Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/06/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio sydd gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.

Cefnogi Canol Trefi

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canol trefi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61236

Diolch am eich cwestiwn, Joyce. Ffocws ein rhaglen Trawsnewid Trefi yw adfywio canol ein trefi, gan eu gwneud yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt. Ers 2020, rydym wedi dyfarnu mwy na £49 miliwn o gyllid grant a benthyciadau i brosiectau adfywio canol trefi ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Diolch am eich ateb. Roeddwn yn arbennig o falch o weld y grant Trawsnewid Trefi yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu dwy neuadd farchnad hanesyddol bwysig yn fy etholaeth, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn ddiweddar, mae gwaith gyda chyllid y grant hwn gan Lywodraeth Cymru a chyllid cyfalaf Ewropeaidd, a buddsoddiad cyfalaf gan Gyngor Sir Ceredigion yn achos neuadd farchnad Aberteifi, wedi ei gwneud hi'n bosibl cwblhau gwaith adfer yn neuadd farchnad Aberteifi a’r Hen Farchnad yn Llandeilo. Roedd y ddau adeilad hanesyddol yn adeiladau hynod bwysig yng nghanol y trefi hynny, ac mae'n wych eu gweld yn cael eu hadfer i gyflwr da fel y gall busnesau a chymunedau fel ei gilydd eu defnyddio. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod grant y Trawsnewid Trefi yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu busnesau bach i ffynnu yn ein trefi, a hefyd i ddarparu cyllid hanfodol i adfywio canol y trefi hynny?

Ie, diolch, Joyce, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Yn ddiweddar, cefais y fraint o ymweld â'r ddau brosiect, ac roeddent yn wych. Mae'r un yn Llandeilo ar agor. Mae wedi trawsnewid hen adeilad gwasanaeth tân ac achub hanesyddol, lle'r injan dân—nid wyf yn gwybod beth fyddech chi'n ei alw—garej—

Depo—diolch; da iawn. Ac mae'r ffordd y maent wedi gwneud hynny'n glyfar iawn ac mae'r holl ddatblygiad yn fwrlwm i gyd. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi bod yno, ond cefais goffi hyfryd dros ben yn y siop goffi yno wrth inni drafod gyda rhai o'r bobl a oedd newydd ymweld. Ac roeddent yn dweud cymaint o bobl sy'n llifo i ganol y dref i ymweld â'r lle hwnnw gan helpu i godi nifer yr ymwelwyr yn fwy cyffredinol. Ac roedd y busnesau'n wych yno. A thra oeddem yno, roedd digwyddiad cymunedol yn mynd rhagddo hefyd, a oedd yn wych.

Ac yna gallais fynd i weld yr un yn Aberteifi. Roeddent ar fin agor, felly rwy'n gobeithio mynd yn ôl yn yr haf i'w weld yn agor. Ac roeddent yn dweud bod ganddynt restr hir o bobl sy'n aros i ddod yn ôl i farchnad Aberteifi a oedd yn arfer bod yno, ond a oedd yn edrych ymlaen at y gwaith adnewyddu. Mae ganddynt hefyd restr hir o bobl sy'n gobeithio mynd yno am y tro cyntaf, ac maent hefyd wedi gallu dod â siopau gwag ac adfeiliedig eraill yn Aberteifi yn ôl i ddefnydd, ac felly mae siop dillad priodas wedi agor yno sy'n grand iawn wir. Ac mae pob un ohonynt wedi dechrau fel busnesau newydd yn y farchnad.

Ac roeddwn yn meddwl mai’r peth mwyaf trawiadol oedd y ffaith eu bod yn ei ddefnyddio fel man deori, felly gallech roi cynnig i weld a oedd eich prosiect neu syniad yn gweithio, ac os oedd yn gweithio, gallech symud ymlaen i ganol y dref a manteisio ar ofod mwy a gadael y man deori. Roedd y lle'n fwrlwm i gyd. Mae gan yr un yn Aberteifi fwâu maen gogoneddus wrth ichi fynd drwyddo—mae'r adeilad yn eithriadol o hardd. Nid wyf yn gwybod a yw'r Llywydd yn gyfarwydd â'r adeilad hwnnw, ond gwnaeth harddwch yr adeilad argraff fawr arnaf. Ac roedd hi hefyd yn braf ei fod yn darparu llwybr hygyrch—gan fod Aberteifi yn dref eithaf serth, onid ydyw—felly, gallech barcio yn y cefn yno a gallech fynd drwodd, drwy'r fynedfa i bobl anabl a thoiledau ac ati, i mewn i ardal canol y dref drwy'r adeilad, ar hyd llwybr hyfryd iawn heibio'r holl siopau ac adeiladau newydd. Felly, mae'n drawiadol iawn. Ac mae'n enghraifft wirioneddol dda o weithio mewn partneriaeth. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed iawn gyda'r ddau awdurdod lleol i sicrhau bod arian cyfatebol ar gael ac i weithio gyda nhw i sicrhau bod yr arbenigedd priodol i'w gael ac ati, ac yn y ddau le, rydym wedi cael gwirfoddolwyr cymunedol hefyd. Rwyf wedi anghofio enw'r dyn yn Aberteifi—roedd mor frwdfrydig; dywedodd wrthyf am hanes yr adeilad a phopeth. Ac mae'n dangos pa mor hoff yw'r adeiladau hyn gan drigolion eu trefi a'r effaith wirioneddol gyffrous y gall eu hadnewyddu ei chael.

Diolch am eich ateb i fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, mae Penfro yn fy etholaeth yn un o'r enghreifftiau gorau o dref ganoloesol—castell gwych, sef man geni Harri Tudur. Ac mae datblygiad Cei'r De yno, sydd wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru. Ac er bod y gymuned yn edrych ymlaen yn fawr at weld adeiladau a fu unwaith yn adfeiliedig yn dod yn ôl i ddefnydd—ac rwyf wedi codi hyn yn y Siambr o'r blaen—mae rhywfaint o bryder ynglŷn â beth fydd datblygiad Cei'r De yn y pen draw. Gwn fod cyngor y dref wedi cyflwyno achos busnes, a wrthodwyd, ac felly mae rhywfaint o rwystredigaeth yn y gymuned ynghylch beth fydd datblygiad Cei’r De yn y pen draw. Felly, wrth ariannu prosiectau, a gaf i ofyn pa amodau sydd gan Lywodraeth Cymru ar hynny? Pa ymgysylltu cymunedol a wneir ganddynt i sicrhau bod cefnogaeth gan y gymuned i brosiect a gyflwynir, a bod y cynnyrch terfynol, datblygiad fel Cei'r De, yn rhywbeth sydd ei angen yn yr ardal leol, i adfywio canol ein trefi?

13:35

Mae'r rhain yn bartneriaethau rhwng yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru, a'r awdurdod lleol sy'n cyflwyno'r syniadau. Felly, ni sy'n darparu’r grantiau creu lleoedd. Rydym yn eu darparu yn rhanbarthol ac i gynghorau unigol. Ar gyfer y rhai rhanbarthol, sy’n grantiau llai, mae gennym awdurdod arweiniol, ond mae gan bob awdurdod lais ynglŷn â sut olwg sydd ar y gwariant rhanbarthol. Un o'r pethau rydym wedi bod yn ceisio eu gwneud—nid wyf yn ceisio gwneud pwynt gwleidyddol yma—yw ceisio sicrhau bod y gronfa ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin yn cyd-blethu, os mynnwch, fel y gallwn gael buddsoddiad ategol. Felly, mae gennym drefniadau eithaf da ar waith i sicrhau eu bod yn cyd-blethu, yn hytrach na'n sefyll ar eu pen eu hunain. Ac felly, yr awdurdod lleol sy’n cyflwyno’r achos busnes, ac mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu’n llwyr ar yr awdurdod lleol i wneud hynny. Nid oes gennyf fanylion ynghylch hwnnw, felly nid wyf yn gwybod beth sydd ganddo mewn golwg ar ei gyfer, ac nid wyf wedi ymweld â'r un hwnnw—mae'n debyg mai dyna'r unig un nad wyf wedi ymweld ag ef, felly rwy'n bwriadu gwneud hynny. Felly, bydd yr awdurdod lleol wedi gwneud yr achos busnes ar ei gyfer, a bydd wedi dod yn rhannol i Lywodraeth Cymru ac yn rhannol i’r fforwm rhanbarthol i gael trafodaeth yn ei gylch. Ac fel rhan o'r achos busnes, byddant wedi ymgynghori. Mae arnaf ofn nad wyf yn ymwybodol o fanylion yr un penodol hwnnw, ond mae'n broses, yn fath o broses tîm, i'w cyflwyno.

Yn amlwg, y syniad yw, weithiau, gall swm eithaf mawr o arian—gall fod yn filiynau—ac weithiau, swm cymharol fach o arian, adfywio a dod â bywyd yn ôl i ran adfeiliedig o dref. Ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwneud prosiectau treftadaeth, am nad ydynt yn tueddu i fod yn fforddiadwy os cânt eu datblygu'n fasnachol, gan fod gwerthoedd tir yn rhy fach. Ac felly, mae'r grant creu lleoedd yn enwedig yn edrych ar wneud prosiectau fforddiadwy sy'n dod ag adeiladau treftadaeth yn ôl yn fyw, lle na fyddent, fel arall, yn fasnachol hyfyw.

Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn. Fel rŷn ni i gyd yn gwybod, mae'n trefi cefn gwlad ni, trefi ar draws Cymru, wedi dioddef yn arw iawn, iawn oherwydd Brexit—

Ocê. Fel rŷn ni i gyd yn gwybod, mae'n trefi marchnad ni ar draws Cymru gyfan wedi dioddef yn arw iawn, iawn oherwydd Brexit, COVID, a'r argyfwng costau byw diweddar. Nawr, un model sy'n cael ei weithredu yw'r un gan Gyngor Sir Gâr, sef cynllun o'r enw Deg Tref, yn canolbwyntio ar 10 o drefi marchnad, gan gynnwys, fel roedd Joyce Watson yn cyfeirio ato, Llandeilo, a llefydd fel Llanybydder, Castellnewydd Emlyn, Sanclêr, ac yn y blaen. Ac mae yna arian Trawsnewid Trefi wedi cael ei ddefnyddio i bwrpas da, fel yr Hen Farchnad yn Llandeilo. Ond mae e hefyd wedi mynd y tu hwnt i hynny drwy gynnig arian i fusnesau bach i wella eu darpariaeth a hefyd i weddnewid adeiladau, i wneud y trefi yma'n fwy deniadol i dwristiaid ac i ymwelwyr. Felly, gaf i ofyn i chi ydych chi'n ymwybodol o'r cynllun Deg Tref yng Nghyngor Sir Gâr, ac ydych chi'n credu bod y model hwn o dargedu trefi yn rhywbeth y gallai gael ei efelychu gan awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru?

Diolch yn fawr, Cefin. Mae'n ddrwg gennyf am beidio â datrys hynny'n ddigon cyflym a gwneud ichi ailadrodd eich hun. Rwy’n ymwybodol ohono, ydw. Mae'n dilyn patrwm 'Cymru’r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040', y cynllun gofodol ar gyfer Cymru, lle rydym wedi bod yn awyddus iawn i sicrhau nad yw pob tref yng Nghymru yn meddwl y gall wneud popeth, ac y gallwn dargedu pethau penodol at drefi penodol. Felly, mae gennym bolisi 'canol trefi yn gyntaf', sy'n golygu ein bod yn ceisio atal lledaeniad y tu allan i'r dref, ond nid yw'n golygu y bydd pob tref ranbarthol yng Nghymru yn gallu cael yr un cynnig. Ac mewn gwirionedd, fe wyddom fod strategaeth fel Deg Tref, lle rydych chi'n edrych am fylchau mewn ardal benodol, a gallwch gael arbenigeddau, os mynnwch, neu gynigion penodol, mewn trefi penodol, yn gweithio go iawn. Ni chredaf fod unrhyw un ohonom yn hoffi trefi unffurf, lle rydych chi'n mynd yno ac mae'r stryd fawr yn edrych yn union yr un fath ym mhob un. Nid yw hynny'n gweithio, ac mae'n fodel sy'n diflannu bellach wrth i dueddiadau manwerthu newid. Yr hyn sy'n gweithio'n dda yw'r mathau o drefi a gewch—. Rwy'n hoff iawn o Gaerfyrddin ei hun, a dweud y gwir, a'r ffordd y mae wedi'i chlystyru o amgylch y farchnad yno, ac mae'r canol yn hyfryd. Ond mae'n hyfryd am ei bod yn unigryw. Rydych chi'n mynd yno am ei fod yn brofiad unigryw ac rydych chi'n cael set hollol wahanol o siopau yno na phe baech chi'n mynd i Aberteifi, er enghraifft. Mae'n teimlo'n wahanol. Mae’n brofiad braf, felly mae’n gweithio’n dda, ac rwy’n canmol y cyngor yn fawr iawn ar ei strategaeth. Mae’n strategaeth y buom yn ei hybu drwy Cymru’r Dyfodol hefyd, a chredaf ei bod yn un lle gall pobl ymfalchïo yn unigoliaeth eu pentref neu dref neu ddinas, beth bynnag y bo.

13:40
Diogelu Adeiladau Hanesyddol

2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyfraith gynllunio i gryfhau mesurau i ddiogelu adeiladau hanesyddol? OQ61246

Diolch am eich cwestiwn, Jenny. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol, gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, a pholisi cynllunio, sy’n cynnwys ‘Cymru’r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040’, ‘Polisi Cynllunio Cymru’ a nodyn cyngor technegol, neu TAN 24, ar yr amgylchedd hanesyddol, gyda’i gilydd yn darparu fframwaith cadarn i sicrhau bod adeiladau hanesyddol a'r amgylchedd hanesyddol ehangach yn cael eu gwarchod, eu cadw a'u gwella.

Wel, mae'n ddiddorol eich clywed yn dweud bod hwn yn fframwaith cynllunio cadarn, gan fod sawl mater wedi codi yn fy etholaeth i, sy'n dynodi nad yw cyfraith cynllunio wedi bod ar yr ochr iawn o ran cadw adeiladau hanesyddol. Felly, bu’n rhaid cludo tafarn y Vulcan i amgueddfa Sain Ffagan i gael ei hadnewyddu’n gariadus yno, ac mae sawl cynllun wedi bod i ddymchwel tafarn hanesyddol Roath Park ar Heol y Ddinas—ffasâd hardd iawn—dros y degawd diwethaf, er y byddai'r adeilad tri llawr wedi bod yn addas iawn i'w drawsnewid yn fflatiau. Mae wedi cymryd ymdrech aruthrol gan gynghorwyr lleol i fywiogi’r gymuned leol, llunio deisebau, gorfodi cynlluniau i gael eu newid, a diolch i’r ymdrechion hynny, bydd ffasâd y dafarn, sy’n dyddio’n ôl i 1886, yn cael ei achub. Nid wyf yn siŵr a fyddech chi hyd yn oed yn eu disgrifio fel enghreifftiau o lwyddiant, ond o leiaf mae rhywbeth yn cael ei adfer. Ledled Cymru, mae ein hadeiladau hanesyddol yn dadfeilio o flaen ein llygaid mewn llawer o achosion, gan fod ysguboriau a arferai gael eu defnyddio, neu dai ar gyfer gweithwyr tir, yn wag, ac mae pobl leol yn ei chael hi'n anodd iawn defnyddio’r gyfraith gynllunio i warchod yr adeiladau hanesyddol hyn—

—iawn, o'r gorau—heb yr arloesi sydd ei angen i'w haddasu i anghenion modern. Felly, sut y gallai’r system gynllunio ddod yn fwy dynamig i warchod treftadaeth ein hadeiladau, gan eu gwneud yn addas at y dyfodol ar yr un pryd?

Diolch, Jenny. Felly, mae yna rai cymhlethdodau ynghylch pwy sy'n gyfrifol am restru beth. Felly, mae’r penderfyniad i restru adeilad yn amlwg yn seiliedig ar ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad, sy’n amlwg. Lle nad yw wedi'i restru, gallwch ofyn am ei restru yn y fan a'r lle, ond mae angen i hynny nodi tystiolaeth newydd nad oedd ar gael yn flaenorol o bosibl, neu esbonio pam y cafodd ei anwybyddu yn y gorffennol. Ond unwaith eto, nid yw hynny'n rhwystr ofnadwy o fawr—gŵyr pob un ohonom am adeiladau sydd wedi eu rhestru yn y fan a'r lle. Ac wedyn, mae adeiladau’n cael eu hychwanegu at y rhestr, naill ai o ganlyniad i arolwg o ardal benodol neu fath arbennig o adeilad, neu'n dilyn cais gan awdurdodau lleol, cymdeithasau, cyrff neu unigolion eraill, neu grwpiau cymunedol yn wir, ac rwy’n ymwybodol o sawl achos o hynny.

Cadw sy'n gwneud hyn ar lefel genedlaethol, ond yr awdurdodau lleol, nid Llywodraeth Cymru drwy Cadw, sy’n nodi ac yn diogelu adeiladau o bwysigrwydd lleol. Ac er bod llawer o adeiladau nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer pwysigrwydd cenedlaethol, yn union fel y dywedwch, mae llawer o adeiladau yn cyrraedd y trothwy ar gyfer pwysigrwydd lleol—maent yn arbennig o hoff gan drigolion yr ardal leol, neu mae ganddynt arwyddocâd hanesyddol arbennig mewn ardal leol iawn, a gall yr awdurdod lleol eu rhestru ar y sail honno. Mae gan Gyngor Caerdydd, sy'n amlwg yn gyfrifol am yr ardal y soniwch amdani, restr o adeiladau pwysig. Mae'n cadw'r rhestr honno, a deallaf ei fod yn adolygu'r rhestr ar hyn o bryd. Mae gan gynghorau hefyd yr hyn a elwir yn 'gyfarwyddyd erthygl 4'. Felly, golyga hynny y gallu i sicrhau bod yn rhaid ichi gael caniatâd cynllunio llawn er mwyn gwneud unrhyw beth i adeiladau rhestredig penodol a gedwir ganddynt ar y rhestr. Felly, mae ganddynt bwerau eithaf helaeth. Rwy'n tybio mai​​'r hyn rydych chi'n sôn amdano yw sut y byddech chi'n sicrhau bod y cyngor yn arfer y pwerau hynny, a chredaf fod hynny'n gyfuniad o sicrhau bod y cynghorwyr lleol yn ymwybodol. Rwy'n ysgrifennu at awdurdodau lleol o bryd i'w gilydd i'w hatgoffa bod ganddynt y pwerau hyn. Ac ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog diwylliant, Dawn Bowden, yn ei swydd flaenorol at yr holl gynghorau i'w hatgoffa bod ganddynt y pwerau i wneud hyn. Ni allaf wneud sylw ar dafarn Roath Park am ei fod yn gais cynllunio gweithredol sydd ar y gweill, felly ni allaf wneud sylw ar fanylion hynny. Ond gwn fod gan Gaerdydd restr weithredol a'u bod yn ei hadolygu ar hyn o bryd. Felly, efallai fod nawr yn amser da iawn i sicrhau bod unrhyw beth rydych am iddo gael ei gadw wedi'i nodi ar y rhestr honno.

Ac yna, ar y pwynt olaf, penderfyniad i'r cyngor yw peidio â chaniatáu i ddatblygwr ddymchwel adeilad hyd nes bod ganddynt ganiatâd cynllunio penodol a chontract wedi'i osod ar gyfer yr adeilad newydd sy'n cyd-fynd ag ef. Oherwydd yn aml, mewn awdurdodau lleol, credaf fod y gwaith dymchwel yn digwydd cyn y gweddill. Felly, rwy'n fwy na pharod i atgoffa awdurdodau lleol fod ganddynt bŵer i gyflwyno hynny fesul cam, fel y gallwch roi'r amddiffyniad mwyaf i ffasadau ac ati, oherwydd, os cânt eu gadael i sefyll heb eu cynnal am flynyddoedd lawer, gallant ddod yn anodd eu defnyddio. Os hoffech gysylltu â mi, rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at gynghorau i'w hatgoffa bod pwerau ar gael i allu gwneud pethau yn y cyswllt hwnnw.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Mae’n dda gallu gofyn cwestiynau i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi gweithio gyda'n gilydd mewn rôl wahanol, pan oeddwn yn arweinydd, ac felly mae'n braf rhyngweithio ar yr un pwnc. Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y byddech yn cytuno bod gwasanaethau da a ddarperir gan lywodraeth leol yn gwbl hanfodol mewn sawl ffordd, ac yn sicr yn allweddol i helpu pethau, megis lleihau’r galw ar y GIG, er enghraifft. Fodd bynnag, wrth i'w hadnoddau leihau, mae awdurdodau lleol wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd sy’n erydu’r cyfle i wasanaethau, megis hamdden a gofal cymdeithasol, allu ymateb i’r darlun ehangach hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, a all y teulu llywodraeth leol fod yn hyderus y byddwch yn dadlau'r achos dros eu gwasanaethau i’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, gan gydnabod y gallent chwarae rhan allweddol wrth helpu i fynd i’r afael â phroblemau a wynebir mewn rhai meysydd, megis iechyd?

Diolch am eich cwestiwn, Peter. Rwy’n cytuno’n llwyr â hynny, a gwn eich bod yn gwybod hynny, gan inni weithio gyda'n gilydd yn agos iawn, fel y dywedwch, yn ystod y pandemig COVID, pan oeddech chi'n arweinydd Cyngor Sir Fynwy a minnau’n Weinidog llywodraeth leol. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi ymrwymo’n llwyr i lywodraeth leol a’i gallu i gynorthwyo gydag ystod o broblemau, gan fod yr atebion yn aml yn yr hanfodion. Hynny yw, nid oes unrhyw amheuaeth fod cynghorau wedi wynebu mesurau cyni difrifol. Ond hyd yn oed yn y cyd-destun hwnnw, mae pethau y gellir eu gwneud. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn deall y pwysau penodol.

Credaf mai un o’r pethau pwysicaf y buom yn gwthio amdanynt ers peth amser, ac rwy'n awyddus i barhau i wthio amdano, yw’r setliad amlflwydd, oherwydd, am yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael setliadau un flwyddyn, am fod Llywodraeth Cymru wedi cael setliadau un flwyddyn. A chredaf mai un o'r problemau yn hynny o beth yw na allwch gynllunio ar gyfer y dyfodol mewn ffordd sy'n golygu bod gwasanaethau anstatudol, sy'n hanfodol serch hynny, fel gwasanaethau hamdden—mae gwasanaethau ieuenctid yn un arall—mae'n anodd iawn i'r cyngor gynllunio eu gwariant ar y gwasanaethau anstatudol hynny, pan nad oes setliad amlflwydd. Felly, rwyf wedi bod yn gwthio’n galed iawn i sicrhau setliad amlflwydd. Mae'n anodd iawn pan nad oes gennym un. Ond rydym yn obeithiol iawn y gallwn berswadio pwy bynnag fydd y Llywodraeth newydd mai setliadau amlflwydd yw’r ffordd ymlaen, ac mae hynny’n caniatáu cynllunio a chyllidebu priodol yn y sector cyhoeddus.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac rwy'n cytuno â hynny. Rwy’n deall yr hyn sy'n wynebu'r cynghorau. Fe wyddom, serch hynny, mai'r setliad a gawsom yma yng Nghymru yw'r mwyaf a gawsom erioed yn ôl pob tebyg. Fodd bynnag, fe wyddom fod llywodraeth leol wedi cael toriad mewn termau real yn y gyllideb ddiwethaf hon, er eu bod yn cydnabod bod angen £600 miliwn o refeniw ychwanegol arnynt. Nawr, gwn nad yw'r arian hwnnw ar gael, ond mae angen i bawb ddeall goblygiadau tanfuddsoddi. Mae llawer o wasanaethau allweddol yn y fantol fel y gwyddoch, megis gofal cymdeithasol, lle mae llawer iawn o angen heb ei ddiwallu yn wythnosol ledled y wlad; addysg, lle mae ysgolion yn ei chael hi'n anodd cadw'r staff sydd eu hangen arnynt; a gwyddom fod llawer o wasanaethau disgresiynol yn cael eu taro’n galed ac ar ymyl y dibyn. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gyngor y byddech yn ei roi i arweinwyr cynghorau sy’n pryderu am y dyfodol? Ble dylent fod yn canolbwyntio eu bwyell mewn gwirionedd?

Rwyf wedi cychwyn ar ryw fath o daith draddodiadol i Weinidog llywodraeth leol newydd o gwmpas yr awdurdodau lleol. Cyfarfûm â bron i bob un o’r awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru yr wythnos diwethaf; ni lwyddais i drefnu cyfarfod ag un ohonynt. Rwyf hefyd yn cyfarfod—fe fyddwch yn cofio hyn o'ch amser chi fel arweinydd, Peter—â'r grwpiau gwleidyddol. Felly, y bore yma, cyfarfûm ag arweinwyr y grwpiau annibynnol a buom yn trafod ystod o faterion. Mae gennyf gyfarfod rheolaidd wedi'i drefnu gydag arweinwyr y grwpiau, ac yna mae gennyf gyfarfod bob pythefnos, yn union fel y gwnaethom gyda COVID—rwyf wedi ei ailgyfansoddi—lle bydd yr arweinwyr a'r prif weithredwyr yn dod ynghyd a byddwn yn mynd i'r afael â materion penodol sydd wedi'u codi yn y cyfarfodydd unigol a'r cyfarfodydd grŵp i weld a allwn ddod o hyd i atebion i rai o’r problemau sydd o fudd i bawb.

Felly, i roi enghraifft i chi, mae’n anodd iawn recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae gennym broblem lle mae awdurdodau lleol yn cystadlu â’i gilydd, gyda phob un ohonynt yn cynnig tâl atodol mewn maes penodol, sy'n wych iawn i’r gweithiwr gofal cymdeithasol unigol gan y gallant symud o gwmpas a chynyddu eu cyflog, ond nid yw mor wych i'r gwasanaeth, am ei fod yn arwain at newid staff ac ansicrwydd. Felly, mae gweithio gyda nhw i sicrhau bod gennym strwythur tâl unedig, fod gennym ddealltwriaeth o sut olwg a ddylai fod ar y gwasanaeth rhanbarthol hwnnw, a sut y gallwn wneud y defnydd gorau o adnoddau prin yn un o’r pethau a wnawn.

Mae nifer o broffesiynau ledled Cymru yn brin o staff. O fy nghyfnod fel Gweinidog newid hinsawdd, gwn fod prinder gwirioneddol o beirianwyr llifogydd ledled Cymru. Rwyf wedi bod yn siarad â grwpiau rhanbarthol o awdurdodau lleol ynglŷn â sut y gallem rannu'r arbenigedd sydd yno. Er enghraifft—gwn eich bod yn gyfarwydd â hyn—mae cynllunio mwynau, er enghraifft, yn arbenigedd, ac fe'i gwneir gan ddau awdurdod, sef sir y Fflint yn y gogledd a sir Gaerfyrddin yn y de. Mae pawb yn cael eu cyngor ganddynt, fel nad ydym yn pysgota yn yr un pwll, nid ydym yn achosi prinder adnoddau. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae hwnnw'n arbenigedd sydd ei angen ar bawb o bryd i'w gilydd, ond nid oes unrhyw un ei angen drwy'r amser. Felly, mae rhai atebion y gellir eu rhoi ar waith. Maent yn ymwneud â chydweithio a gwaith tîm, fel y gwyddoch.

13:50

Diolch am hynny. Rwyf am barhau â'r thema hon gan y credaf ei bod yn bwysig iawn fod llywodraeth leol yn cael ei hystyried yn chwaraewr hollbwysig wrth ysgogi llawer o bethau. Yn anffodus, yn y lle hwn, teimlaf weithiau na roddir digon o ystyriaeth i lywodraeth leol ac efallai ei bod yn ôl-ystyriaeth, lle dylai fod yn hollbwysig wrth ysgogi llawer o’r newid hwnnw.

Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi fod angen dull cyfannol, cydgysylltiedig o ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Nid yw'r dull portffolio yn hwyluso dyfodol cynaliadwy i lywodraeth leol, gan mai'r sector yn aml sy'n dioddef wrth i'r Llywodraeth fynd ar drywydd blaenoriaethau eraill.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ystyried hwyluso uwchgynhadledd llywodraeth leol efallai—gwn eich bod yn cyfarfod ag unigolion—i osod y sylfeini ar gyfer dyfodol cynaliadwy i'n cynghorau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu? Gwasanaethau y gwyddom eu bod mor hanfodol bwysig i'r gymdeithas gyfan. Gwn fod CLlLC wedi gwneud pethau felly o’r blaen, ond credaf ein bod mewn cyfnod lle rydym o dan bwysau mor sylweddol, byddai cydnabod bod y cynghorau’n ei chael hi’n anodd ac y gallant chwarae rhan mor hollbwysig yn y darlun ehangach, cyfannol, yn mynd yn bell i osod y sylfeini a sicrhau mwy o gydnabyddiaeth i’r maes gwasanaeth.

Nid wyf yn siŵr a fyddem yn ei galw'n uwchgynhadledd, ond mae gennym rywbeth tebyg iawn ar waith. Unwaith eto, rwy'n dilyn patrwm a oedd gennyf pan oeddwn yn y sedd hon ddiwethaf. Ers ichi gael eich ethol i'r lle hwn, Peter, credaf fod pethau wedi newid i raddau. Bellach, mae pob arweinydd a phob prif weithredwr yn cael eu gwahodd i'r cyngor partneriaeth—credaf mai is-set a oedd yn cael eu gwahodd pan oeddech chi'n arweinydd—ac rydym yn gwneud hynny’n fwriadol, fel y gallwn wneud yn union fel rydych chi newydd ei ddweud. Rydym hefyd yn gwahodd sefydliadau partner i’r rheini, fel y gallwn sicrhau ein bod yn cael sgwrs sy’n cynnwys iechyd, er enghraifft, neu’n cynnwys sefydliadau partner eraill.

Mae gennyf hefyd gyfrifoldeb gweinidogol dros Academi Wales, ac rydym wedi bod yn gwthio’r pwynt ynghylch un gwasanaeth cyhoeddus. Mae hynny'n swnio mor syml, onid yw? Ond mewn gwirionedd, mae'n gymhleth iawn. Mae hyd yn oed symud staff rhwng awdurdodau lleol ar secondiad yn gymhleth. Mae eu symud rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn hynod o gymhleth gan fod y cynlluniau pensiwn yn wahanol ac yn y blaen. Serch hynny, rydym yn benderfynol o wneud iddo ddigwydd. Felly, un o’r themâu yn uwchgynhadledd arweinyddiaeth Academi Wales yr haf hwn fydd un gwasanaeth cyhoeddus Cymru, gyda’r bwriad o wneud yn union hynny, sicrhau bod cydweithwyr ym maes iechyd ac yn Llywodraeth Cymru ac mewn llywodraeth leol yn gweithio gyda’i gilydd fel cyfanwaith di-dor. Oherwydd, fel y dywedoch chi, yn gywir ddigon, llywodraeth leol yw’r sylfaen dda, gadarn, os mynnwch, ar gyfer y rhan fwyaf o weddill y gwasanaethau.

Ac rwyf hefyd wedi bod yn gofyn i fy nghyd-Aelodau ar draws Llywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn dod drwy fy swyddfa, pan fyddant yn gofyn am bethau gan lywodraeth leol, fel y gallwn gadw llygad ar faint mae Llywodraeth Cymru yn ei ofyn i awdurdodau lleol, a pheidio â’i wneud, fel y dywedwch, mewn seilos portffolio, fel y gallwn gadw llygad ar hynny yn gyffredinol. Felly, credaf fod y syniad rydych chi wedi'i gyflwyno yn rhywbeth y mae gennyf gryn ddiddordeb ynddo. Ni chredaf ein bod wedi ei galw'n uwchgynhadledd, ond rwy'n credu bod y syniad yn un da.

13:55

Diolch, Lywydd. Wel, yr wythnos diwethaf, beirniadodd ymgeisydd Llafur Gorllewin Abertawe yn yr etholiad cyffredinol, Torsten Bell, y Llywodraeth Dorïaidd am ganiatáu i’r dreth gyngor annheg godi’n gyflymach ac yn gyflymach na chwyddiant flwyddyn ar ôl blwyddyn. Nawr, rwy’n sylweddoli, fel rhywun heb unrhyw gysylltiad blaenorol â Chymru, efallai nad oes gan Mr Bell y wybodaeth ddyfnach am ddatganoli yng Nghymru nac o record ei blaid yma, a bod y ffaith bod pedwar o chwe addewid etholiad cyffredinol Llafur ar gyfer Cymru wedi bod yn gyfrifoldebau i Lywodraeth Cymru ers peth amser, yn golygu nad yw’n cael darlun cywir iawn, yn ôl pob tebyg, o bencadlys ei ymgyrch ei hun ychwaith. Felly, er budd Mr Bell a gweddill ei gyd-ymgeiswyr Llafur, sydd wedi cael eu parasiwtio i seddi Cymru ar gyfer yr etholiad hwn, a allech chi eu hatgoffa, ar gyfer y cofnod, pwy sy’n gyfrifol am bolisi ariannu llywodraeth leol, gan gynnwys polisi’r dreth gyngor, yma yng Nghymru? Ac a allech chi ei atgoffa hefyd faint yn uwch na chwyddiant y mae wedi codi, ar gyfartaledd, ar gyfer eiddo band D yn ystod y flwyddyn ariannol hon?

Wel, nid wyf yn mynd i dderbyn hynny, Cefin; mae'n drueni mawr eich bod wedi mynd i lawr y trywydd hwnnw. Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw ein bod yn credu'n wirioneddol mewn llywodraeth leol yng Nghymru. Nid ydym erioed wedi gosod cap ar drethi cyngor yma, gan y credaf fod awdurdodau lleol yn cael eu hethol yn lleol, yn cael eu hethol yn ddemocrataidd, a dylent fod yn gyfrifol am yr hyn y maent am ei wneud yn lleol, a mater iddynt hwy ydyw, yn bendant iawn. Wrth gwrs, mae gennym gryn ddiddordeb mewn edrych ar ganlyniadau hynny.

Felly, mae effaith gerio’r dreth gyngor, oherwydd y gwahanol werthoedd tir yng Nghymru, yn ddiddorol iawn. Felly, mae'r gerio ym Mynwy, er enghraifft, yn wahanol iawn i'r gerio ym Mlaenau Gwent, felly rydym wedi bod yn edrych ar hynny. Pan oedd y cytundeb cydweithio ar waith, fe fyddwch yn gwybod ein bod yn edrych ar rai o'r anghysondebau mewn perthynas â hynny, ac rwy'n awyddus iawn i fynd ar drywydd hynny. Felly, mae mater gwirioneddol yn codi ynghylch tegwch o ran ble mae—nid wyf yn gwybod beth i'w galw—cyfran band D, mae'n debyg, yn ffitio, a faint rydych chi'n ei dalu mewn gwahanol leoedd. Ac nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gyfarwydd â data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n dangos faint o dai ym mhob band sydd ym mhob awdurdod lleol, ond mae hynny'n siarad cyfrolau, onid yw? Oherwydd mewn rhai awdurdodau lleol, prin fod unrhyw dai dros F a G; ac mewn rhai eraill, mae pob un ym mand A, B, C, D.

Felly, rwy’n awyddus iawn i sicrhau nad yw’r holl waith a wnaed yn rhan o’r cytundeb cydweithio—gwn fod fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yn awyddus i sicrhau hyn hefyd—yn cael ei golli, a’n bod yn sicrhau y gallwn gytuno gyda’n hawdurdodau lleol ar ffordd o edrych ar y dreth gyngor, i sicrhau ein bod yn deall sut i leddfu effaith gerio peth o hynny yn y ffordd orau. Ac rydym yn mynd ar drywydd polisi gwahanol i'r un yn Lloegr, oherwydd credaf fod Llywodraeth Cymru yn credu mewn democratiaeth leol, ac rydym am sicrhau bod llais gan ein cynghorwyr lleol mewn perthynas â chyllido eu hawdurdodau lleol.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, ac rwy'n mynd i ddod at un o'r pwyntiau hynny a godwyd gennych. Er gwaethaf amryfusedd anffodus Mr Bell, mae ei bwynt ynglŷn â natur sylfaenol atchweliadol system y dreth gyngor yn rhoi baich anghymesur ar aelwydydd incwm is yn ddilys iawn, ac adleisiwyd hynny gennych yn eich ateb.

Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu dros ddiwygio yn y maes hwn ers blynyddoedd lawer, ac fel y sonioch chi'n gynharach, dyna pam oedd gennym ymrwymiad yn ein cytundeb cydweithio â’r Llywodraeth hon i weithredu system decach a mwy blaengar o fewn tymor y Senedd hon. Ond mae penderfyniad unochrog y weinyddiaeth newydd hon i ohirio’r diwygio hirddisgwyliedig hyd at 2028 ar y cynharaf yn nodweddiadol o’i thuedd ehangach i flaenoriaethu goroesiad gwleidyddol y Prif Weinidog uwchlaw buddiannau pobl Cymru. Dyma un o nifer o resymau pam nad oedd gennym unrhyw ddewis ond tynnu'n ôl o'r cytundeb.

Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i Fil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) sydd ar y ffordd a fyddai’n rhoi mis Ebrill 2025 fel dyddiad ar wyneb y Bil ar gyfer rhoi'r diwygiadau hynny ar waith. Byddai hyn yn sicrhau y gallai aelwydydd incwm is elwa ar system dreth gyngor decach yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet alw ar ei chyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, i gefnogi’r gwelliant hwn? Ac os na, a yw'n derbyn y bydd hyn yn gwreiddio annhegwch systematig yn y ffordd y caiff ein llywodraeth leol ei hariannu am y pedair blynedd nesaf o leiaf?

14:00

Diolch, Cefin. Roeddwn yn gwerthfawrogi'n fawr y sgyrsiau a gawsom i gyd am beth i'w wneud am y dreth gyngor. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno nad yw'r dreth gyngor yn dreth sy'n addas i'r diben. Ni allaf gofio yn union ble roedd hyn, felly maddeuwch i mi, efallai ei fod cyn neu ar ôl i'r cytundeb cydweithio ddod i ben, ond fel rhan o'r ymgynghoriad cawsom ystod eang iawn o ymatebion gan awdurdodau lleol eu hunain yn amrywio o un neu ddau a oedd yn frwdfrydig i rai a oedd yn gwrthwynebu hyn yn gyfan gwbl, i bron bob ymateb yn y canol. O ystyried ble maent arni a faint o bethau y maent yn ymgodymu â nhw, y farn y daethom iddi oedd bod hwn gam yn rhy bell ar hyn o bryd.

Nid wyf yn credu bod y dyddiad rydych chi newydd ei grybwyll yn bosibl nawr o ran sefydlu a rhedeg y peth beth bynnag, oherwydd roedd yn rhaid gwneud penderfyniad er mwyn deall beth yw'r dyddiad gweithredu. Bil fy nghyd-Aelod Rebecca Evans ydyw, nid fy Mil i, ond yn amlwg rwy'n gysylltiedig ag ef. Rwy'n eithaf sicr nad yw'n bosibl ei wneud erbyn y dyddiad hwnnw, hyd yn oed pe baem eisiau gwneud hynny. Ond gyda chalon drom, daethom i'r farn fod hynny gam yn rhy bell i lywodraeth leol o ystyried y set o bethau yr oeddent yn ymdopi â nhw ar hyn o bryd.

Ond yn bersonol, rwyf wedi bod yn gwthio yn y Llywodraeth, gan edrych eto ar gynllun rhyddhad y dreth gyngor, oherwydd credaf mai un o'r pethau rydym am edrych arnynt yw effaith peidio ag ailbrisio ar aelwydydd band A a band B. Nid yw hynny'n gymorth i'r awdurdod lleol ei hun. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld beth y gallwn ei wneud i helpu'r teuluoedd unigol a fyddai efallai wedi gweld gostyngiad yn eu biliau yn yr argyfwng costau byw hwn ac na fyddant yn gweld hynny nawr oherwydd hyn. Felly, rwy'n awyddus iawn ac rwy'n hapus i drafod gyda chi i weld a fyddai unrhyw beth y gallem ei wneud am yr unigolion hynny.

Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym yn cefnogi'r awdurdodau lleol gyda'r grant cynnal refeniw. Rydym yn wynebu cyllidebau sy'n crebachu, fel y gwyddoch, ac rwyf yng nghanol trafodaethau hir gydag awdurdodau lleol ynghylch sut mae'r fformiwla honno'n gweithio. Ond maint y gacen yw'r broblem yn y pen draw onid e, nid pa mor fawr yw'r tafelli. Oherwydd os yw'r gacen y maint hwn a'ch bod chi'n ei hail-dorri, mae rhywun yn colli tra bo rhywun arall efallai'n ennill ychydig. Felly, y broblem go iawn yw nad yw'r gacen yn ddigon mawr, ac ni allwn ddatrys hynny oni bai bod gennym lywodraeth wahanol yn San Steffan, felly yn amlwg, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Torsten ac eraill yn cael eu hethol fel y gallwn gael llywodraeth Lafur ar ôl 4 Gorffennaf.

Diolch am yr ateb hwnnw. Fe dderbyniaf yr hyn a ddywedwch am y sgyrsiau ar ddiwygio'r dreth gyngor, oherwydd mae'n rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon.

Nid Llafur Cymru yn unig sy'n dangos diffyg difrifoldeb ynghylch yr heriau mawr yn ystod yr ymgyrch etholiadol hon. Mae pobl fel y Resolution Foundation a'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi tynnu sylw yn briodol ddigon at y ffaith bod arweinwyr y Torïaid a'r Blaid Lafur yn ymwrthod â realiti cyflwr cyllid cyhoeddus y DU. Mae'r realiti wedi'i nodi'n glir iawn gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol: i'r ddwy blaid gyflawni eu nod datganedig o leihau dyled fel cyfran o gynnyrch domestig gros o fewn pum mlynedd, bydd yn rhaid iddynt ymdopi â thwll du o oddeutu £30 biliwn yn y pwrs cyhoeddus, a chyda'r naill blaid na'r llall yn dadlau'r achos dros gynlluniau codi trethi blaengar fel alinio treth enillion cyfalaf â threth incwm, mae hyn yn golygu bod rownd newydd o fesurau cyni ar y ffordd, ni waeth pwy fydd yn ennill ar 4 Gorffennaf.

Mae goblygiadau'r pwysau ar adnoddau i'w gweld yn y ffaith bod cynghorau bwrdeistref sirol Torfaen a Blaenau Gwent wedi cyhoeddi y byddant yn rhannu prif weithredwr am y dyfodol rhagweladwy. A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, felly, ai'r tueddiad tuag at gyfuno adnoddau ar draws cynghorau yw'r cyfeiriad teithio y dylem ei ddisgwyl ar gyfer llywodraeth leol dros y blynyddoedd nesaf, ac a yw hi'n cefnogi'r tueddiad hwnnw?

Mae'n wir ddrwg gennyf. A wnaf i wisgo fy sbectol, a fyddai hynny'n helpu?

Mae'n wir ddrwg gennyf. Fe wnaf wisgo fy sbectol. Ymddiheuriadau mawr. Fy mhroblem i yw fy mod i wedi cyrraedd pwynt yn fy mywyd lle mae angen dau bâr o sbectol arnaf, a dim ond fy sbectol ddarllen sydd gennyf, felly mae arnaf ofn eich bod chi braidd yn aneglur i mi, ymddiheuriadau mawr.

Rwyf wedi rhoi cynnig arni lawer gwaith, Lywydd, ac rwy'n ofni eu bod yn gwneud i mi deimlo'n wirioneddol sâl.

Felly, rwy'n tueddu i wneud y math hwn o beth, nad yw'n dda. Felly, ymddiheuriadau mawr. Rwyf wedi colli fy lle'n llwyr erbyn hyn. O ie, rwy'n gwybod, y pwynt am rannu adnoddau. Yr ateb i hynny yw 'ydw'. Rwy'n credu bod yna rai adnoddau y dylid eu rhannu ac y gellid eu rhannu, a byddai'n effeithiol iawn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Soniais mewn ateb i Peter Fox yn gynharach fod nifer o broffesiynau sy'n anodd iawn recriwtio iddynt neu gadw staff ynddynt—yn anodd eu hyfforddi, hyfforddiant hir, ac ati. Mae gennyf restr o wyth neu 10 yn fy mhen a rennais gydag arweinwyr awdurdodau lleol ledled Cymru ac maent i gyd yn cyd-fynd â mi.

Mae'n ymddangos yn amlwg i mi, er mwyn cadw pobl fel cynllunwyr a pheirianwyr llifogydd a staff arbenigol o ryw fath neu'i gilydd—swyddogion rheoli adeiladu; mae yna ystod ohonynt ar draws nifer enfawr o broffesiynau—yr hyn y mae angen inni allu ei wneud yw darparu strwythur gyrfa o fewn llywodraeth leol sy'n cadw pobl yn y sector cyhoeddus ac nad oes iddo'r cyfraddau gadael a welir i mewn i'r sector preifat tua phum neu chwe blynedd ar ôl cymhwyso, lle mae pobl yn wynebu sefyllfa lle nad oes dyrchafiad iddynt os nad yw eu pennaeth yn gadael yn y pum mlynedd nesaf, ac felly maent yn edrych ar rywle arall. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i strwythurau gyrfa proffesiynol o fewn awdurdodau lleol er mwyn gallu cadw pobl. Rwy'n credu bod prif weithredwyr yn y categori hwnnw mewn gwirionedd. Mae'n waith anodd iawn i fod yn brif weithredwr awdurdod lleol. Mae'n rhaid i chi rychwantu ystod enfawr o wahanol wasanaethau a gwahanol fathau o bwysau, ac maent yn eithaf anodd dod o hyd iddynt ac nid ydynt yn cael llawer o glod, mae'n ymddangos i mi. Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny.

Mae yna wasanaethau eraill sy'n lleol iawn eu natur. Rydych chi am i reolaeth datblygu fod yn lleol, oherwydd, fel y dywedais mewn cwestiwn cynharach, nid wyf am weld trefi union yr un fath â'i gilydd ledled Cymru—rwyf am i awdurdodau cynllunio unigol gael cynlluniau penodol iawn ar gyfer eu trefi unigol, fel eich bod yn cadw natur annibynnol y dref honno. Rwy'n meddwl mai'r enghraifft a roddais oedd Aberteifi: os ewch chi i Aberteifi, rydych chi'n cael profiad gwahanol i'r un a gewch chi os ewch chi i rywle arall.

Mae'n ymwneud â'r hyn rydych chi'n ei olygu'n union a beth rydych chi'n ei rannu. Yn gyffredinol, rydym yn annog awdurdodau lleol i ddod at ei gilydd i ddarparu strwythurau gyrfa ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n anodd recriwtio iddynt ac i rannu arbenigedd. Mae'r enghraifft a ddefnyddiais am fwynau yn gynharach yn enghraifft glasurol o hynny. Nid oes angen arbenigwr mwynau 37.5 awr yr wythnos ar unrhyw awdurdod, ond mae pob un o'r awdurdodau gyda'i gilydd angen dau ohonynt, ac felly rydym wedi dod i drefniant lle mae'n cael ei ddarparu gan un awdurdod yn y gogledd ac un yn y de. Mae llawer o wasanaethau eraill lle byddai hynny'n gweithio'n dda iawn. Mae gennym lawer o enghreifftiau o awdurdodau lleol i gyd yn gofyn am gyngor cyfreithiol am yr un mater yn annibynnol, er enghraifft, lle byddai'n llawer haws cronni hynny. Mae cydweithredu'n allweddol, ond nid wyf yn ceisio eu cyfuno'n llechwraidd, os mai dyna a olygwch, oherwydd rwy'n credu bod llawer o bethau y gallem eu trafod lle mae'n bwysig eu bod yn cael eu gwneud yn lleol. 

14:05
Tai o dan Berchnogaeth Gyhoeddus a Chydweithredol

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am niferoedd y tai o dan berchnogaeth gyhoeddus a chydweithredol sydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru? OQ61235

Diolch yn fawr, Mabon. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi datblygiad tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned ac i alluogi pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu tai. Er enghraifft, dyfarnwyd bron i £900,000 i Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gŵyr o'r gronfa datblygu tir ac adeiladu ar gyfer datblygu 14 o gartrefi fforddiadwy di-garbon.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Mi ydych chi a phawb yma’n bresennol wedi cydnabod ac yn derbyn bod yna argyfwng tai gennym ni ac, wrth gwrs, yr ateb, o bosib, i'r argyfwng tai ydy adeiladu mwy o dai o dan berchnogaeth gyhoeddus. 'Tai cymdeithasol' ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio gan fwyaf am y peth. Ond mae yna ddiffyg arian ar gyfer hyn, ac mae'r arian sydd yn cael ei neilltuo yn gorfod cael ei rannu rhwng adeiladu tai neu 'retrofit-io' y tai presennol. Yn anffodus, dydyn ni ddim yn gweld bod y gyllideb yn mynd i gynyddu tuag at adeiladu mwy o dai chwaith, naill ai o dan y Llywodraeth bresennol neu’r Llywodraeth newydd fydd yn dod i mewn, felly mae'n rhaid inni edrych ar ffyrdd newydd o ddenu arian i adeiladu tai yma yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i fenthyg £150 miliwn y flwyddyn at ddibenion o'u dymuniad nhw, ond, hyd yma, yn ôl beth dwi'n ei weld, dydy'r Llywodraeth ddim wedi defnyddio'r galluoedd yna. Felly, pa drafodaethau ydych chi, Ysgrifennydd Cabinet, wedi eu cael efo'r Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid er mwyn gweld pa ddefnydd y gellir ei wneud o'r arian yna, ac a ydych chi am fenthyg arian er mwyn ei roi tuag at adeiladu tai cymdeithasol a thai o dan berchnogaeth gyhoeddus?

Diolch, Mabon. Mae'n syniad diddorol iawn. Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth Lafur newydd yn adolygu'r fframwaith cyllidol ar gyfer Cymru ac mewn gwirionedd yn ein rhoi ar sylfaen lawer gwell o ran benthyca darbodus na lle rydym ar hyn o bryd. Yn amlwg, byddai hynny'n gwneud llawer o synnwyr. Mae yna nifer o bethau y byddai'n synhwyrol benthyca ar eu cyfer, ac mae'r math o seilwaith rydych chi'n siarad amdano yn un ohonynt, felly mae gennyf ddiddordeb yn hynny yn sicr. Nid ydym wedi gwneud hynny am y tro oherwydd bod gennym nifer o alwadau eraill ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs ar ôl i chi fenthyca mae'n rhaid i chi dalu costau'r benthyciad. Mewn gwirionedd, rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol ar ein rhan i fenthyca i wneud pethau penodol, ac rydym yn eu cefnogi gyda refeniw ar gyfer hynny. Yn fy nghyllideb mae yna linell sydd â chymorth refeniw i awdurdodau lleol ar gyfer benthyca. Felly, rydym wedi cyfrifo ffordd o'i gwmpas, os mynnwch.

A dweud y gwir, er bod mwy o arian bob amser i'w groesawu—ac rwyf am ddweud hynny'n uchel iawn rhag ofn bod fy nghyd-Aelod o'r Cabinet dros gyllid yn gwrando—mae llawer o'r materion sy'n codi wrth adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru heb fod yn seiliedig ar gyllid mewn gwirionedd. Maent yn ymwneud ag ystod eang o bethau eraill. Felly, rydym yn gweithio ar lefel ronynnog iawn nawr gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr, am bob darn o dir ar gyfer tai yn y cynllun datblygu lleol, ein bod yn deall ble mae hynny yn y system gynllunio: a yw'r cynlluniau'n cael eu cyflwyno ar gyfer hynny? Beth yw'r tai yno? Faint o dai yw'r rheini? A ydynt yn adeiladu'r tai cymdeithasol yn gyntaf? Ac yn y blaen. Yn fy rôl flaenorol, roeddwn yn cadeirio'r uwchgynadleddau dŵr, ac mae fy nghyd-Aelod Huw yn gwneud hynny erbyn hyn. Rydym wedi llwyddo i ailddechrau nifer o'r safleoedd a oedd â phroblemau ffosffad, ond mae gennym lawer mwy i fynd. Rydym yn gweithio ar lefel fanwl iawn ar sut i wneud hynny. Roedd un o'r cynghorwyr arbennig a oedd gyda ni fel rhan o'r cytundeb cydweithio yn gwneud gwaith ardderchog ar hynny, ac yn ddiweddar rwyf wedi gofyn i Jack Sargeant fynd ar drywydd hynny ar fy rhan.

Rydym yn gwybod bod gennym ddigon yn y system gynllunio i allu cyrraedd ein targed. Yr hyn nad ydym yn ei wybod eto yw a allwn eu hadeiladu'n ddigon cyflym. Rwyf am gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w gosod ar rent, ond rwy'n poeni llawer mwy am gael digon ar y gweill mewn gwirionedd, oherwydd mae angen mwy na hynny arnom. Rydym am sicrhau bod gan y system gynllunio gapasiti o'i mewn i ddyrannu'r tai hynny a bod gennym ganiatadau cynllunio i ddod y gellir eu hadeiladu a fydd yn cynhyrchu'r tai rydym eu heisiau.

I fod yn glir iawn, nid ydym yn edrych ar ystadau un pwrpas yma. Nid wyf am weld ystad un ddeiliadaeth yn cael ei hadeiladu. Fel mae'n digwydd, roeddwn mewn cyfarfod y bore yma lle'r oeddwn yn uchel fy nghloch am y datblygiad tai yn Nhyddewi, a adeiladwyd gyda'r grant tai cymdeithasol, ond cyn yr archwiliadau presennol. Nid wyf yn gwybod os ydych chi'n gyfarwydd ag ef—yr un tu ôl i'r Premier Inn yn Nhyddewi. Rwy'n ddig iawn ynglŷn â'r datblygiad hwnnw, oherwydd maent wedi rhoi'r tai cymdeithasol i gyd ar un ochr a'r tai preifat i gyd ar yr ochr arall ac nid ydynt yn edrych yr un peth, ac nid dyna rydym ei eisiau. Felly, i fod yn glir iawn, mae'r canllawiau cynllunio presennol yn dweud y dylai tai cymdeithasol a adeiladwyd fel rhan o ddatblygiad deiliadaeth gymysg gael eu gwasgaru drwy'r datblygiad hwnnw a dylid adeiladu'r tai i gyd i'r un safon, sef y safon tai cymdeithasol. Felly, rwyf eisiau bod yn glir iawn: rydym eisiau'r niferoedd, ond rydym eisiau'r tai cywir hefyd, ac rydym eisiau tai carbon isel o ansawdd da sy'n cael eu hadeiladu fel nad oes angen ôl-osod arnynt ymhen 10 mlynedd, a'u bod yn dai am oes, yn addas ar gyfer y dyfodol.

Ac yna, fel rhan o'r ddeiliadaeth gymysg honno, rwy'n awyddus iawn i gael mathau eraill o deiliadaeth—felly, deiliadaethau rhannu ecwiti, deiliadaethau tai cydweithredol. Cefais gyfarfod gydag Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Solfa—mae fy nyddiau'n ymdoddi'n ddi-dor i'w gilydd; nid wyf yn meddwl mai bore yma oedd hynny—ddoe, rwy'n credu, ac fe wnaethom siarad ynglŷn â sut y gallwn gyflymu'r gwaith adeiladu ar gyfer hynny. Mae ymddiriedolaeth gymunedol Gŵyr yn digwydd yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, ac rydym yn gweithio'n galed iawn gyda Cwmpas i sicrhau ein bod yn cyflwyno tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned. Felly, rwy'n gobeithio fy mod yn paentio darlun o fod yn agored iawn i unrhyw fath o dai sydd wedi'u hadeiladu i'r safon gywir sy'n ein cynorthwyo i gael pobl allan o lety dros dro ac i mewn i'w cartref am oes.

14:10

Mae gan Gymru argyfwng tai, ac er i Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU lywodraethu dros y lefel isaf o adeiladu tai ers y 1920au, Llywodraeth Cymru oedd â'r lefel gyfrannol isaf o bell ffordd o wariant ar dai ymhlith pedair gwlad y DU erbyn 2010. Canfu adroddiadau annibynnol dilynol fod angen rhwng 12,000 a 15,000 o gartrefi newydd ar Gymru y flwyddyn, gan gynnwys 5,000 o gartrefi cymdeithasol, gan gynnwys y rheini mewn perchnogaeth gyhoeddus a chydweithredol. Nododd rhagolygon mwy cymedrol byth ar gyfer Llywodraeth Cymru fod angen hyd at 8,300 o gartrefi newydd y flwyddyn, ond dim ond 5,720 a gafodd eu darparu bob blwyddyn yng Nghymru ar gyfartaledd rhwng 2010 a mis Rhagfyr diwethaf. O ystyried bod ymchwil sector tai Cymru yn dangos arbediad o £2.30 i'r sector cyhoeddus am bob £1 sy'n cael ei gwario ar dai, pam mai dim ond 2,825 o gartrefi newydd ar gyfer rhent cymdeithasol a gwblhawyd yng Nghymru yn ystod tair blynedd gyntaf tymor y Senedd hon hyd at fis Rhagfyr diwethaf, yn erbyn targed Llywodraeth Cymru o 20,000 ar gyfer y tymor pum mlynedd, a pham mae ffigurau diweddaraf y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn dangos gostyngiad o 43 y cant yn nifer y cartrefi newydd sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru, yn gydradd olaf ymhlith 12 gwlad a rhanbarth y DU?

14:15

Wel, Mark, rwy'n gwybod eich bod chi wrth eich bodd gyda chyfres o ystadegau, felly gadewch imi roi rhai ystadegau i chi hefyd. Fe wnaeth Lee Rowley sylwadau pan oedd yn Weinidog tai ar raglen ar Radio 4, ac ef oedd yr unfed Gweinidog tai ar bymtheg ers 2010, felly mae bob amser yn braf gweld parhad yn y sector. Yn Lloegr, yn ystod cyfnod yr 16 o Weinidogion tai, mae tai cymdeithasol wedi gostwng. Felly, mae cyfuniad o werthu, dymchwel a chyfraddau adeiladu isel iawn wedi golygu bod llai o dai ar gael ar gyfer rhent cymdeithasol ar ddiwedd cyfnod o 14 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol nag a oedd yn y lle cyntaf. Felly, os ydych chi eisiau siarad am bethau gwarthus, mae hynny'n warthus. Mae'r ystadegau hynny'n hawdd eu canfod ac yn dryloyw iawn.

Yr hyn a wnaeth y Llywodraeth glymblaid yn 2010 oedd newid y meini prawf a chyflwynodd y categori rhent fforddiadwy fel y'i gelwid, ac yna fe wnaeth dorri'r grant tai 60 y cant, a oedd yn golygu bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn Lloegr yn cael eu gorfodi naill ai i adeiladu llawer llai o dai ar gyfer rhent cymdeithasol neu lawer iawn mwy o dai ar gyfer rhent fforddiadwy, ac mae hynny wedi arwain at chwalu'r sector rhent cymdeithasol.

Yma yng Nghymru rydym wedi dilyn trywydd gwahanol iawn. Rydym yn adeiladu tai ar gyfer rhent cymdeithasol—sef rhent rhwng 30 y cant a 50 y cant o rent y farchnad, nid 80 y cant o rent y farchnad—ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein rhaglen. Nid yw'n llinol; nid oeddem yn disgwyl adeiladu 4,000 ym mhob blwyddyn gan greu cyfanswm o 20,000. Fel y dywedais, mae'n rhaid ichi wneud cyfres gyfan o bethau i ddechrau'r rhaglen honno. Rhaid i chi gofio hefyd, Mark, hyd yn eithaf diweddar, nid oedd awdurdodau lleol â chyfrifon refeniw tai yn cael adeiladu tai cymdeithasol oni bai eu bod yn ad-dalu'r pecyn dyled cyfan. Hynny yw, ar ôl 40 mlynedd o nonsens gan y Ceidwadwyr ar hynny, fe wnaethoch chi newid eich meddwl o'r diwedd, ond mawredd, fe gymerodd amser hir. Mae dinistrio rhent cymdeithasol gan Lywodraeth Thatcher wedi bwrw ei gysgod dros y blynyddoedd, felly os ydych chi am siarad am ystadegau felly, rwy'n hapus iawn i wneud hynny.

Adeiladu Tai

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu yn Nwyrain De Cymru? OQ61232

Rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r cyflenwad tai, sicrhau bod gan bobl gartrefi sy'n diwallu eu hanghenion nawr ac yn y dyfodol. Yn 2022-23, cwblhawyd 5,785 o gartrefi newydd yng Nghymru, cynnydd o 10 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol; roedd 1,450 o'r rheini ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, sir Fynwy, Casnewydd neu Dorfaen.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Cafodd cais cynllunio i adeiladu 300 o gartrefi ar safle maes glas yn y Coed Duon ei gyflwyno yn 2018. Cafodd ei wrthod gan bwyllgor cynllunio'r awdurdod lleol, ac yn dilyn penderfyniad y datblygwr i apelio yn erbyn y cais, mae'n ymddangos ei fod wedi ei daflu yn ôl ac ymlaen rhwng Llywodraeth Cymru, yr Uchel Lys a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Nawr, mae bron i chwe blynedd wedi mynd heibio ac nid oes penderfyniad wedi'i wneud, gan adael y gymuned mewn limbo, yn aros am atebion. Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda chi drwy gwestiynau ysgrifenedig sawl gwaith nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n dal i aros am eglurder. Rwy'n credu bod cynghorau lleol yn yr ardal hefyd wedi codi'r mater hwn gyda chi, ac wedi gofyn am gyfarfodydd, ond yn anffodus, maent yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso braidd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n annerbyniol fod trigolion ac Aelodau etholedig yn cael eu hanwybyddu'n llwyr gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu cadw i aros. Maent eisiau ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac i fod yn deg â nhw, maent wedi bod yn aros yn amyneddgar ers blynyddoedd. Felly, a oes unrhyw ffordd y gallwn ni ddarganfod heddiw pryd y bydd penderfyniad ar y cais cynllunio hwn yn cael ei wneud o'r diwedd? Diolch.

Ni allaf wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio sydd ar y gweill, yn amlwg, ond ar y cais cynllunio rydych chi'n sôn amdano, mae'n apêl a adferwyd ar gyfer ailbenderfyniad, ac mae wrthi'n cael ei ystyried gan swyddogion. Bydd y penderfyniad yn cael ei wneud pan fydd hi'n iawn i wneud hynny. Rwy'n rhoi llawer mwy o bwyslais ar gael y penderfyniad yn iawn na'i gael yn gyflym. Mae wedi cymryd amser hir iawn; mae'n fater cymhleth iawn. Wrth gwrs, cyn gynted ag y gwneir y penderfyniad, byddwn yn cyfathrebu â'r holl Aelodau sydd wedi ysgrifennu atom yn ei gylch.

Adfywio Canol Trefi yn Sir Benfro

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i adfywio canol trefi yn Sir Benfro? OQ61223

Diolch, Paul. Ers mis Ionawr 2020 rydym wedi dyfarnu bron i £16 miliwn o gyllid drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi ledled sir Benfro. Mae'r cymorth hwn yn cael ei yrru gan gynlluniau creu lleoedd ar gyfer pob lleoliad.

Ysgrifennydd y Cabinet, gwrandawais yn ofalus iawn ar eich ymatebion cynharach ynghylch trefi a chanol trefi, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn pryderu am y gostyngiad yn nifer y siopau yng nghanol trefi fel Hwlffordd, sydd, ynghyd â chau banciau, yn cael effaith wirioneddol ar fywiogrwydd trefi fel Hwlffordd. Nawr, rwy'n derbyn bod y ffordd rydym yn siopa ac yn bancio wedi newid dros y blynyddoedd, ond mae'n hanfodol fod ymdrechion yn cael eu gwneud i adfywio canol ein trefi fel y gallant chwarae rhan wrth ddatblygu cymunedau cydgysylltiedig yn y dyfodol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud y stryd fawr yn gynnig deniadol i fusnesau ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ynghylch adfywio canol trefi yn sir Benfro?

14:20

Yn sicr, Paul. Felly, yn sir Benfro ei hun, rydym yn helpu sir Benfro i lunio rhywbeth o'r enw cynlluniau creu lleoedd. Maent yn cyflwyno cynlluniau creu lleoedd ar gyfer lleoliadau penodol ledled sir Benfro, ac mae hynny'n cynnwys Hwlffordd, Aberdaugleddau, Abergwaun, Wdig, er enghraifft. Felly, mae ganddynt gynlluniau penodol iawn ar gyfer pob un, ac mewn ymateb i nifer o gwestiynau heddiw, rwyf wedi siarad am yr angen i gael y cynlluniau penodol hynny, oherwydd rydym eisiau trefi unigol gyda chynlluniau unigol a chymeriad unigol. Rydym yn gwybod mai dyna sy'n denu pobl atynt, ac mae'n bwysig iawn cael yr hyn sy'n addas ar gyfer y dref honno a helpu'r dref honno i ddod i delerau â realiti newydd y ffordd y mae pobl yn siopa, bancio ac ati, ac i wneud yn siŵr fod yna gyrchfannau lle mae pobl eisiau dod at ei gilydd a chael coffi neu beth bynnag maent am ei wneud, ond wedyn gallant gael cyfle i gael profiad manwerthu lleol a phethau eraill.

Felly, rydym yn darparu grantiau bach o hyd at £250,000 ar gyfer prosiectau adfywio ar raddfa fach, yn benodol ar gyfer canol trefi llai a chanol trefi rhanbarthol neu is-ddinesig hefyd. Rydym yn ymdrechu'n galed iawn i weithio gyda'r awdurdod lleol i sicrhau nad dull un maint i bawb sydd gennym a bod gennym flas lleol iawn ar y cynlluniau creu lleoedd hynny. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y byddwch chi'n rhan o hynny. Os nad ydych chi, rhowch wybod i mi ac fe wnaf yn siŵr eich bod yn rhan o hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod cynrychiolwyr democrataidd lleol yn cael dweud eu dweud yn hynny ac yn gallu cynrychioli eu hetholaethau wrth wneud y cynlluniau hynny, oherwydd rwy'n credu ei bod o fudd i bawb ohonom sicrhau bod gennym y cynnig gorau ar gyfer y canol trefi bach hyn i sicrhau y gallwn ddenu'r ymwelwyr yn ôl.

Cyllidebau Awdurdodau Lleol

6. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r heriau sy'n wynebu cyllidebau awdurdodau lleol? OQ61244

Diolch, Peter. Mae'r galw am wasanaethau a chwyddiant costau wedi golygu bod awdurdodau wedi gwneud penderfyniadau anodd am wasanaethau a'r dreth gyngor wrth bennu eu cyllidebau. Mae ein sefyllfa gyllidebol ein hunain wedi golygu nad ydym wedi gallu bodloni'r holl ofynion y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu, ond rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr awdurdodau lleol i gytuno ar agenda ar gyfer trafod yr heriau penodol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr, mae'n adeg anodd i lywodraeth leol. Mae arian yn dynn, fel y mae'r ddau ohonom wedi dweud, ac mae disgwyliadau cyhoeddus ac angen demograffig yn parhau i dyfu hefyd. Ni allwn anwybyddu'r drafodaeth etholiadol, ac er y bydd angen i Ysgrifenyddion Cabinet unigol fynd i'r afael â'u meysydd portffolio, bydd gennych drosolwg o'r adnodd cyllid sydd ei angen ar draws llywodraeth leol. Gyda hynny mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa flaengynllunio rydych chi'n ei wneud gydag Ysgrifenyddion y Cabinet ar gyfer cyllid ac addysg ar baratoi ar gyfer unrhyw fewnlifiad o blant o'r sector addysg breifat sydd eisiau addysg yn ysgolion y wladwriaeth oherwydd treth ar werth ar ffioedd ysgol os cawn Lywodraeth Lafur yn y DU yn dilyn yr etholiad cyffredinol?

Rwy'n trafod materion amrywiol gyda fy nghyd-Ysgrifenyddion Cabinet drwy'r amser, Peter. Rwy'n gaeth iawn i wrando ar raglen Today ar Radio 4 yn y bore; rwy'n rhannu gormod o bosibl, ond nid wyf yn berson bore o gwbl, nid wyf yn hoffi deffro'n gynnar ac rwy'n gwrando arno am ei fod yn fy ngwylltio cymaint nes ei fod yn fy neffro'n dda. [Chwerthin.] Bore yma, fe'i dilynwyd yn syth gan raglen o'r enw You and Yours, sy'n canfod ffeithiau am fater, gan ddatrys honiadau amrywiol a wnaed gan amrywiol ymgeiswyr. Fel mae'n digwydd, dyna'r un roeddent yn ei chwalu y bore yma, lle roeddent yn dweud mai ychydig iawn o dystiolaeth oedd yna y byddai unrhyw effaith o'r fath ar bolisi o'r fath, ac mewn gwirionedd, roeddent yn meddwl na fyddai'r polisi yn cael bron ddim effaith ar faint ysgolion. Felly, rwy'n dyfynnu hynny yn ôl i chi.

Wrth gwrs, wrth drafod pethau gyda fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet, rydym bob amser yn ystyried tueddiadau y credwn y byddant yn effeithio ar ddemograffeg a maint dosbarthiadau ysgol, er enghraifft. A dweud y gwir, mewn sawl rhan o Gymru, byddai croeso mawr i gael niferoedd cynyddol, oherwydd rydym yn cael trafferth cadw rhai o'n hysgolion ar agor, ysgolion sy'n annwyl i'r boblogaeth leol. Cyd-ddigwyddiad yw hi mai y bore yma y cododd hynny fel rhan o un o bethau darganfod ffeithiau'r etholiad.

Targedau Tai Cymdeithasol

7. All wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynnydd wrth geisio cyrraedd nod y Llywodraeth i godi 20,000 o dai cymdeithasol ar gyfer y sector rhentu erbyn diwedd y Senedd hon? OQ61245

14:25

Diolch, Llyr. Mae'r targed o ddarparu 20,000 o gartrefi i'w gosod ar rent yn y sector cymdeithasol yn hynod heriol. Serch hynny, rydym wedi ymrwymo i ddarparu mwy o gartrefi i ddiwallu anghenion pobl nawr ac yn y dyfodol. Mae gennym y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad eisoes wedi'i ymrwymo i'r grant tai cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon, gyda'r bwriad o sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed, os yw'n bosibl.

Wel, rydych chi'n dweud ei bod hi'n hynod o heriol y mis hwn. Ym mis Ebrill, rwy'n credu eich bod wedi dweud wrth y Senedd eich bod chi'n cyrraedd y targed o drwch asgell gwybedyn. Nawr, gadewch inni fod yn onest, rwy'n credu erbyn hyn ei bod hi'n annhebygol y byddwch chi'n cyrraedd y targed hwnnw. Yn wir, yn ôl y diweddariad diweddaraf a ddarparwyd, rydych chi wedi darparu cyfartaledd o ychydig o dan 2,900 o unedau y flwyddyn yn ystod y tymor hwn. Ac ar y trywydd hwnnw, fe fyddwch chi gryn dipyn yn brin—tua 25 y cant yn brin—o'ch targed. Nawr, fe wyddom fod 90,000 o aelwydydd ar restrau aros am dai yng Nghymru, ac mae'n ymddangos efallai y byddant yn destun targed arall a fethwyd gan y Llywodraeth hon.

Nawr, mae eich plaid chi hefyd yn dweud eich bod chi, ar lefel y DU, yn anelu at adeiladu 1.5 miliwn o gartrefi dros y pum mlynedd nesaf, gyda 40 y cant ohonynt yn dai fforddiadwy. Pam y dylai pobl gredu'r fath addewid pan fo'ch record yng Nghymru yn adrodd stori wahanol iawn?

Wel, nid wyf yn meddwl bod hynny'n deg, i fod yn onest. Ac fel y dywedais wrth ateb cwestiwn cynharach, nid oeddem yn disgwyl adeiladu 4,000 bob blwyddyn; roeddem bob amser yn gwybod bod yn rhaid inni gyflwyno ymyriadau yn y lle cyntaf a fyddai'n cyflymu'r gwaith adeiladu, felly rydym yn disgwyl cyflawni llawer mwy yn ystod y ddwy flynedd olaf o dymor y Senedd hon nag y gallem ei wneud yn y ddwy flynedd gyntaf. Rwyf hefyd wedi dweud droeon yn y Senedd hon, wyddoch chi, ei fod ychydig fel bod neb yn disgwyl y chwilys Sbaenaidd, onid yw? Nid oeddem yn disgwyl COVID, wedi'i ddilyn gan Lywodraeth chwyddiant Liz Truss ac argyfwng costau byw a'r gweddill i gyd. Ac a bod yn onest, roeddwn i'n meddwl y byddem yn darparu'r 20,000 o unedau'n gymharol hawdd—nid oedd byth yn hawdd, ond yn gymharol hawdd—pan wnaethom osod y targed yn ôl yn 2021, ac mae bywyd wedi newid yn fawr iawn ers hynny.

Serch hynny, rydym yn dal ein gafael—ni waeth pa ymadrodd rydych chi'n ei ddefnyddio—o drwch asgell gwybedyn. Nid yw'n amhosibl cyrraedd y targed nawr, mae'n eithriadol o heriol. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cael targedau heriol iawn. Nid wyf am lacio'r targed, rwyf am wthio pobl mor galed â phosibl tuag at y targed hwnnw. Ac fel y dywedais, rydym yn gweithio nawr ar lefel fanwl iawn gydag awdurdodau lleol ledled Cymru, i lawr i 'Beth sydd gan y safle hwn arno yn y cynlluniau?', 'Ble mae arni yn y system gynllunio?', 'Beth ydych chi'n ei wneud ynglŷn â'i gyflwyno?', 'Ble mae'r grant tai cymdeithasol yn mynd?', ac ati, i geisio gwneud yn siŵr. Felly, os yw'r unedau yn y system gynllunio yn cael eu hadeiladu, byddwn yn cyrraedd y targed, ond mewn gwirionedd, credaf ei bod yn bwysicach o lawer sicrhau bod gennym lif parhaus, oherwydd ar ddiwedd tymor y Senedd hon, ni fydd gennym ddigon o dai yn sydyn iawn. Felly, bydd yn rhaid i bwy bynnag yw'r Llywodraeth ar ôl etholiad nesaf y Senedd gadw llif cyson o dai cymdeithasol da i'w gosod ar rent hefyd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig sicrhau bod gennym lif o'r fath. Ac yn hollol, cymerodd ychydig o amser i ni ei gyrraedd; roeddem yn cefnu ar COVID ac yna cawsom gyfres gyfan o bethau, yn anad dim, er enghraifft, nid wyf yn gwybod a fyddwch chi'n cofio, ond fe gododd cost pren ledled y byd i'r entrychion, ac fe gawsom broblemau gwirioneddol wrth gael cyflenwad ar gyfer hynny, a'r cyfan i gyd.

Felly, rwy'n cymryd y pwynt rydych chi'n ei wneud, ond nid wyf yn barod i fynd yn ôl ar y targed eto. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn parhau i wthio pobl i sicrhau ein bod yn codi cymaint o'r tai hynny â phosibl. Ac mae'n ddyletswydd arnom i'r bobl sydd mewn llety dros dro ledled Cymru i gael y tai hynny wedi eu hadeiladu ac yn weithredol cyn gynted â phosibl.

Llyfrgelloedd Cyhoeddus

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau mynediad i lyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Canol De Cymru? OQ61250

Diolch. Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol i ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i gefnogi datblygiad llyfrgelloedd cyhoeddus, gan gynnwys buddsoddiad diweddar o dros £900,000 ar gyfer platfform llyfrgell ddigidol a rennir, a chronfa gyfalaf i wella adeiladau a chyfleusterau llyfrgell. Mae'n ddrwg gennyf, bu bron imi wneud yr un peth i chi, Heledd, am fy mod i'n gwisgo'r sbectol anghywir. [Chwerthin.]

Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod gwasanaethau llyfrgelloedd wedi crebachu oherwydd y pwysau ar gyllidebau llywodraeth leol, ond mae'r angen am lyfrgelloedd mor amlwg ag erioed, wrth iddynt esblygu ac ymestyn darpariaeth fel hybiau cymunedol. Dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, mae dyletswydd arnoch chi yn bersonol i arolygu a hyrwyddo gwella'r gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus a ddarperir gan awdurdodau lleol. Ers 2002 mae Gweinidogion Cymru wedi cyflawni'r ddyletswydd yma drwy fframwaith safonau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru. Daeth y chweched fframwaith, sy'n gysylltiedig â hyn, i ben yn 2020 ac fe'i hymestynnwyd am ddwy flynedd oherwydd y pandemig. Allwch chi amlinellu sut y mae'r gwaith ar y seithfed fframwaith yn mynd rhagddo a phryd y bydd yn cael ei gyhoeddi?

14:30

Diolch yn fawr, Heledd. Nid oes gennyf y manylion penodol hynny, ond rwy'n eithaf hapus i ysgrifennu atoch gyda nhw. Ond fel y dywedwch, cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw darparu gwasanaeth cynhwysfawr o dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964. Rydym wedi darparu cynnydd o 3.3 y cant i setliad yr awdurdod lleol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i geisio sicrhau bod ganddynt ddigon o arian ar gyfer y gwasanaethau hanfodol hyn. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi: mae'r rhain yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer y gwasanaeth llyfrgell, os mynnwch, ond mewn gwirionedd, maent yn aml yn ganolfan gymunedol, yn fan cyfarfod, yn lle i adrodd straeon i blant, ac yn y blaen.

Rwy'n credu y bydd y platfform digidol a rennir yn ddefnyddiol iawn, fel y bydd pob llyfrgell ledled Cymru yn gallu cael mynediad at hwnnw ac yn gallu archebu llyfrau o fannau eraill ac yn y blaen. Bydd hynny'n helpu llyfrgelloedd lleol i fod o fwy o gymorth i'w poblogaethau lleol. Ac rydym newydd ddarparu £41,000 i gefnogi dau gynllun benthyciadau rhwng llyfrgelloedd rhanbarthol yn 2024-25, gan gynnwys un sy'n cwmpasu Canol De Cymru. Felly, rwy'n gobeithio ein bod yn gwneud ein rhan i geisio eu cynnal. Ond y gwir amdani yw nad oes digon o arian mewn gwasanaethau cyhoeddus ac mae angen inni sicrhau ein bod yn cael gwell cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Mae llyfrgelloedd yn un o'r gwasanaethau cymorth sy'n cynnal y system addysg, maent yn gwella'r system iechyd cyhoeddus; maent yn flociau adeiladu sylfaenol i gymdeithas wâr, onid ydynt? Yn sicr, wrth imi dyfu i fyny, roeddwn i'n mynd i'r llyfrgell bob wythnos gyda fy mam ac rwy'n cofio'r dyddiau hynny gyda phleser mawr. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod plant eraill yn cael y profiad hwnnw. Nid oes gennyf ateb penodol i'ch cwestiwn ar hyn o bryd, ond byddaf yn sicrhau eich bod yn cael yr ateb iddo. Ond hoffwn eich sicrhau ein bod yn awyddus iawn i wneud yn siŵr y gall holl ddinasyddion Cymru gael mynediad at wasanaeth llyfrgell ar ryw ffurf neu'i gilydd a sicrhau bod hwnnw mor hygyrch â phosibl.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.

Y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol

1. Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wireddu'r agweddau ar y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol a gyhoeddwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ddiweddar sy'n ymwneud ag addysg uwch? OQ61238

Rwy'n croesawu'r ymrwymiadau yn y cynllun gweithlu strategol ar gyfer deintyddiaeth sy'n ymwneud ag addysg uwch, megis cynyddu nifer y lleoliadau therapi deintyddol BSc a chomisiynu rhaglen gyfnewid lefel 5 i 6. Bydd y rhain yn cael eu harwain gan AaGIC a byddaf yn gofyn am ddiweddariadau ar gynnydd ar yr ymrwymiadau.

Rydym ni'n gwybod bod mwy o fyfyrwyr o Gymru yn mynd allan o Gymru i astudio cyrsiau deintyddiaeth is-raddedig mewn prifysgolion nag sy'n aros yma—20 yn aros yng Nghymru a 40 yn mynd allan, yn ôl y ffigurau diweddaraf. Ydych chi yn derbyn nad yw hynny'n synhwyrol nag yn gynaliadwy ar ôl buddsoddi yn ein pobl ifanc drwy'r gyfundrefn addysg, yn enwedig pan fo yna gymaint o angen am weithlu deintyddol yng Nghymru? Does yna ddim llawer o eglurder yn y cynllun newydd am faint o lefydd prifysgol ychwanegol sy'n arwain at gymhwyso fel deintydd sydd yn cael eu creu. Rydych chi'n capio'r niferoedd presennol ar tua 75, yn ôl data'r Swyddfa Myfyrwyr. A fedrwch chi roi eglurder i ni am faint yn fwy o lefydd fydd yna yn sgil cyhoeddi'r cynllun strategol ar gyfer y gweithlu deintyddol?

A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn atodol hwnnw a'i sicrhau bod Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu lleoedd hyfforddi ar gyfer holl aelodau'r tîm deintyddol, ond mae hyn wrth gwrs yn anodd iawn i'w gyflawni yn yr hinsawdd ariannol bresennol? Serch hynny, rydym yn siarad â darparwyr hyfforddiant deintyddol presennol a newydd i nodi'r holl opsiynau posibl, a gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn toriad yr haf. 

Gallaf gadarnhau hefyd fod sgyrsiau wedi digwydd, ar lefelau gweinidogol a swyddogol, gyda Phrifysgol Bangor ynghylch yr uchelgais i sefydlu ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru. Ac mae swyddogion yn siarad â phartïon eraill sydd â diddordeb hefyd i nodi'r opsiwn gorau ar gyfer cynyddu capasiti hyfforddiant deintyddol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn archwilio opsiynau i greu lleoliadau allgymorth yn ardal gogledd Cymru ar gyfer myfyrwyr deintyddol yn eu pumed flwyddyn sy'n astudio yn ysgol ddeintyddol Caerdydd.

14:35

Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod wedi fy nghlywed yn trafod yr anawsterau o ddenu deintyddion i ddod i weithio yng nghanolbarth Cymru gyda rhai o'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet. Nawr, darllenais adroddiad AaGIC a oedd yn cyfeirio at y ffaith, pan fo graddedigion a myfyrwyr wedi gweithio mewn ardaloedd gwledig, neu lle maent wedi byw mewn ardaloedd gwledig, a lle maent wedi'u magu yn yr ardal honno, neu lle maent wedi gweithio mewn ardaloedd gwledig yn ystod eu hyfforddiant, maent bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn barod ac yn hapus i ddod i weithio mewn ardal wledig yn dilyn eu hyfforddiant. Felly, gyda hynny mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, ac yn ei wneud, i annog pobl iau o ardaloedd gwledig i ystyried deintyddiaeth fel dewis gyrfa cadarnhaol, a'u hannog i ddilyn yr yrfa honno?

Diolch yn fawr, Russell. Rwyf eisiau i'n holl bobl ifanc, ni waeth lle maent yn byw yng Nghymru, gael cyfle i ddilyn y cyrsiau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt. Fe fyddwch yn ymwybodol, ar hyn o bryd, fod gennym un ysgol ddeintyddol, a all olygu bod y bobl sy'n hyfforddi yno yn fwy tebygol o weithio yno. Felly, rwy'n ystyried yr hyn rydych chi wedi'i ddweud am yr heriau o ddenu pobl i ardaloedd gwledig. Fe glywsoch chi fy ateb i Siân Gwenllian nawr am y gwaith sy'n mynd rhagddo mewn perthynas â lleoliadau yng ngogledd Cymru. Gwn fod gan Brifysgol Aberystwyth ddiddordeb yn y maes hwn hefyd. Felly, byddaf yn mynd ar drywydd yr hyn rydych chi wedi'i ddweud am ddeintyddion mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n gwybod eich bod wedi codi'r mater hwn yn gyson, gyda fy swyddogion a chyda'r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Adnewyddu Ysgolion yn Aberconwy

2. A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet ddatganiad am gyllid ar gyfer adnewyddu ysgolion yn Aberconwy? OQ61227

Mae ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn trawsnewid i'n rhaglen dreigl newydd ar hyn o bryd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno eu cynllun buddsoddi naw mlynedd, sy'n cael ei adolygu gan swyddogion ar hyn o bryd, ac rwy'n disgwyl cael cyngor ym mis Gorffennaf.

Diolch yn fawr, Weinidog. Y rheswm pam rwy'n codi hyn yw ein bod wedi llwyddo, ar ddechrau model ysgolion yr unfed ganrif ar hugain o dan Kirsty Williams, mae'n deg dweud, i gael ysgol newydd sbon. Ac mae'n wych cael un yn eich etholaeth eich hun—ysgol gynradd newydd sbon. Yn anffodus, fodd bynnag, mae gennym nifer o ysgolion cynradd sydd mewn cyflwr mor wael nes fy mod yn dechrau teimlo dros y disgyblion sy'n eu mynychu. Mae'r ysgolion eu hunain wedi codi problemau gyda mi o ran caffael. Pan fyddant eisiau talu rhywfaint o arian tuag at wneud gwaith adnewyddu, dywedwyd wrthyf ei fod yn or-fiwrocrataidd, ac yn ddrutach na phe baent yn cael rhywun i mewn i wneud y gwaith mewn gwirionedd. Weinidog, a fyddai'n bosibl i chi gael golwg ar sut mae gwaith adnewyddu yn cael ei ariannu mewn ysgolion, a sut felly mae'r gwaith yn cael ei gaffael? Ac mae rhan olaf fy nghwestiwn yn ymwneud â'r ffaith bod nifer o benaethiaid ysgolion cynradd yn fy etholaeth wedi gofyn i mi—mae ganddynt lawer o doeau sy'n iawn, ac maent eisiau gosod paneli solar arnynt, ac maent wedi ceisio cael paneli solar dro ar ôl tro er mwyn darparu ynni i'w hysgolion, ond nid ydynt yn gallu symud ymlaen. A allwch chi edrych ar y materion hynny, os gwelwch yn dda?

Diolch am y cwestiwn atodol, Janet, a diolch i chi am eich cydnabyddiaeth o'r ffaith eich bod chi yn eich etholaeth wedi elwa o'n buddsoddiad cyfalaf sylweddol iawn yng Nghymru. Mae Conwy wedi elwa o fuddsoddiad o £41.8 miliwn mewn ysgolion ers i'r rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu ddechrau yn 2014, nid yn unig drwy fuddsoddiad mewn cymunedau cynaliadwy, ond hefyd mewn ffrydiau grant cysylltiedig, megis atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw, grant cyfalaf prydau ysgol am ddim i bawb ac ysgolion bro. O ran gwaith atgyweirio, ers 2017, mae'r awdurdod lleol wedi derbyn £8.87 miliwn yn benodol ar gyfer cyfalaf cynnal a chadw ac atgyweirio ystad yr ysgol. Felly, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi fod y rhain yn symiau sylweddol o arian. Fe fyddwch yn ymwybodol, os yw awdurdodau lleol yn gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru, fod yna broses i'w chwblhau i sicrhau diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â dyrannu'r cyllid.

Nid wyf yn siŵr pam y byddai ysgolion unigol yn cael trafferth caffael adnewyddiadau a phethau felly, ond os hoffech chi ysgrifennu ataf mewn perthynas â hynny—. Yn amlwg, mater i awdurdodau lleol ac ysgolion yw bwrw ymlaen â sut mae'r arian yn cael ei wario, ond os hoffech chi ysgrifennu ataf am y pryderon hynny, byddwn yn hapus iawn i edrych arnynt. 

14:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Gydag etholiad cyffredinol y DU ar y gorwel, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n edrych ar rai o bolisïau Llafur y DU ac edrych ar yr effaith y byddent yn ei chael ar ein sector addysg yng Nghymru. Ac er gwaethaf ymdrechion gorau Keir Starmer i fynd drwy ymgyrch gyfan heb gyhoeddi unrhyw beth, llwyddais i ddod o hyd i un. Byddai Llywodraeth Lafur y DU yn cymhwyso TAW i ysgolion preifat ar ddwy ochr y ffin. Fis diwethaf, ysgrifennais atoch yn gofyn pa effaith y byddai'r polisi hwn yn ei chael ar ysgolion Cymru. Yn rhyfeddol, fe ddywedoch chi wrthyf:

'Nid yw Llywodraeth Cymru wedi comisiynu unrhyw ymchwil yn y maes hwn.'

Ond dywed Keir Starmer y byddai'r polisi hwn yn cael ei weithredu cyn gynted ag y bo modd, pe bai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol. 

A allwch chi ddweud wrth rieni ac ysgolion a fyddai'n digwydd o fis Medi ymlaen ai peidio? A fis ar ôl imi ofyn gyntaf, pa effaith y credwch chi y byddai'r polisi hwn yn ei chael, ac a ydych chi'n derbyn y byddai'n golygu bod rhai disgyblion yn gadael y sector ysgolion preifat ac yn mynd i ysgolion gwladol?

Wel, mae'n dda eich gweld chi'n talu cymaint o sylw â hyn i faniffesto Plaid Lafur y DU. Rwy'n falch iawn fod gennym blaid sydd wedi ymrwymo i ymgyrchu dros addysg a buddsoddi mewn addysg. Fe fyddwch yn ymwybodol nad yw'r cynlluniau ar gyfer TAW wedi'u datganoli. Fe fyddant, wrth gwrs, yn effeithio arnom ni yng Nghymru. Fe wnaethoch chi gyflwyno'r cwestiwn yn gofyn a oeddem ni wedi gwneud unrhyw waith ymchwil. O ystyried y ffaith nad oes gennym Lywodraeth Lafur eto—er ein bod i gyd yn ysu am y Llywodraeth Lafur honno—rwy'n credu y byddai ychydig yn gynnar i gomisiynu gwaith ymchwil ar hynny.

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod swyddogion wedi bod yn gweithio arno, felly rydym yn ymwybodol, er enghraifft, y gallai fod problemau penodol i blant sydd mewn lleoliadau anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion cynradd. Ac rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Mae hwnnw'n rhywbeth rwyf eisoes wedi'i drafod gyda Bridget Phillipson, ac os daw Llywodraeth Lafur i rym yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf yn cael trafodaethau gyda fy swyddog cyfatebol, nid yn unig ynglŷn â sut y bydd y cyllid hwnnw o fudd i Gymru, ond hefyd sut y bydd y polisi hwnnw'n cael ei weithredu'n ymarferol. 

Wel, o edrych ar ganlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur, rwy'n credu mai'r peth gwaethaf a allai ddigwydd i system addysg yn Lloegr yw Llywodraeth Lafur yn San Steffan. 

Nawr, fel y sonioch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, y peth gwaethaf am hyn i gyd yw'r ffaith nad yw TAW yn dreth ddatganoledig; mae'n dreth a gesglir gan y Trysorlys yn hytrach nag un a gedwir gan Lywodraeth Cymru. Ac fel y dywedwch, nid yw Llywodraeth Cymru wedi asesu effaith ei pholisi ei hun, a allai fod yn dod i rym cyn gynted â mis Medi os bydd Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol. Ond peidiwch â phoeni, Ysgrifennydd y Cabinet, gadewch imi gynnal yr asesiad effaith hwnnw ar eich rhan. Gadewch i mi wneud y symiau. Roedd adroddiad gan Baines Cutler Solutions Ltd yn 2018 yn rhagweld y byddai tua 25 y cant o ddisgyblion yn gadael ysgolion preifat pe bai TAW yn cael ei gymhwyso iddynt. Felly, yng Nghymru, mae pob plentyn mewn ysgol wladol yn costio £7,327 y flwyddyn, ac os yw 25 y cant o ddisgyblion ysgolion preifat yn gadael, bydd 2,460 yn rhagor o ddisgyblion yn cael eu haddysgu mewn ysgolion gwladol. Felly, y cyfanswm—[Torri ar draws.] Dylai pobl ym Mlaenau Gwent a ledled Cymru fod yn hynod bryderus am hyn, Alun. Felly, gallai cyfanswm y gost i ysgolion Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet, olygu twll du gwerth £18 miliwn yng nghyllideb ysgolion Cymru—£18 miliwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gan Lywodraeth Cymru £18 miliwn ychwanegol i'w wario i lenwi'r twll du hwnnw?

Wel, mae'n amlwg nad ydych wedi bod yn talu sylw, Tom, oherwydd pwrpas y polisi hwn yw rhyddhau cyllid mawr ei angen i fuddsoddi yn ein hysgolion. Ac mae gennym addewid yn yr etholiad cyffredinol i ddefnyddio'r cyllid hwnnw i gynyddu niferoedd yr athrawon rydym yn eu recriwtio a'u cadw. Felly, nid wyf yn poeni am y polisi hwn. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur newydd i sicrhau ein bod yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant yng Nghymru.

14:45

Wel, rwy'n synnu gweld Ysgrifennydd y Cabinet mor ddigyffro ac yn cefnogi polisi a allai adael ysgolion Cymru £18 miliwn yn y coch. Nawr, rydym yn gwybod bod ysgolion yn gwneud penderfyniadau anodd ar hyn o bryd gyda'u cyllidebau, gyda llawer yn diswyddo staff yr eiliad hon, a byddai'r polisi hwn yn gwneud y sefyllfa honno'n waeth. Ond beth arall fyddai effaith y polisi, Lywydd? Mae gennym lai o athrawon a dosbarthiadau mwy o faint yn ein hysgolion. Dywedodd Gweinidog Llafur yr Wrthblaid, Emily Thornberry, yn gynharach yr wythnos hon, 'Mae'n iawn—os oes rhaid i ni gael dosbarthiadau mwy o faint, mae'n rhaid i ni gael dosbarthiadau mwy o faint.' Dyna oedd ei geiriau hi. Ond nid yw'n iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd y polisi hwn yn cael effaith negyddol go iawn ar ein pobl ifanc a'n hysgolion yng Nghymru, ac mae'n ymddangos eich bod chi a Phlaid Lafur y DU yn ddigyffro ynglŷn â hynny, oherwydd mae'n bodloni rhyw ddogma ideolegol i chi. Felly, gwyddom yn iawn beth fyddai Llywodraeth Lafur y DU yn ei olygu i ysgolion Cymru: dosbarthiadau llai a thwll du o £18 miliwn. Onid yw'n wir y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn drychineb llwyr i Gymru?

Wel, Tom, dylech wybod popeth am dyllau duon, o ystyried bod gennym dwll du o £700 miliwn yn ein cyllideb o ganlyniad i'r ffaith ein bod wedi cael ein twyllo gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Felly, dyna'r math o ffigurau rydym yn ymgiprys â nhw, nid y £18 miliwn rydych chi wedi'i ysgrifennu ar gefn pecyn sigaréts. Mae hwn yn bolisi a fydd yn rhyddhau cyllid ar gyfer ysgolion. Bydd yn cael ei weithredu'n ystyriol gan Lywodraeth Lafur newydd. Ac mewn perthynas â maint dosbarthiadau, rwy'n siŵr y byddwch wedi clywed Bridget Phillipson yn dweud yn glir iawn fod Emily Thornberry yn anghywir ynglŷn â'r hyn a ddywedodd.

Diolch yn fawr, Llywydd. Gan taw hwn yw'r tro cyntaf i fi fel llefarydd newydd y blaid ar addysg, gaf i ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â chi ac, wrth gwrs, i sgrwtineiddio gwaith y Llywodraeth hefyd yn y sector arbennig yma. 

Fy nghwestiwn cyntaf i yw hyn: fis diwethaf, fe wnaeth yr arweinydd Llafur, Keir Starmer, ymweld â Chymru, fel rhan o'i ymgyrch etholiadol. Yn ystod yr ymweliad hwn, fe wnaeth e chwe addewid i Gymru, pe bai ei blaid yn ennill yr etholiad cyffredinol. Nawr, un o'r rheini oedd recriwtio athrawon newydd mewn pynciau allweddol. Nawr, dwi ddim yn siwr os yw Starmer yn gwybod bod addysg wedi ei ddatganoli a bod Llafur wedi bod yn gyfrifol am addysg yng Nghymru ers dros 25 mlynedd. Ond er gwybodaeth iddo fe, dyma eich record chi: mae arolwg blynyddol yr NASUWT yn 2023 yn dangos bod bron i dri chwarter o athrawon Cymru dros y 12 mis diwethaf wedi ystyried gadael y proffesiwn; mae'r ystadegau diweddaraf am addysg gychwynnol athrawon yn dangos bod nifer y sawl sydd wedi cofrestru i ddilyn cyrsiau uwchradd 34 y cant yn is na'r targed a osodwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru; yn y canlyniadau PISA diweddaraf, sgoriodd Cymru 473 ar gyfer gwyddoniaeth, 466 ar gyfer mathemateg a 466 ar gyfer darllen, sef gostyngiadau sylweddol iawn, sydd, yn y drefn honno, yn 12, chwech a 10 pwynt yn is na chyfartaledd yr OECD ar gyfer gwledydd sydd yn cymryd rhan yn y cynllun. Yn y canlyniadau PISA—

Dwi wedi bod yn amyneddgar iawn, iawn, gan mai hyn yw eich cwestiwn cyntaf chi fel llefarydd addysg, felly os gallwch chi ddod i gwestiwn nawr. 

Fe ddof i at y cwestiwn. Felly, yr hyn hoffwn i wybod yw sut mae Starmer yn mynd i gyflawni rhywbeth y mae Llafur Cymru wedi methu â'i wneud, sef trawsnewid ein sector addysg a'i wneud yn broffesiwn apelgar unwaith eto i athrawon.

Diolch yn fawr iawn, Cefin, ac a gaf i eich croesawu i'ch swydd a dweud fy mod yn gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd mewn ffordd adeiladol, a diolch i Heledd Fychan am y gwaith a wnaeth fel deiliad y swydd yn y maes hwn ar y fainc flaen? Gallaf eich sicrhau bod Keir Starmer yn ymwybodol iawn fod addysg wedi'i datganoli. Fel rwyf wedi'i ddweud wrth Tom Giffard, bydd gennym swm canlyniadol a fydd yn deillio o'r ymrwymiadau sydd wedi'u gwneud ynghylch recriwtio a chadw athrawon, a byddwn yn gallu cyflwyno'r gwaith hwnnw yn ein ffordd ein hunain, gan barchu datganoli, oherwydd y math o bynciau lle mae gennym brinder yma yng Nghymru—. Fel y gwyddoch yn iawn, mae gennym flaenoriaeth benodol i gael mwy o athrawon Cymraeg, yn ogystal â phynciau eraill, ac mae'n bwysig ein bod yn gallu defnyddio'r arian hwnnw mewn ffordd sy'n parchu'r anghenion sydd gennym yng Nghymru.

Rwy'n cydnabod yr heriau sydd gennym wrth recriwtio athrawon. Dyna pam ein bod yn gweithio'n rhagweithiol iawn ar sail barhaus ar recriwtio athrawon. Dyna pam ein bod wedi rhoi cymaint o gefnogaeth i lesiant y gweithlu drwy bethau fel cymorth addysg, ac rwy'n parhau â'r ddeialog gydag addysgwyr rheng flaen ynghylch beth arall y gallwn ei wneud i wneud ysgolion yn lleoedd deniadol a chroesawgar i bobl weithio ynddynt yng Nghymru.

14:50

Diolch yn fawr iawn. Edrychaf ymlaen at weld y symiau canlyniadol hynny'n dod ac at newid y lefelau cyflawniad gwael a welsom dros y 25 mlynedd diwethaf. Roeddech chi'n sôn am recriwtio athrawon, ac rydym yn gwybod bod problemau enfawr o ran recriwtio a chadw athrawon ar draws Cymru gyfan. Ni fu prinder cyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru i annog pobl ifanc i feddwl am yrfaoedd fel athrawon a chynorthwywyr dosbarth, ond a ydym yn gwybod i ba raddau y bu'r ymgyrchoedd hyn yn llwyddiant? Mae'r cynllun cymhelliant addysg gychwynnol i athrawon ar gyfer pynciau blaenoriaeth yn enghraifft o'r fath. Felly, gallwch ddychmygu fy siom pan glywais, yr wythnos diwethaf, mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog, nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad i ba raddau y mae'r cynllun yn gweithio am nad oes gennych dystiolaeth. Nid oes gennych unrhyw ddata i ddangos a yw derbynwyr y cymhelliant cyn 2022-23 yn dal i addysgu yng Nghymru, yn addysgu yn rhywle arall, neu heb fod yn addysgu o gwbl. Nawr, mae'r cynllun hwn wedi bod ar y gweill ers tua degawd, gyda miliynau o bunnoedd eisoes wedi cael ei wario arno. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n ymateb i'r methiant amlwg hwn o ran monitro a gwerthuso, ac a ydych chi'n cytuno na allwn fesur llwyddiant y cynllun hynod bwysig hwn heb ddata o'r fath?

Diolch. Mae data'n bwysig iawn, ac rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny gyda swyddogion. Ni allwch newid polisi heb gael data effeithiol. Yn amlwg, roeddwn yn y Siambr ar gyfer eich trafodaeth gyda'r Prif Weinidog, ac fe wnaethoch chi gyflwyno cwestiwn tebyg i mi. Roedd yr ateb a roddais yn egluro bod athrawon, dros y ddwy flynedd diwethaf, yn dal i fynd drwy'r broses honno. Felly, rydym wedi newid y broses fel ei bod yn ymwneud â mwy na mynd ar gwrs hyfforddi i ddysgu sut i fod yn athro; mae'n ymwneud â mynd drwy'r statws athro cymwysedig, y statws sefydlu. Felly, bydd y garfan gyntaf o bobl yn cwblhau eu hastudiaethau ar ddiwedd y flwyddyn hon, a bydd myfyrwyr rhan-amser yn cwblhau eu hastudiaethau nhw y flwyddyn nesaf. Fe wneuthum gydnabod yn yr ateb a roddais i chi fod yna ddiffyg data cyn hynny a'ch hysbysu ein bod yn gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gytundeb rhannu data i geisio cael y data hwnnw. Felly, pan fyddwn wedi cwblhau'r gwaith hwnnw, byddaf yn hapus iawn i ddarparu'r data i chi.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn y data hwnnw. 

Gan gadw at y thema o ddenu mwy o bobl i'r proffesiwn, rwy'n bwriadu sôn nawr am y cyrsiau tystysgrif addysg i raddedigion, y cyrsiau TAR. Fel rydyn ni'n gwybod, ein prifysgolion sydd yn darparu'r cyrsiau hyn. Rydyn ni wedi gweld enghraifft yn ddiweddar o'r bygythiad i gyrsiau tebyg i hyn, gyda Phrifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi bod cyrsiau hyfforddi athrawon yno yn dod i ben o fis Medi ymlaen. Mae hyn, wrth gwrs, yn codi llawer o bryderon yn y sector a thu hwnt. Nid yn unig ei fod yn achosi problemau i lawer yng nghanolbarth Cymru a fyddai wedi mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio TAR, ond mae hefyd yn lleihau'r cyfleoedd i'r rhai fyddai wedi hyfforddi i fod yn athrawon cyfrwng Cymraeg yn ogystal. Felly, gan ystyried hyn i gyd, beth yw'ch ymateb i'r newyddion bod y cwrs TAR ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dod i ben? Beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud ynglŷn â'r ffaith hyn? A fyddwn ni'n gweld mwy o gwtogi, o bosibl, yn y sector? Ac, yn olaf, pa asesiad mae'r Gweinidog yn bwriadu ei wneud o ran cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, gan ystyried y gostyngiad posibl yn y nifer sy'n hyfforddi i fod yn athrawon? Diolch.

14:55

Diolch. Mewn perthynas â'r sefyllfa yn Aberystwyth, a gaf i ddweud y bydd Cefin Campbell yn ymwybodol iawn fod gennym system annibynnol i achredu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru? Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn—fod gennym system sy'n gosod y safonau uchaf posibl i sicrhau, os bydd rhywun yn mynd i astudio'r cwrs hwnnw, eu bod yn cael profiad da iawn. Ni lwyddodd Aberystwyth i gael ei hailachredu a dewisodd beidio ag apelio. Roedd honno'n broses a oedd yn annibynnol ar y Llywodraeth. Fy nealltwriaeth i yw bod tua 21 o fyfyrwyr wedi cofrestru i astudio'r cwrs yn Aberystwyth y flwyddyn nesaf, ac rydym wedi gweithio gyda'r brifysgol i sicrhau bod lleoedd priodol mewn mannau eraill ar gyfer y myfyrwyr hynny. Mae'n bwysig dweud hefyd fod pob prifysgol yng Nghymru sy'n cynnig cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn cynnig darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, felly er ein bod wedi colli lleoedd yn Aberystwyth, gallaf eich sicrhau y gall pobl ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn mannau eraill.

Defnydd o Ffonau Symudol mewn Ysgolion

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau'r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion? OQ61230

Rydym yn ymwybodol o effeithiau defnyddio ffonau symudol ar ymddygiad mewn ysgolion, a byddaf yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod ganddynt bolisïau ar waith sy'n lleihau'r effeithiau hyn ac yn hyrwyddo dysgu.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Ar hyn o bryd ffonau symudol yw un o'r rhwystrau mwyaf i addysg lwyddiannus, ac mae hyn yn rhywbeth y mae athrawon yn mynd i'r afael ag ef ledled y byd, nid yng Nghymru yn unig. Dylem gofio bod apiau cyfryngau cymdeithasol wedi'u cynllunio i fod yn gaethiwus i blant a phobl ifanc, ac o ystyried bod bron i 100 y cant o blant yn berchen ar ffôn symudol erbyn iddynt gyrraedd 12 oed, maent yn amlwg yn tynnu sylw disgyblion yn yr ystafell ddosbarth, ac rydym yn clywed hyn yn rheolaidd gan addysgwyr.

Canfu adroddiad gan Policy Exchange fis diwethaf fod ysgolion sy'n gwahardd ffonau symudol ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu hystyried yn rhagorol gan Estyn neu Ofsted, ac roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod gan ysgolion sydd â gwaharddiadau cyflawn ar ffonau symudol gyfran uwch o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim nag ysgolion sydd â pholisïau llai cyfyngol. Mae'r dystiolaeth fod ffonau symudol yn tynnu sylw ac yn niweidiol iawn i berfformiad academaidd yn gadarn, ond mae yna gyfoeth enfawr o dystiolaeth hefyd sy'n dangos bod defnydd uchel o'r cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl pobl ifanc. Nod canllawiau Llywodraeth y DU a gyflwynwyd ym mis Chwefror yw atal disgyblion rhag defnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal disgyblion rhag defnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, i leihau aflonyddwch, gwella ymddygiad a gwella iechyd meddwl pobl ifanc?

Diolch yn fawr, Gareth. Mae gan bron pob ysgol yng Nghymru bolisïau ffôn symudol sy'n gwahardd defnyddio ffonau symudol yn ystod gwersi, a dylid gorfodi canllawiau yn gyson gan holl staff yr ysgol a dylid sicrhau bod rhain yn cael cefnogi gan dîm arweinyddiaeth yr ysgol. Ond rydym yn credu ei bod yn bwysig fod yna elfen o ddisgresiwn i ysgolion yn hyn o beth, oherwydd, lle cânt eu rheoli'n briodol, mae athrawon yn dod o hyd i ffyrdd arloesol o integreiddio technoleg symudol i addysgu yn yr ystafell ddosbarth, ac ni fyddem eisiau gweld polisïau rhy gyfyngol yn cyfyngu ar allu athrawon i addysgu mewn ffyrdd creadigol. Yn ogystal â hyn, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gyrff llywodraethu sicrhau bod eu hysgolion yn dilyn polisïau sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, ac mae angen i'r polisi hwnnw adlewyrchu eu hamgylchiadau eu hunain, a gallai hynny gynnwys defnyddio ffonau symudol ar safle'r ysgol.

Roeddech chi'n sôn am y cyfryngau cymdeithasol a'u heffeithiau ar iechyd meddwl. Yn yr un modd â defnydd o ffonau symudol, mae yna fanteision ac anfanteision gyda'r cyfryngau cymdeithasol. Gall fod manteision hefyd, ac mae hynny wedi'i ddogfennu'n dda iawn gan academyddion, ond mae angen eu defnyddio'n ofalus. Dyna pam mai un o'r pethau a wnawn drwy ein cwricwlwm yw galluogi plant a phobl ifanc i ddysgu sut i ddefnyddio adnoddau digidol mewn ffordd graff, ac mae gennym hefyd amrywiaeth o wybodaeth ar 'Cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb, lle mae gennym gyngor i ysgolion, dysgwyr a'u teuluoedd ar ystod o faterion digidol, gan gynnwys iechyd meddwl a llesiant, y rhyngrwyd, cydbwyso amser sgrin a'r cyfryngau cymdeithasol. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu cenedlaethol ar gadernid digidol, sydd wedi'i gynllunio i wella diogelwch ar-lein a chadernid digidol ein plant a'n pobl ifanc yma yng Nghymru.

15:00
Adolygiad Cass

4. Pa arweiniad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i ysgolion yn dilyn adolygiad Cass? OQ61234

Nid addysg yw ffocws adolygiad Cass, er fy mod yn cydnabod y bydd egwyddorion a thystiolaeth o’r adolygiad yn bwysig i ysgolion. Rydym yn parhau â’n dadansoddiad o adolygiad Cass ac unrhyw oblygiadau i wasanaethau addysg yng Nghymru.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, mae dyletswydd ar bob un ohonom i ddiogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru, yn enwedig chi yn eich rôl newydd, a gwn eich bod o ddifrif ynghylch hynny. Mae'n amlwg o ganfyddiadau adolygiad Cass, sy'n peri cryn bryder, fod plant sy'n ddryslyd ynghylch eu rhywedd wedi cael cam oherwydd diffyg tystiolaeth ac ymchwil. Mae adolygiad Cass, y mae ei ganfyddiadau’n arwyddocaol i bobl yma yng Nghymru yn ogystal â Lloegr, yn rhybuddio athrawon rhag gwneud penderfyniadau cynamserol a'r hyn sy'n gyfystyr â phenderfyniadau clinigol am y plant y maent i fod i’w diogelu. Mae’n amlwg o ganfyddiadau’r adroddiad fod trawsnewid cymdeithasol mewn ysgolion yn aml yn rhagflaenydd i ymyrraeth feddygol ddiwrthdro, sy'n aml yn digwydd, yn frawychus, heb yn wybod i rieni.

Ac eto, yma yng Nghymru, mae'n ymddangos bod gennym ymagwedd gibddall tuag at ideoleg rhywedd a dysfforia, sy'n rhan annatod o god a chyfarwyddyd gorfodol Llywodraeth Cymru ar addysg rhyw a chydberthynas, ac mae angen eu hadolygu ar fyrder ac ystyried canfyddiadau’r adolygiad pwysig hwn. Mae Llywodraeth y DU wedi ystyried hyn yn ddigon pwysig i gyhoeddi canllawiau newydd i ysgolion, Ysgrifennydd y Cabinet, ac eto, yma yng Nghymru, mae gennym dawelwch byddarol a dim camau gweithredu ar hyn. Mae ein plant yn haeddu llawer gwell, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae angen eu diogelu’n briodol yng ngoleuni’r canfyddiadau yn adolygiad Cass, sy’n hynod arwyddocaol. Felly, pryd y gallwn ddisgwyl i’r canllawiau newydd neu ddiwygiedig hynny gael eu cyhoeddi i ysgolion ledled Cymru? Oherwydd dylai fod yn fater o pryd y gwnewch hynny, yn hytrach nag os. Diolch.

Diolch am eich cwestiwn atodol. A gaf i ddweud fy mod eisiau i’n hysgolion fod yn lleoedd cynhwysol, croesawgar i bob plentyn ac unigolyn ifanc? Credaf y dylai hynny fod yn fan cychwyn i bawb yn y Siambr hon, gan eich cynnwys chi, Laura. Rydym wedi bod yn gweithio ar ganllawiau drafft ar faterion traws. Rydym wedi gweithio mewn ffordd gydgynhyrchiol gydag ystod o randdeiliaid a chyda phlant a phobl ifanc eu hunain. Fodd bynnag, gan gofio canfyddiadau adolygiad Cass, a oedd yn cynnwys rhai canfyddiadau'n ymwneud ag addysg, roeddem yn awyddus i gymryd mwy o amser i ystyried adolygiad Cass yn llawnach cyn ymgynghori ar hynny. Felly, dyna rydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Felly, yn hytrach na distawrwydd byddarol ar y mater hwn, rydym yn ceisio sicrhau bod yr hyn a wnawn yn y maes hwn yn gwbl seiliedig ar dystiolaeth.

Ac os caf atgoffa'r Aelod, er bod llawer o ffocws wedi'i roi gan rai yn ei phlaid, a hithau'n benodol, ar adolygiad Cass, un o'r canfyddiadau pwysicaf yn yr adolygiad yn fy marn i oedd pan ddywedodd Dr Hilary Cass:

'Mae'r synau o'n cwmpas a'r ddadl gyhoeddus gynyddol wenwynig, ideolegol a phegynol wedi gwneud gwaith yr Adolygiad yn llawer anos ac nid yw'n gwneud dim i helpu'r plant a'r bobl ifanc a allai fod yn agored i straen lleiafrifol sylweddol eisoes.'

Gwn nad ydych chi'n debygol o fod eisiau clywed hyn, ond mae'n bwysig i chi ei glywed. Mae cymdeithas dosturiol a charedig yn cofio bod plant, pobl ifanc, teuluoedd, gofalwyr a chlinigwyr go iawn y tu ôl i’r penawdau, a dylai pob un ohonom gofio hynny.

Gwella Cyrhaeddiad Addysgol

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyrhaeddiad addysgol? OQ61237

Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau gwelliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol fel y gall pob dysgwr gyflawni eu potensial. Byddwn yn cyflawni hyn drwy ddiwygio a gwella gyda’r nod o greu system gyfan sy’n gweithio i bob dysgwr, a chau’r bwlch cyrhaeddiad a wynebir gan ein dysgwyr mwyaf difreintiedig.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn falch iawn o glywed bod cynllun peilot y pencampwyr cyrhaeddiad i’w ymestyn i ail gam ym mis Medi, ac mae’r cynllun peilot, a gynlluniwyd i helpu i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol disgyblion ac i hybu safonau mewn ysgolion, wedi dangos canlyniadau cadarnhaol. Felly, rwy’n falch iawn o weld ei fod am barhau. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod prosiectau o'r fath, sy'n helpu—? Mae'n ddrwg gennyf, fe ddechreuaf eto. A ydych chi'n cytuno bod prosiectau fel cynllun peilot y pencampwyr cyrhaeddiad yn dangos ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i wella’r profiad addysgol i blant difreintiedig?

15:05

Diolch yn fawr iawn, Joyce, a diolch am dynnu sylw at gynllun peilot y pencampwyr cyrhaeddiad. Roeddwn yn ffodus i allu cyfarfod â rhai o’r arweinwyr ysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot hwnnw ychydig wythnosau yn ôl, ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr. Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cyhoeddi ail gam y cynllun bellach, felly bydd mwy o ysgolion yn gallu elwa ohono. Ac rydych chi'n iawn i dynnu sylw at natur hanfodol cau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer ein plant mwyaf difreintiedig, ac un agwedd yn unig yw'r pencampwyr cyrhaeddiad ar y gwaith a wnawn yn y maes hwn.

Rydym hefyd wedi datblygu partneriaeth gyda'r Sefydliad Gwaddol Addysgol, sy'n darparu deunyddiau dwyieithog i bob ysgol, fel y gallant gael mynediad at y dystiolaeth ryngwladol orau ar y strategaethau addysgu a dysgu mwyaf effeithiol. Rydym hefyd yn edrych ar gymell athrawon i weithio yn yr ysgolion mwyaf heriol, ac fe fyddwch yn ymwybodol iawn o'n hanes hirsefydlog gyda'r grant datblygu disgyblion, yr ydym wedi cyhoeddi canllawiau newydd arno, ac yr ydym yn parhau i fuddsoddi ynddo.

Mae cyrhaeddiad addysgol o’r pwys mwyaf, ac Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr, sy'n ysgol dan reolaeth wirfoddol, y bu’n rhaid iddi symud i Neuadd Gymunedol Jameston yn dilyn tân ym mis Hydref 2022, ac o dan arweinyddiaeth wych y pennaeth Sharon Davies, cafodd adroddiad gwych gan Estyn a ddywedodd:

'Mae staff hynod ymroddedig yr ysgol yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod bywydau ac addysg y disgyblion yn parhau heb ymyrraeth na gofid.'

Mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad Sharon a'i thîm, a chymuned ehangach ysgol Maenorbŷr. Ond mae sicrhau bod gennym staff o ansawdd da ym mhob man yng Nghymru i gyflawni cyrhaeddiad o'r fath yn wirioneddol bwysig, felly sut rydym yn darparu’r athrawon medrus gorau yn y gweithlu yma yng Nghymru?

A gaf i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am godi hynny ac i gydnabod yr hyn sy’n swnio fel cyflawniad gwych gan ysgol Maenorbŷr, ac i ddiolch i Sharon Davies? Mae'n gamp enfawr i wneud hynny pan fyddwch yn ymdopi â chanlyniad tân, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn diolch i'r ysgol ar fy rhan.

Mae gennym arweinwyr ysgolion gwych yng Nghymru, ac un o’r pethau yr ydym yn edrych arnynt gyda’n rhaglen partneriaeth gwella ysgolion yw ein bod wedi cael neges glir iawn gan arweinwyr ysgolion eu bod o'r farn fod gweithio ysgol i ysgol yn gwbl allweddol er mwyn sicrhau'r gwelliannau yr ydym am eu gweld yng Nghymru. Rydym bellach wedi cychwyn ar ail gam ein partneriaeth gwella ysgolion. Rydym yn disgwyl i bob awdurdod lleol fod yn bartneriaid yn hynny hefyd, ond bydd ffocws cryf hefyd ar arweinyddiaeth genedlaethol, a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i'r Senedd ar hyn maes o law.

Gwerth Cymdeithasol y Sector Addysg Bellach

6. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o werth cymdeithasol y sector addysg bellach? OQ61249

Ariannodd Llywodraeth Cymru adroddiad diweddar gan ColegauCymru, 'Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru'. Mae’r adroddiad yn cydnabod effaith economaidd sylweddol a gwerth cymdeithasol y sector addysg bellach yng Nghymru, ac yn dangos sut mae’n cyfrannu at lesiant cymdeithasol y tu hwnt i’w rolau addysgol traddodiadol.

Yn wir, ac roeddwn yn mynd i gyfeirio at yr adroddiad hwnnw yn fy ateb, fel y rhagwelwyd gennych. Wel, yn fy nghwestiwn, dylwn ddweud—fy nghwestiwn atodol. Gwyddom fod meithrin gweithlu medrus yn helpu i greu Cymru lewyrchus, gydnerth, sy'n rhai o’n nodau llesiant wrth gwrs, ond hefyd, gall darparu systemau cymorth cadarn sydd wedi’u hintegreiddio mewn lleoliadau addysgol helpu gydag iechyd meddwl a chorfforol hefyd, ac wrth gwrs, mae Cymru iachach yn un arall o’r nodau hynny.

Felly, fy nghwestiwn yw: sut yr ystyriodd y Llywodraeth yr effeithiau cymdeithasol ehangach hynny pan wnaethoch gyflwyno’r toriadau diweddar i gyllid addysg ôl-16? Pan dorroch chi bron i £13 miliwn o ddarpariaeth addysg ôl-16 a dros £7 miliwn o gyfrifon dysgu personol, a wnaethoch chi asesu, a wnaethoch chi ystyried, a wnaethoch chi hyd yn oed sylweddoli’r effaith y byddai hynny’n ei chael, nid yn unig ar y sefydliadau addysg bellach dan sylw, ond ar gymdeithas Cymru a’r nodau llesiant yn fwy cyffredinol, a nodwyd, fel y dywedoch chi, yn adroddiad ColegauCymru?

15:10

Wel, diolch am dynnu sylw at yr adroddiad hefyd, Llyr, a gallais siarad yn y lansiad, a oedd yn brofiad cadarnhaol iawn, a chredwn fod gwerth cymdeithasol ymhlyg yn holl weithgareddau colegau addysg bellach a'u bod, drwy eu gwaith, yn dod â nodau llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn fyw. Ac rydych chi'n iawn i dynnu sylw at iechyd meddwl, ac mae gwaith arbennig o dda wedi'i wneud ynghylch cymorth i ddysgwyr mewn addysg bellach yn enwedig, ac rwy'n awyddus iawn i weld hynny'n parhau.

Fel y gwyddoch, mae ein cyllideb yn werth £700 miliwn yn llai nag ar adeg yr adolygiad o wariant diwethaf, felly roedd yn gylch cyllidebol anodd iawn i ni. Lle bynnag y bo modd, mae gostyngiadau i linell wariant darpariaeth ôl-16 yn y gyllideb wedi’u cyfeirio yn y fath fodd fel nad ydynt yn effeithio ar ddysgwyr. Mae cronfa reoli newid wedi’i chreu i sicrhau nad oes unrhyw goleg addysg bellach wedi cael mwy nag 1 y cant o ostyngiad yn eu cyllid yn 2024-25, o gymharu â 2023-24. Ac mae cyllidebau addysg bellach brif ffrwd a dosbarthiadau chwech ar gyfer 2024-25 yn adlewyrchu cynnydd o 3.5 y cant i'r gyfradd cyllid fesul uned, ac mae hyn yn unol ag argymhellion gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.

Ysgolion ym Mlaenau Gwent

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer ysgolion ym Mlaenau Gwent? OQ61257

Mae fy mlaenoriaethau ar gyfer ysgolion ym Mlaenau Gwent yn cynnwys codi lefelau cyrhaeddiad a chau’r bwlch ar gyfer ein dysgwyr tlotaf.

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny. Rwy'n gobeithio mai un o’i blaenoriaethau yw cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd. Efallai y bydd yr Aelodau’n cofio, mewn bywyd blaenorol, mai Ysgrifennydd y Cabinet a gadeiriodd y pwyllgor ar y ddeddfwriaeth honno, ac roeddwn i'n Weinidog, ac un o’r pethau yr oedd y ddau ohonom yn cytuno arnynt, Ysgrifennydd y Cabinet, yn y ddeddfwriaeth honno, oedd bod yn rhaid iddi sicrhau newid sylfaenol yn y profiad o ddysgu i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol. A’r hyn y credaf y byddai’r ddau ohonom yn cytuno arno heddiw hefyd yw nad yw’r ddeddfwriaeth wedi cyflawni rhai o’r uchelgeisiau hynny.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y prynhawn yma un o egwyddorion arweiniol, os mynnwch, y ddeddfwriaeth honno, sef nad oes angen diagnosis ar bobl i gael cymorth ar gyfer eu hanghenion. Ond hefyd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod gan ysgolion yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni'r uchelgais, y credaf ei fod wedi ei rannu ar draws y Siambr gyfan, ar bob ochr i'r Siambr? Oherwydd yn rhy aml o lawer, rwy'n siarad â rhieni sydd â phlant ag anghenion real iawn, ac nid yw'r anghenion hynny'n cael eu diwallu am nad yw'r adnoddau ar gael. Rwy’n torri fy nghalon weithiau wrth wrando ar straeon rhieni sy’n brwydro’n galed dros eu plant ac sy’n haeddu’r gefnogaeth i ffynnu, fel yr hoffem ei weld yn digwydd ar gyfer ein plant i gyd, ni waeth ble yn y wlad rydym yn byw.

A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gwestiwn a chadarnhau, yn wir, fod ADY yn flaenoriaeth bwysig i mi, fel y dywedais sawl gwaith yn y Siambr eisoes? Nid wyf yn cytuno â’ch asesiad braidd yn llwm o hynt y diwygiadau. Credaf fy mod wedi bod yn onest iawn yn y Siambr a chyda’r pwyllgor, fod heriau'n bodoli, ac mae’r heriau hynny’n ddeublyg: mae llywydd y tribiwnlys wedi nodi'n glir ei bod yn credu bod y ddeddfwriaeth ei hun yn heriol yn ddeallusol, felly rydym yn gweithio ar sut yr awn i’r afael ag unrhyw anghysondebau sy’n deillio o’r ddeddfwriaeth, ond heb os, ceir heriau hefyd o ran gweithredu cyson, ac rwy'n rhoi blaenoriaeth i hynny yn ogystal.

Rydych yn llygad eich lle nad oes angen diagnosis er mwyn i blentyn gael darpariaeth ddysgu ychwanegol, ac rydym wedi dweud hynny'n glir iawn ers peth amser. Nid yw'n ofynnol ychwaith iddynt gael cynllun datblygu unigol. O ran cyllid, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn ein bod wedi blaenoriaethu cyllid ar gyfer gweithredu ADY. Ers 2020, rydym wedi buddsoddi dros £60 miliwn mewn refeniw i gefnogi gweithrediad, ac eleni yn unig, mae oddeutu £54 miliwn wedi'i gyllidebu ar gyfer darpariaeth ADY. Ond rwy'n cydnabod bod mwy o waith gennym i'w wneud ar sicrhau bod y diwygiadau mawr eu hangen hyn yn cael eu rhoi ar waith yn gyson ac yn effeithiol ledled Cymru.

15:15
Gwella Addysg ym Mhreseli Sir Benfro

8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r system addysg ym Mhreseli Sir Benfro? OQ61226

Fis diwethaf, nodais fy mlaenoriaethau ar gyfer system addysg Cymru. Yn ganolog iddi, mae ymrwymiad parhaus i’n diwygiadau addysg, gyda ffocws ar wella safonau addysgol ledled Cymru, gan flaenoriaethu tegwch, cynhwysiant a llesiant.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, yr wythnos hon yw Wythnos Gofalwyr, ac mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth a darparu cymorth hanfodol i ofalwyr ifanc, mae Ysgol Aberdaugleddau yn fy etholaeth wedi lansio prosiect Gofalwyr Ifanc. Dechreuodd y prosiect yn 2021, ac mae bellach yn cefnogi dros 80 o ofalwyr ifanc sy’n mynychu ysgol uwchradd. Credir nad yw oddeutu 40 y cant o ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gydbwyso gofalu â'u hastudiaethau, ac o ganlyniad, mae un o bob tri gofalwr ifanc ac oedolyn ifanc sy'n ofalwr yn ei chael hi'n anodd cydbwyso cyfrifoldebau gofalu â'u haddysg. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r system addysg ar gyfer gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n ofalwyr fel y gallant gael y cymorth sydd ei angen arnynt drwy gydol eu taith addysgol?

Diolch, Paul. Llongyfarchiadau i'r ysgol yn Aberdaugleddau am y gwaith a wnânt yn y maes hwn; mae'n faes pwysig iawn i weithio ynddo. Mae gofalwyr ifanc yn wynebu llawer iawn o heriau, ac mae gwir angen codi ymwybyddiaeth. Mae cefnogi gofalwyr ifanc wedi bod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Fe fyddwch yn ymwybodol fod cerdyn adnabod gofalwyr ifanc ar waith, ac yn ddiweddar, fe wnaethom ystyried cyllid ychwanegol i gefnogi’r gwaith o'i gyflwyno mewn ysgolion. Rydym hefyd yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr ifanc, gan  fod hyn yn ymwneud â mwy na nodi pwy sy'n ofalwyr ifanc yn unig; mae'n ymwneud â deall cymhlethdod llawn eu hanghenion. Un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i'w gwneud hefyd yn y gwaith rwy'n bwrw ymlaen ag ef ar y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl yw sicrhau bod y gwaith ar gyfer gofalwyr ifanc yn gwbl gydgysylltiedig â hynny, yn ogystal ag ar gyfer pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf fydd y cwestiwn amserol. Mae'r cwestiwn yma i'w ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, ac i'w ofyn gan Mabon ap Gwynfor. 

Y Cynnig Cyflog Diwygiedig i BMA Cymru

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynnig cyflog diwygiedig Llywodraeth Cymru i BMA Cymru? TQ1107

Yn dilyn trafodaethau cadarn gyda'r BMA, dwi'n falch i allu adrodd bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynigion sylweddol o ran cyflog i feddygon iau, meddygon SAS, a meddygon ymgynghorol, gyda golwg ar ddod â streiciau i ben ac ar wella gwasanaethau i gleifion. Mae'r cynigion yn sicrhau bod y cyflog ychwanegol wedi'i bwyso yn erbyn ymrwymiadau ynghylch diwygio, a fydd yn anelu i sicrhau gwelliannau o ran cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ac i sicrhau diwygiadau i'r cytundeb yn y dyfodol. Dwi'n falch iawn bod pwyllgorau BMA Cymru wedi cytuno i argymell y cynnig i'w haelodau yn y bleidlais a fydd yn agor heddiw, ac fe fyddwn yn derbyn canlyniad y bleidlais honno ar 27 Mehefin.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Dwi'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi dod i gytundeb gyda'r BMA dros dâl i feddygon iau, ymgynghorol ac SAS. Mae wedi bod yn frwydr hir i'r meddygon yma, ac mae'n resyn, mewn gwirionedd, eu bod nhw wedi gorfod ymladd yn erbyn Llywodraeth Lafur er mwyn sicrhau tâl ac amodau gwell. Ond dyna ni, nid yr un ydy'r Blaid Lafur yma heddiw â beth oedd yma pan ffurfiwyd y blaid er mwyn ymladd dros hawliau gweithwyr ganrif a chwarter yn ôl. Unwaith eto, rydyn ni wedi gorfod aros i'r Llywodraeth Lafur yma dynnu cwningen allan o het ar ôl mynnu dros fisoedd maith nad oedd yna arian ychwanegol ar gael. Y cyfan gwnaethon nhw oedd gwastraffu amser, oedi, creu straen diangen ar y meddygon a'u cydweithwyr a'r gwasanaeth iechyd, a thalu mwy allan yn y diwedd na beth fyddai'r gost wedi bod petaen nhw wedi cytuno i delerau gwell reit ar y cychwyn.

Felly er eich bod chi wedi dweud nad oedd yna arian ar gael yn wreiddiol, mae’n amlwg eich bod chi wedi ffeindio soffa newydd i dwrio i lawr yn ei gefn. Mae angen ichi fod yn glir gyda’r cyhoedd o ble mae'r arian yma wedi dod, ac esbonio pam ei fod o wedi cymryd cyhyd er mwyn ffeindio’r arian. Yntau ai cam sinigaidd sydd gennym ni fan hyn er mwyn creu newyddion da i'r Prif Weinidog, neu hyd yn oed ddylanwadu ar yr etholiad cyffredinol? Mae tryloywder a gonestrwydd ar y pwynt yma yn bwysig, oherwydd mae’r dewis yma yn cael goblygiadau amlwg ar statws negodiadau tâl yn ardaloedd eraill o’r gweithlu.

Dro ar ôl tro mae cynrychiolwyr y gweithlu, megis yr RCN, wedi derbyn yr ateb gan y Llywodraeth nad oedd yna arian ychwanegol i gyflwyno ar gyfer cytundebau teg i nyrsys, er enghraifft, ac fe wnaeth yr RCN, yn yr achos yma, dderbyn eich gair chi mewn ffydd dda. Ond mae'r haeriad yna a wnaed i gyrff eraill fel yr RCN bellach yn amlwg yn mynd yn gwbl groes i beth mae’r Llywodraeth wedi llwyddo ei wneud rŵan gyda’r BMA. Gadewch inni fod yn glir, nid gosod un grŵp o’r gweithlu yn erbyn y llall yr ydym ni fan hyn, ond yn hytrach yn ceisio dod at y gwir a sicrhau gonestrwydd, tryloywder a chysondeb. Felly beth sy'n wahanol o ran eich negodi gyda’r RCN a chyrff cynrychioladol eraill o’i gymharu gyda'r BMA sy’n golygu nad oes yna arian ychwanegol ar gael gyfer nyrsys Cymru?

15:20

Diolch yn fawr iawn. Pe bai’r Aelod yn talu sylw, rwy’n siŵr y byddai wedi cydnabod bod rhywfaint o arian wedi'i ddarparu ar ffurf—[Torri ar draws.]

O, rwy'n gweld. Fe wnaf barhau. Fe fyddwch yn cydnabod, mewn gwirionedd, fod yr arian wedi'i ddarparu ar ffurf cyllid canlyniadol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yr hyn a ddigwyddodd yw bod arian wedi'i roi yn y cronfeydd wrth gefn, ac rydym bellach wedi tynnu rhywfaint o arian o'r cronfeydd wrth gefn er mwyn setlo'r tâl. A gadewch inni beidio ag anghofio bod hyn yn ymwneud â dyfarniad cyflog y llynedd.

Fe wnaethom ddechrau'r trafodaethau cyn unrhyw awgrym y byddai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal. Fe wnaethom eu dechrau oherwydd, yn amlwg, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol agos â’r undebau, yn wahanol i weddill y Deyrnas Unedig. Mae'n dangos, mewn gwirionedd, pan fyddwch yn cyfarfod i negodi—. Ac rwy'n gobeithio bod y Ceidwadwyr yn gwylio, oherwydd yn y DU, maent wedi galw a dweud y byddant yn gweithredu’n ddiwydiannol, y meddygon iau. Mae'n dangos, pan fyddwch yn cyfarfod, yn gwrando ac yn negodi, y gallwch ddod i gytundeb.

Wrth gwrs, roeddem yn falch ein bod wedi gallu setlo gyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gynharach yn y flwyddyn. Rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod, ac rwy'n gobeithio eich bod yn cydnabod—a chredaf ei bod yn bwysig fod cydnabyddiaeth—fod y meddygon iau yn llawn haeddu codiad cyflog mewn gwirionedd. Ac mae'n debyg ei bod yn werth ystyried y ffaith bod meddyg iau, ar ôl pum mlynedd mewn ysgol feddygol, yn ennill £28,471, a oedd yn llai na nyrs ar lefel band 5, a oedd yn ennill £28,834. Felly, rwy’n siŵr y bydd rhai pobl wrth eu boddau ein bod wedi cytuno ar y cynnig hwn.

Gadewch imi ddweud yn gwbl glir nad yw hwn yn gynnig diamod, ein bod wedi sicrhau y bydd diwygiadau gweithredol i fynd i'r afael â materion fel cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Ac wrth gwrs, rydym wedi cael ymrwymiad i sicrhau y gellir diwygio contractau yn y dyfodol. Y peth allweddol yma yw cofio bod hyn oll yn ymwneud â mwy na'r meddygon—mae'n ymwneud â'r cleifion mewn gwirionedd. Mae gennym ddiddordeb mewn cael y fargen orau oll i’r cleifion, ac rwy'n gobeithio ein bod wedi cael hynny o ganlyniad i’r cynnig hwn.

Mae'n newyddion gwych eich bod wedi dod i gytundeb gyda Chymdeithas Feddygol Prydain. Ysgrifennydd y Cabinet, nodaf eich ymateb i Mabon, ond mae’r ffaith ichi allu dod o hyd i gyllid ar gyfer y cynnig cyflog gwell hwn yn codi’r cwestiwn nawr pam na fu hyn yn bosibl yn gynharach. Mae pobl Cymru, ein hetholwyr, yn wynebu’r amseroedd aros mwyaf annynol am driniaeth, a thra bo Llywodraeth Cymru yn ystyried ei hopsiynau, mae’r bobl hynny wedi’u gorfodi i fyw mewn poen ac anghysur. Mae Llafur Cymru wedi bod wrth y llyw gyda'r GIG yng Nghymru ers chwarter canrif. Yn hytrach na beio pawb arall, a wnewch chi gyfaddef eich methiannau ym maes iechyd a gofal? Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno i wario’r codiad Barnett cyfan a ddaeth i law ar gyfer iechyd ar iechyd, a rhoi diwedd ar amseroedd aros annynol o ddwy flynedd yng Nghymru?

15:25

Diolch yn fawr. Mae arnaf ofn, Altaf, y bydd yn rhaid imi ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Mabon, sef na roddodd eich Llywodraeth Geidwadol chi yr arian i ni tan wythnosau olaf y flwyddyn ariannol. Ni allwn gynllunio ar y sail honno, ac felly bu’n rhaid inni roi’r arian hwnnw yn y gronfa wrth gefn. Rydym wedi tynnu'r arian hwnnw o'r gronfa wrth gefn bellach er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i roi'r arian hwn ar y bwrdd. Gadewch imi eich atgoffa, Altaf, mai eich Llywodraeth Geidwadol chi sy’n wynebu gweithredu diwydiannol yn Lloegr yn y dyddiau cyn etholiad cyffredinol. Os ydych chi'n credu bod hynny'n syniad da, pob lwc i chi. Ond credaf ei bod yn bwysig, hefyd, y ceir dealltwriaeth fod y negodi hwnnw wedi bod yn anodd iawn. Nid yw wedi bod yn hawdd. Hoffwn ddiolch i'r negodwyr ar y ddwy ochr am eu hymdrechion llafurus, a chredaf fod yr hyn rydym yn ei gael nid yn unig—. Nid codiad cyflog yn unig y maent yn ei gael; rydym yn cael swm enfawr yn gyfnewid hefyd i gleifion Cymru, ac mae’r ymrwymiad i ddiwygio contractau yn sicr yn bwysig. Fel cyn-feddyg ymgynghorol eich hun, fe fyddwch yn gwybod bod cerdyn cyfraddau Cymdeithas Feddygol Prydain yn eithaf drud. Ac un o'r pethau y maent wedi cytuno arnynt gyda ni yw y byddant yn cael gwared ar gardiau cyfraddau Cymdeithas Feddygol Prydain o ganlyniad i'r negodi hwn. Mae hynny’n dda i drethdalwyr Cymru, mae’n dda i gleifion Cymru, a bydd mwy o lawdriniaethau’n cael eu gwneud o ganlyniad i hynny.

Roeddwn am ganolbwyntio ar rai o’r materion ymylol sy'n ymwneud â hyn hefyd o ran recriwtio a chadw gweithwyr meddygol proffesiynol. Oherwydd yn aml, pan gysylltir â mi yn yr etholaeth ac yn genedlaethol—rwyf wedi cymryd llawer o gyfrifoldeb am wasanaethau iechyd—mae'n ymwneud â'r materion ymylol sy'n gysylltiedig â hyn weithiau, o ran systemau TG a mudo, a denu staff o rannau eraill o'r DU i Gymru. Yn aml, rhwystr i hynny yw’r gwahaniaeth rhwng rhai systemau TG a materion ymylol sy’n atal staff rhag cael eu denu i Gymru. Felly, a oes unrhyw drafodaethau ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid a phartneriaid allanol i sicrhau bod gennym rywfaint o hylifedd o fewn y system fel y gellir denu pobl i Gymru ac nad ydynt yn cael eu perswadio i beidio â gwneud hynny gan faterion ymylol a all fod yn rhwystr weithiau rhag recriwtio a chadw staff o fewn y proffesiwn meddygol ar draws y GIG a sectorau eraill hefyd?

Diolch yn fawr iawn, Gareth. Rydych chi'n llygad eich lle. Mae meddygon yn awyddus i weithio mewn system sydd wedi'i moderneiddio, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth rwy'n awyddus iawn i'w wneud. Mae'n rhaid inni gofio mai un pot o arian sydd yma, felly os wyf yn ei roi i'r meddygon, mae'n anodd iawn imi foderneiddio a gwneud y gwaith uwchraddio digidol yr hoffwn ei wneud hefyd. Felly, mae'n rhaid pwyso a mesur yma. Bob tro y rhoddwn arian i un adran, mae adran arall yn mynd i orfod gwneud heb. Dyna sy'n anodd am y sefyllfa rydym ynddi, lle mae gennym gyllideb gyfyngedig. Yn amlwg, dyna rydym yn awyddus i’w wneud. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau trawsnewid digidol. Dyna sut y gwnawn sicrhau rhai o'r enillion cynhyrchiant yr ydym yn awyddus iawn i'w gweld. Ond y ffaith amdani yw ein bod wedi cytuno, er enghraifft, â phwyllgor meddygon ymgynghorol BMA Cymru, mai nawr yw’r amser i ddiwygio’r strwythur cyflogau presennol, sydd dros 20 mlwydd oed. Y peth da am hynny, ac fe holoch chi ynglŷn â chadw staff, yw bod strwythur cyflog modern yn mynd i fod yn well o ran cymorth a recriwtio, ond hefyd i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, sydd wedi bod yn amlwg. Felly, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn mynd i'r afael â hynny. A mater arall mewn perthynas â'r hyn sy'n digwydd yn y dyfodol yw y byddwn yn edrych ar gontract y gellir ei ddefnyddio ledled Cymru gyfan, a chredaf y gallai hynny fod yn eithaf diddorol o ran meddygon ymgynghorol yn gallu symud o un bwrdd iechyd i'r llall. Felly, rwy'n credu bod cynnydd go iawn i'w weld mewn perthynas â hyn. Diolch.

4. Datganiadau 90 Eiliad
15:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon rydym yn nodi Wythnos Gofalwyr 2024. Nod Wythnos Gofalwyr yw codi ymwybyddiaeth o'r heriau sy'n wynebu gofalwyr di-dâl ledled y wlad ac mae'n cydnabod y cyfraniad enfawr y maent yn ei wneud. Ond yn bwysicach fyth, mae'n ymwneud â sicrhau bod lleisiau gofalwyr di-dâl yn cael eu clywed. Thema Wythnos Gofalwyr eleni yw 'rhoi gofalwyr ar y map', sy'n ceisio sicrhau bod pawb, o'r llunwyr polisi i gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau, yn cydnabod ac yn cefnogi ein gofalwyr di-dâl. Nid oes ganddynt hwy ddewis ond gofalu, ond mae gennym ni ddewis i'w cefnogi. Mae ymchwil yn dangos bod dros draean o filiwn o ofalwyr di-dâl yng Nghymru a chyda'i gilydd maent yn arbed dros £10.5 biliwn y flwyddyn i'r pwrs cyhoeddus. Felly, gadewch i bawb ohonom ddweud 'diolch' enfawr wrth ein gofalwyr di-dâl a chynnig eu cefnogi'n well yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

Eleni yw dau ganmlwyddiant y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid. Sefydlwyd yr RSPCA ar 16 Mehefin 1824 gan grŵp bach o arloeswyr mewn siop goffi yn Llundain, ac mae wedi tyfu i fod yn elusen lles anifeiliaid fwyaf y DU a'r sefydliad hynaf o'i fath yn y byd. Ers dwy ganrif, mae'r RSPCA wedi bodoli i ysbrydoli byd gwell ar gyfer pob math o anifail, gan achub yr anifeiliaid mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas rhag pob math o greulondeb ac esgeulustod annirnadwy. 

Yr wythnos diwethaf ymunais â John Littlewood, un o swyddogion achub anifeiliaid yr RSPCA, am y prynhawn i ddarganfod mwy am waith pwysig y rhai sydd ar y rheng flaen yng ngwaith yr elusen yng Nghymru. Ac roedd John yn gallu cynnig cyngor adeiladol a chymorth ar ôl archwilio'r anifeiliaid, a threfnu ymweliadau dilynol.

Ac mae hon yn wythnos fawr i'r rhai ohonom yn y Senedd sy'n canolbwyntio ar wella lles anifeiliaid, gan ein bod hefyd yn dathlu 100 mlynedd o'r Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon. Ers 1924 mae'r gynghrair wedi bod yn brwydro i roi llais i anifeiliaid sy'n dioddef yn dawel yn enw chwaraeon fel y'i gelwir. Ar hyd eu taith, mae'r gynghrair wedi ymgyrchu'n llwyddiannus dros amddiffyniadau cyfreithiol i ddyfrgwn a moch daear, a dangos pa mor greulon yw hela.

Diolch i holl staff a gwirfoddolwyr y ddwy elusen dros genedlaethau sydd wedi ymrwymo i wella bywydau anifeiliaid ledled y DU.

Diolch.

Nesaf yw'r cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau. Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, os nad oes unrhyw wrthwynebiad, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau yn cael eu grwpio ar gyfer trafod a phleidleisio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Torri ar draws.]

Na, nid ydych chi'n gwrthwynebu, ydych chi? 

Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad.

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Cynnig NNDM8609 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Luke Fletcher (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru).

Cynnig NNDM8610 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Siân Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn lle Luke Fletcher (Plaid Cymru).

Cynnig NNDM8611 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn lle Llyr Gruffydd (Plaid Cymru).

Cynnig NNDM8612 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Cefin Campbell (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Heledd Fychan (Plaid Cymru).

Cynnig NNDM8613 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn lle Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru.

Cynigiwyd y cynigion.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Eitem 5 heddiw yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi cadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig—Peredur Owen Griffiths.

Cynnig NDM8601 Peredur Owen Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:

Yn penodi Dr Ian Rees yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 12 Mehefin 2024 tan 11 Mehefin 2028.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigaf y cynnig hwn heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid, yn gofyn i’r Senedd gytuno i benodi Dr Ian Rees yn gadeirydd ar fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Mae gan Dr Ian Rees brofiad sylweddol o uwch-arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus, a phrofiad helaeth o weithio ar lefel bwrdd fel uwch-swyddog gweithredol ac anweithredol. Gyda’i bedair blynedd o wasanaeth fel aelod anweithredol o Swyddfa Archwilio Cymru, mae ganddo ddealltwriaeth manwl o’r sefydliad ac mae wedi gweithio’n adeiladol gyda’r bwrdd a’r archwilydd cyffredinol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bydd yr Aelodau’n gwybod i’r cadeirydd blaenorol, Dr Kathryn Chamberlain, gael ei phenodi gan y Senedd ym mis Mawrth 2023. Mae manylion ymadawiad Dr Chamberlain i’w cael yn ein hadroddiad. Nid wyf am eu hailadrodd yn y ddadl yma. Er ei bod yn siom i ni fod ei chyfnod ar y bwrdd wedi dod i ben cyn pryd, mae’r pwyllgor yn ddiolchgar i Dr Chamberlain am ei ffordd gadarnhaol ac adeiladol o ymgysylltu â ni ac am gyflawni blaenoriaethau statudol a strategol Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod ei chyfnod fel cadeirydd. Ar ran y pwyllgor, hoffwn ddiolch iddi am ei gwasanaeth.

Efallai y bydd yr Aelodau hefyd am nodi bod adroddiad y pwyllgor yn cadarnhau penodiad Richard Thurston a Mike Norman am eu tymor cyntaf fel aelodau anweithredol o’r bwrdd, a phenodiad Dr Ian Rees am ei ail dymor. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw. Gofynnaf i’r Senedd dderbyn y cynnig. Diolch yn fawr.

15:35

Na, reit. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030'

Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jenny Rathbone.

Cynnig NDM8602 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030', a osodwyd ddydd Gwener 15 Mawrth 2024. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dechreuodd y pwyllgor yr ymchwiliad hwn ychydig dros flwyddyn yn ôl, drwy ymgynghori â hyrwyddwyr cymunedol o bob rhan o Gymru. Fe wnaethom gyfarfod ar-lein ac wyneb yn wyneb, yn adeilad y Pierhead, yn briodol yng nghanol yr hyn a arferai gael ei alw'n Tiger Bay, un o'r cymunedau amlddiwylliannol hynaf yn y DU a'r byd. Siaradodd llawer o randdeiliaid am syrffed ar ymgyngoriadau. Nid oeddent am barhau i ailadrodd eu profiad bywyd, roeddent eisiau gweld beth oedd yn newid a pha effaith oedd eu cyngor i gyrff cyhoeddus yn ei chael. Roeddent yn glir: roeddent am i'n hymchwiliad ganolbwyntio ar weithredu a chyflawni.

Heddiw mae bron bob cymuned yng Nghymru wedi ei chyfoethogi gan bobl o wahanol rannau o'r byd, ffaith y dylem i gyd ei dathlu. Fodd bynnag, mae hiliaeth yn rhan lawer rhy gyfarwydd o brofiad bywyd o ddydd i ddydd llawer gormod o'n dinasyddion. Mae'r holl dystiolaeth a gymerwyd gennym yn cadarnhau bod cefnogaeth eang i'r nod uchelgeisiol o greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Rydym yn cytuno'n llwyr â brawddegau olaf canllawiau Llywodraeth Cymru i'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol':

'rydym yn dechrau drwy ymrwymo i gymryd y camau cyntaf. Oni wnawn hynny, ni fydd dim yn newid. Yn wir, mae angen gweithredu, nid geiriau erbyn hyn.'

Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru arwain ymdrechion i wrthsefyll yn hytrach nag ildio i wahaniaethu ar sail hil: amser i weithredu nid geiriau—teitl ein hadroddiad. Rydym yn bryderus y bydd y casgliad hwn o fwriadau da yn ei chael hi'n anodd gwneud cynnydd ystyrlon oni bai bod cymhlethdod y trefniadau llywodraethu yn cael eu symleiddio a bod rôl sefydliadau partner yn cael eu hesbonio'n well.

Felly, mae'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol' yn cyffwrdd yn briodol ar holl weithgareddau'r Llywodraeth, gan y gall hiliaeth effeithio ar bob agwedd ar fywydau pobl. Mae ein hadroddiad wedi ei gyfyngu i dri maes strategol—arweinyddiaeth, cydweithredu a monitro—a thair her weithredol benodol, ym maes iechyd, addysg a chyfiawnder troseddol. Nid yw'n cynnwys meysydd polisi eraill, fel tai; nid yw hynny'n golygu bod popeth yn iawn o ran hynny, ac efallai y byddwn am ddod yn ôl at y materion hynny yn nes ymlaen.

Ar arweinyddiaeth, mae'r cynllun gweithredu yn cyfleu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cymdeithas wrth-hiliol. Er hynny, dywedodd gormod o sefydliadau wrthym nad oeddent yn deall sut y byddai'r cynllun yn cael ei weithredu, ac nad oeddent yn glir pwy oedd yn gyfrifol am ba gamau o dan y cynllun. Dywedodd Yusuf Ibrahim o ColegauCymru

'mae angen i arweinwyr gael eu dwyn i gyfrif mewn perthynas â "Beth a wnânt?", "Sut y gwnânt ei fesur?", a "Sut y gwyddom eu bod yn llwyddiannus?"...beth a wnawn ni am y peth os nad ydynt yn gwneud pethau'n iawn?'

Dywedodd:

'braint nid hawl yw cael gweithio yn y sector cyhoeddus, ac a dweud y gwir, os nad yw pobl yn mynd i arwain hyn yn dda, rwy'n credu bod angen inni edrych ar bwy sy'n ei arwain ar draws pob sector.'

Mae argymhellion 1 a 2 yn nodi sut yr hoffem weld Llywodraeth Cymru yn mireinio ei rôl arweinyddiaeth uwch. Mae hyn yn cynnwys culhau ac yna dileu ei fwlch cyflog ethnigrwydd ei hun erbyn 2025-26 a chynnal adolygiad cyflym o strwythurau i gefnogi'r cynllun. Ym marn y pwyllgor, mae'r strwythurau a'r trefniadau llywodraethu a sefydlwyd o dan y cynllun yn llawer rhy gymhleth ac mewn perygl o gael eu gorgynllunio. Ydy, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio egluro hyn, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Fodd bynnag, yn y dystiolaeth a gawsom roedd angen eglurder ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am wneud beth. Nid ydym yn gwybod eto a yw'r neges hon wedi'i deall.

Mae iechyd a mynediad at gyfieithu yn fater allweddol. Mae'n parhau i fod yn wir fod yna ddibyniaeth ar aelodau teuluol i fod yn gyfieithwyr oherwydd diffyg mynediad at gyfieithu mewn lleoliadau meddygol. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Clywsom enghraifft bwerus iawn gan Shanti Karupiah, yn ymddangos ar ran Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ac mae cyfathrebu gwael drwy aelod o'r teulu yn dangos cymaint y mae hyn yn tramgwyddo hawliau dynol unigolyn. Ni allwn ddisgwyl i blentyn gyfieithu hanes iechyd personol benywaidd, na chafodd ei gyfleu'n glir gan y fenyw dan sylw o flaen ei phlentyn yn ôl pob tebyg, ac nad oedd hi'n bosibl i'r plentyn ei gyfieithu. A'i gweithred gyflym hi yn archwilio'r unigolyn dan sylw a'i galluogodd i anfon y fenyw i'r cyfeiriad cywir. Nawr, mae methu darparu cyfieithu priodol yn tramgwyddo hawliau dynol unigolyn, ac er y mynegwyd pryderon mewn adroddiad blaenorol, mae'n amlwg nad oes digon o gynnydd wedi'i wneud.

Gyda thechnolegau modern, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau mynediad teg at gyfieithu i bawb. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 6 yn llawn, ond nid yw'n glir beth yw'r amserlen ar gyfer gweithredu adroddiad HEAR 2, ac nid yw'n sôn ychwaith am y bobl allweddol, y porthorion allweddol yn hyn, ym maes iechyd, sef y derbynyddion sy'n trefnu'r apwyntiad ac y dylent allu gofyn i rywun a ydynt yn dymuno cael cyfieithydd os ydynt yn credu bod hynny'n rhywbeth y gallai fod ei angen ar y claf. 

Os caf droi at fonitro adrodd am ddigwyddiadau hiliol, mae'n rhyfeddol—. Gyda dros hanner ein meddygon a'n nyrsys wedi cael eu geni mewn gwlad arall, mae'n annerbyniol fod hiliaeth yn cael ei amlygu'n rhy aml o lawer yng ngweithrediadau gwasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd. Cyfeiriodd y Coleg Nyrsio Brenhinol at ei arolwg cyflogaeth yn 2019, lle roedd bron i hanner yr ymatebwyr Asiaidd, a thua'r un nifer o ymatebwyr du, wedi profi bwlio gan gydweithwyr, o'i gymharu â dim ond 38 y cant o ymatebwyr gwyn, sy'n ffigur arwyddocaol yn fy marn i. A dywedodd Race Council Cymru wrthym fod llawer o bobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig heb hyder fod gan leoliadau addysg bolisïau effeithiol i atal bwlio hiliol neu fân-weithredoedd ymosodol a bod y rhain yn cael eu trin yn effeithiol pan fyddant yn digwydd. Mae llawer o sefydliadau addysg yng Nghymru heb bolisïau gwrth-hiliaeth na mecanweithiau uwchgyfeirio. Felly, mae argymhellion 7 a 9 yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r system ar gyfer adrodd a monitro hiliaeth a digwyddiadau hiliol mewn lleoliadau gofal iechyd ac addysg. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yn llawn yr un ynglŷn ag iechyd, ond yn rhannol yn unig y derbyniwyd yr un ar addysg.

O fewn gofal iechyd, rhoddir gwybod i Datix Cymru am yr holl ddigwyddiadau hiliol a cheir dull cyson o weithredu ar draws Cymru. Ar gyfer ysgolion a cholegau, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio mecanweithiau sydd eu hangen i gynhyrchu fformat adrodd cyson ynghylch digwyddiadau ac aflonyddu hiliol. Os yw'n bosibl cael dull Cymru gyfan o ymdrin â gofal iechyd, hoffem weld yr un peth ar gyfer ysgolion a cholegau yng Nghymru ac annog Llywodraeth Cymru i weithredu hyn, gan ddeall ar yr un pryd fod cyrff llywodraethu ysgolion yn weithredwyr annibynnol ac yn gyfrifol am ymarfer ysgolion unigol. Serch hynny, rydym yn teimlo o ddifrif y dylid cael dull Cymru gyfan o weithredu ar hiliaeth drwy ein system addysg gyfan.

Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau pobl eraill ac ymateb y Gweinidog. 

15:45

Hoffwn gofnodi fy niolch i Gadeirydd fy nghyn-bwyllgor, y tîm clercio rhagorol a'r holl dystion a wnaeth yr ymchwiliad hwn yn bosibl. Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru y cynllun gweithredu gwrth-hiliol hwn, er fy mod yn cefnogi'r weledigaeth o Gymru wrth-hiliol, dywedais yn glir nad oedd y cynllun yn mynd i'w gyflawni. Mae'n ymddangos nad fi'n unig oedd yn pryderu felly.

Rwyf am ei gwneud hi'n glir ar y dechrau nad wyf yn credu bod Cymru'n genedl hiliol. Rydym yn un o'r cenhedloedd mwyaf goddefgar ar y blaned, ond yn anffodus mae hiliaeth yn dal i fodoli. Nid y math agored sy'n gyffredin yn ein cenedl, ond hiliaeth strwythurol fwy cudd. Rwy'n dweud 'hiliaeth strwythurol' oherwydd fy mod yn cytuno â Reni Eddo-Lodge. Mae hi'n dewis y term hiliaeth 'strwythurol' yn hytrach na hiliaeth 'sefydliadol', am ei bod hi'n credu ei fod yn bresennol mewn gofod sy'n llawer ehangach na'n sefydliadau mwy traddodiadol. Mae hiliaeth strwythurol yn ddyrys ac nid yw pobl yn sylweddoli ei fod yno. Mae'n ymwneud â mwy na rhagfarn bersonol yn unig, ond gyda'i gilydd mae'n effeithio ar ein tueddfryd. Dyma'r math o hiliaeth sydd â phŵer i effeithio'n sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl. Ni yw'r wlad fwyaf goddefgar o ran hil yn y byd Saesneg ei iaith a dim ond ychydig bach ar ôl Sweden a Brasil o ran goddefgarwch. Ond pan feddyliwn fod gwir hiliaeth ond yn bodoli yng nghalonnau pobl ddrwg yn unig, pan gredwn fod hiliaeth yn ymwneud â gwerthoedd moesol, rydym yn anwybyddu'r ffaith ei fod yn ymwneud â goroesiad systemau pŵer mewn gwirionedd. Mae natur gudd hiliaeth strwythurol yn golygu ei bod yn aml yn anodd mynd i'r afael â hi.

Mae cynllun gweithredu gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn orfodol i ddysgu hanesion a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn rhan o wersi hanes Cymru. Er hynny, dim ond canran fechan o athrawon sy'n dod o gefndiroedd BAME. Y llynedd, dim ond 0.2 y cant o athrawon newydd gymhwyso oedd yn ddu. Dim ond 44 o'r bron i 1,500 o athrawon newydd gymhwyso oedd â chefndir BAME. Sut y gallwn ni obeithio rhoi diwedd ar hiliaeth, gwahaniaethu, a throseddau casineb yn y pen draw, drwy addysg a dathlu amrywiaeth os nad yw ein hathrawon yn gynrychioliadol? Ond mae'n mynd yn ddyfnach na hynny. Dywedodd tystion wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol fod ysgolion ac addysgwyr i'w gweld yn anymwybodol o'u rhwymedigaethau i weithio tuag at Gymru wrth-hiliol. Ychydig dros chwarter yr athrawon oedd yn ymwybodol o'r gwaith a wnaed gan yr Athro Charlotte Williams yn y maes hwn, ac roedd llai—un o bob pum athro—yn hyderus eu bod yn deall sut y bydd gwrth-hiliaeth yn mynd i'w le yn y cwricwlwm. Nid yw'n ddigon da. 

Mae Llywodraeth Cymru yn wych am gynllunio, ond yn wael iawn am gyflawni'r cynlluniau hynny. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i dderbyn holl argymhellion yr adroddiad hwn yn llawn, nid mewn egwyddor yn unig. Heb ddata diriaethol, targedau a phethau i'w cyflawni, ni fydd y cynllun gweithredu gwrth-hiliol yn gwneud dim i fynd i'r afael â hiliaeth strwythurol yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Mae pobl ddu, Asiaidd ac o dras ethnig lleiafrifol yng Nghymru yn wynebu heriau ac anfantais difrifol ac annerbyniol. Ac am yn rhy hir, maen nhw wedi bod yn clywed y bydd newid o ran hyn, drwy gynlluniau gweithredu a datganiadau gan Lywodraeth Cymru. Ond fe ddywedon nhw yn glir wrthym ni nad ydyn nhw'n teimlo nac yn gweld bod newid yn digwydd. Roedd hyn yn glir o'r dystiolaeth glywon ni fel pwyllgor. Er yn cytuno gyda dyheadau a nod y cynllun gweithredu gwrth hiliol, roedd yn hollol eglur bod yna fwlch gweithredu, a bod cynnydd yn rhy araf er mwyn sicrhau nad yw pobl yng Nghymru yn profi hiliaeth ac effaith rhagfarn ac anghydraddoldeb ar sail hil yn eu bywydau bob dydd.

Tra bo angen newid ar bob lefel ac ym mhob elfen o gymdeithas i sicrhau hyn, un o brif negeseuon ein hadroddiad oedd bod angen gwell arweiniad a chyllido pwrpasol a gwell gwerthuso o gynnydd gan Lywodraeth Cymru os ŷm ni moyn gweld gwir wahaniaeth. Rwy'n siomedig felly bod y Llywodraeth, er yn derbyn ein hargymhelliad i geisio sicrhau bod ei gweithlu ei hunan, er enghraifft, yn fwy amrywiol, yn dweud bod cyfyngiadau ar y gyllideb sydd ar gael i effeithio ar gyfleoedd i recriwtio. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth wneud mwy i ddechrau wrth eu traed eu hunain wrth arwain drwy esiampl.

Mae diffyg cyllid hefyd yn cael ei weld gan sefydliadau sy'n gwbl sylfaenol i sicrhau gweithredu, fel y gymdeithas llywodraeth leol a byrddau iechyd, fel rhwystr, ac mae'n rhwystredig bod y Llywodraeth yn methu â darparu dadansoddiad o'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r cynllun, yn unol â'n hargymhelliad cyntaf ni.

Dwi'n meddwl ei bod yn werth dyfynnu Ceri Harris, o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a dyma ddywedodd hi wrthym ni am yr angen am adnoddau ychwanegol i gefnogi cynllun gweithredu:

'Rydym yn disgwyl llawer gan bobl am ddim, ac felly mae angen inni werthfawrogi'r amser hwnnw. Os ydym o ddifrif ynglŷn â hyn, mae angen i chi roi eich arian ar eich gair yn hyn o beth. Ac felly os ydym am sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, mae angen inni gael yr adnoddau hynny... Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes cydraddoldeb ers 20 mlynedd. Yn llythrennol, mae'n rhaid imi fegian, dwyn a benthyg arian i wneud gwahanol gynlluniau. Rwy'n talu am gynlluniau o fy mhoced fy hun am ei fod yn bwysig i mi.'

Gwelon ni fel pwyllgor yn arbennig yr angen i ffocysu yn benodol a gyrru newid cadarn ym meysydd addysg, iechyd a chyfiawnder troseddol. Hoffwn ganolbwyntio nawr am weddill yr amser sydd gen i ar yr argymhelliad olaf, sef y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu arsyllfa cyfiawnder troseddol i Gymru a cheisio cyfleoedd pellach i gydweithio â’r byd academaidd yng nghyd-destun y cynllun gweithredu.

Y rheswm dros yr argymhelliad hwn yw un o'r arwyddion mwyaf eglur o anghydraddoldeb systemig sy'n seiliedig ar hil a hiliaeth: y ffaith bod pobl o gefndiroedd lleiafrif ethnig yn cael eu gorgynrychioli ar bob lefel o’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. O'r ffigurau mwyaf diweddar sydd gennym ni, yn 2021, roedd 51 allan o bob 10,000 o bobl ddu Gymreig yn y carchar, o'i gymharu â 14 o bobl gwyn, a mwy o bobl ddu hefyd dan ofal y gwasanaethau prawf. Mae hyd dedfrydau hefyd yn hirach i bobl ddu na diffynyddion gwyn. Yn yr un modd, mae'r data cyfyngedig sydd ar gael yn cadarnhau lefel uchel o anghymesuredd yn y defnydd o stop and search gan luoedd heddlu Cymru.

Diolch i waith ymchwil arloesol a hollbwysig Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae darlun cliriach o'r anghymesuredd o ran hil yn y system gyfiawnder troseddol wedi ei amlygu ac yn tanlinellu’r angen i Lywodraeth Cymru fynd ar drywydd yr agenda gwrth-hiliaeth yn y maes hwn. Roedd yn rhaid defnyddio ceisiadau rhyddid gwybodaeth i ganfod llawer o'r wybodaeth yma, ac mae'r anawsterau yn deillio o'r ffaith nad yw'r data ar gael. Yn wir, os darllenwch chi gyfrol arbennig The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge Dr Robert Jones a'r Athro Richard Wyn Jones, rydych chi'n deall pam. Mae'n ymwneud yn gyfan gwbl â'r ffaith nad yw'r system gyfiawnder troseddol o dan ein rheolaeth.

Mae'n gwbl gywilyddus bod Yvette Cooper heddiw wedi datgan yn glir na fydd yna newid yn hyn o beth o dan Lywodraeth Lafur yn San Steffan, yn groes i gyfres hir o adroddiadau arbenigol, barn ddatganiedig y Llywodraeth a thystiolaeth a glywon ni fel pwyllgor am yr anghyfiawnder a'r niwed mae hyn yn achosi i, er enghraifft, bobl ddu, Asiaidd ac o dras ethnig lleiafrifol. Hoffwn wybod os yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn condemnio'r sylwadau yna.

Mae'n rhaid derbyn mewn egwyddor yr angen am gefnogi a datblygu gwaith yn y maes hwn o ran casglu data, ac mae'r Llywodraeth yn derbyn hyn mewn egwyddor. Ond hoffwn ofyn, i orffen, am ddiweddariad penodol ar yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddatblygu a chefnogi'r ymchwil hanfodol yma, a gofyn am ymrwymiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd, gyda newid yn y Llywodraeth yn fwy na thebygol erbyn Gorffennaf, beth fydd yr achos y bydd hi'n ei wneud i Keir Starmer ynglŷn â sicrhau y caiff pwerau plismona a chyfiawnder eu datganoli. Ydych chi'n cytuno bod y sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy—

15:55

Jane Dodds. Na, Jane, rydych chi'n dal i fod wedi eich tawelu ar hyn o bryd. Gallwch ddechrau nawr.

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddechrau drwy fynegi fy niolch i aelodau'r pwyllgor a hefyd i'r unigolion a'r sefydliadau a gymerodd ran ac a roddodd dystiolaeth mor werthfawr i mi ac i ni fel pwyllgor. Hoffwn innau hefyd gydnabod y realiti llwm fod anghydraddoldeb hiliol yn parhau yma yng Nghymru. Er gwaethaf pocedi o gynnydd, mae pobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn parhau i wynebu gwahaniaethau ym maes tai, addysg, cyflogaeth, gofal iechyd ac fel y clywsom, yn y system cyfiawnder troseddol. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi nodi meysydd lle ceir newid cadarnhaol, ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Mae cynllun gweithredu gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol ond angenrheidiol i gyflawni Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, gweledigaeth yr ydym i gyd yn ei chroesawu, oherwydd mae angen iddo ymwneud â datgymalu'r fframwaith hiliol sydd gan Gymru ar hyn o bryd.

Mae hunanfodlonrwydd yn parhau i fod yn elyn i gynnydd ac mae adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw at yr heriau aruthrol y mae angen i Lywodraeth Cymru eu goresgyn o ran arweinyddiaeth bendant, cydweithio gweithredol a monitro manwl. Felly mae'n ddigalon darllen ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y pwyllgor, sy'n ymddangos fel pe bai'n ceisio bychanu ei chyfrifoldebau arwain yn ei pharodrwydd i dderbyn ein hargymhellion naill ai'n rhannol neu mewn egwyddor heb fwrw ymlaen â chamau gweithredu allweddol. Er enghraifft, mae gwrthod argymhelliad 3 yn llwyr yn gyfle a gollwyd. Drwy nodi mai'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn unig sy'n gyfrifol fel y rheoleiddiwr am wella cynlluniau cydraddoldeb strategol, ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn ymwrthod â'i rôl i sbarduno cynnydd yn rhagweithiol yn hyn o beth.

Ar ben hynny, o ran argymhelliad 4, bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddibynnu'n unig ar y casgliad o adnoddau ar llyw.cymru yn hytrach na microwefan annibynnol benodol yn cyfyngu ar hygyrchedd a gwelededd yr adnoddau hanfodol hyn ac yn rhwystro tryloywder.

Hoffwn ganolbwyntio ar y sector addysg yn fy nghyfraniad byr, ac mae'r hyn a glywsom yn parhau i fod yn dyngedfennol yn y frwydr yn erbyn anghydraddoldeb hiliol. Fel yr amlygodd y comisiynydd plant yn eu hadroddiad fis Tachwedd diwethaf, mae angen eglurder ar frys ynglŷn â'r modd y dylai ysgolion drin digwyddiadau hiliol, a diffyg cysondeb pryderus ar draws awdurdodau lleol mewn perthynas â chofnodi ac adrodd am ddigwyddiadau. Mae'r adroddiad yn paentio darlun pellach o ysgolion fel amgylcheddau gelyniaethus lle mae bwlio'n rhemp, gyda llawer o leiafrifoedd ethnig heb hyder yn effeithiolrwydd polisïau i atal bwlio hiliol a mân-weithredoedd ymosodol. Mae'r realiti hwn yn gwbl annerbyniol ac mae'n tanseilio union egwyddorion system addysg gynhwysol a theg. Mae'n peri gofid felly nad yw ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 9, sy'n galw am system genedlaethol gyson ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau, yn dangos y brys a'r argyhoeddiad sydd ei angen i fynd i'r afael ynglŷn â'r argyfwng hwn.

Drwy wrthod yr angen am amserlenni pendant ac ymrwymiadau rhwymol, mae'r Llywodraeth yn tanseilio hyder ymhellach ac yn creu perygl o ganiatáu i'r sefyllfa hon waethygu. Felly, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i roi sicrwydd bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r mater a gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae angen inni edrych ar ddata hefyd, ac fel y clywsoch gan fy nghyn gyd-aelod o'r pwyllgor, Altaf Hussain, a chan Sioned Williams, hoffwn glywed mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i greu systemau cynhwysfawr i gasglu data, yn enwedig ynghylch gwaharddiadau ysgol, gan olrhain ethnigrwydd i nodi patrymau gwahaniaethu, ac adolygu ysgolion sydd â chyfraddau gwahardd uchel.

Hoffwn orffen drwy ddyfynnu'r diweddar Nelson Mandela, sydd, yn fy marn i, yn berthnasol iawn o ran y rôl y mae addysg yn ei chwarae mewn gwrth-hiliaeth: ni chaiff neb ei eni'n casáu person arall oherwydd lliw eu croen, neu eu cefndir, neu eu crefydd. Mae pobl yn dysgu casáu, ac os gallant ddysgu casáu, gellir eu dysgu i garu, gan mai cariad, yn hytrach na'i wrthwyneb, sy'n dod yn naturiol i'r galon ddynol.

Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dangos yr arweinyddiaeth sydd ei hangen arnom i roi camau a waith i gael gwared ar y casineb hwn. Diolch yn fawr iawn.

16:00

Hoffwn ddechrau drwy longyfarch y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ei adroddiad a'r rhai a fu'n ymwneud â'r pwyllgor yn y gwaith hwn, ac yn amlwg, y rhai a roddodd dystiolaeth. Hoffwn dynnu sylw at y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Ddirprwy Lywydd, oherwydd credaf fod eu lleisiau'n cael eu colli'n aml pan fyddwn yn trafod rhagfarn a gwahaniaethu. Os ydym am symud ymlaen i fod yn Gymru wrth-hiliol, mae angen inni fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pob rhan o'n cymdeithas yma yng Nghymru, gan gynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ymddengys ei bod yn dal i fod yn wir, yn anffodus, fod rhai pobl yn teimlo y gallant wahaniaethu yn erbyn y cymunedau hynny, er na fyddent yn gwahaniaethu yn erbyn lleiafrifoedd eraill. Mae angen inni fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n gwneud y realiti hwnnw'n bosibl.

Credaf ei bod yn gwbl glir fod addysg, fel erioed, yn bwysig, ac mae Comisiynydd Plant Cymru wedi canfod bod lefel annerbyniol o fwlio yn erbyn plant o deuluoedd sy'n Sipsiwn neu'n Deithwyr, ac mae lefel y gwaharddiadau ymhell y tu hwnt i'r hyn a welwn ar gyfer gweddill y boblogaeth. Nid yw'r gymuned honno'n cael ei chynrychioli ymhlith staff addysgu, ac yn wir, nid ydynt yn cael eu cynrychioli yn y rhan fwyaf o'r adnoddau sy'n cael eu defnyddio yn yr ysgol. Mae gwaith gwirioneddol i'w wneud i addysgu plant yn gyffredinol yn ein hysgolion, fel nad yw'r plant hyn yn wynebu agweddau a gwahaniaethu o'r fath. Felly, mae llawer i'w wneud ym maes addysg os ydym am fynd i'r afael â'r sefyllfa ddiwylliannol sy'n wynebu ein cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol yn ddiweddar i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ond yn amlwg, mae llawer iawn mwy i'w wneud o hyd. Agwedd arall ar y problemau a wynebir yw tai. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn darparu dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i asesu anghenion llety cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond yn ddiweddar, canfu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fethiannau pryderus iawn yn Llywodraeth Cymru i gyflawni ei dyletswyddau ei hun yn briodol ac i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau nhw. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ni wariwyd unrhyw arian o'r gronfa arian sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'n enghraifft arall glir, rwy'n credu, o sut rydym ni'n gwneud cam â'r bobl hyn—

Yn amlwg, yng ngogledd Cymru, ac rwyf wedi rhoi sylw penodol i hyn yn y gorffennol, yn sir Ddinbych, er enghraifft, mae rheolau Llywodraeth Cymru yn nodi bod yn rhaid iddo fod o fewn radiws penodol i lwybrau ffyrdd mawr, felly, yn sir Ddinbych, roedd y broblem yn ymwneud â'r ffaith mai sir Ddinbych yw'r unig awdurdod lleol yng ngogledd Cymru lle nad oes safle Sipsiwn a Theithwyr o fewn ffiniau'r sir, oherwydd yn sir Ddinbych mae gennych ardal 6 milltir i ddewis ohoni, ac nid yw hynny, mewn termau daearyddol, yn crynhoi'r sir gyfan. Felly, gan fod yr A55 yn mynd drwy ganol y sir yn y bôn, neu fwy yng ngogledd y sir, nid yw'n cynnig yr un lefel o degwch ag a fyddai wedi bod yn wir mewn siroedd eraill efallai, am mai dim ond rhan fach iawn o'r sir honno y mae'r A55 yn mynd drwyddi. Felly, yn y termau hynny, a fyddech chi'n derbyn efallai y gellid mabwysiadu dull mwy rhanbarthol weithiau i gydnabod rhai o'r gwirioneddau daearyddol yn hynny o beth, ar ryw fath o lefel logistaidd?

16:05

Na, nid wyf yn credu y byddwn, Gareth, oherwydd mae'n gyfrifoldeb, ac yn wir, fel y dywedais, mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru—pob awdurdod lleol—nid ar sail ranbarthol, ond pob awdurdod lleol unigol i asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn briodol ac i ddarparu ar eu cyfer. Rwy'n ofni mai'r hyn a welwn yn rhy aml yw stigma, gwahaniaethu a rhagfarn yn ymddangos, ac yn amlwg, nid ydym eisiau gweld hynny mewn unrhyw ran o Gymru.

Ddirprwy Lywydd, gobeithio y byddwch chi'n rhoi—

Diolch yn fawr. Enghraifft arall, rwy'n credu—ac unwaith eto, mae'n gysylltiedig â thai—yw'r ffordd y mae'r system gynllunio'n gweithredu. Mae rhagfarn go iawn, unwaith eto, a gwahaniaethu, yn anffodus, yn y ffordd y mae ein system gynllunio yn gweithio. Ac mae hynny'n wir mewn perthynas â safleoedd mwy o faint a chyfrifoldebau awdurdodau lleol, ond hefyd safleoedd llai. Ac mae llawer o aelodau o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn berchen ar dir eu hunain, yr hoffent ei ddatblygu ar gyfer eu hanghenion tai eu hunain, a safleoedd bach ydynt. Yn aml iawn, maent yn creu llai o heriau na'r safleoedd mwy o faint, sy'n aml heb fod yn ddelfrydol ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, nac yn wir i'r awdurdod lleol a chymdogion, oherwydd natur y safleoedd. Ac yn aml iawn, mae'n rhaid imi ddweud, mae'r safleoedd hynny—ac mae enghraifft yma yng Nghaerdydd, onid oes, ar Rover Way—wedi cael eu lleoli yn y llefydd mwyaf amhriodol, llefydd nad wyf yn credu yr hoffai unrhyw un ohonom fyw ynddynt, ond er hynny, mae disgwyl i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr breswylio yno.

Felly, o ran y system gynllunio a'r safleoedd llai hynny, credaf mai un ffordd bwysig iawn ymlaen fyddai edrych ar sut mae'r system gynllunio'n gweithio, i sicrhau nad oes unrhyw ragfarn, gwahaniaethu na stigma o gwbl ynghlwm wrth weithredu'r system gynllunio honno, ac edrych ar y safleoedd llai hyn yn arbennig, oherwydd rwy'n gwybod o fy ymgysylltiad fy hun â'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, drwy'r grŵp trawsbleidiol ar gydraddoldeb hil a gadeirir gennyf, a hefyd o gadeirio pwyllgorau yma yn y Senedd, yn aml iawn y safleoedd llai hynny yr hoffai'r gymuned eu gweld yn cael eu datblygu a'u caniatáu ledled Cymru. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymchwiliad 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ac rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030', ac rwyf wedi ystyried yr argymhellion yn ofalus iawn. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i fy rhagflaenydd, Jane Hutt, sydd yn y Siambr yn gwrando ar y ddadl hon, am ei hymrwymiad diwyro i'r cynllun gweithredu ac edrychaf ymlaen at barhau â'i gwaith gyda'r un angerdd i sicrhau Cymru wirioneddol wrth-hiliol.

Mae adroddiad blynyddol 2022-23 ar y cynllun gweithredu yn dangos, er efallai nad yw effaith y cynllun mor amlwg eto ym mhrofiadau bywyd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig ag y byddem yn ei ddymuno, gosodwyd sylfeini strwythurol sylweddol ar gyfer newid hirdymor, a chyflawnwyd cynnydd diriaethol. Mae'r cynllun gweithredu yn sylweddol wahanol i'r rhai blaenorol, yn ei ddatblygiad a'i weithrediad. Cafodd ei gydgynhyrchu gyda phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig ac mae gennym strwythur llywodraethu yn ganolog iddo a fydd yn grŵp atebolrwydd allanol. Caiff hwnnw ei gadeirio ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol a'r Athro Emmanuel Ogbonna, ac mae'n cynnwys 11 cynrychiolydd du a lleiafrifol ethnig ac wyth arbenigwr ar hil. Mae'r ffocws hwn ar brofiad bywyd yn gwneud y cynllun yn gryfach, rwy'n credu, nag unrhyw gynlluniau blaenorol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hil.

Mae'r grŵp yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn uniongyrchol drwy gyfarfodydd y grŵp atebolrwydd allanol a rolau gweithredol mewn is-grwpiau polisi. Bydd ein fforymau rhanbarthol yn ychwanegu haen bellach o fonitro ac atebolrwydd, gan y byddant yn cysylltu Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol ag unigolion a chymunedau lleiafrifoedd ethnig ar lawr gwlad y mae newidiadau polisi yn effeithio arnynt.

Mae ail fersiwn newydd o adroddiad 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ar y gweill, ar gyfer 2024-26. Bydd yn mireinio nodau a chamau gweithredu presennol i gryfhau ei weithrediad a mesur effaith, ac mae'n arwydd o'r weledigaeth feiddgar o sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, gyda nodau a chamau gweithredu sy'n rhychwantu'r Llywodraeth gyfan. Sefydlwyd yr uned tystiolaeth gwahaniaethau ar sail hil ym mis Ionawr 2022. Mae'n datblygu fframwaith i fesur a gwerthuso effaith y cynllun gweithredu ar draws Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach mewn ffordd ystyrlon, ac rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth Jane Dodds ynghylch—mae gwir angen iddi fod yn ymdrech ar y cyd, ac nid wyf yn credu bod hynny'n golygu ar draws y Llywodraeth yn unig; yn sicr, mae'n ymdrech ar y cyd gyda phob Gweinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd mewn cydweithrediad â'n cyrff cyhoeddus.

Mae'r uned rwyf newydd gyfeirio ati yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar ffrwd waith casglu data a pherfformiad cynllun gwrth-hiliol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae hyrwyddo mynediad at ddata cyfiawnder wedi'i ddadgyfuno yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae'r gwaith hwnnw'n ategu ac yn adeiladu ar y gwaith y cyfeiriodd Sioned Williams ato, a gyflawnwyd gan Richard Wyn Jones a Rob Jones, sydd wedi tynnu sylw at werth data tryloyw a hygyrch ar y system gyfiawnder yng Nghymru. Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dangosfyrddau data rhyngweithiol i lunio a lledaenu data cyfiawnder Cymru, ac mae dangosfwrdd cyfiawnder ieuenctid wedi'i gyhoeddi gyda mwy i'w ddilyn. Mae'r dangosfyrddau hyn yn cyflwyno data sydd ar gael i'r cyhoedd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn ffordd hygyrch ac effeithiol iawn.

Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae sefydlu bwrdd gweithredu a herio, dan gadeiryddiaeth Judith Paget, prif weithredwr GIG Cymru a chyfarwyddwr cyffredinol y grŵp iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yma yn Llywodraeth Cymru, wedi darparu llywodraethiant ac atebolrwydd cryf a chadarn i gyflymu'r broses o weithredu'r cynllun gweithredu. Rwy'n credu bod yr arddangosiad hwn o arweinyddiaeth ar y lefel uchaf wedi sicrhau bod proffil uchel iawn i weithredoedd gwrth-hiliol. Mae'r bwrdd wedi gwahodd partneriaid a rhanddeiliaid allanol i gyflwyno'r rhwystrau a'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth roi'r cynllun gweithredu ar waith, ac i weithredu fel cyfaill beirniadol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau amrywiaeth yn eu penodiadau cyhoeddus drwy eu hymarfer recriwtio presennol i'r bwrdd, ac mae cyfarwyddiaeth gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn adolygu aelodaeth pob grŵp rhanddeiliaid i osod disgwyliadau uchel o gynrychiolaeth o gymunedau lleiafrifoedd ethnig. 

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i sicrhau bod addysgu hanesion pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn orfodol yng Nghwricwlwm Cymru. Mae'n bwysig i'n haddysgwyr a'n pobl ifanc ddeall bod yr hanesion hyn yn perthyn i bob un ohonom. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi ystyriaeth lawn i argymhellion Comisiynydd Plant Cymru yn ei hadroddiad sbotolau ar brofiadau plant o hiliaeth mewn ysgolion uwchradd. Er enghraifft, rydym yn cryfhau ein canllawiau gwrth-fwlio statudol presennol ar gyfer ysgolion, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb', ac rydym yn gwneud hyn drwy ddiweddaru'r canllawiau presennol i gynghori lleoliadau addysg ar sut i fynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â rhagfarn mewn modd effeithiol, ac mae hynny'n cynnwys digwyddiadau hiliol. Mae gan ysgolion a lleoliadau addysgol rôl hanfodol i fynd ati i greu amodau gwrth-hiliol i sicrhau nad yw profiadau a chyfleoedd heddiw yn cael eu difetha gan anghydraddoldebau a hiliaeth y gorffennol.

Rwyf eisoes wedi ymateb i argymhellion y pwyllgor, ac rwyf eisiau pwysleisio ein gwaith parhaus i ddiweddaru 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wella iteriadau yn y dyfodol a mynd i'r afael â'r bylchau y cyfeiriodd Sioned Williams atynt, ac sydd wedi'u nodi gan y pwyllgor. Fy ffocws uniongyrchol yw cyhoeddi'r cynllun diwygiedig eleni. Bydd ein hadroddiad blynyddol nesaf yn edrych ar yr effaith a wnaed ar draws meysydd polisi gwahanol o fewn Llywodraeth Cymru. Mae cryfhau cydweithrediad gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus ehangach a'r trydydd sector yng Nghymru hefyd yn flaenoriaeth allweddol.

Mae ein diben yn glir: gwneud newidiadau ystyrlon a mesuradwy i fywydau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig drwy fynd i'r afael â hiliaeth; mewn gwirionedd, i bob cymuned sy'n profi hiliaeth a rhagfarn, ac fe gyfeiriodd John Griffiths yn huawdl iawn at gymunedau Sipsiwn a Theithwyr—

16:10

A gaf i orffen hyn? Fe gyfeiriodd John Griffiths yn huawdl iawn at gymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma, sy'n sicr yn wynebu hynny. Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad.

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Rwyf jest eisiau mynd yn ôl at bwynt, roeddech chi'n sôn yn fanna am y gwaith ac ymdrechion Llywodraeth Cymru, a'ch swyddogion, ynghyd â phartneriaid, o fewn y glasbrintiau cyfiawnder, er enghraifft, i fynd i'r afael â'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddisgrifio, ond a ydych chi'n derbyn bod y trefniadau cyfansoddiadol presennol, yng ngeiriau Dr Robert Jones, yn fygythiad sylweddol i weledigaeth y cynllun gweithredu gwrth-hiliol?

16:15

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio ar y cyd. Nid wyf yn ymwybodol o'r geiriau penodol y gwnaethoch chi gyfeirio atynt, ond credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd. Gallwch ddweud hyn am sawl agwedd ar ddatblygu polisi: ni all Llywodraeth Cymru wneud hyn ar ei phen ei hun. Ac rwy'n gobeithio fy mod wedi disgrifio ac egluro nad yw'r gwaith a wnawn ond yn digwydd ar draws y Llywodraeth yn unig; mae'n digwydd gyda'n holl gyrff cyhoeddus. Mae gan bawb ran i'w chwarae mewn perthynas â hyn. Rwyf wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hiliaeth systemig a diwylliannol ar bob ffurf fel blaenoriaeth. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw defnyddio pob dull sydd ar gael i ni. Mae angen i bob un ohonom chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gael gwared ar hiliaeth yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r clercod a'r gwasanaeth ymchwil am y gefnogaeth ardderchog a roesant i'r pwyllgor. Rwyf hefyd eisiau diolch i holl aelodau'r pwyllgor am eu hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys y tri Aelod sydd wedi gadael y pwyllgor ers inni gyhoeddi'r adroddiad hwn, sef Ken Skates a Sarah Murphy, sy'n amlwg heb fod mewn sefyllfa i gyfrannu at y ddadl hon heddiw, ac Altaf Hussain, sy'n eiriolwr gwych dros wrth-hiliaeth. Rydym wedi bod yn ddiolchgar iawn am Altaf Hussain ac yn gobeithio gweithio gydag ef ar sail barhaus. Rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i Jane Hutt, sydd wedi bod yn eiriolwr diflino dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, ac sydd wedi bod yn arwain ar hyn tan yn ddiweddar iawn. 

Mae Altaf Hussain yn siarad am hiliaeth strwythurol, rhywbeth dyrys nad yw pobl yn sylweddoli ei fod yno. Ydym, rydym yn un o'r gwledydd mwyaf goddefgar yn y byd gorllewinol, ddim ond ychydig bach y tu ôl i Sweden, ond nid yw hynny'n golygu nad oes rhaid i ni weithio'n galetach fyth i gyflawni'r Gymru wrth-hiliol y mae'r cynllun hwn yn ei rhagweld, oherwydd byddai peidio â gwneud hynny yn golygu peidio â chael cefnogaeth lawn yr holl dalent sydd yng Nghymru. Mae'n effeithio ar ein heconomi, ar ein haddysg a phob agwedd arall ar gydlyniant ein cymunedau, felly mae hwn yn fater gwirioneddol arwyddocaol i bob un ohonom. 

Rwy'n credu bod Altaf yn tynnu sylw at fater difrifol iawn, sef y ffaith mai dim ond 0.2 y cant o'n hathrawon sy'n ddu, oherwydd, yn realistig, sut y gallwn fynd i'r afael â hiliaeth y mae plant wedi'i ddwyn i mewn i'r ysgolion, wedi'i ddysgu gan yr oedolion yn eu bywydau? Nid oes unrhyw blentyn yn cael ei eni'n hiliol. Mewn gwirionedd, maent yn hollol ddall i unrhyw wahaniaethu pan yndynt yn ddwy, tair, pedair neu bump oed, ond yn nes ymlaen, maent yn dechrau clywed a mabwysiadu agweddau pobl eraill yn eu bywydau, a dim ond yn yr ysgol y gallwn ni fynd i'r afael â hyn mewn gwirionedd. Felly, mae'n gwbl hanfodol, yn enwedig pan nad oes gan gynifer o athrawon fel proffesiwn hyder i herio hiliaeth yn yr ystafell ddosbarth, sef lle mae'n digwydd wrth gwrs.

Mae'n rhaid i hyn newid, ac fe all newid, oherwydd roeddem yn arfer gweld llawer iawn o gasineb at fenywod a thrais ar sail rhywedd o ran yr iaith yr oedd pobl yn ei defnyddio mewn ysgolion. Mae llawer llai o gasineb at fenywod nawr, oherwydd mae pawb wedi cydnabod bod hwnnw'n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. Ond yn amlwg mae'n rhaid inni newid holl ddiwylliant ein haddysgu a'n dysgu os ydym am elwa ar fanteision y cwricwlwm newydd, yn enwedig o ran perthnasoedd, gwerthoedd a moeseg y mae'n rhaid inni eu croesawu os ydym am gyflawni Cymru wrth-hiliol.

Siaradodd Jane Dodds hefyd am bwysigrwydd mynd i'r afael â dioddefaint plant a dyfynnodd y dystiolaeth a nodwyd yn adroddiad y comisiynydd plant ynghylch bwlio a mân-weithredoedd ymosodol. Yn amlwg, mae gwir angen i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol drafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg sut yr awn i'r afael â hyn. Hunanfodlonrwydd yw gelyn cynnydd, ac mae gwir angen inni fynd i'r afael â hyn.

Rwy'n falch iawn fod John Griffiths wedi siarad am gymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma. Rydych chi'n eiriolwr gwych dros weithredu ar wahaniaethu yn erbyn y gymuned sydd â'r canlyniadau gwaethaf o ran cyrhaeddiad addysgol a'r nifer uchaf o waharddiadau, fel y nodwyd hefyd gan y comisiynydd plant. Mae'n rhaid i ni weithredu ar hyn. Ni ddylai unrhyw blentyn gael ei wahardd o'r ysgol, oherwydd mae hwnnw'n llwybr hollol sicr i mewn i'r system cyfiawnder troseddol ar lefel ysgol uwchradd, neu i'r llwybr iechyd meddwl. Felly, ni allwn barhau fel hyn.

Ar dai, mae'n rhaid inni ddod yn ôl at hyn. Rwy'n nodi adroddiad Gareth Davies, ac rwy'n siŵr y byddwn eisiau edrych yn ofalus ac yn fforensig i weld pam nad oes gan sir Ddinbych safle Teithwyr. Ni all ymwneud yn unig â'r A55 yn—[Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr fod gennyf amser.

16:20

Roeddwn yn tynnu sylw at fater a gododd yn yr etholaeth yn Llanelwy yn 2018. Fe wnaethant geisio gwneud cynnydd o ran ceisio cael hynny, ac fe fyddwn yn eich annog i wneud ymchwil ar beth o'r gweithgarwch lleol. Fel yr Aelod etholaethol dros Lanelwy, fy swydd i yw bod yma i gynrychioli barn fy etholwyr, a dyna rwy'n ceisio tynnu sylw ato, a bod realiti ddaearyddol sir Ddinbych yn gwneud hynny'n her. Nid yw'n ymwneud â'r mater. Mae'r pwynt rwy'n ceisio ei wneud yn un mwy ymarferol a logistaidd.

Mae angen inni edrych ar hyn yn fforensig, naill ai yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol neu yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, oherwydd ni allwn barhau fel hyn, yn peidio â gwario'r arian a ddyrannwyd i fynd i'r afael ag anghenion tai'r gymuned benodol hon.

Rwy'n canmol Sioned am ymgyrchu dros gydraddoldeb ers 20 mlynedd. Yn bendant, mae'n rhaid inni roi ein harian ar ein gair, yn enwedig mewn perthynas â thai. Ond rwy'n ddiolchgar iawn i Sioned am godi mater pwysig arall nad oedd gennyf amser i'w grybwyll yn fy sylwadau cynharach, yn ymwneud â gwahaniaethu systematig a gorgynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig yn y system cyfiawnder troseddol, ar bob lefel o'r system cyfiawnder troseddol, sy'n wirioneddol frawychus ac sy'n gysylltiedig â lefel y gwaharddiadau y soniais amdanynt yn gynharach. Mae gwahardd yn basbort pendant naill ai i salwch meddwl neu'r system cyfiawnder troseddol, oherwydd yn y bôn, rydych chi'n troi plant o'r ysgol ac yn dweud, 'Nid oes dyfodol i chi'. Ac mae tystiolaeth ac ystadegau Dr Robert Jones yno i bawb eu gweld, felly ni all neb ddweud nad oeddem yn gwybod.

Hoffwn dynnu sylw at argymhelliad 10, sy'n ymwneud â'r angen i sefydlu arsyllfa i ddwyn ynghyd holl ymchwil pob un o'r naw prifysgol, oherwydd ym mhob un ohonynt mae pobl yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â chyfiawnder troseddol, ac mae'n ymddangos i mi fod angen dangosfwrdd lle gallwn gyfeirio at y dystiolaeth orau sydd ar gael ar y pwnc pwysig hwn.

Lesley Griffiths, roeddech chi'n glir iawn, ac fe roesoch chi dystiolaeth dda, fod yna bobl ar lefel uchel iawn yn arwain ar y grŵp gorchwyl a gorffen, ac yn arwain ar y gwasanaethau iechyd, a'ch bod yn talu sylw arbennig i bwyntiau'r comisiynydd plant, a sut yr awn i'r afael â hawliau pob grŵp yn ein cymdeithas a'u parchu. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn falch o glywed y bydd eich adroddiad blynyddol nesaf yn edrych ar effaith, oherwydd dyna'n union yr hoffem ei weld, a dyna y dywedodd ein rhanddeiliaid wrthym yr hoffent ei weld. Felly, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at hwnnw, a'i rannu a thrafod rhai o'r heriau a fydd yn sicr o godi.

I gloi, hoffwn bwysleisio teitl ein hadroddiad, sef 'Gweithredu, nid geiriau'. Nid oes unrhyw beth yn anochel am gynnydd. Mae'n galw am waith caled, dewrder a phenderfyniad. Rydym i gyd yn cefnogi'r nod. Rydym i gyd yn cefnogi'r nod, ar draws pob plaid. Ond mae angen i Lywodraeth Cymru gynllunio'r llwybr y mae gofyn i ni ei ddilyn. Os ydym am gyflawni hyn erbyn 2030, sy'n llai na chwe blynedd i ffwrdd, bydd angen i bob un ohonom fod yn weithgar, nid yn oddefol, yn yr ymdrech hon.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Polisi economaidd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, polisi economaidd. Galwaf ar Sam Kurtz i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8606 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) cynllun clir a chamau dewr Llywodraeth y DU i bennu llwybr er mwyn sicrhau dyfodol diogel;

b) camau Llywodraeth y DU i leihau chwyddiant o 11.1 y cant i 2.3 y cant;

c) y ffaith mai’r DU yw’r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7;

d) y bargeinion twf rhanbarthol ym mhob rhan o Gymru, sy'n sicrhau mai Cymru yw’r unig genedl Bargeinion Twf yn y DU; ac

e) porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU yng ngogledd a de Cymru, ynghyd â’i pharthau buddsoddi ar gyfer gweithgynhyrchu uwch.

2. Yn gresynu bod gan Gymru, o dan Lywodraeth Cymru:

a) y gyfradd gyflogaeth isaf;

b) y cyflogau canolrifol isaf; ac

c) y gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd yn y DU.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi drwy:

a) sicrhau ffyniant bröydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad;

b) adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau a diogelu swyddi;

c) cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach;

d) galluogi microfusnesau i dyfu gyda chynllun sbardun gan dalu yswiriant gwladol ar ran y cyflogwr ar gyfer dau gyflogai am ddwy flynedd;

e) cyflwyno 150,000 o brentisiaethau newydd yn nhymor y Senedd nesaf; ac

f) creu cynllun i roi hwb i fusnesau lleol, a'i ariannu'n llawn, er mwyn cefnogi egin fusnesau.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i agor y ddadl hon a gwneud y cynnig yn enw Darren Millar. Mae'n bleser siarad am economi Cymru y prynhawn yma. Mae Cymru'n genedl fenter, ac yn gartref i gymaint o arloesedd mewn cymaint o sectorau. O amaethyddiaeth i arloesedd gofal iechyd, mae entrepreneuriaid a busnesau ym mhobman yn rhoi Cymru ar y map. O Valero ac RWE i Velfrey Vineyard a Liz's Bakery yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae gan Gymru ehangder o fusnesau anhygoel, amrywiol a gwych ym mhob un o'n hetholaethau.

Ond nid yw bywyd bob amser wedi bod yn hawdd i'n harloeswyr. Roedd pandemig COVID-19 yn gwneud bywyd yn anodd i bob un ohonom ac fe gafodd ein busnesau eu taro'n galed gan y cyfyngiadau a roddwyd ar waith. Diolch byth, drwy'r camau a gymerwyd ar ran y wlad gan Ganghellor y Trysorlys ar y pryd, Rishi Sunak, cafodd dros 11 miliwn o swyddi eu hachub—11 miliwn o swyddi. Mae'n ffaith bod cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU wedi achub swyddi a diogelu bywoliaeth pobl yn ystod y cyfnod anodd hwn. Fodd bynnag, ni ddaeth heb ei bris. Ochr yn ochr â'r rhyfel yn Wcráin, a arweiniodd at gynnydd mewn prisiau bwyd a thanwydd yn fyd-eang, roedd y DU angen cynllun diogel i sefydlogi ein cyllid a gostwng chwyddiant, ac rwy'n credu bod Llywodraeth y DU wedi cyflawni hynny. 

Wrth gwrs, mae chwyddiant uchel wedi bod yn broblem fyd-eang dros y blynyddoedd diwethaf, gyda gwledydd fel yr Almaen, Canada a'r Eidal i gyd yn profi chwyddiant uchel. Ac fe wyddom mai teuluoedd sy'n gweithio sy'n cael eu taro galetaf gan chwyddiant, a dyna pam fod y gwaith a wnaeth Llywodraeth y DU i ostwng chwyddiant o 11.1 y cant i 2.3 y cant wedi bod mor bwysig. Mae hyn yn newyddion da. Mae'r cynllun yn gweithio. Roedd chwyddiant is yn golygu y gallai cyflogau ddal i fyny, ac yn y pen draw, y gall cyfraddau llog ostwng, gan roi mwy o arian ym mhocedi pobl weithgar ar hyd a lled Cymru. 

Mae twf cyflogau yn y DU wedi bod yn fwy na chwyddiant yn gyson ers canol 2023. Yn benodol, yn ystod chwarter olaf 2023, gwelwyd cynnydd o 6.2 y cant mewn cyflogau heb gyfrif taliadau bonws, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022. Parhaodd y duedd hon i mewn i ddechrau 2024, gyda thwf cyflogau'n parhau'n gryf. Rydym hefyd yn croesawu'r ffaith mai'r DU yw'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7 bellach. Mae hyn eto'n dangos bod y cynllun yn gweithio, a bod Cymru'n elwa'n uniongyrchol. 

Bydd pob Aelod yn croesawu'r bargeinion twf rhanbarthol a welsom. Yn wir, Cymru yw'r unig wlad yn y DU y gellir ei galw'n genedl bargen twf, gyda bargeinion twf yn cyrraedd pob cornel o'n gwlad. Yn 2023, cyhoeddwyd dau barth buddsoddi newydd gwerth £160 miliwn yng ngogledd-ddwyrain a de-ddwyrain Cymru, ac wrth gwrs cafwyd y cyhoeddiad am y porthladd rhydd Celtaidd a phorthladd rhydd Ynys Môn. Dyrannwyd £319 miliwn pellach mewn cyllid ffyniant bro ar gyfer prosiectau ledled Cymru, gan weithio'n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau, a dod a'r pŵer a'r penderfyniadau yn nes at y bobl sy'n elwa ohonynt—mesurau economaidd cadarnhaol a fydd yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar hyd a lled Cymru. 

Ac eto, er gwaethaf yr holl waith cadarnhaol sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth y DU, nid yw Cymru wedi gallu cyrraedd ei photensial oherwydd ein bod wedi cael 25 mlynedd o gamreoli economaidd gan weinyddiaethau Llafur Cymru olynol yma ym Mae Caerdydd. Nid oes ond angen inni edrych ar ystadegau Llywodraeth Cymru ei hun i weld data sy'n dangos bod economi Cymru'n tangyflawni o gymharu â'r DU gyfan. O 12 ardal economaidd y DU, mae Cymru'n olaf ond un.

Ond beth mae'r ystadegau hyn yn ei olygu i bobl Cymru? Nid rhifau haniaethol yn unig yw'r rhain—mae ganddynt ganlyniadau yn y byd go iawn i weithwyr a'u teuluoedd. Er enghraifft, Cymru sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU. Ar ben hynny, os yw rhywun yn gyflogedig, gallant ddisgwyl ennill llai na'u cydweithwyr yn y DU. Pam fod y Llywodraeth hon mor barod i dderbyn bod Cymru ar waelod pob tabl cynghrair unwaith eto? Rhaid bod hyn yn ein cythruddo ni i gyd. 

Ond nid oes rhaid iddi fod felly. Gall Cymru fod yn well, a gall Cymru wneud yn well. Dyma pam mae'r cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi, helpu busnesau i wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau—creu swyddi, creu cyfoeth a chreu twf. Ni all llywodraethau greu swyddi, ond gallant greu'r amgylchedd cywir i swyddi gael eu creu. Dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant, i ddiddymu ardrethi busnes i fusnesau bach a mabwysiadu ein cynllun sbardun ar gyfer microfusnesau, gan dalu yswiriant gwladol ar ran y cyflogwr ar gyfer dau gyflogai am ddwy flynedd. 

Er y bydd y mesurau hyn o fudd mawr i gwmnïau yn y tymor byr, rhaid inni feddwl yn hirdymor i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd gwych mewn ynni niwclear, gwynt, gwynt arnofiol ar y môr a phrosiectau seilwaith eraill. Dyna pam ein bod hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi 150,000 o brentisiaethau newydd dros dymor nesaf y Senedd. Y rhain fydd swyddi'r dyfodol, gan sicrhau gyrfaoedd i'n pobl ifanc a rhoi'r gallu inni gyflawni prosiectau a fydd o fudd i Gymru, a gweddill y DU, am ddegawdau i ddod.

Ddirprwy Lywydd, mae Cymru yn genedl o arloeswyr gwych. Mae ein pobl yn llawn angerdd, gwaith caled ac ymrwymiad, ac felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddarparu amodau i sicrhau twf ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid inni edrych ar arloesedd technolegol ar draws y byd, manteisio ar gyfleoedd ar garreg ein drws, a datblygu tirwedd sy'n annog entrepreneuriaeth ledled y wlad. Fe allwn greu'r amodau i entrepreneuriaid ffynnu, ac mae'n rhaid inni wneud hynny. Ac ar y nodyn hwnnw, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:30

Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) cynllun clir Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y ddogfen Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach;

b) y ffaith bod cyflogau wedi codi’n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr ers 2011;

c) y ffaith bod gwaith rhanbarthol a phartneriaethau mor gadarn;

d) buddsoddiad gwerth dros £143 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn prentisiaethau o safon uchel;

e) y ffaith bod Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 27,000 o bobl ifanc;

f) y buddsoddiad sydd wedi parhau drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru;

g) darparu gwerth dros £140m mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n cefnogi trethdalwyr oddeutu 70,000 eiddo ledled Cymru bob blwyddyn; a

h) y cyfraniad o £78m sy’n golygu bod busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi derbyn cymorth bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf gyda’u biliau ardrethi annomestig.

2. Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth y DU:

a) diffyg cynllun economaidd a diwydiannol clir heb unrhyw gynlluniau gwario manwl ar ôl 2024-25, gan arwain at 14 o flynyddoedd o anrhefn;

b) bod prisiau’n parhau i godi ar gyfradd uwch, sy’n golygu mai dyma’r cynnydd mwyaf ers annibyniaeth Banc Lloegr, a’r ffaith eu bod 21.3 y cant yn uwch ym mis Ebrill nag oeddent dair blynedd cyn hynny;

c) bod gan Lywodraeth Cymru Gyllideb yn 2024-25 sy’n £3 biliwn yn is na chyllideb a fyddai wedi cynyddu yn unol â Chynnyrch Domestig Gros ers 2010; a

d) bod gan Gymru bron i £1.3 biliwn yn llai o gyllid mewn termau real yn sgil methiant Llywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiadau a chyflwyno cyllid llawn yn lle cyllid yr UE.

3. Yn galw ar Lywodraeth bresennol y DU i gydnabod:

a) mai’r newidiadau i’r gyfradd sylfaenol gan Fanc Lloegr a phrisiau ynni is yw’r prif resymau dros y gostyngiad diweddar mewn chwyddiant;

b) bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau bod problemau gyda’r arolwg o’r llafurlu, sy’n parhau i effeithio ar ansawdd data o ran ystadegau’r farchnad lafur ac nad ydynt yn cyflwyno darlun cywir o’r sefyllfa yng Nghymru;

c) y niwed sylweddol a wnaed i’r Economi yn sgil mini-gyllideb drychinebus Liz Truss, sydd wedi golygu bod pobl a theuluoedd yng Nghymru yn talu morgeisi a biliau uwch; a

d) y cafodd y Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin eu datblygu heb lawer o waith cynllunio ac ymgynghori ac maent wedi tanseilio datganoli.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu:

a) y difrod economaidd a wnaed i Gymru yn sgil 14 mlynedd o gyni o dan Lywodraethau Ceidwadol y DU;

b) y niwed economaidd pellach a achoswyd gan Brexit caled a mini-gyllideb honedig Liz Truss;

c) nad yw Cymru'n derbyn cyllid teg gan San Steffan, ac nad yw fformiwla Barnett yn darparu setliad ariannu sy'n adlewyrchu anghenion economaidd, ariannol neu gymdeithasol Cymru;

d) bod Llywodraethau Ceidwadol y DU yn amlwg wedi methu â chodi'r gwastad o ran Cymru, a bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Gronfa Ffyniant Bro wedi cael eu defnyddio i ariannu prosiectau tymor byr dros benaethiaid Llywodraeth Cymru a'r Senedd; ac

e) y cyfraddau uchel o dlodi, yn enwedig tlodi plant, sydd wedi deillio yn sgil dull y Ceidwadwyr o reoli economi'r DU.

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ym mhwynt 2, cynnwys is-bwynt newydd cyn is-bwynt (a) ac ailrifo yn unol â hynny:

dim targedau datblygu economaidd diffiniedig na mesuradwy clir;

Gwelliant 4—Heledd Fychan

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi drwy:

a) sicrhau ffyniant bröydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad;

b) adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau a diogelu swyddi;

c) gosod targedau economaidd clir a mesuradwy;

d) darparu gwell cynnig cymorth busnes a gwell cymorth cynllunio olyniaeth ar gyfer busnesau bach a chanolig domestig;

e) cyflwyno ymchwil ar drethi newydd posibl er budd busnesau;

f) darparu 150,000 o brentisiaethau newydd dros dymor nesaf y Senedd; a

g) creu cynllun i roi hwb i fusnesau lleol, a'i ariannu'n llawn, er mwyn cefnogi egin fusnesau.

Gwelliant 5—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU sy'n dod i mewn i weithredu i sicrhau dyfodol economaidd Cymru drwy:

a) ceisio sicrhau bod y DU yn ailymuno â marchnad sengl ac undeb tollau'r UE, a hynny ar frys;

b) cael gwared ar fformiwla Barnett, a chyflwyno setliad cyllido teg newydd i Gymru sy'n adlewyrchu anghenion Cymru yn gywir; a

c) sicrhau bod cyfran deg o gyllid allforio'r DU yn cael ei ddarparu i Gymru, a bod cyllid i Gymru a gollwyd o ganlyniad i Brexit yn cael ei adfer.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4 a 5.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae pa bynnag enw da hunanhonedig a oedd yn weddill gan y Torïaid o ran cymhwysedd economaidd yn deilchion ar ôl 14 mlynedd o gyni sydd wedi ehangu anghydraddoldebau cymdeithasol, ar ôl Brexit caled sydd wedi crebachu masnach mewn nwyddau dros 13 y cant, ac wrth gwrs, ar ôl mini-gyllideb drychinebus Truss, a gododd gyfraddau morgeisi i'r entrychion a dileu £30 biliwn o bwrs y wlad.

Ac yma yng Nghymru, rydym wedi ysgwyddo baich y diofalwch hwnnw. Cawsom ein hamddifadu o'r £4 biliwn sy'n ddyledus i ni o HS2, tra bo'r agenda ffyniant bro honedig wedi ein hamddifadu o bron i £1.3 biliwn. Mae hyd yn oed y cyflawniadau y mae'r Ceidwadwyr yn clochdar amdanynt yn y cynnig hwn yn dymchwel wrth graffu arnynt. Hynny yw, do, mae chwyddiant wedi lleihau o'i lefelau uchaf syfrdanol, ond mae'n anodd gweld pa glod, os o gwbl, y gall Llywodraeth y DU ei hawlio am hynny, o ystyried mai Banc Lloegr sy'n gyfrifol am reoli chwyddiant. Ac er bod chwyddiant yn gostwng, nid yw'r prisiau'n dilyn. [Torri ar draws.] Ac yn fwyaf damniol oll—na, nid wyf am dderbyn ymyriad—ac yn fwyaf damniol oll, Senedd fwyaf diweddar y DU fydd â'r anrhydedd o fod y gyntaf mewn hanes modern i fod wedi llywodraethu dros gwymp mewn incwm gwario aelwydydd a safonau byw. Mae'r Torïaid wedi creu anialwch o'r economi, ac mae ganddynt yr hyfdra i'w alw'n ffyniant. Am sarhad ar y miliynau o bobl sydd wedi'i chael hi mor anodd oddi tanynt.

Ond beth a welwn gan y Blaid Lafur? Plaid sy'n ofni ei chysgod ei hun, sydd â mwy o ddiddordeb mewn chwynnu'r chwith na chyflwyno gweledigaeth flaengar ar gyfer adnewyddu'r economi. Ymddengys hefyd fod cangen Cymru yn efelychu'r Torïaid o ran camarwain pleidleiswyr. Mae eu haddewidion etholiadol ar gyfer Cymru yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau sefydlogrwydd a thwf economaidd. Mae hynny, yn gyfleus ddigon, yn anwybyddu'r ffaith bod datblygu economaidd wedi bod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Lafur Cymru ers 1999, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Cymru wedi bod yn gyson ymhlith y gwledydd a’r rhanbarthau sy’n perfformio waethaf yn y DU o ran gwerth ychwanegol gros. A Chymru sydd â’r unig economi yn y DU sy’n parhau i fod yn llai na’i lefel cyn y pandemig, a rhagwelir y bydd cynnyrch domestig gros y pen £1,100 yn is yn 2024 hefyd, o gymharu â'r lefelau cyn y pandemig.

Nawr, Ddirprwy Lywydd, ni fydd yn hawdd trwsio ein system economaidd doredig, ac fe fydd yn gymhleth, ond ym Mhlaid Cymru, credwn fod yn rhaid i'r broses gael ei llywio gan egwyddor sylfaenol tegwch. Mae’n golygu ailymuno â marchnad sengl yr UE i alluogi ein busnesau domestig i ffynnu ar y llwyfan rhyngwladol. Mae’n golygu mynnu cyfran uwch o lawer i'n hallforwyr o gyllid allforio’r DU na’r 1 y cant a gânt. Yn bwysicaf oll, mae’n golygu cael gwared ar fformiwla Barnett, sydd wedi dyddio, a defnyddio model ariannu sy’n darparu’n briodol ar gyfer ein hanghenion cymdeithasol. Ac mewn synnwyr o degwch o'r fath, rhaid i hynny hefyd gyd-fynd yn ei dro ag uchelgais rhagweithiol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu gosod a chadw at dargedau diriaethol i gau’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU. Mae'n golygu diwygio erfyn polisi di-awch yr ardrethi annomestig. Mae’n golygu darparu gwell cynllunio ar gyfer olyniaeth er mwyn cadw manteision entrepreneuriaeth yma yng Nghymru. Ac mae hefyd yn golygu dull datblygu economaidd a arweinir gan genhadaeth.

Ddirprwy Lywydd, mae'n gwbl amlwg yn yr etholiad hwn nad oes gan y Torïaid na Llafur ronyn o ddiddordeb mewn arwain sgwrs aeddfed ynglŷn â chyflwr ein heconomi. Wel, ni fydd Plaid Cymru byth yn cilio rhag cyflwyno’r atebion beiddgar i greu cenedl sy’n uchelgeisiol, yn decach ac yn llewyrchus.

16:35

Roedd datganoli i fod i adfywio'r economi a rhyddhau cyfleoedd bywyd pobl Cymru. Fodd bynnag, er y gall Cymru fod yn genedl ystwyth gydag economi ffyniannus a chyflogau uchel, mae ei hysbryd entrepreneuraidd wedi’i gadw ar dennyn, ac yn anffodus, nid yw hyn wedi digwydd.

Mae chwarter canrif o Lywodraeth Lafur Cymru wedi gadael ein heconomi yn tangyflawni a phobl Cymru ar eu colled o ganlyniad. Yn hytrach nag ildio i seirenau Llafur a Phlaid Cymru i gymryd camau a fyddai wedi hybu chwyddiant ac wedi cynhyrchu toriadau mwy yn y dyfodol, gan wneud pawb yn waeth eu byd, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cymryd y camau angenrheidiol i dorri chwyddiant o dros 11 y cant i bron i 2 y cant uwchlaw’r cyfraddau llog a osodwyd yn annibynnol gan Fanc Lloegr, gyda chyflogau real yn tyfu am yr unfed mis ar ddeg yn olynol, bron i 4 miliwn yn fwy o bobl mewn gwaith, a diweithdra ymhlith pobl ifanc i lawr 370,000 ers 2010, ac anweithgarwch economaidd yn is nag ar unrhyw adeg o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU. Fodd bynnag, mae pwysau marw Llywodraeth Lafur Cymru wedi gadael Cymru â’r gyfradd gyflogaeth isaf, y pecynnau cyflog isaf, y cyfanswm allbwn isaf y pen o gynnyrch domestig gros, a’r cyfraddau anweithgarwch economaidd uchaf yn y DU—er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cael biliynau mewn cyllid dros dro gyda'r bwriad o gau'r bwlch ffyniant yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.

Wrth honni nad ydynt wedi cael digon o arian ers hynny, mae'r creaduriaid druan yn ei chael hi'n anodd deall nad yw Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru yr un peth. Byddent yn gywir, wrth gwrs, pe na bai Cymru wedi cael dros £2.5 biliwn o gyllid ffyniant bro'r DU drwy nifer o wahanol gynlluniau gyda’r nod o ledaenu ffyniant a rhoi mwy o lais i gymunedau ynglŷn â sut y caiff yr arian ei wario, gan gynnwys dros £440 miliwn drwy dri chylch o gyllid ffyniant bro ac oddeutu £585 miliwn o gyllid ffyniant cyffredin y DU. Byddent hefyd yn gywir pe na bai Llywodraeth y DU wedi buddsoddi £2 biliwn yn Network Rail a £340 miliwn ar gyfer gwelliannau i reilffyrdd Cymru rhwng 2019 a 2024, pe na bai Network Rail wedi cyhoeddi ei gynllun pum mlynedd gwerth £5.2 biliwn ar gyfer rheilffyrdd rhanbarth Cymru a'r gorllewin, sy’n cynnwys buddsoddiad o £1.9 biliwn yn llwybr Cymru a’r gororau, a phe na bai Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i uwchraddio'r rheilffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys £1 biliwn i drydaneiddio prif linell reilffordd gogledd Cymru a £700,000 i Trafnidiaeth Cymru wneud gwaith archwilio ar gyfer uwchraddio gorsafoedd Shotton a Chaer, a chynyddu capasiti prif linell reilffordd gogledd Cymru.

Er mwyn tynnu sylw oddi wrth eu methiannau dybryd eu hunain, maent yn sôn am gyni fel polisi a ddewiswyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU, er mai Blair a Brown oedd penseiri cyni. Pan agorodd Gordon Brown bencadlys banc buddsoddi Lehman Brothers yn Llundain yn 2004, dywedodd wrthynt:

'Hoffwn dalu teyrnged i'ch cyfraniad chi a'ch cwmni i ffyniant Prydain.'

Ar 15 Medi 2008, aeth banc Lehman Brothers i'r wal: y foment pan drodd straen ariannol byd-eang yn argyfwng rhyngwladol llwyr.

Flynyddoedd yn gynt, roedd y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi dweud bod system fancio’r DU yn fwy agored i ddyled eilaidd nag unrhyw le arall yn y byd.

Dywedodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod Trysorlys Mr Brown wedi cael ei rybuddio dair blynedd cyn y bu bron i Northern Rock fynd i'r wal fod angen sefydlu cynlluniau brys i ymdrin ag argyfwng bancio, ond ni wnaeth unrhyw beth yn ei gylch. Yn dilyn y cwymp ariannol, adroddodd yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol fod y Llywodraeth Lafur wedi rhoi pwyslais gwleidyddol parhaus yn lle hynny ar yr angen iddynt ddefnyddio dull ysgafn o reoleiddio. Wel, y bobl a dalodd y pris. Erbyn 2010, diffyg cyllideb y DU oedd y gwaethaf yn y G20, y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE.

Os oes gennych ddiffyg mawr, mae rhywun yn berchen arnoch ac yn gosod y telerau, a byddent wedi gorfodi mwy o doriadau pe baem wedi dilyn y polisïau economaidd a hyrwyddid gan Lafur a Phlaid Cymru, fel a ddigwyddodd yn Iwerddon a Gwlad Groeg, ac fel a ddigwyddodd pan orfodwyd Llywodraeth Lafur y DU i fenthyg gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol ym 1976. Rwy'n ddigon hen i gofio hynny; collodd fy nhad ei swydd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Maent yn ceisio taflu'r bai ar gyfnod byr Liz Truss wrth y llyw, gan osgoi'r realiti fod y bunt, cost benthyca a'r marchnadoedd wedi gwella cyn gynted ag y gwnaeth Rishi Sunak a Jeremy Hunt adfer sefydlogrwydd. Dim ond rhywun hurt iawn a fyddai’n honni—fel y gwnânt hwy—fod yr argyfwng costau byw presennol wedi’i greu yn San Steffan, ac mae gan 33 o wledydd Ewropeaidd, ardal yr ewro—

16:40

—ac 17 o wledydd y G20 gyfraddau chwyddiant uwch na'r DU ar hyn o bryd yn sgil yr argyfwng costau byw byd-eang. I gloi, mae gobaith ar gyfer y dyfodol, ar yr amod na chaiff Llywodraeth Lafur y DU ei hethol i ddinistrio'r economi unwaith eto.

Mae'n bryd dod â'r anhrefn i ben. Mae economi’r Deyrnas Unedig wedi cael ei chaethiwo gan y Torïaid. Pedair blynedd ar ddeg hir o gyni, dan lywyddiaeth pum Prif Weinidog Torïaidd a saith Canghellor Torïaidd. Ond yr un peth sydd ganddynt oll yn gyffredin yw bod y mwyafrif wedi dod yn waeth eu byd oddi tanynt. Mae hynny'n ffaith. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, methodd y DU dyfu o gwbl ym mis Ebrill, ac rydym ar waelod tabl y G8 o ran twf. Mae hynny'n ffaith. Heddiw, rydym yn dysgu o gyfweliad gwleidyddol ar ITV, yr un y gadawodd Rishi Sunak ddigwyddiadau D-day ar ei gyfer, fod Prif Weinidog y DU, sy'n werth £651 miliwn ei hun, yn teimlo poen ariannol teuluoedd cyffredin oherwydd, er nad yw erioed wedi defnyddio peiriant twll yn y wal, fe aeth heb deledu Sky unwaith pan oedd yn blentyn, ac mae hynny y tu hwnt i ddychan. Ac wrth i glefydau Fictoraidd erchyll sy'n gysylltiedig â thlodi—y llechau a chamfaethiad—ddechrau ymddangos unwaith eto yn ein meddygfeydd a'n hysbytai—. Am waddol—mae'r Prif Weinidog Torïaidd tila hwn yn gwneud popeth yn ei allu i wneud i'w ragflaenydd, Liz Truss, edrych fel pe bai'n wleidyddol gymwys.

Felly, rwyf am edrych ar ragor o ffeithiau. Mae cyflogau wedi codi'n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr ers 2011. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £143 miliwn. Ac er y mesurau hyn, nawr yn 2024, mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb sydd £3 biliwn yn is na phe bai wedi tyfu yn unol â chynnyrch domestig gros ers 2010. Yn wir, mae gan Gymru bron i £1.3 biliwn yn llai o gyllid mewn termau real oherwydd methiant Llywodraeth y DU i gadw at ei hymrwymiadau a darparu'r cyllid llawn yn lle arian yr UE. Nid yw wedi gwneud hynny, ac ers hynny, mae wedi chwalu ymddiriedaeth ei dinasyddion.

Gyda’r niwed economaidd pellach a achosir gan Brexit caled a mini-gyllideb, fel y'i gelwir, Liz Truss, mae’n ffaith drist nad yw Cymru'n cael cyllid teg gan San Steffan. Nid yw fformiwla Barnett yn darparu setliad ariannu sy’n adlewyrchu anghenion economaidd, ariannol neu gymdeithasol Cymru.

Mae Llywodraethau Ceidwadol y DU wedi—

Mae'n ddrwg gennyf, mae gennyf ormod i fynd drwyddo, ac rwy'n siŵr y byddaf yn ateb unrhyw ymyriad yn yr hyn sydd gennyf i'w ddweud.

Mae Llywodraeth y DU wedi mynd ati'n fwriadol i ddinistrio rhwyd les y DU, a ddylai fod yno i ofalu am anghenion y rhai mwyaf agored i niwed, ac a roddodd derfyn ar deyrnasiad creulon y tloty cosbol—

Rhianon, esgusodwch fi am eiliad. Mae angen i'r Aelodau yn y Siambr fod yn dawel er mwyn i mi ac eraill allu clywed y cyfraniad gan yr Aelod. Diolch. Rhianon, parhewch.

Diolch. Cafodd teyrnasiad creulon y model tloty cosbol ei erydu a’i golli a’i ddileu oherwydd y rhwyd les gymdeithasol hon, ac mae dinistrio’r rhwyd les honno wedi sicrhau cyfraddau uchel o dlodi i ni heddiw, yn enwedig tlodi plant yng Nghymru, wrth i'r Ceidwadwyr fynd ati'n uniongyrchol i'w datgymalu. Bydd y creithiau hyn ac effeithiau tlodi difrifol yn aros gyda phob un ohonom am y dyfodol rhagweladwy, ac rwy’n dal i deimlo cywilydd ac yn arswydo bod rapporteur y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl anabl a phlant wedi beirniadu Llywodraeth y DU yn hallt ar ei dewisiadau anflaengar, sydd wedi dyfnhau anghydraddoldeb yn ddifrifol ledled y DU, ac mae hynny'n ffaith. Mae lefelau prisiau bwyd yn feintiol uwch na thair blynedd yn ôl yn unig, ac yn dal i godi, yn yr un modd â biliau’r cartref ar gyfer cyfleustodau a rhent a morgeisi a dyled, TAW ar ddillad plant a nwyddau mislif, gyda chyflogau gwirioneddol prin yn uwch na'r hyn oeddent yn 2010. Ac yn wir, mae dadansoddiad gan y Resolution Foundation yn dangos bod incwm gwario gwirioneddol aelwydydd y pen yn y DU bellach yn is na hyd yn oed lefelau cyn y pandemig erbyn diwedd y llynedd. Ac mae hyn wedi arwain at orfodi Ymddiriedolaeth Trussell i ddarparu'r nifer uchaf erioed o barseli bwyd a Chyngor ar Bopeth i ddarparu cyngor ar ddyledion i'r niferoedd uchaf erioed o bobl. Ni yw'r genedl yn y DU sy’n dibynnu ar fanciau bwyd, wrth i Lywodraeth y DU ymwrthod â’i phrif swyddogaeth, sef diogelu ei phobl. Mae aelwydydd a busnesau'n dal i wynebu’r cyfraddau llog uchaf ers dros 16 mlynedd, gan rwystro buddsoddiad busnes sydd ei angen yn daer a rhoi mwy o bwysau ar gyllid aelwydydd.

Felly, yn anffodus, i gloi, mae’n rhaid imi ddweud wrth Darren Millar fod hyd yn oed Ysgrifennydd amddiffyn y Torïaid, Grant Shapps, wedi rhoi’r gorau i’r esgus. Heddiw, fe rybuddiodd y pleidleiswyr rhag pleidleisio dros uwchfwyafrif. Yn wir, Ddirprwy Lywydd, mae'n bryd dod â'r anhrefn i ben. Mae’n bryd dechrau ailadeiladu, gan adeiladu economi Prydain ochr yn ochr â’r partneriaid yn y DU a fydd, law yn llaw ac yn unol â Llywodraeth Cymru, yn sicrhau ein bod yn gryfach gyda’n gilydd fel cenedl, fel y gallwn gyda’n gilydd, fel Teyrnas Unedig, adeiladu dyfodol gwell, cryfach a gwyrddach i holl bobl Cymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:45

Diolch. Yn y 14 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld Llywodraeth Dorïaidd y DU yn gwneud toriadau milain mewn termau real i flociau adeiladu twf economaidd, gan ddatgymalu gwasanaethau cyhoeddus—iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, tai—cyflogau a chyllidebau awdurdodau lleol. Arswydais wrth weld Rishi Sunak yn dweud ei fod yn bwriadu ariannu gostyngiad mewn treth drwy doriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus. Ni all y DU ymdopi â rhagor o gyni.

Ni allwn weld rhagor o doriadau i les ychwaith. Mae'r rhain yn cael eu defnyddio fel ychwanegiadau i bobl sy'n gweithio. Mae'r newid o gredydau treth i gredyd cynhwysol wedi bod yn ddinistriol i lawer. Rydym wedi gweld y Torïaid yn newynu Cymru o’r cyllid sydd ei angen arni, boed hynny drwy gyllidebau cyni olynol neu drwy fynd ati'n fwriadol i warafun gwerth biliynau o bunnoedd o arian HS2, cyllid ôl-UE, ac arian a ddarganfuwyd i lawr cefnau soffas o’r enw ‘arian a ddarganfuwyd o fewn cyllidebau presennol’, gyda diffyg tryloywder i’n Gweinidog cyllid.

Roedd Cymru yn fuddiolwyr net o gyllid Ewropeaidd ac nid yw’r un lefel o gyllid wedi’i darparu gan Lywodraeth y DU. Mae’r cyllid ar gyfer rhaglenni cenedlaethol megis prentisiaethau, rhaglenni ymchwil prifysgolion, seilwaith cyhoeddus megis priffyrdd, trafnidiaeth gymunedol, band eang ac arloesedd, wedi’i golli ac nid oes cyllid wedi'i ddarparu yn ei le. Rydym wedi gweld y Llywodraeth yn cynllwynio i fynd ag arian o bocedi pobl drwy ffrwydrad morgeisi a chwyddiant Liz Truss, ac o dan y Ceidwadwyr, mae’r cyfoethogion wedi mynd yn gyfoethocach a’r tlodion yn dlotach. Am y tro cyntaf ers yr ail ryfel byd, mae disgwyliad oes i fenywod wedi gostwng, a bydd 99 y cant o’r boblogaeth yn dlotach na’r genhedlaeth o’u blaenau.

Mae cyfalafiaeth y farchnad wedi arwain at gyfoeth enfawr ac amddifadedd enfawr. Rydym wedi gweld hyn gyda gwerthu'r Post Brenhinol, gan danbrisio ei asedau wrth gyhoeddi ei gyfranddaliadau, a seiffno'r fraich broffidiol a oedd yn cefnogi’r stamp un pris cyffredinol, sef rhan gwerth cymdeithasol falch, ar un adeg, y Post Brenhinol 500 mlwydd oed. Nawr, bydd yn cael ei werthu i biliwnydd a fydd am werthu rhagor o'i asedau a—[Torri ar draws.]—cyflogi staff asiantaeth—

—mewn ras i'r gwaelod. Dyma enghraifft dda o sut nad yw cyfalafiaeth y farchnad yn gweithio. Roedd unwaith yn swydd dda, yn swydd i ymfalchïo ynddi, ac yn ased cymunedol. Nawr, mae'n rhaid i weithwyr post gerdded 13 milltir y dydd a dywedir wrthynt o hyd am adael post ar ôl. Mae pobl wedi blino’n lân gan fod y Torïaid wedi gwthio cynhyrchiant ac effeithlonrwydd i’r eithaf—gorfod gweithio shifftiau 12 awr, toriadau i les, toriadau i gymorth cyllid cyhoeddus. Sut y gallwch ddweud bod yr economi'n tyfu ac esgus bod popeth yn iawn am fod chwyddiant yn gostwng pan fo gennym bobl mewn tlodi mewn gwaith a miloedd yn dibynnu ar fanciau bwyd? Nid yw'n iawn, ac mae'n mynd i gymryd llawer i newid hynny.

Rydych chi'n hawlio cyfrifoldeb am y porthladd rhydd yn Ynys Môn. Wel, negodwyd hynny ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a fynnodd, yn gwbl briodol, yr un faint o gyllid ag yr oedd porthladdoedd rhydd yn Lloegr yn ei gael, ynghyd â sicrwydd fod safonau amgylcheddol a chyflogaeth yn cael eu cyflawni. Ni fyddai hynny wedi digwydd heb ymyrraeth Llywodraeth Cymru.

Bu cyhoeddiadau am barth buddsoddi ar gyfer Wrecsam a sir y Fflint, ond dim cyllid datblygu. Roedd y parth buddsoddi i fod ar gyfer gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau creadigol a digidol. Rwy’n pryderu bod y rhain wedi’u gollwng gan Lywodraeth y DU, ac ymddengys bod hynny'n cael ei orfodi gan y cynnig hwn, drwy ddweud eu bod yn barthau buddsoddi ar gyfer gweithgynhyrchu uwch yn unig. Mae arnom angen i'r diwydiannau creadigol a digidol gael eu cynnwys.

Dim ond cyhoeddiad arall cyn yr etholiad oedd yr £1 biliwn ar gyfer trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, heb unrhyw arian datblygu i Network Rail gyflawni hyn. Gall y Ceidwadwyr geisio ailysgrifennu hanes fel y mynnant; mae trigolion ledled Cymru wedi teimlo ergyd lawn anghymhwysedd economaidd y Llywodraeth yn uniongyrchol yn eu pocedi. Mae’r DU a Chymru yn erfyn am newid, ac rwy'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Lafur y DU yn cyflawni hynny gyda Llywodraeth Cymru. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn siŵr fy hun beth ddigwyddodd.

Wel, rwyf wedi clywed sylwadau a chyfraniadau diddorol yma heddiw, ond mae'n rhaid imi ganmol Sam Kurtz a Mark Isherwood am nodi'n ffeithiol ac yn gywir pa mor wael yw hi i fusnesau bach yma—wel, busnesau o bob maint, a dweud y gwir. Pan ddechreuais fel menyw fusnes flynyddoedd lawer yn ôl, o dan Lywodraeth Geidwadol y DU, cefais fy nghefnogi, bu modd imi ffynnu wedyn wrth symud ymlaen, gan dalu trethi, agor busnesau newydd eraill, cyflogi pobl; fe wnaethant hwy ffynnu hefyd. A dyna fel y dylai fod. Ond dros y 10 mlynedd diwethaf yn enwedig—. Er bod Llafur Cymru wedi bod yn euog o fod mewn grym am 26 mlynedd a pheidio â helpu busnesau, mae’n deg dweud, dros y 10 mlynedd diwethaf, nad wyf erioed wedi byw mewn cyfnod—ac rwy’n siarad â chymaint o fusnesau o bob maint, lle maent yn dweud, 'Nid yw Llywodraeth Cymru yn ein deall, nid oes ganddynt unrhyw syniad, nid ydynt yn gwybod beth sydd ei angen i redeg busnes'—. A phan welwn fusnesau'n methu yng Nghymru, ac yn dorcalonnus, yn ddiweddar, Mona Dairy—. Rydym wedi gweld cwmnïau mawr eraill—. A hyd yn oed Tata Steel, popeth a ddigwyddodd pan fyddai'r cwmni'n dweud, 'Mae angen cymorth arnom', fe gamodd Llywodraeth y DU i'r adwy a dechrau eu cefnogi, ond y cyfan a wnaeth Llywodraeth Cymru—a'r undebau—oedd ceisio defnyddio'r sefyllfa fel arf gwleidyddol. Yn lle mynd ati'n gyflym i geisio achub y busnes hwnnw, bob tro y mae busnes yn dioddef yng Nghymru, byddai’n well ganddynt neidio ar y drol na helpu’r cwmni hwnnw.

Nawr, ni ellir gwadu mai'r rheswm am hynny yw mai Llywodraeth Lafur sydd gennym yng Nghymru. Mae ffigurau brawychus wedi dangos, dros y flwyddyn ddiwethaf, ein bod wedi colli dros 63 o dafarndai, yn cau eu drysau, mwy na dwbl y dirywiad yn Lloegr, ac amcangyfrifir bod 770 o swyddi wedi’u colli yno. Yn hytrach na phenderfynu mynd i’r afael â hynny, maent yn parhau i gosbi ein busnesau bach. Maent wedi cael gwared ar ryddhad ardrethi busnes. Dywedodd Edwina Hart flynyddoedd lawer yn ôl wrthyf na fyddai byth yn cael gwared ar ardrethi busnes, ond roedd hi'n eithaf parod ar y pryd i gefnogi lefel y cymorth roeddent yn ei roi, ac edrychwch, mae hyd yn oed hynny wedi'i ddiddymu ar gyfer ein busnesau bellach. Ac mae llawer o ddadleuon wedi bod yn ddiweddar a hustyngau i wleidyddion yn yr etholiad cyffredinol. Wel, gallaf ddweud wrthych nawr, fe fydd—ac i unrhyw un sy'n gwylio hyn—fe fydd mwy o drethiant gan Lafur ar lefel y DU a Llywodraeth Cymru, ac yn fwyaf arbennig, byddant yn mynd am ein busnesau i raddau mwy, oherwydd yn rhy aml, maent yn gweld ein busnesau fel yr opsiwn hawdd. Mae Syr Keir Starmer wedi dweud yn agored mai ei lasbrint ar gyfer Llywodraeth Lafur y DU yw Cymru. Wel, mae honno'n feirniadaeth drist os yw o ddifrif yn edrych ar Lywodraeth Cymru fel enghraifft i'w hefelychu.

Trethi uwch, llai o dwf—gwyddom yng Nghymru fod y gyfradd gyflogaeth wedi plymio o dan 70 y cant, i lawr 2.8 y cant ers y flwyddyn flaenorol, a bellach dros 5 y cant yn llai na'r DU; yr Alban ar 73 y cant. Mae hyn yn arwydd o wlad â thwf economaidd marwaidd. Ynghyd â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU, mae gan Gymru hefyd y cyflogau canolrifol isaf, ac maent oddeutu £3,000 yn llai. Pam y dylai rhywun sy’n gwneud yr un swydd yng Nghymru gael £3,000 yn llai nag y byddent o dan Lywodraeth y DU yn Lloegr?

Wrth gwrs, mae anweithgarwch economaidd wedi bod yn elfen gyson, ond ar ôl 25 mlynedd o Lafur Cymru, mae cyfradd anweithgarwch economaidd o 28.1 y cant, i fyny 2.7 y cant ers y flwyddyn flaenorol, o gymharu â Lloegr, yn peri cryn bryder. Er gwaethaf fy mhwyslais blaenorol ar rôl hollbwysig busnesau bach yng Nghymru, yn enwedig gyda thwristiaeth yn cyflogi 12 y cant o’n gweithlu, ac yn cyfrannu oddeutu, wel, mwy na £2.4 biliwn o ran y gadwyn fwyd a phopeth, mae Llafur Cymru wedi parhau i fod yn benderfynol o ddinistrio rhan ddynamig o economi Cymru. Maent yn bwriadu cyflwyno treth dwristiaeth, a fydd—. Wel, mae eisoes yn cael effeithiau negyddol. Dywed adroddiadau wrthym fod pobl eisoes wedi clywed rhybuddion llwm am dreth dwristiaeth, ac maent eisoes yn dechrau meddwl am fynd i rywle arall. Yn Aberconwy, mae twristiaeth a lletygarwch yn rhan enfawr o’r mewnbwn economaidd, ac athrawiaeth Llafur Cymru yw cynyddu’r baich ariannol ar unigolion a busnesau fel ei gilydd. Nawr, mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth y DU—

16:50

—yn defnyddio ei hysgogiadau, ei phwerau a’i chyllid i ryddhau twf economaidd. Rydym wedi gweld parth buddsoddi Wrecsam a sir y Fflint, porthladd rhydd Ynys Môn, Wylfa Newydd, cronfa ffyniant, cyllid ffyniant bro. I unrhyw un sy'n gwylio, os byddwch yn pleidleisio dros Lafur ar 4 Gorffennaf, mae arnaf ofn y dylech ddisgwyl mwy o ddirywiad mewn busnesau a disgwyl mwy o ddirywiad yn ein dyfodol economaidd. Diolch.

16:55

Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, a dylem ddweud yn blwmp ac yn blaen fod economi Cymru mewn cyflwr truenus, yn anffodus. Ac nid lladd ar Gymru yw hynny; dyna'r realiti. Heddiw, ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur, mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â’r DU ar ystod eang o fetrigau. Mae sicrhau twf yn anodd gyda chyfraddau llog uchel, ond mae economi Cymru wedi crebachu 1 y cant ers 2018, tra bo economi Lloegr wedi tyfu 2 y cant ers hynny, ac mae cyfradd cynhyrchiant Cymru yn dal yn is na'r rhan fwyaf o ranbarthau eraill. Mae gennym y gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf yn y DU, y gyfradd gyflogaeth isaf a’r cyflogau canolrifol isaf.

Rydym wedi clywed Aelodau Llafur yn beio eu hoff fwch dihangol, Liz Truss, am y ffaith bod economi Cymru mewn trafferth, ond nid mini-gyllideb 2022 sydd ar fai am yr ystadegau digalon hyn. Mae ein heconomi yn y cyflwr hwn oherwydd 25 mlynedd o anllythrennedd economaidd Llafur Cymru, ac nid oes ond angen ichi edrych ar enghreifftiau o’r tro diwethaf i Lafur fod mewn Llywodraeth yn y DU, pan werthodd Gordon Brown ein haur am bris gostyngol, a llythyr Liam Byrne pan adawodd Llafur y Llywodraeth yn 2010, yn dweud nad oedd arian ar ôl, a’r materion a grybwyllodd Mark Isherwood ynghylch Llafur yn gwybod am broblemau Northern Rock mor bell yn ôl â 2005. Rwy’n cofio pan ddechreuodd hynny ym mis Ionawr 2008 a phobl yn ciwio y tu allan i fanciau i lawr y stryd i geisio tynnu eu harian allan am fod y banciau wedi diffygdalu ar y bobl. Mae honno’n sefyllfa druenus i fod ynddi, pan fo'r banciau’n diffygdalu ar y bobl, am fod pobl yn ymddiried mewn banciau i weithredu er eu budd gorau. Dyna oedd y sefyllfa druenus o dan Lafur, a dylem gofio’r digwyddiadau diweddar hynny wrth benderfynu pwy ddylai eich Llywodraeth nesaf fod.

Serch hynny, nid oes gan fy etholwyr ddiddordeb mewn gwrthgyhuddiadau, yr hyn y maent eisiau ei wybod yw beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod eu cyflogau'n codi, i sicrhau bod ganddynt fynediad at gyflogaeth o ansawdd uchel yn eu hardal, i sicrhau eu bod yn gweld busnesau yn eu cymunedau'n ffynnu. Wrth gwrs, arweiniodd cyfyngiadau symud COVID-19 at ddirwasgiad byd-eang difrifol, gyda gostyngiad digynsail mewn cynnyrch domestig gros. Ond fe wnaeth rhai llongau oroesi’r storm yn well nag eraill, gyda gwelliant araf mewn twf, cynhyrchiant a buddsoddiad, a llwyddodd y DU i oroesi’r storm yn well na’r rhan fwyaf o wledydd yr UE—cofiwch yr Eidal, er enghraifft. Dim ond saith gwlad a ymadferodd o ran y buddsoddiad uniongyrchol tramor sy’n allweddol i dwf, ac mae’r Deyrnas Unedig yn un o’r rhain, o flaen yr Unol Daleithiau, yr Almaen, Tsieina a Japan.

Mae twf y DU hefyd wedi bod uwch na thwf yr Almaen yn gyson ers y pandemig, ond o dan gapteiniaeth Mark Drakeford a Vaughan Gething yng Nghymru, mae ein heconomi yn dal i fod yn farwaidd. Mae’r gwynt yn cael ei dynnu o’n hwyliau gan y penderfyniadau economaidd gwael. Mae gwerth gros y pen yng Nghymru ar hyn o bryd yn llai na thri chwarter cyfartaledd y DU; mae anweithgarwch economaidd yn 28 y cant, o gymharu â chyfartaledd y DU o 22 y cant; mae cyflogaeth yn 68.9 y cant, o gymharu â chyfartaledd y DU o 74.3 y cant. Mae economi Cymru, fel ein modurwyr, yn symud ar gyflymder malwen, ac mae’r gwahaniaethau hyn yn tyfu’n barhaus. Mae pobl y wlad hon yn haeddu gwell.

Mae angen i Lywodraeth Cymru nodi’r amodau economaidd er mwyn i’n heconomi ffynnu, ac mae codi'r gwastad yng ngogledd Cymru drwy fuddsoddi mewn seilwaith, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud gyda metro de Cymru, yn hanfodol. Dangosodd adroddiad gan PricewaterhouseCoopers fod cynhyrchiant yng Nghymru yn cael ei gynnal gan Gaerdydd yn unig, gyda’r ffigurau yn y gogledd yn arbennig o enbyd. Mae Llywodraeth y DU wedi gorfod mynd i’r afael â’r mater, gyda £2.5 biliwn o gyllid ffyniant bro i Gymru, lle mae cymunedau fel fy un i yn y gogledd wedi cael eu hesgeuluso gan Lywodraeth Cymru.

Gellid dadlau am y pwnc hwn am ddyddiau, ond hoffwn gloi fy sylwadau drwy ailadrodd fy ngalwad ar Lywodraeth Cymru i adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden, a diddymu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, a fyddai’n mynd rywfaint o’r ffordd i roi hwb i fusnesau sy’n ei chael hi’n anodd, yn gwrthdroi’r duedd o ddiweithdra cymharol uwch ac yn gwella cyfraddau goroesi ein busnesau, sef y trydydd isaf ymhlith holl wledydd y DU, fel y gallwn ddechrau gwella'r sefyllfa.

Hoffwn ychwanegu troednodyn at fy sylwadau drwy ddweud mai’r broblem fwyaf a oedd gennym pan oeddem yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd oedd na allem ostwng cyfraddau llog islaw 5 y cant ar faterion banciau bwyd a nwyddau mislif o dan ddeddfwriaeth yr UE, ac mae'n rhyddid a enillwyd gennym drwy Brexit, a alluogodd y Deyrnas Unedig i weithredu o fewn economi rydd heb faich deddfwriaeth Ewropeaidd, a oedd yn atal cyfraddau TAW rhag cael eu gostwng. Dyna’r rheswm pam na chafwyd rhyddhad ardrethi ar nwyddau mislif cyn 2016, a dyna’r rheswm pam fod prisiau wedi gostwng dros y cyfnod hwnnw, am ein bod wedi rhyddhau ein hunain o faich economaidd yr Undeb Ewropeaidd wrth bleidleisio dros Brexit yn 2016, ac mae'n rhaid inni ddathlu hynny a gwneud y gorau o hynny i Gymru. Diolch.

17:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg nawr i gyfrannu—Jeremy Miles.

Diolch, Lywydd. Mae economi’r DU mewn argyfwng. Dyna pam mai dyma un o etholiadau cyffredinol pwysicaf y DU ers degawdau. Ac er gwaethaf ymdrechion bron yn chwerthinllyd y grŵp Ceidwadol i ystumio’r ystadegau—a gwelsom enghreifftiau gwych o ysgrifennu creadigol yma heddiw—y gwir amdani yw bod y DU wedi bod yn un o’r economïau datblygedig sy’n perfformio waethaf ers amser hir, o ran chwyddiant uchel a thwf gwan. Ac mae'r 14 mlynedd diwethaf o anhrefn Torïaidd wedi erydu safonau byw, gyda phrisiau ynni a bwyd uchel yn effeithio'n anghymesur ar bobl ar incwm isel a grwpiau difreintiedig eraill.

Ni allwn ddiystyru’r ffaith, fel y ceisiant hwy ei wneud, fod costau byw wedi cynyddu’n eithriadol ledled y DU yn ystod 2021 a 2022, ac effaith y gyllideb fach drychinebus gan Liz Truss. Ac mae sawl siaradwr—pob un siaradwr ar feinciau'r Ceidwadwyr—wedi codi heddiw i amddiffyn y gyllideb honno, a bydd pobl Cymru yn edrych ar y ddadl hon ac yn myfyrio ar hynny. Bu’r gyllideb honno’n drychinebus i Gymru. Cyrhaeddodd cyfradd flynyddol chwyddiant 11.1 y cant ym mis Hydref 2022—yn uwch nag y bu ers 41 o flynyddoedd. Mae yna Aelodau ar y meinciau hynny nad oeddent yn fyw pan oedd mor uchel â hynny yn y gorffennol.

Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am dderbyn ymyriad. A allwch chi enwi gwlad yng ngorllewin Ewrop sydd heb ddioddef chwyddiant tebyg, cyfraddau llog tebyg neu ddiweithdra waeth na’r Deyrnas Unedig? Os na allwch, yna, yn amlwg, mae hynny'n dangos nad problem i'r DU yn unig yw hon, mae'n broblem Ewropeaidd ac yn broblem orllewinol y mae pawb wedi'i dioddef. A ni bellach yw'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7 yn y chwarter diwethaf. Mae hynny’n ffaith.

Wel, mae’r Aelod yn anghyfrifol iawn gyda’r dystiolaeth ryngwladol yn ei gyfraniad—[Torri ar draws.] Mae’r Aelod yn anghyfrifol iawn a’r gwir amdani yw bod y gyllideb honno, y maent i gyd wedi’i hamddiffyn heddiw—maent i gyd wedi amddiffyn cyllideb Liz Truss—wedi dinistrio cyllid pobl. Ac mae'n parhau i effeithio ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Dim ond 45 diwrnod oedd hyd ei chyfnod yn y swydd, ond mae’r pwysau ar gostau byw pobl yn parhau hyd heddiw: 1.6 miliwn o aelwydydd, y mae eu morgeisi cyfradd sefydlog yn dod i ben yn 2024 yn wynebu costau morgais sylweddol uwch; mae prisiau rhentu hefyd wedi codi i’r entrychion; yn ôl arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd fis diwethaf, nododd 55 y cant o oedolion yn y DU gynnydd yn eu costau byw o gymharu â’r mis blaenorol; mae elusennau banciau bwyd, elusennau sy'n rhoi cyngor ar ddyledion oll yn adrodd am gynnydd yn y galw; darparodd Ymddiriedolaeth Trussell dros 3 miliwn o barseli bwyd argyfwng ledled y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—y lefel uchaf erioed, y lefel uchaf erioed o dan y Ceidwadwyr; a’r mis diwethaf, helpodd Cyngor ar Bopeth fwy na 47,000 o bobl gyda chyngor ar ddyledion ledled y DU. Nid arwydd o economi sy’n codi’r gwastad yw hyn, nac o ffyniant cyffredin.

Mae’r Llywodraeth Dorïaidd hon yn y DU wedi parhau i roi polisïau tymor byr, cynlluniau peilot a phrosiectau porthi balchder i ni, yn hytrach na chynlluniau mwy hirdymor. Mae'r newid diddiwedd i Weinidogion y DU a fflyd o ddulliau economaidd sy'n newid yn barhaus wedi creu ansicrwydd trychinebus ar draws ein heconomi. Mae'n chwerthinllyd bod y grŵp Ceidwadol yn gosod cynnig o’r math hwn ac yn dweud wrthym cyn lleied y maent yn amgyffred realiti bywyd i bobl yn y wlad hon, lle mae ganddynt arweinydd a all honni ei fod yn deall y caledi a grëwyd gan ei Lywodraeth ei hun am ei fod wedi mynd heb deledu Sky yn blentyn. Mae'n echrydus. [Torri ar draws.]

Ac yn yr hinsawdd hon a grëwyd gan y Ceidwadwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi—. Mae ein cyllideb yn 2024-25 £3 biliwn yn is—[Torri ar draws.]

Mae angen imi glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb, ac rwy’n gobeithio bod grŵp y Ceidwadwyr hefyd eisiau clywed cynnwys yr ymateb.

Tri biliwn o bunnoedd yn is yw effaith Llywodraeth y DU ar gyllideb Llywodraeth Cymru. O'r blaen, arferai cronfeydd yr UE ariannu cyflogadwyedd, sgiliau, arloesedd, cymorth busnes a phrentisiaethau, cronfeydd yr addawodd y Torïaid roi arian yn eu lle. Maent wedi torri’r addewid hwnnw, gan adael diffyg o £1.3 biliwn yn y cronfeydd ffyniant bro a ffyniant cyffredin, sy’n golygu bod gan Gymru lai o reolaeth dros lai o arian, gan danseilio datganoli'n weithredol.

Er gwaethaf hyn oll, mae’r bwlch mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a’r DU wedi gweld gwelliant amlwg yn ystod datganoli. Mae'r gwelliant yn y gyfradd gyflogaeth wedi bod yn arbennig o arwyddocaol i fenywod yng Nghymru. Mae’r gyfradd gyflogaeth hefyd wedi gwella yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, ardaloedd a gafodd fudd penodol o’r lefelau uchaf o gymorth ariannol a oedd ar gael drwy gyfrwng tri chylch olynol o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd, yr amddifadwyd Cymru ohonynt gan wleidyddion Ceidwadol. [Torri ar draws.]

Rwyf wedi bod yn glir mai fy nhri maes blaenoriaeth yw cynyddu—

17:05

Os gwelwch yn dda, gadewch i’r Gweinidog barhau yn ei gyfraniad i’ch dadl. Rydych chi eisiau i’r Gweinidog ymateb i’ch dadl, felly gadewch i ni ei glywed yn siarad, os gwelwch yn dda.

Rydym yn parhau i gefnogi ein busnesau yng Nghymru. Mae Busnes Cymru yn parhau i gefnogi entrepreneuriaid—

Na, gadewch inni beidio â dechrau eto, ar ôl imi ddweud y drefn wrthych. A gawn ni glywed gweddill y cyfraniad mewn tawelwch, os gwelwch yn dda?

Diolch, Lywydd. Mae Busnes Cymru yn parhau i gefnogi entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig ym mhob rhan o’r wlad; mae dros £140 miliwn mewn rhyddhad ardrethi busnesau bach yn cefnogi talwyr ardrethi ar oddeutu 70,000 eiddo ledled Cymru bob blwyddyn; £78 miliwn ychwanegol i ddarparu cymorth am y bumed flwyddyn yn olynol i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch; Banc Datblygu Cymru yn helpu busnesau i dyfu a buddsoddi. [Torri ar draws.] Mae cronfa fusnes Cymru yn buddsoddi £216 miliwn i gefnogi 474 o fusnesau a chreu a diogelu bron i 9,000 o swyddi. Byddwn yn parhau i gefnogi a gweithio gyda busnesau ledled Cymru.

Bydd y Llywodraeth Lafur hon yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi economi ddeinamig a fydd yn cefnogi gobeithion a dyheadau ein pobl ifanc, gan wneud Cymru y lle gorau yn y DU i fuddsoddi ac i weithio ynddo. Ar yr ochr hon i’r Siambr, rydym yn gweithio’n galed ac yn gobeithio bod y 14 blynedd faith ddiwethaf o gamreoli’r Torïaid yn dod i ben, a hynny heb fod eiliad yn rhy fuan. Rydym am weld Llywodraeth yn San Steffan a fydd yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru a chyda’n Senedd; Llywodraeth Lafur yn y DU sy’n gweld potensial Cymru, yn hytrach na’n difrïo’n gyson; Llywodraeth Lafur a chanddi gynllun difrifol ar gyfer yr economi; a Llywodraeth Lafur sy’n bartner i’r Llywodraeth Lafur Gymreig hon i wireddu’r uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer Cymru fel cenedl o ffyniant ac undod.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Sam Kurtz am agor y ddadl hon, a phawb ohonoch sydd wedi cymryd rhan. Mae’n ddadl y bu’n rhaid ei chael, gan fod angen i bobl Cymru wybod pa mor ddrwg yw pethau yma, ac ar ôl 25 mlynedd o reolaeth Lafur, cyn lleied sydd wedi’i gyflawni ar yr economi gan Lafur Cymru a’u partneriaid achlysurol, Plaid Cymru. Yn wir, y negeseuon a glywsom gan Lafur heddiw, mae hi bron fel pe baent yn byw mewn bydysawd cyfochrog, heb gydnabod, neu’n hytrach, heb ganolbwyntio ar beth yw'r problemau yng Nghymru.

Ond Sam, diolch i chi am agor. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at sut mae Cymru yn gartref i fenter ac arloesedd, sut mae gennym ystod eang o fusnesau gwych yma, ac fe wnaethoch ein hatgoffa o’r pwysau y maent wedi ei wynebu yn sgil COVID, ac yna, wrth gwrs, y pethau a ddilynodd, fel Wcráin, a sut yr ymatebodd Llywodraeth y DU i hynny gyda'r cynllun ffyrlo, gan ddiogelu 11 miliwn o swyddi—pethau mawr. Down yn ôl at sefyllfa lle rydym yn gweld twf yma—y twf cyflymaf yn y G7—a chyfraddau chwyddiant is.

Luke, fe wnaethoch chi ymroi i ymosod ar Lywodraeth y DU gyda’r un hen rethreg, ac ni welech fanteision codi’r gwastad. Rwy’n croesawu’r ffaith ei fod wedi cydnabod bod chwyddiant bellach yn gostwng oherwydd cynllun Llywodraeth y DU. Fe wnaeth ladd ar Lafur hefyd, rhywbeth yr oedd angen iddo ei wneud yn gwbl briodol, ond rhaid inni ei atgoffa bod Plaid Cymru wedi cynnal Llafur gyda’r gyllideb sawl gwaith dros y 25 mlynedd diwethaf, felly rydych chi'n rhan o'r sefyllfa a achoswyd yma.

Tynnodd Mark Isherwood sylw at y ffaith y dylai datganoli fod wedi helpu Cymru i ffynnu, ond mae 25 mlynedd o Lafur Cymru wedi gadael ein gwlad yn tangyflawni. Mae cyflogau wedi bod yn codi yma ers yr 11 mis diwethaf bellach, oherwydd cynllun y DU, ac fe wnaeth daflu goleuni ar fethiannau Llafur a pherfformiad hanesyddol Llafur y DU.

Nid oedd Rhianon Passmore am gydnabod y gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Roedd ei ffocws ar Loegr eto—byth ffocws ar Gymru, byth ffocws ar y wlad hon, y wlad rydym i gyd i fod yn ei chynrychioli. Gadewch inni ganolbwyntio ar Loegr a cheisio taflu goleuni ar eu problemau nhw, lle dylech fod yn taflu goleuni ar broblemau eich Llywodraeth eich hun, sy’n perfformio mor wael. Ac fe wnaeth Carolyn yr un peth. Y rhethreg arferol, gan anwybyddu'r problemau real hynny. Fe gyfeiriaf at y—[Torri ar draws.] O, mae'n ddrwg gennyf, gallwch, yn sicr.

17:10

Os yw’r Aelod yn caniatáu i chi wneud, wrth gwrs y cewch chi, Carolyn Thomas.

Diolch. Ond fe soniais fod Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â Llywodraeth y DU ar y porthladdoedd rhydd, y parthau buddsoddi a’r byrddau uchelgais. Mae hynny'n gadarnhaol iawn.

Wel, rwy’n croesawu hynny, ydw, Carolyn. Rwy’n ymddiheuro am beidio â chydnabod eich bod yn cydnabod gwaith da Llywodraeth y DU. Ond roedd yn ddiddorol, roeddwn i'n gwylio darllediad gwleidyddol Llafur Cymru y diwrnod o'r blaen, ac roeddwn i'n synnu'n fawr nad oedd yna Gymry ynddo. Roedd yn siarad am Saeson. Roedd gormod o gywilydd gan Gymru i gyfweld â’u dinasyddion Cymreig eu hunain, sydd wedi profi’r hyn y mae Llafur Cymru yn ei wneud iddynt yn y wlad hon, felly fe ddaethant o hyd i Saeson i lenwi eu hamser gwylio, ac roedd hynny’n warthus.

Tynnodd Janet sylw unwaith eto at ba mor anodd yw hi i fusnesau bach, a sut yr effeithiwyd arnynt, a nododd yn gwbl glir nad yw Llywodraeth Cymru yn deall busnes—63 o dafarndai’n cau, er enghraifft, eu drysau ar gau am byth yng Nghymru. Ac unwaith eto, nododd Gareth gyflwr truenus yr economi yma, a sut mae wedi crebachu 1 y cant ers 2018, ac fe’n hatgoffodd o’r llythyr enwog gan Liam Byrne pan oedd Llafur yn rheoli ddiwethaf—mae’n ddrwg gennym, mae’r arian i gyd wedi mynd. Ond mae'n dangos meddylfryd Llafur, nad oes ots ganddynt sut maent yn gwario arian pobl eraill a byddant yn ei adael i fynd ac yn gadael i ni lanhau'r llanast ymhen ychydig flynyddoedd.

Weinidog, roeddwn yn siomedig oherwydd fe ddywedoch chi fod economi’r DU mewn argyfwng, ond unwaith eto, roeddwn wedi gobeithio fel Gweinidog y byddech chi’n sôn—mae’n ddrwg gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet—sut oedd gennych gynllun priodol, cynllun ar gyfer twf, ond prin y sonioch chi am dwf a phwysigrwydd creu cyfoeth a chreu arloesedd, bron fel pe baech chi’n gwadu’r 25 mlynedd o anweithgarwch. Ac fe ddywedoch chi ar y diwedd eich bod yn gwneud popeth yn eich gallu—popeth yn eich gallu—ac y byddwch yn parhau i wneud hynny, i hybu'r economi yng Nghymru, ond mae 25 mlynedd wedi mynd heibio. Nid ydych wedi ei wneud. Ni yw'r rhan o'r DU sy'n perfformio waethaf. Felly, beth yw'r esgus? [Torri ar draws.]

Lywydd, gallwn ddadlau cymaint ag y dymunwn—gallwn ddadlau cymaint ag y dymunwn—ond mae’n amlwg fod gan Lywodraeth y DU strategaeth glir ar gyfer llwyddiant sy’n gweithio. Rydym yn gweld chwyddiant yn gostwng i ychydig dros 2 y cant. Gennym ni y mae'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7. Gallai Llywodraeth y DU weld y cyfleoedd i Gymru. Fe wnaethant gymryd yr awenau a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chynghorau i greu bargeinion dinesig a bargeinion twf ledled Cymru, ac rydym eisoes wedi gweld—. Byddwn yn gweld porthladdoedd rhydd ac rydym yn gweld parthau buddsoddi. Rydym wedi gweld cronfeydd codi’r gwastad a ffyniant cyffredin yn gweithio i gymunedau ledled Cymru. Mae'n amlwg fod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi creu'r offer i helpu Cymru i fod y gorau y gall fod, gan greu'r amodau ar gyfer twf yn y dyfodol.

Mae arnom angen hynny mor ddirfawr, gan ein bod ar hyn o bryd yn gweld mai Cymru sydd â’r gyfradd gyflogaeth isaf, y cyflogau canolrifol isaf a’r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf yn y DU. Rydym yn gweld busnesau bach yn dioddef o ddiffyg cymorth, rydym yn gweld treth dwristiaeth a chyfyngiadau ar fusnesau twristiaeth, ac ni ddylai fod fel hyn. Mae arnom angen i Gymru ffynnu’n iawn, i fod yn uchelgeisiol gyda chynllun clir ar gyfer twf economaidd. Rydym eisiau i’n pobl ifanc—mae angen iddynt gael gobaith, mae angen iddynt gael mynediad at swyddi da a chyflogau da er mwyn iddynt allu byw a gweithio yng Nghymru, magu eu teuluoedd yma, anelu at sicrhau cartref a dyfodol cadarnhaol. Dylai’r pethau hyn fod yn rhywbeth y dylai’r Llywodraeth Lafur hon fod eisiau ei gyflawni, ond yn anffodus, nid ydynt yn deall pwysigrwydd twf a chreu cyfoeth. Maent wedi eu hamddifadu o feddwl arloesol. Mae’r diffyg dyhead hwn gan y Llywodraeth yn gwneud cam â’r wlad hon, a bydd yn gwneud cam â chenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n annog yr Aelodau i anwybyddu’r gwelliannau enbyd a gyflwynwyd gan Lafur a Phlaid Cymru a chefnogi ein gwelliannau ni, sy’n adrodd y stori go iawn.

17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r pleidleisio ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 8 sydd nesaf. Dadl Plaid Cymru yw hon, ar y gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dwi'n galw ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8604 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd wedi asesu'r cynnydd a wnaed gan y Bwrdd ar 84 o argymhellion a oedd wedi'u cynnwys mewn pedwar adroddiad ar wahân ers 2013.

2. Yn gresynu bod chwech o'r 84 o argymhellion wedi'u categoreiddio'n goch, gan ddangos fawr ddim tystiolaeth o weithredu os o gwbl, a bod 40 wedi’u categoreiddio’n ambr, gan ddangos dim ond rhywfaint o dystiolaeth neu dystiolaeth gymedrol o weithredu, dros ddegawd ar ôl cyhoeddi'r adroddiad terfynol.

3. Yn credu bod y cynnydd a wnaed ar weithredu'r argymhellion wedi'i danseilio gan y penderfyniad dadleuol i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithredu argymhellion Adroddiad yr Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig yn llawn ac i nodi amserlenni clir ar gyfer cyflawni hyn; a

b) i gyhoeddi'r cyngor gweinidogol a arweiniodd at y penderfyniad i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall gan nodi'r goblygiadau i ddarpariaeth iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Os ydyn ni wedi dysgu un wers o hanes bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, y wers ydy nad ydy gwersi'n cael eu dysgu. Mae'r arfer anffodus yma yn cael ei amlygu yn adroddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion i mewn i wasanaethau iechyd meddwl ac anghenion dysgu ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Fel y gŵyr pawb yma heddiw, codwyd pryderon difrifol ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl Betsi Cadwaladr nôl yn 2013 wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i mewn i'r berthynas wael rhwng staff a rheolwyr yn uned Hergest Ysbyty Gwynedd. Yna, caewyd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd. Codwyd pryderon am ddiogelwch cleifion yn uned Ablett Ysbyty Glan Clwyd hefyd, a chyflwynwyd mesurau wedi'u targedu gan y Llywodraeth.

O'r herwydd, mae adroddiad adolygiad gwasanaeth gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi adolygu'r cynnydd ar weithredu'r gyfres o argymhellion a wnaed mewn pedwar adroddiad ar wahân ar wasanaethau iechyd meddwl yn Betsi Cadwaladr. Wrth gwrs, rydym yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad hwn wedi'i gomisiynu, ond mae'n feirniadaeth hallt o gyflymder rhewlifol y diwygiadau yn y bwrdd iechyd fod ymhell dros hanner yr 84 argymhelliad a adolygwyd i gyd wedi'u dosbarthu naill ai fel rhai oren, gan adlewyrchu rhywfaint o dystiolaeth yn unig neu dystiolaeth gymedrol o weithredu, neu goch, gan adlewyrchu ychydig neu ddim tystiolaeth o weithredu.

Mae rhai o'r diffygion mwy difrifol yn gyfarwydd iawn—er enghraifft, diffyg platfformau digidol cydgysylltiedig a chynhwysfawr ar draws y bwrdd iechyd. Wedyn ceir y gormodedd o swyddi dros dro ar lefel reoli a'r ymdeimlad o ansefydlogrwydd sydd, yn anochel, yn creu thema ailadroddus a godais mewn ymateb i'r adroddiad diweddaru ar fesurau arbennig yn Betsi Cadwaladr yn ôl ym mis Medi y llynedd a sawl gwaith wedi hynny. Y mwyaf amlwg yw diffyg nyrs ymgynghorol arbenigol â chyfrifoldeb penodol am ddementia yn y gyfarwyddiaeth iechyd meddwl ac anabledd dysgu.

Mae'r argymhellion hyn wedi bod ar waith ers o leiaf hanner degawd. Nid yw prinder amser ar gyfer gweithredu'n briodol yn esgus o gwbl. Rydym yn galw ar y Llywodraeth felly i ddarparu'r holl gymorth angenrheidiol i sicrhau y gall y bwrdd iechyd weithredu argymhellion adroddiad yr adolygiad gwasanaeth gwahoddedig yn llawn, a nodi amserlenni clir ar gyfer cyflawni hyn. Credwn hefyd fod canfyddiadau'r adolygiad hwn yn tynnu sylw at yr angen am ddatgeliad llawn a thryloywder ar ran y Llywodraeth hon ynghylch yr amgylchiadau dadleuol a arweiniodd at dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020.

Ers tro, rydym wedi bod o'r farn fod hwn yn benderfyniad cynamserol a danseiliodd waith i fynd i'r afael â phroblemau yn y bwrdd iechyd, safbwynt a atgyfnerthir gan y ffaith bod y partneriaid eraill yn y fframwaith uwchgyfeirio teirochrog, Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, wedi cadarnhau ers hynny eu bod wedi cynghori yn erbyn y cam gweithredu hwn. Am y rheswm hwn, rydym hefyd yn galw am ryddhau'r cyngor gweinidogol a lywiodd y penderfyniad hwn i'r parth cyhoeddus fel y gallwn sicrhau nad yw cynnydd a wnaed ar wella gwasanaethau yn Betsi Cadwaladr yn cael ei beryglu eto gan ystyriaethau gwleidyddol manteisgar.

Gallaf sicrhau Ysgrifennydd y Cabinet nad yw'n rhoi unrhyw bleser i ni orfod ailedrych ar y thema oesol hon o fethiannau cronig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydym wedi blino ar y peth, a heb os nac oni bai, mae pobl gogledd Cymru wedi blino arno hefyd. Ond nes bod tystiolaeth glir fod gwelliannau'n cael eu gwneud mewn modd amserol, ein dyletswydd i staff gweithgar a chleifion Betsi Cadwaladr yw parhau i ddwyn y bwrdd a'r Llywodraeth i gyfrif. Am y rheswm hwn, rwy'n annog y Senedd i gefnogi'r cynnig.

17:20

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1 bydd gwelliant gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar i gynnig yn ffurfiol welliant 1. 

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Adroddiad Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar Wasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i ddarparu asesiad annibynnol o'r cynnydd a wnaed ers 2013;

b) o'r 84 o argymhellion a wnaed mewn perthynas â phedwar adroddiad blaenorol, canfu Coleg Brenhinol y Seiciatryddion fod y mwyafrif helaeth wedi cael eu gweithredu;

c) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn adroddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn llawn ac y bydd yn ymateb yn ffurfiol iddo yn ei gyfarfod Bwrdd nesaf; a

d) y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu yn y Gogledd fel rhan o'r ymyrraeth mesurau arbennig.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

i ymddiheuro i bobl sydd wedi colli anwyliaid a chleifion sydd wedi dod i niwed o ganlyniad i argymhellion heb eu gweithredu a methiant i gyflawni gwelliannau.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Mae llawer ohonom yn teimlo'n ddig ynghylch y diffyg gwelliant cyffredinol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r farn nad oes gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud yn agos at fod yn ddigon cyflym. Mae pryderon ynghylch y bwrdd iechyd yn dyddio'n ôl cyn belled â 2009, gyda phroblemau'n dechrau cael eu cydnabod yn swyddogol yn 2012 pan nododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru bryderon ynghylch trefniadau llywodraethu'r bwrdd iechyd. Fe'i gwnaed yn destun mesurau arbennig a'i dynnu allan ohonynt heb i'r gwelliannau angenrheidiol gael eu gweithredu'n llawn. Ac mae cleifion bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi cael eu siomi'n gyson. 

Daeth y gwelliannau a ddechreuodd gael eu gwneud yn dilyn yr argymhellion yn adroddiad Holden 2013, adroddiadau Ockenden ac adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ben yn 2020, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi tynnu Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig am resymau gwleidyddol, ac mae hynny'n warthus. Ni ddylai Llywodraeth Cymru fod dan unrhyw amheuaeth fod hyn yn rhywbeth y byddwn yn anghofio amdano. Byddwn yn parhau i alw am gyhoeddi'r cyngor gweinidogol a arweiniodd at y penderfyniad i dynnu Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ychydig cyn etholiadau'r Senedd yn 2021. 

Nid pêl-droed wleidyddol yw'r bwrdd iechyd na rhywbeth i'w ysgubo o'r golwg pan ddaw'r etholiad. Rydym yn siarad am fywydau pobl ac maent yn cael cam yn gyson. Mae adroddiad adolygiad gwasanaeth gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dangos lefelau truenus o gynnydd ers llunio'r argymhellion, gan ddechrau yn 2013. Ac mewn dros 10 mlynedd, dim ond 36 y cant o'r 84 argymhelliad y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu eu cwblhau'n llawn, gyda chwech yn dal wedi eu categoreiddio fel rhai coch a 41 yn dal wedi eu categoreiddio fel rhai oren. 

A ydym yn disgwyl felly y bydd yn cymryd 10 mlynedd arall cyn inni weld dwy ran o dair o'r argymhellion yn cael eu gweithredu'n llawn, a 10 mlynedd arall ar ben hynny i weld yr holl argymhellion yn cael eu gweithredu'n gyfan gwbl? A yw hynny'n swnio'n rhesymol i Lywodraeth Cymru—tri degawd i argymhellion adroddiad gael eu rhoi ar waith?

Ar feysydd allweddol ar gyfer datblygu pellach, nododd yr adroddiad fod gormod o swyddi dros dro, sy'n arwain at ansefydlogrwydd, ac anallu i roi sicrwydd fod argymhellion wedi gwreiddio'n llawn. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i ac eraill wedi'i godi'n aml. Nid yw swyddi dros dro yn gweithio a phan ddarperir cyllid, rhaid iddo fod yn barhaol fel y gall y bwrdd iechyd gynnig swyddi mwy parhaol. Roedd diffyg mynediad at gofnodion electronig hefyd yn bryder difrifol, gydag anghenion oedolion hŷn heb eu cynrychioli'n ddigonol yn y strwythurau rheoli, nad ydynt ychwaith yn caniatáu cynrychiolaeth ddigonol i bob disgyblaeth.

Rwy'n sylweddoli fy mod yn brin o amser—mae fy sylwadau'n hirach na'r amser a ganiateir—ond hoffwn ddweud yn olaf fod y—

Rwy'n ymddiheuro. Rwy'n gweld y fflach goch ac rwy'n meddwl, 'Mawredd, Gareth, rwyt ti wedi bod wrthi'n rhy hir'.

Ac yn olaf, dylai Llywodraeth Cymru ddangos edifeirwch ynglŷn â thynnu Betsi Cadwaladr o fesurau arbennig yn 2020, cyfaddef mai dyma'r penderfyniad anghywir a oedd yn mynd yn groes i'r argymhellion ar y pryd, a chyhoeddi'r cyngor a roddwyd i Weinidogion pam eu bod yn credu y dylai'r bwrdd iechyd fod wedi cael ei dynnu o fesurau arbennig cyn etholiadau'r Senedd yn 2021—cyfleus iawn.

Mi oeddwn i'n bryderus ac yn siomedig o ddarllen gwelliant y Llywodraeth i gynnig Plaid Cymru, gwelliant sydd yn honni bod y mwyafrif o'r argymhellion wedi cael eu cyflawni. Yn anffodus, dydy hynny ddim yn wir oherwydd o'r 84 argymhelliad unigol gafodd eu hadolygu gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ar draws y pedwar adroddiad, mae ychydig dros hanner ohonyn nhw yn felyn, 41 yn felyn neu'n ambr, ac mae chwech yn goch.

Rydyn ni'n gwybod beth ydy ystyr coch, ond mae ambr neu felyn hefyd yn broblemus, yn adlewyrchiad mai dim ond lefel gymedrol o dystiolaeth sydd ar gael i ddangos bod yr argmhelliad wedi ei weithredu. Cyfanswm, felly, o 47 sydd ddim wedi eu cwblhau yn gyflawn, sy’n gadael 37 sydd wedi eu cwblhau neu sy'n wyrdd. Dydy 37 ddim yn fwyafrif o 84, o bell ffordd, ac efallai gall yr Ysgrifennydd Cabinet gyfiawnhau defnyddio'r term 'mwyafrif' ar gyfer ffigwr sydd yn llai na hanner, mewn gwirionedd.

Mae’r Llywodraeth i’w chanmol am gomisiynu’r adolygiad yma yn y lle cyntaf, ond mae'n rhaid i’r Ysgrifennydd Cabinet dderbyn y canfyddiadau, does bosib. Dydy’r canfyddiadau ddim yn dda. Mae llawer iawn o waith i’w wneud eto, ac mae etholwyr yn dal i ddioddef dros 10 mlynedd ers adroddiad Holden, dros 10 mlynedd ers cau Tawel Fan.

Mae bwrdd iechyd y gogledd wedi cael cyfle i drafod yr adroddiad ac wedi cytuno bod angen ystyriaeth bellach o ganfyddiadau’r adolygiad, ac mi fydd y bwrdd, yn ôl beth dwi'n ei ddeall, yn ymateb yn ffurfiol iddo fo ac yn ei drafod o eto yn eu cyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf. Mae darllen yr adroddiad yn sobreddiol, ac mi fuaswn i yn hoffi tynnu sylw at dri mater o flaenoriaeth y buaswn i'n gofyn i aelodau’r bwrdd ac i’r Ysgrifennydd Cabinet roi sylw penodol iddyn nhw. Yn gyntaf, a dwi'n dyfynnu o’r adroddiad,

'Mae'r tîm adolygu yn argymell rhoi sylw brys i sicrhau bod yr holl waith adferol sy'n angenrheidiol i sicrhau diogelwch cleifion yn cael ei gwblhau, ac mae hyn yn arbennig o berthnasol i risgiau crogi.'

Yn ail:

'Ni phenodwyd nyrs ymgynghorol â chyfrifoldeb penodol am ddementia yn y gyfarwyddiaeth. Roedd y tîm adolygu'n pryderu ynghylch diffyg mewnbwn seicolegol a gweithio amlddisgyblaethol yn uned Hergest.'

Ac yn drydydd:

'Roedd y nifer fawr o swyddi dros dro yn bryder arbennig i'r tîm adolygu, nad oeddent yn glir fod mewnbwn amlddisgyblaethol llawn ar lefel uwch reolwyr'.

Mae'r rheini yn ganfyddiadau sydd yn peri dychryn a siom, onid ydyn? Ac maen nhw yn faterion sylweddol sydd angen eu datrys, heb sôn am yr holl faterion eraill hefyd sydd wedi dod i'r amlwg yn sgil yr adolygiad yma. Mae angen iddyn nhw gael eu datrys, mae angen iddyn nhw gael eu datrys ar frys, ac mae'n rhaid inni weld cynnydd buan.

17:25

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ymddiheuro i bawb sydd wedi cael gofal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n is na'r safonau uchel a osodwyd gennym ar gyfer y GIG yng Nghymru. Rydym o ddifrif ynglŷn â hyn ac yn parhau i weithio gyda'r bwrdd a'r miloedd o staff yng ngogledd Cymru i godi safonau ac ansawdd gofal. Mae cyfres o adroddiadau ac adolygiadau wedi datgelu'r methiannau hyn, ac yn briodol felly, a thrwy ymyrraeth mesurau arbennig, rydym yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwasanaethau, staff a systemau ar waith fel bod gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu yn parhau i fod yn ddiogel ac i helpu i ailadeiladu hyder y cyhoedd. Dyna pam mae'r adolygiad annibynnol hwn, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi bod mor bwysig.

Mae'r bwrdd iechyd wedi dangos ei ymrwymiad i ddysgu o'r gorffennol, wedi ymddiheuro, ac mae'n ymgysylltu â theuluoedd sydd â phrofiad o'i wasanaethau. Rhannwyd copïau o'r adroddiad hwn gyda theuluoedd, a chynigiwyd cyfle iddynt rannu eu barn gyda'r bwrdd iechyd ddiwedd mis Mai. Rwy'n cyfarfod â'r bwrdd iechyd yn ddiweddarach y mis hwn—yr wythnos nesaf, mewn gwirionedd—a hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o gyfarfodydd chwarterol. Byddaf yn nodi fy nisgwyliadau ar gyfer gwella ac am yr angen am dystiolaeth glir a chadarn o'r cynnydd a wneir.

Mae'n bwysig cydnabod bod arweinyddiaeth a rheolaeth ar y gwasanaethau hyn yn gwella. Mae'r is-gadeirydd yn darparu arweinyddiaeth ar lefel y bwrdd, gyda chefnogaeth y cyfarwyddwr gweithredol newydd a benodwyd ar gyfer iechyd meddwl a therapïau. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion am ei waith yn cwblhau'r adolygiad hwn. At ei gilydd, mae'n dangos bod cynnydd wedi'i wneud wrth fwrw ymlaen ag argymhellion y pedwar adroddiad blaenorol, ond mae'n amlwg fod mwy i'w wneud. [Torri ar draws.] Iawn.

17:30

Diolch. Rydych yn dweud bod yr is-gadeirydd yn cymryd cyfrifoldeb, ond yn y cyfarfod bwrdd diwethaf fe gyfaddefodd yr is-gadeirydd nad oedd ganddynt yr arbenigedd na'r sgiliau angenrheidiol i ddeall y problemau'n llawn. Felly, onid ydych chi'n cytuno â rhan o'n cynnig, o leiaf, ein bod angen nyrs arbenigol neu unigolyn arbenigol ar y bwrdd a all arwain ar iechyd meddwl fel bod gennym sicrwydd eu bod yn dysgu ac yn gwella'r modd y caiff gwasanaethau iechyd meddwl eu darparu?

Fel y dywedais, byddaf yn gweld y bwrdd iechyd yr wythnos nesaf, byddaf yn cyfarfod â'r is-gadeirydd a byddaf yn gweld drosof fy hun, ac yn gallu siarad â'r bwrdd iechyd a'r is-gadeirydd. Ac fel y dywedais, hwn fydd y cyfarfod cyntaf o lawer o gyfarfodydd chwarterol, felly byddaf yn monitro cynnydd yn agos iawn yn y cyfarfodydd hynny. 

Cwblhawyd yr adroddiadau gwreiddiol rai blynyddoedd yn ôl, ac efallai fod rhai o'u hargymhellion wedi cael eu disodli gan newidiadau mewn ymarfer clinigol neu gan newidiadau y mae'r bwrdd iechyd wedi'u gwneud i wasanaethau. Ni fyddai'n deg beirniadu'r bwrdd iechyd am fethu gweithredu newid nad yw bellach yn cael ei ystyried yn berthnasol neu'n briodol yn glinigol, ond mae'n siomedig nad oes fawr ddim tystiolaeth o weithredu yn erbyn chwech o'r argymhellion, ac er gwaethaf rhywfaint o dystiolaeth o gynnydd, mae llawer o'r argymhellion heb eu datblygu cymaint ag y dylent fod ar y cam hwn. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd flaenoriaethu argymhellion a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar ddiogelwch ei wasanaethau. Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i sicrhau bod Llais a chleifion yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o ailgynllunio gwasanaethau ac wedi ymrwymo i wrando ar eu barn. Mae'r bwrdd newydd wedi dechrau gwneud hyn yn dda, a byddaf yn gofyn i Llais roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am hyn ddwywaith y flwyddyn.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliwyd dau asesiad diogelwch annibynnol o leoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl ac anableddau dysgu gan yr Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol a gweithrediaeth y GIG. Mae'r ddau wedi nodi enghreifftiau o arferion da a gwelliannau, ond maent hefyd wedi tynnu sylw at feysydd lle mae angen gwelliannau pellach. Mae arolygiadau diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o wasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu hefyd wedi nodi newidiadau cadarnhaol a diogelwch a phrofiad gwell i gleifion. Rydym yn disgwyl derbyn achos busnes llawn o'r uned iechyd meddwl newydd i gleifion mewnol ar safle Ysbyty Glan Clwyd yn gynnar y flwyddyn nesaf, sy'n debygol o alw am fuddsoddiad cyfalaf sylweddol o fwy na £80 miliwn. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod ganddo gynllun cadarn ar waith hefyd i sicrhau y gellir cyflawni gweithlu cynaliadwy ar gyfer yr uned. Yn ogystal, cytunwyd ar raglen waith gynhwysfawr fel rhan o'r ymyrraeth mesurau arbennig, a byddaf yn ymweld hefyd â lleoliadau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru dros y misoedd nesaf i gael persbectif uniongyrchol ar sut mae gwasanaethau'n gweithio. Byddwn yn parhau i gefnogi'r bwrdd iechyd i wella gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu ac ailadeiladu hyder pobl yn y gwasanaethau iechyd meddwl ledled gogledd Cymru. Diolch.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Mae'n siomedig bod yna ddim Aelodau o'r gogledd o'r grŵp Llafur wedi cyfrannu, ond dwi yn diolch i'r Gweinidog am ei sylwadau. Mae hi'n dweud ei bod hi'n gweithio gyda'r bwrdd. Mae'n drueni bod y Llywodraeth ddim yn barod i weithio gyda'r cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw, oherwydd ein nod ni drwy gyflwyno'r cynnig yma oedd trio creu rhyw fath o gonsensws trawsbleidiol o gwmpas canfyddiadau'r adroddiad, er mwyn efallai bod yn foment lle mae'n drobwynt o safbwynt y bwrdd iechyd yn y maes iechyd meddwl yma. Oherwydd, ar ôl blynyddoedd o gamreoli, o gamweithredu, mae methiannau o fewn y bwrdd yn rhy aml dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael eu normaleiddio.

Nawr, mae rhywun yn gobeithio bod yna gornel yn cael ei droi o dan yr arweinyddiaeth newydd o fewn y bwrdd, ond, yn anffodus, fel rŷn ni wedi clywed gan dri o'r siaradwyr yn y ddadl yma, mae dehongliad y Llywodraeth o'r adolygiad yn dangos amharodrwydd brawychus ar eu rhan nhw i dderbyn a chydnabod graddfa'r broblem. Mae'r gwelliant sydd wedi cael ei osod gan y Llywodraeth yn dileu'r cyfan o'n cynnig gwreiddiol ni, ac wedyn, fel rŷn ni wedi clywed, yn datgan bod mwyafrif llethol—gair am air—mwyafrif llethol yr 84 argymhelliad 'wedi cael eu gweithredu', er bod y dystiolaeth yn dangos yn glir bod mwy na hanner yr argymhellion naill ai wedi'u categoreiddio'n felyn neu'n goch, hynny yw heb eu gweithredu—heb eu gweithredu.

Felly, dyma ni, yn ôl ym mydysawd cyfochrog Betsi Cadwaladr y Blaid Lafur. Yr un bydysawd cyfochrog â'r un a ddywedodd wrthynt ei bod hi'n iawn i dynnu Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig yn y lle cyntaf, er gwaethaf cyngor Archwilio Cymru, Arolygiaeth Iechyd Cymru ac eraill. Mae gosod gwasanaethau iechyd meddwl Betsi Cadwaladr ar sail gynaliadwy yn gyfrifoldeb ar y cyd, ydy, ac mae gan ystod o randdeiliaid gwahanol ran bwysig i'w chwarae, ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth arwain ar hyn, ac mae'n rhaid i chi arwain o'r tu blaen, ac ni allwch wneud hynny oni bai eich bod yn derbyn bod maint y broblem—[Torri ar draws.] Eich gwelliant? Ni allwch—

17:35

Ni a gomisiynodd yr adroddiad.

Ie, wel, derbyniwch yr argymhelliad—. A ydych chi'n glynu at eich gwelliant fod 'mwyafrif helaeth' yr argymhellion wedi cael eu gweithredu? Oherwydd nid yw hynny'n wir. Rwy'n fodlon ildio i Mark Isherwood.

Onid ydych chi'n cytuno, er mwyn tynnu llinell o dan hyn a symud ymlaen, fod angen i Lywodraeth Cymru ymddiheuro hefyd i deuluoedd y dioddefwyr, yn enwedig o ystyried y gwadu a fu dros nifer o flynyddoedd fod cam-drin sefydliadol wedi digwydd a bod gorchymyn wedi'i wneud gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth nawr i dynnu nyrs oddi ar y gofrestr ar ôl eu cael yn euog o ymddygiad ymosodol ar y ward honno?

Mewn gair, Mark, 'ydw'. Nawr, y gwelliant hwn—[Torri ar draws.] Ie, a gallwch wneud y pwynt hwnnw. Mae'r Gweinidog yn gwneud y pwynt ei bod wedi ymddiheuro. Ni fydd y gwelliant hwn ond yn atgyfnerthu canfyddiad pobl, ledled gogledd Cymru, fod y Llywodraeth wedi colli gafael ar y mater. Felly, ystyriwch yn ofalus iawn pa fath o neges y bydd yn ei hanfon os caiff y gwelliant hwn ei dderbyn. Mae'n rhaid inni drin yr adolygiad hwn gyda'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu a pheidio â mentro degawd arall o golli cyfleoedd, ac argymhellion ar gyfer diwygio'n cael eu hanwybyddu, ac am y rheswm hwnnw mae Plaid Cymru yn annog Aelodau'r Senedd hon i gefnogi ein cynnig. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly gohirir y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Eitem 9 sydd nesaf.  

Ond rwy'n sylwi nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bresennol ar hyn o bryd, felly a gawn ni atal y cyfarfod am bum munud i sicrhau ein bod yn cael yr Aelod yma i ymateb i'r ddadl?

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:37.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:40, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

17:40
9. Dadl Plaid Cymru: Polisi cynllunio ar gyfer llinellau pŵer newydd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar.

Croeso nôl. Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru: polisi cynllunio ar gyfer llinellau pŵer newydd. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8605 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y safbwynt a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef y dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear lle y bo'n bosibl.

2. Yn credu, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, pan fo llinellau pŵer newydd yn cael eu gosod o dan y ddaear y dylid ei wneud drwy ddull aredig ceblau yn hytrach na chloddio ffos agored.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru paragraff 5.7.9 o Bolisi Cynllunio Cymru:

a) i ddileu’r cafeat presennol: ‘Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen cymryd safbwynt cytbwys o ran costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai’n dderbyniol fel arall, yn anhyfyw’; a

b) er mwyn sicrhau bod gosod seilwaith trawsyrru trydan newydd o dan y ddaear yn ofyniad absoliwt yn hytrach na safbwynt a ffefrir, dylai'r polisi nodi: 'dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear.'

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nod y cynnig hwn yw ei gwneud yn orfodol i bob llinell ddosbarthu trydan newydd yng Nghymru gael ei gosod o dan y ddaear yn hytrach na'i drawsyrru drwy linellau uwchben. Polisi cyfredol Llywodraeth Cymru, fel y'i nodir yn 'Polisi Cynllunio Cymru', yw y dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear, lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Mae'n parhau:

'Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen cymryd safbwynt cytbwys o ran costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai'n dderbyniol fel arall, yn anhyfyw.'

Mae'r cafeat hwn wedi bod yn gatalydd i lif o gynigion ar gyfer llinellau peilon hir sy'n croesi rhannau helaeth o'n gwlad—yn achos fy etholaeth fy hun, ar hyd dyffrynnoedd Tywi a Theifi. Mae hynny ynddo'i hun yn dystiolaeth nad yw'r polisi presennol yn gweithio. Yr ail ddarn o dystiolaeth yw'r diffyg llinellau tanddaearol ar hyn o bryd, er mai dyna yw dewis datganedig y Llywodraeth. Mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig yn ddiweddar gan Cefin Campbell, yn gofyn i'r Llywodraeth roi enghreifftiau penodol lle mae ceblau trydan wedi'u gosod o dan y ddaear, dywedwyd nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw enghreifftiau penodol o linellau trydan yn cael eu gosod o dan y ddaear ar hyn o bryd. Cyn belled â bod y cafeat yn bodoli, bydd datblygwyr bob amser yn manteisio arno ac yn adeiladu peilonau fel eu dewis cyntaf. Felly, mae angen i ni gael gwared ar y cafeat a'u gorfodi i osod llinellau o dan y ddaear, gan ddilyn esiampl gwledydd Ewropeaidd eraill. Ers 2008, er enghraifft, gosodwyd pob llinell bŵer 132 kV newydd yn Nenmarc o dan y ddaear, ac mae wedi elwa ar lwybr cyflymach tuag at ddatgarboneiddio, gan fod gwrthwynebiad cyhoeddus i ynni adnewyddadwy wedi bod yn llawer tawelach o ganlyniad.

Felly, ar wahân i'n helpu i ddatgarboneiddio'n gyflymach, pam arall y dylem ni yng Nghymru ddilyn esiampl Denmarc? Y rheswm mwyaf amlwg yw oherwydd nad yw ceblau tanddaearol yn difetha tirwedd rhai o ardaloedd mwyaf annwyl ac amgylcheddol sensitif ein gwlad. Mae'r nifer fawr o negeseuon e-bost y bydd Aelodau wedi'u cael i gefnogi'r cynnig hwn yn dyst i'r graddau y mae ein cyd-ddinasyddion yn teimlo'n angerddol ynglŷn â hyn. Ond mae yna fuddion eraill hefyd. Mae ceblau tanddaearol yn fwy dibynadwy, gyda llai o doriadau pŵer yn gwella gwytnwch y grid, oherwydd eu bod yn llai agored i amhariadau'n gysylltiedig â'r tywydd fel stormydd a gwyntoedd cryf—ffenomen a fydd yn dod yn bwysicach yn y dyfodol gyda mwy o dywydd eithafol wedi'i achosi gan newid hinsawdd. Mae gan geblau tanddaearol gostau cynnal a chadw is, oherwydd eu bod wedi eu diogelu rhag yr elfennau, ac mae angen llai o waith atgyweirio arnynt, ac yn aml, maent yn fwy effeithlon o ran ynni oherwydd bod llai o golledion wrth drawsyrru trydan o ganlyniad i well rheolaeth thermol.

Nid yw'r ddadl fawr yn erbyn ceblau tanddaearol—eu bod yn debygol o fod yn fwy costus i'w hadeiladu—yn dal dŵr bellach oherwydd arloesi mawr mewn technoleg ceblau a dulliau adeiladu, a bydd fy nghyd-Aelod Cefin Campbell yn cyfeirio'n fanylach yn ei sylwadau i gloi at aredig ceblau heb orfod torri ffos, maes lle mae Cymru a sir Gaerfyrddin yn arwain y dechnoleg.

Mae'n dda fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi adolygiad yn y maes hwn, ac efallai fod hynny ynddo'i hun yn gydnabyddiaeth fod angen newid y polisi. Ond os ydym eisiau atal y gosod peilonau ar raddfa fawr y mae llawer o'n gwlad yn ei wynebu ar hyn o bryd, ni allwn fforddio aros am ganlyniad yr adolygiad hwnnw. Rhaid inni weithredu nawr, a dyna pam y gobeithiaf y bydd Aelodau ar draws y Senedd yn cefnogi'r cynnig ac yn gwrthod gwelliant y Llywodraeth.

17:45

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn credu, lle bynnag y bo’n ffisegol bosibl, y dylai llinellau pŵer newydd gael eu gosod o dan y ddaear mewn modd sy’n lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau, yn unol â'r egwyddor ragofalus, y dylid cynnal asesiadau effaith ar iechyd gyda chynigion i osod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear pan fydd eu hagosrwydd at gartrefi yn codi pryderon iechyd difrifol yn y dyfodol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch. Mae gosod ceblau sy'n darparu pŵer trydanol neu delathrebu o dan y ddaear yn hytrach na'u hongian ar bolion neu dyrau yn helpu i wella dibynadwyedd y system a lleihau'r risg o doriadau trydan yn ystod gwyntoedd cryfion, stormydd mellt, eira trwm neu stormydd iâ. Mae eu gosod o dan y ddaear hefyd yn helpu i atal tanau gwyllt. Budd ychwanegol yw estheteg y dirwedd heb y llinellau pŵer. Er y gall gosod ceblau o dan y ddaear gynyddu cost gyfalaf trawsyrru a dosbarthu pŵer trydan, mae'n lleihau costau gweithredu dros oes y ceblau. Ymhellach, mae cyfrifiadau gan ddatblygwyr sy'n dangos bod cost gosod ceblau o dan y ddaear tua dwywaith y gost o osod llinellau uwchben yn anwybyddu'r costau datgomisiynu sy'n rhaid digwydd—miliynau ar draul talwyr biliau trydan y DU ar ôl 30 mlynedd—lle nad oes unrhyw gostau datgomisiynu gyda cheblau tanddaearol.

Er bod yna faterion cysylltiedig eraill i'w hystyried hefyd, megis topograffeg a daeareg, rhaid inni ystyried yr effaith ar gymunedau lleol hefyd. Er enghraifft, dywedodd cynrychiolwyr y gymuned yng Nghefn Meiriadog, Llanelwy, wrthyf y llynedd, 'Mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ymhell o ogledd Cymru sy'n effeithio'n uniongyrchol ac yn anghymesur ar gymunedau gogledd Cymru. Mae'n ymddangos bod y penderfyniadau hynny'n ddi-drefn, yn dangos rheolaeth wael, os o gwbl, ar effeithiau cronnus, ac wedi eu harwain gan gwmnïau sy'n gwneud elw mawr iawn heb fawr o sylw i gymunedau yr effeithir arnynt heblaw'r digwyddiadau wyneb yn wyneb gorfodol a chronfeydd budd cymunedol a addewir.'

Safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig yw bod angen diwygio polisïau cynllunio cysylltiedig yng Nghymru. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi'n glir y dylid gosod ceblau o dan y ddaear, ond mae datblygwyr yn aml yn dweud nad yw hynny'n ymarferol yn ariannol. Fodd bynnag, dylid cynllunio'r holl ddatblygiadau hyn yn y lle cyntaf i gydymffurfio â 'Polisi Cynllunio Cymru'. Felly, mae angen i Weinidogion Cymru wneud ymdrech well i ddilyn eu canllawiau eu hunain, yn hytrach na chaniatáu i ddadleuon yn ymwneud â chost gyfiawnhau osgoi'r polisïau cynllunio hyn. Er mwyn hwyluso hyn ac i sicrhau ymgysylltiad rhagweithiol ag iddo ffocws gwell gyda chwmnïau ynni, mae'n amlwg fod angen cryfhau'r geiriad cysylltiedig yn 'Polisi Cynllunio Cymru'.

Felly, byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn, gan gynnig gwelliant ychwanegol yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau, yn unol â'r egwyddor ragofalus, fod ceisiadau ar gyfer gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear yn cynnwys asesiadau o effaith ar iechyd lle mae eu hagosrwydd at anheddau yn codi pryderon iechyd difrifol ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn adlewyrchu pryder gwirioneddol a amlygwyd gan gymunedau yr effeithir arnynt ac a godwyd, er enghraifft, gan radiograffydd MRI sydd wedi gweithio'n helaeth ym maes oncoleg pan wnaeth cwmni ynni argymell gosod ceblau tanddaearol mor agos â 3m o'u cartref. Gan gyfeirio at yr effeithiau iechyd posibl sy'n gysylltiedig ag amlygiad hirdymor i feysydd magnetig a thrydanol o amgylch y ceblau tanddaearol, roeddent yn dweud bod yn rhaid cymhwyso'r egwyddor ragofalus lle ceir gwaith ymchwil gwyddonol wedi'i gyhoeddi sy'n dangos cysylltiad parhaus rhwng llwybrau ceblau a risgiau cynyddol i iechyd. Serch hynny, rydym yn cefnogi'r cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ddeng mlynedd yn ôl, roedd gan y National Grid fwriad i osod coridor o beilonau ar draws Ynys Môn a thros yr afon Fenai. Fe gafwyd ymgyrch gref gan bobl leol, wedi cael ei harwain gan Blaid Cymru, ac, yn y diwedd, roedd yn rhaid i'r grid dderbyn y byddai angen iddyn nhw osod y ceblau trydan o dan yr afon Fenai pe baent yn symud ymlaen efo'r cynllun, a hynny er mwyn osgoi niwed sylweddol i’r tirlun eiconaidd, ond mi oedden nhw am barhau efo peilonau ar draws yr ynys ei hun. Mae cynllun y grid ar y silff erbyn hyn, ond mi ddaeth hi'n hollol amlwg i mi bryd hwnnw, nôl yn 2014, fod angen newidiadau sylweddol i 'Polisi Cynllunio Cymru’. Does dim dwywaith bod angen cyflymu’r llwybr tuag at ynni adnewyddadwy, ac, i wneud hynny, mae'n rhaid cael cefnogaeth cymunedau, ac mae rhoi ceblau o dan y môr neu o dan y ddaear yn ffordd o liniaru pryderon am hagru tirweddau lleol.

Fel rydym ni wedi clywed, ar hyn o bryd, mae paragraff 5.7.9 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cynnwys cafeat sy'n caniatáu i ystyriaethau cost orbwyso manteision gosod llinellau pŵer o dan y ddaear. Mae hyn yn ei hanfod yn caniatáu i bryderon ariannol gael blaenoriaeth dros ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac esthetig. O ganlyniad, rydym ni yn aml yn gweld nifer fawr o beilonau uwch ein pennau ni, sy'n amharu ar ein tirweddau ac yn tynnu oddi wrth harddwch naturiol Cymru. Mae Plaid Cymru yn credu bod hyn yn wendid sylfaenol yn ein polisi cynllunio ac mae o angen ei gywiro, a hynny ar frys. Felly, dyna pam mae ein cynnig heddiw yn dadlau dros ddileu'r cafeat hwn sy'n ymwneud â chost, gan sicrhau bod ein polisïau seilwaith yn cael eu harwain gan ymrwymiad i stiwardiaeth amgylcheddol a lles cymunedol, yn hytrach na chyfrifiadau ariannol cul.

Wrth ddileu'r cafeat yma, mi fedrwn ni flaenoriaethu manteision hirdymor llinellau pŵer tanddaearol. Byddai'r newid hwn yn alinio ein polisi cynllunio â'n nodau amgylcheddol ehangach ac yn sicrhau nad ydym ni'n aberthu ein tirweddau ar gyfer arbedion ariannol tymor byr. Mi fyddai costau cychwynnol tanddaearu yn arwain at arbedion yn y tymor hir, efo llai o waith cynnal a chadw a llai o amharu ar gyflenwad. Mae llinellau sydd uwch ein pennau ni yn agored i niwed sy'n gysylltiedig â'r tywydd, yn arwain at gostau atgyweirio sylweddol yn aml iawn ac yn arwain at golli pŵer. Mae ceblau tanddaear, ar y llaw arall, yn llawer mwy gwydn ac mae yna angen llai o waith cynnal a chadw.

I gloi, felly, mae'n hanfodol fod paragraff 5.7.9 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cael ei newid er mwyn sicrhau bod ein polisïau seilwaith yn cyd-fynd â'n gwerthoedd amgylcheddol a chymdeithasol. Drwy gael gwared ar y cafeat sy'n seiliedig ar gost, gallwn ni flaenoriaethu manteision hirdymor llinellau pŵer tanddaearol, amddiffyn ein tirweddau, ac, yn bwysig, ennill y gefnogaeth gyhoeddus sydd ei hangen i gyflawni ein nodau hinsawdd. Felly, mae Plaid Cymru yn annog pawb, pob Aelod, i gefnogi'r cynnig yma a chymryd cam pendant tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a mwy apelgar yn weledol ar gyfer Gymru.

17:50

Fis ar ôl i mi gael fy ethol i'r Senedd hon yn 2011, gwelsom un o'r protestiadau mwyaf erioed ar risiau'r Senedd hon. Rwy'n credu efallai fod y brotest ffermio a gafwyd yn gynharach eleni yn fwy, ond roedd yn un o'r rhai mwyaf er hynny. Roedd y brotest honno'n ymwneud â dau beth: gormod o ffermydd gwynt yn cael eu hadeiladu mewn un lleoliad, a'r llall ynghylch cynlluniau i osod llinell drawsyrru 400 kV i redeg drwy fryniau a thirweddau canolbarth Cymru. Nawr, yn dilyn yr ymgyrch honno, ni wnaethant fwrw ymlaen â'r cynigion, diolch byth, ond fel y mae eraill wedi dweud, mae yna brosiectau eraill yn mynd rhagddynt mewn rhannau eraill o Gymru. Yn fy etholaeth i, mae yna gynlluniau i osod peilonau delltog mawr 132 kV i gario ceblau uwchben drwy ganol tirweddau hardd canolbarth Cymru unwaith eto.

Nawr, nid yw fy etholwyr—ac rwy'n credu fy mod yn siarad dros bobl ledled Cymru yn yr ardaloedd perthnasol—yn gwrthwynebu cynlluniau ynni adnewyddadwy. Mae hynny ymhell o fod yn wir; maent eisiau gweld ynni glân yn cael ei gynhyrchu a hynny'n agos at eu cartrefi. Yr hyn y maent yn poeni amdano yw'r seilwaith a all ddod gyda'r cynlluniau hynny. Nawr, wrth gwrs, mae yna broblemau'n ymwneud ag adeiladu gormod o ffermydd gwynt, ac mae angen lleoli cynlluniau ar safleoedd priodol, ond mae honno, rwy'n credu, yn ddadl ar gyfer diwrnod arall. Nawr, mae angen inni weld llinellau pŵer yn cael eu gosod o dan y ddaear er mwyn diogelu ein tirweddau ac i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy priodol hefyd.

Mae'r angen i newid 'Polisi Cynllunio Cymru' yn hyn o beth yn fater a godais gyda'r cyn-Brif Weinidog, y Prif Weinidog presennol, a hefyd gydag Ysgrifennydd y Cabinet Julie James yn ei gwahanol swyddi a rolau. Roeddwn i'n hapus iawn i gefnogi galwadau James Evans hefyd pan gyflwynodd ddadl ynghylch y mater hwn ym mis Ebrill. Nawr, pan fyddaf yn codi'r mater gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yr ymateb a gaf—a daw hyn o Gofnod y Trafodion pan godais y mater gyda'r cyn Brif Weinidog—

'Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai gael ei drosglwyddo o dan y ddaear, nid uwchben y ddaear.'

Dyna'r ateb perffaith. Dyna'r ateb roeddwn eisiau ei gael, ond wrth gwrs, y gwir amdani yw nad dyna yw safbwynt 'Polisi Cynllunio Cymru'. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn mynd ymlaen i gyhoeddi'r cafeatau ynghylch cost a mabwysiadu safbwynt cytbwys ac yn y blaen. Mae angen adolygu a diweddaru 'Polisi Cynllunio Cymru' ar frys, ac yn sicr, mae angen cynnal adolygiad brys o fanteision technolegau rhwydwaith amgen, ac mae Adam Price ac eraill wedi cyfeirio at rai ohonynt. A bydd, wrth gwrs y bydd datblygwyr yn gwrthwynebu, oni fyddant, byddant yn dweud wrthym ac yn rhoi'r holl resymau pam na allant osod llinellau o dan y ddaear, oherwydd mai dyna sy'n fanteisiol iddynt yn ariannol. Ond rwy'n awgrymu mai ymateb diog yw hwnnw i osgoi'r ddadl.

Mae'r cynnig ger ein bron ni heddiw yn nodi'r gwelliant priodol sydd ei angen i 'Polisi Cynllunio Cymru' a diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn sydd wedi'i eirio'n dda heddiw. Mae'r cynnig yn nodi, wrth gwrs, y dylid gosod seilwaith newydd o dan y ddaear—. Mae'r cynnig yn nodi y dylid gosod seilwaith newydd o dan y ddaear fel safbwynt absoliwt—

17:55

—yn hytrach na safbwynt a ffafrir, a dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig hwn yn llwyr ac yn angerddol heddiw ac rwy'n gobeithio y bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi'r cynnig fel y'i cyflwynwyd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddweud nad wyf yn credu ein bod ni filltiroedd ar wahân mewn perthynas â'r cynnig hwn o gwbl. Nid oes llawer o wahaniaeth rhwng y cynnig gwreiddiol a safbwynt Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd. Rydym ni'n ffafrio gosod ceblau trydan o dan y ddaear hefyd. Yr unig wahaniaeth go iawn yn y cynnig hwn heddiw yw ein bod yn anghytuno ynglŷn ag a yw'n briodol ei gwneud hi'n orfodol i osod pob cebl o dan y ddaear lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Mae'n ddrwg gennyf fod braidd yn bedantig yn ei gylch, ond rydym newydd wario miliynau lawer o bunnoedd ar adfer mawndiroedd mewn gwahanol rannau o Gymru; byddai'n bosibl eu rhoi o dan y ddaear drwy'r rheini, ond byddai hynny'n fy ngofidio'n fawr ac rwy'n tybio y byddai'n destun gofid i chi hefyd.

Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n meddwl bod fy enw i lawr i siarad ond mae'n amlwg nad yw, felly mae camgymeriad wedi bod. Ond mae Plantlife Cymru hefyd wedi bod yn gwneud gwaith gwych ac maent wedi bod yn bryderus, gan weithio gyda National Grid, am ffwng prin iawn sydd ar y rhestr o rywogaethau sydd mewn perygl—y rhestr o rywogaethau sydd mewn perygl yn fyd-eang, a dweud y gwir—ac roeddent yn bryderus iawn am geblau tanddaearol yno. Felly, nid mawndiroedd yn unig, ond y ffwng hwn a gweirgloddiau blodeuog hefyd. Mae gennym laswelltiroedd hynafol iawn, ac unwaith eto, mae angen inni edrych ar y rhain hefyd pan fyddwn yn gosod ceblau o dan y ddaear. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cael ei ystyried hefyd.

Diolch yn fawr, Carolyn. Felly, rwy'n hapus iawn—ac rwyf wedi cael sawl sgwrs gydag Adam Price am hyn—i edrych ar sut y gallwn ni wneud yn siŵr fod llawer mwy o'n ceblau'n cael eu gosod o dan y ddaear. Ond mae yna—. Mae'n ddrwg gennyf fod yn bedantig, ond mae'r ymadrodd 'lle bynnag y bo'n bosibl' yn broblem yn y cynnig, oherwydd mae'n ffisegol bosibl ei wneud mewn lleoedd lle rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno nad ydym eisiau iddynt gael eu gosod. A dweud y gwir, yr hyn a wnawn—ac mae gan fy nghyd-aelod yn y Cabinet Jeremy Miles grŵp sy'n edrych ar hyn yn rhagweithiol iawn, ac mae'n dilyn sgwrs a gefais gyda chi, Adam, yn ystod y Bil seilwaith—. Rwy'n awyddus iawn i weithio a chytuno ar y prif lwybrau ar gyfer gosod llinellau trawsyrru mawr o dan y ddaear, fel rhyw fath o rag-gytundeb. Mae gennym ormodedd o ymgyngoriadau cyn-gynllunio ar y gweill, sy'n bendant yn peri gofid i gymunedau ac yn y blaen. Mae gan fy nghyd-Aelod yma, Huw Irranca-Davies, nifer fawr iawn o ffermydd gwynt a pheilonau yn ei ardal, felly mae'n gyffredin ledled Cymru. Felly, nid oes gennyf unrhyw broblem athronyddol gyda'r cynnig hwn, ond rwy'n credu bod y geiriad yn broblemus, felly mae ein cynnig ni yn ei newid. Ond rwyf eisiau bod yn glir iawn gyda'r Senedd heddiw nad oes gennyf broblem sylfaenol gyda'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaed—[Torri ar draws.] Yn sicr.

I fod yn hollol glir ynglŷn â'r hyn rydych chi'n ei ddweud, a ydych chi'n dweud mai safbwynt y Llywodraeth nawr yw bod y cafeat sydd yn 'Polisi Cynllunio Cymru' ar hyn o bryd, sy'n dweud y byddai'n iawn i ddefnyddio llinellau uwchben os byddai gosod ceblau o dan y ddaear yn gwneud y prosiect hwnnw'n anhyfyw yn ariannol—? A ydych chi'n cytuno â ni, felly, ac eraill sydd wedi siarad, fod angen tynnu'r cafeat hwnnw allan o 'Bolisi Cynllunio Cymru' nawr?

Nid wyf eisiau cytuno â hynny'n absoliwt, ond rwy'n deall y pwynt rydych chi'n ei wneud ac rwy'n credu bod angen inni egluro'n llawer gwell yr hyn a olygwn wrth 'anfforddiadwy'.

Mae fy nghyd-Aelod Jeremy Miles—rwy'n credu bod y Senedd eisoes wedi clywed—wedi sefydlu grŵp cynghori annibynnol, ac mae'n deillio o'r adeg pan oeddwn yn y portffolio ynni fy hun, ac maent wedi mynychu arddangosiad o aredig ceblau yn ddiweddar, ac rwy'n credu mai chi a dynnodd ein sylw ato yn y lle cyntaf. Felly, rydym eisiau dod o hyd i'r geiriad cywir sy'n caniatáu i'r prosiectau ynni fynd rhagddynt, ond sy'n gorfodi nifer fawr o'r prosiectau i osod ceblau o dan y ddaear, ac eithrio mewn llwybrau lle credwn y byddai'n niweidiol i'r amgylchedd yn y ffordd y nododd Carolyn Thomas. Ond mewn gwirionedd, rwy'n credu bod yna rai pethau mwy sylfaenol na hynny. Rwy'n credu, os edrychwch chi ar fap o Gymru a'r dopograffeg arno, nid oes cymaint â hynny o lwybrau lle gallech chi osod seilwaith mawr, felly byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod Jeremy Miles i gytuno ar y llwybrau hynny a dod o hyd i'r ffordd orau o'i wneud. Felly, rwy'n credu y byddwn yn dod i gytundeb mewn ffordd ychydig yn wahanol, nid yn groes i athroniaeth eich cynnig, ond mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Nid wyf yn anghytuno o gwbl nad yw cymunedau eisiau byw o dan beilonau trydan foltedd uchel—wrth gwrs nad ydynt. Serch hynny, mae llawer ohonynt yn byw yn y mannau hynny—mae llawer yn etholaeth Huw yn byw yn y mannau hynny, mae llawer yn etholaeth y Dirprwy Lywydd yn byw yn y mannau hynny. Felly, mae'n rhaid inni edrych hefyd ar rai o'r pethau hanesyddol ynglŷn â sut y gallwn newid rhywfaint o'r seilwaith hwnnw pan fydd angen iddo gael ei adnewyddu. Felly, nid wyf yn anghytuno â'r egwyddorion sylfaenol a gyflwynwyd gennych yma. Nid wyf yn hoffi'r geiriad—rwy'n dweud hynny'n blwmp ac yn blaen; nid wyf yn hoffi'r geiriad fel y mae—ond rwy'n credu bod yna rywbeth y gallwn weithio arno, lle mae'r Senedd—. Mae'n amlwg fod yna gonsensws ar draws y Siambr fod angen mwy o osod ceblau o dan y ddaear mewn mannau priodol, ond mae angen inni adael i'r grŵp cynghori annibynnol, y mae fy nghyd-Aelod yn gyfrifol amdano, wneud ei waith. Byddwn yn sicr yn diweddaru 'Polisi Cynllunio Cymru' o ganlyniad i hynny, ac mae angen inni weithio gyda'r cwmnïau ynni adnewyddadwy i sicrhau darlun mwy cydlynol i Gymru o lle mae'r ynni a sut mae'r trawsyrru'n gweithio. 

Ddirprwy Lywydd, i gwblhau'r darlun hwnnw—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, Carolyn.

18:00

A wnewch chi weithio gyda'r cyrff amgylcheddol hefyd, fel Plantlife Cymru? Diolch.

Roeddwn i'n dod at hynny. Yn hollol, byddwn yn gweithio gyda'r holl randdeiliaid, gan gynnwys yr holl gyrff amgylcheddol, a chyda'n ffermwyr, tirfeddianwyr a phawb arall, ond mewn gwirionedd, y rhanddeiliad pwysicaf yw'r grid cenedlaethol. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles wedi ymgymryd â'r sgyrsiau yr oeddwn i'n eu cael gyda nhw, ac mae angen inni sicrhau bod y llinellau trawsyrru foltedd uchel iawn ar gyfer y grid cenedlaethol ei hun, sydd eu hangen yn fawr yn y canolbarth yn enwedig, oherwydd fe wyddoch nad yw'r cyflenwad trydan yn y canolbarth yr hyn yr hoffem iddo fod, yn cael eu gwneud yn y ffordd orau bosibl—[Torri ar draws.] Yn sicr, ewch amdani.

Roeddech chi'n siarad yno am y cynlluniau sydd gan National Grid a Bute Energy. Nid eu diben yw cryfhau'r rhwydwaith yng nghanolbarth Cymru, fel y nodoch chi o bosibl; eu diben yw cludo'r pŵer allan, ac efallai mai dyna un o'r pethau y mae angen mynd i'r afael â nhw hefyd.

Felly, dyna pam ein bod ni'n gweithio—. Yn union hynny, Russell. Dyna pam ein bod yn gweithio gyda'r Grid Cenedlaethol, fel mai'r hyn sydd gennym, yn hytrach na llinellau di-dor sy'n ei groesi, yw llinell sy'n darparu'r trydan sy'n angenrheidiol i'r cymunedau hynny gael y math o wresogi trydanol, pwyntiau gwefru cerbydau trydan a'r holl bethau y gwyddom eu bod yn anodd iawn eu cael mewn rhannau o Gymru. Felly, mae'n rhaid sefydlu'r rhwydwaith trawsyrru er mwyn darparu'r ynni i'r cymunedau hynny, yn ogystal â mynd ag ef drwodd, ac nid oes llawer iawn o lwybrau lle mae'n bosibl gwneud hynny. Mae fy nghyd-Aelod Jeremy Miles wedi mynd ar drywydd y sgyrsiau hynny, ac mae'r Prif Weinidog wedi bod yn rhan o hynny hefyd; fe gawsoch chi'r cyfarfod yn ddiweddar. Felly, rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael yr ateb gorau posibl i ddarparu'r ynni i'r cymunedau sydd ei angen, ond heb roi'r dechnoleg hen ffasiwn ar waith, ac i sicrhau ein bod yn cael y dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ac wrth gwrs, bydd 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu hynny. Rydym yn awyddus iawn i wneud hynny. Rwy'n ofni na allaf gefnogi'r cynnig fel y mae wedi'i eirio heddiw, ond rwyf am fod yn glir iawn fod y Llywodraeth yn yr un lle yn union ar athroniaeth y cynnig. Mae ein cynnig ni yn ei ddiwygio fel y gallwn gael mwy o amser i feddwl amdano, dyna i gyd, ond rwyf am weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr, gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr economi, y Prif Weinidog a phawb arall yn y Llywodraeth, i sicrhau ein bod yn cael y canlyniad gorau o ran gosod ceblau o dan y ddaear. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl bwysig hon. Diolch i Adam am agor y ddadl, a byddaf i'n sôn mwy am y pwyntiau gododd ef mewn eiliad neu ddwy. Diolch i Mark Isherwood.

Mark, diolch yn fawr iawn am ddadlau bod gosod ceblau o dan y ddaear yn gwella dibynadwyedd y system ac ansawdd esthetig y dirwedd, ac mae llawer o siaradwyr eraill wedi cefnogi hynny yn ogystal. Byddwn yn cefnogi eich gwelliant chi hefyd.

Roedd Siân Gwenllian yn sôn am liniaru pryderon am anharddu cymunedau lleol. Rwy’n cytuno'n llwyr gyda hynny, a’n bod ni'n rhoi, o bosibl, y dadleuon ariannol o flaen y dadleuon dros ystyriaethau tirweddol, ac mae hynny yn rhywbeth roedd Russell George yn sôn amdano.

Russell, roeddech chi'n siarad am hanes yn ailadrodd ei hun ers 2011, pan ddaethoch chi i'r Senedd gyntaf, a'ch bod chi nawr yn wynebu ymgyrch debyg eto yn eich etholaeth.

Weinidog—neu Ysgrifennydd y Cabinet, yn hytrach—mae'n galonogol clywed nad ydych chi'n gwrthwynebu'r cynnig a gyflwynwyd gennym mewn egwyddor, ac nad ydych chi'n wrthwynebus i'r athroniaeth. Rwy'n credu mai eich problem yw'r geiriad, felly mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni weithio arno gyda chi yn sicr.

O ran mawndiroedd, yn amlwg byddai unrhyw osod ceblau o dan y ddaear yn sensitif i'r her honno, ond byddai peilonau hefyd. Felly, nid yw'n fater o naill ai/neu gyda hynny; mae'n fater o sicrhau bod y ddau ddull yn sensitif iawn i fawndiroedd. Hefyd, efallai nad wyf yn argyhoeddedig fod y ddadl dros aberthu ein tirwedd hardd ar allor elw a chostau yn cael ei hystyried yn gliriach gennych chi fel Llywodraeth.

Felly, i fynd yn ôl i lle dechreuodd Adam—

—rŷn ni i gyd wedi cael toreth o e-byst yn ddiweddar sydd yn dangos cymaint yw cryfder y pryder sydd gan gymunedau ledled Cymru am y peilonau. Yn wir, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, o Lanymddyfri i Landdewi Brefi, o Landrindod i Landyfaelog, yr un yw'r alwad, sef fod rhaid claddu'r ceblau dan ddaear. Trwy wneud hyn, byddwn ni fel Senedd yn cymryd safiad cadarn i warchod harddwch naturiol ac ecolegol ein tirweddau unigryw.

Fel amlygwyd gan Adam Price, mae polisi presennol y Llywodraeth yn parhau yn ddiffygiol gan adael i'r egwyddor bwysig hon gael ei diystyru gan ystyriaethau cyllidol.

Ychydig fisoedd yn ôl, mynychais arddangosiad gan ATP Cable Plough o Bencader, cwmni sy'n arwain y byd. Mae'n amlwg fod datblygiadau yn nhechnoleg aredig ceblau wedi gwneud gosod ceblau tanddaearol yn fwy ymarferol a chosteffeithiol nag erioed o'r blaen. Mae'r dull hwn yn caniatáu ar gyfer gosod ceblau tanddaearol heb fawr ddim difrod i wyneb y tir, gan leihau'r effaith amgylcheddol a chost prosiectau. At hynny, mae manteision economaidd hirdymor gosod ceblau tanddaearol yn sylweddol, fel y clywsom eisoes. Mae hyn yn hanfodol wrth inni ragweld y bydd y galw am drydan bron â bod yn treblu erbyn 2050. Bydd buddsoddi mewn seilwaith cadarn a dibynadwy nawr yn ein harbed rhag costau uwch a mwy o aflonyddwch yn y dyfodol.

Nawr, rwy'n datgan diddordeb. Rwy'n byw yn nyffryn Tywi, lle o harddwch naturiol eithriadol, gyda bryngaerau hynafol, cestyll a adeiladwyd gan dywysogion Cymreig, adeiladau hanesyddol ac Afon Tywi ddolennog. Nawr, bob tro y cerddaf i'r Garn Goch ger Bethlehem, rwy'n edrych i lawr ar y golygfeydd syfrdanol o'm cwmpas a chaf fy atgoffa o linell gan y bardd John Ruskin:

'Mae natur yn paentio i ni, ddydd ar ôl dydd, luniau o harddwch anfeidrol'.

Nawr, mae'r bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn yn trysori'r golygfeydd digyffwrdd hyn cymaint a chânt eu mwynhau gan y miloedd sy'n ymweld bob blwyddyn. Nawr, os credwn fod Duw wedi creu'r Ddaear hardd hon, nid oes gan ddyn na dynes hawl i'w cham-drin. Rwy'n glir yn fy argyhoeddiad fod cost ychwanegol gosod ceblau tanddaearol yn bris bach iawn i'w dalu am ddiogelu'r dirwedd unigryw hon nid yn unig yn sir Gaerfyrddin, ond ym mhob rhan o Gymru.

I gloi, mae'r cynnig hwn yn adlewyrchu'n hymrwymiad i atebion arloesol i sicrhau dyfodol cynaliadwy.

A dyma'r paragraff olaf: mae Plaid Cymru'n credu bod gosod ceblau o dan y ddaear nid yn unig yn ddymunol, ond yn hanfodol. Rhaid inni symud y tu hwnt i arferion hen ffasiwn a chroesawu polisïau sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i stiwardiaeth amgylcheddol a llesiant cymunedol. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gamu ymlaen, i gamu i'r adwy ac ymrwymo i ddyfodol lle mae ein seilwaith yn gwella yn hytrach nag amharu ar harddwch ac anian Cymru. I aralleirio Gaylord Nelson, sylfaenydd Diwrnod y Ddaear, efallai mai'r prawf eithaf ar ein cydwybod a'n crebwyll yw pa mor barod ydym ni i aberthu rhywbeth heddiw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, na fydd eu geiriau o ddiolch yn cael eu clywed. Diolch.

18:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: polisi economaidd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi economaidd. Cynnig heb ei diwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi economaidd. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 5. Galwaf am bleidlais ar welliant 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi ei wrthod. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi economaidd. Gwelliant 5, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM8606 fel y'i diwygiwyd: 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) cynllun clir Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y ddogfen Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach;

b) y ffaith bod cyflogau wedi codi’n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr ers 2011;

c) y ffaith bod gwaith rhanbarthol a phartneriaethau mor gadarn;

d) buddsoddiad gwerth dros £143 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn prentisiaethau o safon uchel;

e) y ffaith bod Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 27,000 o bobl ifanc;

f) y buddsoddiad sydd wedi parhau drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru;

g) darparu gwerth dros £140m mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n cefnogi trethdalwyr oddeutu 70,000 eiddo ledled Cymru bob blwyddyn; a

h) y cyfraniad o £78m sy’n golygu bod busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi derbyn cymorth bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf gyda’u biliau ardrethi annomestig.

2. Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth y DU:

a) diffyg cynllun economaidd a diwydiannol clir heb unrhyw gynlluniau gwario manwl ar ôl 2024-25, gan arwain at 14 o flynyddoedd o anrhefn;

b) bod prisiau’n parhau i godi ar gyfradd uwch, sy’n golygu mai dyma’r cynnydd mwyaf ers annibyniaeth Banc Lloegr, a’r ffaith eu bod 21.3 y cant yn uwch ym mis Ebrill nag oeddent dair blynedd cyn hynny;

c) bod gan Lywodraeth Cymru Gyllideb yn 2024-25 sy’n £3 biliwn yn is na chyllideb a fyddai wedi cynyddu yn unol â Chynnyrch Domestig Gros ers 2010; a

d) bod gan Gymru bron i £1.3 biliwn yn llai o gyllid mewn termau real yn sgil methiant Llywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiadau a chyflwyno cyllid llawn yn lle cyllid yr UE.

3. Yn galw ar Lywodraeth bresennol y DU i gydnabod:

a) mai’r newidiadau i’r gyfradd sylfaenol gan Fanc Lloegr a phrisiau ynni is yw’r prif resymau dros y gostyngiad diweddar mewn chwyddiant;

b) bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau bod problemau gyda’r arolwg o’r llafurlu, sy’n parhau i effeithio ar ansawdd data o ran ystadegau’r farchnad lafur ac nad ydynt yn cyflwyno darlun cywir o’r sefyllfa yng Nghymru;

c) y niwed sylweddol a wnaed i’r Economi yn sgil mini-gyllideb drychinebus Liz Truss, sydd wedi golygu bod pobl a theuluoedd yng Nghymru yn talu morgeisi a biliau uwch; a

d) y cafodd y Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin eu datblygu heb lawer o waith cynllunio ac ymgynghori ac maent wedi tanseilio datganoli.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi economaidd. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8, y ddadl Plaid Cymru gyntaf: gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Y canlyniad nawr: o blaid 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.  

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

18:15

Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal eto. O blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Unwaith eto, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. O blaid 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 2. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Unwaith eto, mae'r bleidlais yn gyfartal. O blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, 25 o blaid, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod. 

Ac yn olaf, byddwn ni'n pleidleisio ar eitem 9, dadl Plaid Cymru, polisi cynllunio ar gyfer llinellau pŵer newydd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Nawr, o blaid 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Polisi cynllunio ar gyfer llinellau pŵer newydd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. O blaid 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Polisi cynllunio ar gyfer llinellau pŵer newydd. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Polisi cynllunio ar gyfer llinellau pŵer newydd. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8605 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y safbwynt a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef y dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear lle y bo'n bosibl.

2. Yn credu, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, pan fo llinellau pŵer newydd yn cael eu gosod o dan y ddaear y dylid ei wneud drwy ddull aredig ceblau yn hytrach na chloddio ffos agored.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru paragraff 5.7.9 o Bolisi Cynllunio Cymru:

a) i ddileu’r cafeat presennol: ‘Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen cymryd safbwynt cytbwys o ran costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai’n dderbyniol fel arall, yn anhyfyw’; a

b) er mwyn sicrhau bod gosod seilwaith trawsyrru trydan newydd o dan y ddaear yn ofyniad absoliwt yn hytrach na safbwynt a ffefrir, dylai'r polisi nodi: 'dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear.'

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau, yn unol â'r egwyddor ragofalus, y dylid cynnal asesiadau effaith ar iechyd gyda chynigion i osod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear pan fydd eu hagosrwydd at gartrefi yn codi pryderon iechyd difrifol yn y dyfodol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi ei ddiwygio. Felly, o blaid 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei wrthod.

18:20

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Polisi cynllunio ar gyfer llinellau pŵer newydd. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 18:20.