Y Cyfarfod Llawn
Plenary
30/04/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd yr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd pwyllgor. Felly, dwi'n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 17.2F ar gyfer ethol Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi ei ddyrannu i'r grŵp Ceidwadol. A oes unrhyw enwebiad ar gyfer y swydd yma?
Llywydd, dwi'n enwebu Peter Fox.
A oes unrhyw enwebiadau eraill? Does yna ddim enwebiadau eraill. A oes yna unrhyw wrthwynebiad i'r enwebiad yna? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, fe allaf i gadarnhau bod Peter Fox newydd gael ei gymeradwyo fel Cadeirydd newydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a phob dymuniad da gyda'r gwaith pwysig yna.
Cyn symud ymlaen i'r sesiwn gwestiynau, mae gyda ni gynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau. Rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod a phleidleisio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os nad oes yna wrthwynebiad, rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynnig hwn yn ffurfiol. Paul Davies.
Cynnig NNDM8892 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Samuel Kurtz (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Cynnig NNDM8893 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Samuel Kurtz (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Cynigiwyd y cynigion.
Yn ffurfiol, Llywydd.
A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynigion yma? Nac oes. Felly, mae'r Aelodau yna wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer y pwyllgorau perthnasol.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem gyntaf, felly, fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies.
1. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i gynyddu nifer y teithwyr ar fysiau cyn cyflwyno model masnachfreinio newydd Llywodraeth Cymru? OQ62618

Eleni, rydym yn bwriadu buddsoddi dros £140 miliwn i gefnogi'r broses o ddarparu a gwella gwasanaethau bws lleol a theithio consesiynol ar fysiau i gymunedau ledled Cymru. Yn ddiweddar hefyd, cyhoeddais gynllun tocynnau teithio un pris gostyngol o £1 i bobl ifanc, a gaiff ei lansio ym mis Medi.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r defnydd o fysiau yng Nghymru yn dal i fod yn llawer is na lle mae angen iddo fod. Dengys y ffigurau diweddaraf fod lefel y teithwyr ar 78.3 y cant o'r lefel cyn y pandemig. Mae hynny'n sylweddol is na'r Alban a Lloegr, lle mae'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn dychwelyd yn llawer cryfach. Mewn gwirionedd, mae'r cynnydd yn niferoedd teithwyr wedi bod yn wael ar gyfer trenau a bysiau, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n deall y syniad y tu ôl i fasnachfreinio ac os caiff ei wneud yn iawn, gallai helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau yn ein rhwydwaith bysiau, ond gadewch inni beidio ag esgus ei fod yn ateb i bob dim. Ni fydd newid strwythur perchnogaeth yn datrys gwasanaethau gwael ynddo'i hun. Mae angen gweithredu nawr, nid ar ôl i'r model masnachfreinio ddechrau'n unig, i gael pobl yn ôl ar y bws. Ac rydym eisoes wedi gweld beth sy'n gweithio. Yng ngogledd Cymru, mae'r gwasanaeth Sherpa o amgylch yr Wyddfa wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr ers y pandemig, ac fe wnaethant hyn trwy fysiau amlach, cynyddu cysylltedd mewn ardaloedd gwledig, a dileu'r angen i deithwyr newid bysiau yn Llanberis, gan wneud y gwasanaeth yn fwy cyfleus ac atyniadol. Ni ydym eisiau gweld y model masnachfreinio newydd yn dod yn llyncdwll arian arall i drethdalwyr Cymru. Rydym am weld nifer y teithwyr yn cynyddu a dangos cynaliadwyedd hirdymor. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dysgu gan rwydweithiau bysiau llwyddiannus ac yn blaenoriaethu cysylltedd ac ardaloedd oddi ar y llwybrau mwyaf poblogaidd i ddiwallu anghenion cymunedau ledled Cymru? Diolch.
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Cefais y fraint o deithio ar wasanaeth Sherpa yn ystod gwyliau'r Pasg. Roedd yn brofiad gwych, mae'n rhaid imi ddweud, trwy rai o amgylcheddau naturiol mwyaf gogoneddus y byd. A'r hyn a ddangosodd oedd ein bod yn gweld cynnydd yn nifer y teithwyr lle rydym ni'n rheoli'r rhwydwaith. Mae rhwydwaith TrawsCymru wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y teithwyr ac felly hefyd y gorsafoedd y mae gwasanaeth TrawsCymru yn gweithredu iddynt ac ohonynt.
Nawr, crybwyllodd yr Aelod nifer y teithwyr ar wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru hefyd. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld cynnydd o 19 y cant—cynnydd o 19 y cant—yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig yn nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru. Mae'n un o'r enghreifftiau mwyaf o gynnydd yn nifer teithwyr o blith holl weithredwyr trenau y DU. Felly, lle rydym ni'n rheoli pethau, lle rydym ni'n gallu siapio'r rhwydwaith mewn ffordd sy'n ateb anghenion teithwyr, mae'n dangos y byddwn yn cynyddu nifer y teithwyr, a gwerthiant tocynnau yn ogystal, gan wneud gwasanaethau hyd yn oed yn fwy cynaliadwy. A'r pwynt allweddol, mewn gwirionedd, gyda masnachfreinio yw y byddwn yn llunio system sy'n diwallu anghenion teithwyr ac yn rhoi teithwyr o flaen elw.
Ar fy rhestr i o'r hyn y mae Cymru'n ei wneud orau, yng Nghymru mae gennym gardiau teithio rhatach i bobl dros 60 oed, yn wahanol i'r hyn a geir dros ffin, lle mae'n 67 oed—oedran pensiwn. Ond fel y soniwyd, nid yw teithwyr wedi dychwelyd ar ôl y pandemig. Clywn fod hyder mewn gwasanaethau yn bwysig iawn a pha mor ddibynadwy ydynt. Felly, a ydych chi'n credu y bydd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), ynghyd â brandio, i adeiladu hyder, dibynadwyedd a thocynnau integredig, yn helpu i dyfu'r brand ac yn rhoi hyder i bobl ddychwelyd? Yn y grŵp trawsbleidiol, mae gennym dros 30 o wahanol sefydliadau'n mynychu'r cyfarfod hwnnw, sy'n werthfawr iawn. Mae gennym weithredwyr, undebau, y comisiynydd pobl hŷn. Felly, rwy'n teimlo, ac a ydych chi'n teimlo, ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i hyrwyddo trafnidiaeth bysiau a theithio ar fysiau, ac nid gadael y cyfan i Lywodraeth Cymru? Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem i gyd geisio ei wneud. Rwy'n defnyddio'r bws yn rheolaidd ac yn ceisio ei hyrwyddo, ond mae'n rhywbeth i bob un ohonom. Diolch.
Diolch. Rwy'n gwybod bod Carolyn Thomas yn frwd iawn ei chefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus, ac i fysiau gwell yn benodol. Nod y Bil yw sicrhau y gallwn greu rhwydwaith sy'n diwallu anghenion teithwyr, sy'n annog pobl i deithio ar fysiau, i ddefnyddio trafnidiaeth integredig—oherwydd bydd y rhwydwaith yn cael ei integreiddio â'r rhwydwaith rheilffyrdd. Ond rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn fod dibynadwyedd yn allweddol. Dyna'r ffactor pwysicaf sy'n penderfynu a yw pobl yn defnyddio bysiau ai peidio. Gallwn lunio rhwydwaith, gallwn fuddsoddi mewn seilwaith sy'n cynyddu niferoedd teithwyr, oherwydd ein bod yn mynd i'w wneud yn fwy dibynadwy. Rydym yn mynd i ddiwallu anghenion cymunedau ledled Cymru. Mae'n ddeddfwriaeth hynod bwysig, ond mae'n hynod bwysig oherwydd bod tua 100,000,000 o deithiau teithwyr yn digwydd cyn COVID. Rydym eisiau gweld y ffigur hwnnw'n cael ei adfer a'i wella wrth symud ymlaen. Heb amheuaeth, mae COVID wedi effeithio ar ymddygiad, a'r hyn a welwn gyda niferoedd teithwyr yw nad yw teithwyr tocynnau teithio consesiynol wedi dychwelyd i ddefnyddio bysiau yn yr un ffordd ag y mae teithwyr sy'n talu am docynnau wedi'i wneud. Felly, mae ymddygiad pobl wedi newid—rydym yn derbyn hynny. Rydym am wneud yn siŵr yn y dyfodol ein bod yn gweld cynnydd yn niferoedd y teithwyr tocynnau teithio consesiynol a theithwyr sy'n talu am docynnau fel ei gilydd.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar wasanaethau trên ar lein Calon Cymru? OQ62612
Gwnaf, wrth gwrs. Gallaf gadarnhau bod trenau wedi'u hadnewyddu yn gweithredu ar lein Calon Cymru, gan ddarparu capasiti ychwanegol i gymunedau lleol a'r farchnad dwristiaeth allweddol. Mae pumed gwasanaeth newydd wedi'i gynllunio ar gyfer Rhagfyr 2025, ac mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio i fod yn well yn y ffordd y mae'n ymateb i alwadau teithwyr, a byddwn yn sicrhau y bydd yn well na'r gwasanaeth y mae'n mynd i gymryd ei le.
Wel, rwy'n falch o glywed y bydd yn ymateb yn well i ofynion teithwyr, oherwydd ers mis Rhagfyr 2024, mae'r gwasanaeth trên olaf o Abertawe i Landrindod yn gadael am 17:48, gan adael llawer o etholwyr gwledig yn methu dychwelyd adref gyda'r nos i lefydd fel Rhydaman, Llandeilo a Llanymddyfri. Nawr, Abertawe yw ail ddinas fwyaf Cymru—mae'n ganolfan gyflogaeth, addysg, gofal iechyd a diwylliant. Eto, i lawer mewn cymunedau gwledig, mae'r amserlen hon yn methu darparu ar gyfer oriau gwaith safonol, digwyddiadau gyda'r nos, neu ymrwymiadau fel apwyntiadau meddygol neu rwymedigaethau teuluol. Nawr, mae'r broblem hefyd yn ymestyn i benwythnosau a digwyddiadau mawr—adegau pan fydd fwyaf o angen trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, heb ddewisiadau amgen hwyr na chysylltiadau digonol, mae cymunedau gwledig unwaith eto'n cael eu gadael ar ôl. Ac yn waeth byth, pan alwodd Plaid Cymru am sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid HS2, a allai fod wedi cefnogi seilwaith o'r fath, fe wnaethoch chi a'ch Aelodau Llafur o'r Senedd bleidleisio yn erbyn. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd, yw hwn: pa gamau y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu cymryd i asesu a gwella'r amserlen hon, i greu system drafnidiaeth sy'n cysylltu Cymru gyfan, ac a fydd cymunedau gwledig, fel y rhai ar hyd lein Calon Cymru, yn parhau i gael eu hesgeuluso?
Wel, yn gyntaf oll, cefais sicrwydd gan Trafnidiaeth Cymru y bydd y newidiadau i'r amserlen yn arwain at wasanaethau mwy dibynadwy a phrydlon ar y lein. Mae hynny'n hynod bwysig, fel y soniais nawr, er mwyn cynyddu nifer y teithwyr. Os gallwn gynyddu niferoedd teithwyr, rydym yn cynyddu gwerthiant tocynnau—rydym yn sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Ar y pwynt ynghylch HS2, mae hon yn ddadl a wnaed droeon, ond gadewch inni aros am yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, oherwydd rydym wedi llunio ein cais am fuddsoddiad yn y rheilffyrdd, sy'n sylweddol iawn, ac mae gennym weledigaeth ar y cyd gyda'r Adran Drafnidiaeth ynghylch pa seilwaith sydd angen ei wella yng Nghymru.
Nawr, mae'r Aelod hefyd yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â'r gwasanaeth 17:48. Yn amlwg, mae Trafnidiaeth Cymru yn ystyried sylwadau gan bobl leol pan fyddant yn dechrau gwaith ar newidiadau posibl i'r amserlen yn y dyfodol, a byddaf yn sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn clywed yr hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud heddiw ac yn ystyried a oes angen trên diweddarach i ddiwallu anghenion teithwyr ai peidio.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gŵyr pawb ohonom, mae lein Calon Cymru yn un o drysorau ein cynnig twristiaeth mewn sawl ffordd, gyda llawer o bobl yn dod i weld Cymru ac yn ei defnyddio. Nawr, mae'r gwaith ar y lein i fod i ddechrau ym mis Mai, a fydd yn golygu ei chau'n rhannol, gyda bysiau i gymryd lle trenau rhwng Caerfyrddin ac Abertawe i Landrindod. Rydym newydd weld diwedd y tymor tawel ar gyfer y lein, sy'n caniatáu i ddeiliaid tocynnau teithio consesiynol ddefnyddio'r lein am ddim rhwng mis Hydref a mis Mawrth. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed pam nad oedd y gwaith wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'r cyfnod tawelach, lle byddai incwm o'r lein yn is beth bynnag, o bosibl. Yn hytrach, mae disgwyl iddynt ddechrau pan fydd y gwanwyn ar ei anterth, pan fydd y tywydd a'r tymheredd yn gwella, ac efallai y bydd twristiaid sydd eisiau defnyddio'r lein yn methu gwneud hynny fel y cynlluniwyd. Byddwn yn croesawu eich ymateb a'ch rhesymeg dros y ffrâm amser honno ar gyfer y gwaith.
Wel, a gaf i sicrhau'r Aelod y byddaf yn codi hyn gyda Trafnidiaeth Cymru? Gan ei fod yn fater gweithredol, rwy'n credu mai hwy sydd yn y sefyllfa orau i esbonio'r rhesymeg sy'n sail i amserlennu'r gwaith. Mae'n waith angenrheidiol iawn, ond mae'r Aelod yn gwbl gywir fod hwn yn drysor. Mae'n llwybr gwych, ac rydym yn cynyddu capasiti ar wasanaethau lein Calon Cymru, gyda mwy o seddi a mwy o fannau pwrpasol ar gyfer beiciau hefyd, ac rwy'n credu y bydd y bobl sy'n ei defnyddio yn sylwi ar hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau i chi, os caf, ar y briff a rannwn—ar ran yr wrthblaid yn fy achos i, wrth gwrs—ar y lluoedd arfog a chyn-filwyr. Fel cyn-hyrwyddwr y lluoedd arfog dros Gyngor Sir Fynwy, roeddwn yn falch o'u gweld yn cyrraedd safon aur pan oeddwn i yno, ac yn hytrach na meddwl am y lluoedd arfog a chyn-filwyr fel ôl-ystyriaeth wrth ddatblygu polisi, mae'n annog y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i'w blaenoriaethu wrth ddatblygu polisi o'r cychwyn cyntaf. Mae'r canlyniadau wedi bod yn amlwg iawn ledled Cymru ac yn fuddiol iawn i awdurdodau lleol ledled Cymru, ac felly hefyd i'r cyhoedd a chyn-filwyr. Fodd bynnag, a gaf i ofyn i chi a Llywodraeth Cymru weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod anghenion penodol cyn-filwyr benywaidd, sy'n aml yn cael eu hanghofio mewn gwasanaethau ehangach i gyn-filwyr, yn cael eu cynnwys wrth gynllunio a chyflawni ymrwymiadau cyfamod y lluoedd arfog ledled Cymru yn y dyfodol? Diolch.
Yn bendant. A gaf i ddiolch i Laura Anne Jones am ei chwestiwn? Rwy'n cytuno'n llwyr fod hyrwyddwyr y lluoedd arfog yn gwneud gwahaniaeth enfawr, yn enwedig y rhai mwyaf rhagweithiol. Yn fy ardal i, mae gennym y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, a hefyd, ychydig dros y ffin yn sir y Fflint, mae gennym y Cynghorydd David Evans, y ddau ohonynt yn angerddol iawn ynglŷn â chefnogi cyn-filwyr, ac yn unigolion anhygoel wrth hyrwyddo'r lluoedd arfog.
Nawr, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn am gyn-filwyr benywaidd a'r angen i sicrhau bod anghenion cyn-filwyr benywaidd yn cael eu blaenoriaethu. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei godi ym mhanel nesaf arbenigwyr y lluoedd arfog. Mae'n banel a fydd yn ystyried llesiant ac iechyd meddwl yn benodol, a bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl yn mynychu, ac rwy'n gwybod ei bod yn rhannu ein diddordeb mewn sicrhau bod cyn-filwyr benywaidd yn cael eu blaenoriaethu.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hynny'n galonogol iawn i'w glywed. Yn dilyn hynny, hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'm cyd-Aelod a'm harweinydd, Darren Millar, am noddi digwyddiad addysgiadol iawn yn y Pierhead y bore yma, i ddathlu 15 mlynedd o GIG Cymru i Gyn-filwyr. Mae'n wasanaeth mor bwysig a'r pwynt cyswllt cyntaf i gyn-filwyr ein lluoedd arfog yr amheuir bod ganddynt broblemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth, fel anhwylder straen ôl-drawmatig. Dywedodd fy arweinydd, Darren, yn gynharach heddiw fod yna gyn-filwyr sy'n fyw heddiw na fyddai yma oni bai am wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Mae'r gwasanaeth yn cynnig therapi, asesiadau seicolegol, a mentora cymheiriaid mewn rhai byrddau iechyd, ac mae pob £1 a fuddsoddir yn y gwasanaeth hwn yn arbed £7 i'n GIG yn nes ymlaen. Mae'r gwasanaeth wedi dod yn bell ac mae'r buddsoddiad wedi cynyddu dros amser, sydd i'w groesawu, ond gydag 80 mlynedd ers Diwrnod VE yn agosáu, mae gormod o gyn-filwyr yn aros yn rhy hir, gyda'r galw'n fwy na'r cyflenwad. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth ydych chi'n ei wneud gyda'r gwasanaeth hwn i sicrhau bod yr adnoddau yno i ateb y galw, fel y gall ein cyn-filwyr gael y gefnogaeth honno? Hefyd, sut ydych chi'n sicrhau ymwybyddiaeth briodol o wasanaeth GIG penodol GIG Cymru i Gyn-filwyr, ymhlith cyn-filwyr wrth gwrs, ond yn bwysicaf oll, ymhlith meddygon teulu, gan fod hynny i'w weld yn rhwystr i gyn-filwyr rhag dechrau'r therapi sydd ei angen arnynt gyda'r gwasanaethau cywir sy'n berthnasol iddynt? Diolch.
Yn y cyfarfod diwethaf a fynychais o grŵp arbenigwyr y lluoedd arfog, fe wnaethom drafod y pwynt pwysig iawn ynghylch cysondeb ledled Cymru. Boed yn y gwasanaeth iechyd neu o fewn awdurdodau lleol, rwyf wedi galw am safonau cyson ac uchel o gefnogaeth i gyn-filwyr.
Mae'r Aelod yn codi cwestiwn pwysig iawn arall, yn ymwneud â mentoriaid cymheiriaid benywaidd. Nawr, y byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am benderfyniadau staffio ac adnoddau, ac mae hynny'n cynnwys penodi mentoriaid cymheiriaid wrth gwrs, ond rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd sicrhau bod eu gwasanaethau i gyn-filwyr yn diwallu anghenion lleol, ac rydym wedi gofyn am fanylion ynglŷn â sut y maent yn bodloni gofynion cyfreithiol cyfamod y lluoedd arfog.
Ond os caf, a gaf i hefyd gofnodi fy ngwerthfawrogiad o'r cyfan y mae GIG Cymru i Gyn-filwyr wedi'i wneud i gefnogi ein cyn-filwyr, a'u llongyfarch ar eu carreg filltir heddiw?
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i bwysleisio'r pwynt olaf hefyd, sef creu ymwybyddiaeth ledled Cymru o'r gwasanaeth, i gyn-filwyr ac i feddygon teulu?
Ond mae'r dreth gyngor, fel y gwyddoch, fel y gŵyr y Senedd gyfan, wedi codi 7 y cant ar gyfartaledd yng Nghymru eleni, gan fwyta i mewn i gyllid pobl sy'n gweithio. Ac mae llawer o bobl, gan gynnwys ac yn enwedig cyn-filwyr, sydd eisoes yn brwydro gyda'r pontio'n ôl i fywyd sifil, ac anhwylder straen ôl-drawmatig efallai neu anaf hyd yn oed, wedyn yn cael trafferth dod o hyd i dŷ, ymdopi â biliau cynyddol, dod o hyd i swydd, ac yn ansicr ble i fynd am gymorth. Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, mae cyn-filwyr ddwywaith yn fwy tebygol na sifiliaid o fynd yn brin o fwyd. Mae'r ystadegau'n dangos y realiti syfrdanol i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru heddiw, ond ni ddylai cyn-filwyr sy'n dod adref o ryfel orfod byw mewn tlodi. Fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: a ydych chi'n cytuno â'r Ceidwadwyr Cymreig y byddai gostyngiad treth gyngor i gyn-filwyr yn syniad da i geisio lleddfu'r baich hwnnw i'r rhai sydd wedi rhoi eu bywydau yn y fantol ar ein rhan? Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn heddiw? Cwestiwn pwysig arall am les cyn-filwyr. Rwy'n credu bod swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn chwarae rhan enfawr yn hyrwyddo'r gwasanaethau sydd ar gael i gyn-filwyr. Ac wrth gwrs, mae gennym bellach linell wariant benodedig yn Llywodraeth Cymru ar gyfer y lluoedd arfog, gan gynnwys swm uwch i gefnogi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog ledled Cymru.
Nawr, o ran cefnogaeth ychwanegol a allai fod ar gael i gyn-filwyr, yn ddiweddar cyfarfûm â'r Gweinidog cyn-filwyr, Al Carns, sy'n berson arbennig ei hun—rwy'n credu mai ef yw'r Aelod Seneddol mwyaf medalog o fewn cof. Mae'n mynd i ddringo Everest dros elusen i gyn-filwyr yn ystod y misoedd nesaf. Rwy'n dymuno'n dda iawn iddo. Mae'n gwbl benderfynol ein bod ni i gyd, ar draws Prydain, yn cefnogi ein cyn-filwyr gymaint â phosibl, a'n bod yn archwilio pob ffordd o sicrhau nad oes unrhyw gyn-filwr yn cael ei adael yn ddigartref, nad oes unrhyw gyn-filwr yn cael ei adael yn llwglyd, nad oes unrhyw gyn-filwr yn dioddef salwch meddwl. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn gweithio ar y cyd i gryfhau'r cyfamod a sicrhau bod gwasanaethau'n ymateb i anghenion cyn-filwyr.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad diweddar ar wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy i bobl ifanc, ond credwn y dylai fynd ymhellach. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet esbonio pam y mae cynllun peilot tocynnau bws £1 Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 16 i 21 oed yn eithrio'r grŵp oedran 11 i 15, gan olygu bod pobl ifanc yn eu harddegau iau ledled Cymru yn talu mwy am deithio na'u cyfoedion hŷn ar gyfer yr un teithiau'n union?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a dweud yn gyntaf oll fod trafodaethau yn parhau ynghylch pobl ifanc rhwng pump a 15 oed, trafodaethau gyda'r diwydiant ei hun? Wrth gwrs, wrth inni symud ymlaen gyda'r Bil bysiau, pan ddaw'n weithredol, byddwn yn gallu gweithredu ein trefn prisiau teg ein hunain ledled Cymru, gan gynnwys trefn brisiau i bobl ifanc er mwyn cynyddu nifer y teithwyr. Ond o ran y ddarpariaeth ar gyfer rhai dan 15 oed, rydym yn dal i fod mewn trafodaethau gyda'r diwydiant i wneud yn siŵr nad yw'r bobl ifanc nad ydynt yn elwa o'n pris safonol o £1 yn gorfod talu mwy. Oherwydd mae'n hollol hanfodol ein bod ni'n cyflwyno pobl ar yr oedran cynharaf i wasanaethau bysiau, fel eu bod yn datblygu ymddygiad sydd wedyn yn ysgogi newid bywyd o ran newid dulliau teithio.
Felly, nid oedd yn fwriadol. Ai camgymeriad ydoedd, neu a yw'n rhywbeth sy'n parhau, wrth ichi wneud hynny? O ystyried bod llawer o bobl ifanc 11 i 15 oed yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yr ysgol, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau eich bod chi'n ystyried caniatáu i'r grŵp oedran hwn gael mynediad at y pris safonol hwnnw, yn enwedig ar gyfer cludiant ysgol? Neu a ydych chi'n hapus i'r cynllun barhau ym mis Medi gyda'r bwlch annheg hwn? Neu a ydych chi'n meddwl y bydd yn ei le mewn pryd i hynny ddigwydd?
Wel, yn gyntaf oll, mae'r pris safonol o £1 neu'r cap o £1 wedi'i gynllunio nid yn unig ar gyfer teithio gan ddysgwyr, ond i gefnogi pob unigolyn ifanc yn eu holl deithiau ar fysiau. Mae gennym yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr wythnos i ddydd Gwener, lle byddwn yn trafod sut y gallwn yn y tymor byr, canolig a hir ddarparu'n well ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol. Ond o ran y prosiect eleni i gyflwyno'r cap o £1 ar brisiau, mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda gweithredwyr i sicrhau bod y drefn brisiau gyfan, o un i 21, yn deg, yn gymesur ac nad yw'n atal unrhyw grŵp o bobl ifanc rhag gallu elwa o drefniant Llywodraeth Cymru gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
O'r pwynt hwnnw felly, a wyf fi'n iawn i ddweud eich bod chi'n gobeithio cael hynny yn ei le ar gyfer mis Medi? Mae hynny'n dda i bobl ifanc. Mae'r cynllun peilot hwn, mewn ffordd, yn methu'r bylchau ar gyfer rhai o'r plant hynny, ac efallai eich bod chi'n mynd i'r afael â hynny nawr, o'ch atebion yno, maes lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud cam â'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed ledled Cymru.
Dywedodd adolygiad Llywodraeth Cymru ei hun yn 2022 ar faterion teithio gan ddysgwyr nad oedd gwneud dim yn opsiwn, ond rydym yn dal yma ac rydym yn dal i siarad am hyn. Er gwaethaf yr addewidion i weithredu, ni fu unrhyw newid ystyrlon mewn trothwyon milltiroedd nac adolygiad deddfwriaethol llawn, ac nid yw hyd yn oed mân ddiweddariadau i ganllawiau wedi'u cyrraedd eto. Felly, a allech chi ddweud wrthym ble rydych chi arni gyda hyn i gyd? Rwy'n gwybod bod gennym yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr mewn wythnos neu ddwy, ond pryd y gwelwn rywfaint o hyn yn dwyn ffrwyth?
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cynnal yr uwchgynhadledd honno ac yn archwilio pob ffordd cyn inni wneud penderfyniadau. Dyma'r tro cyntaf inni ddod â'r holl randdeiliaid allweddol, partneriaid, sefydliadau cyflawni at ei gilydd i drafod yr hyn sy'n system gymhleth tu hwnt.
Os caf fynd yn ôl at y cap prisiau, yn ddelfrydol, bydd gweithredwyr bysiau o leiaf yn cyfrannu at leihau cost prisiau i rai dan 16 oed, ond nid yw hyn wedi'i gadarnhau eto a dyna pam y mae'r trafodaethau yn parhau. Ond rydym yn bwriadu dod â'r trafodaethau hynny i ben yn foddhaol cyn gynted â phosibl, ac yn sicr mewn pryd ar gyfer cyflwyno'r cynllun. Rwy'n gwrthod y cyhuddiad ein bod yn gwneud cam â phobl ifanc; i'r gwrthwyneb yn llwyr. Gallai Plaid Cymru fod wedi pleidleisio dros y gyllideb a oedd yn cynnwys y cap o £1 ar brisiau, ond pleidleisiodd yn ei herbyn, fe geisiodd bleidleisio yn ei herbyn. Felly, mewn gwirionedd, rydym yn creu mantais i fwy na 200,000 o bobl—mwy na 200,000 o bobl—gyda chynllun sy'n deg. Gallai Plaid Cymru fod wedi pleidleisio drosto, cafodd bob cyfle i wneud hynny, ond dewisodd beidio.
3. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU o ran argaeledd profion gyrru yng Nghymru? OQ62625
Mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, DVSA, sy'n gyfrifol am brofion gyrru yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wedi cyfarwyddo'r DVSA i ddwysáu ei hymdrechion i wella mynediad a lleihau amseroedd aros ar gyfer profion gyrru i saith wythnos erbyn haf y flwyddyn nesaf.
Wel, hoffwn pe bai hynny'n wir, oherwydd rydym i gyd yn gwybod bod yna broblemau capasiti enfawr o ran archebu profion gyrru, yn enwedig yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru. Mae'n gyffredin nawr i ymgeiswyr aros chwech, saith, wyth mis am brawf, er bod y DVSA yn dweud eu bod yn anelu at gapio amseroedd aros ar chwe mis. Felly, mae'n gwbl annerbyniol fel y mae.
Mewn gwirionedd, mae'r system archebu gyfan yn cael ei gweithredu, i bob pwrpas, gan gwmnïau apiau trydydd parti. Nid oes gan ymgeiswyr unrhyw obaith cael prawf yn fuan, oni bai eu bod yn tanysgrifio i'r apiau canslo hyn, ac mae dyddiadau sydd ar gael yn cael eu bachu gan botiau apiau a'u gwerthu am brisiau uwch. Mewn gwirionedd, fe allech chi ddweud bod y system gyfan yn debyg iawn i dowtio tocynnau. Ac mae'r problemau sy'n wynebu ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud eu prawf trwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn oed yn waeth, lle mae ganddynt amseroedd aros hyd yn oed yn hwy, ac yna, wrth gwrs, byddant yn rhoi'r gorau i'w hymdrech i geisio sefyll eu prawf yn eu dewis iaith.
Felly, mae'r system wedi bod yn doredig ers amser maith, ac rwy'n apelio arnoch, Ysgrifennydd y Cabinet, i addo i'r miloedd o bobl ar draws fy rhanbarth sydd i ddioddef misoedd lawer o aros am eu prawf y gwnewch bopeth yn eich gallu i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddatrys y system doredig hon. Gwelais y datganiad a wnaethant ychydig yn ôl mewn gwirionedd, eu bod yn mynd i fynd i'r afael â hyn, ond rydym yn dal i aros.
Wel, rwy'n croesawu'n fawr yr hyn y mae Heidi Alexander, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, wedi'i amlinellu. Mae hi'n bwriadu clirio'r ôl-groniad erbyn yr haf nesaf, gan ddarparu o leiaf 10,000 o brofion gyrru ychwanegol bob mis i helpu i fynd i'r afael â'r broblem. Bydd y Llywodraeth yn dyblu capasiti hyfforddi, fel y bydd mwy o arholwyr gyrru ar gael, ac yn ogystal, byddant yn cynyddu nifer yr arholwyr gyrru. Ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn am y botiau archebu profion a sut y camfanteisir ar y system er elw. Rwy'n falch o ddweud bod gan Lywodraeth y DU gynlluniau i atal y defnydd o botiau ac ailwerthu slotiau sy'n creu anfantais i bobl ledled Cymru a thu hwnt, fel y dywed yr Aelod.
O ran rhai o'r canolfannau yng Nghymru, fodd bynnag, roedd dwy o'r canolfannau gyda'r amseroedd aros byrraf ar gyfer profion ym mis Mawrth yng Nghymru, ac roeddent yng ngogledd Cymru. Roeddent yn y Bala a Bangor. Wythnos o aros a geir yn y Bala, ac ym Mangor, mae'n debyg ei fod yn dair wythnos. [Torri ar draws.] Wel, fe ysgrifennaf at yr Aelod gyda mwy o fanylion. Ac yna ychydig dros y ffin yng Nghroesoswallt, un arall gydag amser aros o dair wythnos ar gyfartaledd hefyd. Nawr, fe ysgrifennaf at yr Aelodau gyda manylion y canolfannau gyda'r amseroedd aros byrraf, ond cefais sicrwydd o hynny. Yn amlwg, mae Aelodau sy'n adnabod eu hardaloedd yn dda iawn yn dadlau nad felly y mae, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig cael darlun clir.
Nawr, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar asesu effaith fuddiol y gwahanol fesurau y maent yn eu gweithredu, ond mae gennyf bob hyder yn yr hyn a nodwyd gan Heidi Alexander.
Mae'n bron i wyth mis ers i Gymdeithas Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy Gogledd Cymru, NWADIA, anfon copi at ASau gogledd Cymru gyntaf o'u gohebiaeth at yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, DVSA, yn nodi nad oedd y gostyngiad i restrau aros ar gyfer ymgeiswyr i saith wythnos y cyfeirioch chi ato wedi'i gyflawni eto. Wyth mis yn ôl.
Wrth ymateb, nododd y DVSA fod amseroedd aros mis Awst y llynedd yn y rhanbarth yn amrywio o 10.5 wythnos yn Wrecsam i 18.5 yn y Rhyl. Roedd gohebiaeth yr wythnos diwethaf gan NWADIA i'r DVSA yn edrych ymlaen at gyfarfod â hwy'n rhithwir heno, a nododd, er enghraifft, iddynt glywed bod rhestr aros mis Chwefror yn 7.6 wythnos yn y Rhyl, 15.4 ym Mangor, a 8.1 yng Nghymru yn gyffredinol, pan fo'r realiti i'w weld yn wahanol iawn, a gofynnodd, er enghraifft, a yw'r newidiadau i'r prawf yn tynnu sylw oddi wrth ddatrys sefyllfa'r prawf a'r problemau gyda'r systemau archebu, ac a yw'r DVSA yn cael cyllideb gan Lywodraeth y DU y maent yn ei dyrannu fel y gwelant yn dda. Felly, a wnewch chi ymgysylltu â NWADIA a thrafod eu pryderon gyda Llywodraeth y DU?
Rwy'n credu bod hynny'n gwneud synnwyr perffaith. Nawr, mae'n eithaf amlwg o'r hyn y mae Aelodau'n ei godi heddiw ei bod yn ymddangos bod anghysondeb rhwng ffigurau swyddogol a'r hyn a glywn o ffynonellau eraill ar yr amser aros cyfartalog. Rwy'n credu bod angen inni archwilio'r ffigurau hynny a gwirio pa rai sydd fwyaf cadarn, a sicrhau bod y ffigurau'n cynrychioli'n llawn y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio gan drydydd partïon i werthu slotiau archebu ymlaen a gwneud elw o wneud i bobl aros. Felly, byddaf yn cyfarfod â hwy i gael data cadarn ac yn ei rannu gyda'r Aelodau.
4. Sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau y bydd gwasanaethau bysiau yn diwallu anghenion cymunedau gwledig yn Arfon, o ystyried na fydd darpariaethau'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn weithredol am rai blynyddoedd? OQ62614
Wel, rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau bysiau lleol i gymunedau gwledig, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gyflawni gwelliannau gwirioneddol i wasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig. Mae'r gwaith hwn eisoes wedi arwain at welliannau sylweddol i lwybrau TrawsCymru a gwasanaethau Fflecsi newydd yn ardal Arfon.
Mae yna broblemau sylweddol wedi codi o ran trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Tregarth a Mynydd Llandygai yn nyffryn Ogwen yn sgil toriadau diweddar i wasanaethau bysiau. Dyma chi rai o'r prif faterion: mae'r gwasanaeth bws i Gerlan wedi dod i ben yn llwyr; mae'r gwasanaeth bws drwy Llys y Gwynt wedi dod i ben; does yna ddim gwasanaethau bws ar y Sul i Rachub na Thregarth na Mynydd Llandygai, er bod Tregarth, er enghraifft, yn gymuned o dros 1,000 o etholwyr.
Roeddech chi'n sôn am y gwasanaeth TrawsCymru, ond er cystal ydy hwnnw ar un lefel, dydy o ddim yn cymryd i ystyriaeth teithiau pob dydd y mae pobl leol yn dibynnu arnyn nhw. Yn anffodus, mae pobl yn teimlo bod y pwyslais ar deithiau pellter hir wedi dod ar draul gwasanaethau lleol. Mae yna esiamplau tebyg i beth dwi newydd nodi rŵan i'w gweld ar draws y Gymru wledig. Yn achos dyffryn Ogwen, a wnewch chi weithio efo'r gymuned leol i ffeindio datrysiadau i'r problemau yma yn y tymor byr, gan dynnu'r rhanddeiliaid at ei gilydd ac eistedd rownd y bwrdd i weld beth sydd yn bosib? Diolch.
A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei chwestiwn? Rwyf wedi cael sicrwydd fod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Gwynedd, ac yn wir, gyda phartneriaid eraill, sy'n cynnwys cynghorau cymuned yn ystod y misoedd diwethaf, i archwilio dulliau newydd o ddarparu gwell gwasanaethau yn y rhanbarth, ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Amlinellodd Siân Gwenllian, yn gywir ddigon, pam ei bod yn gwbl hanfodol fod gennym fwy o reolaeth dros y rhwydwaith, oherwydd o dan y system bresennol, mae gormod o lwybrau a gwasanaethau'n cael eu diddymu ar fyr rybudd gan eu bod yn cael eu hystyried yn fasnachol anhyfyw. Mae angen inni sicrhau bod gennym rwydwaith cadarn ac un a all sefyll prawf amser, nid un sy'n gadael teithwyr yn cwestiynu a fydd y gwasanaethau bysiau'n gweithredu o un wythnos i'r llall. Yn gywir ddigon, cododd yr Aelod fater gwasanaethau TrawsCymru ar lwybrau allweddol. Credaf eu bod yn dangos beth y gellir ei wneud pan fydd gennych reolaeth dros y rhwydwaith.
Rydym yn buddsoddi mewn meysydd eraill mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus. Rydym wedi darparu cyllid i'r awdurdod lleol yn y flwyddyn ariannol hon i'w galluogi i barhau â'u rhaglen galonogol iawn o wella safleoedd bws a chyfnewidfeydd yn yr ardal. Mae hynny wedi galluogi'r cyngor i uwchraddio safleoedd bws lleol allweddol ar draws ardal Arfon, gan gynnwys darparu cysgodfannau newydd a chyfleusterau mynediad hygyrch, gwell gwybodaeth a gwell goleuo, gan fod yn rhaid inni sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus mor ddiogel a chyfleus â phosibl. Mae'n rhaid ichi wneud hynny nid yn unig drwy fuddsoddi yn y gwasanaethau, ond hefyd drwy fuddsoddi yn y seilwaith, a dyna'n union a wnawn yn ardal Arfon.
Rwy'n ymuno â Siân Gwenllian i siarad o blaid anghenion cymunedau gwledig mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus. Yn amlwg, un o'r anghenion pwysig sydd gan ein cymunedau gwledig o ran cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yw'r gallu i gael mynediad at swyddi da, ac mae hynny'n gweithio'r ffordd arall hefyd i gyflogwyr, er mwyn iddynt allu recriwtio o ardal ehangach. Pan fydd ganddynt drafnidiaeth gyhoeddus dda, gallant recriwtio o gymunedau gwledig hefyd.
Yn ddiweddar, cyfarfûm â busnesau o ystad ddiwydiannol Wrecsam, gan gynnwys JCB, Platts Agriculture a Kellogg's, yn ogystal â Net World Sports, i glywed am y problemau y maent yn eu hwynebu gyda gallu pentrefi o amgylch Wrecsam i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yr ystad ddiwydiannol a sut y mae hynny'n rhwystro eu gallu i recriwtio o ardal mor eang â phosibl. Mae prosiect ar y gweill ar hyn o bryd i weld sut y gellir gwella trafnidiaeth gyhoeddus ar yr ystad ddiwydiannol, ond eu rhwystredigaeth yw cyflymder cyflawni'r prosiect hwnnw a beth y gallai'r canlyniad tebygol fod.
Tybed a fyddech chi'n fodlon gweithio gyda mi a'r busnesau hynny ar yr ystad ddiwydiannol i sicrhau y gellir cyflymu unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus i'r ystad ddiwydiannol ac oddi yno, a rhoi sicrwydd i'r busnesau hynny y bydd yn diwallu eu hanghenion hwy a'u gweithwyr. Diolch.
A gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn? Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd cynghrair ddiwydiannol Wrecsam i ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth o sut y gallwn wella gwasanaethau bysiau i bobl sydd wedi'u hallgáu o'r farchnad swyddi ar hyn o bryd. Maent wedi codi gyda mi yn y gorffennol yr angen i gael gwasanaethau bysiau gwell i ac o leoedd fel Parc Caia, fel y gallwn ostwng lefelau anweithgarwch economaidd a sicrhau cysylltiad gwell rhwng pobl sy'n byw mewn ardaloedd wedi'u hallgáu o ragolygon cyflogaeth a swyddi y gallant eu llenwi â'u sgiliau.
Mae gwaith pwysig iawn ar y gweill ar hyn o bryd yn Trafnidiaeth Cymru, ar y cyd â phartneriaid y parth buddsoddi, sy'n edrych yn benodol ar ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Wrecsam a'r cyffiniau. Mae gennym uwchgynhadledd trafnidiaeth gyhoeddus ym mis Mai, lle rwy'n gobeithio y gallaf wneud cyhoeddiad am wasanaethau bysiau yn Wrecsam a'r cyffiniau sy'n gysylltiedig â'r parth buddsoddi.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau effaith y cyfyngiadau pwysau HGV sydd ar fin cael eu cyflwyno ar bont Hafren yr M48, ar lwybrau amgen? OQ62601
Mae fy swyddogion yn gweithio gyda National Highways i helpu i leihau effeithiau gweithredu'r terfyn pwysau o 7.5 tunnell ar y bont Hafren gyntaf a chynnal hygyrchedd i mewn ac allan o Gymru. Nid oes unrhyw lwybrau gwyro ffurfiol wedi'u cytuno hyd yn hyn.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Rydym ill dau'n ymwybodol o'r gwaith y mae'n amlwg fod National Highways yn mynd i'w wneud, a chredaf fod pob un ohonom yn cytuno ei fod yn gwbl hanfodol. Yn wir, yn fy sgyrsiau â busnesau lleol, maent hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn. Gwell cymryd yr amser hwnnw nawr a'i ddiogelu at y dyfodol, ac felly mae disgwyliad fod yn rhaid iddo ddigwydd.
Gwyddom y bydd ymdrechion i ailgyflunio cyffordd 23 ym Magwyr ar yr M4, sydd eisoes yn dioddef tagfeydd. Bydd angen inni weld sut y mae hynny'n gweithio, i weld a fydd yn ddigonol neu a fydd angen mwy o newidiadau. Ond y prif faes pryder, a maes rwyf wedi'i godi gyda chi o'r blaen, yw'r sylw sydd ei angen ar unwaith o amgylch cylchfan Highbeech yng Nghas-gwent. Mae'n berffaith bosibl—yn wir, mae'n debygol—y gallai cerbydau nwyddau trwm ei defnyddio i gael mynediad at yr A48 i fynd i Loegr, os yw pont Tywysog Cymru ar gau, er enghraifft. Byddant yn ei defnyddio i gael mynediad at yr A48 neu hyd yn oed yr A466 i Drefynwy, i fynd at yr M50, fel llwybr byr, os mynnwch.
Ysgrifennydd y Cabinet, mewn ardal o fy etholaeth sydd eisoes yn cael ei heffeithio gan dagfeydd ofnadwy bob dydd, tybed pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd nawr i ddiogelu Cas-gwent rhag problemau trafnidiaeth pellach. Rydych chi eisoes wedi ymrwymo i ymweld â mi i drafod yr ardal yn gyffredinol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny, a gwn ein bod yn ceisio dod o hyd i ddyddiad ar gyfer hyn, ond gyda'r bygythiad pellach hwn i Gas-gwent, a gawn ni drefnu bod hynny'n digwydd cyn gynted â phosibl?
Yn sicr, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Peter Fox am ei lythyr diweddar yn amlinellu pryderon yn yr ardal. Bydd gweithdai'n cael eu cynnal cyn bo hir. Maent yn cael eu trefnu gan National Highways ar gyfer rhanddeiliaid allweddol. Bydd hynny'n cynnwys Cyngor Sir Fynwy wrth gwrs, yn ogystal â Llywodraeth Cymru. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod y byddaf yn codi'r pryderon ynghylch cylchfan Highbeech yn y gweithdai, a bydd fy swyddogion yn gwneud yr un peth. Byddwn hefyd yn ymchwilio i unrhyw fesurau posibl a allai liniaru effeithiau ailgyfeirio cerbydau dros 7.5 tunnell ar ffyrdd yr ydym yn gyfrifol amdanynt. Mae fy swyddogion hefyd yn ymchwilio i fesurau y gellid eu rhoi ar waith ar gyffordd 23A i gynorthwyo'r gymuned leol, gan mai dyna lle byddwn yn gweld y cerbydau nwyddau trwm yn troi rownd i fynd yn ôl i Loegr dros bont Tywysog Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch o'ch clywed yn sôn am y broblem ar gyffyrdd 23 a 23A, oherwydd fel y dywedwch, bydd cerbydau nwyddau trwm sy'n dod dros ail groesfan Hafren yn troi yn y fan honno i fynd tuag at Gas-gwent, er enghraifft, ac mae hwnnw'n fan cyfyng go iawn. Yn ddiweddar, pan oedd pont yr M48 ar gau, canfu trigolion Magwyr a Gwndy fod teithiau o'u pentrefi a'u trefi i'r M4, sydd fel arfer yn cymryd ychydig funudau, yn cymryd bron i ddwy awr oherwydd y tagfeydd ofnadwy a'r man cyfyng ar y gyffordd honno. Felly, nid yw'n syndod eu bod yn bryderus iawn am y cyfyngiadau arfaethedig yr ydym yn eu trafod mewn perthynas â cherbydau nwyddau trwm a beth fyddai'r canlyniadau iddynt hwy. Yn amlwg, pan fydd yn rhaid i bobl fynd i'r gwaith, i'r ysgol neu'r coleg, neu ymrwymiadau niferus eraill, os yw eu taith yn cymryd oriau'n hwy nag y byddai fel arfer, mae hynny'n eu rhoi mewn perygl mawr ar adegau, yn ogystal â'r anghyfleustra enfawr sy'n gysylltiedig â hynny. Felly, os gallwch fynd i'r afael â'r materion hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn a byddai'r trigolion lleol yn ddiolchgar iawn yn wir.
Diolch i John Griffiths am ei gwestiwn, a gallaf roi sicrwydd iddo y byddwn yn codi'r pryderon hyn yn y gweithdai. Bûm yn siarad â thrigolion fy hun yr wythnos diwethaf, ac roeddent yn mynegi pryderon tebyg ynghylch yr amser y gallai ei gymryd o ganlyniad i'r gwaith i gael mynediad at wasanaethau ac i gyrraedd yr ysgol. Yn amlwg, mae'r gwaith wedi ei gymell gan bryderon diogelwch, ac mae'n gwbl hanfodol ei fod yn mynd rhagddo, ond byddwn yn codi'r materion a ddisgrifiwyd gennych nawr pan fyddwn yn mynychu'r gweithdai yn yr wythnosau nesaf.
6. A wnaiff yr Ysrifennydd Cabinet roi diweddariad ar amserlen rheilffordd Arfordir Cambrian? OQ62616
Rwy'n falch o allu adrodd bod perfformiad y gwasanaeth wedi gwella ar lein y Cambrian, ac yn wir, ar draws rhwydwaith ehangach Trafnidiaeth Cymru, yn dilyn cyflwyno'r amserlen newydd ym mis Rhagfyr. Yn amodol ar argaeledd cerbydau trenau, bydd Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu mwy o seddi at sawl gwasanaeth ar lein arfordir y Cambrian yn ystod cyfnod brig yr haf.
Mae newid yr amserlen yn cael effaith andwyol sylweddol ar economi arfordir Cambria o Bwllheli i lawr yr arfordir i Fachynlleth. Rwyf wedi derbyn nifer o negeseuon gan fusnesau sydd wedi wynebu gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr ac wedi colli incwm o ganlyniad. Ar adeg pan fo'r sector lletygarwch eisoes yn ei chael hi'n anodd, mae'r newid hwn i amserlen y trenau'n gwaethygu pethau. Mae tafarndai, bwytai, sinemâu annibynnol lleol, theatrau a busnesau eraill wedi cael eu heffeithio.
Dyma un enghraifft o westy hyfryd Morlyn yn Llandanwg ger Harlech: 'Busnesau bach fel ein hun ni sy'n dioddef. Mae gennym gontract parhaus gyda chwmni o'r Iseldiroedd lle mae gwesteion o'r Iseldiroedd yn cyrraedd Llandanwg ar y trên, yn aros am ddau ddiwrnod ac yna'n parhau ar fws a thrên i fyny i Landudno, yna ymlaen ar drên gan wneud taith fawr o amgylch y DU. Ni yw'r arhosfan gyntaf. Maent yn cyrraedd yr holl ffordd o Amsterdam ar y diwrnod cyntaf, a dylent allu cysylltu yn Birmingham International â lein y Cambrian, gan gyrraedd yma am 18:13, ond nid yw'r cysylltiadau bob amser yn gweithio, felly yn anochel, maent yn cyrraedd ddwy awr yn hwyrach ar y trên nesaf. Gan fod y trên olaf hwnnw wedi mynd bellach, yr unig ddewis arall yw taith mewn tacsi o Amwythig.'
Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro i'm hetholwyr pam y dylent orfod colli incwm a swyddi a pham y dylai ein heconomi ddioddef oherwydd methiant Trafnidiaeth Cymru i redeg gwasanaeth effeithiol ar lein y Cambrian?
Yn gyntaf oll, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod nad anghenion cymunedau yn unig y mae gwasanaethau rheilffyrdd yn eu diwallu, ond anghenion twristiaid hefyd, fel yr amlinelloch chi yn y neges gan y busnes y buoch chi'n siarad â hwy. Yn eich achos chi, ymwelwyr yn bennaf a fydd yn defnyddio'r gwasanaeth yn Amwythig, a dyna pam rwyf yn falch y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu gwasanaethau ar lwybrau sy'n wynebu galw uwch yn ystod y tymor twristiaeth, gan gefnogi'r economi leol, fel y mae'r Aelod wedi dweud bod angen iddo ddigwydd, ac, yn wir, twristiaeth ledled canolbarth Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu rhedeg gwasanaeth ychwanegol 16:28 o Amwythig i Aberystwyth yn ystod misoedd yr haf. Yn dilyn y gwaith uwchraddio ar seilwaith Network Rail, maent yn bwriadu cryfhau pedwar gwasanaeth yn ystod y dydd o ddau i bedwar cerbyd ar lein arfordir y Cambrian. Mae hynny'n dangos sut y mae Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion nid yn unig y cymunedau y mae gwasanaethau'n rhedeg drwyddynt, ond anghenion twristiaid yng nghanolbarth Cymru hefyd.
7. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ystod y 12 mis diwethaf o ran mapio llwybrau teithio llesol i ysgolion ledled Cymru? OQ62607
Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am fapio llwybrau teithio llesol, gan gynnwys i bob ysgol. Disgwylir y diweddariad nesaf ar 1 Rhagfyr eleni. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn mapio'r holl ymyriadau i hyrwyddo teithio iach a llesol i'r ysgol ledled Cymru, gan wella cydgysylltu a thargedu adnoddau a rhaglenni.
Yr hyn rydych chi'n ei ddweud yw nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw rôl yn sicrhau bod tegwch yn y trefniant hwn, sy'n peri pryder i mi. Nid yw Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi mapiau teithio llesol ar gyfer ysgolion unigol eto, ac nid yw hynny'n broblem lle mae teuluoedd yn beicio, gan eu bod yn trefnu eu teithio llesol eu hunain, yn enwedig bws beicio dydd Gwener, y cynhaliwyd yr un mwyaf llwyddiannus yn wythnos olaf y tymor, gyda chymorth hyfforddwr enwog, Balto, o'r Unol Daleithiau, sy'n rhan o fudiad byd-eang i annog plant i deithio'n llesol i'r ysgol, boed drwy gerdded neu feicio. Rwy'n credu bod bron i 1,000 o bobl wedi teithio o barc Victoria i bedair neu bum ysgol yng Ngorllewin Caerdydd.
Mae hynny'n wych, ond mae'n amddifadu'r ysgolion lle nad oes ond nifer fach iawn o rieni â beiciau, sy'n gwybod sut i feicio'n ddiogel, ac y mae eu plant felly o dan anfantais am nad oes ganddynt yr opsiynau hynny. Yn Ysgol Uwchradd Llanisien, nid ydynt wedi gallu sefydlu beicio i'r ysgol o Bentwyn yn rhan o drefniadau pontio'r ysgol. Golyga hynny fod teuluoedd sy'n byw ychydig o dan y trothwy 3 milltir a fyddai'n eu galluogi i fynd ar fws am ddim yn gorfod gwario dros £400 y flwyddyn ar docynnau bws am nad ydynt yn deall ac am nad oes ganddynt fodd o olrhain llwybr diogel i'r ysgol ar feic. Mater o degwch yw hwn mewn gwirionedd—
A wnewch chi ddod at eich cwestiwn, os gwelwch yn dda?
—a hoffwn wybod pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i gyflymu camau gweithredu i ddatrys hyn, yn enwedig yn eich uwchgynhadledd dysgwyr yr wythnos nesaf. Mae hwn yn gyfle delfrydol.
Wel, wrth gwrs, mae galluogi mwy o blant i gerdded, olwyno a beicio i addysg yn un o fy mhrif flaenoriaethau, ac roedd yn bleser mawr annerch y gynhadledd teithiau llesol ac iach i'r ysgol fis diwethaf, ac ateb rhai cwestiynau anodd iawn gan blant Ysgol Gynradd Radnor. Mae angen i bob awdurdod lleol ganolbwyntio ar greu llwybrau diogel a hygyrch i ysgolion, ac rydym ni fel Llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fapio llwybrau i bob ysgol ar eu map rhwydwaith teithio llesol ar gyfer pob tref. Nawr, mae pob llwybr teithio llesol wedi'i fapio ar MapDataCymru, ond rwy'n annog awdurdodau lleol i ystyried ffyrdd mwy rhagweithiol, a haws i'w defnyddio yn sicr, o hyrwyddo llwybrau teithio llesol yn eu hardaloedd.
A gellir ariannu hyn. Gellir ariannu'r gwaith hwnnw o'r gronfa teithio llesol. Ceir enghreifftiau gwych ledled Cymru y dylid eu rhannu a'u hyrwyddo. Er enghraifft, yn sir Fynwy, maent wedi gwneud gwaith gwych yn datblygu mapiau sy'n dangos amseroedd teithio pobl ar gyfer cerdded a beicio i bwyntiau canolog. Nawr, efallai y bydd gan yr Aelod ddiddordeb mewn clywed ein bod yn datblygu hyb newydd yn Llywodraeth Cymru a fydd yn caniatáu inni gydgysylltu'r math hwn o weithgarwch yn well yn y dyfodol a thargedu'r cymorth sydd ei angen yn well er mwyn datblygu set fwy hygyrch o fapiau, fel y nododd yr Aelod.
8. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i wella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus? OQ62599
Mae'r gallu i deithio yn rhywbeth y credaf fod llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, ond yn anffodus, nid yw hyn yn wir i bawb. Mae sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch, yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb yn flaenoriaeth allweddol, yn enwedig i'r rheini sy'n dibynnu ar ein rhwydweithiau i fyw eu bywydau.
Diolch. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch, a gwn eich bod chi'n teimlo felly hefyd. Rhaid sicrhau bod ein systemau trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch. Dylid cynllunio trafnidiaeth gyhoeddus mewn ffyrdd sy'n caniatáu i bob teithiwr ei defnyddio'n ddiogel, ond nid yw hynny'n digwydd bob amser. Gall llwybrau cerdded sydd wedi'u goleuo'n wael wneud i fenywod deimlo'n llai diogel. Gall dyluniad gormod o arosfannau a gorsafoedd ddiystyru pobl anabl, ac yn rhy aml, gall trenau a gwasanaethau bysiau gael eu canslo ar fyr rybudd, hyd yn oed yn hwyr yn y nos, gan adael teithwyr mewn mannau lle na allant ddod o hyd i lwybr diogel adref. Ym mhob un o'r achosion hyn, mae diffygion yn nyluniad y gwasanaethau hyn yn gwneud pobl yn agored i niwed. Rwyf wedi dadlau hyn o'r blaen. Nid oes unrhyw beth cynhenid am fod yn fenyw neu'n anabl sy'n gwneud pobl yn agored i niwed. Dyluniad gwasanaethau a mannau sy'n gwneud pobl—. Mae'n creu bregusrwydd mewn mannau y mae pob un ohonom i fod i'w rhannu.
Nawr, rwy'n ddiolchgar eich bod wedi cytuno i gyfarfod â mi i drafod sut y gallem fynd i'r afael â'r materion hyn yng Nghymru. A gaf i eich gwahodd, os gwelwch yn dda, i ddatgan unwaith eto eich bwriad i weithio i fynd i'r afael â'r problemau hyn?
Wrth gwrs, ac a gaf i ddiolch i Delyth Jewell am yr apêl ddiffuant i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a bod y rhwydwaith trafnidiaeth yn ddiogel ac yn hygyrch i'r unigolion mwyaf agored i niwed? Os gallwn ei wneud yn ddiogel ac yn hygyrch i'r rhai mwyaf agored i niwed, fe fydd yn ddiogel ac yn hygyrch i bob unigolyn yn ein cymdeithas. Nawr, rwy'n credu bod cyfarfod wedi'i drefnu rhyngof fi a Delyth Jewell bellach. Edrychaf ymlaen at archwilio'r mater gyda hi.
Rwyf hefyd newydd dderbyn llythyr yn ôl gan banel teithio llesol Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r mater pwysig hwn. Gyda'u caniatâd, rwy'n falch o rannu'r llythyr hwnnw gyda'r Aelod. Yn ddiweddar iawn, nodais fy ngweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth i bawb dros y 12 mis nesaf, ac mae'n cynnwys archwiliad cyflym o hygyrchedd pob gorsaf reilffordd, fel y gallwn edrych i weld pa orsafoedd y mae angen blaenoriaethu cyllid ar eu cyfer.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Laura Anne Jones.
1. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn dilyn dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar y diffiniad o fenyw? OQ62610
4. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch amddiffyn hawliau dynol pobl drawsryweddol yng ngoleuni dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys? OQ62608

Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 1 a 4 gael eu grwpio.
Mae Llywodraeth Cymru yn parchu penderfyniad y Goruchaf Lys. Byddwn yn rhoi amser i ystyried y dyfarniad yn ofalus a chymryd y camau sy'n ofynnol i gyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel y'u heglurir gan y dyfarniad.
Diolch. Roedd penderfyniad y Goruchaf Lys yn ddyfarniad nodedig, a roddodd ddiwedd ar y bennod chwerthinllyd hon yn ein hanes, lle nad oedd gwleidyddion, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn gallu diffinio menyw. Yn wir, chwe mis ar ôl imi ofyn i chi mewn cwestiwn ysgrifenedig am ddiffiniad eich Llywodraeth, rwy'n dal i ddisgwyl am ymateb.
Mae'n bwysig nodi nad yw'r dyfarniad hwn gan y Goruchaf Lys wedi dileu hawliau pobl draws; mae ganddynt amddiffyniad cyfreithiol o hyd, a hynny'n briodol, a gwn fod pob un ohonom yn y Siambr yn croesawu hynny. Unwaith eto, nid yw hyn erioed wedi ymwneud â bod yn erbyn unrhyw un. Mewn gwirionedd, hawliau menywod biolegol a gafodd eu herydu, a nawr, mae'r dyfarniad hwn yn drobwynt lle bydd menywod a merched yn adennill yr hawliau hynny. Byddai'n wych gweld Llywodraeth Cymru yn trin menywod a merched â'r un parch, caredigrwydd a thrugaredd ag y maent yn ei fynnu i eraill.
Ond ar ôl y dyfarniad arwyddocaol hwn, nid ydym yn gwybod o hyd beth fydd yn newid yng Nghymru mewn gwirionedd. Mae'r Prif Weinidog yn dweud y byddwn yn cael adroddiad ganddi yn ddiweddarach yn yr haf, sy'n annerbyniol yn fy marn i ar gyfer mater mor arwyddocaol. Felly, pam yr arhoswn, Ysgrifennydd y Cabinet? Nid yw oedi tan yr haf yn opsiwn o gwbl. Mae'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol wedi nodi'n glir fod gohirio'r dyfarniad hwn yn gyfystyr â gwahaniaethu yn erbyn menywod a merched. Mae eich portffolio yn arwyddocaol ac yn hanfodol i wneud y newidiadau hyn. A wnewch chi roi llinell amser gadarn i'r Senedd o ba bryd y gallwn ddisgwyl camau gweithredu nesaf Llywodraeth Cymru ar hyn? Oherwydd mae menywod a merched wedi aros yn ddigon hir, ac rwy'n siŵr nad ydych chi eisiau iddynt aros yn hirach. Diolch.
Diolch am eich cwestiwn. Fel y gwyddoch, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddoe, datganiad ysgrifenedig ar ddyfarniad y Goruchaf Lys ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a dechreuais y datganiad hwnnw drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gadarn i gydraddoldeb a chynhwysiant a diogelu urddas a hawliau dynol pawb yng Nghymru. Ac rwy'n credu bod hynny wedi'i adlewyrchu yn ymateb y Prif Weinidog ddoe hefyd pan ddywedodd y byddai ein Llywodraeth yn ymddwyn gyda pharch, tosturi a charedigrwydd, ond yn amlwg, yn cymryd dyfarniad y llys o ddifrif.
Ac fel y dywedodd, byddwn yn cymryd ein hamser nawr i weithio drwy oblygiadau hyn, ac mae'n bwysig ein bod yn cymryd ein hamser, fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig, i ystyried y dyfarniad. Yn wir, cafwyd diweddariad yr wythnos diwethaf gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol; mae angen inni edrych ar hwnnw'n ofalus a chymryd y camau sydd eu hangen, fel y dywedais, i gyflawni ein rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Ond rwyf hefyd yn ailadrodd geiriau'r Prif Weinidog, a gyfeiriodd at eiriau'r Arglwydd Hodge pan draddododd ddyfarniad y Goruchaf Lys na ddylid darllen hyn fel buddugoliaeth i un neu fwy o grwpiau ar draul un arall. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei dderbyn a gwrando arno a siarad â phawb a allai gael eu heffeithio ganddo a sicrhau nad yw gwahaniaethu ac aflonyddu yn erbyn unrhyw unigolyn ag un neu fwy o nodweddion gwarchodedig yn gyfreithlon nac yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Arglwydd Hodge, yn ogystal â'r cywair yn eich datganiad ysgrifenedig. Rwyf wedi cael llawer iawn o ohebiaeth ar y mater hwn gan fy etholwyr, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn pryderu am oblygiadau canllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sydd wedi'u llunio'n eithaf gwael yn ôl pob golwg, gan yr ymddengys i mi eu bod yn achosi cymaint o broblemau ag y maent yn eu datrys. Nid yw'r canllawiau newydd yn orfodadwy heb oruchwyliaeth gyhoeddus mewn mannau fel toiledau cyhoeddus ac ystafelloedd newid, ac nid yw hynny'n ddymunol i unrhyw un. O ystyried hyn, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynnu hawliau pob unigolyn â nodweddion gwarchodedig, yn unol â'r cynllun gweithredu LHDTC?
Diolch am eich cwestiwn, Jenny Rathbone. Rwy'n credu y dylem fod yn glir nad yw'r dehongliad hwn o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn dileu amddiffyniadau i bobl draws. Rwy'n arbennig o awyddus, fel y nodais yn fy natganiad ysgrifenedig, i ddeall bod parchu hawliau pobl draws yn allweddol i sicrhau'r amddiffyniad hwn o ran eu sefyllfa hwy.
Rwy'n credu bod y dyfarniad yn bwysig am ei fod yn nodi'n glir y gall pobl draws barhau i gael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu ac aflonyddu yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig ailbennu rhywedd. Ond roedd yr amddiffyniad i bobl draws a pharchu hawliau pobl draws yn allweddol i'm datganiad. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ymgysylltu â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei gylch. Ni fyddwn yn rhuthro i ymateb i'r dyfarniad. Fe gymerwn ein hamser ac ni wnawn ddamcaniaethu ynghylch y canllawiau sydd ar y ffordd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Rwy'n deall mai diweddariad mewn gwirionedd oedd y canllawiau interim, fel y'u gelwid; nid ydynt yn ganllawiau yn y gyfraith gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Felly, mae'n rhaid inni gymryd hyn gam wrth gam, gwrando ar bobl, cyfarfod ac estyn allan, rhywbeth rwy'n sicr yn bwriadu ei wneud dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf, i glywed barn a phryderon pobl, a gwn fod etholwyr wedi mynegi pryderon i lawer ohonoch.
Rydych yn llygad eich lle fod angen inni feddwl yn ofalus ac yn ystyriol am yr effaith ar fywydau pobl, ac efallai, wrth wneud hynny, gwahanu rhywfaint o'r rhethreg ynghylch hyn oddi wrth realiti'r effaith. A'r gwir amdani yw bod y gymuned draws yn llawer mwy tebygol o wynebu ymddygiad ymosodol nag o fod yn ymosodwyr, ac mae'r ofn hwnnw wedi'i ddwysáu rywfaint yn ddiweddar.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi clywed llawer o sôn am eglurder yn dilyn penderfyniad y Goruchaf Lys, ond mae fy ngohebiaeth yn dangos nad yw pethau mor glir â hynny o bell ffordd, a hefyd effaith canllawiau interim y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, fel y’u nodwyd gan Jenny Rathbone. Er enghraifft, beth am yr effaith ar fenywod cis, nad ydynt efallai’n ymddangos mor fenywaidd ag eraill? Er enghraifft, rhywun sydd, oherwydd syndrom ofarïau polysystig, â lefelau testosteron uwch? A fyddent yn destun croesholi mewn toiledau cyhoeddus am nad ydynt yn edrych yn ddigon benywaidd? Pa amddiffyniadau a geir ar eu cyfer hwy?
Beth am bobl ryngryw? Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn berthnasol i fechgyn a merched hefyd, felly beth y gallai'r canllawiau, y dyfarniad, ei olygu wrth ddehongli mam yn mynd â'i mab ifanc i mewn i ystafell ymolchi i fenywod? A yw hynny'n golygu nad yw'n ofod un rhyw mwyach? Mae llawer iawn o gwestiynau a phryderon y mae angen eu hystyried a'u dadansoddi'n drylwyr, ac maent wedi'u codi gyda mi, a byddaf yn mynd i'r afael â hynny mewn mwy o fanylder drwy ysgrifennu atoch, Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn eich ymateb cychwynnol, rwy'n croesawu'r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi amser i ystyried hyn, gan y credaf, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod yn wirioneddol bwysig nad yw Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ddifeddwl i hyn ac yn gwneud unrhyw benderfyniadau'n gyflym, ond yn ymdrin â'r mater, fel y dywedasom, yn ofalus, gyda thosturi, ac wrth wneud hynny, yn ymgysylltu'n llawn â'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
Diolch, Hannah Blythyn. Ymatebais ddoe i gwestiwn ynglŷn â'r ffordd roeddem yn bwrw ymlaen â'n cynllun gweithredu LHDTC+. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn clywed—ac edrychaf ymlaen at dderbyn yr holl bwyntiau hynny'n ysgrifenedig. Felly, i mi, mae hynny'n rhywbeth y gallaf ymateb iddo, wrth inni edrych ar effaith y dyfarniad hwn. Fel y dywedwch, rhaid inni beidio â gwneud unrhyw benderfyniadau difeddwl, ac ymdrin â'r sefyllfa'n ofalus, gyda thosturi, a thrwy wneud hynny, ymgysylltu â'r gymuned LHDTC+, ond hefyd parchu—. Edrychaf ymlaen at gyfarfod ag unrhyw un sydd â phryderon, unrhyw grwpiau sydd â phryderon, ac o'r gymuned LHDTC+ yn enwedig, ond yn ehangach hefyd, rwy'n fwy na pharod i—. O ran ein cymuned gydraddoldeb yma yng Nghymru, yr wyf yn ymgysylltu'n llawn â hwy, edrychaf ymlaen at glywed eu barn hwythau hefyd.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal y defnydd o lafur caethweision mewn cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu? OQ62621
Diolch am eich cwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i atal caethwasiaeth fodern ar draws pob cadwyn gyflenwi, gan gynnwys gweithgynhyrchu. Mae ein datganiad ar gaethwasiaeth fodern yn amlinellu'r camau rydym yn eu cymryd i liniaru'r risgiau hyn. Rydym hefyd yn annog sefydliadau i gadw at ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf, nododd Ysgrifennydd ynni'r DU y byddai Llywodraeth y DU yn ceisio rhwystro paneli solar a wnaed yn Tsieina rhag cael eu defnyddio gan gwmni newydd Great British Energy, oherwydd pryderon ynghylch y defnydd o lafur caethweision yn y broses o'u gweithgynhyrchu. Yn anffodus, mae llawer o gadwyni cyflenwi sy'n gysylltiedig â'r broses o gynhyrchu generaduron ynni adnewyddadwy, o dyrbinau i systemau ffotofoltäig, yn dibynnu naill ai ar lafur caethweision wrth gynhyrchu'r cynhyrchion terfynol neu wrth gloddio'r deunydd crai sydd ei angen i'w cynhyrchu. Sut y byddwch chi'n gweithio gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet a Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw ein trawsnewidiad i ynni gwyrdd yn seiliedig ar y defnydd o gaethweision mewn rhannau eraill o'r byd?
Diolch am eich cwestiwn dilynol. Fel y dywedais, rydym yn gwrthwynebu pob ffurf ar gaethwasiaeth fodern, ac rydym wedi ymrwymo i gadwyni cyflenwi moesegol. Fe wnaethom groesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y bydd Great British Energy yn gweithredu i sicrhau cadwyni cyflenwi sy'n rhydd o lafur gorfodol neu lafur caethweision. Fel y dywedais, fe wnaethom gyhoeddi ein canllawiau, y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, ond ni oedd y Llywodraeth ddatganoledig gyntaf i gyhoeddi datganiad caethwasiaeth fodern, felly rydym yn gweithio'n agos i sicrhau bod hynny'n cael ei gyflawni, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU. Ac maent wedi datblygu canllawiau wedi'u diweddaru ar ddatganiadau caethwasiaeth fodern.
Ac fe fyddwch yn ymwybodol, Altaf, yr wythnos diwethaf, fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gwelliant i'r Bil sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd a fydd yn rhoi mesurau ar waith i sicrhau nad oes unrhyw gaethwasiaeth na masnachu pobl yn digwydd yn ei busnes na'i chadwyni cyflenwi, gyda'r uchelgais fod GB Energy yn gwasanaethu fel arweinydd y sector wrth adeiladu seilwaith ynni newydd, fel y mae pob un ohonom ei eisiau yma yng Nghymru, gan arwain y gwaith o adeiladu seilwaith ynni newydd gan ddefnyddio cadwyni cyflenwi moesegol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, lansiodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ei adroddiad yn nodi'r cynnydd a wnaed dros y 10 mlynedd ers cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn anffodus, ychydig o gynnydd oedd yn amlwg yn yr adroddiad, ar wahân i brydau ysgol am ddim a chyfraddau ailgylchu—pethau a fyddai wedi digwydd heb y Ddeddf. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n credu bod Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn gweithio fel y bwriadwyd?
Diolch, Altaf Hussain. Wel, rwyf wedi bod yn falch iawn o fod yn rhan o ddathliadau dengmlwyddiant Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a mynychais gyfarfod arweinwyr ddoe a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ac rwy'n croesawu'r adroddiadau a gynhyrchwyd yn fawr. Maent yn adroddiadau statudol, a gynhyrchir bob pum mlynedd. A'r gydnabyddiaeth, gan fod arweinwyr yn yr ystafell—roeddwn i yno fel Llywodraeth Cymru, wrth gwrs—yn croesawu a dathlu'r dengmlwyddiant, ond gan gydnabod mai mater i holl gyrff cyhoeddus Cymru, sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf, yw'r cyfrifoldeb o'i gweithredu, a dyna sydd wedi cael effaith enfawr yn fy marn i. Mae amlygrwydd y Ddeddf, sy'n cael ei chydnabod yn fyd-eang, ond hefyd ar draws pob corff cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb, yn cael dylanwad ar y ffordd yr ydym yn darparu polisi a gwasanaethau yma yng Nghymru. Oes, mae gennym enghreifftiau da iawn, ac mae bod yn arweinydd y byd ailgylchu a darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn enghreifftiau da iawn, ond rhannodd y cyrff cyhoeddus a oedd yn bresennol, a'r arweinwyr, lawer iawn mwy o enghreifftiau ddoe.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, rwyf i, a llawer o rai eraill, yn credu nad yw'r Ddeddf yn cyflawni ei nodau aruchel. Nid ydym yn gwella lles cenedlaethau'r dyfodol. Yn ôl ystadegau'r comisiynydd ei hun, mae 21 y cant o'r holl bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol, ac mae 29 y cant o blant yn byw mewn tlodi, sy'n ffigur syfrdanol. Nid ydym ychwaith yn genedl iach: Cymru sydd â'r nifer uchaf o bobl yn byw gyda diabetes yn y DU. Pam nad yw'r Ddeddf wedi cyflwyno camau i fynd i'r afael â thlodi? Pam nad yw'r Ddeddf wedi gorfodi cyrff cyhoeddus i ganolbwyntio ar atal diabetes? Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gwnewch chi sicrhau bod cyrff cyhoeddus ledled y wlad yn ailffocysu ymdrechion ar wella llesiant, yn ogystal â gweithredu ar ofal iechyd ataliol?
Wel, diolch am y gydnabyddiaeth mai'r cyrff cyhoeddus yng Nghymru sydd â'r gwaith o gyflawni eu rhwymedigaethau o ganlyniad i Ddeddf statudol lles cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'r cyrff cyhoeddus hynny'n cael eu cynrychioli ledled Cymru, o lywodraeth leol i'r gwasanaeth iechyd i Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r ystod o gyrff cyhoeddus wedi cynyddu wrth gwrs. Fe wnaethom ychwanegu wyth corff cyhoeddus ychwanegol at y Ddeddf o ganlyniad i alwad gan gyrff cyhoeddus i allu chwarae eu rhan lawn yn cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), sydd ag enw da ledled y byd, ac mewn gwirionedd, cafodd wobr gan y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddar. Rwy'n credu ei bod yn bwysig yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe ei fod yn edrych ar weithredu ac effaith—dyna beth sydd angen inni ei weld—ond byddaf yn falch o siarad mwy am hyn, am yr heriau a'r cyfleoedd, a chyflawniad y Ddeddf, pan fyddaf yn rhoi datganiad llafar i'r Siambr ym mis Mehefin.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Er bod Llywodraethau ar ddau ben yr M4 yn ceisio paentio darlun cadarnhaol, mae'r rhagolygon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn edrych yn llwm. Yn ôl ymchwil Ymddiriedolaeth Trussell a ryddhawyd y bore yma, mae 420,000 o bobl yng Nghymru, gan gynnwys 110,000 o blant, yn wynebu newyn a chaledi, gan fyw ymhell islaw'r llinell dlodi. Mae'r Canghellor wedi gwaethygu'r sefyllfa i deuluoedd sy'n gweithio, a bydd ymdrechion tuag at nodau sero net Llywodraeth y DU yn gwneud cenedlaethau'r dyfodol yn dlotach trwy gynyddu pris ynni yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, os ydych chi wir yn malio am genedlaethau'r dyfodol, fe wnewch wrthwynebu camau gan Ed Miliband i gyflwyno prisio ynni rhanbarthol. Yr un peth y gallaf gytuno â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei gylch yw bod yr heriau a wynebir yn sylweddol, ond nid yn anorchfygol. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y bydd y Ddeddf na'r comisiynydd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r heriau hynny. A ydych chi'n credu hynny?
Wel, rwy'n gobeithio'n fawr y byddwch chi'n cyfarfod, ac rwy'n siŵr eich bod wedi cyfarfod, â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Derek Walker. Roedd yn bwysig iawn fod yr holl bleidiau'n rhan o'r broses o'i benodi, a'r adroddiad hwn yw ei adroddiad cyntaf. Rwy'n credu bod y gwaith y mae wedi'i wneud ar 'Cymru Can' yn gwrthddweud yr hyn rydych chi'n ei ddweud heddiw, o ran yr hyn y mae Cymru'n ei wneud fel cenedl fach a'r hyn a wnawn i fynd i'r afael â'r materion a'r heriau hynny, a ddeilliodd, rhaid imi ddweud, o 14 mlynedd o gyni o dan Lywodraeth Geidwadol, sydd wrth gwrs wedi creu anfantais i'n cymunedau, ein hamgylchedd, ein plant. Ac eto rydym yn dal yn falch o'r ffaith bod diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn hanner yr hyn ydyw dros y ffin yn Lloegr oherwydd ein mentrau fel y warant i bobl ifanc. Rwy'n sylweddoli mai ymgais wleidyddol yw hon gan Altaf y prynhawn yma, wrth edrych ar Ddeddf lles cenedlaethau'r dyfodol, a'r hyn y byddai'n rhaid imi ei ddweud yw'r agweddau negyddol—ein hasesiad o'r hyn y cawsom ein llyffetheirio ag ef am 14 mlynedd o ganlyniad i'r Llywodraeth Geidwadol flaenorol—a'r hyn yr ydym bellach yn ceisio ei wrthdroi, o ran y cyfleoedd sydd gennym yng Nghymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyflwyno cod ymarfer statudol drafft ar wasanaethau un rhyw gerbron Gweinidogion y Deyrnas Gyfunol erbyn diwedd Mehefin, sef mewn wyth wythnos. O'i dderbyn, ar ôl i'r cyfnod craffu 40 niwrnod ddod i ben, bydd yn rhaid wedyn i lysoedd a darparwyr roi sylw dyledus iddo—hynny yw, bydd e'n god statudol bryd hwnnw.
Oes yna broblem gyda'r cyfieithu?
Cyn i'r cod gael ei gadarnhau, a wnewch chi gynnull trafodaethau ledled Cymru, yn dod â sefydliadau menywod, cymunedau traws ac LHDT, darparwyr rheng flaen ac arbenigwyr cyfreithiol ynghyd, ac wedyn cyflwyno mewnbwn ffurfiol Llywodraeth Cymru, fel bod profiad a thystiolaeth Cymru yn siapio'r cod terfynol?
Diolch yn fawr, Adam Price. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw, oherwydd dyna'n union y ceisiaf ei wneud eisoes—estyn allan at y rhai sydd eisoes yn cysylltu â Llywodraeth Cymru, i ofyn a allant ymgynghori, a siarad â ni. Rwy'n siarad â sefydliadau a oedd, er enghraifft, yn ein cynghori wrth ddatblygu ein cynllun gweithredu LHDTC+ arloesol, ond hefyd sefydliadau, er enghraifft, fel y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, sy'n cynrychioli ystod eang o sefydliadau menywod yng Nghymru—felly, estyn allan at bob un o'r sefydliadau cydraddoldeb. Ac fel y dywedwch, ein dealltwriaeth ni—ac rydym i fod i gyfarfod â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol—yw eu bod yn ystyried cod canllawiau statudol.
Ar hyn o bryd, mae'n bwysig iawn deall mai dim ond diweddariad oedd y canllawiau interim yr wythnos diwethaf, ac mae'n rhaid inni ddefnyddio'r amser hwn—ac fe wnaethom ddechrau, yn amlwg, cyn gynted ag y daeth y dyfarniad drwodd—i estyn allan ac ymgynghori, a chasglu'r holl safbwyntiau. Ac wrth gwrs, mae heddiw yn rhan o hynny, gyda chwestiynau, yn amlwg, craffu, a fy natganiad ysgrifenedig ddoe. Felly, diolch am hynny. Dyna rydym yn ceisio ei wneud, yn sicr.
Mi oedd y cynllun gweithredu LHDTC+ roeddech chi newydd gyfeirio ato fe wedi cynnwys camau pendant i wella bywydau pobl draws, gan gynnwys ehangu Gwasanaeth Rhywedd Cymru, cyhoeddi canllawiau cynhwysol ar gyfer ysgolion a cholegau, dileu rhwystrau i gyfranogiad mewn chwaraeon, moderneiddio systemau data y gwasanaeth iechyd cenedlaethol, a phwyso dros ddatganoli pwerau cydnabod rhywedd.
Gan fod rhai o’r addewidion hyn bellach dros ddwy flynedd yn hwyr—wel, heb eu cyflawni—ydych chi’n dal i ymrwymo i bob un ohonynt, a beth yw’r amserlen nawr ar gyfer eu cyflawni? Os cânt eu tynnu yn ôl, neu eu hoedi ymhellach, ydych chi’n derbyn y bydd targed Cymru o fod y wlad fwyaf LHDTC+ cyfeillgar yn Ewrop yn 2030 yn mynd yn anoddach, os nad yn amhosib, i’w wireddu?
Wel, rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen gyda'n huchelgeisiau i Gymru fod y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC yn Ewrop. Dyna yw ein hymrwymiad o hyd, ac rwy'n credu bod y cynllun gweithredu LHDTC+ yn nodi'r camau a gymerwn i gryfhau cydraddoldeb i bobl LHDTC+.
Yn amlwg, mae'n rhaid inni roi amser i dreulio'r dyfarniad a'i oblygiadau, ac rydym yn asesu nid yn unig y cynllun gweithredu LHDTC+, ond polisïau'n gyffredinol. Ond rwyf am roi sicrwydd i'r Aelodau mai'r cynllun gweithredu LHDTC+ yw'r fframwaith yr ydym wedi ymrwymo i'w gyflawni o ran datblygu polisi LHDTC+ ar draws y Llywodraeth, a hynny gyda'n partneriaid. Ac mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn cryfhau cydraddoldeb i bobl LHDTC+, gan herio gwahaniaethu. Ac mae'n ymwneud â gweledigaeth gyffredinol i wella bywydau a chanlyniadau pobl LHDTC+, camau gweithredu polisi-benodol eang, fel y dywedoch chi. Maent yn ymwneud â hawliau dynol, addysg, gwella diogelwch, tai, iechyd a gofal cymdeithasol, chwaraeon, diwylliant a hyrwyddo cydlyniant cymunedol.
Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol, efallai, os—. Hoffwn gyfeirio at sylw a wnaeth Jeremy Miles ddoe pan gafodd ei gyfweld am y mater hwn ynghylch effaith y dyfarniad ar iechyd a gofal cymdeithasol. Ac fe ddywedodd yn y cyfweliad, y bydd rhai pobl wedi'i glywed o bosibl, fod y dyfarniad yn ymwneud â diffiniad cyfreithiol mewn un darn o ddeddfwriaeth. Nid yw'n diffinio dull y Llywodraeth o drin pawb yn gyfartal, trin pawb yn gynhwysol, gan wneud yn siŵr fod unigolion traws yn teimlo'n ddiogel, yn teimlo eu bod yn cael eu parchu. Nid yw hynny'n newid.
Rwy'n credu bod hwnnw'n ddatganiad pwysig iawn gan Jeremy ddoe. Unwaith eto, nid wyf yn gyfreithiwr, ac rwy'n sylweddoli bod yna faterion yn codi yma ynglŷn â sut rydym yn ymateb i hyn o ran y dyfarniad a'r statws cyfreithiol.
Rwy’n croesawu’r neges yna yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet. Yn olaf, mae'r drafodaeth hawliau yn ymwneud â hawliau pobl draws wedi mynd yn gynyddol bolareiddiedig, yn aml ar sail anwybodaeth a chamwybodaeth, gan niweidio nid yn unig pobl draws ond hefyd danseilio ymddiriedaeth gymdeithasol yn gyffredinol. Gall Cymru gamu i gyfeiriad gwahanol, yn seiliedig ar egwyddorion y Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol o urddas a pharch i bawb. A wnewch chi, felly, ystyried, ar ôl, efallai, cymryd cyngor gan y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth sydd newydd ei gynnull, sefydlu comisiwn sifig annibynnol neu gynulliad dinasyddion sy'n rhoi lle amlwg i leisiau menywod a merched, pobl draws a'r gymuned LHDT, gyda fforymau deialog cymunedol, ymchwil academaidd, i gyd ar sail trafodaeth sydd yn parchu pawb? Oni all hyn gynnig ffordd gadarnhaol o ostwng y gwres, meithrin consensws a dangos sut y gall Cymru arwain â thosturi a thystiolaeth?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch yn fawr, Adam Price. Hoffwn fynd ar drywydd sut y gallwn ymgysylltu â'r grŵp cynghori ar arloesi democratiaeth yn y ffordd hon. Rwy'n credu y byddwch wedi gweld yn fy natganiad ysgrifenedig fy mod wedi gorffen y datganiad drwy ddweud ein bod yn cydnabod yr ofn a'r ansicrwydd y gall pobl draws, ledled Cymru yn arbennig, fod yn eu profi a'u teimlo, gan sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais ar barch, tosturi a charedigrwydd yn ei holl ymwneud â phobl a chymunedau traws. Ond rwy'n credu bod eich pwynt ehangach ynglŷn â sut y gallwn adeiladu dealltwriaeth a chonsensws yn bwysig iawn, ac rwy'n gobeithio y byddai hynny'n cynnwys safbwyntiau a fynegir yma yn y Siambr hon, a allai fod yn anghyfforddus ac yn heriol. Rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu estyn allan o leiaf a rhoi sicrwydd i chi ac i'r Aelodau ynghylch y ffordd rydym am symud hyn ymlaen gymaint â phosibl yn ysbryd yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd Hodge, na ddylem weld hyn fel buddugoliaeth i un neu fwy o grwpiau mewn cymdeithas ar draul un arall.
Un pwynt olaf ar hyn, Ddirprwy Lywydd, os caf, yw ein bod yn ceisio diweddariad ar gynnig Llywodraeth y DU i gyfartalu amddiffyniadau troseddau casineb yn y gyfraith. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym wedi galw amdano ers argymhelliad Comisiwn y Gyfraith yn 2021. Nid yw wedi'i weithredu eto, ond fe wyddom fod troseddau casineb yn yr holl arena bolisi hon, ac rydym am wrthsefyll hynny. Rydym eisiau cael hawliau cyfartal o ran hawliau dynol yn y ffordd y mae pobl yn trin ei gilydd, ac rwy'n ddiolchgar am eich cwestiynau y prynhawn yma.
3. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â sicrhau bod darpariaeth frecwast ar gyfer pob plentyn ysgol gynradd sydd ei angen, er mwyn lliniaru effeithiau tlodi plant? OQ62617
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Rydym yn defnyddio pob dull sydd ar gael i ni i gefnogi teuluoedd sydd ei angen fwyaf. Mae ein hymrwymiad parhaus i gynnal brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd, ynghyd â'n cynnig prydau am ddim i bob plentyn cynradd a'n cynllun llaeth ysgol, yn helpu i gadw arian mawr ei angen ym mhocedi teuluoedd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, cyhoeddodd eich cymheiriaid yn San Steffan fod 750 o glybiau brecwast am ddim yn agor yn ysgolion cynradd y wladwriaeth. Fel y gwyddoch yn well na'r mwyafrif, dyma fu polisi Llywodraeth Cymru ers dros 20 mlynedd, gyda ffigurau cyhoeddedig yn amcangyfrif bod 100 miliwn o frecwastau ysgol am ddim wedi cael eu gweini dros y degawd diwethaf. Fodd bynnag, gall ysgolion ddewis a ydynt yn cymryd rhan yn y cynllun ai peidio, ac nid yw pob ysgol yn gwneud hynny, yn amlwg. Nid yw'r wybodaeth ynghylch pa ysgolion nad ydynt yn cymryd rhan ar gael yn hawdd ar wefan yr awdurdod lleol neu StatsCymru. Mae'n ymddangos bod ysgolion sydd â chyfran is na'r cyfartaledd o blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn llai tebygol o gynnal clwb brecwast am ddim. Mae hyn wedyn yn gwaethygu'r teimlad o anghydraddoldeb y mae'r plant hyn eisoes yn ei deimlo. A yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn cytuno y dylai data ar faint o ysgolion sydd wedi ymrwymo i'r cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd fod yn rhan o'r data a gyhoeddir, ac felly'n hawdd ei weld i rieni sy'n cynllunio eu bywydau yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiwn. Mae'n ddefnyddiol rhoi ychydig o hanes ar hyn. Fe wnaethom gyflwyno'r fenter brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn ôl yn 2004, ac rwy'n cofio'r diwrnod yn dda. Roedd rhai ohonom yno i groesawu'r cyflwyniad. Roedd yn fenter a gâi ei hariannu gan grant penodol ac mae bellach yn rhan o'r setliad llywodraeth leol tua 20 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae'n diogelu darpariaeth brecwast am ddim gyda'r dyraniad cyllid hwnnw. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried y ddarpariaeth a hawl plant i'r ddarpariaeth honno. Mae wedi cynyddu dros 4,900 ers 2023, a chynnydd o 7,700 yn y flwyddyn flaenorol. Fel y dywedwch, trwy ddata cyfrifiad blynyddol ysgolion o lefel disgyblion y cawn y wybodaeth hon, ond ar ddiwrnod y cyfrifiad y llynedd, i Aelodau wybod, derbyniodd 56,587 o ddisgyblion oedran ysgol gynradd frecwast am ddim. Ond rwy'n siŵr y gallwn edrych ar ffyrdd o sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael yn haws, fel y galwoch chi amdano.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig fod plant yn bwyta brecwast iach, maethol sy'n eu llenwi, boed yn y cartref neu'n wir, yn yr ysgol. Mae dadansoddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree yn dangos y bydd tlodi plant yng Nghymru yn cyrraedd ei gyfradd uchaf mewn 30 mlynedd erbyn diwedd y degawd hwn, gyda mwy na 34 y cant o blant yn byw ar aelwyd incwm isel. Mae hyn bum pwynt canran yn uwch na'r gyfradd bresennol, a gallai olygu bod tua 32,000 o blant yn cael eu gwthio i fyw mewn tlodi yng Nghymru. Yn ôl yr un adroddiad, mae Cymru eisoes ar y gwaelod ymhlith y cenhedloedd datganoledig o ran cyfraddau tlodi plant, a phan gynhwysir y rhanbarthau yn Lloegr yn wir, mae'r ffigurau'n dangos mai dim ond dwyrain canolbarth Lloegr sy'n waeth na ni. Mae'r adroddiad yn honni bod Cymru'n gwneud mor wael am fod ganddi gyfraddau cyflogaeth is, cyflogau is na'r cyfartaledd a chyfraddau uwch o bobl yn derbyn budd-daliadau, yn ogystal â gwahaniaethau o ran math a maint teuluoedd. Mae'r anallu i fynd i'r afael â thlodi plant yn effeithiol yn un o fethiannau mawr 26 mlynedd o lywodraethu Llafur Cymru yma yng Nghymru. Nawr, pa gamau brys y bwriadwch eu cymryd i ostwng y ffigurau ysgytwol hyn a rhoi'r un cyfleoedd bywyd i blant a anwyd yng Nghymru â'u cymheiriaid mewn mannau eraill ledled y DU? Diolch.
Wel, unwaith eto, nid yw'n ymddangos bod y Ceidwadwyr Cymreig eisiau cymryd unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am 14 mlynedd—[Torri ar draws.]—14 mlynedd o gyni. Ac rwy'n cofio nad oedd y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno â'r cynllun brecwast ysgol am ddim yn y lle cyntaf. Gadewch inni hefyd gydnabod y ffaith ein bod bellach wedi cael prydau am ddim i bawb yn yr ysgolion cynradd, diolch i'r cytundeb cydweithio. Ac mae'n bwysig dweud bod mwy na 42 miliwn o brydau ysgol am ddim ychwanegol wedi'u darparu ers dechrau eu cyflwyno ym mis Medi 2022. Byddaf bob amser yn cofio pan gyfarfûm â Sefydliad Bevan, pan gefais y portffolio cyfiawnder cymdeithasol, ac rwy'n cofio Dr Winckler yn dweud bod mynd i'r afael â darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol gynradd yn ffordd allweddol o fynd i'r afael â thlodi plant, ac rwy'n falch ein bod yn cyflawni hynny.
Roedd cwestiwn 4 wedi ei grwpio. Cwestiwn 5, Llyr Gruffydd.
5. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynglŷn â dileu'r cap budd-dal dau blentyn er mwyn lleihau tlodi plant yng Nghymru? OQ62626
Diolch yn fawr. Rwyf wedi codi'r cyfyngiad dau blentyn a'r cap budd-dal gyda'r Llywodraeth y DU yng ngrŵp gweinidogol y pedair gwlad ar ddatblygu strategaeth tlodi plant Llywodraeth y DU.
Byddai dileu'r cap yn codi 350,000 o blant allan o dlodi dros nos—dros nos—a byddai hefyd yn golygu y byddai 700,000 o blant yn byw mewn tlodi llai difrifol. Mewn gwirionedd, os na chaiff ei ddileu, bydd tlodi plant yn sylweddol uwch ar ddiwedd Senedd bresennol y DU na phan ddaeth eich plaid i rym, gan olygu mai dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Lafur adael gwaddol o'r fath o'i hôl. Nawr, a ydych chi'n cytuno, felly, â'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant a sefydliadau fel Barnardo's, Achub y Plant a Chyngor ar Bopeth, sy'n dweud mai dileu'r cyfyngiad dau blentyn ar fudd-daliadau fyddai'r ffordd fwyaf costeffeithiol o leihau tlodi plant?
Diolch. Rwy'n ymwybodol o'r alwad gan yr elusennau a'r sefydliadau sy'n cynrychioli plant mewn teuluoedd incwm is, ac nid yn unig yr alwad ar Brif Weinidog y DU y mis hwn, ond hefyd yn fy nghyfarfodydd gyda'r sefydliadau—y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant. Ac rwy'n credu y byddwch chi'n cofio fy mod wedi dweud yn y ddadl—dadl Plaid Cymru cyn y Pasg—imi adrodd i'r Senedd fy mod wedi codi mater y cyfyngiad dau blentyn. Rwyf wedi codi mater y cap ar fudd-daliadau gyda Llywodraeth y DU hefyd. Rwyf wedi galw am fynd i'r afael â hyn fel un o'r elfennau allweddol yn strategaeth tlodi plant y DU i fynd i'r afael â thlodi plant. A gallaf ailadrodd yr hyn a ddywedais: dywedais mai mynd i'r afael â'r cyfyngiad dau blentyn fyddai'r dull pwysicaf o fynd i'r afael â thlodi plant. Rydym bob amser wedi dweud, ar fynd i'r afael â thlodi plant—mae gennym ein strategaeth tlodi plant, ac rydym yn gwario miliynau ar fynd i'r afael â thlodi plant—mai treth a budd-daliadau sy'n allweddol i fynd i'r afael â thlodi plant. Gobeithio bod hynny'n gwneud fy safbwynt yn glir o ran fy sylwadau.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Dyma un o'r sefyllfaoedd mwyaf anghyfiawn i'n plant yma yng Nghymru, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae gennyf y parch mwyaf at Natasha, ond mae i chi sefyll yno a dweud—. Ni wnaeth y Llywodraeth Geidwadol, Llywodraeth Geidwadol y DU, unrhyw beth am y cap dau blentyn ar fudd-daliadau, nad yw o fewn grym Llywodraeth Cymru—mae'n ymwneud â Llywodraeth y DU, ac ni wnaethoch chi ddim byd, ac mae'r Ceidwadwyr bellach yn siarad yn ei erbyn. Fodd bynnag, i groesi atoch chi, ac mae gennyf y parch mwyaf tuag atoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rydych chi bellach yn rhan o weinyddiaeth Lafur sy'n parhau â'r hyn a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr, nad yw'n dileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau. Felly, rwy'n mynd i ddilyn ymlaen â'r hyn y mae fy nghyd-Aelod Llyr wedi'i ofyn i chi. Fe wnaiff 'ie' neu 'na' syml y tro: a ydych chi'n cytuno y dylid dileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau? Diolch yn fawr iawn.
Wel, rwy'n credu fy mod wedi gwneud fy safbwynt yn eithaf clir, Jane Dodds. Rwyf wedi dweud mai dyma'r dull allweddol i fynd i'r afael â thlodi plant—dod â'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau i ben. Ac rwy'n gobeithio y gwnaiff y Llywodraeth Lafur yn San Steffan hynny. Rydym yn gobeithio y bydd yn gwrando ar bob un o'r rheini ac yn cymryd y dystiolaeth. Ond mae ganddynt benderfyniadau anodd y mae'n rhaid iddynt eu gwneud, onid oes? A hynny oherwydd y twll du a adawyd gan y Llywodraeth Geidwadol. Ond rydym wedi dweud yn barhaus y dylai hyn fod yn flaenoriaeth o ran nawdd cymdeithasol i blant a mynd i'r afael â thlodi plant.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y codiad ariannol o £1.3 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer undebau credyd yng Nghymru? OQ62613
Diolch yn fawr, Carolyn Thomas. Ym mis Mawrth, buddsoddais £1.3 miliwn arall mewn cynllun ehangu benthyciadau a sefydlwyd yn 2022 i hybu benthyca gan undebau credyd. Pwrpas y cyllid ychwanegol hwn oedd rhoi mwy o hyder i undebau credyd roi benthyg i bobl sy'n agored i niwed yn ariannol ac sy'n wynebu risg oherwydd hynny.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi canfod bod 18 y cant o oedolion Cymru wedi torri'n ôl ar hanfodion i flaenoriaethu ad-daliadau dyled neu gredyd, gan amlygu'r niwed a achosir gan ddyled na ellir ei reoli. Rwy'n croesawu hwb ariannol Llywodraeth Cymru i undebau credyd, sy'n darparu achubiaeth ariannol hanfodol a fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n dangos bod 80 y cant o'r arian a fenthycir drwy undebau credyd Cymru yn cael ei wario yma yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomïau lleol. Ond nid yw pawb yn ymwybodol o undebau credyd. Felly, a wnewch chi ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i annog y rhai sydd angen mynediad at gredyd neu gynilion i edrych eto ar y gwasanaethau a gynigir gan ein hundebau credyd? Ac a wnewch chi helpu i'w hyrwyddo hefyd? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas, a diolch am godi'r cwestiwn fel y gallwn i gyd gymryd rhan yn hynny, ac rwy'n siŵr fod llawer ar draws y Siambr hon yn aelodau o'u hundebau credyd ac yn eu cefnogi. Felly, rwy'n annog unrhyw un sy'n chwilio am gredyd fforddiadwy i siarad â'u undeb credyd lleol.
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar bolisi practis trais domestig CAFCASS Cymru? OQ62615
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Mae canllawiau ymarfer CAFCASS Cymru ar gam-drin domestig, a gyhoeddwyd ddiwethaf yn 2019, yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd, ac rwy'n croesawu hynny, ac mae disgwyl iddynt gael eu hail-lansio ar 14 Mai.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol o adroddiad niwed 2020, sy'n nodi pryderon a oedd yn cynnwys nad yw'r system cyfiawnder teuluol yn diogelu dioddefwyr cam-drin domestig yn effeithiol. Gweithredwyd polisi newydd yn Lloegr ym mis Hydref y llynedd, ond bydd o leiaf wyth mis wedi mynd heibio cyn i bolisi newydd gael ei weithredu yma yng Nghymru—fel y dywedoch chi, ganol fis nesaf—gyda rhieni a phlant sy'n mynd drwy achos llys teulu yng Nghymru dan anfantais yn y cyfamser. Nawr, dyma ymyl garw'r setliad datganoli diffygiol, lle nad yw cyfiawnder wedi cael ei ddatganoli, ond mae'r rhai sy'n gweithio yn y sector yn gweithio yn ôl deddfwriaeth Cymru, ond mewn system farnwrol Seisnig. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gwersi o'r adroddiad niwed, sydd eisoes yn cael sylw yn Lloegr, yn cael eu cymhwyso'n gyflym ac yn effeithiol yma yng Nghymru i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig a diogelu eu plant? A pha gamau y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd i sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei ddatganoli, fel nad yw rhieni a theuluoedd yn dioddef yn sgil polisïau anghyson?
Diolch am y cwestiwn hwnnw oherwydd mae hyn yn bwysig iawn. Wrth gwrs, mae gennym CAFCASS Cymru ac maent bellach yn cynhyrchu canllawiau ymarfer CAFCASS Cymru, gan ymateb yn bendant iawn nid yn unig i adroddiad niwed 2020, ond hefyd drwy gydnabod a phwyso ar ganllawiau CAFCASS yn Lloegr. Yn bwysig, bydd yn cael ei gyhoeddi ar 14 Mai. Cyfrifoldeb y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ydyw, felly byddaf yn ei gyhoeddi ar y cyd, gan fynychu cynhadledd.
Y peth pwysig am y canllawiau hyn yw sut y gall ymarferwyr CAFCASS Cymru gefnogi'r plant hynny orau, plant y maent yn ymwneud â hwy yn rhan o'u hachosion llysoedd teulu, plant sydd mewn perygl o drais domestig neu sydd wedi profi trais domestig. Mae'n rhan allweddol o'n ffrwd waith flaenoriaethol yn y glasbrint trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol y byddwn yn ei ryddhau i gymheiriaid ac Aelodau yn sgil ei gyhoeddi ar 14 Mai.
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu nodi deng-mlwyddiant Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015? OQ62604
Diolch, Joyce Watson. Byddwn yn nodi dengmlwyddiant ein Deddf arloesol gydag amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau. Bydd y dengmlwyddiant yn rhoi cyfle i ni ddathlu cynnydd, myfyrio ar heriau a chryfhau ymrwymiad yn y dyfodol i fynd i'r afael â phroblem endemig trais yn erbyn menywod a merched.
Diolch. Wrth gwrs, ar y pryd, yn 2015, roedd yn arloesol. Nawr, ochr yn ochr â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd hefyd yn dathlu ei dengmlwyddiant eleni, efallai ei bod hi'n bryd ystyried y sefyllfa a symud ymlaen. Gyda Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 ynghyd â chanolfannau heddlu penodol i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched yn dod ar waith yn fuan ledled y DU, a fyddech chi'n cytuno y gallwn ac y dylem weithio ar y cyd i wneud cynnydd pellach i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched?
Diolch, Joyce Watson, a diolch am eich arweinyddiaeth, eich ymgyrchu, eich sylw i drais yn erbyn menywod, yn enwedig gyda'r ymgyrch Rhuban Gwyn. Mae hynny'n rhywbeth lle credaf fod ymrwymiad cyfunol ar draws y Siambr hon i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod. Rhaid inni wneud hyn ar y cyd. Rhaid i bawb ohonom sefyll yn erbyn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Roeddwn i'n croesawu'n fawr y ffaith ein bod wedi cydgyflwyno'r ddadl honno yn gynharach eleni ar gyflymu gweithredu i ddileu trais ar sail rhywedd, a oedd, wrth gwrs, yn thema allweddol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Byddaf yn cynnal uwchgynhadledd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar y cyd ag Emma Wools, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, yr hydref hwn. Rwy'n siŵr y cawn wylnos Rhuban Gwyn arall. Drwy ymgysylltu â'n holl arweinwyr sector cyhoeddus a'r system cyfiawnder troseddol, fel partneriaid byddwn yn cyflymu camau i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd.
Ond rwyf hefyd eisiau gwneud sylwadau cyflym ar eich pwynt am y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, oherwydd mae 10 mlynedd yn amser hir ac mae llawer wedi digwydd yn y 10 mlynedd diwethaf. Mae yna heriau gwahanol iawn o ganlyniad i gam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein. Yn ddiweddar, cyfarfûm â phrif weithredwr Ofcom Cymru a gwneuthum yn glir fy nghefnogaeth i safonau clir a chyson ar draws y platfformau cyfryngau cymdeithasol i lywio diogelwch ar-lein. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ynghylch canllawiau diogelu plant, a hefyd maent yn ymgynghori ar 'Bywyd mwy diogel ar-lein i fenywod a merched'. Mae'n rhaid inni fod yn gryf, yn rhagweithiol ac yn gyflym yn ein dull o ddiogelu menywod a merched drwy fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Felly, unwaith eto, diolch am y cwestiwn hwnnw, a byddwn yn ei nodi, yn ei ddathlu, ond hefyd yn cyflymu camau gweithredu, rwy'n gwybod, o ganlyniad i'r dengmlwyddiant.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Lesley Griffiths.
9. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran agor canolfan breswyl i fenywod yng Nghymru fel dewis arall yn lle carchar? OQ62600
Diolch, Lesley Griffiths. Rwyf wedi ymgysylltu'n rheolaidd â Gweinidogion cyfiawnder Llywodraeth y DU a phartneriaid allweddol sy'n arwain ar y rhaglen waith bwysig hon. Bydd bwrdd cenedlaethol newydd yr Arglwydd Ganghellor ar gyfer menywod mewn cyfiawnder yn canolbwyntio ar ddewisiadau amgen yn lle carchar. Rydym yn cefnogi'r bwrdd i sicrhau bod yr amgylchiadau unigryw yng Nghymru yn cael eu deall yn iawn.
Diolch. Fel y gwyddoch, mae agor y ganolfan breswyl hon yn saga ers amser maith ac mae hi bellach yn dair blynedd ers i'r safle yn Abertawe gael ei nodi ar gyfer lleoli canolfan o'r fath. Fel y gwyddoch yn iawn, mae menywod o dde Cymru sy'n cael dedfryd o garchar yn cael eu hanfon i Garchar EF Eastwood Park, ac o ogledd Cymru, cânt eu hanfon i garchar Styal ym Manceinion. Fel chithau, ymwelais â'r ddau garchar a gwelais drosof fy hun yr anawsterau a achosir yn sgil carcharu pobl mor bell oddi wrth eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae'n hanfodol ein bod yn dod o hyd i ddewis arall yn lle carchar, ond pan fo carchar yn gosb gywir, dylid lleoli menywod yn llawer iawn agosach at adref. Felly, mae'n dda iawn clywed am yr adroddiad cynnydd, ond a allech chi barhau i alw am agor y ganolfan breswyl yn gynnar, os gwelwch yn dda?
Diolch, Lesley Griffiths. Pan oeddech chi'n gyfrifol am y maes hwn, rwy'n cofio sut y gwnaethoch chi siarad am y sioc o ymweld â menywod yn y carchardai hynny. Ac wrth gwrs, pan ymwelais i a Mick Antoniw, yn ei rôl flaenorol, ag Eastwood Park, dywedodd y llywodraethwr, 'Mae'r mwyafrif o fenywod yma yn ddioddefwyr eu hunain: dioddefwyr tlodi, dioddefwyr cam-drin domestig, camddefnyddio sylweddau, trawma yn eu bywydau.' Mae gennym y safle, rydym wedi cael y gymeradwyaeth, rhaid inni gael y ganolfan breswyl hon i fenywod wedi'i hagor. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn unwaith eto fod yr Aelodau'n codi hyn gyda mi, oherwydd byddaf yn cyfarfod â Llywodraeth y DU gyda hyn i chwarae fy rhan yn aelod o'u bwrdd menywod mewn cyfiawnder ac i ddangos y gall Cymru fod ar y blaen gyda'r ganolfan breswyl hon i fenywod.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd—dim ond un heddiw. Carolyn Harris. Carolyn Thomas, sori. [Chwerthin.]
Y Senedd anghywir.
1. Sut y mae'r Comisiwn yn hyrwyddo digwyddiadau sy'n digwydd ar ystâd y Senedd i aelodau o'r cyhoedd? OQ62620
Mae’r Comisiwn yn defnyddio ystod o ddulliau i hyrwyddo digwyddiadau'r Commission ar ystâd y Senedd. Gan ddibynnu ar y math o ddigwyddiad, gallai hyn gynnwys annog presenoldeb y cyhoedd yn y digwyddiad drwy wefan Eventbrite, y cyfryngau cymdeithasol, a gwefan y Senedd, neu drwy ymgysylltu â’r cyfryngau.
Drwy ein hymdrechion i hyrwyddo digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi eleni ar y cyfryngau cymdeithasol, fe lwyddon ni i gyrraedd bron i 200,000 o bobl, gyda 2,000 o ymwelwyr yn dod i’r Senedd i ymuno yn y dathliadau.
Ond, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau sy'n cael eu trefnu ar yr ystâd yn ddigwyddiadau a noddir gan Aelodau. Mae gwahodd aelodau o'r cyhoedd i ddigwyddiadau o'r fath, neu eu hannog i fod yn bresennol, fel arfer yn fater i'r Aelod sy'n noddi neu'r trefnydd allanol.
Diolch am yr ateb hwnnw. Rwy'n croesawu'r baneri pyst lamp sydd wedi ymddangos yn hysbysebu'r Senedd ac adeilad y Pierhead. Rwy'n cynnal digwyddiad bioamrywiaeth yr wythnos nesaf—rwy'n ei alw'n 'digwyddiad bioamrywiaeth y Senedd'—gydag 20 o sefydliadau'n dod, a hoffwn i aelodau'r cyhoedd allu dod i gyfarfod â'r sefydliadau hefyd, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddefnyddio'r byrddau electronig y tu allan i hyrwyddo'r digwyddiad iddynt.
A gaf i ofyn hefyd a ydych chi'n gwneud unrhyw beth i wella'r arwyddion, fel bod pobl sy'n dod yma'n gwybod ble mae'r fynedfa ac i ddweud bod croeso i aelodau o'r cyhoedd fynd i mewn i'r adeilad? Diolch.
Gallaf roi ateb cadarnhaol iawn i chi ar yr ail gwestiwn ac ateb nad yw mor gadarnhaol efallai, o'ch safbwynt chi, ar y cyntaf o'r rheini. Felly, ar yr arwyddion i'r Senedd, er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl sy'n crwydro o gwmpas y tu allan yn y bae neu sydd wedi trefnu i ymweld, mae wedi bod yn fater sy'n codi—ac rwy'n credu mai chi oedd y cyntaf i'w godi gyda mi mewn cwestiwn yma, Carolyn—fod angen inni ei gwneud yn gliriach i bobl ble mae'r drws. Rydym ni'n gwybod yn iawn ble mae'r drws i ddod i mewn i'r Senedd, ond nid yw pawb yn gallu gweld hynny mor glir. Felly, rydym wedi cymeradwyo dyluniadau'r arwyddion hynny nawr, ac erbyn y tro nesaf y byddwch chi'n gofyn cwestiwn Comisiwn i mi, gobeithio y bydd yr arwyddion yn dangos yn amlwg ble mae'r drws a'r fynedfa i'r Senedd. Ac mae'n bwysig ar ddiwrnod fel hwn, pan ydym yn Nhŷ Hywel, i bobl wybod bod adeilad y Senedd yn dal ar agor. Ac roeddwn i yno y bore yma, ac roedd yn brysur iawn gyda llawer o bobl yn ymweld a digwyddiadau'n cael eu cynnal.
Ar ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn y Senedd a noddir gan Aelodau—ac mae yna lawer iawn o'r rheini, fel y gwyddom; mae'n debyg fod chwech i 10 digwyddiad yn digwydd heddiw yn unig—cyfrifoldeb yr Aelod neu'r sefydliad noddi sy'n gweithio gyda chi fel Aelodau i gynnal y digwyddiadau hynny yw cyhoeddusrwydd ar gyfer y digwyddiadau, a gwneud yn siŵr fod pobl, aelodau o'r cyhoedd neu westeion gwahoddedig yn ymwybodol eu bod yn cael mynychu'r digwyddiadau hynny. Nid yw'n gyfrifoldeb uniongyrchol i'r Comisiwn fel y mae oherwydd byddai'n gryn ymdrech i roi cyhoeddusrwydd i'r holl ddigwyddiadau sy'n digwydd yn wythnosol. Felly, er enghraifft, ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, y Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl ag Anableddau, mae'r rheini'n ddigwyddiadau y mae'r Comisiwn yn eu noddi ac yn eu hyrwyddo, ac yn amlwg, rydym yn gwneud gwaith hyrwyddo ar ran y digwyddiadau hynny, ond ar hyn o bryd, mater i'r Aelodau fel chithau, a'r gwaith a wnewch ar gyfer y diwrnod bioamrywiaeth, yw hyrwyddo'r rheini, ac os ydych chi eisiau i aelodau o'r cyhoedd fod yn bresennol, gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad ac rwy'n siŵr y bydd ganddynt ddiddordeb mewn mynychu.
Diolch i ti, Llywydd.
Diolch.
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Mae un cwestiwn amserol sydd wedi'i dderbyn heddiw a bydd hwnnw gan Andrew R.T. Davies.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y cynlluniau i dorri swyddi yn safle Dow yn y Barri? TQ1329

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r cwmni a bydd yn cefnogi'r gweithwyr yr effeithir arnynt pan fydd y broses ymgynghori wedi dod i ben. Mae gennym ddull partneriaeth profedig a rhwydwaith cymorth, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru a thîm cyflogadwyedd yr awdurdod lleol, sy'n darparu cyngor ac arweiniad a phecynnau ailhyfforddi drwy ReAct+.
Diolch am y datganiad hwnnw, Weinidog. Rydych chi wedi nodi'r agosrwydd wrth weithio gyda'r cwmni. Mae hon yn ergyd ddinistriol i dref y Barri. Bron i 300 o swyddi i gael eu colli o bosibl dros nifer o flynyddoedd. Hoffwn ofyn i chi: gan fod yr undeb wedi bod yn pwyso, beth yw eich gobaith y gellid ailddyrannu rhai o'r swyddi hynny yn y ffatri ac yn wir, y caiff y penderfyniad hwn ei wrthdroi yn ei gyfanrwydd, fel y mae'r undeb yn galw amdano?
Yn ail, pa obaith sydd gennych chi fod gweddill y safle'n ddiogel? Oherwydd, yn amlwg, mae 500 i 550 o swyddi ar y safle yn y Barri o hyd, ac mae'n bwysig nad yw hyn yn arwydd o doriadau fesul tipyn i gyfanswm y swyddi ar y safle gweithgynhyrchu pwysig hwn yn y Barri.
Yn drydydd, pa gymorth y gallwch chi ei gynnig i'r gweithwyr a fydd yn colli eu swyddi os caiff hyn ei wireddu? Pa gymorth y gallwch chi ei gynnig iddynt, o ystyried y bydd y swyddi hyn yn cael eu colli dros nifer o flynyddoedd?
A fy mhwynt olaf i chi: dyma arwydd arall o'r pwysau sydd ar y diwydiant gweithgynhyrchu yma yng Nghymru ac yn y DU, felly sut ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod costau'n cael eu dileu a bod gweithgynhyrchu yn y wlad hon yn parhau i fod yn gystadleuol ac nad ydym yn colli swyddi i gwmnïau cystadleuol o dramor sydd â sylfaen gostau is, ond nad ydynt yn glynu wrth y safonau y glynwn ni wrthynt yn y wlad hon?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny ac am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw? Mae'n hollol gywir y bydd y newyddion y bydd Dow yn cau rhan o'i weithrediadau yn wirioneddol bryderus i rai yn y gweithlu yn y Barri, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach, ac rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn barod i gefnogi'r gweithlu yr effeithir arnynt gan y penderfyniad hwn ac i weithio gyda'r cwmni i sicrhau eu bod yn cadw presenoldeb yn y Barri.
Lywydd, rhaid imi bwysleisio pa mor bwysig yw hi fod y cwmni'n cymryd rhan mewn trafodaeth ystyrlon ac yn ymgysylltu â'r undeb llafur drwy'r broses hon, i nodi rhai o'r pwyntiau cyntaf a ofynnodd yr Aelod heddiw. Fe af drwy'r gyfres o gwestiynau i geisio rhoi sicrwydd i'r Aelod ynghylch y camau y byddwn yn eu cymryd. Gofynnodd yr Aelod hefyd am sicrwydd ynghylch gweddill y safle, ac mae'r cwmni wedi pwysleisio eu bod yn bwriadu parhau a buddsoddi yn y rhan o'r safle sy'n ymdrin â gwaith gorffen a gweithgynhyrchu silicon arbenigol, sy'n cyflogi tua 310 o staff yn y rhan honno o'r busnes.
Mae'r Aelod wedyn yn gofyn pa gefnogaeth y gallwn ei chynnig pe bai swyddi'n cael eu colli ar y safle, ac yn wir rwy'n gobeithio y bydd yr ymgysylltiad â'r undebau llafur yn dod â chanlyniadau mwy cadarnhaol i hynny. Os bydd swyddi'n cael eu colli ar y safle, byddwn yn barod i'w cefnogi drwy ein rhaglen ReAct+. Os digwydd hynny, byddaf yn gwneud yn siŵr fod yr Aelod yn cael ei friffio'n llawn ar gynnwys y rhaglen ReAct+ a sut y gall ei drigolion ymuno â'r rhaglen honno.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt ehangach, Lywydd, ar y gwaith gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu. Rydym yn ymgysylltu'n agos, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn ymgysylltu'n agos, fel finnau gyda fy nghyfrifoldebau sgiliau, ar faterion yn ymwneud â busnesau gweithgynhyrchu. Rydym yn ymgysylltu'n helaeth â sefydliadau fel Make UK a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain ac eraill, gyda'n partneriaid yn Llywodraeth y DU, a byddwn yn gweithio gyda hwy ar y strategaeth ddiwydiannol. Mae gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru yn rhan allweddol o economi Cymru a byddwn am ein gweld yn chwarae ein rhan yn strategaeth ddiwydiannol y DU yn y dyfodol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi sicrwydd ein bod yn gweithio gyda'n cymheiriaid yn San Steffan.
Lywydd, ar y safleoedd yn y Barri a rhanbarth yr Aelod, i fod yn glir, rydym wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau gyda hwy, ond nid yn unig gyda'r cwmni, gyda'r gadwyn gyflenwi hefyd. Rydym wedi estyn allan yn uniongyrchol at gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi, fel Cabot, sydd â synergedd real iawn yn eu busnes gyda'r gweithgynhyrchwr, Dow, ac rydym wedi gofyn am wybodaeth gan y cwmni am unrhyw gontractwyr a allai gael eu heffeithio oherwydd y penderfyniad hwn. Byddwn yn ceisio eu cefnogi hwythau hefyd yn y dyfodol yn y ffordd a nodais. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig hwn? Yn amlwg mae'n bryder mawr i bob un ohonom sy'n cynrychioli'r etholaeth a'r rhanbarth. Diolch i chi am eich ymateb, Weinidog. Os caf, ar y pwynt a godwyd gennych ynghylch strategaeth ddiwydiannol newydd Llywodraeth y DU, a allwch chi amlinellu sut y mae'r ymgysylltiad hwnnw'n digwydd a'r sicrwydd y gallech ei roi i ni y byddwch yn cael eich clywed ac yn gallu cyfrannu mewnbwn at hynny? Oherwydd yn amlwg mae'n hanfodol fod y strategaeth hon yn diogelu gweithwyr diwydiannol Cymru o ystyried y straeon diweddar sy'n codi pryderon am ddirywiad y sector diwydiannol yng Nghymru y tu hwnt i'r safle penodol hwn. Un peth yw bod hyn yn digwydd, ond sut ydych chi'n cyfrannu mewnbwn mewn gwirionedd? Clywsom gymaint o enghreifftiau o hyn. Mae yna lawer iawn o bryder. Rwy'n falch o glywed am rai o'r pethau rydych chi'n eu gwneud yn rhagweithiol, ond yn y tymor hwy, mae hyn yn parhau i ddigwydd, ac nid ydym am fod mewn sefyllfa lle rydym yn parhau i orfod codi cwestiynau a heb gael cyfeiriad strategol y tu ôl iddo.
Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny, Heledd. Ar y pwynt ar y strategaeth ddiwydiannol, mae'r ymgysylltiad sydd gennym â'r strategaeth ddiwydiannol yn digwydd ar nifer o lefelau, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn bennaf. Ar lefel weinidogol, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymgysylltu â'r Gweinidogion perthnasol yn Llywodraeth y DU a hefyd ar lefel swyddogol, a bydd yn bwydo i mewn i'r gwaith hwnnw. Rwy'n obeithiol iawn y bydd uchelgeisiau Llywodraeth Cymru yn cael eu clywed yn strategaeth ddiwydiannol y DU pan gaiff ei chyhoeddi.
Diolch i'r Gweinidog.
Y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Bydd y datganiad cyntaf gan Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser mawr gennyf dynnu sylw'r Senedd heddiw at ddigwyddiad diwylliannol rhyfeddol sy'n digwydd yn llyfrgell y Drenewydd. Mae Hyb Treftadaeth 4 Canolbarth Cymru yn falch o gyflwyno arddangosfa ar Etifeddiaeth Iwtopaidd Robert Owen. Roedd Robert Owen yn ddiwydiannwr, yn wleidydd ac yn ddiwygiwr cymdeithasol. Mae'r arddangosfa nid yn unig yn ddathliad o'i fywyd fel un o feibion mwyaf pellgyrhaeddol ei weledigaeth Cymru, ond yn atgoffa'n bwerus hefyd o'i effaith fyd-eang barhaol a'i syniadau. Cynhelir yr arddangosfa yn llyfrgell y Drenewydd drwy gydol mis Mai. Ar 1 Mai mae'n union 200 mlynedd ers i Robert Owen, yn wreiddiol o'r Drenewydd, brynu 20,000 erw o dir yn New Harmony yn Indiana. Prynodd Robert Owen y tir, gan brynu tref ar y dyddiad hwnnw, i greu cymuned newydd. Cafodd y prosiect effaith barhaol ar addysg, ymchwil wyddonol a mwy ledled America.
Roedd Robert Owen yn gwybod bod undeb heb wybodaeth yn ddiwerth, ac roedd gwybodaeth heb undeb yn ddi-rym. Bydd Uchel Siryf Powys yn agor y digwyddiad hwn. Bydd mynychwyr yn cysylltu trwy gyswllt byw â New Harmony, tref sy'n croesawu dros 20,000 o ymwelwyr y flwyddyn, wedi'u denu gan etifeddiaeth Robert Owen. Bydd Caroline Dale Lewis, gor-or-or-wyres Owen, yn ymuno â hwy hefyd. Mae'r arddangosfa'n uno'r Drenewydd, New Lanark yn yr Alban, a New Harmony, tair cymuned sydd wedi'u cysylltu gan weledigaeth ar y cyd ar gyfer addysg, cydraddoldeb a chydweithrediad. Roedd Robert Owen o flaen ei oes mewn sawl ffordd, ac mae'n dal i fod o flaen ei oes yn ein hoes ni. Hoffwn ddiolch i Ann Evans, sylfaenydd Hyb Treftadaeth 4 Canolbarth Cymru, am ei holl waith ar y prosiect hwn, ac rwy'n annog pobl i fynychu'r arddangosfa.
Yr wythnos diwethaf, roedd Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcian yn gyfle i daflu goleuni ar drosedd sy'n achosi niwed dwfn a pharhaol. Mae stelcian yn drosedd sy'n brawychu ac fe'i nodweddir gan ymddygiad obsesiynol a pharhaus sy'n gwneud i unigolion deimlo'n anniogel, yn bryderus ac yn ofnus. Mae'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched, gydag un o bob pump o fenywod ac un o bob 11 o ddynion yn dioddef stelcian yn ystod eu bywydau.
Yn fy rhanbarth fy hun yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cofnodi bron i 1,000 o ddigwyddiadau, gyda 186 o ymchwiliadau ar y gweill ar hyn o bryd. Mae effaith stelcian yn sylweddol, ond dangoswyd mewn ymchwil gan Dr Jane Monckton-Smith fod wyth cam i ddynladdiad, a bod stelcian yn ymddangos mewn tri o'r camau hynny, yn enwedig y tri cham olaf, sef dwysâd, newid yn y ffordd o feddwl, a chynllunio marwolaeth menyw. Mae wedi bod yn bresennol mewn 94 y cant o farwolaethau menywod dan law dynion.
Er mwyn rhoi diwedd ar drais ar sail rhywedd, rhaid inni sicrhau cyllid priodol ar gyfer gwasanaethau cymorth gofal iechyd a stelcian, ochr yn ochr â hyfforddiant i staff rheng flaen allu ymateb yn effeithiol ac yn dosturiol. Ac mae'n fater i ni hefyd. Mae angen i bob un ohonom sicrhau, os ydym yn clywed am stelcian, fod rhaid i ni fod o ddifrif yn ei gylch. Gallem achub bywyd rhywun. Rwy'n talu teyrnged i bob menyw sy'n siarad yn ddewr am stelcian. Gadewch inni wrando, gweithredu, a bod o ddifrif yn ei gylch. Diolch yn fawr iawn.
Ddydd Sadwrn, cafodd y Cymro Sean Bowen ei goroni'n joci buddugol y National Hunt ar gyfer 2024-25. Ar ôl gorffen yn ail am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r joci o sir Benfro wedi mynd un yn well y tro hwn, gan godi'r tlws ar ôl 180 o fuddugoliaethau i hawlio anrhydedd sydd wedi bod ar y ffordd ers blynyddoedd. Yn wir, mae'r cyflawniad yn nodi'r tro cyntaf i joci a anwyd yng Nghymru ennill y teitl ers Bob Davies yn ôl ar ddechrau'r 1970au.
Mae Sean bellach wedi bod yn bencampwr ym mhob maes. Roedd yn joci buddugol rasio merlod, yn brentis joci buddugol pwynt-i-bwynt, yn brentis joci buddugol, a nawr, wrth gwrs, yn joci buddugol y National Hunt. Yn wir, mae wedi bod yn flwyddyn ragorol i Sean. Enillodd ei filfed ras ym Mhrydain yn ôl ym mis Chwefror. Enillodd bum ras mewn diwrnod o flaen torf o Gymry yn Ffos Las yn gynharach y mis hwn, ac enillodd Grand National Iwerddon ar Haiti Couleurs a hyfforddwyd yng Nghymru 10 diwrnod yn ôl.
Mewn gwirionedd, mae Bowen bellach yn arwain cenhedlaeth euraidd yn y byd rasio ceffylau yng Nghymru. Mae gennym bedwar joci rasio clwydi o Gymru yn y 10 uchaf, llu o hyfforddwyr Cymreig sefydledig ac yn wir, hyfforddwyr addawol sydd eto i ddod, yn ogystal â chaeau rasio llwyddiannus yng Nghymru yng Nghas-gwent, Ffos Las, a Bangor Is-coed, sy'n profi bod Cymru'n gadarn ar y map rasio ceffylau.
Ar ran Senedd Cymru a grŵp trawsbleidiol y Senedd ar rasio ceffylau, rwyf am longyfarch Sean Bowen. A chyda Sean a'i frawd, James, ynghyd â Ben Jones, Jack Tudor, a jocis rasio clwydi eraill o Gymru yn gwneud mor dda ar hyn o bryd, gadewch inni obeithio na fydd yn rhaid inni aros 50 mlynedd arall am joci buddugol National Hunt o Gymru.
Rŷn ni'n symud ymlaen at eitem 6, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil ar isafswm lefelau staffio deintyddol yr NHS. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8806 Mabon ap.Gwynfor
Cefnogwyd gan Jane Dodds, Peredur Owen Griffiths, Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ymgorffori yng nghyfraith Cymru lefelau staffio diogel gofynnol ar gyfer deintyddion a gomisiynir gan y GIG.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) sefydlu llinell sylfaen genedlaethol ofynnol ar gyfer staff deintyddiaeth ledled Cymru, yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth o ran iechyd y geg;
b) cyflwyno dyletswydd ar ymddiriedolaethau a byrddau iechyd lleol yng Nghymru i gyfrifo a chymryd pob cam rhesymol i gynnal lefelau staffio deintyddiaeth a hysbysu cleifion o'r lefel;
c) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i wireddu’n raddol hawl holl ddinasyddion Cymru i gael mynediad at wasanaethau deintyddiaeth a gomisiynir gan y GIG;
d) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatblygu cynllun gweithlu i gefnogi a chynnal proffesiwn deintyddiaeth y GIG yng Nghymru; ac
e) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi adroddiadau cynnydd blynyddol ar y cynllun hwnnw, yn ogystal â datganiadau cysylltiedig yn y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Anwiredd, twyll, ystumio'r ffeithiau—pa bynnag eiriau y gallem eu defnyddio ar gyfer yr hyn sy'n groes i'r gwirionedd, maent yn ennyn ymatebion gwahanol, onid ydynt? Yr hyn sy'n peri fwyaf o embaras yw pan fydd rhywun yn ceisio twyllo, ond yn hytrach na llwyddo i wneud hynny, mae'r gwrandäwr yn chwerthin yn eu hwyneb.
Dyma a ddigwyddodd fis Medi diwethaf ar lefel genedlaethol pan ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y bydd Llywodraeth y DU, ac rwy'n dyfynnu, 'yn cael ei hysbrydoli' gan Gymru ar ddeintyddiaeth. Gellid clywed yr ebychiadau o anghrediniaeth o bob cwr. Mewn realiti cyfochrog lle mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn preswylio, efallai'n wir fod deintyddiaeth yng Nghymru yn destun eiddigedd i eraill, ond yn y byd go iawn—y byd y mae'n rhaid i'n hetholwyr a'n teuluoedd fyw ynddo—mae'r realiti'n wahanol iawn.
Rydym yn wynebu argyfwng uniongyrchol. Mae deintyddiaeth y GIG yng Nghymru yn wynebu argyfwng dirfodol, a heb weithredu ar frys, mae'n annhebygol y bydd yn goroesi'n llawer hirach. Rwy'n dweud hyn nid i ddychryn, ond i hogi meddyliau ar fater nad yw wedi cael y sylw difrifol y mae'n ei haeddu gan y Llywodraeth hon. Mae'r ffeithiau fel y maent yn cynnig darlun gwirioneddol sobreiddiol fod rhywbeth wedi pydru ym maes deintyddiaeth y GIG yng Nghymru.
Rhwng 2023 a 2024 yn unig, gwelwyd gostyngiad o 36 yn nifer y contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol, a gwelwyd gostyngiad o 17 yn nifer y practisau GIG. Nid eithriadau yw'r rhain. Dros y degawd diwethaf, bu gostyngiad o bron i 40 y cant mewn gwaith deintyddol yn y GIG. Mae Cymru hefyd yn gwneud yn arbennig o wael o ran morâl y gweithlu, hyd yn oed o gymharu â'r lefelau isel yn gyffredinol a welir ledled y DU. Yn ôl arolwg diweddar gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain, disgrifiodd dros ddwy ran o bump o ymatebwyr Cymru eu swydd fel un sy'n peri straen mawr neu straen eithafol, o gymharu â thua thraean yr ymatebwyr yn Lloegr.
Mae bron i hanner ymatebwyr Cymru hefyd yn dweud bod eu morâl yn isel neu'n isel iawn, o gymharu â chwarter yr ymatebwyr yn Lloegr. Efallai nad yw'n syndod fod hyn wedi cael effaith niweidiol ar recriwtio, gyda lefelau recriwtio deintyddion cyswllt wedi haneru yng Nghymru o gymharu â ffigurau ledled y DU. Yn y cyfamser, mae'r ardaloedd eang heb wasanaeth deintyddol yn lledaenu ar gyflymder brawychus, gyda mynediad at driniaeth drwy'r GIG yn dod fwyfwy'n foethusrwydd prin a reolir gan loteri cod post.
Felly, rydym wedi cyflwyno'r cynnig heddiw, ac yn hyn o beth, cawsom ein hysbrydoli gan Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, sydd, er ymhell o fod yn berffaith, wedi cael effaith gadarnhaol, heb os, ar sefydlogi sefyllfa debyg a oedd yn wynebu nyrsio yn y GIG ddegawd yn ôl.
Fe fyddaf yn hollol onest. Nid wyf yn mynd i esgus y byddai'r Bil arfaethedig hwn yn datrys pob problem, na honni ychwaith mai llwybr cyfreithiol yw'r trywydd i'w ddilyn o reidrwydd, ond mae adegau anodd yn galw am barodrwydd i ystyried dewisiadau amgen radical, a nawr yn fwy nag erioed mae angen inni dorri'n rhydd o'r gwadu anghyfrifol a'r hunanfodlonrwydd y mae'r Llywodraeth hon wedi'i ddangos tuag at ddeintyddiaeth yn y GIG ers blynyddoedd lawer. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn fel cam cyntaf hanfodol mewn sgwrs genedlaethol ehangach ynglŷn â sut y gallwn sicrhau dyfodol hirdymor i ddeintyddiaeth o fewn y GIG, cyn y bydd yn rhy hwyr.
Diolch am y cyfle i gefnogi'r cynnig yma gan Mabon ap Gwynfor. Er mwyn cael lefelau staffio digonol, mae angen hyfforddi mwy o ddeintyddion, ac mae pwynt (d) y cynnig yma yn gwneud hynny drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatblygu cynllun gweithlu i gefnogi a chynnal proffesiwn deintyddiaeth y GIG yng Nghymru. Ac yn sicr mae yna dystiolaeth i ddangos bod angen i'r cynllun gweithlu hwnnw gynnwys ysgol ddeintyddol newydd yng Nghymru, fel ein bod ni yn hyfforddi mwy o ddeintyddion. Dim ond 36 y cant o'r boblogaeth sy'n derbyn triniaeth ddeintyddol drwy'r NHS yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Y ffigur ar draws Cymru ydy 44 y cant, sydd yn dangos bod y sefyllfa'n wael drwy Gymru, ond hyd yn oed yn waeth yn y gogledd.
Mae yna 42 o gynghorau cymuned yng Ngwynedd wedi pasio cynnig yn cefnogi fy ymgyrch i i sicrhau ysgol ddeintyddol newydd i Gymru yn y gogledd, ac maen nhw hefyd wedi ysgrifennu atoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, i ddatgan y gefnogaeth yna. Ac efo rai cynghorau eto i drafod, mae hyn yn dangos cymaint o bryder sydd yna am ddiffyg mynediad at wasanaethau yr NHS ar lawr gwlad a'r awydd i weld deintyddion y dyfodol yn cael eu hyfforddi yn lleol. Ac mae Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth ar y cyd wedi bod yn gweithio ar gynllun busnes ar gyfer sefydlu ysgol ddeintyddol, ac mae hynny'n newyddion ardderchog. Mae'n wych gweld y cydweithio yma rhwng prifysgolion yn y gorllewin, ac mae'n bryd i Lywodraeth Cymru ddangos ymrwymiad llwyr i'r prosiect.
Dwi wedi trefnu seminar yma yn y Senedd er mwyn cyflwyno'r adroddiad, 'Llenwi'r Bwlch'. Bydd rhai ohonoch chi'n cofio ein bod ni wedi trafod hwn yma yn y Senedd. Bwriad y seminar ydy cyflwyno hwn i gyd-Aelodau, ac mae yna wahoddiad cynnes i bawb ddod i hwn ar 13 Mai, efo gwahoddiad arbennig o gynnes i chi, Ysgrifennydd Cabinet, i ddod i hwnna.
Rhaid imi ddweud, mae hwn yn gyfle i'w groesawu i drafod dyfodol deintyddiaeth yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth yn pryderu am hyn, ac felly y dylai, oherwydd mae gennym wasanaeth tair haen bellach, sy'n gweld cleifion yn cael eu gwasgu allan o ofal y GIG ac yn gorfod dewis talu'n breifat neu fynd heb unrhyw ofal.
Nawr, mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno contractau a chanllawiau newydd i geisio trin mwy o gleifion, sef yn benodol, y rhai sydd wedi bod heb yswiriant deintyddol trwy gontractau'r GIG, ac ar yr olwg gyntaf, rhaid imi ddweud bod hyn i'w ganmol. Fodd bynnag, canlyniadau anfwriadol gwneud hynny yw gorfodi mwy a mwy o ddeintyddion i roi'r gorau i'w contractau GIG, ac o ganlyniad, mae'n gwneud y mater yn sylweddol waeth i gleifion ledled Cymru.
Yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, mae chwe phractis deintyddol wedi trosglwyddo eu contractau yn ôl i'r GIG yn ystod y chwe mis diwethaf, ac rwy'n ofni nad yw'r duedd yn dangos unrhyw arwydd o leihau. Fis diwethaf, cyhoeddodd Practis Deintyddol Rhos, yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, i gleifion fod newidiadau'r Llywodraeth, gyda'r nod o fynd i'r afael â'r argyfwng deintyddol, yn golygu mai dim ond bob dwy flynedd y gallai gynnig archwiliadau o dan y GIG, heb unrhyw sicrwydd y byddai cleifion yn gweld deintydd lleol. Ac o ganlyniad, roedd deintyddion yno'n teimlo y byddai hynny'n golygu bod cleifion yn mynd heb driniaeth ataliol, ac y byddai hynny'n arwain at yr angen am waith mwy helaeth. Felly, maent bellach wedi cyflwyno gwasanaeth newydd a fydd yn costio £19.15 y mis—£230 y flwyddyn—i gleifion sy'n dymuno cael y gwasanaeth hwnnw. Felly, unwaith eto, mae gweithredoedd y Llywodraeth Lafur hon yn golygu bod mwy o bobl yn gorfod talu am ofal deintyddol sylfaenol, hyd yn oed mewn practis GIG.
Nawr, mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, ar ran deintyddion, wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i ofyn iddi gywiro'r cofnod ar ôl i ddatganiadau camarweiniol gael eu gwneud yn y Pwyllgor Craffu ar y Prif Weinidog. A dyna'r math o beth sy'n tanseilio unrhyw hyder a thryloywder y byddech chi'n dymuno eu gweld pan fyddwch chi'n awyddus i gael negodiadau sydd mor bwysig i adeiladu'r gwasanaeth yn ei ôl.
Felly, mae angen inni weld ateb lle mae gan bawb yng Nghymru fynediad rhesymol at ddeintyddion y GIG. Wedi'r cyfan, nid yw pawb yn gallu fforddio talu am driniaeth, ac mae iechyd, gan gynnwys iechyd y geg, i fod yn rhad ac am ddim yn y man darparu. Felly, byddai'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn sicr yn helpu i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at wasanaeth deintyddol y GIG, a dyna pam rwy'n cefnogi'r cynnig deddfwriaethol, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yr Aelodau eraill yn ei gefnogi hefyd.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y rhan fwyaf o feysydd gofal sylfaenol, mae deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gweithredu o dan fodel contractwr annibynnol. Dyma'r drefn ers 1948. Yn wahanol, felly, i'r sefyllfa mewn ysbytai, lle mae'r gwasanaeth iechyd yn cyflogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn uniongyrchol—a lle rydym ni wedi deddfu, fel gwnaeth Mabon ap Gwynfor sôn, ar gyfer isafswm lefelau staffio nyrsys—mae'r mwyafrif helaeth o ddeintyddion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn fusnesau. Mae'r byrddau iechyd yn contractio ac yn comisiynu gwasanaethau deintyddol gan y rheini yn seiliedig ar angen y boblogaeth, ac mae'n ddyletswydd, felly, ar ddeiliaid y contract i ddarparu gwasanaethau o fewn eu model busnes.
Mae'r model hwn yn rhoi rhyddid iddyn nhw weithredu yn y ffordd sydd fwyaf addas ar gyfer eu practisau a'r boblogaeth y maen nhw'n ei gwasanaethau. Fodd bynnag, maen nhw'n derbyn atebolrwydd dros eu risgiau busnes eu hunain ac yn sicrhau bod eu lefelau staffio yn ddigonol i fodloni telerau eu contract. Mae natur annibynnol y trefniant hwn yn hollbwysig i'r proffesiwn. Mae mesurau diogelu ar waith, ac mae rheoliadau sy'n sail i'r contract presennol yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliaid y contract sicrhau bod digon o staff ar gael i wireddu'r contract, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer sancsiynau ariannol os na fyddan nhw'n gwneud hynny.
Mae deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wynebu heriau—yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig yn gyfan. Nid diffyg deddfwriaeth ynghylch lefelau staffio mewn practisau sy'n gyfrifol am hyn, nac ychwaith fodel y contractwr annibynnol ei hun. Nid yw'r contract presennol, yr uned o weithgaredd deintyddol, sydd wedi bod ar waith ers bron i 20 mlynedd, yn gweithio bellach ar gyfer mwyafrif y gweithwyr proffesiynol deintyddol nac ar gyfer y cyhoedd.
Rydym wedi rhoi cyfres o gamau pwysig ar waith i newid y contract, Ddirprwy Lywydd, fel y nododd Llyr Gruffydd, ac rwy'n croesawu'r modd y canmolodd y newidiadau hynny, wrth inni ddod allan o'r pandemig, er mwyn galluogi mwy o bobl i gael eu gweld gan ddeintydd y GIG. Rydym wedi llwyddo i ymgorffori egwyddorion gofal iechyd darbodus, ac wedi cefnogi mynediad i gleifion newydd, gan roi gofal i'r rhai sydd ei wirioneddol angen. Ond er mwyn gwella deintyddiaeth y GIG, ac i wella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG, mae'n rhaid inni gyflwyno contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol newydd. Dyma, mewn gwirionedd, yw'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau y mae'r Aelodau wedi'u hamlinellu heddiw. Mae'r gwersi a ddysgwyd o flynyddoedd o ddiwygio a chynlluniau peilot wedi darparu sylfaen ar gyfer y trafodaethau teirochrog a datblygu'r contract newydd. Mae Llywodraeth Cymru, y GIG a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r model newydd hwn.
Nod y newidiadau arfaethedig yw herio aneffeithlonrwydd ac anghydraddoldebau sydd wrth wraidd gwasanaeth deintyddol y GIG. Rydym wedi ceisio symleiddio prosesau, gwella atebolrwydd, a sicrhau bod adnoddau'n cael eu dyrannu'n fwy teg ac effeithiol. Drwy ganolbwyntio ar y meysydd hyn, gallwn greu system iechyd deintyddol fwy gwydn a mwy ymatebol sy'n diwallu anghenion y boblogaeth yn well ac yn dod â gwasanaethau deintyddol y GIG i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. Credwn fod y contract newydd yn decach i gleifion ac yn fwy atyniadol i ddeintyddion. Mae'r ymgynghoriad ar y contract newydd arfaethedig bellach wedi dechrau. Mae cyfle pwysig i'r cyhoedd a'r proffesiwn deintyddol ddysgu mwy am y diwygiadau unwaith mewn cenhedlaeth hyn a helpu i'w siapio.
Rwy'n cloi fy nghyfraniad y prynhawn yma trwy ddweud ychydig eiriau yn fwy cyffredinol am y gweithlu deintyddol, yn ei rôl yn diwygio deintyddiaeth. Rydym yn parhau i adolygu a gwella'r gwaith o recriwtio, cadw a hyfforddi'r gweithlu deintyddol. Fodd bynnag, mae hi'r un mor bwysig grymuso ac uwchsgilio'r tîm deintyddol ehangach. Mae gennym gynllun gweithlu strategol ar gyfer gofal sylfaenol, sy'n cynnwys camau penodol ar gyfer datblygu holl aelodau'r tîm deintyddol. Mae mwy o waith ar y gweill mewn perthynas â'r cynllun hwnnw. Drwy greu gweithlu ystwyth, lle mae holl aelodau'r tîm yn gallu darparu gofal yn effeithiol a gweithio ar frig eu trwydded, sy'n hollbwysig, gallwn rannu'r llwyth gwaith ar draws y tîm deintyddol a lliniaru'r pwysau ar ddeintyddion. Mae'r dull hwn nid yn unig yn gwella canlyniadau i gleifion, mae hefyd yn cefnogi'r nod cyffredinol o greu system gofal deintyddol fwy effeithlon a theg. Er mwyn i'r dull hwn weithio, rhaid inni hyfforddi mwy o therapyddion deintyddol a hylenwyr. Yn ystod y tymor seneddol hwn, rydym wedi dyblu nifer y lleoedd therapi deintyddol sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym wedi creu rhaglen hyfforddi hylendid deintyddol newydd ym Mhrifysgol Bangor, ac rydym hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu rhaglen therapi deintyddol ym Mhrifysgol Bangor.
Lywydd, mae gennym ddigon o ddeintyddion yng Nghymru, ond rydym angen i fwy ohonynt neilltuo mwy o'u hamser i ddarpariaeth ddeintyddol y GIG. Contract tecach, mwy atyniadol, sy'n hwyluso defnydd llawn o'r tîm deintyddol cyfan, yw'r ffordd o gyflawni hyn.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn am yr atebion i’r drafodaeth yma, a’r cyfraniadau. Y pwynt cychwynnol, dwi’n meddwl, sydd angen ei ddweud ydy bod rhaid inni dderbyn bod yna argyfwng o fewn y gwasanaeth deintyddol. Dwi wedi bod yn ymhél â gwleidyddiaeth yn ddigon hir i ddeall beth ydy sbin, ac i ddeall pam mae pleidiau mewn grym eisiau gwarchod eu henw da. Dwi hefyd yn deall pam mae gwrthbleidiau yn dueddol o ddramateiddio pethau yn achlysurol. Ond nid gêm o gath a llygoden ydy gwleidyddiaeth, ac yn sicr nid gêm o gath a llygoden ydy iechyd a lles pobl. Felly, nid ar chwarae bach yr ydw i’n defnyddio’r termau yr ydw i wedi gwneud heddiw, sef sôn am argyfwng, a sôn am y ffaith, os nad oes yna newidiadau sylfaenol yn digwydd yn fuan, na fyddwn ni’n gweld gwasanaethau deintyddol yr NHS, y gwasanaeth iechyd, yn y dyfodol agos. Fel y sonies i, mae bron i 40 y cant yn llai o waith deintyddol NHS yn cael ei wneud heddiw, a phobl sydd yn dioddef, a phobl dlawd yn fwy nag unrhyw un arall. Felly, mi fuaswn i’n disgwyl i’r Blaid Lafur a Llywodraeth Lafur gymryd hynna o ddifri.
Dwi’n ddiolchgar i Llyr am ei gyfraniad, yn sôn yn glir iawn fod yna wasanaeth tair haen gennym ni fan hyn bellach, a mynd yn ôl i’r pwynt yna taw'r bobl yna sydd dlotaf, sydd efo’r lleiaf o allu i dalu, sydd yn dioddef fwyaf. Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhestru beth oedd ddim yn sail i’r argyfwng yma, yn dweud nad yr hyn, y llall nac arall yw sail yr argyfwng, ond beth glywson ni ddim oedd datrysiad go iawn. Do, clywson ni sôn bod yna gytundeb newydd ar y gweill, a’r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud bod y cytundeb newydd yma yn cael ei lunio ar y cyd efo’r BDA, fel y clywson ni. Ond mae’r BDA eu hunain yn dweud eu bod nhw wedi cael eu cloi allan o drafodaethau ers yr hydref, a dydyn nhw ddim yn gwybod beth sydd yn yr argymhelliad newydd. Felly, bydd hi’n ddifyr iawn gweld ymateb y BDA yn yr achos yma i’r ddadl, a dwi ddim wedi cael fy argyhoeddi bod y rhanddeiliaid wedi cael chwarae rhan lawn wrth drafod y cytundebau yma, yn ôl tystiolaeth rhai o’r rhanddeiliaid.
Mae angen datrysiad, felly. Ac mi ddaru Siân Gwenllian sôn am yr ymgyrch lew sydd ganddi i drio sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor. Mi fydd hynna’n sicr yn rhan o ddatrysiad yr argyfwng deintyddol sydd gennym ni ar hyn o bryd.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Wrth wraidd y problemau hyn mae'r ffaith bod ymagwedd y Llywodraeth at ddiwygio contractau, yn ogystal â'i methiant i gynnal ei hegwyddorion partneriaeth gymdeithasol ei hun yn ymarferol wrth oruchwylio'r negodiadau perthnasol, wedi tanseilio'r apêl o weithio o fewn y GIG i ddeintyddion. Fel y pwysleisiodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn gywir yn eu gohebiaeth ddiweddaraf, nid prinder deintyddion yng Nghymru yw'r broblem, fel y clywsom, ond bod llai a llai ohonynt yn gweld gweithio o fewn y GIG yn atyniadol neu'n ymarferol yn ariannol. Dyma ganlyniad anochel agor y drws i breifateiddio gan fethu darparu'r adnoddau angenrheidiol i'r GIG i barhau i fod yn gystadleuol. Fel y soniais sawl gwaith wrth drafod cyflawniad Llafur ar iechyd, ni allwch ddisgwyl adeiladu sylfeini sefydlog i'r GIG ar fwriadau da yn unig.
Pwrpas y Bil hwn yw ymgorffori yn y gyfraith yr egwyddor sylfaenol na ddylai deintyddiaeth fod yn rhywbeth 'braf i'w gael' yn unig, neu'n ddewis opsiynol, lle mae ansawdd y gofal yn cael ei bennu gan gyllid personol, ac yn hytrach, dylai fod yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol y mae gan bawb hawl i gael mynediad ato. Byddwn yn ceisio cyflawni hyn trwy sefydlu lefelau staffio diogel gofynnol ar gyfer deintyddion y GIG, yn seiliedig ar anghenion iechyd y geg yn y boblogaeth, ac yn gosod dyletswyddau ar fyrddau iechyd i gymryd camau rhesymol tuag at gynnal y lefelau hyn. Byddai'r Bil hefyd yn gosod dyletswyddau ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun ar gyfer y gweithlu i gefnogi'r gwaith hwn, ac i ddarparu arweinyddiaeth strategol ar wireddu hawl holl ddinasyddion Cymru i gael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG. Felly, os ydych chi'n credu bod yna argyfwng a bod angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch, rwy'n gobeithio y gwnewch chi gefnogi fy nghynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yna tan y cyfnod pleidleisio nes ymlaen.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7 sydd nesaf, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: 'Yr Ugeinfed adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. A Chadeirydd y pwyllgor sy'n gwneud y cynnig—Hannah Blythyn.
Cynnig NDM8883 Hannah Blythyn
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Yr Ugeinfed Adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 23 Ebrill 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol.
Ystyriodd y pwyllgor adroddiad y comisiynydd safonau dros dro mewn perthynas â chŵyn a wnaed yn erbyn Siân Gwenllian AS ynglŷn â rhannu gwybodaeth gyfrinachol. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd dros dro, ac mae ein hadroddiad yn nodi, er yr ystyrir bod yr Aelod wedi torri'r cod ymddygiad, nad ydym o'r farn fod angen unrhyw gamau pellach. Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn, a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad, wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i atgoffa'r Aelodau o'r angen penodol i barchu marciau cyfrinachol ar ddogfennau yn ogystal â phwysigrwydd cadw cyfrinachedd mewn perthynas â'r broses gwyno yn fwy cyffredinol. Mae cynnal uniondeb y broses yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddigon hyderus i gyflwyno cwynion. Fodd bynnag, cytunodd y pwyllgor â'r comisiynydd dros dro fod angen cydbwysedd rhwng cyfrinachedd a gallu Aelod i amddiffyn eu hunain rhag honiadau, yn enwedig pan fydd proses gwyno wedi'i chwblhau. Byddwn yn ystyried y dull o weithredu ar gyfrinachedd a'r cyfyngiadau presennol ar yr hyn y gall Aelodau ei ddweud yn rhan o'n rhaglen waith bellach.
Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhellion y pwyllgor. Diolch.
Mae'r cod ymddygiad angen ei newid. Mae hynny'n hollol glir. Fel mae'r cod yn sefyll, does gan Aelodau o'r Senedd ddim hawl i amddiffyn eu henw da drwy rannu gwybodaeth berthnasol pan fo'r enw da hwnnw'n cael ei bardduo. Pan fo honiadau cwbl ddi-sail yn cael eu lluchio allan gan y comisiynydd safonau, mae'r cod yn rhwystro Aelod rhag amddiffyn ei hun pan fo'r honiadau rheini mewn perig o gael eu lledaenu eto. Yn amlwg, mae angen newid hynny. Mae hynny yn foesol annheg.
Yn ôl adroddiad Dr Melissa McCullough, y comisiynydd safonau dros dro, mi oeddwn i, a dwi'n dyfynnu, yn amddiffyn fy hun 'yn rhesymol'. Mae hi hefyd yn dweud hyn yn rhan 6 o'i hadroddiad—a dwi yn annog pawb i ddarllen yr adroddiad ei hun yn ogystal ag adroddiad y pwyllgor; mae o'n adroddiad teg iawn. Dyma mae'n ddweud ym mhwynt 6.1:
'Mae cyfrinachedd o fewn y broses gwyno yn hanfodol ac mae iddi ddiben cyfreithiol. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso hyn mewn modd cymesur mewn perthynas ag Erthygl 10 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy'n diogelu'r hawl i ryddid mynegiant.'
Mae'r comisiynydd dros dro yn mynd ymlaen i ddweud hyn:
'Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod Aelodau yn wynebu anfantais o ran rhyddid mynegiant o gymharu ag achwynwyr nad ydynt yn Aelodau.... O ganlyniad, gall fod yn orfodol i Aelodau, yn ôl y Cod, aros yn dawel mewn ymateb i honiadau cyhoeddus gan achwynwyr, y gallai rhai ohonynt eisoes fod wedi'u hasesu a'u hystyried yn annerbyniadwy gan y Comisiynydd, fel yn yr achos hwn.'
Roedd gen i ddau ddewis, felly, sef aros yn dawel, neu dorri'r cod. Mae'r comisiynydd, felly, wedi argymell yn rhan 8.1 o'i hadroddiad:
'Gall ystyriaeth bellach o Erthygl 10 mewn perthynas â rheolau cyfrinachedd helpu i leihau’r anghysondeb sy'n bodoli ar hyn o bryd rhwng Aelodau ac achwynwyr nad ydynt yn Aelodau. Yn sgil yr anghysondeb hwn, credaf y dylid ystyried Erthygl 10 ymhellach o safbwynt moesegol a chyfreithiol.'
Dwi'n falch o weld bod y pwyllgor safonau yn dod i'r un farn, ac, yn adran 4.32 o'i hadroddiad nhw, maen nhw'n nodi efo diddordeb sylwadau'r comisiynydd dros dro ynghylch yr angen am gydbwysedd rhwng cyfrinachedd ac amddiffyniadau a roddir gan erthygl 10 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol.
Mae'r adroddiad pwyllgor yn dweud eu bod nhw yn cytuno bod angen ystyried hyn ymhellach.
'Mae’r Pwyllgor yn credu y gallai adolygiad o’r darpariaethau cyfrinachedd yn y Cod—yn enwedig o ran sut y maent yn cyd-fynd â hawliau Erthygl 10—baratoi’r ffordd ar gyfer sicrhau lefel uwch o dryloywder yn y broses safonau.'
Mi fydd y pwyllgor, yn ôl eu hadroddiad nhw,
'yn ystyried goblygiadau Rheol 15 mewn perthynas â’r broses gwyno fel rhan o’i waith parhaus'.
Mi fyddwn i'n annog y pwyllgor heddiw i gwblhau'r gwaith yma yn fuan, fel y gellir newid y cod. Mae'n rhaid ffeindio ffordd o gael y balans cywir, y balans rhwng rhoi hyder i achwynwyr gwyno a pharchu'u cyfrinachedd nhw, ond hefyd cydnabod hawl yr unigolyn, ac, yn yr achos hwn, hawl yr Aelod o'r Senedd, i amddiffyn ei enw da neu ei henw da. Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae'n hawdd pwyntio bys at wleidyddion, ac, yn sicr, mae angen gwneud hynny pan fo hynny yn briodol, ond nid ar draul hawliau dynol sylfaenol. Diolch.
Cadeirydd y pwyllgor i ymateb.
Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chyfraniad heddiw ac am fod yma yn y Siambr? Dyna fel y dylai fod pan fydd achosion fel hyn yn cael eu trafod a'u dadlau. Rwy'n rhannu'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud o ran annog Aelodau i ddarllen yr adroddiad yn llawn ac i ddeall yn llawn pam y daeth y pwyllgor i'w gasgliad yn hyn o beth a'r gwaith pellach a wnawn.
Mae'r pwyllgor wedi ymrwymo'n llwyr i wneud yr hyn a allwn i gryfhau'r prosesau sydd ar waith cyn etholiadau nesaf y Senedd, sydd nid yn unig yn darparu hyder yn y system i unrhyw un sy'n camu ymlaen, ond tryloywder ychwanegol yn ein gwleidyddiaeth, yn ein sefydliad ac yn ein prosesau hefyd. Yn rhan o hyn, fel y dywedasom yn yr adroddiad cychwynnol ac yn fy sylwadau, rydym wedi ymrwymo'n fawr i fynd i'r afael â'r materion sydd wedi'u codi yn yr adroddiad hwn a gwneud yn siŵr sut y gallwn daro'r cydbwysedd yn well, fel y dywedwch, i gael hyder yn y system fel nad yw pobl yn teimlo eu bod wedi'u hatal rhag camu ymlaen, ond bod Aelodau hefyd yn cael cydbwysedd ychwanegol yn yr amgylchiadau hynny o ran sut i sicrhau cydbwysedd mewn perthynas â thryloywder yn ogystal. Diolch.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd nesaf, 'Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig', a Lesley Griffiths sy'n gwneud y cynnig. Gan fy mod i mor anghyfarwydd â gweithio mas ble mae Aelodau yn eistedd, doeddwn i heb ystyried dyw Lesley Griffiths ddim yn y Siambr ar hyn o bryd. Ac felly, mae gyda ni ddwy ddadl y prynhawn yma yn weddill: yr un ar adroddiad y pwyllgor, a'r llall yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig. A dwi ddim yn meddwl ein bod ni yn medru cynnal honno chwaith nawr oherwydd presenoldeb yn y Siambr.
Felly, dwi'n mynd i alw am ryw bum munud bach o doriad, fel gallwn ni gasglu pawb ynghyd. Rŷn ni yn rhedeg tipyn yn gynnar y prynhawn yma, ac rŷn ni efallai yn dal bach yn anghyfarwydd â'n sefyllfa newydd ni yn y Siambr hon, felly gwnawn ni gymryd pum munud o doriad.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:53.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:55 gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Gwnawn ni ailymgynull, felly, ac eitem 8 yw'r eitem rŷn ni'n mynd i'w thrafod nesaf; y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hon, 'Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig'. Yn cyflwyno'r cynnig mae Lesley Griffiths, sy'n aelod o'r pwyllgor.
Cynnig NDM8882 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig’ a osodwyd ar 29 Ionawr 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n falch iawn o agor y ddadl ar yr ymchwiliad pwysig hwn. Hoffwn ddiolch i glercod a thîm y pwyllgor, ynghyd â phawb a roddodd dystiolaeth i ni.
Mae'r term 'cyflyrau cronig' yn cwmpasu ystod eang o gyflyrau iechyd, rhai sy'n aml yn gyflyrau na ellir eu gwella ond y gellir eu rheoli gyda'r gefnogaeth a'r driniaeth gywir. Mae nifer cynyddol o bobl yn byw gyda dau neu fwy o gyflyrau cronig. Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o fod yn byw gyda chyflyrau cronig lluosog, ac mae gan y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ddisgwyliad oes byrrach ac maent yn treulio llai o'u bywydau mewn iechyd da. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 46 y cant o oedolion yng Nghymru yn byw gyda chyflyrau cronig neu hirdymor, gydag 20 y cant yn dioddef o ddau neu fwy o gyflyrau hirdymor. Rhagwelir y bydd y nifer hwn yn cynyddu, ac mae'n debygol o fod yn her sylweddol a chynyddol i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd bron i un o bob pump o bobl yng Nghymru yn 70 oed neu'n hŷn erbyn 2038. Mae oedran yn ffactor risg allweddol ar gyfer nifer o gyflyrau cronig, fel dementia a rhai canserau, sy'n ei gwneud hi'n debygol y gwelwn gynnydd yn nifer yr achosion. Fodd bynnag, gall fod cyflyrau cronig ar bobl o unrhyw oedran. Er bod ymchwil wedi nodi bod y tebygolrwydd o fyw gyda chyflyrau lluosog yn cynyddu gydag oedran, mae nifer y bobl dan 65 oed gyda mwy na dau gyflwr yn uwch na'r nifer sy'n 65 oed a hŷn. Mae 30 y cant o'r bobl sydd â phedwar cyflwr cronig neu fwy o dan 65 oed.
Oherwydd cymhlethdod y materion sy'n codi a'r ystod eang o gyflyrau cronig y gall pobl gael profiad ohonynt, fe wnaethom ddechrau ein hymchwiliad trwy ofyn i randdeiliaid ein helpu i nodi'r themâu a'r materion allweddol y dylem ganolbwyntio arnynt. Fe wnaethom ddefnyddio'r wybodaeth hon i lunio ein cylch gorchwyl terfynol. Roeddem hefyd yn ffodus i gael ein cynorthwyo yn ein gwaith ymchwilio gan bobl sy'n byw gyda chyflyrau cronig a oedd yn awyddus i rannu eu profiadau, a hoffwn gofnodi ein diolch iddynt. Mae ein hadroddiad yn gwneud 21 o argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn yr amser sydd ar gael i mi y prynhawn yma, fe wnaf ganolbwyntio ar nifer fach o'r rhain, er fy mod yn gwybod y bydd aelodau eraill y pwyllgor yn dymuno ymdrin â rhai o'r argymhellion eraill yn eu cyfraniadau hwy.
Rwyf am ddechrau gyda gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sef argymhellion 1 i 4. Ac er bod Llywodraeth Cymru wedi nodi pwysigrwydd dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ei chynllun hirdymor ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal, mae'n amlwg iawn o'r dystiolaeth a glywsom gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl sy'n byw gyda chyflyrau hirdymor nad yw hyn yn cael ei weithredu'n gyson, ac yn sicr nid ar y raddfa a'r cyflymder sy'n angenrheidiol. Dywedodd cyfranogwr yn un o'n grwpiau ffocws wrthym nad yw penderfyniadau'n cael eu gwneud gyda chleifion mewn golwg; maent yn torri'r holl ddyletswyddau, yr holl egwyddorion, yr holl werthoedd y maent i fod i lynu wrthynt, ac nid yw'r cleifion yn cael eu rhoi yn y canol.
Clywsom fod gwasanaethau iechyd a gofal wedi datblygu ffocws ar drin un cyflwr ac o ganlyniad, gall y rhai sy'n byw gyda chyflyrau lluosog ryngweithio'n aml â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol heb i'r gweithwyr hynny weld y darlun llawn mewn perthynas â'u hiechyd. Credwn fod angen ffocws o'r newydd ar ddarparu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch y claf ac nid o amgylch eu cyflwr. Dylai'r gwasanaethau hyn gydnabod bod yr unigolyn yn arbenigwr ar eu cyflwr eu hunain, a dylent ddarparu gwahanol fathau o ofal, cymorth a thriniaeth mewn ffordd gydgysylltiedig sy'n diwallu eu hanghenion ac yn eu cynorthwyo i reoli eu hiechyd a'u gofal eu hunain.
Fe wnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda byrddau iechyd i archwilio ailgyfeirio gwasanaethau i gynnig gofal cofleidiol i gleifion sy'n byw gyda chyflyrau cronig, gan ddarparu clinigau siop un stop sy'n cyfuno gwahanol wasanaethau a gweithwyr meddygol proffesiynol mewn un lle. Gwrthodwyd yr argymhelliad hwn. Yn ei ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai un o nodau hirsefydlog Llywodraeth Cymru yw i bobl gael mynediad at y rhan fwyaf o'r gofal sydd ei angen arnynt i reoli eu hiechyd a'u llesiant gartref neu'n agos at adref, gyda phobl ond yn mynd i ysbyty os mai dyna'r peth iawn i'w wneud ar gyfer eu hanghenion penodol. Rydym yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i gadw gofal yn lleol ac yn sicr nid oedd ein hargymhelliad yn dadlau dros fwy o ddibyniaeth ar ofal eilaidd, ond yn hytrach, y dylid darparu gwasanaethau mewn ffordd fwy holistaidd a llai tameidiog. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ailystyried ei ymateb i'r argymhelliad hwn, yn enwedig o ystyried pa mor bwysig oedd hyn i'n tystion.
Clywsom gan Brif Swyddog Meddygol Cymru fod pobl yn hoffi cael cynllun gofal unigol. Roedd yn credu bod hyn yn rhywbeth y maent yn elwa ohono, sy'n helpu i gydlynu gofal o amgylch y claf. Mae'n siomedig felly fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein galwad i adolygu ar frys y defnydd o gynlluniau gofal unigol ar gyfer cleifion â chyflyrau cronig, yn enwedig o ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru y gallai pobl sy'n byw gyda chyflyrau cronig gael cynllun gofal unigol pe baent eisiau un, a'r dystiolaeth a gawsom, er bod pocedi o arfer da o ran y modd y'u darperir, fod hyn yn anghyson ledled Cymru, yn anffodus.
Gan droi at argymhellion 5 i 10 ar ryngweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, clywsom yn glir gan randdeiliaid fod cael perthynas dda â'u meddygon teulu yn rhan bwysig o helpu pobl i reoli eu cyflyrau eu hunain. Maent eisiau rhywun sy'n gwybod am eu cefndir a'u hamgylchiadau teuluol yn ogystal â'u hanes meddygol. Fodd bynnag, siaradodd pobl a gymerodd ran mewn cyfweliadau â'n tîm ymgysylltu â dinasyddion am beidio â chael eu clywed, neu am gael eu diystyru gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Dywedodd un wrthym,
'Euthum drwy saith neu wyth mlynedd o feddygon yn fy nhroi ymaith, yn fy ngalw'n ddramatig ac yn dweud fy mod i'n chwilio am sylw. Roedd hynny'n niweidiol iawn i fy iechyd corfforol a meddyliol.'
Siaradodd eraill am yr angen am empathi a gwell dealltwriaeth wrth ymwneud â phobl â chyflyrau cronig. Gall ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol meddygol fod yn heriol a hyd yn oed yn drawmatig i rai pobl, felly mae'n bwysig fod cleifion yn teimlo bod eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif. Cafodd hyn ei gydnabod gan feddygon teulu a ddywedodd wrthym eu bod yn pryderu am eu gallu i ddarparu gofal digonol yn yr amser byr a gânt i weld claf. Felly, byddwn yn croesawu'n fawr ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i weithio gyda'r cyrff proffesiynol perthnasol ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau bod cyfleoedd addysg feddygol barhaus yn cynnwys safbwyntiau a phrofiadau cleifion sy'n byw gyda chyflyrau cronig a hyrwyddo gofal empathig.
Gan droi at argymhelliad 10, rwy'n synnu nad yw Ysgrifennydd y Cabinet mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y cofnod iechyd electronig gofal eilaidd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a'i fod felly wedi gwrthod yr argymhelliad hwn.
Gan droi at argymhellion 13 i 17 ynglŷn ag iechyd meddwl, mae'r angen i wella cymorth iechyd meddwl i bobl â chyflyrau cronig wedi bod yn thema gyson yn y dystiolaeth a glywsom. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod o leiaf 30 y cant o'r holl bobl sydd â chyflwr cronig hefyd â phroblem iechyd meddwl. Mae'r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl yn disgrifio'r effaith ddinistriol y gall byw gyda chyflwr cronig ei chael ar iechyd meddwl. Mae diffyg cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn broblem hirsefydlog. Fodd bynnag, i bobl sy'n byw gyda chyflwr cronig, mae'r effaith ar eu hiechyd meddwl yn golygu bod angen llawer mwy o integreiddio gwasanaethau.
I lawer o bobl sy'n byw gyda chyflwr corfforol hirdymor, roeddem yn synnu clywed nad yw'n weithdrefn safonol i gyfeirio'n glir at gymorth iechyd meddwl ar yr adeg y gwneir diagnosis. Mae dod i delerau â chael diagnosis o gyflwr hirdymor a sut y bydd hynny'n effeithio ar eich ffordd o fyw yn sicr o gael effaith ddofn. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad y dylid cyfeirio at gymorth iechyd meddwl i bawb sy'n cael diagnosis o gyflwr cronig, ac edrychaf ymlaen at gael y diweddariadau blynyddol ar gynnydd yn erbyn y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol a addawyd yn ei ymateb.
Yn olaf, hoffwn siarad am atal. Er bod ein hadroddiad yn canolbwyntio ar y cymorth a ddarperir i bobl sy'n byw gyda chyflyrau cronig ar hyn o bryd, rhaid i'r ffocws hirdymor fod ar atal, i atal cyflyrau cronig rhag datblygu ac i arafu eu cynnydd. Mae'n amlwg fod y GIG yng Nghymru eisoes yn cael trafferth ymdopi â'r galwadau arno. Bydd y cynnydd a ragwelir yn nifer y bobl sy'n byw gyda chyflyrau cronig ond yn cynyddu'r galw hwn. Felly, mae symud tuag at atal yn hanfodol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth iechyd a gofal. Er bod polisi iechyd Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen y newid hwn, credwn fod cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys amseroedd aros hir a diffyg amser ac adnoddau, wedi golygu'n aml nad yw gwaith ataliol yn flaenoriaeth mewn gwirionedd, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fynd i'r afael â hyn. Diolch yn fawr.
Lywydd, rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ar fater sy'n ymwneud â hanfod yr hyn y dylai GIG Cymru fod yno i'w wneud, sef cefnogi pobl, nid yn unig pan fyddant yn sâl, ond bob dydd pan fyddant yn byw gyda chyflwr cronig. Mae adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn nodi maint yr her. Mae bron i hanner yr oedolion yng Nghymru yn byw gyda salwch hirdymor. Mae gan un o bob pump gyflyrau cronig lluosog, ac mae 30 y cant o'r rhai sydd â phedwar neu fwy o dan 65 oed. Nid yw'r GIG yn barod ar gyfer y sefyllfa hon, a'r hyn sy'n waeth yw bod y system fel y mae wedi'i chynllunio ar gyfer byd gwahanol. Mae llawer gormod o bobl yng Nghymru yn cael eu gyrru o un apwyntiad i'r llall heb unrhyw gynllun sy'n cydgysylltu, nac unrhyw gydlyniant na chysondeb. Dywedodd un claf wrth y pwyllgor eu bod yn cael eu trin fel casgliad o broblemau yn hytrach nag unigolyn byw. Gweinyddiaeth gyffredinol yw hyn, nid gofal.
Nawr gadewch inni siarad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwyllgor. Dywedir wrthym y bydd y 35 o gamau gweithredu a ddiweddarwyd yn 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn darparu system effeithiol sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Ond maent yn ymestyn hyd at 2028, ac nid oes unrhyw garreg filltir bendant wedi'i chynnig i ddangos sut y bydd y camau hyn yn arwain at well gofal nawr. Addewir y bydd monitro'n digwydd, ond mae amserlenni'n bwysig, yn enwedig i bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.
Mae'r Llywodraeth yn derbyn argymhelliad cyntaf y pwyllgor mewn egwyddor i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Ac eto, ar y dudalen nesaf, mae'n gwrthod awgrym y pwyllgor o glinig siop un stop i gefnogi cleifion â chyflyrau cymhleth a lluosog. Yn hytrach, dywedir wrthym fod meddygon teulu eisoes yn darparu'r gofal holistaidd hwnnw. Gadewch imi fod yn glir, mae meddygon teulu'n hanfodol, ond ni allant wneud popeth. Mae capasiti cymunedol yn hynod o brin, ac ni all cyfeirio digidol gymryd lle gofal wyneb yn wyneb sydd wedi'i deilwra a'i integreiddio. Nid yw dweud y gall meddygon teulu ymdopi yr un peth â buddsoddi mewn clinigau amlddisgyblaethol go iawn, lle gall arbenigwyr weithio gyda'i gilydd o amgylch y claf.
Ar gynlluniau gofal, rwy'n credu bod hwn yn gyfle arall a gollwyd. Argymhellodd y pwyllgor adolygiad cenedlaethol i sicrhau bod pob unigolyn cymwys yn cael cynnig cynllun gofal. Dywedodd y Llywodraeth 'na'. Yn hytrach, mae llythyr gan y prif swyddog meddygol i fod i atgoffa byrddau iechyd am arferion gorau. Nawr, mewn perthynas â'r Gweinidog, nid arweinyddiaeth yw hynny ond biwrocratiaeth. Mae angen inni weld arweinyddiaeth go iawn, nid ei drosglwyddo lawr i'r prif swyddog meddygol.
A thra bôm wrthi, gadewch inni edrych ar gynllunio'r gweithlu. Mae'r Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad i ddatblygu strategaeth ar gyfer nyrsys arbenigol mewn egwyddor, ond mae'n cyfaddef nad yw nifer y nyrsys arbenigol yng Nghymru yn cael ei gofnodi'n ganolog hyd yn oed. Felly, sut y gallwn ni gynllunio, buddsoddi a diwygio heb wybod ble mae'r bylchau yn y system?
Fel y soniodd Lesley Griffiths, iechyd meddwl oedd un o'r agweddau mwyaf pwysig ar yr adroddiad, ond caiff ei drin â chymysgedd o fwriadau da ac amserlenni hir gan y Llywodraeth. Dywedir wrthym fod strategaethau newydd ar y ffordd, y bydd llwybrau gofal yn cynnwys cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl rhyw ddydd, a bod iechyd meddwl eisoes yn rhan o'r cwricwlwm meddygol. Ond gyda bron i 60 y cant o gleifion clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn adrodd am drallod iechyd meddwl, dim ond 20 y cant o'r rheini sy'n cael help. Nid problemau ar gyfer strategaeth arall yw'r rhain; maent yn broblemau ar gyfer heddiw ac yn rhywbeth y mae gwir angen inni fynd i'r afael ag ef.
Galwodd y pwyllgor hefyd am gofnodion iechyd electronig a rennir. Rwy'n credu bod hwnnw'n offeryn hanfodol ar gyfer gofal parhaus. Gwrthododd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn hefyd, gan ddweud ei fod yn gymhleth. Ond ar ôl blynyddoedd o addo gofal iechyd digidol integredig, y peth gorau y dywedir wrthym y gallant ei wneud yw cynllun peilot mewn dau fwrdd iechyd. Nid trawsnewidiad yw hyn, ond oedi a diffyg arweinyddiaeth, ac rwy'n meddwl tybed a wnaed yr ymateb hwn cyn i'r Ysgrifennydd Cabinet siarad ddoe.
Ar bresgripsiynu cymdeithasol, dywedodd y Llywodraeth hefyd fod fframwaith cenedlaethol ar waith, ond dilynwyd yr addefiad hwnnw hyd yn oed gan gydnabyddiaeth fod hanner y fframwaith yn dal i gael ei ddatblygu ac nad oes amserlen glir ar gyfer mynediad cyson ledled Cymru. Nid yw fframwaith yn ddigon os nad oes gan gleifion wasanaethau y gellir eu presgripsiynu iddynt.
Ac ar atal, rydym yn ei glywed eto, onid ydym? Y geiriau cywir am fuddsoddiad yn Dechrau'n Deg, 'Pwysau Iach: Cymru Iach', gwrth-ysmygu, ond gadewch inni fod yn onest, nid yw'n cyd-fynd â maint yr her: cynnydd o 40 y cant mewn diabetes; poblogaeth sy'n heneiddio gyda chyflyrau sy'n gorgyffwrdd; y bwlch parhaus yn ein canlyniadau iechyd i'r rhai mwyaf difreintiedig, ac nid yw'n ymddangos bod y Llywodraeth yn mynd i'r afael â hynny. A phan wnaethom alw am well defnydd o gynlluniau peilot, gwell gwerthuso, rhannu arferion da yn well, beth oedd yr ymateb? 'O, nid rôl y byrddau partneriaeth rhanbarthol yw gwneud hynny.' Gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet wedyn, 'Rôl pwy yw gwneud hynny?' Mae'r Llywodraeth yn dweud y gall Gweithrediaeth GIG Cymru gefnogi'r gwaith o wella gwasanaethau, ond nid yw'n ymddangos bod unrhyw un yn uniongyrchol gyfrifol am ddatblygu'r hyn sy'n gweithio ar raddfa fwy ar draws y Llywodraeth.
Felly, Lywydd, gadewch imi ddweud yn glir wrth y Llywodraeth fod gormod o'u hymateb heddiw yn swnio fel system sy'n amddiffyn ei hun yn hytrach na diwygio ei hun. Oes, mae yna fframweithiau, oes, mae yna strategaethau, ond nid wyf yn gweld y brys. Ble mae'r arweinyddiaeth sy'n dweud na fyddwn yn caniatáu i ofal cyflyrau cronig barhau'n dameidiog ac yn anghyson, a bod angen gwella'r gofal y mae angen i bobl ei gael? Rwy'n credu bod y pwyllgor wedi gwneud ei waith: mae'r dystiolaeth yno, mae'r argymhellion yn rhesymol, yn gosteffeithiol ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Nawr, rwy'n credu bod yn rhaid i'r Llywodraeth adolygu ei hymateb i ni ac edrych ar sut y mae'n mynd i wella bywydau pobl ledled Cymru mewn gwirionedd. Mae'n bryd cael cynllun ac mae'n bryd cyflawni, oherwydd i bobl Cymru sy'n byw gyda phoen, blinder ac ofn, ac yn aml mewn tawelwch, nid yw hyn yn ymwneud â fframweithiau, mae'n ymwneud â'u hurddas, eu hannibyniaeth a'u hawl i fyw'n dda yn eu cymunedau. Diolch, Lywydd.
Roedd yr ymchwiliad yma’n un trwyadl a gynhaliwyd bron i flwyddyn yn ôl, bellach, pan oedd y Prif Weinidog presennol yn Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd. Felly, bydd yn ddifyr clywed ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet presennol i’r ymchwiliad.
Un peth amlygodd yr ymchwiliad o’r dechrau oedd i nifer o bobl yng Nghymru—yn wir, bron hanner y boblogaeth, mewn gwirionedd—nid mater o gael cyswllt achlysurol â’r meddyg teulu neu ddeintydd ydy eu perthynas â’r gwasanaeth iechyd, ond yn hytrach mae’n berthynas hir sefydlog, cyson a rheolaidd, wrth iddyn nhw fyw â chyflyrau sydd yn effeithio ar ansawdd eu bywyd hwy a’u hanwyliaid.
Yn anffodus, fel y gwnaethon ni glywed yn yr ymchwiliad, mae uchelgais y Llywodraeth yma o reoli cyflyrau cronig drwy ganolbwyntio ar yr unigolyn yn wahanol iawn i brofiad cleifion, ac mae rhai o'r clwydi sydd yn atal hyn rhag digwydd yn bryderus o gyffredin. Maen nhw'n ymladd tân yn y tymor byr ar draul datblygu strategaeth hirdymor. Mae yna weithio mewn seilos sydd yn eu hatal rhag datblygu modelau gofal mwy holistaidd. Mae yna fylchau amlwg yn y gweithlu. Mae yna anelu i rannu a gweithredu arfer da yn genedlaethol, ond yn methu gwneud hynny. Methiannau mawr yng nghysondeb, dibynadwyedd a hygyrchedd data, a'r agenda digidol flynyddoedd y tu ôl i ble dylai fod.
Mae'r rhain oll yn broblemau sylfaenol sydd yn dod i'r wyneb drosodd a thro ar draws y gwasanaeth iechyd, ac mae'r Llywodraeth yma ymhell iawn o fod mewn sefyllfa i adfer hyn fel y saif pethau.
Mae hanes y Llywodraeth hon o danfuddsoddi mewn capasiti gofal sylfaenol dros y degawd a hanner diwethaf, sydd wedi gadael Cymru dros 500 o feddygon teulu yn brin o gyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a'r modd y mae mynediad at apwyntiadau bellach yn dod yn fwy o foethusrwydd nag o hawl ddiymwad, wedi cael goblygiadau arbennig o niweidiol yng nghyd-destun rheoli cyflyrau cronig. Gyda charfan sy'n lleihau o feddygon teulu'n gorfod ymdopi â llwythi gwaith cynyddol anghynaliadwy, y canlyniad anochel yw bod llai o amser yn cael ei neilltuo i feithrin y berthynas hanfodol honno â chleifion. Dyma pam y mae Plaid Cymru wedi dweud y byddem yn ymrwymo i recriwtio 500 o feddygon teulu ychwanegol dros ddau dymor nesaf y Senedd a sefydlu diwygiadau llywodraethu i wella statws y sector. Ond yn y cyfamser, rwy'n annog y Llywodraeth i ddefnyddio'r amser sydd ar ôl o'r tymor cyfredol i ddyblu ymdrechion i gefnogi'r sector gofal sylfaenol.
Lle da i ddechrau fyddai lleddfu baich gweinyddol y broses atgyfeiriadau trwy sefydlu gwasanaeth brysbennu gweithredol, gan roi lle i anadlu mawr ei angen i feddygon teulu flaenoriaethu cyswllt â chleifion. Mae gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd hefyd ran allweddol i'w chwarae yn y maes hwn, ac felly mae'n rhaid iddynt gael eu cydnabod yn briodol fel rhan annatod o'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, yn hytrach na phethau braf i'w cael yn unig.
Yn ogystal ag ehangu capasiti, mae blaenoriaethu mesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar yn amlwg yn allweddol. Yn hyn o beth, mae'r adroddiad yn gywir i bwysleisio'r angen i alluogi'r system i fod yn fwy ymatebol i gydafiacheddau lluosog. Yn hynny o beth, rwy'n annog y Llywodraeth i ystyried ei gwneud hi'n orfodol gwneud archwiliad o'r corff cyfan fel mater o drefn mewn apwyntiadau meddygfa, fel y gellir adnabod cyflyrau heb eu diagnosio a dwysáu triniaeth yn gyflym.
Gall grymuso cleifion i gymryd mwy o reolaeth dros eu gofal iechyd gryfhau effeithiolrwydd yr agenda ataliol hefyd, ond ar hyn o bryd nid oes ganddynt yr offer i wneud hynny. Dyma lle mae honiadau'r Llywodraeth ei bod yn moderneiddio'r gwasanaeth iechyd yn swnio'n wag iawn mewn gwirionedd. Rwyf wedi siarad o'r blaen am y modd y mae cyflwyno telefeddygaeth mewn lleoliadau gofal sylfaenol yng Nghymru wedi bod yn arbennig o araf yn digwydd o'i gymharu â Lloegr. Rydym hefyd wedi gweld oedi anffodus cyn gweithredu ap GIG Cymru, sydd, er bod ganddo botensial i wella ymgysylltiad â chleifion, yn parhau i fod heb ei bweru'n llawn o ran ei weithrediad ymarferol. Felly, rwy'n annog y Llywodraeth i gynnal archwiliad o Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ganfod a oes ganddo ddigon o adnoddau ac arbenigedd i gyflawni ei rôl fel cangen gyflawni'r agenda ddigidol. Mae honni bod uno platfformau digidol yn rhy gymhleth yn mynd yn groes i dystiolaeth, nid yn unig o lefydd fel Estonia, ond hefyd o Lundain, Manceinion ac Iwerddon—cenedl fach arall sydd bellach yn cyflwyno'r agenda ddigidol hon.
Yn olaf, mae gan hybu llythrennedd iechyd rôl bwysig i'w chwarae yma hefyd. Mae manteision profedig gan y cynllun Adre, er enghraifft, sy'n cefnogi preswylwyr cartrefi gofal i hunan-reoli eu meddyginiaeth er mwyn lliniaru cynnydd cyflyrau cronig. Hoffwn gael diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ryw bwynt i weld a yw mabwysiadu'r cynllun hwn dan ystyriaeth weithredol. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf am longyfarch y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, oherwydd mae'r adroddiad hwn wedi cael effaith enfawr yn yr ystyr fod nifer enfawr o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol wedi bod yn gwneud sylwadau ac yn gwneud awgrymiadau ar gyfer y modd y symudwn ymlaen ar hyn. Mae'r cynnydd o 40 y cant mewn diabetes y cyfeiriodd James ato eisoes yn codi ofn arnaf, ond nid yw'n fy synnu. Nid wyf yn synnu oherwydd, yn anffodus, nid ydym wedi gwneud y newidiadau angenrheidiol i ddeiet pobl i'w hatal rhag cael diabetes, sef y prif beth sy'n achosi'r diabetes math 2 ofnadwy hwn.
Caf fy synnu hyd yn oed yn fwy fod cyn lleied o ymyrraeth ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol yn y cam cyn-diabetes, ac yn wir, ar ddiwrnod cael diagnosis o ddiabetes math 2, i wrthdroi'r cyflwr hwnnw, oherwydd mae hynny'n berffaith bosibl ac mae'n llawer haws ei wneud ar ddechrau'r camau nag yn y misoedd a'r blynyddoedd dilynol. Mae sioc y diagnosis ei hun yn gorfodi pobl i feddwl, 'Efallai fod angen i mi newid fy ymddygiad.' Yn wir, yr hyn sy'n digwydd mewn arferion da—. Ac rwyf wedi gweld rhai pocedi o arferion da—clywais am un ohonynt gan reolwr practis meddygon teulu yn Amlwch, a oedd yn amlwg yn arwain ar hyn—ond maent yn brin. Ac wrth fynd o gwmpas fy mhractisau meddyg teulu, nid wyf yn clywed, 'Wrth gwrs, mae gennym raglen ataliol ar gyfer diabetes cyn gynted ag y daw'r prawf gwaed hwnnw drwodd.'
Os caf dorri ar draws yn gyflym, rwy'n un o'r bobl hynny. Cefais ddiagnosis o fath 2 y llynedd, ac roedd fy mhrofion cyntaf yn negyddol oherwydd fy mod wedi newid fy ffordd o fyw. Ni allwch gael gwared arno byth; bob amser, fe fydd gyda chi am oes. Y cyfan y gallwch chi ei wneud yw ei reoli a gobeithio ei leddfu. Felly, dim ond sylw ar hynny.
Dyna sylw ardderchog. Mae dau aelod o fy nheulu fy hun wedi cael yr un profiad â chi yn ddiweddar, yn yr ystyr eu bod wedi cael y fflach o rybudd, a bydd yn rhaid iddynt hwythau hefyd reoli'r hyn y maent yn ei fwyta am weddill eu bywydau os nad ydynt eisiau cael diabetes math 2. Mae'n gyflwr ofnadwy ac mae'n galw am sgwrs i'r teulu cyfan.
Yn y practisau gorau, rydych chi'n dod â'r teulu cyfan i mewn ac rydych chi'n dweud, 'Mae gan eich anwylyd y broblem hon, ac mae angen ichi newid y ffordd rydych chi i gyd yn byw eich bywydau o ran yr hyn rydych chi'n ei fwyta.' Nid oes unrhyw bwrpas cael bwyd sothach yn cael ei fwyta ar un pen i'r bwrdd tra bod yr unigolyn arall yn bwyta beth y byddent yn ei ystyried yn fwyd cwningod. Mae'n rhaid i'r teulu cyfan gymryd rhan yn hyn, a byddant eisiau gwneud hynny os yw'n cael ei esbonio iddynt, ac mae angen i hynny ddigwydd. Nid yw'n digwydd yn gyson. Mae'n glefyd mor gyffredin, felly bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed beth sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud ynglŷn â sut i newid hynny.
Yn ail, mynychais brosiect gofal clwyfau cronig yn ddiweddar a oedd yn wirioneddol arloesol ac yn arwain y sector. Mae'n cael ei gyflwyno allan o gampws Llandaf ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, lle mae ganddynt glinigau wedi'u sefydlu yn rhan o'r trefniadau addysgu y mae eu holl fyfyrwyr meddygol a pherthynol i iechyd yn mynd drwyddynt. Yno cyfarfûm â nifer enfawr o fy etholwyr a oedd yn elwa nid yn unig o wasanaethau'r deietegwyr, y nyrsys ardal, a phennaeth y gyfadran feddygol yno yn wir, ond hefyd y seicolegwyr iechyd meddwl. Y sgwrs a ddigwyddodd o amgylch y bwrdd—. Oherwydd mae llawer o bobl sydd â chlwyfau cronig yn hynod ynysig a byth yn cael gweld unrhyw un.
Mewn gwirionedd, yn ddiweddar euthum gyda nyrs ardal i weld un o fy etholwyr a oedd wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn y gwely oherwydd clwyf cronig. Mae ganddo deulu sy'n byw yn lleol, diolch byth, ond yn llythrennol nid yw wedi—. Dywedodd, 'Rwyf wedi cyfrif pob dot ar y papur wal', oherwydd nid yw'n gwneud cynnydd, ac nid yw'n cael digon o ffisiotherapi i gryfhau ei goes iddo allu mynd allan eto. Roedd yn arfer byw bywyd egnïol iawn.
Caiff y bobl hyn eu cludo i mewn gan gwasanaeth cludiant brys gwirfoddol, VEST, sydd gennym yng Nghaerdydd, lle mae'r gyrwyr yn wirfoddolwyr yn bennaf, ond mae'n galluogi pobl sy'n amlwg â phroblemau symudedd difrifol i fynd allan. Dyma eu hunig ymgysylltiad cymdeithasol bob wythnos. Felly mae'n brosiect hynod bwysig, ar gyfer cael cymorth amlddisgyblaethol i'r hyn sy'n gyflwr meddygol cymhleth, h.y. clwyfau cronig, ond hefyd i gael budd cymdeithasol o wella eu hiechyd meddwl a rhoi gobaith i bobl fod ganddynt weddill eu bywydau o'u blaenau.
Rwy'n gweld bod fy amser ar ben, Lywydd, felly fe eisteddaf. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr sy'n cyfrannu at y ddadl—Jeremy Miles.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwn, ac rwy'n falch o dderbyn y mwyafrif o argymhellion y pwyllgor. Rwyf wedi nodi fy ymateb manylach i'r argymhellion hynny yn fy ateb ysgrifenedig i'r pwyllgor. Y prynhawn yma, hoffwn ganolbwyntio ar fyrdwn ymchwiliad y pwyllgor, ac fe af ar drywydd rhai o'r pwyntiau a wnaed gan yr Aelodau mewn perthynas ag ymateb Llywodraeth Cymru.
Wrth i'n poblogaeth heneiddio ac wrth inni ddod yn well am reoli clefydau, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n byw gyda chyflwr hirdymor, neu gyflyrau hirdymor lluosog yn wir. Mae hyn yn symptom o'n gallu i drin clefydau nad oeddem yn gallu eu trin o'r blaen ac i gefnogi pobl i fyw'n hŷn. Ond fe ddaw ar draul y galw cynyddol ar y GIG, ac fel y canfu'r pwyllgor, ar draul cymhlethdod cynyddol yn y gofal a'r gwasanaethau y mae angen i'r GIG eu darparu, ac i'r bobl sydd â chyflyrau hirdymor lluosog, mwy o flynyddoedd o salwch, yn aml pan fyddant yn hŷn.
Mae ein gweledigaeth ar gyfer y GIG yn un sy'n blaenoriaethu datblygiad a chapasiti gofal sylfaenol a chymunedol gyda gwell integreiddio â gofal cymdeithasol. Ymarfer cyffredinol yw carreg sylfaen y GIG. I'r mwyafrif ohonom, dyma lle byddwn yn cael y mwyaf o ryngweithio â'r GIG, yn enwedig i bobl â chyflyrau hirdymor. Ond lle mae angen mynediad at wasanaethau gofal yn yr ysbyty, mae angen i'r rhain fod yn gyflymach ac yn fwy cyfleus.
Drwy integreiddio gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd yn well, rydym yn gobeithio gwneud hyn mor ddidrafferth â phosibl i'r unigolyn. Gyda chofnodion a systemau digidol cynyddol integredig, a thrwy rymuso pobl drwy ddatblygu ap GIG Cymru, y bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn ei lansio'n ffurfiol yn yr wythnosau nesaf, rydym wedi bod yn gwneud buddsoddiadau parhaus mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, a byddwn yn mynd ymhellach dros y 12 mis nesaf i ailgyfeirio gwasanaethau'n fwy tuag at ofal sylfaenol ac i harneisio'r potensial ar gyfer dulliau gweithredu ataliol, rhywbeth y mae sawl Aelod wedi siarad amdano.
Mae symud gwasanaethau i leoliadau sylfaenol a chymunedol yn ganolog i'r modd y mae angen inni drawsnewid gofal iechyd ar gyfer y dyfodol. Gwyddom fod angen inni wella cydlyniant a gofal parhaus, fel y mae'r Aelodau wedi dweud heddiw, oherwydd mae'n dda i bobl, yn enwedig y rhai sydd â chyflyrau hirdymor, ac mae hefyd yn dda i ofal sylfaenol ac yn wir, i'r system gofal eilaidd.
Mewn perthynas â'r argymhelliad ar gyfer adolygiad o gynlluniau gofal unigol, fe wneuthum y penderfyniad y byddwn yn gweithredu yn hytrach na chynnal adolygiad. Mae'r Llywodraeth yn glir yn ei disgwyliadau mewn perthynas â chyhoeddi cynlluniau gofal, ac rwyf wedi gofyn i'r prif swyddog nyrsio a'r prif swyddog meddygol atgoffa byrddau iechyd o'r disgwyliadau hynny ac ysgrifennu atynt ynglŷn â hynny. Yn ogystal, byddwn yn lansio menter newydd cyn bo hir i gefnogi meddygon teulu i ddarparu gofal parhaus, ac rydym wedi clywed heddiw—
Mae cais i ymyrryd wedi dod gan Altaf Hussain, Weinidog. A ydych chi'n ei dderbyn?
Wrth gwrs.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n llunio rhestr o'r cyflyrau cronig hyn?
Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais hynny'n iawn.
A ydych chi'n llunio rhestr o'r cyflyrau cronig hyn? Oherwydd mae'n derm da, ond mae angen inni wybod beth yw'r cyflyrau cronig y cyfeiriwch atynt.
Mae'r pwyllgor wedi bwrw rhwyd eang mewn perthynas â chyflyrau cronig, fel y mae ganddo berffaith hawl i'w wneud, ac rwy'n credu bod hwnnw'n ddull rhesymol o fynd ati. Rwy'n credu mai'r hyn yr oeddwn yn ei ddisgrifio yn fy nghyfraniad yn gynharach yw ein bod yn rhagweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n byw gyda'r cyflyrau hynny, a mwy nag un cyflwr, a dyna pam y mae'r pwynt a wnaed yn y ddadl hyd yma am ofal tameidiog yn bwysig.
Fel y dywedais, byddwn yn lansio menter newydd cyn bo hir i gefnogi meddygon teulu i ddarparu gofal parhaus, gan fabwysiadu dull gwella ansawdd. Byddwn yn dechrau gyda meddygon teulu yn nodi'r cleifion mwyaf agored i niwed a fyddai'n elwa o weld yr un gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn barhaus. Byddwn yn adeiladu ar hyn dros amser fel ei fod yn dod yn ddisgwyliad i bawb fel mater o drefn. Bydd hyn yn gwella canlyniadau i bobl â chyflyrau cronig ac yn helpu i gadw pobl yn iach gartref.
Mae gwasanaeth sy'n canolbwyntio'n fwy ar atal—ac rydym wedi clywed manteision hynny heddiw—ac ar ddarparu mwy o ofal yn y gymuned yn un sydd hefyd yn rhoi'r claf ynghanol y gwasanaeth fel partner yn y gwaith o reoli eu hiechyd corfforol a meddyliol. Rydym hefyd yn defnyddio gweithrediaeth y GIG i nodi a phrofi modelau gwasanaeth newydd ac i ddatblygu'r prosiectau neu'r rhaglenni sy'n llwyddiannus ar raddfa fwy ar gyfer gweddill Cymru. Y cam cyntaf fydd darparu dewislen gyffredinol o brofion diagnostig a fydd ar gael yn y gymuned leol.
Rydym yn cefnogi sgiliau arweinyddiaeth yn y GIG trwy dargedu hyfforddiant mewn meysydd hanfodol trwy academïau sgiliau y GIG, a fydd yn mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a wnaed yn ystyriaethau'r pwyllgor. Rydym yn gweithio ar fodelau gwasanaeth newydd, fel hybiau diffyg anadl a hybiau iechyd menywod. Bydd hybiau braenaru iechyd menywod ar gael ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth nesaf. Dyma rai o'r camau y byddwn yn eu datblygu i gefnogi'r GIG i ddarparu mwy o ofal cydgysylltiedig.
Cafwyd trafodaeth yn adroddiad y pwyllgor ac yn y ddadl heddiw am rôl technoleg. Rydym yn cyflymu gweithrediad galluogwyr digidol allweddol, gan gynnwys e-bresgripsiynu a systemau cofnodion electronig ar gyfer iechyd a gofal. Dylwn egluro ar y pwynt hwn mai'r rheswm dros ein hymateb i argymhelliad 10 yn y ffurf yr oedd ynddo yw nad yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru ei hun yn datblygu cofnod iechyd electronig gofal eilaidd. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain ar gynigion i ofyn i drydydd parti ddatblygu achos busnes amlinellol ar gyfer cofnodion iechyd electronig. Byddwn yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor mewn perthynas â'r datblygiadau hynny. Awgrymaf ein bod yn darparu adroddiad i'r pwyllgor yn ail hanner y flwyddyn hon ar y datblygiad hwnnw.
Yn ogystal â hynny, mae gennym weithrediad apiau'r GIG a gwelliannau i'r system fel Consultant Connect a system atgyfeirio cleifion Cymru i wella cydweithredu a chyfathrebu rhwng meddygon teulu a gofal eilaidd. Rydym yn canolbwyntio ar atal ac adeiladu capasiti cymunedol yn y fframwaith cynllunio, a gyhoeddais ddiwedd y llynedd mewn perthynas â 2025-28.
Lywydd, trwy gryfhau ein gwasanaethau ymarfer cyffredinol a chymunedol, a chyda'r adnoddau cywir, rydym yn anelu at ddarparu gofal cynhwysfawr sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bawb. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni wneud yn well i'r rhai sydd â chyflyrau cronig lluosog yn y ffordd y mae'r pwyllgor wedi nodi, ond mae trawsnewid ein system iechyd a gofal yn daith tuag at fwy o atal sylfaenol ac eilaidd, fel ein bod yn atal neu'n oedi dechrau salwch ac angen llai o driniaeth yn y tymor hwy, yn y ffordd y nododd Jenny Rathbone yn ei chyfraniad.
Yn olaf, yn ystod yr wythnosau diwethaf cyhoeddais ymrwymiad i ddyblu ein hymdrechion i fynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach salwch corfforol a meddyliol, gan adeiladu ar y gwaith a welsom yng Ngwent, a gwneud Cymru yn genedl Marmot. Rhaid inni herio ac ysbrydoli ein hunain a'r system, gan arwain a chyflawni'r trawsnewidiad sydd ei angen ar ein system gofal iechyd er mwyn mynd i'r afael â chyflyrau cronig.
Lesley Griffiths nawr sy'n ymateb i'r ddadl ar ran y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'm cyd-Aelodau am eu cyfraniadau. Credaf mai'r hyn a amlygwyd gan y tri chyd-Aelod a siaradodd cyn Ysgrifennydd y Cabinet yw'r pwyslais ar raddfa'r broblem a wynebwn yma yng Nghymru, a'r angen i gymryd camau nawr, i gefnogi unigolion sydd â chyflyrau cronig, ond hefyd i gefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Siaradodd James Evans am bwysigrwydd rhoi strategaethau ar waith, yn enwedig y strategaeth iechyd meddwl, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y cyhoeddiadau gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn yr wythnosau nesaf. Gwnaeth Mabon ap Gwynfor bwynt pwysig iawn am berthynas pobl â'u gweithwyr iechyd proffesiynol, yn enwedig meddygon teulu, felly roedd yn dda iawn clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am barhad, gan na all fod unrhyw beth gwaeth i glaf na mynd i weld eu meddyg teulu a gorfod adrodd yr un stori dro ar ôl tro, neu fynd i weld unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol a gorfod gwneud hynny. Mae technoleg yn hynod bwysig, felly mae'n dda iawn clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am yr hyn sy'n cael ei ddatblygu. Ond gwyddom fod y gwasanaeth iechyd ar ei hôl hi braidd gyda hyn, ac mae angen inni sicrhau bod y gwaith o'i gyflwyno yn parhau.
Siaradodd Jenny Rathbone am ddiabetes yn benodol, ac mae'n sicr yn wir ein bod yn gweld cynnydd anhygoel. Mae rôl meddygaeth ataliol mor bwysig ym mhob cyflwr cronig, ond rwy'n credu bod pob un ohonom yn adnabod rhywun â diabetes, ac yn wir, clywsom am hynny gan ein cyd-Aelod. Ond yr effaith ar unigolyn i allu byw bywyd da pan fydd ganddynt gyflwr cronig—mae mor bwysig fod hynny'n cael ei gydnabod. Rydych chi'n defnyddio'r gair 'gobaith', ac rwy'n credu ei bod mor bwysig fod cleifion yn deall hynny.
Gan droi at sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu rhoi ymateb cadarnhaol i gynifer o argymhellion, ond roedd yn arbennig o braf clywed, pan siaradais yn fy sylwadau agoriadol am yr angen i adolygu cynlluniau gofal unigol, eich bod yn mynd gam ymhellach ac y byddwch yn gweithredu mewn perthynas â hynny. Felly, gwn y bydd fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor yn falch iawn o weld hynny'n digwydd.
Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni. Mae clywed gan bobl sy'n dioddef o gyflyrau cronig yn hynod bwerus, felly rydym yn ddiolchgar iawn i bobl a roddodd eu hamser i roi tystiolaeth i'r pwyllgor. Rydym yn sicr yn edrych ymlaen at gael diweddariad, fel yr addawodd Ysgrifennydd y Cabinet, yn ail hanner y flwyddyn hon. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 9 sydd nesaf. Dadl y Ceidwadwyr yw hon ar ddisgyblaeth a rheoli ymddygiad mewn ysgolion. Dwi'n galw ar Natasha Asghar i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8881 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r diffyg disgyblaeth gynyddol yn ysgolion Cymru a'r effaith niweidiol a gaiff hyn ar yr amgylchedd dysgu, gyda data Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos bod nifer y disgyblion ysgol uwchradd a gafodd waharddiadau tymor penodol wedi treblu erbyn 2022-23, o’r hyn oedd yn 2015-16.
2. Yn gresynu bod ymosodiadau corfforol ar athrawon ac ymosodiadau cyllyll yn ysgolion Cymru ar eu lefelau uchaf erioed.
3. Yn cydnabod bod y berthynas rhwng rhieni ac athrawon wedi chwalu ers pandemig Covid-19.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithredu strategaeth gadarn i wella disgyblaeth a rheoli ymddygiad mewn ysgolion; a
b) sicrhau bod canllawiau gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, yn cael eu diweddaru er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n cario arf yn cael eu heithrio.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Yn anffodus, nid yw'n rhoi unrhyw bleser imi gyflwyno'r ddadl bwysig hon yma heddiw yn y Siambr. Ers ymgymryd â'r portffolio addysg ar ran yr wrthblaid bum mis yn ôl, rwyf wedi treulio llawer o amser yn siarad ag athrawon, rhieni, disgyblion ac arbenigwyr addysg, o'r feithrinfa yr holl ffordd drwodd i addysg bellach. Ni allaf wadu bod gan Gymru ystod amrywiol o gyfleusterau addysgol a gweithlu sy'n rhoi blaenoriaeth i addysgu disgyblion mewn amgylchedd diogel, sefydlog a chefnogol. Er bod atgofion melys gan nifer o bobl o'u blynyddoedd a'u dyddiau ysgol, fel adeg ar gyfer dysgu a datblygu eu sgiliau, yn anffodus, rydym yn clywed am fwy a mwy o drais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd yn ein hysgolion heddiw.
Yn anffodus, mae'r lleiafrif bach hwn—ac rwy'n golygu 'lleiafrif bach'—o fyfyrwyr sy'n tarfu ar eraill yn cael effaith andwyol sylweddol ar amgylcheddau dysgu ac yn gwneud i athrawon a staff deimlo dan fygythiad, sy'n cyfrannu at broblem barhaus recriwtio a chadw athrawon. Mae'n hanfodol mynd i'r afael â'r ymddygiad hwn, ac mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef ar unwaith.
Yr hyn sydd ei angen ar ysgolion ledled Cymru yw strategaeth gadarn ar gyfer gwella disgyblaeth a rheoli ymddygiad mewn ysgolion, wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Ni allwn wadu, o dan arweinyddiaeth Llafur dros y 26 mlynedd diwethaf, fod y sefyllfa yn ein hysgolion wedi gwaethygu, gyda'r lefelau uchaf erioed o ymosodiadau corfforol ar athrawon, nifer y gwaharddiadau tymor penodol yn treblu, a chynnydd mewn digwyddiadau'n gysylltiedig â chyllyll. Dim ond crib y rhewfryn yw hyn, gan fod ymchwil yn dangos bod llawer o ddigwyddiadau heb eu cofnodi, gydag ysgolion hefyd yn rhoi gwaharddiadau mewnol i blant, lle cânt eu tynnu allan o'r amgylchedd dysgu.
Fel y mae ein cynnig yn nodi, treblodd nifer y disgyblion uwchradd a gafodd waharddiadau tymor penodol rhwng 2015 a 2016, a rhwng 2022 a 2023, cynyddodd o 2 y cant i 5.9 y cant.
Ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol, fe wnaeth y gyfradd fwy na dyblu, o 5.6 y cant i 11.6 y cant. Ymhlith disgyblion ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd neu anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol y gwelwyd y cyfraddau gwahardd uchaf yn 2022 i 2023, gyda—a hoffwn pe bai pob un ohonoch yn rhoi sylw i'r ffigur hwn—524.7 o waharddiadau am bob 1,000 o ddisgyblion ag ADHD, a 459.3 ar gyfer y rheini ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar eu pen eu hunain, mae'r ffigurau hyn yn peri cryn bryder, ond mae rhywbeth yn amlwg o'i le pan fo dros 50 y cant o ddisgyblion ag ADHD wedi cael eu gwahardd yn ystod blwyddyn ysgol. Dim ond disgyblion a gafodd eu gwahardd y mae'r ffigurau hyn yn eu cyfrif, nid y rheini a gafodd eu tynnu allan dros dro am ddigwyddiadau llai difrifol. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet heddiw: a yw awdurdodau lleol yn casglu data o'r fath? Ac os ydynt, a yw'n cael ei rannu â Llywodraeth Cymru? Oherwydd heb y wybodaeth hon, ni fyddwn byth yn gallu deall maint y broblem yn llawn.
Mae ail bwynt ein cynnig yn gresynu bod trais yn erbyn athrawon ac ymosodiadau cyllyll ar eu lefelau uchaf erioed. Cynyddodd nifer y digwyddiadau treisgar a gofnodwyd o 2,483 rhwng 2019 a 2020 i 6,446 rhwng 2023 a 2024.
Ddeuddeg mis yn ôl, trywanodd disgybl 14 oed ddau athro a chyd-fyfyriwr yn Ysgol Dyffryn Aman yn sir Gaerfyrddin, trosedd y cafodd ei dedfrydu i 14 mlynedd o garchar amdani yr wythnos hon. Mae'n debyg fod y ffigurau hyn, a gafwyd gan Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT), wedi tangofnodi'r broblem, gan fod yr undeb wedi datgan bod tangofnodi cronig o drais mewn ysgolion. Ac mae hynny'n fy mhoeni at fêr fy esgyrn, oherwydd sut y gallwn ni fynd i'r afael â'r mater pan nad ydym yn gwybod pa mor ddrwg yw'r sefyllfa mewn gwirionedd?
Ar ymweliad diweddar ag ysgol uwchradd Cil-y-coed, cyfarfûm â'r pennaeth dros dro Alun Ebenezer, sydd wedi cyflwyno disgyblaeth a rheolau llym sydd, heb os, wedi newid perfformiad yr ysgol. Gan leihau nifer y gwaharddiadau yn y pen draw a meithrin ethos cadarnhaol, mae enghraifft Mr Ebenezer yn dangos bod newid yn bosibl, ond fod angen gwaith caled a pharodrwydd i fod yn amhoblogaidd.
Yn anffodus, mae parch at awdurdod wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o blant yn herio'r gair 'na'. Mae dirywiad amlwg yn y berthynas rhwng disgyblion ac athrawon, yn ogystal â rhwng rhieni ac athrawon, sydd wedi'i waethygu gan yr amser a dreuliodd disgyblion yn cael eu haddysgu gartref yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ymwybodol eich bod yn cynnal uwchgynhadledd ymddygiad y mis nesaf, ac mae'n hanfodol fod diffyg parch gan rieni yn cael sylw ynghyd ag ymddygiad rhieni—ymddygiad disgyblion, mae'n ddrwg gennyf. Mae'n rhaid i'r uwchgynhadledd hon adlewyrchu pob safbwynt gan weithwyr addysg proffesiynol, hyd yn oed y rheini a allai wneud pobl yn anghyfforddus. Cefais wahoddiad gan eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn fy rôl flaenorol ar ran yr wrthblaid, i uwchgynhadledd cludiant i'r ysgol a drefnwyd ganddo, a throsglwyddais y gwahoddiad hwnnw i'm cyd-Aelod sydd bellach yn gyfrifol am y portffolio. Felly, a wnewch chi estyn yr un cwrteisi i mi a'm cyd-Aelodau o Blaid Cymru sydd â'r un rôl?
Yn ddiweddar, datganodd NASUWT fod defnydd o ffonau symudol, dylanwadau ar y cyfryngau cymdeithasol a symud tuag at ddysgu unigol ar draul anghenion cyfunol wedi cyfrannu at drais yn yr ysgol. Fe wnaethant hefyd adrodd ar arolwg lle dywed bron i dri o bob pump o athrawon eu bod yn credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith negyddol ar ymddygiad, gan gynyddu casineb at fenywod a rhywiaeth, sy'n peri cryn bryder.
Gadewch imi fod yn glir: nid wyf am roi'r bai yn gyfan gwbl ar y Llywodraeth Lafur hon am y cynnydd mewn trais mewn ysgolion. Rwy'n parchu'r gwaith a wneir gan ein gweithlu addysg, sydd heb os yn wynebu amgylchedd heriol, ond mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn gyfrifol am addysg yng Nghymru ers dros chwarter canrif. O dan oruchwyliaeth Llywodraeth Lafur Cymru, mae'r dirywiad mewn ymddygiad wedi gwaethygu, ac yn y pen draw, cyfrifoldeb Llywodraeth Lafur Cymru yw ailosod y system.
Os byddwn yn parhau i anwybyddu'r materion hyn, fe welwn fwy fyth o athrawon yn gadael y proffesiwn, bydd disgyblion yn parhau i dangyflawni, a dim ond cynyddu a wnaiff trais mewn ysgolion. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n eich annog i wrando ar yr arbenigwyr a chymryd camau i fynd i'r afael â'r epidemig hwn o drais mewn ysgolion. Mae angen inni ailadeiladu ymddiriedaeth rhwng ysgolion a theuluoedd a chynyddu parch at ein hathrawon.
Rwy'n eich annog hefyd i wrando ar leisiau ar lawr gwlad. Gall penaethiaid a chynrychiolwyr undebau llafur gynnig un persbectif, sy'n iawn, ond mae'n rhaid gwrando ar athrawon, athrawon cyflenwi a chynorthwywyr addysgu hefyd, ac mae'n rhaid sicrhau nad ydynt yn cael eu dal yn ôl am ddweud y gwir er mwyn osgoi gwneud i Weinidog deimlo'n anghyfforddus, fel y dywedodd un ohonynt wrthyf. [Torri ar draws.] Rwy'n deall hynny.
Mae’n rhaid inni gydsefyll yn gadarn yn erbyn trais a chamymddwyn er mwyn creu amgylchedd lle gall disgyblion ffynnu a llwyddo, a lle mae eu dysgu'n adlewyrchu gofynion cymdeithas sy'n datblygu'n barhaus. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i wella diogelwch a llesiant myfyrwyr ac athrawon. A wnaiff Llywodraeth Lafur Cymru wneud yr un ymrwymiad?
Hoffwn gloi gyda dyfyniad gan Sharron Daly, athrawes o Ben-y-bont ar Ogwr. Dywedodd fod gan
'rai plant "ymdeimlad o hawl", gyda dosbarthiadau mwy o faint yn arwain at "lawer o darfu lefel is".
'Mae llawer iawn o bobl ifanc yn dod atom... heb ffiniau a disgwyliadau gartref ac yna daw hynny i mewn i'r ystafell ddosbarth... gall hyd yn oed gofyn i blant "eistedd a rhoi'r gorau i siarad" gael ei herio gan rai disgyblion.
'Nid yn unig fod hyn yn peri gofid i mi fel gweithiwr proffesiynol, mae'n peri gofid hefyd i'r plant eraill yn y dosbarth weld yr oedolyn yn yr ystafell, yr oedolyn cyfrifol yn yr ystafell, yn dioddef cam-drin geiriol'.
Mae angen strategaeth gref a gwydn ar Gymru i wella disgyblaeth a rheoli ymddygiad, a mater i chi yw dangos arweinyddiaeth drwy ei chyflwyno. Rwy'n annog y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw, a chymryd y camau angenrheidiol i adfer diogelwch a threfn yn ein hysgolion, cyn i bethau fynd o ddrwg i waeth. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw nawr ar Cefin Campbell i gyflwyno gwelliant 1.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cynnydd mewn ymddygiad heriol gan ddysgwyr yn ysgolion Cymru a'r effaith niweidiol a gaiff hyn ar yr amgylchedd dysgu, gyda data Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos bod nifer y disgyblion ysgol uwchradd a gafodd waharddiadau tymor penodol wedi treblu erbyn 2022-23, o’r hyn oedd yn 2015-16.
2. Yn gresynu bod ymosodiadau corfforol ar athrawon ac ymosodiadau cyllyll yn ysgolion Cymru ar eu lefelau uchaf erioed.
3. Yn cydnabod yr angen i feithrin gwell perthynas rhwng rhieni ac ysgolion er mwyn gwella ymddygiad a phresenoldeb disgyblion.
4. Yn cydnabod effaith sylweddol y cyfryngau cymdeithasol ar ymddygiad myfyrwyr, gan gynnwys y gwaethygiad mewn bwlio, casineb at ferched, a hiliaeth.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithredu strategaeth gadarn i wella disgyblaeth, rheoli ymddygiad ac atal trais mewn ysgolion;
b) datblygu polisïau ar gyfer rheoli dylanwad negyddol cyfryngau cymdeithasol a mynd i'r afael ag ymddygiad aflonyddgar ar-lein;
c) darparu adnoddau digonol i Unedau Cyfeirio Disgyblion gyda staff, cyfleusterau a gwasanaethau cymorth angenrheidiol ar gyfer myfyrwyr bregus, gan eu galluogi i ailintegreiddio i addysg brif ffrwd; a
d) sicrhau bod darpariaeth ym mhob ysgol i reoli ymddygiad aflonyddgar yn effeithiol a sicrhau diogelwch a llesiant staff a myfyrwyr trwy ystyried cyllid ychwanegol ar gyfer recriwtio swyddogion cymorth ymddygiad, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, a gwella mesurau diogelwch mewn ysgolion.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n gwbl briodol ein bod ni y prynhawn yma'n trafod mater sy'n achosi pryder cynyddol yn y sector addysg, sef camymddygiad difrifol gan ddisgyblion a chynnydd mewn trais geiriol a chorfforol yn erbyn athrawon. Rwy'n cyflwyno'r gwelliannau hyn yn enw Heledd Fychan.
Mae'r ddadl heddiw, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, yn gwbl amserol yn dilyn y dyfarniad ddydd Llun diwethaf yn erbyn merch 14 oed sydd wedi cael ei chadw dan glo am gyfnod o 15 mlynedd yn dilyn ymgais i ladd dwy athrawes a chyd-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman. Mae hyd yn oed datgan hyn yn y Siambr yn gwbl ryfeddol, a dweud y gwir, ac yn fater o siom bersonol, gan mai hon, ymhlith rhai eraill yn y Siambr, yw fy hen ysgol i. Mae'n siom hefyd i gymuned glòs, gyfeillgar fel Rhydaman, ac yn arswyd bod y fath ymosodiad cwbl fwriadus wedi digwydd gan ferch â chyllell yn ei llaw. Mae'r digwyddiad, wrth gwrs, yn codi cwestiynau pwysig am ddiogelwch staff a disgyblion yn ein hysgolion ni heddiw. Dyna pam mae angen inni ffeindio datrysiadau pwrpasol fel mater o frys.
Fel mae'r National Education Union wedi nodi yn ddiweddar, mae toriadau i daliadau lles a gwasanaethau cymdeithasol, ynghyd â lefelau cynyddol o dlodi, wedi achosi cymaint o blant a'u teuluoedd i deimlo dadrithiad llwyr. Mae toriadau i swyddogion bugeiliol a mentoriaid dysgu wedi gwaethygu'r sefyllfa. Oherwydd toriadau ariannol dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gefnogaeth i blant gyda phroblemau iechyd meddwl ac anghenion dysgu ychwanegol wedi arwain at deimlad o rwystredigaeth mawr.
Nawr, er fy mod yn cytuno â rhai agweddau o gynnig gwreiddiol y Ceidwadwyr, ni allem ei gefnogi am lawer o resymau gwahanol. Er enghraifft, ni chredaf fod diffyg disgyblaeth eang ar draws ysgolion Cymru o reidrwydd, fel y mae'r cynnig gwreiddiol yn ei awgrymu. Gallwch edrych ar ddata Llywodraeth Cymru ei hun mewn dwy ffordd, sy'n datgelu bod nifer y disgyblion ysgol uwchradd a gafodd waharddiadau tymor penodol wedi treblu o 2015-16 i 2022-23. Nawr, mae hynny naill ai'n awgrymu bod disgyblaeth gref yn cael ei gorfodi, neu fod nifer yr achosion o ymddygiad heriol ar gynnydd.
Yn ogystal, ni chredaf fod yr honiad fod y berthynas rhwng rhieni ac athrawon wedi dirywio wedi'i gefnogi gan dystiolaeth gref. Fodd bynnag, ffactor sylweddol sy'n cyfrannu at ymddygiad aflonyddgar yw effaith cyfryngau cymdeithasol, ac rwy'n teimlo bod y penderfynydd ymddygiadol hwn wedi'i ddiystyru yn y cynnig gwreiddiol.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod natur dreiddiol cyfryngau cymdeithasol wedi gwaethygu problemau fel bwlio, casineb at fenywod a hiliaeth ymhlith dysgwyr. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn cydnabod effaith sylweddol y cyfryngau cymdeithasol ar ymddygiad myfyrwyr ac yn datblygu polisïau clir i ysgolion reoli eu dylanwad negyddol. Mae darparu canllawiau ar fynd i'r afael ag ymddygiad ar-lein sy'n tarfu ar yr amgylchedd dysgu yn hanfodol er mwyn meithrin awyrgylch diogel a pharchus yn ein hysgolion, ac mae hyn yn cynnwys dadl ar ddefnyddio ffonau clyfar mewn ysgolion.
Yng ngoleuni hyn, mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi strategaeth gadarn ar waith ar frys i wella disgyblaeth ac ymddygiad mewn ysgolion, er mwyn atal cam-drin athrawon yn eiriol ac yn gorfforol. Dylai'r strategaeth gynnwys mesurau ar gyfer cyfiawnder adferol a datrys gwrthdaro, gydag ymrwymiad llwyr i bolisïau dim goddefgarwch mewn perthynas ag ymddygiad aflonyddgar a threisgar.
Yn hynny o beth, hoffwn weld y syniad o ysgolion cymunedol yn cael ei ymestyn i sicrhau bod gwasanaethau cofleidiol ar gael ar gampws pob ysgol uwchradd. Dylai arian ychwanegol gael ei roi i ysgolion i sicrhau bod gwell rheolaeth ar ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn digwydd drwy recriwtio swyddogion gwella ymddygiad ac arbenigwyr iechyd meddwl, darparu mwy o gefnogaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, a gwella mesurau diogelwch, gan gynnwys systemau clo electronig.
Mae'r heriau sy'n wynebu ein hysgolion yn gymhleth ac amlweddog, ond mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r heriau hyn fel mater o frys. Mae blwyddyn wedi mynd ers y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman, a does dim datrysiadau wedi cael eu cynnig gan y Llywodraeth ar ddiogelwch mewn ysgolion. Allwn ni ddim, Ysgrifennydd Cabinet, aros nes bod ymosodiad arall tebyg yn digwydd cyn i chi ymateb.
Mae uwchgynhadledd gyda chi yn cael ei chynnal fis nesaf i drafod y pwnc hwn, felly gaf i ofyn i chi, i gloi, ba gynigion penodol byddwch chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, yn eu cyflwyno i'r uwchgynhadledd hon? A pha arweiniad byddwch chi, fel Llywodraeth, yn ei roi i'r proffesiwn ar fater diogelwch mewn ysgolion? Achos y peth olaf rŷn ni eisiau yw siop siarad sy'n addo popeth a delifro dim.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at yr her gynyddol a achosir gan ymddygiad dysgwyr mewn ysgolion, fel yr adlewyrchir yn y data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a chan undebau llafur.
2. Yn nodi bod unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth mewn ysgolion yn gwbl annerbyniol, a bod meddu ar arf eisoes yn sail dros wahardd.
3. Yn credu na all ysgolion ar eu pennau eu hunain ddatrys yr ystod o heriau sy'n wynebu plant, pobl ifanc a theuluoedd ers pandemig Covid-19.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) parhau i nodi camau gweithredu i fynd i'r afael â'r materion hyn trwy ei rhaglen waith barhaus ar ymddygiad, gan gynnwys yr arolwg ymddygiad, yr uwchgynhadledd ymddygiad a'r bwrdd crwn ar drais mewn ysgolion; a
b) parhau i weithio gyda phartneriaid gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol, undebau llafur a rhieni, i wneud cynnydd ar y materion hyn ar frys.
Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol, wedi'i gynnig. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'n holl benaethiaid, ein hathrawon, ein cynorthwywyr addysgu, am eu gwaith anhygoel yn yr hyn sydd bellach, mae'n deg dweud, yn dod yn faes eithaf ansicr, a pheryglus ar adegau, iddynt weithio ynddo? Yn rhy aml, rydym yn clywed am drais mewn ysgolion ac ymddygiad gwael iawn gan ddisgyblion, cam-drin geiriol, cam-drin corfforol, ymosodiadau rhywiol ar ddisgyblion eraill, ymddygiad aflonyddgar. Mae ein hathrawon yn dioddef ac mae ein disgyblion yn dioddef.
Yn anffodus, mae trais gwirioneddol mewn ysgolion wedi dod yn duedd gynyddol, ac mae rhai athrawon bellach yn synnu os nad yw cydweithiwr wedi profi neu os nad ydynt wedi arfer â rhyw fath o drais gan ddisgyblion. Mae nifer y digwyddiadau o'r fath mewn ysgolion wedi mwy na dyblu yn y tair blynedd diwethaf, ac rydym hefyd yn gweld cynnydd mewn llawer iawn o broblemau bwlio, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei bwysleisio yn y man. Derbyniodd awdurdodau lleol 6,446 o adroddiadau am ddigwyddiadau treisgar gan ysgolion yn 2023-24, o gymharu â 4,714 o ddigwyddiadau yn y flwyddyn flaenorol. Canfu arolwg NASUWT fod 79 y cant o'r ymatebwyr wedi dweud bod cam-drin geiriol a chorfforol gan ddisgyblion wedi effeithio ar eu morâl. Ac a yw hynny'n syndod os ydych chi'n meddwl bob dydd pan ewch chi i'r gwaith, 'Beth sy'n mynd i ddigwydd heddiw?' Mae 65 y cant yn nodi lefelau straen cynyddol; dywedodd 55 y cant fod y cam-drin wedi peri iddynt ystyried gadael y proffesiwn. Nid oes gennym ddigon o athrawon yng Nghymru, ac yn sicr, ni allwn sefyll o'r neilltu, neu ni all Llywodraeth Cymru sefyll o'r neilltu a chaniatáu sefyllfa lle maent yn ystyried gadael y proffesiwn gwych hwn. Mae llawer yn mynd i mewn i hyn i ysbrydoli a meithrin disgyblion fel y gallant gyflawni eu potensial llawn eu hunain, ac mae'n gwbl anghywir eu bod yn wynebu heriau o'r fath.
Felly, rydym wedi gweld nifer yr athrawon sy'n gadael y proffesiwn yn cynyddu, ac mae llawer o ffactorau'n cyfrannu at y duedd hon. Mae prif arolygydd Ei Fawrhydi yn awgrymu bod heriau canfyddedig gydag ymddygiad, a baich cynyddol ar ysgolion i ysgwyddo cyfrifoldebau a oedd gynt yn cael eu hysgwyddo gan wasanaethau fel gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, yn rhai o'r prif resymau pam mae athrawon yn gadael. Ym mis Mehefin 2024, datgelodd adroddiad NASUWT fod bron i 10 y cant o athrawon yng Nghymru wedi gweld disgyblion yn dod ag arfau i'r ysgol yn y 12 mis blaenorol. Mae'r ystadegyn hwn yn peri mwy o bryder fyth o'i ystyried ochr yn ochr â chanllawiau 2019, lle roedd meddu ar arf yn rheswm adroddadwy dros wahardd. Fodd bynnag, cafodd y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2024 wared ar feddu ar arf fel rheswm adroddadwy, a hoffwn esboniad da pam eich bod wedi gwneud hynny.
Mae hyn oll yn digwydd mewn cyfnod pan fo nifer o ddigwyddiadau treisgar wedi bod yn ysgolion Cymru, fel yn Ysgol Dyffryn Aman, sir Gaerfyrddin, lle anafwyd dau athro a disgybl mewn achos o drywanu ym mis Ebrill 2024. Cafwyd y disgybl yn euog yn ddiweddarach o dri chyhuddiad o ymgais i lofruddio.
Mae'r mater hwn yn effeithio ar ysgolion ledled Cymru. Yn 2023, cafwyd 1,574 trosedd o'r fath: 316 o droseddau yng ngogledd Cymru; 719 yn ne Cymru; 376 yng Ngwent; 163 yn Nyfed Powys. Mae'r ffigurau hyn yn dangos—. Dyna dystiolaeth, dyna ddata, sy'n dangos bod problem enfawr yma.
Mae sefydlu disgyblaeth a strwythur mewn ysgolion nid yn unig yn hanfodol ar gyfer diogelwch disgyblion ac athrawon, ond mae angen sylfaen arnom sy'n meithrin dealltwriaeth yn ein hysgolion fod ymddygiad priodol yn hanfodol. Gallai methu dysgu sgiliau cymdeithasol sylfaenol yn ifanc arwain at anawsterau wrth addasu i weithleoedd fel swyddfeydd, a fyddai'n cael effaith negyddol nid yn unig ar unigolion ond hefyd ar economi Cymru yn y dyfodol.
Nawr, rwy'n gweld, pan fydd achosion o fwlio yn cael eu dwyn i fy sylw—neu pan fyddaf yn clywed am gyhuddiadau o ymosodiadau rhywiol yn erbyn disgybl—y gall fod yn anodd iawn i'r rhieni sy'n ymgysylltu â'r ysgol. Nid ydynt yn gwybod a ddylent fynd at y pennaeth. Nid ydynt erioed wedi meddwl a ddylent fynd at gadeirydd y llywodraethwyr, neu a ddylent fynd at yr awdurdod addysg, ac rwy'n credu bod angen canllawiau cliriach.
Rwyf wedi adnabod llywodraethwyr dros y blynyddoedd, llywodraethwyr ysgolion—. Roeddwn yn un ohonynt oddeutu 20 mlynedd yn ôl, ac roeddem yn dysgu wrth y llyw i raddau. Rydym wedi dod yn bell ers hynny, gyda hyfforddiant ac ati ar gyfer llywodraethwyr ysgolion. Ond rwy'n credu'n gryf bellach fod angen i Lywodraeth Cymru a chithau, Weinidog, wrando ar yr hyn y mae Natasha wedi'i ddweud. Rwy'n siomedig na fydd Plaid Cymru yn cefnogi ein cynnig a chithau wedi cytuno yn eich cyfraniad, Cefin, â llawer o'r hyn roeddem yn ei ddweud. Felly, pam na wnewch chi gefnogi'r cynnig? Mae'n rhoi mwy o ddannedd i'n dadl.
Ond beth bynnag, felly mae hi.
Ie, ac mae'r amser ar ben hefyd, Janet.
Iawn. Ond rwy'n meddwl o ddifrif, os bydd pob un ohonom yn gweithio gyda'n gilydd ar hyn—. Rwyf am i'n hysgolion fod yn lleoedd diogel i blant fynd a dysgu, ac rwyf am i'n hysgolion fod yn lleoedd y mae athrawon yn edrych ymlaen at fynd iddynt a chyflawni eu galwedigaeth a'u rôl fel athrawon ac addysgwyr hyd eithaf eu gallu ac mewn amgylchedd diogel. Diolch yn fawr.
Mae hwn yn fater pwysig i'w drafod. Mae Unsain wedi tynnu sylw at broblem gynyddol trais tuag at staff ysgolion ac wedi gorfod rhoi cyngor i'w aelodau. Mae Estyn hefyd wedi adrodd bod mwy o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd yn ei chael hi'n anodd rheoli eu hemosiynau, ac mewn ysgolion uwchradd, mae mwy o ddisgyblion yn ei chael hi'n anodd gyda materion fel iechyd meddwl, sgiliau cymdeithasol ac ymgysylltu.
Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio nad yw problemau ymddygiad plant a phobl ifanc yn unigryw i Gymru. Gwelir tystiolaeth debyg ledled y DU, a hyd yn oed yn rhyngwladol, yn dilyn pandemig COVID. Er bod ymddygiad wedi bod yn heriol cyn hynny, mae digwyddiadau treisgar wedi mwy na dyblu yn y tair blynedd diwethaf. Wedi dweud hynny, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y duedd hon sy'n peri pryder, ac wedi sefydlu rhaglen waith i gydweithio â phartneriaid ar y camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael a thrais mewn ysgolion. Mae angen cefnogaeth llywodraeth leol, athrawon a staff ysgolion, a rhieni hefyd, ar y camau gweithredu os ydynt yn mynd i weithio. Dyna pam ei bod hi'n bwysig, fel y clywsom eisoes, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi trefnu cyfarfod bord gron ar drais mewn ysgolion gyda'r heddlu, ac uwchgynhadledd ymddygiad, gyda'r holl bartneriaid allweddol yn bresennol. Rwyf hefyd yn deall bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi comisiynu gwaith ymchwil pwysig gan Brifysgol Bangor i sicrhau bod gennym y dystiolaeth fwyaf cadarn a chyfredol ar ymddygiad heriol ac aflonyddgar mewn ysgolion a'r strategaethau mwyaf effeithiol ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem.
Fe wyddom o'r ymchwiliad i'r ddadl ar y ddeiseb ar wahardd ffonau symudol mewn ysgolion heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, fod penaethiaid am i benderfyniadau o'r fath gael eu gadael i ysgolion unigol. Mae llawer eisoes yn ysgolion di-ffonau symudol, ond roedd llawer o'r athrawon eu hunain yn ffafrio gwaharddiad, gan fod ffonau symudol weithiau'n cael eu defnyddio i recordio athrawon. Ac rwy'n cytuno bod y cyfryngau cymdeithasol wedi cael dylanwad negyddol ar ein pobl ifanc, ac oedolion hefyd.
Rwy'n credu bod y buddsoddiad mewn ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a elwir bellach yn gymunedau dysgu cynaliadwy, wedi helpu i greu amgylchedd dysgu mwy cadarnhaol, ac rydym wedi gweld rhai o fanteision hynny. Rhaid inni barhau i roi lles staff a disgyblion yn gyntaf mewn unrhyw strategaethau a roddir ar waith i ymdrin ag ymddygiad gwael. Yn fwyaf arbennig, mae ymgynghori ag undebau athrawon yn gwbl hanfodol. Diolch.
Rwy'n credu bod pob un ohonom yn cytuno bod y dirywiad mewn safonau ymddygiad mewn ysgolion yn peri pryder ac na ddylid caniatáu i hyn barhau. Wedi dweud hynny, gwn nad yw'r ateb yn hawdd. Mae ymddygiad gwael yn cael effaith negyddol ar gymuned yr ysgol gyfan, gan arwain at duedd ar i lawr yn safonau ac enw da'r ysgol a chanlyniadau disgyblion, heb sôn am oblygiadau lles yr unigolion yr effeithir arnynt. Yn rhy aml nawr, rydym yn clywed, fel y clywsom eisoes, am athrawon yn cael eu bygwth neu hyd yn oed yn dioddef ymosodiadau corfforol. Yn ddiweddar, arweiniodd y broblem gynyddol hon at streic athrawon mewn ysgol yn sir Fynwy—sefyllfa na allem fod wedi dychmygu y byddai byth wedi digwydd. Nid wyf erioed wedi gweld hynny'n digwydd yn unman o'r blaen.
Ni ddylai staff ysgolion byth deimlo dan fygythiad gan ddisgyblion na rhieni, ond yn anffodus, rydym yn clywed yn rhy aml eu bod, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn cytuno y dylai disgyblaeth ddechrau yn y cartref. Ac mae honno'n broblem enfawr ynddi'i hun, sy'n hollbwysig i'r materion yn y cynnig hwn, ond sydd y tu allan i gwmpas y ddadl heddiw. Fodd bynnag, mae'n rhaid mynd i'r afael â'r problemau mewn ysgolion. Rhaid i'r Llywodraeth, ynghyd ag awdurdodau, ddatblygu strategaethau cadarn i fynd i'r afael â'r dirywiad cymdeithasol sy'n ymddangos fel pe baent yn treiddio drwy rai o'n hysgolion—rhywbeth sydd fel pe bai wedi gwaethygu ers y pandemig. Lywydd, rydym wedi gweld cynnydd gofidus yn nifer y digwyddiadau treisgar yr adroddir amdanynt mewn ysgolion, gyda chynnydd, fel y clywsom, o bron i 30 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac roeddwn innau hefyd, fel Janet Finch-Saunders, yn bryderus iawn wrth weld bod y canllawiau bellach yn newid y meini prawf ar gyfer gwahardd. Ac ni allwn gredu'r peth, ac rwy'n gobeithio fy mod wedi ei gamddeall ac y bydd hynny'n cael ei egluro yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.
Dywedir wrthym fod dros hanner yr athrawon a holwyd wedi dweud bod ymladd yn broblem ddyddiol ac wythnosol yn eu hysgolion—unwaith eto, symptom o ddisgyblaeth ac agweddau gwael. Peidiwch â'm camddeall, roedd ymladd bob amser yn digwydd mewn ysgolion dros nifer o flynyddoedd, ond ymddengys ei fod wedi cyrraedd lefel wahanol bellach. Gellid dadlau bod tanariannu ein system addysg gan Lafur wedi golygu bod ysgolion a chynghorau'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r diffyg adnoddau angenrheidiol i roi'r ymyriadau ar waith a allai ddechrau newid cwrs y frwydr yn ein lleoliadau ysgol. Fel y clywsom, bu cynnydd o 6 y cant mewn bwlio rhwng 2021 a 2023, ffigur sy'n peri pryder enfawr. Ac nid yw bwlio heddiw yr un fath ag yr arferai fod; gall fod yn barhaol bellach drwy'r cyfryngau cymdeithasol, 24/7, heb unrhyw ryddhad i'r dioddefwr—canlyniad arall i newid cymdeithasol.
Yn anffodus, nid yw ymddygiad gwael wedi'i gyfyngu i dir yr ysgol yn unig. Gall bwlio ac ymddygiad gwael ddigwydd yn aml ar drafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol, ac yn sicr ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar deithiau hirach. Er fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i fynd i'r afael â pheth o'r mater hwn, y ffaith syml amdani yw nad oes digon wedi'i wneud eto. Rydym wedi gweld gormod o adroddiadau yn y newyddion am ymddygiad gwael y tu allan i ysgolion, gydag un cwmni bysiau yng Nghorwen yn newid ei lwybr i osgoi safleoedd bws penodol gan fod pethau'n cael eu taflu at y bws. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi nodi cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar linellau craidd y Cymoedd, gyda bron i ddwy ran o dair o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y rheilffyrdd yn ymwneud ag unigolion o dan 17 oed.
Mae'n amlwg fod angen strategaethau cadarn arnom i wella disgyblaeth a rheoli ymddygiad mewn ysgolion, gan sicrhau bod safonau ymddygiad yn dal i gael eu gorfodi y tu allan i gatiau'r ysgol. Rwy'n credu y bydd hyn yn galw am ddull amlasiantaethol, gydag ymagwedd dim goddefgarwch, a chyda sancsiynau priodol i newid y tueddiadau a welwn heddiw. Byddai'n naïf awgrymu bod ateb hawdd i'r problemau ymddygiad rydym wedi'u trafod, ond mae disgyblaeth dda, wedi'i hybu gan arweinyddiaeth gref yn yr ysgol a'i hategu gan gefnogaeth y gymuned yn hanfodol yn fy marn i. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r sefyllfa er mwyn cyflawni hyn oll, gan na all pethau barhau fel y maent. Felly, rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig. Diolch.
Ddydd Llun, gwelsom yr euogfarn gyntaf erioed am ymgais i lofruddio mewn ysgol yng Nghymru. Mae'r ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman wedi achosi daeargryn ym mhob ystafell staff a phob bwrdd cegin yn y wlad. Dyma'r fellten sy'n dangos y storm sydd eisoes uwch ein pennau. Mae trais, a fu unwaith yn rhywbeth eithriadol, yn agosáu at ddod yn arferol, yn normal newydd hyll. Ac fel y clywsom, mae ystadegau'r Llywodraeth bellach yn nodi 65 o waharddiadau tymor penodol am bob 1,000 o ddisgyblion, mwy na dwbl y ffigur cyn y pandemig.
Nid oedd y drasiedi yn Rhydaman yn anrhagweladwy. Ni waeddodd unrhyw un yn uwch na'r dirprwy bennaeth Ceri Myers: rhwng mis Ionawr a bore'r ymosodiad, anfonodd e-bost at Lywodraeth Cymru saith gwaith, yn erfyn am arweiniad ar ymddygiad heriol. Mewn cyfweliad ag ITV, dywedodd ei fod wedi cael ei anwybyddu. Roedd y ferch a drywanodd Fiona Elias, Liz Hopkin a disgybl arall eisoes wedi dod â chyllell i'r ysgol y flwyddyn flaenorol. Roedd yr arwyddion yno. Ni chawsant eu gweld gan y system, cawsant eu hanwybyddu gan y system.
Nawr, mae blwyddyn wedi mynd heibio, ond mae'n rhaid imi ddweud na fu unrhyw frys i weithredu, yn anffodus. Rwyf wedi eistedd gyda Liz Hopkin fwy nag unwaith. Hyd y gwn i, nid oes unrhyw un, o Lywodraeth Cymru, Estyn na'r grŵp adolygu rhanbarthol wedi gofyn iddi am ei phrofiad eto. Nid yw adolygiad thematig Estyn ar ymddygiad mewn ysgolion wedi'i gyhoeddi eto, na chylch gorchwyl yr adolygiad amlasiantaethol rhanbarthol, ac eto tryloywder, nid tawelwch, sy'n gwella clwyfau fel y rhain.
Mae gwersi lleol yn amlwg yn bwysig, ond nid ydynt yn ddigonol ynddynt eu hunain. Gall adolygiad lleol ddisgrifio sut y digwyddodd un drasiedi, ond os ydym am ddysgu pam y caniatawyd iddi ddigwydd o gwbl, pa un a allai ddigwydd yfory a beth sy'n rhaid ei newid i'w hatal, mae angen ymchwiliad wedi'i gomisiynu'n genedlaethol arnom, un cyhoeddus ac annibynnol sy'n gallu gorfodi pobl i roi tystiolaeth yn union fel y gwnaeth y llysoedd. Ac os yw Gweinidogion yn gyndyn o gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn, comisiynwch adolygiad cenedlaethol annibynnol fan lleiaf, o dan arweiniad ffigur y mae ei uniondeb yn ennyn hyder, yn union fel y mae Donna Ockenden wedi'i wneud yn ein gwasanaeth iechyd ar fwy nag un achlysur. A chomisiynwch adolygiad o'r fath nawr, tra bo'r cof yn ffres.
Mae un wers o Rydaman yn glir iawn yn fy marn i: os bydd unrhyw un yn dod â chyllell i'r ysgol, mae'n rhaid i'r system weithredu. Dylai gwahardd fod yn norm yn y rhan fwyaf o achosion, gydag atgyfeiriad gorfodol at yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol a CAMHS, gydag ymateb llai llym ar gyfer nifer fach o eithriadau yn unig, lle mae tystiolaeth, er enghraifft, eu bod yn ymwneud â hunan-niweidio neu orfodaeth a brofwyd. Mae'n rhaid i bob disgybl, rhiant ac athro fod â hyder mewn rheol sylfaenol: dewch â chyllell i'r ysgol, a bydd y system yn ymateb, i ddiogelu pawb, ym mhobman, bob tro.
Bydd rheolau'n methu, fodd bynnag, os caiff y rhwyd ddiogelwch oddi tanynt ei rhwygo. Mae unedau cyfeirio disgyblion yn llawn, mae CAMHS o dan bwysau gydag arosiadau hir, arosiadau poenus o hir mewn rhai achosion. Hyd y gwn i, dim ond y mymryn lleiaf o hyfforddiant y mae athrawon dan hyfforddiant yn ei gael ar ddad-ddwysáu ac ymyrraeth sy'n ystyriol o drawma, ac ati. Gall dulliau adferol drawsnewid bywydau, ond heb arbenigwyr ymddygiadol, cefnogaeth therapiwtig a hyfforddiant ac adnoddau priodol, rydym yn gofyn i ysgolion wneud yr amhosibl ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, mae un newid y credaf y gallai'r Llywodraeth ei wneud i adfer heddwch yn gymharol gyflym, ac mae eisoes wedi'i grybwyll: cael gwared ar ffonau clyfar o'r diwrnod ysgol. Mae cwdyn cloadwy am oddeutu £12 yn prynu chwe awr o amser dysgu heb ddim i darfu arno i bob plentyn a choridorau tawelach. Nid yw'n ateb i bob problem, ond mae'n gam cyntaf fforddiadwy a chlir.
Gyda'r uwchgynhadledd ymddygiad ar y gorwel, gofynnais i'r Llywodraeth am bedwar cam gweithredu: cyhoeddi adolygiad statudol neu annibynnol a rhoi'r offer iddo i ddatgelu pob rhybudd a fethwyd; rhoi'r protocol cyllyll hwnnw ar waith, gwaharddiad diofyn ac atgyfeiriad amlasiantaethol gorfodol, gydag eithriadau cyfyngedig yn unig; ariannu'r rhwyd ddiogelwch, cynyddu nifer y lleoedd mewn unedau atgyfeirio disgyblion, lleihau arosiadau CAMHS a hyfforddi timau ymddygiad ym mhob ysgol; cefnogi diwrnod ysgol di-ffôn, gan ddefnyddio'r dystiolaeth sydd ar gael tra bo'r diwygiadau dyfnach yn ymwreiddio. Pan ofynnais i Liz Hopkin beth oedd hi ei eisiau gan y Senedd, ni ofynnodd am gydymdeimlad, gofynnodd am ddewrder: ein dewrder i daflu goleuni cyhoeddus ar bob methiant, ac i weithredu ar yr hyn rydym yn ei ddarganfod.
Dim mwy o esgusodion.
Dim mwy o esgusodion. Nawr yw'r amser i weithredu.
Mae ymddygiad gwael a thrais wedi dod yn rhan o fywyd bob dydd mewn ysgolion ledled Cymru, ac mae pethau'n gwaethygu. Mae 'normal newydd hyll', fel y dywedodd Adam Price, yn crynhoi'r sefyllfa. Credaf fod hynny'n beth ofnadwy i geisio'i ddirnad, ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn. Nid oes gan athrawon sy'n gwneud eu gorau bob dydd yr amddiffyniad cywir ar waith ar eu cyfer, i ddiogelu eu gyrfaoedd, i'w galluogi i adrodd am ddigwyddiadau a chael y cymorth sydd ei angen arnynt. Yn yr un modd, mae diffyg cefnogaeth i ddisgyblion.
Mae ffigurau diweddar a gyhoeddwyd gan ein hundebau athrawon yn rhoi darlun sy'n peri cryn bryder. Fel y mae Janet Finch-Saunders eisoes wedi'i ddweud, yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, cafodd dros 6,400 o ddigwyddiadau treisgar eu hadrodd mewn ysgolion yng Nghymru. Mae hwnnw'n gynnydd syfrdanol o'r 4,700 yn y flwyddyn flaenorol. Gadewch inni fod yn gwbl glir: mae'r ystadegau hyn yn dangos realiti creulon addysgu yng Nghymru bellach. Caiff athrawon eu dyrnu, eu cicio, poerir arnynt, a chânt eu bygwth gan fyfyrwyr y maent yn ceisio eu helpu. Mae un o bob tri athro bellach wedi dioddef cam-drin corfforol gan ddisgyblion, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol.
Yng Nghasnewydd, yn fy rhanbarth i, mae'r niferoedd yn syfrdanol. Mewn dim ond pedair blynedd, mae digwyddiadau treisgar wedi codi o 193 i 2,300. Mae hyn yn dangos nad anomaledd yw'r math hwn o ymddygiad, neu unigolion hormonaidd yn eu harddegau. Mae hwn yn argyfwng. Mae cyfyngiadau symud wedi'u cyflwyno mewn tair ysgol yn fy rhanbarth i eleni oherwydd trais.
Mae'r ffigurau a amlinellodd fy nghyd-Aelod Natasha Asghar yn gynharach ynglŷn â gwahardd unigolion ag ADHD yn peri cryn bryder. Mae angen gofyn cwestiynau, ac mae angen inni edrych yn ôl a chyfeirio at yr hyn sy'n digwydd gyda'r Ddeddf ADY newydd a'r dehongliad ohoni ar draws ein hawdurdodau lleol. Mae un o ganlyniadau anfwriadol y Ddeddf ADY newydd, sydd ei hangen yn fawr, wedi arwain at blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol llai difrifol yn ein hysgolion yn cwympo drwy'r bylchau. Mae hyn yn cael effaith ar ymddygiad oherwydd y rhwystredigaethau y mae'r plant hynny'n eu teimlo yn yr ystafell ddosbarth am nad ydynt yn cael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, ac mae hyn yn amlwg yn cael effaith ar ymddygiad.
Ar hyn o bryd, nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfiawnder â phlant Cymru. Rydych chi'n gwneud tro gwael â phlant a phobl ifanc. Beth rydych chi wedi'i wneud am y peth? Beth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud am y peth? Ychydig iawn. Rydych chi bellach yn sôn am uwchgynhadledd ymddygiad. O'r diwedd. Roedd y cyn-Weinidog yn awyddus imi gyflwyno syniadau ar lawr y Senedd, i Lywodraeth Cymru, pan oeddwn yn Weinidog addysg yr wrthblaid oddeutu dwy flynedd yn ôl, ac fe wneuthum hynny. Cynigiais lasbrint ar gyfer yr hyn y dylem ei wneud ynglŷn â hyn: cyhoeddi canllawiau newydd i athrawon, staff ac arweinwyr ysgolion; diwygio gweithdrefnau gwahardd, fel bod disgyblion sy'n cael eu gwahardd yn mynd ymlaen i dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt; sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer ymyriadau ystyrlon i gefnogi dioddefwyr a chyflawnwyr trais; creu llinell gymorth genedlaethol i gefnogi athrawon a staff sy'n ofni rhoi gwybod am drais a tharfu; ac yn olaf, cynnal uwchgynhadledd, fel rydych chi bellach yn ei wneud, yn ôl pob golwg, flynyddoedd yn ddiweddarach. Rhoddais y glasbrint hwnnw i chi ar sut i ddechrau datrys y problemau hyn. Roeddwn yn hoffi'r hyn a ddywedodd Adam ynglŷn â safbwynt Plaid Cymru ar hyn, a'r hyn sydd angen ei wneud, ac yn bersonol, byddwn yn cefnogi hynny, yn ogystal â'r hyn rydym ni wedi'i ddweud.
Dim ond crib y rhewfryn yw'r miloedd o ddigwyddiadau y gwyddom amdanynt eisoes, ac mae'r darlun gwirioneddol yn llawer gwaeth yn ôl pob tebyg, gan fod athrawon yn ofni rhoi gwybod am achosion gan y byddai eu hysgolion yn cael enw drwg. Nid yw hynny'n iawn, ac nid yw honno'n sefyllfa dda i athrawon deimlo eu bod ynddi.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi nodi cynllun unwaith eto. Mae gennym un, ac yn amlwg, nid oes gan Lafur un. Yn hytrach na gweithredu, rydym wedi cael tawelwch. Yn hytrach nag arweinyddiaeth, rydym wedi cael oedi. Mae canlyniadau i'r methiannau hyn, ac yn anffodus, dyna rydym yn ei weld nawr ledled Cymru. Ni all plant ddysgu mewn ystafelloedd dosbarth anhrefnus, ac ni all athrawon addysgu pan fyddant yn ofnus. Ar hyn o bryd, nid yw'r Llywodraeth yn eu diogelu.
Mae angen i Lafur fynd i'r afael â'r sefyllfa, camu i'r adwy, cefnogi ein hathrawon, cefnogi ein disgyblion a gweithredu'r newidiadau real sydd eu hangen arnom yn daer. Mae Cymru'n haeddu ystafelloedd dosbarth diogel, parchus ac uchelgeisiol, a nawr yw'r amser i weithredu. Ni fydd safonau a graddau'n codi ac ni chaiff yr argyfwng athrawon a recriwtio sy'n ein hwynebu heddiw mo'i ddatrys heb i inni fynd i'r afael â hyn. Rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg nawr sy'n cyfrannu i'r ddadl. Lynne Neagle.

Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau heddiw drwy dalu teyrnged i staff a phlant Ysgol Dyffryn Aman? Roedd y digwyddiad y llynedd, a syfrdanodd bob un ohonom, hyd yn oed yn fwy syfrdanol i bawb yn yr ysgol ac yn y gymuned leol. Rwy'n cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt, a chyda'r achos llys a'r dedfrydu bellach wedi bod, rwy'n gobeithio y gall yr ysgol, y staff a'r dysgwyr symud ymlaen. Hoffwn ddiolch hefyd i'm cyd-Aelodau am eu cyfraniadau heddiw.
Rwyf am i bob ysgol yng Nghymru fod yn lleoedd diogel, lle mae staff a dysgwyr yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi a'u trin â pharch. Nid oes unrhyw un yn mynd i'r gwaith i gael eu cam-drin, a gwn fod hwn yn fater o bryder sylweddol i'n gweithlu addysg. Maent wedi bod yn dweud wrthyf am y cynnydd yn y lefelau cyffredinol o ymddygiad gwael a'r cynnydd sy'n peri pryder mewn cam-drin geiriol a chorfforol a welant. Ond credaf ei bod hefyd yn bwysig nodi nad yw plant yn mynd i'r ysgol i gael eu cam-drin ychwaith; maent yn mynd yno i ddysgu. Ac mae'n ffaith drist fod ymddygiad gwael yn ein hystafelloedd dosbarth yn tarfu ar ddysgu pob plentyn.
Mae hefyd yn amlwg fod plant hefyd yn profi'r cam-drin corfforol a geiriol sy'n aml yn cael ei dargedu at athrawon. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â hyn, ynglŷn â'r effaith y mae ymddygiad gwael yn ei chael ar allu ein plant i ddysgu a llwyddo, ynglŷn â'r effaith y mae ymddygiad gwael yn ei chael ar ein gweithlu addysg a'u gallu i addysgu a chefnogi dysgwyr, ac ynglŷn â'r effaith y mae'n ei chael ar enw da'r proffesiwn a'n gallu i recriwtio a chadw'r athrawon a'r staff cymorth rhagorol y mae ein plant yn eu haeddu. Dyna pam rwyf yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Ar 8 Mai, byddaf yn cadeirio cyfarfod bord gron ar drais a diogelwch mewn ysgolion a cholegau. Bydd y pedwar heddlu, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr, Estyn, Medr, Comisiynydd Plant Cymru, awdurdodau lleol a'r undebau addysg yn bresennol yn y cyfarfod hwn. Ond yn bwysicaf oll, bydd ysgolion hefyd yn bresennol, gyda nifer o benaethiaid yn ymuno â ni i drafod eu profiadau, profiadau eu cydweithwyr, a'r camau gweithredu y credant fod eu hangen i wneud ein hysgolion yn ddiogel.
Ar yr un diwrnod, bydd Estyn yn cyhoeddi eu hadolygiad thematig i ymddygiad mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Bydd hyn yn dilyn cyhoeddi eu hadolygiad thematig i ymddygiad mewn addysg bellach yfory. Fel Llywodraeth, gofynnwyd am y ddau adolygiad er mwyn inni allu deall yn well y problemau y mae ein hysgolion yn eu hwynebu. Dônt ochr yn ochr â gwaith ymchwil rydym wedi'i gomisiynu gan Brifysgol Bangor i ymddygiad yn ein hystafelloedd dosbarth, y gobeithiaf y bydd yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen ym mis Mai.
Bydd yr adroddiadau hyn a'r ymchwil sy'n sail iddynt, ynghyd â phrofiadau uniongyrchol i'w trafod yn y cyfarfod bord gron, yn ein helpu i benderfynu pa gefnogaeth sydd ei hangen ar ysgolion i newid cwrs y frwydr yn erbyn cam-drin geiriol a chorfforol. Byddant yn sail i'r trafodaethau yn ein huwchgynhadledd genedlaethol ar ymddygiad ar 22 Mai, lle byddwn yn clywed unwaith eto gan ysgolion a phenaethiaid am y materion ehangach y maent yn eu hwynebu y tu hwnt i drais.
Gall peth o'r hyn a ystyriwn yn ymddygiad aflonyddgar lefel isel hefyd effeithio ar staff a dysgwyr ac amharu ar ddysgu. Rwyf am i'r uwchgynhadledd edrych ar y mater yn ei gyfanrwydd, gan adeiladu ar y trafodaethau ynghylch diogelwch yn ein hysgolion, ond rwyf hefyd am iddi edrych ar yr heriau bob dydd y mae ein hysgolion a'n colegau yn eu hwynebu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Rwy'n gwerthfawrogi'r manylion a roesoch i ni ynglŷn â'r uwchgynhadledd, ond credaf mai'r prif gynhwysyn a oedd ar goll o'r rhestr a'r enwau a roesoch oedd rhieni. Efallai fy mod wedi camddeall, ond ni chlywais unrhyw gynrychiolaeth i rieni yn yr uwchgynhadledd. Sut rydych chi'n gobeithio cyfleu llais rhieni o amgylch y bwrdd? Oherwydd un peth yw cynnwys y sefydliadau, sydd â chyfrifoldebau swyddogol, ond ym maes disgyblaeth, mae angen inni gynnwys rhieni hefyd.
Diolch am eich ymyriad, ac rwy'n cytuno â chi fod ymgysylltiad rhieni yn hanfodol. Bydd gennyf fwy i'w ddweud am hynny yn fy araith, ond mae'n gwbl allweddol ein bod yn cynnwys rhieni yn y gwaith hwn. Ni fydd yr uwchgynhadledd ei hun yn clywed gan rieni gan nad wyf yn credu mai dyna'r cyfrwng priodol, ond byddwn yn gweithio gyda rhieni a chyda phlant a phobl ifanc hefyd.
Hoffwn ddweud yn glir na ddylem golli golwg ar y ffaith nad yw cam-drin o'r fath fel arfer yn dod o unman. Y tu ôl i bob ffrwydrad, pob digwyddiad, pob ymosodiad, fe fydd yna sbardun. Mae ein plant yn wynebu pwysau sy'n cynyddu'n barhaus. Gwyddom fod cyfraddau iechyd meddwl gwael a gorbryder yn uwch nag erioed o'r blaen ymhlith ein plant a'n pobl ifanc. Maent yn parhau i deimlo effeithiau'r pandemig, pan darfwyd ar drefn eu bywydau bob dydd a'u strwythurau cymorth. Mae'r argyfwng costau byw wedi taro teuluoedd yn galed, ac mae plant yn gweld ac yn deall yr effeithiau hynny ar eu rhieni. Rydym hefyd yn gweld anghenion cymorth mwy cymhleth ymhlith ein plant. Nid yw hyn bob amser yn ymwneud ag ADY. Rydym yn gweld mwy o blant â phroblemau lleferydd, iaith a chyfathrebu, neu sydd wedi methu cerrig milltir datblygiadol. Nid yw pob plentyn yn ei chael hi'n hawdd rheoleiddio eu hymddygiad, ac mae angen mwy o gefnogaeth ar rai, gydag ysgolion a theuluoedd yn cydweithio. Rwy'n cydnabod yr heriau hyn.
Rydym yn buddsoddi dros £13 miliwn y flwyddyn yn ein dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, gyda dros £2 filiwn yn mynd yn uniongyrchol tuag at gwnsela mewn ysgolion. Erbyn diwedd mis Mawrth, roedd 84 y cant o'n hysgolion, gan gynnwys 98 y cant o ysgolion uwchradd, yn mynd ati'n weithredol i gynllunio camau gweithredu i ddiwallu anghenion lles ein plant yn unol â'n dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol. Mae hyn yn rhan hanfodol o'r gwaith o gefnogi ein dysgwyr a'u helpu i wella eu hymddygiad. Mae ysgol sy'n cefnogi llesiant yn un groesawgar ac yn un sydd o fudd i staff a phlant.
Hoffwn ddweud yn glir ein bod yn cefnogi llesiant staff hefyd, gan weithio gyda Education Support i ddarparu gwasanaethau cwnsela a gwasanaethau eraill sydd eu hangen arnynt. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn parhau i gefnogi ysgolion i weithio gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach i ddeall anghenion eu dysgwyr a'u diwallu. Rydym wedi buddsoddi £1 filiwn ychwanegol i ymgorffori dulliau ysgolion bro eleni, ac rydym newydd gyhoeddi rhan olaf ein canllawiau ar weithio amlasiantaethol.
Rwyf am i bob ysgol fod yn ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gan weithio gyda rhieni, teuluoedd a'r gymuned. Rwy'n ystyried rôl swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn hanfodol yn hyn o beth. Mae swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn gweithio gyda theuluoedd, plant ac ysgolion i sicrhau bod y cymorth cywir ar waith. Rydym yn buddsoddi bron i £10 miliwn eleni, £3 miliwn yn fwy nag yn 2024-25, i gefnogi gwaith swyddogion ymgysylltu â theuluoedd ledled Cymru.
Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r pryderon ynghylch effaith ffonau symudol a'r cyfryngau cymdeithasol. Byddaf yn trafod y rhain gyda fy swyddogion cyfatebol ledled y DU, gan eu bod yn faterion a rannwn. Byddaf yn dweud mwy yn fy ymateb i adroddiad diweddar y Pwyllgor Deisebau. Nid y buddsoddiad hwn a'r uwchgynhadledd yw'r pen draw. Maent yn ddechrau ar raglen waith hirach.
Er fy mod yn cytuno â llawer o'r pwyntiau yn y gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, nid wyf wedi gallu eu derbyn ar yr achlysur hwn. Y rheswm am hynny yw nad wyf am achub y blaen ar ganlyniadau'r uwchgynhadledd ymddygiad, ac rwy'n awyddus i barhau i wrando ar staff ysgolion, plant a'u rhieni ynglŷn â'r hyn sydd ei angen arnynt. Os caf ddweud, mewn ymateb i—[Torri ar draws.] Ewch amdani.
A wnewch chi dderbyn ymyriad cyflym? Rydych chi wedi sôn am yr uwchgynhadledd sawl gwaith, ac rwy'n croesawu'r uwchgynhadledd. Yn fy nghyfraniad, gofynnais pa gynigion rydych chi'n eu cyflwyno fel Ysgrifennydd y Cabinet, pa ganllawiau a chyfarwyddyd rydych chi fel Llywodraeth Cymru yn eu darparu i'r sector ar ymddygiad mewn ysgolion. Os gallaf gael ymateb penodol i hynny.
Rwyf wedi nodi rhywfaint o'r gwaith a wnawn. Mae gennym waith ymchwil Prifysgol Bangor ar ymddygiad, a fydd yn cefnogi'r uwchgynhadledd. Bydd y ddau adolygiad Estyn yn cefnogi'r uwchgynhadledd. Rydym yn datblygu pecyn cymorth ymddygiad, a fydd yn cyfrannu at yr uwchgynhadledd. Ond credaf mai'r peth pwysicaf am yr uwchgynhadledd yw'r cyfle i glywed gan randdeiliaid, ac rwy'n credu y byddai'n gwbl anghywir imi gael uwchgynadleddau a chyfarfodydd bord gron ac yna mynd a dweud wrth bobl beth yw'r ateb.
Rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth swyddogion fy mod yn credu ei bod hi'n wirioneddol bwysig gwrando yn y digwyddiadau hyn: gwrando ar y bobl sydd ar y rheng flaen, sy'n profi'r heriau a wynebwn bob dydd. Byddwn yn rhoi adborth ar ôl yr uwchgynhadledd. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y bydd yn uwchgynhadledd sy'n canolbwyntio ar weithredu, ond rwy'n credu y byddai'n gwbl anghywir imi fynd yno gyda rhestr benodol o dasgau. Byddai hynny'n tanseilio gwerth cynnal yr uwchgynhadledd.
Roeddwn am ymateb i'r hyn a ddywedodd Adam Price pan ailadroddodd y pryderon a godwyd gan Ceri Myers, cyn-ddirprwy bennaeth Ysgol Dyffryn Aman. Mae hwn yn fater yr ymatebais iddo yn y Siambr o'r blaen, Adam, ond hoffwn gofnodi unwaith eto nad ysgrifennodd Ceri Myers erioed at Lywodraeth Cymru am unrhyw beth yn ymwneud â chyllyll na thrais. Cododd bryderon am ymddygiad ac yn benodol am bethau fel fêps. Cafodd ymatebion llawn ar nifer o achlysuron a chyfarfu â swyddogion hefyd. Felly hoffwn wrthod yn llwyr y syniad ei fod wedi'i anwybyddu gan Lywodraeth Cymru.
Os caf gloi drwy ddweud yr hoffwn glywed mwy gan staff ysgolion ar sail barhaus, ond rwyf hefyd am glywed gan rieni, ac rwy'n cydnabod y pwyntiau a godwyd am rieni—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, gan i chi fy enwi? Rwy'n ddiolchgar iawn. Mae'r dirprwy bennaeth hwnnw bellach wedi rhoi'r gorau i addysgu yn yr ysgol honno ac yng Nghymru gan ei fod yn teimlo na wrandawyd arno. Oni fyddech chi'n derbyn bod y sefyllfa honno'n gyhuddiad damniol o'r ffordd y teimlai ei fod wedi cael ei drin? Os bydd mwy a mwy o athrawon yn teimlo'r un fath, byddwn yn gweld, ac rydym yn gweld, pobl yn gadael y proffesiwn. Dyna'r gwrthwyneb i'r hyn sydd ei angen arnom.
A gaf i ddweud yn glir, Adam, nad wyf yn dymuno gweld unrhyw athrawon nac arweinwyr ysgolion yn gadael eu swyddi? Ond rwy'n gobeithio bod yr hyn rwyf wedi'i nodi heddiw'n dangos y gwrthwyneb i'r hyn a ddywedwch. Yn hytrach na pheidio â gwrando, rwyf wedi gwneud ymdrech enfawr ers dod i'r swydd. Rwyf wedi rhoi blaenoriaeth i wrando ar staff ysgolion ac i wrando ar arweinwyr ysgolion, a dyna pam ein bod yn gweithredu fel y gwnawn. Rwyf wedi dweud yn glir fod fy nrws ar agor i'r staff hynny ac y byddaf yn parhau i wrando ac ymateb i'w pryderon.
Fel roeddwn yn ei ddweud cyn yr ymyriad, rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed ynglŷn â rhieni. Mae'n rhywbeth sydd wedi'i godi gyda mi gan staff ysgolion. Gwn fod gennym ragor o waith i'w wneud ar atgyfnerthu'r contract o barch rhwng cymunedau ac ysgolion, ac rydym yn gwneud y gwaith hwnnw drwy ein rhaglen ysgolion bro. Mae angen i bob llais yn y ddadl hon gael ei glywed os ydym am ddod o hyd i ateb. Felly, fel y dywedais wrth Andrew R.T. Davies, mae gennym hefyd raglen ymgysylltu â phlant a theuluoedd.
Yn ddiweddar, ysgrifennais at bob ysgol yng Nghymru ynglŷn â'r materion hyn, ac yn y llythyr hwnnw, gofynnais i bob aelod o staff gwblhau arolwg am eu profiadau. Rydym wedi cael ymateb da iawn i'r arolwg hwnnw. Rwyf am iddynt hwy a chithau wybod fy mod yn deall, fy mod yn gwrando, a byddwn yn gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, undebau llafur a theuluoedd i sicrhau bod ein hysgolion yn lleoedd diogel i bawb. Diolch yn fawr.
Samuel Kurtz nawr sy'n ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Rwyf braidd yn siomedig gydag ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, gan fod angen arweinyddiaeth gref i fynd i'r afael â'r pla hwn yn ein hysgolion, ond yn hytrach nag arwain, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cael ei harwain o ran yr hyn y ceisiwn ei wneud yma. Rwy'n gweld rhai'n nodio ac yn cytuno â mi ar feinciau'r gwrthbleidiau. Dyma ble mae angen arweinyddiaeth gref, arweinyddiaeth wleidyddol, i fynd i'r afael yn briodol â'r digwyddiadau hyn sy'n digwydd yn ein hysgolion. Nid dyna a gawn gan y Llywodraeth Lafur hon.
Gadewch inni feddwl pam ein bod yn cael y ddadl hon heddiw. [Torri ar draws.] Fe ildiaf i Mr Price.
Rwy'n adleisio hynny. Clywsom ar y naill law neges gan Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, 'Rwyf am wrando ar athrawon', a chawsom uwch arweinydd yn Ysgol Dyffryn Aman yn nodi'r gwir, a dyma Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, 'Rwy'n gwrthod hynny'—'Rwy'n gwrando, ond os nad wyf i'n hoffi'r hyn y mae athrawon yn ei ddweud wrthyf, rwy'n mynd i'w anwybyddu.' Mae hynny'n annerbyniol.
Beth yw'r ymadrodd, 'clywed ond nid gwrando'? Gwyliais y rhaglen ddogfen ar ITV y cymeroch chi ran ynddi hefyd, a ddisgrifiodd y digwyddiadau. Gadewch inni feddwl pam ein bod yn cael y ddadl hon heddiw: oherwydd, ddydd Llun, daeth yr achos llys i ben. Ond roedd y plentyn dan sylw wedi dod â chyllell i'r ysgol cyn hynny. Pe bai'r rheolau wedi'u diwygio, byddai gwaharddiad wedi bod yn ofynnol y tro cyntaf i blentyn ddod â chyllell i'r ysgol. Ni fyddai'r ymosodiadau erchyll hynny wedi digwydd. Dyna realiti hyn. Dyna ble mae polisi wedi arwain at hyn. Ac rwy'n gweld—[Torri ar draws.] Un eiliad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi cyfeirio atoch, felly fe ddof yn ôl atoch. Ond wrth weld cydweithwyr sydd â chysylltiadau uniongyrchol â'r ysgol honno'n rhannu eu profiadau, eu profiadau teuluol a phrofiadau aelodau staff eraill yn yr ysgol honno, a sut y teimlant fod y system y maent yn gweithredu ynddi wedi eu siomi, nid yw'n syndod fod athrawon yn gadael y proffesiwn yng Nghymru.
Nid wyf yn deall sut rydych chi'n credu bod y rheolau, sydd eisoes yn caniatáu gwahardd plentyn am ddod â chyllell i'r ysgol, rywsut wedi arwain at y sefyllfa hon, oherwydd nid wyf yn siŵr eich bod yn deall y sefyllfa mewn gwirionedd. Gall plant sy'n cael eu dal â chyllell yn yr ysgol gael eu gwahardd eisoes fel y mae'r rheolau ar hyn o bryd.
Rydych chi newydd grynhoi'r peth, Ysgrifennydd y Cabinet—fe ellir eu gwahardd, ond nid oes raid iddynt gael eu gwahardd. Dyna'r gwahaniaeth. Fe'i newidiwyd. Dyma ble roedd angen cryfhau'r rheolau. Dyna'r hyn rydym wedi gofyn amdano. Cyflwynodd Laura Anne Jones yr awgrymiadau hynny ym mhortffolio'r wrthblaid, cyflwynodd gynllun i geisio mynd i'r afael â hyn, oherwydd fel y nodwyd—fel y nododd Peter Fox—nid oes ateb hawdd i hyn. Mae'n anhygoel o anodd, ond ni chredaf fod eistedd yn ôl ac aros i gael eich arwain ar hyn yn dda i ddim.
Yn ei datganiad, crynhodd Ysgrifennydd y Cabinet y cylch dieflig sy'n deillio o hyn. Os oes gennym darfu yn ein hystafelloedd dosbarth, mae ein disgyblion yn ei chael hi'n anos dysgu a chyflawni'r hyn y gallant ei gyflawni. Yna, mae athrawon yn gadael y proffesiwn. Mae gennym rai o'r cyfraddau addysg gwaethaf yma yng Nghymru yn barod. Mae gennym hefyd nifer uchel o athrawon yn gadael y proffesiwn, ac anhawster recriwtio athrawon. Felly, mae'r cylch dieflig hwn yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau bod gennym ymddygiad da yn ein hysgolion.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn ei swydd ers 12 mis a dim ond ar ddiwedd y flwyddyn hon y cawn yr uwchgynhadledd ymddygiad. Os yw hyn yn rhan mor annatod o sicrhau llwyddiant ein hysgolion, diogelwch athrawon a disgyblion, oni ddylai fod wedi bod yn flaenoriaeth 12 mis yn ôl, 10 mis yn ôl, chwe mis yn ôl, yn hytrach nag yn nyddiau olaf y tymor seneddol hwn?
Mae yna rwystredigaeth ddofn. Rwy'n siarad â fy nghefnder. Mae fy nghefnder, sy'n athro ysgol uwchradd, yn sôn am gadeiriau'n cael eu taflu—[Torri ar draws.] Rwy'n mwynhau'r cyfraniadau ychwanegol at fy nghrynodeb. Mae'n fy ngwneud yn ymwybodol o'r amser, Lywydd. Ond rwy'n siarad â fy nghefnder sy'n athro, sydd wedi dweud y straeon am gadeiriau'n cael eu taflu atynt ac yna'n codi ei ysgwyddau ac yn meddwl, 'Beth ellir ei wneud?' Beth ellir ei wneud yn y sefyllfaoedd hyn? Mae'n rhwystredigaeth ddofn i'r athrawon hyn.
Disgrifiodd ffrind i mi sy'n athro ei gyfnod yn addysgu yng nghanol Llundain fel un llawer haws nag addysgu yng Nghymru. Dyna ganlyniad 25 mlynedd o bolisïau addysg Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Dyna rwystredigaeth ddofn mewn proffesiwn—[Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn unrhyw ymyriadau pellach. Dyna rwystredigaeth ddofn mewn proffesiwn y dylem fod yn ei rymuso, yn ymddiried ynddo, ac yn ei gefnogi. Dyna mae ein cynnig yn galw amdano heddiw. Dyna pam y byddwn yn annog pob Aelod o'r Senedd i bleidleisio i gefnogi staff a'n hysgolion, a chefnogi ein cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn moyn i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf.
Mi wnawn ni symud yn araf achos rŷm ni'n pleidleisio yn y Siambr yma am y tro cyntaf. Fe wnawn ni gymryd y bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil ar isafswm lefelau staffio deintyddol y gwasanaeth iechyd. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 17 yn ymatal, dau yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Eitem 6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar isafswm lefelau staffio deintyddol y GIG: O blaid: 28, Yn erbyn: 2, Ymatal: 17
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 9, sef dadl y Ceidwadwyr ar ddisgyblaeth a rheoli ymddygiad mewn ysgolion. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Disgyblaeth a rheoli ymddygiad mewn ysgolion. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Y bleidlais ar welliant 1—os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, pleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 38 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Disgyblaeth a rheoli ymddygiad mewn ysgolion. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 fydd nesaf, felly, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, 10 yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Disgyblaeth a rheoli ymddygiad mewn ysgolion. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 13, Ymatal: 10
Derbyniwyd y gwelliant
Yn olaf, agor y bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio. Agor y bleidlais.
Cynnig NDM8881 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at yr her gynyddol a achosir gan ymddygiad dysgwyr mewn ysgolion, fel yr adlewyrchir yn y data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a chan undebau llafur.
2. Yn nodi bod unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth mewn ysgolion yn gwbl annerbyniol, a bod meddu ar arf eisoes yn sail dros wahardd.
3. Yn credu na all ysgolion ar eu pennau eu hunain ddatrys yr ystod o heriau sy'n wynebu plant, pobl ifanc a theuluoedd ers pandemig Covid-19.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) parhau i nodi camau gweithredu i fynd i'r afael â'r materion hyn trwy ei rhaglen waith barhaus ar ymddygiad, gan gynnwys yr arolwg ymddygiad, yr uwchgynhadledd ymddygiad a'r bwrdd crwn ar drais mewn ysgolion; a
b) parhau i weithio gyda phartneriaid gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol, undebau llafur a rhieni, i wneud cynnydd ar y materion hyn ar frys.
Cau'r bleidlais. O blaid 25, 10 yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Disgyblaeth a rheoli ymddygiad mewn ysgolion. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 13, Ymatal: 10
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
A dyna ni wedi gorffen ein pleidleisio am y prynhawn yma. Ond dŷn ni heb orffen ein gwaith, gan fod y ddadl fer i ddilyn.
Ac os gall yr Aelodau adael yn dawel tra byddwn yn symud ymlaen at y ddadl fer.
Bydd y ddadl fer heddiw yn cael ei chyflwyno gan Jenny Rathbone. Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Mike Hedges.
Mae Canol Caerdydd yn etholaeth llawn o gyferbyniadau ar ochr ddwyreiniol afon Taf, sy'n cynnwys y cymunedau cyfoethocaf a thlotaf yng Nghymru. Mae cymunedau Llanedeyrn a Phentwyn yn ffurfio'r ystad dai fwyaf yng Nghymru, wedi'i hadeiladu ar yr hyn a fu unwaith yn dir fferm, tan ddiwedd y 1960au. Mewn cyferbyniad, sefydlwyd canol dinas Caerdydd yn oes Fictoria, pan oedd poblogaeth Caerdydd wedi mwy na dyblu mewn 20 mlynedd: o 65,000 ym 1871, i 142,000 erbyn 1891. Felly, mae'r twf presennol yn fach iawn o gymharu â hynny.
Roedd Deddf addysg 1870 yn ddeddfwriaeth nodedig, a osododd y sylfeini ar gyfer addysg am ddim i bawb, ac i ddechrau, roedd ar gyfer plant rhwng pump a 12 oed. Roedd Deddf 1870 yn ei gwneud yn ofynnol i'r byrddau ysgol newydd asesu anghenion y boblogaeth, a rhoddodd bwerau i'r byrddau godi'r arian angenrheidiol i ddarparu ar gyfer y plant hynny—gan drethdalwyr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Roedd digon o ddadlau ymhlith bwrdeisiaid dinasoedd Prydain ynglŷn ag a ddylid talu am ysgolion crefyddol o bwrs y wlad, a gwrthwynebodd cyrff eglwysig ymyrraeth yn yr hyn yr oeddent yn ei addysgu, a—. Ond aeth bwrdd ysgolion Caerdydd ati i drefnu i adeiladu'r adeiladau ysgol hardd a chadarn sydd yno hyd heddiw. Ac yn eu plith, mae Ysgol Gynradd Albany, a agorwyd ym 1887. Erbyn 1898, roedd yn darparu lle i dros 1,600 o ddisgyblion, mewn ysgol sydd ar hyn o bryd yn darparu lle i rhwng 400 a 450, fel ysgol â dau ddosbarth i bob blwyddyn. Felly, gallwch weld bod pobl wedi cael eu gwasgu i mewn er mwyn cael yr addysg hon.
Yn ystod y rhyfel byd cyntaf, cafodd yr adeilad ei feddiannu fel ysbyty milwrol, a choffawyd hynny ganrif yn ddiweddarach mewn arddangosfa gan ddisgyblion cyfredol y cymerodd y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau ran ynddi. Ac rwy'n cofio cael fy nhywys gan ddisgyblion balch a oedd yn arddangos yr holl arteffactau yr oeddent wedi'u casglu.
Mae gan Ysgol Gynradd Stacey hanes lliwgar iawn hefyd. Agorodd ym mis Gorffennaf 1892. Ymhlith ei disgyblion enwog roedd Fred Keenor, ac mae plac i'r pêl-droediwr enwog ar wal yr ysgol. Dathlodd yr ysgol honno ei chanmlwyddiant gydag ymweliad gan y cyn-Brif Weinidog James Callaghan, ac mae un o'r disgyblion yn cofio bod
'pob un ohonom wedi gwisgo dillad Fictoraidd, a daeth pobl bwysig i'r ysgol i edrych arnom a'r arddangosfeydd a wnaethom am hanes yr ysgol. Yr ymwelydd enwocaf oedd James Callaghan AS. Nid wyf yn credu bod y rhan fwyaf ohonom yn gwybod pwy oedd e'n iawn, er fy mod i'n cofio ei weld ar y newyddion gryn dipyn pan oeddwn yn iau.'
Adeiladwyd ysgol gynradd y Rhath ar dir a brynwyd gan deulu Bute am £2,500. Agorodd ym 1895. Symudodd y penseiri ymlaen yn gyflym i adeiladu'r ysgol leiaf o'r pedair, Ysgol Gynradd Gladstone, a adeiladwyd rhwng 1899 a 1900. Mae pob un o'r adeiladau ysgol hyn yn dal i fod yn ysgolion llwyddiannus a bywiog heddiw. Mae eu hirhoedledd a'u defnyddioldeb yn llawer mwy na llawer o adeiladau ysgol mwy modern.
Fodd bynnag, mae diffyg buddsoddiad mewn cynnal a chadw adeiladau mewn oes o gyni wedi cael effaith yn fwy diweddar, gyda thoeau'n gollwng, boeleri'n torri a ffenestri'n ysgwyd. Mae hyn wedi arwain, nid at fisoedd, ond at flynyddoedd o sgaffaldiau'n anharddu meysydd chwarae'r amgylcheddau dysgu cyfyng hyn. Mewn un achos, y gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfarwydd ag ef, roedd dŵr glaw yn llythrennol yn llifo i lawr y grisiau. Bu bron i'r pennaeth orfod cau'r ysgol oherwydd y risg o lithro a'r perygl i ddŵr fynd i mewn i'r systemau trydan.
Mewn ysgol arall, mae trigolion stryd gyfagos wedi trefnu deiseb i gael gwared ar y sgaffaldiau sydd wedi bod yno ers dwy flynedd, gan eu bod yn hyll ac oherwydd yr effaith ar ddysgu'r plant. Mae cynghrair eang o randdeiliaid yn ymdrechu i ddatrys yr hyn a ddylai fod yn broblem y gellir ei datrys.
Rwyf bob amser wedi bod yn un o gefnogwyr brwd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru a'r buddsoddiad o £1.5 biliwn mewn ysgolion newydd ledled Cymru. Fodd bynnag, ni fyddai byth wedi gallu cynorthwyo'r ysgolion Fictoraidd hyn, y mae angen eu hôl-osod, gan fod pob un ohonynt wedi'u lleoli mewn mannau cyfyng yng nghanol y ddinas lle nad oes unrhyw dir sbâr.
Felly, rwy'n canmol Llywodraeth Cymru am addasu'r rhaglen buddsoddi cyfalaf ysgolion yn ei holynydd, y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy'n rhoi rhywfaint o reswm i obeithio. Mae'r canllawiau'n sôn am ailadeiladu ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau, ac yn nodi'r allyriadau carbon gofynnol fel y canlyniad disgwyliedig. Felly, nid yw'r rhaglen newydd yn gwahaniaethu yn erbyn adnewyddu dros ailadeiladu.
Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru yn gadael i awdurdodau lleol benderfynu pa ysgolion y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer cyllid cyfyngedig, ac mae hynny'n hollol gywir a phriodol, ond gan fod yr holl ysgolion a ddisgrifiais yn bodloni o leiaf dri o feini prawf blaenoriaeth rhaglen dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Cyngor Caerdydd, mae risg uchel o beidio â bodloni gofynion statudol. Mae hynny wedi cynnwys y risg y gallai penaethiaid gael eu gorfodi i gau adeilad ysgol oherwydd y risg o barhau i geisio addysgu plant mewn adeilad anniogel. Wel, gwyddom fod hynny bron â bod wedi digwydd. Yn ail, buddsoddi i arbed, yn y tymor byr i ganolig. Mae miliynau lawer eisoes wedi'u gwario ar drwsio'r adeiladau hyn, felly mae angen ateb cynaliadwy hirdymor. Yn drydydd, byddai peidio â symud ymlaen yn cael effaith negyddol ar y system. Pe bai un o'r ysgolion hyn yn cael ei gorfodi i gau'n ddirybudd, mae'n amlwg y byddai tarfu ar hawl plant i addysg a chost gwasgaru plant i ysgolion y tu allan i'w cymunedau yn arwain at gostau addysgol, ariannol ac amgylcheddol enfawr.
Felly, dair blynedd i mewn i raglen dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, nid wyf wedi dod o hyd i unrhyw waith adnewyddu a allai fod yn fodelau ar gyfer y pedair ysgol hyn yng nghanol dinas Caerdydd. I ddechrau, roeddwn wedi cyffroi'n fawr am ysgol Pen y Dre ym Merthyr Tudful, adeilad a agorwyd gyntaf ym 1896. Ai hon fyddai'r esiampl i ysbrydoli Caerdydd, gan fod yr adeilad wedi'i adnewyddu a llawer o sylw wedi'i roi iddi fel yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei hadnewyddu gydag allyriadau carbon sero net? Mae'n ardderchog fod yr ysgol yn cynhyrchu ei hynni adnewyddadwy ei hun, gydag unrhyw ynni dros ben yn cael ei gyflenwi i Ysbyty'r Tywysog Siarl drws nesaf, ond nid dyma adeilad gwreiddiol yr ysgol. Cafodd hwnnw ei ddymchwel yn y 1970au, a'r adeilad newydd yw'r un sydd angen ei adnewyddu nawr, gwta 50 mlynedd ar ôl iddo gael ei adeiladu.
Felly, er y credaf ei bod yn rhaglen wych, ac rwy'n ei chymeradwyo ac yn edrych ymlaen at ymweld â hi un diwrnod, nid yw'n gymaint o her â'r hyn a gyflwynir gan yr ysgolion Fictoraidd hyn, gan fod ganddi dir gerllaw lle—. Hynny yw, nid oedd y to'n ddigon cryf i ddal y paneli solar, yr adeilad hwn o'r 1970au, felly bu'n rhaid eu rhoi ar y caeau chwarae. Wel, nid yw'r opsiwn hwnnw ar gael i'r ysgolion a ddisgrifiais. Felly, er bod Merthyr Tudful wedi ennill dwy wobr, yn gwbl haeddiannol, am y prosiect hwn yn ysgol Pen y Dre, rwyf wedi bod yn chwilio drwy wobrau Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain a Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu ledled Cymru a Lloegr i geisio dod o hyd i enghreifftiau o waith adnewyddu arloesol ar adeiladau Fictoraidd.
Cofiwch fod yr holl fyrddau ysgolion ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi'u gorfodi i ddarparu ar gyfer eu poblogaethau ysgol ledled Cymru a Lloegr, a dim ond un prosiect rwyf wedi'i ddarganfod, ysgol gynradd Tollesbury ger Maldon yn Essex, sy'n un ddiddorol ond sy'n annhebygol o gael ei ailadrodd yn unman arall. Felly, arweiniodd Tollesbury Climate Partnership ymgyrch i godi £200,000, a alluogodd yr ysgol i fod yn gymwys ar gyfer grant o dros £400,000 o gynllun datgarboneiddio sector cyhoeddus yr Adran Addysg, a gwnaed y rhan fwyaf o'r gwaith, y gwaith paratoi, yn yr ysgol ar ddiwedd blwyddyn ysgol 2023-24, y tu allan i oriau ysgol, a digwyddodd y gwaith drilio ar y caeau chwarae ar gyfer y pwmp gwres o'r ddaear dros wyliau haf yr ysgol y llynedd. Caniatawyd i'r plant ymweld er mwyn datblygu eu sgiliau llythrennedd carbon ac yna cafodd y cae ei ailhadu a'i dirlunio ar ôl i'r gwaith drilio gael ei gwblhau. Gosodwyd paneli solar ar gae chwarae'r ysgol hefyd. Mae wedi lleihau allyriadau 90 y cant, wedi arbed £14,000 y flwyddyn ar filiau ynni, ac mae hyn yn mynd i godi i £38,000 ar ôl 10 mlynedd. Mae hyn oll yn ardderchog, ond mae arnaf ofn nad oes gennym gaeau chwarae yn ein hysgolion Fictoraidd gwreiddiol, heblaw am dir hamdden y Rhath, parc sydd eisoes yn cael llawer o ddefnydd, lle mae llawer o gemau'n cael eu chwarae, ac ni fyddai'n bosibl ei ddefnyddio ar gyfer paneli solar, nid heb chwyldro.
Felly, roedd honno'n enghraifft dda o barhad yn y defnydd o adeilad ysgol o oes Fictoria, ond nid yw'n ateb yr heriau a wynebwn yng nghanol Caerdydd. Felly, beth arall sydd allan yno? Mae'r sector cyhoeddus heb os yn araf i sylweddoli bod pob adeilad i fod yn sero net erbyn 2030. Ond os gall yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddatgarboneiddio eu hystad gyfan, a Cadw hefyd, mae angen inni ofyn i awdurdodau lleol gamu i'r adwy. Mae Cymru wedi arwain ar dai cymdeithasol sero net, felly beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i uwchsgilio awdurdodau lleol fel y gallant ateb yr her hon sy'n unigryw i ni gyda'n hysgolion yng nghanol y ddinas?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i Jenny Rathbone hefyd am roi munud i mi? Yn Abertawe, nid ydym yn gweld ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu yn lle ysgolion y bedwaredd ganrif ar bymtheg a adeiladwyd yng nghyfnod Deddf addysg Forster oherwydd cyflwr yr adeiladau; yr hyn a welwn yw adeiladu ysgolion newydd yn lle adeiladau'r 1960au, y 1970au a'r 1950au, ysgolion uwchradd yn bennaf, a hynny oherwydd cyflwr yr adeiladau. Mae llawer o'r ysgolion o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn ardaloedd adeiledig iawn a'r unig opsiwn arall yw adeiladu ar barcdir neu adnewyddu'r adeilad. Mae llawer o ysgolion y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi'u hadeiladu'n dda iawn. Mae'r waliau'n drwchus iawn. Yn Abertawe, mae llawer ohonynt yn cael eu hadnewyddu a'u hailfodelu. Mae hyn yn cynnwys toeau newydd, ffenestri newydd, nenfydau crog, systemau gwresogi newydd, ailweirio ac ailfodelu mewnol. Nid yw hyn yn rhad, ond mae'n angenrheidiol fel y gall plant gael eu haddysgu mewn ysgolion sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae ein plant yn haeddu cael eu haddysgu mewn ysgol sy'n ffafriol i addysg, ac nid un sy'n oer ac yn llaith.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i'r ddadl—Lynne Neagle.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am godi'r pwnc pwysig hwn ynglŷn â'n hysgolion dinesig? Mae ein hystad addysg a'i hadeiladau yn rhan annatod o'n cymdeithas ledled Cymru gyfan. O'r ysgolion gwledig i adeiladau ysgolion yng nghanol y ddinas, maent yn ffurfio cymuned i'n dysgwyr, boed yn adeilad modern neu'n adeilad hŷn. Ond rydym yn byw ym myd digidol yr unfed ganrif ar hugain, gydag economi fyd-eang. Mae angen sylfaen deg arnom ar gyfer darparu addysg yn ein hysgolion, boed yn wledig neu yng nghanol y ddinas, yn fodern neu'n hen.
Mae ein cymuned ddysgu a'n hystad addysg, a gefnogir drwy raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn cydnabod yr angen i adnewyddu'r stoc adeiladau hŷn, yn ogystal ag adeiladu ysgolion newydd, er mwyn gwneud ein hystad addysg gyfan yn addas ar gyfer dysgwyr a staff, nid yn unig heddiw, ond ar gyfer y dyfodol hefyd. Mae'r Llywodraeth wedi buddsoddi'r symiau uchaf erioed yn ein hadeiladau ysgol, gyda chyfanswm buddsoddiad o dros £1.5 biliwn dros gyfnod band B. Ynghyd â band A, mae hyn wedi galluogi i 159 o ysgolion newydd gael eu hadeiladu ledled Cymru, gyda 49 arall yn cael eu hadeiladu neu ar y camau cynllunio ar hyn o bryd. Mae hynny'n fwy na 14 y cant o ystad ysgolion Cymru, sydd, yn fy marn i, yn gyflawniad sylweddol, ac yn rhywbeth rwy'n falch iawn ohono.
Yn ogystal, mae rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy hefyd wedi ymrwymo i gefnogi'r gwaith o gynnal a chadw a chefnogi addasrwydd gweithredol adeiladau ysgol presennol, fel y dywedodd Jenny. Mae'r ymrwymiad hwn wedi galluogi i 123 o brosiectau pellach gael eu cyflawni, gan gynnwys estyniadau a gwaith adnewyddu ar raddfa fawr. Ar ôl cyfrif y prosiectau adeiladu newydd, mae hyn yn 10 y cant o'r ystad ysgolion yng Nghymru. Mae'r holl brosiectau hyn wedi'u cynllunio i fodloni safonau addysgol modern, nodau cynaliadwyedd a diwallu anghenion y dyfodol, gan wella'r ystad addysg gyffredinol, yr amgylchedd addysgu a dysgu a lles dysgwyr a staff. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys buddsoddiad parhaus mewn rhaglen dreigl naw mlynedd newydd o brosiectau, sy'n parhau i gefnogi awdurdodau lleol gyda rhaglen ariannu ddeinamig ac ymatebol sy'n cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi yn seilwaith Cymru a chyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol ar gyfer addysg yng Nghymru mewn modd amserol. Mae'r hyblygrwydd yn y rhaglen yn rhoi cyfle i bartneriaid cyflenwi nodi cynigion strategol mwy hirdymor, boed yn estyniad ysgol newydd neu'n adnewyddu adeilad presennol. I golegau yn benodol, mae hyn hyd yn oed yn ymestyn i addasu adeiladau presennol at ddibenion gwahanol, gyda llawer o brosiectau bellach wedi'u hanelu at adfywio canol trefi a dinasoedd a chreu lleoedd. Mae'r un hyblygrwydd ac ymatebolrwydd hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol ymateb i alwadau lleol neu flaenoriaethau sy'n newid, megis dirywiad cynyddol neu gyflymach adeilad ysgol.
Rwyf hefyd yn falch o ddweud, ers mis Ionawr 2022, ei bod yn ofynnol i weithrediad pob prosiect a gyflawnir drwy'r rhaglen fod yn sero net o ran carbon, yn ogystal â chadw at derfyn uchaf o garbon ymgorfforedig. Mae'r targedau ar gyfer carbon ymgorfforedig—hynny yw, yr allyriadau carbon a grëir gan y cyfnod adeiladu cyn i adeilad ddod yn weithredol—yn golygu bod pwyslais cryfach ar adnewyddu adeiladau ysgol presennol, yn hytrach na'r model dymchwel ac ailadeiladu arferol. Mae adnewyddu'n cadw llawer o'r strwythur presennol, gan leihau'r angen am ddeunyddiau newydd a'r carbon ymgorfforedig cysylltiedig.
Gall y cysyniad o ysgolion y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ninasoedd yr unfed ganrif ar hugain, neu mewn lleoliadau gwledig yn wir, gynnig rhai manteision unigryw, er gwaethaf yr heriau o addasu i anghenion addysgol modern. Mae manteision posibl yn cynnwys pensaernïaeth ac awyrgylch hanesyddol. Mae gan lawer o adeiladau ysgolion o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg arddulliau pensaernïol nodedig a all ddarparu amgylchedd dysgu unigryw ac ysbrydoledig. Gall cadw'r adeiladau hyn feithrin ymdeimlad o le, cydlyniant cymdeithasol a pharhad. Yn aml, mae gan yr ysgolion hyn wreiddiau dwfn yn eu cymunedau, sy'n creu ymdeimlad cryf o draddodiad a hunaniaeth leol. Gall hyn wella ymgysylltiad cymunedol a balchder dinesig. A gall trawsnewid hen adeiladau ysgol yn fannau dysgu modern arddangos dulliau arloesol o addysgu.
Enghraifft o arloesi wrth drawsnewid hen ysgol yw Ysgol Gymraeg y Trallwng ym Mhowys. Mae'r adeilad newydd sydd â 150 o leoedd yn y Trallwng yn cynnal presenoldeb Ysgol Maes y Dre, adeilad rhestredig gradd II hanesyddol, tra bo'r estyniad newydd yn bodloni safonau cadarn tŷ ynni goddefol ar gyfer aerglosrwydd a lefelau effeithlonrwydd ynni, gan gael gwared ar yr angen am wres canolog nwy traddodiadol, a chan integreiddio technoleg a dulliau addysgu'r unfed ganrif ar hugain yn llwyddiannus i amgylchedd dysgu o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn ninas Bangor, mae cynlluniau'n cael eu datblygu ar hyn o bryd ar gyfer Ysgol Tryfan, lle bydd yr adeilad, oherwydd ansawdd yr adeiladwaith Fictoraidd, yn cael ei adnewyddu. Mae hyn yn cyferbynnu â'r estyniadau diweddarach ar y safle sy'n dyddio o'r 1970au a'r 1980au yr ystyrir eu bod yn llai addas i gael eu cadw neu eu huwchraddio. Gall adnewyddu ac addasu adeiladau presennol at ddibenion gwahanol fod yn fwy cynaliadwy na chodi rhai newydd. Mae'n lleihau gwastraff ac yn cadw adnoddau, yn unol â nodau amgylcheddol modern. Enghraifft flaenllaw o hyn, fel y mae Jenny wedi sôn, yw ysgol uwchradd Pen y Dre ym Merthyr Tudful, lle mae'r ysgol yn arwain y ffordd fel y prosiect adnewyddu mawr cyntaf yng Nghymru sy'n gweithredu'n sero net o ran carbon, gan leihau ei garbon ymgorfforedig drwy gadw'r is-strwythur, y slabiau llawr a'r ffrâm strwythurol. Amcangyfrifir bod y dull hwn yn arbed oddeutu 48 y cant o'r allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â chodi adeiladau newydd.
Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, ysgol newydd yw'r opsiwn mwyaf priodol, er enghraifft fel rhan o ddatblygiad tai newydd. Ond yr hyn y mae’n rhaid inni ei osgoi yw rhai o’r canlyniadau anfwriadol a welsom drwy ddulliau adeiladu modern, fel gorboethi yn ystod misoedd yr haf. Fel y gwelais fy hun yn ystod ymweliadau ag ysgolion, mae ein hysgolion Fictoraidd traddodiadol fel arfer yn darparu amgylchedd dysgu mwy dymunol a thymherus yn ystod y misoedd cynhesach, ond fel y dywedodd Jenny, gallai fod ganddynt eu heriau eu hunain yn ystod y misoedd gwlypach ac oerach. Fodd bynnag, mae’n bwysig mynd i’r afael â chyfyngiadau’r ysgolion hŷn hyn, fel seilwaith sydd wedi dyddio a’r angen am offer a dulliau addysgol modern. Gall cydbwyso cadwraeth ag arloesi greu amgylchedd dysgu unigryw ac effeithiol.
Gall gwella adeiladau ysgol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel eu bod yn bodloni safonau modern gan gadw eu cymeriad hanesyddol ar yr un pryd fod yn heriol, ond hefyd yn ddiddorol ac yn werthfawr. Mae'r heriau nodweddiadol a wynebir gan brosiectau uwchraddio ac adnewyddu yn cynnwys gwaith uwchraddio strwythurol, darparu amwynderau modern, integreiddio technoleg, ynghyd â chadw treftadaeth addysgol Cymru. Gall ymgorffori hanes yr adeilad yn rhan o'r cwricwlwm i wella cysylltiad dysgwyr â'u hysgol fod o fudd i ddysgwyr drwy ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'u hamgylchedd adeiledig. Drwy natur gydweithredol Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, rwy'n credu'n gryf y gallwn barhau i fynd i'r afael â'r heriau hyn wrth sicrhau bod ysgolion o bob cyfnod yn bodloni safonau cyfredol a'u bod yn addas ar gyfer dysgwyr heddiw.
Er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i gynllunio'r gwaith o ddatgarboneiddio'r ystad addysg bresennol, mae swyddogion wedi caffael arolwg arloesol o garbon a chyflwr elfennau adeiladau. Mae'r arolygon hyn yn arwain at gronfa ddata o wybodaeth am gyflwr adeiladau ac ynni i awdurdodau lleol ac ysgolion ddatblygu cynllun tuag at garbon sero net ar gyfer pob adeilad ysgol yng Nghymru. Mae'r fenter hon yn helpu i gefnogi awdurdodau lleol i ddatgarboneiddio eu hadeiladau ysgol mewn modd sy'n cyd-fynd â'u rhaglen cynnal a chadw asedau. Mae rhagor o gymorth technegol ac ariannol drwy'r gwasanaeth ynni a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddarparu i bob awdurdod lleol ar gyfer eu hadeiladau cyhoeddus. Gordanysgrifiwyd i'r cymorth hwn i ysgolion, ac felly rwyf wedi cymeradwyo £5 miliwn o gymorth grant cyfalaf ar gyfer elfen addysg y rhaglen.
Rhaid defnyddio gwybodaeth leol i flaenoriaethu cyllid refeniw a buddsoddiad cyfalaf awdurdodau wrth fynd i'r afael ag unrhyw adeiladau yn yr ystad addysg sydd mewn cyflwr gwael. Er bod adeiladau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cynnig gwerth hanesyddol, pensaernïol a chynaliadwyedd, cydnabyddir y gall y gost o'u cynnal fod yn uwch o gymharu ag adeiladau modern. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn sefyllfaoedd lle mae gwaith atgyweirio wedi ei ohirio. Mae buddsoddi mewn uwchraddiadau effeithlon o ran ynni a gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar adeiladau ysgol, hen neu newydd, yn hanfodol er mwyn lleihau'r costau hyn. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu gofio hyn wrth gynllunio eu rhaglenni cynnal a chadw a chyfalaf. Mae difrod canlyniadol yn sgil oedi cyn gwneud atgyweiriadau yn ychwanegu ymhellach at gostau. I gefnogi awdurdodau lleol i gynnal eu hadeiladau ysgol, y llynedd, cymeradwyais £40 miliwn o gyllid grant cyfalaf cynnal a chadw ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Yn y flwyddyn ariannol hon, rwyf wedi gwrando ar awdurdodau lleol am yr heriau a wynebant wrth gynnal eu hadeiladau ysgol ac wedi dyrannu £24 miliwn ychwanegol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd. Bydd hyn yn caniatáu mwy o amser i awdurdodau lleol gynllunio, caffael a chyflawni prosiectau cyfalaf cynnal a chadw ystyrlon yn eu hadeiladau ysgol. Mae cefnogi awdurdodau lleol i gynnal a chadw eu hadeiladau ysgol wedi bod yn un o nodweddion y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a dyna pam y dyfarnwyd cyfanswm o £286 miliwn mewn dyraniadau cyfalaf cynnal a chadw i awdurdodau lleol ledled Cymru ers 2018-19.
Er enghraifft, ers hynny, mae'r rhaglen wedi dyrannu £28.9 miliwn o gyllid cyfalaf cynnal a chadw i helpu i gynnal yr ystad ysgolion yn ein prifddinas. Yn ogystal, mae £2.7 miliwn yn ychwanegol o gyllid cyfalaf cynnal a chadw wedi'i ddyrannu i Gaerdydd yn y flwyddyn ariannol hon. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd lle rydym yn ymwybodol o heriau cynnal a chadw parhaus, yn enwedig gyda rhai o adeiladau ysgol hŷn y ddinas.
Fel y nododd Jenny, rwy'n gyfarwydd ag un o'r ysgolion a ddisgrifiodd heddiw, a chefais gyfle i ymweld ag Ysgol Gynradd Albany yn gynharach eleni. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i'r staff a'r llywodraethwyr a'r bobl ifanc am eu croeso cynnes. Yr hyn a wnaeth argraff arbennig arnaf oedd y cyfle i siarad â'r plant ynglŷn â sut beth oedd bod yn yr ysgol honno. Er gwaethaf yr holl heriau, ac rwy'n cydnabod eu bod yn real iawn, yr hyn a oedd yn wirioneddol bwerus oedd eu hoffter o fod yn eu hysgol a'r ymdeimlad cryf iawn o berthyn a chysylltiad â'r ysgol a'r hyn roedd hynny'n ei olygu iddynt. Rwy'n bwriadu cyfarfod â swyddogion o Gyngor Caerdydd yn yr wythnosau nesaf fel y gallaf drafod ymhellach yr heriau sy'n wynebu Ysgol Gynradd Albany a'r ysgolion sgaffald eraill, fel y'u gelwir, a ddisgrifiwyd gan Jenny yn ei dadl.
Os caf ddweud hefyd, o ran ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ers 2014, mae dros £26 miliwn o grantiau cyfalaf Llywodraeth Cymru wedi'i ddyfarnu i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir drwy ffrydiau cyllido grant cyfalaf cynnal a chadw ac atgyweirio—CRAMP—y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, ac mae'r cymorth hwnnw'n parhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gyda dyraniad pellach o £5 miliwn ar gyfer atgyweiriadau brys i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a £1.4 miliwn ar gyfer CRAMP. Mae fy swyddogion wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid cyflenwi yn y dull datblygu ar y cyd sydd wedi'i sefydlu'n gadarn drwy raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i sicrhau bod y budd mwyaf yn cael ei wneud o'r cyllid sydd ar gael.
Drwy gyfuno amwynderau modern ag adnewyddu a chadwraeth hanesyddol, rwy'n hyderus y gall adeiladau ysgol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg neu adeiladau o unrhyw gyfnod arall barhau i wasanaethu fel mannau addysgol bywiog sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Diolch yn fawr.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Taith ddiogel adref a noswaith dda i chi.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:01.