel Aelodau Llafur y lle hwn, ddangos yr arweinyddiaeth gyfunol honno y mae'r Prif Weinidog wedi'i dangos, a mynd allan a dadlau’r achos dros i’r newid ddigwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach?

Wel, diolch, Alun Davies. Fel chithau, rwy'n meddwl, roeddwn yn falch o lofnodi datganiad y Gymdeithas Diwygio Etholiadol heddiw, ac roedd yn dda ei weld yn cael ei lofnodi gan bob rhan o'r Siambr. Ond credaf fod yna drafodaeth dda, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn clywed mwy amdani mewn munud. Hefyd, daeth y Gymdeithas Diwygio Etholiadol i gynhadledd ein plaid—nid wyf yn gwybod a ddaethant i gynadleddau eich pleidiau chi—a chawsom ddadl dda iawn. Yr hyn a oedd yn ddiddorol oedd faint o aelodau, nid yn unig o'n plaid, ond o sefydliadau trydydd sector a grwpiau ymgyrchu, a ddaeth i'r cyfarfod ymylol hwnnw, ac fe wnaethom ymgysylltu a chael eu barn ar sut y dylem ymateb i adroddiad Laura McAllister. [Torri ar draws.]

A gaf fi ddweud i orffen, felly, fy mod yn credu y gallwn symud ymlaen, yn unol â gwelliant Llafur i'r cynnig heddiw, ac rwy'n eich annog i'w gefnogi? Ein safbwynt ni yw na ddylid cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth a luniwyd i ddiwygio maint y Cynulliad a'r system etholiadol heb fandad cyhoeddus drwy ymrwymiad maniffesto. Ond rwy'n credu bod yn rhaid gwneud gwaith yn awr. Rydym wedi gwneud hyn yn effeithiol yn y gorffennol mewn ffordd drawsbleidiol, gydag ymgysylltiad adeiladol yn arwain at gonsensws, a dyna a geisiwn heddiw. Diolch.

Diolch. A gaf fi alw ar Paul Davies i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar? Paul.

Gwelliant 3—Darren Millar

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod heriau sylweddol o ran capasiti Aelodau'r Cynulliad i ymgymryd â gwaith craffu boddhaol ar ddeddfwriaeth a Llywodraeth Cymru.

2. Yn galw am i ymchwiliad pellach i effaith unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad ac a oes cefnogaeth gyhoeddus i symudiad o'r fath.

3. Yn galw am unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad i gael ei ariannu drwy arbedion cyffredinol i drethdalwyr, yn deillio o ganlyniad i leihad yn nifer gyffredinol y cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru.

4. Yn galw ar i unrhyw Aelodau Cynulliad ychwanegol gael eu hethol ar sail heb fod yn llai cyfrannol na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Er ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn gweld gwerth yn y cynnig gwreiddiol, ni allwn ei dderbyn yn ei gyfanrwydd, ac felly rydym wedi cyflwyno gwelliant i nodi safbwynt presennol grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Felly, rwy’n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.

Mae arweinydd Plaid Cymru yn iawn: ers 1999, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi tyfu'n gyflym, gan ennill pwerau’n barhaus dros rai o agweddau pwysicaf bywydau pobl yng Nghymru. Yn sicr, mae datganoli wedi dod â phenderfyniadau yn nes at bobl Cymru, a dros y cyfnod hwnnw, mae cyfrifoldeb ac atebolrwydd ariannol y sefydliad hwn wedi cryfhau'n sylweddol. Ym mis Ebrill, cafodd treth incwm ei datganoli i Gymru, gan agor pennod arall eto ar y daith ddatganoli, a chadarnhau'r ffaith nad awdurdod gwario yn unig yw Llywodraeth Cymru ond ei bod bellach yn gyfrifol am godi arian hefyd. Er bod y camau hyn i’w croesawu ac yn cryfhau'r setliad datganoli, gyda'r pwerau hyn daw’r angen am fwy o graffu wrth fonitro gweithredoedd Llywodraeth Cymru. Felly, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn derbyn yn llawn yr angen i gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad fel bod pob gweithgaredd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei graffu’n briodol ac yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. Nid yw pobl Cymru yn haeddu dim llai na hynny.

Mae'n hanfodol fod gan y Cynulliad adnoddau a gallu priodol i graffu'n effeithiol ar bolisi a deddfwriaeth y Llywodraeth, ac mae'n deg dweud bod y llwyth gwaith cynyddol wedi ei gwneud yn anodd i'r Cynulliad weithredu mor effeithiol â phosibl. Er fy mod yn credu bod y Cynulliad yn gwneud yn well na’r disgwyl, bydd cyflwyno pwerau codi trethi ynghyd â Brexit yn rhoi straen aruthrol ar Gomisiwn y Cynulliad a'i gynrychiolwyr, a phobl Cymru fydd yn dioddef o ganlyniad. Ond er mwyn darbwyllo pobl Cymru fod angen mwy o Aelodau ar y lle hwn, buaswn yn awgrymu bod angen gwneud rhagor o waith a rhaid gwneud gwaith allgymorth pellach ledled Cymru i gyfleu'r angen am newid a'r effaith y byddai cael mwy o Aelodau Cynulliad yn ei chael ar fywydau pobl yng Nghymru. Mae pobl Cymru—

18:05

Mewn eiliad.

Rhaid i bobl Cymru fod yn rhan o hyn, ac mae'n rhaid i ni fel cynrychiolwyr etholedig wneud yr achos fod cryfhau capasiti a swyddogaethau craffu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o fudd iddynt hwy. Fe ildiaf i'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Rwy'n clywed yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, ac rwy'n croesawu'r ffordd gadarnhaol y mae wedi ymateb, ond a yw'n derbyn bod risg mewn gwirionedd i wneud yr achos hwn dros ddyfodol Cymru y gallai'r diffyg gallu i graffu'n wirioneddol effeithiol olygu y gallai rhywbeth difrifol fynd o'i le ac fel yr awgrymodd Adam Price, gallem danseilio ffydd pobl yn y sefydliad hwn yn anfwriadol am nad ydym yn gallu craffu’n effeithiol, ac mae craffu gwael yn arwain at gyfraith wael a pholisi gwael?

Rwy'n bendant yn derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ond yn amlwg mae angen i ni gyflwyno'r achos hefyd i bobl Cymru fod arnom angen rhagor o Aelodau yn y lle hwn.

Nawr, barn fy nghyd-Aelodau a minnau yw bod yn rhaid i unrhyw gynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad gael ei ariannu drwy arbedion sy'n deillio o ostyngiad yn nifer cyffredinol y cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru. Nodaf fod yr adroddiad 'Senedd sy’n Gweithio i Gymru' yn manylu ar y costau blynyddol rheolaidd ychwanegol a allai godi o 20 neu 30 o Aelodau Cynulliad ychwanegol. Ac rwy'n derbyn yn llwyr y dylid ystyried y costau hyn yng nghyd-destun ehangach cynrychiolaeth ddemocrataidd yng Nghymru. O ganlyniad i Brexit, ni fydd ASEau o Gymru mwyach, a deallaf fod hynny’n cyfateb i ariannu 24 o Aelodau Cynulliad. Rwy'n derbyn ac yn cytuno felly ei bod yn gwbl ymarferol inni gynyddu nifer yr ACau heb unrhyw gost ychwanegol i'r trethdalwr, ond mae angen gwneud mwy o waith i berswadio pobl Cymru mai dyma'r peth iawn i'w wneud.

Mae ein gwelliant hefyd yn galw ar i unrhyw Aelodau Cynulliad ychwanegol gael eu hethol ar sail heb fod yn llai cyfrannol na’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd, ac rwy'n derbyn y bydd amrywiaeth o safbwyntiau ar draws y Siambr hon ar sut y dylid ethol Aelodau. Ac mae'n debyg mai dyna'r prif rwystr i gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad ymhlith gwleidyddion, oherwydd mae'n anodd iawn gweld ar hyn o bryd sut y bydd pleidiau'n cytuno ar ba system etholiadol y dylid ei defnyddio i ethol mwy o Aelodau yn y dyfodol. Felly, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn credu bod yn rhaid i Gomisiwn y Cynulliad, ar y cyd â phleidiau gwleidyddol, edrych ar ei drefniadau presennol a sefydlu system sy'n ethol Aelodau mewn ffordd sy'n ennyn cefnogaeth y bobl y mae'n eu gwasanaethu.

Ddirprwy Lywydd, mae fy nghyd-Aelodau a minnau’n edrych ymlaen at gynnal deialog â phobl Cymru sy'n esbonio'r angen i gynyddu capasiti'r sefydliad hwn, ac rydym yn hapus i weithio gyda'r Comisiwn a phob plaid i edrych ar ffyrdd y gallwn gyflwyno trefniadau etholiadol yn y dyfodol a fydd yn arwain at gynyddu effeithiolrwydd gweithrediadau'r Cynulliad. Mae'n gwbl hanfodol fod y ddeialog hon yn digwydd ar raddfa lawer mwy nag sy'n digwydd ar hyn o bryd, oherwydd mewn llawer o gymunedau ledled Cymru, ychydig iawn o ddealltwriaeth a geir o hyd o'r angen i gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad. Mae'r daith ddatganoli wedi parhau i ddarparu mwy a mwy o bŵer i'r sefydliad hwn ac yn fy marn i, mae gwneud penderfyniadau’n agosach wedi bod o fudd i bobl Cymru. Ond rydym ar groesffordd yn awr, ac rwy'n derbyn yn llwyr fod angen Aelodau ychwanegol ar y Cynulliad i weithredu'n effeithiol, ond yn y bôn, mae'n rhaid i bobl Cymru fod yn barod i dderbyn y gost am wneud hynny a'i gyflwyno mewn system bleidleisio a gefnogir gan bobl Cymru, ac felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.

18:10

Mae'r sefydliad yma'n 20 oed eleni. Mae o'n destun balchder mawr i mi—dwi'n siarad, yn sicr, ar ran y rhan fwyaf o bobl yma yn y Siambr yma—ein bod ni'n gallu edrych yn ôl ar y digwyddiad hwnnw ychydig dros 20 mlynedd yn ôl lle gwnaethom ni benderfynu cymryd y cam cyntaf yna ar hyd llwybrau datganoli a hunanlywodraeth i Gymru, waeth pa mor nerfus oedd y cam cychwynnol hwnnw. Ond mi nodwyd yn glir iawn—a'r term wedi cael ei ddefnyddio sawl tro ers hynny—mai proses oedd yn dechrau bryd hynny. Nid un digwyddiad ynddo fo'i hun welsom ni ddiwedd y 1990au, ac mae'r broses honno wedi symud ymlaen gymaint erbyn hyn fel bod modd gofyn ydyn ni'n wir yr un sefydliad a gafodd ei sefydlu yn 1999 erbyn hyn, ac 'nac ydym' ydy'r ateb, mewn difrif.

Mi sefydlwyd y lle yma dan Ddeddf Cymru fel Cynulliad â phwerau deddfu eilradd yn unig. Mi oedd o'n gweithredu fel corff corfforaethol, a'r Cynulliad a'r Llywodraeth yn gweithio fel un. Corff gwario oedd o, prin oedd ei ddannedd, digon prin i fod angen comisiwn Richard a wnaeth arwain at ail Ddeddf Cymru yn 2006 a oedd yn gwahanu'r Llywodraeth a'r ddeddfwrfa, yn paratoi'r ffordd at refferendwm 2011, a'r refferendwm a'r bleidlais gadarnhaol iawn honno yn sefydlu math arall o Gynulliad, un llawer mwy pwerus y tro hwn, yn deddfu drosto'i hun, ac a fyddai'n datblygu maes o law, fel mae o wedi gwneud erbyn hyn, yn gorff codi trethi hefyd.

Ond beth sydd ddim wedi newid yn y cyfnod hwnnw o gwbl ydy capasiti'r Cynulliad yma i ymateb i'r gofynion ychwanegol yna sydd arnom ni ac sydd wedi datblygu wrth i'r corff esblygu. Rŵan, oherwydd gwaith y Comisiwn, yr ymchwiliad arbenigol rhagorol o dan arweiniad Laura McAllister, mae'r achos wedi cael ei wneud rŵan yn annibynnol, yn ddiduedd, dros fynd i'r afael â'r sefyllfa honno, a dwi'n falch o weld consensws yn datblygu ar hynny, ac mae yna resymau da iawn pam y dylem ni symud yn ein blaenau. Dŷn ni wedi clywed sawl rheswm yn barod.

Ein gwaith ni fel Cynulliad ydy dal Llywodraeth i gyfrif. Dŷn ni'n gwneud hynny nid er ein mwyn ein hunain, nid er mwyn ein pleidiau gwleidyddol ni, ond ar ran pobl Cymru, ac mae pobl Cymru'n haeddu gallu cael ffydd yn ein capasiti ni i gadw'r Llywodraeth i gyfrif yn effeithiol. Mae yna lawer gormod ohonom ni'n gwisgo hetiau lluosog yn y lle yma. Dwi'n siarad fel prif chwip Plaid Cymru a'n llefarydd ni ar gyllid a'r economi a thrafnidiaeth ac aelod o'r Pwyllgor Busnes ac yn y blaen. Ac nid mater o gwyno am y gwaith ydy hynny ond amheuaeth ynglŷn â fy ngallu i i wneud fy ngwaith mor effeithiol ag y gallaf i. Dwi'n ddiolchgar iawn i Jane Hutt am ein hatgoffa ni ei bod hi'n gorfod gwisgo dwy het yma heddiw yma, yn siarad mewn un rôl yn hytrach na fel Aelod o'r Llywodraeth. Ac mae o'n golygu pwysau annheg ar Aelodau meinciau cefn y Llywodraeth eu hunain sydd o dan straen—a dwi'n gweld Aelod Blaenau Gwent yn nodio'n frwdfrydig dros hynny—sydd dan straen afresymol, mewn difrif, o ran y pwysau gwaith oherwydd, wrth gwrs, bod nifer sylweddol yn gorfod bod yn Weinidogion mewn Llywodraeth.

A dwi'n meddwl, efallai, mai yn y maes mwyaf diweddar i ni symud i mewn iddo fo mae angen cryfhau ein capasiti ni fwyaf, sef trethiant. Dŷn ni'n symud tuag at sefyllfa lle byddwn ni'n codi, rhwng trethiannau canolog a threthiannau lleol, £5 biliwn o'n trethi ein hunain. Mae o'n wych o beth, ond, fel dywedodd Adam Price yn gynharach, er bod gennym ni Drysorlys Cymreig, does gennym ni ddim pwyllgor Trysorlys a does yna ddim o'r capasiti i gael un. 

Mae'n dda bod yna gonsensws yn datblygu ar draws pleidiau gwleidyddol, er nad unfrydedd, ein bod ni angen gwneud hyn, ond mae'n hollol iawn, wrth gwrs, i ni gydnabod nad ydy'r gefnogaeth yn unfrydol nac yn agos at fod yn unfrydol ymhlith y cyhoedd, a buaswn i ddim yn disgwyl iddo fo fod. Dŷn ni'n sôn am gynyddu nifer o wleidyddion, a gadewch i ni fod yn realistig ynglŷn â beth ydy greddfau pobl yn hynny o beth. Ond, tra'n cydnabod hynny, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n ddigon dewr i arwain y drafodaeth yna ar pam ein bod ni eisiau gwneud hyn; sut mai democratiaeth well fydd y canlyniad; sut bod cryfhau ein Senedd ni yn fodd i drawsnewid a chryfhau ein gwleidyddiaeth ni, a hynny yn wyneb tystiolaeth fwyfwy clir fod yr hen drefn yn San Steffan yn torri i lawr. Gadewch i ni adeiladu yn hytrach na thorri i lawr. A rŵan ydy'r amser i gryfhau a chadarnhau—'consolidate-io'—yr hyn sydd gennym ni.

Wrth gwrs, tra bod llawer o'r sylw, yn ddealladwy, yn mynd i fod ar niferoedd, mae'n rhaid edrych ar hyn yn y cyd-destun ehangach o'r angen i ddiwygio trefniadau etholiadol hefyd. Mae'n bwysig cofio hynny, a byddai hynny'n wirioneddol yn cryfhau ein democratiaeth ni.

I gloi, mi wnaeth Aelod Blaenau Gwent ddweud yn gynharach ei fod o'n credu bod ein cynnig ni heddiw'n creu rhaniadau yn hytrach nag annog cydweithio. Dwi'n gwrthod y cyhuddiad hwnnw, ac, yn wir, dwi'n edrych ymlaen at gydweithio efo Alun Davies ar greu'r Senedd newydd yma rydym ni ei hangen, y Senedd newydd mae pobl Cymru yn ei haeddu. Mae'r ddau ohonom ni'n gytûn ar hynny. Ond roedd hi'n bwysig iawn, yn hanfodol dwi'n meddwl, i wneud y pwynt yma, dwi'n meddwl: os ydy hwn yn rhywbeth sydd ei angen ar Gymru yn ddybryd yn 2026, mae pobl Cymru'n haeddu cael y newid yma rŵan, neu erbyn etholiad 2021. Pam y byddem ni'n 'commit-io' ein hunain i bum mlynedd arall diangen o Gynulliad y mae o—

18:15

Hoffwn fynd â'r Siambr yn ôl i 5 Mai 2016, ac yn arbennig, i ystafell fyw yn Hengoed, lle'r oeddwn yn camu’n ôl ac ymlaen—noson y cyfrif oedd hi; roedd y gorsafoedd pleidleisio wedi cau ac roeddwn i wedi blino'n lân, ac roeddwn i wedi cael cawod, ac rydych chi'n gwybod sut beth ydyw—camu’n ôl ac ymlaen gyda BBC Wales ar y teledu ac academyddion o Brifysgol Caerdydd yn edrych yn llawer rhy hapus fod y BBC wedi cyhoeddi bod Caerffili yn rhy agos i allu ei alw ac y gallai fynd un o dair ffordd mewn gwirionedd. Felly, roedd yn hen noson ryfedd, ac nid oedd gennym unrhyw syniad o gwbl sut oedd y cyfrif yn mynd tan tua thri neu bedwar o’r gloch y bore. Ac fe euthum i’r cyfrif, ac roeddwn yn camu’n ôl ac ymlaen yn y ganolfan hamdden yn edrych yn ddigalon am fy mod yn meddwl fy mod wedi colli ac ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle, yn camu’n ôl ac ymlaen yn edrych yn ddigalon am ei fod yn meddwl ei fod wedi ennill. [Chwerthin.] Ac yn y diwedd fe ddaeth—dyna wers i chi, Delyth, onid e? Yn y pen draw fe gawsom y canlyniad, a'r canlyniad oedd fy mod wedi cael 35 y cant o'r bleidlais, roedd Lindsay, Plaid Cymru, wedi cael 29 y cant o'r bleidlais ac roedd UKIP wedi cael 22 y cant o'r bleidlais. Ac fe wnes i feddwl am hynny. Pe bai honno wedi bod yn system y cyntaf i'r felin, ni fyddai'r canlyniad hwnnw wedi bod yn dderbyniol o dan system y cyntaf i'r felin. Mae gennym system D'Hondt a gallem weld bod y bobl a oedd wedi pleidleisio dros Blaid Cymru ac UKIP, fod eu pleidleisiau wedi'u cynrychioli yn system D'Hondt. Ac fel rwy’n dweud, Brif Chwip, rwyf fi eisiau i bobl bleidleisio dros Lafur 100 y cant—a byddai 60 o Aelodau Llafur yn anhygoel—ond roeddwn wrth fy modd yn gweld Steffan Lewis yn cael ei ethol ar y rhestr a gwyddwn y byddai'n Aelod Cynulliad da. Ac fe ddywedaf wrth Delyth Jewell fy mod yn siomedig na chawsoch chi eich ethol ar y rhestr honno hefyd, a gwasanaethu yma gyda Steffan.

Ond credwn mai'r broblem ar y pryd oedd nad oedd cydbwysedd ein proses etholiadol yn iawn, a'r ffaith bod angen system D'Hondt i ychwanegu at y seddi hynny a chreu'r haen ddeuol hon o Aelodau Cynulliad, pan fyddai system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn ei wneud yn well oedd yr hyn a'm perswadiodd. Nid yw'n ymwneud llawer â Brexit na'r system yn y DU, ond cefais fy mherswadio gan hynny mewn gwirionedd. Er enghraifft—ac rwyf wedi darllen 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru'—ac mae'n bosibl er enghraifft y gallai etholaeth tri Aelod fod wedi arwain, drwy'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, at etholaeth tri Aelod Llafur, Plaid Cymru, ac UKIP. Pwy a ŵyr beth y byddech wedi'i weld o ganlyniad i'r bleidlais sengl drosglwyddadwy? Ond byddai wedi bod yn decach; byddai wedi bod yn fwy cyfrannol, a byddech wedi gweld cynrychiolaeth decach ar draws y system nag a gafwyd hyd yn oed gan system D'Hondt, sy'n amherffaith yn fy marn i.

Felly, mae fy nghefnogaeth i gael rhagor o Aelodau Cynulliad yn dechrau mewn gwirionedd gyda system bleidleisio fwy cyfrannol. Felly, rwy'n galw am system bleidleisio fwy cyfrannol cyn i ni ddechrau sôn am fwy o Aelodau. Felly roeddwn ychydig yn bryderus ynglŷn â chefnogi cynnig y Gymdeithas Diwygio Etholiadol gan nad yw'n siarad am y system bleidleisio yn y cynnig. Mae'n sôn fod angen y nifer gywir o Aelodau ar gyfer Senedd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae honno'n rhan allweddol o'r ddadl, ond un rhan sydd ar goll yw'r bleidlais gyfrannol honno hefyd, sy'n gwbl allweddol yn fy marn i.

Er hynny, bydd mwy o Aelodau'n arwain at graffu gwell, fel y dywedwyd eisoes. Rwy'n aml yn meddwl, wrth edrych ar y fainc flaen yn awr—y fainc flaen, cymrwch sylw, rwy'n siarad â chi. [Chwerthin.] Rwy'n edrych ar y fainc flaen ac rwy'n meddwl, 'Beth y maent ei eisiau? A fyddent yn hapusach o gael mwy o bobl yn craffu arnynt neu lai o bobl yn craffu arnynt?' Nid chi'n unig, nid y ddwy ochr draw yma'n unig, ond fi hefyd—bydd gennych fwy o bobl fel fi hefyd, yn craffu ar y bobl yno.

18:20

Mwy, mwy yn bendant. A gallaf weld y Prif Weinidog yn nodio'i ben yn frwd. [Chwerthin.]

Rwyf wedi cael sgyrsiau gydag Aelodau, fel yr argymhellodd y Llywydd yn y ddadl flaenorol. Rwyf wedi cael sgyrsiau gydag Aelodau ar draws y Siambr. Rwyf wedi siarad ag arweinydd Plaid Cymru a Siân Gwenllian heddiw, rwyf wedi siarad â Jayne Bryant, ac un o'r pethau a ddywedodd Jayne Bryant wrthyf yw bod angen inni edrych ar gynrychiolaeth yn gyffredinol ledled y DU a sut y mae ein cynrychiolaeth yn gweithio. Rwy'n cefnogi'r ddadl honno.

Un o'r pethau yr oeddwn yn siomedig â Phlaid Cymru yn eu cylch—gallwn fod wedi cytuno â'u cynnig heblaw am y '2021' hwnnw. Yn bersonol, hoffwn ei weld erbyn 2021, ond mae'n rhaid i chi gael realpolitic fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, ac mae'n rhaid i chi ddod â phobl gyda chi. Nid wyf eisiau gweld refferendwm arall yn y wlad hon, rwyf wedi cael llond bol ar refferenda, ac rwy'n credu eu bod yn anghydnaws â democratiaeth gynrychioliadol, ond rwy'n dal i gredu bod angen mandad arnoch ar gyfer y newid hwn, ac mae'n rhaid i'r mandad hwnnw gael ei roi mewn maniffesto a gyflwynir mewn etholiad Cynulliad. Pe bai gennym Ddemocratiaid Rhyddfrydol, Llafur a Phlaid Cymru yn enwedig, ond gan wahodd yr holl bleidiau eraill i ymuno a dweud, 'Rydym yn unedig ar hyn,' rwy'n credu y byddai gennym y mandad hwnnw ar gyfer 2026. Pwy a ŵyr pwy fydd mewn Llywodraeth? Pwy a ŵyr pwy fydd yn ei weithredu? Ond rydym yn gwybod y byddai'n cael ei weithredu oherwydd byddai mwyafrif trawsbleidiol—[Torri ar draws.]

Mae'r Dirprwy Lywydd wedi dweud na chaf.

Ond y peth olaf y buaswn i'n ei ddweud yw nad yw hwn ond yn rhan o ddarlun ehangach, ac rwy'n credu bod angen hefyd—rwy'n dweud wrth y Prif Weinidog, wrth ein cynrychioli i San Steffan—mae angen DU ffederal hefyd. Rwy'n credu bod angen system ffederal ar draws y DU gyda Seneddau rhanbarthol yn Lloegr sy'n cydnabod grym datganoledig, ond mae angen system 'devo max' yng Nghymru sy'n gytbwys ar draws y Deyrnas Unedig. Credaf fod hynny'n gwbl sylfaenol. Mae gennym gyfle yma yn y Senedd i arwain y ffordd ar hyn, ac rwy'n gobeithio, ac fe wnaf fy ngorau gyda fy nghyd-Aelodau i berswadio'r Blaid Lafur mai dyna sydd ei angen arnom yn ein maniffesto yn 2021.

Caiff yr adeilad lle'r ydym yn dadlau ei ddathlu'n aml oherwydd ei bensaernïaeth, ei nenfwd ceugrwm, ei furiau goleddfol. Mae cyfuchliniau'r gofod ei hun yn ein hatgoffa nid yn unig o'r egwyddorion o fod yn agored a thryloyw mewn democratiaeth, ond hefyd y llwybr cwmpasog ar adegau yr ydym wedi'i ddilyn er mwyn cyrraedd yma, gan ennill y bleidlais yn 1997 o drwch blewyn a'r gwaith sydd wedi digwydd yn yr 20 mlynedd diwethaf i ymgysylltu â'r cyhoedd, er mwyn meithrin ymddiriedaeth, a cheisio gwneud hon yn Senedd y gallwn ymfalchïo ynddi. Ond nid yw heb ei beiau.

Bûm yn Aelod yma ers pum mis, ac eisoes gallaf weld pa mor gyfyng yw ein gallu i graffu ar waith y Llywodraeth oherwydd y nifer o ddatganiadau, dadleuon, cwestiynau a phwyllgorau y mae pawb ohonom yn gweithio arnynt. Er lles ein Senedd a'n democratiaeth, mae angen i'r lle hwn allu gweithredu'n briodol a chraffu ar y broses o wneud penderfyniadau yn effeithiol. Gwnaethpwyd y pwynt eisoes y prynhawn yma fod adroddiad Silk wedi dod i'r casgliad fod deddfwriaeth dda yn talu amdani'i hun. Mae'r un peth yn wir am ddeddfwrfeydd.

Ddirprwy Lywydd, nid yw hwn yn fater a ddylai ein rhannu ar hyd llinellau pleidiol. Ni welir yr angen dybryd am fwy o gapasiti yn y lle hwn yn gliriach mewn unrhyw faes na chyda Brexit, gydag offerynnau statudol yn cael eu hysio drwodd heb fawr o amser i'w trafod, a'r baich ychwanegol yn gwaethygu'r diffyg capasiti sydd ar gael i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Nid yw hyn yn beth da i'r Llywodraeth nac i'r wrthblaid. Mae diffyg ail Siambr yma yn golygu nad oes rhwyd ddiogelwch ddeddfwriaethol i'r Cynulliad. Er mor ddiffygiol mewn rhai ffyrdd yw Tŷ'r Arglwyddi, Siambr ddiwygio yw hi, ac mae'n aml yn gwella deddfwriaeth. Nid yw'r rhwyd ddiogelwch honno'n bodoli yng Nghymru. Mae deddfwriaeth dda a all wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn dibynnu ar graffu effeithiol gan nifer fach o ACau y meinciau cefn y mae eu cyfyngiadau amser yn sylweddol. Nid yw gwneud dim yn opsiwn.

Roedd adroddiad McAllister ar ddiwygio etholiadol yn edrych ar ddewisiadau i wella gwaith craffu, gan gynnwys cynyddu'r wythnosau y byddai'r Senedd yn eistedd ac ymestyn yr wythnos waith. Daeth i'r casgliad na fyddai hyn ar ei ben ei hun yn ddigonol a bod

'y cyfyngiad difrifol o ran yr amser sydd gan 60 Aelod Cynulliad i ymgymryd ag
ystod gyflawn eu cyfrifoldebau'

yn cyfyngu ar gapasiti'r Cynulliad i fod yn Senedd sydd 'wirioneddol yn gweithio i bobl Cymru.

Mae hwnnw'n gyhuddiad damniol. Fel y mae'r frawddeg honno'n dangos, mae angen i'r lle hwn weithio er mwyn pobl Cymru, ac mae angen i bobl Cymru weld eu hunain ynddo. Nid am yr adeilad yn unig y mae hynny'n wir—y waliau goleddfol hyn. Mae hefyd yn wir am y corff etholedig sy'n eistedd ynddo. Dylem adlewyrchu cyfansoddiad Cymru fodern, fywiog, a dyna pam, yn ogystal â chynyddu nifer yr Aelodau, y dylem gymryd camau i annog amrywiaeth yn ein haelodaeth. Mae'n eironig y bydd y galwadau hyn am ddiwygio a chynrychiolaeth well yn cael eu defnyddio gan rai grwpiau fel ffordd o ddyfnhau'r rhaniad rhwng gwleidyddion a'u cymunedau, i apelio at yr ymdeimlad erchyll hwn o ddrwgdybiaeth yn ein sefydliadau. Byddai'n drueni—nid yn unig i'r grwpiau hynny, ond yn drueni inni i gyd—pe bai'r ddadl honno'n ennill.

Yn hyn o beth, fel gyda chymaint o faterion ar hyn o bryd, mae'n teimlo fel pe baem ar groesffordd yn ein gwleidyddiaeth. Mae ffydd y cyhoedd yn ein sefydliadau ar bwynt isel. Weithiau, yn yr eiliadau toredig hyn, fel yr ydym yn eu profi yn awr gyda'r holl ymosodiadau ar ein gwleidyddiaeth, mae angen cryfhau sylfeini sefydliad. Fel y mae fy annwyl Leonard Cohen yn ei roi:

Mae crac ym mhopeth, dyna sut y daw'r golau i mewn.

Mae'r toriad hwn yn ein gwleidyddiaeth yn galw am adfywio democratiaeth, ailymgysylltu â'r cyhoedd drwy gynulliadau pobl, dod ynghyd, ac ie, cryfhau ein sefydliadau. Nid dinas ddisglair ar fryn yw gwleidyddiaeth. Nid yw'n amgueddfa lawn plinthau a phedestalau. Mae'n ystafell gron, gyda tho'n agor allan i'r awyr a'r cymunedau a gynrychiolwn. Mae'r lle hwn wedi dod mor bell. Dylem ymfalchïo ynddo, ac i aralleirio Gerallt Lloyd Owen, mae'n 'ddarn o dir yn dyst i stori ein cenedl'. Rydym wedi dod mor bell, ond nid ydym wedi dod mor bell â hyn er mwyn peidio â mynd ymhellach.

18:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad, 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru'. Mae'n waith cadarn a thrylwyr, ac mae'n amserol ac yn angenrheidiol, wrth i'n sefydliadau Llywodraeth a chraffu a democratiaeth yng Nghymru barhau i dyfu er mwyn ymateb i heriau newydd a chyflawni'n well ar gyfer pobl Cymru.

Mae'r teitl, 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru', yn cynnwys cymaint yn yr ychydig eiriau hynny. Nid yw'n Senedd sy'n gweithio i blaid wleidyddol—Senedd sy'n gweithio i Blaid Cymru neu i Lafur neu i'r Ceidwadwyr neu i amryw o rai eraill. Teitl a bwriad yr adroddiad yw rhagweld Senedd sy'n gweithio dros Gymru a thros bobl Cymru. Mae'r teitl hefyd yn cydnabod nad yw'r Cynulliad presennol, sy'n wynebu Gweithrediaeth sy'n tyfu fel y mae wedi gwneud—ac yn parhau i wneud—o ran pwerau a hyder ac aeddfedrwydd, wedi tyfu'n gymesurol yn ei allu i graffu'n ddemocrataidd.

Rwy'n cytuno â chanfyddiad sylfaenol yr adroddiad. Mae'r rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad yma'n gweithio'n eithriadol o galed ac yn ddiwyd ar ran eu hetholwyr ac ar ran Cymru. Ond nid oes gennym ddigon o bŵer, nid o ran ymdrech ond o ran rhifau syml. Gallwn ddweud hyn yn hyderus yn sgil cymariaethau â Llywodraethau a Chynulliadau rhanbarthol eraill ar draws Ewrop a'r byd yn ehangach. Rwy'n dweud hyn yn hyderus fel cyn aelod o Senedd y DU hefyd, sydd wedi gwasanaethu fel aelod o'r fainc gefn ac fel Gweinidog, cynorthwy-ydd seneddol, Cadeirydd pwyllgor, a mwy yn San Steffan. Nid ydym yn gwneud cymwynas â ni ein hunain drwy esgus y gallwn barhau fel yr ydym. Yn bwysicach na hynny, nid ydym yn gwneud cymwynas â Chymru drwy ddal ati i esgus y gallwn weithio gyda'n pwerau newydd a'n gofynion newydd, drwy ddangos wyneb dewr a dweud y gallwn weithio'n galetach a gweithio'n fwy clyfar. Fel y dywed yr adroddiad, rydym eisoes yn gwneud hynny. Yn syml, nid yw'n ddigon ar ei ben ei hun. Mae niferoedd yn bwysig iawn.

Felly, mae'r achos yn rymus. Y cwestiwn yw: a oes rheidrwydd arnom ni, fel meistri ein tynged ein hunain, i weithredu? Neu a ydym yn aros ac yn aros ac yn aros, gan ohirio'r penderfyniadau gwleidyddol anodd am byth, hyd nes y byddwn ni a'r Cynulliad yn cwympo dan y pwysau?

Ond nid ar yr angen i gynyddu niferoedd Aelodau Cynulliad yn unig y mae'r adroddiad yn canolbwyntio. Mae hefyd yn seiliedig ar egwyddorion clir y gallwn eu rhoi ar waith i sicrhau newid blaengar yn ein democratiaeth ac yn ein deddfwrfa yng Nghymru.

Gadewch imi dynnu sylw at rai egwyddorion allweddol. Fe ddof yn ôl mewn munud os caf fi.

Dewis pleidleiswyr, lle dylai'r system etholiadol a ddewisir ar gyfer y dyfodol alluogi pleidleiswyr i ddethol neu nodi ffafriaeth dros ymgeiswyr unigol; lle dylai'r system etholiadol gyflwyno Aelodau â mandadau sy'n cyfateb yn fras ac sy'n rhoi statws cyfartal; lle mae gennym o leiaf y lefel bresennol o gyfranoldeb ag sydd gan y system gyfredol, a mwy na hynny yn ddelfrydol; lle dylai fod yr un gwerth i bleidleisiau; lle mae'r system mor syml a dealladwy â phosibl i bleidleiswyr; a lle caiff ei diogelu ar gyfer y dyfodol o ran anghenion a thueddiadau sy'n newid, a gallu sicrhau atebolrwydd, effeithiolrwydd a sefydlogrwydd llywodraethol, boed y rheini'n llywodraethau mwyafrifol neu'n glymbleidiau. Nawr, nid af drwy holl fanylion yr adroddiad yn drwyadl—gall eraill ei ddarllen yn eu hamser eu hunain—ond mae'n arwain at gasgliadau clir iawn a chasgliadau y ceir tystiolaeth dda ar eu cyfer: fod angen mwy o Aelodau Cynulliad i wneud y gwaith craffu y cawsom ein hethol i'w wneud yn effeithiol, ac na fydd unrhyw fesur o waith clyfar yn gwneud iawn am fwlch cyfredol a chynyddol yn y capasiti, a bod angen inni ystyried system etholiadol newydd hefyd a fydd, gyda mwy o ACau, nid yn unig yn cyflawni'r egwyddorion a amlinellir yn yr adroddiad, ond a fydd, ynghyd â'r argymhellion ar weithredu cadarnhaol i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, yn peri i bob plaid a'r Cynulliad yn ei gyfanrwydd arwain y ffordd ar fwy o amrywiaeth ar waith, nid mewn geiriau'n unig, a thrwy wneud i bob pleidlais gyfrif yn gyfartal, gall gynyddu'r nifer sy'n pleidleisio. Fe ildiaf.

18:30

Diolch yn fawr. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod yr achos yn gwbl argyhoeddiadol yn awr. Felly, pam eich bod am aros am bum mlynedd arall cyn i chi ei newid?

Diolch am yr ymyriad hwnnw, Leanne. Soniais yn fy ymyriad yn gynharach ar Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, fod yna realpolitic hefyd, ac mae'n fater o gael hyn o fewn mandad maniffestos wrth edrych tuag at yr etholiad. Felly, dyna eich ateb. [Torri ar draws.] P'un a ydych yn cytuno ai peidio, dyna yw realpolitic bwrw ymlaen â hyn. Ac unwaith eto, hoffwn apelio—

Rwyf am barhau; fe anwybyddaf y sylw hwnnw a pharhau.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio ato'i hun droeon fel galwad i weithredu, ac rwy'n cytuno. Ond rhaid i'n gweithredoedd lifo o adeiladu deialog a chonsensws yma ac ar draws Cymru gan gydnabod yr heriau a wynebwn a bod yn barod i gyflwyno diwygiadau democrataidd ac etholiadol er lles Cymru. Ond gadewch i ni fod yn glir hefyd ynglŷn â beth nad oes a wnelo hyn ag ef: nid yw'n ymwneud â niferoedd neu ethol cynghorwyr neu Aelodau Seneddol neu ASEau, neu'r 900 a mwy o aelodau yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae a wnelo hyn â chapasiti'r lle hwn, y Senedd, Senedd Cymru, i gyflawni'n effeithiol ar gyfer pobl Cymru. Bellach mae gennym Senedd go iawn yn wir, a welodd ei rôl yn newid o fod yn Gynulliad pur gyfyngedig pan gafodd ei sefydlu yn 1999, drwy newidiadau olynol wedi'u gyrru gan Ddeddfau Llywodraeth Cymru a chomisiynau Richard a Silk, a Deddf treth 2016, i ddod yn ddeddfwrfa gyhyrog ar fodel cadw yn ôl tebyg i'r Alban, gyda phwerau deddfu sylfaenol a phwerau amrywio trethi. Eto i gyd, mae ein gallu i graffu'n effeithiol fel sefydliad democrataidd yn 2019 yn parhau'n gyfyngedig oherwydd y cyfaddawdu etholiadol angenrheidiol ar y pryd yn 1999.

Felly, Ddirprwy Lywydd, wrth gefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw mae angen inni hefyd weithio ar draws y pleidiau ac ar draws Cymru i adeiladu'r consensws hwnnw a fydd o ddifrif yn creu Senedd sy'n gweithio dros Gymru a phobl Cymru, yn awr ac ar gyfer heriau'r dyfodol, ac edrychaf ymlaen at chwarae rhan lawn yn adeiladu'r consensws hwnnw.

Rwyf braidd yn ddig weithiau pan glywaf bawb yn mynd yn ôl at 20 mlynedd yn ôl ac yn y blaen, oherwydd mae rhai ohonom yn mynd yn ôl at amser adroddiad Kilbrandon mewn gwirionedd ac yn cofio'r cyfraniad a arweiniodd at y refferendwm cyntaf yn 1979—refferendwm a gollasom yn sylweddol iawn, mewn ffordd ddigalon iawn. Ar y pryd rhoddwyd amryw o resymau am hynny; naill ai nad oedd yr hyn a gynigid yn ddigon, neu fod yr hyn a gynigid yn ormod. Y gwir amdani oedd nad oedd gwleidyddiaeth y cyfnod yn caniatáu i ni lwyddo gyda hynny. Ond fel sy'n wir am refferenda—a chytunaf â'r sylwadau a wnaethpwyd am annigonolrwydd refferenda—newidiodd y bobl eu meddwl, a galwyd am ail refferendwm, ac fe wnaeth yr ail refferendwm gefnogi datganoli a sefydlu'r Cynulliad hwn mewn gwirionedd. Cofiaf hefyd y dadleuon ar y pryd nad oedd yr hyn a gynigid bryd hynny'n ddigon pan ddaethom at Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, cawsom y refferendwm ac enillasom o 7,000 o bleidleisiau. Pe baem wedi bod yn fwy uchelgeisiol—ac roedd llawer ohonom ar bob ochr ac ym mhob plaid a fyddai wedi hoffi gweld mwy—mae'n ddigon posibl y byddem wedi colli'r refferendwm hwnnw yn fy marn i. Felly, rwy'n gwneud y pwynt ynglŷn â phwysigrwydd dod â'r bobl gyda chi ym mhob peth a wnawn ac unrhyw beth a newidiwn, ac osgoi'r demtasiwn, yr haerllugrwydd hudolus a geir weithiau, lle rydym yn edrych ar ein safbwynt yma yn y Siambr ac yn anghofio weithiau mai pobl Cymru sy'n berchen arni a bod yn rhaid inni ddod â phobl Cymru gyda ni.

Nawr, yr hyn sy'n glir iawn yw bod cryn dipyn o gytundeb rhyngom, mae llawer o dir cyffredin, ond mae yna feysydd amlwg sy'n ein rhannu, a dyna pam y credaf fod y cynnig hwn, fel y mae wedi'i eirio, yn amhriodol, oherwydd bydd yn rhaid cael consensws i unrhyw newid a wnawn. Nawr, mae gennyf fy safbwyntiau fy hun ynghylch y math o system yr hoffwn ei gweld: hoffwn weld 80 o Aelodau yma; hoffwn weld dau o bob etholaeth; hoffwn weld etholaeth un dyn, un ddynes fel ein bod yn sefydliadoli cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn gwirionedd; hoffwn weld system bleidlais sengl drosglwyddadwy. Ond rwy'n gwybod, yn yr un modd, fod yna hanner dwsin o wahanol safbwyntiau ynglŷn â ffurf unrhyw ddiwygiad neu gynnydd mewn gwirionedd.

Nawr, rydym yn gweithio o fewn ein pleidiau gwleidyddol ein hunain, rydym hefyd yn gweithio o fewn ein hetholaethau, ac mae gennym farn benodol ynglŷn â sut y sicrhawn newid mewn gwirionedd, felly credaf ei bod yn bwysig imi gofnodi yma fy mod yn credu mai'r safbwynt, pan fyddwn wedi trafod hyn o fewn y Blaid Lafur yn ein cynadleddau ein hunain, a fabwysiadwyd gennym o ran gwneud newid—y safbwynt polisi sydd gennym yw hwn: mae cefnogaeth gyffredinol i'r ddadl fod angen mwy o ACau ar y Cynulliad i weithredu'n effeithiol, er bod y farn ar hyn o bryd yn rhanedig ynglŷn â sut y dylid ethol ACau o dan unrhyw system ddiwygiedig. Datganiad o ffaith yw hynny, dyna i gyd, yn sicr o fewn ein plaid ni. Mae gennym ddau bwynt pwysig arall tra phwysig: ni ddylai unrhyw ddeddfwriaeth i ddiwygio maint y Cynulliad a'r system etholiadol a ddefnyddir ar gyfer ei ethol gael ei chefnogi na'i chyflwyno heb fandad cyhoeddus drwy gyfrwng ymrwymiad maniffesto; ac yna, fel y blaid a gyflwynodd ddatganoli, mae'n bwysig ein bod yn cynnal hyder pobl Cymru wrth benderfynu ar ddyfodol democratiaeth yng Nghymru. Felly, mae'n briodol fod y blaid yn cymryd amser i drafod y materion hyn ymhellach er mwyn sicrhau bod ein safbwynt yn darparu system gadarn a chynaliadwy ar gyfer y tymor hir. Nawr, efallai y bydd rhai'n anghytuno, ac yn meddwl bod hynny'n rhy ofalus neu ei bod yn ffordd anghywir o fynd ati, neu beth bynnag, ond dyma'r dull yr ydym wedi'i fabwysiadu. Ac os ydym yn dymuno sicrhau newid, drwy gonsensws yn unig y gellid gwneud hynny. Dyna realiti'r sefyllfa. Mae consensws yn y lle hwn yn golygu bod yn rhaid cael mwyafrif o ddwy ran o dair, felly y ffordd bwysig o fynd ati mewn gwirionedd yw cydnabod y realiti, cydnabod y gwahanol ymagweddau a dechrau'r ddadl honno mewn gwirionedd, yn hytrach na datrysiad sydd i bob pwrpas yn ceisio gwthio penderfyniad polisi drwodd erbyn 2021 nad oes posibl ei gyflawni o fewn y Cynulliad ar hyn o bryd yn fy marn i.

18:35

Rwy'n cytuno i raddau helaeth â'r ysbryd o gonsensws sydd wedi nodweddu'r ddadl os nad y cynnig mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen ar sail hyn. Rwyf wedi ymgyrchu dros ddatganoli ar hyd fy oes. Rwy'n dod at oedran ymddeol yn awr, a gallai pobl Blaenau Gwent fynnu fy mod yn ymddeol ymhen blwyddyn neu ddwy, ond rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu datrys rhai o'r cwestiynau hyn a setlo cwestiwn Llywodraeth ddatganoledig yn y wlad hon. Ers 20 mlynedd, mae'r lle hwn wedi tyfu. Rwy'n credu ei fod wedi tyfu yng nghalonnau a meddyliau'r bobl, yn ogystal â thyfu mewn statws yn y wlad a hefyd o ran y pwerau y mae wedi eu cronni a'u defnyddio yn y cyfnod hwnnw. Rwy'n argyhoeddedig yn fy meddwl fy hun ei bod yn bryd i ni bellach—

Os credwch ein bod wedi tyfu a'n bod wedi aeddfedu, a wnewch chi ailystyried y sylw a wnaethoch fod ACau rhanbarthol yn anhysbys gan mwyaf?

Nid wyf yn credu bod y system ddeuol yn system dda. Rwyf wedi gwasanaethu fel AC rhanbarthol—

—fel y cofiwch—rwy'n gwneud y pwynt—fel y byddwch yn gwybod. A gwn fod y profiad o fod yn Aelod etholaeth ac yn Aelod rhanbarthol yn wahanol, ac ni chredaf fod cynrychiolaeth ranbarthol yn gynrychiolaeth effeithiol. Nid wyf yn credu bod pobl Blaenau Gwent—

A wnewch chi dderbyn ymyriad? [Chwerthin.] Rwyf wedi bod yn Aelod rhanbarthol yn y Cynulliad hwn ers 12 mlynedd, ac am ran o'r amser hwnnw wrth eich ochr chi ac eraill, ac ni allaf eistedd yma a gwrando arnoch yn dweud eich bod yn credu bod cynrychiolaeth ranbarthol, rywsut, yn llai o gynrychiolaeth. Felly, mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi anghytuno'n llwyr ac yn gyfan gwbl â'ch sylwadau.

18:40

Nid oeddwn wedi dweud hynny mewn gwirionedd, ond roeddwn ar fin gwneud hynny. [Chwerthin.] Nid wyf yn credu—. Rwy'n cydnabod yr hyn rydych yn ei ddweud, Joyce, ac rwy'n cydnabod, wrth gwrs, pam rydych chi'n ei ddweud, ond nid wyf yn credu bod cynrychiolaeth ranbarthol yn gynrychiolaeth go iawn, fe fyddaf yn gwbl glir ynglŷn â hynny. Nid wyf yn credu—[Torri ar draws.] Nid wyf yn ei gredu. Mae gennyf ofn nad wyf yn ei gredu. Ac a wyddoch chi beth? Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cytuno â mi. Efallai nad yw'n beth poblogaidd na chyfforddus i'w ddweud yn y Siambr hon, ond rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cytuno â mi.

Felly, gadewch imi ddweud hyn: credaf fod arnom angen system o ddiwygio etholiadol sy'n darparu ar gyfer aelodaeth gyfartal yn y lle hwn. Credaf fod arnom angen system o ddiwygio etholiadol sy'n gwneud cyfranoldeb yn rhan annatod o'r system. Un o sylfeini'r math hwn o Lywodraeth ddatganoledig oedd cynrychiolaeth gyfrannol. Ni chredaf y dylem symud oddi wrth yr egwyddor sylfaenol honno mewn unrhyw ffordd yn y ddemocratiaeth Gymreig hon. Credaf fod yn rhaid i gynrychiolaeth gyfrannol fod yn rhan annatod o'n setliad cyfansoddiadol, a dyna pam rwy'n cefnogi'r bleidlais sengl drosglwyddadwy fel modd o gynrychioli pawb yng Nghymru'n gyfartal, ar draws y Siambr hon ac ar draws y wlad hon. Ac mae angen i ni wneud hynny mewn ffordd ddeallus.  

Rwy'n cydnabod grym y ddadl a wnaethpwyd gan fy nghyd-Aelodau yn y Blaid Lafur ar y mater hwn, ac rwy'n cydnabod pwysigrwydd mandad etholiadol. Credaf fod hwnnw'n fater pwysig ac ni ellir ei ddiystyru. Rwy'n ofni na ellir diystyru dymuniadau pobl y wlad hon fel anghyfleustra. Teimlaf rwystredigaeth y rhai sydd wedi gweld a gwylio comisiynau'n mynd a dod, adroddiadau'n cael eu hysgrifennu a'u cyhoeddi, dadleuon yn cael eu cynnal cyn eu rhoi heibio am nad oes dewrder gwleidyddol i wneud y penderfyniadau hynny ac i wneud y newidiadau. Credaf nad yw pedair Deddf Cymru mewn 20 mlynedd yn fuddugoliaeth i drafodaeth seneddol neu ddemocratiaeth. Mae'n bryd cael setliad sefydlog yn y wlad hon. Mae'n bryd cael setliad sy'n adlewyrchu anghenion pobl Cymru. Rwyf wedi dadlau dro ar ôl tro—yn y lle hwn ac fel Gweinidog, roeddwn yn ei ddadlau o safbwynt Llywodraeth Cymru—fod angen inni weld Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru sy'n addas i'r diben. Rwyf wedi dadlau dros ddatganoli'r heddlu a chyfiawnder troseddol, rwyf wedi dadlau dros ddatganoli'r pwerau sy'n galluogi'r lle hwn i weithredu'n briodol ac i gyflawni dros bobl Cymru. Ond fe ddadleuaf hefyd fod angen i'r lle hwn newid yn ogystal, fod yn rhaid i'r lle hwn weithredu, mewn ffordd y mae Adam Price ac eraill wedi'i ddadlau mewn gwirionedd. Ond yr hyn a ddywedaf wrth Blaid Cymru y prynhawn yma, ac rwyf am orffen ar y pwynt hwn: tynnwch y cynnig hwn yn ôl y prynhawn yma. Peidiwch â rhannu'r lle hwn ar y mater dan sylw. Edrychwch am undod. Edrychwch am gonsensws. Edrychwch am undod pwrpas. Ni fydd pobl Cymru—

Rhun ap Iorwerth a gododd—

Nid oes gennyf amser.

Ni fydd pobl Cymru yn diolch i wleidyddion—[Torri ar draws.] Ni fydd pobl Cymru—[Torri ar draws.] Rwy'n siŵr y gwnaiff y Dirprwy Lywydd adael i mi barhau hyd nes y caniatewch i mi orffen fy mrawddeg.

Ni fydd pobl Cymru'n diolch i Gynulliad, Senedd, sy'n edrych tuag i mewn ac yn anghofio'r hyn y maent ei eisiau ac yn anghofio'r bobl y maent yn eu cynrychioli. Rwyf am i bobl Blaenau Gwent gael eu cynrychioli gan Senedd sy'n gweithio dros Gymru, ond mae angen iddynt gael cyfle hefyd i roi eu cydsyniad i hynny. Ac mae hynny'n golygu consensws ar draws y Siambr, ledled y wlad, a'n bod yn symud ymlaen ar sail y cydsyniad hwnnw.

Diolch. Roedd honno'n frawddeg hir iawn; roedd bron yn baragraff. Ond o ystyried pa mor hwyr yw hi, fe faddeuaf i chi y tro hwn.

A gaf fi alw yn awr ar y Llywydd i ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad. Lywydd.

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl yma y prynhawn yma, am y gwelliannau hefyd, ac am y cyfraniadau meddylgar a diddorol rŷn ni wedi eu cael hyd yn hyn. 

Senedd dra wahanol yw hon i’r un a sefydlwyd yn 1999, ac wrth i’w phwerau a’i chyfrifoldebau esblygu, felly hefyd yr achos o blaid cynyddu ei chapasiti i greu sefydliad gwirioneddol addas i bwrpas. Mae’n werth dechrau drwy atgoffa ein hunain, fel mae rhai wedi ei wneud eisoes, o’r daith hyd yn hyn.

Dim ond pum mlynedd ar ôl agor y Cynulliad cyhoeddodd y comisiwn Richard ar ddatganoli adroddiad yn argymell fod ar Gymru angen 20 yn fwy o Aelodau os am weithredu'n effeithiol. Degawd yn ddiweddarach, daeth argymhellion tebyg ar ffurf adroddiad ail ran y comisiwn Silk ar ddatganoli. Yn sgil hyn, yn 2015, cytunodd Comisiwn y Cynulliad yn unfrydol fod ar y lle hwn angen mwy o Aelodau os am sicrhau bod crud democratiaeth Cymru am ddelifro ei holl gyfrifoldebau a gweithrediadau yn effeithiol.

Rhoddodd Deddf Cymru 2017 y pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol i weithredu ar hyn am y tro cyntaf. Nid mater bellach i Senedd San Steffan yw gwneud newidiadau o'r fath; mae nawr yn ein dwylo ni. Y datblygiad hwnnw oedd y sbardun i sefydlu’r panel arbenigol ar ddiwygio’r Cynulliad. Dan arweiniad yr Athro Laura McAllister, bu'r panel yn casglu a dadansoddi ystod o dystiolaeth ar sut i greu Senedd fwy cynaliadwy. Penllanw’r gwaith hwnnw oedd adroddiad pellgyrhaeddol yn cynnwys argymhellion megis gostwng yr oed pleidleisio i 16 a chynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad i rhwng 80 a 90, hynny law yn llaw gyda diwygio’r system etholiadol.

Bydd Aelodau'n ymwybodol bod Comisiwn y Cynulliad wedi bwrw ymlaen gyda rhaglen o ddiwygio etholiadol yn sgil yr argymhellion hyn. Mae rhan 1 y rhaglen eisoes yn dwyn ffrwyth, a ninnau newydd drafod y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) y prynhawn yma. Gwyddoch hefyd mai’r gobaith oedd symud ymlaen gyda rhan 2, sef yr argymhellion ar gynyddu maint y Senedd a diwygio’r system etholiadol. Roedd y Comisiwn eisoes wedi ymgynghori gyda'r cyhoedd ar y materion yma a derbyn cydsyniad y mwyafrif o ymatebion. Er hyn, fis diwethaf, daeth i’r amlwg nad oedd modd deddfu ar ran 2 y rhaglen yn y Cynulliad hwn.

Heb os, mae’r achos o blaid mwy o Aelodau Cynulliad wedi ei ddadlau’n effeithiol, ac mae'r pleidiau yn parhau i ystyried oblygiadau newid y system etholiadol: rhai â pholisi pendant ar hynny; rhai ag amryw o safbwyntiau ar hynny. Rwy'n mawr obeithio, felly, mai mater o amser byr fydd hi cyn cyrraedd Tŷ'r Cyffredin â chytundeb ar system etholiadol sy'n gymaradwy i'r uwch-fwyafrif, fel y gellid cyflwyno deddfwriaeth i gyflawni hyn.

Mae'r dadlau yn erbyn creu Senedd sydd â'r capasiti angenrheidiol i wasanaethau pobl Cymru hyd orau ei gallu yn gynyddol amhosib. Mae consensws wedi tyfu ymysg y pleidiau a chymdeithas sifil fod creu mwy o Aelodau Cynulliad yn anochel, ac rwy’n hyderus bod y mwyafrif helaeth yn gweld y rhesymeg y tu ôl i hyn. Mae ein pwerau ni'n parhau i gynyddu, fel rŷm ni wedi clywed y prynhawn yma: ar drethiant, ar Brexit. Mae hefyd disgwyl i’r comisiwn ar gyfiawnder adrodd yn yr hydref. Gyda’r achos o blaid cynyddu pwerau’r Cynulliad yn y maes hwnnw hefyd yn codi stêm, mae posibilrwydd gwirioneddol y byddai angen sefydlu pwyllgor cyfiawnder sylweddol o'r Senedd yma i baratoi ac i graffu ar y gwaith perthnasol hwnnw.

Dyna flas tebygol o’r dyfodol felly—mwy o gyfrifoldebau, mwy o ddisgwyliad i graffu, ond yr un nifer o Aelodau ac o oriau yn y dydd. Ond mae posib dewis trywydd gwahanol—un sy'n fwy cydradd a chynrychioladol. Fel y gwnaeth panel arbenigol McAllister gydnabod yn eu hadroddiad, ni fydd galw am fwy o wleidyddion fyth yn gam poblogaidd, ond anghyfrifol fyddai anwybyddu a pheidio â chydnabod problem o gyflawni.

Mae cymariaethau rhyngwladol a domestig yn amlygu’r diffyg capasiti sgrwtini. O edrych ar gyfran Aelod Cynulliad y pen o’r boblogaeth, mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn uwch na Chymru. Yn yr Alban, mae un Aelod Cynulliad—un Aelod Senedd—yr Alban am bob 42,000 o'r boblogaeth, ac yng Ngogledd Iwerddon mae'r ffigwr yn 20,000 o'r boblogaeth. O'i gymharu, mae un Aelod Cynulliad yng Nghymru ar gyfer pob 52,000 o'r boblogaeth ar gyfartaledd. Fel sydd eisoes wedi'i gyfeirio ato, mae gan naw o'n 22 awdurdod lleol ni fwy o aelodau etholedig na’n Senedd genedlaethol, ac mae digon o enghreifftiau eraill dros y dŵr. Noda adroddiad y panel arbenigol, pe bai gan y Cynulliad yr un nifer o Aelodau y pen o’r boblogaeth ar gyfartaledd â 16 deddfwrfa arall yn yr Undeb Ewropeaidd gyda phoblogaethau tebyg i Gymru, yna fe fyddai gennym ni 86 o Aelodau yn y Cynulliad yma. Pe baem ni hefyd yn cynnwys naw talaith America, sydd â phoblogaethau tebyg, byddai gyda ni 91 Aelod yn y Cynulliad yma.

18:45

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Llywydd. Dywedodd fod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn fwy ffodus na ni am fod ganddynt fwy o Aelodau. A wnaiff hi hefyd gydnabod bod yr ystod a roddir yn yr adroddiad a gadeiriwyd gan yr Athro McAllister, hyd yn oed ar ben isaf yr ystod honno—yr 80—y byddai hynny'n rhoi mwy o Aelodau y pen inni nag a welwn yn yr Alban?

Dwi'n meddwl taw'r pwynt sydd yn cael ei wneud yn yr adroddiad yw bod y cymariaethau rhyngwladol a'r rhai o fewn y Deyrnas Gyfunol yn dangos bod yna dangynrychiolaeth o bobl Cymru yn eu deddfwrfa genedlaethol nhw. Felly, mae'r cymariaethau rhyngwladol yn dangos bod y tangynrychiolaeth yna yn ei gwneud hi'n anoddach i ni fel deddfwrfa i wneud ein gwaith sgrwtini ni o'i gymharu gyda Seneddau cyffelyb mewn rhannau eraill. 

Wedyn, dwi'n dod ymlaen i'r mater ynglŷn â'r gost, sydd wedi cael ei gyfeirio ato hefyd y prynhawn yma, ac mae'n rhaid cofio, wrth gwrs, mai diwedd y gân yw'r geiniog i nifer o bobl. Ffigurau'r panel arbenigol yw'r diweddaraf sydd ar gael o ran hyn. Amcangyfrifir y byddai 20 o Aelodau ychwanegol yn y lle yma yn costio £6.6 miliwn y flwyddyn, gyda 30 Aelod yn £9.6 miliwn. O'i gymharu, mae ffigyrau'r Trysorlys o 2013, y rhai mwyaf diweddar, yn amcangyfrif bod y gwariant ar bedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd Cymru dros £7 miliwn ar hyn o bryd. I'r pwrs cyhoeddus, felly, mae pedwar Aelod o'r Senedd Ewropeaidd yn gyfwerth â dros 20 Aelod Cynulliad ychwanegol. A chofier hynny, os bydd Brexit yn digwydd. 

Felly, beth nesaf? Oherwydd diffyg consensws, ond yn amodol ar bleidleisiau heddiw wrth gwrs, mae'r posibilrwydd o ddeddfu erbyn 2021 yn ymddangos yn afrealistig. Gyda hynny mewn cof, fy argymhelliad i fyddai i sefydlu pwyllgor dros dro o'r Cynulliad yma i adeiladu ar waith y panel arbenigol ynghlwm â chynyddu nifer o'r Aelodau Cynulliad a diwygio’r system etholiadol. Byddaf i'n gofyn i'r Pwyllgor Busnes ystyried gwneud hyn. Mae yna gynsail o greu pwyllgorau dros dro i edrych ar faterion cyfansoddiadol o'r fath, ac roedd hynny'n enwedig o wir yn yr ail Gynulliad. Drwy gasglu tystiolaeth gan arbenigwyr a phartneriaid perthnasol, gallwn ofyn i bwyllgor o'r fath adrodd ar eu gwaith cyn haf 2020, gyda'r gobaith o gynorthwyo'r pleidiau wrth iddynt fynd ati i drafod hyn ymhellach.

Rwy'n frwd o'r farn fod cynnal y momentwm ar y mater yma nid yn unig yn haeddiannol o amser ac adnoddau, ond yn angenrheidiol os yw'r Senedd hon am wrthsefyll treigl amser a'r heriau ddaw gyda hynny. Mae'r ddadl yma heddiw wedi bod yn garreg filltir ddefnyddiol, dwi'n meddwl, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau'r drafodaeth gyda llygad ar ddeddfu i gynyddu nifer yr Aelodau i'r Senedd hon ynghynt yn hytrach nag yn hwyrach. 

18:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod ni wedi cael dadl ystyrlon a defnyddiol. Wrth gwrs, dyna beth ŷch chi'n cael mewn seneddau pan fo cynnig yn cael ei osod. Mae yna amrediad o farn. Dŷn ni wedi gweld, a dweud y gwir, tipyn o dir cyffredin yn rhai o'r sylwadau, a rhai gwahaniaethau sylfaenol. Dwi ddim yn ymddiheuro am eiliad, a dweud y gwir, am osod y cynnig yma, achos mae'n bwysig bod pobl Cymru yn gweld ble mae'r tir cyffredin a ble mae'r gwahaniaethau hynny.

A gad i mi fod yn gwbl onest: nid dyma oedd ein dewis cyntaf ni o ran dod â'r cwestiwn yma gerbron. Mi oedd yna broses, fel dŷn ni wedi ei glywed gan y Llywydd jest nawr, o drafod rhwng y pleidiau. Rwy'n gwybod, achos roeddwn i'n Gomisiynydd ar y pryd. Y rheswm, wrth gwrs, roedd y realpolitic yna wedi methu o ran yr ymgais i gael consensws oedd bod un blaid, gyda llaw nid ein plaid ni, wedi penderfynu dŷn nhw ddim am weithredu o fewn tymor y Cynulliad yma, a'r blaid Lafur oedd honno. Allwch chi ddim ein beio ni oherwydd eich bod chi wedi dod i'r safbwynt hwnnw, sydd, rwy'n credu, yn mynd yn hollol groes i sylwedd yr hyn roedd nifer o'ch Aelodau chi wedi ei ddweud yn hollol ddiffuant.

Mae gwir angen hon ar Gymru nawr. Gad i mi fod yn glir: hynny yw, mae rhai pethau yn bwysicach i fi na gwleidyddiaeth plaid. Rwyf wedi dangos hynny yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae ansawdd ein democratiaeth genedlaethol yn un ohonyn nhw. Felly, nid chwarae gwleidyddiaeth bleidiol rydyn ni fan hyn, ond ymbil ar y blaid Lafur yn bennaf, llawer ohonyn nhw nhw, dwi'n credu, yn eu calon yn cydymdeimlo gyda'r hyn rŷn ni'n ei ddweud, ein dadansoddiad ni, yr hyn sy'n ei yrru fe—. Dwi'n ymbil arnoch chi, hyd yn oed nawr, yn y cynnig yma, yn y bleidlais yma, neu mewn unrhyw drafodaethau sydd yn dilyn yn y pwyllgor trawsbleidiol dŷn ni newydd glywed amdano fe—mae angen gweithredu nawr. Mae yna fandad gyda ni sydd yn fwy cynhwysfawr, a mandad rydyn ni wedi ei gael trwy ddau refferendwm i greu democratiaeth sydd yn delifro i bobl Cymru, a dŷn ni'n methu â chyflawni hynny yn yr hinsawdd sydd ohoni. 

18:55

Rwy'n anghytuno ag ef ynglŷn â'r mandad. Bydd y mandad yn dod drwy ymrwymiad maniffesto y pleidleisir arno wedyn gan y bobl yn yr etholiad nesaf, ac nid oedd yr ymrwymiad hwnnw'n un cyffredinol yn yr etholiad diwethaf.

Wel, mi oedd e yn ein maniffesto ni ynglŷn â chynyddu nifer yr Aelodau, ac felly allwch chi ddim beio ni am y ffaith dŷch chi ddim wedi adlewyrchu—[Torri ar draws.] Wel, ble ydych chi wedi bod? Mae'r prif chwip newydd ddweud—[Torri ar draws.] Mae prif chwip eich Llywodraeth chi newydd ddweud—[Torri ar draws.] Mae'r prif—[Torri ar draws.] Os caf orffen y frawddeg, Mick. Mae'r prif chwip newydd ddweud bod hi wedi teimlo, pan oedd Richard wedi adrodd 15 mlynedd yn ôl, fod angen datrys hwn. Yr hyn sydd yn cael ei gynnig yw ein bod ni'n cyflawni hynny 22 o flynyddoedd ar ôl i'r comisiwn hynny adrodd. Mae hynny, does bosib, yn tanlinellu'r angen i ni weithredu ar hyn, a gweithredu nawr.   

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf ymlaen at y bleidlais gyntaf. O'r gorau.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig, pump, roedd 19 yn ymatal, a 27 yn erbyn, felly gwrthodwyd y bleidlais—mae'n ddrwg gennyf, gwrthodwyd y cynnig.

NDM7106 - Cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019: O blaid: 5, Yn erbyn: 27, Ymatal: 19

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 42, neb yn ymatal, naw yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig.

NDM7115 - Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): O blaid: 42, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar ddiwygio'r Cynulliad. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 11, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, felly gwrthodwyd y cynnig a phleidleisiwn ar y gwelliannau.

NDM7118 - Dadl Blaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 a gwelliant 3 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 1, pedwar, neb yn ymatal, 47 yn erbyn, felly gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM7118 - Gwelliant 1: O blaid: 4, Yn erbyn: 47, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 2. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 2, 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2. Caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

NDM7118 - Gwelliant 2: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM7118 fel y'i diwygiwyd. 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion.

2. Yn cytuno bod angen cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.

3. Yn galw am ragor o waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 35, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7118 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Gofalu am ein gofalwyr: Sicrhau'r gydnabyddiaeth, y seibiant a'r cymorth y mae ein gofalwyr yn eu haeddu

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda?

Symudwn yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Jayne Bryant i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis—Jayne.

19:00

'Achubodd Fforwm Gofalwyr Casnewydd fy mywyd. Mae fel cael ail deulu i fy nghefnogi.' Dyma eiriau Chris Kemp-Philp, un o fy etholwyr. Maent yn dangos pa mor hanfodol yw darparu cymorth i ofalwyr a'r hyn y mae'r cymorth hwnnw'n ei olygu. Rwy'n falch iawn o weld Chris, Janet Morgan ac wynebau cyfarwydd eraill o'r fforwm yn yr oriel gyhoeddus heno. Ffurfiwyd Fforwm Gofalwyr Casnewydd gan Janet yn 2010 ac mae'n rhoi cyfle i ofalwyr siarad ag eraill sy'n deall beth y maent yn mynd drwyddo. Gwn eich bod i gyd yn cyflawni eich rolau gofalu gyda'r fath ymroddiad a gostyngeiddrwydd a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddweud 'diolch yn fawr'—diolch nid yn unig i'r rhai ohonoch sydd yma heddiw ond i'r holl ofalwyr a'r rhai sy'n eu cefnogi ym mhob rhan o Gymru. Mae eich cyfraniad i'n cymdeithas yn cael ei anghofio'n aml, ac mae cynifer o straeon yn mynd heb eu hadrodd. Rhaid i hyn newid.

Mae cynyddu ymwybyddiaeth yn hollbwysig, ac roedd yn bleser cynnal digwyddiad yn ddiweddar yn y Senedd i nodi Wythnos y Gofalwyr. Mae bob amser yn bwysig dathlu a chanolbwyntio ein meddyliau yn ystod Wythnos y Gofalwyr, ond gwyddom fod bod yn ofalwr i lawer yn swyddogaeth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Mae'r digwyddiad hwnnw, fel y ddadl fer hon, yn fodd o daflu goleuni ar weithlu cudd di-dâl, ac yn ffordd o dynnu sylw at fater yma yn y Senedd sy'n effeithio ar filoedd o bobl ledled Cymru. Ar un adeg yn ein bywydau mae pob un ohonom yn debygol naill ai o fod yn derbyn gofal neu' n ofalwyr ein hunain. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio yn byw'n hwy, a llawer ohonynt ag anghenion cymhleth, mae'n hanfodol sicrhau bod gennym weithlu proffesiynol yn barod ar gyfer y presennol a'r dyfodol, ac eto gwyddom hefyd fod lefelau recriwtio a chadw staff yn y sector hwn yn argyfyngus. Er y bydd gweithlu gofal cyflogedig yn hanfodol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, byddwn bob amser fel cymdeithas yn dibynnu ar ofalwyr di-dâl sydd fel arfer yn aelod o'r teulu, yn rhywun annwyl neu'n ffrind.

Mae gofalwyr yn cadw teuluoedd gyda'i gilydd, yn sicrhau y gellir gofalu am bobl yn eu cartrefi, gan arbed ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Maent yn sail i'n gwasanaeth iechyd gwladol a'n system gofal cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth na allem wneud hebddynt. Ystyriwyd bod rolau gofalu yng Nghymru yn werth £8.1 biliwn, ond yn anffodus mae 72 y cant o ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi. Mae hyn yn hynod o anghytbwys. Mae gofalu'n arbed tua phedair gwaith y swm a werir ar bob ffurf ar ofal cymdeithasol i economi Cymru, a daw ar gost bersonol i'r gofalwyr. Fel cymdeithas, mae angen inni gydnabod yr effaith y mae gofalu'n ei chael ar iechyd rhywun a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol a phwysigrwydd seibiant. Rhaid inni gydnabod yr arbenigedd unigryw sydd gan ofalwyr a pha mor werthfawr ydynt i'n cymuned a'n cymdeithas.

Gall yr effaith y gall gofalu ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol fod yn ddinistriol ac yn barhaol. Canfu'r arolwg a gynhaliwyd y llynedd fod 40 y cant o ofalwyr yn dweud nad oeddent wedi cael diwrnod i ffwrdd ers dros flwyddyn. Mae angen seibiannau rheolaidd ar ofalwyr er mwyn diogelu eu hiechyd a'u lles eu hunain, gan eu galluogi i barhau i ofalu a'u galluogi i fyw bywyd ochr yn ochr â'u cyfrifoldebau gofalu. Fel y dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ni ddylid ystyried seibiant fel

'seibiant rhag baich gofalu '

—nid dim ond hynny. Mae'n rhaid inni wneud mwy i gefnogi a gofalu am ein gofalwyr. Gall gofalu effeithio'n andwyol ar ansawdd bywyd, yn enwedig gofalwyr hŷn. Mae cyflyrau fel arthritis, pwysedd gwaed uchel a phroblemau cefn yn gyffredin ymysg gofalwyr hŷn ac os cânt eu gadael heb y cymorth cywir, gall y broses gorfforol o ofalu waethygu hyn ymhellach fyth. Gall gofalwyr deimlo lludded meddyliol, sy'n aml yn gwaethygu o ganlyniad i bryder, gorbryder a diffyg cwsg a achosir gan heriau gofalu. Mae gan oddeutu 65 y cant o ofalwyr hŷn, rhai rhwng 60 a 94 oed, broblem iechyd hirdymor neu anabledd eu hunain. Dywed 68 y cant o ofalwyr fod bod yn ofalwr wedi cael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl, gyda thraean yn dweud eu bod wedi canslo triniaeth neu lawdriniaeth iddynt eu hunain oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu.

Bydd llawer yn rhoi eu holl egni i gefnogi rhywun annwyl, ond ni ddylid rhoi neb mewn sefyllfa lle maent yn aberthu eu hiechyd eu hunain. Ac os yw iechyd gofalwr yn methu, mae'n aml yn rhoi'r un sy'n derbyn gofal mewn sefyllfa argyfyngus. Mae niferoedd cynyddol o bobl hŷn sy'n ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu wedi tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth y DU adolygu'r lwfans gofalwyr fel y prif fudd-dâl i ofalwyr. Ar hyn o bryd daw'r lwfans i ben pan fydd pensiwn y wladwriaeth yn dechrau, ac mae llawer o ofalwyr yn teimlo'n gryf y dylid talu lwfans gofalwr yn ychwanegol at bensiwn sylfaenol y wladwriaeth. Mae eu hymdrechion yn arbed miliynau i'r GIG, a buaswn yn croesawu sicrwydd y Dirprwy Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU i adolygu taliadau lwfans gofalwyr.

Rhaid gwneud mwy i gefnogi gofalwyr yn y gwaith. Mae Carers UK wedi canfod bod tua 600 o bobl y dydd ledled y DU yn rhoi'r gorau i'w swyddi er mwyn gofalu am berthynas oedrannus neu sâl, a cheir ecsodus cudd o bobl yn gadael bywyd gwaith nad ydym yn trafod digon arno. Mae gwell cymorth yn y gweithle i bobl sy'n jyglo gwaith cyflogedig a gofalu am rywun annwyl yn dod yn fater cynyddol bwysig, a hoffwn glywed gan y Gweinidog sut y gallwn newid hynny. Mae llawer o ofalwyr yn wynebu pwysau ariannol sylweddol os oes yn rhaid iddynt roi'r gorau i weithio oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Ar ben hyn, mae llawer o ofalwyr yn defnyddio'u hincwm neu eu cynilion eu hunain i brynu offer neu gynhyrchion, gan eu gadael yn straffaglu'n ariannol ac yn methu cynilo ar gyfer eu hymddeoliad eu hunain. Mae Prifysgol Birmingham yn cynnal un o'r rhaglenni ymchwil niferus i gymharu systemau gofal ledled y DU. Wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, prif amcan y rhaglen benodol honno yw cynyddu dealltwriaeth o ofal sy'n gynaliadwy yn economaidd ac yn gymdeithasol, yn arbennig sut i sicrhau lles defnyddwyr gofal, eu teuluoedd a gweithwyr gofal cyflogedig. Hoffwn wybod a fydd Llywodraeth Cymru yn pwyso ar ganfyddiadau'r rhaglen ymchwil hon a rhaglenni tebyg.  

Mae gofalu am berthynas, ffrind neu rywun annwyl yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn ei wneud heb feddwl. Mae hyn yn arbennig o wir am ofalwyr ifanc, ac os nad yw pobl yn ystyried eu hunain yn ofalwyr, mae nodi a chydnabod eu hanghenion yn her sylweddol. Mae elusen blant Barnardo's yn gweithredu prosiect yng Nghasnewydd yn arbennig ar gyfer gofalwyr ifanc. Cefais y fraint o gyfarfod â'r grŵp hwnnw ac roedd yn bwerus iawn gwrando ar y bobl ifanc hynny'n disgrifio cymaint yr oeddent yn gwerthfawrogi'r cyfle i dreulio amser gydag eraill sy'n wynebu sefyllfaoedd tebyg. Mae'r cyfarfodydd yn caniatáu iddynt siarad am eu profiadau a rhannu unrhyw bryderon neu rwystredigaethau a allai fod ganddynt. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddynt gael seibiant a threulio amser gydag eraill sy'n deall yr hyn y maent yn mynd drwyddo.

Mae'r rhwydwaith cymorth hanfodol, fel Fforwm Gofalwyr Casnewydd, a hyn, yn rhywbeth nad oes gan lawer o ofalwyr. Cafodd pwysigrwydd rhwydwaith o'r fath ei gadarnhau go iawn i mi yn ddiweddar gan brofiad person ifanc yn fy etholaeth. Yn dilyn diagnosis o salwch terfynol eu mam, roedd y gofalwr ifanc yn cael trafferth gyda phryder, iselder, hunan-niwed a meddyliau hunanladdol. Ond fel roeddent yn dweud wrthyf—ac rwy'n dyfynnu—'un peth a wnaeth fy helpu'n fawr drwy hyn i gyd oedd grŵp cymorth yn fy ysgol i ofalwyr ifanc. Roedd yn braf treulio amser a gwneud gweithgareddau gyda phobl eraill yr un oed â fi a oedd mewn sefyllfa debyg i mi. Fe wnaethom lawer o weithgareddau hwyliog fel gwersylla, mynd ar dripiau, a chyfarfod am gacennau a choffi fel grŵp.'

Mae cyngor ieuenctid Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi lansio eu hymgyrch Cymorth nid Cydymdeimlad yn ddiweddar. Hoffwn annog pawb i wylio'r fideo y maent wedi'i gynhyrchu, sy'n manylu ar chwe pheth na ddylid eu dweud wrth ofalwyr ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys ymadroddion fel 'Mae'n ddrwg gennyf drostat ti' a 'Bydd popeth yn iawn rhyw ddydd'. Mae'r cyngor ieuenctid am i gynifer o bobl â phosibl weld y fideo, er mwyn i bawb ohonom ddeall pam ei bod yn bwysig cynnig cefnogaeth yn ogystal â chydymdeimlad. Yn hytrach, maent yn ein hannog i ofyn 'Beth allaf i ei wneud i helpu?' Gan gofio hyn, rwy'n credu'n gryf ei bod yn ddyletswydd arnom i arwain y ffordd o ran amddiffyn a chefnogi gofalwyr. Gwn fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau breision ymlaen. Yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015, am y tro cyntaf, mae'r un hawliau yn cael eu hymestyn i ofalwyr â'r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Roedd hwn yn ddatblygiad pwysig o ran cael cydnabyddiaeth i ofalwyr, ond mae llawer o ffordd i fynd o hyd a chymaint mwy i'w wneud. Mae'n rhaid iddo wneud gwahaniaeth pendant i fywydau gofalwyr.

Mae gallu adnabod gofalwyr yn well ym mhob un o leoliadau'r GIG yn hollbwysig ymhlith y camau cadarnhaol y gellid eu cymryd. Ymhlith yr enghreifftiau o'r hyn a fyddai'n helpu mae: marc ansawdd ar gyfer practisau meddygon teulu sy'n ystyriol o ofalwyr i alluogi gofalwyr i nodi gwasanaethau meddygon teulu sy'n gallu bodloni eu hanghenion; mabwysiadu pasbortau gofalwyr, a chanllawiau clir ar gyfer eu defnyddio; datblygiadau i gofnodion iechyd electronig sy'n caniatáu i bobl rannu eu statws gofalu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ble bynnag a phryd bynnag y maent yn bresennol; a throsglwyddo gwybodaeth yn well ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol, fel nad oes rhaid i ofalwyr ailadrodd gwybodaeth yn gyson.

Ar ôl gofalu am gyfnod estynedig, mae'n gyffredin fod llawer o ofalwyr yn teimlo fel pe baent wedi colli eu hunaniaeth eu hunain. Fel gofalwr llawn amser, mae'n aml yn anodd, os nad yn amhosibl, cael bywyd cymdeithasol neu ddilyn gyrfa. Mae miloedd lawer o bobl sy'n gwneud rhywbeth y dylem ni, fel cymdeithas, ei werthfawrogi'n aruthrol yn teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl, heb fawr ddim i edrych ymlaen ato yn y dyfodol. Ni allwn adael gofalwyr ar ôl. Maent yn rhoi cymaint inni, a dylem fod yn hynod ddiolchgar. Dyma'r arwyr di-glod sy'n haeddu ein parch, ein cydnabyddiaeth, ac yn anad dim, ein cefnogaeth ddiwyro.

19:10

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Julie Morgan.

Diolch. Diolch yn fawr iawn i Jayne Bryant am ddod â'r ddadl hon yma i'r Siambr heno ac am siarad mor huawdl am y sefyllfa y mae gofalwyr ynddi. Ac mae'n dda iawn fod Fforwm Gofalwyr Casnewydd yma hefyd.

Mae'n fraint imi gael y cyfrifoldeb am ofalwyr di-dâl yn fy mhortffolio, ac rwyf am sicrhau bod gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, nad ydynt yn wynebu stigma mewn cymdeithas, nac mewn ysgolion, pan ddywedant, 'rwy'n ofalwr'. Ar draws Cymru, ceir o leiaf 370,000 o bobl sy'n gofalu am rywun arall am o leiaf awr yr wythnos. Ac mae Jayne Bryant eisoes wedi sôn am eu cyfraniad enfawr i economi Cymru—mwy na £8.1 biliwn bob blwyddyn, gan ddarparu 96 y cant o'r gofal yng nghymunedau Cymru. Mae hi'n hollol iawn—ni allem ymdopi hebddynt.

Felly, rwy'n falch iawn heddiw ein bod yn tynnu sylw at y gwaith anhygoel y mae pob un o'n gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn ei wneud dros eu hanwyliaid, eu teuluoedd a'u ffrindiau.

Roeddwn am ofyn a oeddech yn gwybod bod y ffigurau a ddyfynnwch yn gywir, oherwydd gwyddom fod y ffigur hwn wedi'i ddyfynnu ers cryn amser, ac nid yw llawer o ofalwyr di-dâl yn diffinio'u hunain fel hynny mewn gwirionedd. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a oedd unrhyw waith roeddech chi'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny. Mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi codi'r ddadl hon ar sawl achlysur—gallwn dorri a phastio'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedwyd yn gynharach at bethau a godwyd gennym, yn enwedig gyda gofalwyr ifanc. Felly, byddai unrhyw gynnydd y gallwch ei roi heddiw yn cael ei groesawu'n fawr.

Ie. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn—mai'r ffigurau isaf yw'r rhain; dyma'r 'o leiaf'. Oherwydd rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod bod problem enfawr o ran tuedd gofalwyr i beidio â gweld eu hunain fel gofalwyr, a dyna un o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru'n ceisio ei wneud—ceisio cael mwy o bobl i weld eu hunain fel gofalwyr, ac yna efallai y gallem roi mwy o gymorth.

Yn amlwg, mae gennych y mater allweddol a godwch hefyd ynglŷn â gofalwyr ifanc. Nodwyd pwysigrwydd hanfodol yr agenda hon yn ddiweddar ar 16 Mai, yn y ddadl ynghylch oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn y Senedd hon. Oherwydd rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth a drafodwyd yma, ac mae wedi cael ei drafod yma ers blynyddoedd lawer. Mae'n amlwg yn hanfodol ein bod yn cofio y gall gofalu ddigwydd ar unrhyw oedran, nid fel oedolyn yn unig. Felly, ychydig bach o gynnydd—rydym eisoes yn ymateb i'r galwadau gan ofalwyr ifanc am gerdyn adnabod cenedlaethol i ofalwyr ifanc. Ac mae swyddogion yn cyfarfod ag awdurdodau lleol, gyda thrafodaeth adeiladol iawn mewn gwirionedd, ddoe diwethaf, i drafod sut y byddem yn gweithredu'r cerdyn cenedlaethol hwn. Cyfarfûm â grŵp o ofalwyr ifanc yr wythnos diwethaf, ac roeddent yn ailadrodd pa mor bwysig yw'r grwpiau cymorth y cyfeiriodd Jayne Bryant atynt, lle gallant siarad â phobl mewn sefyllfa debyg iddynt hwy eu hunain, a rhannu rhai o'r materion y maent yn ymdopi â hwy.

Mae sicrhau cydnabyddiaeth i bob gofalwr yn gwbl hanfodol yn fy marn i—fel y dywedodd Bethan. Rydym am i unigolion allu cael y mathau cywir o ofal a chymorth mewn ffordd sy'n bodloni eu gofynion ac ar yr adeg iawn. Ac felly mae'n bwysig iawn ein bod yn helpu pobl i sylweddoli pan fyddant yn dod yn ofalwyr, oherwydd, fel y mae Jayne Bryant eisoes wedi dweud, mae ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a ddaeth i rym yn 2016, yn rhoi hawl gyfartal i bob gofalwr gael cymorth, yr un fath â'r person y maent yn gofalu amdanynt. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn lansio ymgyrch wybodaeth newydd, a fydd yn canolbwyntio'n gyntaf ar hawliau pobl hŷn, ac yna'n dilyn gyda phwyslais cryf ar hawliau gofalwyr a gofalwyr ifanc. Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei wneud yn ddiweddarach eleni.

Ond wrth gwrs, ni fydd deddfwriaeth yn gwneud pethau ar ei phen ei hun. Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddwyd ein tair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr. Cafodd y rhain eu datblygu mewn cyd-gynhyrchiad â llawer o randdeiliaid, gan gynnwys sefydliadau gofalwyr a'r trydydd sector yn ehangach, a'r tair blaenoriaeth yw: cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu, sydd mor bwysig, ac mae'n arbennig o bwysig i'r holl bobl sy'n gofalu gael eu bywydau eu hunain lle gallant wneud pethau y maent am eu gwneud, ac mae'n allweddol iawn i gydnabod bod angen y pethau eraill mewn bywyd arnoch hefyd er mwyn gallu ymdopi; yr ail flaenoriaeth yw adnabod a chydnabod gofalwyr; a'r trydydd yw darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr. Mae ein tair blaenoriaeth genedlaethol i ofalwyr ar gyfer oedolion neu rieni plant sydd ag anghenion gofal a chymorth, neu ofalwyr hŷn, ac ar gyfer gofalwyr ifanc hefyd.

Cyfarfûm yn ddiweddar ag aelodau o grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr, a grëwyd yn 2018, ac sy'n cynnwys cynrychiolwyr blaenllaw o sefydliadau gofalwyr yn y trydydd sector. Rwyf wedi amlinellu fy syniadau ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen â'n polisi strategol a'n blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gofalwyr hyd at 2020-21 a thu hwnt. Felly, ar ôl ystyried adroddiad ymchwiliad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol i'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a'i heffaith ar ofalwyr, ar ôl i ni gael cyfle i ystyried hynny, rwy'n cynllunio cynllun gweithredu strategol newydd, ac rwyf am i'r cynllun hwn nodi'n glir yr ysgogiadau a'r camau gweithredu allweddol y bydd eu hangen arnom, sut y gall pawb ohonom weithio gyda'n gilydd fel Llywodraeth Cymru, awdurdodau statudol, byrddau iechyd, comisiynwyr, Gofal Cymdeithasol Cymru, sefydliadau gofalwyr ac eraill i sicrhau effaith wirioneddol ym mywydau gofalwyr. Rwy'n sicr yn derbyn yr hyn a ddywedodd Jayne Bryant am bwysigrwydd y lwfans gofalwyr a phryd y daw i ben, a'r modd y gall Llywodraeth Cymru geisio dylanwadu ar Lywodraeth San Steffan.

Mae hefyd yn hanfodol fod gofalwyr yn cael seibiant o'u rôl gofalu i gael eu cefn atynt, ac mae pwysigrwydd a manteision seibiant yn sicr yn cael eu cydnabod yn un o'n tair blaenoriaeth genedlaethol—cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu. Mae darparu seibiant ar ba ffurf bynnag, nid yn unig yr arhosiad dros nos draddodiadol mewn cartref gofal i'r person sydd ag anghenion gofal, yn bwysig i unigolion a gofalwyr, a rhaid i ofalwyr ifanc allu manteisio ar wasanaethau o'r fath hefyd.

Fel rhan o gylch gwaith y gofalwyr—

19:15

Diolch. A gaf fi ofyn a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried edrych ar effaith y ffaith bod menywod yn gorfod gweithio'n llawer hwy erbyn hyn ar argaeledd gofal, neu yn yr un modd os oes rhaid iddynt roi'r gorau i weithio, eu hargaeledd i ailymuno â'r gweithlu? Felly, nid dim ond y gofalwyr eu hunain a allai orfod wynebu'r newidiadau hynny, ond yr effaith ganlyniadol yn yr uned deuluol.

Ie, rwy'n credu bod Joyce Watson yn gwneud pwynt pwysig iawn yn y fan honno, ac rwy'n credu bod Jayne Bryant hefyd wedi codi mater cyflogaeth a pha mor bwysig yw hi i ofalwyr allu parhau i weithio, am resymau ariannol os nad am unrhyw reswm arall. Mae'r ffaith bod yn rhaid i fenywod weithio'n hwy yn awr yn siŵr o gael effaith ar eu rolau gofalu. Felly, rwy'n credu bod hwn yn bendant yn faes y dylid gwneud gwaith arno, felly diolch am wneud y pwynt hwnnw.

Felly, fel rhan o gylch gwaith grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr, bydd ei aelodau'n datblygu syniadau ac atebion mewn ymateb i'r gwahanol faterion sy'n wynebu gofalwyr, gan gynnwys mathau newydd a mwy hyblyg o seibiant. Gwn fod rhai gofalwyr eisoes yn treialu gwahanol ffyrdd o ddefnyddio taliadau uniongyrchol i brynu egwyl neu ofal seibiant. Ers 2017-18, rydym wedi rhoi £3 miliwn o gyllid cylchol ychwanegol i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddarparu gofal seibiant ychwanegol i ofalwyr ar sail angen gofalwyr yn eu hardal. Mae'r arian hwn bellach wedi'i gynnwys yn y grant cynnal refeniw llywodraeth leol, ond rydym yn gofyn yn barhaus i bob awdurdod lleol yng Nghymru ddweud wrthym sut y maent yn ei ddefnyddio a pha newidiadau ac arloesedd y mae'r arian hwn yn eu helpu i fynd ar ei drywydd. Eleni—

19:20

A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw? Yn y bôn, mater o arian ydyw yn y pen draw, a gofal cymdeithasol. A gaf fi gymeradwyo cyflwyniad Jayne Bryant, yn y lle cyntaf, ac ymyriadau Joyce a Bethan hefyd, oherwydd yr hyn yr ydym yn ei ganfod, yn sicr yn fy mhrofiad proffesiynol i fel meddyg teulu, yw nad yw pobl a oedd yn arfer bod yn gymwys i gael gofal cymdeithasol wedi'i ddarparu gan awdurdodau lleol yn eu cartrefi eu hunain yn gymwys mwyach oherwydd, yn amlwg, mae'r trothwyon yn codi ar gyfer derbyn gofal oherwydd diffyg cyllid? Nawr, nid oes neb yn beio neb heblaw rhywun i fyny'r lôn yn San Steffan. Felly, mae'r cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn gwbl hanfodol. Felly, sut y gallwn olrhain hwnnw er mwyn sicrhau bod yr arian yno fel nad yw awdurdodau lleol bob amser yn codi'r trothwyon ac fel y gall pobl sydd angen gofal gael y gofal y maent yn ei haeddu?

Unwaith eto, mae'n bwynt pwysig iawn, ac yn amlwg, rydym wedi gallu olrhain yr arian ychwanegol rydym wedi'i roi. Eleni, cytunasom i roi £1 filiwn o gyllid i gefnogi gofalwyr, ond hefyd mae cyfanswm o £1.7 miliwn wedi'i ddyfarnu i Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru fel rhan o grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy'r trydydd sector. Felly, rydym yn rhoi arian i ariannu'r trydydd sector er mwyn cefnogi gofalwyr. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, oherwydd rwy'n credu bod y trydydd sector yn chwarae rhan hanfodol wrth weithio gyda gofalwyr.

Rwy'n falch fod cynllun grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy newydd tair blynedd ar gyfer y trydydd sector wedi'i gyhoeddi'n gynharach eleni, ac mae ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau. Gofalwyr yw un o'r blaenoriaethau y gall y grant eu cefnogi. Darparwyd £1 filiwn o arian gennym y llynedd hefyd ac yn 2019-20 i fyrddau iechyd lleol a phartneriaethau i wella ymwybyddiaeth o broblemau ac anghenion gofalwyr. A gellir defnyddio'r arian hwn mewn meddygfeydd meddygon teulu a chanolfannau iechyd, yn ogystal â gwella ymgysylltiad â gofalwyr pan fydd yr unigolyn y maent yn gofalu amdanynt yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty. Felly, gorau po fwyaf o hyn y gallwn sicrhau ei fod ar gael, rwy'n credu, a chodi ymwybyddiaeth, mae'n bwysig iawn—.

Un enghraifft o sut y gall gofalwyr eu hunain gael eu cynnwys yn y gwaith o hyrwyddo'r agenda hon yw—ac rwy'n credu bod Jayne Bryant eisoes wedi crybwyll hyn—gwirfoddolwyr Fforwm Gofalwyr Casnewydd, sydd wedi bod yn gweithio i ddiweddaru hysbysfyrddau gofalwyr mewn meddygfeydd ledled Casnewydd ac i annog practisau meddygon teulu i benodi hyrwyddwyr gofalwyr.  

Mae angen i ranbarthau barhau i weithio hefyd ar ofal integredig di-dor a'i ddatblygu i ddiwallu anghenion eu poblogaeth a chefnogi hyn, ac mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn defnyddio'r gronfa gofal integredig i gefnogi gofalwyr, a bwriedir iddi gryfhau gweithio integredig. A chyhoeddwyd £15 miliwn o gyllid ychwanegol i'r gronfa gofal integredig ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr ym mis Tachwedd y llynedd, yn benodol ar gyfer datblygu gwasanaethau ataliol i oedolion sydd angen gofal a chymorth i ofalwyr.  

Ond fel y dywedodd Bethan yn ei hymyriad, sut y gwyddom ein bod yn symud ymlaen? Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fonitro effaith y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a chyhoeddi data, ac rwy'n falch o ddweud bod amrywiaeth eang o waith ar y gweill i hybu'r sylfaen dystiolaeth a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gofalwyr a data gofalwyr, gan gynnwys gwerthusiad allanol o Ddeddf 2014. Byddaf hefyd yn sicrhau ein bod yn edrych ar yr ymchwil y cyfeiriodd Jayne Bryant ati yn ei chyfraniad.  

I gloi, rwyf am ddweud hyn: rwy'n deall yn iawn fod holl Aelodau'r Cynulliad, rhanddeiliaid ac yn bwysicaf oll, gofalwyr, am weld y gefnogaeth i ofalwyr yn gwella. Credaf fod y gefnogaeth heddiw lawer yn gryfach na'r hyn ydoedd cyn cyflwyno'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Mae'r gofynion a'r hawliau a gyflwynasom gyda Deddf 2014 ynghylch cymorth i ofalwyr yn gryfach na'r hyn a gynhwyswyd yn flaenorol ym Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010. Roedd hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol i swyddogion ysgrifennu cynlluniau, ond mae ein Deddf yn cynnig manteision real a phendant. Ond rwy'n cydnabod yn llwyr fod ffordd bell i fynd o hyd ac nad yw'r sefyllfa bresennol yn berffaith, ond nid yw hynny'n golygu nad ydym wedi cyflawni llawer iawn eisoes yn y tair blynedd ers i'r Ddeddf ddod i rym. Fy amcan clir yw parhau â'n tuedd ar i fyny i sicrhau bod Cymru'n gofalu go iawn am bob gofalwr ac yn gwneud iddynt wybod ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith y maent yn ei wneud yn fawr iawn ac yn sicr ni allem ymdopi hebddynt.  

Daeth y cyfarfod i ben am 19:24.