Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/02/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn, ac i gyfarfod cyntaf y Senedd yma yn y Siambr newydd. Hon yw'r Siambr a fydd yn gartref i ddemocratiaeth Cymru am y ganrif a mwy nesaf. Chi, Aelodau, yw'r Aelodau a gymerodd y penderfyniad i ddiwygio ein Senedd a'i phwrpasu ar gyfer Cymru yr unfed ganrif ar hugain, felly mi oeddwn i yn benderfynol taw chi, Aelodau, ddylai fod y rhai cyntaf i gymryd eich sedd yn y Siambr newydd hon. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Y cwestiynau i'r Prif Weinidog, felly, yn gyntaf y prynhawn yma. Y cwestiwn cyntaf, Julie Morgan. 

Personél Milwrol a Dioddefwyr Rhyfel

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gydnabod personél milwrol a dioddefwyr rhyfel o Gymru? OQ63881

13:35
13:40
Y Rhaglen Lywodraethu

2. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a fydd unrhyw ymrwymiadau rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru heb eu cyflawni erbyn diwedd y Senedd hon? OQ63878

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

13:50
13:55
14:00
14:05
Ysbyty Brenhinol Alexandra

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyllid cyfalaf ar gyfer buddsoddi yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl? OQ63873

14:10

Wel, gwnaf i groesawu unrhyw fuddsoddiad ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd, wrth gwrs. Rŷn ni wastad eisiau symud i'r cyfeiriad yna, ond maddeuwch i fi am fod yn sinigaidd oherwydd, fel ŷn ni wedi clywed, mi gawsom ni'r union yr un math o gyhoeddiad yn 2013, ac addewid y byddai yna ysbyty newydd ymhen rhai blynyddoedd, a nawr, 10 wythnos cyn etholiad, rŷn ni'n cael yr un addewid eto, bod yna arian ychwanegol ac y bydd yna ysbyty mewn blynyddoedd i ddod. Dwi yn teimlo teimladau cymysg fan hyn, oherwydd mi addawyd hyn 13 blynedd yn ôl, ac rŷn ni'n dal i bob pwrpas yn aros, er gwaethaf addewidion tebyg i'r rhai rŷn ni wedi eu cael o'r blaen. Ond y blas cas y tro hwn yw ei fod e ddim ond hanner yr hyn a addawyd yn y lle cyntaf. Rŷch chi'n iawn, mae model iechyd yn newid, ond mae'n dal angen y ddarpariaeth. Hanner y gwelyau a addawyd yn wreiddiol. Felly, esboniwch i ni pam ei bod hi wedi cymryd cyhyd a pham fod pobl gogledd sir Ddinbych nawr yn gorfod dygymod â dim ond hanner y gwelyau a addawyd yn y lle cyntaf. A ydych chi'n beio pobl (a) am fod yn sinigaidd, ond (b) am fod yn siomedig nad yw hyn yr hyn a addawyd yn y lle cyntaf?

14:15
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y preswylwyr sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ63855

Uniondeb Etholiad y Senedd

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau uniondeb etholiad y Senedd? OQ63879

14:20
Bwyd wedi'i Brosesu'n Helaeth

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bwyd wedi'i brosesu'n helaeth ar y GIG? OQ63893

14:25
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014? OQ63888

14:30
Cyllid Buddsoddi mewn Rheilffyrdd

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyllid buddsoddi mewn rheilffyrdd yn Nwyrain Casnewydd? OQ63884

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad busnes yma. 

14:35
Member (w)
Jane Hutt 14:35:00
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Mae'r ddadl cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Troseddu a Phlismona wedi ei gohirio tan 10 Mawrth. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.

Mi hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, mi hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan y Prif Weinidog ar y weledigaeth ar gyfer rheilffyrdd. Datganiad ysgrifenedig yn unig gawsom ni, ond, yn amlwg, mae'r Prif Weinidog yn awyddus iawn i gael trafodaeth yn y Siambr hon, ac rydym ninnau hefyd yn awyddus i gael trafodaeth a'r cyfle i graffu.

Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano fo ydy un gan yr Ysgrifennydd Cabinet iechyd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, o'r streic gan ymwelwyr iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a fydd yn para am fis. Mae hyn yn bryderus dros ben. Mae o ynglŷn â chyflog a bandio'r ymwelwyr iechyd hyn. Mae'r bwrdd iechyd yn beio Llywodraeth Cymru am y broblem. Felly, yr hyn y buaswn i'n hoffi ei wybod ydy beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatrys hyn ar fyrder, oherwydd dwi'n pryderu yn fawr am y diffyg gwasanaeth a'r gefnogaeth sydd yna i famau a theuluoedd, ar adeg lle mae angen y gefnogaeth yma.

14:40
14:45
14:50
14:55
15:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:05
15:10
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Cynllun Buddsoddi Cronfa Twf Lleol Cymru

Eitem 3 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, cynllun buddsoddi cronfa twf lleol Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Rebecca Evans.

15:20
15:25
15:30
15:35
15:40

Rydw i'n nodi nad yw'r Gweinidog ddim wedi ateb pwynt Luke Fletcher ynglŷn â'r cannoedd ar gannoedd o swyddi sydd mewn perygl oherwydd y sefyllfa efo'r gronfa twf lleol newydd. 

Dwi am siarad yn benodol yn sydyn iawn am Môn CF, elusen a chwmni sy'n eiddo i bobl Ynys Môn, sy'n helpu miloedd o bobl yn flynyddol ac yn cael cannoedd o bobl i mewn i waith. Mae dros 50 o staff ganddyn nhw rŵan sydd yn wynebu'r posibilrwydd o golli eu swyddi. Mae rhai wedi gadael yn barod. Dydy llythyr o gymorth i awdurdod lleol ddim yn help o gwbl. Y broblem ydy'r oedi tan eu bod yn gallu cael arian, ond yn bennaf eto y dyraniad yma, y 70 y cant cyfalaf a 30 y cant refeniw, sydd i'r gwrthwyneb o'r sefyllfa yn Lloegr. 

Dwi eisiau gwybod gan y Gweinidog sut y mae hi'n mynd â'r frwydr ymlaen at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan nodi yn y fan hyn yn glir bod yna effaith andwyol ar swyddi ac ar ein gallu ni i ddelifro ar ffyniant economaidd yng Nghymru. Gaf i ofyn yn benodol pa gamau y mae hi'n barod i'w cymryd i helpu Môn CF yn y sefyllfa y maen nhw ynddi rŵan a'r nifer sy'n colli eu swyddi yno?

15:45
15:50
15:55
16:00
4. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Cefnogi’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Eitem 4 yw datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, cefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol, a galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Dawn Bowden.

16:05
16:10
16:15

Mae gofal cymdeithasol yn sylfaen i’n gwasanaeth iechyd ac yn asgwrn cefn i’n cymdeithas. Rywbryd yn ystod ein bywydau, bydd pob un ohonom yn dibynnu arno i ofalu am riant sy’n heneiddio, partner sy’n sâl, neu hyd yn oed amdanom ni ein hunain. Pan ddaw’r amser hwnnw, mi fyddwn ni'n disgwyl gofal o safon. Felly, mae’r gweithlu sy’n darparu’r gofal hwnnw yn haeddu tâl ac amodau sy’n adlewyrchu gwerth eu gwaith a’u cyfrifoldeb enfawr.

Er bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi gosod gweledigaeth glir ar gyfer hawliau a llesiant, y gweithlu sy’n troi’r egwyddorion hynny’n realiti o ddydd i ddydd. Nhw sy’n gwneud y gwahaniaeth rhwng polisi ar bapur a phrofiad gwirioneddol i deuluoedd ledled Cymru. Ac yma yng Nghymru, mae tua 80,000 o bobl yn gweithio yn y sector yma. Mae’n cyfrannu £4.6 biliwn i’n heconomi. Nid sector ymylol mohono; mae’n rhan ganolog o’n seilwaith cenedlaethol ni.

Ond fe ddengys arolwg gan Gofal Cymdeithasol Cymru mai dim ond 38 y cant sy’n hapus gyda’u tâl, gyda bron i chwarter yn ei chael hi’n anodd byw ar eu hincwm. Mae lefelau straen uchel a phroblemau iechyd meddwl yn amlwg. Nid yw hynny’n gynaliadwy yn y tymor hir. Mae cadw staff yr un mor bwysig â'u recriwtio, ac os na allwn ni gadw’r bobl fedrus sydd gennym ni eisoes, ni fydd unrhyw ymgyrch recriwtio yn ddigon.

Mi ydw i'n croesawu nifer o'r llwyddiannau yr ydych chi, Weinidog, wedi cyfeirio atyn nhw heddiw. O ran y cyflog byw go iawn, serch hynny, mae’r fframwaith sydd gennym ni yn un gwirfoddol ac yn berthnasol i weithwyr gofal uniongyrchol a’u rheolwyr yn unig ar hyn o bryd. Os mai’r uchelgais ydy bod y sector yn un gydlynol a theg, a oes yna fwriad clir i ymestyn y trefniant hwn i gynnwys pawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol? Mi ydych chi'n dweud y byddwch chi'n tynhau'r rheolau ar gyfer dyrannu'r arian yma. Wel, beth sydd yn eich atal chi rhag gorfodi hyn i ddigwydd? Hefyd, pa gyfran o’r gweithlu sy’n derbyn y cyflog byw go iawn ar hyn o bryd, ac erbyn pryd y caiff unrhyw fylchau yn y system eu cau?

Mae uchelgais y Llywodraeth i ddarparu gofal mor agos i adref â phosibl, fel sy'n cael ei nodi yn 'A Healthier Wales', yn un y mae pawb yma yn ei rannu. Ond, fel rydyn ni'n gwybod, mae’r realiti yn un sy'n heriol. Mae mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio i’r ysbyty ac yn aros yno’n hwy, ac mae’r galw am wasanaethau yn y gymuned yn cynyddu. Mi wyddom ni fod angen tua 400 o ofalwyr ychwanegol ledled Cymru er mwyn gallu rhyddhau cleifion sydd ar hyn o bryd yn sownd mewn ysbyty, a darparu’r gofal cymunedol sydd ei angen arnyn nhw. Pa gamau pendant felly sy’n cael eu cymryd i recriwtio a chadw’r gweithlu hwnnw? Pa fuddsoddiad ychwanegol sydd wedi cael ei neilltuo tu hwnt i'r £1.5 miliwn rydych chi wedi ei gyhoeddi ar gyfer yr academi, sydd i'w groesawu? Mae honno yn un dwi'n ei chroesawu'n arw iawn, a gobeithio bydd yr academi yma yn ffynhonell fywiog ar gyfer gweithlu i'r dyfodol. Ond pa fuddsoddiad ychwanegol yr ydych chi wedi ei adnabod sy'n cael ei neilltuo, a pha amserlen sydd ar waith er mwyn sicrhau y bydd y capasiti gennym ni o fewn y ddwy flynedd nesaf i ateb y galw?

Yn y pen draw, pa sicrwydd tymor hir all y Llywodraeth yma ei roi bod gofal yn yrfa y mae pobl eisiau ymuno â hi, a pharhau ynddi hi? Oherwydd oni bai bod y tâl yn un cystadleuol, bod llwybrau datblygu clir, fel y clywsom ni, yn bodoli, a bod hyfforddiant yn gynaliadwy’n ariannol, fydd y system ddim yn sefydlogi.

Yn olaf, a gaf i ofyn a ydych chi'n cytuno bod rheolau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i atal teuluoedd gweithwyr tramor i ddod yma i fyw gyda'u hanwyliaid wrth eu bod nhw'n gweithio yn rhwystr i gyflogi o leiaf rhai o'r gofalwyr sydd eu hangen arnom ni, a bod y rhethreg gwrth-fewnfudwyr tramor yn niweidiol, gan ein bod ni mor ddibynnol ar ofalwyr tramor mewn sawl ardal i ddarparu'r gofal angenrheidiol i'n hanwyliaid? Pa drafodaethau, felly, ydych chi wedi'u cael efo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i'r perwyl yma? Diolch.

16:20
16:25
16:30
16:35
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Cymunedau Cymraeg

Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar gymunedau Cymraeg. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae'n perthyn i holl Weinidogion a holl gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yn y meysydd iechyd, addysg, cynllunio, yr economi a phob maes arall hefyd. Heddiw, gallaf ond crybwyll ychydig o benawdau byr o'r tymor hwn cyn canolbwyntio ar waith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Mae’r camau unigol yr ydym ni wedi eu cyflwyno gyda’n gilydd wedi arwain at newidiadau deddfwriaethol a pholisïau pellgyrhaeddol a fydd yn gosod seiliau cadarn ar gyfer ffyniant ein hiaith. Roedd y cytundeb trawsbleidiol a gafwyd i Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn garreg filltir bwysig. Un o’r camau mwyaf radical rydyn ni wedi ei gymryd yw mynd i'r afael â'r effaith y gall nifer uchel o ail gartrefi ei gael ar ein cymunedau. Mae ein cynllun tai cymunedau Cymraeg wedi cefnogi dros 80 o brojectau cymunedol drwy'r project Perthyn, ac mae 49 o gartrefi fforddiadwy ar y gweill.

Rydym wedi ymestyn darpariaeth gofal plant dwyieithog Dechrau'n Deg, datblygu 'Mwy na geiriau', creu cyfleoedd newydd i bobl fynychu'r Eisteddfod Genedlaethol, a chynnig buddsoddiad newydd i’r Urdd. Mae hynny i gyd a mwy yn bethau rydym wedi eu cyflawni yn ystod y tymor Senedd hwn. 

Dirprwy Lywydd, fel y dywedais i, rwyf am ganolbwyntio gweddill y datganiad hwn ar waith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Cafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei sefydlu i wneud argymhellion annibynnol i Lywodraeth Cymru. Cam cyntaf y comisiwn oedd edrych ar sefyllfa ein cymunedau Cymraeg dwysedd uwch. Cyhoeddodd y comisiwn eu hadroddiad cyntaf ym mis Awst 2024. O'r 57 o argymhellion, roedd 40 ar gyfer Llywodraeth Cymru. Fe wnaethon ni gyhoeddi ein hymateb fis Mai y llynedd.

Ers hynny, rydyn ni wedi gweithio ar draws y Llywodraeth i weithredu'r 40 argymhelliad, ac rydyn ni eisoes wedi cyflawni 11 ohonyn nhw. Er enghraifft, rydyn ni'n symud i gylch ariannu tair blynedd ar gyfer ein derbynwyr grant 'Cymraeg 2050'. Rydyn ni wedi darparu cyllid ychwanegol i sefydliadau sy'n gweithio ym maes cynllunio ieithyddol cymunedol, er enghraifft £500,000 yn ychwanegol i’r mentrau iaith ar draws Cymru eleni. Trwy'r gronfa benthyciadau asedau cymunedol, mae benthycwyr sydd wedi derbyn achrediad y Cynnig Cymraeg yn gallu derbyn gostyngiad o 0.5 y cant i'w cyfradd benthyciad.

Erbyn diwedd y tymor hwn, rydyn ni’n anelu i gyflawni 17 o'r argymhellion, tra bod gwaith yn parhau gyda’r 23 sy’n weddill. Y bore yma, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio gyhoeddi ein hymateb i adroddiad cynllunio gwlad a thref y comisiwn, sy’n rhoi ymateb cadarnhaol i argymhellion yr adroddiad. Mae datganiadau heddiw yn berthnasol i argymhelliad canolog y comisiwn, sef bod cymunedau ble mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio fwyaf fel iaith pob dydd yn cael eu dynodi fel ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.

O ystyried pwysigrwydd yr argymhelliad hwn, byddaf yn canolbwyntio yn fy natganiad ar yr argymhelliad. Mae dynodi o'r fath yn cydnabod y pwysau unigryw a brofwyd yn yr ardaloedd hyn. Mae'r heriau hyn yn rhai hanesyddol sydd wedi eu gwreiddio’n ddwfn, fel prinder tai fforddiadwy, yr angen i greu cyfleoedd gwaith ac allfudo pobl ifanc. Ond mae'r ardaloedd hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd. Maen nhw’n llefydd gydag ymdeimlad cryf o’r gymuned ac o berthyn, ac, wrth gwrs, maen nhw'n llefydd ble mae’n bosib i bobl fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg.

Roeddwn yn falch o allu derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor ym mis Mai y llynedd. Ar y pryd dywedais fy mod eisiau gallu craffu ar y materion allweddol fyddai heb os yn rhan ganolog o’r bwriad polisi. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhoi barn, cymryd rhan mewn sgyrsiau ac awgrymu atebion ar hyd y daith. Pe bawn i'n crynhoi'r drafodaeth bwysig honno, fodd bynnag, byddwn yn dweud bod y ffocws mwyaf wedi bod ar gymhlethdod troi egwyddorion yn gamau gweithredu ymarferol, a hefyd natur ddadleuol y maes gwaith.

Mae cytuno ar yr argymhelliad sylfaenol yn gymharol hawdd i'r mwyafrif. Ond, o grafu’r wyneb, mae yna safbwyntiau sy’n gwrthdaro yn dod i'r amlwg. Mae cwestiynau yn codi pob tro rydych chi'n cael sgwrs. Er enghraifft, ble ddylai cyfrifoldeb am ddynodi gael ei osod? Pa feini prawf ddylai fod mewn lle i wneud y penderfyniad hwnnw? Pa brosesau y dylid eu dilyn i gyrraedd y penderfyniadau yna? Pa leisiau y dylid eu cynnwys yn y broses honno? Ac yn bwysicaf oll, pa wahaniaeth ddylai hyn i gyd ei wneud i fywydau pobol sy'n byw o fewn neu’n gyfagos i ardaloedd a ddynodir? Beth mae hyn i gyd yn ei ddweud wrthyf i, Dirprwy Lywydd, yw bod yn rhaid gweithredu'r argymhelliad yn ofalus, a bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn ymwneud cymaint â gwrando ac y mae'n ymwneud â gwneud penderfyniadau, yn enwedig yn y camau cynnar. Dyna pam, y prynhawn yma, dwi'n gosod llwybr graddol i weithredu, llwybr sy'n rhan o'r gwaith sydd eisoes ar y gweill gyda ni eleni, ond sydd hefyd yn caniatáu amser a chyfle i barhau i sgwrsio a chreu consensws.

Y pwynt allweddol a gafodd ei godi oedd yr angen am hyblygrwydd yn y broses ddynodi. Rydw i’n cytuno â hyn. Os ydyn ni'n dibynnu gormod ar un trothwy, mae yna berygl y bydd yn tynnu llinellau ar y map nad ydyn nhw'n adlewyrchu ffactorau a materion cymhleth sy'n nodweddiadol o sefyllfa ieithyddol cymunedau. Yn dilyn y trafodaethau hyn, ac wrth inni roi ystyriaeth bellach, rydw i'n cynnig llwybr sydd â thri cham tuag at ddynodi ardaloedd dwysedd uwch. Gellid bwrw ymlaen â’r gwaith ar gam 1 a cham 2 gyda'n gilydd, tra gellid paratoi'r tir ar gyfer cam 3, fel bod modd cychwyn yn fuan.

Byddai'r cam gyntaf yn rhoi cydnabyddiaeth o ardaloedd dwysedd uwch o fewn strategaeth ddiwygiedig ‘Cymraeg 2050’. Byddai'r ail gam yn gweithredu ymrwymiad yn y strategaeth ar draws holl fframweithiau polisi a Llywodraeth. Mae cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg yn dibynnu ar weithredu cydlynus ar draws meysydd polisïau amrywiol. Wrth edrych ymlaen, dwi’n credu, fel trydydd cam, fod gwerth archwilio posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth gynradd i sefydlu system ddynodi statudol. Gallai deddfwriaeth osod meini prawf cenedlaethol, diffinio cyfrifoldebau ar gyfer Gweinidogion ac awdurdodau lleol, ac egluro sut y gallai dynodi ddylanwadu ar bolisïau. Bydd hyn yn cynnig yr amddiffyniad cryfaf a'r mwyaf cydlynol. Yn bwysicach oll, bydd yn caniatáu mwy o amser i gyrraedd consensws mor eang â phosibl ar y cwestiynau a nodwyd yn gynharach yn y datganiad hwn, ac i baratoi ar gyfer datblygu polisi manwl a chraffu cyfreithiol.

Dirprwy Lywydd, rydw i'n deall y bydd y comisiwn yn cyhoeddi ei ail adroddiad ar sefyllfa’r Gymraeg mewn ardaloedd eraill o Gymru yn fuan iawn. Gyda'i gilydd, mae'r adroddiadau hyn, a gafodd eu comisiynu a’u cynhyrchu yn ystod tymor y Senedd yma, yn rhoi dealltwriaeth fanwl i ni o'r ymyraethau sydd eu hangen i gefnogi'r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru gyfan. Bydd eu gwaith yn sail i ystod eang o ddatblygiadau polisi pwysig. Beth bynnag fydd eu hargymhellion yn yr ail adroddiad, byddant yn ein helpu i osod ardaloedd dwysedd uwch mewn continwwm lle ystyrir bod pob ardal o Gymru yn rhai o arwyddocâd ieithyddol.

Dirprwy Lywydd, gyda'n gilydd, rydym ni wedi ac yn gallu parhau i gyflwyno'r rhaglen fwyaf cynhwysfawr erioed i ddiogelu a chryfhau'r Gymraeg, ac i sicrhau ei bod yn ffynnu fel iaith fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr.

16:50

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad chi heddiw. Dŷn ni, fel y Ceidwadwyr Cymreig, yn croesawu llawer o'r hyn y dywedoch chi heddiw, oherwydd dŷn ni wastad yn gwybod am bwysigrwydd tyfu'r iaith ar draws Cymru. Gwnaethoch chi sôn cwpl o weithiau am bwysigrwydd consensws, a dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n gweld consensws cymunedol ar draws Cymru, a hefyd consensws gwleidyddol o ran tyfu'r iaith yng Nghymru a'r targed 2050 hynny. Dyna pam—a dŷn ni wedi sôn am hyn o'r blaen gyda chi—dwi'n credu ei fod e mor siomedig bod un blaid nawr yn y Siambr, plaid Reform, sydd ddim yn credu yn nharged 2050 o gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr yng Nghymru. Mae'n bwysig ein bod ni ddim yn colli'r consensws hynny a phwysigrwydd hynny, a bod hyn yn gallu cael ei droi mewn i bêl-droed wleidyddol. Dyna beth dŷn ni, fel y Ceidwadwyr Cymreig, ddim yn moyn gweld ein hiaith Gymraeg yn mynd trwyddo.

Mae'n bwysig hefyd y gwnaethoch chi sôn, a dwi'n croesawu'r ffaith y gwnaethoch chi sôn am y Ddeddf addysg Gymraeg, a gwnaethoch chi sôn am gonsensws. Dwi'n croesawu'r gwaith wnaethon ni gyda'n gilydd i ddatblygu'r Bil hynny. Er ei fod e'n anodd mesur effaith y Ddeddf honno hyd yma, mae'n bwysig ein bod ni'n gallu mesur llwyddiannau, neu beidio, y polisïau dŷn ni'n eu gweld o Lywodraeth Cymru hyd yma o ran tyfu'r iaith Gymraeg yn y cymunedau hyn, oherwydd dŷn ni'n cofio'r sensws diwethaf, er enghraifft, sydd yn dangos nad ydy nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg yn y cymunedau hyn ddim yn tyfu o gwbl. Felly, dyw hynny ddim wastad yn rhoi llun eithaf optimistig am effaith polisïau Llywodraeth Cymru dŷn ni wedi'u gweld hyd yma. Felly, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fesur effaith y polisïau maen nhw wedi'u cael hyd yma i weld beth sydd yn gweithio, beth sydd ddim a beth rŷn ni'n gallu gweithio arno yn y dyfodol?

Gwnaethoch chi sôn am yr argymhellion, a bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau 11 mas o 40 ohonyn nhw hyd yma, ac yn gobeithio cyrraedd 17 erbyn yr etholiad. Y cwestiwn naturiol, felly, yw am y 23 arall. Gwnaethoch chi sôn am y gwaith yn parhau tuag at eu cwblhau nhw, ond pryd fydd hynny'n digwydd? Dwi'n gobeithio y bydd ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet am hynny.

Ond y peth mwyaf pwysig roeddwn i'n moyn sôn amdano—y rhesymau mwyaf pam y mae pobl yn gadael cymunedau fel hyn, cymunedau cefn gwlad, cymunedau sydd yn siarad yr iaith Gymraeg, yw rhesymau economaidd a'r economi lleol. Nid wyf yn credu ein bod ni wedi clywed digon yn eich datganiad chi heddiw am bwysigrwydd tyfu'r economi mewn cymunedau fel hyn, oherwydd dŷn ni'n gwybod, os yw pobl yn gallu cael gwaith yn eu cymunedau lleol, yn agos i ble gwnaethon nhw dyfu lan, maen nhw'n moyn aros yn y gymuned honno. Dŷn ni'n gwybod, wrth gwrs—. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud amdanoch chi nad eich blaenoriaeth chi yw tyfu'r economi yng Nghymru. Felly, dwi'n gobeithio y byddwch chi'n gallu dweud rhywbeth am hynny yn eich ateb chi heddiw am bwysigrwydd tyfu'r economi yn y cymunedau hyn, i sicrhau bod pobl nid dim ond yn aros—y rhai sydd yn gallu siarad Cymraeg—yn y cymunedau hyn, ond efallai fod pobl eraill sydd gyda sgiliau iaith Gymraeg yn gallu symud, naill ai am y tro cyntaf neu wrth symud yn ôl i fyw yn y cymunedau maen nhw wedi tyfu lan ynddyn nhw. Diolch.

Diolch yn fawr i Tom Giffard am y cwestiynau. Dwi'n cytuno gyda fe, wrth gwrs—mae'r iaith yn bwysig ledled Cymru, ble bynnag rŷch chi'n byw yng Nghymru, a dyna pam dwi'n edrych ymlaen at ail adroddiad y comisiwn. Dwi'n cytuno gyda fe hefyd am bwysigrwydd creu consensws. Rŷn ni wedi llwyddo, fwy neu lai, i greu consensws ar lefel y Senedd, a'r un blaid sydd ddim yn cytuno gyda ni ar hynny—does neb yn y Siambr i glywed y ddadl a'r datganiad y prynhawn yma. Ond mae'n bwysig hefyd—a dyna beth roeddwn i'n treial dweud yn y datganiad—i greu consensws ar lefel y gymuned hefyd. Os ydyn ni'n mynd i greu ardaloedd arbennig o ran dwysedd yr iaith, mae'n bwysig tynnu cymunedau i mewn i'r penderfyniadau yna.

Cododd yr Aelod gwestiwn am sut yr ydyn ni'n mesur y polisïau rŷn ni'n eu datblygu yn y maes yma, ac mae'n dibynnu ar y maes, a dweud y gwir. So, cyfeiriais yn y datganiad at gynllun Dechrau'n Deg, ble rŷn ni wedi mwy na llwyddo—rŷn ni wedi tynnu mwy o blant bach i mewn i ofal plant dan y cynllun Dechrau'n Deg, ac rŷn ni'n gallu dechrau dangos y ffigurau, achos maen nhw'n casglu'r ffigurau bob mis. Rŷn ni'n gwybod bod mwy o blant wedi dod i mewn i'r system ddwyieithog nag oeddem ni'n disgwyl ar y cychwyn. A phan rŷn ni'n siarad am bolisïau yn y maes ail gartrefi, er enghraifft, gallwn ni ddangos y ffigurau am faint o dai newydd sydd wedi dod ar y farchnad, faint o dai newydd mae pobl leol yn gallu prynu ac yn y blaen. So, mae'n dibynnu ar y maes, ond dwi'n cytuno ar y pwynt ei bod hi'n bwysig i gael ffordd o fesur beth rŷn ni'n gwneud.

I ddod yn olaf, Dirprwy Lywydd, at y pwynt ar yr economi, wel, wrth gwrs, dwi'n cytuno am bwysigrwydd yr economi yn y cadarnleoedd i greu cyfleon economaidd, ac i bobl ifanc yn enwedig sydd eisiau aros yn y cymunedau yna. Dyna pam mae popeth rŷn ni'n gwneud fel Llywodraeth, ac yn cydweithio gyda'r Llywodraeth yn San Steffan, i fuddsoddi mewn egni cynaliadwy, mor bwysig i ni, achos bydd y swyddi newydd yna nid yn y de-ddwyrain, ond yn y gorllewin, ble mae'r iaith yn gryfach. So, fel Llywodraeth, ar draws y Llywodraeth, rŷn ni'n canolbwyntio ar gyfleon economaidd fel rhan o bopeth rŷn ni'n gwneud i dreial cefnogi'r iaith yn y cadarnleoedd.

16:55

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw. Yn amlwg, dwi'n meddwl bod rhaid inni hefyd atgoffa ein hunain pam y sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a rhai o'r pethau a ddywedwyd bryd hynny gan eich rhagflaenydd chi, Jeremy Miles. Mi roedd o'n sôn am yr heriau oedd yn mynd i ddod gan y comisiwn, a'r angen inni fod yn ddewr a gweithredu ar yr argymhellion hynny. Mi lansiwyd y comisiwn yn Awst 2022, mi gyhoeddodd o yn Awst 2024, ond eto, o ran y prif argymhelliad, dim ond heddiw dŷn ni'n clywed dechrau gweithredu ar hynny, er ein bod ni'n gwybod bod hwn yn rhywbeth oedd yn debygol o ddod pan gyhoeddwyd y comisiwn yn 2022.

Felly, o ran y llwybr graddol yma dŷch chi'n sôn amdano fo, beth ydy'r amserlen bendant o ran hynny? Oherwydd mae'n rhaid bod yna amserlen. Yr un peth dŷn ni wedi clywed dro ar ôl tro—a dŷn ni i gyd yn cytuno efo fo—fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ond mae'r Gymraeg yn colli tir, er gwaethaf 'Cymraeg 2050'. Dŷn ni wedi gweld y cyfrifiad, onid do, yn dangos bod yna ostyngiad wedi bod, ac arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn dangos gostyngiad. Felly, mae angen gweithredu ar frys, a dyna pam roeddwn i'n credu bod y Llywodraeth hon wedi comisiynu'r comisiwn cymunedau, i ddod i fyny efo pethau a oedd yn mynd i fod yn herio, ac roeddem ni'n gwybod eu bod nhw'n mynd i fod yn heriol, ond ein bod ni angen hefyd sicrhau gweithredu. Felly, os gallwch chi ddarparu'r wybodaeth o ran yr amserlen, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi hynny.

Yn debyg iawn i Tom Giffard—mae yna bethau eraill sydd heb gael eu gweithredu. Dwi'n meddwl ein bod ni angen eglurder o ran beth ydy'r amserlen efo hynny. Er enghraifft, dŷn ni'n gwybod bod y coleg Cymraeg wedi bod yn galw am fuddsoddi mewn prentisiaethau ac addysg ôl-16 mewn ardaloedd dwysedd uwch er mwyn sicrhau llwybrau di-dor o fewn addysg ac i'r gweithle. Maen nhw'n dadlau bod sicrhau llwybrau addysg Gymraeg di-dor yn hanfodol, a bod hyn yn eithriadol o bwysig o ran cryfhau addysg Gymraeg statudol, neu mae hynny'n cael ei danseilio. Mae hynny'n rhywbeth dŷn ni wedi'i godi amryw o weithiau.

Mi fyddwch chi hefyd yn gwybod bod Comisiynydd y Gymraeg wedi gofyn i bob plaid ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn cyn gynted â phosib yn ystod y Senedd nesaf, yn arbennig, felly, o ran gweithredu prif argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. Felly, yr hyn roeddwn i eisiau ei ofyn ydy: sut mae'r hyn rydych chi wedi ei ddatgan heddiw yn cyd-fynd efo hynny? Pa drafodaethau sydd wedi bod efo Comisiynydd y Gymraeg?

Yn sicr, mae nifer o bethau y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn bethau y gwnaethom ni weithio arnyn nhw drwy'r cytundeb cydweithio. Rydym ni'n falch iawn o allu cydweithio yma, ac mae yna bethau pwysig wedi digwydd, ond dwi'n meddwl rŵan mae yna bethau lle mae angen gweithredu ar frys. Felly, mwy na unrhyw beth, yr amserlen i gyd-fynd efo'r hyn rydych chi wedi'i amlinellu, beth sy'n digwydd efo'r argymhellion sydd heb gael unrhyw fath o weithredu arnyn nhw eto. A beth ydy'ch gobeithion chi o ran y Senedd nesaf? Beth a welwn ni'n digwydd o ran 'Cymraeg 2050'? Mae'n rhaid i'r frawddeg honno fod 'y Gymraeg yn perthyn i bawb' olygu rhywbeth. Fedrith o ddim dod yn mantra sydd yn lle gweithredu, a dyna pam dwi'n credu—. Dwi yn cytuno efo Tom Giffard hefyd: mae yn dda bod gennym ni gonsensws wedi bod yma; dwi yn mawr obeithio y bydd y consensws hwnnw'n parhau. Mae'n siomedig dros ben fod y ddau Aelod Reform yn dewis peidio â bod yma, a dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn glir bod y consensws hwnnw efallai wedi diflannu o'r Siambr hon, yn anffodus. Mae yna risg mawr mai cryfhau bydd y diffyg yna o gefnogaeth i'r iaith. Mae angen gweithredu ar frys. Mae gennych chi gefnogaeth y mwyafrif ar y funud, felly dyna pam dwi'n credu bod amserlen yn eithriadol o bwysig, a dyna pam dwi eisiau gweld gweithredu rŵan.

17:00

Diolch yn fawr i Heledd Fychan, Dirprwy Lywydd. Wel, roedd y comisiwn wedi cael ei sefydlu i roi cyngor annibynnol i ni fel Llywodraeth, a dyna beth mae gwaith y comisiwn wedi ei wneud.

Ar yr amserlen, wel, mae gwaith eisoes wedi cychwyn. Rydyn ni wedi dechrau'r gwaith o adolygu 'Cymraeg 2050'. Bydd y gwaith yna yn mynd yn ei flaen yn ystod y flwyddyn hon. Bydd dogfen i'r cyhoedd i'w gweld yn yr hydref, a bydd y newidiadau i 'Cymraeg 2050' yn cael eu cyflawni yn 2027. Mae hwnna'n rhoi cydnabyddiaeth strategol i'r ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch ac felly'n ymgorffori'r cydsyniad o ardaloedd fel roedd y comisiwn yn ei awgrymu. Rydym hefyd wedi dechrau gwaith ar gam 2. Gwnaeth y comisiwn nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer amrywio polisïau mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, ac rydyn ni wedi gweithio ar hyn yn barod. Fel y dywedais i yn y datganiad, mae cam 1 a cham 2 yn gallu mynd ymlaen gyda'i gilydd.

Bydd cam 3 yn cwympo i'r Senedd nesaf ac i Lywodraeth y Senedd nesaf, os bydd y Llywodraeth yna eisiau dod ymlaen gyda'r Bil i roi yr ardaloedd yna a'r ffyrdd i'w dynodi nhw ar lefel statudol. Dwi wedi dweud yn y datganiad y gallaf i weld achos i wneud hynny, ond bydd hwnna'n cwympo i'r Senedd nesaf.

Mae'r Gymraeg yn colli tir yn y cadarnleoedd, ond mae'n ennill tir yn y de-ddwyrain ac yn y gogledd-ddwyrain hefyd. Dyna pam mae ail adroddiad y comisiwn yn bwysig, achos mae'n dangos, ym mhob cwr o Gymru, fod yr iaith yn bwysig i ni. Beth rydyn ni eisiau ei weld yw twf yn y Gymraeg ble bynnag mae pobl yn byw. Dwi'n cytuno, fel roeddwn i'n cytuno gyda Tom Giffard, am bwysigrwydd cyfleon economaidd i bobl sydd eisiau aros yn y cadarnleoedd a ffeindio ffordd i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar ein bywydau ni.

Yn gynharach heddiw, gwnes i a'r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio gwrdd gyda'r awdurdodau lleol yn ardal Arfor i glywed oddi wrthyn nhw beth maen nhw'n meddwl sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Arfor, fel y cynllun peilot 'Llwyddo'n Lleol', achos rŷm ni eisiau cynllunio beth sy'n mynd i ddod ar ôl Arfor 2 i greu mwy o bosibiliadau economaidd mewn ardaloedd lle mae pobl yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd.   

17:05

Dwi'n croesawu datganiad y Gweinidog y prynhawn yma. Dwi'n credu ei bod yn hollbwysig ein bod ni'n trafod y pethau yma. Pan wnes i lansio'r cynllun 'Cymraeg 2050' bron 10 mlynedd yn ôl nawr, dwi'n credu, roeddwn i'n glir yn fy meddwl i fod angen newid ac y byddai'r creu'r newid yn cymryd blynyddoedd. Ac mae'r gwaith dŷch chi wedi ei wneud yn ystod eich amser chi fel Gweinidog yn dangos ein bod ni wedi creu'r math o raglen fydd yn delifro ar amcanion 'Cymraeg 2050'. 

Mae gen i ddiddordeb mawr yn beth dŷch chi newydd ei ddisgrifio o ran Arfor, a liciwn i glywed tipyn bach mwy am hynny. Ond hefyd a gaf i ddweud hyn ynglŷn â'r pwynt ehangach dŷch chi wedi ei wneud? Roeddwn i'n falch o gael y cyfle cwpwl o wythnosau nôl, gyda Lynne Neagle, i ymweld ag Ysgol Gymraeg Tredegar. Roedd o'n ffantastig i fi, fel rhywun o Dredegar, i weld plant Tredegar yn cael y cyfle i siarad a dysgu Cymraeg am y tro cyntaf erioed, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n hollbwysig i ni pan ŷn ni'n edrych ar yr amcanion ehangach. 

Ond, i fynd nôl at y pwynt mae Heledd newydd ddweud amboutu'r Gymraeg efallai yn colli tipyn bach o dir yn y cadarnleoedd, beth sy'n bwysig hefyd yw ein bod ni'n creu'r cyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg. Liciwn i glywed tipyn bach mwy gennych chi, Gweinidog—Ysgrifennydd Cabinet, mae'n flin gen i—am sut ydym ni yn gallu creu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg a defnyddio'r Gymraeg yn naturiol yn y cadarnleoedd.

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Alun Davies, a diolch yn fawr iddo fe am yr uchelgais tu ôl i 'Cymraeg 2050'. Yn y trafodaethau am Arfor 2 y bore yma, roedd pobl yn canolbwyntio ar yr egni sydd tu ôl i bethau a'r cyfleon mae pobl wedi eu creu trwy 'Perthyn' a phethau eraill o dan do Arfor, ond yn tynnu sylw at y ffaith, fel rŷm ni wedi bod yn trafod y prynhawn yma, fod Arfor yn llinell ar y map, mae rhai cymunedau Cymraeg tu fas i Arfor—dyw gogledd sir Benfro, er enghraifft, ddim o dan do Arfor—ac a oes posibiliadau yn y dyfodol i wneud mwy gyda chymunedau sy'n agos i ble mae Arfor yn digwydd ar hyn o bryd. 

Ond roedd lot o drafodaethau hefyd am ddefnyddio'r Gymraeg. So, rŷn ni'n canolbwyntio fel arfer ar greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050, ond yr ail beth yn y strategaeth oedd dyblu'r defnydd o'r iaith. I mi, mae hynny mor bwysig. So, rŷn ni wedi bod yn gwneud ymchwil gyda'r comisiynydd, gyda'r Urdd, er enghraifft, i weld ble mae'r posibiliadau yn codi i greu mwy o gyfleoedd, yn enwedig i bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yn yr ysgol—fel yn Ysgol Gymraeg Tredegar nawr—i ddefnyddio'r iaith maen nhw'n ei dysgu tu fas i'r ysgol yn y maes chwaraeon, yn y celfyddydau ac yn y blaen. 

Mae lot o'r gwaith manwl sydd tu ôl i'r datganiad heddiw yn canolbwyntio ar bethau rŷn ni'n gallu eu gwneud i helpu pobl—yn enwedig pobl sy'n dysgu Cymraeg sy'n dod o gartrefi di-Gymraeg—ffeindio cyfleon naturiol iddyn nhw i ddefnyddio'r iaith maen nhw wedi ei dysgu. 

Diolch hefyd am y datganiad, ond mae yna bryderon, onid oes, am y dull yma. Fel rydych chi wedi dweud, mae yna heriau yn ein cymunedau ar draws Gymru, ac un o’r mwyaf yw faint o bobl ifanc sy’n gadael Cymru sy’n siarad Cymraeg. Dwi’n falch o weld bod yna gonsensws ar draws y Siambr, ac, os yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ôl ym mis Mai, byddwn ni’n cario ymlaen efo’r dull yma ac yn sicrhau ein bod ni’n uchelgeisiol o ran cael mwy o bobl ar draws Gymru yn siarad Cymraeg.

Un o’r pethau dwi jest eisiau tynnu sylw ato fo yw, yng nghanolbarth Cymru, mae gennym ni ym Mhowys mwy o bobl sy’n siarad Cymraeg nag yng Ngheredigion, ond, er hynny, dyw Powys ddim yn y cynlluniau yma. Felly, allech chi jest esbonio tipyn bach mwy am hynny? Hefyd, sut gallech chi sicrhau bod yna fwy o bobl ar draws canolbarth Cymru yn cael y cyfle i siarad a dysgu Cymraeg? Fel rydyn ni’n gwybod, pan fo iaith yn diflannu o gymunedau, bydd hi byth, fel arfer, yn dod yn ôl, felly mae hynny’n bwysig, bwysig iawn ar gyfer y cymunedau dwi’n eu cynrychioli. Diolch yn fawr iawn.

17:10

Diolch yn fawr i Jane Dodds, Dirprwy Lywydd. Pan mae pobl ifanc yn gadael Cymru i astudio ac yn y blaen, mae mwy rŷn ni’n gallu ei wneud i’w helpu nhw i gario ymlaen gyda’r iaith Gymraeg. Dwi wedi bod yn siarad gyda’r coleg cenedlaethol, gyda Vikki Howells, i gefnogi’r gwaith maen nhw’n ei wneud i greu rhwydwaith o bobl ifanc sydd wedi cael eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg sydd nawr yn astudio mewn prifysgolion dros y ffin i greu cyfleon iddyn nhw gymdeithasu gyda’i gilydd. Mae lot o bosibiliadau newydd gyda ni nawr, lle mae pobl yn gallu dod at ei gilydd ar y sgrin ac yn y blaen i ddefnyddio’r Gymraeg. Rŷn ni’n gwybod bod lot mawr o bobl ifanc sydd wedi cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac eisiau bwrw ymlaen, ac rŷn ni’n gallu creu mwy o gyfleon iddyn nhw wneud hynny.

Mae Jane yn gwneud pwynt pwysig am nifer y bobl ym Mhowys sy’n siarad Cymraeg. Maen nhw tu fas i ardal Arfor, ond dydyn nhw ddim tu fas i beth mae’r comisiynydd yn ei ddweud am ddynodi ardaloedd lle mae’r iaith yn gryf, achos mae hynny yn gallu digwydd unrhyw le yng Nghymru os ŷn ni’n cael system o ddynodi hynny yn y lle gorau. Mae nifer mawr o gymunedau ym Mhowys ble gallaf i weld achos i'w dynodi nhw fel ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol. So, mae’n dibynnu ar sut rŷn ni’n mynd ati, ond mae’r pwynt mae Jane Dodds wedi’i godi’r prynhawn yma yn un pwysig, Dirprwy Lywydd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru. 

Ac dŷn ni i gyd yn ddysgwyr. 

Ydy hynna'n weledigaeth rydych chi'n ei rhannu?

Wel, dwi yn, Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, a diolch i Delyth Jewell am y gwaith mae ei phwyllgor hi'n ei wneud. Dwi'n edrych ymlaen i fod o flaen y pwyllgor unwaith eto wythnos nesaf.

17:15
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Gefnogol a Chynhwysol ar gyfer Dyfodol Mwy Disglair

Eitem 6 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar addysg gefnogol a chynhwysol ar gyfer dyfodol mwy disglair. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lynne Neagle.

17:25
17:30
17:40

Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel mae erthyglau 28 a 29 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ei wneud yn glir, mae gan bob plentyn yr hawl i addysg o ansawdd da, ond nid yw hawliau ar bapur bob amser yn cyfateb i realiti. Ac os ydyn ni o ddifrif ynglŷn ag addysg gefnogol a chynhwysol, mae'n rhaid i ni ofyn pwy sy'n dal i gael eu gadael ar ôl a pham, a sut y gallwn ni ddatrys hynny. Sut y gallwn ni gyflawni ein hymrwymiadau i hawliau'r plentyn.

Dwi'n croesawi'r ffocws yn eich datganiad ar bwysigrwydd taclo tlodi plant yn hyn o beth, achos un o'r rhwystrau mwyaf amlwg i gyrhaeddiant addysgol yw tlodi. Mae gormod o blant yng Nghymru yn tyfu lan mewn cartrefi sydd dan bwysau ariannol sylweddol—un ymhob pedwar ohonynt yn byw mewn tlodi. Mae'n effeithio ar bresenoldeb, ar gyrhaeddiad a lles. Mae plentyn sy'n dod i'r ysgol yn llwglyd, fel y gwnaethoch chi sôn, yn poeni am arian gartref neu heb yr adnoddau sylfaenol sydd eu hangen, eisoes dan anfantais addysgol, ac felly bydd unrhyw fesurau—fel nifer o'r rhai rydych chi wedi eu rhestru—i sicrhau cynhwysiant gwirioneddol yn cael eu tanseilio tra bod tlodi yn parhau i ddylanwadu yn y fath fodd ar brofiad addysgol plant. 

Rydych chi wedi sôn am nifer o bethau sy'n cael eu gwneud eisoes, ond pa gamau pellach y byddwch chi'n eu cymryd o fewn eich grymoedd eich hunain a hefyd o ran sgyrsiau gyda'ch partneriaid yn San Steffan, i sicrhau nad yw cefndir plentyn yn diffinio ei gyrhaeddiad addysgol na'i ragolygon yn y dyfodol? Gwnaethoch chi grybyll cyfraniad pwysig prydiau bwyd am ddim, er enghraifft, yn ein hysgolion cynradd—mesur a gyflawnwyd, wrth gwrs, yn sgil cytundeb gyda Phlaid Cymru. Ond o gydnabod, felly, effeithiolrwydd y fath fesur, hoffwn i ofyn pam fod yna bobl ifanc yn ein hysgolion cyfun sydd o deuluoedd sy'n gymwys am gredyd cynhwysol sydd ddim yn gymwys am brydiau bwyd am ddim. Mae'n gost gymharol fechan i newid hynny, ond dydych chi ddim wedi gweithredu ar hynny er y byddai'n cael effaith fawr ar les a chyrhaeddiant. Felly, efallai y gallwch chi esbonio pam dydych chi ddim wedi gwneud hynny. 

O ran yr hyn sydd yn nwylo San Steffan, maen nhw, o'r diwedd, ac rydyn ni'n croesawu hynny, wedi codi'r terfyn dau blentyn, ond mae sefydliadau gwrth-dlodi, fel y Sefydliad Bevan, er enghraifft, wedi sôn mai gostyngiad o ryw 3 y cant i 4 y cant ar lefelau tlodi plant yng Nghymru fydd effaith hynny, ac maen nhw'n galw am newid y cap ar fudd-daliadau, polisi Torïaidd arall sy'n parhau ar waith. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a gyda Llywodraeth San Steffan ynghylch yr angen i adolygu'r cap ar fudd-daliadau? Pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o sut y mae'r cap yn parhau i effeithio ar lefelau tlodi plant ac felly allbynnau addysgol yng Nghymru?

Hoffwn i hefyd godi pwynt a wnaethoch chi am fynediad at addysg uwch. Dwi'n meddwl ei bod hi'n gamarweiniol i ddweud nad oes yr un person ifanc yn cael ei ddal yn ôl o ran mynediad at addysg uwch gan gostau. A ydych chi'n derbyn bod y system gwbl anfoesol sydd gyda ni o ran cyllid myfyrwyr yn gynyddol olygu bod addysg uwch yn rhywbeth y bydd teuluoedd cefnog yn unig yn y dyfodol yn medru cyrchu? Tra bod mwy o bwyslais, a dwi'n cydnabod hyn, ar gefnogaeth i fyfyrwyr o gefndiroedd mwyaf tlawd yng Nghymru, mae undeb myfyrwyr Cymru yn rhybuddio bod y system bresennol yn annheg ac yn anghynaladwy i'r rhelyw. Ydych chi'n cytuno? Ac os ydych chi, pa sgyrsiau ydych chi'n cael gyda'r Llywodraeth yn San Steffan yn hynny o byth? Ac oes unrhyw addasiadau rydych chi eisiau eu gweld o ran y system a'r pwerau sydd gyda ni dros hynny yng Nghymru?

I blant eraill, nid yn unig y rhwystrau economaidd sy'n eu hatal nhw rhag cyrraedd eu potensial, ond mae yna rai strwythurol. Mae plant a phobl ifanc anabl yn dal i wynebu oedi cyn derbyn asesiadau, mae yna anghysondeb rhwng awdurdodau lleol ac anawsterau wrth sicrhau'r addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnyn nhw. Mae cynhwysiant gwirioneddol yn golygu sicrhau cyfranogiad, onid yw e, a chefnogaeth ac urddas. Felly, sut fydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y gefnogaeth yna i blant a phobl ifanc anabl yn gyson ledled Cymru, a bod hynny ddim yn meddwl eu bod nhw jest yn gallu cyrraedd yr ysgol, ond eu bod nhw'n gallu ffynnu yn yr ysgol?

Hoffwn i ofyn, yn olaf—. Rŷch chi wedi sôn yn helaeth ynglŷn â'r system, y diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol sydd gyda ni yng Nghymru. Ond rŷn ni wedi gweld, onid ydyn ni, dros y diwrnodau diwethaf, gynigion gan y Llywodraeth yn Steffan i ddiwygio yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, gyda ffocws ar ymyrraeth gynharach a mwy o gysondeb. Gall y datblygiadau yno gael goblygiadau i Gymru, boed drwy gyllid canlyniadol, efallai, neu ddarpariaeth drawsffiniol. Felly, allaf i ofyn i chi ba asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith bosibl y cynlluniau hynny? Diolch.

17:45
17:50
17:55
18:00
7. Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026

Yr eitem nesaf yw eitem 7. Y Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 yw'r rhain. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Economi, Ynni a Chynllunio sy'n gwneud y cynnig yma—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM9161 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Thank you. In December last year, regulations were made that reformed the manner in which building control approval is conducted in Wales. These were needed to enable change as a result of Dame Judith Hackitt's recommendations to improve safety and accountability following the Grenfell Tower tragedy. These changes have been part of an ongoing strategy to reform the building control sector, and to improve safety in higher-risk residential buildings, though they also affect the wider process of building control.

The regulations being discussed today are consequential upon those made in December. They update the terminology across other primary and secondary legislation. They do not alter the intent or the meaning of the legislation they amend, but ensure that existing legislation continues to operate as it currently does once the new suite of new legislation comes into force on 1 July.

December's legislation introduces the term 'application for building control approval' to the lexicon in relation to building work, and shifts the position of procedures relating to this from the Building Act 1984 to the Building Regulations 2010. This instrument ensures that other pieces of legislation, including various local Acts, are updated to reflect this change.