Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

06/06/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad ar yr Ymosodiad gan Derfysgwyr yn Llundain

Yn gyntaf heddiw, fy nyletswydd drist, fel ag yr oedd yr adeg hon bythefnos yn ôl, yw estyn fy nghydymdeimlad ar ran Aelodau’r Cynulliad i’r rheini sydd wedi eu heffeithio gan ymosodiad terfysgol arall, y tro hwn yn Llundain, a Llundain oedd canolbwynt yr ymosodiad. Unwaith eto, roedd y weithred yn un llwfr ac yn un ciaidd. Rwyf yn gwahodd y Prif Weinidog i wneud datganiad.

Diolch, Llywydd. Gyda’r tristwch mwyaf yr ydym ni’n canfod ein hunain unwaith eto yn oedi ein trafodion i dalu teyrnged i'n cyd-ddinasyddion ac, wrth gwrs, i ymwelwyr o dramor, a gafodd eu dal i fyny yn yr erchyllterau yn Llundain nos Sadwrn. Creulondeb mawr terfysgaeth yw ei natur ar hap. Gall pobl â bwriad niweidiol daro yn unrhyw le, ac nid oes angen arfau soffistigedig arnynt i gyflawni eu creulondeb. Bydd yr ardal o gwmpas London Bridge a Marchnad Borough yn gyfarwydd i lawer ohonom ni. Yn union fel ym Manceinion yr wythnos gynt, dewisodd y terfysgwyr daro pobl ifanc yn bennaf yn mwynhau eu gweithgareddau hamdden ar y penwythnos. Llywydd, gall terfysgwyr fyth ennill. Mae hon yn wlad rydd ac mae pobl yn byw sut y maen nhw’n dewis byw, mewn heddwch, ac yn unol â'r gyfraith. Ond nid oes gan neb yr hawl i ddweud wrth unrhyw un arall sut i fyw. Nid oes gan neb yr hawl ychwaith, wrth gwrs, i fygwth neu i ddychryn. Mae ymosodiad ar unrhyw un ohonom ni yn ymosodiad ar bob un ohonom ni. Rydym ni’n sefyll gyda'n gilydd a byddwn yn parhau i fyw mewn rhyddid. Llywydd, rwyf wedi ysgrifennu at Faer Llundain, Sadiq Khan, i fynegi cydymdeimlad ac undod y Cymry, a gwn fy mod i’n siarad ar ran y Siambr hon a phobl Cymru yn ei chyfanrwydd pan ddywedaf ein bod ni’n sefyll ysgwydd yn ysgwydd mewn undod â Llundain.

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf o fusnes felly yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Jenny Rathbone.

Dim Cytundeb Fasnach â'r UE

1. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o effeithiau dim cytundeb fasnach â'r UE ar Gymru? OAQ(5)0635(FM)

Dim cytundeb yw’r cytundeb gwaethaf. Rydym ni’n gwybod y byddai dim cytundeb yn golygu masnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Nid oes neb eisiau hynny ar y naill ochr i’r ddadl na’r llall, ac rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, y byddai hynny'n cyflwyno rhwystrau sylweddol i allforion Cymru i’n marchnad fwyaf a phwysicaf.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n ei chael hi'n anodd deall sut y mae Theresa May yn dal i ddweud y byddai dim cytundeb yn well na chytundeb gwael, gan fy mod i’n cael trafferth yn deall beth yw'r gwahaniaeth. Mae hyn yn rhywbeth nad yw'n ymddangos bod y newyddiadurwyr wedi gofyn iddi, neu nad ydynt yn cael y cyfle i’w ofyn iddi. Ond rwyf wedi darllen bod rhai arbenigwyr yn dweud y gallai gostio cymaint â £45 biliwn os byddwn yn mynd ar ein pennau allan o'r UE, o’i gymharu â hanner hynny os byddwn yn dod allan gyda chytundeb a drafodwyd. Felly, beth yw asesiad y Prif Weinidog o’r hyn a fyddai'n digwydd i Gymru, a masnach Cymru gydag Ewrop, os nad oes cytundeb?

Wel, mae 67 y cant o'n hallforion yn mynd i'r farchnad Ewropeaidd. Mae unrhyw rwystr a fyddai'n cael ei wynebu gan allforwyr yn siŵr o fod yn ddrwg iddyn nhw. Mae unrhyw gostau ychwanegol yn siŵr o fod yn ddrwg iddyn nhw, a dyna pam mae’n hynod bwysig bod Brexit yn cael ei drin mewn ffordd realistig, nid y naïfrwydd yr ydym ni wedi ei weld gan rai, yn dweud 'Wel, wnaiff yr Almaenwyr byth ganiatáu i reolau WTO weithredu. Rwy'n credu bod yn rhaid cael realaeth yno, ond, yn anad dim arall, mae'n rhaid i ni sicrhau Brexit sydd yn Brexit synhwyrol, ac, yn anad dim arall, yn un nad yw'n effeithio mewn ffordd negyddol ar economi Cymru.

Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi’n cytuno y dylem ni fod yn anelu am gytundeb da—cytundeb da i’r Deyrnas Unedig, cytundeb da i Gymru, a chytundeb da i'r Undeb Ewropeaidd—ac rwy'n hyderus iawn mai dyna fydd yn digwydd. Ond, a gaf i eich cyfeirio chi at ragolwg economaidd y DU a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016, a nododd—ac roedd hyn ar y tueddiadau cyn Brexit—bod ein hallforion i farchnadoedd UE yn debygol o ostwng i tua 37 y cant erbyn 2030—ffigur y DU yw hwnna, nid Cymru yn unig—a’i bod yn bwysig iawn ein bod ni hefyd yn datblygu’r marchnadoedd eraill hynny y tu allan i Ewrop sydd agosaf atom, yn enwedig Gogledd America, Affrica a'r dwyrain canol? Ac rwy’n gobeithio y bydd eich polisi masnach yn canolbwyntio ar y marchnadoedd hyn, yn ogystal, wrth gwrs, â manteisio ar beth bynnag fydd y berthynas yr ydym ni’n ei sicrhau gyda'r UE nawr.

Yn sicr, ac rydym ni’n gweithio ar gyfer marchnadoedd yn unrhyw le ac ym mhobman i gynnyrch o Gymru. Rwy’n cofio, pan roeddwn i’n Weinidog dros faterion gwledig, i mi dreulio llawer o fy amser yn cael allforion cig oen Cymru i'r Emiraethau Arabaidd Unedig, er enghraifft. A gwyddom fod cig oen yn cael ei allforio i bedwar ban byd. Ond ni ddylem ni feddwl ei fod yn ddewis rhwng cael mynediad at y farchnad Ewropeaidd neu gael mynediad at farchnadoedd eraill. Mae'r farchnad Ewropeaidd yn llawer mwy na marchnad yr Unol Daleithiau, ac mae'r Unol Daleithiau yn bellach i ffwrdd, tra bydd yr UE, wrth gwrs, yn rhannu ffin ar y tir gyda ni. Y farchnad Ewropeaidd fydd ein marchnad bwysicaf am flynyddoedd lawer iawn i ddod, a dyna pam, wrth gwrs, mae hi mor bwysig cael cytundeb da sydd o fudd i bawb, ac, yn anad dim arall, yn ein galluogi i werthu heb unrhyw fath o rwystr yn y farchnad Ewropeaidd honno.

Wel, yn ôl y daflen a dderbyniais i gan y Democratiaid Rhyddfrydol ddydd Llun yn Aberystwyth, rydym ni, Plaid Cymru a Llafur, mewn gwely gyda’r Tories ac UKIP ar gytundeb Brexit eithafol. Byddai diddordeb gyda fi i wybod pa fath o drafodaethau Cabinet rydych chi wedi eu cael gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ynglŷn â gwireddu’r cytundeb Brexit eithafol yma. Ond, yn y gobaith nad ydych chi’n mynd i wireddu hynny, a gaf i ofyn i chi sut allwn ni gyrraedd y sefyllfa lle mae mynediad di-dariff, rhydd gyda ni, o amaeth i weithgynhyrchu yng Nghymru, tuag at ein cyd-bartneriaid yn Ewrop, heb ein bod, rhywsut, yn dal rhyw aelodaeth o’r farchnad sengl?

Wel, nid ydw i’n moyn ymyrryd yng ngwleidyddiaeth Ceredigion. Fe welais i beth ddywedodd Mark Williams ar ôl beth ddigwyddodd bryd hynny. Nid ydw i’n cyhuddo Plaid Cymru o fod o blaid Brexit eithafol o gwbl. Ond, sut allwn ni sicrhau bod Brexit eithafol ddim yn digwydd? Mae’r Papur Gwyn, wrth gwrs, yn dangos y ffordd, ac mae’r Papur Gwyn yna, wrth gwrs, wedi cael ei gytuno rhwng tair plaid yn y lle hwn, ac, i fi, mae hynny’n dangos y cyfeiriad ymlaen ynglŷn â sut ddylai Brexit gael ei weithredu dros y blynyddoedd nesaf.

Cylchffordd Cymru

2. A oes gan Lywodraeth Cymru yr holl wybodaeth sydd ei hangen arni, bellach, i wneud penderfyniad ynghylch darparu’r cymorth ariannol y gwnaeth hyrwyddwyr Cylchffordd Cymru gais amdano? OAQ(5)0636(FM)

Rydym ni’n disgwyl am rai adroddiadau gan ein cynghorwyr allanol i’n galluogi i gwblhau'r broses diwydrwydd dyladwy gynhwysfawr, ond byddwn mewn sefyllfa i wneud penderfyniad cyn diwedd y mis.

Rwy'n credu y bydd pobl yn dod i’w casgliad eu hunain, Prif Weinidog, pam y gwthiwyd y penderfyniad hwn y tu hwnt i'r etholiad cyffredinol. Ond, ar y thema ehangach o fod yn agored, rwyf wedi cael gwybod mewn atebion ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith bod y syniad o warant Llywodraeth o 80 y cant, a oedd wrth wraidd y cynnig a wrthodwyd gennych chi y llynedd, wedi cael ei awgrymu gyntaf gan y cwmni yng nghanol mis Ebrill 2016. Nawr, nid yw hynny'n gywir, Prif Weinidog; eich Llywodraeth chi, gydag ymwybyddiaeth uniongyrchol eich swyddfa breifat eich hun, a awgrymodd hwn fel dewis yn hytrach na gwarant o 100 y cant yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill. Felly, a wnewch chi gymryd y cyfle nawr i gywiro'r cofnod?

Wel, gallaf ddweud nad y model hwnnw yw’r model sy'n cael ei archwilio nawr—mae'n fodel hollol wahanol. Mae'n gwneud yr ensyniad, rywsut, bod hyn wedi cael ei wthio yn ôl am ryw reswm llechwraidd. Gallaf ddweud wrtho, yn wahanol iddo fe, ein bod ni yn cynnal diwydrwydd dyladwy priodol; mae pobl yn disgwyl hynny, ac mae pobl ym Mlaenau Gwent yn disgwyl hynny. Maen nhw eisiau bod yn siŵr—ac rydym ni eisiau gweld y prosiect hwn yn cael ei gyflwyno, ond mae'n rhaid iddo gael ei ddarparu ar sail gynaliadwy. Byddent yn disgwyl i ni, ym Mlaenau Gwent, edrych ar hyn yn ofalus iawn, er mwyn gwneud yn siŵr bod y prosiect yn sefyll ar ei ben ei hun am flynyddoedd i ddod. Rydym ni wedi derbyn y rhan fwyaf o'r adroddiadau yn barod. Rydym ni’n disgwyl gweld yr adroddiadau sy'n weddill yn ystod yr wythnos hon. Nid oes unrhyw beth rhyfedd yn mynd ymlaen yno—mae hynny oherwydd i ni aros am ragor o wybodaeth gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd ei hun. Nid ydym yn disgwyl mwy o wybodaeth ganddyn nhw nawr. A gaf i ddweud bod swyddogion yn paratoi adroddiad gwerthuso prosiect cynhwysfawr, bydd papur Cabinet yn cael ei ddrafftio, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn diwedd y mis.

Prif Weinidog, rwy’n croesawu'n fawr eich datganiad cadarnhaol ynglŷn â bod eisiau i’r gylchffordd lwyddo. Ac, fel y gwyddoch, mae rhai o'r enwau mwyaf ym maes peirianneg ac ymchwil modurol wedi ysgrifennu atoch—Aston Martin, TVR, Taylors—sy’n dangos eu hyder yn y prosiect, ac yn annog penderfyniad cyflym, cadarnhaol. A allwch chi gadarnhau heddiw pa ddyddiad y mae’r Cabinet yn debygol o gyfarfod i wneud penderfyniad am hyn?

Byddwn yn disgwyl i'r Cabinet gyfarfod yn ystod y pythefnos nesaf, gyda'r penderfyniad yn cael ei wneud, wrth gwrs, yn y cyfarfod Cabinet hwnnw. Dyna'r bwriad ar hyn o bryd. Rydym ni’n awyddus i gael datrys hyn, yn amlwg, fel y bydd pobl Blaenau Gwent hefyd. Rwy’n deall y brwdfrydedd mawr am y prosiect, ond mae’n rhaid i ni gymedroli hynny hefyd, wrth gwrs, â sicrhau bod y prosiect yn gwneud synnwyr ar ei ben ei hun, bod lefel y risg yn dderbyniol, bod buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat, a dyna’r hyn yr ydym ni wedi bod yn gweithio arno gyda thîm Cylchffordd Cymru. Rydym ni eisiau bod mewn sefyllfa lle gallwn edrych ar fodel cynaliadwy ymhen pythefnos, ac, fel y dywedais, yr hyn yr hoffwn ei wneud yw darparu Cylchffordd Cymru, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y model yn gadarn, a dyna'r pwynt yr ydym ni wedi ei gyrraedd nawr.

Dywedodd eich Ysgrifennydd Cabinet ar 17 Mai bod diwydrwydd dyladwy yn rhan bwysig o’r ystyriaethau wrth ariannu unrhyw brosiect ac na fyddai’n byrhau’r broses honno. Honnwyd yn ddiweddar y gallai prosiect Cylchffordd Cymru gael ei golli i'r Alban. Os na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad yn fuan, a wnewch chi gadarnhau na fydd codi bwganod fel hyn yn arwain at wneud penderfyniad tan i’r asesiad mwyaf trylwyr o hyfywedd a budd economaidd y prosiect hwn gael ei gynnal neu ei gwblhau gan eich Llywodraeth?

Byddai pobl yn disgwyl i ni, fel Llywodraeth, archwilio unrhyw brosiect, yn enwedig un o’r pwysigrwydd a’r maint hwn, yn fanwl iawn i wneud yn siŵr y gallwn fod yn fodlon os gofynnir i ni ddarparu cymorth, ac, wrth gwrs, bydd buddsoddwyr sector preifat yn gwneud yn union yr un peth. Fel y dywedais, ar y meinciau hyn rydym ni eisiau gweld y prosiect yn symud ymlaen, ond mae'n bwysig i bawb dan sylw, gan gynnwys pobl Blaenau Gwent, bod yr archwiliad llawnaf o’r cynnig yn cael ei wneud er mwyn rhoi sicrwydd ar gyfer y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaethoch am y trychinebau yn Llundain yn gynharach yn yr wythnos? Yn amlwg, rydym ni’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â dinasyddion Llundain a Manceinion, ac, yn y pen draw, trwy fwrw ymlaen â’n ffordd arferol o fyw, rydym ni’n trechu’r terfysgwyr hyn—y llabystaid hyn—sy'n achosi trychinebau mor ofnadwy o'r fath yn rhai o'n cymunedau. Ac, er efallai ein bod ni’n byw yng Nghymru, rydym ni’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda chymunedau yn Llundain ac yn unrhyw le arall lle mae pobl yn teimlo dan fygythiad.

Hoffwn ofyn i chi, gyda hynny mewn golwg, gyda'r etholiad cyffredinol ddydd Iau erbyn hyn, yn amlwg bydd pobl yn pleidleisio ar sail ymrwymiadau a wneir gan y pleidiau, a dywedasoch chi, ddoe, yn eich swyddogaeth fel Prif Weinidog, y byddai Llafur, pe baent yn ennill ddydd Iau, yn cael gwared ar fformiwla Barnett. Ac eto heddiw, rydym ni wedi cael Llafur yr Alban dweud yn gadarn nad oes unrhyw gynlluniau i gael gwared ar fformiwla Barnett. Pwy sy'n iawn, Kezia Dugdale neu Carwyn Jones?

Wel, rwyf wedi siarad gyda Kezia Dugdale. Yr hyn yr ydym ni’n ei wybod yw y bydd y Torïaid yn cymryd arian oddi wrth Gymru a'r Alban, ac mae hynny'n rhywbeth sy’n eithaf eglur o ran eu maniffesto. Dyma’r sefyllfa yn eithaf syml: o ethol Llywodraeth Lafur, byddai Barnett yn parhau i fod ar waith yn y byrdymor. Yna, byddai fformiwla ariannu hirdymor yn cael ei roi ar waith yn ôl anghenion gwahanol wledydd a rhanbarthau'r DU, gan sicrhau, wrth gwrs, nad oes unrhyw ran o'r DU o dan anfantais annheg. Mae hynny'n golygu y byddai Barnett yn dod i ben bryd hynny. Tybed lle mae'r ymrwymiad gan y Ceidwadwyr i sicrhau cyllid teg i Gymru.

Wel, fel y gwyddoch yn iawn, rhoddodd y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan y terfyn ariannu isaf ar waith, a gymeradwywyd yn wresog gan eich Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol dim ond ym mis Rhagfyr y llynedd. Tair blynedd ar ddeg—ni wnaethoch chi ddim. Ond nid dyna'n union y mae Ceidwadwyr yr Alban yn ei ddweud, a chynigiais y cyfle i chi egluro eich sefyllfa gan eich bod chi’n gadarn iawn neithiwr gan ddweud y byddai fformiwla Barnett yn cael ei ddiddymu. A dweud y gwir, yr hyn y mae plaid Lafur yr Alban yn ei ddweud yw na fydd fformiwla Barnett yn cael ei ddiddymu, a dyma eu geiriau:

I beidio â diddymu fformiwla Barnett.

Y cwbl sy’n cael ei gynnig yn unig yn y Senedd nesaf—dyma eu geiriau—yw ymgynghoriad hirdymor i ystyried y cyllid y mae’r DU yn ei ddyrannu o gwmpas y gwariant cyhoeddus a ddaw o San Steffan i sicrhau ei fod yn adlewyrchu gwledydd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig. Eu geiriau nhw yw’r rheina. Nid yw hynny'n cael gwared ar fformiwla Barnett o gwbl. A ydych chi’n camarwain pobl Cymru gyda'ch sylwadau ddoe, Prif Weinidog?

Dyna'n union y mae’n ei olygu. Os oes fformiwla newydd ar waith, dyna ddiwedd Barnett, ar yr adeg honno. Wrth gwrs, yn y byrdymor byddai Barnett yn parhau oherwydd nid oes unrhyw beth arall ar gael ar y pryd, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod Cymru yn derbyn cyllid teg. Do, daethom i gytundeb ar gyllid, ac mae hynny oherwydd i Lywodraeth y DU wrthod yn benderfynol i edrych ar gyllid cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Roedd yn sefyllfa gyfaddawd. Nid ydym erioed wedi newid ein safbwynt, fel Llywodraeth, fod fformiwla Barnett wedi cyrraedd diwedd ei oes, a nawr yw'r amser i ddechrau cynllunio ar gyfer fformiwla newydd a fyddai'n adlewyrchu anghenion priodol gwahanol wledydd a rhanbarthau'r DU fel y maen nhw nawr, nid fel yr oedden nhw ym 1979.

Prif Weinidog, roeddech chi’n eglur iawn neithiwr o’r safbwynt eich bod chi’n dweud eich bod chi’n diddymu fformiwla Barnett, a dyna’i diwedd hi. Nid oedd unrhyw amwysedd ynghylch hynny. Roeddech chi’n dweud hynny neithiwr ar y teledu a thrwy'r newyddion. Mae Plaid Lafur yr Alban yn dweud, yn eithaf eglur, na fydd fformiwla Barnett yn cael ei ddiddymu. Sut ar y ddaear all unrhyw un gymryd unrhyw un o’r addewidion yr ydych chi’n eu gwneud o ddifrif, pan rydych chi wedi cael eich dal allan yn ystod wythnos olaf yr ymgyrch hon? Yn y pen draw—[Torri ar draws.] Mae'r Blaid Lafur—[Torri ar draws.] Mae'r Blaid Lafur—

Efallai y gwnaiff y Blaid Lafur watwar, ond, yn y pen draw, mae ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ystyriaeth hanfodol i’r etholwyr ddydd Iau. Rydym ni wedi cyflwyno terfyn ariannu isaf, gyda chytundeb Llywodraeth Cymru, sy'n sicrhau na fydd cyllid yng Nghymru yn mynd o dan £115 ar gyfer pob £100 sy'n cael ei wario yn Lloegr. Dywedasoch chi, ddoe, mai polisi'r Blaid Lafur oedd cael gwared ar fformiwla Barnett. Mae Plaid Lafur yr Alban yn dweud nad yw hynny'n wir, ac mai’r cwbl a fydd yn cael ei gyflwyno yw ymgynghoriad. A oes ffaith bod holl bolisïau Llafur wedi eu hadeiladu ar dywod, Prif Weinidog?

Onid yw'n drueni na wnaiff e gefnogi sefyllfa lle mae Cymru’n cael y cyllid y mae'n ei haeddu? Onid yw'n drueni? Mae'n dangos y ffordd maen nhw’n meddwl a dweud y gwir. Onid yw'n drueni nad oedd e yno i wneud y pwyntiau hyn mewn dadl mor dda ar y teledu? Wyddoch chi, rwy’n siŵr ei bod yn bosibl gweld darllediad byw o Gran Canaria i sicrhau bod ei farn wedi cael ei mynegi fel rhywun sy'n honni i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Fel y dywedodd yn gywir, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn amharod i gymryd rhan yn y drydedd ddadl—tynnodd yn ôl gan fy mod i ynddi. Dyna’r hyn a glywsom. Nid oedd yn barod i ddod i ddadlau—ac arweinwyr eraill hefyd—a chyflwyno achos y Ceidwadwyr. Mae ganddo dipyn o wyneb i ddod gerbron y Siambr hon a dweud rywsut bod pethau'n draed moch ar y meinciau hyn pan, ar dri gwahanol achlysur, na allai’r Torïaid hyd yn oed anfon yr un person mewn tair gwahanol ddadl, mor brin o hyder yr oedden nhw yn eu hachos eu hunain. Rydym ni wedi gweld yn ystod y dyddiau diwethaf draed moch ar ôl traed moch ar ôl traed moch yn y blaid Geidwadol. Rwy'n ei wahodd i ddarllen maniffesto Llafur y DU, lle mae'n gwbl eglur, lle mae'n dweud y bydd fformiwla ariannu newydd sy'n adlewyrchu anghenion gwahanol wledydd a rhanbarthau'r DU—ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud; ymrwymiad y mae ei blaid wedi rhedeg oddi wrtho.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddydd Iau, bydd pobl yn mynd i bleidleisio mewn etholiad pwysig iawn. Nodwyd sut yr ydych chi wedi dileu arweinydd eich plaid yn y DU o’ch ymgyrch, a sut yr ydych chi wedi cyhoeddi maniffesto ar wahân. Ceir dau faniffesto Llafur—tri, os ydych chi’n cyfrif maniffesto yr Alban y cyfeiriwyd ato'n gynharach.

Er mwyn bod yn agored, yn dryloyw, ac yn onest cyn i bobl fwrw eu pleidlais ddydd Iau, a wnewch chi ddweud wrthym: a yw Aelodau Seneddol Llafur a etholir yng Nghymru ddydd Iau nesaf wedi eu rhwymo gan yr ymrwymiadau yn eich maniffesto chi neu gan yr ymrwymiadau ym maniffesto eich arweinydd Llafur yn y DU?

Gan faniffesto Llafur Cymru, gan nad oes deuoliaeth rhwng y ddau faniffesto. Efallai fod arweinydd Plaid Cymru wedi sylwi bod datganoli wedi digwydd ym 1999, ac, ar y sail honno, nid yw'n bosibl i bleidiau gwleidyddol sydd â phresenoldeb yng ngwahanol wledydd y DU lunio maniffesto sy’n union yr un fath. Rydym ni’n adlewyrchu realiti datganoli, a dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud yn ein maniffesto. Nid oes unrhyw anghysondeb o ran maniffesto Llafur Cymru a maniffesto Llafur y DU, ac eithrio meysydd sydd wedi'u datganoli, pan fydd y penderfyniadau ynghylch y polisïau hynny yn cael eu gwneud yma.

Rydych chi’n dweud nad oes unrhyw wahaniaethau. Prif Weinidog, mae gwahaniaethau yn y ddau faniffesto, ond byddaf yn dod yn ôl at hynny maes o law. Disgrifiwyd arweinydd eich plaid yn amrywiol fel 'y dyn a dorrodd y Blaid Lafur'—dyna ddywedodd Chris Bryant—'gwallgofddyn ar frig y Blaid Lafur'—Owen Smith ddywedodd hynny—'chwith eithafol' ac 'allan o gysylltiad â’r etholaeth'—dyna ddywedodd Stephen Kinnock. A hoffech chi gysylltu eich hun ag unrhyw un o'r datganiadau hynny am eich arweinydd, neu a hoffech chi fanteisio ar y cyfle hwn i ymbellhau eich hun oddi wrth safbwyntiau’r ymgeiswyr Llafur Cymru hynny?

Wel, gadewch i mi ei gwneud yn eglur iawn: byddai Jeremy Corbyn yn gwneud Prif Weinidog ardderchog. Byddai'n cynnig gobaith i Brydain yn hytrach na'r olyniaeth ddiddiwedd o doriadau Torïaidd yr ydym ni wedi eu gweld gan y meinciau gyferbyn. Byddem yn gweld Llywodraeth a fyddai'n symud Prydain ymlaen, yn darparu setliad priodol, datganoledig i Gymru, yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth yr ydym ni wedi ei chyflwyno, tra, ar yr un pryd, rydym ni’n gweld Plaid Cymru yn ystyried creu clymblaid gyda'r Torïaid yng Nghonwy.

Maen nhw bob amser yn tynnu’r un yna allan, onid ydynt, pan nad oes ganddyn nhw ddim ar ôl? Prif Weinidog, mae'n rhaid eich bod chi mewn anobaith i chwarae ar—

Iawn. Mae angen i ni glywed yr hyn sy'n cael ei ofyn a'r atebion. Felly, gadewch i ni gyd dawelu ac edrych ymlaen at yr wythnos nesaf.

Hoffwn ddod yn ôl at y pwynt hwn am y gwahaniaethau yn y maniffestos rhyngoch chi a'ch arweinydd Llafur yn y DU. Gwahardd contractau dim oriau, diddymu ffioedd dysgu, y rheilffyrdd mewn dwylo cyhoeddus: dyna’r hyn sydd ym maniffesto’r DU. Mae Llafur mewn grym yma ac nid oes yr un o'r polisïau hyn wedi cael eu rhoi ar waith. A allwn ni gael ymrwymiad gennych chi nawr y byddwch chi’n rhoi eich cefnogaeth ddigamsyniol i'r polisïau hynny nawr ei fod yn bolisi swyddogol eich plaid, neu a ydych chi’n derbyn eich bod chi ar fin camarwain yr etholwyr ddydd Iau?

Does dim byd yn fwy camarweiniol na phlaid sy'n dweud, ‘Rydym ni eisiau mwy o arian gan San Steffan’, ond ar yr un pryd yn dweud, ‘Rydym ni eisiau annibyniaeth o San Steffan’. Mae hynny'n anghysondeb sylfaenol. Ond mae hi’n gofyn tri chwestiwn. Yn gyntaf oll, os caiff yr arian ei wneud ar gael i ni edrych eto ar gyllid i fyfyrwyr, yna byddwn yn gwneud hynny—wrth gwrs y byddwn ni. Nid yw contractau dim oriau wedi eu datganoli ar y cyfan. Nid ydym yn cefnogi contractau dim oriau. Maen nhw’n gwneud sioe o hynny. Rydym ni, fel plaid, eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gweld cymdeithas sy'n deg, sy’n gyfiawn, a lle mae pobl yn cael y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y dyfodol. Dim ond Llywodraeth Lafur yn y DU all wneud hynny. Ni all Plaid Cymru gyflawni dim.

Diolch, Llywydd. Rwy'n siŵr y byddaf yn cario’r Prif Weinidog gyda mi wrth ddweud bod y 10 munud diwethaf wedi profi, yn anad dim arall, bod yr amser i sgorio pwyntiau diffrwyth wedi hen fynd heibio yn yr ymgyrch etholiad cyffredinol hon i gael unrhyw effaith gadarnhaol y naill ffordd neu’r llall, ac felly y dylem ni ganolbwyntio mwy ar adeiladu dyfodol economaidd llwyddiannus i Gymru ar y cyd, gan gefnogi pleidiau eraill lle mae hynny'n angenrheidiol. Ac, i'r perwyl hwnnw, hoffwn gyfeirio yn ôl at y cwestiwn a ofynnodd Adam Price cyn cwestiynau arweinwyr y pleidiau, ac rwy’n derbyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i'w gwestiwn atodol ynghylch sut y mae'n rhaid i’r Llywodraeth gynnal diwydrwydd dyledus priodol ar y cynnig presennol, ond mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar gyllid cychwynnol y prosiect hwn yn cynnwys catalog o gyfleoedd i ddiwydrwydd dyladwy gael ei gynnal yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan ddechrau gyda'r galw cais cynllunio i mewn yn 2012, a gymeradwywyd gan Carl Sargeant ar sail ei fanteision economaidd-gymdeithasol. Yn 2014, roedd gennym ni’r cyllid cychwynnol o £16 miliwn ar gyfer datblygu’r prosiect, ac yna cawsom ymchwiliad cyhoeddus i dadgofrestriad y tir comin. Yna, ym mis Ebrill 2016, gwrthododd Edwina Hart y cais gwarant cyntaf. Ym mis Gorffennaf 2016, gwrthododd Ken Skates yr ail gynnig gwarant, a arweiniodd wedyn at drafodaethau dwys gyda swyddogion ar amrywiaeth o faterion pwysig, ac yna, eleni, ym mis Ionawr, cawsom ni’r taflenni tymor wedi’u hariannu'n llawn a ddarparwyd gan y cwmni ac fe’n hysbyswyd y byddai diwydrwydd dyladwy yn para tair i bedair wythnos. Ymestynnwyd hynny wedyn i chwe wythnos ac yna fe’i hymestynnwyd ymhellach, ac mae'r Prif Weinidog heddiw wedi rhoi i ni, rwy’n gobeithio, dyddiad terfyn ar gyfer ystyried y cynnig hwn. Felly, rydym ni wedi cael diwydrwydd dyladwy diddiwedd, a gwn fod yr archwilydd cyffredinol wedi gwneud nifer o feirniadaethau pwysig o'r broses. Nid wyf eisiau trafod hynny nawr, gan fy mod i eisiau gweld y prosiect hwn yn llwyddo ac rwy’n gobeithio, yn y pen draw, bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’w gymeradwyo. Ond onid yw'n credu bod y broses drofaus hon yn llawer rhy hir, er bod hwn yn brosiect enfawr ar gyfer y dyfodol? Mae ei botensial trawsnewidiol mor fawr y dylem ni fod wedi bwrw ymlaen â hyn yn llawer mwy diwyd nag yr ydym ni wedi ei wneud.

Pan ddaw i gais cynllunio neu ddadgofrestru tir comin, ni fyddai diwydrwydd dyladwy yn digwydd ar yr adeg honno gan nad ydynt yn—. Maen nhw’n geisiadau cynllunio ac maen nhw'n geisiadau nad ydynt yn ymwneud â chadernid neu beidio busnes penodol. Mae hynny’n dod yn nes ymlaen. Nid wyf yn ymddiheuro am y broses diwydrwydd dyladwy. Mae'n gadarn. Mae wedi cymryd mwy o amser nag y byddem wedi dymuno. Mae hynny oherwydd y bu’n rhaid cael gafael ar wybodaeth ar adegau penodol, a darparwyd y wybodaeth honno. Rwyf wedi rhoi dyddiad i’r Aelodau yr ydym eisiau gwneud y penderfyniad hwnnw yn ei erbyn ac rwyf wedi dweud wrth yr Aelodau yr hoffwn weld y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen. Ond mae'n rhaid iddo fynd yn ei flaen ar sail sy'n gynaliadwy a lle mae’r risg i bwrs y wlad yn dderbyniol.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n gweld hefyd ar wefan y BBC heddiw bod y Llywodraeth wedi bod mewn trafodaethau gyda'r nod o gael pencampwriaeth golff Agored Prydain i ddod i Gymru, a'r Tour de France hefyd, a cheir posibilrwydd hefyd, os nad yw stadiwm Brwsel yn barod mewn pryd, y gallai Ewro 2020 gael ei gynnal yng Nghymru, a byddwn yn cefnogi diddordeb y Llywodraeth yn hynny. Mae Ken Skates wedi dweud yn ddigon teg bod gan Gymru botensial mawr i gynnal digwyddiadau mawr newydd nad ydynt wedi bod i Gymru eto. Mae Cylchffordd Cymru eisoes wedi ennill y contract ar gyfer y Moto Grand Prix, ac mae hwnnw’n gyfle arall eto i ni yng Nghymru i ddangos yr hyn y gallwn ei wneud fel cynhaliwr prosiectau chwaraeon mawr y byd. Ac felly mae hyn yn cyd-fynd ag amcan cyffredinol y Llywodraeth o sicrhau bod Cymru yn lleoliad chwaraeon rhyngwladol o bwys, ac mae hynny'n rheswm arall i ni weld llwyddiant y prosiect hwn.

Ni allaf ond ailadrodd yr hyn yr wyf eisoes wedi ei ddweud wrtho, wrth gwrs, rydym ni’n cydnabod potensial y gylchffordd, ac rwyf wedi dweud ei fod yn rhywbeth y byddem ni eisiau ei gefnogi, ond mae'n rhaid iddo fod yn seiliedig ar fodel sy'n gadarn, a model sy'n gweithio'n dda i fuddsoddwyr preifat a chyhoeddus.

Ac mae hefyd yn bwysig nodi nad oes cais am unrhyw arian cyhoeddus i’w fuddsoddi yn y prosiect hwn ymlaen llaw, ac mai’r cwbl y gofynnir amdano yw sicrwydd, sy’n sicrwydd masnachol y byddai'r Llywodraeth yn talu i’w ariannu, a fyddai’n cael ei ddefnyddio dim ond pan fydd yr holl waith adeiladu ar y safle wedi ei gwblhau, felly bydd asedau ffisegol y gellir sicrhau’r benthyciad yn eu herbyn. Ac, yn flynyddol, dywedir mai’r risg fwyaf i Lywodraeth Cymru yw £8.5 miliwn i £9 miliwn y flwyddyn, llawer iawn o flynyddoedd i’r dyfodol am gyfnod cyfyngedig o amser. Felly, mae'r risg yn cael ei sicrhau ar 100 y cant o'r asedau, ond mae'r sicrwydd yn mynd i fod yn berthnasol i lai na hanner gwerth yr asedau hynny. Felly, ar yr olwg gyntaf, mae hwn yn edrych fel cytundeb da iawn, ac, er fy mod yn gwerthfawrogi bod rhaid i ni fynd drwy'r broses diwydrwydd dyladwy, mae, rwy’n meddwl, yn hanfodol bwysig i ffyniant economaidd, nid yn unig de-ddwyrain Cymru, ond de Cymru gyfan, fod y prosiect hwn yn cael ei gymeradwyo.

Mae hyn oll yn cael ei ystyried yn rhan o'r broses diwydrwydd dyladwy. Nid oes unrhyw wahaniaeth yn fy nhyb i rhwng cais i ddarparu arian ymlaen llaw a chais i roi sicrwydd. Mae'r ymrwymiad yr un fath. Yn wir, gyda sicrwydd, mae angen mwy o gadernid o ran sicrhau bod y sicrwydd yn annhebygol o gael ei ddefnyddio. Rwy'n credu na ellir fyth fod yn sicr—os caf i ddefnyddio hynny—ond mae'n bwysig bod cymaint â phosibl yn cael ei wneud i sicrhau bod unrhyw berygl i bwrs y wlad cyn lleied â phosibl, a dyna beth rydym ni’n ei ystyried yn rhan o'r broses hon. Ac, fel y dywedais o'r blaen, mae'n brosiect sydd â photensial, ac rwy'n credu bod hyn wedi helpu'r gylchffordd ei hun—mae proses brofi gadarn o'u model yn dda iddyn nhw. Gallant feddwl wedyn yn ofalus am yr hyn y maent yn credu fydd yn gynaliadwy yn y tymor hwy, ac ar y sail honno rydym ni’n edrych ymlaen nawr, pan fydd yr holl wybodaeth wedi ei derbyn—yr wythnos rydym ni’n tybio—i allu gwneud penderfyniad yn ystod y pythefnos neu dair wythnos nesaf.

Cysylltiadau Trafnidiaeth yn Ynys Môn

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth yn Ynys Môn? OAQ(5)0637(FM)[W]

Rŷm ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn system drafnidiaeth integredig fodern o ansawdd uchel i sicrhau bod Ynys Môn yn rhan gysylltiedig a chystadleuol o economi Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Diolch. Mae yna ryw ddwy flynedd a hanner bellach ers i’r cyn-Weinidog economi gadarnhau wrthyf i bod gwaith yn digwydd i geisio gwireddu cynlluniau i wella’r cysylltiad rhwng yr A55 a phorthladd Caergybi, lle mae yna dagfeydd mawr ar hyn o bryd, yn enwedig pan fo loriau yn ceisio gadael y porthladd. Mae pobl yn gofyn i mi yn aml pa bryd welwn ni’r ffordd yma yn cael ei chwblhau, ac rwyf innau yn rhannu eu pryderon nhw ynglŷn â’r oedi. Ni chafodd y cysylltiad erioed ei orffen, mewn difrif; mi gafodd yr A55 ei hadeiladu i gyffiniau’r porthladd, ond nid i mewn ac allan o’r porthladd. Rydw i’n sylweddoli bod angen buddsoddiadau eraill hefyd yn y porthladd. Mi fuaswn i yn gwerthfawrogi arwydd o ymrwymiad gan y Llywodraeth i fwrw ymlaen efo gwaith atgyweirio y morglawdd hefyd yn yr hirdymor, ond a gawn ni ymrwymiad byrdymor rŵan fod y cysylltiad hanfodol yma yn mynd i weld golau dydd yn fuan, yn unol â dymuniadau pobl sy’n byw yn y rhan yna o Gaergybi, sydd yn pryderu bod yna berygl yn y sefyllfa bresennol, yn ogystal â’i fod yn niwsans?

Mae trafodaethau wedi cymryd lle gyda Network Rail ynglŷn â hyn; mae’r Gweinidog wedi bod yn gwneud hynny. Mae hyn yn rhan o beth sy’n cael ei ystyried ynglŷn â datblygiad y porthladd ei hunan. Ac, wrth gwrs, ynglŷn â’r ynys, Ynys Môn, rŷm ni yn edrych nawr ar y drydedd groesfan dros y Fenai ei hunan. Mae’r cyfnod nesaf o’r gwaith datblygu wedi dechrau, a bydd yna lwybr yn cael ei ddatgan ym mis Mai 2018. Felly, mae hynny yn symud ymlaen yn y ffordd byddem ni’n erfyn.

Cyfeiriasoch at drydedd bont Menai, ac yn amlwg, mae tagfeydd ar bontydd presennol Menai a Britannia wedi bod yn broblem ers blynyddoedd lawer. Bu degawd ers i adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nodi wyth opsiwn, gan gynnwys pont newydd, ond ni aeth hynny ymlaen i gyflawniad. Dywedasoch fis Mai diwethaf y byddech chi’n addo gwneud y drydedd bont fel eich blaenoriaeth ar gyfer y gogledd pe baech chi’n ffurfio Llywodraeth ac, wrth gwrs, cyhoeddodd eich Llywodraeth cyn y Nadolig y llynedd ei bod wedi penodi ymgynghorwyr i edrych ar lwybrau ar gyfer pont newydd arfaethedig i Ynys Môn, a allai ddechrau erbyn 2021 os bydd yn cael ei chymeradwyo. A allwch chi roi sicrwydd nad ydym ni’n mynd i gael ailadroddiad o 2007 pan gawsom sicrwydd tebyg ar ôl i adroddiad a gomisiynwyd gael ei gynhyrchu ar gyfer Llywodraeth Cymru a’ch bod yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd ar sail y sefyllfa’n aros fel y mae ar hyn o bryd?

Rydym ni wedi penodi Aecom i gefnogi ein cam nesaf o'r gwaith datblygu. Bydd hynny’n arwain at gyhoeddi llwybr a ffefrir ym mis Mai 2018. Ein nod yw gweld trydedd bont Menai yn agor yn 2022.

Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch gweithfeydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OAQ(5)0638(FM)

Mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Cefais gyfarfod gyda phrif swyddog gweithredol Ford Europe cyn y Nadolig. Rydym ni’n ymwybodol o'r cynlluniau ar gyfer y cyfleuster ac rydym ni’n gweithio'n agos gyda'r holl randdeiliaid i sicrhau dyfodol y safle a'i weithlu.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ym mis Mawrth, dywedodd eich Ysgrifennydd Cabinet wrthym fod rheolwyr Ford wedi dweud wrtho y byddai niferoedd cyflogaeth yn aros fwy neu lai yr un fath tan 2021. Dywedodd hefyd ei fod yn meddwl y gallai rheolwyr Ford gyfathrebu'n well gyda’u gweithwyr a'u haelodau ynglŷn â'r amcanion hirdymor ar gyfer y gwaith. Ers hynny, a allwch chi ddweud wrthym a yw Ford wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi pa un a fu unrhyw achosion o ostyngiadau i nifer yr archebion, ac os bu unrhyw ostyngiadau, sut mae nifer y gweithwyr a sicrhawyd yn cael eu defnyddio yn y ffatri—gan gofio, wrth gwrs, y bydd ganddynt arbenigeddau unigol—ac, wrth gwrs, a ydynt wedi bod yn cael diweddariadau rheolaidd ar y nod hirdymor hwnnw a chyflawniad yn erbyn hynny?

Ydy, maen nhw. Ceir nifer o bosibiliadau sy'n cael eu harchwilio yn ffatri Ford. Ni ddylem anghofio, ym mis Medi y llynedd, bod Ford wedi cyhoeddi y byddai'n buddsoddi £100 miliwn yn y safle o ddiwedd 2018. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud mai'r her fwyaf y mae'r gwaith yn ei hwynebu yw Brexit. Mae pob un peiriant sy'n gadael y ffatri yn cael ei allforio i'r farchnad Ewropeaidd ac felly bydd y telerau sy'n gysylltiedig ag allforio’r peiriannau hynny yn bwysig cyn belled ag y mae’r ffatri yn y cwestiwn. Ond rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda'r cwmni. Rwyf wedi cyfarfod, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cynulliad, sawl gwaith gyda nhw a chyda chyngor y gwaith, ac fel Prif Weinidog, wrth gwrs, rwyf wedi cymryd diddordeb mewn sicrhau bod y ffatri yn parhau i weithredu yn y dyfodol ac yn parhau i gyflogi niferoedd tebyg yn y dyfodol.

Ymhellach i’r ateb yna, Brif Weinidog, y mis diwethaf, fe wnaeth pennaeth Ewropeaidd Ford rybuddio bod dyfodol y cwmni ym Mhrydain yn dibynnu ar allu’r Llywodraeth yn Llundain i sicrhau trefniant trosiannol gyda’r Undeb Ewropeaidd, os yw’r Deyrnas Unedig yn gadael y bloc economaidd yna cyn i gytundeb masnach newydd gael ei lofnodi. A ydych chi wedi cwrdd â Ford a Llywodraeth Llundain i drafod y mater ymhellach ers hynny?

Rwyf i wedi cwrdd â phrif weithredwr Ford a hefyd Ford Ewrop, a hefyd, wrth gwrs, mae yna gyfarfodydd yn cymryd lle rhwng y Gweinidog a swyddogion. Mae’n wir i ddweud bod yna bryderon ynglŷn â beth fydd yn digwydd ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes neb yn credu y bydd yna unrhyw fath o gytundeb cyflawn ym mis Mawrth 2019, felly bydd y trefniadau dros dro yn hollbwysig i Ford a hefyd i lawer o gynhyrchwyr eraill. Mae hwn yn rhywbeth mae Ford yn ei ystyried ar hyn o bryd. Maen nhw wedi bod yn siarad â ni ynglŷn â hynny, ac, wrth gwrs, ein safbwynt ni yw hwn: mae’n hollbwysig i Ford a sawl cwmni arall yng Nghymru eu bod yn gallu cael mynediad i’r farchnad sengl heb unrhyw fath o rwystr.

Y Gwasanaeth Iechyd

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru? OAQ(5)0634(FM)

Ein blaenoriaeth i’r gwasanaeth iechyd ledled Cymru yw darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion Cymru yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn trwy barhau i ddiogelu buddsoddiad, ysgogi perfformiad a darparu’r amrywiaeth o ymrwymiadau a nodwyd yn 'Symud Cymru Ymlaen'.

Mae'n rhaid i mi fod yn onest gyda chi, Prif Weinidog, rwy’n sefyll yma heddiw heb fod yn hyderus iawn o hynny, a dywedaf wrthych chi pam: ers ymyraethau eich Llywodraeth eich hun a chyflwyno mesurau arbennig ar fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr ddwy flynedd yn ôl, mae 227 y cant yn fwy o gleifion yn aros dros 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a derbyniwyd 194 o gwynion y llynedd—mae hyn yn 30 y cant o gyfanswm yr holl gwynion yng Nghymru. Mae gennym ni gynnydd o 7,000 y cant i gleifion sy’n aros dros 36 wythnos am lawdriniaeth y geg erbyn hyn, a chynnydd o 5,000 y cant ar gyfer orthopedeg a thrawma.

Rwyf wedi gofyn cwestiynau i chi yma, ac yn ysgrifenedig, dro ar ôl tro, ac i’ch Ysgrifennydd Cabinet, ar ran llawer o’m hetholwyr yr ydych chi’n eu methu ac sy'n dioddef o ganlyniad—llawer mewn poen—am y diffygion hyn. Rwyf wedi gofyn i chi am fanylion ynghylch sut yr ydych chi’n monitro canlyniadau perfformiad yn rhan o'ch mesurau arbennig. A wnewch chi ddweud wrthyf pryd yr ydych chi’n credu y mae eich ymyriadau Llywodraeth, ar gost o dros £10 miliwn eisoes, wedi arwain at unrhyw welliant sylweddol? Pryd ydych chi'n bwriadu diddymu’r broses mesurau arbennig, gan gredu bod eich ymyriadau wedi gweithio, eu bod wedi bod yn llwyddiannus, bod gennym ni—

Na, nid oes dim—[Torri ar draws.] Dangoswch rywfaint o barch. Cwblhewch eich cwestiwn.

Iawn. Fy nghwestiwn i yw: pryd ydych chi’n credu y byddwch yn diddymu mesurau arbennig, gan gredu bod eich ymyriadau wedi helpu mewn unrhyw ffordd? Oherwydd gallaf ddweud wrthych nawr, mae fy etholwyr—

Nid yw'r bwrdd iechyd yn barod i gael ei symud allan o fesurau arbennig eto. Gallaf ddweud, er enghraifft, bod y bwrdd iechyd fwy neu lai wedi dileu amseroedd aros diagnostig dros 8 wythnos, ac roedd mis Mawrth 2017 94 y cant yn is na mis Mawrth 2016. Dyma’r isaf y mae’r bwrdd iechyd wedi bod ers cyflwyno’r safon ym mis Ebrill 2010. Mae perfformiad o ran canser yn y bwrdd iechyd ymhlith y gorau yng Nghymru yn gyson. 92.5 y cant yw ffigurau perfformiad mis Mawrth ar gyfer y targed 62 diwrnod, y perfformiad gorau ers mis Ionawr 2016, a 98.6 y cant ar gyfer y targed 31 diwrnod. Gallaf ddweud bod PBC wedi gwella'n sylweddol canran yr atgyfeiriadau CAMHS a welir o fewn 28 diwrnod o 18 y cant ym mis Ebrill 2016 i 89 y cant ym mis Mawrth 2017. Gostyngodd nifer yr achosion oedi wrth drosglwyddo gofal yn Betsi Cadwaladr eto ym mis Ebrill i 90, bu gostyngiadau ym mhump o’r chwe mis ers mis Hydref 2016, ac mae'r ffigur hwnnw 41 y cant yn is ym mis Hydref, a 40 y cant yn well na'r un cyfnod y llynedd.

Mae hynny’n llwyddiant go iawn, dim ond i roi rhai enghreifftiau i chi, o ystyried pwysau’r gaeaf a chynnydd o flwyddyn i flwyddyn i’r galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Os oes un peth y gallaf ei ddweud: fel yr wyf wedi siarad â phobl ar garreg y drws ledled gogledd Cymru gyfan, y peth olaf maen nhw ei eisiau yw’r Torïaid wrth y llyw a Jeremy Hunt wrth y llyw.

Prif Weinidog, cyhoeddwyd adroddiad Naylor fis neu ddau yn ôl, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gyflwr enbyd gallu ystadau'r GIG yn Lloegr. Mae Theresa May wedi nodi y bydd yn cyflawni argymhellion yr adroddiad, sy'n cynnwys gwerthu sawl rhan o ystâd y GIG yn Lloegr yn rhan o broses gan gynnwys cytundeb dau am un, prynu un a chael un arall am ddim, os hoffwch, i demtio cwmnïau preifat.

A allwch chi fy sicrhau, Prif Weinidog, y byddwn ni yma yng Nghymru yn cynnal statws eiddo cyhoeddus ein hystâd GIG, a pheidio â dilyn y llwybr a gynigir gan y Torïaid o werthu’r ystâd i guddio eu tanariannu llethol o’r GIG yn Lloegr?

Wel, rydym ni’n gweld yn Lloegr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn cynyddu, rydym ni’n gweld amseroedd aros yn cynyddu, rydym ni’n gweld poblogrwydd mawr Jeremy Hunt, wrth gwrs, fel yr Ysgrifennydd Gwladol—mae pobl wedi heidio ato yn y strydoedd, rydym ni’n gwybod hynny. Gwelsom streic y meddygon a gynhaliwyd yn Lloegr. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau o gwbl i ddilyn yr hyn a awgrymir yn Lloegr, sef gwerthu darnau mawr o’r GIG i lenwi bwlch yn y cyllid y mae'r Torïaid eu hunain wedi ei greu.

Dementia

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu codi ymwybyddiaeth ynghylch dementia yng Nghymru? OAQ(5)0633(FM)

Rydym ni eisoes yn cynnal ymgyrchoedd blynyddol ynghylch sut y gall unigolion leihau eu risg o ddatblygu dementia. Bydd y cynllun gweithredu strategol ar ddementia, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn yr hydref, yn nodi ein cynlluniau pellach i godi ymwybyddiaeth am ddementia yng Nghymru.

Diolch, Prif Weinidog. Amcangyfrifir bod 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Os bydd y duedd bresennol yn parhau, bydd nifer y bobl sy'n byw gyda’r clefyd yn cynyddu dros 40 y cant dros y 12 mlynedd nesaf. Mae codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r clefyd yn hanfodol. Roeddwn i’n falch o gyflwyno i orsafoedd Casnewydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu logo Dementia Friends, ac rwy'n arbennig o falch bod ysgol uwchradd St Joseph’s yn fy etholaeth i wedi cael ei henwi’n ysgol uwchradd ystyriol o ddementia gyntaf Cymru. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch ysgol St Joseph’s a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac edrych sut y gall Llywodraeth Cymru weithio'n agos gydag eraill i hyrwyddo’r hyfforddiant am ddim hwn, yn enwedig ymhlith ein pobl ifanc?

Rwy’n croesawu'n fawr yr enghraifft a roddwyd yno. Rydym ni yn gweithio gyda sefydliadau eraill, wrth gwrs, fel Cymdeithas Alzheimer ac eraill, i gynnal momentwm ymgyrchoedd Dementia Friends a Chymunedau Cefnogol i Ddementia fel bod mwy a mwy o bobl yn deall sut beth yw byw gyda dementia, yn ogystal â gallu adnabod ei symptomau. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, gwneud yn siŵr ein bod ni’n edrych sut y gallwn ni wneud mwy o adeiladau ac amgylcheddau yn ystyriol o ddementia, i alluogi pobl i fyw bywyd mor normal ag y gallant cyhyd ag y gallant.

Brif Weinidog, mae astudiaeth blwyddyn o hyd gan Ymddiriedolaeth Addysgol Seale-Hayne a’r Rhwydwaith Cymunedol Ffermio wedi nodi nifer o bryderon ynglŷn ag effaith dementia yng nghefn gwlad y mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw, yn cynnwys diffyg ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal â’r anhawster o gael gafael ar wasanaethau cymorth. Felly, yn sgil y pryderon hyn, pa waith ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i’r rheini sy’n byw mewn cymunedau mwy anghysbell a mwy gwledig? Ac a allwch chi hefyd ddweud wrthym ni un mesur penodol mae’ch Llywodraeth chi wedi ei gyflwyno yn y 12 mis diwethaf i helpu pobl mewn cymunedau gwledig sy’n dioddef o dementia?

Rydym ni yn ystyried, wrth gwrs, unrhyw adroddiad newydd sydd yn dangos ym mha ffordd y gallwn ni wella gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig. Ond, ar draws Cymru, wrth gwrs, rydym ni wedi cyllido pecyn gwybodaeth ynglŷn â byw gyda dementia ac mae hwnnw wedi cael ei groesawu gan bobl proffesiynol sydd yn gweithio yn y maes, pobl â dementia, eu teuluoedd nhw a hefyd y rheini sydd yn gofalu amdanyn nhw. Mae yna linell cymorth bob dydd, trwy’r flwyddyn ar gael—24/7—sydd yn gallu rhoi cymorth emosiynol i bobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia a hefyd y rheini sydd yn gofalu amdanyn nhw. Mae’r rheini jest yn ddwy enghraifft o’r ffyrdd rydym ni wedi sicrhau bod yna fwy o gymorth ar gael, nid dim ond i’r rheini sydd yn dioddef o ddementia ond y rheini sydd yn gofalu amdanyn nhw hefyd.

Tai Fforddiadwy

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0632(FM)

Rydym ni’n cefnogi amrywiaeth o ddaliadaethau tai yn y gogledd-ddwyrain ac, yn wir, ledled Cymru. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol a pherchentyaeth fforddiadwy. Hefyd, rydym ni’n cyflwyno rhaglenni newydd gyda'r nod o wneud prynu cartref yn fwy hygyrch.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i greu cartrefi newydd, boddhaol a fforddiadwy. Rydym ni’n gweld yr ymrwymiad hwn yn cael ei roi ar waith yn Sir y Fflint, gyda'r bartneriaeth o gyngor Llafur a Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i weld y tai cyngor newydd cyntaf mewn cenhedlaeth—82 o dai cyngor newydd. Cefais y pleser o fynd i ymweld â'r rhai cyntaf sydd bellach ar agor gyda fy nghydweithiwr David Hanson a chydag Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol. Mae'r rhain yn gartrefi newydd wirioneddol anhygoel, gwych ar gyfer pobl yng nghanol y Fflint, yng nghalon y gymuned. Prif Weinidog, a wnewch chi heddiw roi ymrwymiad concrid pellach—os gwnewch chi esgusodi’r gair mwys—i adeiladu ar hyn a sicrhau niferoedd llawer mwy o gartrefi fforddiadwy, boddhaol o dan y Llywodraeth hon?

Rwy'n croesawu'n fawr adeiladu cartrefi newydd, yn enwedig gan gyngor arloesol fel Sir y Fflint. Rwyf wedi gweld y cartrefi; yn wir, rwyf wedi eu gweld nhw ddwywaith yn y pythefnos diwethaf, am resymau y bydd hi'n gyfarwydd â nhw. Ond mae’n ddull arloesol a fabwysiadwyd yn Sir y Fflint. Rydym ni eisiau gweld mwy o’r dull hwnnw ledled Cymru gyfan. Mae Sir y Fflint ar y blaen yn eu dull o adeiladu tai cyngor. Rwyf eisiau i bobl eraill ddilyn esiampl awdurdod da dan arweiniad Llafur.

Y Diwydiant Dur

8. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? OAQ(5)0625(FM)

Mae Llywodraeth y DU wedi colli diddordeb yn y diwydiant dur yng Nghymru. Dyna fy nadansoddiad i ar hyn o bryd, yn anffodus. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i chwarae ei rhan lawn i gefnogi dyfodol hirdymor i’r diwydiant dur yng Nghymru, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n credu ei fod yn drawiadol, yr ateb yr ydych chi wedi ei roi. Ond, yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod ag uwch reolwyr yng ngwaith Port Talbot, ac roeddem ni’n trafod y cynnydd a wnaed o fewn y sector, ac yn enwedig yn y gwaith. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi dod i'r casgliad, yn anffodus, bod heriau difrifol yn dal i wynebu’r sector yma yn y DU, yn enwedig yng ngoleuni Brexit a'r tariffau WTO posibl a allai gael eu gorfodi os byddwn yn gadael heb unrhyw gytundeb. Mae costau ynni llawer rhy uchel yn dal yn ein hwynebu, ac, wrth gwrs, gallai’r farchnad fyd-eang fod yn crebachu, oherwydd adran 232 yr Unol Daleithiau a allai fod yn digwydd ar ddur a fewnforir yn yr Unol Daleithiau. Nawr, mae gweithwyr dur yn y gwaith hwnnw yn cynhyrchu mwy nag erioed o’r blaen. Maen nhw’n cyflawni ar lawr gwlad ac maen nhw’n dangos bod dyfodol i ddur. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU, hyd yn hyn, wedi methu’r gweithwyr hyn. Maen nhw wedi methu ein diwydiant dur. Prin yw’r sylw y maen nhw wedi ei roi i’r strategaeth ddiwydiannol ac nid oes sôn am ddur yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad hwn. A ydych chi’n cytuno â mi, yn union fel y mae Llywodraeth Cymru yma wedi ei ddangos, mae ein diwydiant dur yn fwy diogel yn nwylo Llywodraeth Lafur y DU ar 8 Mehefin?

Yn sicr. Rydym ni wedi gweithio'n galed gyda Tata—ac, er tegwch, mae Tata wedi gwrando—i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n diwydiant dur yng Nghymru. Mae bygythiad Brexit. Byddai Brexit caled yn golygu, i bob pwrpas, mai'r unig farchnad rydd y byddai dur y DU yn gallu cael mynediad iddi fyddai’r DU ei hun. Rwy'n credu bod honno'n rhy fach i gynnig marchnad gadarn. Rwy’n gobeithio nad yw hynny'n wir. Rydym ni i gyd eisiau gweld sefyllfa lle gall y DU allforio’n rhydd i gymaint o farchnadoedd â phosibl, ond rwy’n talu teyrnged i'r gweithwyr yn Tata. Maen nhw wedi dangos eu bod yn ddigon cadarn i ymateb pan fydd pethau’n galed. Maen nhw ymhlith y gweithwyr mwyaf cynhyrchiol sydd gennym ni ym Mhrydain. Mae ganddyn nhw hanes hir a balch ac maen nhw’n gwybod pan ddaw i’r cymorth y gallant ei ddisgwyl, yna bydd Llafur Cymru yn darparu’r gefnogaeth honno.

Gwasanaethau Gofal Sylfaenol

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau gofal sylfaenol yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0639(FM)

Rydym ni’n parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd a phartneriaid eraill i gymryd amrywiaeth o gamau gweithredu i foderneiddio a gwella gwasanaethau gofal sylfaenol sy'n ddiogel a chynaliadwy ac mor agos at gartrefi pobl â phosibl.

Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod Cymdeithas Feddygol Prydain yn rhybuddio, flynyddoedd lawer yn ôl—mor bell yn ôl â 2013, yn wir—bod angen i ni fod yn hyfforddi mwy o feddygon yng Nghymru, ac roedden nhw’n rhybuddio am argyfwng o ran recriwtio meddygon teulu. Diystyrwyd yr haeriadau hynny gennych ar y pryd, ac eto ers hynny rydym ni wedi gweld dros ddwsin o feddygfeydd teulu ledled Cymru yn dychwelyd eu contractau, gan ddweud eu bod eisiau terfynu contractau—oherwydd problemau recriwtio fel rheol. Mae’r mwyaf diweddar o’r rhain ym Mae Colwyn, fy etholaeth fy hun: yr ail ym Mae Colwyn mewn dim ond chwe mis. Mae hwn yn bryder mawr i'r miloedd o bobl sydd wedi eu cofrestru gyda meddygfa Rysseldene yn fy etholaeth i. Ar hyn o bryd, mae mewn canolfan gofal sylfaenol a adeiladwyd yn bwrpasol, y mae'n ei rannu gyda meddygfa leol arall, a cheir pryderon y gallai tynnu contract Rysseldene yn ôl beryglu dichonoldeb y cyfleuster newydd hwnnw.

A gaf i ofyn: pam na wnaethoch chi wrando ar y BMA pan wnaethant godi eu pryderon? Pam na wnaethoch chi gynyddu nifer y swyddi hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru yn ddigonol? Rydych chi wedi bod yn gyfrifol am y diffyg hyfforddiant meddygon teulu dros y blynyddoedd yng Nghymru. Chi sydd wedi bod wrth y llyw—neb arall. Ni allwch feio Llywodraeth y DU am hyn. Felly, pa gamau ydych chi’n eu cymryd i achub y sefyllfa yn fy etholaeth fy hun ym Mae Colwyn? Ac ar ben hynny, pa gamau ydych chi’n eu cymryd i wneud yn siŵr bod gan Gymru niferoedd digonol o feddygon teulu yn y dyfodol?

O ran y pwynt cyntaf, yr hyn sy'n bwysig yw'r gwasanaeth a ddarperir i'r rhai sydd ei angen. Nid oes rhaid iddo gael ei ddarparu gyda’r un model ar draws Cymru gyfan. Bydd yn ymwybodol bod dwy feddygfa wedi gwneud yr un peth ym Mhrestatyn: dychwelwyd eu contractau ganddynt. Roedd yr hyn a roddwyd ar waith yn well na'r hyn a oedd yno gynt: gwasanaeth llawer mwy cynhwysfawr wedi ei redeg yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd. A gwn fod y bwrdd iechyd yn bwriadu darparu gwasanaeth tebyg i bobl Bae Colwyn. Yn ddealladwy, maen nhw eisiau gwybod beth yw dyfodol y gwasanaeth, ond nid oes rhaid iddo ddilyn y model contractwr.

Yn gynyddol, rydym yn gwybod nad oes gan feddygon teulu dan hyfforddiant—llawer ohonynt—ddiddordeb mewn prynu i mewn i bractis; maen nhw eisiau bod yn gyflogedig. Bydd rhai eisiau prynu i mewn i bractis, ond yn gynyddol, maen nhw’n dod allan o'r brifysgol, nid ydyn nhw eisiau dod o hyd i'r arian i brynu i mewn i bractis, ac mae hwnnw'n fater y mae'n rhaid i'r proffesiwn meddygol ei hun ei ystyried o ran yr hyn y dylai'r model fod yn y dyfodol. Bydd y model contractwr yn dal i fod yn rhan bwysig o ddarparu meddygon teulu yn y dyfodol, ond rydym ni’n gweld yn gynyddol bod y rhai iau, yn arbennig, eisiau bod yn gyflogedig ac yn hapus i weithio i fwrdd iechyd yn uniongyrchol.

O ran recriwtio: bydd yn gwybod ym mis Hydref 2016 i ni lansio ymgyrch ryngwladol newydd i hyrwyddo Cymru fel lle i feddygon weithio a hyfforddi. Mae’r ymgyrch genedlaethol honno wedi arwain at gynnydd o 16 y cant i nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu a lenwyd hyd yn hyn, o’i gymharu â'r llynedd. Yn rhan o'r ymgyrch honno, mae cynllun cymhelliant ar waith i recriwtio pobl i rai ardaloedd. Bydd hyfforddeion sy'n cymryd lle hyfforddi mewn ardal benodol yn derbyn rhywfaint o gymorth ariannol, ac mae hynny'n enghraifft ohonom ni’n cyflawni i wneud yn siŵr bod y cyflenwad o feddygon teulu yn ddigonol o leiaf yn y blynyddoedd i ddod.

Gwasanaethau Gofal Llygaid

10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amseroedd aros dilynol ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid i gleifion allanol yn ysbytai Cymru? OAQ(5)0628(FM)

Rydym ni’n disgwyl i’r holl gleifion gael eu gweld yn ôl blaenoriaeth glinigol ac o fewn ein targedau ar gyfer amseroedd aros. Ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth iechyd a phartneriaid y trydydd sector yn cydweithio i wella darpariaeth gwasanaethau offthalmoleg i gleifion newydd ac apwyntiadau dilynol i gleifion.

Diolch am yr ateb yna. Nawr, yn y grŵp trawsbleidiol ar olwg diweddaraf, buom yn trafod data a oedd yn dangos bod gan fyrddau iechyd ledled Cymru 37,247 o gleifion a oedd ar y pryd yn dioddef oedi i’w hapwyntiadau dilynol yn offthalmoleg. Mae archwiliadau clinigol wedi dangos bod tua 90 y cant o'r cleifion yma mewn perygl o niwed parhaol i’w golwg—hynny yw, 33,351 o unigolion yng Nghymru sydd mewn perygl o golli eu golwg. A ydych chi’n cytuno bod hyn yn warthus? Ac a wnewch chi gytuno i gyhoeddi nifer y cleifion sydd yn dioddef oedi i’w triniaeth ddilynol fel rhan o’ch data rheolaidd ar berfformiad y gwasanaeth iechyd?

Wel, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd eisiau cael triniaeth offthalmoleg—mae hynny’n wir—ond mae yna gynllun wedi cael ei sefydlu sydd yn cael ei arwain gan glinigwyr eu hunain er mwyn trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u gweithredu. Mae byrddau iechyd wedi dweud bod yna drefniadau mewn lle er mwyn sicrhau bod mwy o glinigau ar gael fel bod pobl yn gallu cael triniaeth, ac mae hynny yn effeithiol nawr ynglŷn â chael gwared ar y ‘backlog’ o gleifion sydd eisiau triniaeth nawr yn lle eu bod yn gorfod aros. Mae hynny’n meddwl bod yr amser aros, er enghraifft, i ‘wet AMD’ nawr o dan bythefnos, yn ôl—wrth gwrs, y canllawiau sydd wedi cael eu rhoi i’r byrddau iechyd.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd datganiadau llafar heddiw yn cael eu cyhoeddi fel datganiadau ysgrifenedig, ac mae’r ddadl ar y fframwaith nyrsio ysgolion wedi ei thynnu'n ôl. Gan nad oes unrhyw gwestiynau wedi'u cyflwyno i gael eu hateb gan Gomisiwn y Cynulliad, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ddiwygio amseriadau yfory yn unol â hynny. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i gwelir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i ofyn i chi am ddatganiad ar gefnffordd yr A55? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o ddigwyddiad a achosodd dagfeydd am 13 milltir ar yr A55 dros y penwythnos. Roedd hynny yn ystod penllanw tymor twristiaeth, fel petai, yn y rhan honno o’r gogledd. Cafodd y traffig ei ddal yno am bum awr. Mi fuon nhw yno yn disgwyl cyhyd fel bod rhai’n llythrennol yn dawnsio llinell ar ffordd ddeuol yr A55; a rhai’n chwarae criced ar ffordd ddeuol yr A55. Nawr, rwy’n deall y bydd pethau’n digwydd o bryd i'w gilydd ar y gefnffordd brysur iawn hon, nad oes iddi leiniau caled digonol ar ei hyd cyfan, ond bu cost sylweddol ar y trethdalwr ychydig flynyddoedd yn ôl, pan osodwyd gatiau o fewn rhwystr y llain ganol ar yr A55. Mae angen i ni gael eglurhad, yn fy marn i, ar gyfer pobl y gogledd, ac ar gyfer y busnesau twristiaeth a effeithiwyd gan y dagfa echrydus hon, am pam na chafodd y rhwystrau canolog eu hagor ar y pryd a pham y bu cymaint o oedi. Mae pethau fel hyn yn annerbyniol ac mae'n rhaid i ni ddechrau defnyddio ac elwa ar y buddsoddiad sydd wedi ei wneud yn y rhan honno o'r rhwydwaith cefnffyrdd. A gawn ni ddatganiad am hynny fel nad oes rhaid i ni ddioddef y cywilydd o’r math hyn problemau a’i chawlio hi fel hyn eto yn y dyfodol?

Wel, Darren Millar, rwy’n credu eich bod yn ymwybodol o'r amgylchiadau trist a arweiniodd at y dagfa anffodus iawn hon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ddweud ein bod ni, er y Pasg, wedi gweld gorffen pedair blynedd o waith gwella angenrheidiol, yn enwedig i dwneli’r A55, gwelliannau i arwyneb y ffordd yn ddiweddar, gwaith i atal llifogydd a gwaith brys cynnal a chadw, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod pwysigrwydd ystyried cydnerthedd yr A55. Mae e'n comisiynu astudiaeth o gydnerthedd i benderfynu sut i gyflawni hyn orau o ran sicrhau bod teithiau ar hyd yr A55 mor ddibynadwy ag y bo modd, gan ddiwallu anghenion pobl leol, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd. Wrth gwrs, bydd yr astudiaeth cydnerthedd yn seiliedig ar ffigyrau’r data diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ac eraill, a bydd yn edrych ar bob agwedd o’r ffordd, gan nodi ym mha le ac ym mha fodd y gellid orau wella’r profiad o deithio, sut i leihau nifer ac effaith digwyddiadau a cherbydau yn torri i lawr, a bydd yn ategu cynlluniau presennol ar gyfer gwelliant wrth barhau i sicrhau bod y tarfu yn sgil gwaith ar y ffordd yn cael ei leihau hyd yr eithaf.

Mae gennym ni nifer fawr iawn o gwmnïau bach a chanolig eu maint yng Nghymru, ond mae gennym brinder amlwg o gwmnïau mawr cynhenid. Rwy’n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar gynigion i gefnogi twf busnesau canolig eu maint, y mae’n ymddangos bod gennym gryn dipyn ohonynt, i fusnesau mawr, yn enwedig mewn diwydiannau fel adeiladu, a hefyd beth all y Llywodraeth ei wneud o ran gosod contractau i’w gosod yn y fath fodd fel eu bod o fudd i gwmnïau cyfredol canolig eu maint, sy'n gynhenid i Gymru, yn hytrach na chwmnïau mawr iawn, sy'n tueddu, yn sicr o ran adeiladu, i fod wedi’u sefydlu dros y ffin.

Mae Mike Hedges, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o'r ffaith mai BBaChau—y mentrau bach a chanolig eu maint—yw asgwrn cefn economi Cymru. Y cam nesaf sy’n bwysig, fel y dywedwch—eu tyfu’n fusnesau canolig eu maint a thu hwnt. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi i dyfu a ffynnu. Prif gonglfaen y sector adeiladu yw busnesau bach a chanolig a dyna pam mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru yn bartner mor bwysig. Mae ein rhaglen Dyfodol Adeiladu Cymru wedi’i chynllunio’n benodol i'w helpu i dyfu a datblygu. Hefyd, gan edrych ar y cyfleoedd a phwysigrwydd adeiladu tai—cynorthwyo i arallgyfeirio'r farchnad, hyrwyddo arloesedd, cynyddu’r cyflenwad tai, a chynorthwyo’r adeiladwyr BBaCh Cymru hynny wrth ddatblygu a thyfu i fod yn fentrau mwy y dyfodol. Wrth gwrs, gall rhywun dynnu sylw at raglenni fel Help i Brynu, a hefyd sicrhau bod adeiladu tai, fel un agwedd ar hynny, yn cael ei ystyried yn rhan bwysig iawn o economi Cymru.

Arweinydd y tŷ, ychydig o wythnosau yn ôl yma yn y Cyfarfod Llawn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i gyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU. A wnewch chi gadarnhau, os gwelwch yn dda, pryd y bydd y bydd hwnnw’n cael ei gyhoeddi?

Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ymateb yn gadarnhaol, Russell George, i'r cais hwnnw. Dywedodd y byddai'n rhannu copi o ymateb Llywodraeth Cymru i strategaeth ddiwydiannol y DU. Mae’r ymateb hwnnw yn barod erbyn hyn, a bydd yn cael ei rannu gyda'r holl ACau. Bydd yn cael ei anfon at bob AC. Llythyr, wrth gwrs, at Greg Clark, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yw hwnnw, a byddwch chi, wrth gwrs, yn cael copi ohono cyn gynted ag y caiff ei gyhoeddi, sef gyda hyn.

A gawn ni, yng ngoleuni cilio llwfr diweddar yr Arlywydd Trump oddi wrth un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu’r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol ar y newid yn yr hinsawdd, ddod o hyd i amser ar gyfer datganiad arall gan ein Hysgrifennydd y Cabinet ar y newid yn yr hinsawdd? Y llynedd, pan ddychwelodd Ysgrifennydd y Cabinet o'r trafodaethau a'r gynhadledd yn Marrakesh, fe eglurodd hi swyddogaeth gwledydd a rhanbarthau a dinasoedd wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ni waeth beth fyddo maint y wlad honno, a phwysigrwydd hyn ar gyfer ei phobl, ond hefyd pobl dramor a phobl cenedlaethau'r dyfodol, wrth fynd i'r afael â'r risgiau enfawr yr ydym yn eu hwynebu, ond hefyd wrth elwa ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Felly, yng ngoleuni datganiad yr Arlywydd Trump, rwy'n credu ei bod yn wir yn adeg amserol i gael datganiad newydd ar hynny, a fyddai i’w groesawu. Byddai hefyd, efallai, yn rhoi cyfle i ni gael gwybod beth yw safbwyntiau pobl yn y Siambr hon ar y mater hwn, yn enwedig yng ngoleuni arweinydd UKIP yn y Siambr hon yn mynd mor bell ag ysgrifennu at yr Arlywydd Trump yn croesawu ei ddatganiad—

gwahoddiad cynnes iawn i chi i Gymru gan obeithio efallai y cewch gyfle i ymweld â'ch cyd Geltiaid yma,

lle y byddai’n gweld bod y cilio hwn oddi wrth newid yn yr hinsawdd yn cael ei groesawu’n fawr iawn yn wir. Rwy'n credu bod angen inni roi agoriad llygaid iddo ar y mater hwnnw.

Credaf y byddai llawer yn y fan hon o’r un farn, Huw Irranca-Davies. Yng Nghymru, rydym nid yn unig yn cefnogi cytundeb Paris, ond mae gennym eisoes deddfwriaeth wedi’i sefydlu i gyflawni ar y nod hirdymor pwysig hwn. A gaf i achub ar y cyfle hwn dim ond i fyfyrio ar hynny? Mae'r manteision sydd i'w gwireddu trwy newid i economi carbon isel yn cael eu cydnabod yn fyd-eang, a pham ein bod yn gweld cefnogaeth i gytundeb Paris, nid yn unig yn rhoi’r cyd-destun ar gyfer mynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd, ond hefyd yn rhoi datgarboneiddio’r economi fyd-eang yn ei gyd-destun. Drwy ein deddfwriaeth—rydym wedi rhoi ar waith Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016—mae’r sylfeini deddfwriaethol wedi’u gosod ar gyfer cyflawni o ran cytundeb Paris.

Roeddech chi’n sôn hefyd am bwysigrwydd y cynghreiriau rhanbarthol sydd wedi datblygu. Mae Cymru, ynghyd â gwladwriaethau a rhanbarthau eraill, fel y rhai sydd newydd ffurfio Cynghrair Hinsawdd yr Unol Daleithiau—Califfornia, Efrog Newydd, Washington—eisoes yn gwneud gwahaniaeth drwy weithredu ar y cyd, trwy’r memorandwm o gyd-ddealltwriaeth ar arweinyddiaeth is-genedlaethol ar hinsawdd byd-eang, sy'n cynnwys 33 o wledydd, chwe chyfandir a chyda'i gilydd yn cynrychioli mwy na $27.5 triliwn mewn cynnyrch domestig gros, sy'n cyfateb i 37 y cant o’r economi byd-eang. Wrth gwrs, roedd Cymru yn llofnodwr i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth pwysig hwn ar adeg ei sefydlu, ac rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet wir yn dymuno cyflwyno datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein safbwynt yng Nghymru, a gwneud ein safiad yn glir iawn er mwyn i eraill wneud eu sylwadau.

A gaf i alw am ddatganiad unigol ar ddiogelu pysgodfeydd yng Nghymru, wedi i faterion ynghylch methu â gwarchod pysgodfeydd yng Nghymru, o ganlyniad i bolisi Llywodraeth Cymru, gael eu cynnwys yn y papur pysgota cenedlaethol, 'The Angler’s Mail'? Roedd hwn yn pwysleisio dirywiad difrifol iawn mewn pysgota yng Nghymru. Roedd yn datgan yr hyn sy'n cyfateb yng Nghymru i Asiantaeth yr Amgylchedd, sef Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cael ei ystyried bellach yn anaddas i’w ddiben gan grwpiau pysgota ac amgylcheddol, ac o’r 6886 adroddiad o lygredd dŵr a dderbyniodd Cyfoeth Naturiol Cymru rhwng 2013 a 2016, dim ond 60 y cant a gafodd eu hymchwilio, a dim ond 41 o erlyniadau a 10 o gosbau sifil a fu, sef cyfanswm o lai nag 1 y cant o'r achosion yr adroddwyd amdanynt. Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y pysgod yn y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru.

Mae angen i'r rheoleiddiwr wneud safiad llawer mwy cadarn ond ... Mae'r sefydliad yn anhylaw, yn rhy fiwrocrataidd ac nid yw’n ymddangos bod ganddynt strategaeth.

Fe wnaethant ddweud eu bod yn cyfarfod â swyddogion yn y Cynulliad, sy’n golygu Llywodraeth Cymru rwy’n cymryd wrth hynny, i alw am weithredu, gan ddod i'r casgliad bod methiant cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem. O ystyried eu cyfeiriad at Lywodraeth Cymru yn benodol yn yr erthygl, a’u cyfeiriad at gyfarfod â swyddogion, a gawn ni ddatganiad i’n diweddaru ni ar hyn, nid yn unig ar y casgliad y daethpwyd iddo, ond pa gamau, os o gwbl, sydd wedi deillio o hynny?

Wel, byddai o gymorth, Mark Isherwood, pe byddech wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn, ac, wrth gwrs, gan fod ei swyddogion eisoes yn cymryd rhan yn y drafodaeth honno, credaf y byddai nid yn unig yn fater o gwrteisi ond hefyd o eglurhad, pe byddech wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn unol â hynny.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar fenthyciadau a grantiau a roddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer adnewyddu tai ac adeiladau busnes yng Nghymru? Rhoddwyd £20,000 mewn gwirionedd i etholwr i mi ar gyfer gwella adeilad ei fusnes. Rhoddodd ef £9,000 o’i arian ei hun, felly costiodd bron i £29,000 iddo dair blynedd yn ôl. Tair blynedd yn ddiweddarach, mae'r cyngor lleol yn mynnu ei fod yn ad-dalu'r £20,000. Os na fydd yn gwneud hynny, byddan nhw’n cymryd ei eiddo ac yn ei adfeddiannu. Felly, dyna’r math o bethau y mae busnesau’n eu hwynebu, sy'n gwbl annerbyniol, yn fy marn i, i’r busnesau hynny sydd eisiau tyfu yng Nghymru. Ac rydym eisiau gwella y rhai hynny yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y de-ddwyrain. Er fy mod yn cydnabod gwerth y grantiau a’r benthyciadau hyn i wella eiddo, a gawn ni ddatganiad ynglŷn â pham y gall awdurdodau lleol fynnu neu hawlio ad-daliadau o fenthyciadau gwreiddiol yn llawn ar ôl tair blynedd, ac nad yw busnesau yn cael fawr o amser i dalu’n ôl dros gyfnod llawer yn hwy? Erbyn hyn, maen nhw’n gofyn am yr arian i gyd yn ogystal â llog. Felly, a allwch chi wneud datganiad ynglŷn â’r mater hwn os gwelwch yn dda? Diolch.

Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn cydnabod mai mater i awdurdodau lleol o ran eu trefniadau archwilio a llywodraethu yw hwn, ac nid wyf yn credu ei fod yn fater ar gyfer datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Arweinydd y tŷ, a oes modd cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet am adfywio, o ran cyllid y Lleoedd Llwyddiannus Iawn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno, ar gyfer adfywio ledled Cymru yn amlwg? Fel rwy’n ei deall hi, rwy’n credu bod yna ail gyfran o'r arian hwnnw yn cael ei rhoi ar gael, a byddwn yn falch iawn o gael gwybod a fyddai’r Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno i nodi’n benodol pa un a yw’r lleoedd na chawsant elwa ar y gyfran gyntaf o’r cyllid yn gallu gwneud cais nawr am ryw elfen o’r ail gyfran honno. Yn fy rhanbarth etholiadol fy hunan, er enghraifft, ni roddwyd dim i’r Barri yn y rownd gyntaf, ac rwy'n siŵr y byddech chi fel yr aelod ar ran yr etholaeth yn hoffi croesawu'r cyfle, pe byddai’r arian hwnnw ar gael yn yr ail gyfran, i'r cyngor newydd wneud cais am arian o’r fath os yw ar gael.

Andrew R.T. Davies, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar fin gwneud datganiad ynglŷn â’r mater hwn.

4. 5. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Yr eitem nesaf felly ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), ac rwy’n galw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i wneud y cynnig. Alun Davies.

Cynnig NDM6323 Alun Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau agoriadol ar rai o'r themâu a phwrpas y ddeddfwriaeth, ac yna defnyddio gweddill fy amser i ymateb i Aelodau, ac i bwyntiau y mae Aelodau’n dymuno eu codi, yn fy sylwadau i gloi.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Rwy'n credu yr hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma â phwyslais clir iawn ar bwynt a phwrpas y ddeddfwriaeth hon. Pwrpas y ddeddfwriaeth hon yw sicrhau bod y profiad dysgu cyfoethocaf posibl ar gael i bob dysgwr yng Nghymru. Nid yw'n iawn, ac nid yw'n dderbyniol, nad yw pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth a’r gefnogaeth a'r strwythurau a'r amgylchedd a'r gallu i wneud cynnydd yn eu dysgu, ac i gyrraedd a chyflawni eu holl botensial. Mae'r ddeddfwriaeth hon wedi ei chynllunio a’i datblygu ar gyfer gwneud hynny.

Mae wedi ei datblygu dros nifer o flynyddoedd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i fy rhagflaenydd yn y swydd hon ac i eraill, mewn pwyllgorau ac mewn mannau eraill, am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud wrth gynhyrchu'r Bil sydd gennym o'n blaenau heddiw. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn am gyfraniadau gan y gwrthbleidiau. Rwyf wedi dweud mewn sylwadau blaenorol am y ddeddfwriaeth hon fy mod yn gobeithio creu consensws a’i alluogi i ddatblygu o gwmpas a thrwy gydol y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau o bob ochr i'r Siambr am y ffordd y maen nhw wedi cynnal y ddadl, a chraffu ar ddeddfwriaeth hyd yn hyn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'r Aelodau am y croeso eang iawn y mae’r Bil, a'r ddeddfwriaeth, wedi’i gael ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad, fodd bynnag, drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r tri phwyllgor sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith craffu ar y Bil hwn, am eu gwaith dros y chwe mis diwethaf. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu hymagwedd gynhwysfawr a chynhwysol tuag at y Bil hwn. A hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r nifer o randdeiliaid a phartneriaid sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r gwaith hwn, ac sy'n parhau i weithio gyda ni i weddnewid addysg ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ac er mwyn pwysleisio—a hoffwn bwysleisio eto yn y ddadl hon—mai’r hyn sy'n bwysig am y broses hon yw'r rhaglen weddnewidiol y mae’r Bil hwn yn rhan ohoni. Yn aml iawn, pan fyddwn yn cyflwyno deddfwriaeth yn y lle hwn, mae'n ddarn penodol o ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â mater penodol. Ond, mae'r Bil hwn yn rhan o raglen weddnewid ehangach, ac rwy’n meddwl drwy gydol ein sgyrsiau, drwy gydol ein dadleuon, a thrwy gydol ein trafodaethau, yr hoffwn bwysleisio ei bod yn rhaglen weddnewidiol ehangach: y buddsoddiad yn y system, y buddsoddiad mewn pobl, y buddsoddiad yn yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni a fydd yn creu’r modd i’r Bil, y ddeddfwriaeth a'r strwythurau y bydd yn eu creu, lwyddo.

Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno bod hwn yn ddarn hanfodol o ddiwygio, a bod ganddo'r potensial i gefnogi degau o filoedd o blant a phobl ifanc pan fydd ar waith. Bydd y Bil yn disodli'r system bresennol ar gyfer anghenion addysgol arbennig, ac yn sefydlu system gwbl newydd o gymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, hyd at 25 oed. Bydd gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael cynllun datblygu unigol sy'n nodi'r gefnogaeth y bydd ei hangen arnynt i’w helpu i ddysgu. Bydd y system anghenion dysgu ychwanegol newydd yn seiliedig ar ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ddatrys anghydfodau’n gynnar. Bydd gan blant, eu rhieni a phobl ifanc i gyd hawl i apelio i'r tribiwnlys addysg.

Mae'r Bil yn creu swyddogaeth newydd cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion, a’r swydd newydd swyddog arweiniol dynodedig mewn byrddau iechyd, er mwyn gwella darpariaeth cymorth a chydgysylltu rhwng iechyd, addysg ac awdurdodau lleol. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu edrych tuag at rai o'r materion sydd wedi codi yn ystod craffu Cyfnod 1. Mae nifer o themâu wedi dod i'r amlwg. Gwnaf rai sylwadau am bob un o'r rheini, ond rwyf hefyd yn mynd i ddweud ar ddechrau'r ddadl hon ei bod yn fwriad gennyf i geisio derbyn mwyafrif helaeth argymhellion pob un o’r tri phwyllgor sydd wedi adrodd ar y Bil hwn.

Un maes sydd wedi cael pwyslais sylweddol yw anghenion gofal iechyd. Mae gan blant a phobl ifanc sydd â chyflwr meddygol sy'n cyfrannu at angen dysgu ychwanegol hawl i gael darpariaeth ychwanegol i ddysgwyr o dan y system newydd. Bu rhywfaint o drafodaeth ynglŷn ag ymestyn y diffiniad o anghenion dysgu ychwanegol i gynnwys pob cyflwr meddygol, gan gynnwys, er enghraifft, asthma neu alergedd i bysgnau, pa un a ydynt yn effeithio ar allu plentyn i ddysgu ai peidio. Rydym eisoes wedi cyhoeddi canllawiau statudol i ysgolion ar gyfer plant ag anghenion gofal iechyd hirdymor a thymor byr. Mae hyn wedi ei groesawu gan lawer o randdeiliaid, ac edrychaf ymlaen at weld ymateb i’r canllawiau statudol hynny wrth iddynt ymwreiddio, ac wrth iddynt gael eu cyflwyno gan ymarferwyr. Rwy'n fodlon, mewn egwyddor, i ystyried rhinweddau newid y diffiniad o anghenion dysgu ychwanegol, er mwyn dangos ei gwmpas o ran cyflyrau meddygol. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn destun cryn drafodaeth ac rwyf wedi dweud mewn sgyrsiau preifat fy mod yn barod i ystyried rhinweddau gwelliant. Hoffwn roi hynny ar y cofnod hefyd a hoffwn wahodd Aelodau ar bob ochr o'r Siambr i gyfrannu at sgwrs lle’r wyf yn gobeithio y gallwn ddod i gytundeb ar eiriad gwelliant o'r fath.

Bu rhywfaint o sgwrs hefyd am swyddogaeth a darpariaeth bosibl Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelodau nad wyf wedi fy argyhoeddi gan y dadleuon a gyflwynwyd yn ystod craffu Cyfnod 1 ar y mater hwn. Mae'r Bil yn seiliedig ar hawliau plant. Mae'n seiliedig ar hawl plentyn i gael addysg, sicrhau bod addysg ar gael i rai sydd ag anghenion gwahanol ac nid yn unig bod gan blant a phobl ifanc lais, ond eu bod yn ganolog iawn yn y broses i asesu a diwallu eu hanghenion. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod holl gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig yn cael eu hysgrifennu i fod yn berthnasol i wladwriaethau ac nid i unigolion nac ymarferwyr. Nid diben unrhyw un o gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig yw cael ei ddefnyddio yn y ffordd sy'n cael ei hawgrymu, ac nid yw'r Llywodraeth hon yn bwriadu gwneud hynny. Fodd bynnag, bwriad y Llywodraeth hon, ers cryn amser, yw sicrhau bod confensiynau’r Cenhedloedd Unedig yn llywio'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithredu, ac rwy’n gobeithio y bydd Aelodau ar bob ochr o'r Siambr yn cytuno bod egwyddorion y confensiwn yn cael eu cyflwyno'n dda drwy'r dyletswyddau statudol a gynhwysir yn y Bil hwn.

Rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a gan randdeiliaid am y swyddogaeth gryfach i’r gwasanaeth iechyd gwladol yn y Bil hwn. Mae craffu Cyfnod 1 wedi tynnu sylw at ddau faes o drafodaeth: yn gyntaf oll, swyddogaeth y tribiwnlys o ran materion iechyd. Yng Nghymru, mae gan y GIG broses eisoes ar gyfer cwynion a gwneud iawn. Mae’n rhaid inni hefyd barchu egwyddor sylfaenol barn glinigol, sy'n sail i holl benderfyniadau’r GIG. Mi ddywedaf wrth yr Aelodau: rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon wedi cael nifer o sgyrsiau ffrwythlon a chadarnhaol iawn am y mater hwn. Mae'n fater y byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i geisio ei ddatrys. Rwyf wedi cael sgyrsiau â llywydd y tribiwnlys hefyd, ac rwy’n fodlon parhau i sgwrsio i geisio cytuno ar ffordd ymlaen ar y mater hwn. Dywedaf yn y fan hon hefyd fod llywydd y tribiwnlys wedi ysgrifennu ataf i a'r pwyllgor, gan awgrymu nifer o wahanol newidiadau i swyddogaeth y tribiwnlys. Er nad yw'r pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad am bob un o'r rheini, mi ddywedaf fy mod yn fodlon chwilio am newidiadau i gyflawni'r rhan fwyaf o ddymuniadau y llywydd ar y materion hyn oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gallu symud ymlaen, gan gryfhau'r tribiwnlys yn ogystal â chryfhau’r system y mae'n ei thanategu.

Yn ail, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud i ddatblygu model swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig. Byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i amlinellu'r datblygiadau diweddaraf o ran y cynlluniau arbrofol ledled Cymru, yn dilyn pryderon a amlygwyd yn ystod y craffu. Mewn ymateb i alwadau am gryfhau elfennau blynyddoedd cynnar y system, byddaf yn cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i’w gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn dynodi swyddog arweiniol y blynyddoedd cynnar. Hoffwn weld mwy o bwyslais ar atal ac ymyrraeth gynnar gan gynnal arfer da ledled Cymru. Ar ben arall yr ystod oedran, nid wyf wedi fy mherswadio eto bod angen ymestyn y Bil i gynnwys pob dysgu yn y gweithle, ond rwy’n cydnabod bod dadl gref yn cael ei gwneud yn hynny o beth, ac mae'n fater y byddaf yn parhau i’w ystyried.

Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fy mod wedi darparu drafft o'r cod anghenion dysgu ychwanegol ym mis Chwefror i gynorthwyo gwaith craffu ar y Bil. Rwy'n ddiolchgar am farn y pwyllgor am sut y gellir ei ddatblygu ymhellach ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau ar draws y Siambr gyfan am y croeso y maen nhw wedi ei roi i gyhoeddi'r cod hwn. Rwyf wedi bod yn glir y bydd y cod yn destun y craffu ymgynghori llwyraf posibl. Felly, byddaf yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 i wneud y cod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol. Roedd hwn yn fater yr adroddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol arno ac rwyf wedi rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y mater hwn, a byddaf yn cyflwyno gwelliannau i gyflawni ar y sicrwydd hwnnw.

Dirprwy—. Dirprwy Lywydd—

Cadeirydd. Roeddwn yn mynd yn agosach. [Chwerthin.] Rwy’n mynd i gau fy nghyfraniad agoriadol drwy gadarnhau na fyddaf yn cynnig penderfyniad ariannol heddiw. Rwyf wedi ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad y bore yma i amlinellu'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i'r asesiad effaith rheoleiddiol. Rwy’n disgwyl y bydd y fersiwn ddiwygiedig ar gael imi erbyn diwedd toriad yr haf a byddaf yn ailgyflwyno penderfyniad ariannol yn yr hydref. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i drafod a datblygu'r Bil ac rwy’n gobeithio y gwnaiff y Cynulliad hwn gefnogi ei egwyddorion cyffredinol, ond rwy’n credu ei bod yn iawn ac yn briodol bod craffu yn graffu gwybodus. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â’r mater hwn, ac rwy’n credu bod gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a ddarperir i'r holl bwyllgorau ac i'r Aelodau, a hefyd bod y gwaith craffu sy'n digwydd yn y pwyllgor craffu yn graffu cwbl wybodus, a bod y Llywodraeth yn gwneud ei gorau i sicrhau ei bod yn darparu'r holl wybodaeth mewn modd amserol i bwyllgorau. Felly, byddaf yn gobeithio parhau i weithio gydag Aelodau ar bob ochr i'r Siambr er mwyn sicrhau bod gennym ddarn o ddeddfwriaeth a fydd nid yn unig yn newid bywydau pobl ifanc a phlant heddiw, ond ar gyfer y dyfodol hefyd.

Diolch yn fawr. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle.

Diolch, Cadeirydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon heddiw i amlinellu prif gasgliadau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Roedd y pwyllgor yn cytuno’n unfrydol ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Rydym yn credu y bydd y Bil yn darparu llwyfan ar gyfer diwygio'r system AAA bresennol, ac mae’n hen bryd gwneud hynny, barn a rannwyd yn glir gan y mwyafrif o'r rhai a roddodd dystiolaeth i ni. Roedd y dystiolaeth hefyd yn amlygu bod llawer o heriau o'n blaenau wrth i'r Bil gael ei roi ar waith. Ni fydd dim ond pasio’r ddeddfwriaeth yn ymdrin â'r problemau sylfaenol dyfnach o fewn y system bresennol.

Felly, rydym yn cydnabod pwysigrwydd rhaglen gweddnewid ADY ehangach Llywodraeth Cymru i ateb yr heriau hynny a chyflwyno system sy'n gadarn ac sy'n darparu'r cyfleoedd gorau i ddysgwyr ag ADY. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog wrth iddo fwrw ymlaen â’r rhaglen weddnewid. Mae hon wedi bod yn broses Cyfnod 1 hir a chymhleth, ond mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y Bil hwn yn iawn.

Rydym wedi cwrdd â llawer o randdeiliaid a chlywed ganddynt, gan gynnwys plant a phobl ifanc ag ADY, a rhieni a gofalwyr y rheini ag ADY. Mae cyfraniad pawb sydd wedi cymryd rhan wedi bod yn amhrisiadwy, a hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Clerc a'r tîm ymchwil am eu gwaith diwyd ar y Bil hwn.

Bydd y Bil yn cael ei ategu gan god ADY statudol, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl craffu ar y Bil yn effeithiol heb weld y cod. Er ein bod yn diolch i'r Gweinidog am sicrhau bod y cod drafft ar gael, rydym yn credu y dylai fod wedi bod ar gael ar yr adeg y cyflwynwyd y Bil.

Mae'r pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil yn gryf, er bod y dystiolaeth a gawsom yn amlygu llawer o bryderon ynglŷn â’i roi ar waith. Ni ddylai neb danbrisio maint yr agenda hon. Mae dros 100,000 o ddisgyblion mewn ysgolion ag AAA neu ADY, sydd dros un o bob pump o'r holl blant. Felly, rydym wedi gwneud 48 o argymhellion gyda'r nod o gryfhau nid yn unig y Bil ei hun, ond hefyd y cynigion ehangach ar gyfer diwygio'r system. Yn yr amser sydd ar gael, ni allaf fynd drwy bob un heddiw, ond byddaf yn canolbwyntio ar rai o'r materion allweddol a ddaeth i'r amlwg.

Mae'r Bil wedi’i adeiladu ar sail y diffiniad o ADY. Mae'n hanfodol bod y diffiniad yn glir ar wyneb y Bil a'i fod yn hawdd ei ddeall. O ran y blynyddoedd cynnar, er y gall y diffiniad ar wyneb y Bil fod yn briodol, rydym yn credu y dylai’r cod egluro bod dysgu’n cynnwys meysydd fel dysgu drwy chwarae a rhyngweithio cymdeithasol, nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu’n benodol yn y Bil ar hyn o bryd. Rydym yn credu y gallai'r cod hefyd egluro nad yw dysgu’n cyfeirio at ddysg person yn ei gyfanrwydd yn unig, a’i fod yn cyfeirio hefyd at agweddau neu elfennau penodol ar eu dysgu.

Trydydd pryder a oedd gennym oedd sut y byddai cyflyrau meddygol y dysgwyr yn ymwneud â'r diffiniad. Rhoddodd y Gweinidog sicrwydd, lle byddai cyflwr meddygol yn arwain at ADY, y byddai'n dod o dan y diffiniad. Fodd bynnag, rydym yn credu bod yn rhaid gwneud hyn yn glir ar wyneb y Bil ac o fewn y cod.

Mae'r pwyllgor yn croesawu'n gryf y pwyslais yn y Bil ar sicrhau mai buddiannau'r plentyn neu'r person ifanc sy’n ganolog, ac yn credu mai defnyddio model o gynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yw’r dull cywir. Fodd bynnag, credwn mai colli cyfle fyddai peidio ag ymgorffori ymrwymiad cyffredinol Cymru i hawliau plant ar wyneb y Bil, ac rydym yn argymell cynnwys dyletswydd gyffredinol o sylw dyledus i'r CCUHP.

Bydd swyddogaeth yr ALNCO o fewn pob lleoliad yn hanfodol er mwyn sicrhau cysondeb a safonau uchel. Rydym yn croesawu'r dyhead y dylai fod gan yr ALNCO gymhwyster lefel Meistr, ond rydym yn pryderu y gallai hyn arwain at golli pobl hynod fedrus a phrofiadol sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel cydlynwyr AAA. Rydym yn argymell bod y Gweinidog yn ailystyried ei ymagwedd ac yn ei gwneud yn glir, wrth symud ymlaen, y dylai gradd Meistr fod yn ddymunol ac nid yn ofynnol. Mae'r pwyllgor hefyd yn pryderu am oblygiadau’r swyddogaeth ALNCO o ran adnoddau ac yn credu y dylai'r Gweinidog adolygu effaith y swyddogaeth newydd ar adnoddau a galluoedd o fewn 12 mis.

Rydym yn croesawu bwriad y Bil i sefydlu system oedran sengl, 0-25 sy'n nodi ADY plentyn ac yn darparu ar ei gyfer o'i enedigaeth, ond mae gennym nifer o bryderon am sut y bydd anghenion pobl y tu allan i'r oedran ysgol statudol yn cael eu diwallu. Rwyf eisoes wedi tynnu sylw at ein pryderon am y diffiniad o ADY o ran y blynyddoedd cynnar, ond rydym hefyd yn credu y dylid diwygio adran 57 y Bil i'w gwneud yn ofynnol i gyrff iechyd godi pryderon bod ADY gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol, yn hytrach na’r pŵer disgresiwn sy'n bodoli fel y'i drafftiwyd. Mae gan gyrff iechyd ddyletswydd i hysbysu awdurdodau lleol o dan y system bresennol, ac nid ydym yn gweld rheswm i wanhau’r ddarpariaeth hon. Yn yr un modd, nid yw’r Bil yn darparu llwybr clir i warchodwyr plant a phobl sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant i godi pryderon y gallai fod gan blentyn ADY, ac rydym yn credu y dylai'r Bil neu’r cod ddarparu mecanwaith clir ar gyfer hyn.

O ran ôl-16, mae gan y pwyllgor bryderon difrifol ynghylch digonolrwydd y berthynas sy'n bodoli rhwng awdurdodau lleol a'r sector addysg bellach i wneud darpariaethau'r Bil yn effeithiol, yn enwedig yn y cyfnod pontio heriol i addysg bellach. Mae'r pwyllgor hefyd yn cytuno’n gryf â rhanddeiliaid y dylid ymestyn y fframwaith ADY i gynnwys dysgu yn y gwaith. Yn aml, y dysgwyr sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf cymhleth sy'n dewis y llwybr dysgu yn y gwaith, a dylai'r system newydd arfaethedig gynnwys dysgwyr o'r fath.

Fel y dywedodd y Gweinidog, roedd yr angen am gydweithredu amlasiantaethol mwy effeithiol, yn enwedig gyda'r GIG, yn rhywbeth yr oedd rhanddeiliaid yn tynnu sylw ato’n gyson fel rhywbeth sy’n hanfodol i lwyddiant y diwygiadau hyn. Mae'n hanfodol nad yw'r gwendidau o ran cydweithio o fewn y system bresennol yn cael eu mewnforio i'r un newydd. Mae'r pwyllgor yn fras yn croesawu'r bwriad i sefydlu’r swyddogaeth swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig strategol. Fodd bynnag, mae diffyg manylder am y swyddogaeth, yn enwedig sut y bydd yn gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, gan gynnwys y swyddogaeth cydgysylltydd iechyd newydd. Rydym hefyd yn ei chael hi’n anodd deall pam na chafodd y cynlluniau arbrofol DECLO, a ddechreuwyd yn ddiweddar iawn, eu cynnal yn llawer cynharach, gan y byddai hyn wedi rhoi cipolwg pwysig i natur a gweithrediad y swyddogaeth. Clywsom bryder eang nad yw'r Bil yn darparu cylch gwaith i’r tribiwnlys dros benderfyniadau a gweithredoedd cyrff iechyd nac unrhyw bwerau i gyfarwyddo’r cyrff hynny. Mae'r pwyllgor yn credu y dylid ymestyn cylch gwaith y tribiwnlys i gynnwys cyrff iechyd, ond hefyd bod yn rhaid i'w aelodaeth fod yn ddigonol i ystyried barn glinigol gweithwyr iechyd proffesiynol wrth iddo wneud penderfyniadau.

O ran y Gymraeg, rydym yn credu nad yw rhai elfennau penodol ar y Bil yn adlewyrchu’r uchelgais a’r her ar gyfer y Gymraeg, ac rydym yn cytuno â galwad Comisiynydd y Gymraeg am unfed nod craidd ar ddeg, sef bod y Bil yn sicrhau y darperir gwasanaethau ADY dwyieithog.

Wrth gwrs, mae’n hanfodol bod adnoddau, cynlluniau gweithlu a threfniadau hyfforddi digonol ar waith i gefnogi gweithrediad y Bil a'r rhaglen weddnewid ehangach, ac rydym wedi gwneud argymhellion penodol yn hyn o beth. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf i'r pwyllgor yw'r ffaith bod y costau a'r arbedion ar gyfer y Bil, fel y’u nodwyd yn y memorandwm esboniadol, wedi bod mor anghywir. Bydd yr Aelodau wedi cael eglurhad o'r costau a’r arbedion diwygiedig gan y Gweinidog. Yn anffodus, ni chafodd y ffigurau diwygiedig hyn eu darparu i'r pwyllgor tan y diwrnod ar ôl inni gyflwyno ein hadroddiad. Mae'n siomedig na chafodd y wybodaeth hon ei darparu’n gynt fel y gallai’r pwyllgor fod wedi ei hystyried a'i chynnwys yn ein hadroddiad. Felly, mae wedi bod yn amhosibl i'r pwyllgor graffu ar y costau a'r arbedion ar gyfer y Bil yn briodol, ac rwy’n croesawu'r penderfyniad i ohirio’r penderfyniad ariannol tan y bydd yr asesiad effaith rheoleiddiol ddiwygiedig ar gael ar gyfer craffu.

Yn olaf, Cadeirydd, hoffwn ddiolch unwaith eto i’r rheini a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac a helpodd gyda'n gwaith. Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r pwyllgor am y ffordd gynhyrchiol yr ydym wedi gweithio gyda'n gilydd ar hyn. Mae gan y Bil hwn y potensial i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant a theuluoedd yng Nghymru. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud hyn yn iawn.

Diolch, Cadeirydd. Mae'n bleser gennyf siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am y Bil hwn, ond hefyd, fel aelod blaenorol o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwy'n falch o weld y Bil yn gwneud rhywfaint o gynnydd. Cyn imi sôn am ystyriaeth ein pwyllgor i oblygiadau ariannol y Bil, mae'n rhaid imi ymdrin yn gyntaf â llythyr y Gweinidog ar 25 Mai, y mae Lynne Neagle hefyd newydd gyfeirio ato, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau a ragwelir i asesiad effaith rheoleiddiol y Bil. Rwyf hefyd yn siomedig iawn na chafodd y newidiadau hyn eu rhannu â ni tan y diwrnod ar ôl dyddiad cau adrodd Cyfnod 1, gan atal yr wybodaeth hon rhag ffurfio rhan o ystyriaeth ein pwyllgor cyn dadl heddiw.

Mae'r newidiadau hyn yn sylweddol, yn cael effaith sylweddol ar gostau’r Bil, ac, oherwydd amseriad y cyhoeddiad, nid ydynt wedi cael sylw ychwaith yn ein hadroddiad. Mae maint y diwygiadau ar y cam hwn o hynt Bil yn frawychus; mae’r Gweinidog nawr yn amcangyfrif y bydd y Bil yn costio £8.3 miliwn dros y cyfnod gweithredu, sef pedair blynedd, yn hytrach nag yn arbed £4.8 miliwn. Mae hyn yn cynrychioli cyfanswm newid costau o £13.1 miliwn. Ar ben hynny, mae'r Gweinidog wedi nodi y gallai’r ffigurau hyn newid eto ac na fydd y ffigurau terfynol ar gael tan y cyhoeddir asesiad o effaith rheoleiddiol diwygiedig cyn trafodion Cyfnod 3, y bwriedir ar hyn o bryd eu cynnal ym mis Medi. Yng ngoleuni'r wybodaeth hon, ysgrifennais at y Gweinidog i ofyn iddo oedi cyn cynnig penderfyniad ariannol ynglŷn â'r Bil tan i grynodeb wedi’i ddiweddaru o'r costau gael ei ddarparu a’i graffu. Ysgrifennodd y Gweinidog at yr Aelodau y bore yma ac mae wedi cadarnhau i'r Cyfarfod Llawn heddiw y bydd yn gohirio cynnig y penderfyniad ariannol ac y cyhoeddir asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig erbyn diwedd toriad yr haf. Fel cyn-aelod gweithgar iawn o'r Pwyllgor Cyllid, fel yr wyf yn cofio, yn ei dymor cyntaf yn y Cynulliad, rwy'n siŵr ei fod yn deall pryderon y Pwyllgor Cyllid yn y maes hwn ac yn gwerthfawrogi y byddwn yn awr yn cael cyfle i edrych ar yr asesiad o effaith diwygiedig hwnnw cyn y cynigir penderfyniad ariannol.

Dyma, fodd bynnag, lle mae pethau'n mynd ychydig yn gymhleth, os caf ddweud hynny, Cadeirydd, oherwydd, ar adeg cyflwyno'r Bil, roedd yr asesiad effaith rheoleiddiol sydd wedi’i gyhoeddi ar hyn o bryd yn amcangyfrif arbedion o dros £14.2 miliwn dros bedair blynedd. Fodd bynnag, fe'n cynghorwyd gan y Gweinidog y diwrnod cyn ein sesiwn dystiolaeth fod camgymeriadau wedi eu canfod yn yr asesiad o effaith rheoleiddiol, a olygodd bod yr arbedion a ragwelwyd wedi gostwng i £12.8 miliwn dros y cyfnod o bedair blynedd. Mae ein hadroddiad yn cydnabod sicrwydd y Gweinidog bod y ffigurau diwygiedig hyn yn gadarn. Serch hynny, roeddem yn siomedig na chafodd y camgymeriadau hyn eu canfod cyn cyflwyniad y Bil a gwnaethom argymell diweddaru’r asesiad o effaith rheoleiddiol i ystyried y wybodaeth ariannol ddiwygiedig. Yn amlwg, fodd bynnag, nid oedd y ffigurau diwygiedig yn gadarn, oherwydd mae llythyr diweddaraf y Gweinidog yn nodi arbedion amcangyfrifedig o ddim ond £3.7 miliwn dros y cyfnod o bedair blynedd. Felly, i grynhoi, rydym wedi mynd o arbedion disgwyliedig dros bedair blynedd o £14.2 miliwn i ffigwr heddiw o £3.7 miliwn. Ond nid yw'r ffigurau hyn wedi eu harchwilio gan y Pwyllgor Cyllid ac nid ydynt yn rhan o'n hadroddiad heddiw. Mae'r newid sylweddol yn cael ei briodoli i raddau helaeth i bryderon a godwyd gan SNAP Cymru ynglŷn ag anghytundebau ac apeliadau. Mae llythyr y Gweinidog yn datgan bod ei swyddogion wedi cyfarfod â SNAP Cymru ym mis Mawrth, felly mae'r pwyllgor yn awyddus i ddeall pam na chafodd canlyniad y trafodaethau hyn ei rannu â’r pwyllgor cyn dyddiad cau Cyfnod 1.

Datblygiad allweddol arall yn ystod ein gwaith craffu oedd cyhoeddiad y Gweinidog o fuddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn i gefnogi dysgwyr ADY. Eglurodd y Gweinidog fod y buddsoddiad hwn yn berthnasol nid dim ond i gyflawni'r Bil, ond hefyd i weithgaredd gweddnewidiol ehangach, a rhoddodd ragor o fanylion am y dyraniad cyllid a ragwelir i gefnogi ailwampio'r system ADY. Yn ein hadroddiad, rydym yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru i ailwampio'r system, ond credwn hefyd fod costau gweithredu'r Bil wedi cael eu tanbrisio. Rydym felly'n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn. Er ein bod yn cydnabod bod cyd-destun newid gweddnewidiol yn ei gwneud yn fwy heriol i gategoreiddio costau, mae'n bwysig ein bod yn deall sut y caiff yr arian hwn ei ddyrannu’n uniongyrchol i hwyluso a chefnogi’r broses o roi’r Bil ar waith er mwyn cynnal gwaith craffu ariannol cadarn. O ganlyniad, rydym yn argymell bod unrhyw asesiad o effaith rheoleiddiol diwygiedig yn egluro pa un a yw’r buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn yn cael ei ddarparu at ddibenion y Bil. Mae llythyr diweddar y Gweinidog yn nodi mai Llywodraeth Cymru fydd yn talu’r gost ddiwygiedig o £8.3 miliwn sy'n gysylltiedig â'r Bil ac y daw’r arian hwn o’r pecyn ariannu £20 miliwn i’w roi ar waith. Mae hyn yn codi cwestiynau pellach, fodd bynnag, ynghylch diben y pecyn cyllido ac effaith y cynnydd mewn costau gweithredu ar y cynlluniau blaenorol i ddyrannu'r cyllid hwnnw.

Mae’r prif faes arall sy'n peri pryder a amlygwyd yn ein hadroddiad yn ymwneud ag arian pontio Llywodraeth Cymru, a ddarperir i gyrff eraill er mwyn cyflawni darpariaethau'r Bil. Mae hyn yn cynnwys tua £7 miliwn mewn grantiau pontio sydd ar gael i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i gefnogi’r broses o roi’r Bil ar waith. Rydym yn croesawu bwriad y Gweinidog i ddatblygu dyraniad seiliedig ar fformiwla a’i ymrwymiad i leihau biwrocratiaeth a baich proses ymgeisio. Fodd bynnag, credwn fod angen arweiniad ariannol clir, ac felly rydym wedi argymell y dylai'r arian grant gael ei neilltuo.

Mae'r Bil hefyd yn cynnig trosglwyddo cyfrifoldeb am gynllunio a sicrhau darpariaeth addysg bellach arbenigol ôl-16 o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo cyllideb flynyddol bresennol Llywodraeth Cymru o £12.4 miliwn i'r grant cynnal refeniw. Roedd y Gweinidog yn pryderu y byddai neilltuo’r cyllid hwn yn arwain at gapio cyllidebau, yn hytrach na chefnogi system gyllido sy’n seiliedig ar anghenion. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus nad yw awdurdodau lleol yn dyrannu’r cyllid a drosglwyddwyd yn ôl y bwriad ac maen nhw wedi argymell bod yn rhaid neilltuo’r arian i gyflawni'r cyfrifoldebau a drosglwyddwyd.

Mae ein hadroddiad yn ymdrin â nifer o argymhellion eraill, ond nid oes gennyf amser, yn anffodus, Cadeirydd, i sôn yn fanwl amdanynt. Ond un yr hoffwn iddo gael sylw'r Cynulliad yw ein hargymhelliad ynghylch y swyddogaeth swyddog arweiniol clinigol addysgol dynodedig statudol, a'r effaith, felly, ar ddarpariaeth ADY byrddau iechyd, sy'n adlewyrchu rhai o drafodaethau'r pwyllgor arall.

I gloi, os caf i, Cadeirydd, mae’r lefelau adolygu wedi codi pryderon difrifol ynghylch dilysrwydd costiadau’r Llywodraeth a'i gallu i ariannu’r Bil a’i roi ar waith yn llwyddiannus. Mae’n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod yr asesiad o effaith rheoleiddiol diwygiedig, a addawyd erbyn diwedd toriad yr haf, yn cael ei gyhoeddi mewn da bryd, yn gywir ac yn gadarn, ac yn caniatáu inni i gyd yn y Cyfarfod Llawn ac yn y pwyllgor i ganiatáu ar gyfer craffu priodol cyn y cynigir penderfyniad ariannol yn y Cyfarfod Llawn. Diolch yn fawr.

Diolch, ac rwy’n gobeithio bod yr Aelodau'n deall ei bod yn bwysig bod Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cael y cyfle i roi sylwadau am y ffigurau a gyhoeddwyd ar ôl cyhoeddi adroddiad y pwyllgor.

I call on the Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Cadeirydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'n clerc a’n tîm ymchwil a chymorth deddfwriaethol, a hefyd i aelodau diwyd ein pwyllgor am graffu ar y Bil hwn, y gwnaethom adrodd amdano ar 24 Mai, gan wneud 12 argymhelliad?

Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn deall ei bod yn ddyletswydd arnom i fod yn daer am ddeddfwriaeth dryloyw ac eglur a chraffu trylwyr, felly rwy'n gwybod na fydd ein dadansoddiad cadarn yn ei synnu. Yn rhan o'n hystyriaeth arferol, buom yn edrych ar y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn sydd ar ôl i Lywodraeth Cymru ymdrin ag ef drwy is-ddeddfwriaeth. Mae'r Bil yn cynnwys nifer o bwerau gwneud rheoliadau y nododd y Gweinidog nad oedd yn bwriadu eu defnyddio yn y dyfodol agos na’r dyfodol y gellir ei ragweld. Nawr, fe wnaethom fynegi pryder am y dull hwn, gan nad ydym wedi ein hargyhoeddi gan y ddadl sy'n dweud, gan na fydd Bil pellach yn y maes hwn yn y dyfodol agos, o ganlyniad, y dylid ychwanegu pwerau gwneud rheoliadau i roi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru. Ein dadl fyddai, os aiff un o Ddeddfau’r Cynulliad yn hen yn gyflym neu am ba bynnag reswm, gan gynnwys amgylchiadau annisgwyl, a bod angen ei newid yn sylweddol o ganlyniad, y dylid defnyddio deddfwriaeth sylfaenol i gyflawni hynny.

Felly, mae ein hargymhelliad cyntaf yn galw ar y Gweinidog i gyfiawnhau pam mae angen y pwerau i wneud rheoliadau o dan adrannau 12(7)(c), 50(3), 60(1) a 68(4) o fewn y Bil. Roeddem yn arbennig o bryderus â'r dull a fabwysiadwyd o ran pwerau gwneud rheoliadau o dan adrannau 45(2)(d), 82(c) ac 86(8). Cawsom ein synnu gan resymeg y Gweinidog dros gynnwys pwerau gwneud rheoliadau yn adran 45 i ganiatáu i Weinidogion Cymru nodi rhagor o amgylchiadau lle na fyddai awdurdodau lleol dan ddyletswydd i ffafrio addysg brif ffrwd a gynhelir ar gyfer plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol. Ac, o ran y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 86 i ddiwygio'r diffiniad o 'corff GIG', ein cred hirsefydlog yw bod yn rhaid i reoliadau sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol fod yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cynulliad. Ynghyd â'r potensial i achosi newid polisi arwyddocaol, fe wnaethom argymell defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer y rheoliadau hyn. Nawr, mae Llys Hawliau Dynol Ewrop—mae wedi ei grybwyll mewn cyfraniadau cynharach—wedi ei gwneud yn glir y dylai integreiddio plant i mewn i ysgolion prif ffrwd fod yn norm yn hytrach nag eithriad. Felly, roeddem yn bryderus ynghylch sut y gellid defnyddio’r pŵer hwn yn y dyfodol, ac rydym yn credu, pe byddai categori newydd o ysgolion yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, sef y cyfiawnhad a roddwyd gan y Gweinidog, y dylai'r Gweinidog asesu'r pwerau a fyddai eu hangen ar yr adeg honno. Felly, fe wnaethom argymell y dylai'r ddarpariaeth hon gael ei dileu o'r Bil, neu, o leiaf, y dylai fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.

Byddai adran 82 y Bil yn caniatáu i'r Gweinidog newid drwy reoliadau y diffiniad o bwy sydd 'yn ardal' awdurdod lleol yng Nghymru mewn deddfwriaeth addysg nad yw o reidrwydd yn ymwneud ag anghenion ychwanegol. Nawr, ni welwn ddim rheswm pam y dylid cynnwys y pŵer cyffredinol hwn yn y Bil, ac rydym yn argymell bod y Gweinidog yn cael gwared ar y ddarpariaeth hon o'r Bil. Unwaith eto, o leiaf, dylai hyn fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol er mwyn caniatáu craffu llawn a chadarn gan y Cynulliad cyfan.

Nawr, i droi at faterion eraill yn y Bil, rydym yn croesawu ymagwedd y Gweinidog at ddatblygu'r cod anghenion dysgu ychwanegol, a’i ymrwymiad ag Aelodau yn ei ddatblygiad. Er mwyn helpu i greu cyfraith hygyrch i bob dinesydd sydd â diddordeb mewn anghenion dysgu ychwanegol, rydym yn gobeithio y gwnaiff ef barhau i gymryd rhan ar hyn, ac rydym yn sicr y gwnaiff hynny. Rydym yn ystyried bod statws y cod, fodd bynnag, yn aneglur, gan ei fod yn cymysgu gofynion a chanllawiau statudol, rhywbeth yr ydym yn credu y gallai fod yn ddryslyd. Er mwyn gwneud cyfraith sy’n gweithio’n dda, dylai fod yn glir i weithwyr proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd pa ddarpariaethau sydd ag effaith ddeddfwriaethol. Ni allwn weld unrhyw reswm pam, felly, na allai’r gofynion a nodir yn y cod gael eu cynnwys yn y Bil ar ffurf rheoliadau yn hytrach. Byddai hyn yn ei wneud yn gliriach i bawb dan sylw.

Rydym hefyd yn nodi nad yw'r drefn a awgrymir ar gyfer adran 5 y Bil yn dilyn yr un drefn â’r cod anghenion addysgol arbennig sydd eisoes yn bodoli y mae'n ei ddisodli. Yn ein barn ni, nid yw'r weithdrefn negyddol yn rhoi digon o graffu i ddogfen mor bwysig, ac rydym yn argymell bod y Gweinidog yn ystyried y weithdrefn uwchgadarnhaol yn hytrach. Byddai hyn yn caniatáu i randdeiliaid ac Aelodau ystyried hyn yn fanwl, cyn i’r corff hwn, y Cynulliad Cenedlaethol, wneud y penderfyniad terfynol.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at ein hargymhellion ynglŷn ag adrannau 13(2) ac 14(2) y Bil, sy'n cynnwys pwerau gwneud rheoliadau i ragnodi eithriadau o ran plant sy'n derbyn gofal. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi bod y rheoliadau, ym mhob achos, yn ymdrin â materion gweinyddol technegol yn unig. Yn absenoldeb gwybodaeth ar wyneb y Bil, rydym yn argymell defnyddio’r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer rheoliadau a wneir yn y lle cyntaf, ac yna’r weithdrefn negyddol wedi hynny.

Felly, i gloi, rwy’n croesawu natur agored y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol heddiw, pryd y dywedodd ei fod yn bwriadu derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y tri phwyllgor, ac wrth i'r Bil barhau â’r ymgysylltiad adeiladol hwn, rydym yn obeithiol ac yn hyderus y gellir gwella’r Bil ymhellach, ac y gwneir hynny, ac y datrysir y materion sy'n weddill drwy ymgysylltu cadarnhaol pellach.

Rwy’n croesawu'r cyfle i siarad o blaid egwyddorion cyffredinol Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Llywodraeth Cymru. Mae'n dda bod Llywodraeth Cymru yn cipio’r cyfle hwn i sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol yr ydym yn ymdrin â'r mater hwn oddi mewn iddo yn addas i'w ddiben. Fel y nodwyd ym memorandwm esboniadol y Bil, mae'r fframwaith presennol yr ydym yn gweithredu ynddo, ac y bûm yn addysgu oddi tano, yn achosi cynifer o heriau i’m hetholwyr a phobl eraill ledled Cymru a phrin fu’r newidiadau iddo dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae angen chwa o awyr iach y Bil hwn i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn alw ar fy mhrofiad o addysgu mewn ysgol uwchradd, sy'n golygu fy mod yn gyfarwydd â llawer o'r heriau sy'n wynebu disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn amgylcheddau ysgolion ledled Cymru. Mae hyn yn berthnasol i leoliadau prif ffrwd ac i grwpiau ar wahân, mwy arbenigol. Mae'r profiad hwn hefyd yn atgyfnerthu fy ymdeimlad o frys o ran sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn. I wneud hyn, mae'n rhaid inni ddarparu cynnig addysgol sy'n caniatáu i bob person ifanc ffynnu a chyflawni, ac rwy’n falch bod hyn wrth wraidd y Bil. Mae’n rhaid i bobl ifanc deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ond rhaid i’w rhieni, eu gwarcheidwaid, eu teulu a’u ffrindiau deimlo hynny hefyd.

Yn anffodus, rwy’n clywed yn aml gan fy etholwyr yr wyf yn cwrdd â nhw yn fy swyddfa a fy nghymorthfeydd bod hyn yn aml yn her. Yn wir, rwy’n meddwl ei bod yn ddiogel dweud mai cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yw un o'r materion sydd wedi codi amlaf yn fy ngwaith achos ers imi ddod yn AC ychydig dros flwyddyn yn ôl. Gall llawer o'r achosion hyn adael rhieni plant ifanc sydd ag anghenion eithaf cymhleth yn teimlo eu bod yn brwydro yn erbyn system nad yw’n gwbl o’u plaid. Felly, rwy’n croesawu’r egwyddor a geir yn y Bil hwn i roi anghenion y dysgwr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn gallu cael cymorth mewn lleoliad sy'n bodloni eu hanghenion unigol eu hunain, a bod systemau’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau eu bod bob amser yn gallu cael mynediad llawn at ddarpariaeth ar y lefel sy’n berthnasol i’w datganiad.

Rwy’n gwybod, o'r data cynhwysfawr a gynhwysir yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil, nad yw'r profiadau yr wyf wedi clywed amdanynt yn fy ngwaith achos yn rhai ynysig. Rwy’n gwybod y gallai pwyslais y Bil ar ddatblygu cynlluniau unedig, gan ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd, helpu i leihau'r profiadau gwrthwynebus y mae fy etholwyr wedi’u cael yn rhy aml, sef nhw yn erbyn y system. Mae materion eraill yr wyf wedi ymdrin â nhw yn ymwneud â diffyg cyfleoedd cymharol i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol pan eu bod yn gorffen addysg orfodol. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi cyfarfod â rhai rhieni gwirioneddol eithriadol sydd wedi ymladd yn galed i gael y cyfleoedd gorau posibl i'w plant. Ond dyma’n union beth yw’r pwynt; ni ddylent orfod ymdrechu a brwydro. Rwyf felly'n croesawu'r pwyslais yn y Bil ar greu system ddeddfwriaethol sengl sy'n cynnwys unigolion o enedigaeth i 25 mlwydd oed.

Ychydig fisoedd yn ôl cefais gyfarfod â Sense Cymru i drafod eu prosiect llwybr â chymorth i fod yn oedolion; efallai y bydd y Gweinidog yn gyfarwydd ag ef. Ei nod yw lleihau llawer o'r rhwystrau sy’n ymwneud â phontio, ac â’r symudiad sy’n wynebu pobl ifanc wrth iddynt gyrraedd oedolaeth. Mae llawer o arfer rhagorol y gallem ei gymryd o hyn. Mae her i sicrhau y gall yr egwyddorion yn y Bil ddod yn realiti, felly rwy'n gwybod y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei weithredu wedi’i ariannu’n iawn. Un o'r agweddau mwyaf niweidiol ar y ddarpariaeth yw lle nad yw addewidion yn cael eu cadw oherwydd diffyg cyllid, neu bod yr opsiwn rhataf yn cael ei ddewis dros y gorau. Rwy’n edrych ymlaen at sicrwydd y Gweinidog na fydd hyn yn digwydd yn y fan yma.

I gloi, mae'r Bil hwn yn cynnig cyfle i ni sicrhau bod y fframwaith ar gyfer darpariaeth ADY yng Nghymru yn canolbwyntio ar y dysgwr ac yn addas i'w ddiben. Rwy'n hapus i'w gefnogi, oherwydd ni ddylai’r rhieni a’r bobl ifanc a welaf yn fy swyddfa ac yn fy nghymhorthfa orfod disgwyl dim llai.

A gaf i ddatgan buddiant ar ddechrau'r ddadl hon fel llywodraethwr ysgol yn Ysgol Santes Ffraid yn Sir Ddinbych? Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei araith agoriadol. Rwy’n meddwl ei bod yn galonogol gwybod ei fod yn gwrando, nid yn unig ar bryderon y pwyllgorau, ond ar y llawer o randdeiliaid eraill sydd wedi bod mewn cysylltiad ag ef yn y misoedd diwethaf. A hoffwn estyn fy niolch iddo am ymgysylltu â mi fel llefarydd yr wrthblaid hefyd.

Mae hon wedi bod yn dasg anodd iawn i'r pwyllgor plant a phobl ifanc o ran edrych ar yr holl dystiolaeth. Rydym wedi cael, yn amlwg, llawer iawn o dystiolaeth, ond cawsom ein rhwystro, yn rhannol o ganlyniad i ddiffyg gwybodaeth amserol gan Lywodraeth Cymru mewn nifer o feysydd—yn gyntaf oll, cyhoeddi’r cod drafft yn hwyr fel nad oedd ar gael ar ddechrau'r broses graffu. Mae ansawdd gwael rhywfaint o'r wybodaeth ariannol, sydd eisoes wedi ei gyfeirio ato gan gadeirydd y Pwyllgor Cyllid—cafodd ei gywiro unwaith yn ystod y broses. Ers hynny, rydym wedi cael sylwadau pellach gan SNAP Cymru am gost datrys anghydfodau. Cawsom wybodaeth, yn ogystal, yn hwyr yn y dydd, am swyddogaeth yr arweinwyr clinigol addysgol dynodedig a faint o bobl eraill y gallai fod eu hangen i'w cefnogi yn eu gwaith, yn enwedig mewn byrddau iechyd mawr iawn. Ac rwy’n meddwl bod hynny wedi gwneud ein gwaith yn anoddach o ran ceisio deall bwriadau Llywodraeth Cymru, mewn sawl ffordd.

Hefyd, wrth gwrs, roedd diffyg gwybodaeth am y cynlluniau arbrofol. Clywsom dystiolaeth dda o Sir Gaerfyrddin fod pethau wedi gwella yno o dan y trefniadau newydd a oedd yn cael eu treialu, ond ni welsom unrhyw werthusiadau annibynnol o hynny o gwbl. Rydym yn gwybod y bu cynlluniau arbrofol eraill nad ydynt wedi eu cynnal eto, ac rwy'n meddwl bod y diffyg gwybodaeth am hynny wedi peri pryder. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr y byddwch yn derbyn argymhelliad 25, ac y byddwn yn cael mwy o wybodaeth am hynny yn y dyfodol.

Ond roeddwn eisiau cyffwrdd ar rai o'r pethau yr hoffwn eu gweld wedi’u gwella yn y Bil yn y dyfodol, ac rwy’n gwybod, fel y dywedais yn gynharach, bod y Gweinidog yn gobeithio bwrw ymlaen â’r rhain. Yn gyntaf oll, ar anghenion meddygol, rwy’n meddwl y gellid ac y dylid newid y diffiniad yn y Bil, ac rwy'n falch bod y Gweinidog yn fodlon gwrando ynglŷn â hynny, oherwydd rydym yn gwybod, er bod y Gweinidog wedi cyhoeddi rhai canllawiau statudol drafft ar gyfer anghenion meddygol a’u diwallu mewn ysgolion, nad yw’r canllawiau hynny’n ymestyn i'r blynyddoedd cynnar, ac nad ydynt yn ymestyn y tu hwnt i oedran ysgol gorfodol hyd at 25, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae'r Bil ADY yn gwbl briodol yn ei wneud. Felly, rwy’n poeni am hynny. Rwyf hefyd yn pryderu, yn ogystal, nad yw trefniadau cludiant o’r cartref i'r ysgol wedi bod yn ddigon amlwg naill ai yn y cod drafft—ac yn sicr nid ydynt yn ymddangos ar y Bil, ac efallai y gallai’r Gweinidog ddweud wrthym sut y mae'n disgwyl i hynny gael ei ystyried yn y dyfodol. Ond clywsom lawer o dystiolaeth am yr anghenion meddygol hynny, yn enwedig gan Diabetes UK, gan sefydliadau epilepsi, ac eraill, am anghenion penodol pobl yn yr ystafell ddosbarth—dysgwyr a all fod ag angen cymorth.

Yr ail beth y mae’n amlwg bod angen ymdrin ag ef yw gwneud iawn. Mae angen ymestyn y system gwneud iawn i gynnwys darpariaeth y gallai fod angen iddi fod ar waith gan y GIG. Roeddwn yn falch o glywed am y sgyrsiau sydd wedi bod yn digwydd o fewn y Llywodraeth ynghylch y ffordd orau o gyflawni hynny. Rwy'n meddwl bod y pwyllgor wedi’i berswadio’n glir y dylai fod gan y tribiwnlys bwerau i gyfarwyddo cyrff y GIG yn y dyfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod cymorth digonol ar gael ar gyfer dysgwyr sydd ag angen cymorth gan y GIG—unwaith eto, i gael yr un system gwneud iawn hon, yn hytrach na gorfod mynd drwy'r broses 'Gweithio i Wella', a all fod yn broses hir iawn i gleifion, ac yna system ar wahân o ran y tribiwnlys addysgol ar gyfer anghydfodau eraill.

O ran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, mae'n amlwg iawn bod cynsail wedi ei osod yn y Cynulliad Cenedlaethol yn y gorffennol, a gan Lywodraeth Cymru, wrth dderbyn diwygiadau i ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, sydd wedi rhoi cyfeiriadau at gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar wyneb y Ddeddf honno, gan gynnwys y confensiwn ar hawliau'r plentyn ac, yn wir, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Felly, ni allaf dderbyn, Gweinidog, eich bod yn gwrthod ein hawgrym y dylent fod ar wyneb y Bil ac y dylai pob un o'r sefydliadau hynny a fydd yn cael dyletswyddau yn y dyfodol o dan y ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol newydd roi ystyriaeth briodol i hynny. Rwy’n gobeithio’n fawr y gallwn eich perswadio, naill ai yn ystod Cyfnod 2 neu Gyfnod 3, i newid eich safbwynt er mwyn cynnig hynny, oherwydd mae'n rhaid i’r busnes hwn o gael dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer deddfwriaeth redeg drwy ein holl ddeddfwriaeth, ac, rwy’n meddwl, beth am ailadrodd y pethau hyn o bryd i’w gilydd ar ddarnau pwysig o ddeddfwriaeth, yn enwedig y rhai sy'n uniongyrchol berthnasol i blant a phobl ifanc?

Yn olaf, os caf i, ar y Gymraeg, rydym wedi gwneud rhai argymhellion allweddol am y Gymraeg, ac rwy’n gwybod eich bod eisiau gwella'r ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg. Mae'n rhaid i’r ddeddfwriaeth wneud mwy i bwysleisio dewis dysgwyr a dewis rhieni. Nid yw’r cydbwysedd yno ar hyn o bryd. Yn syml, mae'n golygu y caiff penderfyniadau eu gwneud, ar hyn o bryd, gan gyrff y GIG, ysgolion a sefydliadau addysg bellach, ac nid wyf yn meddwl bod hynny'n ddigon da. Felly, rwy’n edrych ymlaen at glywed y cyfraniad ar ddiwedd y ddadl.

A gaf innau ddatgan diddordeb fel llywodraethwr ysgol hefyd, ar y cychwyn fel hyn? Yn amlwg, mae Plaid Cymru wedi cefnogi’r alwad am ddeddfwriaeth o’r fath ers nifer o flynyddoedd, ac felly rydym ni am gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil y prynhawn yma. Ond nid yw hynny yn dweud, wrth gwrs, nad oes angen gwella a chryfhau’r Bil mewn mannau, fel sydd yn cael ei adlewyrchu yn adroddiad y pwyllgor. A lle mae yna 48 o argymhellion, mae’n amlwg bod yna dipyn bach o waith ar ôl i’w wneud i gael y Bil i lle byddem ni am ei weld e. Ac a gaf innau hefyd ategu’r diolch sydd wedi cael ei roi i’m cyd-Aelodau ar y pwyllgor, swyddogion y pwyllgor a’r cannoedd lawer o randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at y broses graffu hyd yma?

Rydw innau hefyd am rannu ychydig o’r rhwystredigaeth, tra’n cydnabod bod y Gweinidog wedi bod yn hapus iawn i eistedd i lawr a thrafod a rhannu gwahanol ddogfennau atodol gyda ni. Mae wedi bod yn rhwystredig, y modd darniog y mae nifer o’r rhain wedi dod ger ein bron ni. Mae’r Bil ei hun wrth gwrs, mi ddaeth y cod, mi ddaeth y canllawiau ar anghenion gofal iechyd wedyn ac mi ydym ni wedi cael gwahanol fersiynau o’r manylion cyllidol ac yn y blaen, ac rydw i’n teimlo nad dyma’r ffordd ddelfrydol i graffu ar Bil mewn gwirionedd.

O ran y gwelliannau, yn amlwg, o fewn ychydig funudau, mae’n amhosib gwneud cyfiawnder â phob un o’r 48 argymhelliad sydd yn yr adroddiad, ond mi fyddwn i’n ategu’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud ynglŷn ag ehangu’r diffiniad o ‘anghenion dysgu ychwanegol’ i gynnwys anghenion meddygol. Mae’n hynod bwysig bod anghenion meddygol disgyblion mewn ysgolion yn cael eu rheoli’n effeithiol a bod canllawiau manwl a chadarn ar gael i sicrhau bod hynny’n digwydd. Rwy’n cydnabod, ac yn falch, bod y Gweinidog wedi cyhoeddi’r canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol yn ystod y broses yma, ond mae yna gwestiynau, fel rydym ni wedi clywed, yn aros ynglŷn â dal yr ystod oedran llawn a fydd o fewn y Bil anghenion dysgu ychwanegol. Rydw i’n croesawu’r ffaith, wrth gwrs, fod y Gweinidog wedi ymrwymo i edrych eto ar ddiwygio’r diffiniad yn adran 2 o’r Bil i’w gwneud hi’n glir ar wyneb y Bil yma y bydd gan rywun angen addysgol ychwanegol os bydd ganddyn nhw gyflwr meddygol sy’n golygu bod ganddyn nhw anhawster dysgu sylweddol fwy na’r rhan fwyaf o bobl o’r un oed.

Rydw i’n meddwl ei bod hi’n gamgymeriad peidio â chynnwys y rhai sy’n ymgymryd â dysgu yn seiliedig ar waith, er enghraifft prentisiaethau, o fewn y Bil yma. Mae pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn fwy tebygol o gymryd y llwybr dysgu yma yn hytrach nag, efallai, parhau ar gyrsiau mwy academaidd. Rydw i’n clywed pwynt y Gweinidog, neu mae e wedi gwneud y pwynt yn y gorffennol, ei fod e ddim o reidrwydd eisiau tynnu’r sector breifat i fewn i’r Bil. Wel, y gwir yw, maen nhw’n derbyn arian cyhoeddus gan y Llywodraeth, wrth gwrs, i ddarparu’r gwasanaethau yma. Ar ben arall y sbectrwm oed, mae meithrinfeydd sector breifat sy’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru neu arian cyhoeddus yn cael eu cynnwys o fewn dyletswyddau’r Bil. Felly, fe fyddwn i’n awyddus i weld mwy o gysondeb yn hynny o beth.

Mae’n rhaid cytuno, wrth gwrs, gyda’r nod sydd wrth galon y Bil yma o greu cyfundrefn sydd wedi’i chanoli ar y person: system fwy tryloyw, haws i’w ymwneud â hi. Ond eto, mae’r Llywodraeth yn edrych i gadw dwy gyfundrefn gwbl ar wahân o apeliadau ar gyfer addysg ac iechyd. Rydw i’n clywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â pharhau â’r drafodaeth o gwmpas hynny, ond roedd hyd yn oed tystiolaeth y byrddau iechyd, i bob golwg, yn derbyn bod yna le i un tribiwnlys ac un system apelio, cyhyd â bod yr arbenigedd perthnasol yn rhan o’r broses honno, i sicrhau bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud ar y sail glinigol gywir.

Mae yna lawer o gyfeiriadau i’w croesawu at eiriolaeth yn y Bil, ac mi fuaswn i’n awyddus i fynd ymhellach. Mae yna sôn yn yr adroddiad ynglŷn ag edrych ar y cyfnodau pontio allweddol yna pan mae’n dod i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r gwasanaethau eiriolaeth, ac nid dim ond ar adegau pan fo torri lawr yn y broses neu pan fo anghydfod.

O ran y Gymraeg, rydw i yn teimlo bod y Bil wedi’i gryfhau. Rydw i’n meddwl bod yna le i fynd ymhellach. Mae yna sôn y byddai hi’n ddymunol darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn rhai llefydd yn y Bil. Wel, fe ddylem ni o leiaf ddweud bod yna ddisgwyl iddo fe gael ei ddarparu lle mae e ar gael. Ond, ar bwynt ehangach, ers degawdau rydym ni’n gwarafun nad oes y capasiti o fewn y gwasanaeth i ddarparu’r hyn y byddem ni ei eisiau drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sbectrwm o wasanaethau, ac rydw i yn teimlo—. Un awgrym rydw i wedi’i roi yw bod angen rhyw fath o gymal gwawrio, neu ‘sunrise clause’, yn y Bil. Ie, bod yn bragmataidd a dweud, ‘Lle y bo hi’n bosib, darparu’r gwasanaeth,’ ond erbyn rhyw bwynt penodol yn y dyfodol, dyweder mewn 10 mlynedd, yna mi fydd disgwyl bod y gwasanaethau yna ar gael. Rydw i’n meddwl y byddai hynny’n creu ‘impetus’ i weithredu’n bendant ar yr agenda yma unwaith ac am byth, a sicrhau bod y cynllunio gweithlu a’r hyfforddi angenrheidiol, ac yn y blaen, yn digwydd, yn lle ein bod ni yn dod nôl i fan hyn eto mewn 10, 20 mlynedd arall, gyda’r un gŵyn a’r un broblem.

Yn olaf, nid ydw i’n cytuno â’r Gweinidog ynglŷn â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Rydw i o’r un farn â gweddill aelodau’r pwyllgor a’r comisiynydd plant y dylid gosod dyletswyddau i roi sylw dyladwy i’r confensiwn ar wyneb y Bil. Mae’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn gwneud hynny. Mi fuasai peidio â gwneud hynny fan hyn yn anghyson ac yn anfon y neges anghywir am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau’r plentyn.

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno’r ddadl heddiw. Nid wyf i ar unrhyw un o'r pwyllgorau sy'n craffu ar y Bil hwn, ac mae'r materion sy'n cael eu codi wedi eu codi gan fy nghyd-Aelod Michelle Brown, sydd ar y pwyllgor addysg ac sy’n methu bod yma heddiw.

Mewn egwyddor, rydym yn cefnogi'r Bil. Mae cyflwyno CDU, cyn belled â’i fod wedi’i wneud yn iawn, yn syniad da. Fodd bynnag, i sicrhau cysondeb ar draws awdurdodau lleol, a wnaiff y Gweinidog gytuno â'r cais gan lawer o randdeiliaid i ddefnyddio CDU templed safonol sy'n berthnasol ar draws yr awdurdodau lleol ac felly’n gludadwy? Byddwn yn gobeithio y gwnaiff y Gweinidog gymryd camau i sicrhau bod gan yr unigolyn sy'n ysgrifennu'r CDU yr arbenigedd sydd ei angen i wneud hynny, a’r wybodaeth i ddod â'r gwahanol ddarparwyr gwasanaethau at ei gilydd i’w cydlynu.

Mae gan awdurdodau lleol ac ysgolion fel ei gilydd ddyletswydd i baratoi a chynnal CDU os ydynt o'r farn bod gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol, ond does dim sefyllfa ddiofyn, felly yn y pen draw, gallai awdurdodau lleol ac ysgolion fod yn chwarae ping pong gyda'r CDU. A wnaiff y Gweinidog ystyried gwneud naill ai'r awdurdod lleol neu'r ysgol yn bennaf gyfrifol am baratoi'r CDU, er mwyn atal unrhyw daflu baich o'r math sy'n peri cymaint o rwystredigaeth i’r cyhoedd wrth ymdrin ag adrannau cynghorau?

Oni bai bod gan yr unigolyn anabledd fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu bod ganddo lawer mwy o anhawster i ddysgu, ni fydd neb yn ystyried bod ganddo ADY. Mae hyn yn golygu nad yw plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau meddygol sy'n mynd â nhw allan o'r ystafell ddosbarth, neu’n effeithio fel arall ar eu haddysg, wedi’u cynnwys, ac mae hyn wedi bod yn bryder mawr a leisiwyd gan etholwyr. Felly, a fyddai’r Gweinidog cystal ag egluro pa ddarpariaeth a wneir ar gyfer y rheini sydd â chyflyrau meddygol nad ydynt yn gyfystyr ag anabledd ac nad ydynt yn cael llawer mwy o anhawster i ddysgu, ond bod eu cyflyrau meddygol yn effeithio ar eu dysgu mewn rhyw ffordd arall?

Rwy’n deall bod angen trothwy, ac mae'r diffiniad o 'anghenion dysgu ychwanegol' yn darparu hynny. Fodd bynnag, pa gymorth y bydd plant a phobl ifanc yn ei gael os ydynt ychydig bach o dan y trothwy hwnnw? Pa gefnogaeth a fydd ar gael i blant a phobl ifanc sy'n cael mwy o anhawster i ddysgu na'r plentyn neu'r person ifanc cyfartalog, ond nad oes ganddo anhawster sy’n sylweddol fwy—mewn geiriau eraill, na’r rhai yn y canol?

Soniodd Llyr am brentisiaethau. Mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod mor ymrwymedig i hyfforddiant galwedigaethol ag y mae i academia, ond felly mae'n ymddangos yn rhyfedd nad yw’r Bil yn cwmpasu prentisiaethau, a allai adael allan nifer fawr o bobl sydd ag ADY. Does bosib na ddylai'r Bil gael ei ymestyn i gwmpasu’r rhain, er y dylai'r cyfrifoldeb am y CDU fod gyda'r awdurdod lleol yn hytrach na'r cyflogwr, oherwydd byddai hynny'n anghymell creu prentisiaethau.

Rwy'n falch iawn bod yna ragdybiaeth o blaid addysgu plant a phobl ifanc ag ADY mewn ysgol brif ffrwd. Mae hwn yn gam ardderchog. Dylid cadw ysgolion arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu cael eu haddysgu mewn ysgol brif ffrwd er eu lles eu hunain, yn hytrach na’u defnyddio’n rhannol fel tir dympio ar gyfer plant neu bobl ifanc y mae’r ysgolion prif ffrwd yn meddwl bod eu haddysg yn dreth ar adnoddau. Efallai fod nodi y caiff awdurdod lleol drefnu ar gyfer rhoi darpariaeth dysgu ychwanegol y tu allan i ysgol yn gam ymlaen, ond o ystyried y ffaith nad oes rhaid i’r arfer hwn fod yn seiliedig ar ba un a yw er pennaf les y plentyn—mae gan yr awdurdod lleol ddisgresiwn llwyr—gallai’r awdurdod lleol, felly, gellid dadlau, ddosbarthu darpariaeth allan ar sail cost, ar draul y plentyn neu'r person ifanc. Felly, sut y bydd y Gweinidog yn ymdrin â’r broblem bosibl hon?

Rwyf hefyd yn croesawu'r ddyletswydd ar gyrff y GIG i ddarparu triniaeth feddygol. Gallaf ddeall pam nad oes amserlen benodedig wedi'i datgan, ond yn ddelfrydol dylai’r Bil ddatgan bod yn rhaid cydymffurfio â hon a dyletswyddau eraill a gwneud penderfyniadau o fewn amser rhesymol i ymdrin â'r amseroedd aros gormodol a adroddwyd gan rai rhieni plant a phobl ifanc ag ADY.

Yn olaf, ynglŷn â’r gweithdrefnau anghydfod. Er mai’r bwriad yw y bydd y Bil yn helpu i osgoi anghydfodau—ac yn amlwg, mae osgoi’n well na chael anghydfodau yn y lle cyntaf—bydd anghydfodau’n digwydd er hynny, ac eto mae'r llwybrau ar gyfer eu datrys yn dal i fod yn feichus.

Nawr, mae un neu ddau o bobl wedi sôn am berthynas y Bil â'r GIG. Nid oes gan y tribiwnlys addysg unrhyw awdurdod dros gyrff y GIG—nid oes gan y tribiwnlys unrhyw rym i orchymyn un o gyrff y GIG i ddarparu triniaeth neu i ystyried elfennau ar apêl sy'n ymwneud â'r GIG—felly, bydd yn rhaid i rieni ac eraill ddefnyddio proses ar wahân y GIG, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt ymwneud â dwy system apêl yn hytrach nag un. Sut y mae'r Gweinidog yn mynd i sicrhau bod y bobl sy'n apelio i'r tribiwnlys yn cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt allu sicrhau bod y tribiwnlys yn clywed yr holl wybodaeth berthnasol? Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau na all unrhyw elfen ar yr apeliadau hyn lithro i mewn i'r ether rhwng prosesau apelio addysg a’r GIG?

I grynhoi, rydym yn cefnogi’r Bil hwn, ond rydym hefyd yn pryderu y gallai diffyg staff a chyllid danseilio rhai amcanion da iawn a geir yn y Bil hwn.

Hoffwn groesawu’r ddadl hon yn gynnes iawn, ynghyd â'r egwyddorion arloesol a blaengar o fewn y Bil hwn ar gyfer y bobl ifanc yr ydym i gyd yn eu cynrychioli. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y gwaith cryf, cadarn a chydnerth yn hyn o beth, a hefyd am waith parhaus y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'i Gadeirydd, Lynne Neagle. Mae gan y Bil arloesol hwn, rwy’n credu, y potensial i fod cystal â rhai o’r pethau eraill a ddigwyddodd gyntaf yng Nghymru, fel y Ddeddf trawsblannu organau, y Ddeddf trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig a’r ddeddfwriaeth amgylcheddol arloesol. Bydd y Bil hwn yn ychwanegu at bortffolio o arloesi yng Nghymru ac mae ei angen o ran rhai o'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae'n hollol gywir, fodd bynnag, ein bod yn ei wneud yn iawn.

Bydd y Bil hwn yn cael effaith ar dros 100,000 o ddisgyblion ag ADY ac AAA—un o bob pump o ddisgyblion ledled Cymru—ac yn briodol, mae’n rhoi pwyslais ar gynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'n iawn bod y Bil hwn yn canolbwyntio ar anghenion y dysgwr, cryfhau llwybrau a fframweithiau, cynyddu ymwybyddiaeth o ADY a chynllunio, a gwella darpariaeth a chyflawni yn rhan o'r rhaglen weddnewidiol ehangach ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. Nid yw rhieni, gofalwyr a'n pobl ifanc yng Nghymru yn haeddu dim llai, ac mae'r effeithiau a ragwelir ac a ddymunir gan y Bil hwn yn sylweddol ac yn gadarnhaol. Er fy mod yn cydnabod hyn, mae’n rhaid inni hefyd gydnabod yr awydd i gynyddu arbenigedd a gwybodaeth ar draws y sector. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn ystyried yr angen i gynyddu i orfodi cymhwyster Meistr ar gyfer cydlynwyr ADY fel gofyniad hanfodol pan fyddai 'dymunol' hefyd yn cynnal cysondeb a gallu o fewn y sector? Felly, i gloi, rwy’n croesawu'r Bil arloesol hwn. Diolch.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeiryddion y pwyllgorau a'r Aelodau sydd wedi siarad y prynhawn yma. Rwy'n meddwl bod Lynne Neagle, yn ei sylwadau agoriadol, wedi dal hanfod yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni—rhaglen weddnewidiol sy'n gweddnewid bywydau unigolion, o ran eu profiad o addysg, ond hefyd gweddill eu bywydau, yn ogystal, ac mae'r sylw olaf yr ydym newydd ei glywed gan Rhianon Passmore rwy’n meddwl, unwaith eto, yn ail-bwysleisio pwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon mewn termau dynol, o ran yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni dros y bobl yr ydym yn eu cynrychioli. Ac roeddwn yn hoff iawn o’r sylwadau a wnaeth yr Aelod dros Gwm Cynon hefyd, sydd, rwy’n credu, yn cyfleu profiad llawer ohonom sydd hefyd yn ymdrin â'r materion hyn yn rheolaidd bob wythnos fel Aelodau etholaethol. Ac mae'n fater o ymdrin â'r materion hynny, brwydrau teuluoedd yn rhy aml i gael datganiad, ac i gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae’n rhaid i’r ddeddfwriaeth hon unioni’r brwydro a'r ymladd a'r ymgyrchu y mae'n rhaid i deuluoedd ei wneud yn rhy aml. Ac mae hynny'n golygu gwneud pethau'n iawn—nid dim ond ei wneud yn iawn er ein budd ni yma y prynhawn yma, ond ei wneud yn iawn ar gyfer cenedlaethau i ddod hefyd. Ac rwy’n adleisio'n gryf yr ymrwymiadau a wnaethpwyd gan Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma bod yn rhaid inni weithio'n galed gyda'n gilydd, ar y cyd, ar bob ochr i'r Siambr, er mwyn sicrhau bod gennym ddeddfwriaeth sy'n addas i’w diben, nid dim ond deddfwriaeth sy’n golygu ein bod yn gallu ennill pleidlais yma ac acw, ond deddfwriaeth a fydd yn gweithio ac yn gweddnewid bywydau pobl yn y dyfodol.

Gadewch imi ddweud ychydig eiriau am rai o'r sylwadau a wnaethpwyd a'r cyfraniadau a wnaethpwyd yn y ddadl. Mi wnaf ddweud, yn dawel iawn—ac rwy'n teimlo'n eithaf anfoesgar wrth wneud hynny—bod Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr, yn hael iawn â rhai o'i sylwadau am y dull yr ydym wedi’i ddefnyddio, ond rwyf am ddweud wrtho nad oedd y cod yn hwyr. Nid yw'r cod yn ffurfio rhan o'r gwaith craffu ar y ddeddfwriaeth hon, wrth gwrs. [Torri ar draws.] Ildiaf i chi mewn munud. Ond mae'r cod yno fel cymorth i graffu ar y Bil, ac ar y Bil yr ydym yn canolbwyntio ar hyn o bryd ac nid y cod, ac rwy’n pryderu weithiau, pan fyddwch yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol, sydd â’r nod o fod yn gymorth i graffu, bod pobl yn craffu ar yr wybodaeth ychwanegol honno yn hytrach nag ar y Bil ei hun. Ildiaf.

Rwy’n sylweddoli ac yn deall hynny’n llawn, Gweinidog, ac rwy'n ddiolchgar iawn ichi am ildio, ond y realiti yw, pan fyddwn yn wynebu atebion i'n cwestiynau, fel 'Beth am y mater hwn? Beth am y mater arall?', yr ymateb stoc a roesoch i'r pwyllgor oedd ‘Wel, bydd y mater hwn yn cael sylw yn y cod.' Wel, oni bai eich bod wedi cael golwg ar y cod, allwch chi ddim cael sicrwydd y bydd hynny mewn gwirionedd yn digwydd, a dyna beth yr oedd rhanddeiliaid yn galw amdano. Felly, mae cyflwyno’r cod hwnnw’n hwyr—. Yn y bôn, yr hyn yr wyf yn ei ddweud yw: dylai fod wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r Bil, er mwyn rhoi rhywfaint o ffydd inni nad yw’r materion hyn wedi eu colli.

Nid dyna’r ffordd yr ydym yn deddfu, wrth gwrs, ond rwy’n anghytuno â chi am yr ateb stoc. Nid oes unrhyw atebion stoc yn y Llywodraeth hon, Darren, fel atebion i gwestiynau sy'n cael eu gofyn, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod hynny. Ond gadewch inni symud ymlaen.

Y broses sy'n bwysig. Y rhaglen weddnewidiol, y mae’r Bil hwn yn rhan ohoni, yw'r elfen allweddol absoliwt o’r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni heddiw. Ac rwy’n meddwl eich bod chi yn eich sylwadau, ac rwy’n meddwl bod Llyr ac eraill hefyd, wedi sicrhau ein bod wedi canolbwyntio ar y rhaglen weddnewidiol honno. Byddwn yn sicrhau bod cyllid ar gael—ac rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaeth Simon Thomas yn ei gyfraniad—i dalu costau gweithredu, ond hefyd—a hwn yw’r pwynt allweddol, rwy’n meddwl—nid dim ond i dalu costau sylfaenol gweithredu'r ddeddfwriaeth, ond hefyd i ddarparu'r cyllid a'r adnoddau i gyflwyno'r rhaglen weddnewidiol ehangach hefyd. Ac mae hynny’n golygu buddsoddi mewn pobl, buddsoddi yn y gweithlu, buddsoddi mewn datblygu'r gweithlu—yr union bwyntiau yr oedd Llyr yn eu gwneud am y Gymraeg, ac rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaethoch am yr iaith. Rwy’n cydnabod, fel chithau, bod gwelliant sylweddol wedi'i wneud i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu darparu mewn ffordd fwy sylweddol a ffordd fwy cynhwysfawr nag sydd wedi’i awgrymu o'r blaen. Rwy’n hoff o’ch syniad o gymal machlud. Mae'n well gen i wawr, ond mae'n ddigon posibl, er na allwn gytuno ar yr adeg o'r dydd, y gallwn gytuno ar yr egwyddor o sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaethau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond gadewch imi ddweud hyn. Gallaf weld bod amser yn symud ymlaen. Rwyf eisoes wedi cadarnhau na fyddaf yn cynnig penderfyniad ariannol heddiw, ond byddaf yn ei ailgyflwyno ar ôl toriad yr haf, ar ôl cyhoeddi'r asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig. Byddaf hefyd yn rhoi ymrwymiad i Aelodau y byddaf yn parhau â’r sgyrsiau a gawsom. Mae nifer o Aelodau wedi codi materion penodol. Byddaf yn siarad â llefarwyr y pleidiau, ac â'r pwyllgorau, cyn inni osod gwelliannau'r Llywodraeth i'r Bil hwn. A byddaf, lle bynnag y bo modd, yn ceisio sicrhau bod sgwrs yn digwydd er mwyn sicrhau bod y gwelliannau yr ydym yn eu gosod yn welliannau sy'n adlewyrchu'r ddadl a gawsom y prynhawn yma, a’r broses graffu y mae pob un o’r tri phwyllgor wedi ymgymryd â hi.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwyf hefyd am ddweud, i gloi, wrth Huw Irranca-Davies, ac adroddiad y pwyllgor CLA, fy mod wedi treulio llawer o flynyddoedd ar CLAC, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ac mae’r profiad hwnnw wedi fy ngadael bron yn methu â gwrthod derbyn yr argymhellion. Ond byddaf yn ceisio sicrhau ein bod yn symud tuag at ymagwedd fwy cadarnhaol, pan fo hynny'n bosibl o gwbl. Ac yn sicr, o ran y cod—a myfyrio ar y sylwadau a wnaeth Darren Millar yn ei ymyriad ac yn ei sylwadau cynharach—byddwn yn sicrhau, pan fydd gennym y ddeddfwriaeth ei hun, y byddwn wedyn yn ymgymryd â phroses o graffu ar y cod hefyd.

A bydd hynny’n sicrhau nid yn unig ein bod yn cael y ddadl a'r drafodaeth am ddeddfwriaeth—am y ddeddfwriaeth sylfaenol—ei hun, ond yna o ran ei rhoi ar waith—. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaethpwyd ar bob ochr i'r Siambr ynglŷn â gweithredu, a bydd gennym, gan gymryd pwynt Gareth Bennett am dempled CDU—byddwn yn bwrw ymlaen â’r mathau hynny o faterion, a byddwn yn sicrhau bod amser ar gael, gyda’r wybodaeth y mae Simon Thomas wedi gofyn amdani ac y mae’n ei disgwyl, ac y mae ganddo’r hawl i'w disgwyl, ac yna bydd cyfle i graffu ymhellach ar y cod. Mae angen i hynny fod yn amserol—yn amserol o safbwynt y pwyllgorau hefyd; dywedaf hynny’n glir iawn, iawn—ond bydd hefyd yn sicrhau bod y Llywodraeth hon yn cyflwyno darn o ddeddfwriaeth, a bod y Cynulliad hwn wedyn yn deddfu darn o ddeddfwriaeth a fydd yn cyflawni ein holl uchelgeisiau sydd wedi eu disgrifio mewn gwahanol ffyrdd, ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. 6. Cynnig i Dderbyn y Penderfyniad Ariannol mewn cysylltiad â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau na fydd e’n cynnig y penderfyniad ariannol ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), felly symudwn i’r eitem nesaf.

6. 7. Dadl: Yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.

A’r eitem hon yw’r ddadl ar adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru. Ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i wneud y cynnig, Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6321 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod yr adroddiad Tirweddau’r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru wedi’i gyhoeddi.

2. Yn cytuno bod Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yn chwarae rhan allweddol:

a) fel lleoedd gwerthfawr ar gyfer natur ac fel lleoedd sy’n creu budd i’r cyhoedd a budd preifat drwy wahanol wasanaethau; a

b) o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a chefnogi cymunedau gwledig bywiog.

3. Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, sydd ynghlwm wrth y syniad o fro, sydd wrth wraidd hunaniaeth cymuned a’r modd y mae llawer o bobl yng Nghymru'n mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i le penodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â’r cyfraniad y mae ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a’n parciau cenedlaethol yn ei wneud i Gymru. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cwmpasu bron i chwarter tir Cymru, ac mae'r ddadl yn ymwneud â sut y gallant, a bod yn rhaid iddynt, gyflawni mwy. Mae gan bob tirwedd ei gwerth arbennig i bobl. Mae tirwedd yn creu ac yn cynnal yr ymdeimlad o gynefin i’n cymunedau, ar gyfer y bobl sy'n byw ac yn gweithio ynddynt, ac i'r rhai sy'n ymweld â hwy.

Ar 9 Mai, cyhoeddais 'Tirweddau’r Dyfodol: yn Cyflawni dros Gymru', ar ran y bartneriaeth eang sydd wedi cyfrannu at ei ddatblygiad. Mae'r cyhoeddiad yn nodi cyflawniad yr adolygiad a fu ar dirweddau dynodedig, a bydd yn arwain y ffordd bellach at ymagwedd newydd ar gyfer cyflawni. Mae'n adeiladu ar sail gadarn y ddeddfwriaeth amgylcheddol yr ydym wedi ei sefydlu, drwy gyfrwng Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Mae'r adolygiad wedi ei gynnal mewn dau gyfnod cysylltiedig ond gwahanol i’w gilydd. Ymgymerwyd â’r cyfnod cyntaf gan banel annibynnol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Terry Marsden. Cafodd yr ail gyfnod—gydag agwedd partneriaeth ehangach iddo—ei gadeirio gan Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, dan y teitl Tirweddau Dyfodol Cymru, a hoffwn nodi’n ffurfiol fy niolch i Dafydd a'r holl grŵp am eu gwaith.

Mae adroddiad swmpus yr Athro Marsden, a’i argymhellion, yn rhoi sylfaen werthfawr i raglen Tirweddau Dyfodol Cymru, a oedd yn gallu myfyrio ar yr adolygiad cychwynnol hwn a hynny ar adeg pan oedd y Ddeddf lles cenedlaethau'r dyfodol a'r Ddeddf Amgylchedd (Cymru), wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru. Mae'r cynnig a ddatblygwyd gan Tirweddau Dyfodol Cymru yn rhoi’r tirweddau a ddynodwyd ar lwybr i hybu rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol o fewn eu hardaloedd, a’r tu hwnt i'w ffiniau presennol.

Ers cyhoeddi'r adroddiad, bu llawer o drafod ar egwyddor Sandford, ac mae hi'n cael ei chrybwyll yn un o'r gwelliannau i gynnig heddiw. Mae'r egwyddor hon yn berthnasol i ddau ddiben presennol y parciau cenedlaethol, sef gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol, a hyrwyddo cyfleoedd i fwynhau'r ardal. Daeth yr egwyddor i'r amlwg yn yr adolygiad o'r parciau cenedlaethol yn 1974, ac mae bellach wedi’i hymgorffori yn y ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer parciau cenedlaethol drwy Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i roi mwy o bwyslais ar ddiben cadwraeth pan ei bod yn ymddangos bod gwrthdaro â dibenion hamdden. Nid yw hynny’n golygu mai diben cadwraethol yw diben pwysicaf ein parciau cenedlaethol na’i bod yn ofynnol i gymhwyso’r egwyddor hon ym mhob penderfyniad.

Rwy’n ddiysgog yn fy ymrwymiad i sicrhau y bydd ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a pharciau cenedlaethol yn ardaloedd a fydd yn parhau i gael eu gwerthfawrogi am eu harddwch naturiol, gyda chymunedau bywiog a chydnerth , cyfleoedd ar gyfer hamddena yn yr awyr agored ac ecosystemau toreithiog.

Cyflwynodd adroddiad Marsden y syniad o Sandford a mwy. Yr hyn y mae adroddiad 'Tirweddau’r Dyfodol' yn ei argymell yw ystyried swyddogaeth ehangach i’r tirweddau a ddynodwyd drwy symud ymlaen o fod â dyletswyddau cul sy’n cystadlu â’i gilydd i rywbeth llawer mwy cyfannol. Ar yr un pryd, mae'n awgrymu bod angen rhoi mwy o bwys ar rinweddau arbennig yr ardaloedd hyn wrth wneud penderfyniadau a fydd yn cynyddu’r union rinweddau sy'n eu gwneud yn unigryw ac yn annwyl yn ein golwg.

Rydym eisoes wedi cyflwyno egwyddorion i gyfraith Cymru drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’n hadnoddau naturiol gael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cynnal ac yn cynyddu cydnerthedd ein hamgylchedd. Mae gan yr egwyddorion cadarn hyn, ynghyd â'r cynigion yn 'Tirweddau’r Dyfodol', yn fy marn i, y potensial i fod yn Sandford a mwy, a mwy.

Mae adnoddau ac ecosystemau naturiol Cymru yn sylfaen i bob agwedd ar ein llesiant, gan gynnwys ein ffyniant, ein hiechyd a’n diwylliant. Rydym yn dibynnu ar adnoddau naturiol sy’n gweithredu’n gywir i roi bwyd, dŵr glân ac awyr iach a hamdden inni, ac maen nhw’n darparu ar gyfer aml i fusnes twristiaeth. Mae ein 'Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol' gyntaf ar gyfer Cymru yn tynnu sylw at faterion yn yr holl ecosystemau, o ran eu cydnerthedd a'r manteision y maen nhw’n eu darparu. Nawr mae gennym yr her bellach o’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, sy'n achos cynnwrf mawr yn y sectorau allweddol sy’n ffurfio’r defnydd o adnoddau naturiol. Mae saith deg y cant o’r twristiaid sy’n ymweld â Chymru yn dweud mai mwynhau'r dirwedd yw’r rheswm am eu hymweliad. Mae tirweddau eraill yn arbennig yng ngolwg unigolion neu gymunedau, gan atgyfnerthu’r ymdeimlad hwnnw o berthyn i le penodol. Mae tirweddau o'r fath yn cynnwys ein parciau trefol yn ogystal â'n mynyddoedd a’n haberoedd ysblennydd. Mae'n bwysig iawn bod yr ardaloedd hyn, a'r ffordd y maen nhw’n cael eu rheoli, yn chwarae rhan hanfodol yn y defnydd cynaliadwy o'n hadnoddau naturiol fel sylfaen i ffyniant a lles yn y dyfodol.

Mae 'Tirweddau’r Dyfodol' wedi bod yn rhywbeth cydweithredol iawn, gan ddod â grŵp o sectorau amrywiol ac eang at ei gilydd sy'n aml yn arddel barnau gwrthwynebus ar yr hyn y dylai tirwedd ddynodedig fod. Agwedd Llywodraeth Cymru tuag at yr adolygiad oedd agor y drws i ffordd newydd ac arloesol o ddatblygu agenda strategol ar gyfer tirweddau dynodedig, ac rwy'n credu'n gryf bod cyfranogiad llawn y partneriaid yn hanfodol o ran darparu ymateb cadarnhaol i'r heriau a nodwyd, hyd yn oed os yw hynny’n anodd ar adegau. Y cam nesaf yw cyflawni'r uchelgais yn yr adroddiad, nid ar ein pennau ein hunain, ond drwy rymuso’r dull cydweithredol yr ydym wedi ymrwymo iddo.

Rwyf eisoes wedi dechrau arni drwy ymgynghori ar gynigion i leihau costau gweinyddol awdurdodau parciau cenedlaethol sy’n ymwneud ag archwilio, a maint y bwrdd ym Mannau Brycheiniog. Byddaf yn gwneud penderfyniad ar sut i symud ymlaen pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben ddiwedd y mis hwn. Byddaf hefyd yn ymgynghori ar ba un a ellid newid deddfwriaeth mewn ffordd ddefnyddiol i gefnogi argymhellion yr adroddiad. Bydd angen i’r ymgynghoriad hwn ystyried faint o ddylanwad a ellid ei roi i bwysigrwydd yr ardaloedd hyn a'u hecosystemau wrth wneud penderfyniadau, a pha un a ddylai trefniadau llywodraethu esblygu er mwyn adlewyrchu amgylchiadau lleol.

Bydd unrhyw newid sylweddol i'r ddeddfwriaeth ar barciau cenedlaethol yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae parciau cenedlaethol yn faterion datganoledig, a’r man cywir ar gyfer cyflwyno a chraffu ar ddeddfwriaeth o'r fath yw yn y Cynulliad hwn. Bydd Dafydd yn parhau ei gysylltiad â Thirweddau’r Dyfodol, a’i swyddogaeth fydd llywio partneriaeth genedlaethol eang i gymryd perchnogaeth o weithredu'r blaenoriaethau. Mae cyfarfod o'r partneriaid i’w drefnu ar gyfer mis nesaf.

Mae'r adolygiad yn cyflwyno swyddogaeth gyfoes i dirweddau dynodedig, wedi’i gosod o fewn fframwaith deddfwriaethol newydd yng Nghymru, lle caiff ein tirweddau dynodedig eu gwerthfawrogi, nid yn unig am eu harddwch naturiol, ond fel mannau ffyniannus a bywiog sy’n cefnogi cymunedau byrlymus a chydnerth. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfraniadau’r Aelodau.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Simon Thomas i gynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu nad yw'r adroddiad yn ymdrin ag Egwyddor Sandford fel y'i nodir yn Neddf yr Amgylchedd 1995.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu Parciau Cenedlaethol fynd trwy'r Cynulliad fel deddfwriaeth sylfaenol.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae’n dda gennyf weld ein bod wedi cyrraedd o’r diwedd drafodaeth ar yr adroddiad hir arfaethedig yma, ac rwy’n edrych ymlaen at y ffaith bod yr awr sydd gennym ni heddiw dim ond yn gychwyn ar y drafodaeth sydd ei hangen. Achos, fel mae’r Gweinidog newydd amlinellu, rwy’n meddwl bod angen ymgynghori’n ehangach ar y materion hyn, a bydd angen tipyn o drafod arnynt.

Mae’n siŵr fel nifer o Aelodau eraill, rwyf wedi derbyn dros 300 o e-byst erbyn hyn yn pryderu am natur yr adroddiad yma. Rwy’n credu mai’r broblem sydd gennym ni, efallai jest ar gychwyn y drafodaeth, yw bod yna gynifer o randdeiliaid sydd wedi cael eu disgrifio gan y Gweinidog fel rhan o’r broses yn amlwg yn teimlo nad ydyn nhw’n rhan o’r broses. Rwy’n credu bod angen mynd i’r afael â hynny yn y man cyntaf. Felly, rwy’n edrych ymlaen at glywed beth fydd yr allbwn a’r canlyniad o gyfarfod nesaf y grŵp yma sy’n dal yn mynd i gael ei gadeirio, rwy’n cymryd o ddatganiad y Gweinidog heddiw, gan yr Aelod Dafydd Elis-Thomas.

Mae’r ddau welliant gan Plaid Cymru yn ceisio crisialu a rhoi goleuni ar y materion hyn a fydd angen eu datrys ac angen i ni benderfynu arnyn nhw. Wrth gynnig y ddau welliant yma, nid ydym mewn unrhyw ffordd yn tanseilio’r angen i drafod hyn. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni gofio bod y gwahanol ddeddfwriaeth sydd y tu ôl i’r parciau cenedlaethol, ac yn wir ardaloedd o harddwch eithriadol hefyd, yn deillio cyn datganoli. Mae’n gwbl briodol ein bod ni’n ailedrych ar yr egwyddorion a’r ymagwedd tuag at gadwraeth tirwedd. Rwy’n teimlo bod y dirwedd rwy’n byw ynddi mor bwysig i fi a thirwedd unrhyw barc cenedlaethol, ac mae’n bwysig ein bod ni’n gweld hynny yn cael ei adlewyrchu drwy Gymru gyfan.

Felly, dylai’r ddeddfwriaeth gael ei hadolygu, ac yn sicr yn sgil datganoli, ac yn sicr yn sgil Deddf yr amgylchedd a Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, mae cyfle nawr i weld pa rôl sydd gan y parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i’w chwarae yn y ffordd rydym yn datblygu ein cenedl a defnyddio ein hadnoddau naturiol ni. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, rydym yn croesawu’r ffaith bod y gwaith yma yn cael ei wneud ac yn cael ei barhau.

Mae’n ffaith bod yna egwyddor, fel sydd wedi cael ei grybwyll gan y Gweinidog—egwyddor Sandford—sydd wedi ei chrisialu yn fwy penodol yn Neddf Amgylchedd 1995, sy’n cael ei chyfeirio ati yn ein gwelliant cyntaf ni, sydd angen ei thrafod, sydd angen penderfynu arni, ac sydd angen gwneud yn sicr bod pob un yn hapus gyda’r cyfeiriad rydym yn ei gymryd wrth fynd ymlaen. Yn sicr, ar hyn o bryd, nid yw pob corff cadwraeth na phob corff dringo mynyddoedd neu ddefnyddio tirwedd ar gyfer hamdden yn hapus eto gyda’r drafodaeth rydym wedi ei chael hyd yma.

Rydym wedi mynd o adroddiad Marsden a oedd yn trafod yr egwyddor yma ac yn moyn, os rhywbeth, hyrwyddo’r egwyddor yn fwy, i bapur nad yw’n trafod yr egwyddor o gwbl, ond sy’n cymryd dynesiad cwbl wahanol a dweud y gwir at y peth. Mae’n rhaid, rhyw ben, cysoni’r ddau beth yma.

Mae’r ail welliant sydd gennym ni yn ailddatgan y ffaith gyfreithiol. Mae’n siŵr bod y Gweinidog yn cydnabod bod unrhyw newid i lywodraethiant parciau cenedlaethol neu egwyddorion craidd y parciau cenedlaethol angen deddfwriaeth gynradd fan hyn. Pwrpas cynnig y gwelliant, yn syml iawn, yw rhoi’r sicrwydd yna i’r bobl sy’n dilyn y ddadl, sy’n ymddiddori yn yr adroddiad, sy’n ymddiddori yn nhirwedd gynhenid a hardd Cymru, y bydd yna drafodaeth drylwyr gan bwyllgorau, gan ‘Plenary’, gan y Cyfarfod Llawn, gan bawb, cyn y byddem ni yn newid y ddeddfwriaeth.

Bu tipyn o ymateb i’r adroddiad ar ôl iddo gael ei gyhoeddi gan bobl sydd wedi camddeall bod yr adroddiad rhywsut yn awgrymu bod y newid yn digwydd heddiw, yn y drafodaeth heddiw—nid dyna beth sy’n digwydd. Ond, rydym yn cychwyn, gobeithio, ar sgwrs genedlaethol ynglŷn â rôl tirweddau hardd Cymru—tirweddau y mae pob un yng Nghymru â’r hawl i barchu, sef y dirwedd y maen nhw’n byw ynddi, a’r ffaith bod yn rhaid inni weld datblygiad sy’n gydnaws â’r dirwedd er mwyn inni sicrhau bod gennym ni gymunedau byw ym mhob rhan o Gymru ac nad ydym yn troi unrhyw ran o Gymru yn rhyw fath o gymuned mewn asbig. Nid oes yr un ohonom ni’n dymuno gweld hynny.

Ond, mae’r her sy’n wynebu’r Llywodraeth yn cael ei grisialu i fi gan ymateb a gefais i gan RSPB Cymru, ac rwyf am ddyfynnu ohono i gloi, gan ei fod yn tanlinellu pa mor anodd fydd rhai o’r trafodaethau rydym angen eu cael ar y mater yma. Rwy’n dyfynnu yn Saesneg, fel y cafodd ei dderbyn gennyf. Mae’n mynd fel hyn:

‘Our gravest concern is that the report explicitly recommends the need to create new laws that will re-purpose National Parks and AONBs, and even worse, it presents this as the view of the working group.’

A dyna’r pwynt rydw i eisiau ei bwysleisio.

‘This is absolutely not RSPB Cymru’s view and we believe it was not the view of the working group either. The group did not identify the current legal objectives of designated landscapes as a key barrier to sustainably managing our natural resources, but rather the group proposed that the focus should be on using the frameworks set out by the Environment Act and Well-being of Future Generations Act. We do not recall the group discussing the Welsh Government’s new proposal to legislate on the purposes…in any detail at all. This means that we feel the published report does not accurately represent our views.…We are unhappy therefore that the Welsh Government’s view that there is a need for new legislation is still being represented as endorsed by the group.’

Rydw i’n dyfynnu hynny dim ond i ddangos bod yna dipyn o drafod a thipyn o gytuno eto i’w gwneud ar y materion hyn.

A gaf i ddweud ein bod yn fodlon i nodi'r adroddiad, ac rydym yn gobeithio y bydd yn dechrau proses o ddatblygu polisi sy'n diogelu ein tirweddau dynodedig gan weld eu potensial economaidd, diwylliannol a chymdeithasol ehangach yn cael eu hymestyn? Rwy'n credu bod honno'n ffordd briodol o symud ymlaen.

Mae'r adroddiad yn nodi cynnig newydd ar gyfer tirweddau dynodedig i fynd y tu hwnt i'w dibenion cadwraeth ac amwynder cyfredol, ond mae'n gwneud hyn, fel y clywsom ni, heb unrhyw ailddatgan o egwyddor Sandford, yn wahanol i adroddiad Marsden, ac mae hynny wedi bod yn eithaf dadleuol fel y mae’n digwydd. Yn wir, yn ei ddatganiad o weledigaeth, nid yw'r adroddiad yn sôn am gadwraeth o gwbl ac eto, rwy’n credu er y gallai rhai ddweud ein bod wedi symud ymlaen i gysyniadau a geirfa ehangach, mwy cynhwysol, rwy'n dal i gredu bod cadwraeth yn rhan bwysig. Gan ddatgan ei weledigaeth ar hyn o bryd,

Mae Cymru yn wlad sy’n gwerthfawrogi ei thirweddau am yr hyn y maen nhw’n ei gyfrannu i bobl Cymru a thu hwnt. Mae tirweddau dynodedig Cymru yn cyfrannu o fewn a thu hwnt i'w ffiniau i gynyddu eu hadnoddau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol; gan gyfrannu’r manteision lles mwyaf i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol wrth loywi yr union rinweddau sy'n eu gwneud yn unigryw ac yn annwyl yn ein golwg.

Nawr, gallwch ddod i’r casgliad bod cadwraeth yn rhan o hynny, rwy’n derbyn, ond rwy’n credu y byddai wedi tawelu meddyliau llawer yn y cyfnod hwn o newid pe byddem wedi sôn am gadwraeth yn uniongyrchol. Mae'r adroddiad yn troi’n gyflym at dynnu ar yr hyn y mae'n ei ystyried yn graidd adroddiad Marsden, sef, ac rwy’n dyfynnu eto,

“hyrwyddo" dyletswydd gyfredol y Parc Cenedlaethol i roi ystyriaeth i les economaidd-gymdeithasol yr ardal yn un o'i ddibenion, a chymhwyso yr un dibenion hynny ar gyfer AHNE.

Er nad oes unrhyw beth o'i le ar yr ymagwedd hon, mae angen cydbwyso hynny, yn fy marn i, gydag egwyddor Sandford, a mynegiant clir o werth cadwraeth. Nawr, fe glywais yr hyn a ddywedodd y Gweinidog wrthym ni yn ei hanerchiad agoriadol yn y ddadl hon, ac fe wnaeth hi gyfeirio at Sandford a hyd yn oed ddyfeisio neu ddisgrifio rhywbeth y mae’n dymuno ei alw yn Sandford a mwy, a mwy. Nid oes gennyf broblem fawr gyda chi’n ymestyn ystod y pethau sydd bellach yn cael eu mynegi fel bod o fewn cwmpas y dibenion, ond, ar y funud, cadwraeth yw'r prif ddiben. Dyna beth mae egwyddor Sandford yn ei olygu. Mae’n rhaid i chi eich holi eich hun pan fo gwrthdaro gydag un o'r dibenion eraill—yn aml, nid oes gwrthdaro, ond pan fo hynny’n digwydd, cadwraeth sydd â’r flaenoriaeth o ran llywodraethu, ac mae'n rhaid i chi holi eich hun—‘beth yw’r pwynt o ddynodi tirweddau os nad yw’r egwyddor honno o gadwraeth wrth wraidd hynny?’ Fel arall, fe fydden nhw yn union yr un fath â phob tirwedd arall, gan gael eu gwarchod yn helaeth gan ddeddfwriaeth, rwy’n cyfaddef, ond mae eu gwneud yn ardaloedd arbennig, rwy’n credu, yn awgrymu ein bod yn meddwl bod y cysyniad hwn yn un pwysig iawn a chadwraeth wrth ei wraidd.

Nid wyf yn credu bod problem fawr o ran cyflawni’r cydbwysedd y mae'r Llywodraeth a'r adroddiad—ac rwyf innau’n diolch i Dafydd Elis-Thomas am gynhyrchu’r gwaith hwn gyda'i grŵp. Mae’r cysyniadau twf gwyrdd a'r economi gylchol, yn ogystal ag adeiladu ar sylfeini deddfwriaethol defnyddiol iawn fel y Ddeddf amgylchedd a Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol, rwy'n credu, yn mynd i’n harwain at gonsensws cyffredinol, ond nid yw hynny gennym eto, ac rwy’n credu bod Simon yn llygad ei le wrth dynnu sylw at hynny. Ac mae sylwadau niferus wedi’u cyflwyno i bob un ohonom. Megis dechrau'r ddadl hon ydym ni, rwy’n sylweddoli hynny, ond credaf ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru nodi'r angen i wneud datganiad clir. Sandford yw’r conglfaen ers y 1970au, ac rwy'n credu bod angen i chi fynegi eich barn yn glir iawn ar hynny. Rwy'n credu mai cadwraeth sydd wrth wraidd bodolaeth yr ardaloedd hyn fel cyrchfannau poblogaidd iawn i dwristiaid, yn ogystal â bod yn fannau i hamddena sy’n hynod boblogaidd, gyda thri chwarter ohonom ni’n ymweld â pharc cenedlaethol o leiaf unwaith y flwyddyn.

A gaf i orffen drwy sôn am gyfranogiad ac atebolrwydd llywodraethu? Rwy'n falch fod y materion hyn yn cael sylw oherwydd bod hynny’n angenrheidiol a chyfeiriaf hefyd at yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur a'r egwyddorion ar gyfer llywodraethu effeithiol sydd wedi’u llunio. Mae'r egwyddorion hyn yn ystyried deialog, llais, cyfranogiad a cheisio consensws yn bethau pwysig ac rwyf yn credu bod angen iddynt fod wrth wraidd rhai o'r datblygiadau. Fy unig feirniadaeth hyd yn hyn o’r adroddiadau hyn yw nad yw’r alwad am lais, deialog, ac yn y blaen, wedi edrych yn ddigon manwl mewn gwirionedd ar gymunedau a dinasyddion lleol. Mae'n edrych yn hytrach tuag at sefydliadau a haenau Llywodraeth ac rwyf yn credu bod angen edrych ar gymunedau a'u dinasyddion.

A gaf i ddweud er ein bod ni am gefnogi'r cynnig, ein bod hefyd yn cefnogi’r ddau welliant? Os oes unrhyw newid deddfwriaethol i fod, yna rwy'n credu bod angen iddo ddigwydd drwy ddeddfwriaeth sylfaenol. Roeddwn yn falch o glywed sicrhâd y Gweinidog ar hynny. Ond, wrth gwrs, mae’r hyn sy’n golygu newid deddfwriaethol mawr sydd angen ei hoelio i lawr ynddo’i hun ac ni fyddwn yn hoffi gweld newidiadau llai yn mynd yn un newid mawr, ond yn cael ei gynnal neu ei gyflawni drwy ddeddfwriaeth eilaidd. Rwyf i yn credu bod angen iddo ddod yn ei ôl yma os bydd newid mawr yn y polisi ar gyfer deddfu sylfaenol. Diolch.

A gaf i ychwanegu fy llais at y rhai sy'n mynegi’r gwerth amlwg iawn y mae pobl Cymru ac, yn wir, ymhell y tu hwnt i Gymru, yn ei roi ar ein hawyr agored? Mae'n amlwg fod hyn yn bwysig iawn mewn llawer ffordd i’n gwlad ac rydym yn ffodus iawn o gael y fath dirwedd ddeniadol, ac yn wir y morlun sydd gennym. Mae'n amlwg fod hyn yn bwysig iawn o ran twristiaeth, a thwristiaeth gweithgaredd yn rhan o hynny, ac o ran ansawdd bywyd yn gyffredinol, y lles a’r iechyd corfforol a meddyliol y mae pobl Cymru yn ei fwynhau, yn rhannol oherwydd gwerth ein cefn gwlad, ein hamrywiaeth o olygfeydd a phopeth y mae hynny’n ei ychwanegu at ein bywydau beunyddiol. Felly, nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom ni, nac unrhyw un o bobl Cymru, mewn unrhyw amheuaeth o ran gwerth ein hawyr agored ac, fel rhan o hynny, wrth gwrs, yn enwedig o ran y ddadl heddiw, y tirweddau dynodedig.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn moderneiddio ein hymagwedd at y materion hyn, fel yr ydym wedi clywed eisoes, oherwydd er mor bwysig yw’r tirweddau dynodedig, mae llawer sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf sy'n rhoi gwerth ar y dull datblygu cynaliadwy o ran Cymru gyfan , ac, wrth gwrs, mae llawer o rannau gwych o'n gwlad y tu allan i'r tirweddau dynodedig. Rwy'n gwybod y bydd yn rhan bwysig o waith Llywodraeth Cymru, a gwaith sefydliadau eraill yn y maes hwn, wrth symud ymlaen, i ddeall y dull gweithredu ehangach hwnnw. Ond, serch hynny, wrth gwrs, mae'r tirweddau dynodedig wedi cael, ac yn cael eu cydnabod fel rhai sy'n arbennig o werthfawr oherwydd ansawdd y dirwedd a'r morlun a'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig. Mae’r gwerth hwnnw yn berthnasol i ddatblygu cynaliadwy a'r holl elfennau. Felly, mae'n bwysig iawn, iawn yn amlwg ar gyfer yr economi, ar gyfer bywyd cymdeithasol yng Nghymru ac ar gyfer yr amgylchedd.

Felly, yn y cyd-destun hwnnw, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, iawn i ni gymryd sylw o'r pryderon yr ydym eisoes wedi’u clywed yn cael eu crybwyll yma heddiw, ac mae pob un ohonom wedi derbyn llawer o gyfathrebiadau yn mynegi’r pryderon hynny. Yn amlwg, rwy’n meddwl y bu, efallai, rhywfaint o ddiffyg cyfathrebu digonol rhywle ar y ffordd i’r lefel honno o bryder ddatblygu. Felly, croesawaf yn fawr yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am ymarfer ymgynghori o'r pwynt hwn ymlaen, ac rwy’n gwybod bod llawer o'r sefydliadau wedi siarad am yr angen i hwnnw fod yn ymgynghoriad llawn iawn yn wir, ac i roi sylw gwirioneddol i’r mater hwn ynghylch egwyddor Sandford, lle ceir gwahaniaeth anghymodlon rhwng dibenion gwneud yn siŵr ein bod yn cadw harddwch naturiol y dirwedd a’r morlun a hefyd yn hyrwyddo mwynhad o'n tirweddau dynodedig, lle y ceir y gwrthdaro hwnnw, ac yna ein bod yn sicrhau bod cadw harddwch naturiol y dirwedd a’r morlun yn cael blaenoriaeth. Felly, rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan bwysig o'r ymarfer wrth symud ymlaen, ac rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed yr hyn a ddywedwyd heddiw a’r safbwyntiau yr ydym i gyd wedi’u cael.

Rwyf hefyd yn meddwl, o ran Marsden fel darn o waith, Llywydd, yn amlwg roedd yn drylwyr iawn ac rwy'n credu bod y broses yn gryf, ac roedd yn glir ac yn fanwl. Felly, erbyn hyn pan fyddwn yn cael y gwaith pellach y mae grŵp Dafydd Elis-Thomas wedi’i gynhyrchu, rydym yn ei weld yn nhermau, unwaith eto, fel yr wyf yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i nodi, adeiladu ar waith Marsden ac edrych ar y darnau hynny o waith yn eu cyfanrwydd, gan fod Marsden yn amlwg yn dal i fod wedi gosod y llwyfan ar gyfer y ffordd yr ydym yn symud ymlaen, ac mae ganddo, rwy'n credu, yr eglurder a’r manylder a'r broses y tu ôl i hynny, yr wyf yn credu eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac sy’n dal i gael eu gwerthfawrogi.

Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, Llywydd, ein bod yn rhoi’r ystyriaeth lawnaf i'r ffordd yr ydym yn symud ymlaen. Mae gennym y ddeddfwriaeth newydd, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ar sut yr ydym yn rheoli ein hadnoddau mewn modd cynaliadwy yng Nghymru; mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nhw sy’n gosod y llwyfan a nhw sy’n gosod y cyd-destun cyfredol, ond mae gennym ni hefyd y gwaith pwysig hwn gan grŵp Marsden a Dafydd i fwrw ymlaen â hynny ac ychwanegu at y cyd-destun. Ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu, wrth edrych ar y dull gweithredu tymor hir sydd mor bwysig i lesiant cenedlaethau'r dyfodol, bod diogelu ein morlun a'n tirwedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn gwbl unol â’r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac ni welaf unrhyw wrthdaro rhwng hynny o gwbl. Ac rwy’n gobeithio'n fawr bod yr hyn a welwn yn dod i'r amlwg o'r gwahanol elfennau o waith sydd wedi eu gwneud, ac a fydd yn cael eu gwneud, yn sicrhau ein bod yn mynd â’r holl gyrff sydd â diddordeb hanfodol yn y materion hyn gyda ni yn rhan annatod o'r broses honno .

Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud y byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn? Ond, os, fel y mae'n ymddangos, mai pwrpas adroddiad 'Tirweddau’r Dyfodol' yw ffurfio sail y bydd unrhyw ddeddfwriaeth newydd ar ein parciau cenedlaethol yn cael ei gwneud arni, y cwestiwn cyntaf y mae’n rhaid i ni ei ofyn felly yw: pam y mae Llywodraeth Cymru yn gweld angen am ddeddfwriaeth o'r fath? Mae'r adroddiad yn ymddangos i awgrymu bod yr angen am ddeddfwriaeth newydd i reoli'r hyn yr ydym yn cyfeirio atynt fel parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn ffaith bendant. Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod llawer o'r byrddau a'r partïon â buddiant sy'n gweinyddu neu’n gweithio ar hyn o bryd o dan y rheoliadau presennol yn cytuno â'r egwyddor gyffredinol hon, ac y bu cytundeb cyffredinol gydag argymhellion yr adroddiad gan y partïon â buddiant hyn.

Fodd bynnag, ac i adleisio cyfranwyr eraill at y ddadl hon, rwyf wedi derbyn llawer o negeseuon e-bost oddi sefydliadau ac unigolion sydd ynghlwm nad yw hyn yn ymddangos i fod yn wir. Un diffyg amlwg a nodwyd gan nifer, os nad y cyfan, o'r gohebwyr hyn yw nad yw’r adroddiad yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at egwyddor Sandford. Mae hyn yn ymddangos yn arbennig o esgeulus o ystyried bod yr egwyddor hon yn cael ei hystyried fel conglfaen polisi gwarchodaeth ar gyfer yr holl barciau cenedlaethol ac AHNE. Mae hefyd yn ymddangos i anwybyddu argymhellion adroddiad Marsden, a oedd yn cynghori y dylai gwarchod ein parciau cenedlaethol gael ei ymestyn, nid ei leihau.

Mae egwyddor Sandford yn datgan pan fo gwrthdaro anghymodlon rhwng cadwraeth a mwynhad y cyhoedd, yna dylai cadwraeth gael blaenoriaeth. Byddai hyn, wrth gwrs, hefyd yn berthnasol i unrhyw a phob cynnig datblygu yn ein parciau cenedlaethol. Os bydd unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn ceisio rhoi’r egwyddor sylfaenol hon o'r neilltu, yna dylai'r ddeddfwriaeth honno fod yn agored i’r craffu llymaf.

O ystyried yr effaith enfawr bosibl y byddai unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn ei chael ar barciau cenedlaethol ac, yn wir, ar yr amgylchedd yng Nghymru yn gyffredinol, rwy’n credu na ddylai fod unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath sy’n effeithio ar bwrpas craidd ein parciau cenedlaethol hyd y bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn wedi ei gynnal, ac ymhellach y dylai egwyddor Sandford barhau i fod yn gonglfaen unrhyw ddeddfwriaeth newydd sy'n effeithio ar y parciau cenedlaethol ac AHNE Cymru.

Mi ydw i yn ddigon ffodus i gael cynrychioli rhan o Barc Cenedlaethol Eryri—ardal nodedig o ran tirwedd, byd natur, a’i ffordd o fyw unigryw. Yn ogystal a bod yn un o lefydd prydferthaf y byd, mae Eryri hefyd yn gartref i 26,000 o bobl, llawer ohonyn nhw’n gweithio yn y parc o dydd i ddydd.

Yn y blynyddoedd diweddar, fe welwyd twf aruthrol mewn un rhan o’r economi yn yr ardal, sef twristiaeth awyr agored. Yn ôl un astudiaeth, fe gyfrannodd y sector yma dros £480 miliwn i economi Cymru. O safbwynt Eryri, mae tyfu’r sector gweithgareddau awyr agored yn un o gonglfeini strategaeth economaidd Gwynedd, wrth iddo gael ei gydnabod fel un o nifer o sectorau twf yn yr ardal ac mae’r pwyslais ar hyrwyddo cyfleon busnes i bobl ifanc lleol.

Mae o’n weithgaredd economaidd sy’n gwbl gydnaws â dau ddiben statudol parc cenedlaethol sef, fel rydym ni wedi clywed, gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardaloedd, a hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig eu hardaloedd. Wedyn, fel rydym ni wedi clywed, os oes yna wrthdaro rhwng y ddau ddiben statudol hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod yn y parc cenedlaethol droi at egwyddor Sandford. Dyna ydy’r sefyllfa ar hyn o bryd.

Yn amlwg, mae’r egwyddor Sandford yma yn hollbwysig i lawer o bobl—yn sicr yn bwysig i lawer sydd wedi cysylltu â mi dros y dyddiau diwethaf. Ac mae yna lawer mewn penbleth am na chyfeiriwyd at yr egwyddor hon yn yr adroddiad sydd dan sylw heddiw. Mae’n gwbl briodol i adolygu pwrpas yr ardaloedd dynodedig, wrth gwrs, ac fe wnaed hynny dan arweiniad yr Athro Terry Marsden, ac yna fe gyhoeddwyd ‘Tirweddau’r Dyfodol’ ym mis Mai. Mae’n dda cael y drafodaeth, ond, wrth gwrs, y broblem ydy bod yr egwyddor Sandford ar goll o’r adroddiad presennol, sydd yn gam gwag yn fy marn i. Drwy beidio â sôn am un o egwyddorion canolog presennol y tirweddau dynodedig, mae’r adroddiad yn annigonol, ac fe lwyddwyd i godi gwrychyn nifer fawr o bartneriaid sy’n ymwneud â’r parciau cenedlaethol heb fod eisiau efallai, a’r rhain ydy’r union bartneriaid y mae angen eu cydweithrediad wrth symud ymlaen yn y drafodaeth yma. Fe lwyddwyd hefyd i greu pryder ymhlith fy etholwyr i yn Arfon yn sicr. Mae pobl yn teimlo bod yna rywbeth mawr ar fin newid, fod Eryri am newid am byth, fod natur unigryw'r parc dan fygythiad. Er mwyn tawelu’r pryderon yma, mae’n bwysig bod gwelliannau Plaid Cymru yn cael eu pasio heddiw. Mae’n rhaid cael eglurder, craffu manwl, ac ymgynghori llawn, ar ddyfodol ein parciau a’n tirweddau dynodedig.

Buaswn i’n licio diolch i’r holl etholwyr sydd wedi cysylltu â mi i wyntyllu eu pryderon. Buaswn i’n licio medru mynd yn ôl atyn nhw i ddweud fod y Cynulliad wedi derbyn gwelliannau Plaid Cymru, fod y Cynulliad yn cydnabod yr angen am drafodaeth dryloyw a llawn os oes unrhyw fwriad i newid pwrpas mannau mor eiconaidd â pharc cenedlaethol Eryri.

Yn ogystal ag arddel y ddau ddiben statudol, mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi ychwanegu trydydd diben, sef meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. Diben hollbwysig yn fy marn i. Mae Eryri yn ardal llawn diwylliant a hanes lleol, ac mae mwy na hanner ei phoblogaeth yn siarad Cymraeg.

I gloi, felly, mae angen ymgynghoriad lawn yn genedlaethol, ond hefyd mae angen ymgynghoriad efo’r boblogaeth leol a’r cyrff priodol am yr holl faterion perthnasol—yr angen i warchod a gwella, ie, yn sicr, yr egwyddor Sandford, ie, yn sicr, ond hefyd yr angen i feithrin lles economaidd ei chymunedau yn yr ardaloedd dan sylw.

Gyda thri pharc cenedlaethol, a phedair a hanner o ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, mae tirweddau dynodedig yn cyfrif am 25 y cant o'n cenedl, a hoffwn hefyd dalu teyrnged i swyddogion a staff ym Mharc Cenedlaethol Eryri, llawer ohono yn gorwedd o fewn fy etholaeth i yn Aberconwy hefyd, am eu gwaith caled a'u hymdrechion aruthrol i warchod a chynnal ein hardaloedd ysblennydd, ein 'tlysau'r goron' fel y cyfeirir atynt yn aml. Â darllen rhwng llinellau'r adroddiad hwn, fodd bynnag, rwy’n cwestiynu hanfodion dau hepgoriad penodol. Mae hepgor sylfaenol y gair 'cadwraeth' wedi achosi pryder mawr i mi, ac yn sicr fe’i codwyd gyda mi gan lawer sy'n byw o fewn cymuned Aberconwy, ac, fel y mae llawer o Aelodau yma wedi ei ddweud, y ffaith nad oes sôn am egwyddor Sandford. O ran unrhyw adroddiad sydd wedi cael ei ysgrifennu erioed, mae pobl yn chwilio am yr hyn na ddywedwyd yn gymaint â’r hyn a nodir ynddo, ac mae hyn yn achosi pryder i mi. Yn sicr, mae hyn wedi achosi dychryn i lawer yn fy nghymuned fy hunan, llawer sy'n defnyddio'r parc cenedlaethol, llawer o'n grwpiau gwirfoddol, megis Cymdeithas Eryri, ac maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru—ac rwy’n cefnogi’r galwadau hyn—i warchod gwarchodaeth, rheoli, ac adnoddau priodol ar gyfer tirweddau dynodedig i sicrhau bod cadwraeth a mwynhad tawel o nodweddion arbennig yr ardaloedd dynodedig yn parhau'n ganolog i'w diben, er mwyn sicrhau bod egwyddor Sandford yn cael ei chadw er mwyn sicrhau diogelu rhag datblygu amhriodol, cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn cyn gwneud unrhyw newidiadau i ddibenion tirweddau dynodedig, ac ailedrych ar adroddiad Marsden a'i argymhellion. Mae'r rhain yn hanfodol o ystyried mai un o ddibenion penodol dynodi parciau cenedlaethol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yw gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth. Fel y nodwyd yn yr adroddiad hwn, roedd adolygiad Marsden 2015 yn crybwyll hybu ffurfiau cynaliadwy o ddatblygu economaidd a chymunedol yn seiliedig ar reoli adnoddau naturiol a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal. Yn ogystal, fodd bynnag, mae argymhelliad 7 yr un adroddiad, unwaith eto, yn galw am i egwyddor Sandford gael ei defnyddio ar draws pob un o'n tirweddau dynodedig, gan gynnwys ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Rwy’n awgrymu wrthych, Ysgrifennydd y Cabinet: y dylech wneud yn glir yma heddiw y byddwch yn cydnabod pwysigrwydd cadwraeth, gwarchod, ac, wrth gwrs, cymhwyso egwyddor Sandford ar draws yr holl dirweddau dynodedig. Nid wyf yn sicr, mewn gwirionedd, beth fydd Sandford a mwy yn ei olygu i’r holl bobl sydd wedi ysgrifennu ataf ar negeseuon e-bost. Gwnewch eich safbwynt yn glir yn hyn o beth.

Yn sicr, byddwn yn cefnogi'n gryf y ddau welliant heddiw. Mae diogelu, gwarchod, gwella, a chefnogi ein tirweddau naturiol yn dod ar gost, ac mae'n deg i ddweud bod barn gyffredinol o fewn fy etholaeth fy hun, cyn datganoli, bod Parc Cenedlaethol Eryri yn cael ei ystyried gan y Llywodraeth fel y tlws yng nghoron parciau cenedlaethol y DU, ond yn awr mae’n ymddangos nad yw’n cael ei ystyried mor uchel gan y Llywodraeth hon.

Wrth i ni fwynhau proffil byd-eang cynyddol fel cyrchfan twristiaeth, mae cyllidebau llai yn golygu penderfyniadau anodd ar gyfer ein parciau cenedlaethol, pob un ohonynt yn dod ar gost ein diogelwch amgylcheddol a diogelwch ymwelwyr. Cafwyd toriad 19 y cant i’r gyllideb ers 2011, yn flynyddol—ac eto, yn Lloegr, gyda chefnogaeth y Llywodraeth, maen nhw wedi sicrhau hyd at 2020 gynnydd blynyddol o 1.7 y cant. Felly, mae'n dangos pwy sy’n gwerthfawrogi eu parciau cenedlaethol. Felly, dylem fod yn dychryn bod cost gyfartalog archwiliadau allanol awdurdodau parciau fel canran o'u hincwm yn sefyll ar 0.82 y cant yng Nghymru, yn anghymesur yn fwy na 0.2 y cant yn Lloegr a 0.16 y cant yn yr Alban. Rwyf felly yn croesawu'r ymrwymiad i leihau'r baich rheoleiddio o archwilio ar barciau cenedlaethol. Ond gofynnaf hefyd am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau setliadau mewn cyllideb o flaen llaw, a heb wybod beth sydd ganddynt—wyddoch chi, misoedd y mae'n rhaid iddyn nhw wedyn gynllunio ar eu cyfer ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Mae arnynt angen eu datganiadau cyllideb a gwybod yr hyn y maen nhw’n mynd i’w gael ymhell cyn hynny.

Llywydd, roedd adolygiad Marsden yn galw am i dirweddau cenedlaethol Cymru gael eu gwerthfawrogi gan y genedl fel ffatrïoedd pwysig o les, i gael eu cefnogi, i gael eu hamddiffyn, ac i barhau eu swyddogaeth o wella bywydau cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, ac i’w nodweddion arbennig gael eu cynnal, eu gwella, a’u gwerthfawrogi yn eang, ac rwy’n cefnogi’r galwadau hynny.

Wrth gyfrannu at y ddadl hon, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i Dafydd a'i weithgor am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud? Nid yw hwn yn llwybr hawdd ei ddilyn, ac i gyflwyno gwahanol fuddiannau, diddordebau weithiau'n cystadlu, ond i'w cael ar yr un dudalen—ac rwy'n credu bod y Gweinidog wedi dweud yn ei sylwadau agoriadol fod hyn yn rhan o daith, wrth symud ymlaen. Bydd angen trafod ac ymgynghori pellach, a chroesawaf hynny. Ond rwyf eisiau diolch i Dafydd am y gwaith y mae ef a'i grŵp wedi'i wneud, hefyd yr adroddiad rhagflaenydd, yr hyn a elwir yn adroddiad Marsden hefyd, a oedd yn wahanol, ond yn cwmpasu rhywfaint o'r un tir. Gyda llaw, mae—nid yw pobl wedi ei grybwyll heddiw, ond mae rhai pethau i'w croesawu yn yr adroddiad hwn y mae Dafydd a'i weithgor wedi’i gynhyrchu, a byddaf yn troi at hynny mewn munud. Ond rwyf eisiau diolch i'r Cynulliad hwn a’r Llywodraeth am fod yn ddigon dewr i edrych mewn gwirionedd ar hyn.

Cyn i mi atgoffa pobl pam y mae angen i ni edrych ar y mater hwn o lywodraethu a sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn o fewn Cymru, wyth mlynedd yn ôl, sefais ar lwyfan yn y South Downs a chyhoeddasom agor parc cenedlaethol, Parc Cenedlaethol y South Downs, busnes anorffenedig mawr Deddf parciau cenedlaethol 1946. Hwn oedd yr un agosaf at boblogaeth drefol fawr Llundain a Brighton ac yn y blaen, ac nid oedd hynny wedi cael ei wneud ar y pryd, ond fe wnaethom hynny. Siaradais yno fel y peiriannydd tu ôl i'r llenni am sut yr oeddem yn ei lywodraethu a'r anawsterau o ddod ag awdurdodau lleol a grwpiau a oedd yn cystadlu â’i gilydd ynghyd, ac fe lwyddwyd i wneud hynny. Fe wnes i hyn i gyd, a chafwyd cymeradwyaeth gwrtais, ac yna cododd Hilary Benn, yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ei draed a siaradodd gyda llawenydd a barddoniaeth am yr hyn yr oedd parciau cenedlaethol yn ei olygu, ac fe swynwyd pawb.

Felly, wrth ddechrau hyn, rwy’n mynd i ddweud—ac mae'n ddiddorol, hyn. Mae hyn yn dod gan Iolo Morganwg, un o feirdd mawr Morgannwg, yn ei 'Emyn i Iechyd', pan oedd yn gwella o salwch difrifol ac o bosibl terfynol. Dyma ei awdl, os mynnwch, yr ‘Emyn i Iechyd', ac meddai, mewn dyfyniad byr:

‘Through dewy dales and waving groves, / The vernal breeze unruffled roves.

'Delicious Health!' -

Rwy'n ebychu hynny, oherwydd bod ebychnod ar ei ôl—

‘I range the vale, / And breathe once more thy balmy gale; / ‘Scap’d from the wrathful fangs of pain, / I view, rejoic’d, thy skies again.’

Wel, gallai fod wedi bod yn rhagweld Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, neu’r ffatrïoedd llesiant y cyfeirir atynt yn yr adroddiadau hyn, a'r llawer o nwyddau cyhoeddus lluosog eraill yr ydym yn eu cael gan yr amgylchedd naturiol ac y mae’r ddau adroddiad yn dweud— [Torri ar draws.] Mae'r ddau adroddiad mewn gwirionedd yn dweud bod angen i ni wneud mwy i ledaenu, mewn ffordd o degwch cymdeithasol, y buddion sy'n deillio o hyn hefyd.

Dim ond wrth fynd heibio, un o'r pethau yr wyf yn ei groesawu yn adroddiad Dafydd, a'i ragflaenydd, yw ei gydnabyddiaeth nad yw hyn yn ymwneud yn unig â thirweddau a ddynodwyd yn genedlaethol. Rwy'n cael cymaint o lawenydd a chymaint o iechyd a lles corfforol o sefyll ar Bulpud y Diafol ar fynydd Bwlch yn Ogwr, yn edrych i lawr ar ddyffryn Ogwr, ag yr wyf o sefyll ar Ben y Fan neu gopa’r Wyddfa. Mae'n rhaid i mi ddweud hynny. Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â hynny, ac mae'n sôn am hynny yn gweithio y tu hwnt i ffiniau—pwysigrwydd yr awdurdodau cenedlaethol dynodedig hyn yn gweithio y tu hwnt i'w ffiniau, nid ar gyfer cael llinell wedi’i thynnu’n artiffisial ar y map a dyna lle mae'r cyfrifoldebau yn gorwedd, ond sut yr ydym mewn gwirionedd yn ymestyn y manteision a ddaw o bob un o'n tirweddau, ar draws pob un o'n poblogaethau.

Mae'n sôn yn adroddiad Dafydd am arloesi wrth ddarparu adnoddau. Mae angen i ni fod o ddifrif ynglŷn â hyn, oherwydd, er gwaethaf y cyfraniad yn awr, mae ein holl barciau cenedlaethol a’n holl ardaloedd dynodedig, ar draws y DU, wedi wynebu toriadau, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, mae angen i ni gael mwy o arloesi wrth ddarparu adnoddau.

Mae'n sôn am wella atebolrwydd a pherfformiad, am sbarduno lles ac am gynaladwyedd ehangach a thwf gwyrdd. I ateb y cwestiwn a ofynnwyd funud yn ôl sef, 'Pam mae angen i ni wneud hyn?', cyfeiriaf chi yn ôl at adroddiad cynharach yr Athro Marsden, lle mae'n dweud fod ei banel

wedi canfod bod ymagwedd newydd at ddibenion a llywodraethu tirweddau dynodedig Cymru yn hwyr ... am o leiaf dri rheswm.

Rhoddodd sylw i

maint a chymhlethdod yr heriau amgylcheddol

a chyfeiriodd at y newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â'n colled o ran bioamrywiaeth, yn wahanol i'r hyn yr oedd yn y ganrif ddiwethaf. Cyfeiriodd at sut y mae

anghydraddoldebau gofodol a chymdeithasol cymharol mewn lles, iechyd, addysg a mynediad at hamdden awyr agored yn galw am lawer mwy gan y tirweddau dynodedig

ac eraill. Nid yw'n ddigon da, mae'n ddrwg gen i, i gael rhai mathau o bobl yn mynd yn eu ceir ac yn ymweld â'n tirweddau dynodedig—ac rwy’n dweud hyn fel rhywun a gafodd ei eni ar Benrhyn Gŵyr, yr AHNE cyntaf erioed ym Mhrydain Fawr. Nid yw'n ddigon da i gael dim ond rhai pobl sy'n ymweld ac yn cael y manteision iechyd a lles. Mae angen iddyn nhw fod ar gael i bawb, ac mae hynny'n golygu lledaenu hyn y tu hwnt i’r ardaloedd dynodedig cenedlaethol hynny.

Yn olaf mae’n dweud bod

angen i’r ardaloedd hyn fod yn gartref i gymunedau gwledig llawer mwy bywiog, lle gall yr ifanc gael eu cadw, eu hyfforddi a'u denu gan gartrefi a swyddi cynaliadwy.

Ond byddwn yn dweud wrth y Gweinidog, fel y mae eraill wedi gwneud, mae'n werth, yn y rhannau da sydd o fewn yr adroddiad sydd bellach wedi dod i law, dychwelyd ac edrych ar adroddiad Marsden—ac yn arbennig argymhelliad 6, lle mae'n nodi tair swyddogaeth statudol newydd a fyddai'n tanategu, yn ymwneud â chadwraeth, lles dynol a rheoli adnoddau mewn modd cynaliadwy. Mae'n dweud y dylai hyn fod yn ddull 'Sandford a mwy'. Edrychwch ar hynny wrth inni fwrw ymlaen a thrafod hyn mewn deialog, cynnwys y grwpiau, gan barhau â’r gwaith y mae Dafydd ac eraill wedi ei wneud, a gadewch i ni fynd i le da lle mae pawb wedi ei ymrwymo i ffordd wahanol o lywodraethu yng Nghymru.

Roeddwn yn mynd i ymyrryd ar Huw Irranca-Davies, felly rwy'n falch fy mod wedi cael y cyfle i siarad, mewn gwirionedd. Rwy'n cytuno ei bod yn amser i ni fod yn adolygu pwrpas ein tirweddau dynodedig ac adolygu cryfder yr amddiffyniadau sydd wedi'u hymgorffori ynddyn nhw ar hyn o bryd. Hynny yw, nid yw mor bell yn ôl pan oeddem yn sefyll yma yn siarad am y parciau cenedlaethol ac anhryloywder eu trefniadau llywodraethu, er enghraifft, felly mae'n hollol iawn bod y materion hyn yn cael eu hadolygu. Roedd y papur, hyd yn oed yn ei gamau ymgynghori cynnar, yn codi ychydig o gwestiynau i mi. Os ydw i'n iawn yn meddwl mai un o ddibenion y papur hwn yw ysgwyd ein parciau cenedlaethol yn benodol allan o'u meddwl seilo, ac efallai dylanwadu ar y defnydd o dirweddau y tu allan i'w ffiniau, i mi, rwy'n meddwl os mai hynny yw eich 'Sandford a mwy a mwy', Ysgrifennydd y Cabinet. Oherwydd fy nealltwriaeth i o hynny yw y byddai'n fwy na thebyg wedi gwarchod Mynydd y Gwair, sydd wrth gwrs yn bont enwog rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ardal Gŵyr o harddwch naturiol eithriadol. Os nad yw wedi’i fwriadu i wneud hynny, efallai y byddech yn esbonio i mi beth y mae'n bwriadu ei wneud. Oherwydd, wrth gwrs, mae perygl y gallai hyn weithio'r ffordd arall, ac y byddai'n gadael tirweddau dynodedig yn fwy agored i ymosodiad seilwaith anghymesur ymwthiol yn enw twf gwyrdd.

Ynglŷn â hynny, rwyf mewn gwirionedd yn cydnabod rhywbeth yr ydych wedi’i ddweud yn y papur ynghylch cryfhau'r ddyletswydd ar gynllunwyr a datblygwyr i roi sylw dyledus i ddibenion y dynodiadau o safleoedd amrywiol. Ond os yw’r dynodiadau hynny yn mynd i fod yn llawer ehangach eu diben—ac nid wyf yn dweud na ddylent fod, ond os ydynt yn mynd i fod—sut y gall y Llywodraeth sicrhau nad yw’r diben sy'n adeiladu amddiffyn ar gyfer cywirdeb y tirweddau wedyn yn cael ei wanhau i bwynt lle mae’r ddyletswydd gryfach i roi sylw dyledus yn dod yn amherthnasol, mae'n dod yn ddiystyr, neu yn wir, hyd yn oed efallai yn dod yn asiant ar gyfer newid negyddol? A phan ddywedaf 'negyddol', byddai hynny yng ngolwg rhai pobl y mae eu synnwyr o hunaniaeth, fel yr ydych yn cydnabod yn eich papur, yn rhwym mewn modd mor gadarn â'r dirwedd y maen nhw’n byw ynddi.

Mae eich egwyddorion cyntaf o lywodraethu—soniodd David Melding am rai o'r rhain—yn cynnwys geiriau fel 'cyfranogiad', 'llais', 'derbyn yn y gymdeithas', 'cynrychiolaeth' a 'consensws'. Rwy'n meddwl tybed os yw hynny—rwy’n gobeithio ei fod—yn awgrym y gallech fod yn paratoi'r ffordd yn y fan yma ar gyfer y diddymu TAN 8, oherwydd mae TAN 8, ym mhob achos y gallaf feddwl, wedi goresgyn unrhyw ymgais i ddibynnu ar y cysyniadau hynny ar hyn o bryd.

Yn olaf, yn fyr, rwy’n sylwi y cymerodd tan dudalen olaf y naratif yn y ddogfen i sôn am y cysyniad o fiosffer UNESCO, ac wrth gwrs mae gennym esiampl anhygoel o hynny yn nyffryn Dyfi—er nad yw’r ffaith ei fod yn fiosffer yn cael ei defnyddio ddigon yn ei botensial o ran twristiaeth. Ynglŷn â hynny, gyda llaw, rwy'n falch iawn o weld y tro pedol ar y materion brandio ynghylch parciau cenedlaethol ac AHNE, gan fy mod yn credu bod y trafodaethau cynharach, ychydig o flynyddoedd yn ôl, am newid yr enw, yn gwbl wrthgynhyrchiol. Felly, rwy'n chwilfrydig—nid wyf yn gwybod os bydd gennych amser i ymdrin â hyn, Ysgrifennydd y Cabinet— ynglŷn â faint o'ch gweledigaeth sy'n cael ei hymgorffori yn y ddogfen Cabinet yr ydym wedi’i darllen heddiw yn seiliedig ar yr egwyddorion hynny o fiosffer UNESCO. Oherwydd, yn sicr, byddai fy nheulu sy'n byw yn y biosffer yn ei argymell fel ffordd o edrych ymlaen at sut y byddwn yn ymdrin â’r—nid wyf yn meddwl y bydd mor hawdd â hynny—cydbwysedd hwn rhwng gwarchod yr amgylchedd ac ehangu ei ddibenion.

Fel pawb arall sydd wedi siarad yn y ddadl y prynhawn yma, rwy’n cefnogi egwyddorion Sandford yn gryf, er fy mod yn derbyn y pwynt a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei haraith bod yn rhaid i’r rhannau prydferth hyn o'n cefn gwlad fod yn lleoedd ffyniannus a lleoedd i fyw ynddynt, ac yn anochel fe fydd gwrthdaro rhwng polisïau a gwrthdaro rhwng buddiannau, y mae'n rhaid eu cysoni rhywsut. Rwy’n credu, fel y mae David Melding ac eraill a’i dilynodd, a fy nghydweithiwr David Rowlands, wedi ei ddweud: beth yw'r pwynt o ddynodi ardaloedd fel rhai o harddwch naturiol eithriadol neu fel parciau cenedlaethol, os nad i roi blaenoriaeth i'r egwyddor o gadwraeth? Dyna'r egwyddor sylfaenol sy'n sail i gyflwyno’r ddeddfwriaeth gychwynnol, gyda chefnogaeth pob plaid, sydd wedi cael ei gynnal hyd yn oed hyd heddiw. Ond hoffwn innau hefyd—yn dilyn Huw Irranca-Davies—longyfarch Dafydd Elis-Thomas a'i weithgor ar gynhyrchu’r adroddiad ardderchog hwn, sydd, yr wyf yn credu, yn rhoi golwg gytbwys i ni ar y ffordd ymlaen.

Hoffwn gyfeirio at un neu ddau o'r darpariaethau y mae'n sôn amdanynt yn ei adroddiad, yn arbennig ar dudalen 8, lle mae'n cyfeirio at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a'r angen i adlewyrchu dealltwriaeth eang o bwysigrwydd y meysydd hyn a'u hecosystemau, ac y mae angen rhoi mwy o bwys iddynt wrth wneud penderfyniadau. Ac yna, unwaith eto, ar dudalen 17:

yr angen am well integreiddio polisïau a mwy o ddealltwriaeth o sut y gall tirweddau dynodedig ymgysylltu'n gadarnhaol yn yr agenda,

yn enwedig ynglŷn â datblygu

cynlluniau rheoli tir cynaliadwy wedi’u teilwra i ardal i gymryd lle neu ategu taliadau amaeth-amgylchedd presennol, gan gynnwys gweithio gyda chlystyrau o reolwyr tir.

Nawr, mae dau fater yr wyf eisiau cyfeirio atynt, yn fyr, yn ystod yr araith hon, yn dilyn yr egwyddorion cyffredinol hynny. Rydym wedi cael y dadleuon hyn yn y Cynulliad o'r blaen, yn enwedig ynglŷn ag ymyrraeth peilonau a melinau gwynt mewn tirweddau parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a chefn gwlad yn gyffredinol. Credaf y dylem gael ymdeimlad o gymesuredd yma, er nad wyf yn rhannu brwdfrydedd mwyafrif Aelodau’r Cynulliad hwn am y rhan fwyaf o'r mesurau gwyrdd sydd wedi eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid wyf eisiau mynd i ddadl ar egwyddorion cyffredinol hynny, ond byddaf ond yn dweud bod yn rhaid i'r cyfraniad i orchfygu cynhesu byd-eang—os yw hynny'n bosibl—y gellir ei wneud gan felinau gwynt yn yr ardaloedd hyn fod mor ddibwys fel, os oes gennych ymdeimlad o gymesuredd, yn sicr, i'w gwneud yn ofynnol i osod buddiannau cadwraeth cyn buddiannau polisi amgylcheddol. Oherwydd gan gadw mewn cof yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill y byd, gydag India a Tsieina rhyngddynt yn adeiladu 800 gorsaf ynni glo newydd arall, beth yw diben halogi ein mannau gwyllt yng Nghymru er mwyn gwneud cyfraniad mor fychan at leihau allyriadau carbon deuocsid fel na all gael unrhyw effaith ymarferol ar yr hinsawdd o gwbl? Felly, byddwn yn gwneud ple yn yr achos hwn, hyd yn oed ar gyfer y rhai sydd â golwg gwahanol iawn i mi ar gynhesu byd-eang o waith dyn, i wneud eithriad i'r ymagwedd gyffredinol er mwyn diogelu ein hardaloedd gwyllt yn y canolbarth, y gogledd a’r gorllewin yn arbennig.

Mae’r ail bwynt yr wyf eisiau ei wneud yn un yr wyf yn gobeithio y byddwn yn dychwelyd ato maes o law, sef dad-ddofi bryniau Cymru, yn dilyn ymlaen o gyfarwyddebau cynefinoedd yr UE, ac o ganlyniad iddynt yr ydym wedi gweld cynnydd trychinebus yn y rhan fwyaf o ysglyfaethwyr ac, felly, dirywiadau weithiau tuag at ddiflaniad llawer o rywogaethau ysglyfaeth agored i niwed. Credaf fod gadael yr UE yn rhoi cyfle i ni, gan fod yr amgylchedd yn amlwg yn un o'r materion datganoledig ac yn rhoi pŵer i ni yn y Cynulliad hwn, i gymryd ymagwedd wahanol iawn i'r un sydd wedi ei mabwysiadu hyd yma. Rydym wedi gweld cynnydd mewn gweiriau bras ac annymunol yn bla o drogod, ac o ganlyniad i rug aeddfed heb ei losgi, sydd hefyd yn dod yn bla o chwilod y grug. Mae rhedyn sydd allan o reolaeth wedi creu tirluniau diffrwyth sy'n anniogel i ymwelwyr a cherddwyr, a hefyd yn fectorau clefyd Lyme. Felly, rwy’n credu bod yn rhaid i ni ailystyried y ffordd yr ydym yn edrych ar yr ardaloedd hyn o gefn gwlad. Mae'n rhaid i ni sicrhau, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddweud, eu bod yn parhau i fod yn amgylcheddau sy’n ffynnu lle mae pobl yn gweithio yn ogystal â byw ac, yn arbennig, yn ymweld â nhw. Felly, rwyf yn credu bod mwy o wrthdaro arwynebol rhwng y gwahanol elfennau hyn o bolisi nag sy’n bodoli mewn gwirionedd os ydym yn defnyddio ymdeimlad priodol o gymesuredd tuag atynt. Ond yr elfen allweddol yw rhoi'r cymorth cyffredinol i egwyddor Sandford y mae ei angen arni.

Mae gen i’r fraint anhygoel o gael cartref mewn parc cenedlaethol, yn Nhyddewi. Nid oes dim byd yn debyg i ddihuno yn y bore a chael gweld yr arfordir yna o’ch blaen chi. Ond mae yna gyfyngiadau o fyw mewn parc cenedlaethol, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag adeiladu. Mae’n swyddogaeth ac yn gyfrifoldeb arbennig ar y parc cenedlaethol i sicrhau bod yna falans rhwng cadw prydferthwch y wlad a galluogi’r boblogaeth leol i fyw yna—un y mae angen delio ag ef gyda sensitifrwydd.

Now, many of you will be aware that I’m currently, along with a team of successful businesses and organisations in rural Wales, trying to develop an economic development plan for rural Wales. What was clear was that it was important for us to have a representative from the national parks on that group, and that’s because the national parks of course have a responsibility to protect beauty in the landscape they administer, but they also, as the planning authorities, have a responsibility to be a part of the answer to economic development in rural Wales, and not, as they’ve been portrayed in the past, a hindrance to it.

I want to be clear: I understand that the primary responsibility of a national park, according to the 1995 Environment Act, is to first of all

‘conserve and enhance the natural beauty, wildlife and cultural heritage’

of national parks. Secondly, their task is

‘to promote opportunities for the understanding and enjoyment’

of the special qualities of the park by the public. And thirdly, and importantly, the element that is often forgotten is that national parks also have that duty

‘to foster the economic and social well-being’

of their local communities. Now, what I didn’t understand until recently is that that is only a duty in as far as it relates to conserving beauty and to promoting the enjoyment of the park. I was very interested to hear Sian Gwenllian talk about what’s happening in Snowdonia. I’d be interested to know how they are managing to divorce economic and social well-being from those two things, because I don’t understand how that is in keeping with the 1995 Environment Act. It will be interesting to find out—[Interruption.] I think at the moment that restriction is there, and I think it’s important that we understand that it is quite a restriction in terms of their planning abilities.

Rwy'n meddwl bod y pwynt y mae Siân Gwenllian—gall hi siarad drosti ei hun, ond y pwynt yr oeddwn i’n deall yr oedd yn ei wneud yn amlwg iawn oedd bod Eryri wedi rhoi sylw i’r angen am gymunedau byw a bywiog yn eu hardal ac wedi cymhwyso hynny o fewn yr egwyddorion sydd yn y ddeddfwriaeth, ac wedi bod yn llwyddiannus.

Fy nealltwriaeth i, yn sicr o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yw na allant ond hybu datblygiad economaidd a chymdeithasol yr ardal os yw yn ymwneud â phwyntiau 1 a 2. Dyna’r hyn a ddywedwyd wrthyf yn glir iawn, felly os ydych chi'n gallu gwneud hynny yn wahanol, byddai diddordeb mawr gennyf mewn deall sut.

Oni bai ein bod yn creu cymunedau cynaliadwy lle y gall pobl fyw a gweithio, ni fydd neb i edrych ar ôl a gwasanaethu’r nifer anhygoel o ymwelwyr sy'n dod â chymaint o gyfoeth i mewn i’r cymunedau hyn, ond hefyd i wasanaethu'r bobl sy'n byw yno. Ble fydd gofalwyr y rhai sy'n byw mewn parciau cenedlaethol yn gallu byw os nad oes tai fforddiadwy ar gael iddynt i fyw ynddynt?

Nawr, un o'r problemau y mae parciau cenedlaethol yn eu hwynebu ar hyn o bryd yw bod diffyg eglurder rhwng cyfrifoldebau Deddf yr Amgylchedd 1995, y cyfrifoldebau o gadw at egwyddorion Sandford, a chadw at saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy’n gobeithio mai dyna fydd yn digwydd nawr yn y cyfnod nesaf—y bydd fframwaith cyfreithiol gwell i’r parciau cenedlaethol hyn i allu cadw at y tri maes hynny y mae angen iddynt ei wneud.

Rwy’n credu y dylem, wrth gwrs, gadw at yr argymhellion Marsden hynny, a fyddai'n caniatáu i ddatblygiad economaidd ddigwydd—ie, hyd yn oed mewn parciau cenedlaethol, os yw’r datblygiad, wrth gwrs, yn cael ei wneud â chydymdeimlad, gyda golwg ar ecoleg a harddwch naturiol yr ardal, ac os yw'n helpu i gefnogi gwasanaethau a chyflogaeth ar gyfer pobl sydd wedi byw yn yr ardal am nifer o flynyddoedd. Er enghraifft, yn y blynyddoedd sydd i ddod rydym yn mynd i orfod darparu llety digonol ar gyfer pobl hŷn. Dyna pam mai un o'r prif argymhellion yn ein cynllun datblygu economaidd gwledig fydd bod angen i ni geisio adeiladu eco-gartrefi i bobl hŷn—ie, hyd yn oed o fewn parciau cenedlaethol. Mae hynny wedi ei wneud yn Sir Benfro. Mae hi yn bosibl, mae hi yn bosibl gwneud hynny’n chwaethus, ac mae'r prosiectau hyn wedi darparu swyddi lleol a gwell cadwyni cyflenwi lleol, gan alluogi pobl ifanc i aros yn y parciau. Mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio bod y parciau cenedlaethol hyn yn lleoedd byw. Ceir poblogaeth breswyl o dros 80,000 o bobl. Mae angen i ni wneud bywyd yn hawdd i bobl sy'n gweithio yno fel nad ydym yn colli mwy o bobl ifanc i oleuadau llachar y dinasoedd.

Nawr, mae parciau cenedlaethol yn cyfrif am tua 20 y cant o arwynebedd tir Cymru. Ni ellir ac ni ddylid eu piclo mewn asbig. Mae angen iddyn nhw fod yn gymunedau bywiog lle gall gwahanol genedlaethau fyw a gweithio, ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni wneud hynny cyn belled â phosibl gan warchod harddwch yr amgylchedd ar yr un pryd.

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon a byddaf yn ceisio ymateb i nifer o'r pwyntiau a godwyd. Mae'r gwaith sylweddol a wnaed, yn gyntaf gan yr Athro Terry Marsden a'i banel ac wedyn gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a'r gweithgor, bellach yn gosod y tirweddau a ddynodwyd mewn swyddogaeth yr wyf yn credu y gall helpu i roi sylw i heriau amgylcheddol cynyddol gymhleth, anghydraddoldeb mewn lles ac iechyd, a chreu cymunedau gwledig bywiog a chydnerth, fel y mae Eluned Morgan newydd gyfeirio ato.

Rwyf eisiau ailadrodd eto, yn y termau cryfaf posibl, fy mod i a Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y parciau cenedlaethol ac AHNE. Mae'n rhaid i mi ddweud, byddech yn meddwl mai fy adroddiad i ydyw, y ffordd y mae rhai Aelodau wedi siarad; nid fy adroddiad i yw hwn, adroddiad y grŵp ydyw.

Mae Cymru wedi pennu uchelgeisiau beiddgar yn y Deddfau llesiant cenedlaethau'r dyfodol ac amgylchedd diweddar ac mae hyn yn darparu'r fframwaith ar gyfer rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol a’r llwybr i ecosystemau cydnerth, sy'n allweddol i gynyddu manteision economaidd, diwylliannol, ac amgylcheddol .

Os caf i droi at y ddau welliant gan Blaid Cymru. Ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant cyntaf. Nid wyf awyddus i danseilio trafodaethau ac adroddiad y gweithgor Tirweddau’r Dyfodol—ac, er tegwch, dywedodd Simon Thomas yr un peth: nid oedd ef eisiau ei danseilio—drwy welliant sy'n gresynu sut y maent wedi ymdrin ag egwyddor Sandford. Nid wyf yn credu ei fod yn amlwg yn y gwelliant pa un a ddylai’r egwyddor hon gael ei chynnal ai peidio. Rwy’n gwybod, yn eich sylwadau, mai dyna’n sicr y neges sydd wedi dod drwyddo, ond nid wyf yn credu bod y gwelliant wedi nodi hynny.

Byddwn yn cefnogi'r ail welliant. Rwyf wedi dweud yn fy sylwadau agoriadol, ac rwy’n gobeithio ei fod yn glir iawn i bawb, y bydd unrhyw newid sylweddol i'r ddeddfwriaeth ar barciau cenedlaethol yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol. Maent yn faterion datganoledig a'r lle priodol ar gyfer y ddeddfwriaeth honno yw yma.

Dim ond er mwyn cael eglurhad, rwy’n deall yr hyn a ddywedodd am ein gwelliant cyntaf, ond bwriad y gwelliant cyntaf mewn gwirionedd yw sicrhau ein bod yn cael y ddadl honno, yr ydym wedi ei dechrau yma heddiw, rwy’n derbyn, ond nid yw’n bendant eto, ac rwy'n credu y gallai’r Gweinidog fod ychydig yn rhy hunanfodlon ynglŷn â pha mor bendant yw hyn.

Na, nid wyf yn hunanfodlon o gwbl, ac rwy’n gobeithio, yn fy sylwadau agoriadol, fy mod wedi gwneud hynny'n glir iawn. Dof yn ôl at egwyddor Sandford oherwydd, yn amlwg, mae nifer o Aelodau wedi codi hynny yn eu cyfraniadau.

Os caf i ddechrau gyda chyfraniad Simon Thomas: soniasoch yn benodol am RSPB Cymru, a oedd yn cael eu cynrychioli ar y gweithgor. Mae pobl eraill wedi dweud wrthyf ei fod yn adlewyrchu—nhw yw’r unig bobl sydd wedi dweud nad yw'n adlewyrchu'r adroddiad. Felly, ar y sail nad oes modd i chi fodloni pawb bob amser, wyddoch chi, mae'n anffodus iawn bod yr RSPB yn teimlo felly ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei drafod ymhellach gyda nhw.

Cyfeiriodd David Melding eto at egwyddor Sandford. Rydym bellach wedi cyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru gyda'n hegwyddorion ein hunain, er mwyn sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cynnal a gwella cydnerthedd ein hamgylchedd, ac mae hynny'n sylfaen bendant ar gyfer polisi amgylcheddol yng Nghymru ac fe ddylai hynny mewn gwirionedd adeiladu ar AHNE a’n parciau cenedlaethol.

John Griffiths, chi oedd yr unig berson i sôn am forluniau. Rydych chi’n hollol iawn, mae'n ymwneud â'n holl dirweddau a'r gwaith a fydd yn cael ei wneud yn y dyfodol.

Gofynnodd David Rowlands pam mae angen deddfwriaeth. Wel, daeth hyn yn amlwg o'r broses a sefydlwyd i ystyried hyn. Roeddech hefyd yn honni ar gam fod Sandford yn ymwneud â datblygiadau newydd ac mai dyna, rwy’n credu, sydd wedi sbarduno’r lefel o ohebiaeth yr ydym i gyd wedi’i chael a pham eu bod yn dweud nad ydynt yn cael eu cefnogi. Ond fel y dywedais yn fy ateb i David Melding, mae gennym ein hegwyddorion ein hunain yma yng Nghymru.

Siaradodd Siân Gwenllian am Eryri ac, unwaith eto, ei chred bryderus bod parciau dan fygythiad. Wel, nid yw hynny wedi dod oddi wrth Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, rwy’n gobeithio fy mod i wedi ailadrodd hynny yn fy sylwadau.

Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at Eryri. Gan fy mod yn dod o’r gogledd, mae Eryri yn hynod annwyl i mi, ac mae'n hynod annwyl i Lywodraeth Cymru. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn yr wyf newydd ei ddweud wrth Siân Gwenllian: nid wyf yn gwybod o ble mae hyn wedi dod, ond nid yw wedi dod gan Lywodraeth Cymru. Yn anffodus, nid ydym mewn sefyllfa i ddiogelu cyllidebau parciau cenedlaethol oherwydd llymder eich Llywodraeth yn San Steffan, ond gobeithio y bydd yn newid ddydd Iau.

Cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at y dull o ddarparu adnoddau—mae'n bwynt pwysig iawn, ac rwy’n meddwl bod hynny wedi dod yn amlwg yn y gweithgor ac mae angen i ni edrych ar hynny, wrth symud ymlaen.

Suzy Davies, fe wnaethoch ofyn am Fiosffer Dyfi—rwy’n meddwl bod llawer i'w ganmol yn y dull hwnnw, ond, unwaith eto, y mae angen ymgynghori arno. Mae adroddiad y gweithgor yn awgrymu archwilio sawl ffordd o edrych ar hynny, ond bydd angen ymgynghori ar hynny mewn gwirionedd.

Neil Hamilton, rydych yn aml yn codi Tsieina gyda mi. Wel, a ydym ni’n mynd i daflu ein dwylo i fyny yn yr awyr a dweud, 'Wel, ni fyddwn yn gwneud yr hyn yr ydym yn meddwl y mae angen i ni ei wneud'? Mae’n rhaid i mi ddweud, maen nhw’n dechrau—. Wyddoch chi, ynni adnewyddadwy—roeddwn i’n darllen erthygl yr wythnos diwethaf am y lefel o ynni adnewyddadwy y maen nhw’n ei gyflwyno.

Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders hefyd at ymestyn Sandford i AHNE. Wel, dim ond un pwrpas sydd iddynt, AHNE, a hynny yw cadw, felly, mewn gwirionedd, ni ellid ymestyn Sandford i AHNE.

Dim ond i gloi, Dirprwy Lywydd [Torri ar draws.]

Dim ond pwynt byr iawn ydi e: rwy'n credu mai un o'r pethau na ddylem ei golli—rwy’n deall bod llawer o'r pwyslais heddiw wedi bod ar ardaloedd dynodedig, ond nid wyf eisiau colli'r peth y mae’r adroddiad hwn yn mynd â ni ymlaen arno, lle mae'n dweud mai

awydd Tirweddau Dyfodol Cymru yw datgloi potensial llawn pob tirwedd yng Nghymru, gan gynnwys tirweddau dynodedig.

Ac mae hynny’n hanfodol ar gyfer datblygu twristiaeth mewn etholaethau yng nghymoedd y de neu’r canolbarth—lleoedd nad ydynt yn dirweddau dynodedig. Mae'r adroddiad hwn yn mynd â ni ymlaen at y diriogaeth honno. Peidiwch â cholli hynny wrth i chi ei ddatblygu.

Yn hollol, a soniasoch yn benodol am ardaloedd rwy’n meddwl mai yng Ngŵyr oedd hynny, wrth symud ymlaen.

Dylai ein tirweddau dynodedig nid yn unig gael eglurder pwrpas, ond rwy’n meddwl bod yn rhaid bod ganddynt drefniadau llywodraethu effeithlon ac effeithiol iawn, ac mae pobl wedi cyfeirio at hynny. Fel y dywedais, byddaf yn dod â mwy o safbwyntiau ymlaen yn dilyn yr ymgynghoriad sy'n dod i ben ddiwedd y mis.

Mae rhaglen Tirweddau Dyfodol Cymru wedi bod yn gydweithredol iawn o ran natur, gan gynnwys ystod eang o randdeiliaid yn ei dadleuon a thrafodaethau, ac rwyf eisiau parhau yn yr un modd— [Torri ar draws.] Does gen i ddim amser, mae'n ddrwg gennyf. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgynghori'n eang cyn penderfynu ar newidiadau i'r gyfundrefn dirwedd ddynodedig ar hyn o bryd. Rwyf wedi rhoi sicrwydd, ar ôl ymgynghori, y bydd unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol yn dod yma, bydd yn cael ei chraffu yma, ac rwy’n gobeithio, wrth ymateb i bob un o'r nifer o negeseuon e-bost yr ydym wedi eu cael y byddwn yn gallu cyfleu’r pwynt hwnnw. Rwy'n credu mai’r her yn awr yw ein bod, gyda'n gilydd, yn cyflwyno ymagwedd gydweithredol iawn a ddechreuodd gyda'r gweithgor, a bod yn rhaid i hynny arwain at fanteision parhaol i bobl Cymru. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n bwriadu cynnal y bleidlais. Y bleidlais, felly, ar yr adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru—ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 24, Yn erbyn 26, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6321.

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, fe dderbyniwyd y gwelliant yna.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 50, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6321.

Cynnig NDM6321 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod yr adroddiad Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru wedi'i gyhoeddi.

2. Yn cytuno bod Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yn chwarae rhan allweddol:

a) fel lleoedd gwerthfawr ar gyfer natur ac fel lleoedd sy'n creu budd i'r cyhoedd a budd preifat drwy wahanol wasanaethau; a

b) o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a chefnogi cymunedau gwledig bywiog.

3. Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, sydd ynghlwm wrth y syniad o fro, sydd wrth wraidd hunaniaeth cymuned a'r modd y mae llawer o bobl yng Nghymru'n mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i le penodol.

4. Yn credu y dylai unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu Parciau Cenedlaethol fynd trwy'r Cynulliad fel deddfwriaeth sylfaenol.

4. Yn credu y dylai unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu Parciau Cenedlaethol fynd trwy'r Cynulliad fel deddfwriaeth sylfaenol.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6321 fel y’i diwygiwyd: O blaid 50, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6321 fel y’i diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:44.