Y Cyfarfod Llawn

Plenary

28/01/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.

Cabinetau Awdurdodau Lleol

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn asesu perfformiad a llywodraethiant cabinetau awdurdodau lleol? OQ63714

Adfywio Canol Trefi yn Nwyrain De Cymru

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn adfywio canol trefi yn Nwyrain De Cymru? OQ63742

13:35
13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos diwethaf yn San Steffan, fe glywsom ni gyhoeddiad hirddisgwyliedig am gynllun cartrefi cynnes Ed Miliband, gwerth £15 biliwn. Ers i'r cynllun gael ei grybwyll ym mis Mehefin, dydy hi ddim wedi bod yn glir faint o gyllid canlyniadol fydd ar gael i Gymru a sut fydd o'n cael ei fuddsoddi yma. Felly, mae'r cwestiwn yn un syml: ydy'r cyllid canlyniadol wedi dod i Gymru? Ydy o'n dod? Ac os ydy o'n dod, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei ddyrannu, neu ydy o wedi cael ei ddyrannu'n barod? Byddai unrhyw wybodaeth yn ddefnyddiol iawn ar y pwynt yma. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n fawr callach ar ôl yr ateb yna i'r cwestiwn roeddwn i'n ei ofyn, ond dyna ni. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio nad oedd gan y Llywodraeth wybodaeth eto am oblygiadau cynllun Miliband i Gymru. Rydych chi newydd ddweud eich bod chi wedi cael trafodaethau ddydd Llun yr wythnos yma. Mae hyn yn sefyllfa hollol anfoddhaol. Dydy o ddim yn adlewyrchu dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio mewn partneriaeth. Buaswn i wedi gobeithio y byddai'r trafodaethau yma wedi digwydd ers misoedd, wrth i Miliband dynnu ei gynllun at ei gilydd. Felly, pryd, cyn dydd Llun, oedd yna drafodaethau ynglŷn â'r hyn sydd yn y cynllun? Buaswn i'n licio cadarnhad clir hefyd o sut mae cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i fod yn alinio efo'r cynlluniau yma yng Nghymru. Pa elfennau o gynllun Miliband fydd yn cael eu gweithredu yng Nghymru? Sut fydd pobl Cymru yn cael gwybodaeth syml ynglŷn â beth sydd ar gael, a gan bwy, mewn system sydd yn mynd yn gynyddol gymhleth ac anodd ei llywio?

13:45

Diolch yn fawr iawn. O ran y rhaglenni ôl-osod, mae hanes diweddar yn dangos sawl camgymeriad. Mae problemau efo Consumer Energy Solutions wedi amlygu achosion lle mae aelwydydd wedi cael eu gadael i lawr. Yn fy etholaeth i, mae'r cynllun i adfer diffygion Arbed wedi rhedeg mewn i broblemau. Felly, mae'n bwysig, onid ydy, sicrhau bod pob cartref yn ddiogel, yn effeithlon ac yn gyfforddus. Mae'n bwysig hefyd fod gan y cyhoedd ffydd yn y gwaith sydd yn cael ei gynnig. O ystyried bod tai Cymru ymhlith y rhai gwaethaf yn Ewrop o ran effeithlonrwydd ynni, mae'n hanfodol adfer yr ymddiriedaeth sydd wedi cael ei cholli gan y cyhoedd wrth gyflwyno unrhyw fath o raglenni newydd ac wrth barhau efo'r rhaglenni sydd ar waith ar hyn o bryd. Felly, hoffwn i wybod beth ydy'ch cynlluniau chi fel Llywodraeth i adfer ffydd y cyhoedd yn yr holl faes o wella cartrefi Cymru—gwaith sydd mawr angen ei gyflawni ar frys. Mae gan Blaid Cymru rai awgrymiadau, ond hoffwn i glywed beth ydy'ch safbwynt chi fel Llywodraeth. Diolch.

13:50
13:55
Setliad Llywodraeth Leol 2026-27

3. Sut bydd setliad llywodraeth leol 2026-27 yn effeithio ar bobl Pen-y-bont ar Ogwr? OQ63744

14:00
Buddsoddiad yng Nghanol Trefi ar draws Gogledd Cymru

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yng nghanol trefi ar draws gogledd Cymru? OQ63752

Cyllid Cyngor Sir Powys

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi trosolwg o'r cyllid y mae'n ei ddarparu i Gyngor Sir Powys i gyflawni ei ddyletswyddau statudol? OQ63755

14:05
Cefnogi Awdurdodau Lleol

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau? OQ63732

14:10
Gwasanaethau Statudol yn Nwyrain De Cymru

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau yn Nwyrain De Cymru i sicrhau bod gwasanaethau statudol yn cael eu darparu'n effeithiol? OQ63733

14:15
Canllawiau i Awdurdodau Lleol

8. Pa brosesau mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i ddatblygu a chyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau? OQ63717

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, a Carolyn Thomas sy'n gofyn y cwestiwn. Carolyn Thomas.

Y Sector Ynni Adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru

1. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i sicrhau bod darparwyr addysg drydyddol yn barod ar gyfer twf y sector ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru? OQ63746

14:20
Argymhellion ar Ddeallusrwydd Artiffisial

2. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gweithredu argymhellion adroddiad Estyn, Oes Newydd: Sut mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn Cefnogi Addysgu a Dysgu, mewn ysgolion? OQ63747

14:25
14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
14:35

Diolch. Un rhwystr allweddol arall o safbwynt recriwtio athrawon yw'r gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy'n dewis astudio lefel A. Mae ymchwil gan Prifysgolion Cymru yn dangos bod cyfranogiad lefel A yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr, gyda dim ond 33 y cant o bobl ifanc yn astudio lefel A yma yng Nghymru, o'i gymharu â 47 y cant dros y ffin. 

Mae hyn yn peri pryder mawr, gan fod lefel-A yn gam hanfodol ar y llwybr i fod yn athro neu'n athrawes. Mae hon yn broblem sy'n effeithio ar bob pwnc, ond mae'n arbennig o ddifrifol mewn meysydd lle mae prinder eisoes, gan gynnwys addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod bod recriwtio i addysg gychwynnol athrawon uwchradd yn heriol, yn enwedig ar lwybrau cyfrwng Cymraeg. Ac mae'r niferoedd isel sy'n dewis Cymraeg lefel A fel pwnc yn gwaethygu'r her hon ymhellach. 

O ystyried y cyd-destun hwn, pa gamau penodol mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o bobl ifanc i astudio lefel A, er mwyn cryfhau'r llwybr i gymhwyso fel athrawon? A sut y byddwch chi'n sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg yn ymuno â'r proffesiwn, fel bod gennym y gweithlu addysg sydd ei angen er mwyn cyflawni uchelgais Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025?

14:40
14:45
14:50
Adleoli Campws Coleg Gwent

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i adleoli campws Coleg Gwent i ganol dinas Casnewydd? OQ63754

Ffonau Clyfar mewn Ysgolion

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion? OQ63725

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet osod disgwyliad cenedlaethol y bydd ysgolion yng Nghymru yn ddi-ffôn yn ddiofyn yn ystod y diwrnod ysgol, gydag eithriadau clir a chyfyngedig ar gyfer resymau meddygol, cyfrifoldebau gofalu ac anghenion dysgu ychwanegol? OQ63739

14:55
15:00
Y System Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Ngogledd Cymru

5. Pa asesiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o weithrediad y system anghenion dysgu ychwanegol yng Ngogledd Cymru? OQ63758

Wel, un neges glir rŷn ni'n ei chlywed yn gyson yw rhybuddion gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill ynglŷn â'r ffaith fod y pwysau sy'n dod o gyfeiriad darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol bellach yn cyfrif am dros chwarter holl bwysau cyllidebol ysgolion, a bod awdurdodau lleol, felly, o ganlyniad, yn cael trafferthion i gynnal gwasanaethau o safon heb y buddsoddiad sydd ei angen arnyn nhw.

Ydych chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, yn derbyn bod y trefniadau ariannu presennol ddim yn adlewyrchu gwir gost darparu'r cymorth statudol sydd ei angen ar blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol? Rwyf wedi eich clywed chi yn gynharach y prynhawn yma'n rhestru buddsoddiadau, ac mae croeso cynnes i'r rheini, wrth gwrs, yn ogystal â'r rôl mae Plaid Cymru wedi ei chwarae i sicrhau mwy o gyllideb ar gyfer awdurdodau lleol, ond ydych chi'n teimlo bod yna ddigon o gyllid yn y system i gwrdd â'r gofyn? Ac os nad ydych chi, beth yw'r cynllun i gau y bwlch yna, oherwydd, fel arall, gwnawn ni byth cyrraedd pwynt lle mae gwasanaethau'n gynaliadwy?

15:05

Ac yn olaf, gan fod cwestiwn 6 wedi'i ateb a 7 [OQ63743] wedi'i dynnu yn ôl, cwestiwn 8—Samuel Kurtz.

Absenoldeb o'r Ysgol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag absenoldeb o'r ysgol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ63756

15:10
3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiwn amserol sydd nesaf, i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac i'w ofyn gan Adam Price.

Diwygio'r Heddlu

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar effaith Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar ddiwygio'r heddlu, ar Gymru? TQ1434

Member (w)
Jane Hutt 15:11:21
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
15:15
15:20
15:25
15:30
15:35
15:40
4. Datganiadau 90 eiliad

Yr eitem nesaf fydd y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r cyntaf y prynhawn yma gan Samuel Kurtz.

Mae mwy na 70 y cant o'r aelodau'n siarad Cymraeg. Mae mudiad y clybiau ffermwyr ifanc wedi caniatáu i aelodau siarad a chystadlu yn eu mamiaith, sydd wedi gweld yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn tyfu ac yn ffynnu drwy’r genhedlaeth nesaf.

Pen-blwydd hapus, CFfI Cymru.

15:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Dwi’n falch i nodi pen-blwydd 70 Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy. Mae hyn yn cofnodi lle arbennig yn hanes addysg. Sefydlwyd yr ysgol yn 1956 fel yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf erioed yng Nghymru.

Mae’r pen-blwydd yma yn ddathliad o hanes yr ysgol ond hefyd yn ddatganiad o hyder i ddyfodol addysg yn y Gymraeg. Dwi’n llongyfarch disgyblion, staff a chymuned yr ysgol ar y garreg filltir yma, ac yn dymuno pob llwyddiant am y degawdau i ddod. Dwi’n gobeithio y gall yr ysgol barhau i wasanaethu fel model ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Nesaf yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Galwaf ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Paul Davies.

Cynnig NNDM9123 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol James Evans (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyfraith Helen

Eitem 5 heddiw, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, cyfraith Helen. Galwaf ar Cefin Campbell i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9115 Cefin Campbell, Jane Dodds

Cefnogwyd gan Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi darpariaethau Cyfraith Helen, neu Ddeddf Carcharorion (Datgelu Gwybodaeth am Ddioddefwyr) 2020 yn ffurfiol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r bwrdd parôl ystyried a yw troseddwyr wedi datgelu lleoliad gweddillion dioddefwr neu wedi nodi dioddefwyr oedd yn blant wrth wneud penderfyniadau parôl.

2. Yn cydnabod bod y Ddeddf wedi'i chyflwyno yn dilyn achos Helen McCourt, nad yw ei llofrudd erioed wedi datgelu lleoliad ei chorff, a bod peidio â datgelu hynny yn parhau i achosi trallod sylweddol a pharhaus i deuluoedd dioddefwyr.

3. Yn nodi galwadau am gyflwyno Deddf Helen Rhan 2: Atal Halogi, sy'n ceisio diwygio deddfau claddu a dedfrydu, gan gynnwys creu trosedd newydd o halogi corff.

4. Yn nodi ymhellach bod darpariaethau tebyg wedi'u cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon drwy Gyfraith Charlotte, gan gynnwys gwneud cuddio olion dioddefwr yn ffactor gwaethygol statudol wrth ddedfrydu; darparu cymhellion ar gyfer cydweithredu wrth ddod o hyd i weddillion, a gosod dyletswydd ar awdurdodau parôl i ystyried achosion o beidio â datgelu.

5. Yn cydnabod bod gweithredu'r mesurau hyn yng Ngogledd Iwerddon yn dangos bod diwygiadau o'r fath yn gyraeddadwy mewn mannau eraill yn y DU.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ystyried diwygiadau deddfwriaethol cyfatebol, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU, er mwyn cryfhau cyfiawnder a darparu mwy o urddas a diweddglo i ddioddefwyr a'u teuluoedd.

Cynigiwyd y cynnig.

A gaf i ddiolch yn fawr iawn i chi, Lesley a Sian, am ddod y prynhawn yma i gefnogi'r ddadl? Dwi'n gwybod fod hyn yn anodd iawn i chi, ond dwi am ddiolch i chi am eich dyfalbarhad hefyd gyda'r ymgyrch rŷch chi wedi bod yn ei redeg er cof am eich gŵr ac am eich brawd. Mae Lesley wedi rhoi hwn i fi, sef calon fach, sydd wedi cael ei gwneud o ddefnydd o lounger yr oedd Mike yn hoff iawn o orwedd arno fe. 

16:00
16:05

Dwi'n ddiolchgar iawn i Cefin am godi'r mater yma, a hefyd i Lesley ac i Siân. Mae'n neis gweld bod yna gefnogaeth drawsbleidiol ynglŷn â'r mater yma.

16:10
16:15

Ac mae'n calonnau ni i gyd yn dal i waedu o gofio am Michael, a hefyd mae ein cydymdeimlad a chariad tuag at Sian a Lesley yn ddwys ac yn ddiddiwedd.

16:20
16:25

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma mewn ffordd mor bwerus, a dweud y gwir, mewn dadl sydd wedi bod yn anodd i ni i gyd?

16:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cysylltedd trafnidiaeth

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gysylltedd trafnidiaeth. Galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9121 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd trafnidiaeth da i ffyniant economaidd Cymru. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) adfer y terfyn cyflymder diofyn i 30mya;

b) adeiladu ffordd liniaru'r M4;

c) uwchraddio'r A55;

d) gwneud yr A40 yn ffordd ddeuol;

e) darparu trydedd bont dros y Fenai; ac

f) dadrewi pob prosiect ffyrdd.

Cynigiwyd y cynnig.

16:35

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi nad yw Cymru, o dan lywodraethau olynol y DU, wedi cael cyfran deg o'r buddsoddiad mewn trafnidiaeth, gan gyfyngu ar ei gallu i wella cysylltiadau a datgloi ei photensial economaidd llawn.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod seilwaith trafnidiaeth Cymru'n cael ei ariannu'n deg, yn seiliedig ar anghenion, gan gynnwys:

a) cyllid canlyniadol llawn ar gyfer prosiectau trafnidiaeth mawr yn Lloegr, gan gynnwys HS2 a Rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr;

b) rhoi terfyn ar yr hanes o danariannu seilwaith trafnidiaeth Cymru; ac

c) datganoli mwy o bwerau ar gyfer gwneud penderfyniadau dros fuddsoddi mewn trafnidiaeth i Gymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu dull integredig, yn seiliedig ar dystiolaeth, o fuddsoddi mewn trafnidiaeth sy'n gwella cysylltiadau rhwng cymunedau, yn cefnogi datblygiad economaidd, ac yn adlewyrchu cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Dwi'n symud y gwelliant hwnnw, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr.

Dwi wastad wedi croesawu ymdrechion i wneud teithio yn fwy fforddiadwy ac yn fwy hygyrch ond, gadewch i ni fod yn onest, heb gyllid teg, mae Cymru'n cael ei dal yn ôl. Yn dilyn yr etholiad cyffredinol diwethaf, cawsom addewid gan Lywodraeth Lafur newydd yn San Steffan, yn dweud y bydden nhw'n agor cyfleoedd buddsoddi newydd. Hyd yma, dydyn ni ddim wedi gweld hynny'n cael ei wireddu yng Nghymru.

Dim ond yr wythnos diwethaf, gofynnodd fy nghyd-Aelod Plaid Cymru yn San Steffan pam nad ydy Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid Northern Powerhouse Rail. Yr ateb? Bod rheilffyrdd trwm yn cael eu cofnodi fel prosiectau Lloegr a Chymru, hyd yn oed pan nad oes un fodfedd o'r traciau hynny yng Nghymru. Cyfeiriodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru at brosiectau fel gorsaf Caerdydd Canolog a phrif linell de Cymru yn ei hateb. Ond yr hyn na ddwedodd oedd mai arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru sy'n galluogi'r rhain i ddigwydd. Felly, dydyn ni ddim ond yn cael yr arian sy'n ddyledus os ydyn ni'n talu ecstra i mewn. Mae arian a ddylai fynd i ysgolion, i'r NHS ac i wella tai pobl Cymru yn cael ei ddefnyddio i lenwi’r bwlch a grëwyd gan San Steffan.

Mae hyd yn oed cyllid ar gyfer ein ffyrdd yn cael ei ailgyfeirio i dalu am annhegwch strwythurol. Annhegwch y mae hyd yn oed Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig wedi'i alw'n 'afresymol'. Cofiwch hefyd fod y cyn-Brif Weinidog, sydd bellach yn Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, wedi ystyried camau cyfreithiol dros hyn. Felly, beth ddigwyddodd i'r ymrwymiadau hynny?

Mae'n eironig clywed honiadau nad yw Cymru'n gorffen wrth y ffin, pan mai dyna'n union sydd yn digwydd pan mae'n dod at gyllid. Ni fyddai unrhyw wlad arall yn disgwyl talu am reilffyrdd mewn gwlad arall, heblaw Cymru. Heddiw, mae dros £3 biliwn o gynlluniau gwella rheilffyrdd yng Nghymru yn aros am sicrwydd cyllido. Mae hynny'n codi'r cwestiwn difrifol am degwch a thryloywder. A gadewch i ni fod yn glir, y Ceidwadwyr a osododd Cymru yn y system prosiectau Lloegr a Chymru yma yn y lle cyntaf, a'n hamddifadu o filiynau—os nad biliynau—o gyllid. Felly, does ganddyn nhw ddim yr hawl heddiw i bregethu.

Mae pobl Cymru'n haeddu system drafnidiaeth sy'n gweithio i ni. Mae'r Senedd hon eisoes wedi pleidleisio'n unfrydol dros gyfran deg i Gymru, ac mae'n bryd gwneud hynny eto. Dim ond un blaid sydd wedi sefyll yn gyson dros gyllid teg. Plaid Cymru ydy honno. Byddwn yn parhau i ymladd dros arian cyfatebol HS2 a Northern Powerhouse Rail, a datganoli seilwaith rheilffyrdd, er mwyn rhoi diwedd ar ddegawdau o danfuddsoddi. Nid yw hyn yn fethiant technegol, mae'n ddewis gwleidyddol, a thra bod San Steffan yn dewis Lloegr, mae Plaid Cymru'n dewis Cymru. Diolch.

16:40

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig yn ffurfiol welliant 2 yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu pob un ar ôl pwynt 1 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyflawni wrth wella trafnidiaeth:

a) datblygu system Fetro o safon fyd-eang yn Ne Cymru ynghyd â buddsoddiad Llywodraeth Cymru o dros £1 biliwn i wella’r seilwaith ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd datganoledig llinell graidd y cymoedd;

b) buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd gan bron ddyblu’r capasiti a sicrhau twf anferthol yn y gwasanaethau i deithwyr;

c) dod â’r buddsoddiad mwyaf erioed gan Lywodraeth y DU i reilffyrdd Cymru ers cyhoeddiad Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU yn 2009 i drydaneiddio prif linell De Cymru;

d) pasio’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) arloesol i gyflwyno masnachfreintiau a rhoi pobl cyn elw wrth ddarparu gwasanaethau bysiau;

e) denu dwy filiwn o bobl ifanc i deithio ar y bysiau gyda’r tocyn £1 i bobl ifanc;

f) cynlluniau cyffrous ar gyfer tocyn £2 i oedolion a chynnydd o 10 y cant yn y llwybrau yn y Senedd nesaf;

g) cynnal prosiect mawr wedi’i flaenoriaethu ar gyfer adnewyddu asedau gan ddechrau gyda chynllun cyfnewid gwerth £180 miliwn ar Afon Dyfrdwy;

h) dechrau’r gwaith o glirio’r ôl-groniad cynnal a chadw ffyrdd sydd heb ei wneud, ar ôl 14 mlynedd o lymder o dan y Ceidwadwyr, gan wella 627km o arwynebau ffyrdd a llenwi 203,000 o dyllau yn y ffyrdd yn dilyn hwb o £25 miliwn yn y cyllidebau cynnal a chadw ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol a £60 miliwn (£120 miliwn dros 2 flynedd) i Fenter Benthyca Llywodraeth Leol i drwsio ffyrdd lleol;

i) comisiynu adolygiad o gyflwr ffyrdd a thraffig ar y prif ffyrdd strategol, megis yr M4, A55 a’r A494 i asesu’r ymyriadau y dylid eu blaenoriaethu i wella effeithiolrwydd y priffyrdd sy’n gwasanaethu coridorau economaidd strategol;

j) cydweithio ag awdurdodau lleol i ddatblygu’r gallu i gynllunio trafnidiaeth rhanbarthol, gyda chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd a ddatblygir gan Gydbwyllgorau Corfforedig a thros £100 miliwn ar gyfer eu cyflawni; a

k) gweithio gyda’r rhanbarthau i sbarduno momentwm tuag at ddatblygu “metros” yn y Gogledd a’r De-orllewin.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:45
16:50
16:55
17:00
17:05
17:10
17:15
17:20

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

17:25

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Tai

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM9122 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod cyflwr tai yng Nghymru ymhlith y gwaethaf yn Ewrop.

2. Yn cydnabod effaith sylweddol tai gwael a'r argyfwng tai ehangach ar iechyd y cyhoedd, costau byw, tlodi tanwydd, a'r amgylchedd.

3. Yn credu bod angen ffocws clir, traws-lywodraethol ar gyfer gweddill tymor y Senedd hwn i gael gwared ar rwystrau a chynyddu'r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol newydd, mewn ymateb i ddigartrefedd cynyddol, rhestrau aros hir, y defnydd uchel o lety dros dro, a chostau rhentu anfforddiadwy.

4. Yn cydnabod y manteision niferus o wella safonau tai, gan gynnwys costau aelwydydd is, creu swyddi, cefnogaeth i economïau lleol, arbedion i'r GIG, a chynnydd wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy ar gyflymder a darparu diweddariad cynhwysfawr;

b) nodi sut y bydd yn addasu ei rhaglenni ôl-osod a'r cynllun Trechu Tlodi Tanwydd wedi i ECO4 ddod i ben, colli sgiliau ôl-osod lleol, a newidiadau i gynllun Warm Homes Llywodraeth y DU; ac

c) amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer dyrannu'r cynnydd disgwyliedig i gyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i ymrwymiadau Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod adolygiad gwariant hwn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae Cymru mewn argyfwng tai, ac mae’r argyfwng hwnnw’n dyfnhau pob dydd. Dydy hyn ddim yn fater ymylol nac yn broblem dros dro, ac mae mwyafrif o bobl Cymru yn cydnabod hynny, efo problemau tai yn drydydd ymhlith pryderon pobl Cymru mewn arolwg ar ôl arolwg, wrth i bobl feddwl am y dyfodol. Yn dilyn iechyd a swyddi, tai ydy un o bryderon mawr ein dyddiau ni. Mae’r argyfwng yn effeithio ar filoedd o aelwydydd ledled Cymru, ar deuluoedd, ar blant ac ar unigolion sy’n cael eu hamddifadu o’r peth mwyaf sylfaenol, sef cartref diogel a sefydlog. Gadewch i ni fod yn gwbl glir o’r cychwyn cyntaf: mae amodau tai yng Nghymru ymhlith y gwaethaf yn Ewrop. Mae gormod o bobl yn byw mewn cartrefi o ansawdd gwael, sy’n anniogel ac yn anaddas. Mae hyn, wrth gwrs, yn gwaethygu iechyd y cyhoedd, yn gwthio costau byw i fyny, yn gwaethygu tlodi tanwydd ac yn tanseilio ein hymdrechion ni i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r dystiolaeth yn glir ac yn gyson ar draws y sector tai cyfan. Ac mae’r canlyniadau i’w gweld yn ein strydoedd ni ac yn ein cymunedau ni. Mae digartrefedd yn parhau i godi. Mae rhestrau aros am dai cymdeithasol yn annerbyniol o hir—tua 170,000 o bobl ar hyn o bryd ar restrau aros. Mae dros 13,000 o bobl wedi ceisio am gymorth am ddigartrefedd gan awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Ac ym mis Hydref diwethaf, roedd mwy na 10,000 o bobl yn gaeth mewn llety dros dro, gan gynnwys bron i 3,000 o blant, llawer ohonyn nhw heb fynediad at gyfleusterau coginio neu olchi dillad, weithiau am fisoedd, hyd yn oed flynyddoedd. [Torri ar draws.] Ie, Janet.

A gaf i eich atgoffa chi bod y broblem yn sylfaenol yn ymwneud efo diffyg tai cymdeithasol? Mae'r cyflenwad tai cymdeithasol wedi cael ei haneru yn ystod y cyfnod diwethaf yma, ac mae hynny oherwydd polisi hollol fwriadol y Torïaid, sef y polisi hawl i brynu. Felly, na, dwi ddim yn derbyn bod y broblem fel rydych chi'n ei hesbonio; mae'r broblem yn gorwedd efo chi. 

Y tu hwnt i'r problemau dwi wedi eu hesbonio yn barod, y realiti ydy bod y sector rhentu preifat yn un gwbl anfforddiadwy i lawer. Mae rhenti yng Nghymru yn codi ar y gyfradd gyflymaf ym Mhrydain, tra bod y lwfans tai lleol yn parhau i gael ei rewi gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig. Mae’r bwlch rhwng yr hyn mae pobl yn ei gael a’r hyn sydd ei angen arnyn nhw yn tyfu, ac mae hynny’n gwthio mwy a mwy o bobl i mewn i dlodi a digartrefedd. Ac fel dwi wedi sôn, wrth wraidd hyn oll mae yna un gwirionedd syml: does gennym ni ddim digon o dai cymdeithasol, canlyniad uniongyrchol i bolisïau’r gorffennol, yn enwedig right to buy, ond mae o hefyd yn adlewyrchu methiant y Llywodraeth bresennol yng Nghymru i gynyddu’r cyflenwad ar y raddfa a’r cyflymder sydd ei angen. Mae yna beth cynnydd wedi digwydd yn ddiweddar, a da hynny, ond mae angen i'r cynyddu yna fod yn un systematig ac yn un strwythurol yn hytrach nag anelu at gyrraedd targed yn unig, a dwi'n poeni nad ydy'r newidiadau mawr strwythurol yna yn digwydd ar hyn o bryd.

Mae'r argyfwng yn codi cwestiynau dyfnach am egwyddorion. Mi ddylai tai cymdeithasol fod yn rhywbeth y gall pob un ohonom ddyheu amdanyn nhw, nid rhywbeth sy'n cael ei stigmateiddio neu ei gyfyngu i'r rhai sy'n 'ddigon tlawd' ar bapur.

Mae'r comisiynydd plant wedi dweud yn glir fod y system dai bresennol yn gadael plant i lawr ac yn torri eu hawliau. Mae Sefydliad Bevan wedi rhybuddio am y perygl o niwed i'r plant sydd mewn llety dros dro anaddas. Ac mae hyn oll yn mynd ymhellach na thai, wrth gwrs. Mae'n ymwneud ag iechyd, addysg, datblygiad plentyn a bywyd teuluol.

Dirprwy Lywydd, dydy'r sefyllfa yma ddim yn ddigon da. Dim dyma ydy'r Gymru rydyn ni ei heisiau, a ddylem ni ddim derbyn mai fel hyn mae'r dyfodol i fod. Mae yna ffordd well ymlaen, ac mae Plaid Cymru yn cynnig arweinyddiaeth a gobaith newydd.

Rydym ni'n ymrwymo i weithredu'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), sydd ar daith drwy'r Senedd ar hyn o bryd. Rydym ni am wreiddio y dull ataliol, a'r egwyddor tai yn gyntaf, trawma-wybodus, sy'n rhoi'r unigolyn wrth wraidd y system. Ac rydym ni am weld yr hawl i dai digonol wedi'i gwreiddio yn y gyfraith yng Nghymru, gan wneud yn glir ei bod hi'n hawl sylfaenol.

Dwi'n mynd yn ôl eto at y ffaith bod cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn allweddol. Dwi ddim yn ymddiheuro am hyn. Mae hwn yn greiddiol i ateb yr argyfwng tai, a dyna pam y byddai Plaid Cymru yn sefydlu corff, Unnos, i gyflymu'r twf mewn cyflenwad y tai cymdeithasol, drwy gefnogi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, a sbarduno arloesi.

Rhaid inni hefyd gryfhau hawliau rhentwyr, cyflwyno rhenti teg, dod â diwedd i droi allan heb fai, a sicrhau bod pob cartref yn ddiogel, yn gynnes ac yn addas i fyw ynddo fo. Mae'r dystiolaeth yn glir, ac mae'r dioddef sy'n cael ei deimlo ar lawr gwlad yn real iawn. Mi ddof i nôl at hynny. Roedd gen i enghreifftiau yn fy inbox i y bore yma o realiti y sefyllfa.

Tan hynny, dwi'n edrych ymlaen i glywed cyfraniadau yr Aelodau, ac mi fydd fy nghyd-Aelodau i ym Mhlaid Cymru yn manylu ar dlodi tanwydd a'r angen am eglurder am beth sydd i ddigwydd yn sgil diddymu ECO4. Mi fyddwn ni'n edrych ar effaith cartrefi oer a thamp ar iechyd pobol, a'r angen i wneud mwy i ddod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd.

17:30

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Joel James i gynnig gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pob un a rhoi yn eu lle:

1. Yn cydnabod bod Cymru yng nghanol argyfwng tai.

2. Yn gresynu bod llywodraethau olynol yng Nghymru wedi methu ag adeiladu digon o gartrefi newydd i ymateb i'r galw.

3. Yn cydnabod y manteision sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar gartref.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Cymru yn ddemocratiaeth perchnogion cartrefi drwy wneud y canlynol:

a) diddymu treth trafodiadau tir ar bob prif gartref;

b) adfer yr hawl i brynu yng Nghymru, gan ail-fuddsoddi'r hyn a enillir drwy werthiannau mewn tai mwy fforddiadwy;

c) adeiladu mwy o gartrefi oes sy'n hygyrch ac y gellir eu haddasu i bobl o bob oedran a gallu drwy gydol eu bywydau;

d) dod â mwy o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd; ac

e) ymestyn ac ehangu'r cynllun cymorth i brynu i bob prynwr tro cyntaf.

Cynigiwyd gwelliant 1.

17:35

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i gynnig gwelliant 2 yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu pob un a rhoi yn eu lle:

Cynnig bod y Senedd yn:

Croesawu’r diwygiadau deddfwriaethol dewr ac uchelgeisiol a geir yn y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) i gefnogi’r nod tymor hir o ddod â digartrefedd i ben.

Cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £540 miliwn dros dymor presennol y Senedd i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £98 miliwn arall ar gyfer y rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio i wella cartrefi cymdeithasol yn 2026-27.

Croesawu Cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU ac yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i gael y gorau o effeithiau’r ymyriadau a’r buddsoddiad a ddaw o’r cynllun, i wella canlyniadau i bobl Cymru.

Cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £2 filiwn mewn tai cymdeithasol gan ddisgwyl darparu 20,000 o dai carbon isel ychwanegol i’w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn mis Tachwedd.

Cydnabod y niwed i’r piblinellau datblygu tai o ganlyniad i Brexit a mini-gyllideb Liz Truss, a galw ar bob plaid i ymrwymo i raglen adeiladu tai uchelgeisiol ar draws y sectorau cymdeithasol, preifat a chanolradd dros dymor nesa’r Senedd a thu hwnt.

Croesawu ymrwymiad a chyd-berchenogaeth Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid sectorol wrth roi argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy ar waith.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Ydy ein cymdeithas fodern, gyfoes wedi dysgu gwersi anodd yr oesoedd a fu? Edrychwch ar achos truenus y bachgen bach dwyflwydd oed, Awaab Ishak, a laddwyd o ganlyniad i anadlu llwydni oedd ar furiau ei gartref, yn yr ystafell fyw, yr ystafell ymolchi, ac ar hyd ei ystafell wely. Mae tai gwael yn lleihau hyd bywydau llawer gormod o bobl, gyda chartrefi oer, llaith ac anniogel yn parhau i yrru salwch anadlol, clefyd y galon, gorbryder ac iselder, gan wthio pobl i ysbytai na ddylent fyth fod wedi gorfod bod ynddynt i gychwyn. Mae hyn yn gost uniongyrchol o dros £95 miliwn i'n gwasanaeth iechyd yng Nghymru bob blwyddyn. Dyna arian sy'n cael ei wario ar drin niwed y gellid bod wedi'i atal—nid unwaith, ond drosodd a throsodd. Dyma ydy pris oedi rhag gweithredu.

A dydy'r niwed yma ddim yn dod i ben gyda salwch corfforol. Mae plant sy'n tyfu i fyny mewn cartrefi oer, gorlawn neu ansicr yn fwy tebygol o golli'r ysgol, cael trafferth canolbwyntio, a chario'r effeithiau drwy eu bywydau fel oedolion. Nid yw tai gwael yn niweidio'r ysgyfaint yn unig; maent yn niweidio cyfleoedd bywyd.

Ond mae yna ddatrysiadau hefyd. Mae gwaith rhagorol Care & Repair Cymru yn dangos pan fod tai yn cael eu gwneud yn ddiogel, yn gynnes ac yn hygyrch, fod posib lleihau mynediad brys i'r ysbyty, a chleifion yn dychwelyd adref yn gynt, gan fyw'n annibynnol. Mae gwaith Care & Repair wedi arbed miloedd o ddiwrnodau yn yr ysbyty.

Fedrwn ni ddim dweud ein bod ni'n poeni am iechyd cyhoeddus tra'n caniatáu i dai wneud pobl yn sâl. Fedrwn ni ddim siarad am les cenedlaethau'r dyfodol tra'n gadael i bobl fyw mewn tai sydd yn uniongyrchol yn effeithio ar eu lles ac iechyd, gan leihau cyfleoedd ein plant. Mae tai ac iechyd yn ddeubeth sydd yn gwbl glwm â'i gilydd. Nid lloches neu do uwch ein pen yn unig ydy tŷ; mae'n llawer iawn mwy na hynny. Mae'n gwbl ffurfiannol yn effeithio ar ddatblygiad babanod a phlant, eu twf, a'u cyfleoedd mewn bywyd. Mae'n effeithio ar allu person i fyw bywyd gydag urddas, neu ei allu i fyw ei ddyddiau olaf mewn parch. Altaf.

17:40

Tai ydy un o'r penderfynyddion cymdeithasol iechyd pennaf, felly, os ydyn ni'n sôn am yr agenda ataliol, wel, dyma ni; mae tai yn ganolog i hyn. Diolch.

17:45
17:50

Mae un o bob pedair aelwyd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd. Mae hynny'n filoedd o deuluoedd, nifer ohonyn nhw yn cynnwys plant, pobl anabl, pobl hŷn a gofalwyr di-dâl. Mae hynny'n golygu gorfod gwneud dewisiadau na ddylai neb orfod eu gwneud. Ac yn syml, mae'n golygu peryglu nid yn unig urddas ac ansawdd bywyd, ond hefyd iechyd. Dyma realiti bywyd pobl ym mhob etholaeth sy'n cael eu cynrychioli yma. Mae gwella effeithiolrwydd ynni tai yn gwbl ganolog i daclo hyn.

Cyhoeddwyd cynllun trechu tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru yn 2021, ac fe gyhoeddwyd diweddariad ar gynnydd y cynllun ym mis Mehefin y llynedd, o dan gamau gweithredu newydd, gan restru'r angen i gyflwyno targedau dros dro yn seiliedig ar effeithlonrwydd ynni, gan ddatgan y byddai'r amcangyfrifon tlodi tanwydd diwygiedig, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, yn cael eu defnyddio i ddatblygu'r targedau hyn. Hoffwn wybod, mewn ymateb i'r ddadl, a fydd y targedau hyn yn cael eu cyflwyno cyn diwedd tymor y Senedd yma, gan fod yna bryder cynyddol na fydd hyn yn digwydd, er ei fod yn hanfodol i sicrhau gweithredu cadarn ac effeithiol i fynd i'r afael â'r lefel gwbl anghynaladwy, niweidiol, brawychus a chywilyddus o dlodi tanwydd sy'n effeithio ar bobl Cymru a'r grwpiau mwyaf bregus yn benodol.

Yn ôl y tystiolaeth sydd wedi'i hamlygu gan National Energy Action Cymru, mae yna lefelau cynyddol a dyfnach hefyd o ddyled ynni, y ddyled honno wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed, a bod tri chwarter y ddyled honno yn ôl-ddyledion ac felly'n debygol o ddyfnhau. Mae adroddiad ar ôl adroddiad, gan gynnwys sawl adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol rwy'n aelod ohono, wedi nodi nad yw'r lefel o fuddsoddiad presennol yn y rhaglenni Cartrefi Clud, sef prif ddull y Llywodraeth i daclo tlodi tanwydd, yn ddigonol. Pan ofynnodd y pwyllgor ynglŷn â'r ymrwymiadau cyllid i'r cynllun yn y gyllideb ddrafft, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol y dylai'r pwyllgor, a dwi'n dyfynnu,

'feddwl am y rhaglen Cartrefi Clud o ran y ffaith nad dyma'r unig gyllid grant sydd ar gael i aelwydydd.'

Mae'r cynlluniau ar lefel Prydain, er enghraifft Eco Flex, ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, cyhoeddwyd yn nghyllideb y Canghellor y byddai cynllun ECO yn dod i ben ym mis Mawrth. Ac er bod y cynllun wedi cael ei broblemau, mae wedi darparu cyllid gwerth £150 miliwn bob blwyddyn i Gymru, drwy awdurdodau lleol, ac felly'n amlwg yn effeithio nawr ar sicrhau bod tai pobl yng Nghymru yn gynhesach ac yn fwy effeithlon, ac, wrth gwrs, y lefelau yna o dlodi tanwydd.

Roedd gan y cynllun ei wendidau, ac rŷn ni i gyd yn ymwybodol o hynny, ond mae torri'r cynllun yma, cael gwared arno fe, yn ergyd drom am fod Cymru'n buddio cymaint o'r cynllun, yn sgil y modd yr oedd yn ategu lefel rhy isel y buddsoddiad a wnaed yma gan Lywodraeth Cymru o ran eu rhaglenni eu hunain. Mae ei dorri nid yn unig yn golygu llai o fesurau effeithlonrwydd, ond mae hefyd yn golygu colli sgiliau lleol, rhywbeth roedd Jenny Rathbone yn sôn amdano fe—colli swyddi hefyd, a thorri'r gadwyn yna o arbenigedd sydd ei hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol.

Mae etholwyr wedi cysylltu â nifer ohonom, dwi'n gwybod, yn sgil cau cwmnïau fel Consumer Energy Solutions yn Llansamlet, Abertawe, yn fy rhanbarth i, gan adael pobl gyda gwaith heb ei gwblhau, pympiau gwres wedi torri, a theuluoedd mewn cartrefi oer yn ystod canol y gaeaf. Mae hyn yn tanseilio hyder pobl mewn cynlluniau cyhoeddus, ac mae ailadeiladu'r ymddiriedaeth honno yn hollbwysig. Felly, hoffwn wybod beth mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud i fynd i'r afael â hynny.

Mae’r ansicrwydd yma wedi’i waethygu gan y diffyg eglurder wedyn ynghylch cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Rŷm ni wedi clywed addewidion mawr o ran y gwariant yna o £15 biliwn, ond mae’n aneglur beth sy’n berthnasol i Gymru, beth fydd y canlyniadau cyllidol, a sut y galluogodd Llywodraeth Cymru i gynllunio ar y sail yma, achos nid dyma sut mae partneriaeth effeithiol yn edrych. Pan holais i'r Ysgrifennydd Cabinet am hyn cyn y Nadolig, fe ddywedodd hi, a dwi'n dyfynnu, eu bod

'yn amlwg yn awyddus iawn i weld cynnwys y cynllun hwnnw, ac i ddeall ei effaith ledled Cymru, ac unrhyw gyllid canlyniadol sy'n gysylltiedig ag ef.'

Dywedodd y byddai'n fwy na pharod i ysgrifennu ataf i yn dilyn mwy o drafodaethau cyn i gynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU gael ei gyhoeddi. Wel, ches i ddim llythyr, yn anffodus, a chawsom ni ddim eglurder am hyn chwaith yn ystod y sesiwn gwestiynau. Felly, byddwn i'n hoffi clywed mwy am fanylion y trafodaethau yma, y rhai a gafwyd cyn cyhoeddi'r cynllun. 

Byddaf yn gorffen nawr, Dirprwy Lywydd. Ni allwn normaleiddio tlodi tanwydd. Mae’r ffaith bod hybiau cynnes a gwariant ar gymorth brys wedi dod yn rhan arferol o fywyd yn arwydd o fethiant systemig. Mae tlodi tanwydd yn fater o gyfiawnder tai, ac mae cartref cynnes yn hawl sylfaenol. Diolch.

17:55
18:00

Beth ydy gwerth cartref? Rydyn ni wedi clywed hyn yn barod heno, rydyn ni wedi clywed y ffaith mai nid lle yn unig, ond lloches hefyd ydy e; brics, ond hefyd darn o fro.

Dylid fod gan bawb hawl i gartref mewn cymdeithas waraidd. Llefydd diogel, clud, lle gall teuluoedd byw eu bywydau heb iddyn nhw orfod pryderi am os ydyn nhw’n gallu fforddio gwresogi’r ystafelloedd. Ond mae’r sefyllfa argyfyngus gyda biliau ynni, adeiladau sydd yn wlyb, yn ddrafftiog, yn peryglu iechyd a lles mwy a mwy o bobl, fel mae Sioned Williams wedi dweud hefyd. Nid cartrefi go iawn ydy llefydd sydd yn llaith ac oer. Mannau dros dro ydy'r rhain yn unig. Mae gwahaniaeth rhwng tŷ a chartref, ac mae gennym ni ddyletswydd i fynd i’r afael â hyn, nid yn unig fel gwleidyddion, ond fel pobl sydd yn rhannu cymdeithas.

Rydym yn croesawu’r newyddion am fuddsoddiad o £96 miliwn ar y rhaglen optimised retrofit, a fydd yn cynhesu cartrefi cymdeithasol, lleihau biliau, ac yn creu swyddi a sgiliau lleol. Ond erys yr her fwyaf yn y sector rhentu preifat, lle ffeindir y tai oeraf a mwyaf anghynaladwy. Mae angen sylw ar dai cymdeithasol, oes—rwy’n cytuno 100 y cant â hyn sydd wedi cael ei ddweud—ond nid nhw yn unig. Mae angen cynllun strategol i wneud pob cartref yn fan diogel a chynaliadwy, gyda thechnoleg drydan glân, pympiau gwres a systemau storio ynni sy’n lleihau biliau a charbon. Mae angen rhaglen sy’n blaenoriaethu’r cartref, nid fel adeiladau ond fel llefydd byw. Dylai pob penderfyniad am dai gynnwys egwyddorion effeithlonrwydd ynni, ynni glân a mynediad teg, gan sicrhau bod cartrefi Cymru’n sylfaen gadarn i deuluoedd heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol. 

Yn y cyd-destun hwn, mae’n hanfodol egluro sut y bydd rhaglenni retrofit Llywodraeth Cymru yn addasu ar ôl diwedd ECO4, fel mae Siân wedi dweud yn barod, ac yn amlwg, nid yw cynllun rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a chynllun cartrefi cynnes y Deyrnas Unedig yn cyd-fynd o bell ffordd. Mae angen eglurder ar y goblygiadau i Gymru, a sicrwydd na fydd Cymru’n cael ei gadael ar ein holau ni unwaith eto. Heb hynny, ni fydd unrhyw fuddsoddiad yn ddigonol, a bydd y cartrefi mwyaf bregus yn dal i wynebu’r un heriau a pheryglon.

Dylai gan bawb yr hawl i wneud mwy na goroesi yn unig. Nid moethusrwydd mo gwres, na gorffwys, na foddhad. Hanfod sylfaenol yw rhain, bob un.

18:05
18:15

Diolch yn fawr iawn. Wel, rydyn ni wedi trafod sawl agwedd ar yr argyfwng tai prynhawn yma, o dlodi tanwydd i dai gwag, a right to buy, hefyd, wrth gwrs, sydd yn greiddiol i'r drafodaeth. Er ein bod ni wedi cael ei wared o yma yng Nghymru, ac mi wnaethon ni fel plaid gefnogi hynny'n llwyr, mae o'n dal i fodoli yn Lloegr, a dim sôn gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig am gael gwared arno fo. Mi ddylwn i jest eich atgoffa chi o hynny.

Mae cyd-Aelodau Plaid Cymru wedi rhoi dadansoddiad pwerus i ni o sawl cyfeiriad, ac roedd Jenny Rathbone hefyd wedi codi nifer o gwestiynau sydd angen cael eu hateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Dwi'n meddwl mai dyna lle'r oedd y cwestiynau yna yn cael eu cyfeirio. A Carolyn, diolch yn fawr iawn am ddadansoddiad clir iawn o'r broblem ac o'r sefyllfa fel mae hi heddiw yma.

Mae'n hollol glir, onid ydy, ein bod ni mewn argyfwng tai—miloedd yn aros am dai cymdeithasol, teuluoedd, plant, pobl ifanc yn byw mewn llety dros dro neu yn wynebu digartrefedd. Y bore yma, pan wnes i edrych ar y ffôn i weld beth oedd yn yr e-byst, roedd ddau yn disgwyl amdanaf i mi y bore yma, un gan ferch ifanc sydd yn ddigartref ac wedi bod yn byw mewn llety dros dro sy'n amlwg, yn ôl y disgrifiadau ganddi hi, yn gwbl anaddas i'r anghenion sydd ganddi hi. Mae hi wedi bod yn byw yn y sefyllfa yna ers chwe mlynedd.

Roedd yr ail e-bost gan deulu ifanc sy'n byw mewn tŷ rhent preifat, yn byw yn y tŷ yma ers dros 10 mlynedd, tŷ yn y gymuned lle maen nhw'n byw, lle maen nhw'n gweithio a lle maen nhw'n magu eu plant, ond maen nhw newydd dderbyn eviction notice gan y landlord sy'n golygu bod rhaid iddyn nhw adael a symud erbyn diwedd mis Mai. Dyna ydy'r rheolau yng Nghymru. Maen nhw wedi gwneud cais i fod ar y rhestr tai cymdeithasol, ond maen nhw'n gwybod bod cymaint o deuluoedd eraill yn chwilio am dŷ cymdeithasol hefyd.

Mae hawliau rhentwyr yn fwy pellgyrhaeddol yn Lloegr erbyn hyn, ers pasio deddfwriaeth yno, ond mae no-fault evictions yn parhau yng Nghymru. Felly, mewn sefyllfa hollol annerbyniol, mae rhentwyr Cymru efo llai o hawliau na rhentwyr yn Lloegr. 

Dwi wedi sôn bod y cynnig yma, neu gwnaf i dynnu'ch sylw i chi at y ffaith bod y cynnig yma ynglŷn â thri mater penodol. Dwi'n derbyn does yna ddim amser i wneud llawer yn y cyfnod byr sydd ar ôl tan yr etholiad, ond mae yna dri pheth y buasai'n ddefnyddiol iawn i'r Senedd yma gael gwybod, sef lle rydyn ni arni efo argymhellion y grŵp tasg a gorffen ar dai fforddiadwy. So, dwi'n galw heddiw yma am ddiweddariad cyflawn yn dangos ble mae cynnydd a ble mae'r problemau yn parhau. Rydym ni angen y tryloywder yna er mwyn symud ymlaen yn y Senedd nesaf, er mwyn cael strategaeth iawn, er mwyn cael gwared ar lawer o'r rhwystrau sydd yn dal i fodoli.

Mae'r cynnig hefyd yn galw am sut fydd cynlluniau Llywodraeth Cymru ynglŷn â thaclo tlodi tanwydd a chreu cartrefi ynni effeithlon yn cael eu haddasu yn sgil yr hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig? Mae eisiau tryloywder am yr arian canlyniadol yn sgil yr ymrwymiadau newydd yng nghynllun Cartrefi Cynnes Ed Miliband.

yng nghynllun Cartrefi Cynnes Ed Miliband. Mae'n siomedig ofnadwy i glywed heddiw nad oes yna, mae’n ymddangos, ddim trafod wedi bod ymlaen llaw ynglŷn â chynnwys cynllun Ed Miliband. Y bartneriaeth sydd i fod yn digwydd ar draws dwy Lywodraeth, dydy hynny ddim wedi digwydd, mae'n amlwg, achos rydym ni'n newid glywed eto yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud bod initial discussions wedi dechrau dydd Llun. Wel, does bosib y dylai fod y trafod yna wedi dechrau nôl yn yr haf, pan oedd hi'n hollol amlwg bod yna gynllun newydd ar y gweill efo oblygiadau mawr ar gyfer Cymru. Felly, tri mater dwi wedi tynnu sylw atyn nhw yn fanna rŵan, pethau fedrwch chi roi gwybod i ni heddiw nesaf. Dydyn nhw ddim yn bethau anferth sydd yn golygu newid strategol mawr. Ond mae hi, wrth gwrs, yn hanfodol cynyddu cyflenwad tai cymdeithasol. Hynny sydd yn mynd i fynd at wraidd yr argyfwng tai.

Mae'r adroddiad gan y tasglu tai fforddiadwy yn amlygu’n glir y rhwystrau strwythurol sydd yn dal y sector tai yn ôl, ac mae'n dangos bod yna gamau pendant y gellid eu cymryd yn y tymor byr a chanolig i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a datgloi'r system.

Felly, plîs gawn ni wybod sut mae hynny i gyd yn mynd yn ymlaen? Ac wrth gwrs, beth sydd ar goll, yn anffodus, ydy'r arweinyddiaeth clir, y cydlyniant a'r hyder sydd ei angen ar y sector i gyflawni'r newid mawr.

Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Tai yn edrych unwaith eto ar gynyddu’r cyflenwad tai cymdeithasol a beth sydd angen digwydd. Y tro diwethaf i'r pwyllgor edrych ar hyn, mi ddaeth y pwyllgor trawsbleidiol efo nifer o argymhellion pwysig, dau gafodd eu gwrthod gan y Llywodraeth. Yn gyntaf—ac roedd hyn yn hynod siomedig—y gyntaf oedd bod dim angen sefydlu Unnos, dim angen corff hyd braich ar gyfer cyflymu'r broses o adeiladu a chaffael mwy o dai cymdeithasol. Erbyn hyn, mae yna consensws clir. Mae'r pwyllgor rŵan yn ail-ymweld â’r pwnc yma, ac mae yna gonsensws clir yn dod allan bod rhaid sefydlu Unnos.

A’r ail beth ddaru'r Llywodraeth wrthod ag ymwneud â fo yn sgil adroddiad cyntaf y pwyllgor, yr union fater mae Jenny Rathbone wedi tynnu sylw ato fo heddiw yma, sef yr angen i fod yn cyflwyno mwy o hyblygrwydd o fewn y safonau ansawdd yn y maes tai cymdeithasol. Felly, mae angen trafodaeth lawn a buan yn y Senedd nesaf ynglŷn â hynny, oherwydd mae hwnna'n golygu nad ydy cymdeithasau tai ddim yn gallu symud mor gyflym a fasen nhw'n licio.

Felly, mae'r tymor presennol yn prysur ddod i ben, ond mi fyddai hi'n dda o leiaf cael cydnabyddiaeth gyhoeddus gan y Llywodraeth bresennol fod yna argyfwng a bod angen ffocws clir traws-Lywodraethol i ymateb i'r argyfwng sydd yn dyfnhau.

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig oes heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio. Cyn i ni ddechrau pleidleisio,

Mae’r bleidlais gyntaf heno ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymraeg, cysylltedd trafnidiaeth. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Paul Davies.

Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig.

tabled to the motion. Open the vote. Close the vote. In favour 12, 1 abstention, 35 against. Therefore, the motion is not agreed. 

18:25

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, yn enw Jane Hutt. Agor y  bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn. 

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Cynnig NDM9121 fel y'i diwygiwyd:

NDM9121 Paul Davies (Preseli Pembrokeshire) 

To propose that the Senedd: 

1. Recognises the importance of good transport connectivity to the economic prosperity of Wales.  

2. Recognises the achievements of the Welsh Government in delivering better transport: 

a) developing a world class South Wales Metro system on the back of the Welsh Government’s investment of over £1 billion to improve the infrastructure of the devolved core valleys lines rail network; 

b) investing £800 million in new trains to almost double capacity and deliver a huge growth in passenger services; 

c) bringing the largest UK Government investment in wider Welsh rail since the 2009 announcement of the electrification of the South Wales main line by the last UK Labour Government; 

d) passing the landmark Bus Services (Wales) Bill to introduce franchising and put people before profit in the provision of bus services; 

e) attracting two million young people to travel on the buses with a £1 young person’s fare cap; 

f) exciting plans for a £2 adult fare cap and a 10 per cent uplift in routes in the next Senedd; 

g) delivering a prioritised major asset renewal starting with the £180 million River Dee replacement scheme; 

h) starting work on clearing the roads maintenance backlog following 14 years of Conservative austerity, improving 627km of road surfaces and filling 203,000 potholes following a £25 million boost to maintenance budgets for the strategic road network and a £60 million (£120 million over 2 years) Local Authority Borrowing Initiative to fix local roads; 

i) commissioning a review of road and traffic conditions of major strategic roads, such as the M4, A55 and A494 to assess priority interventions to improve the efficiency of the highways serving strategic economic corridors; 

j) collaborating with local authorities to develop a regional transport planning capability, with new regional transport plans developed by Corporate Joint Committees and over £100 million available for their delivery; and 

k) working with regions to renew momentum toward the development of regional “metros” in North Wales and South West Wales. 

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8, dadl Plaid Cymru: tai. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Galwaf am bleidlais ar welliant 1, nawr, yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Symudwn ymlaen. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn. 

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

Cynnig NDM9122 fel y'i diwygiwyd:

NDM9122 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Cynnig bod y Senedd yn:

1. Croesawu’r diwygiadau deddfwriaethol dewr ac uchelgeisiol a geir yn y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) i gefnogi’r nod tymor hir o ddod â digartrefedd i ben.

2. Cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £540 miliwn dros dymor presennol y Senedd i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £98 miliwn arall ar gyfer y rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio i wella cartrefi cymdeithasol yn 2026-27.

3. Croesawu Cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU ac yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i gael y gorau o effeithiau’r ymyriadau a’r buddsoddiad a ddaw o’r cynllun, i wella canlyniadau i bobl Cymru.

4. Cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £2 filiwn mewn tai cymdeithasol gan ddisgwyl darparu 20,000 o dai carbon isel ychwanegol i’w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn mis Tachwedd.

5. Cydnabod y niwed i’r piblinellau datblygu tai o ganlyniad i Brexit a mini-gyllideb Liz Truss, a galw ar bob plaid i ymrwymo i raglen adeiladu tai uchelgeisiol ar draws y sectorau cymdeithasol, preifat a chanolradd dros dymor nesa’r Senedd a thu hwnt.

6. Croesawu ymrwymiad a chyd-berchenogaeth Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid sectorol wrth roi argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy ar waith.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Canlyniad y bleidlais i ddilyn

9. Dadl Fer: Tai cydweithredol—Yr angen am fwy

Nawr, byddwn yn symud ymlaen at y ddadl fer, a galwaf ar Mike Hedges i siarad. 

a galwaf ar Mike Hedges i siarad.

18:30
18:40
18:50

Daeth y cyfarfod i ben am 18:50.