Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
07/06/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a’r cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders.
Diwygio Llywodraeth Leol
1. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau mwy o atebolrwydd democrataidd yn achos unrhyw ddiwygio llywodraeth leol yn y dyfodol? OAQ(5)0131(FLG)
Llywydd, mae’r Papur Gwyn, ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’, yn cynnwys nifer o gynigion i sicrhau mwy o atebolrwydd democrataidd mewn llywodraeth leol. Mae ymatebion yr ymgynghoriad i hyn ac agweddau eraill ar y Papur Gwyn yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fel y gwyddoch, bellach yn bwriadu symud i mewn i adeiladau newydd sbon, o’r radd flaenaf, gyda chost amcangyfrifedig wreiddiol o £35 miliwn, ond wrth gwrs, roedd hynny o dan y weinyddiaeth flaenorol. Fodd bynnag, mae datgeliadau rhyddid gwybodaeth bellach yn dangos bod y gost hon wedi codi o £35 miliwn i £58 miliwn a bod posibilrwydd y gallai godi ymhellach. Ac nid yw hynny’n cynnwys y cyfrifon terfynol a’r ffioedd cynnal a chadw cysylltiedig. Mae’r cytundeb hwn yn ei hanfod yn fenter cyllid preifat o dan enw arall. Yn flaenorol, o dan y broses o ddiwygio llywodraeth leol, gwnaeth y Gweinidog hi’n gwbl glir na ddylid cael gwariant cyfalaf o’r math hwn. O ystyried hynny’n awr, ond wrth symud ymlaen, sut y byddwch yn sicrhau, yn eich deddfwriaeth arfaethedig sydd gennych ar y gweill ar gyfer diwygio llywodraeth leol, nad yw awdurdodau lleol yn ymrwymo i gontractau o’r math hwn a fydd, yn y pen draw, yn creu costau enfawr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn wir, ar gyfer y rhai sy’n talu’r dreth gyngor?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Yn wir, rwyf wedi gweld y wybodaeth a ddarparwyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth, a hyd y gwelaf, mae’r wybodaeth honno’n dangos yn glir fod yr holl benderfyniadau a arweiniodd at y wybodaeth sy’n gyhoeddus wedi’u gwneud yn unol â gweithdrefnau democrataidd y cyngor ei hun. Fodd bynnag, mae’r Papur Gwyn, ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’ yn cynnwys argymhelliad ar gyfer gosod dyletswydd gyfreithiol newydd ar awdurdodau lleol i ymgynghori â phartneriaid a’r cyhoedd wrth bennu cyllidebau ac i wneud hynny bob blwyddyn, ac nid oes amheuaeth y byddai peth o’r wybodaeth sy’n gyhoeddus ar hyn o bryd wedi bod yn gyhoeddus ynghynt pe bai’r weithdrefn honno wedi bod ar waith.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r newidiadau rydych yn eu cynnig yw cyd-fyrddau, sy’n debyg iawn, yn fy marn i, i’r rhai tân ac achub, ar hyn o bryd. A ydych yn cydnabod manteision cael cyd-fyrddau ac a ydych yn credu bod cryn fantais i’w chael o gynnwys cymaint o aelodau o’r awdurdod lleol â phosibl ar y cyd-fyrddau hyn er mwyn iddynt allu adrodd yn ôl, nid yn unig i’w cyngor eu hunain, ond sicrhau y gallant adrodd yn ôl i’w hetholwyr eu hunain gan mai iddynt hwy, yn y pen draw, y maent hwythau, a ninnau, yn atebol bob amser?
Wel, diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn. Mae’n llygad ei le fod y Papur Gwyn yn argymell trefniadau rhanbarthol newydd a roddir ar waith drwy’r hyn y geilw’r Papur Gwyn yn ‘bwyllgorau cydlywodraethu’. Y model hwnnw yw’r un mwyaf cyfarwydd i lywodraeth leol. Yn y ffordd honno y caiff trefniadau gwasanaethau trawsffiniol eu rhoi ar waith gan amlaf yng Nghymru ar hyn o bryd. Maent yn pwyso ar fodelau eraill, megis awdurdodau heddlu yn y gorffennol, lle’r oedd cynghorwyr o wahanol gynghorau sir cyfansoddol—roeddwn i’n un, mae’n ddigon posibl ei fod yntau wedi bod yn un—yn cael eu hanfon i gynrychioli ein cynghorau sir ar gyd-fwrdd ac yna’n cael ein gwneud yn atebol i’r awdurdodau lleol y daethom ohonynt. Felly, mae’n iawn i ddweud bod cryn dipyn o hanes o wneud pethau yn y ffordd hon yng Nghymru, a’r allwedd i’w gwneud yw sicrhau bod y bobl sy’n eistedd ar y byrddau hyn yn gallu bod yn gwbl atebol yn uniongyrchol am y penderfyniadau a wnânt i’w hawdurdodau lleol ac i’r poblogaethau sydd wedi eu hethol.
Cyllideb Llywodraeth Cymru
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn dod â budd i bobl Cymru? OAQ(5)0141(FLG)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn cefnogi ein heconomi ac yn buddsoddi mewn seilwaith hanfodol. Mae wedi amddiffyn pobl Cymru rhag y polisïau caledi aflwyddiannus a ffôl a roddwyd ar waith gan Gangellorion Ceidwadol olynol yn San Steffan.
Wel, diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Er bod gwariant refeniw y pen llywodraeth leol 75 y cant yn uwch yng Nghymru na thros y ffin yn Lloegr, mae gan y rhai sy’n talu’r dreth gyngor yma hawl i ofyn pam fod eu gwasanaethau wedi cael eu torri, pam fod gwasanaethau pryd ar glud wedi dod i ben, pam fod un o bob pum cyfleuster cyhoeddus wedi cau, pam fod gostyngiad o 23 y cant wedi bod yn nifer yr hebryngwyr croesfannau ysgol, pam fod casgliadau biniau wedi eu cyfyngu i unwaith y mis, pam fod yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi codi 14 y cant, a pham fod 142 o ysgolion wedi cau ers 2007. Pa gynlluniau sydd gennych ar waith, wrth symud ymlaen â’r broses o ddiwygio llywodraeth leol, i sicrhau bod proses gan ein hawdurdodau lleol ar gyfer gwario’n ofalus a chyfrifol er mwyn cynnal y gwasanaethau gwerthfawr y mae ein cymunedau yn dibynnu arnynt?
Wel, Llywydd, pan fydd etholwyr yn gofyn y cwestiynau hyn i’w hunain, nid oes amheuaeth y byddant yn dod o hyd i’r ateb o wybod mai’r rheswm pam fod gwasanaethau cyhoeddus lleol o dan bwysau yw oherwydd camau parhaus Llywodraeth y DU i leihau’r swm o arian sydd ar gael i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac sydd yn anochel wedyn yn effeithio ar awdurdodau lleol hefyd. Mae’r Llywodraeth hon, yn sgil ein cyllideb a’n cytundeb gyda Phlaid Cymru fel rhan o hynny, wedi darparu’r setliad gorau i lywodraeth leol yng Nghymru ei gael ers sawl blwyddyn. Fel y dywedais sawl gwaith yn y Siambr hon—ac fe’i dywedaf eto—mae’n darparu cyfnod ar eu cyfer lle mae’n rhaid iddynt gynllunio ar gyfer penderfyniadau anos sydd o’n blaenau, ac mae’r penderfyniadau anos hynny’n deillio’n uniongyrchol o benderfyniadau a wnaed gan ei phlaid sydd mewn grym yn San Steffan.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sylwadau ar ragolygon diweddar gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu y bydd rhaglen flaengar £1.4 biliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion unfed ganrif ar hugain yn chwarae rhan allweddol ym maes cadarnhaol twf, fel y gwelir yn fy etholaeth gydag agoriad yr Ysgol Uwchradd Islwyn newydd? Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi a chroesawu’r newyddion cadarnhaol hwn i Gymru a’r newyddion cadarnhaol hwn i economi Cymru a’r newyddion cadarnhaol hwn i swyddi yng Nghymru?
Diolch i Rhianon Passmore, wrth gwrs, am ei chwestiwn, ac yn wir, rwyf wedi gweld adroddiad Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru, ac mae’n dweud fod disgwyl i allbwn adeiladu yng Nghymru fod yn gryfach nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig dros y pedair blynedd hyd at 2021. Y rheswm pam y bydd allbwn adeiladu mor gryf â hynny yng Nghymru, yn rhannol o leiaf, yw oherwydd y gwerth bron i £7 biliwn o wariant cyfalaf a nodir yn ein cyllideb ar gyfer y pedair blynedd nesaf, ar gyfer buddsoddi mewn ysgolion, buddsoddi mewn tai, buddsoddi mewn trafnidiaeth. Mae’r holl bethau hynny’n dod â gwaith i’r diwydiant adeiladu, a dyna pam fod Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru yn gallu rhagweld y cyfnod cryf iawn hwnnw o allbwn dros y pedair blynedd nesaf.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod Theresa May wedi perfformio mân wyrth yn ystod yr ymgyrch etholiadol hon drwy wneud i Jeremy Corbyn edrych yn hanner etholadwy. Os yw’n llwyddo yfory ac os bydd Llafur yn cael eu hethol ar eu platfform o gynyddu’r dreth gorfforaeth o 19 y cant fel y mae ar hyn o bryd i 26 y cant, mae hynny’n siŵr o gael effaith economaidd andwyol yng Nghymru. A yw wedi gwneud unrhyw asesiad o’r effaith ar hyder busnesau, ar fuddsoddiad busnesau, ac yn wir, ar gyflogau o ganlyniad i gynnydd mor sylweddol yn y dreth gorfforaeth?
Wel, byddwn yn cytuno ag ef i’r graddau fod ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr i’w gweld i mi fel yr ymgyrch a arweiniwyd waethaf ers cyrch y frigâd ysgafn, a gobeithiwn weld canlyniadau hynny yfory. Credaf ei fod yn gwbl anghywir i geisio awgrymu cysylltiad uniongyrchol rhwng cynnydd mewn ffurfiau penodol ar drethiant a’u heffaith yma yng Nghymru. Rwy’n hyderus y byddai Llywodraeth Lafur a etholwyd ar draws y Deyrnas Unedig, a fyddai’n benderfynol o greu’r amodau ar gyfer llwyddiant economaidd, a fyddai’n benderfynol o fuddsoddi yn yr amodau a fydd yn arwain at dwf economaidd a thwf economaidd teg wedi’i rannu gan bawb, o fudd i bobl ledled Cymru.
Ni allaf gredu bod yr Ysgrifennydd cyllid yn credu o ddifrif na fyddai cynnydd mor syfrdanol yn y dreth gorfforaeth yn cael unrhyw effaith ar hyder busnesau, buddsoddiad busnesau, ac yn wir, ar allu cwmnïau i dalu cyflogau, ac felly mae’n rhaid mai’r awgrym yw mai pobl gyffredin yn y pen draw sy’n teimlo gwir gost codiadau o’r fath mewn trethi busnes, drwy gyfyngiadau ar godiadau cyflog, neu’n wir, drwy ostwng cyflogau, ac yn wir, drwy ddiweithdra. Yn 2009, cyhoeddodd yr Oxford University Centre for Business Taxation astudiaeth economaidd bwysig a ddaeth i’r casgliad y byddai cynnydd o £100 yn y dreth gorfforaeth yn torri £75 oddi ar gyflogau drwy gyfuniad o gyflogau is a llai o swyddi. A yw’n credu o ddifrif fod hynny er budd pobl sy’n gweithio?
Wythnos ar ôl wythnos yma yn y Cynulliad, Llywydd, clywn yr Aelod yn cynnig ei fersiwn ef o economeg cyflenwi. Mae’n gaeth i gromlin Laffer y cyfeiriodd ati’n anuniongyrchol yn y fan honno. Ni allaf gofio pa economegydd—efallai mai J.K. Galbraith a ddywedodd mai gwir rym esboniadol cromlin Laffer oedd y gallech ei disgrifio i gyngreswr mewn chwe munud, a gallech barhau i’w hailadrodd am chwe mis, ac rydym wedi ei chlywed yn cael ei hailadrodd yma ers misoedd bwy’i gilydd. [Torri ar draws.] Ie, blynyddoedd bellach, bron â bod. Rwy’n gwrthod derbyn dull economeg cyflenwi sylfaenol yr Aelod. Mae’n credu bod toriadau treth yn arwain at dwf economaidd a bod codi trethi yn arwain at ddirywiad economaidd. Nid wyf yn credu bod hynny’n cael ei gadarnhau gan y dystiolaeth empirig pan roddwyd y pethau hyn ar waith.
Mae cryn dipyn o dystiolaeth empirig sy’n profi gwrthwyneb yr hyn y mae’r Ysgrifennydd cyllid yn ei honni. Nid cyfeirio at fy astudiaeth i a wneuthum funud yn ôl; roedd honno’n astudiaeth academaidd a gyflawnwyd yn hollol annibynnol gan yr Oxford University Centre for Business Taxation. Os ydych yn codi trethi, rhaid ei bod yn amlwg fod hynny’n cael rhywfaint o effaith economaidd, boed drwy ostyngiadau neu godiadau. Ac o ystyried bod trethi busnes yn lleihau faint o arian sydd ar gael i gwmnïau ei fuddsoddi, ac yn wir, i’w ddosbarthu i gyfranddalwyr ac i weithwyr ar ffurf cyflogau, mae’n anochel y byddai sgil-effeithiau sylweddol o ganlyniad i gynnydd mor ddramatig mewn trethi ag y mae’r Blaid Lafur yn ei argymell. Yn yr amgylchiadau hynny, mae’n sicr o gael effaith ar Gymru yn benodol. A chan mai 75 y cant yn unig o werth ychwanegol gros cyfartalog y Deyrnas Unedig sydd gennym yng Nghymru—ni yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig—y bobl dlotaf yn rhan dlotaf y Deyrnas Unedig sy’n mynd i ddioddef fwyaf o ganlyniad i Lywodraeth Lafur.
Llywydd, aeth Bill Clinton ati i godi trethi. Cododd y dreth ac aeth y ddyled gyhoeddus yn llai. Aeth ei olynydd, George W. Bush, ati i dorri trethi. Casglwyd llai o drethi, a gadawodd ei swydd gyda dyled gyhoeddus o 101 y cant o’r lefel a adawodd Clinton iddo ym mlwyddyn olaf ei arlywyddiaeth. Mae’n hollol anghywir awgrymu, fel y gwna’r Aelod dro ar ôl tro, mai i un cyfeiriad yn unig y gall economïau symud, a byddai ei gyfarwyddyd ef, sef torri trethi, yn rhoi arian i bobl gyfoethog, ac yn mynd ag ef oddi wrth bobl a fyddai fel arall yn ei wario ac yn creu gweithgarwch economaidd, yn niweidiol iawn i’r ffordd rydym yn gwneud busnes yng Nghymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Roeddwn yn meddwl tybed a gaem ddychwelyd at dranc fformiwla Barnett, y gorliwiwyd y sibrydion yn ei gylch, o bosibl. Clywsom yn gynharach yn yr wythnos gan Brif Weinidog Cymru ei bod yn mynd i gael ei diddymu. Mae Kezia Dugdale, arweinydd Plaid Lafur yr Alban, fel y gwyddom, wedi’i chofnodi’n dweud,
Byddaf yn cadw fformiwla Barnett heddiw, yfory ac am byth,
sy’n swnio’n eithaf pendant i mi. Nawr, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi siarad â Kezia Dugdale. Wel, ar ambell achlysur prin, fe fydd yn siarad gyda mi hyd yn oed, ond nid yw hynny’n golygu ein bod o reidrwydd yn cytuno. Felly, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddefnyddio’i drylwyredd pwyllog arferol wrth ateb y cwestiwn hwn, a dweud wrthym beth a olygir wrth y diwygio hirdymor o ran y modd y mae’r DU yn dyrannu gwariant cyhoeddus a nodir ym maniffesto’r Blaid Lafur? A yw o reidrwydd yn golygu cael gwared ar fformiwla Barnett a chael rhywbeth arall yn ei lle? Beth yw’r amserlen ar gyfer y diwygio hwnnw, a phryd y byddai’r effeithiau’n dechrau dod i’r amlwg yma yng Nghymru, pe bai Llywodraeth San Steffan yn newid?
Llywydd, gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe. Credwn ei fod wedi nodi ei safbwynt yn glir iawn y bydd fformiwla Barnett yn parhau yn y tymor byr, a’r tymor canolig yn ôl pob tebyg, wrth edrych am rywbeth yn ei lle. Fformiwla ariannu deg ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan fydd yr ateb hwnnw, gydag angen cymharol yn ganolog iddo.
Gadewch inni ystyried y tymor byr i’r tymor canolig, felly. Yn ddiweddar, ym mis Ionawr eleni, llofnododd Llywodraeth Cymru fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth San Steffan. Ai bwriad Llywodraeth Cymru, pe bai Llywodraeth San Steffan yn newid, yw ailedrych ar y cytundeb hwnnw ac aildrafod rhai agweddau arno—er enghraifft, y risg refeniw’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n elfen ohono, y cyfyngiad ar fenthyca ar hyn o bryd a’r ffaith, wrth gwrs, fod oes yr asesiad o anghenion gyda’r fframwaith cyllidol hwnnw eisoes wedi darfod? Felly, a allem gael ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y byddai’r fframwaith cyllidol yn cael ei aildrafod ar unwaith pe bai’r hinsawdd wleidyddol yn San Steffan yn newid?
Llywydd, mae’r fframwaith cyllidol eisoes yn caniatáu iddo gael ei ailystyried. Mae mecanwaith ynddo sy’n caniatáu i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ei gwneud yn ofynnol i ailystyried ei delerau. Bydd Llywodraeth newydd yn San Steffan yn newid llawer o bethau yn y berthynas rhyngom ni a’r Llywodraeth a fydd yn cael ei ffurfio yno. Os bydd Llywodraeth Lafur yn cael ei ffurfio yfory, fel y gobeithiwn, bydd y fframwaith cyllidol hwnnw’n rhan o’r berthynas newydd honno.
O ran y cwestiwn ehangach ynglŷn â fformiwla Barnett, a gaf fi holi Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â rhywbeth rhyfedd iawn, yn fy marn i, ym maniffesto’r Blaid Lafur? Mae’n nodi’r broses o greu banc buddsoddi cenedlaethol—rwy’n cefnogi’r egwyddor honno’n llwyr—banc buddsoddi cenedlaethol gyda £250 biliwn o fuddsoddiad, gyda £10 biliwn ohono’n cael ei ddosrannu i Gymru a’r banc datblygu sy’n cael ei greu yma. Nawr, yn ôl fy nghyfrif i, mae hynny’n cyfateb i oddeutu 4 y cant o’r cyfanswm ar gyfer y banc buddsoddi cenedlaethol, hynny yw, nid yw Cymru hyd yn oed yn cael ei chyfran yn ôl y boblogaeth, heb sôn am swm canlyniadol Barnett, i bob pwrpas, o’r buddsoddiad hwnnw. Ac eto, dywedir wrthym mai dyma’r offeryn a fydd yn lleihau’r gwahaniaeth mewn ffyniant ledled y DU.
Yn olaf, hefyd, tan 2019-20 yn unig y mae’r ymrwymiad ar gyfer y cronfeydd strwythurol yn para. Nid oes ymrwymiad, mewn gwirionedd, y tu hwnt i hynny, i greu cronfa cydlyniant hirdymor fel rhan o bolisi economaidd rhanbarthol ehangach. Ar y ddau bwynt hwn, pam fod maniffesto’r Blaid Lafur mor hynod o wan mewn gwirionedd wrth nodi dulliau go iawn a all ddechrau ar y gwaith o leihau’r gwahaniaeth mewn cyfoeth a welwn ledled y DU?
Wel, roeddwn yn falch o glywed yr Aelod yn croesawu’r camau a nodwyd ym maniffesto’r Blaid Lafur i sicrhau y bydd buddsoddi mawr yn y math o seilwaith a fydd mor bwysig i economi’r DU ac i economi Cymru. Mae ein maniffesto’n ei gwneud yn glir y bydd cyfran uniongyrchol i Gymru yn y buddsoddiad a wneir gan Lywodraeth Lafur newydd, a gallaf ddweud wrtho, o ran parhad y cronfeydd cydlyniant, fod fy mhlaid wedi ymrwymo i’r egwyddor fod y buddsoddiad y mae Cymru wedi llwyddo i’w sicrhau gan yr Undeb Ewropeaidd, yn seiliedig ar ein hanghenion cymharol, yn parhau i fod ar gael i Gymru wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, ni chynigodd Llywodraeth Cymru y cynnig i gytuno’r penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)—y tro cyntaf, rwy’n credu, i hyn ddigwydd, er bod problemau wedi bod gyda chostio deddfwriaeth yn flaenorol. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, a ydych yn pryderu ei bod yn ymddangos bod y costau sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth a gyflwynir gan y Llywodraeth yn aml iawn—ar y gorau—yn niwlog, neu fel ddoe, yn gwbl gamarweiniol?
Cadeirydd, gwelais y llythyr a anfonodd Alun Davies at holl Aelodau’r Cynulliad yn esbonio pam nad oedd am gynnig y penderfyniad ariannol ddoe ac yn rhoi ymrwymiad cadarn iawn i gynnig penderfyniad o’r fath ym mis Medi, pan fydd yr Aelodau wedi cael asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i ddiweddaru. Bydd hwnnw’n rhoi’r ffigurau i’r Aelodau a gobeithiaf y byddant yn rhoi’r hyder iddynt gefnogi’r penderfyniad ariannol hwnnw.
Byddwn yn ymateb i’r pwynt cyffredinol a wnaeth Nick Ramsay drwy ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn fod cynigion Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno gydag asesiad effaith rheoleiddiol mor ddibynadwy â phosibl. Ceir amgylchiadau lle mae’n rhaid gwneud rhagdybiaethau, a lle mae’n rhaid i chi allu sicrhau’r ddarpariaeth orau o wybodaeth ag y gallwch o dan yr amgylchiadau, ond cyfrifoldeb y Gweinidogion sy’n cyflwyno’r deddfau hyn yw gwneud yn siŵr ein bod wedi gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y wybodaeth mor ddibynadwy ag y gall fod, a bod hynny wedyn yn cael ei brofi gan yr Aelodau yma. Gwn fod y Pwyllgor Cyllid yn gwneud gwaith sy’n edrych ar yr agwedd hon ar y ffordd y mae’r system yn gweithio yma yn y Cynulliad. Edrychaf ymlaen at roi tystiolaeth i’r ymchwiliad hwnnw, ac rwy’n siŵr y bydd yn cynnwys pethau y gallwn eu dysgu ac a fydd o gymorth i ni gryfhau’r system er mwyn darparu’r math o sicrwydd roedd Nick Ramsay yn edrych amdano.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n cytuno’n llwyr â’r penderfyniad ddoe i oedi neu ohirio cytundeb ariannol y Cynulliad hwn i’r Bil hwnnw. Wrth ofyn y cwestiwn heddiw, nid wyf mewn unrhyw ffordd yn eich beio am rai o’r problemau a gawsom gyda chostio’r ddeddfwriaeth; nid wyf ond yn gofyn i chi am fod gennych, yn eich rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, safbwynt cyffredinol ar y ffordd y mae’r sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn ariannol. Felly, dyna’r rheswm drosto.
Fe sonioch am y Pwyllgor Cyllid. Fe’i hystyriwyd gennym y bore yma, ac fel Aelod o’r Pwyllgor Cyllid a fu’n ystyried asesiad effaith rheoleiddiol y Bil yn y lle cyntaf, rwy’n rhannu pryderon y Cadeirydd na rannwyd newidiadau mawr i’r asesiad hwnnw gyda ni tan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer adroddiad Cam 1. Daeth i’r amlwg y bydd y Bil yn costio £8.3 miliwn dros y cyfnod gweithredu o bedair blynedd, yn hytrach nag arbed £4.8 miliwn. Felly, rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â bod hon yn gelfyddyd lawn cymaint ag y mae’n wyddor o ran darogan costau, ac ni allwch fod yn iawn bob amser, ond yn yr achos penodol hwn gyda’r Bil hwnnw y buom yn ei drafod ddoe, rydym edrych ar wahaniaeth o dros £13 miliwn—£13.1 miliwn—rhwng y rhagfynegiad a’r hyn y gallwn ddisgwyl i’r gost fod bellach. Felly, nid manylion bychain a arweiniodd at dynnu’r cynnig yn ôl ddoe. A gaf fi ofyn i chi: pa fewnbwn sydd gennych i sicrhau bod data ariannol cywir yn cael ei ddarparu mewn modd amserol ar gyfer deddfwriaeth newydd fel nad yw’r mathau hyn o wallau’n digwydd yn y dyfodol?
Wel, Cadeirydd, y ffordd y mae’r system yn gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol yw bod pob Gweinidog yn uniongyrchol gyfrifol am gynhyrchu’r memoranda esboniadol a’r asesiadau effaith rheoleiddiol a ddaw gyda hwy. Ceir darn o waith a wneir o’r canol, drwy swyddfa’r prif economegydd, i sicrhau bod y fethodoleg a ddefnyddir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn addas at y diben. Mae’r ffigurau penodol a ddefnyddir wedyn yn y fethodoleg honno yn gyfrifoldeb i’r Ysgrifennydd Cabinet unigol. Roedd y llythyr a dderbyniodd yr Aelodau ddoe gan yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil hwnnw yn esbonio pam y bu’n rhaid ailedrych ar y ffigurau a ragfynegwyd yn wreiddiol. Credaf, fel y dywedodd Nick Ramsay, mai dyma’r tro cyntaf i benderfyniad ariannol gael ei ohirio yn y modd hwn. Er fy mod yn sicr y byddai’n well gan yr Aelod sy’n gyfrifol fod wedi gallu cynnig y penderfyniad ariannol ddoe, mae’r ffaith fod ganddo gynllun i’w gyflwyno ym mis Medi yn dangos bod y rhwystrau a’r gwrthbwysau yn ein system wedi llwyddo i nodi’r angen am ragor o waith ar hynny.
Diolch. Rwy’n llwyr werthfawrogi mai cyfrifoldeb yr Aelod sy’n gyfrifol ydyw yn y lle cyntaf, ond mae gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gyfrifoldeb cyffredinol am gadernid ariannol Llywodraeth Cymru—nid yw’n dasg hawdd, rwy’n cydnabod hynny. Ac rwy’n derbyn bod y broses gyfan gyda’r asesiadau effaith rheoleiddiol yn broses sy’n datblygu, ac rwy’n siŵr y bydd yr adolygiad a gyflawnir gan y Pwyllgor Cyllid o dan stiwardiaeth y Cadeirydd yn darparu rhai argymhellion cryf ar eich cyfer yn hynny o beth.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwyddom fod y Cynulliad hwn yn pasio mwy a mwy o ddeddfau, ac y bydd hynny’n cynyddu eto yn y dyfodol. Yn anochel, bydd y pwysau ar y swyddogion sy’n darparu’r data ariannol a’r asesiadau effaith rheoleiddiol hefyd yn cynyddu’n barhaol, felly mae’n bwysig inni sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Mae’r broses hon yn dibynnu ar gostio cywir a thryloywder. A wnewch chi gytuno i weithio’n agosach fyth gyda’r adrannau a’r Aelodau sy’n gyfrifol, gan weithio ar ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau bod y costau’n gywir ac y gallwn ni fel Aelodau’r Cynulliad, ac yn wir, y cyhoedd yn y pen draw, fod yn hyderus ein bod—pob un ohonom, yn enwedig Llywodraeth Cymru a chi—yn cadw llygad barcud ar gyllid wrth i’r ddeddfwriaeth gael ei datblygu, er mwyn i gyllid cyhoeddus yng Nghymru mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei phasio gan y lle hwn allu bod mor gadarn â phosibl?
Llywydd, a gaf fi ei gwneud yn glir fy mod yn cytuno â neges ganolog y cwestiynau a ofynnwyd gan Nick Ramsay y prynhawn yma? Mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb pwysig, wrth gyflwyno deddfwriaeth, i sicrhau bod y costau cysylltiedig yn cael eu cyfrifo mor drwyadl ac mor ddibynadwy ag y gallwn. Mae’r system sydd gennym yn system sy’n aeddfedu. Wrth iddi aeddfedu, dylem allu gwneud hyn yn well. Credaf y bydd ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid yn gyfraniad defnyddiol at y broses honno, ac mae’n uchelgais gennyf sicrhau fel y Gweinidog cyllid a fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet, fe wn, pan fyddwn yn cyflwyno’r cynigion ar lawr y Cynulliad, eu bod yn seiliedig ar gymaint o ddadansoddiadau a data cadarn ag y gallant fod.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ(5)0137(FLG)] yn ôl.
Hybu Amrywiaeth
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hybu amrywiaeth yn sefydliadau democrataidd Cymru? OAQ(5)0142(FLG)
Mae llawer o dir ar ôl i’w ennill cyn y gallwn fod yn hyderus fod sefydliadau democrataidd Cymru yn llwyr adlewyrchu’r boblogaeth y dônt ohoni. Mae hybu amrywiaeth yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sydd â diddordeb yn iechyd democratiaeth Cymru.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan ei bod bellach yn 2017, ac nid yn 1917, roeddwn i, ynghyd â llawer o bobl eraill, rwy’n siŵr, yn siomedig o weld Cyngor Bro Morgannwg yn cyhoeddi cabinet newydd o saith dyn gwyn yn dilyn etholiadau’r cynghorau lleol. Croesawaf fentrau Llywodraeth Cymru i hybu amrywiaeth a chymeradwyaf gynghorau megis Caerffili, sydd, er nad ydynt wedi sicrhau cydbwysedd llawn rhwng y rhywiau, wedi penodi pedair menyw i gabinet o naw. Os yw cyngor Merthyr, fel y gobeithiaf, yn mynd i barhau i fod o dan reolaeth y Blaid Lafur yn dilyn etholiad gohiriedig ward Cyfarthfa yfory, byddaf yn annog y cyngor i roi camau cadarnhaol ar waith tuag at ffurfio cabinet gyda chydbwysedd rhwng y rhywiau yno, ond rwy’n cydnabod hefyd fod llawer o waith ar ôl i’w wneud yn ardal y cyngor hwnnw yn ogystal. Felly, a wnewch chi ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i annog pob awdurdod lleol yng Nghymru i edrych ar benodi cabinetau sy’n adlewyrchiad llawer gwell o’r poblogaethau y maent yn eu gwasanaethu?
Llywydd, cytunaf yn llwyr ei bod yn bwysig iawn fod arweinyddiaeth wleidyddol ar lefel leol yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y bydd yr awdurdod lleol hwnnw’n eu gwasanaethu. Mae’n siomedig gweld y bydd yna un cyngor yng Nghymru lle bydd lefel yr amrywiaeth yn go isel. Hwnnw yw’r unig awdurdod lleol yng Nghymru lle bydd hynny’n wir, ac mae enghreifftiau llawer gwell mewn rhannau eraill o Gymru. Mae mentrau newydd diddorol yn cael eu treialu mewn rhannau o Gymru. Ceir swydd a rennir yn y cabinet yn Abertawe, er enghraifft, sy’n cyfrannu at amrywiaeth rhwng y rhywiau yn y cabinet yno. Felly, rydym yn gweld pethau’n symud ymlaen mewn sawl rhan o Gymru. Mae gennym bedair menyw’n arwain cynghorau bellach, ac nid yw hynny’n hanner digon, ond mae’n ddwywaith cymaint â’r nifer a oedd gennym yn y rownd ddiwethaf. Rwy’n annog yr holl awdurdodau lleol a holl arweinwyr yr awdurdodau lleol, wrth ffurfio cabinetau, i feddwl am y ffordd y bydd eu poblogaethau lleol yn dymuno gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn yr arweinyddiaeth y mae cabinetau’r cynghorau hynny yno i’w darparu.
Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ymuno â mi i longyfarch y Cynghorydd James Lusted yn Llandrillo-yn-Rhos ar gael ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Y Cynghorydd Jay yw’r cynghorydd cyntaf â thwf cyfyngedig a etholwyd yma yn y DU. Mae ganddo hanes balch iawn o ymgyrchu dros hawliau anabledd. Tybed beth fyddwch yn ei wneud, yn benodol, nid yn unig i fynd i’r afael â’r broblem o ran y rhywiau yng ngwleidyddiaeth llywodraeth leol yng Nghymru, ond i sicrhau hefyd fod pobl ag anableddau’n cael eu cynrychioli’n briodol yn yr awdurdodau lleol hefyd.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at fater pwysig anabledd a chynrychiolaeth ar lefel yr awdurdodau lleol. Rwy’n llongyfarch yr holl bobl a safodd etholiad a’r rhai a fu’n llwyddiannus, ac yn enwedig pobl a fydd yn gwybod, wrth gymryd y cam dewr hwnnw, weithiau, i gyflwyno eich hun gerbron y cyhoedd, y bydd heriau ychwanegol yn eu hwynebu wrth iddynt geisio ennyn sylw’r cyhoedd ac egluro pam y gallent fod yn rhywun a allai gynrychioli pobl yn llwyddiannus.
Deilliodd ein rhaglen amrywiaeth a democratiaeth, a roddwyd ar waith gennym yn y Cynulliad diwethaf o fis Hydref 2014 hyd at fis Mawrth eleni, o’r adroddiad dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister ar greu mwy o amrywiaeth ymysg y boblogaeth. Cymerodd 51 o unigolion ran yn y rhaglen honno. Gwirfoddolodd 65 o gynghorwyr i fod yn fentoriaid iddynt. Roedd yn cynnwys pobl ag anableddau, ac fe’i lluniwyd i geisio helpu i oresgyn rhai o’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ymgeisio i sefyll etholiad. A lle mae pobl yn gwneud hynny ac yn gwneud hynny’n llwyddiannus, maent yn fodelau rôl pwerus iawn i eraill a fydd, gobeithio, yn dilyn eu hesiampl.
Amrywiaeth yn Llywodraeth Leol Cymru
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymdrechion i wella lefelau amrywiaeth yn llywodraeth leol Cymru yng ngoleuni etholiadau'r cynghorau lleol? OAQ(5)0143(FLG)
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Fel y dywedais yn awr, cyn yr etholiadau llywodraeth leol, rhoddodd Llywodraeth Cymru nifer o brosiectau ar waith yn rhan o’r rhaglen amrywiaeth mewn democratiaeth. Rydym bellach yn bwriadu cynnal gwerthusiad llawn o’r rhaglen, gan edrych ar y bobl a gymerodd ran ynddi a’u llwyddiant mewn etholiadau, gyda’r bwriad o ddysgu ohoni a datblygu’r agenda amrywiaeth ymhellach.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn ein bod eisoes wedi trafod y mater hwn yma heddiw—roeddwn yn awyddus i dynnu sylw at lwyddiannau cyngor Rhondda Cynon Taf, lle mae 43 y cant o’r cynghorwyr yn fenywod, fel y mae pedair o’r naw aelod o’r cabinet, ac mewn gwirionedd, yn fy etholaeth i, etholwyd mwy o gynghorwyr benywaidd nag o ddynion. Yn amlwg, fodd bynnag, o’r sylwadau a glywsom yma heddiw, mae angen gwneud cynnydd mewn mannau eraill. A oes unrhyw beth arall y gallwch ei ychwanegu at yr ateb rydych eisoes wedi’i roi i fy nghyd-Aelod Dawn Bowden ynglŷn â sut y gallwn roi camau mwy ymarferol ar waith, yn ogystal ag annog cynghorau lleol i fabwysiadu’r arferion gorau?
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac rwy’n rhannu ei llongyfarchiadau i Rondda Cynon Taf ac i’r menywod a fu’n llwyddiannus yno, ac fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i Dawn Bowden, rydym yn dal i fod ymhell o ble y byddem yn dymuno bod o ran amrywiaeth y gynrychiolaeth ledled Cymru. Ond mae rhywfaint o newyddion da gan fod nifer y menywod a etholwyd am y tro cyntaf i awdurdodau lleol yng Nghymru ym mis Mai eleni wedi codi ledled Cymru, ac mae pobl newydd hynod o dalentog—ac ifanc yn aml—yn dod i mewn i’r awdurdodau lleol yng Nghymru, a chredaf ein bod yn ffodus i weld y genhedlaeth newydd honno o wleidyddion sy’n barod i wneud y swyddi pwysig hyn. Byddwn yn gweithio, drwy’r uned ddata llywodraeth leol, i ddadansoddi’r patrymau o bobl sy’n barod i sefyll a sut yr etholwyd pobl yn yr etholiadau a gynhaliwyd y mis diwethaf. Byddwn yn ceisio adeiladu ar ein rhaglen amrywiaeth mewn democratiaeth, gan weithio’n uniongyrchol gydag unigolion, cyfleu negeseuon mewn ysgolion, darparu gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, i geisio cyrraedd ymhellach i mewn i’r cymunedau, er mwyn denu ystod ehangach o unigolion sy’n barod i gynnig eu hunain ar gyfer y cyfrifoldebau pwysig hyn.
Yn rhy aml o lawr, nodweddwyd gyrfa 13 mlynedd fy ngwraig fel cynghorydd yn Sir y Fflint gan fwlio misogynistaidd. Yn ei hwythnos gyntaf yno, cafodd gyfarfod preifat gyda’r swyddog monitro, i ofyn iddo ofyn i swyddogion roi’r gorau i gyfeirio at gynghorwyr benywaidd fel ‘Mrs’, pan oeddent yn cyfeirio at bob cynghorydd gwrywaidd fel ‘Cynghorydd’. Y diwrnod wedyn, roedd ar dudalen flaen y papur lleol: ‘Don’t call me "Mrs".’ Yn fwy diweddar, trodd dirprwy arweinydd y cyngor at y cyfryngau cymdeithasol i wneud sylwadau misogynistaidd, bwlïaidd yn ei herbyn, cyn torri’r camau unioni a gytunwyd o dan weithdrefn leol yr ombwdsmon ar gyfer datrys anghydfodau.
Yn yr etholiadau llywodraeth leol diweddar, cafodd e-bost bygythiol gan brif weithredwr a swyddog canlyniadau a oedd i fod yn annibynnol, yn dweud wrthi, os nad oedd yn tynnu’r cynnwys pleidiol a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth oddi ar ei thaflen, nad oedd ef—a dyfynnaf—yn dymuno bod mewn sefyllfa lle y byddai’n rhaid iddo gyhoeddi darn cywirol yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Aeth yn sâl o ganlyniad i hyn, a llawer iawn mwy, dioddefodd byliau o orbryder ac ni allai ymladd yn ôl mwyach. A ydych yn cytuno bod yn rhaid rhoi diwedd ar y math hwn o ddiwylliant gwleidyddol os ydym am ddenu mwy o fenywod i lywodraeth leol, ac os ydych yn cytuno, pa gamau—pa gamau amhleidiol—y bwriadwch eu cymryd?
Wel, Llywydd, gadewch i mi fod yn gadarnhaol: credaf fod gan bob awdurdod lleol, arweinyddiaeth wleidyddol ac arweinyddiaeth broffesiynol ddyletswydd i sicrhau bod cyd-destun yn cael ei greu lle mae pobl o bob cefndir yn teimlo’n gyfforddus wrth ymgymryd â chyfrifoldebau swydd etholedig, a lle mae’r cyfraniadau a wnânt yn cael eu cydnabod a’u parchu. Yn y Papur Gwyn a gyhoeddais ar ddiwygio llywodraeth leol, rydym yn argymell gosod dyletswyddau newydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn awdurdodau lleol i gynnal y safonau ymddygiad y byddem yn disgwyl eu gweld, ac i sicrhau bod y berthynas barchus rhwng aelodau etholedig, sy’n cydnabod amrywiaeth ac yn ei dathlu yn hytrach na cheisio’i dileu, yn ganolog i’r ffordd rydym yn cyflawni gwaith llywodraeth leol yma yng Nghymru.
Asedau Awdurdodau Lleol
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am asedau sy’n eiddo i awdurdodau lleol? OAQ(5)0134(FLG)
Diolch i Russell George am ei gwestiwn. Mae awdurdodau lleol yn berchen ar asedau sylweddol ym mhob rhan o Gymru. Mae’n rhaid rheoli a defnyddio’r asedau hynny’n effeithiol er mwyn creu arbedion effeithlonrwydd ehangach mewn llywodraeth leol ac mewn cydweithrediad â phartneriaid eraill mewn gwasanaeth cyhoeddus.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n ei groesawu’n fawr iawn. Mae ffordd osgoi’r Drenewydd yn gyfle enfawr i’r Drenewydd yng nghanolbarth Cymru ac rwy’n awyddus i weld cefnogaeth i ganol y dref yn y Drenewydd pan fydd y ffordd osgoi yn cael ei chwblhau. Nawr, ceir darn o dir sy’n eiddo i Gyngor Sir Powys ac sy’n cael ei ddefnyddio fel maes parcio yng nghanol y dref, ond oherwydd darpariaeth adfachu hanesyddol, nid yw’r awdurdod lleol wedi gallu datblygu neu adfywio’r ardal. Nawr, mae trafodaethau wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru, yr ymddengys eu bod yn rhoi cytundeb adfachu mewn grym, a’r cyngor, ond ychydig o gynnydd a wnaed. Felly, rwy’n ddiolchgar am eich ateb i mi y dylid defnyddio’r tir hwn er y budd gorau, ac yng ngoleuni’r ateb hwnnw, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn fodlon cyfarfod â mi, gyda’ch swyddogion perthnasol, i drafod hyn yn fanylach er mwyn ceisio datrys y mater penodol hwn.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Nid yw’n fater rwy’n hollol gyfarwydd ag ef, felly rwy’n berffaith hapus i’w archwilio ac i siarad ag ef ymhellach ynglŷn â hynny.
Dinas-ranbarth Bae Abertawe
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0136(FLG)
Wel, diolch yn fawr, wrth gwrs, am y cwestiwn. Nod bargen dinas-ranbarth bae Abertawe yw rhoi hwb o £1.8 biliwn i’r economi leol, i greu bron 10,000 o swyddi newydd, ac adeiladu ar y llu o gryfderau sydd gan yr holl ranbarth yn barod.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, pan ddatblygwyd y fargen ddinesig yn gyntaf, roedd y syniad o ddatblygu arfordir y rhyngrwyd yn seiliedig i raddau helaeth ar adeiladu priffordd ddigidol i gysylltu’r DU a Gogledd America, gyda chebl band eang trawsatlantig yn glanio ym mae Oxwich yn y Gŵyr. Mae’r elfen honno bellach yn cael llai o sylw nag a gâi ar un adeg. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gwaith o gyflenwi’r cebl trawsatlantig a’i bwysigrwydd i lwyddiant y fargen ddinesig?
Wel, Llywydd, mae’r Aelod yn llygad ei le fod y cebl yn rhan annatod o’r trafodaethau a ddechreuodd fargen ddinesig Abertawe, ac roedd cysylltiad cryf rhwng arweinyddiaeth Syr Terry Matthews a’r syniad o arfordir y rhyngrwyd. Fel y gŵyr yr Aelod, mae gan y fargen ddinesig, fel y’i cytunwyd yn y pen draw, 11 o brosiectau penodol yn ganolog iddi. Mae dau o’r prosiectau hynny’n cwmpasu’r rhanbarth cyfan—sef buddsoddi mewn seilwaith a mentrau digidol i sicrhau ein bod yn datblygu sgiliau a thalentau’r bobl sy’n byw ym mhob cwr o ranbarth Bae Abertawe. Bydd y cysylltydd, a’r ffordd y bydd yn dylanwadu ar y fargen yn ei chyfanrwydd, bellach yn rhan o’r gwaith o ddatblygu cynlluniau’r prosiectau hynny, gan fod yn rhaid i’w fersiynau terfynol gael eu cymeradwyo gan Lywodraethau Cymru a’r DU, yn ogystal â’r Cabinet rhanbarthol a fydd yn rhan o’r broses o lywodraethu’r fargen.
Wel, wynebodd yr arweinwyr sy’n gyfrifol am y cais hwn ddiwydrwydd dyladwy trwyadl iawn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac rwy’n siŵr eich bod wedi rhagweld cerrig milltir penodol yn cael eu gosod er mwyn nodi cynnydd a addawyd, yn gyntaf o ran darparu’r strwythur llywodraethu hwnnw roeddech yn sôn amdano, ac yn ail o ran y math o rawiau trosiadol yn y ddaear, os mynnwch, a dechrau gwario arian ar y prosiectau hynny. Pryd y disgwylir cyrraedd y gyntaf o’r cerrig milltir yn y ddau faes a pha fecanwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn ei disgwyliadau ei hun ar gyfer canlyniadau’r fargen?
Diolch i Suzy Davies am hynny. Mae’n llygad ei lle i ddweud bod y broses o archwilio’r cytundeb wedi bod yn drwyadl ac wedi cynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. O ganlyniad, mae cyfres o fecanweithiau naill ai eisoes ar waith neu ar fin cael eu cadarnhau i sicrhau bod yr ymdeimlad hwnnw o drylwyredd yn parhau wrth ddatblygu’r cytundeb yn y dyfodol. Felly, mae’n rhaid i dîm cyflawni’r fargen ddinesig, sef y tîm ar lawr gwlad, ddarparu adroddiadau chwarterol am eu gweithgarwch i Lywodraeth y DU ac i Lywodraeth Cymru, a byddwn yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf yn y ffordd chwarterol honno.
Fel y dywedais wrth Dai Lloyd, ni fydd yr 11 prosiect yn cael eu cymeradwyo’n derfynol hyd nes y cyflwynir achosion busnes llawn i’r holl bartneriaid, ac y bydd gennym gynllun gweithredu, monitro a gwerthuso wedi’i gytuno a fydd yn cael ei roi ar waith yn awr, ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol ac wrth i’r partneriaid ddod at ei gilydd eto, er mwyn inni fod yn sicr y gall pob un ohonom, cyn rhoi’r fargen ar waith, fod yn hyderus y bydd yn gwireddu, yn ymarferol, yr addewid go iawn y mae’n ei wneud i bobl ledled dinas-ranbarth bae Abertawe.
Diogelwch Ffyrdd
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrannwyd i'r portffolio economi a'r seilwaith mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd? OAQ(5)0140(FLG)
Bydd y portffolio economi a’r seilwaith yn buddsoddi dros £700 miliwn dros bedair blynedd yn y seilwaith trafnidiaeth newydd, a bydd y cynlluniau hynny’n ystyried diogelwch ar y ffyrdd. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn buddsoddi £11.6 miliwn yn benodol ar gyfer mentrau diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru.
Diolch am hynny. Ymddengys fod problem yn datblygu gyda staff lolipop ysgolion, neu gynorthwywyr croesi ffordd fel y’u gelwir weithiau, gan fod y nifer wedi gostwng 23 y cant dros y tair blynedd diwethaf. Nid oes unrhyw ddyletswydd gyfreithiol ar hyn o bryd ar gynghorau i gadw’r cynorthwywyr croesi ffordd, ond wrth gwrs, maent yn angenrheidiol er mwyn cadw’r syniad o lwybrau diogel a byddant yn cynorthwyo gyda thargedau cerdded i’r ysgol a theithio llesol. Felly, tybed a ellid gwneud unrhyw beth i ddiogelu rôl y cynorthwywyr croesi ffordd.
Wel, a gaf fi gytuno â’r Aelod fod y gwaith a wneir gan staff croesi ffordd yng Nghymru yn bwysig iawn? Mae’r rhesymau dros y gostyngiad yn nifer y staff yn fwy cymhleth nag yr ymddangosant ar yr olwg gyntaf mewn gwirionedd. Mae’n wir fod cynghorau mewn gwahanol rannau o Gymru wedi manteisio ar y cyfle, wrth i staff ymddeol, i adolygu a oes angen penodi rhywun arall. Ond mae’r broblem ehangach yn ymwneud mewn gwirionedd â recriwtio pobl i wneud y swydd hon. Mae’n eithaf brawychus darllen weithiau, Llywydd, am brofiadau staff croesi ffordd a’r gamdriniaeth y maent yn ei dioddef gan fodurwyr wrth iddynt gyflawni eu gwaith, ac ni fu’n hawdd recriwtio pobl i swyddi gwag. Mewn rhai rhannau o Gymru, mae’r broblem wedi’i datrys yn rhannol wrth i’r ysgolion eu hunain gymryd mwy o ddiddordeb yn y gwaith o lenwi’r swyddi, ac wrth i gynghorau tref a chymuned fod yn barod i gynorthwyo gyda hynny hefyd. Felly, rhoddir cynnig ar rai atebion. Mae’r mater y cyfeiria’r Aelod ato yn un dilys.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer yng Nghymru, roedd 6.6 y cant o’r holl rai a anafwyd mewn damweiniau traffig ar y ffordd yn feicwyr. Gwelwyd gostyngiad bychan ers y flwyddyn flaenorol, ond serch hynny, hwn yw’r ffigur uchaf ond un a gofnodwyd ers 1984. A ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid i gynghorau, a Llywodraeth Cymru yn wir, wrth ddyrannu ei chyllideb, fod o ddifrif ynglŷn â llwybrau beicio diogel, a bod angen inni eu dynodi, nid drwy beintio llinell ar hyd y ffordd ger y palmant, ond drwy fod o ddifrif ynglŷn â sicrhau bod gennym lwybrau ar gyfer beicio yn unig i gyrchfannau allweddol, yn enwedig yn ein hardaloedd trefol?
Llywydd, y grwpiau mwyaf agored i niwed o ran defnyddwyr ffyrdd yw cerddwyr, beicwyr a beicwyr modur, ac rydym wedi siarad cryn dipyn yma yn y Siambr am feicwyr modur a chamau y gellir eu cymryd i geisio sicrhau bod y ffyrdd yn fwy diogel ar eu cyfer. Y darlun mawr, fel y gŵyr yr Aelod, yw bod marwolaethau mewn damweiniau ar y ffyrdd yng Nghymru wedi gostwng dros gyfnod o 30 mlynedd. Mae’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, gan ddefnyddio’r £11.6 miliwn yn benodol ar gyfer mesurau diogelwch ar y ffyrdd, yn cynnwys camau gweithredu i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda’r gwaith y gallant ei wneud i ddiogelu beicwyr ar eu ffyrdd, ac rwy’n siŵr y byddant yn ymwybodol o’r pwyntiau a wnaeth yr Aelod y prynhawn yma.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf oedd y cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, ond ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r cwestiynau amserol. Steffan Lewis.
Y Berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a Qatar
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a Qatar ar ôl i gymdogion Qatar dorri’r cysylltiadau diplomyddol â’r wlad honno? TAQ(5)0649(FM)
Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas fuddsoddi masnachol gyda Qatar. Rydym yn cefnogi’r berthynas sy’n datblygu rhwng maes awyr rhyngwladol Caerdydd a Qatar Airways, gyda’r bwriad o weld teithiau awyr rhwng Caerdydd a Doha. Mae hyn yn agor y drws ar ystod eang o opsiynau teithio pellter hir ar gyfer busnesau a thwristiaid.
Diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw. Ddydd Llun, torrodd nifer o wladwriaethau yn y dwyrain canol, gan gynnwys yr Aifft, Sawdi-Arabia a’r Emiraethau Arabaidd Unedig gysylltiadau diplomyddol gyda Qatar, a gosod sancsiynau economaidd arni, gan honni bod y wlad wedi talu hyd at $1 biliwn i grwpiau gwaharddedig yn y rhanbarth, gan gynnwys un sy’n gysylltiedig ag al-Qaeda. Mae hyn, wrth gwrs, yn peri cryn bryder i ni yma yng Nghymru. Yn gyntaf, Qatar yw’r wlad sy’n cynhyrchu fwyaf o nwy naturiol hylifedig yn y byd, ac mae ei hynysu economaidd a diplomyddol yn y rhanbarth yn codi cwestiynau mawr ynglŷn â’r biblinell nwy naturiol hylifedig, ac yn arbennig, y derfynell yn Aberdaugleddau. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai arweinydd y tŷ roi syniad inni o unrhyw asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r effaith ar nwy naturiol hylifedig yng Nghymru.
Yn ail, fel y crybwyllodd arweinydd y tŷ, mae Maes Awyr Caerdydd wedi sicrhau llwybr hedfan uniongyrchol rhwng Caerdydd a Qatar, a fydd yn dechrau yn 2018. Mae nifer o wledydd yn y rhanbarth wedi cau eu gofod awyr i hediadau i Qatar ac ohoni. A yw’r Prif Weinidog wedi bod yn trafod y goblygiadau posibl ar gyfer y llwybr hedfan arfaethedig gyda Qatar Airways? Ac yn olaf, yn anad dim efallai, mae’r honiadau fod Qatar wedi talu hyd at $1 biliwn i grŵp terfysgol yn codi cwestiynau ynglŷn â’n perthynas gyffredinol â hwy yn y dyfodol. Mae’n hollol iawn ein bod yn dadlau yn y wlad hon am ein perthynas â gwladwriaethau eraill yn y rhanbarth hwnnw sydd â hanes amheus mewn perthynas â hawliau dynol a therfysgaeth. A yw Llywodraeth Cymru yn ailasesu ac yn ailwerthuso’r ymrwymiad a wnaeth yn gynharach eleni i gael perthynas newydd, arbennig gyda Qatar, i ddyfynnu Prif Weinidog Cymru?
Wrth gwrs, fel y gŵyr Steffan Lewis, ac fel y mae wedi’i ddweud, mae gan Qatar fuddsoddiadau sylweddol yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, yn enwedig y derfynell nwy naturiol hylifedig yn Aberdaugleddau. Credaf, o ran eich ail bwynt—datblygiad y gwasanaeth a’r cysylltiad uniongyrchol rhwng y meysydd awyr a chwmnïau hedfan—ei fod yn hwb enfawr i Gymru ac mae’n darparu llwybr uniongyrchol i un o’r meysydd awyr canolog sy’n tyfu gyflymaf yn y byd, ac mae’n agor cysylltiadau Cymru â gweddill y byd, fel y dywedwch. Yn wir, ym mis Ebrill, sicrhawyd bargen fasnachol rhwng Maes Awyr Caerdydd a Qatar Airways i lansio’r llwybr newydd uniongyrchol hwn i Doha, a disgwylir y bydd y teithiau awyr yn dechrau dod yn weithredol yng ngwanwyn 2018.
Yn amlwg, o ran y materion ehangach y soniwch amdanynt mewn perthynas â hawliau dynol, credaf ei bod yn bwysig, unwaith eto, i mi ddweud bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi, er enghraifft, hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol. Rydym yn disgwyl i bawb yng Nghymru ac ym mhob cwr o’r byd gael eu trin yn gyfartal waeth beth fo’u rhywioldeb. Ac wrth gwrs, mae ein cefnogaeth gref i Stonewall Cymru i helpu i adeiladu Cymru lle mae pobl yn rhydd i fod yn hwy eu hunain, lle mae rhagfarn yn cael ei herio a lle mae ein cyfreithiau’n diogelu pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, yn adnabyddus ac yn uchel eu parch ledled y byd.
Diolch i Steffan Lewis am ofyn y cwestiwn hwn. Credaf fod y blocêd ar Qatar hefyd yn ein galluogi i edrych ar y ffordd y mae’r Sawdïaid yn arbennig yn defnyddio’r blocêd ar Yemen i geisio cyflawni dibenion gwleidyddol a’r goblygiadau i holl boblogaeth Yemen, gan gynnwys 17 miliwn o bobl sydd angen cymorth dyngarol a 10 miliwn o bobl sydd mewn angen dybryd am gymorth bwyd ar unwaith yn ôl y Groes Goch Ryngwladol. Roeddwn yn meddwl tybed beth y gall Cymru ei wneud i geisio trafod y mater hwn yn Llywodraeth y DU, yn y Cenhedloedd Unedig, i roi diwedd ar ddilead diatal y boblogaeth hon, os nad ydym yn gwneud dim am y peth. Oherwydd mae’r blocêd yn atal yr holl gyflenwadau iechyd rhag mynd drwodd, sydd wedi cael eu dinistrio gan y Llywodraeth Sawdïaidd.
Wel, wrth gwrs, fel y mae Jenny Rathbone yn ymwybodol iawn, nid yw materion tramor wedi cael eu datganoli, ond yn amlwg mae gennym ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yn y rhanbarth. Rydym mewn cysylltiad â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i fonitro datblygiadau. Mae’n amlwg yn bwysig ac yn wir, mae cwestiwn heddiw yn ymwneud â’n perthynas—perthynas fuddsoddi masnachol gyda Qatar—ond hefyd mae’r pwyntiau hyn yn amlwg yn bwyntiau allweddol y gellir eu gwneud o ganlyniad i’r cwestiwn hwn.
A fyddai arweinydd y tŷ yn cytuno â mi y dylem fod yn hynod ofalus cyn cymryd rhan mewn unrhyw ryfel geiriau mewn perthynas ag anghydfodau dinistriol yn y dwyrain canol? Wrth gwrs, byddem yn gwrthwynebu unrhyw wlad sy’n ariannu grwpiau terfysgol fel al-Qaeda yn y modd cryfaf posibl. Mae’n bwysig nodi bod Qatar yn gwadu unrhyw gysylltiad o’r fath. Ond ni ellir tanseilio pwysigrwydd Qatar i’r economi orllewinol, oherwydd Qatar yw cyflenwyr nwy naturiol hylifedig mwyaf y byd, a hynny o unman 20 mlynedd yn ôl. Mae llawer o’r anghydfod presennol mewn gwirionedd wedi’i wreiddio yn y ffaith fod y maes nwy gogleddol yn Qatar wedi’i rannu rhwng y wlad honno ac Iran, ac wrth gwrs mae Iran a Sawdi-Arabia am waed ei gilydd yn fwy cyffredinol.
Felly, dylem fynd ar ôl prif fuddiannau Cymru yma a chynnal perthynas dda cyn belled ag y gallwn gyda’r holl gyfranogwyr yn yr anghydfod hwn, gan annog y gwledydd hyn i fuddsoddi mwy yng Nghymru, a rhoi hwb i’n heconomi ein hunain a’r swyddi sydd ar gael yng Nghymru.
Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, nid yw materion tramor wedi’u datganoli. Rydym yn derbyn cyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, fel y byddai Neil Hamilton yn ei gydnabod. Rydym yn gweithio o fewn canllawiau’r DU ar gyfer masnach a buddsoddi rhyngwladol, ac mae cyflwyno’r cyswllt awyr newydd rhwng Doha a Chaerdydd yn gytundeb masnachol rhwng Maes Awyr Caerdydd a Qatar Airways. Mae hwn yn datblygu fel y cynlluniwyd.
Rydym yn wynebu cryn dipyn o wrthdaro yma, onid ydym? Mae gennym ddwy set o’r hyn a elwir yn gynghreiriaid yn anghytuno â’i gilydd ynglŷn â phwy sy’n ariannu pa fath o derfysgaeth ac eithafiaeth tra bod—gadewch i ni ddweud beth ydyw yn blaen—y ddwy ochr yn ariannu eu brand eu hunain o eithafiaeth yn y dwyrain canol.
A all Llywodraeth Cymru wneud dau beth y credaf eu bod o fewn ei chylch gorchwyl ac sy’n berffaith briodol i Lywodraeth Cymru ei wneud o dan yr amgylchiadau hyn? Yn gyntaf oll, a wnewch chi gyhoeddi rhestr o’ch cysylltiadau eich hunain gyda Qatar, gan gynnwys cyfarfodydd gweinidogol ac unrhyw gysylltiadau masnach y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael yn Qatar dros y pum mlynedd diwethaf, a’r hyn rydych wedi bod yn ei hyrwyddo yno, fel y gallwn ddeall, o safbwynt tryloywder, yn union beth sydd wedi cael ei wneud? Yn ail, a wnewch chi roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi’r adroddiad hirddisgwyliedig ar gyllido eithafiaeth yn y wlad hon, ac o ble y daw cyllid eithafiaeth, boed yn Sawdi-Arabia, Qatar neu rywle arall yn y dwyrain canol? Ac maent yn dod mewn ffyrdd amheus iawn, fel y gwyddom.
Yn drydydd, beth allwch chi ei ddweud wrth y Siambr heddiw ac yn y dyfodol am berthynas Sir Benfro â mewnforio nwy naturiol hylifedig? Mae’r ffin ar y tir â Qatar wedi’i chau. Mae’r ffin awyr, os mynnwch, hefyd ar gau i bob pwrpas. Ar hyn o bryd, mae’r porthladdoedd ar agor, ac wrth gwrs llongau sy’n cludo’r nwy i Gymru, ond pe bai’r broblem yn gwaethygu yno gallai gael effaith wirioneddol ar ein heconomi ein hunain yma yng Nghymru, ac yng ngorllewin Cymru yn arbennig. Felly, mae’r tri pheth hwnnw, rwy’n credu, yn bethau cwbl briodol i Lywodraeth Cymru eu gwneud, er nad yw’r materion hyn wedi’u datganoli.
Diolch yn fawr iawn, Simon Thomas, am gwestiynau adeiladol iawn. Yn gyntaf, hoffwn dynnu sylw—a bydd yr Aelodau’n cofio—at y datganiad a wnaed gan y Prif Weinidog ar 3 Mai eleni, yn dilyn ei ymweliad â Qatar yn ystod penwythnos gŵyl y banc i hyrwyddo cysylltiadau masnachol cryfach. Carwn gyfeirio’r Aelodau yn ôl at y datganiad hwnnw a nodi hefyd mewn gwirionedd fod llysgennad Qatar yn y DU wedi ymweld â Chymru ar 26 Mawrth 2015. Yn amlwg, byddaf yn sicr o edrych ar hyn gyda’r Prif Weinidog o safbwynt unrhyw fanylion neu wybodaeth arall a fyddai’n berthnasol yn dilyn eich cwestiwn cyntaf.
Rwy’n credu bod eich ail bwynt yn bwysig yn ogystal o ran annog Llywodraeth y DU i adrodd—yn wir, rwy’n credu mai David Cameron a lansiodd yr adroddiad hwnnw ar eithafiaeth—ac yn amlwg, byddwn ni’n bwrw ymlaen ar hynny hefyd. Rwy’n credu fy mod wedi ateb y cwestiwn ynglŷn â’r buddsoddiadau ac mae’r Aelodau yn amlwg yn ymwybodol o fuddsoddiadau sylweddol Qatar yn y DU, gan gynnwys Cymru—wrth gwrs, mae hynny’n golygu swyddi yng Nghymru, nid yn unig yn y derfynell nwy naturiol hylifedig yn Aberdaugleddau, ond hefyd y swyddi sydd i ddod ym Maes Awyr Caerdydd. Ac wrth gwrs, mae yna awdurdod buddsoddi Qatar, sydd hefyd yn cynllunio i wneud buddsoddiadau sylweddol pellach yn y DU. Wrth gwrs, mae cwestiwn yn codi ynglŷn ag edrych ar y cysylltiadau sy’n datblygu gyda gwledydd y tu allan i’r UE mewn perthynas â chysylltiadau masnach a buddsoddi posibl. Felly, unwaith eto, rwy’n gobeithio bod hynny wedi ateb eich cwestiynau, yn rhannol o leiaf.
Arweinydd y tŷ, rwy’n credu y bydd Qatar Airways yn dechrau’r cwmni hedfan y flwyddyn nesaf, fel y clywsom gan y Prif Weinidog. Gwn fod pobl Qatar yn cael amser anodd iawn ar hyn o bryd yn gwella delwedd fyd-eang y wlad ar gymorth i derfysgwyr a phethau eraill. Hefyd, peidiwch ag anghofio eu bod yn cynnal gemau pêl-droed cwpan y byd yno. Felly, beth yw’r canlyniadau os nad yw Qatar yn dod i Gymru neu os na ddaw rhyw fath o drefniant i gasgliad ffrwythlon yng ngwledydd y dwyrain canol? Beth yw safbwynt ein Llywodraeth ar faterion lle y ceir cydweithrediad rhyngwladol ar derfysgaeth yn y gwahanol wledydd roeddem yn sôn amdanynt yn gynharach yn y Siambr hon? Diolch.
Diolch i chi, Mohammad Asghar. Efallai y caf roi safbwynt y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, sef, ac rwy’n dyfynnu:
Gobeithiwn y gellir datrys y mater cyn bo hir ac y bydd undod Cyngor Cydweithredu’r Gwlff yn cael ei adfer, ac rydym yn annog y rhai sy’n teithio i Doha o wledydd yr effeithiwyd arnynt i wirio cyngor teithio’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Fel y dywedais yn gynharach wrth ymateb i gwestiynau, disgwylir y bydd teithiau awyr yn cychwyn gweithredu yng ngwanwyn 2018 y flwyddyn nesaf o ran y llwybr uniongyrchol newydd i Doha. Gwn fod y maes awyr yn—. O ran y cytundeb i gyflwyno’r cyswllt awyr newydd hwnnw rhwng Caerdydd a Doha, gyda’r cwmni awyrennau y mae hwnnw wrth gwrs, nid y wlad neu’r Llywodraeth neu ei phrifddinas. Mae cyswllt rheolaidd rhwng Maes Awyr Caerdydd a Qatar Airways wrth iddynt ddatblygu’r gwaith o sefydlu’r llwybr newydd fel y cynlluniwyd.
Yn sicr, bydd arweinydd y tŷ yn deall mai’r peth hollol anghywir i’w wneud yw siarad am berthynas arbennig â’r wladwriaeth hon. Cyfeiriodd at hawliau LHDT; mae’n gwybod beth fyddai’n digwydd i mi yn y wlad honno. Ni ddylem byth fod mewn sefyllfa lle rydym yn dweud ein bod yn awyddus i adeiladu—ac nid fy ngeiriau i yw’r rhain, ond geiriau’r Prif Weinidog—perthynas arbennig gyda gwlad sydd â hanes ofnadwy o’r math hwn o ran hawliau dynol, heb sôn am barhau yn awr, mae’n ymddangos—y cwestiwn mewn gwirionedd oedd ‘a oeddem yn atal’—y berthynas arbennig honno, yng ngoleuni’r ffaith na allwn anwybyddu—. Hynny yw, rwy’n derbyn y pwynt fod gan rai o’r gwledydd hyn eu hunain rai cwestiynau i’w hateb mewn perthynas â’u cefnogaeth i eithafiaeth Islamaidd ideolegol a threisgar, ond ni allwn anwybyddu’r ffaith fod y rhan fwyaf o bobl sy’n asesu’r sefyllfa yn cydnabod fod gan Qatar, yn sicr, gwestiynau i’w hateb ei hun. O dan yr amgylchiadau hynny, ni ddylai Cymru fod yn cychwyn ar berthynas arbennig â gwlad felly.
Yn hytrach na derbyn cyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, pam nad yw’n derbyn cyngor ei harweinydd Plaid Lafur y DU ei hun, sydd wedi siarad am y sgyrsiau anodd sydd angen eu cael â gwladwriaethau’r Gwlff, ac wrth gwrs mae Qatar yn ganolog i hynny? Yn sicr mae’n rhaid atal y polisi o gynnal perthynas arbennig â Qatar tra bod y cyhuddiad hwn gan y gwladwriaethau sy’n gymdogion iddi yn datgan ei bod yn noddi terfysgaeth yn parhau.
Fel rwyf wedi’i ddweud wrth ateb y cwestiynau y prynhawn yma, rwy’n credu bod hyn yn ymwneud â chysylltiadau masnachol—cysylltiadau buddsoddi masnachol—gyda Qatar. Ac mae’r Aelod, wrth gwrs, yn gwbl ymwybodol—ac rydym wedi siarad am hyn y prynhawn yma—o’r buddsoddiadau sylweddol hynny, gan gynnwys yma yng Nghymru, y derfynell nwy naturiol hylifedig yn Aberdaugleddau, yn ogystal â mewn rhannau eraill o’r DU. Felly, am y cysylltiadau buddsoddi masnachol hynny rydym yn sôn, ac yn amlwg, dyna a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ar 3 Mai. Dywedodd yn glir iawn fod hyn yn ymwneud â chysylltiadau masnachol a’i fod yn ymwneud â chyfleoedd, ac mewn gwirionedd, ar yr adeg pan gafodd ei gyhoeddi, cafwyd croeso cynnes i’r cyfle hwnnw gyda Maes Awyr Caerdydd ac wrth gwrs, gyda Qatar Airways. Rydym wedi dweud eisoes, ac roeddem yn dweud ar y pryd, ac yn wir, cafodd ei ddweud yn y Siambr hon yn sicr, fod hwn yn hwb enfawr i Gymru sy’n darparu’r llwybr uniongyrchol hwnnw i’r maes awyr canolog sy’n tyfu gyflymaf yn y byd, ac sy’n agor cysylltiadau Cymru â gweddill y byd. Mae’n berthynas fasnachol ac wrth gwrs, fel y dywedais, mae angen inni ystyried yn awr a bod yn eglur ac yn ymwybodol iawn o’r datblygiadau. Ond rwy’n credu bod fy ateb i Mohammad Asghar hefyd yn dweud bod angen i ni edrych yn ofalus iawn yn awr ar yr hyn y gellir ei gyflawni o ran adfer yr undod hwnnw, yn enwedig o ran cydweithrediad yn y Gwlff, a bod yn eglur iawn ynglŷn â’n neges hawliau dynol yma yng Nghymru, fel rwyf wedi’i ddatgan eisoes.
Diolch i ysgrifennydd y tŷ.
Yr eitem nesaf yw’r datganiadau 90 eiliad. Mike Hedges.
Tabernacl Treforys: mae adeilad capel Tabernacl yn adeilad arbennig iawn. Disgrifiodd George Thomas y Tabernacl fel eglwys gadeiriol yr anghydffurfwyr. Heblaw am fod yn gapel hardd, mae Tabernacl yn ganolfan grefyddol a diwylliannol yng nghwm Tawe isaf. Ond, yn anffodus, mae llai o bobl yn mynd i’r capel y dyddiau yma. Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol am ddyfodol y Tabernacl. Rhaid cael digon o bobl i godi arian er mwyn derbyn grant oddi wrth Cadw.
Y capel mwyaf, y mwyaf crand a’r drutaf yng Nghymru—geiriau Anthony Jones am y Tabernacl yn ei lyfr ‘Welsh Chapels’. Ydy, mae’n gapel arbennig: capel eiconig, rhestredig gradd I. Aeth y gweinidog, Emlyn Jones, y pensaer, John Humphrey, a’r adeiladwr, William Edwards, o gwmpas Prydain i weld y capeli gorau. Mae gan flaen y Tabernacl wyth colofn anferth. Tu fewn, ceir arddangosfa o waith seiri coed mewn mahogani, gyda galeri côr hyfryd ac organ fendigedig. Yn dilyn y diwygiad ym 1904, tyfodd aelodaeth y Tabernacl i dros 1,500. Erbyn heddiw, mae llai na 100 yn mynychu’r capel. Beth fydd dyfodol y Tabernacl, tybed?
Jeremy Miles.
Nos Lun, gyda fy nghyd-Aelod, David Rees, mynychais noson wobrwyo gwirfoddolwyr Gwasanaeth Gwirfoddol Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Cefais y fraint o gyflwyno gwobrau i lawer o’r rhai y dathlwyd eu cyfraniad y noson honno, ac wrth i mi edrych o gwmpas yr ystafell nos Lun, sylweddolais fod nifer fawr o’r bobl rwyf wedi eu cyfarfod ac sydd wedi fy ysbrydoli yn fy ngwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn eistedd yno o fy mlaen. Boed yn ddysgu sgiliau digidol i eraill yng nghynhadledd gymunedol Melyncrythan neu brosiect digidol Cartrefi NPT, garddwyr Cynghrair Gymunedol Ffrindiau a Chymdogion Stryd Ethel, cadetiaid ifanc sgwadron 334, Tîm Clarewood, y bobl ifanc a arferai fod yn ddigartref sydd bellach yn cynnal menter gymdeithasol, Grŵp Amgylcheddol Bryncoch, sy’n gweithio i amddiffyn ein poblogaethau o lyffantod lleol, Canolfan Maerdy, Epilepsy Action, Age Connects, Cyfeillion Barnardo’s yng Nghastell-nedd, neu esiampl anhygoel fy etholwr Harri Evans-Mason, sydd, yn ddim ond 18 oed, wedi rhoi cymaint o’i amser ei hun a thrwy wneud hynny wedi ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un peth, nid yw’r rhain yn ddim ond rhai o’r nifer o unigolion a sefydliadau sy’n rhoi cymaint bob dydd ac yn aml yn helpu i drawsnewid bywydau pobl eraill.
Mae’n Wythnos y Gwirfoddolwyr yr wythnos hon ac felly rwy’n gobeithio y bydd pawb ohonoch yn ymuno â mi i ddiolch i bawb sy’n wirfoddolwyr mewn unrhyw fodd ledled Cymru a rhoi’r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu iddynt am wneud ein cymunedau yn llefydd gwell i fyw ynddynt.
Rhun ap Iorwerth.
Yn Eglwys Gadeiriol Bangor heddiw, mae teulu, cyfeillion ac edmygwyr yn cofio, yn diolch am, ac yn dathlu bywyd Irfon. Nid oes prin angen defnyddio’i enw llawn o. Mi ddaeth Irfon Williams i’n sylw ni i gyd drwy ei frwydr yn erbyn canser. Mi oedd hi’n frwydr bersonol iddo fo—brwydr am ei iechyd a’i fywyd ei hun. Mi oedd angen dewrder a phenderfynoldeb ar gyfer y frwydr honno, ac mi ddangosodd Irfon hynny fil gwaith drosodd. Ond mi drodd brwydr Irfon yn un dros bawb oedd yn neu oedd wedi wynebu’r un argyfwng mewn bywyd—a phob un a allai wynebu hynny rywbryd, ac mae hynny’n cynnwys pob un ohonom ni.
Yn helpu’r tenor Rhys Meirion i siafio gwallt Irfon yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bala y cefais i ei gyfarfod o gyntaf ar ôl ei ddiagnosis. Codi arian oedd y nod bryd hynny, ac mi oedd codi ymwybyddiaeth yr un mor bwysig i Irfon, a chodi ymwybyddiaeth—yn ei eiriau o—o’r hawl i fyw, yr hawl i driniaeth, yr hawl i bawb gael pob cyfle posib i oroesi yn erbyn creulondeb canser.
Mi oedd yn briodol iawn bod Irfon wedi dod yn aelod allweddol o’r panel ar adolygu ceisiadau cyllido cleifion yng Nghymru, a bod hynny wedi arwain at system a fydd, rydym ni i gyd yn gobeithio, yn arwain at ragor o degwch i gleifion lle bynnag y maen nhw. Ond heddiw, wrth inni anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei wraig, Becky, a’r plant, rydym ni’n cofio Irfon, y gŵr bonheddig a oedd, ac a fydd yn parhau, yn ysbrydoliaeth i gymaint.
Diolch.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, ac rydw i’n galw ar David Melding i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6322 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r prinder dybryd o gartrefi ar gyfer pobl iau a theuluoedd i'w prynu neu eu rhentu am bris sy'n agos at y tueddiad hanesyddol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i seilio ei chyfrif o ran anghenion tai ar y rhagolygon amgen yn y ddogfen 'Future Need and Demand for Housing in Wales'.
3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi strategaeth er mwyn sicrhau bod mwy o dir, gan gynnwys safleoedd tir llwyd, ar gael i adeiladu tai;
b) sicrhau mwy o fuddsoddiad mewn sgiliau galwedigaethol ar gyfer y sector adeiladu a datblygu prentisiaethau modern; ac
c) archwilio'r opsiynau ar gyfer byw fel teulu mewn lleoliadau trefol o ddwysedd uwch, yn dilyn yr arfer gorau mewn llawer o ddinasoedd Ewrop.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn o gynnig y cynnig hwn yn enw Paul Davies ac edrych ar yr argyfwng tai sy’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae’r naill lywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi methu â mynd i’r afael ag anghenion tai sydd wedi bod yn eithaf amlwg bellach ers cenhedlaeth neu fwy. Mae’r angen cynyddol am dai cymdeithasol, tanfuddsoddi ers datganoli, a’r sioc economaidd ar ôl 2008, a diffyg uchelgais llwyr gan Lywodraeth Cymru, oll wedi arwain at ostyngiad cyffredinol yn nifer y tai a gaiff eu hadeiladu o’i gymharu â’r hyn sydd angen i ni ei wneud. Yn hytrach na mynd i’r afael ag anghenion tai drwy ateb marchnad gyfan yn seiliedig ar berchentyaeth a hybu cyfraddau adeiladu tai ar gyfer rhentu preifat a chymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dilyn y rhith o ddileu’r hawl i brynu, fel pe bai hynny’n mynd i fod yn rhan allweddol o fynd i’r afael â’n hanghenion tai, neu osod targedau sy’n ymddangos yn galonogol ar yr olwg gyntaf, ond pan edrychwch ar y manylion, maent yn llawer llai uchelgeisiol. Cyfeiriaf at y targed o adeiladu 20,000 yn rhagor o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn, nad yw ond yn 2,500 yn fwy na chynlluniau blaenorol. Dylid canolbwyntio’n llwyr ar adeiladu tai. I ddyfynnu Sefydliad Bevan, nid oes digon o dai newydd yn cael eu hadeiladu i ddiwallu’r anghenion a ragwelir. Dyna’n syml yw’r sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, nid yw Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei thargedau annigonol ei hun hyd yn oed. Yn 2015-16, 6,900 o gartrefi yn unig a adeiladwyd, a oedd yn bell iawn o darged Llywodraeth Cymru o 8,700. Yn wir, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei tharged ei hun ers 2007-08, bron i 10 mlynedd yn ôl.
Os caf siarad am y prinder cyffredinol o gartrefi, rwy’n credu ein bod wedi wynebu problem ers o leiaf 2004, pan gafodd un Llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru—ac nid llywodraethau dan arweiniad Llafur yn unig; mae Plaid Cymru wedi bod mewn Llywodraeth yn ogystal—eu rhybuddio am yr angen enbyd am dai, ond nid ydynt wedi cymryd y camau angenrheidiol i adeiladu mwy o gartrefi. Amcangyfrifir bod 90,000 o bobl ar restrau aros yng Nghymru. Yr un yw’r ffigur heddiw â’r un a gofnodwyd yn 2011—dim cynnydd. Ar ben hynny, amcangyfrifodd Cartrefi Cymunedol Cymru fod 8,000 o deuluoedd yng Nghymru wedi bod ar restr aros tai fforddiadwy ers cyn etholiadau 2011, ac mae 2,000 arall wedi bod ar y rhestr aros ers cyn etholiadau 2007. Mewn cymhariaeth, mae cynghorau Lloegr wedi lleihau nifer y teuluoedd ar eu rhestrau aros yn sylweddol: mae’r ffigur wedi disgyn 36 y cant rhwng 2012 a 2016. Yn y sector preifat, mae perchentyaeth, i bob pwrpas, y tu hwnt i gyrraedd llawer o gyplau sy’n cael incwm eithaf rhesymol hyd yn oed oni bai bod ganddynt fynediad at adnoddau eraill. Mae pris cyfartalog tŷ yng Nghymru bellach yn 5.8 gwaith y cyflog cyfartalog yng Nghymru oherwydd—yn rhannol, o leiaf—nad ydym yn adeiladu digon o gartrefi, ac mae prisiau’n codi’n ormodol.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Rwyf eisiau siarad am amcangyfrif mwy rhesymegol o anghenion tai. Ac yma, rwyf o leiaf yn canmol Llywodraeth Cymru am gomisiynu adroddiad effeithiol a edrychodd ar hyn yn iawn, ac rwy’n cyfeirio at yr adroddiad ‘Future Need and Demand for Housing in Wales’, a luniwyd gan y diweddar Athro Holmans. Roedd yr adroddiad hwnnw’n amcangyfrif bod Cymru angen hyd at 240,000 o unedau tai newydd rhwng 2011 a 2031, neu 12,000 o unedau newydd bob blwyddyn. Mae’r ffigur hwnnw o 12,000 bron yn ddwbl y nifer a ddarparwyd gennym yn 2015-16. Felly, prin ein bod yn adeiladu 50 y cant o’r cartrefi newydd sydd eu hangen arnom yn ddybryd os ydym am wella ein sefyllfa dai. Ond mae hwn—yr hyn a elwir yn amcanestyniad amgen—wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth Cymru. Felly, aethant ati i gomisiynu amcanestyniad amgen ac maent wedi ei wrthod. Rwy’n credu bod angen i ni wybod pam y maent wedi gwneud hynny. Felly, rydym mewn sefyllfa, erbyn 2031, hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd ei thargedau ei hun—ac rwyf wedi nodi bod 10 mlynedd ers iddi gyrraedd un o’i thargedau ei hun, neu bron i 10 mlynedd ers iddi gyrraedd ei tharged ei hun—bydd diffyg o oddeutu 66,000 o gartrefi yng Nghymru. Credaf fod hyn yn frawychus. Byddai cenedlaethau blaenorol yn rhyfeddu’n llwyr at yr hunanfodlonrwydd a’r methiant hwn. Ar ôl y rhyfel byd cyntaf, ar ôl yr ail ryfel byd, a diwygio mawr y Llywodraeth Lafur, roedd iechyd a thai yn cael eu gweld fel yr amcanion cymdeithasol canolog. Rwy’n credu ei bod bellach yn bryd i ni ddatgan bod yn rhaid i’r amcanestyniad amgen fod yn sail ar gyfer cyfrifo’r angen am dai.
Wrth gwrs, mae angen mwy o dir er mwyn cael mwy o dai. Rwy’n credu ei bod yn bwysig inni nodi a sicrhau bod tir ar gael i’w ddatblygu. Mae Llywodraeth y DU wedi addo cyflwyno cofrestri tir llwyd fel rhan o’u strategaeth dai eu hunain. Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol yn Lloegr gynhyrchu a chynnal cofrestri safleoedd tir llwyd a fydd ar gael i’r cyhoedd, a bydd y rhain ar gael i adeiladwyr tai sy’n ceisio nodi safleoedd addas ar gyfer cartrefi newydd. Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi’r polisi hwn drwy addo cyllid sylweddol ar gyfer datblygu tir llwyd, oherwydd, yn amlwg, mae’n rhaid clirio’r safleoedd yn drylwyr yn aml iawn. Mewn cymhariaeth, mae safbwynt Llywodraeth Cymru ar yr agwedd hon ar bolisi tai wedi bod yn wan iawn. Nid yw ei chanllawiau ond yn dweud y dylid ffafrio defnyddio safleoedd tir llwyd, lle bynnag y bo’n bosibl. Wel, rwy’n cytuno â hynny, ond nid oes unrhyw anogaeth i nodi safleoedd addas neu ddarparu’r adnoddau ar gyfer clirio’r tir. Fel y cadarnhaodd Edwina Hart yn y Pedwerydd Cynulliad, ni ryddhaodd Llywodraeth Cymru unrhyw arian i gynghorau i’r diben hwn. Mae’n rhyfeddol. Fel y mae’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi’i ddatgan, mae gwerthu tir diffaith yn arwain at nifer o effeithiau cadarnhaol o ran cynyddu’r potensial ar gyfer perchentyaeth gymdeithasol a phreifat, gan gynyddu’r refeniw i awdurdodau lleol drwy’r dreth gyngor, ac arwain at lawer mwy o gyfleoedd ar gyfer cefnogi busnesau bach lleol.
Ar y pwynt hwnnw, rwy’n awyddus i atgoffa pobl o ba mor allweddol yn economaidd yw adeiladu tai. Rydym wedi gweld dirywiad y sector busnesau bach a chanolig yn y maes hwn, ac mae honno wedi bod yn broblem go iawn. Os edrychwch ar y degawdau blaenorol pan oedd llawer o dai’n cael eu hadeiladu—y 1930au a’r 1950au yn arbennig, a’r 1970au yn ogystal—roedd y sector busnesau bach a chanolig yn wirioneddol allweddol i’r llwyddiant hwnnw. Rydym wedi colli hynny yng Nghymru i bob pwrpas, ac mae’n rhaid dweud bod hynny wedi digwydd mewn rhannau eraill o’r DU—nid problem Gymreig yn unig ydyw—ond mae angen dod â’r rhan honno o’r sector yn ôl i mewn. Mae’n lluosydd ardderchog a byddai’n cynyddu menter a gynhyrchir yng Nghymru. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni gynyddu nifer y darpar weithwyr a hyfforddir gyda’r sgiliau galwedigaethol priodol ym maes adeiladu, ac unwaith eto, geilw hyn am bartneriaeth allweddol gydag addysg bellach a chynnig galwedigaethol gwell yn gyffredinol i bobl ifanc 14 neu 18 oed yn arbennig sydd efallai’n edrych am waith yn y maes hwn yn y dyfodol. Mae’n bwysig tu hwnt ein bod yn gwneud hynny cyn gynted ag y bo modd.
Un o’r pethau ychwanegol rwy’n awyddus i’w cyflwyno yn y ddadl hon yw bod angen i ni feddwl yn fwy creadigol hefyd. O ran dylunio’r amgylchedd trefol, rwy’n credu ein bod angen tipyn o chwyldro i’w gwneud yn llefydd hawdd eu defnyddio a gweld cerddwyr a beicwyr yn cael eu diogelu’n llawer gwell, a hefyd y cyfleoedd hamdden ar gyfer pobl mewn mannau trefol. Ond rwy’n credu ein bod angen tai dwysedd uwch fel opsiwn, oherwydd mae darparu unedau teuluol yn mynd i fod yn her wirioneddol os mai’r hen fodel o ragor o faestrefi â thai pâr a gerddi yw’r ffordd ymlaen yn mynd i fod. Ar y cyfandir, nid yw tai dwysedd uwch yn golygu adeiladau uchel. Mae llawer o enghreifftiau da bellach o gartrefi dwysedd uchel deniadol i deuluoedd. Er enghraifft, yn Amsterdam, mae datblygiad Borneo Sporenburg yn ardal y dociau, sy’n edrych ar dai patio tri llawr, a gynlluniwyd yn benodol i fod yn lleoedd deniadol i deuluoedd ifanc a darparu gofod cyffredinol yn yr awyr agored ar gyfer y deiliaid hefyd, gyda llawer o gyfleusterau’n cael eu rhannu. Rwy’n credu y byddai hynny’n effeithiol iawn. Rydym angen cyfleusterau chwarae a chyfleusterau hamdden da iawn, ac rwyf wedi cyfeirio’r Gweinidog at waith pwyllgor cynllunio Cynulliad Llundain yn y maes hwn, a cheir llawer o enghreifftiau eraill o dai dwysedd uchel sy’n ystyriol o deuluoedd a allai fod yn ddeniadol tu hwnt fel rhan o’r ateb.
A gaf fi ddweud i gloi, Cadeirydd, fod angen uchelgais newydd arnom? Mae tai yn angen sylfaenol, ac mae’n hanfodol i’n hiechyd, a hawliau datblygiad plant yn arbennig, mewn tai teuluol priodol. Drwy gynyddu sgiliau galwedigaethol yn y sector adeiladu yn gyflym, gallwn greu’r amodau ar gyfer ehangu sylweddol ym maes adeiladu tai. Dylem fod yn anelu at gyfradd adeiladu tai o 12,000 o unedau newydd y flwyddyn fan lleiaf, ac mewn rhai blynyddoedd, pan fydd capasiti’n caniatáu, dylid codi’r targed hwnnw i 15,000 o dai i wneud iawn am y blynyddoedd a wastraffwyd. Dylai ein nod fod yn syml ac yn uchelgeisiol: cartrefi i bawb.
Rwyf wedi dewis y pedwar gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fodloni anghenion amrywiol pobl Cymru o ran tai, gan weithio mewn partneriaeth ag adeiladwyr preifat, y sector rhentu preifat, y cynghorau a'r cymdeithasau tai.
2. Yn croesawu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i:
a) adeiladu 20,000 ychwanegol o dai fforddiadwy erbyn 2021, gan gynnwys 6,000 drwy'r cynllun Cymorth i Brynu—Cymru a 1,000 drwy ei chynllun newydd Rhentu i Brynu;
b) gweithio gyda datblygwyr i annog a hwyluso eu gwaith ehangach o adeiladu cartrefi ar gyfer y farchnad a datgloi potensial busnesau bach a chanolig i adeiladu cartrefi a chreu swyddi â sgiliau ledled Cymru;
c) diogelu'r stoc bresennol o dai cymdeithasol ac annog cymdeithasau tai a chynghorau i fuddsoddi mewn darparu cartrefi newydd drwy ddiddymu'r Hawl i Brynu;
d) buddsoddi mewn datblygu dulliau arloesol o adeiladu tai i ateb yr heriau gan gynnwys patrymau demograffig sy'n newid a'r angen am gartrefi effeithlon o ran ynni;
e) parhau i ailddefnyddio cartrefi gwag a chynnwys darparu tai yn rhan o'i chynlluniau adfywio;
f) sicrhau bod mwy o dir, gan gynnwys tir mewn meddiant cyhoeddus, ar gael i'w ddatblygu i ddarparu tai;
g) parhau i godi safonau yn y sector rhentu preifat a gweithredu ar ffioedd asiantau gosod i denantiaid; a
h) adeiladu ar lwyddiant ei hymyrraeth gynnar mewn perthynas â digartrefedd drwy weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â phroblemau pobl sy'n cysgu ar y stryd.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod ffioedd gosod yn rhwystro teuluoedd incwm isel rhag symud cartref o fewn y sector rhentu preifat, ac y gall hyn ostwng ansawdd cartrefi wrth iddo ddileu gallu teuluoedd i adael llety anaddas.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd ffioedd asiantau gosod.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
archwilio ffyrdd y gellir defnyddio'r system gynllunio ymhellach i flaenoriaethu adeiladu cartrefi ar gyfer pobl sy'n prynu am y tro cyntaf a theuluoedd, ac osgoi gadael i ddatblygiadau newydd gael eu dominyddu'n anghymesur gan berchnogaeth prynu i osod a pherchnogaeth ail gartref.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod angen buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth ar gyfer datblygiadau tai newydd, er mwyn bod yn gynaliadwy (gan gynnwys buddsoddi mewn cludiant cyhoeddus a theithio llesol), a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a chyfleusterau cymunedol i wasanaethu'r boblogaeth ychwanegol.
Yn gresynu bod cyni wedi golygu nad yw buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a chyfleusterau cymunedol yn bosibl, ac yn credu y gallai rhai cynigion ar gyfer datblygiadau tai fod yn anghynaliadwy o ganlyniad i hynny.
Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.
Diolch yn fawr, dirprwy Dirprwy Lywydd, ac rwy’n symud y gwelliannau, fel rydych chi wedi nodi. Rydym ni’n cyflwyno tri gwelliant i’r cynnig yma heddiw sydd yn adlewyrchu rhai elfennau yn y drafodaeth ar dai sy’n teilyngu rhagor o sylw. Mae’r dadleuon dros brisiau tai a’r angen i helpu prynwyr tai tro cyntaf yn codi’n aml. Mae’n gyfuniad o gyflogau isel a gwaith ansicr, ansefydlog, ac, felly, yn aml, nid yw atebion perthnasol i Lundain yn berthnasol i Gymru.
Mae ein gwelliant cyntaf yn adlewyrchu y realiti bod nifer sylweddol o bobl sydd yn y sector rhentu preifat yn debygol o aros yn rhentu am flynyddoedd lawer weithiau. Felly, dylem fod yn anelu i wella safonau tai a’u gwneud yn fwy fforddiadwy i’w rhentu yn y sector yma. Mae’n glir fod ffioedd gosod gan asiantau yn gosod rhwystr i deuluoedd ar incwm isel rhag symud cartref o fewn y sector rhentu preifat. Os ydych yn wynebu talu ffi o rai cannoedd o bunnoedd i symud, rydych chi’n mynd i aros, er mor annigonol, anaddas a gwael ydy safon y llety presennol. Rydym fel plaid wedi cyflwyno gwelliannau i ddeddfwriaeth flaenorol i wahardd ffioedd asiantau gosod, ond araf iawn y mae pethau’n llusgo ymlaen, a galwn ar Lywodraeth Cymru i wahardd y ffioedd gosod yma.
Mae ein hail welliant yn ein cyfeirio at edrych ar beth sy’n digwydd i gartrefi newydd pan fyddant yn cael eu hadeiladu. Nid yw’r agwedd o adeiladu tai ymhob man i gael tai fforddiadwy yn gweithio, yn amlwg. Beth yw’r pwynt o adeiladu 20,000 o dai newydd os yw’r mwyafrif llethol yn cael eu prynu gan fuddsoddwyr prynu-i-osod? Mae’n rhaid edrych ar atebion amgen. Yn hanesyddol, mae buddsoddwyr prynu-i-osod wedi wynebu llai o rwystrau na phobl a theuluoedd ifanc sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf. Dyma un o’r rhesymau pam mae gennym ‘genhedlaeth rentu’.
Rydym ni’n croesawu rhai newidiadau diweddar yng nghyfraith treth a rhagor o reoleiddio yn y sector, ond mae angen mynd yn bellach. Geilw ein gwelliant ar i Lywodraeth Cymru archwilio ffyrdd y gellir defnyddio’r system gynllunio ymhellach i flaenoriaethu adeiladu cartrefi ar gyfer pobl sy’n prynu am y tro cyntaf a theuluoedd, ac osgoi i ddatblygiadau newydd gael eu dominyddu’n anghymesur gan berchnogaeth prynu-i-osod a pherchnogaeth ail gartref.
Felly, at ein gwelliant olaf. Rydym ni’n nodi bod angen isadeiledd lleol i gefnogi adeiladu tai newydd. Dibwynt ydy adeiladu tai sydd, ar y wyneb, yn edrych yn fforddiadwy, ond heb y drafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol a gwasanaethau cyhoeddus eraill ar gael yn lleol. Mae ein gwelliant yn gresynu bod cyni wedi golygu nad yw buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a chyfleusterau cymunedol wedi bod yn bosib, yn aml. Yn wir, mae’r fath gyfleusterau’n crebachu ac o dan fygythiad bob man. Gall rhai cynigion ar gyfer datblygiadau tai fod yn fforddiadwy, felly, ar y wyneb, ond yn anghynaliadwy o ganlyniad i lymder a chyni economaidd, felly.
Mae yna hefyd farc cwestiwn yn ddiweddar dros ansawdd y cartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu hefyd, gydag adroddiad yn San Steffan y flwyddyn ddiwethaf yn olrhain llu o broblemau hyd yn oed efo ansawdd tai sydd newydd gael eu hadeiladu. I gloi, ni allwn ddatrys ein problemau tai drwy adeiladu ymhob man mewn hinsawdd o lymder a thoriadau tra erys yr heriau sylfaenol o gyflogau isel, ansicrwydd gwaith ac anghyfiawnderau cymdeithasol. Diolch yn fawr.
Ymladdais etholiad y llynedd ac roedd fy ngwrthwynebydd Plaid Cymru’n ymgyrchu gydag un neges syml, sef: mae Llafur yn awyddus i adeiladu tai ar eich meysydd glas. Mae’r ffaith fy mod wedi ennill yr etholiad yn dangos fod pobl wedi gweld drwy’r strategaeth braidd yn anonest hon. [Torri ar draws.] Yn wir, hoffwn ddweud wrth Nick Ramsay fy mod wedi clywed bod y Ceidwadwyr, yn lleol, yn tueddu i ddefnyddio tactegau o’r fath ar adegau hefyd er gwaethaf eu cynnig heddiw.
Fodd bynnag, mae yna gyfres glir o broblemau gyda pholisi cynllunio yn ardal bwrdeistref Caerffili. Fel cynghorydd, pleidleisiais yn erbyn cynllun datblygu lleol arfaethedig Caerffili, a luniwyd i gynnig ardal benodol o dir ar gyfer tai ar safleoedd tir glas cyfyngedig yn y rhan ddeheuol o fy etholaeth er mwyn ateb y galw am dai i ddiogelu mannau gwyrdd eraill. Mae’r dull cyfaddawd o gynllunio datblygiadau lleol yn ddull nad yw pawb yn cytuno ag ef ac nad oes neb yn credu ynddo, ac mae’n dangos diffygion system y cynllun datblygu lleol a pham na fydd, yn y pen draw, yn darparu’r tai sydd eu hangen arnom yn yr ardaloedd rydym eu hangen.
Yn fy marn i, dylai cynlluniau datblygu lleol weithredu fel offeryn ymyrraeth yn y farchnad. Nid yw’r pwyslais cyfredol yn y cynlluniau datblygu ar ddyrannu tir mewn ardaloedd sy’n hyfyw yn unig—ardaloedd proffidiol mewn geiriau eraill—yn caniatáu i gynlluniau datblygu lleol weithredu fel yr offeryn ymyrraeth hwnnw yn y polisi ac ni fydd yn ysgogi’r economi mewn ardaloedd lle mae’r farchnad yn wannach. Yn wir, gellid dadlau bod y strategaeth gyfredol a arweinir gan y farchnad yn cyflymu dirywiad ardaloedd mwy difreintiedig yn y Cymoedd gogleddol i bob pwrpas, drwy fynd ati i ddargyfeirio unrhyw dwf i ardaloedd lle mae’r farchnad yn gryfach megis basn Caerffili, lle y ceir tagfeydd traffig o ganlyniad i broblemau trafnidiaeth gyda phobl yn ceisio mynd i mewn i Gaerdydd. Ymhellach, mae’n tanseilio system y cynllun datblygu lleol gan nad yw cynlluniau ond yn gallu dyrannu tir mewn ardaloedd lle mae’r farchnad yn hyfyw, ac felly ni allant weithredu fel ymyrraeth polisi clir yn yr ardaloedd hynny lle y mae’r farchnad yn methu. Os yw cynllun datblygu lleol yn ymyrryd yn y farchnad fel y bwriadwyd, pam treulio amser a mynd i’r gost o baratoi un o gwbl?
Lle mae’r farchnad yn pennu lleoliad datblygiadau tai newydd, ni fydd at ei gilydd yn buddsoddi mewn ardaloedd lle mae’r farchnad dai yn wan fel y Cymoedd gogleddol. Mae’r ardaloedd hyn lle mae’r farchnad dai yn wannach yn tueddu i fod yn ardaloedd o amddifadedd sydd angen eu hadfywio, a/neu ardaloedd lle mae angen amrywio’r stoc dai. O safbwynt Llywodraeth Cymru, mae strategaeth a arweinir gan y farchnad yn debygol o ddarparu tai’r farchnad agored mewn ardaloedd lle mae galw mawr amdanynt, fel basn Caerffili, sydd hefyd yn hyrwyddo lefelau uwch o dai fforddiadwy yn yr ardaloedd hynny, ac efallai o safbwynt David Melding, yn cyrraedd y targed. Ond mewn rhai achosion, mae hwn yn safbwynt rhy syml sydd i’w weld yn seiliedig yn unig ar nifer y tai sydd angen eu hadeiladu ac yn canolbwyntio gormod ar ble mae galw eisoes yn bodoli. O safbwynt Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae strategaeth a arweinir gan y farchnad yn rhoi pwysau diangen ar ardaloedd deheuol fy etholaeth. Nid yw’n gwneud dim i helpu i adfywio ardaloedd difreintiedig yn y Cymoedd gogleddol, ac nid yw’n hyrwyddo datblygu mewn ardaloedd lle mae’r farchnad yn wannach a lle mae hyfywedd a phroffidioldeb yn heriol. Felly, rydym angen polisi cynllunio sy’n ysgogi galw mewn ardaloedd heriol o ran hyfywedd, ac i wneud yn siŵr fod y seilwaith a’r swyddi yno i wneud i’r bobl hyn fod eisiau byw yn ardaloedd y Cymoedd gogleddol. Felly, nid yw’n ymwneud â’r galw presennol yn unig.
Gyda thasglu’r Cymoedd a’r strategaeth economaidd sydd ar y ffordd, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn, ond mae ein dull o gynllunio ar ei hôl hi o gymharu â’r datblygiadau polisi economaidd ardderchog hyn. Dylai ein polisi cynllunio gysylltu’n uniongyrchol â’r ymagwedd ranbarthol tuag at strategaeth economaidd sydd ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru a chytundebau twf rhanbarthol. Yn y Cynulliad blaenorol, cyflwynodd y Llywodraeth gynlluniau rhanbarthol, neu’r hyn y maent yn eu galw’n gynlluniau ‘datblygu strategol’, sy’n gallu cyflawni’r union ddiben hwnnw, ond nid ydynt wedi cael eu rhoi ar waith eto. Rwy’n gweld y fargen ddinesig fel cyfle i roi cynlluniau datblygu strategol ar waith.
Bwrdeistref sirol Caerffili sydd â’r lefel uchaf ond un o gymudo yng Nghymru, gyda dros 15,000 yn teithio i ac o’r ardal mewn car bob dydd. Mae’r rhan fwyaf o’r teithiau hyn i’r de i Gaerdydd a Chasnewydd, a bydd unrhyw un sy’n teithio yma o Gaerffili yn y bore, fel rwy’n ei wneud, yn gwybod bod yn rhaid i chi adael y tŷ cyn 7 o’r gloch mewn gwirionedd os ydych yn teithio mewn car er mwyn cyrraedd yma ar amser rhesymol heb dreulio awr, o leiaf, ar y ffordd. Mae hi bron yn sicr y bydd y duedd hon yn cynyddu dros amser gan fod Caerdydd yn ceisio creu llawer o swyddi newydd. Bydd y lefel hon o swyddi, ynghyd ag agosrwydd Caerdydd i Gaerffili, yn sicr o olygu y bydd llawer mwy o fy etholwyr yn cymudo i Gaerdydd. Felly rwy’n croesawu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth pellach mewn ardaloedd fel y Cymoedd gogleddol, ac rwy’n gofyn am sicrwydd y bydd polisïau cynllunio yn cyd-fynd â’r newidiadau hyn.
Nid ydym yn adeiladu digon o gartrefi, a hyd yn oed os nad ydym yn cytuno ar y ffigurau a’r targedau, rwy’n credu ei bod yn ymddangos y gallwn gytuno nad lladd ar broses y cynllun datblygu lleol yw’r ateb. Yn gynyddol, mae mater tai yn fy ardal yn cael ei ystyried yn gyfystyr ag ymchwiliadau cynllunio. Fel y gwelsom ym Mhenlle’r-gaer a Phontarddulais, mae cyngor Abertawe yn cyrraedd ei dargedau anodd iawn drwy glustnodi tir ar gyrion aneddiadau ar gyfer adeiladu stadau tai newydd enfawr, y math y mae datblygwyr yn hoff iawn ohonynt, am y rhesymau a grybwyllodd Hefin, a benthycwyr wrth gwrs, ac mae ysbryd Bodelwyddan yn parhau i fod yn fyw ac yn iach.
Ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi ac arweinyddiaeth strategol gan Lywodraeth Cymru, mae cynghorau mewn sefyllfa bellach lle mae’n rhaid iddynt ddod o hyd i’r nifer uchaf erioed o gartrefi newydd i gyd ar unwaith, yn hytrach na threfnu’n fwy organig mewn ymateb i anghenion twf lleol. A’r canlyniad yw toreth o ddatblygiadau llawer mwy o faint, neu grynoadau o rai llai o faint mewn mannau lle mae’r seilwaith presennol eisoes wedi’i lethu—[Torri ar draws.] Gwnaf, mae fy un i’n eithaf hir—bydd yn rhaid iddo fod yn weddol gyflym.
Iawn, mi wnaf fy ngorau glas. Diolch i chi am ildio. Mewn ymateb i’r pwynt ynglŷn â’r methiant i adeiladu tai’n organig dros y blynyddoedd fel bod angen adeiladu gormod ohonynt bellach, a fyddech yn derbyn mai methiant Llywodraethau Ceidwadol yn yr 1980au i adeiladu tai yn lle’r tai a werthwyd i denantiaid cyngor, yn ddigon cywir, ond yna ni chafodd tai amgen eu hadeiladu i wneud iawn am hynny?
Wel, wrth gwrs, fe wyddoch nad dyna yw polisi’r Ceidwadwyr bellach, ac rydym yn sôn am gyfnod o 30 mlynedd, sy’n ddwy genhedlaeth mewn perthynas ag adeiladu tai. Nid wyf yn credu ei bod yn deg rhoi’r bai ar y Llywodraeth Geidwadol yn awr am adeg pan oeddwn i yn yr ysgol, ac rwy’n ddigon hen bellach i gael gwyliau Saga.
Mae cost y datblygiadau newydd hyn mewn mannau nad ydynt, efallai, yn y lleoliadau gorau hefyd yn cynnwys elfen o fynd yn uwch na maint elw dymunol y datblygwr. Felly, nid yw pethau fel cytundebau adran 106 a’r ardoll seilwaith newydd, mewn gwirionedd, yn ddigon i dalu costau cyffredinol am newidiadau i’r seilwaith sydd eu hangen yn y mannau hyn sy’n anodd eu datblygu. Ac os ydych wedi bod yn dosbarthu taflenni, rydych yn gwybod y math o le rwy’n ei olygu—nid oes dim o’i le ar y tai, ac maent fel arfer yn gymysgedd dda o ran mathau o stoc hefyd, ond mae’r lefel o amwynderau cymdeithasol yn aml iawn yn isel tu hwnt gan mai’r rhagdybiaeth yw bod gennych gar. Maent wedi’u lleoli’n anghysbell ac nid ydynt yn ymateb i sylwadau a gyflwynwyd ynglŷn â diffyg meddygfeydd neu’r ciwiau traffig enfawr i bobl sy’n mynd i’r gwaith neu i’r ysgol.
Bydd datblygiadau o’r fath bob amser yn wynebu gwrthwynebiad, nid gan bobl sy’n dweud ‘na’ i bopeth yn eu milltir sgwâr eu hunain, ond gan bobl sydd â phryderon go iawn ynglŷn â seilwaith a chan y rhai roeddem yn siarad amdanynt ddoe, mewn gwirionedd—pobl y mae eu hunaniaeth gyfan ynghlwm wrth eu synnwyr o dirwedd. Mae yna wrthdaro bron bob amser rhwng y sawl sy’n cynllunio a’r gymuned, a bydd yn peri rhwyg yn aml.
O’m rhan i, ni roddwyd ystyriaeth amlwg i sut y gall ystad, er ei bod yn cynnwys stoc gymysg, ddiwallu anghenion gwahanol teulu unigol dros amser—pethau fel y gallu i addasu pob math o eiddo, y cynllun llawr a pha mor hygyrch yw’r prif ystafelloedd i rywun a allai ddatblygu problemau symudedd. A oes digon o le ar lefel y ddaear ar gyfer estyniad, er enghraifft? A oes adeiladau yn y datblygiad—
Jenny Rathbone a gododd—
Ie, iawn.
Ddydd Llun, agorais ddatblygiad o 24 o gartrefi ar safle tir llwyd a oedd wedi heb gael ei ddefnyddio ers blynyddoedd. Onid ydych yn credu mai mwy o’r mathau hynny o ddatblygiadau ar raddfa fach, fel rhan o gymunedau sy’n bodoli’n barod, yw rhan o’r ffordd ymlaen, yn hytrach na datblygiadau enfawr sy’n cael eu sodro yng nghanol unman heb unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth?
Ie, gydag ‘ie’ ychwanegol, Jenny. Rwy’n sicr yn cytuno â hynny.
Ond rwy’n credu bod y mater hwn ynglŷn â’r gallu i addasu eiddo yn rhywbeth y mae angen i ni fod o ddifrif yn ei gylch yn bendant oherwydd, yn aml ar yr ystadau hyn, yn enwedig y rhai mawr, fe welwch fod eiddo pobl hŷn, os caf eu galw’n hynny—pobl sydd eisiau symud i dŷ llai ac sydd â rhywfaint o broblemau symudedd o bosibl—yn tueddu i gael eu gosod o’r neilltu, ar y sail ei bod yn braf ac yn dawel, mewn mannau lle nad yw pobl o reidrwydd yn eu gweld, lle y gall arwahanrwydd ddatblygu heb i neb sylwi, lle nad oes gofod cymdeithasol, lle na fydd plant ifanc byth yn gweld nac yn dod i adnabod y bobl hŷn ar eu hystadau. Ceir cwestiynau fel, ‘A oes digon o lefydd parcio i weithwyr gofal ymweld â’r tŷ?’, er enghraifft, ac ‘A oes gwasanaeth bws hygyrch i’r feddygfa agosaf?’ Yr ateb i’r cwestiynau hynny, yn aml iawn, yw ‘nac oes.’ Mae’r rhain yn fwy poblog nag ystadau’r 1960au a’r 1970au, ystadau rwy’n gyfarwydd â hwy, ac eto heb y lefel o drafnidiaeth gyhoeddus neu amwynderau eraill, y peth trist yw nad yw’r ystadau hyn yn ateb y galw o hyd.
Dyna pam fod gennyf ddiddordeb yn yr hyn roedd David yn ei ddweud ynglŷn â sut y gallai teuluoedd fyw’n wahanol mewn trefi a dinasoedd, yn anad dim oherwydd bod dwysedd uwch yn addas ar gyfer cymdeithasau cydfuddiannol a modelau cyd-berchnogaeth, sy’n ddeniadol iawn yn fy marn i. Nid yw bywyd trefol dwysedd uwch yn ddadl dros ddiboblogi ardaloedd gwledig o Gymru; nid yw’n syniad a fydd o reidrwydd yn trosglwyddo’n dda i gefn gwlad, er ei bod yn bosibl y gall trefi gwledig fanteisio ar hyn i ryw raddau. Rwy’n meddwl am Aberystwyth, lle y ceir bwlch bellach yn y ddarpariaeth rhwng tai amlfeddiannaeth dirywiedig a adawyd ar ôl gan fyfyrwyr a’r fflatiau dinesig eu natur gyda’u rhenti sy’n ddwywaith cymaint â rhent tŷ ym mhentrefi’r gefnwlad.
Rwy’n sylweddoli fy mod yn brin o amser, Cadeirydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod beth yw fy safbwynt ar ailddatblygu tai amlfeddiannaeth yn gartrefi priodol ar gyfer teuluoedd, felly rwy’n gobeithio y bydd yn cadw hynny mewn cof, ond hefyd efallai yn ystyried defnyddio Cymorth i Brynu ar gyfer adnewyddu cartrefi, sy’n caniatáu i’n cwmnïau adeiladu bach—. Un o bob pump yn unig o’n tai sy’n cael eu hadeiladu gan adeiladwyr bach; cânt eu hadeiladu gan uwchgwmnïau mawr fel arfer. Mae defnyddio Cymorth i Brynu i adnewyddu tai yng nghanol trefi, rwy’n credu, yn gyfraniad bach tuag at ddatrys y broblem tai. Mae’n ddrwg gennyf, rwy’n gobeithio bod hynny’n iawn. Diolch.
A gaf fi gychwyn drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig hwn, gan fod tai fforddiadwy yn gyffredinol, yn ddi-os, a mynd i’r afael â digartrefedd yn benodol, ymhlith y materion mwyaf, rwy’n credu, sy’n wynebu ein gwlad heddiw? Er bod y cynnig yn ymwneud yn bennaf ag adeiladu tai, hoffwn ehangu fy nghyfraniad i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n achosi digartrefedd a ffyrdd posibl o fynd i’r afael â’r broblem honno, ac mae adeiladu tai fforddiadwy yn un ohonynt.
O fewn hynny, fel eraill, rwy’n sicr yn croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, ymrwymiad y gwn ei fod yn parhau’n gadarn. Cyferbynnwch hynny, os mynnwch, â’r Torïaid yn Lloegr. Eu haddewid blaenllaw ar adeg lansio eu maniffesto oedd y byddent yn adeiladu cenhedlaeth newydd o dai cymdeithasol, ond o fewn wythnosau, buom yn dyst i dro pedol gwan a sigledig arall gan Theresa May, gyda’i Gweinidog tai yn cyfaddef y byddai’r tai a gynlluniwyd o fath a fyddai gryn dipyn yn llai fforddiadwy mewn gwirionedd. Eironig, felly, o safbwynt y cynnig hwn. Wel, o bosibl. Ond nid dyna’r eironi go iawn o’m rhan i. Pan fyddwn yn clywed Aelodau Ceidwadol yn siarad yn y Siambr hon am dai ac am broblemau digartrefedd, rwy’n meddwl tybed pryd y byddant yn magu’r gonestrwydd i gydnabod bod mesurau caledi eu Llywodraeth hwy yn San Steffan yn ffactor allweddol sy’n gwaethygu problemau digartrefedd yng Nghymru ac ar draws y DU gyfan, fel effeithiau polisi hawl i brynu Llywodraeth Thatcher y cyfeiriodd Lee Waters ato, gyda llaw, polisi a anrheithiodd y stoc dai cymdeithasol ar draws y DU gyfan, ac nid ydym, 30 mlynedd yn ôl neu beidio, wedi dod dros hynny hyd heddiw. Mae’r mesurau caledi y cyfeiriais atynt yn cynnwys y dreth ystafell wely ddichellgar, gyda’r effaith ddinistriol ar lawer o deuluoedd incwm isel. Ac os caiff y Torïaid eu hailethol yfory, byddwn yn gweld capiau ar lwfansau tai lleol a fydd yn niweidio pobl o dan 35 oed yn arbennig.
Llywydd, bythefnos yn ôl yn unig, ymunodd pawb yn y Siambr hon â mi i gondemnio arfer gwarthus landlordiaid sy’n cynnig eiddo’n ddi-rent neu am bris isel yn gyfnewid am ffafrau rhywiol, ond polisïau Torïaidd yn San Steffan sy’n creu amgylchedd i hyn allu ffynnu. Yng Nghymru, ar hyn o bryd, mae bron i 0.25 miliwn o bobl yn hawlio budd-daliadau tai, ac mae 100,000 ohonynt yn denantiaid cymdeithasau tai. I’r rhai sydd â’r angen mwyaf, mae bron yn sicr na fydd y lefel bresennol o fudd-daliadau yn talu am gost rhenti a thaliadau gwasanaeth, gan roi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas mewn perygl o fod yn ddigartref. Felly, byddai 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yma yng Nghymru yn ddatblygiad arwyddocaol, a byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan ar ôl yfory, a fyddai’n gwrthdroi toriadau budd-daliadau’r Torïaid, yn helpu’r rhai sy’n wynebu’r posibilrwydd o fod yn ddigartref.
Ond mae angen i ni hefyd fynd i’r afael â’r hyn y gallwn ei wneud i helpu’r rhai sydd eisoes yn ddigartref. Fel y soniais o’r blaen, treuliais rywfaint o amser dros y gaeaf yn helpu yn y lloches nos ym Merthyr Tudful, a deuthum yn ymwybodol iawn yn sgil hynny o’r cylch o anobaith y gall pobl ddigartref ddisgyn iddo yn aml. Heb unrhyw gyfeiriad sefydlog, mae’n anodd iawn dod o hyd i waith, a hyd yn oed i’r rhai sy’n gallu dod o hyd i waith ac yn gallu rhoi digon o’r neilltu i rentu eiddo, mae’r ffaith eu bod yn ddigartref yn golygu bod llawer o ddarpar landlordiaid yn amharod i dderbyn taliadau bond ganddynt ac yn gyffredinol ni allant ddarparu gwarantwr ar gyfer eu tenantiaeth. Un ateb i’r broblem benodol hon, o bosibl, fyddai gwneud mwy o ddefnydd o’r Llywodraeth neu’r awdurdod lleol i weithredu fel gwarantwr dewis olaf ar gyfer tenantiaethau o’r fath—cynllun y gwn ei fod wedi gweithredu’n llwyddiannus mewn rhai rhannau o’r wlad. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ategu fy nghanmoliaeth yn ddiweddar i fenter Cartrefi Cymoedd Merthyr sy’n treialu’r defnydd o gynwysyddion llongau i’w troi’n llety dros dro: rhywbeth y gallai ardaloedd awdurdodau lleol eraill edrych arno hefyd o bosibl.
Ac yna, wrth gwrs, ceir enghreifftiau o wledydd eraill—cyffyrddodd David Melding ar hyn—o ddulliau arloesol i fynd i’r afael â phrinder tai y dylem edrych arnynt a’u hystyried o ddifrif. Yn Ffrainc, mae dull IGLOO, ac rwy’n eich sicrhau nad yw hynny’n ymwneud ag adeiladu tai o iâ. Dyna fenter a ddatblygwyd gan gynrychiolwyr ffederasiynau tai cymdeithasol, grwpiau integreiddio cymdeithasol ac undebau llafur, gan edrych yn benodol ar ddarparu tai ar gyfer teuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd wedi’u hallgáu. Yn y Ffindir, enghraifft brin o wlad Ewropeaidd lle mae lefelau digartrefedd wedi gostwng, ceir cynllun ‘tai yn gyntaf’, sef model grisiau sy’n cefnogi’r broses o drosglwyddo pobl oddi ar y stryd i loches nos, i hostel, i unedau tai trosiannol ac yna i’w llety annibynnol eu hunain.
Felly, i gloi, dirprwy Lywydd, gadewch i ni gael y trafodaethau am yr angen am dai fforddiadwy newydd wrth gwrs, ond yn hytrach na chael ein llethu gan fethodoleg cyfrifo’r niferoedd sydd eu hangen, gadewch i ni hefyd ymrwymo i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol ein problemau tai.
Rwy’n croesawu’r cyfle i gyfrannu yn y ddadl hon. Gallwn dreulio fy nghyfraniad cyfan yn ceisio tynnu gwahanol gyhuddiadau’r Aelod dros Ferthyr yn ddarnau. Rwy’n credu bod un cyhuddiad islaw ei hurddas â bod yn deg: y cyhuddiad yn erbyn y Ceidwadwyr mai polisïau Ceidwadol yw’r rheswm pam y bydd pobl yn gwerthu eu cyrff am do dros eu pennau. Rwy’n credu bod hwnnw’n rhywbeth y gobeithiaf y bydd yn myfyrio yn ei gylch, ac yn dod i safbwynt mwy ystyriol o bosibl.
Mae’n ffaith, fel y dywedodd David Melding yn ei sylwadau agoriadol, mai ateb marchnad gyfan yw’r hyn sydd ei angen. Oherwydd mewn gwirionedd, os edrychwch ar y maes tai ar ei ben ei hun mewn un rhan ohono, ni fyddwch byth yn datrys y ddynameg gyffredinol yn y farchnad dai, sef: nid oes gennym ddigon o dai—a dyna ddiwedd arni. Dyna’r hafaliad syml. Fel y dywedodd David, os ydym yn parhau ar y llwybr presennol, a’ch bod mewn gwirionedd yn cyrraedd eich targedau—ac nid oes llawer o dystiolaeth eich bod yn cyrraedd y targedau—bydd diffyg o 66,000 o dai erbyn y flwyddyn 2030. Rwy’n credu fy mod wedi eich clywed yn iawn—neu 2031, fel y cyfryw, felly. Ac ar sail Cymru’n unig y mae hynny. Mae’n ddiffyg enfawr yn y farchnad. Yn y pen draw, ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf, ymddeoledigion a’r rhai yn y canol, bydd hynny’n creu pwysau enfawr ar brisiau ac yn ei gwneud yn fwy anfforddiadwy i bobl gamu ar yr ysgol dai a chael eu cyfran yn y gymdeithas, boed hynny yn y sector rhentu neu yn y sector prynu. Gobeithio y gallwn i gyd gytuno â hynny.
Yr hyn sy’n siomedig yw dull Llywodraeth Cymru o weithredu ar hyn o bryd. Ers mis Mai y llynedd, gwn ein bod wedi cael refferendwm yr UE, rydym wedi cael yr etholiadau llywodraeth leol, ac rydym yn awr—yfory—yn mynd i gael yr etholiad cyffredinol, ond mewn gwirionedd, mae’r Llywodraeth hon yn ei babandod, os mynnwch; dylai fod yn torri cwys newydd ac yn cyflwyno syniadau disglair, da i ateb un o’r heriau mawr rydym ni, fel cymdeithas, yn eu hwynebu: sut y gallwn ddarparu’r ateb tai cymysg hwnnw? Gallaf weld Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ‘Rydym yn gwneud hynny’. Nid yw’r dystiolaeth yno, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n amlwg nad yw yno, yn enwedig pan edrychwch ar y problemau y mae pobl yn eu canfod ym mhob cymuned ar hyd a lled Cymru o fethu sicrhau to uwch eu pennau—y cyfle hwnnw i gael cyfran yn y gymdeithas. Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn—
Jenny Rathbone a gododd—
Fe gymeraf ymyriad mewn munud, Jenny. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei gyfraniad heddiw, yn siarad—oherwydd soniwyd am y cynlluniau gofodol a gyflwynwyd gan y Gweinidog ar y pryd, Andrew Davies, ond sydd bellach wedi symud i’r fframwaith datblygu cenedlaethol, rwy’n credu—ynglŷn â sut y mae hwnnw’n datblygu, i edrych ar gynllunio ar sail ranbarthol. Oherwydd mae’n deg dweud bod cynghorau, ar brydiau, yn blwyfol iawn yn y ffordd y maent yn edrych, gan geisio ateb y galw cyffredinol o ran yr hyn rydym ni fel gwlad ac rydym ni fel cymdeithas ei angen. Fe gymeraf yr ymyriad.
Diolch yn fawr iawn. A ydych yn cytuno bod yna dair her? Y gyntaf yw’r ffaith fod tai yn gwbl anfforddiadwyedd. Os oes gennym 0.25 miliwn o bobl yn derbyn budd-dal tai, mae hynny’n dweud wrthych fod cost tai’n gwbl anfforddiadwy, ac yn sicr nid yw’n bosibl i bobl ar enillion cyfartalog allu fforddio morgais ar y prisiau cyfredol.
Rhif 2: mae angen inni sicrhau bod safleoedd tir llwyd yn cael eu rhyddhau—wyddoch chi, mae pob corff cyhoeddus a rhai cyrff preifat yn eistedd ar dir y gellid ei ryddhau ar gyfer tai. Rhif 3: mae angen inni gael yr arianwyr i ryddhau’r arian ar gyfer y cynlluniau creadigol, yn enwedig cynlluniau carbon niwtral, sy’n cael eu creu mor rhwydd yng Nghymru, ac sydd ar gael ac wedi cael eu profi, ac rwy’n siŵr y bydd pobl eisiau byw ynddynt os yw cael y cartrefi cynnes hyn yn mynd i leihau eu biliau ynni’n aruthrol.
Ni fyddwn yn anghytuno â llawer o’r hyn rydych wedi’i ddweud yn y fan honno, â bod yn onest gyda chi. Mae’n mynd yn ôl at y pwynt rwyf wedi bod yn ei wneud: rydym yn wynebu sefyllfa cyflenwad a galw. Dyna pam rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio’i gyfle heddiw, pan soniais am y fframwaith datblygu cenedlaethol y credaf ei fod yn gwbl ganolog i’r ffordd y bydd y Llywodraeth yn sbarduno rhai o’r cynlluniau mwy yn rhanbarthol a allai ryddhau symiau sylweddol o arian i ddatblygu prosiectau seilwaith, megis prosiectau seilwaith trafnidiaeth, a chyd-noddi’r cynllun metro yma yn ne Cymru, yn enwedig—. Rwy’n credu fy mod yn gywir yn dweud hynny, ac rwy’n edrych am eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd, yn amlwg, mae’r broses honno o godi arian o ddatblygiadau yn ôl adran 106 yn un a ddeallir yn dda yn lleol, a chyda’r cyfyngiadau presennol ar gyllid cyhoeddus, gwyddom nad oes gan bwrs y wlad yr arian i ddatblygu llawer o’r cyfleoedd seilwaith hyn.
Mae’n ffaith, pan fyddaf yn mynd o gwmpas fy ardal yng Nghanol De Cymru—ac mae hynny wedi bod yn ddadleuol iawn o ran adeiladu tai, yn enwedig yn ardal Caerdydd—fod y rhan fwyaf o bobl yn deall ein bod angen mwy o dai mewn gwirionedd. Yr hyn y maent yn ei wrthwynebu’n ffyrnig yw datblygiadau mawr yn cael eu hadeiladu heb i’r atebion gael eu rhoi ar waith yn y lle cyntaf—wyddoch chi, y seilwaith trafnidiaeth, y meddygfeydd meddygon teulu, yr addysg. Os gall pobl fod yn hyderus fod yr atebion hynny yno, ar y cyfan, maent yn derbyn bod yna angen am dai. Dylwn fod wedi datgan buddiant yma oherwydd mae gennyf bedwar o blant ifanc. Wel, nid plant ifanc—maent yn eu harddegau bellach, ar drothwy eu hugeiniau. Mewn blwyddyn neu ddwy, byddant yn awyddus i gamu ar yr ysgol eiddo hefyd. Rwy’n siŵr fod llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon yn yr un sefyllfa. Rydych yn edrych ar brisiau tai ar hyn o bryd a’r ffordd y mae pobl yn mynd i allu eu fforddio yn y dyfodol, ac mae yna ddatgysylltiad o ran y ffordd y gall pobl fforddio cael eu cyfran yn y gymdeithas. Oherwydd o safbwynt Ceidwadol, dyna sut rwy’n gweld tai: mae’n gyfran yn y gymdeithas—eich cyfran chi yn y gymuned. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gallu datgloi’r drws sy’n cynnig y cyfle hwnnw. Fel y dywedodd David yn ei sylwadau agoriadol, mae hefyd yn sbardun enfawr i botensial hyfforddi, datblygu economaidd ac adfywio.
Felly, rwy’n gobeithio, pan gyrhaeddwn yr ochr draw i yfory—yr etholiad cyffredinol—a phan fyddwn yn rhoi’r tri etholiad rydym wedi’u cael yn y 12 mis diwethaf y tu ôl i ni mewn gwirionedd, y gallwn yn wleidyddol yn y sefydliad hwn roi croeso mawr i rai o’r atebion radical y byddwn eu hangen i ateb y prinder tai sydd gennym ar hyd a lled Cymru. Oherwydd os nad ydym yn gwneud hynny, byddwn yn cael ein gadael ar ôl fel gwlad. A chyda datblygiad y meiri metro dros y ffin, sy’n datblygu prosiectau seilwaith a chyfleoedd adfywio anferth yn seiliedig ar ddatblygiadau tai, yna bydd y cwmnïau rhyngwladol mawr hynny, pa un a ydym yn eu hoffi neu beidio, yn buddsoddi ar yr ochr ddwyreiniol i Glawdd Offa, ac ni fyddant yn dod yn agos at ochr orllewinol Clawdd Offa, a bydd hwnnw’n gyfle a gollir, nid yn unig i’r Llywodraeth hon, ond i bobl Cymru.
Diolch, Gadeirydd, a diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl heddiw ar fater tra phwysig tai fforddiadwy, ac yn arbennig tai fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc. Mae yna amryw o ffyrdd gwahanol y gallwn roi camau ar waith i helpu pobl ifanc i gamu ar yr ysgol dai, ac mae rhai ohonynt wedi cael eu profi gan y Llywodraeth yma ym Mae Caerdydd, ond mae problemau’n parhau. Y broblem fawr a nodwyd gan siaradwyr eraill heddiw yw bod chwyddiant prisiau tai yn fwy na chodiadau cyflog. Felly, mae prisiau tai, hyd yn oed yng Nghymoedd de Cymru, a oedd yn enwog am eu prisiau tai cymharol isel ychydig flynyddoedd yn ôl, bellach y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl ifanc.
Mae’n ymddangos bod yr adeilad newydd cyfartalog yng nghymoedd y Rhondda a Chwm Cynon oddeutu £160,000 ar hyn o bryd. Mae cyflogau cyfartalog pobl ifanc, yn ôl pob tebyg, rhwng tua £15,000, sef lefel yr isafswm cyflog yn fras, ac £20,000. Felly, fel y nodwyd yn awr—rwy’n credu bod Jenny wedi’i grybwyll hefyd—y broblem anferth yw symud o’r lefelau cyflog hynny i’r math o arian sydd ei angen i gamu ar yr ysgol dai. Mae gennych ddwy broblem: un yw cynilo ar gyfer y blaendal a’r llall yw cael morgais ar gyflog cymharol isel. Felly, i lawer o bobl ifanc, mae adeiladau newydd bellach ymhell y tu hwnt i’w hystod pris. Gellir prynu hen dai teras yn y Cymoedd mewn rhai lleoedd am oddeutu £60,000 o hyd. Ond nid yw Cymorth i Brynu ond yn berthnasol i adeiladau newydd. Felly, rwy’n meddwl tybed: a ddylid estyn y ddarpariaeth hon mewn rhyw ffordd neu a ddylid cael cynllun tebyg sy’n berthnasol i hen dai i helpu pobl ifanc i gamu ar yr ysgol dai drwy symud i hen dai—tai cymharol hen?
Mae gennym gynlluniau Llywodraeth ar hyn o bryd, ac un ohonynt yw rhentu i brynu. Rwyf wedi cael trafferth dod o hyd i lawer o wybodaeth am hyn, a chrybwyllodd Hannah Blythyn y mater yn ddiweddar yn y Siambr fod gwybodaeth ar Cymorth i Brynu a rhentu i brynu yn aml yn anodd cael gafael arni. Yn syml iawn, nid yw llawer o bobl yn gwybod am rentu i brynu yn fy mhrofiad i, ac nid oes llawer o wybodaeth ar wefan y Llywodraeth ei hun am y cynllun hwn. Felly, a oes unrhyw beth yn cael ei wneud i roi cyhoeddusrwydd gwell i’r cynlluniau hyn?
Mae un o welliannau Plaid Cymru yn ymdrin â ffioedd asiantaethau gosod tai, sydd hefyd yn broblem i bobl ifanc, fel y mae eu gwelliant yn cydnabod. Rydym wedi bod eisiau gwahardd ffioedd asiantaethau gosod tai diangen yn y gorffennol hefyd. Nawr, mae’r Gweinidog wedi awgrymu yn ddiweddar, rwy’n credu, y byddai’n ystyried cefnogi Bil Aelod preifat ar y pwnc hwn, ac rwy’n credu ei fod hefyd wedi dweud ei fod yn edrych ar y dystiolaeth o’r Alban, lle maent wedi cyflwyno gwaharddiad ar ffioedd asiantaethau gosod tai. Roedd pryderon y gallai hynny wthio rhenti i fyny, wrth i landlordiaid ac asiantaethau geisio adennill y ffioedd a gollir drwy godi rhenti, ond nid wyf yn siŵr a oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod hynny’n digwydd. Felly, rwy’n meddwl tybed: a yw’r Gweinidog wedi cael amser i asesu’r sefyllfa sy’n bodoli yn yr Alban bellach, a beth yw ei safbwynt yn awr ar y sefyllfa sy’n ymwneud â ffioedd asiantaethau gosod tai? Diolch.
Hoffwn alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n diolch ac yn croesawu’r ddadl hon heddiw gan y Blaid Geidwadol. Mae argaeledd tai cynaliadwy yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon, ac mae Llywodraeth y DU hyd yn oed i’w gweld yn agor ei llygaid i bwysigrwydd y mater hwn bellach, a barnu wrth eu Papur Gwyn diweddar. Rydym yn croesawu eu troedigaeth yn hwyr yn y dydd. Yn wir, roedd Dawn Bowden yn gywir ynglŷn â lansio’r Papur Gwyn a’r targedau yn hwnnw, dim ond er mwyn i’r targedau hynny gael eu gollwg gan Theresa May a’i thîm ychydig wythnosau yn ddiweddarach.
Rydym yn cydnabod yr heriau sy’n bodoli yn y sector tai yng Nghymru, Llywydd, yn seiliedig ar y prif amcanestyniad o angen yn adroddiad Holmans. Mae Cymru, gyda 5,300 o dai y flwyddyn wedi’u cwblhau ar y farchnad agored dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi cyrraedd y nifer a nodwyd yn y sector hwnnw, a byddwn yn gweithio i’w godi ymhellach eto.
Gwrandewais yn astud iawn ar gyfraniad David Melding, ac unwaith eto cyflwynodd ei ddadl yn huawdl iawn, ond mae’n byw yn ei swigen dai ei hun, mae’n ymddangos, gyda’r rhifau y mae’n dewis eu cyflwyno i’r Siambr hon. Yn wir, byddai Donald Trump yn falch o’r rhifau newyddion ffug y mae’r Aelod yn eu defnyddio. Gadewch i mi rannu’r sefyllfa dai go iawn gyda’r Aelodau yn y Siambr, yn enwedig o dan y weinyddiaeth Geidwadol. Mae adeiladu tai o dan y Torïaid wedi gostwng i’w lefel isaf mewn cyfnod o heddwch ers y 1920au. Rwy’n gwybod nad ydynt yn hoffi siarad am yr 1980au neu’r 1970au, ond gadewch i ni roi rhai rhifau yma. Mae dadansoddiad o adeiladu tai sy’n mynd yn ôl dros ganrif yn dangos mai o dan y Llywodraethau Ceidwadol diweddar, o dan Cameron a May, y gwelwyd y lefel gyfartalog isaf o adeiladu tai ers Stanley Baldwin—eich ffrindiau chi unwaith eto—yn Stryd Downing ym 1923. Ystadegau swyddogol; nid fy rhai i—daeth hyn o Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin.
Adeiladwyd 127,000 o gartrefi y flwyddyn ar gyfartaledd yng Nghymru a Lloegr ers i’r Torïaid ddod i rym yn 2010. [Torri ar draws.] Maent i gyd yn brygawthan; nid ydynt yn ei hoffi. Y ffeithiau yw’r ffeithiau. Dyma’r lefel isaf a gyflawnwyd gan unrhyw Lywodraeth ers 1923. Cafodd Llywodraeth y DU wared ar y targed ar gyfer y Bil tai o dan y polisi blaenllaw—
David Melding a gododd—
Rwy’n fwy na pharod i ildio i’r Aelod.
Diolch i’r Gweinidog am gofnodi nad ydym yn adeiladu digon o dai yn y Deyrnas Unedig. Mae’n iawn i ddweud hynny, a wyddoch chi, rwyf wedi clywed ei fyfyrdodau ar Lywodraethau Ceidwadol y gorffennol. Ym maniffesto presennol y Ceidwadwyr, mae yna ymrwymiad i adeiladu 1.5 miliwn o gartrefi rhwng yn awr a 2022. Byddai hynny’n golygu 75,000 yn fwy o gartrefi yng Nghymru yn yr un cyfnod. Byddwch yn adeiladu llai na hanner hynny. A ydych yn credu bod eich ymateb yn ddigonol?
Pam y byddem yn dechrau eich credu yn awr a ninnau wedi gweld Theresa May yn troi ar ei pholisïau flwyddyn ar ôl blwyddyn? Y ffeithiau yw eich bod, ers 1923, yn is yn y tymor llywodraeth hwn nag unrhyw Lywodraeth arall, Llafur neu Geidwadol. Nid oes gennych goes i sefyll arni.
Rwy’n cydnabod bod angen gwneud rhagor, Llywydd, i ateb yr angen am dai cymdeithasol, ac rwy’n ymroddedig i wneud popeth a allwn i gyflawni hyn. Ni all ymyriadau Llywodraeth Cymru ar eu pen eu hunain fod yn gyfrifol am gyflenwi pob cartref yng Nghymru, ychwaith, ond rydym yn buddsoddi’r lefelau uchaf erioed o gyllid yn ystod y tymor llywodraeth hwn—£1.3 biliwn i gefnogi’r sector tai ar draws y mathau o ddeiliadaeth. Rwy’n falch o’r hanes o gefnogi tai cymdeithasol a thai’r farchnad agored. Yn ystod tymor diwethaf y llywodraeth, gosodasom darged o 10,000 o gartrefi fforddiadwy, a llwyddasom i ddarparu 11,500. Rwy’n credu, Andrew, yn eich cyfraniad, eich bod wedi methu cydnabod ein bod wedi rhagori ar y targedau a osodwyd gennym yn ystod tymor diwethaf y llywodraeth. Ac yn y tymor llywodraeth hwn, rydym wedi gosod targed i gyflenwi 20,000 o gartrefi fforddiadwy, gan gynnwys 6,000 drwy Cymorth i Brynu. Mae cynnwys Cymorth i Brynu yn adlewyrchu llwyddiant y cynllun a phwysigrwydd helpu’r rhai sydd, fel y mae sawl un wedi’i ddweud, yn dymuno bod yn berchen ar dai, yn ogystal â’r rhai sydd angen tai cymdeithasol.
Ymhlith y rhai sy’n dymuno bod yn berchen ar dai, rydym yn gwybod bod yna bobl sy’n dyheu am fod yn berchen ar eu cartref eu hunain ond sy’n methu cynilo’r blaendal tra’u bod, yn aml, yn talu cyfraddau uchel yn y sector preifat. Ac mae swyddogion yn y broses o ddatblygu cynllun rhentu i brynu—dyna pam na fydd yr Aelod yn gallu dod o hyd i unrhyw beth ar-lein, gan nad ydym wedi lansio’r cynllun eto, ond byddwn yn gwneud hynny dros y misoedd nesaf—a fydd yn helpu pobl i ddod yn berchen ar dai heb unrhyw flaendal, cyn belled â’u bod yn gallu fforddio rhent y farchnad.
Rydym yn dibynnu ar ein partneriaid mewn awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a’r sector preifat i adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen arnom yng Nghymru, ac mae angen i ni i gyd wrando, a gweithredu, ar rai o’r problemau y maent yn eu hwynebu wrth geisio adeiladu mwy o gartrefi. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth, Aelodau’r Cynulliad, cynghorwyr lleol ac adeiladwyr tai fod yn barod i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r rhwystrau i adeiladu tai. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yng nghyfraniadau’r Aelodau Ceidwadol. Hynny yw, mae hanner y miliwnyddion yn y rhes flaen, Llywydd, wedi ysgrifennu ataf yn cwyno am ddatblygiadau tai yn y gorffennol. Felly, un funud maent eisiau tai, a’r funud nesaf nid ydynt eisiau tai. Felly, nid wyf yn gwybod beth yn union y maent ei eisiau. [Torri ar draws.] Rwy’n fwy na pharod i dderbyn ymyriad os oes gennyf amser.
Pwy ar y ddaear yw’r miliwnyddion, felly?
Iawn, tynnaf y sylw hwnnw’n ôl. Mae hanner y miliwnyddion nad ydynt yn y rhes flaen wedi ysgrifennu ataf mewn perthynas â pheidio â darparu cartrefi newydd.
Llywydd, rwy’n awyddus iawn i weld adeiladwyr tai bach a chanolig yn mynd i mewn ac yn dychwelyd i’r sector adeiladu tai. Ac mae nifer y cartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu yn y DU gan fusnesau bach a chanolig wedi gostwng o tua dwy ran o dair yn yr 1980au hwyr i fwy na chwarter. Nawr, rwy’n bwriadu gwneud cyhoeddiad pellach yn y dyfodol agos ar sut y gallwn gryfhau ein cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig.
Llywydd, soniais yn gynharach fy mod am weld newid sylweddol yn y modd y mae tai yn cael eu cyflenwi. Credaf fod yna gyfle i fabwysiadu dull newydd o gynllunio a chyflenwi. Dyna pam y lansiais y rhaglen tai arloesol gwerth £20 miliwn, yn benodol i gefnogi dulliau amgen a newydd o adeiladu tai, a fydd yn helpu anghenion yr heriau y mae Jenny Rathbone wedi’u dwyn i fy sylw ar sawl achlysur. Mae dulliau amgen, modern o adeiladu yn rhoi cyfle i ni ddod â phobl â set sgiliau wahanol i’r diwydiant tai, a gall dull newydd o gynllunio a chyflenwi helpu i ehangu’r gweithlu llafur a all gyfrannu at adeiladu cartrefi.
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
A wnewch chi egluro pam fod adeiladwyr tai yn y wlad hon mor amharod at ei gilydd i adeiladu tai ffrâm bren er eu bod yn gyffredin yn yr Unol Daleithiau, Canada a’r Gwledydd Llychlyn? Pam hynny? Ai’r arianwyr, neu’r adeiladwyr tai sy’n rhy geidwadol a dim ond eisiau adeiladu’r tai llai na digonol y maent yn eu hadeiladu ar hyn o bryd?
Rwy’n credu bod yna rywfaint o’r ddau rhwng adeiladwyr cartrefi a datblygwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae’n ymwneud â derbyn bod yna gyfle i godi tai drwy ddefnyddio dulliau eraill o adeiladu. Dyna ble y bydd y gronfa arloesi—. Rwyf wedi dechrau honno, a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau ynglŷn â chyfleoedd newydd yn fuan iawn. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn falch iawn o glywed rhai o’r argymhellion a gyflwynir. Byddaf yn gwneud hynny, fel y dywedais, yn ystod yr wythnosau nesaf, gan gynnwys materion yn ymwneud â chanllawiau a chyllid i ysgogi dewisiadau gwell na chysgu ar y stryd.
Llywydd, ni allwch adeiladu cartrefi heb dir, ac mae’r Aelodau wedi crybwyll y mater hwnnw yn y Siambr heddiw. Byddwn yn parhau—ac rwyf eisoes wedi cael trafodaethau gyda Ken Skates a Lesley Griffiths ynglŷn â sut y gallwn gynyddu argaeledd tir sy’n eiddo cyhoeddus i gefnogi adeiladu tai. Rydym yn y broses o ddeddfu i roi diwedd ar yr hawl i brynu a’r hawl i gaffael. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, credwn mai hon yw’r unig ffordd o ddiogelu’r stoc dai cymdeithasol rhag lleihau ymhellach, a rhoi hyder i gynghorau a chymdeithasau tai adeiladu cartrefi newydd, gan mai tai cymdeithasol, i lawer o bobl, yw eu hunig obaith am gartref, ac rydym yn benderfynol o sicrhau ei fod yn parhau a bod mwy ohonynt ar gael.
Mae gennym hanes cryf o ddod â chartrefi gwag yn ôl ar y farchnad—dros 7,500 yn ystod tymor diwethaf y llywodraeth. Mae gan awdurdodau lleol ystod o bwerau ar gael iddynt i gyflymu hyn. Llywydd, mae llawer mwy i’w wneud o hyd, fel y dywedais, er ein bod yn gwneud cynnydd go iawn. Mae ystadegau a ryddhawyd heddiw yn dangos bod nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd yn ystod 2016-17 wedi cynyddu 2 y cant o gymharu â blynyddoedd blaenorol, a hwn yw’r ffigur blynyddol uchaf ond un a gofnodwyd ers 2007-8.
Gan weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, rwy’n awyddus i ddefnyddio’r system gynllunio i gynyddu nifer y tai a gaiff eu hadeiladu. Gwrandewais ar gyfraniad Hefin ac rwy’n gwybod ei fod wedi gwneud sylwadau cryf ynglŷn â phrosesau’r cynllun datblygu lleol. Rwy’n credu bod gennym gyfleoedd gyda’r cynlluniau datblygu rhanbarthol y cyfeiriodd Andrew Davies atynt yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015. Yn anffodus, unwaith eto, roedd honno’n ddeddfwriaeth flaengar iawn ac fe ddewisoch bleidleisio yn ei herbyn. Felly, un funud rydych ei eisiau a’r funud nesaf nid ydych ei eisiau. Ni allaf ddeall eich safbwynt. Rwy’n cydnabod pwysigrwydd seilwaith mewn gwasanaethau cyhoeddus, ond mae pobl yn dal i fod angen cartrefi ac ni allant aros hyd nes y daw mesurau caledi i ben. Felly, ni allaf gefnogi gwelliant 4. Fodd bynnag, gallaf eich sicrhau y byddaf yn gweithio i alinio prosiectau seilwaith strategol megis y metro, fel y nododd yr Aelod, â’n rhaglen adeiladu tai.
Nid yw’n syndod na allaf gefnogi cynnig y Ceidwadwyr. Yn wahanol i welliant y Llywodraeth, mae’n methu nodi rhaglen gynhwysfawr o gamau gweithredu ymarferol i ddiwallu’r amrywiaeth eang o anghenion tai yng Nghymru. Gallwn ddadlau am oriau ynglŷn â’r union fanylion. Dywedodd David Melding y dylem nodi ein safbwynt; wel, mae’r Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen â’r gwaith ochr yn ochr â’n partneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, yn hytrach na defnyddio’r dadleuon academaidd y mae’r Aelod yn eu defnyddio—chwarae’r gêm o weld bai yng Nghymru tra’n bod ni’n ateb anghenion tai yma yng Nghymru. Diolch.
Galwaf yn awr ar Mark Isherwood i ymateb i’r ddadl.
Diolch i’r holl gyfranwyr.
Ym 1999, pan ddaeth y Blaid Lafur i rym am y tro cyntaf, nid oedd unrhyw argyfwng cyflenwad tai yng Nghymru, ond torasant y cyllidebau tai ac yn eu tri thymor cyntaf aethant ati i dorri 71 y cant o’r cyflenwad o dai fforddiadwy newydd. Dyna pam fod gennym argyfwng cyflenwad tai. Fel y dywedodd David Melding, ers cenhedlaeth mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi methu mynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru, gan fynd ar drywydd rhithiau yn hytrach na mynd i’r afael ag anghenion tai. Yn ystod yr ail Gynulliad daeth y sector tai at ei gilydd i ddechrau rhybuddio Llywodraeth Cymru y byddai yna argyfwng tai pe na baent yn gwrando. Yr hyn a wnaeth Llywodraeth Cymru pan gyflwynais gynigion i gefnogi llais y sector ar hynny oedd cynnig gwelliannau a oedd yn cael gwared ar y geiriau ‘argyfwng tai’ yn hytrach na mynd i’r afael â rhybuddion y sector.
Fel y dywedodd David, erbyn 2031, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn newid ei ffordd, bydd yna ddiffyg o 66,000 o gartrefi yng Nghymru. Fel y dywedodd, mae angen uchelgais arnom oherwydd mae tai yn angen sylfaenol—rydym angen cartrefi i bawb. Cyfeiriodd at dir, ac fel y mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi’i ddweud, ‘Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu’r cyflenwad o dir cyhoeddus ar gyfer tai am bris sy’n adlewyrchu’r gwerth cymdeithasol y byddant yn ei gynnig i bobl Cymru?’ Derbyniais hwnnw y bore yma. Nid hanes yw hyn: dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd.
Pwysleisiodd Dai Lloyd yr angen i ganolbwyntio ar safonau tai a gwneud tai yn fwy fforddiadwy. Hefin David: yr angen i fuddsoddi mewn ardaloedd sy’n wan o ran tai a chysylltu hyn â chyfleoedd cyflogaeth; Suzy Davies: nid proses y cynllun datblygu lleol oedd yr ateb ac mae angen i ni ddefnyddio tai i ysgogi adfywio cymunedol cynaliadwy. Siaradodd Dawn Bowden am Loegr yn canolbwyntio ar dai llai fforddiadwy, fod y Torïaid yn Lloegr yn canolbwyntio ar dai llai fforddiadwy. Wel, yr hyn y mae Lloegr yn ei wneud yw canolbwyntio’n bennaf ar rent canolradd, sydd hefyd yn cael ei gynnwys yn nharged 20,000 Llywodraeth Cymru. Felly, os yw un yn anghywir, mae’r ddau’n anghywir. Mae hynny’n ymddangos ychydig yn rhyfedd. Cyfeiriodd at—gan gyferbynnu â Lloegr unwaith eto—. Ers 2010, mae mwy na dwywaith cymaint o dai cyngor wedi cael eu hadeiladu yn Lloegr nag yn y 13 blynedd gyda’i gilydd o dan y Llywodraeth Lafur flaenorol, pan oedd rhestri aros Lloegr bron â dyblu yn sgil gostyngiad o 421,000 yn nifer y tai cymdeithasol i’w rhentu yn Lloegr. Dyna’r realiti. Dywedodd Andrew R.T. Davies nad oes gennym ddigon o gartrefi, a dyna ddiwedd arni. Mae angen i ni wynebu’r her sydd hefyd yn sbarduno’r agenda hyfforddi a’r agenda economaidd ehangach. Gareth Bennett: prisiau tai yn drech na chyflogau. Wrth gwrs eu bod; dyna symptom o’r argyfwng cyflenwad tai.
Dangosodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn byw yn ei swigen dai ei hun. Wrth gwrs, mae ganddo hanes. Mae wedi bod yn Weinidog tai o’r blaen, ac felly, mae’n rhannu cyfrifoldeb am yr argyfwng y mae pobl Cymru yn ei wynebu yn y maes hwn. Dywedodd fod lefel adeiladu tai yn Lloegr wedi gostwng o dan y Torïaid i’r lefel isaf ers y 1990au. Wel, mewn gwirionedd roedd adolygiad tai y DU ar gyfer 2012 yn dweud mai Llywodraeth Cymru ei hun a roddodd flaenoriaeth is i dai yn ei chyllidebau cyffredinol. Yn 2013, Cymru oedd yr unig ran o’r DU i weld gostyngiad yn nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd. Yn 2015, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i leihau nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd. Hyd yn oed y llynedd, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld nifer y cartrefi newydd a gwblhawyd yn mynd tuag at yn ôl. Dyna’r realiti.
Yn ogystal ag adroddiad Holman y cyfeiriodd David Melding ato, cawsom ddau adroddiad yn 2015 gan y diwydiant adeiladu tai. Cawsom adroddiad y Sefydliad Tai Siartredig ar gyfer 2015, cawsom adroddiad Sefydliad Bevan ar gyfer 2015, adroddiad gan Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, a phob un yn dweud bod arnom angen rhwng 12,000 a 15,000 o dai y flwyddyn, gan gynnwys 5,000 o gartrefi cymdeithasol, galwad a anwybyddwyd gan y Llywodraeth hon yng Nghymru yr honnir ei bod yn ofalgar ac yn gymdeithasol gyfiawn. Yn lle hynny, mae gennym eu targed sinigaidd o 20,000 sy’n ddim ond 4,000 o gartrefi fforddiadwy dros dymor llawn y Cynulliad ac mae’r nifer honno wedi’i chwyddo drwy ychwanegu rhent canolradd a pherchnogaeth ar dai cost isel at eu targedau. Mae datblygwyr tai hefyd wedi rhybuddio dro ar ôl tro ers blynyddoedd lawer y bydd cost gronnus deddfwriaeth a rheoliadau gwrth-dai Llafur yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn tai yng Nghymru. Wel, mae’r ffigurau’n siarad drostynt eu hunain yn hynny o beth.
Felly, fe orffennaf drwy ddweud yn syml, fel y mae’r dystiolaeth yn dangos, y tu ôl i’r rhethreg, mae’n bosibl mai brad Llafur ym maes tai yng Nghymru dros y 17, 18 mlynedd diwethaf yw’r anghyfiawnder cymdeithasol mwyaf a achoswyd i bobl Cymru ers iddynt ddod i rym yn 1999. Mae’n hen bryd iddynt roi’r gorau i ysgwyd eu pennau, rhoi’r gorau i wadu’r gwir, rhoi’r gorau i daflu’r baich—ac roeddent yn gwneud hynny ymhell cyn y wasgfa gredyd, ymhell cyn newid Llywodraeth yn 2010—a dechrau cyfaddef eu bod yn anghywir ac efallai, yn hwyr yn y dydd, yn ceisio gwneud rhywbeth am y peth.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies.
Symudaf ymlaen yn awr at eitem 6, dadl Plaid Cymru ar y diwydiant amaethyddol a Brexit, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6325 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod taliadau Ewropeaidd yn ffurfio 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru ac mai diben y taliadau hyn yw sicrhau bwyd i bobl am bris rhesymol, o ansawdd uchel, sy'n arddel safonau lles uchel.
2. Yn nodi â phryder y gallai cytundebau masnach anghyfrifol achosi i Gymru gael ei gorlifo â bwyd rhad wedi'i fewnforio, gan niweidio'r diwydiant amaethyddol, yr economi wledig ac iechyd y cyhoedd.
3. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gyflawni addewidion y rhai a fu'n ymgyrchu'n frwd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gwarantu bod y cyllid Ewropeaidd ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn cael ei roi'n ôl yn ei gyfanrwydd.
4. Yn credu, er mwyn rhoi diogelwch i ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig, y dylai Llywodraeth y DU gael cymeradwyaeth pob gwlad yn y DU cyn llofnodi unrhyw gytundeb masnach.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Cadeirydd, a chynigiaf y cynnig yn enw Plaid Cymru, ac atgoffa ein hunain y byddwn yn gwneud penderfyniad arwyddocaol iawn yfory—pob un ohonom—ynglŷn â sut rydym yn mynd i drafod ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd gan ddiogelu buddiannau Cymru. Mae ffocws y ddadl y prynhawn yma ar sut y gwnawn hynny, gan edrych ar ôl amaethyddiaeth a’n heconomïau gwledig yng Nghymru. Oherwydd, o holl ddiwydiannau Cymru, amaethyddiaeth sy’n wynebu’r ansicrwydd mwyaf yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Heb y cytundeb masnach cywir, y fframwaith rheoleiddio cywir a’r cymorth cywir, bydd y canlyniadau i’n diwydiant amaethyddol a’r economi wledig yn ehangach yn drychinebus.
Nid ydym ond yn defnyddio oddeutu 5 y cant o’n cig coch yma yng Nghymru. Mae tua 93 y cant o’n cig yn cael ei allforio i’r UE, sy’n cynnwys gweddill y DU, ond mae’n bwysig fod unrhyw gytundeb masnach a drafodir gan Lywodraeth y DU yn cadw ac yn sicrhau parhad ein cyfundrefnau cig oen y glaswelltir a’r ucheldir a chig eidion a llaeth. Gallai cytundeb masnach gyda Seland Newydd, er enghraifft, arwain at drawsleoli holl gwota cig oen cyfredol Seland Newydd i’w fewnforio i’r DU ar ôl iddi adael yr UE. Gallai hynny olygu bod 0.25 miliwn tunnell o gig oen, sydd wedi’i wasgaru ar hyn o bryd ar draws yr UE yn ei gyfanrwydd, yn dod yn uniongyrchol i’r DU. Yn ôl Hybu Cig Cymru, gallai senario lle mae’r DU yn masnachu gyda’r UE o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd—y senario ‘dim cytundeb’—olygu tariffau o 84 y cant ar garcasau gwartheg, 46 y cant ar garcasau cig oen, a 61 y cant ar doriadau cig oen. Felly, byddai ‘dim cytundeb’ yn gytundeb gwael i amaethyddiaeth yng Nghymru a chymunedau gwledig Cymru.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Galwodd y Ceidwadwyr yr etholiad ar y sail ei fod yn etholiad cyffredinol Brexit, ac eto nid ydynt wedi dweud dim ynghylch beth fyddai’n gytundeb da i amaethyddiaeth Cymru, beth y bwriadant ei wneud, beth y bwriadant ei negodi, neu’n wir y cyfnod o amser y bwriadant gyrraedd y nod hwnnw o’i fewn. Mae diwygiadau’r Ceidwadwyr heddiw braidd yn gynamserol gan y bydd y Llywodraeth yn newid ddydd Iau, wrth gwrs. Ond hyd yn oed pe na bai’r Llywodraeth yn newid, maent eisoes wedi cael eu tanseilio gan eu Prif Weinidog eu hunain a ddaeth i ogledd Cymru ddoe a dweud na fydd unrhyw addewid o gefnogaeth bellach i amaethyddiaeth yng Nghymru y tu hwnt i 2020, er bod y gwelliannau heddiw gan grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn sôn am holl dymor y Senedd nesaf. Maent wedi cael eu tanseilio gan eu Prif Weinidog eu hunain, felly ni fyddwn yn cefnogi eu gwelliannau.
Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig iawn inni chwilio am gyfle i wneud amaethyddiaeth Cymru yn wirioneddol flaengar ac yn ddyfodol o ran y ffordd yr ydym yn cynhyrchu bwyd, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y Deyrnas Unedig. Diwydiant amaeth glaswelltir ac ucheldir sydd gennym yn bennaf, ac mae 80 y cant ohono’n cael ei alw’n ardal lai ffafriol. Neithiwr yn y Cynulliad, cynhaliwyd y digwyddiad Gwyddoniaeth a’r Cynulliad gennym, digwyddiad a oedd yn canolbwyntio ar ymwrthedd microbaidd a gwrthficrobaidd—sy’n bwysig iawn ar gyfer amaethyddiaeth ac iechyd pobl. Mae gennym sefydliadau yng Nghymru sydd ar flaen y gad gyda gwaith ymchwil ar hyn—ar flaen y gad yn rhyngwladol—ac yn gweithio gyda’i gilydd, er enghraifft, yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn Aberystwyth. Mae angen i ni sicrhau nid yn unig fod y sefydliadau hyn yn cael eu cadw pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond eu bod yn cael eu gwella, eu cryfhau ymhellach, a’u grymuso ymhellach i barhau’r gwaith hwnnw, er mwyn i ni gael y lefel orau o gefnogaeth i amaethyddiaeth. Nid mwy o arian yn unig y mae hynny’n ei olygu, mae hefyd yn ymwneud â’r gwaith ymchwil a’r syniadau gorau, gan mai diben amaethyddiaeth Cymru yw cynhyrchu bwyd a diod o safon uchel, yn seiliedig ar safonau iechyd a lles anifeiliaid a safonau amgylcheddol uchel.
O ran ansawdd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y gall ffermwyr Cymru gystadlu gydag unrhyw un mewn unrhyw ran arall o’r byd, ond wrth gwrs mae hynny’n golygu cost, ac mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain mai’r rheswm rydym wedi cael cefnogaeth y cyhoedd i amaethyddiaeth yng nghyd-destun yr UE dros 40 mlynedd yw er mwyn sicrhau bod y bwyd o ansawdd uchel gyda safonau lles uchel yn cyrraedd ein siopau am bris rhesymol. Gallwn gael bwyd rhad neu gallwn gael bwyd o safon uchel. Gallwn gael bwyd rhad sydd ar gael i bawb, ond mae hynny’n golygu safonau lles o ansawdd gwael iawn. Yr wythnos hon, darllenwn am gaethlafur yn cynhyrchu corn-bîff yn fforestydd glaw Brasil. Felly mae hwn yn fater pwysig iawn i’w gael yn iawn.
Dyma pam fod Plaid Cymru heddiw’n dadlau fod cefnogaeth barhaus i amaethyddiaeth yng Nghymru gan y Llywodraeth, pan fyddwn yn gadael yr UE, yn hanfodol. Dyna pam ei bod mor siomedig fod y Ceidwadwyr, mewn etholiad a alwyd ganddynt, wedi methu gwneud unrhyw addewid o’r fath. Mae hefyd yn siomedig nad yw maniffesto Llafur Cymru ychwaith yn gwneud unrhyw addewid o’r fath i barhau cymorth i ffermwyr y tu hwnt i dymor y Cynulliad hwn. Rwy’n meddwl mai dyna beth fydd yn rhaid i bobl ei gadw mewn cof pan fyddant yn pleidleisio yfory.
Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn glir iawn: byddwn yn cynrychioli buddiannau ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig, ac yn ymladd am y cytundeb masnach gorau bob amser. Mae celwyddau’n cael eu dweud amdanaf, ac mae celwyddau’n cael eu dweud am Blaid Cymru. Yr wythnos hon, honnodd y Democratiaid Rhyddfrydol, nad ydynt yn bresennol ar hyn o bryd yn y Siambr, fod Plaid Cymru yn cytuno gyda’r Ceidwadwyr, UKIP a Llafur, y dylid cael Brexit caled. Taflen y Democratiaid Rhyddfrydol a ddywedodd hynny, taflen a achosodd gymaint o gywilydd i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru nes ei fod wedi dweud bod ganddo ‘gywilydd o’r daflen’ a thynnodd hi’n ôl ar unwaith. Felly, y diwrnod wedyn, anfonasant lythyr yn lle hynny a oedd yn ailadrodd yr honiadau, ond y tro hwn fe’i rhoesant yn enw Kirsty Williams, yr honnir ei bod yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y lle hwn.
Mae Plaid Cymru wedi cynnal nifer o drafodaethau ar Brexit a’r angen am gefnogaeth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol. Nid yw’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynnal un. Maent yn honni ein bod yn troi ein cefnau ar gymunedau gwledig, ond mae pawb yn gwybod ein bod wedi ymladd yn galed dros amaethyddiaeth Cymru yma yn y Siambr hon mewn gwirionedd. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, wrth gwrs, yn rhan o Lywodraeth Cymru, ac yn wir, byddai pleidlais iddynt yfory yn bleidlais dros Lywodraeth dan arweiniad Corbyn ac yn ymagwedd dan arweiniad Corbyn tuag at amaethyddiaeth Cymru, ac nid wyf yn credu y bydd hynny’n addas ar gyfer y bobl yng Ngheredigion neu ffermwyr mewn mannau eraill. Mae yna un neu ddau yng Nghasnewydd y gallai fod yn addas ar eu cyfer, ond yn sicr nid yng Ngheredigion. Felly, mae dewis clir i bobl yfory: mae angen iddynt sefyll ac amddiffyn cymunedau gwledig yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i hynny, a bydd Plaid Cymru bob amser yn ymladd dros y cytundeb gorau i Gymru.
Rydw i wedi dewis dau welliant i’r cynnig, ac rydw i’n galw ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1 a 2 yn ei enw ef.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth bresennol y DU i ddarparu yr un cyfanswm ariannol o ran cronfeydd ar gyfer cymorth i ffermydd tan ddiwedd senedd nesaf y DU.
Gwelliant 2—Paul Davies
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth bresennol y DU i weithio gyda chynhyrchwyr bwyd, arbenigwyr amgylcheddol a ffermwyr Cymru a Llywodraeth Cymru i lunio system amaeth-amgylcheddol newydd.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae penderfyniad pobl Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd y llynedd yn sicr yn mynd i gael effaith ar y diwydiant amaeth yng Nghymru, ac, heb os nac oni bai, bydd Brexit yn cyflwyno heriau a chyfleoedd i ffermwyr Cymru. Fel rydym ni’n gwybod, dros y degawdau diwethaf, mae polisïau a deddfwriaeth amaethyddol wedi’u penderfynu, i raddau helaeth, ar lefel Ewropeaidd. Felly, mae’n hanfodol yn sgil penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd fod ffermwyr yn cael fframwaith teg a pharhaol i ddiogelu cynaliadwyedd y diwydiant. Mae’r cynnig heddiw yn nodi’n briodol fod taliadau Ewropeaidd ar hyn o bryd yn cynnwys 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru, a diben y taliadau hyn yw sicrhau bwyd lles uchel ar gyfer defnyddwyr, am bris rhesymol o ansawdd uchel. Rydw i’n falch bod Prif Weinidog presennol y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau ei chefnogaeth i barhau i ariannu cymorth i ffermwyr ar y lefel presennol tan ddiwedd Senedd nesaf y Deyrnas Unedig. Mae hynny wedi cael ei groesawu gan y diwydiant amaethyddol. Mae hynny ym maniffesto’r Blaid Geidwadol [Torri ar draws.] Yn y funud.
Wrth gwrs, rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gadarnhau y bydd y cyllid yma’n cael ei glustnodi’n gyfan gwbl ar gyfer amaethyddiaeth. Fel rydym ni’n gwybod, byddai ‘Barnetteiddio’ arian i amaethyddiaeth yn drychinebus i ffermwyr Cymru, oherwydd, heb neilltuo arian, byddai arian ar gyfer amaethyddiaeth yn cael ei orfodi i gystadlu â gwasanaethau cyhoeddus eraill. Er bod Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gyllido ar yr un lefel ar gyfer cymorthdaliadau tan ddiwedd y Senedd nesaf, mater i Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig eraill yw hi i nawr weithio gyda’i gilydd i greu fframwaith ar draws y Deyrnas Unedig sy’n gweithio i bob un o’r gwledydd datganoledig, a sicrhau cynaliadwyedd ffermio ar gyfer y tymor hir. Rydw i’n ildio i’r Aelod dros Ynys Môn.
Diolch yn fawr iawn am ildio. A wnaiff yr Aelod dderbyn nad oedd yna fygythiad, wrth gwrs, i gyllid i amaethwyr yng Nghymru pe baem ni wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd? Mae’r bleidlais wedi digwydd, wrth gwrs, ond hefyd, a wnaiff o dderbyn, p’un ai ydy o’n dair blynedd neu’n bedair blynedd, neu beth bynnag, o addewid ynglŷn â pharhau i gyllido, nid yw hynny’n ddigon i ffermwyr sydd eisiau gwneud penderfyniadau buddsoddi hirdymor ar gyfer datblygiad eu diwydiant?
Wrth gwrs, beth mae’n rhaid i’r Aelod ei gofio hefyd yw roedd CAP ddim ond yn parhau hyd at 2020. Felly, rydym ni, fel y Llywodraeth ar lefel Brydeinig, wedi’i gwneud hi’n eithaf clir y byddwn ni’n parhau gyda’r lefel ariannu hwnnw hyd 2022. Er bod maint y dasg yn enfawr, a dweud y lleiaf, mae cyfleoedd yma hefyd. Er enghraifft, mae’n rhaid i’r fframwaith polisi amaethyddol newydd edrych o ddifri ar y dirwedd reoleiddio bresennol ar gyfer ffermwyr a sefydlu gwell ffyrdd o gefnogi ffermwyr. Mae NFU Cymru yn dweud wrthym ni fod rheoliadau gwael yn aml yn rheswm dros ddiffyg hyder yn y diwydiant, a bod mwy o reoliadau yn ychwanegu’n sylweddol at lwythi gwaith ffermwyr. Wel, rydym ni nawr yn cael y cyfle i ailfampio’r dirwedd hon, a sicrhau bod mwy o ddulliau gwirfoddol yn cael eu mabwysiadu, a phan fydd rheoliadau yn cael eu cyflwyno, eu bod nhw’n cael eu cyflwyno o ganlyniad i dystiolaeth gadarn.
Wrth gwrs, mae’n rhaid i amaethyddiaeth Prydain a Chymru fod ar flaen y gad mewn unrhyw drafodaethau Brexit, ac mae’n rhaid i Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig fwrw ymlaen i sicrhau cytundebau masnach er mwyn i ddiwydiannau allforio, fel ffermio a’r diwydiant bwyd a diod, barhau i wneud busnes gyda marchnadoedd Ewropeaidd. Mae ffermwyr ledled Cymru yn iawn i fod yn bryderus ynglŷn â thermau mynediad mewnforio i’r farchnad yma yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, ac mae’n hanfodol ein bod ni ddim yn gadael cynnyrch rhatach gyda safonau is i fewn i Gymru a’r Deyrnas Unedig o fannau eraill. Mae’n hanfodol felly fod unrhyw gytundebau masnach yn cael eu trafod yn ofalus, gyda’n diwydiant amaethyddol ar y blaen o unrhyw drafodaethau.
Wrth gwrs, mae angen i ni sefydlu cytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd sy’n cwrdd ag anghenion ffermwyr Cymru, ac mae’n rhaid i’r cytundeb hwnnw fod yn barod o’r funud gyntaf i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Byddai colli unrhyw fynediad i farchnadoedd allforio yr Undeb Ewropeaidd yn drychinebus i ffermwyr Cymru, ac felly rydw i’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ar unwaith yn dechrau gweithio i sicrhau cytundeb sydd nid yn unig yn diogelu ein ffermwyr o fewnforio yn rhatach, ond yn sicrhau y gall ffermwyr Cymru barhau i ddibynnu ar y marchnadoedd allforio Undeb Ewropeaidd presennol yn y dyfodol.
Wrth gwrs, nid yw cynaliadwyedd ffermio yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig yn unig. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod â rôl bwysig iawn i’w chwarae i warchod ffermwyr Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i gryfhau’r diwydiant amaeth yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu mynd i’r afael â rhai o’r materion hirsefydlog y mae ffermwyr Cymru yn eu hwynebu fel bod dim unrhyw fygythiadau i’n trafodaethau masnach. Er enghraifft, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn iawn i dynnu sylw at y mater o TB mewn gwartheg a’i gwneud hi’n gwbl glir, oni bai bod camau brys a rhagweithiol yn cael eu cymryd i reoli ffynhonnell yr haint mewn gwartheg a bywyd gwyllt, gallai fod yna risg i drafodaethau ac unrhyw ddêl fasnachol yn y dyfodol. Mae’r rhain yn faterion sydd bellach angen i Lywodraeth Cymru fynd ati i fynd i’r afael â nhw, ac wrth i’r trafodaethau ddatblygu, fel bod ymdrechion i gael y ddêl orau bosibl ar gyfer y diwydiannau cig coch a llaeth Cymru ddim yn cael eu rhoi mewn perygl.
Felly, i gloi, Llywydd, rydw i am ailadrodd unwaith eto pa mor bwysig yw hi i ddiogelu cynaliadwyedd y diwydiant ffermio yng Nghymru yn y tymor hir, oherwydd mae ein hunaniaeth ddiwylliannol, yr iaith Gymraeg, a dyfodol ein hardaloedd gwledig yn dibynnu ar hynny. Diolch.
Wrth wrando ar Blaid Cymru, byddech yn meddwl y byddai’r dyfodol yn gwbl ddiogel am byth bythoedd drwy aros yn yr UE, ond y tu hwnt i’r fframwaith amlflwydd cyfredol gwyddom nad oes sicrwydd o gyllid amaethyddol i Gymru yn y gyllideb Ewropeaidd. Pan ddaethom yn aelodau gyntaf o’r hyn a oedd ar y pryd yn Gymuned Economaidd Ewropeaidd oddeutu 40 mlynedd yn ôl, rwy’n cofio mai amaethyddiaeth oedd i gyfrif am 65, 70 y cant o gyllideb yr UE; mae bellach i lawr i 42 y cant. Felly, dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld gostyngiad dramatig mewn cymorth amaethyddol ledled yr UE, a byddai’r ffigur hyd yn oed yn is pe na bai gwledydd yn nwyrain Ewrop wedi ymuno yn ôl ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon. Felly, mae’r syniad ei bod yn well aros yn yr UE lle mai biwrocratiaid anetholedig—na allwn hyd yn oed eu henwi, heb sôn am ddylanwadu arnynt yn y blwch pleidleisio—yw’r bobl y gallwch ddibynnu arnynt, yn hytrach na’r bobl sy’n eistedd yn y rhes o’n blaenau yn y Siambr hon, pobl y gallwch eu dewis ac yna’u gwrthod os nad ydych yn hoffi eu penderfyniadau, yn nonsens llwyr.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Fe sonioch am y 65 y cant yn gostwng i 42 y cant. A dderbyniwch fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y bydd y ffigur hwnnw o’r Undeb Ewropeaidd yn sero yn y dyfodol ac fel y mae, fod yr arian a ddaw gan Lywodraeth y DU, neu’r addewid ohono, hefyd yn sero? Felly, dyna beth rydym yn negodi yn ei gylch i ffermwyr Cymru.
Wel, yn amlwg, mae hwnnw’n osodiad hurt, gan fod y Prif Weinidog eisoes wedi dweud y bydd y trefniadau ariannu presennol yn cael eu cadw hyd at ddiwedd 2022, ac ni all yr un Llywodraeth rwymo ei holynwyr, a chan fod yn rhaid cael etholiad cyffredinol erbyn 2022, byddai unrhyw addewid a roddir yn awr yn ddiwerth, ac felly nid yw’n werth ei wneud. Ond ein harian ni yw’r cyfan beth bynnag, yr arian y mae’r UE yn ei wario yma yng Nghymru, a’n cyfraniad gros i’r UE eleni yw £13.6 biliwn. Mae’r UE wedyn yn gwario ein harian yn y DU mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys ar amaethyddiaeth, tua £4.3 biliwn ohono. Felly, mae gennym gyfraniad net o £9.3 biliwn: rydym yn talu £3 i gael £1 yn ôl. A chan mai amaethyddiaeth sydd i gyfrif am 42 y cant o’r £9.3 biliwn, gwerir £4 biliwn o arian trethdalwyr y DU ar amaethyddiaeth yn yr UE. Mae hynny’n golygu, yng Nghymru, fod trethdalwyr Cymru, ar sail y pen, yn gwario £200 miliwn y flwyddyn, nid ar gymorthdaliadau i ffermwyr Cymru, ond ar gymorthdaliadau i ffermwyr y cyfandir. Nid yw hwnnw’n gytundeb gwych ar gyfer y gymuned ffermio yng Nghymru.
Rhun ap Iorwerth a gododd—
Rwy’n credu fy mod wedi cymryd un cyfraniad. Pedair munud yn unig sydd gennym i siarad, felly, yn anffodus, er y byddwn yn hoffi ildio, nid wyf yn meddwl y gallaf.
Yn amlwg, rwy’n derbyn pwynt 3 o gynnig Plaid Cymru. Credaf yn gryf y dylai Llywodraeth y DU addo cynnal pob ceiniog o’r hyn y mae Brwsel ar hyn o bryd yn ei wario yng Nghymru, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un sydd â buddiannau’r Gymru wledig yn agos at eu calonnau yn anghytuno â hynny. Ac wrth gwrs, pwy sydd eisiau cytundeb masnach anghyfrifol gydag unrhyw un—fel ym mhwynt 2 y cynnig hwn? Wrth gwrs, rydym am negodi’r cytundeb gorau posibl, nid yn unig gyda’r UE, ond hefyd y gwledydd eraill o amgylch y byd—150, 160 o wledydd, faint bynnag y bydd—sy’n ffurfio 85 y cant o’r economi fyd-eang. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn bwysig iawn i ni, wrth gwrs, gan mai hwy yw ein cymdogion daearyddol agosaf. Ac fel y nododd Simon Thomas yn gywir yn ei araith agoriadol, mae gennym raddau sylweddol iawn o fasnach rhyngom sydd o fudd i’r ddwy ochr, wrth gwrs, ond gadewch i ni beidio ag anghofio—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, ni allaf ildio fwy nag unwaith yn y cyfnod byr sydd gennyf, gan ei bod yn bwysig iawn fy mod yn gwneud fy mhwyntiau yn hytrach na chaniatáu i Aelodau eraill wneud eu rhai hwy yn ystod fy araith.
Ym mhob sector unigol o fasnach mewn cig, mae’r Deyrnas Unedig mewn diffyg, a diffyg sylweddol iawn mewn rhai achosion. Felly, ceir posibilrwydd enfawr—os yw’r UE mor ffôl fel nad ydynt yn awyddus i ddod i gytundeb masnach rydd â’r Deyrnas Unedig, mae’n fwy na thebyg y byddwn yn gallu amnewid yr hyn sy’n cael ei fewnforio ar hyn o bryd am gynnyrch a gynhyrchir gartref. Gadewch inni edrych ar y ffigurau: mewn cig eidion a chig llo, rydym yn mewnforio gwerth £700 miliwn o gig y flwyddyn, nid ydym ond yn allforio gwerth £150 miliwn; yn achos porc, rydym yn mewnforio gwerth £780 miliwn—mae’n ddrwg gennyf, ffigurau ar gyfer 2007 yw’r rhain. Mae’n ddrwg gennyf, fe ddechreuaf eto. Ar gyfer cig eidion a chig llo, eleni ceir gwerth dros £1 biliwn o fewnforion cig eidion, ac rydym yn allforio gwerth £369 miliwn. Ar gyfer porc, rydym yn mewnforio gwerth £778 miliwn o gig; gwerth £252 miliwn yn unig a allforiwn. Ar gyfer cig oen, dyma’r unig—cig oen a chig dafad yw’r unig sector lle y ceir cydbwysedd bras. Ac wrth gwrs, gyda chig oen, mae yna bosibilrwydd o broblem os nad awn i’r afael â hi, oherwydd, fel y nododd Simon Thomas yn gywir, daw cyfran sylweddol iawn o’n mewnforion o Seland Newydd.
Felly, wrth gwrs mae’n rhaid i ni wylio rhag problemau posibl a fydd yn deillio o ganlyniad i’r cynnwrf enfawr sy’n anochel mewn newid o’r math hwn. Cawsom y cynnwrf y ffordd arall oddeutu 40 mlynedd yn ôl, ac fe’i cofiaf yn dda iawn, pan symudasom oddi wrth gynllun taliadau diffyg i ffurf gwbl wahanol ar gymorth. Mae’r rhain yn broblemau ymarferol y gellir eu datrys.
Ond mae’r ffigurau, wrth gwrs, yn fach iawn. Dyma sy’n rhaid inni ei gofio. Eleni, mae Llywodraeth Prydain yn mynd i wario £800 miliwn. Nid yw cyfanswm gwerth y sector amaethyddol cyfan yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw yn £10 biliwn hyd yn oed. Felly, mae’r rhain yn ffigurau y gellir yn hawdd eu cynnwys yng nghyllideb y Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs, mae’n rhaid i ni frwydro dros Gymru, fel y dywedodd Simon Thomas yn gywir iawn, a dyna a wnawn, ond mae’r syniad fod Llywodraeth y DU yn mynd i dalu’r sylw lleiaf i lond llaw o Aelodau Plaid Cymru yn hurt. UKIP yn unig sydd wedi gallu troi’r Llywodraeth ar ei phen, oherwydd hebom, ni fyddai refferendwm wedi bod yn y lle cyntaf ac ni fyddem yn gadael yr UE yn awr.
Mae’n rhaid i bawb ohonom gydnabod bod hwn yn gyfnod ansicr i’r gymuned amaethyddol yng Nghymru. Hyd nes y bydd manylion llawn y cytundeb Brexit wedi’u cwblhau, bydd ffermwyr Cymru, a phob ffermwr y DU yn wir, yn ansicr ynglŷn â’r hyn a ddaw yn y dyfodol. Fodd bynnag, os yw Llywodraeth y DU yn gwneud y penderfyniadau cywir, y gwir amdani yw y dylai ffermwyr Prydain fod yn llawer gwell eu byd nag yr oeddent o dan y polisi amaethyddol cyffredin. Mae hyd yn oed cipolwg brysiog ar yr hyn y mae’r PAC wedi’i wneud i ffermwyr Prydain a Chymru yn cadarnhau mai ychydig iawn a wnaeth i helpu cymuned ffermio Cymru mewn gwirionedd.
Yn wir, gellid dadlau mai’r cyfan y mae wedi’i gyflawni yw gwneud ffermwyr Cymru bron yn gyfan gwbl ddibynnol ar gymorthdaliadau ffermio o Ewrop sy’n lleihau fwyfwy. Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yng Nghymru yn perthyn i’r categori ffermydd bach. Mae canran uchel iawn ohonynt yn ffermwyr mynydd sydd bellach ymhlith y tlotaf yn Ewrop gyfan. Dywedir bod cyflogau cyfartalog oddeutu £12,000 y flwyddyn i lawer o’r ffermydd hyn—prin fod hynny’n gymeradwyaeth frwd i’r fformiwla PAC a ddefnyddiwyd ar gyfer ffermio ym Mhrydain dros y 40 mlynedd diwethaf. Mae’r un fformiwla wedi golygu bod llawer o ffermwyr yn ne-ddwyrain Lloegr yn dod yn filiwnyddion oherwydd eu gallu i fanteisio ar ddeddfau cymhorthdal hurt ar gyfer ffermydd. [Torri ar draws.] Iawn, os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad. Onid yw’n wir, fodd bynnag, oni bai am y taliadau PAC hynny, y byddai ffermwyr sy’n cael trafferth i ymdopi wedi mynd allan o fusnes yn gyfan gwbl, gyda’r costau ofnadwy y byddai hynny’n eu creu iddynt ac ar gyfer y gymdeithas yng Nghymru?
Wel, na. Mae’n rhaid i mi anghytuno â chi. Yr hyn y dylai’r diwydiant ffermio yng Nghymru ofyn i’w hun yw nid beth sy’n mynd i ddigwydd ar ôl Brexit, ond beth fyddai wedi digwydd pe na baem wedi cael Brexit. Rhaid i mi anghytuno â Rhun ap Iorwerth pan ddywed fod y polisi amaethyddol cyffredin wedi bod yn ffafriol i ffermwyr Cymru. Nid yw’r polisi amaethyddol cyffredin yn un statig. Mae derbyn rhai o wledydd tlotaf Ewrop wedi golygu bod llawer o’r ffermwyr yn y gwledydd hyn yn gymwys i gael cymorthdaliadau cyn ffermwyr Cymru, felly mae cymorthdaliadau fferm yn y DU wedi bod yn gostwng o flwyddyn i flwyddyn ers amser hir iawn, ac o dan reolau Ewropeaidd, byddent yn parhau i ostwng. Rhaid i ni ofyn i ni ein hunain felly: o ble y daw’r arian i dalu’r cymorthdaliadau fferm hyn yn y lle cyntaf? Wel, yr ateb, wrth gwrs, yw o gyfraniad y DU i’r Undeb Ewropeaidd. Nid yw’n anodd dirnad o hyn, pe na bai’r DU yn darparu cymorthdaliadau ffermio ar draws Ewrop gyfan, y byddai swm llawer mwy o arian ar gael i’w fuddsoddi yn y diwydiant ffermio ym Mhrydain ac yng Nghymru. Yr her i ni yma yn y Cynulliad hwn yw gwneud yn siŵr fod Trysorlys y DU yn trosglwyddo’r graddau cywir o’r arbedion enfawr hyn i’r economi ffermio yng Nghymru.
Yn wahanol i lawer yn y Siambr hon, rwy’n ffyddiog y bydd cymuned ffermio weithgar, wych, effeithlon ac arloesol y DU a Chymru, o’i rhyddhau o fiwrocratiaeth ormodol a baich deddfwriaethol y polisi amaethyddol cyffredin, yn ffynnu mewn modd nas gwelwyd erioed o’r blaen. Yn wir, clywais un ffermwr yn dweud, o ystyried y ffordd yr oedd y rheoliadau’n mynd o dan y PAC—mae’n ddrwg gennyf, ni allwn orffen hwnnw—na fyddai wedi bod yn hir cyn y byddai wedi dod yn ofynnol iddo dagio’r llygod mawr ar ei fferm. Mae gennym ddyletswydd yn y Cynulliad hwn i ddiogelu ein diwydiant ffermio, felly dylem i gyd uno i wneud yn siŵr, nid yn unig nad yw ein ffermwyr yng Nghymru yn colli’r un geiniog goch o’r cymorthdaliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt cyn Brexit, ond eu bod hefyd yn rhannu cyfran o’r enillion ariannol enfawr a ddaw yn sgil rhyddhau’r DU o orfod rhoi cymorthdaliadau ffermio i 27 gwlad arall yr Undeb Ewropeaidd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rwy’n croesawu cynnig Plaid Cymru yn fawr iawn, ac roeddem yn falch iawn ein bod wedi gallu cytuno ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ â Phlaid Cymru. Mae’n amlwg fod ein barn ar ddyfodol amaethyddiaeth a datblygu gwledig ar ôl Brexit yn debyg. Yn bwysicaf oll, rydym yn gwbl glir y dylai amaethyddiaeth a datblygu gwledig fod, a pharhau i fod wedi’u datganoli. Rydym wedi dweud yn glir iawn na fyddwn yn goddef unrhyw ymgais gan y Ceidwadwyr i amddifadu’r Cynulliad hwn o’i bwerau presennol, neu amddifadu Cymru o gyllid hefyd, a dyna pam ein bod yn llwyr wrthwynebu gwelliant 2 gan y grŵp Ceidwadol, sy’n adlewyrchu’n glir agenda Torïaid y DU o gymryd rheolaeth yn ôl, nid yn unig o Frwsel, ond o Gaerdydd hefyd, a Chaeredin a Belfast yn ogystal, mae’n debyg.
Yn fwy cyffredinol, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ein buddiannau gwledig ac amgylcheddol, ac yn archwilio pob cyfle i greu budd i’n sector ffermio, rheoli tir a bwyd wedi inni adael yr UE. Mae ein ffocws o hyd ar barhau i sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol allweddol i Gymru.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ffigur sy’n dangos bod 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru yn cynnwys taliadau Ewropeaidd. Fodd bynnag, dylid nodi bod incwm ffermydd yn amrywio—mae llawer yn negyddol—fodd bynnag, rydym yn cytuno y bydd y mwyafrif yn dibynnu ar arian y PAC i ryw raddau.
Yn dilyn y penderfyniad y byddai’r DU yn gadael yr UE, euthum ati ar fyrder i sefydlu grŵp o amgylch y bwrdd gyda rhanddeiliaid ar draws fy mhortffolio i drafod y goblygiadau sy’n deillio o bleidlais y refferendwm, ac mae gwaith y bwrdd wedi ychwanegu gwerth sylweddol, gan ei gwneud hi’n bosibl defnyddio dull traws-sectoraidd, sy’n ein galluogi i ystyried y materion mewn ffordd integredig, er enghraifft ar bob rhan o’r gadwyn gyflenwi. Mae’r undebau ffermio a rhanddeiliaid eraill wedi bod yn werthfawrogol iawn o’r dull hwn. Ac mae’r broses wedi tanlinellu cryfder y cysylltiadau rhwng meysydd fel amaethyddiaeth, cymunedau, a’r amgylchedd ehangach. Mae hefyd yn gryfder gwirioneddol o ran mewnbwn a dylanwad posibl Cymru ar y broses i sicrhau ymgysylltiad gweithredol rhanddeiliaid a’u cydweithrediad i sicrhau’r llwybr mwyaf buddiol posibl i Gymru. Mae gwaith y bwrdd yn ategu’r gwaith a wnawn ochr yn ochr â phob un o’r sectorau unigol i ystyried effeithiau manwl ymadawiad y DU â’r UE ar y sectorau. Ym mis Mawrth, ymrwymais y gyfran olaf o raglen datblygu gwledig 2014-20, cyfanswm o £223 miliwn, i wneud defnydd llawn o warant Trysorlys EM hyd at 2020. Ond mae angen clir am ymrwymiadau mwy hirdymor gan Lywodraeth y DU o hyd.
Mae’n hanfodol, ar ôl i ni adael yr UE, fod Llywodraeth y DU yn cadw ei haddewid yn ystod yr ymgyrch ‘gadael’ i ddarparu cyllid sydd o leiaf yn gyfwerth i Lywodraeth Cymru i gymryd lle’r hyn a dderbynnir ar hyn o bryd drwy’r PAC. Rwyf fi a’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn y byddwn yn eu dwyn i gyfrif am hyn. Fodd bynnag, mae diffyg ymrwymiad o’r fath hyd yn hyn—a nododd Simon Thomas yn ei sylwadau agoriadol fod y Prif Weinidog, ddoe ddiwethaf, ar ymweliad â gogledd Cymru, heb roi’r ymrwymiad hwnnw pan oedd yn eistedd wrth fwrdd ffermwr, yn cael paned o de, sylwais. Mae’n ofid gwirioneddol ynglŷn â’r buddsoddiad hirdymor y gwyddom fod ei angen i ddiogelu dyfodol ein diwydiant ffermio fel bod ein ffermwyr, ein rheolwyr tir, ein busnesau gwledig a’n cymunedau gwledig yn cael y sicrwydd sydd ei angen arnynt i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Ochr yn ochr â’r cyllid, mae’n hanfodol ein bod ni yn y Cynulliad hwn yn parhau i arwain y gwaith o lunio polisi amaethyddol ar gyfer y dyfodol sydd wedi’i deilwra i anghenion penodol y diwydiant yng Nghymru. Pleidleisiodd mwyafrif yng Nghymru o blaid gadael yr UE, ac rydym wedi dweud yn glir fod yn rhaid parchu’r penderfyniad democrataidd hwn. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod neb yng Nghymru wedi pleidleisio dros fod yn waeth eu byd, i weld niwed yn cael ei wneud i’n heconomi neu ein gwasanaethau iechyd cyhoeddus, ac rydym yn benderfynol o sicrhau dyfodol cadarnhaol i Gymru mewn byd ôl-Brexit.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd sut y caiff mewnforion bwyd eu heffeithio gan Brexit ac ni fydd hynny’n glir hyd nes y bydd y DU wedi bwrw rhagddi â thrafodaethau masnach â’r UE a gwledydd eraill. Rwyf wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud y byddai’n well peidio â chael cytundeb o gwbl na chael cytundeb gwael, ond a bod yn gwbl onest, mae hwnnw’n ddatganiad hurt, oherwydd mae’n rhaid cael cytundeb. Mae’r Torïaid i’w gweld yn blaenoriaethu cytundebau gyda gwledydd eraill dros gynnal ein mynediad at y farchnad sengl ac mae’n ymddangos eu bod yn barod i aberthu amaethyddiaeth er mwyn cael enillion cyflym gyda gwledydd fel UDA a Seland Newydd, sy’n awyddus iawn i gael mynediad at ein marchnadoedd.
I ni yn Llywodraeth Cymru, ar y llaw arall, un ystyriaeth allweddol yw na chodir prisiau is na chynhyrchwyr y DU am fewnforion gyda safonau cynhyrchu gwael ac nad oes perygl yn cael ei greu i ddefnyddwyr. Byddai’n rhaid i fewnforion gyrraedd safonau penodol a byddent yn destun archwiliadau. Bydd natur y rhain, wrth gwrs, yn dibynnu ar fanylion y cytundebau masnach hynny a threfniadau tollau, a dyna pam ei bod yn hanfodol fod gan y sefydliadau datganoledig ddealltwriaeth go iawn o’r trafodaethau masnach a dylanwad arnynt. O ystyried y goblygiadau i ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig, mae’n hanfodol fod y gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae rhan lawn yn y trafodaethau, nid yn unig i sicrhau bod safbwynt negodi’r DU yn adlewyrchu cyd-destun y DU yn llawn, ond hefyd i gytuno ar y cyd y trefniadau a fydd ar waith ar sail y DU yn dilyn gadael yr UE, sy’n cynnwys cytundebau masnach.
Rydym yn derbyn y dylid cael fframweithiau cyffredin yn y DU mewn nifer o feysydd er mwyn gweithredu marchnad fewnol y DU yn effeithiol ar ôl Brexit ac i hwyluso masnach ryngwladol, ond unwaith eto, bydd angen cytuno ar y rhain ar y cyd ar draws y pedair gwlad, ac yn sicr ni fyddaf yn goddef gosod unrhyw fframweithiau o’r fath gan San Steffan a Whitehall. Diolch.
Galwaf ar Simon Thomas i ymateb i’r ddadl.
Diolch i chi, Llywydd. Wel, mewn etholiad a gafodd ei alw i benderfynu Brexit, nid ydym wedi cael unrhyw oleuni o gwbl ynglŷn â pha fath o gytundeb masnach y bydd ffermwyr Cymru yn ei gael o hyn. Ni allaf dderbyn bod Theresa May wedi dweud unrhyw beth perthnasol am ffermio yng Nghymru. Y peth mwyaf cofiadwy a ddywedodd am ffermio yw ei bod yn arfer sathru’r gwenith, fel rhyw fath o ‘Thatcher in the rye’, a chawn ein gadael gyda’r—. Chwarae ofnadwy ar eiriau, rwy’n gwybod. Cawn ein gadael gyda’r hyn a ddywedodd mewn gwirionedd pan ddaeth i Gymru. Beth a ddywedodd mewn gwirionedd? Dywedodd nad oedd unrhyw sicrwydd o gymorth i ffermwyr ar ôl 2020. Dyna ddyfyniad uniongyrchol o’i hymweliad â Chymru ddoe ddiwethaf. Daeth Tim Farron i ganolbarth Cymru, ac am beth y siaradodd? Siaradodd am bolisi gofal cymdeithasol yn Lloegr—dim byd i ffermwyr Cymru.
Rwy’n ddiolchgar fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ailadrodd ymrwymiad ei Llywodraeth i’r Papur Gwyn rhyngom ni, Plaid Cymru, a gadewch i ni gofio, y Democratiaid Rhyddfrydol yn ogystal, er eu bod yn honni nad ydynt yn rhan o hyn. Ond mae’n wir nad yw’r Blaid Lafur yn y DU chwaith wedi dweud dim am ba fath o gytundeb masnach a gawn. Ni ddywedodd Keir Starmer, yr un mwy synhwyrol, unrhyw beth o gwbl ynglŷn â’r hyn y dylai fod. Fel y nododd Paul Davies yn ddigon cywir, y ffaith amdani yw ein bod yn cael ein cynnal gan gronfeydd yr UE ar hyn o bryd. Pe bai hynny’n dod yn ddarostyngedig i fformiwla Barnett, byddem yn colli ein cymorth yma yng Nghymru i raddau sylweddol. Nid yw hynny ond yn tanlinellu, yn anffodus, sut roedd sylwadau David Rowlands yn deillio o anwybodaeth ac wedi’u hyngan heb daflu unrhyw oleuni yn y Siambr heddiw—[Torri ar draws.] Wel, na; nid oes gennyf amser. Mae fy amser ar ben yn barod, mae’n ddrwg gennyf, ond roeddwn yn meddwl eich bod wedi dangos nad ydych yn deall dim am amaethyddiaeth o gwbl.
Neil Hamilton—rydym wedi gwneud yr un araith ormod o weithiau yn yr un lle ar hyn o bryd, ond yr un peth a ddywedodd Neil Hamilton yn yr hustyngau nos Lun yn Llandeilo y credwn ei fod yn onest, ond nid wyf yn ei dderbyn, oedd mai ei safbwynt ef oedd y byddai’n derbyn cost am adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn barod i wneud hynny, ac nid yw Plaid Cymru. Yfory, byddwn yn penderfynu beth fydd yn digwydd yn y DU yn gyffredinol. Beth bynnag fydd yn digwydd, byddwn wedi ethol un o’r Prif Weinidogion gwannaf a welsom ers yr ail ryfel byd, pwy bynnag sy’n ennill yr etholiad hwnnw, ac rwy’n credu ein bod yn wynebu trafodaethau anodd tu hwnt gyda’r UE.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar yr economi a gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydw i’n galw ar Adam Price i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6326 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd y llynedd.
2. Yn cydnabod bod gan Gymru anghenion a gofynion unigryw drwy gydol y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn nodi'r pwysigrwydd bod Cymru yn inswleiddio'i hun oddi wrth yr ansicrwydd economaidd o adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd deddfwriaethol ac economaidd newydd a gaiff eu creu wedi inni adael.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau:
a) bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru feto dros unrhyw gytundeb masnach dramor;
b) bod y pwerau cyllidol dros Dreth ar Werth a'r Doll Teithwyr Awyr yn cael eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyfle cyntaf a bod rhagor o ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyfradd dreth gorfforaethol unigryw yng Nghymru;
c) bod pwerau caffael yn cael eu datganoli i Gymru i alluogi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan fusnesau Cymru fwy o ran yn y broses gaffael i hyrwyddo busnesau Cymru; a
d) nad yw Cymru yn cael yr un geiniog yn llai o arian (yn ôl yr addewid yn ystod ymgyrch y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd) a bod pecyn buddsoddi newydd yn cael ei ddwyn ymlaen i insiwleiddio economi Cymru drwy gydol yr ansicrwydd economaidd a achosir gan y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynlluniau ar gyfer gwasanaeth mudo i Gymru ac i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth yn y DU i ganiatáu fisâu rhanbarthol fel bod gan Gymru bolisi mewnfudo sy'n gweithio ar gyfer ei gwasanaethau cyhoeddus a'i heconomi.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae’n bleser codi i gynnig y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth. Mae’n sicr yn wir fod gennym gwmwl o ddryswch—rhyw fath o lanast dryslyd—mewn perthynas â safbwyntiau polisi’r ddwy brif blaid o ran siâp y cytundeb Brexit sydd—[Torri ar draws.] Wel, os nad ydych am wrando, gallwch adael y Siambr. Rydych am wrando; da iawn. Mae gennym ddiffyg eglurder oherwydd, wrth gwrs, ceir Papur Gwyn a gynhyrchwyd gan y Llywodraeth hon—Llywodraeth Cymru—sy’n nodi’r egwyddorion mewn termau clir a phendant iawn, ond sy’n mynd y tu hwnt i’r egwyddorion, mewn gwirionedd, ac yn mynd i graidd rhai o’r manylion ymarferol am y trafodaethau sydd ar fin cychwyn.
Pan edrychwn ar Blaid Lafur y DU, mae gennym Keir Starmer, y cyfeiriwyd ato fel un o’r rhai mwyaf synhwyrol, sydd mewn gwirionedd yn dadlau yn erbyn aelodaeth neu gyfranogiad yn y farchnad sengl fel y’i cyfansoddwyd ar hyn o bryd. Felly, rwy’n ofni bod hyd yn oed gwelliant y Llywodraeth i’r cynnig hwn mewn gwirionedd yn anghyson â’u safbwynt polisi eu hunain. Felly, mae gennym ddryswch ar lefel y DU. Wel, mae’n rhaid i ni yng Nghymru wneud ein gorau felly. Beth bynnag a ddaw o ba Lywodraeth bynnag a wthir arnom yn San Steffan, mae’n rhaid i ni wneud ein gorau i ddiogelu buddiannau economi Cymru, a dyna rydym yn ceisio’i nodi yn y cynnig hwn. Fe ildiaf.
Diolch i’r Aelod. Rydych newydd ddweud am sylw Keir Starmer; a fyddech yn cytuno mai un o’r chwe phwynt a nododd oedd bod gennym yr un manteision â phe baem yn aelod o’r farchnad sengl Ewropeaidd a’r undeb tollau, ac felly nid bod yn aelod o reidrwydd ond y manteision a gawn ohono sy’n bwysig?
Rydym yn nhiriogaeth cael-ein-cacen-a’i-bwyta Boris Johnson yn y fan hon, yn anffodus, onid ydym? Mae’r Papur Gwyn, mewn gwirionedd, yn glir ac yn onest am hyn. Os ydych eisiau’r manteision, yna mae rhai pethau sy’n deillio o hynny, ac yn anffodus, nid yw’n cael ei adlewyrchu yn ffordd o feddwl braidd yn niwlog Plaid Lafur y DU.
Ond rwyf am siarad am syniadau Plaid Cymru a’n cynllun ôl-Brexit, ac rwy’n chwilio am gefnogaeth ar draws y Siambr i’r ffordd rydym yn mynd i amddiffyn economi Cymru o ystyried ein bod yn ôl pob tebyg yn mynd i gael arweinyddiaeth wael yn y dyfodol, pwy bynnag sy’n ennill yn nosbarth gwleidyddol San Steffan. Rydym wedi nodi nifer o syniadau yma. Rydym wedi siarad, rwy’n meddwl, yn y ddadl ddiwethaf, am berygl mewnforion rhad i’n diwydiant amaethyddol: peryglon cyfartal, wrth gwrs, i’r rhai y bydd yr Aelod yn gwybod amdanynt mewn perthynas â’n diwydiant dur—nid yn gymaint yn y cytundeb masnach yn ôl pob tebyg, ond yn y polisi masnach. Felly, sut y mae Llywodraeth y DU yn mynd i ddefnyddio ei mesurau amddiffynnol i ddiogelu yn erbyn pethau fel dur Tsieineaidd neu ddur Coreaidd rhad ac yn y blaen? A sut rydym yn mynd i warchod yn erbyn cynnydd diffynnaeth yn gyffredinol, a allai hefyd achosi niwed sylweddol i fuddiannau’r diwydiant dur yng Nghymru? Dyna pam y credwn, mewn gwirionedd, y dylid cael sedd wrth y bwrdd ar gyfer Llywodraeth Cymru ac yn wir, i’r holl ddeddfwrfeydd datganoledig, oherwydd bod buddiannau economaidd gwahanol wledydd y DU yn ansoddol wahanol oherwydd y cyfansoddiad economaidd gwahanol.
Yn ogystal â risgiau, ceir cyfleoedd—cyfleoedd newydd, cyfreithiol ac economaidd—a ddaw o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym yn glir ynglŷn â hynny. Er enghraifft, y gallu i osod cyfraddau TAW rhanbarthol, a allai fod o ddiddordeb i ni. Oherwydd potensial cudd ein diwydiant twristiaeth, gallem wneud yr hyn y mae llawer o wledydd yn ei wneud a chael cyfradd TAW is ar gyfer tai bwyta neu westai. Gallem ddilyn syniad comisiwn Holtham o gael cyfradd ostyngol o dreth gorfforaeth ranbarthol amrywiadwy ar gyfer rhannau o’r DU, fel Cymru, sydd ag incwm is y pen. Gallai hynny fod yn elfen effeithiol iawn o bolisi rhanbarthol. Nid ras i’r gwaelod yw hynny mewn gwirionedd; mae’n ffordd o godi’r rhai sydd eisoes ar y gwaelod fel y gallant wella lefel eu heconomi. Gallem ddatganoli pwerau dros gaffael mewn gwirionedd. Wrth gwrs, cawsom ein tynnu allan o’r gwaharddiad, er enghraifft, ar gael ymgyrch a hyrwyddwyd gan y Llywodraeth i brynu’n lleol—yr achos yn 1982 yn erbyn Llywodraeth Iwerddon ar Guaranteed Irish a’r Irish Goods Council. Byddwn yn awr, y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, yn gallu defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi caffael lleol, nid yn unig yn y sector cyhoeddus ond ymhlith defnyddwyr a hefyd yn y sector preifat, gan siarad â rhai o’n cwmnïau angori. Felly, dyma rai o’r syniadau. Rydym wedi sôn am gronfeydd strwythurol; yn sicr mae angen i ni gael peth sicrwydd y tu hwnt i 2020.
Mae maniffesto Plaid Lafur y DU, unwaith eto, yn dweud:
byddwn yn sicrhau nad oes unrhyw ranbarth na gwlad yn y DU yn cael eu heffeithio yn sgil tynnu arian yr UE yn ôl dros weddill y Senedd hon.
Wel, nid yw hynny’n ddigon da, a bod yn gwbl onest. Mae arnom angen ymrwymiad hirdymor. Mae arnom angen cynllun trefnus o welliannau ar gyfer economi Cymru, i fod yn onest gyda chi. Mae arnom angen ymrwymiad 20 mlynedd i gau’r bwlch economaidd sydd wedi ymddangos mewn gwirionedd dros lywodraethau olynol o wahanol liwiau gwleidyddol. Ac oes, mae angen system o fisâu gwaith rhanbarthol oherwydd bod gwahanol anghenion mudo a sgiliau yn economi Cymru, unwaith eto oherwydd strwythur gwahanol ein heconomi o gymharu â rhannau eraill o’r DU. Mae Corfforaeth Dinas Llundain wedi cyflwyno’r ddadl hon yng nghyd-destun ei hanghenion, ond fe ddylem ni yng Nghymru hefyd gyflwyno’r achos wrth i ni symud at ffordd wahanol o reoli’r polisi mudo yn gyffredinol, beth bynnag yw’r berthynas â’r UE a’r farchnad sengl. Mewn gwirionedd dylem gyflwyno achos dros wneud yr hyn y maent yn ei wneud yng Nghanada, sef dweud, ‘Mae gan wahanol ranbarthau anghenion gwahanol; gadewch i ni adlewyrchu hynny o safbwynt mudo yn ogystal’. Diolch.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ymrwymiad y Prif Weinidog i sicrhau’r cytundeb gorau i Gymru a’r DU wrth adael yr UE.
Yn croesawu gwarant Llywodraeth Geidwadol y DU na fydd pwerau yn cael eu dwyn yn ôl o’r gweinyddiaethau datganoledig, ac y bydd pwerau gwneud penderfyniadau yng Nghymru yn cael eu hehangu.
Yn cydnabod ei bod yn bwysig i Gymru a’r Deyrnas Unedig groesawu’r cyfleoedd masnach ac economaidd sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn cefnogi cynllun Llywodraeth y DU i gyflwyno cronfa cyd-ffyniant ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Llywydd. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir fod yn rhaid parchu’r setliad datganoli presennol wrth i gynlluniau a mentrau cyllido gael eu dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd, ac na fydd unrhyw gipio tir ar gymwyseddau. Mae hi wedi datgan hefyd fod hyn yn golygu cryfhau’r setliadau datganoli,
Ond peidio byth â gadael i’n Hundeb lacio a gwanhau, na’n pobl i ymbellhau.
Mae cynnig Plaid Cymru yn nodi canlyniad refferendwm y llynedd—refferendwm pan bleidleisiodd pobl Cymru i adfer rheolaeth y DU dros ffiniau, cyfreithiau ac arian. Felly cynigiaf welliant 1, gan nodi ymrwymiad y Prif Weinidog i sicrhau’r cytundeb Brexit gorau i Gymru a’r Deyrnas Unedig; croesawu gwarant Llywodraeth Geidwadol y DU na fydd pwerau yn cael eu dwyn yn ôl o’r gweinyddiaethau datganoledig, ac y bydd pwerau gwneud penderfyniadau yng Nghymru yn cael eu hehangu; cydnabod ei bod yn bwysig i Gymru a’r Deyrnas Unedig groesawu’r cyfleoedd masnach ac economaidd sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd; a chefnogi cynllun Llywodraeth y DU i gyflwyno cronfa cyd-ffyniant ar gyfer y Deyrnas Unedig.
O ran datganoli trethi mae’n rhaid i ni nodi mai 13 y cant yn unig o drethdalwyr Cymru sy’n talu treth ar y cyfraddau uwch o gymharu â 30 y cant dros y ffin, a bod yn ofalus ynglŷn â sut yr awn ati i gymell yn unol â hynny.
Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn bodoli er mwyn rhannu pobl Prydain a dinistrio ein DU. Yn lle hynny, rhaid i ni groesawu’r cyfle i’n Teyrnas Unedig ddod yn genedl sy’n masnachu’n fyd-eang ac sy’n edrych tuag allan. Fel y dywedodd y Prif Weinidog,
Rwyf am i ni fod yn wirioneddol fyd-eang
Steffan Lewis a gododd—
Un ymyrraeth yn unig, iawn.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio. Mae’n aml yn cael ei ailadrodd yn y Siambr hon, gan yr Aelod yn arbennig, fod ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi cyfyngu ar ein gallu i fasnachu â gweddill y byd. A all gydnabod, drwy ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, fod gennym 53 o gytundebau masnach ag economïau eraill y tu hwnt i’r UE? Ac a all esbonio i mi beth fydd statws y 53 cytundeb masnach y diwrnod ar ôl iddo lwyddo i gael yr annibyniaeth ogoneddus i’r wladwriaeth hon?
Oes, mae gennym, ac mae Llywodraeth y DU yn gweithio’n galed i gadarnhau’r sefyllfa yn gyffredinol ac yn ehangach y tu hwnt i Brexit. Ond nid oes amser yn y ddadl hon i mi ateb hynny. Mae’n debyg y byddaf yn ei ateb ymhellach mewn sefyllfa wahanol.
Rydych yn pryfocio. Rydych yn gymaint o bryfociwr.
Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, fel y dywedais, yn bodoli er mwyn rhannu pobl Prydain. Dywedodd y Prif Weinidog ei bod am i ni fod yn Brydain wirioneddol fyd-eang, yn ffrind gorau a chymydog i’n partneriaid Ewropeaidd, ond estyn y tu hwnt i ffiniau Ewrop hefyd, gan adeiladu perthynas gyda’n hen ffrindiau a chynghreiriaid newydd fel ei gilydd. Er bod Papur Gwyn Llafur a Phlaid Cymru yn galw am fynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE, mae rheolau’r UE yn gwneud hyn yn amhosibl ar ôl adfer rheolaeth ar ffiniau i’r DU, rhywbeth a nododd eich arweinydd mewn gwirionedd rai misoedd yn ôl cyn i chi newid eich tiwn ar hyn.
Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ei bod am gytundeb pwrpasol sy’n gweithio ar gyfer y DU gyfan, gan groesawu masnach mor rhydd â phosibl rhag tariffau a rhwystrau gyda’n cymdogion Ewropeaidd trwy gytundeb masnach rydd newydd cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol. Fel y mae’r undebau ffermio wedi dweud, bydd arnynt angen fframwaith amaethyddol sy’n atal cystadleuaeth annheg rhwng gweinyddiaethau datganoledig, yn diogelu cyllid, ac yn uchelgeisiol wrth adolygu deddfwriaeth sy’n deillio o’r UE ac sy’n ychwanegu’n ddiangen at y baich biwrocrataidd sy’n wynebu ffermwyr. Mae Papur Gwyn Bil diddymu mawr Llywodraeth y DU yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn dechrau trafodaethau dwys gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i nodi lle mae angen cadw fframweithiau cyffredin. Ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynllun Llywodraeth y DU i gyflwyno cronfa cyd-ffyniant ar gyfer y Deyrnas Unedig a chytuno ar fframweithiau ar draws y DU yn sail i faterion megis amaethyddiaeth, yr amgylchedd a physgodfeydd, a diogelu cyllid ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn croesawu adroddiadau gan y sefydliad gweithgynhyrchwyr EEF fod cwmnïau yn gynyddol gadarnhaol, fod y galw o Ewrop yn fywiog, a’i fod wedi cynyddu ei ragolygon twf ar gyfer 2017 a 2018, ac o’r PMI, fod sector adeiladu’r DU wedi ehangu ar ei gyfradd gyflymaf ers 17 mis ym mis Mai. Nodwn hefyd fod 90 y cant o’r twf byd-eang a ragwelir dros y degawd nesaf y tu allan i’r UE. Dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos hon:
wrth i ni gyflawni ewyllys pobl Prydain, byddwn yn creu partneriaeth newydd ddofn ac arbennig gydag Ewrop... ond byddwn hefyd yn ymestyn y tu hwnt i Ewrop i lunio cytundebau masnach newydd... gyda hen gynghreiriaid a ffrindiau newydd o amgylch y byd hefyd.
Dywedodd:
rydym wedi rhoi amser i ddatblygu’r cynllun, i astudio’r manylion, i ddeall y safbwyntiau negodi a blaenoriaethau’r rhai ar yr ochr arall i’r bwrdd, i feithrin y cysylltiadau ac i fod yn gwbl glir yn ein meddyliau ein hunain—ac ym meddyliau’r 27 aelod-wladwriaeth sy’n weddill—am y math o berthynas a geisiwn yn y dyfodol.
Nawr cymharwch hynny, meddai, â’r dewis arall. Mae Jeremy Corbyn yn dweud ei fod am fynediad di-dariff i’r UE, ond ni all ddweud a yw am barhau i fod yn aelod o’r farchnad sengl, yn amodol ar ddyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop a rheolau Ewrop ar hawl pobl i symud yn rhydd. Ni all ddweud a yw’n golygu parhau i fod yn aelod llawn o’r undeb tollau a fyddai’n ein hamddifadu o’n gallu i lunio cytundebau masnach newydd o amgylch y byd. Y rhain, meddai, yw’r cwestiynau mwyaf sylfaenol y mae angen eu hateb.
Ac o ran yr hyn y byddai Jeremy Corbyn yn ei wneud i’r DU, edrychwch ar yr unig ran o’r DU sy’n cael ei llywodraethu gan Lafur: Cymru, gyda’r lefelau isaf o gyflogaeth, cyflogau, tâl a ffyniant yn y DU, a’r lefel uchaf o ddiweithdra, tlodi plant a thlodi ym Mhrydain. Anghyfiawnder cymdeithasol yw etifeddiaeth Llafur wedi bod yng Nghymru. Ni allwn symud ymlaen o ddifrif ac unioni’r diffygion a grëwyd ganddynt ac a drosglwyddwyd ymlaen i bobl Cymru heb fynd i’r afael â’r problemau economaidd a chymdeithasol dwfn, gwneud y penderfyniadau anodd a chynllunio o ddifrif ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu mai yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, y nodir orau beth yw amgylchiadau Cymru a'i hanghenion yn y dyfodol.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Ffurfiol.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru, mewn gwirionedd, am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma, ar y diwrnod cyn yr etholiad cyffredinol ac fel y dywedodd Simon Thomas, ar fater a fu’n achos dros alw’r etholiad cyffredinol. Fodd bynnag, rwy’n siomedig iawn eu bod wedi ceisio cynnwys cymaint yn y cynnig, gan fod pob rhan o’r cynnig a phob is-ran mewn gwirionedd yn haeddu ystyriaeth yn ei hawl ei hun ac ni fydd gennym amser i drafod y rheini heddiw, ond efallai mai lecsiyna sy’n gyfrifol am hynny.
Penderfynodd refferendwm y llynedd un peth yn unig: y ffaith ein bod yn gadael y sefydliadau Ewropeaidd. Ni phenderfynodd beth yw’r amodau ar gyfer gadael ac ni phenderfynodd beth fyddai’r berthynas yn y dyfodol gyda’r 27 aelod o’r UE sydd ar ôl. Ac mae’n bwysig cael ein hamcanion a’r prosesau’n gywir wrth i’r DU ddechrau ar y gyfres allweddol hon o drafodaethau. Ac rwy’n siomedig iawn nad yw’r modd y mae’r Llywodraeth gyfredol—ac rwy’n gobeithio mai cyfredol yw hi, ac y bydd hi’n Llywodraeth flaenorol yfory—yn San Steffan yn ymdrin â’r mater hwn wedi dangos digon o barch i’r cyhoedd ac i’r gwledydd datganoledig wrth symud ymlaen, yn wahanol i 27 aelod yr UE, sydd mewn gwirionedd wedi cytuno’n unfrydol ar eu meini prawf ar gyfer trafodaethau. Maent wedi dod at ei gilydd, ac mae Llywodraeth y DU wedi methu gwneud hynny hyd yn oed.
Yn dilyn datganiad y Prif Weinidog ar 17 Ionawr, cyhoeddi’r Papur Gwyn, sbarduno erthygl 50 a’r Papur Gwyn ar y Bil diddymu mawr, mae’n hanfodol fod unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol yn cynnwys y gwledydd datganoledig yn llawn wrth ddatblygu ei safbwynt negodi. Dylai fod gennym ninnau hefyd safbwynt negodi wedi’i gytuno. Ac mae angen i ryngweithio’r Llywodraeth wella mewn gwirionedd y tu hwnt i gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yn unig, y credwn mewn gwirionedd nad ydynt yn ddim mwy nag esgus o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i’r digwyddiadau hyn. Nid ydynt yn siopau siarad; dylent fod yn rhywbeth yn effeithiol. Yn anffodus, nid yw hynny’n wir, ac rwy’n meddwl y dylem sicrhau, wrth inni symud ymlaen, fod hyn yn newid.
Nawr, efallai y bydd rhai’n dadlau pam y dylai fod gennym sefydliadau datganoledig, gan honni mai’r DU yw’r aelod-wladwriaeth. Wel, mae tystiolaeth wedi dangos bod cymhlethdodau’r berthynas rhwng yr UE a gwledydd datganoledig, o ganlyniad i’r cymwyseddau datganoledig, ynghyd ag effaith unrhyw delerau neu unrhyw gytundebau masnach a fydd yn cael eu gwneud â’r DU ar economïau datganoledig, yn bendant yn galw am ymwneud uniongyrchol ein Llywodraeth etholedig. Llywydd, mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, a gynhyrchwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, wedi gosod yr economi ar frig ei restr o flaenoriaethau, ac yn haeddiannol felly. Mae ein heconomi’n allweddol i’n ffyniant ar draws y wlad, a gallu busnesau Cymru i fasnachu heb rwystrau, boed yn ariannol neu reoleiddiol, ac mae’n rhaid caniatáu iddynt dyfu. Dangosodd Adam Price eisoes yn ei bwynt agoriadol y berthynas gyda dur yn fy etholaeth a’r effaith y byddai’n ei chael os na chawn hyn yn iawn.
Nawr, byddai ysgariad anodd yn arwain at Brexit Sefydliad Masnach y Byd yn golygu gosod tariffau andwyol ar ein hallforion, a fyddai’n arwain yn ôl pob tebyg at golli swyddi, dirywiad ein diwydiannau modurol a dur, dirywiad tebygol cydrannau pwysig o’n sector gweithgynhyrchu, colli marchnad allforio fawr i’n diwydiant bwyd a diod, ac yn ddiamau, at niweidio’r sector ariannol sy’n datblygu yng Nghymru. A chan ein bod yn siarad am fasnach, ystyriwch ymchwil a datblygu hefyd. Neithiwr, roeddem yn falch o gynnal y digwyddiad Gwyddoniaeth a’r Cynulliad yma yn y Senedd, ac fe’i cynhaliais ar y cyd â Simon Thomas a Nick Ramsay, a chawsom ein hatgoffa gan Simon am y papur diweddar a gyhoeddwyd gan y pedair cymdeithas ledled y DU ac effaith cyllid yr UE ar ymchwil a datblygu ac arloesi, yma yng Nghymru yn arbennig ac yn y DU, yn seiliedig ar arian yr UE. Nawr, gall cyllid ymchwil yr UE helpu i ddatblygu ein dyfodol economaidd, ac ni ddylem golli golwg ar hynny, oherwydd ni soniwyd am sicrhau arian yn lle’r arian hwnnw, ac eto, mae biliynau’n cael eu colli—£9 biliwn rhwng 2007 a 2013 i mewn i’r DU na sonnir am sicrhau unrhyw arian yn ei le.
Felly, ni allwn anwybyddu’r effaith hefyd ar rwystrau di-dariff, a fyddai’n ymwahanu oddi wrth rai’r UE ar ôl i ni adael—ac fe fyddant yn ymwahanu. Mewn gwirionedd, gallai rhwystrau o’r fath greu cost sy’n cyfateb i dariff o 22 y cant ar longau neu gyfarpar cludiant. Nawr, yn y Papur Gwyn, fel y dywedwyd eisoes, y flaenoriaeth oedd mynediad dilyffethair at y farchnad sengl, ac rwy’n credu ei bod yn un y dylai pawb ohonom ei chroesawu. Pa un a ydych am gael cytundeb masnach rydd, dyna rydym yn sôn amdano. Felly, mae’n gwneud rhywbeth y dylai pawb ohonom ei groesawu, ac nid yw’n ein hatal rhag cael cytundebau masnach rydd â chenhedloedd eraill chwaith. Felly, gadewch i ni sicrhau ein bod yn awyddus i sicrhau ein bod yn diogelu busnesau Cymru ac economi Cymru.
Nawr, fe wyddom fod yna ansicrwydd yn dod, ac rydym hefyd yn gwybod am y goblygiadau i fusnesau a all fod yn dymuno ystyried buddsoddi yng Nghymru. Rydym yn gweld hynny mewn rhannau o fusnesau sydd eisoes yma, lle maent yn mynd â buddsoddiad allan o Gymru—fe soniaf yn unig am Ford fel un enghraifft—ac mae 200,000 o swyddi yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan ein masnach yn y farchnad sengl. Ac mae angen trefniadau trosiannol hefyd. Nawr, roeddwn wedi meddwl bod Llywodraeth y DU yn dod i weld pethau fel rydym ni’n eu gweld, ond credaf fod hynny’n ymddangos fel pe bai’n lleihau i raddau, yn anffodus. Nawr, efallai fod gan Lywodraeth y DU fandad i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid oes mandad i ddefnyddio Brexit fel esgus dros ddinistrio ein heconomi, torri’r isafswm cyflog, a chynnau coelcerth o hawliau gweithwyr, mesurau diogelu amgylcheddol ac amddiffyniadau cymdeithasol yr ymladdwyd yn galed amdanynt. Wrth iddynt drafod ein hymadawiad o dan erthygl 50—ac yna, cofiwch, mae’n mynd i ddilyn—ac yna y berthynas yn y dyfodol gyda 27 gwlad yr UE o dan erthygl 218, rhaid iddynt ac fe ddylent dderbyn bod strwythur cyfansoddiadol y DU wedi newid, ac na ellir anwybyddu buddiannau a blaenoriaethau’r gwledydd datganoledig.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig heddiw. Rydym yn cytuno’n rhannol â rhai o’r syniadau sydd ganddynt mewn gwirionedd. Ar fater ariannu, mae UKIP wedi datgan bob amser y dylai San Steffan roi cyllid i Gymru yn lle’r hyn a gollir o gyllid yr UE. Rydym wedi cefnogi’r alwad honno’n gyson. Roeddem yn siarad yn gynharach am y rheolau caffael. Roedd Adam Price yn siarad am hynny. Nawr, mae rheolau caffael yr UE yn atal contractau rhag cael eu rhoi i gwmnïau Prydeinig. Bydd hyn yn newid gyda Brexit. Rydym yn cytuno bod pŵer dros gaffael yn offeryn y dylem ei ddefnyddio yn y dyfodol i hybu cyflogaeth. Nid wyf yn argyhoeddedig y dylai’r pŵer gael ei ddatganoli i’r Cynulliad, fodd bynnag, oherwydd gellir ei drafod yn fwy effeithiol ar lefel y DU gyfan.
Nid ydym yn cytuno â’r syniad o wasanaeth mudo i Gymru. Nid wyf yn siŵr sut y byddai’n ymarferol. Nawr, fe wnaeth Adam sôn o leiaf am enghraifft o system lle mae ganddynt wasanaeth felly, mae’n debyg, yng Nghanada. Rwy’n cyfaddef nad wyf yn gwybod llawer am y peth, a byddai’n rhaid i mi ymchwilio sut y mae’n gweithio yno. Ond yn anffodus—[Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs, Google. Ond ni soniodd amdano tan heddiw. Byddwn yn gwneud Google, ac fe wnawn Wicipedia, hefyd. Byddai wedi bod yn ddefnyddiol—[Torri ar draws.] Byddai wedi bod yn ddefnyddiol efallai pe baech wedi egluro heddiw mewn gwirionedd sut y mae’r system honno’n gweithio. Ond o ystyried cyfyngiadau amser dadl 30 munud, efallai fod hynny’n anodd ei gyflawni.
Bydd pryderon gan y cyhoedd ynglŷn â sut y byddai system o’r fath yn gweithio. Sut y byddwch yn atal pobl rhag symud o Gymru, lle byddai ganddynt fisa i weithio, i Loegr, lle na fyddai ganddynt fisa? Mae asiantaeth ffiniau’r DU yn cael trafferth i ymdrin â mewnfudo anghyfreithlon fel y mae, a bydd y cynllun hwn yn gwneud eu gwaith yn llawer anos. Mae’n ymddangos i mi yn ffordd o gadw rhyddid i symud drwy’r drws cefn mewn gwirionedd, a fyddai’n negyddu’r bleidlais Brexit yn fy marn i. Ac wrth gwrs, fe bleidleisiodd Cymru dros adael, yr un fath â Lloegr.
Nid ydym ychwaith yn cytuno â’ch cynnig y dylai Cynulliad Cymru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ni allaf gymryd ymyriadau yr wythnos hon, Rhun, am ei bod yn wythnos yr etholiad. Yn ôl i’r arfer yr wythnos nesaf. [Chwerthin.]
Dyna un newydd.
Ydy, mae. Rwy’n hoffi cael syniadau newydd—
Er eglurder, polisi Gareth Bennett yw hynny, nid polisi’r Siambr lawn. [Chwerthin.]
Nid ydym yn cytuno â’ch cynnig y dylai’r Cynulliad gael pŵer feto dros unrhyw gytundeb Brexit. Rwy’n derbyn bod Dai Rees newydd gyflwyno rhai dadleuon yn groes i’r hyn rwy’n mynd i ddweud, ond nid oes gan y Cynulliad unrhyw bwerau datganoledig i ymdrin â mewnfudo neu fasnach ryngwladol. Beth fyddai’n digwydd mewn gwirionedd pe bai Theresa May yn negodi cytundeb Brexit a bod Cynulliad Cymru yn rhoi feto ar gytundeb o’r fath wedyn? Yn syml iawn, byddech yn ysgogi argyfwng cyfansoddiadol a allai beri i lawer o bobl gwestiynu bodolaeth Cynulliad Cymru ei hun. Felly, fy nghyngor ar gwestiwn feto Brexit yw y dylid troedio’n ofalus iawn. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae yna lawer yn y cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma y byddai’r Llywodraeth yn cytuno ag ef. Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â phwysigrwydd sylfaenol sicrhau canlyniad yn sgil Brexit sy’n cydnabod ac yn amddiffyn anghenion ac amgylchiadau Cymru. Rwyf am gofnodi effeithiolrwydd ychwanegol ein gallu i wneud hynny oherwydd y gwaith ar y cyd sydd wedi digwydd rhwng y pleidiau mewn Llywodraeth a Phlaid Cymru ar y mater hwn dros y misoedd diwethaf.
Ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi’r gwelliant gan y Blaid Geidwadol. Mae ein safbwynt yn wahanol iawn. Mae’n sylfaenol wahanol, mewn ffyrdd y gallodd Lesley Griffiths eu nodi. Clywsoch Mark Isherwood yn dweud bod pwerau’n mynd i gael eu dychwelyd o Frwsel. Nawr, os oes unrhyw Aelod yn cael cyfle i wneud hynny, rwy’n argymell yr araith a wnaeth Syr Emyr Jones-Parry i Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar 17 Mai eleni, sy’n ymdrin ag ystod eang o faterion yn ymwneud â Brexit. Mae’r hyn y mae’r cyn-lysgennad i’r Cenhedloedd Unedig yn ei ddweud yno yn glir iawn. ‘Yn bersonol’, meddai, ‘nid wyf yn credu bod pwerau’n cael eu dychwelyd. Maent yn aros lle maent eisoes yn gorffwys’, a dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru yn ogystal. Mae’n wahaniaeth sylfaenol rhyngom a’r Blaid Geidwadol, ac ni fyddwn yn pleidleisio dros eu gwelliant.
Mae’r cynnig, fodd bynnag, yn mynd ymhellach hefyd na’r safbwynt a nodir yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, ac mae’n gwneud hynny mewn rhai agweddau pwysig. Nid oes yr un o’r cynigion ychwanegol hynny’n rhai nad ydynt yn haeddu sylw gofalus, ac mae’n bosibl y bydd rhai ohonynt, yn y dyfodol, ac yn yr amgylchiadau gwahanol a grëir gan Brexit, yn bolisïau a fydd yn cael eu mabwysiadu.
Mae’r problemau gyda’r cynnig, fodd bynnag, yn ddeublyg. Y broblem gyntaf yw bod rhai o’r casgliadau y daw iddynt, fel y nododd David Rees, yn gynamserol. Mae’n werth archwilio datganoli pwerau TAW yn briodol yn yr amgylchiadau ar ôl gadael yr UE, ond mae’n haeddu cael ei archwilio, archwiliad o’r math difrifol a arweiniodd at adroddiad Silk, yn hytrach na chael ei benderfynu mewn dadl 30 munud yn y Cynulliad.
Rwy’n deall yn iawn fod gan Adam Price, wrth agor y ddadl, gyfrif llawer mwy manwl o rai o’r agweddau hyn nag sy’n bosibl mewn cynnig, ond ar y cynnig y byddwn yn pleidleisio, nid yr araith, ac mae’r Llywodraeth o’r farn, rwy’n meddwl, fod galw am ddatganoli pwerau TAW ar unwaith yn mynd o flaen ble y mae’r ddadl yn mynd â ni ar hyn o bryd ac o flaen sefydlu rhai ffeithiau pwysig iawn. Efallai hefyd y bydd rhai cyfrifoldebau Cymreig penodol ym maes mudo yn rhan o dirwedd y DU yn y dyfodol, ond tra bo’r dirwedd yn parhau i fod mor amwys, yna credwn fod rhan 5 o’r cynnig yn gynamserol fel y mae wedi’i nodi.
A daw hynny â mi at yr ail broblem gyda’r cynnig, Llywydd, sef amseru. Yfory, bydd Llywodraeth newydd yn cael ei hethol yn y DU, a beth bynnag fydd cyfansoddiad y Llywodraeth honno, bydd ynganiad cryf ac eglur o safbwynt Cymru yn hanfodol. Credaf ein bod wedi sefydlu’r eglurder hwnnw drwy ‘Diogelu Dyfodol Cymru’. Mae’n hysbys ac yn ddealledig yn Whitehall ac yn San Steffan, mae’n cael ei gydnabod a’i barchu yn Ewrop, ac yn llysgenadaethau’r rhai a fu’n bartneriaid i ni ac a fydd yn parhau i fod yn gymdogion agosaf i ni yn y dyfodol. Cred y Llywodraeth nad yn awr yw’r amser i ddrysu’r gyfres graidd honno o negeseuon drwy ymhelaethu arnynt yn y ffordd y mae’r cynnig yn ceisio ei wneud.
Mae gennym ein negeseuon craidd o ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl; ymagwedd ymarferol tuag at fudo; arian yn y dyfodol i’w warantu ar lefelau’r UE fan lleiaf; setliad cyfansoddiadol newydd oddi mewn i’r Deyrnas Unedig; cynnal hawliau cymdeithasol, amgylcheddol a dynol craidd; a gosod trefniadau trosiannol fel nad oes ymyl clogwyn rhwng y sefyllfa rydym ynddi heddiw a’r sefyllfa y byddwn ynddi ar y diwrnod y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dyna y mae gwelliant y Llywodraeth i’r ddadl heddiw yn anelu at ei sicrhau. Trwy aros yn agos at y dadleuon y gallasom eu cyflwyno, ac sydd wedi cael peth dylanwad yn y mannau lle y gwneir penderfyniadau yn y dyfodol, credwn ein bod wedi gallu gwneud llais Cymru yn effeithiol yn y ddadl hyd yn hyn. Nid ydym yn credu mai yn awr yw’r amser i ymhelaethu ymhellach y tu hwnt i hynny. Byddwn yn gwrthwynebu’r cynnig fel y’i drafftiwyd yn wreiddiol a gofynnaf i’r Aelodau gefnogi’r gwelliant y mae’r Llywodraeth wedi’i gyflwyno.
Galwaf ar Adam Price i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Llywydd, a diolch i’r Aelodau am eu hymateb i’r syniadau a nodwyd gennym, er mai yn amlinellol y gwnaethom hynny er mwyn bod yn gryno fel y nodwyd.
Rwy’n edmygu ysbryd optimistaidd Mark Isherwood, ac yn wir ei uchelgais byd-eang, yn enwedig ar gyfer Cymru; er ein bod efallai yn anghytuno ynglŷn â rhai o’r manylion, credaf yn sicr fod angen i ni fanteisio ar gyfleoedd allforio newydd. O ran ein natur ac yn hanesyddol rydym yn wlad sy’n allforio’n helaeth, ond mae angen i wneud yn well. Roeddwn yn darllen rhai o’r atebion gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a roddwyd i Steffan Lewis, a oedd yn gofyn pa ymdrechion newydd y buom yn eu gwneud ers mis Mehefin 2016, ers y bleidlais, i grynhoi cyfleoedd newydd ar gyfer y farchnad, ac yn yr ateb mae’n dweud bod Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi bwriad Llywodraeth Cymru i ymrwymo adnoddau ychwanegol i ogledd America a sefydlu presenoldeb yng Nghanada. Wel, nid wyf yn gweld strategaeth fyd-eang newydd gan Lywodraeth Cymru eto, mae’n ddrwg gennyf ddweud. Hynny yw, ceir ymweliad allforio i Qatar ym mis Hydref, a gallai fod angen i ni edrych ar hynny eto yng ngoleuni’r drafodaeth gynharach.
Mwynheais gyfraniad David Rees fel erioed. Credaf fod un o’i bwyntiau craidd, sef yr angen, mewn gwirionedd, i gydweithio’n agos ac ymdrech ar y cyd rhwng y pedair gwlad a’r deddfwrfeydd datganoledig o ran polisi masnach, yn gyson ag ysbryd yr hyn yr ydym yn ei ddweud yn y cynnig hwn hefyd. O ran Gareth Bennett, rwy’n hapus i anfon allbrint o awgrym manwl dinas Llundain ar raglen fisa ranbarthol atoch, Gareth. Mae Canada’n gweithredu cynllun enwebu dros dro a cheir cynllun mudo noddedig rhanbarthol yn Awstralia. Felly, mae yna lawer o enghreifftiau. Yn wir, er gwaethaf y ffaith nad yw mudo wedi’i ddatganoli, roedd gan yr Alban hyd yn oed rywbeth tebyg yn y fenter talent newydd yn ôl yn 2005. Felly, rwy’n gobeithio bod hynny’n codi awydd arnoch, Gareth, i ymchwilio’n ddyfnach i’r maes hwn. Rwy’n croesawu’r ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn bod llawer o’r syniadau a nodwyd gennym yma ar gyfer y strategaeth ôl-Brexit yn werth eu hystyried ymhellach mewn gwirionedd, a byddwn yn bwrw ymlaen â hynny wrth drafod gydag ef. Mae’n rhaid i mi ddweud—
Mae’r amser ar gyfer y ddadl yma ar ben nawr. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae’r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr anghenion tai. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 31 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd y cynnig.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 15, Yn erbyn 31, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6322.
Pleidlais ar welliant 1: os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 21 yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 1.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 21, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6322.
Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Pleidlais ar welliant 4: galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae’r gwelliant wedi’i wrthod.
Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 11, Yn erbyn 36, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6322.
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cynnig NDM6322 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fodloni anghenion amrywiol pobl Cymru o ran tai, gan weithio mewn partneriaeth ag adeiladwyr preifat, y sector rhentu preifat, y cynghorau a'r cymdeithasau tai.
2. Yn croesawu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i:
a) adeiladu 20,000 ychwanegol o dai fforddiadwy erbyn 2021, gan gynnwys 6,000 drwy'r cynllun Cymorth i Brynu—Cymru a 1,000 drwy ei chynllun newydd Rhentu i Brynu;
b) gweithio gyda datblygwyr i annog a hwyluso eu gwaith ehangach o adeiladu cartrefi ar gyfer y farchnad a datgloi potensial busnesau bach a chanolig i adeiladu cartrefi a chreu swyddi â sgiliau ledled Cymru;
c) diogelu'r stoc bresennol o dai cymdeithasol ac annog cymdeithasau tai a chynghorau i fuddsoddi mewn darparu cartrefi newydd drwy ddiddymu'r Hawl i Brynu;
d) buddsoddi mewn datblygu dulliau arloesol o adeiladu tai i ateb yr heriau gan gynnwys patrymau demograffig sy'n newid a'r angen am gartrefi effeithlon o ran ynni;
e) parhau i ailddefnyddio cartrefi gwag a chynnwys darparu tai yn rhan o'i chynlluniau adfywio;
f) sicrhau bod mwy o dir, gan gynnwys tir mewn meddiant cyhoeddus, ar gael i'w ddatblygu i ddarparu tai;
g) parhau i godi safonau yn y sector rhentu preifat a gweithredu ar ffioedd asiantau gosod i denantiaid; a
h) adeiladu ar lwyddiant ei hymyrraeth gynnar mewn perthynas â digartrefedd drwy weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â phroblemau pobl sy'n cysgu ar y stryd.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Fe dderbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Derbyniwyd cynnig NDM6322 fel y’i diwygiwyd: O blaid 26, Yn erbyn 21, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6322 fel y’i diwygiwyd.
Y bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar y diwydiant amaeth a gadael yr Undeb Ewropeaidd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi’i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig: O blaid 32, Yn erbyn 15, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6325.
Pleidlais, felly, ar ail ddadl Plaid Cymru ar yr economi a gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid saith, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly fe wrthodwyd y cynnig.
Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 7, Yn erbyn 40, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6326.
Gwelliant 1: os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Ac felly, mae’r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 15, Yn erbyn 32, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6326.
Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, chwech yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly, fe dderbyniwyd y gwelliant.
Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 15, Ymatal 6.
Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6326.
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM6326 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd y llynedd.
2. Yn cydnabod bod gan Gymru anghenion a gofynion unigryw drwy gydol y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn credu mai yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, y nodir orau beth yw amgylchiadau Cymru a'i hanghenion yn y dyfodol.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly, fe dderbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.
Derbyniwyd cynnig NDM6326 fel y’i diwygiwyd: O blaid 32, Yn erbyn 15, Ymatal 0.
Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6326 fel y’i diwygiwyd.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r ddadl fer. Gadewch y Siambr yn gyflym ac yn dawel cyn i fi alw’r ddadl fer. Rwy’n galw felly ar Mike Hedges i gyflwyno’r ddadl.
Diolch i chi, Llywydd. Nid oedd neb eisiau munud yn y ddadl hon, ac nid yw hynny’n syndod, oherwydd credaf fod gan y rhan fwyaf o bobl bethau eraill ar eu meddyliau. Mae’n debyg fod hwn yn ddiwrnod gwael i gael y ddadl hon: nid yn unig mae’n noson cyn etholiad cyffredinol, ond rydym eisoes wedi cael un ddadl ar dai heddiw.
Ond rwy’n credu mai tai yw un o’r heriau mawr sy’n wynebu Prydain gyfan, gan gynnwys Cymru. Gellir rhannu’r cyfnod ar ôl y rhyfel yn ddau gyfnod mewn perthynas â thai: yn gyntaf, y cyfnod o 1945 i 1980. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelsom dwf aruthrol mewn tai cyngor ac adeiladu nifer fawr o stadau newydd, yn enwedig yn yr ardaloedd trefol mwy o faint. Hefyd, gwelsom dwf perchen-feddiannaeth a dechrau adeiladu ystadau preifat mawr, unwaith eto mewn ardaloedd trefol yn bennaf.
Mae’r maes tai wedi newid llawer yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf ac nid er gwell bob amser yn fy marn i. Gwelwyd cynnydd mawr mewn eiddo gwag; bu newid mewn deiliadaeth tai; cynnydd yn nifer yr aelwydydd un person; cynnydd yn nifer cartrefi pensiynwyr; a chynnydd yn nifer y bobl ifanc mewn tai amlfeddiannaeth, myfyrwyr yn bennaf, ond nid yn unig, gan fod niferoedd myfyrwyr wedi cynyddu’n sylweddol. Mae niferoedd tai cyngor wedi lleihau yn sgil gwerthiannau a’r methiant i adeiladu. Cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cymdeithasau tai. Bu dirywiad yn y sector rhentu preifat yn y 1960au a’r 1970au, lle roedd rhentu preifat, erbyn diwedd y 1970au, yn aml yn golygu llety myfyrwyr yn unig mewn gwirionedd. Mae hynny wedi cael ei wrthdroi. Gyda pherchnogion ar raddfa fawr a’r rhai sy’n defnyddio tŷ ychwanegol fel dewis arall yn lle pensiwn preifat, gwelwyd cynnydd enfawr mewn rhentu preifat, yn enwedig mewn ardaloedd nad ydynt wedi bod yn gysylltiedig yn hanesyddol â llety rhent preifat. O ganlyniad i newidiadau i fudd-daliadau, mae’r galw wedi cynyddu am lety llai o faint.
Daeth Suzy Davies i’r Gadair.
Hoffwn ganolbwyntio ar dai cydweithredol. Gydag oedran cyfartalog prynwyr tro cyntaf yn 37 a’r disgwyl y bydd yn codi i 40, mae’n hollol amlwg fod angen newid y system dai gyfredol. Mae blaendaliadau mawr, yr anhawster i sicrhau morgeisi fforddiadwy gan fenthycwyr, a phrinder cyffredinol o dai o ansawdd da ymhlith y prif resymau a briodolwyd i’r ffaith fod oedran cyfartalog prynwyr tro cyntaf yn codi’n barhaus. I lawer o bobl, mae’r freuddwyd o brynu eu cartref cyntaf wedi’i gohirio am y tro, a’r unig opsiynau sydd ar ôl yw naill ai dychwelyd i fyw gyda’u rhieni neu rentu eiddo ar eu pen eu hunain neu gydag eraill am nifer o flynyddoedd, gyda’r nod o gynilo digon o arian ar gyfer blaendal, ac wrth i brisiau tai barhau i godi, daw hynny’n fwyfwy anodd oni bai bod banc mam a dad yn camu i’r adwy. Yn anffodus, i nifer fawr o fy etholwyr, nid oes ganddynt fanc mam a dad i droi ato. Er hynny, mae’r syniad o fod yn berchen ar gartref yn parhau i fod yn nod eithaf i’r mwyafrif helaeth o bobl.
Mewn adroddiad diweddar, cynhyrchodd Sefydliad Bevan y negeseuon allweddol canlynol: nid oes digon o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu i ddiwallu’r angen a ragwelir; ac mae perchen-feddiannaeth yn costio mwy na phedair gwaith yr enillion blynyddol ym mron pob rhan o Gymru, a mwy na chwe gwaith yr enillion blynyddol mewn sawl ardal. Rwy’n cofio prynu tŷ pâr tair ystafell wely yn Ynysforgan, sy’n lle hyfryd yn Nhreforys, am ddwywaith y cyflog. Roedd y morgais a gefais yn ddwywaith y cyflog roeddwn yn ei ennill fel darlithydd coleg. Byddai angen i mi gael pedair gwaith cyflog darlithydd coleg yn awr i brynu’r un tŷ. Mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i bobl fel oeddwn i: byddai darlithydd coleg wedi disgwyl i berchen-feddiannaeth fod yn hawdd, ac roedd yn hawdd yn y 1980au, pan ymunais i. Mae wedi symud yn gyflym o gyrraedd llawer ohonynt yn awr.
Mae rhenti cymdeithasol a phreifat yn mynd â mwy na chwarter enillion y gweithwyr sy’n ennill leiaf yn y rhan fwyaf o Gymru. O dan ddyletswyddau’r Ddeddf Tai (Cymru) 2014 newydd, mae oddeutu 29 o deuluoedd y dydd yn ddigartref ac yn chwilio am gymorth i sicrhau llety gan eu hawdurdod lleol. Mae’r pwysau ar ei waethaf yn Sir Benfro a Cheredigion, lle mae pob math o ddeiliadaeth yn fwy anfforddiadwy nag yn unman arall yng Nghymru, mae niferoedd y tai newydd a gwblheir yn gymharol isel a digartrefedd yn uwch na’r cyfartaledd.
At ei gilydd, mae pobl yn fodlon â’u llety, ond mae’r rhai sy’n byw mewn tai cymdeithasol ac ar aelwydydd difreintiedig yn llawer llai bodlon nag eraill. Y tu ôl i bob darn o ddata mae yna unigolyn neu deulu. Rwy’n credu ein bod yn siarad am dai—rydym yn siarad am lawer o bethau—yn haniaethol, fel pe na bai’n effeithio ar bobl. Mae hyn yn ymwneud yn llwyr â phobl. Rwyf wedi ymweld â phobl yn byw mewn tai lle y gallwch deimlo’r gwynt yn dod i mewn lle nad yw’r ffenestr yn ffitio’n iawn; rwyf wedi ymweld â phobl sy’n mynd i’r gwely am 7 o’r gloch, am nad ydynt yn gallu fforddio cynhesu eu tai. Mae’r rhain yn bobl y mae eu costau gwresogi yn debygol o fod yn fwy sylweddol na’ch costau chi, Dirprwy Lywydd—neu Ddirprwy Lywydd dros dro—neu fy nghostau i, am fod gwresogi rhai o’r tai hyn yn hynod o ddrud, tai sydd â gwydr sengl, nad ydynt yn atal gwynt na’r tywydd. Mae’r bobl hyn yn talu llawer mwy na ni. Rwy’n credu bod hynny’n druenus ac yn rhywbeth y mae angen rhoi sylw iddo.
Mae’r DU wedi cael ei dominyddu’n draddodiadol gan ddau fath o fodel deiliadaeth tai: perchen-feddiannaeth gyda morgais, a thai sy’n cael eu rhentu, naill ai’n breifat neu gan landlord cymdeithasol. Mewn rhannau eraill o’r byd, fodd bynnag, ceir trydydd math o ddeiliadaeth ar dai, gyda chydweithrediaethau tai. Mewn gwirionedd, bydd unrhyw un sy’n gwylio rhaglenni comedi Americanaidd ac eraill yn aml yn eu clywed yn siarad am y ‘co-op’—nid siop i lawr y ffordd ydyw, ond cydweithrediaeth dai. Ac nid ar gyfer y tlawd y mae, ond ar gyfer pawb. Yn wir, mae rhai o’r cydweithrediaethau tai yn rhai o rannau mwyaf cefnog Efrog Newydd. O dan ddeiliadaeth tai cydweithredol, mae gan aelodau’r gydweithrediaeth bŵer cyfunol i reoli’r llety rhyngddynt. Mae hyn yn cynnwys cymryd cyfrifoldeb am ddyletswyddau fel trefnu gwaith atgyweirio, cynnal a chadw eiddo, a gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r rhent. Gan fod y penderfyniadau yn cael eu gwneud gan yr aelodau, mae egwyddorion perchnogaeth gymunedol a democratiaeth yn cael eu gosod yn ganolog i’r model tai cydweithredol.
Mae sectorau tai cydweithredol cryf mewn gwledydd fel Sweden, Norwy, Canada, Awstria a Thwrci, yn ogystal ag Unol Daleithiau America. Yn Sweden, er enghraifft, mae dau sefydliad cydweithredol mawr yn darparu dros 750,000 o gartrefi—mae tua 18 y cant o boblogaeth gyfan y wlad yn byw mewn tai cydweithredol. Yng Nghanada, a ddechreuodd gydweithrediaethau tai yn y 1970au cynnar, mae dros 400,000 o bobl yn byw mewn cartrefi cydweithredol bellach. I roi’r ffigurau hyn mewn persbectif ar gyfer y wlad hon, mae mwy o gartrefi tai cydweithredol yn Vancouver nag yn y DU gyfan, gydag arbenigwyr tai’n amcangyfrif bod llai nag 1 y cant o bobl yn y DU yn byw mewn cydweithrediaeth dai. Mae creu atebion fforddiadwy, hirdymor ar gyfer y farchnad dai yn rhywbeth y gall tai cydweithredol ei wneud.
Cyhoeddwyd adroddiad gan y Llywodraeth Geidwadol yn 1995 o dan y teitl Tenants in Control: an evaluation of tenant-led housing management organisations ‘, a ddaeth i’r casgliad, er syndod i lawer, gan fy nghynnwys i, fod modelau tai cydweithredol nid yn unig yn gosteffeithiol, ond hefyd yn cynnig nifer o fanteision sylweddol i’w haelodau. Mae adroddiadau ac ymchwiliadau dilynol ers hynny i fodelau tai cydweithredol wedi atgyfnerthu canfyddiadau’r adroddiad gwreiddiol gan PricewaterhouseCoopers, yn ogystal â nodi manteision posibl eraill ar gyfer eu haelodau. Er enghraifft, mae bod yn rhan o gydweithrediaeth dai yn rhoi cyfle i aelodau ddefnyddio sgiliau sydd ganddynt yn barod neu i ddatblygu sgiliau newydd, yn rhoi cyfran i’r aelodau ac yn magu eu diddordeb yn lle maent yn byw, ac yn gallu helpu i leihau unrhyw ddibyniaeth a allai fod gan denantiaid ar landlordiaid neu’r wladwriaeth. Eu tŷ hwy ydyw, maent yn helpu i osod y rhenti ac maent yn bwysig iawn yn y broses o wneud y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt ac ar eraill.
O ran manteision cymdeithasol, gall cydweithrediaethau tai helpu i hyrwyddo cydlyniant ac integreiddio cymunedol yn ogystal â chwarae rhan yn lleihau fandaliaeth, oherwydd os ydych yn fandaleiddio mewn cydweithrediaeth dai, rydych yn costio arian i’ch teulu yn ogystal â’r bobl yn y tai rydych yn eu fandaleiddio. Mae hefyd yn taro ymddygiad gwrthgymdeithasol, oherwydd eich bod am i bobl aros, ac mae eu heiddo gwag yn effeithio ar eich teulu. Mewn rhai achosion, deilliodd gwasanaethau cymunedol eraill, megis gofal plant a gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer yr aelodau, o fod yn rhan o gydweithrediaeth dai.
Ar ben hynny, mae cydweithrediaethau tai yn rhoi rheolaeth i denantiaid ar renti eiddo, gwasanaethau adeiladu a chontractwyr, ac ôl-ddyledion rhent hefyd. Rwy’n credu mai un o’r gwendidau sydd wedi bod mewn nifer o brydlesi, er enghraifft, yw pan orfodir pobl i gael pobl benodol i mewn i wneud eu gwaith atgyweirio, sy’n aml iawn yn gallu bod yn fwy costus nag y gallai fod pe baech yn gwneud y gwaith eich hun. Gellir ailfuddsoddi unrhyw arian dros ben a wneir gan y gydweithrediaeth dai yn yr eiddo wedyn, yn dibynnu ar ddymuniad yr aelodau. Mae modelau tai cydweithredol a chydfuddiannol yn cynnig ateb ymarferol, cynaliadwy i ni gyda’r potensial i newid yn sylweddol y ffordd yr edrychwn ac y meddyliwn am dai.
Gyda phwerau deddfu sylfaenol newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae modd newid y gyfraith i sefydlu a hyrwyddo deiliadaeth tai cydweithredol ar wahân yn gyfreithiol bellach. Ni fyddwn yn bod yn deg â Llywodraeth Cymru pe na bawn yn dweud ei bod wedi gwneud cynnydd ym maes cydweithrediaethau tai yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a diolch i chi am yr ymrwymiad a ddangosoch tuag at hyn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi dechrau eu datblygu yng Nghymru, ac mae gennym Gartrefi Cymoedd Merthyr hefyd sy’n ceisio troi’n gwmni cydweithredol. Ond rwy’n meddwl bod rhagor i’w wneud.
Rwyf wedi ymrwymo i’r model tai cydweithredol, ac mae tri pheth y bydd angen ei wneud er mwyn iddo fod yn llwyddiannus. Mae angen inni newid y gyfraith i wneud creu cwmnïau tai cydweithredol yn haws. Yn ail, mae angen i fenthycwyr fod yn argyhoeddedig o ddiogelwch eu benthyciad, a allai olygu bod angen i Lywodraeth Cymru ei danysgrifennu. Un peth sydd bob amser yn fy rhyfeddu: maent yn ddigon hapus i roi benthyg i gymdeithasau tai, sy’n cael eu ffurfio mewn ffordd arbennig, ond nid i gydweithrediaethau, sydd â mwy o gryfderau o ran cymorth yn eu sefydliadau yn ôl pob tebyg i sicrhau eu bod yn gallu bod yn ariannol hyfyw. Credaf mai dyna’r allwedd; rydym am iddynt fod yn ariannol hyfyw. Yn drydydd, mae angen rhoi cyhoeddusrwydd i hyn ac mae angen ysbrydoli pobl i’w creu ac i ymuno â hwy. Nid yw pobl yn meddwl am dai cydweithredol. Eu dewis cyntaf yw mynd ati i brynu tŷ, eu hail ddewis yw ceisio rhentu, naill ai o’r sector cyhoeddus neu’r sector preifat—nid yw cydweithrediaeth dai yn croesi meddwl llawer gormod o bobl. Mae angen iddo ddod yn opsiwn, ac rwy’n awyddus iawn iddo ddod yn opsiwn. Nid yw’n iawn i bawb—nid oes dim sy’n iawn i bawb, ac i bobl sy’n symudol mae yna fantais fawr mewn rhentu preifat wrth i chi symud o le i le, ac ar gyfer myfyrwyr yn sicr mae yna fanteision mewn rhentu’n breifat, gan na fyddech am fod yn berchen ar dŷ mewn ardal lle nad ydych yn mynd i fyw ynddi’n llawer hwy ar ôl i chi raddio. Felly, mae’n wirioneddol bwysig fod hyn gennym fel opsiwn ar gyfer pobl a fydd yn elwa ohono.
Nid oes yr un o’r problemau a grybwyllais yn anorchfygol, a chydag ewyllys wleidyddol gallwn ei gyflawni. Ond rwy’n awyddus iawn i helpu, unwaith eto, i hyrwyddo tai cydweithredol, oherwydd credaf ein bod angen mwy o dai, ac nid wyf yn credu y gallwn fforddio anwybyddu’r hyn sy’n cael ei weld yn draddodiadol yng ngweddill y byd fel un o’r tair elfen ar gyfer eu cynhyrchu. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd, felly diolch yn fawr iawn, ond yn anffodus mae’n dal i fod cynnydd pellach i’w wneud.
Diolch, Mike. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y dywedais yn gynharach mewn dadl heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i gefnogi cynnydd yn y cyflenwad tai. Fe fyddwch yn cydnabod ein bod yn defnyddio dull cynhwysfawr gyda’n cynnig tai, gan geisio mynd i’r afael â’r ystod eang o anghenion tai, a diolch i Mike Hedges am gyflwyno’r ddadl honno heddiw.
Siaradais yn gynharach am y buddsoddiad sylweddol yr ydym yn ei wneud ar draws nifer o wahanol raglenni, a chredaf fod ehangder y cynnig yn werth ei ailadrodd. Mae’n cynnwys cynnyrch a rhaglenni a brofwyd, megis y grant tai cymdeithasol a’r grant cyllid tai, Cymorth i Brynu—Cymru, sy’n rhoi cyfle i fod yn berchen ar gartref, yn enwedig i brynwyr tro cyntaf, y cynnyrch newydd rhentu i brynu, sy’n galluogi rhai heb flaendal i brynu cartref, y byddwn yn ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a’r rhaglen dai arloesol—bydd hon yn edrych ar ffyrdd newydd o wneud pethau, o ran y mathau o gartrefi a adeiladwn a sut y byddwn yn eu hadeiladu—ariannu’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi, sy’n darparu arf arall i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i’r afael â phroblemau tai gwag, a chadarnhau ein bwriad i ddiogelu’r stoc tai cymdeithasol yn llawn rhag crebachu drwy roi diwedd ar yr hawl i brynu ac unwaith eto, annog cynghorau i adeiladu eto drwy adael y system cymhorthdal cyfrif refeniw tai yn ystod tymor olaf y Llywodraeth. Dyma rai yn unig o’r mentrau rydym yn eu cynnig i gynyddu’r cyflenwad.
Nid ydym yn adeiladu tai fel Llywodraeth Cymru, ond mae ein partneriaid yn gwneud hynny. Mae’n rhaid inni eu galluogi i wneud hynny, a dyna pam ein bod yn gweithio gyda’n partneriaid i roi nifer o drefniadau cydweithredol ar waith. Mae hyn yn cynnwys cytundeb tai gyda CLlLC a’r Cyngor Iechyd Cymuned, rhaglen ymgysylltu adeiladwyr tai, gan gynnwys cynrychiolaeth o fusnesau bach a chanolig, tir ar gyfer cynlluniau tai, y grŵp rhanddeiliaid tai cydweithredol, a’r grŵp strategaeth tai gwledig, i enwi ond ychydig.
Rwy’n rhannu eich brwdfrydedd ynglŷn â thai cydweithredol, Mike. Rwyf wedi ymweld â chynlluniau tai cydweithredol ac wedi gweld drosof fy hun y manteision y mae’r model yn eu cynnig i denantiaid. Ac rydych yn gywir, mae perchnogaeth ar gyfres o adnoddau mewn cynllun tai cydweithredol yn rhoi llawer mwy o hyder i bobl yn y gallu i wneud hynny. Rydym yn gwthio’n wirioneddol galed i roi’r hyder sydd ei angen arnynt i gymunedau, ac mae wedi bod yn anodd iawn. Rwyf fi, fel chithau, mewn penbleth ynglŷn â pham nad yw wedi ffynnu yng Nghymru fel y gwnaeth mewn gwledydd eraill. Rydym yn parhau i weithio’n galed i wneud hynny. Mae hanes cyfoethog i gydweithredu yng Nghymru, ond yn hanesyddol, fel y’i nodweddir ar raddfa fawr mewn rhannau eraill o Ewrop ac America. Rydym yn awyddus i newid hyn, a thrwy weithio gyda chi ac eraill sydd wedi ymrwymo i’r cynllun tai cydweithredol, gobeithiwn ennill rhywfaint o fomentwm.
Gall pobl gymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu’r gydweithrediaeth, gan berchnogi’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau, a phenderfynu’n ddemocrataidd ar atebion, ac rwy’n disgwyl y bydd y cynllun peilot gydag £1.9 miliwn o gyllid cyfalaf yn helpu a chefnogi datblygiad tri chynllun cyweithredol yma yng Nghymru, gan ddarparu 87 o gartrefi newydd ar gyfer cymunedau. Rydym yn cydnabod y gwahanol sgiliau sydd eu hangen wrth ei gwneud yn ofynnol i ddatblygu cydweithrediaethau, ac rydym yn gweithio i ddarparu cyllid refeniw gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru i ddarparu cydweithrediaethau tai newydd gyda chymorth. Mae’r arbenigedd datblygu cymunedol hwn wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi grwpiau, a gwelais hynny, fel y soniais yn gynharach.
Dros y pum mlynedd diwethaf, rwy’n credu ein bod wedi adeiladu llwyfan i dai cydweithredol allu datblygu a thyfu, gan gynnwys deddfu i ganiatáu tenantiaethau sicr a byrddaliol sicr grantiau cydweithrediaethau tai cydfuddiannol, gan gryfhau eu gallu i ddatblygu cynlluniau tai. Hoffwn gael sgwrs bellach gyda Mike Hedges mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth y cred ef ei bod yn angenrheidiol i adeiladu’r cyfleoedd y mae’n eu nodi mewn cydweithrediaethau.
Ar draws y ddwy ddadl am dai heddiw, Llywydd, rwyf wedi egluro’r dull cynhwysfawr ac arloesol—ac wrth gwrs, er ein bod yn wahanol efallai o ran ein gwleidyddiaeth ar rai ochrau i’r Siambr, yr hyn yr ydym i gyd yn cytuno yn ei gylch yw bod angen inni gynyddu’r cyflenwad tai ledled Cymru ac ar draws y DU. Mae’n bwysig cofio am y gwerth ychwanegol y mae buddsoddi mewn tai yn ei ddarparu drwy greu swyddi newydd a chyfleoedd hyfforddi. Mae hefyd yn helpu i gadw busnesau lleol yn hyfyw, ac mae’r sector tai yng Nghymru eisoes wedi darparu manteision cymunedol sylweddol iawn i’n hymdrechion ar y cyd i wella’r ffordd yr ydym yn adeiladu cartrefi—
David Melding a gododd—
Wrth gwrs.
Rwy’n awyddus ar y cam hwn yn y prynhawn i helpu i ddatblygu consensws. Mae arnom angen ystod o fodelau. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig tu hwnt. Dywedodd Mike Hedges y bydd llawer o bobl na fyddant yn gallu dod yn berchnogion tai yn y dyfodol y gellir ei ragweld, ac rwy’n credu bod modelau cydweithredol yn rhoi hynny—mae’n sefyllfa rhwng dwy stol braidd mewn nifer o ffyrdd, am eich bod yn gyfrifol am bennu polisi ac am gynnal yr eiddo ac yn y blaen. Un peth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yw rhoi arian i glirio tir llwyd ar y sail y bydd y tir hwnnw wedyn yn cael ei ryddhau i bobl sydd eisiau ffurfio cydweithrediaethau ar gyfer y tai trefol dwysedd uwch y cyfeiriais atynt mewn dadl gynharach.
Wrth gwrs, ac roeddwn yn ddiofal mewn perthynas â hynny yn y ddadl a gawsom yn gynharach, gan nad ystyriais eich cyfraniad o safbwynt peidio â rhoi arian ar gyfer adfywio safleoedd tir llwyd. Rydym yn gwneud hynny mewn rhai achosion eisoes yng Nghymru, ac rydym wedi’i wneud gyda rhai—yn sicr mewn cyllid adfywio. Mae un y gallaf feddwl amdano yn Nhorfaen lle rydym wedi cynorthwyo’r gallu i gael mynediad at dir sy’n dir datblygu o’r radd flaenaf ac felly, nid yn unig adeiladu’r cartrefi ar y safle hwnnw—mewn gwirionedd, mae’n ymwneud weithiau â galluogi’n unig, ac rydym wedi cydnabod hynny o ran y dirwedd heriol sydd gennym yng Nghymru, oherwydd hen byllau glo ac ati, ac mae safleoedd tir llwyd yn rhywbeth rydym yn awyddus i’w harchwilio.
Rwy’n cydnabod bod llawer mwy i’w wneud, Llywydd, mewn perthynas â thai a’r anghenion ar draws Cymru, a byddaf yn parhau i weithio gyda’r holl bartneriaid i ddatblygu ffyrdd o gynyddu’r cyflenwad. Wrth wneud hyn, rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar adeiladu cartrefi ac adeiladu cymunedau llwyddiannus i ni yma yng Nghymru. Diolch yn fawr. Diolch.
Diolch yn fawr, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 16:58.