Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

27/09/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Leanne Wood.

Hyrwyddo’r Gymraeg

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg? OAQ(5)0161(FM)

Mae ein gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn dangos ein huchelgais o ran yr iaith. Mae hyrwyddo a normaleiddio yn elfennau hanfodol ar ein strategaeth ddrafft, sydd ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad.

Brif Weinidog, sylwaf eich bod wedi datgan cefnogaeth i'r nod o ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond nid oedd llawer o sylwedd y tu ôl i’r cyhoeddiad hwnnw. Tybed os gallwch chi ddweud wrthym yn union sut yr ydych yn bwriadu cyflawni’r ymrwymiad hwnnw. Beth yw eich targedau a’ch amserlenni ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud cynnydd tuag at y nod hwnnw? Er enghraifft, erbyn pryd y gallwn ni ddisgwyl cyrraedd y garreg filltir o weld tri chwarter miliwn o siaradwyr Cymraeg? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi dyddiad ar gyfer hynny i ni, os gwelwch yn dda.

Cofiwch, wrth gwrs, bod y strategaeth mewn gwirionedd yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac mae hynny'n cynnwys ein cynigion o ran y ffordd ymlaen. Un maes, wrth gwrs, sy'n eithriadol o bwysig, yw gwneud yn siŵr bod gan yr awdurdodau addysg lleol yng Nghymru gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg priodol, ac rydym wedi ei gwneud yn gwbl glir iddynt y byddwn yn gwrthod unrhyw gynllun y byddant yn ei lunio—unrhyw un o'r awdurdodau hynny—nad yw’n ddigon uchelgeisiol.

Fel ŷch chi wedi dweud o’r blaen, Brif Weinidog, mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn iaith fyw yn ein cymunedau ni. Felly, mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n annog pobl i ddefnyddio’r iaith ym mhob rhan o’u bywydau, sydd yn cynnwys defnyddio’r Gymraeg ar-lein, er enghraifft. Roedd comisiynydd yr iaith wedi ei gwneud hi’n glir yng nghrynodeb ei hadroddiad pum-mlynedd, nôl yn yr haf, fod yna botensial i dechnoleg hwyluso cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, achos mai Saesneg yw’r iaith a ddefnyddir ar-lein yn bennaf ar hyn o bryd. Yn yr amgylchiadau, a allwch chi ddweud wrthym ni fel mae’ch Llywodraeth chi’n mynd i hybu defnydd o’r Gymraeg ar-lein yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf yma?

Mae sawl peth. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae hyn yn rhan o’r strategaeth, ynglŷn â’r ffaith bod y strategaeth yn edrych ar ffyrdd i gefnogi a hybu’r iaith yn y byd digidol. Hefyd, mae’n bwysig dros ben, wrth gwrs, i newid ymddygiad pobl ifanc. Rŷm ni wedi bod yn cyllido rhai o brosiectau’r Urdd dros y blynyddoedd er mwyn iddyn nhw ddatblygu aps ac yn y blaen i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gweld yr iaith fel iaith ddigidol ac fel nad ydyn nhw’n meddwl trwy’r amser mai’r Saesneg yw’r unig iaith y maen nhw’n gallu ei defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol.

O gofio’r ymrwymiad hwn i filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae cydnabyddiaeth gyffredinol bod dwyieithrwydd yn cael ei gyflawni orau trwy drwytho plant mewn ail iaith mor gynnar â phosibl, pa drefniadau y mae’r Llywodraeth wedi eu gwneud i gynnwys dysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau cyn-ysgol?

[Anghlywadwy]—fu’r strategaethau addysg cyfrwng Cymraeg yr ydym yn disgwyl i awdurdodau lleol eu llunio, mae rhai ohonynt yn fwy datblygedig nag eraill, ond mae'n bwysig iawn bod llwybr priodol yn cael ei nodi gan awdurdodau lleol i sicrhau bod mynediad at y Gymraeg fel iaith i'w dysgu neu, yn wir, i gael eu haddysgu drwyddi ar gael mor rhwydd â phosibl yng Nghymru.

Twristiaid sy’n Ymweld â Chymru

2. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer codi nifer y twristiaid sy'n ymweld â Chymru? OAQ(5)0156(FM)

Mae ein strategaeth dwristiaeth, 'Strategaeth ar gyfer Twristiaeth 2013—2020: Partneriaeth ar gyfer Twf', yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer datblygu a hyrwyddo cynnig twristiaeth Cymru gartref a thramor.

Heddiw yw Diwrnod Twristiaeth y Byd, fel y byddwch yn gwybod rwy’n siŵr, Brif Weinidog, ac mae mor bwysig ein bod yn tynnu sylw at yr hyn sy'n cael ei gynnig ym mhob rhan o'n gwlad i ymwelwyr. Mae atyniadau yn fy etholaeth fy hun, Cwm Cynon, fel distyllfa wisgi Penderyn a digwyddiadau unigryw fel rasys ar y ffordd Nos Galan, sy'n coffáu Guto Nyth Brân. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cyfoeth o gyfleoedd tebyg ledled cymoedd y de yn cael eu hamlygu o fewn ei strategaeth dwristiaeth? Hefyd, gan mai thema Diwrnod Twristiaeth y Byd 2016 yw 'twristiaeth i bawb', sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phartneriaid i sicrhau bod atyniadau yn hygyrch i bob ymwelydd posibl?

Mae gwefan Croeso Cymru yn rhestru amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ledled Cymru, gan gynnwys llawer yn y Cymoedd, ac mae ras ffordd flynyddol Nos Galan yn Aberpennar wedi ei rhestru ym mhrif lyfryn twristiaeth blynyddol Croeso Cymru, 'Dyma Gymru 2016’.

Gofynnodd hefyd, wrth gwrs, am hygyrchedd. Mae gwefan Croeso Cymru yn cynnwys hidlydd ar gyfer darparu ymwelwyr anabl i alluogi ymwelwyr i chwilio am atyniadau sy'n darparu ar gyfer pobl ag anableddau, ac mae’r wybodaeth honno yn seiliedig ar y manylion a ddarperir gan yr atyniadau eu hunain, a gall ymwelwyr gadarnhau yr union gyfleusterau sydd ar gael ar adeg gwneud ymholiad neu archebu.

Rydych chi wedi bod yn Brif Weinidog am saith mlynedd, ac rydych felly’n mynd heibio gorsaf drenau ddadfeiliedig Bae Caerdydd bob dydd. Rydych hefyd yn mynd heibio'r ffasâd ysblennydd ond dadfeiliol adeilad Cory’s gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru. Onid ydych chi’n sylweddoli faint o gywilydd y mae’n ei godi ar Gymru mai’r adeiladau hynny yw'r pethau cyntaf y mae llawer o dwristiaid yn eu gweld wrth ymweld â Bae Caerdydd? Ni fyddai Llywodraeth San Steffan yn caniatáu pethau hyll o'r fath o fewn tafliad carreg yn llythrennol i Senedd y DU. Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud ynglŷn â’r hagrwch hwn ym Mae Caerdydd?

Wn i ddim beth oedd ef yn ei wneud pan oedd yn ddirprwy arweinydd Caerdydd, oherwydd, wrth gwrs, mae gan y cyngor gyfrifoldeb, nid ar gyfer yr orsaf reilffordd, rwy’n derbyn, ond yn sicr dros y Sgwâr Canolog, sy'n cael ei ddatblygu erbyn hyn, wrth gwrs, gan gyngor dan arweiniad Llafur yng Nghaerdydd. Felly, mae’r orsaf fysiau newydd yn cael ei hadeiladu ac mae gan y ddinas borth priodol. Mae'n codi pwynt pwysig am yr orsaf reilffordd ganolog. Rwyf yn sicr wedi cyfarfod â Network Rail. Mae ganddynt gynlluniau ar gyfer yr orsaf, ac rydym wedi bod yn eu hannog i ddatblygu’r cynlluniau hynny cyn gynted ag y bo modd, gan gadw cymeriad yr orsaf, wrth gwrs, gan, ar yr un pryd, foderneiddio’r cyfleusterau sydd ar gael.

Brif Weinidog, mae Visit Scotland yn gwario dros £50 miliwn ar hyrwyddo’r Alban. Yng Nghymru, Croeso Cymru, gwariwyd £8.3 miliwn ar Gymru yn ei chyfanrwydd. Ond nid oes unrhyw ran o’r gwariant hwnnw yn cael ei wario'n benodol ar hyrwyddo’r canolbarth fel cyrchfan penodol i ymweld ag ef. Mae gennym y llwybr arfordirol, mae gennym drefi marchnad hardd yn edrych dros olygfeydd gwych yng nghanolbarth Cymru. A gaf i ofyn, Brif Weinidog: a yw'n ddigon da nad ydym ni’n hyrwyddo’r canolbarth fel cyrchfan penodol?

Mae e'n gwneud achos cryf dros yr ardal y mae'n ei chynrychioli, ac rwyf yn gwerthfawrogi hynny. Rydym yn ceisio, wrth gwrs, hyrwyddo pob rhan o Gymru, gan gynnwys ardaloedd nad ydynt yn draddodiadol wedi eu hystyried fel ardaloedd sydd yn draddodiadol wedi denu twristiaid. Gallaf ddweud bod gwariant gan ymwelwyr sy'n aros yng Nghymru yn 2015 dros £2.3 biliwn, sy’n sylweddol uwch na'r targed a osodwyd gennym. Rydym yn gwybod bod twristiaeth yn gyflogwr pwysig yng Nghymru hefyd, a byddwn yn parhau i geisio cynyddu nifer yr ymwelwyr, yn ystod y dydd a thros nos, i bob rhan o Gymru, fel y gall y rhai nad ydynt yn ddigon ffodus i fod yn byw yma fwynhau'r hyn sydd gennym i'w gynnig.

Brif Weinidog, rwyf yn croesawu'r haf llwyddiannus ar gyfer twristiaeth yng Nghymru o ran ymweliadau dydd a hefyd y buddsoddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn fy etholaeth i, gan gynnwys gwelliannau i gastell y Fflint, a’r fenter Let’s Sk8 gyffrous, sy'n dod i Theatr Clwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. A allwch chi ein sicrhau y bydd y buddsoddiad hwn yn parhau i gael ei ddatblygu fel y gallwn barhau i dyfu ein heconomi ymwelwyr hollbwysig yn y gogledd?

Gallaf, wrth gwrs. Mewn ymateb i'r pwynt a wneuthum yn gynharach, rydym eisiau annog twristiaeth i ddod i bob rhan o Gymru, nid dim ond yr ardaloedd sydd yn draddodiadol wedi bod yr ardaloedd sydd wedi denu’r rhan fwyaf o dwristiaid. A byddwn yn parhau i geisio darparu buddsoddiad i wella’r cyfleusterau hynny ar gyfer ymwelwyr yn y blynyddoedd i ddod.

Brif Weinidog, mae llawer o fusnesau yn y gogledd yn ddibynnol ar dwristiaeth ac wedi bod dan anfantais ers talwm yn y gogledd, yn rhannol oherwydd y methiant i hysbysebu atyniadau lleol ar hyd yr A55 yn ddigonol. Mae'n broblem barhaus a brofir gan atyniadau—ymwelwyr lleol yn mynd ar yr A55, stopio yn eu cyrchfan, heb unrhyw syniad o'r gweithgareddau amrywiol oddi ar yr A55 nad oes arwyddion i ddangos ble y maent. Mae'r cyfle i ddefnyddio'r A55 fel ffordd o gynhyrchu incwm i fusnesau lleol yn cael ei golli. A wnewch chi egluro i ni os gwelwch yn dda beth yr ydych chi’n mynd i’w wneud i fynd i'r afael â'r broblem hon?

Wrth gwrs, gan weithio gydag awdurdodau lleol, rydym yn gallu ymchwilio, er enghraifft, i ddarparu mwy o arwyddion brown. Rydym yn gweld y rheini yn cael eu codi ledled Cymru. Mae'n iawn i ddweud ein bod yn gweithio ar sicrhau ein bod yn denu mwy o ymwelwyr sy'n teithio ar hyd yr A55 i Iwerddon, ac mae llawer ohonynt wedi dweud wrthyf yn y gorffennol, 'Wel, rydym wedi teithio i Iwerddon ar y ffordd honno ond heb stopio ar y ffordd a dweud y gwir.' Gallaf ddweud, er hynny, pan ddaw i dwristiaid rhyngwladol, fod y ffigurau yn parhau i gynyddu, ac, iddyn nhw, wrth gwrs, bydd llawer ohonynt yn ymweld ag Iwerddon a theithio drwy ogledd Cymru i gyrraedd yno. Ond, gan weithio gyda'r awdurdodau lleol, rydym yn credu y gallwn barhau i ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr yn ddigidol ac o ran arwyddbyst.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac yn gyntaf yr wythnos yma, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yn aml iawn yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog rydych yn siarad yn faith am yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Felly, ar gyfer y cwestiwn hwn, hoffwn ganolbwyntio ar yr hyn yr ydych yn ei gredu fyddai’r canlyniad gorau o arweinyddiaeth Jeremy Corbyn. A ydych chi’n credu y byddai cael Jeremy Corbyn fel y prif weinidog nesaf er budd pennaf y Deyrnas Unedig?

Mae'n braf gweld eich bod yn mynd i chwarae eich rhan yn y drioleg, felly, o dranc y Blaid Lafur drwy ei gael ef yn Brif Weinidog, oherwydd ysgrifennwyd y nodyn hunanladdiad hiraf posibl yn 1983 ar gyfer y Blaid Lafur, a, thrwy gael Prif Weinidog sy'n cyflawni dros Gymru, mae'n hanfodol bod gennym y person hwnnw yn Rhif 10. Fe aethoch chithau i'r Gynhadledd — [Torri ar draws.]

A gawn ni glywed cwestiynau arweinydd y Ceidwadwyr, os gwelwch yn dda, mewn tawelwch, heb unrhyw ymgais gan Weinidogion i helpu'r Prif Weinidog?

Mae ef angen yr holl gymorth y gall ei gael. [Chwerthin.] Brif Weinidog, fe aethoch chithau hefyd i gynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl a lansio strategaeth yno—rhaglen Plant Iach Cymru, rhywbeth yr ydym yn llwyr gefnogi ar y meinciau hyn, oherwydd, pan edrychwch ar y mynegeion yn ymwneud ag iechyd plant, maent yn eithaf dychrynllyd, a dweud y lleiaf, yma yng Nghymru. A, mewn gwirionedd, nid yw’r rhan fwyaf o’r prif fynegeion wedi symud ers 2007 yma yng Nghymru. A allwch chi ddweud wrthym sut y bydd y Llywodraeth yn symud y strategaeth hon yn ei blaen ac, yn bwysig, pa linellau cyllideb yr ydych wedi’u cytuno—rwyf yn gwerthfawrogi y cyhoeddwyd datganiad ddoe, ond nid oedd fawr yn y datganiad hwnnw Brif Weinidog—pa linellau cyllideb sydd wedi eu cytuno i symud y polisi hwn yn ei flaen, a faint o nyrsys cymunedol ychwanegol fydd gennym ni erbyn 2021, gan ein bod yn gwybod bod nifer y nyrsys cymunedol yn lleihau yng Nghymru?

Bydd hyn yn cael ei archwilio, wrth gwrs, pan fydd y gyllideb yn cael ei chreu, ac, yn rhan o'r addewidion a wnaethom i bobl Cymru yn ôl ym mis Mai, rydym yn bwriadu parhau â'r sefyllfa lle mae anghydraddoldebau iechyd yn lleihau. Yr hyn yr ydym wedi ei weld, wrth gwrs, gyda'r dreth ystafell wely a gyda thoriadau i fudd-daliadau lles yw bod anghydraddoldeb wedi cynyddu yng Nghymru, a byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i frwydro yn erbyn hynny. Rwy'n ddiolchgar iddo am grybwyll cynhadledd fy mhlaid fy hun. Os yw'n dymuno, wrth gwrs, chwarae mwy o ran yn hynny, yna gall wneud cais i ymuno, er na allaf warantu y bydd ei gais yn cael ei dderbyn.

Brif Weinidog, mae'r Blaid Lafur yn gwneud pob ffafr o fewn ei gallu i'r Ceidwadwyr a phartïon eraill ar hyn o bryd—hir, hir y pery hynny. Fel yr wyf yn dweud, rydym bellach i mewn i gyfnod y drioleg, ydym, oherwydd cawsom y dilyniant yn 2015, do fe gawsom.

Ond roedd y pwynt arall a godwyd yr wythnos diwethaf, gan fy nghydweithiwr, David Melding, ar bolisi’r Llywodraeth—am na chawsom ateb i fy ail gwestiwn gennych chi, felly mae'n amlwg nad oes llinell gyllideb wedi’i nodi hyd yn hyn, na strategaeth wedi’i datblygu i gynyddu niferoedd nyrsys cymunedol—yn ymwneud â thai. Ac, yn y rhaglen lywodraethu, gwnaethoch, er clod i chi, nodi eich bod yn awyddus i ddatblygu 20,000 o unedau tai cymdeithasol erbyn 2021. Ond nid oedd unrhyw atebion i'r hyn y mae'r argyfwng tai presennol ei wynebu, y tai newydd yn y farchnad dai, lle y gwelsom ostyngiad o 7 y cant mewn tai newydd yng Nghymru y llynedd. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn mynd i gyflawni ei thargedau tai cymdeithasol, ac, yn bwysig, sut mae'n mynd i greu mwy o weithgarwch yn y farchnad dai yn gyffredinol fel, erbyn 2021, y gallwn fod yn cyrraedd y targed o 12,000 o unedau y flwyddyn, yn hytrach na'r 8,000 yr ydym yn ei gyrraedd ar hyn o bryd?

Wel, mae'n sôn am y materion cyllidebol. Unwaith eto, byddant yn rhan o'r gyllideb pan gaiff ei chyhoeddi er mwyn i’r holl Aelodau ei gweld. Mae gennym ein targed o 20,000. Bydd y Gweinidog yn egluro i'r Cynulliad sut y caiff y targed hwnnw ei gyflawni. Rydym wedi cyflawni’r targedau hynny yn y gorffennol. Rydym yn sefyll ar ein hanes. Mae'n sôn am drioleg. Ail ran y drioleg, wrth gwrs, oedd trechu a lleihau aelodau’r Blaid Geidwadol yn yr etholiadau ym mis Mai.

Diolch fawr, Lywydd. Yn y ddogfen y Llywodraeth, 'Symud Cymru Ymlaen', mae’r adran ar iechyd yn dweud,

'Rydym wedi ymrwymo i helpu i wella iechyd a lles i bawb.'

Ond, fel y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, mae llawer o rannau o Gymru lle mai dim ond dyhead yw hynny. Ac, yng Ngwynedd yn arbennig, yn yr ardal o amgylch Blaenau Ffestiniog, mae’r hanes yn union i'r gwrthwyneb. Yn y saith ardal les a ddiffinnir gan Gyngor Gwynedd, mae ysbyty cymuned ym mhob un heblaw am Flaenau Ffestiniog. Ac, ers 2013, rydym wedi gweld cau'r ysbyty coffa, colli gwelyau ysbyty, cau'r gwasanaeth pelydr-x, cau'r uned mân anafiadau, cau clinigau teledermatoleg a gwasanaethau therapi, mae dwy feddygfa cangen wledig wedi cau, ac mae'r practis meddyg teulu ym Mlaenau Ffestiniog a oedd i fod i gael pedwar o feddygon llawn amser, ond dim ond un meddyg cyflogedig ac amrywiaeth o feddygon locwm sydd yno. Cyn belled ag y mae Blaenau Ffestiniog yn y cwestiwn, nid oes ganddynt wasanaeth iechyd gwladol, ond mae gwasanaeth iechyd syniadol. Beth mae e'n mynd i’w wneud am hyn?

Wel, yn gyntaf oll, rydym wedi bod yn buddsoddi, fel y byddwn ym Mlaenau Ffestiniog, mewn canolfannau iechyd newydd sbon ar draws Cymru gyfan. Nid ydym yn gweld cadw hen adeiladau dim ond er mwyn gwneud hynny fel y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Mae'n hynod o bwysig bod Blaenau a chymunedau eraill yn cael mynediad at y cyfleusterau mwyaf cyfredol a modern â phosibl, ac mae enghreifftiau o hynny o amgylch Cymru, a dyna yn union yr hyn yr ydym eisiau ei gynnig i bobl Blaenau.

Wel, mae gan bob un o'r chwe ardal lles eraill wedi cael ysbyty sydd ar agor am 24 awr y dydd. Bydd y ganolfan iechyd ym Mlaenau ar agor am ddim ond 10 awr y dydd. Mae hynny'n annerbyniol. Y dyhead yw bodloni anghenion y boblogaeth leol a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mor agos i gartrefi cleifion ag sy'n bosibl. Mae cyrraedd Ysbyty Gwynedd o Flaenau Ffestiniog yn daith dwy ffordd o 80 milltir, neu siwrnai, ac, i lawer o bobl oedrannus, a phobl ar incwm isel, mae hyn yn golygu nad yw'r gwasanaeth iechyd gwladol mewn gwirionedd yn rhad ac am ddim yn y man darparu iddyn nhw oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw dalu i fynd yno. Mae Gweinidogion, yn anffodus, wedi gwrthod ymyrryd yn yr achos hwn—yr Ysgrifennydd Cabinet presennol a'i ragflaenydd, Mark Drakeford—oherwydd eu bod yn dweud bod y penderfyniad i gau gwasanaethau lleol wedi ei gytuno yn lleol, ond, wrth gwrs, Betsi Cadwaladr a gytunodd i wneud hynny yn lleol. Pan ofynnwyd i bobl leol drwy refferendwm cymunedol, pleidleisiodd bron i 100 y cant o bobl yn erbyn cau’r gwasanaethau hynny. Felly, rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog nawr, a wnaiff ef annog ei gydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet, i ymyrryd yn bersonol yn yr achos hwn?

Mae'n ymddangos ei fod yn gwneud achos dros sefydlu ysbyty cyffredinol dosbarth yn yr ardal os yw'n dweud bod teithio yn broblem. Ydy mae e’n broblem. Rydym yn gwybod bod teithio mewn rhai rhannau o Gymru yn golygu bod yn rhaid i bobl deithio ymhellach na'r arfer, ond mae hynny oherwydd eu bod yn cael gwell gwasanaeth nag ysbyty cyffredinol dosbarth. Yr hyn sydd gennym, wrth gwrs, yw Ysbyty Alltwen, sydd, rwy’n credu, tua 7 milltir o Flaenau Ffestiniog, ac yn wir yr addewid o fuddsoddiad i gyfleusterau iechyd newydd, fel nad oes yn rhaid i bobl fynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Ers llawer, llawer iawn o flynyddoedd, bu gennym wasanaeth iechyd yn y wlad hon a oedd â phwyslais ar yr ysbyty. Rydym yn bwriadu sicrhau y gall mwy a mwy o bobl aros gartref, cael y cymorth sydd ei angen arnynt gartref, heb orfod mynd i'r ysbyty.

Mae'r rhestr o wasanaethau sydd wedi’u cau yr wyf newydd ei darllen ar goedd yn dangos mai dim ond dyhead yw hynny—yr hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud. Mae pobl ym Mlaenau yn teimlo bod gwahaniaethu yn eu herbyn ymhlith yr holl ardaloedd lles sy'n cael eu nodi gan gyngor sir Gwynedd. Beth sydd gan Dywyn, er enghraifft, nad oes gan Flaenau Ffestiniog o ran anghenion iechyd y bobl? Rwy’n gofyn y cwestiwn syml hwn i'r Prif Weinidog: a wnewch chi annog Ysgrifennydd y Cabinet i gwrdd â dirprwyaeth o Flaenau Ffestiniog er mwyn i ni gael dadlau achos hawliau’r ardal bwysig hon i well triniaeth yn rhan o amcan cyffredinol y Llywodraeth a nodwyd yn ei dogfen chwyddedig yr wythnos diwethaf?

Mae'n gwbl hanfodol bod yr ardal yn cael gwell triniaeth; dyna pam yr ydym yn buddsoddi mewn cyfleusterau iechyd. Mae angen iddo fynd i siarad â phobl, er enghraifft, ar Lannau Dyfrdwy, lle yr agorwyd cyfleuster iechyd newydd sbon, neu bobl, yn wir, ym Mhort Talbot, ym Maglan, gyda'r ysbyty Castell-nedd Port Talbot— y ganolfan iechyd newydd sbon yn y fan honno—neu Lanfair-ym-Muallt, gyda'r ganolfan iechyd newydd sbon yno. Rydym yn darparu cyfleusterau y mae pobl eu hangen ar gyfer y dyfodol, ac yn bwysig, y cyfleusterau sy’n llunio’r dyfodol cyn belled ag y mae gwasanaeth iechyd yr unfed ganrif ar hugain yn y cwestiwn, gan sicrhau bod llai a llai o bobl yn gorfod aros yn yr ysbyty, yn hytrach na gwneud pethau yn yr un hen ffordd, lle mae pobl yn aros yn yr ysbyty pan nad oes angen iddynt wneud hynny.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, faint o blant sy’n aros am fwy na phedwar mis am apwyntiad cyntaf gyda gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed?

O ran gwasanaeth iechyd meddwl plant a’r glasoed, rydym wedi buddsoddi’n drwm— £6.6 miliwn i'r gwasanaeth. Roedd y galw yn fwy na'r cyflenwad, mae cymaint â hynny’n wir, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym wedi cyfateb hynny â'r buddsoddiad ychwanegol sydd wedi ei wneud. Mae'n golygu, wrth gwrs, bod y niferoedd sy'n aros a'r amseroedd y mae pobl ifanc yn aros wedi mynd i lawr.

Brif Weinidog, rwyf yn gofyn i chi am ffigur, a'r union nifer yr oeddech yn chwilio amdano yw 1,174 o blant yn aros am bedwar mis. Ac nid yw'n wir i ddweud bod y ffigur hwnnw wedi gostwng, gan fod y ffigur hwnnw wedi treblu bron dros y tair blynedd ers 2013. Rydym ni i gyd yn gwybod bod buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol ar gyfer canlyniadau cadarnhaol mewn addysg ac iechyd, ac yn arbennig wrth atal rhai o'r problemau sy’n gallu codi yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae datblygiadau mewn niwrowyddoniaeth yn dangos y gall blynyddoedd cynnar yr arddegau fod yr un mor hanfodol ar gyfer datblygiad person â’r blynyddoedd cynnar.

Ymwelais â’m hen ysgol ddydd Gwener diwethaf, a dywedwyd wrthyf fod cyfraddau hunan-niweidio wedi cynyddu’n aruthrol yng Ngholeg Cymunedol Tonypandy, ac nid wyf yn meddwl am funud bod hwnnw'n achos unigol. Mae iselder, pryder a hunan-niweidio wedi mynd yn rhy gyffredin ymhlith cenhedlaeth sydd â llawer o bryderon am bethau fel contractau dim oriau, dyled myfyrwyr enfawr a chyni diddiwedd. Nid yw'r bobl ifanc hynny wedi eu cwmpasu gan yr ymyraethau sydd ar gael i blant o dan saith oed. Gall y pethau a all fynd o chwith yn yr arddegau achosi problemau am oes, a gwelais hynny dim ond yn rhy dda yn fy swydd flaenorol fel swyddog prawf. Brif Weinidog, a wnewch chi sefydlu rhaglen ar gyfer plant yn eu harddegau a chyn eu bod yn eu harddegau i fynd ochr yn ochr â'ch rhaglen Plant Iach Cymru, ac a ydych chi’n fodlon edrych ar y rhan y gallai ymwybyddiaeth fyfyriol ei chwarae mewn rhaglen o'r fath?

Wel, yn gyntaf oll, crybwyllwyd ymwybyddiaeth fyfyriol ym maniffesto Llafur Cymru fel rhywbeth y gellid edrych arno. Pan fyddwn ni’n sôn am iechyd plentyn hyd at saith mlwydd oed, mae’n rhaid i hynny gynnwys pob math o iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl hefyd. Mae hynny'n rhywbeth a fydd yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth ddatblygu'r rhaglen.

Yr ail bwynt yw hwn: mae hi'n iawn, rydym yn gweld achosion lle mae pobl ifanc yn canfod eu hunain o dan lawer o straen. Mae seiber-fwlio yn un maes, yn arbennig, nad oedd yn rhaid iddi hi na minnau ymdopi ag ef ac mae’n rhywbeth sydd yn broblem wirioneddol, ac mae'r rhaglen addysg mewn ysgolion i ymdrin â hynny yn bwysig. Y ffaith fod cwnselwyr yn yr ysgolion uwchradd—mae hynny'n bwysig er mwyn helpu pobl ifanc ac, wrth gwrs, yn y pen draw, gwneud yn siŵr bod yr adnoddau ar gael ar gyfer CAMHS. Mae'r adnoddau wedi eu sefydlu ac rwyf yn llwyr ddisgwyl i'r amseroedd aros a’r niferoedd leihau wrth i’r adnoddau hynny weithio drwy'r system.

Brif Weinidog, mae hanes eich Llywodraeth ar helpu pobl ifanc sydd ag iechyd meddwl gwael yn warthus, ac mae hynny heb sôn am y plant a phobl ifanc nad ydynt hyd yn oed yn cyrraedd y system. Mae'r gyfradd marwolaethau ar gyfer pobl yn eu harddegau rhwng 15 a 19 oed yn uwch yng Nghymru nag yw yn Lloegr, ac ni fu unrhyw leihad mewn marwolaethau o anafiadau bwriadol ymhlith y grŵp oedran hwnnw, rhwng 10 a 18 oed, mewn tri degawd. Mae archwiliad cenedlaethol o achosion marwolaethau plant wedi awgrymu nad oedd nifer o bobl ifanc a fu farw o ganlyniad i hunanladdiad wedi cael unrhyw gysylltiad o gwbl â'r gwasanaethau iechyd meddwl, ac, ar gyfer y rhai a oedd wedi cael cysylltiad, cafwyd problemau gyda gwasanaethau yn methu â chysylltu â chleifion nad oeddent wedi dod i’w hapwyntiadau cyntaf. Fe wnaethoch gyfaddef unwaith, Brif Weinidog, nad oedd eich Llywodraeth wedi talu digon o sylw wrth ymdrin ag addysg. A wnewch chi nawr dderbyn nad yw eich Llywodraeth wedi talu digon o sylw i iechyd meddwl plant a phobl ifanc? A wnewch chi nawr dderbyn bod hyn yn argyfwng ac a wnewch chi ddweud wrthym beth, ar ôl 17 mlynedd o arwain y Llywodraeth yma yng Nghymru, yr ydych chi’n bwriadu ei wneud am hyn?

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid, fy mod wedi cael profiad o hyn, fel y cafodd fy etholwyr, pan gafodd y dref yr wyf yn ei chynrychioli ei brandio fel rhyw fath o brifddinas hunanladdiad, pryd yr oedd gennym newyddiadurwyr rheibus yn cyrraedd o Lundain a oedd yn ceisio cwestiynu pobl ifanc y tu allan i'r coleg lleol ac yn ceisio awgrymu iddynt ei bod yn well bod yn farw na byw yn yr ardal. Dyna'r union eiriau a ddefnyddiwyd. Nid oedd y bobl ifanc hynny a laddodd eu hunain, ar y cyfan, yn adnabod ei gilydd, er gwaethaf yr hyn a awgrymwyd gan y wasg. I ddod at y pwynt yr oedd hi’n ei wneud, roedd llawer ohonynt nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl. Roeddent yn syndod—roedd yr hyn a ddigwyddodd yn syndod i'w teuluoedd. Nid oeddent wedi cael unrhyw rybudd. Mewn rhai ffyrdd, dyna’r drychineb fwyaf oll, oherwydd bod pobl—[Torri ar draws.] Mae'n bwynt pwysig: dyma'r drasiedi fwyaf oll, pan fo gennych bobl ifanc nad ydynt yn hysbys i'r system ac nad ydynt wedi nodi eu hunain i'r system.

Gofynnodd beth sy'n cael ei wneud. Rwyf eisoes wedi crybwyll yr arian sydd wedi cael ei roi i mewn i CAMHS. Mae'n wir i ddweud bod y galw am CAMHS yn sylweddol, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym wedi darparu mwy o adnoddau ar gyfer CAMHS er mwyn gwneud yn siŵr bod mwy o bobl ifanc yn cael eu nodi. Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gennym wasanaethau cwnsela yn yr ysgolion uwchradd er mwyn i bobl ifanc allu mynd i siarad â phobl yn gynnar. Mae hynny'n mynd â ni ymhell y tu hwnt i’r hyn a arferai fod yn wir yng Nghymru.

Hybu Iechyd a Llesiant

3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gofal cymdeithasol o ran cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â hybu iechyd a llesiant gydol oes? OAQ(5)0160(FM)

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn hwn, oherwydd gan mai nhw yw arwyr di-glod y gwasanaeth iechyd mewn sawl ffordd. Maent yn gweithio yn y gymuned ac mewn gofal sylfaenol, ac, wrth gwrs, maent yn darparu llawer o ofal ataliol, sydd yn anodd ei fesur ynddo’i hun, oherwydd sut mae mesur rhywbeth sy'n atal rhywbeth a fyddai wedi digwydd yn y dyfodol? Wrth gwrs, maent yn helpu i ymdrin ag osgoi derbyn cleifion, fel nad oes yn rhaid i fwy o bobl fynd i'r ysbyty, ond eu bod yn cael y gefnogaeth i aros gartref.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Mae’n well i mi ddatgan buddiant, gan fod fy ngwraig—mae yn y gofrestr o fuddiannau—yn radiograffydd. Mae ganddi hefyd ddwylo oer iawn, felly rwyf yn rhybuddio pobl ymlaen llaw. [Chwerthin.] Yng Nghymru, mae 50 y cant o bobl— [Torri ar draws.] Mae ganddi [Chwerthin.].  Bydd hanner cant y cant o boblogaeth Cymru dros 65 oed erbyn 2037. Mae cyfran uwch o bobl sydd dros 85 oed erbyn hyn. Mae'r cynnydd mewn cyflyrau cronig a dau gyflwr cronig ar yr un pryd, gan arwain at anghenion iechyd cymhleth, wedi ei ddogfennu ac mae yno i bawb ei weld. Bydd hyn yn golygu bod yn wirioneddol benderfynol i gyflawni strategaeth Llywodraeth Cymru ac i gyfochri’r gweithlu â gofal sylfaenol a’i gynyddu i sefyllfa lle y gallwn mewn gwirionedd gadw pobl mewn gwasanaeth lles, nid gwasanaeth achub a salwch. Felly, a wnaiff ef longyfarch fy ngwraig a phawb sy'n gweithio mewn proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol perthynol, a llongyfarch Dave Rees hefyd am gynnal digwyddiad yr wythnos diwethaf lle yr oedd yr holl broffesiynau hynny yn bresennol? Maent yn haeddu ein diolch a'n diolchgarwch. Mae ganddynt ran enfawr i'w chwarae.

Mi wnaf ymuno, wrth gwrs, â’r Aelod i longyfarch yr Aelod dros Aberafan. Nid wyf yn siŵr y bydd y cytgord yn teyrnasu yn ei dŷ ef heno o ystyried yr hyn a ddatgelwyd i ni o ran gwybodaeth. Ond mae e’n iawn: yr her sy'n ein hwynebu yn y dyfodol yw, wrth i bobl fynd yn hŷn—bydd, bydd llawer o'r bobl hynny yn fwy ffit pan fyddant yn hŷn, ond, yn anochel, mae pobl yn cael nifer o gyflyrau bach sydd, gyda'i gilydd, yn ei gwneud yn anodd iddynt fyw eu bywydau yn y ffordd y byddent yn dymuno. Mae'n anghyffredin i rywun fod ag un cyflwr difrifol iawn sy'n ei wneud yn anabl. Yn aml iawn, cyfuniad o wahanol bethau ydyw. Beth, felly, y gall y gweithwyr proffesiynol perthynol iechyd ei wneud? Wel, canfod problemau yn gynnar ac ymyrraeth brydlon fel yr ymdrinnir â phethau yn gynnar; atal derbyniadau; rhyddhau wedi’i hwyluso; adsefydlu ac ailalluogi—pwysig iawn, yn amlwg; cefnogaeth ar gyfer cyflyrau cronig hefyd, fel nad oes yn rhaid i bobl â chyflyrau cronig fynd yn ôl yn barhaus i'r ysbyty er mwyn ymdrin â chyfnod gwaeth penodol mewn cyflwr cronig; ac, wrth gwrs, yr hyn y maent yn ei wneud o ran bod yn gallu ychwanegu at dîm amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol i helpu'r unigolyn. Rydym yn gwybod y bydd, yn y dyfodol, mwy o bwysau wrth i bobl fyw'n hirach— rhywbeth i'w groesawu—ond mae hefyd eiddilwch o ran y corff dynol na allwn ddeddfu ar ei gyfer, a bydd mwy a mwy o bobl, wrth iddynt fynd yn hŷn, angen cymorth â’r hyn a allai fod yn nifer o gyflyrau llai, ond er hynny, sydd yn sylweddol iddyn nhw fel unigolyn.

Rwyf wedi ymweld yn yr wythnosau diwethaf â dwy fferyllfa yn fy etholaeth i—fferyllfa Rowlands yn Llanfair Pwllgwyngyll a fferyllfa Boots yn Llangefni. Mae fferyllfeydd, wrth gwrs, yn chwarae rhan hanfodol o fewn y ddarpariaeth ehangach o ofal sylfaenol ac mi fyddwn i’n sicr yn dymuno gweld y ddarpariaeth honno yn cael ei hymestyn. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen cael gwared ar rai o’r rhwystrau sy’n atal fferyllfeydd rhag gallu chwarae eu rhan i’r eithaf, yn cynnwys rhoi’r gorau i’r gwaharddiad ar hysbysebu rhai o’u gwasanaethau nhw, er enghraifft brechiadau y ffliw a gwasanaethau o ran atal ysmygu ac ati?

Mae hynny’n iawn, a bydd yn rhan o’r Mesur iechyd cyhoeddus. Mae’n bwysig dros ben fod unrhyw rwystrau sydd heb unrhyw synnwyr yn mynd. Ond rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod fferyllfeydd yn chwarae rhan hanfodol bwysig o ran sicrhau bod pobl yn gallu cael cyngor heb orfod mynd at y meddyg teuluol, a hefyd, wrth gwrs, byddwn ni’n moyn ymestyn y gwasanaethau sydd ar gael o fferyllfeydd yn y pen draw, gan gofio’r ffaith nawr bod mwy a mwy ohonyn nhw wedi cael yr hyfforddiant clinigol sydd ei angen er mwyn eu bod nhw’n gallu gweithredu’r gwasanaethau hynny.

Brif Weinidog, rwyf innau hefyd yn rhannu'r edmygedd a grybwyllir yma o’r swyddi y mae ein gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yn ymgymryd â hwy ledled y wlad. Mae'r dull amlddisgyblaethol a ddarperir i gleifion gan feddygon gan weithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol o'r fath wedi profi i fod yn effeithiol iawn, yn enwedig yn y byrddau iechyd lle mae ganddynt gyfarwyddwr therapi ac iechyd gwyddorau ar eu byrddau. Gallwch weld hynny drwy’r enghreifftiau o rai a gydnabyddir fel enghreifftiau da ledled Cymru. Felly, Brif Weinidog, beth allech chi ei wneud i ymwreiddio’r swyddogaeth hon, o gofio bod natur y ddarpariaeth gofal iechyd yn newid yn gyson, ac a wnewch chi adolygu neu addo trafod â'ch cydweithwyr yr adolygiad o hyfforddiant datblygu perfformiad parhaus gyfer y bobl hyn fel y gallwn nodi a pharatoi yn well ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gyfarwyddwyr therapïau a gwyddorau iechyd?

Gwnaf, ond yn gyntaf oll byddem yn disgwyl i fyrddau iechyd lleol weld beth sy'n gweithio mewn byrddau iechyd eraill ac yna defnyddio’r arfer gorau hwnnw, a chymhwyso’r arfer gorau hwnnw, yn eu hardaloedd eu hunain. Pan fo tystiolaeth fod yr arfer hwnnw’n gweithio'n dda, yna yn amlwg byddem yn awyddus iddynt edrych arno i weld os yw'n addas yn eu hardal eu hunain ac, os felly, gweithredu hynny. Pan ddaw i DPP, mae llawer o weithwyr proffesiynol, wrth gwrs, yn cael eu llywodraethu gan gyrff proffesiynol nad ydynt, ohonynt eu hunain, wedi eu datganoli, os caf ei roi felly, ac mae ganddynt eu gofynion eu hunain ar gyfer DPP. Ond os yw hynny’n broblem, yna mae'n rhywbeth, wrth gwrs, y gallai’r Gweinidog efallai edrych arno, er mwyn gweld sut y gallai sefyllfa’r cyfarwyddwyr yr ydych wedi cyfeirio ati gael ei chryfhau yn y dyfodol.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach

4. A wnaiff y Prif Weinidog nodi cam nesaf cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0158(FM)

Yes. We are extending the temporary relief scheme, which was due to end in March next year, for a further year. Then, we’ll be developing a new permanent scheme, which will be in place from April 2018.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Nid yw penderfyniad Llywodraeth Cymru i lynu at ei chynllun busnes presennol wedi cael y derbyniad efallai y byddech wedi ei hoffi yn eich etholaeth eich hun, Brif Weinidog. Mae masnachwyr eisoes yn uchel eu cloch wrth feirniadu’r ardrethi busnes uchaf yn fy rhanbarth i, a chymhellion ardrethi gwrthnysig i gadw siopau’n wag. Yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr, yn arbennig, nid ydynt yn hapus iawn â'r cyngor, a wnaeth ei orau i anwybyddu barn masnachwyr ar sut i gynyddu nifer yr ymwelwyr. Mae rhai yn teimlo erbyn hyn eu bod wedi eu camarwain i gredu y byddai cynllun rhyddhad ardrethi Llafur yn wahanol i’r arfer, felly pa resymau allwch chi eu rhoi i ni am wneud y system bresennol yn barhaol yn hytrach na mabwysiadu polisïau’r Ceidwadwyr Cymreig o amgylch lluosydd gwahaniaethol a meinhau rhyddhad i £15,000?

Wel, mae’n rhaid i mi ddweud yn gyntaf oll, o ran fy nhref fy hunan, yr wyf yn ei hadnabod yn dda iawn, bod o leiaf tri gwahanol grŵp o fasnachwyr nad ydynt yn cytuno â'i gilydd, a dyna un o'r gwendidau y mae’r dref eu hwynebu. Yn ail, mae hi'n sôn am eiddo gwag. Y broblem fwyaf gydag eiddo gwag ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw anhyblygrwydd landlordiaid—landlordiaid na wnant rentu, neu nad ydynt ond yn cynnig rhentu ar gyfraddau hurt. Rwyf wedi clywed enghreifftiau o fusnesau sydd wedi dweud wrthyf mai’r unig brydlesi y maent yn cael eu cynnig yw rhai am 10 mlynedd gyda rhenti o hyd at £25,000 y flwyddyn. Mae hynny'n hurt. Mae angen i rai o'r landlordiaid ym Mhen-y-bont ar Ogwr ymuno â’r byd go iawn a deall nad yw’r ffordd o wneud pethau 40 mlynedd yn ôl yn iawn erbyn hyn.

Gofynnodd i mi pam na fyddem yn mabwysiadu polisi'r Ceidwadwyr. Yn syml iawn hyn: mae dros 70,000 o fusnesau yng Nghymru, mae mwy na 70 y cant ohonynt yn derbyn cymorth, ac nid yw dros hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Yn Lloegr, nid oes ond traean nad ydynt yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Felly, mewn gwirionedd, mae'r cynllun yng Nghymru yn llawer mwy hael na'r cynllun cyfrif ceiniogau sydd ar waith gan y Ceidwadwyr yn Lloegr.

Brif Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi sydd wedi mynegi pryder ynghylch lefel eu hardrethi busnes, sy'n rhoi straen ar sefyllfa ariannol eu busnes. Gan eu bod y tu allan i'r trothwy ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach, mae’n rhaid iddynt dalu’r ardrethi busnes llawn, beth bynnag yw'r fforddiadwyedd. Oni bai bod y perchnogion busnesau bach hyn yn dod o hyd i safle llai, rhatach na’r safle y maent ynddo ar hyn o bryd, maen nhw’n gorfod talu biliau ardrethi enfawr. Pa gynllun sydd gan eich Llywodraeth i godi'r trothwy rhyddhad ardrethi a sicrhau bod rhyddhad ardrethi yn rhoi ystyriaeth i fforddiadwyedd?

Wel, yr ydym eisoes wedi rhoi £98 miliwn i mewn i'r cynllun rhyddhad ardrethi. Mae’n rhaid cael trothwy, yn anffodus, a'r rhai sydd, fel y byddent hwy yn ei weld, ar ben anghywir y trothwy, bydd, bydd yn rhaid iddyn nhw dalu ardrethi busnes. Yr hyn na allwn ei wneud yw cyflwyno system lle mae pawb yn cael rhyddhad ardrethi busnes ac nad oes neb yn talu ardrethi busnes. Fel unrhyw fusnes, mae’n rhaid i fusnesau wneud penderfyniadau ynghylch maint eu safleoedd er mwyn deall yr hyn sy'n fforddiadwy iddyn nhw fel busnes.

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

5. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn dilyn y penderfyniad i godi ei statws i ‘ymyrraeth wedi'i thargedu’? OAQ(5)0169(FM)

Rydym ni’n cydweithio’n agos â Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Bydd y Llywodraeth yn darparu cefnogaeth ar ôl cytuno â’r bwrdd iechyd pa gymorth sydd ei angen arno.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. A allaf i, ymhellach i hynny, ofyn a ydych chi’n ffyddiog fod gennych chi’r ‘capacity’ yn rhengoedd eich adran chi yma yn y Cynulliad i roi’r cymorth angenrheidiol i’r bwrdd iechyd yma yn Abertawe, o gofio bod byrddau iechyd eraill hefyd o dan fesurau arbennig?

Dim ond un bwrdd iechyd sydd o dan fesurau arbennig, sef Betsi Cadwaladr. Rydym ni’n ffyddiog iawn yn y ffordd rydym ni wedi sicrhau bod Betsi Cadwaladr yn troi rownd. Felly, mae beth rŷm ni wedi’i dargedu ynglŷn â’r byrddau iechyd eraill yn mynd i sicrhau ein bod ni’n gweld gwelliannau er mwyn osgoi, wrth gwrs, unrhyw sefyllfa lle byddan nhw’n gorfod mynd yn yr un cyfeiriad.

Cyn i mi ddechrau, a gaf i ddatgan buddiant gan fod fy ngwraig yn radiograffydd yn PABM, ond ni fyddaf yn trafod cynhesrwydd nac oerni ei dwylo? Brif Weinidog, mae PABM mewn sefyllfa ymyrraeth wedi’i thargedu oherwydd gwasanaethau canser a gofal heb ei drefnu. Mae’r ddwy ran o hynny yn dibynnu ar wasanaethau diagnostig. Rydym wedi gweld problemau gyda gwasanaethau diagnostig yn y gorffennol, gyda hyd rhestrau aros nad oedd yn dderbyniol i bawb o bosibl, ond a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Prifysgol PABM a'r staff, yn arbennig, sydd wedi gweld y rhestrau aros hynny yn dod i lawr mewn gwirionedd, ac felly rydym wedi gweld diagnosteg yn gwella yn PABM?

Gwnaf, mi wnaf, ac ar ddiwedd mis Gorffennaf bu gostyngiad o 78 y cant yn nifer y bobl sy'n aros dros wyth wythnos am un o'r profion diagnostig penodedig, o'i gymharu â mis Gorffennaf 2015.

Brif Weinidog, mae adroddiad perfformiad integredig y bwrdd iechyd ym mis Gorffennaf 2014 yn datgan, a dyfynnaf, bod

Y Bwrdd Iechyd yn parhau i brofi heriau sylweddol o ran cyflawni'r targed atgyfeirio Amheuaeth o Ganser Brys yn arbennig.'

Ar y pryd, roeddent yn cyrraedd 86 y cant o'r targed yn hytrach na'r 95 y cant yr oedd y Llywodraeth yn ei ddisgwyl. Er gwaethaf y pwynt a wnaethpwyd gan David Rees yn awr, sef bod y materion hynny wedi eu hadrodd ddwy flynedd yn ôl, pa gefnogaeth a roesoch chi i PABM ar y pryd? Beth sy'n wahanol am y cymorth yr ydych yn ei roi iddynt nawr, ac os oedd ei angen ddwy flynedd yn ôl, pam na chafodd ei roi bryd hynny?

Wel, os edrychwch chi ar y ffigurau, os edrychwn ni ar y perfformiad 62 diwrnod ar gyfer canser, mae mwy o bobl yn dechrau ar eu triniaeth o fewn targed amser y llwybr 62 diwrnod ar gyfer canser. Mae'r un peth yn wir am y llwybr 31 diwrnod—80.4 y cant yn uwch. Os edrychwn ar arosiadau 12 awr mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y llynedd, mae’r ffigurau hynny wedi gostwng 63 y cant ers mis Mawrth eleni. Felly, rydym yn gweld gwahaniaethau mawr o ran nid yn unig diagnosteg, ond o ran triniaeth canser, ac yn wir o ran perfformiad adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

Brif Weinidog, y rheswm y mae PABM yn mynd i dderbyn ymyrraeth wedi'i thargedu yw oherwydd perfformiad gwael mewn gofal canser heb ei drefnu. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dim ond 83 y cant o gleifion sydd wedi cael diagnosis trwy'r llwybr amheuaeth o ganser brys sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod. Rydym i gyd yn gwybod bod triniaeth ac ymyrraeth brydlon yn lleihau'r risg y bydd y canser yn lledaenu ac yn cynyddu'r siawns o oroesi. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i PABM er mwyn eu galluogi i ddileu oedi wrth roi triniaeth ac i wella'r cyfraddau goroesi canser yn fy rhanbarth i?

Rwy'n credu fy mod eisoes wedi ateb y cwestiwn yna pan roddais yr ystadegau o ran y perfformiad 62 diwrnod a'r perfformiad 31 diwrnod. Weithiau, wrth gwrs, mae clinigwyr yn dweud wrthyf nad yw mor hawdd â hynny i ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod oherwydd natur y canser ei hun, ble y mae yn y corff ac, yn wir, yr angen i edrych yn ofalus iawn ar gael y driniaeth sydd wedi’i thargedu fwyaf ar gyfer yr unigolyn. Os ydych yn unigolyn sydd â chanser, wrth gwrs, wel, ie, mae angen i chi gael sicrwydd cyn gynted â phosibl. Rwy'n deall hynny—yr angen dynol iawn hwnnw. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym yn gweld y gwelliannau ym mherfformiad PABM yn y maes hwnnw.

Helpu’r GIG i Baratoi am y Gaeaf sydd o’n Blaenau

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu'r GIG i baratoi at y gaeaf sydd o'n blaenau? OAQ(5)0162(FM)

Byddwn yn parhau i gefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru trwy ein cyfarfodydd cynllunio tymhorol cenedlaethol a gynhelir bob chwarter, sy'n cefnogi eu trefniadau cynllunio tymhorol. Ac, wrth gwrs, yn rhan o hynny, mae bod yn barod ar gyfer cyfnod y gaeaf sydd i ddod yn hollbwysig.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Y gaeaf diwethaf, gwelsom lefelau digynsail o alw am ofal heb ei drefnu. Rhoddodd y bobl oedd yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar feddyg teulu dros fisoedd y gaeaf straen enfawr ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys wrth i gleifion fynd yno i gael triniaeth feddygol. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae ein hysbytai mor llawn drwy gydol y flwyddyn fel na all y system ymdopi â'r cynnydd sydyn yn y galw tymhorol. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r mater mynediad at feddygon teulu os ydym yn mynd i osgoi'r sefyllfaoedd a welsom y gaeaf diwethaf gyda llu o ambiwlansys y tu allan i ysbytai. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau a gwneud gwell defnydd o fferyllfeydd cymunedol wrth drin mân anhwylderau y gaeaf hwn? A fyddwch chi’n cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd i amlygu swyddogaeth fferyllfeydd wrth drin mân anhwylderau?

Rydym yn gwneud hynny; mae’r ymgyrch Dewis Doeth wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd lawer ac, yn wir, mae yna ap ar gael i bobl sydd eisiau ei ddefnyddio. Rydym yn annog pobl i edrych, yn y lle cyntaf, ar fferyllydd, ac yna edrych ar nyrs gymunedol, ac yna meddwl am y meddyg teulu. Mae'n hollol iawn i ddweud wrth bobl, 'Peidiwch â mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys fel dewis cyntaf na mynd, mewn gwirionedd, at feddyg teulu yn gyntaf.' Felly, mae hynny eisoes ar waith. O ran y gwasanaeth y tu allan i oriau, mae ar gael yn ein hysbytai cyffredinol dosbarth ac mewn mannau eraill. Nid nifer y bobl sy'n dod trwy adrannau damweiniau ac achosion brys yw’r broblem yn y gaeaf, ond y cyflyrau sydd ganddynt: mae llawer mwy o bobl hŷn â chyflyrau anadlol sy'n fwy cymhleth, sydd angen mwy o amser mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac sydd, yn y pen draw, yn cael eu derbyn i’r ysbyty. Y llynedd, gweithiodd y cynlluniau parodrwydd yn dda. Gall fod yn anodd, wrth gwrs, i ragweld y galw ar y GIG yn y gaeaf oherwydd y tywydd, yn y bôn. Ond, serch hynny, rydym yn craffu ar barodrwydd pob bwrdd iechyd lleol i wneud yn siŵr y gallwn fod yn fodlon eu bod yn barod ar gyfer y gaeaf.

O dan y cynllun iechyd plant rydych chi wedi’i gyhoeddi, Brif Weinidog, mae pob un plentyn o dan saith mlwydd oed i fod i gael yr un cysondeb gwasanaeth yn y gaeaf a’r haf. Beth ydych chi yn ei ddweud, felly, am adroddiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant heddiw ynglŷn â babanod sy’n cael eu geni’n gynnar, sydd yn dangos eu bod yn cael gwasanaeth eilradd ac isradd yma yng Nghymru? Dim ond, er enghraifft, 31 y cant o fabanod sy’n cael eu geni’n gynnar sy’n cael ail apwyntiad hollbwysig erbyn eu hail ben-blwydd. Mae hynny’n hanner y ganran ar draws gwledydd Prydain. Ac, ar ôl canoli’r gwasanaethau ar gyfer babanod sy’n cael eu geni’n gynnar—cau’r uned yn Llwynhelyg, er enghraifft, a symud i Glangwili—maen nhw’n dal i dderbyn gwasanaeth eilradd o’i gymharu â’r gorau drwy ynysodd Prydain. Ai rhethreg wag, felly, yw’r cynllun iechyd plant yma pan rydych yn methu â darparu yr hyn sy’n sylfaenol ac yn hollbwysig heddiw?

Na, dim o gwbl, wrth gofio’r ffaith, yn ôl yr adroddiad ei hun, fod tua 90 y cant o wasanaethau yn gweithio’n iawn. Mae yna rai rhannau sydd eisiau gwella—mae hynny’n wir—a dyna pam rydym yn croesawu adroddiadau fel hyn er mwyn inni wybod lle mae pethau’n gorfod cael eu gwella. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, yn ôl adroddiad Nuffield, mai bach iawn o wahaniaeth sydd rhwng y gwasanaethau iechyd ar draws y Deyrnas Unedig. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y driniaeth orau ar gael, a lle mae pethau’n dda, ond lle gellir gwell, fod pethau’n gwella.

Brif Weinidog, mae pwysau'r gaeaf yn hunllef i ni bob blwyddyn: rydym yn cael y mathau hyn o sgyrsiau ac mae bob amser yn ymwneud â’r un grwpiau o bobl—yr henoed, yr ifanc a'r rhai â salwch cronig. Fodd bynnag, yn Sir Benfro, mae’r timau adnoddau cymunedol, sydd yn gydweithrediad ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd a llywodraeth leol, wedi bod yn hynod effeithiol wrth weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pobl yn cael mynediad at y gwasanaethau cywir ac o ran atal derbyniadau i'r ysbyty. Maent yn canolbwyntio ar ofal ataliol ac maent yn lleihau'r angen am becynnau gofal cymhleth. Yn y bôn, eu gwaith yw bod ar gael i osgoi argyfyngau. Maent yn gweithio yn y gymuned, ar y cyd â meddygon. Nid cyd-ddigwyddiad, Brif Weinidog, yw’r ffaith fod hwn yn fwrdd iechyd a chanddo gyfarwyddwr therapïau a gwyddorau cymdeithasol mewn gwirionedd—therapydd galwedigaethol yn flaenorol. Maen nhw'n atal pobl rhag gorfod mynd i mewn i ysbytai, yn enwedig yr henoed ac yn enwedig y rhai sydd â phroblemau anadlu.

Brif Weinidog, a wnewch chi, yn gyntaf oll, groesawu'r gwaith y maent yn ei wneud, oherwydd eu bod yn un o'r ymarferwyr blaenllaw yn hyn beth yng Nghymru—hwy a Chastell-nedd Port Talbot? Yn ail, a wnewch chi ddod i Sir Benfro, yn gyntaf oll, i’w gweld wrth eu gwaith a hefyd i ddeall ychydig mwy am y manteision y gall cyfarwyddwr therapïau a gwasanaethau cymdeithasol—gweithwyr gofal iechyd proffesiynnol perthynol—eu gwireddu ar gyfer wyneb newidiol gofal iechyd y GIG, yn enwedig dros y 10 i 15 mlynedd nesaf, pryd y bydd arnom angen mwy o'r bobl hyn, nid llai?

Sut y gallaf i wrthod cynnig o'r fath? Mewn egwyddor, hoffwn dderbyn hynny, oherwydd mae gennyf ddiddordeb yn y gwaith y mae'r Aelod wedi’i ddisgrifio. Gallaf weld yr angerdd y mae hi’n ei ddangos wrth argymell y gwaith y mae hi wedi eu gweld yn ei wneud. Hoffwn ei weld drosof fy hun.

Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ(5)0166(FM)] yn ôl gan yr Aelod, felly cwestiwn 8, Llyr Gruffydd.

Prinder Meddygon yng Ngogledd Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brinder meddygon yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0164(FM)[W]

Ynglŷn â’r niferoedd, nid oes prinder—mae mwy o ddoctoriaid nawr nag oedd yna yn 2005.

Nid yw hynny’n wir.

Peidiwch â dweud nad yw hynny’n wir. A gaf i roi’r ffigurau, felly, er mwyn bod y wybodaeth yn iawn? Yn 2005, roedd 1,849 o feddygon teulu yng Nghymru; yn awr, mae 1,997. Ynglŷn ag ardal Betsi Cadwaladr, roedd 422 yn 2005 a 437 yn 2015. Mae’r un peth yn wir ynglŷn â’r cynnydd sylweddol mewn doctoriaid mewn ysbytai. Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, mae yna ymgyrch sydd yn mynd i gael ei lansio ar ddiwedd mis nesaf er mwyn denu mwy o ddoctoriaid i weithio yng Nghymru.

Nid wyf yn siŵr os ydw i eisiau diolch ichi am yr ateb, achos mae yna ddarlun gwahanol iawn i’w weld os ydych yn cyfri nifer y doctoriaid sy’n cyfateb i ddoctoriaid llawn amser. Ond, y cwestiwn rwyf am ofyn ichi yw: un o’r problemau gyda recriwtio meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig yw’r diffyg cyfleusterau iechyd ehangach lleol sydd ar gael iddyn nhw. Nid yw meddygon teulu eisiau methu â gwneud eu gwaith oherwydd eu bod nhw’n methu â chael mynediad at welyau i’w cleifion, i beiriannau pelydr-x, i wasanaethau diagnostig ac yn y blaen yn lleol. A gaf i ofyn, felly, a fyddech yn barod i gomisiynu ymchwil gyda meddygon teulu gwledig, yn cynnwys, efallai, rhai sydd wedi rhoi’r gorau iddi, i adnabod eu pryderon ynglŷn â mynediad at adnoddau a chyfleusterau lleol ac i weithredu ar y canfyddiadau?

Byddwn i’n dadlau ein bod ni wedi gwneud hynny’n barod, sef drwy grŵp ‘collaborative’ canolbarth Cymru, sydd wedi gweithio’n dda dros ben. Byddwn i’n erfyn i’r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn fanna fod yn waith sydd yn gallu cael ei drosglwyddo i rannau eraill o Gymru. So, mae’r gwaith hwnnw wedi dechrau yn barod.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am y cwestiwn yna. Gwrandewais yn ofalus iawn. Un peth na wnaethoch gyfeirio ato, wrth gwrs, yw'r arloesedd mewn gofal meddyg teulu, yn enwedig yn y gogledd, o ran y gwaith sy'n mynd ymlaen ym Mhrestatyn, gydag ymagwedd tîm amlddisgyblaeth i ofal cleifion. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud i werthuso pa un a yw'r model yn fodel llwyddiannus y gellir ei gymhwyso mewn mannau eraill ledled Cymru er mwyn lleddfu'r pwysau ar niferoedd y meddygon teulu yn y wlad?

Bydd ef yn gwybod—mae wedi ei weld ei hun—sut mae'n gweithio. Y gwir amdani yw ein bod wedi gweld practisau ym Mhrestatyn—dau ohonynt, os cofiaf yn iawn—yn cau. Ond, cymerodd y bwrdd iechyd lleol y cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol, ac mae'r gwasanaethau yn well ac yn sicr yn ehangach na'r hyn a oedd ar gael o'r blaen. Felly, mae hyn yn dangos nad y model contractwr yw'r model gorau bob amser ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol. I rai, dyna’r hyn y maent ei eisiau; i fwy o feddygon teulu, yn gynyddol, mae'n ymddangos i mi bod y model contractwr yn llai deniadol iddynt. Mae’r hyn yr ydym wedi ei weld hyd yn hyn ym Mhrestatyn wedi bod yn wych o ran lled a dyfnder y gwasanaeth a ddarparwyd ac, wrth gwrs, bydd y bwrdd iechyd lleol yn parhau i werthuso’r hyn sy'n cael ei wneud yno er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn fodel y gellir ei fabwysiadu, o bosibl, o amgylch Cymru.

Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl

9. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0155(FM)

Rydym wedi gwneud nifer o ymrwymiadau ynghylch iechyd meddwl a lles yn y rhaglen lywodraethu, a byddwn cyn bo hir yn cyhoeddi’r cynllun tair blynedd nesaf i gyflawni ein strategaeth iechyd meddwl, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'.

Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Yn 2014, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adroddiad ar yr ymchwiliad i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Canfu'r pwyllgor y bu cynnydd o 100 y cant mewn atgyfeiriadau ar gyfer y gwasanaethau hyn, ond bod y ddarpariaeth yn annigonol i ddiwallu’r cynnydd hwn. Mewn cyfarfodydd diweddar gyda'r pwyllgor, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru mai dim ond unwaith y mae’r grŵp Law yn Llaw Plant a Phobl Ifanc, sy'n ymrwymedig i ddiwygio gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, wedi cyfarfod ers i’r grŵp gychwyn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £7 miliwn o gyllid ychwanegol i'r gwasanaethau, nid oes ymrwymiad eglur yn y rhaglen lywodraethu bod y llywodraeth am ddiwygio CAMHS. Ni fydd taflu arian at y broblem yn golygu y bydd yn diflannu. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i ddiwygio’r gwasanaethau hyn ac esbonio sut y bydd yn gwneud hynny?

Rwyf yn anghytuno â'r Aelod. Roedd angen chwistrelliad o arian; mae hynny wedi digwydd. Rydym yn gweld y manteision. Mae llai o blant yn derbyn gofal y tu allan i'r ardal. Mae'r amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau CAMHS arbenigol wedi gostwng 21 y cant. Ac, wrth gwrs, mae gwasanaethau newydd ar gyfer anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac awtistiaeth yn cael eu sefydlu ar draws Cymru. Mae mwy i'w wneud, wrth gwrs, ond rydym yn gweld gwelliannau gwirioneddol i blant sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Masnach Di-dariff

10. Beth yw'r goblygiadau i economi Cymru o ganlyniad i ddatganiad Japan ar y posibilrwydd o golli masnach di-dariff â'r DU yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0163(FM)

Mae datganiad Llywodraeth Siapan yn cwmpasu nifer o oblygiadau economaidd andwyol posibl wrth i’r DU adael. Rydym yn awyddus i fusnesau yng Nghymru gael mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl oherwydd y rhesymau a amlinellir gan y Llywodraeth honno.

Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn dymuno hynny, ond mae’n ymddangos yn anffodus bod llawer o aelodau Llywodraeth y DU yn gwthio i’r cyfeiriad arall, sydd yn destun pryder mawr i'r oddeutu 6,000 o bobl sy'n dibynnu ar swyddi sydd wedi deillio o fuddsoddiad gan Siapan, gan gynnwys Panasonic yn fy etholaeth fy hun i fyny ym Mhentwyn. Felly, roeddwn yn meddwl tybed sut yr ydym yn mynd i allu dylanwadu ar Lywodraeth y DU i sicrhau y byddwn yn parhau i gael masnach rydd â'r Undeb Ewropeaidd, oherwydd fel arall mae’r dyfodol ar gyfer mewnfuddsoddiad yn edrych yn ddu iawn.

I mi, mae cytuno ar y pwynt sylfaenol hwnnw yn hanfodol cyn y gallwn symud ymlaen i unrhyw beth arall. Dyna'r sail—y bloc adeiladu—y gall unrhyw gytundeb gael ei adeiladu arno. Oni bai ein bod yn gwneud cynnydd ar hynny, mae'n anodd iawn gweld cynnydd ar unrhyw beth arall.

Rwy'n sicr yn pryderu bod y DU yn awr yn cael ei gweld fel nad yw’n dymuno ymgysylltu â'r UE. Ceir problemau. Cyfarfûm â phrif gomisiynydd Gibraltar ddau ddiwrnod yn ôl—y pryder sydd gan Gibraltar yw y bydd Sbaen yn rhoi feto ar unrhyw gytundeb o unrhyw fath gyda'r DU oni bai bod mater Gibraltar yn cael ei ddatrys er boddhad Sbaen. Mae'n gyfle i Sbaen nad oedd yno o'r blaen, cyfle y mae Brexit wedi ei ddarparu. Felly, mae llawer iawn o ffactorau yn dal i fod yn berthnasol yn y fan yma, rhai ohonynt nad ydynt wedi eu nodi eto.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi gwneud rhai newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi ehangu teitl y datganiad llafar ar sefydlu'r gronfa driniaeth newydd a'r adolygiad annibynnol o'r broses gwneud cais am gyllid ar gyfer cleifion unigol, ac rwyf wedi ychwanegu datganiad am y croeso adref o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2016 yn Rio. Rwyf wedi lleihau'r amser sydd wedi’i neilltuo ar gyfer cwestiynau yfory i'r Cwnsler Cyffredinol yn unol â nifer y cwestiynau a gyflwynwyd, ond y mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir yn y datganiad a’r cyhoeddiad busnes sydd i’w gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Weinidog, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd sydd ar ddod ym mis Tachwedd? Bu rhywfaint o bryder nad oes llawer o fodurwyr ledled Cymru, ac, yn wir, mewn rhannau eraill o'r DU, yn cael prawf llygaid yn ddigon aml, a bod hyn yn arwain at gynnydd i’r risg o ddamweiniau traffig. Hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet am yr hyn y mae’n mynd i’w wneud ynglŷn â hynny a pha un a allai fod cyfle i ddefnyddio'r arwyddion—yr arwyddion negeseuon—ar hyd yr A55 yn y gogledd a'r M4 a chefnffyrdd eraill ledled Cymru i annog pobl mewn gwirionedd i gael prawf llygaid yn ystod yr wythnos honno, er mwyn manteisio ar rai o'r profion rhad ac am ddim sydd ar gael.

Wel, mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i wneud datganiad ar y pwynt hwn, felly diolch i chi am ei godi.

A gawn ni ddadl ar sefydlu'r confensiwn cyfansoddiadol a gynigiwyd gan y Prif Weinidog ers tro? Nawr bod posibilrwydd y byddwn yn colli 11 o Aelodau Seneddol yng Nghymru pan fydd y niferoedd yn gostwng o 40 i 29, a, gyda’r bleidlais i adael yr UE, mae'n debygol y byddwn yn colli pedwar ASE, onid nawr yw’r amser delfrydol i gydnabod nad oes digon o Aelodau Cynulliad i wneud y gwaith yn iawn yma yn y Siambr hon ac y dylid ystyried yr holl eitemau hyn ar y cyd? Oni fyddai bod â chonfensiwn cyfansoddiadol wedi bod yn gyfle delfrydol i edrych ar yr holl faterion cynrychiolaeth hyn gyda’i gilydd?

Wel, mae Julie Morgan yn codi pwynt pwysig iawn ac mae hi wedi codi hyn ar gyfleoedd blaenorol. Rwy’n credu—wrth gwrs, mae cynigion y comisiwn ffiniau yn destun ymgynghoriad—y bydd yn cael effaith fawr o ran sut y bydd ein cymunedau yng Nghymru yn cael eu cynrychioli a byddwn yn mynegi ein barn o ran yr anfantais y gallai newidiadau arfaethedig ei hachosi. Wrth gwrs, mae'n effeithio ar y Cynulliad ac arnom ni fel Aelodau'r Cynulliad a chynrychiolwyr etholedig o ran sut y mae ein hetholwyr yn cael eu cynrychioli yn y Senedd. Wrth gwrs, bydd y materion hynny—o ran etholiadau’r Cynulliad—wedi eu cynnwys yn y Bil Cymru sydd gerbron Tŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd ac a ddylai ddod i rym o gyfnod y Pasg 2018, os bydd y Bil hwnnw yn dod yn gyfraith. Fodd bynnag, rwy'n credu bod y materion o ran cynrychiolaeth wleidyddol ac o ran —ac fe wnaethoch godi materion ynglŷn â’n cynrychiolaeth yn y Siambr hon—newidiadau i gynrychiolaeth seneddol ac Ewropeaidd hefyd, colli ASEau, ac ehangu yn sylweddol ein cyfrifoldebau hefyd o Ddeddf Cymru 2014, a’r newidiadau posibl yn sgil y Bil Cymru cyfredol, i gyd yn gwneud hwn yn faes teilwng a phwysig iawn ar gyfer dadl a thrafodaeth.

Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan y Prif Weinidog am sut y mae'n cynnal ei drefniadau â’r wasg? Yr wythnos diwethaf cawsom sefyllfa ryfedd braidd, lle cafwyd datganiad cyfeiliornus i’r wasg yn cywiro—neu beidio, yn ôl y digwydd—polisi’r Llywodraeth ar symudiad rhydd pobl. Dywedwyd wrthym mai’r chwe phwynt a gyhoeddwyd oedd y pwyntiau allweddol i'r Llywodraeth, ac yna, ar ôl 40 munud yr oedd angen eu newid gyda datganiad arall i'r wasg. Rwy’n credu y byddai hyn yn destun digrifwch sylweddol yn y rhan fwyaf o ddemocratiaethau, ond, yn anffodus, yng Nghymru, nid oedd yn ymddangos bod hynny’n wir, oherwydd ei fod erbyn hyn yn cael ei weld fel polisi’r Llywodraeth. A gawn ni ddeall sut yn union y cedwir y cydbwysedd fel y gellir adfer rhywfaint o hygrededd yn safbwynt y Llywodraeth yn y trafodaethau Brexit?

Mae hwn yn fater yr wyf yn siŵr nad yw mwyafrif helaeth pobl Cymru yn ymwybodol ohono, a hefyd, o ran yr hyn y maen nhw eisiau ei wybod a'r hyn y maen nhw eisiau ei glywed, dyma a ddywedodd y Prif Weinidog mewn gwirionedd. Rwy'n credu mai’r pwynt pwysig i’w gofio yw y cyhoeddwyd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog mewn gwirionedd gan swyddfa’r wasg Llywodraeth Cymru am 10.04a.m. yr wythnos diwethaf, ar yr unfed ar hugain

Arweinydd y tŷ, y bore yma, es i i angladd Ann Wilkinson o Frynbuga. Bydd llawer o Aelodau'r pedwerydd Cynulliad yn cofio Ann a’i gwaith a’i hymroddiad diflino i achos cleifion canser, dioddefwyr canser, ledled Cymru. Yn drist iawn, bu farw bythefnos yn ôl, ond mae’n gadael ar ei hôl etifeddiaeth y gall hi a'i theulu fod yn falch ohoni. Bydd aelodau'r Cynulliad diwethaf yn ei chofio yn eistedd yn yr oriel uchod drwy nifer o ddadleuon, a chyflwynodd ddeiseb i'r Cynulliad hwn yn galw am gronfa cyffuriau canser a gwell mynediad at gyffuriau. A ydych chi’n cytuno â mi, arweinydd y tŷ, mai’r deyrnged orau y gallai'r Siambr hon a'r Cynulliad hwn ei thalu i Ann Wilkinson a dioddefwyr canser eraill ledled Cymru fyddai datblygu cronfa triniaeth canser gyflawn? Sylwaf fod datganiad nes ymlaen ar ddatblygu cronfa driniaeth. A gawn ni sicrhau bod hynny yn cynnwys mynediad at y cyffuriau canser hollbwysig ar y cyfle cyntaf er cof am Ann, ond hefyd ar gyfer dioddefwyr triniaeth canser eraill ledled Cymru, nad ydynt yn dymuno treulio misoedd ac wythnosau olaf eu bywydau yn brwydro i gael yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn hawl dynol sylfaenol iddyn nhw?

Wrth gwrs, Nick Ramsay, mae hwn yn bwynt pwysig iawn yr ydych wedi ei gyflwyno i ni heddiw o ran cydnabod a chyfleu ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Ann Wilkinson. Dyna'r pwynt pwysig o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw, yr hyn yr ydych wedi’i gyflwyno i ni heddiw, a’r ffaith eich bod wedi mynd i angladd Ann Wilkinson. Wrth gwrs, rydym yn dymuno, fel Cynulliad cyfan, rwy’n siŵr, ei chydnabod hi a’i dewrder, a'r ffaith ei bod wedi gwneud safiad ac wedi colli ei bywyd yn anffodus. Ond rwy'n credu y bydd y peth pwysicaf i ddod o hynny yn cael ei egluro mewn datganiad gyda hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, gan y bydd yn cyhoeddi cronfa triniaeth newydd. Rwy'n siwr y byddai'n croesawu hynny. Mae'n bwysig y bydd yn gronfa triniaeth newydd a fydd yn sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael mynediad cyflym at driniaethau newydd ac arloesol ar gyfer afiechydon sy'n cyfyngu ar fywyd ac sy'n bygwth bywyd. Ac, wrth gwrs, rwy'n credu y bydd hynny yn bwynt pwysig i'r Aelod ac y caiff ei gydnabod heddiw.

Bu Llywodraeth Cymru yn uchel ei chloch wrth alw am ddiwedd ar symudiad rhydd o ran pobl a gwaith rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, un o'n partneriaid masnachu pwysicaf, ac un o'r gwledydd lle ceir y symud mwyaf rhwng Cymru a gwlad arall, yw Iwerddon. A gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog cyn gynted ag y bo modd ar ba un a yw Llywodraeth Cymru yn dymuno rhoi terfyn ar symudiad rhydd i bobl rhwng y DU a holl wladwriaethau'r UE? Neu, os nad rhwng Cymru neu'r DU a holl wladwriaethau'r UE, sut maen nhw’n rhagweld ffin agored rhwng Cymru ac Iwerddon yn ymarferol?

Wel, wrth gwrs, mae barn y Prif Weinidog a barn Llywodraeth Cymru ar ryddid i symud wedi ei mynegi sawl gwaith, nid yn unig gan y Prif Weinidog, ond gan Weinidogion eraill hefyd. Mae hwn yn fater difrifol iawn, mae'n fater sensitif, ac mae'n fater y mae’n rhaid i ni ei ystyried o safbwynt tegwch, cymesuredd, a gan gydnabod barn pobl yng Nghymru. Rwyf yn credu eich bod yn codi pwynt pwysig, ac, yn wir, mae'n bwynt pwysig yr ymatebodd y Prif Weinidog yn eglur iawn iddo yr wythnos diwethaf o ran y cwestiynau ar y materion hyn.

Diolch i’r Gweinidog am ei datganiad. Yn bellach i hynny, a allaf ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros fusnes am ddadl lawn, yn amser y Llywodraeth, ar Dreftadaeth Cymru—Historic Wales? Hwn ydy’r bwriad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant i ad-drefnu gweithgaredd yn y maes pwysig yma a sefydlu corff newydd i gymryd drosodd gweithgaredd ar yr ochr fusnes sefydliadau fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cadw ac yn y blaen. Mae hwn yn fater allweddol pwysig a buaswn i’n pwyso ar y Llywodraeth am ddadl lawn ar y pwnc yn amser y Llywodraeth. Diolch yn fawr.

Mae’r Aelod yn codi mater pwysig ac mae'n rhywbeth sy’n ymwneud â Cymru Hanesyddol a lle y gallwn symud ymlaen ar hynny, yn amlwg gydag ymgynghoriad llawn a chyfleoedd i’w ystyried mewn pwyllgor; rwy'n siŵr y bydd amser priodol i gyflwyno datganiad i'r Siambr hon.

3. 3. Datganiad: Adolygiad Diamond o Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar adolygiad Diamond o addysg uwch a chyllid myfyrwyr ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams.

Diolch i chi, Lywydd. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi adroddiad terfynol o’r adolygiad o addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Ian Diamond. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Athro Diamond ac i holl aelodau'r panel ar draws y pleidiau gwleidyddol, y sector a'r diwydiant am yr amser a'r ymdrech y maent wedi’i neilltuo ar gyfer yr adolygiad ers iddo ddechrau ym mis Ebrill 2014.

Mae'r panel wedi ystyried llawer iawn o dystiolaeth yn rhan o’i waith. Adlewyrchir hyn yn amrywiaeth a chymhlethdod y materion y mae'r panel wedi’u cyflwyno yn ei adroddiad terfynol ac yn lefel manylder ei argymhellion.

Cafodd gwaith y panel ei lywio gan yr egwyddor Robbins hirsefydlog, sef y dylai mynediad at addysg uwch fod yn seiliedig ar allu yn unig, ac nid ar allu pobl i’w fforddio. Gan lynu wrth yr egwyddor hon, argymhelliad cyffredinol yr adroddiad yw y dylai’r cyllid grant ganolbwyntio mwy ar gymorth cynnal a chadw ar draws lefelau a dulliau o astudio, gan oresgyn y gwir heriau ariannol sy'n gysylltiedig â chyfnod o astudio addysg uwch. Mae'n cynnig y dylid gwella cymorth cynhaliaeth ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru, ac y dylai’r lefel uchaf o gymorth grant gael ei chyfeirio tuag at y rhai sydd fwyaf anghenus, ond y dylai grant cynhaliaeth cyffredinol o £1,000 nad yw’n seiliedig ar brawf modd fod ar gael i’r holl fyfyrwyr. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnig gweithredu dull unigryw ac arloesol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig, a fydd yn annog dull hyblyg tuag at addysg uwch. Mae'r adroddiad yn cydnabod, o ystyried cyd-destun y cyni yn y DU, na ellir cyflawni’r gwelliannau hyn a argymhellir ac eithrio drwy ryddhau cyllid a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddarparu grantiau ffioedd dysgu i israddedigion llawn amser.

Cymeradwywyd yr egwyddorion a gynhwysir yn yr adroddiad gennyf i a’m cydweithwyr yn y Cabinet. Mae'r cynigion hyn yn cynrychioli newid trawiadol o ran sut yr ydym ni’n cefnogi'r rhai sy’n dymuno mynd i addysg uwch, yn ogystal ag amlinellu system cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch sy’n decach ac yn gynaliadwy. Byddai'r cynigion yn golygu mai Cymru fyddai’r unig wlad yn y DU i weithredu system sy'n gyson, blaengar a theg o ran ei chefnogaeth i fyfyrwyr israddedig llawn amser, myfyrwyr israddedig rhan amser a myfyrwyr ôl-raddedig.

Mae’r ofn o fethu â bodloni costau byw o ddydd i ddydd yn atal llawer o bobl—nid y ffaith bod disgwyl iddynt ad-dalu benthyciadau ar ôl iddynt gychwyn gweithio. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y consensws cryf ymysg myfyrwyr, cyrff sy’n cynrychioli myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes ehangu cyfranogiad, fod y cymorth presennol ar gyfer cynhaliaeth yn annigonol a bod hyn yn fwy o fater i fyfyrwyr na lefel y ffioedd a chymorth ffioedd. Mae'r system hon yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw yn uniongyrchol, ond bydd hefyd yn golygu gwneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau bod y system yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Ar ôl cymeradwyo'r egwyddorion sylfaenol a geir yn yr adroddiad, nawr mae angen i mi ystyried goblygiadau ymarferol gweithredu ei argymhellion. Bydd Llywodraeth Cymru felly yn trafod ein dull gweithredu â Thrysorlys Ei Mawrhydi a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr cyn cwblhau ein hymateb ffurfiol. Gallaf gadarnhau y bydd yr ymateb yn ategu’r egwyddorion allweddol canlynol: bydd cadw at yr egwyddor o gyffredinoliaeth o fewn system flaengar yn sicrhau dull teg a chyson ar draws lefelau a dulliau astudio, am y tro cyntaf yn unrhyw le yn y DU; bydd yn sicrhau buddsoddiad ar y cyd rhwng y Llywodraeth a'r rhai hynny sy'n cael budd uniongyrchol, gan wella pa mor hawdd ydyw i astudio a lleihau'r rhwystrau, megis costau byw—ac y dylai cymorth i fyfyrwyr fod ar gael i fyfyrwyr Cymraeg unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Yn fy nghytundeb gyda'r Prif Weinidog, gwnaethom gydnabod mai addysg o safon uchel sy’n sbarduno symudedd cymdeithasol, ffyniant cenedlaethol a democratiaeth weithredol. Er mwyn galluogi hyn, mae Cymru angen setliad ariannu addysg uwch sy’n gynaliadwy ac yn flaengar ac sy'n cefnogi myfyrwyr pan fyddant ei angen fwyaf ac yn galluogi ein prifysgolion i gystadlu'n rhyngwladol. Gydweithwyr, dechreuais drwy gyfeirio at egwyddor enwog yr adroddiad Robbins. Caiff hyn ei ddiystyru’n aml, wrth nodi amcanion system addysg uwch, fod yr adroddiad hefyd yn dweud, ac rwy'n dyfynnu,

‘The system as a whole must be judged deficient unless it provides adequately for all.’

Mae Syr Ian a'i banel wedi cyflwyno adroddiad heddiw sy'n argymell newid sylfaenol fel y gall Cymru ddatblygu system ariannu addysg uwch a chyllid myfyrwyr sydd wir yn darparu ar gyfer pawb. Diolch.

A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd, am eich datganiad? Rwyf innau hefyd am ategu’r diolch rydych chi wedi estyn i’r Athro Diamond ac aelodau’r panel, ac, yn wir, y sector ehangach a phawb sydd wedi cyfrannu i’r broses faith hon, ond proses, rwy’n siŵr, bydd yn werthfawr wrth i ni symud ymlaen at greu cyfundrefn well. Yn fy marn i, mae hwn yn cynnig model mwy cynaliadwy i ni. Rydych wedi dweud yn eich datganiad eich bod chi’n cefnogi’r egwyddorion sydd yn gynsail i hwn. Nid wyf yn siŵr os dywedoch chi yn blwmp ac yn blaen eich bod chi hefyd yn cytuno bod hwn yn ein symud ni i fodel mwy cynaliadwy na’r model presennol. Rwy’n siŵr y byddech chi’n licio gwneud hynny’n glir wrth ymateb, os y gwnewch chi.

Mae’r Athro Diamond, wrth gwrs, wedi ei gwneud hi’n glir yn gyson yn y drafodaeth ynglŷn â’r argymhellion yma bod yr hyn sy’n cael ei argymell yn becyn cynhwysfawr, yn becyn cyfansawdd, ac na ddylem ni fod yn dewis a dethol gwahanol elfennau wrth fynd ati i weithredu. Wrth edrych ar y cyfan, felly, a ydych chi’n cydnabod mai pecyn cynhwysfawr yw hwn? Mi wnaethpwyd y gymhariaeth y bore yma, mewn cyfarfod gydag Aelodau Cynulliad, gan yr Athro Diamond, nad lein ddillad yw hon, lle y gallwch chi dynnu ambell i ddilledyn lawr, a gadael y lleill i fyny—bod yn rhaid edrych arno fe fel un darn o waith. Ac felly, tra’ch bod chi’n sôn am ystyried yr argymhellion yn unigol, edrych ar y pecyn cyfan y dylech chi fod yn ei wneud, a bod yn barod i wneud hynny.

Yn yr un modd hefyd, wrth gwrs, mae yna gwestiwn ynglŷn â’r ariannu. A ydych chi yn derbyn bod y gyllideb bresennol sydd wedi ei chlustnodi i gefnogi myfyrwyr yn aros, ac mai gweithio o fewn y gyllideb honno y byddwch chi fel Llywodraeth, neu a ydych chi’n mynd i fod yn chwilio am arbedion? Oherwydd mae hynny, yn amlwg, yn mynd i gael cryn ddylanwad ar faint o’r pecyn cyfan, os liciwch chi, y byddwch chi fel Llywodraeth yn ei weithredu. Rwy’n meddwl bod yn rhaid ichi ei gwneud hi’n gwbl glir ynglŷn ag ar ba gynsail rydych chi’n gweithredu, o safbwynt cyllidebol.

Rwy’n sicr yn croesawu’r pwyslais ar gefnogi astudio rhan-amser ac ôl-radd, a, hefyd, ar hyrwyddo’r cysylltiadau a’r ‘progression’ yna rhwng addysg bellach ac addysg uwch. Fe fyddwn i’n licio gofyn i chi, efallai, ddweud ychydig ynglŷn â sut rydych chi’n teimlo y mae’r argymhellion yma yn mynd i fod o gymorth i’r Llywodraeth i hyrwyddo y cydraddoldeb rydym ni i gyd eisiau ei weld rhwng addysg alwedigaethol ac addysg academaidd.

Mae angen cyfundrefn sy’n drosglwyddadwy hefyd—hynny yw, ble bynnag rydych chi yn astudio, bod y gefnogaeth yn gallu eich dilyn chi. Mae Diamond yn eithaf clir, boed yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig, neu, yn yr hinsawdd newydd sydd ohoni, wrth gwrs, o fewn Ewrop. Nawr, mi roedd Plaid Cymru, yn ein maniffesto ni, am fynd gam ymhellach, a sicrhau bod yna gefnogaeth i chi os oeddech chi’n astudio y tu allan i Ewrop hefyd. Rwy’n deall bod hynny yn ddymuniad gan Diamond hefyd. Efallai y byddech chi’n gallu mynegi a ydy hynny, mewn egwyddor, yn sicr, yn rhywbeth y byddech chi’n awyddus i’w hyrwyddo, os yn bosib.

Mae yna argymhelliad clir arall, wrth gwrs, yn yr adroddiad, sef cydnabyddiaeth o’r angen i gymell myfyrwyr naill i gadw eu sgiliau yng Nghymru ar ôl graddio, neu i ddod â’r sgiliau yna yn ôl i Gymru ar ôl graddio, a gwneud hynny, fel y mae’r Athro Diamond yn ei ddweud, er budd Cymru. Yr awgrym yw bod modd edrych ar wneud hynny drwy, efallai, ddileu rhan o’u dyled. Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn gydnaws iawn â’r hyn roedd Plaid Cymru wedi bod yn ei gyflwyno fel elfen ganolog o’n polisi ni. Felly, yn amlwg, byddwn i’n croesawu’r gydnabyddiaeth yna, neu’r cydsyniad yna, gan yr Athro Diamond i’r hyn rydym ni wedi bod yn ei ddweud.

Mi ddywedodd hefyd y bore yma, wrth drafod yr argymhellion yma gydag Aelodau Cynulliad, bod angen i’r Llywodraeth wneud hynny ar fyrder—‘with urgency’ oedd y term a ddefnyddiodd e—oherwydd mae’r manteision i’r economi yma yng Nghymru, ac i gymdeithas ehangach, yn gwbl amlwg i bawb. Felly, a wnewch chi gadarnhau eich bod chi yn llawn fwriadu gweithredu ar yr argymhelliad yna, ac yn bwriadu gwneud hynny yn fuan, neu ar fyrder?

Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad mewn manylder. Ac, wrth gwrs, rydym ni fel plaid yn fwy na pharod i chwarae’n rhan ni er mwyn gweithredu beth sydd yn yr adroddiad, cyhyd ag y bod e, wrth gwrs, yn ein symud ni tuag at sicrhau cyfundrefn sydd yn fwy cynaliadwy, sy’n cau’r bwlch ariannu hefyd, ar draws addysg ôl-16, a hefyd sydd yn gwneud mwy i ddenu talent yn ôl i Gymru, er mwyn creu sail gryfach i dwf economaidd yng Nghymru, ac yn gymdeithasol hefyd, sef wrth gwrs, rwy’n siŵr, beth rydym ni i gyd eisiau ei weld.

Diolch yn fawr iawn, Llyr. A gaf i ddiolch i chi am y cwrteisi yr ydych yn ei estyn i Syr Ian? Mae Syr Ian a'i gydweithwyr ar y panel adolygu, yn fy marn i, wedi gwneud darn sylweddol o waith, ac rwy'n ddiolchgar i'r cynrychiolydd Plaid Cymru ar y panel am ei waith diwyd gyda Syr Ian. Rwyf wir yn ddiolchgar am hynny.

Mae cynaliadwyedd yn elfen allweddol o ymateb y Llywodraeth i’r pecyn hwn. Rydym eisiau bod yn gwbl sicr fod hyn yn fforddiadwy, o ran cymorth i fyfyrwyr, a’i fod yn darparu cynaliadwyedd a gweledigaeth ar gyfer cyllid i sefydliadau yng Nghymru. Mae’r mater ynglŷn â chynaliadwyedd yn sicr yn un sy'n allweddol i mi ac yn allweddol i'r Gweinidog cyllid o ran y trafodaethau y byddwn yn eu cael. Rwy’n cydnabod, yn glir iawn, fod Syr Ian yn gweld hyn fel pecyn cyflawn, a byddaf yn edrych i weithredu'r adolygiad yn ei grynswth. O ran cyllid, byddwch chi’n ymwybodol bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn golygu bod angen i ni symud y cydbwysedd o ran lle y mae’r arian presennol yn cael ei wario, yn enwedig os ydym am allu cynnig y cymorth i fyfyrwyr rhan amser a myfyrwyr ôl-raddedig y mae Syr Ian yn ei ragweld o fewn yr adroddiad. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol, yn fy nghytundeb â'r Prif Weinidog a sicrhaodd le i mi yn y Llywodraeth, ein bod wedi dweud y byddem ni’n gweithredu adroddiad Diamond cyn gynted â phosibl, ac nid ar draul y gyllideb Addysg Uwch. Nid dim ond adroddiad yn ymwneud â chymorth i fyfyrwyr unigol yw’r adroddiad hwn, ond mae hefyd yn amlinellu sut y gallwn ryddhau adnoddau i sicrhau cynaliadwyedd o ran cyllid ar gyfer pethau megis cyrsiau drud ac ymchwil.

Rydych chi’n codi rhai pwyntiau ynghylch Addysg Bellach. Byddwch chi’n ymwybodol bod is-grŵp wedi’i sefydlu yn rhan o'r adolygiad Diamond er mwyn pwyso a mesur y materion yn ymwneud ag Addysg Bellach. Mae Syr Ian yn argymell y dylid canolbwyntio ar addysg alwedigaethol a thechnegol, a sut y gallwn greu cysylltiadau cryfach rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch, fel bod gan bobl gyfle i astudio cyrsiau lefel Addysg Uwch yn y sector Addysg Bellach, ond hefyd er mwyn galluogi pobl i drosglwyddo o Addysg Bellach i Addysg Uwch, yn enwedig wrth ddatblygu rhaglenni a noddir gan gyflogwr. Felly, mae gan gyflogwyr swyddogaeth yma hefyd wrth wneud yn siŵr fod gennym ni’r sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer yr economi yn y dyfodol.

O ran cludadwyedd, rwy’n credu ei bod yn egwyddor bwysig iawn y bydd y pecyn cymorth i fyfyrwyr ar gael i fyfyrwyr lle bynnag y maent yn astudio yn y Deyrnas Unedig. Mae Syr Ian yn gwneud argymhellion o ran cael gafael ar gyfleoedd astudio yn Ewrop, ac yn wir rwy’n deall y bore yma ei fod yn sôn am gael gafael ar gyfleoedd astudio ar draws y byd, a byddwn i’n sicr yn dymuno gweld sut y gallwn ni gyflenwi hynny’n ymarferol. Nid wyf eisiau rhoi terfyn ar uchelgais unrhyw fyfyriwr o Gymru, ac os ydynt yn llwyddo i gael eu derbyn i brifysgolion gorau'r byd, yna rwyf am i Lywodraeth Cymru gyflawni ei swyddogaeth o ran caniatáu iddynt wireddu’r uchelgeisiau hynny. Byddwn yn edrych ar sut y gallwn ehangu’r cyfleoedd hynny i astudio yn Ewrop a ledled y byd.

O ran cymhelliant, fel y mae’r Aelod yn dweud, mae'r adroddiad Diamond yn cyflwyno argymhelliad y gallem ni edrych ar gynlluniau cymhelliant a fyddai’n sicrhau bod graddedigion o Gymru yn dychwelyd neu’n aros yng Nghymru. Byddaf yn wir yn ystyried sut y gallwn wneud hynny, fel y gallwn ddod â sgiliau i Gymru a’u cadw yma. Mae angen i ni edrych yn ofalus iawn ar y cynigion, a allai fod yn gymhleth iawn i'w gweinyddu, ac a fyddai angen i Drysorlys Ei Mawrhydi gytuno ein bod yn gallu ad-dalu pob benthyciad, gan mai nhw sy’n gyfrifol am bob benthyciad. Ond fel y gwnaethoch chi ddweud, roedd hyn yn elfen allweddol o bolisi Plaid Cymru, felly rwy'n siŵr bod y blaid wedi meddwl yn ofalus iawn am rai o'r cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth gyflawni cynllun o'r fath. Er enghraifft, os bydd rhywun yn byw yng Nghasnewydd ond yn gweithio ym Mryste, neu os oes rhywun yn byw yng Nghaer ond yn gweithio yn Alun a Glannau Dyfrdwy—natur y gwaith, natur y sgiliau sy’n dod â phobl i Gymru—mae'r rhain yn faterion cymhleth. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn, a byddaf yn derbyn cynnig yr Aelod i weithio gyda Phlaid Cymru, er mwyn gweld sut y gallwn gyflwyno cynllun fel yr argymhellir yn adroddiad Diamond, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i oresgyn rhai o'r cymhlethdodau y mae Syr Ian wedi’u nodi sydd ynghlwm wrth gynllun o'r fath. Ond rwy’n awyddus iawn i dderbyn yr argymhelliad hwnnw.

Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Hoffwn hefyd gofnodi diolch grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i'r Athro Diamond, ac yn wir i holl aelodau'r panel, yn enwedig ein henwebai, yr Athro David Warner, am ei gyfraniad at y gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud. Rydym ni’n sicr yn croesawu'r cyhoeddiad; rydym ni’n llwyr groesawu'r argymhellion a wnaed i symud oddi wrth gymorth ffioedd dysgu, a thuag at system o grantiau cynhaliaeth sy’n seiliedig ar brawf modd. Dyma rywbeth, wrth gwrs, y mae ein plaid wedi bod yn ei hyrwyddo ers peth amser, ac rwy'n falch eich bod wedi cyfeirio at y ffaith bod rhai rhannau o ymrwymiadau pob plaid unigol wedi’u hymgorffori o fewn yr argymhellion a wnaed. Rydym fel plaid, wrth gwrs, bob amser o’r farn na ddylai neb gael gwrthod y cyfle i fynd i'r brifysgol ar sail eu cefndir. Rydym eisiau i gymaint o bobl ifanc ag sy’n bosibl sy’n dymuno mynd i’r brifysgol, allu dilyn addysg prifysgol.

Un peth yr wyf yn awyddus iawn i glywed gennych chi amdano, serch hynny, Weinidog, yw—yn amlwg, mae yna bobl sydd eisoes wedi cychwyn ar eu haddysg prifysgol, yn rhan o’r system grantiau bresennol. Ceir argymhelliad clir iawn gan yr Athro Diamond y dylid parhau i ganiatáu i’r unigolion hynny sydd eisoes wedi cychwyn ar eu haddysg yn y brifysgol gyda’r pecyn cymorth cyfredol i barhau i dderbyn y pecyn hwnnw drwy gydol eu cwrs ac iddynt beidio â bod dan anfantais, efallai, yn dilyn unrhyw newidiadau o ganlyniad i unrhyw drefniadau newydd a ddaw i rym. A allwch chi gadarnhau y bydd hynny'n wir ar gyfer yr unigolion hynny er mwyn sicrhau nad ydynt dan anfantais?

Mae rhai o'r meysydd lle'r oedd yn amlwg bod trafodaeth yn parhau o fewn y panel ac nad oedd dim casgliadau cadarn yn ymwneud â chefnogaeth i rieni sydd am fynychu'r brifysgol—pobl a allai fod yn famau sengl neu’n rhieni sengl neu bobl a chanddynt gyfrifoldebau gofalu eraill. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes unrhyw ystyriaeth wedi bod cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r adroddiad ynghylch pa fath o gymorth a allai fod ar gael i helpu unigolion sydd â chyfrifoldebau gofalu i ddilyn addysg prifysgol. Nodaf a chroesawaf yr argymhellion a wnaed ynglŷn â chymorth rhan amser. Credaf fod croeso mawr iddynt yn wir, er mwyn rhoi mwy o chwarae teg ac, yn wir, er mwyn annog mwy o bobl i astudio yn rhan amser. Rydym ni i gyd yn gwybod bod myfyrwyr rhan amser yn fwy tebygol o dalu eu benthyciadau yn ôl, er enghraifft, felly ceir cymhelliant ariannol da i annog pobl i astudio’n rhan amser, ac, wrth gwrs, maent yn weithredol iawn yn cyfrannu at economi Cymru wrth iddynt astudio, os ydynt yn gweithio ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Felly, hoffwn glywed yn arbennig gennych chi, Weinidog, am ba mor gyflym yr ydych yn gobeithio gallu gweithredu'r cynigion astudio rhan amser.

Roedd gennyf hefyd ddiddordeb mawr yn yr argymhellion a wnaed ynglŷn â buddsoddi mewn trosglwyddo gwybodaeth. Ceir argymhelliad arwyddocaol yn ymwneud â chynyddu buddsoddiad yn y maes hwnnw. Rydym ni’n gwybod bod nodyn yn yr adroddiad ynglŷn â—bod pob £1 a fuddsoddir yn y gronfa arloesi addysg uwch ar hyn o bryd yn dychwelyd £7 i economi Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n werth da iawn am arian ac, felly, byddwn i’n gobeithio y byddech chi’n ystyried yn llawn yr argymhelliad a wnaed am fuddsoddiad pellach mewn trosglwyddo gwybodaeth.

Nid oedd unrhyw gyfeiriad penodol at y bwrsarïau cyfredol sydd ar gael i fyfyrwyr nyrsio yma yng Nghymru. Rydych chi’n gwybod y ceir cefnogaeth gan bob plaid yn y Siambr ar gyfer parhau â’r trefniadau presennol, ond tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi ystyried, gan eich bod yn chwilio i weld pa sgiliau y gellid eu cadw yng Nghymru a sut i ddenu pobl, yn enwedig yn y rhannau hynny o'r sector cyhoeddus lle mae gennym brinder sgiliau, megis y GIG, ba un a allai fod dewisiadau bwrsariaeth eraill y gellid eu hystyried a'u hehangu, yn enwedig o gofio bod y ffigurau yn yr adroddiad yn tueddu i awgrymu y bydd yna arbediad net o ganlyniad i weithredu’r pecyn hwn o ddiwygiadau a gynigir gan yr Athro Diamond a'i dîm.

Ac yn olaf, rydych chi wedi dangos eich bod chi, yn amlwg, eisiau mynd i ffwrdd a rhoi mwy o ystyriaeth i’r argymhellion cyn cyhoeddi ymateb llawn ar ran y Llywodraeth. Mae’n amlwg bod yr Athro Diamond yn teimlo bod y rhain yn argymhellion y gellir eu rhoi ar waith yn 2018, ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd yn 2018. Tybed a ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu cyflawni nod sydd, yn fy marn i, yn un uchelgeisiol, o ystyried bod angen i bob un elfen fod yn ei lle o ran y trafodaethau sy'n rhaid i chi eu cael â Llywodraeth y DU, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac eraill er mwyn ymgorffori newid sylweddol i'r system heb unrhyw broblemau mawr.

Diolch yn fawr iawn, Darren, am hynny. A allaf, hefyd, ymuno â chi i ddiolch i enwebai’r Ceidwadwyr am ei ran yng ngwaith yr adolygiad? Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Rydych chi’n codi pwynt da iawn ynghylch amddiffyn carfannau penodol, ac rwyf am ei gwneud yn gwbl glir heddiw y bydd myfyrwyr sydd eisoes yn rhan o’r system ac sy’n derbyn pecyn cymorth penodol i fyfyrwyr, yn cwblhau eu taith addysgol gan ddefnyddio’r un pecyn cymorth hwnnw. Ni fyddai'n deg newid y rheolau ar gyfer myfyrwyr sydd hanner ffordd trwy eu cwrs. Felly, byddwn yn cynnig amddiffyniad i’r carfannau hynny sydd eisoes yn rhan o’r system ac, yn wir, sy’n gwneud cais drwy’r system. Oherwydd os ydych chi’n gwneud cais i brifysgol ac yna, hanner ffordd drwy'r flwyddyn honno, eich bod chi’n sylweddoli, mewn gwirionedd, bod yr amgylchiadau wedi newid eto, ni fyddai hynny'n deg. Rwyf am wneud hynny'n glir iawn i bobl heddiw: y bydd yna amddiffyniad i garfannau. Dyna'r unig ffordd deg o reoli'r broses bontio o un system i'r llall.

O ran pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu, mae’r gallu i gefnogi myfyrwyr rhan amser mewn ffordd deg, gobeithio, yn rhoi’r cyfle i’r bobl hynny efallai nad yw'n ddichonadwy, ymarferol neu’n fforddiadwy iddynt astudio’n llawn amser, i astudio’n rhan amser. Dyna beth sydd yn wirioneddol bwysig am y pecyn hwn: oes, mae angen i ni sicrhau ein bod yn edrych ar ôl y myfyrwyr israddedig traddodiadol ond, mewn gwirionedd, natur addysg uwch yw hyfforddiant—natur ein gweithlu a'n poblogaeth mewn hyfforddiant. Mae pobl yn dymuno gallu bod yn hyblyg o ran sut y maent yn caffael sgiliau lefel uwch. Mae'n hanfodol ar gyfer dyfodol ein heconomi. Felly, mae’r gallu i ddarparu cymorth i fyfyrwyr rhan amser yn bwysig iawn. Mae hefyd yn bwysig nodi bod y pecyn hwn yn canolbwyntio ar y gefnogaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, neu blant a chanddynt brofiad o'r system ofal, er mwyn sefydlu system gynhaliaeth ar eu cyfer, a fydd yn eu galluogi i allu mynd i brifysgol heb bryderu am gostau byw ymlaen llaw—sut y maent am dalu am eu rhent, eu bwyd, eu llyfrau. Gwn fod materion yn ymwneud â gofalwyr o ddiddordeb arbennig i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Yn fy nghyfarfodydd gydag UCM Cymru, rwyf wedi addo y byddaf yn pwyso a mesur, mewn gwirionedd, pa rwystrau sy’n wynebu gofalwyr wrth gael mynediad at addysg uwch, ac os yw’n bosibl, hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd o ran hynny oherwydd rwy’n gwybod ei fod yn peri pryder arbennig i UCM Cymru.

O ran amseru, fel y byddwch chi’n ymwybodol, ceir nifer o gamau y mae angen i mi eu dilyn, a’r cyntaf ohonynt yw mynd at Drysorlys Ei Mawrhydi. Efallai y gallai Darren Millar fanteisio ar gefnogaeth ei blaid i leddfu’r trafodaethau hynny. Y Trysorlys sy’n gyfrifol am y llyfr benthyca, ac felly ni allwn wneud cynnydd ar hyn oni chaf ganiatâd gan y Trysorlys. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol, o ddarllen adroddiad Syr Ian, fod cyfyngiadau gwirioneddol o fewn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, yr ydym yn gyfranddaliwr lleiafrifol ohono. Mae'n rhaid i mi fod yn gwbl hyderus y bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, wrth symud ymlaen, yn gallu ymdopi â’r system hon a’i gweinyddu. Nid wyf am i fyfyrwyr o Gymru fynd i drybini â’r system newydd oherwydd diffyg gallu o fewn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Ni fyddaf yn symud ymlaen hyd nes i mi gael sicrwydd pendant y gallai’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ddarparu ar gyfer ein systemau. Fel arall, efallai y byddai hynny yn gwneud dim ond achosi anawsterau i fyfyrwyr o Gymru, ac rwy’n awyddus i osgoi hynny.

Mae trosglwyddo gwybodaeth yn gwbl allweddol. Nid dim ond aros ar gyfer gweithrediad adroddiad Diamond yr ydym ni. Rwyf i, Julie James a’m cydweithiwr, yr Ysgrifennydd Cabinet Ken Skates, eisoes yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud ym maes trosglwyddo gwybodaeth mewn prifysgolion. Mae rhai o'r prosesau yn gymhleth iawn, ac nid ydym yn cael y gwerth gorau am yr arian yr ydym yn ei wario ar hyn o bryd. Felly, mae gwir angen inni edrych ar y system honno, nid dim ond yng nghyd-destun Diamond, ond yr hyn y gallwn ni wneud mwy ohono o ran addysg uwch a throsglwyddo gwybodaeth.

Mae bwrsariaethau nyrsio yn fater ar gyfer fy nghydweithiwr, yr Ysgrifennydd Cabinet sy’n gyfrifol am iechyd, ac rwy'n siŵr y bydd ganddo bethau diddorol i'w dweud wrth ymateb i ddadl plaid leiafrifol Plaid Cymru, brynhawn yfory o ran nyrsio. Felly, nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth y bydd ef o bosibl yn ei ddweud yn y ddadl yfory.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, yr Athro Diamond a'i dîm am yr adroddiad a’i datganiad hithau. Ceir rhai elfennau o'r adroddiad y mae fy mhlaid yn eu croesawu—y trefniadau synhwyrol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, sy’n eu gwneud yn gyfartal â myfyrwyr israddedig, cymorth ar gyfer myfyrwyr rhan amser a chymorth i ofalwyr. Un rhan fach a oedd gennym ni yn ein maniffesto oedd yr awgrym y dylid cael cynlluniau peilot ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru i astudio yn fyd-eang yn y sefydliadau addysgol gorau. Felly, rydym ni’n falch iawn o weld hynny’n cael ei ddatblygu. Er hynny, tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai hi erbyn hyn yw Gweinidog drutaf y Llywodraeth. Roeddwn i wedi meddwl bod consensws nad oedd y grant ffioedd dysgu o £237 miliwn y llynedd yn fforddiadwy, ac y byddai angen gwneud arbedion.  Cyfeiriodd maniffesto’r blaid Lafur at gael system cymorth i fyfyrwyr a oedd o leiaf mor hael â'r un sydd ar gael yn Lloegr. Byddai hynny wedi gallu caniatáu arbedion o’r £237 miliwn hwnnw. Gallai fod wedi caniatáu arbedion drwy beidio â gorfod talu’r grant cynhaliaeth yn ôl yng Nghymru. Ond mae’r holl arbedion posibl hynny, rydym yn cael ar ddeall nawr, am gael eu gwario. Gofynnais i'r Athro Diamond y bore yma a fyddai unrhyw arbedion, a dywedodd, 'Na, yr oedd am fod fwy neu lai yn gyfwerth’. Cyfeiriais ef at ei gylch gorchwyl, a oedd yn dweud mai un o’r pethau y dylai ganolbwyntio arno oedd,

'cyllido addysg uwch yng ngoleuni cyfyngiadau parhaus ar wariant cyhoeddus',

ond dywedodd wrthyf nad oedd wedi gwneud hynny; bod datganiad mwy diweddar gan Lywodraeth Cymru, a bod hynny wedi peri iddo gynhyrchu pecyn nad oedd yn cael unrhyw effaith negyddol ar y gyllideb addysg uwch. Nawr, wrth gwrs, mae’r ymadrodd hwnnw wedi’i gynnwys yn rhan o’r hyn y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet ato, ar ei gwefan hi, fel cytundeb y glymblaid. Mae'n parhau i fod yn chwiliadwy, a cheir amrywiol linellau mewn Lladin oddi tano. Ond cafodd hwnnw wedyn ei ailfrandio yn 'gytundeb blaengar'. Ond hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: beth sy’n flaengar ynglŷn â dyrannu £1,000 i bob myfyriwr, waeth pa mor gefnog ydynt, heb ofyn unrhyw gwestiynau? Beth sy’n flaengar ynglŷn â chynyddu grant cynhaliaeth a oedd yn £5,161—yr oedd rhan ohono yn cael ei dalu i bobl a oedd ag incwm teulu hyd at £50,000—gan gynyddu hynny i dros £8,000 a gwneud hynny yn daladwy i gartrefi ag incwm o fwy na £80,000, a fydd yn derbyn o leiaf rhan o hynny?

Nawr, bydd myfyrwyr, ar ôl graddio, yn ennill mwy yn ystod eu hoes na'r rhai nad ydynt yn cael y fraint o fynd i brifysgol. Ar gyfartaledd, maent yn dod o deuluoedd mwy cefnog o lawer, ac eto rydym ni’n bwriadu rhoi £132 miliwn y flwyddyn mewn grantiau cynhaliaeth uwch i'r grŵp hwn. Nawr, mae rhai yn fy mhlaid i, a rhai Aelodau Llafur efallai, yn dymuno gwario ar y GIG yng Nghymru neu ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ond yn lle hynny, caiff yr arian ei wario ar grantiau cynhaliaeth a fydd yn cael eu talu i bobl, gan gynnwys teuluoedd sy’n ennill hyd at £80,000. Sut y mae hynny'n flaengar?

Tybed—mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn sôn am rent—sut y mae hyn yn mynd i helpu i dalu rhent. Pa waith dadansoddi y mae Llywodraeth Cymru, neu’r Athro Diamond a'i dîm, wedi’i wneud o ran i ba raddau y bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer gwobrwyo landlordiaid? A yw hi’n ystyried y byddai hynny'n flaengar? Tybed hefyd pam y mae hi'n credu ei bod o fudd i economi Cymru i drosglwyddo dros £30 miliwn y flwyddyn mewn grantiau cynhaliaeth i fyfyrwyr a fydd yn astudio yn Lloegr. Nawr, lluniodd Plaid gynnig a oedd yn nodi eu bod am gael system a allai fod yn gymhleth a fyddai'n anghofio am rai o'r benthyciadau hynny. Ond, ar ôl gwrando ar yr Athro Diamond y bore yma, ymddengys bod o leiaf hanner dwsin o rwystrau i gyflawni hynny, ac nid y ffaith ei bod yn bosibl na fydd y Trysorlys yn cytuno yw’r lleiaf o’r rhain. O wrando ar Ysgrifennydd y Cabinet yn awr, mae hi'n pwysleisio’r anawsterau sydd ynghlwm wrth hynny. Nodir swm wedi’i gadw o £74 miliwn yn yr adroddiad, sydd i fod ar gyfer y costau hynny, ond ni chaiff ei gynnwys yn y crynodeb o'r costau yn rhan o’r argymhellion. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wir yn credu y bydd y cynllun diystyru benthyciadau gwahaniaethol hwn fyth am gael ei weithredu mewn gwirionedd? Onid yw’n well annog myfyrwyr i aros yng Nghymru, i gefnogi ac ehangu'r gyfundrefn addysg uwch yma, darparu setliad mwy hael i fyfyrwyr sy'n aros yng Nghymru o’u cymharu â'r rhai sy'n dewis mynd i Loegr ac elwa ar y benthyciadau, fel sydd gan fyfyrwyr o Loegr yno? Gallem ni gefnogi’r rhai sy’n waeth eu byd drwy roi cymorth iddynt a pharhau i gefnogi system addysg Cymru drwy wneud hynny. Pam na wnaiff hi hynny?

A gaf fi ofyn iddi hefyd—? Mae hi'n sôn am 'ddim niwed'. A yw'n wir y newidiwyd cylch gorchwyl adolygiad Diamond ar ôl dwy flynedd i gynnwys ei chytundeb blaengar hi? Dywedwch wrthym sut y mae hynny'n flaengar.

Un mater olaf: ceir argymhelliad gan yr Athro Diamond y gallai myfyrwyr barhau i gael eu talu a’u hariannu i astudio yn rhywle arall yn yr UE, ond mae'n datgan bod yr argymhelliad yn

'amodol ar y DU yn parhau i fod yn rhan o’r UE'.

Onid yw’n ymwybodol y cynhaliwyd refferendwm ar 23 Mehefin, neu a yw'n cytuno â'i phlaid hi y dylem ni bleidleisio eto?

Diolch yn fawr i Mr Reckless am ei gyfres o gwestiynau. Gwn eich bod yn gymharol newydd i Gymru, ond ceir traddodiad anrhydeddus o ran polisi cyhoeddus yng Nghymru sef yr egwyddor o gyffredinoliaeth mewn system flaengar. Mae'n un sydd wedi bod yn destun consensws gan lawer ohonom yn y Siambr hon, ac rwyf wrth fy modd â’r ffaith bod Syr Ian wedi parhau i gadw at yr egwyddor honno yn yr adroddiad heddiw. Rwy'n credu'n gryf bod addysg uwch yn fuddsoddiad a rennir—buddsoddiad a rennir, ie, â’r rhai hynny a fydd yn elwa'n uniongyrchol o ddilyn addysg uwch—ond, ceir budd i'n cymdeithas hefyd o ran pobl yn penderfynu astudio ar lefel addysg uwch. Mae'n fuddsoddiad a rennir ac rwy’n falch iawn bod Syr Ian wedi cydnabod hynny yn ei waith ac mae'n egwyddor rwy’n ei chymeradwyo’n llwyr.

Mae Mr Reckless yn gofyn sut y mae hon yn system flaengar. Mae hon yn system flaengar gan y bydd yn mynd i'r afael â'r prif bryder ar gyfer myfyrwyr ar hyn o bryd—mai costau byw ymlaen llaw yw’r rhwystr mwyaf o ran mynd ymlaen i astudio mewn addysg uwch. Y gallu i oroesi o wythnos i wythnos, i gynnal eich hun yn y brifysgol, dyna'r rhwystr mwyaf. Ac yn y system hon, bydd ein myfyrwyr mwyaf difreintiedig, neu'r rhai sydd wedi bod yn rhan o’r system ofal, neu'r rhai sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni, yn derbyn grant cynhaliaeth, na fydd angen ei ad-dalu, sy'n cyfateb â'r isafswm cyflog. Dyna yw hanfod system flaengar. Os na allai gydnabod hynny, yna nid oes dim byd y gallaf ei wneud i'w helpu. Nid oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i'w helpu. Dim byd o gwbl.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn egwyddor bwysig, sydd wedi’i chymeradwyo gan Syr Ian heddiw, y dylai’r system hon fod yn wirioneddol gludadwy. Fel yr wyf wedi ei ddweud wrth ymateb i gwestiynau yn gynharach, nid wyf am roi cap ar uchelgais myfyrwyr o Gymru. Ceir sefydliadau addysg uwch ardderchog yn ein gwlad ni y gall pobl astudio ynddynt, ac mae llawer yn y Siambr hon wedi elwa arnynt. Ond, mae yna fyd mawr y tu allan i Gymru hefyd ac os yw myfyrwyr eisiau achub ar y cyfle i astudio mewn sefydliadau yng ngweddill y DU, yr Undeb Ewropeaidd neu rannau eraill o'r byd, yna rwyf am gael system sy'n caniatáu iddynt wireddu eu breuddwydion a’u huchelgeisiau. Os ydynt yn ddigon da i gael eu derbyn i ba bynnag sefydliad, yna dylai’r system hon eu cefnogi. Byddaf yn ystyried sut y gallwn wireddu hynny ar gyfer myfyrwyr.

O safbwynt cymhelliant, mae'n argymhelliad o fewn yr adroddiad. Rwy'n croesawu'r argymhelliad hwnnw. Rwy’n credu ei bod hi’n werth pwyso a mesur yr hyn y gallwn ni ei wneud i gymell myfyrwyr i aros yng Nghymru ac arfer eu gwaith, i gadw’r sgiliau hynny yng Nghymru, neu i ddod â’r sgiliau hynny yn ôl i Gymru. Nid yw'n gwbl ddidrafferth; amlinellir hynny yn yr adroddiad. Ond nid yw y tu hwnt i grebwyll y Llywodraeth hon, gan weithio gydag eraill, i ffurfio system sy'n gallu cyflawni'r nodau hynny. Rwyf wedi gwneud cynnig diffuant i lefarydd Plaid Cymru i weithio gyda nhw i ystyried pa gynllun y gallwn gytuno arno a fydd yn gwneud hynny. Ceir materion ymarferol i'w goresgyn. Ond, fel y dywedais, nid ydyw y tu hwnt i’n crebwyll ni i allu cytuno ar gynllun, a dyna beth yr wyf yn bwriadu ei wneud.

A allaf ddiolch heddiw i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad a hefyd ychwanegu fy niolch i Syr Ian a'i dîm am ei adroddiad? Rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn dod i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y deuddegfed er mwyn i ni ei drafod yn fanwl. Credaf fod llawer iawn i'w groesawu yn yr adroddiad hwn. Yn arbennig, rwy’n croesawu’r ffaith ei fod yn amlwg wedi ystyried barn myfyrwyr am yr angen i fynd i'r afael â'r bunt yn eu poced. Rwy'n croesawu'r newid ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, a fydd yn hanfodol ar gyfer ein heconomi, y newidiadau ar gyfer myfyrwyr rhan amser, a fydd yn cael effaith enfawr ar ein gallu i gyflawni cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru, ac rwyf hefyd yn cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet fod hygludedd yn eithriadol o bwysig.

Er hynny, yn ôl pob tebyg y peth yr wyf i’n ei groesawu fwyaf yw’r ffaith y bydd hyn yn darparu’r pecyn mwyaf hael o gymorth i'r myfyrwyr mwyaf anghenus yr ydym wedi’i weld erioed—yr ymrwymiad i ddarparu’r hyn sy'n cyfateb i gyflog byw, sydd i'w groesawu’n fawr. Hoffwn ofyn yn benodol am bobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r system ofal, y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cyfeirio atynt. Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion penodol yn ymwneud â’r bobl ifanc hynny. A yw'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i weithredu’r argymhellion hynny yn llawn?

A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am ei chroeso cynnes i waith Syr Ian? Byddwn ni’n unigryw yn y DU gan y byddwn ni’n cynnig system sy’n gludadwy ac yn gyfartal ar gyfer pob dull o astudio. Rydym eisoes wedi sôn am bwysigrwydd myfyrwyr rhan amser, ond mae hefyd yn briodol y dylem ni fod mewn sefyllfa i gynorthwyo astudiaethau ôl-raddedig. Mae'n bwysig iawn i'n heconomi ac i gydnabod bod y gallu i symud ymlaen i astudio cyrsiau ôl-radd bron â bod yn rhagofyniad ar gyfer llawer o fyfyrwyr yn awr mewn llawer o'u meysydd gwaith. Mae'n peri gofid i mi, ar hyn o bryd, nad ydym ni mewn sefyllfa i weithredu system gymorth ar gyfer astudio ôl-raddedig. Mae'n ddolen goll—mae'n ddolen goll heb os—yn y system sydd gennym ar hyn o bryd, ac rwy’n derbyn llawer o ohebiaeth gan Aelodau'r Cynulliad ar draws y Siambr am y mater hwnnw. Bydd y cynnig hwn yn ein helpu i fynd i'r afael â hynny.

Rydym ni’n gwybod bod gennym lawer iawn o waith i’w wneud ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac mae hynny'n dechrau yn yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd. Gallwn ni gael y polisi cymorth i fyfyrwyr addysg uwch mwyaf blaengar ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ond, fel y cawn ein hatgoffa yn aml gan David Melding, os nad yw’r plant hynny yn cael y cymwysterau TGAU a Safon Uwch sydd eu hangen arnynt, nid yw’n golygu dim. Felly, bydd ein cefnogaeth ar lefel Addysg Uwch yn gontinwwm o'r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud o ran y grant amddifadedd disgyblion ac o ran rhaglenni ymyrraeth penodol ar gyfer plant y sy’n derbyn gofal yn ein hysgolion, fel y gallwn ni gynyddu’r nifer a fyddai’n wirioneddol elwa ar y cynigion yng ngwaith Syr Ian Diamond, ac rwyf yn bwriadu anrhydeddu a gweithredu’r cynigion hynny.

A allaf ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fod ganddi hi, fel Plaid Cymru, o leiaf y dewrder i sefyll yn yr etholiad, gan gynnig dewis amgen i’r system bresennol ac i dynnu sylw at wendidau’r cymhorthdal ffioedd ​​dysgu? Mae'n costio gormod, ac nid yw’n gynaliadwy, ac rwyf wedi bod yn dweud hynny am bedair blynedd. Mae’r distawrwydd o feinciau’r blaid Lafur, am beidio â bod yn ddigon dewr i sefyll yn yr etholiad a datgan yr hyn maent yn ei gredu, yn rhywbeth y gallwch ei glywed yma heddiw. [Torri ar draws.] Yn sicr fe wnaethoch chi hynny—yr oedd yn bolisi diwerth, ond yn sicr roedd gennych chi un, felly mae hynny'n ddigon teg. [Chwerthin.] Mae hynny'n ddigon teg.

Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, ac mae hi'n deall ac yn gwerthfawrogi, anferthedd yr heriau sy'n ei hwynebu hi. Bydd hi’n gwybod hefyd fod yr Athro Diamond wedi cyflwyno adroddiad cadarn iawn sy'n cwmpasu bron pob agwedd ar y materion hyn, ar wahân i'r un y gwnaeth Llyr Gruffydd yn arbennig dynnu sylw ato: yr angen i ddenu mwy o fyfyrwyr i astudio ac i aros yng Nghymru er mwyn gwella ein prifysgolion, ac er mwyn gwneud y cysylltiad hwnnw ag economi sy'n datblygu yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn gwybod hynny, ac rwy’n croesawu'r ffaith ei bod wedi estyn llaw i weld sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd ar hynny, ond rwy’n credu bod yn rhaid iddi gydnabod hefyd fod hynny'n wendid yn y system bresennol. Nid oes dim yn adroddiad Diamond sy’n mynd i'r afael â hynny’n uniongyrchol, er, wrth gwrs, y tynnir sylw ato.

A gaf i ddweud nad oeddwn yn gallu bod yn bresennol yng nghyfarfod briffio yr Athro Diamond y bore yma, felly rwy'n ddiolchgar iawn i Mark Reckless am ddweud wrthyf nad wnaeth yr Athro Diamond, mewn gwirionedd, gynnal un o'r cylchoedd gorchwyl yr oedd yn gyfrifol amdanynt a bod hynny wedi newid oherwydd cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n bendant yn cofio trafod y cylch gorchwyl â'ch rhagflaenydd, Huw Lewis, fesul llinell, fel cytundeb rhwng dwy blaid o ran sut y gallem ni fynd i'r afael â'r mater cyllido hwn. Mae'n ymddangos yn awr y cafodd y cytundeb ar y cylch gorchwyl ei newid, heb unrhyw gyfeiriad at y pleidiau gwreiddiol a bennodd y cytundeb hwnnw, a chafodd ei newid mewn ffordd a allai fod wedi dylanwadu ar y ffordd y cynhyrchodd yr Athro Diamond ei adroddiad. Felly, rwy’n rhoi rhybudd, oni bai eich bod yn gallu ateb yn syth, y byddaf yn archwilio sut y digwyddodd hynny.

A allaf hefyd ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a oes ganddi unrhyw schadenfreude o gwbl, fel Democrat Rhyddfrydol mewn Cabinet Llafur, wrth gyflwyno'r elfen o brawf modd, sef yr unig beth y gwnaeth y Blaid Lafur ei ddiystyru yn eu maniffesto mewn gwirionedd—rwy’n credu bod y prawf modd, sy’n seiliedig ar gyffredinolrwydd, yn ganlyniad anochel o fynd ar drywydd profi'r farchnad o fewn addysg uwch? Rwyf wedi ymladd yn erbyn hynny drwy gydol fy mywyd gwleidyddol—gwnes i bleidleisio yn erbyn hynny yn Nhŷ'r Cyffredin dro ar ôl tro pan oedd Llafur i gyd wedi trefnu i bleidleisio o’i blaid. Mae'n rhaid i ni fynd i’r afael â'r sefyllfa sydd gennym a'r adnoddau cyfyngedig sydd gennym. Felly, mae'r egwyddor y mae hi wedi’i nodi yn un rwy’n ei chefnogi ac yn un rwy’n ei chroesawu.

Fodd bynnag, roeddwn yn meddwl bod dwy elfen o'r egwyddorion y gwnaethoch chi eu nodi yn eich datganiad ar goll. Nid wyf yn anghytuno â'r rhai yr ydych chi’n eu nodi fel y ffordd ymlaen, ond roedd yna ddwy yr oeddwn i o’r farn eu bod yn rhan o’r adroddiad Diamond, nad ydynt yno bellach. Un ohonynt yw sicrhau mwy o chwarae teg rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch—cael system o ddewisiadau sy’n fwy cytbwys fel y gall pobl ddewis dyfodol addysg bellach mewn gwirionedd, a’n bod ni’n gweld bod yr adnoddau yr ydym ni’n gwario arnynt fel cenedl yr un mor gefnogol o addysg bellach ag y maent o Addysg Uwch. Yn y cyd-destun hwnnw, a allech chi—oherwydd nid wyf wedi cael amser i ddarllen manylion yr adroddiad mae arnaf ofn—ailadrodd y rhesymeg ar gyfer cysylltu cymorth i fyfyrwyr â'r cyflog byw, a pha gyflog byw—cyflog byw John McDonnell, cyflog byw Boris Johnson? Pa gyflog byw? Mae'n ymddangos yn rhyfeddol, yn tydi? Mae'n ymddangos yn egwyddor sosialaidd da i gysylltu cymorth i fyfyrwyr â chyflog byw. Ond pam yr ydym ni’n cysylltu cymorth i fyfyrwyr yng Nghymru â chyflog byw nad oes gennym ni unrhyw reolaeth drosto, a chyflog byw nad yw'n gysylltiedig â'n hamgylchiadau economaidd? Pam yr ydym ni’n cysylltu cymorth i fyfyrwyr â chyflog byw pan nad yw prentisiaethau a phrentisiaid yn cael y math hwnnw o gymorth? Rwy’n pryderu, unwaith eto, y gall hyn beri i ni roi gormod o gefnogaeth i Addysg Uwch ar draul Addysg Bellach, ac rwy'n credu mai’r dyfodol i Gymru a’r dyfodol i lawer o'n cymunedau mewn gwirionedd yw cynyddu nifer y bobl sy'n dilyn addysg bellach a sicrhau’r prentisiaethau lefel uwch hynny. Felly, rwyf wirioneddol yn cwestiynu beth yw'r sail ar gyfer hynny—nid yr egwyddor, gan fy mod yn derbyn yr egwyddor, ond beth yw’r sail ar gyfer hynny—a pha un a yw’n wirioneddol fforddiadwy. Ac rwy’n credu y byddai myfyrwyr yn derbyn cynnig hael iawn—. Fel y dywedodd Lynne Neagle, mae'n hael iawn, ond a yw'n gymesur â'n buddsoddiad economaidd buddsoddiad—y cyd-fuddsoddiad hwnnw y soniodd hi amdano?

A'r ail elfen yr hoffwn holi amdani—oherwydd mai hynny sy’n sicrhau chwarae teg—a'r ail egwyddor yr oeddwn i o’r farn ei bod ar goll oedd un a oedd yn dweud ein bod am ddefnyddio'r system hon yn awr i gau'r bwlch o ran cyllido Addysg Uwch yng Nghymru. Fe safodd ar sail ymrwymiad maniffesto i adfer rhan o'r grant addysgu. Nid yw hynny bellach yn rhan o adroddiad Diamond ac nid yw bellach yn rhan o’i datganiad, ond os nad ydym ni am adfer y grant addysgu, yna sut y gallwch chi ddweud wrthym sut y bydd yr adnoddau a fydd yn cael eu rhyddhau, y gwnaethoch chi eu crybwyll wrth ymateb i’r cwestiynau, yn cael eu cynnwys eto wrth fuddsoddi mewn addysg uwch? Rydym yn gwybod bod y bwlch cyllido yn bodoli—y mae oddeutu £90 miliwn ar gyfer Addysg Uwch ar hyn o bryd. Mae wedi tyfu dros y blynyddoedd. Nid oeddem ni’n gallu rhoi sylw iddo pan oeddem ni’n ariannu myfyrwyr yn unig a phan nad oeddem ni’n ariannu prifysgolion. Ym mha ffordd y mae adroddiad Diamond nawr yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r bwlch cyllido hwnnw, ac a yw wir yn egwyddor y bydd yn dal i ymlynu ati?

Diolch yn fawr, Simon, am eich cwestiynau. A gaf i eich sicrhau yn llwyr nad wyf i mewn unrhyw ffordd ar unrhyw adeg wedi cael unrhyw sgyrsiau â Syr Ian Diamond neu'r panel ynglŷn â newid ei gylch gorchwyl? Dylech chi wir, mewn difrif calon, wybod yn well na chredu popeth sydd weithiau’n cael ei ddatgan. Felly, gallaf eich sicrhau. Felly, ar bob cyfrif, mynnwch Ryddid Gwybodaeth gymaint ag y dymunwch. Nid roddwyd unrhyw gyfarwyddyd i Syr Ian Diamond newid cylch gorchwyl yr adroddiad.

Ond rwyf yn cydnabod y mater hwn ynglŷn â chael gwell cydbwysedd rhwng sut yr ydym wedi ariannu Addysg Uwch yn ei chyfanrwydd yn draddodiadol, ac mae'r pwyslais wedi bod i raddau helaeth ar ariannu’r myfyriwr unigol. Mae hynny wedi arwain at rai heriau gwirioneddol ar gyfer y sector Addysg Uwch a'r sefydliadau eu hunain. Yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei wneud, a’r hyn y mae fy nghytundeb i â'r Prif Weinidog yn ceisio ei wneud, yw sicrhau, wrth symud adnoddau, y byddwn ni’n gallu cyflawni’r cydbwysedd hwnnw ac yn gallu cyrraedd sefyllfa lle gall y CCAUC, neu o ganlyniad efallai i ymateb i adolygiad Hazelkorn—rhywbeth sydd efallai’n dilyn—roi adnoddau yn ôl i sefydliadau Addysg Uwch. Credaf mai hynny, mewn gwirionedd, yw un o'r ffyrdd y mae angen i ni sicrhau bod y cynnig Addysg Uwch yng Nghymru gystal ag y gall fod ar gyfer darpar fyfyrwyr, oherwydd credaf, a bod yn onest, y bu her i sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru gadw i fyny â rhai o'r datblygiadau ar draws y ffin. Felly, mae rhai o'r pethau a allai fod yn ddeniadol i fyfyrwyr wedi’u datblygu yn Lloegr, ac nid ydym ni wedi bod â’r adnoddau i wneud hynny yma yng Nghymru. Felly, dyna un o'r blociau adeiladu y mae ei angen arnom—gwell cydbwysedd o ran sut yr ydym yn ariannu Addysg Uwch yn ei chyfanrwydd, ac rwy’n credu bod Syr Ian wedi rhoi amlinelliad da iawn i ni ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen â hynny.

O ran—. Edrychwch, nid fi ysgrifennodd faniffesto’r Blaid Lafur—[Torri ar draws.] Nid fi ysgrifennodd faniffesto'r Blaid Lafur, ond rwy’n ymwybodol bod y maniffesto wedi dweud—y byddai unrhyw gyfundrefn newydd ar gyfer cyllido myfyrwyr yng Nghymru yn fwy hael na'r un yn Lloegr, ac mae’r system hon heddiw yn cyflawni maniffesto'r Blaid Lafur yn yr un ffordd ag y mae'n cyflawni fy maniffesto i, pan ddywedais yn glir iawn fod yn rhaid inni symud i ddefnyddio system o grantiau cynhaliaeth ar gyfer costau byw ymlaen llaw. Felly, rwy’n credu, mewn gwirionedd, fod y cynnig hwn heddiw yn cadw at yr hyn a ddywedodd y Blaid Lafur yn yr etholiad a'r hyn a ddywedodd fy mhlaid innau, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn yr etholiad.

Mae’r Aelod yn codi rhai pwyntiau difrifol iawn am Addysg Bellach. Yn union fel y sector Addysg Uwch, bu pwysau sylweddol ar y sector Addysg Bellach. Nawr, mae llawer o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer adroddiad Diamond yn tynnu sylw at yr angen am ddull mwy cydgysylltiedig a llwybrau dilyniant gwell rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Cytunwyd, felly, y byddai'n ddefnyddiol pe byddai’r panel adolygu yn gallu ystyried yn fanylach y materion hyn fel rhan o'i gylch gorchwyl. Cafodd ei gynorthwyo i wneud hynny gan is-banel, ac ystyriwyd y ffordd orau er mwyn gwella cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cwrs addysg uwch sy’n seiliedig ar waith neu’n seiliedig ar alwedigaeth, gan fy mod yn credu bod anghenion yr economi fodern yn gofyn am hynny gan ein system. Mae'r argymhellion sy'n ymwneud ag addysg bellach yn canolbwyntio, fel y dywedais, ar addysg alwedigaethol a thechnegol, oherwydd bod yr is-banel o’r farn mai hwnnw oedd y maes lle’r oedd yr angen mwyaf, a byddwn ni’n edrych ymlaen at sut y gallwn ni weithredu'r argymhellion a wnaed o ran hynny.

O ran y cyflog byw, ymagwedd Syr Ian iddo yw, ‘Beth sy’n swm digonol o arian, a fydd yn galluogi i bobl gynnal eu hunain?’ Mae wedi gwneud y cysylltiad hwnnw â’r cyflog byw, ond mae’n bwynt da bod pobl eraill sy'n dilyn hyfforddiant ac yn datblygu sgiliau na fyddant yn destun i hynny. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw nad yw’r costau byw ymlaen llaw hynny yn dod yn rhwystr i ddilyn addysg uwch, yn enwedig ar gyfer ein myfyrwyr tlotach. Dyna'r egwyddor sylfaenol y byddaf yn ceisio gweithredu arni wrth edrych ar sut y gallwn roi’r argymhellion hyn ar waith. Fodd bynnag, mae'r pwyntiau ynghylch Addysg Bellach wedi’u gwneud yn dda ac mae'r Llywodraeth hon yn ymwybodol ohonynt.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad ac ymuno ag eraill wrth ddiolch i Syr Ian a'i banel am y gwaith a wnaethant? A gaf i ddiolch hefyd i’w ragflaenydd, Huw Lewis, a oedd mewn gwirionedd yn un o’r bobl a oedd yn flaenllaw yn hyn? Mae'n rhaid i ni gydnabod ei waith ef hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi ateb llawer o gwestiynau heddiw, felly byddaf yn ceisio cadw fy rhai i mor gryno ag sy’n bosibl. Mae fy etholwyr yn Aberafan yn wynebu llawer iawn o anawsterau. Yn wir, cynhaliwyd arolwg o'r rhai a oedd wedi gwneud cais am addysg uwch yng Nghastell-nedd Port Talbot a gwelsom, yn Aberafan, fod llai o fyfyrwyr o lawer yn mynd i Addysg Uwch nag yng Nghastell-nedd. Gallai fod yn ganlyniad i rai o'r heriau y byddent wedi eu hwynebu o ran costau byw. Rwyf yn gwerthfawrogi yn fawr iawn y gwaith sydd wedi ei wneud i gefnogi’r myfyrwyr hynny o ardaloedd mwy difreintiedig i gael mynediad i addysg uwch.

Ond, a gaf i barhau trwy sôn am astudio'n rhan-amser, sef un o’m mhryderon? Rwyf wedi bod â diddordeb mewn astudio rhan-amser erioed. Rwyf yn gwerthfawrogi’n fawr iawn y bwriad i gefnogi astudiaethau rhan-amser. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn helpu'r rhai sydd mewn gwaith a'r rhai sy'n ceisio cael gwaith neu newid i gyfeiriad gwahanol i gael y cymwysterau hynny mewn gwirionedd. Ond, a wnewch chi egluro un neu ddau o bwyntiau i mi, os gwelwch yn dda? A fydd hyn yn rhan-amser ar sail modiwlau neu gredydau, ar y sail honno? Oherwydd mae hyn yn bwysig, gan fod rhai dim yn gwneud modiwlau penodol yn unig bob blwyddyn, neu mae modd, er enghraifft, gwneud un modiwl y flwyddyn yn unig. A ydym yn ystyried hynny? A fydd myfyrwyr rhan-amser presennol nad ydynt erioed wedi cael unrhyw gymorth yn yr ystyr honno, yn wahanol i raddedigion amser llawn, yn cael elwa ar hyn ar unwaith? Felly, os ydynt eisoes mewn rhaglen, a fyddant yn cael elwa ar hynny ar unwaith? Rwyf yn bryderus braidd rhag i ni hefyd efallai roi cyfleoedd i rai cyflogwyr diegwyddor ddweud, ‘Byddwch yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru am hyn nawr.’ A fyddwch yn monitro yn ofalus gyfraniadau blaenorol cyflogwyr i sicrhau nad ydym, i raddau, yn talu eu costau nhw y maent bellach yn eu hailfeddwl, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gefnogi eu gweithwyr sy'n astudio'n rhan-amser?

Hefyd, mae'n dweud yn fan hyn, yn y crynodeb gweithredol,

‘Dylai’r ffi fwy cymedrol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser gael ei hategu gan grantiau dysgu ac addysgu sefydliadol i brifysgolion a darparwyr addysg uwch.’

Allech chi nodi beth fydd y dyraniad mewn gwirionedd er mwyn darparu’r cymorth ategol?

‘Ni ddylai’r system gyllido gyffredinol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser gael ei chyfyngu gan drothwyon credyd’.

A wnewch chi egluro unwaith eto beth yr ydych yn ei olygu gan ‘drothwyon credyd’ yn yr ystyr hwnnw?

Mae hefyd yn nodi na ddylai myfyriwr rhan-amser gael ei gosbi am unrhyw astudio blaenorol. A fydd hynny yn berthnasol i fyfyrwyr llawn amser hefyd? Oherwydd gallai llawer o fyfyrwyr llawn amser fynd yn ôl mewn gwirionedd. Gwn am unigolyn a raddiodd fel peiriannydd, ac a dreuliodd 10 mlynedd yn gweithio fel peiriannydd, cyn penderfynu newid llwybr gyrfa. Aeth yn ôl i astudio meddygaeth, ac mae wedi bod yn gweithio fel meddyg teulu am flynyddoedd lawer ers hynny. Unwaith eto, mae hynny'n gymwys, wyddoch chi—. Felly, os byddwch yn ei gymhwyso i un llwybr rhan-amser, a fyddwch yn ei gymhwyso i lwybr llawn amser hefyd?

Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r pwyslais ar radd Feistr a addysgir yn rhan-amser ac ymchwil rhan-amser, a nodaf eto fod trafodaethau ar waith ynghylch y dull tair rhan i gefnogi 150 o fyfyrwyr ymchwil. A ydych wedi trafod hyn â diwydiant, gan ei fod yn un o'r rhai a drafodwyd fel trydydd parti—Llywodraeth Cymru, prifysgolion ac arianwyr eraill, yr wyf yn tybio mai diwydiant fydd hwnnw? Pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael â diwydiant o ran iddo fod y trydydd parti hwnnw sy’n ariannu’r myfyrwyr ymchwil hynny? Rwyf hefyd yn croesawu ac yn cefnogi'r pwyslais parhaus ar CCAUC yn ariannu ymchwil, gan fod mwy o ymchwil yn bwysig. Rydym yn gwybod nad ydym, lawer o weithiau, wedi gweithio i lefel y grant cyllid yr ydym yn ei gael gan ein cynghorau cyllido. Mae hyn yn bwysig, ein bod ni’n parhau i ariannu ein prifysgolion, er mwyn i ni allu cyrraedd y lefel honno a chael rhagor o arian gan y cynghorau ymchwil.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Gofynnodd a fyddwn yn gallu sicrhau bod y cynllun ar gael i weithwyr rhan-amser ar unwaith. Rwyf mewn penbleth: Mae Aelodau yn disgwyl i hyn gael ei gyflwyno fel pecyn a nawr mae rhai Aelodau eisiau darnau bach ohono i gael eu darparu yn gynt nag eraill. Rwy'n credu mai’r broblem yw, David, ein bod ni’n gweld y pecyn hwn yn ei gyfanrwydd, ac rwyf eisiau gallu symud ymlaen ar y sail honno, gan gyflwyno cymorth i fyfyrwyr o bob math ar yr un pryd, oherwydd os byddwn yn dechrau gwneud rhai darnau yn gynt nag eraill, rwy’n credu y byddwn mewn perygl efallai o gael ein cyhuddo o beidio â chadw’n driw i'r egwyddor fod hwn yn un pecyn cyfan.

Ond o ran trothwyon credyd ac astudio blaenorol, byddwch yn ymwybodol fod yr adroddiad wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar a dyma rai o'r manylion y bydd angen i ni weithio arnynt yn ystod yr wythnosau nesaf, cyn ein bod ni’n gallu ymgynghori ar ymateb manwl y Llywodraeth. Felly, mae angen i ni drafod materion sy'n ymwneud â throthwyon credyd, astudio blaenorol, sawl gwaith y gallwch chi fynd i mewn i'r system ac a allwch chi fod yn fyfyriwr parhaol yn y system, wrth roi ystyriaeth bellach i gynaliadwyedd ac i fanylion y pecyn.

Rydych chi'n iawn: mae gan ddiwydiant, cyflogwyr ran i'w chwarae yma. Byddwch yn ymwybodol o araith a wneuthum yn ddiweddar ar sut yr wyf yn dymuno sicrhau perthynas waith agosach rhwng sefydliadau addysg uwch a’u heconomi leol—eu cyflogwyr lleol. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau â Julie James a chydweithwyr eraill ynglŷn â sut y gallwn wneud y cysylltiadau hynny, sy'n gwbl hanfodol. Gwnaethoch chi nodi mater o berygl moesol: os ydym yn gwneud hyn, a fyddwn ni mewn gwirionedd wedyn yn creu problem rywle arall yn y system? Rwy'n credu bod awydd gwirioneddol, yn y sector Addysg Uwch ac ymhlith cyflogwyr, i gydweithio i gyflawni'r agenda hon. Mae cyflogwyr yn gweld y budd o gael gweithwyr medrus y gallant eu cefnogi. Gallant gadw’r sgiliau hynny, cynyddu eu cynhyrchiant hwy a chynhyrchiant y busnes, sy’n un o'r pethau sydd wedi pwyso economi Cymru—lefelau cynhyrchiant isel. Mae hwn yn gyfle i fynd i'r afael â hynny.

Er budd Simon Thomas, hoffwn ei atgoffa, pan fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn sefydlu adolygiad Diamond, nid yw'n syniad da i ragweld beth fydd ei argymhellion yn ein maniffesto ymlaen llaw. Cynrychiolwyd yr holl randdeiliaid, felly—. Wyddoch chi beth, gadewch i ni glywed y dystiolaeth ac wedyn trafod yr hyn yr ydym am ei wneud am y peth.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Mae’n arbennig o ddiddorol i mi sylwi ar fater gofalwyr. Rwy’n meddwl yn arbennig am y rhai sydd wedi cael plant yn ifanc iawn ac nad ydynt wedi cwblhau eu haddysg, ond a fydd yn dymuno dychwelyd i'r brifysgol pan fydd eu plant mewn addysg llawn amser eu hunain. Pa drafodaethau, os o gwbl, ydych chi wedi eu cael â'r Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â’r sefyllfa pan fydd rhywun yn fyfyriwr rhan-amser? A allen nhw hefyd, felly, fod yn gymwys i gael budd-daliadau rhan-amser ar y sail eu bod yn fyfyrwyr rhan-amser yn unig ac, felly, a allent fod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill, yn rhan-amser? Oherwydd, fel arall, yn syml, ni fydd y lwfans rhan-amser yn gweithio iddyn nhw. Mae'n hynod o anodd gweithio a gofalu yn ogystal ag astudio, os ydynt yn rhieni unigol. Felly, byddai’n ddefnyddiol gwybod hynny.

Mae fy mhryder arall yn ymwneud â’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Mae’n ddiddorol gwybod eich bod yn cynnal trafodaethau â nhw, oherwydd, yn wahanol i'ch sicrwydd ynglŷn â myfyrwyr presennol, maent wedi newid y rheolau ar ganol y stori, gan fod y rhai sydd â benthyciadau i dalu am eu haddysg yn canfod yn sydyn bod y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi ei breifateiddio a bod eu dyledion wedi eu diogeleiddio ac yn cael eu gwerthu i'r cynigydd uchaf. Ac mae’r ddyled gynyddol i fyfyrwyr yn peri pryder mawr, a hyn sy’n fwyaf tebygol o annog pobl o deuluoedd incwm isel i beidio ag eisiau mynd i’r ddyled honno pan nad oes modd iddynt ei feintioli. Pan fyddwch yn cael morgais, rydych yn gwybod beth fydd gennych yn y pen draw, ond mae'n ymddangos, fel y mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar hyn o bryd, nad oes gan fyfyrwyr unrhyw syniad o faint eu dyled a faint y bydd yn cynyddu unwaith y byddant yn peidio â bod yn fyfyriwr ac yn dechrau gweithio.

Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau? Fel y dywedais yn gynharach, credaf fod yr argymhellion a'r egwyddorion a gymeradwywyd gan y Cabinet yn driw i faniffesto'r Blaid Lafur, oherwydd dywedodd y Blaid Lafur y byddai'r system yn fwy hael nag yn Lloegr, ac os ydym yn rhoi’r system hon ar waith, bydd hynny yn wir. O ran y bobl sy’n dymuno astudio yn rhan-amser, dyma un o nodweddion mwyaf deniadol adroddiad Diamond—y byddwn yn gallu rhoi cymorth priodol, am y tro cyntaf, i’r rhai sy’n astudio yn rhan-amser. Ond ni ddylem anghofio bod Llywodraeth Cymru yn darparu adnoddau i golegau Addysg Bellach ar gyfer y bobl hynny sy'n dychwelyd i addysg, yn enwedig ym maes Addysg Bellach—yn wir, rwyf newydd gymeradwyo dyraniadau eleni—er mwyn iddynt allu helpu’r myfyrwyr hynny â gofal plant, a chostau teithio. Felly, mae rhaglenni eisoes ar waith i geisio cefnogi'r dysgwyr hynny i gadw eu lleoedd, yn enwedig yn y sector Addysg Bellach.

Nid wyf wedi trafod â'r Adran Gwaith a Phensiynau. O ran y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, fy mlaenoriaeth wrth ymwneud â'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yw cael sicrwydd ganddynt y gallant newid eu systemau i'n galluogi i symud i'r system newydd hon o gymorth i fyfyrwyr. Mae’r adroddiad yn dweud rhai pethau eithaf llym am gapasiti yn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Ni allwn symud ymlaen ar hyn oni bai ein bod yn gwybod y gall y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ddarparu ar gyfer y system newydd. Dyna un o'r rhesymau pam yr ydym yn y sefyllfa o beidio â gallu cynnig benthyciadau ôl-radd eleni, oherwydd na allai’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr newid eu systemau mewn pryd i allu gwneud hynny. Mae hyn yn rhwystr gwirioneddol i roi unrhyw un o'r diwygiadau hyn ar waith. Rwyf wedi cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, ac mae swyddogion yn parhau i drafod â phrif weithredwr y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, oherwydd dyna yw fy mlaenoriaeth ar hyn o bryd—iddyn nhw ganiatáu hyblygrwydd yn eu system i’n galluogi ni i roi’r newid hwn ar waith, oherwydd heb hynny, ni fyddwn yn gallu gwneud yr un o'r pethau yr wyf wedi’u hamlinellu heddiw. Mae angen i mi allu gwneud hynny gyda hyder y byddwn yn derbyn, ac y bydd myfyrwyr Cymru yn derbyn, gwasanaeth da.

Mae myfyrwyr o dramor yn gwneud cyfraniad uniongyrchol, gwerthfawr i’n prifysgolion ac i’r economi. Am bob pump myfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd sydd yn dod i Gymru, mae un swydd yn cael ei chreu, a daw £200 miliwn mewn taliadau gan fyfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion Cymru. Mae Prifysgol Bangor yn fy etholaeth i yn cydweithio efo 100 o bartneriaid mewn 20 gwlad yn Ewrop, efo llawer mwy o wledydd eraill ar draws y byd hefyd. Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn helpu i gryfhau ein cysylltiadau efo gwledydd tramor, ac yn arf gwerthfawr i’n hymdrechion masnachu rhyngwladol. Ond, yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae yna ddyletswydd wrth gwrs, onid oes, ar y Llywodraeth yma i sicrhau a diogelu arian cyhoeddus ar gyfer ymchwil a datblygu ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, cynllun Horizon 2020. Fe dderbyniodd prosiectau yng Nghymru tua £12 miliwn o gyllid o gronfa Horizon 2020 yn 2014 yn unig, ac mae Cymru hefyd wedi derbyn dros €140 miliwn o raglen fframwaith yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y rownd 2007-13, sef y ffrwd gyllido flaenorol ar gyfer ymchwil ac arloesi.

Mae adroddiad Diamond yn tanlinellu pwysigrwydd y ffynonellau cyllid yma i brifysgolion Cymru. Rŵan, os wyf i’n deall yn iawn, polisi Llywodraeth Cymru ydy gadael i San Steffan benderfynu ar amodau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Canghellor y Trysorlys wedi cadarnhau y bydd arian o gynlluniau megis Horizon 2020 yn ddiogel hyd at y flwyddyn 2020. Ond, o gydnabod pwysigrwydd y pres yma i brifysgolion Cymru, pa ymdrechion a ydych chi yn bersonol wedi bod yn eu gwneud i sicrhau bod buddiannau ein prifysgolion yn cael eu diogelu yn y mater yma? Ac a fyddwch chi rŵan yn defnyddio’ch rôl chi o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau’r setliad gorau posib i’r sector addysg uwch yng Nghymru, yn sgil Brexit?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Mae myfyrwyr rhyngwladol yn hanfodol i iechyd addysg uwch yng Nghymru, ac mae croeso mawr iddynt yma yng Nghymru, o ba le bynnag yn y byd y maent yn dod. Cyhoeddais ddatganiad i'r perwyl hwnnw yn syth ar ôl y refferendwm. Rydym yn croesawu myfyrwyr rhyngwladol i'n prifysgolion. Maent yn cyfrannu at yr amrywiaeth gyfoethog o bobl sy'n ymgynnull i rannu syniadau mawr, i ymchwilio ac i gydweithio, ac mae croeso mawr iddynt yma.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r heriau i’r sector addysg uwch o ganlyniad i bleidlais Brexit. Dyna pam yr wyf wedi sefydlu grŵp addysg uwch ac addysg bellach, a fydd yn fy nghynghori i, fel Gweinidog addysg, ar yr heriau hyn, a pham y mae cynrychiolaeth sylweddol o’r sector Addysg Uwch ar grŵp cyfeirio Ewropeaidd y Prif Weinidog. Rydym yn edrych yn ofalus iawn i sicrhau bod unrhyw geisiadau sydd yn y system eisoes gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn cael eu cymeradwyo cyn gynted â phosibl, os yw hynny'n bosibl, er mwyn sicrhau bod y cyllid yn ddiogel.

Rydym yn parhau i edrych ar ba rwydweithiau fydd ar gael i brifysgolion Cymru os a phan y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Efallai y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y pen draw, ond yr hyn sy'n bwysig yw nad ydym yn troi ein cefnau—[Torri ar draws.] Nad ydym yn troi ein cefnau ar ein cymdogion yn Ewrop. Byddaf yn edrych i weld pa gyfleoedd sydd ar gael, er gwaethaf y newid i’r statws, i barhau i gydweithio a gweithio ar draws yr Undeb Ewropeaidd, ac, yn wir, yn rhyngwladol, rhwng sefydliadau Addysg Uwch yma yng Nghymru a sefydliadau Addysg Uwch ledled y byd, gan gynnwys Ewrop.

Byddwch yn ymwybodol, yn anffodus, bod Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi cynllun peilot sy’n ymwneud â’r bobl a all aros ar ôl i’r cyfnod astudio ddod i ben. Mae Caergrawnt a rhai dinasoedd eraill yn Lloegr wedi cael hyn. Mae'n destun dicter mawr i mi na ofynnwyd i ni am hyn. Ni chawsom y cyfle i gynnig i rai o ddinasoedd Cymru gymryd rhan yn y cynllun peilot. Rwyf wedi ysgrifennu at Jo Johnson, y Gweinidog addysg uwch yn Llywodraeth San Steffan, i fynegi fy mhryder, ac i ailadrodd unwaith eto i'r Swyddfa Gartref fod yna leoedd yng Nghymru a fyddai’n awyddus iawn i fod yn rhan o'r cynlluniau peilot hyn ar gyfer fisa ôl-astudio. Mae'n drueni mawr i mi nad oedd gan Lywodraeth San Steffan y cwrteisi i gynnig i Gymru na'r Alban fod yn rhan o’r cynllun peilot hwnnw.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddatgan buddiant fel darlithydd gwadd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Yn wir, ddydd Sadwrn, 10 Medi, roeddwn i yno yn addysgu myfyrwyr gweithredol MBA—grŵp bach iawn, iawn o fyfyrwyr rhan-amser, a oedd wedi eu hariannu’n helaeth gan eu sefydliadau. Pan oeddwn i’n gweithio’n llawn amser—pan oeddwn i’n uwch ddarlithydd—byddwn i’n aml yn addysgu grwpiau o 100 o fyfyrwyr, ond yr oedd bron bob un yn fyfyriwr rhyngwladol, a, Sian Gwenllian, o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Felly, croesawaf y cyfle hwn a estynnir i fyfyrwyr—myfyrwyr domestig israddedig—i ddysgu ar lefel ôl-raddedig.

Ond a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro’r broses o fonitro’n ofalus niferoedd ôl-raddedig llawn amser domestig, o ystyried bod adroddiad Diamond yn rhagamcanu twf ar lefel optimistaidd o 20 y cant? Os bydd y twf yn fwy na hynny, fe fydd yna oblygiadau ariannu. Felly, a gawn ni sicrwydd y bydd monitro wedi’i gynnwys yn y system? Yn ogystal, mae'n debygol y bydd y prifysgolion yn dymuno cynnal eu niferoedd rhyngwladol hefyd, felly bydd goblygiadau staffio hefyd.

A'r cwestiwn arall, ar wahân i hynny: a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau yn benodol ganfyddiadau Diamond o ran gwerth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a oedd yn un o lwyddiannau’r Llywodraeth Lafur Cymru ddiwethaf? Mae gan ddarlithwyr y Coleg Cenedlaethol lawer iawn o wybodaeth sy’n deillio o brofiad, ac yr wyf yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu hynny.

Gwnaf, gallaf gadarnhau y byddwn yn monitro materion sy’n ymwneud â niferoedd ôl-raddedig yn agos iawn. Mae'r Aelod yn hollol gywir, bu'r Coleg Cenedlaethol yn llwyddiant ysgubol. Bu’n wych gweld y cyfleoedd a roddir i fyfyrwyr ledled Cymru allu astudio'r gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg, newyddiaduraeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ystod o gyrsiau eraill. Fel y gwyddoch, rydym wrthi’n sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen a fydd yn edrych ar ddyfodol y Coleg, ei drefniadau ariannu, ac ehangu ei gylch gwaith i gynnwys datblygu gwaith a chyfleoedd Addysg Bellach, yn ogystal ag edrych ar Addysg Uwch, lle mae diffyg mewn sawl rhan o Gymru ar hyn o bryd.

4. 4. Datganiad: Sefydlu’r Gronfa Triniaethau Newydd a’r Adolygiad Annibynnol o’r Broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol

Diolch yn fawr iawn i’r Ysgrifennydd Cabinet. Rŷm ni’n symud ymlaen i’r eitem nesaf, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar sefydlu cronfa triniaethau newydd a’r adolygiad annibynnol o’r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol. I wneud y datganiad, rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Vaughan Gething.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf, nodais fy nghynlluniau ar gyfer sefydlu cronfa triniaethau newydd a chynnal adolygiad â ffocws pendant, annibynnol o'r broses cais am gyllid ar gyfer cleifion unigol, a adwaenir yn gyffredin fel IPFR. Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad a phobl Cymru ar y cynnydd a wnaed gennym dros yr haf.

Byddaf yn dechrau gyda'r gronfa triniaethau newydd. Mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda i sefydlu'r gronfa, a fydd yn sicrhau bod £80 miliwn ar gael yn ystod oes y Llywodraeth hon. Bydd yn darparu’r arian ychwanegol hwn ar gyfer meddyginiaethau newydd sy'n cynrychioli cam sylweddol ymlaen mewn triniaethau ar gyfer clefydau sy'n bygwth bywyd ac sy'n cyfyngu ar fywyd. Bydd y gronfa'n cefnogi’r gwaith o gyflwyno meddyginiaethau sy'n gweddu i’r meini prawf hyn a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a elwir yn NICE, neu'r Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru, AWMSG. Rwy’n disgwyl y bydd y cymorth ariannol ychwanegol hwn yn para hyd at 12 mis, gan roi amser i fyrddau iechyd ymgorffori gwariant yn y dyfodol o fewn eu cyllidebau.

Rydym yn dibynnu ar arbenigedd NICE a'r AWMSG i asesu effeithiolrwydd meddyginiaeth newydd, gan ystyried barn glinigol a safbwynt y claf. Mae'r ddau sefydliad uchel eu parch hyn yn seilio eu hargymhellion ar y dystiolaeth fwyaf diweddar. Mae seilio ein mynediad at bolisi meddyginiaethau newydd ar ganllawiau awdurdodol NICE ac AWMSG yn lleihau'r risg o anghydraddoldebau ac amrywiad o ran mynediad. Bydd yn sicrhau bod cleifion ledled Cymru yn derbyn triniaethau a brofwyd i fod yn effeithiol yn glinigol, gyda phris sy’n cydbwyso â'r buddion. Bydd y gronfa driniaethau newydd yn cefnogi ein dull seiliedig ar dystiolaeth, gan ddarparu byrddau iechyd gydag arian ychwanegol i sicrhau bod meddyginiaethau arloesol, newydd yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl. Mae opsiynau ar gyfer sefydlu’r gronfa yn weithredol yn cael eu datblygu ac rydym ar y trywydd iawn i sefydlu'r gronfa erbyn mis Rhagfyr eleni. Byddaf, wrth gwrs, yn gwneud cyhoeddiad pellach, manwl yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Gan droi at yr adolygiad o'r broses IPFR, mae llawer iawn i'w adrodd. Proses IPFR GIG Cymru yw'r mecanwaith a ddefnyddir gan yr holl fyrddau iechyd ledled Cymru i wneud penderfyniad ar lefel claf unigol ar fynediad at driniaeth nad yw ar gael fel mater o drefn. Yn dilyn adolygiad IPFR 2014 a gweithredu ei argymhellion, cytunais fod yr amser yn iawn ar gyfer adolygiad newydd, annibynnol o'r broses IPFR. Bydd hwn yn canolbwyntio ar nifer o baneli, y meini prawf eithriadoldeb clinigol, ac yn ystyried safbwynt y claf.

Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw aelodaeth y grŵp a fydd yn bwrw ymlaen â'r adolygiad. Bydd Mr Andrew Blakeman yn cadeirio'r grŵp adolygu. Mae Mr Blakeman yn gyfrifydd siartredig uwch ac mae wedi gweithio i BP am dros 20 mlynedd mewn amrywiaeth o swyddi uwch sy’n ymwneud â chyllid. Bydd yn dod â chefndir cadarn o ganolbwyntio ar y cwsmer i waith y grŵp. Mae pump o aelodau eraill yn ffurfio gweddill y grŵp. Mae Mr Irfon Williams yn uwch nyrs sydd wedi ymddeol, a fydd yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i’r adolygiad yn seiliedig ar ei brofiad diweddar o'r broses IPFR. Mae'r Athro Peter Littlejohns yn academydd meddygol annibynnol ac yn athro iechyd y cyhoedd, ac mae’n ymgynghorydd er anrhydedd yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Mae gan yr Athro Littlejohns brofiad a dealltwriaeth helaeth o'r broses arfarnu meddyginiaethau a materion ecwiti sy'n deillio o benderfyniadau triniaeth. Mae’r Athro Phil Routledge yn gyn-gadeirydd yr AWMSG ac yn gyfarwyddwr Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan; sef adain weithredol AWMSG. Bydd y grŵp adolygu yn elwa ar ei brofiad helaeth o'r agenda feddyginiaethau yng Nghymru, a’r ystyriaethau moesegol a diogelwch sy'n gysylltiedig â mynediad at feddyginiaethau newydd. Arenegwr ymgynghorol yw Dr Ben Thomas a bydd yn darparu mewnbwn arbenigol i foeseg feddygol a chyfraith. Mae’r Athro Chris Newdick yn fargyfreithiwr ac yn athro cyfraith iechyd ym Mhrifysgol Reading. Ei diddordebau arbennig yw'r hawliau a'r dyletswyddau sy'n codi o fewn y GIG, gan gynnwys moeseg feddygol a blaenoriaethu.

Felly, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gweld, o'i aelodaeth, bod y grŵp yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys ystod o arbenigedd a gwybodaeth berthnasol. Hoffwn sicrhau Aelodau’r Cynulliad y bydd y grŵp adolygu yn llwyr gyfrifol am gynnwys eu hadroddiad, eu canfyddiadau a'u hargymhellion. Rydw i wedi dosbarthu nodyn byr yn manylu eu bywgraffiadau a'r cylch gorchwyl y cytunais arno gyda llefarwyr iechyd y gwrthbleidiau. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r grŵp adolygu am gytuno i roi eu harbenigedd a’u hamser i ni i wneud y gwaith heriol hwn.

Yn fras, bydd y grŵp adolygu yn archwilio'r dystiolaeth o arferion da presennol yng Nghymru, y DU ac mewn mannau eraill er mwyn gwneud penderfyniadau ariannu unigol ar driniaethau nad ydynt ar gael fel mater o drefn. Bydd yn ystyried manteision ac anfanteision cadw wyth panel IPFR neu symud i nifer llai, gan gynnwys y posibilrwydd o banel IPFR cenedlaethol. Bydd y grŵp adolygu yn edrych ar y meini prawf y bydd y panel IPFR yn eu defnyddio i wneud eu penderfyniadau, gan gynnwys eithriadoldeb clinigol. Bydd yn ystyried dewisiadau ar gyfer gwella sut mae'r broses IPFR a phenderfyniadau dilynol yn cael eu cyfleu i gleifion. Y canlyniad terfynol fydd adroddiad sy’n rhoi argymhellion ymarferol ar gyfer y camau nesaf.

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn gwybod o fy nghyhoeddiad yn gynharach ym mis Gorffennaf fy mod am weld yr adolygiad hwn yn canolbwyntio’n fanwl ar y materion hyn. Rwyf felly wedi gofyn i'r grŵp weithio tuag at gynhyrchu eu hadroddiad erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon, a byddaf, wrth gwrs, yn sicrhau bod Aelodau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Yr wythnos diwethaf cyfarfûm ag Andrew Blakeman, ac fe fanteisiodd ef hefyd ar y cyfle i friffio llefarwyr iechyd y gwrthbleidiau a phleidiau eraill yn bersonol, gan eu sicrhau o annibyniaeth yr adolygiad a sut y mae'n bwriadu sicrhau bod barn cleifion yn cael ei hadlewyrchu'n llawn yn ystod y broses.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae'r grŵp adolygu wedi dechrau ar ei waith a bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ar 6 Hydref. Byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad ac yn cyhoeddi camau gweithredu sy'n deillio o argymhellion y grŵp adolygu yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Gyda'i gilydd, bydd y gronfa driniaethau newydd a'r adolygiad o'r broses IPFR yn arwain at newid gwirioneddol yn y ffordd y mae cleifion yng Nghymru yn cael mynediad at feddyginiaethau arloesol. Rwy’n disgwyl gwelliant gwirioneddol yn y gwasanaeth y mae cleifion yn briodol yn ei ddisgwyl gan y GIG yma yng Nghymru.

A gaf i groesawu’r datganiad yma? Rydym ni’n siarad yn y fan hyn am ddwy elfen, rydw i’n meddwl, o wendidau yn y ddarpariaeth iechyd sydd ar hyn o bryd yn arwain at rwystredigaeth ymhlith cleifion a’u teuluoedd, a lle mae yna wir deimlad bod yna, mewn rhyw fodd, annhegwch yn y system. Mi rof i sylw yn gyntaf i’r cyhoeddiad ynglŷn â’r adolygiad annibynnol o’r broses ceisiadau cleifion unigol. Mi oeddem ni ym Mhlaid Cymru yn sicr yn teimlo’n gryf ei bod hi’n amser edrych eto ar y maes yma, ei fod o’n faes yr oedd angen datrysiad iddo fo, a datrysiad cynaliadwy. Roeddwn i’n falch ein bod ni wedi gallu cynnwys yr addewid i fwrw ymlaen â’r adolygiad yma yn ein cytundeb ôl-etholiadol ni, ac rwyf i wedi bod yn falch o allu cydweithio efo’r Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau ein bod ni’n symud ymlaen ar hyn yn fuan.

Nid ydy hi’n deg fod cydsyniad yn gallu cael ei roi mewn un ardal ddaearyddol o Gymru tra nad yw cydsyniad yn cael ei roi ar gyfer triniaeth mewn rhan arall o Gymru. Nid ydy’r broses o brofi eithriadolrwydd neu ‘exceptionality’ yn deg. Mae gormod o bobl ddifrifol wael wedi gorfod brwydro brwydrau biwrocrataidd pan fo materion clinigol yn unig a lles yr unigolyn dan sylw ddylai fod wrth wraidd unrhyw benderfyniad. Rŵan, wrth gwrs, nid oes angen i fi barhau i ddadlau’r achos yma oherwydd bod gennym ni’r adolygiad annibynnol.

Mi oeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i gwrdd ag Andrew Blakeman. Mi gefais i fy argyhoeddi yn sicr ei fod o’n mynd i fod yn ymwneud â’r gwaith yma o safbwynt cwbl annibynnol. Rwy’n dymuno’n dda iddo fo, yn gorfod gwneud y gwaith hwn mewn cyfnod byr iawn. Rwy’n gwybod y bydd hi’n her ac rwy’n dymuno’n dda i aelodau eraill y panel hefyd. Ond a gaf i groesawu’n arbennig fod Irfon Williams yn mynd i fod yn aelod o’r panel yma? Mi oeddwn i’n eiddgar i weld hynny’n digwydd. Mae o’n dod â phrofiad proffesiynol, wrth gwrs, o fewn y gwasanaeth iechyd ond hefyd mi fydd o’n sicrhau llais y claf fel rhywun sydd wedi bod drwy’r broses ac wedi teimlo rhwystredigaethau’r broses ei hun.

O ran y gronfa triniaethau newydd, rydym ni a phlaid y Llywodraeth wedi cael rhyw fath o gronfa newydd fel nod ac amcan yn ein maniffestos. Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu symud at ddatganiad buan. Byr iawn ydy’r cyfeiriadau, mewn difrif, yn y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw tuag at y gronfa newydd honno. Mae hynny, rydw i’n meddwl, yn adlewyrchu’r ffaith bod yna gryn waith i wneud eto wrth benderfynu ar ambell elfen ymarferol o sut i weithredu hyn. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn cyfaddef hynny yn ei ddatganiad hefyd, ond mae o’n gosod amserlen dynn.

Felly, mae’r ychydig gwestiynau sydd gennyf i’n ymwneud â’r penderfyniadau a fydd angen eu gwneud o ran y gronfa triniaethau newydd dros y misoedd nesaf. A fydd yna ymgynghoriad byr yn ystod y cyfnod yna o weithio ar y manylion? A gawn ni sicrwydd y bydd data yn cael eu rhyddhau yn llawn ynglŷn â sut y bydd y drefn newydd yn cael ei defnyddio? Pa broses fydd yna hefyd i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn glynu at yr hyn sy’n ddisgwyliedig ohonyn nhw yn ôl y Ddeddf i gyllido triniaethau sydd wedi cael eu cymeradwyo gan NICE, unwaith y maen nhw wedi rhoi’r gorau i fod yn driniaethau newydd? Mae hynny’n bwysig. Hefyd, mae NICE, wrth gwrs, y dyddiau yma, nid yn unig yn cael derbyn neu wrthod triniaethau; maen nhw’n cael dweud ‘efallai’ hefyd. Beth fydd agwedd Llywodraeth Cymru at benderfyniadau NICE sydd yn y categori ‘efallai’ yma?

Diolch i chi am y cwestiynau. Rwyf am ddechrau drwy groesawu'r sgwrs adeiladol, gyda Rhun a chyda llefarwyr iechyd y gwrthbleidiau eraill, hyd at y pwynt hwn, ar gylch gorchwyl yr adolygiad. Rwy’n gobeithio bod llefarwyr y gwrthbleidiau eraill wedi ei hystyried yn ddefnyddiol cwrdd â Mr Blakeman fel cadeirydd y grŵp adolygu. Rwy'n credu bod gennym apwyntiad rhagorol, nid dim ond y cadeirydd, ond y grŵp cyfan. Edrychaf ymlaen at gael eu gwaith.

Dim ond pwynt ar Irfon Williams a llais cleifion. Roeddem am wneud yn siŵr bod aelodaeth yn adlewyrchu hynny ar gyfer y grŵp adolygu, ond yn yr un modd—i fod yn wirioneddol glir—nid yw hyn yn ymwneud yn unig â’r ffaith bod Irfon Williams yn rhan o’r grŵp, ac felly mae llais cleifion wedi cael ei ddatrys. Ceir cydnabyddiaeth, yn y ffordd y maent yn cynnal y dystiolaeth, a'r ffordd y maent yn gwrando ar bobl, bod angen iddynt siarad â’r trydydd sector ehangach a chydag ystod o grwpiau ymgyrchu sy'n gallu helpu i roi safbwynt y claf, ond yn yr un modd i edrych yn uniongyrchol ar rai cleifion sydd wedi bod drwy'r broses—y rhai sydd wedi cael ceisiadau llwyddiannus, ond yn yr un modd at y rhai nad ydynt wedi cael hynny hefyd. Mae'n bwysig eu bod yn cael rhywfaint o brofiad uniongyrchol o grŵp ehangach o bobl. Rwy'n falch o weld bod hynny’n mynd i gael ei ystyried yn y ffordd y maent yn cyflawni eu gwaith.

Ar y gronfa driniaethau newydd, fel y gwyddoch, mae'n addewid maniffesto sy'n cael ei roi ar waith. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am fanylion sut yr ydym yn disgwyl i hynny weithio, a'r maen prawf a ddefnyddir. Pan ddaw at agwedd y Llywodraeth hon, os yw byrddau iechyd yn cymryd yr arian, ond nad ydynt am sicrhau bod mynediad yn cael ei ddarparu, wel, yna ni fyddant yn cael yr arian. Mae'n syml iawn. Bydd yr arian yn cael ei ddarparu ar gyfer sicrhau bod cyffuriau penodol ar gael, ac rydym yn disgwyl iddynt fod ar gael. Yr holl bwynt am hyn yw gwneud yn siŵr bod sail dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd meddyginiaeth, er mwyn gwneud yn siŵr, unwaith y bydd cymeradwyaeth ar eu cyfer, o fewn cyfnod cyfyngedig o amser, eu bod ar gael yn gyson ledled Cymru. Rydym weithiau yn cydnabod bod anghydraddoldeb o ran y meddyginiaethau sydd ar gael mewn byrddau iechyd gwahanol a'r ffordd y maent yn gallu rheoli eu sefyllfa. Mae hefyd yn bwysig gwneud yn siŵr bod yr arloesi hwnnw a’r sylfaen dystiolaeth honno ar gael ar sail gyfartal ar draws y wlad. Rwy’n meddwl, pan fyddwn yn dod at gyhoeddi sut y bydd y gronfa yn gweithio—y manylion ymarferol, a'i gweithrediad erbyn diwedd y flwyddyn hon—credaf y bydd atebion i amrywiaeth o’r cwestiynau sydd gennych chi.

O ran y pwynt am gyffuriau yn y categori 'efallai', yn Lloegr mae her ynghylch edrych ar y gronfa cyffuriau canser, a ddaeth i ben ar ôl beirniadaeth eithaf cyffredinol, ar y diwedd, am ei gwerth am arian a'r ecwiti yr oedd yn ei ddarparu . Dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn Nhŷ'r Cyffredin nad oedd unrhyw dystiolaeth o well canlyniadau i gleifion. Wel, mae dull gweithredu gwahanol y maent yn ystyried ei gymryd, ond mae her yn dal i fodoli o ymdrin â hynny yn ymarferol, oherwydd gyda'r syniad o gael categori 'efallai', neu gategori 'addo' cyffuriau, mae angen i NICE fod yn gallu ymdrin â hynny a deall beth ydyw. Mae'n rhaid cael rhywfaint o eglurder ynghylch hynny fel bod NICE yn deall yr hyn y mae’n gweithio tuag ato, ac yn yr un modd, wedyn, y cyhoedd. I fod yn deg, mae angen i’r diwydiant, a fydd yn awyddus i ddod at NICE ar gyfer cael arfarniadau o feddyginiaethau newydd, ddeall beth allai’r categori ei olygu hefyd. Gan fod eglurder ynghylch hynny, mae angen i ni wedyn ddeall yr hyn yr ydym eisiau ei wneud yma yng Nghymru hefyd, yn hytrach na dyfeisio categori newydd ein hunain. Nid wyf yn credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn. Beth rwyf yn mynd i’w ddweud yw hyn, yn union fel yn achos y gronfa cyffuriau canser, fe wnaethom ni gymryd, yn fy marn i, y farn egwyddorol a chywir ei bod yn anfoesegol i ddweud bod cleifion canser—bod eu bywydau nhw yn fwy gwerthfawr na bywydau cleifion eraill yn y gwasanaeth iechyd gwladol ac yn y wlad hon. Ni fyddwn yn mynd i lawr y llwybr o fod eisiau rhoi mantais i garfan benodol o amodau. Rhaid iddo fod yn fynediad teg a phriodol at feddyginiaeth newydd ac arloesol ac rydym eisiau gallu gwneud yn siŵr bod sail dystiolaeth briodol ar gyfer hynny. Hwnnw fydd y dull gweithredu y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i’w gymryd.

Weinidog, diolch i chi am y datganiad hwn. Rwy'n falch iawn o groesawu’r ddwy elfen ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau i'w gofyn, fodd bynnag, a hoffwn i droi yn y lle cyntaf at y gronfa driniaethau newydd yr ydych yn siarad amdani fan hyn. Rydych wedi dweud o'r blaen bod y gronfa driniaethau newydd wedi datblygu o brofiadau Llywodraeth Cymru o reoli triniaethau cost uchel. Y llynedd, er enghraifft, ariannodd Llywodraeth Cymru bedair triniaeth newydd ar gyfer hepatitis C a chlefyd genetig prin, sef syndrom uremic hemolytic annodweddiadol. Rydw i mor falch fy mod wedi gallu dweud hynna. Llywodraeth Cymru oedd yn mynd i ariannu’r triniaethau hynny. A allwch chi gadarnhau, yng ngoleuni eich cronfa driniaethau, bod y pedair triniaeth benodol newydd hynny—pob un yn un gost uchel ac arloesol-bellach i gyd wedi'u hamsugno gan y byrddau iechyd? Y rheswm dros ofyn hyn yw bod fy holl gwestiynau yn ymdrin â mater ariannu, gan fy mod yn pryderu rywfaint a ydynt yn mynd i fod yn gallu amsugno cost y rhain heb gyllid gan Lywodraeth Cymru, o ystyried y diffyg o £75.5 miliwn sydd gennym ar draws y byrddau iechyd ar y cyd.

Nawr, rydych wedi ateb cwestiwn Rhun trwy ddweud y byddech yn dymuno eu gweld yn mynd ati i wneud hynny. Ond yr hyn nad oeddwn yn glir amdano yw hyn: unwaith y byddwch wedi tynnu'n ôl y cyllid ar gyfer cyffur, byddwch yn disgwyl i'r bwrdd iechyd dalu’r gost am hynny. Rydych yn sôn mewn tystiolaeth arall yr ydych wedi’i rhoi ar y pwnc hwn y byddech yn disgwyl i'r bwrdd iechyd ddilyn blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Beth fyddai'n digwydd pe byddai bwrdd iechyd yn dweud, ‘Ydi, mae hwnnw’n gyffur da, ydym, rydym wedi ei gael ers blwyddyn, do, bu’n effeithiol mewn rhai meysydd, ond ni allwn fforddio i flaenoriaethu hynny yn y ffordd y byddech chi’n dymuno iddo gael ei flaenoriaethu '? Roeddech yn ei ariannu pan oeddech yn ei ariannu, ac roedd yn iawn, ond nid ydych bellach yn ei ariannu. Felly, mae wedi dod yn gost ariannol i'r bwrdd iechyd. A fyddwch chi naill ai yn rhoi cyllid ychwanegol iddynt —a dyna beth na allwn i ei ddeall yn iawn o’ch ateb i Rhun—neu a fyddwch yn cyhoeddi cyfres lem iawn o ganllawiau sy'n dweud, 'Nawr ein bod wedi treialu’r cyffur newydd, ei fod wedi ei dderbyn gennym ni, ei fod yn rhan o'r gronfa triniaethau newydd, a’i fod bellach yn mynd i fynd i mewn i’r prif ffrwd’—er, yn amlwg, bydd y defnydd yn brin, oherwydd fel arall ni fyddai yn y gronfa hon—'mae’n rhaid i chi, yn syml, ddod o hyd i'r arian ar gyfer y gwaith eich hun a’i flaenoriaethu'. Byddai rhywfaint o eglurder yno yn ddefnyddiol iawn. Rwyf wedi defnyddio’r triniaethau blaenorol a ariannwyd gennych y llynedd ar gyfer yr hepatitis C ac aHUS er mwyn deall ble maen nhw wedi mynd. A ydynt wedi cael eu hamsugno gan y byrddau iechyd? A fyddant yn dal i fod yn y gronfa driniaethau newydd? A fydd rhai cyffuriau bob amser yn y gronfa driniaethau newydd ar gyfer ariannu, gan eu bod mor brin ac / neu mor ddrud, er eu bod yn cael canlyniad da? A fydd Llywodraeth Cymru bob amser yn cyflwyno rhywfaint o arian, neu a ydych chi mewn gwirionedd yn gweld yr £80 miliwn hwnnw yn cael ei adleoli bob blwyddyn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ar gyffuriau hollol wahanol?

I gloi, fy nghwestiwn olaf ar y gronfa driniaethau newydd yw, pan fyddwch yn edrych ar ddefnyddio’r £80 miliwn hwnnw, a fyddwch yn edrych ar unrhyw bwysoliad rhwng y byrddau iechyd? Felly eto, nid wyf yn hollol glir a fydd y cyllid yn mynd i'r byrddau iechyd ar gyfer y cyffuriau newydd, neu a fyddwch ond yn rhoi'r arian i'r byrddau iechyd unwaith y byddant wedi defnyddio'r cyffuriau.  Oherwydd byddwn yn amau ​​y bydd rhai byrddau iechyd, yn enwedig y rhai megis Caerdydd a'r Fro, lle maent yn cynnal mwy o glinigau prin ac arbenigol, yn y pen draw yn rhannu’r cyffuriau hynny ac yn awdurdodi’r cyffuriau hynny yn llawer mwy nag, efallai, Ysbyty Llwynhelyg yn fy ardal i, gan nad oes ganddynt y clinigau prin ac anghyffredin iawn. Yn syml, rwy’n ceisio deall pwy fydd yn gyfrifol am yr arian hwnnw. A fydd unrhyw bwysoliad ymhlith y byrddau iechyd ar y defnydd o hynny?

Gan droi at y rhaglen gyllido cleifion annibynnol, rwy'n wirioneddol falch am hyn. Ydych chi'n gwybod, Brif Weinidog—Ysgrifennydd y Cabinet —

Ddim eto.

Ddim eto. Yn ôl pob tebyg cyn bo hir, ond ddim eto. Rwy'n falch iawn gyda’r ffordd yr ydych wedi sefydlu hyn. Rydym wedi cael nifer o sgyrsiau, gyda Rhun, gyda Caroline, ymysg ein gilydd. Rwy'n falch iawn gyda'r ffordd gydweithrediadol yr ydych wedi mynd ati i roi sylw i hyn. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cael ein cynnwys. Ond yn anad dim, rwy’n falch iawn am ddau beth. Un yw annibyniaeth absoliwt y cadeirydd, a'r ffaith bod y cadeirydd wedi cael profiad masnachol o redeg sefydliad sy'n canolbwyntio ar bobl, ac nid yw newydd ddod allan o’n cronfa fach ni o dalent yng Nghymru. Mae angen syniadau newydd, gwaed newydd a safbwynt newydd arnom, ac mae’r unigolyn hwn yn sicr yn dod â hynny i'r blaid.

Yr ail beth yr wyf yn eithriadol o falch o’i glywed yw eich bod yn gwneud llais cleifion yn thema gyffredinol ar gyfer yr adolygiad hwn. Oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae hyn i gyd yn ymwneud â’r cleifion. Maent yn gyntaf, yn ail ac yn olaf yn hyn. Ac rwy’n falch iawn, iawn o glywed mai nhw fydd y thema gyffredinol —nid yw’n mynd i fod yn aelodau'r panel yn unig, ond yr holl dystiolaeth a gymerwch. Felly, da iawn yn wir. Llongyfarchiadau. Rwy'n falch o hynny.

Roeddwn wrth fy modd o gael cwrdd ag Andrew Blakeman a chawsom sgwrs ddefnyddiol iawn. Dim ond un cwestiwn a ofynnais iddo nad oedd yn glir arno. Rwyf wedi gofyn iddo fynd yn ôl a gwirio’r cylch gwaith gyda chi. Mae'n dod o rai o'r achosion yr wyf wedi ymdrin â nhw yn fy etholaeth i, ac mae hynny’n ymwneud ag a fydd yn edrych ar fater cyd-ariannu ai peidio. Mae'n fater anodd iawn. Gall fod yn ddadleuol iawn. Ond, weithiau, pan wyf wedi ymdrin â chleifion sydd wedi bod yn daer i geisio cael gafael ar gyffur nad ydynt wedi gallu cael gafael arno—ac maent eisiau mynd drwy'r system claf annibynnol sydd gennym nawr—pan fyddant wedi cael na yn ateb, maent wedi gofyn weithiau, wedyn, a allant fynd i ffwrdd a gwneud mathau eraill o gyllido. Y cyfan yr oeddwn i eisiau ei wybod oedd p’un a yw’n mynd i edrych ar hyn ai peidio. Rwy’n amau nad ydyw, sydd yn iawn, ond roeddwn i eisiau'r eglurder hwnnw, oherwydd tynnais ei sylw at y ffaith fod hynny’n mynd i fod yn un o'r canlyniadau a ddaw allan o'r broses gyfan hon. Ac yn y pen draw bydd yn rhaid iddo fod yn faes lle bydd angen i chi fel Llywodraeth Cymru a'r GIG gael rhyw fath o linell glir iawn fel bod cleifion yn gwybod yn union lle maent yn sefyll.

Ydw yn sicr. Fy sylw olaf iddo oedd y byddaf, yn sicr—a gall fod yn rhywbeth y bydd Aelodau Cynulliad eraill yn dymuno ei gadw mewn cof—yn rhoi nifer o astudiaethau achos iddo, oherwydd credaf fod honno’n ffordd arall o sicrhau bod llais cleifion yn cael ei glywed yn glir.

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Byddaf yn ceisio ymdrin â nhw’n gymharol fyr. O ran y gronfa driniaethau newydd, felly, os hoffwch chi, bydd y rhagflaenydd i hyn yn helpu i lywio'r lle yr ydym ar hepatitis C ac ystod o gyflyrau eraill lle rydym wedi darparu adnoddau sylweddol i wneud yn siŵr eu bod ar gael yn gyson. Mae hyn ar gyfer y flwyddyn gychwynnol, fel y dywedais o'r blaen ac yn y datganiad hwn, ac rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd allu datrys a rheoli eu hadnoddau wedi hynny. Yn aml, y flwyddyn gyntaf o ddefnyddio meddyginiaeth newydd sy'n anodd i'r bwrdd iechyd ei rheoli a chyllidebu ar ei chyfer. Felly, mae’n seiliedig ar ein profiad ymarferol. Nid wyf yn credu mewn gwirionedd y gellid priodoli’r her o gadw’r GIG o fewn y gyllideb yn gyfan gwbl i gost y meddyginiaethau arloesol sy'n cael eu cymeradwyo gan NICE neu AWMSG.

Dyna'r ail bwynt, sef bod hon yn broses a arweinir gan dystiolaeth. Felly, ni fydd yn fater syml, ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, o fi yn penderfynu, neu’r bwrdd iechyd yn penderfynu, nad ydym ni mewn gwirionedd yn awyddus i ddarparu'r feddyginiaeth hon mwyach. Bydd yno, bydd ar gael i bobl. Ni fydd gwleidyddion yn penderfynu ar ei heffeithiolrwydd—bydd hyn yn dod o adolygiad awdurdodol gan NICE neu AWMSG. Dyna'r pwynt am y feddyginiaeth ar gael wedyn.

O ran yr arian, rydym yn targedu’r angen. Felly, rydych chi'n iawn y bydd rhai byrddau iechyd yn rhagnodi neu’n cyflwyno neu’n arwain ar driniaeth ystod o gyflyrau, ac y bydd canolfannau trydyddol yn cael profiad gwahanol i eraill. Mewn gwirionedd, mae’n ymwneud â sicrhau bod y claf—y dinesydd—yn elwa. Rwy'n gobeithio y bydd hynny’n ddefnyddiol.

Rwy’n croesawu eich sylwadau am y grŵp adolygu a llais cleifion. Rwy'n falch o glywed eich bod wedi ystyried y cyfarfod gyda Mr Blakeman yn ddefnyddiol ac y bydd yn rhoi rhywfaint o hyder ichi am arbenigedd ac annibyniaeth y grŵp penodol hwn ac yn gwneud yn siŵr bod llais y claf yn cael ei glywed yn glir drwy'r broses ac, yn wir, y cysylltiad y bydd y grŵp adolygu yn ei gael gydag Aelodau fel rhan o hynny hefyd.

O ran eich pwynt ynghylch cyd-ariannu, nid yw'n rhan o’r cylch gorchwyl y cytunwyd arno gyda’r grŵp. Rwy'n credu bod cwestiwn ehangach yno. Mae cyd-ariannu’n fwy na dim ond yr IPFR. Credaf ei bod yn anhygoel o anodd yn foesegol i fynd i lawr y llwybr hwnnw. Nid wyf wedi gofyn i'r grŵp adolygu edrych ar hynny. Ni fu’n rhan o'r sgwrs a gawsom ac ni chredaf y dylwn geisio ei gyflwyno ar ôl y sgyrsiau a gafwyd. Nid hyn yw’r peth iawn i'w wneud. Rwy'n credu ei bod yn bendant yn ddadl ar gyfer amser arall a diwrnod arall.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ar y gronfa driniaethau newydd. Edrychwn ymlaen at gael manylion mwy pendant yn y dyfodol. Mae eich datganiad yn crybwyll y bydd y gronfa yn darparu arian ychwanegol ar gyfer meddyginiaethau newydd, ond a allwch chi gadarnhau y bydd hefyd yn ariannu triniaethau newydd, er enghraifft therapi pelydr proton? Atebwyd fy nghwestiwn ar gyd-ariannu eisoes, felly symudaf ymlaen. Gan symud ymlaen at yr adolygiad annibynnol o'r broses IPFR, hoffwn ddiolch ichi am y ffordd gynhwysol yr ydych wedi ymdrin â’r adolygiad IPFR. Mae'n braf eich bod wedi ymdrin â'r broses o adolygu IPFR mewn ffordd amhleidiol, ac mae penodiadau’r panel yn fy sicrhau i y bydd hwn yn adolygiad gwirioneddol annibynnol.

Roedd yn bleser cyfarfod Andrew Blakeman yr wythnos diwethaf, a hoffwn ddiolch i chi hefyd am hwyluso'r cyfarfod hwnnw. Mae Mr Blakeman yn ddewis gwych fel cadeirydd y panel adolygu, ac mae wedi fy sicrhau y bydd yr adolygiad hwn yn cyflawni'r hyn nad yw llawer o rai blaenorol wedi ei gyflawni, sef sefydlu proses lle gall cleifion gael y driniaeth orau sydd ar gael ar sail anghenion clinigol. Rydym wedi cael adolygiadau yn y gorffennol, ac nid oes fawr ddim wedi newid. Ond y tro hwn, rwy’n credu bod gan y panel yr arbenigedd ac, yn bwysicach na hynny, drwy gynnwys Irfon Williams, y profiad gwirioneddol i ddeall diffygion y system bresennol, a'r gallu i gyflwyno awgrymiadau ar sut y gallwn ddiwygio'r system.

Diolch byth, Ysgrifennydd y Cabinet, atebodd Andrew Blakeman y rhan fwyaf o fy nghwestiynau yr wythnos diwethaf. Hoffwn gofnodi fy niolch, unwaith eto, am y ffordd yr ydych yn ymdrin â’r adolygiad hwn. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i weithredu argymhellion yr adolygiad. Yn aml, mae gormod o bobl yn cael eu siomi gan y broses IPFR, a rhaid inni sicrhau bod gennym system ar waith sy'n gweithio i gleifion a chlinigwyr. Rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o hyn. Diolch.

Diolch am y sylwadau hynny. Unwaith eto, rwy’n falch bod pob un o'r siaradwyr wedi teimlo y gallant ddod i mewn i'r Siambr a siarad am y ffordd yr ydym wedi ymdrin â'r mater hwn a chroesawu aelodaeth y grŵp. Rwy'n edrych ymlaen at weld pob un ohonynt yr un mor gadarnhaol pan maent yn darparu eu hargymhellion. Er y bydd gennym faterion gwahanol i ymdrin â nhw ar adegau, mae’n rhaid i ni mewn gwirionedd wneud dewisiadau, gan nad yw hwn yn faes hawdd. Dyma beth wnaeth y grŵp adolygu blaenorol ei ganfod hefyd yn 2014—mae amrywiaeth o’u hargymhellion ar y pryd wedi eu gweithredu. Gwnaed cynnydd gwirioneddol, ond mae heriau gwirioneddol yn bodoli o hyd, a dyna pam yr ydym yn awr yn edrych ar hyn eto, ac rwy'n falch ein bod ni'n gwneud hynny.

O ran eich pwyntiau ynghylch mynediad ehangach at dechnolegau nad ydynt yn ymwneud â meddygaeth, rwy'n falch o gadarnhau bod canolbwynt newydd yn cael ei ddatblygu a fydd wedi’i leoli yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Bydd yn cyflwyno dull strategol a chenedlaethol o nodi, gwerthuso ac yna fabwysiadu technolegau newydd i leoliadau iechyd a gofal. Felly, nid yw'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar ei ben ei hun. O ran therapi pelydr proton, rydym yn mynd ati i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gynyddu capasiti a’i wneud yn fwy lleol yma yng Nghymru, ac, mewn gwirionedd, ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o fewn y sector preifat i sicrhau bod hynny’n digwydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr iawn yr ymdrech sydd wedi mynd i mewn i hyn. Yn y Pedwerydd Cynulliad, edrychodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cynllun cyflawni ar gyfer canser, ac un o'r argymhellion oedd bod angen inni gael adolygiad o'r broses IPFR, gyda'r bwriad, efallai, y byddai gennym banel sengl i edrych ar gysondeb gwell ar draws Cymru. Felly, rwy’n gwerthfawrogi yn fawr iawn bod hynny’n dod yn ei flaen.

Un neu ddau o bwyntiau cyflym—rwy’n hapus iawn eich bod wedi ateb y cwestiwn blaenorol ar driniaeth, oherwydd rwy’n sylwi bod y datganiad yn canolbwyntio i raddau helaeth ar feddyginiaethau ac nid ar driniaethau, ac rydym yn siarad llawer iawn am driniaethau. Rwy’n gwybod eich bod yn credu mewn triniaethau, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n bwysig ein bod yn trosglwyddo’r neges i'r cyhoedd.

Un o'r materion sydd gennyf i yw’r angen i gyfathrebu mewn gwirionedd gyda'r ymgynghorwyr. Rwy’n sylwi yn eich—. Mae yn eich cylch gwaith, mewn ffordd. Mae gennyf etholwyr sydd daer angen rhyw feddyginiaeth, ac maent yn dweud bod yr ymgynghorydd wedi dweud, 'Mae angen i ni wneud cais am hyn, ond nid yw'n debygol ein bod yn mynd i’w gael'. Rwy'n credu bod angen magu hyder mewn ymgynghorwyr a'r proffesiwn clinigol er mwyn sicrhau bod y broses yn mynd i gyflawni ar gyfer angen clinigol.

Ar y pwynt hwnnw, rwyf braidd yn siomedig bod y geiriau 'eithriadoldeb clinigol' yn dal yno. Byddai’n well gennyf i weld y cyfiawnhad dros ei gael yno yn hytrach na, mewn gwirionedd, a yw’n briodol ai peidio. Angen clinigol yw'r broblem, ac, weithiau, ni allwn roi pris ar angen clinigol. Mae gennyf etholwr—fel y gwyddoch, oherwydd rwyf wedi ysgrifennu atoch chi am yr etholwr hwn— y mae angen cyffur penodol arno. Bydd y cyffur hwnnw’n ymestyn ei fywyd, a byddai, efallai, yn caniatáu i'r plentyn blwydd oed gofio ei fam o ganlyniad i’r cyffur penodol hwnnw. Felly, mae'n gwestiwn o angen yn hytrach na chwestiwn o eithriadoldeb. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r gair 'eithriadoldeb'. Hoffwn i, yn bersonol, ei weld yn cael ei waredu ac edrych ar angen clinigol. Ond rwy’n gwerthfawrogi bod eich cylch gwaith mewn gwirionedd yn dweud 'priodoldeb'. Efallai y gallwn fynd ychydig ymhellach na hynny. Mae’r agwedd gyfathrebu yn hanfodol. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gan ein proffesiwn hyder yn y system yr ydym yn ei darparu.

Diolch am y sylwadau. Byddaf yn dechrau gyda'r pwyntiau diwethaf yr oeddech yn eu gwneud am eithriadoldeb clinigol a / neu angen. Y gwir amdani yw bod gennym system eisoes sy’n darparu tystiolaeth ar yr hyn y dylid ei ddarparu. Mae angen yn sicr yn rhan ohoni—a yw’n rhywbeth sy'n glinigol effeithiol—ond ni allwch ddianc rhag realiti adnoddau hefyd. Mae gan y GIG gyllideb i weithio iddi ym mhob rhan o'r ddadl a phob system gofal iechyd. Os ydym yn syml yn dweud nad oes ots beth yw’r pris—. Rydym yn rheolaidd yn cael trafodaethau gyda chwmnïau fferyllol am gynlluniau mynediad i gleifion, ac, mewn gwirionedd, o fewn Cymru, ers iddo gael ei gyflwyno yn 2012, trwy gyflwyno cynllun mynediad i gleifion lle mae'r cwmni fferyllol yn cytuno i newid eu pris i gael mynediad. Mae hyn yn golygu bod 36 meddyginiaeth newydd ar gael yng Nghymru o ganlyniad i hynny. Felly, mae’n rhaid i ni bob amser allu cydbwyso hynny yn iawn, ac os ydym yn mynd i gael dadl onest am ddyfodol meddyginiaethau cost uchel, mae angen i ni nodi—. Ond mae adegau pan mae’n rhaid i chi siarad â chwmnïau fferyllol am bris darparu meddyginiaeth. Roedd hyn yn rhan o'r rheswm pam y methodd y gronfa cyffuriau canser oherwydd nad oedd unrhyw reolaeth dros brisio, yn ogystal â diffyg rheolaeth dros y dystiolaeth glinigol bod triniaeth yn mynd i fod yn effeithiol mewn gwirionedd.

Y rheswm pam mae eithriadoldeb yn dal yno yw ein bod yn adolygu ein sefyllfa ac yn gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi bod yn gwbl glir yn y cylch gorchwyl, os bydd y grŵp adolygu yn credu nad eithriadoldeb yw'r maen prawf priodol a bod ffurfio gwell ar hynny, yna rydym am glywed ganddynt. Rwyf eisiau i’r argymhellion a wnaf fod yn wirioneddol ymarferol i ni hefyd. Ac, yn wir, os ydynt yn dweud ei fod yn faen prawf cywir, ar gyfer pob un o'r heriau ynghylch eithriadoldeb, mae angen i ni ddeall sut i ymdrin â hynny yn fwy effeithiol.

Mae hynny'n mynd yn ôl at eich pwynt cyntaf, mewn gwirionedd, ac mae hynny’n ymwneud â’r berthynas rhwng yr ymgynghorydd a'r claf. Rydym wedi bod yn hynod glir eto yn y cylch gorchwyl—mae’n rhaid i ni ddeall hynny gyda’r rhyngwyneb hwnnw, pan fydd rhywun eisiau deall beth yw’r opsiynau triniaeth a beth sydd ar gael, mae’n rhaid cael ffordd y gall yr ymgynghorydd sy’n trin y claf a’r claf ei hunan ddeall beth sydd ar gael a pham. Ac os ydych yn mynd i fynd drwy gais ariannu unigol, mae angen deall beth mae hynny’n ei olygu hefyd. Felly, mae’n rhaid i ni arfogi ein clinigwyr i gael y sgyrsiau anodd hynny yn y modd mwyaf cyson ag y bo modd, fel nad yw pobl yn meddwl mai naill ai ardal y bwrdd iechyd lle maent yn byw neu'r ymgynghorydd y maent yn ei weld sydd mewn gwirionedd yn rheoli’r hyn yw eu mynediad at driniaeth effeithiol. Felly, mae hynny'n bwysig iawn ac yn her anodd iawn i ni.

Yn olaf—rwy’n gorffen gyda’r pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd—cefais gyfarfod adeiladol iawn ddoe â Chynghrair Canser Cymru, ac roedd ganddynt ddiddordeb yn fy natganiad heddiw. Nodais na fyddwn yn rhoi copi ymlaen llaw iddyn nhw o'r hyn yr oeddwn yn mynd i'w ddweud nag o aelodaeth o banel yr adolygiad IPFR, ond mae ganddyn nhw ddiddordeb yn yr hyn yr ydym yn ei wneud ac maent, hefyd, yn dal yn awyddus i weld mwy o gysondeb. Maent eisiau iddi fod yn broses a arweinir gan dystiolaeth, ond ni chafwyd cefnogaeth chwaith i broses a oedd yn rhoi mantais i’w grŵp nhw o gyflyrau dros eraill. Felly, roedd cael y tegwch gwirioneddol hwnnw ar draws y darn a chael sylfaen dystiolaeth wirioneddol i reoli'r hyn yr ydym yn ei wneud yn wirioneddol bwysig iddynt hefyd. Felly, mae amrywiaeth eang o actorion yn y maes sydd yn edrych ar yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud a pham, ac edrychaf ymlaen at glywed gan y panel adolygu yn y dyfodol cymharol agos.

5. 5. Datganiad: Croesawu’n ôl Athletwyr Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio 2016

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sy'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar groesawu athletwyr Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio adref. Galwaf ar Ken Skates i gyflwyno'r datganiad.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r cyfle hwn i longyfarch ein hathletwyr Olympaidd a Pharalympaidd a gynrychiolodd Dîm GB a Pharalympaidd GB yn gemau Rio 2016. Rwy'n arbennig o falch y bydd Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad cyhoeddus y tu allan i'r Senedd yn ddiweddarach yr wythnos hon, gan roi cyfle i bobl o bob rhan o Gymru dalu teyrnged i'w holl athletwyr, eu hyfforddwyr a staff cymorth. Gallwn i gyd fod yn falch iawn o'u perfformiadau a'r ffordd yr oeddent yn ymddwyn fel llysgenhadon gwych dros chwaraeon a thros Gymru.

Ar y cyfan, roedd 15,000 o athletwyr yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eleni yn Rio—anrhydedd a chyflawniad aruthrol i bawb a’r sefydliadau chwaraeon, wrth gwrs, sy'n eu cefnogi. Cafodd y gemau sylw byd-eang a chyflawnodd yr athletwyr rai perfformiadau syfrdanol. Y tu ôl i’r perfformiadau hynny, wrth gwrs, mae blynyddoedd o hyfforddiant a gwaith caled wrth wneud yn eu paratoadau. Mae eu penderfyniad ac awydd i lwyddo yn ymgorffori gwerthoedd chwaraeon ac yn eu gwneud yn fodelau rôl gwych ar gyfer y genhedlaeth nesaf ac yn llysgenhadon dros eu camp a'u gwlad.

O ran perfformiadau ein hathletwyr o Gymru yn Rio, gallwn ddweud bod ein buddsoddiad mewn datblygu chwaraeon elitaidd drwy Chwaraeon Cymru yn parhau i ddwyn ffrwyth. Enillodd athletwyr Cymru 18 medal ar draws y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac mewn ystod eang o chwaraeon, gan ragori ar ein disgwyliadau a darparu rhai eiliadau chwaraeon hudolus ar gyfer chwaraeon Cymru a Phrydain. Gwelodd gemau Rio genhedlaeth newydd o athletwyr o Gymru ar y llwyfan chwaraeon mwyaf yn y byd a gwnaeth llawer o ddechreuwyr gryn effaith.

Yn y Gemau Olympaidd, roedd gan Gymru 23 o athletwyr yn cystadlu mewn 11 o gampau, sydd dros 14 y cant o gyfanswm Tîm GB. Torrodd ein hathletwyr record byd yn y ras tîm beicio ymlid a llwyddwyd i amddiffyn teitl unigol mewn taekwondo. Tîm GB oedd y wlad gyntaf yn hanes y Gemau Olympaidd modern i gynyddu ei chyfrif o fedalau yn union ar ôl bod y wlad i gynnal y gemau.

Yn y Gemau Paralympaidd, enillwyd dwy o fedalau aur yn fwy nag yn Llundain 2012 ac enillwyd medalau mewn mwy o chwaraeon. Roedd 26 o athletwyr yn cystadlu, a oedd yn rhagori ar ein targed, ac roedd naw o'r rhain yn Baralympiaid am y tro cyntaf ac enillodd dri ohonynt fedal yn eu gemau cyntaf. Mae hynny'n dipyn o gamp. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cyflwyno ymgyrch newydd i nodi athletwyr Paralympaidd newydd, o'r enw Beth yw Eich Potensial? ac mae dros 50 o athletwyr yn cael eu monitro a'u datblygu.

Mae cael athletwyr mwy talentog drwy'r system ac ymlaen i raglenni GB yn allweddol i'n llwyddiant yn y dyfodol ac mae mwy a mwy o wledydd yn gwella'r gwasanaeth a ddarperir i athletwyr medalau posibl. Felly mae'n bwysicach byth bod llwybrau o ansawdd wedi’u sefydlu a all helpu i gynhyrchu enillwyr medalau yn y dyfodol.

Er ein bod yn wlad gymharol fach, rydym yn bwerdy yn y byd chwaraeon, gan barhau i anelu'n uchel wrth i’n hyder a’n proffil dyfu. Mae gennym nifer o bencampwyr byd a llif cyson o athletwyr sy'n gallu cystadlu ar y lefel uchaf a fydd yn awr yn gosod eu bryd ar Gemau'r Gymanwlad yn y Traeth Aur, Awstralia, mewn ychydig dros 18 mis. Hwn fydd y cyfle nesaf iddynt gystadlu a chynrychioli Cymru mewn digwyddiad aml-chwaraeon. Rwy’n hyderus y byddant yn llwyddo i gynhyrchu canlyniadau y gallwn fod yn falch ohonynt. Dymunwn yn dda iddynt i gyd.

Mae’n rhaid i bob athletwr elitaidd llwyddiannus ddechrau yn rhywle, fel arfer o fewn lleoliad cymunedol, a dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn cael cyfleoedd chwaraeon mwy ac o well ansawdd ar lefel gymunedol leol. Mae mwy o gyfranogiad yn helpu i fagu talent a llwyddiant, a hoffwn ddiolch i'n holl athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd o Gymru am helpu i ysbrydoli a chymell pobl ledled Cymru. Mae eu perfformiadau yn symbol o bopeth sy’n wych ac ysbrydoledig am y traddodiad Olympaidd ac mae'n bleser mawr ac yn fraint i gael cyfle i longyfarch pob un ohonynt. Mae Cymru gyfan yn talu teyrnged iddynt.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn i hefyd longyfarch yr athletwyr o Gymru sydd wedi ein gwneud yn genedl mor falch. Mae hon yn wir yn oes aur i chwaraeon Cymru ac mae hynny’n dangos unwaith eto'r meddylfryd ennill sydd gennym yng Nghymru. Mae'n ddiddorol bod bwlch rhwng Gemau Olympaidd 1972 a Gemau Olympaidd 2008 pan nad enillodd un person o Gymru fedal. Roedd hynny’n 36 o flynyddoedd. Ond ers Beijing, mae'r medalau yn dal i ddod yn ôl i Gymru ac mae mor bwysig yn awr ein bod yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.

Gyda hynny mewn golwg, hoffwn i fynd ar drywydd rhai o'r pwyntiau y buom yn siarad amdanynt y tro diwethaf yn y Siambr hon. Yn gyntaf, dylai eich swyddfa fod wedi cael gwahoddiad ffurfiol erbyn hyn i ddod i gwrdd â mi a'r plant yn Grangetown na allant fforddio cymryd rhan mewn chwaraeon, ac mae'n dristwch mawr i mi weld meysydd chwaraeon gwag gyda phlant sydd eisiau chwarae arnynt ond nid oes ganddynt yr arian i wneud hynny. Mae rhieni hefyd yn dweud wrthyf ei bod yn costio £450 bellach i’w plentyn gynrychioli ysgolion Caerdydd a'r Fro. Efallai eich bod yn gwybod bod enillydd medal aur Olympaidd cyntaf Cymru, Paulo Radmilovic, yn dod o Gaerdydd. Roedd ei rieni’n rhedeg y Bute Dock Tavern, ychydig i lawr y ffordd yn Stryd Bute, ac aeth ymlaen i ennill pedair medal aur Olympaidd. Felly, hoffwn i drefnu’r ymweliad hwn cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau, yn y dyfodol, y gall Grangetown a'u cymdogion yn Butetown, unwaith eto ddathlu eu pencampwyr Olympaidd eu hunain yn y dyfodol.

Hoffwn hefyd eich gwahodd eto efallai i feddwl am sut y gallwn ni ddathlu Billy Boston, sbortsmon gwych arall o’r dociau, fel yr oeddem yn arfer dweud ers talwm, ac a aeth ymlaen i fod y sgoriwr ceisiau uchaf yn rygbi'r gynghrair. Rwy'n credu y byddai'n dda iawn pe gallai’r Llywodraeth hon, y Cynulliad a Chyngor Chaerdydd ddathlu hynny.

Hoffwn i edrych eto ar fethiant y Llywodraeth i wneud cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, gan ei bod yn ddiddorol eich bod yn nodi bod athletwyr Cymru yn awr yn gosod eu golygon ar Gemau'r Gymanwlad y Traeth Aur ymhen 18 mis. Oherwydd, drwy wneud penderfyniad annoeth iawn, mae eich Llywodraeth wedi troi ei chefn ar y cyfle i ni ddod â'r gemau adref i Gymru. Y tro diwethaf y buom yn siarad, dywedasoch fod awdurdodau lleol yn gallu cyfrannu at gostau'r gemau ar y cam hwn. Felly, cyflwynais gais rhyddid gwybodaeth i ofyn pa ohebiaeth swyddogol yr ydych chi wedi’i chael ag awdurdodau lleol ynghylch Gemau'r Gymanwlad. Daeth y canlyniad yn ôl ac roedd yn datgan, ac rwy’n dyfynnu hyn:

‘Nid oes unrhyw geisiadau ffurfiol nac ymholiadau wedi eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol am gyfraniadau ariannol i Gemau'r Gymanwlad 2026.’

Efallai eich bod yn cofio'r Tony Blair hwnnw sydd, rwy'n siŵr, yn parhau i fod yn dipyn o arwr i lawer ohonoch ar ochr y Llywodraeth i'r Siambr. Cafodd ei gyhuddo o redeg Llywodraeth soffa. Cafodd Blair ei feirniadu’n hallt am ei benderfyniadau anffurfiol yn adroddiad Butler, lle roedd diffyg cyfarfodydd wedi’u cofnodi yn golygu na ellid cynnal craffu priodol ar y broses o wneud penderfyniad ar ôl y digwyddiad. Mae hyn i gyd yn swnio'n debyg iawn i sut mae'r Llywodraeth Lafur hon yn cael ei rhedeg yng Nghaerdydd—

Oes. Rydych yn honni eich bod wedi gofyn i awdurdodau lleol a allent ddarparu miliynau o bosibl, ond does dim cais ffurfiol i graffu ar hynny. Rwy’n credu y byddai Tony Blair yn gartrefol iawn yn y Llywodraeth Lafur hon. Felly, fy nghwestiwn i yw: a ydych yn awr mewn sefyllfa i roi i mi y ceisiadau ffurfiol wedi’u cofnodi rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol am gymorth ariannol ar gyfer Gemau'r Gymanwlad? Os na, a wnewch chi ymrwymo i adolygiad ffurfiol o weithdrefnau gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru?

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac, yn anad dim, rwy’n cydnabod y llongyfarchiadau y mae wedi’u rhoi i’r oes aur, yn ei eiriau ef, sydd yn ddyledus, i raddau helaeth, i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru wrth gwrs, yn ogystal ag UK Sport ac, yn wir, Chwaraeon Cymru. Ond canlyniad canolbwyntio di-baid gan Lywodraeth Cymru ar godi safonau chwaraeon ysgolion, trwy 5x60 a Champau'r Ddraig—unwaith eto, y ddau wedi’u cyflwyno mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru—yw ein bod wedi gallu cyflawni cynnydd mewn cyfranogiad ymhlith pobl ifanc mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Rwy'n falch bod yr Aelod yn cydnabod gwaith ardderchog Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Mae'n galonogol.

O ran y penderfyniad ar Gemau'r Gymanwlad a sefyllfa'r awdurdodau lleol, dwi ddim yn siŵr pam na all yr Aelod ystyried yr hyn a ddywedais y tro diwethaf, sef bod yr awdurdodau lleol y mae’n cyfeirio atynt mewn gwirionedd ar y grŵp llywio a benderfynodd ar botensial Gemau'r Gymanwlad. Ac nid oeddent ar unrhyw adeg yn gallu cyfrannu’r adnoddau yr ydych chi’n dweud y dylai fod wedi bod ganddynt. Os ydych yn credu y dylai awdurdodau lleol fod wedi cynnig arian, mae angen i chi nodi o ble yn eu cyllidebau y byddai’r arian wedi dod.

Ar ben hynny, ai eich safbwynt chi, fel plaid, yw eich bod yn dymuno gwario £1.3 biliwn i £1.5 biliwn i gynnal Gemau'r Gymanwlad? Ai dyna eich safbwynt? Oherwydd mae ein safbwynt ni yn glir iawn, yn y cyd-destun presennol o dynhau adnoddau cyhoeddus, bod cost o'r fath yn anodd i'w hysgwyddo. Yn lle hynny, rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn dymuno ceisio dylanwadu ar newid mawr yn rheolau Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad a fyddai'n galluogi gemau deuol ac aml-ganolfan i ddigwydd. Byddai hynny'n ein galluogi nid yn unig i gynnal y gemau unwaith, sef dyhead yr Aelod—dim ond unwaith mewn oes—ond, o bosibl, ar sawl achlysur mewn oes. Siawns bod rhoi sylw cyson i chwaraeon elitaidd yn llawer gwell wrth gymell pobl i fod yn gorfforol egnïol yn ystod eu hoes na dim ond un digwyddiad pythefnos yn ystod eu hoes.

O ran adnoddau a ffioedd caeau chwarae, rwy’n cydnabod mewn rhannau o Gymru—a gwn fod fy nghyd-Aelod Lee Waters wedi codi hyn gyda mi yn yr etholaeth hon—bod ffioedd caeau chwarae yn rhy uchel. Dywedasom, yn y maniffesto ar gyfer ein plaid yn yr etholiad, ein bod yn dymuno gweld, drwy lythyrau cylch gwaith, mwy o swyddogaeth yn cael ei rhoi ar fuddsoddi mewn pobl ifanc o ardaloedd difreintiedig. Roedd yn addewid a oedd yn rhan o'r maniffesto a arweiniodd at ein hethol ni a'n Llywodraeth ni. Hoffem weld yr addewid hwnnw yn cael ei wireddu, nid yn unig gan Chwaraeon Cymru, ond gan gyrff llywodraethu cenedlaethol, ac mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Ond, rydym hefyd yn awyddus i gyflwyno—ac efallai bod yr Aelod yn ymwybodol o addewid arall yn ein maniffesto—cronfa her benodol ar gyfer sefydliadau chwaraeon cymunedol a chelfyddydau cymunedol a digwyddiadau a gweithgareddau. Felly, rydym ni, yn fwy nag erioed o'r blaen, wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl ifanc, nid yn unig mewn chwaraeon, ond hefyd mewn mathau eraill o weithgaredd corfforol. Rydym yn dymuno cael Cymru i symud ac rydym yn dymuno sicrhau bod ein llwyddiant mewn gemau aml-chwaraeon rhyngwladol yn parhau.

Hoffwn ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet wrth groesawu adref yr holl athletwyr o Gymru a gyfrannodd at ennill mwy o fedalau nag erioed gan Dîm GB yng Ngemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Rio. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud, mae’r digwyddiad hwn i groesawu’r athletwyr ysbrydoledig hyn adref yn gyfle gwych i ddiolch iddynt ac, wrth gwrs, i’r holl bobl hynny sydd wedi cymryd rhan yn eu hyfforddi a'u cefnogi, ac aelodau o'u teuluoedd hefyd. Roeddwn yn arbennig o falch ein bod wedi cael athletwyr o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan ac yn cyfrannu at lwyddiant Tîm GB yn Rio yr haf hwn. Roeddwn wedi meddwl na allai pethau fod yn well ar ôl y llwyddiant a gawsom yn cyrraedd camau olaf Ewro 2016, ac yn awr, wrth gwrs, mae gennym athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru i ymuno yn ein dathliadau a’n parti hefyd.

Ond, wrth gwrs, ni ddylem danbrisio’r ffordd y mae llwyddiant chwaraeon Cymru yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Mae llwyddiant ym myd chwaraeon yn chwarae rhan allweddol wrth annog cyfranogiad mewn chwaraeon, yn arbennig hefyd drwy gynyddu iechyd y cyhoedd a chreu etifeddiaeth barhaus ar gyfer ein hathletwyr elitaidd. Gyda hyn mewn golwg, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â’i hymrwymiad. Roeddwn yn falch o weld, yn y rhaglen lywodraethu'r wythnos diwethaf, y llinell honno ar gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr—roeddwn yn falch o weld ei bod hi i mewn 'na—oherwydd, wrth gwrs, ni all cynnal digwyddiadau o'r fath ond greu a chefnogi ein heconomi, a gall llawer o newid cymdeithasol ddigwydd o ganlyniad i gynnal y mathau hynny o ddigwyddiadau. Rwyf wedi clywed eich sylwadau, Ysgrifennydd y Cabinet, mewn perthynas â Gemau'r Gymanwlad. Roeddwn yn siomedig. Roeddwn yn teimlo nad oedd gan Lywodraeth Cymru, mewn ffordd, yr uchelgais i gynnal Gemau'r Gymanwlad. Byddwn yn gofyn i chi, o bosibl, gysoni’r ddau fater hynny o ran y rhaglen lywodraethu a chynnal y gemau.

Efallai y byddwn yn gofyn hyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a fyddech yn cytuno â mi bod yn rhaid inni farchnata Cymru fel lleoliad chwaraeon o'r radd flaenaf, yn enwedig drwy weithio'n agos gyda llywodraeth leol, gweithredwyr cludiant a sefydliadau chwaraeon i sicrhau y gall trafnidiaeth a chyfleusterau ymdopi â nifer cynyddol o ymwelwyr? Mae digwyddiadau chwaraeon mawr o'r fath nid yn unig yn tanio ein balchder cenedlaethol, ond maent hefyd yn hybu lefelau twristiaeth yng Nghymru. Gallant hefyd, wrth gwrs, gefnogi'r agenda iechyd cyhoeddus ehangach hefyd

Ond hoffwn orffen drwy longyfarch yr athletwyr eto, a'u croesawu adref yr wythnos hon yn y digwyddiad ddydd Iau. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein hathletwyr elitaidd er mwyn eu galluogi i fynd o nerth i nerth yn y dyfodol.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad a hoffwn hefyd gydnabod llwyddiant anhygoel ein tîm pêl-droed cenedlaethol yr haf hwn hefyd. Rwy’n meddwl rhwng y Gemau Paralympaidd, y Gemau Olympaidd a'r Euros, ein bod fwy na thebyg wedi cael yr haf gorau o ran chwaraeon i athletwyr Cymru yn ystod oes unrhyw un ohonom. Efallai, pe byddai gennym hinsawdd gaeaf alpaidd, y gallem fod yn disgwyl casgliad da o fedalau ymhen dwy flynedd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.

Er mwyn bod yn dda mewn chwaraeon, mae’n wir bod yn rhaid i chi gael cymhelliant, rhaid i chi gael cyfle i gymryd rhan, ond rhaid i chi hefyd gael y gefnogaeth honno. Roedd yr Aelod yn llygad ei le i gydnabod bod hyfforddwyr yn arbennig o bwysig wrth gasglu nifer mor dda o fedalau yn gemau Rio.

O ran digwyddiadau chwaraeon mawr, ac rwy'n falch bod yr Aelod yn cydnabod pa mor bwysig yw cynnal digwyddiadau mawr yn y rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, rwyf eisoes wedi bod yn glir yn datgan ein huchelgais i gynnal taith fawreddog yn ogystal â Ras Gefnfor Volvo. Wrth gwrs, y flwyddyn nesaf, byddwn yn cynnal y digwyddiad chwaraeon undydd mwyaf y byd: rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA. Rwy'n herio unrhyw Aelod i enwi gwlad ag oddeutu 3 miliwn o bobl sydd wedi cynnal cynifer o ddigwyddiadau diwylliannol neu chwaraeon mawr ag y gwnaeth Cymru yn y degawd diwethaf. Mae gennym record hynod o falch.

Ond, o ran Gemau'r Gymanwlad, fel y gwneuthum herio'r Aelod o Blaid Cymru, mae hwn yn ymrwymiad enfawr a fyddai'n gofyn am rhwng £1.3 biliwn ac £1.5 biliwn i’w gynnal. Gwn fod Aelodau wedi cael cyfle i gael eu briffio gan Gemau'r Gymanwlad yng nghyswllt y gwaith a wnaed i edrych ar y potensial o gynnal gemau 2026, ac rwy’n gobeithio bod y briff wedi tawelu rhai o'r pryderon oedd gan yr Aelod hwn ac Aelodau eraill. Rwyf am fod yn glir ein bod yn dymuno gweld newidiadau i reolau Gemau'r Gymanwlad a fyddai'n ein galluogi ni i’w cynnal yn y dyfodol. Yn yr un modd, y rheswm pam y cyhoeddais adolygiad o gyfleusterau chwaraeon yw y byddwn yn gallu mapio, nid yn unig ar gyfer heddiw, ond ar gyfer y dyfodol, y cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer y genedl, fel y gallem wedyn hefyd o bosibl gynnig cais drwy ein hawl ein hun yn y dyfodol, am y gemau. Rhaid i un peth fod yn glir: mae’n rhaid i’r man sy’n cynnal y digwyddiadau gyd-fynd â’r man lle rydym yn adeiladu'r seilwaith a'r cyfleusterau, oherwydd nid ydym yn dymuno bod mewn perygl o fuddsoddi'n drwm mewn seilwaith na fyddai wedyn yn cael ei ddefnyddio.  Rydym yn dymuno buddsoddi yn nyfodol chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a gobeithio y bydd hynny wedyn yn cael ei adlewyrchu mewn mwy o ddigwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yng Nghymru.

Un pwynt arall, o ran dathlu llwyddiant—ac mae hyn yn ystyried pwynt a wnaed gan y siaradwr blaenorol o ran arwyr chwaraeon lleol—rwy'n credu ei bod yn hanfodol y flwyddyn nesaf, fel rhan o Flwyddyn yr Anfarwolion, bod grwpiau cymunedol ac, yn wir, Aelodau lleol, yn gwneud popeth o fewn eu gallu i hyrwyddo'r anfarwolion, boed hynny ym maes bocsio, rygbi, neu ba bynnag gamp y gallai fod—neu ddiwylliant—o fewn eu cymunedau ac yn genedlaethol. Mae hwn yn gyfle i Gymru frandio ei hun fel lle sy'n dathlu llwyddiant ac sy'n hybu llwyddiant mawr. Rwy’n meddwl, ym Mlwyddyn yr Anfarwolion, y gallwn wneud hynny mewn cyd-destun chwaraeon yn ogystal â chyd-destun diwylliannol.

Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cymeradwyo ymdrechion yr athletwyr o Gymru a fu'n cystadlu yn Rio, yn y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd, p'un a wnaethant ennill medalau neu beidio, ac rwy'n siŵr y bydd y croeso adref yn achlysur gwych.

Mae’r Gweinidog yn cyfeirio, yn ei baragraff olaf, at y ffaith bod rhagoriaeth chwaraeon yn dechrau gyda chyfranogiad ar lawr gwlad. Mae Aelodau eraill eisoes wedi cyfeirio at hyn yn gynharach heddiw yn y ddadl hon. Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth barhau i fod yn ymwybodol o'r angen i gadw llwybrau chwaraeon yn agored i bawb. Rwyf wedi sôn o'r blaen am broblem y cynnydd syfrdanol yn ffioedd clybiau bowlio, yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae Neil McEvoy wedi codi mater y gost i bobl ifanc o ddefnyddio caeau pêl-droed 3G, y mae ef wedi’u crybwyll eto heddiw. Rwyf hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i gadw ffioedd canolfannau hamdden i lawr, nawr bod llawer o gynghorau yn rhoi gweithrediadau canolfannau hamdden allan ar gontractau i gwmnïau preifat. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn cysylltu chwaraeon ag iechyd cyffredinol, a gwn fod gennych strategaeth ar gyfer cynyddu gweithgareddau chwaraeon ymysg y boblogaeth ehangach. Ond mae angen i ni fynd i'r afael â'r mathau hyn o broblemau sylfaenol os yw’r strategaeth honno i fod yn effeithiol, ac os ydym yn y pen draw am gael poblogaeth iach yma yng Nghymru. Felly, tybed beth, yn benodol, y gellir ei wneud am y materion hyn.

Y pethau eraill sydd wedi eu crybwyll—y cais am Gemau'r Gymanwlad. Roeddwn i, yn bersonol, yn eithaf pwyllog am y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â hynny oherwydd byddai'n well gennyf weld arian yn cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon yn y gymuned yn hytrach na digwyddiadau elitaidd. Fodd bynnag, er fy mod yn gwybod eich bod yn cydnabod hynny ar y pryd, gofynnais gwestiwn i chi, Weinidog, sef: a fyddai rhywfaint o'r arian a arbedwyd o beidio bwrw ymlaen â'r cais hwnnw mewn gwirionedd yn cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon llawr gwlad? Felly, byddwn yn codi'r cwestiwn hwnnw eto.

Yn olaf—gan grwydro ychydig oddi ar y testun—soniodd Neil am Paolo Radmilovic, enillydd medal aur Olympaidd gyntaf Cymru. Rwy'n credu bod rhai o'i fedalau ar gyfer polo dŵr. Mae'n gamp sydd bob amser wedi fy nrysu i. Dwi’n dal ddim yn gwybod sut maent yn cael y ceffylau i mewn i'r dŵr—efallai y gallech chi fwrw goleuni ar hynny i mi. Diolch.

Rwyf innau ar goll hefyd o ran y gamp y mae'r Aelod yn cyfeirio ati, ond credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn: bod rhaid cydbwyso buddsoddi mewn chwaraeon elitaidd â buddsoddi mewn chwaraeon yn y gymuned. Mae’n hanfodol fod pob unigolyn mewn cymdeithas yn cael cyfle i gael mynediad at yr hyn yr wyf i’n ei alw’n esgynnydd gweithgaredd. Does dim ots ar ba lefel yr ydych yn rhoi stop ar eich perfformiad, p’un a ydych yn mynd i fod yn cerdded i'r siopau neu’n cynyddu hynny i redeg yno bob dydd, ac yna yn y pen draw yn dod yn sbortsmon elît, cyn belled â’ch bod yn actif mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod digon o adnoddau ar gael ar lawr gwlad i alluogi pobl i gymryd rhan mor agos i'w cartref ag y gallant neu, yn wir, yn yr awyr agored. Felly, o ran buddsoddi, mae'n rhannu £1 am bob £3 yn fras—am bob £1 a fuddsoddir yn yr elît mae £3 yn cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon cymunedol. Mae chwaraeon cymunedol hefyd yn awr yn cynnwys, wrth gwrs, ffyrdd anffurfiol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Felly, gallai fod yn bêl-droed cerdded, neu gemau stryd neu rygbi cyffwrdd. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw agor cyfleoedd i ystod mor eang o bobl â phosibl.

Nododd yr Aelod yn briodol hefyd bwysigrwydd rhoi cydnabyddiaeth i bobl a berfformiodd yn y Gemau Paralympaidd ac a gafodd lwyddiant mawr. Rwy’n meddwl bod Chwaraeon Anabledd Cymru yn arbennig yn y blynyddoedd diwethaf wedi dangos llwyddiant anhygoel ac wedi gwneud cynnydd mawr o ran cael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol . Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr wyth medal a enillwyd yng ngemau Rio. Credaf fod hynny yn llwyddiant rhyfeddol o ystyried, yn ôl yn Llundain 2012, y cafwyd chwe medal. Felly, mae cynnydd o'r fath i’w groesawu gan bawb yn wir.

O ran cost Gemau’r Gymanwlad—ac rwy’n cofio bod yr Aelod wedi rhoi croeso cyffredinol i’n safbwynt ni ar y mater hwn—nid yw’n fater o arian yn cael ei arbed drwy beidio â gwneud cais am y gemau. Pe byddem wedi bwrw ymlaen â'r cynnig am y gemau, yr hyn fyddai’n digwydd wedyn byddai arian yn gorfod cael ei nodi o grwpiau gwariant mawr sy'n bodoli eisoes. Felly, yn y bôn, byddai het wedi gorfod mynd o gwmpas y Llywodraeth, pob adran—addysg, iechyd, trafnidiaeth; byddai wedi mynd i faterion gwledig, i gymunedau—a byddai cyfraniadau wedi gorfod cael eu gwneud. Felly, nid yw'n arbediad y gellir ei ail-fuddsoddi fel y cyfryw. Ond, fel y dywedais wrth siaradwr blaenorol, bydd ffurfio bond lles Cymru, sydd â'r nod o fuddsoddi mewn triniaethau a gweithgareddau sy'n atal afiechyd, yn arbennig salwch meddwl, a hefyd y fenter yr ydym yn ei galw'r gronfa her, yn anelu at gynyddu buddsoddiad cyffredinol mewn chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol.

Rwy'n edrych ymlaen at y dathliadau croeso adref ddydd Iau. Mae'n iawn ac yn briodol bod y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru yn cydnabod y cyflawniadau—y cyflawniadau anhygoel hynny—gan Olympiaid a Pharalympiaid Cymru, a hefyd yn rhoi cyfle i bobl Cymru i ymuno â ni yn y dathlu hefyd.

Rwy'n arbennig o falch o gael cynrychioli etholaeth sy'n ymfalchïo, nid yn unig mewn enillydd medal Paralympaidd, ond enillydd medal aur Olympaidd, hefyd. Chwalodd Sabrina Fortune o Fryn-y-Baal, sy’n bedair ar bymtheg oed, ei gorau personol a hawlio medal efydd mewn taflu maen F20. Rwy'n siŵr y bydd cydweithwyr yn ymuno â mi yma i fynegi ein llongyfarchiadau i Sabrina ar ei llwyddiant.

Ac, wrth gwrs, mae Jade Jones, enillydd medal aur Olympaidd dwbl, 'the headhunter', ‘the fighter from Fflint', neu, mewn gwirionedd—dylwn ei ddweud sut yr ydym yn ei ddweud yn y Fflint— ‘the fighter off Fflint'. Mae tref enedigol Jade yn hynod falch o bopeth y mae hi wedi ei gyflawni. Yn ôl ym mis Awst, daeth y gymuned gyfan ynghyd i wylio’r ornest, ac i annog Jade i fuddugoliaeth tan yr oriau mân. Yn wir, roeddwn yn meddwl y diwrnod canlynol y dylem fod wedi gwneud cyhoeddiad trefn gyhoeddus i ddweud wrth unrhyw un oedd yn mynd drwy'r Fflint fynd yn dawel iawn, oherwydd bod y dref gyfan yn dod ati ei hun.

Daeth y gymuned ynghyd unwaith eto ychydig dros wythnos yn ôl i ddathliad croeso adref i Jade a oedd yn gweddu i’w llwyddiannau. Cafwyd gwasanaeth dinesig, taith mewn bws to agored o amgylch y dref, a thân gwyllt, gyda'r diweddglo mawreddog yng nghastell y Fflint yn edrych yn anhygoel, wedi ei oleuo mewn aur. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am wneud cais gennyf i ar hap yn ystod oriau mân y bore i oleuo'r castell yn realiti, ac fe wnaeth pobl fwynhau hynny—hefyd, pob clod i Gyngor Sir y Fflint a chyngor y dref am drefnu pethau mewn pryd.

Iawn. Rwy’n cyrraedd yno, peidiwch â phoeni.

Rydym ni bellach yn edrych ar ffyrdd y gall y Fflint gydnabod yn fwy parhaol lwyddiannau Jade a balchder ei thref enedigol yn ei hymladdwraig enwog, ond hefyd etifeddiaeth yr hyn a wnawn yn lleol o ran ychwanegu at y nifer sy'n manteisio ar taekwondo a chwaraeon eraill. Ond rwyf ychydig yn bryderus am yr awgrym y dylwn i fynd i mewn i'r cylch gyda Jade fy hun.

Wrth gwrs, ar lefel Cymru gyfan, y ffordd fwyaf addas i gydnabod y cyflawniad hwn yw ein bod yn gallu adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a chreu Paralympiaid ac Olympiaid y dyfodol. Felly, byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru a phob un ohonom yma mewn gwirionedd i arwain drwy wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chyfraniad gwerthfawr a chydnabod bod Hannah Blythyn, rwy’n meddwl, yn cynrychioli ardal sydd yn ôl pob tebyg â’r crynodiad uchaf o fedalau Olympaidd ar hyn o bryd yng Nghymru? Mae llwyddiant Sabrina a Jade yn eithaf rhyfeddol a hoffwn anfon fy llongyfarchiadau yn uniongyrchol iddynt hwy hefyd. Rwy’n gwybod pa mor bwysig oedd buddugoliaeth Jade Jones i gymuned y Fflint; roeddwn yn bresennol am ran o'r diwrnod. Gwn fod gan yr Aelod fwy o ddyfalbarhad na fi—roeddech chi’n bresennol drwy gydol gornestau Jade yng Ngwesty Mountain Park yn y Fflint. Roedd yn achlysur anhygoel a welodd gannoedd o bobl—nifer rhyfeddol o bobl ifanc—yn dathlu, gadewch i ni ei wynebu, eicon o'r ardal leol sy'n cystadlu ar y lefel uchaf. Yn ogystal â ffrindiau a theulu ac, nid oes gen i unrhyw amheuaeth, dieithriaid i Jade, roedd pobl o'r clwb taekwondo lleol a hefyd ei chyn hyfforddwr. Gallai fod yn ymweliad priodol i ni—fi fy hun a'r Aelod lleol—ymweld â'r clwb lle dysgodd Jade taekwondo a lle mae bellach, rwy’n gwybod, nifer fawr o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y gamp.

Anogodd Neil McEvoy Lywodraeth Cymru i gydnabod arwyr chwaraeon—byddwn yn gwneud hynny, nid yn unig trwy Flwyddyn yr Anfarwolion, ond yn barhaus. Ond byddwn hefyd yn annog Neil McEvoy i ddysgu oddi wrth Hannah Blythyn, sydd wedi cynrychioli ei hetholaeth yn wych drwy sicrhau bod y castell yn y Fflint, un o elfennau pwysicaf yr amgylchedd hanesyddol yn y gogledd-ddwyrain, wedi ei droi yn aur i gydnabod llwyddiant ysgubol Jade Jones. Rwy'n credu eibfod yn hanfodol bod y Llywodraeth, bod y gymdeithas yn gyffredinol, yn cofleidio llwyddiant ein harwyr chwaraeon, nid dim ond fel ffactor ysgogol i bobl fod yn fwy egnïol yn gorfforol, ond hefyd fel ffordd o ddod â phobl at ei gilydd—i uno pobl yn ystod cyfnod pan fyddwn yn aml yn gecrus.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn i hefyd longyfarch pob un o'n hathletwyr o Gymru ac rwy'n edrych ymlaen at y digwyddiad ddydd Iau pan fyddwn yn eu croesawu i'r Senedd. Gwnaethant berfformio'n gwbl ragorol yn Rio. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn hanfodol bod cyfleusterau chwaraeon da ar gael i bobl ifanc i hyfforddi ynddynt? Rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol o hanes cronfa ddŵr Llanisien yng Ngogledd Caerdydd. Enillodd Hannah Mills, sydd o Fro Morgannwg, fedal aur yn Rio gyda Saskia Clark yng nghamp hwylio 470 y merched, a dyna lle dysgodd hi sut i hwylio—yng nghronfa ddŵr Llanisien. Mae nifer o forwyr eraill o glwb hwylio Llanisien hefyd wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd mewn hwylio proffesiynol, gan gynnwys fy etholwr, Sean Evans, a oedd hefyd yn Rio fel hyfforddwr hwylio Olympaidd.

A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod llwyddiannau mawr clwb hwylio Llanisien, a oedd yn cynnig hwylio i'r holl ysgolion lleol? Yn anffodus, mae cronfa ddŵr Llanisien yn awr wedi cael ei draenio ac nid yw’n weithredol. Ond, dan berchnogaeth newydd Dŵr Cymru, rydym yn gobeithio y bydd yn cael ei hadfer i'w hen ogoniant. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud popeth o fewn ei allu i annog Dŵr Cymru i ailadrodd cyn ogoniannau cronfa ddŵr Llanisien pan oedd wedi ei llenwi?

A gaf i sôn wrth Ysgrifennydd y Cabinet am gyflawniadau arbennig y Maindy Flyers, wedi’u lleoli yn etholaeth fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone? Cafodd fy etholwyr, Owain Doull ac Elinor Barker, ill dau fedalau aur yn Rio ac, wrth gwrs, Geraint Thomas hefyd mewn dwy Gêm Olympaidd flaenorol. Felly, mae cyflawniad y Maindy flyers, yn y bôn, yn rhagorol. Cafodd yr athletwyr hyn anogaeth gan eu hysgolion, yr ysgolion cyfun lleol, ond cawsant hefyd gyfleoedd i hyfforddi. Dyna'r hyn yr ydym am ei ymestyn i bawb. Felly, ni wn a oes ganddo unrhyw sylwadau eraill i’w gwneud ar yr estyniad ehangach hwnnw o gyfleusterau ac anogaeth.

Wel, rwy’n meddwl bod llwyddiant Hannah Mills a Saskia Clark yn yr hwylio 470 yn rhyfeddol. Maent yn ymuno â grŵp unigryw iawn o ferched Cymru sydd wedi eu coroni'n bencampwyr Olympaidd, ac sy’n cynyddu'n gyson. Mae’r rhain yn cynnwys Barker, Jones, Mills, Irene Steer a Nicole Cooke. Ac, hefyd, wrth gwrs, yn y tîm beicio ymlid, gwnaeth Owain Doull ac Elinor Barker, sydd ill dau'n hanu o’r un clwb beicio, y Maindy Flyers yng Nghaerdydd, berfformio’n hynod o dda. Rwy’n meddwl mai Owain oedd yr ieuengaf o'r pedwarawd o ddynion, ac fe'i disgrifiwyd gan Syr Bradley Wiggins fel y beiciwr mwyaf dawnus ers Geraint Thomas. Mae hynny'n dipyn o glod i'w roi gan feiciwr gorau’r byd—y beiciwr cyfredol. Wrth gwrs, fe wnaeth Elinor helpu Tîm GB y merched i drechu pencampwyr byd yr UDA gyda thrydedd record byd yn y ras medal aur. Cyflawniadau eithaf anhygoel.

Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r gwaith y mae'r Aelod ei hun wedi ei wneud o ran arbed cronfa ddŵr Llanisien. Hoffwn gofnodi pa mor ddiolchgar yr wyf fod gan yr etholaeth y mae’n ei chynrychioli Aelod mor ymroddedig, sy'n benderfynol o agor cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Cyfraniad arall mawr y mae chwaraeon yn ei wneud i fywyd yn aml yw helpu pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg ffurfiol, neu sydd wedi ymddieithrio o addysg, i ailddarganfod dysgu trwy ddisgyblaeth chwaraeon. Ar gyfer pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio, mae'n aml yn anodd iddynt weld y coed gan brennau. Ond, trwy chwaraeon a chymryd rhan ynddynt yn rheolaidd, gallant wneud hynny, a dyna swyddogaeth arall y mae ein cyrff llywodraethu cenedlaethol, Chwaraeon Cymru, a chlybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru, yn ei gwneud.

Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr am hynna. Rydym mewn gwirionedd wedi cyrraedd amser ychwanegol, nid fod gennyf unrhyw bwerau Fergie, ond dyna ni.

6. 6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plismona a Throsedd

Symudwn ymlaen at eitem 6, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Heddlua a Throsedd. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6098 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plismona a Throsedd sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Troseddau Rhywiol 2003, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i esbonio cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Dechreuaf drwy gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am eu gwaith craffu ar y materion hyn, ac rwy’n nodi nad yw’r pwyllgor wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Heddlua a Throsedd i'r Senedd ar 10 Chwefror 2016, a disgwylir iddo gael Cydsyniad Brenhinol erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf. Mae'r Bil yn ceisio datblygu hyder mewn plismona, cryfhau'r amddiffyniadau ar gyfer pobl sy'n agored i niwed sy'n dod i gysylltiad â'r heddlu, sicrhau bod gan yr heddlu ac asiantaethau eraill sy'n gorfodi'r gyfraith y pwerau sydd eu hangen arnynt i atal, canfod ac ymchwilio i droseddau, a diogelu plant a phobl ifanc ymhellach rhag camfanteisio rhywiol.

Mae'r Bil mewn naw rhan. Mae Rhan 4 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i bwerau'r heddlu, yn benodol y pwerau o dan adrannau 135 a 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Ceir cymal yn Rhan 9 sy’n cynnwys diwygiad i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 o ran troseddau camfanteisio’n rhywiol ar blant. Ceisir caniatâd y Cynulliad ar gyfer y darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â phwerau'r heddlu o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a'r darpariaethau sy'n ymdrin â materion yn ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant.

I gychwyn â phwerau’r heddlu o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, rwy’n cefnogi'r darpariaethau ym Mhennod 3, Rhan 4, sy’n ceisio gwella’r ymateb o ran iechyd a’r cymorth sydd ar gael i bobl sy'n dioddef o salwch meddwl. Rwy’n croesawu'r ddarpariaeth yng nghymal 79, sy'n gwahardd y defnydd o gelloedd yr heddlu fel mannau diogel ar gyfer plant ac sy’n cyfyngu eu defnydd ar gyfer oedolion. Nid yw dalfa'r heddlu yn lle addas ar gyfer oedolion sy'n agored i niwed ac sy’n dioddef o salwch meddwl, ac yn sicr nid yw’n lle priodol ar gyfer plant. Croesewir hefyd ehangu’r lleoedd y’u diffinnir fel lleoedd diogel, ac mae lleihau’r cyfnod hwyaf o gadw yn y ddalfa, yn cael croeso hefyd. Mae'r darpariaethau hyn yn unol â'r egwyddorion a nodir yn yr adroddiad 'Gofal Argyfwng Concordat Iechyd Meddwl’, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid ym mis Rhagfyr y llynedd.

Ceir darpariaethau pwysig hefyd sy'n ymdrin â materion yn ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant. Mae cymal 144 yn diwygio adran 51 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 i egluro bod delweddau sy'n cael eu 'ffrydio neu eu trosglwyddo fel arall’ yn dod o dan yr ystod o droseddau a nodir o dan adran 48 i adran 50 o Ddeddf 2003. Mae'r troseddau cyfredol yn cyfeirio at gofnodi delweddau yn unig ac, felly, gellid dadlau eu bod yn eithrio darllediad byw, ffrydio neu drosglwyddo delweddau.

Rwyf o’r farn bod y darpariaethau a amlinellir uchod yn ymwneud â Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Troseddau Rhywiol 2003 yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, rwy’n fodlon y dylai'r darpariaethau hyn gael eu gwneud yn y Bil ar gyfer Cymru a Lloegr fel ei gilydd, er mwyn sicrhau bod yr agweddau datganoledig a heb eu datganoli ar fynd i'r afael â'r materion hyn yn gwbl integredig. Ein blaenoriaeth yw mynd i'r afael â'r materion hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl, a chydweithio'n agos â'r Swyddfa Gartref ac adrannau eraill Llywodraeth y DU, gan rannu arferion gorau o Gymru a chyfrannu at weithredu ar y materion pwysig hyn ar draws y DU gyfan.

Bydd caniatáu i’r darpariaethau hyn fod yn gymwys yng Nghymru yn gwella gallu’r heddlu, iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid cysylltiedig i barhau i weithio gyda'i gilydd i ymdrin â materion yn ymwneud ag iechyd meddwl a chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Gofynnaf felly i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cynigiaf y cynnig.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes unrhyw siaradwyr yn y ddadl hon. Felly, rwyf am alw pleidlais ar y cynnig. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Diolch. Caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 7. Dadl: Siarter Ddrafft y BBC

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Symudwn ymlaen at eitem 7 ar ein hagenda, sef y ddadl ar siarter ddrafft y BBC. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig y cynnig. Alun.

Cynnig NDM6097 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Siarter Frenhinol ddrafft y BBC a Chytundeb Fframwaith drafft y BBC.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dywedais pan aethom i'r afael â'r materion hyn y tro diwethaf cyn toriad yr haf y byddwn yn rhoi cyfle i Aelodau drafod siarter ddrafft y BBC yn amser y Llywodraeth pan fyddai’r siarter yn cael ei chyhoeddi. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod y siarter wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 15 Medi, ac mae hwn yn gyfle i Aelodau fynegi eu barn ar y darpariaethau a gynhwysir yn y drafft hwnnw. Ond mae hefyd yn gyfle i mi fel Gweinidog, ac i eraill glywed, ond hefyd i wrando ar yr hyn sydd gan Aelodau i'w ddweud am y darpariaethau yn siarter y BBC.

Mae'r BBC yn un o’r sefydliadau cenedlaethol pwysicaf sydd gennym yn y Deyrnas Unedig. Mae'n dod â ni at ein gilydd ac mae'n rhoi cyfle i ni weld ein hunain yn cael ein portreadu ar y sgrin, a hefyd i gael dadl a thrafodaeth a chael gwybodaeth am ein bywyd cenedlaethol. Mae'n ddyletswydd arnom ni fel gwleidyddion a chynrychiolwyr etholedig i gydnabod y rhan yr ydym yn ei chwarae wrth gefnogi a galluogi'r BBC i barhau i gyflawni'r swyddogaethau hyn. Drwy wneud hynny, mae hefyd yn bwysig, rwy’n credu, i ni gydnabod yr hyn sy'n iawn ac yn briodol i ni beidio â’i wneud hefyd. Nid yw'n iawn nac yn briodol i unrhyw wleidydd etholedig, yn fy marn i, gam-drin neu fwlio newyddiadurwyr y BBC am nad ydynt yn dilyn y llinell y byddai'n well gan rai ohonom iddynt ei dilyn; am nad ydynt yn sicrhau bod y BBC yn ddarlledwr y wladwriaeth yn hytrach na darlledwr cyhoeddus, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i bob un ohonom, beth bynnag yw ein barn breifat, sicrhau bod newyddiadurwyr y BBC ac uniondeb y BBC yn cael ei ddiogelu a'i gyfoethogi bob amser.

Y datganiad ysgrifenedig a ryddhawyd gennyf yr wythnos diwethaf oedd ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru i’r siarter ddrafft hon a'r cytundeb fframwaith. Yr hyn a geisiais ei wneud yn y datganiad hwnnw oedd nodi'r meysydd hynny lle y mae'r siarter wedi’i gwella'n sylweddol, fel ei bod yn gorchymyn y BBC i ddarparu mwy ar gyfer Cymru ac yn galluogi pobl Cymru drwy'r Cynulliad Cenedlaethol hwn—a’r Cynulliad Cenedlaethol yn hytrach na Llywodraeth Cymru—i ddwyn y BBC ac Ofcom i gyfrif mewn modd mwy llym. Mae'r rhain yn faterion yr ydym wedi eu trafod yn y lle hwn am rai blynyddoedd.

Mae'n amlwg bod yna rai materion na phenderfynwyd arnynt hyd yma y byddem yn dymuno eu datrys cyn i'r siarter gael ei chwblhau. Ddoe, cyfarfûm â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Gemau Olympaidd, y Cyfryngau a Chwaraeon a chawsom, yn fy marn i, gyfarfod da iawn i drafod ein gweledigaethau gwahanol, weithiau, ond gweledigaethau a rennir ar gyfer dyfodol y BBC. Rwy'n hyderus iawn y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu gweithio gyda'i gilydd i sicrhau’r darpariaethau a fydd yn galluogi'r BBC i wasanaethu poblogaeth gyfan y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru.

Rydym wedi, wrth gwrs, cymryd rhan yn llawn yn y broses o adolygu’r siarter dros y misoedd diwethaf. Mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth y gwnaethom gytuno arno y llynedd yn nodi sut y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth y BBC a Gweithrediaeth y BBC yn parhau i gydweithio a gweithio ar y materion hyn. Nid yw'r siarter ddrafft a'r cytundeb fframwaith yn cynnwys popeth yr ydym ni a gweinyddiaethau datganoledig eraill wedi galw amdano am ystod ein trafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y byddem yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw heb ein mewnbwn uniongyrchol i'r adolygiad o’r siarter yn ystod y misoedd diwethaf. Yr oeddwn yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Gwladol am gywair ei gohebiaeth ag Aelodau yn y fan yma wrth fynd i'r afael â'r materion hynny a mynd i'r afael â'r berthynas waith rhwng y ddwy Lywodraeth. Mae ein cyfraniad at y broses adolygu siarter wedi bod yn hanfodol ac, yn fy marn i, mae wedi sicrhau bod buddiannau Cymru wedi’u gwarchod yn dda.

Mae'r siarter yn rhoi pwrpas cyhoeddus cryfach o lawer i’r BBC—i adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol Cymru a chenhedloedd a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig. Wrth wneud hynny, mae’n rhaid iddi yn awr gefnogi economïau creadigol ar draws y DU hefyd, gan gynnwys y diwydiannau creadigol ffyniannus sydd gennym yma yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y gallwn ddisgwyl mwy o gynnwys a rhaglenni, a chynnwys a rhaglenni gwell, wedi’u cynhyrchu ar gyfer Cymru, am Gymru ac yng Nghymru, ar draws y BBC gyfan.

Rwy'n falch iawn bod y siarter yn rhoi ymrwymiad o'r newydd i wasanaethau yn y Gymraeg hefyd. Mae'r cytundeb fframwaith sy'n cyd-fynd â’r siarter yn ailddatgan partneriaeth y BBC ag S4C,

sy’n ‘cydweithio i gadw a diogelu annibyniaeth y ddwy'.

Mae hefyd yn darparu setliad ariannol cryf mewn cysylltiad â’r elfen o gyllid S4C sy’n dod o ffi'r drwydded, sy'n gwbl hanfodol os yw'r annibyniaeth i gael ei diogelu yn y dyfodol ac os yw'r annibyniaeth honno yn mynd i fod yn annibynniaeth ystyrlon.

Er bod y setliad yn darparu sefydlogrwydd ariannol i S4C hyd at 2022, mae'r ffaith nad oes cynnydd yn y cyllid a dim lwfans ar gyfer chwyddiant yn golygu y bydd y sianel yn wynebu heriau sylweddol yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd y ddau beth hyn i S4C ac mae wedi bod yn glir ynghylch yr angen i ddiogelu annibyniaeth S4C ac i sicrhau ei sefyllfa ariannol. Felly, byddaf yn gofyn i Aelodau gefnogi gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth. Byddwn ni, dylwn i ddweud, yn cefnogi bob un o'r gwelliannau i'r cynnig y prynhawn yma.

Rwyf yn croesawu bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal adolygiad cynhwysfawr o S4C, sydd yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi gwthio amdano’n barhaus ac yn rhywbeth y mae’r ddeddfwriaeth yn mynnu y dylai ddigwydd bob pum mlynedd. Yn ein barn ni, dylai hyn fod wedi ei gynnal ochr yn ochr â'r adolygiad o siarter y BBC, yn hytrach nag ar ei ôl, ond rydym yn cydnabod y sefyllfa bresennol. Byddem wedi hoffi gweld adolygiad ehangach, mwy sylfaenol o anghenion Cymru o ran darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Fodd bynnag, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau y bydd yr adolygiad cynhwysfawr o S4C, yr ydym yn gobeithio ac yn disgwyl iddo gael ei gynnal y flwyddyn nesaf, yn gynhwysfawr ac yn cryfhau S4C yn y dyfodol.

Fy mhryder, Ddirprwy Lywydd, wrth edrych ar y siarter ddrafft a'r cytundeb fframwaith oedd y byddai'n adlewyrchu'r ymrwymiadau y mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tony Hall, wedi eu gwneud yn ei lythyr at y Prif Weinidog ar 12 Mai, ac sydd wedi’u trafod yn y lle hwn ar achlysuron blaenorol. Mae hyn yn cynnwys cydnabod bod yn rhaid i'r portread a’r gynrychiolaeth o Gymru a'r gwledydd datganoledig eraill wella. Rydym hefyd yn cefnogi'r bwriad i gael golygydd comisiynu drama sy'n gyfrifol am bob cenedl ac rydym yn gwbl ffyddiog y bydd hyn yn digwydd, o ystyried datblygiad Caerdydd fel canolbwynt drama’r BBC.

Mae Arglwydd Hall hefyd wedi gwneud nifer o addewidion cyhoeddus pwysig i Gymru, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer gwella gwasanaethau ac ar gyfer cynnwys mwy pwrpasol. Rwy'n fodlon bod cenhadaeth y BBC, ei dibenion cyhoeddus a’i chylch gwaith creadigol yn cael eu cryfhau yn sylweddol yn y siarter ddrafft, gan roi gorchymyn clir ac effeithiol i’r BBC i ddarparu llawer mwy i Gymru. Felly, rwyf yn edrych ymlaen at weld ymrwymiadau'r Arglwydd Hall yn cael eu cyflwyno’n llawn. Gadewch i mi ddweud beth yr wyf yn ei olygu wrth hynny: rydym yn deall bod BBC Cymru a hefyd y BBC ar draws y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi targedau ar gyfer gwneud arbedion. Rydym yn disgwyl—ac rwy’n credu mai’r bwriad a nodwyd gan yr Arglwydd Hall oedd—y dylai'r cyllid ychwanegol fod yn ychwanegol, yn gynnydd net ac nid dim ond yn lle rhai o'r arbedion y galwyd amdanynt. Ac mae hynny’n arwydd pwysig o uniondeb yr addewidion a wnaed gan y BBC. Rydym yn disgwyl gallu credu yn addunedau’r BBC heb eu cwestiynu, a heb archwilio’r print mân, efallai. Felly, rydym ni yn disgwyl gweld yr adnoddau ychwanegol net hyn yn cael eu cyflwyno i BBC Cymru dros y cyfnod sydd i ddod.

Rydym yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd Ken MacQuarrie, a benodwyd yr wythnos diwethaf yn gyfarwyddwr gwledydd a rhanbarthau y BBC, yn arwain ar ymdrech ragweithiol a phwrpasol ar y cyd i gefnogi BBC Cymru Wales i gyflawni dros Gymru a'r gwledydd datganoledig eraill.

Yn ei chynlluniau blynyddol, bydd yn rhaid i’r BBC yn awr nodi sut y bydd yn cyflawni ei dyletswyddau newydd, gan gynnwys gwella gwasanaethau i Gymru. Mae'n ofynnol iddi adrodd yn fanwl ar ba mor dda y mae'n cyflawni yn erbyn y cynlluniau hyn a bydd Ofcom yn gallu rheoleiddio i sicrhau bod y BBC yn gwneud mwy os yw’r nodau y mae'n eu gosod i’w hunan yn annigonol neu os nad yw’n llwyddo i’w cyflawni. Yn hanfodol, bydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr hefyd bwerau i graffu ar y BBC, i’w galw i ymddangos gerbron pwyllgorau ac i’w dwyn i gyfrif yn uniongyrchol, sy’n rhywbeth, nad oedd gan neb ond Senedd y DU yr hawl i’w wneud yn y gorffennol. Mae'n iawn ac yn briodol bod pob un o Seneddau’r Deyrnas Unedig yn chwarae rhan wrth ddwyn ein sefydliadau yn y DU i gyfrif, ac mae’n rhaid i’r Senedd hon chwarae ei rhan yn hynny o beth hefyd. Rwy'n credu mai un o'r materion hollbwysig y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef fel seneddwyr yw bod atebolrwydd rhyng-sefydliadol yn cryfhau’r Deyrnas Unedig ac yn cryfhau sefydliadau’r Deyrnas Unedig. Rwy’n gobeithio y bydd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn hytrach nag i’r Llywodraeth hon, ac rwy’n credu y bydd hynny'n gam pwysig ymlaen.

Bydd gan fwrdd newydd y BBC aelod anweithredol dros Gymru, a’i swyddogaeth fydd sicrhau bod y BBC yn deall buddiannau Cymru ac yn gweithredu arnynt o’r cychwyn cyntaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan bwysig yn y broses o recriwtio’r aelod hwnnw i Gymru, ac yn awr mae angen ein cydsyniad ni cyn y gellir gwneud y penodiad hwnnw. Felly, bu gwir gynnydd ar nifer o faterion pwysig.

O ystyried yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud, ac yr wyf yn cytuno’n llwyr ag ef, ynghylch pa mor bwysig yw hi bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn chwarae mwy o ran wrth ddwyn y BBC i gyfrif, a gan y bydd gan Lywodraeth Cymru ran uniongyrchol i’w chwarae yn y broses o benodi aelod bwrdd y BBC, a ydych chi’n cytuno â mi y byddai'n ddymunol i bwyllgor diwylliant y Cynulliad chwarae rhan uniongyrchol wrth gynnal gwrandawiadau ar y rhai sy’n gwneud cais am y swydd honno?

Yn amlwg, mae sut y mae'r Cynulliad yn cynnal ei fusnes yn fater i'r Cynulliad ac nid yn fater i’r Llywodraeth [Aelodau'r Cynulliad: 'O.']. Byddwn yn petruso—byddwn yn petruso—i sefyll yma fel aelod o'r Weithrediaeth ac awgrymu i bwyllgorau sut y maent yn dwyn y Weithrediaeth ac eraill i gyfrif. Rwy’n credu bod llawer o dalent, gwybodaeth a sgiliau yn y Siambr hon a byddwn yn gwahodd yr holl dalent honno i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu datblygu yn briodol—[Torri ar draws.] Ildiaf i arweinydd y Ceidwadwyr os yw'n dymuno i mi wneud hynny.

Hoffwn ategu'r hyn a ddaeth o feinciau cefn y Blaid Lafur. Rwyf yn credu ei bod yn egwyddor sylfaenol, pan fyddwch wedi treulio rhan fawr o'ch araith yn siarad am swyddogaeth y Cynulliad yn craffu ar y BBC, y gallai Llywodraeth Cymru edrych ar ei gweithredoedd ei hunan, a darparu ateb yma a fyddai’n ymgorffori'r pwyllgor diwylliant, neu un o gyrff y Cynulliad hwn, yn y broses benodi honno, fel yr ydych yn ei wneud gyda chomisiynwyr ar hyn o bryd.

Rwyf yn dweud wrthych—nid wyf yn anghytuno â hanfodion ei bwynt—ond rwyf am ddweud wrtho ei bod yn briodol mai materion i'r Cynulliad Cenedlaethol ac nid i'r Llywodraeth yw’r materion hynny. Mae'n gwbl hanfodol i mi fod y rhaniad rhwng y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa yn cael ei barchu a bod y ddeddfwrfa ei hun yn penderfynu sut y mae'n gweithredu, yn hytrach na fy mod i’n gwneud awgrymiadau, a allai neu a allai beidio â chael eu derbyn yn dda.

Fe orffennaf drwy ddweud hyn: rwyf yn gobeithio ein bod yn sefydlu ffordd newydd ymlaen; ffordd ymlaen a fydd yn sicrhau ein bod yn parhau i gael darlledwr cyhoeddus bywiog yn y Deyrnas Unedig; darlledwr sy'n adlewyrchu bywyd y Deyrnas Unedig gyfan, ble bynnag yr ydym a ble bynnag yr ydym yn byw; darlledwr sy'n adlewyrchu y Deyrnas Unedig iddi ei hun ac sy’n hyrwyddo’r Deyrnas Unedig i'r byd. Mae materion pwysig y mae angen inni fynd i'r afael â nhw a byddwn yn parhau i fod angen mynd i'r afael â nhw yn dilyn y siarter hon, o ran adolygiad canol tymor, setliad ffi'r drwydded a newidiadau eraill i'r cytundeb fframwaith. Ond yr hyn sydd gennym yn y fan yma yw cyfle i sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn parhau yn y Deyrnas Unedig, yn agored ac yn rhydd; i sicrhau bod gennym atebolrwydd ac i sicrhau bod yr atebolrwydd hwnnw i sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig, ac nid dim ond i Lywodraethau'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod hwnnw'n egwyddor bwysig yr ydym wedi gwneud cynnydd arni yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan yr Aelodau i'w ddweud. Edrychaf ymlaen at wrando ar yr hyn sydd gan yr Aelodau i'w ddweud a byddaf yn sicrhau bod y ddadl y prynhawn yma yn cael ei dwyn i sylw'r Ysgrifennydd Gwladol ac eraill sy’n ystyried y materion hyn. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n parhau i gyfrannu yn y ffordd y maent wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf i sicrhau ein bod, fel sefydliad yn y fan yma, yn gallu dwyn pob un o'n sefydliadau cenedlaethol ledled y DU i gyfrif ar ran pobl Cymru.

Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i’r cynnig ac rydw i’n galw ar Bethan Jenkins i gynnig y pum gwelliant a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r cyfeiriadau cadarnhaol at S4C yng Nghytundeb Fframwaith Drafft y BBC ac yn enwedig y cyfeiriad at y nod a gaiff ei rannu rhwng S4C a'r BBC o gydweithio i gydnabod ac amddiffyn eu hannibyniaeth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr adolygiad arfaethedig o gylch gwaith a chyllid S4C, a ddisgwylir yn 2017, yn ystyried lefel y cyllid, a'r dull mwyaf priodol o gyllido S4C yn yr hirdymor i amddiffyn ei hannibyniaeth a sicrhau y gall gynhyrchu rhaglenni o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd Cymru am flynyddoedd i ddod.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi, â phryder, y goblygiadau i BBC Cymru o ran peidio â newid ffi’r drwydded.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y BBC i sicrhau y caiff adnoddau eu dyrannu i anrhydeddu'r ymrwymiadau a wnaed yn Siarter Frenhinol Ddrafft y BBC i gynulleidfaoedd yng Nghymru, gan gynnwys:

(a) bod y BBC yn adlewyrchu ac yn cynrychioli cymunedau amrywiol y DU, a'i bod yn codi ymwybyddiaeth o'r gwahanol ddiwylliannau a safbwyntiau yn ei chymdeithas;

(b) bod yn rhaid i'r BBC gefnogi ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifoedd y DU, a pharhau i gefnogi rhaglenni a gynhyrchir yn Gymraeg; ac

(c) bod safbwyntiau a diddordebau gwahanol y cyhoedd a chynulleidfaoedd ledled y DU yn cael eu hystyried wrth i'r BBC wneud penderfyniadau.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd unrhyw reoleiddiwr y BBC yn y dyfodol hefyd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5.

Diolch. Mae'r siarter frenhinol ddrafft a chytundeb fframwaith drafft y BBC yn cyrraedd ar adeg pan fydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Llywodraeth bellach swyddogaeth ymgynghori ffurfiol o ran y BBC a'i dyfodol. Felly, rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn defnyddio'r swyddogaeth hon, a grëwyd yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth diweddar, er mwyn sicrhau bod llais Cymru a phryderon cynulleidfaoedd Cymru yn cael eu clywed wrth wraidd y Llywodraeth ac yma yn y Senedd. I raddau helaeth, caiff hynny ei gydnabod yn y penderfyniad diweddar i greu’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd. Rwy’n falch o fod yn Gadeirydd arno, ond mae hefyd yn cyflwyno cyfrifoldeb newydd a phwysig i graffu’n llawn ar sut y caiff y BBC ei hariannu, yn ogystal â sut y mae’n darparu ei gwasanaethau yma yng Nghymru. A gan ein bod nawr wedi crybwyll yr Aelod dros Gymru ar y bwrdd, rwy’n siŵr bod hynny’n rhywbeth y gallwn ni, fel pwyllgor, ei drafod ymhellach—mae'n digwydd gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru. Roeddwn i yn un o’r Aelodau Cynulliad a benododd yr archwilydd cyffredinol blaenorol, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn siŵr y gallwn ni osod cynsail ar ei gyfer gyda’r pwyllgor newydd hwn.

Ond mae'r siarter wedi dod ar adeg pan fo'r ddadl ynghylch sut y mae bywyd yng Nghymru yn cael ei adlewyrchu gan y BBC, ynghyd â'i bortread ar draws y rhwydwaith, yn dod i'r amlwg unwaith eto. Bydd fy mhwyllgor i yn falch o gael cynnal proses graffu gyda Tony Hall, yn ogystal â BBC Cymru, fel eu bod yn gallu ein hateb yn uniongyrchol ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud yma yng Nghymru. Fel y dywedodd y Gweinidog, rydym wedi derbyn ymrwymiad o gyllid ychwanegol ar draws Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond, hyd yma, nid ydym wedi cael unrhyw fanylion penodol ynghylch yr arian hwnnw, ac mae'n rhaid i ni fod yn sicr—mae’n rhaid i ni fod yn sicr—fel y dywedodd y Gweinidog, fod hwn yn ychwanegol at yr hyn y bydd Cymru yn ei gael, nid wedi’i greu o’r arbedion y mae’n rhaid i BBC Cymru ddod o hyd iddynt yn ffi'r drwydded ar hyn o bryd.

Felly, mae sicrhau bod gan Gymru bresenoldeb ystyrlon ar y BBC wedi cael hwb newydd ers i’r gorfforaeth golli un o’i rhaglenni blaenllaw yn ddiweddar—rwy'n siwr y bydd rhai ohonoch wedi cael llond bol o glywed amdani erbyn hyn—'The Great British Bake off'. Rwyf yn ei gwylio weithiau, ond nid oes gen i’r un obsesiwn â rhai pobl, ond mae wedi gwneud i lawer o bobl feddwl. Os na all fforddio i ddal gafael ar rywbeth sydd wedi tyfu yn rhan annatod o arlwy’r BBC, a all felly barhau i fod yn bopeth i bawb, neu wedyn bod mewn perygl o golli cynulleidfaoedd, gan eu gwthio oddi wrth y BBC? Rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn pwysig y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef ar gyfer Cymru hefyd.

Rydym wedi mynd i mewn—

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Ni fydd gennyf amser, mae'n ddrwg gennyf—fel arall, ni fyddaf yn llwyddo i ddod i ben.

Mae Plaid Cymru wedi cynnig pum gwelliant i gynnig Llywodraeth Cymru. Mae gwelliannau 1 a 2 yn ymwneud ag S4C. Rydym yn falch y cyfeirir yn gadarnhaol at y sianel yn y cytundeb fframwaith, yn enwedig nod cyffredin S4C a'r BBC o gydweithio i ddiogelu annibyniaeth ei gilydd. Byddem hefyd yn hoffi i Lywodraeth y DU sicrhau bod yr adolygiad o gylch gwaith a threfniadau ariannu S4C y flwyddyn nesaf yn ystyried y lefel a’r ffordd fwyaf priodol o’i hariannu yn y tymor hir. Felly, mae’n rhaid inni ystyried y DCMS—mae arian Llywodraeth y DU yn y pair yma hefyd. Felly, rydym eisiau iddi fod yn annibynnol, rydym eisiau iddi gael ei diogelu ac rydym ni eisiau iddi gyflwyno rhaglenni o ansawdd uchel am flynyddoedd i ddod. Dylai gwella ei chylch gwaith fynd beth o’r ffordd tuag at gyflawni hynny.

Felly, mae'r Cynulliad yn gwybod yn iawn pa mor bwysig yw S4C, nid yn unig i siaradwyr Cymraeg, ond i'r economi ehangach hefyd. Mae'r sianel wedi bod yn arbennig o lwyddiannus o ran cyflenwi swyddi sy'n talu'n dda mewn ardaloedd y tu allan i Gaerdydd, a hoffem weld mwy o hynny.

Rydym hefyd yn bryderus iawn am y drwydded arian gwastad, fel y soniais yn gynharach—y cytundeb arian gwastad o ran ffi'r drwydded. A fydd hynny’n effeithio ar yr ymrwymiadau a wnaed yn y siarter ddrafft i gynulleidfaoedd yng Nghymru? Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y mis hwn y bydd angen iddi ddod o hyd i arbedion o £9 miliwn bob blwyddyn erbyn 2022 er mwyn ymdopi â’r cytundeb arian gwastad o ran ffi’r drwydded. Mae cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, wedi dweud ei fod yn gobeithio cyfyngu ar yr arbedion mewn meysydd cynnwys i tua £3 miliwn dros bum mlynedd. Cawsom nifer o addewidion gan gyfarwyddwr cyffredinol y BBC ym mis Mai eleni, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer gwella gwasanaethau. Mae’n rhaid i'r arian newydd a addawyd fod yn ychwanegol, fel y dywedais yn gynharach, ac nid dim ond talu am ran neu’r cyfan o'r arbedion a amlinellwyd gan BBC Cymru Wales yn ei datganiad diweddaraf.

Fel yr ydym wedi clywed y Gweinidog yn ei ddweud, a byddaf yn gorffen gyda hyn, mae Ofcom bellach yn gyfrifol am sicrhau bod y BBC yn cyflawni ar yr ymrwymiadau a amlinellir yn y siarter. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen iddo ddeall beth y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl gan y BBC yn ystod cyfnod y siarter nesaf, a dyna pam yr wyf wedi gofyn i Ofcom ddod i’n pwyllgor i roi tystiolaeth glir o ran sut y maent yn gweld eu swyddogaeth o reoleiddio’r BBC yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn falch o fod wedi clywed mewn digwyddiad diweddar ym Mae Caerdydd y bydd aelod dros Gymru ar brif fwrdd canolog Ofcom, fel y gallwn gael mewnbwn yn y fan honno hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn enwedig gyda chwestiynau o ran lluosogrwydd y cyfryngau yma yng Nghymru, gydag anawsterau posibl mewn busnesau newydd—mae’r 'Port Talbot Magnet' wedi dweud na fydd yn gallu parhau fel papur newydd ar-lein ac argraffedig yn fy rhanbarth i—mae'n rhaid i ni barhau i roi pwysau, nid yn unig ar ddarlledwyr ond ar y cyfryngau yn gyffredinol, a dangos iddynt ein bod ni o ddifrif ac y byddwn yn eu dwyn i gyfrif. Diolch yn fawr.

A gaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl hon? Rwy’n gobeithio y bydd gweinyddiaethau gwledydd eraill y DU yn rhoi croeso yr un mor gynnes i'r siarter derfynol ag y gwnaeth Llywodraeth Cymru. Mae darllen datganiadau yr Ysgrifennydd Gwladol a'r Gweinidog wedi bod mor galongynhesol ag agor cerdyn Sain Folant Hallmark. Rydym hyd yn oed wedi clywed y Gweinidog yn cymeradwyo'r setliad ariannol cryf ar gyfer dyfodol S4C. Rwyf yn cael fy nhemtio i ofyn i chi, 'Pwy ydych chi, a beth ydych chi wedi'i wneud â'r Alun Davies go iawn?' [Chwerthin.] Yr hyn yr wyf yn hoffi meddwl sydd wedi digwydd, fodd bynnag, yw cam ymlaen o ran aeddfedrwydd y berthynas rhwng y ddwy Lywodraeth. Wyddoch chi, gadewch i ni fod ychydig bach yn hael yn y fan yma. Ar y mater hwn, sydd yn amlwg yn fater nad yw wedi’i ddatganoli, mae’r ddwy Lywodraeth wedi bod yn awyddus i ddangos pa mor dda y maent yn gweithio gyda'i gilydd, a gall DCMS, efallai, ddangos y ffordd i rai o adrannau Llywodraethol eraill y DU ynghylch sut i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cymru.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yma yn y Cynulliad hefyd yn croesawu'r gwelliannau yn y siarter ddrafft a’r cytundeb. Nid fyddaf yn ailadrodd bob un ohonynt eto. Rwy'n meddwl bod canolbwyntio o’r newydd ar hawliau cenhedloedd i gynrychiolaeth deg, yn nau ystyr y gair, yn brawf diddorol i’r Cynulliad. Wrth gefnogi holl welliannau Plaid, rwy’n mynd i ganolbwyntio ar yr olaf ohonynt.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am atebolrwydd deuol ers sawl blwyddyn bellach, ac rydym yn croesawu'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddwy Lywodraeth. Ond beth sy'n digwydd nesaf? A fydd astudiaeth achos o werth a ffurf atebolrwydd heb gyfrifoldeb uniongyrchol? Oherwydd nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfrifoldeb uniongyrchol am y BBC, nac unrhyw ddarlledwr; nid oes gan y Cynulliad unrhyw gyfrifoldeb ychwaith. Eto i gyd mae Llywodraeth y DU wedi rhoi’r dasg o gymeradwyo aelod Cymru o fwrdd newydd y BBC i Lywodraeth Cymru. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi nad yw cymeradwyo yr un fath â phenodi, ond mae mewn gwirionedd yn golygu feto ar benodiad, ac mae hyn yn edrych yn debyg i ddatganoli cyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru am benderfyniad ar faes y derbynnir y bydd cyn bo hir yn faes cymhwysedd a gedwir yn ôl. Os felly, byddai’r Ceidwadwyr Cymreig, ar yr adeg hon, fel yr ydych wedi clywed, yn eithaf brwdfrydig dros y syniad o gael gwrandawiad cadarnhau ar gyfer yr aelod hwnnw o'r bwrdd, gan ganiatáu i'r Cynulliad graffu ar benderfyniad gan Lywodraeth Cymru neu, yn well fyth, mewn gwirionedd, i fod yn rhan o’r broses o wneud y penderfyniad hwnnw.

O ran gosod adroddiadau a rhoi tystiolaeth i bwyllgorau’r Cynulliad—hoffwn i chi ystyried pedwar peth, Weinidog. Y cyntaf—ac nid wyf yn credu ein bod yn mynd i anghytuno ar hyn—yw y dylai pob darlledwr perthnasol ateb i'r Cynulliad hwn mewn cysylltiad â rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus, sydd yn anochel yn ymdrin â meysydd pwnc datganoledig. Rwy’n sylweddoli mai trafod y siarter ydym ni heddiw, wrth gwrs, ond yr wyf yn deall o ddadleuon yn y pedwerydd Cynulliad fod yna awydd i’r gofyniad hwn beidio â chael ei gyfyngu i'r BBC. Os yw rhoi mwy o ystyriaeth i'r genedl yn mynd i fod yn un o ofynion trwydded y BBC, yna dylai fod felly ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill hefyd. Efallai mai mater i Ofcom yw hwn, maes o law, ond roeddwn yn falch o glywed Bethan yn cadarnhau y bydd aelod Cymru ar fwrdd Ofcom hefyd.

Yn ail, mae'r targed ar gyfer mwy o gynhyrchu y tu allan i Lundain, cryfhau diben cyhoeddus y genedl i adlewyrchu effaith a chyfraniad y BBC i’r economi greadigol yng Nghymru, a’r cadarnhad ynglŷn â chynyrchiadau yn Gymraeg, wrth gwrs, eisoes yn siarad yn uniongyrchol â chymhwysedd derbyniedig y Cynulliad i graffu ar ddatblygiad economaidd Cymru a'r Gymraeg. A fydd gan y BBC yr hawl i wrthod ateb unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi’u cyfyngu’n llym i’r pynciau datganoledig hynny? A gawn ni ein cywilyddio i wisgo rhyw fath o 'Welsh Not’ ar gyfer pwerau a gadwyd yn ôl o amgylch ein gyddfau os ydym yn llithro dros y llinell? Rwyf wir yn gobeithio na fydd hynny’n digwydd.

Yn drydydd, beth sy'n digwydd i adroddiadau craffu y Cynulliad? Rwyf wedi codi hyn gyda Bethan o'r blaen. Roeddwn yn falch iawn o weld yr Ysgrifennydd Gwladol, mewn gwirionedd, yn cyfeirio'n benodol at ein hadroddiadau yn ei datganiad, ond rwy’n credu bod mwy o waith i’w wneud o hyd i egluro sut y gall ein canfyddiadau ddwyn yr un pwysau â rhai'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, y pwyllgor dethol diwylliant, neu'r pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi priodol. Wrth gwrs, rydym ni eisiau craffu ar y BBC, nid dim ond BBC Cymru. Mae'n rhwydwaith nad yw wedi adlewyrchu Cymru i weddill y DU—diffyg sylfaenol o ran ei diben gwasanaeth cyhoeddus i addysgu, yn fy marn i.

Yn olaf, o ran annibyniaeth. Weinidog, fe wnaethoch chi ddechrau â hynny. Fi yw'r cyntaf i wingo wrth glywed sôn am unrhyw fath o ymyrraeth wleidyddol yn hyn o beth, felly mae angen rhywfaint o gymorth arnaf gydag adran 3 y siarter. Mae hon yn datgan bod yn rhaid i'r BBC fod yn annibynnol ar bob mater— penderfyniadau golygyddol a chreadigol, yr amseroedd a'r modd y mae'n cyflenwi ei hallbwn. Nawr, byddwn i’n dweud bod yr amseroedd sgrinio a'r llwyfannau a ddewisir yn berthnasol wrth graffu ar benderfyniadau sy'n honni eu bod yn gwella’r gynrychiolaeth o Gymru ar y rhwydwaith, yn enwedig o ystyried bod y cynulleidfaoedd yn lleihau. Felly, a fyddai cwestiynau ar y meysydd pwnc hynny, ac unrhyw argymhellion dilynol yn seiliedig ar hynny, yn cael eu hystyried fel ymyrraeth ag annibyniaeth, fel y’i diffinnir gan y siarter?

Rwy'n credu bod atebolrwydd heb gyfrifoldeb uniongyrchol yn dir newydd, ac rwyf yn edrych ymlaen at droedio’r tir hwnnw, ond rwy’n gobeithio nad yw'n mynd i fod yn tynnu sylw oddi wrth y pwynt hanfodol: y dylai'r BBC gynrychioli pob rhan o'r DU yn deg, a phob rhan o Gymru yn deg. Ni ddylent ofni craffu o unrhyw ffynhonnell os ydynt yn gwneud pethau'n iawn. Diolch.

Rwy'n falch o ddilyn cyfraniad nodweddiadol ystyrlon gan Suzy Davies ar hyn. Rwy'n credu bod hon yn adeg arwyddocaol ar gyfer datganoli gan fod siarter y BBC yn cwmpasu maes nad yw wedi’i ddatganoli i'r Cynulliad hwn, ac mae Bil Cymru yn gwneud ati i'n hatgoffa ni o hynny—mewn ffordd ychydig yn ddi-alw-amdano, yn fy marn i. Ond, serch hynny, mae'n dangos sut yr ydym yn gallu goresgyn yr anawsterau hynny, gan ei fod yn cydnabod swyddogaeth i'r BBC ac i Ofcom wasanaethu cynulleidfaoedd Cymru, a gall y cymunedau yr ydym ni yn eu cynrychioli weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ar draws y BBC. Fel y mae’r llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Karen Bradley, yn ei gwneud yn glir, bydd Lywodraeth y DU yn cymryd sylw o’r ddadl y prynhawn yma wrth benderfynu ar ffurf derfynol y siarter a'r cytundeb fframwaith a fydd yn llywodraethu'r BBC dros yr 11 mlynedd nesaf. Rwy'n credu bod gwelliannau pwysig o gymharu â’r siarter flaenorol, ac rwy'n credu bod hynny’n dystiolaeth o gyfranogiad gwleidyddol y Cynulliad hwn dros y blynyddoedd diwethaf ac, mae'n rhaid i mi ddweud, nifer o Weinidogion yn arbennig—y Prif Weinidog, sydd wedi sicrhau ei fod yn chwarae rhan sylweddol yn y materion hyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a’r Gweinidog presennol, Alun Davies, a'i ragflaenydd, Ken Skates, sydd wedi ymgysylltu’n agos â’r mater hwn. Fe welais i, yn sicr o fy ngwaith blaenorol yn ymwneud â pholisi cyfryngau, sut y mae’r materion hyn wedi newid. Roedd cyfranogiad gwleidyddion Cymru yn arwyddocaol yn hynny, er gwaethaf y rhwystr cyfansoddiadol.

Felly, nid wyf yn mynd i ymhelaethu ar y nifer o welliannau sydd i’w croesawu; hoffwn ganolbwyntio yn hytrach ar rai o'r meysydd yr wyf yn credu y byddent yn elwa ar ystyriaeth bellach. Mae mesurau diogelu o fewn geiriad y siarter ar gyfer yr agenda hon. Fodd bynnag, mae’r prif rwystrau i symud ymlaen, yn fy marn i, yn ymwneud â diwylliant: diwylliant y BBC, ddiwylliant y cyfryngau, a diwylliant cyllido. Mae’n anodd newid hen arferion. Nid yw'r BBC yn gwasanaethu cynulleidfaoedd Cymru yn briodol ar hyn o bryd, nid oherwydd prinder datganiadau rhethregol—rydym wedi cael toreth o’r rheini gan uwch swyddogion gweithredol dros nifer o flynyddoedd; maent yn hoffi dangos eu bod yn empathetig—ond yn ei hanfod, mae’r BBC yn sefydliad canoli creadigol, ac mae ganddi farn sydd wedi ymwreiddio'n ddwfn, ym mhob haen o’i hierarchaeth, mai’r ffordd orau o sicrhau rhagoriaeth yw drwy gadw’r gwaith o wneud penderfyniadau ymhlith elît metropolitan Llundain. Dyna'r broblem, ac nid wyf yn credu y bydd y mesurau diogelu ychwanegol y mae wedi ildio iddynt yn newid hynny. Mae'n haws newid polisïau na newid arferion, ac, fel y dywedais, rydym wedi cael blynyddoedd o addewidion gan uwch swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau nad ydynt wedi’u hamlygu yn y penderfyniadau a wnaed o ran y rhaglenni.

Mae rheolwyr y BBC yn gresynu o weld y toriad o 30 y cant a gafwyd mewn allbwn Saesneg ar BBC Cymru rhwng 2006 a 2015, ac fe dderbyniais air Tony Hall ddwy flynedd yn ôl, pan ddaeth i Gaerdydd a dweud bod angen i’r BBC wneud mwy i adlewyrchu bywyd Cymru ar ein sgriniau. Derbyniais air Tony Hall unwaith eto pan ysgrifennodd at y Prif Weinidog ym mis Mai i gydnabod bod y cyllid ar gyfer BBC Cymru wedi cyrraedd, ac rwy’n ei ddyfynnu, 'lefelau anghynaladwy'. Ac fe dderbyniais ei air pan ysgrifennodd at 41 o Aelodau'r Cynulliad, a oedd wedi mynegi pryder yn ôl ym mis Mai, i roi sicrwydd i ni y byddai rhaglenni Cymraeg, ac rwy’n ei ddyfynnu, yn 'flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi' yng nghyfnod y ffi drwyddedu newydd. Felly, ers dwy flynedd, mae wedi cyfaddef bod yna broblem. Ers dwy flynedd, mae wedi dweud pethau i geisio dangos empathi. Ond beth y mae wedi'i wneud ers dweud y pethau hynny? Mae wedi israddio swydd pennaeth BBC Cymru, gan symud Cymru ymhellach i ffwrdd oddi wrth y penderfyniadau a gaiff eu gwneud, ac mae nawr wedi torri £9 miliwn arall, ar ben y toriadau yr ydym ni wedi’u cael dros y 10 mlynedd diwethaf, o gyllideb BBC Cymru. Mae'n dangos, onid yw, ei bod yn hawdd siarad? Ond mae angen i Tony Hall sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn cynnwys Cymreig.

Nawr, mae’r Prif Weinidog a’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn y Cynulliad diwethaf, a phwyllgor polisi cyfryngau uchel ei barch y Sefydliad Materion Cymreig wedi galw am i ffigur o £30 miliwn ychwanegol gael ei wario ar raglenni Saesneg. Nawr, nid yw'r ffigur hwn yn ddi-sail, fel yr ymddangosai fod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan yn ei awgrymu. Mae'n seiliedig ar ddyblu'r allbwn presennol o raglenni teledu yn Saesneg, sydd wedi’u torri, a chynnyddu’r tariff y caiff y BBC ei dalu i wneuthurwyr rhaglenni annibynnol a’i allbwn ei hun, er mwyn sicrhau bod yr ansawdd yn ddigon uchel i roi siawns iddo ennill ei le ar rwydwaith y BBC. Oherwydd dyna sy’n allweddol. Mae'n wych bod 'Casualty' a 'Doctor Who' yn cael eu creu nid nepell o’r fan hon, ond nid ydynt yn gwneud dim i adrodd stori Cymru ar sgriniau ledled y DU. Ac mae hyd yn oed dyfodol y cynhyrchiad hwnnw yn y fantol yn sgil creu stiwdios hyd-braich y BBC, a hynny ar gais y Llywodraeth. Mae’r BBC, i fod yn deg i’r gorfforaeth, wedi’i rhoi mewn sefyllfa arbennig o anodd. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud toriadau sylweddol i'r BBC ac rydym ni yn rhoi pwysau ychwanegol arnynt i wario mwy o arian yng Nghymru ar adeg pan fo ganddynt gyllideb sy'n crebachu. Felly, rwyf i yn cydymdeimlo.

Mae angen swyddogaeth gryfach i’r Cynulliad hwn. Penderfyniad Llywodraeth y DU yw penodi aelod dros Gymru ar y bwrdd—nid dim ond Llywodraeth Cymru. Felly, mae angen i Lywodraeth y DU, os ydynt yn talu sylw i'r ddadl hon, fyfyrio mwy fyth ar y swyddogaeth y gallai’r Cynulliad hwn ei chael.

Yn olaf, Lywydd, mae'r siarter ddrafft yn gam gwirioneddol ymlaen. Ond, heb newidiadau i'r ffordd y caiff rhaglenni eu comisiynu a'u hariannu, mae perygl y bydd y toriadau yn mynd â ni gam yn ôl, er gwaethaf y cam ymlaen o ran iaith. Diolch.

Wel, rwy’n cytuno â bron bob gair sydd wedi’i ddweud yn y ddadl hon hyd yn hyn ac rwy’n cymeradwyo rhagarweiniad aeddfed, addas i wladweinydd, y Gweinidog o ran swyddogaeth y BBC ym mywyd cenedlaethol ein gwlad. Mae llawer gormod o ganolbwyntio, fel y mae pawb yn cytuno, ar Lundain yn y BBC, er eu bod wedi gwneud rhai symudiadau tuag allan yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae llwyddiant symud yr adran newyddion i fyny i Salford yn dangos yr hyn y gellir ei wneud gydag ychydig o ddychymyg. Wrth i mi edrych allan dros y bae yn y fan yma, rwy’n meddwl tybed pam na allwn ni wneud rhywbeth tebyg o ran safle Porth y Rhath. Mae digon o botensial yno.

Y broblem yn y blynyddoedd diwethaf, i raddau helaeth—o fewn cyllideb sylweddol iawn yn y DU ar gyfer y BBC—oedd bod y swm o arian sydd wedi bod ar gael ar gyfer darlledu rhanbarthol a chenedlaethol wedi ei dorri. Mae BBC Cymru wedi cael toriad o 16 y cant yn y blynyddoedd diwethaf ac mae S4C yn arbennig, rwy’n credu, wedi cael cryn frwydr i ymdopi â'r gostyngiad yn ei chyllideb ei hun. Mae’n rhagorol, wrth ymweld â nhw, gweld pa mor ddarbodus y maent yn gweithredu. Mae ansawdd y rheolwyr yno, yn fy marn i, yn ardderchog. Maent wedi gorfod ymdopi â thoriad o £101 miliwn y flwyddyn i £82 miliwn yn y gyllideb yn ystod y pum mlynedd diwethaf, wrth i ni symud o gyllid yr adran ddiwylliant i gyllid y BBC, a bu toriad o 26 y cant yn 2015 i’r grant bach y maent wedi ei gadw gan DCMS. Felly, maent wedi cael toriad o 36 y cant yn y gyllideb gyffredinol.

Mae hwnnw’n ostyngiad enfawr mewn incwm i ddarlledwr cymharol fach. O ystyried y swyddogaeth unigryw sydd gan S4C fel yr unig ddarlledwr Cymraeg ei iaith ym myd teledu, rwy’n meddwl bod yr hyn y maent wedi ei gyflawni yn arwyddocaol. Ond, mae'n drueni eu bod wedi gorfod ymdopi â’r anawsterau hynny. Rwy’n gobeithio y gallwn ystyried hynny yn y newidiadau a fydd yn digwydd, o bosibl, o ganlyniad i’r diwygio hwn i’r siarter.

Cyfeiriwyd at yr effeithiau ar S4C yn adroddiad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y pedwerydd Cynulliad, ac mae’r heriau y maent wedi gorfod eu goresgyn wedi eu nodi’n helaeth. Ond, yr hyn y mae ei angen arnom, rwy’n credu, yn y dyfodol ar gyfer S4C, yw nid dim ond cyfres o doriadau neu benderfyniadau mympwyol ar gyllid, ond adolygiad trylwyr parhaus o'r egwyddorion sy'n sail i’r modd y mae S4C yn mynd i gael ei hariannu. Rwy’n cytuno â'r dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor hwnnw yn ystod y Cynulliad diwethaf gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, a ddywedodd nad yw wir yn dderbyniol bod adran yn Whitehall, gyda Gweinidog nad yw'n cynrychioli Cymru, yn gwneud y penderfyniad am yr unig sianel Gymraeg sy’n bodoli. Felly, mae'n iawn y dylai'r Cynulliad hwn gymryd y swyddogaeth o ddwyn y darlledwyr cyhoeddus yng Nghymru i gyfrif, ond hefyd i fod yn allweddol wrth wneud polisïau darlledu ar gyfer y sefydliadau hyn.

Felly, rwy’n cefnogi, ac mae fy mhlaid yn cefnogi, yr hyn a ddywedwyd gan bobl eraill yn y ddadl hon heddiw. Byddwn ni, heddiw, yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru i'r cynnig hwn hefyd, er nad ydym mewn gwirionedd yn rhannu'r farn ar yr hyn a ddisgrifir yn

‘ganlyniadau cyllideb y ffi drwydded “arian gwastad” newydd’.

Mae'n rhaid i ni gofio bod hyn yn dreth ar bobl Prydain. Ar adeg o gyni, fel y dywedir wrthym, mae ffi'r drwydded yn cael effaith sylweddol ar incwm pobl nad ydynt yn cael fawr iawn o gyflog. Serch hynny, rydym yn mynd i gefnogi pob un o'r gwelliannau y mae Plaid wedi eu cyflwyno y prynhawn yma.

Fel aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, sy'n cael ei gadeirio mor fedrus gan yr egin aelod hwn o’r sefydliad gyferbyn, rwy’n gobeithio chwarae fy rhan nid dim ond yn y trafodaethau yn y dyfodol, ond, gobeithio, yn dilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Lee Waters yn gynharach, yn yr hyn y gallech ei alw’n wrandawiadau cadarnhau, hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i'r Cynulliad hwn gyflawni’r swyddogaeth graffu mewn modd ystyrlon. Ie, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd cymeradwyo penodiad yr unigolyn sy'n mynd i gynrychioli Cymru yn strwythur y BBC, ond rwy’n credu y dylai’r Cynulliad hwn gael rhyw fath o bŵer cydbenderfynu yn hynny o beth. Mae hyn i gyd yn rhan o'r Cynulliad hwn, efallai, yn profi ei bwerau a darganfod beth fydd ei wir gryfderau.

Felly, mae'r siarter yn ddechreuad newydd i'r BBC, ond mae’n cael dechreuad newydd bob 10 mlynedd. Rwy’n credu bod yr hyn a gynigir yn y newidiadau yn well yn ddi-os na’r hyn yr ydym wedi ei weld yn y gorffennol; felly, bydd fy mhlaid yn eu cefnogi. Diolch.

Erbyn hyn, mae sawl Aelod sydd wedi siarad wedi croesawu cynnwys y siarter drafft, y cam ymlaen o’r siarter cyn hynny a chynnyrch y sgyrsiau a’r trafodaethau adeiladol sydd yn amlwg wedi bod. Ond, wrth inni graffu ar y siarter, rwy’n credu ei bod hi’n werth cofio hefyd fod y siarter yn ei le am 11 mlynedd, sef dwy ran o dair o’r cyfnod ers i ni gael Cynulliad yng Nghymru. Hynny yw, mae yn ei le am gyfnod hir o’n blaenau ni. Yn y cyfnod diwethaf, mae disgwyliadau pobl yng Nghymru am yr hyn y maen nhw am ei weld oddi wrth y BBC wedi newid ac wedi cynyddu, ac mae’n rhaid inni hefyd rhagweld hynny’n digwydd, rwy’n credu, dros y cyfnod nesaf. Felly, byddwn i’n hoffi gweld y BBC a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn edrych ar y siarter fel rhyw fath o sylfaen i adeiladu arno a chynnig mwy o gefnogaeth dros amser i’r hyn y mae disgwyliadau Cymru yn mynd i alw amdanyn nhw.

Ambell sylwad penodol: mae’r system o apwyntio cynrychiolydd penodol i Gymru ar y prif fwrdd yn amlwg yn beth calonogol iawn—bod hynny’n digwydd ar y cyd. Mae pobl wedi sôn eisoes am rôl y Llywodraeth a rôl ehangach y Cynulliad. Ond, mae hi hefyd yn werth cadw mewn cof, rwy’n credu, fod y broses yn y siarter o apwyntio cadeirydd y bwrdd yn dal i fod, ar un lefel, yn nwylo Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan, am resymau, efallai, sydd yn ddealladwy. Ond, mae’r rôl honno yn rôl ar draws y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol, yn cynnwys Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Felly, dros amser, byddwn yn hoffi gweld y penderfyniad hwnnw yn cael ei wneud hefyd mewn rhyw fath o ymgynghoriad â’r cenhedloedd datganoledig ym Mhrydain. Rwy’n credu y byddai hynny’n addas o ystyried sut mae datganoli’n newid a rôl eang y person sy’n gwneud y swydd honno.

A number of Members have spoken already about the enhanced role of Ofcom taking on a new responsibility as the regulator of the BBC. Ofcom has said that it’s focused on getting ready for those responsibilities in April. It will be required to devise an operating licence that makes it clear that it requires audiences in Wales, as in all parts of the UK, to be well served.

The Plaid Cymru motion talks about the accountability of the new regulator to Wales, which I would absolutely endorse, but I also think that we want to hear from Ofcom about what that means in practice, in terms of its own operations and its own strategy for delivering that in a meaningful way. It has a presence in Wales. How does it envisage that changing? Bethan Jenkins has referred to the very positive development of a Welsh representative on the main Ofcom board. Is that the extent of it? Is that sufficient? I think we want to hear that and there will be, hopefully, an opportunity when Ofcom comes before the committee to explore some of those issues in more detail.

The issue of governance is fundamental to the issue of independence, and others have spoken about that, as is the question of funding. I think one of the most dispiriting things that I saw in the last charter period was the ability of the UK Government to effectively require the BBC to use its own funding to pay for some of its policy objectives—for example, in terms of the licence fee for older people and some digital projects. I don’t think that there’s anything in the charter that would prevent that happening in the next period, which is a matter of concern.

The sums that we’re talking about are multiples of hundreds of millions of pounds, and the reason that’s important is that we’ve talked about the shortfall in funding for English-language programming in Wales, which is a fraction of the sorts of sums that are lost to the BBC through those sorts of decisions. So, it is a relevant consideration for us, and I would like to see consideration of that in the charter and, in fact, a sort of ring fence for the budget to Wales, if that can be achieved.

Finally, on the question of portrayal, which many of us have come back to, there is a beefing-up, if you like, in the charter of the obligation to reflect the diverse communities of the nations of the UK in output, which is obviously, I think, welcome to us all on two levels: the question of diversity and the question of regional and national representation are related, but different things, and I think both commitments are very important. This is one area where I think I would like to see the commitments fleshed out and become progressively more robust over the period of the charter. We want the BBC to reflect Wales to Wales, but importantly, we want it to reflect Wales to the world. This isn’t just a question of giving Wales what Wales feels it’s due; it needs to be a broader view of that. Actually, part of the BBC’s role is to represent and see as an asset, for all parts of the UK, a proper reflection of different communities and different nations. It’s not, as it were, a debt owed to Wales; it’s a much broader set of obligations across the UK, and I think it would be good to see that reflected. We’ve got the broad principles in the charter, but I think I’d like to see the BBC offering up some specifics to build on that to make that a reality.

Ni wnaf i siarad yn hir, dim ond i ategu llawer o’r hyn sydd wedi cael ei grybwyll yn barod gan nifer o Aelodau, sef beth sy’n bwysig o ganlyniad i’r broses rydym wedi mynd drwyddi o ran y siarter ydy’r hyn sy’n cael ei weithredu yng Nghymru. Mae yna fygythiadau yn wynebu BBC Cymru a darlledu yng Nghymru, heb os, o ganlyniad i’r siarter a fydd gennym ni wrth symud ymlaen. Heb os, mae’r siarter yn cynnig gwell sicrwydd a setliad llawer gwell nag yr oeddem ni wedi ofni yn gynnar yn y broses—mae yna ragor o lais i Gymru ac mae yna ragor, yn sicr o edrych ar y BBC drwyddi draw, o sicrwydd ynglŷn ag annibyniaeth a llai o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Mae’r rhain yn egwyddorion sy’n greiddiol iawn, iawn i mi, fel rhywun sydd wedi treulio y rhan fwyaf o’m mywyd fel oedolyn yn gweithio o fewn y BBC.

Ond y gwir amdani yw mai dim ond un effaith sydd yn bwysig o ganlyniad i unrhyw adolygiad o’r ffordd y mae’r BBC yn gweithredu, a hynny ydy beth ydym ni i gyd fel gwylwyr a gwrandawyr ar wasanaethau’r BBC yn ei brofi, a beth mae ein hetholwyr ni ar hyd a lled Cymru yn ei gael o’r hyn maen nhw yn talu amdano, ar ddiwedd y dydd, drwy eu trwyddedau. Mae angen, rydym yn gwybod, i’r BBC wneud llawer mwy—

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Fe wnaethoch chi grybwyll yr hyn y mae ein hetholwyr a’n gwylwyr yn ei gael ledled Cymru. Un o'r pryderon gwirioneddol, ni waeth am beth yr ydym yn ei drafod yma heddiw, yw'r gynulleidfa sy’n dirywio y mae gwasanaethau'r BBC yn ei chyrraedd mewn gwirionedd ledled Cymru, gan gynnwys materion cyfoes a’i gwasanaethau newyddion a’i gwasanaethau radio. Yn anffodus, mae ei chynulleidfaoedd yn y ddwy iaith yn dirywio, ac mae angen sylfaenol iddi edrych ar sut y cyflawnir y gwasanaethau hynny, er mwyn i gynulleidfaoedd gael eu denu yn ôl at y gwasanaeth hwnnw.

Rydych yn llygad eich lle, ac rwyf yn cytuno â'r pwyntiau a godwyd gennych. Mae materion ymarferol penodol o ran sicrhau y gall cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru wylio gwasanaethau BBC Cymru drwy eu teledu a'u radio, ac mae angen i ni sicrhau yr eir i’r afael a nifer y bobl sy'n derbyn rhaglenni rhanbarthol Lloegr yn hytrach na rhaglenni cenedlaethol Cymru. Mae’r cwbl yn dibynnu ar y cynnig, a’r mwyaf y bydd BBC Cymru yn ei wneud i adlewyrchu Cymru a phobl Cymru yn ôl iddynt hwy eu hunain, y mwyaf cymhellol fydd y cynnig hwnnw gan y BBC o ran denu mwy o wylwyr a gwrandawyr.

BBC Wales has to reflect the people of Wales and the life of Wales in a much better way within Wales. That’s why I’ve been a very strong supporter of spending much more money on English-language programmes for audiences in Wales. I’ve spoken in this Chamber before about the arrangement, during the process of turning digital, where there was a channel, BBC 2W, broadcasting at peak times, which was completely about Wales in the English language for audiences in Wales. But, of course, there is a need for us to ensure that Wales is reflected much better, as we heard the Minister say, to audiences the length and breadth of Britain.

There is a need, at the end of the day, for the voice of this institution to be heard as well. I look forward to seeing the wider role that committees here will have and the further scrutiny that will arise from the Assembly on the operations of the BBC. This isn’t intervention, this isn’t questioning independence, but representing the people of Wales. That is our role. Broadcasting is an important part of our culture, it’s an important part of our life as a country, and our role as an Assembly, under what is now allowed more under the charter, is to ensure that we represent those views as far as we can and to ensure that the central management of the BBC, as the Member for Llanelli said, takes real notice of our needs and requirements as the people of Wales.

Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymateb i’r ddadl—Alun Davies.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, yn enwedig yr Aelodau hynny a gyflwynodd eiriau caredig a hael.

A gaf i ddweud, gan ddilyn yn uniongyrchol yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth, fy mod yn credu ei fod yn llygad ei le o ran bod yn rhaid i’r lle hwn dderbyn ein cyfrifoldebau a rhai o’r cyfrifoldebau newydd hynny­­—y pwyntiau a wnaethpwyd gan Suzy Davies a Neil Hamilton—o ran mynd i'r afael â'r cyfrifoldeb o greu atebolrwydd? Mae'n ffordd wahanol a newydd iawn o weithio, ac mae'n gyfle gwych i’r lle hwn wneud y gwahaniaeth hwnnw. Rwy'n falch iawn o weld Bethan Jenkins yn Gadeirydd y pwyllgor, ac rwy'n gwybod y bydd yn ceisio sicrhau bod y BBC ac eraill yn cael eu dwyn i gyfrif. Mae Suzy Davies yn ofni y gallai’r BBC wrthod ateb cwestiynau. Wel, hoffwn i ddim bod y cynrychiolydd hwnnw o’r BBC gerbron pwyllgor ac yn gwrthod ateb cwestiynau, ac efallai y byddai hynny yn dweud mwy na’r atebion gwirioneddol y byddai efallai yn eu rhoi.

Mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn newid, fel y dywedodd Lee Waters, y diwylliant o fewn y BBC. Cytunaf yn llwyr â'r dadansoddiad gan fy ffrind o Lanelli, bod diwylliant metropolitan yn y BBC sy'n credu mai nhw sy’n gwybod orau o ran y Deyrnas Unedig gyfan. Nid yw hynny'n iawn, nid yw'n deg, ac mae'n rhaid iddo newid. Mae sut byddwn yn creu newid yn gwestiwn i bob un ohonom. Oherwydd, drwy atebolrwydd, drwy drafod a dadlau, y gallwn helpu’r BBC i wneud y newidiadau hynny. Rwyf eisiau gweld amgylchedd darlledu gwasanaeth cyhoeddus cyffrous a bywiog ledled y Deyrnas Unedig—sy'n cynrychioli pob un ohonom, lle bynnag yr ydym yn digwydd byw, boed yn Nhredegar neu Langefni neu rywle arall. Rwyf eisiau sicrhau ein bod ni a'n bywydau yn cael ein portreadu ar holl wasanaethau’r BBC. Ni allem ddychmygu saith diwrnod o ddarlledu gan y BBC heb weld Lloegr ar ein sgrin. Sut gwnaethon nhw ymdopi am saith mlynedd heb Gymru? Nid yw'n iawn, mae'n amhriodol, mae wedi digwydd, ac ni cheir caniatáu iddo ddigwydd eto—ac ni chaiff ddigwydd eto oherwydd bod gennym y prosesau a'r dulliau atebolrwydd ar waith. Mae'r atebolrwydd a oedd ar waith a ganiataodd y methiannau hynny yn amlwg wedi methu. Mae’r strwythur llywodraethu wedi methu, mae’r strwythur rheoli wedi methu, ac mae’r strwythur atebolrwydd wedi methu. Ni cheir caniatáu iddo fethu eto. Mae’n rhannol yn gyfrifoldeb arnom ni yn y Siambr hon, yn y senedd hon, i sicrhau nad yw'n methu eto.

Mae’r diben cyhoeddus wedi ei atgyfnerthu o ran y siarter newydd. Credaf y bydd adroddiadau pwyllgor yn cael effaith sylweddol os bydd yr adroddiadau pwyllgor hynny wedi’u seilio ar y dystiolaeth y mae wedi’i chasglu. Ond mae'n bwysig, a hon yw’r her i bob un ohonom o holl sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig, ond i’r BBC hefyd. Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaed gan Lee Waters. Mae’r BBC wedi bod yn rhoi addewidion i ni yn rhy hir. Ers gormod o amser, rydym wedi ein gwahodd i dderbyniadau gydag uwch reolwyr y BBC lle y clywyd geiriau caredig. Yr hyn yr ydym ni’n ei ddymuno erbyn hyn yw gweithredu, rydym eisiau gweld canlyniadau ac rydym eisiau gweld newidiadau. Ac mae'n iawn ac yn briodol bod hynny'n dechrau gyda'r buddsoddiad o £30 miliwn sydd wedi ei ddisgrifio eisoes y prynhawn yma. Mae'r materion ariannu sy'n amddiffyn S4C, fel y nodwyd gan Neil Hamilton yn y ddadl hon, yn gwbl hanfodol i’w hannibyniaeth ac yn rhai y byddwn yn sicr yn parhau i roi sylw iddynt, o ran yr adolygiad canol tymor o'r siarter, ac o ran yr adolygiad o S4C. Ac rwyf yn gobeithio, drwy wneud y newidiadau hyn i strwythurau atebolrwydd, drwy ddod â rhagor o bobl i mewn i strwythurau atebolrwydd, y byddwn yn newid y diwylliant yn y BBC, a fydd yn golygu bod y cynnyrch yr ydym yn ei weld ar ein sgrin a'r gwahanol wasanaethau sydd ar gael, eu hunain yn cael eu newid yn y dyfodol. Mae hynny'n her i bob un ohonom, a chredaf fod y lle hwn a'n sefydliadau yn barod am yr her honno. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe derbynnir gwelliant 2.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe dderbynnir gwelliant 3.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, derbynnir gwelliant 4.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes, fe dderbynnir gwelliant 5.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn, felly, sy’n weddill yw: a ddylid derbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd?

Cynnig NDM6097 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Siarter Frenhinol ddrafft y BBC a Chytundeb Fframwaith drafft y BBC.

2. Yn nodi'r cyfeiriadau cadarnhaol at S4C yng Nghytundeb Fframwaith Drafft y BBC ac yn enwedig y cyfeiriad at y nod a gaiff ei rannu rhwng S4C a'r BBC o gydweithio i gydnabod ac amddiffyn eu hannibyniaeth.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr adolygiad arfaethedig o gylch gwaith a chyllid S4C, a ddisgwylir yn 2017, yn ystyried lefel y cyllid, a'r dull mwyaf priodol o gyllido S4C yn yr hirdymor i amddiffyn ei hannibyniaeth a sicrhau y gall gynhyrchu rhaglenni o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd Cymru am flynyddoedd i ddod.

4. Yn nodi, â phryder, y goblygiadau i BBC Cymru o ran peidio â newid ffi’r drwydded.

5. Yn galw ar y BBC i sicrhau y caiff adnoddau eu dyrannu i anrhydeddu'r ymrwymiadau a wnaed yn Siarter Frenhinol Ddrafft y BBC i gynulleidfaoedd yng Nghymru, gan gynnwys:

(a) bod y BBC yn adlewyrchu ac yn cynrychioli cymunedau amrywiol y DU, a'i bod yn codi ymwybyddiaeth o'r gwahanol ddiwylliannau a safbwyntiau yn ei chymdeithas;

(b) bod yn rhaid i'r BBC gefnogi ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifoedd y DU, a pharhau i gefnogi rhaglenni a gynhyrchir yn Gymraeg; ac

(c) bod safbwyntiau a diddordebau gwahanol y cyhoedd a chynulleidfaoedd ledled y DU yn cael eu hystyried wrth i'r BBC wneud penderfyniadau.

6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd unrhyw reoleiddiwr y BBC yn y dyfodol hefyd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes, felly derbynnir y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6097 fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:37.