Y Cyfarfod Llawn

Plenary

01/05/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell. 

Darpariaeth Addysg Gymraeg yn y Cymoedd

1. Pa drafodaethau mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cynnal gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â chynnydd darpariaeth addysg Gymraeg yn y Cymoedd? OQ61017

Rwyf wedi cwrdd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac mae hi’n gefnogol i’r gwaith gwych sydd eisoes wedi digwydd drwy gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, ac mae’n awyddus i adeiladu ar y gwaith da hwn. Bydd cynghorau lleol yn cyflwyno eu hadroddiadau blynyddol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddiwedd mis Gorffennaf.

Diolch am hwnna. Os ydym ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bydd y Cymoedd yn hollbwysig, ond rydyn ni'n dal i aros am newyddion am yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arfaethedig ar gyfer ardal Bedwas, Tretomas a Machen, ac ymddengys bod cyngor Merthyr yn bwrw ymlaen gydag adnabod safle ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd heb gymryd i ystyriaeth y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud yn ddiweddar yn ardal y Gurnos gyda darpariaeth blynyddoedd cynnar. Jest dwy esiampl ydy'r rhain o'r heriau sydd yn wynebu rhieni lleol sydd yn ysu am ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg.

A fyddech chi, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn fodlon cwrdd â fi a chynrychiolwyr Rhieni dros Addysg Gymraeg lleol i drafod pa gefnogaeth y gall y Llywodraeth ei rhoi i awdurdodau lleol ar draws y de-ddwyrain i wneud yn siŵr fod gan bawb y dewis i ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg?

Wel, diolch i’r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig nad oedd blodyn yn cael ei gynnig fel rhan o'r cwestiwn. [Chwerthin.] Ond mae’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud yn gwbl deilwng ac mae’r cynnydd a’r brwdfrydedd dros addysg cyfrwng Cymraeg yn y Cymoedd yn rhywbeth sydd yn bleser i’w weld. Mae gan bob un o'r cynghorau, yn cynnwys y ddau wnaeth yr Aelod sôn amdanyn nhw, gynlluniau strategol sydd yn uchelgeisiol ac sydd, fel y mae hi'n sôn, yn cynnwys ymrwymiadau i agor ysgolion cynradd newydd. Mae'n bwysig bod hyn yn digwydd mewn ffordd sydd yn edrych ar yr impact ehangach o ran argaeledd daearyddol, ond hefyd o ran datblygiadau o ran lle mae pobl yn byw ac ati, fel bod pwrpas y cynlluniau strategol yn cael ei gyflawni yn y fersiwn fwyaf uchelgeisiol posibl o hynny.

Byddwn yn hapus iawn i gwrdd gyda'r Aelod i drafod hyn ymhellach. Byddwn i jest yn dweud mai'r ddau ddatblygiad rwy’n credu sydd yn galonogol iawn, ac rwy’n gobeithio y byddan nhw'n dwyn ffrwyth yn y pen draw, yw datblygiad pencampwyr hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn y de-ddwyrain, sydd yn gwneud gwaith da i sicrhau bod pobl yn deall beth yw manteision a buddiannau addysg cyfrwng Cymraeg ar yr un llaw, ac, ar y llaw arall, y brwdfrydedd rŷn ni'n ei weld yn y de-ddwyrain, fel yr ydym yn ei weld ar draws Cymru, o ran y buddsoddiad mewn trochi hwyr. Mae'r ddau ddatblygiad yna, dwi'n credu, yn gyffrous iawn yn ei rhanbarth hi. Ond byddwn i'n hapus iawn i gwrdd â hi a gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn gwneud dysgu a siarad Cymraeg yn rhan annatod o'n cymunedau, rwy'n credu bod angen budd economaidd clir sydd wedi’i hysbysebu’n dda i siarad Cymraeg. Dim ond drwy hyn y bydd pobl yn buddsoddi ac yn gwneud pob ymdrech i annog eu plant i siarad Cymraeg. Mae cynlluniau graddedigion a phrentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfle gwych i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr i gofleidio'r Gymraeg fel sgìl a all eu helpu yn eu bywydau gwaith, yn enwedig mewn meysydd allweddol megis gwasanaethau cyhoeddus, mewn gofal iechyd ac mewn darpariaeth addysg, yn enwedig addysg y blynyddoedd cynnar. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog creu a defnydd o gynlluniau graddedigion a phrentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, a pha adnoddau ariannol a glustnodwyd gennych ar gyfer hyn? Diolch.

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Cytunaf â’r pwynt ei bod yn bwysig inni sicrhau bod yr ystod lawn o gyfleoedd addysgol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg i’n pobl ifanc gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith, prentisiaethau a darpariaeth fwy cyffredinol nag ar y cam addysg bellach. Credaf fod gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dechrau dwyn ffrwyth go iawn o ran y cynnydd mewn argaeledd. Mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd—mae cryn dipyn o ffordd i fynd cyn bod y ddarpariaeth eang y byddai pob un ohonom yn dymuno'i gweld ar gael ym mhob rhan o Gymru. Mae rhai o'r heriau hynny wedi eu deall yn dda ac maent yn ymwneud â'r gweithlu, ond mae rhai ohonynt yn aml yn ymwneud â disgwyliad. Ac rwy'n llawn edmygedd o waith Coleg Llandrillo Menai, y buont yn siarad â mi amdano yn yr Eisteddfod y llynedd, lle gwnaethant ddatblygu mecanwaith a rhaglen i aelodau unigol o staff nodi’r cyfleoedd hyn a dod â phobl atynt mewn ffordd wirioneddol ragweithiol, a oedd yn fy nharo fel ffordd gynhyrchiol iawn o fynd ati.

Gyda llaw, hoffwn ddweud—gwn nad dyma oedd prif bwynt ei gwestiwn—nad wyf yn siŵr mai’r ffordd y byddwn yn annog mwy a mwy o bobl i ddysgu Cymraeg yw drwy sôn am reidrwydd economaidd hynny yn unig. Mae elfen bwysig i hynny, ond credaf mai’r hyn rydym yn ei ddysgu yw bod perthynas pobl â’r iaith yn llawer mwy na fel trafodiad. Nid wyf yn awgrymu ei fod yn gwneud y pwynt hwnnw, ond mae yna ymdeimlad o gynhesrwydd a chroeso tuag at yr iaith sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sydd o fudd economaidd unigol penodol i ddysgwr. Ond mae’n bwysig sicrhau, fel y dywed, fod y cyfleoedd hynny ar gael, gan ein bod am i fwy o bobl weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein gweithleoedd.

13:35
Data Arolwg y Llafurlu

2. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o ddibynadwyedd data arolwg llafurlu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn perthynas â Chymru? OQ61009

Mae Llywodraeth Cymru wedi codi consýrn am ansawdd data yr arolwg o ran data dros Gymru am gyfnod. Mae'r ONS wedi cyflwyno gwelliannau dros y misoedd diweddar, ond dylid defnyddio data wrth ochr trends mewn mesurau eraill er mwyn cael darlun eglur o’r farchnad lafur yng Nghymru.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r problemau gyda'r data wedi parhau nawr am fisoedd, ac rydyn ni newydd glywed oddi wrth yr ONS na fydd y system newydd y maen nhw'n mynd i'w rhoi yn ei lle yna tan fis Medi nesaf. Ac mae hwnna'n creu problemau mawr i'r Llywodraeth wrth drio cynllunio polisïau i helpu'r economi yma yng Nghymru am y dyfodol.

Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai’r hyn sy'n gyfrifol am yr anawsterau hyn yw effaith cyni ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei hun, sefydliad a chanddo enw da iawn, sy’n chwarae rhan bwysig iawn yn seilwaith gwasanaethau cyhoeddus de-ddwyrain Cymru, ond sydd wedi dioddef toriadau cyson gan Lywodraeth y DU? Onid enghraifft arall eto fyth yw hyn o Lywodraeth y DU yn gwario swllt er ennill ceiniog wrth adael yr economi gyfan heb y data sydd ei angen arni i wneud penderfyniadau synhwyrol ar gyfer y dyfodol?

Gaf i jest cytuno â beth ddywedodd yr Aelod ar gychwyn ei gwestiwn? Yn y cyfnod sydd ohoni, mae'n rhaid i ni sicrhau, fel Llywodraeth, fel y mae dyletswydd ar bob llywodraeth, ein bod ni'n deall yn union beth yw impact ac effaith yr holl bethau rŷn ni'n ceisio gwneud, fel bod yr arian cyhoeddus prin sydd gyda ni yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol a'n bod ni'n deall hynny.

Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le wrth ddweud, os edrychwch ar y sefyllfa y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod ynddi dros y blynyddoedd diwethaf, yn y ddwy flynedd ddiwethaf, fod ei chyllid wedi gostwng, ac mae’n wynebu gostyngiad pellach, mewn termau nominal, yn ei chyllideb rhwng y flwyddyn ariannol ddiwethaf a’r un rydym ynddi bellach. Felly, credaf fod y rhain yn amgylchiadau heriol y mae’n rhaid i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol weithio ynddynt, ac rydym yn disgwyl iddi ddiwallu anghenion Cymru, fel y gall gefnogi’r gwaith a wnawn fel Llywodraeth.

Fel y dywed yr Aelod, mae wedi bod yn cynnal rhaglen drawsnewid. Edrychwn ymlaen at y setiau data newydd a fydd ar gael, gan eu bod mor hanfodol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos iawn ac ar y cyd â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a bydd yr Aelodau wedi gweld yr hyn y mae’r prif ystadegydd wedi’i ddweud ynglŷn ag ansawdd y data yn ddiweddar. Ond ni chredaf fod angen dweud y byddai Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd wedi’i hariannu’n briodol ac sydd â mynediad at y mathau o adnoddau y byddem yn dymuno iddi gael mynediad atynt yn gallu cyflawni’n well y cyfrifoldebau y gwn fod y prif ystadegydd yn awyddus iddynt allu eu cyflawni hefyd.

Yn union fel yr Aelod dros Orllewin Caerdydd, rwy’n deall pa mor ddibynadwy yw data ystadegol a pha mor hanfodol ydyw ar gyfer llunio polisïau. Amlinellodd cyn Weinidog yr Economi, sydd bellach yn Brif Weinidog, yn 2021 rwy'n credu, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud â'r gwaith o wella data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru. Felly, mae bron i dair blynedd wedi bod ers y gwaith disgwyliedig hwnnw, ac ymddengys bod pryderon dwys am y data o hyd, ac rydych chi wedi cyfeirio at rywfaint o'r gwaith sy'n mynd rhagddo, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond o ystyried yr ateb cynharach, a allwch chi rannu pa gynnydd pellach a wnaed dros y tair blynedd diwethaf gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod data dibynadwy gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru?

13:40

Wel, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond mae hon yn her sydd, fel y dywed y cyn Brif Weinidog, yn deillio o bwysau ar adnoddau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac rwy’n siŵr y byddai gan bob un ohonom lawer iawn o gydymdeimlad â hynny. Ond mae angen i’r data hwnnw fod yn gyfredol ac yn ddibynadwy, ac rwy'n croesawu'r camau y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi’u cymryd ac wedi gallu eu cymryd. Felly, yn ystod y chwe mis diwethaf, mae wedi ailddechrau cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb. Mae wedi gallu cynyddu ei chyfraddau ailgysylltu. Un o’r materion sydd wrth wraidd hyn yw’r gyfradd gysylltu a’r gallu i sicrhau ymgysylltiad â hi. Mae wedi ailgyflwyno samplau manylach o'r arolwg o'r llafurlu o ddechrau’r flwyddyn hon, ac mae wedi adfer y rhan fwyaf o’i hystadegau, ond mae’n cydnabod bod heriau parhaus o hyd, a’i chyngor bellach yw y dylem fod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau tymor byr yn y data, yn enwedig pan edrychwn ar ddadansoddiadau manylach, a fyddai’n berthnasol i genedl o faint Cymru. Mae hynny hyd yn oed yn llai dibynadwy na’r darlun ar gyfer y DU gyfan, am resymau y byddwn yn eu deall.

Felly, eu hargymhelliad yw ein bod yn parhau i ddefnyddio'r ystod lawn—yr ystod ehangach—o ffynonellau data'r farchnad lafur pan fyddwn yn ffurfio barn ar farchnad lafur y DU. Ac efallai y bydd yr Aelod yn gwybod, os edrychwch ar ddata Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, nifer y swyddi newydd, ac ystod o ddata arall, fod y tueddiadau yng Nghymru, yn adlewyrchu tueddiadau'r DU yn agosach nag y byddai data arolwg diwethaf y gweithlu yn ei awgrymu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz. 

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch annerch digwyddiad a noddais yma yn y Senedd ar gyfer RenewableUK Cymru, a hoffwn ddiolch i chi am hynny. Helpodd y digwyddiad i dynnu sylw at y cyfleoedd ynni adnewyddadwy anhygoel sydd gan Gymru, gan ddod ynghyd â busnesau, sefydliadau a rhanddeiliaid sy’n rhannu’r nod cyffredin hwnnw. Yr hyn a amlygodd y digwyddiad hefyd oedd y rhwystrau posibl ar hyn o bryd a fyddai'n ein hatal rhag cyflawni a gwireddu’r cyfleoedd ynni adnewyddadwy hyn, sydd, i fusnesau ar draws clwstwr diwydiannol de Cymru, er enghraifft, nid yn unig yn gyfleoedd, ond yn anghenraid. Mae fy nghynnig i chi i weithio ar y cyd ar ddarpariaeth ynni adnewyddadwy yn parhau i fod yn un diffuant.

Er ein bod yn deall yr angen i symud ymlaen tuag at ynni adnewyddadwy o safbwynt amgylcheddol, gallwn hefyd bwysleisio pwysigrwydd cyfleoedd cyflogaeth wrth inni wireddu ein potensial ynni. Ond o ystyried bod y Cenhedloedd Unedig wedi dweud mai 2023 oedd y flwyddyn â'r lefelau uchaf o wrthdaro ers yr ail ryfel byd, a bod yr Ysgrifennydd amddiffyn, Grant Shapps, wedi dweud ein bod yn newid o fyd ôl-ryfel i fyd cyn-ryfel, mae diogeledd ein hynni yn prysur gynyddu o ran blaenoriaeth. Felly, a yw eich Llywodraeth o ddifrif ynghylch diogeledd ynni, o ystyried y cynnydd mewn tensiynau byd-eang, ac os ydyw, sut mae hynny'n cael ei deimlo wrth gyflawni prosiectau ynni ar ac oddi ar arfordir Cymru?

Wel, diolch i’r Aelod am y gwahoddiad a roddodd imi siarad yng nghynhadledd RenewableUK yn ddiweddar, ac roeddwn yn teimlo bod lefel fawr o optimistiaeth yn y drafodaeth y noson honno ymhlith y cyfranogwyr, ac ymdeimlad o ymgysylltu ymarferol â’r hyn rydym am ei wneud fel Llywodraeth, a thrafodaeth onest iawn am sut y gallem weithio hyd yn oed yn well gyda’n gilydd, sef y math o berthynas yr ydych am ei chael pan fo cyfle mor fawr ar y gorwel.

Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig, gyda llaw, o safbwynt amgylcheddol, ein bod yn cyflawni ein nodau hinsawdd, ac yn hollbwysig, yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n dangos i bobl fod yr uchelgais hwnnw’n darparu cyfleoedd yn ogystal â’r angen, efallai, am newidiadau llai poblogaidd. A chredaf fod y darlun cyflawn hwnnw’n gwbl hanfodol, felly dyna pam ein bod mor ymrwymedig i sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i wireddu’r cyfle sydd ar y gorwel i ni. Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le yn dweud, oni bai yr eir i'r afael â nhw, y byddem yn wynebu heriau wrth geisio cyflawni'r uchelgais sydd gennym. Ac mae rhai heriau yn ein dwylo ni i fynd i'r afael â nhw, a rhai yn nwylo Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â nhw, a chredaf fod angen inni edrych ar y darlun cyflawn. Felly, o'n safbwynt ni, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod gennym y sgiliau sero net a'r llif talent i allu cyflawni'r ystod o rolau y mae'r sector yn dibynnu arnom i'w cyflawni. Ac mae yna arferion da iawn i'w cael, gyda llaw—fel y bydd wedi nodi y noson o'r blaen—lle mae datblygwyr yn gweithio'n uniongyrchol gyda cholegau addysg bellach yn llwyddiannus iawn, gan gynnwys yn ei ran ef o Gymru, ar nodi'r rolau, y sgiliau sydd eu hangen arnynt, ac felly, y ddarpariaeth y mae angen iddi fod ar gael yn lleol.

Felly, mae sgiliau, mae cynllunio, mae'r gwaith o fapio'r gadwyn gyflenwi, sydd ar y gweill gennym, fel bod gennym ddealltwriaeth fanwl o gryfderau a meysydd i'w gwella, ac yna, yn hollbwysig, ffordd gydgysylltiedig o weithio ar draws y Llywodraeth, fel bod ffocws cyffredin ar hyn. Ac edrychwn at Lywodraeth y DU i wella ei buddsoddiad yn y grid, i fwrw ymlaen â hynny gyda mwy o frys ac i greu sefydlogrwydd polisi mwy hirdymor. Os gall pob un ohonom chwarae ein rhan yn y ffordd honno, credaf fod cyfle gwirioneddol i Gymru fanteisio ar y dyfodol sydd gan ynni adnewyddadwy i'w gynnig.

13:45

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n bwysig sôn am ynni a'r economi gyda'i gilydd, oherwydd pwysigrwydd y naill ar gyfer y llall. Mae economi gref yn talu am ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae economi gref yn un sydd â digon o swyddi o ansawdd da sy’n talu’n dda. Mae’r sector ynni, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i grybwyll, yn yr ystyr draddodiadol ac o ran ynni adnewyddadwy, yn ffynhonnell o swyddi o ansawdd da sy'n talu'n dda. Ond ni all llywodraethau greu'r swyddi. Yr hyn y gallant ei wneud yw creu’r amgylchedd cywir i’r swyddi hynny gael eu creu. Yr hyn sy'n allweddol i hynny, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet, yw sgiliau a sicrhau bod y rhai sy’n ymgymryd ag addysg, hyfforddiant a phrentisiaethau yn meddu ar y sgiliau cywir fel y gallant gyflawni nid yn unig nawr, ond ar brosiectau'r dyfodol hefyd. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen, ond rwy'n wirioneddol awyddus i drafod y mater ymhellach. Fel cyn-Weinidog addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac ynni erbyn hyn, dylai fod gennych ddealltwriaeth gadarn o ba sgiliau y bydd eu hangen ar weithluoedd yn y dyfodol i lwyddo a ffynnu. Rydych chi wedi sôn am fapio’r gadwyn gyflenwi, ond a ydych chi wedi cynnal ymarfer mapio i ddeall yn iawn o ble y daw’r galw am sgiliau, ym mha ddiwydiannau’n benodol, ac os felly, a ydych chi'n fodlon ar y rhagamcanion presennol sydd gennym ein bod yn datblygu digon o sgiliau yma yng Nghymru i gyflawni ein huchelgeisiau yn y dyfodol?

Gwn y bydd wedi gweld a darllen y cynllun gweithredu sgiliau sero net a bod y cynllun hwnnw wedi bod yn destun ymgynghoriad. Rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi’r ymatebion iddo yn yr wythnosau nesaf, yn fuan iawn, fel y gall hynny roi’r sicrwydd y mae’n ei geisio, yn gwbl rhesymol.

Un o’r heriau yn y cyswllt hwn yw pa mor gyflym y mae technolegau’n newid, a sicrhau bod cyflogwyr mewn sefyllfa lle gallant ddeall effaith hynny ar eu gweithle, ac mae hynny, yn gwbl ddealladwy, yn heriol mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym. Ond rhoddais enghraifft i chi yn gynharach o arfer da llwyddiannus iawn, fel y mae'n digwydd, rhwng RWE a choleg yn eich rhan chi o'r byd ac yn y gogledd, lle bu cysylltiad clir iawn rhwng ymrwymiad y datblygwr i geisio sicrhau bod pobl sy’n gweithio ar y prosiectau yn dod o’r farchnad lafur leol, ac yna, gweithio gyda’r coleg lleol i ddweud, 'Dyma’r sgiliau sydd eu hangen arnom, dyma’r cymwysterau sydd eu hangen arnom' a hynny wedyn yn arwain at lefel integredig iawn o ddarpariaeth. Felly, credaf fod hwnnw'n fodel llwyddiannus. Ond fel y dywed, mae'n hollbwysig gwybod beth yw anghenion yr economi yn y dyfodol nid heddiw, ond hefyd ymhen pum mlynedd, ac efallai y tu hwnt i hynny hyd yn oed. Ac rwy’n siŵr y caiff gysur o'r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu sero net pan gaiff ei gyhoeddi cyn bo hir.

Yr wythnos diwethaf, yn eich datganiad, fe gyhoeddoch chi yr hyn rydych chi'n bwriadu ei wneud i weddnewid economi Cymru gyda’r ysgogiadau sydd gennych yma yng Nghymru. Ond ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n weithredol i fygu economi Cymru: mae methu cyflwyno'r un lefel o ardrethi busnes yma yng Nghymru yn amharu ar ein strydoedd mawr a mentrau bach a chanolig; mae’r polisi 182 noson ar gyfer llety gwyliau wedi’i ddodrefnu yn effeithio ar fusnesau twristiaeth a lletygarwch ledled Cymru; a gallai'r cynllun ffermio cynaliadwy gostio 5,500 o swyddi ac arwain at ergyd o £199 miliwn i economi Cymru. Mewn gwirionedd, mae polisïau Llafur Cymru mor ddrwg, yn 2023, fel bod y cyflog cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon yn uwch nag yng Nghymru, ac nid oedd ganddynt Lywodraeth weithredol, hyd yn oed. Nid yw Llafur Cymru yn ddim mwy na Llywodraeth Jekyll a Hyde—maent yn dweud y pethau iawn, ond yn y pen draw, eu polisïau nhw sy’n cadw Cymru’n dlotach. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n mynd i wrthdroi tuedd y 25 mlynedd diwethaf, a gwella economi Cymru?

Fel Ceidwadwr, gwn fod ganddo fwy o wybodaeth nag sydd gennyf i, mae'n debyg, am Lywodraeth anweithredol, oherwydd edrychwn ar yr hyn sy’n digwydd dros y ffin, ac mae’n anhrefn bob dydd. Bydd rhai pobl yn y Siambr yn gresynu at y datganiad nesaf. Nid yw Cymru’n wlad annibynnol, ac mae’r hyn a welwn yn ganlyniad 14 mlynedd o gamreoli gan y Ceidwadwyr yn San Steffan. Yr hyn a ddymunwn yw Llywodraeth yno sy'n gallu gweithio gyda ni yma yng Nghymru ar ein blaenoriaethau i gefnogi’r economi, buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, fel rydym newydd ei drafod, a chael strategaeth ddiwydiannol, am y tro cyntaf ers 14 mlynedd, sy'n rhoi lles y genedl yn gyntaf. Mae’n hen bryd inni gael Llywodraeth felly, ac nid gan ei blaid ef y cawn hynny.

Diolch, Lywydd. Gan gadw at y thema o edrych ar eich datganiad yr wythnos diwethaf, un o’r blaenoriaethau a nodwyd gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, oedd gwella cynhyrchiant. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, fel y dywedais ar y pryd, ond sut y gwnawn ni hynny?

13:50

Cyd-destun y blaenoriaethau a amlinellais yr wythnos diwethaf oedd hyn: mae gennym uchelgeisiau fel Llywodraeth, sydd wedi’u nodi yn ein cenhadaeth economaidd, ac maent yn ymwneud â sicrhau pontio teg i ddyfodol cynaliadwy, rhoi cyfleoedd i bobl ifanc, buddsoddi yn y sgiliau a'r arloesedd y gwyddom fod angen inni ei wneud er mwyn gwireddu ein huchelgais ar gyfer yr economi, a gweithio gyda’n partneriaid ym mhob rhan o Gymru ar nifer fwy penodol o flaenoriaethau sy’n gweithio ar ran eu rhanbarthau a'r genedl. Felly, dyna'r cyd-destun eang.

Yr hyn roeddwn yn ei amlinellu'r wythnos diwethaf oedd y lens y byddaf yn ei defnyddio mewn perthynas â blaenoriaethau a gwireddu’r weledigaeth Lafur ehangach honno. Mae cynhyrchiant yn bwysig yn hynny o beth, gan y gwyddom fod cydberthynas gref rhwng cynhyrchiant a lefelau cyflog yn y rhan fwyaf o economïau. Fel Llywodraeth ddatganoledig, nid yw pob ysgogiad yn ein dwylo ni i allu dylanwadu ar hynny. Fel gwlad wledig iawn, gwyddom fod hynny'n peri heriau o safbwynt cynhyrchiant. Ond mae pethau y gallwn eu gwneud ac sydd yn ein dwylo ni, hyd yn oed yn wyneb polisi macro-economaidd sy'n gwneud popeth yn ei allu i danseilio hynny, fel sydd gennym ar lefel Llywodraeth y DU.

Y ddau beth y siaradwn amdanynt fel arfer yw buddsoddi mewn sgiliau, sy’n hollbwysig, a buddsoddi mewn seilwaith, y gwyddom ei fod yn helpu i greu economi fwy cynhyrchiol. Ond gwyddom hefyd, os byddwn yn buddsoddi mewn arloesi, os ydym yn cefnogi cyflogeion mewn busnesau i feddwl am ffyrdd newydd o gyflawni'r hyn y maent yn ei gyflawni—arloesi ar lefel cyflogai—y gallwn helpu i gryfhau arweinyddiaeth yn rhai o'n busnesau. Efallai fod rhai o’n busnesau llai yn ei chael hi’n fwy heriol i allu darparu’r math hwnnw o gymorth a hyfforddiant i’w huwch swyddogion. Beth y gallwn ei wneud i gefnogi’r busnesau hynny sy’n masnachu ag eraill i ddatblygu gwell sgiliau digidol?

Felly, mae pethau penodol y gallwn eu gwneud, a dyna oedd ffocws fy natganiad yr wythnos diwethaf, gan edrych ar yr holl ysgogiadau sydd gennym—drwy Busnes Cymru, y banc datblygu, a'r ymyriadau eraill sydd gennym, drwy'r lens gynhyrchiant honno—gan wybod, yn y tymor hir, mai dyna fydd yn ein helpu i godi cyflogau gweithlu Cymru, sy'n rhywbeth y mae pob un ohonom yn dymuno ei weld.

Mae'n dda clywed pwyslais yn eich ymateb ar arloesi a arweinir gan gyflogeion. Y rheswm pam y penderfynais edrych ar gynhyrchiant heddiw yw am fod angen cydnabod, onid oes, fod y byd gwaith wedi newid. Weithiau, gall ceisio gwella cynhyrchiant arwain yn anfwriadol at effaith andwyol ar y gweithlu ei hun. Beth a olygaf wrth hynny? Wel, i ddefnyddio enghraifft or-syml ac anghynnil iawn, pe baech am wella cynhyrchiant yn gyflym iawn, mewn ffordd effeithiol iawn, gellid dadlau, byddech yn awtomeiddio popeth, oni fyddech? Nid wyf yn awgrymu, wrth gwrs, mai dyna bolisi'r Llywodraeth, ond mae'n creu delwedd esboniadol hawdd iawn o wrthdynnu posibl o ran gwella cynhyrchiant. Felly, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn edrych ar gynnydd mewn cynhyrchiant, mae angen inni edrych hefyd ar sut y rhoddwn bolisïau ar waith wedyn i sicrhau ein bod yn lliniaru unrhyw effaith negyddol bosibl y gallai cynnydd mewn cynhyrchiant ei chael ar y gweithlu. Felly, yng ngoleuni hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, pa fath o bolisïau y byddech chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau ein bod yn lliniaru'r effeithiau hynny? Oherwydd mae'n rhaid inni sicrhau bod unrhyw enillion mewn cynhyrchiant yn cael eu teimlo ar draws y gweithlu, nid gan y rheini ar y brig yn unig.

Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Byddwn yn cymeradwyo popeth a ddywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn, a dweud y gwir. Nid ymarfer mantolen mo hyn; mae a wnelo â phobl, a dyna sydd wrth wraidd y peth. Pam ydyn ni'n cael y drafodaeth hon? Oherwydd ein bod am wella bywoliaeth a bywydau unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt. Dyna sydd wrth wraidd hyn.

Mae her ym mhob rhan o’r DU o ran cynhyrchiant a’r economi. Dyna pam rydyn ni wedi gweld cyflogau'n aros yr un fath mewn sectorau ledled y DU. Dyna pam yr wyf fi'n rhoi ffocws ar hyn. Ac nid yw'n ffocws unigryw. Gallech ddweud bod tensiwn rhwng rhai polisïau os edrychwch ar gynhyrchiant ar y naill law a’r mesurau y gallech eu cyflwyno, fel rydym yn awyddus i'w wneud, i leihau anweithgarwch economaidd. Mae rhywfaint o densiwn rhwng rhai o’r rheini. Credaf fod yn rhaid ichi gael darlun cyfannol, ond gobeithio y byddwch yn cydnabod bod rhai o'r pwyntiau a wneuthum yn gynharach yn ymwneud â chynorthwyo gweithwyr i gael bywoliaeth well o ran yr ymyriadau cynhyrchiant.

Rwy'n cytuno'n llwyr â’r Aelod, lle gwelwn gwmnïau’n defnyddio mwy o dechnoleg, ac yn newid prosesau busnes, mai'r hyn y mae angen i ni ei weld yw sicrwydd fod yr unigolion a oedd efallai’n arfer gwneud y swyddi sydd weithiau’n cael eu hawtomeiddio yn cael eu cefnogi i wella eu sgiliau, ac felly i gael swydd sy'n talu'n well. Gwelais enghraifft dda o hynny yn Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar. Fe wnaethant ddisgrifio i mi y broses a oedd ganddynt i gynyddu lefel sgiliau eu gweithlu, a dyna’r math o ddull gweithredu yr hoffem ei weld, fel bod gweithwyr unigol a’u teuluoedd yn elwa o hyn.

13:55
Y Sector Ynni Adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru

3. Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i gefnogi twf y sector ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru? OQ60998

Mae’r fframwaith economaidd rhanbarthol, cynlluniau ynni lleol a rhanbarthol a bargen twf gogledd Cymru yn cydnabod ac yn cefnogi’r cyfleoedd ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy ar draws y gogledd. Wrth inni barhau â'n dull cydweithredol, bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r buddion economaidd a chymunedol yn y rhanbarth.

Diolch. Roeddwn yn falch iawn o ymweld â’r uned beirianneg newydd yng Ngholeg Llandrillo yn y Rhyl a chyfarfod â’n prentisiaid a noddir gan RWE gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gogledd Cymru yn lle delfrydol ar gyfer ynni adnewyddadwy gwynt, tonnau a solar. Gyda'i gilydd, gallant ddarparu cyflenwad sylfaenol digonol o ynni. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi y dylai ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol fod o fudd i drigolion hefyd drwy ostyngiad yn eu biliau ynni. Byddai hynny'n wych.

Gall morgloddiau llanw ddarparu ynni cyson hefyd, a gweithredu fel amddiffynfa rhag llifogydd, sy’n broblem enfawr yng ngogledd Cymru. Byddent yn cael eu croesawu’n fawr gan drigolion sydd wedi bod yn poeni am lifogydd yn ystod llanw uchel a thywydd stormus yn ddiweddar. Bu bron i reilffordd gogledd Cymru gael ei gorchuddio hefyd gan y llanw uchel diweddar. A yw morglawdd llanw ar gyfer y gogledd yn rhywbeth y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i'w archwilio wrth symud ymlaen?

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Carolyn Thomas am y cyfle i ymweld â’r coleg gyda hi. Roedd yn wirioneddol galonogol siarad â’r prentisiaid a oedd yn datblygu sgiliau mewn sectorau y gwyddent y byddent yno drwy gydol eu bywyd gwaith—ei fod yn sector a fyddai’n cael mwy a mwy o fuddsoddiad a mwy a mwy o gyfleoedd i’r bobl ifanc hynny, ac mewn rhan o Gymru sy'n ddifreintiedig iawn. Felly, credaf fod gweld y cyfleoedd hynny ar garreg y drws yn wirioneddol bwysig.

Ar gwestiwn morglawdd llanw, mae Cymru yn genedl arfordirol felly mae angen inni fanteisio’n llawn ar ein hasedau naturiol. Cafwyd cyfarfodydd adolygu rheolaidd gyda thri enillydd yr her môr-lynnoedd llanw. Y rheswm am hynny yw er mwyn sicrhau bod perfformiad yn cael ei fonitro, y cytunir ar gerrig milltir a’u bod yn cael eu bodloni, a bod canfyddiadau’r broses ymchwil yn cael eu hadrodd a’u cyfathrebu’n briodol. Diben yr her, fel y gŵyr, yw cefnogi ymchwil a fydd yn lleihau neu’n dileu rhwystrau i ddatblygiad môr-lynnoedd llanw neu ymchwil a all ein helpu i feintioli budd posibl ar gyfer datblygiad morlyn llanw. Ond rwy'n rhannu'r cyffro ynghylch y potensial sydd gennym yng ngogledd Cymru, fel mewn rhannau eraill o Gymru, i wneud hyn yn rhan hollbwysig o’n heconomi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 70 y cant o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Fodd bynnag, os ydym am gyflawni hyn, mae angen inni wneud mwy. Yn y gogledd, mae gennym hanes cyfoethog o ynni adnewyddadwy, yn enwedig y defnydd o orsafoedd ynni dŵr, sy’n gallu cynhyrchu 2,100 MW, ac mae hynny’n ddigon i gyflenwi bron i draean o’r 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru. Fodd bynnag, mae angen rhoi camau pellach ar waith.

Gyda'r gyllideb ynni glân wedi'i thorri oddeutu 70 y cant eleni, mae cymell buddsoddiad preifat mewn prosiectau yn hanfodol. Mae rhwystrau biwrocrataidd diddiwedd ac ardrethi busnes uchel yn llesteirio ffermwyr sydd wedi sefydlu’r cynlluniau ynni dŵr hyn yn flaenorol ar sail yr addewid y byddai rhyddhad ardrethi busnes ar gael. Wrth i dechnoleg wella, gan ddiddymu'r angen am gronfeydd dŵr neu argaeau mawr, prosiectau preifat llai yw’r cam nesaf ar gyfer ynni dŵr yng Nghymru, a dywedodd y Gweinidog ynni blaenorol fod arnom angen cymysgedd o wahanol dechnolegau ar gyfer y dyfodol yn ei barn hi.

Roedd argymhelliad 14 yn yr archwiliad dwfn yn nodi'n glir y dylid rhoi cymorth i gynlluniau cymunedol a datblygwyr preifat. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau y gall unigolion preifat ddatblygu cynlluniau ynni dŵr lleol ar eu tir eu hunain yn rhydd rhag y fiwrocratiaeth gyfyngol ddiddiwedd hon? Ac efallai y byddai rhywfaint o gymorth gan Lywodraeth Cymru yn addas hefyd.

Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn derbyn y ffordd y mae’r Aelod yn disgrifio'r sefyllfa. Mae’r targedau sydd gennym yn uchelgeisiol. Rydym am allu cynhyrchu’r hyn sy’n cyfateb i’n holl ddefnydd o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, ac erbyn yr un pryd, hoffem pe bai o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol. Rydym wedi ailosod y targed hwnnw i'w wneud yn fwy uchelgeisiol, o ystyried ein bod yn cyrraedd y targed blaenorol arall cyn pryd. Rwy'n credu bod angen cymysgedd. Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud bod angen cymysgedd. Ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith y gwn y bydd Ynni Cymru, a sefydlwyd yn sgil y cydweithio â Phlaid Cymru fel rhan o’n cytundeb cydweithio, yn gallu ei wneud i gefnogi mentrau ynni cymunedol ac i sicrhau bod gennym ynni lleol fel rhan sylfaenol o’r cymysgedd yn y dyfodol. A soniodd am bwysau cyllidebol. Mae gan Ynni Cymru gyllideb gyfalaf o £10 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau cyffrous a fydd ganddynt i gefnogi twf yn y rhan hon o’r sector.

14:00
Cefnogi'r Economi yng Ngorllewin Cymru

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru? OQ60992

Yn unol â'r blaenoriaethau a nodir yn y genhadaeth economaidd, rydym yn cefnogi ystod o weithgareddau gyda'r nod o gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru, gan gynnwys cefnogaeth i fusnes, datblygu sgiliau, a seilwaith cyfathrebu—y cyfan gyda'r nod o gynyddu ffyniant a chynhyrchiant.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Nawr, un ffordd o gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru yw buddsoddi yng nghanol trefi, fel Aberdaugleddau yn fy etholaeth i, sydd angen buddsoddiad a chymorth yn ddybryd. Wrth gwrs, dylai'r nod o adfywio strydoedd mawr a chanol trefi olygu eu datblygu fel canolfannau datblygu economaidd. Rhaid inni sicrhau, yn achos Aberdaugleddau, nad yw canol y dref yn cael ei esgeuluso tra bo rhannau eraill, fel y ddyfrffordd a'r marina, yn parhau i ddatblygu. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i adfywio canol trefi fel Aberdaugleddau? Ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ynghylch adfywio canol trefi a chefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru?

Wel, rwy'n credu bod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn un da. Wrth inni edrych ar rai o'r prosiectau a'r datblygiadau seilwaith mwy o faint, mae'n bwysig ein bod hefyd yn sicrhau ein bod yn cefnogi ein trefi i barhau i fod yn fywiog ac yn lleoedd lle mae pobl eisiau bod ac eisiau mynd iddynt. Mae ein hegwyddor 'canol y dref yn gyntaf' mewn cynllunio ac mewn datblygu yn fwy eang yn mynd at wraidd hynny. Sut y gallwn ni sicrhau ein bod yn lleoli asedau yng nghanol trefi fel y gallwn ddenu'r ymwelwyr sydd eu hangen er mwyn i fusnesau lleol o bob math allu ffynnu? Mae hon yn drafodaeth barhaus, un rwy'n ei chael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, ac rwyf wedi ei chael gyda hi mewn rolau Cabinet blaenorol hefyd. Gwn ei bod yn rhannu fy uchelgais i sicrhau bod ein trefi ledled Cymru yn fywiog, fel sbardun allweddol i economïau lleol, a chydnabyddiaeth glir fod yn rhaid i'r gwaith a wnawn fel Llywodraeth gael ei wneud law yn llaw ag awdurdodau lleol.

Rŷn ni'n gwybod bod y cyfnod diweddar yma wedi bod yn anodd i fusnesau cefn gwlad, yn arbennig ein tafarnau ni. Maen nhw wedi gweld cost trethi busnes yn codi, cost ynni, bwyd, diod ac yn y blaen, a dyw'r cwsmeriaid ddim wedi dod nôl fel oedden nhw cyn y pandemig. Ac o ganlyniad, rŷn ni wedi colli gormod o dafarnau sydd wrth wraidd ein cymunedau gwledig. Rwy'n falch iawn, wrth gwrs, fy mod i'n cynrychioli rhanbarth lle mae yna nifer o enghreifftiau o gymuned yn dod at ei gilydd i godi arian i brynu tafarnau a'u rhedeg nhw, wedyn, fel mentrau cymdeithasol a hybiau cymunedol.

Wythnos diwethaf, fues i draw yn cefnogi ymgyrch i brynu'r Angel Inn, tafarn yr Angel, yn Salem ger Llandeilo. Nawr, petai'r grŵp yma yn yr Alban, mi fydden nhw wedi cael rhyw fath o first refusal i brynu'r ased cymunedol yma o dan gynllun community right to buy. Nawr, yng Nghymru, dyw'r hawliau yna ddim yn bodoli, ac mae'n golygu bod yr ymgyrchwyr yma yn gorfod cystadlu ar y farchnad agored. Nawr, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i sefydlu comisiwn ar berchnogaeth gymunedol ac edrych ar ddeddfwriaeth i gefnogi community right to buy. Gaf i ofyn i chi beth yw'r diweddariad ar y cynlluniau yna?

Fe wnaf i basio hynny ymlaen i'r Gweinidog sydd yn gyfrifol yn uniongyrchol am hynny.FootnoteLink O fewn y gwaith rwyf i wedi gallu gwneud fel Gweinidog y Gymraeg, mae'r gronfa Perthyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac wedi galluogi tafarndai i gael eu prynu yn y ffordd mae'r Aelod yn sôn amdani, a'u datblygu fel llefydd cymunedol i bobl. Lle bydden nhw wedi eu cau, maen nhw wedi cael eu hail-adfywio yn ganolfannau diwylliannol, cymdeithasol bywiog iawn. Felly, mae hynny yn rhan bwysig, dwi’n credu, o’r mix hwnnw, sut rŷn ni’n cefnogi cymunedau cefn gwlad, cefnogi cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith fwyafrifol, ac mae hynny’n rhan bwysig o’r gwaith rŷn ni’n gallu ei wneud fel Llywodraeth.

14:05
Sectorau Diwylliannol, Celfyddydol a Threftadaeth

5. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o faint ac effaith economaidd sectorau diwylliannol, celfyddydol a threftadaeth ein cenedl? OQ61021

Mae gwerth sylweddol iawn i’r sectorau hynny. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad o'r sector diwylliannol er mwyn sicrhau ein bod ni'n deall yn well y sail tystiolaeth sydd gyda ni er mwyn gwerthuso impact economaidd, ac wedi dod o hyd i gapiau yn y dystiolaeth sydd gyda ni, ac rŷn ni'n bwrw ati ar hyn o bryd i'w llenwi.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Mae’n gadarnhaol dros ben, oherwydd mae wedi bod yn siomedig, yn ystod y trafodaethau sydd wedi bod ynglŷn â chyllidebau Llywodraeth, clywed rhai Gweinidogion, efallai’r Prif Weinidog newydd, yn sôn ynglŷn â’r dewisiadau anodd, wrth gwrs, sydd gan y Llywodraeth, ond ddim i weld yn gwerthfawrogi gwerth a budd economaidd y sectorau eithriadol o bwysig hyn, nid yn unig fel cyflogwyr, ond o ran twristiaeth ddiwylliannol ac ati. Felly, a gaf i ofyn, o ran y gwaith hwnnw, yn amlwg dŷn ni yn disgwyl cyn bo hir strategaeth ddiwylliant newydd hefyd, fydd gobeithio yn gallu edrych ar yr ochr economaidd, ond sut wedyn ydych chi’n mynd i sicrhau, wrth drafod cyllidebau blynyddoedd i ddod, ein bod ni hefyd yn edrych ar werth economaidd yr arian sydd yn dod nôl i Gymru wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â chyllido, yn hytrach na rhoi cyllideb yn erbyn cyllideb, heb feddwl wedyn am yr effaith economaidd?

Wel, rwy’n gwybod bod hyn yn flaenoriaeth hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant. Mae blaenoriaeth i gefnogi’r amgueddfa yn rhan o hynny. Yn fy marn i, mae lles a buddiannau diwylliannol y genedl yn glwm gyda buddiant a ffyniant economaidd y genedl mewn llawer o ffyrdd, felly mae wir yn bwysig ein bod ni’n cydnabod ac yn deall efallai’n well nag ydyn ni beth yn union yw impact economaidd y gweithgaredd dŷn ni’n ei ariannu. Felly, mae cyngor y celfyddydau wedi gwneud gwaith yn y maes hwn yn y gorffennol. Mae Cadw wedi gwneud gwaith yn y maes hwn, ac mae’r gwaith a wnaethpwyd y llynedd yn mynd i sicrhau bod gyda ni well dealltwriaeth. Dyw e ddim yn ddealltwriaeth gyflawn, mae’n rhaid dweud, ond mae e’n well dealltwriaeth nag sydd wedi bod yn y gorffennol.

Felly, wrth edrych ar y blaenoriaethau strategol ar gyfer diwylliant dros y bum mlynedd nesaf, bydd gyda ni well sail i wneud yr asesiadau hollbwysig hynny. Ac mae e yn bwysig ein bod ni’n gwneud hynny, fel mae’r Aelod yn dweud, fel ein bod ni’n deall gwerth yr holl fuddsoddiadau rŷn ni’n gallu eu gwneud, a’n bod ni’n cael y darlun cyflawn, fel ein bod ni’n sicrhau ffyniant economaidd a ffyniant diwylliannol ar yr un llaw.

Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth fydd effaith economaidd penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri cyllid i amgueddfa genedlaethol Cymru ar yr un pryd â blaenoriaethu eu huchelgais rhyfedd i ddad-drefedigaethu celf gyhoeddus. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi bod yn rhaid dad-drefedigaethu celf gyhoeddus a dylai ddathlu cyflawniadau ein cymdeithas amrywiol neu fentro cael ei symud. Ar wahân i'r ffaith nad yw'r mater yn flaenoriaeth i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, nid yw'n ffordd aeddfed o fynd i'r afael â hanes, mae arnaf ofn. Gallwn ddathlu cyflawniadau ein cymdeithas amrywiol heb ddefnyddio beiro Tipp-Ex Orwellaidd ar waith celf cyhoeddus nad yw'n ffasiynol. Roedd llawer yn drist o glywed prif weithredwr Amgueddfa Cymru ar BBC Radio Wales yn dweud wrth wrandawyr fod yr amgueddfa'n wynebu—[Torri ar draws.]

Diolch yn fawr iawn. Mae'n wynebu gostyngiad o £4.5 miliwn yn ei chyllideb gan Lywodraeth Cymru ac mae ei dyfodol bellach mewn perygl. Mae eicon diwylliannol amhrisiadwy yng Nghymru sydd wedi cyfoethogi bywydau ar draws cenedlaethau bellach yn wynebu gorfod cau ei drysau i'r cyhoedd oherwydd toriadau yn y gyllideb. Felly, er mwyn osgoi edrych fel Llywodraeth Philistaidd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r cyllid angenrheidiol fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn elwa o'r un cyfoeth diwylliannol ac artistig ag yr ydym mor ffodus o'i gael yma yng Nghymru? A gallaf weld y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol yn chwerthin am ben fy sylwadau, ond rwy'n siŵr na fyddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru sy'n mwynhau'r hanes diwylliannol cyfoethog sydd gennym yn y wlad hon yn ei ystyried yn ddoniol.

Wel, mae gennyf drueni dros y sosialydd George Orwell druan yn troi yn ei fedd wrth feddwl ei fod yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r cyfraniad hwnnw. Rwy'n credu bod ymateb y cyhoedd i'r amgueddfa yng Nghymru yn cael ei ddangos orau yn yr arolwg golwg ar amgueddfeydd a nododd fod effaith economaidd ymweliadau ag amgueddfeydd yng Nghymru oddeutu £134 miliwn, sy'n awgrymu i mi fod aelodau'r cyhoedd eisiau mynd i'r amgueddfeydd yr ydym yn argymell iddynt ymweld â nhw. Hoffwn anghytuno â'r pwynt a wnaeth mewn perthynas â'r amgueddfa genedlaethol. Nid oes unrhyw gynlluniau i gau'r amgueddfa. Rydym yn gweithio gyda'r amgueddfa i ddatblygu cynllun i fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw yng Nghaerdydd yn benodol, ac rydym wedi ymateb ar bob achlysur y daeth ceisiadau i law am arian cyfalaf ychwanegol gan Amgueddfa Cymru. Felly, yn ogystal â'i grant cyfalaf o tua £5 miliwn o gymorth y llynedd, fe wnaethom ddarparu swm ychwanegol o £2 filiwn i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion cynnal a chadw hirdymor ac ar gyfer ailddatblygu'r amgueddfa lechi hefyd. Felly, yn wyneb polisi cyni sydd wedi arwain at doriadau sylweddol yn ein cyllideb o San Steffan, yma mae gennym Lywodraeth sy'n dal i wneud popeth yn ei gallu i weithio gyda'r sector i gefnogi'r sector, gan gynnwys mewn cyfnod heriol iawn.

14:10
Anghenion Ieithyddol Plant ac Oedolion yn Arfon

6. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod trefniadau hyfforddiant deintyddiaeth yng Nghymru yn cynhyrchu gweithlu sy’n diwallu anghenion ieithyddol plant ac oedolion yn Arfon? OQ61015

Mae cynllun Deintyddion Yfory wedi’i lansio rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol â Phrifysgol Caerdydd i gefnogi siaradwyr Cymraeg gyda’u cais i’r ysgol deintyddiaeth. Bydd y coleg hefyd yn cefnogi’r brifysgol i gynnig profiadau dysgu cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Byddaf i'n gweithio’n agos, felly, gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar hyn.

Yr wythnos diwethaf yn y Senedd fe wnes i sôn am y diffyg dybryd o ddeintyddion sydd ar gael ar gyfer gofal NHS yn Arfon. Mae’r sgìl o allu rhoi gwasanaeth yn y Gymraeg yn rhan hanfodol ar gyfer y gweithlu deintyddol mewn ardal fel Arfon, lle mae’r Gymraeg yn brif iaith i lawer ohonom ni. Mae data mae’r Ysgrifennydd Cabinet iechyd wedi’i ddarparu i mi yn cadarnhau mai lleiafrif y myfyrwyr sy’n astudio yn yr unig ysgol ddeintyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, sef ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn aros yng Nghymru i barhau efo’u hyfforddiant deintyddol sylfaenol ar ôl graddio. Mae hi hefyd wedi cadarnhau wrthyf i fod yna drafodaethau yn digwydd i gynyddu lleoedd hyfforddi deintyddiaeth, a hynny mewn ymateb i argymhelliad pwyllgor iechyd y Senedd y dylai’r Llywodraeth archwilio opsiynau i sefydlu ysgol ddeintyddol yn y gogledd.

Ydych chi’n cytuno bod y cyfleoedd cyfyngedig sydd i astudio deintyddiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, a diffyg effeithiolrwydd y cyfleoedd hynny, o ystyried nad ydyn nhw’n aros yma mewn niferoedd digonol, yn golygu ein bod ni'n colli’r cyfle i wreiddio’r Gymraeg ar hyd y llwybr sydd yn arwain at gymhwyso fel deintydd? Ydych chi'n cytuno, felly, y byddai creu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn rhoi’r cyfle i ni, fel yn achos yr ysgol feddygol, i wreiddio’r Gymraeg ac anghenion yr ardal leol yn rhan naturiol o’r hyfforddiant? Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael hefo Eluned Morgan i bwyso’r achos ieithyddol dros sefydlu ysgol o’r fath ym Mangor, a chadarnhau Bangor fel canolfan rhagoriaeth hyfforddiant iechyd a gofal?

Yn fy nhrafodaeth fwyaf diweddar gyda fy nghydweithiwr, gwnaeth y Gweinidog sôn wrthyf i fod y brifysgol yng Nghaerdydd wedi gwneud ymrwymiad i gynyddu, dros y tair blynedd nesaf, y rhifau sydd yn dod o Gymru i tua 40 y cant o'r cohort. Fel rwy'n credu gwnaeth hi sôn yn y Siambr, byddai hyn yn gynnydd sylweddol, oherwydd mae e'n debygol y byddai pobl eisiau parhau i fod yn ddeintyddion yma yng Nghymru. Mae'r coleg Cymraeg yn gweithio hefyd gyda'r brifysgol yng Nghaerdydd i ddarparu grant sbarduno ym maes deintyddiaeth yn benodol i gynnig profiadau dysgu cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Bydd yr ysgol ddeintyddiaeth yno yn cynnal, yn ychwanegol i hynny, gyfres o ddigwyddiadau lle bydd darpar fyfyrwyr yn elwa o gwrdd â staff ac ati ac yn derbyn gwybodaeth am y broses ymgeisio. Mae'r cynllun hefyd yn gwarantu cyfweliad i siaradwyr Cymraeg ar gyfer mynediad mis Medi 2025 yn yr ysgol ddeintyddiaeth, felly rŷn ni'n gobeithio ac yn ffyddiog bydd hynny'n helpu i fynd i'r afael gyda'r her.

Buddion Cymunedol Prosiectau Cynhyrchu Ynni

7. Beth yw disgwyliadau'r Ysgrifennydd Cabinet o gwmnïau o ran darparu buddion cymunedol diriaethol mewn perthynas â phrosiectau cynhyrchu ynni? OQ61023

Mae cyfranogiad cymunedol yn hanfodol i'n polisi ynni ac rwy'n disgwyl i bob prosiect newydd gael o leiaf elfen o berchnogaeth leol. Fy amcan yw cadw budd cymdeithasol ac economaidd ar gyfer prosiectau adnewyddadwy i gefnogi pontio teg i system ynni sero net.

14:15

Diolch yn fawr am yr ateb yna.

Gwelwyd bod manteision cymunedol real a diriaethol yn hanfodol er mwyn denu cefnogaeth trigolion lleol i gynlluniau ynni adnewyddadwy. Gall y cynlluniau budd-daliadau hyn fynd ymhellach, ond o leiaf maent yn cael eu cynnig. Yn anffodus, o ran cynlluniau gwaith glo, ni welir buddion cymunedol yn unman. Mae yna enghraifft arbennig o wael yn fy rhanbarth i o gymuned yn cael ei cham-drin yn llwyr gan berchnogion pwll glo brig Ffos-y-fran, sydd wedi gadael trychineb amgylcheddol ar eu holau ar ôl gwneud llawer iawn o elw dros bron i ddau ddegawd o sŵn a llwch i drigolion lleol.

Mae cynllun gwaith glo arall yn fy rhanbarth ar safle hen lofa Bedwas yn addo adfer, a gwella'r tir mewn rhai achosion, ar ôl codi miloedd o dunelli o lo. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod unrhyw sôn am fudd cymunedol diriaethol eto. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi, pryd bynnag yr echdynnir adnoddau naturiol, ar ba ffurf bynnag, y dylid cael iawndal i drefi a phentrefi cyfagos ar ffurf budd cymunedol diriaethol sy'n cael effaith hir a pharhaol?

Wel, rwy'n credu bod y ddau ohonom eisiau gweld ecosystem ynni nad yw'n echdynnol yn yr ystyr honno ac sy'n adnewyddadwy yn yr ystyr wirioneddol ac yn manteisio'n llawn ar yr adnoddau ynni adnewyddadwy y gallwn eu brolio fel cenedl. Rwy'n credu mai dyna'r uchelgais y mae'r ddau ohonom yn ei rannu, yn ôl pob tebyg. Ac rwy'n gwybod y bydd yn croesawu lansiad Ynni Cymru, y credaf y bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at newid y dirwedd i'r cyfeiriad hwnnw. Mae eisoes wedi ymrwymo gwerth bron i £1 filiwn o grantiau adnoddau, a fydd yn helpu grwpiau cymunedol yn uniongyrchol i gymryd rhan mewn cynlluniau ac i gyflymu'r prosiectau sydd gennym ar y gorwel. Felly, rwy'n rhannu ei uchelgais i sicrhau bod y gymuned, mewn unrhyw ardal lle ceir cynhyrchiant, neu drawsyrru yn wir, yn gallu tynnu sylw at fudd iddynt hwy, sy'n dda i'r prosiect ond hefyd yn dda i'n cymunedau. 

Y Comisiwn Gwaith Teg

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru wrth weithredu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg? OQ61003

Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym i wreiddio gwaith teg yng Nghymru. Cyhoeddasom ein hadroddiad cynnydd diweddaraf ar 16 Ebrill. Mae'r adroddiad yn dangos bod yr holl argymhellion â blaenoriaeth wedi'u rhoi ar waith a bod y mwyafrif helaeth o'r argymhellion sy'n weddill wedi'u gwireddu neu yn y broses o gael eu gweithredu.

Diolch am y diweddariad hwnnw. Er gwaethaf yr heriau sy'n ein hwynebu, mae'n dda gweld bod cynnydd yn cael ei wneud ar yr argymhellion niferus yn adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg. Rwy'n arbennig o falch o weld y gwaith sy'n cael ei wneud yma gan Lywodraeth Lafur Cymru ar hyrwyddo rôl gadarnhaol undebau llafur yn y gweithle a thu hwnt. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â'r Llywodraeth Dorïaidd bresennol sydd, dro ar ôl tro, wedi ymosod ar undebau llafur ac wedi ceisio dileu'r hawliau yr ymladdwyd yn galed i'w cael i weithwyr. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, sy'n coffáu'r brwydrau a'r enillion a welodd y mudiad llafur. Felly, Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi fod angen ethol Llywodraeth Lafur yn yr etholiad cyffredinol a gweithredu cytundeb newydd trawsnewidiol Llafur yn y DU ar gyfer gweithwyr?

Diolch ichi am godi'r pwyntiau pwysig hynny.

Dylwn ddechrau drwy ddatgan diddordeb. Rwy'n undebwr llafur balch ac rwyf wedi treulio'r rhan orau o fy mywyd gwaith yn dadlau dros fargen well yn y gweithle. Mae'n iawn ac yn addas, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, ein bod yn ystyried ac yn cydnabod y rôl y mae undebau llafur wedi'i chwarae nid yn unig i wneud gwaith yn well, ond yn llunio cymdeithas decach hefyd. Ond gwyddom fod y gwaith hwnnw, yn anffodus, ymhell o fod wedi'i wneud ac nid oes angen edrych ymhellach na Llywodraeth Dorïaidd flinedig a gwenwynig y DU a'r gyfres o ymosodiadau ideolegol y mae wedi'u gwneud ar undebau llafur, a'r Ddeddf Streiciau (Isafswm Lefelau Gwasanaeth) 2023 wrth-ddemocrataidd a gwrth-weithwyr niweidiol. Rydym yn cymharu hyn â'r hyn a wnawn ni yma yng Nghymru gyda Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac sydd wedi deddfu i wneud hynny'n rhan o'n DNA datganoledig. Er bod y ddeddfwriaeth honno'n arwyddocaol, mae'n ymwneud â mwy na deddfwriaeth yn unig. Mae ein hundebau a'r prosiect peilot byd gwaith yn addysgu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr, cyflogwyr ac entrepreneuriaid am eu hawliau a'u cyfrifoldebau yn y gweithle. Ond rydych chi'n iawn, gallem wneud cymaint mwy pe bai gennym sylfaen decach o hawliau ac amddiffyniadau cyflogaeth. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr fod angen Llywodraeth Lafur arnom yn y DU a gweithredu bargen newydd ar gyfer gweithwyr yn llawn; byddai'r ddau beth yn grymuso gweithwyr, yn ogystal â'n ffordd Gymreig o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol.  

14:20
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitem 2 sydd nesaf—cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hwn. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Drakeford.

Amrywiaethu'r Gweithlu Deintyddol

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr ymdrechion i amrywiaethu'r gweithlu deintyddol? OQ61008

Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod o'r farn ers tro y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol geisio gweithio ar frig eu trwydded, gan ganiatáu i eraill sydd â chymwysterau priodol ymyrryd lle bo hynny'n briodol. Tan yn ddiweddar, roedd mater rheoleiddio yn atal therapyddion deintyddol cymwysedig, hylenwyr a thechnegwyr deintyddol clinigol rhag dechrau a chwblhau cyrsiau triniaeth ddeintyddol y GIG. Mae'r mater hwn bellach wedi'i ddatrys, gan alluogi gweithwyr deintyddol proffesiynol i chwarae rhan lawn yn darparu gofal GIG, a fydd yn gwneud gwahaniaeth i amrywiaeth y gweithlu deintyddol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Lywydd, os meddyliwn am ymarfer cyffredinol y dyddiau hyn, cyfeiriwn fwy a mwy at y tîm clinigol ehangach, y bobl eraill sydd â sgiliau clinigol a all fod yn rhan o ymdrech i ddarparu gofal sylfaenol mewn cymunedau—nyrsys practis, ffisiotherapyddion ac yn y blaen. Pam mae'r maes deintyddol wedi bod mor araf i fabwysiadu'r un ymagwedd? Wel, yn rhannol oherwydd cyfyngiadau rheoleiddiol, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet; rwy'n ei llongyfarch ar unioni hynny. Ond mae angen iddo hefyd gael ei ategu gan ymdrech i hyfforddi mwy o bobl sy'n gallu cyflawni gwaith mwy cyffredinol ym maes deintyddiaeth.

Yn sicr, nid yw'n wir fod deintyddion yng Nghymru yn gweithredu ar frig eu trwydded glinigol; yn llawer rhy aml, maent yn cyflawni triniaethau cyffredinol nad oes angen sgiliau deintydd wedi'i hyfforddi'n llawn i'w gwneud. Felly, fy nghwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet yw: beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod cyflenwad digonol o aelodau eraill o'r tîm clinigol hwnnw'n cael eu hyfforddi? Sut y gallwn ni ddefnyddio hynny i fynd i'r afael â'r ffaith bod gan y proffesiwn deintyddol fonopoli ar gyflenwad yn rhy aml ac mae'n defnyddio hynny i gyfyngu ar y cyflenwad o ddeintyddiaeth y GIG er mwyn hyrwyddo'r cyfle i fanteisio ar ymarfer preifat mwy proffidiol?

Diolch yn fawr. Gwn fod y cyn Brif Weinidog wedi arwain y ffordd, pan oedd yn Weinidog iechyd, ar sicrhau ein bod yn defnyddio'r tîm cyfan o amgylch gofal sylfaenol, yn sicr o ran gwasanaethau meddygol cyffredinol, ac rwy'n ddiolchgar ichi am hynny. Ond rydych chi'n hollol gywir, nid ydym wedi gweld y patrwm hwnnw'n datblygu yn yr un ffordd yn union mewn deintyddiaeth, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn benderfynol o fynd i'r afael ag ef. Fel yr awgrymais yn fy ateb, roedd yna broblem lle roedd mater technegol yn atal therapyddion deintyddol, er enghraifft, rhag dechrau a chwblhau cyrsiau triniaeth GIG. Mae hynny bellach wedi newid, felly mae cyfle nawr o leiaf i'r drws hwnnw gael ei agor.

Felly, y broblem wedyn yw: lle mae'r therapyddion deintyddol hyn? Pwy ydynt? Sut mae eu hyfforddi? Roedd hyn yn un o'r pethau y canolbwyntiais arno'n gynnar iawn yn fy nghyfnod yn y swydd, oherwydd os ydym eisiau edrych ar y model yn sylfaenol, roeddwn yn sylweddoli na allwch chi wneud hynny heb ddarparu'r rhifau mewn gwirionedd. Os ydych chi'n gwrthdroi'r triongl, mae angen ichi sicrhau bod gennych chi ddigon o bobl yn hyfforddi. Felly, yn sicr, roedd yn gyfarwyddyd a roddais i Addysg a Gwella Iechyd Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn sicr, gallaf eich sicrhau ein bod wedi dyblu nifer y therapyddion deintyddol sy'n cael eu hyfforddi ers 2023. Felly, mae pethau'n gwella, ond mae gennym ffordd bell i fynd. 

Rwyf hefyd yn falch iawn hefyd fod y graddedigion cyntaf i gymhwyso o raglen hylendid deintyddol Prifysgol Bangor yn dechrau gweithio. Mae'n debyg mai'r her nesaf i ni yw sicrhau—yn amlwg, mae angen inni gynyddu'r niferoedd hynny, a gwneud yn siŵr hefyd, pan fyddant wedi'u hyfforddi, nad ydynt yn mynd i'r sector preifat. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ddod o hyd i ateb iddo hefyd. 

Mae'n rhaid imi ddweud bod gennyf barch mawr at y cyn-Brif Weinidog, ond rwy'n ei hystyried yn eironig ei fod bellach yn gofyn cwestiwn i'w Weinidog iechyd blaenorol ar faes polisi lle mae Llafur Cymru wedi methu'n druenus yn ystod eich cyfnod chi yn y swydd.

Nawr, blaenoriaethau'r bobl yw i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ddarparu mwy o ddeintyddion yng Nghymru. Fodd bynnag, dan oruchwyliaeth Llywodraeth flaenorol Cymru, gwelwyd dirywiad cyflym yng ngwasanaethau deintyddol y GIG—60 y cant o ostyngiad yn y ddarpariaeth, oherwydd eich contractau newydd. Nid ydynt wedi gwneud unrhyw beth i fynd i'r afael â'r realiti yn Aberconwy fod gennym system dair haen erbyn hyn: pobl sy'n gallu cael triniaeth breifat, pobl sy'n gallu cael triniaeth y GIG a phobl sy'n methu cael mynediad at y naill na'r llall. Mae'n warth llwyr, a dyna'r rheswm dros fy sylw am yr eironi. Ychydig wythnosau sydd wedi bod ers ichi adael y swydd, Brif Weinidog, ac rydych chi'n gofyn cwestiwn y dylech chi wybod yr ateb iddo. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gomisiynu gwaith i fodelu'r hyn y byddai ei angen arnoch chi, fel Llywodraeth Cymru, i ddarparu gwasanaethau GIG llawn i bawb sy'n byw yng Nghymru? Diolch yn fawr.

14:25

Nid ydym wedi gwneud unrhyw gyfrinach o'r ffaith bod yr heriau sy'n ymwneud â deintyddiaeth yn rhai go iawn, a thrwy newid y contract, rydym wedi ceisio mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny, yn enwedig i bobl nad ydynt wedi gallu cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG ers amser maith. Ac rwy'n falch o ddweud, erbyn heddiw, fod tua 300,000 o gleifion GIG newydd wedi gallu cael mynediad at y gwasanaethau GIG hynny. Rydych chi'n hollol gywir; rwyf wedi comisiynu gwaith i edrych ar sut mae hyn yn edrych dros y tymor hir—cynllun 10 mlynedd—oherwydd ni allwch greu deintyddion dros nos, ni allwch greu therapyddion deintyddol hyd yn oed dros nos, ond hefyd mae'n rhaid ichi ystyried pethau fel y ffaith bod y boblogaeth yn newid. Mae'r boblogaeth yng ngorllewin Cymru, er enghraifft, yn debygol o fod ychydig yn hŷn ac efallai fod angen math gwahanol o ymateb deintyddol i'r rhai mewn rhannau eraill o'r wlad. Felly, mae'r holl bethau hynny'n bethau y gwyddom fod angen mynd i'r afael â nhw. Ein her bresennol, wrth gwrs, yw cyllid. Felly, rydym yn gwybod beth sydd angen ei wneud, ond yn amlwg, rydym wedi ein cyfyngu'n ariannol gan y ffaith bod eich Llywodraeth chi yn y DU wedi chwalu'r economi ac wedi rhoi bargen wael inni o ran arian ar gyfer iechyd.

Camau i Atal Clefydau drwy Hyrwyddo Byw'n Iach

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal clefydau drwy hyrwyddo byw'n iach? OQ60995

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gefnogi pobl yng Nghymru i fyw bywydau iach. Mae peidio ag ysmygu, bod yn gorfforol egnïol lle bo hynny'n bosibl a chario pwysau iach i gyd yn gamau cadarnhaol y gallwn eu cymryd i atal clefydau y gellir eu hosgoi, fel diabetes math 2.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Mae cysylltiad agos rhwng ffordd o fyw ac iechyd, a gall y dewisiadau a wneir am ddeiet, gweithgarwch, cwsg ac ysmygu effeithio ar iechyd a lles. Gall ffordd iach o fyw leihau'r risg o lawer o glefydau, gwella ansawdd bywyd a hyrwyddo adferiad. Mae llawer o bobl angen gwella'u ffordd o fyw, gyda gordewdra'n un o brif achosion diabetes math 2, clefyd coronaidd y galon, rhai mathau o ganser, fel canser y fron a chanser y coluddyn, a strôc. Felly, gyda'i ddull ataliol cynnar, gall presgripsiynu cymdeithasol helpu i leddfu'r baich ar wasanaethau arbenigol rheng flaen. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud ar gynyddu presgripsiynu cymdeithasol, fel ein bod yn gwella ffitrwydd ac iechyd pobl, yn hytrach na'u bod yn ymweld â meddygon, yn ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys, am eu bod yn ddifrifol wael?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod angen inni fod yn ofalus iawn. Efallai ein bod weithiau'n gor-feddygoli rhai o'r materion sy'n dod trwy ein meddygfeydd, a dyna pam y credaf fod cyfle gwirioneddol yn sgil presgripsiynu cymdeithasol. Nid yw hyn yn rhywbeth newydd wrth gwrs; mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru, ond mewn pocedi. Ac un o'r materion yr oedd y cyn Weinidog llesiant yn sicr yn awyddus i fynd i'r afael â nhw, a gwn fod y Gweinidog iechyd meddwl newydd yn awyddus i edrych arno hefyd, yw gwneud yn siŵr, pan gaiff pobl eu hatgyfeirio mewn perthynas â phresgripsiynu cymdeithasol, fod yna ansawdd ynghlwm wrth hynny, fel bod meddygon teulu yn gallu—. Mae'r rhain, yn aml iawn, yn bobl fregus; mae angen ichi gael rhywfaint o sicrwydd o'i gwmpas. Felly, rwy'n credu bod cyfleoedd go iawn i'w cael yn sgil presgripsiynu cymdeithasol. Cafwyd ymgynghoriad ar y fframwaith hwnnw bellach, felly rydym yn bwrw ymlaen mewn perthynas â'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol. Ond rydych chi'n llygad eich lle, yn enwedig o ran y ffordd yr ewch ati i newid ffordd o fyw pobl. Mae'n anodd iawn, mae'n bersonol iawn. Beth sy'n ysgogi pobl? Ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfleoedd, nid yn unig drwy bresgripsiynu cymdeithasol, ond hefyd drwy edrych ar y gefnogaeth sydd gennym y gellir ei theilwra'n effeithiol i'r unigolyn. Felly, Pwysau Iach Byw'n Iach, er enghraifft, gall pobl fynd ar y wefan honno a chael cefnogaeth wedi'i theilwra'n deg a fydd yn eu helpu, er enghraifft yn eu hymdrechion i golli pwysau.

14:30

Gyda iechyd ataliol wedi cael ei godi, hoffwn fanteisio ar y cyfle i sôn am atal canser y coluddyn yng Nghymru. Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin a'r ail laddwr canser mwyaf yng Nghymru. Mae cynnydd da wedi bod o ran profi am syndrom Lynch yng Nghymru, sef cyflwr sy'n gysylltiedig â rhagdueddiad genetig i ganser y coluddyn, ond mae tua 30 y cant o achosion canser y coluddyn yn y DU yn gysylltiedig â diffyg ffeibr yn y deiet, mae 11 y cant yn gysylltiedig â gordewdra, a 7 y cant yn gysylltiedig â thybaco. Bydd cyfuniad o'r ymddygiadau hyn yn cynyddu eich perygl o ddatblygu'r clefyd yn sylweddol. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o'r ffactorau risg ymddygiadol sy'n gysylltiedig â chanser y coluddyn? Diolch.

Diolch yn fawr. Wel, un o'r pethau rwy'n falch iawn ohono yw'r ffaith ein bod bellach wedi gostwng yr oedran y mae sgrinio'n dechrau mewn perthynas â chanser y coluddyn, ac mae hynny eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Ac mae pobl yn awyddus iawn i gymryd rhan yn hynny. Mae rhan o'r broblem serch hynny, os edrychwch chi ar y gwahaniaethau a'r canlyniadau o ran pobl sydd â chanser—unrhyw fath o ganser—yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd tlotach a'r ardaloedd cyfoethocach, ac mae'n rhaid inni wneud mwy i gael ein hardaloedd tlotach yn rhan o hyn. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod gennym gamau wedi'u targedu i sicrhau bod pobl yn yr ardaloedd tlotach yn dychwelyd y profion sgrinio hynny. Yn sicr, rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod yn rhan o'r hyn a wnawn, ond rydych chi'n hollol gywir: cyn hynny, mae'n rhaid inni wneud gwaith atal, ac yn sicr rwy'n gobeithio, gyda'r math o gefnogaeth Pwysau Iach Byw'n Iach y gallwn ei rhoi ar waith, y bydd pobl yn cydnabod yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i gynnal ffordd o fyw iach.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dyma fy nghyfle cyntaf i'ch holi yn fy rôl newydd fel llefarydd iechyd yr wrthblaid ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at ein trafodaethau yn y Siambr hon. Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gyda chi ar feysydd ac ar faterion lle gallaf wneud hynny, ond hefyd rwy'n bwriadu eich dwyn i gyfrif, a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ar feysydd y mae angen eu gwella.

Mae un maes o'r fath yr wyf eisiau ei grybwyll yma heddiw yn ymwneud ag adrannau damweiniau ac achosion brys. Ddoe, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro rybudd brys ynglŷn â'r uned frys yn Ysbyty Athrofaol Cymru—yr ysbyty mwyaf yng Nghymru—a hynny ar yr un diwrnod, ddoe, ag yr oedd gennym bedair awr wedi'u neilltuo i drafod cael 36 yn fwy o wleidyddion yn y Siambr hon ar gost o ddegau o filiynau o bunnoedd. Felly, a ydych chi'n credu bod gennych chi'r blaenoriaethau cywir?

Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu Sam i'ch rôl newydd fel llefarydd y Ceidwadwyr? A chyn inni barhau â'r drafodaeth, hoffwn dalu teyrnged hefyd i Russell George, y bûm yn gweithio gydag ef dros nifer o flynyddoedd. Hoffwn dalu teyrnged i chi am y ffordd y gwnaethoch chi gyflawni'r rôl honno, Russell, a diolch am y math o berthynas y gwnaethom—. Fe wnaethoch chi fy nwyn i gyfrif; fe wnaethoch chi fy nghadw ar flaenau fy nhraed, ond fe lwyddasom i sicrhau ein bod ni'n parhau'r ddeialog. Rwy'n gwybod bod fy nhasg yn heriol, ond mae gennyf fyddin fach i fy nghefnogi, ac nid wyf yn tanbrisio'r math o waith y mae'n rhaid i lefarwyr y gwrthbleidiau, gan gynnwys Plaid Cymru, ei wneud heb y math o gefnogaeth y gallaf ddibynnu arni. Felly, diolch i chi hefyd am ymgymryd â'r dasg anodd hon.

Mewn perthynas ag adrannau damweiniau ac achosion brys, rwy'n credu y dylwn nodi bod perfformiad mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, wrth gwrs, yn heriol ar hyn o bryd. Mae gennym broblemau go iawn mewn perthynas ag oedi wrth drosglwyddo gofal—mae hynny bob amser yn rhan o'r rheswm pam fod oedi—ond mae'n debyg ei bod yn werth nodi hefyd bod perfformiad mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi bod yn well yng Nghymru nag yn Lloegr mewn wyth o'r deuddeg mis diwethaf yn erbyn y targed pedair awr.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch hefyd am gydnabod rhai o'r heriau sy'n bodoli yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys ar hyn o bryd. Ond mae hyn yn ymwneud â chael y blaenoriaethau cywir a chael Llywodraeth sy'n canolbwyntio ar ymdrin â'r meysydd sy'n peri pryder i bobl Cymru.

Ac ysgrifennodd un person o'r fath ataf yr wythnos diwethaf, aelod o'r cyhoedd, sydd, yn anffodus, â chanser angheuol, eisiau mynegi ei brofiadau mewn ysbyty yng ngogledd Cymru, lle aethant i adran ddamweiniau ac achosion brys gyda llythyr gan ei feddyg teulu i sicrhau gwely ar ward i drin anhwylder, ond gwrthododd yr ysbyty hyn a'i roi yn yr ystafell aros yr adran ddamweiniau ac achosion brys, lle bu'n aros am 11 awr. Erbyn hanner nos, dywedwyd wrthynt y byddai'n well iddynt fynd adref. Felly, daethant yn ôl drannoeth a chael profiad tebyg iawn, gyda phobl yn aros mwy na 12 awr. Yn anffodus, nid yw hwn yn achlysur untro, ac mae llawer gormod o bobl yn cael y profiadau hyn yn ystafelloedd aros ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, er mwyn ein meddygon a'n nyrsys, sy'n gorfod gweithio drwy hyn, ac yn sicr er mwyn y cleifion, sy'n gorfod dioddef y cyflyrau hyn, tybed a allech chi amlinellu pa gynllun sydd gennych i fynd i'r afael â'r arosiadau gormodol hyn mewn adrannau damweiniau ac achosion brys?

14:35

Diolch yn fawr. Mae gennym strategaeth gyfan yn ymwneud â hyn. Fe'i gelwir yn rhaglen chwe nod. Mae'n rhaglen gynhwysfawr iawn, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn barod. Felly, rwy'n gwybod efallai na fydd yn teimlo felly, ond os ydych chi'n meddwl am bethau fel y system 111, a oedd yn golygu bod 90,000 o bobl wedi cael eu dargyfeirio rhag mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys mewn un mis yn unig, ym mis Chwefror, mae hynny'n rhoi rhyw fath o syniad i chi o fentrau newydd sydd wedi'u cyflwyno. Hefyd, mae gennym ganolfannau gofal sylfaenol brys wedi'u cyflwyno; mae gennym ganolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod wedi'u cyflwyno.

Ac wrth gwrs, os ydych chi'n sôn am flaenoriaethau, rwyf wedi'i gwneud hi'n glir iawn mai un o fy mlaenoriaethau allweddol yw lleihau'r rhestrau. Rwy'n gwneud llawer iawn o waith yn ceisio ymchwilio'n fanwl lle mae'r problemau. Rwyf wedi siarad â Betsi y bore yma am rai o'r materion anodd iawn y maent yn eu hwynebu mewn meysydd penodol. Wrth gwrs, rhan o'r broblem yw'r oedi wrth drosglwyddo gofal. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol i weld a allwn weithio gyda'n gilydd ar hynny, gan ei fod yn gyfrifoldeb ar y cyd. Ond mae yna ormod o bobl yn ein hysbytai sy'n barod i gael eu rhyddhau ond na ellir eu rhyddhau, ac mae hynny'n her i ni, ond mae hefyd yn her i lywodraeth leol. Ac yn sicr, mae gweithio law yn llaw â chynghorau'n gwbl hanfodol, a dyna a wnawn, yn sicr drwy fisoedd y gaeaf, ar sail bythefnosol.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am amlinellu'r heriau sydd i'w canfod wrth ddrws cefn yr ysbyty, fel petai, o ran y gallu i ryddhau cleifion. Rwy'n sicr yn barod i weithio gyda chi i weld pa ddulliau y gellir eu rhoi ar waith i wella hynny. Oherwydd rydym i gyd eisiau gweld system ddamweiniau ac achosion brys well yma yng Nghymru ac rydym i gyd eisiau gweld y rhestrau aros a'r amseroedd aros yn lleihau.

Ond fe wnaethoch chi gyfeirio at eich cynllun, ac mae'n amlwg fod yn rhaid monitro a goruchwylio'r cynllun a'i weithredu mewn modd cadarn. Cyflwynodd arweinydd y Ceidwadwyr yma, Andrew R.T. Davies, gwestiwn i chi yn ddiweddar, yn gofyn beth yw'r tri phrif reswm pam fod pobl wedi mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru yn ystod y flwyddyn galendr hon. Yn sicr, mae gwybod y rhesymau'n eich galluogi i ddeall cadernid y cynllun rydych wedi dweud ei fod ar waith. Ond yn eich ateb, yn anffodus, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi nad oedd gennych y wybodaeth hon. Felly, tybed a allwch chi fod yn hyderus ynghylch cadernid eich cynllun i ymdrin ag arosiadau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys pan nad oes gennych chi'r hyn rwy'n ei ystyried yn wybodaeth eithaf sylfaenol am beth yw'r prif resymau pam fod pobl yn mynychu ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys.

Wel, wrth gwrs, byddwn yn disgwyl i'r byrddau iechyd eu hunain fod yn cadw'r wybodaeth honno. Ond yr hyn sydd gennym nawr yw Gweithrediaeth GIG Cymru, sy'n edrych yn agos iawn ar y manylder hwnnw. Ac mae'r rhaglen chwe nod y cyfeiriais ati yn enghraifft o ddull cenedlaethol, lle mae disgwyl cyflawni ar lefel leol. Rydym wedi dyrannu £25 miliwn i mewn i hwnnw, ac mae'n gwneud gwahaniaeth sylweddol.

Felly, yn amlwg, un o'r pethau eraill y buom yn ymwneud â nhw yw ceisio cyflwyno pethau fel rhaglen yr Athro Shepherd o adnabod ymddygiad treisgar, er enghraifft—lle mae hynny'n digwydd, sut rydym yn gweithio gyda'r heddlu ac awdurdodau eraill i nodi pan fo'r problemau'n dod i mewn i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae'n ymwneud â mwy na thrais yn unig; mae rhywfaint ohono'n ymwneud â phobl oedrannus yn baglu ac yn cwympo. Yr wythnos diwethaf, mynychais gynhadledd sy'n edrych ar y gwasanaeth cyswllt toresgyrn, a oedd yn ddiddorol iawn. Beth y gallwn ni ei wneud i ymyrryd i atal pobl rhag torri coes neu dorri asgwrn? Mae llawer iawn o waith sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn mynd i mewn i hynny. Rydym wedi dyrannu £1 filiwn ar gyfer hynny, er mwyn ceisio atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty. Felly, mae'r cyfan yn ceisio gwthio pethau i'r gofod atal, sy'n eithaf anodd pan ydych yng nghanol gwres y funud gyda'r adrannau brys, a'r rhestrau aros. 

14:40

Diolch, Llywydd. Croeso i'ch rôl newydd chi, Weinidog. Hoffwn godi gyda chi y pryder mawr sydd yna am nifer y canolfannau dydd sy'n cau ledled Cymru. Mae'r canolfannau hyn wedi bod yn fwy nag adeiladau i gymaint o bobl sydd angen cefnogaeth yn y gymuned. Maen nhw'n ganolbwynt i fywydau pobl, yn cynnig pwynt cyswllt hollbwysig, yn cynnig gweithgareddau, cwmni, a chyfle i chwerthin, ac yn helpu lleddfu'r pwysau ar ofalwyr di-dâl. Mae Age Cymru wedi canfod bod nifer o awdurdodau lleol heb ailagor canolfannau ers y pandemig, er bod yr oedi cyn cael mynediad i wasanaethau gofal cymdeithasol wedi golygu bod angen y canolfannau hyn yn fwy nag erioed. Mae'r cyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol yn golygu eu bod nhw'n torri gwasanaethau dydd, gydag o leiaf un awdurdod yng Nghymru yn awgrymu y byddan nhw'n cau pob canolfan, ac un arall yn dweud ei bod nhw'n mynd i haneru’r gyllideb ar gyfer rhoi seibiant i ofalwyr. 

Yn sgil hyn, ydych chi'n cytuno bod angen mwy o ffocws, ac nid llai, ar ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol a chefnogi yn y gymuned y mae gwasanaethau dydd yn rhan ganolog ohono? A pha ddata sy'n cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhai sydd angen cefnogaeth yn y gymuned yn ei dderbyn, yn wyneb cau canolfannau dydd?

Wel, a gaf i ddiolch i Sioned Williams am y cwestiwn hwnnw? Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chi yn eich portffolio. Rwy'n credu fy mod i'n ymdrin â rhai agweddau arno gyda Mabon hefyd, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Mabon, oherwydd, rwy'n credu bod yna faterion ar draws fy mhortffolio sy'n peri pryder cyffredin i bob un ohonom, ac rwy'n gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd, nid yn unig gyda Phlaid Cymru, ond hefyd gyda'r Ceidwadwyr. Mae gennym lawer o ymrwymiadau rhaglen lywodraethu ac ymrwymiadau'r cytundeb cydweithio ar draws y portffolio, yn enwedig mewn perthynas â gwell canlyniadau i blant, y gwn eu bod o ddiddordeb arbennig i chi, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny. 

Ond mae'r pwyntiau a wnewch yn amlwg yn bwysig iawn. Mater i awdurdodau lleol yw gweithrediad canolfannau dydd wrth gwrs, ac fe wyddom, yn sicr, fod cyllid awdurdodau lleol wedi bod dan bwysau aruthrol, er ein bod wedi ceisio blaenoriaethu eu cyllid, ynghyd â chyllid i'r GIG, o fewn y cyfyngiadau cyllidebol sy'n ein hwynebu. Mae holl gyllidebau awdurdodau lleol, fel y gwyddoch, o fewn y grant cynnal ardrethi, felly nid ydynt wedi'u neilltuo ar gyfer unrhyw wasanaeth penodol. Felly, mater i'r awdurdod lleol eu hunain—nid ydynt wedi cael eu neilltuo—yw penderfynu a ydynt yn dewis blaenoriaethu gofal cymdeithasol ac yn y blaen. 

Ond gallaf fod yn glir iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau yn sicr yn blaenoriaethu oedi wrth drosglwyddo gofal, ac rwy'n credu bod hynny'n cyd-fynd â'ch cwestiwn. Byddwch wedi gweld, er enghraifft, dros y penwythnos, yr wythnos diwethaf, yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli—ardal bwrdd iechyd Cwm Taf—mae bwrdd iechyd Cwm Taf wedi'i gwneud yn glir iawn i awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf fod tua 300 o bobl mewn gwelyau mewn ysbytai yn ardal Cwm Taf—mae hynny'n cyfateb i un ysbyty cyffredinol—na ddylent fod yno. Ac fe wyddom fod hon yn broblem ers llawer gormod o amser. Cyfarfûm ag arweinwyr llesiant a gofal cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos diwethaf, a soniais am yr angen i ni fwrw ymlaen â'r agenda hon o leihau'r amseroedd aros i ryddhau pobl nad oes angen iddynt fod yn yr ysbyty mwyach. Ac mae canolfannau gofal dydd a darpariaeth gofal cymdeithasol yn gwbl allweddol i hynny. 

Felly, y cyfan y gallaf ei ddweud wrthych yw fy mod yn cael y sgyrsiau hynny gydag awdurdodau lleol. Mae'n sicr yn flaenoriaeth yr wyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn ei rhannu wrth symud ymlaen ar y llwybrau gofal, ac rydym yn parhau i gael deialog mor adeiladol ag y gallwn gydag awdurdodau lleol ynglŷn â sut y gallwn gyflawni'r amcanion hynny ar y cyd o fewn cyfyngiadau eu cyllidebau nhw, a chyfyngiadau ein cyllideb ni.

Diolch yn fawr. Ie, y pwynt yw bod y gwasanaethau dydd yna yn chwarae rhan mor bwysig yn y gwaith ataliol yna rhag bod pobl yn gorfod cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal yn y lle cyntaf, a lleddfu'r pwysau. Mae nifer o bobl wedi gofyn i Age Cymru am gymorth yn sgil y ffaith nad ydyn nhw wedi cael gwybod o flaen llaw y byddai'n rhaid iddyn nhw dalu am ofal cymdeithasol. Maen nhw wedi tynnu sylw at achosion lle mae pobl hŷn wedi gorfod talu yn sylweddol yn fwy na'r hyn mae'r ddeddfwriaeth yn caniatáu. Ac, yn eu harolwg blynyddol, dywedodd 34 y cant eu bod yn ei ffeindio fe'n anodd neu'n hynod anodd i ddeall trefniadau codi tâl am ofal. Gan fod y drefn taliadau wedi bod mewn lle ers peth amser, pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y broses yn glir ac yn deg? Ac, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ddiwygio'r rheoliadau a'r cod ymarfer sy'n rheoli'r hyn mae awdurdodau lleol yn gallu ei godi, ac, yn benodol, ar godi'r uchafswm wythnosol nawr i £120—rhywbeth y gwnaeth y Llywodraeth addo peidio â gwneud, wrth gwrs.

Nawr eich bod chi yn y portffolio yma, a ydych chi'n credu, Weinidog, ei bod hi'n deg gofyn i ofalwyr a phobl hŷn, a phobl anabl, rhai sydd yn teimlo'r pwysau ariannol ac emosiynol fwyaf yn ein cymdeithas, i dalu mwy am eu gofal, o ystyried nad yw hyn, yn ei gyfanrwydd, yn swm anferthol o arian i'r Llywodraeth ei ganfod? 

14:45

Diolch i chi am y cwestiwn pellach hwnnw, sy'n bwysig iawn unwaith eto wrth edrych ar y ffordd y mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Unwaith eto, mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, rydym yn symud tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol maes o law. Mae'n rhaglen 10 mlynedd, ac efallai y bydd yn cymryd peth amser i ni ei chyflawni. Ond mae gennym amcan a rennir yn hynny o beth ac wrth sicrhau bod y ddarpariaeth honno ar gael i'r union bobl yr ydych newydd sôn amdanynt. Byddwn eisiau bod yn sicr fod pobl yn deall yn glir iawn beth mae'n rhaid iddynt dalu amdano a'r hyn nad oes rhaid iddynt dalu amdano. Ac os gwelaf nad yw hynny'n digwydd, byddwn yn sicr eisiau cael y sgwrs honno gyda swyddogion i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynhyrchu canllawiau clir a dealladwy iawn. Rwy'n gwybod, o fy mhrofiad fy hun—

—ie, yn hollol. Rwy'n gwybod yn iawn, Sioned, o fy mhrofiad fy hun, pan oedd fy nhad yn mynd drwy'r system cyn iddo farw. A rhywun fel fi yw hyn, sydd â syniad o sut mae'r system yn gweithio, mae'n debyg. Ac roeddwn i'n ei chael hi'n anodd iawn siarad â'r bobl gywir, ar yr adeg gywir, gyda'r wybodaeth gywir, yn cael fy nhrosglwyddo o bant i bentan, ac mae hynny'n straen fawr ar unigolion a'u teuluoedd. Felly, mae angen inni wneud y system yn fwy tryloyw. Mae angen inni sicrhau—rydych chi'n iawn—fod gan y staff eu hunain yr holl wybodaeth y maent ei hangen, ac os nad yw hynny'n digwydd, byddwn eisiau sicrhau bod hynny'n digwydd, a sicrhau bod y broses yn dod yn gliriach ac yn symlach ac yn fwy unedig i bobl ei llywio.

Ar yr ymgynghoriad ar ofal cartref yn benodol, nid yw hwnnw wedi cau eto; mae'n parhau tan fis Mai. Mae hwn yn rhywbeth y mae awdurdodau lleol wedi bod yn gofyn amdano. Rwy'n tueddu i gytuno â'ch dadansoddiad nad yw'r hyn sy'n cael ei awgrymu, o ran codi'r cap, yn swm enfawr o arian, ond mae awdurdodau lleol yn dweud eu bod ei angen. Ond mae yna broses gadarn iawn o fewn hynny, sy'n sicrhau na ddylai pobl na allant fforddio talu mwy na'r lefel uchaf bresennol orfod talu. Nawr, hoffwn sicrhau, yn sicr, fod hynny'n aros, ac os yw hynny'n golygu bod yn rhaid inni adolygu'r rheolau hynny i sicrhau nad oes neb yn syrthio drwy'r bylchau, rwy'n gwbl sicr y dylem wneud hynny, oherwydd ni ddylid gwrthod gofal i unrhyw un am na allant ei fforddio.

Rhestrau Aros y GIG

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG? OQ61025

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod chwech o saith bwrdd iechyd wedi cyrraedd y targed i sicrhau bod 97 y cant o'r holl arosiadau yn llai na 104 wythnos. Mae nifer y llwybrau sy'n aros am fwy na dwy flynedd wedi gostwng eto am y trydydd mis ar hugain yn olynol. Mae'r amser aros cyfartalog oddeutu 21 wythnos erbyn hyn.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, siaradais â Together for Short Lives a Tŷ Hafan am y gefnogaeth hanfodol y maent yn ei darparu i blant sydd â salwch sy'n newid bywyd, yn ogystal â'u teuluoedd. Mae'r gofal hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar ofal lliniarol ac mae'n darparu seibiant a chymorth amhrisiadwy i deuluoedd ar rai o'r adegau anoddaf posibl. Mae Tŷ Hafan a Together for Short Lives wedi amlinellu eu hangen am gyllid pellach i ddarparu ar gyfer hwb mawr ei angen yn nifer y nyrsys plant cymunedol, ac maent wedi galw o'r blaen am gyllid i dalu am 21 y cant o'u costau, er mai dim ond rhwng 5 y cant a 10 y cant y maent yn ei gael gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i dalu am y gwasanaeth hanfodol hwn. Mae hyn yn ddealladwy yn effeithio ar nifer y cleifion y gall y sefydliadau hyn eu cyrraedd. Ar hyn o bryd, un o bob 10 plentyn yng Nghymru sy'n cael y gofal critigol y maent hwy a'u teuluoedd ei angen a'i eisiau'n daer. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gallwch ddeall, mae hyn yn cael effaith ganlyniadol ar ein GIG, sy'n golygu y bydd naw o bob deg o'r plant hyn felly yn cael eu rhoi ar restr aros. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych i wella mynediad at ofal yn y gymuned i blant sy'n ddifrifol wael ledled Cymru, a fydd hefyd yn lleddfu'r pwysau ar restrau aros y GIG? Diolch.

14:50

Diolch yn fawr, Natasha, ac rydych chi'n hollol iawn mai hwn, mwy na thebyg, yw'r maes anoddaf ohonynt i gyd ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael ag ef. Dyna pam, yn ystod y mis diwethaf, rwyf wedi rhoi £4 miliwn ychwanegol i hosbisau yng Nghymru. Gadewch inni beidio ag anghofio, mewn hosbisau, fod y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud yn y gymuned. Yn sicr, ar ymweliad â Hosbis Dewi Sant gyda fy nghyd-Aelod Jayne Bryant ychydig fisoedd yn ôl, sylweddolais faint o'r gwaith hwnnw sy'n cael ei wneud yn y gymuned. Fe wnaethom ni gydnabod, er bod llawer o'r arbenigwyr sy'n gweithio yn y maes hwn—a gallwch ddychmygu'r math o arbenigedd sydd ei angen arnoch yn y rôl honno, ac mae'n rhaid ichi fod yn berson eithaf cadarn i allu gweithio yn y maes hynod heriol hwnnw—. Un o'r heriau oedd ein bod, mewn gwirionedd, wedi rhoi codiad cyflog i'r rhai sy'n gweithio yn y GIG, ond nid oeddem wedi rhoi codiad cyflog cymesur i'r rhai sy'n gweithio mewn hosbisau. Felly, rydym yn gobeithio y bydd y £4 miliwn yn mynd rywfaint o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â hynny. Cyfarfûm â'r hosbisau hynny ychydig wythnosau'n ôl, a gwn eu bod yn ddiolchgar iawn am y cyllid ychwanegol hwnnw.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mewn cyfweliad gydag asiantaeth newyddion PA yn ddiweddar,

'Yr hyn y buom yn ceisio ei wneud yw canolbwyntio ar y rhai sydd wedi bod yn aros hiraf.'

A ddylai fod yn canolbwyntio ar y rhai sydd wedi bod yn aros hiraf neu a ddylai fod yn canolbwyntio ar y rhai sydd â'r angen mwyaf?

Diolch yn fawr. Y gwir amdani yw, rydym wedi bod—. Os edrychwch chi ar y niferoedd cyffredinol sydd angen cefnogaeth, rydym yn siarad am gannoedd o filoedd o bobl. Felly, sut rydych chi'n blaenoriaethu'r rheini? Rydych chi'n hollol iawn—mae'n rhaid inni edrych ar yr achosion mwyaf difrifol. Y cwestiwn i mi yw, os ydych chi'n ceisio cydbwyso ac os edrychwch chi ar yr arbenigwyr sy'n dweud pa ganran, fwy neu lai, sydd yn y categori brys, mae'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd yn categoreiddio llawer gormod fel achosion brys, sy'n golygu bod y bobl sy'n aros am yr amser hiraf, gydag achosion eithaf cymhleth weithiau, yn cael eu rhoi ar restrau 'byth', ac nid yw honno'n sefyllfa dderbyniol, a dyna pam mai un o'r pethau y bûm yn eu gwneud yw treulio llawer iawn o amser yn mynd ar drywydd y bobl sydd wedi bod ar restrau aros hir iawn, annerbyniol o hir, yn aros mewn poen. Wrth gwrs, mae achosion brys bob amser yn mynd i flaen y ciw, ond mae gormod ohonynt yn neidio'r ciw ar draul y bobl sydd wedi bod ar y rhestrau aros am amser hir iawn.

Deintyddiaeth yng Nghanlbarth a Gorllewin Cymru

4. Pa waith cynllunio gweithlu, hyfforddiant, a datblygu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar gyfer deintyddiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61018

Byrddau iechyd unigol sy'n gyfrifol am gynllunio'r gweithlu, ar sail anghenion a gofynion penodol eu poblogaeth. Maen nhw’n gwneud hyn drwy eu cynlluniau tymor canolig integredig, sy’n cael eu cyflwyno i Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae’r cynlluniau hyn yn llywio cynllun comisiynu addysg a hyfforddiant Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Fel rydyn ni wedi clywed nifer o weithiau yn y Siambr yn barod heddiw, mae yna brinder deintyddion, prinder deintyddion sy'n siarad Cymraeg, yn ein canolbarth ni'n dau ac yn ehangach hefyd. Dwi'n falch o glywed bod gosod cyfundrefn hyfforddiant briodol yn hollbwysig er mwyn sicrhau'r genhedlaeth nesaf o ddeintyddion. Felly, fe wnes i synnu wrth glywed yn ddiweddar iawn am ferch ifanc o Geredigion oedd wedi cael ei gwrthod a ddim wedi cael ei derbyn ar gwrs deintyddiaeth yng Nghaerdydd, a ddim hyd yn oed wedi cael cynnig cyfweliad. Roedd disgwyl iddi gyrraedd y graddau disgwyliedig i fynd mewn i'r ysgol ddeintyddiaeth. Erbyn hyn, mae hi bellach yn ystyried astudio y tu fas i Gymru. Dyw'r stori hon ddim yn newydd. Nôl yn 2019, dangosodd adroddiad ar ddeintyddiaeth yng Nghymru gan y pwyllgor iechyd yn y Senedd yma fod angen system recriwtio mwy effeithiol i sicrhau cynnydd yng nghyfraddau myfyrwyr o Gymru sydd yn astudio deintyddiaeth—y rhai sydd yn dod o Gymru. Felly, gan ystyried profiad yr etholwraig dwi wedi cyfeirio ati, gaf i ofyn beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud er mwyn mynd i'r afael â'r argymhelliad penodol yna, a sut fedrwch chi fynd ati i sicrhau bod cenhedlaeth newydd o ddeintyddion y dyfodol yn hanu o Gymru, gan gynnwys rhai sy'n siarad Cymraeg?

14:55

Diolch yn fawr. Rŷch chi'n iawn—dwi'n meddwl bod problem wedi bod yn y maes yma. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu tu 74 lle yn ysgol deintyddiaeth Caerdydd, ac mae ceisiadau a llefydd wedi cynyddu 23 y cant ers 2023. Ond mae wirioneddol yn siomedig faint o fyfyrwyr o Gymru sy'n cael lle ar y cwrs. Mae'r ysgol feddygaeth wedi gwneud camau anhygoel i wella'r sefyllfa, ac rŷch chi wedi gweld gwahaniaeth yn y niferoedd sy'n dod o Gymru.

Nawr, dwi'n gwybod bod yr ysgol deintyddiaeth yn rhoi cyfweliadau i bob ymgeisydd o Gymru sy'n cwrdd â gofynion academaidd a safonau'r cwrs, ond hefyd y rhai sydd wedi cymryd rhan yng nghyrsiau ehangu cyfranogiad a sawl cwrs arall. Ond y ffaith yw efallai fod hwnna'n anodd i rywun sydd yn y gorllewin, i gael mynediad at y cyrsiau hynny. Felly, rŷn ni wedi gwneud hwn yn glir nawr—ces i gyfarfod yn ddiweddar gyda'r ysgol deintyddiaeth ar ôl i mi gael sgwrs gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Gymraeg, achos dwi yn meddwl bod hyn yn broblem. Dwi'n falch dros ben eu bod nhw wedi cydnabod bod yna broblem yma, ac maen nhw wedi gwneud ymrwymiad i gynyddu'r niferoedd i tua 40 y cant o fyfyrwyr ar y cwrs yn ystod y tair blynedd nesaf. Os yw hwnna'n digwydd, bydd hwnna'n chwyldro, ac felly, yn amlwg, mae'n rhaid i ni gadw golwg ar hynny.

Dwi wedi cytuno i fynd i gwrs maen nhw'n ei gynnal yn ysgol Glantaf, lle maen nhw'n dod â lot o blant o ysgolion gwahanol sy'n medru'r Gymraeg sydd â diddordeb i fynd i mewn i feddygaeth a deintyddiaeth jest i wneud yn siŵr eu bod nhw'n deall bod yna lwybr yma iddyn nhw. Ac, wrth gwrs, rŷch chi'n ymwybodol hefyd fod yna grant ychwanegol o £7,000 i annog pobl sydd ar y cwrs yna i wneud eu hyfforddiant nhw yng nghefn gwlad Nghymru.

Weinidog, rwy'n credu bod y sefyllfa o ran mynediad at ddeintyddion y GIG yn eithaf enbyd 12 mis yn ôl, ac rwyf wedi clywed yr hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw mewn ymateb i gwestiynau eraill, ond mae'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy enbyd heddiw. Yr wythnos hon, roedd gennyf etholwr yn y Trallwng yn methu cael mynediad at ddeintydd y GIG. Maent bedwar deintydd GIG yn fyr yn y Trallwng. Yn y Drenewydd, y dref fwyaf yn fy etholaeth i, symudodd deintydd amser llawn olaf y GIG dros y ffin i Loegr yr wythnos diwethaf. Erbyn hyn, nid oes unrhyw ddeintydd amser llawn yn y Drenewydd, y dref fwyaf yn fy etholaeth. Felly, mae'r sefyllfa'n enbyd.

Nawr, rwyf wedi clywed rhai o'r pethau a ddywedwyd heddiw yn y Siambr, a fy mhryder i yw eich bod yn parhau i gael cwestiynau gan Aelodau'r Senedd o bob plaid yma am y sefyllfa, ond beth sy'n mynd i ddigwydd? Beth y gellir ei wneud? Nawr, rwyf wedi clywed eich ymateb i gwestiwn Janet Finch-Saunders heddiw, ac rwy'n croesawu'r grant ariannol sydd ar gael er mwyn perswadio pobl i gael eu recriwtio, a'r cynnig gwledig. Rwy'n croesawu hynny, ond fel y dywedoch chi'ch hun—ac rwy'n cytuno â chi—ni allwch gonsurio deintyddion newydd dros nos. Felly, yn ogystal â hynny, rwy'n credu bod dau beth arall y mae angen eu gwneud. Mae angen inni ailedrych ar gontract y GIG, oherwydd mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Pe bai'n gweithio, ni fyddem yn y sefyllfa yr ydym ynddi. Mae angen inni atal deintyddion rhag symud o'r GIG i'r sector preifat a symud dros y ffin. Ac rydym hefyd angen cynnig i ddenu deintyddion profiadol i ddod i Gymru, yn enwedig y Gymru wledig hefyd—felly, deintyddion profiadol sy'n gweithio mewn mannau eraill yn y DU, ac mae angen cymhelliant ariannol ar gyfer hynny. Ond yn y pen draw, pryd rydych chi'n meddwl y bydd fy etholwyr, pobl sy'n byw mewn trefi fel y Drenewydd a'r Trallwng, yn gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG yn y dref lle maent yn byw?

Diolch yn fawr. Fel y gwyddoch, rydym wedi gwneud llawer iawn o waith i geisio newid y contract yn barod. Mae'n ddiddorol iawn fod Lloegr yn edrych ar newid y model sydd ganddynt oherwydd eu bod yn cydnabod bod rhaid gwneud rhywbeth yno. Felly, mae gennym y 300,000 o apwyntiadau GIG newydd wedi'u cyflawni. Rydym yn y broses o drafod contract newydd gyda deintyddion y GIG. Mae'n anodd iawn oherwydd, mewn gwirionedd, mae ganddynt ddewis—gallant fynd i weithio yn y sector preifat, ac yn aml iawn, nid oes gennym ni'r arian i gystadlu. Maent yn cael llawer mwy o ddiogelwch os ydynt yn gweithio yn y GIG, ac maent yn cael pensiynau a llawer o fudd-daliadau eraill, ond mae'n rhaid iddynt gydbwyso hynny yn erbyn yr hyn y gallant ei gael yn y sector preifat. Felly, mae'n anodd iawn i ni wneud hynny, ar adeg o gyfyngiadau ariannol tynn. Ac wrth gwrs, mae'n llawer mwy costus i rywun gael eu trin gan y GIG yn Lloegr o'i gymharu â Chymru, er ein bod wedi gorfod codi prisiau yn ddiweddar. Ac wrth gwrs, maent wedi cyhoeddi heddiw y bydd tâl o £9.90 am unrhyw bresgripsiwn yn Lloegr. Wrth gwrs, mae hynny'n rhad ac am ddim i bobl yng Nghymru, ac rwy'n falch o hynny. 

15:00
Gwella'r Ddarpariaeth Gofal Iechyd yng Ngorllewin De Cymru

5. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r ddarpariaeth gofal iechyd yng Ngorllewin De Cymru? OQ61026

Rydym yn cydnabod yr angen i wella darpariaeth gofal iechyd ledled Cymru, ac rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd i gyflawni hyn drwy 'Cymru Iachach', ein cynllun 10 mlynedd ar gyfer iechyd a gofal.

Diolch yn fawr. Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Ysbyty Treforys yn Abertawe rybudd du arall fyth oherwydd galw eithriadol. Nid dyma'r tro cyntaf i Ysbyty Treforys orfod cyhoeddi hysbysiad o'r fath. Yn wir, bu naw gwahanol ddigwyddiad rhybudd du yn ystod y 12 mis diwethaf yn Nhreforys. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid cyhoeddi rhybudd du, ond mae'r amlder a welwn yn Nhreforys yn awgrymu eu bod yn unrhyw beth ond eithriadol. Mae'n amlwg eu bod yn ei chael hi'n anodd ateb galw uchel parhaus, a gŵyr pob un ohonom pam. Mae'n digwydd am mai Llywodraeth Lafur Cymru yw’r unig un yn y DU i dorri cyllideb y GIG nid unwaith, nid ddwywaith, ond deirgwaith i gyd. Felly, onid yw'n glir i bawb fod penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i flaenoriaethu prosiectau porthi balchder fel terfynau cyflymder 20 mya a rhagor o wleidyddion yn cael effaith ddiriaethol ar ein GIG ac ar y rhai sy'n dibynnu arno fwyaf?

Rydych yn llygad eich lle—mae'r galw ar y gwasanaeth yn anhygoel. Un o'r pethau a welsom yw cynnydd enfawr yn nifer yr atgyfeiriadau i'r GIG. Yn 2019, roedd yn 1 filiwn y flwyddyn; yn 2023, 1.2 miliwn y flwyddyn. Mae hwnnw’n gynnydd sylweddol yn nifer y bobl. Nifer y bobl a gafodd brawf am ganser yn 2019 oedd 8,000. Heddiw, mae'n 14,000. Dyna gynnydd o 75 y cant. Felly, wrth gwrs, mae’r pwysau ar ein gwasanaethau'n cynyddu. Mae rhywfaint o hynny'n beth da yn yr ystyr, os ydych chi'n archwilio pobl, rydych chi'n fwy tebygol o ddal canser yn gynnar, ac mae hynny'n beth da i'r claf.

Wrth gwrs, mae angen mynd i’r afael â’r heriau hynny yn Abertawe. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud ag oedi wrth drosglwyddo gofal, felly mae angen gweithio’n llawer agosach gydag awdurdodau lleol. Ond credaf ei bod braidd yn hunanfoddhaol i edrych ar y wleidyddiaeth ffantasïol y soniwch chi amdani, Tom. Y gwir amdani yw mai eich Llywodraeth chi a chwalodd yr economi ac sydd wedi ein gadael mewn sefyllfa lle rydym yn buddsoddi llawer llai mewn iechyd o gymharu â gweddill Ewrop.

Gofal i Bobl ag Anableddau Dysgu

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu'n cael gofal priodol yn y gymuned? OQ61013

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau, lle bynnag y bo modd, fod pobl ag anableddau dysgu yn cael gofal gartref yn hytrach nag mewn ysbyty. Mater i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol yw penderfynu ar y ffordd orau o ofalu am bobl ar sail eu hanghenion clinigol a gofal unigol.

Diolch a chroeso, Weinidog. 

Cyfarfûm y llynedd â chynrychiolwyr ymgyrch Bywydau Wedi'u Dwyn, a gwn fod Sioned Williams yn y brotest yr wythnos diwethaf ar y grisiau. Ymunais â hi hefyd i siarad ag oedolion ifanc sydd wedi cael eu cadw mewn gofal am lawer gormod o amser. Maent wedi lansio deiseb o'r enw 'Stopio cadw plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn ysbytai'. Unwaith eto, rwyf bob amser yn meddwl am fy merch fy hun, sy'n naw oed eleni. Ymhen 10 mlynedd, a allai hi fod yn wynebu'r un amgylchiadau ochr yn ochr â chymaint o rieni a ddaeth i'r brotest yr wythnos diwethaf?

Rwyf hefyd wedi cyfarfod ag etholwyr i mi y mae eu mab awtistig ar hyn o bryd yn glaf mewnol yn yr uned iechyd meddwl mewn ysbyty lleol, ond a gafodd ei gadw rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ebrill 2024 mewn carchar, lle nododd staff a seicolegwyr pa mor dda yr ymatebai i strwythur a threfn bywyd yn y carchar. Rwyf wedi cyfarfod â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ofyn am sylw ac ymchwiliad i'r materion hyn. Ni waeth pa mor dda yr addasodd i'r carchar, nid wyf yn credu y dylai fod wedi bod yno yn y lle cyntaf. Byddai unrhyw un arall ar remánd wedi bod ar fechnïaeth. Mae llwyth o faterion o dan yr wyneb y credaf fod Llywodraeth Cymru yn anymwybodol ohonynt am nad yw'r system cyfiawnder troseddol wedi'i datganoli.

Felly, a gawn ni gyfarfod, a gawn ni siarad—a hoffwn estyn gwahoddiad hefyd i Mark Isherwood, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth—a chael trafodaeth am hyn? Gwn fod Sioned yn cyfarfod â chi. Yn anffodus, rwyf mewn pwyllgor y diwrnod hwnnw yn gofyn cwestiynau i'r Gweinidog addysg, ond byddwn yn gwerthfawrogi cyfle i gyfarfod â chi a thrafod hyn.

15:05

Diolch, Hefin. Hoffwn ddiolch i Hefin am godi’r mater pwysig hwn ac am dynnu sylw at achos ei etholwyr. Fel y dywedodd Hefin, rwy’n ymwybodol ei fod wedi cyfarfod ag ymgyrchwyr o ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn. Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i dalu teyrnged i fy rhagflaenydd, Julie Morgan, am ei gwaith yn y maes hwn. Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod fy mod i a Llywodraeth Cymru yn rhannu uchelgais ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn. Rydym wedi ymrwymo i leihau nifer y bobl ag anabledd dysgu y gofelir amdanynt mewn ysbyty. Erys yr egwyddor allweddol, cyn belled ag y bo’n ymarferol, y dylid gofalu am unigolion gartref, neu mor agos at eu cartrefi â phosibl, ac nad yw gwely ysbyty yn gartref. Yn wir, mae hwn yn gam gweithredu penodol yng nghynllun gweithredu strategol anabledd dysgu Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2022. Byddaf yn cyfarfod â chynrychiolwyr ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn yr wythnos nesaf, gyda Sioned Williams, ac rwy’n awyddus i glywed yn uniongyrchol ganddynt. Ac wrth gwrs, er na allaf ymwneud ag achosion unigol, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â Hefin i drafod y materion ehangach a godwyd. Rwy'n credu bod fy swyddfa eisoes wedi cysylltu â’ch swyddfa chi, Hefin, a bod dyddiadau’n cael eu trafod ar gyfer cyfarfod o’r fath. Gwn fod gwahoddiad i'r cyfarfod hwnnw wedi’i roi i Mark Isherwood hefyd, oherwydd y gwaith y mae’n ei wneud a’i ddiddordeb yn y maes hwn. Os oes Aelodau eraill, rhowch wybod i mi.

Sioned, diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn yn barod. Ddoe, bûm mewn sesiwn friffio a drefnwyd gan Anabledd Cymru ynghylch y taliadau uwch am ofal a chymorth dibreswyl. Cefais sioc o glywed, er gwaethaf sicrwydd i’r gwrthwyneb, fod llawer o’r bobl dlotaf yng Nghymru yn gorfod talu’r taliadau hyn ac yn aml yn wynebu’r dewis rhwng talu am ofal cymdeithasol a bwyd. Bydd unrhyw godiad i daliadau, heb os, yn gorfodi mwy o bobl i'r sefyllfa hon. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, a wnewch chi roi’r gorau i’r cynlluniau hyn, neu o leiaf adolygu’r cyfrifiadau isafswm incwm?

Diolch am eich cwestiwn, Altaf. Fy nghyd-Aelod Dawn Bowden sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol, felly yn sicr, rwy'n fwy na pharod i drafod y materion hyn gyda Dawn, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n cysylltu â chi hefyd.FootnoteLink

Cymorth Iechyd Meddwl Ar-lein

7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gynyddu cymorth iechyd meddwl ar-lein i bobl Islwyn? OQ61022

Diolch. Byddwn yn parhau i ddarparu cyllid parhaus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl mewn ymateb i anghenion lleol. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth ar-lein. Rydym hefyd yn ariannu cymorth iechyd meddwl ar-lein a thros y ffôn yn genedlaethol, sydd ar gael ledled Cymru.

Weinidog, a gaf i achub ar y cyfle hwn i’ch croesawu, fel cydweithiwr agos, i’ch rôl newydd ar ran pobl Islwyn?

Mae SilverCloud yn brosiect sy’n cynnig rhaglenni rhyngweithiol wedi’u cynllunio i addysgu sgiliau ymarferol ar gyfer ymdopi â materion iechyd meddwl mân i gymedrol. Mae’r gwasanaeth yn agored i unrhyw un dros 16 oed yng Nghymru, a gellir cael mynediad ato am ddim drwy unrhyw wasanaeth digidol. Mae'n torri tir newydd ac yn arloesol. Ers ei gynllun peilot ym Mhowys yn 2018, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, mae SilverCloud wedi helpu a chefnogi oddeutu 30,000 o bobl, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gefnogi pobl Gwent. Weinidog, mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu, sy'n helpu i ateb y galw cynyddol am therapi drwy gyfres gyfannol o raglenni hunangymorth ar-lein, yn seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol.

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o allu a chapasiti gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol i gefnogi a goruchwylio ei ddefnydd, gwirio dealltwriaeth a monitro cynnydd neu ddiffyg cynnydd y cyfranogwyr? Oherwydd er bod mwy o bobl yn cael mynediad at gymorth iechyd meddwl cychwynnol, y pryder posibl amlwg yw y byddai angen ymyrraeth bwrpasol a llwybrau at therapi wyneb yn wyneb dwyster uwch ar y rheini sydd â phroblemau mwy difrifol yn ystod neu’n syth ar ôl eu cyswllt â SilverCloud. Pa dystiolaeth a sicrwydd y gallwch eu rhoi i mi fod prosesau rheoli ansawdd ac asesiadau o’r fath yn cael eu cynnal?

15:10

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Rhianon, ac am eich geiriau caredig o groeso—fe'u gwerthfawrogir yn fawr iawn.

Fel y dywedoch chi, mae therapi gwybyddol ymddygiadol wedi bod yn ddatblygiad cadarnhaol iawn yn y maes hwn. Nod darparu mynediad at therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein yw atal uwchgyfeirio at gymorth mwy arbenigol. Er ei bod yn rhaglen ar-lein, fe’i cefnogir gan dîm o glinigwyr ym Mwrdd Iechyd Powys a all helpu i nodi a oes angen cymorth gwahanol neu fwy arbenigol ar unigolion sy’n cael mynediad at y cymorth drwy’r holiadur sgrinio a’r broses gofrestru. Mae ystod o wybodaeth hefyd yn cael ei chofnodi am ganlyniadau a phrofiadau, ac mae'r rhain yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod cymorth yn diwallu'r angen. Mae bwrdd iechyd Powys, sy’n arwain y rhaglen ar gyfer GIG Cymru, yn gweithio ar hyn o bryd gyda chyd-bwyllgor comisiynu'r GIG a gweithrediaeth y GIG i ddatblygu model therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein ar gyfer y dyfodol i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu a dull gweithredu mwy safonol ar waith ledled Cymru. Fel rydych chi wedi sôn, mae oddeutu 30,000 o bobl wedi cofrestru â'r gwasanaeth, gydag oddeutu 30 y cant o ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’r gwasanaeth therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein yn un o nifer o wasanaethau iechyd meddwl hawdd eu cyrchu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu’n genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys ein llinell wrando a chyngor CALL a llinell gymorth anhwylderau bwyta Beat, ac mae hyn yn rhan o’n dull o wella mynediad at gymorth.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i dynnu sylw at y ffaith bod preswylwyr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn benodol hefyd yn gallu cael mynediad am ddim at hunangymorth iechyd meddwl a llesiant meddyliol drwy wefan Melo. Mae'r wefan hon yn darparu mynediad at wybodaeth ynglŷn â sut i ofalu am eich iechyd meddwl a'ch llesiant meddyliol, yn ogystal â chyfeirio at wasanaethau eraill os oes angen cymorth. Felly, roeddwn yn awyddus i dynnu sylw at y maes penodol hwnnw.

Canolfan Gofal Iechyd Amlddisgyblaethol Newydd yng Nghaergybi

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu canolfan gofal iechyd amlddisgyblaethol newydd yng Nghaergybi? OQ61010

Dwi yn ymwybodol am y cynnig i ddatblygu canolfan iechyd a lles newydd yng Nghaergybi. Mae trafodaethau yn mynd ymlaen rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd. 

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Mae hi bron i bum mlynedd bellach ers i feddygfeydd Longford Road a Cambria orfod cael eu cymryd drosodd gan y bwrdd iechyd yn uniongyrchol. Mi unwyd y ddwy feddygfa yn dilyn hynny, ond mae'r gwasanaeth sydd wedi bod mewn bodolaeth yng Nghaergybi ers hynny wedi bod yn fregus tu hwnt. Yn ddiweddar, mi glywsom ni'r meddygon yn codi pryderon ynglŷn â chynaliadwyedd staffio yno. Mi enillon ni'r frwydr a chael yr adduned bod yna feddygfa amlddisgyblaethol newydd yn mynd i gael ei datblygu yng Nghaergybi, ond yn anffodus mae pethau wedi mynd yn dawel—does yna ddim diweddariadau wedi bod. Mae pobl Caergybi yn haeddu hyn; maen nhw angen y gwasanaeth hwn. A gaf i annog a gofyn am ymrwymiad clir gan y Gweinidog y bydd hi'n mynd ar ôl y bwrdd iechyd i sicrhau bod y mater yma'n cael ei ddilyn i fyny, a hynny'n fuan?

Diolch yn fawr. Fel rŷch chi'n ymwybodol, roedd proposal wedi dod i Lywodraeth Cymru trwy pathfinder project y cronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso yn 2022. Roedd angen lot mwy o waith arno, felly roedd rhaid i'r bwrdd iechyd wneud mwy o feasibility study ynglŷn ag opsiynau. Dwi yn meddwl bod hwn yn rhan o ddatblygiad lle rŷn ni eisiau gweld lot mwy o ffocws ar prevention ac ymyrraeth yn gynnar. Dwi yn gobeithio y bydd blaenoriaeth yn cael ei wneud trwy brosesau'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol, a bydd rhaid iddyn nhw benderfynu beth sy'n cael blaenoriaeth tu fewn i'r bwrdd iechyd. Dwi'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn gobeithio y bydd application am business case development fees yn dod trwy'r IRCF erbyn mis Medi.

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiwn amserol sydd nesaf. Mae'r cwestiwn yma i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac i'w ofyn gan Heledd Fychan.

15:15
Everest

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn ymateb i'r newyddion bod dros 100 o swyddi gyda chwmni Everest mewn perygl o'u colli yn Rhondda Cynon Taf? TQ1062

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith fydd hyn yn ei gael ar staff a’r gymuned ehangach yn Nhreherbert. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid, yn cynnwys cyngor Rhondda Cynon Taf, y Department for Work and Pensions a Gyrfa Cymru i gefnogi’r gweithwyr sy'n cael eu heffeithio drwy’r broses hon.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Yn amlwg, yn dod mor fuan wedi colli bron i 500 o swyddi yn ôl ym mis Hydref efo UK Windows and Doors, mae hyn yn newydd trychinebus i'r ardal. Yn amlwg, mae rhai o'r bobl oedd wedi’u cyflogi gan Everest wedi ffeindio cyflogaeth yn dilyn colli swyddi, ac am yr eilwaith yn wynebu dyfodol ansicr. Mae nifer o bobl hefyd gollodd eu swyddi yn ôl ym mis Hydref dal heb ffeindio swydd amgen, felly does yna ddim swyddi sydd yn talu cystal na chwaith yn yr ardal hon.

Yn amlwg, fe fuodd yna gysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni hwn rhai blynyddoedd yn ôl pan fuodd y cwmni mewn trafferth. Gaf i ofyn, felly, pa gysylltiad diweddar sydd wedi bod gyda'r cwmni er mwyn gweld a oedd posib achub y swyddi hyn? Hefyd, o ystyried bod UK Windows and Doors ac Everest wedi arwain at ddiswyddiadau mor sylweddol, pa asesiad sy'n cael ei wneud o sefyllfa cwmnïau eraill yn Rhondda Cynon Taf? A pha waith mae’ch swyddogion chi’n ei wneud i sicrhau ein bod ni ddim yn mynd i gael sioc arall fel hyn, gyda chynifer o swyddi yn cael eu colli, a’n bod ni'n gweithio er mwyn sicrhau pob swydd sydd yna’n bresennol, ond hefyd i greu swyddi mewn ardal sydd dirfawr angen buddsoddiad a swyddi sy'n mynd i gadw pobl yn yr ardal, er mwyn rhoi yr hwb economaidd i ardal lle mae lefel difreintiedig mor uchel, a lle mae'n rhaid inni gael datrysiadau?

Well, fel mae'r Aelod yn dweud, mae'r gweithlu yno, yn Everest, yn un rŷn ni wedi ei gefnogi yn y gorffennol pan oedd y cwmni o dan bwysau. Ein ffocws ni nawr yw gwneud popeth y gallwn ni i ddod o hyd i gyfleoedd gwahanol iddyn nhw, ble bynnag mae angen gwneud hynny. Rŷn ni wedi siarad gyda'r cyngor ac, fel roeddwn i'n dweud, gyda'r cyrff eraill er mwyn sicrhau ein bod ni'n cydweithio. Mae rhaglen ReAct wedi'i chychwyn i gefnogi’r unigolion sydd yn colli eu swyddi. Rwyf wedi siarad fy hunan gyda'r cynghorydd lleol, gyda Buffy Williams fel yr Aelod ar gyfer y Rhondda, ac mae fy swyddogion i hefyd wedi bod mewn cysylltiad gyda'r cwmni pan oedd e’n amlwg bod her yn codi, felly buon nhw mewn cysylltiad yn syth ar ôl inni ddarganfod bod risg.

O ran beth sydd yn digwydd yn yr economi ehangach, y drafferth yn aml yw dyw’r her ddim yn dod yn amlwg i ni fel Llywodraeth tan ei bod hi’n agos at fod yn rhy hwyr. Dyna sut mae pethau, yn aml, yn gweithio, yn anffodus. Ond rŷn ni yn gweithio’r gyda'r corporate joint committee a gyda'r cyngor i sicrhau bod y rhanbarth a dêl y rhanbarth yn ffocysu ar gynllun penodol ar gyfer y Rhondda, gan gadw mewn golwg y ffaith ein bod ni ddim yn gwybod beth a ddaw yn y dyfodol.

Mae'r northern Valleys initiative, sydd yn gynllun sydd gan y rhanbarth, a'r gronfa sites and premises—mae cyfleoedd iddyn nhw hefyd i fod yn edrych am gyfleoedd yn y Cymoedd, yn y Rhondda yn benodol, ac yn ehangach na hynny hefyd. Felly, dyna’r sefyllfa o’n safbwynt ni ar hyn o bryd.  

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddechrau drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Heledd o ran pa mor ofidus wyf i ar ran gweithwyr safle Everest, gyda chymaint o bobl wedi cael eu diswyddo, fel yr adroddwyd? Rwy’n sylweddoli bod yn rhaid bod hwn yn gyfnod pryderus iddynt hwy a’u teuluoedd, ac rwy'n gobeithio y gallant ddod o hyd i waith yn gyflym.

Yn anffodus, ymddengys y byddwn bob amser yn wynebu materion fel hyn wrth i’n heconomi addasu i ddatblygiadau technolegol a datgarboneiddio. Mae diwydiannau’n newid, ac mae ein heconomi yn gorfod ymdopi â stormydd sy’n deillio o ddylanwadau byd-eang y tu hwnt i’n rheolaeth. Yn y pen draw, mae angen inni allu darparu sgiliau i weithwyr sy’n eu galluogi i fod yn wydn yn y farchnad swyddi, ac i allu dod o hyd i waith yn gyflym pan fo amgylchiadau fel hyn yn codi. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i sicrhau bod y bobl sydd wedi colli eu swyddi ar safle Everest yn Nhreherbert yn cael gwybod am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt, i wneud cais am swyddi newydd neu i gael mynediad at hyfforddiant ychwanegol i ailsgilio, a pha gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i feithrin y gwytnwch hwnnw ymhlith gweithwyr yn y farchnad swyddi? Diolch.

15:20

Diolch i Joel James am ei gwestiwn pellach. Wel, fel y dywedodd Heledd Fychan, mae hwn yn brofiad y mae rhai gweithwyr wedi’i gael yn ddiweddar iawn hefyd, felly credaf ei fod yn peri gofid arbennig i bobl sydd wedi cael eu diswyddo unwaith ac sydd, o fewn ychydig fisoedd, yn yr un sefyllfa unwaith eto. Gwn fod llawer o bobl a oedd wedi'u cyflogi yn Everest yn y sefyllfa honno.

Yr hyn a wnawn yw sicrhau bod rhaglen ReAct, a luniwyd er mwyn darparu sgiliau a chymorth i bobl sy’n wynebu colli eu swyddi, bellach ar waith ac yn cefnogi unigolion yr effeithiwyd yn ddifrifol arnynt. Mae fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r cyngor, y gwn eu bod, pan fo'r math hwn o ddigwyddiad wedi codi yn y gorffennol, wedi bod yn rhagweithiol iawn yn sicrhau eu bod yn dod â’r holl ffynonellau cymorth perthnasol ynghyd yn y ffordd amlasiantaethol honno. Felly, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â nhw yn y cyswllt hwnnw, i'w wneud mor hygyrch â phosibl i'r gweithwyr yr effeithir arnynt. Ac fel y soniais yn gynharach, mae fy swyddogion hefyd wedi bod mewn cysylltiad â'r cwmni i dynnu sylw at y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau. Thema eleni yw 'ailddarganfod eich hun'. Nid yw’r daith i fod yn fam bob amser yn un hawdd, ac mae gormod o famau newydd yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain ac yn ansicr ble i droi am gymorth. Bydd hyd at un o bob pum mam newydd yn dioddef o anhwylderau iechyd meddwl fel iselder ôl-enedigol, ac mae llai na 15 y cant o fenywod yn cael triniaeth. Dyma pam yr hoffwn roi eiliad heddiw i dynnu sylw at y gwaith rhyfeddol sy'n cael ei wneud gan Katy a'i thîm yn Mothers Matter. Sefydlwyd Mothers Matter gan Katy yn ystod y cyfyngiadau symud ac mae'n sefydliad iechyd meddwl a llesiant meddyliol amenedigol a arweinir gan y gymuned yn fy rhanbarth i, yn Nhonypandy, sy'n ymroddedig i gefnogi mamau, tadau a’u teuluoedd cyn, yn ystod ac ar ôl genedigaeth. Maent yn darparu cefnogaeth ddiwyro i ddarpar rieni a rhieni newydd drwy gydol y cyfnodau cynnar hanfodol yn natblygiad eu plentyn, hyd at bum mlwydd oed.

Yn ddiweddar, cefais gyfle i ymweld â Katy a’i thîm yn eu canolfan rianta newydd, y gyntaf o’i bath yng Nghymru. Mae’r ganolfan yn darparu hanfodion fel cewynnau, llaeth a dillad i deuluoedd, gan gynnig cymorth i rieni mewn cyfnodau anodd yn ariannol. Yn ogystal, maent yn cynnig ystod o wasanaethau am ddim, fel cymorth cartref yn y gymuned, cwnsela unigol, grwpiau cymunedol, hybiau llesiant, grwpiau cyfeillio a dosbarthiadau addysgol. Mae'r holl wasanaethau hyn wedi'u llunio'n ofalus i fynd i'r afael â heriau iechyd meddwl amenedigol ymhlith rhieni newydd. Cafodd llawer ohonoch gyfle i ddysgu mwy am Mothers Matter a’u prosiect colli babi newydd ddoe. Ond i unrhyw riant newydd sy'n ei chael hi'n anodd, cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael, ac fel y mae tystiolaeth y rheini sydd wedi'u cefnogi gan sefydliadau fel Mothers Matter yn ei ddangos, fe all pethau wella gyda’r cymorth cywir, ac mae goleuni ym mhen draw'r twnnel.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru'

Eitem 5 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant.

Cynnig NDM8559 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau adroddiad o'r enw 'Gaeaf Cynhesach'. Fe wnaeth yr adroddiad gyfres o argymhellion i’r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i sicrhau na fyddai ac na allai cwmnïau ynni ailadrodd gweithredoedd y gaeaf blaenorol, lle cafodd miloedd o gwsmeriaid agored i niwed eu trin yn warthus—pobl yn gwthio'u ffordd i mewn i'w cartrefi a'u gorfodi i ddefnyddio dull o dalu nad oeddent wedi gofyn amdano.

Roedd rhai o’r cwsmeriaid hyn, Ddirprwy Lywydd, yn defnyddio offer meddygol gartref; roedd gan rai ohonynt gyflyrau cronig; roedd gan rai ohonynt blant ifanc iawn a theuluoedd ifanc. 'Gosod anwirfoddol' yw term y diwydiant ar gyfer gosod mesurydd rhagdalu heb gydsyniad y defnyddiwr. Gellir gwneud hyn drwy warant gan y llysoedd, neu drwy newid mesurydd deallus o bell i'r modd rhagdalu.

Ysgogwyd y pwyllgor i wneud y gwaith hwn gan ddeiseb a gyflwynwyd gan Climate Cymru, ac rydym yn ddiolchgar iddynt am ymgysylltu â’n proses. Rydym hefyd yn ddiolchgar i bawb a ddarparodd dystiolaeth ar gyfer ein gwaith, gan gynnwys ymgyrchwyr y trydydd sector, un o’r newyddiadurwyr a wnaeth gymaint i ddatgelu’r sgandal, Dean Kirby, a chynrychiolwyr y cwmnïau ynni a’u rheoleiddiwr, Ofgem. Ddirprwy Lywydd, hoffwn hefyd gofnodi ein diolch fel pwyllgor i’r cadeirydd a’r tîm cyfan yn Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot yng Nghaerdydd am ganiatáu inni lansio ein hadroddiad yn un o’u sesiynau cyngor ar ynni. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru ac i Ofgem am ddarparu ymatebion ystyriol i argymhellion y pwyllgor. Ein gobaith wrth ymgymryd â’r gwaith hwn a chynhyrchu ein hadroddiad oedd sicrhau mai i’r bobl y mae dyletswydd gyntaf cwmnïau ynni a rheoleiddiwr y diwydiant, Ofgem, nid i elw enfawr cyflenwyr ynni.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch o ddweud, ers inni ddechrau ar ein gwaith, fod rhai newidiadau wedi bod, ac er yr hoffwn yn fawr iawn weld mwy o newidiadau, mae’n bwysig cydnabod y rheini sydd wedi’u gwneud. Mae Ofgem wedi cyflwyno’r cod ymddygiad gorfodol yr oeddem am ei weld, a gallai fod wedi bod yn fwy hael, ond o leiaf mae’n rhoi rhywfaint o amddiffyniad i ddefnyddwyr. Ond wrth inni siarad yma heddiw, wrth inni gynnal y ddadl hon, gwyddom fod saith cyflenwr ynni eisoes wedi cael caniatâd i ailddechrau gosod mesuryddion rhagdalu yn anwirfoddol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Ac er gwaethaf y cod ymddygiad gorfodol newydd, gallai pobl sy'n agored i niwed yng Nghymru ddal i gael mesurydd rhagdalu gorfodol wedi'i osod yn eu cartref y gaeaf hwn, am ddim rheswm heblaw nad ydynt yn bodloni'r meini prawf llym ar gyfer eithrio. Yr hyn sy’n hanfodol nawr yw bod y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, yn parhau i fonitro’r cod ymarfer, ac yn bwysicach, yn gwneud newidiadau os nad yw pethau’n gweithio.

Mae oddeutu 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a’u prif gyflenwad trydan, a chyda dyledion ynni ledled Prydain ar y lefelau uchaf erioed, mae perygl i’r nifer honno godi hyd yn oed yn uwch. Nawr, er bod y cap ar brisiau ynni wedi gostwng ym mis Ebrill eleni, mae'n bell o fod yn ddiwedd ar yr argyfwng costau ynni. Mae prisiau ynni'n dal i fod 49 y cant yn uwch nag yr oeddent cyn i'r argyfwng ddechrau. Mae dyledion ynni ar y lefelau uchaf erioed. Mae tlodi o ran tanwydd yng Nghymru—ac mewn rhai achosion, Ddirprwy Lywydd, tlodi eithafol o ran tanwydd—wedi dod yn norm i lawer o aelwydydd incwm isel. Mae’r wers o’r sgandal hon yn glir: ni ddylem ymddiried yn y cyflenwyr i farcio eu gwaith cartref eu hunain. Dylai Llywodraeth y DU a’r rheoleiddiwr, Ofgem, fod wedi gweithredu'n gynt pan ddaeth hyd a lled y sgandal yn amlwg i lawer. Mae'r ffordd y mae cyflenwyr yn trin eu cwsmeriaid agored i niwed yn anghywir, ac fe siapiodd y ffordd y gwnaethant ymddwyn yn ystod sgandal y mesuryddion rhagdalu. Yn ystod tystiolaeth i’r pwyllgor, dyma a ddywedodd prif weithredwr un cyflenwr ynni wrth roi tystiolaeth:

'Rwy'n credu bod problem wirioneddol gennym yn y DU o hyd gyda phobl sy'n gallu talu am eu hynni ond sy'n penderfynu nad ydynt am dalu. A phe baem yn byw mewn cymdeithas lle mae pobl yn gwbl onest a lle na fyddai angen inni gael y ddadl hon, mae'n debyg na fyddem yn y sefyllfa hon. Ond mae'n broblem wirioneddol. Bob dydd, mae gennym filoedd o bobl sy'n penderfynu y byddai'n well ganddynt fynd ar wyliau yn hytrach na thalu am eu hynni, neu flaenoriaethu rhywbeth arall.'

Ddirprwy Lywydd, cefais fy syfrdanu gan y datganiad hwn gan brif weithredwr y cyflenwr penodol hwn. I mi, nid yw'n enghraifft o rywun sy’n rhedeg sefydliad sy’n deall anghenion cwsmeriaid agored i niwed yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.

Edrychaf ymlaen at glywed y ddadl heddiw, ond mae un peth yn amlwg i mi, sef bod mwy y bydd angen ei wneud yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i sicrhau nad yw Ofgem a'r cyflenwyr ynni'n llusgo'u traed. A bydd angen i bob un ohonom yn y Siambr gynnal y pwysau gwleidyddol sy'n sicrhau nad yw anghenion defnyddwyr agored i niwed yng Nghymru yn cael eu hanghofio yn y rhuthr i wneud miliynau o bunnoedd o elw. Rwy’n ddiolchgar am yr amser, Ddirprwy Lywydd; rwy’n ddiolchgar i aelodau’r pwyllgor hefyd. Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw. Diolch.

15:30

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant, am agor dadl mor bwysig a phawb a gymerodd ran yn y sesiynau tystiolaeth. Rwy'n credu bod pob Aelod ar draws y Siambr hon yn cydnabod y materion cymhleth sy'n bodoli mewn perthynas â biliau cyfleustodau a bod hyn yn cael ei gymhlethu drwy osod mesuryddion rhagdalu. Er bod yna aelwydydd a grwpiau sy'n arbennig o agored i niwed ac angen cymorth i dalu eu biliau, mae yna hefyd aelwydydd ac unigolion sy'n gallu fforddio eu biliau trydan a nwy yn ddigonol, sydd, am ryw reswm neu'i gilydd, yn dewis peidio â'u talu ac yn hytrach, yn mynd i ddyled fawr.

Er efallai nad yw hyn yn ymddangos yn broblem i rai, oherwydd eu bod o'r farn y gall cwmnïau cyfleustodau oddef colli incwm o'r fath yn hawdd, yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd yw bod y golled honno'n cael ei throsglwyddo ymlaen i dalwyr biliau eraill, sy'n sybsideiddio'r rhai sy'n gwrthod talu. Felly, mae'n dal i fod angen mesuryddion rhagdalu ac mewn rhai achosion, mae'n dal i fod angen i fesuryddion rhagdalu fod yn orfodol.

Ceir tystiolaeth y gall mesuryddion rhagdalu fod yn ffordd effeithiol o helpu i reoli cyllidebau aelwydydd, yn enwedig i'r rhai sy'n byw mewn llety a rennir neu lety rhent dros dro, am ei fod yn lleihau'r gwaith o weinyddu sefydlu cyfrifon newydd am gyfnodau byr. Ond fel y gwyddom i gyd, un o'r prif broblemau gyda hyn a chyda mesuryddion rhagdalu yw eu bod yn draddodiadol, fel y clywsom, yn codi tariff llawer uwch na debyd uniongyrchol.

Felly, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth y DU, o fis Gorffennaf y llynedd, wedi gorfodi camau i ddileu premiymau mesuryddion rhagdalu gan gwmnïau ynni, ac rwy'n credu bod hwn yn gam mawr ymlaen tuag at hyrwyddo system decach a mwy cyfiawn. Er hynny, Ddirprwy Lywydd, fel y mae'r adroddiad yn nodi, rwy'n credu bod angen dealltwriaeth fwy trylwyr o fregusrwydd unigolyn cyn gosod mesuryddion rhagdalu. Rwy'n gwybod bod cwmnïau cyfleustodau yn gwbl ymwybodol o anghenion cwsmeriaid agored i niwed ac wedi gwneud ymdrechion sylweddol i ddeall bregusrwydd a rhoi gwasanaethau ar waith i helpu i ddiwallu'r anghenion hynny. Fodd bynnag, roedd gosod mesuryddion anwirfoddol yn ystod cyfnod o bwysau chwyddiant enfawr yn sgil pandemig COVID a'r rhyfel yn Wcráin yn sylfaenol anghywir, oherwydd eu bod yn gwbl ymwybodol y byddai llawer o'u cwsmeriaid wedi bod yn agored i niwed ac yn cael trafferth talu.

Ar gyfartaledd, Ddirprwy Lywydd, mae'n cymryd tua dwy flynedd cyn i bobl sy'n wynebu anhawster ariannol ofyn am gymorth. Ac yn ystod y cyfnod hwn, maent yn aml yn gwneud penderfyniadau ariannol gwaeth mewn anobaith, a gall hyn effeithio ar eu hiechyd meddyliol a chorfforol. Rydym hefyd yn gwybod y gall bregusrwydd fod yn sefyllfa dros dro, lle mae pobl yn agored i niwed am gyfnodau byr, megis ar ôl profedigaeth neu golli swydd. Ac felly, rwy'n credu'n gryf y dylem ymdrechu i leihau, ac yn wir i ddileu'r stigma y gall pobl ei deimlo yn sgil eu bregusrwydd, ac mae angen mwy o ymwybyddiaeth o sut y gallant gael gafael ar gymorth.

O safbwynt personol, credaf fod cryn rinwedd mewn gweld cwmnïau ynni'n datblygu system a all ddiystyru mesuryddion rhagdalu ar adegau o fregusrwydd a chyflenwi trydan a nwy i gwsmeriaid, fel aelwydydd â phlant neu bobl oedrannus, yn ystod tywydd oer a misoedd y gaeaf. A byddai hyn, yn y pen draw, yn annhebygol o gostio cymaint â hynny i gwmnïau cyfleustodau. Hoffwn wybod a yw cwmnïau wedi ystyried yr opsiwn hwnnw ai peidio, oherwydd gallai fod o fudd i lawer o bobl yng Nghymru.

Rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad naill ai'n llawn neu mewn egwyddor, a chredaf ei bod yn iawn fod y cwmnïau cyfleustodau ac Ofgem yn cael eu gwthio'n barhaus ar y mater hwn, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw'n fater y credaf y bydd byth yn diflannu. Bydd gennym bob amser bobl sydd â'r anghenion hyn yn ein gwlad.

Yn olaf, hoffwn sôn am argymhelliad 3, un rwy'n ei gefnogi'n llawn. Un o'r prif bethau y mae pobl agored i niwed yn eu hwynebu yw gorfod ailadrodd eu profiadau a'u hamgylchiadau i sawl sefydliad, a byddai o fudd mawr iddynt hwy a'r darparwyr cyfleustodau pe bai ond yn rhaid iddynt esbonio'r sefyllfa un waith. Rwy'n deall bod cwmnïau dŵr wedi gwneud cryn dipyn o waith ar rannu cofrestrau â blaenoriaeth a bod treialon llwyddiannus wedi bod rhwng cwmnïau dŵr a darparwyr ynni ar gyfer rhannu'r data hwn. Rwyf hefyd yn ymwybodol, fodd bynnag, fod cyfyngiadau ynghlwm wrth reoleiddio diogelu data cyffredinol a rhannu data ac wrth gwrs, wrth ddiogelu'r wybodaeth honno rhag cael ei chamddefnyddio. Ond rwy'n credu mai dyma'r ffordd ymlaen serch hynny i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn, a byddwn yn falch o weld mwy o ymdrech gan y Llywodraeth i wthio am hyn gan gwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru. Diolch.

Diolch i'r deisebwyr am ddod â hwn gerbron a diolch i bawb a wnaeth gyfrannu tuag at yr adroddiad, a diolch hefyd i Jack Sargeant, fel Cadeirydd y pwyllgor, am gadw hwn ar yr agenda a gwneud yn siŵr ein bod ni'n dilyn drwodd ar hyn. So, diolch yn fawr i'r rheini.

Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, mae'n rhaid imi ddweud mai dyma un o'r eitemau pwysicaf sydd wedi dod ger bron y pwyllgor. Roedd casglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad yn eithaf brawychus, oherwydd po ddyfnaf yr ymchwiliwch i sgandal mesuryddion rhagdalu gorfodol, y mwyaf brawychus y bydd. Er enghraifft, syfrdanwyd y pwyllgor gan y terfyn oedran uchaf ac isaf a oedd yn atal mesurydd rhagdalu rhag cael ei osod. Er bod Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio cleifion fel rhai oedrannus os ydynt dros 65 oed, mae'r cod ymarfer ar fesuryddion rhagdalu wedi barnu mai 75 a hŷn yw'r terfyn oedran lle na chaniateir i chi osod un. Gall teuluoedd sydd â phlant cyn oed ysgol dros ddwy oed hefyd gael mesurydd wedi'i osod yn erbyn eu hewyllys. Mae hynny'n amlwg yn anghywir.

Ond ni waeth beth yw'r oedran, ni ddylid gorfodi pobl i wneud penderfyniad rhwng gwresogi a bwyta yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain. Yn anffodus, dyna sy'n digwydd mewn llawer, a mwyafrif efallai hyd yn oed, o'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli yn y Senedd. Mae'n anghyfiawnder ac yn sgandal genedlaethol. Dylai aelwydydd fod yn cael mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Gyda hynny mewn golwg, ac o gofio bod pris ynni yn dal i fod yn llawer uwch na chyn yr argyfwng, rwyf am wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r lefelau uchel o ddyled ynni. Rwyf hefyd eisiau gwybod sut y bydd yr adroddiad hwn, ochr yn ochr â chanfyddiadau adroddiad grŵp arbenigol Cymru ar yr argyfwng costau byw, yn dylanwadu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch yn fawr.

15:35

A gaf i ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Deisebau am ddod â'r adroddiad pwysig hwn i lawr y Siambr heddiw? Rwyf hefyd am gofnodi fy ngwerthfawrogiad i Gadeirydd y pwyllgor, Jack Sargeant, am ei arweinyddiaeth yn y maes hollbwysig hwn—mater o fywyd a marwolaeth i rai.

Arweiniodd ymchwiliad cudd The Times i gwmni a ddefnyddiwyd gan Nwy Prydain i fynd ar drywydd dyledion at siocdonnau ledled y Deyrnas Unedig. Canfu fod Nwy Prydain yn anfon casglwyr dyledion yn rheolaidd, i dorri i mewn yn llythrennol i gartrefi cwsmeriaid, a gosod mesuryddion rhagdalu drwy orfodaeth, hyd yn oed pan oedd yn hysbys fod ganddynt fregusrwydd eithafol a rhyngblethol. Canfu'r ymchwiliad fod asiantau wedi cael eu hanfon i mewn gan Nwy Prydain i osod mesurydd yn orfodol yng nghartref mam ifanc gyda babi pedair wythnos oed. Roedd ei biliau wedi codi saith gwaith drosodd yn ystod yr argyfwng costau byw. Am weithred sefydliadol symbolaidd a bwlïaidd.

Fel mae rhagair y Cadeirydd yn nodi, gall cael mynediad at wres a golau fod yn fater o fywyd a marwolaeth, felly rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Lafur Cymru ac Ofgem i'r adroddiad hwn, lle mae'r ddau sefydliad mewn egwyddor yn derbyn pob argymhelliad o adroddiad y Pwyllgor Deisebau, er bod Ofgem wedi bod yn araf i ymateb ac mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Mae'r cod ymarfer newydd ar gyfer gosod mesuryddion rhagdalu yn anwirfoddol yn dal i fod yn newydd, a bydd angen diwydrwydd dyladwy a gwneud asesiad o'i effeithiolrwydd. Mae gan Ofgem lawer i'w wneud hefyd, gan yr amcangyfrifir mai dim ond 1,502 o bobl sydd wedi cael iawndal, er bod dros 150,000 o osodiadau yn cael eu hasesu gan gwmnïau ynni.

Felly, Weinidog, pa gamau neu sylwadau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud i sicrhau nad asiantaethau casglu dyledion sydd i benderfynu a yw aelwyd yn agored i niwed, fod Ofgem yn monitro effaith y cod ymarfer newydd, ac ystyried gostwng yr oedran ar gyfer y categori peidio â gosod o 75 i 65 oed, a chyflwyno tariff cymdeithasol ar gyfer ynni? Cefndir y sgandal Brydeinig hon oedd yr argyfwng costau byw dinistriol, wrth i berchennog Nwy Prydain gyhoeddi £3 biliwn o elw blynyddol uwch nag erioed yn 2023. Mae Centrica, perchennog Nwy Prydain, yn gwmni FTSE 100 a welodd elw a addaswyd o £3 biliwn—yr uchaf yn ei hanes hyd yma. O dan reolaeth Llywodraeth Dorïaidd y DU yn San Steffan, mae cewri cyfalafol yn boddi mewn elw, ar draul aelodau tlotaf a mwyaf bregus cymdeithas. Felly, y ffordd gyflymaf a mwyaf diffiniol o ddod â newid radical i aelwydydd Cymru yn y maes hwn yw ethol Llywodraeth Lafur newydd yn y DU pan ddaw'r etholiad cyffredinol, Llywodraeth Lafur sy'n blaenoriaethu pobl dros elw. Diolch.

Rwy'n falch o gael y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon, achos mae tlodi tanwydd wedi bod yn un o brif feysydd ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol rwy'n aelod ohono. Ac fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, mae'r modd y mae prisiau uchel tanwydd ac arferion annheg, sydd, yng ngeiriau'r adroddiad, yn destun sgandal, wedi cyfrannu at lefelau ac effaith tlodi a'r argyfwng costau byw wedi bod yn bryder rwyf wedi ei godi'n rheolaidd yn y Senedd. A dwi ddim yn ymddiheuro am ailadrodd unwaith eto yr hyn sy'n rhoi cyd-destun i'r adroddiad yma, achos mae'r sefyllfa yn creu poen meddwl enbyd, caledi annerbyniol, ac yn achosi salwch a marwolaeth yn ddiangen. Mae'n gwbl anghynaliadwy a chywilyddus mewn gwladwriaeth sydd gyda'r mwyaf cyfoethog yn y byd.

Fel y clywon ni, mae tlodi tanwydd wedi cynyddu yng Nghymru ac yn parhau ar lefel argyfyngus o uchel, gan gynnwys 98 y cant o aelwydydd incwm isel, gyda'r biliau ynni yn dal i fod bron 50 y cant yn uwch nag oedden nhw cyn yr argyfwng ynni, ac unrhyw ostyngiad yn y cap ar brisiau wedi ei ddileu'n llwyr gan y cynnydd aruthrol mewn dyled ynni. Yn ôl Ofgem, mae'r dyled ar filiau ynni wedi mwy na dyblu dros y tair blynedd diwethaf, a gan nad yw'r nifer o aelwydydd wedi cynyddu yn yr un modd, mae'n amlwg bod y dyled hwnnw, felly, yn awr hyd yn oed yn ddyfnach. 

Ac mae'r darlun yng Nghymru yn dduach, o gofio bod y de a'r gogledd yn y tair uchaf o ran y rhanbarthau drutaf ar gyfer ynni, a'r taliadau sefydlog ar eu lefelau uchaf erioed. Ac, wrth gwrs, mae adroddiad y pwyllgor yn gosod mas y sefyllfa yn gwbl blaen—hynny yw, sut mae arferion y cwmnïau ynni wrth ymdrin â chwsmeriaid bregus sydd yn dioddef o dlodi tanwydd yn gwaethygu'r sefyllfa.

Mae nifer o'r argymhellion yn yr adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd, yn cyd-fynd â chasgliadau'r grŵp arbenigol ar yr argyfwng costau byw, a gyhoeddwyd nôl ym Medi'r llynedd, a oedd yn gofyn am fesurau brys gan Lywodraeth Cymru a San Steffan i leddfu'r argyfwng economaidd ac annhegwch oedd yn wynebu gormod o bobl Cymru. Roedd y grŵp arbenigol yn galw am bwysau gan y ddwy Lywodraeth ar gwmnïau ynni i sicrhau camau i'w cefnogi, a gweithredu ar yr arferion annheg a gwahaniaethau rhanbarthol. 

Mae misoedd lawer, felly, ers cyhoeddi'r ddau set o argymhellion hyn, a miloedd o bobl, yn anffodus, wedi dioddef drwy fisoedd oer y gaeaf rhwng hynny a nawr. Bu hefyd, fel y clywon ni, rai datblygiadau ers hynny o ran y cod ymarfer statudol newydd ynghylch gosod mesuryddion rhagdalu anwirfoddol, a fyddai'n rhan o'r amodau trwyddedu ar gyfer cyflenwyr. Ond mae'n glir bod angen gostwng y nifer o fesuryddion rhagdalu sy'n cael eu defnyddio, ac, i wneud hynny, rhaid mynd i'r afael â lefelau dyled a'r hyn sy'n arwain at i bobl fod yn y fath ddyled yn y lle cyntaf. Allwn ni ddim parhau i weld sefyllfa lle mae lefel a dyfnder y dyled hwn yn arwain at bobl yn gorfod mynd heb ynni hanfodol, ac felly'r modd o gadw'n dwym, yn lân, ac yn medru coginio bwyd.

Nod cynllun Llywodraeth Cymru 'Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035' yw sicrhau bod nifer yr aelwydydd yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn gostwng i 5 y cant erbyn 2035. Mae hynny ond ychydig dros 10 mlynedd i ffwrdd. O gofio'r ffigurau yna yr adroddais i ar ddechrau fy nghyfraniad, mae'n amlwg bod angen gwaith mawr a brys i sicrhau cynnydd. Mae mesur cynnydd yn hanfodol os ydym am gyrraedd y nod, ond er gwaethaf y ffaith bod gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth statudol i osod y targedau interim yn y cynllun, ac er gwaethaf y galwadau gan nifer o bwyllgorau'r Senedd hon i wneud hynny, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu.

Felly, hoffwn ofyn, Weinidog: pryd y bydd y targedau interim hyn yn cael eu gosod? A heb y cerrig milltir, beth sy'n gyrru'r gwaith hanfodol sydd ei angen i fynd i'r afael â'n hargyfwng tlodi tanwydd, a sut ydym ni'n mesur beth sy'n effeithiol? Hoffwn hefyd glywed beth ymhellach mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r lefelau uchel o ddyled ynni ar draws Cymru. Pryd cawn ni ddiweddariad ar waith y rhaglen Cartrefi Clyd newydd er enghraifft? Pa ymrwymiadau sydd wedi cael eu rhoi hefyd gan y Blaid Lafur yn San Steffan i sicrhau diwedd ar y taliadau sefydlog annheg y mae aelwydydd Cymru yn eu hwynebu? Diolch. 

15:40

Ni fyddwn yn dweud ei bod yn bleser cymryd rhan yn y ddadl hon, ond mae'n fraint gallu siarad ar y mater hwn. Ac rwy'n cymeradwyo Climate Cymru ac eraill am gyflwyno'r ddeiseb bwysig hon, yn ogystal â'r 'uwch-arwr tlodi tanwydd' fel y byddwn i'n ei alw, Jack Sargeant, sy'n parhau i hyrwyddo'r mater penodol hwn. Diolch yn fawr i chi.

Fe wyddom fod yr argyfwng hwn yn effeithio'n anghymesur ar ein dinasyddion mwyaf agored i niwed—y rhai mewn tai cymdeithasol, cartrefi â phlant a'r henoed. Yn frawychus, mae Cyngor ar Bopeth yn dweud bod traean o ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu Cymru wedi wynebu datgysylltiad y llynedd oherwydd costau atodol anfforddiadwy, gydag 13 y cant yn mynd dros wythnos heb gyflenwad ynni hanfodol. Felly, mae gorfodi mesuryddion rhagdalu heb fesurau diogelu yn amlwg yn torri amddiffyniadau i ddefnyddwyr ac nid yw'n diogelu ein pobl fwyaf bregus a'r rhai yr ydym yn gyfrifol amdanynt. Gyda chwe chyflenwr yn gorfodi rhagdaliad eleni, mae'n rhaid gwneud mwy i sicrhau bod llai yn wynebu datgysylltiad posibl oherwydd dyled. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru, felly, yn derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion a ddaeth o adroddiad y pwyllgor, gan gynnwys cefnogi tariff cymdeithasol hanfodol ar gyfer rhai sy'n agored i niwed a gwella cymorthfeydd cynghori, ond mae angen gweithredu mwy mentrus o hyd.

Mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU ac Ofgem, mae gwir angen gweithredu deddfwriaeth cyfreithiol rwymol, gan wahardd pob newid i fesurydd na chafwyd cydsyniad iddo a gosod mesuryddion rhagdalu, boed drwy warant neu drwy drosglwyddo i fesuryddion deallus heb gydsyniad y defnyddiwr. Yn yr un modd, er bod cyflwyno egwyddor fregusrwydd a chod ymarfer gorfodol gan Ofgem yn gamau cadarnhaol, mae eu hymateb i'r Pwyllgor Deisebau yn brin iawn o fanylion am y mecanweithiau gorfodi hynny a goruchwyliaeth i amddiffyn ein grwpiau mwyaf agored i niwed y tu hwnt i feini prawf cul Ofgem. Mae dibynnu ar hunanreolaeth cyflenwyr yn gwbl annerbyniol, gan fod ganddynt gymhellion ariannol sy'n gwrthdaro â diogelwch cadarn i ddefnyddwyr. Yn ogystal, mae caniatáu i asiantaethau casglu dyledion gynnal asesiadau bregusrwydd cychwynnol yn annerbyniol hefyd. Nid ydynt wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol ac nid ydynt yn ddigon diduedd i werthuso bregusrwydd yn iawn. Byddwn yn croesawu sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y byddwch yn gweithio gydag Ofgem i sicrhau bod y mesurau cadarn hyn ar waith.

Ond y pwynt ehangach, a godwyd gan fy nghyd-Aelod ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a Rhianon Passmore hefyd, yw sut yr awn i'r afael â phroblem tlodi o ran tanwydd. Mae'n bla ar draws Cymru gyfan. Mae tua 98 y cant o'r bobl yng Nghymru sy'n byw mewn cartrefi incwm isel yn ei chael hi'n anodd. Mae cymunedau gwledig, fel fy un i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, yn cael eu heffeithio'n anghymesur, gan eu bod yn dioddef cyfraddau tlodi tanwydd ac ynni sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Ac er fy mod yn croesawu lansiad hirddisgwyliedig y rhaglen Cartrefi Clyd, y soniodd Sioned amdani hefyd, mae flwyddyn gyfan yn hwyrach na'r disgwyl. Ac mae'r cynllun presennol i wella 1,600 eiddo y flwyddyn yn unig dros gyfnod o saith mlynedd yn gwbl annerbyniol. Mae rhai o fy staff wedi cyfrif pa mor hir y byddai hynny'n ei gymryd i fynd i'r afael â phob cartref sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru. Mae'n 130 o flynyddoedd. Bydd yn dal yno ar ein holau ni i gyd. Mae'n rhaid inni wneud mwy yn gyflymach.

Gyda'r adroddiad blynyddol diwethaf ar gyfer Nyth yn dangos bod inswleiddio yn llai na 7 y cant o'r holl fesurau effeithlonrwydd ynni a osodwyd, mae cwestiynau difrifol i'w gofyn am faint a chyflymder y newid. Er mwyn gwneud tlodi tanwydd yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol a chyrraedd ei thargedau ar gyfer 2035, mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau brys ac ymosodol ar waith i gyflymu'r rhaglen. Felly, i orffen, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa fesurau penodol a sylweddol a gaiff eu cymryd i gyflymu'r rhaglen Cartrefi Clyd a sicrhau ei bod yn cyrraedd y rhai sydd ei hangen fwyaf? Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

15:45

A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths. 

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A hoffwn ddiolch yn fawr iawn i aelodau'r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru ac am y cyfle i siarad ar ran y Llywodraeth y prynhawn yma. Gwnaeth yr adroddiad sawl argymhelliad pwysig yn unol â'n safbwyntiau polisi a'n camau gweithredu yn y maes pwysig hwn. Roedd ein hymateb i argymhellion y pwyllgor yn amlinellu'r holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwn, gan gynnwys lle nad oes gennym bwerau datganoledig, lle rydym yn parhau i ddwyn ein pryderon i sylw Llywodraeth y DU.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru godi pryderon am y system ragdalu a'r ffaith ei bod yn gwneud cam â'r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas cyn i'r sgandal dorri yn gynnar yn 2023. Ysgrifennodd fy rhagflaenydd, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt, at gyflenwyr ym mis Tachwedd 2022 a chael sicrwydd ynglŷn â'r gefnogaeth y byddent yn ei rhoi i aelwydydd yng Nghymru yn ystod gaeaf 2022-23. Fodd bynnag, er gwaethaf y sicrwydd hwnnw, gwelsom i gyd adroddiadau brawychus am gasglwyr dyledion yn torri i mewn i gartrefi i osod mesuryddion rhagdalu drwy orfodaeth. Dilynwyd hyn gan waharddiad hunanosodedig, a chyflwynodd Ofgem god ymarfer gwirfoddol. Rwy'n falch fod Ofgem wedi derbyn ein galwad i wneud ei god ymarfer gwirfoddol yn rhan orfodol o'r drwydded gyflenwi. Bellach, gall torri'r cod arwain at gamau gorfodi a dirwyon. Mae'n hanfodol fod deiliaid tai cymwys yn cael eu diogelu. Mae'r cod newydd yn gam i'w groesawu tuag at ddarparu gwell mesurau diogelu ar gyfer yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rwy'n falch fod Ofgem wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid wrth ddatblygu'r cod hwn. Rydym yn disgwyl i Ofgem fonitro cydymffurfiaeth cyflenwyr â'r gwiriadau bregusrwydd ac i weld a yw'r rheolau newydd yn mynd yn ddigon pell i ddiogelu'r rhai mwyaf anghenus.

Mae sawl Aelod y prynhawn yma wedi sôn am Ofgem, ac rwyf wedi ysgrifennu at gadeirydd Ofgem heddiw, yn gofyn iddo sicrhau bod y rheolau newydd yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Rwyf am gael cyfarfod cynnar gyda nhw. Mae yna bethau eraill sydd angen eu trafod gydag Ofgem, ac mae'r Aelodau wedi cyfeirio at y rheini hefyd. Un o'r pryderon i mi yw taliadau sefydlog. Mae yna alwad hefyd am y tariff cymdeithasol. Felly, rwy'n credu bod llawer iawn o waith y mae angen i ni ei wneud fel Llywodraeth gydag Ofgem. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw llygad barcud ar y sefyllfa, er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld ailadrodd effaith ddinistriol gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol ar ein haelwydydd bregus. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau'n gwylio'n agos iawn hefyd. Gyda'r arfer o osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol yn ailddechrau, rwy'n falch o weld adroddiad y Pwyllgor Deisebau yn argymell camau gweithredu yn unol â safbwyntiau polisi a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru.

Rwy'n credu ei bod yn werth ailadrodd y pwynt, unwaith eto, fod llawer o Aelodau wedi dweud y prynhawn yma, fod cwsmeriaid rhagdalu fel arfer ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n rhaid inni sicrhau bod mesurau diogelu ar waith i'w gwarchod, a bod cydymffurfiaeth â'r mesurau diogelu hynny. Rydym wedi galw ers tro am gyflwyno tariff cymdeithasol, a fyddai'n ffordd ychwanegol o ddiogelu'r bobl dlotaf. Fe wnaeth y Canghellor ymrwymiad ym mis Tachwedd 2022 i ddatblygu dull newydd o amddiffyn defnyddwyr erbyn mis Ebrill 2024, ac eto rydym yn gwybod na chymerwyd camau o'r fath. Mae hyn yn rhwystredig iawn ac mae wedi golygu bod aelwydydd bregus bellach wedi gorfod dioddef dau aeaf anodd gyda chostau ynni uchel iawn ers i'r ymrwymiad gael ei wneud.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf fodd bynnag, ni fu Llywodraeth Cymru'n segur. Roedd cyngor diduedd am ddim ar gael i bob deiliad tŷ drwy gynllun Nyth ein rhaglen Cartrefi Clyd, ac fe wnaethom fynd ati i gyfeirio'n weithredol at wasanaeth cynghori Nyth drwy'r ymgyrch 'Yma i helpu gyda chostau byw' y gaeaf diwethaf. Mae ein gwefan Gweithredu ar Newid Hinsawdd yn cynnwys cyngor ar y defnydd o ynni yn y cartref a bydd ein rhaglen Cartrefi Clyd Nyth newydd a lansiwyd yn ddiweddar yn parhau i gynnig cyngor arbed ynni am ddim i bob aelwyd. Ers mis Mehefin 2022, rydym wedi dyrannu bron i £4.5 miliwn o gyllid i'r Sefydliad Banc Tanwydd i gefnogi aelwydydd cymwys sy'n rhagdalu am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Mae ein cronfa cymorth dewisol wedi cefnogi dros 210,000 o unigolion gyda gwerth dros £28.9 miliwn o grantiau ers mis Ebrill diwethaf. Mae hynny'n cynnwys dros £16 miliwn mewn taliadau arian parod i gefnogi unigolion a theuluoedd sy'n fregus yn ariannol gyda chostau byw sylfaenol fel bwyd, nwy a thrydan. Mae ein cynllun Cartrefi Clyd Nyth newydd yn darparu cefnogaeth barhaol i aelwydydd tlawd o ran tanwydd.

Rydym am weld cyflenwyr ynni yn cefnogi eu cwsmeriaid sy'n ei chael hi'n anodd, nid gorfodi mynediad. Mae'n bwysig i aelwydydd sydd mewn dyled ynni gysylltu â'u cyflenwyr ynni cyn gynted â phosibl. Drwy ymgysylltu'n gynnar, gall cyflenwyr a chwsmeriaid gytuno ar gynllun ad-dalu fforddiadwy i osgoi cyrraedd pwynt lle caiff mesuryddion rhagdalu eu gosod yn anwirfoddol. Pan fo camau gorfodi'n briodol, rydym am sicrhau bod pawb sy'n profi camau o'r fath yn cael eu trin yn deg a'u bod yn cael eu hamddiffyn rhag arferion gwael. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddaf yn parhau i bwyso am gamau gweithredu sy'n cyflawni hyn. 

Rwy'n ymwybodol nad yw Ofgem yn rheoleiddio asiantaethau casglu dyledion, ond mae'n bwysig ei fod yn annog cyflenwyr i ddefnyddio asiantaethau casglu dyledion awdurdodedig ac asiantau achrededig. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw ar gyflenwyr ynni i ddefnyddio asiantau sydd wedi'u hachredu gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yn unig. Credwn fod cael trefn gasglu dyledion achrededig yn cryfhau'r amddiffyniad sydd ar gael i'n cwsmeriaid rhagdalu. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y gall cyflenwyr ynni ailddechrau'r arfer o osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol bellach, o dan y cod ymarfer sydd newydd gael ei fandadu. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl i'w chwarae o hyd yn cefnogi aelwydydd bregus, ac fel y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi dangos, rydym i gyd eisiau cyflawni'r un canlyniad: diogelu bywydau a llesiant ein haelwydydd mwyaf agored i niwed. Diolch.

15:55

Diolch yn fawr. Lywydd, roeddwn yn falch iawn o gyflwyno'r adroddiad hwn a'i argymhellion i'r Senedd ac i Lywodraeth Cymru, ac roeddwn yn falch o'r gwaith a wnaeth cyd-aelodau'r pwyllgor ar yr adroddiad pwysig hwn. Fel y dywedodd Jane Dodds, roedd hyn i gyd yn ymwneud ag amddiffyn y bobl fwyaf bregus a gynrychiolwn yn ein cymdeithas, ac mae'n bwysig gwneud hynny. Rwy'n ddiolchgar am ymateb Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma, ond rwy'n credu y dylwn gofnodi diolch y pwyllgor i'ch rhagflaenydd, Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y weinyddiaeth flaenorol, a hyrwyddodd y materion hyn ac a ymatebodd yn y ffordd y gwnaethoch chi i'r adroddiad.

Heddiw, nododd Ysgrifennydd y Cabinet fod yr argymhellion yn cyd-fynd â safbwyntiau polisi Llywodraeth Cymru, ac roedd yn dda iawn clywed eich bod wedi ysgrifennu at Ofgem i ofyn am gyfarfod cynnar gyda'r cadeirydd a'r tîm gweithredol yno, yn enwedig ynghylch taliadau sefydlog, y gwn eu bod o ddiddordeb i lawer. Ar y diwrnod y cyhoeddwyd yr adroddiad hwn, fe wnaeth Sioned Williams a minnau holi Ofgem ynghylch y mater hwnnw yn y grŵp trawsbleidiol dan arweiniad Mark Isherwood. Rwy'n credu, unwaith eto, fod mater ymrwymo i dariff cymdeithasol yn un sy'n bwysig i'r Senedd hon, ac rydym yn falch o hynny, a'ch sylwadau ar y casglwyr dyledion. Fel y dywedais yn fy nghyfraniad agoriadol, rwy'n credu na ddylai cyflenwyr ynni na chasglwyr dyledion allu marcio eu gwaith cartref eu hunain, ac mae achrediad y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yn allweddol i hynny.

Lywydd, os caf grybwyll meddyliau Joel James, a gynigiodd gyfraniad da drwy gydol y ddadl ac yn sicr y prynhawn yma, lle nododd fod y premiwm rhagdalu wedi'i ddileu ac mae hynny i'w groesawu wrth gwrs. Ond unwaith eto, soniodd am yr angen am ddealltwriaeth bellach o'r hyn yw bregusrwydd cyn gosod. Soniodd Peredur Owen Griffiths yn gwbl briodol, fel y gwnaeth eraill, am y gwahaniaeth rhwng diffiniad Ofgem a diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o fregusrwydd, sy'n eithaf syfrdanol. Mae un yn dweud 75 oed a hŷn, mae un yn dweud 65 oed a hŷn. Mae gwahaniaeth sylweddol yno, ac nid yw'n gyfyngedig i hynny.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths hefyd na ddylem orfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta, ond fel y nododd Rhianon Passmore, symudodd y ddadl heibio i hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Symudodd tuag at fywyd a marwolaeth yn ogystal â chael effaith real bob dydd ar ein hetholwyr. Soniodd Rhianon Passmore yn ei chyfraniad am iawndal, lle mae nifer o bobl sydd wedi cael eu gorfodi i dderbyn mesuryddion rhagdalu yn ystod y sgandal hon heb gael yr iawndal a addawyd. Dylai'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru ddwyn Ofgem a Llywodraeth y DU i gyfrif am hynny.

Unwaith eto, nododd Aelodau nad hwn yw'r unig adroddiad pwyllgor. Mae gweithgorau eraill, mae pwyllgorau eraill yn gwneud gwaith pwysig ar dlodi o ran tanwydd, unwaith eto er mwyn diogelu'r trigolion mwyaf agored i niwed a gynrychiolir gennym.

Fe soniaf am sylwadau Jane Dodds ynghylch Ofgem sy'n gyfreithiol rwymol. Lywydd, os caniatewch imi gefnu ar fy rôl fel Cadeirydd am eiliad a siarad yn bersonol, rwy'n cytuno â Jane Dodds ynghylch y syniad hwnnw. Mae'n rhywbeth y mae angen ei gryfhau, yn sicr.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym eu bod nhw, Llywodraeth Cymru, wedi ysgrifennu at Ofgem a chyflenwyr ynni cyn i'r sgandal hon ddigwydd, oherwydd eu bod yn sylweddoli mai dyma'r ffordd yr oedd pethau'n mynd. Ond cafodd Ofgem eu dal gan sgandal The Times, fel y nododd Rhianon Passmore. Ni ddylai hynny fod wedi digwydd, dylent fod wedi gweld yr arwyddion yr oeddem ni yn y Siambr hon ac eraill wedi eu rhybuddio yn eu cylch.

Lywydd, wrth orffen, rwyf am ddiolch eto i'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth i'r pwyllgor hwn. Rwyf am ddiolch i fy nhîm clercio, a roddodd gymorth mawr gyda'r adroddiad hwn. Ac os caf ddweud, Lywydd, mae angen i bawb ohonom yn y Siambr hon gofio'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y sgandal mesuryddion rhagdalu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ni ddylai fod wedi digwydd, ac ni allwn adael iddo ddigwydd eto. Bydd angen i bob un ohonom fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau bod cyflenwyr ynni, sy'n gwneud yr elw gwerth miliynau o bunnoedd hyn, yn diogelu ac yn gweithio ar ran pobl y Deyrnas Unedig a Chymru. Diolch.

16:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnig y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adolygiad Cass

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan.

Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adolygiad Cass. Galwaf ar Laura Anne Jones i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8563 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r adolygiad Cass a gomisiynwyd gan GIG Lloegr i wneud argymhellion ar sut i wella gwasanaethau hunaniaeth rhywedd y GIG, a dynnodd sylw at y ffaith y dylid bod yn ofalus iawn wrth ragnodi meddyginiaethau atal y glasoed a hormonau i bobl ifanc o dan 18 oed oherwydd diffyg ymchwil o ansawdd uchel i'w heffeithiau tymor hir.

2. Yn croesawu'r ffaith, oherwydd bod GIG Lloegr yn atal meddyginiaethau atal y glasoed, fod hyn wedi golygu nad oes llwybr i bobl ifanc o dan 18 oed yng Nghymru gael meddyginiaethau atal y glasoed.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) mabwysiadu argymhellion adolygiad Cass; a

b) sicrhau bod plant a'u rhieni yn cael eu cefnogi gyda chanllawiau synnwyr cyffredin, sy'n seiliedig ar ffeithiau.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy mhlaid am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac rwy'n gwneud ein cynnig yn enw Darren Millar.

Mae'n warthus, mewn gwirionedd, yn dilyn pythefnos o ofyn am ddatganiad llawn i'r Siambr hon a chael y ceisiadau hynny wedi eu gwrthod gan y Llywodraeth, yn ogystal â chael cwestiwn amserol wedi'i wrthod, er gwaethaf pwysau canfyddiadau adolygiad Cass, parhaodd y Llywodraeth Lafur Cymru i gladdu eu pennau yn y tywod yn enw ideoleg. Bu'n rhaid i'r Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno dadl heddiw, Ddirprwy Lywydd, er mwyn gorfodi Llywodraeth Cymru i roi datganiad llawn i ni o'r diwedd ac ymrwymiad, gobeithio, i adolygu ei pholisïau a'i chynlluniau yng ngoleuni canfyddiadau'r adroddiad pwysig gan Dr Cass, a ganfu fod gofal rhywedd y GIG i blant wedi bod yn seiliedig ar dystiolaeth wan.

Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i ddiogelu iechyd a lles pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, ac fel mam, rwyf i, yn un, o ddifrif ynghylch y cyfrifoldeb hwnnw. Dyna pam ei bod mor hanfodol trafod hyn heddiw a bod y Llywodraeth yn gweithredu. Nid yw hyn yn ymwneud â sgorio pwyntiau gwleidyddol na rhyfeloedd diwylliant—rwy'n gweld hwnnw'n ymateb hynod siomedig a gwan i bwysigrwydd trafod y rhai sy'n aml yn fwy agored i niwed na ni ein hunain efallai. Mae'n ddyletswydd arnom i gymryd y cyfrifoldeb hwn a pheidio â chwarae gemau ag ef.

Cafodd adolygiad Cass i wasanaethau hunaniaeth rhywedd GIG Lloegr ar gyfer plant a phobl ifanc ei gyhoeddi fis diwethaf. Daeth i'r casgliad fod plant sy'n ddryslyd ynglŷn â'u rhywedd wedi cael cam yn sgil diffyg ymchwil a thystiolaeth. Canfu ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgol Efrog a gyflawnwyd ochr yn ochr â'r adroddiad fod tystiolaeth o effaith meddyginiaeth atal y glasoed a thriniaethau hormonau yn ddifrifol o brin, a chanfuwyd nad oedd mwyafrif y canllawiau clinigol wedi dilyn safonau rhyngwladol.

Fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr hon, y tro cyntaf imi dynnu sylw at fy mhryderon gwreiddiol am adolygiad Cass oedd pan welsom yr adroddiad interim, ond yn anffodus, syrthiodd hwnnw ar glustiau byddar. Fe wnaethom alw am adolygiad penodol i Gymru, ac eto mae'r Llywodraeth hon wedi bwrw ymlaen ar ei llwybr ideolegol ac wedi penderfynu gwneud dim. Yna rhyddhawyd adroddiad terfynol Dr Cass, y mae ei ganlyniad wedi troi pennau ac ysgwyd rhai sefydliadau i'w craidd. Mae'n bwysig parhau i ailadrodd bod y canfyddiadau hyn yn hynod arwyddocaol i Gymru yn ogystal â Lloegr, ac mae'r Llywodraeth hon yn gwbl ymwybodol o hynny.

Mae ein llwybrau rhywedd yng Nghymru, fel y gwyddoch, yn dod i ben yn Lloegr, dan reolaeth GIG Lloegr a GIG Cymru, dan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a'r unig wahaniaeth yw bod Llywodraeth y DU wedi cynnal dadl a chyflwyno datganiad ar hyn ac wedi cymryd camau pendant eisoes i ddiogelu plant a phobl ifanc. Mae'n hanfodol fod pob plentyn sy'n cael trafferth gyda dysfforia rhywedd yn cael mynediad at y driniaeth gywir a thriniaeth ddiogel.

Yn ôl yn 2009, ychydig iawn o bobl a fyddai wedi clywed am hunaniaeth rhywedd hyd yn oed, a byddai llai fyth yn gwybod bod gwasanaeth iechyd Cymru wedi dechrau gwneud atgyfeiriadau at wasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd y GIG yn Lloegr, a leolir yn Tavistock—sy'n enwog nawr am yr holl resymau anghywir—sef yr unig glinig rhywedd arbenigol i bobl ifanc yng Nghymru a Lloegr. Cafodd 9,000 o gleifion ifanc driniaeth yn y gwasanaeth sydd bellach wedi cau. Datgelodd ymchwiliad gan gwmni cyfryngau Cymreig y gallai 230 o bobl o Gymru a gafodd driniaeth yno gael eu hargymell i gymryd rhan yn yr astudiaeth o'r canlyniadau hirdymor i gleifion sy'n derbyn gofal rhywedd ar oedran mor ifanc. Hoffwn glywed mwy o fanylion gan y Llywodraeth ar hyn heddiw.

Yn 2009, cafodd yr ymddiriedolaeth lai na 60 o atgyfeiriadau ar gyfer plant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru a Lloegr, ond cynyddodd y galw'n fawr, ac erbyn 2022, roedd mwy na 5,000 o blant a phobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio at glinigau hunaniaeth rhywedd a oedd wedi ymddangos ledled Lloegr. Beth oedd yn digwydd? O ble y deuai'r galw? Pam fod tri chwarter yr atgyfeiriadau hyn yn fenywod? Pam fod cynifer o blant? Ers blynyddoedd, mae rhieni, athrawon, clinigwyr, grwpiau hawliau menywod ac eraill yn y DU wedi ymgyrchu i ofyn y cwestiynau hyn a mwy.

Yng Nghymru, roeddent yn aml yn cael eu tawelu—roedd gweithwyr proffesiynol a rhieni fel ei gilydd yn cael clywed bod eu hofnau'n ddi-sail, yn rhagfarnllyd a hyd yn oed yn atgas. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru anwybyddu pryderon a gwreiddio'r egwyddorion hyn yn eu cynlluniau swyddogol a'u cwricwlwm ysgol eu hunain. Diolch i waith grwpiau fel Merched Cymru, rydym bellach yn gweld yr effaith yng Nghymru. Mae yna blant sydd wedi dechrau ar y daith i newid eu rhywedd mewn ysgolion heb gydsyniad rhieni, ac mae hyn yn dal i ddigwydd mewn ysgolion yng Nghymru heddiw. Diolch i adolygiad Cass, mae gennym atebion clir i'r cwestiynau a ofynnwyd ers blynyddoedd lawer, ac mae'n bryd bellach i lunwyr polisi ymateb.

Mae'r adroddiad 398 tudalen yn tynnu sylw at beryglon presgripsiynu meddyginiaethau atal y glasoed heb eu trin ac na ellir eu gwrthdroi i bobl ifanc. Canfu'r adroddiad nad yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi gofyn y cwestiynau cywir; yn hytrach, maent wedi ceisio lledaenu ideoleg wleidyddol beryglus ar draul diogelu a thystiolaeth, yn hytrach na lleddfu gofid seicolegol, sef yr hyn y dylem i gyd fod eisiau ei gyflawni. Mae'n dod i'r casgliad ei bod yn amlwg fod methiannau sylweddol wedi bod yn ein gwasanaethau gofal iechyd i ddiogelu'r cleifion mwyaf agored i niwed.

Mae adolygiad Cass hefyd yn rhybuddio athrawon i beidio â gwneud penderfyniadau cynamserol sy'n glinigol i bob pwrpas am y plant y maent i fod i'w diogelu. Mae'n glir yn ei ganfyddiadau fod trawsnewid cymdeithasol mewn ysgolion yn rhagflaenydd i ymyrraeth feddygol na ellir ei gwrthdroi, ac eto yma yng Nghymru mae ymagwedd gadarnhaol tuag at ddysfforia rhywedd yn cael ei blethu drwy god a chanllawiau addysg cydberthynas a rhywioldeb gorfodol Llywodraeth Cymru ei hun.

Felly, beth sydd angen digwydd? Yn gyntaf, mewn ysgolion, mae Llywodraeth y DU yn datblygu ei chanllawiau trawsryweddol ei hun, a bydd yn ystyried y canfyddiadau diweddaraf hyn nawr. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i dynnu ei chanllawiau ei hun ar gyfer ysgolion yn ôl ar unwaith a chynnal adolygiad ohonynt. Rhaid i'r Llywodraeth hon hefyd dynnu elfennau perthnasol gorfodol o'r cwricwlwm cydberthynas a rhywioldeb ar rywedd a hunaniaeth rhywedd yn ôl i'w hadolygu. Yn yr un modd, rhaid cyfarwyddo ysgolion yng Nghymru i gynnal adolygiad brys o ddeunyddiau, gweithgareddau a pholisïau sy'n berthnasol i addysg cydberthynas a rhywioldeb a chanllawiau ar gyfer disgyblion trawsryweddol; rhaid iddynt fod yn ganllawiau cywir. Rhaid inni sicrhau bod plant a'u rhieni'n cael eu cefnogi gan ganllawiau sy'n seiliedig ar ffeithiau a synnwyr cyffredin, fel y mae ein cynnig yn galw amdano.

O ran iechyd, mae GIG Lloegr hefyd wedi gwneud penderfyniad pwysig i atal presgripsiynu rheolaidd ar gyfer meddyginiaethau atal y glasoed i blant â dysfforia rhywedd. Cyhoeddodd y byddai hefyd yn atal pobl ifanc dan 18 oed rhag cael mynediad at wasanaethau rhywedd oedolion ac mae wedi galw am adolygiad brys o bolisi clinigol ar hormonau trawsrywiol. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi saib ar feddyginiaethau atal y glasoed i blant. Mae'r ddau beth yn digwydd ar unwaith ac yn ddi-oed. Eich tro chi nawr, Lywodraeth Cymru, er nad wyf am ddal fy ngwynt, oherwydd mae eich gwelliant yn dileu popeth ac ond yn nodi, heb unrhyw gamau gweithredu i'w gweld o gwbl, sy'n gywilyddus, oherwydd mae pobl Cymru eisiau gweld gweithredu ar hyn. Rhaid i GIG Cymru gynnal adolygiad ar unwaith, fel y gelwir amdano ym mhwynt 4 ein cynnig.

Yn drydydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried opsiynau ar gyfer datblygu gwasanaeth i bobl ifanc yng Nghymru yn ei chynllun gweithredu LHDTC+, a lansiwyd ym mis Chwefror 2023. Rwyf wedi clywed gan gyd-Aelodau, gweithwyr proffesiynol a rhieni ledled Cymru sy'n pryderu'n fawr ynglŷn ag ymrwymiad o'r fath i ehangu'r gwasanaeth rhywedd i oedolion, rhywbeth a oedd y tu allan i gwmpas adolygiad Cass ar gyfer GIG Lloegr, sy'n peri pryder, a hoffem wybod, ar y meinciau hyn, beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hynny i ddiogelu'r bobl hyn. Hefyd, mae pryderon ynghylch datblygu'r gwasanaeth i bobl ifanc dan 18 oed. Byddai gwneud hynny nawr, yng ngoleuni adolygiad Cass, yn anghyfrifol, yn enwedig heb newid cyfeiriad sylweddol gan y Llywodraeth hon.

Mae'n amlwg fod angen adolygu cynllun gweithredu LHDTC+ y Llywodraeth hon, ac mae'r Senedd hon angen amserlen ar gyfer hyn. Ymateb Llywodraeth Cymru hyd yma distawrwydd llwyr. Beth rydych chi'n ei ofni? Mae'n rhaid ichi weithredu ar hyn. Mae hon yn sgandal genedlaethol sy'n datblygu o'n blaenau. Dim ond un peth sydd wrth wraidd comisiwn Cass: datblygu pobl ifanc i ffynnu a chyflawni eu huchelgeisiau. Mae pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu hynny. Yr athrawon, y rhieni—

16:05

Mae angen ichi ddod i ben nawr. Rydych wedi defnyddio eich dyraniad agor a chloi, ac nid oes amser ar gyfer eich Aelod sy'n cloi.

Mae'n ddrwg gennyf. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd—. Gallwn siarad am yr hanner awr gyfan, ond ni wnaf.

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU wedi addo gweithredu effeithiol ar frys. Dywedodd y bydd hi'n gweithio'n agos gyda GIG Lloegr i gael gwared ar yr ideoleg sydd wedi achosi cymaint o niwed diangen. Fy nghwestiwn i yw a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny. Mae gan bawb yn y Siambr hon gyfrifoldeb i ddiogelu—

—ac amddiffyn plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r plant hyn yn haeddu gwell, ac rwy'n gobeithio y gall pawb gefnogi ein cynnig heddiw.

Os caf nodi'r pwynt, mae'r Aelod wedi defnyddio'r holl amser a ddyrannwyd i'r grŵp Ceidwadol ar gyfer yr eitem benodol hon. Byddaf yn rhoi munud o amser ychwanegol i'r Aelod sy'n cloi, ond os gwelwch yn dda, pan fyddwch chi'n llunio dadleuon 30 munud, mae gennych amser wedi'i ddyrannu ac mae'n rhaid ichi rannu hwnnw rhwng agor a chloi. Mae'n bwysig cofio hynny, os gwelwch yn dda.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

16:10

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyhoeddi adolygiad Cass.

2. Yn nodi bod y GIG yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc 17 oed ac iau gan y GIG yn Lloegr.

3. Yn nodi bod y GIG yn Lloegr wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch nac effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed ar gyfer trin dysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc ar hyn o bryd.

4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu'r canllawiau trawsrywedd ar gyfer ysgolion, gan ystyried adolygiad Cass a barn rhanddeiliaid.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at absenoldeb gwasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol cynhwysfawr yng Nghymru.

Yn credu bod pob unigolyn, beth bynnag fo'u hunaniaeth rhywedd, yn haeddu parch, dealltwriaeth a mynediad at wasanaethau cymorth a gofal iechyd priodol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y flaenoriaeth i Blaid Cymru wrth drafod y mater hwn—ac fe ddylai fod i ni i gyd—yw bod lles ein plant a'n pobl ifanc, eu barn a'u profiadau, yn gwbl greiddiol ac yn ganolbwynt i'w gofal, ac unrhyw newid i'r gofal hwnnw. Rydym ni fel plaid yn cydsefyll yn gadarn gyda phobl draws o bob oed sydd wedi dioddef yn enbyd dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil cael eu defnyddio gan rai gwleidyddion a sylwebwyr fel arf mewn rhyfel diwylliant, a does dim gwadu hynny. Mae'n gwbl warthus ac yn gwbl annerbyniol. Mae ein gwelliant ni yn tynnu sylw at y ffaith bod angen gwell cefnogaeth ar bobl ifanc yng Nghymru o ran gwasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol, ac rŷn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru.

Mae'r adolygiad ei hun yn nodi bod angen gwell dealltwriaeth o'r gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl ifanc, ac yn tynnu sylw at ddiffyg mynediad cyfartal pobl ifanc dros Gymru i wasanaethau rhywedd. Yng Nghymru, mae absenoldeb gwasanaethau rhywedd arbenigol ar gyfer ein pobl ifanc yn rhwystr i gymorth amserol a phriodol i bobl ifanc, a heb y mynediad hwnnw, mae'r unigolion hyn mewn perygl o brofi niwed corfforol a seicolegol. Ac nid mater o fynd i'r afael ag anghenion uniongyrchol yn unig yw sefydlu'r fath wasanaeth; mae'n fuddsoddiad yn llesiant a gwytnwch ein hieuenctid, ac felly ein cymunedau, i'r dyfodol. Trwy ddarparu cymorth amserol a phriodol, gallwn rymuso pobl ifanc i lywio eu taith hunaniaeth rhywedd gyda hyder a chyda urddas. 

At hynny, mae gwasanaeth hunaniaeth rhywedd penodol ar gyfer pobl ifanc yn cyd-fynd ag ymrwymiad ein cenedl i gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'n anfon neges bwerus bod pob unigolyn, waeth beth fo'i hunaniaeth o ran rhywedd, yn haeddu parch, dealltwriaeth a mynediad at wasanaethau cymorth a gofal iechyd. Ein gôl ni oll ddylai fod helpu ein pobl ifanc i ffynnu. Rhaid i bob cynrychiolydd warchod rhag creu rhagfarn yn eu herbyn, ond yn hytrach meithrin diwylliant a chymdeithas sy'n amlygu agweddau cynhwysol, goddefgar a thrugarog ac sy'n dathlu ac yn annog amrywiaeth.  

Mae Plaid Cymru yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, ond hoffwn godi y pwyntiau penodol canlynol. Mae yna achosion o bobl ifanc yng Nghymru yn hunan-niweidio yn sgil methu cael y gofal maen nhw ei angen a'r gefnogaeth sydd angen arnyn nhw i drawsnewid. Felly, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y bobl ifanc yma a'u teuluoedd nawr yn cael eu cefnogi—y rhai sy'n aros i gael mynediad i wasanaethau, y rhai sydd wrthi yn derbyn gwasanaethau a'r rhai sydd wedi gweld eu mynediad at rai triniaethau yn cael ei atal?

Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau nad yw'r adolygiad yn cael ei gamddefnyddio fel arf yn erbyn y gymuned draws, a phryd yn union bydd y canllawiau i ysgolion y sonnir amdanynt yn y gwelliant yn cyrraedd athrawon? Mae hwn yn fater rwyf wedi codi sawl tro yn y Siambr, ac mae'n fater brys er mwyn sicrhau bod ein staff ysgol—

—yn teimlo'n hyderus ac wedi eu hymgrymuso i gefnogi disgyblion, yn enwedig yn wyneb yr ymateb tocsig ac adweithiol ac weithiau camarweiniol sydd wedi datblygu yn sgil cyhoeddi'r adroddiad. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gytuno gyda fi mai trwy gefnogi ein pobl ifanc drwy'n hysgolion, a thrwy sicrhau mynediad i wasanaethau o safon uchel yn brydlon ac yn eu gwlad eu hunain, y gallwn warchod hawliau ac urddas pawb yn gydradd a chyrraedd nod ein dwy blaid—

'Rydym mewn oes lle gall deimlo fel pe baem dan ymosodiad, a bod ein hawliau mewn perygl o gael eu colli: boed hynny o gwmpas y byd neu'n anffodus, ychydig yn nes adref, gyda Llywodraeth Geidwadol bresennol y DU yn mynd ar drywydd safbwynt ymddangosiadol anflaengar ar hawliau LHDTC+. Mae yna ymdeimlad o hanes yn ailadrodd ei hun, o iaith ddifenwol, ofn ac aralleiddio wedi'i dargedu at y gymuned draws...pethau y mae llawer ohonom ond yn rhy gyfarwydd â nhw.'

Dyna mae Hannah Blythyn yn ei ddweud yn ei rhagair i'r cynllun gweithredu LHDT. Nid Laura Anne Jones yw'r unig un sy'n mabwysiadu agwedd feseianaidd at unrhyw beth sy'n ymwneud â hunaniaeth rhywedd, ac mae'n ddrwg gennyf, rydych chi wedi methu deall mai mynd ar drywydd rhyfel diwylliant o'r math hwn yw'r hyn sy'n gwneud rhai clinigwyr yn ofnus rhag gweithio gyda phobl sy'n cwestiynu eu rhywedd. Nid yw ymdrin â'r mater hwn fel pe na bai'n bodoli o unrhyw ddefnydd o gwbl.

16:15

Fe ddywedodd Cass:

'Mae ein dealltwriaeth bresennol o effeithiau hirdymor ymyriadau hormonau yn gyfyngedig ac mae angen eu deall yn well.'

Gall hynny fod yn wir, ond mae'r dybiaeth y dylai hynny drosi'n waharddiad ar unwaith ar feddyginiaethau atal y glasoed, a groesawyd gan y cynnig Torïaidd, gryn bellter o fod yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol gadarn. Mae ystod eang o farn glinigol ac academaidd ryngwladol yn cwestiynu'r safbwynt hwnnw. Os yw'r dystiolaeth yn wan, efallai y bydd angen inni oedi'r gwasanaeth, fel yn yr Alban, inni gael edrych arno ymhellach. Ond i blentyn sy'n teimlo ei fod wedi cael ei eni yn y corff anghywir, mae'n anochel fod gorfod mynd drwy'r glasoed yn gwaethygu eu dysfforia rhywedd.

Golygodd cau'r gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd cenedlaethol yn Llundain fod y gwasanaeth a gomisiynwyd gan Gymru i bobl dan 18 oed wedi dod i ben yn sydyn. Roedd Cass wedi tybio y byddai'n arwain at ddatblygu cyfres o wasanaethau rhanbarthol a lleol. Nid yw hynny wedi digwydd—a gellir gweld cysylltiad â'r synau rhyfel diwylliant sy'n dod o gyfeiriad Llywodraeth y DU a mannau eraill. Ni allwn dderbyn dull 'ar gyfer Cymru, gweler Lloegr'. Mae angen inni ddatblygu ein gwasanaeth hunaniaeth rhywedd plant a phobl ifanc ein hunain yn gyflym fel y rhagwelwyd yn y cynllun gweithredu LHDTC, gan adeiladu ar ein gwasanaeth rhywedd Cymreig i oedolion sydd wedi hen ennill ei blwyf, ac a fu'n weithredol dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae'r grŵp cyfeirio clinigol yn rhybuddio bod:

'plant a phobl ifanc yn aros am gyfnodau hir i gael mynediad at y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd, ac yn yr amser hwnnw gallai rhai fod mewn perygl sylweddol. Erbyn iddynt gael eu gweld, efallai fod eu gofid wedi gwaethygu, a'u hiechyd meddwl wedi dirywio.'

Ni all hyn barhau. Rhaid inni weithredu'n briodol i ddarparu'r gwasanaeth sydd ei angen ar blant a phobl ifanc i allu ffynnu.

Mae'n gwbl briodol fod y ddadl hon yn cael ei chynnal yn y Senedd yma heddiw, oherwydd er bod adroddiad adolygiad Cass wedi'i gyflwyno i GIG Lloegr, mae'n cael effaith enfawr arnom yma yng Nghymru, oherwydd dros y blynyddoedd mae cannoedd o blant o Gymru, a gynrychiolir gennym, wedi cael eu hanfon i Loegr, i'r gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd, a elwir hefyd yn glinig Tavistock. Er enghraifft, yn 2022 anfonwyd dros 150 o blant yno. Ac yn ystod eu hamser yno, gwyddom fod y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd yn rhoi meddyginiaethau atal y glasoed i bobl ifanc agored i niwed, ac fel y canfu adolygiad Cass, roedd y dystiolaeth i gefnogi meddyginiaethau atal y glasoed yn 'rhyfeddol o wan', yn eu geiriau nhw. Nid oes digon yn hysbys am effeithiau mwy hirdymor meddyginiaethau atal y glasoed i blant a phobl ifanc i allu gwybod a ydynt yn ddiogel ai peidio. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf yn mynd i dderbyn, Jenny Rathbone. Fe wnaethoch chi wrthod fy nghyd-Aelod. 

Daw hyn ar ôl rhaglen ymchwil systematig, annibynnol Prifysgol Efrog, fel rhan o'r adolygiad, sef y gwaith mwyaf a mwyaf cynhwysfawr a wnaed ar y mater, ac rwy'n credu y dylid bod o ddifrif yn ei gylch. Felly, yn blwmp ac yn blaen, roedd y plant hynny'n destun ymyrraeth feddygol gyda chanlyniadau anhysbys, a nhw yw'r plant a gynrychiolir gennym o un diwrnod i'r llall. Yn sicr, ni fyddwn am i fy mhlant i gael eu hanfon i amgylchedd gyda'r fath ansicrwydd ac arbrofi, felly ni allaf gyfiawnhau hyn ar gyfer plant eraill yng Nghymru.

Roedd, ac mae'r plant hyn ymhlith y mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac maent yn cael cam gan system a chan oedolion drwy gyfres o ganlyniadau anhysbys, sydd i mi yn gwbl annerbyniol. Yr hyn sydd ei angen ar blant yn y sefyllfa hon yw gofal priodol a chymorth iechyd ac nid arbrofi meddygol gyda'r fath effeithiau hirdymor anhysbys.

Ac mae gofal priodol hefyd yn golygu nad yw rhieni'n cael eu gwthio i'r cyrion mewn penderfyniadau. Yn fy marn i, mae'n beryglus iawn ac yn amheus pan fydd oedolion yn y sefyllfaoedd hyn yn ceisio dileu cyfranogiad rhieni o fywydau eu plant. Gadewch inni gofio mai rhieni yw prif ofalwyr y plant, ac mae angen iddynt gael rhan yn hyn, a bod yn wybodus ac i fod yn wneuthurwyr penderfyniadau mewn unrhyw ymyrraeth feddygol. Felly, mae cefnogaeth ac addysg i rieni yr un mor bwysig ag ar gyfer y plant y maent yn gofalu amdanynt.

Felly, rwy'n gofyn i ni yn yr ystafell hon heddiw, a ydym yn cytuno ag adroddiad Cass fod plant â dysfforia rhywedd yn haeddu llawer gwell na'r ffordd y cânt eu trin ar hyn o bryd ai peidio? Ac a yw'r plant hyn yn haeddu ymyriadau priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, neu a ddylid parhau i roi cyffuriau iddynt sydd ag effeithiau hirdymor anhysbys? Efallai mai un o fy etholwyr a ysgrifennodd ataf yr wythnos hon a ddisgrifiodd hyn orau: 'Mae plant sy'n ddryslyd ynglŷn â'u rhywedd angen gofal yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio a beth sydd orau i'r plentyn yn y tymor hir. Mae angen i ofal fod yn seiliedig ar ffeithiau yn hytrach nag ideoleg ac emosiynau, a gofal nad yw'n achosi niwed iddynt neu'n atal eu hanghenion, sy'n aml yn gymhleth, rhag cael eu harchwilio.' Dylem anfon neges heddiw a fydd yn dilyn y wyddoniaeth ac a fydd yn rhoi diogelwch a llesiant plant yn gyntaf drwyddi draw. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Rwy'n mynd i siarad am y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, sy'n nodi bod

'y GIG yn Lloegr wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch nac effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed ar gyfer trin dysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc ar hyn o bryd.'

Mae Dr Hilary Cass yn ei hadolygiad o wasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant yn nodi: 

'Nid yw pegynnu a mygu dadl yn gwneud dim i helpu'r bobl ifanc sy'n cael eu dal yng nghanol trafodaeth gymdeithasol stormus',

ac maent angen ac yn haeddu gwell. Mae angen inni ddileu'r gwenwyn yn y ddadl hon a'r modd y caiff ei gwleidyddoli. Nid yw'n helpu neb, ac yn sicr nid yw'n help o gwbl i'r holl bobl ifanc sy'n wynebu'r pethau hyn. 

Dylai'r Siambr hon fod yn fan lle gellir mynegi pob safbwynt rhesymol, ac ni ddylid canslo neb mewn democratiaeth am ddatgan safbwynt a arddelir yn onest ac nad yw'n rhagfarnllyd. Rwy'n ffeminist frwd ac yn hyrwyddo hawliau menywod—rwyf wedi gwneud hynny ar hyd fy oes—ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder i bawb. Ac mae'n adlewyrchu'n wael ar ein democratiaeth a'n holl bobl pan nad ydym yn gallu rhannu safbwyntiau gonest y bydd dinasyddion cyffredin sy'n byw eu bywydau o ddydd i ddydd heddiw yn eu rhannu.

Fel y dywedodd arweinydd Plaid Lafur y DU, Keir Starmer ddoe, mae'r Blaid Lafur wedi hyrwyddo hawliau menywod ers amser maith iawn. Mae'n bwysig pwysleisio mewn cyd-destun Cymreig fod GIG Cymru yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd, fel y dywedwyd, ar gyfer plant a phobl ifanc 17 oed ac iau gan GIG Lloegr. Dywed Dr Cass fod meddygon a allai fod fel arall wedi trin pobl ifanc sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd ar gyfer iselder neu anhwylderau ar y sbectrwm awtistig wedi teimlo bod gorfodaeth arnynt i'w cyfeirio at y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd sy'n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Tavistock and Portman, ac sydd bellach wedi'i gau.

Canfu Dr Cass nad oedd tystiolaeth dda dros gefnogi'r arfer clinigol cyffredinol o bresgripsiynu hormonau i bobl dan 18 oed i atal y glasoed neu drawsnewid i'r rhyw arall. Archwiliodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Efrog yr holl dystiolaeth sydd ar gael—yr holl dystiolaeth sydd ar gael—ar sut i drin plant sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd. Daethant i'r casgliad fod tystiolaeth i gefnogi ymyrraeth feddygol yn gwbl annigonol, gan ei gwneud yn amhosibl gwybod a yw'n gwella iechyd meddwl neu gorfforol. 

Mae adolygiad Cass wedi'i ymchwilio'n dda ac mae'n seiliedig ar dystiolaeth. Felly, Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i bawb ohonom yn y Siambr hon ddangos arweinyddiaeth ac empathi tuag at eraill a deall yn llawn fod troi materion mor gymhleth a chynhennus yn erthyglau ffydd mewn rhyw fath o ryfel diwylliant, sydd mor aml yn cael ei fwydo gan ryfelwyr bysellfwrdd ar-lein, yn anghywir, ac mae hynny'n gwneud cam â phawb. Diolch.  

Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn tynnu'r gwenwyn allan o'r ddadl hon ac yn rhoi'r tosturi yn ôl i mewn. Mae'n rhaid i hynny fod yn ganolog i'r ffordd yr ydym yn ei drafod, a'r drafodaeth y mae'n rhaid inni ei chael gyda'r gymuned drawsryweddol, yn allweddol, ac yn cynnwys pobl ifanc draws. Bu ymgais—. Nid wyf yn amau proffesiynoldeb a chywirdeb Dr Hilary Cass am un funud, ond fe fu ymgais i arfogi'r adroddiad hwn, ac i honni'n hollol wallus ei fod yn cynrychioli rhyw fath o fuddugoliaeth a chyfiawnhad mewn rhyfel diwylliant? Mae hynny'n gwneud cam enfawr â phobl ifanc drawsryweddol. Mae Dr Cass ei hun wedi gofyn am barch, dealltwriaeth a thosturi, yn enwedig i bobl ifanc drawsryweddol, yn y ffordd yr awn ati i ymdrin â hyn, ac mae hynny wedi cael ei anwybyddu ac mae'n rhaid iddo ddod i ben. Ac rwy'n dweud hyn hefyd: mae'r cam-drin a'r bygythiadau y mae Dr Hilary Cass wedi'u hwynebu yn anghywir, ac felly hefyd y cam-drin a'r bygythiadau a gyfeiriwyd tuag at bobl sy'n feirniadol neu sydd â chwestiynau dilys am adolygiad Cass. Felly, gadewch inni ddod â hynny i ben a chael trafodaeth briodol, barchus, ddeallus a thosturiol.

Rwy'n credu bod llawer o bethau yn yr adroddiad y byddai pobl yn y gymuned drawsryweddol yn cytuno â nhw. Mae'r rhestrau aros yn rhy hir. Ers faint y bu pobl yn y gymuned LHDTC+ yn tynnu sylw at hynny? Mae angen i'r gwasanaethau fod yn lleol, wedi'u darparu'n lleol—yn bendant, ac mae angen inni adeiladu'r sylfaen dystiolaeth. Mae pobl yn y gymuned drawsryweddol wedi bod yn gofyn am hynny ers blynyddoedd, felly gadewch inni adeiladu'r dystiolaeth honno i ddeall beth sy'n gweithio mewn gwirionedd. Dyna a wnawn. Fe'i gelwir yn ddull gwyddonol, felly mae'n rhaid iddo fod yn ganolog i hyn.

Nid wyf yn glinigwr ac nid wyf yn berson traws, felly ni allaf siarad gydag awdurdod am y naill neu'r llall o'r pethau hynny, ond rwy'n ddyn hoyw a oedd yn fyw yn yr 1980au, a phan glywaf bobl yn dweud nad oes y fath beth â hunaniaeth draws, mae'n anwiredd, neu nad yw ond yn ganlyniad camdriniaeth, trawma, afiechyd meddwl neu beth bynnag, rwy'n cofio sut brofiad oedd tyfu i fyny'n llanc hoyw yn ei arddegau. Dywedwyd wrthyf mai chwiw ydoedd. Dim ond chwiw dros dro. Yna rhestrwyd cyfunrywioldeb fel anhwylder meddwl gan Gymdeithas Seiciatrig America. Dywedwyd wrthyf fod pobl ddrwg, rheibus yn plagio meddyliau pobl ifanc agored i niwed a hawdd gwneud argraff arnynt, gan hyrwyddo ffordd o fyw neu agenda gyfunrywiol, ac y byddai'r rhai ohonom sy'n ildio iddi yn difaru yn ddiweddarach mewn bywyd. A ydych chi'n gweld? A ydych chi'n gweld y tebygrwydd? Felly, mae'n apêl go iawn. Gadewch inni roi tosturi a pharch a dealltwriaeth yn ôl lle maent i fod, yn ganolog i'r ddadl hon, a meddwl yn enwedig am y bobl ifanc drawsryweddol hyn. Maent yn lleiafrif gorthrymedig—

16:25

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau yn y ddadl heddiw ar nodi'r gwaith yr ydym yn rhan ohono i wella gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn unol â'r cynllun gweithredu LHDTC+ ac adolygiad Cass.

Mae adolygiad Cass yn allweddol i gyflawni'r ymrwymiad hwn ac yn hollbwysig, mae adolygiad Cass, yr wyf wedi'i ddarllen ac yr wyf yn ei groesawu, yn sicrhau ein bod yn mabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at sut a phryd y dylid gwneud ymyriadau. Ac rwy'n cytuno ag Adam Price, ei awgrym fod angen inni gael parch, dealltwriaeth a thosturi tuag at y materion a drafodwn yn yr adroddiad hwn.

Hoffwn ddiolch i Dr Hilary Cass a phawb a gymerodd ran yn yr adolygiad o wasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc, a oedd, wrth gwrs, yn canolbwyntio ar wasanaethau a ddarperir yn Lloegr. Roedd hwn yn adolygiad trylwyr ac wedi'i ymchwilio'n dda a gynlluniwyd i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd neu sy'n profi anghydweddiad rhywedd yn derbyn gofal o safon uchel sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n ddiogel, yn gyfannol, ac yn hollbwysig, yn seiliedig ar dystiolaeth.

Oherwydd y nifer gyfyngedig o blant a phobl ifanc sydd angen atgyfeiriadau at y gwasanaethau arbenigol iawn hyn yng Nghymru, fel llawer o wasanaethau iechyd eraill sydd wedi'u personoli'n helaeth, mae gwasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol yn cael eu darparu gan GIG Lloegr. Rwy'n falch o ddweud bod ein llwybr atgyfeirio yng Nghymru at y gwasanaethau hynny yn Lloegr eisoes yn cyd-fynd ag un o argymhellion craidd Cass, gan ei fod yn cynnwys asesiad gan y gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed cyn gwneud atgyfeiriad. Hefyd, mae GIG Cymru wedi bod yn gweithio gyda GIG Lloegr yn rhan o'r rhaglen drawsnewid ar gyfer gwasanaethau rhywedd i sicrhau ein bod yn cyd-fynd ag argymhellion Cass, yn rhan o'r newidiadau y mae GIG Lloegr yn eu gwneud i wasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc. Bydd y trefniadau hyn yn sicrhau diogelwch ac ansawdd gwasanaethau i ddiogelu pobl ifanc yng Nghymru, y mae'n rhaid inni eu rhoi ar y blaen yn ein hystyriaethau. Mae'r rhaglen drawsnewid wedi sefydlu dau wasanaeth rhywedd plant a phobl ifanc newydd yn dilyn cyhoeddi adolygiad interim Cass ym mis Chwefror 2022. Fe wnaethant agor fis diwethaf, a byddant yn derbyn atgyfeiriadau gan bobl ifanc o Gymru. Bydd y rhestr aros yn cael ei rheoli gan y gwasanaeth cymorth atgyfeirio cenedlaethol—

16:30

Os nad oes ots gennych, na wnaf, rwy'n mynd i barhau.

Mae'r bwrdd goruchwylio cenedlaethol ar gyfer ymchwil dysfforia rhywedd plant a phobl ifanc hefyd wedi'i sefydlu a chaiff ei gadeirio gan Syr Simon Wessely i gefnogi ymchwil ehangach i wasanaethau rhywedd plant. Mae cyd-bwyllgor comisiynu newydd GIG Cymru yn gweithio gyda'r rhaglen drawsnewid wrth iddi symud at gamau nesaf y cynllun cyflawni. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r gwasanaethau rhywedd plant a phobl ifanc sydd newydd eu hagor yn Llundain a gogledd-orllewin Lloegr, a chyflymu gwaith i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol ychwanegol ac ystyried sut y gellir eu dwyn yn nes adref i bobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn yn cyflawni ein hymrwymiad i adolygu'r llwybr i blant yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau hunaniaeth rhywedd.

Mae adolygiad Cass yn cynnwys argymhellion ar gyfer hyfforddiant proffesiynol a fframwaith cymhwysedd i'w ddatblygu, nid yn unig ar gyfer staff arbenigol y GIG sy'n gweithio mewn gwasanaethau hunaniaeth rhywedd, ond i glinigwyr mewn gofal eilaidd, sylfaenol a chymunedol. Mae cyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru eisoes yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i fwrw ymlaen â hyn. 

Ddirprwy Lywydd, rwyf am droi nawr at feddyginiaethau atal y glasoed. Daeth adolygiad Cass i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch neu effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed wrth drin dysfforia rhywedd i sicrhau bod y driniaeth ar gael fel mater o drefn. Nid ydynt ar gael fel opsiwn triniaeth gomisiynu reolaidd ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru sy'n cael eu hatgyfeirio drwy ein llwybr gwasanaethau hunaniaeth rhywedd, ond mae GIG Lloegr yn bwriadu agor astudiaeth i'r defnydd o feddyginiaethau atal y glasoed ym mis Rhagfyr i gasglu rhagor o dystiolaeth i lywio penderfyniadau clinigol yn y dyfodol. Mae'n bosibl y bydd pobl ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau o Gymru i Loegr yn gymwys i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon. 

Un o argymhellion adolygiad Cass, a oedd yn edrych yn benodol ar wasanaethau i blant a phobl ifanc, oedd ystyried sut mae ymyriadau'n effeithio ar ganlyniadau. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen monitro'r effaith hirdymor drwy olrhain i wasanaethau rhywedd oedolion. Mae'r gwasanaeth rhywedd Cymreig, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd ond sydd hefyd ag is-glinig yng ngogledd Cymru, yn darparu gwasanaethau i bobl sy'n 18 oed a hŷn. Comisiynir y gwasanaeth hwn gan gyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru, ac rwyf wedi ei gyfarwyddo i ystyried argymhellion adroddiad Cass a sicrhau bod y gwasanaethau oedolion hyn yn casglu data perthnasol mewn modd cyson a chynhwysfawr i gefnogi dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o weithredu ar y mater hwn.

Er mai prif ffocws adolygiad Cass oedd gwasanaethau clinigol, mae'n cynnwys rhai argymhellion pwysig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill, y byddwn yn eu hystyried yn ofalus yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi bod yn gweithio ar ganllawiau cenedlaethol i gefnogi cwestiynu rhywedd a dysgwyr traws. Mae hi wedi penderfynu rhoi mwy o amser i ddatblygu'r canllawiau hyn er mwyn ystyried yn llawn a chael ei llywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael, gan gynnwys canfyddiadau adolygiad Cass a barn rhanddeiliaid. Rwy'n gwybod mai sicrhau lles dysgwyr yw ei blaenoriaeth allweddol. Byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau pwysig hyn i gefnogi ysgolion yn unol â'n hymrwymiad i sicrhau addysg gynhwysol LHDTC+. Mae'r cynllun gweithredu LHDTC+ i Gymru yn nodi ein hymrwymiad i amddiffyn urddas pobl draws ac anneuaidd a chyflawni ein nod o wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC + yn Ewrop.

Yn olaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio geiriau Dr Cass ei hun:

'Mae'r synau o'n cwmpas a'r ddadl gyhoeddus gynyddol wenwynig, ideolegol a phegynol wedi gwneud gwaith yr Adolygiad yn llawer anos ac nid yw'n gwneud dim i wasanaethu'r plant a'r bobl ifanc a allai fod yn agored i straen lleiafrifol sylweddol eisoes.'

'Mae cymdeithas dosturiol a charedig yn cofio bod plant, pobl ifanc, teuluoedd, gofalwyr a chlinigwyr go iawn y tu ôl i'r penawdau.'

Lywydd, mae adroddiad Cass yn adolygiad pwysig, ac mae'n rhaid inni fod o ddifrif yn ei gylch. Rydym am sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth briodol a sensitif i'r holl bobl ifanc sydd yn y canol yn y gwasanaethau. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu fel cymdeithas garedig—

16:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes gennyf lawer o amser, ond hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad a roddwyd gennych i'r Senedd y prynhawn yma, ond mae wedi dod o ganlyniad i ddadl wrthblaid i gael datganiad gan y Llywodraeth ar y mater pwysig hwn. Mae fy nghyd-Aelod, Laura Anne Jones, wedi codi hyn yn Siambr y Senedd ar ddau neu dri achlysur, rwy'n credu, heb ymateb pendant gan y Llywodraeth. Nid yw'n ffordd dda o lywodraethu, Weinidog, os yw'n cymryd dadl wrthblaid i gael datganiad gan y Llywodraeth ar fater mor bwysig sy'n effeithio ar fywydau plant yma yng Nghymru, a gobeithio, gyda chyfraniadau Laura Anne Jones a Sam Rowlands y prynhawn yma, y bydd yn ddigon i ennyn cefnogaeth i'n cynnig, heb ei ddiwygio, yn y bleidlais heno. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohirir y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidogion

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan.

Eitem 7 yw heddiw yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidog—Ministers—Gweinidogion. Thank you. Gweinidogion. Diolch yn fawr. A galwaf ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8562 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pryder y cyhoedd ynghylch y posibilrwydd bod cod gweinidogol Llywodraeth Cymru wedi'i dorri mewn perthynas â rhoddion a dderbyniwyd gan y Prif Weinidog.

2. Yn nodi bod y Prif Weinidog wedi derbyn rhodd o £200,000 tuag at ei ymgyrch arweinyddiaeth Llafur Cymru gan y Dauson Environmental Group Limited yn dilyn benthyciad o £400,000 i'r cwmni gan Fanc Datblygu Cymru, a throseddau yn ymwneud â'r amgylchedd.

3. Yn galw ar y Prif Weinidog i benodi cynghorydd annibynnol i'r cod gweinidogol i ymchwilio i unrhyw wrthdaro buddiannau a allai fodoli mewn perthynas â'r rhodd, gan gyfeirio'n benodol at bwyntiau i a ii o baragraff 1.3 o'r cod gweinidogol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n disgwyl imi gyfieithu yn y fan honno, Ddirprwy Lywydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A oes angen inni aros i'r Prif Weinidog ddod, oherwydd, yn amlwg, mae'r ddadl am y Prif Weinidog? Neu a oes Gweinidog arall yn ymateb?

O. O, iawn. Mae hynny'n siomedig. Iawn, nid yw'r Prif Weinidog wedi dod i ddadl ynghylch yr ymddygiad sy'n gysylltiedig â chod y Gweinidogion, ac ar y datganiad o gyfrifoldebau gweinidogol, ef sy'n gyfrifol am god y Gweinidogion. Felly, rwy'n credu bod hynny'n siomedig, a dweud y lleiaf, nad yw wedi dod i'r ddadl y prynhawn yma.

Mae'r ddadl a gyflwynwyd gennym y prynhawn yma yn gymharol syml. Mae'n dweud 'cydnabod', 'nodi', ac yn galw am ganlyniad. Mae'n galw am gydnabod pryder y cyhoedd ynghylch y camau sydd wedi digwydd yn gysylltiedig â'r rhoddion i'r Prif Weinidog. Nid wyf yn credu y gall unrhyw un anghytuno â hynny, gyda'r lefel o ddiddordeb cyhoeddus a ddangoswyd yn yr agwedd benodol hon. Ac yn briodol felly. Bydd dadl yn ddiweddarach y prynhawn yma ynghylch y ddadl honno yn ei chyfanrwydd a faint o arian a gyflwynwyd yn y rhodd honno, ac fel y clywsom yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, fe wnaed rhoddion ychwanegol sylweddol i ymgyrch y Prif Weinidog gan gwmni tacsis ac eraill, pob un wedi'i ddatgan yn gywir a phob un wedi'i nodi a heb dorri rheolau. Rwyf eisiau bod yn hollol glir ynglŷn â hynny—ni thorrwyd unrhyw reolau. Ond mae'r canfyddiad—y canfyddiad—o arian mor sylweddol yn dod i ymgyrch i arwain Cymru fel Prif Weinidog Cymru wedi achosi cryn anniddigrwydd cyhoeddus yn ogystal ag anesmwythyd gwleidyddol sylweddol ymhlith y Blaid Lafur a phleidiau gwleidyddol eraill. Rwyf am ddarllen drwy'r enwau: mae Beth Winters, Aelod Seneddol Cwm Cynon; Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Jeremy Miles, Gweinidog yr Economi, i gyd wedi dweud na fyddent hwy wedi derbyn y rhodd honno. Ac yn ystod yr ymgyrch ei hun, nododd yr Aelod Seneddol dros Lanelli, Nia Griffiths, ar gyfweliad ar raglen Gymraeg, pe bai hi wedi gwybod am y rhodd hon, y byddai'n ddigon posibl y byddai wedi newid ei phleidlais. Dyna'r effaith y gallai hyn fod wedi'i chael ar etholiad mor ddifrifol a'r canlyniad i arwain y wlad drwy fod yn Brif Weinidog Cymru. Felly, mae'n ddiamheuol fod yna ddicter wedi'i nodi ymhlith y cyhoedd a gwleidyddion fel ei gilydd ar y mater penodol hwn.

Wedyn, mae'n mynd rhagddo i amlygu'r broblem. Ac mae'r broblem yn eithaf clir—mae'n ymwneud â'r rhodd sylweddol, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, gan Dauson, y cwmni ailgylchu, sy'n cael ei arwain gan Mr Neal ac sy'n eiddo i Mr Neal. Profwyd bod gan Mr Neal ddwy euogfarn droseddol am droseddau amgylcheddol ar wastadeddau Gwent. Mae hynny wedi'i gofnodi.

Ac mae yna faterion eraill sy'n peri pryder, ac sydd wedi cael sylw, megis y benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru, benthyciwr pan fetha popeth arall, gallwn ychwanegu. Unwaith eto, nid wyf yn awgrymu bod unrhyw beth camweddus wedi'i wneud yma, ond pan fyddwch yn yr un flwyddyn ariannol yn sôn am gwmni'n cael £400,000 gan fenthyciwr pan fetha popeth arall ac yna'n gwneud cyfraniad o £200,000, hanner y swm hwnnw, i unigolyn—nid i blaid, nid i grŵp, ond i unigolyn ac ymgyrch yr unigolyn i gael swydd—mae hynny'n sicr yn fater o bryder i bawb sy'n ymwneud â bywyd cyhoeddus. Byddwn yn gobeithio y byddai consensws ynglŷn â hynny o amgylch y Siambr hon. Yna, yn lle bod gwleidyddion yn gwneud yr honiadau hyn a'r cyhoedd yn dangos anesmwythder, ceir yr unioniad yn y pen draw y gallwch ddefnyddio cod y Gweinidogion a'r cynsail a osododd Carwyn Jones yn ôl yn 2017 o benodi person annibynnol i gynghori ar yr hyn a allai fod yn doriad canfyddedig neu wirioneddol o'r cod gweinidogol hwnnw. Ac mae cod y Gweinidogion yn eithaf clir ar y pwynt a nodwn, lle mae'n dweud

'Ni ddylai'r Gweinidogion dderbyn unrhyw rodd neu letygarwch a allai...neu a allai, yn rhesymol, roi’r argraff'—.

Nawr, rwy'n credu y byddai person rhesymol yn dweud y gallai £200,000, £25,000, gael ei ystyried yn rhesymol fel rhywbeth sy'n sicrhau dylanwad. Mae'r person rhesymol hwnnw'n haeddu ateb, a'r ffordd o gael yr ateb hwnnw fyddai penodi person annibynnol i edrych ar y mater, cynghori'r Prif Weinidog ar ba gamau y dylid eu cymryd, yn hytrach na'r drefn bresennol, lle caiff cyfeiriad o dan god y Gweinidogion ei farnu a'i benderfynu gan y Prif Weinidog ei hun, sy'n destun y gŵyn a'r cyhuddiad. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw berson rhesymol anghytuno â'r tri phwynt a wneuthum a'r tri phwynt sydd yn y cynnig ger bron y Senedd heno. Ac rydym yn ceisio rhoi ateb ar y bwrdd i'w gywiro.

Felly, rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn pleidleisio dros y cynnig hwn. Mae'n ddrwg gennyf fod y Llywodraeth wedi cynnig gwelliant 'dileu popeth', ond rwy'n deall pam eu bod wedi gwneud hynny. Ond yr hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yw tawelu pryder y cyhoedd, mynd i'r afael â'r rheswm dros y pryder hwnnw a rhoi ateb ar waith o ran cod y Gweinidogion. Pwy ar y ddaear a allai anghytuno â hynny? Beth sydd i'w guddio? Rwy'n annog y Senedd i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig sydd ger ein bron heno.

16:40

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar y Trefnydd i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw hi.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd Cod y Gweinidogion, a'r cyfrifoldebau y mae'n eu gosod ar Weinidogion Cymru, o ddifrif.

2. Yn nodi bod y penderfyniadau a wneir gan Fanc Datblygu Cymru ynghylch benthyca a buddsoddi yn cael eu gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu:

a) nad yw'r Prif Weinidog wedi dychwelyd y rhodd i Dauson Environmental; a

b) nad yw'r Blaid Lafur wedi ymrwymo i ddychwelyd unrhyw rodd sydd yn weddill gan Dauson Environmental.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wythnos nesaf, rydyn ni'n dathlu 25 mlynedd ers sefydlu ein Senedd ein hunain—cyfle i wneud pethau yn wahanol yma yng Nghymru, i wneud pethau'n well. Ac oherwydd y cyd-destun hwnnw, dwi, fel cymaint o bobl eraill, yn teimlo dicter a rhwystredigaeth am y llanast ynglŷn â'r rhoddion i ymgyrch arweinyddiaeth y Prif Weinidog. Mae'n adlais, onid ydy hi, o'r sgandalau sydd wedi bod mor nodweddiadol yn San Steffan dros y blynyddoedd diwethaf. A'r mwyaf rydych chi'n tyrchu yn fan hyn, y mwyaf o gwestiynau sy'n dod i'r amlwg. Mae o'n difrïo ein democratiaeth ni, ac yn dadrithio etholwyr.

Nawr, mae agwedd 'dim i'w weld yma' y Prif Weinidog ar y gorau yn hunanfodlon, ac ar y gwaethaf yn ddirmygus, tuag at y bobl yr ydym yma i'w gwasanaethu. A bydd pobl yn ffurfio'u barn eu hunain am ei absenoldeb yma y prynhawn yma. Felly, mae'r hyn y mae Plaid Cymru yn ei ofyn heddiw yn syml a chaiff ei adlewyrchu yn ein gwelliant i'r cynnig. A wnaiff y Prif Weinidog ddychwelyd y £200,000 a gafodd gan y llygrydd amgylcheddol a gafwyd yn euog, Dauson Environmental Group Ltd? Ac os oes unrhyw arian heb ei wario o'r rhodd honno, a wnaiff y Blaid Lafur ddychwelyd yr arian hwnnw? Dau gwestiwn sylfaenol, sy'n deillio o ddwy egwyddor sylfaenol: uniondeb a dyletswydd—rhaid i uniondeb fod yn llinyn cyson yn ein gwleidyddiaeth drwyddi draw os ydym am ennill ymddiriedaeth pleidleiswyr—a dyletswydd oherwydd bod gan Brif Weinidog ddyletswydd i arwain drwy esiampl, i arfer doethineb bob amser.

Nawr, fel mae'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn nodi, mae cod y Gweinidogion yn glir:

'Rhaid i'r Gweinidogion sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro, nac unrhyw argraff bod gwrthdaro, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat'

ac

'Ni ddylai'r Gweinidogion dderbyn unrhyw rodd neu letygarwch a allai godi amheuon am ddoethineb eu barn neu a allai eu rhoi o dan rwymedigaeth amhriodol neu a allai, yn rhesymol, roi’r argraff honno.'

Nawr, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Parhaol, yn gofyn am adolygiad. Dywedwyd wrthyf nad oedd gwneud hynny yn rhan o'i gylch gorchwyl. Ond gall y Prif Weinidog alw ymchwiliad annibynnol, ac rwy'n credu bod yr achos dros adolygiad allanol a chwbl annibynnol yn glir, ac rydym yn cefnogi'r prif gynnig. A po fwyaf y mae'r Prif Weinidog yn dadlau yn erbyn hyn, y mwyaf y mae ei ddoethineb yn cael ei gwestiynu, a chredwn y byddai ein gwelliannau'n cryfhau'r galwadau am weithredu. Nawr, fe wyddom fod Aelodau Llafur hefyd, yma ac yn San Steffan ac mewn llywodraeth leol, wedi mynegi eu braw yn gyhoeddus ac yn breifat ynglŷn â phenderfyniad y Prif Weinidog i dderbyn y rhodd a'r modd y gwnaeth ymdrin â'r mater wedyn. Felly, hoffwn annog pawb sydd o'r farn honno i gefnogi'r cynnig a'r gwelliannau fel arwydd ein bod yn benderfynol o ennill ymddiriedaeth etholwyr Cymru, boed yn Brif Weinidog neu'r gweddill ohonom yn y Siambr hon.

16:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n credu y byddwn i'n cael fy nisgrifio fel person rhesymol, rwy'n gobeithio, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn anghytuno â phopeth y mae Andrew R.T. Davies wedi'i ddweud. Nid wyf yn mynd i geisio rhoi unrhyw wres i mewn i'r cyfraniad hwn o leiaf. Fe roddaf rai enghreifftiau yn y cyfraniad nesaf o beth o'r rhagrith sy'n bodoli, ond am y tro cyntaf, rydym yn gofyn i wleidydd sydd wedi ufuddhau i'r holl reolau—sy'n amlwg wedi ufuddhau i'r holl reolau—gael ei ymchwilio, a chredaf fod hynny'n gwbl hurt.

Cyfeiriwyd at god ymddygiad y Gweinidogion; cafodd sylw gan y Prif Weinidog blaenorol, a gychwynnodd ymchwiliad annibynnol, ac ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dramgwydd. Felly, nid wyf yn gwybod beth arall y gellir ei wneud ynglŷn â hynny. Ond mae'r gweddill wedyn yn dod yn oddrychol ac yn dod yn farn oddrychol iawn sydd eisoes wedi cael sylw gan y Prif Weinidog blaenorol.

Rwyf wedi gofyn rhai cwestiynau i mi fy hun ac wedi ymchwilio i'r rhain fy hun; roeddwn yn ofalus iawn i wneud hynny. Yn gyntaf oll: a oedd y rhodd wedi'i chofrestru'n briodol? Yn bendant ac yn ddiamwys, oedd.

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Rwyf am holi: a wnaethoch chi ddweud bod y Prif Weinidog blaenorol wedi ymchwilio i'r mater hwn?

Wel, nid oedd yr holl wybodaeth yn y parth cyhoeddus, ar gael ar gyfer craffu cyhoeddus, cyn i'r Prif Weinidog blaenorol ymchwilio i faterion, gan gynnwys yr euogfarnau sy'n gysylltiedig â'r cwmni hwn a'r cysylltiadau â'r cwmni tacsis—

O'r gorau. A gaf i ymateb? Felly, rydych chi wedi cymryd 20 eiliad o fy amser yn barod—

—mae'n annhebygol y caf i hynny yn ôl. [Torri ar draws.] Y materion—

Rydych chi wedi bod yn hael iawn, Hefin. Dylai Aelodau sy'n derbyn ymyriadau ystyried hynny bob amser.

Y materion yr aeth y Prif Weinidog i'r afael â nhw, roedd y rhan fwyaf ohono eisoes allan yno. Rwy'n meddwl bod y syniad—[Torri ar draws.] Rhowch gyfle i mi. Y syniad o po fwyaf y cloddiwch, y mwyaf y gwnewch chi ei ddarganfod; mewn gwirionedd, po fwyaf y cloddiwch, y lleiaf y gwnewch chi ei ddarganfod. Ond rwyf wedi rhoi sylw i'r materion sydd wedi codi ers hynny yn y cwestiynau canlynol.

A oedd cyfle i Vaughan Gething ddylanwadu ar unrhyw benderfyniad cynllunio dilynol? Yn bendant iawn, na, oherwydd nid yw'r Gweinidog sy'n gwneud y penderfyniad cynllunio yn gwneud y penderfyniad hwnnw ar ran Llywodraeth Cymru; maent yn gwneud penderfyniad lled-farnwrol i ymyrryd mewn anghydfod cynllunio y mae'r arolygydd wedi ymchwilio iddo, felly mae'r cwestiwn hwnnw wedi ei ateb.

A fyddai Vaughan Gething wedi ceisio dylanwadu ar Fanc Datblygu Cymru ar sail eu benthyciad i'r cwmni? Efallai mai dyna a olygwch wrth yr hyn sydd wedi datblygu ers hynny. Wel, ddim o gwbl, oherwydd fe ofynnais iddynt yn y pwyllgor, ac roedd Paul Davies yno. Fe'u gwelodd yn ateb y cwestiwn. Yn yr wyth mlynedd y mae Giles Thorley wedi bod yn brif weithredwr Banc Datblygu Cymru, nid oes unrhyw Weinidog erioed wedi ceisio dylanwadu ar fenthyciad, a dywedodd wrth gytuno â mi y byddai'n annirnadwy. [Torri ar draws.]

Na, mae’n rhaid i mi—. Mae fy amser ar ben; dim ond tair munud sydd gennyf. Yn y ddadl nesaf efallai.

Byddai'n annirnadwy y byddai unrhyw Weinidog, gan gynnwys y Prif Weinidog, hyd yn oed yn ceisio gwneud hynny. A geisiodd wneud hynny? Yn bendant iawn, naddo.

Felly, mae'r holl dystiolaeth, yr holl dystiolaeth yr ydym wedi sôn amdani wedi cael sylw. Beth rydym ni'n ceisio ymchwilio iddo nawr? Nid wyf yn credu ein bod yn ceisio ymchwilio i unrhyw beth. Yr hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ceisio ei wneud yw cadw'r stori i redeg, ac mae Andrew R.T. Davies yn dweud yn yr erthygl yn y Western Mail —rwy'n darllen ei erthyglau—ei fod am symud ymlaen. Os yw am symud ymlaen, gall ddechrau gofyn cwestiynau am y pethau sy'n bwysig i ni: costau byw, plant mewn gofal. Dyma'r mathau o bethau y gallai ddechrau gofyn amdanynt yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yn hytrach na rhygnu ymlaen am rywbeth nad oes iddo unrhyw sylwedd.

Ddoe, awgrymodd y Prif Weinidog nad oedd y cyhoedd yn pryderu am ei roddion gan lygrydd a gafwyd yn euog. Mae'n gwybod nad yw hynny'n wir, ac eto mae'n parhau i fychanu'r mater. A phan ofynnodd un o brif newyddiadurwyr y BBC, Teleri Glyn Jones, iddo am y rhoddion hynny, awgrymodd yn drahaus nad oedd hi rywsut yn newyddiadurwraig ddifrifol. Sylw y mae'n dal i fod heb ymddiheuro yn ei gylch. Ond diolch byth, mae llawer o gyd-Aelodau eraill ar y meinciau y tu ôl iddo—pe bai yn ei sedd—yn y Blaid Lafur nad ydynt yn cytuno ag ef, naill ai ynglŷn â'i roddion neu ei barch at y proffesiwn newyddiadurol, oherwydd maent wedi bod yn gyflym i fynd i'r wasg i roi gwybod iddynt am eu hanfodlonrwydd ynglŷn â'r ffordd yr ymdriniodd ef â'r sgandal. Dyma beth a ddywedodd rhai ohonoch:

'Mae derbyn symiau mor enfawr o arian o ffynhonnell y mae ei chyfarwyddwr wedi'i gael yn euog o dorri cyfreithiau ein Llywodraeth ein hunain yn anghywir.'

Alun Davies oedd hwnnw. Roedd y rhodd yn 'gwbl anghyfiawn ac yn anghywir', Lee Waters.

'Ni fyddwn i wedi ei derbyn,'

Jeremy Miles. 'Mae'n maeddu ein henw da ni i gyd', meddai AS Llafur dienw. Yn amlwg, roedd un ohonoch yn gyndyn i roi eich enw wrth hynny. Dyma beth a ddywedodd aelodau eraill o'r Blaid Lafur:

'Pe bawn i yn y sefyllfa honno, ni fyddwn wedi ei dderbyn oherwydd y ffordd y câi ei weld',

ac

'Mae'n debyg y byddwn i wedi dweud na a chwilio am arian yn rhywle arall.'

Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, y Blaid Lafur, a ddywedodd hynny.

'Mae hyn yn niweidio delwedd Llafur Cymru ac mae'n niweidio delwedd datganoli hefyd.'

Leighton Andrews, cyn-Weinidog Llafur. Dyma uwch ffigwr dienw arall o'r Blaid Lafur yn siarad â Nation.Cymru:

'Mae'r penderfyniad nad oedd derbyn y rhoddion yn torri cod y Gweinidogion yn syfrdanol. Y rhesymeg yw bod Vaughan wedi derbyn yr arian yn ei rôl fel AS yn hytrach na fel Gweinidog. Mae hyn yn gwbl amherthnasol.'

Ac un arall:

'Nid wyf yn mynd i ddod ar raglen deledu i amddiffyn Vaughan Gething. Ni ddylai fod wedi derbyn yr arian. Dylai fod wedi dychwelyd yr arian yn syth. Ac fe dderbyniodd yr arian gan rywun sy'n euog o droseddau amgylcheddol ac mae pob math o gwestiynau difrifol angen eu hateb—ac mae angen ymchwiliad annibynnol arnom.'

Aelod Seneddol Llafur Cymru, Beth Winter. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Ond y pwynt yw fy mod i'n cytuno â Beth. Gyda'r fath anesmwythyd yn ei blaid ei hun, rwy'n deall pam nad yw wedi dod heddiw, ac rwyf hefyd yn deall pam ei fod wedi dewis lansio ymchwiliad mewnol o fewn y Blaid Lafur. Ond fel y mae llawer o'i gyd-Aelodau ei hun yn cydnabod, mae hyn yn ymwneud â mwy na'r Blaid Lafur yn unig, mae'n ymwneud â'r wlad. Dywedodd y Prif Weinidog ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr hon,

'fy mhenaethiaid yw'r etholwyr ac aelodau o deulu Llafur Cymru.'

Mae'n anghywir. Ei benaethiaid yw pobl Cymru. Mae ganddo gyfrifoldeb iddynt hwy i sicrhau ei fod mor dryloyw ag y gall fod. Mae lansio ymchwiliad annibynnol yn caniatáu iddo brofi i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu, os nad yw wedi gwneud unrhyw beth o'i le mewn gwirionedd, y gall brofi hynny. Rwy'n gwybod bod ei blaid ei hun yn gwybod hynny hefyd yn y bôn. Felly, rwy'n annog Aelodau Llafur yn enwedig: sefwch yn ddewr dros eich egwyddorion. Gadewch i bobl wybod bod yr hyn a ddywedwch wrth y wasg, yr hyn a ddywedwch ar Twitter neu mewn briffiau dienw hyd yn oed, wedi ei ategu gan eich gweithredoedd. Dyna pam y gobeithiaf y bydd pob Aelod, o bob ochr i'r Siambr, yn cefnogi ein cynnig heddiw.

16:50

Neithiwr, fe wnaethom siarad a chafwyd cefnogaeth drawsbleidiol ar y camau y dylem i gyd fod yn eu cymryd i adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddion. Mae'r bennod gyfan hon wedi taflu cysgod tywyll dros ddemocratiaeth Cymru. Nid yw'r achos hwn, er mor ddifrifol ydyw, ond yn symptom o'r clefyd mwy sy'n effeithio ar ein democratiaeth yn fy marn i, sef cynnydd llechwraidd 'arian mawr' mewn gwleidyddiaeth. Os nad ydym yn ofalus, byddwn yn union fel yr Unol Daleithiau. Mae'n system sy'n grymuso'r dosbarth rhoddwyr elît, tra bo'n cau lleisiau pobl gyffredin allan. Mae'n ystumio democratiaeth.

Dyna pam y dylai'r nod ehangach gynnwys dileu 'arian mawr' o'n gwleidyddiaeth unwaith ac am byth yma yng Nghymru. Mae'r ateb yn syml, yn y ddadl hon ac yn yr un nesaf, a phe bai'r Prif Weinidog yma, byddwn yn dweud hyn: 'Rhowch yr arian yn ôl. Gadewch inni roi diwedd ar hyn nawr.' Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Llywydd. Wedi gwrando'n ofalus, dwi ddim wedi clywed dim byd newydd heddiw. Rydyn ni wedi ateb y pwyntiau hyn o'r blaen. Llywydd, mae'r Aelodau wedi clywed y ffeithiau gan y Prif Weinidog ei hun yn y Siambr ac yn y Senedd.

Rwyf am ddweud wrth yr Aelodau yma heddiw fy mod i'n ymateb—

Na wnaf, ddim ar y cam hwn. Mae'r amser yn fyr ac mae gennyf lawer i'w ddweud.

Rwyf am ddweud, mewn ymateb i'r cynnig, fod y Prif Weinidog a phob un ohonom yn y Cabinet hwn wedi ymrwymo i gynnal cod y Gweinidogion. Ac mae'n gwbl briodol fod pwy bynnag sydd mewn Llywodraeth yng Nghymru yn gwneud datganiad clir a chyhoeddus o'r safonau ymddygiad sy'n ddisgwyliedig ganddynt a'u bod yn sicrhau eu bod yn cadw at y safonau hynny, ac ar ben hynny, pan godir cwestiynau, fod y pryderon hynny'n cael eu hystyried yn ofalus a'n bod yn ymateb iddynt yn briodol. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth y Prif Weinidog yn ei gyfarfod cyntaf yn y Cabinet—ac mae'n bwysig rhannu hyn—oedd pwysleisio pwysigrwydd cod y Gweinidogion a'i ddisgwyliad y dylai ei Lywodraeth lynu at y safonau uchaf, fel yr amlinellir gan y cod. Rydym o ddifrif ynghylch cod y Gweinidogion a'r cyfrifoldebau y mae'n eu gosod ar Weinidogion Cymru.

Lywydd, nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y rhodd a wnaed i ymgyrch y Prif Weinidog dros arweinyddiaeth y Blaid Lafur ac unrhyw benderfyniad ar fenthyciad a wnaed gan Fanc Datblygu Cymru. Mae'r banc datblygu'n darparu benthyciadau masnachol a buddsoddiadau ecwiti i fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, ac mae'r penderfyniadau y mae'n eu gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae'r ddogfen fframwaith rhwng Llywodraeth Cymru a'r banc datblygu yn nodi sut mae'r berthynas rhwng y Llywodraeth a'r banc yn cael ei rheoli a'i gweithredu, ac mae'n nodi'n benodol na fydd Gweinidogion Cymru na swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw ran mewn materion gweithredol o ddydd i ddydd, materion masnachol na phenderfyniadau ar draws grŵp y banc datblygu.

Ac nid oedd gan y Prif Weinidog, yn ei rôl flaenorol yn y Cabinet, unrhyw ran yn y benthyciad hwn ac nid yw'n iawn gwneud neu awgrymu cysylltiad o'r fath pan nad yw'r ffeithiau'n ategu hynny. Fel y dywedodd Hefin David, mewn sesiwn graffu ddiweddar, cadarnhaodd Banc Datblygu Cymru nad yw Gweinidogion yn chwarae rhan yn y penderfyniadau hyn. Mae'r Aelodau'n ymwybodol, ac mae wedi cael ei nodi unwaith eto heddiw fod y cyn-Brif Weinidog wedi ystyried a fyddai derbyn y rhodd hon yn gyfystyr â thorri cod y Gweinidogion pan dderbyniodd lythyr ynglŷn â hyn, a chymerodd gyngor arno a dywedwyd wrtho nad oedd yn torri'r cod. Derbyniodd y cyngor hwn a dilynwyd y broses briodol ar gyfer ystyried achosion honedig o dorri cod y Gweinidogion.

Yn olaf, Llywydd, wrth ymateb i'r cynnig a'r gwelliant, dwi'n dweud unwaith eto bod ein penderfyniadau yn bodloni'r rheolau ac nid yw rheolau'r cod wedi cael eu torri. Mae camau diogelu yn bodoli i gadw busnes etholaethol ar wahân i fusnes gweinidogol. Mae hyn yn gyson gyda gofynion y Comisiwn Etholiadol ac felly ni fyddai ymchwiliad annibynnol yn briodol.

A gaf i ddweud yn olaf fy mod i'n falch, hefyd, fod arweinydd yr wrthblaid eisiau symud ymlaen? Rydym ni'n symud ymlaen fel Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Rydym ni'n symud ymlaen fel Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pobl Cymru—

16:55

Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y tŷ. Mae'r cyfrifoldeb portffolio hwn yn gadarn gyda'r Prif Weinidog. Mae wedi dewis peidio â dod i'r ddadl hon heddiw i ymateb i'r pwyntiau a roddwyd iddo. Nid oedd llawer o'r wybodaeth a nodwyd gennych yn eich ateb i'r ddadl hon ar gael i'r Prif Weinidog blaenorol, megis y benthyciad a wnaed gan Fanc Datblygu Cymru. A allwch chi egluro pam nad yw'r Prif Weinidog wedi dod i siarad ar fater sydd yn ei bortffolio gweinidogol, oherwydd rwy'n credu, fel mater o gwrteisi, fod y Senedd yn haeddu'r ymateb hwnnw gennych chi heddiw?

Mae hefyd yn briodol iawn fy mod i, fel Trefnydd, yn siarad ac yn ymateb yn y ddadl a gyflwynwyd gennych chi heddiw. Ac rwyf am ailadrodd y pwynt a wneuthum fy mod yn falch fod arweinydd yr wrthblaid eisiau symud ymlaen. Rwy'n credu bod y Senedd gyfan ddoe—. A gadewch inni gofio, rydym yn symud ymlaen fel Senedd i ddiwygio'r Senedd. Ond mae Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog, sy'n mynd i Mumbai—ac rwy'n credu bod hynny wedi cael croeso ar draws y Siambr hon—gyda Gweinidog yr economi, yn mynd i'r afael â'r heriau y mae pobl Port Talbot a de Cymru, a llawer pellach i ffwrdd, yn eu hwynebu gyda'r hyn sy'n digwydd i gynhyrchiant dur yn sgil penderfyniad diweddar Tata.

Llywodraeth Cymru sy'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pobl Cymru. Ond rwyf hefyd yn falch mai'r Senedd sy'n wynebu'r heriau hyn wrth inni symud ymlaen i ddiwygio'r Senedd ar gyfer democratiaeth fwy cynrychioliadol yma yng Nghymru. Rwy'n credu mai dyna'r hyn yr awn i'r afael ag ef gyda'n gilydd yn y Senedd hon. Ond rwy'n falch fy mod i wedi cael cyfle i gywiro pethau ac i ailadrodd y ffeithiau yma heddiw, a'r ffeithiau a ddylai ein harwain wrth inni fynd ati i wneud penderfyniadau a phleidleisio. Rwy'n cynnig ein gwelliant.

17:00

Y ffaith amdani yw nad yw’r Prif Weinidog wedi ymuno â ni ar gyfer dadl ar rywbeth sy'n rhan o'i gyfrifoldeb ef, a chredaf fod yr anfodlonrwydd a’r distawrwydd ar y meinciau Llafur yn siarad cyfrolau am y teimladau o fewn y Blaid Lafur ar hyn o bryd.

Wrth agor y ddadl hon, soniodd Andrew R.T. Davies am 'gydnabod', 'nodi' a 'galw'—tri phwynt ein cynnig, y credaf iddo eu cyfleu'n hynod huawdl. Mynegodd ei siom hefyd nad oedd y Prif Weinidog yma, a gresynodd at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynnig 'dileu popeth'.

Soniodd Rhun ap Iorwerth am y dicter a’r rhwystredigaeth a deimlir mewn perthynas â hyn, a dywedodd y gallai agwedd ‘dim i’w weld yma’ y Prif Weinidog naill ai gael ei hystyried yn hunanfodlon ar y gorau neu’n ddirmygus ar y gwaethaf.

Ar ôl cael ei gyflwyno i amddiffyn y Prif Weinidog yn ei absenoldeb, roedd Hefin David—

Rydych yn unigolyn cymwynasgar iawn, felly. Ond ar y pwynt rydych newydd ei godi, ac a wnaed gan Andrew R.T. Davies mewn ymyriad ar y Trefnydd, nid oedd yr holl wybodaeth ar gael i’r Prif Weinidog blaenorol pan gynhaliwyd yr ymchwiliad cychwynnol. Mae'r stori'n symud yn ei blaen am fod mwy o wybodaeth yn dod i'r amlwg. Os yw am atal y stori rhag symud yn ei blaen, os yw’r Trefnydd am atal y stori rhag symud yn ei blaen ac os yw’r meinciau Llafur am atal y stori rhag symud yn ei blaen, y cyfan sy’n rhaid i’r Prif Weinidog ei wneud yw derbyn ein cynnig.

Un o’r pethau nad oedd ar gael i’r cyhoedd pan gynhaliodd y Prif Weinidog blaenorol ei adolygiad i weld a gafodd cod y Gweinidogion ei dorri oedd y ffaith bod rhodd o £200,000 wedi’i gwneud gan gwmni a oedd wedi derbyn benthyciad sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru fel benthyciwr pan fetha popeth arall. Nid oedd honno’n wybodaeth a oedd yn hysbys i’r cyhoedd bryd hynny. Yn amlwg, os oes canfyddiad o ddylanwad posibl, mae hwnnw'n fater y mae'r cod yn cyfeirio ato. O ystyried bod honno’n wybodaeth newydd, ac o ystyried bod rhagor o wybodaeth wedi dod i'r amlwg ynglŷn â chysylltiadau eraill â’r cwmni tacsis, er enghraifft, y gwnaethom eu trafod yn y Siambr ddoe, onid ydych chi'n cytuno bod angen edrych ar hynny hefyd?

Wel, ni fydd yn fawr o syndod i'r Siambr fy mod yn cytuno â chi ar y pwyntiau hynny, Darren Millar—pan fo gwybodaeth newydd yn dod i'r amlwg, dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r wybodaeth honno, ac felly, mae'n rhaid cynnal ymchwiliad.

Rhestrodd Tom Giffard yr Aelodau Llafur sydd wedi dangos eu hanfodlonrwydd â’r hyn sydd wedi digwydd yma, a soniodd Jane Dodds am y cysgod tywyll y mae hyn wedi’i daflu dros wleidyddiaeth Cymru. Mae’n gwbl amlwg fod angen ymchwiliad annibynnol brys arnom. Ac er bod y Prif Weinidog yn dweud ei fod wedi gweithredu yn unol â llythyren y rheol, mae'r rhodd hon a phopeth amdani yn amheus braidd.

Felly, gadewch inni atgoffa ein hunain o sut mae'r sefyllfa'n edrych i'r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Derbyniodd Vaughan Gething rodd o £200,000 gan rywun a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol i ymladd etholiad arweinyddiaeth hynod o dynn, ac fe'i henillodd yn y pen draw o drwch blewyn. Roedd busnesau a oedd yn eiddo i’r un unigolyn a gafwyd yn euog wedi benthyca £400,000 yn flaenorol gan Fanc Datblygu Cymru o dan oruchwyliaeth Gweinidog yr economi ar y pryd. I drigolion etholaeth Paul Davies, mae haen ychwanegol yma hefyd, gan fod tomen sbwriel Withyhedge, sy’n achosi aer budr, llygredig, yn cael ei gweithredu gan yr unigolyn a gafwyd yn euog a roddodd y £200,000 i Vaughan Gething.

Mae ein cynnig yn glir, fel y mae cod y Gweinidogion: nid oes ond yn rhaid i weithred ymddangos fel pe bai gwrthdrawiad buddiannau, neu ymddangos fel pe bai’n rhoi Aelod o dan rwymedigaeth amhriodol. Mae'r saga gyfan hon—y rhodd, y benthyciad, y diffyg doethineb a ddangoswyd gan y Prif Weinidog gan ei fod yn gwybod am yr euogfarn pan dderbyniodd y rhodd—yn union fel tomen sbwriel Withyhedge: mae'n drewi. Felly, os nad oes unrhyw beth i’w guddio, pam pleidleisio yn erbyn ein cynnig? Os nad oes unrhyw beth i'w guddio, byddech yn croesawu'r cyfle i gael eich rhyddhau o fai. Os nad oes unrhyw beth i’w guddio, ymunwch â ni a phleidleisiwch gyda’r Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Eitem 8 sydd nesaf, dadl Plaid Cymru ar uchafswm ar roddion gwleidyddol. Rhun ap Iorwerth sy'n gwneud y cynnig yma.

Cynnig NDM8561 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyfraniad o £200,000 a wnaed i'r Prif Weinidog yn ystod etholiad arweinyddiaeth Llafur Cymru, a'i ddatganiad ar Gofrestr Buddiannau'r Aelod.

2. Yn credu nad yw'r cyhoedd yn cymeradwyo derbyn y rhodd hon.

3. Yn cytuno y dylid gosod uchafswm blynyddol ar y rhoddion gwleidyddol y gall unrhyw Aelod unigol o'r Senedd eu derbyn gan unrhyw unigolyn neu endid.

4. Yn galw ar y Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflwyno cynigion ar gyfer newidiadau i Reolau Sefydlog y Senedd a Chod Ymddygiad yr Aelodau a fyddai'n rhoi'r uchafswm ar waith.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydym ninnau'n nodi pa mor rhyfeddol ydy hi bod y Prif Weinidog ei hun ddim yma i wrando ar y dadleuon yma y prynhawn yma.

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru yw £225,000, felly gallwch naill ai brynu tŷ am hynny neu gallwch ddefnyddio swm tebyg i adeiladu eich achos dros fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru—etholiad mewnol plaid; mae'r swm yn syfrdanol. Nid ydym wedi gweld unrhyw beth o'r fath yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Mae £200,000 nid yn unig yn fwy na’r hyn y byddai’r cyhoedd yn ei ystyried yn dderbyniol, mae hefyd yn llawer mwy na'r rhoddion a roddwyd i ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus diweddar ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru. Enillodd Carwyn Jones a Mark Drakeford eu cystadleuaeth ar ôl cael rhwng £10,000 a £20,000. Gallaf ddweud wrthych, ym Mhlaid Cymru, mai’r cap ar gyfer etholiad o’r fath yw £5,000. Daeth rhoddion i ymgyrch Jeremy Miles, er yn swm sylweddol, i gyfanswm o lai na thraean o'r hyn a gafodd Vaughan Gething gan un rhoddwr.

Gallwn gymryd i sicrwydd y gallai arian o’r fath gael effaith sylweddol ar y canlyniad, ac nid yn unig pwy a ddaeth yn arweinydd Llafur yng Nghymru, ond yn y pen draw, pwy a ddaeth yn Brif Weinidog. Ydy, mae Llafur wedi cyfaddef bod angen gofyn cwestiynau, ond bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan gyn-arweinydd Llafur yng Nghymru, y byddech yn disgwyl iddo wyro efallai tuag at gynnal disgyblaeth y blaid, yn hytrach na siglo’r cwch.

Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn galw am gap ar roddion gwleidyddol i unigolion. Mae Carwyn Jones wedi dweud y bydd ei adolygiad mewnol yn ystyried hynny. Felly, mae'n rhaid imi ddweud ei bod mor siomedig fod Llafur yma heddiw'n ceisio dileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd, gan wrthod unrhyw gap yn llwyr yn ôl pob golwg, heb hyd yn oed awgrymu, yn eu gwelliant, eu bod yn barod i archwilio'r syniad. Nid oes unrhyw beth yng ngwelliant y Llywodraeth yn rhoi'r gydnabyddiaeth leiaf hyd yn oed i’r ffaith bod rhoddion o gannoedd o filoedd o bunnoedd yn broblematig mewn unrhyw ffordd.

Wrth amddiffyn y rhodd ddoe, dywedodd y Prif Weinidog yn llithrig ei dafod nad oedd y mater yn flaenoriaeth i bobl Cymru, a’i haeriad ef oedd eu bod yn poeni mwy am yr argyfwng costau byw. Efallai na all sgwario’r cylch hwnnw, ond yn ystod yr ymgyrch, fe wnaeth Lee Waters hynny pan ddywedodd, yn gwbl briodol:

'Mae'n ddrwg gennyf, ond mae £200,000 ar etholiad mewnol mewn argyfwng costau byw yn gwbl anghyfiawnadwy.'

Rwy'n cytuno. Rwy'n ategu'r teimladau hynny. Ac mae'n rhaid inni gwestiynu cyfeiriad llunio polisi yn y dyfodol, a dweud y gwir, os na all Prif Weinidog Llafur gydnabod bod derbyn cannoedd o filoedd o bunnoedd at ei ddibenion ei hun, pan fo cymaint o bobl yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, yn bwrw amheuaeth ar ei antenau gwleidyddol.

Mae'r bennod yma'n codi pryderon ehangach am iechyd sylfaenol ein democratiaeth ni. Mae yna beryg o rywbeth gwenwynig yn digwydd i ddemocratiaeth yn y fan hyn, Llywydd. Mae diffyg rheoleiddio cyllid mewn gwleidyddiaeth yn broblem. Mae'n wir rhaid inni ochel rhag i wleidyddiaeth allu dod yn gêm yng Nghymru i gael ei chwarae gan y rheini sydd eisiau prynu dylanwad yn unig, neu i greu y ddelwedd bod ffafrau gwleidyddol yn cael eu prynu. Hyd yn oed os ydy'r unigolion eu hunain, fel mae'r Prif Weinidog yn yr achos yma yn dweud ei fod o, yn benderfynol o sicrhau bod yna ddim gwrthdaro buddiannau'n digwydd go iawn, mae'r argraff mor, mor bwysig. 

Mae Canada, Ffrainc, Iwerddon, Estonia a Slofenia—yn ôl peth o'r gwaith ymchwil rydyn ni wedi'i wneud dros yr wythnosau diwethaf—i gyd yn enghreifftiau o wledydd sydd wedi rhoi mesurau ar waith i gyfyngu ar y rhoddion y gall unigolion eu derbyn. Maen nhw i gyd yn systemau gwahanol wedi'u teilwra i'w hanghenion gwleidyddol eu hunain. Ac mae gyda ni gyfle yma yng Nghymru i gynllunio a chytuno ar y rheolau sy'n gweddu orau i'n democratiaeth ni. Mae hi o fewn gallu'r Senedd i gyflwyno cynigion ar gyfer newidiadau i Reolau Sefydlog y Senedd, a chod ymddygiad yr Aelodau, a fyddai'n rhoi cap ar waith. Wrth wneud hynny, mi ddylen ni gydgynllunio'r system efo'r rhai hynny rydyn ni'n gofyn iddyn nhw ymddiried ynddon ni: y cyhoedd. Efo cefnogaeth y cyhoedd, mi allwn ni gytuno ar gap sy'n caniatáu ar gyfer y lefelau angenrheidiol o weithgarwch gwleidyddol, a chytuno ar lefel mae'r cyhoedd hefyd yn ei ystyried yn rhesymol.

Os ydych chi'n cytuno na ddylai arian, neu ddiffyg arian, fod yn rhwystr i bobl fynd i mewn i wleidyddiaeth, os ydych chi'n cytuno na ddylai arian, neu ddiffyg arian, amharu ar allu rhywun i naill ai datblygu platfform polisi neu ddylanwadu ar ei lwybr drwy'r rhengoedd gwleidyddol, ac os ydych chi'n cytuno nad oes modd cyfiawnhau rhodd o £200,000 i ymgyrch unigolyn i fod yn Brif Weinidog, dwi'n eich annog chi i gefnogi'r cynnig heddiw.

17:10

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod gan Aelodau o'r Senedd gyfrifoldeb i ddatgan buddiannau ar Gofrestr Buddiannau'r Aelodau a nodi datganiadau o'r fath lle bo'n berthnasol mewn cyfraniadau ysgrifenedig a llafar i Fusnes y Senedd.

2. Yn nodi ei bod yn ofynnol i Aelodau hefyd wirio bod rhoddion o £500 neu fwy wedi’u gwneud gan roddwyr a ganiateir, yn ogystal â rhoi gwybod i’r Comisiwn Etholiadol am fanylion llawn y rhoddion hynny sydd dros £2230.

3. Yn cydnabod bod pleidiau gwleidyddol, a'u cyrff llywodraethu cyfansoddol, yn gyfrifol am bennu a monitro cydymffurfedd â rheolau sy'n mynd y tu hwnt i'r gofynion cyfreithiol presennol.

4. Yn galw ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i barhau i sicrhau bod yr holl Aelodau yn bodloni'r safonau ymddygiad uchaf.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at ddadl arall ar fater sydd wedi dal dychymyg llawer o bobl y tu hwnt i’r lle hwn yn ogystal â llawer o amser y Cyfarfod Llawn ac amser dadl hefyd. Rwyf am gofnodi am yr eildro y prynhawn yma fy siom nad yw’r Prif Weinidog yma i ymateb i’r ddadl bwysig hon, gan ei bod yn amlwg yn ddadl arall sy’n rhan o’i bortffolio o gyfrifoldebau. Gwahoddais y Trefnydd yn y ddadl flaenorol i nodi pam nad yw wedi dod yma, ac efallai fod rheswm cwbl ddilys pam nad yw yma, ond o leiaf byddwch yn ddigon cwrtais i ymateb i’r cwestiwn hwnnw fel y gallwn fod yn sicr fod y rheswm mor bwysig fel na all mor gwrtais â dod i ymateb i'r pwyntiau a gyflwynwyd iddo heddiw. Rwy'n gobeithio y byddai’r Aelodau, hyd yn oed wrth siarad o blaid y Prif Weinidog, yn cytuno bod hon yn ddadl bwysig, felly hefyd y ddadl flaenorol, ac y dylai’r Prif Weinidog fod yma yn ymateb iddi o ystyried ei bod yn rhan o'i gyfrifoldeb gweinidogol.

Dywedais yn fy nghyfraniad blaenorol fod y cyhoedd, yn gywir ddigon, yn bryderus ac yn poeni am y newyddion—. Mae Hefin David, yr Aelod dros Gaerffili, yn pwyntio at yr oriel fel pe na bai unrhyw un yno. Mewn gwirionedd, mae tri yn fwy o bobl yno nag a oedd ar gyfer y ddadl ar ddiwygio'r Senedd ddoe, pan ddywedwyd wrthym ein bod yn sôn am ddeddfwriaeth hanesyddol, ac nid oedd unrhyw un yno. O, mae'n ddrwg gennyf—ni welais y bobl sy'n eistedd draw yn y fan acw. Mae pump o bobl yn yr oriel gyhoeddus heddiw. Mae'n fwy na thebyg fod wfftio'r mater mewn ffordd mor anystyriol a dweud nad yw'r cyhoedd yn poeni yn dangos diffyg cysylltiad y Prif Weinidog presennol, ac anallu ei gefnogwyr i amgyffred yr hyn sy'n digwydd ym meddyliau'r pleidleiswyr mewn perthynas â hyn. [Torri ar draws.] Rwy'n falch o dderbyn yr ymyriad.

Yr hyn rwy'n ei chael hi'n anodd ei dderbyn am beth o hyn yw'r rhagrith. Derbyniodd eich plaid £10 miliwn gan rywun a ddywedodd eu bod yn mynd i saethu pobl ddu. Roedd arnynt eisiau saethu menywod du. Sut ydych chi'n teimlo ynglŷn â hynny?

Ni ddylai unrhyw un sy’n gwneud y sylwadau hynny fyth fod yn agos at blaid wleidyddol na derbyn y rhoddion hynny. Rwy'n cytuno â’r pwynt rydych chi newydd ei wneud. Ond rydym yn dadlau mater yma sy'n ymwneud ag unigolyn, oherwydd fel y dywedais yn fy araith yn y ddadl flaenorol, ni roddwyd yr arian hwn i blaid wleidyddol. Rhoddwyd yr arian hwn i unigolyn i sicrhau rôl a fyddai yn y pen draw yn sicrhau ei le fel arweinydd y wlad y mae’n byw ynddi ac y mae’n falch o’i chynrychioli, fel pob un ohonom. Dyna’r pwynt rydym yn sôn amdano yma, ac mae'n ymwneud â doethineb—doethineb yr unigolyn sy'n Brif Weinidog bellach wrth dderbyn y rhodd sylweddol hon gan wybod bod dwy euogfarn droseddol wedi'i gwneud yn erbyn yr unigolyn a'i rhoddodd a'r cwmni y mae’n berchen arno, a'i fod hefyd wedi cael benthyciad o £400,000 gan Fanc Datblygu Cymru ac wedi rhoi cyfraniad o £200,000 i’r ymgyrch arweinyddiaeth yn yr un flwyddyn.

Ac fel y dywedais yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe, os darllenwch gyfrifon blynyddol y cwmni hwn, maent yn nodi mai un o’r manteision y mae’r cwmni yn eu gweld wrth symud ymlaen yw deddfwriaeth, a deddfwriaeth i wella rhagolygon y cwmni hwnnw. Nid fy ngeiriau i mohonynt—maent yn y cyfrifon sydd wedi'u ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau, sy'n nodi'r hyn y mae'r cwmni am ei gyflawni. Felly, mae'r cwmni wedi rhoi £200,000 mewn pot y mae'n ei nodi fel llwybr posibl at allu dylanwadu ar ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu rhagolygon a phroffidioldeb y cwmni hwnnw. Mae hynny yno. Mae hynny yn eu geiriau eu hunain. Ni allwch ddiystyru hynny.

Ac fel y gwelsom yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe, codwyd gwastadeddau Gwent gan John Griffiths, a gwelsom bryd hynny Julie Morgan o Ogledd Caerdydd yn tynnu sylw at y cwmni tacsis a roddodd gyfraniad sylweddol hefyd o £25,000. Faint o bethau na all y Prif Weinidog siarad amdanynt gan fod ganddo’r gwrthdaro buddiannau hwn, oherwydd lefel y rhoddion a'r ffaith ei fod wedi derbyn arian i sicrhau ei rôl fel y Prif Weinidog?

Dyna’r ddadl, a dyna’r drafodaeth. Mae'n ymwneud â doethineb ac ateb, felly, i'w roi ar waith i ddod o hyd i'r farn annibynnol honno a fydd naill ai'n dweud, 'Na, nid oes gwrthdaro buddiannau yma o ran cod y Gweinidogion, ac nid oes unrhyw ganfyddiad o dorri'r cod hwnnw'—. Oherwydd mae’n bwysig fod y cod yn cyfeirio at ganfyddiad. Mae yno mewn geiriau, fe’i darllenwyd wrth grynhoi’r ddadl ddiwethaf ac yn fy sylwadau agoriadol, ac ni ymatebodd y Trefnydd i’r pwynt hwnnw o gwbl, dim ond ailadrodd llawer o'r dadleuon a gyflwynwyd gan y Llywodraeth nad ydynt, a dweud y gwir, wedi distewi'r beirniaid mewn perthynas â'r pwynt penodol hwn. Ac nid yw llawer o'r beirniaid hynny'n gwisgo rhosedau glas, nid ydynt yn gwisgo rhosedau melyn, nid ydynt yn gwisgo rhosedau gwyrdd—maent yn gwisgo rhosedau coch, ac mae hynny'n wahaniaeth pwysig yn y mater hwn, sy'n rhywbeth rwy'n ei edmygu yn y Blaid Lafur, sef y ddisgyblaeth a’r cyfrifoldeb cyfunol y byddwch bob amser yn ei ysgwyddo i sicrhau eich bod yn parhau i fod mewn Llywodraeth. Ond yma, gallwch weld yn glir fod camweddau wedi'u gwneud wrth dderbyn y rhodd hon sydd wedi cael effaith ar eich rhagolygon. Ac rwyf wedi fy syfrdanu eto gyda'r cynnig hwn fod y Llywodraeth wedi cynnig gwelliant 'dileu popeth' ar ei gyfer.

Byddwn yn ymatal ar y cynnig hwn gan y credwn fod mwy o waith i’w wneud ar y cap ar roddion. Nid ydym yn credu ei bod yn anghywir i ystyried cap, ond a oes gan gwmpas y ddadl heddiw'r gallu i gyfleu’r holl deimladau sydd eu hangen i ddeall beth yw cyfarwyddyd a chwmpas y gwaith y bydd y Pwyllgor Busnes a’r pwyllgor safonau yn ei wneud? Ac felly dyna pam y bydd y Ceidwadwyr yn ymatal ar y cynnig, ond byddem yn barod i barhau i weithio gyda Phlaid Cymru ac unrhyw bleidiau eraill, fel y gall y Senedd fwrw ymlaen â'r gwaith hwn gyda dealltwriaeth gliriach o gylch gorchwyl y cyfarwyddyd, fel ein bod yn sicrhau nod ar ei gyfer yn hytrach na'i fod yn diflannu i lawr twll cwningen ac nad ydym yn cael yr ateb yr hoffai pob un ohonom ei weld.

17:15

Mae Andrew R.T. Davies wedi gwneud yr un araith ddwywaith nawr, ac nid yw’n gwella o'i hailadrodd. Mae angen imi ymateb i bwynt Sam Kurtz. Dywedodd Banc Datblygu Cymru fod y benthyciad—roedd yn yr un pwyllgor â minnau, felly dylai fod wedi ei gofio—yr arian, wedi’i ddyrannu at y diben penodol y'i benthycwyd ac na ellid ei wario ar unrhyw fater arall gan fod trywydd archwilio. [Torri ar draws.] Wel, ni allwch ganfod rhywbeth y profwyd eisoes nad yw'n wir; nid oes canfyddiad.

Felly, hoffwn fynd i'r afael â dau fater: sêl bendith y cyhoedd a'r cap blynyddol, gan y credaf eu bod yn faterion difrifol y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac rwyf am gloi gyda fy marn arnynt. A gwn y bydd fy nghyd-Aelod, Vikki Howells, fel Cadeirydd y pwyllgor safonau, yn rhoi sylw i bwynt olaf y cynnig.

Sêl bendith y cyhoedd—wel, credaf mai’r broblem sydd gennym yw os ydym yn dechrau edrych ar y pethau hyn drwy’r lens hon, fe fyddwch yn condemnio'r Senedd gyfan ac yn niweidio enw da’r Senedd ar draws y grwpiau gwleidyddol, oherwydd yn 2019, rhoddwyd £140,000 i Blaid Cymru gan Julian Dunkerton, cyd-sylfaenydd Superdry, ac yn 2022, bu’n rhaid i’r cwmni hwnnw dalu £96,208 i weithiwr benywaidd ar ôl eu cael yn euog o ddiswyddo annheg a gwahaniaethu ar sail oed. Nawr, y peth am hynny, busnesau—mae ganddynt y mathau hyn o hanes. A ydym wedyn yn dweud 'na' wrth bob rhodd? [Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad.

Credaf fod angen tynnu sylw at hyn. Er eglurder, nid wyf yn eich beirniadu yn ei gylch. Nid wyf yn beirniadu. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw—. [Torri ar draws.] Dwy eiliad. Gadewch imi orffen yr hyn rwy'n ei ddweud. Mae angen i hyn ddangos yr anghysondebau y disgwylir i wahanol Aelodau mewn gwahanol bleidiau gydymffurfio â nhw.

Os ydych yn derbyn ymyriad. Rwy’n ddiolchgar ichi am dderbyn ymyriad. Rydych yn tynnu sylw at un rhodd benodol. Mae'n rhaid imi nodi nifer o bethau: (a) rhodd i'r blaid oedd honno yn hytrach na rhodd i unigolyn, sef yr hyn rydym yn sôn amdano heddiw, ac mae'n rhodd lawer llai, gyda llaw, o gymharu â rhoddion a chyfraniadau a roddwyd i'r Blaid Lafur. Derbyniwyd y rhodd honno dair blynedd cyn i bryderon gael eu codi am hawliau cyflogaeth.

Derbyniodd y Prif Weinidog y rhodd hon—tair gwaith y swm a dderbyniwyd gan Blaid Cymru, ar ôl i euogfarnau am droseddau amgylcheddol gael eu nodi. Mae hefyd yn dweud bod y cwestiynau ynghylch rhoddwr Plaid Cymru—

Rwy'n barod, Lywydd, i—. Beth bynnag y mae'n anhapus yn ei gylch yn yr hyn a ddywedais—

Fe wnaf, yn gyflym. Ac mae hyn yn ymwneud yn benodol â hawliau cyflogaeth. Derbyniodd y Prif Weinidog hefyd £25,000 gan gwmni tacsis Veezu sydd wedi bod yn destun cwynion am hawliau cyflogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Iawn. Felly, yn gyntaf oll, rwy'n barod i dderbyn beth bynnag y mae'n ei ddweud, ond nid dyna destun y cynnig; testun y cynnig yw cap ar roddion. Nid yw'n destun—. Nid yw'n sôn, mewn gwirionedd, am y materion sy'n cael eu codi—[Torri ar draws.]

Iawn, gadewch inni sôn am roddion unigol felly. Ar 10 Mawrth 2014, derbyniodd Plaid Cymru Ynys Môn £121,891.43—[Torri ar draws]. Na. Derbyniodd £121,891.43 gan unigolyn—Plaid Cymru Ynys Môn. Roedd hynny ychydig fisoedd ar ôl i Rhun ap Iorwerth gael ei ethol, ym mis Awst, i Siambr y Senedd hon. Mae ar wefan y Comisiwn Etholiadol, ac unwaith eto, nid wyf yn beirniadu hynny—[Torri ar draws.] Ond cyfanswm y rhodd i'r blaid mewn un etholaeth—[Torri ar draws.] Cyfanswm y rhodd i'r blaid mewn un etholaeth—[Torri ar draws.]

17:20

Nid wyf yn derbyn ymyriad. [Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad. [Torri ar draws.] Felly, cyfanswm y rhodd i'r blaid mewn un etholaeth—

—oedd £141,584.92 gan un rhoddwr. Nawr, gallaf ddweud wrthych mai oddeutu £3,000 neu £4,000 sydd yn y banc gan y blaid yn etholaeth Caerffili—rwy'n siŵr y bydd Delyth yn falch o glywed. Ond roedd y blaid yn Ynys Môn yn derbyn rhodd o £141,000 gan y Comisiwn Etholiadol. Nawr, pam, felly, na ddywedodd Rhun ap Iorwerth, yn 2013, pan oedd yr arian hwn yn y banc gan y blaid yn ei etholaeth, y dylai fod cap ar roddion bryd hynny? Mae'n gwestiwn diddorol. [Torri ar draws.] Na. Oherwydd yr hyn rwy'n ei ddweud—. Nid wyf yn derbyn ymyriad, nac ydw. Nid wyf am gael fy nistewi, Lywydd. Lywydd, mae'r ddwy ochr yn gweiddi arnaf am wneud pwyntiau rhesymol mewn dadl. [Torri ar draws.]

[Anghlywadwy.]—cael eich distewi gan unrhyw un heblaw fi. Parhewch, Hefin David.

Felly, rydym yn gofyn, 'Pam na chododd y cap ar roddion bryd hynny?' Mae’n gwestiwn rhesymol i’w ofyn, ac nid wyf yn ei feirniadu am hynny. Os yw'r blaid yn eich etholaeth yn derbyn y math hwnnw o arian, mae hynny'n berffaith iawn, ond peidiwch â bod yn rhagrithiol. Gadewch inni gofio bod ffugsancteiddrwydd yn gefnder agos i ragrith, ac os ydych yn ffugsanctaidd, yn hwyr neu'n hwyrach, rydych yn mynd i fod yn rhagrithiol, fel y mae Plaid Cymru wedi ei wneud heddiw, yn anffodus. [Torri ar draws.] Na, mae fy amser wedi dod i ben.

Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw nad wyf yn cytuno â'r syniad o bleidiau gwleidyddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus—cael y trethdalwr i ariannu pleidiau gwleidyddol; ni chredaf fod hynny'n iawn. Ond wedi dweud hynny, mae Plaid Cymru yn gwneud pwynt diddorol yn eu cynnig. Nid wyf am ei gefnogi, gan y credaf y byddai angen ichi edrych arno’n llawer mwy manwl cyn ichi ofyn i drethdalwyr ariannu pleidiau gwleidyddol, ac ymgeiswyr unigol yn wir. Ond rwy'n credu bod angen inni gydnabod y rhagrith ar bob ochr i'r Siambr, y ddwy ochr i'r Siambr, yma heddiw, ac os llwyddwch i osgoi ffugsancteiddrwydd, gallwch osgoi hynny. Os ydym yn malio am ein democratiaeth heddiw, nawr yw'r amser i symud ymlaen.

Rwy'n credu bod hwnnw’n gyfraniad gwael iawn gan fy nghyd-Gomisiynydd y Senedd. Rwy'n gobeithio nad oes ots ganddo fy mod yn dweud hynny ar y dechrau.

Edrychwch, mae arian mewn gwleidyddiaeth, pryderon yn ei gylch—mae wedi bod yn un o ysgogiadau'r hyn y buom yn sôn amdano ddoe, y lleihad mewn ymddiriedaeth mewn democratiaeth ac mewn gwleidyddion, mewn gwleidyddiaeth. Rydym wedi bod yn imiwn rhagddo yng Nghymru ar y cyfan, gan nad oes llawer o bobl â phocedi dwfn wedi bod yn awyddus i fuddsoddi mewn gwleidyddiaeth. Mae’r broblem honno gennym nawr, o ganlyniad i’r hyn sydd wedi digwydd, a chredaf ei bod yn bwysig inni gael trafodaeth aeddfed ynglŷn â sut y gwnawn ddatrys y broblem honno.

Cyfeiriwyd at lefelau cymeradwyaeth, oni wnaed, yng nghyd-destun yr hyn rydym yn sôn amdano. Edrychwch, rhowch y gorau i'r dadleuon hyn rhwng pleidiau gwleidyddol yr ydym newydd eu clywed, iawn? Gadewch inni ddyrchafu'r drafodaeth i'r hyn sy'n wirioneddol bwysig. Nid oes diddordeb gennyf yn y lefelau cymeradwyaeth i wleidyddion unigol na hyd yn oed pleidiau yn y tymor byr, y tymor canolig na'r tymor hir; rwy’n bryderus iawn am gymeradwyaeth y cyhoedd i’r sefydliad hwn ac i’n democratiaeth yng Nghymru. Ac edrychwch, yn wrthrychol, credaf ei bod yn anodd iawn gwadu y bydd yr ymddiriedaeth honno yn ein gwleidyddiaeth wedi cael ergyd, o ganlyniad i'r rhodd hon a phopeth o'i chwmpas. Rwy'n ceisio bod yn wrthrychol a chamu'n ôl yma. Rwy'n credu bod hynny'n sicr yn wir. Yr hyn y mae’r cynnig hwn yn ceisio ei wneud yw dod o hyd i ateb i hynny, onid e?

Nid oes gennym bŵer i ddeddfu mewn perthynas â rhoddion i ymgyrchoedd, rhoddion gwleidyddol; mae hwnnw'n fater a gedwir yn ôl i San Steffan. Ond mae gennym bŵer dros ein Rheolau Sefydlog ein hunain a'n cod ymddygiad, sef yr hyn y mae'r cynnig hwn yn ei awgrymu: ein bod yn cyflwyno cap mewn perthynas â hynny. Oherwydd bydd rhai pobl, mewn etholiad agos, o'r farn fod arweinyddiaeth y Llywodraeth, y rôl uchaf, swydd y Prif Weinidog, wedi'i phrynu o ganlyniad i rodd. Rhoddir rhoddion gwleidyddol am un o ddau reswm. Mewn un achos, mae gennych unigolion cyfoethog a chanddynt hanes gwirioneddol—. Hynny yw, mae ganddynt hanes o ymgysylltiad gwleidyddol, maent yn credu'n gryf mewn achos penodol, plaid wleidyddol—dyna un achos. Yr achos arall yw, yn sydyn, o unman, maent yn arwyddo siec, ac rydych chi wedyn yn pendroni, 'Pam y gwnes i arwyddo'r siec honno?' A oes unrhyw un yn gwybod pam fod David Neal wedi rhoi'r arian hwn i Vaughan Gething? Oherwydd yn sicr, nid wyf i'n gwybod, ac rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn gofyn y cwestiwn hwnnw.

Mae'n rhaid inni ymateb i'r sefyllfa hon gyda'n gilydd, ar draws y pleidiau, a'r ffordd y gwnawn hynny yw drwy osod cap ar yr hyn sy'n dderbyniol i Aelodau'r Senedd ei dderbyn. Rwy’n siomedig nad yw’r Ceidwadwyr yn gallu cefnogi'r cynnig nawr, ond rwy'n gobeithio, mewn trafodaethau pellach, y gallant wneud hynny. Yn sicr, ar feinciau Llafur—anghofiwch yr hyn sydd wedi digwydd am funud, a meddyliwch am y dyfodol. Meddyliwch am y dyfodol. Rydych yn dweud eich bod am symud ymlaen. Wel, meddyliwch am symud ymlaen, iawn? Meddyliwch am gael rheolau, fel y gallwn fynd allan yno a gall pob un ohonom fod yn falch o'r rheolau sydd gennym dros ein democratiaeth yng Nghymru.

Cynigiodd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus gap ar roddion i unigolion—y math o gapiau sydd, fel y dywedodd Rhun, yn bodoli mewn llawer iawn o wledydd. Yn Iwerddon, rwy'n credu ei fod mor isel—beth ydyw? Oddeutu €250—ychydig gannoedd o ewros. Edrychwch, gallwn wneud hynny yng Nghymru ar ran ein Senedd. Dyna y galwai'r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus amdano 13 mlynedd yn ôl, a chafodd ei atal yn San Steffan. Mae gennym bŵer i osod safon wahanol yma ar gyfer ein democratiaeth gan na ddylai unrhyw un fod o dan yr argraff fod arian yn siarad, fod arian yn gallu rheoli dyfodol ein gwleidyddiaeth, ein democratiaeth. Mae er budd pob un ohonom, pob plaid a gynrychiolir yma, pob un ohonom sy’n credu yn ein democratiaeth, i wneud yr hyn y mae’r cynnig hwn yn ei ddweud: gosod safon ar gyfer ein democratiaeth yng Nghymru sy’n dweud na ddylai arian, mynediad at arian, fyth chwarae unrhyw ran yn nyfodol ein gwlad; rydym yn gwneud pethau'n wahanol yma yn seiliedig ar egwyddor un unigolyn, un bleidlais, nid maint llyfr siec i bennu ein dyfodol gwleidyddol.

17:25

Hoffwn ddweud yn glir y byddaf yn siarad y prynhawn yma yn rhinwedd fy swydd, a dim ond yn rhinwedd fy swydd, fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a byddaf yn rhoi sylw i’r pwyntiau yn y cynnig, sy’n cyfeirio’n benodol at y pwyllgor hwnnw.

Fel Cadeirydd y pwyllgor safonau, rwy'n croesawu unrhyw ddadl am atebolrwydd Aelodau; mae’n ffordd bwysig o atgoffa pob Aelod o’u cyfrifoldeb i gofrestru a datgan buddiannau cofrestradwy a pherthnasol er mwyn sicrhau’r tryloywder a’r hyder mwyaf yn y Senedd hon.

Mae'r gofrestr o fuddiannau yn allweddol er mwyn galluogi'r cyhoedd i weld buddiannau'r Aelodau. Mae'r canllawiau ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill yn nodi'n gwbl glir nad yw'r gofynion hyn yn ddewisol nac yn wirfoddol. Mae Rheol Sefydlog 2 yn nodi’r gofynion i Aelodau gofrestru a datgan buddiannau, ac mae gan yr atodiad i’r Rheol Sefydlog honno 10 categori o fuddiannau cofrestradwy. Mae gofyniad hefyd i gofrestru buddiannau perthnasol o dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A. Mae cwmpas y gofyniad hwn yn ehangach na'r gofynion o dan Reol Sefydlog 2. Ac mae gonestrwydd yn hanfodol i bob un ohonom wrth benderfynu a oes angen datganiad o dan y Rheol Sefydlog hon ai peidio. Mae'r pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau bod y gofrestr yn cael ei chadw a'i bod yn hygyrch. Rydym wedi adolygu’r gofynion ar Aelodau o bryd i’w gilydd, a byddwn yn parhau i sicrhau y cynhelir adolygiadau rheolaidd o’r gofrestr a’r broses gofrestru.

Yr haf diwethaf, yn rhan o’r broses adolygu hon, cynhaliodd y pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus ar gofrestru a datgan buddiannau. Cododd y dystiolaeth a gasglwyd gennym o’r ymgynghoriad hwn nifer o faterion yr ydym yn y broses o fynd i'r afael â nhw. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, yr angen i Aelodau ychwanegu amcangyfrif o werth ar gyfer rhoddion a lletygarwch, yn ogystal â chyflwyno categori amrywiol newydd i ganiatáu i Aelodau gofrestru materion a allai fod o ddiddordeb i’r cyhoedd, ond nad oes lle priodol iddynt mewn mannau eraill ar y gofrestr. Lluniwyd yr ymgynghoriad hwn yn rhannol gan faterion a gafodd eu dwyn i sylw'r pwyllgor gan Aelodau ar gofrestru a datgan buddiannau. Amlygodd yr ymatebion a ddaeth i law yr angen am rai newidiadau i ba fuddiannau sy'n cael eu cofrestru a'r wybodaeth y mae angen ei darparu a'i chyhoeddi er mwyn sicrhau'r tryloywder mwyaf posibl. Byddwn yn edrych yn ofalus ar arferion gorau mewn mannau eraill i sicrhau bod cofrestr y Senedd mor dryloyw â rhai Seneddau tebyg, os nad yn fwy felly. Felly, bydd y pwyllgor yn cyflwyno cynigion i ddiwygio’r gofynion cofrestru fel y’u nodir yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer y seithfed Senedd.

Ochr yn ochr â chyfrifoldebau’r pwyllgor a’r Senedd, mae gan y Comisiwn Etholiadol rôl bwysig hefyd yn rheoleiddio rhoddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol a gwleidyddion. Ar hyn o bryd, mae angen lefelau gwahanol o fanylion ar y Senedd a’r Comisiwn Etholiadol wrth gofrestru’r un rhoddion, felly byddwn yn ceisio sicrhau cysondeb yn hyn o beth yn y dyfodol.

Mae’r pwyllgor bob amser yn fwy na pharod i ystyried unrhyw fewnbwn gan Aelodau neu eraill yn ein gwaith ar y gofrestr o fuddiannau, felly hoffwn annog yr Aelodau i barhau i ymgysylltu â’r pwyllgor wrth i’n gwaith ar y mater hwn fynd rhagddo. Diolch.

17:30

Hoffwn ddiolch yn arbennig i chi, Adam, am droi’r ddadl yn ôl at yr hyn sy’n bwysig yma, ac adlewyrchu hefyd, wrth wrando, ar y ddadl flaenorol a’r ddadl hon, ar rai o’r dadleuon rydym wedi bod yn eu cael, i edrych ar ddiwygio’r Senedd, am y rhwystrau i gyfranogiad, pam nad yw pobl yn sefyll etholiadau ar hyn o bryd, a pham nad ydym yn adlewyrchu’r boblogaeth gyfan. Ac arian yw'r rheswm am rywfaint o hynny, oherwydd faint o bobl a all fforddio cymryd gwyliau di-dâl? Faint ohonom a aeth i ddyled wrth sefyll etholiad, a dechrau yma gyda chyfrif banc yn y coch? Oherwydd dyna'r realiti i rai pobl yma, ac i lawer o'r rhai na lwyddodd i gael eu hethol yma. Ac rwy'n angerddol am sicrhau na ddylai arian byth fod yn rhwystr i unrhyw un feddwl na allent fod yma.

Ond ni ddylai arian ychwaith fod yn rhwystr i unrhyw un sydd am fod yn Brif Weinidog ein gwlad. Dylai pob plentyn yng Nghymru sy’n ymweld â’r fan hon, pan awn i ysgolion, allu credu y gallent hwythau hefyd fod yn Brif Weinidog rhyw ddiwrnod. Mae hynny'n rhywbeth rydym yn ei ddweud wrthynt. Ond os ydynt yn edrych ar y rhoddion yma—ac mae gan lawer ohonynt ddiddordeb yn hyn, maent wedi clywed amdano, yn union fel y gwnaethant gyda'r terfyn 20 mya—. I feddwl nad ydym yn sôn am £200,000, mewn gwirionedd, rydym yn sôn am £321,600 mewn arian parod, £24,200 mewn ffyrdd eraill, ar gyfer un ymgyrch arweinyddiaeth—mae hynny'n anodd iawn ei gyfiawnhau. Pan fyddwn yn mynd o amgylch ein hetholaethau a’n rhanbarthau, rydym yn gweld y materion y mae’r Prif Weinidog am i ni eu trafod, megis costau byw, ond sut y gallwn ddweud ein bod yn mynd i’r afael â rhai pethau ond yn gweithredu mewn ffordd wahanol? A chredaf mai dyna yw craidd y mater—fod rhywbeth wedi digwydd lle gallwn drafod a dorrwyd unrhyw reolau, ond mae'n rhaid cwestiynu doethineb y Prif Weinidog presennol, a dyna pam nad yw'r cwestiwn hwn yn mynd i ddiflannu, a pham fod angen inni gymryd camau i adfer ymddiriedaeth.

Mae arnom angen adolygiad cyhoeddus o gyllid ymgyrchoedd, a dylai fod yn atebol i bobl Cymru, nid aelodaeth y Blaid Lafur. Rydym yn galw heddiw, felly, ar y Senedd i wneud mwy, er mwyn sicrhau na ellir prynu ein democratiaeth, fel y dywedwyd. Gwyddom faint o niwed y gall cyllid ymgyrchoedd amheus ei wneud i'n sefydliadau democrataidd. Mae wedi dod i amlygrwydd clir yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ac fel y clywsom eisoes, mae llawer o enghreifftiau rhyngwladol o arferion gorau y gallem geisio eu hefelychu wrth inni geisio atal unrhyw danseilio pellach ar uniondeb democratiaeth Cymru. Onid yw’n briodol ein bod yn cael y ddadl hon ar adeg o ddiwygio’r Senedd lle rydym yn sôn am wneud ein hunain yn fwy atebol, yn fwy cynrychioliadol? Wel, beth am sicrhau ein bod yn hollol wahanol o ran rhoddion hefyd? Rydym yn galw am gap ar y rhoddion gwleidyddol y gall unrhyw Aelod unigol o'r Senedd eu derbyn gan unrhyw unigolyn neu endid, ac ni welaf unrhyw reswm pam na ddylai’r cynnig hwn ennyn cefnogaeth pob un ohonom yn y Siambr hon.

Gwn fod Aelodau ar draws y Senedd, gan gynnwys ar y meinciau Llafur, yn pryderu'n fawr ynglŷn â diffyg doethineb y Prif Weinidog yn ogystal â'r effaith y mae’r bennod druenus hon wedi’i chael ar ffydd y bobl a gynrychiolwn. Mae wedi tanseilio hyder y cyhoedd yn ein democratiaeth. Ac felly, carwn eich gwahodd i ymuno â ni ar y llwybr i adfer yr hyder hwnnw. Mae’n siomedig nad yw’r Prif Weinidog yma. Mae’n siomedig fod y Prif Weinidog, yn ôl pob golwg, yn diystyru’r pryderon a godwyd, yn hytrach nag ymateb yn uniongyrchol iddynt: £321,600 mewn arian parod, £24,200 mewn ffyrdd eraill—a ydym o ddifrif yn credu bod hynny’n dderbyniol er mwyn dod yn Brif Weinidog? Nid wyf i'n credu hynny, yn sicr, ac nid oes unrhyw un rwy'n eu cynrychioli yr wyf wedi siarad â nhw am y mater yn credu hynny ychwaith—ac mae gan bobl farn gref, credwch fi, ym marchnad Pontypridd, ar y mater hwn. Felly, gadewch inni sicrhau nad yw hyn byth yn digwydd eto. Ond erys y cwestiynau, ac rwy'n credu bod yn rhaid i’r Prif Weinidog dalu’r arian hwnnw yn ôl, oherwydd, os ydym am symud ymlaen, dyna’r unig ffordd y gellir adfer ymddiriedaeth go iawn. Ac ni all barhau i ddiystyru hyn. Mae hwn yn fater difrifol, a dylai fod yma i ateb, a dylai dalu'r arian yn ôl.

17:35

Rwyf wedi'i chael hi'n anodd prosesu fy nheimladau am y materion ger ein bron heddiw, ac mae hon yn araith y byddai’n well gennyf fod wedi’i hosgoi. Pan gyhoeddwyd y newyddion am y rhodd, dywedais yn syth fy mod yn credu ei bod yn gyfeiliornus ac na ellid ei chyfiawnhau—mae hynny wedi'i gofnodi—ac nid yw fy marn wedi newid. Mae £200,000 yn swm syfrdanol o arian, na welwyd ei debyg yng ngwleidyddiaeth Cymru, a thros bedair gwaith yn fwy na’r cap gwario o £45,000 a osodwyd gan y Blaid Lafur i sicrhau cystadleuaeth deg. A chefais fy syfrdanu’n fawr iddo ddod gan gwmni gwastraff sydd ag euogfarn am wneud niwed i wastadeddau Gwent, ar adeg pan oedd rhai ohonom yn brwydro’n galed i warchod yr ardal sensitif hon. O ddifrif, fe wnaeth fy syfrdanu.

Nawr, mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod y rhoddion i’w ymgyrch wedi’u gwirio a’u ffeilio’n gywir gyda’r Comisiwn Etholiadol a’u datgan i’r Senedd ac nad oes achos i’w ateb. Ond ni chredaf mai'r hyn sydd dan sylw yw a oedd y gwaith papur yn gywir; y mater dan sylw yw a oedd ei ddoethineb yn gywir. Nawr, rwy'n croesawu penodi Carwyn Jones i edrych ar y rheolau ar gyfer etholiadau yn y dyfodol, ac mae’r awgrym yng nghynnig Plaid Cymru o gap gwariant i bob un ohonom yn haeddu ystyriaeth, ond byddai cytuno iddo heddiw yn rhagfarnu’r adolygiad. Ac rwy'n amau efallai y bydd yn dweud rhywbeth tebyg yn y pen draw, ond hoffwn roi amser i'r broses honno brofi'r dadleuon yn iawn ac ystyried y canlyniadau anfwriadol. Felly, ni fyddaf yn cefnogi cynnig Plaid Cymru. Byddaf yn cefnogi’r Llywodraeth. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn myfyrio ar fy mhryderon ac yn eu cymryd yn yr ysbryd y'u bwriedir.

Mae cynnig y Ceidwadwyr, fel y dywedodd Hefin David yn gywir ddigon, yn seiliedig ar ragosodiad ffug. Fel cyn-Weinidog yn adran yr economi, gwn fod penderfyniadau ar fenthyciadau gan y banc datblygu yn cael eu gwneud ar sail hyd braich, er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau. Felly, mae’r Prif Weinidog yn hollol iawn yn hynny o beth. A byddai gan y Torïaid, os caf ddweud, fwy o hygrededd pe baent wedi codi eu llais pan gafodd y ddau Ysgrifennydd Cartref diwethaf, y Canghellor, a hyd yn oed cyn-Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, nid yn unig eu cyhuddo o dorri cod y Gweinidogion ond eu dyfarnu o fod wedi torri cod y Gweinidogion. Ond beth a oedd gan Rishi Sunak a’r Ceidwadwyr Cymreig i’w ddweud am hynny? Dim o gwbl.

Felly, gall pob un ohonom weld drwy eu safonau dwbl, ond y rheswm pam fy mod siarad y prynhawn yma yw am ein bod i fod yn well na hynny. Y pwynt am ddatganoli, y lle hwn—Senedd a grëwyd gennym o’r newydd—yw ein bod yn gosod safonau uwch. Bum mlynedd ar hugain yn ôl, roeddem yn sôn am ddatganoli fel dechrau gwleidyddiaeth newydd, ond ymddengys bod llai o enw da gan wleidyddiaeth a gwleidyddion nag erioed. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud nad yw’n credu bod ei lefelau cymeradwyaeth wedi’u heffeithio gan y ddadl, ac mae'n rhaid imi ddweud bod hynny wedi fy synnu a fy mhoeni. Nid i ba raddau y mae'r arolygon barn yn cadarnhau hynny yw'r pwynt. Yn sicr, nid y cwestiwn yw beth y gall unrhyw un ohonom osgoi cael ein cosbi am ei wneud; y cwestiwn yw beth sy'n iawn. A'r ffaith bod rhai pleidleiswyr yn ddi-hid—dyna ddylai ein poeni. Ymhell o fod yn gymeradwyaeth, ofnaf ei fod yn awgrymu bod pob un ohonom wedi ein paentio â'r un brwsh. Ac mae pob un ohonom yn ei glywed: 'Rydych i gyd yr un peth,' 'Rydych yn ei wneud er eich lles eich hun,' 'Rydych yn ceisio eich mantais ei hun.' Nid yn unig fod hynny'n dorcalonnus i lawer ohonom sy’n ystyried gwleidyddiaeth yn wasanaeth cyhoeddus diffuant, yn aberth, mae hefyd yn beryglus i wead ein democratiaeth ar adeg pan fo'r ddemocratiaeth honno eisoes dan straen aruthrol. Mae academyddion yn ei alw'n 'ddinistrio'r norm'. Pan fydd safonau ymddygiad cyffredin—normau—yn cael eu tanseilio, maent yn dweud bod disgwyliadau'n gostwng, ac mae hynny’n gosod y sylfaen ar gyfer set newydd o safonau gwannach. Dyna pam fod angen inni fynd i'r afael â'r sefyllfa hon, ac rwy'n anghyfforddus iawn ynglŷn â'r ffordd y disgwylir imi i bob pwrpas gymeradwyo rhywbeth y credaf ei fod anghywir, ac nid wyf wedi codi fy llais ers i'r newyddion am y rhodd ddod i'r amlwg 10 wythnos yn ôl, gan fy mod am roi amser i’r mater gael ei ddatrys, ond nid yw hynny wedi digwydd.

Felly, er eglurder: i mi, nid mater o hyder yw hwn, ond mater o gydwybod. Edrychwn at ein harweinwyr i fodelu'r ymddygiad rydym am ei weld, i adlewyrchu ein cenedl ac i osod esiampl. Mae'n gyfrifoldeb aruthrol, ac mae'n arbennig o bwysig mewn democratiaeth mor ifanc â'n democratiaeth ni. Mae cod y Gweinidogion yn nodi,

'ar y Gweinidogion eu hunain y mae’r cyfrifoldeb o hyd am lynu wrth y Cod ac am y penderfyniadau a wnânt.'

Nid oes angen canolwr annibynnol i'w gynnal; mae'n god anrhydedd. Nid yw cod y Gweinidogion yn gontract cyfreithiol ychwaith. Nid y prawf yw sut i ddod o hyd i fwlch ynddo; mae'n god moesol. Nawr, gellir unioni'r sefyllfa hon. Rwy'n gobeithio y caiff ei hunioni. Ond y cam cyntaf i ddatrys unrhyw broblem yw cydnabod bod yna broblem. Ac ni fyddai'n arwydd o wendid i ddweud mai camgymeriad oedd derbyn y rhodd, a chan fod yr holl ffeithiau'n hysbys nawr, ei rhoi yn ôl. Gellir gwneud hynny o hyd, a dylid gwneud hynny yn fy marn i, ac weithiau, gwneud y peth iawn yw'r peth anoddaf, ond anaml y byddwch yn difaru gwneud hynny yn y pen draw. Diolch.

17:40

Gant a hanner o filltiroedd o'r fan hon, mae palas ger afon Tafwys lle nad yw'r drewdod yn dod o'r dŵr budr yn unig. Yn San Steffan, mae'r pydredd wedi treiddio i'r waliau, gan lenwi'r lle â diwylliant llwgr a madreddog. Nid ydym am i’n Senedd gael ei difwyno â sgandalau fel y rheini sy’n gyffredin yn San Steffan. Holl bwynt datganoli yw y gallwn ac y dylem wneud pethau’n wahanol yng Nghymru, y gallwn ac y dylem ddisgwyl gwell ar gyfer democratiaeth Cymru. Dylai mwy na thraffordd wahanu’r Senedd hon oddi wrth y palas pydredig hwnnw, man yr amlenni brown, arian am anrhydeddau, lobïwyr anghyfreithlon, man lle sefydlodd y Llywodraeth lwybr llwgr, yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus, i bwysigion allu gwneud eu ffrindiau cyfoethog yn gyfoethocach, man lle gellir prynu polisi a gwerthu dylanwad i'r cynigydd uchaf, man—yng ngeiriau un o gyn-Weinidogion y Cabinet—sy'n wag o uniondeb.

Ni ddylem geisio dilyn eu hesiampl, oherwydd gadewch inni atgoffa ein hunain o'r diwylliant y mae'n rhaid inni wahanu ein hunain oddi wrtho. Rhoddodd Frank Hester o leiaf £10 miliwn i’r Blaid Geidwadol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae ei gwmni technoleg gofal iechyd TPP wedi cael mwy na £400 miliwn gan y GIG a chyrff eraill y Llywodraeth ers 2016. Mae wedi elwa o £135 miliwn o gontractau gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn llai na phedair blynedd. Ym mis Mawrth eleni, cafodd yr Heddlu Metropolitanaidd eu hysbysu gan gyn-Aelod o feinciau blaen Llafur, Diane Abbott, ynghylch sylwadau roedd Hester wedi’u gwneud am Abbott, ei bod yn gwneud iddo gasáu pob menyw ddu. Enillodd Malik Karim, sydd wedi rhoi £1.6 miliwn i’r Ceidwadwyr ers 2014, ac sy’n gyn-drysorydd y blaid, ddau gontract mawr gwerth £1.5 miliwn a £175,000 drwy ei gwmni cyllid Fenchurch Advisory yn 2023 i gynghori Swyddfa’r Post. Mae'r rhain oll yn enghreifftiau y mae'n rhaid inni wahanu ein hunain oddi wrthynt.

Roedd rhoddwr Torïaidd arall, Simon Blagden, yn rhan o dîm arwain Fujitsu ar yr adeg pan oedd gweithwyr post yn cael eu dyfarnu'n euog ar gam o gyfrifo ffug a thwyll gan Swyddfa'r Post oherwydd eu meddalwedd diffygiol. Cafodd Blagden ei wneud yn gadeirydd Building Digital UK, asiantaeth y Llywodraeth sy’n gyfrifol am ddarparu band eang cyflymach yn 2022, dair blynedd ar ôl y canfod mai meddalwedd ei hen gwmni a oedd ar fai yn yr hyn a drodd yn sgandal Horizon. Ers 2005, mae Blagden a chwmnïau y mae ganddo gysylltiad agos â nhw wedi rhoi £376,000 i'r un blaid. Yn ystod pandemig COVID, cafodd Meller Designs Ltd dan arweiniad y cyfrannwr Torïaidd David Meller, sydd wedi cyfrannu dros £300,000 i'r Blaid Geidwadol ers 2009—[Torri ar draws.] Beth sydd gan hyn i'w wneud—? Rwy’n nodi pam fod angen inni wahanu ein hunain oddi wrth hyn. Fe dderbyniaf yr ymyriad, gwnaf.

Mae’r ddadl hon i gyd yn dangos—. Fe ddefnyddioch chi'r gair 'pantomeim' ddoe, ac rwy'n—. O, na, Heledd a wnaeth hynny, mewn gwirionedd. Mae’n debyg mai’r ddadl hon yw un o’r dadleuon gwaethaf imi eistedd drwyddynt erioed. Pan fo'r Prif Weinidog yn penderfynu peidio â bod yma hyd yn oed, mae hynny’n sarhad ar y Siambr hon ac ar bobl Cymru. Felly, onid ydych—? Dywedwch y gwir wrthyf nawr. Sut y gall unrhyw un amddiffyn yr anamddiffynadwy yn y Siambr hon, yn y sefydliad hwn—

17:45

—yn y Senedd hon. Nid yw hyn yn ddim i'w wneud â Senedd neu Lywodraeth y DU. Mae hyn yn ymwneud â'r Senedd hon, ydy neu nac ydy?

Janet, ni fyddwn yn amddiffyn yr hyn rydych chi'n ei drafod yma, ond rwy'n nodi pam y dylai'r Senedd hon fod yn wahanol, a dylem fod yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan, gan fod y rhestr—. Nid wyf am barhau â’r enghreifftiau, ond gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Roedd llawer ohonynt yn ganlyniad i'r llwybr i bwysigion, fel y'i gelwir, ar gyfer contractau COVID, a roddodd fynediad at gontractau allweddol i'r rhoddwyr breintiedig hynny. Talodd y cyhoedd grocbris am y nwyddau a'r gwasanaethau hynny; yn rhy aml, roeddent yn ddiffygiol neu'n aneffeithiol. Nid yw Plaid Lafur y DU yn ddi-fai ychwaith. Derbyniodd Canghellor yr wrthblaid, Rachel Reeves, rodd gan yr Arglwydd Donoughue, amheuwr hinsawdd amlwg, ddyddiau yn unig cyn i’w phlaid yn San Steffan roi'r gorau i'w hymrwymiad i wario £28 biliwn ar ynni gwyrdd.

Lywydd, dyma'r union fath o bydredd y dylem droi ein cefnau arno, nid ei gofleidio. Dylai’r math o wleidyddiaeth y dylem ei chynnig yng Nghymru fod yn wahanol, yn well, gan y dylai’r Senedd hon fod yn well na hynny. Mae'n rhaid i'r Senedd hon fod yn well. Ni allwn ganiatáu i’n gwleidyddiaeth ddilyn yr un llwybr â San Steffan; ni ddaw unrhyw ddaioni o hynny.

Os caf, hoffwn ganolbwyntio yn fy nghyfraniad ar bwysigrwydd ystyried canlyniadau anfwriadol cynigion pan gânt eu cyflwyno yn y Senedd hon. Fel y clywsom eisoes mewn llawer o gyfraniadau, mae holl bleidiau’r Siambr hon wedi cael rhoddion llawer mwy na’r rhodd benodol sydd dan sylw y prynhawn yma. Yn y ddadl hon, credaf fod yn rhaid inni ystyried beth fyddai’r canlyniadau i roddion a ddarperir gan ein hundebau llafur yn benodol, a Lywydd, rwy’n falch o gofnodi fy natganiad o fuddiant fel aelod o Undeb Unite ac Undeb Community. Rhoddion unigol yw’r rheini a ddarperir ar ran miloedd o weithwyr ledled Cymru ar sail ddemocrataidd, ac mae’r rhoddion hynny eisoes yn destun rheoleiddio llym. Felly, rwy’n rhannu pryderon yr undebau llafur, y rhai y siaradais â nhw, wrth ystyried sut y byddai cynigion fel y rhai a grybwyllwyd yn y cynnig y prynhawn yma gan Blaid Cymru yn gweithio’n ymarferol.

Fel y dywedwyd eisoes, ac fel rwyf i wedi'i ddweud, mae pob plaid wedi cael rhoddion ac wedi derbyn rhoddion unigol llawer mwy, na fyddent wedi eu cynnwys o dan y cap a gynigir yn y cynnig gan Blaid Cymru, felly mae'n rhaid inni ystyried hyn hefyd wrth bleidleisio ar y cynnig y prynhawn yma. Lywydd, rydym wedi clywed llawer o drafod heddiw, ac mae'n drafodaeth bwysig i'w chael, heb os, ond rwy'n siomedig gyda rhai Aelodau sy'n ceisio ymosod ar uniondeb y Prif Weinidog ar sail ensyniadau. Fel llawer o rai eraill yn y Siambr hon, mae gan y Prif Weinidog hanes blaenorol o ymladd dros gyfiawnder cymdeithasol ac ymladd dros hawliau gweithwyr, ac mae llywodraethu rhoddion gwleidyddol yn bwnc y dylid ei gynllunio mewn modd meddylgar a difrifol, nid drwy ymosodiadau gwleidyddol gan rai yn y Siambr. Dywedaf hyn fel rhywun sy’n hoffi ymosodiadau gwleidyddol lawn cymaint ag unrhyw un arall yn y Siambr hon.

Rwyf wedi bod yn myfyrio drwy gydol y ddadl hon ar y cyfraniad a wnaeth Adam Price, cyfraniad gwerthfawr i’r ddadl, fel y cawn yn aml gan Adam. Dywedodd Adam yn ei gyfraniad ei fod yn ceisio dod o hyd i ateb i'r materion sy'n gysylltiedig â rhoddion. Rwy'n deall rhagosodiad yr hyn y mae Adam yn ceisio ei wneud; ni chredaf fod y cynnig hwn yn dod o hyd i'r ateb rydych chi'n chwilio amdano. Dyna fy marn i, dyna farn llawer o'r aelodau o undebau llafur y siaradais â nhw, ac mae'n rhaid inni edrych ar y canlyniadau anfwriadol hynny. Rwyf am ildio, gan imi enwi'r Aelod.

Gadewch inni fod yn glir, o ran y cynnig, nid ydym yn cael y ddadl ehangach honno, y deallaf iddi arwain y Blaid Lafur i wrthwynebu cap ar roddion unigol yn San Steffan am y rhesymau a amlinellwyd ganddo. Yr hyn y soniwn amdano yma yw rhoddion i Aelodau unigol, onid e? Nid i bleidiau gwleidyddol. A fyddai’n derbyn bod gwahaniaeth yno a fyddai’n dal i ganiatáu’r math o gyfraniadau y cyfeiria atynt gan undebau llafur i bleidiau gwleidyddol, ond a fyddai’n cyflwyno cap ar roddion unigol i Aelodau unigol, er mwyn osgoi’r math o broblemau rydym yn sôn amdanynt?

17:50

Rwy’n deall i ble y mae’r Aelod yn mynd gyda’r ddadl. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud am y ddadl yw nad wyf yn credu bod y gwahaniaeth hwnnw wedi bod yn ddigon pendant i’r aelodau o'r undebau llafur y siaradais â nhw am y ddadl hon. Ni chredaf fod y cynnig yn dod o hyd i'r ateb rydych chi'n chwilio amdano, a gallaf ddeall pam, efallai, y gallech fod yn chwilio amdano. Ond nid yw'n dod o hyd i'r ateb hwnnw yno. Mae angen cynnal y sgwrs ar lefel wahanol a chyda mwy yn cymryd rhan. Felly, ni fyddaf yn cefnogi’r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Credaf ei bod yn bwysig gwahaniaethu a myfyrio ar y ffeithiau mewn sgwrs ddifrifol, mewn modd difrifol a grymus, yn hytrach nag ymosodiadau gwleidyddol gan rai—nid pawb, ond rhai—heddiw ac yn y gorffennol. Ac rwy'n gobeithio y gallwn fyfyrio ar hynny, Lywydd. Diolch.

Nid oeddwn wedi bwriadu siarad, ond fe'm hysbrydolwyd, yn rhyfedd ddigon, gan sylwadau agoriadol arweinydd Plaid Cymru, pan ddywedodd mai pris tŷ cyfartalog yng Nghymru yw £225,000. Pan fyddwch yn cynrychioli etholaeth fel Dyffryn Clwyd, lle mae gennyf etholwyr sy’n byw yng ngwesty Westminster yn y Rhyl; mae'r cyflog cyfartalog yn sir Ddinbych oddeutu £20,000 y flwyddyn, sy'n sylweddol is na'r isafswm cyflog cyfartalog cenedlaethol; mae gennyf etholwyr sy'n dal i fyw gyda'u rhieni yn 30 oed, sy'n methu cael troed ar yr ysgol dai; mae gennyf yr ysbyty sy'n perfformio waethaf yn y bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf yng Nghymru; ac rwy’n cynrychioli cymunedau tebyg i rai o Aelodau’r Blaid Lafur, a pha neges y mae hynny’n ei rhoi i deuluoedd incwm isel, sy’n gweithio’n galed i gadw to uwch eu pennau, os ydynt yn ddigon lwcus i allu gwneud hynny? Mae ganddynt amseroedd aros hirfaith, maent yn cael trafferth gweld meddyg, deintydd, a gallai’r holl arian y soniodd arweinydd Plaid Cymru amdano unioni rhai o’r problemau hynny. Byddai’n sicr yn prynu tŷ yn Nyffryn Clwyd; byddai'n cael tŷ eithaf da i chi a dweud y gwir, £200,000. Byddai'n mynd â chi'n eithaf pell yn y Rhyl mewn gwirionedd, gan fod tŷ pâr tair ystafell wely yn costio oddeutu £150,000 i £175,000 mewn rhai ardaloedd, felly mae'n debyg y byddech yn cael ychydig o newid o hynny hefyd. Felly, i ble y mae'n arwain o ran sosialaeth, hefyd, sy'n rhywbeth rydym yn sôn amdano? Oherwydd rydym yn clywed drwy’r amser gan Aelodau’r Blaid Lafur, yn sôn am dlodi, sy’n wych, sy’n iawn—nid wyf yn diraddio hynny o gwbl—ond beth mae hynny’n ei olygu o ran sosialaeth? Ar beth mae'r Blaid Lafur wedi'i hadeiladu? Ar beth mae sosialaeth wedi'i hadeiladu? Mae wedi'i hadeiladu ar degwch, mae wedi'i hadeiladu ar gydraddoldeb, mae wedi'i hadeiladu ar gynhwysiant—

Wel, roedd yn arfer bod, Janet, oedd. Roedd yn sicr yn arfer bod. Ond pa neges y mae hynny'n ei rhoi i'ch pleidleiswyr, y gall £200,000 brynu sedd i chi wrth fwrdd y Cabinet a'r swydd fwyaf dylanwadol, fwyaf pwerus yn y wlad? [Torri ar draws.] Ie, iawn, yn sicr.

Hynny yw, rydych chi'n llygad eich lle yn eich beirniadaeth, ond dychmygwch beth y gallech ei brynu gydag arian Torïaidd. [Chwerthin.]

Pa fath o ffigurau rydych chi'n sôn amdanynt? Wel, unwaith eto, dyma'r—[Torri ar draws.]

Gadewch i’r Aelod barhau. Rwy'n credu bod ei Aelodau ei hun yn tarfu arno ar y pwynt hwn. Parhewch, Gareth.

Credaf fod y cwestiwn yma, Gareth, yn ymwneud â'r arian, fel rydych chi wedi sôn, ond credaf ei fod hefyd yn ymwneud â doethineb y Prif Weinidog yn yr achos hwn. Dywedodd y Prif Weinidog, yn gynharach heddiw, darllenais yn y Daily Express, ei fod yn ymwybodol o'r euogfarn pan dderbyniodd y rhodd honno. Felly, rhaid cwestiynu ei ddoethineb, a’r un doethineb sy’n cael ei ddefnyddio bob dydd yn ei rôl fel Prif Weinidog. Onid oherwydd hynny y dylem boeni?

Yn sicr. Ac mae'n codi mater uniondeb. Fe wnaethoch bwynt da, Tom. Ond af yn ôl at egwyddor sosialaeth y clywn amdani mor aml gan Aelodau Llafur a'r Llywodraeth: beth mae hynny'n ei olygu i gydraddoldeb, beth mae hynny'n ei olygu i degwch, fod £200,000 yn gallu prynu sedd i chi wrth fwrdd y Cabinet a'r swydd fwyaf pwerus yn y wlad? Nid yw'n anfon neges dda at bobl Cymru, a fy etholwyr, sy'n ei chael hi'n wirioneddol anodd. Mae fy mewnflwch yn llawn o hynny; gallwch ddod i'w weld unrhyw bryd y dymunwch. Pa neges y mae'n ei hanfon at bobl Cymru, y gall £200,000 sicrhau'r swydd fwyaf pwerus yn y wlad i chi?

17:55

Diolch yn fawr, Llywydd. Mewn ymateb i'r ddadl yma, Llywydd, mae wedi bod yn dda trafod safonau heddiw. Mae craffu mewn ffordd agored ac adeiladol yn cael ei groesawu. 

Felly, Lywydd, fel y mae’r Prif Weinidog wedi’i nodi dro ar ôl tro, cydymffurfiwyd â’r holl reolau perthnasol, ac mae hynny wedi’i gydnabod eto y prynhawn yma. Hoffwn gofnodi ei bod yn bwysig datgan eto fod tîm priodoldeb a moeseg Llywodraeth Cymru wedi ystyried ac ymateb i gwestiynau a godwyd gan Aelodau, ac wedi nodi'n glir na wnaed unrhyw beth camweddus. Ac yn yr un modd â phob Gweinidog sydd â buddiannau cofrestredig, bydd y Prif Weinidog yn ymatal rhag unrhyw weithgarwch sy'n peri unrhyw wrthdaro buddiannau yn y ffordd arferol.

Lywydd, mae'r amddiffyniadau a ddarperir o fewn ein system bresennol yn bwysig. Cânt eu cadarnhau’n rhagweithiol gan Weinidogion, ac mae hynny wedi’i gydnabod yn y ddadl hon.

Rydych chi'n dweud na wnaed unrhyw beth camweddus, ac rwy'n derbyn, yn ôl y rheolau, na wnaed unrhyw beth camweddus. Mae eich cyd-Aelodau wedi dweud na fyddent wedi derbyn yr arian; mae Jeremy Miles, er enghraifft, wedi dweud hynny. A fyddech chi wedi derbyn yr arian?

O ran ymateb i'r ddadl hon, Mabon, yr wyf yn ei wneud fel Trefnydd, roeddwn yn mynd i ddweud, a chredaf y byddech yn croesawu hyn, Mabon, fy mod yn falch iawn fod y ddadl hon wedi trafod eich cynnig yn adeiladol. Dyna fyddech yn ei ddisgwyl, a dyna mae Adam Price wedi gofyn i ni ei wneud: ein bod ni, heddiw, yn adeiladol—a dyna rwy'n ei wneud mewn ymateb i'ch ymyriad chi hefyd. Mae’r ddadl hon wedi bod yn gadarn ac yn barchus. Cawn weld beth—. Hynny yw, mae'r bobl sy’n ein gwylio yn cydnabod bod yn rhaid inni fod yn barchus a chadarn wrth drafod cynnig Plaid Cymru.

Credaf fod peth o’r ymgysylltu gan Aelodau wedi bod yn ddefnyddiol iawn hefyd. Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant, er enghraifft, am ei gyfraniad ef, gan ei fod cydnabod y rhan bwysig—y rhan annatod—y mae undebau llafur yn ei chwarae ym mudiad Llafur Cymru. A gawn ni fyfyrio ar hynny am eiliad, gyd-Aelodau? Sefydlwyd y Blaid Lafur, wrth gwrs, gan y mudiad undebau llafur. Mae'n destun balchder fod y blaid yn cael ei chefnogi gan gyfraniad cyfunol gweithwyr siop, gweithwyr dur, staff cyngor a gweithwyr iechyd, ymhlith eraill.

Mae undebau llafur yn cael eu rheoleiddio'n llym, ond mae eich Llywodraeth chi'n gosod cyfyngiadau enfawr arnynt—deddfwriaeth wrth-weithwyr hefyd, gan eich Llywodraeth chi. Ond hefyd, mae’r cyfyngiadau hynny nid yn unig ar faterion fel gweithrediad mewnol undebau, ond yn ymwneud â chyllid gwleidyddol. Rwy'n credu, Jack, ei bod hi'n bwysig ichi gydnabod, ac fe wnaethoch ddatgan y ffaith, eich bod wedi cael adborth gan undebau llafur eu bod yn darparu cyllid yn seiliedig ar gyfraniad cyfunol miloedd o weithwyr ar ffurf rhoddion i Aelodau, nad ydynt bob amser yn cael eu darparu i Aelod unigol o'r Senedd, ond maent yn aml yn cael eu cyflwyno yn y ffordd honno, ac nid oes unrhyw reswm pam na ddylai hynny ddigwydd.

Ond y rheolau sy'n darparu ar gyfer tryloywder sy'n bwysig ar y pwynt hwnnw. Lywydd, dylai unrhyw ddiwygio—ac unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â thrafod y cynnig hwn yn barchus y prynhawn yma—dylai unrhyw ddiwygio sy'n ymwneud â chap gael ei ystyried yn ofalus iawn, a dylai pob plaid feddwl yn iawn amdano heddiw. Rwy'n croesawu'r ffaith i hyn gael ei gydnabod gan arweinydd yr wrthblaid heddiw. Felly, rydych wedi agor dadl, ac mae wedi cael ei thrafod yn barchus y prynhawn yma. Fel y nodwyd gennym yn ein gwelliant i’r cynnig, credwn fod y rheolau presennol ar gyfer tryloywder, ar gyfer datgan, a lle bo angen, ar gyfer hysbysu am roddion yn gweithio’n dda iawn wrth sicrhau gonestrwydd a chyfle i graffu yn y maes hwn. Ein barn ni yw bod y gofynion presennol yn ddigon i fod yn rhwymol ar bob plaid yn y Senedd, ac uwchlaw’r rheini, mai cyfrifoldeb pob plaid yw penderfynu ar y trefniadau ar gyfer ei busnes ei hun.

Felly, cyfeiriaf at yr adolygiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i sefydlu, fel arweinydd Llafur Cymru. Mewn gwirionedd, ar ôl ennill yr etholiad i ddod yn arweinydd Llafur Cymru, sefydlodd y Prif Weinidog yr adolygiad o drefniadau gornestau arweinyddiaeth mewnol. Cytunwyd arno gan bwyllgor gweithredol Cymru, a etholwyd yn ddemocrataidd gan y blaid, a bydd yn cael ei gadeirio gan ein cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones. A gaf i ddweud y bydd yr adolygiad hwnnw'n cynnwys cyllid ymgyrchoedd a hyd yr ornest, ymhlith materion eraill? Credaf ei bod yn iawn fod pleidiau—ac mae hyn yn wers i bob un ohonom—yn gweithio i greu’r trefniadau mewnol gorau posibl ar gyfer arweinyddiaeth eu pleidiau, a dyna’r gwaith y mae fy mhlaid i, ein plaid ni, yn ei wneud yn y ffordd gydgynghorol a democrataidd honno.

O ran ymateb i’r ddadl heddiw, credwn mai’r adolygiad hwn yw’r ffordd gywir ymlaen, ac mae wedi’i gytuno gyda strwythurau democrataidd—

18:00

Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am sefydlu'r adolygiad hwn—rwy'n credu ei fod yn bwysig. Mae Carwyn Jones sy'n ei arwain eisoes wedi dweud ei fod yn mynd i ymchwilio i gap ar roddion, ac rwy'n meddwl ein bod yn edrych ymlaen at weld lle mae'n cyrraedd gyda hynny. A ydych chi hefyd yn cytuno—oherwydd rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaeth Lee Waters yn ei araith yn bwysig iawn—y dylem hefyd gyflwyno prawf person addas a phriodol y gellir derbyn rhoddion ganddynt?

Rwy'n ddiolchgar i Alun Davies am wneud yr ymyriad hwnnw heddiw, oherwydd credaf mai dyna'n union pam y gall y ddadl hon fod yn barchus a gall hefyd gyfrannu at y trafodaethau a'r adolygiad a fydd yn cael ei gynnal. Fel y dywedais—ac mae'n mynd yn ôl i'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies, mewn gwirionedd—mae hyn yn ymwneud ag ystyried pethau'n fanwl; mae'n ymwneud â diwygiadau wedi'u hystyried yn fanwl y credaf fod angen i bawb ohonom eu hystyried.

Yn olaf, Lywydd, hoffwn ddweud fy mod i eisiau cymeradwyo gwaith ein pwyllgor safonau trawsbleidiol, ac rwyf eisiau croesawu a diolch i Gadeirydd y pwyllgor safonau heddiw, Vikki Howells. Gadewch inni edrych ar y pwyllgor safonau hwn. Fe wnaethom siarad y prynhawn yma am y ffaith ein bod ni eisiau symud ymlaen—rydym eisiau symud ymlaen—ac rwy'n meddwl y bydd y pwyllgor safonau yn helpu—[Torri ar draws.] Gadewch inni gofio'r hyn a ddywedodd Vikki Howells heddiw. Cydnabu fod gwaith y pwyllgor safonau yn rhan hanfodol o'r gwaith o gynnal safonau ymddygiad uchel ein Haelodau o'r Senedd drwy weithredu pan geir awgrymiadau na chydymffurfiwyd â'r safonau hynny. Rwy'n cydymdeimlo â phwynt Heledd Fychan, ar ôl cael trafodaeth gadarn a chadarnhaol iawn ym Mhwyllgor Biliau Diwygio'r Senedd y bore yma, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau ein bod yn symud ymlaen gyda diwygio'r Senedd, fel y byddwn yn ei wneud yr wythnos nesaf, rwy'n siŵr, i sicrhau hefyd ein bod yn estyn allan at bobl amrywiol Cymru yr ydym am iddynt ddod i ymuno â ni, a'u bod nhw'n gallu parchu ac ymddiried yn y ffordd yr ydym yn ymddwyn. Mae hynny'n hanfodol i waith y pwyllgor safonau.

Felly, yn olaf, Lywydd, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Mae'n ymwneud â symud ymlaen. Mae'n ymwneud â chydnabod y gallwn drafod y materion hyn gyda pharch, a hefyd gyda pharch fod ein Prif Weinidog yma heddiw yn arwain y Llywodraeth hon—[Torri ar draws.]—gan fynd i Mumbai yr wythnos nesaf ar ran y miloedd o bobl yn ein diwydiant cynhyrchu dur sy'n disgwyl hynny gan Brif Weinidog ar Lywodraeth Lafur Cymru.

Ac rwy'n credu y bydd y Senedd, erbyn yr wythnos nesaf, gobeithio, hefyd yn symud ymlaen at Gyfnod 4 o ddiwygio'r Senedd, i wneud yn siŵr y gallwn ymestyn mandad democrataidd y Senedd hon yn effeithiol, a datganoli 25 mlynedd yn ddiweddarach. Mae llawer y gallwn ei ddathlu yr wythnos nesaf.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn ei bresenoldeb nawr—fe wnaeth gyrraedd tuag at gamau olaf y ddwy ddadl hon—fy mod yn mynegi wrth y Prif Weinidog y siom go iawn nad oedd yma i glywed, ac yn wir i ymateb i'r dadleuon hyn heddiw. Rwy'n croesawu ymyriad wrth gwrs, os yw'n dymuno gwneud datganiad ar unrhyw adeg yn ystod fy sylwadau y prynhawn yma.

Rydym newydd glywed mwy o alwadau, fel y gwnaethom dros y dyddiau a'r wythnosau diwethaf, i symud ymlaen. Rwy'n ofni na allwn symud ymlaen cyn belled â bod cymaint o gwestiynau'n parhau heb eu hateb, ac nid yw'r ffaith nad yw'r Prif Weinidog ei hun yn credu bod cwestiynau ar ôl heb eu hateb yn fy modloni, ac nid wyf yn credu ei fod yn bodloni'r mwyafrif helaeth o bobl Cymru.

Os caf, hoffwn gyferbynnu cyfraniadau dau Aelod ar feinciau'r Blaid Lafur. Yn gyntaf, yr Aelod dros Gaerffili. Roeddem yn siarad ddoe, onid oeddem, yn y drafodaeth ar y Bil diwygio, am gamarwain pobl mewn gwleidyddiaeth. Rhaid gofyn a oedd Hefin David, wrth amddiffyn y Prif Weinidog, wedi sylweddoli bod y cynnig heddiw yn ymwneud â chapio rhoddion i unigolion ac nid pleidiau gwleidyddol, neu a oedd yn cyfuno'r ddau beth yn fwriadol. Cyfeiriodd hyd yn oed at un rhoddwr i Blaid Cymru a gafwyd yn euog o fater yn ymwneud â hawliau gweithwyr dair blynedd ar ôl i'r rhodd honno gael ei gwneud, pan dderbyniodd y Prif Weinidog arian gan un cwmni, Veezu, sydd wedi bod yn destun heriau'n ymwneud â hawliau cyflogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Felly, byddwch yn ofalus iawn wrth wneud y mathau hynny o honiadau.

18:05

Nawr, neu ar ôl i mi ddweud fy ychydig frawddegau nesaf? Ac aeth ymlaen wedyn i wneud ensyniadau ynghylch taliad i fy mhlaid yn yr etholaeth—nid i mi, i fy mhlaid yn yr etholaeth—yn 2013. Yn sicr, ni ellir ystyried bod rhai rhoddion, Hefin David, wedi eu gwneud er mwyn ceisio ennill dylanwad gwleidyddol. Gadawodd y diweddar Mr Parry y swm hwnnw yn ei ewyllys, ac nid ydym yn siarad yma am atal taliadau rhag cael eu gwneud i bleidiau gwleidyddol, gan gynnwys eich un chi, mewn ewyllysiau. Rydym yn sôn am daliadau i unigolion, nid pleidiau gwleidyddol, ac rwy'n eich atgoffa, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fod eich plaid wedi derbyn £9 miliwn, rwy'n credu, mewn taliadau, i'w roi yn ei gyd-destun.

Rwy'n credu y dylwn ddweud nad oeddwn yn eich beirniadu. Roeddwn ond yn tynnu sylw at y ffaith bod rhywfaint o ffugsancteiddrwydd a rhagrith yn eich plaid. Fe dderbynioch chi, neu eich plaid yn yr etholaeth—sef yr hyn a ddywedais—£141,584.92 gan un rhoddwr. Nid oes dim o'i le ar hynny. Rwy'n dychmygu iddo gael ei ddefnyddio yn yr ymgyrch i'ch ailethol yn 2016, felly peidiwch â chamddehongli'r hyn rwy'n ei ddweud. Rwy'n eich cefnogi mewn gwirionedd.

Ni chlywais hynny'n dda, ond nid wyf yn meddwl bod hynny'n bwysig. Gadawaf i chi fyfyrio a oes cymhariaeth deg i'w gwneud rhwng swm—[Torri ar draws.]—wedi ei adael i blaid wleidyddol mewn ewyllys—

Gadewch i Rhun ap Iorwerth orffen y pwynt y mae'n ceisio ei egluro. Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Diolch yn fawr. 

Gadawaf i'r Aelod farnu a yw'n gymhariaeth deg rhwng swm o arian a adawyd mewn ewyllys i blaid wleidyddol gan rywun sy'n credu mewn democratiaeth a thaliad o £200,000 i ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru gan gwmni a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, a oedd yn disgwyl i'r Llywodraeth wneud penderfyniad ynghylch fferm solar, ac ati, ac ati. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud o ran bod wedi cofrestru popeth yn iawn, ac na all ddefnyddio ei ddylanwad, ond gadewch inni gofio beth mae cod y Gweinidogion yn ei ddweud ynglŷn ag a ellid gwneud dyfarniad rhesymol y gallai fod gwrthdaro rhwng penderfyniad a wneir ar sail bersonol ac yn rhinwedd ei waith. Rwy'n credu bod y trothwy wedi'i ganfod, ac rwyf wedi dweud hynny ar sawl achlysur.

Mae arnaf ofn fod y sylwadau a wnaed gan Aelod Caerffili yn adlewyrchu'n wael arno heddiw. Rwy'n cyferbynnu ei sylwadau â'r sylwadau a wnaed—y sylwadau gonest iawn a wnaed—gan yr Aelod dros Lanelli. Dywedodd Lee Waters yn gryno iawn, wrth sôn am yr enw drwg sydd i wleidyddiaeth fel y mae, na ddylai byth ymwneud ag i ba raddau y gallwn osgoi beirniadaeth; mae'n ymwneud ag a yw'n iawn. Ac yng nghyd-destun y taliadau hyn i arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru a'r Prif Weinidog, credaf fod pobl wedi dod i gasgliad ynglŷn ag a yw'n iawn ai peidio. Dywedodd Lee Waters nad oedd yn gallu cefnogi'r cynnig heddiw oherwydd ei fod yn ofni ei fod yn rhagfarnu canlyniadau adolygiad mewnol gan y Blaid Lafur. Dywedais yn fy sylwadau i ddechrau fy mod yn difaru'r ffaith na fanteisiodd Llafur ar y cyfle, wrth ddileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd, i ddweud bod yna groeso i ymagwedd o'r fath a allai arwain at ymchwiliad i sut y gellid rhoi system o'r fath ar waith, ac rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchu'n wael hefyd ar y Llywodraeth heddiw.

Yn syml iawn, dydy'r penderfyniad i dderbyn rhoddion o'r maint yma, heb sôn am ffynhonnell yr arian, dydy'r ffaith bod o'n cael ei ganiatáu o dan y diffyg rheolau presennol ddim yn eistedd yn gyfforddus efo pobl Cymru. Mae o'n creu argraff, hyd yn oed os ydy pob rheol yn cael ei pharchu, fod dylanwad yn gallu cael ei brynu.    

Rwy'n gwahodd y Ceidwadwyr i ailystyried eu penderfyniad i ymatal. Ar hyn, nid oes penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â beth ddylai'r cap fod, pa fodel y dylid ei gyflwyno ar gyfer y cap hwnnw. Hoffwn ofyn iddynt ystyried a yw ymatal yn adlewyrchu'n wael arnynt hwy, o ystyried y dadleuon ynghylch y Blaid Geidwadol a rhoddion gwleidyddol. Felly, rwy'n apelio arnoch i gefnogi'r cynnig. 

Mae arnaf ofn fod y bennod hon yn adlewyrchu'n ofnadwy ar y Prif Weinidog ei hun a'i ddoethineb, ond gallwn wneud safiad yma heddiw i amddiffyn uniondeb ein democratiaeth yn ei chyfanrwydd.

18:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad ac, felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, byddwn yn symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Mae'r gyfres gyntaf o bleidleisiau ar eitem 6, dadl y Ceidwadwyr ar adolygiad Cass, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn gyntaf heb ei ddiwygio, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.  

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad Cass. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf. Pleidlais, felly, ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad Cass. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad Cass. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM8563 fel y'i diwygiwyd: 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyhoeddi adolygiad Cass.

2. Yn nodi bod y GIG yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc 17 oed ac iau gan y GIG yn Lloegr.

3. Yn nodi bod y GIG yn Lloegr wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch nac effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed ar gyfer trin dysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc ar hyn o bryd.

4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu'r canllawiau trawsrywedd ar gyfer ysgolion, gan ystyried adolygiad Cass a barn rhanddeiliaid.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad Cass. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Eitem 7 fydd y pleidleisiau nesaf. Dadl y Ceidwadwyr yw hon ar roddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidogion. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.

18:15

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y gweinidogion. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 sydd nesaf. Pleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y gweinidogion. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y gweinidogion. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais olaf ar y eitem yma ar y cynnig wedi'i ddiwygio gan welliant 1. 

Cynnig NDM8562 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd Cod y Gweinidogion, a'r cyfrifoldebau y mae'n eu gosod ar Weinidogion Cymru, o ddifrif.

2. Yn nodi bod y penderfyniadau a wneir gan Fanc Datblygu Cymru ynghylch benthyca a buddsoddi yn cael eu gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y gweinidogion. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 8, dadl Plaid Cymru ar uchafswm ar roddion gwleidyddol. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, 14 yn ymatal, 27 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Uchafswm ar roddion gwleidyddol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 27, Ymatal: 14

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 24 yn ymatal, 1 yn erbyn, felly mae'r gwelliant yna wedi ei gymeradwyo.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Uchafswm ar roddion gwleidyddol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 1, Ymatal: 24

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8561 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod gan Aelodau o'r Senedd gyfrifoldeb i ddatgan buddiannau ar Gofrestr Buddiannau'r Aelodau a nodi datganiadau o'r fath lle bo'n berthnasol mewn cyfraniadau ysgrifenedig a llafar i Fusnes y Senedd.

2. Yn nodi ei bod yn ofynnol i Aelodau hefyd wirio bod rhoddion o £500 neu fwy wedi’u gwneud gan roddwyr a ganiateir, yn ogystal â rhoi gwybod i’r Comisiwn Etholiadol am fanylion llawn y rhoddion hynny sydd dros £2230.

3. Yn cydnabod bod pleidiau gwleidyddol, a'u cyrff llywodraethu cyfansoddol, yn gyfrifol am bennu a monitro cydymffurfedd â rheolau sy'n mynd y tu hwnt i'r gofynion cyfreithiol presennol.

4. Yn galw ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i barhau i sicrhau bod yr holl Aelodau yn bodloni'r safonau ymddygiad uchaf.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 25 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Uchafswm ar roddion gwleidyddol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 0, Ymatal: 25

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ddiwedd ar y pleidleisio am heddiw, ond nid dyna ddiwedd ar ein trafodion ni. Fe fydd y ddadl fer nesaf. 

10. Dadl Fer: Gaza—Ymateb Cymreig

Symudwn ni i'r ddadl fer nawr. Rwy'n gofyn i'r Aelodau sy'n gadael i adael yn dawel. Peredur Owen Griffiths sy'n cyflwyno y ddadl fer ar Gaza, ymateb Cymreig. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Pan ddaeth fy enw i fyny ar gyfer y ddadl fer hon, mae bob amser yn fraint, oherwydd rydych chi'n cael hyd at 15 munud i siarad am rywbeth sy'n bwysig i chi. Rwy'n cael rhoi peth o fy amser i Aelodau eraill siarad, am hyd at funud yr un, a heno mae ceisiadau niferus wedi dod. Ond rwyf wedi mynd ar sail y cyntaf i'r felin, a chytunais i roi munud yr un i Rhun ap Iorwerth, Sioned Williams, Mabon ap Gwynfor, Jenny Rathbone a John Griffiths. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i'r ddadl wedyn ar ran y Llywodraeth, ac nid oes pleidlais ar ddadleuon byr. Felly, fel y dywedais, mae'n gyfle gwych i siarad ar bwnc sy'n bwysig i mi. Roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau siarad am Gaza, a nodi ein hymateb Cymreig yn arbennig.

Fe wnaethom ymateb bron ar unwaith, gyda datganiadau gan holl arweinwyr y pleidiau yn y Siambr hon ar 10 Hydref, yn condemnio ymosodiad Hamas ar 7 Hydref ac yn galw am ryddhau'r gwystlon. Aeth Plaid Cymru ymhellach a galw am gadoediad yn ôl bryd hynny. Mae'n anodd credu bod bron i chwe mis wedi mynd heibio ers 8 Tachwedd, pan gynhaliwyd y bleidlais hanesyddol honno yn y Senedd i alw am gadoediad ar unwaith yn Gaza. Diolch i gefnogaeth Jane Dodds a rhai o aelodau meinciau cefn Llafur, derbyniwyd pleidlais y Senedd o blaid y cynnig am gadoediad ar unwaith a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. Cafodd Plaid Cymru ei beirniadu rywfaint gan rai am y weithred hon, gyda rhai pobl yn dweud y dylem ganolbwyntio ar faterion yng Nghymru. Mae dau beth i'w ddweud am hynny. Yn gyntaf, mae gan Blaid Cymru draddodiad balch o sefyll ar lwyfan y byd a chodi ein lleisiau pan fo angen. Yn ail, mae yna ddinasyddion o Gymru wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan ddigwyddiadau yn Gaza. Yn gynharach y mis hwn, clywsom gan Gillian a Pete Brisley o Ben-y-bont ar Ogwr a gollodd eu merch a'u hwyresau yn yr ymosodiad gan Hamas ar 7 Hydref, a mynychais weddïau gyda dyn ym mosg Dar-ul-Isra sydd wedi colli dros 20 aelod o'i deulu agos yn rhyfel Israel ar Gaza.

18:20

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Ein gwaith ni yn y lle hwn yw cynrychioli pawb yng Nghymru, a dyna mae Plaid Cymru yn ei wneud. Er fy mod yn falch ein bod wedi chwarae ein rhan yn condemnio'r hyn a oedd eisoes yn sefyllfa enbyd i bobl Gaza ddechrau mis Tachwedd, mae'r bomio, y newyn a'r lladd wedi parhau'n ddi-baid. Yn ôl Al Jazeera, mae 1,139 o bobl wedi marw yn Israel a 34,979 o Balesteiniaid wedi eu lladd ers 7 Hydref. Mewn gwirionedd, mae'r nifer a fu farw yn debygol o fod yn llawer uwch, wrth i fwy a mwy o gyrff gael eu tynnu allan o'r rwbel a darganfod beddau torfol mewn dau safle claddu gwahanol y tu allan i ysbytai Nasser ac Al-Shifa, lle daethpwyd o hyd i 390 o gyrff. Mae'n ddinistr a gofid ar raddfa annirnadwy. A dweud y gwir, mae'n anodd siarad amdano, ac mae'n anodd ei wylio. Ond mae'n rhaid siarad amdano. Mae'n rhaid inni dystio i'r hyn sy'n digwydd. Ac mae llawer wedi teimlo eu bod wedi cael eu galw i weithredu. Rwy'n gweld pobl yn yr oriel sydd wedi bod yn gwneud hynny.

Yng Nghymru, mae'r ymateb gan nifer fawr o bobl i'r erchyllterau hyn wedi bod yn glir: 'Nid yn fy enw i'. Mae pobl wedi mynychu ralïau a gwylnosau, mae pobl wedi gorymdeithio, mae pobl wedi codi arian ar gyfer ymdrechion cymorth, ac mae pobl wedi boicotio cwmnïau sydd â chysylltiadau â lluoedd arfog Israel. Yn union fel cynnig cadoediad y Senedd, maent yn anfon neges glir gan bobl Cymru nad ydym yn cefnogi ymosodiad milwrol parhaus Israel yn erbyn sifiliaid yn Gaza. Nid yw gwylio a gwneud dim yn opsiwn pan fydd canlyniadau cyrch Israel ar Gaza mor ddifrifol. Rwyf wedi bod ar orymdeithiau a ralïau, ac mewn digwyddiadau codi arian. Rwyf wedi gweld angerdd pobl sydd ond eisiau gwell o'r byd hwn. A yw ein Llywodraeth yn teimlo'r un angerdd a phenderfyniad? Yn anffodus, nid yw i'w weld yn gwneud hynny. Cefais fy synnu yr wythnos diwethaf pan ddywedodd y Prif Weinidog wrthyf

'Safbwynt Llywodraeth Cymru ers cryn amser yw y dylai fod cadoediad ar unwaith.'

Roedd hynny'n newyddion i mi. Roedd hefyd yn newyddion i fy nghyd-Aelodau, ac roedd yn newyddion i'r ymgyrchwyr gwrth-ryfel rwy'n cysylltu â nhw, oherwydd pan ddaeth cynnig cadoediad Plaid Cymru ger bron y Senedd, fe wnaeth holl Weinidogion y Llywodraeth ymatal. Rwy'n dal i aros am eglurhad gan y Prif Weinidog ynglŷn â pha bryd y newidiodd y safbwynt hwnnw, a sut y cafodd ei gyfathrebu. Mae'n peri pryder nad oedd neb yn gwybod dim am y peth.

Cefais e-bost gan aelod o Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru a ddywedodd eu bod wedi anfon llythyr at y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford, ym mis Chwefror. Roedd y llythyr yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i atal cyllid i Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig, sy'n dal i fod heb ei adfer. Gan nad yw Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru wedi cael ymateb i'r llythyr eto, fe wnaethant ei ailanfon at y Prif Weinidog newydd yr wythnos diwethaf yn dilyn ei sylwadau fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cadoediad ar unwaith. Efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro hyn yn ei hymateb ac yn annog y Prif Weinidog i ateb y llythyr.

Wrth edrych ar ymateb unigryw Gymreig i'r sefyllfa yn Gaza, cefais fy nenu at wefan Cyngor Rhyng-ffydd Cymru. Ar y wefan, ers mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Cyngor Mwslimaidd Cymru, gyda Chyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru, dan nawdd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru, ymrwymiad i ddeialog a galwad am heddwch yn y dwyrain canol. Mae'r weithred syml hon yn unigryw ym Mhrydain ac yn dyst i agwedd Cymru tuag at gysylltiadau rhyng-ffydd. Dyma un o'r rhesymau pam rwy'n falch o allu siarad am ymateb Cymreig—un nad yw'n chwilio am raniadau ond yn hytrach, am gydweithio ar gyfer meithrin cyd-ddealltwriaeth ac ymrwymiad ar y cyd i heddwch a dynoliaeth.

Ddirprwy Lywydd a chyd-Aelodau, rwy'n siŵr y gallwn i gyd ganmol y ffordd Gymreig hon o wneud pethau. Ar ôl mwy na chwe mis ers dechrau ymosodiad Israel, mae'n hen bryd cael sancsiynau. Mae'n hen bryd atal anfon arfau. Mae'n hen bryd dadfuddsoddi o gwmnïau a chynlluniau pensiwn sy'n cynnal y gwrthdaro hwn. Mae'r rhanbarth cyfan ar drothwy rhyfel sy'n llawer mwy na'r hyn a welwn ar hyn o bryd. Rhaid rhoi diwedd arno cyn iddo fynd ymhellach. Mae'n ddyletswydd ar y gymuned ryngwladol i adlewyrchu barn y bobl y maent yn eu gwasanaethu a dweud digon yw digon.

Gall Cymru chwarae ei rhan yn yr ymdrech honno. Rwy'n galw ar y Llywodraeth Lafur hon i fod yn glir ac yn benderfynol yn ei gwrthwynebiad i'r ymosodiad parhaus yn Gaza. Mae hynny'n dechrau gyda galwad glir am gadoediad parhaol ar unwaith a fydd yn caniatáu i'r ymdrech ddyngarol enfawr ddigwydd. Mae angen i hyn ddigwydd er mwyn pobl Gaza, mae angen i hyn ddigwydd er mwyn y gwystlon sy'n dal i gael eu cadw'n gaeth, ac mae angen iddo ddigwydd yn enw heddwch a dynoliaeth. Diolch yn fawr.

18:25

Diolch, Peredur, am gyflwyno y ddadl yma heddiw ac am ganiatáu i fi gael gwneud cyfraniad byr hefyd. Y perygl bob amser ydy bod treigl amser yn gwneud i bobl golli ffocws, i ymgynefino efo rhywbeth sy'n digwydd draw fan acw, waeth pa mor erchyll ydy hynny.

Ni allwn adael i'r byd anghofio erchyllterau'r rhyfel hwn. Ni allwn anghofio'r rhai a laddwyd ac a gymerwyd yn wystlon ar 7 Hydref, ac rydym yn mynnu eu bod yn cael eu rhyddhau. Ac ni ddylem byth anghofio'r degau o filoedd a laddwyd ac sy'n dal i gael eu lladd yn Gaza, y cannoedd o filoedd o Balesteiniaid sy'n wynebu amddifadrwydd llwyr, diffyg maeth a digartrefedd. Rhaid inni ail-bwysleisio ein condemniad o'r rhai sy'n gyfrifol, mynnu diwedd ar yr erchyllterau, cadoediad, sancsiynau, cynnydd enfawr mewn cymorth dyngarol. Rwy'n falch fod cymaint o bobl yng Nghymru wedi ymateb. Fe all, ac mae'n rhaid i'n Senedd barhau i godi llais fel rhan o gymuned fyd-eang sy'n sefyll dros oddefgarwch a heddwch.

Rhaid i ddynoliaeth fod yn drech yn Israel a Phalesteina. Mae fy etholwyr yn dweud wrthyf eu bod eisiau cadoediad parhaol ar unwaith, rhyddhau gwystlon, lefelau priodol o gymorth dyngarol, a dechrau ateb gwleidyddol a fydd yn para. Mae António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi siarad yn rymus iawn yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn. Mae wedi dweud, 'Mae'r rhain yn adegau mewn hanes pan fo'n rhaid gweithredu.' Rwy'n falch iawn fod pobl yng Nghymru wedi gorymdeithio, wedi mynd i ralïau, wedi protestio—ac rwyf wedi bod yn freintiedig iawn i fod yn rhan o hynny—i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed dros ddynoliaeth a heddwch. Rwy'n credu nawr a thrwy gydol yr argyfwng ofnadwy hwn ei bod hi mor bwysig fod cynrychiolwyr gwleidyddol ac arweinwyr gwleidyddol ar bob lefel wedi codi llais a lleisio'u barn—wedi siarad o blaid cadoediad uniongyrchol a pharhaol, y lefelau priodol o gymorth dyngarol, rhyddhau gwystlon a dechrau'r datrysiad gwleidyddol. Dyna'r Gymru rwyf eisiau bod yn rhan ohoni, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu bod yn rhaid inni gryfhau'r lleisiau hynny nawr, ar yr adeg dyngedfennol hon, ar ran y nifer fawr sydd wedi'u dal yn y gyflafan ofnadwy hon. 

18:30

Mae mwy na 34,000 o bobl wedi cael eu lladd yn Gaza ac yn ôl y Cenhedloedd Unedig, credir bod 72 y cant yn fenywod a phlant. Fel menyw, seneddwr ac fel cynrychiolydd ar ran menywod Cymru yn y lle hwn, mae gennyf ddyletswydd foesol i ddefnyddio fy llais i gondemnio marwolaethau a dioddefaint y menywod a'r plant diniwed hynny. Ni all Llywodraeth Cymru siarad am bwysigrwydd iechyd mamau, urddas mislif, lles plant a hawl a phwysigrwydd addysg heb wneud safiad a defnyddio pob platfform a phob owns o ddylanwad i feirniadu triniaeth echrydus, anghyfiawn ac anghyfreithlon plant a menywod yn Gaza.

Er nad oes gennym bwerau dros faterion rhyngwladol, fe allwn ac fe ddylem wneud datganiad pwerus dros heddwch fel cenedl, fel Senedd genedlaethol ac fel Llywodraeth. Mae gennym draddodiad hir o ddefnyddio'r llais hwnnw dros heddwch, o Gomin Greenham i ryfel Irac, ac ni ddylem byth danbrisio dilysrwydd a phŵer y llais cyfunol hwnnw. Oherwydd pan fydd yn ei siwtio nhw, bydd Llywodraeth Cymru yn trafod materion rhyngwladol yn helaeth, gan gyfeirio'n aml at faterion rhyngwladol mewn ymateb i gynigion cydsyniad deddfwriaethol, cytuniadau, cytundebau masnach, adroddiadau pwyllgorau, ac nid oes ond angen inni feddwl am y sylw a roddir gan Weinidogion mewn areithiau a datganiadau i'r ymosodiad echrydus ar Wcráin a'i ganlyniadau dinistriol. Felly, y pwynt hanfodol yma yw na all Senedd a Llywodraeth Cymru fod yn dawel, yn enwedig nawr pan welwn Israel yn benderfynol o gyflawni mwy fyth o ladd a dinistr yn Rafah. Mae angen iddynt godi llais yn glir, a'r geiriau y mae'n rhaid inni eu clywed yw 'Cadoediad nawr'.

Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, ni allwn ddod i arfer â lefel y gyflafan sy'n digwydd; rhaid inni beidio â throi ein cefnau. Plentyn yw Jana Ayad, tua'r un oed â fy ail wyres. Nid yw'n ddim ond croen ac esgyrn, yn llwgu i farwolaeth oherwydd polisi bwriadol i beidio â chaniatáu digon o fwyd i mewn i Gaza i fwydo'r holl bobl sydd wedi'u dadleoli gan y bomio. Gyda'r maeth cywir, gellid achub Jana, pe bai blocâd Gaza yn cael ei godi. 

Nos Lun cafodd newyddiadurwr, Salem Abu Toyor, a'i fab, eu lladd pan darodd bom Israelaidd eu tŷ. Mae Israel wedi lladd mwy o newyddiadurwyr yn Gaza na'r holl newyddiadurwyr a laddwyd yn yr ail ryfel byd, mewn dim ond 200 diwrnod. A yw milwyr Israel yn fwriadol yn lladd newyddiadurwyr—neu a oes ganddi agwedd laissez-faire tuag at ladd sifiliaid sy'n byw yn Gaza, ac mae newyddiadurwyr, fel gweithwyr iechyd a gweithwyr cymorth, yn mynd o ffordd eu hymgyrch?

Dywedir wrthym fod y pecyn cadoediad diweddaraf yn gynnig hael, meddai Antony Blinken. Nid yw mis heb fomio a newynu, wedi'i ddilyn gan gyflafan yn Rafah, neu ymosodiad uniongyrchol ar Rafah yn teimlo'n hael, yn ddeniadol nac yn cyd-fynd â rheolau rhyfel. Mae gan y fyddin oresgynnol hon ddyletswydd i ofalu am sifiliaid yn yr ardal, ac nid yw hynny'n digwydd yn Gaza na'r Lan Orllewinol. Rhaid i Lywodraeth yr Unol Daleithiau fynnu cadoediad cadarn ar unwaith, neu atal pob cymorth milwrol i Israel, a rhaid inni barhau i weiddi am gadoediad ar unwaith ac ateb parhaus, cynaliadwy.

Diolch yn fawr iawn i ti, Peredur, am dy agoriad rhagorol a phwerus iawn i'r cyfraniad yma. Mae'r rhai hynny sydd yn amddiffyn gweithredoedd gwladwriaeth Israel yn dweud mai amddiffyn eu hunain mae'r wladwriaeth honno, ond nid gweithred amddiffynnol ydy lladd 35,000 o bobl. Nid gweithred amddiffynnol ydy lladd traean ohonyn nhw yn blant. Nid gweithred amddiffynnol ydy bomio ysbytai gyda chleifion ynddyn nhw, ac yn sicr nid gweithred amddiffynnol ydy atal cymorth dyngarol rhag cyrraedd poblogaeth sydd ar fin marw o newyn. Yn wir, yn ôl diffiniad yr International Court of Justice, gellir diffinio'r gweithredoedd hyn fel gweithred hil-laddiad.

Rŵan, roedd y newyddion ddaru ni ei gael rhai wythnosau yn ôl ynghylch bomio cerbydau World Central Kitchen yn andros o drist, ac fe glywsom ni fod yna dri pherson o’r Deyrnas Gyfunol wedi cael eu lladd. Yn sydyn iawn, ddaru Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddangos diddordeb. Yr hyn welsom ni, mewn gwirionedd, oedd bod bywyd un person gwyn o Brydain yn gyfwerth i fywyd 11,000 o Balestiniaid diniwed.

Rŵan, mae’r bomio yma wedi cael ei alluogi oherwydd bod Israel yn medru prynu arfau, a hynny heb ddim rheolaeth gan y gwladwriaethau sydd yn eu gwerthu nhw. Felly, mae gen i ddiddordeb i glywed yn ymateb y Gweinidog pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud er mwyn sicrhau nad oes yna unrhyw arfau o Gymru, neu ddarnau o arfau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru, yn cael eu cyfrannau a’u gwerthu i Lywodraeth Israel. Mae’n rhaid inni atal y gwerthu arfau yma a’r trwyddedu o’r gwerthu yma. Diolch yn fawr iawn.

18:35

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths. 

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Peredur Owen Griffiths, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Mae pob un ohonom o amgylch y Siambr hon wedi cael ein dychryn gan y trais parhaus yn Israel, Palesteina a'r rhanbarth ehangach. Er nad yw materion polisi tramor wedi'u datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol fod canlyniadau gwirioneddol a pharhaol iawn yn ein cymunedau yng Nghymru. Mae'n werthfawr ein bod yn cael y cyfle hwn i drafod y canlyniadau hynny'n fanylach.

Mae'r ddadl heddiw hefyd yn adeiladu ar y cynnig cadoediad y cyfeiriodd Peredur ato, ac a drafodwyd yn y Siambr hon ar 8 Tachwedd y llynedd. Yn unol â chonfensiwn—ac rwyf am egluro hyn—fe ymataliodd Gweinidogion Cymru o'r bleidlais ar y cynnig gan nad yw materion polisi tramor wedi'u datganoli i Senedd Cymru. Fodd bynnag, yn y ddadl ei hun roedd fy rhagflaenydd, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn glir fod Llywodraeth Cymru eisiau gweld cadoediad llawn cyn gynted â phosibl. Ailadroddwyd y safbwynt hwn yn y Cyfarfod Llawn gan y Prif Weinidog a'r cyn Brif Weinidog, a gwn y bydd y Prif Weinidog yn ateb yr ohebiaeth y cyfeiriodd Peredur ati.

Rhaid cael ymdeimlad newydd o frys ymhlith y gymuned ryngwladol i sicrhau cadoediad llawn a pharhaol, gan ddod â'r dioddefaint ar bob ochr i ben cyn gynted â phosibl. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae argyfwng dyngarol go iawn yn digwydd. Rydym yn mawr obeithio y bydd yr holl bartneriaid perthnasol yn sicrhau cynnydd sylweddol ac uniongyrchol yn y cymorth i mewn i Gaza, yn cytuno i ryddhau'r holl wystlon, yn dod â'r trais i ben, ac yn cymryd rhan ystyrlon yn natblygiad datrysiad dwy wladwriaeth sy'n para.

Rhaid i roi'r gorau i drais fod yn llwyfan hanfodol ar gyfer proses wleidyddol fwy hirdymor a phendant tuag at sefydlu datrysiad dwy wladwriaeth yn seiliedig ar wladwriaeth sofran Palesteina ac Israel ddiogel. Ni all fod unrhyw ddiogelwch i unrhyw un yn Israel a Phalesteina heb heddwch hirdymor sy'n deg i'r ddwy wladwriaeth. Fe welwyd dioddefaint annirnadwy i bobl ddiniwed ar bob ochr, ac mae'n parhau, ac mae'n hanfodol fod pawb yn cydnabod dynoliaeth gyffredin pob dioddefwr.

Yng Nghymru, yr her i ni yw nodi'r dylanwad y gallwn ei gael i helpu i gyflawni'r newidiadau y mae pawb ohonom am eu gweld, i atal y casineb a'i ganlyniadau. Mae hanes a geowleidyddiaeth y rhanbarth, yn ogystal â'r trais parhaus a'r ffaith nad yw polisi tramor wedi'i ddatganoli, yn cyfyngu'n ddifrifol ar yr hyn y gallwn ei wneud, er gwaethaf ein tristwch dwfn. [Torri ar draws.] A gaf i barhau am funud, os gwelwch yn dda? Serch hynny, mae yna bethau y gallwn ni, ac rydym ni'n eu gwneud yng Nghymru i gefnogi'r cymunedau yr effeithir arnynt sy'n byw yma.

Fe gofiwch, yn Senedd yr Alban, y cynhaliwyd dadl yn galw am gadoediad ar unwaith. Yn ystod y ddadl honno, dywedodd y cyn-Brif Weinidog Humza Yousaf ei fod wedi anfon llythyr gan Lywodraeth yr Alban at Rishi Sunak a Keir Starmer yn gofyn iddynt alw am gadoediad ar unwaith. A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr un peth?

Fe edrychaf ar hynny i chi, ac yn amlwg fe ysgrifennaf atoch i roi gwybod i chi.

Rydym wedi bod yn monitro unrhyw densiynau cymunedol sy'n ymwneud â'r gwrthdaro drwy ein rhaglen cydlyniant cymunedol, ac yn monitro unrhyw gynnydd mewn digwyddiadau casineb drwy ganolfan cymorth casineb Cymru. Er bod rhai digwyddiadau atgas wedi bod, diolch byth mae'r rhain yn brin, ac nid ydym wedi gweld y niferoedd mawr yr oeddem yn eu hofni. Mae Gweinidogion wedi cyfarfod ag arweinwyr Iddewig a Mwslimaidd i drafod effeithiau'r gwrthdaro yn Israel a Gaza ar ein cymunedau yma yng Nghymru. Rydym wedi annog undod a deialog rhyngddiwylliannol mewn partneriaeth â'n fforwm cymunedau ffydd. Er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi mewn ysgolion, gallasom gyd-ysgrifennu llythyr ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion yng Nghymru gyda Chyngor Mwslimaidd Cymru a Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â phob ffydd, fel y gwnaethom mor dda ers sefydlu'r fforwm ar ôl 9/11, i hyrwyddo cydnabyddiaeth o'n dynoliaeth gyffredin.

Nid oes lle i ragfarn a chasineb yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i honiadau ac achosion o hiliaeth ac aflonyddu hiliol gael eu harchwilio'n llawn, gyda chamau priodol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater ac atal digwyddiadau pellach rhag digwydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhoddion i sawl apêl gan y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn y blynyddoedd diwethaf—

18:40

A gaf i wneud peth cynnydd, os gwelwch yn dda? Nid ydym wedi gallu gwneud hyn i leddfu peth o'r dioddefaint yn Gaza, oherwydd nid yw'r Pwyllgor Argyfyngau Brys wedi gallu lansio ymgyrch. Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor Argyfyngau Brys yn credu mai dim ond cadoediad parhaol fydd yn galluogi ei asiantaethau i ddarparu cymorth mawr ei angen yn Gaza yn effeithiol. Rydym yn parhau i weld argymhellion ar gyfer cynyddu cyflenwadau cymorth o'r môr a gollwng cymorth o'r awyr, a gobeithio y bydd hynny'n arwain at fwy o gymorth mwy effeithiol. Byddwn yn parhau i adolygu ein safbwynt pe bai'r Pwyllgor Argyfyngau Brys yn teimlo y gellir bodloni'r meini prawf ar gyfer apêl.

Diolch yn fawr am hynny. A ydych chi'n rhannu fy mhryder dybryd am weithwyr cymorth, sydd yn Gaza ac yn y Lan Orllewinol ar hyn o bryd? Roedd rhai o fy nghyn-gydweithwyr yn ActionAid Palestine yn gaeth yn Gaza am amser hir ar ddechrau'r gwrthdaro hwn, ac maent bellach yn y Lan Orllewinol mewn amgylchiadau ofnadwy. Rydym hefyd wedi clywed am yr hyn a ddigwyddodd yn World Central Kitchen. A ydych chi'n cytuno â mi fod y bobl hyn yn bobl sydd am gadw pobl eraill yn fyw, eu bod yn aberthu eu bywydau er mwyn gwneud y byd hwn yn lle gwell, a dim ond cadoediad brys a diwedd ar y lladd fydd yn sicrhau y gallant gael y cymorth i'r bobl sydd gymaint o'i angen?

Yn hollol. Fel y dywedwch, mae'r bobl hynny'n mynd i'r gwledydd hyn i gadw pobl eraill yn ddiogel, ac mae'n erchyll eu bod yn cael eu rhoi yn y sefyllfa honno. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i ddeall ymdrechion y DU mewn perthynas â'r gwrthdaro, ac i ddeall unrhyw effeithiau canfyddedig i Gymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod, yr wythnos diwethaf, fod sefyllfa'r teulu Brisley wedi cael sylw mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog, ac mae'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu wedi cadarnhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i'r teulu yn yr amgylchiadau erchyll hyn. Ymrwymodd y Prif Weinidog i weithio gydag Aelodau a allai fod ag etholwyr sydd ag aelodau teuluol a oedd yn ddioddefwyr ar 7 Hydref, neu sy'n cael eu dal fel gwystlon, i ddeall a oes angen cymorth pellach. Mae pob dydd y mae gwystlon yn parhau'n gaeth yn ymestyn poen yr erchyllterau, ac rydym am sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael. 

Ers 7 Hydref, mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn i Weinidogion Llywodraeth y DU am gyfleoedd ar gyfer adsefydlu o Gaza i'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae'n ymddangos i ni nad oes unrhyw obaith ar hyn o bryd o gael cynllun adsefydlu Gaza ar gyfer y DU. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae awdurdodau lleol Cymru a'n cymunedau wedi rhoi croeso i Wcreiniaid, i Affganiaid, Syriaid a cheiswyr lloches o lawer o wledydd. Yn unol â hynny, fel cenedl sy'n dyheu am fod yn genedl noddfa, byddem hefyd yn anelu at chwarae rhan lawn mewn unrhyw gynllun adsefydlu Gaza pe bai un yn cael ei sefydlu.

Rydym wedi bod yn dilyn yr ymgyrch am gynllun aduno ar gyfer teuluoedd Gaza gyda diddordeb brwd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ariannu'r Groes Goch Brydeinig i gefnogi aduno teuluol, gan helpu'r rhai sydd â statws ffoadur i ddod ag aelodau o'u teulu i Gymru drwy lwybr diogel a chyfreithiol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae atgyfeiriadau i'r prosiect o Gaza yn cael eu cymhlethu gan y rhwystrau rhag gadael Gaza. Mae hanes poenus y rhanbarth yn effeithio ar barodrwydd Palesteiniaid i adael, a pharodrwydd gwledydd cyfagos i ganiatáu mynediad. Mae pryder clir na fydd Palesteiniaid byth yn gallu dychwelyd os ydynt yn gadael nawr. Mae sicrwydd—

Ni allaf dderbyn rhagor, mae'n ddrwg gennyf. Mae'n amlwg fod sicrwydd ynghylch yr hawl i ddychwelyd i unrhyw un sy'n gadael Gaza y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Fodd bynnag, mae angen dod o hyd i atebion os ydym am allu cefnogi aduno yng Nghymru. 

Nid ydym wedi galw'n benodol am gynllun aduno teuluoedd Gaza. Yn hytrach, rydym wedi galw am fersiwn fwy blaengar o gynllun aduno teuluoedd y DU, sy'n adeiladu ar rai o lwyddiannau cynllun teuluoedd Wcráin sydd bellach wedi cau. Fe wnaeth cynllun Wcráin gefnogi 57,000 o bobl a gyrhaeddodd mewn cyfnod byr iawn, yn bennaf oherwydd bod y diffiniad o 'deulu' yn eang a bod prosesu ceisiadau'n gyflym. Gallai'r un dull hwn ar gyfer Palesteiniaid ac eraill gael effaith fuddiol iawn ar les a diogelwch llawer o deuluoedd. 

Mae aduno teuluol yn hanfodol i unrhyw un sy'n ceisio noddfa sy'n byw yng Nghymru, ni waeth ble yn y byd y mae eu haelod teuluol a wahanwyd yn byw. Ein dull gweithredu yw cefnogi cynllun teuluol a allai gefnogi Palesteiniaid neu unrhyw berson arall sydd wedi cael noddfa yma yng Nghymru. Byddwn yn parhau i alw am hyn.

I gloi, bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan adeiladol yn cefnogi cymunedau a theuluoedd yr effeithir arnynt yng Nghymru, ac yn ceisio chwarae unrhyw ran a allwn i gefnogi ymdrechion rhyngwladol. Rydym yn galw eto am gadoediad, am gynyddu cymorth, ac am i'r gwystlon gael eu rhyddhau. Diolch.

18:45

Daeth y cyfarfod i ben am 18:45.