Y Cyfarfod Llawn

Plenary

16/07/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Cyn i mi gymryd yr eitem ar gwestiynau i'r Prif Weinidog, yn unol â Rheol Sefydlog 8.5, rwyf wedi cael fy hysbysu am ymddiswyddiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio—y tri wedi ymddiswyddo o’r Llywodraeth. Rwyf wedi cytuno y bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad personol byr fel yr eitem gyntaf o’n busnes ni y prynhawn yma. 

Mae hwn yn ddiwrnod anodd i lawer o unigolion, eu teuluoedd a'u cydweithwyr, a byddwn yn gofyn i'r holl Aelodau gadw hyn mewn cof yn ystod trafodion y prynhawn yma, fel ein bod ni'n cyflawni ein busnes yn feddylgar ac yn barchus.  

Datganiad Personol—Vaughan Gething

Diolch, Llywydd. Y bore yma, rwyf i wedi gwneud y penderfyniad anodd o ddechrau'r broses o gamu i lawr fel arweinydd Llafur Cymru, ac, o ganlyniad, Prif Weinidog Cymru. Ar ôl cael fy ethol yn arweinydd fy mhlaid ym mis Mawrth eleni, roeddwn i wedi gobeithio, dros yr haf, y gallai cyfnod o fyfyrio, ailadeiladu ac adnewyddu ddigwydd o dan fy arweinyddiaeth i. Rwy'n cydnabod nawr nad yw hynny'n bosibl. Mae wedi bod yn anrhydedd aruthrol gwneud y swydd hon hyd yn oed am ychydig fisoedd byr, i weld ymroddiad ein gweision sifil i wasanaeth cyhoeddus, a'r ymroddiad i wareidd-dra gan y cyhoedd yng Nghymru, i weld Llywodraeth Lafur newydd yn cael ei hethol yn San Steffan am y tro cyntaf ers 14 mlynedd, a'r gobaith newydd yr wyf i'n credu y mae hynny'n ei roi i Gymru.

Rwyf i wedi dilyn fy ngyrfa wleidyddol i wasanaethu Cymru erioed, ac mae gallu dangos i gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol bod lle iddyn nhw, i ni, yn anrhydedd ac yn fraint na fydd byth yn lleihau. Dyna wnaeth fy nenu i mewn i wasanaeth cyhoeddus. Cyn dod yn Aelod o'r Senedd, roeddwn i'n stiward llawr gwaith dros undeb llafur. Roeddwn i'n gyfreithiwr cyflogaeth yn y cwmni cyfreithiol undeb llafur mwyaf yn y wlad. Fe wnes i ymladd achosion cyflogaeth dros bobl a oedd wedi cael eu cam-drin yn y gwaith. Roeddwn i eisiau rhoi grym i'r rhai heb lais, i helpu i wneud ein gwlad yn lle gwell i bob un ohonom ni. Dyna fu fy nghymhelliant erioed. Ymgyrchais i helpu i greu'r Senedd, gan wneud 30 mlynedd o waith i gefnogi taith ddatganoli Cymru.

Mae hwn wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd i mi ac i fy nheulu. Mae honiad cynyddol bod rhyw fath o ddrygioni wedi digwydd wedi bod yn niweidiol, wedi'i ysgogi'n wleidyddol ac yn gwbl anwir. Rwyf i wedi gweithio'n galed, wedi dilyn y rheolau ac wedi gwneud swyddi anodd a heriol iawn dros fy ngwlad. Mewn 11 mlynedd fel Gweinidog, nid wyf i erioed wedi gwneud penderfyniad er budd personol. Nid wyf i erioed wedi camddefnyddio na cham-drin fy swydd weinidogol. Mae fy uniondeb yn bwysig. Nid wyf i wedi ei beryglu. Rwy'n gresynu'r ffaith nad yw'r baich profi yn nwydd pwysig yn iaith ein gwleidyddiaeth mwyach, ac rwy'n gobeithio, er ein lles ni i gyd, y gall hynny newid.

Byddaf yn trafod amserlen gyda gweithrediaeth Cymru fy mhlaid nawr, ar gyfer ethol arweinydd newydd i Lafur Cymru. Yna, byddaf yn cadarnhau amserlen i sefyll i lawr yn ffurfiol fel Prif Weinidog fy ngwlad.

Fodd bynnag, hoffwn ddweud 'diolch' i'r rhai sydd wedi cysylltu i fy nghefnogi i, fy nhîm a fy nheulu yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys heddiw. Mae wir yn golygu llawer iawn. I'r bobl hynny yng Nghymru sy'n edrych fel fi, yr wyf i'n gwybod bod llawer ohonyn nhw yn teimlo poen a gofid personol oherwydd y foment hon, rwy'n gwybod y gall ein gwlad fod yn well, bod yn rhaid iddi fod yn well. Rwy'n gwybod na all hynny ddigwydd hebom ni. Bydd, ac mae'n rhaid y bydd, yn y dyfodol, Lywodraeth sy'n edrych fel y wlad y mae'n ei gwasanaethu, Llywodraeth i bob un ohonom ni, i wneud Cymru'n lle gwell, gyda, ac ar gyfer, bob un ohonom ni. Diolch, Llywydd. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

13:35
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau nawr i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Siân Gwenllian. 

Argyfwng Tai

1. Sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu taclo’r argyfwng tai yng Nghymru? OQ61473

Mae creu mwy o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni wedi sicrhau'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn tai yn nhymor y Senedd hon. Bydd y tasglu tai fforddiadwy, y disgwylir iddo gael ei arwain gan Jack Sargeant, yn nodi cyfleoedd pellach i gefnogi a datblygu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yma yng Nghymru.

Ers ychydig oriau, does gan eich Llywodraeth chi ddim Ysgrifennydd Cabinet gyda chyfrifoldeb dros dai, a byddwch chithau yn sefyll lawr. Ar lefel bersonol, dwi'n dymuno'n dda i chi. Ond mae anrhefn y Blaid Lafur dros y ddau fis diwethaf yn hollol anfaddeuol. Mae o wedi golygu oedi diangen i waith Llywodraeth, yn cynnwys oedi cyhoeddi'r Papur Gwyn, oedd i drafod ei gwneud hi'n hawl i bawb gael to uwch eu pennau—rhan hanfodol o daclo'r argyfwng tai. A fydd y Papur Gwyn yn gweld golau dydd bellach? Mae llanast mewnol Llafur yn golygu nad oes yna ffocws ar ddelifro newid er mwyn gwella bywydau pobl Cymru ar draws pob maes. Nid fel hyn mae llywodraethu, ac mae pobl Cymru wedi colli pob ffydd yng ngallu Llafur i lywodraethu Cymru. 

Wel, yn amlwg, nid wyf i'n rhannu barn yr Aelod. Rwy'n cydnabod bod llawer o wleidyddiaeth sy'n digwydd yn y Siambr hon a'r tu allan iddi. A dweud y gwir, er gwaethaf yr holl sŵn yn y lle hwn, rydym ni wedi bwrw ati i wneud ein gwaith yn ystod y tri mis a hanner diwethaf. Rydym ni wedi parhau â'r cynlluniau a wnaed gennym ni'n flaenorol. Rwyf i wedi ailymrwymo iddyn nhw yn y rhaglen ddeddfwriaethol. Rwyf i wedi ei gwneud yn eglur lle rydym ni gyda'n dyraniadau cyllidebol. Rydym ni wedi dyrannu £1.4 biliwn hyd yma yn ystod tymor y Senedd i gefnogi tai cymdeithasol. Rydym ni'n gwybod bod mwy i ni ei wneud. A dweud y gwir, nid y gyllideb tai cymdeithasol yn unig y gwnaethom ni ei diogelu, fe wnaethom ddyfarnu £61 miliwn ychwanegol ar ben y gyllideb wreiddiol o £300 miliwn ar gyfer y grant tai cymdeithasol.

Rwy'n credu bod dyfodol i bobl yng Nghymru lle mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gan bobl le i'w alw'n gartref. Dyna pam rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Dyna pam hefyd y siaradais am y tasglu tai fforddiadwy, i ddeall yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ymarferol i ddarparu cartrefi i bobl yma yng Nghymru. Bydd y gwaith hwnnw'n parhau. Rwy'n hyderus ac yn gadarnhaol am yr hyn y gall fy mhlaid ei wneud mewn Llywodraeth a mynd gerbron pobl Cymru yn 2026. Edrychaf ymlaen at weld fy mhlaid yn dewis o blith pob un o'n haelodau mewn cystadleuaeth un aelod, un bleidlais i benderfynu pwy fydd yr unigolyn hwnnw. Ond byddaf yn parhau i wneud fy nyletswydd dros fy ngwlad tan yr adeg y bydd unigolyn newydd yn cael ei ethol i gymryd fy lle.

Mae'r Pwyllgor Cyllid bellach wedi canfod, er mwyn i bobl ifanc, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, allu byw a gweithio yn eu cymunedau, bod angen rhoi mwy o flaenoriaeth i greu swyddi cynaliadwy ac adeiladu tai fforddiadwy. Ychydig sydd wedi newid ers i adroddiad tai gwledig yng Nghymru Sefydliad Joseph Rowntree yn 2008 ganfod lefel sylweddol o angen tai heb ei ddiwallu yng nghefn gwlad Cymru, gyda phroblemau fforddiadwyedd yn fwy difrifol, lefelau digartrefedd yn cynyddu'n fwy sydyn a chyflenwad tai cymdeithasol yn fwy cyfyngedig nag mewn ardaloedd trefol. Canfu arolwg tai Cymru a ailagorwyd gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad fod 58 y cant o eiddo'r sector rhentu preifat yn cael eu gosod am rent is na lefel y farchnad, ac eto mae polisi Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar gartrefi rhent y mae eu hangen ar frys o ardaloedd gwledig, gyda'r eiddo sy'n cael eu gwerthu yr un mor debygol o gael eu defnyddio fel ail gartrefi neu lety gwyliau ag fel cartrefi fforddiadwy. Felly, heblaw am gomisiynu canllaw gweithredu ar dai gwledig, pa ddadansoddiad cost a budd, os o gwbl, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gynnal nawr i ddarganfod beth sy'n gweithio? Roedd gwrando ar ddatganiadau gan fusnesau lleol bod cynllun Cyngor Gwynedd i orfodi pobl i gael caniatâd cynllunio ar gyfer ail gartrefi yn cosbi perchnogion cartrefi yno— 

Mae'n rhaid i mi dorri ar draws. A allwn ni ddod at y cwestiwn, os gwelwch yn dda?

Wel, rwyf i yng nghanol y cwestiwn—gofynnais pa ddadansoddiad cost a budd a gynhaliwyd—ynglŷn â chosbi perchnogion cartrefi gan nad oes digon o dai fforddiadwy wedi cael eu hadeiladu.

13:40

Wel, mae'n gwestiwn i Gyngor Gwynedd—mae'r pwerau yn eu dwylo nhw i wneud dewisiadau am y farchnad dai leol. Rydym ni wedi newid y dosbarth defnydd o safbwynt cynllunio rhwng prif breswylfa, ail breswylfa a llety byrdymor. Mae cydbwysedd ym mhob un o'r rheini i wneud pob cymuned yn hyfyw ac yn werth chweil. Dyma'r union sgwrs a gawsom ni yn ystod y sesiwn craffu ar y Prif Weinidog ddydd Gwener. Y cydbwysedd yr ydym ni'n ei wneud yw bod digon o gyflenwad yn y sector preifat ac yn y sector rhentu cymdeithasol ar gyfer cartrefi lleol, a'r ddealltwriaeth o faint o ail gartrefi sydd ym mhob ardal. Mae gan gynghorau'r gallu nawr i gyflwyno premiymau ychwanegol ar gyfer yr ail gartrefi hynny os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Mae hyn yn rhan o'r pwynt am ddatganoli ei hun—nid yw'n stopio yma ym Mae Caerdydd; mae dewisiadau i awdurdodau lleol eu gwneud i fod yn atebol i'w hetholwyr lleol eu hunain. Yna, rydych chi'n cyrraedd faint o lety byrdymor y dylid eu cael. Mae hwnnw'n ddewis y mae awdurdodau lleol yno i'w wneud—mae ganddyn nhw fandad i wneud hynny. Pa un a yw yng Ngwynedd, pa un a yw yng Nghaerdydd, pa un a yw ynn Abertawe, sir Benfro neu Wrecsam, mae gan bob un ohonyn nhw eu mandadau eu hunain a'u cyfrifoldeb. Dyna'r dewis y mae angen iddyn nhw ei wneud.

Rwyf i eisiau gweld economi ymwelwyr sy'n ffynnu sy'n bodoli mewn cymuned leol sy'n ffynnu. Dyma'r hyn y mae pobl yn teimlo'n arbennig amdano, ac nid y dirwedd yn unig, i fod yn rhan o gymuned. Mae'r dadansoddiad cost a budd yn un y mae angen i bob awdurdod lleol ei gyflawni wrth benderfynu sut i ddefnyddio'r pwerau yr ydym ni wedi eu creu iddyn nhw eu harfer ac i fod yn atebol amdanyn nhw. Ein huchelgais yw cynyddu'r cyflenwad tai—mae'n un o'r prif flaenoriaethau—i gyrraedd ein targed o greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy carbon isel o ansawdd uchel yn nhymor y Senedd hon. Er gwaethaf yr etifeddiaeth gyllidebol yr ydym ni wedi ei chael gan Liz Truss a'ch cyfeillion eraill, byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech bosibl i wneud yn siŵr y gallwn ni wneud hynny ar gyfer pobl Cymru. Ond diolch am y cwestiwn.

Mae gennym ni ormod o dai gwag, gan gynnwys tai mawr mewn ardaloedd poblogaidd. Byddai'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn y fan yma wedi dod ar draws rhai pan oedden nhw allan yn ymgyrchu yn ystod yr etholiad cyffredinol. Nid yw Cymru, fel gweddill Prydain, wedi creu nifer y tai cydweithredol sydd gan ogledd America a chyfandir Ewrop. Yr unig adeg y diwallwyd yr angen am dai oedd pan adeiladwyd tai cyngor ar raddfa fawr yn y 1950au a'r 1960au. Rwyf i wedi gofyn o'r blaen am ddeddfwriaeth i ganiatáu i gynghorau brynu eiddo yn orfodol ar ôl iddyn nhw fod yn wag am bum mlynedd. Rwyf i hefyd yn gofyn am gynllun ar gyfer adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr er mwyn diwallu'r angen am dai.

Mae rhai cynghorau wedi bod yn adeiladu cartrefi. Y gallu i wneud hynny ar y raddfa sy'n ofynnol, dyna'r her. Dyna pam mae'r tasglu tai fforddiadwy wedi cael ei greu, i ddeall sut y gallwch chi ddod ymlaen a goresgyn rhwystrau sy'n bodoli, oherwydd nid mater i unigolyn sydd angen lle diogel a gweddus i'w alw'n gartref yn unig yw tai; mae hefyd yn gyfle i wneud rhywbeth am ein cyfrifoldebau i'r hinsawdd, i wneud yn siŵr bod gennym ni gartrefi o ansawdd uchel, cartrefi carbon isel sy'n effeithlon o ran ynni. Mae hefyd yn rhywbeth sy'n cyfrannu at fuddsoddi yn yr economi leol. Mae llawer o swyddi tai yn rhai lle mae pobl yn gweithio o fewn radiws lleol hefyd.

Rwy'n cydnabod pwynt yr Aelod, fodd bynnag, ynghylch sut y gallwch chi newid rhai o'r pwyntiau ynghylch deiliadaeth a defnydd tir. Mae gan wledydd Ewropeaidd eraill ddull gwahanol iawn ac mae'r diwylliant wedi datblygu dros amser. Nid yw'n union fel ein un ni. Rwy'n gobeithio, fodd bynnag, y bydd Llywodraeth yn y dyfodol yn y lle hwn yn edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud o fewn amlen y gyllideb sydd gennym ni, ond hefyd i weld a fydd newid y fframwaith deddfwriaethol yn caniatáu i fwy o dai cydweithredol gael eu cyflwyno fel un o'r mathau amgen o ddeiliadaeth a all roi cyfran i bobl yn y lle maen nhw'n byw, i greu'r nifer a'r cyflenwad o gartrefi sydd eu hangen arnom ni nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Lefelau Diffyg Maeth

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lefelau diffyg maeth yng Nghymru? OQ61488

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd deiet iach a maetheg dda. Rydym ni'n cynorthwyo hyn drwy amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys y cynllun Cychwyn Iach, prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cynradd a mesurau i gynorthwyo pobl yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus.

Diolch. Prif Weinidog, mae ffigurau a ddatgelwyd gan bapur newydd Wales on Sunday yn dangos bod o leiaf 955 o gleifion wedi cael diagnosis o gamfaethiad yng Nghymru ers 2021, gyda llawer mwy ledled y DU yn ei chyfanrwydd, fel yr amlygwyd gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig yn ei adroddiad arbennig ar dlodi ac anabledd ledled y DU. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy'n gwasanaethu cymunedau Islwyn yr wyf i'n eu cynrychioli, wedi adrodd 250 o achosion o 1 Ionawr 2021 hyd at 1 Mai. Mae'r rhain, yn wir, yn ystadegau brawychus yng Nghymru yn 2024. Prif Weinidog, mae'n amlwg bod etifeddiaeth 14 mlynedd fethedig y Torïaid yn llywodraethu'r Deyrnas Unedig yn un o fanciau bwyd, argyfwng costau byw a ysgogwyd a thlodi endemig sy'n achosi dioddefaint gwirioneddol. Dywedodd swyddog polisi Age Cymru, Helen Twidle bod nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty yng Nghymru gyda chamfaethiad yn destun cywilydd. Felly, Prif Weinidog, pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i gynorthwyo sefydliadau bwyd cymunedol yn Islwyn i fynd i'r afael â thlodi bwyd? Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i deuluoedd Cymru i atal camfaethiad rhag digwydd? A pha ran mae polisi cyhoeddus a gychwynnwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn ei chwarae yn y digwyddiadau brawychus hyn?

13:45

Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y realiti dychrynllyd bod camfaethiad yn realiti yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain. Mae cydberthynas uniongyrchol â'r diwygiadau treth a budd-daliadau sydd wedi digwydd. Effaith diwygiadau treth a budd-daliadau o 2010 tan nawr fu lleihau incwm y 40 y cant lleiaf cefnog o aelwydydd o 10 y cant o'u hincwm, ac mae hynny'n arwain at ganlyniadau gwirioneddol, yn enwedig i'r teuluoedd hynny sydd â phlant. Nid ydym yn parhau i geisio hyrwyddo'r dewis iach i'w wneud y dewis hawdd ar gyfer bwyd yn unig; mae gennym ni amrywiaeth o bethau yr ydym ni wedi eu gwneud, yn enwedig i deuluoedd â phlant.

Rwy'n falch iawn o'r polisi prydau ysgol am ddim yr ydym ni wedi ei gyflwyno a'r cyllidebau yr ydym ni wedi pleidleisio drostyn nhw i wneud i hynny ddigwydd, yr hyn y mae hynny'n ei olygu i'r 20 miliwn o brydau ysgol am ddim a ddarparwyd a'r gwaith yr ydym ni'n parhau i'w wneud ar y rhaglen Cychwyn Iach yw sicrhau bod gan bobl fynediad at fwyd a maeth o ansawdd uchel. Fodd bynnag, bydd yr her yn parhau. Cyn belled â'n bod ni'n parhau i fyw trwy argyfwng costau byw, cyn belled ag y bo gennym ni system dreth a budd-daliadau nad yw'n helpu i godi plant allan o dlodi, yna rwy'n ofni bod realiti brawychus pobl yn byw gyda chamfaethiad yng Nghymru yn debygol o barhau. Rwy'n optimistaidd, fodd bynnag, gyda Llywodraeth bresennol y DU a phartneriaeth go iawn, y byddwn ni'n gallu mynd i'r afael ag anfad gwirioneddol camfaethiad yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain.

Prif Weinidog, hoffwn ddymuno'n dda iawn i chi a'ch teulu ar gyfer y dyfodol.

Er bod camfaethiad difrifol yn brin ledled Cymru, mae cyfraddau gorbwysedd a gordewdra ymhlith ein plant yn rhai o'r uchaf ar draws unrhyw ran o'r byd datblygedig. Mae llawer o blant yn dechrau'n or-drwm pan fyddan nhw'n cyrraedd yr ysgol, ac mae hynny'n rhywbeth a ddylai beri pryder i bob un ohonom ni, oherwydd mae hynny'n straen enfawr yn y dyfodol ar ein gwasanaeth iechyd. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu heddiw pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â chyfraddau gordewdra ymhlith ein pobl ifanc, i wneud yn siŵr y gellir atal hyn, cyn i bobl gyrraedd lefelau gordew, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n heini ac yn iach yn mynd i mewn i ysgolion? Oherwydd mae gordewdra yn mynd i fod yn un o'r argyfyngau mwyaf sy'n wynebu ein GIG yn y dyfodol.

Ceir dau beth yn y fan yna. Y cyntaf yw, dim ond o ran y data y mae'r rhaglen mesur plant yn eu darparu i ni, maen nhw'n dangos mewn gwirionedd, ers y pandemig, bod gennym ni rhyw fymryn yn llai o blant sy'n ordew neu dros bwysau. Yr her, fodd bynnag, yw ei fod yn fwy na 10 y cant mewn gwirionedd. Felly, mae'n gyfran sylweddol o'n poblogaeth mewn gwirionedd. Dyna pam mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi gwneud mynd i'r afael â'r argyfwng gordewdra sy'n ein hwynebu yn flaenoriaeth allweddol iddi. Nid yw'n ymwneud ag oedolion yn unig, mae'n ymwneud â phlant hefyd. Mae'n golygu deall y pwynt a wneuthum yn gynharach mewn ymateb i Rhianon Passmore, sut rydych chi'n gwneud y dewis iach yn ddewis haws—yr hyn y mae hynny'n ei olygu i ddeiet, yr hyn y mae'n ei olygu i fwyd a diod, yr hyn y mae'n ei olygu i ymarfer corff a sut rydych chi'n deall sut rydych chi'n gwneud dewisiadau.

I mi, mae'n mynd i wraidd y ffaith bod hwn yn un o'r pethau y gallwch chi ei gael yn iawn yn y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf ym mywyd plentyn. Nid yw pob un o'r heriau yn cael eu datrys mewn 1,001 diwrnod, ond rwy'n credu y gall ac y bydd cael y patrwm yn iawn ar gyfer bywyd y plentyn hwnnw, sut rydych chi'n cynorthwyo'r teulu hwnnw i ddeall yr holl gryfderau sydd ganddyn nhw, a phwysigrwydd y dewisiadau rydych chi'n eu gwneud fel rhiant, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn ogystal â chynorthwyo pobl i wneud dewisiadau iachach, i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i geisio gwneud rhywbeth am eu pwysau eu hunain—nid oherwydd mai dyna'r peth iawn i'r Llywodraeth neu'r GIG, ond oherwydd mai dyna'r peth iawn iddyn nhw a'u teulu, ac mewn ffordd sy'n wirioneddol gefnogol. Nid ydym ni erioed wedi llwyddo i wneud hynny'n llwyddiannus, a dyna pam rwy'n gefnogol iawn o'r dull sy'n cael ei fabwysiadu gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gydnabod hyn fel her y mae'n rhaid ei hwynebu a mynd i'r afael â hi ledled y wlad gyfan. Mae'n un i'r Llywodraeth gyfan ac, yn wir, cymdeithas gyfan hefyd.

Mae plant yn mynd yn brin o fwyd oherwydd, yn 66.2 y cant o etholaethau'r DU, mae mwy nag un o bob pedwar plentyn yn byw mewn tlodi. Yng Nghymru, mae'n 84.4 y cant. Tynnodd y Prif Weinidog sylw at y ffaith bod diwygiadau i fudd-daliadau wedi chwarae rhan yn hyn, a dangosodd data a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan yr Adran Gwaith a Phensiynau bod 1.6 miliwn o blant bellach yn byw mewn aelwydydd sydd wedi cael eu taro gan y cap budd-dal dau blentyn. Dangosodd adroddiad fis diwethaf gan Brifysgol Loughborough bod y polisi hwn yn effeithio'n uniongyrchol ar fwy na 65,000 o blant yng Nghymru. Mae cynghrair o 120 o sefydliadau wedi galw am ddileu'r polisi anfoesol hwn, gan ei fod yn creu ac yn ymwreiddio tlodi plant, yn rhoi pwysau enfawr ar wasanaethau cyhoeddus ac yn ei gwneud yn anoddach i blant wireddu eu potensial. Felly, a ydych chi'n cytuno y dylai Llywodraeth Lafur newydd y DU ddiddymu'r cap dau blentyn os ydyn nhw'n mynd i wneud unrhyw gynnydd o ran mynd i'r afael â thlodi plant? A pheidiwch â dweud nad oes unrhyw arian, pan fo'r DU yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd. Daethpwyd o hyd i arian ychwanegol ar gyfer arfau, ac nid yw'r gost o gael gwared ar y cap yn ddim o'i gymharu â'r gost o'i gadw.

13:50

Rwy'n falch iawn o record y Llywodraeth Lafur flaenorol y gwnes i gnocio drysau drosti, ymgyrchu drosti a gweld ei dyfodiad ym 1997. Cododd y Llywodraeth honno gannoedd o filoedd o blant allan o dlodi trwy ddewisiadau bwriadol. Cafodd dros hanner miliwn o blant eu codi allan o dlodi. Yn y maniffesto sydd wedi arwain at ddychwelyd 27 o 32 o ASau Llafur Cymru yma yng Nghymru, ceir ymrwymiad i adolygu'r system fudd-daliadau ac ymrwymiad i godi plant allan o dlodi eto, oherwydd rydym ni'n cydnabod y bydd yn cymryd dull llywodraeth gyfan o ddatrys hynny—ie, diwygio budd-daliadau, ond hefyd gwneud rhywbeth am wneud i waith dalu. Dyna pam mae cael sefydlogrwydd economaidd mor bwysig, i ddeall sut rydych chi'n tyfu'r economi i fwy o bobl allu gwneud eu dewisiadau eu hunain, i allu bwydo a gwisgo eu teulu yn iawn.

Rwy'n falch o'r maniffesto yr etholwyd ASau Llafur Cymru ar ei sail, ac fel rwyf i wedi dweud dro ar ôl tro, os caiff y maniffesto hwnnw ei gyflawni, bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r economi ac i wasanaethau cyhoeddus a bydd yn arwain at godi cannoedd o filoedd o blant allan o dlodi eto, yn unol â'r ymrwymiad maniffesto a gefnogwyd gan bobl Cymru yn yr etholiad diwethaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn y 17 mlynedd rwyf i wedi bod yn y sefydliad hwn, nid wyf i'n credu eich bod chi a minnau erioed wedi rhannu lifft. Y bore yma, agorodd y drysau ac roeddech chi'n sefyll yno. Estynnais fy llaw i ysgwyd eich llaw a dymuno'n dda i chi ar gyfer y dyfodol. Yn anffodus, fe wnaethoch chi wrthod y llaw honno. Wrth i mi sefyll yma, rwy'n dymuno'n dda i chi a'ch teulu oherwydd, yn y pen draw, nid wyf i'n bychanu'r hyn sydd wedi digwydd dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.

Ond a gaf i ofyn y cwestiwn hwn i chi heddiw? Ai derbyn y rhodd o £200,000 i'ch ymgyrch arweinyddiaeth neu ai eich penodiad o'ch cystadleuydd am yr arweinyddiaeth a'i dîm arweinyddiaeth i'ch Cabinet a gostiodd swydd y Prif Weinidog i chi yn y pen draw?

Unwaith eto, mae'r Aelod yn dangos ei ewyllys da. Rwy'n edrych ymlaen at weld pobl yng Nghymru yn parhau i wneud eu dyfarniad yn y blwch pleidleisio. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i geisio perswadio pobl i bleidleisio drosom ni a'r weledigaeth yr ydym ni'n ei chynnig.

Rwy'n gwbl eglur am fy uniondeb fy hun. Rwy'n gwbl eglur am y realiti sydd wedi golygu heddiw nad yw'n bosibl parhau i fod yn Brif Weinidog. Bydd gan bobl eraill eu safbwyntiau eu hunain, ac rwy'n siŵr bod ganddo ef ei safbwynt ei hun eisoes. Rwy'n edrych ymlaen, fodd bynnag, at weld nid yn unig gwrthodiad y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol, ac ethol 27 o 32 AS o Gymru yn ASau Llafur Cymru, ond yr hyn y bydd Prif Weinidog newydd Cymru yn ei wneud gyda'i fandad i arwain Cymru ac, fel y dywedais ar ddechrau'r sesiwn hon, i wneud Cymru yn wlad well gyda ac ar gyfer pob un ohonom ni.

Y peth pwysig yma, Prif Weinidog, yw deall a yw'r grŵp Llafur yn y Senedd hon wedi hollti gymaint fel na allwch chi gwblhau'r mandad hwnnw. Yn eich asesiad, rydych chi wedi dynodi eich bod yn credu y gall y grŵp Llafur ymgynnull o amgylch olynydd i chi. Ai dyna eich asesiad o'r digwyddiadau a welwyd dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf—y gall y grŵp Llafur gyrraedd 2026 gyda Llywodraeth yma yn y Senedd o dan arweiniad Prif Weinidog newydd?

Wrth gwrs y gallwn ni, a beth bynnag fydd yn digwydd yn yr ornest arweinyddol sydd i ddod, pobl Cymru fydd yn penderfynu pwy sy'n dod i'r lle hwn mewn Senedd estynedig. Bydd yn fater wedyn i bawb sy'n cael eu hethol yma i wneud dewisiadau ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu i wneud gwahaniaeth gyda a thros y bobl y mae'n fraint i ni eu gwasanaethu.

Fel y dywedais, rwy'n falch o fy record, a'r holl bethau yr wyf i wedi eu gwneud cyn dod yma ac ers dod yma mewn 11 mlynedd fel Gweinidog. Rwy'n drist gweld heddiw bod cychwyn y broses honno yn dod i ben, ond rwy'n dal i fod yn llawn optimistiaeth ynghylch yr hyn y gall y lle hwn ei wneud ac am yr hyn y gall arweinyddiaeth Llafur Cymru ei ddarparu i'm gwlad a'r holl bobl sy'n falch o alw Cymru'n gartref iddyn nhw.

Y peth allweddol i bobl o'r tu allan, y pleidleiswyr, yw y gallan nhw fod yn hyderus y gall Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol a'n bod ni'n cyflawni'r blaenoriaethau y mae pobl wedi ein hanfon ni yma i'w cyflawni: amseroedd aros, addysg, yr economi, yr amgylchedd. Dyna'r pethau y mae pobl eisiau gweld y gwleidyddion yn gweithredu arnyn nhw.

Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, rwy'n dymuno'n ddaw iawn i chi yn y dyfodol, Prif Weinidog, ond mae'n hanfodol nawr bod yr ansicrwydd hwn yn cael ei egluro a bod amserlen eglur yn cael ei rhoi ar waith fel y gall pleidleiswyr ddeall bod gwleidyddiaeth yn parhau yma yng Nghymru a bod y Llywodraeth yn parhau i lywodraethu. Rwy'n sylweddoli eich bod wedi dweud yn eich sylwadau agoriadol eich bod wedi gofyn i ysgrifennydd cyffredinol—neu gadeirydd—Llafur i roi'r etholiad arweinyddol hwnnw ar waith fel y gall rhywun ddod ymlaen i'ch olynu. A allwch chi ymhelaethu ar yr amserlen ar gyfer pryd rydych chi'n credu y bydd yr wybodaeth honno'n dod yn eglur, ac, yn y pen draw, pa mor gyflym rydych chi'n credu y gellir gwneud hynny fel y gall yr arweinyddiaeth wleidyddol honno yma yn y Bae barhau â'r swyddogaeth wleidyddol yr ydym ni'n cael ein hethol iddi, sef cyflawni ar ran pobl Cymru?

13:55

Byddaf yn parhau i fod yn Brif Weinidog tan y bydd y lle hwn yn dewis olynydd a'r Brenin yn penodi'r olynydd a ddewisir y bydd y lle hwn yn ei ethol. Rwyf i wedi bod yn eglur y bydd gweithrediaeth Llafur Cymru, i fod yn gywir, yn penderfynu nid yn unig ar y rheolau ond ar yr amserlen ar gyfer gornest. Bydd honno wedyn yn cyflwyno'n eglur iawn yr hyn a fydd yn digwydd o fewn ein plaid, ac yna bydd angen i'r lle hwn benderfynu a yw'n dymuno cefnogi'r unigolyn hwnnw fel arweinydd y grŵp mwyaf, neu fel arall dewis rhywun arall. Bydd y Llywodraeth yn parhau. Bydd penderfyniadau yn parhau i gael eu gwneud. 

Rwy'n credu y byddai gan ei ddadleuon fwy o rym pe baen nhw ychydig yn fwy diffuant. Pan ystyriwch i'r rhaniadau a ddioddefwyd gan y DU oherwydd ei blaid ei hun, pan ystyriwch chi realiti pa mor hir y bydd cystadleuaeth arweinyddiaeth newydd y Ceidwadwyr yn ei chymryd ar lefel y DU, nid wyf i'n credu ei fod yn briodol dod yma a mynnu atebion ac amserlen ar sail fyrfyfyr heddiw. Bydd fy mhlaid yn gwneud dewisiadau ynghylch sut y bydd yr ornest yn cael ei chynnal. Yn gynnar yn yr hydref, bydd unigolyn newydd yn sefyll yma fel arweinydd Llafur Cymru, a bydd angen i'r lle hwn benderfynu a ddylid ethol yr unigolyn hwnnw fel yr ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog. Edrychaf ymlaen at weld y Brenin yn cadarnhau'r dewis y mae'r Senedd hon yn dewis ei wneud, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl yn y ddemocratiaeth weithredol y mae'n fraint i ni fod wedi ei chreu ac sy'n gwasanaethu ein gwlad.

Diolch, Llywydd. Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud y penderfyniad cywir heddiw, ac rwy'n dymuno'n dda iddo'n bersonol. Bydd wedi bod o dan bwysau aruthrol dros yr wythnosau diwethaf, ac nid wyf i, yn un, erioed wedi amau ei synnwyr o wasanaeth cyhoeddus.

Fodd bynnag, mae hwn yn benderfyniad a ddylai fod wedi cael ei wneud sawl wythnos yn ôl. Ar ôl i'r rhodd o £200,000 a'r materion cysylltiedig ddod yn eglur—ei ffynhonnell, y cais fferm solar, y benthyciad gan y banc datblygu—dylai ei ymateb fod wedi cydnabod ei grebwyll gwael a chydnabod y tybiaethau real iawn a grëwyd. Pan ddaeth honiadau i'r amlwg am ddileu negeseuon, yr ymateb a gawsom oedd diswyddo Gweinidog, a, hyd heddiw, nid ydym yn gwybod o hyd pa broses a ddilynwyd. A thrwy'r cyfan, mae'r Prif Weinidog wedi dewis beio eraill—newyddiadurwyr, gwleidyddion y gwrthbleidiau—am graffu arno, yn hytrach na derbyn camgymeriadau ei weithredoedd ei hun.

Ers misoedd, mae diffyg crebwyll y Prif Weinidog, ei amharodrwydd i gael ei graffu, wedi tanseilio swydd y Prif Weinidog ac wedi dwyn anfri ar wleidyddiaeth Cymru. Yn anaml iawn mae pennaeth Llywodraeth mewn democratiaeth yn diystyru ewyllys y ddeddfwrfa drwy barhau er gwaethaf colli pleidlais o hyder; mi roedd o'n rhaid iddo fo fynd. 

Cafodd ei wthio, yn y pen draw, gan ymddiswyddiad pedwar Gweinidog, y gwnaeth pob un o'r pedwar ohonyn nhw bleidleisio i ddatgan eu hyder ynddo yn ddiweddar. Roedd eu cyfle i ddangos camau pendant wedi hen ddiflannu. Safodd Keir Starmer ei hun ysgwydd yn ysgwydd ag ef drwy'r cyfnod, naill ai'n anymwybodol neu'n anwybodus o farn y cyhoedd am weithredoedd ein Prif Weinidog. Mae'r Blaid Lafur yn ei chyfanrwydd wedi cael ei llygru gan hyn ac mae Cymru'n haeddu gwell na drws troi o Brif Weinidogion Llafur. Mae'n rhaid i'r anhrefn ddod i ben ac mae'n rhaid galw etholiad. A wnaiff ef ganiatáu i lais Cymru gael ei glywed?

Diolch am yr araith a'r ddau gwestiwn. Rwy'n credu pan fyddwch chi'n mynd trwy bopeth sydd wedi digwydd, gallwch fod yn eglur—. Ac ewch yn ôl drwy'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi ceisio eu gwneud eto yn y taflu baw sy'n digwydd. Nid yw'r fferm solar yn ddim i'w wneud â fi fel y Prif Weinidog. Ni allaf gymryd rhan yn hynny gan ei bod yn fy etholaeth i. Rwyf wedi bod yn eglur ynglŷn â hynny. Mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn eglur na wnaethon nhw gymryd unrhyw gyfarwyddiadau gan unrhyw Weinidog. Byddai'n sinistr pe bai'r Llywodraeth yn dewis ymyrryd o blaid, neu fel arall, yn unrhyw un o'r ceisiadau y mae'r banc datblygu yn ymgymryd â nhw, ac eto mae'r Aelod yn parhau i fynd ar drywydd materion y mae'n gwybod nad ydyn nhw'n gysylltiedig â'm hymddygiad. Ac i gamu yn ôl i hawlio bod hyn yn ymwneud â thybiaethau—mae honno'n siarter ar gyfer anonestrwydd, ac mae'r Aelod yn gwybod hynny. Os yw ein gwleidyddiaeth yn mynd i wasanaethu'r wlad, yna mae'n rhaid i rai ohonom ni, o leiaf, fod â rhywfaint o uniondeb ynglŷn â'r ffordd yr ydym ni'n mynd ati i wneud ein swyddi, gan gynnwys y feirniadaeth o bobl eraill. Ac o ran craffu, rwyf i wedi bod yma bob wythnos, fel sy'n ofynnol i'r Prif Weinidog, yn ateb cwestiynau yn helaeth yn y Siambr hon. Nid wyf i wedi cuddio dim yn ystod ymgyrch yr etholiad; rwyf i wedi mynd allan, rwyf i wedi bod yn gwbl flaenllaw. Nid wyf i wedi dod o hyd i oergell gyfleus i guddio ynddi. Rwyf i wedi gwneud fy ngwaith dros fy ngwlad. Nid oes yn rhaid iddo gytuno ag ef. Mae hynny'n ymwneud â bod â democratiaeth weithredol, ac mae hynny'n gwbl resymol. Ond nid yw'r syniad bod camddealltwriaeth neu ddiffyg eglurder ynglŷn â'r broses a ddilynwyd, ac amrywiaeth o bethau eraill, yn un yr wyf i'n ei dderbyn. Mae'r ffeithiau wedi bod yno ac wedi cael eu hesbonio, wedi cael eu cydnabod, hyd yn oed ganddo ef yn y Siambr hon.

Mae dewis i bobl ei wneud, a dewisodd rhai pobl adael y Llywodraeth heddiw, ac mae canlyniadau i hynny. Byddaf yn parhau i wneud fy ngwaith tan y bydd rhywun arall yn cael ei ganfod, yna bydd gan yr unigolyn hwnnw yr holl ddewisiadau i'w gwneud, fel Prif Weinidog Cymru, ynghylch pwy i'w benodi a sut i redeg rhaglen i geisio gwella ein gwlad, sydd yn union fel y dylai fod.

14:00

Mae hyn yn ymwneud â mwy na gweithredoedd Prif Weinidog yn unig, mae'n ymwneud â dull gweithredu cyfunol Llafur. Ar ôl 25 mlynedd yn arwain Llywodraeth Cymru, mae Llafur wedi profi nad ydyn nhw'n gallu, yn fy marn i, mynd i'r afael â'r heriau sylweddol sy'n ein hwynebu fel cenedl: pan fo busnesau wedi bod yn ei chael hi'n anodd, mae Llafur wedi cynyddu ardrethi busnes; mae ein heconomi yn methu â ffynnu; gyda thraean o'n plant yn byw mewn tlodi, mae Llafur yn amharod, o hyd, i osod targedau i fesur cynnydd; ei chanlyniadau addysg gwael; rhestrau aros hiraf erioed; diffyg cymorth i gefn gwlad Cymru—mae'r rhestr yn parhau. A yw'r Prif Weinidog o'r farn mai dyna waddol pawb a gadwodd hyder ynddo am gyhyd?

Rwy'n credu y gall pobl fod yn gadarnhaol iawn am yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Mae pobl yng Nghymru wedi dewis ethol Llafur Cymru i barhau i arwain datganoli, o'r cychwyn cyntaf. Bu'n rhaid i ni weithio ar draws llinellau pleidiau i wneud hynny, ond mae gennym ni hanes rhyfeddol o hyd i fod yn falch ohono. Os meddyliwch chi am yr hyn a wnaethom ni, nid yn unig ar genedlaethau'r dyfodol—rwy'n credu bod yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud i gynyddu cynhyrchiant yng nghyfnod datganoli mewn gwirionedd, mae hynny wir wedi digwydd. Meddyliwch am le'r oeddem ni o ran yr economi. Roedd Cymru wedi arfer bod yn ystyfnig uwchben y DU o ran cyfraddau diweithdra; mae'r sefyllfa wedi'i gwrthdroi erbyn hyn. Rydych chi'n disgwyl yn rheolaidd i Gymru fod â lefel is o ddiweithdra. Mae gennym ni fwy o heriau i'w hwynebu o hyd—dyna beth yw diben y lle hwn i fod.

Rwy'n deall bod yr Aelod eisiau cynnal ymgyrch hir i mewn i 2026, fel y mae ganddo hawl i'w wneud, ond y dewis yw: sut mae'r lle hwn yn gweithio, gyda chyllideb sydd wedi cael ei lleihau cannoedd o filiynau mewn termau real, gan y Ceidwadwyr yn y tair blynedd diwethaf, ac, wrth gwrs, y boen a'r anhawster llawer mwy yr ydym ni wedi eu cael yn ystod y 14 mlynedd diwethaf? Mae'n onest dweud wrth bobl: mae'r ymosodiad hwnnw ar ein cyllideb, y gostyngiad hwnnw, yn arwain at ganlyniad gwirioneddol o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud. Ac eto, o hyd, rydym ni wedi llwyddo i wneud cynnydd gwirioneddol.

Mae mwy i ni ei wneud o hyd, mwy i ni ei wneud o ran cyflwyno ein cwricwlwm arloesol, o ran gwella cyrhaeddiad, o ran presenoldeb, a'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol sydd gennym ni. Gallwch edrych drwy bob portffolio a gweld camau gwirioneddol yn cael eu cymryd gan Weinidogion Llafur Cymru dros ein gwlad. Dyna fyddwn ni'n parhau i'w wneud, dyna fyddwn ni wedyn yn mynd ag ef at y cyhoedd i ofyn iddyn nhw am eu dyfarniad yn y blwch pleidleisio, ac rwy'n siŵr y bydd pobl yn barnu a ddylid rhoi rhwydd hynt i'r Torïaid am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud, ond hefyd y dyfarniad ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud gyda'r pwerau, y cyfrifoldebau a'r dulliau a oedd ar gael i ni yma yng Nghymru.

Rwy'n credu, fodd bynnag, bod y cyhoedd yng Nghymru wedi dyfarnu nad yw'r Llywodraeth wedi gallu gweithredu, dros y tri mis diwethaf, oherwydd y sgandalau o amgylch ein Prif Weinidog. Ac mae'r tri mis diwethaf hynny wedi bod yn achos clasurol, rwy'n credu, o blaid cyn gwlad: peidio â siglo'r cwch yma tan i etholiad y DU orffen. Addawyd bargen well i ni drwy gael Llafur mewn grym yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd. Nid yw'r arwyddion cynnar yn wych. Nid yw hon yn teimlo fel Llywodraeth Cymru sy'n benderfynol o ddwyn Llywodraeth y DU i gyfrif. Mae'n rhaid i'r berthynas fod yn un o her adeiladol, nid o fod yn gwbl gytûn drwy'r amser. Ac rydym ni wedi ei glywed eto heddiw, ar fater parhad y cap budd-dal dau blentyn.

Ceir llawer o wahaniaethau rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru. Yn rhy aml rydym ni'n gweld Llafur yn gwanhau ein gofynion ac yn mygu ein huchelgeisiau. Rwy'n ofni ein bod ni eisoes yn gweld teyrngarwch i San Steffan yn mynd yn drech na dyletswydd i Gymru. Nawr, bydd y gwahaniaeth hwn ar y papur pleidleisio yn etholiad nesaf y Senedd. Os yw'r Prif Weinidog sy'n gadael mor hyderus yn ei ddull o weithredu, pam na wnaiff ef ymddiried ym mhobl Cymru i wneud y penderfyniad?

14:05

Mae gan yr Aelod hawl i ddweud ei fod yn gwrthwynebu Llywodraeth y DU sydd newydd gael ei hethol ar draws y DU, ac yn wir gyda chefnogaeth 27 o 32 o ASau Cymru. Mae ganddo hawl i ddweud ei fod yn anghytuno â hi a'i fod eisiau cael her gyson. Mae ganddo hawl i fynd allan a dweud y dylech chi gwestiynu'r ffydd a roddir yn y bartneriaeth dros gynnydd yr wyf i'n credu sydd ar gael i ni. Mae'n ddemocratiaeth; mae ganddo'r hawl i wneud hynny. Yr hyn nad wyf i'n derbyn bod ganddo hawl i'w wneud, Llywydd, yw cwestiynu teyrngarwch Aelodau Llafur Cymru yn y lle hwn neu yn Senedd y DU i Gymru. Mae gennym ni wahanol weledigaeth ynghylch sut y gallai ac y dylai Cymru gael ei llywodraethu a'i rhedeg, y gwahanol gyfleoedd. Rwy'n angerddol iawn yn fy ymrwymiad i'r wlad hon a'r bobl y mae wedi bod yn fraint i mi eu gwasanaethu, pa un ai fel cyfreithiwr cyflogaeth neu fel Aelod o'r lle hwn. A byddwn yn rhoi ein gweledigaethau cystadleuol ar gyfer y dyfodol hwnnw gerbron y cyhoedd, y gwelliant yr wyf i eisiau i weld ym mhob cymuned, yn yr economi, mewn gwasanaethau cyhoeddus a sut rydym ni'n edrych arnom ni ein hunain, yr uchelgais a ddylai fod gennym ar gyfer ein gwlad, i gydnabod, er gwaethaf ein holl heriau, bod sawl rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru yn torri tir newydd ac yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Rwyf i eisiau'r uchelgais hwnnw ar gyfer fy ngwlad, ynghyd â llwyddiannau i fynd ochr yn ochr ag ef. Dyna fydd fy mhlaid yn ei gynnig i bobl Cymru yn yr etholiad nesaf, a mater iddyn nhw fydd dewis, ond peidiwch byth â chwestiynu fy nheyrngarwch i'm gwlad na theyrngarwch fy nghyd-Aelodau Llafur yng Nghymru.

Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol

A gaf i ddymuno’r gorau i’r Prif Weinidog hefyd a diolch iddo am ei flynyddoedd o wasanaeth?

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y cynghorwyr trais rhywiol annibynnol sydd ar gael yng ngogledd Cymru? OQ61478

Mae'r dirwedd ar gyfer cyllid cynghorwyr trais rhywiol annibynnol yn gymhleth. Mae llawer o swyddi arbenigol yn y sector yn cael eu hariannu gan ffynonellau lluosog, gan gynnwys cyllideb trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru, adrannau Llywodraeth y DU a chyllidwyr eraill. Felly nid yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar ddata cynhwysfawr ar swyddi ar hyn o bryd.

Diolch i’r Prif Weinidog am yr ateb hynny. Wrth gwrs, mae’r ystadegau ynghylch aflonyddu rhywiol yn llawer rhy gyfarwydd i bob un ohonon ni. Mae 97 y cant o ferched rhwng 18 a 24 oed yn profi aflonyddwch rhywiol yma yn y Deyrnas Gyfunol, ond mae’r sefyllfa yng ngogledd Cymru hyd yn oed yn fwy pryderus, gyda’r rhanbarth yma ymhlith y cyfraddau uchaf o droseddau rhywiol yn yr holl Deyrnas Gyfunol.

Mae ISVAs yn gwneud gwaith anhygoel wrth gynnig cymorth i ddioddefwyr troseddau rhywiol, ond y gwir ydy nad oes yna ddigon ohonyn nhw ar gael i’r rhai hynny sydd angen y cymorth creiddiol yma. Felly, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu ar y cymorth i ddioddefwyr, ac ydy’r Prif Weinidog yn cytuno y dylai darpariaeth ISVA fod yn statudol ac ar gael ymhob awdurdod lleol?

Wel, rwy'n edrych ymlaen at yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ymarferol, a'r dull sydd gennym ni o edrych ar y glasbrintiau a ddechreuwyd gan fy nghyd-Weinidog, Jane Hutt yn ystod ei chyfnod mewn swydd wahanol yn y Llywodraeth i weld beth allwn ni ei wneud i wneud gwahaniaeth ymarferol mewn maes lle mae pwerau wedi'u cadw yn ôl o hyd, ond lle'r ydym ni'n bartneriaid allweddol, oherwydd mae llawer o wasanaethau datganoledig yn rhan o'r ffordd rydych chi'n cynorthwyo pobl. Yr hyn sydd angen i ni ei weld mewn gwirionedd yw gostyngiad i lefel y trais a'r cam-drin yn erbyn menywod a merched yn y lle cyntaf. Dyna pam rwy'n falch iawn ein bod ni wedi ymrwymo fel cam cyntaf ym maniffesto fy mhlaid i haneru'r lefel honno dros y degawd nesaf, a bydd mwy y mae angen i ni ei wneud. Mae hynny'n ymwneud â'r hyn y mae'r heddlu a gwasanaethau eraill yn ei wneud i gynorthwyo pobl sydd wedi dioddef trais a chamdriniaeth. Mae'n ymwneud llawer mwy â newid y ffordd y mae ein gwlad yn gweithio, ac mewn gwirionedd mae hynny'n golygu pobl yn cydnabod nad yw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn dderbyniol, a sut rydych chi'n newid hynny yn y lle cyntaf yn ogystal â chynorthwyo pobl sydd wedi dioddef troseddau yn eu herbyn.

Rwy'n falch o'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud, ac rwy'n falch hefyd o waith comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru yn gweithio ar draws partneriaethau. Rwy'n credu bod ymrwymiad Llywodraeth bresennol y DU i wneud gwahaniaeth, i leihau trais yn erbyn menywod a merched, i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu dal a'u herlyn, i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu cynorthwyo'n iawn, yn un y gallwn ni weithio gydag ef yma yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weld sut mae'r bartneriaeth honno yn gweithio rhwng y Llywodraeth hon a phwy bynnag sy'n ei harwain, a'r tîm newydd yn y Swyddfa Gartref a thu hwnt. Bydd hyn yn gweithio dim ond os gwneir i bwerau a gedwir yn ôl weithio'n iawn, ac yn wir y gall y gwasanaethau cymorth datganoledig wneud yn siŵr y gallwn ni wneud gwahaniaeth i amrywiaeth eang o bobl a newid yr hyn sy'n digwydd yn ein gwlad yn llawer rhy aml ar hyn o bryd.

Mae'n rhaid i mi fod yn onest, mae'n siomedig iawn nad ydych chi'n gallu ateb yn llawn y cwestiwn a ofynnwyd gan fy nghyd-Aelod Mabon. Ar ddiwedd y dydd, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol eich bod chi'n gwybod faint o'r cynghorwyr annibynnol hyn sydd gennym ni ar gael, a hoffwn gofnodi ei bod yn fraint, flynyddoedd lawer yn ôl pan oeddwn i yn y lle hwn am y tro cyntaf, i weithio ochr yn ochr â'r diweddar Carl Sargeant, a wnaeth gymaint o waith caled, cymaint o waith da i sicrhau y gallai menywod deimlo eu bod wedi'u hamddiffyn. Felly, mae'n rhywbeth y byddwn yn gofyn i'ch Llywodraeth wir ganolbwyntio arno ac edrych arno eto.

Cam-drin domestig yw un o laddwyr tawel ein hoes. Mae bron i draean o fenywod dros 15 oed yn dweud eu bod nhw wedi dioddef trais gan bartner agos yn ystod eu hoes. Cafodd dros 56 y cant o fenywod a lofruddiwyd y llynedd, yn fyd-eang, eu lladd yn dilyn trais domestig. Yng ngogledd Cymru, cofnodir 13,000 o droseddau yn ymwneud â cham-drin domestig mewn un flwyddyn. Ni allwn barhau i osgoi hyn. Yng Nghwpan y Byd diwethaf, yn 2022, gwelwyd cynnydd o 47 y cant i nifer yr achosion o drais domestig yn ymwneud ag alcohol ar ddiwrnodau pan enillodd Lloegr, a chynnydd o 18 y cant ar ddiwrnodau ar ôl gêm Lloegr. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd felly, Llywodraeth Cymru a Phrif Weinidog, ar hyn o bryd, i fynd i'r afael â'r cysylltiad hwn rhwng alcohol, digwyddiadau chwaraeon mawr, cam-drin domestig, a hefyd i geisio amddiffyn ein menywod, yn bennaf? Diolch.

14:10

Dylwn i fod wedi dweud, mewn ymateb i'r cwestiwn cyntaf, bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal ymarfer—rwy'n credu yr ysgrifennwyd ati amdano—sy'n mynd i sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym ni yn gadarn ac yn gywir, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf unwaith y bydd yr ymarfer hwnnw wedi cael ei gynnal. Felly, bydd y data yn cael eu darparu, unwaith y byddwn yn deall o le mae hynny'n dod.

Edrychwch, o ran y cwestiynau a ofynnwyd gan yr Aelod dros Aberconwy, rydym ni'n deall bod cysylltiad rhwng digwyddiadau chwaraeon, alcohol, trais domestig a cham-drin, ac mae'n gysylltiad cywilyddus. Dyna pam, dros amser, rwy'n credu bod cyrff llywodraethu digwyddiadau chwaraeon mawr wedi gwella o ran gofyn a cheisio bod yn esiamplau, a bod ganddyn nhw neges eglur am yr hyn nad yw'n dderbyniol. Yr her yw sut rydych chi'n cael y newid cymdeithas gyfan hwnnw. Sut mae pobl nid yn unig yn dweud rhywbeth, ond maen nhw'n ei olygu ac yn ei wneud, i gydnabod effaith eu hymddygiad eu hunain a sut ydych chi'n cynorthwyo pobl i gydnabod na ddylai fod yn rhaid iddyn nhw oddef yr ymddygiad y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio.

Nawr, rwy'n credu ein bod ni wedi cymryd camau gwirioneddol ymlaen yn y sefydliad hwn o ran bod eisiau newid y sgwrs genedlaethol honno, sicrhau bod cymorth ymarferol ar gael. Byddwn ond yn gallu cyrraedd lle dylem ni fod os gallwn ni weithio gyda Llywodraeth effeithiol ledled y DU, sydd â phwerau a chyfrifoldebau yn y meysydd hynny nad ydyn nhw yma yn gyfan gwbl, ac mae'n fater o sut rydym ni'n cyrraedd yno, nid a fyddwn ni'n cyrraedd yno, a dyna pam rwy'n falch bod ymrwymiad maniffesto gan y Llywodraeth bresennol i wneud rhywbeth i leihau'r trais a'r cam-drin y mae menywod a merched yn ei ddioddef ar hyn o bryd yn sylweddol, fel cam cyntaf, cyn ail-ymgynnull wedyn i ddeall beth sy'n dod nesaf. Mae'n fwy nag un peth, ac rwy'n gobeithio y bydd y lle hwn yn parhau i chwarae ei ran o fod yn rhan o fod ar ochr iawn hyn i gyd.

Y Cod Gweinidogol

4. Pa fecanweithiau a fwriada’r Prif Weinidog eu rhoi mewn lle i sicrhau goruchwyliaeth annibynnol o’r cod gweinidogol? OQ61482

Mae paragraff 1.7 cod y gweinidogion yn nodi sut yr ymchwilir i gwynion.

A gaf i ddweud ar y cychwyn, ar lefel bersonol, Vaughan, fy mod i'n sylweddoli diwrnod pa mor anodd fydd hwn i chi a diwrnod pa mor drist y bydd i'r rhai sy'n agos atoch chi ac yn poeni amdanoch chi? Ac rwy'n credu, fel y dywedodd y Llywydd, beth bynnag fo'n anghytundebau, beth bynnag fo ein gwahaniaethau, rwy'n credu, ar adegau fel hyn, ei bod hi'n bwysig ein bod ni i gyd, hefyd, yn dangos rhywfaint o garedigrwydd ac empathi.

Rwy'n credu mai un o'r gwersi i mi, o'r misoedd poenus diwethaf, yw, pan fydd ymddiriedaeth yn diflannu, mae popeth arall yr ydym ni i gyd yn cael ein galw i mewn i wleidyddiaeth i'w wneud, y rheswm ein bod ni i gyd yma, ein bod ni eisiau gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl—mae hynny'n dod yn amhosibl yn absenoldeb ymddiriedaeth. Ac rwy'n credu ei bod yn debyg mai er mwyn osgoi'r math hwnnw o barlys gwleidyddol y mae'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi ymrwymo i greu comisiynydd moeseg annibynnol a fydd â throsolwg annibynnol ar god y gweinidogion. Bydd yn gallu sefydlu ei ymchwiliadau ei hun ac ymchwilio i ddiffyg cydymffurfiad a chyhoeddi adroddiadau. A ydych chi'n meddwl, pe bai gennym system o'r fath ar waith yma, y gallem ni fod wedi osgoi rhywfaint o boen y misoedd diwethaf, rhywfaint o'r niwed a wnaed i ymddiriedaeth mewn democratiaeth, a rhywfaint o'r niwed y mae hyn wedi ei achosi i chi ac i eraill yn y Senedd hon?

14:15

Wel, rwyf wedi nodi, nid yn unig heddiw, ond ar sawl achlysur, bwyntiau am fy uniondeb nad ydyn nhw wedi cael eu derbyn gan bobl eraill. Nid wyf i'n credu y byddai newid cod y gweinidogion na'r ffordd yr ymchwilir iddo yn newid llawer ar hynny. Mae hynny'n ymwneud â busnes creulon gwleidyddiaeth a'r hyn y gallwch chi ei wneud fel y mynnoch. Os edrychwch chi ar yr hyn sydd wedi digwydd heddiw, pan gyhoeddais i ddatganiad ysgrifenedig, gyda delweddau, am ddiswyddo'r cyn Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, mae'n nodi'r hyn a ddigwyddodd. Mae'n nodi pam mae'r dystiolaeth mor glir, fel y dywedais, fy mod i'n gallu bod yn eithaf clir bod llun o ffôn yr Aelod hwnnw. Nawr, roedd popeth yr oeddwn i wedi'i ddweud cyn hynny yn ymwneud â cheisio osgoi holl ddigwyddiadau'r wythnos diwethaf sydd wedi llusgo ymlaen ac ymlaen. Rwyf wedi gwneud hynny wrth geisio amddiffyn pobl eraill, ac rwyf wedi bod yn barod i dderbyn beirniadaeth am wneud hynny, a dyna'n union sydd wedi digwydd. Ond roeddwn i'n disgwyl ar ryw adeg y byddai saib a fyddai'n cydnabod mai'r hyn yr oeddwn i wedi'i ddweud oedd y gwir mewn gwirionedd, ac ni ddigwyddodd hynny. A dyna pam y gwnes i gyhoeddi gwybodaeth heddiw sy'n nodi'n syml iawn sut a pham y daethpwyd i'r casgliad hwnnw. Doeddwn i ddim eisiau gwneud hynny, am resymau yn ymwneud â sut rydych chi'n ceisio amddiffyn pobl a gofalu amdanyn nhw. Dyna'r ffordd rwyf wedi ymddwyn, a'r ymddygiad sy'n bwysig. Y broses—. Gallwch chi bob amser edrych ar wella'r broses, a byddwn i ddim yn dweud y dylen ni ddweud bod y broses yn berffaith ac na all unrhyw beth arall ddigwydd. Mae'n rhan o'r rheswm pam mae'r gwaith y mae'r pwyllgor safonau yn ei wneud ar sut rydym yn gwella prosesau, nid yn unig i Weinidogion ond i bob un ohonom ni fel Aelodau o'r Senedd, mor bwysig, i ddeall sut mae gennym ni gydlyniaeth yn ein system. Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig. Ond, yn y pen draw, mae'n ymwneud ag ymddygiad a dewisiadau, ac, ie, barn. Fy marn i oedd fy mod i'n gwneud y peth iawn wrth geisio amddiffyn pobl eraill. Nid dyna'r hyn sydd wedi digwydd yn y diwedd, oherwydd rydyn ni dal wedi cyrraedd y sefyllfa rydym ynddi heddiw. Mae angen i bobl eraill fyfyrio ar yr hyn maen nhw eisiau ei wneud yn y dyfodol a sut maen nhw'n arfer eu barn eu hunain, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cymryd hynny o ddifrif.

Prif Weinidog, mae yna anghysondeb, onid oes, rhwng Plaid Lafur a oedd ag ymrwymiad maniffesto clir i gyflawni rhywfaint o newid ar lefel Llywodraeth y DU er mwyn atal unrhyw Brif Weinidog yn y dyfodol rhag bod yn farnwr, yn rheithgor ac yn ddienyddiwr o ran ymchwiliadau ynghylch cod y gweinidogion drwy gyflwyno'r comisiwn moeseg ac uniondeb newydd hwn—fe wnaethoch chi, ac eraill ar eich meinciau chi, ymgyrchu dros y dull gweithredu hwnnw yn yr etholiad cyffredinol diweddar. Ac eto yma mae'n ymddangos eich bod chi'n amddiffyn y status quo, sydd, a dweud y gwir, wedi'ch gadael chi, yn anffodus, mewn sefyllfa lle mae'ch sefyllfa wedi dod yn anghynaladwy. Yn sicr, fe gyfrannodd, yn anffodus, at y sefyllfa rydych chi'n eich cael eich hun ynddi heddiw.

Fe glywais i chi'n cyfeirio at y pwyllgor ar safonau ymddygiad a'r gwaith y mae'n ei wneud, ond mae hynny ond yn ymwneud ag ymddygiad Aelodau'r Senedd hon, yn hytrach na Gweinidogion yn eich Llywodraeth chi neu unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol. Felly, a gaf i ofyn i chi eto, ac apelio at holl Aelodau'r Blaid Lafur, oherwydd nid wyf i'n gwybod pwy fydd neu na fydd yn dod yn arweinydd eich grŵp yn y dyfodol, i ystyried ymwneud â hyn o ddifrif? Nid oes llawer yn y maniffesto Llafur hwnnw roeddwn i'n ei gefnogi, ond un o'r pethau roeddwn yn ei gefnogi oedd y dull gweithredu hwn o ran y comisiwn moeseg ac uniondeb a'r rôl y gall ei chwarae yn y dyfodol, felly oni fyddech chi'n ailystyried y safbwynt rydych chi newydd ei amlinellu, ar sail y ffaith eich bod chi newydd ymgyrchu dros ddull gweithredu gwahanol iawn yn yr etholiad cyffredinol?

Pe bai'r Aelod wedi gwrando ar fy ymateb i Adam Price, byddai ef wedi clywed fy mod i'n agored i welliannau. Rwyf bob amser yn agored i weld beth y gallen ni ei wneud yn wahanol ac yn well. Nid oes system newydd ar waith ar draws y DU eto, a phan edrychwn ni ar newidiadau sydd wedi'u gwneud, fel y dywedais am safonau yn gyffredinol, mae rhai pethau sydd wedi cael eu newid yn San Steffan nad wyf i'n credu y dylen ni eu dilyn. Er enghraifft, roedd yn gadarnhaol cael system adalw yn Senedd y DU, yn fy marn i, a dyna pam mae'r Llywodraeth wedi bod yn glir ynghylch cefnogi dull gweithredu i hynny ddigwydd nawr ac yn barod ar gyfer 2026. Rydyn ni yn y sefyllfa anodd a phoenus oherwydd materion sydd wedi digwydd o fewn ein Senedd ni, ac fe allen nhw ddigwydd yn unrhyw blaid hefyd. Rwy'n credu bod angen i ni gydnabod nad yw'n ymwneud â chael rheolau ar gyfer un person neu ar gyfer un blaid—rheolau ar gyfer pob un ohonom ni. Ond nid wyf i'n credu bod San Steffan wedi cael pethau'n iawn o ran y ffordd mae'n ymdrin â rhai o'r darpariaethau aflonyddu sydd ganddyn nhw. Yn y bôn, mae ganddyn nhw broses ddeuol, ac rwy'n credu bod hynny'n arwain at anghysondeb nad yw'n amddiffyn yr Aelod a allai fod yn destun cwyn, neu, yn wir, y person sy'n gwneud y gŵyn honno. Felly, byddwn ni, wrth gwrs, yn edrych, a phwy bynnag fydd y Prif Weinidog nesaf, rwy'n siŵr y bydd yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd, yn cymryd rhan mewn sgwrs adeiladol gyda chyd-Aelodau ynghylch a oes angen i'n prosesau newid.

Rwy'n credu, fodd bynnag, y dylai'r Aelod fod yn ddigon gwylaidd i gydnabod mai'r rheswm pam mae'r ymrwymiad hwnnw yn bodoli yw oherwydd achosion o dorri'r rheolau gan Lywodraeth flaenorol y DU, lle y cafodd ymchwiliadau eu cynnal a'u gwrthod. Dyna arweiniodd at ymddiswyddiad y cynghorydd blaenorol. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig myfyrio. Mae tanseilio ymddiriedaeth sydd wedi digwydd mewn rhannau helaeth o wleidyddiaeth yn rhywbeth a allai, ac a ddylai boeni pob un ohonom ni, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y bydd angen i'r lle hwn chwarae ei ran wrth geisio ei ddatrys. Rwy'n gobeithio y gallai'r ffordd y mae Prif Weinidog newydd yn edrych ar yr hyn a all ddigwydd yn Llywodraeth y DU ynghylch datrys neu newid y ffordd mae'n ymdrin â materion fod yn rhan o hynny, ac rwy'n gobeithio y gallai setliad newydd ar sail drawsbleidiol o waith ein pwyllgor safonau presennol fod yn rhan o hynny hefyd. Dylai hynny fod yn dda i bob un ohonom ni, ac yn wir, i'r gwahanol gymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

14:20
Twf Economaidd

5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth newydd y DU ynglŷn â hybu twf economaidd? OQ61483

Diolch. Yn y cyfnod o lai na phythefnos ers yr etholiad, rwyf wedi cael sgyrsiau gyda'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, ac mae pob un ohonyn nhw wedi dangos dealltwriaeth o'r ffyrdd niferus y gallwn ni gydweithio i ddatgloi cyfleoedd ar gyfer twf economaidd yma yng Nghymru.

Diolch, Prif Weinidog. Yn sicr mae'n drawiadol gweld y ffordd y mae Llywodraeth Keir Starmer wedi bwrw ati ar unwaith ar draws amrywiaeth o feysydd polisi, ond un ymyrraeth arbennig o drawiadol yw creu'r gronfa gyfoeth genedlaethol i fuddsoddi yn niwydiannau newydd y dyfodol trwy ddod â sefydliadau allweddol ynghyd a chynnig cynnig cymhellol i fuddsoddwyr. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y gellir defnyddio'r gronfa gyfoeth genedlaethol hon i hybu twf economaidd yng Nghymru?

Rwy'n falch iawn bod yr Aelod wedi tynnu sylw at hyn. Mae'n rhan o'r sgwrs a gefais â Changhellor yr wrthblaid ar y pryd, yn union cyn ethol Llywodraeth Lafur y DU. Fe ges i'r sgwrs hon hefyd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach ar ôl iddo gael ei benodi, ac yn wir, gyda'r Prif Weinidog pan oedd ef yma'r wythnos diwethaf. Mae'r gronfa gyfoeth genedlaethol yn bwriadu creu £7.3 biliwn o gyllid ychwanegol i'r sector cyhoeddus, gyda'r nod a'r uchelgais o gynhyrchu o leiaf £3 o fuddsoddiad ychwanegol gan y sector preifat ar ben hynny. Yr hyn y dylai ei wneud, serch hynny, yw cynyddu'r cyfleoedd yma yng Nghymru yn sylweddol. Un enghraifft yn unig yw'r £1.8 biliwn y disgwylir iddo gael ei fuddsoddi mewn porthladdoedd. Fe wnaethon ni weld, yn y Llywodraeth ddiwethaf, pan wnaethon nhw ddewisiadau ynghylch cronfa fuddsoddi ar gyfer porthladdoedd, roedd yn £160 miliwn, felly, mewn gwirionedd, o ran maint y cyfle, nid oedd yn cyfateb i hynny. Ond, yn fwy na hynny, fe wnaethon nhw ddewis buddsoddi ym Mhort Talbot heb fuddsoddi yn Aberdaugleddau, nad yw'n gwneud synnwyr mewn gwirionedd; mae'r ddau, o ran y cyfle ar gyfer porthladd rhydd, a chyfleoedd o amgylch y Môr Celtaidd yn fwy cyffredinol, mae yna bartneriaeth rhyngddyn nhw. Felly, dylai cael mwy i fuddsoddi, a dewis ble yn strategol i fuddsoddi, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ni yma yng Nghymru. Ac mae hwnnw'n sector lle mae cyfleoedd i wneud y peth iawn i'r blaned, ond hefyd i wneud y peth iawn i'r economi leol, i gael y cadwyni cyflenwi, a swyddi o ansawdd da yma yng Nghymru, fe allai ac fe ddylai ddod o hynny. Mae buddsoddi mewn porthladdoedd yn allweddol i un o'r pethau hynny i'w ddatgloi. Felly, rwy'n credu, pan edrychwch chi drwy'r gronfa gyfoeth genedlaethol, mae yna gyfleoedd gwirioneddol i Gymru, a'r ffordd i gynhyrchu'r rheini yw cael partneriaeth briodol ar gyfer cynnydd, a dyna'r hyn rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru geisio ei gyflawni, ac yna bod yn falch o'r hyn rydym ni wedi llwyddo i'w wneud i wella twf economaidd a rhagolygon yma yng Nghymru yn sylweddol.

Trafnidiaeth Integredig

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth newydd y DU ar drafnidiaeth integredig ar gyfer Dwyrain Casnewydd? OQ61485

Rydym yn paratoi i weithio mewn partneriaeth wirioneddol â Llywodraeth newydd y DU, gan adeiladu ar waith cynhyrchiol yr Arglwydd Burns a'r Arglwydd Hendy. Mae'r Arglwydd Hendy, wrth gwrs, yn Weinidog yn Llywodraeth y DU nawr. Dylai hyn oll ein helpu ni i wella trafnidiaeth integredig, nid yn unig ar gyfer Dwyrain Casnewydd, ond ar draws y de-ddwyrain a thu hwnt.

Ie. Prif Weinidog, yn dilyn y penderfyniad hwnnw i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd, nododd comisiwn Burns y weledigaeth honno ar gyfer system drafnidiaeth wirioneddol integredig ar gyfer Casnewydd a'r cyffiniau—felly, mwy o wasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd, gwasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd gwell ac, yn wir, system ffordd well. Yn ddealladwy, o ystyried yr amser sydd wedi mynd heibio ers hynny, mae llawer o bobl leol yn ddiamynedd yn eu hawydd i weld y newid sylweddol ar y raddfa sydd ei hangen arnom ni, a bydd y math hwnnw o newid, ei faint, yn gofyn am y bartneriaeth honno rhwng Llywodraeth Cymru a'n Llywodraeth Lafur newydd yn y DU. Felly, ar hyn o bryd—mae'n ddyddiau cynnar, yn amlwg, Prif Weinidog, ond—allwch chi ddweud rhywbeth wrth bobl leol yng Nghasnewydd ac, yn wir, ardal ehangach y de-ddwyrain, fel y sonioch, ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'n Llywodraeth Lafur newydd yn y DU ar gynigion comisiwn Burns ac ynghylch maint a natur y buddsoddiad y mae taer angen i ni ei weld?

14:25

O ran Casnewydd, ac fe wnaf i gyfyngu fy hun i Gasnewydd, er mwyn i mi beidio â chrwydro i faterion etholaethol fy hun, mae cyfleoedd ar gyfer gorsafoedd rheilffordd newydd yn ardal Casnewydd. Mae cyfleoedd hefyd i wella cysylltiadau bysiau cyflym rhwng Caerdydd a Chasnewydd, a bydd angen pob un ohonyn nhw os ydym am fynd i'r afael â maint y traffig sy'n dal i gael ei weld ac a fydd yn parhau i gael ei weld, ynghyd â'r penderfyniad i beidio ag adeiladu ffordd liniaru'r M4. Dylwn i ei wneud yn glir fy mod i'n credu bod y penderfyniad hwnnw wedi'i wneud, ac nid wyf yn credu y bydd hynny'n cael ei ailystyried. Mae'n ymwneud â sut rydym yn gwneud adroddiad comisiwn Burns ac argymhellion yr uned gyflawni yn bethau y gallwn ni fuddsoddi ynddyn nhw.

Yr Athro Simon Gibson yw cadeirydd annibynnol yr uned gyflawni. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £10 miliwn i ddatblygu cynigion i fwrw ymlaen ag argymhellion Burns. Rwy'n credu bod gennym ni ffenestr nawr, gyda Llywodraeth Lafur newydd yn y DU, i weld cyd-fuddsoddi yn yr hyn y gallai hynny fod, oherwydd, wrth gwrs, nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli. Bydd angen i ni weld datblygiad o ran hynny i gyflawni yn erbyn argymhellion Burns, ac rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn ymateb i drydydd adroddiad yr uned gyflawni i nodi ble rydym ni arni a'r sgyrsiau cychwynnol rydym eisoes yn eu cael gyda Llywodraeth Lafur y DU. 

Deallusrwydd Artiffisial

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yng ngwasanaethau iechyd Cymru? OQ61458

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gyflawni yn erbyn y strategaeth digidol a data ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn parhau i sefydlu a chydweithio gyda'r comisiwn deallusrwydd artiffisial. Rydym wedi mabwysiadu canllawiau ar dryloywder algorithmig, ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn gallu cael ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn foesegol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Diolch, Prif Weinidog. Fe fyddwch chi'n gwybod bod manteision posibl deallusrwydd artiffisial yn sylweddol mewn meysydd fel gofal iechyd. Er enghraifft, ystyriwch y system deallusrwydd artiffisial a ddatblygwyd gan Ysbyty Llygaid Moorfields a Choleg Prifysgol Llundain, sydd â'r potensial i nodi clefydau llygaid sy'n bygwth golwg a hefyd ragweld neu nodi cyflyrau iechyd eraill, megis trawiadau ar y galon a strôc. Mae'r system hon wedi'i gwneud yn ffynhonnell agored ac mae ar gael yn rhwydd ledled y byd, fel enghraifft o'r GIG ar ei orau, gyda'r potensial i fod yn gwbl drawsnewidiol. Wrth gwrs, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno y dylai Cymru fod ar flaen y gad o ran hyn hefyd, gan geisio sicrhau nad yw'n colli unrhyw gyfleoedd a fyddai'n rhagweld, atal a thrin problemau iechyd difrifol yn well. Felly, Prif Weinidog, tybed pa sgyrsiau ydych chi a'ch Llywodraeth yn eu cael i sicrhau bod yr arloesedd blaengar hwn yn dod i Gymru a bod arbenigwyr deallusrwydd artiffisial iechyd yn edrych ar Gymru fel lle i fuddsoddi ynddo ac i ddatblygu gwasanaeth iechyd sy'n addas ar gyfer degawdau i ddod.

Mae gennym ni gyfleoedd gwirioneddol i wneud yr union beth hwnnw. Rydyn ni eisoes yn gweld deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio ar draws ein gwasanaeth iechyd. Yr her yw faint mwy y gallwn ni ei wneud, yn enwedig ym maes delweddu a diagnosteg, lle y gall deallusrwydd artiffisail gynorthwyo clinigwyr i wneud diagnosis. Dylai hefyd ein helpu ni i ymdrin â sut yr ydyn ni'n gwneud y gwasanaeth iechyd yn fwy cynhyrchiol, sef yr her fawr i ni, i gael deallusrwydd artiffisial ochr yn ochr â chlinigwyr sy'n gwneud dewisiadau, gan wneud gwell defnydd a defnydd mwy cynhyrchiol o'u hamser.

Fe wnaf i roi enghraifft i'r Aelod. Mae gennym ni rywbeth o'r enw Deallusrwydd Artiffisial e-Stroke Brainomix sydd erbyn hyn ar gael ar draws pob bwrdd iechyd, ac mae hynny mewn gwirionedd yn ein helpu ni i wneud diagnosis gwell o'r hyn sy'n digwydd cyn ac ar ôl strôc. Mae'n gwella gofal strôc eisoes ym mhob bwrdd iechyd. Mae'n un o'r meysydd hynny lle mae rhywfaint o'r cynnydd hwn eisoes yn cael ei wneud ledled y wlad, ond nid ydyn ni'n cael y cyfle i siarad amdano a bod yn falch ohono ac yna gweld beth ddaw nesaf. A dweud y gwir, bydd bob amser her o ran deall bod gennym ni ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae deallusrwydd artiffisial yn newid y maes ar hynny. Ond dyna pam mae'r broses yr ydyn ni'n yn mynd drwyddi gyda Thechnoleg Iechyd Cymru i ddeall y sylfaen dystiolaeth yn gryfder i ni, ac mae rhannau eraill o'r byd eisoes yn edrych ar Gymru fel ardal lle mae cyfle gwirioneddol, oherwydd natur integredig ein byrddau iechyd, i fuddsoddi mwy yno. Mae'n rheswm allweddol pam y daeth Pfizer yma a dewis dod i Abertawe yn hytrach na safle prifysgol yn Lloegr, er gwaethaf anogaeth Jeremy Hunt, fel yr Ysgrifennydd iechyd ar y pryd, y dylen nhw fynd i rywle arall. Mae mwy y gallwn ni ei wneud, ac rwy'n credu y bydd y weledigaeth y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ei nodi yn ein helpu ni i wneud hynny. Unwaith eto, mae mwy yn golygu y gallwn ni fynd yn gyflymach, ond, yn fwy na hynny, i gael gwasanaeth mwy cynhyrchiol i'r staff sy'n gweithio ynddo ac, wrth gwrs, y bobl y mae ein gwasanaeth yn gofalu amdanyn nhw.

Cyfraddau Ailgylchu

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau ailgylchu ar draws Dwyrain De Cymru? OQ61484

Rydym yn bwrw ymlaen ag amrywiaeth eang o fesurau i barhau i wella ailgylchu ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno'r deddfau ailgylchu yn y gweithle newydd ochr yn ochr â'r gwaith parhaus i gynyddu ailgylchu mewn cartrefi. Mae ein dull partneriaeth eisoes wedi gweld Cymru'n dringo i'r ail safle yn y byd ar gyfer ailgylchu, o fewn trwch blewyn i'r safle cyntaf. Rwy'n edrych ymlaen at welliant pellach yn hyn o beth gyda Chymru a thros Gymru. 

14:30

Iawn, braf iawn clywed eich brwdfrydedd yno, Prif Weinidog; diolch am yr ateb hwnnw. Nawr, cyngor Caerffili yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru sydd â'r cyfraddau ailgylchu gwaethaf yng Nghymru, ond maen nhw'n edrych ar ffyrdd o gynyddu'r ffigwr hwnnw. Mae rhai mesurau sy'n cael eu hystyried yn cynnwys casglu biniau bob tair neu bedair wythnos, system newydd ar gyfer gwahanu gwastraff ailgylchadwy, a chau rhai o dipiau'r ardal. Mae cynlluniau hefyd i adeiladu canolfan rheoli gwastraff newydd. Nawr, er nad wyf o reidrwydd yn cefnogi pob cynnig, mae'r newidiadau sydd wedi'u crybwyll yn debygol o fod yn gostus iawn. A dweud y gwir, y disgwyl yw y bydd y bil ar gyfer strategaeth gwastraff yr awdurdod lleol yn dod i tua £54 miliwn. Mae cost y newidiadau hyn yn sylweddol uwch na'r dirwyon o £2.7 miliwn y mae'r awdurdod yn eu hwynebu gan Lywodraeth Cymru am beidio â chyrraedd targedau ailgylchu yn flaenorol. Ar adeg pan ydym yn clywed yn aml yn y Siambr hon am y straen ariannol ar awdurdodau lleol, does bosib y bydd y dirwyon hyn y mae'r Llywodraeth wedi'u gosod yn eu rhwystro'n sylweddol hyd yn oed ymhellach.

Felly, Prif Weinidog, pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i helpu cynghorau i wella eu cyfraddau ailgylchu, yn enwedig gan fod eich Llywodraeth yn eu gorfodi i gyrraedd targed o 70 y cant o 2025?

Rydym yn darparu amrywiaeth o gymorth ymgynghori, gyda'n gweithredwyr arbenigol, Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau, ac yn wir rydym hefyd wedi darparu cymorth ariannol i helpu awdurdodau lleol i symud i ffwrdd oddi wrth wastraff ailgylchadwy cymysg, i wastraff ailgylchadwy wedi'i wahanu yn y fan a'r lle.

Mae'n bwysig deall bod yna gost yn gysylltiedig â gwneud dim byd. Mae peidio â symud i ffwrdd oddi wrth wastraff ailgylchadwy cymysg yn golygu bod gennych chi lai o ailgylchu sydd ar gael i'w brosesu a'i ddefnyddio. Mae'n golygu bod angen i fwy fynd naill ai i'w losgi neu i safleoedd tirlenwi. Rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n gweld buddsoddiad i wella, i sicrhau ein bod ni'n lleihau'r swm sy'n mynd i safleoedd tirlenwi ac sy'n cael ei losgi, ond, yn fwy na hynny, i gydnabod bod gwella ein cyfraddau ailgylchu nid yn unig yn caniatáu i ni, o bosibl, gyrraedd brig tabl cynghrair y byd; byddai mewn gwirionedd yn golygu bod gennym ni gynhyrchion o ansawdd gwell i fynd i ailgylchu, gyda'r gwerth economaidd gwirioneddol y mae hynny'n ei gynnal. A phe bai'r Aelod ond yn gallu edrych ar y dystiolaeth a chael ei pherswadio gan y ffeithiau yn hyn o beth, yna rwy'n credu y gallen ni gael cefnogaeth gwirioneddol ar draws y Siambr hon.

Mae'r gwelliant mewn ailgylchu yn un o lwyddiannau gwirioneddol y 25 mlynedd diwethaf o ddatganoli. Ar ddechrau ein taith ddatganoli, roedd 95 y cant o'n gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi. Erbyn hyn, mae'n 1.6 y cant. Roedd ein cyfraddau ailgylchu yn druenus, ac erbyn hyn rydym yn cael ein hystyried yn arweinydd gwirioneddol ar draws y byd—mae hynny'n rhywbeth y dylai pobl ar draws y Siambr hon fod yn falch ohono—mewn partneriaeth rhwng y lle hwn, Llywodraeth Cymru a'n hawdurdodau lleol. Ar y cam nesaf, rhaid i ni weld gwelliant pellach yn y bartneriaeth honno, gyda thargedau a disgwyliadau gan y Llywodraeth, gyda'r gefnogaeth a'r cyllid i wneud hynny, ac ymrwymiad parhaus gan bobl Cymru, sydd eisiau gweld gwelliant pellach yn cael ei wneud yn y maes hwn, ac maen nhw'n iawn i fynnu hynny. Diolch, Llywydd.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf felly fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y datganiad deddfwriaethol ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn cael ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae busnes drafft ar gyfer tair wythnos gyntaf tymor yr hydref wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Cyhoeddodd y Gweinidog iechyd, neu Ysgrifennydd y Cabinet yn hytrach, fframwaith mesurau arbennig newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y dyddiau diwethaf, gan gynnwys y meini prawf dad-ddwysáu y mae hi bellach yn disgwyl i'r bwrdd iechyd eu bodloni cyn y gellir symud y sefydliad allan o fesurau arbennig. Yn amlwg, mae llawer iawn o ddiddordeb yng ngogledd Cymru yn y gwelliannau y mae angen i ni eu gweld yn y gwasanaethau hynny, ac, yn anffodus, nid ydyn nhw'n welliannau sylweddol ar hyn o bryd i'r rhan fwyaf o bobl ledled y rhanbarth.

Un o'r pethau y byddwn i wedi gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfeirio ato fyddai nifer y cwynion y mae'r bwrdd iechyd yn eu cael a'u datrys, ond does dim sôn am gwynion o gwbl yn y fframwaith mesurau arbennig, ac rwy'n credu y gallan nhw fod yn offeryn defnyddiol iawn ar gyfer nodi problemau a ph'un a yw pethau wir yn cael sylw. Mae gen i gwynion yn fy mewnflwch sy'n mynd yn ôl fisoedd heb ddatrysiad, heb hyd yn oed ymateb gan y bwrdd iechyd, sy'n amlwg yn annerbyniol. Ac mae angen i'r bwrdd iechyd, a dweud y gwir, fynd i'r afael â chwynion, sicrhau ei fod yn dysgu ohonyn nhw, ac mae angen triongli hynny i'r prosesau gwneud penderfyniadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfrifol amdanyn nhw. A gaf i ofyn am ddatganiad am rôl cwynion o ran rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd, er mwyn i ni allu sicrhau bod profiadau bywyd pobl yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn briodol pan fydd y Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau am fframweithiau uwchgyfeirio?

Fe wnaf i roi enghraifft arall i chi hefyd. Mae gennym ni dipyn o loteri cod post yng ngogledd Cymru, gyda nifer o bractisau sydd bellach yn bractisau wedi'u rheoli yn hytrach na'n cael eu rhedeg o dan gontractau practis cyffredinol, ac mae'n ymddangos bod y gwasanaethau yn y practisau hynny'n llawer gwaeth nag mewn meddygfeydd lleol eraill. Mae gennym ni broblemau cynyddol gyda phobl yn cael mynediad at wasanaethau sydd ar gael mewn practisau eraill, ond nad ydyn nhw ar gael yno. Er enghraifft, nid yw brechiadau syml ar gael yn y practis ym Mae Colwyn, yng Nghanolfan Feddygol y West End, yn fy etholaeth fy hun. Felly, rwy'n credu bod y rhain i gyd yn faterion y mae angen eu hystyried fel rhan o'r fframweithiau uwchgyfeirio hyn, a dydyn nhw ddim yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. A hoffwn gael datganiad ar y rhain ar gyfer y dyfodol. Diolch. 

14:35

Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Mae hwn yn gwestiwn adeiladol iawn, rwy'n credu, o ran sut y gallwn ni sicrhau bod mwy o ddealltwriaeth o'r effeithiau ar ddinasyddion-cleifion yn y fframwaith ymyrraeth dad-ddwysáu. Hynny yw, mae dadansoddi cwmpas ac amlder y cwynion hynny, rwy'n credu, yn berthnasol iawn. Wrth gwrs, mae gennym ni'r Llais newydd yn gweithredu nawr, ac rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr, yn barod i fynd i'r afael â hyn, yn enwedig, wrth gwrs, o ran y datganiadau y mae Betsi Cadwaladr wedi'u gwneud. 

Trefnydd, yn dilyn yr hyn ddywedodd Darren Millar, yn sicr o ran y datganiad hwnnw ar Betsi Cadwaladr a hefyd y datganiad arall a wnaed yn ysgrifenedig o ran trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth, sy'n effeithio, wrth gwrs, ar holl fyrddau iechyd Cymru, maen nhw'n ddau ddatganiad yr hoffem ni fod wedi eu gweld fel datganiadau llafar a chael y cyfle i graffu a holi cwestiynau ar lawr y Senedd. A gaf i ofyn, felly, a fydd yna gyfle yn cael ei greu yn fuan yn y tymor newydd fel ein bod ni yn cael y cyfle hwnnw fel Senedd?  

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, a hoffwn ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hwn.  

A dweud y gwir, roedden ni'n siarad—. Rydym yn edrych ar ein hamserlen fusnes ar gyfer yr hydref. Felly, fe wnaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a gawn ni ddatganiad llafar ar un o'r materion neu'r ddau fater hynny. 

Yr wythnos nesaf mae hi'n ddechrau'r gwyliau ysgol chwe wythnos. Mae angen i ni gydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i deuluoedd ar incwm isel wrth geisio bwydo eu plant yn ystod y cyfnod hwn, heb sôn am sut i'w difyrru. Mae yna gytundeb cyffredinol nad yw'r canllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion yn addas i'r diben mwyach. Maen nhw dros 10 mlwydd oed, ac nid ydyn nhw'n ystyried bod cwmnïau arlwyo torfol yn difwyno bwyd wedi'i brosesu yn systematig gydag ychwanegion. O ran cyd-destun, rydym yn gwybod bod un o bob chwe aelwyd yn cyfaddef eu bod yn gaeth i brydau parod, sy'n cael eu llwytho â'r ychwanegion hyn sydd wedi'u prosesu'n helaeth, ac mae llawer yn y proffesiwn meddygol wedi nodi mai hwn yw prif ysgogydd gordewdra, diabetes, canser a chlefyd y galon. Felly, un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o hyrwyddo deiet iach ac atal gordewdra ymhlith plant oedran ysgol yw drwy gefnogi plant i fwyta bwyd iachach yn ystod y diwrnod ysgol.

Nawr, roedd yna seminar a gafodd ei chynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru nôl ym mis Medi—mae hynny bron i flwyddyn yn ôl—ac nid ydym wedi clywed dim am ganlyniad hynny. A thu hwnt i bapur sy'n amlinellu'r cyfleoedd i fanteisio i'r eithaf ar effaith bwyd ysgol ar ganlyniadau iechyd a lles plant, does gennym ni ddim byd. Ac, yn y cyfamser, does gennym ni ddim byd i lywio caffael cyhoeddus bwyd ysgol nac, yn wir, bwyd mewn ysbytai chwaith. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ar yr amserlen ar gyfer diweddaru'r canllawiau bwyta'n iach, fel bod gennym ni safonau modern sy'n ymdrin â'r heriau presennol. Oherwydd ar hyn o bryd rydym yn gwybod bod llawer gormod o gwynion gan deuluoedd, sy'n dweud nad yw eu plentyn yn cael digon o fwyd, oherwydd dyna un o'r pethau hurt am y canllawiau presennol. Mae gwir angen i ni wybod bod ein buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn prydau ysgol am ddim wir yn maethu ein plant, yn hytrach na'n gwneud y broblem yn waeth.

14:40

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Roedd yn bwysig eich bod chi wedi dechrau eich cwestiwn drwy siarad am y ffaith ein bod ni ar fin dechrau cyfnod gwyliau'r ysgol o chwe wythnos o ran cyfleoedd i fanteisio ar fwyd a bwyta'n iach i'n plant a'n pobl ifanc yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn berthnasol, cyn i mi fynd i'r afael â'r mater o ran y canllawiau bwyta'n iach, i'n hatgoffa ni i gyd, unwaith eto, o'r rhaglen gwella gwyliau'r haf arloesol, rhaglen gwella gwyliau ysgol gwerth £4.85 miliwn, o'r enw Bwyd a Hwyl. Mae Julie Morgan yn mynd i fod yn gwneud rhywfaint o waith drwy ein hadolygiad i edrych ar sut mae hyn yn cael ei gyflawni. Ond rwy'n gwybod yn sicr yn fy etholaeth i, a bydd llawer o gyd-Aelodau yn bwriadu ymweld â phrosiectau yn eu hetholaethau nhw, sut mae bwyd yn rhan fawr o SHEP, mynediad at fwyta'n iach. Ac yn wir, nid yn unig i'r plant sy'n mynychu'r rhaglen gwella gwyliau'r haf honno, ond teuluoedd sy'n dod i mewn ac yn cael prydau, cinio, bwyd gyda'i gilydd ar ddiwedd sesiwn. Dyma'r nawfed flwyddyn i'r cynllun hwnnw gael ei weithredu. Fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog addysg am yr wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau bwyta'n iach, oherwydd mae hyn yn ymwneud i raddau helaeth eto ag awdurdodau lleol. Eu cyfrifoldeb nhw o ran comisiynu yw cyflawni'r canllawiau bwyta'n iach. Ac, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod arferion da a gwael, neu arferion sydd ddim cystal, ledled Cymru. Yn sicr, os oes seminar Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod, ac mae hyn yn drawslywodraethol iawn hefyd, gallwn ni ofyn i'r Gweinidog adrodd ar hynny hefyd wrth baratoi ar gyfer y tymor ysgol nesaf.

Thema debyg. Hoffwn godi datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch materion sy'n cael eu hadrodd gan ysgolion, disgyblion a rhieni ynghylch maint cyffredinol y prydau sy'n cael eu rhoi i ddisgyblion mewn addysg gynradd ac uwchradd. Y mater sy'n achosi pryder yw bod disgyblion yn y dosbarth derbyn yn cael pryd yr un maint â phlant ym mlwyddyn 6. Byddai'n eithaf amlwg bod angen pryd maint gwahanol ar blentyn pedair oed i ginio o gymharu â phlentyn 10 neu 11 oed.

Daethpwyd â'r mater hwn i fy sylw beth amser yn ôl, ond yn dilyn ymweliad ag Ysgol Gymunedol Bodnant ym Mhrestatyn ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, fe glywais i'n uniongyrchol gan athrawon a staff arlwyo bod disgyblion oed derbyn yn ei chael hi'n anodd bwyta'u cinio ond nad yw disgyblion blwyddyn 6 yn cael digon i'w fwyta ac nid ydyn nhw'n teimlo'n llawn, gyda rhai o'r plant yn dweud wrtha i eu bod nhw'n ysu am fwyd erbyn y prynhawn, sydd wrth gwrs yn effeithio ar eu dysgu. Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi codi pryderon bod plant yng Nghymru yn dal i fod yn llwglyd ar ôl prydau ysgol yn dilyn arolwg ciplun o ddisgyblion.

Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn tybio bod prydau ysgol am ddim i bawb yn awgrymu bod gan bob plentyn hawl i gael cinio ysgol am ddim, ond ni fydden nhw'n tybio bod hynny hefyd yn golygu bod plant o bob oedran yn cael pryd o'r un maint. Felly, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu a fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r canllawiau i sicrhau bod plant yn cael pryd o fwyd o'r maint priodol ac â'r maeth priodol ar gyfer eu hoedran a'u hanghenion? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Gareth Davies, am godi hyn, oherwydd dyma lle yn aml yn ein gwaith etholaethol rydych chi'n cael adborth da, onid ydych chi, ar ymweliadau—yr ymweliad a wnaethoch chi ag ysgol yn eich etholaeth. Unwaith eto, rwy'n siŵr bod hyn, fwy na thebyg, yn mynd yn ôl at ganllawiau bwyta'n iach, ond fe wnaf i hefyd ofyn i'r Gweinidog addysg edrych ar hyn yn dilyn y cwestiwn gan Jenny Rathbone ynghylch a yw'r canllawiau'n ymwneud â maint. O'r hyn rydych chi'n ei ddweud, yn eich awdurdod chi neu'ch ysgolion chi, mae ganddyn nhw feintiau prydau cyffredinol, ond rydym yn gwybod gyda phlant sy'n tyfu nad yw hynny, efallai, yn briodol.

Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth sy'n bwysig iawn wrth gyflwyno prydau ysgol am ddim hefyd, oherwydd rydym eisiau sicrhau wrth gyflwyno prydau ysgol am ddim, sy'n cael cymaint o gefnogaeth ac sydd mor bwysig o ran mynd i'r afael â thlodi bwyd a rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwyta'n iach, ein bod ni hefyd yn monitro sut mae'r broses o'u cyflwyno yn mynd, a yw'r canllawiau bwyta'n iach yn cael eu gweithredu, a hefyd, unwaith eto, yn edrych ar arferion gorau—arferion da ledled Cymru o ran cyflwyno'r fenter bwysig hon. I blentyn, dyma ei angen beunyddiol sylfaenol, onid yw, i gael y pryd iach hwnnw yn yr ysgol. 

14:45

Mae'r sefyllfa argyfyngus yn ein gwasanaeth iechyd yn cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl, ac fe hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, i fynd i'r afael â diffyg staffio yn ein hysbytai ni. Fe gysylltodd etholwr â mi yr wythnos diwethaf i ddweud bod ei dad wedi cael ei gyfeirio at Ysbyty Ystrad Fawr oherwydd amheuaeth o waedlif ar ei ymennydd. Fe fu'n aros am 10 awr ar y ward mewn poen ysol cyn i ambiwlans ei drosglwyddo ef i Ysbyty Athrofaol Cymru. Nawr, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd hi'n amhosibl i'w deulu gysylltu ag ef. Bob tro y ceisiodd ei wraig neu ei fab ffonio'r ward, roedd yn rhaid iddyn nhw aros am amser maith ac yna cael eu datgysylltu. Fe gafodd ei fab, yn ei ofid mawr, rywun i'w gludo i'r ysbyty, lle daeth o hyd i'w dad mewn cymaint o boen prin y gallai gadw ei lygaid ar agor. Nid oedd unrhyw un yn gallu dod o hyd i glustog iddo, ac felly roedd yn rhaid iddo wneud ei orau gyda blancedi yn eu plyg ar gyfer gorffwys ei ben, ac nid oedd unrhyw ddiweddariadau i'w deulu o ran pryd y byddai ambiwlans yn dod i'w drosglwyddo. Fe ddywedwyd wrthyn nhw na fydden nhw'n cael mynd ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru eu hunain ac y byddai'n gorfod aros am wyth i naw awr am ambiwlans. Roedd tad fy etholwr i'n dweud, 'Fel hyn y mae pobl yn cael eu gadael i farw.'  

Nawr, mae'r staff yn ein hysbytai ni'n arwrol. Maen nhw'n gweithio dan straen aruthrol, ac mae'r diffyg staffio hwn yn effeithio arnyn nhw mewn ffordd ddychrynllyd hefyd. Yn sicr, nid yw honno'n ffordd iawn o drin cleifion na staff. Felly, a allai datganiad nodi sut y bydd y Llywodraeth yn mynd i'r afael â hyn?

Diolch i chi, Delyth Jewell, am adrodd am y pwysau sy'n amlwg yn effeithio ar bobl, cleifion, yn y gwasanaeth iechyd a'r pwysau sydd ar ein staff ac ar ein GIG oherwydd y galw a'r derbyniadau, sy'n codi, i adrannau brys. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig gwirio ystadegau perfformiad diweddaraf y GIG, a gyhoeddwyd ar 20 Mehefin. Ym mis Mai, cafwyd 5,110 o alwadau coch, sef bygythiol i fywyd, ar y gwasanaeth ambiwlans, ac o 13.9 y cant o'r galwadau i gyd, 165 ar gyfartaledd, roedd galwadau â pherygl mawr i fywyd bob dydd—12 yn fwy nag ym mis Ebrill a'r trydydd mwyaf erioed, sy'n arwydd o'r pwysau sydd ar y GIG. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, o ran perfformiad, fod 45.8 y cant o alwadau coch wedi cael ymateb brys o fewn wyth munud.

Felly, yn amlwg, rydym ni'n bryderus o glywed am y profiad hwnnw, ac rydych chi wedi tynnu ein sylw ni at hynny. Roedd cyfartaledd o 3,215 o dderbyniadau i adrannau brys bob dydd, cynnydd o gymharu â'r mis blaenorol, ac wrth gwrs, mae hyn ag effaith ar y niferoedd o ambiwlansys sydd ar waith ac ar gael. Ond, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud bod 5 y cant yn fwy o bobl wedi cael ymateb o fewn wyth munud ym mis Mai o'i gymharu â'r un mis y llynedd, a 79 y cant o gleifion categori coch wedi cael ymateb mewn 15 munud. Ond, rwy'n gwybod y byddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud nad yw amseroedd ymateb ambiwlansys yn y sefyllfa y byddem ni'n dymuno iddyn nhw fod o hyd, na'r cyhoedd ychwaith. Diolch am dynnu sylw at hyn unwaith eto heddiw.

Gwych o beth yw bod Llywodraeth Lafur newydd y DU wedi gweithredu mor bendant i fynd i'r afael â'r argyfwng yn ein carchardai, ac fe fydd rhai carcharorion yn cael eu rhyddhau ar ôl iddyn nhw orffen 40 y cant o dymor eu dedfrydau, yn hytrach na 50 y cant fel mae hi ar hyn o bryd, a hefyd ei chynllun i benodi 1,000 yn fwy o swyddogion prawf. Ond, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod ein system garchardai wedi dod yn agos at chwalu o ganlyniad i 14 mlynedd o ddiffyg gweithredu. Fe wyddom ni hefyd nad yw carchardai yn gweithio yn iawn i fenywod, sydd yn aml yn y carchar am gyfnodau byr iawn, yn aml am fân droseddau, sy'n achosi tarfu enfawr ar eu teuluoedd, ac ar eu plant yn enwedig. Dyna pam, ers blynyddoedd lawer, y bu ymgyrch, yr wyf i wedi bod â rhan ynddi ac rwy'n credu bod y Trefnydd wedi bod â rhan ynddi hefyd, dros leihau nifer y menywod sydd yn y carchar a cheisio cael llety mwy addas iddyn nhw. Felly, a fyddai hi'n bosibl cael datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd o ran y ganolfan i fenywod a oedd am gael ei datblygu yma yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn i chi, Julie Morgan. Rydych chi wedi bod yn codi'r materion hyn nid yn unig yma yn y Senedd hon yn ystod yr amser yr ydych chi wedi bod yn Aelod o'r Senedd hon, ond pan oeddech chi'n Aelod yn Senedd San Steffan, ac fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i chi am ganolbwyntio fel gwnaethoch chi ar y ganolfan breswyl i fenywod, sy'n gynllun treialu arloesol i ni yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi gweithio arno gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau ein bod ni wedi cael sefydlu'r cynllun treialu hwn yng Nghymru. Ac mae'n ymwneud â dull gweithredu ataliol ar gyfer menywod yn y system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o fynd i mewn iddo. Rwy'n credu i chi groesawu, ac rydym ninnau'n croesawu, y camau pendant a gymerodd Llywodraeth newydd y DU i fynd i'r afael â materion ynglŷn â lle yn ein carchardai, ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli ar dasglu erbyn hyn sy'n goruchwylio'r dull gweithredu. Ond rwy'n cofio gweld James Timpson, Gweinidog newydd Llywodraeth y DU dros garchardai, parôl a phrawf—ac rydym ni'n croesawu'r swyddogion prawf ychwanegol hynny—ac fe ddywedodd ef mewn gwirionedd mai tri grŵp o bobl sy'n cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol: efallai fod un rhan o dair ohonyn nhw â gwir angen iddyn nhw fod mewn carchar, fe allai un rhan o dair fod mewn mannau eraill gyda dedfrydau cymunedol ataliol, ac mae un rhan o dair heb angen bod mewn carchar o gwbl, ac roedd ef yn dweud mai menywod yw'r rhain gan fwyaf. Ac fe wyddom ni, o'r tro hwnnw y gwnaethom ni ymweld â CEF Parc Eastwood, mai dweud oedd y llywodraethwr fod y rhan fwyaf o'r menywod yn y carchar hwnnw yn ddioddefwyr trais domestig a thlodi eu hunain hefyd ac na ddylen nhw fod wedi cael eu carcharu.

Felly, mae ein canolfan breswyl newydd i ferched yn flaenoriaeth allweddol i lasbrint cyfiawnder menywod, ac fe fyddaf i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet baratoi datganiad ar hyn. Rydym ni'n awyddus i sicrhau bod y ganolfan breswyl i ferched yn flaenoriaeth a'i bod hi'n cael ei symud ymlaen yn gyflym. Fe wyddom ni fod safle wedi cael ei ganfod a bod cyllid wedi cael ei ddarparu. Ac mae hynny am wella bywydau menywod yng Nghymru, oherwydd fe fydd yn darparu llety i fenywod agored i niwed ag anghenion cymhleth a fyddai fel arall yn cael eu dedfrydu i garchar. Ac fe fydd menywod yn gallu aros yn nes adref a chynnal eu cysylltiadau teuluol hanfodol. Mae hynny'n rhan o'r glasbrint ar gyfer glasbrint cyfiawnder menywod, yr ydym ni wedi bod yn gweithio arno gyda chefnogaeth y pwyllgor cyfiawnder cymdeithasol, ac, wrth gwrs, Aelodau a Llywodraeth Cymru, wrth fwrw ymlaen yn hyn o beth.

14:50

Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y gwerth cymdeithasol a ddarperir gan y sector addysg bellach. Mae adroddiad mis Ebrill ar gyfer ColegauCymru, 'Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru', yn nodi, er bod 12.3 y cant o ddysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach ag hunan-hunaniaeth o fod ag anabledd, mae'r gyfran hon wedi gostwng dros y tair blynedd diwethaf, ac mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd caniatáu amgylchedd cynhwysol i bob oedolyn, gan gynnwys pobl anabl. Er hynny, mae nifer o rieni yn Wrecsam a sir y Fflint wedi cysylltu â mi sydd â'u plant yn oedolion ifanc anabl, ag awtistiaeth, parlys yr ymennydd a syndrom Down, a gwrthodwyd lle i bob un mewn coleg preswyl a ariennir yn y coleg priodol agosaf ar gyfer eu hanghenion nhw ychydig y tu draw i'r ffin yng Ngobowen, yn ystod eu hapeliadau cam 2. Rwy'n galw am ddatganiad ynglŷn â hynny. 

Rwy'n galw hefyd am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gyllid hosbisau plant yng Nghymru, yn dilyn adroddiad mis Mehefin gan elusen Together for Short Lives, sy'n dangos yr angen dybryd am gyllid hirdymor, cynaliadwy a theg ar gyfer hosbisau plant Cymru.

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, am y ddau gwestiwn pwysig yna. Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cytuno yn llwyr â chi a gyda'r adroddiad hwnnw, fel byddem ninnau bob un sy'n gweld gwerth ein colegau addysg bellach ac effeithiau aruthrol gwerth cymdeithasol addysg bellach, a'r ffyrdd y mae addysg bellach yn estyn allan ac yn gynhwysol ac yn darparu cyfleoedd addysgol i bobl anabl a phobl niwroamrywiol. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried yn gyson o ran ein tasglu hawliau anabledd, er enghraifft, y grŵp addysgol sy'n rhan annatod o weithio gyda phobl a dysgwyr anabl. Felly, rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth a fydd yn cael ei adlewyrchu nid yn unig yn y tasglu a'r adroddiad hawliau anabledd, ond yn y gwaith a gefnogir gan yr Ysgrifennydd addysg hefyd.

Ac, wrth gwrs, ie, ynglŷn ag ymgyrch ac adroddiad Together for Short Lives, mae hi'n bwysig ein bod ni â'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran cyflawniad y fenter honno.

14:55

Daeth trigolion Caerau yng nghwm Llynfi at ei gilydd ddydd Gwener i drafod ffordd ymlaen i'r trigolion hynny yr effeithiwyd arnyn nhw gan sgandal Arbed. Nawr, yn y cyfarfod, fe wnaethon nhw lansio deiseb yn galw am gytundeb teg i'r trigolion hynny. Ond yn y cyfarfod hefyd, roedd yna ymdeimlad amlwg bod trigolion wedi colli pob ffydd yn Warmworks, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn Llywodraeth Cymru, y byddai'r mater hwn yn cael ei ddatrys ar ôl mwy na degawd. Felly, fe hoffwn i ofyn i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Warmworks, i nodi'r camau nesaf i ddatrys y mater hwn, a chael amserlenni eglur hefyd oherwydd, ar hyn o bryd, mae'r diffyg eglurder i breswylwyr yn ddifrifol. Fe gafodd rhai preswylwyr wybod, ddeufis yn ôl, y byddai sgaffaldiau ar eu hadeiladau nhw ymhen pythefnos. Dau fis yn ddiweddarach, nid oes un dim wedi digwydd. Mae rhai yn clywed yr un peth eto. Felly, i fod â rhywfaint o eglurder ynglŷn â'r mater hwn, mae taer angen am rywfaint o arweinyddiaeth yn hyn o beth oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Diolch i chi am y cwestiwn yna, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n dal ati i godi hyn gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nhw sy'n gyfrifol am hyn. Mae hi'n bwysig bod tegwch i drigolion a'u bod nhw'n gallu gweld bod cynnydd wedi bod. Rwy'n eich annog chi i barhau i ymgysylltu â'r awdurdod, o ran y camau nesaf. Ond, yn amlwg, rydych chi wedi dweud hyn ar goedd nawr, ac mae hyn yn rhywbeth y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rwy'n siŵr, yn ymateb iddo nawr.

Fe hoffwn i gael datganiad ynghylch pam, ar hyn o bryd, mae pob llawdriniaeth wedi cael ei gohirio yn ysbyty Llandudno. Mae'r Gweinidog ei hunan yn gwybod fy mod i wedi brwydro lawer gwaith i gael gwasanaethau yn ôl i ysbyty Llandudno, ac rwy'n falch iawn fod hyn yn digwydd. Er hynny, mae aelodau o staff sy'n gweithio yn Ysbyty Llandudno wedi cysylltu â mi yn pryderu yn fawr nad yw'r lifft wedi bod yn gweithio ers mis Mawrth. Mae hi wedi torri. Ac mae'r cyfan yn ymwneud â'r canolbarth, y dwyrain, a'r ffordd wahanol y mae ysbyty Llandudno, y gwahanol gyfrifoldebau—. Mae hi'n ymddangos mai Ysbyty Glan Clwyd sy'n gyfrifol am drefnu'r gwaith i atgyweirio'r lifft, ac roeddwn i'n meddwl tybed—. Cafodd 17 o lawdriniaethau, dim ond ddydd Gwener, eu canslo ym Mangor, oedd ar restr Llandudno. Felly, mae sefyllfa gennym ni erbyn hyn lle mae staff, o ganlyniad i lifft sydd wedi torri, yn cael eu trosglwyddo i ysbyty Bangor, sy'n ychwanegu mwy o gostau teithio iddyn nhw. Felly, mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn i chi edrych arno, a rhoi datganiad os yw hynny'n bosibl. Diolch i chi.

Diolch i chi, Janet Finch-Saunders. Wel, rydych chi wedi codi hyn heddiw. Mater i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yw hwn, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ei godi yn uniongyrchol ac yn ffurfiol gyda'r prif weithredwr.

Hoffwn i ofyn am ddau beth cyn diwedd y tymor seneddol presennol—dau beth sydd wedi cael eu haddo ar gyfer cyn y toriad. Yn gyntaf, mae’r pwyllgor iechyd yn y Senedd yma, mewn adroddiad ar ddeintyddiaeth, wedi galw am sefydlu ysgol ddeintyddol yn y gogledd. Yn ei hymateb i’r argymhelliad penodol hwnnw, mi wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd addo y byddai hi’n cyhoeddi ei barn ar yr alwad yna cyn y toriad. Felly, a wnewch chi sicrhau y bydd yr ymateb hwn ar gael i Aelodau o’r Senedd cyn dydd Gwener? Diolch yn fawr.

Yn ail, mi gefais i addewid, mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Mehefin, y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn cyhoeddi manylion llawn y comisiwn asedau cymunedol cyn toriad yr haf, gan gynnwys gwybodaeth am y cylch gorchwyl a’r aelodaeth. Rŵan, dydw i ddim wedi gweld y wybodaeth honno. Efallai ei bod allan yna, ond, yn sicr, dydw i ddim wedi’i gweld. Felly, a oes modd cael y datganiad yma, os gwelwch yn dda, er gwaetha’r ffaith, wrth gwrs, nad oes gennym ni aelod o’r Cabinet efo cyfrifoldeb dros dai ers y bore yma?

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Rydych chi wedi codi'r mater hwn sawl gwaith yn y datganiad busnes.  

O ran ail ysgol ddeintyddol i Gymru, mae'r Ysgrifennydd Cabinet gennych chi yn y fan hon, a oedd yn ymddangos fel pe bai'n cynnig rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi erbyn diwedd y sesiwn hwn. Ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig i'w ddweud, o ran ail ysgol ddeintyddol i Gymru, yw ei fod yn ymwneud ag ail gyfleuster addysgol, rwy'n deall, yn cynnig y rhaglen israddedig honno. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid ei ystyried o ran cyllid, data a deallusrwydd, ar gyfer llywio a chefnogi unrhyw benderfyniad. Yn amlwg iawn Prifysgol Aberystwyth a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw hi ar gyfer Aberystwyth, ond mae Bangor wedi mynegi uchelgais hefyd i ychwanegu ysgol ddeintyddol at yr ysgol feddygol. Felly, mae Aberystwyth yn datblygu; ym Mangor, mae angen i ni ystyried cynigion ar y cyd. Ond fe wn i y gwnewch chi godi'r cwestiwn hwn, ac rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cytuno i ymateb iddo heddiw.

O ran eich ail bwynt, y trosglwyddiad o asedau cymunedol, mae hyn yn rhywbeth yr oeddwn i'n sicr â rhan ynddo—roedd hwnnw'n faes polisi trawslywodraethol—pan oeddwn i'n Weinidog cyfiawnder cymdeithasol. Rydym ni wedi sefydlu comisiwn i ystyried yr argymhellion a wnaeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Mae yna grŵp gorchwyl a gorffen. Mae 18 o aelodau ynddo, sy'n gynnwys nifer o grwpiau rhanddeiliaid allweddol: Sefydliad Plunkett, Un Llais Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Chymdeithas Dai Barcud. Bydd gweithdai ymchwil annibynnol a rhanddeiliaid yn cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd. Fe fyddwn ni'n cynhyrchu datganiad ysgrifenedig gan y Llywodraeth i chi, a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ynglŷn â datblygiad hyn. Ond, yn amlwg, rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed bod y grŵp gorchwyl a gorffen hwn ar y gweill, ac fe fydd yn rhaid iddo lunio ei argymhellion i Lywodraeth Cymru yng ngwanwyn 2025.

15:00

Trefnydd, fe hoffwn i gael datganiad ysgrifenedig neu lafar ar ba gynlluniau allai fod gan eich Llywodraeth chi neu beidio ar gyfer cryfhau hawliau mynediad, cynyddu buddsoddiad a gwella'r cynnig yn gyffredinol i gerddwyr yng Nghymru. Aeth dros 10 mlynedd heibio erbyn hyn ers i Weinidog Llywodraeth Lafur gyhoeddi adolygiad o ddeddfwriaeth mynediad ar gyfer, ac rwy'n dyfynnu,

'sicrhau gwell mynediad i'r awyr agored ar gyfer hamdden, moderneiddio a symleiddio'r fframwaith rheoleiddio cyfredol, a darparu eglurder a sicrwydd ynghylch i ble y gall pobl fynd a beth y gallan nhw ei wneud yno.'

Yn anffodus, er gwaethaf sawl ymgynghoriad ac ymgynnull grwpiau arbenigol eang, ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod ar ddiwygiadau.

O ran hawliau tramwy hefyd, mae grant gwella mynediad Llywodraeth Cymru wedi cyflawni gwelliannau, ond nid yw'r cyllid yn gymesur â'r manteision o ran llesiant neu'r economi a geir yn sgil ein rhwydweithiau tir a llwybrau ar gyfer mynediad. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth sy'n cynnig math o gyllid sy'n deg, a fyddai'n dod â buddsoddiad yn fwy unol â'r hyn sydd eisoes yn cael ei wario ar lwybrau teithio llesol? Diolch.

Diolch i chi, Peredur. Rydych chi'n codi mater pwysig iawn o ran gwireddu hyn, nid dim ond bod â dyhead neu bolisi ar sail gyfreithiol hyd yn oed. Mae angen i ni sicrhau bod y gorchmynion mynediad hyn yn cael eu hwyluso, ac mae hynny'n golygu cyllido, arweinyddiaeth a gweithredu mewn partneriaeth. Yn sicr, fe fyddwn ni'n codi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Diolch i'r Trefnydd.

Fe gefais fy nghyfareddu gan yr hyn a fynegwyd ar wyneb yr Ysgrifennydd Iechyd wrth ymateb i'r nifer o geisiadau a fu am ddatganiadau iechyd y prynhawn yma, a bodiau i fyny ac i lawr. Roedd hynny'n gwneud i mi feddwl, 'Tybed a allai'r Cofnod swyddogol gynnwys emojis yn rhan o'i gofnodi swyddogol o'r hyn sy'n digwydd yn y cyfarfodydd hyn.' Beth bynnag am hynny, ymlaen â ni.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Eitem 3 sydd nesaf, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Eluned Morgan i wneud y datganiad yma.

Diolch am adael i mi wneud datganiad ynghylch Bil y Gymraeg ac addysg, a gyflwynwyd i'r Senedd ddoe. Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymrwymo i adeiladu Cymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cymuned, a lle gall ein pobl ifanc ymfalchïo yn eu treftadaeth a'u sgiliau dwyieithog neu amlieithog. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd yng Nghymru, lle bynnag ydym ni ar y continwwm ieithyddol. Mae cefnogaeth eang i'n gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae'r Bil hwn, a fydd yn gosod y targed ar sail statudol, yn cynrychioli cam hollbwysig tuag at wireddu'r uchelgais hwnnw.

Mae'r cynigion yn y Bil yn ymwneud â rhoi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru ddod yn siaradwyr Cymraeg. Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu dod yn siaradwr Cymraeg, ac mae cyfrifoldeb arnon ni i gyd i weithio tuag at y nod hwnnw. Ar ben hynny, mae brwdfrydedd dros ddysgu'r iaith ymhlith pobl o bob oedran. Mae'r Bil, felly, yn gobeithio cefnogi pobl o bob oed i ddysgu'r Gymraeg, neu ddatblygu'r sgiliau Cymraeg sydd eisoes ganddyn nhw.

Rŷn ni wedi symud ymlaen o ddisgrifio ein gallu yn y Gymraeg yn nhermau ‘rhugl’ neu ‘ddim yn rhugl’. Bydd y Bil yn sefydlu dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg ar sail fframwaith cyfeirio cyffredin Ewropeaidd ar ieithoedd, neu’r CEFR. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth glir i ddysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr o ble mae unigolyn ar ei daith ieithyddol yn y Gymraeg. Mae’r CEFR—common European framework of reference for languages—yn offeryn rhyngwladol a ddatblygwyd gan Gyngor Ewrop ar gyfer disgrifio gallu ar gyfer unrhyw iaith. Mae’r CEFR yn cael ei ddefnyddio ar draws Ewrop ac mewn gwledydd ledled y byd i ddisgrifio gallu ieithyddol.

Mae nifer o fanteision i ddefnyddio’r CEFR. Bydd yn rhoi eglurder i ysgolion ynghylch y daith i ddysgu’r Gymraeg. Bydd yn ei gwneud hi'n haws i rieni ddeall beth fydd plant yn gallu ei wneud yn Gymraeg ar ôl gorffen yn yr ysgol. Bydd modd cysylltu cymwysterau Cymraeg gyda'r lefelau, er mwyn i gyflogwyr wybod beth yw sgiliau iaith eu gweithlu. A bydd cyflogwyr hefyd yn gallu defnyddio'r lefelau i ddisgrifio pa sgiliau maen nhw eu hangen ar gyfer swyddi pan fyddan nhw’n recriwtio. Ac yn hynny o beth, dwi’n pwysleisio bod dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol yn rhywbeth sy’n berthnasol i bob disgybl, ym mhob ysgol, pa bynnag gyfrwng yw prif iaith y dysgu.

Mae gyda ni record wych yng Nghymru o addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae ymrwymiad y Llywodraeth hon i barhau i gynyddu’r nifer o ddysgwyr sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn hollol gadarn. Addysg cyfrwng Cymraeg sydd, ac fydd yn parhau, i roi’r llwybr cyflymaf i ddod yn siaradwr Cymraeg. Bydd y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru, drwy’r fframwaith cenedlaethol ar addysg Gymraeg a dysgu Cymraeg a gaiff ei baratoi yn sgil y bil, i osod targedau ar awdurdodau lleol er mwyn parhau i gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg.

Ond er mwyn caniatáu i bob disgybl, ym mhob ysgol, ddod yn siaradwr Cymraeg, mae’r Bil yn gosod disgwyliadau cadarn ynghylch addysg Gymraeg ar draws pob ysgol, beth bynnag yw cyfrwng yr addysg. Bydd y Bil yn sefydlu trefn statudol i gategoreiddio darpariaeth addysg Gymraeg ysgolion. Mae hyn yn adeiladu ar y drefn anstatudol bresennol, ond yn mynd gam ymhellach. Bydd categori ysgol yn penderfynu nid yn unig y ddarpariaeth y bydd yr ysgol yn ei rhoi i ddisgyblion, ond hefyd ei nod dysgu Cymraeg.

Mae’r nodau dysgu cymraeg, sy’n seiliedig ar lefelau’r CEFR, yn gosod y lefel y bydd disgwyl i ddisgyblion mewn ysgol o’r categori hwnnw fod wedi ei gyrraedd erbyn diwedd addysg gorfodol. Mae’r Bil yn nodi y bydd tri phrif gategori, sef ysgolion prif iaith Cymraeg; ysgolion dwy iaith; ac ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg. Mae'n sefydlu proses ar gyfer disgrifio mewn rheoliadau yr amrediad o ran y ddarpariaeth addysg Gymraeg fydd yn gymwys i bob categori.

Mae cael cyswllt cyson gyda’r Gymraeg yn allweddol er mwyn ei dysgu. Er mwyn rhoi tegwch i holl blant Cymru i gael y cyfle i ddysgu’r Gymraeg, mae’r Bil yn gosod isafswm o 10 y cant o ddarpariaeth addysg Gymraeg i ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg—boed hynny yn wersi Cymraeg neu’n wersi drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yn gam pwysig ymlaen er mwyn cyrraedd y nod hirdymor i bob disgybl feithrin sgiliau llafar sydd gyfystyr â lefel B2, o leiaf, o’r CEFR, lefel a fydd yn galluogi iddynt siarad Cymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Mae’n hollbwysig ein bod yn cynllunio yn effeithiol er mwyn cwrdd â’r nod, a hynny ar sawl lefel. Bydd gan y Llywodraeth gyfrifoldeb am gynllunio yn eang drwy lunio fframwaith genedlaethol ar addysg Gymraeg a dysgu Cymraeg. Bydd gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i lunio cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg, gan adeiladu ar y system CSCA cyfredol, neu'r WESPs. Bydd gan ysgolion gyfrifoldeb i lunio cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg a fydd, ymhlith pethau eraill, yn dangos sut y bydd ysgolion yn gwella, a lle bo’n rhesymol ymarferol, gynyddu eu darpariaeth Gymraeg.

Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd y gallwn lwyddo. Bydd yn gwbl allweddol ein bod ni yn darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen i wireddu uchelgais y Bil. Yn hynny o beth, rhaid cydnabod hefyd fod ysgolion yn cychwyn y daith mewn mannau gwahanol, ac mae yna gydnabyddiaeth yn y Bil y gall fod angen mwy o amser ar rai ysgolion i allu darparu yn unol â’r gofynion. Mae’r Llywodraeth hefyd yn cydnabod fod unrhyw ddiwygio yn golygu goblygiadau i athrawon, gan gynnwys goblygiadau i lwyth gwaith. Hoffwn sicrhau athrawon y byddwn ni yn paratoi asesiad llawn o effaith y Bil ar lwyth gwaith mewn cydweithrediad gyda’r undebau llafur, a byddaf yn cyhoeddi diweddariad ar hynny yn ystod y broses o graffu ar y Bil yn yr hydref.

Er mwyn llwyddo, rhaid sicrhau bod cefnogaeth sefydlog a phriodol i addysg Gymraeg ac i alluogi pobl i ddysgu’r Gymraeg ar ôl gadael ysgol. Mae’r Bil yn hwyluso hynny drwy sefydlu corff statudol newydd, sef yr athrofa dysgu Cymraeg genedlaethol fydd â’r amcan o hwyluso a chefnogi pobl i ddysgu’r Gymraeg, fel bod rhagor o bobl, o bob oedran, yn dysgu’r iaith ac yn ei defnyddio hi bob dydd. Bydd sefydlu’r athrofa fel corff statudol yn rhoi statws, sicrwydd a hirhoedledd i gefnogi dysgu Cymraeg gydol oes. Un o gyfrifoldebau’r athrofa fydd cefnogi athrawon i ddysgu’r Gymraeg mewn ysgolion, yn ogystal â darparu ar gyfer pobl y tu hwnt i oedran addysg gorfodol, gan roi cyfle i bawb fod ar y daith i ddysgu’r Gymraeg. Bydd yr athrofa yn sicrhau bod dulliau dysgu Cymraeg mewn ysgolion a thu hwnt yn digwydd yng nghyd-destun y CEFR.

Dwi’n ddiolchgar i bawb a wnaeth ymateb i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ynghylch y Bil a gynhaliwyd y llynedd, ac am y gefnogaeth gyffredinol a ddaeth drwy’r ymatebion hynny i’r Gymraeg ac i amcanion y Bil. Diolch hefyd i Cefin Campbell am y cydweithio agos ar y Bil yn ystod cyfnod y cytundeb cydweithio, ac edrychwn ymlaen at drafod manylion y Bil gydag Aelodau ar draws y Senedd yn ystod y broses o graffu ar y Bil. Diolch.

15:10

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch ichi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. A gaf i ddechrau drwy ymddiheuro oherwydd y byddaf i'n siarad heddiw yn Saesneg? 

Fe ddaw'r rheswm am hynny'n amlwg iawn, ac mae hynny am fy mod i'n siomedig, Ysgrifennydd Cabinet—ac nid arnoch chi'n bersonol y mae'r bai am hyn—na chafodd y datganiad hwn ei rannu ymhlith Aelodau ond tua 45 munud yn unig cyn i chi godi ar eich traed heddiw. Rwy'n credu bod y fersiwn Saesneg wedi cael ei hanfon allan tua 25 munud ar ôl hynny wedyn, ac mae hynny'n ei gwneud hi'n anodd iawn i Aelodau'r gwrthbleidiau allu craffu i'r fath raddau ag y mae Bil fel hwn yn ei haeddu. Ac rwy'n credu nad oes unrhyw beth yn llefaru mwy am y rhybuddion yr oeddem ni wedi gwrando arnyn nhw, anhrefn sylfaenol yn Llywodraeth Cymru, a materion mewnol sy'n taflu'r busnes o ddeddfu i'r cysgod, na'r enghraifft yr wyf i newydd ei rhoi heddiw. Ac i'r perwyl hwnnw, roeddech chi'n dweud, tua diwedd eich datganiad, mai dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y byddwn ni'n llwyddo. Ac fe fyddwn i'n dweud nad oedd eich rhagflaenydd chi, fel roedd ef y bore yma, wedi gofyn i mi na Sam Kurtz, cyn y datganiad hwn, neu cyn drafftio'r Bil, drafod blaenoriaethau a rennir o ran datblygiad y Bil. Felly, fe fyddwn i'n mentro, Ysgrifennydd Cabinet, nad yw hwn yn ddechrau rhagorol i'r Bil na ddylai fod yn ddadleuol, Bil y dylai pob un ohonom yn y Siambr hon fod yn awyddus i'w gefnogi.

Ond mae hyn yn codi'r cwestiwn, yn gyntaf oll: pwy sy'n gyfrifol, yn y Llywodraeth hon, am bolisi iaith Gymraeg yn awr? Mae yna fwlch, yn hollol amlwg—nifer o fylchau—wrth wraidd y Llywodraeth hon, yn cynnwys yn y maes pwysig hwn, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi cyflwyno'r datganiad hwn, ond sut allwn ni fod ag unrhyw ffydd y bydd y datganiad a wnaethoch chi heddiw yn adlewyrchu'r Bil pan gaiff hwnnw ei gyflwyno? Oherwydd, fel gwyddoch chi, fe all Gweinidog newydd newid cyfeiriad y Bil; efallai y bydd Prif Weinidog newydd yn awyddus i newid cyfeiriad y Bil hwn. Felly, sut allwn ni fod â ffydd y bydd drafft terfynol y Bil, wrth iddo fynd drwodd a mynd trwy gamau'r broses ddeddfwriaethol, yn adlewyrchu'r datganiad a wnaethoch chi heddiw?

Rydych chi wedi sôn am lawer o bethau heddiw, a dyna pam mae'n haeddu adolygiad manwl a chraffu manwl. Ac mewn egwyddor, rwy'n cefnogi nifer o'r mesurau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw heddiw, sy'n ei gwneud hi'n fwy siomedig fyth, yn fy marn i, na allem ni fod wedi gweithio ar hyn gyda'n gilydd. Rwy'n cefnogi, mewn egwyddor, y symudiad oddi wrth yr erfyn di-awch hwnnw o fod yn siarad yn rhugl neu beidio yn ôl graddau Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin, os hoffech chi, y gwnaethoch chi sôn amdano, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gam da, oherwydd mae'n debyg y bydd llawer ohonom ni'n ein rhoi ein hunain rhywle rhwng bod yn rhugl a pheidio â bod felly, ac rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth i'w groesawu. Ond mae hynny'n codi nifer o gwestiynau: wrth gyrraedd y nod hwnnw o filiwn o siaradwyr Cymraeg, gan fy mod i'n siŵr bod pawb yn y Siambr hon yn gobeithio y gwnawn ni, ar y raddfa honno, a fyddai angen i chi fod ar raddfa arbennig i gael eich cyfrif yn rhan o'r filiwn honno? Ac efallai y bydd rhai yn gofidio—ac rwy'n gobeithio cael sicrwydd yn eich ateb chi—y gellid gweld hyn yn ostyngiad o'r safon, neu'r bar, o ran pa mor rhugl sydd raid bod i gyfrif tuag at yr 1 filiwn honno o siaradwyr, os mynnwch chi. Ac rwy'n credu bod hynny'n codi cwestiwn arall o ran yr effaith ar ein hysgolion. Yn amlwg, rydym ni wedi siarad yn hir—rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn bresennol—am recriwtio a chadw athrawon, yn enwedig athrawon Cymraeg, ac rwy'n credu ein bod wedi siarad o'r blaen am sut mae'r athrawon sy'n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ar gyfartaledd, yn hŷn na'u cymheiriaid yn yr ystafelloedd dosbarth, ac felly a gaf i ofyn pa asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru o hynny, ac o fanteisio ar wersi mewnol, os mynnwch chi, o ran Cymraeg, gan athrawon sy'n gweithio ar hyn o bryd, er mwyn bod â syniad o faint yr her ac a yw'r gweithlu wedi ei baratoi yn ddigonol i ateb yr her, rwy'n credu, y bydd y Bil hwn yn ei roi?

Ac yn olaf, fe wnaethoch chi sôn hefyd y bydd angen mwy o amser ar yr ysgolion efallai ar gyfer gweithredu rhai o'r newidiadau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw heddiw, ac mae hynny, i mi, yn atgoffa rhywun o'r hyn a welsom ni yn ystod y misoedd diwethaf, a dweud y gwir, o ran polisi addysg. Fe welsom ni adolygiad o ganllawiau ADY am yr un rheswm mwy neu lai, a chanllawiau cwricwlwm newydd yn cael eu cyhoeddi am yr un rheswm, ac fe fydd y pethau hyn i gyd ag effeithiau o ran llwyth gwaith hefyd. Ac fe wn i eich bod chi wedi siarad am ymdrin â'r undebau addysgu a siarad â nhw, ond a ydych chi wedi asesu'r effaith, yr effaith ychwanegol, nid yn unig oherwydd hyn, ond oherwydd y newidiadau eraill i gyd a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf, ar y llwyth gwaith cyffredinol sydd ar ein hathrawon? Gan mai dim ond gyda chydseiniad, rwy'n credu, y bydd hyn yn llwyddo gyda'n staff addysgu yn ogystal â'r genedl gyfan. Rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, y gallaf i weithio gyda chi, neu bwy bynnag a fydd yn cyflwyno'r Bil hwn, ar sail drawsbleidiol wirioneddol gydweithredol; mae hi'n ofid i mi nad yw hyn wedi digwydd hyd yma.

15:20

Diolch yn fawr, Tom. Yn amlwg, fe gawsoch chi gopi ymlaen llaw. Mewn gwirionedd, nid oes rheidrwydd arnom ni i ddarparu datganiad ymlaen llaw; cwrteisi ydyw hynny yr ydym ni'n ei ddangos yn ôl ein dewis. Felly, rwy'n gobeithio nad oes ots gennych chi fod hynny—[Torri ar draws.] Wel, nid oes rheidrwydd arnom ni i ddarparu hynny ymlaen llaw, ac, mewn gwirionedd, fe gafodd y Bil ei gyhoeddi ddoe—rydych wedi cael peth wmbreth o amser i edrych arno. Felly, fe gawsoch chi amser, ac mae'n ddrwg gen i eich bod chi wedi cymryd yr ymagwedd honno.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i o'r farn ei fod yn ddefnyddiol iawn, ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn i lawer o bobl fod â'r dull newydd hwn gyda'r Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin, sy'n rhoi ymdeimlad i bobl o'u safle ar y continwwm iaith hwnnw. Rwy'n gwybod fy mod i, er enghraifft, wedi hysbysebu i bobl ddod i weithio yn fy swyddfa i, ac maen nhw'n dweud eu bod nhw'n siaradwyr Cymraeg, ac maen nhw'n cerdded i mewn, ac rydych chi'n siarad â nhw ac, mewn gwirionedd, dydyn nhw ddim yn siaradwr Cymraeg da iawn, neu, mewn gwirionedd, maen nhw'n siaradwr Cymraeg da iawn ond 'dydyn nhw ddim yn gallu ei hysgrifennu. Felly, mae angen i ni wybod beth yw eu sefyllfa nhw, ac rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn i gyflogwyr. Ond hefyd, rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi hyder i bobl ddweud, 'Rwyf i ar y continwwm. Rwy'n siarad tipyn bach o Gymraeg', a'i bod yn iaith sy'n perthyn i bawb ohonom ni mewn gwirionedd, ac y byddan nhw'n teimlo, 'Rwyf innau ar y daith hon.' Rwy'n gwybod mai ymagwedd Mererid Hopwood yw, 'A allwch chi ddweud Llanelli? Rydych chi ar y bws wedyn', ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Os ydych chi'n gwybod hynny—. Rwyf i wrth fy modd â'r enghraifft hon mae hi'n ei rhoi bob amser: os ydych chi'n gweld arwydd gydag 'allan' arno ac yn gwybod nad pawb sydd â'r enw Allan yn unig sy'n cael mynd, rydych chi'n gwybod eich bod chi'n deall tamaid bach o Gymraeg, sef mai 'allan' ydyw, ac nid Allan—sy'n golygu 'mynd allan'. Felly, mae hi'n bwysig iawn deall hynny, mewn gwirionedd, ein bod ni i gyd yn rhywle ar y daith hon, ac mae'n rhaid i ni gyd fynd i rywle ar y bws, a dyna'r hyn yr ydyn ni'n sôn amdano, yw sicrhau bod—

mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.

Dim ond o ran sut y byddwn ni'n mesur y filiwn honno, wel, mae hynny wedi bod yn eglur o'r dechrau: y cyfrifiad sy'n penderfynu, a bydd pobl yn ateb y cwestiwn. Y rhan wirioneddol rwystredig o hynny, wrth gwrs, yw bod llawer o bobl—llawer o bobl—yn rhoi tic yn y blwch yn dynodi nad ydynt yn medru siarad Cymraeg pan fo nhw'n medru siarad Cymraeg. Mae Cefin Campbell yn gwybod am hyn; roedd Cefin yn arfer rhedeg Menter Cwm Gwendraeth, ac roedd hynny'n ddiddorol. Fe gwrddais i â rhywun yn ddiweddar sy'n hollol rugl yn y Gymraeg, ac maen nhw'n dweud, 'Nid wyf i'n gallu siarad Cymraeg.' Felly, mae'n rhaid i ni ennyn hyder pobl, ac rwy'n credu bod cychwyn pobl ar y daith honno'n bwysig iawn.

O ran athrawon, mae yna gymhellion i ddenu mwy o athrawon i hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg, mae cyfleoedd i athrawon sy'n gweithio ar hyn o bryd i loywi'r Gymraeg sydd ganddyn nhw, ac rwy'n gwybod bod llawer iawn o waith wedi bod hefyd i adnabod athrawon Cymraeg mewn ysgolion nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mewn gwirionedd, fe fyddwn ni'n gallu defnyddio'r rhain yn y dyfodol. Felly, bod yr holl fater hwnnw ynglŷn â nodi yn rhan o'r daith honno.

O ran asesu effaith, rwy'n credu, fel dywedais i yn y datganiad, bod cyfle i ni edrych ar hynny wrth i'r Bil fynd rhagddo drwy'r Senedd.

Hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno beth sydd yn bwysig dros ben. Dwi’n falch i chi gydnabod rôl Cefin Campbell a’r cytundeb cydweithio, ac er mai Bil y Blaid Lafur ydy hwn, yn amlwg, ac mi fyddem ni’n hoffi iddo fe fod yn fwy uchelgeisiol, mae yna bethau dŷn ni’n falch iawn o fod wedi gallu cydweithio efo chi arnyn nhw. Ond mae’n rhywbeth i ni i gyd adlewyrchu arno fo, onid ydy? Pum mlynedd ar hugain ers i’r Senedd hon ddechrau gweithredu, ac mae’r mwyafrif o blant yng Nghymru’n parhau i gael eu hamddifadu o ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, ac fel y dengys tystiolaeth yn glir—a dwi’n falch bod y datganiad heddiw yn cydnabod hynny—y ffordd orau i blentyn gaffael y Gymraeg yw drwy gael eu trochi yn yr iaith, a hynny drwy addysg cyfrwng Cymraeg. A beth sydd gennym ni yn y Bil hwn ydy dechrau’r daith tuag at hynny. Ein rôl ni fel plaid drwy’r broses graffu a thrwy welliannau fydd ceisio cryfhau’r Bil yn bellach, fel bod pob plentyn yng Nghymru yn cael yr hawl i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus.

Mae’n rhaid dweud, mi oeddwn i’n bryderus ddoe i glywed y cyn-Ysgrifennydd Cabinet, a oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r Bil, yn parhau mewn cyfweliadau i sôn am ddewis. Mae’n rhaid symud i ffwrdd o hyn a chreu hawl i bob plentyn yng Nghymru gaffael dwy iaith swyddogol ein gwlad.

Yn yr un eitem newyddion ar S4C, mi oedd yna gyfweliadau gyda disgyblion o ysgol uwchradd Cas-gwent, a braf iawn oedd eu clywed yn ymateb mor gadarnhaol i'r Bil, a chlywed eu bod nhw'n awyddus i gael y cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Ac mae hyn yn adlewyrchu'n gyson neges dwi'n ei chlywed mewn ysgolion cyfrwng Saesneg drwy fy rhanbarth, lle mae nifer o ddysgwyr o bob oed wedi mynegi eu rhwystredigaeth nad ydyn nhw wedi cael y cyfle i fedru'r Gymraeg drwy’r system addysg, a hwythau yn parhau yn rhan ohoni. Mae yna rôl bendant gan ein hysgolion cyfrwng Saesneg, felly, o ran y targed 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg 2050. Ond ar yr un pryd, mae hefyd, wrth gwrs, angen cynyddu'r nifer sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn amlwg, mae yn elfennau rydym ni fel plaid yn croesawu’n fawr fel rhan o’r Bil, megis yr ymrwymiad clir ar wyneb y Bil i ddarparu sail statudol ar gyfer y targed o gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Gobeithiwn y gallwn hefyd ddangos drwy’r Bil fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, drwy greu un system ar hyd continwwm iaith, a bod cydraddoldeb a thegwch yn ganolog i'n system addysg, gan gynnwys dysgu gydol oes hefyd.

Mae’r fframwaith a osodir allan yn y Bil yn rhoi sylfaen ar gyfer uchelgais uwch at y dyfodol hefyd, ac felly mae hynny yn fy arwain i at agweddau o’r Bil, fel y cyflwynwyd, yr ydym ni fel plaid yn credu bod angen eu cryfhau. Mae o’n bryderus gweld cyfeiriad at ysgolion dwy ffrwd fel ateb cynhwysfawr i’r cwestiwn o sut y gellir cyflawni amcanion y Bil. Nifer fach o ysgolion sydd yn gweithredu’r model hwn, ac nid wyf yn ymwybodol o ymchwil cynhwysfawr sy’n dangos bod y model hwn yn un sydd yn gweithio yng Nghymru. Yn wir, mae cabinet Rhondda Cynon Taf yn trafod yfory newid Ysgol Gynradd Dolau o fod yn ysgol ddeuol i ysgol Saesneg, tra’n adeiladau ysgol Gymraeg newydd yn yr ardal. Dywed yn yr adroddiad y bydd hyn yn cynyddu capasiti Saesneg a chynyddu capasiti Cymraeg. Ond sut mae'r math yma o newid yn cyd-fynd efo’r targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg? A pha wersi sydd i’w dysgu o ran pam fod niferodd yn dewis y ffrwd Gymraeg yn Ysgol Gynradd Dolau wedi newid o fod yn fwyafrif yn y Gymraeg i fod yn fwyafrif Saesneg dros y blynyddoedd diwethaf? Onid oes angen inni ddeall yn well beth sy’n digwydd ar lawr gwlad cyn penderfynu ar fodel o’r fath?

Agwedd arall o gynlluniau’r Llywodraeth sydd angen craffu agos, ac fel y cyfeiriwyd eisoes gan Tom Giffard, ydy'r cynllun gweithlu. Mae hyn yn mynd i fod yn sicrhau llwyddiant y Mesur hwn. Os nad ydyn ni efo’r niferoedd o fewn yr ysgolion, yna ni fyddwn ni'n gallu cyrraedd yr uchelgais, felly mae'n rhaid inni weld targedau pendant o ran cynyddu'r nifer sydd yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, oherwydd dŷn ni ddim yn cyrraedd y targedau fel y maen nhw ar y funud. Mae yna ddiffygion o ran targedau o ran nifer y disgyblion sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050 a sicrhau gweithredu gan awdurdodau lleol fel rhan o weithredu amcanion y Bil yma. Ond dwi'n ymwybodol bod amser yn ein herbyn ni, a dwi'n gwybod mi fydd hi’n broses o fod yn craffu a chyflwyno gwelliannau lle, gobeithio, gallwn ni sicrhau Deddf uchelgeisiol a phellgyrhaeddol sydd ddirfawr ei hangen ar blant a phobl ifanc Cymru.

15:25

Diolch yn fawr, Heledd. Dwi'n meddwl bod gwerth inni adlewyrchu ar y siwrnai rŷn ni wedi bod arni mewn 25 mlynedd, a hyd yn oed cyn hynny. Es i i ysgol Gymraeg yn y brifddinas yma. Un ysgol gynradd oedd yna yn y brifddinas yma. Pan oeddwn i'n mynd i'r ysgol, roedd pobl yn taflu cerrig at ein bws ni achos eu bod nhw ddim eisiau ysgol Gymraeg yn eu hardal nhw. Dyna’r gwirionedd. Nawr, ocê, dwi'n eithaf hen erbyn hyn, so mae e sbel yn ôl, ond y ffaith yw, rŷn ni wedi gweld cynnydd aruthrol. Felly, o'r amser yna, 50 mlynedd yn ôl, meddyliwch chi nawr am y ffaith—yr adeg hynny, roeddech chi’n adnabod pob un oedd yn siarad Cymraeg yn y brifddinas yma. Dyw hynny ddim yn bosibl heddiw. Mae'r newid wedi bod yn aruthrol, a dwi'n meddwl ei fod e’n bwysig ein bod ni'n ymfalchïo ac yn llawenhau ynglŷn â hynny. Wrth gwrs bod yna bosibilrwydd inni fynd ymhellach, a dwi'n poeni, efallai, fod rhai ardaloedd tu fas i'n dinasoedd ni—dyna lle mae'n rhaid inni ganolbwyntio erbyn heddiw. A dwi'n falch iawn i weld bod llefydd fel sir Benfro, er enghraifft, lle, os oedd fy merch i eisiau mynd i’r ysgol o Dyddewi, byddai’n rhaid iddi fynd ar fws am awr a chwarter, jest i fynd i’r ysgol Gymraeg agosaf. Erbyn heddiw, mae yna ysgol agosach, felly mae pethau’n newid. A dwi’n meddwl bod yn rhaid inni ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni wedi bod ar siwrnai, ac mae’r siwrnai yn mynd yn y cyfeiriad cywir.

Jest o ran y Gymraeg, dwi’n meddwl ei bod hi’n dda bod gyda ni sail statudol ar gyfer y filiwn fel nod. Ond nid hwnna fydd yn delifro, jest rhoi rhywbeth ar sail statudol—nid hwnna fydd yn delifro. Y camau ymarferol fydd yn gwneud y gwahaniaeth. A jest o ran beth fydd angen ei wneud yn y camau ymarferol yna, dwi’n meddwl y ffaith bod y cynllunio ieithyddol yma rŷn ni’n gobeithio ei weld ar lefel genedlaethol, bydd yna ddyletswydd nawr ar Weinidogion Cymru i lunio fframwaith cenedlaethol ar addysg Gymraeg a dysgu Cymraeg—. Ond bydd hwnna jest yn un rhan o’r cam. Wedyn, bydd awdurdodau lleol, bydd dyletswydd arnyn nhw, wedyn, i lunio cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg, ac wedyn, ar lefel ysgol, bydd yna ddyletswydd i lunio cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg. Felly, mae’n rhaid i hyn i gyd ddod at ei gilydd, fel bod pob un yn gwybod ble maen nhw’n sefyll, ac wedyn gallwch chi gynllunio sut rŷn ni’n cyrraedd y filiwn.

Felly, dwi’n meddwl bod cael y sylfaen yma ar lefel ddeddfwriaethol, dwi’n meddwl bod hwnna—. A dwi yn gobeithio y bydd hwnna’n gwneud gwahaniaeth.

15:30

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Rwy'n ymddiddori yn hyn oherwydd mae fy merch i'n dysgu Cymraeg mewn ysgol Gymraeg yn Amlwch ar Ynys Môn. Rwy'n ymwybodol o ragoriaeth ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Abertawe, uwchradd a chynradd fel ei gilydd, gyda phrofiad personol o fod yn rhiant i ddisgybl a oedd yn mynychu ysgolion Lôn Las a Bryn Tawe, ac mae fy wyrion yn Ysgol Tan-y-lan. Fe hoffwn i dynnu sylw at y gwelliant enfawr o ran dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n credu bod newid mawr wedi bod, mewn gwirionedd. Pan fyddaf i'n ymweld ag ysgolion cyfrwng Saesneg yn Abertawe, fel gwnes i ddydd Llun, rwy'n clywed rhai yn siarad Cymraeg, yn ei gweld ar furiau'r dosbarth ac yn gweld y Gymraeg ar hysbysfyrddau. Mae hyn wedi bod yn bosibl oherwydd y cwrs sabothol Cymraeg un flwyddyn ar gyfer athrawon ysgolion cynradd. A fydd y cynllun hwn yn parhau?

Fe hoffwn i dynnu sylw hefyd at waith rhagorol y Mudiad Meithrin wrth helpu plant o deuluoedd sy'n siarad Saesneg i ddysgu Cymraeg yn ifanc iawn.

Yn olaf, fel rhywun sy'n siarad Cymraeg yn ddyddiol, o ran llawer o bobl fel fi, yr hyn yr ydym ni'n fwyaf prin ohono yw hyder.

Diolch yn fawr iawn, Mike, ac a wnewch chi ddiolch i'ch merch am ei chyfraniad hi ar Ynys Môn? Yn sicr, rwy'n credu y bu gwelliant mawr o ran yr ymwybyddiaeth sydd o'r Gymraeg yn rhai o'r ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Rwy'n credu, pe byddem ni'n onest, mae yna ffordd bell i fynd eto o ran sut yr ydym ni'n addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Rwy'n credu bod cyfleoedd i ni feddwl am sut mae hynny'n cael ei wneud, a sut i wella hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd y ffaith y bydd gennym ni'r athrofa dysgu Cymraeg cenedlaethol i'n helpu ni yn hynny o beth, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n ein helpu ni i sicrhau bod gennym ni, yn gyfan gwbl, y modelau mwyaf diweddar o ran sut i addysgu'r Gymraeg yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol sy'n addas ar gyfer pob oedran priodol.

Yn 1949, fe sefydlwyd eich ysgol gynradd chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rhyw ddwy filltir o’r Senedd. Ac 19 o blant a ddaeth ynghyd, ond, yn anffodus, gwrthodwyd un o’r plant, John Ellerman, gan nad oedd ei rieni’n siarad Cymraeg; 75 mlynedd yn ddiweddarach, y newyddion da yw bod addysg Gymraeg yn ffynnu yng Nghaerdydd, gydag wyron John Ellerman yn rhan o’r cynnydd hwnnw. Ond mae materion sy’n codi pryder o hyd. I ddechrau, mae’r frwydr yn parhau yn Grangetown. Fel chi, roeddwn i’n gorfod teithio oriau ar fws bob dydd. Mae angen ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd er mwyn sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael yn ein cymunedau amlethnig ni, a’n cymunedau mwyaf difreintiedig ni. Yn ail, fe welais i raglen deledu diweddar—Y Gymraeg: Hawl bob Plentyn—yn dangos yr heriau sy’n wynebu plant ag anableddau i dderbyn addysg Gymraeg yng Nghaerdydd. Ac yn olaf, ers sawl blwyddyn bellach, mae diffyg lle wedi bod yn Ysgol Mynydd Bychan. Bob blwyddyn, mae sôn am blant yn gorfod derbyn addysg Saesneg yn lle, a’u bod nhw wedi methu derbyn lle yn yr ysgol Gymraeg leol. Sut mae’r Llywodraeth yn mynd i sicrhau, trwy'r Bil yma, fod addysg Gymraeg wirioneddol yn hygyrch i holl deuluoedd Cymru? Diolch yn fawr.

15:35

Diolch yn fawr i ti, Rhys, ac, wrth gwrs, roeddwn i yn yr ysgol Gymraeg gyntaf yna yng Nghaerdydd gyda dy frawd di. Dim ond 99 ohonon ni oedd yn yr ysgol uwchradd gyntaf yng Nghaerdydd yn y flwyddyn gyntaf. Jest o ran addysg Gymraeg, mae'n wir ei bod hi'n ffynnu yn y brifddinas. Mae'r galw yn cynyddu drwy'r amser. Un o'r pethau dwi'n gobeithio bydd yn helpu yn y dyfodol fydd y cynllunio ieithyddol yma, fydd nawr yn statudol. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gaf i, cyn fy mod i'n gofyn y cwestiwn, wneud datganiad o ddiddordeb ynglŷn â'r rôl dwi wedi chwarae yn natblygiad y Bil yma, gan ddiolch yn gynnes iawn i'r cyn-Ysgrifennydd Cabinet gyda chyfrifoldeb am y Bil am y cydweithio adeiladol iawn ar hyd y siwrne yna, wrth inni geisio ffeindio rhyw gonsensws rhyngom ni ynglŷn â'r ffordd orau i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus?

Ond yr hyn sydd yn fy mhoeni i yn fawr iawn, a dyw hyn ddim yn newyddion—mae Heledd wedi cyfeirio ato fe yn barod—yw y diffyg gweithlu dwyieithog. Ac os caf i ofyn y cwestiwn penodol yma, rydyn ni'n gwybod am y nifer isel o fyfyrwyr sy'n sefyll lefel A yn y Gymraeg, ac mae yna le i boeni, gan fod nifer ohonyn nhw yn mynd ymlaen i fod yn athrawon Cymraeg, am y nifer fach ohonyn nhw sydd yn dysgu'r Gymraeg fel pwnc erbyn hyn. Yn ôl yn 2022-23, 176 oedd wedi dilyn a chwblhau cwrs lefel A iaith gyntaf, a 112 ar gyfer Cymraeg ail iaith. Felly, gaf i ofyn sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd ati i sicrhau bod mwy yn astudio Cymraeg fel lefel A ac wedyn yn dilyn ymlaen i fod yn athrawon yn y pwnc?

Ond nid y Gymraeg fel pwnc yn unig, wrth gwrs, rŷn ni'n poeni amdano. Hynny yw, oni bai ein bod ni'n recriwtio llawer mwy o athrawon pwnc cyfrwng Cymraeg, dyw nod ac amcanion y Bil yma byth yn mynd i gael eu gwireddu. Felly, gwnaeth Bridget Phillipson, yr Ysgrifennydd addysg yn San Steffan, ar ei diwrnod cyntaf yn ei swydd, osod targed o recriwtio 6,500 mwy o athrawon. Byddwn i'n hoffi gweld y Llywodraeth yn gosod targed ar gyfer penodi a recriwtio a hyfforddi gymaint mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg i'n helpu ni i wireddu amcanion y Bil yma. Felly, gaf i ofyn sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd ati i wneud hynny hefyd? Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr i ti, Cefin, a diolch am dy waith di ar y Bil yma. A diolch yn fawr i Jeremy Miles hefyd am yr holl waith mae e wedi ei wneud i baratoi ar gyfer y Bil yma. Rydych chi'n eithaf reit bod y gweithlu yn her; mae'n her mewn addysg yn gyffredinol ac mae'n her nid yn unig yma yng Nghymru, ond dros y Deyrnas Unedig. Ond, wrth gwrs, mae'r her yna yn fwy yng nghyd-destun y Gymraeg, a dyna pam mae yna lot o ffyrdd rŷn ni'n ceisio cael mwy o bobl i ddysgu i fod yn athrawon. Un o'r pethau dwi'n meddwl sydd wedi bod yn help yw bod lot o bobl ifanc yn dod yn gynorthwywyr dysgu pan ydyn nhw yn eithaf ifanc, ac mae hwnna yn rhoi blas iddyn nhw, efallai cyn neu ar ôl y brifysgol. Mae hwnna'n ailgydio yn eu hiaith Gymraeg nhw. Felly, does dim, o reidrwydd, rhaid i chi gael lefel A Cymraeg er mwyn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae ailgynnau'r diddordeb yna yn yr iaith ar ôl iddyn nhw adael, efallai mynd off i brifysgol lle dŷn nhw ddim wedi siarad Cymraeg, ac wedyn dod yn ôl, cael blas eto—. Dwi wedi gweld hynny'n digwydd eithaf lot, a dwi'n meddwl bod hwnna efallai yn rhywbeth sy'n werth edrych arno yn fwy manwl. 

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Diweddariad trafnidiaeth

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, diweddariad trafnidiaeth, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn fy natganiad agoriadol i'r Senedd, fe gadarnheais mai fy nhair blaenoriaeth oedd gwrando, gweithio mewn partneriaeth, a gwneud i newid ddigwydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd hwn.

Mae ein rhaglen wrando genedlaethol ar 20 mya wedi profi i fod yn weithgaredd hynod werthfawr. Ers mis Ebrill, rwyf wedi cyfarfod ag ystod eang o'r bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu: pobl hŷn, pobl sy'n byw gydag anableddau, y gwasanaethau brys, busnesau bach a mawr, modurwyr, beicwyr, peirianwyr priffyrdd ac, wrth gwrs, cynrychiolwyr etholedig, gan gynnwys Aelodau'r Senedd hon. Rwyf hefyd wedi ymweld â chymunedau i weld drosof fy hun sut mae 20 mya wedi'i weithredu ar lawr gwlad ac i ymgysylltu â thrigolion lleol yn uniongyrchol. Mae rhai o'r sgyrsiau hynny wedi bod am ffyrdd unigol lle nad yw 20 mya yn gwneud unrhyw synnwyr, ond rwyf hefyd wedi siarad â phobl sydd wedi croesawu'r newid yn gynnes ac wedi dweud wrthyf am y gwahaniaeth y mae wedi'i wneud i'w bywydau bob dydd.

Un o ddibenion canolog y rhaglen wrando oedd ein cynorthwyo i fireinio'r canllawiau. Rydym wedi derbyn yr adborth ac wedi gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau priffyrdd a Chymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru i gyd-greu canllawiau ar osod terfynau cyflymder o 30 mya ar ffyrdd cyfyngedig a ffyrdd 20 mya eraill. Cyhoeddwyd y canllawiau hynny heddiw, ac mae'n darparu fframwaith i gefnogi awdurdodau priffyrdd i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ffyrdd lleol, yn enwedig pan fo'r galwadau hynny'n cael eu cydbwyso'n gynnil. Mae'n blaenoriaethu terfynau cyflymder 20 mya lle mae cerddwyr a beicwyr yn cymysgu'n aml â cherbydau, oni bai bod tystiolaeth gref yn cefnogi y byddai cyflymderau uwch yn ddiogel.

Mae hefyd yn nodi y disgwylir i newidiadau i derfynau cyflymder i 30 mya yn bennaf fod ar ffyrdd A a B, sydd, yn gyffredinol, yn llwybrau strategol trwy ardaloedd trefol. Yn ogystal ag egluro terminoleg meini prawf lleoedd, mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn darparu meini prawf sy'n gysylltiedig â nodweddion ffyrdd a symudiadau, gan ei gwneud yn glir bod unrhyw benderfyniad yn ymarfer i awdurdodau priffyrdd bwyso buddion ac anfanteision gosod terfyn cyflymder uwch yng nghyd-destun eu dyletswyddau penodol o ran trafnidiaeth ond hefyd dyletswyddau statudol ehangach.

Bydd yr Aelodau wedi cael cyfle i ystyried y canllawiau, ond, er mwyn egluro, mae'n nodi y gellid ystyried terfynau 30 mya ar ffyrdd strategol y tu allan i ganolfannau trefol a ffyrdd preswyl gwledig heb gyfleusterau cyfagos, llwybrau trafnidiaeth strategol, megis coridorau bysiau pwysig gyda thrafnidiaeth cerddwyr a beicwyr cyfyngedig, a lle mae nodweddion y ffyrdd yn caniatáu, gan gynnwys ystyried cyfleusterau ar wahân ar gyfer cerddwyr a beicwyr, lled a geometreg y ffordd.

Nawr, cyn i'r cyfnod gwrando ddechrau, roeddwn i'n glir fy mod i eisiau i ddinasyddion ddweud eu dweud ar derfynau cyflymder yn eu cymunedau. Rydym wedi annog pobl o bob cwr o Gymru i gysylltu â'u hawdurdod priffyrdd i roi eu barn iddynt ar ffyrdd unigol sydd â therfynau 20 mya. Mae miloedd o bobl wedi ymateb, ac rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am ein helpu ni i sicrhau bod 20 mya yn cael ei dargedu yn y mannau cywir.

Felly, o fis Medi ymlaen, bydd awdurdodau priffyrdd yn dechrau gweithredu ar yr adborth hwn, gan gymhwyso'r canllawiau i asesu terfynau cyflymder ar ffyrdd sy'n cael eu hystyried lle gallai newid terfyn cyflymder fod yn briodol. Cyn bo hir, gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau am gyllid i'w galluogi i wneud newidiadau i derfynau cyflymder yn unol â'r canllawiau newydd. Mae £5 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Mae maint yr adborth i awdurdodau priffyrdd wedi amrywio'n sylweddol ac felly efallai y byddwn yn disgwyl y bydd rhai awdurdodau yn adolygu mwy o ffyrdd nag eraill. O ganlyniad, mae'n debygol y bydd amserlenni ar gyfer y gwaith hwn yn amrywio hefyd. Ond, lle bo'n briodol ac ar ôl asesu, bydd awdurdodau priffyrdd yn dechrau'r broses o newid terfynau cyflymder ar ffyrdd penodol drwy orchmynion rheoleiddio traffig.

Hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i awdurdodau lleol am eu cefnogaeth barhaus i'r gwaith hwn. Prif amcan y polisi hwn yw achub bywydau a lleihau anafiadau ar ein ffyrdd. Fel y dywedais o'r blaen, rwyf am adeiladu o'r consensws mai 20 mya yw'r terfyn cyflymder cywir ger ysgolion, ysbytai, meithrinfeydd, canolfannau cymunedol, ardaloedd chwarae ac mewn ardaloedd preswyl adeiledig. Drwy weithio mewn partneriaeth, rwy'n credu y gallwn wneud 20 mya yn llwyddiant i Gymru.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio ar oblygiadau Llywodraeth newydd y DU ar y portffolio trafnidiaeth. Nawr—a gobeithio y bydd y Dirprwy Lywydd yn maddau imi am eiliad—dyma'r cyfle cyntaf i mi ei gael yn y Senedd i longyfarch Llywodraeth Lafur newydd y DU ar ei buddugoliaeth ysgubol hanesyddol ar 4 Gorffennaf. Bydd dwy Lywodraeth Lafur, yng Nghymru ac yn San Steffan, yn ein galluogi i sicrhau gwell canlyniadau i'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli.

Rwyf eisoes wedi cael y pleser o gwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Drafnidiaeth, Lousie Haigh, ac mae cyfeillgarwch cynnes iawn rhyngof â'r Gweinidog rheilffyrdd newydd. Mae'r Arglwydd Hendy wedi bod yn eiriolwr cyson a phwerus dros Gymru dros nifer o flynyddoedd, ac mae ei benodiad yn arbennig o galonogol. Trwy ei waith fel cadeirydd Network Rail, adolygiad cysylltedd yr undeb a'i gysylltiad personol dwfn â Chymru, mae gan yr Arglwydd Hendy ddealltwriaeth ddigyffelyb o'n blaenoriaethau trafnidiaeth a'r heriau allweddol, a hefyd y cyfleoedd yr ydym eisiau gwneud cynnydd arnynt.

Yn y maes seilwaith rheilffyrdd a gedwir yn ôl, rwy'n hyderus y gallwn weithio ar y cyd i bennu'r blaenoriaethau cywir ar gyfer buddsoddiad Llywodraeth y DU yng Nghymru, gan weithio gyda Jo Stevens, a fydd yn llais pwysig i Gymru o amgylch bwrdd y Cabinet fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac adeiladu ar y gwaith cynhyrchiol sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf ar lefel swyddogol, drwy fwrdd rheilffyrdd Cymru. Trwy gyd-ymddiriedaeth a pharch, a thrwy gydweithio mewn partneriaeth agos, rwy'n hyderus y gallwn wella gwasanaethau i deithwyr rheilffyrdd ledled Cymru a'r gororau. Yn y de-ddwyrain, ac ar reilffyrdd craidd y Cymoedd yn benodol, rydym yn dangos yr hyn y gall ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus sef 'troi i fyny a mynd' o ansawdd uchel ei chyflawni.

Wrth gwrs, rwyf am gyflawni'r raddfa hon o uchelgais ar gyfer Cymru gyfan, ond rydym wedi cyflawni'r trawsnewidiad metro, er gwaethaf y model gweithredu rheilffyrdd presennol yng Nghymru, sef y model mwyaf cymhleth yn unrhyw le yn y DU. Mae consensws cynyddol bod angen i hyn newid, ac rwy'n teimlo'n gyffrous, Dirprwy Lywydd, fod gennym Lywodraeth y DU bellach sydd eisiau gweithio gyda ni i ddiwygio'r rheilffyrdd, gyda gwerthoedd a rennir ac ymrwymiad i ddarparu gwell rheilffyrdd i deithwyr ac, yn wir, ar gyfer cludo nwyddau. Partneriaeth mewn grym a Llywodraeth Lafur yn y DU sy'n credu, fel yr ydym ni yma yn Llywodraeth Lafur Cymru, bod rheilffyrdd yn wasanaeth cyhoeddus sylfaenol sy'n perthyn i ni i gyd, a'i le yw yn y sector cyhoeddus yn hytrach nag yn nwylo cyfranddalwyr a buddsoddwyr preifat. 

Gyda Trafnidiaeth Cymru bellach yn gyson y gweithredwr mwyaf dibynadwy yng Nghymru, edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau cyfatebol yn San Steffan wrth i ni gyflawni ein huchelgais gyffredin i wneud pob gweithredwr yng Nghymru yn atebol i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gyflawni yn erbyn ymrwymiad y maniffesto i greu cronfa welliannau i Gymru—rhaglen fuddsoddi y cytunwyd arni ar y cyd a all ddechrau mynd i'r afael â thanariannu hanesyddol ein rhwydwaith a'r dirywiad dan reolaeth o seilwaith rheilffyrdd yr oedd y weinyddiaeth flaenorol yn San Steffan yn ei orfodi arnom.

Y tu hwnt i'r rheilffyrdd, rwy'n nodi'r synergeddau cryf rhwng cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer bysiau yn Lloegr a'r Bil bysiau nodedig y byddwn yn ei gyflwyno i'r Senedd cyn bo hir. Cafodd hyn, wrth gwrs, ei gynnwys yn natganiad y Prif Weinidog ar flaenoriaethau deddfwriaethol dim ond yr wythnos diwethaf.

Felly, ar y cyfan, mae'n gyfnod hynod gyffrous i ddyfodol trafnidiaeth yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld y ddwy Lywodraeth yn cydweithio i gyflawni ein blaenoriaethau cyffredin ar gyfer twf economaidd, gan ymateb i'r her hinsawdd a lleihau anghydraddoldebau.

15:45

Diolch yn fawr iawn am ddatganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n eich llongyfarch chi a'ch plaid ar eich llwyddiant yn yr etholiadau.

Nawr, ni waeth faint o amser sy'n mynd heibio, nid yw'n ymddangos bod lefel o rwystredigaeth a dicter gan y cyhoedd ynghylch y polisi 20 mya hwn yn newid. Mae'n llawer rhy eithafol fel y dywed llawer, ac yn parhau i rwystro bywydau pobl o ddydd i ddydd, ac, yn anffodus, mae'n niweidio busnesau sy'n gweithio'n galed. Ac ni ddylem anghofio y bydd y polisi hwn yn taro ein heconomi ac yn rhoi ergyd o £9 biliwn iddi. Pan wnaethoch chi ymgymryd â'ch rôl yn gynharach eleni, gwelsom newid sylweddol yn y rhethreg ynghylch y polisi 20 mya hynod amhoblogaidd, yn enwedig o'i gymharu â'ch rhagflaenydd, ac yn sicr mae wedi ei chroesawu'n fawr gan bawb. Yn lle bwrw ati doed a ddelo, fe benderfynoch lansio rhaglen wrando—rwy'n gwerthfawrogi hynny—er mwyn mesur barn ac adborth pobl, busnesau a rhanddeiliaid eraill. Er fy mod i wir yn croesawu'r cam hwn a dim ond yn dymuno y byddai wedi cael ei gyflawni cyn i'r polisi gael ei gyflwyno, mae'r farn yn bendant yn parhau y dylid dileu'r prosiect £33 miliwn hwn yn llwyr—dyma fy marn i—a chymryd camau wedi'u targedu yn ei le. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, pa mor llwyddiannus ydych chi'n teimlo y bu'r rhaglen wrando mewn gwirionedd?

Fe wnaethoch chi grybwyll yn eich datganiad eich bod wedi cwrdd â chroestoriad eang o bobl. Faint o bobl yn union, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd Cabinet? Bydd amcangyfrif bras, dim ond er gwybodaeth i mi, ochr yn ochr â'r cyhoedd, yn gwneud y tro. Hefyd, sut yn union wnaethoch chi ymgysylltu â nhw—wyneb yn wyneb, cyfryngau cymdeithasol, e-byst, ac ati? Byddai'n braf iawn cael gwybod sut y digwyddodd y broses wrando hon. Byddwn hefyd yn gwerthfawrogi pe gallech amlinellu pa gymunedau penodol y gwnaethoch chi ymweld â nhw fel rhan o'r ymarfer gwrando. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol bod gan y ddeiseb a dorrodd record i ddileu'r cynllun 20 mya, a gyrhaeddodd bron i 500,000 o lofnodion, lawer o fomentwm. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a ydych chi wedi ymweld ag unrhyw un o'r ardaloedd lle llofnododd y mwyafrif o bobl yno, a siarad â thrigolion lleol yno, i ddeall eu bod yn anfodlon â'r polisi? Dywedoch y bydd rhai ardaloedd yn gweld mwy o newidiadau nag eraill, sy'n hollol iawn a gallaf werthfawrogi hynny, ond yn seiliedig ar y sgyrsiau rydych chi wedi'u cael trwy'r rhaglenni gwrando, ym mha ardaloedd ydych chi'n disgwyl gweld y newidiadau mwyaf yn digwydd—y gogledd, y de, y gorllewin? Rwy'n siŵr y byddai'r Siambr wrth ei bodd yn clywed hynny.

Fodd bynnag, mae'n ymddangos hefyd bod rhywfaint o synnwyr cyffredin wedi gorchfygu gyda'r canllawiau hyn, gyda'r Llywodraeth yn cytuno â'r Ceidwadwyr Cymreig, lle rydych yn galw am osod terfynau cyflymder o 20 mya mewn rhai ardaloedd, megis ger ysgolion, ysbytai, canolfannau cymunedol, ac ati. Mae'n wir i'w groesawu. Mae'n hyfrydwch i'm clustiau. Yn seiliedig ar y datganiad heddiw, mae'n ymddangos bod yr holl bwyslais, fodd bynnag, yn cael ei symud oddi wrth y Llywodraeth ac ar yr awdurdodau lleol. Onid mater o Lywodraeth Cymru yn golchi'i dwylo bron o'r cynllun dadleuol hwn yw hyn gan orfodi cynghorau i ymdrin â'r llach yn lle hynny?

Gan droi at ymgysylltu â'r cyhoedd ag awdurdodau lleol, rydych chi'n dweud bod miloedd wedi cael dweud eu dweud dros derfynau cyflymder yn eu cymunedau. Fodd bynnag, Ysgrifennydd Cabinet, mae nifer o etholwyr o bob cwr o Gymru wedi cysylltu â mi, gan gwyno ynghylch pa mor anodd oedd cyflwyno adborth trwy wefannau'r cyngor. Roedd rhai yn dweud bod cyflwyno ffordd fesul ffordd yn dasg anodd. Dywedodd rhai nad oedd y cyngor yn derbyn adborth. Ac roedd eraill yn dweud eu bod wedi cael cyfarwyddyd i gysylltu â Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol. A godwyd unrhyw un o'r pryderon hyn gyda chi, Ysgrifennydd Cabinet, neu gyda'ch swyddogion, ac os felly, pa gamau, os o gwbl, a gymeroch i sicrhau bod yr holl leisiau yn cael eu clywed yn ddiffuant, oherwydd mae llawer wedi dweud ei fod wedi bod, ac rwy'n dyfynnu, yn 'hunllef' i roi adborth?

Gan droi at eich awydd am gydweithio gyda'r Llywodraeth Lafur newydd yn Llundain, rwy'n falch iawn o'i glywed, felly os gwelwch yn dda, er lles fy hun a chydweithwyr, a fyddech cystal ag amlinellu pa fath o bethau rydych chi'n disgwyl eu gweld yn cael eu cyflwyno o ganlyniad i hyn? Fe wnaethoch chi grybwyll gwladoli rheilffyrdd. A fydd Magwyr a Gwndy yn cael gorsaf llwybr cerdded? A fydd prif linell reilffordd y gogledd yn cael ei thrydaneiddio, fel y nodwyd gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol? Rwy'n gwerthfawrogi, Ysgrifennydd Cabinet, efallai nad ydych eisiau gwneud hynny, o ystyried yr ansicrwydd parhaus o fewn y blaid ar hyn o bryd, ond rwyf o ddifrif eisiau edrych ymlaen at y dyfodol, fel y mae pobl Cymru.

Rhaid imi gyfaddef i bawb yma heddiw fy mod yn siomedig nad oes sôn am adeiladu ffyrdd yn y datganiad heddiw. Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n ddyn deallus ac rwy'n gwybod y byddwch chi'n cytuno bod adeiladu ffyrdd yn hanfodol ar gyfer ceir, ond mae hefyd yn hanfodol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Felly, efallai y gallwch amlinellu pa waith y byddwch yn ei wneud mewn perthynas ag adeiladu ffyrdd hefyd. Rydych yn siarad am system drafnidiaeth integredig mewn agweddau ar eich cynllun yn y dyfodol, fel Bil bysiau. Yn fy marn i, dylai Llywodraeth Cymru fod yn defnyddio'r holl offer sydd ar gael iddi i agor ein heconomi drafnidiaeth a chael Cymru i symud eto. Mae adeiladu ffyrdd, er enghraifft, yn cynorthwyo gwahanol ddiwydiannau fel cludo nwyddau a logisteg, trwy gynyddu twf, effeithlonrwydd ac allbwn. Deallaf eich bod wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun cludo nwyddau a logisteg cyn hyn, ond hyd yma nid ydym wedi gweld cynllun ar waith ar gyfer y diwydiant, a byddent wrth eu bodd yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a allech chi amlinellu beth yw eich sefyllfa o ran yr ymrwymiad hwn a phryd y gall y diwydiant ddisgwyl gweld unrhyw gynlluniau yn dwyn ffrwyth?

Ac yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, dywedoch y bydd Bil bysiau yn dod gerbron y Siambr yn fuan. A allech chi roi dyddiad mwy penodol i ni? Byddwn i'n ddiolchgar iawn. Diolch.

15:50

Wel, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i Natasha Asghar am ei her adeiladol, a rhoi ar y cofnod fy niolch am y ffordd y mae hi wedi fy herio mewn ffordd gyson iawn ers i mi gael fy mhenodi yn Ysgrifennydd Cabinet? Mae'r ffordd y cefais fy herio wedi bod yn adeiladol. Efallai fod gennym lawer o anghytundebau, ond, yn y Siambr a'r tu allan i'r Siambr, credaf fod ein deialog a'n trafodaeth a'n dadl wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi allu deall safbwyntiau llawer o bobl y mae'r Aelod yn eu cynrychioli. Nawr, rydw i'n mynd i ymdrin â'r cwestiwn olaf un yn gyntaf, ynglŷn â'r cynllun cludo nwyddau a logisteg. Byddwn yn cyhoeddi hynny y flwyddyn hon. Rydym yn gweithio gyda'r sector i sicrhau bod hwnnw'n gynllun sy'n addas i'r diben ar gyfer y dyfodol.

Yr ymarfer gwrando am 20 mya oedd yr her fwyaf helaeth a chynhwysfawr o'i math yr ydym wedi'i chynnal. Fel y gall Natasha Asghar, rwy'n siŵr, werthfawrogi, pan fydd bron i 0.5 miliwn o bobl yn llofnodi deiseb, mae'r angen i ymgysylltu â chymaint o sefydliadau ac unigolion â phosibl yn hanfodol bwysig wrth ymateb i'r math hwnnw o wres a dicter sy'n cael ei greu ymhlith llawer o bobl. Felly, rwyf wedi cyfarfod â llu o sefydliadau ac unigolion, gan gynnwys dwywaith gyda'r gŵr bonheddig a gododd y ddeiseb. Ymwelais â Bwcle, lle cynhaliwyd un o'r cynlluniau treialu mwyaf dadleuol. Rwyf wedi cyfarfod â phob awdurdod lleol ar sawl achlysur. Rwyf wedi cyfarfod â chyrff cynrychioliadol ar gyfer cludo nwyddau a logisteg, gwasanaethau brys, pobl hŷn, pobl iau, pobl ag anableddau. Rwyf wedi ceisio paratoi ar gyfer pob posibiliad yn y rhaglen o wrando ar y cyhoedd ac ar sefydliadau, ac mae wedi bod yn hanfodol bwysig ein bod wedi cynnig y dull mwyaf cyson posibl i'r cyhoedd wrth ymateb i'n galwad am wybodaeth.

Mae hynny wedi arwain at, rwy'n credu, dros 7,000 o bobl yn gwneud argymhellion, ac rwy'n gobeithio nawr y byddwn yn gallu ystyried yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthym ar lefel awdurdod lleol, a'r hyn rwy'n ei gael yn gyson ledled Cymru yw, er bod nifer y bobl sydd wedi mynegi pryderon yn sylweddol iawn, yn aml, mae pobl yn sôn am yr un un ffyrdd dro ar ôl tro. Felly, mae awdurdodau lleol eisoes wedi llunio rhestrau rhagarweiniol mewn sawl rhan o Gymru. Ni allaf ddweud lle bydd y rhan fwyaf o newidiadau yn digwydd na lle bydd y newidiadau lleiaf yn digwydd—bydd yn dibynnu ar yr awdurdodau lleol a sut maen nhw'n ymateb i'r adborth y maen nhw wedi'i gael—ond rwy'n hynod ddiolchgar am waith caled ac amynedd ein hawdurdodau lleol yn ystod y cyfnod hwn. Rwy'n gobeithio, erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, y byddwn wedi cadarnhau'r polisi, wedi gwneud newidiadau i lwybrau y mae angen iddynt newid yn ôl i 30 mya, ac y byddwn yn gallu symud ymlaen gyda'r consensws cyffredinol, lle mae 20 yn gweithio, ei fod yn gweithio'n iawn; lle nad oedd yn gweithio, mae'r cyflymderau hynny wedi mynd yn ôl i 30 mya.

O ran gweithio gyda Llywodraeth y DU ar faterion eraill yn gyffredinol, rwy'n teimlo'n arbennig o gyffrous ynghylch y posibilrwydd o gronfa gwella rheilffyrdd. Rhaid dweud, Dirprwy Lywydd, fod bwrdd rheilffyrdd Cymru wedi gweithio'n eithriadol o dda yn ddiweddar, ar lefel swyddogol. Gobeithio, wrth i ni newid ein perthynas i ffurf fwy cydweithredol â Llywodraeth y DU, y byddwn yn gallu defnyddio bwrdd rheilffyrdd Cymru a'r gronfa gwella rheilffyrdd i foderneiddio ein seilwaith rheilffyrdd yn y ffordd y mae angen ei moderneiddio. Ers degawdau, rydym wedi gweld tanfuddsoddi yn y rheilffyrdd, o ganlyniad, maen nhw'n gwegian mewn sawl rhan o'r DU, gan gynnwys yma yng Nghymru, ac mae angen mynd i'r afael â hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau cyfatebol yn San Steffan i gyflawni hyn.

Yfory, wrth gwrs, bydd Araith y Brenin. Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn ynghylch y ddeddfwriaeth y gellid bod ynddi. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau cyfatebol y DU ar feysydd sy'n peri pryder sy'n cyd-fynd â'r hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni yng Nghymru, boed hynny o ran seilwaith rheilffyrdd, gwasanaethau rheilffyrdd. Nodaf, er enghraifft, fod yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, Louise Haigh, wedi cyhoeddi yn ddiweddar y byddai hi'n galw Avanti West Coast i'w swyddfa i ddarganfod sut maen nhw'n bwriadu gwella gwasanaethau. Cefais drafodaeth ddiweddar gydag Avanti; er nad oes gennym unrhyw reolaeth dros wasanaethau Avanti West Coast, roedd yn drafodaeth adeiladol, ac rwyf wrth fy modd bod Louise Haigh yn cynnal trafodaethau pellach ar unwaith gydag Avanti ynghylch darparu gwelliannau i wasanaethau y mae angen eu gwneud ar brif lein arfordir gorllewin Loegr.

O ran ffyrdd, fel y mae'r Aelod yn ymwybodol iawn, mae'r adolygiad ffyrdd wedi bod yn rhywbeth yr wyf wedi'i ystyried yn ofalus iawn ers i mi ddychwelyd i'r rôl hon. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn adeiladu'n well nag o'r blaen. Rydym yn dal i adeiladu ffyrdd, ond rwyf eisiau sicrhau ein bod yn edrych ar y prosiectau hynny a gafodd eu hoedi, a sicrhau ein bod yn cynhyrchu fframwaith sy'n galluogi awdurdodau lleol, ac i ni yn Llywodraeth Cymru a'n swyddogion, adeiladu ffyrdd o ansawdd uwch sydd wir yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur sy'n ein hwynebu. Hoffwn allu datrys y broblem yn hytrach nag anwybyddu'r broblem trwy ddefnyddio'r deunyddiau a'r dulliau mwyaf datblygedig posibl. Mewn ymddangosiad pwyllgor diweddar yn y Senedd, amlinellais rai deunyddiau diweddar iawn a ddatblygwyd a all amsugno mwy o garbon nag sydd wedi'i ymgorffori mewn gwirionedd mewn wyneb ffordd. Mae'r math yna o ddatblygiad yn rhywbeth rydw i eisiau ein gweld ni yn ei gofleidio yng Nghymru.

15:55

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad. Ar ran fy mhlaid i, rwy'n croesawu'r edifeirwch yn y datganiad hwn sy'n cydnabod bod camgymeriadau wedi'u gwneud gan y Llywodraeth wrth gyflwyno 20 mya, ac rwyf hefyd yn falch o glywed bod ymgynghoriad ffurfiol gyda'r cyhoedd ar y mater. Ond i ba raddau yw'r hyn yr hoffwn ei archwilio ymhellach yn y cyfraniad hwn.

Yn fras, mae Plaid Cymru yn croesawu'r tro pedol rhannol ar y polisi hwn. Yn gynnar yn ystod y ddeddfwriaeth hon, fe wnaethom gyflwyno gwelliant i'r Senedd ac un sydd wedi symud ymlaen ac wedi sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r terfyn cyflymder newydd, a grymuso awdurdodau lleol i wneud eithriadau pellach. Roedd y Llywodraeth ychydig yn araf i weithredu ar hyn, yn anffodus, ac arweiniodd hyn at golli mwy o ewyllys da tuag at yr egwyddor o ffyrdd 20 mya. Mae hyn yn anffodus ac mae'n gwneud newid yn fwy anodd yn y dyfodol.

Gadewch imi ei gwneud yn glir: mae Plaid Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r egwyddor o ffyrdd 20 mya a'r diogelwch ychwanegol sy'n dod yn eu sgil. Mae'r diogelwch ychwanegol hwnnw yn berthnasol i fodurwyr yn ogystal â cherddwyr a beicwyr, ac mae'r data a gasglwyd ddiwedd y llynedd yn dangos arwyddion calonogol bod ffyrdd yn dod yn fwy diogel. Fis diwethaf, clywsom fod nifer yr anafusion ar ffyrdd 20 a 30 mya yng Nghymru wedi gostwng bron i draean yn nhri mis olaf y flwyddyn. Dangosodd data Llywodraeth Cymru fod 463 o anafusion ar ffyrdd o'r fath rhwng Hydref a Rhagfyr. Roedd hyn i lawr o 681 o anafusion yn y misoedd cyfatebol flwyddyn ynghynt. Ond mae angen llawer mwy o'r llais lleol hwnnw wrth benderfynu ar y parthau 20 mya hynny. Rwy'n disgwyl y byddai'r rhan fwyaf ohonynt yn parhau i fod yn eu lle, ond er mwyn cael sefyllfa fwy cytbwys a sicrhau mwy o gefnogaeth gan gymunedau ledled Cymru, mae angen ymgynghori â nhw'n iawn.

Yn eich ymarfer gwrando, sut oeddech chi'n bwriadu sicrhau bod y llais lleol dilys yn cael ei gofnodi wrth ail-archwilio rhai o'r newidiadau 20 mya hynny, a allai o bosibl ddychwelyd yn ôl i 30 mya? Mae'n ddigon hawdd gwahodd pobl i roi sylwadau, ond faint o anogaeth a chyhoeddusrwydd a roddwyd i hyn? Mewn cyfnod o sefyllfaoedd ariannol ansicr i awdurdodau lleol ledled Cymru, byddai angen cyllid ac adnoddau priodol ar gyfer ymarfer o'r fath, ac ni ddylai ddod yn faich arall heb ei ariannu eto ar ein cynghorau. A allwch ddweud wrthyf sut yr ydych yn bwriadu cyfathrebu â'r cyhoedd ar y mater hwn a chostau disgwyliedig ymarfer o'r fath? Ni ddylai unrhyw newidiadau—neu beidio—ddod yn syndod i bobl leol am nad oeddent yn ymwybodol o'r ymgynghoriad. A allwch chi gadarnhau hefyd a fydd hyn yn cael ei ariannu'n llawn i awdurdodau lleol os ydynt yn gyfrifol am ysgwyddo pen trymaf y gwaith ynghylch yr adolygiad a gosod terfynau cyflymder mwy cadarn a chynaliadwy sy'n briodol i'r gymuned?

Edrychaf ymlaen at graffu ar weddill y polisïau trafnidiaeth fel y Bil bysiau y mae'r Llywodraeth hon yn ei gynnig dros y misoedd nesaf, ac edrychaf ymlaen gyda diddordeb i weld a all Ysgrifennydd Cymru ddod o hyd i'r llinell reilffordd HS2 anodd dod o hyd iddi a gweld a all gyflawni swm canlyniadol Barnett yn sgil honno. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar y materion hyn, wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

16:00

Diolch, Peredur. Fel y gwnes i ddiolch i Natasha Asghar am y ffordd y mae hi wedi bod yn fy herio, hoffwn ddiolch i chi hefyd. Ychydig iawn o gyfleoedd a gawsom hyd yma i drafod a dadlau am faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth yma yn y Siambr, ond rwy'n edrych ymlaen at gydweithio wrth i ni symud ymlaen. Yn yr un modd, hoffwn gofnodi fy niolch i'ch rhagflaenydd yn y rôl. Roedd Delyth bob amser o gymorth wrth nodi pryderon ar ran y dinasyddion y mae'n eu cynrychioli.

Rwy'n credu y gall dangos gostyngeiddrwydd ac amynedd ddiddymu dicter a blinder. Rydym wedi bod yn ceisio dangos gostyngeiddrwydd ynghylch 20 mya, ac rydym wedi bod yn amyneddgar, ond rydym hefyd wedi gwerthfawrogi amynedd dinasyddion Cymru wrth ddatblygu'r ymarfer gwrando hwn. Rwy'n gobeithio, ac rwy'n gadarn o'r gred, unwaith y byddwn wedi gallu holi'r 7,000 a mwy o'r ymatebion hynny, y byddwn yn gallu gwneud nifer enfawr o newidiadau o ran ymatebion i'r 7,000 o bobl hynny a fydd yn mynd yn bell i fodloni pobl fod y polisi bellach wedi'i sefydlu.

O ran ystadegau, mae ffigurau'n mynd i fyny ac i lawr, ond mae'n galonogol gweld pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir. Mae bod ag un yn llai o anafusion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Yn 2023, adroddodd yr heddlu yng Nghymru bod cyfanswm o 3,262 o wrthdrawiadau ffyrdd wedi digwydd, yn anffodus. Roedd hynny'n ostyngiad bach o'i gymharu â 2022, a 24.7 y cant yn is nag yn 2019. Byddwn bob amser yn ychwanegu cafeat pan fyddaf yn siarad am welliannau yn y ffigurau sef y byddwn yn eu gweld yn codi mewn rhai chwarteri, mewn eraill byddwn yn eu gweld yn disgyn. Y peth allweddol yw ein bod yn edrych ar y duedd hirdymor, ac rydym yn hyderus y bydd y polisi hwn yn sicrhau'r manteision hirdymor y cafodd ei gynllunio i'w cyflawni.

Dirprwy Lywydd, dylwn fod wedi dweud mewn ymateb i gwestiynau gan Natasha Asghar, mewn gwirionedd, ein bod hefyd wedi ysgrifennu at bob cyngor tref a chymuned yng Nghymru, yn eu hannog i ymgysylltu â'u hawdurdodau lleol ac i wneud sylwadau. Mae'r ymgynghoriad wedi bod yn enfawr. Nid wyf yn credu y gallem fod wedi gwneud mwy, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhoi sylwadau a barn yn ôl i'r awdurdodau lleol, ac, yn wir, i swyddogion sy'n gyfrifol am gefnffyrdd yn Llywodraeth Cymru. Byddwn yn sicrhau bod yr arian ar gael i awdurdodau lleol i wneud y newidiadau angenrheidiol. Byddwn yn sicrhau bod hyd at £5 miliwn ar gael o'n cyllideb.

Dylwn ddweud mai'r dewis amgen i'r polisi diofyn 20 mya fyddai wedi bod i barhau i ddefnyddio gorchmynion rheoleiddio traffig ar ffyrdd unigol. Weithiau, gallwch eu pecynnu, ond ar gost o rhwng £3,000 a £5,000 fesul gorchymyn rheoleiddio traffig, roedd y costau i awdurdodau lleol a oedd yn dilyn y dull hwnnw o leihau terfynau cyflymder yn mynd yn rhy fawr i'w hysgwyddo. Hefyd, roedd y baich gweinyddol ar awdurdodau lleol yn eu clymu'n dynn, ac felly roeddem yn gallu rhyddhau—neu dyna ddiben y polisi—awdurdodau lleol o'r fiwrocratiaeth, gweinyddiaeth a chostau gormodol hynny sy'n dod yn sgil gwneud gorchmynion rheoleiddio traffig unigol.

Ac yn olaf, mewn ymateb i gwestiynau Peredur am gyllid rheilffyrdd, rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau cyfatebol yn Llywodraeth y DU, yn enwedig ar gronfa gwella rheilffyrdd Cymru. Mae hyn yn rhywbeth sy'n hynod werthfawr wrth i ni geisio gwella seilwaith rheilffyrdd Cymru mewn ffordd sydd wedi bod ei hangen ers degawdau lawer.

16:05

Rwy'n croesawu ail-ddatganiad eich tair blaenoriaeth, Gweinidog, sef gwrando, gweithio mewn partneriaeth, a gwneud i newid ddigwydd. Mae pobl rwy'n siarad â nhw yn cytuno bod 20 mya yn addas ar gyfer ffyrdd ar ystadau, ffyrdd sy'n cael eu culhau'n naturiol i un lôn gan geir wedi parcio, ardaloedd o dai teras ac ardaloedd lle ceir naill ai palmant cul iawn neu dim palmant.

Rwy'n croesawu'r canllawiau sy'n nodi y gellid ystyried terfynau 30 mya ar ffyrdd strategol y tu allan i ganolfannau trefol a ffyrdd preswyl gwledig heb gyfleusterau cyfagos, llwybrau trafnidiaeth strategol, ffyrdd A a B—dyna pam y cânt eu galw'n ffyrdd A a B; rydw i wedi bod yn dweud hynny wrth eich rhagflaenydd yn barhaus, ac edrychodd arnaf â golwg wag y rhan fwyaf o'r amser—lle mae nodweddion y ffordd yn caniatáu.

Roeddwn i'n ymgyrchu'r wythnos diwethaf ar Ffordd Llangyfelach, un o'r prif ffyrdd i mewn i Abertawe, ac roedd 20 mya ar y ffordd honno yn amhoblogaidd iawn. Nid oedd trigolion yn deall pam ei fod yn 20 mya, ac i fod yn berffaith onest, ni wnes i chwaith. Pryd gellir dychwelyd y ffyrdd cyntaf i 30 mya? Ychydig iawn o ffyrdd sydd angen eu newid, ond mae angen iddynt newid cyn gynted â phosibl. 

Diolch yn fawr, Mike. Rydych chi wedi bod yn gyson yn eich cynigion ar gyfer gwella'r polisi hwn ac rydych chi wedi bod yn iawn drwyddi draw. Rwy'n gobeithio y byddwch yn hapus iawn gyda'r canllawiau diwygiedig, oherwydd rwy'n credu y gallech chi eich hun fod wedi'i lunio; dyna'n union yr hyn yr oeddech chi'n galw amdano. Mae camgymeriadau wedi'u gwneud, ond bydd y canllawiau newydd yn ein galluogi i'w cywiro, a fy ngobaith yw y byddwn ni, o fewn y canllawiau hyn, yn y fframwaith hwn, yn dechrau gweld y broses yr hydref hwn o newidiadau i ardaloedd 20 mya. Dylwn i ychwanegu cafeat, serch hynny, drwy ddweud bod posibilrwydd gweld rhai llwybrau sydd ar hyn o bryd yn 30 mya yn lleihau i 20 mya, oherwydd bu galwadau mewn rhai rhannau o Gymru am derfynau cyflymder llai. Mae'n debygol y byddant yn niferoedd isel iawn, fodd bynnag, gan fod cynifer o ffyrdd a fyddai'n dychwelyd yn ôl o 20 mya i 30 mya. Bydd y broses honno'n dechrau yn yr hydref. Bydd newidiadau i arwyddion, rwy'n credu, yn cael eu gwneud erbyn diwedd eleni, gan fynd i'r flwyddyn galendr nesaf. Fy ngobaith a'm disgwyliad yw, erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, y bydd wedi dod i drefn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw, sy'n darparu diweddariad trafnidiaeth i'w groesawu. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i godi mater trafnidiaeth penodol yn fy ardal fy hun. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod ymgyrchwyr yn Scleddau yn fy etholaeth i wedi gweithio'n galed iawn i godi ymwybyddiaeth o beryglon cyflymder traffig ar yr A40, ac fe wnaethant waith mor dda nes bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau'r terfyn cyflymder ar y rhan benodol hon o'r ffordd o 50 mya i 40 mya ym mlwyddyn ariannol 2022-23. Yn anffodus, mae hi'n 2024 erbyn hyn ac ni fu unrhyw gynnydd, ac mae trigolion lleol, fel rwy'n siŵr y gall yr Ysgrifennydd Cabinet werthfawrogi, yn ddealladwy yn rhwystredig. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r ymrwymiad trafnidiaeth hirsefydlog hwn, ynghyd ag amserlen ar gyfer pryd y gall y gymuned yn Scleddau ddisgwyl gweld rhywfaint o gynnydd gwirioneddol yn y maes hwn.

A gaf i ddiolch i Paul Davies a hefyd ddweud fy mod yn falch iawn o gyfarfod ag ef yn ddiweddar iawn i drafod materion ar ran ei etholwyr? Byddaf yn adrodd yn ôl gyda diweddariad llawn, cynhwysfawr ar y gwaith y mae angen ei ddatblygu ar yr A40. Ac i ychwanegu at hynny, mae Aelodau eraill yn y Siambr hon a hoffai weld y terfynau cyflymder yn cael eu lleihau ar gefnffyrdd ac rydym yn archwilio dichonoldeb hynny. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith o osod terfynau cyflymder lleol yng Nghymru, a fydd, gobeithio, yn mynd i'r afael â phryderon y mae Aelodau eraill wedi'u codi yn y Siambr. 

Ysgrifennydd Cabinet, yn gyntaf oll, a gaf i groesawu'r hyn sydd gennych i'w ddweud ar 20 mya? Rwy'n credu bod consensws eithaf cryf bod angen addasu'r polisi presennol, ond byddwn i yn disgrifio'r addasiad hwnnw fel gwneud mân newidiadau, yn hytrach na rhywbeth mwy sylweddol. Yn sicr, fy mhrofiad i yn Nwyrain Casnewydd yw bod pobl yn gefnogol o'r polisi i raddau helaeth, ond mae yna ffyrdd penodol lle maen nhw'n credu y dylen nhw ddychwelyd i 30 mya. Un enghraifft yw rhannau o'r B4245, sy'n cysylltu traffordd yr M4 trwy Fagwyr, Gwndy a Rogiet, drwodd i Gil-y-coed. Mae hynny wedi bod yn bryder eithaf sylweddol i lawer o bobl leol. Mae hefyd braidd yn anghyson, o ran amrywio'r terfyn cyflymder, o un cyflymder i'r llall, ar hyd y ffordd gyfan. Felly, byddwn yn croesawu'r adolygiad a grybwyllwyd gennych o ran gwneud y math hwnnw o newid. Ond a fyddech chi'n cytuno â mi fod tystiolaeth gref sy'n dod i'r amlwg, yma ac ar draws y byd, o fanteision diogelwch ar y ffyrdd a ddaw gyda 20 mya? Mae bywyd pob plentyn sy'n cael ei achub yn gwbl amhrisiadwy, ac mae angen i ni edrych ar y polisi hwn yn y cyd-destun hwnnw.

Dim ond un peth arall, yn gyflym iawn—

16:10

A gaf i ddiolch i John Griffiths am y cwestiynau y mae wedi'u codi? Y llwybr y mae wedi tynnu sylw ato—y B424 rwy'n credu—

Ie, dyna'r un. Mae hwnnw wedi cael ei gydnabod yn rheolaidd fel llwybr sydd angen dychwelyd yn ôl i 30 mya. Mae'r pwynt y mae John Griffiths yn ei wneud am newidiadau aml i gyflymder hefyd yn rhywbeth y mae awdurdodau lleol wedi'i godi gyda ni dro ar ôl tro, felly rydym yn gobeithio y gellir mynd i'r afael â'r mater hwnnw hefyd. Mae John yn llygad ei le am yr angen i achub bywydau. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn fater enfawr yn ymwneud ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru wrth ddylunio a gwella ffyrdd. 

Mae'r byd yn newid yn eithriadol o gyflym o ran technoleg, serch hynny, ac mae datblygiadau enfawr yn cael eu gwneud o ran cerbydau a mesurau diogelwch yn cael eu hymgorffori mewn cerbydau, gan gynnwys y gallu i geir wyro oddi wrth wrthrychau, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr sy'n sydyn yn dod i'r ffordd. Mae ceir yn mynd i fod, yn y dyfodol agos, yn gweithredu ar ddulliau awtonomaidd a lled-awtonomaidd, a fydd yn golygu y bydd gwell diogelwch yn cael ei gyflawni gan y broses honno hefyd. Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn ynghylch y dechnoleg sy'n dod i'r amlwg mewn cerbydau a sut y gellir ei defnyddio i amddiffyn bywydau.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. Dim ond ychydig o bethau gennyf i. Un o'r heriau eraill y cysylltir â ni amdanynt yn aml yw diflastod sŵn gan y rhwydwaith cefnffyrdd, yn enwedig yr A55, yn amlwg, gyda chyflymder traffig yno hyd at 70 mya. Mae llawer o etholwyr yn Llanddulas wedi cysylltu â mi yn ystod y misoedd diwethaf, ac roeddent yn dweud y byddent yn gwerthfawrogi'n fawr fanteision ffensys lliniaru sŵn, sydd, wrth gwrs, eisoes ar gael trwy lawer o drefi a phentrefi eraill ar hyd y rhan honno o'r rhwydwaith ffyrdd. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech ddweud wrthym ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd yn y maes hwnnw.

Yn ogystal, ychydig wythnosau yn ôl, codais fater anghyfartaledd prisiau rheilffordd rhwng y gogledd a'r de, lle mae cost tocyn unffordd neu docyn dwyffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd yn llai na hanner pris teithiau o hyd tebyg ar reilffordd y gogledd. Yn amlwg, mae hynny'n annheg. Nid yw'n deg i deithwyr. Nid yw'n deg i unrhyw un sydd angen defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd. Rwyf eisiau gwybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd gyda TrC er mwyn mynd i'r afael â'r anghysondeb hwnnw. 

A gaf i ddiolch i Darren Millar am ei gwestiynau? Gwn fod Darren wedi ysgrifennu ataf yn ddiweddar ynghylch yr un mater o asesiadau sŵn ar yr A55. Mae'r asesiadau sŵn hynny'n cael eu cynnal ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod y bu galw am ystyried mesurau dros dro. Yn anffodus, oherwydd ein bod yn cyrraedd diwedd y gwaith asesu, ni fyddai gweithredu mesurau dros dro ac yna gorfod eu tynnu'n ôl yn gwneud synnwyr, ac ni fyddai'n rhoi gwerth am arian. Felly, rydym eisiau gorffen y darn hwnnw o waith, gan asesu'r holl bwyntiau lle mae diflastod sŵn yn broblemus, ac yna gweithredu rhwystrau neu ba newidiadau bynnag sy'n angenrheidiol i wella bywydau pobl.

O ran prisiau rheilffordd, mae rhai yn cael eu rheoleiddio, ac nid yw eraill yn cael eu rheoleiddio. Rwy'n awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU ar system brisiau teg a thryloyw iawn ar draws rhwydwaith y DU. Ar hyn o bryd, mae gennym nifer o weithredwyr yng Nghymru, a gall y drefn brisiau fod yn wahanol iawn, yn dibynnu ar yr adeg o'r dydd, yn dibynnu ar y math o docyn, yn dibynnu ar y llwybr, yn dibynnu ar ble rydych chi'n cychwyn ar eich taith, boed hynny yng Nghymru neu y tu allan i Gymru. Hoffwn weld mwy o dryloywder a system lawer tecach o docynnau yn y dyfodol. Byddaf yn gweithio gydag aelodau cyfatebol Llywodraeth y DU i wneud hynny, yn ogystal â gyda Trafnidiaeth Cymru.

Rwy'n croesawu'r gwrando a'r cydweithio mewn partneriaeth â chynghorau ynghylch cyflwyno 20 mya. Nhw fel awdurdodau priffyrdd sy'n gorfod dehongli a chyflwyno deddfwriaeth ac arweiniad. Maent yn ei chael hi'n anodd cynnal seilwaith priffyrdd presennol ein ffyrdd, palmentydd a phontydd bychain, gyda bron pob cyllid grant trafnidiaeth wedi'i ddargyfeirio i lwybrau teithio llesol, ac ni ellir eu cynnal.

Mae hefyd yn bwysig ein bod yn gwrando ar ddefnyddwyr ffyrdd eraill, gan gynnwys gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus a swyddogion traffig yr heddlu, wrth ddarparu deddfwriaeth newydd neu fesurau diogelwch priffyrdd. Rwy'n ymwybodol eich bod wedi rhoi llawer o amser i hyn, ac rwy'n ddiolchgar iawn. Mae swyddogion wedi arfer gostwng terfynau cyflymder er mwyn diogelwch ar y ffyrdd, ond nid yn aml yn eu codi, y bydd yn rhaid iddynt ei wneud, ac maent yn pryderu am yr atebolrwydd. A fyddai Llywodraeth Cymru yn rhannu'r cyfrifoldeb hwnnw? Hefyd, a fyddech chi'n ymrwymo i ail-alinio'r cyllid ar gyfer grantiau trafnidiaeth leol yn ôl yr hyn sydd ei angen? Diolch.

16:15

A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am ei chwestiynau? Ond hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Carolyn Thomas am y gwaith enfawr y mae hi wedi'i wneud yn bersonol o ran 20 mya. Mae ei help a'i chymorth wedi cael ei werthfawrogi, nid yn unig gennyf i fy hun, ond hefyd fy swyddogion, a hefyd, rwy'n gwybod, gan awdurdodau lleol. Diolch yn fawr, Carolyn, am y gwaith hwnnw.

Mae Carolyn yn hollol iawn bod angen ymgysylltu â'r heddlu pryd bynnag y bydd newid yn digwydd, ac rwyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r heddlu dros y misoedd diwethaf, fel rhan o'r rhaglen wrando, a byddaf yn cyfarfod eto gyda phenaethiaid i drafod GanBwyll, sut y gallwn gefnogi'r bartneriaeth wrth symud ymlaen. Mae Carolyn yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r hyder y mae angen i swyddogion awdurdodau lleol ei gael wrth wneud newidiadau y maen nhw'n credu sy'n angenrheidiol. Gallaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn ysgrifennu at bob awdurdod lleol, gan roi cefnogaeth Llywodraeth Cymru iddynt i'r penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch gwrthdroi llwybrau 20 mya yn ôl i 30 mya, i'w helpu i wneud y penderfyniadau cywir a rhoi'r hyder sydd ei angen arnynt i wneud hynny.

Yn olaf, mae Carolyn Thomas wedi nodi bod cynnal a chadw ffyrdd yn rheolaidd yn fater pwysig i awdurdodau lleol, ac rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelodau fy mod i'n edrych ar gyllidebau'r dyfodol ar gyfer awdurdodau lleol—teithio llesol, cynnal ffyrdd, y pecyn cyfan—a sut y gallwn ddatganoli'r broses o wneud penderfyniadau a'r arian, fel y gall awdurdodau lleol benderfynu ar y ffordd orau i wario arian yn eu hardaloedd lleol, Oherwydd nhw sy'n gwybod orau.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitem 5, Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) 2024, ac eitem 6, Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024, eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad.

5. & 6. Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) 2024 a Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024

Cynnig NDM8638 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2024.

Cynnig NDM8637 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2024.

Cynigiwyd y cynigion.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynigion. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn darparu ar gyfer sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Trydyddol a diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar yr un pryd. Y comisiwn fydd y corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae addysg drydyddol yn cwmpasu addysg uwch, addysg bellach a hyfforddiant, prentisiaethau, chweched dosbarth a dysgu cymunedol oedolion. Heddiw, rwy'n ceisio gwneud y diwygiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth sy'n ofynnol o ganlyniad i ddiddymiad CCAUC ac er mwyn galluogi'r comisiwn i ddod yn weithredol ar 1 Awst 2024. 

Byddaf yn troi yn gyntaf at Reoliadau Llywodraeth Ddigidol (Cyrff Cymru) 2024. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r rhestr o awdurdodau perthnasol yng Nghymru yn Rhan 2 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017, gan ddileu CCAUC ac ychwanegu'r comisiwn, er mwyn galluogi'r comisiwn i rannu data gyda'r awdurdodau cyhoeddus eraill a restrir at ddibenion brwydro yn erbyn twyll yn erbyn y sector cyhoeddus. Mae pwerau presennol CCAUC wedi bod yn hirsefydlog ac, diolch byth, nid ydynt erioed wedi cael eu defnyddio. Fodd bynnag, mae'n briodol y dylai'r corff a fydd yn eu disodli gael pwerau tebyg os bydd angen.

Yn unol ag adran 56(12) o Ddeddf 2017, rydym wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, yn ogystal ag ymgynghori â'r personau penodedig. Cefnogwyd y newidiadau arfaethedig.

Bydd yr ail offeryn statudol ger eich bron heddiw, Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024, yn sicrhau bod deddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd bresennol yn adlewyrchu'n gywir y newidiadau deddfwriaethol sy'n deillio o ddiddymiad CCAUC a chreu'r comisiwn. Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym yn mabwysiadu dull graddol o weithredu Deddf 2022, ac mae'r rheoliadau canlyniadol hyn yn adlewyrchu natur fesul cam y broses o gychwyn ac yn disodli'r cyfeiriadau at CCAUC yn bennaf mewn deddfwriaeth bresennol gyda chyfeiriadau at y comisiwn.

Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.

16:20

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr—Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Ystyriodd y pwyllgor y ddwy set hyn o reoliadau drafft yr wythnos diwethaf, ac mae ein hadroddiadau ar gael o agenda heddiw.

Ni wnaeth y pwyllgor adrodd unrhyw faterion o ran Rheoliadau drafft Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024. Bydd fy sylwadau y prynhawn yma yn canolbwyntio ar adroddiad y pwyllgor ar Reoliadau Llywodraeth Ddigidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2024.

Mae adroddiad y pwyllgor ar reoliadau'r llywodraeth ddigidol yn cynnwys dau bwynt adrodd ar rinweddau. Mae'r pwynt rhinweddau cyntaf yn ceisio eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch a yw asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gynnal mewn perthynas â'r rheoliadau ai peidio, oherwydd ceir gwybodaeth sy'n gwrthdaro rhwng y nodyn esboniadol a'r memorandwm esboniadol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod y datganiad yn y nodyn esboniadol yn anghywir, a'r wybodaeth yn y memorandwm esboniadol sy'n gywir. Mae'r memorandwm esboniadol yn esbonio, er na fyddai'r rheoliadau'n gofyn am asesiad effaith rheoleiddiol yn eu rhinwedd eu hunain, eu bod o fewn cwmpas yr asesiad a oedd yn cyd-fynd â Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddiwygio'r memorandwm esboniadol i wneud pethau'n gliriach. Byddem yn croesawu cadarnhad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei sylwadau cloi y bydd y datganiad yn y nodyn esboniadol hefyd yn cael ei gywiro cyn i'r rheoliadau gael eu llofnodi mewn cyfraith.

Mae'r ail bwynt rhinwedd yn tynnu sylw at wybodaeth a dynnwyd yn benodol at sylw'r pwyllgor yn y memorandwm esboniadol, sef, wrth wneud y rheoliadau hyn, bod Gweinidogion Cymru yn arfer pŵer Harri'r VIII sydd ar gael iddynt.

Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr eraill. Ysgrifennydd Cabinet, os ydych chi eisiau ymateb.

Diolch, Llywydd, ac roedd yn esgeulus iawn i mi beidio â diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu ar y rheoliadau hyn, ac rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd y mae'r Cadeirydd wedi gofyn amdano heddiw. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad i hynny, felly mae'r cynnig yna hefyd wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Y cynnig yw eu bod nhw'n cael eu grwpio ar gyfer eu trafod, ond pleidleisiau ar wahân. Os ydy pawb yn cytuno gyda hynny, fe wnawn ni hynny. Does yna ddim gwrthwynebiadau.

7. & 8. Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Felly, mae'r cynnig ar egwyddorion cyffredinol y Bil yma i'w wneud gan y Trefnydd, Jane Hutt. 

Cynnig NDM8614 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).

Cynnig NDM8615 Jane Hutt

Cynnig bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gael agor y ddadl hon, sy'n garreg filltir bwysig arall yn hanes y Bil yma.

Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd (Cymru) (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a chynnig y cynigion cysylltiedig ar ei egwyddorion cyffredinol a'i ddatrysiad ariannol. Rydym wedi cymryd camau breision dros dymor y Senedd wrth gyflwyno deddfwriaeth i drawsnewid democratiaeth yma yng Nghymru. Bydd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, sydd bellach ar y llyfr statud, yn gwella gallu'r Senedd hon i graffu'n effeithiol a bydd yn cyflwyno system etholiadol gyfrannol ar gyfer etholiad 2026.

Yr wythnos diwethaf pasiodd y Senedd hon y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a fydd yn parhau i ddiwygio ein system etholiadol yng Nghymru, gan ei gwneud yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Heddiw rydym yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol trydydd Bil nodedig, Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), sydd â'r diben o wneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer ac ar ran pobl Cymru. Ar gyfer y Bil hwn, mae gan Gymru gyfle i ddilyn ôl troed llawer o wledydd eraill ledled y byd sydd wedi cydnabod manteision bod â mwy o fenywod mewn gwleidyddiaeth. Mae tystiolaeth o bob cwr o'r byd yn dangos y gall cynyddu nifer y deddfwyr benywaidd arwain at ddeddfwrfa fwy effeithiol, ac mae dros 130 o wledydd, gan gynnwys Iwerddon, yn defnyddio cwotâu at y diben hwn. Nododd Dr Fiona Buckley, ac rwy'n dyfynnu:

'Ers mabwysiadu cwotâu rhywedd deddfwriaethol, mae Iwerddon wedi gweld cynnydd o 44% yn nifer y menywod sy'n cael eu hethol i Dáil Éireann, gan godi o 25 yn 2011 i 36 yn 2020.'

Mae'r ddadl hon, Llywydd, yn nodi diwedd craffu Cyfnod 1 ar y Bil hwn, ac rwy'n ddiolchgar i holl aelodau'r pwyllgor am eu gwaith craffu manwl ar y ddeddfwriaeth, ac i bawb a roddodd dystiolaeth. Rwyf wedi ymateb yn ffurfiol i'r 47 o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Biliau Diwygio a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cyllid yn dilyn y llythyr am oblygiadau ariannol y Bil.

Ar ddechrau'r broses hon, dywedais fy mod yn bwriadu ystyried canlyniad proses graffu Cyfnod 1 yn ofalus, a threuliais gryn amser yn gwneud hynny, gan drafod materion a godwyd gan bwyllgorau gydag Aelodau a rhanddeiliaid allweddol, y mae llawer ohonynt yn teimlo'n angerddol bod hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth y mae'n rhaid i ni ei chael ar y llyfr statud. Ac yn yr amser sydd ar gael y prynhawn yma, ni allaf ymdrin â'r holl argymhellion, ond er nad wyf wedi gallu derbyn yr holl argymhellion, rwyf wedi derbyn neu nodi'r mwyafrif helaeth. Mae nifer o argymhellion yn gofyn am ystyriaeth bellach o'u priodoldeb a'u dichonoldeb, a'r rhain rwyf wedi'u derbyn mewn egwyddor, i roi arwydd clir, os cytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil, y bydd y gwaith hwn yn flaenoriaeth cyn y Cyfnod diwygio cyntaf.

Rwy'n croesawu argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Biliau Diwygio gan fwyafrif yr Aelodau y dylai Aelodau'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, gan ystyried materion a amlygwyd yn yr adroddiad ar yr un pryd. Rwy'n falch bod y pwyllgor yn cydnabod bod y model a gyflwynwyd yn y Bil hwn ar gyfer cwotâu rhywedd deddfwriaethol yn cyd-fynd ag arferion da rhyngwladol, ac yn addas i'r diben yma yng Nghymru.

Mae nifer o argymhellion a chasgliadau'n ymwneud â chwestiwn cymhwysedd deddfwriaethol a chamau y dylai Llywodraeth Cymru ystyried eu cymryd, yn ddelfrydol cyn gofyn i'r Senedd hon basio'r ddeddfwriaeth, ac rwyf wedi nodi'r argymhellion hyn, gan gynnwys y rhai sy'n cynnig siarad â Llywodraeth y DU, a byddaf yn ystyried y rheini ymhellach. Fodd bynnag, rwy'n ailbwysleisio, fel rwyf wedi dweud o'r cychwyn cyntaf, rwy'n ystyried bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. 

Adroddodd y pwyllgorau eu pryderon am effaith heriau cyfreithiol posibl ar gynnal a chanlyniad etholiad y Senedd sydd wedi ei drefnu ar gyfer 2026, a chyflawni'r diwygiadau ehangach a gynlluniwyd ar gyfer yr etholiad hwnnw. Rwy'n ystyried y pryderon hyn o ddifrif, ac rwyf wedi myfyrio ymhellach ar yr hyn fyddai'r llwybr mwyaf darbodus a chyfrifol ar gyfer gweithredu'r ddeddfwriaeth hon. Mae diogelu canlyniad a chywirdeb etholiad Senedd 2026, gan gynnwys gweithredu Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), o'r pwys mwyaf, ac rwyf wedi dod i'r casgliad mai'r dull mwy cyfrifol yw i'r Bil hwn gael ei weithredu ar gyfer etholiad y Senedd sydd wedi ei drefnu ar gyfer 2030. Bydd hyn yn sicrhau y gellir gweithredu'r ddeddfwriaeth mewn modd trefnus, ac yn rhoi amser i unrhyw heriau cyfreithiol posibl gael eu datrys ymhell cyn yr etholiad hwnnw. 

Fodd bynnag, mae'n bwysig bod gan y Senedd, y cyhoedd a'n rhanddeiliaid sicrwydd ynghylch y cynlluniau hyn. Felly, byddaf yn cyflwyno gwelliant i'r Bil i gymryd cychwyn allan o ddwylo Gweinidogion Cymru, a sicrhau bod ei ddarpariaethau, yn amodol ar Gydsyniad Brenhinol, yn dechrau dod i rym yn awtomatig ar gyfer etholiad y Senedd sydd wedi ei drefnu ar gyfer 2030. Yn y cyfamser, rwy'n awyddus i weithio gyda phartneriaid i wneud y mwyaf o'r hyn y gallwn ei wneud drwy ganllawiau'r strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant a gyhoeddir y flwyddyn nesaf, a byddwn yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio'r canllawiau hynny i annog gweithredu gwirfoddol i wella nifer y menywod sy'n ymgeisio, ac mae hynny ar gyfer pob plaid. Canllawiau yw'r rheini, wrth gwrs, sydd yn y ddeddfwriaeth yr ydym newydd ei phasio yr wythnos diwethaf.

Hoffwn sôn am rai o'r argymhellion eraill yn yr adroddiadau. Rwy'n derbyn mewn egwyddor argymhelliad 7 y Pwyllgor Biliau Diwygio i'r swyddog cydymffurfiaeth enwebiadau cenedlaethol allu penodi dirprwy, ac yn cadarnhau, mewn ymateb i argymhelliad 8, ein bod yn trafod gyda'r Comisiwn Etholiadol ymestyn ei bwerau fel y gall benderfynu ar safonau perfformiad ar gyfer y swyddog cydymffurfiaeth enwebiadau cenedlaethol, yn yr un modd ag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd ar gyfer swyddogion canlyniadau.

Rwy'n derbyn yn rhannol argymhellion 2 a 4 y Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch tynnu'n ôl ymgeiswyr a sut y gallai hyn effeithio ar gydymffurfiaeth pleidiau gwleidyddol â'r rheolau, a gobeithiaf fod fy ymateb yn rhoi sicrwydd bod y materion hyn wedi eu hystyried yn fanwl ac y bydd y materion a godwyd yn ystod craffu Cyfnod 1 yn rhan o'r ystyriaeth honno.

Fodd bynnag, rwyf wedi gwrthod argymhellion a wnaed gan y ddau bwyllgor sy'n ymwneud ag adran 2 y Bil, sef y dull arfaethedig ar gyfer adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd â darpariaethau cyfatebol yn Neddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Mae'n gwneud synnwyr bod y mecanweithiau adolygu hyn yn alinio fel pecyn o ddiwygiadau, ac nid wyf yn cytuno bod y darpariaethau'n cyfyngu ar ryddid Senedd yn y dyfodol. Rwyf wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad 14 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, yn galw am gynnwys mwy o'r wybodaeth, sydd ar hyn o bryd yn y datganiad o fwriad y polisi, yn y ddeddfwriaeth sylfaenol. Ac er nad yw hyn yn syml, yn enwedig o ystyried y cydbwysedd presennol rhwng deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth ar gyfer etholiadau'r Senedd a'r awydd i wneud y ddeddfwriaeth yn hygyrch i'r rhai sy'n gyfrifol am ei gweithredu, rwy'n barod i ystyried ymhellach pa fanylion a allai fod yn ymarferol ac yn briodol i ddarparu ar eu cyfer ar wyneb y Bil. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i roi mwy o fanylion am yr amserlen ar gyfer is-ddeddfwriaeth ar yr adeg briodol.

Rwyf wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad 22 y Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch ymchwil ar rwystrau sy'n wynebu ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac wedi derbyn argymhellion eraill yn ymwneud â'r cynnydd y gellir ei wneud ar wahân i'r Bil hwn i ddenu ac annog ystod fwy amrywiol o ymgeiswyr i sefyll yn etholiadau'r Senedd, gan gynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi ymgeiswyr sy'n wynebu aflonyddu a cham-drin geiriol. Rwy'n croesawu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio sydd wedi'u hanelu at Gomisiwn y Senedd, gan fy mod yn cydnabod pwysigrwydd y Senedd hefyd o ran cymryd camau pellach i sicrhau bod y lle hwn mor gynhwysol a hygyrch â phosibl o ran diwylliant a ffyrdd o weithio. Ac, yn wir, rydym wedi dechrau'r gwaith hwnnw yn ein gwaith parodrwydd.

Rwy'n croesawu barn y Pwyllgor Cyllid, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod yr asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei ddiwygio ar yr adeg briodol ac yn adlewyrchu unrhyw gostau ychwanegol a allai godi o welliannau i'r Bil.

Yn olaf, Llywydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, roeddwn i eisiau adrodd fy mod i wedi siarad â nifer o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr clymblaid Diverse5050, y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, Stonewall Cymru a Phlaid Cymru, cawcws y menywod a grŵp trawsbleidiol y menywod am bwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon a symud ymlaen â hi, gyda'u cadarnhad a'u cefnogaeth, i'r cyfnod nesaf, ac rwy'n awyddus i barhau â'r trafodaethau hynny. Diolch.

16:30

Meddwl oeddwn i tybed, ac mae'n ddrwg gen i os ydw i wedi ei fethu'n barod, ond a allech chi ddweud mwy am y rheswm rydych chi wedi dod i'r casgliad, yn groes i un o argymhellion allweddol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, rwy'n credu, nad yw bod â Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sy'n dod â phopeth perthnasol yn benodol o fewn y Bil o dan ein cymhwysedd deddfwriaethol yn cymryd y mater yr ydych chi'n pryderu amdano, a'r rheswm eich bod yn oedi gweithredu tan 2030, yn llwyr oddi ar y bwrdd? Pam na allem ni wneud cais am y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor hwnnw heddiw, gan Lywodraeth Lafur yn San Steffan, fel y gallwn fod â Senedd gytbwys o ran rhywedd yn 2026? Dydw i ddim yn deall y rhesymeg, felly efallai pe gallech egluro.

Roeddwn i'n disgwyl cwestiynau, Adam Price, wrth gwrs, ar yr union bwynt yna. O ran yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud nawr—ac rwyf wedi sôn am ymgysylltu â Llywodraeth y DU, ac, yn wir, roeddem yn ymgysylltu â Llywodraeth flaenorol y DU yn barod—rydym bellach wedi agor deialog gyda Swyddfa Cymru. Byddaf yn dweud mwy am hyn, rwy'n siŵr, wrth ymateb, oherwydd rydym wedi agor deialog gyda Swyddfa Cymru, mae ein swyddogion eisoes wedi cael cyfarfod rhagarweiniol, ac yn amlwg byddwn am ddiweddaru ein cydweithwyr a'r Aelodau wrth i ni fynd trwy hyn ac wrth i ni fynd drwy'r cyfnod nesaf, gobeithio, o graffu. Rwy'n credu mai un o'r materion, fe ddywedaf, ar y pwynt hwn, yw ein bod wedi cael gwybod na fyddai Gorchymyn adran 109 yn rhoi cwestiwn cymhwysedd y tu hwnt i amheuaeth, ac na fyddai'n dileu'r risg o atgyfeiriad i'r Goruchaf Lys neu her gyfreithiol arall; dim ond dyfarniad y Goruchaf Lys ar fater cymhwysedd all roi'r mater y tu hwnt i amheuaeth. Ond mae'n bwysig, ar argymhelliad y Pwyllgor Biliau Diwygio, fy mod yn dechrau'r broses honno o ran mynd i'r afael â'r gobaith a'r cyfle am Orchymyn adran 109, ond rwy'n gobeithio y caf fwy o gyfle yn yr ymateb i'r ddadl, Llywydd, hefyd.

Fe wnaf orffen fy sylwadau cloi. Mae hyn mewn gwirionedd am bwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon a bwrw ymlaen â hi i'r cyfnod nesaf. Dyna sy'n rhaid i ni ei wneud heddiw, derbyn a chefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, a chydnabod ein bod yn credu bod gennym achos cyfreithiol credadwy o ran cymhwysedd; rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn. Mae'n rhaid i ni barhau â'r holl drafodaethau drwy gydol taith y Bil, gan archwilio gyda phartneriaid beth allwn ni ei wneud i annog pleidiau gwleidyddol i gymryd camau gwirfoddol i gynyddu cynrychiolaeth menywod ar gyfer ein Senedd yn 2026.

Yn amlwg, rwy'n edrych ymlaen yn awr at glywed barn cyd-Aelodau ar y Bil hwn. Ond a gaf i ailadrodd a dweud, yn olaf, Llywydd, bod hwn yn Fil nodedig sy'n cynnig cyfle i fod â Senedd fwy effeithiol sy'n adlewyrchu'r bobl y mae'n eu gwasanaethu yn well ac sy'n addas i'r diben, yn unol ag arferion gorau rhyngwladol, am yr 20 mlynedd nesaf a thu hwnt? Ac rwy'n meddwl hefyd—. A daw hyn o'n pwyllgorau diben arbennig i gyd, ac yn wir yn ôl i'r panel arbenigol, a gallaf weld Huw Irranca yma, yn cadeirio, ac yn wir Dawn Bowden; mae llawer o bobl yma sydd wedi cymryd rhan fel aelodau o'r pwyllgorau hynny a aeth â ni i'r pwynt hwn, y pleidleisiwyd i gefnogi, yn ôl yn 2022, y dylem fwrw ymlaen â hyn. Mae'n rhan hanfodol, y Bil hwn, o'r pecyn llawn o fesurau diwygio'r Senedd, a nawr mae'n bryd bachu ar y cyfle a bwrw ymlaen â'r Bil. Diolch.

16:35

Diolch, Llywydd. Cyn i mi ganolbwyntio ar gynnwys adroddiad y pwyllgor, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor yn ysgrifenedig ac yn bersonol. Maen nhw wedi helpu i siapio ein gwaith a’i ganlyniadau.

Hoffwn hefyd gofnodi ein diolch i dîm y pwyllgor, y gwnaeth ei waith rhagorol ganiatáu i ni gwblhau ein gwaith o fewn yr amserlen fyrrach a oedd gennym.

Nawr, Llywydd, rôl y Senedd yw cynrychioli buddiannau pawb yng Nghymru, ac mae amrywiaeth ymhlith Aelodau yn cyfoethogi ein gwaith ac yn ganolog i ddemocratiaeth sy'n gweithredu'n dda. Fel pwyllgor, rydym i gyd yn cefnogi'r dyhead i fod â Senedd wirioneddol gynrychioliadol sy'n adlewyrchu'r bobl y mae'n eu gwasanaethu yn well.

Nawr, ar yr egwyddorion cyffredinol, dyma'r ail Fil yr ydym wedi ymdrin ag ef sy'n mynd drwy'r broses ddiwygio seneddol. Yn amlwg, mae'r Bil cyntaf eisoes yn Ddeddf, ac mae hyn bellach yn dilyn ymlaen o hynny. Ei nod yw cynyddu nifer y menywod sy'n sefyll mewn etholiad drwy gyflwyno cwotâu ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll dros bleidiau gwleidyddol. Ein rôl oedd archwilio cynigion y Bil ac adrodd ar yr egwyddorion cyffredinol i lywio penderfyniad y Senedd y prynhawn yma.

Hoffwn gofnodi hefyd fy niolch i Jane Dodds, a oedd yn aelod—neu mewn gwirionedd, yn dechnegol, a weithiodd gyda'r pwyllgor—a hefyd Vikki Howells, a eilyddiodd dros un o'n haelodau, Sarah Murphy, yn ystod ein hystyriaeth derfynol, am y ffordd gadarnhaol ac adeiladol y gwnaethon nhw ymdrin â'n gwaith.

Nawr, yn dilyn ein hystyriaeth, fel y mae'r Trefnydd eisoes wedi'i ddweud, mae'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor wedi'u hargyhoeddi gan y dystiolaeth ryngwladol ac academaidd bod cwotâu ymgeiswyr deddfwriaethol yn fecanwaith effeithiol ar gyfer cynyddu lefelau cynrychiolaeth menywod mewn seneddau. Mae mwyafrif aelodau'r pwyllgor, felly, yn argymell y dylai'r Senedd bleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil hwn.

Ond rydym i gyd yn cytuno bod angen cryfhau a gwella agweddau ar y Bil os bydd yn mynd ar ei hynt heddiw. Fe af drwy ychydig o'r pwyntiau hynny. Ar yr agwedd ar ddatganiad ymgeisydd, drwy gydol ein gwaith craffu, tynnwyd sylw sylweddol at y gofyniad i ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol wneud datganiad ynghylch a ydynt yn fenyw ai peidio. Mae'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn fodlon â'r ddarpariaeth hon ac yn credu ei bod yn ffordd gymesur o weithredu a gorfodi cydymffurfiaeth â'r rheolau cwota. Ond gwnaethom wrando'n astud ar bryderon y gallai'r ddeddfwriaeth fod yn agored i gael ei chamddefnyddio. Rydym i gyd yn cytuno ei bod yn angenrheidiol, felly, cynnwys gwneud datganiad ffug o fewn y drosedd arfer llwgr sy'n berthnasol i ddarparu unrhyw wybodaeth ffug arall ar ffurflen enwebu. Credwn y dylai hynny fod yr un fath ar gyfer pob agwedd ar ystyriaeth enwebu a'r holl ddatganiadau a wneir. Mae'n siomedig bod y Trefnydd wedi gwrthod yr argymhelliad allweddol hwn. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n ailystyried hynny, oherwydd mae'n ymwneud â sicrhau bod cysondeb yn berthnasol i bob datganiad a wneir.

Nawr, ar dynnu ymgeiswyr o restrau, roedd gennym rai pryderon yma, oherwydd clywsom y gallai rheolau cwota fod yn agored i gael eu camddefnyddio mewn ffyrdd eraill. Roeddem yn bryderus, er enghraifft, y gallai menywod, yn benodol, gael eu gorfodi i sefyll mewn etholiad i gydymffurfio â'r cwota, ac yna fod pwysau arnyn nhw i dynnu'n ôl eu ymgeisyddiaeth neu ymddiswyddo, os cânt eu hethol, yn gyflym. Felly, gallai menywod a fyddai'n dymuno sefyll wynebu bygythiadau o drais neu frawychu i'w gorfodi i dynnu'n ôl neu ymddiswyddo ar ôl eu hethol. Mae'r etholiad cyffredinol rydyn ni newydd ei weld wedi dangos sut mae brawychu yn digwydd, ac mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n amddiffyn unigolion rhag camdriniaeth o'r fath. I atal camdriniaeth o'r fath a manteisio i'r eithaf ar y cyfle i gynnal cydbwysedd y gynrychiolaeth drwy gydol tymor y Senedd, argymhellwyd cryfhau'r Bil drwy ei gwneud yn ofynnol i'r blaid sy'n dewis sefyll ymgeisydd ychwanegol i gymryd lle unrhyw ymgeisydd a dynnwyd yn ôl â rhywun sydd wedi gwneud yr un datganiad â'r person sydd wedi tynnu'n ôl. Neu, mewn swyddi gwag, ac rwy'n gwerthfawrogi mai'r rhestr ymgeiswyr yw hon ac nid yr agenda swyddi gwag, sydd, mewn gwirionedd, ar ôl i chi gael eich ethol, ond fe allech chi ddiwygio'r Ddeddf, sydd bellach ar waith, i sicrhau bod swyddi gwag yn cael sylw i sicrhau, yn ystod tymor y Senedd, os oes swydd wag yn bodoli, ei bod yn cael ei llenwi, lle bo hynny'n bosibl, â rhywun sy'n cyflwyno'r un datganiad ymgeisydd â'r person hwnnw sy'n sefyll i lawr neu'n gadael neu sydd ddim yn Aelod o'r Senedd mwyach, a thrwy hynny barhau â'r cydbwysedd yr ydym wedi sôn amdano. Unwaith eto, yn anffodus, nid oedd y Trefnydd yn rhannu ein safbwynt ar hyn, a byddwn yn gobeithio y bydd hi'n esbonio'n llawn ddewis arall a fydd ganddi neu y mae hi'n meddwl amdano neu sy'n cael ei ystyried i warchod rhag y risgiau a nodwyd gan ein gwaith casglu tystiolaeth.

A goblygiadau ariannol. Rwy'n siŵr y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cytuno â rhai o'r materion hynny, ond gwnaethom gwestiynu'r dull a gymerwyd o ran yr asesiad effaith rheoleiddiol, gan fod rhai costau'n cael eu hamcangyfrif ar gyfer y Bil yn benodol, tra bod eraill i'w gweld yn cael sylw yn yr asesiad effaith rheoleiddiol i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Mae hyn yn golygu nad yw'n glir beth fyddai'r goblygiadau ariannol pe bai'r Bil hwn yn cael ei gychwyn yn ddiweddarach, sef yr hyn a ddywedwyd wrthym; bydd hyn yn digwydd yn nes ymlaen. Felly, rydym yn gwybod mai dyna'r bwriad, felly mae angen yr eglurder hwnnw arnom. Ac o ran eglurder a thryloywder ac atebolrwydd, rydym yn galw am fanylu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r Bil yn uniongyrchol mewn asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig. Nawr, mewn ymateb, nododd y Trefnydd y bydd ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i hyn, ond ni fyddai hynny ar gael tan ar ôl Cyfnod 2. Byddai'n ddefnyddiol pe bai cyn ystyriaeth Cyfnod 2 fel y gall Aelodau, pan fyddant yn mynd trwy Gyfnod 2, gael yr wybodaeth honno o'u blaenau.

Yna, nodwyd ffactorau nad ydynt yn y Bil, ac nid ydynt o reidrwydd yn faterion deddfwriaethol, ond yr hyn yr oeddem yn eu hystyried yn rhwystrau i annog menywod, a'i alw'n 'mwy na chwotâu'. Felly, sut ydyn ni'n sicrhau bod menywod yn sefyll i gael eu hethol, neu rydyn ni'n annog menywod i sefyll i gael eu hethol, a'n bod ni'n eu hannog i aros mewn swydd etholedig? Ac felly rydym yn galw am weithredu, o fewn y Senedd ac o fewn y Llywodraeth, i helpu i gefnogi unigolion sy'n sefyll i gael eu hethol. Roeddem am wybod, yn gyntaf oll, a fydd y Senedd yn cynnal archwiliad sy'n sensitif i rywedd i sicrhau bod gennym y diwylliant, y ffyrdd o weithio a'r cyfleusterau. Rydym yn aml yn siarad am ffyrdd sy'n gyfeillgar i deuluoedd, ac mae'n debyg y bydd yn cael ei grybwyll heddiw, ond mae angen i ni edrych ar beth yw'r agweddau diwylliannol yma. Gadewch i ni edrych ar yr agwedd honno. Tasg i Gomisiwn yw hwnnw—mae'n ddrwg gen i, Llywydd, chi fydd yn gyfrifol am hynny. Ond hefyd fod Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil ar y ffyrdd gorau o ddarparu cymorth ariannol i fenywod sy'n ymgeiswyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, oherwydd clywsom yn bendant am yr agwedd honno, i sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod digon o ganllawiau ar waith i gefnogi'r rhai sy'n dymuno bod yn ymgeiswyr mewn gwirionedd, ac yn enwedig ar sut maen nhw'n trin camdriniaeth ac aflonyddu. Ac, waeth beth fydd cynnydd y Bil, rydym am weld mwy o gynrychiolaeth yn 2026, ac mae angen i ni gael y pethau hyn ar waith ar gyfer 2026 i annog mwy o fenywod i ddod ymlaen ar gyfer yr etholiad hwnnw.

Nawr fe wnaf sôn am y mater olaf, sef cymhwysedd deddfwriaethol. Er ei fod yn gymedrol o ran maint—mae'r Bil hwn yn fach—mae'n arwyddocaol, ac mae'r darpariaethau'n effeithio ar gonglfaen allweddol o'n proses ddemocrataidd. Felly, y tu hwnt i'r materion polisi a'n dyheadau yr ydym i gyd yn eu rhannu ar gyfer Senedd fwy cynrychioliadol, mae safbwyntiau anghyson ynghylch a yw darpariaethau'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol. Rwyf wedi clywed barn y Trefnydd—clywsom hynny yn y pwyllgor. Clywsom—. Y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a gawsom gan gynghorwyr cyfreithiol oedd nad oedd. Felly, mae cwestiynau, a gwnaed yn glir i ni yn y pwyllgor mai'r unig gorff a all wneud y penderfyniad hwnnw'n glir ac yn derfynol yw'r Goruchaf Lys, a dim ond unwaith y bydd y Bil wedi ei basio y gellir atgyfeirio i'r Goruchaf Lys ac o fewn pedair wythnos i'r Bil gael ei basio yng Nghyfnod 4. Nawr, rwy'n croesawu effaith yr hyn y mae'r Trefnydd wedi'i ddweud am oedi, fel nad yw'n cael sgil-effaith gymhleth ar 2026, ond os na fyddwn yn mynd i'r afael â hyn, yn 2030 gallem gael ymgeisydd yn mynd i'r afael â her gyfreithiol os na fyddwn yn mynd i'r afael â'r mater hwn. Felly, mae cymhwysedd yn fater y dylid ei ystyried, ac nid ateb 2030 yw'r unig ateb. Mae'n dal yn rhaid ei ddatrys. A gofynnwn i'r Cwnsler Cyffredinol gyfeirio at y Goruchaf Lys am eglurhad, a'i wneud yn glir: gadewch i ni beidio â chael unrhyw gwestiynau amdano, ni all neb ei herio wedyn; mae'n benodol glir mewn gwirionedd, fel y gallwn gael mewnbwn ar hynny.

Nawr, rwy'n ymwybodol o amser, Llywydd, ac fe fyddaf yn gorffen. Rydym yn croesawu'r eglurhad ar y llwybr a fwriadwyd, ond mae un cwestiwn yr wyf am ei godi. Roedd llawer o 'nodi' yn yr ymatebion i argymhellion ein pwyllgor, ac mae'r Trefnydd wedi dweud 'er mwyn cael ystyriaeth bellach'. Ond a gaf i ofyn pryd y byddwn ni'n cael yr ystyriaeth bellach honno? Pryd fyddwn ni'n gwybod beth yw eich atebion i'r pethau hynny y dywedir eu bod wedi'u nodi? Pryd fydd yn cael ei gyhoeddi, oherwydd bydd yr Aelodau am gael ateb i'r ystyriaethau hynny? Diolch.

16:45

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr. Mike Hedges.

Diolch Llywydd. Daeth adroddiad y pwyllgor i saith casgliad a gwnaeth 22 o argymhellion. Derbyniodd Llywodraeth Cymru 10 o'r argymhellion hyn i raddau amrywiol, gan nodi naw a gwrthod tri. Cyn i mi ddechrau, hoffwn nodi siom y pwyllgor bod gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil wedi'i gwtogi, dim ond i ddyddiad y ddadl hon gael ei ohirio. Byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar ddwy thema bwysig o'n hadroddiad: y risg o her gyfreithiol i'r Bil, a lefel y manylion sy'n ymddangos ar ei wyneb.

Mae'r risg o her gyfreithiol yn ymwneud â ph'un a yw'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Yn hynny o beth, hoffwn wneud dau bwynt pwysig. Yn gyntaf, fel y clywsom, y Goruchaf Lys yn unig all benderfynu a yw Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Am y rheswm hwnnw, nid yw adroddiad y pwyllgor yn ceisio mynd i'r afael â'r mater hwnnw'n uniongyrchol. Yn ail, mae rhinweddau neu fel arall polisi Llywodraeth Cymru yn fater gwahanol ac ar wahân i p'un a oes gan y Senedd y cymhwysedd deddfwriaethol i drosi'r polisi hwnnw yn gyfraith. Ni ddylid cyfuno'r ddau.

Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi bod gwahanol safbwyntiau ynghylch a yw'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, nid yn unig rhwng y Llywydd a'r Trefnydd, ond ymhlith gweithwyr cyfreithiol proffesiynol hefyd. Mae rhai o'r gweithwyr cyfreithiol proffesiynol hyn wedi tynnu sylw at y risg o her gyfreithiol i'r Bil, ac, o ganlyniad, y posibilrwydd o darfu ar etholiadau nesaf y Senedd sydd wedi eu trefnu ar gyfer 2026. Awgrymwyd y gallai hyn, yn ei dro, beryglu uniondeb yr etholiad ei hun a niweidio democratiaeth Cymru. Er na wnaeth ffurfio barn ar y mater o gymhwysedd deddfwriaethol, archwiliodd y pwyllgor felly y risg o her gyfreithiol i'r Bil. O ganlyniad, gwnaeth y pwyllgor chwe argymhelliad gyda'r bwriad o sicrhau bod cyn lleied o risg â phosibl o darfu yn 2026.

Yng ngoleuni'r ansicrwydd ynghylch a yw'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, mynegodd y pwyllgor hefyd ei fod yn gresynu bod gofyn i'r Senedd bleidleisio heddiw ar p'un yw'n cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil ai peidio. Mae'r pwynt cyffredinol hwn yr un mor berthnasol pe byddai'r Senedd yn cael ei gwahodd i bleidleisio ar Fil yng Nghyfnod 4. Serch hynny, mae'r pwyllgor yn croesawu sylw'r Trefnydd yn ei hymateb bod angen cymryd camau pellach nawr i liniaru risgiau i etholiad 2026. Mae'r pwyllgor yn nodi, o ganlyniad, y bydd y Trefnydd yn cyflwyno gwelliant i ddarparu y bydd darpariaethau'r Bil, yn amodol ar Gydsyniad Brenhinol, yn dod i rym ar gyfer etholiad y Senedd sydd wedi ei drefnu ar gyfer 2030. Fodd bynnag, mae llawer o faterion heb eu datrys o hyd a bydd y pwyllgor yn monitro datblygiadau'n agos.

Gan droi yn awr at yr ail thema y soniais amdani ar ddechrau fy araith, daeth y pwyllgor i'r casgliad nad yw'r Bil yn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng yr hyn sydd wedi'i gynnwys ar ei wyneb a'r manylion sydd i'w cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth, yn yr achos hwn Gorchymyn o dan adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae gorchymyn o'r fath yn ymwneud â chynnal etholiad. Dylai wyneb y Bil roi syniad clir i'r Senedd o natur a chwmpas y pwerau y gofynnir iddo eu dirprwyo i Weinidogion Cymru. Byddai hyn yn fwy priodol na rhoi i Weinidogion Cymru yr hyn sy'n gyfystyr â siec wag i ddeddfu drwy Orchymyn ar faterion etholiadol a fydd yn destun pleidlais 'derbyn neu wrthod'.

Dywedwyd wrth y pwyllgor bod y datganiad o fwriad y polisi sy'n cyd-fynd â'r Bil yn nodi manylion yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gynnwys yn y Gorchymyn cynnal etholiadau perthnasol, ond nid yw cynnwys gwybodaeth mewn datganiad o'r fath yn cymryd lle rhoi manylion ar wyneb y Bil nac yn gyfiawnhad dilys dros beidio â gwneud hynny. Os yw'r manylion yn hysbys, dylid ystyried eu cynnwys ar wyneb y Bil yn y lle cyntaf. Mae'r rheswm am hyn yn syml. Nid yw'r datganiad o fwriad y polisi yn rhwymol ar Lywodraeth bresennol Cymru, na Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae sut y gallai pwerau dirprwyedig gael eu defnyddio gan Weinidogion Cymru Llywodraeth yn y dyfodol sy'n gweithredu'r Bil hwn cyn etholiad 2030 yn fater gwahanol i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn bwriadu eu defnyddio wrth graffu ar y Bil hwn. Ac yr un mor bwysig, mae cynnwys manylion ar wyneb y Bil yn caniatáu i gynigion y Llywodraeth gael eu profi drwy welliant os bydd angen. Ni fydd Aelodau yn gallu cyflwyno gwelliannau i gynnig newidiadau i'r Gorchymyn cynnal etholiadau oherwydd ei fod yn ddarn o is-ddeddfwriaeth.

Felly, gwnaeth y pwyllgor bum argymhelliad gyda'r nod o gryfhau wyneb y Bil. Rydym yn croesawu bod y Trefnydd wedi derbyn pedwar o'r rhain mewn egwyddor ac mae'r pwyllgor yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwelliannau i wella'r Bil fel y gwnaethom ei awgrymu.

16:50

Diolch, Llywydd, a dwi’n croesawu’r cyfle i gyfrannu yn y ddadl yma heddiw, a dwi'n ddiolchgar i’r Trefnydd a’r Prif Chwip am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid ac i ymateb i’r pwyntiau y gwnaethom ni eu codi drwy ohebiaeth.

Cyn i mi droi at faterion penodol ar y Bil, rwyf eisiau tynnu sylw at bryder cyffredinol sydd gennym ni—tebyg i'r rhai sydd wedi cael eu mynegi heddiw—am y costau sy'n gysylltiedig â her gyfreithiol pe bai'r Bil yn cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys am benderfyniad ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Er nad yw asesiadau effaith rheoleiddiol sy'n cyd-fynd â Biliau fel arfer yn cynnwys costau sy'n gysylltiedig â her gyfreithiol bosibl, dyma'r tro cyntaf i'r Llywydd gyhoeddi datganiad na fyddai'r Bil

'o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd'.

O ganlyniad, rydyn ni eisiau eglurder ynghylch y costau cyfreithiol ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hysgwyddo, ac rydyn ni'n ddiolchgar i'r Trefnydd am gytuno i roi gwybod i'r pwyllgor am gostau o'r fath pe bai'r Bil yn cael ei atgyfeirio. Er bod y costau sy'n codi o'r Bil yn gymharol fach, rydyn ni'n nodi bod angen iddyn nhw gael eu hystyried yng nghyd-destun ehangach Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), o ystyried y gydberthynas rhwng y ddau. Felly, dylai ein sylwadau ar y Bil hwn gael eu hystyried ochr yn ochr â'r argymhellion a wnaed o ran y ddeddfwriaeth honno.

Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amcangyfrif mai cyfanswm cost gweithredu'r ddeddfwriaeth hon fydd £21,000 dros y cyfnod arfarnu o wyth mlynedd. Fodd bynnag, yn ystod ymddangosiad y Trefnydd gerbron y Pwyllgor Biliau Diwygio, daeth i'r amlwg y bydd costau ychwanegol o tua £6,000 o ran staff sy'n cael eu defnyddio gan y Comisiwn Etholiadol i baratoi ar gyfer gweithredu'r diwygiadau. Rydyn ni'n siomedig na chafodd yr wybodaeth hon ei rhannu gyda'r Pwyllgor Cyllid, yn enwedig o ystyried bod y cynnydd yn gyfran sylweddol o gost derfynol y Bil. Er hynny, rydyn ni'n falch bod y Trefnydd wedi cytuno, yn amodol ar gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol heddiw, i ddiwygio'r asesiad effaith rheoleiddiol ar ôl Cyfnod 2, i gynnwys y costau ychwanegol o £6,000 a nodwyd gan y Comisiwn Etholiadol; unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â phenodi dirprwy swyddog cydymffurfiaeth enwebiadau cenedlaethol, pe bai gofyniad o'r fath yn cael ei gytuno; ac unrhyw gostau ychwanegol eraill a allai godi o ddiwygiadau i'r Bil.

Hoffwn hefyd ategu'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio nad yw'n glir beth fyddai'r goblygiadau ariannol pe bai'r Bil yn cael ei gychwyn yn ddiweddarach. Rwy'n cytuno y dylai'r manylion hyn gael eu cynnwys mewn asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig—yn ddelfrydol cyn Cyfnod 2—gan fod hyn yn newid yn sylfaenol yr amcangyfrifon sydd wedi'u hamlinellu, ac yn enwedig yr amserlenni o ran costau, a byddem yn croesawu mwy o wybodaeth am y mater hwn.

Yn olaf, Llywydd, hoffwn i groesawu’r eglurhad y bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu’r costau y bydd awdurdodau lleol yn eu hysgwyddo am ddiweddaru’r system rheoli etholiadol. Mae’r Trefnydd wedi ymrwymo i gyhoeddi asesiadau effaith rheoleiddiol llawn a thrylwyr ochr yn ochr ag is-ddeddfwriaeth sy’n cael ei gwneud o dan y Bil hwn. Diolch yn fawr.

Ni fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr hon na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnydd y Bil penodol hwn, ac nid yw hynny oherwydd nad ydym yn cefnogi'r nod, sef sicrhau bod y Senedd hon yn fwy cynrychioliadol o'r bobl rydym yn eu gwasanaethu ledled Cymru; yn syml, mae oherwydd nad ydym yn credu yn yr egwyddor o gwotâu rhywedd, ac yn sicr dydyn ni ddim yn credu bod y system sy'n cael ei chynnig gan Lywodraeth Cymru yn gymesur nac yn briodol.

Nawr, rydym eisoes wedi clywed y mater o gymhwysedd yn cael ei brofi yn y Siambr y prynhawn yma, y mae amheuon sylweddol yn ei gylch. Yn wir, y cyngor i'r pwyllgor gan ei arbenigwyr cyfreithiol oedd nad oedd o fewn cymhwysedd y Senedd—dyna oedd y cyngor, wrth gwrs, i'r Llywydd hefyd—ac roedd hyd yn oed yr arbenigwyr cyfreithiol hynny a awgrymodd y gallai fod o fewn ei chymhwysedd i gyd yn ymddangos fel pe baent yn cydnabod ei bod yn debygol iawn o fod mewn sefyllfa lle byddai hynny'n cael ei herio yn y llysoedd. A dyna pam rwy'n cytuno â chasgliadau'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'n pwyllgor ni ein hunain bod angen sicrhau bod hyn y tu hwnt i amheuaeth cyn i'r darn hwn o ddeddfwriaeth gael ei rhoi ar waith.

O ran y farn nad yw'r ddeddfwriaeth yn gymesur, rydym yn gwybod bod cynrychiolaeth gyson uwch o fenywod wedi bod yn y Senedd, sy'n rhywbeth yr ydym wedi'i ddathlu yn y Senedd, nag mewn seneddau eraill ledled y byd, ac, wrth gwrs, fe wnaethon ni gyflawni cydraddoldeb heb yr angen am gwotâu rhywedd statudol. Rwy'n gwerthfawrogi mai'r unig reswm y gwnaethon ni gyflawni'r cydraddoldeb hwnnw oedd oherwydd bod rhai pleidiau gwleidyddol wedi cymryd camau cadarnhaol o fewn eu prosesau dewis ymgeiswyr er mwyn sicrhau bod gwell cydbwysedd o ran cynrychiolaeth menywod mewn swyddi etholedig ar restrau ac mewn seddi ymgeiswyr, ond cafodd hyn ei gyflawni drwy drefniadau gwirfoddol, heb fod angen cwotâu deddfwriaethol. Felly, ni fyddai'n angenrheidiol nac yn gymesur felly i ddeddfu yn y maes hwn, o gofio ein bod eisoes wedi cyflawni cydraddoldeb yma yn y gorffennol.

Wrth gwrs, mae gennym ni system etholiadol newydd sy'n mynd i ddod yn 2026, a gallai hynny newid pethau'n sylweddol. Mae'n rhoi'r cyfle hwn i ni, a dyna pam y gwnaeth cyn-arweinwyr y grŵp Llafur a grŵp Plaid Cymru yn y Senedd hon greu cytundeb i gael rhestrau am-yn-eilio o ran rhywedd, ond, wrth gwrs, nid yw'r cynnig hwn yn ymwneud â rhestrau am-yn-eilio o ran rhywedd; mae hyn yn ymwneud â chyflwyno system a fydd, i bob pwrpas, yn cyflwyno'r gallu i restrau ymgeiswyr gael eu cyflwyno gan bleidiau gwleidyddol sydd â 100 y cant o fenywod wedi'u cynrychioli ar y rhestrau hynny, ond dim ond uchafswm o hyd at 50 y cant o ddynion. Mae hyn yn ymddangos yn anghymesur iawn i mi. Nid yw'n ymddangos ei fod yn iawn. Rwy'n gwerthfawrogi y gallai hynny fod yn ganlyniad annhebygol, ond mae'n mynd i fod yn bosibl yn gyfreithiol os bydd y fframwaith hwn, y gofynnir i ni ei gymeradwyo, yn gwneud cynnydd yma y prynhawn yma.

Yr asgwrn cynnen arall sydd gennym ni o ran y Bil hwn yw ei fod yn gosod yr un agwedd hon ar amrywiaeth, rhywedd, yn erbyn yr holl agweddau eraill ar amrywiaeth, sy'n cael eu hanwybyddu'n llwyr gan y Bil. Felly, nid ydyn ni'n cyffwrdd â materion ffydd, anabledd, hil, oedran, a'r holl ffactorau eraill hyn yn cael eu hymgorffori hefyd i wneud y lle hwn yn Siambr fwy amrywiol a chynrychioliadol i bobl Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n anghywir. Mae cyfleoedd i allu mynd i'r afael â rhai o'r pethau hynny, hyd yn oed gyda'r Bil hwn, nad ydym yn manteisio arnynt, ac rwy'n credu bod hynny'n hynod siomedig.

16:55

Yn ei ddilyn yn agos, mae yna Seneddau yn y byd sydd â chwotâu croestoriadol sydd wir yn defnyddio cwotâu deddfwriaethol nid yn unig ar gyfer rhywedd, ond hefyd ar gyfer agweddau eraill ar dangynrychioli. A fyddai'n cefnogi'r dull hwnnw?

Byddwn i'n sicr yn cefnogi ystyried y dull hwnnw. Edrychwch, nid wyf i'n credu y dylem ni fod â chwotâu o gwbl, ond os ydyn ni'n mynd i'w cael, gadewch i ni geisio sicrhau ein bod ni'n ymgorffori cymaint o agweddau ar amrywiaeth yn y cwotâu hynny â phosibl. Egwyddor y cwotâu yr wyf i'n anghytuno â hi. Wrth gwrs, byddem ni bob amser yn dadlau y dylai pobl gael eu hethol ar sail teilyngdod. Rwy'n credu bod honno'n egwyddor yr ydyn ni bob amser wedi'i chefnogi, ac, wrth gwrs, nid yw wedi ein hatal ni rhag gallu cael tri arweinydd benywaidd y blaid Geidwadol a thri Phrif Weinidog benywaidd yn y gorffennol. Yr un olaf, wrth gwrs, hoffen ni anghofio amdani ychydig mwy, ond rydyn ni, mewn gwirionedd, wedi gallu cyflawni hynny heb unrhyw systemau cwota yn y blaid Geidwadol, a byddwn i'n gobeithio'n fawr y bydd fy mhlaid i'n gwneud mwy yn y dyfodol, yn wirfoddol, er mwyn sicrhau bod gennym ni fwy o gynrychiolaeth gan fenywod yn y Senedd hon. Rydyn ni wedi gwneud yn dda ar rai agweddau eraill ar amrywiaeth, ond nid ydyn ni wedi gwneud yn arbennig o dda ar rywedd.

Yn olaf, os caf i, y pryder olaf sydd gennym ni yw ynghylch y datganiad a fydd yn ofynnol gan ymgeiswyr yn y dyfodol. Nid yw'r datganiad hwn yn ymwneud â datgan eich bod yn ddyn neu'n fenyw, neu'n wryw neu'n fenyw. Mae'n fater o 'menyw' neu 'nid yn fenyw', ac mae yna faterion mawr, dadleuol y gallai hynny eu cyflwyno o bosibl i bobl allu hunan-adnabod eu hunain mewn ffordd nad wyf i'n credu sy'n arbennig o ddefnyddiol, ac mae'n ei adael o bosibl yn agored i gael ei gamddefnyddio. Nawr, fe wnaethon ni drafod hyn ychydig yn y pwyllgor, ac rwy'n gwerthfawrogi nad oedd gan bawb yn y pwyllgor yr un pryderon â mi, ond rwy'n credu, er hynny, bod gan lawer o bobl yng Nghymru y pryderon hynny, ac rwy'n credu y byddai'n wael pe na baen ni'n gwrando arnyn nhw. Diolch.

17:00

Ar ran Plaid Cymru, mi hoffwn groesawu cyflwyno'r Mesur hwn heddiw. Mi oedd o'n rhan allweddol o'n cytundeb cydweithio, ac mae o'n gonglfaen i'n hymdrechion i greu Senedd fwy cynrychiadol. Mi hoffwn i ddiolch i'r Cadeirydd, fy nghyd-Aelodau a chlercod y Pwyllgor Biliau Diwygio hefyd. Dwi'n rhannu rhwystredigaeth y Cadeirydd bod y cyfnod craffu wedi'i gwtogi, ac wedyn gweld oedi; mae o'n bwysig bod gwersi'n cael eu dysgu o hyn.

Mae cydraddoldeb rhywedd yn hanfodol i ddemocratiaeth iach a gweithredol. Rydym wedi bod yn glir o’r cychwyn cyntaf fod yn rhaid i’r gwaith o ddiwygio’r Senedd sicrhau nad yw’r mwyafrif o'r 51 y cant o’r boblogaeth byth eto yn lleiafrif yn ein Senedd genedlaethol. Mi rydw i'n gresynu, felly, fod y ddeddfwriaeth yn cael ei hoedi tan o leiaf 2030, a hoffwn wybod heddiw gan y Trefnydd a oes unrhyw drafodaethau wedi bod gyda Llywodraeth Lafur San Steffan eto i sicrhau bod y grymoedd gennym, heb unrhyw amwysedd, i gyflwyno'r newid hwn erbyn 2026, fel y gwnaeth Adam Price amlinellu. Wedi’r cyfan, mae’r etholiad cyffredinol wedi bod yn gynt na’r disgwyl, gan olygu y dylai fod yn haws cael eglurder ar hyn o fewn yr amserlen.

Mae gan y Senedd hon hanes balch o hyrwyddo cyfranogiad menywod mewn gwleidyddiaeth, sy’n cynnwys, fel y cyfeiriodd Darren Millar, bod y Senedd gyntaf yn y byd i gyflawni cynrychiolaeth gyfartal rhywedd nôl yn 2003. Ond os yw hanes wedi dysgu unrhyw beth i ni, ni ellir byth gymryd cynnydd yn ganiataol. Ni all y gwaith o ddiogelu hawliau sylfaenol fyth ddod i ben. A'r realiti yw, ers 2003, mae presenoldeb menywod yn y Siambr hon wedi lleihau'n raddol. A’r unig reswm pam bod y lefelau ddim hyd yn oed yn is ydy oherwydd gweithredu gan rai o’r pleidiau a gynrychiolir yma.

Hoffwn godi eich pwynt, Darren, o ran teilyngdod. Nid ydym mewn cymdeithas gyfartal; mae cymaint o rwystrau sy'n atal menywod rhag gallu cael eu penodi i lwyth o wahanol rolau. Ac ni fydd cymaint o fenywod a fyddai'n gwneud cyfraniad enfawr a chyfraniad pwysig i'r Senedd hon byth yn cael eu hethol o dan y system sydd gennym. Felly, nid wyf yn derbyn bod pawb o'r 60 Aelod yma y 60 o bobl orau yng Nghymru i fod yn y Siambr hon.

Rwy'n ddiolchgar i chi am gymryd yr ymyriad. Nid oedd wedi'i olygu fel sarhad yn erbyn neb. Rwy'n cytuno â chi bod rhwystrau i fenywod fynd i mewn i wleidyddiaeth, a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn anffodus, ac mae angen i ni ddileu'r rhwystrau i bob un ohonynt. Mae hynny'n cynnwys pobl sydd â chroen lliw gwahanol nag sydd gen i, mae hynny'n cynnwys pobl sydd â chefndir ffydd gwahanol i'r un sydd gen i. Dyna pam rwy'n credu bod yn rhaid i ni ganolbwyntio nid yn unig ar un agwedd ar amrywiaeth, ond pob un ohonyn nhw. Yn sicr, rwy'n cefnogi—a nodir fy nghefnogaeth yn y papur—yr holl bethau hynny y gwnaethom ni ei ddweud fel pwyllgor, ar y cyd, y mae angen i ni eu gwneud i gael gwared â'r rhwystrau eraill hynny. Oherwydd, nid yw'n iawn bod menywod yn wynebu rhwystrau sefydliadol, ac nid yw'n iawn bod eraill yn ei wynebu ychwaith. 

Menywod yw'r prif grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol—51 y cant—ac mae Aelodau meinciau Ceidwadol wedi trydar am hyn ac, a dweud y gwir, dydyn nhw ddim yn ystyried y ffaith bod menywod yn wynebu rhwystrau ac yn credu eu bod yma oherwydd teilyngdod—rhywbeth y mae angen i ni ei herio a'i alw allan, mewn gwirionedd, oherwydd bod menywod wedi cael eu hatal rhag bod yma am lwyth o wahanol resymau. Felly, nid wyf yn derbyn nad oes yn rhaid i ni ganolbwyntio ar rôl menywod ac unioni'r anghyfiawnder hwnnw.

Nid problem unigryw i Gymru mo hyn, wrth gwrs. Ar hyn o bryd, dim ond chwe gwlad sydd â 50 y cant neu fwy o fenywod yn eu senedd, ac ar y cyflymder presennol o newid, ni fydd cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei gyflawni ar sail fyd-eang tan o leiaf 2063. Mae angen i ni hefyd ystyried y lefelau brawychus o gasineb, rhywiaeth ac aflonyddu a wynebir gan wleidyddion benywaidd yn feunyddiol, a chydnabod bod y rhwystrau i fenywod rhag dod i mewn i wleidyddiaeth yn parhau i fod yn aruthrol. 

Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfrif, mewn gwledydd sydd â chwotâu ymgeiswyr deddfwriaethol, fod cynrychiolaeth menywod rhwng pump i saith pwynt canran yn uwch yn eu senedd, o gymharu â gwledydd heb ddeddfwriaeth o'r fath. A rhaid nodi, wrth gwrs, nad yw'r Mesur hwn yn cyflawni popeth yr oeddem ei eisiau fel plaid o ran ehangu cynrychiolaeth, ond mae’n gam pwysig ymlaen o ran creu amgylchedd gwleidyddol mwy agored a chynhwysol.

Mae’r mater cymhwysedd deddfwriaethol yn y Bil yn un y mae angen cael sicrwydd arno, fel nad oes amwysedd mwyach, gan fynnu’r grymoedd yn ddiamheuol i’r Senedd hon. Gyda’r Bil hwn, mae gennym ni gyfle i osod ein taith ddemocrataidd fel cenedl ar lwybr i ddyfodol mwy blaengar. A ni, yma yn y Senedd hon, ddylai gael penderfynu hynny.

17:05

Fel llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldebau, ac fel aelod o'r grŵp seneddol trawsbleidiol ar fenywod, sy'n cael ei gadeirio gan Siân Gwenllian, hoffwn siarad yn benodol am bwysigrwydd elfen y Bil sy'n cyflwyno cwotâu rhywedd. Mae fy nghyd-aelod ym Mhlaid Cymru, Heledd Fychan, wedi gosod mas yn glir pam fod angen cwotâu rhywedd, ac rwyf i fy hun wedi cyflwyno yn y Siambr, a gerbron y Pwyllgor Biliau Diwygio, fel cynrychiolydd o gawcws y menywod, y dadleuon diamheuol o blaid cwotâu fel y modd mwyaf effeithiol o sicrhau cydraddoldeb rhywedd yn ein democratiaeth.

Felly, ni wnaf eu haildrodd i gyd eto, dim ond pwysleisio bod cydraddoldeb rhywedd yn fynegiant clir a diamwys o ddemocrataiaeth deg, gyfiawn, effeithiol a dilys. Cwotâu rhywedd fyddai'n arwain at hyn yn y modd mwyaf effeithiol. Felly, y pwynt canolog yw bod cwotâu yn gwbl hanfodol i'r broses o gryfhau ein democratiaeth yng Nghymru a gwella effeithlolwydd y Senedd yma. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith y bydd cwotâu yn dod i rym drwy'r Bil—yn y pen draw. A dyna sy'n siomedig: na fyddan nhw mewn lle erbyn ein hetholiad nesaf fel yr bwriadwyd—fel yr addawyd.

Rŷn ni wedi clywed am record y Senedd hon, ac mae llawer wedi cael ei wneud yn ddiweddar o'r ffaith bod 40.6 y cant o Aelodau Seneddol newydd San Steffan yn fenywod—y nifer uchaf erioed. Ond mae angen cofio bod cyfran y menywod o fewn pleidiau seneddol San Steffan y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol wedi gostwng, ac ni wnaeth yr un blaid gyflwyno rhestr o ymgeiswyr yn yr etholiad a oedd yn gydradd o ran rhywedd.

Mae'n werth cofio ein hanes. Ers i fenywod gael yr hawl i sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiadau San Steffan, ac ers i'r Aelod Seneddol benwyaidd cyntaf—yr Aelod Sinn Féin, Constance Markievicz—gael ei hethol yn 1918, dim ond 693 o Aelodau Seneddol benywaidd sydd erioed wedi cael eu hethol—jest digon i lenwi'r meinciau gwyrddion unwaith, a hynny mewn dros ganrif. Mae ffordd bell i fynd.  

Ac wrth gwrs, canlyniad yr etholiad oedd Llywodraeth Lafur a chanddi fwyafrif enfawr—mwyafrif a ddylai wneud ei gwaith o feithrin tegwch a llewyrch o ludw llanast cymdeithasol ac economaidd y Torïaid yn haws i'w gyflawni yn wleidyddol. Mae pobl Cymru, yn sicr, yn haeddu sylw a gofal gwell gan San Steffan, a gallai'r newid cynt yma na'r disgwyl yn neiliad Downing Street fod wedi arwian at Keir Starmer yn cynnal breichiau ein Llywodraeth drwy roi iddi'r grym i gyflwyno cwotâu rhwyedd, y tu hwnt i unrhyw amheuaeth, drwy roi'r grym iddi dros y materion sy'n cael eu honni gan rai i fod y tu fas i gymhwysedd y Senedd.

Mae'n siomedig nad yw'r Blaid Lafur, plaid sydd wedi bod yn flaengar wrth geisio cynyddu nifer eu Haelodau etholedig benywaidd yn y gorffennol, yn barod, felly, i ddangos cefnogaeth ymarferol i'w chwaer Lywodraeth yma yng Nghymru drwy wneud hynny erbyn etholiad cyntaf ein Senedd dan y mesurau diwygiedig yn 2026. Fe ddangosodd y pandemig bod modd newid rheoliadau a phasio deddfwriaeth mewn mater o ddyddiau pan oedd rhaid. Pam nad oedd y sgyrsiau yna yn cael eu cynnal cyn yr etholiad? Pam nad yw hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth yn San Staffan, a'u bod nhw wedi dangos eu record ar fod yn flaengar ar faterion fel hyn?

Nod y Llywodraeth yw cyhoeddi canllawiau i'r pleidiau i wella amrywiaeth eu hymgeiswyr yn etholiad 2026. Er bod hynny, wrth gwrs, yn gam yn y cyfeiriad cywir, ac yn damaid i aros pryd tan 2030, mae canllawiau mewn gymaint o feysydd polisi, tra'n cyflwyno nod, yn rhy aml yn caniatáu methiant, yn goddef difaterwch ac yn annog diffyg atebolrwydd. Ymlaen mae Canaan felly. Gobeithio na fyddwn yn gweld llithro ar y daith, neu droi yn ôl, cyn inni weld cyflawni addewid Senedd sydd wirioneddol yn ddiwygiedig, ac yn medru galw ei hun yn Senedd Cymru, yng ngwir ystyr a dilysrwydd yr enw.

Roeddwn i'n arfer credu mewn meritocratiaeth—y person iawn ar gyfer y swydd iawn, waeth beth yw eich rhywedd neu gefndir—ond mae tuedd anymwybodol, ac rydw i wedi dod ar ei draws dro ar ôl tro trwy fy ngyrfa wleidyddol am dros 20 mlynedd, fel cynghorydd, Aelod cabinet dros strydoedd a phriffyrdd, yn aml yr unig fenyw yno, a phobl yn siarad ar fy nhraws hefyd.

Rwy'n credu bod 130 o wledydd wedi cyflwyno cwotâu rhywedd nawr, ac rydym wedi bod yn siarad â gwledydd eraill y Gymanwlad yn ddiweddar am yr hyn maen nhw'n ei wneud, eu diddordebau, a'r hyn rydyn ni'n ei wneud hefyd. Mae'n ddefnyddiol iawn cael y sgyrsiau hynny. Siaradais i ag un person o Quebec yn ddiweddar. Mae ganddi deulu ifanc, ac maen nhw'n sicrhau bod ganddi fflat, oherwydd mae angen iddi ddod â'i phlant i lawr gyda hi weithiau. Mae ganddyn nhw crèche yno hefyd. Mae'r rhain i gyd yn bethau y mae'n rhaid i ni eu hystyried. 

Fe es i i ddigwyddiad a drefnwyd gan y gymdeithas Girlguiding ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda merched o flynyddoedd 7 i 9—merched ifanc yn eu harddegau. Roedden nhw'n trafod rhwystrau maen nhw wedi'u hwynebu, gan ddefnyddio eu llais, a sut y gallan nhw fagu hyder. Cefais fy synnu gan y modd yr oedd merched ifanc, y byddech chi'n credu y bydden nhw'n hyderus nawr, wrth dyfu i fyny yn hyderus mewn cyfnod gwahanol, wedi'u hatal hefyd. Tynnwyd sylw at ambell bwynt, fel bechgyn yn siarad drostyn nhw mewn ystafelloedd dosbarth, a gallaf uniaethu â hynny. Weithiau mae'n rhaid i mi ddweud wrth bobl, 'Gallaf siarad drosof fy hun, diolch yn fawr iawn', fel mae Delyth yn ei wybod. Yn aml nid oes ganddyn nhw le i gyfrannu na rhannu eu syniadau a'u dymuniadau. A dywedon nhw, 'Does neb yn gwrando ar y merched os yw bechgyn yn siarad.' Mae pobl yn meddwl bod y bechgyn yn fwy pwysig.

Efallai fod gan fenywod lais meddalach yn amlach, fel sydd gennyf i, ond maen nhw'n dda am fanylder; maen nhw'n cofio pethau. Maen nhw'n dda am jyglo llawer o bethau—gofal plant, aelwydydd, gwaith, ffitio'r holl bethau hyn i mewn. Rydyn ni i gyd yn wahanol, ond mae menywod yn cynrychioli hanner y boblogaeth, ac mae gwir angen i ni edrych ar gydbwysedd rhwng y rhywiau wrth symud ymlaen. Diolch.

17:10

Er gwaethaf ymdrechion rhai i daflu dŵr oer dros y Bil pwysig yma, dwi yn meddwl bod heddiw yn ddiwrnod hanesyddol, diwrnod i'w ddathlu, oherwydd, yn gyntaf, mae'r pwyllgor diwygio yn argymell bod y Senedd yn cytuno prif egwyddorion Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), ac, yn ail, bod yr Aelod arweiniol yn croesawu'r argymhelliad i gytuno i'r prif egwyddorion ar ran Llywodraeth Cymru. Felly, dwi'n annog pawb, o bob plaid, i alluogi'r Bil i barhau ar ei daith drwy'r Senedd drwy gymeradwyo'r prif egwyddorion heddiw.

Mae'r dystiolaeth yn gadarn. Dim ond drwy osod mecanwaith statudol, fel sy'n cael ei amlinellu yn y Bil, y bydd modd creu Senedd sydd yn wirioneddol gynrychioladol ac felly yn wirioneddol effeithiol fel deddfwrfa. Darllenwch y dystiolaeth. Fe glywodd y grŵp trawsbleidiol merched gyflwyniad ar ôl cyflwyniad gan arbenigwyr rhyngwladol am bwysigrwydd cwotâu er mwyn creu a chynnal—creu a chynnal—cydraddoldeb rhywedd, ac fe glywyd hefyd sut mae cael balans o ran rhywedd yn y llefydd mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yn arwain at well benderfyniadau ar gyfer yr holl boblogaeth, gan gynnwys yr hanner sy'n fenywod. 

Rydyn ni'n rhoi pwyslais mawr yn y Senedd yma ar wrando ar brofiadau pobl go iawn—lived experiences—ac mae Carolyn newydd amlinellu rhai o'i rhai hi. Y tro hwn, ni, y merched yn y Siambr yma, sy'n meddu ar y profiadau bywyd hynny. Ni, y merched, sydd yn canfod ein hunain weithiau fel yr unig ferch rownd y bwrdd, a ni sydd wedi dioddef yn sgil hynny. Ni sy'n dioddef unconscious bias, bychanu, dilorni, anwybyddu. A ni, y merched, sydd yn gwybod sut mae cael balans rhywedd yn ein cefnogi ni i fod yn fwy hyderus yn ein gweithredoedd a'n hymagweddu. Ni, y merched, sy'n gwybod sut mae balans rhywedd yn cefnogi'n hymdrechion i wneud y byd yn lle mwy cydradd i ferched y dyfodol. Felly, gwrandewch ar ein profiadau ni, a beth am symud ymlaen efo'n gilydd ar y daith efo'r ddeddfwriaeth yma?

Mae hi’n siomedig nad ydych chi, fel Llywodraeth, yn bwriadu i'r newid ddod i rym tan 2030. Pe bai'r ewyllys gwleidyddol yno, yn Llundain, yng nghoridorau'r Llywodraeth newydd, dwi'n grediniol fod modd cynnwys y cwotâu fel rhan hanfodol o ddiwygio yn 2026. A byddwn i'n hoffi cael sicrwydd heddiw y bydd y Blaid Lafur, yma ac yn Llundain, yn canfod ffyrdd i gael gwared ar unrhyw risgiau cyfreithiol. Mae'r llwybr Gorchymyn 109 yn y Cyfrin Gyngor yn un realistig a chwbl bosib, ac efo'r ewyllys cywir, yn bosib erbyn 2026. Heb y cwotâu, mae'r pecyn diwygio presennol yn anorffenedig, a dwi wirioneddol yn poeni y byddwn ni'n diweddu efo Senedd sydd yn fwy, ond hyd yn oed yn llai cydradd nag ydy hi wedi bod yn y blynyddoedd a fu.

Mae yna faterion i'w hystyried, oes, ond yr egwyddor sydd dan sylw heddiw, a dwi'n falch iawn ein bod ni wedi cyrraedd y man yma heddiw yma. Mae o wedi cymryd ymdrech oes i'r rhai ohonon ni sydd yma heddiw i gyrraedd lle'r ydyn ni ynddo fo, ac mae'n rhaid inni ddathlu hynny, dwi'n siŵr. Diolch i chi, Drefnydd, am eich dyfalbarhad er gwaetha'r rhwystredigaeth. Diolch yn fawr.

17:15

Mae'n anodd iawn dadlau bod y system wirfoddol o gael balans rhywedd wedi gweithio hyd yn hyn. Os dwi'n cofio'n iawn, doedd dim un fenyw yng ngrŵp y Torïaid yn 1999.

Roeddwn i, fel Cadeirydd Pwyllgor y Bil Diwygio, yn siomedig bod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor i ymestyn y drosedd o arferion llwgr i ddatganiadau rhywedd ffug. Nid yw dibynnu ar niwed i enw da yn ddigonol. Yn yr un modd, dwi'n credu bod y gair ‘gallai’, yn hytrach na ‘mae'n rhaid’, sef ‘may’ yn hytrach na ‘must’, yn adran 71, yn fan gwan iawn yn y Bil. Gall hyn arwain at restrau pleidiau yn cael eu derbyn heb iddynt gydymffurfio â'r cwotâu. Y canlyniad, felly, fyddai Bil heb rym. A heb ddull gorfodi digonol i gosbi pleidiau am beidio â chydymffurfio â'r gyfraith, gallem ganfod fod gennym ganlyniadau tebyg i Algeria a'r Arfodir Ifori, sydd â chwotâu rhywedd, ond oherwydd diffyg gorfodi, mae ganddyn nhw'n gynrychiolaeth eithriadol o wael o fenywod yn eu gwleidyddiaeth hwy.

Y pwynt olaf yr hoffwn i ei godi yw cymhwysedd y Bil. Ni ddylai gweithredu cwotâu fel egwyddor gyffredinol fod yn cael ei drafod, mewn gwirionedd. I fi, does dim issue yn hynny. Mae'r cwotâu yn ymddangos yn syrthio yn weddol amlwg o fewn cyfraith etholiadau. Pan ddaw rhywedd i'r mater, hynny sy'n ei wneud e’n fwy cymhleth. Fel mae’r Llywydd wedi esbonio i ni o fewn gohebiaeth, mae'n ymddangos yn weddol debygol bod y ddeddfwriaeth hon yn ymwneud â mater a gedwir yn ôl, sef cydraddoldeb. Ond dwi'n credu bod yna ateb syml i hyn, fel mae Adam Price, Heledd Fychan a Siân Gwenllian wedi dweud yn barod: mae angen nawr i ddatganoli agweddau penodol o gyfraith cydraddoldeb i Gymru. Mi fydd hyn nid yn unig yn cryfhau cymhwyster y Bil yma, ond hefyd yn cynorthwyo gyda gwaith eraill ar gydraddoldeb, fel gwahardd therapi trosi a gweithio tuag at Gymru wrth-hiliol.

Felly, dwi'n gofyn ar y Llywodraeth i barhau â'u sgyrsiau gyda'r Llywodraeth Lafur newydd yn y Deyrnas Unedig i sicrhau datganoli rhannau o gydraddoldeb i Gymru mor fuan â phosib. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i chi i gyd y prynhawn yma.

Bu'n ddadl bwysig iawn. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Fe hoffwn i ddechrau dim ond trwy ddiolch i Siân Gwenllian am gydnabod bod hwn yn ddiwrnod hanesyddol. Mae yn ddiwrnod hanesyddol, yn ddiwrnod o ddathlu, a byddwn yn symud ymlaen, gobeithio, gyda chefnogaeth i egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Ond mae'n amser i ni wrando, ac rwy'n credu y bu cyfraniad Carolyn Thomas yn arbennig o effeithiol am ei—. Mae'n ymwneud â phrofiad byw, ond mae'n ymwneud â'ch profiad chi, ac, wrth gwrs, i'r menywod yn y Siambr hon, fe allem ni i gyd sefyll i fyny a hefyd rhoi ein profiadau o sut beth yw bod yn fenyw mewn gwleidyddiaeth.

Wrth inni symud ymlaen at y 96 hynny, mae hyn yn rhan allweddol o ddiwygio'r Senedd, y 96 Aelod hynny. Mae'n rhaid i'r 96 Aelod hynny fod yn gynrychioliadol o bobl Cymru. Mae menywod yn fwyafrif heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru, sef 51 y cant o'r boblogaeth ond dim ond 43 y cant o aelodau'r senedd a dim ond 31 y cant o ymgeiswyr yn etholiad diwethaf y Senedd oedd yn fenywod. Cafodd rhai ohonom ni'r fraint fawr—dau neu dri ohonom ni yma, efallai mwy—o'r amser bendigedig hwnnw pan oeddem ni'n hanner cant y cant—Llywydd, roeddech chi yno—ac fe gyflawnon ni hynny drwy weithredu cadarnhaol. Nid yw'n digwydd trwy'r ffyrdd arferol y caiff pobl eu dewis, mae arna i ofn, gan bleidiau gwleidyddol, oni bai bod camau cadarnhaol. Ac rydym ni'n bwrw ymlaen â hyn i roi hyn mewn statud, felly ni all fod o ganlyniad i weithredu gwirfoddol yn unig, a chwiw unrhyw blaid wleidyddol.

Felly, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod, yn 2003, mai ni oedd y ddeddfwrfa gyntaf gyda 50 y cant o fenywod, ond mae'r ffigur, fel y dywedais i, wedi llithro, ac mae arnom ni eisiau ac angen ailadeiladu hynny. Nid oes lle i laesu dwylo o ran sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu'n fras cyfansoddiad rhywedd y boblogaeth.

Fe wnes i gynhyrchu—. Ni fyddaf yn gallu mynd trwy'r holl ymatebion o ran yr argymhellion a gyflwynwyd ac a drafodwyd y prynhawn yma, ond rwy'n gobeithio y byddwch yn edrych eto ar yr ymatebion i'r adroddiadau a luniwyd gennyf ar 10 Gorffennaf, oherwydd roedd yn bwysig iawn fy mod yn cyhoeddi hwnnw'n gynnar, a gobeithio y bydd pawb yn nodi manylion llawn fy ymateb i argymhellion.

Rwyf am ddechrau ar y mater cymhwysedd cyfreithiol sydd wedi ei godi nid yn unig gan y Pwyllgor Deddfwriaethol, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—a diolch i'r Cadeirydd am ei gyfraniad—ond hefyd y Pwyllgor Biliau Diwygio. Mae'n dda gweld y Cadeirydd yma yn y Siambr hefyd. Dim ond i atgoffa pawb, a dywedais hyn mewn tystiolaeth i'r pwyllgorau: mae'r Bil wedi bod drwy'r prosesau a'r gwiriadau arferol o fewn Llywodraeth Cymru. Fe ddywedom ni yn y memorandwm esboniadol ac yn ystod y gwaith craffu, ac fel y dywedais i wrth agor y ddadl hon, rwy'n credu bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Ac mae, fel y dywedais i, yn rhan o'r pecyn hwnnw o ddiwygiadau, gan gynnwys Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), fel y mae ar hyn o bryd, 2024. Mae'n rhaid i ni wneud y Senedd yn fwy effeithiol ar gyfer ac ar ran pobl Cymru.

Diben y Bil yw bod â Senedd fwy effeithiol. Nid wyf yn ystyried ei fod yn ddiben arall o gyfle cyfartal. Nid wyf o'r farn bod y Bil yn torri'r cyfyngiad ar addasu'r gyfraith ar faterion a gadwyd yn ôl, yn benodol adran 104 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym ni wedi cyhoeddi asesiad effaith cydraddoldeb a hawliau dynol, ac rwy'n ystyried bod y Bil yn gydnaws â hawliau unrhyw gonfensiwn a bod cyfiawnhad gwrthrychol dros unrhyw ymyrraeth â hawliau o'r fath. 

Fel y dywedais i yn glir iawn yn fy nhystiolaeth, rwy'n cydnabod bod y Llywydd wedi dod i farn wahanol, ac rydym ni wedi gweld ystod o safbwyntiau—mae hynny wedi cael ei gydnabod—ar fater cymhwysedd deddfwriaethol mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Biliau Diwygio. Ac rwy'n parchu'r holl farnau cyfreithiol a roddwyd, ond yn parhau o'r farn bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Felly, nawr rydym ni'n pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y Bil, a dyna argymhelliad y Pwyllgor Biliau Diwygio, ac rwyf wedi ymateb i bob un o'r 47 argymhelliad. Ond mae'n rhaid cofio'r hanes eto. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, a gymeradwywyd wedyn gan fwyafrif yr Aelodau ym mis Mehefin 2022.

17:20

A wnewch chi dderbyn ymyriad byr? Rwy'n ddiolchgar iawn. Rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r cytundeb yn adroddiad pwyllgor diwygio'r Senedd a gymeradwywyd gan y Senedd hon, ond, wrth gwrs, ni chafodd ei gymeradwyo gan y Senedd hon. Nid yw'r system hon wedi'i chymeradwyo. Y system a gymeradwywyd oedd y system arfaethedig, a gytunwyd gan gyn-arweinydd eich plaid ac arweinydd Plaid Cymru, a oedd yn rhestr am-yn-eilio o ran rhywedd go iawn, nid yn rhestr a allai fod hyd at 100 y cant o fenywod ond dim ond hyd at uchafswm o 50 y cant o ddynion. A ydych chi'n derbyn nad yw hyn yn rhywbeth a gytunwyd o'r blaen? Ac os ydych chi, pam ydych chi'n dilyn polisi mor wahanol nawr?

17:25

Cyflwynais Fil, ac roeddwn yn falch iawn o fod yr Aelod a oedd yn gyfrifol am y Bil, ac fel y dywedais i, ac fe wnaf i ailadrodd hyn eto: diben y Bil hwn yw Senedd fwy effeithiol, y ceisir ei chyflawni drwy fwy o gydbwysedd rhwng y rhywiau. A daethom i farn, o ran sut y cai hynny ei adlewyrchu yn y Bil, ac o ran cydnabod bod y Bil yn bwysig o ran y datganiad ymgeisydd, sef y ffordd y teimlem ni y dylem ni fwrw ymlaen â hyn. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y pwyllgorau wedi craffu ar hyn yn ofalus iawn. Credaf ei bod hi'n ddiddorol iawn bod—

A wnewch chi dderbyn ymyriad, Gweinidog? Ymddiheuraf am ofyn cynifer o—

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn o ran y dystiolaeth a aeth at y Pwyllgor Biliau Diwygio, y cwotâu gwirfoddol a weithredwyd yn y gorffennol, a'i fod yn seiliedig ar y dystiolaeth ynglŷn â beth yw'r ffordd orau ymlaen o ran ymdrin â hyn, a hefyd edrych ar beth mae gwledydd eraill—. Mae Iwerddon, er enghraifft, yn gweithredu system cwota rhywedd, ac rydym ni wedi gweld i raddau helaeth iawn yr hyn y maen nhw wedi'i wneud o ran cyflawni hyn. Felly, ni allaf weld unrhyw—. Y ffaith yw bod y ffordd rydym ni wedi bwrw ymlaen â'r Bil hwn, rwy'n credu, wedi cael ei derbyn, ac nid yn unig drwy'r dystiolaeth, ond hefyd fod y pwerau rydym ni wedi dewis eu defnyddio o ran y Bil—does ganddo ddim diffiniad o fenyw, nid yw'n ymwneud â diffinio menyw, nid yw'n ymwneud â chydnabod rhywedd, ac mae—. Rwyf wedi datgan yn fy marn mai dyma'r ffordd y dylem ni fwrw ymlaen â hyn, yn nhermau a diben y Bil hwn, ond hoffwn symud ymlaen, Llywydd, oherwydd fe hoffwn i ateb llawer o'r cwestiynau eraill a holwyd.

Ac rwy'n credu mai'r cwestiwn nesaf, wrth gwrs, oedd—ac mae wedi ei godi gan Aelodau yma heddiw—ynghylch pam na allwn ni wneud hyn, yr amseru y mae Heledd Fychan, Sioned ac eraill wedi sôn amdano. Wel, roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Biliau Diwygio wedi codi pryderon am y risg o her gyfreithiol, pe byddai'n amharu ar y ffordd y cynhelid etholiad Senedd 2026 neu ganlyniad yr etholiad hwnnw, a gallai unrhyw her gyfreithiol arwain at ansicrwydd, fel y gyfraith sy'n llywodraethu'r etholiad, nes bod yr her honno wedi'i datrys. Felly, rydym ni wedi cymryd y camau i liniaru'r risgiau, er mwyn amddiffyn uniondeb etholiad Senedd 2026, fel y dywedais i. Roeddem o'r farn y dylem ni nawr ei drefnu ar gyfer etholiad Senedd 2030. Ond a gaf i sicrhau ein cyd-Aelodau heddiw ein bod ni—a dywedais mewn ymateb i Adam Price—eisoes yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU, ein bod ni eisoes yn edrych ar lwybr adran 109. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod nad yw adran 109 yn broses syml; mae'n rhaid i chi fynd drwy Senedd-dai'r Deyrnas Unedig a'r Senedd hon—[Torri ar draws.]—er mwyn gwireddu hynny. 

Dim ond ynghylch y pwynt cyfreithiol penodol iawn yma, onid yw'n wir fod y risg honno'n berthnasol i bopeth, pob cymal o bob Bil? Mewn theori, mae posibilrwydd o her, oherwydd mae yna rai pethau, wyddoch chi, hawliau dynol ac ati, lle mai dim ond y Goruchaf Lys all roi barn bendant arnyn nhw. Ond pe baem ni o'r farn na allem ni wneud rhywbeth, ni allem ni ddeddfu ar unrhyw beth, oherwydd bod yna, o bosib, yn ddamcaniaethol, risg o her, ni fyddem yn cynhyrchu unrhyw ddeddfwriaeth. Nid oes mwy o risg, os ceir Gorchymyn adran 109 yn y Cyfrin Gyngor—does dim mwy o risg, wedyn, i'r Bil hwn, o dan yr amgylchiadau hynny, nag unrhyw beth arall yr ydym ni wedi deddfu arno yn hanes datganoli.

Wel, rwy'n gobeithio mai'r hyn fydd yn dod o ganlyniad i'r ddadl hon heddiw yw cymeradwyo'r egwyddorion cyffredinol, gan gydnabod fy mod wedi dweud bod gennym achos cyfreithiol credadwy, er mai'r her i'r cymhwysedd cyfreithiol yw'r risg, onid ydyw, o ran yr amseriad, nid yn unig o ran ein bod yn symud i ddilyn llwybr adran 109, ond hefyd y ffaith y gallai hynny ynddo'i hun arwain at her gyfreithiol. Rwy'n ofni fy mod yn rhedeg allan o amser yn gyflym, Llywydd, ac rwy'n erfyn arnoch i roi amser i mi, oherwydd mae hwn yn Fil pwysig iawn yr ydym yn ei ystyried. Ond yr hyn sydd ei angen arnom o'r ddadl hon heddiw yw eich cefnogaeth a'ch hyder ein bod yn ceisio rhoi'r cwotâu rhywedd mewn statud yma yng Nghymru. Mae'n torri tir newydd: does neb arall yn ei wneud yn y DU; mae 130 o wledydd yn ei wneud mewn mannau eraill. Gadewch i ni gael y gefnogaeth heddiw er mwyn i ni ddechrau'r broses honno a mynd trwy'r rhwystrau hynny.

Nawr, rwy'n cydnabod nad wyf wedi ateb yr holl gwestiynau a gododd Cadeirydd y pwyllgor, yn enwedig, rwy'n credu, am swyddi gwag. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gweithredu argymhellion y pwyllgor diben arbennig a'i ragflaenwyr ynghylch bod â chwota ymgeiswyr, ac mae gan y rheini reolau sy'n berthnasol yn unig mewn perthynas â lleoli cyfran o fenywod mewn perthynas â'r rhestr. Felly, rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Y rheswm pam yr wyf wedi gwrthod eich argymhelliad yw na fyddai o reidrwydd yn hyrwyddo diben y Bil o fod â Senedd fwy effeithiol pe bai tynnu'n ôl, oherwydd rwy'n credu bod y darpariaethau yn y Bil yn cynnig cyfle mor dda o ddychwelyd Senedd gytbwys o ran rhywedd, ond ni ellir ei warantu, a gallai fod anghydbwysedd o hyd, gyda menywod yn dal i fod yn y lleiafrif, a gallai'r argymhelliad a wnaethoch arwain at barhau'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau; er enghraifft, gallai dyn sy'n gadael gael ei ddisodli gan ddyn. Felly, dyna pam nad ydym yn derbyn yr argymhelliad hwnnw.

Ond rydyn ni eisiau, yn glir iawn—. Rydym yn gweithio gyda Sefydliad Jo Cox, yn mynd i'r afael â'r mater ynghylch brawychu a bwlio ac yn helpu i wrthsefyll aflonyddu a chamdriniaeth mewn gwleidyddiaeth, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y bydd y mesurau o fewn y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn ein helpu ni ag ef. A gaf i ddweud i gloi, o ran y Bil hwnnw, wrth gwrs, fod hyn yn ein helpu i symud ymlaen mewn ffordd wirfoddol i edrych ar yr holl fater ynghylch amrywiaeth a chynhwysiant—strategaethau y bydd rhaid i bob plaid wleidyddol eu mabwysiadu? Mae'n statud y bydd canllawiau, ac yna byddem yn disgwyl i bleidiau gwleidyddol fwrw ymlaen â hynny a derbyn hynny.

Felly, a gaf i ddweud i gloi bod yr holl bwyntiau allweddol ynghylch pam mae angen y Bil hwn wedi'u gwneud gan yr Aelodau heddiw? Rwy'n credu y gallem ni dreulio llawer mwy o amser ar y ddadl. Ond mae hyn nawr yn ein symud ymlaen i'r cyfnod nesaf; wyddoch chi, cafodd amserlen y Bil ei chymeradwyo yn y Pwyllgor Busnes. A gaf i ddweud, edrychwch, rydyn ni'n gwybod nad ydym yn gytbwys o ran rhywedd, nad oes gennym ddigon o fenywod yn y Senedd hon? Mae gennym bwyllgorau heb unrhyw fenywod arnyn nhw—a all hynny fod yn iawn? Mae'n rhaid i bob plaid wleidyddol edrych arnynt eu hunain a dweud, 'Yn ein ffordd ymlaen gyda diwygio'r Senedd, a ydym am fod â Senedd sy'n gytbwys o ran rhywedd, Senedd amrywiol, yn 2026 a 2030, a fydd mewn statud?', a bydd y Bil hwn yn helpu i'n harwain at y pwynt hwnnw. Diolch.

17:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni adael y cynnig yna i'w bleidleisio arno tan y cyfnod pleidleisio, ac felly hefyd y cynnig o dan eitem 8 hefyd i'w adael tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi

Eitem 9, y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), hysbysiad ffurfiol o gydsyniad Ei Fawrhydi, yn gyntaf, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid. Rebecca Evans. 

Diolch. Mae gennyf orchymyn gan Ei Fawrhydi y Brenin i gydnabod y Senedd fod Ei Fawrhydi, ar ôl cael gwybod am y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), wedi cydsynio i'r Bil hwn.

10. Cyfnod 4 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

Mae hwnna'n caniatáu i ni symud ymlaen i eitem 10, sef Cyfnod 4 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol, a'r Ysgrifennydd Cabinet i gyflwyno'r eitem yma, felly. Rebecca Evans.

Cynnig NDM8645 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn natblygiad a hynt y Bil drwy'r Senedd. Mae'r broses graffu ar gyfer y Bil wedi bod yn drylwyr ac yn heriol, fel y dylai fod, wrth gwrs. Diolch i Gadeiryddion, aelodau a staff cymorth y pwyllgor am eu dull gofalus ac ystyriol, ac am eu hargymhellion adeiladol yng Nghyfnod 1, gan gynnwys mewn perthynas â darparu arweiniad a chymorth i'r rhai y bydd y Bil hwn yn effeithio arnynt ar gyfer partneriaid cyflawni a threthdalwyr yng Nghymru. Bydd y Llywodraeth yn parhau i ymgysylltu â phwyllgorau mewn ffordd ystyrlon yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf wrth i ni ddatblygu'r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol, a byddwn yn adolygu'r effaith y mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei chael cyn diwedd y Senedd nesaf fel rhan o'm hymrwymiad yng Nghyfnod 1.

Cyn hynny, cydnabyddais y rôl hanfodol a chwaraeodd Aelodau Plaid Cymru yn natblygiad y ddeddfwriaeth hon. Mae'n werth cydnabod heddiw, hyd yn oed ar faterion lle, yn y pen draw, nad oeddem yn gallu dod i gytundeb ar y cyd, bod ein trafodaethau wedi'u cynnal mewn modd adeiladol a pharchus drwyddi draw, a gwn fod llawer yn y Bil hwn y gall y ddwy ochr fod yn falch ohono.

Diolch hefyd i Peter Fox, sydd wedi cynrychioli'r Ceidwadwyr Cymreig yn ddiwyd drwy Gyfnodau 2 a 3. Rwyf wedi gwerthfawrogi ei barodrwydd i geisio cyfaddawdu ar faterion lle mae'n dod â'i brofiad ei hun o arwain Cyngor Sir Fynwy, ac rwy'n nodi dull pragmatig ei blaid o'r Bil hwn ar adegau allweddol yn y broses.

Rwy'n estyn diolch diffuant i'n holl randdeiliaid a phartneriaid—y rhai a ymatebodd i'n hamrywiol ymgynghoriadau, y rhai a gyfrannodd dystiolaeth at bwyllgorau, a'r rhai a rannodd eu harbenigedd drwy gydol y broses graffu. Byddwn yn parhau i ddibynnu ar y gefnogaeth honno a'r profiad hwnnw yn ystod y misoedd nesaf wrth i ni weithio ar weithredu'r ddeddfwriaeth. Ac mae llawer i'w wneud. Mae is-ddeddfwriaeth i'w gwneud, canllawiau i'w datblygu, prosesau, systemau, hyfforddiant a chymorth newydd i'w cyflwyno. Bydd gan ein partneriaid awdurdodau lleol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru i gyd rôl hanfodol i'w chwarae wrth wneud llwyddiant yn y fframwaith deddfwriaethol newydd hwn, ac edrychaf ymlaen at eu cefnogaeth barhaus ar y daith honno. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch enfawr i swyddogion Llywodraeth Cymru am eu hymroddiad, eu creadigrwydd a'u gwaith o'r ansawdd uchaf. Mae'r Bil hwn yn cyflwyno newidiadau pwysig i'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, ac yn darparu cyfleoedd gwirioneddol i wneud newidiadau pellach ac ystyrlon i'r system drethu leol yng Nghymru.

O ran y dreth gyngor, byddwn yn parhau i ymdrechu i'w gwneud yn decach ac yn fwy blaengar, yn haws llywio ac yn symlach i'w weinyddu. Bydd y dulliau yn y Bil hwn yn creu'r cyfleoedd hynny. O ran ardrethi annomestig, mae'r Bil hwn yn cyflawni ailbrisiadau amlach—newid hanfodol wrth wraidd ein rhaglen ddiwygio helaeth. Mae hefyd yn darparu'r dulliau angenrheidiol i gynnal system deg ac ymatebol y gellir ei haddasu i amgylchiadau a blaenoriaethau sy'n newid. Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i'r Senedd.

17:35

Fe hoffwn i ddiolch hefyd i bawb heddiw sydd wedi gweithio ar y ddeddfwriaeth hon, ac fe wn i y bu llawer iawn o waith dros fisoedd lawer. Fe hoffwn i ddiolch i dîm y Bil yn arbennig am eu cefnogaeth, ond hefyd yr Ysgrifennydd Cabinet am ei hymgysylltiad. Mae wedi bod yn wych gallu gweithio gyda'n gilydd mor gydweithredgar, hyd yn oed os oes gennym ni farn wahanol ynghylch sut y gallem ni gyrraedd y gwahanol leoedd. A diolch hefyd i Peredur Owen Griffiths am ei ymgysylltiad adeiladol drwyddi draw. Mae hi'n wych pan allwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd, fel rydym ni wedi.

Rwy'n croesawu rhai elfennau o'r Bil, gan gynnwys y gallu i osod y lluosydd hollt ar gyfer ardrethi busnes yng Nghymru—rhywbeth rydym ni a'r gymuned fusnes wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd, ac mae'n wych y ceir yr hyblygrwydd hwnnw. Fodd bynnag, mae ein grŵp yn dal yn bur amheus ynghylch nifer o faterion a chymhwyso'r pwerau y mae ei Fil yn eu darparu. Wedi dweud hynny, mae agweddau ar y Bil yn angenrheidiol i roi mwy o ddisgresiwn ynghylch y dreth gyngor a chyfraddau busnes yng Nghymru.

Rydym yn dal i bryderu, serch hynny, am y gallu i gynghorau ddatgymhwyso'r gostyngiad o 25 y cant i bobl sengl. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi rhoi sicrwydd iddi na fydd y gostyngiad hwn yn newid, y gwir amdani yw, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, gallai cynghorau, o dan rai amgylchiadau, ddatgymhwyso'r gostyngiad hwn, sy'n annerbyniol i ni.

Rwy'n falch iawn i welliant y Ceidwadwyr Cymreig sy'n cymell cynghorau lleol i barhau i gyhoeddi hysbysiadau o newidiadau i'r dreth gyngor lwyddo, gan sicrhau bod ein poblogaeth oedrannus yn parhau i gael mynediad hawdd at wybodaeth mor bwysig a, thrwy hyn, rhoi sicrwydd i lawer o bapurau newydd lleol. Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei chefnogaeth a'i gweithredoedd ynghylch y mater hwn.

Rwy'n siomedig bod ein gwelliant o ran refferenda lle mae'r cynnydd yn y dreth gyngor yn fwy na 5 y cant wedi'i wrthod. Er fy mod i'n cydnabod y byddai goblygiadau i gynghorau pe bai hyn wedi'i gyflwyno, mae'n werth nodi mai anaml y defnyddiwyd hyn dros y ffin. Yn amlwg, felly, mae cael y gofyniad yn fodd o atgoffa'r cynghorau cyn ystyried cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor. Peidiwch ag anghofio bod cynnydd o 5% yn gynnydd mawr ynddo'i hun. Byddai hyn wedi grymuso pobl leol i ddwyn eu cynghorau i gyfrif, ac rwy'n dal i bryderu, os torrir y setliad llywodraeth leol ymhellach gan y Llywodraeth yma, heb y cydbwysedd a ddarperir gan refferenda lleol, efallai y bydd cynghorau'n troi yn rhy hawdd at gynyddu'r dreth gyngor fel ateb i bob anhawster. Rwy'n gwybod i'r gwelliant hwn fethu, ond byddaf yn parhau i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif o ran y mater hwn.

Llywydd, er gwaethaf diolch i bawb, oherwydd y pryderon sylfaenol sydd gennym ni o hyd, ni fyddwn yn gallu cefnogi'r ddeddfwriaeth hon heddiw. Mae'n ddrwg gen i.

17:40

I ddechrau, fe hoffwn i ddiolch i holl glercod y Senedd a'r cyfreithwyr sydd wedi gweithio'n ddiwyd trwy hynt y Bil hwn, ac fe hoffwn i hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet a Peter Fox am eu hymgysylltiad adeiladol ar bob cam. Fel yr wyf wedi sôn sawl gwaith o'r blaen yn y Siambr hon, mae'r ddadl dros ddiwygio cyflwr cyllid llywodraeth leol wedi bod yn amlwg ers peth amser. Er ein bod yn parhau i gredu nad yw'r Bil yn mynd yn ddigon pell mewn rhai meysydd, rydym ni serch hynny yn ystyried ei fod yn gam cadarnhaol ymlaen i greu fframwaith cyllidol mwy cynaliadwy i'n hawdurdodau lleol, ac felly byddwn yn cefnogi ei hynt heddiw. Rydym yn croesawu'r mesurau i alluogi cylchoedd ailbrisio amlach at ddibenion ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, gan feithrin mwy o degwch yn y ffordd y cânt eu codi. Credwn hefyd ei bod hi'n synhwyrol rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru amrywio rhyddhad ardrethi annomestig a gosod lluosyddion wedi'u teilwra, a byddem yn annog y Llywodraeth i fod yn rhagweithiol wrth ddefnyddio'r pwerau hyn, yn enwedig fel modd i gefnogi ein sector mentrau  bach a chanolig, sydd mor hanfodol. Fodd bynnag, mae'n destun gofid bod y Bil hwn, er mor gadarnhaol ydyw mewn sawl maes, ond yn gwneud camau bach i'r cyfeiriad cywir, yn hytrach na chamau blaengar pwrpasol lle mae eu taer angen arnom ni. Bydd y ffaith nad yw'r model newydd o ailbrisio'r dreth gyngor yn cyd-fynd â diwygiad cynhwysfawr o'r system ei hun, sydd bellach wedi'i ohirio tan 2028 ar y cynharaf, yn parhau â'i baich annheg ac anghymesur ar aelwydydd incwm is am y dyfodol rhagweladwy.

Mae diwygio'r dreth gyngor yn achos sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae'r effaith y mae'r system bresennol yn ei chael wrth waethygu pwysau costau byw ac anghydraddoldebau cymdeithasol yn arbennig o amlwg ar draws fy rhanbarth etholiadol. Rwy'n cynrychioli dwy ardal, Merthyr a Blaenau Gwent, lle mae'r dreth gyngor ar ei huchaf. Mae gan y ddau awdurdod lleol hyn rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru hefyd. Mae hynny'n anghyfiawn iawn. Os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â chreu system decach, rwy'n gobeithio y byddant yn defnyddio'r amser ychwanegol y maen nhw wedi'i ennill iddyn nhw eu hunain yn ddoeth, yn hytrach na gadael y rhaglen waith hanfodol hon i ddim ond hel llwch. Ar y sail hon, a all yr Ysgrifennydd Cabinet ymrwymo i ddiweddaru'r Senedd yn rheolaidd ynghylch cynnydd rhaglen diwygio'r dreth gyngor yn unol â'r amserlen ddiwygiedig? Er ein bod wedi gobeithio cyflawni'r diwygiad hwn erbyn mis Ebrill 2025, trwy ein cytundeb cydweithio, rydym yn parhau i fod yn agored i gydweithio â'r Llywodraeth i sicrhau ei fod yn dod i rym cyn gynted â phosibl. Mae'n hanfodol, felly, bod pasio'r Bil hwn heddiw yn ddechrau taith hirach tuag at roi cyllid llywodraeth leol ar sail decach a mwy cynaliadwy. Diolch yn fawr.

Diolch. Wrth gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelodau a'r partneriaid unwaith eto am eu cydweithio a'u cyfraniadau. Dyma'r Bil cyllid llywodraeth leol cyntaf i ni ei gael yng Nghymru ers datganoli, ac fe wn i fod llawer ohonom wedi ein cyffroi'n fawr iawn, iawn am hynny, ac mae'n ddarn sylweddol iawn o ddeddfwriaeth hefyd. Mae'n un a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyfraddau annomestig a threfniadau treth gyngor tecach a mwy ymatebol yng Nghymru, ac rwy'n hapus iawn i ddarparu'r cadarnhad hwnnw y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch ein rhaglen ddiwygio ardrethi annomestig a'n rhaglen dreth gyngor wrth i ni gamu i'r dyfodol.

Bydd y Bil heddiw yn galluogi rhoi cymorth i fusnesau ac unigolion mewn ffordd fwy amserol a mwy manwl gywir. Bydd yn caniatáu targedu'r trefniadau osgoi yn gyflymach a sicrhau bod y baich treth, sy'n effeithio ar bron pob busnes a dinesydd yng Nghymru, yn cael ei rannu'n fwy cyfartal. Felly, Llywydd, byddwn yn annog pob Aelod i gefnogi'r Bil hwn.

17:45

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly bydd y bleidlais yma'n cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar.

Eitem 11 sydd nesaf, y ddadl ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru—cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet sy'n gwneud y cynnig yma. Rebecca Evans.

Cynnig NDM8639 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

1. Yn nodi:

a) Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2023/24;

b) y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen ddeddfwriaethol.

Cynigiwyd y cynnig.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd trydydd adroddiad blynyddol tymor y Senedd hon, gan nodi'r cynnydd yr ydym ni'n parhau i'w wneud tuag at gyflawni ein rhaglen lywodraethu. Unwaith eto mae wedi bod yn flwyddyn llawn heriau a dewisiadau anodd. Rydym ni wedi parhau i wynebu pwysau economaidd a chyllidebol dros gyfnod hir mewn argyfwng costau byw digynsail. Gwaethygwyd y pwysau ariannol yma gan y rhyfel parhaus yn Wcráin, ac rydym ni'n dal i fyw gyda chanlyniadau dinistriol cyllideb Truss a bentyrrodd pwysau ychwanegol ar gyllidebau cartrefi a gwasanaethau cyhoeddus. Unwaith eto, cai Cymru ei thanbrisio a'i thanariannu'n barhaus gan y Torïaid. Ar sail gyfatebol, roedd ein setliad yn 2023-24 yn werth hyd at £700 miliwn yn llai mewn termau real. Mae hyn i gyd wedi cael canlyniadau uniongyrchol ac anochel ar gyfer cyflawni. Yn y cyd-destun hwnnw, rydym ni'n hynod falch o'r hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni yn nhrydedd flwyddyn y Senedd hon, ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi a chyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod y cyfraniad aruthrol a wnaeth Mark Drakeford fel Prif Weinidog yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad blynyddol hwn a thrwy gydol ei gyfnod yn Brif Weinidog. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i Blaid Cymru am y gwaith a wnaethom ni gyda'n gilydd fel rhan o'n cytundeb cydweithio, ac fe wnaethom ni gyflawni llawer iawn i bobl Cymru. Rydym ni'n Llywodraeth sy'n ceisio gweithio gydag eraill er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i fwy o bobl. Rydym ni'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU yn San Steffan fel partneriaid gwirioneddol, gan symud ymlaen dan arweiniad ein cyd-ddyheadau.

Rhoi pobl a chymunedau Cymru yn gyntaf fu blaenoriaeth pob Llywodraeth Lafur Cymru ers dechrau datganoli, a dyna fydd hi bob amser. Rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni yn nhrydedd flwyddyn ein rhaglen lywodraethu, er gwaethaf yr holl heriau a'r rhwystrau yr ydym ni wedi'u hwynebu. Rydym ni wedi buddsoddi £425 miliwn ychwanegol yn y GIG yng Nghymru, ac rydym ni'n parhau i wneud cynnydd cyson ar ein blaenoriaeth allweddol o leihau amseroedd aros. Mae ein perfformiad o ran canser hefyd y gorau y bu ers dwy flynedd, a byddwn yn parhau i flaenoriaethu'r maes allweddol hwn am weddill tymor y Senedd hon. Credwn mewn GIG a ariennir yn gyhoeddus, gyda gweithlu sector cyhoeddus, ac rydym ni wedi parhau â'n buddsoddiad yn y GIG. Rydym ni wedi darparu o ran y gweithlu, gan ddarparu atebion tymor byr a thymor hirach i'r heriau sy'n ein hwynebu. 

Roedd ein cytundeb gyda Llywodraeth Kerala ym mis Mawrth 2024 yn fodd o ddarparu 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ychwanegol i gryfhau ein GIG ar unwaith. Yn nes at adref, bydd ein hysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru yn cefnogi gweithlu'r dyfodol. Byddwn yn croesawu'r garfan gyntaf o fyfyrwyr i Fangor ym mis Medi. Rydym ni wedi gweithredu amrywiaeth o newidiadau radical i ofal sylfaenol, gan gynnwys diwygio contractau deintyddion y GIG, galluogi 140,000 o gleifion newydd i dderbyn cwrs llawn o driniaeth ddeintyddol, a lleihau'r dagfa 8 y bore mewn meddygfeydd. Rydym ni hefyd yn darparu mwy o wasanaethau lle mae eu hangen fwyaf, yn ein hoptegwyr ar y stryd fawr a fferyllfeydd cymunedol, drwy'r cynllun anhwylderau cyffredin. 

Wrth gwrs, afraid dweud bod y Llywodraeth hon yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gynnal GIG Cymru fel un rhad ac am ddim pan fo ar bobl ei angen. Fel y dywedodd Nye Bevan yn 1948, 

'nid oes gan unrhyw gymdeithas yr hawl i'w galw ei hun yn waraidd os gwrthodir cymorth meddygol i berson sâl oherwydd diffyg modd.'

Mae'r Llywodraeth hon hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol mil diwrnod cyntaf plentyn i'w ganlyniadau bywyd tymor hir. Byddwn yn parhau i sicrhau y caiff pob plentyn yng Nghymru y cyfleoedd gorau i lwyddo, waeth ble maen nhw'n byw, eu cefndir neu eu hamgylchiadau. Rwy'n falch ein bod ni wedi cynnig dros 6,900 o leoedd ychwanegol i rieni trwy Dechrau'n Deg. Mae hyn yn golygu y gall mwy o blant dwy oed ledled y wlad nag erioed o'r blaen gael y gefnogaeth i'w helpu i ffynnu a thyfu. Fe wnaethom ni barhau i ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol, gan ddarparu gofal plant am ddim i fwy o deuluoedd, gyda 4,500 o leoedd gofal plant ychwanegol yn cael eu cynnig yn ystod 2023-24. Daeth cant a phum deg pedwar mil o ddysgwyr ychwanegol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn mis Mawrth 2024, ac mae'r ddarpariaeth bellach wedi'i chyflwyno'n llawn mewn 19 o'n 22 awdurdod, ymhell cyn ein targed ym mis Medi 2024, gyda'r tri awdurdod sy'n weddill hefyd yn gwneud gwaith gwych yn hynny o beth.

17:50

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Rydym ni i gyd wedi gorfod byw gyda'r anhrefn a achoswyd gan gamgymeriadau economaidd a chamreoli llywodraethau Torïaidd olynol y DU. Bydd y Llywodraeth hon bob amser yn blaenoriaethu gweithwyr a busnesau Cymru ac yn gweithio i gefnogi economi gryfach sy'n addas at y dyfodol i ddarparu swyddi mwy gwyrdd a gwaith teg. Fe wnaethom ni gefnogi KLA, cwmni o'r Unol Daleithiau sy'n gwneud offer lled-ddargludyddion, i ddod â'i bencadlys a'i ganolfan ymchwil a datblygu offer newydd i Gymru, a fydd yn cyflogi tua 750 o bobl pan fydd wedi'i gwblhau. Mae ein gwarant flaenllaw i bobl ifanc yn parhau i uwchsgilio a chefnogi pobl ifanc dan 25 oed, gyda dros 30,000 o bobl yn cofrestru mewn rhaglenni sgiliau. Rydym ni hefyd wedi darparu 51,000 o brentisiaethau pob oed ers mis Mai 2021.

Mae'r argyfwng hinsawdd yn fygythiad difrifol i'n cenedl ac un sy'n dod yn gynyddol agosach, a dyma pam mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori ein hymateb i newid hinsawdd ym mhopeth a wnawn. Rydym ni wedi buddsoddi £100 miliwn mewn gwelliannau trafnidiaeth lleol, a fydd yn annog dulliau teithio mwy cynaliadwy, carbon isel, ac rydym ni wedi cefnogi prosiectau a fydd yn defnyddio grym ein llanw. Rwyf hefyd yn hynod falch bod Cymru'n parhau i fod yn genedl flaenllaw mewn ailgylchu. Eleni, roeddem yn ail yn y byd ar gyfer ailgylchu trefol ac rydym yn parhau i arloesi, gan arwain y ffordd gydag arbrawf cyntaf y byd o gynllun dychwelyd blaendal digidol ar gyfer poteli plastig a chaniau diodydd.

Mae arnom ni eisiau i Gymru fod yn lle croesawgar, lle gall pawb deimlo'n falch o'i alw'n gartref, a lle gall pawb deimlo'n ddiogel ac y cânt eu gwerthfawrogi. Mae arnom ni eisiau i Gymru fod yn wlad lle mae pawb yn gwybod bod croeso iddyn nhw a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod nhw'n perthyn, a dyna pam rydym ni wedi gweithio'n ddiflino i gyflawni 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Ym mis Rhagfyr, fe wnaethom ni dynnu sylw at rai o'i gyflawniadau, gan gynnwys lansio cynllun grant diwylliant ar gyfer sefydliadau ar lawr gwlad sy'n grymuso cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Fe wnaethom ni hefyd ddarparu £390,000 o gyllid i Ganolfan Cymorth Casineb Cymru, gan sicrhau y gall bawb sydd wedi dioddef elwa ar gefnogaeth ac eiriolaeth benodol yn wyneb troseddau casineb. Ynghyd â gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ddiogel yng Nghymru, rydym ni wedi darparu £210 miliwn o gyllid i ddarparu llety dros dro i fwy na 17,500 o bobl i atal a chefnogi'r rhai sy'n wynebu digartrefedd.

Fe wnaethom ni fyfyrio ar rai o gyflawniadau deddfwriaethol y Llywodraeth hon yn natganiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Bydd y Biliau rydym ni wedi'u cyflwyno yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol yn gwneud newidiadau cadarnhaol i ddemocratiaeth yng Nghymru ac yn cynnwys Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), y cytunodd yr Aelodau arnyn nhw yng Nghyfnod 4 yr wythnos diwethaf. Rydym ni hefyd wedi cyflwyno Biliau sy'n hanfodol ar gyfer dyfodol hirdymor Cymru. Bydd Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) 2024 yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a bydd Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni ein targedau ynni adnewyddadwy, gan symleiddio'r broses gydsynio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru, tra bydd Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 yn cyflwyno trefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau'r GIG i ddiwallu anghenion y sector pwysig hwn.

Rwy'n gobeithio y prynhawn yma fy mod i wedi llwyddo i gyfleu rhai o lwyddiannau niferus Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n tynnu sylw at yr hyn sy'n bosibl i Gymru ei gyflawni, er gwaethaf trobwll ariannol ac economaidd a luniwyd gan Lywodraeth San Steffan di-glem a di-ddeall. Am y tro cyntaf ers bron i genhedlaeth, mae cyfle nawr i weithio'n agos gyda Llywodraeth yn y DU sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n delfrydau. Mae pedair blynedd ar ddeg o anhrefn Torïaidd wedi gadael eu hôl ar bob un ohonom ni, a bydd yr heriau sy'n ein hwynebu yn parhau, ond credaf y gallwn ni eu goresgyn.

Ein blaenoriaeth fel Llywodraeth yw parhau i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i'n cymunedau a chydweithio â'r rhai sy'n rhannu ein gweledigaeth o ddyfodol mwy disglair. Ac rwy'n credu y gallwn ni edrych i'r dyfodol hwnnw gydag optimistiaeth newydd i ddarparu Cymru werddach, garedicach a thecach.

17:55

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar sydd o'n blaenau heddiw, a diolch i Rebecca Evans—

Roeddwn i'n credu mai dyna oedd e, Dirprwy Lywydd. Doedd arna i ddim eisiau eich amau am eiliad yn y fan yna, ond diolch.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu:

a) y diffyg cynnydd digonol o ran lleihau amseroedd aros y GIG a gwella perfformiad adrannau brys;

b) y canlyniadau addysg PISA diweddar sy'n dangos dirywiad mewn canlyniadau addysgol yng Nghymru; ac

c) bod gweithwyr yng Nghymru yn cael eu talu llai na gweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU.

Yn datgan nad yw'n credu bod Rhaglen Ddeddfwriaethol nac Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru yn rhoi digon o sylw i'r heriau allweddol hyn.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu clir i:

a) gwella perfformiad y GIG;

b) gwella canlyniadau addysgol; ac

c) gwella incwm yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Rwy'n cynnig gwelliant 2 yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar a diolch i Rebecca Evans am sefyll yn lle'r Prif Weinidog heddiw, i sôn am yr adroddiad o'n blaenau. Mae'n dipyn o ddiwrnod i drafod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Yn anffodus, mae'n ymddangos mai blaenoriaeth ddiweddaraf Llafur Cymru oedd rhoi cyllyll yng ngefnau ei gilydd a checru mewnol yn hytrach na chyflawni ar ran pobl Cymru. Mae'r adroddiad blynyddol hwn, wrth dynnu sylw at y nifer o bethau da sy'n digwydd i bob golwg ledled Cymru, yn anffodus yn ceisio gwyngalchu ac anwybyddu llawer o'r materion y mae pobl Cymru yn eu hwynebu o ganlyniad i Lywodraeth Cymru luddedig sydd wedi bod mewn grym am lawer rhy hir. Mae'n rhaid i ni obeithio y bydd 2026 yn dod â newid, gan fod ar bobl Cymru wir angen y newid hwnnw.

Maen nhw'n wynebu amseroedd aros uchaf y GIG ar gofnod a'r pecynnau cyflog isaf yn y DU. Maen nhw'n wynebu'r canlyniadau addysg gwaethaf ac amseroedd aros hir ddihenydd am ambiwlans. Pan edrychwn ni ar y metrigau sylweddol hyn, mae'n amlwg bod Cymru'n cael ei dal yn ôl gan Lywodraeth Lafur Caerdydd. Bydd unrhyw Lywodraeth sy'n werth ei halen yn gwneud popeth o fewn ei gallu i wyrdroi'r ystadegau truenus hynny, tra bod iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, materion gwledig—mae'r rhestr yn hirfaith o feysydd polisi sydd wedi cael eu hanwybyddu oherwydd bod Gweinidogion Llafur yn canolbwyntio'n ormodol arnyn nhw eu hunain a'u seicoddrama yma.

Er fy mod i bob amser yn cydnabod yr ymdrechion anhygoel a wnaed gan gynifer yn ein gwasanaeth iechyd, fel Gweinidog iechyd yr wrthblaid, mae preswylwyr, gweithwyr iechyd, elusennau a sefydliadau eraill yn cysylltu â mi yn rhy aml o lawer ynghylch y profiad gwael y mae gormod o bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli yn ei wynebu. Mae pobl sâl yn dihoeni ar restrau aros neu'n aros yn hirfaith am ambiwlans ar ôl iddyn nhw ddioddef cwymp ofnadwy. Mae meddygon, nyrsys ac eraill yn gweithredu mewn ysbytai sy'n dadfeilio, ac nid ydynt yn cael yr arian sydd ei angen arnyn nhw i ddarparu ar gyfer cleifion. Pwyslais manwl ar y materion hyn ddylai fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon sydd gan Gymru.

Yn wir, soniodd y Gweinidog am roi'r cyfle gorau posibl i blant yn ei sylwadau agoriadol, ond, yn anffodus, maen nhw'n gwneud penderfyniadau sy'n rhoi cyfleoedd hyd yn oed yn waeth i blant, yn enwedig o ran addysg. Mae ymchwil y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos bod perfformiad plant difreintiedig yn Lloegr naill ai'n uwch neu'n debyg i'r cyfartaledd o ran pob plentyn yng Nghymru. Felly, os ydych chi'n blentyn difreintiedig yn Lloegr, mae'n debyg y byddwch chi'n gwneud yn well na'r plentyn cyffredin yma yng Nghymru. Mae'r diolch am hyn yn ganlyniad uniongyrchol i'r camreoli gan Lafur yma ym Mae Caerdydd, gan gynnwys tanariannu cronig a gweithrediad gwael o gwricwlwm arbrofol sy'n gwrthod blaenoriaethu trylwyredd academaidd.

Felly, nid yn unig y caiff plant yma eu siomi, ond mae Llafur wedi llywyddu dros sefyllfa hanesyddol o golli'n pobl ddisgleiriaf. Mae cymaint o bobl ddawnus yng Nghymru, ond mae llawer o bobl ifanc yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond gadael y wlad. Mae hynny'n annerbyniol ac mae angen ei newid. Pan edrychwch chi ar yr economi, nid yw'n anodd gweld pam mae pobl ddisglair yn gadael. Dan Lywodraeth Cymru cafwyd y cyfraddau anweithgarwch economaidd uchaf yn y Deyrnas Unedig a'r pecynnau cyflog lleiaf. Ynghyd â'r cyfraddau busnes uchaf ym Mhrydain, mae'r Llywodraeth hon wedi rhwystro potensial pobl Cymru ac yn dal ein gwlad yn ôl.

Nawr, efallai y bydd Prif Weinidog newydd—efallai Rebecca Evans, sy'n sefyll yn ei le yma heddiw—yn newid cyfeiriad, ond, yn anffodus, rwy'n amau hynny, oherwydd mae pawb yn y grŵp Llafur wedi cefnogi'r uniongrededd aflwyddiannus hwn sydd wedi dal pobl Cymru yn ôl am lawer rhy hir. Maen nhw i gyd yn gyfrifol. Felly, rwy'n galw ar holl Aelodau'r Senedd i gefnogi ein cynnig heddiw, a fydd yn dechrau'r broses o adfywio gwasanaethau cyhoeddus Cymru a rhoi'r arweinyddiaeth y mae'n ei haeddu i Gymru. Diolch yn fawr iawn.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ddiffyg targedau clir ac adrodd mesuradwy ar ganlyniadau.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu:

a) rhagor o wybodaeth am sut y mae'n mesur cynnydd ar ei rhaglen ddeddfwriaethol; a

b) asesiad o sut mae'n gwneud cynnydd yn erbyn y mesurau hyn.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Dwi'n maddau i’r Dirprwy Lywydd. Dwi’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r adroddiad blynyddol yma. Mi wnaf i ddechrau yn bositif, ar ddiwrnod lle mae hynny’n gallu teimlo yn anodd, a dweud bod yna sawl fflach bositif yma yn yr adroddiad blynyddol, a hynny diolch i waddol y cytundeb cydweithio efo Plaid Cymru. Rydyn ni’n croesawu’r bron i £60 miliwn sydd wedi ei neilltuo er mwyn darparu prydau ysgol am ddim, er enghraifft, i bob disgybl cynradd yng Nghymru, ac felly hefyd y ffaith bod y criw cyntaf o fyfyrwyr yn dechrau astudio yn ysgol feddygol y gogledd fis Medi—un arall o weledigaethau Plaid Cymru a wnaeth, ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu, o'r diwedd ddal dychymyg y Llywodraeth.

Ond, ar y cyfan, dwi'n gresynu, unwaith eto yn fan hyn, at y cyfleon sydd wedi eu colli, ac mae hon yn dod i gael ei hadnabod fel Llywodraeth sy'n cael ei chysylltu â'r hyn nad ydy hi'n ei gyflawni, yn hytrach na'r hyn mae yn ei gyflawni. Ac, efo'r rhestrau aros yn yr NHS efo'r hiraf yn y Deyrnas Gyfunol, cwymp mewn safonau addysg, traean o blant Cymru'n byw mewn tlodi, mi fyddai'n deg disgwyl i'r Llywodraeth Lafur fod yn benderfynol o ganolbwyntio'n llwyr ar wynebu'r heriau hynny. Ond, yn anffodus, mae'n dangos diffyg difrifoldeb o ran angen mynd i'r afael â'r problemau yna yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn dangos, drwy hynny, dwi'n meddwl, diffyg parch at ddisgwyliadau pobl Cymru sydd wedi ethol y Llywodraeth i gyflawni drostyn nhw.

Dyma ddyfyniad o'r adroddiad blynyddol, sy'n dweud llawer wrthych am yr hyn y mae'r Llywodraeth yn gobeithio ei gyflawni:

'byddwn yn rhannu ein cynlluniau a’n cynnydd drwy ddulliau sy’n defnyddio llai o adnoddau fel y gallwn ganolbwyntio’n barhaus ar gyflawni’n ymarferol'.

Mae'n frawddeg eithaf dadlennol, rwy'n credu, mewn gwirionedd, sy'n dangos nad yw'r Llywodraeth hon yn dangos y difrifoldeb y dylem ei ddisgwyl o ran mesur a monitro perfformiad gydag unrhyw drylwyredd gwirioneddol, a dyna'r hyn rydym yn cyfeirio ato yn ein gwelliant heddiw. Allwch chi ddim disgwyl, mae'n debyg, i ddogfen naw tudalen nodi'r cyfan sydd wedi digwydd yn ystod 12 mis diwethaf gweinyddiaeth, ond rwy'n synhwyro bod yna rywfaint o sinigiaeth yn y dull dethol sydd wedi'i ddefnyddio o ran yr hyn sydd, nid yn unig wedi'i gynnwys yn yr adroddiad blynyddol hwn, ond yr hyn sydd wedi'i eithrio ohono, a does unman lle mae hyn yn fwy amlwg, rhaid i mi ddweud, na'r defnydd o un ystadegyn dethol i roi'r argraff ei bod yn mynd i'r afael yn llwyddiannus â'r rhestrau aros uchaf erioed, pan fo'r holl dystiolaeth yn awgrymu fel arall.

I droi at flaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, mae'r syniad yma o reoli dirywiad—managed decline—wedi diffinio agwedd Llywodraethau Cymru, dwi'n meddwl, ers yn llawer rhy hir, a does prin ddim yn y rhaglen ddeddfwriaethol gafodd ei chyhoeddi'r wythnos ddiwethaf i awgrymu bod hynny ar fin newid. Yn sgil y penderfyniad hynod siomedig i ohirio adolygu'r dreth gyngor tan 2028, mi fydd miloedd o gartrefi, rydyn ni'n gwybod, yn parhau i gael eu cosbi gan system annheg am o leiaf bedair blynedd arall. Does yna ddim angen aros am ddeddfwriaeth i fwrw ymlaen efo sawl mesur fyddai o fudd i economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Am y tro cyntaf ers 14 blynedd, wedi'r cyfan, mae'r Llywodraeth Lafur yma—mor ansicr ag ydy'r Llywodraeth ar y pwynt yma mewn amser—yn y sefyllfa o gael yr hyn maen nhw wedi bod eisiau ac yr hyn maen nhw'n ei ystyried yn Llywodraeth gyfeillgar yn San Steffan. Ac mi ddylai'r Prif Weinidog, cyn iddo fo gamu i lawr yn ffurfiol, godi'r ffôn dro ar ôl tro, os oes angen, i Syr Keir Starmer i bwysleisio'r modd y gallai cyfran deg o arian HS2 drawsnewid rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Dwi'n galw arno fo hefyd i wneud yr achos dros gael gwared ar yr hen fformiwla Barnett, sydd wedi hen ddyddio, er mwyn gwneud yn siŵr bod ein cenedl ni'n cael ei chyllido ar sail angen, nid poblogaeth. Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn cynnig gwelliant i Araith y Brenin yn mynnu'r newid sylfaenol hwnnw yn y modd mae Cymru yn cael ei chyllido. A dwi'n annog y Prif Weinidog, ar ôl treulio misoedd yn brolio'r buddiannau fyddai Cymru yn eu mwynhau efo Llywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4, i fynnu'r pwerau yna dros Ystâd y Goron a thros gyfiawnder a phlismona, sydd yn nwylo Llywodraeth yr Alban ers blynyddoedd bellach. Rydyn ni angen Llywodraeth sy'n brwydro dros Gymru, nid un sydd yn plygu i'r drefn newydd, dro ar ôl tro, yn San Steffan.

Ac i gloi, er gwaethaf ei heriau personol o yn y swydd a'r cyhoeddiad heddiw, pe bai'r Prif Weinidog yn llwyddo i ddarbwyllo Keir Starmer ar y materion yma yn ei fisoedd olaf yn y swydd, fi fyddai'r cyntaf i gydnabod y byddai'n gadael y swydd efo gwaddol gwirioneddol i Gymru.

18:00

Mae rhagair yr adroddiad yma yn dweud bod agenda'r Llywodraeth, beth bynnag sydd ar ôl ohoni, gyda ffocws di-baid ar gyflawni. Mae hyn yn uchelgais canmoladwy, ond mae'n rhaid i'r cyflawni fod yn seiliedig ar ganlyniadau diriaethol, nid proses benagored yn unig. Mae angen pen draw clir i'r daith, efo'r camau wedi cael eu harwyddo'n glir ar hyd y ffordd, yn hytrach na'r drefn bresennol o adael i'r daith fod yn gwbl ddigyfeiriad. Yn anffodus, mae'r adroddiad yma'n dangos diffyg cyfeiriad llwyr, yn enwedig dros y misoedd diwethaf, ble mae'r Llywodraeth prin wedi goroesi, ac yn canolbwyntio ar fethiannau mewnol yn hytrach na chanolbwyntio ar gyflawni dros bobl Cymru. Mae cynifer o’r llwyddiannau sy’n cael eu rhestru pan fo’n dod at iechyd yn ddim mwy na disgrifiadau o weithredoedd y Llywodraeth, yn hytrach na chanlyniadau.

Er enghraifft, mae'r adroddiad yn cyfeirio at y ffaith bod y gwasanaeth 111 ar gyfer iechyd meddwl brys yn cael ei ddefnyddio gan 80,000 o bobl erbyn hyn, ond nid yw'n sôn am sut mae hyn yn cael ei drosi'n ganlyniadau iechyd meddwl gwell i'r defnyddwyr. Yn yr un modd, mae'r cynllun Helpwch ni i'ch helpu chi yn cael ei fframio o ran ei gwmpas, yn hytrach na'i effaith ar leihau'r pwysau ar adrannau brys. Nid yw'r defnydd a wneir o wasanaethau, er mor bwysiced ydyw, yn fesur o lwyddiant ynddo'i hun. Mae'r ffaith nad yw'r Llywodraeth wedi gallu mynegi'n glir ble a sut mae ei rhaglen yn gwneud gwahaniaeth yn dweud cyfrolau yn hyn o beth.

Mae arfarniad dethol iawn yr adroddiad o berfformiad presennol y GIG yng Nghymru hefyd yn tanlinellu gwrthwynebiad pryderus ar ran y Llywodraeth hon i fod yn agored am raddfa'r problemau sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd. Er enghraifft, mae'r adran ar arosiadau dwy flynedd yn seiliedig ar amserlen benodol iawn ac yn cuddio'r ffaith bod arosiadau dwy flynedd am driniaeth ar gynnydd unwaith eto. Heb sôn am y ffaith bod targed y Llywodraeth ei hun i ddileu arosiadau o'r fath yn gyfan gwbl wedi'i fethu bron i flwyddyn a hanner yn ôl.

Yn y cyfamser, mae'r ganmoliaeth o ran perfformiad canser yn swnio braidd yn wag pan ystyriwch nad yw bron i hanner y cleifion canser yng Nghymru yn derbyn y driniaeth sydd ei hangen arnynt mewn pryd. Ar ben hynny, mae recriwtio 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o Kerala yn ddiferyn yn y môr o'i gymharu â'r bylchau amlwg ar draws y gweithlu, yn enwedig mewn meysydd fel nyrsio, gwasanaethau meddygon teulu ac oncoleg. Yn wir, mae'r ffaith bod y Llywodraeth yn gorfod defnyddio personél gwasanaethau iechyd y tu allan i Gymru yn adlewyrchu'n wael ar y strategaethau cadw presennol.

Ar ôl dod i'w swydd yn gynharach y mis hwn, defnyddiodd Gweinidog iechyd newydd y DU ei ddatganiad cyntaf un i ddatgan bod y GIG yn Lloegr wedi torri, a dilynodd hyn trwy gomisiynu adolygiad Darzi i'w berfformiad. Byddai hyd yn oed y ffordd fwyaf creadigol o fframio'r ystadegau yn ei chael hi'n anodd dangos bod y GIG yng Nghymru mewn cyflwr gwell na'i gymheiriad dros y ffin, ac, o ran sawl metrig, mae'r sefyllfa yma yn llawer gwaeth. Felly, a wnaiff y Llywodraeth hon ddangos ei bod o ddifrif ynglŷn â wynebu'r heriau dirfodol i'n system iechyd drwy gomisiynu ymchwiliad annibynnol cynhwysfawr i'r GIG yng Nghymru?

18:05

Diolch, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ac yn falch iawn o'r cynnydd rydym wedi'i wneud wrth gyflawni ein rhaglen lywodraethu a'n rhaglen ddeddfwriaethol, er gwaethaf yr amgylchiadau ariannol anodd. Er fy mod i'n croesawu'r gydnabyddiaeth gan arweinydd Plaid Cymru am y cynnydd rydym wedi'i wneud mewn ystod eang o feysydd, rydym yn gwrthwynebu'r gwelliant cyntaf gan Blaid Cymru.

Mae ein hadroddiad blynyddol wedi'i strwythuro'n glir o amgylch y 10 amcan llesiant, ac mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd rydym wedi'i wneud yn erbyn yr ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu. Rydym hefyd yn gwrthwynebu'r ail welliant, gan y Ceidwadwyr Cymreig. Mae'r adroddiad blynyddol yn amlygu'n uniongyrchol y cynnydd y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud mewn meysydd fel perfformiad y GIG, deilliannau addysg ac incwm ledled Cymru, o fewn fframwaith yr amcanion llesiant.

Mae trydydd adroddiad blynyddol tymor y Senedd hon yn dangos sut mae'r Llywodraeth hon wedi parhau i gyflawni yn erbyn ein hamcanion llesiant, er gwaethaf yr heriau parhaus rydym wedi'u hwynebu. Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi'i gyflawni, ac rwy'n gadarnhaol ac yn optimistaidd ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni wrth symud ymlaen. Roedd datganiad yr wythnos diwethaf yn nodi ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn i ddod, ac mae ein hadroddiad blynyddol yn nodi'r cynnydd sylweddol rydym wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac yn gosod y naws ar gyfer cyflawni ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.

Yn ystod tymor y Senedd hon, rydym yn buddsoddi £1 biliwn i helpu'r GIG i adfer o'r pandemig a lleihau'r ôl-groniad. Mae lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth ac yn her. Diolch i waith caled ac ymroddiad y GIG, mae arosiadau hir wedi gostwng 70 y cant ers mis Mawrth 2022. Ond mae gennym fwy o waith i'w wneud o hyd.

Cyfeiriodd cyd-Aelodau at amseroedd aros canser. Er i ni weld y nifer uchaf erioed o atgyfeiriadau newydd ar gyfer amheuaeth o ganser yn 2023—dros 192,000—gwelwyd y nifer uchaf erioed o bobl yn dechrau triniaeth canser hefyd—roedd hynny'n fwy na 21,000, ac mae hyn yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.

Ar gyfartaledd bob mis, mae 11,000 o bobl yn defnyddio canolfannau gofal sylfaenol brys, ond mae 85 y cant o'r achosion hynny'n cael eu rheoli heb fod angen defnyddio adran frys. Mae mwy na 7,500 o bobl yn defnyddio gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod bob mis, ac mae bron i 80 y cant o bobl yn cael eu rhyddhau adref ar yr un diwrnod. Bu gostyngiad yn yr amser y mae'n rhaid i gleifion aros yn yr ysbyty ar gyfartaledd dros y flwyddyn galendr, o 8.5 diwrnod i 7 diwrnod. Ac, yn 2023-24, y flwyddyn ffurfiol gyntaf o adrodd, gwelwyd gostyngiad o tua 5 y cant yn y nifer a oedd wedi profi oedi o ran llwybrau gofal. Yn 2023-24, mae gostyngiad o 40.5 y cant wedi bod yn y nifer sy'n aros am becynnau gofal ailalluogi, sy'n dangos gwelliant mewn capasiti o fewn gwasanaethau cymunedol. Felly, mae cynnydd da yn cael ei wneud ym mhob un o'r meysydd pwysig hynny.

Mae'r Ceidwadwyr yn siarad am PISA, ond maen nhw'n gwybod yn iawn bod y profion hyn wedi cael eu cymryd pan oedd effeithiau'r pandemig yn dal i gael eu teimlo, a dydy Cymru ddim ar ei phen ei hun yn hyn o beth—fe welodd pob un wlad ddirywiad. A byddai Aelodau, gobeithio, yn cydnabod, cyn y pandemig, mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld gwelliannau ym mhob un—llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth. Rydym yn cydnabod bod y gwelliant hwn wedi cael ei fwrw oddi ar y cledrau, a dyna'n union pam rydym wedi rhoi nifer o bolisïau ar waith yn benodol i gefnogi gwell safonau mewn darllen, ysgrifennu a mathemateg. Dirprwy Lywydd, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid i barhau i gyflawni dros bobl a chymunedau Cymru.

18:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1, a gynigiwyd gan Rhun ap Iorwerth? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. [Torri ar draws.]

Iawn, fe wnawn ni ganu'r gloch. Pum munud.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

18:15
12. Cyfnod Pleidleisio

Dirprwy Lywydd, pwynt o drefn. Mae'n ymddangos bod Aelod mewn car ar y sgrin. 

Darren—[Torri ar draws.] A allaf gael tawelwch os gwelwch yn dda? Ni ddisgwylir bod Aelodau'n symud o un lle i'r llall pan fyddan nhw'n pleidleisio a'r canllawiau yw na ddylen nhw fod, ond nid yw'n cael ei wahardd, yn anffodus. Felly, ar yr achlysur hwn, byddwn yn ei dderbyn, ond a gaf i atgoffa'r holl Aelodau, o ba bynnag blaid, na ddylech chi fod mewn cerbydau pan fyddwch chi'n pleidleisio yn y dyfodol? Fe ddylech chi naill ai fod yn eich swyddfa, eich cartref neu rywle arall sy'n lle sefydlog. 

Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 7, egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): O blaid: 39, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

18:20

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8, y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Senedd Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Nesaf mae'r bleidlais ar eitem 10, Cyfnod 4 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 10. Cyfnod 4 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 11, y ddadl ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru. Galwaf yn gyntaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y Bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae canlyniad y bleidlais yn gyfartal, felly fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, o blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 11. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru – cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nesaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 11. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru – cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth..Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 11. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru – cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth. Cynnig (heb ei ddiwygio): O blaid: 28, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:24.