Y Cyfarfod Llawn

Plenary

14/10/2025

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, a bydd y cwestiwn cyntaf gan Jane Dodds. 

Gofal Cymdeithasol

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag anghenion pobl y mae angen gofal cymdeithasol arnynt? OQ63264

Rŷn ni am i bawb yng Nghymru gael y gofal cywir, yn agos at adref—gofal sy'n cael ei gynnig gydag urddas a thosturi. Ond er mwyn rhoi gofal, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gofalwyr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae pob gweithiwr gofal yng Nghymru bellach yn ennill o leiaf y cyflog byw, a gyda dy gymorth di, Jane, rŷn ni wedi buddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol eleni i leihau oedi mewn ysbytai a helpu mwy o bobl i wella gartre'n gyflymach. Rŷn ni hefyd wedi rhoi arian i gefnogi'r fyddin enfawr o ofalwyr di-dâl—y gwir arwyr yn ein teuluoedd a'n cymunedau.

13:35
Gordewdra ymysg Plant

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymysg plant? OQ63267

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

13:45

Diolch, Llywydd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn 10 oed eleni, Deddf sy'n gosod saith nod llesiant y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio tuag atyn nhw. Yn anffodus, mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu ein bod ni'n symud yn llawer rhy araf ar y gorau, ond ar lawer o fesurau ein bod ni'n mynd am yn ôl. Dyma beth mae prif ystadegydd Cymru yn ei ddweud yn adroddiad 'Llesiant Cymru 2025':

'Roedd pedair carreg filltir yn dangos dirywiad ac nid oedd chwech arall yn dangos fawr ddim newid, os o gwbl.' 

Rŵan, mae Llafur wedi cael 26 mlynedd i greu argraff go iawn a newid bywydau pobl Cymru er gwell, ond efo'r adroddiad yma'n adlewyrchu mor wael ar ganlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, diwylliannol ac eraill, pa fesurau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gywiro hynny?

13:50
Mynediad at Ddeintyddion y GIG

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ddeintyddion y GIG ledled Gorllewin De Cymru? OQ63246

13:55
Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddenedigol

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol? OQ63260

14:00

Prif Weinidog, fel rŷch chi'n gwybod, yn ystod y pedair blynedd diwethaf dwi wedi colli dau nai bach, Steffan, yn awr oed, ac Emrys, yn wyth diwrnod oed, a hoffwn i gydnabod yn gyhoeddus fan hyn, Prif Weinidog, y cysur roeddech chi wedi ei roi i ni—eich geiriau chi o gysur i ni fel teulu, a oedd yn golygu llawer iawn i ni yn ystod y cyfnod anodd yna. Fel dywedoch chi, mae'r trasiedi a'r teimlad o golled yn parhau, a phob cam ym mywyd y plentyn rŷch chi'n teimlo'r golled unwaith eto; dylai Steffan wedi dechrau'r ysgol gynradd eleni.

Hoffwn i dalu teyrnged i Heather Mackerness, etholwraig sydd wedi bod yn e-bostio fi lawer iawn, a gollodd blentyn 38 mlynedd yn ôl, nôl yn 1987. Mae hi wedi bod yn brwydro am gydnabyddiaeth i'w babi hi. Roedd hi'n hapus iawn i gael yr ateb i'm cwestiwn ysgrifenedig oddi wrth Sarah Murphy wythnos diwethaf y bydd tystysgrif nawr. Dau gwestiwn oedd gyda hi. A fyddai fe'n retrospective? Ac roeddwn i'n gallu ateb hynny: bydd. Yr ail gwestiwn roedd hi moyn gwybod oedd: pryd? A doeddwn i ddim wedi gallu cael yr ateb yna oddi wrth y Gweinidog. Mae'r etholwraig wedi aros 38 o flynyddoedd nawr. A allech chi roi unrhyw syniad i Heather ac i nifer o deuluoedd eraill pryd y gallan nhw gael cydnabyddiaeth swyddogol i'w plant nhw? Diolch yn fawr.

14:05

Diolch yn fawr. Mae'r golled, dwi'n gwybod, yn annioddefol o boenus nid yn unig i'r rhieni ond hefyd i'r teulu ehangach. Mae'n cyffwrdd â chymaint o bobl. Felly, dwi'n falch hefyd bod y person o'ch etholaeth chi yn mynd i gael cysur o gael y dystysgrif yma i ddangos eu bod nhw wedi cael sefyllfa lle roedd eu plentyn nhw wedi byw, fod yna rywbeth pendant wedi digwydd yn eu bywydau nhw. Maen nhw eisiau gwybod hynny. Maen nhw eisiau'r gydnabyddiaeth hynny. A dwi'n gwybod bod Sarah Murphy yn awyddus iawn i sicrhau bod hyn yn digwydd cyn gyflymed â phosibl.

Oriau Agor Tafarndai

5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith ei newidiadau arfaethedig i oriau agor tafarndai ar Gymru? OQ63268

14:10
Gwasanaethau Cyhoeddus

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus gorau posib i'r boblogaeth y maent yn eu gwasanaethu? OQ63266

14:15
Metro De Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddatblygiad Metro De Cymru? OQ63265

Rhestrau Aros Niwroamrywiaeth

8. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael a rhestrau aros niwroamrywiaeth? OQ63255

Mae'r galw am asesiadau niwroamrywiaeth wedi cynyddu ymhob cwr o'r Deyrnas Unedig, ond yma yng Nghymru rŷn ni'n cymryd camau i sicrhau bod teuluoedd yn cael yr help maen nhw ei angen yn gyflymach. Rŷn ni eisoes wedi rhoi diwedd ar aros pedair blynedd am asesiadau niwroddatblygiadol i blant, ac mae gan bob bwrdd iechyd gynllun clir i gael gwared ar amseroedd aros tair blynedd erbyn mis Mawrth 2026.

Yn y gogledd, rŷn ni wedi rhoi £2.7 miliwn yn ychwanegol i Betsi Cadwaladr i gyflwyno tua 1,700 o asesiadau ychwanegol eleni, ac maen nhw ar y trywydd iawn i wneud hynny.

Diolch am yr ymateb hynny. Dwi'n siŵr y bydd pob Aelod yma heddiw yn bresennol wedi gweld nifer cynyddol o waith achos o amgylch diagnosis a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd yn byw efo cyflyrau niwroamrywiol. Yn fy achos i, dwi wedi gweld rhieni yn dod mewn i gymorthfeydd ac yn dod mewn i'r swyddfa yn eu dagrau oherwydd bod ganddyn nhw blant 11 oed yn niweidio eu hunain, a rhai yn trio cymryd eu bywydau eu hunain, oherwydd nad oes ganddyn nhw'r diagnosis na'r gefnogaeth angenrheidiol.

Rŵan, yn wahanol i'r data rydych chi newydd ei ddweud, mae'r data dwi wedi'i gael drwy FOI yn dangos bod yna dros 7,000 o blant a phobl ifanc yng ngogledd Cymru yn aros am asesiad, ac efo tua 40 asesiad yn cael eu gwneud bob mis yn unig yn y gogledd, mae hwnna'n golygu y bydd o'n cymryd tua 15 mlynedd i fynd drwy'r rhestr aros awtistiaeth a niwroamrywiaeth yn y gogledd. Pymtheg mlynedd. Ydych chi'n meddwl bod hynny'n dderbyniol?

14:20

Nac ydw, a dyna pam y rhoddwyd arian ychwanegol i ddod â'r rhestrau aros yna i lawr. A gaf i eich atgoffa chi eich bod chi wedi pleidleisio yn erbyn yr arian ychwanegol yna yn mynd at ddod â'r rhestrau aros yna i lawr? Mae hi'n sefyllfa sydd yn ddifrifol, a dyna pam rŷn ni wedi rhoi'r arian ychwanegol yna gerbron. Rŷn ni'n mynd i gyflwyno 1,700 o asesiadau ychwanegol, ac rŷn ni wedi rhoi £2.7 miliwn, sydd ddim yn arian bach, i helpu'r sefyllfa yn Betsi.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd yr ail eitem. Y datganiad a chyhoeddiad busnes yw'r eitem yma. Y Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad. Y Trefnydd, Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:21:08
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Trefnydd, mi hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn sgil y cyhoeddiad rydym ni wedi'i weld o ran cronfa twf lleol newydd i Gymru. Dwi'n siŵr, fel finnau, fod gan nifer o Aelodau'r Senedd gwestiynau ynglŷn â sut y bydd hyn yn mynd rhagddo, o ran amserlen ac ati, a hefyd faint sy'n refeniw a faint sy'n gyfalaf. Felly, dwi'n meddwl, a ninnau efo cyn gymaint o gwestiynau i'w holi a chraffu o ran hyn, y byddai datganiad yn cael ei werthfawrogi gan nifer ohonom.

14:25
14:30
14:35
14:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

14:45
3. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft Amlinellol 2026-27

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad ar y gyllideb ddrafft amlinellol ar gyfer 2026-27. A'r Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid sy'n gwneud y datganiad yma—Mark Drakeford. 

15:05
15:10

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad, a hoffwn innau hefyd ddiolch am y briff gyda swyddogion a chithau yn gynharach heddiw ac rwy'n gwerthfawrogi gweld y datganiad ymlaen llaw, wrth gwrs. Mae'r dogfennau'n gynhwysfawr. Fedraf i ddim dweud fy mod i wedi mynd drwyddyn nhw i gyd eto, ond rwy'n gweithio drwyddyn nhw. Yn hytrach na mynd am yr hyn rydyn ni newydd ei weld rŵan, fel rhyw party political broadcast gan y Ceidwadwyr, dwi yn mynd i sicrhau fy mod i'n ymateb i'r hyn sydd o'n blaenau ni heddiw, sef y gyllideb ddrafft hon.

Wrth gwrs, mi ydyn ni fel plaid yn deall pwysigrwydd bod y gyllideb yn pasio. Fel yr amlinellodd yr Ysgrifennydd Cabinet, bydd yna effaith real ar bobl Cymru a'n gwasanaethau cyhoeddus ni. Mae hwnna'n berffaith amlwg. Yn amlwg, yn y rhagair, yn wahanol i'r hyn rydych chi wedi'i ddarllen heddiw, i'r gyllideb ddrafft, rydych chi'n sôn mai cyfrifoldeb y Llywodraeth ydy sicrhau bod cyllideb yn pasio. Ac mae'r ffaith nad oes yna gyllideb lawn hyd yma'n cael ei chyflwyno—mae'n rhaid eich bod chithau'n cydnabod bod hynna'n creu ansefydlogrwydd a phryder, yn arbennig, felly, fel roeddech chi'n sôn, o ran llywodraeth leol. Mae hyd yn oed pasio'r gyllideb hon fel y mae hi yn mynd i greu problemau aruthrol. Rydyn ni wedi clywed llywodraeth leol yn sôn am y codiadau fyddai eu hangen o ran y dreth gyngor, er enghraifft, o 20 y cant, miloedd o swyddi yn cael eu colli. Dwi'n siŵr bod yna neb fan hyn sydd eisiau gweld hynny'n digwydd, felly mae hi yn sicr yn rhywbeth mae'n rhaid inni i gyd fod yn ei drafod, ac yn deall arwyddocâd o beth mae'r gyllideb hon, fel mae wedi cael ei chyflwyno heddiw, yn ei olygu, felly.

Mi oeddech chi'n sôn am yr hyn rydych chi wedi'i wneud o ran yswiriant gwladol. Yn amlwg, mae hwn hefyd wedi bod yn bwnc rydyn ni wedi'i drafod lawer gwaith yn ystod y misoedd diwethaf yma. Mi fyddwn i'n hoffi gwybod gan yr Ysgrifennydd Cabinet, yn eich ymateb i'r ddadl, pa drafodaethau pellach sydd wedi bod efo Llywodraeth Lafur San Steffan o ran hyn. Mae o'n mynd â chanran helaeth o'n cyllideb ni erbyn hyn. Mae hwn yn golygu toriad real i gyllideb Llywodraeth Cymru gan San Steffan. Felly, sut ydyn ni am fynd rhagddo efo hyn? Oherwydd dwi'n cydnabod eich bod chi wedi rhoi hyn yn y gyllideb ddrafft, a dwi'n deall pam bod hyn yn angenrheidiol a beth fyddai'r sefyllfa o beidio â gwneud hyn—yn sicr, rydyn ni wedi clywed tystiolaeth gref ar hyn ym mhob pwyllgor craffu dros y flwyddyn ddiwethaf yma—ond eisiau gwybod ydw i sut ydyn ni'n mynd i gael y sicrwydd yna. A pha sicrwydd ydyn ni'n mynd i'w gael na fydd y gyllideb nesaf gan Lywodraeth Lafur San Steffan ddim hefyd yn mynd i greu bylchau pellach i ni?

Felly, yr hyn y byddwn i hefyd yn hoffi ei wybod—. Yn amlwg, mae'r Alban wedi penderfynu aros a gweld o ran eu cyllideb nhw, o ran yr hyn a fydd yn dod allan o gyllideb yr hydref, sy'n fwy o gyllideb y gaeaf yn ôl yr amseru gan Lywodraeth Lafur San Steffan. Beth fyddwch chi'n ei wneud, felly, o ran galluogi'r hyblygrwydd i ymateb i beth fydd yn y gyllideb honno, a beth ydy'r hyn rydych chi'n gobeithio ei weld yno, fel ein bod ni'n gallu mynd ati i edrych ar yr hyn yr oeddech chi'n ei ddeisyfu o ran gwasanaethau cyhoeddus?

Mi ydw i'n croesawu eich ymrwymiad trawsbleidiol o ran Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Dwi'n meddwl bod hwn yn beth dylem ni i gyd fod yn ei groesawu. Mae yna nifer ohonom ni yn drawsbleidiol yn gweld gwerth a phwysigrwydd hyn, a dwi'n credu, yn olwg y ffordd rydych chi'n ceisio mynd ati efo'r gyllideb hon i gael consensws, fod hwnna'n rhywbeth i'w groesawu.

15:15

Felly, wrth i'r trafodaethau fynd heibio a rhagddo, dwi'n edrych ymlaen at fod yn rhan lawn o ran y broses graffu. Mi fyddem ni'n hapus iawn, wrth gwrs, i fod yn rhan o hynny drwy bwyllgorau ac yn uniongyrchol, i weld sut ydyn ni'n mynd ati i sicrhau ein gwasanaethau cyhoeddus ni. Mae'r rhybuddion wedi bod yn glir, felly mae yna reidrwydd arnom ni i fod yn aeddfed o ran y drafodaeth dros y misoedd nesaf yma. Dwi'n edrych ymlaen at fynd ati i glywed mwy o'r sylwadau yn ystod y ddadl yma heddiw, ac wrth gwrs dros y misoedd a'r wythnosau nesaf yma.

15:20
15:25
15:30
15:35
15:40
15:45
15:50
15:55
16:00

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl ar y datganiad. Mae'r ffordd yma i ddelio gyda phethau cymhleth fel y gyllideb, dwi'n meddwl, yn gweithio i ni yma yn y Senedd.

Diolch i Heledd Fychan am yr ysbryd adeiladol yn ei chyfraniad hi. Roedd hi'n cydnabod pwysigrwydd cael y gyllideb drwy'r Senedd, a dwi'n edrych ymlaen at gael mwy o drafodaethau gyda hi yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.

16:05

Gareth Davies a gododd—

16:15
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diweddariad ar y Diwygiadau ADY

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ddiweddariad ar y diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol. Lynne Neagle.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

16:20
16:25
16:30
16:35

Nawr yn Gymraeg: un elfen hollbwysig, yn fy marn i, yw’r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol sydd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae Estyn wedi argymell ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac mae’r comisiynydd plant a Chomisiynydd y Gymraeg wedi tynnu sylw at yr angen i wella elfennau o’r gwasanaethau hyn. Pa ystyriaethau, felly, mae’r Llywodraeth yn eu rhoi i wasanaethau cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd? A chan dderbyn bod adolygiad statudol yn cael ei ddisgwyl y flwyddyn nesaf, dŷn ni angen gweithredu nawr i fynd i’r afael â’r heriau megis recriwtio, hyfforddiant a chynllunio.

Ac yn ogystal ag adolygiad y Llywodraeth ei hun o'r fframwaith deddfwriaethol, mae nifer o adolygiadau eraill yn yr arfaeth, er enghraifft adolygiad pum mlynedd o ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg, adolygiad gan bwyllgor Archwilio Cymru, adolygiad y Tribiwnlys Addysg Cymru ac ymchwiliad y pwyllgor addysg. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu sicrhau bod y canfyddiadau a'r argymhellion o'r adolygiadau hyn yn cael eu hystyried mewn ffordd gydlynus a strategol, yn hytrach nag fel elfennau ar wahân?

16:45
16:50
16:55
17:00
17:05

Gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw? Mae hi'n amlwg iawn, iawn i fi yn ystod fy nghymorthfeydd etholaeth gymaint mae teuluoedd yn wynebu mwy o broblemau, fis ar ôl mis. Mae nifer o deuluoedd wedi troi yn ymgyrchwyr ac yn ddeisebwyr. Dwi'n diolch i bobl fel Danielle Jones am fy addysgu i am yr effaith mae diffyg cefnogaeth ac arafwch i gael asesiad ac ati yn ei gael arnyn nhw fel teuluoedd.

Dwi'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio at y pwysau mawr sydd yna, wrth gwrs, ar awdurdodau lleol ac ysgolion i ddarparu y gefnogaeth sydd ei hangen, a thra dwi'n croesawu y cyhoeddiad am fwy o fuddsoddiad, mi fyddai'n dda cael mwy o ddealltwriaeth o sut mae hwnna yn mynd i effeithio ar deuluoedd. Felly, beth fyddai neges yr Ysgrifennydd Cabinet i deuluoedd ynglŷn â sut y bydd cefnogaeth ychwanegol i awdurdodau lleol yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw? Sut fydd hyfforddiant ychwanegol, sut fydd y disgwyliadau ar gysondeb ar draws Cymru yn gweithio drwyddo i sicrhau bod teuluoedd yn gweld effaith hyn yn fuan?

17:10
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Mae Casineb yn Brifo Cymru

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Mae Casineb yn Brifo Cymru. A dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 17:10:59
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, acting Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn teimlo'n falch o gael cefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:15
17:20
17:25

Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Fe welais i hysbyseb ar Facebook gan Lywodraeth Cymru a oedd yn rhoi gwybodaeth am ymgyrch Hate Hurts Wales, ac roedd rhai o'r sylwadau o dan y postiad yn dweud y cyfan, dwi'n meddwl, am yr her sy'n ein wynebu ni; sylwadau fel:

A mwy dwi ddim am eu dyfynnu ond sydd yn dilorni ac yn ymosod ar yr ymgyrch. Ac rwy'n falch i ddweud hefyd fod yna nifer o sylwadau a oedd yn herio y safbwyntiau yna. Ond yr hyn sy'n frawychus i fi yw bod gwadu neu gyfiawnhau casineb tuag at bobl yng Nghymru bellach mor gyffredin, ac yn dderbyniol i rai yn ein cymdeithas. Mae'n gyfnod brawychus i leiafrifoedd a phobl sy'n cael eu gweld fel targedau dilys, naill ai o ran ymosodiadau corfforol, ymosodiadau ar-lein neu ymosodiadau gwleidyddol. 

Mae Cymru yn wynebu rhaniadau dwfn, ond nid rhaniadau yw'r rhain sydd wedi eu creu gan wahaniaethau ond rhaniadau sydd wedi eu corddi gan gasineb, wedi eu targedu tuag at bobl sy'n cael eu portreadu fel gwahanol. Mae trosedd casineb yn fwy na gweithred o drais. Mae'n neges wedi ei thargedu nid yn unig at unigolyn ond at grŵp cyfan, boed wedi ei wreiddio mewn hiliaeth, anoddefgarwch crefyddol, homoffobia, trawsffobia, senoffobia neu ablaeth. Mae'r cymhelliad yr un fath—gwneud rhywun yn llai nag eraill, yn llai na dynol, eu hynysu a'u brawychu. 

Fe ddywedodd y goroeswr Holocost, Elie Wiesel:

Ac rwy'n falch i chi sôn yn eich datganiad am y dyletswydd yna sydd gan bawb i wrthsefyll y casineb hwn sy'n niweidio ein cymdeithas ac yn brawychu pobl yng Nghymru. Mae difaterwch yn caniatáu i ragfarn wreiddio a thyfu i ddinistrio cymunedau a gwenwyno cenedlaethau'r dyfodol, gan danseilio cydraddoldeb, tegwch a thosturi, egwyddorion sy'n sail i unrhyw gymdeithas wâr. Felly, rwy'n cytuno i wrthsefyll casineb, rhaid i ni ei enwi, addysgu ein gilydd amdano, gwrando ar leisiau y rhai sy'n ei ddioddef, ac yn fwyaf pwysig, gweithredu. 

Fe gyfeirioch chi at waith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a'n hadroddiad newydd hynod bwysig ni, dwi'n meddwl, ar y rhaniadau cynyddol yn ein cymunedau, a'n galwadau ni am weithredu gan y Llywodraeth. 

am weithredu gan y Llywodraeth. Ac rwy'n croesawu eich bod chi fel Llywodraeth—ac fel y sonioch chi yn eich datganiad—am ymateb yn syth i'n hargymhelliad ni i sefydlu grŵp arbenigol i arwain y gwaith yma o fynd i'r afael â'r rhaniadau hyn a'u goblygiadau i ddiogelwch y cyhoedd. Tra fy mod i’n croesawu hyn, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu a buddsoddi i sicrhau y cydlyniant cymdeithasol fyddai'n atal troseddau casineb rhag digwydd, er enghraifft—a rhywbeth ŷn ni'n sôn amdano fe yn ein hadroddiad—drwy gefnogi hawl cymunedau i brynu adnoddau a fyddai'n helpu dod â phobl at ei gilydd? Mae e'n rhywbeth y mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi galw amdano, onid yw e? Ac o ran y grŵp, allwch chi roi mwy o fanylion inni ynglŷn â beth fydd cylch gwaith y grŵp arbenigol yma a phryd y gallwn ni ddisgwyl y byddan nhw'n adrodd yn ôl?

Mae Plaid Cymru'n credu mewn Cymru lle caiff amrywiaeth ei ddathlu, nid ei gasáu na'i ddirmygu. Ac rŷn ni wedi dadlau ers tro os ŷn ni o ddifrif am fynd i'r afael â chasineb, yna mae'n rhaid inni gael y grymoedd i wneud hynny. Felly, mae neges Plaid Cymru yn glir o ran hynny: rhaid datganoli cyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru. Allwn ni ddim mynd i'r afael â chasineb sy'n cynyddu gyda'n dwylo wedi'u clymu tu ôl i'n cefnau. Felly, tu hwnt i eiriau, sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud yr achos dros ddatganoli pwerau dros feysydd fel plismona a chyfiawnder er mwyn mynd i’r afael yn llawn ac yn iawn â chasineb yng Nghymru, a fyddai'n gwella cydlyniant cymdeithasol? Pa reswm sy'n cael ei roi ichi gan Weinidogion Llafur San Steffan dros beidio â rhoi y grymoedd hynny i Gymru? Diolch.

17:30
17:35
17:40
17:45
17:50
17:55
6. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025

Eitem 6 sydd nesaf, Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025, yw'r rheoliadau yma. Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol sydd yn gwneud y cynnig, Jack Sargeant.

Cynnig NDM9004 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

18:00

Galwaf nawr felly ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mike Hedges, i gyfrannu.

Oherwydd y pwysau sylweddol sy'n wynebu llywodraeth leol, mae Plaid Cymru yn cefnogi'r egwyddor o gau'r bwlch rhwng costau penderfynu ceisiadau a'r incwm sy'n cael ei dderbyn ar gyfer darparu gwasanaethau cynllunio, ac rydyn ni yn cytuno hefyd y dylid cyflwyno'r newid yma yn raddol. Ond mae angen sicrwydd y bydd hyn yn arwain at wasanaethau cynllunio mwy cynaliadwy a gwydn, ac y bydd hynny yn cyflymu'r broses o ddelio efo ceisiadau cynllunio, gan gynnwys y rhai ar gyfer tai cymdeithasol. Mae hyn yn allweddol ar gyfer datrys yr argyfwng tai sydd yn effeithio cymaint o deuluoedd yng Nghymru erbyn hyn.

Mae hefyd angen bod yn effro i effaith potensial y newid ar gwmnïau adeiladu bychain ac ar yr ardaloedd gwledig yn ein gwlad ni, ac mae angen ystyried oes angen rhoi mesurau lliniaru ar waith. Efallai y gall y Gweinidog ateb y ddau bwynt penodol yna wrth ymateb. Diolch yn fawr.

18:05

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025

Eitem 7 sydd nesaf, Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd sy'n gwneud y cynnig yma—Jeremy Miles.

Cynnig NDM9005 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r rheoliadau hyn a fydd yn cryfhau system gwynion bresennol yr NHS yn sylweddol.

Cafodd 'gweithio i wella' ei gyflwyno yn yr NHS yng Nghymru bron i 15 mlynedd yn ôl i sicrhau bod cwynion a phryderon pobl yn cael eu hymchwilio'n briodol a bod gwersi'n cael eu dysgu pan mae camgymeriadau'n cael eu gwneud. Roedd hwn yn gam uchelgeisiol i Gymru i gymryd ar y pryd, ac nid oedd unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig wedi mabwysiadu system mor rhagweithiol o wneud iawn. Ond rydym yn gwybod nad yw 'gweithio i wella' wedi gweithio i bawb, a bron i 15 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r system a gafodd ei chynllunio ar sail yr egwyddorion o fod yn agored a thryloyw wedi gadael gormod o bobl i lawr. Rŷm ni wedi clywed am ormod o enghreifftiau o system sy'n rhy fiwrocrataidd a deddfol, sydd wedi ychwanegu, yn aml, at loes a galar pobl; system sy'n gallu bod yn brin o empathi. Hoffwn i ddiolch i'r nifer fawr o bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad a rhannu eu profiadau personol. Rwy'n ymddiheuro i bawb na dderbyniodd y safonau uchel rŷm ni'n disgwyl gan yr NHS ac a gafodd eu gadael i lawr, er hynny, trwy godi eich llais, rŷch chi wedi helpu i newid y diwylliant o ran y ffodrdd y mae cwynion yr NHS yn cael eu trin i greu system sy'n llawer mwy agored a chefnogol.

Mae'r rheoliadau sy'n dod o'm blaenau heddiw yn cyflwyno diwygiadau i'r broses datrys cwynion dau gam, sydd wedi'i seilio ar wrando a gweithredu ac ymchwilio, adrodd a dysgu. Mae'r cam cyntaf yn canolbwyntio ar ddatrys yn gynnar o fewn cyfnod o 10 diwrnod gwaith. Mae'r ail gam yn cynnwys asesu atebolrwydd ac a ddylid cynnig gwneud iawn.