Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

29/11/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. A'r cwestiwn cyntaf, Rhun ap Iorwerth.

Diwydiant Bwyd a Diod Ynys Môn

1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Ynys Môn? OAQ51371

Diolch. Rydym yn hyrwyddo ein diwydiant bwyd a diod ledled y DU, ac yn fyd-eang, gan ddefnyddio busnesau twf fel Halen Môn fel llysgenhadon brand, ac yn arddangos cynhyrchion manwerthu newydd bwyty Dylan’s. Mae hyn, ynghyd â chefnogaeth i wyliau bwyd Ynys Môn, yn dangos ein bod yn hyrwyddo bwyd a diod ardderchog Ynys Môn mewn modd cynhwysfawr.

Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog. Rydw i yn ymwybodol eich bod chi wedi ymweld â prep kitchen Dylan's yn Llangefni yr wythnos diwethaf, ac rydw i, yn sicr, yn falch iawn o'r datblygiad economaidd sydd wedi dilyn twf busnes Dylan's, sydd wedi dod yn frand adnabyddus ar draws gogledd-orllewin Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. Ond mae'r safle yna y buoch chi yn ymweld ag o yn safle na chafodd ei adeiladu ar gyfer Dylan's, ond datblygiad o safleoedd ydy hwn, a gafodd eu hadeiladu ar sbec, lle mae Dylan's wedi mynd i ddatblygu eu busnes nhw.

Rŵan, mi ydw i wedi codi gyda chi yn y gorffennol yr angen am safleoedd, am eiddo, sy'n addas ar gyfer cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn, fel bod cwmnïau eraill sy'n bodoli ar yr ynys yn gallu cael rhywle i fynd iddo fo i dyfu, i ddatblygu, i gyflogi mwy o bobl. Rydw i wedi cael arwyddion positif gennych chi yn y gorffennol. Hyd yma, nid oes dim datblygiad wedi bod ar hynny. Ond a allwch chi gadarnhau eich bod chi yn dal yn cefnogi'r egwyddor a'm diweddaru i ynglȳn ag unrhyw gamau y mae'r Llywodraeth yn, neu yn gallu, eu cymryd i sicrhrau bod yr eiddo yna ar gael i gwmnïau cynhyrchu bwyd Ynys Môn dyfu ynddyn nhw?

Diolch. Rydych yn llygad eich lle, ymwelais â chegin baratoi bwyty Dylan’s yn Llangefni. Bûm yn y bwyty ym Mhorthaethwy hefyd, a blasu’r bwyd môr lleol gwych.

Sylwais fod cwmnïau bwyd eraill ar y safle yn Llangefni hefyd—ond fel y dywedwch, ni chafodd ei adeiladu'n benodol ar gyfer hynny. Ac rwy'n amlwg yn ymwybodol iawn ein bod wedi cyfarfod—oddeutu’r amser hwn y llynedd, rwy’n credu—ac fe awgrymoch y dylid gwneud Ynys Môn yn hyb. Ac rwy'n dal yn awyddus iawn i wneud hynny, cael hyb bwyd a diod cenedlaethol i ymateb i'r cyfleoedd, yn enwedig o ran y seilweithiau pwysig sydd gennym yng ngogledd Cymru. Ac fel y dywedasoch eich hun, mae Ynys Môn yn enwog am ei bwyd a’i diod, nid am y ddau gwmni rydym wedi'u crybwyll yn unig.

Yn amlwg, mae Arloesi Bwyd Cymru hefyd wedi’u lleoli Llangefni. Rydym yn eu cefnogi, yn amlwg, ynghyd â'r ddwy ganolfan arall yng Nghymru, ac maent yn bartner strategol allweddol. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â'r coleg addysg bellach lleol, i drafod yr hyn y maent yn ei wneud mewn perthynas â pharatoi bwyd. Felly, mae'n rhywbeth rydym yn parhau i edrych arno, ac os ydych yn awyddus i gyfarfod â mi eto i gael y wybodaeth ddiweddaraf, buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny.

Rydym wedi bod yn gohebu dros y misoedd diwethaf, ar ran ffermwr o Ynys Môn—cynhyrchydd cig oen—sydd wedi tynnu sylw at y potensial ar gyfer allforion cig oen Cymru, yn enwedig yn Sawdi Arabia. Roedd hefyd yn arfer gweithio i’r Gwasanaeth Hylendid Cig. Dywed fod gan bobl Sawdi Arabia lawer mwy o ddiddordeb mewn carcasau ŵyn Cymru na thoriadau cig, ac yn amlwg, bydd hyn yn effeithio ar bwysigrwydd ymestyn oes silff. Ond pan fynychodd gyfarfod Cyswllt Ffermio ym mis Mehefin, nid oedd y cyflwyniad gan Hybu Cig Cymru ar allforion i Sawdi Arabia yn cyfeirio o gwbl at ddiwylliant Sawdi Arabia, lle maent yn hoff o fynd â charcasau ŵyn cyfan i'r anialwch i’w coginio.

Mewn un o'ch atebion i mi, fe ddywedoch chi fod rhai proseswyr cig coch yng Nghymru sy'n allforio i farchnadoedd pell yn gallu sicrhau oes silff o 42 diwrnod ar gyfer cynhyrchion cig oen Cymru, ond pan holais ymhellach ynglŷn â hynny, fe gadarnhaoch chi mai dim ond Stad y Rhug yng Nghorwen sy’n gallu cyflawni'r ffigwr 42 diwrnod hwnnw ar hyn o bryd. O gofio bod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi ysgrifennu ataf yn dweud eu bod yn gweithio gydag awdurdod bwyd a diod Sawdi Arabia gyda’r bwriad o sicrhau mynediad at y farchnad ar gyfer cig oen y DU, pa gysylltiad sydd gennych, nid yn unig o ran ymgysylltu ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a swyddogion Sawdi Arabia, ond er mwyn sicrhau bod cig oen Cymru yn gallu bodloni'r gofynion o ran y cyfnod o amser a'r carcasau cyfan, a fydd yn sbarduno mynediad at farchnad Sawdi Arabia a rhannau tebyg o'r byd?

Rydych yn codi nifer o bwyntiau pwysig. Yn amlwg, mae oes silff yn rhywbeth y mae'n rhaid inni edrych yn ofalus iawn arno, yn enwedig yn sgil Brexit. Fe fyddwch yn gwybod bod traean o gig oen Cymru yn cael ei allforio i'r UE ar hyn o bryd. Felly, gyda'r holl ansicrwydd sydd ynghlwm wrth hynny, mae'n rhaid inni edrych ar farchnadoedd newydd, ac yn amlwg, mae'r dwyrain canol yn un ardal rydym yn edrych arni, ac yn sicr, mae fy swyddogion hefyd yn rhan o’r broses honno. O ran carcasau—rydych yn llygad eich lle, unwaith eto; rydym yn edrych ar yr anifail cyfan, a chredaf ei bod yn bwysig iawn i’r sgyrsiau hyn gael eu cynnal. Bûm yn siarad â chwmni yn y ffair aeaf ddydd Llun am garcasau hefyd, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n rhywbeth y mae diwylliant Sawdi Arabia yn hoff ohono. Felly, rwyf am eich sicrhau bod y trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt gyda fy swyddogion ar hyn o bryd.

13:35
Cwympo Coed yn Fforest Fawr

2. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am y rhaglen cwympo coed yn Fforest Fawr yn Nhongwynlais? OAQ51376

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am ystadau coetir Llywodraeth Cymru. Rwy'n ymwybodol fod coed llarwydd sydd wedi’u heintio gan phytophthora ramorum yn cael eu cwympo yn Fforest Fawr ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli'r gwaith hanfodol hwn. P. ramorum yw'r clefyd coed mwyaf difrifol sydd wedi effeithio ar goedwigoedd yng Nghymru.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae Fforest Fawr yn ardal gerdded leol boblogaidd iawn ger Castell Coch. Mae llawer o bobl leol yn poeni nad oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw gynllun ar waith i ailblannu'r ardal wedi’r difa. Lansiwyd ymgyrch i alw am raglen ailblannu. A gaf fi ofyn ichi ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru i ganfod beth arall y gellid ei wneud ynghylch yr ailblannu?

Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n ymwybodol fod ymgyrch ar waith a bod deiseb wedi'i lansio. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro'r sefyllfa ac yn ceisio dewis yr opsiwn gorau, sef adfywio naturiol. Ond os na fydd hyn yn digwydd, byddant yn edrych ar ffyrdd eraill o ailstocio'r coetir yn Fforest Fawr.

Gwn fod cyfarfod cyhoeddus wedi’i gynnal yn Nhongwynlais, a bod nifer o bobl wedi’i fynychu, a bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno achos argyhoeddiadol dros adfywio'r coetir yn naturiol, a chredaf fod y bobl a fynychodd y cyfarfod yn fodlon. Ond credaf ei bod yn bwysig, fel y dywedodd y Gweinidog, os na cheir adfywio naturiol, eu bod yn ailystyried a ddylid plannu unrhyw goed.

Diolch i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd am ei chwestiwn. Gwn eich bod yn gweithio'n ddiwyd iawn bob dydd ar ran eich etholwyr, ac rwy’n siŵr y byddwch yn monitro'r sefyllfa hon, fel y byddaf innau'n ei wneud hefyd. Ar ôl i'r broses gynaeafu fynd rhagddi, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynorthwyo’r rhywogaethau brodorol fel ffawydd, derw, bedw, ceirios gwyllt, coed criafol a choed cyll yn y goedwig i adfywio'n naturiol. Ond byddant hefyd yn monitro'r adfywio yn y goedwig cyn ystyried a oes angen ailblannu a byddant hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol ynglŷn ag unrhyw ddatblygiadau.

A gaf fi groesawu'r Gweinidog i'w chyfrifoldebau newydd a dymuno'n dda iddi gyda hwy?

A gaf fi adleisio'r hyn y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud? Mae hwn yn safle mor bwysig yn ne Cymru. Mae'n boblogaidd iawn ynddo’i hun ond hefyd gan ei fod mor agos at Castell Coch. Credaf mai'r peth allweddol yw bod asesiad addas yn cael ei wneud ar ôl dwy neu dair blynedd a bod yr holl bobl sydd wedi bod bryderus ynglŷn â hyn, yr holl grwpiau cymunedol, yn cael y wybodaeth honno, fel y gallant ei gweld, ac yna, gall pob un ohonom fod yn sicr fod adfywio naturiol naill ai wedi gweithio, neu yn gweithio, neu fod angen ychwanegu at y broses, neu fod angen rhoi dull newydd ar waith.

Yn hollol, ac fel y dywedais wrth Aelodau eraill mewn cwestiynau eraill, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro hynny, a byddaf yn disgwyl iddynt roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, ac rwy’n disgwyl i'r Aelodau wneud yr un peth hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd.

Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ffermio yng Nghymru yw dynodiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau, a allai arwain at gryn bwysau ar ffermwyr pe baent yn cael eu rhoi ar waith, ac o ganlyniad i hynny, gallent orfodi llawer ohonynt allan o fusnes. O ystyried bod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru wedi dod i ben bron i flwyddyn yn ôl, a allwch esbonio pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi dod i benderfyniad eto ynglŷn â'r dynodiadau arfaethedig ar gyfer parthau perygl nitradau, ac a wnewch chi ymrwymo yn awr i wneud datganiad gerbron Siambr y Cynulliad cyn diwedd y flwyddyn ar safbwynt Llywodraeth Cymru, ac esbonio pam fod y penderfyniad hwn wedi cymryd cymaint o amser?

Wel, rwyf eisoes wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw sawl gwaith yn y Siambr hon, felly rwy'n fwy na pharod i wneud yr ymrwymiad hwnnw y byddaf yn sicr o gyflwyno datganiad cyn diwedd y tymor hwn, felly o fewn y pythefnos nesaf. Y rhesymau pam fod hyn wedi cymryd cymaint o amser yw oherwydd ein bod wedi cael nifer fawr o ymatebion i'r ymgynghoriadau, ac am ein bod hefyd wedi cael nifer fawr o safbwyntiau pobl ac ystyriaethau i wneud pethau'n wahanol. Gwelais gyflwyniad yr wythnos diwethaf—mae pobl yn dal i gynnig syniadau—a chan fy mod yn agored iawn i'r syniadau hyn, roeddwn yn awyddus i roi digon o amser ac ystyriaeth i'r safbwyntiau hyn.

13:40

Rwy'n falch iawn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad yn y Siambr hon cyn diwedd y tymor, ac edrychaf ymlaen at y datganiad hwnnw.

Un o'r pryderon sy'n gysylltiedig â'r cynigion hyn yw y gallai glynu wrth y rheolau ar gapasiti storio slyri/tail olygu bod yn rhaid i fusnesau fferm gael eu llethu gan fuddsoddiadau cyfalaf mawr mewn cyfleusterau storio er mwyn cydymffurfio. Yn wir, dywed Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wrthym fod cost uwchraddio cyfleusterau bron yn £80,000 ar gyfartaledd. Os yw Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r dynodiadau hyn, a allwch ddweud wrthym pa arian fydd yn cael ei neilltuo i helpu'r ffermwyr sy'n gorfod cydymffurfio ag unrhyw reolau capasiti newydd, o ystyried bod y dyraniad cyllid cyffredinol i'ch cyllideb wedi lleihau mewn gwirionedd?

Credaf fod angen inni ystyried ychydig o bwyntiau. Rwyf eisoes wedi bod yn cynnal trafodaethau ynghylch capasiti pyllau slyri ffermwyr a chredaf fod llawer ohonynt ar lefel uwch na'r hyn sy’n angenrheidiol ar hyn o bryd. Felly, rwyf wedi gweld y gost honno o £80,000; rwyf hefyd wedi gweld cost o £150,000. Felly, unwaith eto, credaf fod angen i ni fod yn realistig a phragmatig o ran y gost, ond rwy’n cydnabod y gall fod angen i ni roi cymorth mewn ambell fan mewn perthynas â buddsoddi yn y pyllau slyri. Felly, unwaith eto, mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn ei drafod gyda swyddogion i weld sut y gallwn gynorthwyo gyda chyllid, lle bo angen gwneud hynny.

Byddwch yn gwybod bod rhai o ffermwyr Cymru eisoes wedi bod yn cymryd camau i fynd i'r afael â llygredd nitrad ac i wella ansawdd dŵr. Ceir tystiolaeth fod gwaith da iawn yn cael ei wneud ledled Cymru. Er enghraifft, mae prosiect arddangos ffermio sensitif i ddalgylch Cymru yn esiampl o gynllun gwirfoddol llwyddiannus iawn a gafodd ei groesawu'n fawr gan ffermwyr. O gofio nad oedd eich ymgynghoriad yn ystyried trefniadau gwirfoddol a chynlluniau gwirfoddol, a allwch ddweud wrthym pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried gweithredu dull gwirfoddol mewn perthynas â'r mater hwn? A wnewch chi ystyried gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a chyda'r diwydiant amaethyddol i fabwysiadu mesurau gwirfoddol yn lle hynny?

Rwyf wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r sector amaethyddol a chyda ffermwyr yn gyson. Felly, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth arall y buom yn ei ystyried dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth edrych ar yr amrywiaeth eang o ymatebion a gawsom. Cawsom dros 250 o ymatebion, ond rwyf hefyd wedi cael llawer o sgyrsiau â ffermwyr unigol a grwpiau o ffermwyr dros y blynyddoedd diwethaf.

Bu'n rhaid i mi gwblhau'r arolwg; mae'n ofyniad statudol o dan y gyfarwyddeb nitradau. Ond rydym hefyd wedi gweld rhai achosion sylweddol o lygredd amaethyddol eleni, felly bu'n rhaid i mi ddwyn popeth ynghyd, ac mae hyn yn ymwneud â sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Ond fel y dywedais wrth yr Aelod ar y cychwyn, byddaf yn gwneud datganiad o fewn y pythefnos nesaf.

Diolch yn fawr, Lywydd.

Gan barhau i drafod parthau perygl nitradau, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r mater hwn yn peri cryn bryder ymhlith y bobl a allai gael eu heffeithio ganddo. Hoffwn gefnogi'r dull o weithredu a fabwysiadwyd gan ein cyd-Aelod o'r Preseli. O ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn, mae modd i Ysgrifennydd y Cabinet osgoi dull llawdrwm wrth gwrs os yw'n argyhoeddedig y gallwn gyflawni amcanion y gyfarwyddeb cynefinoedd a'r cyfarwyddebau amgylcheddol sy'n berthnasol yma drwy ddulliau gwirfoddol.

Rwy'n siŵr ei bod yn ymwybodol o arbrawf a gynhaliwyd gan ffermwyr yn y Cleddau sydd wedi llwyddo i leihau lefelau nitradau ar eu ffermydd i lai nai'r terfynau a geir yn rheolau a rheoliadau'r UE. Maent wedi cyflawni'r canlyniadau hyn am ran fach iawn o'r gost y byddent wedi mynd iddi pe baent wedi gorfod gosod pyllau newydd anferth ar gyfer storio slyri ac ati. Felly, a all hi, heb ddymuno rhagdybio canlyniadau'r ymchwiliad mewn unrhyw ffordd, roi sicrwydd i ni heddiw y bydd cynlluniau o'r math hwn yn sicr o gael eu cadw mewn cof fel y gallwn leihau costau rheolaethau amgylcheddol angenrheidiol i ffermwyr?

Ie, rwyf wedi ystyried sawl cynllun gwahanol, ac mae ffermwyr wedi sôn wrthyf am yr hyn y maent wedi'i wneud ynghylch y mater hwn. Fel y dywedais yn fy ateb i Paul Davies, rwyf wedi gweld ffigurau o £80,000 ac rwyf wedi gweld ffigurau o £150,000. Siaradais â ffermwr o Sir Fynwy, rwy'n credu, a oedd wedi gwneud hyn am ran fach iawn o'r gost honno. Felly, hoffwn sicrhau'r Aelodau fy mod yn agored iawn i'r awgrymiadau a gyflwynwyd, a dyna pam ei bod wedi cymryd llawer mwy o amser nag a ragwelais ar y cychwyn.

13:45

Rwy'n siŵr fod pawb yn awyddus i weld y penderfyniad cywir yn cael ei wneud yn y pen draw, ac os yw oedi yn arwain at hynny, ni fydd unrhyw un yn cwyno. Wrth gwrs, y rhagamod yw ein bod yn cael y penderfyniad cywir yn y pen draw. Ond mae'r arbrawf penodol hwn y cyfeiriais ato gynnau yn y Cleddau wedi llwyddo i leihau trwytholch nitradau i'r pridd a'r dyfrffyrdd bron i 90 y cant. Felly, pe bai hynny'n cael ei ymestyn dros y sir gyfan yn Sir Benfro, byddai hynny'n fantais enfawr i ni. Credaf fod cynlluniau o'r fath yn dangos manteision gweithio gyda'r diwydiant i sicrhau canlyniadau dymunol y bydd pobl sydd â phryderon amgylcheddol ar frig eu hagendâu yn eu croesawu, heb orfod defnyddio ffon i orfodi pobl i wneud pethau nad ydynt yn dymuno'u gwneud. Mae hyn er lles gorau ffermwyr hefyd, gan fod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi datblygu'r cynllun baner las hwn, yn union fel y tractor coch, a fyddai'n ddull defnyddiol iawn o farchnata ein cynnyrch hefyd—eu bod wedi eu cynhyrchu gyda pholisi amgylcheddol sensitif. Felly, mae hynny'n newyddion da i'r diwydiant ffermio yn ogystal ag i'r amgylchedd.

Yn sicr, credaf fod yn rhaid i chi weithio gyda'r diwydiant mewn perthynas â pholisïau a strategaethau, a'r wythnos diwethaf, cafodd Gweinidog yr Amgylchedd a minnau gyflwyniad ynghylch y cynllun baner las. Felly, rydym yn dal i ystyried popeth sydd wedi dod ger ein bron dros y flwyddyn ddiwethaf. A dywedaf eto: byddaf yn gwneud datganiad yn y pythefnos nesaf.

Mae'n bwysig, wrth gwrs, fod pryderon amgylcheddol yn cael eu cymryd o ddifrif, a bod y dulliau a ddefnyddir felly, os na chânt eu rheoli drwy statud neu reoliadau, yn cael eu harchwilio'n briodol, a bod modd ystyried y canlyniadau'n rhai credadwy o'r herwydd. Mae'r cynllun penodol hwn yn y Cleddau yn cael ei archwilio gan Cyfoeth Naturiol Cymru, felly unwaith eto, os yw'r cyrff rheoleiddio yn gweithio law yn llaw â'r diwydiant, yn y pen draw, mae pawb yn hapus. Ac wedi'r cyfan, hapusrwydd yw'r hyn rydym ni fel gwleidyddion am ei sicrhau ar gyfer ein hetholwyr. Felly, gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd yn cyhoeddi ei chanlyniad, yn gallu bod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros hapusrwydd yng nghefn gwlad.

Wel, ie, hoffwn feddwl mai fi yw Ysgrifennydd y Cabinet dros hapusrwydd yng nghefn gwlad.

Credaf, ar ddechrau'r cwestiwn diwethaf hwnnw, eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r cydbwysedd. Roeddwn bob amser yn arfer dweud, ar y pryd, fy mod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, felly roedd yn hollbwysig fy mod yn sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Nawr, wrth gwrs, mae gennym Weinidog yr Amgylchedd, ond nid yw hynny'n golygu bod yr amgylchedd yn llai pwysig i mi fel Ysgrifennydd y Cabinet.

Felly, mae'n gwbl hanfodol fod unrhyw bolisi a gyflwynwch yn cyfleu ymagwedd gytbwys. Yn sicr, mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn cael cynifer o ymatebion i'r ymgynghoriad a chael cynifer o ffermwyr unigol—a hefyd, yn amlwg, y ddau ffermwr a ddaeth i'm gweld mewn perthynas â'r cynllun baner las—yn cyflwyno'u syniadau ynglŷn â sut y maent wedi llwyddo i leihau lefel y nitradau, ac ati. Felly, rydych yn llygad eich lle, byddaf yn gwneud y datganiad hwnnw.

Diolch, Lywydd. A gaf fi wneud Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus iawn drwy ddweud na fyddaf yn ei holi ynglŷn â pharthau perygl nitradau, ond yn aros am ei datganiad ymhen wythnos neu ddwy? Ond byddaf yn ei gwneud yn llai hapus, o bosibl, drwy ofyn hyn iddi: pam fod ei hadran wedi wynebu'r toriad unigol mwyaf yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a beth y mae hynny'n ei ddweud, mewn gwirionedd, am ymrwymiad y Llywodraeth i'r amgylchedd a materion gwledig?

Wel, byddwch yn deall fod pob un ohonom wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn. Roeddwn gerbron y pwyllgor yr wythnos diwethaf, yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb, a byddwch yn gwybod fod llawer o sôn wedi bod ynglŷn â'r ffaith bod fy nghyllideb wedi'i thorri 5 y cant; nid oedd hynny'n wir, gan fy mod wedi trosglwyddo £35 miliwn o gyllid gwastraff i'r grant cynnal refeniw. Er hynny, rwyf wedi cael toriad o 1.5 y cant. Gobeithiaf, unwaith eto, fy mod wedi'i gydbwyso. Mae gennyf bortffolio eang iawn, ond rwy'n gobeithio nad oes unrhyw ran o'r portffolio yn teimlo eu bod wedi cael toriadau nad ydynt yn gymesur.

Serch hynny, mae ei phortffolio wedi dioddef o ganlyniad i'r un toriadau 5 y cant i grantiau llywodraeth leol, sydd wedi cael eu hailgylchu i helpu gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Mae hi wedi cadarnhau'n bendant mai ei hadran hi, mewn gwirionedd, sydd wedi wynebu'r toriad mwyaf o unrhyw un o adrannau Llywodraeth Cymru yn y gyllideb hon. Gwyddom fod anawsterau ynghlwm wrth y gyllideb, ond mae'n rhyfedd fod yr adran hon wedi cael ei dewis ar gyfer y toriad mwyaf hwnnw.

Nawr, dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid wrth y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf fod £100 miliwn a oedd wedi'i gadw yn y cronfeydd wrth gefn wrth ragweld rhagor o doriadau effeithlonrwydd ar gael bellach, gan na ddisgwylir y toriadau hyn bellach, yn dilyn y gyllideb yr wythnos diwethaf. Felly, a gaf fi ofyn iddi, fel Ysgrifennydd y Cabinet: beth y mae'n cynnig amdano o'r £100 miliwn hwn? Y llynedd, gyda Phlaid Cymru yn ymlid, cafodd ychydig o arian ychwanegol ar gyfer cynlluniau atal llifogydd, yn ôl yr hyn a gofiaf. Beth y mae'n awyddus i'w adfer yn awr i'w chyllideb?

13:50

Pan fyddaf yn dychwelyd i fy swyddfa ar ôl y sesiwn gwestiynau hon, byddaf yn cyfarfod â swyddogion cyn ysgrifennu at y Gweinidog cyllid. Credaf mai fi oedd y cyntaf i gyflwyno cynnig, felly byddwch yn falch o glywed hynny. Rwyf wedi cadarnhau mai fy adran i sydd wedi cael y toriad mwyaf, gan fod ganddi—mae'n ffaith. Felly, nid wyf am geisio cuddio y tu ôl i hynny, ond credaf ein bod wedi llwyddo i gydbwyso pethau fel nad oes un rhan o'r portffolio, fel y dywedais, wedi cael mwy o ergyd. Rydym wedi ceisio rhannu'r boen, os mynnwch. Ni ddeuthum i mewn i wleidyddiaeth i wneud toriadau—ni wnaeth unrhyw un—ond rydym yn wynebu'r realiti.

Felly, fel y dywedwch, mae'r £100 miliwn hwn gennym bellach. Beth y byddaf yn ceisio'i adfer? Wel, unwaith eto, un o'r blaenoriaethau rwy'n eu rhannu, fwy na thebyg, gyda llawer o'r Aelodau, yw cartrefi cynnes. Mae angen i ni edrych ar beth a wnawn mewn perthynas ag ôl-osod ein stoc dai, yn enwedig er mwyn gallu bodloni'r cyllidebau carbon isel y byddwn yn eu gosod, wrth gwrs. Felly, dyna un maes rwy'n edrych arno. Llifogydd, yn amlwg—cawsom lifogydd erchyll yr wythnos diwethaf. Pan oeddwn yn Llangefni ddydd Iau, dioddefodd Llangefni'n aruthrol, ac mae'r Aelod dros Ynys Môn eisoes wedi ysgrifennu ataf mewn perthynas â'r llifogydd ym Mhorthaethwy—rwy'n credu mai dyna lle y sonioch amdano'n benodol. Felly, byddaf yn edrych ar lifogydd hefyd, yn sicr. Ond os yw Plaid Cymru yn awyddus i gyflwyno safbwyntiau, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny—yn amlwg, fe gefnogoch chi ein cyllideb.

Rydych yn llygad eich lle, mae gennym gytundeb cyllidebol, ac rwy'n falch iawn o rai o'r pethau a gawsom o ganlyniad i hynny. Fodd bynnag, mae rhai o'r pethau a grybwyllwyd gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, yn bwysig, ond ar y cyfan, cyfalaf ydynt. Gallech ddefnyddio gallu'r cyfalaf newydd rhyfedd hwn y mae llawer o sôn amdano sydd wedi dod i Lywodraeth Cymru, y math hwn o gyfalaf trafodiadol, i edrych ar sut y gallai hwnnw fynd tuag at gartrefi cynnes, er enghraifft. Felly, credaf fod hynny'n dal i olygu eich bod chi'n cynnig am y £100 miliwn hwn, ac edrychaf ymlaen at weld effaith eich lobïo ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn y gyllideb derfynol.

Ond wrth gwrs, er eich bod wedi llwyddo i dalu'r taliadau fferm sylfaenol, ac fe gyhoeddoch hynny yn y ffair aeaf yr wythnos hon, mae cwestiynau ehangach ynghylch arian parhaus wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Ymddengys yn gynyddol amlwg i mi na allwn ddibynnu ar yr addewidion a wnaed ynghylch polisi amaethyddol cyffredin a thaliadau fferm parhaus y tu hwnt i 2020. Mae llawer o sôn wedi bod am 2022, ond mewn gwirionedd, pan edrychwch ar y gwarantau, maent yn hollol gadarn tan 2020, efallai, ond ar ôl hynny, maent yn edrych braidd yn sigledig yn fy marn i. Felly, a gaf fi ofyn iddi a yw'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw o safbwynt San Steffan ac a yw bellach mewn sefyllfa i roi sicrwydd llwyr yn y Cynulliad, ar gyfer tymor y Cynulliad hwn o leiaf—tymor y Cynulliad hwn—y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau'r amlen bresennol o daliadau fferm?

Ydw, ar gyfer tymor y Cynulliad hwn fe fyddwn yn gwneud hynny—felly, tan 2021. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â 2020 a 2022. Rydym wedi cael sicrwydd y byddwn yn derbyn y cyllid hwnnw tan ddiwedd tymor Senedd San Steffan yn 2022, ond wedyn rydych yn clywed sibrydion gwahanol. Ond o'm rhan i, mae'r Trysorlys wedi rhoi sicrwydd i ariannu taliadau uniongyrchol yn llawn tan 2022.

Rwy'n falch iawn eich bod wedi crybwyll y cynllun taliadau sylfaenol. Roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi yn y ffair aeaf ddydd Llun y bydd 91 y cant o'n ffermwyr yn derbyn eu taliadau ddydd Gwener. Dyna'r diwrnod cyntaf y bydd modd iddynt wneud hynny. Felly, credaf y byddwn yn talu £201 miliwn i dros 14,000 o'n ffermwyr, a hoffwn dalu teyrnged i fy nhîm sydd wedi gwneud hynny. Nid ydynt yn dîm mawr iawn, ond unwaith eto, credaf pan—nid wyf wedi gweld y gwledydd eraill, pa ffigurau y maent hwy yn eu cyflwyno, ond buaswn yn dychmygu y byddwn ymhell ar y blaen unwaith eto.

Llygredd Aer

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefelau llygredd aer yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51348

Mae lefelau cyfartalog llygredd aer ledled Cymru, gan gynnwys yn ne-orllewin Cymru, wedi gwella dros y degawdau diwethaf, ond rydym yn dal i wynebu heriau sylweddol. Mae'n rhaid i ni wneud rhagor i wella ansawdd aer ym mhob ardal ac rwyf wedi cyflwyno dadl ar gyfer mis Rhagfyr i drafod cynlluniau ar gyfer gweithredu trawslywodraethol.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Yn ychwanegol at hynny, dengys data diweddar a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon fod dwy ardal yn fy rhanbarth, Port Talbot ac Abertawe, yn cael eu cydnabod ymhlith yr ardaloedd gwaethaf yn y DU o ran ansawdd aer a'u bod yn mynd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar hyn o bryd. Gyda Healthy Air Cymru yn datgan bod angen i Lywodraeth Cymru arwain mewn perthynas â lleihau llygredd aer yn yr ardaloedd hyn, pa sicrwydd y gallwch ei roi eich bod yn cydnabod maint y broblem, ac a ydych yn cytuno bod yn rhaid i chi godi'r safon o ran eich gwaith cydweithredol gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â phroblemau llygredd aer yn yr ardaloedd hyn?

13:55

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rydych yn llygad eich lle i godi'r mater pwysig hwn, ac mae'n rhywbeth a fydd yn uchel ar fy agenda yn y portffolio hwn yn y dyfodol. Gwyddom, yn hanesyddol, fod lefel uchel o lygredd PM10 ym Mhort Talbot, ac yn gyffredinol, tybir bod hyn, yn amlwg, yn deillio o natur ddiwydiannol yr ardal. Gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd â gweithredwyr gwaith dur, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i nodi ffynonellau posibl ac atebion i'r lefelau uchel o PM10. Fel y dywedais, byddwn yn cyflwyno dadl yr wythnos nesaf i drafod hyn. Byddwn yn ystyried nid yn unig beth y mae awdurdodau lleol yn ei wneud mewn perthynas â'r fframwaith aer glân, ond hefyd beth y gallwn ei wneud ar draws y Llywodraeth i oresgyn yr heriau hynny ac i greu ansawdd aer iach a gwell ledled Cymru.

Diolch i'r Gweinidog am ei hatebion, yn enwedig ynglŷn â Phort Talbot, ac am nodi'r camau gweithredu rydych yn eu cymryd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymwneud â llygredd PM10 yn unig; mae'n ymwneud â llygredd PM2.5 hefyd. Ac o adnabod yr ardal, nid yw'n ymwneud â'r diwydiant a'r gwaith dur yn unig; mae hefyd yn ymwneud â'r draffordd ar y rhimyn cul hwnnw, a'r ffyrdd wrth ei hymyl. Felly, un o'r ffyrdd y gallwch edrych ar y mater hwn yw edrych ar gynllunio, ac efallai siarad â'ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â rheoliadau cynllunio. Edrychwch ar effaith gronnol unrhyw benderfyniadau a wneir mewn perthynas â llygredd aer, nid y prosiect unigol yn unig, oherwydd po fwyaf a welwn yn cael ei roi ar waith, sy'n creu mwy o lygredd, mae hynny'n ychwanegu at yr hyn sydd yno eisoes, ac nid yw'r hyn sydd yno eisoes yn lleihau. Felly, os gwelwch yn dda, edrychwch ar y mater fel y gallwn sicrhau ein bod yn dechrau gweld gostyngiad yn hytrach na chynnydd.

Diolch am eich cwestiwn, Dai Rees. Rydych yn llygad eich lle fod angen i ni edrych ar waith trawsadrannol, trawslywodraethol mewn perthynas â hyn, ac rwy'n siŵr y byddaf yn siarad â fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, ar sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn, nid yn unig ar draws y Llywodraeth o ran cynllunio, ond hefyd o ran trafnidiaeth, iechyd a llywodraeth leol.

A gaf fi eich llongyfarch ar eich swydd newydd hefyd? A gaf fi ddechrau drwy ddweud bod y broses graffu wedi'i chwblhau, a bod y system Nowcaster fondigrybwyll yng nghyngor Abertawe, ac rwy'n derbyn nad ydych, o bosibl, yn gyfarwydd â hi'n bersonol, bellach ar waith wedi sawl blwyddyn o oedi, ac yn cynghori gyrwyr mewn amser real pa un a yw ansawdd yr aer yn y rhan honno o Abertawe yn ddigon diogel i yrru drwyddo. Nid yw'n dweud wrthynt pan fo ansawdd yr aer yn ddigon da, ond mae'n dweud wrthynt pan fo'n wael. Mae eich adran wedi gwrthod cais pellach am gyllid ar gyfer y prosiect penodol hwn. Rwy'n derbyn efallai nad ydych yn gwybod llawer amdano eich hun, ond a ydych yn credu y byddai eich adran yn fwy tebygol o gefnogi cais i ymestyn y system Nowcaster pe gallai'r data a gasglwyd gan y peiriannau hysbysu'r broses o reoli traffig yn y ddinas yn well—er enghraifft, drwy ddarparu tystiolaeth ar gyfer metro rhanbarthol bae Abertawe, efallai—neu pe bai'n gallu helpu gyda'r fframwaith aer glân drwy gynorthwyo i greu targedau y gellir eu gorfodi mewn perthynas â lleihau lefel y gronynnau? Diolch.

Diolch, Suzy. Diolch am eich cwestiwn a diolch am eich llongyfarchiadau caredig. Rwyf wedi cael briff—rwy'n gyfarwydd â system Nowcaster. Rydych wedi codi pwyntiau dilys iawn, ac os ydych yn awyddus i fynd ar drywydd hynny drwy anfon llythyr ataf—. Ac rwy'n credu, yn y dyfodol, fel y dywedais, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod hyn yn uchel ar yr agenda, a gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth a chydag awdurdodau lleol ac yn gyffredinol mewn perthynas â sut rydym yn mynd i'r afael â'r mater pwysig hwn, nid yn unig yn ne-orllewin Cymru, ond ledled Cymru.

Hoffwn innau eich llongyfarch hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n ddrwg gennyf; Weinidog—mae pobl sy'n byw yn fy rhanbarth yn gorfod ymdopi â pheth o'r llygredd aer gwaethaf yn y DU. Am ychydig ddyddiau yn ystod y mis hwn, bu'n rhaid i blant ysgol ym Margam ymdopi â lefelau PM10 ar ddwywaith y terfyn dyddiol diogel. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, dyma un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu ein cenedl, ac mae'n lladd 2,000 o bobl y flwyddyn. Wrth gwrs, y cyfrannwr mwyaf at ansawdd aer gwael yw trafnidiaeth, a gwneir hynny'n llawer gwaeth gan lefel y tagfeydd a welwn bellach ar ein ffyrdd. Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau nad yw datblygiadau newydd yn cyfrannu at y tagfeydd hyn, a sut y gellir defnyddio'r system gynllunio i leihau tagfeydd ar y seilwaith ffyrdd?

Diolch eto am eich llongyfarchiadau. Hoffwn nodi: y Gweinidog wyf fi, nid Ysgrifennydd y Cabinet. Nid wyf am bechu fy nghyd-Aelod ar y cam cynnar hwn. Mae plant ac unigolion yn arbennig o agored i effeithiau llygredd aer, ac felly mae angen i awdurdodau lleol fabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar risg wrth edrych ar sut rydym yn monitro'r sefyllfa. Ond yn sicr, credaf fod angen i ni, yn y dyfodol—. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae'n fater pwysig iawn, ac yn amlwg, mewn perthynas â chynllunio, mae'n rhan o gylch gwaith Ysgrifennydd y Cabinet, felly rwy'n siŵr y byddwn yn gweithio'n agos gyda'n gilydd ar hyn, wrth symud ymlaen.

14:00
Mawndiroedd

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod mawndiroedd? OAQ51359

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl fawndiroedd sy'n cynnal cynefinoedd lled-naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy erbyn 2020 ac wedi sefydlu rhaglen gyflawni integredig i sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd. Mae'r rhaglen bresennol yn gwella cyflwr ein mawndiroedd, ac rydym wedi sicrhau arian ar gyfer camau pellach.

A gaf fi eich hatgoffa chi, a phawb arall, fy mod wedi eich llongyfarch pan ddaethoch i'r pwyllgor? Felly, ychwanegaf ragor o longyfarchiadau yma, ond mae hynny eisoes wedi'i wneud.

Yr hyn roeddwn am ei ofyn yw: pa gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at y targed o sicrhau bod holl fawndiroedd Cymru yn rhan o'r broses o reoli gwaith adfer erbyn 2020, ac a ydych yn disgwyl y caiff hynny ei wneud ar sail linellol, neu a ydych yn ei ddisgwyl ar sail esbonyddol neu wrth-esbonyddol?

Diolch, a diolch unwaith eto am eich llongyfarchiadau.

A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei ddiddordeb yn yr agwedd hon ar waith Llywodraeth Cymru? Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod yr holl gymorth i fawndiroedd, a chynefinoedd lled-naturiol, yn cael eu rheoli'n gynaliadwy erbyn 2020, ac wedi sefydlu rhaglen gyflawni integredig i sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd. Mae gennym dystiolaeth gadarn o'n rhaglen fonitro fod ein dull integredig yn cael effaith gadarnhaol, ac yn gwella cyflwr a gwydnwch ein mawndiroedd. Mae ein cynllun rheoli tir, Glastir, yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r rhaglen hon, gyda dros 65 y cant o'n hardal darged eisoes o dan reolaeth Glastir. A chredaf fod ein harian o'r UE yn chwarae rhan bwysig yn ein cynorthwyo i wella cyflwr oddeutu 690 hectar o'n mawndiroedd pwysicaf.

Weinidog, a minnau newydd eich llongyfarch, credaf y dylwn newid i'r modd ymosod yn awr. [Chwerthin.] Fel arall, fe gewch sicrwydd ffug ynglŷn â sut y byddwch yn cael eich trin yn y Siambr hon.

Rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn pwysig iawn. Mawndiroedd yw'r dull pwysicaf o storio carbon yn ddaearol yn y DU—mae 20 gwaith yn fwy o garbon wedi'i storio ynddynt nag yng nghoedwigoedd y DU. Rydych yn dweud eich bod wedi sicrhau cyllid, ond daw llawer o'r cyllid ar gyfer y cynllun rheoli drwy gyllid LIFE yr UE ar hyn o bryd. Tybed beth fydd yn digwydd i hwnnw? A oes unrhyw gynlluniau ar gyfer 2020-1? Yn amlwg, adfer y mawndiroedd hyn a'u cynnal—a bydd angen cyllid parhaus ar gyfer y gwaith cynnal.

Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n hollol ymwybodol y dylwn wneud y gorau o'r llongyfarchiadau caredig cyn inni fwrw ymlaen â'r busnes go iawn yn y Siambr.

Mae'n faes pwysig iawn, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gallu cynnal hynny yn y dyfodol. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn deall, gan fy mod yn newydd i'r portffolio, fy mod yn dal i drafod sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hynny ar ôl 2020. Felly, rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch i fynd ar drywydd hynny.FootnoteLink

Dileu TB Buchol

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen dileu TB buchol Llywodraeth Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51366

Diolch. Mae Canolbarth a Gorllewin Cymru, gyda'i gilydd, yn cwmpasu ardaloedd TB uchel a chanolraddol. Yma, rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau gweithredu pwrpasol ar gyfer achosion parhaus o TB, sy'n cynnwys mesurau gyda'r nod o glirio heintiau. Cytunir ar gynlluniau gweithredu mewn ymgynghoriad â'r ffermwr, eu milfeddyg preifat, a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Er nad oes ateb hawdd na syml i ddileu TB mewn gwartheg, a yw hi'n cytuno mai un ffordd addawol ymlaen yw canolbwyntio rhagor ar eneteg? Mae'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth wedi llunio mynegai genetig; fe'i hariennir gan ffermwyr y DU, wrth gwrs, i ymgymryd â gwaith ymchwil a datblygu ar eu rhan. Bydd hwn yn ein galluogi i dargedu mathau o wartheg sydd wedi datblygu gallu gwell i wrthsefyll TB. Felly, dylai hon fod yn elfen bwysig o strategaeth gyffredinol y Llywodraeth yn y dyfodol ar gyfer dileu'r clefyd ofnadwy hwn.

Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, a chredaf eich bod yn llygad eich lle: nid oes ateb syml i'w gael. Cefais gyfarfod y bore yma gyda swyddogion, gan gynnwys pobl sy'n gwneud gwaith ymchwil yn y maes hwn. Fel rhan o'r gwaith o ddiweddaru'r rhaglen ddileu, fe fyddwch yn gwybod mai un o'r pethau yr addewais y byddwn yn eu cyflwyno oedd targed ar gyfer pan hoffwn fod yn rhydd rhag TB yn swyddogol yma yng Nghymru, ac mae honno'n elfen o'r trafodaethau rydym wedi'u cael. Felly, credaf fod hyn yn ymwneud â dod â llawer o fesurau pellach ynghyd, ond yn sicr ymchwil a datblygu. Yn y dyfodol, mae angen inni edrych ar bopeth a dysgu o ardaloedd eraill a gwledydd eraill hefyd.

Yn sicr, croesawaf y cynllun newydd i fynd i'r afael â TB buchol. Credaf fod pob un ohonom yn awyddus i weld y clefyd creulon hwn yn cael ei ddileu mewn bywyd gwyllt ac mewn gwartheg. Fy mhryder i yw na ddylid rhoi pwysau ychwanegol ar ffermwyr sydd, ers llawer gormod o amser, wedi dioddef o ganlyniad i effeithiau TB buchol.

Nawr, rydych eisoes wedi ateb cwestiynau ac wedi sôn am y toriad sylweddol i'ch cyllideb. A gaf fi ofyn mewn perthynas â hynny, mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft, lle y ceir toriad sylweddol i'ch adran, sut y teimlwch y bydd hynny'n effeithio ar eich gallu i fynd i'r afael â TB buchol?

14:05

Ni fydd unrhyw doriad i'r cyllid mewn perthynas â dileu TB. Yn y rhaglen ar ei newydd wedd, mewn un rhan o'r rhaglen, fe fyddwch yn gwybod mai un o'r pethau oedd lleihau'r taliadau digolledu 50 y cant, er enghraifft, ond mae hynny'n fwy—. Rydym yn edrych ar—mae 10 y cant, rwy'n credu, o'r gyllideb i ddileu TB yn dod o'r UE. Felly, gallwn golli hynny yn y dyfodol. Felly, mae angen i ni edrych ar sut y gallwn sicrhau bod gennym ddigon o arian. Ond roedd hwnnw'n un o'r cwestiynau a ofynnwyd i mi yr wythnos diwethaf gan y pwyllgor yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb, ond bydd yn rhaid i mi ddod o hyd iddo yn llinell wariant y gyllideb ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid. Felly, ni chredaf y bydd unrhyw effaith ar hynny o gwbl eleni.

Un o'r pethau mwyaf trist y mae dyn yn gallu ei wneud fel Aelod sy'n cynrychioli'r rhanbarth yma yw cael gohebiaeth gan ffermwyr sy'n dioddef o TB ar y fferm a gweld beth sy'n digwydd i'w hanifeiliaid nhw. Ces i un yn y pythefnos diwethaf yn sôn am y fuches yn cael ei heffeithio, a chwe buwch yn cael eu lladd ar y fferm, a'r buchod hynny ar fin dod â lloi hefyd, ac roedd hynny'n torri calon y ffermwraig a oedd yn gyfrifol am y gwartheg hynny. 

Ond un o'r pethau a oedd hefyd yn peri tristwch iddi hi oedd y ffaith bod y profion wnaeth arwain at ladd y buchod hyn yn brofion amhenodol—hynny yw, inconclusive. Nawr, rwy'n gwybod bod rhaid inni gymryd camau, ond rwy'n gwybod hefyd fod yna brofion mwy cywir i'w cael ac yn cael eu defnyddio, er enghraifft, yng Ngogledd America. Pa waith ydych chi'n ei wneud i edrych nawr, o dan y cynllun newydd sydd gyda chi, a ydym ni nawr yn barod yng Nghymru, fel cenedl, i symud at wahanol brofion ar gyfer TB a rhai mwy cywir fel yr ŷm ni'n difa'r clefyd drwy'n gwlad ni?

Nid wyf yn bychanu'r gofid y mae cael achosion o TB yn ei beri i ffermwyr a'u teuluoedd, ac rwyf innau hefyd, yn ôl pob tebyg, wedi derbyn yr un ohebiaeth â'r Aelod. Cyfarfûm â'r prif swyddog milfeddygol y bore yma i drafod y mater, gan fod yr ohebiaeth yn dorcalonnus iawn, a byddaf yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y ffermwr fy hun.

Unwaith eto, yn y dyfodol, mae angen i ni edrych ar y profion gorau posibl, ac os ceir enghreifftiau mewn gwledydd eraill, yn amlwg buaswn yn awyddus i ystyried a ellid eu cyflwyno yng Nghymru fel rhan o'r mesurau pellach hynny y cyfeiriais atynt mewn perthynas ag adnewyddu'r rhaglen.

Nid yw Steffan Lewis yn y Siambr i ofyn cwestiwn 6 [OAQ51352], felly cwestiwn 7—Mark Isherwood.

Ceisiadau Cynllunio ar Gyfer Datblygiadau Tai

7. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau tai? OAQ51343

Diolch. Nodir polisi cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer tai yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Darperir canllawiau pellach mewn nodiadau cyngor technegol. Mae 'Nodyn Cyngor Technegol 1: Cydastudiaethau Argaeledd Tir Ar Gyfer Tai' yn darparu cyngor ar gyfrifo'r cyflenwad o dir ar gyfer tai. Mae 'Nodyn Cyngor Technegol 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy' yn darparu cyngor ar ddarparu tai fforddiadwy.

Diolch. Wel, yn eich sylwadau ym mis Mehefin yn ein papur newydd lleol, ar ôl i'r Prif Weinidog gymeradwyo cais cynllunio yn Llai ar sail argymhelliad gan arolygydd annibynnol, dywedasoch y byddai materion dadleuol fel hyn yn parhau hyd nes bod y cyngor yn mabwysiadu cynllun datblygu lleol. Yn ddiweddar, ar gais trigolion, mynychais ymchwiliad cyhoeddus ym Mhenyffordd, Sir y Fflint. Gwn na allwch wneud sylwadau ar hynny, ond mynegwyd pryder i mi, oherwydd nad oedd eu cynllun datblygu lleol wedi'i gwblhau, ac rwy'n dyfynnu, fod datblygwyr yn manteisio ar y sefyllfa drwy gyfeirio at gyflenwad pum mlynedd a bylchau yn Nodyn Cyngor Technegol 1 er mwyn sicrhau'r cais cynllunio.

Ym mis Hydref, ysgrifennodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy atoch i ddweud bod y fethodoleg gyfrifo ar gyfer y cyflenwad tir pum mlynedd yn Nodyn Cyngor Technegol 1, a ddiwygiwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2015, yn tanseilio cynlluniau datblygu lleol ledled Cymru. Ac yn eich ymateb, a oedd yn eithaf defnyddiol mewn gwirionedd, dywedasoch y gallai'r diffyg cyflenwad tir ar gyfer tai dros bum mlynedd fod yn un o'r ystyriaethau—un o'r ystyriaethau—wrth bennu cais cynllunio; fodd bynnag, gall ceisiadau nad ydynt yn bodloni'r gofynion polisi perthnasol gael eu gwrthod gan yr awdurdod a'r arolygydd cynllunio. A allech ymhelaethu ar hynny? Sut y dylai awdurdod lleol, ymgeisydd, ac arolygydd cynllunio yn arbennig ddehongli'r datganiad hwnnw yn y cyd-destun hwn?

14:10

Diolch. Lywydd, hoffwn gymryd y cyfle—roedd yr enghraifft gyntaf a roddwyd gan Mark Isherwood yn fy etholaeth i, ond yn amlwg, gwnaed y penderfyniad hwn gan y Prif Weinidog, nid gennyf fi.

O ran y pwynt cyffredinol a godwch ynghylch Nodyn Cyngor Technegol 1, mae'n sefyllfa anodd iawn os nad yw'r cyflenwad tir pum mlynedd yn cael ei ddangos, ac yn sicr, mae'n digwydd nid yn unig yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd Cymru, fel y sonioch chi, ond mae'n digwydd mewn awdurdodau lleol eraill hefyd. Yn anffodus, os nad oes gan awdurdod lleol gyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai, maent yn agored i geisiadau cynllunio hapfasnachol ar gyfer datblygu tai. Fodd bynnag, dylid asesu pob cais o'r fath yn erbyn yr holl ystyriaethau polisi perthnasol, gan gynnwys yr angen i gynyddu'r cyflenwad tir ar gyfer tai, ac egwyddor datblygu cynaliadwy. Dyna'r pwynt roeddwn yn ceisio'i wneud.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae nifer fawr o ddatblygiadau tai sylweddol, neu ddatblygiadau arfaethedig, yn ardal Taf Elái a Phontypridd. Un o'r problemau, wrth gwrs, sy'n codi yn ystod y broses honno yw capasiti gwasanaethau cyhoeddus lleol. Yn benodol, rwy'n meddwl am wasanaethau meddyg teulu. A fyddant yn gallu ymdopi â thai ychwanegol yn y cyswllt penodol hwnnw?

Nawr, ymddengys i mi mai un o'r pryderon rydym wedi'u cael—ac rwyf wedi clywed nifer o bractisau meddygon teulu yn mynegi hyn bellach—yw nad ydynt yn ymgyngoreion statudol yn y prosesau cynllunio hynny. Ymddengys i mi, gyda maint y datblygiadau tai sydd gennym, ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cynnal adolygiad ynghylch pwy sy'n ymgyngoreion statudol, ac y dylid ystyried cynnwys cyrff fel practisau meddyg teulu lleol yn hynny o beth. Mae'n rhan uniongyrchol berthnasol o'r broses ac yn wybodaeth angenrheidiol iawn i'w chael, ond nid yw wedi'i chynnwys fel mater o drefn ar hyn o bryd.

Diolch. Ydw, rwy'n cytuno—mae capasiti cyfleusterau gofal sylfaenol yn ystyriaeth berthnasol a phwysig wrth ystyried rhinweddau cynllunio datblygiadau arfaethedig. Yn amlwg, y bwrdd iechyd lleol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar gyfer y boblogaeth leol, felly buaswn yn disgwyl iddynt gymryd rhan wrth baratoi unrhyw gynlluniau datblygu. Maent yn gwybod pa gapasiti sydd ganddynt. Mae'n bwysig fod meddygfeydd yn bwydo'r wybodaeth honno i'r bwrdd iechyd lleol.

Rydym yn trafod ar hyn o bryd a ddylai'r byrddau iechyd fod yn ymgyngoreion statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio mawr.

Prisiau Bwyd

8. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r gwahaniaeth rhwng prisiau bwyd y byd a phrisiau bwyd yr UE? OAQ51360

Diolch. Mae gwahaniaethau mewn prisiau bwyd rhwng gwledydd neu flociau fel yr UE a phrisiau byd-eang yn cael eu hysgogi gan werthoedd arian, cyflenwad a galw, rheolau masnach a rheoliadau'r farchnad fewnol. Mae Comisiwn yr UE yn monitro prisiau bwyd Ewropeaidd ac mae Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig yn cynnal mynegai prisiau bwyd rhyngwladol ar gyfer nwyddau sylweddol.

A dengys y gwaith monitro hwnnw fod prisiau bwyd yn yr UE yn sylweddol uwch na'r tu allan i'r UE. Wedi i ni adael yr UE, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai mater i Lywodraeth y DU fydd pennu i ba raddau y byddwn yn defnyddio tariffau Sefydliad Masnach y Byd yn erbyn mewnforion o'r tu allan i'r UE, a mater i'r Llywodraeth honno fydd penderfynu a ddylid eu defnyddio o gwbl neu negodi cytundebau masnach rydd â gwledydd penodol? Pe bai'r sefyllfa annhebygol yn codi lle byddai tariffau Sefydliad Masnach y Byd yn bodoli rhwng y DU a'r UE, er y buasai hynny'n anodd iawn i rai sectorau yn yr economi amaethyddol, yn enwedig cig oen, a yw'n derbyn hefyd y buasai sectorau eraill, yn arbennig cig eidion a llaeth, yn elwa o bosibl o gyfleoedd sylweddol wrth i gyfyngiadau gael eu rhoi ar fewnforion o wledydd fel Gweriniaeth Iwerddon?

Credaf fod Brexit—mae'n fater enfawr. Mae'n bygwth ein diwydiant o ddifrif a chredaf ei fod yn achosi llawer iawn o ansicrwydd. Yn amlwg, mater i Lywodraeth y DU yw cael y trafodaethau masnach hynny a sicrhau cytundeb masnach. Fodd bynnag, rydym wedi dweud yn glir iawn wrth Lywodraeth y DU sut y credwn y dylai'r negodi a'r trafodaethau hyn fynd rhagddynt.

Credaf fod pawb yn derbyn—rwy'n siŵr, hyd yn oed ar yr ochr hon i'r tŷ—fod y sefyllfa wleidyddol sydd gennym ar hyn o bryd yn creu llawer o densiwn. Rydym yn cael y trafodaethau parhaus hynny. Yn amlwg, mae'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau yn cael trafodaethau ynglŷn â masnach yn bennaf, a pha dariffau a gaiff eu gosod. Rydych yn llygad eich lle: rwy'n poeni'n fawr ynglŷn â'r sector cig oen, ac mae peth o'n gwaith cynllunio senario yn peri cryn bryder. Gwyddom hefyd fod Consortiwm Manwerthu Prydain wedi awgrymu, heb gytundeb masnach newydd, pe bai'r DU a'r UE yn gosod tariffau Sefydliad Masnach y Byd, y gallai cost gyfartalog bwyd a fewnforir gan fanwerthwyr gynyddu 22 y cant.

Yn wahanol i Mark Reckless, nid wyf yn edrych ymlaen at fyd o gyw iâr wedi'i glorineiddio a chig eidion wedi'i fwydo â hormonau, felly gobeithiaf y gallwn barhau i fod â'r safonau bwyd uchel sydd gennym ar hyn o bryd.

Nid yw'r negeseuon a ddaw gan Awdurdod Porthladdoedd Prydain pe baem yn gadael yr undeb tollau yn optimistaidd iawn, oherwydd er bod gennym basbort rhydd ar nwyddau i ac o Brydain ar hyn o bryd, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ddisymwth, gallai hynny roi terfyn ar bob trafodiad. A chan ein bod yn siarad am gynnyrch ffres, pam y buasai unrhyw un yn trafferthu mewnforio cynnyrch ffres os nad ydynt yn credu y gallant ei gael i'r farchnad mewn pryd? Tybed pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith gadael yr undeb tollau, a'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar y bwyd rydym yn ei fewnforio ar hyn o bryd, yn enwedig cynnyrch ffres o'r Undeb Ewropeaidd.

14:15

Diolch am eich cwestiwn. Mae hyn yn rhan o'n gwaith cynllunio senarios a grybwyllais yn fy ateb i Mark Reckless. Mae rhannau o hyn yn frawychus tu hwnt. Rydym yn sicrhau bod Llywodraeth y DU ar bob lefel yn hollol ymwybodol o'n barn y dylem barhau i fod yn rhan o'r undeb tollau. Mae arnom angen y farchnad rydd honno sydd ar garreg ein drws, a byddwn bob amser yn gobeithio y bydd gennym berthynas gyda'r UE. Ond o'r trafodaethau a gefais yn y ffair aeaf ddydd Llun, mae pobl yn ofnus iawn ynglŷn â'r ansicrwydd ynghylch y ffordd y mae'r trafodaethau presennol i'w gweld yn mynd rhagddynt, ond rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn arbennig o bryderus y bydd Brexit yn arwain at brisiau bwyd uwch o lawer oni bai bod gennym gytundeb masnach rhagorol.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a'r cwestiwn cyntaf, Leanne Wood. 

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y tasglu ar gyfer y cymoedd yn Rhondda? OAQ51381

Cyhoeddwyd cynllun cyflawni manwl gan y tasglu ar 7 Tachwedd. Roedd yn nodi sut y byddwn yn bwrw ymlaen â chamau gweithredu mewn tri maes blaenoriaeth: darparu swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w cyflawni; cefnogi gwasanaethau cyhoeddus gwell; a chryfhau cymunedau. Bydd llawer a'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu yn y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar y bobl sy'n byw yng nghymoedd y Rhondda.

Diolch am eich llythyr a dderbyniais y bore yma, Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n amlinellu sut y bydd cynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, o fudd i bobl yn etholaeth y Rhondda. Yn eich llythyr, soniwch am nifer o bethau rydych newydd eu hamlinellu: gwella gofal plant drwy gynllun peilot yng Nglynrhedynog, cefnogi adeiladwyr lleol, a

'gwella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus drwy hybiau cymunedol',

beth bynnag y mae hynny'n ei olygu. Mae hyn oll yn amwys iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ni allaf weld sut y bydd yn effeithio o gwbl ar y 33.1 y cant o boblogaeth Rhondda o oedran gweithio sy'n economaidd anweithgar. Mae'r ffigur hwnnw'n llawer uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru, sef 24.8 y cant, a'r ffigur ar gyfer y DU, sef 22 y cant. Mae'r rhesymau dros yr anweithgarwch economaidd hwn yn rhai hanesyddol, ac mae'r problemau economaidd o ganlyniad i hynny yn rhai cronig. Dyna pam fod y Rhondda angen i'ch Llywodraeth roi camau penodol ar waith. Pennir canlyniadau'r cynllun hwn gan nifer y bobl sydd mewn swyddi da yn y pen draw. A allwch ddweud wrthym i ba raddau rydych yn gobeithio lleihau anweithgarwch economaidd yn y Rhondda ar ôl i chi roi cynllun tasglu'r Cymoedd ar waith? A allwch roi ffigur i ni, os gwelwch yn dda?

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod dros y Rhondda yn ymuno â mi i ddiolch yn fawr am y modd y mae llawer o bobl o gymoedd y Rhondda wedi cyfrannu at y gwaith o lunio ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Rwy'n siŵr ei bod wedi darllen y cynllun rydym wedi'i amlinellu ac a gyhoeddwyd gennym ar 7 Tachwedd, a buaswn yn synnu pe gallai ddisgrifio'r cynllun hwnnw fel cynllun sy'n amwys. Mae degau o gamau gweithredu ynddo gydag amserlenni a thargedau sy'n amlinellu'n union sut y byddwn yn ateb y cwestiynau a ofynnwyd ganddi.

Ond mae'n nodi pwynt pwysig iawn, wrth gwrs, gan fod anweithgarwch economaidd yn fater hollbwysig sy'n wynebu holl gymunedau'r Cymoedd, gan gynnwys yr etholaeth y mae'n ei chynrychioli yn y Rhondda. Rydym wedi cynnwys targed yn ein cynllun i greu 7,000 o swyddi ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf er mwyn sicrhau bod cymunedau'r Cymoedd yn cael yr un cyfleoedd i gael gwaith o ansawdd uchel â chymunedau mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae'r targed hwnnw yn y cynllun ac mae'r amserlenni yn y cynllun. Buaswn yn cynghori'r Aelod dros y Rhondda i'w ddarllen.

14:20

Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich araith wreiddiol ar weithgareddau eich tasglu, fe nodoch yr amgylchedd naturiol yn y Cymoedd, ac yn enwedig yng nghymoedd y Rhondda, fel enghraifft dda o hynny, lle y ceir ardaloedd mawr o dir comin ar flaenau'r Cymoedd, ased ar draws de Cymru nad yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigonol o bell ffordd. Gan fod peth amser wedi bod bellach ers i chi nodi'r ased amgylcheddol hwnnw, buaswn yn falch o wybod sut yn union y mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud gwell defnydd ohono i hybu mwy o weithgarwch economaidd yn y Cymoedd, ond yn anad dim, ffordd well o fyw i'r bobl sy'n byw yn y Cymoedd drwy ddefnyddio adnodd naturiol gwych y tir comin ar draws de Cymru.

Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnaeth yr Aelod dros dde Cymru. Ac nid yn unig y tir comin, ond mae'r holl dir ar draws amgylchedd Cymoedd de Cymru yn ased enfawr nid yn unig i'r rhai ohonom a gafodd eu geni, eu magu, ac sy'n byw yn y Cymoedd ac yn eu cynrychioli, ond i'r wlad gyfan. Drwy greu'r hyn rydym wedi'i alw ar hyn o bryd yn barc tirlun yn y Cymoedd, rwy'n gobeithio y gallwn wneud y mwyaf nid yn unig o botensial y tir comin, ond yr amgylchedd yn ei gyfanrwydd, er mwyn sicrhau mynediad ar gyfer pobl yn y Cymoedd i'r amgylchedd lleol, ond hefyd i ddiogelu a gwella'r amgylchedd hwnnw, a gweithio gyda thirfeddianwyr a ffermwyr ac eraill yn yr ardal er mwyn sicrhau ein bod yn gallu gwerthfawrogi'r amgylchedd sydd gennym yn y Cymoedd, ond hefyd i sicrhau ein bod yn gallu sicrhau gwerth ar gyfer y cymunedau sy'n byw gerllaw'r amgylchedd hwnnw ac ynddo. Rwy'n gobeithio bod, ac y bydd y parc tirlun yn parhau i ysgogi camau i alluogi i bob un o'r uchelgeisiau a amlinellwyd gan yr Aelod, ac a rennir gennyf innau, gael eu bodloni.

Diwygio Etholiadol o fewn Llywodraeth Leol

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio etholiadol o fewn llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ51357

Rwy'n ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol ar hyn o bryd. Rwy'n bwriadu gwneud datganiad ar y camau nesaf ym mis Chwefror.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, ymatebais i'r ymgynghoriad yn ddiweddar. Gofynnai cwestiwn 33: a ydych yn cytuno na ddylid caniatáu i neb wasanaethu fel Aelod Cynulliad a chynghorydd? Ar wahân i'r ffaith ei fod yn gwestiwn arweiniol iawn ac yn anaddas ar gyfer ymgynghoriad difrifol, safbwynt y Llywodraeth, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yw gwahardd Aelodau Cynulliad rhag bod yn gynghorwyr hefyd. Hoffwn dynnu sylw at y ffaith eich bod chi'n cyflawni dwy rôl: rôl weinidogol, sy'n dweud bod yn rhaid i Weinidogion gadw eu rolau fel Gweinidogion ac Aelodau'r Cynulliad ar wahân. I bob pwrpas, maent yn ddwy swydd wahanol. Yma, ceir Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi—arglwydd a barwnes—sy'n gwasanaethu yn eich Llywodraeth; mae gennym Aelod o Senedd Ewrop nad yw'n gallu bod yma heddiw; ac rydym yn ein cael ein llywyddu'n llwyddiannus gan Aelod Cynulliad, sydd hefyd yn Llywydd—[Chwerthin.]

Parhewch. Mae gennyf ddiddordeb mewn gweld i ble rydych yn mynd gyda hyn. [Chwerthin.]

O ran rolau, mae gennym hefyd gyfarwyddwyr cwmnïau a phobl a gyflogir mewn rolau eraill. Felly, mewn gwirionedd, i fynd at wraidd y cwestiwn—[Chwerthin.] Diolch. Beth ynglŷn ag Aelod Cynulliad yn bod yn gynghorydd sy'n peri cymaint o ofid i Lywodraeth Cymru? Ac a ydych yn bwriadu atal Aelodau'r Cynulliad rhag bod yn gynghorwyr er mwyn rhwystro democratiaeth a gwneud yr hyn na allwch ei wneud drwy'r bocs pleidleisio drwy'r Llywodraeth a deddfwriaeth?

Lywydd, caiff y Cynghorydd McEvoy glywed fy nghasgliadau ar yr un pryd â phawb arall. Fe ddywedaf hyn wrtho: rwy'n credu ei bod yn bwysig fod pobl yn y lle hwn yn gwasanaethu democratiaeth drwy sicrhau na cheir unrhyw wrthdaro buddiannau. Yn fy marn i, mae gwasanaethu fel aelod o awdurdod lleol ac Aelod o'r lle hwn yn arwain at wrthdaro buddiannau.

A gaf fi atgoffa'r Aelodau o'r mwyafrif llethol a wrthododd y bleidlais amgen ar ffurf cynrychiolaeth gyfrannol yn y refferendwm, a sut y mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn seiliedig ar 'dyfalwch sawl sedd y gallwch ei hennill'? A wnaiff Llywodraeth Cymru ddeddfu y bydd mwyafrif llethol o ddwy ran o dair o bleidlais y cynghorwyr a'r cynghorau yn angenrheidiol os yw cynghorau'n awyddus i newid eu system bleidleisio?

Lywydd, rwyf eisoes wedi siomi fy nghyfaill o Ddwyrain Abertawe gyda fy safbwyntiau ar gynrychiolaeth gyfrannol; nid wyf yn bwriadu ei siomi eto y prynhawn yma. Ond dywedaf hyn wrtho, wrth i ni edrych ar sut rydym yn diwygio ac yn dyfnhau ein democratiaeth, rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn feiddgar ac yn radical, ac nid yn geidwadol, ac ystyried ac arddel newid.

14:25

A gaf fi groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w rôl newydd? Efallai y cofiwch unwaith i mi eich galw'n Weinidog Emeritws, ac ymddengys eich bod yn gweddu i'r enw hwnnw. [Torri ar draws.] Nid wyf erioed wedi'i alw'n fwmerang. Chi a ddywedodd hynny.

Ysgrifennydd Cabinet, mae hanes llywodraeth leol yng Nghymru yn frith o ad-drefnu ar ôl ad-drefnu, diwygio ar ôl diwygio dros flynyddoedd lawer. Roeddwn yn falch iawn pan wthiodd eich rhagflaenydd y syniad o ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru o'r neilltu. A ydych yn bwriadu ailystyried y mater hwnnw dros yr ychydig flynyddoedd nesaf? Ac ni waeth beth rydych yn penderfynu neu'n penderfynu peidio â'i wneud gyda threfniadau llywodraeth leol—a'r system etholiadol a allai ddeillio o hynny—a ydych yn cytuno mai'r hyn sydd ei angen ar lywodraeth leol yng Nghymru yw sefydlogrwydd, fel y gall swyddogion a chynghorwyr etholedig yn yr awdurdodau hynny fwrw ymlaen â'r gwaith o ddarparu gwasanaethau lleol i bobl leol, sef yr hyn y cawsant eu hethol i wneud?

Ydw, rwy'n cytuno â hynny. Credaf fod arnom angen sefydlogrwydd, ond sefydlogrwydd a ddaw o ganlyniad i allu cadarn i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Clywsom Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud yr wythnos diwethaf nad ydynt yn credu bod y ddarpariaeth gyfredol o wasanaethau yn gynaliadwy, a chredaf fod angen inni wrando ar y geiriau hynny. Ac yn sicr, byddaf yn ystyried hynny wrth i mi ddatblygu polisi yn y maes hwn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cyfle nawr i lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddychwelyd, os caf, at gynllun gweithredu tasglu'r Cymoedd. Credaf y buasai pob un ohonom yn cytuno ei fod yn cynnwys, ar lefel uchel, amcanion canmoladwy tu hwnt o ran ein cymunedau, a diolch i aelodau'r tasglu, ac yn wir, i bawb a gymerodd ran yn yr amrywiol ymgynghoriadau a gynhaliwyd ar draws ardaloedd y Cymoedd.

Ond fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfaddef, rwy'n siŵr, bydd y modd y caiff y cynllun ei gyflawni, wrth gwrs, yn dibynnu'n allweddol ar y manylion. Mae 68 o gamau gweithredu yn y cynllun yn ei gyfanrwydd, ond rydych yn cyfeirio at dargedau penodol. Efallai y gallaf fod o gymorth iddo yma, gan fod y cynllun ei hun yn dangos, ar dudalen 46, mai dim ond dau darged penodol sydd yno mewn gwirionedd. Ar ôl edrych drwy'r holl ddangosyddion llesiant, dau yn unig sydd yno. A 7,000 o swyddi ychwanegol, gyda 2,000 ohonynt yn cael eu creu o ganlyniad i weithgarwch entrepreneuraidd. A all ddweud, er eglurder, ai swyddi ychwanegol net yw'r rheini—yn y jargon? Ai swyddi a grëwyd yw'r rhain yn hytrach na swyddi a grëwyd, a ddiogelwyd ac a gynorthwyir? Gan mai dyma'r unig darged yn y cynllun, pa gyllideb sydd wedi'i neilltuo i greu'r swyddi hynny? Hyd yn oed os cymerwn y safon, y £30,000 neu £40,000 ar gyfer pob swydd, y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio, rydych yn sôn am gannoedd o filiynau o arian ychwanegol. Pe baem ond yn cyflawni'r lefel o greu swyddi rydym wedi'i gweld yn yr ardaloedd menter—oddeutu £90 miliwn yng Nglyn Ebwy a chreu 170 o swyddi yn unig yn yr achos hwnnw—rydych yn sôn am biliynau, ac eto ni allaf weld unrhyw arian ychwanegol wedi'i neilltuo yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Mae'r £90 miliwn yng Nglyn Ebwy, wrth gwrs, hefyd yn cynnwys rhannau o'r gwaith o ddeuoli ffordd yr A465, a ohiriwyd gan Blaid Cymru. O ran y cwestiwn uniongyrchol a ofynnoch, pa un a yw'r ffigur yn cyfeirio at swyddi net, yr ateb yw 'Ydy, mae'n cyfeirio at swyddi net.' Ac o ran y cyllid ar gyfer hynny, bydd yr arian yn dod o gyllidebau Ysgrifenyddion y Cabinet a fydd yn cyfrannu tuag at hynny.

Yr hyn y mae tasglu'r Cymoedd yn ceisio'i wneud yw llunio a llywio polisi'r Llywodraeth i'n galluogi i gyflawni ein huchelgeisiau yn y Cymoedd. Gwn eich bod yn rhannu'r uchelgeisiau hynny, ac rwy'n ddiolchgar i chi am y pwyntiau rydych wedi eu gwneud ynglŷn â hynny yn y gorffennol. Ar hyn o bryd, rydym yn arwain rhaglen o seminarau ym mhob un o'r saith hyb strategol i edrych ar sut yn union y bydd pob hyb yn cyfrannu at y targed swyddi a amlinellwyd gennych, ond hefyd at dargedau eraill a amlinellir yn y weledigaeth gyffredinol. Pan fyddwn wedi cwblhau'r dasg honno—erbyn diwedd mis Chwefror gobeithio—gallaf wneud datganiad pellach ynglŷn â hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n debyg eich bod chi a minnau'n cynrychioli bwa'r Cymoedd, ardal yr hen feysydd glo—rydych chi'n cynrychioli'r Cymoedd dwyreiniol, a minnau'n cynrychioli'r gorllewin. Tybed a yw daearyddiaeth y strategaeth hon allan o drefn ar hyn o bryd. Fel rydym wedi'i glywed gan arweinydd fy mhlaid, ceir ardaloedd yn y Rhondda, Cwm Cynon, ac ati, nad ydynt yn cael eu cynrychioli o gwbl yn y saith hyb strategol, sy'n ymddangos i mi ar hyn o bryd fel pe baent wedi cael eu dewis, os nad ar hap yn llwyr, yna yn sicr mewn modd ad hoc, o ran eu lleoliad, ond hefyd, o bosibl, o ran eu ffocws sectoraidd. Cawsom y cyhoeddiad ddoe am ddau hyb technoleg entrepreneuraidd, a fydd wedi'u lleoli yng Nghymoedd y de-orllewin ac yn y Cymoedd dwyreiniol. A bydd yr hybiau cymunedol—nifer amhenodol o hybiau cymunedol—gennym yno hefyd. Ond hyd yn oed os edrychwch ar y map, Ysgrifennydd y Cabinet, mae Rhydaman oddi ar y map, ac mae llawer o'r Cymoedd gorllewinol eraill heb eu cynnwys yn y diffiniad o ardal y Cymoedd mewn gwirionedd. Felly, er mwyn ategu'r strategaeth, oni ddylai fod gennym gynllun datblygu strategol sy'n edrych ar ddaearyddiaeth y Cymoedd, gan sicrhau, er enghraifft, fod yr hybiau hyn yn cael eu graddnodi, o ran y gorsafoedd metro newydd, gydag ardaloedd y buddsoddiad? A phwy sy'n mynd i gyflawni hyn oll? Gyda'r holl hybiau hyn, onid oes angen hyb o hybiau arnom, Ysgrifennydd y Cabinet—asiantaeth neu dîm o bobl sy'n mynd i gyflawni'r 68 pwynt gweithredu hyn? A beth yw'r ddarpariaeth ar hyn o bryd, a beth yw'r cysylltiad gyda'r fargen ddinesig? Oherwydd ymddengys i mi fod tasglu'r Cymoedd a'r cynllun gweithredu yma fan hyn, mae'r bargeinion dinesig draw fan acw, ac nid yw'n ymddangos bod llawer o ryng-gysylltiad rhwng y ddau ar hyn o bryd.

14:30

Dros y blynyddoedd, mae'r Aelod dros ddwyrain Sir Gaerfyrddin wedi galw am fwy o feddwl strategol yn y Cymoedd ac mewn mannau eraill yng Nghymru, ac mae wedi galw am lai o wleidyddiaeth pot mêl—credaf eich bod wedi gwneud nifer o ymyriadau gwahanol mewn perthynas â hynny, ac rwyf bob amser wedi cytuno â chi ar y materion hynny. Ond yn yr ychydig fisoedd diwethaf, ers i'r hybiau strategol hyn gael eu cyhoeddi, rwyf wedi cael llythyr gan yr Aelod dros Rhondda, yn gofyn am hyb strategol yn Rhondda, a llythyr arall gennych chi, yn gofyn am un yn Rhydaman. Nid wyf yn siŵr fod hynny bob amser yn amlinellu'r meddylfryd strategol sydd gennych mewn golwg. [Torri ar draws.] Mae'r Aelod wedi galw am feddylfryd strategol.

Yr hyn rwyf am ei ddweud wrtho yw bod pob un o'r saith hyb—buaswn yn hapus i ystyried datblygu model, mae'n rhaid i mi ddweud, ond mae pob un o'r saith hyb strategol yn gysylltiedig â'r metro, yn gysylltiedig â thrafnidiaeth gyhoeddus, o dan arweiniad awdurdodau lleol, wedi'u llywio gan y gwaith a wneir ar y bargeinion dinesig, a hefyd gan Lywodraeth Cymru. A dyna pam rydym yn dilyn proses o seminarau ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn deall beth yn union rydym yn ceisio ei gyflawni gyda phob un o'r hybiau hyn.

Ond rwyf am ddweud wrth yr Aelod ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar draws rhanbarth y Cymoedd yn ei gyfanrwydd. Mae'r pwyntiau y mae'n ei wneud am y Cymoedd gorllewinol yn rhai da, ac yn cael eu cydnabod; rwy'n derbyn y pwyntiau hynny. Ac rwy'n credu bod angen i ni edrych ar sut rydym bob amser yn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd pobl ledled rhanbarthau'r Cymoedd. A chredaf fod honno'n her rydym yn ei derbyn, ac yn her rwy'n gobeithio y byddwn yn ei goresgyn.

Roeddwn yn meddwl—os gallwn gamu'n ôl rhywfaint hefyd—tybed a allwn ofyn cwestiwn dyfnach i ni'n hunain, ac ni wn a yw hwnnw wedi cael sylw digonol eto yn y cynllun a gyhoeddwyd, a dyna pam fod mentrau'r gorffennol wedi methu. Oherwydd y peth mwyaf sobreiddiol rwyf wedi'i ddarllen—. Rwy'n annog yr Aelodau anrhydeddus—o, arfer drwg yn y fan honno. Rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen yr astudiaeth ymgysylltu, sydd mewn gwirionedd yn seiliedig ar arolygon gyda phobl yn y Cymoedd ynglŷn â sut y maent yn gweld pethau. Ac mae'n sobreiddiol yn wir: gyda 45 y cant yn dweud bod cyflwr eu canol trefi'n wael; 54 y cant yn dweud bod cymorth ar gyfer busnesau'n wael; 30 y cant yn dweud bod y gwasanaethau iechyd lleol yn wael; a 45 y cant, gwasanaethau trafnidiaeth gwael. Ac mae'n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain pam ein bod yn y sefyllfa hon. Ac oni bai bod gennym ddadansoddiad digonol a dadansoddiad onest—ac rwy'n sylweddoli, i Lywodraeth sydd wedi bod mewn grym ers bron i ddau ddegawd, fod hwnnw'n gwestiwn anodd i'w ofyn—ond os nad ydym yn ei ofyn, cawn ein condemnio, oni chawn, i ailadrodd methiannau'r gorffennol?

Mewn llawer o ffyrdd, mae'r cynllun a gyhoeddais ar 7 Tachwedd yn gynllun o'r Cymoedd, yn hytrach na chynllun ar gyfer y Cymoedd yn unig. Mae'n ymwneud â gwrando ar bobl, siarad â phobl, cael sgyrsiau gyda phobl, ynglŷn â beth y maent eisiau ei weld yn eu cymunedau yn y dyfodol. Ac mae llawer ohonynt yn disgrifio eu cymunedau yn y ffordd rydych wedi'i ddangos y prynhawn yma. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Ond yr hyn rwyf am ei ddweud wrthych yw nad rôl y Llywodraeth yw disgrifio'r problemau'n unig; rôl y Llywodraeth yw gweithredu fel catalydd i greu atebion, a dyna beth y mae'r Llywodraeth hon yn ceisio ei wneud.

14:35

Diolch, Lywydd. Mae dwy flynedd wedi bod bellach ers cyflwyno'r Bil digartrefedd arloesol a Deddf Tai (Cymru) 2014, a chredaf ei fod wedi ennyn llawer o ganmoliaeth am ei ddull ataliol. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn anos ymdrin â'r bobl sydd eisoes yn cysgu allan, neu'r bobl sydd ar fin mynd yn ddigartref, ac rwy'n meddwl tybed a gaf fi ofyn i'r Gweinidog beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru.

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Fel y buasech yn ei ddychmygu, mae mynd i'r afael â'r broblem o gysgu allan yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn flaenoriaeth bersonol i mi, yn enwedig ar yr adeg benodol hon o'r flwyddyn, wrth i ni sylwi ar y tywydd yn oeri ac rydym yn gweld niferoedd cynyddol o bobl yn cysgu ar ein strydoedd mewn gwirionedd. Felly, yn 2016, aeth Llywodraeth Cymru ati i wella'r cyfrif cenedlaethol o gysgu allan, fel y gallwn gael darlun mwy cywir o nifer y bobl sy'n cysgu allan ar strydoedd ein trefi a'n dinasoedd a chymunedau eraill ledled Cymru. A chredaf fod hynny'n bwysig, ein bod yn cael gwell darlun o nifer y bobl sy'n rhan o hyn a'r problemau sy'n wynebu'r bobl hynny, fel y gallwn dargedu'r gwasanaethau hynny'n well. Hefyd, yn ôl yn 2016, cyflwynwyd StreetLink Cymru gennym, ac mae hwnnw'n wasanaeth sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i roi gwybod i'r awdurdodau pan fyddant yn gweld unigolyn sy'n cysgu allan, ac yna gellir gwneud gwaith allgymorth i gynorthwyo'r unigolyn i archwilio beth y gellid ei wneud i ddod o hyd i lety dros dro iddynt, a gobeithio, yn y pen draw, llety mwy parhaol yn ogystal.

O ran y gyllideb, rydym yn ceisio cynyddu'r swm o arian rydym yn ei wario ar drechu digartrefedd yn fwy cyffredinol, gyda £4 miliwn ychwanegol ar gyfer y grant atal digartrefedd eleni er mwyn atal pobl rhag mynd i'r sefyllfa honno. Ond mae'n ddarlun cymhleth iawn, fel rydych yn deall, rwy'n gwybod. Mae gan bobl sy'n cysgu allan amrywiaeth eang o broblemau cymhleth a phrofiadau bywyd y maent yn ymdrin â hwy, felly mae'n rhaid i'r ymateb fod yn ddull partneriaeth mewn gwirionedd: Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol, gan ddarparu'r adnoddau y maent eu hangen, ond gan wneud yn siŵr hefyd fod gennym y rhwydwaith hwnnw o gymorth yn lleol gyda'r holl sefydliadau sy'n gwneud gwaith gwych o ran allgymorth a chymorth i bobl sy'n cysgu allan.

A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod yn cytuno â'r Gweinidog fod hwn yn fater pwysig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gan ein bod yn naturiol, wrth i'r Nadolig agosáu, yn meddwl yn arbennig am bobl sy'n gorfod cysgu ar y strydoedd? Ond mae'n broblem sydd wedi bodoli ers tro byd mewn gwirionedd ac mae'n digwydd drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n amlochrog, rydych yn hollol gywir, o ran pam fod pobl yn teimlo eu bod yn gorfod byw ar y strydoedd. Rydych yn iawn ynglŷn â chasglu data. Mae wedi gwella, a dyma sydd i gyfrif, yn ôl pob tebyg, am rywfaint o'r cynnydd canfyddedig, ond mae The Wallich wedi cynnal arolwg yn ddiweddar a oedd yn dangos cynnydd o 21 y cant yn nifer y bobl sy'n cysgu allan yn Abertawe, cynnydd o 67 y cant ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a chynnydd o 93 y cant yng Nghasnewydd. Ceir rhai arwyddion o fenter go iawn a gobaith yn ogystal. Efallai eich bod wedi gweld yn y Western Mail heddiw fod yr elusen digartrefedd Llamau wedi cyhoeddi prosiect newydd ac maent wedi cael llawer o gefnogaeth gan y gymuned fusnes i sefydlu, neu geisio sefydlu, llinell gymorth, yn arbennig ar gyfer pobl ifanc sydd ar fin mynd i fyw, neu sydd newydd fynd i fyw, ar y stryd. Ond oherwydd natur amlochrog yr her hon, rwy'n meddwl tybed a oes angen i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth eithaf pendant—er enghraifft, drwy ddatgan ei bod yn credu mai dull tai yn gyntaf yw'r brif ffordd o fynd i'r afael â chysgu allan.

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, ac yn sicr rydym yn ehangu ein dull tai yn gyntaf, gan gomisiynu prosiectau tai yn gyntaf newydd i helpu pobl i gael eu tenantiaethau eu hunain a gwella mynediad at lety brys. Darparodd y Gweinidog blaenorol rywfaint o arian ychwanegol i wella a chynyddu capasiti llety brys, yn enwedig yn ardal Caerdydd. Ond rwy'n cytuno mai tai yn gyntaf yw'r ffordd ymlaen, o ran sicrhau bod gan bobl fynediad at gartref cynnes, diogel a gweddus, oherwydd mae hynny'n arwain at gymaint mwy. Gwn hefyd fod angen i ni fod yn gweithio'n benodol gyda grwpiau unigol sydd efallai'n fwy agored i niwed, felly pobl ifanc yn arbennig. Rwy'n credu eich bod yn lansiad y prosiect Llamau, a oedd yn cynnwys busnesau mewn perthynas â mynd i'r afael â phobl ifanc yn cysgu allan yn arbennig, a mynychwyd y lansiad hwnnw hefyd gan y Prif Weinidog, oherwydd mae wedi dweud yn glir fod digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth bersonol arbennig iddo ef yn ogystal.

Rwyf hefyd yn awyddus, gan adeiladu ar y gwaith a wneuthum yn fy mhortffolio blaenorol, i weld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi cyn-aelodau o'r lluoedd arfog sy'n aml yn mynd yn ddigartref. Rydym yn datblygu llwybr tai newydd yn benodol ar gyfer cyn-filwyr i geisio sicrhau eu bod yn gallu ymaddasu i fywyd sifil a hefyd sicrhau ffyrdd y gallwn ymgysylltu â hwy, os a phan fyddant yn cysgu allan, mewn ffordd sy'n briodol ac yn berthnasol iddynt hwy.

14:40

Mae llawer rwy'n cytuno ag ef yn yr ymateb hwnnw, a phob yn dipyn, gwelwn lawer o fentrau da, a cheisio eu cyfuno yw'r her, ac rwy'n meddwl tybed a oes angen i ni edrych ar fodelau traddodiadol nad ydynt wedi ateb y broblem i'r graddau y buasem yn ei ddymuno. Modelau triniaeth yn gyntaf ydynt yn y bôn sydd fel arfer wedi'u lleoli mewn amgylcheddau hostel yn hytrach nag mewn cartref sy'n cael ei gefnogi—rydych yn sicrhau bod y person yn teimlo'n ddiogel yn eu tenantiaeth ac mewn dull sy'n canolbwyntio ar y cartref. Ond fel y dywedais, triniaeth yn gyntaf yw'r modelau traddodiadol wedi bod, a dyna a wnewch cyn i chi roi rhywun yn eu cartref eu hunain.

Mae trawsnewid hwn i fod yn fodel tai yn gyntaf yn her, ond rydym yn gweld llwyddiant rhyfeddol yn barod, er enghraifft, yn y prosiect ar Ynys Môn, sydd wedi cael ei dreialu gan sefydliad The Wallich. Rydym wedi gweld rhai gwledydd yn mabwysiadu tai yn gyntaf, fel yn y Ffindir, lle mae wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn barod i gynnal adolygiad sylfaenol o'r hen systemau—triniaeth yn gyntaf, yn gyffredinol—ac edrych ar fodel tai yn gyntaf?

Rwy'n gwbl agored i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i ehangu tai yn gyntaf. Fel chithau, rwy'n gweld y synnwyr a'r manteision o ran sicrhau bod gan bobl gartref cynnes, diogel a hwnnw yw'r bloc adeiladu y gallant ei ddefnyddio i ddechrau adeiladu eu bywyd a mynd i'r afael â phroblemau megis camddefnyddio sylweddau ac ati. Oherwydd rydym yn gwybod bod llawer o bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau hefyd yn cael trafferth cynnal tenantiaeth ddiogel ac mae hynny'n ychwanegu at y math o straen a phwysau sydd ar yr unigolion hynny. Buaswn yn fwy na pharod i gymryd rhan mewn trafodaethau mwy manwl. Rwy'n awyddus iawn i edrych ar yr enghraifft yn y Ffindir, ac unrhyw enghreifftiau eraill o'r model tai yn gyntaf a lle mae'n gweithio'n dda. Ond i mi, mae'n gwneud synnwyr perffaith.

Felly, croeso. [Chwerthin.] Mae'r adran y byddwch yn ei rhedeg wedi'i had-drefnu braidd—[Torri ar draws.] Mae'n flin gennyf. Mae'r adran y byddwch yn ei rhedeg wedi'i hadrefni braidd, yn yr ystyr fod gennych y cyfrifoldebau llywodraeth leol roedd Mark Drakeford yn arfer bod yn gyfrifol amdanynt a'r portffolio cymunedau hefyd, sydd wedi dod o adran wahanol. Felly, mae'n bosibl y bydd yn cymryd ychydig o amser i bawb ohonom ymgynefino â'r hyn sydd, i bob pwrpas, yn bortffolio newydd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: sut y credwch y bydd yr adran newydd hon yn cyflawni'n well mewn perthynas â materion llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?

A gaf fi ddweud pa mor ddiolchgar wyf fi i'r Aelod am ei sylwadau caredig iawn—sy'n esiampl i'r holl Aelodau, buaswn yn ei ddweud?

Lywydd, mae'r portffolio sydd gennyf yn awr yn cyfuno nifer o swyddogaethau, fel yr amlinellodd yr Aelod. Rwy'n gobeithio y byddwn, drwy gyfuno cyfrifoldeb dros lywodraeth leol a darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad, yn gallu dilyn rhaglen i gynnal a chefnogi rhagoriaeth ym mhob un o'n gwasanaethau cyhoeddus, gan ddiogelu ac amddiffyn y bobl sy'n eu darparu a sicrhau bod y bobl y mae pawb ohonom yn eu gwasanaethu, ar bob ochr i'r Siambr, yn cael y gwasanaethau cyhoeddus gorau posibl y gallwn eu darparu.

Rydych hefyd yn dod â'ch gwaith o'ch rôl flaenorol o ddarparu rhaglen tasglu'r Cymoedd gyda chi, ac rydym wedi clywed cryn dipyn am hynny heddiw. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol ein bod wedi bod yn sôn llawer am hyn oherwydd mae'n bosibl ei fod yn bwnc—dros y 18 mis diwethaf, mae'n debyg nad ydym wedi clywed digon am fecanwaith y modd y bydd yn gweithio. Felly, credaf fod angen i ni edrych arno.

Un elfen y mae gennyf ddiddordeb ynddi yw'r mater ailhyfforddi. Rydym yn byw, y dyddiau hyn, mewn marchnad lafur gymharol hyblyg. Os yw pobl yn gadael eu swyddi am ba reswm bynnag, mae'n bosibl y bydd angen eu hailhyfforddi ar gyfer sector neu waith arall, ac felly mae sgiliau'n fater allweddol, fel rydych wedi'i gydnabod yn y gorffennol. Sut y bydd tasglu'r Cymoedd yn gwella ailhyfforddi ac uwchsgilio, a pha fath o ryngweithio y byddwch yn ei wneud yma gyda'r Gweinidog sgiliau, Eluned Morgan?

14:45

Roedd y cyn-Weinidog sgiliau, sydd bellach yn arweinydd y tŷ, yn arfer bod, ac mae'n parhau i fod, yn aelod o'r tasglu, ac yn ein cyfarfod tasglu yfory ym Mhont-y-pŵl, byddwn yn gwahodd y Gweinidog sgiliau newydd i ymuno â'r tasglu hefyd. Felly, bydd gennym gysylltiadau strwythurol ar draws pob un o'r adrannau hynny.

Rwy'n cytuno'n llwyr â dadansoddiad yr Aelod o'r angen am sgiliau. Rwy'n aelod o'r grŵp cyflogadwyedd gweinidogol, a byddwn yn sicrhau y bydd yr union raglen sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd yn bodloni'r amcanion a amlinellwyd gan yr Aelod.

Diolch am eich ateb. Rwy'n gobeithio y bydd yna ddull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn.

Nawr, mae llawer iawn o bobl ifanc y dyddiau hyn yn mynd i'r brifysgol neu i'r coleg, fel rwy'n siŵr eich bod yn gwybod. Ond efallai nad dyma'r llwybr gorau i bawb, ac yn wir, efallai bod nifer sylweddol o bobl ifanc nad ydynt eisiau mynd i'r coleg ac efallai y buasai'n well ganddynt gael hyfforddiant yn y gwaith yn unig. A yw'r dull hwn yn rhan o'ch syniadau mewn perthynas â thasglu'r Cymoedd a'r rhannau perthnasol eraill o'ch portffolio?

Ydy. Un o'r meysydd gwaith a ysgogwyd gan y cyn-Weinidog sgiliau, ac arweinydd y tŷ bellach, sydd yn ei sedd heddiw, yw bwrw ymlaen â rhaglen gyflogadwyedd a rhaglen brentisiaeth i bobl o bob oed a fydd yn darparu sgiliau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol ac nad ydynt ar gael, o bosibl, yn y gweithlu ar hyn o bryd. Bydd hynny'n parhau i fod yr un mor bwysig yn y Cymoedd ag ydyw mewn mannau eraill. Gall sut y byddwn yn darparu'r rhaglen honno yn y Cymoedd, wrth gwrs, fod yn wahanol, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol.

Wrth ateb y cwestiynau gan lefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma, ceisiais amlinellu bod gennym nifer o dargedau gwahanol a fydd yn ysgogi'r broses o greu 7,000 o swyddi newydd yn y Cymoedd. Byddant yn swyddi a fydd yn galw am lefelau sgiliau nad ydym yn meddu arnynt yn y boblogaeth ar hyn o bryd o bosibl, a byddwn yn sicrhau ein bod yn gallu darparu'r union sgiliau hynny ar gyfer y dyfodol.

Academi Lywodraeth Genedlaethol

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer academi lywodraeth genedlaethol? OAQ51380

Rydw i’n ystyried yr opsiynau ar gyfer symud ymlaen ar hyn fel rhan o’r cytundeb dwy flynedd ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru. Mae Academi Wales yn darparu cymorth i’r Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ym meysydd arwain, llywodraethu, gwella a newid, ac yn datblygu perthynas tymor hir gyda sefydliadau academaidd allweddol.

Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, rydw i'n credu, mae'r Athro Gerry Holtham wedi bod yn hyrwyddo'r syniad, ers rhai blynyddoedd, fod yna gyfle fan hyn i Gymru ddatblygu canolfan a fyddai'n rhagori'n fyd-eang, o bosib. Hynny yw, creu école nationale, yng ngeiriau'r Athro Holtham, ar gyfer arweinwyr a rheolwyr o fewn y sector cyhoeddus.

Mae lot o bethau rydych chi'n gallu eu dweud am yr Athro Holtham, ond nid yw diffyg uchelgais yn un ohonyn nhw. Ond, pam lai? Pam na allwn ni, a dweud y gwir, nid yn unig ddiwallu ein hanghenion ein hunain trwy greu cenhedlaeth newydd o arweinwyr a rheolwyr yn y sector cyhoeddus, ond hefyd creu canolfan a fydd yn ennill ei bri ar lefel fyd-eang?  

Rydw i'n falch iawn i ddweud bod Academi Wales wedi bod yn datblygu llu o berthnasau gwahanol gyda sefydliadau ac academyddion mewn sefydliadau gwahanol ar draws Cymru a thu hwnt i'n ffiniau ni. Rydw i yn ymwybodol o safbwynt Gerry Holtham, ac nid wyf i'n anghytuno ag e. Rydw i'n gwybod bod hyn yn rhywbeth yr ydych chi wedi bod yn ei bwysleisio ers rhai blynyddoedd. Rydw i'n hapus iawn i barhau â'r drafodaeth gyda chi i edrych ar beth a sut rŷm ni'n gallu symud ymlaen a chydweithio gydag Academi Wales i weld a yw hynny'n bosibl ar gyfer y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym eisiau arweinwyr o ansawdd uchel yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, mae arnaf ofn fy mod yn credu bod ysgol i fiwrocratiaid yn rhywbeth cwbl ddiangen. Mae gennym eisoes rai ysgolion arweinyddiaeth rhagorol yn ein prifysgolion o ansawdd uchel yma yng Nghymru, a chredaf y dylem fanteisio ar y cyfleoedd y maent yn eu cynnig. A gaf fi ofyn pa fath o gyllideb rydych wedi'i dyrannu ar gyfer y prosiect penodol hwn yn eich portffolio a gofyn i chi oni fuasai'n well gwario hwnnw ar fuddsoddi mewn ffyrdd eraill a dweud y gwir?

14:50

Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom yn ddigon hael i weld a gwerthfawrogi'r hyn y mae eraill yn ceisio ei gyflawni, ac rwy'n credu bod chwilio am benawdau tabloid yn tanseilio'r uchelgais hwnnw yn ôl pob tebyg. Rwy'n gobeithio y bydd Darren Millar yn myfyrio ar ei gyfraniad i'r cwestiwn hwn, ac y bydd yn myfyrio hefyd ar yr uchelgais a rennir gan bawb ohonom, sef cael yr arweinyddiaeth orau sy'n bosibl ar draws pob un o'n gwasanaethau cyhoeddus. Credaf fod hwnnw'n rhywbeth y dylai pawb fod eisiau buddsoddi ynddo mewn gwirionedd.

'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni Ein Cymoedd, Ein dyfodol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51349

Mae cynllun cyflawni’r Cymoedd yn cynnwys y Cymoedd yn etholaeth Gorllewin De Cymru, fel cwm Dulais a chwm Llynfi. Mae’n dangos sut bydd blaenoriaethau’r tasglu’n cael eu cyflawni, pwy fydd yn cymryd rhan, y manteision rydym ni’n disgwyl eu gweld a’r amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, rydym ni i gyd eisiau gweld y broses o adfywio'r Cymoedd yn llwyddo, ond prin fod cynigion datblygu eiddo preswyl yng ngogledd Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, yn weledigaethau arloesol ar gyfer y dyfodol, ac yna ceir ardaloedd, megis cwm Tawe, nad ydynt yn debygol o elwa llawer iawn o gwbl, fel y mae'r cynllun ar hyn o bryd. Yn ei hanfod, mae llawer yn credu, fel y clywsom, fod y cynllun cyflawni angen mwy o waith a chraffu. Felly, pryd y bydd y Cynulliad cyfan yn cael cyfle i graffu'n fanwl ar y cynllun cyflawni?

Rwy'n synnu braidd at y cwestiwn gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru. Mae wedi bod yn Aelod hirdymor yn y lle hwn, a gŵyr mai gwaith craffu yw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Rwy'n synnu nad yw'n cydnabod hynny. Gall graffu arnaf yn ystod y cwestiynau ac mewn pwyllgorau, pan fo'n dewis gwneud hynny. Rwy'n mynychu pob pwyllgor pan gaf wahoddiad i wneud hynny. Rwyf am ddweud wrtho fod angen iddo edrych yn fanylach efallai ar y rhanbarth y mae'n ei gynrychioli. Roeddwn ym Manwen ychydig wythnosau'n ôl, yn siarad ag aelodau o'r gymuned yno, ac roeddent yn cymryd rhan lawn yn y broses o lunio'r math o welliannau y maent eisiau eu gweld yn eu cymuned. Buaswn yn awgrymu bod yr Aelod yn treulio rhywfaint o amser gyda hwy.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi eich llongyfarch ar eich dyrchafiad o'r meinciau canol i'r fainc flaen unwaith eto? Ond hefyd, roeddech yn sôn am dasglu'r Cymoedd, ac rydych wedi tynnu sylw at ddau hyb, mewn gwirionedd. Rydych wedi cynnwys hyb Castell-nedd ac rydych newydd gynnwys un cwm Llynfi yn awr. Wrth gwrs, mae cwm Afan rhwng y ddau—

A'r Rhondda. Diolch.

Mae llawer ohonom ei eisiau yn ein Cymoedd ein hunain mewn gwirionedd, ond y cwestiwn sy'n codi yw sut rydych yn sicrhau eich bod yn ymgysylltu â'r Cymoedd hynny nad ydych wedi'u nodi fel rhai a fydd yn cynnwys hybiau ac nad ydynt yn yr ardaloedd penodol hynny, er mwyn sicrhau bod y cymunedau difreintiedig hynny—ac maent yn gymunedau difreintiedig—yn gallu elwa o'r hybiau hyn ac y gallwn weld cynnydd ar draws y Cymoedd ac nid yn y rhai lle mae'r hybiau wedi'u lleoli yn unig. Ac mae croeso i chi ddod i Gymer unrhyw bryd, a Chroeserw, i weld â'ch llygaid eich hun.

Roedd y cyfarfod a gynhaliwyd yn yr ardal honno, rwy'n credu, yn gyfarfod bywiog lle y mynegwyd llawer o'r safbwyntiau hynny. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus ledled rhanbarth y Cymoedd, i sicrhau ein bod yn gallu gwrando a bwrw ymlaen ar sail yr hyn rydym yn ei glywed. Un o'r pethau rydym wedi'i ganfod yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf o ymgysylltu cyhoeddus, fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, yw bod hwn yn gynllun sy'n deillio o'r Cymoedd ac nid yn unig ar gyfer y Cymoedd. Mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei gynllunio ar gyfer pobl yn y Cymoedd, ar hyd a lled y Cymoedd.

Ond ar yr un pryd, mae angen i ni wneud penderfyniadau strategol, ac nid yw'n bosibl cael hyb strategol ym mhob cwm, ym mhob etholaeth, ym mhob tref a phentref ar draws rhanbarth y Cymoedd. Dyna'r peth diwethaf rydym ei angen ar hyn o bryd. Rydym angen gweledigaethau strategol a beiddgar. Rydym angen cyflawni, rydym angen buddsoddiadau ac rydym angen dod â phobl at ei gilydd. Mae'r Llywodraeth hon angen gweithredu fel arweinydd ac fel catalydd, a bydd y Llywodraeth hon yn sicr o wneud hynny.

A gaf fi eich llongyfarch hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet?

Roeddwn ychydig yn fwy cynhyrfus o weld bod cwm Llynfi yn cael ei gynnwys yn eich cynlluniau. Ond rwy'n tybio eich bod eisoes wedi siarad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynglŷn â pha ddisgwyliadau fydd gennych ohonynt, nid yn unig o ran yr hyn y byddant yn ei wneud, ond beth fydd canlyniadau hyn. Clywais yr hyn a ddywedasoch wrth Dai Lloyd ynglŷn â'r ffaith bod elfen o gydgynhyrchu yn y broses o gynllunio hyn, ond nid wyf yn credu ein bod wedi gweld hynny eto. Rwy'n meddwl tybed a allech ddweud wrthym pwy fydd yn bennaf gyfrifol am ddarparu cynlluniau gweithredu lleol fel ein bod yn gwybod lle i gyfeirio ein gwaith craffu y tu allan i'r Siambr hon?

14:55

Wel, gadewch i mi ddweud mai fi sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun yn ei gyfanrwydd, a gallwch graffu ar fy ngwaith ar hynny. Ond gadewch i mi ddweud bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gyflym iawn i ddweud wrthyf beth y maent yn ei ddisgwyl gennyf hefyd. Nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud yn gymaint â fi'n dweud beth roeddwn ei eisiau ganddynt hwy; roeddent yn sicr yn awyddus iawn i ddweud wrthyf beth roeddent yn ei ddisgwyl gennyf fi, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Ogwr, a hwylusodd lawer o'r sgyrsiau hynny ac a hwylusodd y cyfarfodydd a gawsom i drafod y materion hynny. Cawsom gyfarfod cyhoeddus llwyddiannus iawn ym Maesteg, lle cawsom sgwrs hir â phobl o'r cymoedd hynny ynglŷn â sut rydym eisiau gweld yr hyb strategol yng ngogledd Pen-y-bont ar Ogwr yn datblygu yn y dyfodol. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n parhau i graffu ar y modd rwy'n cyflawni prosiect a chynllun tasglu'r Cymoedd. Gallaf weld bod diddordeb mawr yn y mater hwnnw y prynhawn yma. Roeddem wedi gobeithio cynnal dadl ar y mater hwn yn amser y Llywodraeth yn gynharach yn y mis, wrth gwrs, ac efallai y bydd hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei aildrefnu ar gyfer y flwyddyn newydd.

Effaith Awtomeiddio

5. Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o effaith awtomateiddio ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus? OAQ51365

Mae yna gyfleoedd sylweddol i dechnoleg ddigidol gefnogi'r broses o drawsnewid gwasanaethau yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dylid rhoi ystyriaeth i gynnwys atebion digidol neu awtomataidd wrth ddatblygu polisïau neu wasanaethau newydd.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac a gaf fi eich croesawu i'ch rôl newydd? Mae adroddiad diweddaraf Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd traean o swyddi yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan awtomatiaeth, ond a fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad yw awtomatiaeth yn rhywbeth y dylem geisio ei atal; mae'n rhywbeth y dylem geisio ei harneisio? Mae'r datblygiadau hyn mewn technoleg yn cynnig cyfleoedd i arloesi yn y sector cyhoeddus a gwella'r modd y darparir gwasanaethau, gan ryddhau pobl o orfod gwneud tasgau cyffredin i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell. Ond wrth gwrs, mae yna gwmnïau sector preifat sy'n ceisio ei bedlera fel ffordd o gael gwared ar swyddi. Felly, er mwyn rhwystro cynghorau sydd o dan bwysau rhag mabwysiadu dull ad hoc o weithredu, a fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen dull strategol? Ac a wnaiff ymrwymo i gynnal adolygiad o sut y gellir cynorthwyo awdurdodau lleol i ddefnyddio awtomatiaeth ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau eu bod yn barod i wynebu'r heriau sydd o'u blaenau?

A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod yn hapus iawn i wneud hynny? Rwy'n hapus iawn i edrych ar sut y gall ein gwasanaethau cyhoeddus gyflawni trwy gyfrwng technoleg ddigidol a sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny. Buaswn yn hapus iawn i barhau â'r sgwrs gyda'r Aelod os oes ganddo syniadau ynglŷn â sut y gellid cyflawni hynny. Gwn ei fod wedi cyfweld yr Ysgrifennydd Parhaol ar y mater hwn yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fis diwethaf, a gobeithiaf ei bod wedi llwyddo i'w sicrhau, gyda phrif swyddog digidol Llywodraeth Cymru, Caren Fullerton, fod gan Lywodraeth Cymru gynllun cyflawni ar y mater hwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn rhan o'n cylch gwaith. Ond yn amlwg, os yw awdurdodau lleol a—. Bydd awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt, ac os yw'r Aelod yn dymuno parhau â'r sgwrs ar y mater hwnnw, buaswn yn hapus iawn i wneud hynny gyda'r Aelod dan sylw.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg y bydd awtomatiaeth yn ymestyn i'r dosbarthiadau proffesiynol yn ogystal, megis meddygon a llawer o bobl sy'n gweithio yn y sector iechyd, ond eraill hefyd sy'n rhoi cyngor proffesiynol, a chyngor drwy awdurdodau lleol a'r sector dinesig yn gyffredinol. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw y bydd llawer o hyn yn cynnig ffordd wych o ategu'r gwasanaethau hynny, gan ganiatáu i bobl gael mwy o amser gyda'r gweithwyr proffesiynol y maent yn rhyngwynebu â hwy yn y bôn, a bod y gweithwyr proffesiynol hynny'n gallu rhoi'r wybodaeth—y wybodaeth ddiagnostig, er enghraifft—y maent yn ei chael o ddeallusrwydd artiffisial mewn cyd-destun, ac yna'r gwaith dilynol a sicrhau mai llesiant yr unigolyn hwnnw sy'n dod gyntaf ym mha wasanaeth bynnag y maent yn ei gael. Felly, nid wyf yn siŵr y bydd yn dinistrio rhagolygon swyddi i bawb, ond bydd angen protocolau newydd a hyfforddiant gofalus iawn o ran sut i ddefnyddio'r dechnoleg newydd hon, ac os ydym eisiau gwasanaethau cyhoeddus effeithlon, mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn ohono.

Rwy'n cytuno'n llwyr â sylwadau'r Aelod. Rwyf am ddweud fy mod yn gweld cyfleoedd digidol fel ffordd o ymestyn, dyfnhau ac ehangu'r cyfleoedd sydd gennym i wasanaethu'r cyhoedd ac i alluogi'r cyhoedd i gael mynediad at wasanaethau'n haws nag sy'n bosibl ar hyn o bryd. Buaswn yn annog yr holl ddarparwyr gwasanaethau i edrych ar sut y gallant ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gadarnhaol a rhagweithiol er mwyn sicrhau ein bod yn ehangu'r gwasanaethau digidol sydd ar gael ar hyn o bryd, ond ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n eithrio'r rhai nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau o'r fath.

15:00
Cefnogi'r Lluoedd Arfog

6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog a'u teuluoedd yng Nghymru? OAQ51358

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru? OAQ51351

Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 6 a 7 gael eu grwpio. Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau effeithiol sy'n diwallu anghenion teuluoedd aelodau o'r lluoedd arfog mewn meysydd megis iechyd, tai a chyflogaeth. Enghreifftiau o'r rhain yw'r llwybr tai, GIG Cymru i Gyn-filwyr a datblygiad llwybr cyflogaeth ar gyfer personél sy'n gadael y lluoedd arfog, yn ogystal â chyn-filwyr.

Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ymuno ag eraill i'ch llongyfarch ar eich rôl newydd. Yn ddiweddar, cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wobr aur gan y Weinyddiaeth Amddiffyn am ei ymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog. Dyna'r cyngor cyntaf a'r unig gyngor yng Nghymru i wneud hynny hyd yma. A wnewch chi longyfarch Rhondda Cynon Taf, a sut y byddwch yn hyrwyddo'r arfer gorau hwn ledled Cymru?

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei sylwadau caredig, ac rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom yn ymuno â chi i longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar eu gwobr. Gwn ei bod yn wobr uchel ei bri, sy'n cydnabod y cymorth rhagorol y mae'r cyngor wedi'i roi i gymuned ein lluoedd arfog. Rwy'n siŵr fod pawb yn falch iawn o'r gwaith y mae Rhondda Cynon Taf yn ei wneud, ac rwy'n siŵr y buasem yn dymuno eu llongyfarch.

O ran hyrwyddo arferion gorau, rwy'n gobeithio y buasai'r sgwrs a gawsom yn ystod y ddadl ar ein lluoedd arfog yr wythnos diwethaf yn ffordd o sicrhau'r math hwnnw o arfer gorau ar hyd a lled Cymru gyfan. Mae gennym strategaeth a rhaglen ar gyfer gwneud hyn, a byddaf yn siarad â fy swyddogion i sicrhau bod yr arferion gorau rydym wedi'u gweld yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu cynnwys yn hynny, a bod ardaloedd eraill ar draws y wlad yn cael cyfle i rannu'r arferion gorau hyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r argymhellion yn yr adroddiad a drafodasom yr wythnos diwethaf oedd yr awgrym y dylai Cymru gael comisiynydd y lluoedd arfog er mwyn nodi'r math o arferion gorau y mae Vikki Howells newydd gyfeirio atynt, ac i sicrhau eu bod yn cael eu rhannu'n eang ledled y wlad, a bod pobl yn cael eu dwyn i gyfrif am eu cyflawni yn erbyn cyfamod y lluoedd arfog. Hoffwn gael gwybod a yw hyn yn rhywbeth y byddwch chi, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am y lluoedd arfog, yn ystyried ei roi ar waith yma yng Nghymru. Rwy'n credu y buasai'n rhoi rhywfaint o hyder i gymuned y cyn-filwyr a theulu ein lluoedd arfog yma yng Nghymru ynghylch ymrwymiad parhaus eich Llywodraeth i'r lluoedd arfog.

Lywydd, mewn ymateb i'r ddadl yr wythnos ddiwethaf, rhoddais addewid y buaswn yn ystyried pob un o argymhellion y grŵp trawsbleidiol gyda meddwl agored. Rwy'n ailadrodd yr ymrwymiad hwnnw y prynhawn yma. Rwyf wedi cytuno hefyd i fynychu cyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, ac rwy'n ailadrodd fy ymrwymiad i wneud hynny, ac i barhau â'r sgwrs a ddechreuasom yr wythnos diwethaf ar sut y gallwn barhau i gefnogi cymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr yn y wlad hon.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi hefyd eich croesawu i'ch rôl? Mawr yw ein diolch i'r lluoedd arfog. Y ffordd orau o ad-dalu'r ddyled yw sicrhau ein bod yn edrych ar eu hôl hwy a'u teuluoedd. Efallai y bydd aelodau o'r lluoedd arfog angen help ychwanegol gyda chynhyrchion ariannol oherwydd eu bod yn gorfod adleoli'n aml. Mae'n bosibl y bydd teuluoedd y personél hyn angen gofal a chymorth iechyd meddwl ychwanegol. Mae'n bosibl y bydd plant aelodau o'r lluoedd arfog angen cymorth ychwanegol oherwydd diffyg parhad o ganlyniad i newid ysgol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych yn bwriadu atgyfnerthu cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru, i sicrhau ein bod yn cefnogi ein lluoedd arfog ym mhob ffordd bosibl, a bod ganddynt hwy a'u teuluoedd fynediad blaenoriaethol at wasanaethau cyhoeddus?

Mae cyflawni'r cyfamod yn rhywbeth rwyf wedi'i drafod yr wythnos diwethaf, ac rwy'n hapus i ailadrodd y pwyntiau a wneuthum yr wythnos diwethaf. Nid yw'r cyfamod yn cael ei gyflawni'n syml drwy araith neu ddangos ewyllys da neu drwy ddadl. Caiff ei gyflawni gan weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a'r gymuned gyfan ddydd ar ôl dydd. Rydym yn sicrhau ein bod yn monitro cyflawniad ein hymrwymiadau i gyd—yr ymrwymiadau rydym wedi'u gwneud yn y maes hwn—a byddwn yn parhau i'w monitro a sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r union wasanaethau a amlinellwyd gan yr Aelod ddydd ar ôl dydd.

Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl yr wythnos ddiwethaf. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am waith y grŵp trawsbleidiol, sy'n craffu ar waith y Llywodraeth mewn ffordd anffurfiol ar y mater hwn ond sydd hefyd yn ceisio nodi pob maes lle y ceir cred neu farn fod angen i'r Llywodraeth wella'r modd y mae'n darparu gwasanaeth a bod ganddi fwy o waith i'w wneud. Yr wythnos diwethaf, derbyniais y buaswn yn edrych ar bob un o argymhellion adroddiad y grŵp trawsbleidiol gyda meddwl agored. Rwyf eisoes wedi ailadrodd yr ymrwymiad hwnnw y prynhawn yma, a byddaf yn mynychu cyfarfod arall o'r grŵp hwnnw er mwyn parhau â'r sgwrs hon.

15:05

Ysgrifennydd y Cabinet, mae un o'r pethau sy'n peri pryder i mi ynglŷn â'r cymorth rydym yn ei roi yn ymwneud â gofal preswyl. Mae gennyf gyn-aelod o'r lluoedd arfog yn fy etholaeth sydd wedi gwasanaethu droeon yng Ngogledd Iwerddon a rhannau amrywiol o'r byd ac mae'n dioddef gryn dipyn o straen wedi trawma, ond nid yw wedi llwyddo i ddod o hyd i'r lle gofal preswyl y mae ei angen yn lleol, ac nid yw ond wedi cael cynnig lleoedd yn swydd Amwythig a'r Alban, ac unwaith eto, nid yw'r rheini wedi eu hariannu mewn gwirionedd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a yw'n bosibl adolygu'r ddarpariaeth er mwyn sicrhau bod pob cyn-aelod o'r lluoedd arfog sydd angen cymorth preswyl yn gallu ei gael, mewn gwirionedd, a'i gael pan fyddant ei angen yn lleol, neu fod yna ryw fath o fecanwaith cyllido i'w gefnogi yn rhywle arall os nad yw ar gael yn lleol.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da a phwysig iawn. Mae'n bwynt a wnaed hefyd gan yr Aelod dros Gwm Cynon. Rwy'n derbyn y pwynt y mae'n ei wneud. Mae ymchwil cyfredol yn cyfeirio at driniaeth yn y gymuned, yn agos at gartref a chymuned yr unigolyn, fel y driniaeth fwyaf effeithiol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gynharach y mis hwn wedi cyhoeddi £100,000 ychwanegol o gyllid rheolaidd ar ben y swm o bron i £600,000 y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu bob blwyddyn i ariannu GIG Cymru i Gyn-filwyr. Mae hwn yn darparu cymorth a gofal ychwanegol i gyn-filwyr, gyda therapyddion penodedig ar gyfer cyn-filwyr wedi'u lleoli ym mhob ardal bwrdd iechyd. Maent yn cynnig amrywiaeth o therapïau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl cyffredin i wella iechyd meddwl a llesiant cyn-filwyr yng Nghymru. Os yw'r Aelod yn pryderu nad yw'r gwasanaeth yn cyflawni ar gyfer yr etholwr y mae'n cyfeirio ato ar hyn o bryd, yna buaswn yn ddiolchgar pe bai'n gallu ysgrifennu ataf a buaswn yn hapus i fwrw ymlaen â'r mater hwnnw.

Rwyf finnau hefyd yn llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei swydd newydd. Y peth yw, yn y ddadl yr wythnos diwethaf buom yn sôn am anhwylder straen wedi trawma ymysg cyn-filwyr, a hefyd rydych newydd grybwyll fod problemau iechyd meddwl yn eithaf cyffredin ymysg cyn-filwyr y lluoedd arfog. Mae'n rhaid i ni edrych ar eu hôl. Gwn nad ydych wedi cau'r drws ar y syniad o greu comisiynydd y lluoedd arfog yng Nghymru i gydlynu a darparu'r cymorth y maent ei angen gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Felly, a gaf fi ofyn i chi ymrwymo i wneud datganiad ar y mater hwn yn gynnar yn y flwyddyn newydd, os gwelwch yn dda?

Lywydd, rwyf wedi addo y byddaf yn trafod y mater hwn gyda'r grŵp trawsbleidiol, a byddaf yn sicr yn gwneud datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl i mi gael cyfle i gael y trafodaethau hynny gyda'r grŵp.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno â mi nad oedd hyrwyddwr gwell ar ran ein lluoedd arfog yn y Senedd hon na Carl Sargeant? Yn y Siambr hon y llynedd, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, amlinellodd Carl gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi ein lluoedd arfog a'n cyn-filwyr, megis y llwybr atgyfeirio tai arloesol i sicrhau bod cyn-aelodau o'r lluoedd arfog yn cael cymorth i ddod o hyd i lety addas ac osgoi digartrefedd—canlyniad trychinebus i fod yn aelod o'r lluoedd arfog. Mae Cadw'n Ddiogel Cymru ar gyfer cyn-filwyr yn fenter greadigol hynod o werthfawr sy'n caniatáu i gyn-filwyr sydd ag anghenion iechyd penodol gael cymorth ychwanegol gan y gwasanaethau brys ar adegau o argyfwng. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau gweithredu, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adeiladu ar waith angerddol Carl yn y maes hwn, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i roi gwerth ar ein dyletswydd barhaus o ofal i'r rheini sydd wedi rhoi popeth—ein cyn-filwyr a'u teuluoedd—a pharhau i chwarae ein rhan yn ad-dalu ein dyled iddynt a'n dyletswydd tuag atynt?

Lywydd, rwy'n credu bod Aelodau ar draws y Siambr gyfan wedi talu teyrnged i waith Carl Sergeant yn ystod ein dadl yr wythnos ddiwethaf, ac roeddwn yn sicr yn falch iawn o ychwanegu fy llais at y teyrngedau hynny. Carl, mewn llawer o ffyrdd, a arweiniodd waith y Llywodraeth gyfan yn y maes hwn, ac mae'r ffaith bod Cymru'n cael ei chydnabod fel y wlad sydd ar y blaen yn y Deyrnas Unedig mewn perthynas â darparu cymorth i gyn-filwyr a theuluoedd a chymuned y lluoedd arfog yn tystio i'r gwaith a wnaed o dan arweiniad Carl.

Rwyf am ddweud wrth yr Aelod y byddwn yn parhau i weithio gyda'r grŵp arbenigol a sefydlwyd i sicrhau ein bod yn gallu ymateb i'r holl faterion sy'n cael eu codi gan gymuned y lluoedd arfog yn y wlad hon, boed yn faterion iechyd a godwyd y prynhawn yma neu faterion tai neu faterion cyflogaeth a godwyd ar adegau eraill. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid allweddol ar draws y gymuned ac ar draws y gwasanaethau cyhoeddus gyda swyddogion cyswllt y lluoedd arfog sydd newydd eu penodi. Byddwn yn sicrhau ein bod yn cyflawni cyfamod y lluoedd arfog yn gyson, ar draws y wlad, drwy gydol y flwyddyn.

15:10
3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, a'r cwestiwn cyntaf—Russell George. 

Deuoli'r A465

1. O ystyried y cyhoeddwyd gorwariant o 23 y cant ar y prosiect i ddeuoli'r A465 rhwng y Fenni a Hirwaun, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau o ble y daw'r adnoddau ychwanegol i gyllido hyn? 73

Caiff y cynnydd yn y gwariant ei rannu dros dair blynedd ariannol rhwng yn awr a diwedd y gwaith adeiladu. Bydd proffiliau cyllidebau'r dyfodol yn adlewyrchu'r cynnydd hwn.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Rydym wedi clywed gan fusnesau, wrth gwrs, a fydd yn wynebu anawsterau ariannol oherwydd oedi. Mae yna rwystredigaethau ac anghyfleustra amlwg i breswylwyr. A gaf fi ofyn: pryd y daethoch yn ymwybodol y buasai'r prosiect yn debygol o wynebu gorwariant? Pa ddarpariaethau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i dalu am orwariant posibl y cynllun? Hefyd, os yw Llywodraeth Cymru yn atebol am gyfran o gyfanswm cost y gorwariant, beth yw'r gyfran honno? Os nad ydych yn gwybod beth yw'r ffigur hwnnw, a gaf fi ofyn pam nad ydych yn gwybod? Sut y cytunwyd ar gytundeb caffael ar gyfer prosiect o'r maint hwn heb i'ch Llywodraeth amddiffyn trethdalwyr rhag gorwariant nad ydynt yn gyfrifol amdano, os yw hynny'n wir? Yn ogystal, rwyf eisiau gofyn pa gyngor technegol annibynnol y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano mewn perthynas â llawer o'r heriau cymhleth sy'n gysylltiedig â'r cynllun hwn, ac yn bwysig, cyn i'r fanyleb dendro gael ei llunio.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwyf eisoes wedi dweud wrth Aelodau y buaswn yn falch o weld unrhyw fusnesau, neu yn wir unigolion neu bobl hunangyflogedig, sy'n dioddef o ganlyniad i'r gwaith ar y ffordd benodol hon yn cael eu hatgyfeirio at y Llywodraeth fel y gallwn eu cynorthwyo.

Yr eiliad y cefais wybod am y problemau costio wrth gyflawni'r cynllun eithriadol o uchelgeisiol hwn, gallaf ddweud fy mod wedi galw am adolygiad masnachol cynhwysfawr ar unwaith, ac mae hwnnw bellach wedi cyflwyno ei adroddiad. Gallaf gadarnhau hefyd fod swyddogion wedi cael cyngor arbenigol, masnachol a chyfreithiol ar y materion hyn, ac mae datrys a thrafod materion o'r fath yn broses gyfrinachol a sensitif yn fasnachol. Ond mae'r cytundeb yn gwbl glir: mae'r contractwr yn agored i lefel uwch o risg ariannol o ganlyniad i'r gorwariant na Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Dylai'r ffaith eu bod yn agored i risg ariannol eu cymell i leihau eu lefel o risg.

Rwyf am amlinellu'r broses o lunio ein cytundeb gyda Costain. Mae hwn yn brosiect peirianyddol ac adeiladu sylweddol iawn, ond nid wyf yn credu y gallaf guddio fy siom ynglŷn â gorwariant y contractwr a'r oedi sydd wedi bod ar y rhaglen. Defnyddiwyd proses ymwneud cynnar gan gontractwr yn ogystal â safonau, telerau ac amodau'r diwydiant er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn agored i gyn lleied o risg â phosibl. Nod y dull o ymwneud cynnar gan gontractwr yw cyflwyno arbenigedd contractwr ar adeiladwyedd, gallu i arloesi a dull o reoli risg yn effeithiol yn gynnar iawn er mwyn dylanwadu ar ddatblygiad y cynllun.

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod cynllun cymhleth fel adran 2 o'r prosiect hwn yn addas iawn mewn theori i gytundeb ymwneud cynnar gan gontractwr. Ond roedd yna hefyd bwynt oedi yn y cytundeb rhwng rhannau 1 a 2, a oedd yn galluogi naill ai Llywodraeth Cymru neu'r contractwr i derfynu'r contract heb gosb. Roedd hyn yn galluogi Costain i beidio ag ymrwymo i gytundeb adeiladu heb gosb pe baent wedi teimlo, ar sail yr holl wybodaeth a oedd ganddynt, na fuasai eu cost alldro amcanol yn realistig. Wedi dweud hynny, penderfynodd Costain fwrw ymlaen beth bynnag, ac rwy'n benderfynol y byddwn yn gwneud popeth a allwn i amddiffyn trethdalwyr rhag y costau ychwanegol, ac rydym yn asesu'r rheini ar hyn o bryd.

Rwy'n credu ei bod yn werth dweud ein bod yn fodlon ein bod wedi arfer y lefel briodol o reolaeth a goruchwyliaeth ar y prosiect hwn. Mae'r gwaith adeiladu eisoes wedi symud 2 filiwn tunnell o ddaear a chraig, adeiladu 2.5 cilometr o wal, cwblhau 44 o ddargyfeiriadau gwasanaeth, gosod dros 6,000 o hoelion pridd a phlannu 4,000 o goed. Ac er eu bod yn sylweddol, mae angen cydbwyso'r effeithiau tymor byr hyn yn erbyn manteision mwy hirdymor y prosiect anhygoel hwn. Buaswn hefyd yn annog yr Aelodau i fynychu'r arddangosfeydd cyhoeddus a ddechreuodd ar 27 Tachwedd, ac i gymryd rhan mewn teithiau safle, lle y gellir holi mwy o gwestiynau a lle y cânt eu hateb.

15:15

Ysgrifennydd y Cabinet, ni fuasai neb yn anghytuno bod hwn yn brosiect peirianyddol heriol iawn ac y bydd yn ffordd dda iawn pan fydd wedi cael ei chwblhau, ond serch hynny, mae yna bryderon ledled Cymru ac yn y Siambr hon, ond yn sicr yn lleol gyda'r trigolion lleol rwyf wedi cyfarfod â hwy, a chredaf y buasai rhai o'u pryderon wedi cael eu cadarnhau gan y datgeliad diweddar ynglŷn â'r gorwariant o 23 y cant. Ers tro byd bellach, rwyf wedi cael cwynion am Costain, y contractwyr, yn gweithredu mewn amgylchedd rheoleiddio ariannol mwy llac nag y buasai trigolion lleol yn ei ystyried yn addas. Felly, rwy'n credu os gallech edrych eto ar hyn a'ch trefniadau ar gyfer Costain—. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch—eu bod yn fwy agored i ysgwyddo mwy o'r risg na Llywodraeth Cymru, ac mae hynny i'w groesawu os yw'n wir, ond ar hyn o bryd, yn sicr yn yr ardal leol, mae yna bryderon go iawn ei bod yn ymddangos nad oes yna afael tynn ar gyllid y prosiect hwn, nac yn wir, ar y terfynau amser ar gyfer cwblhau'r prosiect y buasai pawb ohonom yn hoffi eu gweld. Felly, os gallwch adolygu hynny, buasai'n cael ei werthfawrogi'n fawr.

Buaswn yn cytuno gyda'r Aelod. Rwyf eisoes wedi gofyn i swyddogion gynnal dadansoddiad o'r gwersi a ddysgwyd. Rwy'n credu bod yr alwad am reolaethau rheoleiddio tynnach dros gostau'r prosiect hwn yn deg. A hefyd buaswn yn cytuno gyda'r Aelod fod hon yn ffordd arbennig o wych; yn wir, bydd ganddi'r bwa concrit mwyaf o'i fath mewn unrhyw le ar y blaned. Bydd yn brosiect y gallwn fod yn falch ohono. Rwy'n cydymdeimlo â'r holl bobl sy'n dioddef o ganlyniad i'r oedi, ond bydd yn brosiect adeiladu mawr y bydd Cymru yn falch ohono.

Mae'n ymddangos bod y diddordeb yn y cynllun penodol hwn yn dod o'r meinciau hyn, o ystyried mai dyma'r gwariant cyfalaf mwyaf sydd gan yr adran ar hyn o bryd, ac mae'r gorwariant o fwy na £50 miliwn yn rhywbeth sy'n rhaid ei reoli. Rwy'n croesawu cyfraniad y Gweinidog heddiw, ac mae'n drist na roddodd ddatganiad llafar pan ddaeth hon yn broblem gyntaf. Buaswn yn gofyn i'r Gweinidog a fuasai'n gallu cadarnhau ei fod yn hyderus y bydd yn rhaid i ba gyfran bynnag o'r gorwariant gael ei dalu gan ei adran—ac mae wedi dweud y bydd yn cael ei rannu dros dair blynedd—y bydd arian ychwanegol yn dod o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru yn hytrach na bod cyllidebau cyfredol yn cael eu gwagio i wneud iawn am y gorwariant hwn, oherwydd mae prosiectau eraill ledled Cymru—ac rwy'n edrych ar fy ardal i, Canol De Cymru, sy'n cael ymgynghoriad ar hyn o bryd ynglŷn â gwella cysylltiadau â'r M4, yn ogystal â chynigion yn ymwneud â ffordd osgoi Dinas Powys—os oes rhaid gwario miliynau lawer o bunnoedd er mwyn cwblhau'r ffordd, gallai fod amheuaeth ynghylch prosiectau o'r fath.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac atgoffa Aelodau unwaith eto y bydd yr ymrwymiad enfawr hwn yn agor Blaenau'r Cymoedd ar gyfer datblygiad economaidd a ffyniant pellach? Ein bwriad, yn gyntaf oll, yw lleihau'r risg i Lywodraeth Cymru ac felly i drethdalwyr o ganlyniad i'r costau gormodol, ond pan fydd lefel atebolrwydd Llywodraeth Cymru wedi'i chadarnhau, bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud wedyn mewn perthynas â'r ffordd orau i ariannu unrhyw ddiffyg, gan gydnabod beth fydd costau cyfle'r cynnydd hwn. Bydd proffiliau cyllidebau'r dyfodol yn adlewyrchu'r cynnydd hwn fel y gellir ystyried yr effaith fel rhan o'r gwaith parhaus o gyflawni'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol.

Effaith y llifogydd diweddar ar rwydwaith ffyrdd Ynys Môn

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith y llifogydd diweddar ar rwydwaith ffyrdd Ynys Môn? 75

Tarfwyd ar y rhwydwaith ffyrdd yn ystod y nos ar 22-23 Tachwedd oherwydd llifogydd. Rydym yn parhau i weithio'n galed ac yn buddsoddi adnoddau sylweddol i feithrin cydnerthedd y rhwydwaith ar draws gogledd Cymru.

Diolch yn fawr iawn. A gaf i, ar ran y Cynulliad, yn gyntaf anfon ein cydymdeimlad at bawb gafodd eu taro gan y llifogydd? Rwyf wedi ymweld â'r rhan fwyaf o ardaloedd gafodd eu taro erbyn hyn ac mae'n dorcalonnus gweld yr effaith ar dai, y loes mae llifogydd yn ei achosi i bobl, llawer ohonyn nhw yn fregus, a busnesau hefyd—busnesau fel Becws Glandwr yn Llangefni, yn methu â phobi am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd. Mae yna lawer o elfennau o’r llifogydd lle bydd angen gwneud cysylltiad â’r Llywodraeth a’i hasiantaethau, wrth gwrs, ar atal llifogydd—cyswllt efo Cyfoeth Naturiol Cymru ac ati—ond rwy’n falch o gael y cyfle yma i drafod yn benodol y difrod a gafodd ei achosi i'r A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares, a goblygiadau hirdymor hynny.

Rwyf eisiau llongyfarch y cyngor am ymateb yn syth. Mi fues i’n siarad efo peirianwyr ddydd Gwener, wrth iddyn nhw wneud gwaith brys er mwyn gallu trio ailagor y ffordd honno, a hynny ar ben llethr serth iawn yn syth i’r môr. Rwyf yn gobeithio y bydd modd agor un lôn o’r ddwy yn fuan, achos ar hyn o bryd nid oes yr un ffordd ar agor i bob cerbyd allu mynd i Fiwmares o gwbl. Mae’n bosib i geir ddefnyddio cefnffyrdd, ond rwyf wedi siarad â busnesau, er enghraifft, sy’n gorfod teithio efo faniau i gyfarfod loris sy’n delifro nwyddau iddyn nhw sy’n methu â chyrraedd Biwmares o gwbl oherwydd pontydd isel i mewn i’r dref.

Mae yna lawer o dirlithriadau wedi bod ar y ffordd yma yn y gorffennol, ond llithriadau i’r ffordd o uwchben oedd y rheini. Y tro yma, llithriad o’r ffordd i gyfeiriad y môr sydd wedi bod. Mae hynny’n llawer mwy difrifol achos mae’n bygwth sylfeini’r ffordd ei hun, wrth gwrs. Rwyf yn y gorffennol wedi tynnu sylw’r Llywodraeth at yr ofnau bod angen gwneud gwaith cryfhau sylweddol ar y ffordd yma er mwyn ei diogelu at y dyfodol, ac mae’r costau yn mynd i fod yn sylweddol. Felly, a gaf i apelio ar y Llywodraeth i weld pa gymorth ariannol y gellir ei roi i Gyngor Sir Ynys Môn yn gyntaf, i drwsio’r difrod a achoswyd gan y llifogydd yma—mae hynny’n debyg o fod yn £0.25 miliwn—ond hefyd i wneud y gwaith cryfhau sydd ei angen ar gyfer gwytnwch hirdymor? Ni all Biwmares a dwyrain Ynys Môn fforddio cael eu hynysu fel hyn. Heb fuddsoddiad rŵan a chymorth gan y Llywodraeth, rwy’n ofni mai dyna fydd yn digwydd yn amlach ac yn amlach yn y dyfodol.

15:20

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn blaenorol, Lywydd, ac ychwanegu fy nghydymdeimlad i'r rheini a effeithiwyd gan y llifogydd, nid yn unig y modurwyr a gafodd fwyaf o sylw yn y cyfryngau ond hefyd y nifer o fusnesau a pherchnogion cartrefi a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd diweddar?

Roedd yr Aelod yn iawn i ddweud mai cyfrifoldeb Cyngor Ynys Môn yw'r A545, ond mae fy swyddogion eisoes wedi cyfarfod â'r awdurdod lleol i drafod ffyrdd posibl o wella seilwaith y ffordd a'i gwytnwch, ac rwyf wedi bod yn gohebu â'r awdurdod lleol mewn perthynas â'r tirlithriad a gafwyd ar yr A545. Rwy'n falch o allu dweud fy mod eisoes wedi cadarnhau fy mharodrwydd i ystyried cais am gymorth ariannol i fynd i'r afael â phroblemau o'r fath, ac rwyf hefyd yn deall bod yr awdurdod lleol yn cael trafodaethau gyda Chyngor Tref Biwmares ar welliant posibl y gellid ei gyllido'n rhannol gan y cyngor tref hefyd. Gyda phob un ohonom yn gweithio gyda'n gilydd, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau mwy o ddiogelwch i bobl Biwmares, ac Ynys Môn yn wir, a sicrhau nad yw llifogydd yn y dyfodol yn effeithio ar bobl yn y ffordd y mae'r llifogydd diweddar hyn wedi'i wneud.

Honiadau o gam-drin ar Ynys Bŷr

3. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i honiadau o gam-drin ar Ynys Bŷr? 76

Mae unrhyw honiadau o gam-drin yn wirioneddol wrthun, ac ni chafodd goroeswyr yr ymateb roeddent yn ei haeddu pan roesant wybod am hyn gyntaf. Buasem yn cynghori unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin i roi gwybod i'r heddlu'n gyfrinachol am honiadau o gam-drin drwy ffonio 101 neu gysylltu â gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, neu'n wir, y Prosiect Gwirionedd ar 0800 917 1000.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich ateb. Fel chi a phawb arall yn y Siambr hon, cawsom ein harswydo a'n dychryn gan y cyhuddiadau o gam-drin gan fynach ar Ynys Bŷr a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr wythnosau diwethaf. Hyd yn hyn, mae un ar ddeg o fenywod wedi dweud eu bod wedi dioddef cam-drin gan y Tad Thaddeus Kotik pan oeddent yn blant, ac wrth gwrs mae pob un ohonynt yn dioddef canlyniadau gydol oes o ganlyniad i'r cam-drin hwnnw. Yn wir, mae un o'r menywod hynny'n honni bod ail berson wedi ei cham-drin ar yr ynys honno. Ni wyddom pwy yw'r person hwnnw na ble maent mewn gwirionedd, a gwyddom y gallai achosion eraill ddod i'r amlwg hefyd, a buaswn innau hefyd yn annog pobl i roi gwybod am eu pryderon.

Rydym hefyd yn gwybod bod honiadau o gam-drin, wrth gwrs, wedi eu dwyn i sylw'r abad yn Abaty Bŷr yn ôl ym 1990 ond ni roddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu ar y pryd, ac ers y dyddiad hwnnw, gwyddom fod troseddwr rhyw, Paul Ashton, wedi cuddio ar Ynys Bŷr am gyfnod o saith mlynedd yn ceisio osgoi cyfiawnder. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu bod yr holl beth yn drewi. Mae'n drewi o ymdrech fwriadol i guddio'r gwir am gamdriniaeth gan glerigwyr ar yr ynys honno, ynys y bydd plant ifanc yn ymweld â hi'n aml, man a ddylai fod yn ddiogel ac nad yw wedi bod yn ddiogel yn y gorffennol. Ac rwy'n credu ein bod angen atebion. Rydym angen atebion o ran pwy sy'n gwybod beth, pryd, a pham na roddodd yr abaty wybod i'r heddlu am bethau pan ddylent fod wedi gwneud hynny yn syth ar ôl cael gwybod. Rydym hefyd angen gwybod pa bryd y daeth adran gwasanaethau cymdeithasol Sir Benfro i wybod am yr honiadau hyn a pha gamau gweithredu y maent wedi'u cymryd yn y gorffennol, os o gwbl, i amddiffyn plant ifanc sy'n ymweld â'r ynys honno.

Mae hyn yn codi arswyd arnaf a chredaf y buasai'n ddoeth gofyn i chi drefnu ymchwiliad annibynnol i'r hyn a ddigwyddodd, oherwydd mae angen i ni ddysgu gwersi, ac mae angen i ni fod yn hyderus yn awr, yn arbennig o ystyried nad ydym yn gwybod pwy yw'r ail berson hwn, fod plant ifanc yn ddiogel wrth ymweld â'r ynys honno yn y dyfodol. Mae teithiau ysgol yn digwydd o hyd, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae angen i ni fod yn siŵr fod y plant hynny'n cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth.

15:25

Diolch i chi am y sylwadau ychwanegol hynny. A gaf fi ddweud, yng ngoleuni'r honiadau newydd a'r honiadau a ddaeth i'r amlwg yn ddiweddar, fod Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i'r honiadau ar hyn o bryd? O ganlyniad, rwy'n gobeithio y byddwch yn deall, Darren, nad yw'n briodol i mi wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd, oherwydd y risg o beryglu ymchwiliadau ac ymholiadau'r heddlu.

Ond bydd yr Aelodau hefyd yn nodi fod y comisiynydd plant wedi ysgrifennu at abaty Ynys Bŷr eu hunain i geisio sicrwydd, ond hefyd ei bod wedi dweud, ar hyn o bryd, ei bod yn rhy gynnar i alw am ymchwiliad, yn enwedig gan fod y manylion yn parhau i ymddangos a hefyd oherwydd bod ymchwiliad heddlu ar y gweill ar hyn o bryd. Mae'n werth nodi, fodd bynnag, yn ogystal â'r ffaith bod yr amgylchedd diogelu ar gyfer plant ac oedolion yng Nghymru wedi trawsnewid yn aruthrol, fod yna hefyd wasanaeth cyngor cenedlaethol Catholig ar ddiogelu yn bodoli. Ac fel y soniais, mae'r comisiynydd plant wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at abaty Ynys Bŷr i geisio sicrwydd eu bod yn dilyn polisi diogelu cenedlaethol yr Eglwys Gatholig—eu polisïau diogelu eu hunain yn ogystal—a'u gweithdrefnau amddiffyn plant.

Mae Darren yn llygad ei le pan ddywed ein bod angen atebion i hyn. Mae angen i ni wybod sut y digwyddodd hyn, ond mae angen i ni hefyd—mae'n ymadrodd a gaiff ei orddefnyddio'n aml—ddysgu gwersi ynglŷn â sut y gellir osgoi hyn a lleihau'r risg y gallai hyn ddigwydd eto. Rydym wedi gwneud cymaint yng Nghymru i wella ein gweithdrefnau diogelu, ond os oes gwersi i'w dysgu o hyn, i'r Eglwys Gatholig a hefyd o ran diogelu ehangach, byddwn yn sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi hynny. Ac yn hynny o beth, rwy'n deall y galwadau am yr atebion i'r cwestiynau a ofynnwyd. Ond ar hyn o bryd, mae yna ymchwiliad heddlu ar y gweill.

Weinidog, rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn a ddywedasoch wrth Darren Millar, ond mae gennyf ddau bwynt arall yr hoffwn eu gwneud. Y cyntaf yw bod Heddlu Dyfed-Powys wedi dod yn ymwybodol o'r honiadau hyn yn 2014 ac eto yn 2016. Y rheswm na wnaethant erlyn oedd oherwydd eu bod yn dweud nad oedd llawer o bwynt gan fod y mynach dan sylw wedi marw. Fodd bynnag, dylai rhyw fath o ymchwiliad fod wedi cael ei gynnal, oherwydd sut y gwyddent mai ef oedd yr unig un? Sut y gwyddent nad oedd ganddo gynllwynwyr a oedd yn cuddio pethau? Sut y gwyddent na fyddai plant eraill yn cael eu rhoi mewn perygl? Nid wyf yn hapus iawn gyda chamau gweithredu Heddlu Dyfed-Powys ar y mater hwn, a buaswn yn hoffi gofyn i chi, fel Gweinidog, i ysgrifennu atynt yn y modd cryfaf posibl fel eu bod yn ymchwilio i'r modd y gwnaethant weithredu ac i weld a roddwyd y camau priodol ar waith ganddynt ar y pryd ai peidio, oherwydd credaf fod eu perfformiad yn is na'r safon ar y mater hwn. Dylent fod wedi edrych ar y mater a gwneud rhywbeth mwy na dweud, 'Wel, ta waeth, mae'r dyn wedi marw, mae'n amherthnasol.' Ac rwy'n credu y dylent gael eu dwyn i gyfrif am hyn.

Yr ail bwynt yr hoffwn siarad amdano yw'r ffaith fy mod wedi ysgrifennu at yr abad ar Ynys Bŷr yr wythnos diwethaf i ofyn iddo a fuasai'n cyfeirio'i hun neu'n sefydlu ymchwiliad llawn i'w gynnal gan gorff annibynnol arall. Rwy'n derbyn eich bod yn teimlo na allwch symud ymlaen oherwydd ymchwiliad cyfredol yr heddlu, ond rwyf wedi meddwl mwy am hyn, ac fel y gwyddoch rwy'n siŵr, mae gan yr Eglwys Gatholig eu hunain ymchwiliad annibynnol ar y gweill ar gam-drin a chamfanteisio'n rhywiol ar blant yn yr Eglwys Gatholig. Rwy'n deall, ar hyn o bryd, eu bod yn edrych ar y cynulliad Benedictaidd, ond tybed a fuasech chi, yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog, yn ysgrifennu at yr ymchwiliad hwnnw, a gofyn iddynt a fuasent hefyd yn edrych ar yr Urdd Sistersaidd ar Ynys Bŷr, oherwydd mae ganddynt gylch gwaith ehangach na'r cynulliad Benedictaidd yn unig. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr Eglwys Gatholig yn mynd i'r afael â'r mater hwn, a bod hon yn enghraifft arall o ble y credaf y dylent fod yn edrych arno er mwyn sicrhau nad oes cam-drin systemig yn digwydd yn unrhyw un o'r sefydliadau hyn.

15:30

Diolch i chi, unwaith eto, am y sylwadau a'r ymholiadau ychwanegol hynny. Ac rydych yn gywir i ddweud bod yna adolygiad ar wahân yn yr Eglwys Gatholig ei hun o'i threfniadau diogelu. Nodwn hefyd fod yr ymchwiliad annibynnol i achosion o gam-drin plant yn rhywiol yn ystyried methiannau sefydliadau crefyddol, fel rhan o ymchwiliad yn y DU gyfan. Gallaf gadarnhau bod fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â'r ymchwiliad mewn perthynas â'r cam-drin a gofnodwyd, a byddwn wrth gwrs yn cadw llygad barcud ar y ffordd y mae'r ymchwiliad hwnnw'n mynd rhagddo, ond hefyd yn ceisio dysgu gwersi o ganfyddiadau ehangach yr ymchwiliad i gyrff crefyddol, i ymchwiliadau sefydliadau crefyddol.

Byddaf yn sicr yn ystyried y pwyntiau sydd wedi cael eu codi ynglŷn ag ysgrifennu ymhellach at eraill, ond mae'n werth nodi, hyd yn oed ar y cam hwn, er nad wyf yn dweud unrhyw beth ynglŷn ag ymchwiliadau cyfredol yr heddlu sy'n mynd rhagddynt—ac mae'n rhaid i mi wneud yn siŵr nad ydym yn peryglu'r ymchwiliadau byw hynny—bydd fy swyddogion, yn ôl fy nghyfarwyddiadau, yn gofyn i CYSUR a bwrdd diogelu canolbarth a gorllewin Cymru sicrhau fy mod i a Llywodraeth Cymru yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn llawn am gynnydd yr ymchwiliad hyd yn hyn, ond hefyd ynglŷn ag a oes unrhyw ddiffygion yn y trefniadau ar hyn o bryd, ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â hynny. Byddaf yn sicr yn ysgrifennu at y Gwasanaeth Cyngor Cenedlaethol Catholig ar Ddiogelu hefyd i geisio sicrwydd ar faterion hanesyddol, a materion cyfredol yn ogystal. Byddaf yn siarad â fy swyddogion i weld a oes yna sicrwydd ychwanegol y gallwn ei roi, yng ngoleuni'r pwyntiau a gododd yr Aelod.

Yn ychwanegol at y cwestiynau a godwyd eisoes, credaf ei bod yn bwysig tanlinellu bod Ynys Bŷr yn fan pererindod ac yn noddfa, sydd wedi bod yn rhan o'r traddodiad Cristnogol ers dros 1,600 o flynyddoedd yng Nghymru, a bydd pobl yn parhau i fynd yno. A'r mynaich sydd yno ar hyn o bryd, er nad ydynt wedi chwarae rhan uniongyrchol yn y sgandal, sy'n etifeddu'r traddodiad yno ac felly hwy yw ceidwaid y fflam, yn llythrennol, o ran y safonau sydd angen eu cynnal ar yr ynys.

Yr hyn sy'n peri pryder i mi o'r hyn a glywais ac a ddarllenais yn y wasg, a'ch ymateb heddiw, yw bod y rheolau a oedd ar waith bryd hynny, hyd yn oed ar yr adeg y cafodd y gŵyn wreiddiol ei gwneud—bryd hynny hyd yn oed; rydych wedi sôn am y gwelliannau ers hynny, ond bryd hynny hyd yn oed—yn golygu y dylai'r gŵyn fod wedi ei chyfeirio at yr heddlu. Ni ddigwyddodd hynny, a chafodd y mater ei guddio gan yr abad ar y pryd i bob pwrpas—nid yr abad cyfredol, ond yr abad ar y pryd. Mae hwn yn batrwm o ymddygiad rydym wedi'i weld yn ehangach, nid yn yr Eglwys Gatholig yn unig, ond mewn sefydliadau eglwysig—ym mhob sefydliad, gadewch i ni fod yn onest; mae'n beth sefydliadol.

Felly, er eich bod wrth ymateb i Aelodau eraill wedi sôn am y comisiynydd plant yn ysgrifennu i sicrhau bod gweithdrefnau ar waith, yr hyn yr hoffwn ei glywed gennych heddiw yw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny, ac yn ddelfrydol, eich bod yn gallu rhoi sicrwydd yma yn y Siambr heddiw eich bod naill ai wedi gweld neu wedi cael sicrwydd ynglŷn â'r gweithdrefnau amddiffyn, nid yn unig ar gyfer plant, ond oedolion agored i niwed hefyd, ar Ynys Bŷr, a bod y gweithdrefnau hyn nid yn unig ar waith, ond eu bod yn cael eu dilyn yn weithredol, a bod yr hyfforddiant cywir wedi'i roi ar waith i sicrhau y buasai'r sefyllfa'n cael ei datrys pe bai unrhyw beth yn digwydd heddiw. Nid mater hanesyddol yn unig ydyw, nid yw'n ymwneud â'r ffaith bod y gweithdrefnau'n wael yn y gorffennol; ni chawsant eu dilyn hyd yn oed. Cafodd pethau eu cuddio'n fwriadol, ac nid oedd mor bell â hynny'n ôl, ac mae'n rhaid i ni gael sicrwydd na all ddigwydd eto.

Mae Simon yn ein hatgoffa o'r ffaith, er na allwn fyth ddiystyru'r posibilrwydd o unrhyw achos o gam-drin—plentyn neu oedolyn—rydym yn cydnabod ei bod yn ddyletswydd arnom fel Llywodraeth Cymru, nid yn unig yr heddlu, nid yn unig byrddau diogelu, i fod yn weithgar yn ein penderfyniad, nid yn unig i ymdrin â'r materion hanesyddol a godwyd heddiw yn y Siambr, ond hefyd i sicrhau ein bod yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd. Yn wir, rydym eisoes wedi rhoi camau o'r fath ar waith ar draws Llywodraeth Cymru, nid yn unig o ran newid tirlun cyfan yr amgylchedd diogelu yng Nghymru, ar gyfer oedolion a phlant gyda'r bwrdd diogelu cenedlaethol, y byrddau diogelu oedolion a phlant, ond hefyd yn ein hymateb, er enghraifft, i argymhellion Waterhouse, ac ym mhob achos, os oedd gwersi i'w dysgu a chamau i'w cymryd, fe roesom y camau hynny ar waith, ac rwy'n dweud wrthych y byddwn yn gwneud yr un peth yn awr.

Ac nid ydym yn chwarae rôl oddefol yn hyn o beth. Mae fy swyddogion wrthi'n brysur gyda'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd a'r honiadau sy'n dod i'r amlwg, ond hefyd o ran pa wersi y gellir eu dysgu o honiadau hanesyddol yn ogystal. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cadw'r tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd i unrhyw unigolyn mor fach â phosibl. Mae'n gywir yn nodi'r ffaith bod Ynys Bŷr, sydd wedi'i llethu ar hyn o bryd gan yr honiadau sydd wedi dod i'r amlwg, yn lleoliad cysegredig crefyddol i lawer o bobl hefyd. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, ac mae'n ddyletswydd arnom ni yn ogystal â'r rhai sy'n gweithredu ar lawr gwlad—Heddlu Dyfed-Powys, y byrddau diogelu, Cyngor Sir Benfro ac eraill—i sicrhau ein bod yn rhoi'r trefniadau diogelu ar waith gyda'n gilydd fel na all hyn ddigwydd, ac fel y gallwn ddysgu'r gwersi. Ond mae arnaf ofn fod yn rhaid i chi ddeall nad wyf eisiau gwneud sylwadau pellach, yn enwedig tra bod ymchwiliad byw ar y gweill, ond byddwn yn dysgu pa wersi fydd yn codi o hyn.

15:35
Asesiadau Effaith Brexit Llywodraeth y DU

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o asesiadau effaith Brexit Llywodraeth y DU ar ôl iddynt gael eu rhyddhau ddydd Mawrth? 78

Lywydd, anfonwyd adroddiadau sectoraidd Brexit Llywodraeth y DU at Lywodraeth Cymru yn hwyr ddydd Llun. Maent bellach yn cael eu hastudio er mwyn canfod pa syniadau a goblygiadau newydd y maent yn eu cynnwys, os o gwbl. Rydym yn credu y dylai'r adroddiadau hyn fod yn gyhoeddus, ond Llywodraeth y DU yn unig a all wneud y penderfyniad hwnnw.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr fod yr asesiadau effaith Brexit a roddwyd i chi yn anghyflawn neu wedi cael eu golygu, fel roeddent ar gyfer pwyllgor dethol Brexit yn San Steffan. Mae Llywodraeth y DU yn dirmygu'r Senedd, ac yn dangos dim llai na dirmyg tuag at Gymru. Dyma wybodaeth hanfodol y mae angen ei datgelu. Rydym angen i'r 58 sector gael eu dadansoddi'n llawn, fel y gallwn baratoi Cymru ar gyfer unrhyw effeithiau andwyol ar ôl gadael y farchnad sengl neu'r undeb tollau, a gobeithiaf y gellir rhoi pwysau arnynt ar bob pen i'r M4 i adael i'r asesiadau hynny gael eu cyhoeddi'n llawn.

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych wedi cael digon o wybodaeth i gynnal dadansoddiadau sectoraidd penodol i Gymru? Os nad ydych, beth y gallwch ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau bod digon o ddeallusrwydd economaidd yn bodoli i Gymru allu darparu ar gyfer Brexit? A allwch chi gyhoeddi eich rhagolygon economaidd eich hun ar gyfer y gwahanol senarios Brexit? Ac a wnewch chi ddarparu cymorth i fusnesau ac allforwyr cyn ac ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd?

Lywydd, mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei lle mai'r dogfennau a anfonwyd atom oedd y fersiynau a olygwyd yn helaeth a anfonwyd at bwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin, er gwaethaf pleidlais orfodi yn Nhŷ'r Cyffredin i ryddhau'r dogfennau'n llawn. Mae'r dogfennau hynny'n cael eu hastudio yn Llywodraeth Cymru, ond credaf y gallwn eisoes gytuno â chasgliadau Michael Russell, o bwyllgor Brexit yr Alban, pan ddywedodd yn ei lythyr at David Davis ddoe ei bod yn amlwg, beth bynnag arall y gallant ei gynnwys, nad yw'r adroddiadau hyn yn cynnwys unrhyw ddadansoddiad gwirioneddol o'r effaith.

Yng nghyd-destun Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu cynnal dadansoddiad o'r fath. Rydym wedi cyhoeddi cyfres o atodiadau i'r Papur Gwyn ar y cyd â Phlaid Cymru ym mis Ionawr a oedd yn nodi'r dadansoddiad economaidd a oedd wrth wraidd y casgliadau y daethom iddynt yn y Papur Gwyn hwnnw. Roedd ein dogfen 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' yn cynnwys dadansoddiad helaeth gan Goleg y Brenin Llundain a chan y brifysgol yma yng Nghaerdydd mewn perthynas â mudo a'i effaith yn sectoraidd yma yng Nghymru. Fel yr addewais i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yr wythnos diwethaf, byddwn yn cyhoeddi dadansoddiad sectoraidd mwy manwl, sy'n cael ei gynnal ar ein rhan gan Brifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio gallu gwneud hwnnw'n gyhoeddus ym mis Ionawr.

15:40

Rwy'n synnu clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn beirniadu Llywodraeth y DU am ddiffyg tryloywder a didwylledd yn y cyswllt hwn, oherwydd gwnaed cais tebyg i Lywodraeth Cymru gan ymchwilwyr o fy swyddfa ar 13 Hydref—i'r Prif Weinidog—i gyhoeddi dogfennau sy'n ymwneud â dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o effaith Brexit ar Gymru, a'r ateb a gawsom oedd hwn:

Mae'r trafodaethau ar ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn parhau ac nid oes arwydd clir o beth fydd y sefyllfa o ganlyniad i hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn archwilio ystod o ganlyniadau a goblygiadau posibl i Gymru ac mae'r gwaith yn datblygu'n gyson wrth i'r trafodaethau ddatblygu ac felly nid yw'n gyflawn eto. Nid wyf yn credu y buasai rhyddhau gwybodaeth ar y cam hwn o fudd i'r cyhoedd yn ehangach.

Felly, onid yw ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i arweinydd Plaid Cymru yn rhagrith o'r mwyaf?

Mae hynny'n hurt, Lywydd, fel y gallwch ddweud. Rwyf eisoes wedi egluro bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyfres o ddogfennau dadansoddol yn gyhoeddus pan fônt yn y cyflwr datblygedig y mae angen iddynt fod ynddo er mwyn dylanwadu'n briodol ar y ddadl.

Cefais fy holi'n gyntaf am ddogfennau roedd yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd wedi'u disgrifio'n wreiddiol fel dogfennau sy'n cynnwys asesiadau effaith manwl ar draws 58 sector. Daeth yn amlwg wedyn, yn ei eiriau ei hun, nad dyna oeddent o gwbl. Ond rydym yn haeddu bod mewn sefyllfa lle y gallwn farnu hynny drosom ein hunain a gorau po gynharaf y cânt eu rhyddhau'n llawn i'r cyhoedd i ni allu gwneud hynny.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ond ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau am ddatganiad felly.

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James. 

Dyma ni'n cyrraedd eitem 5, felly, sef y cynnig o dan Rheol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Rwy'n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6573 Paul Davies

Cefnogwyd gan Neil Hamilton

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn unol â'r amodau hyn:

1. Y dylid cynnal cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf i sefydlu ymchwiliad i'r honiadau a wnaed gan gyn-aelodau a chynghorwyr i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â bwlio, bygwth a thanseilio Gweinidogion.

2. Y dylai'r Pwyllgor sefydlu'r canlynol fel rhan o'i ymchwiliad:

a) pryd y gwnaed honiadau i'r Prif Weinidog a/neu ei swyddfa;

b) sut yr ymchwiliwyd i'r honiadau;

c) pa gamau a gymerwyd o ganlyniad i unrhyw ymchwiliad;

d) rôl y Prif Weinidog a'i swyddfa yn y broses o ymdrin â'r materion hyn; ac

e) dilysrwydd yr atebion a roddwyd gan y Prif Weinidog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r honiadau hynny.

3. Y dylai'r Pwyllgor gymryd tystiolaeth gan dystion fel rhan o'i waith.

4. Y dylai'r Pwyllgor baratoi adroddiad ar ei ganfyddiadau i'r Cynulliad erbyn hanner tymor mis Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig, a gyflwynwyd yn fy enw i.

Unig ddiben y ddadl hon y prynhawn yma yw ceisio cytuno y dylid cynnal cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog cyn gynted â phosibl i ymchwilio i'r honiadau o fwlio gan gyn-aelodau a chynghorwyr i Lywodraeth Cymru, ac i ddatgelu'r gwir am y cyhuddiadau difrifol hyn.

Mae'r Aelodau i gyd yn ymwybodol o'r honiadau diweddar a wnaed yn erbyn Llywodraeth Cymru a swyddfa Prif Weinidog Cymru ac mae'n gwbl hanfodol fod yr honiadau hynny'n cael eu hymchwilio'n briodol mewn ffordd agored a thryloyw. Mae angen eglurder gan y Prif Weinidog yn awr mewn perthynas â'i sylwadau yn ystod yr wythnosau diwethaf, a chredaf ei bod yn gwbl briodol i hynny ddigwydd fel rhan o ymchwiliad a gynhelir gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Cyn i mi ddatblygu fy nadl, a siarad yn benodol am y cynnig hwn, os caf droi at welliant y Llywodraeth, sy'n cyfeirio at ddatganiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ar benodi cynghorydd annibynnol i blismona cod y gweinidogion. Wrth gwrs, cafodd y cyhoeddiad hwnnw ei wneud ar ôl i'r ddadl hon gael ei chyflwyno ac er bod hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir, rydym yn parhau i gredu y dylai'r honiadau hyn fod yn destun craffu i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r cynnig trawsbleidiol a gyflwynwyd yn fy enw i, gydag Aled Roberts ac Elin Jones yn y Cynulliad blaenorol yn 2014, a oedd yn galw'n benodol am benodi dyfarnwr annibynnol er mwyn gwella tryloywder, a thrwy hynny, gynyddu hyder yn y rhai a etholir i swydd gyhoeddus. Gwrthododd Llywodraeth Cymru y cynnig hwnnw ar y pryd, ond mae'r Prif Weinidog bellach wedi dod i'r casgliad mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud bod amseriad hyn yn amheus iawn, ac mae'n eithaf amlwg mai pleidiau'r wrthblaid sydd wedi arwain ar hyn, ac mae'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru wedi dilyn.

Er fy mod yn croesawu tro pedol y Prif Weinidog, credaf o hyd ei bod yn briodol i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gynnal ymchwiliad i'r honiadau, oherwydd nid ydym yn gwybod, ar hyn o bryd, beth yw cylch gorchwyl ymchwiliad y cynghorydd annibynnol. O leiaf gyda'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, bydd yn gwbl dryloyw ac yn cael ei gynnal yn gyhoeddus.

Bydd proses y pwyllgor yn rhoi'r cyfle i'r Prif Weinidog nodi natur y cyhuddiadau a dderbyniodd ei swyddfa yn bendant a'r cyfle i ddarparu manylion ac eglurder mawr ei angen ynglŷn â rhai o'r sylwadau a wnaed yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Rwy'n meddwl tybed a fuasai'r Aelod hefyd yn ystyried y ffaith, beth bynnag sydd wrth wraidd penderfyniad y Prif Weinidog i gyfeirio ei hun at ddyfarnwr annibynnol yn hwyr iawn yn y dydd, fod gennym broblem o hyd ynglŷn â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrth y Cynulliad hwn ar sawl achlysur—yr anghysondebau rhwng yr hyn a ddywedodd wrth y Cynulliad ar sawl achlysur—a'r diffyg atebion a gawsom hyd yma, ac rydym angen proses seneddol i fynd at wraidd hynny.

15:45

Yn hollol, a dyna pam y mae'n hanfodol bellach bod y mater hwn yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Er fy mod yn sylweddoli nad oes cynsail i ni ei ddilyn yn hyn o beth, caniatáu i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gynnal yr ymchwiliad hwn yw'r ffordd fwyaf tryloyw ac effeithiol o symud ymlaen yn fy marn i. Nawr, roedd y Prif Weinidog wedi dweud yn glir ei fod yn agored i graffu mewn perthynas â'r honiadau a sut y cawsant eu trin gan ei swyddfa ar y pryd, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu hynny. Ceir nifer o gwestiynau dilys y mae angen eu hateb yn llawn fel y gall pobl Cymru fod yn hyderus fod unrhyw honiadau a wnaed wedi cael eu trin mewn ffordd drylwyr ac wedi'u cofnodi yn unol â hynny.

Mae'n hanfodol fod y Cynulliad yn derbyn y cynnig ger ein bron y prynhawn yma fel y gall y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog fwrw ymlaen â'r gwaith o ofyn y cwestiynau dilys hynny cyn gynted â phosibl. Felly, rwy'n hynod siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad i ddiwygio'r cynnig drwy ddileu'r gofyniad am ymchwiliad gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Fel y soniais yn gynharach, nid ydym yn gwybod beth fydd y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y cynghorydd annibynnol a pha un a fydd tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw yn destun craffu cyhoeddus. Os nad yw'r Llywodraeth eisiau ymchwiliad gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, mae'n ymddangos i mi ei bod yn awgrymu nad yw ond yn mynd i dderbyn craffu ar y mater hwn cyn belled ag y bo ar ei thelerau ei hun.

Yn wir, pan gafodd ei holi ddoe, gwrthododd y Prif Weinidog ddweud yn bendant a fyddai'n pleidleisio ar y cynnig hwn y prynhawn yma hyd yn oed, gan roi'r argraff eto na fydd craffu ar ei waith ef a'i swyddfa ond yn digwydd ar delerau'r Llywodraeth. Er nad oes dim yn y Rheolau Sefydlog presennol sy'n gwahardd y Prif Weinidog rhag pleidleisio ar y cynnig hwn, a yw'n foesol gywir i'r Prif Weinidog osod yr agenda ynglŷn â chraffu ar ei waith ei hun? Buaswn yn dadlau fod gwrthdaro buddiannau yma, a buaswn yn gobeithio—buaswn yn gobeithio—y bydd y Prif Weinidog yn defnyddio'i ddisgresiwn ac yn peidio â chymryd rhan yn y bleidlais y prynhawn yma. Rwy'n ildio.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod. Yn amlwg, mae pawb ohonom yn croesawu'r ffaith fod proses ddyfarnu annibynnol yn cael ei chreu ond fel y dywedwyd eisoes, ni ddylai hynny byth olygu nad yw'r Prif Weinidog felly yn ddarostyngedig i graffu seneddol arferol gan Aelodau'r lle hwn, ac rwyf fi, ac Aelodau eraill bellach mae'n debyg, wedi cael atebion ysgrifenedig i gwestiynau ysgrifenedig lle mae'r Prif Weinidog yn gwrthod ateb y cwestiynau hynny am ei fod yn dweud y cânt eu cyfeirio'n briodol bellach i'w dyfarnu'n annibynnol. Wel, ni all hynny fod yn dderbyniol o gwbl. Rydym wedi ein hethol i'r lle hwn i ddwyn y Prif Weinidog i gyfrif, ac ni ddylent ddefnyddio'r ymchwiliad annibynnol fel esgus i beidio ag ateb cwestiynau.

Yn hollol, ac rwy'n cytuno'n gryf gyda'r Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a dyna pam y dylai'r ymchwiliad hwn fynd yn ei flaen gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Nawr, gadewch i mi atgoffa'r Aelodau mai rhan allweddol o'r ymchwiliad hwn yw ymateb y Prif Weinidog i gwestiwn Cynulliad ysgrifenedig gan Aelod o'r wrthblaid. Gwnaeth y Prif Weinidog hi'n gwbl glir ym mis Tachwedd 2014, mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, nad oedd unrhyw honiadau wedi'u gwneud, ac eto, mewn ymateb i gwestiwn llafar yn y Cynulliad, mae'r Prif Weinidog wedi nodi bod unrhyw faterion a ddaeth i'w sylw ar y pryd wedi cael eu trin. Yn wir, byddai ymchwiliad y pwyllgor nid yn unig yn ystyried ymddygiad y Prif Weinidog a'i swyddfa, ond hefyd ymateb y Prif Weinidog a'i agwedd tuag at fusnes y Cynulliad. Os gall Gweinidogion newid eu hatebion ar gyfer eu craffu gan y Cynulliad, beth y mae hynny'n ei ddweud am ein sefydliad? Felly, mae'n gwbl briodol fod y Prif Weinidog yn wynebu cwestiynau gan un o bwyllgorau'r Cynulliad ac wrth gwrs, y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yw'r pwyllgor mwyaf addas.

Hefyd hoffwn atgoffa Llywodraeth Cymru fod eu rheolwr busnes eu hunain wedi dweud yn gwbl glir yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos diwethaf ei bod yn hapus i weld yr ymchwiliad hwn yn cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog mor fuan â phosibl. Felly, mae'n siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dewis cefnu ar ei safbwynt cychwynnol, ac mae hyn yn anfon neges arall eto i bobl Cymru nad yw Llywodraeth Cymru ond yn ateb cwestiynau pan fo'n teimlo fel gwneud hynny, ar ei thelerau ei hun.

Yn fy marn nid yw'r pendilio ar y mater hwn wedi helpu enw da y Cynulliad o gwbl, ac mae'n bryd bellach i'r mater hwn gael ei drin yn effeithiol drwy ein sianeli craffu cadarn ein hunain. Os yw'r enw 'Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog' yn dweud unrhyw beth wrth bobl Cymru, mae'n dangos ei fod yn cyfarfod i graffu ar waith y Prif Weinidog. Cylch gwaith y pwyllgor, fel y nodir ar wefan y Cynulliad, ac rwy'n dyfynnu, yw

craffu ar y Prif Weinidog mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n berthnasol i arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

Cau'r dyfyniad. Felly, ni allai'r ymchwiliad hwn fodloni meini prawf y cylch gorchwyl yn fwy digonol. Nawr, os yw Llywodraeth Cymru yn diwygio'r cynnig hwn heddiw drwy osgoi'r llwybr craffu hwn, yna mae'n dweud wrth bobl Cymru, i bob pwrpas, nad yw'r pwyllgor ond yn craffu ar waith y Prif Weinidog pan fo'r Prif Weinidog yn dymuno iddo wneud hynny. Ac mae safbwynt—. Ac mae safbwynt Aelod Cynulliad Llafur dienw, mewn adroddiadau yn y cyfryngau yr wythnos diwethaf, y buasai'r broses hon yn arwain at 'ffrae wleidyddol' yn gwbl hurt. Nid yw'n dangos unrhyw barch at Aelodau'r Cynulliad sy'n aelodau o'r pwyllgor hwnnw, ac mae hynny'n frawychus a dweud y gwir, gan fod pob un o'r Aelodau hynny yn Gadeirydd pwyllgor a etholwyd yn ddemocrataidd i'w swydd gan y Cynulliad hwn. Ffurfiwyd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, nid yn unig gan rai o'n Haelodau Cynulliad mwyaf profiadol, ond gan y rhai sy'n wynebau blaen y broses o graffu ar Lywodraeth Cymru. A gallaf glywed mwmian o'r meinciau Llafur. Os oes rhywun am ymyrryd ar y pwynt hwnnw, rwy'n eithaf parod i ildio. Nac oes.

Nawr, yn fy marn i, fel rhan o'r ymchwiliad, dylai'r pwyllgor gymryd tystiolaeth gan amrywiaeth o dystion. Rhaid i'r tystion hynny gynnwys nid yn unig y Prif Weinidog, ond hefyd ei staff a'i swyddfa ar y pryd, yn ogystal â chyn-Aelodau a chyn-gynghorwyr arbennig, fel y gall y pwyllgor fod yn hyderus fod yr ystod o dystiolaeth a gafwyd yn gytbwys ac yn gynhwysfawr. Credaf hefyd y dylai'r pwyllgor baratoi adroddiad ar ei ganfyddiadau i'r Cynulliad erbyn hanner tymor mis Chwefror 2018. Mae'n bwysig fod ffocws a chyfeiriad yn cael eu rhoi i'r ymchwiliad o'r cychwyn cyntaf.

Dylai cylch gorchwyl ymchwiliad y pwyllgor ystyried y pwyntiau a godwyd yn y cynnig heddiw hefyd. Mae'n gwbl hanfodol fod yr honiadau'n cael eu harchwilio'n drylwyr, a chamau'n cael eu rhoi ar waith o ganlyniad i gwynion am fwlio. Ac fel y soniais yn gynharach, mae dilysrwydd yr atebion a roddir gan y Prif Weinidog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â honiadau o'r fath yn rheswm allweddol pam y dylai'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gynnal yr ymchwiliad hwn yn y lle cyntaf. Ac felly, rhaid i ymateb y Prif Weinidog i gwestiynau'r Cynulliad gael sylw sylweddol fel rhan o'r ymchwiliad hwn. Fan lleiaf, mae angen egluro hyn fel y gall pobl Cymru fod â hyder llawn yng ngwaith Llywodraeth Cymru.

Nid yw gwelliant y Llywodraeth i'r cynnig hwn ond yn dangos ymgais y Prif Weinidog i bennu ei broses graffu ei hun drwy fynd ati ei hun i benodi cynghorydd annibynnol i ymchwilio i'w weithredoedd yn y pythefnos diwethaf. Nid oes unrhyw gadarnhad ychwaith na fydd unrhyw graffu cyhoeddus gan gynghorydd y Prif Weinidog, ac yn sicr ni cheir cadarnhad yn y gwelliant y bydd ymchwiliad y Prif Weinidog ei hun yn ystyried ei ymatebion i gwestiynau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mewn gwirionedd, nid yw ond yn dweud y bydd yn ystyried honiadau a wnaed yn ystod y bythefnos diwethaf.

Felly, i gloi, Lywydd, bu sôn yn yr wythnosau diwethaf am sicrhau cyfiawnder naturiol, ac nid yw ymchwiliad a osodwyd ar delerau'r Llywodraeth ei hun y tu ôl i ddrysau caeedig yn gosod yr agenda honno. Fforwm cyhoeddus a thryloyw yw un o'r cyfryngau ar gyfer cyflawni hynny, ac felly mae'n gwbl briodol fod y cynnig hwn yn cael ei ganiatáu i basio. Yn wir, mae'r Cynulliad bob amser wedi ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn fforwm agored a thryloyw, ac mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i weithredu yn y modd hwn. Ni ddylai unrhyw Aelod rwystro'r broses hon rhag digwydd. Felly, anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn ac anfon neges i bobl Cymru fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhydd i graffu ar waith y Prif Weinidog pan fo cyfle'n galw am wneud hynny.

15:50

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i gynnig, yn ffurfiol, gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i nodi:

1. Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i benodi panel o gynghorwyr annibynnol i ddarparu ffynhonnell allanol o gyngor arbenigol ar ymddygiad Gweinidogol yn unol â’r hyn sy’n ofynnol o dan God y Gweinidogion, fel y nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 23 Tachwedd 2017;

2. Bod James Hamilton, sy’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth yr Alban ar hyn o bryd, wedi ei benodi’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth Cymru;

3. Bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio’i hun at James Hamilton mewn perthynas â honiadau, a wnaed yn y pythefnos diwethaf, iddo weithredu’n groes i God y Gweinidogion; a

4. Adroddiad terfynol y Cynghorydd Annibynnol pan fydd yn cael ei gyhoeddi.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i nodi safbwynt Plaid Cymru ar y cynnig hwn heddiw ac ar welliant Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn amgylchiadau anodd, sy'n ei gwneud yn fwy hanfodol byth fod goleuni'n cael ei daflu ar y digwyddiadau y mynegwyd pryder yn eu cylch.

Rydym oll yn ymwybodol o'r honiadau a wnaed am fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn dyddio'n ôl i 2014, a'r anghysondeb ynghylch pa honiadau penodol neu swyddogol a wnaed. Hyd yma, nid yw ymdrechion i graffu ar y Prif Weinidog mewn perthynas â hyn wedi mynd i graidd y math o faterion a godwyd. Roedd mwy o fanylion yn yr atebion a roddodd y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf nag yn atebion yr wythnos flaenorol, ond nid oedd yn ateb rhai cwestiynau sylfaenol o hyd. Mae'r cwestiynau sydd heb eu hateb yn cynnwys: pa faterion oedd yn codi, a sut y cawsant eu trin? A gynhyrchwyd adroddiad, neu a ddarparwyd adroddiad? A chwaraewyd unrhyw ran gan y gwasanaeth sifil o gwbl? Mae'n ddigon posibl fod atebion i'w cael i'r cwestiynau hyn, ond ni chafwyd atebion hyd yn hyn.

15:55

A gaf fi ychwanegu ymhellach at y cwestiynau hynny—oherwydd mae'r honiadau a wnaed gan Leighton Andrews yn rhai penodol iawn—a ofynnwyd am ymchwiliad ffurfiol gan y Prif Weinidog mewn ymateb i'r honiadau, neu'r pryderon neu'r materion, y soniodd wrth y Prif Weinidog yn eu cylch?

Buasai'n dda cael atebion i hynny a'r holl gwestiynau eraill fel rhan o'r ddadl hon. Ond o fethu gwneud hynny, mae angen eu hateb rywsut.

Nawr, safbwynt Plaid Cymru ynglŷn â hyn yw hyrwyddo mwy o graffu. Rydym eisiau i gymaint o'r ffeithiau ag y bo modd gael eu sefydlu. Rydym yn nodi bod y Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn barod i wynebu craffu, ac eto mae gwelliant Llywodraeth Cymru heddiw yn llwyddo i gau un llwybr i'r craffu agored a thryloyw hwnnw allu digwydd, hyd yn oed os yw'n creu llwybr arall.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ei fod wedi gwrando ar y rhai sydd wedi galw am broses atgyfeirio annibynnol a bod cod y gweinidogion wedi cael ei ddiwygio. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ers amser am sefydlu rhyw fath o ddyfarnwr annibynnol i blismona cod y gweinidogion. Nid yw'n iawn o gwbl fod y Prif Weinidog yn blismon, yn farnwr a rheithgor mewn perthynas ag ymddygiad Gweinidogion, ac yn arbennig, nid yw'n iawn ei fod yn gyfrifol am blismona ei ymddygiad ei hun.

Galwasom yn gyntaf am ddyfarnu annibynnol o'r fath yn ôl yn 2014, wrth drafod mater heb gysylltiad â'r mater hwn, a galwasom amdano wedyn yn 2016. Mae gan yr Alban gynghorydd annibynnol ar waith ac wedi bod ers 2008, ac mae'r weithdrefn wedi'i defnyddio yno chwe gwaith ers ei chyflwyno. Felly, mae newid safbwynt ar y pwynt hwn gan y Llywodraeth i'w groesawu, ond mae'n codi'r cwestiwn pam ein bod wedi gorfod cael y cynnig hwn, er ei fod wedi'i eirio'n wael, i orfodi'r Llywodraeth i roi camau ar waith. Pam y cymerodd y posibilrwydd o graffu cyhoeddus wedi'i gofnodi i wneud i hyn ddigwydd? A yw'n iawn fod y Llywodraeth, drwy daro'r chwip, yn pennu'r broses ar gyfer rhoi sylw i'r mater hwn?

Y broblem yma i Blaid Cymru yw bod y Llywodraeth wedi gosod gwelliant dileu popeth, a thrwy wneud hynny, mae plaid y Llywodraeth yn cael penderfynu sut y caiff arweinydd y Llywodraeth ei graffu. Rydym wedi bod eisiau'r math hwn o wyliadwriaeth ar god y gweinidogion ers amser hir, a phe bai'r Llywodraeth wedi gwneud hyn o'r blaen, efallai y buasent wedi osgoi rhai o'r problemau y maent yn eu hwynebu heddiw. Ond ni allwn gefnogi defnyddio un ffurf ar graffu i ddileu math arall o graffu. Rydym eisiau'r dyfarnwr annibynnol yn ogystal â chraffu seneddol llawn. Nawr, mae'n debygol y bydd gwelliant y Llywodraeth yn pasio, ac rwy'n gresynu at hynny. Mae Plaid Cymru o'r farn fod lle i'r ddwy ffurf ar graffu. O ganlyniad, byddwn yn pleidleisio dros y cynnig ac yn erbyn gwelliant y Llywodraeth.

Hoffwn i blaid y Llywodraeth ystyried hyn: a ydych yn credu ei bod yn edrych yn dda i chi gael eich gweld fel pe baech yn osgoi craffu llawn? Buaswn yn dadlau fel arall. Os na fu unrhyw fwlio, ac os nad oes unrhyw faterion eraill a ddylai beri pryder i bob un ohonom yn y ffordd y caiff y Llywodraeth ei rhedeg a diwylliant y Llywodraeth, yna ni ddylid ofni proses lawn ac agored. Dadleuon technegol yw dadleuon fod y pwyllgor arbennig hwn yn rhy fawr ac afrosgo. Mae yna egwyddor yn y fantol yma. A ydym yn tynnu sylw cyhoeddus, agored a gonest at yr honiadau hyn, neu a ydym yn caniatáu i'r Prif Weinidog benderfynu ar y broses y mae'n atebol iddi? Un ateb yn unig a ddylai fod i'r cwestiwn hwnnw yn ôl cyfiawnder naturiol.  

Wel, rwy'n credu bod arweinydd Plaid Cymru yn ei haraith i gloi wedi mynd i graidd y mater. Efallai y gall y Llywodraeth ddefnyddio ei mwyafrif yn y Siambr o'r rhai sy'n bresennol heddiw i rwystro'r awydd am dryloywder sy'n bodoli nid yn unig yn y Cynulliad hwn ond hefyd y tu allan iddo, gall ennill y bleidlais yma heddiw, ond yn sicr ni fydd yn ennill y bleidlais yn llys y farn gyhoeddus y tu allan, ac os yw enw da'r Llywodraeth yn golygu unrhyw beth, buaswn wedi meddwl y buasai wedi dymuno edrych yn dda o leiaf yn llygaid y byd tu allan. Ond gadewch i ni atgoffa ein hunain o'r hyn y mae a wnelo hyn oll. Nid yw'n ymwneud yn unig â bwlio. Credaf fod defnyddio'r gair 'bwlio' yn y cyd-destun hwn yn gwneud anghymwynas â'r hyn rydym yn ei drafod yma heddiw.

Gadewch inni wrando ar eiriau Leighton Andrews—ac nid sylwadau byrfyfyr oeddent; cawsant eu hysgrifennu ganddo mewn blog, felly roedd yn gwybod beth roedd yn ei wneud. Dywedodd:

fod Carl Sargeant wedi cael ei danseilio'n bersonol yn fwriadol gan Lywodraeth Lafur Cymru dros sawl blwyddyn. Nid wyf am enwi enwau heddiw—

ond gadewch i ni obeithio y bydd yn gwneud hynny maes o law—

Ond gwneuthum gŵyn at y Prif Weinidog ynghylch un agwedd ar hyn y cefais dystiolaeth uniongyrchol ohoni yn ystod hydref 2014. Cynhaliwyd ymchwiliad anffurfiol.

Sylwais fod y Prif Weinidog wedi nodio'i ben i anghytuno pan ofynnodd Adam Price eiliad yn ôl a fu cais ffurfiol i gynnal ymchwiliad. Mae Leighton Andrews yn dweud: '

Gofynnais wedyn iddo gael ei wneud yn ffurfiol.

Felly, mae Leighton Andrews wedi dweud fod yna gais am ymchwiliad ffurfiol, ac yn sicr mae angen inni ddweud pa un o'r ddau gyfrif sy'n gywir. Aeth ymlaen i ddweud y dywedwyd wrtho y buasai'n cael ei wneud yn ffurfiol. Ni chafodd weld y canlyniad. Ni chafwyd trefn briodol, meddai.

Ac nid un cyn-weinidog cyllid yn Llywodraeth y Prif Weinidog ei hun a ddywedodd hynny. Wrth gwrs, mae ei gyn-gynghorydd arbennig, Steve Jones, wedi gwneud sylwadau tebyg yn ogystal, ac nid wyf am eu hailadrodd, oherwydd nid oes angen gwneud hynny.

Mae'r saith egwyddor bywyd cyhoeddus sydd ynghlwm wrth god y gweinidogion yn dweud hyn

'Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd am eu penderfyniadau ac am yr hyn y maent yn ei wneud a rhaid iddynt ganiatáu i eraill graffu arnynt yn y modd sydd ei angen er mwyn sicrhau hynny.'

A lle'n well i graffu ar weithredoedd neu ddiffyg gweithredoedd y Prif Weinidog nag yma yng Nghynulliad Cenedlaethol etholedig Cymru? Ni all neb anghytuno â phenodi rhywun o'r tu allan i edrych ar y ffeithiau. Nid wyf yn gwrthwynebu cael dyfarnwr neu ymchwilydd annibynnol o gwbl. Nid yw'r ddau opsiwn hwn yn anghyson mewn unrhyw ffordd; maent yn ategu ei gilydd. Dylai fod gennym y ddau. Ond ni, a etholwyr i'r lle hwn, sydd â hawl i ofyn y cwestiynau ac i barhau i ofyn y cwestiynau hyd nes y cawn yr atebion. Nid ydym yn gwybod a yw'r broses ymchwilio y mae'r Llywodraeth wedi'i dewis yn mynd i fod yn gyhoeddus. Nid ydym yn gwybod a fydd yn gofyn y cwestiynau cywir. Ni ddylai bennu hynny. Nid ydym yn gwybod beth fydd cylch gorchwyl yr ymchwiliad hwn. Dylent ddigwydd ar yr un pryd. Ac rwy'n credu y buasai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn methu yn ei ddyletswydd os nad yw'n llwyddo i gyflawni'r hyn y mae yma i'w wneud, sef craffu ar weithredoedd y Llywodraeth.

Nawr, rwy'n deall bod yna anawsterau gwleidyddol i Aelodau Cynulliad Llafur. Y Prif Weinidog sy'n cael ei graffu, ond nid y Prif Weinidog yn unig, oherwydd mae'n llawer ehangach na hynny. Mae'n cynnwys gweithredoedd y cynghorwyr arbennig, a Gweinidogion eraill o bosibl, yn ôl Leighton Andrews beth bynnag. Aeth ymlaen i ddweud bod yr awyrgylch ar y pumed llawr yn 2011-16, sy'n gyfnod hwy o lawer, yn wenwynig:

mân-fwlio, chwarae gemau meddyliol, gemau pŵer, ffafriaeth, anghysondeb o ran y modd y câi gwahanol weinidogion eu trin, tanseilio personol bwriadol ar adegau.

A dywedodd hefyd fod Carl Sargeant yn ddiamau yn darged i beth o'r ymddygiad hwn. Nawr, ni ellid bod wedi rhagweld yr hyn a ddigwyddodd i Carl Sargeant wrth gwrs, ac nid wyf yn ystyried bod y Prif Weinidog yn gyfrifol am hynny. Ond efallai fod canlyniadau ei ddiffyg gweithredu dros y blynyddoedd wedi arwain at y canlyniad anrhagweledig hwnnw. Ein dyletswydd felly, nid yn unig i'r cyhoedd y tu allan, ond yn arbennig i Carl Sargeant a'i deulu, yw craffu'n llawn ac yn agored ar y ffeithiau sydd wrth wraidd y mater hwn.

Nodaf y distawrwydd o'r meinciau Llafur heddiw. Nid aelodau o'r Blaid Lafur yn unig ydynt; maent yn aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol, ac nid yw bod yn rhan o fyddin deracota Carwyn yn ddigon da ynddo'i hun, yn fud ac yn ddisymud yn wyneb yr hyn a allai'n amlwg gael ei ddatgelu fel sgandal gyhoeddus fawr.

Ac felly, rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog edrych yn y drych ac ateb y cwestiwn: a yw'n credu bod y cyhoedd y tu allan yn mynd i fod yn argyhoeddedig fod y math o ymchwiliad y mae ef ei eisiau mewn gwirionedd—un wedi'i drefnu ganddo ef, gan rywun a ddewiswyd ganddo, gyda gweithdrefn na chawn gyfle i'w chwestiynu, cwestiynau y mae angen eu gofyn y cawn ein hatal rhag eu gofyn—a yw hynny'n debygol o gael ei ystyried fel ffurf gredadwy ar ymchwiliad, ac a yw'n debygol o gyrraedd yr atebion y mae pawb am eu cael. Credaf mai 'na' byddarol fuasai'r ateb i hynny yn y byd tu allan, ac y buasai'r Prif Weinidog yn gwneud anghymwynas enfawr â'r cyhoedd yn gyffredinol, ac â holl bobl Cymru, drwy geisio gwthio'r gwelliant hwn i'r cynnig drwodd heddiw.

16:05

Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. Hoffwn ddweud o'r cychwyn cyntaf fod unrhyw un yma sy'n fy adnabod yn gwybod, fel Aelod Llafur, nad wyf erioed wedi cilio rhag craffu ar fy ochr fy hun. Ni all fod unrhyw Weinidog mewn unrhyw Lywodraeth Cymru, yn y gorffennol neu'r presennol, nad wyf wedi gofyn cwestiynau anodd iddynt, ac mae hynny'n cynnwys y Prif Weinidog, yn ei rôl bresennol a phan oedd yn ddeiliad portffolio. Buaswn yn brwydro i'r pen dros hawl Aelodau meinciau cefn Llafur i ddod yma a gwneud yr hyn sy'n iawn er lles eu hetholwyr ac yn unol â'u gwerthoedd a'u hegwyddorion eu hunain. Dyna'r ffordd yr wyf bob amser wedi gweithio, ac nid yw'r ddadl hon heddiw yn eithriad. Credaf hefyd ei bod yn iawn fod yr honiadau a wnaed yn cael eu craffu'n briodol, ac rwy'n croesawu penderfyniad y Prif Weinidog i ofyn i James Hamilton ymchwilio iddynt yn annibynnol.

Ond yn sicr nid wyf yn credu mai'r cynnig y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'i gyflwyno, yn galw ar Bwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i edrych ar yr honiadau hyn, yw'r peth cywir i'w wneud, am nifer o resymau. Mae Simon Thomas wedi dweud y buasai defnyddio pwyllgor yn afrosgo, ac rwy'n cytuno â hynny, ond credaf hefyd nad corff a ddefnyddir i graffu ar benderfyniadau polisi yw'r corff priodol i ymgymryd â gwaith o'r math hwn. A ydym mewn gwirionedd yn disgwyl i Aelodau'r Cynulliad, mewn pwyllgor cyhoeddus geisio edrych yn fanylach ar fanylion yr hyn a ddigwyddodd dair blynedd yn ôl ar y pumed llawr, ac i edrych ar fanylion pwy a ddywedodd beth, pryd ac wrth bwy? Rwyf hefyd yn pryderu y gallai rhai tystion, gan gynnwys gweision sifil, deimlo'n anesmwyth iawn ynglŷn â bwydo i mewn i fforwm cyhoeddus o'r fath, ond efallai y byddant yn barod i siarad ar sail un i un â James Hamilton. [Torri ar draws.] Fe ildiaf i Rhun.

Diolch am gymryd yr ymyriad. A fuasech yn derbyn, fodd bynnag, yn absenoldeb dyfarnwr annibynnol, mai dyma'r unig fodel a oedd yn agored i'r Cynulliad? Pan wnaed y cynnig i atgyfeirio at y pwyllgor craffu, ni fydd unrhyw ymgais drwy gymal 'dileu popeth' i gael gwared ar y broses graffu honno ond yn cael ei weld gan pobl y tu allan i'r Cynulliad hwn fel ymgais i osgoi craffu cyhoeddus.

Na, nid wyf yn derbyn hynny, oherwydd mae gennym bellach fecanwaith annibynnol ar waith.

Mae'n hanfodol fod unrhyw ymchwiliad nid yn unig yn annibynnol, ond yn cael ei weld yn annibynnol, ac yn llwyr uwchlaw gwleidyddiaeth plaid. Tynnodd Andrew R.T. Davies lawer o sylw yn ystod y cwestiynau ddoe at gyfweliad fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, ar raglen Sunday Politics, gan awgrymu'n anghywir fod Jeremy Miles wedi cwestiynu gallu Cadeirydd Llafur ac Aelodau Llafur y pwyllgor i ymgymryd â gwaith craffu o'r fath. Nid dyna a ddywedodd. Dywedodd ei fod yn hollol siŵr y buasem yn gwneud y gwaith heb ofn na ffafr, ond hefyd, gwnaeth y pwynt ei bod yn hollbwysig fod y pwyllgor yn cael ei weld fel un annibynnol hefyd. Mae pawb ohonom yma'n gwybod fod gwleidyddiaeth yn ymwneud â chanfyddiad hefyd, ac rwy'n amau o ddifrif a fuasai'r cyhoedd yn ystyried y pwyllgor yn annibynnol.

Nawr, nid wyf mewn unrhyw fodd yn amau gallu'r Cadeirydd Llafur a fi fy hun a fy nghyd-Aelodau Llafur i graffu ar y Prif Weinidog yn drylwyr yn y mater hwn. Ond mae'n hanfodol fod unrhyw ymchwiliad yn gallu cwblhau ei waith a thynnu llinell o dan hyn heb i gwestiynau ynghylch cyfansoddiad gwleidyddol y pwyllgor danseilio ei hygrededd. Bûm yn Aelod Cynulliad yma ers 18 mlynedd a dyma, yn ddi-os, yw'r dyddiau tywyllaf y mae unrhyw un ohonom wedi eu gweld. Credaf y dylai pob un ohonom ar draws y Siambr hon gofio ein bod i gyd, gan gynnwys y Prif Weinidog, yn galaru am gyfaill a chyd-Aelod. Rwy'n anghyfforddus iawn fod y cynnig hwn wedi ei gyflwyno ar yr adeg hon, ac nid wyf i'n bersonol eisiau unrhyw ran ohono.

Sut y beiddiwch chi? Sut y beiddiwch chi? Cywilydd arnoch. Cywilydd arnoch.

Lywydd, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—[Torri ar draws.] Fel Cadeirydd—

Rwy'n mynd i ofyn i Mick Antoniw barhau, ac rwy'n siŵr fod yr hyn y mae am ei ddweud yn haeddu cael ei glywed.

Diolch, Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, rwy'n aelod awtomatig o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Ar y dechrau—ac yn rhinwedd y swydd honno'n unig—rwyf am egluro fy mod wedi penderfynu gwrthod cynnig y Ceidwadwyr a chefnogi'r ffaith fod Llywodraeth Cymru am sefydlu panel o gynghorwyr annibynnol i ddarparu ffynhonnell o gyngor annibynnol ar ymddygiad Gweinidogion, fel sy'n ofynnol o dan god y gweinidogion, fel yr amlinellwyd yn y datganiad ysgrifenedig ar 23 Tachwedd.

Croesawaf benodiad James Hamilton fel cynghorydd annibynnol ac rwy'n croesawu'r ffaith fod yr honiadau a wnaed mewn perthynas ag ymddygiad y Prif Weinidog wedi'u cyfeirio ato, a'r ffaith y bydd adroddiad Mr Hamilton yn cael ei gyhoeddi wedi i'r ymchwiliad gael ei gwblhau. Mae Mr Hamilton yn berson o gymeriad dilychwin ac yn gymwys iawn yn ei swydd flaenorol fel cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus ac fel aelod o banel cynghorwyr annibynnol Llywodraeth yr Alban, ac yn berson y gallwn oll fod yn sicr y bydd yn ymchwilio i'r materion hyn yn ddiwyd a heb ofn na ffafriaeth.

Fel aelod o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog—[Torri ar draws.] Na, credaf y dylech aros hyd nes y byddaf wedi datblygu fy nadleuon a gosod fy nadansoddiad. Fel aelod o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, rhaid i mi ychwanegu nad wyf yn gwbl argyhoeddedig o bell ffordd mai'r dull a fabwysiadwyd yng nghynnig y Ceidwadwyr yw'r ffordd orau o ymdrin â'r materion hyn, na'i fod yn gyfansoddiadol briodol na'r rôl gywir ar gyfer y pwyllgor hwn. Mae gennyf bryderon difrifol hefyd ynglŷn ag a yw cyfansoddiad y pwyllgor hwn mewn gwirionedd yn bodloni rheolau angenrheidiol cyfiawnder naturiol a fuasai'n berthnasol. Mae'n bwyllgor sy'n gyfrifol am graffu'n wleidyddol ar y Prif Weinidog a'i Lywodraeth, sydd ar wahân i'r ddeddfwrfa yn unol ag arfer seneddol fodern ac yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Fodd bynnag, buasai cynnig y Ceidwadwyr yn creu rôl a chyfrifoldeb nas bwriadwyd erioed ar gyfer y pwyllgor hwn, buasai'n drysu ei rôl a buasai'n tresbasu ar, ac yn cymylu'r rhaniad rhwng pwerau a fwriadwyd gan Ddeddf 2006. Buasai'n trawsnewid y pwyllgor, yn y mater hwn, yn bwyllgor ymchwilio i safonau ac ymddygiad, ac mae'n amlwg nad dyna oedd ei fwriad ar unrhyw adeg. Buasai'n rhoi statws pwyllgor lled-farnwrol iddo, neu swyddogaeth led-farnwrol fan lleiaf ac nid yw'n addas ar gyfer hynny.

Mae rheolau cyfiawnder naturiol wedi cael eu hailadrodd mewn llawer o achosion dros y blynyddoedd yn y llysoedd, ac maent yn gymwys, nid yn unig ar gyfer barnwyr a llysoedd sefydledig ond hefyd ar gyfer swyddogaethau a gweithdrefnau barnwrol a lled-farnwrol. Daeth y dadansoddiad mwyaf sefydledig o'r rheolau hyn i'r amlwg mewn achos blaenllaw adnabyddus lle y cododd mater gwrthdaro buddiannau ac yn benodol, y potensial ar gyfer gwrthdaro buddiannau canfyddedig. Yn yr achos hwnnw cafodd y rheolau eu gosod yn glir iawn: nid yn unig fod yn rhaid gweithredu cyfiawnder ond rhaid iddo gael ei weld yn cael ei weithredu hefyd. Mae ymddangosiad neu ganfyddiad o natur ddiduedd yn annerbyniol. Er efallai nad oes unrhyw dystiolaeth na fuasai unigolyn yn gweithredu'n drylwyr ac yn annibynnol, buasai'r ffaith y gallai fod canfyddiad o natur ddiduedd yn ddigon i danseilio hyder y cyhoedd yn y broses.

16:10

Rwy'n ddiolchgar iawn. Rwy'n gwrando gyda diddordeb mawr ar yr hyn y mae'n ei ddweud am ei rôl flaenorol ac yn ei rôl bresennol. Yr hyn nad wyf yn glir ei gylch ar hyn o bryd yw a yw'n dweud bod y pwyllgor a grybwyllir yn y cynnig, sef y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog—dyfynnwyd eisoes fy mod wedi dweud ei fod yn eithaf afrosgo at y diben hwn—a yw o'r farn fod hwnnw'n amhriodol, neu a yw'n dweud ei bod yn amhriodol fod unrhyw graffu seneddol ar ymddygiad y Prif Weinidog yn digwydd o gwbl, oherwydd credaf ei fod yn crwydro'n beryglus o agos at y casgliad hwnnw.

Na, nid wyf yn dod i'r casgliad hwnnw, oherwydd mae'r ddau fater wedi cydblethu a bellach wedi dod yn fater o graffu gweinidogol, a gwahanu pwerau hefyd. Rwy'n credu y gwnaf ei amlinellu ymhellach pan fyddaf yn datblygu fy nadl mewn perthynas â rheolau cyfiawnder naturiol, y credaf eu bod hefyd yn ymdrin â'r pwynt.

Os felly, cafodd y rheolau eu nodi'n glir—nid yn unig y mae'n rhaid gweithredu cyfiawnder, ond rhaid ei weld yn cael ei weithredu, ac mae ymddangosiad neu ganfyddiad o natur ddiduedd yn annerbyniol. Er efallai nad oes unrhyw dystiolaeth na fuasai unigolyn yn gweithredu'n drylwyr ac yn annibynnol, buasai'r ffaith y gallai fod canfyddiad yn ddigon i danseilio hyder y cyhoedd. Pwysleisiaf y pwynt hwnnw. Roedd y dyfarniad yn yr achos hwn yn ailadrodd datganiadau cynharach ar reolau cyfiawnder naturiol lle y cafodd yr egwyddor ei hamlinellu. Mae'n sylfaenol bwysig nid yn unig y dylid gweithredu cyfiawnder ond y dylai gael ei weld yn gweithredu'n amlwg ac yn ddiamwys. A chadarnhawyd yr egwyddor hon a'i hegluro ymhellach fel a ganlyn:

Mae'r gofyniad i sicrhau'r drefn briodol neu gyfiawnder naturiol neu degwch cyfundrefnol... a phwysigrwydd absenoldeb rhagfarn yn y sawl sy'n gwneud penderfyniadau yn seiliedig yn rhannol ar bwysigrwydd ymddangosiad.

Lywydd, os wyf yn gywir yn yr hyn a ddywedaf am y statws lled-farnwrol a fuasai'n cael ei roi i'r pwyllgor, mae'n dilyn fod yn rhaid i'r rheolau cyfiawnder naturiol hyn gael eu cymhwyso. Mae'r pwyllgor yn cynnwys Cadeiryddion pwyllgorau a benodir gan y pleidiau gwleidyddol, ac mae rôl y pwyllgor yn wleidyddol o ran ei hanfod. Nid oes amheuaeth gennyf, fel y cadarnhawyd gan y Cwnsler Cyffredinol ddoe, fod pob un ohonom yn bobl onest ac y buasem yn gwneud ein gorau glas i fod yn ddiduedd ac yn deg. Fodd bynnag, gall rhagfarn fod yn wirioneddol neu'n briodoledig. Diben rheolau cyfiawnder naturiol yn hyn o beth yw sicrhau hyder y cyhoedd yn y broses. Ni all y pwyllgor, ni waeth beth yw ei fwriadau a'i ymdrechion gorau, osgoi'r gwrthdaro buddiannau canfyddedig anochel. Buasai hyn yn anochel yn tanseilio hyder yng nghanlyniad a chasgliad terfynol unrhyw adroddiad a gynhyrchid gan y pwyllgor o dan y mandad hwn.

16:15

A wnewch chi ildio, yn fyr iawn? Diolch. Beth am y canfyddiad o ragfarn Llywodraeth yn penderfynu sut y mae'n mynd ar drywydd cyfiawnder naturiol yn yr achos hwn?

Y pwynt yw, os ydym yn rhoi swyddogaeth led-farnwrol i gorff, rhaid i reolau cyfiawnder naturiol fod yn berthnasol iddo ac i'r ffordd y mae'n gweithredu fel bod canfyddiadau o natur ddiduedd yn gwbl sylfaenol, a dyna pam y mae mater cynghorydd annibynnol yn dod yn un mor bwysig. [Torri ar draws.] Na, mae arnaf eisiau gorffen fy thema.

Yr ymchwiliad—

Rhaid i'r ymchwiliad fod yn annibynnol, pwynt sydd wedi'i dderbyn, rwy'n credu, gan arweinwyr yr holl bleidiau yn y Siambr hon. Rhaid i'r broses fod yn annibynnol. Rhaid i'r person sy'n cynnal yr ymchwiliad ac sy'n cyflawni'r adroddiad fod yn gymwys i gynnal ymchwiliad o'r fath ac yn gwbl annibynnol os yw'r canlyniad i gael ei barchu ac yn mynd i ennyn hyder y cyhoedd.

Rydym yn sefydlu egwyddorion a chynsail yn y cynnig hwn, a bydd eu hangen i wrthsefyll prawf amser ar gyfer y dyfodol. O ganlyniad, y cynnig i'r mater hwn gael ei gyfeirio at gynghorydd annibynnol o dan god y gweinidogion yw'r gorau o bell ffordd a'r ffordd fwyaf priodol o weithredu.

Rwy'n teimlo bod y ddadl y prynhawn yma yn anhygoel o anodd ac yn anghyfforddus. Mae llawer yr hoffwn ei ddweud, ond credaf y buasai'n ddoeth peidio â'i ddweud ar hyn o bryd. Ymhen deuddydd, byddwn yn claddu ein cyd-Aelod a'n ffrind, ac rwy'n credu bod rhywbeth yn anweddus ynglŷn â chael dadl o'r fath a hynny heb ddigwydd eto. Rwy'n gresynu at y ffordd y mae pobl wedi defnyddio'r drychineb hon i dalu'r pwyth yn ôl o'u hamser yn y Llywodraeth. Credaf fod y Prif Weinidog, er clod iddo, wedi sefydlu dwy broses annibynnol ar wahân, rhywbeth na wnaed erioed o'r blaen. Mae angen rhoi amser i'r rheini ddod i'w casgliadau. Nodaf yr hyn a ddywedwyd am broses seneddol i ddigwydd wedyn ac rwy'n credu mai dyna fydd yr adeg gywir—pan fydd amser wedi bod i fyfyrio a chael tystiolaeth—i gael y ddadl honno.

Ni chaf unrhyw anhawster gyda'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod wedi i'r adroddiadau hynny gael eu cyhoeddi ac i broses graffu briodol ddigwydd, ond nid heddiw yw'r diwrnod hwnnw.

Fe'm trawyd bythefnos yn ôl pan ddaethom at ein gilydd i dalu teyrnged i Carl Sargeant gan y cwrteisi a ddangoswyd yn y Siambr hon, ac rwy'n siomedig ynglŷn â'r cywair a gafwyd y prynhawn yma. Roedd sylwadau arweinydd yr wrthblaid ar ei eistedd i fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, yn arbennig o ffiaidd, ei bod wedi cymryd swllt—

Andrew R.T. Davies a gododd—

Gall wneud hynny yn ei amser ei hun, Lywydd, gyda pharch.  Nid wyf yn derbyn ymyriad. Nid wyf yn derbyn—[Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad. [Torri ar draws.] Dyna'r hyn a glywais—

Nid yw'r Aelod yn cymryd ymyriad, ac mae arweinydd yr wrthblaid yn mynd i gael ei alw ar ryw adeg a gall egluro ei bwynt.

Roedd tôn y sylwadau—. Mae Aelodau eraill wedi cyfeirio at y chwip yn cael ei tharo. Gallaf sicrhau Aelodau'r Siambr hon nad oes angen defnyddio unrhyw chwip yn y ddadl y prynhawn yma. Rydym oll yn gytûn y dylai'r broses annibynnol hon gael ei sefydlu a'i gweithredu a chael dadl lawn ac agored ar ei diwedd. Bryd hynny, byddaf yn cael gwared ar ôl y brathiad ar fy nhafod ac yn siarad yn fwy rhydd.

Yn achos ymchwiliad yn ymwneud ag achos posibl o dorri cod y gweinidogion, mae'n hollbwysig cael proses annibynnol drylwyr, a chredaf ei bod yn iawn y dylai unrhyw gwynion yn erbyn y Prif Weinidog sy'n ymwneud â chod y gweinidogion gael eu harchwilio gan gynghorydd annibynnol allanol. Mae hyn yn sicrhau ymchwiliad effeithiol, trylwyr a theg. Fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru, nid yw gweithdrefn o'r fath yn unigryw; mae'n digwydd eisoes yn yr Alban. Yn wir, mae pwysigrwydd person annibynnol i gynnal ymchwiliadau i achosion posibl o dorri'r cod ymddygiad eisoes yn cael ei gydnabod gan y Cynulliad hwn. Bydd pob Aelod yn ymwybodol fod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn gweithredu ar y sail mai'r comisiynydd, CF annibynnol, sy'n ymchwilio i gŵyn a adroddir wrth y comisiynydd safonau am Aelod Cynulliad. Nid y pwyllgor sy'n ymchwilio.

Felly, er mwyn ystyried unrhyw achos posibl o dorri cod y gweinidogion yn drylwyr ac yn deg, credaf ei bod hi'n hollol iawn ac yn gwbl synhwyrol i gynghorydd annibynnol ymchwilio i gwynion yn erbyn y Prif Weinidog, fel y mae'n deg i unigolyn annibynnol ymchwilio i gŵyn yn erbyn unrhyw Aelod Cynulliad.

16:20

Ar ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn gofnodi fy mod yn aelod o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. A gaf fi bwysleisio hefyd, yn enwedig wrth yr Aelod UKIP dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, nad wyf yn aelod o unrhyw fyddin deracota—mae gennyf fy llais fy hun a fy marn fy hun.

Lywydd, nid oes unrhyw amheuaeth fod pawb yn y Siambr hon yn dymuno gweld atebion i'r cwestiynau a geir yn y cynnig—atebion sy'n deillio o broses ymchwilio gadarn a thrwyadl. Nawr, ein ffocws y prynhawn yma yw penderfynu ar y broses a ddefnyddir i gyrraedd yr atebion hynny, a sicrhau hefyd fod pawb, y tu mewn a'r tu allan i'r sefydliad hwn, yn credu bod yr atebion hynny'n deg ac yn gywir. Ddoe ddiwethaf, cytunodd arweinydd yr wrthblaid y bydd yna ymchwiliad, waeth beth fydd penderfyniad y Cynulliad y prynhawn yma, pan ofynnodd y cwestiwn yn ystod amser y Prif Weinidog. Felly, gyda'r cytundeb hwnnw, does bosibl nad yr hyn sy'n bwysig yw sicrhau bod y broses sy'n cael ei dilyn ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn drwyadl a bod y canlyniad yn ddigwestiwn.

Rwy'n cydnabod y camau a gymerwyd gan y Prif Weinidog. Fel y deallaf, roedd yn ymateb i lythyr a anfonais ato ar 10 Tachwedd yn gofyn iddo gynnal yr ymchwiliad hwnnw a'i sefydlu. Ond hoffwn wneud y pwynt fod y cylch gorchwyl, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn ymwneud yn benodol â 2014 a'r sylwadau a wnaed yn y cyfryngau yn ystod y pythefnos y buom yn cyfarfod yma. Nid yw'n adlewyrchu'r honiadau ehangach a wnaed yn erbyn swyddfa'r Prif Weinidog a'r Prif Weinidog ei hun gan y cyn-gynghorydd arbennig.

Diolch i'r Aelod am yr ymyriad hwnnw, ac mae wedi ateb—[Anghlywadwy.]

Buaswn wedi meddwl mai dull annibynnol, mewn gwirionedd, fuasai'r ffordd fwyaf amlwg o ateb y gofyniad hwnnw, ac fel y nododd, gwnaeth y cais hwnnw yn ei lythyr ei hun at y Prif Weinidog, gan ddweud bod penodi trydydd parti annibynnol i gynnal ymchwiliad yn llwybr anrhydeddus pan oedd Prif Weinidog yr Alban yn wynebu honiadau tebyg. Felly, gallwn ofyn: beth sydd wedi newid ei feddwl? Credaf ei fod wedi ceisio amlygu'r pwynt hwnnw yn awr, ond os oedd yn anrhydeddus ar 14 Tachwedd i'r Alban, pam nad yw felly yn awr i Gymru?

Mae'r cynnig yn gofyn i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gyflawni'r gwaith hwn ac er bod y pwyllgor yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, nid yw, yn anffodus, yn annibynnol ar y sefydliad hwn. Nawr, rwy'n ymwybodol o'r dadleuon a leisiwyd y prynhawn yma—na ddylai hyn fod yn rheswm i'r pwyllgor beidio â gwneud y gwaith hwn. Ac fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid ddoe yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae'n credu yn ei uniondeb a'i wrthrychedd, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn. Ond yn anffodus, mae rhai y tu allan i'r sefydliad hwn a fuasai'n cwestiynu hynny.

Nawr, fel y dywedodd Lynne Neagle eisoes, gobeithiaf fod yr Aelodau hefyd yn cydnabod fy mod yn aml yn dwyn y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion penodol; nid wyf yn ofni gofyn cwestiynau anodd a heriol. Ond wrth inni chwilio am y gwir drwy'r atebion hynny, rhaid inni hefyd fod yn onest â ni'n hunain a chydnabod y bydd cwestiynau'n cael eu codi ynglŷn â'n hannibyniaeth. I'r graddau hynny, rwy'n credu bod arweinydd yr wrthblaid braidd yn ddrygionus ddoe. Nid wyf am ymhelaethu, gan fod Lynne Neagle eisoes wedi codi pwyntiau ynglŷn â'r hyn a ddywedodd Jeremy Miles ar raglen Sunday Politics Wales, a gwrandewais arni sawl gwaith i gadarnhau yn union hynny. Mae'n bwysig edrych ar y cyd-destun, a'r cyd-destun oedd nad yw'n anodd dychmygu pe bai'r pwyllgor yn cyrraedd canlyniad gwahanol, buasai hynny'n cael ei feirniadu am na fuasai'n cael ei ystyried yn annibynnol. Dyna'r cyd-destun clir—

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Roeddwn i'n arfer gweithio fel swyddog prawf, iawn, ac a allwch ddychmygu sefyllfa lle roedd cleient i'r gwasanaeth prawf yn gallu penderfynu ar y broses ar gyfer ymchwilio, profi a chlywed eu sefyllfa eu hunain? A allwch ddychmygu sefyllfa lle y câi hynny ei ganiatáu a lle y câi ei alw'n gyfiawnder naturiol? Ni fuasai byth yn digwydd, na fuasai?

Mae'r Aelod yn nodi un enghraifft. Gallai fod enghreifftiau eraill y gallem eu nodi, felly hoffwn barhau gyda fy atebion a fy araith.

Y mater hwn ynghylch y canfyddiad o annibyniaeth—mae wedi'i godi eisoes o ran beth y mae pobl yn ei ddweud, ond gadewch i ni fod yn onest eto, a pheidio â thwyllo ein hunain: roedd un aelod o'r pwyllgor hwn yn Weinidog yn Llywodraeth y Cynulliad yn 2014 mewn gwirionedd; mae un Aelod wedi bod yn aelod o'r Cabinet yn ddiweddar; roedd gŵr Aelod arall yn Weinidog Cabinet yn y Cynulliad hwnnw. Bydd yna safbwyntiau a lleisiau amheus yn cael eu clywed bob amser o ganlyniad i'r pethau hynny, ac mae'n bryd bod o ddifrif ac yn onest a chydnabod y bydd yn esgus i rai hau amheuaeth ym meddyliau pobl am unrhyw beth heblaw condemniad llawn o'r hyn a ddaw o'r ymchwiliad hwn i'r Prif Weinidog. Nawr, nid ydym eisiau hynny ac nid oes arnom angen hynny. Nid ydym am i'r amheuaeth gael ei chreu.

Nawr, yr hyn y mae'r gwelliant yn ceisio ei cyflawni yw'r broses o ddadansoddi honiadau'n annibynnol, gan arwain at gynhyrchu adroddiad, a chyflwyno'r adroddiad hwnnw i'w graffu'n gyhoeddus. I'r rhai sy'n dadlau y dylid caniatáu i'r Cynulliad graffu ar waith y Prif Weinidog, buasai'n dod yn gyhoeddus ac yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad. Yn wir, dengys y gwelliant y bydd yn cael ei nodi gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Felly, fe edrychir arno.

Rwy'n cefnogi'r gwelliant y prynhawn yma. Credaf y bydd yn rhoi'r broses fwyaf annibynnol, fwyaf trylwyr a mwyaf tryloyw i bobl Cymru ar gyfer sicrhau'r canlyniadau a fydd yn ennyn hyder, nid yn unig Aelodau'r Cynulliad yn y sefydliad hwn, nid yn unig o fewn y swigen hon, ond y bobl y tu allan i'r sefydliad hwn na all bwyntio bys oherwydd unrhyw bosibilrwydd o fethu bod yn annibynnol. Dyna'r hyn rydym—[Anghlywadwy.]

16:25

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma.

Rwyf am ddechrau, mae arnaf ofn, drwy gywiro rhywbeth a ddywedwyd am yr hyn a ddywedais yn y Pwyllgor Busnes, a deallaf fod eu trafodion yn gyfrinachol fel arfer. Fe ataliais fy mhleidlais ynglŷn ag a fyddai'r cynnig hwn yn cael ei gyflwyno, ar y sail nad oeddwn eto wedi ymgynghori â fy ngrŵp yn ei gylch ac ar sail y tebygolrwydd y byddem yn ei ddiwygio. Mae fy nealltwriaeth a'r cofnodion yn adlewyrchu'r drafodaeth honno.

Dadl yw hon am y trefniadau sydd gennym yn awr—[Torri ar draws.] Na. Na, mae'r cofnodion yn dangos hynny. Chi soniodd—mae'r cofnodion yn dangos hynny.

Dadl yw hon ynglŷn â'r trefniadau sydd i'w rhoi ar waith yn awr i ymchwilio i'r honiadau a wnaed yn yr ychydig wythnosau diwethaf fod y Prif Weinidog wedi torri cod y gweinidogion. Yr hyn sy'n hanfodol bwysig yw bod angen i ni dynnu llinell o dan hyn pa broses bynnag a roddir ar waith i archwilio'r achosion honedig o weithredu'n groes i god y gweinidogion. Ni allwn fod mewn sefyllfa lle mae dilysrwydd unrhyw ymchwiliad dan amheuaeth a bod galw parhaus am ymchwiliadau ychwanegol yn cael blaenoriaeth ar drafodion y Cynulliad hwn.

Yn amlwg, mae'n rhaid i waith craffu fod yn effeithiol ac yn annibynnol a'i fod yn cael ei weld uwchlaw gwleidyddiaeth plaid. Dyma un o'r rhesymau pam nad ydym yn teimlo mai'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yw'r corff priodol i fynd i'r afael â honiadau fod cod y gweinidogion wedi'i dorri. Fel y soniodd nifer o'r cyfranwyr, caiff y pwyllgor ei gadeirio gan Aelod Llafur ac mae'n cynnwys mwyafrif o Aelodau sy'n perthyn i'r Blaid Lafur. Fel yr eglurodd y Cwnsler Cyffredinol ac fel sydd wedi'i grybwyll droeon yn y Siambr hon heddiw, nid yw ein safbwynt yn amau eu gonestrwydd i weithredu'n annibynnol heb ofn na ffafriaeth, ond mae'n adlewyrchu realiti'r canfyddiad a allai fod gan y cyhoedd yn ehangach. Clywais innau hefyd y sylw gwarthus ac rwy'n credu y  dylai arweinydd yr wrthblaid ei dynnu'n ôl.

Lywydd, mae'r rhain yn honiadau sy'n rhaid eu hymchwilio'n briodol ac yn drwyadl. Fel y nododd Mick Antoniw, drwy sefydlu cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i gynnal ymchwiliad o'r fath, buasai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cymylu'r llinellau cyfansoddiadol rhwng y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa, llinellau y dylai'r Senedd hon eu cadw'n glir a llinellau y mae llawer ar draws y Siambr hon wedi dadlau ers amser hir y dylid eu gwahanu, fel sy'n digwydd yn Senedd yr Alban. Barn y Cynulliad Cenedlaethol—[Torri ar draws.] Na, barn Aelod Cynulliad a gyfrannodd at y ddadl hon ydyw. Rôl gyfreithlon y Cynulliad Cenedlaethol yw craffu ar y Weithrediaeth, ond ni ddylem roi Aelodau mewn sefyllfa lle maent yn ymchwilio i gyhuddiadau difrifol yn erbyn y Prif Weinidog. Mae'r rhain yn faterion a all, ac sydd yn fwy priodol—

Mae'n ymddangos i mi ei bod yn creu dadl dros ddiddymu'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, oherwydd gellid dweud y buasai ei holl feirniadaeth o'r hyn a gynigir yma yn berthnasol mewn perthynas â'r pwyllgor hwnnw hefyd.

Dim o gwbl. Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cyfeirio honiadau at gomisiynydd annibynnol.

Mae'r rhain yn faterion a allai gael eu trin, ac sydd yn cael eu trin yn fwy priodol o dan god y gweinidogion, ond dylid ymchwilio iddynt y tu allan i'r broses wleidyddol a chan rywun sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol. Mae cod y gweinidogion yn nodi disgwyliadau'r Prif Weinidog ynglŷn â safonau ymddygiad ac ymddygiad personol gweinidogion. Mae'r cod yr un mor berthnasol i'r Prif Weinidog.

Rydym yn cydnabod, hyd yn hyn—

A wnewch chi ildio? Rwy'n gwrando arni'n ofalus iawn, oherwydd, yn amlwg, fel arweinydd y tŷ, mae ganddi gyfrifoldeb ehangach—hi yw arweinydd y tŷ cyfan. A yw hi'n awgrymu bod ein hawl, ein gallu, ein cyfrifoldeb, mewn gwirionedd, fel Aelodau o'r Senedd hon i ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog wedi'u cyfyngu, rywsut—fod yna rai meysydd nad ydym i fynd iddynt? Oherwydd, fel y dywedais wrthi, rwyf bellach wedi cael atebion ysgrifenedig mewn perthynas â chwestiynau penodol, fel y mae Aelodau eraill, lle mae'r Prif Weinidog bellach yn defnyddio'r ymchwiliad annibynnol fel tarian rhag craffu priodol. Fel arweinydd y tŷ, does bosibl ei bod yn dymuno amddiffyn hynny.

16:30

Na, ni wneuthum unrhyw awgrym o'r fath. Mae cod y gweinidogion yn nodi disgwyliadau'r Prif Weinidog ar gyfer safonau ymddygiad gweinidogol ac ymddygiad personol, a'r un mor berthnasol i'r Prif Weinidog. Rydym yn cydnabod na fu unrhyw gyfle, hyd yn hyn, i gynnal asesiad annibynnol o'r pryderon sylweddol a godwyd mewn perthynas ag ymlyniad y Prif Weinidog wrth god y gweinidogion.

Cafwyd llawer o alwadau—llawer yn y Siambr hon—am benodi cynghorydd annibynnol i fod yn ffynhonnell o gyngor annibynnol ac allanol ar god y gweinidogion, fel sy'n digwydd yn yr Alban. Yn wir, cyfeiriodd arweinydd yr wrthblaid at hyn yn ei lythyr ar 14 Tachwedd, ac yn wir cyfeiriodd at y broses a ddilynir yn yr Alban, a'i chymeradwyo i'r Prif Weinidog.

Yng ngoleuni digwyddiadau diweddar, ac yn unol â'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban, mae cod y gweinidogion wedi'i ddiwygio er mwyn caniatáu atgyfeirio materion o'r fath at gynghorydd annibynnol lle mae'r Prif Weinidog yn tybio bod angen gwneud hynny. Mae adran 1.4 o'r cod bellach yn darparu y gall y Prif Weinidog ofyn i gynghorydd annibynnol roi cyngor iddo seilio ei farn arni am unrhyw gamau sy'n ofynnol mewn perthynas ag ymddygiad gweinidogion, ac y cyhoeddir canfyddiadau'r cynghorydd. Gall hyn fod yn berthnasol i unrhyw Weinidog, lle y bo'n briodol.

Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Tybed a ydych yn derbyn y gall fod dadl y buasai ymchwiliad seneddol cynnar, os gallaf ei roi felly, o gymorth mewn gwirionedd i unrhyw ymchwiliad annibynnol, yn enwedig gan ei fod yn debygol o ddatgelu materion na fuasent wedi cael eu rhagweld efallai ar yr adeg y buasai cylch gwaith yr ymchwilydd annibynnol yn ei ddilyn?

Na, nid wyf yn derbyn hynny, mewn gwirionedd, ac ni fuaswn yn derbyn hynny pe bawn wedi fy nghyfeirio at y pwyllgor safonau ychwaith. Y pwynt am y broses hon yw y gellid ei chymhwyso i unrhyw Weinidog, lle y bo'n briodol, ond ni fuasai modd cymhwyso'r weithdrefn a argymhellir yn y cynnig ger ein bron i neb ond y Prif Weinidog.

Nid yw'r cod yn rhagnodi cwmpas, fformat na dull o gynnal unrhyw ymchwiliad y gellid gofyn i'r cynghorydd ei gynnal. Mater i'r cynghorydd yw penderfynu sut i weithredu ar faterion a gyfeiriwyd gan y Prif Weinidog, fel sy'n wir yn Senedd yr Alban.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd panel o sawl cynghorydd cymwys a phrofiadol yn cael ei benodi i gyflawni'r gwaith hwn, yn unigol neu gyda'i gilydd, ar gyfer unrhyw achosion a gyfeirir yn y dyfodol. Yn y cyfamser, mae James Hamilton, cynghorydd annibynnol cyfredol Llywodraeth yr Alban, wedi derbyn atgyfeiriad uniongyrchol gan y Prif Weinidog mewn perthynas â honiadau a wnaed ei fod wedi torri cod y gweinidogion. Mae'r gwelliant y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyflwyno i'r cynnig gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw yn cydnabod yn llwyr y camau rydym wedi'u cymryd i gryfhau cod y gweinidogion ar gyfer y dyfodol, ac i ddechrau ymchwiliad annibynnol ar unwaith i'r honiadau hyn.

Bydd yr ymchwiliad hwn yn edrych ar y materion sydd wedi'u gwyntyllu yn y Siambr hon ac yn y cyfryngau dros yr ychydig wythnosau diwethaf, a bydd yn penderfynu a yw'r Prif Weinidog wedi torri cod y gweinidogion. Byddwn yn sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol, drwy gyfrwng y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, yn cael copi o adroddiad Mr Hamilton. Bythefnos yn ôl, gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi gofyn heddiw i bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol edrych ar yr honiadau hyn, i'r Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Parhaol benodi trydydd parti diduedd i ymchwilio.

Credaf fy mod yn siarad ar ran pawb yn y Siambr hon pan ddywedaf ein bod i gyd yn cytuno â'r hyn rydych wedi'i nodi, o ran gallu dyfarnwr annibynnol i ofyn cwestiynau manwl ac i gyflawni rôl ddefnyddiol. Ond a wnewch chi gyfaddef mai camgymeriad mawr ar ran y Llywodraeth hon, a Llywodraethau blaenorol, oedd gwrthod mynd ati'n rhagweithiol i sefydlu swydd dyfarnwr annibynnol, ac oherwydd bod y Llywodraeth mewn sefyllfa anodd, mae pobl yn gweld hyn—yn canfod hyn—fel y dywedais yn gynharach, fel ffordd o geisio osgoi craffu cyhoeddus? Mae'n rhy hwyr i chi i sefydlu hyn a honni ei fod yn rhywbeth rydych bob amser wedi'i gefnogi, rywsut. Fe wrthodoch chi wneud hyn yn y gorffennol.

I'r gwrthwyneb. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth. Mae'r hyn rwy'n ei ddweud yn syml iawn. Mae gennym safbwynt cyfansoddiadol cywir rydym yn annog y Siambr hon i edrych arno. Rwy'n cytuno y gallem fod wedi ei wneud yn gynharach. Nid yw'r ffaith na wnaethom hyn yn gynharach yn ei wneud yn ateb anghywir. Yn wir, mae'n parhau i fod yn ateb cywir. Nid rhoi ateb gwahanol ar waith, yn hytrach na'r un rydych bob amser wedi galw amdano, am fod y sefyllfa bellach yn ei gwneud yn galw arnom i wneud hynny, yw'r ymateb iawn i'r ateb cyfansoddiadol cywir.

Lywydd, rydym wedi gwrando ar ddadleuon y rhai a gynigiodd yr ateb cyfansoddiadol cywir. Rwy'n derbyn y gallem fod wedi gwneud hynny'n gynharach, ond mae ein gwelliant yn adlewyrchu realiti'r ffordd gywir o wahanu pwerau. Diolch.

16:35

Diolch i chi, Lywydd. Os caf, cyn i mi ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn anghytuno â chyfraniad yr Aelod dros Lanelli, yn fy nghyhuddo o wneud honiad ar fy eistedd am Lynne Neagle, yr Aelod dros Dorfaen. Ni wneuthum hynny. Mae gennyf y parch mwyaf at yr Aelod, ac nid wyf am i'r Cofnod ddangos hynny gan fy mod yn gwybod yn iawn eich bod yn Gadeirydd pwyllgor craffu nad yw'n ymatal pan fo angen craffu, ac rydych yn sicrhau bod y Llywodraeth yn cael ei dwyn i gyfrif , ac rwyf wedi gweld hynny yn y 10 mlynedd y gwelais i chi yma, yn cyflawni eich rôl fel yr Aelod dros Dorfaen.

Mae'r ddadl heddiw—[Torri ar draws.] Mae'r ddadl heddiw—[Torri ar draws.] Mae'r ddadl heddiw—[Torri ar draws.] Mae'r ddadl heddiw yn eithaf clir. Mae rôl i'r Cynulliad ei chwarae yn craffu ar yr hyn a ddaeth i sylw'r cyhoedd dros y tair wythnos diwethaf. Ni ellir dychmygu na fuasai unrhyw sefydliad arall a fuasai wedi cael y cyhuddiadau hyn gan uwch-swyddogion yn gweithio ynghanol y sefydliad hwnnw yn cael eu dwyn i gyfrif gan y sefydliad hwnnw. Mae'n drueni y bydd y tŷ'n rhannu ar hyd llinellau plaid, ac rwy'n rhagdybio bod llinellau plaid yn cael eu chwipio o ochr y Llywodraeth i'r rhaniad ddigwydd.

Ceir tri ymchwiliad a allai ddigwydd, o bosibl, pe bai'r cynnig hwn yn cael ei dderbyn. Y cyntaf yw'r ymchwiliad annibynnol y mae'r Ysgrifennydd Parhaol yn gweithio i'w sefydlu gyda'r teulu, ac nid yw'n berthnasol i'r hyn rydym yn ei drafod yma heddiw. Yr ail yw'r ymchwiliad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Iau diwethaf, gyda'r person annibynnol i gael ei roi yng ngofal atgyfeiriad ganddo ynghylch materion y cred eu bod wedi cael eu codi dros y 14 diwrnod diwethaf. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod yna ymchwiliad gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i edrych ar yr honiadau cyffredinol, cyhuddiadau—beth bynnag yr hoffech eu galw—a wnaed gan lawer o bobl, rhai yn ddienw, ond gan ddau berson yn arbennig sydd wedi cael profiad uniongyrchol yn mynd yn ôl i 2009—nid 2014 yn unig; 2009—ac am yr holl gyfnod roeddent yn y Llywodraeth.

Ni fydd neb yn hapusach na fi yn y Siambr hon os gellir gwrthbrofi'r honiadau hynny. Does bosibl fod yna unrhyw berson yn y Siambr hon sy'n goddef bwlio, bygythiadau ac unrhyw rai o'r cyhuddiadau eraill a wnaed gan unigolion yn ystod eu cyfnod yn y Llywodraeth. Rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at y ffaith hon: a allwch enwi sefydliad arall, pe baech wedi clywed yn eich rôl fel Aelod Cynulliad—cymeraf ymyriad mewn munud—pe baech wedi clywed am sefydliad arall, lle rydych yn aelod o bwyllgorau amrywiol ac rydych yn craffu ar waith y sefydliad hwnnw, na fuasech yn dwyn y sefydliad hwnnw i gyfrif ynglŷn â'r cyhuddiadau a wnaed ac yn cymryd datganiadau tystion gan y bobl a wnaeth y cyhuddiadau hynny?

A allwch ddweud wrthyf beth yw eich barn ynglŷn â beth fuasai'n fwyaf credadwy yn llygaid y cyhoedd—canlyniad pwyllgor o bersonau sy'n amlwg yn aelodau o bleidiau gwleidyddol a phobl wleidyddol a benodwyd, i bob pwrpas, neu gynghorydd annibynnol?

Rydych wedi taro'r hoelen ar ei phen, Mick, a bod yn deg, oherwydd fe ddywedais na fydd y cynghorwyr annibynnol—ac nid wyf wedi cael fy nghywiro ar hyn—ond yn edrych ar atgyfeiriad penodol y Prif Weinidog ynghylch yr honiadau a ddaeth i law dros y 14 diwrnod diwethaf. Mae'r honiadau sydd yn y parth cyhoeddus ynglŷn â bwlio a bygwth yn ymestyn yn ôl i 2009, a'r pwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod, Paul Davies, yn ei sylwadau agoriadol oedd bod pob aelod o'r pwyllgor hwnnw'n cael eu hethol gan y tŷ cyfan—ystyriaeth bwysig. [Torri ar draws.] Gallem fod yn cael dadl rhwng ein gilydd yn y pen draw, ond fe gymeraf ymyriad arall.

Na, roedd y pwynt yn glir iawn. O ran hyder y cyhoedd yn y canlyniad, pa un fydd yn ennyn fwyaf o hyder: cynghorydd annibynnol neu fel y dywedwch, pwyllgor o ffigurau gwleidyddol a benodwyd?

Rwy'n credu bod y ddau'n bwysig ym meddwl y cyhoedd. Yn y pen draw, os nad yw pwyllgor pwysig—prif bwyllgor y Cynulliad hwn, buaswn yn awgrymu—o holl Gadeiryddion y Cynulliad yn dod ynghyd ac yn craffu ar y Prif Weinidog ynglŷn â honiadau a wnaed yn gallu cyflawni'r gwaith craffu hwnnw, mae rhywbeth mawr o'i le. Fe gymeraf ymyriad mewn munud. Rwy'n pwyso ar sylwadau agoriadol Paul Davies. Caiff y pwyllgor hwn ei gynnull o blith Cadeiryddion y Cynulliad a etholir gan y Cynulliad cyfan. Nid rhai a benodwyd gan y pleidiau ydynt. Ni chaiff ei chwipio, rwy'n tybio, fel y gallai pwyllgorau eraill gael eu chwipio mewn perthynas â phleidleisiau penodol. Fel y dywedais yn fy sylwadau, ni fydd neb yn hapusach yn y Siambr hon os gellir gwrthbrofi'r cyhuddiadau hyn. Nid yw'n flaenoriaeth wleidyddol na'n naratif gwleidyddol i gefnogi bwlio, bygwth ac amgylchedd gwaith gwenwynig. Yn sicr, nid oes yr un ohonom yn goddef hynny, ac mae angen inni fynd at wraidd yr honiadau hyn.

16:40

Rwy'n ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid am ildio ar y pwynt hwn, oherwydd un o'r pethau y credaf ein bod wedi colli ffocws arno mewn rhai rhannau o'r ddadl hon yw'r syniad hwn o gynnal proses seneddol gyhoeddus ar gyfer gofyn cwestiynau allweddol. Un o'r cwestiynau yr hoffwn eu gofyn, na chaf ei ofyn yn awr mewn fforwm mor gyhoeddus, ymddengys i mi, oherwydd ein bod yn mynd i bleidleisio mewn modd penodol, yw: beth oedd y diffiniad o fwlio a ddefnyddiodd y Prif Weinidog pan ddywedodd na wnaed unrhyw honiadau penodol o fwlio? Oherwydd mae polisi urddas yn y gwaith Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud yn glir nad oes angen i chi honni mai bwlio ydyw; mae'n batrwm o ymddygiad y dylid ymchwilio iddo, a gallwn wneud hynny'n ddefnyddiol mewn arena gyhoeddus agored. A buasem yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd, nid yn unig drwy gael arbenigwyr sydd â gallu cyfreithiol yn briodol i graffu ar y pethau hyn yn annibynnol, ond hefyd drwy herio'r dystiolaeth honno mewn fforymau cyhoeddus agored.

Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae'n ymwneud â deall a yw'r honiadau'n gwneud synnwyr yn y lle cyntaf, pa gamau a gymerwyd pan wnaed yr honiadau i'r Prif Weinidog ac uwchlaw popeth, pa gamau a roddwyd ar waith i ymdrin â'r pryderon, os oeddent yn gwneud synnwyr pan gawsant eu harchwilio. Ac yn bwysig, pwy a'u harchwiliodd? Oherwydd nid oes neb ohonom yn gwybod yr atebion i unrhyw un o'r cwestiynau hynny, ac maent wedi cael eu gofyn.

A gofynnaf y cwestiwn hwn eto i'r meinciau Llafur: pe baech yn aelodau o bwyllgor sefydliad rydych yn ei graffu a bod uwch-swyddogion yn y sefydliad hwnnw'n gwneud yr honiadau hyn—a defnyddiaf y gair 'honiadau', gan mai dyna ydynt, honiadau y mae angen eu casglu a'u profi neu eu gwrthbrofi—oni fuasech yn eu cael ger eich bron? Oni fuasech yn eu cael ger eich bron i roi'r dystiolaeth? Yn yr un modd, y bobl sy'n cael eu cyhuddo o beidio â gweithredu i fynd i'r afael â'r pryderon, oni fuasech yn eu cael i mewn i roi eu hochr hwy i'r ddadl? Ymwneud â hynny y mae'r cynnig hwn.

Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd pobl am amseru, ac mae'n iawn: pa bryd fuasai'r amser priodol i ymgymryd â hyn? Rydym wedi cyflwyno'r cynnig hwn gerbron y Cynulliad heddiw oherwydd, fel y dywedais, mae'r ymchwiliad i'r drasiedi a ddeilliodd o ad-drefnu'r Cabinet yn broses annibynnol sy'n digwydd drwy ymchwiliad ar wahân. Bellach, ceir yr ymchwiliad y cyfeiriodd y Prif Weinidog ei hun ato, y person annibynnol, a gyhoeddodd ddydd Iau diwethaf. Cyflwynais fy llythyr yn gofyn iddo wneud hynny ar 10 Tachwedd. Ymddangosodd y cynnig hwn ar y papur trefn ddydd Iau diwethaf. Gofynnaf i chi ffurfio eich casgliadau eich hunain ynglŷn â pham y daeth allan ar yr un diwrnod.

Nid wyf yn credu y bydd y cyhoedd yn edrych garedig arnom fel sefydliad—sefydliad sydd, yn fy marn i, yn senedd Cymru—ac fel cynrychiolwyr democrataidd Cymru, am beidio â chael cyfle i wneud ymholiadau a chraffu ar y Prif Weinidog drwy gyfrwng y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar honiadau a wnaed yn uniongyrchol am ei swyddfa a'i weithredoedd. Fel y dywedaf eto, nid wyf yn meddwl fod hwnnw'n gynnig afresymol i ofyn i'r Aelodau bleidleisio drosto y prynhawn yma. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau, ar ôl ystyried, yn pleidleisio i gefnogi'r cynnig hwn, yn caniatáu i'r pwyllgor wneud ei waith ac yn y pen draw, gobeithio, yn gwrthbrofi'r honiadau hyn, ond os cânt eu profi, gobeithiaf y bydd yn cynnig yr argymhellion sydd eu hangen arnom i wneud yn siŵr nad oes cornel yn unman mewn bywyd cyhoeddus lle y gall cyhuddiadau mor ddifrifol grynhoi a lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso, eu cam-drin a'u gwthio o'r neilltu.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Inswleiddio waliau ceudod

Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ac rwy'n galw ar Mick Antoniw i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6521 Mike Hedges, David Melding, Simon Thomas, Dawn Bowden

Cefnogwyd gan Mick Antoniw, Russell George, Siân Gwellian

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y gall inswleiddio waliau ceudod, pan y caiff ei wneud yn gywir mewn eiddo addas, fod yn ffordd gost effeithiol o leihau biliau tanwydd, gan gyfrannu at leihau allyriadau carbon a thlodi tanwydd.

2. Yn credu, fodd bynnag, fod lleiafrif sylweddol o osodiadau yn parhau mewn eiddo anaddas ac eiddo nad yw'n cydymffurfio â safonau gwaith da, a bod ceisio cael iawn am hynny yn aml yn anodd a'r iawndal yn aml yn annigonol neu'n amhosibl ei gael.

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cavity Insulation Guarantee Agency ac eraill i ddarparu iawndal priodol ac iawndal ar gyfer gwaith a gaiff ei osod yn anghywir, ac i gryfhau'r prosesau ar gyfer diogelu defnyddwyr yn y dyfodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Lywydd, wrth i ni nesáu at y Nadolig, mae'n briodol ein bod yn cael dadl ar fater y gellid, i'r rhai yr effeithir arnynt, ei ddisgrifio'n deg fel pantomeim, er yn un gyda llinyn storïol tywyll a sinistr. Nid oes fawr o arwyr ym mhantomeim inswleiddio waliau ceudod, ond ceir llawer o dihirod.

Yn gyntaf, ceir y cwmnïau ynni. Nid oes ganddynt ddiddordeb mewn dim heblaw cyrraedd targedau Llywodraeth y DU, nid oes ganddynt fawr o barch tuag at ansawdd y gwaith a wneir neu, o'i ymestyn, pa un a yw'r manteision amgylcheddol a fwriadwyd yn cael eu gwireddu. Yna, ceir y cwmnïau gosod twyllodrus, sy'n targedu'r tlotaf â thechnegau galw diwahoddiad ymosodol, gan ddefnyddio staff heb eu hyfforddi'n dda sy'n cael eu talu ar sail comisiwn yn unig. Yna, mae gennym y Cavity Insulation Guarantee Agency, y corff cwynion honedig 'annibynnol' a sefydlwyd gan y diwydiant, gyda gweithwyr o'r diwydiant, ar gyfer y diwydiant, gallech ddweud. Ac yn olaf, mae Llywodraeth y DU sydd, drwy osod targedau i gwmnïau ynni ar gyfer insiwleiddio waliau ceudod heb yn gyntaf roi fframwaith goruchwyliaeth cadarn ar waith, wedi annog diwylliant laissez-faire a nodweddir gan ddiffyg atebolrwydd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

16:45

Lywydd, nid yw camwerthu inswleiddio waliau ceudod yn fater i chwerthin yn ei gylch i filoedd o bobl sy'n byw gyda chanlyniadau inswleiddio waliau ceudod a wnaed yn amhriodol neu'n wael. Mae proses inswleiddio waliau ceudod yn gymhleth ac yn gweithio'n llwyr yn erbyn y defnyddiwr. Caiff ei werthu fel mater o drefn fel rhywbeth wedi'i 'gefnogi gan y Llywodraeth', pwynt gwerthu allweddol i gwmnïau gosod diegwyddor. Nid yw wedi'i gefnogi gan y Llywodraeth, ac mae angen i Lywodraeth y DU weithredu i wneud hyn yn glir. Mor bell yn ôl â 2014 derbyniodd Corff Cofrestru a Goruchwylio'r Fargen Werdd adroddiadau gan heddluoedd yng Nghymru, yr Alban a Surrey am honiadau o arferion twyllodrus yn y farchnad inswleiddio waliau ceudod, gan gynnwys gweithgaredd twyll ar raddfa fwy ac achosion posibl o wyngalchu arian.

Mae'n ofynnol i'r person sy'n gwerthu inswleiddio waliau ceudod, sy'n aml heb gael fawr iawn o hyfforddiant, asesu addasrwydd eiddo ar gyfer inswleiddio waliau ceudod. Mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf pa mor ansylweddol yw'r asesiad hwn. Nid yw ymarfer ticio blychau yn gwneud y tro yn lle asesiad gan weithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n briodol. Gyda llaw, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn cael copi o'r ddogfen asesu, ac nid yw ychwaith yn elfen orfodol o broses gwyno CIGA. Mater pellach amlwg iawn yw bod yr asesiad i'w weld yn anwybyddu lleoliad yr eiddo. Mae Cymru i gyd bron wedi'i lleoli yn ardal categori 4 ar gyfer glaw wedi'i yrru gan y gwynt, hynny yw, yn agored i dywydd difrifol. Mewn amgylchiadau o'r fath mae ffibrau mwynau'n gweithredu fel pont i  leithder groesi drwy geudod y wal. Yn 2015 gofynnwyd i Amber Rudd AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd ar y pryd, a ddylid defnyddio inswleiddio waliau ceudod mewn ardaloedd categori 4 o gwbl. Mewn ymateb, dywedodd:

Yn ôl yr hyn a gofiaf, ni ddylid gwneud hynny at ei gilydd.

Felly, pam y mae Llywodraeth y DU yn caniatáu i'r sefyllfa hon barhau? Gallent ymyrryd i roi diwedd ar y camddefnydd hwn. Er enghraifft, pam y mae Llywodraeth y DU yn caniatáu i gyflenwyr ynni gontractio cynifer o gwmnïau gosod amheus? Maent yn creu llanast, yn mynd i'r wal, ac yna'n ailymddangos ar ffurf wahanol gyda'r un cyfarwyddwyr yn eu lle. Pam nad yw Llywodraeth y DU yn sicrhau bod cwmnïau gosod a chyflenwyr ynni yn cadw cofrestr gywir o gartrefi lle maent wedi inswleiddio waliau ceudod? Ar hyn o bryd, nid yw Ofgem hyd yn oed yn gwybod mewn faint yn union o gartrefi y cafodd ei osod.

Pam nad yw Llywodraeth y DU yn mynnu trefn brofi sy'n addas at y diben? Mae Ofgem hyd yn oed yn cydnabod y gall problemau ddigwydd flwyddyn neu fwy ar ôl gosod, felly yn sicr rhaid i hynny gael ei adlewyrchu yn yr amserlen ar gyfer cynnal profion. Nid yw gofyniad Ofgem am archwiliad untro ychydig wythnosau ar ôl gosod yn gwneud synnwyr. Ac yn olaf, pam y mae Llywodraeth y DU, mewn datganiad ym mis Ebrill 2017, wedi derbyn yn llariaidd y sicrwydd gan CIGA fod pob un o'r 3,663 o gwynion gan gartrefi yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru wedi'u datrys? Gallaf ddweud wrth Lywodraeth y DU nad yw hynny'n wir o gwbl.

Nawr, gadewch i ni droi at CIGA. Mae llawer o bobl yn fy etholaeth i a ledled Cymru wedi cwyno i CIGA. Mae'n broses drofaus. Yn 2015, adroddodd The Daily Telegraph fod saith o 11 cyfarwyddwr CIGA hefyd yn gyfarwyddwyr cwmnïau sy'n gweithgynhyrchu neu'n inswleiddio waliau ceudod; mae tri yn ymwneud â lobïo Llywodraeth y DU ar gyfraith effeithlonrwydd ynni. Pan fydd CIGA yn colli achos ac yn cytuno i glirio gwaith a wnaed ar inswleiddio waliau ceudod, yn aml mae'n rhoi'r contract i gwmnïau a weithredir gan gyfarwyddwyr CIGA. Naw wfft i annibyniaeth.

Mae'n ymddangos i breswylwyr fel pe bai CIGA yn gwneud popeth yn eu gallu i rwystro hawliadau. Tan yn ddiweddar iawn, mewn rhai achosion, roedd yn gweithredu dwy warant, gydag un ohonynt yn gosod gofynion cynnal a chadw llym ar berchnogion eiddo, gyda llawer ohonynt yn hŷn neu'n anabl. Roedd yn gadael pobl yn y sefyllfa amhosibl o gael eu gwarant wedi'i hannilysu os oeddent yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw, neu fe gaent eu cais wedi'i wrthod os oeddent heb wneud gwaith cynnal a chadw. Yn achos fy etholwr, Mr Morgan, ni ddaeth yn ymwybodol o'r cymal cynnal a chadw hwn hyd nes y gofynnodd am gopi o dystysgrif ei warant—ac nid oes ryfedd, gan fod y dystysgrif wreiddiol yn rhestru saith amod, tra oedd y copi'n cynnwys wyth amod. Roedd yr amod cynnal a chadw ychwanegol wedi'i fewnosod heb yn wybod i Mr Morgan a heb ei ganiatâd.

Mae cyllid CIGA yn hollol annigonol i dalu am yr holl waith adfer sydd ei angen. Yn 2015, adroddwyd bod gan CIGA gronfeydd i dalu am lai na 1,000 o'i 6 miliwn o warantau. A oes unrhyw syndod fod cyfradd wrthod hawliadau CIGA mor uchel? Mae llawer o'r rhai yr effeithiwyd arnynt ar incwm isel, felly mae'n ddealladwy fod y posibilrwydd o gynnal arolwg annibynnol, sy'n costio hyd at £500, yn lladd unrhyw fwriad i wneud cwyn. Yn lle hynny, nid oes ganddynt hwy na'u plant unrhyw ddewis heblaw byw mewn lleithder a llwydni a byw gyda'r clefydau anadlol a mathau eraill o glefyd a ddaw yn sgil hynny.

Nid oes unrhyw dystiolaeth fod proses y dull amgen o ddatrys anghydfod, a weithredir y Ganolfan ar gyfer Datrys Anghydfodau'n Effeithiol, yn fwy effeithiol o gwbl. Mae fy etholwr, Mr Gray, sydd yn yr oriel gyhoeddus heddiw, yn achos prin o'r ganolfan yn caniatáu buddugoliaeth. Cafodd CIGA ei chyfarwyddo gan y ganolfan i gael gwared ar yr inswleiddio o gartref Mr Gray, a gwnaethant hynny, ond yn y broses, achosodd y gwaith cloddio ddifrod helaeth i'r rendr allanol. Argymhellodd adroddiad syrfëwr Mr Gray y dylid ailrendro'r eiddo'n llawn. Gwrthododd CIGA weithredu. Aeth Mr Gray yn ôl at y ganolfan, a ddywedodd nad oedd unrhyw beth y gallent ei wneud, ac mai unig opsiwn fy etholwr oedd mynd â CIGA neu'r cwmni gosod i'r Uchel Lys, ac fel y gwyddoch, mae hynny'n ddrud iawn. Yn aml, y rhai sydd â leiaf o fodd sy'n cael eu brawychu fwyaf gan y broses, a cheir llawer nad ydynt yn trafferthu cwyno. Yn fy marn i, nid yw CIGA yn addas at y diben. Felly, lle mae hyn oll yn gadael y defnyddiwr? Fel y mae Corff Cofrestru a Goruchwylio'r Fargen Werdd yn datgan ar ei wefan, 'Ni cheir llwybr clir ar gyfer digolledu defnyddwyr oherwydd trefniadau contractio cymhleth'.

Lywydd, rwy'n cydnabod bod y cymhellion sydd wrth wraidd yr amrywiol gynlluniau inswleiddio waliau ceudod yn werth chweil: darparu cartref cynnes a chostau tanwydd is i bobl yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi tanwydd, a helpu'r DU i gyflawni ei rhwymedigaethau mewn perthynas â lleihau allyriadau carbon, ond ni all hynny fod yn ben draw ar atebolrwydd a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Mae gan Lywodraeth y DU, sy'n cynllunio i wneud 1 filiwn o osodiadau pellach, rwymedigaeth i ddatrys y broblem hon. Polisi Llywodraeth y DU sydd wedi chwyddo'r farchnad hon i'w maint enfawr presennol—sy'n werth £800 miliwn yn ôl rhai dulliau o fesur. Llywodraeth y DU sydd wedi methu cymhwyso rheoliadau i ddiogelu pobl rhag camwerthu, a Llywodraeth y DU sydd wedi methu cyflwyno proses dryloyw a chadarn ar gyfer unioni camweddau a digolledu pobl yn briodol.

Rwy'n cydnabod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru eisoes. Bydd sicrhau bod gosodiadau arfaethedig yn cael eu cyflawni'n annibynnol gan bobl sydd â chymwysterau priodol yn helpu i atal camwerthu yn y dyfodol. Bydd darparu canllawiau i ddeiliaid tai ar gynnal a chadw yn helpu hefyd. Fodd bynnag, buaswn yn gofyn a oes rhagor y gallwn ei wneud o fewn ein pwerau presennol. Er enghraifft, buasai ail asesiad wedi 24 mis, dyweder, ar ôl gosod yn darparu tystiolaeth gadarn i'w chyflwyno i CIGA ac yn cael gwared ar faich y gost i'r defnyddiwr. Yn y bôn, mae angen i'r cyflenwyr ynni fod yn rhan o'r broses a chymryd cyfrifoldeb dros waith wedi'i is-gontractio a gyfarwyddir ganddynt. Hwy sy'n penderfynu pa fesurau y byddant yn eu hariannu a chyda pha osodwr y maent yn gweithio, felly ni ddylid caniatáu iddynt gamu'n ôl rhag y broblem y maent wedi helpu i'w chreu. Mae'n bosibl y bydd datganoli polisi ynni ymhellach yn 2018 yn cynnig cyfleoedd i wneud hyn, a buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried pa opsiynau newydd a allai fod ar gael i chi mewn gwirionedd.

Agorais drwy broffilio'r dihirod yn y sgandal gynyddol hon, ond diolch byth, ceir rhai arwyr. Mae pob preswyliwr sy'n sefyll yn ddewr yn erbyn camwerthu gan y diwydiant yn deilwng o gydnabyddiaeth. Hoffwn sôn yn arbennig am Pauline Saunders a CIVALLI, y sefydliad gwirfoddol sy'n sefyll dros ddioddefwyr camwerthu gwaith inswleiddio waliau ceudod. Mae Pauline a nifer o ddioddefwyr camwerthu yn yr oriel heddiw, a hoffwn dalu teyrnged i bawb ohonoch am y gwaith a wnewch fel gwirfoddolwyr.

Ond fel y dywedais ar ddechrau fy araith, mae'r broses wedi'i llwytho yn erbyn yr unigolyn. Rhaid inni sefyll yn ddiamwys ar ochr y teuluoedd y mae eu bywydau wedi'u difetha gan y sgandal hon. Fel cam cyntaf, rhaid i Lywodraeth Cymru sefydlu beth yn union yw'r sefyllfa yng Nghymru a chyhoeddi cynllun gweithredu. Rhaid iddi gydnabod na fydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yn hyn wedi bod o fudd i'r rheini sydd eisoes wedi dioddef camwerthu, felly mae'n rhaid cynnwys galwad ar Lywodraeth y DU i gynnal adolygiad llawn o'r diwydiant, gan gynnwys rheoleiddio gwerthiannau, rôl CIGA, yr angen am broses unioni camweddau a digolledu sy'n deg, rôl Ofgem a chyfrifoldebau'r cwmnïau ynni. Mae'n ymddangos i lawer fod y diwydiant wedi celu'r gwirionedd, naill ai'n fwriadol neu drwy fod yn hunanfodlon. Drwy gefnogi'r cynnig hwn, rydym yn cydnabod bod camwerthu inswleiddio waliau ceudod yn sgandal gynyddol, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i helpu i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr camwerthu a chyfiawnder i'r rheini a fydd yn dioddef yn y blynyddoedd i ddod. Diolch.

16:55

Rydym yn dadlau am bwnc pwysig iawn y prynhawn yma, ac roeddwn yn falch o gael cyfle i gydgyflwyno'r cynnig hwn, ac rwy'n cymeradwyo Mick Antoniw am ei flaengarwch yn codi'r mater hwn. Hoffwn ddweud bod inswleiddio waliau ceudod yn parhau i fod yn offeryn pwysig yn y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd, ond wrth gwrs, mae'n rhaid ei wneud lle bo hynny'n briodol, ac mae'n rhaid iddo gael ei wneud yn effeithiol.

Hoffwn ddweud ychydig eiriau am yr amcangyfrifon diweddaraf ynglŷn â thlodi tanwydd gan Lywodraeth Cymru, fod 291,000 o aelwydydd, 23 y cant, yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae'r ffaith fod yr ystadegau hyn yn welliant ar ddata 2010 yn rhoi peth calondid, ond yn amlwg mae'n dal i fod yn her enfawr i ni. Efallai ei bod yn well arnom mewn cymhariaeth â'r Alban, dyweder, lle mae ganddynt gyfraddau hyd yn oed yn uwch o dlodi tanwydd, ond mae gwaith enfawr i'w wneud, ac mae inswleiddio waliau ceudod yn rhan o gyfres o fesurau y mae angen i ni eu cael. Credaf hefyd ei bod hi'n bwysig rhoi hyn ym mhersbectif ehangach y mesurau eraill a roddir ar waith gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wella mynediad at systemau tanwydd a gwresogi effeithlon.

Pan edrychwch ar ffeithiau gwirioneddol inswleiddio waliau ceudod, credaf fod angen i ni gofio'r cyfrif a wnaed y gallai, lle y bo'n briodol, arbed hyd at £150 y flwyddyn mewn biliau gwresogi, o effeithiau inswleiddio yn unig. Yn amlwg, dyna yw'r sbardun ar gyfer ei ddefnyddio lle mae'n effeithiol. Yn ogystal, drwy waliau allanol y collir 35 y cant o wres domestig, ac mae astudiaethau wedi awgrymu eich bod yn arbed tunnell o garbon deuocsid ar gyfartaledd am bob metr sgwâr o waliau ceudod a inswleiddir dros oes yr adeilad. Felly, yn achos tŷ pâr cyffredin, mae hynny'n 80 tunnell neu fwy dros oes y cartref. Felly, mae hyn yn cyfrannu'n sylweddol, o'i wneud yn dda, at leihau allyriadau carbon deuocsid, yn ogystal â chadw cartrefi'n gynhesach am lai o arian wrth gwrs.

Ond fel y mae pwynt 2 y cynnig hwn yn cydnabod, ceir lleiafrif sylweddol—nid yw'n nifer fach, rwy'n cyfaddef hynny—o osodiadau mewn eiddo anaddas a gwaith nad yw'n cydymffurfio â safonau crefftwaith da. Nid af i ailadrodd y pwyntiau a wnaeth Mick; credaf ei fod wedi darlunio'r pwyntiau'n rymus. Ceir tystiolaeth gynyddol sy'n dangos bod gan y diwydiant lawer o waith i'w wneud i wella ansawdd crefftwaith ar safleoedd. Gwelodd adroddiad Sefydliad Ymchwil Adeiladu 'Post Installation Performance of Cavity Wall & External Wal Insulation', adroddiad allweddol yn y maes hwn, fod safon peth o'r gwaith a gwblhawyd yn wael, a bod tystiolaeth gref i ddangos nad oedd gwaith cynnal a chadw priodol yn cael ei wneud ar ôl inswleiddio. Felly, mae'n destun pryder go iawn.

Yn y pen draw, beth yw'r pwynt hyrwyddo ac annog cartrefi i fanteisio ar gynlluniau inswleiddio waliau ceudod os yw'r gwaith inswleiddio ei hun yn achosi mwy o broblemau na'i werth? Ac mae'n amlwg fod rhai pobl wedi cael eu harwain i'r cyfeiriad hwnnw, ac ni wnaed defnydd effeithlon o adnoddau mawr eu hangen o'r pwrs cyhoeddus i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Os caf sôn am rai o'r problemau a achoswyd gan arferion inswleiddio gwael: lleithder a llwydni, sy'n achosi arogleuon annymunol, plastr yn briwsioni, staenio waliau ac mewn rhai achosion, mae gwerth eiddo wedi gostwng yn sylweddol.

Felly, rwy'n cytuno â llawer o ddadansoddiad Mick o'r broblem hon y mae'n ei galw'n gamwerthu gwaith inswleiddio waliau ceudod. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn gweld dull effeithiol ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n hawdd gosod y bai i gyd ar Lywodraeth y DU. Hynny yw, mae hwn wedi bod yn bolisi hirsefydlog ers bron i 25 mlynedd, ac yn amlwg, cafwyd Llywodraeth Lafur am lawer o'r amser hwnnw. Ond mae'n deg dweud bod ymyl galed hyn bellach yn torri ar draws gwaith Llywodraeth Cymru, a chredaf ei bod hi'n bwysig i ni gael arolwg effeithiol o'r cartrefi sy'n wynebu problemau, a dyma oedd un o argymhellion canolog adroddiad y Sefydliad Ymchwil Adeiladu rwyf newydd gyfeirio ato. Credaf fod honno'n ffordd briodol ymlaen.

Mae llawer mwy y gallwn fod wedi ei ddweud. A bod yn deg, rwy'n credu bod Mick wedi mynegi'r pryder gwirioneddol y mae'r bobl sydd wedi dioddef yn sgil ymarfer gwael yn ei deimlo, ac ni chredaf y gall unrhyw un ohonom wadu hynny, oherwydd mae'n fater sylfaenol. Mae inswleiddio gwael iawn yn gwbl annerbyniol ac yn arwain at ddioddefaint mawr iawn i'r rhai yr effeithir arnynt.

17:00

Mae'n bleser gen i gymryd rhan yn y ddadl. Dadl ydy hi yn y bôn am degwch a chwarae teg. Mae'n fater sy'n effeithio ar fywydau miloedd o bobl yng Nghymru. Mae insiwleiddio waliau ceudod wedi'i osod mewn bron i 14 miliwn o gartrefi ledled y Deyrnas Unedig, ond mewn 3 miliwn o'r rheini, mae o wedi achosi problemau mawr.

Cafodd y math yma o insiwleiddio ôl-weithredol ei hyrwyddo gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a chwmnïau ynni, yn ogystal â chynghorau lleol, a'r nod cychwynnol oedd i leihau costau ynni oddeutu £250 y flwyddyn i bob cartref, ac hefyd, wrth gwrs, i fodloni targedau effeithlonrwydd ynni y Llywodraeth.

Mewn llawer o achosion yn fy etholaeth i yn Arfon, nid yw insiwleiddio waliau ceudod ddim wedi cael y canlyniad yna, ond yn hytrach, mae o wedi achosi problemau megis llwydni du, lleithder, pydru sych a difrod i addurniadau a dodrefn. Ac wedyn, mae'r lleithder, yn ei dro, wedi achosi problemau iechyd: asthma a phroblemau anadlu, heb sôn am straen a phryder. Ac, er ei bod hi'n broblem sylweddol, nid oes ymchwil wedi cael ei wneud, o unrhyw fath, y medrwn ni alw'n sylweddol, na galwad cyhoeddus i bobl ddod ymlaen er mwyn adnabod dioddefwyr a chynnig help iddyn nhw.

Cafodd llawer o'r math yma o insiwleiddio ei osod gan gwmnïau ynni neu gan eu his-gontractwyr nhw, fel rhan o gynlluniau Bargen Werdd ac ECO Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a llawer o ddefnyddwyr yn teimlo eu bod nhw'n gallu ymddiried mewn cynllun a oedd yn cael ei gefnogi gan y Llywodraeth. Nid oedden nhw'n cwestiynu addasrwydd eu heiddo ar gyfer y math yma o insiwleiddio, nac yn cwestiynu gallu'r gosodwyr i'w gosod yn gywir.

Mae'n wir dweud, hyd yn hyn, y bu'r broses iawndal drwy'r Cavity Insulation Guarantee Agency yn anfoddhaol, efo pobl fregus yn dal i ddioddef mewn cartrefi llaith. Mae cynllun gwarantu'r diwydiant wedi siomi llawer o ddioddefwyr, ac mae'r gosodwyr a'r asiantaeth efo hanes o beidio â chymryd y cwynion o ddifrif, gwrthod cynnig mesurau cywiro a gwrthod cynnig iawndal digonol. Mae yna ddiwylliant o osgoi ac anwybyddu ymholiadau cwsmeriaid, methu â darparu atebion llawn i gwestiynu syml a gwadu cyfrifoldeb.

Mae cwmnïau ynni megis E.ON, SSE, Npower ac EDF yn dal i wthio insiwleiddio waliau ceudod, er bod Nwy Prydain wedi rhoi'r gorau i gynnig hyn beth amser yn ôl. Ac, fel y clywsom ni, mae rhaglen Nyth Llywodraeth Cymru—y Llywodraeth yma—yn dal i annog pobl i gael insiwleiddio waliau ceudod wedi'i osod yn y wlad yma, er bod y problemau yn parhau. Mae llawer o'r cwmnïau a gyflawnodd y gosodiadau wedi mynd i'r wal erbyn hyn, ac felly dim ond yr asiantaeth warant sydd gan bobl ar ôl i droi ato fo. Mae dioddefwyr wedi beirniadu'r asiantaeth am fethu ag ymateb yn briodol i bryderon ynglŷn ag insiwleiddio sydd wedi cael ei osod yn wael neu insiwleiddio sydd wedi'i osod mewn eiddo anaddas.

Yn Arfon, mae Hywel Williams AS wedi bod yn hynod weithgar yn ceisio cefnogi etholwyr. Rydym ni wedi gweld, hyd yma, 80 a mwy o achosion, ac yn yr achosion yna, nid oes gan neb gopi o'r adroddiad cyn-osod a ddylai fod wedi cael ei gwblhau gan y gosodwr cyn cychwyn gwaith insiwleiddio. Ac mae hyn er gwaethaf y ffaith bod CIGA yn parhau i ddatgan y cynhaliwyd asesiadau cyn-osod ar gyfer pob eiddo ac na fyddai'r insiwleiddio wedi cael ei osod os nad oedd yr eiddo yn addas. Mae'n ddrwg iawn gen i, ond nid dyna'r profiad rydym ni wedi ei gael yn Arfon.

Mae un etholwr yn Arfon wedi bod yn brwydro efo'r problemau am bron i bedair blynedd. Aeth y cwmni gosod gwreiddiol i'r wal ac mae'r asiantaeth wedi gwrthod cyfrifoldeb ers dros ddwy flynedd. O'r diwedd, maen nhw wedi cynnig tynnu'r deunydd insiwleiddio allan o un wal, ond rydw i'n deall gan arbenigwyr yn y maes echdynnu fod tynnu insiwleiddio allan o un wal yn creu mannau oer ac yn debygol o waethygu'r broblem yn y tymor hir. Felly, nid ydy hynny'n foddhaol o gwbl.

Mae Hywel Williams wedi bod yn gweithredu ers blynyddoedd i ddarganfod atebion a sicrhau tegwch i etholwyr Arfon a Chymru, ac rydw i'n gwybod bod yna eraill wedi helpu llawer yng Nghymru sydd wedi dioddef. Ac ie, rydw i hefyd yn diolch i Pauline Saunders a CIVALLI am eu gwaith pwysig yn y maes yma. Mae'n hen bryd i'r miloedd sydd wedi cael profiadau hollol annerbyniol yn sgil insiwleiddio waliau ceudod gael chwarae teg, ac rydw i'n diolch yn fawr iawn i Mick, Mike a'r gweddill am ddod â'r ddadl yma gerbron.

17:05

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Mick am y cefndir manwl iawn, a'r dadansoddiad, mewn gwirionedd, o'r problemau a arweiniodd at gyflwyno'r cynnig hwn? Felly, yn bersonol rwyf am ychwanegu ychydig o fy sylwadau fy hun i gefnogi'r hyn a ddywedodd Mick eisoes, yn enwedig mewn perthynas â'r effaith ar rai o fy etholwyr.

Yr hyn a ddaeth yn amlwg i mi'n gynnar iawn yn fy nghyfnod fel AC oedd fy mod wedi dechrau gweld patrwm yn dod yn amlwg yn fy ngwaith achos a pheth o'r ohebiaeth a gawn gan etholwyr, ac mae'n batrwm sy'n parhau heddiw mewn gwirionedd, yn ymwneud â phobl sydd wedi cael gwaith inswleiddio waliau ceudod wedi'i wneud yn eu cartrefi. Mae'r patrwm wedi dod yn weddol gyfarwydd. Felly, gwelwn waith inswleiddio'n cael ei hyrwyddo, cawn ddeiliaid tai yn manteisio ar y cynnig o waith inswleiddio, ac yna'n canfod problemau ar ryw bwynt wedyn megis lleithder yn dechrau codi, a daw'n amlwg yn gyflym nad achosion unigol a ddôi i fy sylw, ac nid oeddwn yn sylweddoli ar y pryd, ond roeddent yn ffurfio rhan o batrwm ehangach o lawer. Rwy'n ddiolchgar iawn i gyd-Aelodau yn y Cynulliad gan ein bod wedi ymchwilio ac wedi gweithio gyda'n gilydd i ganfod natur a graddau'r problemau hyn. Mae'n ddrwg gennyf ddweud nad yw'n ymddangos bod hon yn mynd i fod yn sefyllfa hawdd ei datrys.

Ceir cymysgedd o broblemau'n rhan o'r broblem hon sy'n amrywio o ddiffyg arolygon paratoi y clywsom Siân a Mick yn siarad amdanynt gan staff â chymwysterau addas, gan arwain at wneud gwaith amhriodol yn y cartrefi a gwaith amhriodol wedyn i'r stoc dai cymdeithasol heb yn wybod i landlordiaid, a'r landlordiaid hynny bellach yn gorfod talu i gael gwared ar beth o'r gwaith inswleiddio a gwblhawyd, diffyg atebolrwydd neu achrediad ar ran contractwyr sydd wedi gwneud gwaith inswleiddio, a gwendid y warant y soniai Mick amdani yn y sector. Mewn gwirionedd, nid yw'n ymddangos bod y Cavity Insulation Guarantee Agency yn addas i'r diben; yn wir, mae'n ymddangos eu bod wedi'u llethu gan faint y problemau y maent yn eu hwynebu. Dyna pam y dewisais ychwanegu fy enw at y cynnig hwn.

Mae'n caniatáu i mi adrodd ar achosion fel yr etholwr oedrannus a gafodd waith inswleiddio waliau ceudod wedi'i wneud bron ddwy flynedd yn ôl drwy gynllun Llywodraeth ac o ganlyniad i hynny, mae hi bellach yn cael problemau mawr gyda lleithder drwy ei heiddo i gyd. Mae'r etholwr wedi siarad â'r contractwr, a dywedodd y contractwr fod y lleithder yn gysylltiedig â chyddwysiad yn eu barn hwy ac nad oes unrhyw beth pellach y gallant ei wneud. Yn ffodus, yn yr achos hwn, mae'r contractwr yn dal i fasnachu ac mae'r etholwr bellach wrthi'n dechrau ar y broses o wneud cais i CIGA gan fod ganddi warant 25 mlynedd. Yn anffodus, i lawer o bobl eraill, lle nad yw'r contractwr yn gweithredu mwyach, nid yw dwyn achos o'r fath gerbron bob amser yn syml, gan adael rhai perchnogion tai i wynebu biliau mawr gan fod yn rhaid iddynt unioni'r gwaith eu hunain.

Mae'r cynnig hwn yn cefnogi achos etholwyr fel hyn, sy'n wynebu anghyfleustra a chostau, wedi i waith inswleiddio diffygiol gael ei gyflawni. Ym mhob achos bron, ni ragwelwyd y costau hyn ac ni chyllidebwyd ar eu cyfer, ac mewn llawer o achosion, maent yn bwyta i mewn i arian pensiwn gwerthfawr neu arbedion ac yn yr achosion gwaethaf, maent yn peri i bobl fynd i ddyled pan fydd yn rhaid iddynt fenthyca arian i gywiro'r gwaith. Ac mae costau wedyn i landlordiaid cymdeithasol, lle maent yn gorfod gwario arian ar gyweirio eu heiddo, arian na ellir ei wario mwyach ar ehangu neu wella eu stoc dai.

Ceir angen parhaus i ddeall mwy am y problemau wrth gwrs, ac i ehangu ein dealltwriaeth o sut y digwyddodd, a rhaid bod gwersi i'w dysgu—yn enwedig wrth inni barhau i ôl-osod eiddo hŷn i allu defnyddio ynni'n fwy effeithlon. Ond efallai fod mwy o frys i sicrhau bod gennym system sy'n addas at y diben yn y dyfodol; system a all helpu deiliaid tai fel defnyddwyr; system sy'n rhoi mwy o sicrwydd a diogelwch i ddefnyddwyr. Fel y dywedais ar y dechrau, nid oes ateb hawdd i'r broblem hon, ond mae'n rhaid inni fod yn barod i wella'r sefyllfa wrth symud ymlaen.

17:10

Diolch i Mick Antoniw a'r amryw o Aelodau eraill a oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r ddadl heddiw. Nid wyf yn credu y bydd cymaint o ddiddordeb gan y cyfryngau yn y ddadl hon â'r un flaenorol, ond mae'n bwnc pwysig, yn enwedig i ddeiliaid tai sydd wedi dioddef yn sgil gwaith inswleiddio waliau ceudod a wnaed yn wael. Nawr, yn ei araith i agor y ddadl heddiw, araith a oedd wedi ei hymchwilio'n dda, amlinellodd Mick lawer o'r problemau gyda sicrhau iawndal am waith gwael, yn rhannol oherwydd diffyg dannedd CIGA, ac awgrymodd y gallai fod gwrthdaro buddiannau posibl rhwng CIGA a'i chysylltiadau â'r diwydiant yn gyffredinol. Roedd Siân Gwenllian yn sôn am y problemau canlyniadol i iechyd sy'n gallu deillio o inswleiddio waliau ceudod wedi'i wneud yn wael, felly credaf fod achos dros geisio gwthio yma am unrhyw beth a fuasai'n helpu i unioni'r sefyllfa. Felly, ceir achos dros fwy o amddiffyniad i ddefnyddwyr a safonau gwell ar draws y diwydiant.

Dylai inswleiddio waliau ceudod o'i wneud yn gywir gyfrannu'n helaeth tuag at fynd i'r afael â phroblem tlodi tanwydd, fel y dywedodd David Melding yn ei gyfraniad. Dyfynnodd ffigur o £150 o arbedion. Mae gennyf ffigur gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, sy'n amcangyfrif y gellir arbed £225 yn flynyddol ar filiau tanwydd mewn tŷ sengl cyffredin drwy waith inswleiddio waliau ceudod a wnaed yn briodol. Oherwydd y mathau hyn o arbedion, gall cartref cyffredin adennill y gost o osod o fewn pedair blynedd o bosibl. Yn UKIP, rydym yn awyddus i ymdrin yn effeithiol â thlodi tanwydd, felly mae hwn yn fesur cadarnhaol y gallem ei gefnogi, ac rydym yn gwneud hynny. Un fantais fawr arall yw ei fod yn lleihau allyriadau carbon deuocsid, felly buasai gwella'r diwydiant inswleiddio waliau ceudod yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd hefyd. Ac fel y mae pawb ohonoch yn gwybod, mae UKIP bob amser yn hoffi polisïau sydd o fudd i'r amgylchedd, felly rydym yn cefnogi'r cynnig heddiw.

Rwyf innau hefyd yn falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Diolch i Mick Antoniw ac eraill—Aelodau eraill—am gyflwyno hyn. Mae'n galonogol, i raddau, fod Aelodau eraill yn profi, neu ag etholwyr sydd wedi dioddef yr un problemau â fy etholwr i; nid wyf yn teimlo ar fy mhen fy hun. Rwy'n credu bod Dawn Bowden wedi cyfeirio at hynny yn ogystal.

Yn fy nghyfraniad, hoffwn dynnu sylw at drafferthion un o fy etholwyr oedrannus. Ei hunig incwm yw pensiwn y wladwriaeth ac mae hi bellach yn byw mewn eiddo llaith o'r 1950au ar ben bryn agored yn Sir Drefaldwyn. Mae hi'n honni bod ei chartref wedi ei effeithio'n ddifrifol gan leithder ers derbyn grant a ariennir gan Lywodraeth Cymru tuag at inswleiddio waliau ceudod yn 2005, sydd, yn ôl ei meddyg teulu, yn niweidio ei hiechyd. Mae hi'n credu bod ei heiddo yn un o'r rhai a oedd yn anaddas ar gyfer inswleiddio waliau ceudod oherwydd ei safle agored iawn ar ben bryn oddeutu 800m uwchben lefel y môr, sydd, wrth gwrs, yn agored i law a yrrir gan y gwynt. Canfu dau arolwg CIGA dilynol ei bod yn ymddangos bod gwaith ar inswleiddio waliau ceudod wedi ei wneud yn unol â manylebau cynllunydd y system a'r British Board of Agrément. O ganlyniad, ac oherwydd diffyg tystiolaeth i'r gwrthwyneb, a diffyg adnoddau ariannol i herio'r penderfyniad hwn ymhellach, ni fu fy etholwr yn llwyddiannus wrth gymrodeddu ac ni all hawlio iawn. Felly, fel y gallwch ddychmygu, mae hi'n rhwystredig iawn ynglŷn â hyn ac wrth gwrs, rwy'n teimlo'n rhwystredig hefyd am nad wyf yn teimlo y gallaf gynnig llwybr gweithredu pellach iddi ychwaith.

Mae adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu wedi canfod bod y rhan fwyaf o Gymru mewn ardal sy'n agored iawn i wynt a glaw, ac mewn lleoliad anaddas felly ar gyfer gwaith inswleiddio waliau ceudod. Mae'r adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu hefyd yn nodi pryderon ynglŷn ag effeithiolrwydd trefniadau'r warant inswleiddio sydd ar gael i breswylwyr. O'r dystiolaeth a gafwyd wrth gwblhau'r adroddiad, ni fu'r un o'r 24 safle sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'r astudiaeth yn llwyddiannus gyda'u hawliadau drwy drefniadau'r warant inswleiddio. Ond dywedodd yr ymateb gan CIGA yn gyffredinol nad oedd y methiant i'w briodoli i'r arolwg ond ei fod yn deillio o resymau eraill megis diffyg cynnal a chadw neu ymddygiad meddiannydd.

Nawr, mae gennyf bryderon mawr fod cartref fy etholwr—ac eraill tebyg iddo—yn anaddas i gael gwaith inswleiddio waliau ceudod wedi'i wneud iddo yn y lle cyntaf oherwydd ei safle agored iawn. O fy ymchwil fy hun, rwyf wedi canfod—ni allaf ond tybio bod treiddiad y glaw a yrrir gan y gwynt, a dreiddiodd drwodd i'r gwaith inswleiddio ac i'r waliau mewnol—. Ni ellir ond tybio, rwy'n credu, fod y lleithder sy'n effeithio ar y gwaith inswleiddio wedi gwaethygu dirywiad y waliau allanol a mewnol, sy'n darparu'r sail resymegol y mae CIGA yn ei chynnig dros dorri'r warant 25 mlynedd.

Mae'r cynllun grant a ariennir gan y Llywodraeth ar gyfer inswleiddio waliau ceudod wedi ei anelu at rai ag incwm cyfyngedig ac aelodau mwyaf bregus y gymuned. Felly, rwy'n pryderu bod cynllun grant gan Lywodraeth Cymru a gafodd fy etholwr tuag at inswleiddio waliau ceudod wedi ei gadael mewn twll ac wedi methu ei helpu pan oedd hi angen help. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, roi rhywfaint o gyngor i fy etholwr yn y dyfodol: pa gamau y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd i sicrhau rhywfaint o iawndal, a pha gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i weithio gyda phartneriaid i adolygu effeithiolrwydd trefniadau'r warant inswleiddio er mwyn cryfhau amddiffyniad i ddefnyddwyr yn y maes hwn.  

17:15

Rwy'n falch iawn o weld y cynnig hwn yn cael ei drafod yn y Siambr heddiw, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno hyn. Fel y dywed Mick Antoniw, rhaid inni dalu teyrnged i bawb sydd wedi dod yma heddiw. Mae fy etholwr, Pauline Saunders, sydd yn yr oriel gyhoeddus heddiw, yn ymgyrchydd dygn a chredaf fod llawer ohonom o amgylch y Siambr hon yn cydnabod hynny. Hoffwn ganmol Pauline am yr holl waith y mae wedi'i wneud ar ran llawer o bobl yng Nghymru a'r DU.

Fel y clywsom, mae miloedd o bobl wedi dioddef yn sgil y gwaith gwael a wnaed ar inswleiddio waliau ceudod, a heddiw rwy'n mynd i ganolbwyntio ar brofiad Pauline. Roedd cartref Pauline, sy'n dŷ pâr, bob amser wedi bod yn rhydd o leithder. Ond yn fuan ar ôl inswleiddio waliau ceudod, dechreuodd swigod ymddangos yn y papur wal a llwydodd y paneli pren, ac roedd y waliau'n teimlo'n llaith. Cysylltodd Pauline â Mark Group, y gosodwyr gwreiddiol, a yrrodd syrfëwr i archwilio'r eiddo. Dywedodd fod y lleithder yn deillio o waith cynnal a chadw ar yr eiddo. Ac am nad oedd wedi cael unrhyw broblemau blaenorol gyda'r eiddo, gwyddai Pauline nad oedd hyn yn debygol. Ni chynigiodd y cwmni unrhyw ateb, cyfrifoldeb na iawndal am y problemau.

Yn dilyn hyn, gofynnodd Pauline i syrfëwr CIGA archwilio'r eiddo. Mae CIGA yn cynnig gwarant 25 mlynedd os aiff rhywbeth o'i le ar waith gosod. Gan wybod hyn, gofynnodd yn benodol am y rwbel yn y wal. Drwy ymchwil Pauline ei hun fe wyddai na ddylid inswleiddio waliau ceudod os oes malurion yn y ceudod. Hyd yn oed ar ôl mynnu bod CIGA yn cynnal gwiriadau'n drylwyr, dywedwyd wrth fy etholwr nad oedd unrhyw falurion yn bresennol. Pan symudodd ei gŵr fricsen o'r wal, daethant o hyd i ddigonedd o falurion yn y ceudod.

Yn y pen draw, cafodd Pauline £1,750 mewn iawndal, a chafodd y gwaith inswleiddio ei dynnu. Ond ni fuasai wedi ei gael oni bai bod adroddiad wedi'i anfon ati mewn camgymeriad. Nodai'r adroddiad:

Roedd yr eiddo, ac mae'r eiddo'n anaddas ar gyfer inswleiddio waliau ceudod ac ni ddylai fod wedi'i insiwleiddio.

Nawr, mae hynny'n warthus. Heb yr adroddiad hwnnw, na fwriadwyd iddi ei weld, mae'n credu na fyddai byth wedi cael yr iawndal.

Er bod ei hachos wedi ei ddatrys, sylweddolodd Pauline fod ei phrofiad wedi datgelu pryderon gwirioneddol ynglŷn â sut roedd y diwydiant yn trin ei gwsmeriaid. Roedd hi o'r farn y byddai llawer o bobl eraill mewn sefyllfa debyg, ond yn llai abl i wneud hawliad. Roedd llawer o'r bobl a gysylltodd â Pauline yn oedrannus ac yn agored i niwed ac roeddent yn ei chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol gyda'r problemau parhaus a achoswyd gan inswleiddio anaddas. Ar y pwynt hwn, aeth Pauline ati gydag eraill i ffurfio CIVALLI—y gynghrair i ddioddefwyr gwaith inswleiddio waliau ceudod. Ers hynny, mae wedi parhau i ymgyrchu'n ddiflino ar ran preswylwyr sydd wedi dioddef yn sgil gwaith gwael neu waith na ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf.

Mae Pauline yn rym go iawn ac yn ysbrydoliaeth. Mae tystiolaeth pobl sydd wedi cael cymorth gan CIVALLI yn profi faint o effaith y mae Pauline a gwirfoddolwyr eraill wedi'i chael. Dywedodd un:

Rhoddodd gyngor hyddysg i ni ar bob cam o'r ffordd ac mae hynny wedi helpu'n fawr... Heb gymorth a chyngor Pauline nid wyf yn gwybod ble y buasem. Rydym mor ddiolchgar. Mae'n wraig wych, angerddol a brwd sy'n haeddu medal! 

Ac rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno â hynny.

Fe wnaeth Pauline ac eraill yn CIVALLI hyn yn gyfan gwbl wirfoddol, gan helpu pobl eraill i lywio'r tir peryglus a'r broses drofaus, fel y dywedodd Mick eisoes. Er bod CIVALLI wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth dynnu sylw at y materion hyn a darparu cymorth i dioddefwyr, mae'n bwysig ein bod ni, fel Aelodau Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn gweithredu i ddiogelu'r rhai yr effeithir arnynt ac sy'n agored i niwed rhag wynebu'r sefyllfa hon. Dyna pam rwy'n falch o siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, yn gyntaf i dalu teyrnged i fy etholwr, Pauline Saunders, am bob dim a wnaeth ac y mae'n parhau i wneud, ac yn ail i annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a CIGA ac i bwyso arnynt i ddarparu atebolrwydd ac iawndal priodol am waith inswleiddio gwallus. Mae'n hollbwysig ein bod yn atgyfnerthu ein hamddiffyniad i ddefnyddwyr er mwyn sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw un fynd drwy'r un anawsterau â fy etholwr a llawer o rai eraill yng Nghymru.

17:20

Diolch. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn, sy'n dal i beri pryder i Aelodau ac i'w hetholwyr. Mae'n rhywbeth y cydnabûm yn fy natganiad ysgrifenedig ar 13 Mehefin, lle roeddwn yn nodi'r camau gweithredu roeddem yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem.

Mae pawb ohonom yn ymwybodol o'r caledi difrifol y gall methiannau inswleiddio waliau ceudod eu hachosi, yn enwedig i aelwydydd sy'n agored i niwed sy'n aml yn flaenoriaeth ar gyfer mesurau o'r fath. Dyma aelwydydd a oedd, gyda phob bwriad da, yn credu y byddai'n cadw eu cartrefi'n gynhesach a'u biliau tanwydd yn llai. Mae inswleiddio waliau ceudod yn ffordd gosteffeithiol o leihau biliau tanwydd pan fydd wedi'i osod yn gywir. Y Cavity Insulation Guarantee Agency, a elwir yn CIGA, yw'r darparwr gwarantau mwyaf ar gyfer gwaith inswleiddio waliau ceudod ac mae hefyd yn weithredwr y cynllun person cymwys o dan ein rheoliadau adeiladu.

Dengys data gan CIGA fod 67,630 o osodiadau inswleiddio waliau ceudod wedi'u cyflawni yng Nghymru o dan eu cynllun person cymwys rhwng ei gyflwyno ym mis Hydref 2010 a'r mis hwn. Ers 1995, mae CIGA wedi cyhoeddi dros 330,000 o warantau yma yng Nghymru. Mae eu data'n dangos bod ychydig dros 4,167 o gwynion wedi bod yng Nghymru, sy'n cyfateb i gyfradd gwyno o 1.26%. Er bod hynny, fel canran, yn fach, pan fydd problemau, gall y canlyniadau fod yn drychinebus, fel y nododd Mick. Mae camau effeithiol i unioni camweddau pan fo methiannau'n digwydd yn hollbwysig. Yn amlwg, o'r ohebiaeth rwy'n ei chael, mynegwyd amheuon ynglŷn â hyn, a dyma fu ffocws ein trafodaethau gyda CIGA.

Roedd fy natganiad ysgrifenedig yn nodi tri phrif faes sy'n peri pryder, sef: ansawdd asesiadau cyn inswleiddio, y wybodaeth a roddir i ddeiliaid tai, a'r broses unioni pan fydd pethau'n mynd o chwith. O 1 Hydref eleni, gwneuthum newidiadau i gryfhau'r gofynion ar gyfer cynlluniau person cymwys y rheoliadau adeiladu sy'n gyfrifol am inswleiddio waliau ceudod yng Nghymru. Bellach, mae un o'r prif newidiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r arolwg adeiladu cyn inswleiddio gael ei wirio'n annibynnol cyn gwneud y gwaith inswleiddio. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn gwneud llawer i leihau achosion o inswleiddio eiddo anaddas. Mae newid pellach yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr y cynllun wneud gwaith goruchwylio mwy mynych. Unwaith eto, dylai hyn arwain at lai o inswleiddio heb gydymffurfiaeth a bydd hefyd yn nodi unrhyw ymarfer gwael gan gwmnïau gosod.

Mae pwysigrwydd cynnal a chadw eich eiddo ar ôl inswleiddio waliau ceudod yn allweddol. Mae CIGA wedi datblygu pecyn gofalu am eiddo i ddeiliaid tai sy'n cynghori ar yr angen i gynnal a chadw eu cartrefi. Mae hyn yn galonogol gan fod yn rhaid pwysleisio'r angen am waith cynnal a chadw i ddeiliad y tŷ cyn iddynt wneud y penderfyniad i gael y gwaith wedi'i wneud.

Cynigir inswleiddio waliau ceudod i rai o'r cartrefi tlotaf yng Nghymru, a rhaid egluro i aelwydydd beth yw eu rhwymedigaethau os ydynt i osgoi'r risg o fethiant ac annilysu eu gwarant. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae CIVALLI wedi ei gydnabod, ac mae'n faes rydym wedi ei drafod gyda CIGA.

Gan fy mod wedi crybwyll CIVALLI, fel eraill, hoffwn innau fachu ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i Pauline Saunders a'r gwaith y mae hi a'i grŵp wedi ei wneud dros y blynyddoedd i godi ymwybyddiaeth a helpu aelwydydd. Rwy'n falch iawn ei bod hi ac eraill wedi ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus heddiw.

Er y dylai'r camau gweithredu a nodais helpu i leihau nifer y methiannau yn y dyfodol, nid yw hyn yn helpu aelwydydd sydd eisoes yn wynebu methiant gwaith inswleiddio waliau ceudod. Felly, mae ymdrin â'r hawliadau etifeddol hyn wedi bod yn bwynt trafod allweddol gyda CIGA. Mae CIGA wedi gwneud newidiadau i'w systemau trin cwynion ac wedi penodi eiriolwr defnyddwyr. Er bod hyn yn galonogol, rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i barhau i gyfarfod â CIGA ac eraill i nodi camau cadarnhaol pellach mewn perthynas â chamau unioni i ddefnyddwyr, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i sicrhau bod camau unioni effeithiol ar gael.

Caiff y rhan fwyaf o waith inswleiddio waliau ceudod ei gyllido drwy raglenni a ariennir gan y Llywodraeth, ac un o'r rhaglenni mwyaf yw cynllun rhwymedigaeth cwmni ynni Llywodraeth y DU a'i ragflaenwyr. Mae adolygiad 'Each Home Counts' a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU wedi arwain at raglen waith a ddechreuodd yn gynharach yn y flwyddyn i ddatblygu ymarfer gorau o ran cynghori a diogelu defnyddwyr, safonau a gorfodi ar gyfer ystod o fesurau arbed ynni yn y cartref ac ynni adnewyddadwy. Ceir disgwyl eiddgar am y gwaith hwn, os yw'n cyflawni'r hyn a ddisgwylir, ac yn cael ei fabwysiadu ar gyfer rhwymedigaeth cwmni ynni, gan symud pethau pwysig yn ei blaenau'n fawr.

Eisoes mae gan ein dau gynllun, Arbed a Nyth, brosesau rheoli ansawdd cadarn, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU yn mabwysiadu hyn wrth symud y gwaith yn ei flaen. Mae'n bwysig ein bod yn deall pryd y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau a pha mor fuan y bydd yn cael effaith. Byddaf yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn am amserlenni clir iawn.

Soniodd Russell George am un o'i etholwyr yn benodol, a buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech ysgrifennu ataf gyda'r manylion penodol er mwyn i mi allu ymchwilio i'r mater.

Gellir cynnwys inswleiddio waliau ceudod hefyd yn rhan o becyn o fesurau a gyflawnir o dan gynlluniau Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, Nyth ac Arbed. Fodd bynnag, mae ein dull o weithredu, drwy ddefnyddio asesydd cymwys i bennu pa fesurau effeithlonrwydd ynni a argymhellir ar gyfer pob eiddo, yn sicrhau mai'r mesurau mwyaf priodol yn unig a roddir ar waith. Nid ydym yn caniatáu galwadau diwahoddiad ychwaith. Rydym yn cryfhau'r broses ymhellach ac yn datblygu ein cynlluniau Nyth ac Arbed newydd a gaiff eu cyflwyno o fis Ebrill 2018 ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys gofynion llym ar gyfer gwarantau, prosesau monitro a sicrhau ansawdd cadarn ac arolygiadau o'r holl waith inswleiddio. Bydd data newydd am gyflwr ac effeithlonrwydd ynni pob math o dai yng Nghymru ar gael fel rhan o'r arolwg o gyflwr tai Cymru 2017-18. Byddwn yn adolygu'r data hwn i weld beth y mae'n ei ddweud wrthym am bresenoldeb inswleiddio waliau ceudod a phroblemau lleithder yng nghartrefi Cymru, a pha gamau pellach y gallwn eu cymryd yng ngoleuni hyn.

Soniodd Mick Antoniw yn ei sylwadau agoriadol am bwerau pellach y gallem fod yn eu cael ac a allai ein helpu yn y maes hwn. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw bwerau a fydd yn dod inni yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2017 y flwyddyn nesaf mewn perthynas ag ynni a fyddai'n helpu yn y maes hwn. Mae'r rhan fwyaf o'r pwerau a gawn yn ymwneud â chydsyniad a chynhyrchiant.

Felly, i grynhoi, Ddirprwy Lywydd, byddaf i a fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig hwn. Byddaf yn parhau i weithio gyda'r rheini sy'n gosod safonau, Llywodraeth y DU, CIGA ac eraill, i hyrwyddo camau effeithiol i ddiogelu defnyddwyr ac ymarfer da drwy ein rheoliadau adeiladu, cynlluniau a arweinir gan y DU a'r rhai a ddarparir yn uniongyrchol yma yng Nghymru. Diolch.

17:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, gwyddom fod hyn yn ymestyn ar hyd a lled Cymru. Cawsom Siân Gwenllian o'r gogledd, cawsom Jayne Bryant o'r dwyrain, cawsom Dawn Bowden, Mick Antoniw a David Melding o Ganol De Cymru, cawsom Russell George o ganolbarth Cymru a minnau o Abertawe. Mae'n broblem ledled Cymru gyfan, ac mae hwnnw'n bwynt y credaf ein bod wedi llwyddo i'w gyfleu. Cawsom Gareth Bennett hefyd, mae'n ddrwg gennyf, o Ganol De Cymru.

Credaf ei bod yn bwysig ein bod wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol iddo. Mae pob un ohonom fel Aelodau'r Cynulliad yn gwneud ein gorau dros ein hetholwyr, ac efallai ein bod yn anghytuno ar bolisïau mawr, ond mae pawb ohonom yn ceisio gwneud ein gorau dros ein hetholwyr. Mae pob un ohonom wedi'n cynhyrfu pan fyddwn yn gweld pobl sydd â llwydni'n dod drwodd yn eu tŷ, plastr yn briwsioni, paneli pren yn dod oddi ar y waliau, lleithder yn yr eiddo, gostyngiad yng ngwerth yr eiddo, pydredd sych a'r effeithiau ar iechyd—pobl ag asthma a gorbryder, pethau a grybwyllwyd. Un peth na soniodd pobl amdano, a rhywbeth rwy'n siŵr ein bod wedi dod ar ei draws, yw'r dagrau—y gofid llwyr pan fo cartrefi pobl yn y fath gyflwr, cartref yr arferent gredu ei fod yn fendigedig a chartref roeddent yn ei fwynhau, maent yn ei weld yn wahanol bellach. Yn aml, pobl dlawd a'r henoed sy'n tueddu i ddioddef hyn, y bobl y mae'n ymddangos eu bod wedi eu targedu, fel y soniodd Mick Antoniw. Ac rwy'n credu ei fod yn fater difrifol ac yn fater y mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i geisio gwneud ein gorau glas i wneud rhywbeth yn ei gylch mewn gwirionedd.

Os nad oedd y ddadl ddiwethaf yn ymwneud â'r Cynulliad ar ei orau, credaf mai dyma yw'r Cynulliad ar ei orau pan fydd pawb ohonom yn ceisio gweithio ar ran ein hetholwyr ein hunain y mae pawb ohonynt yn dioddef yr un problemau'n union. Nid yw Mick Antoniw a minnau'n rhannu hyder Ysgrifennydd y Cabinet yn CIGA. O'r hyn a welais ohonynt pan y bu'n rhaid i mi ymdrin â hwy, fel y nododd Mick Antoniw, ymddengys eu bod yn dda iawn am geisio osgoi gwneud taliadau. Llongyfarchiadau i etholwr Jayne Bryant a lwyddodd i gael arian mewn gwirionedd, oherwydd nid oeddwn yn meddwl bod neb erioed wedi llwyddo. Dyna'r tro cyntaf mewn gwirionedd i mi gyfarfod ag unrhyw un sydd wedi llwyddo i'w gael. Gwn am bobl sydd wedi treulio llawer o amser, ac ymdrechu llawer, ac mae pobl wedi ei grybwyll drwy gydol y ddadl, yn ceisio ei gael, ac nid oes ond 4,167 o gwynion. Nid wyf yn meddwl bod hynny'n cyfateb i nifer y problemau. Credaf fod yna lawer iawn o bobl nad ydynt yn siŵr sut i gwyno, ac mae llawer o bobl oedrannus nad ydynt yn dda am gwyno; maent yn ei dderbyn fel y sefyllfa sy'n bodoli, a phan fydd y rhain yn dweud, 'Eich bai chi ydyw', maent yn derbyn hynny hefyd. Pam fod tŷ sydd wedi sefyll ers 120 o flynyddoedd heb unrhyw broblemau, 12 mis ar ôl inswleiddio waliau ceudod yn cael problemau, nid wyf yn deall, ac rwy'n siŵr nad yw'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma yn deall hynny chwaith.

Mae'n rhywbeth rwy'n falch iawn—ac rwy'n gobeithio—y byddwn yn cael cefnogaeth unfrydol iddo. Mae Llywodraeth y DU dan rwymedigaeth i ddatrys hyn. Mae'n rhywbeth nad yw'n eithriadol o ddrud iddynt o ran y ffordd y maent yn ymdrin â biliynau yma, ond mae'n cael effaith mor ddifrifol, fel y soniodd pawb, ar fywydau unigolion ac mewn llawer o achosion, ar sut y mae pobl yn treulio blynyddoedd olaf eu bywydau. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig fod rhywbeth yn cael ei wneud.

Mae David Melding yn llygad ei le. Mae'n fuddiol o'i wneud mewn man priodol ac o'i wneud yn gywir, ond yn llawer rhy aml caiff ei wneud yn anghywir mewn mannau amhriodol. Ni all fod yn iawn fod pobl yn codi yn y bore ac yn gweld llwydni'n dod drwodd a bod rhywun yn dweud wrthynt, 'Eich bai chi yw'r cyfan, nid ydych yn edrych ar ei ôl yn briodol.' Nid wyf yn credu hynny. Credaf nad yw'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma yn credu hynny. Gobeithio y bydd pobl yn cefnogi hyn, a gobeithiaf y gallwn barhau i ddatblygu hyn oherwydd rwy'n siarad yn awr ar ran fy etholwyr, yn hytrach nag ateb y ddadl, ac nid wyf yn ildio. Rwy'n mynd i barhau i ymladd, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yma yn parhau i wneud hynny hefyd. Diolch.

17:30

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.
 

Symudwn yn awr at eitem 7 ar yr ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, a galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6594 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r rôl hanfodol y mae staff rheng flaen Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chwarae o ran cyflenwi gwasanaethau a chefnogi cleifion ar draws gogledd Cymru.

2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin 2015.

3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â mynd i'r afael ag amseroedd aros cynyddol yng ngogledd Cymru a sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd wrth iddi waethygu.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) egluro pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r ansicrwydd ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn tanseilio'r gwaith o gyflenwi gwasanaethau;

b) cyhoeddi cynllun gweithredu clir i ddychwelyd y bwrdd iechyd at ei statws arferol; ac

c) egluro'r mesurau y bydd y bwrdd iechyd yn eu cymryd i wella canlyniadau i gleifion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael agor dadl y Ceidwadwyr Cymreig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies. Fe welwch o'n cynnig ar y papur trefn y gellir ei gymryd ar ffurf pedwar pwynt ar wahân. Rydym yn talu teyrnged i'r staff, rydym yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig, ond credwn fod y mesurau arbennig hynny wedi methu ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi camau gweithredu ar waith.

Rydym wedi dewis canolbwyntio ar Betsi Cadwaladr am mai dyma yw ein bwrdd iechyd mwyaf, a'r un sydd wedi bod o dan fesurau arbennig am yr amser hiraf a hoffwn ddechrau fy nghyfraniad, cyn i mi wneud unrhyw beth arall, drwy dalu teyrnged i'r gwaith caled y mae staff y GIG yn Betsi Cadwaladr yn ei wneud. Maent yn gweithredu mewn amgylchedd anodd iawn gydag adnoddau mor gyfyngedig a phwysau cynyddol, ac oni bai am y staff ymroddedig hyn sydd dan bwysau ac yn aml heb eu gwerthfawrogi, buasai'r sefyllfa'n waeth o lawer nag ydyw ar hyn o bryd. Ymwelais â nifer o ysbytai yn rhanbarth Betsi Cadwaladr, ac mae gwaith y staff a'r staff eu hunain bob amser wedi creu argraff arnaf, ac rwy'n ddiolchgar iawn amdano.

Dylem atgoffa ein hunain yn fyr o faint yr her, gan mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r mwyaf yng Nghymru ac mae'n darparu gwasanaethau ar gyfer yn agos at 700,000 o bobl ac yn cyflogi tua 16,500 o weithwyr. Mae maint ystâd y bwrdd yn enfawr—

17:35

A gaf fi ofyn, drwoch chi, i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r gorau i'r hyn y mae'n ei wneud a gwrando ar y ddadl?

Mae maint ystâd y bwrdd yn enfawr. Mae'n cynnwys tri ysbyty dosbarth, 22 o ysbytai cymunedol ac acíwt eraill, 19 o ganolfannau meddygol a 121 o bractisau meddygon teulu. Ac fel y gwn wrth yrru i fyny yno, mae mewn ardal ddaearyddol eithaf amrywiol a gall gymryd oriau yn llythrennol i fynd o un ochr i'r llall.

Fodd bynnag, dylem hefyd atgoffa ein hunain, gan gydnabod yr heriau sy'n wynebu sefydliad o'r maint hwn, fod y bwrdd iechyd wedi bod o dan fesurau arbennig ers bron i ddwy flynedd a hanner bellach—ers mis Mehefin 2015. Penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru oedd hwn, a heddiw rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad cynhwysfawr ar statws y bwrdd iechyd ar hyn o bryd. Er mwyn ei staff a'r cleifion yn ogystal â'r cyhoedd yng ngogledd Cymru, rhaid i ni wybod pa mor agos rydym i weld y bwrdd yn symud allan o fesurau arbennig a pha welliannau o bwys a gafwyd ers gosod mesurau arbennig 29 mis yn ôl.

Mae hyn yn bwysig oherwydd, er ei fod o dan y ffurf uchaf o reolaeth gan Llywodraeth Cymru, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar ei hôl hi o gymharu â chwe bwrdd iechyd arall Cymru ar nifer o ddangosyddion perfformiad mawr. Yn ogystal â bod â'r diffyg rhagamcanol mwyaf yn y gyllideb, mae amseroedd aros am driniaethau cyffredin wedi ymestyn i'r entrychion, gyda nifer y cleifion sy'n aros yn hwy na 52 wythnos am lawdriniaethau cyffredin wedi codi 2,550 y cant, sy'n syfrdanol, ac roedd 2,491 o unigolion ar y rhestr honno ym mis Medi 2017. O gofio bod mwy na £10 miliwn yn ychwanegol wedi'i wario ar gadw'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig a bod ei orwariant ar y gyllideb ar y ffordd i gyrraedd £50 miliwn, rwy'n bryderus ein bod yn dal heb weld cynllun cydlynol ar gyfer gwella gan y Llywodraeth, gan Ysgrifennydd y Cabinet a chan ei dîm.

Bydd cyfranwyr eraill yn edrych yn fanylach ar rai o'r materion allweddol sy'n effeithio ar Betsi Cadwaladr. Maent yn ACau lleol sydd, gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau, yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd y mae'r ymddiriedolaeth yn ei gynnig yn rheolaidd, ac maent yn gweld yn eu meddygfeydd yn rheolaidd pa broblemau y mae cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth iechyd lleol yn eu hwynebu. Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw at un mater allweddol y teimlaf ei fod yn crisialu'r neges hon: rhoddwyd cynlluniau 100 diwrnod ar waith er mwyn cyflawni gwelliannau ar frys, ond dros ddwy flynedd ers sefydlu'r fframwaith gwella, erys pryderon difrifol am allu'r bwrdd iechyd i reoli ei arian ac i ddarparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy ac amserol i bobl gogledd Cymru. Yn ogystal â hyn mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cynnal mwy na 90 o gyfarfodydd neu drafodaethau gyda'r bwrdd iechyd ers iddynt gael eu rhoi mewn mesurau arbennig, yn ogystal â chyfarfodydd a gynhaliwyd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, ac eto nid yw'n ymddangos bod cyfeiriad strategol trosfwaol cydlynus i ymdrechion y bwrdd i ddod allan o fesurau arbennig.

Ac nid Betsi Cadwaladr yn unig sydd o dan y cwmwl hwn wrth gwrs. Yn sicr nid oes angen i mi atgoffa'r Aelodau fod tri bwrdd iechyd arall yn gweithio o dan y lefel ymyrraeth a dargedir o gymorth gan y Llywodraeth—sef byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda.

Felly, soniwn am fesurau arbennig ac ymyriadau wedi'u targedu, ond beth y mae'r termau hyn yn ei olygu mewn gwirionedd i bobl ar lawr gwlad? Dylai mesurau arbennig gyfeirio at amrywiaeth o gamau gweithredu y gellir eu cymryd i wella byrddau iechyd mewn amgylchiadau eithriadol, h.y. fel dewis olaf, ac mae'n digwydd pan nad yw bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth yn gwneud y gwelliannau a ddisgwylir a cheir pryderon bod yr arweinyddiaeth a'r rheolwyr angen cymorth allanol. Daw ymyrraeth wedi'i thargedu un lefel yn is na'r mesurau arbennig ac mae'n golygu y gall Llywodraeth Cymru roi camau ar waith sy'n cynnwys trefnu mentora ar gyfer aelodau unigol o'r bwrdd neu'r tîm gweithredol a phenodi unigolion profiadol sydd â'r sgiliau clinigol a/neu sgiliau llywodraethu ar y bwrdd am gyfnod cyfyngedig.

Mae dogfen trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru Llywodraeth Cymru, a gynhyrchwyd yn 2014, yn amlinellu'r ffyrdd y gellir isgyfeirio ymyriadau. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Cynulliad beth yw'r meini prawf isgyfeirio ar gyfer Betsi Cadwaladr, a ydynt wedi eu bodloni, ac os nad ydynt, pa bryd y mae disgwyl iddynt gael eu bodloni? Gofynnaf y cwestiwn yn sgil ymateb a gefais i gwestiwn ysgrifenedig ar 23 Tachwedd, yn gofyn am hyder Ysgrifennydd y Cabinet fod byrddau iechyd Cymru yn dangos gwell perfformiad ariannol. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Rwy'n siomedig nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dangos y camau gweithredu angenrheidiol hyd yma i gael cyfanswm rheolaeth. Mae fy swyddogion wedi comisiynu adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu ariannol y Bwrdd Iechyd sydd ar waith ar hyn o bryd.

Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch egluro i mi beth yn union a olygir wrth 'gyfanswm rheolaeth'? Yr hyn sy'n fy mhoeni yw bod gennych fwrdd iechyd yma sydd o dan fesurau arbennig ac eto mae angen cael rhagor o ymyrraeth i fynd i'r afael â phroblemau ariannol. Yn sicr, ar ôl yr holl amser ac arian a fwydwyd i mewn i'r bwrdd iechyd hwn yn ystod ei amser o dan fesurau arbennig, esgeuluso dyletswydd yw methu sylweddoli tan yn awr fod angen cynnal adolygiad annibynnol o'r trefniadau llywodraethu ariannol. Mae'n ymddangos i mi y dylid bod wedi cynnal archwiliad ariannol ar ddechrau'r broses hon, Ysgrifennydd y Cabinet, nid 30 mis yn ddiweddarach. Faint yn waeth y mae angen i bethau fynd cyn i'r sefyllfa hon gael y sylw manwl y mae cymaint o'i angen? Yn sicr ni fydd hyn ond yn oedi'r broses o adael mesurau arbennig i'r bwrdd iechyd. Ac mae hyn yn hanfodol, oherwydd, tra bo'r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig, caiff ei enw da ei lychwino, mae ei staff yn digalonni, mae'n ei chael hi'n anodd recriwtio pobl, a cheir amrywiaeth eang o effeithiau o ganlyniad i fod o dan broses y mesurau arbennig.

Nid oes gennyf broblem o gwbl gyda chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, gyda chi fel Llywodraeth Cymru, yn edrych ar rywbeth a dweud, 'Nid yw'n perfformio'n ddigon da—rhaid i ni ei wella; fe'i gosodwn o dan fesurau arbennig.' Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Ond yr hyn nad wyf yn credu y bydd neb arall yn ei dderbyn yw beth y mae'r mesurau arbennig hynny'n ei olygu, oherwydd, ar ôl bron i 30 mis, dylem fod wedi gweld rhywfaint o welliant, ac nid yw'r lefel honno o welliant yno. Buaswn yn awgrymu wrth y Llywodraeth, mewn gwirionedd, fod y broblem hon yn eich wynebu drwy eich holl ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, oherwydd rydym wedi gweld addysg, rydym wedi gweld cynghorau, yn cael eu rhoi o dan fesurau arbennig, o dan fyrddau adolygu ar gyfer cynghori'r Gweinidog, o dan ymyriadau wedi'u targedu, ac nid wyf yn credu bod cydlyniad ynglŷn â'r hyn y mae mesurau arbennig yn ei olygu.

Nodais y dylai fod llwybrau clir i mewn ac allan o fesurau arbennig, a ffyrdd clir o isgyfeirio, ac mae diffyg eglurder o'r fath yn arwain at ddryswch go iawn i bobl Cymru, ac yn yr achos hwn, i bobl gogledd Cymru. Credaf mai cefnogaeth arwynebol a rowch i ymyrraeth; credaf fod angen cael dull cyffredin o weithredu ar draws adrannau, a dealltwriaeth glir a diffiniadwy ynglŷn â beth yw'r ymyrraeth uchaf mewn bwrdd iechyd. Credaf y dylai mesurau arbennig fod yn opsiwn olaf; dylai olygu gwaith ar lawr gwlad, adolygiad trylwyr o bob agwedd ar y bwrdd iechyd—nid adolygu agweddau, wyddoch chi, pan fyddwch hanner ffordd drwodd, neu yn yr achos hwn, 30 mis yn ddiweddarach—a dylai fod gennym ffordd eglur i'r byrddau iechyd, a'r bwrdd iechyd penodol hwn, allu symud allan o fesurau arbennig. A gofynnaf i chi wrando ar ein dadl heddiw, gwrando ar y sylwadau y mae fy nghyd-Aelodau yn mynd i'w gwneud, gan eu bod ar y rheng flaen, ac yn gallu cynnig cynllun clir a chydlynol y gall pob un ohonom ei ddeall.

Nid yw mesurau arbennig yn dda i ddim os yw'n golygu 90 o sgyrsiau â chi a'ch swyddogion a dim mwy na hynny. Mae'n rhaid iddo fod yn weladwy, ac os yw bwrdd iechyd yn cael trafferth i'r fath raddau fel eich bod bellach yn gorfod comisiynu adolygiad o'r trefniadau llywodraethu ariannol, rhaid i chi roi milwyr profiadol yn y rheng flaen, oherwydd fel arall nid ydym yn mynd i ennill y frwydr dros iechyd da a lefelau da o ofal iechyd yng ngogledd Cymru.

17:40

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i herio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynd i’r afael â’i amseroedd aros a’i sefyllfa ariannol annerbyniol.

Yn nodi’r cymorth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weithio i sefydlogi ac adfer ei sefyllfa.

Yn nodi y bydd y cynnydd yn cael ei adolygu gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ddechrau mis Rhagfyr ac y bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn ystyried mesurau pellach y bydd raid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymgymryd â hwy er mwyn gwella.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd angen ehangu'r gweithlu'n sylweddol er mwyn datrys y materion a wynebir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n golygu y bydd angen cynyddu lefelau hyfforddiant nyrsio a meddygol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rydw i'n siarad fel Ysgrifennydd cysgodol Plaid Cymru dros iechyd, ond rydw i'n siarad hefyd, fel nifer sylweddol o Aelodau eraill yma, fel cynrychiolydd etholaeth sydd yn rhanbarth Betsi Cadwaladr, ac rydw i'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran sawl un o'r rheini pan rydw i'n dweud bod cyfathrebiaeth gan etholwyr, bod fy nghyswllt i efo etholwyr, yn dangos tu hwnt i amheuaeth y straen sydd ar y bwrdd hwnnw a thrafferthion y bwrdd hwnnw i ddelifro'r gwasanaeth iechyd yr ydym ni ei ddisgwyl ar hyn o bryd.

Mae yna dros ddwy flynedd erbyn hyn ers i Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig. Rydym ni'n gwybod beth yr ydym ni'n ei ddisgwyl pan fydd bwrdd yn mynd i fesurau arbennig: rydym ni'n disgwyl gwelliant. Rydym ni'n disgwyl bod perfformiad yn gwella. Ond tra ddim am eiliad yn amau dymuniad y Llywodraeth i wella perfformiad, tra ddim yn amau dymuniad rheolwyr i droi cornel, a thra yn talu'r deyrnged fwyaf diffuant a allaf i i'r staff sy'n gweithio mor galed ar y rheng flaen, mae yna lawer gormod o dystiolaeth, mae gen i ofn, fod hwn yn fwrdd iechyd sy'n dal i wynebu problemau affwysol. Nid ydy hynny i anwybyddu'r pethau yna sy'n cael eu gwneud yn dda o fewn Betsi Cadwaladr, ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r prif weithredwr am gysylltu efo fi ac Aelodau eraill ddoe yn pwysleisio'r ardaloedd hynny o waith lle mae'r bwrdd yn gwneud yn dda. Ond mae gweithwyr iechyd meddwl yn dweud wrthyf i mor anodd ydy hi iddyn nhw i ateb gofynion pobl y gogledd—a hynny'n cynnwys gofal i blant a phobl ifanc. Ddoe, mi wnes i sôn yn y Siambr yma am glaf yn methu cael gwely acíwt iechyd meddwl, ac yn gorfod cael ei gludo dros nos i dde-ddwyrain Lloegr.

Mae gofal ophthalmig yn amlwg o dan straen yn ôl fy inbox fi. Mae diffyg meddygon teulu yn argyfwng. Pan nad ydynt yn tynnu dannedd, mae deintyddion yn tynnu'r gwallt o'u pennau oherwydd y straen maen nhw'n ei wynebu ar hyn o bryd. Mae orthopaedics yn parhau yn broblem ddifrifol iawn, iawn. Mae llif cyson o gleifion ar restrau aros yn dod i'm weld i, efallai'n aros am glun neu ben-glin er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu parhau i fyw bywyd bywiog ac iach. Ac mae'n gwbl annerbyniol eu bod nhw'n cael clywed bod amseroedd aros am lawdriniaeth frys mewn rhai achosion yn 106 o wythnosau. Rydym ni'n gwybod, ar ôl profiad y gaeaf diwethaf, pan oedd capasiti llawdriniaethau orthopaedig yn cael ei dorri—oherwydd pwysau'r gaeaf, medden nhw wrthym ni—mae hi wedi mynd yn waeth ar y rhestrau aros. Mae aros dros ddwy flynedd am driniaeth frys i gael clun newydd yn sgandal. Nid oes yna ddim gair arall i'w ddisgrifio.

Felly, rydym ni'n croesawu'r cynnig. Mi wrthodom ni welliant y Blaid Lafur achos, mae'n ddrwg gen i, ond nid ydw i'n fodlon nodi'r

'cymorth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi'

i'r bwrdd

'weithio i sefydlogi ac adfer ei sefyllfa',

achos mae hynny'n awgrymu eu bod nhw'n rhoi cymorth digonol. Ac nid yw hynny, yn amlwg, ddim yn wir. Mae cymorth yn cymryd sawl ffurf, wrth gwrs—nid dim ond cymorth ariannol. Rydw i eisiau i'r bwrdd elwa o gymorth ar ffurf Llywodraeth sy'n bod yn llawer mwy arloesol yn ei hagwedd at delivery gofal iechyd yng Nghymru, sydd wir yn gwthio'r agenda integreiddio er mwyn galluogi gwasanaethau iechyd a gofal i weithio efo'i gilydd, er enghraifft. 

Yn troi at ein gwelliant ni, ni fyddwch chi'n synnu i fy ngweld i'n cyflwyno gwelliant sydd â ffocws ar y gweithlu a'r angen i hyfforddi mwy o bobl ar gyfer y gweithlu iechyd. Rydw i'n gobeithio y gallaf i ddibynu ar gefnogaeth pob plaid. Nid oes unrhyw beth dadleuol mewn dweud y bydd angen—

17:45

Diolch yn fawr iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Hoffwn sicrhau'r Aelod dros Ynys Môn y byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi eich gwelliant, oherwydd rydych yn gwneud pwynt dilys iawn ynddo.

Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth honno.

Nid oes yna ddim byd, wrth gwrs, yn ddadleuol mewn galw am gynyddu lefelau hyfforddiant. Lle mae yna anghytuno rhyngom ni a'r Llywodraeth ydy ar sut i ddarparu'r capasiti newydd yna. Mae'n uchelgais i ddatblygu Prifysgol Bangor gennym ni fel canolfan—neu mae yna uchelgais gyffredinol, a dweud y gwir, i ddatblygu'r brifysgol fel canolfan rhagoriaeth ym maes ymchwil a hyfforddiant gofal iechyd. Mae gennym ni uchelgais i ddatblygu'r ganolfan addysg feddygol hefyd. Mae yna gyfleoedd gwirioneddol yna i hyfforddi nyrsys yn ogystal â gweithwyr iechyd eraill a meddygon. Ac, wrth hynny, rydw i'n golygu hyfforddi myfyrwyr israddedig o'r flwyddyn gyntaf, nid dim ond sicrhau bod myfyrwyr o golegau meddygol eraill yn treulio rhagor o amser yn y gogledd, er nid oes dim byd o'i le ar wneud hynny. Ac mae yna lot i'w ddweud am uchelgais. Mae yna risg go iawn o adael i bobl eraill ddangos uchelgais a pheidio â thrio dal i fyny. Mae Prifysgol Caer yn y broses o sefydlu ysgol feddygol. Mae yna bryder go iawn ynglŷn â'r effaith a allai hynny gael ar Brifysgol Bangor, oni bai bod yna ymdrech go iawn yn cael ei wneud i ddod ag addysg feddygol yno hefyd.

Mi wnaf i gloi. Mae cofrestr risg Betsi Cadwaladr yn dweud hyn:

Mae perygl fod y Bwrdd Iechyd yn methu cyflawni ei gyfrifoldebau statudol i ddarparu gwasanaeth gofal sylfaenol i boblogaeth Gogledd Cymru... Mae perygl y bydd y Bwrdd Iechyd yn cael anhawster i recriwtio a chadw staff o ansawdd uchel mewn rhai ardaloedd.

Rwy'n bryderus ynglŷn â hynny. Mae gwir angen i ni weld y Llywodraeth hon, sy'n gyfrifol am Betsi Cadwaladr, yn dechrau cynllunio ar gyfer y gweithlu sydd ei angen ar Betsi Cadwaladr a'n holl fyrddau iechyd eraill ar gyfer y dyfodol, gydag arloesedd. Fel arall, byddwn yn parhau i ofyn i'n gweithlu presennol wneud yr amhosibl, ac maent hwy a'u cleifion yn haeddu gwell.

17:50

Mae perfformiad bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, boed yn dda neu fel arall, yn effeithio'n uniongyrchol iawn ar fy etholwyr yn Aberconwy ac ar hyn o bryd mae'n ffurfio llawer iawn o'r gwaith achos. Mae'n werth nodi, yn y bwrdd hwn, fod cyfraddau achosion o MRSA ac MSSA yn is nag yn unman arall yng Nghymru, ac mae amseroedd galwadau ambiwlans coch a thriniaeth canser o fewn 31 diwrnod yn ail orau yng Nghymru. A lle y gwelwn ymarfer da, rydym am ddathlu hynny ac rydym yn ei gymeradwyo.

Fodd bynnag, bydd y materion a godir yn fy nghyfraniad heddiw yn sicr yn tynnu sylw at fethiannau parhaus a llawer o feirniadaeth o Ysgrifennydd iechyd Llywodraeth Cymru. Ddirprwy Lywydd, ym mis Ionawr eleni, soniais am brinder meddygon teulu yn y Siambr hon. Rydym wedi gweld meddygfa ar ôl meddygfa'n cau yn Aberconwy, ac eto roedd hwn yn faes gwelliant yn rhan o broses y mesurau arbennig. Ym mis Chwefror, soniais am amseroedd aros orthopedeg a thrawma. Ers ymyrraeth y Llywodraeth, mae nifer y cleifion sy'n aros dros flwyddyn am lawdriniaeth wedi codi 2,127 y cant i 1,782. Mae gennyf etholwyr yn aros 130 o wythnosau—dyna ddwy flynedd a hanner—am yr hyn yr ystyrir ei bod yn driniaeth frys a hanfodol, gan wynebu pob dydd mewn poen enbyd a gwendid go iawn.

Ym mis Mawrth, soniais am bryderon ynglŷn â chymorth ar gyfer cleifion iechyd meddwl. Bu'n rhaid i mi sôn am hynny eto ddoe wrth y Prif Weinidog. Roeddwn yn pryderu wrth glywed yn ddiweddar y gallai claf sydd angen ymyrraeth seiciatrig ddifrifol wynebu amseroedd aros annerbyniol o hyd at 18 mis. Mae gennyf achos arall lle mae mynediad at driniaeth iechyd meddwl mor ddrwg fel bod un o fy etholwyr wedi ceisio lladd eu hunain o'r blaen.

Materion gofal iechyd yng ngogledd Cymru y bu'n rhaid i mi dynnu sylw atynt yn gyson, fis ar ôl mis, wythnos ar ôl wythnos—ac eto, dyma ni, ar ddiwedd mis Tachwedd 2017, ac fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Angela Burns, 30 mis ar ôl ymyriadau gan eich Llywodraeth chi a gennych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd o ansawdd da ledled Cymru.

Ni welwn unrhyw welliant amlwg, gyda'r bwrdd bellach yn wynebu'r diffyg rhagamcanol uchaf yn y gyllideb ac yn llusgo ar ôl gweddill Cymru'n ddifrifol ar nifer o ddangosyddion perfformiad lefel uchel. Y flwyddyn nesaf, bydd yn braf gweld perfformiad gwell a pheidio â gorfod dal ati i dynnu sylw at broblemau ar ran fy etholwyr—ar ran pob un o'r 3,368 o gleifion sy'n wynebu arhosiad o 100 wythnos am lawdriniaeth orthopedig ddewisol, i fy etholwr oedrannus sydd nid yn unig wedi wynebu aros am dair blynedd bron am golonosgopi, ond y dwysawyd eu rhwystredigaeth drwy orfod aros pum mis am ateb byr gan y bwrdd iechyd.

Nawr, hoffwn dynnu sylw at y staff sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd, a'u canmol. Byddaf yn teimlo'n flin iawn drostynt, oherwydd maent yn ysgwyddo llawer o'r baich yn sgil y ffaith eich bod yn methu yn eich perfformiad. Maent yn gweithio o dan bwysau eithafol ac yn cyflawni tasg enfawr, a hynny'n ddiddiolch yn aml. Ond rwy'n pryderu ynglŷn ag enghreifftiau o staff clinigol sy'n gweithio sifftiau 24 awr. Mae astudiaethau wedi dangos effeithiau niweidiol diffyg cwsg ar berfformiad a gallu i ganolbwyntio, ac mae sefyllfaoedd o'r fath yn achosi niwed difrifol, yn rhoi cleifion a staff mewn perygl. Gwelsom yn y mis diwethaf nifer y marwolaethau eleni a achoswyd gan ddigwyddiadau anfwriadol neu annisgwyl—41. Cofnodwyd bod mwy na hanner y rheini wedi digwydd ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr. Ddirprwy Lywydd, dyna 41 o gleifion, 41 o deuluoedd, a'u hanwyliaid a ddrylliwyd gan golled, galar a thrallod annioddefol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi tynnu eich sylw at y mater hwn sawl gwaith, ac ar yr adegau pan wyf wedi ei ddwyn i sylw'r Prif Weinidog, rydych yn eistedd yno, yn aml iawn yn ysgwyd eich pen. Ar ddechrau'r ddadl hon—nid ydych yn gwrando yn awr hyd yn oed. Ar ddechrau'r ddadl hon, nid oeddech yn ddigon cwrtais i wrando ar fy nghyd-Aelod, llefarydd ein gwrthblaid. A dweud y gwir, nid wyf yn siŵr pa mor o ddifrif rydych chi ynglŷn â'ch rôl. Mae wedi bod yn aneglur o'r cychwyn sut yn union y mae'r Llywodraeth yn rheoli'r bwrdd o dan fesurau arbennig, felly rydym yn galw arnoch heddiw i amlinellu pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau gyda rhywfaint o eglurder nad yw'r ansicrwydd ariannol ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn tanseilio'r modd y darparir gwasanaethau, ac i gyhoeddi cynllun gweithredu clir i'r bwrdd iechyd allu dychwelyd i'w statws arferol.

Mae'r sefyllfa fel y mae yn anghynaliadwy, ac yn hollol annerbyniol mewn gwirionedd. Rydym yn edrych ar draws y ffin ac yn gweld perfformiad cymaint gwell. Pam y dylem gael loteri cod post? Pam y dylai fy etholwyr, ac unrhyw etholwr arall sy'n byw yng ngogledd Cymru, orfod dioddef ymarfer gwael ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gwael dros ben ac nad yw'n gallu gwneud ei waith, a dweud y gwir?

17:55

Mewn gwirionedd, nid yw'r blaid sy'n honni mai hi yw plaid y GIG i'w gweld yn gallu gwneud y gwaith. Nid yw defnyddio'r esgus hyd yn oed ei bod yn cymryd amser i droi system iechyd o gwmpas pan fo o dan fesurau arbennig yn dal dŵr, gan fod Llafur wedi bod yn rheoli Cymru ers dau ddegawd bellach, ac aeth Betsi Cadwaladr i'w sefyllfa bresennol o dan eu goruchwyliaeth hwy. Mae beio San Steffan yn wan ar y gorau, gan fod Llafur yn gwneud llawer o'u hawydd i weld pethau'n cael eu datganoli i'r lle hwn fel y gall Llywodraeth Cymru eu rhedeg—yr holl ddadl yn ddiweddar ynglŷn â chipio pŵer posibl yn sgil Brexit, ac yma mae gennym enghraifft o sut y mae'r Llywodraeth hon yn methu pan roddir rheolaeth iddi ar un o'r gwasanaethau cyhoeddus pwysicaf.

Mae Llafur yn dweud o hyd y dylid datganoli mwy o bethau, ond yna, pan ddangosir nad ydynt yn gymwys i redeg gwasanaeth, fel yn achos Betsi Cadwaladr, maent yn ceisio dod o hyd i ffordd o feio San Steffan. Wel, bai Llywodraeth Cymru yw hyn a neb arall. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn rhygnu ymlaen am yr holl bethau y mae'n eu gwneud i geisio gwella bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, ac nid yw'n syndod ei bod hi'n fud ynglŷn â'r pethau nad yw'n eu gwneud.

Nid yw Llafur wedi awgrymu yn unman y dylid gwneud aelodau o'r byrddau iechyd yn fwy atebol. Ymgyrchodd UKIP o blaid ethol aelodau i fyrddau iechyd fel eu bod yn atebol i bobl Cymru. Atebolrwydd—a hynny ar un mater ac ni ellir ei ystumio, sef pam y dadleuodd Llafur yn erbyn y syniad blaengar hwn mae'n debyg. Er ei bod yn amlwg nad oes gan y Llywodraeth Lafur ewyllys i gael gwared ar aflerwch, rwy'n gwbl hyderus fod gan y cyhoedd yng Nghymru ewyllys i wneud hynny, a bydd byrddau iechyd etholedig yn galluogi hynny i ddigwydd.

Nid oes dim a wnaeth y Llywodraeth yn gweithio, felly pam y dylem barhau i adael iddynt ymdrechu? Nid ystadegau'n unig yw'r rhestrau aros. Maent yn cynrychioli poen a dioddefaint y bobl ar y rhestrau aros hynny a'r straen ar gleifion, eu teuluoedd a staff y rheng flaen. Mae'r rhestrau aros yn gwaethygu, mae morâl staff yn disgyn, mae canlyniadau iechyd yn dioddef, ond nid oes yr un o'r byrddau iechyd wedi cael eu hel ymaith a neb o reolwyr y GIG sydd ar gyflogau uchel wedi cael eu diswyddo.

Ac mae yna effaith sy'n llawer mwy pellgyrhaeddol na phryderon iechyd y claf. Rhaid bod staff rheng flaen yn teimlo pwysau anhygoel, yn gorfod gweithio'n galetach hyd yn oed nag y mae'n rhaid i'n staff GIG ymroddedig ei wneud eisoes i wneud iawn am anallu uwch-reolwyr yn Llywodraeth Cymru. Llafur yw'r blaid sy'n honni mai hi yw plaid y gweithwyr hefyd. A ydynt yn hapus gyda'r pwysau y maent yn ei roi ar weithwyr y sector cyhoeddus? Mae hyn yn ymwneud â llawer mwy na rhewi cyflogau'r sector cyhoeddus. Mae hyn yn ymwneud â gwerthfawrogi staff a'u llesiant. Mae Llafur hefyd yn ceisio dweud mai hi yw plaid cydraddoldeb, ond ble y mae cydraddoldeb i'r rhai sy'n dioddef am fod eu cod post yn golygu bod yn rhaid iddynt aros lawer yn hwy am driniaeth nag unrhyw ddinesydd arall yng Nghymru neu'r DU?

Mae problemau Betsi Cadwaladr eu hunain yn symptomau—symptomau o Lywodraeth nad yw'n ymddangos bod ganddi ewyllys i wneud yr hyn y buasai unrhyw reolwr cyfrifol arall yn ei wneud a diswyddo'r swyddogion gweithredol hyn ar gyflogau mawr ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am gamreoli'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru. Mae'r methiannau dan arweiniad y Llywodraeth ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn dangos nad Llafur yw'r blaid ar gyfer y GIG, nac ar gyfer amddiffyn staff y rheng flaen, ac nid ydynt yn gwneud dim i leihau anghydraddoldeb mewn canlyniadau iechyd heblaw gosod yr un system a gamreolir ar gyfer pawb sy'n ddibynnol ar y GIG yng ngogledd Cymru. Rwy'n credu bod galwadau blaenorol wedi'u gwneud am ymchwiliad cyhoeddus llawn, a chredaf bod llawer o werth ynddynt. Pe bai hynny'n cael ei gynnig, buaswn yn barod i'w gefnogi. Mae GIG Cymru yn sâl, ac yn anffodus i bobl Cymru, y rhestr aros ar gyfer triniaeth, pan ellir disodli'r Llywodraeth hon yng Nghaerdydd, yw tair blynedd. Diolch.

Mae ein bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru mewn mesurau arbennig ac wedi gorwario oherwydd bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod ein rhybuddion dros nifer o flynyddoedd. Ar bob achlysur, mae Gweinidogion Llafur wedi osgoi'r cyfrifoldeb gan ein cyhuddo ni yn lle hynny o ladd ar ein GIG pan fyddwn yn siarad oherwydd bod staff, cleifion a theuluoedd wedi gofyn inni wneud hynny. Rhoddwyd y bwrdd o dan fesurau arbennig yn 2015 ar ôl i ymchwiliad allanol ddatgelu bod cleifion wedi dioddef cam-drin sefydliadol yn uned iechyd meddwl acíwt Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd. Cyfaddefodd y Gweinidog iechyd ar y pryd yn y pen draw fod y penderfyniad hwn yn adlewyrchu, ac rwy'n dyfynnu:

pryderon difrifol a heb eu datrys ynghylch arweinyddiaeth, trefniadau llywodraethu a chynnydd yn y bwrdd iechyd dros beth amser.

Dywedodd y bwrdd iechyd ei fod wedi cael rhybudd ynghylch phryderon difrifol ynglŷn â gofal cleifion ar ward Tawel Fan yn uned Ablett ym mis Rhagfyr 2013, ond roedd pryderon ynglŷn â'r ward hon yn mynd yn ôl lawer ymhellach. Er enghraifft, yn 2009, cynrychiolais etholwr a ddywedodd fod y driniaeth a gafodd ei gŵr yno bron iawn â'i ladd, fod tri chlaf arall a gafodd eu derbyn o gwmpas yr un adeg â'i gŵr wedi cael profiadau tebyg, ac roedd hi bellach yn poeni am y driniaeth y gallai eraill ei chael yn yr uned hon.

Wrth gwrs, cafwyd rhai agweddau cadarnhaol ers y mesurau arbennig. Yn dilyn fy ymyrraeth ar ran y ganolfan niwrotherapi yn Sir y Fflint, lle roedd cyllid y bwrdd iechyd wedi disgyn i £65 y person yn unig o gymharu â £500 gan gomisiynwyr yng Ngorllewin Swydd Gaer, cadarnhaodd prif weithredwr y bwrdd iechyd fframwaith ar gyfer y dyfodol.

Pan ymwelais â staff gwych yn Ysbyty Maelor Wrecsam yr haf hwn gydag Ymddiriedolaeth Hepatitis C, dywedasant wrthyf fod yna opsiynau triniaeth cynhwysfawr bellach. Fodd bynnag, roeddent yn ychwanegu y buasai gwneud yr hyn y mae Llywodraeth Cymru'n gofyn amdano yn galw am gael rhwng chwech a naw nyrs hepatoleg arbenigol ychwanegol ar draws y bwrdd iechyd. Rydym wedi gweld cleifion yn aros misoedd am driniaeth rheoli poen.

Y prynhawn yma, cyhoeddodd y bwrdd iechyd fod practis meddyg teulu arall eto'n cau. Er bod mesurau arbennig wedi arwain at rywfaint o symud oddi wrth drin cwynion er mwyn osgoi risg tuag at ddatrys problemau drwy ymgysylltu'n uniongyrchol ag achwynwyr, mae cynnydd wedi arafu. Roedd ymateb diweddar i gŵyn ynghylch claf a fu farw tra'n derbyn triniaeth gan y bwrdd iechyd yn enghraifft nodweddiadol o hyn. Er bod y bwrdd wedi ymddiheuro ac wedi datgan bod y gŵyn wedi'i harchwilio yn unol â rheoliadau, daeth i'r casgliad dideimlad, ac rwy'n dyfynnu,

nad oedd unrhyw rwymedigaeth gymhwyso ar yr achlysur hwn.

Roedd y teulu mewn gofid dwys a dywedasant wrthyf fod yr ymateb yn cynnwys nifer o wallau ffeithiol.

Betsi Cadwaladr yw'r unig fwrdd iechyd yng Nghymru nad yw'n comisiynu gwasanaethau gan ganolfan therapi plant Bobath, sy'n darparu ffisiotherapi arbenigol, therapi alwedigaethol a therapi iaith a lleferydd i blant yng Nghymru sydd â pharlys yr ymennydd. Mae'r gost i'r gweddill yn fach iawn a'r arbedion yn enfawr. Gyda'r ganolfan, a rhiant o ogledd Cymru y mae eu merch wedi cael y cymorth hwn, cyfarfûm â'r bwrdd iechyd ddwywaith i chwilio am ffordd ymlaen. Roedd ganddynt adroddiad drafft a gopïwyd ar ein cyfer i ni wneud sylwadau arno. Ymatebodd pob un ohonom ar y ddealltwriaeth glir y byddai ymgysylltu teuluol ehangach ond yn dilyn wedi i'n sylwadau gael eu cynnwys yn yr adroddiad drafft. Yn lle hynny, cyhoeddwyd yr adroddiad drafft heb ei ddiwygio i rieni gyda holiadur, a oedd yn gogwyddo'n annheg tuag at ddarparu gwasanaethau mewnol, yn hytrach na'r ddarpariaeth sydd ar gael gan Bobath o safon y tu hwnt i'r hyn y gall y bwrdd iechyd ei ddarparu. 

Ar ôl i asesiadau awtistiaeth gael eu gwrthod iddynt, mae rhieni sawl merch wedi dweud wrthyf nad yw cyrff statudol yn deall bod y meddylfryd wedi newid, a bod awtistiaeth yn wahanol mewn merched. Er iddynt gael eu gorfodi i dalu am asesiad awtistiaeth preifat, dywedodd llythyr yn 2017 gan y bwrdd iechyd fod CAMHS Sir y Fflint wedi mynegi pryderon ynghylch trylwyredd a chasgliadau nifer o asesiadau preifat, ac mewn rhai achosion nid oeddent yn derbyn y diagnosis, a bod gofyniad i'r rhain gydymffurfio â chanllawiau NICE. Fodd bynnag, pan gyfeiriais hyn at y seicolegydd clinigol a oedd wedi cynnal yr asesiadau hyn, cadarnhaodd nid yn unig ei bod hi a'i thîm yn cydymffurfio â NICE, ond hefyd ei bod yn cyfrannu at ganllawiau NICE.

Mae'r dull hwn o weithredu'n helpu i egluro pam y nodwyd y nifer uchaf o achoson difrifol o dorri amodau diogelwch cleifion yn y bwrdd iechyd hwn o blith holl ysbytai Cymru, pam y mae ganddo'r record waethaf mewn perthynas â chleifion sy'n aros dros bedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a chyda Cymru â dwywaith y lefel yn Lloegr o gleifion sy'n aros am driniaeth, pam y cynyddodd nifer y cleifion ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sy'n aros dros flwyddyn am lawdriniaeth gyffredinol 2,550 y cant, fel y clywsom yn gynharach, o 94 ar yr adeg pan roddwyd y mesurau arbennig ar waith i 2,491 yn mis Medi 2017. Ni all hyn barhau.

18:00

Rydym wedi gwrando ar nifer o areithiau grymus iawn sy'n dangos cymaint o drychineb yw bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dan lywyddiaeth yr Ysgrifennydd Cabinet presennol a'r un blaenorol sydd wedi gadael y Siambr dros dro. Nawr, ers blynyddoedd maith, mae'r Blaid Lafur wedi arfer dweud bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn destun eiddigedd y byd. Wel, o ran Betsi Cadwaladr, nid wyf yn gwybod pa fyd y maent yn ei feddwl—rhaid mai planed Plwto, oherwydd yn sicr nid yw'n destun eiddigedd i neb ar y ddaear hon.

Nododd Michelle Brown bwynt pwysig iawn yn ei haraith yn gynharach, sef diffyg ymateb bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i'w gleifion mewn perthynas â'r cwynion y maent wedi eu gwneud. Rydym wedi cael rhes enfawr o enghreifftiau unigol yma y prynhawn yma, ac nid wyf yn ymddiheuro am ddychwelyd at thema a nodais yn y Siambr ar sawl achlysur ers cael fy ethol: amddifadu ucheldiroedd Cymru o gwmpas Blaenau Ffestiniog o unrhyw ddarpariaeth iechyd o sylwedd. Mae ymhell dros flwyddyn bellach ers i mi holi'r Prif Weinidog beth oedd Llywodraeth Cymru'n mynd i wneud ynglŷn â hyn, o ystyried bod Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig. Dywedais fod y record yng Ngwynedd yn enwedig, yn yr ardal o amgylch Blaenau Ffestiniog, yn union i'r gwrthwyneb i'r hyn a honnai'r Llywodraeth yn yr adran ar iechyd yn ei dogfen 'Symud Cymru Ymlaen', lle roeddent yn dweud,

'Rydym wedi ymrwymo i helpu i wella iechyd a llesiant pawb.'

Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn ucheldiroedd Cymru yn gyfan gwbl i'r gwrthwyneb. Yn y saith ardal llesiant a ddiffiniwyd gan Gyngor Gwynedd, mae ysbyty hyb cymunedol ym mhob un ar wahân i Flaenau Ffestiniog, am fod eu gwasanaeth 24 awr wedi cau sawl blwyddyn yn ôl a'i israddio'n ganolfan iechyd 10 awr, ac mae wedi'i israddio eto ers hynny. Ers 2013, felly, rydym wedi gweld ysbyty'n cau, colli gwelyau ysbyty, cau'r gwasanaeth pelydr-x, cau uned mân anafiadau, cau clinigau teleddermatoleg a gwasanaethau therapi, mae dwy feddygfa gangen wledig wedi cau, ac roedd y practis meddyg teulu ym Mlaenau Ffestiniog i fod i gynnwys pedwar o feddygon llawn amser, ond un meddyg cyflogedig yn unig sydd ganddynt ac amryw o staff locwm. O ran Blaenau Ffestiniog, nid oes ganddynt wasanaeth iechyd gwladol; mae ganddynt wasanaeth iechyd damcaniaethol. Ac yn y 14 mis ers i mi gyflwyno'r feirniadaeth honno i'r Prif Weinidog, nid oes dim o gwbl wedi newid er gwaethaf y mesurau arbennig, ac mae'n rhaid gwneud rhywbeth am y peth.

Erbyn hyn, mae pawb ohonom yn gwybod, wrth gwrs, fod ardaloedd fel Blaenau Ffestiniog a'r cylch cyfagos yn achosi problemau. Mae tensiwn yn mynd i fod bob amser wrth ddarparu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig tenau eu poblogaeth, ond mae'r modelau a ddewiswyd yn ymwneud mwy â'r hyn sy'n briodol ar gyfer ardaloedd trefol yn hytrach nag ardaloedd gwledig. Mewn lleoliadau trefol, wrth gwrs, am resymau amlwg iawn, y duedd yw crynhoi gwasanaethau mewn canolfannau gofal iechyd cymunedol, ond yn ardaloedd gwledig gogledd Cymru, mae wedi digwydd i'r cyfeiriad arall. Yr hyn y dylem ei wneud yw gwthio gwasanaethau i ardaloedd gwledig er mwyn sicrhau canlyniadau i gleifion heb golli gormod o effeithlonrwydd ariannol. Yr hyn a welsom yw gwariant sylweddol iawn o arian ym Mlaenau Ffestiniog yn ddiweddar—ymhell dros £1 filiwn, rwy'n credu—ond ni chafodd yr un gwely ei greu; rydym wedi creu dwsinau ar ddwsinau o ddesgiau i fiwrocratiaid y gwasanaeth iechyd gwladol yn lle hynny.

Felly, maent wedi cau'r ysbyty coffa a gosod bloc o swyddfeydd yn ei le. Nid dyna a ddisgwyliwn gan wasanaeth iechyd, ac mae trigolion Blaenau a'r cylch, druain, yn haeddu llawer gwell na hynny. Ymddengys bod gwledydd eraill yn llwyddo i wneud hyn. Pam na allwn ni? Yn yr Unol Daleithiau, mae'r ardaloedd gwledig wedi mwynhau cymorth a diogelwch Deddf Gwasanaethau Clinigau Iechyd Gwledig 1977, ac mae Swyddfa Ffederal Polisi Iechyd Gwledig a'r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Iechyd Gwledig yn darparu mecanwaith i ymgyrchwyr iechyd gwledig gael cymorth sylweddol wrth ryngwynebu â'r Gyngres.

Rydym yn gwybod bod yna rywbeth a elwir yn ddirywiad pellter—hynny yw, po bellaf y byddwch yn byw o ysbyty, y gwaethaf y mae canlyniadau iechyd yn tueddu i fod, am fod pobl yn ei chael yn llawer anos mynd i'r ysbyty, felly ni fyddant yn mynd am driniaeth mewn pryd ac yn ddigon rheolaidd. Ceir problemau gyda thlodi mewn ardaloedd gwledig. Mae pobl yn gorfod talu i deithio i ysbytai sy'n bell o'u cartrefi, felly nid oes ganddynt wasanaeth iechyd am ddim am ei fod yn costio cryn dipyn o arian iddynt yn aml er mwyn cael y driniaeth y maent yn ei haeddu.

Yn yr Alban, ceir rhai modelau mwy dychmygus nag sydd gennym yma yng Nghymru. Er enghraifft, ar Ynys Skye, mae ganddynt fodel ymarferwyr gwledig lle mae ysbyty Broadford yn cael ei staffio gan feddygon teulu sydd wedi'u hyfforddi â sgiliau ychwanegol mewn anaestheteg a thrawma. Datblygwyd y model ar ôl ymgynghori â'r gymuned leol, a'r sylweddoliad fod angen rhai gwasanaethau brys ar gymuned o'u maint, sef tua 13,000, ond na allent gynnal ysbyty cyffredinol. Yn hytrach, mae ysbyty Broadford bellach yn uwch-ysbyty cymunedol. Pam na allwn wneud hynny yn y Blaenau? Gwrthododd yr Ysgrifennydd iechyd blaenorol ymyrryd mewn camau i gau gwasanaethau ysbyty ym Mlaenau Ffestiniog am fod y cyngor iechyd cymuned lleol yn cefnogi'r cau, ond wrth gwrs, ni chaiff y cyngor iechyd cymuned lleol ei ethol gan neb yn yr ardal lle mae'r ysbytai'n cael eu cau. Dyna pam fod angen inni gyflwyno'r math o ddemocratiaeth y cyfeiriodd Michelle ati yn y gwasanaeth iechyd.

18:10

Aelod Cynulliad a gododd—

Yn anffodus, credaf fy mod ar ddiwedd fy araith ac ni fuasai'r Dirprwy Lywydd yn caniatáu i mi dderbyn ymyriad, er y buaswn wedi bod yn falch iawn o wneud hynny fel arall.

Felly, mae arnaf ofn fod y catalog hwn o drychineb yn parhau, a chredaf ei fod yn debygol o barhau ymhellach hyd oni fyddwn yn newid Llywodraeth y wlad hon.

Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma. Er nad wyf o'r gogledd, wrth gwrs, drwy fy rôl fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yma, rwy'n amlwg yn treulio cryn dipyn o amser yn mynd i fyny i ogledd Cymru a chael profiad uniongyrchol o'r trafferthion, fel y buaswn yn ei roi, y mae llawer o bobl yn teimlo eu bod ynddynt gyda'r gwasanaeth y maent yn ei gael gan y bwrdd iechyd, sydd wedi bod o dan fesurau arbennig ers oddeutu 30 mis. Yn amlwg, mae'n werth nodi mai'r cyfnod y bydd corff iechyd tebyg yn ei dreulio o dan fesurau arbennig ar gyfartaledd yn Lloegr yw oddeutu 21 mis.

Nid wyf am fychanu'r ffaith bod tensiynau a phroblemau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan mewn perthynas â gwasanaethau iechyd. Yn benodol, mae rhywbeth i'w ddathlu yn y ffaith bod mwy o bobl yn cael eu trin yn ein gwasanaeth iechyd ledled y Deyrnas Unedig. Y rheswm am hynny, wrth gwrs, yw oherwydd bod llawer mwy o bobl ar yr ynysoedd hyn ac rydym yn byw'n hwy yn ogystal, ac felly mae gwasanaethau iechyd ar draws y Deyrnas Unedig yn wynebu dilema gwirioneddol yn sgil y galw cynyddol ac anallu i ddenu'r staff sydd eu hangen arnynt i weithio ar y wardiau a'r practisau gofal sylfaenol.

Ac nid oes achos mwy arwyddocaol i dynnu sylw ato na'r hyn a geir yng ngogledd Cymru, sydd, ers blynyddoedd lawer—fwy neu lai am yr holl amser y bûm yn aelod o'r Cynulliad—wedi cael trafferth i recriwtio staff, a chadw staff yn benodol. Rydym yn canolbwyntio llawer ar recriwtio staff newydd i'r gwasanaeth iechyd, ond mewn gwirionedd, mae cadw yn rhan hanfodol o'r hyn y dylem fod yn ei wneud yn y gwasanaeth iechyd, ac yng ngogledd Cymru yn anad unman. Os edrychwch ar yr ystadegau salwch staff yn y bwrdd iechyd, mae'n destun gofid eu bod ymhlith rhai o'r uchaf yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac mae straen yn benodol wedi ei nodi fel un o'r rhesymau mwyaf cyffredin, neu'r achos unigol mwyaf, dros absenoldeb staff, oherwydd y pwysau sydd arnynt wrth gwrs.

Mae oddeutu 30 mis wedi mynd heibio, fel y dywedais, ers i'r bwrdd iechyd gael ei roi o dan fesurau arbennig. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet presennol wedi bod yn ei swydd ers 16 neu 17 mis bellach—ychydig bach mwy na hynny efallai—a gobeithio y bydd yn defnyddio'r cyfle wrth ymateb i'r ddadl hon heddiw i roi asesiad gonest ac agored o ble y mae'n gweld y bwrdd iechyd yn mynd. Ni all fod yn iawn, ar ôl 30 mis a chyda'r Ysgrifennydd iechyd yn ei swydd bellach am y cyfnod hwnnw o amser, na allwn gael asesiad gonest ynglŷn â sut nad yw Llywodraeth Cymru, gyda'r holl adnoddau sydd ar gael iddi, yn mynd i'r afael â'r amseroedd aros, â chadw staff a recriwtio ac yn anad dim, â'r problemau cyllideb sy'n wynebu'r bwrdd iechyd hwn; tan yn ddiweddar, rhagamcanwyd diffyg yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon o £50 miliwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r ffigur diweddaraf yn dangos bod sefyllfa'r diffyg bellach wedi'i ostwng i £36 miliwn, ond ynddo'i hun, dyna'r diffyg mwyaf yn y gyllideb y bydd y bwrdd iechyd hwn wedi'i gael mewn un flwyddyn ariannol.

Pan edrychwch ar amseroedd aros a'r enghreifftiau graffig a roddwyd gan Aelodau o ogledd Cymru, ac yn enwedig o fy meinciau i yma gan yr Aelod rhanbarthol Mark Isherwood a'r Aelod dros Aberconwy, Janet Finch Saunders, o bobl yn aros 12, 18 mis, mwy na 100 wythnos am driniaeth, mae hynny'n rhywbeth na ddylem ei oddef yn yr unfed ganrif ar hugain. Pan edrychwch ar y niferoedd mewn gwirionedd, os cymerwch yr amser aros o 52 wythnos ar gyfer llawdriniaeth gyffredin, cododd o 94 o gleifion yn 2015 i ffigur o 2,491 yn awr, ym mis Medi 2017. Dyna gynnydd o 2,500 y cant. Mae'r mathau hyn o ffigurau yn gwbl annealladwy i'r rhan fwyaf o bobl. Y cyfan y mae'r rhan fwyaf o bobl ei eisiau—nid ydynt yn disgwyl triniaeth gyflym, ond maent yn disgwyl i'r driniaeth honno gael ei darparu mewn amser rhesymol.

Rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi rhywbeth cadarn a diriaethol inni ei ychwanegu at y ddadl hon i allu dweud bod Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion ym Mharc Cathays, ynghyd â'r bwrdd iechyd, yn amgyffred y sefyllfa mewn perthynas ag amseroedd aros yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn mynd i'r afael â'r amseroedd aros cynyddol hyn. Mae damweiniau ac achosion brys, er enghraifft, yn faes arall sy'n peri pryder enfawr fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ac mewn cwestiynau i chi, rwy'n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran yr amseroedd aros gwarthus y mae pobl yn gorfod eu hwynebu yn Ysbyty Glan Clwyd, yn ei ysbyty ei hun, sy'n gwasanaethu ei etholwyr, lle y caiff llai na  70 y cant o bobl eu gweld o fewn y targed o bedair awr—eich targed eich hun. Does bosibl eich bod yn cytuno â chaniatáu'r sefyllfa honno mewn ysbyty mawr yma yng Nghymru. Ac felly, yn eich anerchiad yn y ddadl y prynhawn yma, hoffwn ofyn i chi roi trywydd clir i ni allan o'r mesurau arbennig i ni allu ei briodoli i'r ddadl hon, fel y gall yr Aelodau fynd yn ôl at eu hetholwyr a dweud pa gynnydd a wnaed ers i'r bwrdd iechyd gael ei osod o dan fesurau arbennig. Rwy'n gobeithio y byddwch yn egluro'r sefyllfa y mae'r bwrdd iechyd ynddi gyda'r gyllideb, oherwydd dyma eich cyfle i wneud hynny.

Yn anad dim, rwy'n gobeithio y byddwch yn rhoi rhywbeth ystyrlon i ni ar recriwtio a chadw staff oherwydd heb y staff ar y rheng flaen yn ein bwrdd iechyd, boed hynny mewn amgylchedd sylfaenol neu eilaidd, nid oes gwasanaeth iechyd yn bodoli. Fel y crybwyllodd Angela Burns, hwy yw'r asgwrn cefn, hwy yw'r gwaed sy'n gwneud i'n gwasanaeth iechyd weithio, ac mae'n ddyletswydd arnoch, gyda'r dulliau sydd ar gael i chi, gynnig pecyn sylweddol o fesurau sy'n mynd i'r afael â'r prinder staff cronig sy'n wynebu bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.

18:15

A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am ddadl fywiog ac anodd, gyda llawer o feirniadaeth, ac mae hynny i'w ddisgwyl. Rwy'n cydnabod ar y cychwyn y bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 2, gan ein bod yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r gweithlu. Efallai y gallem fod wedi'i eirio'n wahanol, ond credaf ei bod yn anghywir i ni hollti blew ynglŷn â geiriau unigol yn y gwelliant. Rydym yn cydnabod yr her ganolog a wnaed ac a gafodd ei chydnabod yn y gwelliant.

Yn sgil gosod mesurau arbennig ym mis Mehefin 2015, y meysydd a amlinellwyd ar gyfer gweithredu ar unwaith ar y pryd oedd: llywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth, gwasanaethau iechyd meddwl—y maes pryder mwyaf—gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ailgysylltu â'r cyhoedd, a gwasanaethau y tu allan i oriau meddygon teulu a gofal sylfaenol. Nawr, nid yw mesurau arbennig eu hunain yn gyfystyr â bod Llywodraeth Cymru'n cymryd rheolaeth uniongyrchol ac yn rhedeg y bwrdd iechyd. Mesurau arbennig yw'r lefel uchaf o ymyrraeth, ond mae'r bwrdd iechyd yn dal ar waith ac yn rhedeg gwasanaethau. Nid oes neb yn cyfarwyddo ym Mharc Cathays neu'n gwneud dewisiadau ynglŷn â sut i redeg y sefydliad. Mae'r ymyrraeth sydd ar waith wedi gweithio ochr yn ochr â'r bwrdd a'r staff i geisio gwneud cynnydd a gwella gwasanaethau ac wedi cynyddu'n sylweddol ein goruchwyliaeth a'r trefniadau atebolrwydd.

Wrth gwrs, rwy'n gwerthfawrogi gwaith caled ein staff yn darparu gwasanaethau a chefnogi cleifion ar draws gogledd Cymru. Pan fyddaf yn ymweld â gogledd Cymru, fel rwy'n ei wneud yn rheolaidd, byddaf yn cyfarfod â staff ac yn cael fy nghalonogi gan y gydnabyddiaeth a'r ymrwymiad sydd ganddynt i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol. Rwy'n falch fod pobl, yn y ddadl hon, yn cydnabod ymrwymiad ein staff, ond carwn ddweud yn garedig wrth bob Aelod ym mhob plaid—nid wyf am gyfeirio at unrhyw unigolyn penodol—wrth gydnabod ymrwymiad staff a'u gwaith caled, mae cyfeirio wedyn at y bwrdd iechyd fel trychineb neu mewn argyfwng yn tanseilio hynny. Mae'n tanseilio ac yn effeithio ar y staff ar y rheng flaen. Nid yw'r heriau y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu yn bodoli ym mhob maes gweithredu. Mae cael y brwsh eang hwnnw'n effeithio ar y staff yn ogystal â'r wleidyddiaeth yn y lle hwn.

Yn natganiad y Llywodraeth ym mis Hydref 2015, nodais y byddai'r bwrdd iechyd yn parhau o dan fesurau arbennig am o leiaf ddwy flynedd a bod angen cynlluniau hwy i adeiladu ar y cam cychwynnol hwn o sefydlogi er mwyn mynd i'r afael â heriau mwy sylfaenol sy'n bodoli, yn enwedig gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru.

Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith gwella, sy'n nodi cerrig milltir ar gyfer cynnydd i'w cyflawni mewn tri cham: y cynllun gwella, os mynnwch. Cyflwynodd y bwrdd iechyd adroddiad ar y cam cyntaf ym mis Mawrth 2016, yr ail gam ym mis Rhagfyr 2016, a disgwylir adroddiad ar y trydydd cam ym mis Rhagfyr, fis nesaf. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal trydydd adolygiad o gynnydd ar y trefniadau llywodraethu, ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Mehefin eleni. Roedd yr adolygiad hwnnw'n cydnabod bod y bwrdd iechyd yn mynd i'r cyfeiriad cywir at ei gilydd. Nododd fod yr arweinyddiaeth wedi cryfhau, mae'r bwrdd yn gweithio'n fwy effeithiol ac mae mesurau arbennig yn helpu i ganolbwyntio ar feysydd lle mae angen gweithredu.

Gwnaed cynnydd ar gyflawni nifer o'r cerrig milltir a osodwyd, gan gynnwys gosod gweithrediaeth lawn ar waith, gan gynnwys chwe phenodiad newydd ers cyflwyno mesurau arbennig. Rhoddwyd amser ac ymdrech i wella perfformiad y bwrdd gyda rhaglen ddatblygu barhaus, a nododd adolygiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru eu bod wedi gweld gwelliannau amlwg yn effeithiolrwydd y bwrdd. Fel y crybwyllwyd yma, caiff cwynion a phryderon eu harwain gan y cyfarwyddwr nyrsio bellach, a bu gwelliant sylweddol o ran ymatebolrwydd. Datblygwyd strategaeth iechyd meddwl mewn partneriaeth â defnyddwyr a staff gwasanaethau, a chytunwyd arni ym mis Ebrill eleni. Cafwyd dull llwyddiannus o drawsnewid gwasanaethau gofal sylfaenol ym Mhrestatyn, sy'n cael eu modelu bellach gan ennyn diddordeb nid yn unig ledled Cymru, ond ymhellach i ffwrdd yn ogystal.

Ar wasanaethau mamolaeth, un o'r heriau mwyaf sylweddol ar adeg gosod y mesurau arbennig, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn meysydd allweddol, gan gynnwys, er enghraifft, lleihau'r ddibyniaeth ar asiantaeth, o 50 y cant i 10 y cant. Erbyn hyn mae'r gwasanaeth yn cydymffurfio â Birthrate Plus, ac mae myfyrwyr bydwreigiaeth cyn cofrestru a symudwyd o Ysbyty Glan Clwyd yn 2015 i gyd wedi dychwelyd bellach, fel bod yr holl safleoedd ar draws y bwrdd iechyd yn cael eu defnyddio'n llawn at ddibenion hyfforddi. Ac wrth gwrs, mae gwaith ar y ganolfan is-ranbarthol ar gyfer gofal dwys i'r newydd-anedig yn mynd rhagddo'n dda, a disgwyliaf y bydd yr uned yn agor yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Roedd adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn nodi heriau parhaus, gan gynnwys yr angen am gynllun clir ar gyfer gwasanaethau clinigol, ac a fydd yn galw am arweinyddiaeth ddewr a gweladwy i sicrhau cynnydd ac i adeiladu arno. Wrth gwrs, rwy'n siomedig fod rhai materion wedi dwysáu yn ystod y chwe mis diwethaf mewn meysydd eraill sy'n galw am welliant sylweddol yn awr, yn enwedig o ran cyllid a pherfformiad. Nid wyf erioed wedi ceisio osgoi realiti'r heriau sylweddol mewn perthynas â chyllid a pherfformiad, mewn gofal wedi'i drefnu a heb ei drefnu. Oherwydd y pryderon sydd gennyf, cynyddais yr atebolrwydd o haf eleni ymlaen, gyda mwy o gyswllt uniongyrchol rhyngof fi ac uwch-swyddogion. Rwy'n cyfarfod gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwyr yn uniongyrchol. Mewn gwirionedd, rwyf eisoes wedi trefnu i'w cyfarfod yfory yng ngogledd Cymru fel rhan o'r cyswllt amlach hwnnw.

Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr her barhaus i'r bwrdd iechyd o fynd i'r afael â'i sefyllfa ariannol bresennol a'i amseroedd aros annerbyniol. Mae fy ffocws ar sicrhau gweithredu a darparu'r cymorth sydd ei angen i sefydlogi ac adfer y sefyllfa. Rwyf eisoes wedi gweithredu ac wedi rhoi nifer o gamau ar waith i helpu i wneud hynny. Dyna pam rydym yn ceisio nodi'r cymorth a ddarparwyd eisoes o dan y mesurau arbennig, a'r camau ychwanegol a gymerais, gan gynnwys y cyngor a'r cymorth allanol ychwanegol i'r tîm iechyd meddwl, sydd wedi gosod mwy o staff yn y bwrdd ac o'i amgylch, a dyrannu dros £13 miliwn i wella amseroedd aros rhwng atgyfeiriad a thriniaeth. Rydym yn disgwyl i hynny wella oddeutu 50 y cant erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Cafodd £1.5 miliwn o fuddsoddiad ei neilltuo ar gyfer tîm y rhaglen gofal heb ei drefnu i drawsnewid y modd y caiff gwasanaethau eu darparu ac i wella perfformiad gofal heb ei drefnu, gyda chymorth wedi'i dargedu gan uned gyflawni GIG Cymru. Darparwyd cymorth uniongyrchol gan y rhaglen genedlaethol i'r tîm gofal heb ei drefnu.

Mae'r adolygiad allanol annibynnol a gomisiynwyd ar drefniadau llywodraethu ariannol wedi ei ddarparu ar gyfer ei drafod gyda'r bwrdd. Dewisasom wneud hynny'n gynharach yn fwriadol, yn hytrach nag aros am ddirywiad pellach yn sefyllfa'r bwrdd iechyd. Roedd yn fesur rhagweithiol i ddeall yr heriau sydd ganddynt, ac yna i ddeall pa gymorth pellach y buasai ei angen. Rwyf wedi ymestyn amser y panel trosolwg annibynnol ar gyfer Tawel Fan i fis Ebrill 2018, i wneud yn siŵr fod eu gwaith yn cael ei wneud yn iawn ac i sicrhau bod yna gasgliadau y gall pobl ddibynnu arnynt. Yr wythnos hon, rwyf wedi cytuno i gymorth pellach i'r bwrdd iechyd gyda David Jenkins, cyn-gadeirydd profiadol allanol bwrdd iechyd Aneurin Bevan, un o'n byrddau iechyd mwy llwyddiannus yng Nghymru, a bydd ef yn awr yn mabwysiadu rôl gynghorol i gefnogi'r cadeirydd a'r prif weithredwr ar y gwaith sefydlogi ac adfer sy'n ofynnol. A bydd yn darparu adroddiadau ar ei ganfyddiadau i mi wrth gwrs, yn ogystal â gweithio gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr.

Wrth gwrs, byddaf yn adolygu adroddiad cam 3 gan y bwrdd iechyd ar y cynnydd, ac yn ystyried safbwyntiau'r rheoleiddwyr yn gynnar ym mis Rhagfyr. Rwy'n cydnabod y galwadau a wnaed yn y ddadl hon am fap allan o fesurau arbennig, a buaswn yn atgoffa pobl yn ofalus o'r hyn a ddywedasom ar y pryd pan aeth y bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig. Aeth i mewn ar sail y cyngor a gawsom—y cyngor difrifol, a oedd yn peri pryder, a gawsom gan brif weithredwr GIG Cymru, gan Swyddfa Archwilio Cymru, a hefyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Felly, nid gweithred o hwylustod gwleidyddol i Weinidogion oedd rhoi'r sefydliad hwn o dan fesurau arbennig. Ni ddylai dod allan o fesurau arbennig fod yn fap a luniwyd yn wleidyddol. Ceir amheuaeth amlwg y buasai hynny'n fater o gyfleustra i mi neu'r Llywodraeth hon. Wrth gwrs, byddaf yn derbyn ac yn gweithredu ar y cyngor gwrthrychol a gaf ynglŷn â beth i'w wneud a pha bryd fydd yr amser iawn i wneud hynny. Byddaf yn adolygu cynnydd yn erbyn y cynllun gwella presennol wrth gwrs, ac yn gweld beth arall sydd ei angen.

Fy nod yw cryfhau'r gwaith rydym eisoes yn ei wneud i gefnogi dull o newid er mwyn sicrhau bod y bwrdd iechyd yn gwneud y gwelliannau gofynnol. Ni ellir cuddio difrifoldeb y sefyllfa, na pha mor ddifrifol rwy'n ystyried y dasg. Gwn yn iawn y bydd yna gwestiynau i'w gofyn ac y dylid eu gofyn hyd nes y ceir gwelliant parhaus yn y meysydd lle mae'r bwrdd iechyd hwn yn llusgo ar ôl. Byddaf yn parhau i adrodd yn ôl a byddaf yn parhau i adrodd yn ôl yn onest ac yn dryloyw ar y cynnydd a wnaed a'r cynnydd sydd ei angen. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau cyn y Nadolig wrth gwrs, yn dilyn prosesau adolygu unrhyw gamau ychwanegol sydd i'w cymryd.

18:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb i'r ddadl, a oedd yn cydnabod, roeddwn i'n meddwl, mewn ffordd fwy nag a welwyd o'r blaen, fod yna angen dybryd o hyd i wella pethau ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr? Rydych wedi clywed y sylwadau gan Aelodau'r Cynulliad o bob plaid y prynhawn yma, sydd wedi nodi'n glir iawn y mha feysydd y mae'r bwrdd iechyd penodol hwn yn methu. Credaf mai'r hyn sy'n peri pryder mawr i ni yw bod y pethau hyn wedi dirywio rhagor, lawer ohonynt, ers i'r bwrdd gael ei osod o dan fesurau arbennig. Dylai hynny fod yn destun pryder. Rwy'n siŵr ei fod yn peri pryder i chi. Fe awgrymoch nad oedd Llywodraeth Cymru yn rheoli'r bwrdd yn uniongyrchol, ond wrth gwrs, yn syth ar ôl gosod y mesurau arbennig, fe benodoch chi ddirprwy brif weithredwr yr adran rydych bellach yn gyfrifol amdani i redeg y bwrdd iechyd. Felly, mae awgrymu nad oedd Llywodraeth Cymru yn rhedeg y bwrdd iechyd yn ymddangos ychydig yn rhyfedd mewn gwirionedd.

Wrth gwrs, ni ddylem anghofio ychwaith fod y daith tuag at y mesurau arbennig yn un anodd. Roeddem wedi bod yn galw ers tro am i'r bwrdd gael ei osod o dan fesurau arbennig ond ni phenderfynodd Llywodraeth Cymru wneud hynny hyd nes y cyhoeddwyd adroddiad Tawel Fan pan drodd y fantol o'r diwedd. Eto i gyd, ni chyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw am oddeutu chwe mis ar ôl ei rannu â Llywodraeth Cymru, a'i rannu gyda'r bwrdd iechyd hwnnw mewn gwirionedd. Rhoddwyd adroddiad Tawel Fan, a luniwyd gan Donna Ockenden, ac a nodai'n glir y driniaeth erchyll—y driniaeth gwbl annerbyniol a'r diffygion gofal ar ward Tawel Fan—i'r bwrdd iechyd ym mis Medi 2014, ac eto cymerodd tan fis Mehefin 2015, a oedd ychydig wedi etholiad cyffredinol, rhaid i mi ddweud, cyn y cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw ar gyfer y cyhoedd ac y penderfynodd y Llywodraeth hon roi camau ar waith. Felly, credaf fod yna gwestiynau difrifol i'w gofyn ynglŷn â pham nad yw'r mesurau arbennig a osodwyd ar y bwrdd wedi gweithio hyd yma a pham rydych bellach yn gorfod, sut y gallaf ei roi, cymryd mwy o ddiddordeb personol yn y broses o newid cyfeiriad Betsi Cadwaladr.

Rydym wedi clywed eisoes eu bod mewn trafferthion ariannol. Pan aethant o dan fesurau arbennig roedd eu diffyg ar gyfer 2014 yn £26 miliwn; mae bellach yn £36 miliwn—perfformiad gwaeth, er gwaethaf y ffaith bod perfformiad ariannol yn un o'r materion y cafodd ei osod o dan fesurau arbennig o'i herwydd. Clywsom eisoes fod mwy o bobl yn aros yn hwy am eu llawdriniaeth nag erioed o'r blaen ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr—mae rhai pobl yn aros dros ddwy flynedd rhwng atgyfeiriad a thriniaeth, yn enwedig am eu llawdriniaethau orthopedig. Mae'n gwbl annerbyniol. Dyma'r bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf o ran mynediad at adrannau brys. Dyma fwrdd iechyd sydd i fod yn destun craffu llawer mwy gofalus nag unrhyw un o'r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Felly, os mai dyma y mae craffu gofalus iawn yn ei wneud i fwrdd iechyd, efallai y buasai wedi bod yn well i chi fod wedi peidio ag ymwneud o gwbl, gan ei bod yn amlwg nad yw wedi gweithio.

Gwasanaethau meddyg teulu: ymddengys bod yr argyfwng yn mynd yn waeth ac yn waeth ac yn waeth. Mae pum meddygfa eleni hyd yma—chwech os credaf yr hyn y mae Mark Isherwood wedi'i rannu gyda'r Siambr heddiw—wedi penderfynu dychwelyd eu contract i'r bwrdd iechyd am nad ydynt yn gallu cynnal a chyflawni'r contract hwnnw. Mae ganddo'r nifer uchaf o bractisau meddygon teulu a gaiff eu hystyried fel mannau gwan gan Gymdeithas Feddygol Prydain, sy'n awgrymu bod pethau'n gwaethygu eto yn y dyfodol. Felly, ymddengys bod y problemau'n cyflymu ym maes meddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol yn ogystal.

Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at faterion diogelwch cleifion yn y bwrdd iechyd, ac mae'n siwr y byddwch yn dweud wrthym mai'r rheswm am hynny yw eu bod yn adrodd y pethau hyn yn fwy gonest y dyddiau hyn. Ond mae cael mwy na hanner yr holl farwolaethau a gofnodwyd o ganlyniad i gamgymeriadau yn digwydd yn yr un bwrdd iechyd hwnnw—nad yw'n gwasanaethu hanner y boblogaeth yng Nghymru—yn afreolaidd. Nid yw'n iawn. Mae'n dangos bod rhywbeth mwy problemus yn digwydd yno. Yn gwbl briodol, clywsom am beth o'r pwysau staffio a wynebwyd gan y bwrdd iechyd penodol hwnnw. Fi fydd y cyntaf i ganmol staff y bwrdd iechyd hwnnw. Maent yn gwneud gwaith gwych ac ardderchog yn wyneb pwysau sylweddol ar y rheng flaen, ond nid oes digon ohonynt. Ymwelais â dwy uned iechyd meddwl yr wythnos diwethaf ac roeddent yn dweud wrthyf eu bod yn gorfod dibynnu ar staff asiantaeth drwy'r amser. Mae hynny'n golygu bod gennych bobl nad ydynt yn adnabod y cleifion o un diwrnod i'r llall, nid ydynt yn staff rheolaidd ac o ganlyniad, mae hynny'n achosi pwysau o fewn y timau gwaith hynny.

Felly, nid yw'r hyn a ddigwyddodd hyd yma yn gweithio; rhaid inni weld newid sylweddol yn y bwrdd iechyd. Mae teuluoedd Tawel Fan yn haeddu gweld y sefyllfa yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn benodol yn newid cyfeiriad. Nid ydynt yn mynd i weld unrhyw ganlyniadau o ran y gwaith dilynol a gomisiynwyd tan fis Mawrth nesaf fan lleiaf. Credaf fod yr holl bethau hynny'n awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi methu'n gyfan gwbl ag ymdrin â heriau yn y bwrdd iechyd hwn a bod angen newid trywydd yn sylweddol os ydym yn mynd i gael hyn yn iawn.

18:30

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Cyllideb Llywodraeth y DU a Chymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Rwy'n mynd i symud ymlaen yn awr at eitem 8 ar ein hagenda, sef dadl Plaid Cymru ar gyllideb Llywodraeth y DU a Chymru. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6595 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi o ran cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar ei chyllideb:

a) nad oedd yn cynnwys cyhoeddiadau newydd penodol i Gymru; a

b) ei fod yn cynnwys adolygiadau ar i lawr ar gyfer twf economaidd, cynhyrchiant a buddsoddiad mewn busnesau.

2. Yn credu bod y newidiadau disgwyliedig i grant bloc Cymru yn adlewyrchu parhad mewn mesurau cyni aflwyddiannus yn hytrach nag adnoddau newydd.

3. Yn gresynu nad oedd cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar y gyllideb yn ymrwymo i roi unrhyw gefnogaeth i Forlyn Llanw Bae Abertawe.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gael gwared ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus.

5. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy o bwerau i wneud penderfyniadau ar fuddsoddiad mewn seilwaith ac economi Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn mynd i ddweud ei bod hi'n bleser codi i gyflwyno'r ddadl hon, ond mewn gwirionedd, os edrychwn ar sylwedd yr hyn rydym yn ei drafod, yna pleser yw'r peth olaf y mae rhywun yn ei deimlo. Pan gymerais ran yn nadl fyw Wales Live ar y gyllideb a gynhaliwyd gan y BBC, fe'm trawyd gan y montage a wnaethant, mewn gwirionedd, o adroddiadau teledu o newyddion BBC Cymru yn mynd yn ôl dros ddegawdau mewn ymateb i'r gyllideb, a vox pops ledled Cymru. Wyddoch chi, gallech weld y dilyniant hanesyddol, cyfuchliniau hanes economaidd Cymru, yn agor o'ch blaen, oherwydd yn y bôn roedd 'dim byd ynddi i Gymru' ar wefusau pobl mewn lluniau sepia o'r 1960au hyd heddiw: 'nid oes dim ynddi i Gymru'. Ac nid rhyw fath o bennawd taclus i ddatganiad i'r wasg gan Blaid Cymru yw hynny; rwy'n credu mai dyna yw profiad bywyd, mewn gwirionedd, i'r rhan fwyaf o'n pobl yn ôl dros genedlaethau. Oherwydd natur ganolgyrchol y grymoedd gwleidyddol ar yr ynysoedd hyn, atgynhyrchir hynny dro ar ôl tro ar ôl tro yn y blaenoriaethau economaidd—nid oes dim ynddi i Gymru. Ac felly, ni allai fod yn syndod. Roedd yn siom enfawr.

Nawr, y cyfle gwych hwn gyda'r morlyn llanw—rhaid i ni fod yno: roeddem wrth fan geni rhai o'r diwydiannau gant neu ddau o flynyddoedd yn ôl yn ystod y chwyldro diwydiannol. Wel, dyma gyfle inni fod wrth fan geni chwyldro diwydiannol newydd, ac mae hwnnw'n gyfle na allwn fforddio ei golli. Nid ydym yn gofyn am elusen fel gwlad, rydym yn gofyn am gymorth i helpu ein hunain. Am hynny y gofynnwn: y cyfle mewn gwirionedd i gynnull y sgiliau a'r adnoddau naturiol sydd gennym er budd ein cymdeithas, ac unwaith eto, cawn ein hamddifadu o'r cyfle hwnnw.

Felly, roedd y parhad hwnnw yno. Y parhad arall, nad oedd yn syndod eto, ond yn sicr roedd yn siom, oedd parhad economeg cyni, fel y gallem ei alw mae'n debyg. Gallem ei alw'n hynny, ond ni cheir fawr o  economegwyr o unrhyw safon a fuasai'n ei chefnogi bellach—ni fuasai Ysgol Awstria yn cefnogi'r math o economeg lem a welwn gan y Llywodraeth hon. Ac mae rheswm da iawn pam: oherwydd ein bod ar drothwy'r cyfnod economaidd mwyaf problemus a phryderus, rwy'n meddwl, a wynebwyd gennym ers sawl cenhedlaeth, a'r rhan a oedd yn newydd, wrth gwrs, yn y gyllideb oedd israddio'r rhagolygon ar gyfer twf. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—y mae'n deg dweud mewn gwirionedd ei bod, dros nifer o flynyddoedd, wedi gorfod adolygu ei rhagolygon cynhyrchiant tuag at i lawr yn gyson—wedi cyflwyno rhagolwg twf diwygiedig o'r diwedd a oedd yn arwyddocaol tu hwnt, mewn gwirionedd, oherwydd dylai'r Aelodau wybod bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddwy flynedd yn ôl yn unig yn rhagweld twf o 2.5 y cant. Felly, mae bron â bod wedi haneru'r rhagolwg hwnnw mewn gwirionedd.

Cafwyd cryn dipyn o ormodiaith, efallai, yn y modd y galwodd Larry Elliott hyn yn Suez economeg Prydain, yn yr ystyr mai'r gyllideb oedd yr adeg y sylweddolasom nad oeddem mwyach y grym yn y byd y credem ein bod ar un adeg. Ond wrth gwrs, cyfaddefodd y Canghellor ei hun nad yw'r DU mwyach yn un o'r pum prif economi; mae'n debyg o gael ei goddiweddyd gan India, ac erbyn diwedd y degawd yn sicr, rwy'n tybio. Ac os camwch yn ôl ac edrych ar y darlun ehangach, mae hon yn senario besimistaidd tu hwnt. Gallech ddweud bod hyn yn cyfateb i'n degawd coll—yr ymadrodd, wrth gwrs, a ddefnyddiwyd i ddisgrifio amgylchiadau arbennig Siapan, yn dilyn cwymp eu marchnad eiddo yn y 1990au cynnar. Rydym wedi cael degawd coll ym Mhrydain. Cawsom Sefydliad Resolution yn nodi mai hwn, yn dibynnu ar sut rydych yn ei fesur, yw'r cyfnod hiraf o ostyngiad mewn safonau byw, yn sicr ers 60 mlynedd—buasai rhai'n dadlau y gallwch fynd yn ôl ymhellach na hynny hyd yn oed.

Rydym wedi cael cyfartaledd o 1 y cant o dwf yn nhermau twf gwerth ychwanegol dros y degawd diwethaf. Rhaid i chi gofio bod tuedd hirdymor economi Prydain oddeutu 2 y cant. Mae hyn mor arwyddocaol ag y gallai fod. Mewn termau cymdeithasol, yn amlwg, os ydych yn bwrw yn eich blaen ar oddeutu 2 y cant a 2.5 y cant, mewn gwirionedd mae hynny'n arwain at godi safonau byw. Ar 1 y cant, mae'n arwain at y math o ostyngiad mewn safonau byw go iawn y mae Sefydliad Resolution yn ei nodi.

18:35

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi nodi, wrth gwrs, fod yr economegydd yn y  Gronfa Ariannol Ryngwladol y llynedd wedi rhybuddio y bydd polisïau cyni'n gwneud mwy o niwed nag o les. Mae hynny'n dod yn ôl ar ein pennau yn awr, fel y dywedwch, gyda'r rhagolygon twf wedi eu hisraddio. Ond hefyd, a fuasai'r Aelod yn cytuno ei fod wedi cynyddu anghydraddoldeb sydd hefyd yn brifo lefel a chynaliadwyedd twf ac mai dyna a ddywedodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Yn bendant. Credaf fod rhesymau strwythurol dwfn pam ein bod yn wynebu'r argyfwng hwn ar hyn o bryd ac mae gwaith y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ar y Comisiwn Cyfiawnder Economaidd yn awgrymu hynny. Ceir agwedd gonfensiynol anghydraddoldeb cymdeithasol a chaiff honno ei hadlewyrchu hefyd mewn anghydraddoldeb tiriogaethol. Yn ein hachos ni, wrth gwrs, mae'r ddwy agwedd yn gymysg â'i gilydd. Oni bai eich bod yn mynd i'r afael â hynny, mewn gwirionedd, ni allwch ddod allan o'r rhigol rydym ynddi mewn gwirionedd.

Os edrychwch ar y ffigurau hefyd, rydym wedi cael cynnydd o 1 y cant—lefel wael iawn o dwf—dros y degawd diwethaf. Bob degawd ers y 1970au, cafwyd dirwasgiad gwirioneddol—twf negyddol. Nid ydym wedi cael hwnnw eto. Hynny sy'n rhythu arnom ar hyn o bryd. oherwydd os meddyliwch am y peth, mae hyd yn oed y twf o 1 y cant a gawsom wedi'i seilio ar gynnydd mewn adnoddau llafur, oherwydd gostyngiad mewn diweithdra, cyfradd gyflogaeth uwch nag erioed, mewnfudo—rhaid i mi ei ddweud—uwch nag erioed a phobl yn gweithio oriau hwy hefyd. Mae'r pethau hyn oll naill ai'n mynd tuag at yn ôl, yn achos mewnfudo, a chydag oriau gwaith ac ati, mae terfyn naturiol ar allu'r economi i gynnal ei hun drwy ychwanegu mewnbwn llafur. Mae'r llong honno wedi hwylio bellach. Rydym bellach ar benllanw hynny.

Y prif ddangosydd go iawn, wrth gwrs, yw allbwn yr awr—cynhyrchiant gwirioneddol. Nid yw hwnnw wedi tyfu ers degawd. Mae hynny'n ddigynsail i economi ddatblygedig fel y DU. Felly, mae pethau'n wael. Yn sicr, credaf fod y dangosyddion yn dangos eu bod yn mynd i fynd yn llawer iawn gwaeth, ac nid wyf wedi crybwyll y gair 'B' hyd yn oed. Rwy'n ceisio bod yn ddoeth ac yn wrthrychol ynglŷn â hyn. Gadewch i ni dynnu'r wleidyddiaeth allan ohono. Yn sicr, yn y tymor byr, mae hwn yn mynd i fod yn gyfnod cythryblus iawn i'r economi. Bydd yna enillwyr a chollwyr a gallwch ddewis ble y rhowch eich bys ar y deial yn hynny o beth. Ond mae'n debyg ein bod yn y cyfnod economaidd mwyaf brawychus a wynebwyd gennym ers cenhedlaeth.

Beth yw'r goblygiadau i ni yng Nghymru? Wel, rwy'n credu mai'r hyn sydd gennym i'w wneud—. Ni allwn ynysu ein hunain rhag y dylanwadau macroeconomaidd ehangach hyn—nid ar unrhyw gyfrif; mae hynny'n amlwg. Ond rhaid inni geisio hawlio i ni ein hunain gymaint o liferi a chymaint o ymreolaeth ag y gallwn yn y cyd-destun economaidd anodd hwn, a'r cyd-destun gwleidyddol sydd hyd yn oed yn waeth. Roedd y diweddar Rhodri Morgan yn arfer siarad am y ffordd roedd economi Cymru wedi cerfio lle iddi ei hun mewn rhaniad llafur i bob pwrpas—rhaniad llafur tiriogaethol ar draws y DU. Ac ar un ystyr, roedd rhyw fath o gompact—cafwyd rhyw fath o gompact tiriogaethol a chymdeithasol. Roedd yna gilfach roedd Cymru, am gyfnod, wedi cerfio iddi ei hun mewn gwirionedd drwy gytundeb. Mae hynny i gyd wedi ei chwalu wrth gwrs; nid ydym wedi cael polisi economaidd rhanbarthol go iawn yn y DU ers dros 40 mlynedd. Ac felly mae'r compact tiriogaethol hwnnw wedi mynd, ac o dan yr amgylchiadau hynny, er na allwn ynysu ein hunain yn llwyr, rhaid inni geisio mapio cymaint o'n llwybr ein hunain ag y bo modd.

Yr un darn bach yng nghyllideb y DU, yr un pwynt yng nghanol yr holl wae—mae yna bob amser ambell lafn o olau—ac yn ddiddorol, yr un rhan lle mae, mewn gwirionedd, yn mynd yn gwbl groes i bopeth arall o ran y cyfeiriad teithio, yw cyhoeddi'r strategaeth ddiwydiannol. Felly, yma mae gennych ailddyfeisio neu ailgyflwyno syniad o 40 neu 50 mlynedd yn ôl, a oedd yn chwaer i bolisi rhanbarthol, ac mewn gwirionedd, mae gennych, er enghraifft, y cynnydd mwyaf yn y gwariant ar ymchwil a datblygu— cynnydd o oddeutu £4.7 biliwn dros y cyfnod dan sylw—a welsom ers 40 mlynedd o ran polisi arloesi. Nawr, rhaid i chi gofio, mewn economi £2 triliwn, nid yw £4.7 biliwn yn mynd i ateb ein holl broblemau. Ond mae'n ysgogiad pwysig, ac mae angen inni yng Nghymru wneud yn siŵr, am ein bod wedi bod yn eithaf gwael yn y gorffennol, mewn gwirionedd—nid ydym erioed wedi cael ein cyfran deg o arian Cynghorau Ymchwil y DU o ran y prifysgolion, nid ydym erioed wedi cael ein cyfran deg o arian Innovate UK o ran polisi arloesedd diwydiannol. Rhaid inni fod yn llawer doethach a gwneud yn siŵr y gallwn fanteisio ar yr ychydig gyfleoedd cadarnhaol sydd ar y gorwel, a gwneud yn siŵr hefyd fod gennym y strwythurau a'r dulliau ar waith, fel y gallwn ddefnyddio'r arian hwnnw yn y ffordd ddoethaf a mwyaf deallus.

A rhaid i mi ddweud wrth Lywodraeth Cymru hefyd, ar adeg pan fo Llywodraeth y DU—yr un peth y mae'n ei wneud rwy'n cytuno ag ef, yw cynyddu'r buddsoddiad mewn arloesedd yn aruthrol ac mewn meysydd eraill o wella cynhyrchiant. Rydym yn torri ein cyllideb arloesi yn sylweddol. Ceir toriad o 78 y cant, mewn cyfalaf a refeniw gyda'i gilydd, yn llinell derfyn gwariant y gyllideb arloesi yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n wallgofrwydd economaidd, yn hurtrwydd economaidd does bosibl, ar adeg pan fo'n rhaid i ni ailddyfeisio ein hunain am yr union resymau a nodais, oherwydd rydym ar drothwy cyfnod eithriadol o ansicr yn wir.

18:40

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Nick Ramsay i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Nick Ramsay.

Gwelliant 1. Paul Davies 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnydd o £1.2 biliwn yng nghyllideb Cymru dros bedair blynedd o ganlyniad i symiau canlyniadol Barnett sy'n deillio o gyllideb y DU.

2. Yn nodi'r cynnydd o £67 miliwn yng nghyllideb Cymru o ganlyniad i'r fframwaith cyllidol a drafodwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

3. Yn nodi'r ymrwymiad yng nghyllideb y DU i ddechrau trafodaethau ffurfiol ar gyfer bargen twf gogledd Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. O, Adam, Adam, Adam, rhaid imi ddweud, fe fwynheias eich araith ychydig yn fwy na'r cynnig ei hun. Fe wnaethoch o leiaf gyrraedd y llygedyn o oleuni ar y diwedd, gan ei gwneud hi'n werth i mi godi yn y bore, mae'n debyg, a dod i'r gwaith, ac fe sonioch am y gyllideb ar y diwedd.

Edrychwch, gan gyfeirio at y cynnig ei hun, rwy'n hoffi bod yn gadarnhaol ynglŷn â rhai agweddau ar gynigion ac nid oedd llawer yn gadarnhaol yn y cynnig hwn, a bod yn deg. Nid wyf yn credu y buasai Llywodraeth bresennol y DU yn datgan mai hi yw'r peth gorau ers cyn cof, ond rwy'n meddwl ei bod yn haeddu ychydig mwy o glod nag a roesoch iddi yno o leiaf, ac yn y cynnig hwn.

Nid fy ngwaith i yw dod yma i amddiffyn Llywodraeth y DU, er mai fy mhlaid sydd mewn grym yno. Fy ngwaith i yw dod yma i gynrychioli fy etholwyr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac i siarad am yr hyn y gallwn ei wneud yma yn y Siambr hon. A dyna pam roeddwn braidd yn siomedig ynglŷn â chywair y cynnig hwn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn oedi braidd ar y negyddol ac nid yw'n sôn am y cadarnhaol: yr hyn y gallwn ei wneud. [Torri ar draws.]

Os cawn droi at ein gwelliannau, rydym eisiau nodi'r £1.2 biliwn—[Torri ar draws.] Byddaf yn sôn amdanoch mewn ychydig, Simon, peidiwch â phoeni. Hoffem nodi'r cynnydd o £1.2 biliwn yng nghyllideb Cymru dros bedair blynedd o ganlyniad i'r gyllideb hon. Nawr, rwy'n gwybod fy mod yn mynd i ragweld ymateb yr Ysgrifennydd cyllid yn nes ymlaen drwy ddweud bod cyfran o'r arian hwnnw'n gyfalaf trafodiadau ariannol. Soniwyd am hyn gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ystod y sesiwn a gawsom yn gynharach. Mae'n derm sydd wedi codi'i ben ac nid wyf yn siŵr fod pobl yn ei drafod wrth y bwrdd brecwast ledled Cymru, ond fel y bydd yr Ysgrifennydd cyllid yn sicr o ddweud wrthym, mae'n ei gwneud yn anos ei ddefnyddio. Ond fel rwy'n siŵr y buasai'r Ysgrifennydd cyllid yn cydnabod, o leiaf mae'n fwy o arian yn dod i ni nag a oedd gennym o'r blaen, ac mae hynny'n allweddol i'r gyllideb hon: mae arian ychwanegol yn dod i Gymru, felly nid yw pethau'n gwbl ddiobaith.

Wrth gwrs, rhaid inni groesawu'r gyfran o'r cyllid ychwanegol sy'n dod i Gymru o ganlyniad uniongyrchol i fframwaith cyllidol yr ymladdwyd yn galed amdano ac a negodwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn deg iawn, nid yw'n swm anferth o arian o safbwynt cyllideb Cymru yn ei chyfanrwydd, ond mae'n arian ychwanegol na fuasai wedi digwydd heb y cytundeb hwn, ac rwy'n talu teyrnged iddo yn y trafodaethau hynny, ac yn wir i Lywodraeth y DU. Rwy'n falch fy mod wedi cael rôl fach i'w chwarae ar hyd y ffordd, yn helpu gyda'r broses honno.

Nid wyf hyd yn oed yn dweud y dylid cau'r drws ar ddiwygio Barnett yn y dyfodol. Credaf fod yna achos o hyd, nad ydym yn tueddu i siarad amdano mwyach, ond mae yna achos hirdymor, rwy'n credu, dros adolygu'r mecanweithiau sy'n ariannu Cymru'n gyffredinol. Efallai y gellir gwneud hynny ar y cyd â'r fframwaith cyllidol, oherwydd credaf y buasai pob un ohonom yma am gael y fargen orau sy'n bosibl i Gymru, a dros amser, mae dulliau ariannu'n dyddio. Felly, gobeithio y gellir trafod hynny yn y dyfodol pan fyddwn yn edrych ar ddyraniadau cyllideb y DU.

Wrth gwrs, mae ein gwelliant hefyd yn nodi cynnydd a wnaed ar fargen twf gogledd Cymru hefyd. Rydym wedi galw am hynny ers amser hir. Mae yn y gyllideb hon, felly mae'n newyddion da. Ni chlywais i hynny'n cael sylw—efallai fy mod wedi colli hynny. Nid oedd i'w weld yn cael ei grybwyll yn sylwadau Adam Price. Nid oedd i'w weld yn cael ei grybwyll yn y cynnig, ychwaith. Pa mor aml y mae Aelodau yn y Siambr hon, yn enwedig Aelodau o ogledd Cymru, yn sefyll ar eu traed i ddweud mewn dadleuon nad ydym yn credu bod digon yn mynd i ogledd y wlad, ac nad oes digon yn mynd i rannau gwledig o Gymru? Felly, dyma enghraifft lle y ceir ffocws ar ran o Gymru. Mae Adam Price yn iawn, mae rhannau o Gymru wedi cael eu hesgeuluso yn y gorffennol, a dyma ymgais, o leiaf, i unioni hynny mewn rhyw ffordd.

Clywais yr hyn a ddywedoch am y cynnydd, neu'r diffyg cynnydd fel roeddech chi'n ei weld, ar forlyn llanw bae Abertawe, a byddwn yn parhau i alw am hynny. Credwn fod y morlyn llanw yn ddarn pwysig iawn o seilwaith ar gyfer economi Cymru. Iawn, efallai nad yw wedi bod yn flaenllaw yn y gyllideb hon, ond mae'n hysbys ein bod yn dal i alw am y morlyn llanw hwnnw—ac nid y blaid hon yn unig, wrth gwrs, ond y blaid gyferbyn a phlaid y Llywodraeth. Mae'n agos iawn at galon Mike Hedges yn ogystal, rwy'n gwybod, felly byddwn yn parhau i edrych am gynnydd ar hynny.

Wrth gwrs, rydym yn cael trydaneiddio rheilffordd y Great Western—i Gaerdydd, rwy'n cyfaddef, cyn i chi neidio ar eich traed. Mae tollau Hafren yn cael eu dileu. Pa mor hir y buom yn galw am hynny? Mae hynny'n newyddion da, onid yw? Felly, dyna lygedyn arall o olau ar ben draw'r twnnel, neu ar ben draw'r bont, os maddeuwch y chwarae ar eiriau. Felly, dyna ymrwymiad gan Lywodraeth y DU sy'n mynd i ddigwydd. Hefyd, wrth gwrs, ceir ymrwymiad Llywodraeth y DU i ariannu gwaith cynnal a chadw ar y bont honno yn y dyfodol, heb i ni orfod ysgwyddo'r gost i gyd yma yng Nghymru. Felly, mae hynny'n dda hefyd. Gadewch i ni gydnabod y pethau cadarnhaol.

Os caf grybwyll gwelliant y Llywodraeth yn fyr iawn, roeddwn yn synnu braidd ei bod yn dileu pwynt 4 y cynnig ac yna'n ei adfer mewn fformat wedi'i aralleirio sy'n dweud yr un peth yn y bôn, ond yn ceisio beio Llywodraeth y DU yn hytrach na beio Llywodraeth Cymru. Ond nid wyf am ymyrryd mewn galar preifat rhwng Plaid Cymru a Llafur ar hynny.

Adam Price, fe wnaethoch rai pwyntiau da iawn—fel y gwnewch bob amser, a bod yn deg—ond rwy'n meddwl y gallech fod wedi bod ychydig yn fwy gobeithiol ynglŷn â'r rhagolygon i'n heconomi. Rwy'n ddiolchgar na wnaethoch sôn am y gair 'B', oherwydd credaf fod pob un ohonom wedi cael digon ar glywed hwnnw'n cael ei grybwyll dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Ond mae mwy na llygedyn o olau ar ben draw'r twnnel, a gadewch i bob un ohonom yn y Cynulliad hwn weithio gyda'n gilydd i anfon neges gadarnhaol at Lywodraeth y DU: ie, rhowch fwy o gymorth i ni yn y dyfodol, ond o leiaf rydym yn cyrraedd rhywle.

18:45

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2 yn enw Julie James.

Gwelliant 2. Julie James

Dileu popeth ar ôl pwynt 3 ac ychwanegu pwyntiau newydd:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap a osodwyd ganddi ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac ariannu codiad cyflog i holl weithwyr y sector cyhoeddus yn llawn.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli mwy o bwerau i Gymru i wneud penderfyniadau am fuddsoddi mewn seilwaith er mwyn cefnogi economi Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch i Nick Ramsay am o leiaf ymdrechu i gyfiawnhau’r gyllideb, ond yn ein barn ni, mae Cymru ar ei cholled yn dilyn cyhoeddi cyllideb a oedd wedi’i dylunio i dyfu economi de-ddwyrain Lloegr ar draul pob rhan arall o’r Deyrnas Gyfunol.

Cyllideb o gyni oedd hon ym mhob ystyr. Nid yn unig y cawsom ni addewid o fwy o lymder ariannol gan y Canghellor; mi gawsom ni hefyd ein hatgoffa o dlodi uchelgais y Ceidwadwyr, a’u diffyg tosturi pan fo'n fater o drin aelodau mwyaf bregus cymdeithas. Prin ydy’r pynciau sydd wedi amlygu hyn yn fwy dros y misoedd diwethaf na chredyd cynhwysol.

Efallai bod angen rhoi croeso gofalus i gadarnhad y Canghellor y bydd pecyn gwerth £1.5 biliwn yn cael ei ryddhau i fynd i’r afael â’r problemau niferus sydd wedi codi yn sgil cyflwyniad y system hynod ddiffygiol yna. Ond, efallai mai cyfaddefiad bod y system yn torri lawr oedd hynny mewn gwirionedd.

O’r diwedd, ar ôl i filoedd o unigolion a theuluoedd ddioddef yn ddiangen, mi fydd Llywodraeth San Steffan yn cael gwared ar y cyfnod aros saith diwrnod. Serch hynny, ac yn ôl yr arfer, nid yw'r gyllideb wedi mynd ddigon pell ar gyfer pobl Cymru ar y mater o ddiwygio lles. Diolch i adroddiad yr IFS ar dlodi plant, rydym yn gwybod y bydd Cymru ymysg yr ardaloedd a fydd yn dioddef fwyaf yn sgil diwygio lles. Yn barod, rwy'n gweld llawer gormod o bobl yn cael eu gorfodi i droi at fanciau bwyd ac yn wynebu cael eu troi allan o'u tai o ganlyniad i'r llanastr mae'r Torïaid yn ei wneud o daliadau lles. Pan mae'n fater o warchod rhai o unigolion mwyaf bregus cymdeithas, mae'r ysgrifen ar y mur.

Mae'n hen bryd datganoli gweinyddiaeth rhai elfennau o'r system lles i Gymru os ydym ni am amddiffyn ein dinasyddion rhag gweithredoedd y Ceidwadwyr ar eu gwaethaf. Byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i amrywio amlder taliadau, i roi terfyn ar y diwylliant o oedi a chosbi, ac i sicrhau mai unigolion nid cartrefi fydd yn derbyn taliadau. Mae hyn eisoes yn digwydd yn yr Alban. Yno, mae Llywodraeth yr SNP wedi newid amlder y taliadau o rai misol i rai bob pythefnos; mae'r elfennau tai yn cael eu talu'n uniongyrchol i landlordiaid; ac mae gofyn i Weinidogion gynnig cymorth i bobl sydd â'r hawl i hynny.

Wrth gwrs, diwedd y gân ydy'r geiniog ac mae yna nifer wedi honni yn y Siambr yma na all Cymru fforddio i gymryd yr awenau dros weinyddu elfennau o les. Ond, mae yna wers werthfawr i'w dysgu o achos yr Alban. Cafodd yr arian i weinyddu'r elfennau hynny a oedd yn nwylo San Steffan yn flaenorol ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r Alban fel rhan o'r grant bloc, ac felly nid oedd cost ychwanegol. Rwyf felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i negodi am setliad tebyg er mwyn i ni gael gweinyddu rhai elfennau o gredyd cynhwysol a'r system lles ein hunain. Wedyn, fe allwn warchod dinasyddion Cymru rhag polisïau creulon y Ceidwadwyr yn San Steffan. Mae'n bryd mynnu datganoli hyblygrwydd taliadau a'r elfen tai o gredyd cynhwysol, gyda'r amcan o sicrhau fframwaith cyllidol sy'n gallu hwyluso datganoli'r elfennau hynny.

Dyma siawns euraidd i brofi gwerth datganoli fel arf sydd yn gweithio er budd pobl Cymru. Dangoswn ni fod yna ffordd fwy cyfiawn, mwy cydradd a mwy caredig o lywodraethu. Dangoswn barodrwydd i weithredu elfennau o'r system lles ein hunain, er mwyn dangos bod yna ffordd well o wneud pethau er lles ein trigolion mwyaf bregus.

18:50

Ymddengys bod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan bellach yn derbyn cynnydd twf isel, cynhyrchiant isel a diffyg twf neu ostyngiad mewn cyflogau real i'r mwyafrif fel math newydd o realiti economaidd. A gaf fi ddweud o'r cychwyn nad wyf yn derbyn hynny? Mae cynhyrchiant isel yn ganlyniad uniongyrchol i bolisïau'r Llywodraeth. Mae cyflogau'n isel; mae'n hawdd cyfyngu ar oriau neu derfynu cyflogaeth gweithwyr; mae llawer o gwmnïau'n pryderu o ddifrif ynglŷn â'r cyfeiriad y mae'r economi'n mynd iddo. Felly, mae'n anochel na fydd buddsoddi mewn offer a fuasai'n cynyddu cynhyrchiant yn digwydd, ac o ganlyniad i hynny bydd y cynnydd mewn cynhyrchiant yn arafu ymhellach. 

Buasai'n anfoesgar peidio â chroesawu'r arian ychwanegol—mae £1.2 biliwn yn ffigur mawr. Bydd y gyllideb refeniw yn cynyddu £215 miliwn a bydd y gyllideb gyfalaf yn cynyddu oddeutu £1 biliwn, dros 4 blynedd, sy'n cyfateb i ychydig o dan £54 miliwn o refeniw ychwanegol y flwyddyn. Neu fel y mae Andrew R.T. Davies newydd ei ddisgrifio, digon i gael Betsi Cadwaladr allan o drafferth. Er bod croeso iddo, nid dyma'r math o swm i ddod â chyni i ben. Yn sicr nid yw'n ddigon i newid economi.

O'r cyfalaf o £1 biliwn, mae £650 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar ffurf cyllid sy'n rhaid ei ad-dalu i Drysorlys y DU, ac mae cyfyngiadau tynn ar yr hyn y gellir ei wario arno. Felly, mae hynny'n gadael £350 miliwn, neu ychydig o dan £90 miliwn y flwyddyn. Pan edrychwch ar beth ydyw mewn gwirionedd, fe welwch nad yw'n agos at fod mor atyniadol ag y ceisiodd y Llywodraeth wneud iddo edrych.

Fodd bynnag, hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol hwn, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru 5 y cant yn is mewn termau real yn 2019-20 nag ydoedd yn 2010-11. Mae'r Ceidwadwyr yn dilyn yr un polisïau aflwyddiannus ag a oedd gan Herbert Hoover yn America'r 1930au, pan lwyddodd i droi dirywiad ariannol yn ddirwasgiad. Cofiwch hyn, fel y dywedodd Adam Price yn gynharach, nid ydym wedi cael dirywiad yn ein heconomi eto, sy'n dod bob 10 mlynedd neu fwy; rydym yn aros am hynny. Ac er gwaethaf hynny, rydym yn dal i wneud yn wael iawn wrth i ni symud ar hyd y gwaelod. Mae'r dirwasgiad eto i ddod.

Cymerodd fargen newydd Franklin Roosevelt i economi America dyfu. Bydd yn cymryd bargen newydd Jeremy Corbyn i gael economïau Cymru a Phrydain i symud. Roedd y Ceidwadwyr yn arfer dweud eu bod yn rhedeg yr economi fel y mae aelwyd yn rhedeg ei heconomi hithau. Pe bai aelwydydd yn dilyn eu polisïau, ni fuasai neb yn prynu tŷ mwy o faint neu'n cynyddu eu morgais.

Cytunaf â'r rhan o'r cynnig sy'n dweud y dylem resynu at y ffaith na wnaeth cyllideb Llywodraeth y DU unrhyw beth i ymrwymo i forlyn llanw Abertawe. Mae'n rhaid i chi fuddsoddi mewn technoleg newydd. Rydym yn gwybod bod morlynnoedd llanw'n ddibynadwy o ran cynhyrchu trydan. Gwyddom eu bod yn ynni adnewyddadwy. Mewn gwirionedd, gall rhywun ddweud wrthyf beth fydd y llanw ymhen 100 mlynedd. Dyma dechnoleg sydd, oherwydd llanw afon Hafren, yn rhoi mantais enfawr inni yn Abertawe, lle y ceir yr amrediad llanw ail uchaf drwy'r byd, sy'n cyrraedd uchafbwynt o 50 troedfedd. Mae gennym fantais fel gwlad; mae angen inni ei defnyddio.

Fe gaiff y morlynnoedd llanw eu hadeiladu; bydd un yn cael ei adeiladu yn Abertawe. Y cwestiwn yw pryd. Os mai ni yw'r cyntaf, rydym yn datblygu'r dechnoleg, rydym yn datblygu'r gadwyn gyflenwi ac rydym yn dod yn allforiwr y dechnoleg. Os ydym yn rhif 20, rydym yn dod yn fewnforiwr. Dyna a ddigwyddodd gyda thyrbinau gwynt. Caiff tyrbinau gwynt eu cynllunio a'u gwneud yn Nenmarc a'r Almaen yn awr, am eu bod yno ar y dechrau. Rhaid i chi fod yno ar y dechrau i ddatblygu diwydiant. Lle mae'r sgiliau cynllunio'n bodoli, maent yn datblygu'r gadwyn gyflenwi. Maent yn cael yr holl fanteision. Dyna pam, pan fydd gennym dyrbinau gwynt yn dod i mewn, rydym yn eu gweld yn dod ar gwch ac yna'n cael eu cludo i ble bynnag y maent yn mynd ar lorïau mawr iawn neu'n ôl allan i'r môr ar gwch. Ond rydym yn gwybod bod ganddynt fantais am eu bod yno'n gyntaf, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni yno'n gyntaf.

Mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn talu'r pris am yr argyfwng bancio a mesurau cyni aflwyddiannus y Torïaid. Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi camau ar waith i gael gwared ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus. Yr hyn y maent wedi anghofio ei ychwanegu oedd 'A mwy o ddiswyddiadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.' Gan mai incwm sefydlog sydd gan Lywodraeth Cymru yn y bôn, gyda symiau bach yn unig yn ddyledus oherwydd ei pholisïau treth ac unrhyw incwm y mae'n ei gael i mewn, yna mae pob ceiniog y mae'n ei wario ar rywbeth yn gorfod dod oddi ar rywbeth arall—. Mae'n ddrwg gennyf.

18:55

O ystyried eich sylwadau am yr argyfwng bancio, sut y buasech yn ymateb i gyhoeddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ym mis Ionawr 2009, a ddywedai fod

Llafur wedi mynd i mewn i'r argyfwng presennol gydag un o'r diffygion mwyaf yn ei chyllideb strwythurol yn y byd diwydiannol a dyled fwy na'r rhan fwyaf o wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ar ôl gwneud llai i leihau dyled ac—yn arbennig—benthyca na'r rhan fwyaf ers 1997.

Mewn geiriau eraill, fe dorrodd Llafur y cylch economaidd Keynesaidd a gadael cyni ar ei ôl.

Wel, nid yw hynny'n wir, ydy e? Nid wyf yn meddwl fod unrhyw un yn credu hynny—y darn am adael cyni ar ei ôl. Hynny yw—

A wnewch chi gymryd ymyriad gennyf fi yn ogystal? Ar fater y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus, mae ein pwynt ni ym Mhlaid Cymru yn eithaf syml mewn gwirionedd: gwnaethoch addewid yn eich maniffesto etholiad yn gynharach eleni i gael gwared ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus. Rydych mewn sefyllfa yn Llywodraeth Cymru yma i gael gwared arno. Nid yw pa un a ydych yn credu ei fod yn bosibl neu'n fforddiadwy ai peidio naill ai yma nac acw. Dywedasoch y buasech yn ei wneud ac—[Torri ar draws.] Nid ydych yn—[Torri ar draws.] Dywedasoch y buasech yn ei wneud; mae gennych yr opsiwn i wneud hynny; nid ydych yn ei wneud.

Maniffesto etholiad cyffredinol ydoedd, a phe bawn wedi ennill yr etholiad cyffredinol, buasai wedi cael ei godi. Buasai wedi cael ei godi yn Lloegr, Cymru, yr Alban ac Iwerddon. Dyna'r pwynt—

Oherwydd os gwnewch hynny, rydych yn mynd i achosi diswyddiadau. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi cael pethau'n hollol iawn drwy ofyn am gefnogaeth i'w godi ac y dylai'r arian ddod o San Steffan. Roeddem yn mynd i—. Mae'n ddrwg gennyf—

Roedd Llafur yn mynd i wneud y pethau hyn pe bawn wedi ennill yr etholiad cyffredinol. Rhoesoch lawer o bethau yn eich maniffesto ar gyfer etholiad diwethaf y Cynulliad. A ydym yn eich dwyn i gyfrif am y rhai nad ydych wedi'u cyflawni am nad ydych mewn grym?

A gaf fi wneud un pwynt pwysig iawn i gloi? Yn dilyn y ddadl ddoe ar entrepreneuriaeth, oni bai y gwneir y contractau'n ddigon bach i gwmnïau o Gymru wneud cais amdanynt, ni fydd manteision llawn yn cael eu teimlo yng Nghymru.

Yn olaf, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cam â phobl Cymru a Phrydain.

Nid oedd cyhoeddiad cyllidebol Llywodraeth y DU yn chwyldroadol ac er bod y cyllid ychwanegol i Gymru i'w groesawu, roedd yn siomedig nad oedd unrhyw gyhoeddiad ar forlyn llanw bae Abertawe.

Mae bron i flwyddyn ers i adolygiad Hendry gael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU, ac eto ni chawsom ddim heblaw distawrwydd gan Weinidogion y DU. Testun mwy o bryder na'r diffyg unrhyw sôn am y morlyn gan y Canghellor oedd y ddogfen a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gyllideb a nodai na fuasai unrhyw gymorthdaliadau newydd ar gyfer trydan carbon isel am o leiaf wyth mlynedd arall.

Roedd gobaith fod y diffyg cyhoeddiad yn y gyllideb yn deillio o'r ffaith bod ynni'r llanw yn cael lle blaenllaw yn strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Yn anffodus, nid oedd y strategaeth ddiwydiannol yn crybwyll ynni'r llanw yng Nghymru, gan ganolbwyntio yn hytrach ar fanteisio i'r eithaf ar yr economi forol ucheldiroedd ac ynysoedd yr Alban. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau gweld Cymru ar y blaen mewn perthynas ag ynni'r llanw, a gobeithiaf fod y diffyg newyddion ar y mater hwn gan Lywodraeth y DU—[Torri ar draws.] Gwnaf, yn sicr.

19:00

Rwy'n ei gymryd yn ôl; roeddwn yn meddwl fod cyfraniad Adam Price yn ymgeisio am yr elfen ddigalon. Rydych newydd sôn am ucheldiroedd ac ynysoedd yr Alban. Onid yw'n dda fod ucheldiroedd ac ynysoedd gogledd Cymru'n mynd i gael bargen twf gogledd Cymru, oherwydd cawsom yr ymrwymiad hwnnw o'r diwedd?

[Torri ar draws.] Ydw, yn sicr. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau gweld Cymru ar blaen o safbwynt ynni'r llanw, a gobeithiaf nad yw'r diffyg newyddion ar y mater hwn gan Lywodraeth y DU yn arwydd o newyddion drwg i ddod. Er gwaethaf y diffyg eglurder ar y morlyn llanw, fe wnaeth cyllideb yr hydref ddarparu rhywfaint o newyddion da i Gymru.

Rydym wedi gweld cynnydd yng nghyllideb Cymru o ganlyniad i'r fframwaith cyllidol newydd a £1.2 biliwn ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf. Mater i Lywodraeth Cymru yn awr yw gwneud y gorau o'r manteision i Gymru o'r arian ychwanegol yn y gyllideb a strategaeth ddiwydiannol y DU—a byddaf yn gwylio'r pwynt hwn yn gyson.

Mae Cymru yn parhau i fod yn un o rannau tlotaf y DU—yn wir, mae'n un o rannau tlotaf Ewrop—ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r arian ychwanegol i ariannu cynlluniau i fynd i'r afael â'r bwlch cyfoeth sy'n lledu rhwng Cymru a Lloegr. Ddoe, cyhoeddodd y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol ei adroddiad ar gyflwr y genedl ar gyfer 2017 sy'n amlygu bod enillion wythnosol cyfartalog yn is o lawer yng Nghymru nag yn Lloegr, a bod chwarter y bobl yng Nghymru yn ennill llai na'r cyflog byw gwirfoddol. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith—[Torri ar draws.] Mae'n flin gennyf. Iawn.

Diolch i chi—diolch am dderbyn ymyriad. Ie, rydych chi'n iawn i nodi bod mwy o arian wedi ei roi i mewn yn y flwyddyn hon, o ran yr arian ychwanegol, ond os edrychwch ar y ffigurau real mewn gwirionedd, byddwn 7 y cant yn is yn awr. Byddwn yn cael 7 y cant yn llai, mewn termau real, nag a gaem cyn i'r Llywodraeth Geidwadol hon ddod i rym. Felly, credaf mai'r ffigur go iawn yw—. Ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno â mi fod trosglwyddo ychydig symiau o arian i lawr i wneud iddo edrych yn dda ar gyfer y penawdau yn claddu'r gwirionedd ein bod yn dal i fod ar ein colled.

Ydw, a rhaid inni reoli'r hyn a gawn yn ofalus iawn. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith mai ardal awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot yw'r ardal waethaf yng Nghymru ar gyfer symudedd cymdeithasol. Y gwir plaen yw bod bron i chwarter ein poblogaeth yn byw mewn tlodi er gwaethaf dau ddegawd o bolisïau economaidd Llywodraeth Cymru a dros £4 biliwn o arian strwythurol gan yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw'r ffaith bod ein pobl ifanc yn cael eu gadael ar ei hôl hi yn deillio o ganlyniad i gyni ond o ganlyniad i bolisïau economaidd aflwyddiannus yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] Iawn. Ni allwn ddibynnu ar goeden arian hud John McDonnell, ac ni allwn lethu ein pobl ifanc â mwy fyth o ddyled—ac rydym yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Rydym yn llethu pobl ifanc â dyled. Felly mae'n rhaid i ni feddwl yn ddoethach a gwario'n ddoethach. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r £1.2 biliwn ychwanegol a ddaeth o gyllideb y DU i wella symudedd cymdeithasol mewn ardaloedd fel Port Talbot.

Roeddwn innau hefyd am sôn ychydig am y cyfle a gollwyd yn y gyllideb hon mewn perthynas ag ynni a'r strategaeth ddiwydiannol. Roedd yn eithaf annisgwyl clywed Caroline Jones yn dweud rhai pethau y buaswn yn cytuno â hwy, ond dyna ni. Rydym yn cytuno ar rai o'r pethau hyn, ac mae hyn yn gwyrdroi'r cyfle a gollwyd yn arbennig, wrth gwrs, mewn perthynas â'r morlyn llanw. Ar ddechrau fy sylwadau, rwy'n datgan yn glir iawn fy mod yn gyfranddaliwr cymunedol yn y morlyn llanw, fel y mae cannoedd o bobl yn ardal bae Abertawe, oherwydd mae pobl am weld y datblygiad hwn yn symud yn ei flaen ac yn digwydd.

Mae'n siomedig na chafwyd datganiad yn y gyllideb ar y morlyn llanw, ond hyd yn oed yn fwy siomedig, rwy'n meddwl, yw gweld y diffyg manylion yn y strategaeth ddiwydiannol ynghylch ynni'r llanw. Nid wyf yn meddwl fy mod yn bradychu unrhyw gyfrinachau drwy ddweud ein bod i gyd wedi pleidleisio o blaid egwyddor y morlyn llanw pan aethom i gyfarfod â Greg Clark fel cadeiryddion pwyllgorau yn yr haf ac yn dilyn dadl yn y Cynulliad hwn, ac er nad oeddem yn disgwyl i unrhyw beth gael ei ddweud yn y cyfarfod hwnnw, roedd y Gweinidog yno'n awyddus iawn i bwysleisio pa mor bwysig fyddai strategaeth ddiwydiannol ar gyfer datblygu ynni'r llanw, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU. A'r hyn sydd gennym yn y pen draw yw strategaeth ddiwydiannol nad yw'n sôn bron ddim—wel, nid yw'n sôn am forlynnoedd llanw o gwbl, ac nid yw'n sôn am ddatblygu ynni'r llanw yng Nghymru. Mae'n sôn am yr Alban, ac rwy'n bryderus, oherwydd mae'n ein gadael mewn sefyllfa lle mae'r datblygiad llanw rydym eisoes yn ei weld yng Nghymru oddi ar Sir Benfro ac Ynys Môn mewn nifer o ddatblygiadau ynni'r tonnau ac ynni'r llanw y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ynddynt i'w gweld fel pe baent wedi cael eu hanwybyddu'n llwyr gan y strategaeth ddiwydiannol ar gyfer y DU gyfan.

Felly, mae mater enfawr, cymhleth i fynd i'r afael ag ef yn y gyllideb hon ynglŷn â chymorth ar gyfer technolegau gwyrdd newydd neu ddatgarboneiddio ein heconomi, a chaiff ei adlewyrchu hefyd yn y ddadl ynglŷn â'r compact ar gyfer gwahaniaeth, oherwydd mae hynny wedi bod yn cael ei drafod mewn perthynas â'r morlyn llanw ers o leiaf ddwy flynedd. Rydym wedi cael adroddiad annibynnol, adroddiad Hendry, sy'n dweud y gall y morlyn llanw fod yn brosiect braenaru ar gyfer y dechnoleg hon. Rwy'n cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges—os ydym yn ei wneud yn awr, ni sy'n mynd i elwa o'r buddsoddiad cynnar hwnnw. Oes, mae yna fuddsoddiad ymlaen llaw, ond bydd hwnnw'n cael ei ad-dalu sawl gwaith drosodd wrth inni ddatblygu ein sgiliau, yn ein datblygiad diwydiannol yma yn ne Cymru. Oni bai am hynny, byddwn yn dod yn dderbynwyr pa gwmni Tsieineaidd bynnag sy'n penderfynu ymhen 15 mlynedd y buasai'n hoffi adeiladu morlyn llanw ym mae Abertawe. Credaf fod camddealltwriaeth lwyr o'r angen i achub y blaen ar y buddsoddiad hwn.

Nawr, mae wedi cael ei ddweud, ac mae'n wir, fod y Trysorlys yn y gyllideb ac yn y papurau ar y gyllideb yn dweud nad oes unrhyw ardollau trydan carbon isel newydd neu gompact ar gyfer gwahaniaeth yn debygol cyn 2025. Mae hynny wedi'i grybwyll eisoes. Fodd bynnag, mae oddeutu £0.5 biliwn o hyd yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer technolegau carbon isel, a chredaf o hyd fod cyfle i Lywodraeth Cymru roi pwysau arnynt i'w ddefnyddio ar gyfer y prosiectau yng Nghymru hefyd. Fe ildiaf.

19:05

Wel, rydych wedi rhoi eich bys arno. Gallai olygu llawer o dechnolegau. Ni nodwyd eto ar gyfer pa dechnoleg, ond credaf ei bod yn rhesymol i'r Llywodraeth, ar ran pawb yng Nghymru, bwyso am iddo allu cael ei ddefnyddio ar gyfer technoleg megis y morlyn llanw.

Hefyd cawsom bapur sefyllfa diddorol iawn heddiw—ac rwy'n ei gefnogi'n llawn—ar ynni gwynt ac ynni solar, a lansiwyd gan y Llywodraeth gyda chymorth nifer o sefydliadau, gan gynnwys cydweithfeydd cymunedol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RenewableUK, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru, yn sôn am yr angen i fuddsoddi mewn—anghofiwch am forlynnoedd llanw, beth am y buddsoddiad mewn ynni gwynt ac ynni solar adnewyddadwy y gallwn ei wneud yfory? Mae'n nodi rhai o'r gwahaniaethau anhygoel, i ailadrodd pwyntiau Adam Price yn gynharach, rhwng buddsoddiad yng Nghymru, yr Alban a Lloegr mewn technoleg adnewyddadwy. Felly, prosiectau gwynt, er enghraifft, yn y dyraniad mwyaf diweddar o fuddsoddiad Llywodraeth y DU mewn ynni adnewyddadwy: gosod 2,300 MW o gapasiti yn Lloegr gyda chymorth Llywodraeth y DU, gosod 1,000 MW o gapasiti yn yr Alban, a gosod 0.05 MW o gapasiti yng Nghymru o ganlyniad i gymorth Llywodraeth y DU. Caiff hynny ei adlewyrchu yn strategaeth ddiwydiannol y DU. Ffigurau yw'r rhain o ddatganiad Llywodraeth Cymru ei hun heddiw y credaf ei fod yn pwysleisio, pe bai gennym reolaeth dros ein hadnoddau ein hunain, nad bwrw ymlaen â'r morlyn llanw yn unig y buaswn yn ei wneud; credaf y buasem yn bwrw iddi go iawn gydag ynni gwynt, ynni solar, ar y tir ac ar y môr, a datgarboneiddio'r economi ehangach gyda systemau trafnidiaeth ac yn mynd y tu hwnt i drydaneiddio i Abertawe, na chawsom mohono byth— addewid wedi'i dorri—ond yn mynd yn syth, efallai, at drenau hydrogen a chynnig cyffrous go iawn ar gyfer y metro yn ne Cymru.

Y peth olaf rwyf am sôn amdano yma yw ardal twf gogledd Cymru. Ceir sôn hefyd am fargen twf canolbarth Cymru, ac mae angen inni ddeall—. Cyn y gallwn ddathlu hyn, rhaid i mi ddweud, gadewch i ni ddeall beth ydyw. A yw'n drên ychwanegol i'r Drenewydd neu a yw'n fuddsoddiad go iawn yng nghanolbarth Cymru? Bargen twf ar gyfer canolbarth Cymru neu ogledd Cymru—rhaid inni ddeall beth ydyw, beth sydd angen i ni weithio gydag ef. Mae'n rhan o rywbeth y credaf fod angen i ni ei ddeall. Y Llywodraeth hon, rwy'n gobeithio ei bod yn edrych ar gyfalaf trafodiadau ariannol. Mae'n arf lletchwith, ond os gallwn wneud iddo weithio ar gyfer buddsoddi mewn pethau fel cerbydau trydan, lle y ceir ad-daliad a gallwch ddefnyddio'r benthyciadau, yn ogystal ag ôl-osod ar gyfer cartrefi cynnes, os gellir ei ddefnyddio i gynorthwyo ein cymunedau gwledig sy'n wynebu heriau Brexit—dyna ni, rwyf wedi dweud y gair B—yna gadewch i ni ei ddefnyddio. Gadewch inni fod yn greadigol ynglŷn â hynny. Ond cyn inni ddathlu beth y gallai bargen twf canolbarth Cymru fod, gadewch i ni ddeall beth ydyw a beth fydd yn ceisio ei gyflawni mewn gwirionedd.

19:10

Cytunaf â Nick Ramsay. Credaf y dylai pawb ohonom sirioli. Credaf fod Adam Price yn edrych ychydig gormod ar y rhagolwg negyddol a gawsom gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae cynnig Plaid Cymru'n cyfeirio at gyhoeddiad cyllideb Llywodraeth y DU ynglŷn ag adolygiadau ar i lawr ar gyfer twf economaidd a chynhyrchiant. Ond wrth gwrs, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol annibynnol sydd wedi cyflwyno'r newidiadau hynny i'w rhagolwg economaidd, ac rwy'n credu bod y Canghellor yn ei araith ar y gyllideb yn fwy optimistaidd ynglŷn â beth oedd yn mynd i ddigwydd i gynhyrchiant a thwf yn y DU.

Rwy'n credu y dylem edrych ar hyn a fu'n digwydd i'r diffyg eleni. Mae wedi bod yn gostwng gryn dipyn yn gynt na'r disgwyl. Yr unig reswm na ragwelir y bydd yn parhau yw bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, o fod wedi bod yn rhagweld ers y 10 mlynedd diwethaf fod cynhyrchiant yn mynd i ddychwelyd at ei duedd flaenorol, fel pe bai'n meddwl, 'O, nid ydym wedi bod yn hollol iawn ynglŷn â hynny dros y 10 mlynedd diwethaf, felly gadewch i ni ei newid a rhagdybied, mewn gwirionedd, nad yw'n mynd i fod yn dda iawn o gwbl.' Ac rwy'n ofni bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gwneud y newid hwn i'w rhagolwg ar yr adeg anghywir yn y cylch economaidd, ac yn union fel y bu'n anghywir ynglŷn â chynhyrchiant yn cynyddu'n fawr dros y 10 mlynedd diwethaf, mae'n mynd i fod yn anghywir yn awr wrth feddwl bod y rhagolygon yn mynd i fod mor wael ag y maent yn ei awgrymu. Ac rwy'n dweud hynny am bedwar rheswm. Yn gyntaf, mae cynhyrchiant wedi cynyddu'n sylweddol mewn gwirionedd, a hynny yn ôl y ffigurau diweddaraf yn unig. Roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dynodi, fis neu ddau yn ôl, rwy'n credu, ei bod yn mynd i adolygu ei hamcangyfrifon i lawr, ac mae wedi parhau â hynny, er gwaethaf, o leiaf—nid wyf eisiau rhoi gormod o bwyslais ar ddata un chwarter, ond gwelsom gynnydd mawr sydyn yn y trydydd chwarter. Ac os gwelwn hynny'n parhau, hyd yn oed am chwarter neu ddau arall, bydd yn ei gwneud yn anodd iawn cyrraedd ffigurau'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer y flwyddyn neu ddwy nesaf.

Buaswn yn pwysleisio hefyd, dros y 10 mlynedd diwethaf, ein bod wedi cael twf cyflogaeth eithriadol o gryf, sydd, mewn sawl ffordd, i'w groesawu. Ond mae hefyd wedi bod yn gysylltiedig â'r lefelau uchaf erioed o fewnfudo. Ac ar yr un pryd, rydym wedi gweld newid yn y sylfaen gyflogaeth, gyda'r twf uchaf mewn rhai sectorau cyflog isel a chynhyrchiant cymharol isel gan fod gennym niferoedd mawr o bobl yn dod i mewn i'r wlad, yn aml o'r tu allan i'r UE, gyda setiau penodol o sgiliau ar gyfer rhai o'r ardaloedd mewnfudo, ond heb ofyniad i fewnfudwyr o'r UE gael lefel ofynnol o sgiliau, ac yn aml iawn, mae pobl gyda chymwysterau da iawn, mewn gwirionedd, yn eu gwledydd cartref yn dod, ond wedyn yn gweithio mewn diwydiannau lle nad ydynt yn defnyddio'r cymwysterau hynny, mewn meysydd heb lawer o sgiliau gyda chyflogau cymharol isel a chynhyrchiant isel.

Rydym eisoes wedi dechrau gweld y cyfraddau uwch nag erioed o fewnfudo yn dechrau disgyn, a chan ein bod—ar ôl y gair B eto—yn debygol o gael o leiaf rhai cyfyngiadau ar lefel mewnfudo na fu gennym o'r blaen ar bobl o'r UE, ni fuasem yn disgwyl gweld y cynnydd mawr hwnnw mewn swyddi cymharol ddi-grefft sydd, i raddau helaeth, wedi'u llenwi gan lefelau uwch o fewnfudwyr yn dod i mewn i'r wlad.

Felly, fel rheol, wrth i chi ddod—yn y rhan olaf o gylch economaidd, byddwch yn dechrau gweld cyflogau'n codi wrth i ddiweithdra ddisgyn. Nid ydym wedi gweld hynny, ac o leiaf un rheswm allweddol pam nad ydym wedi gweld hynny yw ein bod wedi cael cyfraddau uchel iawn o fewnfudo, gyda phobl yn dod i mewn o wledydd lle roedd cyfraddau cyflogau'n llawer is nag y maent yma. Wrth i hynny ddod i ben, buasem yn disgwyl gweld mwy o'n cyfradd dwf yn deillio o gynhyrchiant a llai o'r twf mewn cyflogaeth a ysgogwyd gan fewnfudo.

Hefyd rydym wedi gweld cyfraddau llog isel iawn bellach ers bron i 10 mlynedd, ac un peth y mae cyfraddau llog yn ei wneud fel arfer yw atal cwmnïau nad ydynt yn gwneud elw uwch na'r gyfradd llog a'u cyfalaf rhag ehangu, neu mewn llawer o achosion, rhag parhau mewn busnes. Ac mewn economi lle mae gweithwyr yn symud o un cwmni neu o un sector i'r llall—fel cwmnïau nad ydynt yn gwneud yn ofnadwy o dda, nad ydynt yn tyfu eu cynhyrchiant yn gyflym iawn gan nad ydynt yn ehangu neu, mewn rhai achosion, yn mynd allan o fusnes, caiff gweithwyr eu hamsugno i gwmnïau eraill sy'n dangos twf cryfach mewn cynhyrchiant ac sy'n tyfu'n gyflymach. A'r gyfradd llog mewn gwirionedd yw un o'r sbardunau allweddol i symud adnoddau i gwmnïau a rhannau o'r economi sy'n tyfu mwy ac sy'n cynhyrchu mwy. Ac nid yw hynny wedi bod yn digwydd dros y degawd diwethaf fel y gwnaeth o'r blaen. Fel y gwelwn gyfraddau llog yn codi, rwy'n credu bod gobaith da eto y gallem weld hynny'n dechrau troi a chynhyrchiant yn ymateb.

Yn olaf, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld na fydd unrhyw dwf o gwbl yn y cynnyrch domestig gros o'r fasnach net, ac o gofio'r hyn sy'n digwydd i'r gyfradd gyfnewid, nid wyf yn meddwl bod hwnnw'n safbwynt credadwy iddynt ei arddel. Lle maent hwy ac eraill o bosibl sydd â meddylfryd aros—neu nid yw ond yn ffordd o ffurfio rhagamcanion—yn dweud, 'Mae gadael yr UE yn mynd i wneud masnach yn economi lawer llai agored ac felly nid yw hynny'n mynd i arwain at gynhyrchiant', credaf yn rhannol fod hynny'n dilyn drwodd yn awtomatig at y ffigurau oherwydd eu rhagdybiaeth. Ond nid wyf yn rhannu hynny, oherwydd credaf y byddwn yn cadw masnach gymharol ddiffrithiant gyda'r UE a bydd gennym gytundebau masnach rydd gyda gwledydd eraill. Ond hyd yn oed pe bai rhywfaint o leihad yn y cyfleoedd masnachu gyda'r UE, y ffaith amdani yw bod gennym ddiffyg enfawr mewn nwyddau, ac yn y sector nwyddau y gellir eu masnachu y gwelir y twf mwyaf yn y cyfraddau cynhyrchiant. Felly, buasai effaith amnewid mewnforion drwy gynhyrchu mwy o'r nwyddau hynny gartref ynddo'i hun yn gorbwyso'r effaith ar gynhyrchiant ar yr ochr arall i raddau helaeth.

Am yr holl resymau hynny, credaf fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cael hyn yn anghywir. Rydym yn mynd i weld twf cynhyrchiant cryfach a dros amser, y cyfle am fwy o wariant gan y Llywodraeth neu leihau trethi Llywodraeth, o gymharu â'r hyn a nodwyd.

19:15

Ceir cytundeb ymhlith y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon fod y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus y tu hwnt i'w ddyddiad gwerthu. Nawr, yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld strategaeth fwriadol yn cael ei chyflwyno o osod gweithwyr y sector cyhoeddus yn erbyn gweithwyr y sector preifat, ac er fy mod yn siarad am welliant Plaid Cymru ar godi cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus, hoffwn gydnabod o'r cychwyn fod angen gwirioneddol yn y wlad hon am well cyflogau yn y sector preifat, am sgiliau gwell ac am fwy o gyfleoedd gyrfa yn yr economi gynhyrchiol. Ond ar yr un pryd, mae Plaid Cymru eisiau gweld y cap cyflog anghyfiawn yn y sector cyhoeddus yn dod i ben, gan ddechrau yn GIG Cymru. Buasai gwneud hynny'n rhyddhau arian i mewn i'r economi, buasai'n helpu gweithwyr a'u teuluoedd i ymdopi â chwyddiant, rhywbeth sy'n taro Cymru'n galetach na'r rhan fwyaf o rannau eraill y DU, a buasai'n helpu gyda recriwtio, cadw staff a morâl staff mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.   

Ni allwn osgoi'r canfyddiad nad yw cyflogau ar frig y gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn ddarostyngedig i'r un cyfyngiadau â'r rhai ar y gweithlu cyffredin. Mae'n ganfyddiad a grëwyd gan y ffaith bod llawer o gyflogau swyddi uwch wedi cael eu gosod drwy drefniadau ar wahân oddi allan i gyrff adolygu cyflogau, ac yn aml oddi allan i bolisi Llywodraeth y DU. Ac wrth gwrs, mae'n gwneud i bobl deimlo nad ydym i gyd yn rhan o hyn gyda'n gilydd.

Mae gwelliant Plaid Cymru heddiw yn dod ar adeg hollbwysig yn dilyn cyllideb y DU. Rwyf am fod yn glir ynglŷn â'r goblygiadau i Gymru. Mae'r Canghellor wedi gwrthod codi'r cap ar gyflogau'n llawn, ond bydd yn rhoi caniatâd i Ysgrifenyddion Gwladol godi'r cap ar gyflogau ar sail adrannol os yw'r cyrff adolygu cyflogau annibynnol yn cytuno. Dyma a gyhoeddodd. Mae nodyn y Trysorlys ar gyflogau'r sector cyhoeddus i gyd-fynd â'r gyllideb yr wythnos diwethaf hefyd yn nodi'n glir fod cyflogau yn yr achos hwn wedi'u datganoli. Mae'n dweud,

Ar gyfer y rhan fwyaf o weithluoedd, mae cyflogau'n gyfrifoldeb i lywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid yn Llywodraeth Cymru yn aros i'r cap ar gyflogau gael ei ddileu'n llawn fel ei fod yn cael arian canlyniadol Barnett. Y gobaith yw y gall hyn ddigwydd gyda'r GIG os yw corff adolygu cyflogau'r GIG yn ei argymell, ond mae Llywodraeth y DU hefyd yn dweud y bydd yn gosod amod cynhyrchiant. Felly, mae dull Llywodraeth Cymru o weithredu'n gysylltiedig â gosod amod gan Lywodraeth y DU ar ddyfarniad cyflog ymddangosiadol annibynnol a fydd wedyn yn cael ei benderfynu gan Jeremy Hunt.

Mae Plaid Cymru'n cynnig y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cael gwared ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus yn y GIG eisoes. Gwnaeth maniffesto Cymru yn 2017 yr ymrwymiad hwn ar dudalen 65, mewn pennod yn ymdrin â staff y GIG. Mae'r bennod honno'n sôn am lu o faterion datganoledig o'r cyflog byw i lefelau staffio a hyfforddiant i feddygon teulu. Mae'r syniad y gellir torri un o'r addewidion hynny allan fel mater nas datganolwyd heb i hynny gael ei nodi yn golygu na ellir cyflawni'r addewid mewn gwirionedd, er bod pob un o'r addewidion a restrir—pob un ohonynt—o fewn maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli.

Buasai cost codiad cyflog GIG o 2.3 y cant yn £40 miliwn yn ychwanegol. Nawr, mae'r Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo i 1 y cant, felly y £40 miliwn hwn yw'r gost ychwanegol. Nawr, rwy'n derbyn bod adnoddau dan bwysau. Buaswn yn derbyn, er enghraifft, na all llywodraeth leol fforddio gwneud hyn. Mae cyni'n real iawn. Ond er na ddylai fod yn fater i'r gwrthbleidiau ddweud sut y dylai'r Llywodraeth dalu am ei haddewidion ei hun, mae opsiynau ar gael i'r Llywodraeth Lafur os nad yw'r Canghellor yn cael gwared ar y cap ar gyflogau.

Mae gan Lywodraeth Cymru £100 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn, wedi'i gadw o'r neilltu ar gyfer arbedion effeithlonrwydd posibl. Hefyd, ceir £68 miliwn mewn cyllid adnoddau drwy fformiwla Barnett yn y blynyddoedd i ddod. Buasai Llywodraeth Plaid Cymru wedi arbed £40 miliwn drwy ddiwygio gwaith asiantaeth y GIG, creu asiantaeth ddielw ar gyfer staff meddygol. Nid problem Plaid Cymru yw'r ffaith nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi unrhyw un o'r camau hyn ar waith; chi eich hunain sydd ar fai ac mae angen i chi gymryd cyfrifoldeb.

Felly, mewn perthynas â chael gwared ar y cap ar gyflogau neu ei gadw, ceir dau ddull o weithredu y gall Llywodraeth Lafur Cymru eu cyhoeddi heddiw—

19:20

—naill ai caiff y cap ar gyflogau ei ddileu neu gellir esbonio pam roedd y maniffesto'n gamarweiniol. Buasai un o'r atebion hynny'n galluogi Cymru i ymuno â'r Alban fel gwlad ddatganoledig sydd wedi cael gwared ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus. Bydd y llall yn gadael ein nyrsys a staff rheng flaen y GIG yn wynebu toriadau mewn termau real i'w cyflogau.

Mae fy amser wedi dod i ben. Gyda'ch caniatâd, Lywydd, fe gymeraf ymyriad.

Er eglurder yn unig, fel mater o egwyddor a ydych chi o blaid neu yn erbyn cyflog rhanbarthol?

Rwyf o blaid ein gweld ni yma'n gallu talu cyflog digonol i'n gweithwyr yn y sector cyhoeddus ac rwyf o blaid gweld y Llywodraeth hon yn cyflawni addewidion ei maniffesto. Felly, rydym o blaid gweld cyflogau'n cael eu penderfynu yma ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Llywydd. I ddechrau, fe hoffwn i groesawu'r cyfle i ymateb i'r drafodaeth hon ar gyllideb y Deyrnas Unedig yr wythnos diwethaf. Cyn trafod rhai agweddau penodol o'r gyllideb a'r hyn y mae'n ei olygu i Gymru, rydw i am ddweud gair am y darlun ehangach. Nid ydy polisi cyni San Steffan yn gweithio, fel mae pobl ledled y Siambr wedi cydnabod. Mae'n niweidio economi'r Deyrnas Unedig yn gyfan. 

Erbyn 2022, Lywydd, amcangyfrifir y bydd economi'r Deyrnas Unedig £41 biliwn yn llai nag yn amcangyfrifon diwethaf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ym mis Mawrth. I bob pwrpas, mae hynny'n gyfystyr â bod holl economi Cymru'n diflannu mewn chwe mis o ran y ffordd y cafodd economi'r DU ei rheoli.

Nid wyf eisiau ailadrodd llawer iawn o'r hyn a ddywedwyd o gwmpas y Siambr. Ceir llawer o gytundeb ymhlith llawer o'r cyfranwyr. Yn wir, siaradodd Adam Price am wyth munud a 47 eiliad cyn iddo ddweud unrhyw beth y gallwn anghytuno ag ef o gwbl. Hyd yn oed wedyn, roedd yn fwy o amrywiad nag o anghytundeb. Yr hyn a glywsom yw gwirionedd effaith cyni ar safonau byw yma yng Nghymru. Mae'r economi yn mynd drwy ei hargyfwng mwyaf yn ein hoes o ran safonau byw. Mae Sefydliad Resolution yn amcangyfrif na fydd y cyflog cyfartalog yn dychwelyd i'w lefelau cyn yr argyfwng tan 2025, sy'n 17 mlynedd lawn wedi iddo ddechrau a chyda'r holl gyfleoedd a gollwyd yn y cyfamser.

Ar gynhyrchiant, fel y clywsoch, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi adolygu rhagamcanion cynhyrchiant ar i lawr droeon ers y flwyddyn 2010. Adolygiad yr wythnos diwethaf oedd y mwyaf eto, ond ni ddylai neb synnu bod llethu lefelau cyflog yn fwriadol yn arwain at gwymp mewn cynhyrchiant. Awgrymodd Adam y gallem fod ar benllanw twf wedi'i ysgogi gan lafur yn yr economi, ond mae'n bendant yn wir pan fo'r gyfran o economi'r DU sy'n llafur yn disgyn ar yr un pryd. Dyna'r pwynt a wnaeth Jane Hutt am y ffordd y mae cynnydd mewn anghydraddoldeb yn cyfuno â llethu cyflogau gan effeithio ar ragolygon cynhyrchiant ac ar dwf yn ogystal. Felly, yma mae gennym economi y mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud y bydd yn lleihau o ran ei photensial i dyfu bob blwyddyn o'r cyfnod sydd i ddod, i lawr i lefel lle rydym gymaint yn is na thuedd y twf fel nad yw'r economi prin yn gallu cynnal ei hun.

Roeddwn yn teimlo ein bod wedi cael dau ddadansoddiad gwahanol iawn gan ein cyfranwyr Ceidwadol y prynhawn yma. Cawsom ysgol economeg 'Dowch wir, siapiwch hi' a gynigiwyd i ni gan Mark Reckless—pe bai pawb ohonom ond yn codi ein sanau a chanu ychydig yn uwch, buasai pethau'n llawer gwell. Mwynheais gyfraniad Nick Ramsay ychydig yn fwy, rwy'n credu—roedd yn fwy beiblaidd ei naws, yn fy marn i, o ran ei ymagwedd tuag at ddyfodol yr economi a gynigiai ein bod yn dilyn y goleuni mwyn,

'trwy dew gysgodau'r nef'.

O leiaf roedd yn barod i gynnig ffordd ymlaen i ni. Roeddwn yn meddwl bod ei slogan ar gyfer yr etholiad nesaf—etholiad nesaf y Blaid Geidwadol—'Pleidleisiwch dros y Ceidwadwyr; nid y peth gorau ers cyn cof', yn un y gallai hyd yn oed y rhai sy'n cynghori Mrs May fod wedi meddwl ddwywaith am ei fabwysiadu, ond mae'n gyfraniad i—

19:25

Yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd oedd na fuasai Llywodraeth y DU yn disgrifio'i hun fel y peth gorau ers cyn cof am fy mod yn nodi eu bod yn wylaidd.

O ddifrif, doeddwn i ddim wedi sylweddoli, Nick, mai dyna oedd ystyr eich sylw. Credaf fod y slogan yn gweithio'n dda iawn a gobeithiaf y caiff ystyriaeth ddifrifol iawn ymhlith y rhai mewn awdurdod drosoch chi. [Chwerthin.]

Edrychwch, rydym wedi dweud dro ar ôl tro fod cyni yn bolisi diffygiol ac aflwyddiannus. Yr offeryn mwyaf amlwg a oedd gan y Canghellor at ei ddefnydd i hybu galw a chyflenwad oedd buddsoddiad cyhoeddus. Mae cyfraddau llog yn is nag erioed. Nawr oedd y cyfle mewn gwirionedd i wneud iawn am y gostyngiad bwriadol mewn termau real o fwy na 30 y cant yn y buddsoddiadau a gyflawnodd Llywodraeth y DU rhwng 2010 a 2017.

Ysgrifennais at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys—pennaeth cyllideb y DU—yn annog Llywodraeth y DU i wrando ar yr Gronfa Ariannol Ryngwladol a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac aelodau o'i Gabinet ei hun yn wir, a buddsoddi yn y seilwaith. Fel llawer o bobl eraill yma, manylais ar brosiectau penodol fel morlyn llanw bae Abertawe, y nododd Mike Hedges a Simon Thomas yr achos drostynt mor glir y prynhawn yma. Gofynnais iddynt newid eu penderfyniad i ganslo'r gwaith o drydaneiddio'r brif linell rhwng Abertawe a Chaerdydd ac ymrwymo i fuddsoddi mewn prosiectau trafnidiaeth allweddol yng ngogledd Cymru.

Gwnaeth cyllideb y DU gam â Chymru ym mhob un o'r pethau hyn — 'Dim byd ynddi i Gymru', fel y dechreuodd Adam Price y ddadl.

Yn amlwg yng nghyd-destun gogledd Cymru a'r gyllideb, ar ddiwedd mis Medi, ysgrifennodd prif weithredwyr ac arweinwyr pob un o chwe chyngor gogledd Cymru at bob cyngor, gan eu gwahodd i gymryd rhan mewn pwyllgor i ddatblygu'r cais twf i fynd at Lywodraeth y DU. Does bosibl, fel Gweinidog yn y Llywodraeth, nad ydych yn derbyn na all llywodraethau ymateb i bethau hyd nes eu bod wedi eu cael.

Lywydd, ceir nifer fach o bethau yn y gyllideb rwy'n dymuno eu croesawu, felly fe wnaf hynny yn awr. Rwy'n croesawu'r ffaith ein bod, o ran y fframwaith cyllidol, yn dechrau gweld effaith y fframwaith cyllidol yn dod i'r amlwg yn y gyllideb hon. Rwy'n croesawu'r ffaith bod yna ymrwymiad i fargeinion twf gogledd Cymru a chanolbarth Cymru. Rwy'n croesawu'r ffaith bod yna strategaeth ddiwydiannol i gyd-fynd â hynny, er gwaethaf y cyfyngiadau a nodwyd gan eraill y prynhawn yma.

Ond gwir stori'r gyllideb yw ei bod yn dal ati i greu'r cyd-destun lle mae cyni'n parhau i'r dyfodol, yn bla ar ragolygon cymaint o deuluoedd a chymunedau ac yn cyrydu gallu ein gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni'r gwaith sydd mor bwysig i fywydau dinasyddion Cymru. Roeddwn yn meddwl bod Siân Gwenllian wedi cyfleu'n dda iawn beth yw cost ddynol cyni—y ffordd y mae'n gweithio i mewn i fywydau unigolion a phlant yma yng Nghymru ac yn bwrw cymaint o gysgod dros eu dyfodol. Dyna'r cyd-destun rydym yn gweithredu ynddo, er gwaethaf y pethau bach y gallwn eu croesawu.

Gadewch i mi ddweud rhywbeth am fanylion y gyllideb. Byddwch wedi clywed am yr £1.2 biliwn sydd gennym yn ôl pob golwg. Mae hanner hwnnw'n gyfalaf trafodiadau ariannol. Rydym am fod yn greadigol yn y ffordd y byddwn yn ei ddefnyddio, ac fe wnawn ein gorau i wneud defnydd da ohono, ond gadewch i ni fod yn glir: daw'r cyfalaf trafodiadau ariannol at ddibenion a nodwyd gan Lywodraeth y DU gyda rheolau wedi'u gosod gan y Trysorlys pan fyddwn wedi gwneud y defnydd hwnnw ohono. Nid yw'n arian yn yr ystyr y gallwn ei ddefnyddio yn y ffordd arferol at ddibenion Cymru ar flaenoriaethau Cymru mewn ffyrdd y gall y Cynulliad chwarae rhan flaenllaw yn eu llunio.

Serch hynny, gwnawn ein gorau glas i wneud y mwyaf a allwn o'r rhannau hynny o'r gyllideb sydd yn ein dwylo. Ceir £215 miliwn mewn refeniw ar gyfer popeth rydym am ei wneud ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ym mhob un o'r pedair blynedd. Dros yr un cyfnod, ceir £350 miliwn mewn cyfalaf confensiynol. Dywedodd Joyce Watson, ac roedd hi'n llygad ei lle, y buasai ein cyllideb yng Nghymru, cyn y gyllideb hon, 7 y cant yn is mewn termau real yn 2018-19 o gymharu â degawd yn ôl, ac mae'r gyllideb hon yn gadael ein cyllideb 7 y cant yn is na'r hyn ydoedd ddegawd yn ôl. Mewn geiriau eraill, nid yw'n symud 1 y cant ar y deial hyd yn oed o ran y toriadau.

Ein gwaith ni yn Llywodraeth Cymru o hyd, er hynny, yw defnyddio'r holl gyfleoedd a ddaw i'n rhan. Byddwn yn sicr o wneud hynny. Bydd cyfleoedd yr wythnos nesaf, Lywydd, pan fyddwn yn gallu dangos rhai o'r cynlluniau y byddwn yn eu datblygu mewn trafodaethau ag eraill i ddefnyddio'r cyfleoedd newydd hynny. Edrychaf ymlaen at eu clywed yn cael eu trafod ymhellach yn y Cynulliad hwn.

Heddiw, mae gwelliannau'r Llywodraeth yn gofyn yn syml am gywiro'r camargraff mewn dau bwynt yn y cynnig. Rydym yn gobeithio y byddwch yn barod i gefnogi'r gwelliannau hynny, ac yna byddwn yn falch o bleidleisio dros y cynnig fel y'i diwygiwyd.

19:30

Rwy'n credu bod y ddadl hon wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn y modd y mae wedi nodi rhai o'r rhaniadau ar gwestiynau polisi economaidd ein cyfnod ni. Yn amlwg, mae gennym fersiynau amrywiol o'r optimistiaeth afresymol a glywsom ar y meinciau gyferbyn. Gallwn ddyfynnu unrhyw nifer o felinau trafod. Dyfynnwyd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar feinciau'r Torïaid. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud na fyddwn yn dychwelyd at lefel cyn yr argyfwng o ddyled genedlaethol fel cyfran o incwm tan y 2060au. Mae cynhyrchiant ar ei lefel waethaf o ran ei duedd ers dechrau'r 1800au. Faint o besimistiaeth rydych am ei wadu? Mae'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain, a dweud y gwir. Os ydych yn meddwl bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhy negyddol, mae rhagolwg y Seyfydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd hyd yn oed yn is. Morgan Stanley—hen gyff y system gyfalafol—maent hwy oddeutu hanner y lefel y mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ei ragweld ar gyfer 2019. Dyna'r realiti, y realiti economaidd sy'n ein hwynebu.

Ceir rhaniadau eraill. Rydym yn byw mewn cyfnod diddorol pan fydd Andy Haldane o Fanc Lloegr yn dweud mai cwestiwn mawr ein cyfnod ni yw cyfran llafur yn yr economi, gan swnio bron fel economegydd o'r hen ysgol Farcsaidd. Dyna'r cwestiwn sylfaenol. Yn fyd-eang, mae cyfran llafur yn yr economi'n gostwng, a dyna pam y buaswn yn apelio ar y rhai ar y meinciau Llafur. Mae angen i chi ganolbwyntio ar y cwestiwn hwn. Yn amlwg, nid ydym yn mynd i allu datrys y broblem hon ar ein pen ein hunain—nid ydym yn dadlau hynny—ond mae cyfle i ni arwain yma yng Nghymru. Mae'n rhaid mynd i'r afael â'r cwestiwn ynglŷn â chyfran cyflogau sy'n disgyn yn yr economi, a gallech grisialu'r ddadl ehangach honno mewn gwirionedd, fel y mae Llywodraeth yr Alban yn ei wneud, drwy edrych i weld sut y gallwn gael gwared ar y cap yma yng Nghymru. Ceir rhai awgrymiadau ymarferol—mae eraill ar gael—ynglŷn â sut y gellid ei wneud. Rwy'n eich annog ar y meinciau Llafur i edrych eto ar y cwestiwn hwn. [Torri ar draws.] Gwnaf, yn sicr.

A fuasech yn cytuno, fel y mae arweinydd Plaid Cymru wedi datgan eisoes, fod defnyddio cronfeydd wrth gefn i ariannu codiadau cyflog parhaus yn ddefnydd da o arian cyhoeddus?

19:35

Rwy'n credu'n onest fod y cwestiwn hwn, y cwestiwn gwleidyddol hwn, sydd wrth wraidd polisi economaidd byd-eang ar hyn o bryd, mor bwysig fel bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ffordd. Mae'n rhaid i Gymru arwain ar y cwestiwn hwn. Ni allwn fod ar y cyrion, yn defnyddio esgusodion. Rhaid inni ddangos arweiniad moesol, a rhaid inni ddod o hyd i ffordd ymarferol o wneud hynny mewn ffordd sydd, cyn belled ag y bo modd, yn diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, rwy'n annog yr Aelodau Llafur i edrych ar y cwestiwn hwn eto.

Hefyd, i adleisio rhai o'r cyfraniadau eraill a wnaed o fy meinciau fy hun, ac yn wir gan Caroline Jones yn ogystal, yn yr amseroedd anodd hyn, yn yr amseroedd anodd hyn yn wleidyddol ac yn economaidd, rhaid inni ddangos ymdeimlad o asiantaeth yma. Ni allwn obeithio'n unig am Gorbynomeg. Mae angen Carwynomeg well arnom. Yn hytrach na sôn yn unig am wladoli cwmni ynni o'r DU, pam nad ydym yn sefydlu ein cwmni ynni perchnogaeth gyhoeddus ein hunain yng Nghymru, fel y gallwn ddefnyddio'r ychydig botiau o arian sydd ar gael yno ar lefel Llywodraeth y DU i fynd ati mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Wel, os yw'r Prif Weinidog yn dymuno ymyrryd, gall wneud hynny. Mae angen inni fod yn ddoethach yn yr amseroedd anodd hyn. Mae yna syniadau da ar rai o'i feinciau cefn. Mae yna syniadau da i'w cael allan yn y gymdeithas sifil ehangach. Rydym yn wynebu'r her fwyaf anodd yn economaidd a wynebwyd gennym mewn cenhedlaeth, a rhaid inni fod yn llawer mwy deallus ac yn llawer mwy arloesol nag y buom hyd yn hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Pwynt o Drefn

Mae'n flin gennyf orfod codi'r pwynt o drefn hwn, Lywydd. Yn ystod dadl gynharach, dywedodd arweinydd yr wrthblaid, ar ei eistedd, wrth Aelod arall, 'Rydych wedi cymryd y swllt.' A fuasech yn dyfarnu bod hynny'n groes i'r drefn, yn enwedig gan gyfeirio at Reolau Sefydlog 13.9(iv) a 13.9(v)? Ac os felly, a wnewch chi roi cyfle i'r Aelod dynnu'r sylw yn ôl ac ymddiheuro amdano?

Mae'n amlwg i mi bellach fod y cyhuddiad hwnnw wedi'i wneud yn gynharach, er na chlywais ef fy hun, ac yn ddefnyddiol, mae arweinydd yr wrthblaid wedi egluro hynny, a'r BBC, y prynhawn yma. Nid yw cwestiynu uniondeb Aelodau'r Cynulliad yn briodol, ac mae Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr hon yn pleidleisio heb ofn na ffafriaeth. Mae'n bosibl fod arweinydd yr wrthblaid yn dymuno egluro'r cyhuddiad y ceisiodd ei wneud, ac os cafodd ei gamddehongli mewn unrhyw ffordd.

Diolch i chi, Lywydd. Yn sicr ni roddais unrhyw eglurhad y prynhawn yma, gan nad wyf wedi rhoi unrhyw gyfweliadau o gwbl, er y gwelaf fod y BBC yn adrodd rhyw stori. Rwyf wedi dweud fy sylwadau yn fy nghyfraniad i'r ddadl heddiw, a daliaf at y sylwadau a wneuthum yn y ddadl.

Credaf efallai yr hoffech ystyried y ffaith eich bod yn bendant wedi cael eich cofnodi'n dweud bod eich cyhuddiad yn cyfeirio at Aelod nad oedd yn cymryd unrhyw ran o gwbl yn y ddadl ar y pryd, yn hytrach na'r Aelod y cyfeirioch chi atynt wrth geisio egluro yn nes ymlaen yn ddadl honno. O ystyried natur y ddadl a gynhaliwyd gennym y prynhawn yma, gofynnaf i chi feddwl eto, ac fe drafodwn hyn y tu allan i'r Siambr. Ac os oes angen, down â'r mater yn ôl i'r Siambr. Symudwn ymlaen i bleidleisio yn awr, ond bydd angen rhoi sylw i'r materion hyn yn nes ymlaen.

Felly, rydym yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Os caf sylw pawb i'r cyfnod pleidleisio, y bleidlais gyntaf yw'r bleidlais ar y ddadl o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly gwrthodwyd y cynnig.

NDM6573 - Cynnig i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf felly am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 1. 

19:40

NDM6573 - Cynnig i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog: Gwelliant 1: O blaid: 29, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6573 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i nodi:

1. Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i benodi panel o gynghorwyr annibynnol i ddarparu ffynhonnell allanol o gyngor arbenigol ar ymddygiad Gweinidogol yn unol â’r hyn sy’n ofynnol o dan God y Gweinidogion, fel y nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 23 Tachwedd 2017;

2. Bod James Hamilton, sy’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth yr Alban ar hyn o bryd, wedi ei benodi’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth Cymru;

3. Bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio’i hun at James Hamilton mewn perthynas â honiadau, a wnaed yn y pythefnos diwethaf, iddo weithredu’n groes i God y Gweinidogion; a

4. Adroddiad terfynol y Cynghorydd Annibynnol pan fydd yn cael ei gyhoeddi.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio. 

NDM6573 - Cynnig i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 29, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd y cynnig. 

NDM6594 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 17, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6594 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 1: O blaid: 29, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 55, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6594 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 2: O blaid: 55, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6594 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r rôl hanfodol y mae staff rheng flaen Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chwarae o ran cyflenwi gwasanaethau a chefnogi cleifion ar draws gogledd Cymru.

2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin 2015.

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i herio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynd i’r afael â’i amseroedd aros a’i sefyllfa ariannol annerbyniol.

4. Yn nodi’r cymorth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weithio i sefydlogi ac adfer ei sefyllfa.

5. Yn nodi y bydd y cynnydd yn cael ei adolygu gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ddechrau mis Rhagfyr ac y bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn ystyried mesurau pellach y bydd raid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymgymryd â hwy er mwyn gwella.

6. Yn credu y bydd angen ehangu'r gweithlu'n sylweddol er mwyn datrys y materion a wynebir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n golygu y bydd angen cynyddu lefelau hyfforddiant nyrsio a meddygol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio. 

NDM6594 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 32, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 46 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd y cynnig. 

NDM6595 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 46, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi cael ei wrthod. 

NDM6595 - Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 1: O blaid: 17, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd y gwelliant.

NDM6595 - Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 2: O blaid: 34, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6595 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi o ran cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar ei chyllideb:

a) nad oedd yn cynnwys cyhoeddiadau newydd penodol i Gymru; a

b) ei fod yn cynnwys adolygiadau ar i lawr ar gyfer twf economaidd, cynhyrchiant a buddsoddiad mewn busnesau.

2. Yn credu bod y newidiadau disgwyliedig i grant bloc Cymru yn adlewyrchu parhad mewn mesurau cyni aflwyddiannus yn hytrach nag adnoddau newydd.

3. Yn gresynu nad oedd cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar y gyllideb yn ymrwymo i roi unrhyw gefnogaeth i Forlyn Llanw Bae Abertawe.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap a osodwyd ganddi ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac ariannu codiad cyflog i holl weithwyr y sector cyhoeddus yn llawn.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli mwy o bwerau i Gymru i wneud penderfyniadau am fuddsoddi mewn seilwaith er mwyn cefnogi economi Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, 10 yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi cael ei dderbyn. 

NDM6595 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 34, Yn erbyn: 12, Ymatal: 10

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Problem anweledig Cymru—effaith gymdeithasol hapchwarae

A'r eitem nesaf yw'r ddadl fer. Gwnawn ni aros ychydig eiliadau wrth i Aelodau adael y Siambr yn dawel. 

Y ddadl fer, felly, ar broblem anweledig Cymru—effaith gymdeithasol hapchwarae. Rwy'n galw ar Jayne Bryant. 

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i ganiatáu munud yr un i Mick Antoniw a Jane Hutt yn y ddadl.

Mae hanes hir i hapchwarae. Mae'r rhan fwyaf ohonom wedi gamblo mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar ryw adeg yn ein bywydau. Y llynedd, gamblodd dros hanner poblogaeth y DU sy'n 16 oed neu'n hŷn—o gêm o bingo a bet fach yn y siopau betio i'r Loteri Genedlaethol a betio ar-lein, erbyn hyn mae'n haws nag erioed i gamblo. I'r rhan fwyaf o bobl, mae gamblo'n debygol o fod yn weithgarwch anfynych, cymdeithasol sy'n hwyl—ffurf ar adloniant wedi'i chwarae o fewn ffiniau a chyfyngiadau rhesymol. Mae'r llinell yn mynd yn deneuach ac yn deneuach, fodd bynnag, ac mae rhai grwpiau mewn perygl o ddatblygu ymddygiad gamblo peryglus, gan arwain o bosibl at ddibyniaeth fwy niweidiol ar gamblo. Gyda llai na mis i fynd cyn y Nadolig, efallai nad yw gamblo cymhellol yn rhywbeth rydym yn ei gysylltu â'r Nadolig, ond er ei fod yn amser hapus, gall beri straen a phryder i lawer. Gall y Nadolig roi straen ariannol ar unigolion a theuluoedd, yn enwedig yn ein diwylliant nwyddau traul 'prynu nawr, talu wedyn' sy'n canolbwyntio ar gredyd.

19:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae'n destun pryder fod Cymdeithas y Plant wedi amcangyfrif bod disgwyl i 43 y cant o deuluoedd yng Nghymru fenthyca mwy o arian i dalu am y Nadolig—y gyfran uchaf o holl ranbarthau'r DU. Gall hapchwarae gyflwyno llwybr dianc deniadol i'r rhai sy'n daer i dalu dyled yr aed iddi yn ystod cyfnod y Nadolig. I lawer, ni fydd effaith ariannol boenus y Nadolig i'w theimlo tan y flwyddyn newydd. Mae mis Chwefror bob amser yn dangos cynnydd sydyn mewn cyfraddau gamblo, wrth i'r biliau credyd gyrraedd ar gyfer sawl mis yn gynharach. Mae unigolion sy'n wynebu pwysau ariannol eithafol yn fwy tebygol o feddwl nad oes ganddynt unrhyw beth i'w golli wrth osod bet.

Mae arbenigwyr ar broblem hapchwarae, Cyngor ar Bopeth Casnewydd, yn fy etholaeth i, yn darparu un o'r ychydig wasanaethau wyneb yn wyneb ar gyfer pobl sy'n cael trafferth gyda dibyniaeth ar hapchwarae yn benodol. Mae eu gwybodaeth a'u harbenigedd ar broblem hapchwarae yng Nghymru yn amhrisiadwy a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i'w canmol wrth Ysgrifennydd y Cabinet.

Gellir diffinio gamblo cymhellol fel sefyllfa lle mae hapchwarae'n tarfu ar neu'n niweidio diddordebau personol, teuluol neu hamdden. Bellach derbynnir yn gyffredinol fod ganddo'r potensial i fod yn anhwylder sy'n debyg i ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau. Bydd unrhyw un sy'n cael eu caethiwo yn nhrobwll gamblo cymhellol yn canfod ond yn rhy fuan y gall yr effaith negyddol ar eu bywydau fod yn ddinistriol. Y broblem fwyaf uniongyrchol ac amlwg fel arfer yw dod o hyd i arian i gamblo, a daw hynny â digon o broblemau yn ei sgil. Ond mae ysfa ddifäol i gamblo ar unrhyw gost yn arwain at anawsterau sy'n effeithio ar gyflogaeth, ansawdd bywyd, cydberthnasau teuluol ac iechyd corfforol a meddyliol.

Nododd y Comisiwn Hapchwarae fod mwy na 2 filiwn o bobl yn y DU naill ai'n gamblwyr cymhellol neu mewn perygl o ddibyniaeth a rhybuddiodd nad oedd Llywodraeth y DU a'r diwydiant yn gwneud digon i fynd i'r afael â'r broblem hon. Mae Carolyn Harris AS, sydd wedi bod yn ymgyrchydd dygn ar gamblo cymhellol, wedi codi'r mater yn gyson yn San Steffan, gan ddweud nad yw'r broblem yn mynd i ddiflannu; yn wir, mae'n mynd yn waeth. Mae hi ac eraill wedi bod yn llym iawn eu beirniadaeth o'r diwydiant, yn arbennig y nifer fawr o beiriannau hapchwarae ods sefydlog, sydd wedi dod i gael eu hadnabod fel cocên crac hapchwarae.

Mae adnabod gamblo cymhellol yn hollbwysig os yw unigolyn i gael cymorth. I rai pobl, mae cydnabod problem yn syml. I lawer o unigolion, fodd bynnag, ni chafwyd diagnosis o gamblo cymhellol, ac mae'n aml yn cydfodoli â dyled, problemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. I'r rhai sy'n troi at hapchwarae mewn cyfnodau anodd yn bersonol ac yn ariannol, gall y demtasiwn i beryglu'r cyfan yn y gobaith o ennill fod yn ormod. Gwaethygir y broblem, gan fod dyledion hapchwarae sylweddol yn aml yn cronni'n gyfrinachol heb yn wybod i'r teulu. Mae effaith datgelu'r ddyled gudd hon yn wirioneddol ddinistriol ar unigolion a theuluoedd. Gall effeithio'n negyddol ar iechyd a lles partneriaid, plant a chyfeillion. Gall y niwed ymestyn hefyd i gynnwys cyflogwyr, cymunedau a'r economi. Bydd niferoedd y rhai sy'n dioddef niwed o ganlyniad i hapchwarae gan eraill yn sylweddol fwy na nifer y bobl sy'n niweidio'u hunain.

Yn 2014, nododd Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, sy'n cynnwys fy etholaeth fy hun, fod dibyniaeth ar hapchwarae yn fater sy'n peri pryder sylweddol. Mae ei adroddiad, 'New and Emerging Threats to the Health of the Gwent Population', yn awgrymu y gall gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal sylfaenol, ochr yn ochr â gofal iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, chwarae rôl bwysig mewn diagnosis ac atgyfeirio am gymorth.

Er mai pwerau cyfyngedig sydd gan Gymru mewn perthynas â rheoliadau hapchwarae, mae dibyniaeth ar hapchwarae'n cael ei chydnabod yn gynyddol fel pryder iechyd cyhoeddus. Am y rheswm hwnnw, tyfodd fy niddordeb i a sawl cyd-Aelod Cynulliad mewn darganfod mwy am gamblo cymhellol yng Nghymru. Penderfynasom gomisiynu Prifysgol De Cymru i gynnal ymchwiliad i effeithiau cymdeithasol gamblo cymhellol, gan mai ychydig iawn o ddata a geir sy'n benodol i Gymru. Drwy ganolbwyntio ar Gasnewydd, Pontypridd, Wrecsam, Bro Morgannwg a De Clwyd, mae'r adroddiad yn rhoi cipolwg inni ar effaith gamblo cymhellol ar draws y wlad. Fel Aelodau Cynulliad, roeddem yn pryderu ynghylch y dystiolaeth anecdotaidd gan etholwyr mewn perthynas â gamblo cymhellol. Roeddem yn teimlo ei bod yn broblem gynyddol a arweiniai at frwydrau personol, dibyniaeth ar alcohol, iechyd gwael, teuluoedd yn chwalu, dyledion, tlodi a digartrefedd.

Yn gynharach y mis hwn, lansiodd Mick Antoniw a minnau adroddiad o'r enw 'An investigation of the social impact of problem gambling in Wales' yma yn y Senedd gyda Phrifysgol De Cymru. Daeth yr academyddion a oedd yn rhan o'r gwaith o amrywiaeth o ddisgyblaethau, ac roedd hynny'n rhoi dyfnder ychwanegol i'r adroddiad, a hoffwn gofnodi fy niolch i Brifysgol De Cymru a phawb a weithiodd ar yr adroddiad. Rwy'n eich annog chi i gyd i'w ddarllen, ond fe wnaf rai pwyntiau allweddol ar yr adroddiad.

Roedd canfyddiadau'r adroddiad yn amlygu'r ffaith fod maint y ddibyniaeth bosibl ar hapchwarae yng Nghymru yn uwch o lawer nag y dangosodd astudiaethau blaenorol. Nododd yr adroddiad fod dros chwarter y boblogaeth yng Nghymru mewn perygl posibl o ymddygiad gamblo diffygiol. Roedd hyn yn gynnydd sylweddol ers adroddiad y Comisiwn Hapchwarae yn 2015 a oedd yn awgrymu bod 5 y cant o'r boblogaeth yn wynebu risg uchel. Canfuwyd bod hapchwarae ar-lein hefyd yn llawer uwch o gymharu â'r un astudiaeth yn 2015, ar 11 y cant o'i gymharu â 5 y cant, a datgelwyd yr un duedd ar gyfer peiriannau hapchwarae ods sefydlog.

Datgelodd yr adroddiad hefyd fod hapchwarae'n dod yn broblem gynyddol gudd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gamblo ar eu pen eu hunain, a cheir llu o gyfleoedd i ymroi i gamblo'n hawdd. Mae gwefannau ac apiau ffonau symudol yn golygu y gall pobl gamblo yn unrhyw le ar unrhyw adeg bellach. Mae clystyrau o siopau hapchwarae trwyddedig mewn ardaloedd daearyddol difreintiedig yn golygu ei bod hi'n hawdd ymweld â pheiriant hapchwarae ods sefydlog mewn siop fetio leol.

Mae stigma'n perthyn i ddibyniaeth, ac nid yw gamblo cymhellol yn wahanol yn hyn o beth. Mae unigolion yn gyndyn iawn i gyfaddef bod ganddynt broblem, hyd yn oed os ydynt yn ei chydnabod eu hunain. Yn bwysig, mae'r straeon personol a rennir yn yr adroddiad yn rhoi cipolwg ar yr effaith gymdeithasol a'r profiadau sy'n sail i'r ystadegau. Dywedodd un fod gamblo ar beirannau hapchwarae ods sefydlog wedi

peri i mi geisio cyflawni hunanladdiad ychydig flynyddoedd yn ôl. Ni allaf reoli fy gamblo pan af ar-lein neu wrth chwarae peiriannau ods sefydlog.

Tynnodd rhai sylw at effaith hapchwarae ar fywyd teuluol, gan ddweud, 'Mae'n lladd teuluoedd', ac mae'n broblem

sy'n gudd, ac fel arfer nid oes help ar ei chyfer. A'r dyddiau hyn, mae'n rhy hawdd... ar ffonau, ar-lein, mewn siopau, dylid eu gorchuddio mewn du fel y sigaréts.

Dywedodd un arall:

Mae gennyf riant a fu'n gamblo'n ormodol ers 25 mlynedd. Bu'n rhaid i mi eu helpu'n ariannol i'w hatal rhag colli eu cartref.

Mae'r datganiadau hyn yn sampl o realiti erchyll cost ddynol gudd dibyniaeth ar hapchwarae, ac mae'n ddyletswydd arnom fel Aelodau Cynulliad i gefnogi ein hetholwyr.

Mae dwysedd enbyd siopau hapchwarae trwyddedig mewn ardaloedd difreintiedig yn drawiadol. Mae angen mwy o ymchwil i effaith y clystyrau hyn ar gymunedau lleol a chymunedau ehangach. Y bobl sy'n byw mewn ardaloedd llai cefnog sy'n fwyaf tebygol o gael eu dylanwadu gan hysbysebion apelgar a welir yn rheolaidd ar y teledu, mewn papurau newydd ac ar-lein. Dylid cynnal astudiaeth systematig o hapchwarae ar-lein gan ganolbwyntio ar effeithiau technegau hysbysebu soffistigedig megis hysbysebion naid wedi'u teilwra. Mae angen gwneud rhagor o ymchwil ar hysbysebion wedi'u targedu'n benodol er mwyn denu menywod a phobl ifanc.

Mae angen gofyn cwestiynau ynglŷn ag atal niwed a datblygu triniaeth. Rhaid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r posibilrwydd o sgrinio'n systematig am broblemau hapchwarae mewn gwasanaethau procsi, megis gwasanaethau ar gyfer dyledion a dibyniaeth. Un rheswm y mae maint y broblem hapchwarae yn parhau i fod yn gudd yw nad oes cronfa ddata o unigolion â dibyniaeth ar hapchwarae yn bodoli ar hyn o bryd. Ond nid yw mesur y broblem yn ddigon. Rhaid datblygu technegau triniaeth ymyrraeth gynnar i leihau effaith ddiamheuol gamblo cymhellol ochr yn ochr ag unrhyw sgrinio, a buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o leihau effaith gamblo cymhellol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

Er ei fod yn drylwyr ac yn helaeth, nid yw adroddiad Prifysgol De Cymru ond yn crafu wyneb gamblo cymhellol yng Nghymru. Ein nod oedd i'r adroddiad roi syniad i ni o'r problemau posibl mewn gwahanol ardaloedd, a buasai pawb a gymerodd ran yn y prosiect gyda'r cyntaf i ddweud bod yr adroddiad yn gofyn mwy o gwestiynau nag y mae'n eu hateb. Cipolwg ydyw ar draws Cymru, ac mae angen gwneud gwaith ymchwil pellach. Fodd bynnag, mae'n dweud yn bendant fod yna broblem yng Nghymru, problem sy'n tyfu, ac mae ei heffaith yn ddinistriol. Fy ngobaith yw bod yr adroddiad yn tynnu sylw pawb ohonom at y broblem anweledig hon. Eisoes, mae ein gwasanaeth iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol yn codi'r darnau a adawyd ar ôl o fywydau a ddinistriwyd gan effaith hapchwarae. Rhaid i ddull iechyd cyhoeddus o fynd o'r afael â hapchwarae ymdrin â'i effeithiau ar bobl ifanc a phobl agored i niwed, ar deuluoedd a chysylltiadau agos gamblwyr, ac ar y gymuned ehangach, yn ogystal ag ar y rhai sy'n dioddef niwed o'u gamblo eu hunain. Nawr yw'r amser i weithredu.

19:55

Diolch i chi am y ddadl fer bwysig hon. Mae'n bwynt clyfar iawn, ac er fy mod yn falch eich bod wedi crybwyll yr adroddiad, sef y dystiolaeth wirioneddol newydd gyntaf sydd gennym sy'n canolbwyntio'n benodol ar gymunedau yng Nghymru, yr ail beth yw tynnu sylw at y ffaith bod pawb ohonom bellach yn cael ein lobïo gan ddiwydiant sy'n dechrau pryderu—diwydiant gwerth £37 biliwn—ac mae angen inni fod yn effro iawn. Mae hyn yn debyg iawn i'r hyn a ddigwyddodd gyda'r diwydiant tybaco, a byddwn yn cael mathau tebyg o sylwadau ynglŷn â sut y mae'n ymwneud mewn gwirionedd â lobïo teg, yn union fel y mae'n ymwneud â rheoli drylliau'n deg ac yn y blaen yn America. Felly, mae hynny'n bwysig.

Ein pryder ni, wrth gwrs, yw bod yn rhaid i ni ymdrin â'r mater hwn, oherwydd mae'n rhy hwyr inni ymdrin ag ef pan ddaw'n epidemig. A gaf fi wneud un pwynt yn gyflym iawn i Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod mater gamblo'n ffurfiol, yn penderfynu'n ffurfiol ei bod am ddatblygu strategaeth a phenderfynu'n ffurfiol ei bod yn dechrau gwneud gwaith ymchwil, a'i bod hefyd yn galw am gyllid priodol gan y Comisiwn Hapchwarae, gan y diwydiant, i ariannu peth o hyn mewn gwirionedd.

A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am ganiatáu i mi siarad yn ei dadl fer hefyd? Roeddwn yn un o'r ACau a noddodd yr astudiaeth ar y cyd. Roedd yn ddiddorol darllen y data ar fy etholaeth, Bro Morgannwg. Yn yr adroddiad, nid oedd canol tref y Barri yn cael ei ystyried yn ardal ddwysedd uchel o ran nifer y siopau betio, ond nodwyd nifer uchel yr arcedau difyrion ar Ynys y Barri. Wrth gwrs, mae'n bosibl fod hynny'n cael ei adlewyrchu mewn trefi glan môr eraill ledled Cymru.

Fel y pwysleisiwyd eisoes, crafu'r wyneb yn unig y mae'r adroddiad yn ei wneud. Yn anochel, mae'n gofyn mwy o gwestiynau nag y mae'n eu hateb, ond roeddwn am sôn am un maes a nodwyd yn yr ymchwil sy'n haeddu ei ymchwilio ymhellach: sef ymchwiliad i'r newid yn y ddemograffeg a dargedir gan y diwydiant hapchwarae, ac mae hynny'n cynnwys pobl hŷn. Dywed yr adroddiad fod pobl iau yn tueddu i gael eu heffeithio'n fwy gan hapchwarae, yn enwedig hapchwarae ar-lein drwy ffonau a chyfrifiaduron llechen, ond gwyddom fod nifer gynyddol o bobl hŷn yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac yn ymwneud â thechnoleg newydd. Pa mor agored i niwed hysbysebu gamblo didrugaredd fydd y grŵp hwn o bobl yn y dyfodol? At hynny, o waith achos, mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu, pan fydd pobl hŷn yn wynebu unigrwydd ac arwahanrwydd, gallant fod yn fwy agored i sgamwyr a hyrwyddiadau gamblo. Rydym wedi clywed y prynhawn yma fod hapchwarae'n broblem gudd, ac efallai y bydd pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain ac sy'n teimlo'n ynysig yn arbennig o agored i niwed ac eisiau ymgysylltu'n daer. Efallai y buasai ymchwil pellach i'r risgiau posibl i'r henoed mewn perthynas â hapchwarae yn y dyfodol yn helpu i ateb rhai o'r cwestiynau a godwyd yn yr adroddiad hwn.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, am gyfraniad meddylgar iawn, ac yn yr un modd i Mick Antoniw a Jane Hutt am ychwanegu rhai pwyntiau at hynny yn ogystal. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i gynnal deialog ac i gymryd rhan yn y Siambr i drafod materion yn ymwneud ag effaith gamblo cymhellol yn gymdeithasol ac ar iechyd. Rwy'n falch o ddweud fy mod yn cydnabod bod cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer mynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy’n falch o weld bod Cadeirydd y pwyllgor wedi aros yn y Siambr ar gyfer y ddadl.

Oherwydd fe wyddom fod llawer o bobl, fel y nododd Jayne Bryant, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hapchwarae heb unrhyw broblemau amlwg. Ond rydym hefyd yn gwybod, i rai pobl, a nifer gynyddol o bobl, fod hapchwarae'n tyfu'n ddibyniaeth, sy'n arwain at ganlyniadau niweidiol i iechyd ac yn gymdeithasol. Fel y gŵyr llawer ohonom, mae lefelau gamblo cymhellol yng Nghymru yn gymharol isel, ond mae'r effaith ar iechyd ac yn gymdeithasol yn sylweddol, ac mae'n effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau mwy difreintiedig, sydd bum gwaith yn fwy tebygol o fod â phroblemau ariannol yn deillio o hapchwarae. Ac wrth gwrs, mae hapchwarae bellach yn fwy hygyrch nag erioed o'r blaen, fel y mae'r cyfranwyr wedi nodi. Hapchwarae ar-lein gyda mynediad 24 awr yn y cartref, yn y gwaith, unrhyw le y byddwn, yn cymudo neu'n cysylltu â'n ffonau neu ddyfeisiau symudol—ac mae hapchwarae ar-lein yn y DU wedi cynyddu rhwng 2008 a 2014 o 9.7 y cant i 15.4 y cant o'r boblogaeth.

Mae gamblo ar-lein yn rhoi mwy o gyfleoedd i gamblo i fwy o bobl, gyda llai o gyfyngiadau, ac mae hynny'n amlwg yn achos pryder mawr iawn. Cyfyngedig yw'r mesurau diogelu chwaraewyr i'r rheini sy'n gamblo ar-lein. Wrth gwrs, gall hapchwarae effeithio ar gyflwr meddwl yr unigolyn a gall effeithio ar eu gallu i weithredu yn y gwaith, dwysáu problemau ariannol, ac arwain at lefelau uwch o dlodi. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedwyd eisoes. Ond mae'r niwed a achosir gan hapchwarae i gymdeithas ehangach yn cynnwys nid yn unig yr allbwn economaidd a gollir a chost trin dibyniaeth, ond yr effaith ar iechyd a'r camau a gymerir i liniaru effaith tlodi ar y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt, a'r effaith ar y gymuned ehangach yn ogystal. Gwyddom y gall hyn ymestyn i gynnwys twyll a lladrata, fel gydag amryw o fathau eraill o ddibyniaeth hefyd.

Fel Llywodraeth, ein nod yw gweithio ar draws portffolios i nodi'r camau y gallwn eu cymryd i leihau nifer yr achosion o gamblo cymhellol a chyfyngu ar ei effaith ar bobl Cymru. Fel y gwyddom, nid yw rheoleiddio a thrwyddedu hapchwarae yn faes sydd wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd, ond y flwyddyn nesaf, bydd Deddf Cymru yn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru a'r Cynulliad mewn perthynas â pheiriannau hapchwarae ods sefydlog. Fodd bynnag, ni fydd y pwerau newydd ond yn berthnasol i drwyddedau newydd a gyhoeddir o dan Ddeddf Hapchwarae 2005, ac ni fyddant ond yn ymwneud â pheiriannau hapchwarae sy'n caniatáu betiau o £10 neu fwy am un gêm. Mae'r cyfyngiad ynddo'i hun yn siomedig. Ni fyddant yn berthnasol i drwyddedau safleoedd betio sy'n gysylltiedig â thrac. Felly, nid yw hynny'n cynnwys traciau rasio ceffylau neu gŵn, neu unrhyw le arall lle mae ras neu ddigwyddiadau chwaraeon eraill yn digwydd.

Wrth gwrs, mae gamblo ods sefydlog wedi bod yn ffocws i lawer o sylw yn y cyfryngau yn y misoedd diwethaf. Roeddwn yn falch o glywed Jayne Bryant yn cyfeirio at Carolyn Harris a'i gwaith yn y Senedd. Mae Llywodraeth y DU newydd lansio ymgynghoriad ar argymhellion ar gyfer newidiadau i beiriannau hapchwarae a mesurau cyfrifoldeb cymdeithasol, gyda galwadau am fwy o reoleiddio, gan gynnwys lleihau betiau gamblo ods sefydlog i £2. Daw'r ymgynghoriad hwnnw i ben ar 23 Ionawr y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, rydym yn ystyried opsiynau ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio ein pwerau newydd yn y dyfodol i leihau unrhyw niwed a nodwyd o'r math hwn o hapchwarae, gan ddisgwyl â diddordeb am ganlyniadau terfynol ymgynghoriad Llywodraeth y DU.

Hoffwn nodi'n glir mai barn y Llywodraeth hon yw y dylem gael ein pwerau wedi'u hunioni. Os oes unrhyw beth yn mynd i newid y bensaernïaeth gamblo a'r pwerau sydd ar gael, dylid trosglwyddo'r pwerau hynny i Gymru hefyd, yn hytrach na chael rhaniad artiffisial rhwng y mesurau y gallai'r Llywodraeth hon eu rhoi ar waith a mesurau eraill lle mae'n rhaid i Lywodraeth y DU weithredu, neu ni fydd unrhyw weithredu'n digwydd o gwbl yng Nghymru. Buasai hwnnw'n ganlyniad annymunol iawn i'r ymgynghoriad. Gobeithio y gwelir gweithredu gan Lywodraeth y DU, gan nad yw hwn yn fater gwleidyddiaeth plaid.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod yr angen i weithredu yn awr i fynd i'r afael â phenderfynyddion niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae, gyda'r pwerau sydd wedi'u datganoli i ni. Yng Nghymru, mae gennym nifer o ymyriadau a pholisïau ar waith. Mae'r rhain yn cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, sydd eisoes wedi comisiynu adolygiad i edrych ar newidiadau o ran defnydd tir a ganiateir heb fod angen cais cynllunio. Bydd yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig yn y flwyddyn newydd. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried, yn rhan o hynny, a oes angen newidiadau i atal gorgrynodiad o siopau betio, gan ystyried materion iechyd a'r angen i gynnal bywiogrwydd, hyfywedd ac atyniad canolfannau manwerthu a chanolfannau masnachol sefydledig. Mae hyn yn dychwelyd yn daclus at y pwynt a wnaeth Jane Hutt, pan fyddwch yn meddwl am rai o'n canolfannau lle y ceir crynodiad o'r gweithgaredd hwn eisoes ac rydych yn deall y math o effaith a gaiff ar y gymuned honno, ac nid yn unig fel math o weithgarwch twristiaeth.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu ymchwil i fapio pob lleoliad hapchwarae ar draws Cymru. Dylai hynny eu helpu i gydblethu â'r gwaith a gomisiynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio. Dylai gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnwys map gwres gweledol yn dangos dwysedd lleoliadau hapchwarae yn ddaearyddol, i amlygu ardaloedd lle y ceir crynodiadau o leoliadau hapchwarae. Bydd hynny'n sicr o helpu ein trafodaeth ar y mater hwn ac unrhyw gamau y gallem ddewis eu rhoi ar waith wedyn.

Rydym yn gwybod nad oes unrhyw ymyrraeth feddygol benodol ar gyfer hapchwarae, ond mewn rhai achosion gall ymyriadau seicolegol helpu i ysgogi unigolion i newid eu hymddygiad. Yn 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' rydym wedi cytuno ar gynllun gyda'r GIG i ehangu gwasanaethau therapi seicolegol ar gyfer oedolion a phlant, ac rydym wedi darparu £4 miliwn ychwanegol y flwyddyn i helpu i gyflawni'r cynllun. Er y gall cleifion drafod unrhyw beth gyda'u meddygon teulu, i'r rhai yr effeithir arnynt gan gamblo patholegol neu ddibyniaeth gamblo cymhellol, ceir gwasanaethau eraill y tu allan i'r gwasanaeth iechyd hefyd, fel Gamblers Anonymous neu GamCare, sy'n gallu darparu gwybodaeth a chymorth.

Mae'n werth nodi, o ran yr amrywiaeth o gyfleoedd chwarae sy'n bodoli, mae llawer ohonynt yn cynnwys prynu ar apiau, a cheir ystod o heriau nad ydynt yn annhebyg i rai o'r problemau rydym yn gyfarwydd â hwy mewn perthynas â gamblo. Wrth gwrs, ceir llawer iawn o gemau gamblo ar ddyfeisiau symudol.

Mae sefydliadau eraill ledled Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor, megis canolfannau cyngor ar bopeth. Er enghraifft, mae Cyngor ar Bopeth Casnewydd yn gwneud gwaith ar gefnogi niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae, a ariennir gan GambleAware. Maent yn cyflwyno prosiect lleihau niwed gamblo yng Nghymru. Ei fwriad yw mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae yn y gwraidd drwy addysg a chodi ymwybyddiaeth pobl ifanc a grwpiau eraill sy'n agored i niwed.

Rwyf am gydnabod y pwynt a wnaeth Mick Antoniw ynglŷn â'n sgwrs barhaus gyda'r diwydiant a'r realiti o orfod bod mor gyfrifol â phosibl yn gymdeithasol, ac nid yw'r sgwrs honno wedi gorffen. Wrth inni symud yn agosach at gael rhai pwerau yn y maes hwn, rwy'n tybio ein bod yn fwy tebygol o gael sgwrs fwy cynhyrchiol gyda'r diwydiant.

Rwy'n siŵr y bydd pobl yn yr ystafell hon yn ymwybodol fod y prif swyddog meddygol yn arwain gwaith ar y niwed a achosir gan hapchwarae fel rhan o'r gwaith o ddatblygu ei adroddiad blynyddol, ac edrychaf ymlaen at weld ei argymhellion cychwynnol yn y flwyddyn newydd. Rwyf am ailadrodd ar y pwynt hwn y cynnig a wnaed yn flaenorol wrth ateb cwestiwn blaenorol i Jayne Bryant fel cynigydd y ddadl hon, ond hefyd i Jane Hutt a Mick Antoniw fel aelodau o'r meinciau cefn a helpodd i gomisiynu'r adroddiad hwn ar y cyd, i gyfarfod â swyddogion sy'n ystyried ymateb Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn newydd. Ar ôl comisiynu'r adroddiad a'r diddordeb amlwg sydd ganddynt, credaf y bydd trafodaeth ddefnyddiol i'w chael gyda'r tri ohonynt, a phe bai'r Aelodau am fanteisio ar y cyfle, buaswn yn hapus i drefnu i hynny ddigwydd.

Mae'n amlwg o'r cyfraniadau heddiw y ceir cytundeb fod angen inni weithio ac nid aros i'r broblem waethygu, a bod rhaid i'r gwaith ddigwydd ar draws portffolios yn y Llywodraeth, ond hefyd gyda phartneriaid y tu allan i'r Llywodraeth. Nid yw hwn yn fater y gall un sector fynd i'r afael ag ef yn llwyddiannus ar ei ben ei hun. Ond mae cyfle yma i chwarae rôl arweiniol yn helpu i leihau nifer y bobl sy'n dioddef o gamblo cymhellol ac eraill y mae'n effeithio arnynt. Mae gan ddull amlbartner o weithredu botensial i leihau nifer yr achosion o gamblo cymhellol a'i effaith ar iechyd pobl Cymru ac ar y gymdeithas ehangach.

Yn rhan o'r gwaith hwnnw, dywedaf unwaith eto y buaswn yn annog Llywodraeth y DU i wneud mwy i fynd i'r afael â phryderon yn ymwneud â hysbysebu hapchwarae, i wella diogelwch defnyddwyr ac i fanteisio i'r eithaf ar y gwahanol opsiynau sydd ar gael i ymdrin â gamblo cymhellol ac amddiffyn pobl rhag niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae, gan gynnwys y pwerau a allai ac a ddylai fod ar gael yma yng Nghymru; ac ailadroddaf fy ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth ag Aelodau yn y Siambr hon a'r tu allan i wneud popeth y gallem ac y dylem ei wneud yma yng Nghymru.

20:05

Daeth y cyfarfod i ben am 20:07.