Y Cyfarfod Llawn
Plenary
06/02/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn cychwyn ar ein gwaith y prynhawn yma, dwi eisiau gwneud ambell sylw a datganiad. Yn gyntaf, fel Senedd, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn awyddus i gyfleu ein dymuniadau gorau am wellhad llwyr i'r Brenin Charles wrth iddo gychwyn ar ei driniaeth canser.
Ac yn ail, mi ydyn ni i gyd fel Senedd wedi ein tristáu gan y newyddion am farwolaeth Barry John dros y penwythnos. Seren yn ffurfafen rygbi Cymru a'r byd yn y 1970au—25 cap i Gymru a phump dros y Llewod. Ond nid yr ystadegau sy'n cyfleu mawredd Barry John, ond y stori a'r delweddau ohono yn llifo fel llysywen ar y cae rygbi, heb sôn am y bartneriaeth anhygoel o lwyddiannus hynny gyda Gareth Edwards. Does dim mwy o gydnabyddiaeth o fawredd dawn rygbi rhywun nag i gael eich galw yn 'frenin' gan Seland Newydd. Diolch i'r brenin Barry John, felly, a phob cydymdeimlad â'i deulu a'i gyfeillion, a'i gyd-chwaraewyr, wrthon ni fel Senedd.
Yn olaf, dwi eisiau hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw.
Felly, yr eitem nesaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi banciau bwyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60673
Llywydd, ers 2019, rydyn ni wedi darparu £18.85 miliwn, gan gynnwys £2 filiwn yn y flwyddyn ariannol hon, i gynorthwyo sefydliadau bwyd cymunedol. Mae'r cyllid hwnnw yn eu cynorthwyo i gael gafael ar gyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd da a nwyddau hanfodol eraill sy'n cefnogi llesiant, deiet iach ac urddas personol, a'u storio a'u dosbarthu.
Diolch, Prif Weinidog. Fis diwethaf, ymwelais â banc bwyd Rhydaman ac roeddwn i'n rhyfeddu at y gwaith caled a'r ymroddiad gan y staff a'r gwirfoddolwyr. A hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddyn nhw am eu holl ymrwymiad i helpu eraill—mae'n wir yn ysbrydoliaeth. Mae'r galw am gymorth gan fanciau bwyd wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cyn i'r Torïaid ddod i rym, roedd banciau bwyd yn wasanaeth ymylol, a dosbarthwyd 41,000 o becynnau tridiau gan elusen banc bwyd mwyaf y wlad, Ymddiriedolaeth Trussell, yn 2009-10. Ymlaen at 2020-21 ac mae wedi cyrraedd 2.6 miliwn o becynnau. Nodwyd mai'r argyfwng costau byw presennol, oediadau i daliadau lles fel credyd cynhwysol, ag arhosiad o bum wythnos am unrhyw arian o gwbl, a'r gostyngiad fudd-daliadau lwfans tai lleol yw'r rhesymau mwyaf am ddefnyddio banciau bwyd yn ystod fy ymweliad. Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch oediadau i daliadau lles a'u heffaith ar aelwydydd yn gorfod dibynnu ar fanciau bwyd? Ac a gaf i ofyn i chi ymuno â mi i ddiolch i'r staff a'r gwirfoddolwyr mewn banciau bwyd ledled y wlad am eu gwaith caled a'u hymroddiad?
Wel, Llywydd, diolch i Joyce Watson. Ei phrofiad hi yw fy un i yn union ac, rwy'n siŵr, profiad yr holl Aelodau o amgylch y Siambr, sef pan fyddwch yn ymweld â banc bwyd, eich bod chi'n rhyfeddu ar unwaith at yr ymrwymiad y mae pobl sy'n eu rhedeg yn ei ddangos bob wythnos. Ond rwyf bob amser yn cael fy nharo gan y ffaith mai un o'r pethau cyntaf y mae pobl yn ei ddweud wrthych chi pan fyddwch chi'n cyrraedd yno yw faint yr hoffen nhw pe nad oedd angen iddyn nhw fod yn gwneud yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Joyce Watson, Llywydd, mai'r pethau y bydd pobl yn eu cofio fwyaf, ymhen blynyddoedd i ddod, o'r 14 mlynedd diwethaf fydd banciau bwyd a digartrefedd ar y stryd. Dyna fydd y ddau arwydd gweladwy o effaith 14 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol ar fywydau'r bobl hynny sydd â'r lleiaf. Ac mae'r ffigurau yn union fel y nododd Joyce Watson, Llywydd, yn y twf mewn banciau bwyd, gyda nifer y parseli ar gyfer plant yng Nghymru wedi cynyddu 83 y cant yn y pum mlynedd diwethaf.
A, Llywydd, pan fydd y Llywodraeth Geidwadol eisiau gwneud rhywbeth yn gyflym, maen nhw'n canfod eu bod nhw'n gallu. Yn ein holl ohebiaeth dros flynyddoedd lawer gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau yn eu hannog i gefnu ar yr arhosiad o bum wythnos, dywedir wrthym ni ei bod hi'n ymarferol amhosibl gwneud hynny. Pan oedd y Canghellor eisiau cyflwyno ei ostyngiad i gyfraniadau yswiriant gwladol, canfu y gallai wneud hynny dim ond â thrawiad ysgrifbin. Dyna'r gwahaniaeth, ynte? Bu'r alwad unigol fwyaf ar y gronfa cymorth dewisol yn y blynyddoedd diwethaf gan bobl sy'n aros am y pum wythnos hynny heb un taliad. Ac nid yw'r rhain yn bobl sydd wedi dewis bod yn y sefyllfa honno yn aml iawn. Maen nhw'n bobl sy'n cael eu symud gan y Llywodraeth o un budd-dal i'r llall. A phan fyddan nhw'n symud, maen nhw'n cael eu gorfodi i aros pum wythnos heb yr un geiniog. Nawr, rydym ni wedi addasu'r ffordd y mae'r gronfa cymorth dewisol yn gweithio i helpu pobl yn y sefyllfa honno. Byddai'n llawer, llawer gwell pe bai'r system yn gweithio'n iawn iddyn nhw yn y lle cyntaf.
Prif Weinidog, mae'r ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin a chostau chwyddiant dilynol wedi effeithio'n ddifrifol ar ein ffermwyr yng Nghymru, yn enwedig trwy gostau cynyddol porthiant, tanwydd a gwrtaith. Nid oes amheuaeth bod hyn wedi arwain at gostau bwyd uwch, gan effeithio ar deuluoedd ledled Cymru. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod mynd i'r afael â thlodi bwyd yng Nghymru yn dibynnu ar sector amaethyddol cadarn ac wedi'i gefnogi yng Nghymru? Os felly, a all ef gadarnhau y bydd y £337 miliwn cyfan a ddyrannwyd i gynorthwyo ffermwyr Cymru o dan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant ar gyfer y flwyddyn gyllidol hon yn cael ei wario'n llawn yn cynorthwyo ffermwyr a rheolwyr tir i gynhyrchu bwyd amgylcheddol gynaliadwy, diogel ac y gellir ei olrhain? Byddai hon yn ffordd sicr o barhau i gyflenwi bwyd a chynnyrch i silffoedd ein harchfarchnadoedd a'r cymorth hanfodol i fanciau bwyd sy'n gwasanaethu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Llywydd, mae cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy wrth wraidd y cynllun ffermio cynaliadwy. Dyma'r peth cyntaf y mae'r cynllun wedi'i gynllunio i'w gyflawni. Rydym ni wedi cadw'r lefel bresennol o daliadau cynllun taliadau sylfaenol i ffermwyr yng Nghymru, yn dra gwahanol i'r hyn sydd wedi digwydd dros ein ffin. Brwydrwyd yn galed iawn dros hynny, mewn rownd gyllideb anodd iawn, ac mae'n arwydd cryf iawn o benderfyniad y Llywodraeth hon i barhau i fuddsoddi mewn cymunedau gwledig.
Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn. Fe es i yn ddiweddar i'r un banc bwyd yn Rhydaman hefyd, ac fe glywais i storïau gan nifer fawr o bobl a oedd yn dibynnu ar y gwasanaeth, a phobl mewn gwaith oedd y rheini, sy'n ddatblygiad pryderus iawn, iawn. Ond mae'r banc bwyd arbennig yma'n rhedeg gwasanaeth cefnogi, sy'n rhoi cyngor i bobl sydd ar fudd-daliadau sy'n gallu elwa o gael cymaint mwy o fudd-daliadau sy'n haeddiannol iddyn nhw—cannoedd ar filoedd o bunnoedd, sy'n dangos bod angen i ni wneud llawer mwy i helpu'r bobl yma i gael y budd-daliadau y mae gyda nhw hawl iddyn nhw. Ond un peth penodol a achosodd bryder i fi am Rydaman oedd gweld y twf yn nifer y bobl dros 65 oed a oedd yn dod i ddibynnu ar fanciau bwyd. Felly, gaf i ofyn beth ydyn ni'n gwneud i gefnogi pobl yn gyffredinol sy'n gweld yr angen am fanciau bwyd, ond yn arbennig y rheini sy'n 65 ac yn hŷn sy'n gynyddol yn dod i ddibynnu arnyn nhw?
Diolch yn fawr i Cefin Campbell, Llywydd, am y cwestiwn ychwanegol yna. Dwi wedi clywed oddi wrth Joyce Watson am y ffaith, pan fydd pobl yn mynd at y banc bwyd yn Rhydaman, nad dim ond bwyd maen nhw'n cael—maen nhw'n cael cyngor ac maen nhw'n cael pethau eraill i'w helpu nhw i wella'r sefyllfa y maen nhw'n ei hwynebu. Rydyn ni wedi cydweithio'n agos â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i helpu pobl i gael credyd pensiwn. Mae nifer fawr o bobl yn Nghymru yn colli mas ar bethau. Mae hawl gyda nhw i'r budd-daliadau yna, ond mae pobl hŷn, rydyn ni'n gwybod, yn pryderu, yn becso, a dydyn nhw ddim yn siŵr am sut mae'r system yn gweithio. Mae lot fwy rydyn ni'n gallu gwneud, ac yn mynd i wneud, gyda'r comisiynydd i helpu pobl i dynnu lawr y pethau sydd yna iddyn nhw. Ac nid jest yr arian y maen nhw'n cael drwy'r credyd pensiwn, ond mae hwnna'n agor y drws i bethau eraill y mae pobl yn gallu eu cael hefyd. Dyna pam mae'r ymdrech y mae'r comisiynydd yn gwneud yn bwysig i bobl hŷn yng Nghymru, ac rydyn ni'n awyddus i wneud mwy gyda hi i roi'r help sydd ar gael i bobl yn y sefyllfa y mae Cefin Campbell wedi ei hesbonio i ni y prynhawn yma.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Dim ond i fynd o un grŵp oedran—pobl hŷn—i'n plant yma yng Nghymru, gadewch i ni fod yn onest, mae ein system fudd-daliadau gan y Llywodraeth Geidwadol yn anfad, yn atgas ac yn gosbol. Mae'r sancsiynau sy'n cael eu rhoi i deuluoedd yn arwain yn y pen draw at blant tlawd yma yng Nghymru. Ond mae gan Lywodraeth Cymru ysgogiadau ar gael iddi ac rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno siarter budd-daliadau Cymru. Ond un peth sydd wir yn poeni ambell un ohonom ni yma yn y Siambr yw ein strategaeth dlodi a sut y gellir cryfhau honno. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, sut, yn eich barn chi, y gallwn ni gryfhau ein strategaeth dlodi? Diolch yn fawr iawn.
Wel, Llywydd, ceir nifer o ffyrdd y mae'r strategaeth dlodi yn ceisio gwneud mwy i helpu pobl ifanc a theuluoedd sydd yn y sefyllfa honno. Rhan ohono, fel y dywedodd Cefin Campbell, yw drwy wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio yng Nghymru ar y cymorth sydd ar gael i bobl ac nad yw bob amser yn cael ei hawlio yn y ffordd y byddem ni'n dymuno iddo ei gael. Nawr, rwy'n cofio trafodaeth yma ar lawr y Senedd am y nifer fawr o deuluoedd yng Nghymru nad oedden nhw'n hawlio talebau Cychwyn Iach, ac, o ganlyniad i'r drafodaeth a gawsom ni yma a'r gwaith a wnaed gan fy nghyd-Aelod Lynne Neagle, rydym ni wedi llwyddo i gynyddu canran y teuluoedd sy'n cael y cymorth hwnnw. Erbyn hyn, mae 78 y cant o deuluoedd yng Nghymru yn cael y cymorth hwnnw. Mae hynny'n uwch nag yn Lloegr ac mae'n uwch nag yng Ngogledd Iwerddon. Ac mae hynny yn dangos, lle'r ydym ni'n gwneud ymdrech unedig gyda'n gilydd, ein bod ni'n gallu gwneud mwy i wneud yn siŵr bod teuluoedd wir yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Dim ond un enghraifft yw hynny.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu sylw at siarter budd-daliadau Cymru. Bydd honno'n cael effaith fawr ym mywydau teuluoedd â phlant, oherwydd un o'r manteision a fydd bellach yn cael ei gysylltu'n awtomatig yw'r cymorth y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Addysg, yn ei wneud ar gael i bobl ifanc sy'n mynychu'r ysgol sydd angen help gyda chost y diwrnod ysgol. Felly, mae yna gyfres o ffyrdd ymarferol iawn y bydd y strategaeth yn gwneud mwy ac yn helpu pobl ifanc a'u teuluoedd yn y ffordd y mae Jane Dodds wedi ei awgrymu.
2. Pa fesurau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i roi mwy o ddylanwad i bobl Cymru dros wasanaethau bysiau? OQ60642
Wel, Llywydd, byddwn ni'n cyflwyno Bil bysiau i ddiwygio'r system ddadreoleiddio sydd wedi methu. Bydd hynny'n galluogi pob lefel o lywodraeth i weithio gyda'n cymunedau i ddylunio a darparu gwasanaethau bysiau sydd eu hangen arnyn nhw.
Diolch, Prif Weinidog, ac rydym ni'n edrych ymlaen at gael y Bil bysiau hwnnw o'n blaenau, oherwydd un o'r rhwystredigaethau mwyaf i ni fel cynrychiolwyr, ond hefyd i bobl leol, yw nad oes ganddyn nhw unrhyw lais gwirioneddol o ran ble mae'r llwybrau'n rhedeg ac ar ba adegau o'r dydd i'w cael i'w swyddi, i'w cael nhw i ysbytai, i'w cael nhw i ymweld â ffrindiau, yn enwedig yn rhannau gogleddol y cymoedd yn fy etholaeth i, ond byddwn ni i gyd yn ei deimlo ledled Cymru gyfan. Ond un o'r rhwystredigaethau mawr eraill yw bod un rhan o'r DU sydd wedi cadw'r pwerau i wneud hynny. Pan gawsom y dadreoleiddio trychinebus—hollol drychinebus—hwnnw yn ôl yn y 1980au, lle cafodd y pwerau eu tynnu i ffwrdd o unrhyw fewnbwn democrataidd i reolaeth dros fysiau a llwybrau a gwasanaethau ac yn y blaen, fe wnaeth un lle ei chadw, sef Llundain. Ac, yn Llundain, mae nifer y teithwyr wedi cynyddu, mae'r llwybrau wedi cael eu cynnal, mae'r buddsoddiad wedi bod yn enfawr. Ym mhob man arall, mae wedi diflannu. Felly, a allwn ni gael y sicrwydd y bydd y Bil hwnnw yn cael ei gyflwyno? Ac a all ef egluro i ni beth fydd hynny'n ei olygu i bobl gael mewnbwn i le mae'r llwybrau sy'n gwasanaethu eu cymunedau yn mynd ac sy'n cadw eu bywydau a'u bywoliaeth—rhoi rhywfaint o gyfle i'w cynnal?
Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn o roi sicrwydd i'r Aelod bod y Bil hwnnw ar gamau olaf ei baratoad. Mae'n Fil cymhleth, ond bydd yn dod gerbron y Senedd. Un o'r ffyrdd sylfaenol y bydd yn newid y dirwedd fysiau yng Nghymru yw hon: mae'r system yr ydym ni wedi ei hetifeddu a'r system yr ydym ni wedi ei rhedeg hyd yma yn un sy'n talu cymhorthdal fesul taith, fesul teithiwr. Mae honno'n system anodd iawn i Lywodraeth gan ei bod yn ansicr yn ei hanfod ac ni fyddwch byth yn gwybod faint y bydd y system yn ei gostio, ac mae'n anodd i gwmnïau hefyd, gan nad oes ganddyn nhw'r gallu i'w ragweld. Bydd y dyfodol yn golygu sybsideiddio llwybrau, nid unigolion, fel y bydd gennym ni system trafnidiaeth fysiau wedi'i chynllunio, wedi'i chytuno, sefydlog ac wedi'i sybsideiddio yma yng Nghymru, fel bod y llwybrau hynny sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol—a dyna sut y byddwn ni'n ymgynghori â'r cyhoedd, wrth gwrs, yn yr ystyr y byddwn ni'n edrych i weld eu safbwyntiau ar y llwybrau hynny sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol—ond nid yn fasnachol hyfyw, byddwn yn parhau i fuddsoddi'r degau o filiynau o bunnoedd sy'n cael eu rhoi yn y system heddiw ond mewn ffordd nad yw'n rhoi enillion digonol i'r cyhoedd o'r buddsoddiad hwnnw. Dyna'r hyn y bydd y Bil yn caniatáu i ni ei wneud.
Wrth gwrs, cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Bysiau y DU 2017 ddiwygiadau yn Lloegr saith mlynedd yn ôl. Er ei bod bellach dros ddau ddegawd ers i mi godi'r angen i ymwreiddio profiad byw pobl anabl mewn cynlluniau a dyluniadau ar gyfer amgylcheddau a gwasanaethau lleol, yn hytrach na chreu rhwystrau iddyn nhw wedyn, rwy'n dal i glywed yn rheolaidd gan bobl anabl nad yw hyn yn digwydd o hyd. Wrth eich holi yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ym Mhrifysgol Wrecsam fis Gorffennaf diwethaf, cyfeiriais at fy nghyfarfod gydag RNIB Cymru, Vision Support a grŵp ymgyrchu VI Voices Wrecsam, pobl sy'n byw gyda nam ar eu golwg sydd eisiau codi ymwybyddiaeth o'r rhwystrau y maen nhw'n eu hwynebu, lle'r oedd y materion a godwyd yn cynnwys symud o gwmpas gorsaf fysiau Wrecsam, sgriniau cyffwrdd trafnidiaeth anhygyrch a phryderon y gallai prosiect Porth Wrecsam, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac, mewn egwyddor, gennyf innau hefyd, greu rhwystrau pellach gan nad oedd ganddyn nhw unrhyw fewnbwn i hyn. Mae cwmni Arriva Bus hefyd wedi mynegi pryderon nad ydyn nhw wedi cael eu hymgynghori ynglŷn â'r prosiect hwn, er bod deunyddiau hyrwyddo yn dangos un o'u bysiau. Pam, felly, ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, y mae pobl anabl yn cael eu hatal rhag cael mwy o ddylanwad dros gynlluniau a dyluniad bysiau a gwasanaethau eraill?
Wel, Llywydd, mae gen i ofn na allaf ateb yn fanwl am sut mae cyngor Wrecsam yn cyflawni ei gyfrifoldebau yn y maes hwn, ond rwy'n cofio'r cwestiwn a ofynnodd yr Aelod i mi pan oeddwn i yn Wrecsam ac rwy'n cofio cytuno ag ef, ac rwy'n cytuno ag ef eto y prynhawn yma, pan fydd gwasanaethau'n cael eu hail-ddylunio, pan fydd cyfleusterau newydd fel gorsaf fysiau newydd, wrth gwrs y dylai llais y defnyddiwr, ac yn enwedig y defnyddwyr hynny sydd ag anghenion penodol, y dylai'r lleisiau hynny gael eu clywed ac y dylid eu cymryd i ystyriaeth yn y ffordd y mae'r gwasanaethau hynny yn cael eu dylunio a'u datblygu.
Pan fydd gennym ni fwy o reolaeth dros wasanaethau bysiau drwy'r model masnachfreinio, bydd yn haws i ni wneud yn siŵr bod y pwyntiau hynny yn cael eu teimlo'n rymus yn y system. Yn y cyfamser, y rhai sy'n gyfrifol ar lawr gwlad am newidiadau i wasanaethau a datblygiadau newydd, wrth gwrs, dylen nhw wneud yn siŵr eu bod nhw'n ymgynghori â'r grwpiau lleol hynny sydd ag arbenigedd i gyfrannu, sydd â theithwyr sydd eisiau defnyddio'r gwasanaeth hwnnw ac a fyddai'n fwy tebygol o wneud hynny os cymerir yr anghenion hynny i ystyriaeth yn briodol.
Mae toriadau i wasanaethau bysiau yn y Cymoedd yn cael effaith aruthrol o niweidiol ar fywydau pobl. Rwy'n arbennig o bryderus am anhygyrchedd parhaus Ysbyty Athrofaol y Faenor ar fws o ormod o gymunedau. Nid yw llawer o bobl yn y Cymoedd yn gyrru ac, i fynd o gwm i gwm, maen nhw'n ddibynnol ar fysiau. Mae etholwr wedi ysgrifennu ataf i gwyno nad oes bws uniongyrchol o dref Caerffili i'r ysbyty. Bu'n rhaid i'w cymydog, nad yw'n gyrru, ymweld â'i wraig yn y Faenor ers tair wythnos trwy fynd ar fysiau, ac maen nhw'n gorfod dal dau fws. Gall y daith, mae'n debyg, gymryd mwy nag awr a hanner, sef y peth olaf y byddai unrhyw un ei eisiau pan fyddan nhw'n ymweld â rhywun agos sy'n sâl. Ni all fod yn iawn nad oes gan dref fwyaf y sir fynediad uniongyrchol ar fws i'r prif ysbyty. Ceir trefi ar draws y de-ddwyrain nad oes ganddyn nhw lwybr bws i'r Faenor yn yr un modd. Felly, pa waith brys ellir ei wneud, os gwelwch yn dda, i agor mwy o lwybrau bysiau ar draws y rhanbarth i'r ysbyty canolog hwn?
Wel, Llywydd, mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud eisoes i greu gwasanaethau bysiau newydd i ysbyty'r Faenor. Ni wnaiff unrhyw ddarparwr masnachol ddarparu gwasanaeth o'r fath. Felly, er fy mod i'n cydnabod yn llwyr y pwynt y mae Delyth Jewell wedi ei wneud ynglŷn â bod pobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth bysiau, mae'n amlwg nad oes digon ohonyn nhw i berswadio darparwr masnachol i gyflwyno gwasanaeth yn uniongyrchol o Gaerffili, nac yn yr achosion eraill y mae hi wedi eu nodi. Felly, mae'n rhaid i unrhyw wasanaeth newydd gael ei ariannu gan bwrs y wlad.
Nawr, rydym ni eisoes wedi mynd trwy gynllun bysiau brys, cronfa bontio bysiau, ac rydym ni bellach yn buddsoddi mewn grant cymorth rhwydwaith bysiau, y mae pob un ohonyn nhw wedi'i gynllunio i geisio diwallu'r anghenion niferus y gwyddom sy'n bodoli ym mhob rhan o Gymru. Bydd y Gweinidog wedi clywed y pwyntiau yr ydych chi wedi eu gwneud y prynhawn yma, ac rwy'n siŵr y bydd ystyriaeth bellach ohonyn nhw, ond rwyf i wedi gweithio'n agos gyda'r Aelod dros Gaerffili ar y mater hwn. Mae hynny wedi arwain at rai gwelliannau eisoes, ac rwy'n siŵr y bydd y sgyrsiau hynny'n parhau i weld a oes modd gwneud mwy.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau yn gyntaf oll drwy uniaethu â'r sylwadau a wnaethoch chi'n gynharach ac anfon ein dymuniadau gorau at Ei Fawrhydi y Brenin o'r meinciau Ceidwadol am ei wellhad buan a'i ganmol am sôn am y cyflwr y mae'n ei frwydro, yn y gobaith y bydd yn dod â phobl eraill ymlaen i gael diagnosis buan, gan ein bod yn gwybod bod amser yn hanfodol?
O ran Barry John, mae'n dipyn o gamp i gael eich galw'n 'y Brenin' yn Seland Newydd, a dyna statws y dyn, ei fod yn gymaint o athrylith ar y cae rygbi. Yn yr oes amatur, pan oedd cyn lleied o gemau yn cael eu chwarae gan chwaraewyr mewn gwirionedd—llai na 30 cap a 150 o bwyntiau rwy'n credu—mae cael eich galw'n 'y Brenin' yn wobr wirioneddol am y ffordd y chwaraeodd rygbi ar y cae, yn Seland Newydd ac yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, heddiw, rydym ni'n clywed hanes Theresa Jones, y bu'n rhaid iddi aros 24 awr i ambiwlans ymateb i'r alwad o'r cartref gofal yr oedd yn byw ynddo ym Mhort Talbot. Rydym ni hefyd yn gweld mam Jeremy Bowen yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Mynydd Bychan, sydd wedi bod yn eistedd ar gadair blastig ers 4 o'r gloch brynhawn ddoe. Yn y ddau achos, pa mor hir ddylai'r ddwy hyn orfod aros i gael eu gweld?
Wel, Llywydd, fel y bydd arweinydd yr wrthblaid yn gwybod, nid wyf i byth mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar achosion unigol, waeth faint o sylw a dynnwyd atyn nhw. Mae ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru wedi mynegi ei siom at y gwasanaeth y llwyddwyd i'r ddarparu, a bydd, heb os, cwestiynau y bydd angen eu gofyn am y gwasanaeth a'r cyngor a roddwyd ac yn y blaen, a byddan nhw'n gwneud hynny. Ein nod, fel y mae'n gwybod, yw gwneud yn siŵr bod pobl sy'n cael eu cyflwyno mewn adran damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld, eu trin a'u symud, naill ai y tu hwnt i'r gwasanaeth ei hun neu i mewn i ysbyty, o fewn pedair awr. Yng Nghymru, ychydig dros ddwy awr a hanner yw'r amser aros safonol—yr amser aros safonol—o'r eiliad y mae rhywun yn cyrraedd i'r amser y mae eu triniaeth mewn adran damweiniau ac achosion brys yn dod i ben. Mae rhai pobl yn aros yn hwy na hynny, ac mae'r system yn gweithio'n galed i geisio delio â hynny, ond dyna gyflwr presennol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys lle mae'n rhaid i bobl aros.
Prif Weinidog, mae'r rhain yn ddau achos sydd yn y parth cyhoeddus, a rannwyd gan y teuluoedd yn y ddau achos i amlygu'r pwysau ar y system. Nid ydyn nhw'n beirniadu'r staff o gwbl, ac mewn gwirionedd, fe wnaethon nhw ganmol y profiad a gawson nhw pan fydd y system yn cychwyn ac yn cynorthwyo'r teuluoedd i weld eu hanwyliaid yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Ond ni all fod yn dderbyniol pan fyddwn ni'n dod yma wythnos ar ôl wythnos ac yn clywed gan y Gweinidog iechyd bod arian wedi cael ei roi i mewn i wella'r profiad yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru a bod y gwasanaeth ambiwlans yn cael mwy o adnoddau i fodloni'r galw—y cwbl i'w groesawu'n fawr, ond, fel yr amlygodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn eu hadroddiad blynyddol, ni allan nhw ddod o hyd i dystiolaeth o welliannau yn y gwasanaeth. Eu geiriau nhw yw'r rheini, nid fy rhai i. Rwyf i wedi rhestru dau brofiad dau unigolyn oedrannus yma. Nid wyf i'n gofyn i chi wneud sylwadau am y profiad unigol, rwy'n gofyn i chi fyfyrio ar ddarpariaeth y gwasanaeth a sut mae'r Llywodraeth, yr ydych chi'n bennaeth arni, yn gwneud yn siŵr bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwireddu, oherwydd, ym mhrofiad Jennifer Bowen, mae hi'n eistedd o dan hysbysfwrdd sy'n dweud, 'Sut ydym ni'n gwneud?' Y tro diwethaf i'r hysbysfwrdd hwnnw gael ei ddiweddaru yn yr adran damweiniau ac achosion brys honno oedd mis Mai 2023, ac, ar bob un o'r chwe chategori, mae'n wag. Dyna'r profiad y mae pobl yn ei gael. Felly, sut allwn ni weld ymateb rhesymol gan y Llywodraeth i gynorthwyo'r gwasanaeth iechyd, yng ngeiriau'r claf ym Mhort Talbot, i'w siapio hi a mynd i'r afael â hyn?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n gyfrifol am hysbysfwrdd unigol mewn adran unigol rhywle yng Nghymru. Os yw eisiau ateb priodol i'w gwestiwn, yna rwy'n credu y byddai'n cydnabod nad yw'r broblem sylfaenol gyda'r gwasanaeth ambiwlans ac adrannau damweiniau ac achosion brys yn y gwasanaeth hwnnw nac yn yr adran honno, mae yn y ffaith bod cynifer o bobl yn ein hysbytai yng Nghymru nad oes angen iddyn nhw fod mewn ysbyty, ond y gellid gofalu amdanyn nhw'n llwyddiannus yn rhywle arall, ond lle mae'r gwasanaethau hynny yn ei chael hi'n anodd bodloni'r galw i symud ymlaen. Felly, mae gennym ni gannoedd lawer iawn o bobl, sy'n ffit yn glinigol i dderbyn gofal yn rhywle arall, sydd mewn gwely ysbyty. Mae hynny'n golygu, pan fydd ambiwlans yn cyrraedd adran damweiniau ac achosion brys, mae'n canfod nad yw'r llif hwnnw drwy'r ysbyty, fel y'i gelwir, yn gweithio, ac mae ambiwlansys yn cael eu hoedi ac nid ydyn nhw ar gael i fynd i ateb galwad arall. Felly, nid yw'n broblem y gallwch chi fynd i'r afael â hi trwy ganolbwyntio ar ben brys ac ambiwlans y system, trwy feddwl pe gallech chi gywiro hynny y byddai'r broblem yn cael ei datrys. Mae'n broblem fwy cymhleth na hynny ac mae ei her sylfaenol yng ngallu'r system—y system gofal cymdeithasol a'r system iechyd—i symud pobl drwy ysbytai acíwt, gan ryddhau gwelyau, gan ei gwneud hi'n haws felly ar ben brys hwnnw'r system i roi'r driniaeth brydlon i bobl sydd ei hangen arnynt.
A dro ar ôl tro, rydym ni'n cael yr un sgwrs hon yn y Siambr hon, Prif Weinidog. Ceir dealltwriaeth o'r broblem. Nid yw'r atebion yr ydych chi'n eu rhoi ar waith, fel y nododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru—nid meinciau y Ceidwadwyr, y nododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru—yn dangos unrhyw dystiolaeth, yn eu hadroddiad blynyddol, o'r mesurau hynny yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi ymddiheuro i Mrs Jones. A wnewch chi, fel pennaeth Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru ac yn rhoi ei gyfarwyddyd gweithredol iddo drwy'r cyfarwyddiadau gweinidogol a gyflwynir, ymddiheuro i deuluoedd y ddwy hyn am y profiad y maen nhw wedi ei gael a rhoi ymrwymiad y byddwn ni'n gweld y gwelliannau hynny fel nad oes yn rhaid i mi ddod yma eto a thynnu sylw at y mathau hyn o ddigwyddiadau trasig sy'n anffodus yn difetha profiad cynifer o bobl yn GIG Cymru?
Wel, Llywydd, rwy'n ymddiheuro i unrhyw un nad yw ei brofiad o GIG Cymru y profiad y byddem ni'n dymuno iddyn nhw ei gael, wrth gwrs fy mod i. Nid yw'n wir nad yw'r gwasanaethau newydd y mae'r Gweinidog wedi eu hariannu a'u datblygu yn cael effaith yn y system. Mae'n amlwg nad yw hynny'n wir, ac nid wyf i'n credu mai dyna mae adroddiad AGIC yn ei ddweud. Y ffaith amdani yw bod y galw sydd ar y gwasanaeth yn golygu, hyd yn oed pan fo gennym ni wasanaethau brys ar yr un diwrnod, bod gennym ni wasanaethau gofal sylfaenol argyfwng a brys—mae'r rhain yn gweld cannoedd a miloedd o bobl bob wythnos yng Nghymru—pan fydd gennym ni wasanaethau 111 newydd, lle mae pobl yn cael y cyngor sydd ei angen arnyn nhw heb fyth angen mynd i ysbyty, pan fydd gennym ni wasanaethau newydd mewn fferylliaeth sy'n caniatáu i'r system gael effaith ychwanegol yno, gyda'r holl bethau hynny yno, mae'r galw sy'n dod i mewn i'r system yn golygu bod y pwysau a'r straen mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac mewn gwasanaethau ambiwlans yn parhau i fod yn real iawn. Felly, nid yw'n—. Dychmygwch pe na bai'r pethau hynny yno, pe na baen nhw'n disodli galw i'r gwasanaethau newydd hynny, y pwysau a'r straen ychwanegol a fyddai'n cael eu teimlo. Wrth gwrs, rydym ni'n edrych i weld a oes unrhyw enghreifftiau yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig y gallem ni fanteisio arnyn nhw a fyddai'n ein cynorthwyo i ymateb i heriau GIG Cymru. Y gwir amdani yw bod y rhain yn bwysau ym mhob man. Nid oes gan neb ateb oddi ar y silff syml y gallan nhw ei weithredu yn y ffordd yr wyf i'n credu weithiau y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei awgrymu.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A minnau wedi bod i ddigwyddiad i nodi Diwrnod Canser y Byd yma yn y Senedd heddiw, a gaf i ddymuno'n dda i'r Brenin ar ôl ei ddiagnosis o, a dymuno'n dda, wrth gwrs, i bob un sydd yn wynebu ac yn cael eu cyffwrdd gan ganser?
Mi wnaf innau ddweud gair o deyrnged i Barry John. Mi oedd gen i a'r teulu bêl rygbi go arbennig pan oeddwn i'n tyfu i fyny. Pêl rygbi oedd hi wedi’i arwyddo gan 15 Carwyn James a 15 Barry John o'r gêm honno i'r Urdd digwyddodd rhyw bedwar mis cyn i fi gael fy ngeni. Mae'r ffaith ein bod ni'n dal yma rŵan yn talu teyrnged i'r fath athrylith rygbi ac yn meddwl amdano fe fel un na fu erioed mo’i debyg, mewn gwirionedd, yn dweud cymaint o feddwl sydd gennym ni ohono fo fel dyn ac fel chwaraewr. Mae ein cydymdeimlad ni efo'r teulu.
Mi fyddwn ni'n troi ein sylw at y diwydiant dur eto'r prynhawn yma. Mi fydd Plaid Cymru, fel rydyn ni wastad wedi gwneud, yn dadlau'r achos dros ddiogelu Port Talbot a'r swyddi yno a dros sicrhau'r buddsoddiad sydd ei angen i ddelifro pontio teg tuag at ddyfodol mwy gwyrdd. Mae'r diwydiant dur yn teimlo, yn hollol iawn, eu bod nhw wedi cael eu gadael lawr, ond dydyn nhw ddim yr unig rai sydd yn teimlo diffyg cefnogaeth ar hyn o bryd.
Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n sefyll yn gadarn ar ochr gweithwyr dur y prynhawn yma. Mae ein penderfyniad i godi'r bygythiad o ddinistr i swyddi a'r gymuned ym Mhort Talbot wedi dangos yn eglur yr hyn yr ydym ni wir yn ei olygu pan fyddwn ni'n dweud ein bod ni eisiau 'trosglwyddiad cyfiawn i ddyfodol gwyrddach'. Ond a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod cefnogi trosglwyddiad cyfiawn yn egwyddor a ddylai fod yr un mor bwysig i'r sector amaeth hefyd?
Wel, Llywydd, nid oeddwn i wedi bwriadu cael fy nhynnu i mewn i'r sylwadau agoriadol a wnaethoch chi ar ddechrau'r sesiwn heddiw, ond o ystyried bod eraill wedi, fe wnaf i ddweud yr un peth hwn wrthych chi. Fe wnaeth fy mrawd ganfod yn ddiweddar, ymhlith eiddo yr oedd wedi eu cymryd o gartref fy mam, hen lyfr llofnodion yr oedd gen i pan oeddwn i'n blentyn. Dyma'r pedwar cofnod cyntaf yn y llyfr llofnodion. Y cyntaf oedd fy Aelod Seneddol ar y pryd, Gwynfor Evans. Yr ail oedd Barry John. Y trydydd oedd Gerald Davies. A'r pedwerydd oedd Leslie Crowther a Peter Glaze. [Chwerthin.] Nawr, pe baech chi eisiau crynhoi plentyndod yn sir Gaerfyrddin yn y 1960au, rwy'n credu bod y pedair tudalen gyntaf hynny yn ôl pob tebyg yn gwneud hynny, a dyna lle'r oedd Barry John, i fyny yno ochr yn ochr ag arwyr eraill hynny fy mhlentyndod.
I droi at y pwynt a wnaeth yr Aelod am ddur, wel, wrth gwrs, bydd y Llywodraeth hon, gyda'n cynghreiriaid yn y mudiad undebau llafur, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau trosglwyddiad cyfiawn a dyfodol llwyddiannus i'r diwydiant dur yma yng Nghymru. Dyna pam yr oedd Gweinidog yr economi a minnau ym Mhort Talbot yr wythnos diwethaf, yn cyfarfod â chadeirydd bwrdd byd-eang Tata, gan wneud yr union bwyntiau hyn iddo, bod cynllun amgen credadwy i'r un y mae'r cwmni ei hun wedi ei roi ar y bwrdd hyd yma. Rydym ni'n disgwyl, dros yr wythnosau nesaf, y bydd y cynllun credadwy hwnnw yn cael y sylw y mae ei angen ac yn ei haeddu, ac y dylid cytuno ar ddyfodol amgen, llwybr amgen i'r dyfodol hwnnw sydd gan Bort Talbot o gynhyrchu dur gwyrdd, rhwng yr undebau llafur, y gymuned, a'r cwmni ei hun, a bydd Llywodraeth Cymru yn sicr yn chwarae ein rhan yn hynny, yn union fel yr ydym ni'n chwarae ein rhan mewn trosglwyddiad cyfiawn i ddyfodol ffermio. Ond wrth i'r diwydiant dur wynebu cyfnod pontio, felly hefyd y mae ffermio, a dyna'r daith yr ydym ni arni. Rydym ni yno i gefnogi cymunedau ffermio ynddo. Ond bydd y dyfodol yn wahanol i'r gorffennol.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Nid wyf i'n synhwyro gwrthodiad i bontio gan y sector amaeth. Ceir teimlad nad yw'n gyfiawn, yr hyn y gofynnir iddyn nhw ei wneud ar hyn o bryd. Y gwir amdani yw bod teimlad nad yw'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn gwerthfawrogi pa effaith sy'n cael ei theimlo o osod her ar ben her ar ben her i'r sector. Dyma rydym ni, a'n llefarydd Llyr Gruffydd, wedi ei ddadlau ers tro. Nid yw'n un peth o reidrwydd. Maen nhw i gyd yn cael mân effeithiau, ydyn, ond yn gyfunol maen nhw'n teimlo fel ergyd drom i'r diwydiant.
Mae'r rhwystredigaethau wedi dod yn amlwg mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn ystod y dyddiau diwethaf. 'Nid yw Llywodraeth Cymru yn deall', medden nhw, 'dydyn nhw ddim yn gweld effaith ddofn y methiant parhaus i ddelio â TB, ddim wir yn deall sut mae'r newid i gynllun Cynefin Cymru mewn perygl o ddadwneud cynifer o flynyddoedd o waith, ddim yn gweld nad yw gorchudd coed gorfodol o 10 y cant yn ymarferol i gynifer.' Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn hyrwyddwr dros ffermio. Mae'n rhaid i amaethyddiaeth fod yn bartner o ran mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a darparu dyfodol bwyd diogel a chynaliadwy. Felly, gadewch i mi apelio i'r Prif Weinidog: ystyriwch hyd a lled y sefyllfa, gweithiwch gyda'r sector mewn ysbryd sy'n teimlo i'r sector fel cydweithredu.
Cwestiwn penodol ar hyn: fe wnaf i droi at fater y coed, y gorchudd coed o 10 y cant. Edrychwch eto ar yr effaith y mae hynny'n ei chael ar ddibrisio tir, ar golli tir fferm cynhyrchiol, yr effeithiau ar lefelau da byw a chyflogaeth yn y diwydiant. Gallwn gyrraedd y nodau amgylcheddol. Gallwn gyrraedd y nodau amgylcheddol, ond yn fwy hyblyg—trosglwyddiad cyfiawn. Nawr, os nad yw'r Prif Weinidog yn fodlon ceisio cyfaddawd yma, oni fydd y sector yn dod i'r casgliad nad oes gan ei Lywodraeth lawer o ddiddordeb mewn cydweithredu?
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, hoffwn gydnabod y pwysau a ddaw yn sgil newid. Pryd bynnag y bydd pobl yn wynebu newid, mae yna ansicrwydd ac mae yna deimlad bod y dyfodol yn mynd i fod yn her. Rwy'n llwyr gydnabod y teimlad hwnnw mewn cymunedau gwledig yma yng Nghymru. Ond os gwnewch chi droi at y pwynt penodol y mae'r Aelod wedi ei godi, byddai'n ddisynnwyr awgrymu nad yw'r Llywodraeth eisoes wedi gwrando ac eisoes wedi newid y polisi sydd gennym ni o ran gorchudd coed. Cafodd y cynigion a ddatblygodd y Gweinidog dros yr haf eu hysbysu gan y trafodaethau iddi eu cael. Roeddwn i gyda hi mewn tair gwahanol sioe sir, pan glywsom ni gan ffermwyr sut y byddem ni'n delio â'r darnau hynny o dir lle na ellir creu gorchudd coed, sut y byddem ni'n delio â'r darnau hynny o dir lle'r oedd pethau eraill yr oedd ffermwyr eisoes wedi bwriadu eu gwneud â nhw, ac mae'r cynigion yr ydym ni wedi eu cyflwyno yn ateb yr holl gwestiynau hynny.
Nawr, yn yr etholiad diwethaf, aeth y Llywodraeth hon o flaen pobl Cymru gyda tharged ar gyfer plannu coed yma yng Nghymru. Aeth Plaid Cymru i'r un etholiad gyda tharged ddwywaith mor uchel â tharged y Llywodraeth. Ble mae arweinydd Plaid Cymru yn credu y bydd y coed y gwnaeth eu haddo yn cael eu plannu os nad oedden nhw'n mynd i gael eu plannu ar dir amaethyddol? Felly, mae cyfaddawd i'w wneud, rwy'n cytuno ag ef yn hynny o beth; mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos ein bod ni wedi gwrando'n astud ar yr hyn y mae ffermwyr wedi ei ddweud, ond ni fyddwn yn cyfaddawdu o ran y camau y byddwn ni'n eu cymryd i wneud yn siŵr bod y wlad hon yn gwneud ein cyfraniad at y newid yn yr hinsawdd, a bydd ffermio a rhannau gwledig o Gymru yn gwneud cyfraniad at hynny.
Nid yw hyn yn ymwneud â gwrthod tyfu coed, ac rydym ni yn yr un lle'n sylfaenol ag yr oeddem o ran hynny. Yr hyn rydym ni'n ei ddweud, a'r hyn y mae ffermwyr yn ei ddweud, yw'r goeden iawn yn y lle iawn. Mae ffermwyr eisiau plannu coed, ond cyfrwch y carbon, nid y coed; cofiwch yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni yma. Nod amgylcheddol rydym ni'n ceisio ei gyrraedd, nid nifer y coed, ac mae angen i ni allu addasu, a dyna mae ffermwyr eisiau ei wneud.
Nawr, wythnos yn ôl, roeddwn i'n pwysleisio pa mor bwysig oedd hi i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob cornel o Gymru yn cael ei gwasanaethu'n gyfartal o ran gofal iechyd, fel y digwyddodd, bryd hynny: gogledd, de, dwyrain a gorllewin. Mae'r un peth yn wir am Gymru drefol a gwledig: mae plentyn mewn tlodi yn blentyn mewn tlodi boed mewn pentref gwledig neu yng nghanol dinas, ac mae'r angen i sefyll dros ddiwydiant sydd o dan fygythiad yr un fath pa un a yw hynny mewn lleoliad gwledig neu drefol. Ac rydym ni'n dychwelyd at ddur eto: gadewch i ni frwydro dros Bort Talbot, ond gadewch i ni frwydro dros ein sector ffermio hefyd. Nawr, fe wnes i fwynhau blynyddoedd hapus yn byw yng Nghaerdydd, ond rwy'n gwahodd y Prif Weinidog i ddod i'r gymuned wledig yr wyf i'n byw ynddi nawr, a lle cefais fy magu. Siaradwch â'r ffermwyr ifanc, y rhai yn y gadwyn gyflenwi. Menywod ifanc a dynion fel fy mab fy hun, sy'n astudio ar gyfer gradd mewn amaethyddiaeth—
Bydd yn rhaid i chi ddod i gwestiwn. Rwyf i wedi bod yn hael iawn gyda chi y prynhawn yma. Dewch at eich cwestiwn os gwelwch yn dda.
Mae pobl eisiau dyfodol. Nawr, rydym ni'n gwybod beth yw'r ofnau: 5,000 o swyddi neu fwy wedi mynd; £200 miliwn yn cael ei gymryd allan o'r sector amaeth. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog materion gwledig yn dweud bod y modelu wedi dyddio. Wel, dewch â'r modelu diweddaraf i ni fel y gallwn ni gynllunio ar gyfer dyfodol go iawn i'n sector ffermio.
Wel, Llywydd, y goeden iawn yn y lle iawn yw'r union beth y mae ein cynllun ffermio cynaliadwy yn ceisio ei gyflawni. Dyna pam rydym ni'n parhau i ymgynghori â'r sector; dyna pam y bydd gennym ni gyfnod pontio hir i gynllun ffermio cynaliadwy'r dyfodol. Pan fyddwn ni'n gwybod faint o arian sydd gan Lywodraeth Cymru y tu hwnt i'r cyfnod adolygiad cynhwysfawr o wariant hwn, byddwn yn gallu nid yn unig modelu'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig, ond defnyddio ffigurau gwirioneddol, oherwydd byddwn ni'n gwybod bryd hynny y ffigurau sydd gennym ni, ac ar yr adeg honno dyna'r ydym ni wedi ei addo a dyna'n union y byddwn ni'n ei wneud.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cyflenwad digonol o dai i ddiwallu anghenion poblogaeth y dyfodol? OQ60671
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae polisi cynllunio lleol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ddyrannu digon o dir ar gyfer tai yn eu cynlluniau datblygu lleol i ddiwallu anghenion eu cymunedau. Caiff CDLl eu hysbysu gan amrywiaeth o dystiolaeth, gan gynnwys asesiadau o'r farchnad dai leol a rhagamcanion aelwyd Llywodraeth Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Gyda disgwyl i boblogaeth y DU gynyddu i bron i 75 miliwn erbyn diwedd y ddegawd, yn bennaf oherwydd cynnydd i fudo o'r tu allan, mae disgwyl i'r pwysau am dai fforddiadwy godi'n sylweddol. Yn anffodus, mae awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn methu â bodloni'r galw presennol, heb sôn am anghenion y dyfodol. Ar hyn o bryd mae gennym ni 90,000 o bobl ledled Cymru ar restr aros am dai cymdeithasol, ac mae digartrefedd, y gwnaethoch chi sôn amdano yn gynharach, yn cynyddu'n gyflym yn ein trefi a'n dinasoedd. Ar draws fy rhanbarth i, does dim un uned tai cymdeithasol newydd wedi cael ei hadeiladu yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf—[Torri ar draws.]—ac eto mae awdurdodau lleol yn cael eu gorfodi i gartrefu teuluoedd digartref mewn gwestai mor bell i ffwrdd â Bryste.
Prif Weinidog, mae eich Llywodraeth yn croesawu'r ffaith bod tai fforddiadwy wedi bod ar gynnydd o 26 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae'r cynnydd hwnnw'n dod o'r lefel isaf erioed, ac yn dal i fod yn llai na chwarter yr hyn sydd ei angen i fodloni'r gofynion presennol. Prif Weinidog, a wnewch chi dderbyn nawr bod eich Llywodraeth yn methu â chyflawni ei rhwymedigaethau o ran tai, a mabwysiadu cynllun tai'r Ceidwadwyr Cymreig, fel y gallwn ni sicrhau digon o dai i ymdopi â phoblogaeth sy'n cynyddu?
Wel, Llywydd, ni allaf dderbyn cyfres gyfan o'r honiadau anghywir a wnaeth yr Aelod yn y cwestiwn dilynol yna. Wrth gwrs, rwy'n derbyn bod y system dai o dan bwysau enfawr. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi'r symiau mwyaf erioed o arian i greu 20,000 o gartrefi newydd i'w rhentu'n gymdeithasol yma yng Nghymru. Dyna pam rydym ni wedi cadw'r cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru, pan fo Lloegr wedi cefnu arno. Dyna pam rydym ni wedi rhoi'r symiau mwyaf erioed o arian yng nghronfa datblygu eiddo Cymru a chronfa safleoedd segur Cymru, i wneud yn siŵr y gall adeiladu tai ddigwydd yma yng Nghymru.
Fis diwethaf, dywedodd y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi na fyddai'r Llywodraeth, yn Lloegr, yn cyrraedd hyd yn oed hanner ei thargedau tai. Yma yng Nghymru, rydym ni'n parhau i fuddsoddi gyda'r diwydiant, gyda'n partneriaid yn y mudiad tai cymdeithasol ac mewn awdurdodau lleol, i wneud popeth o fewn ein gallu i greu'r cartrefi gwerth chweil hynny, cartrefi marchnad a chartrefi rhent cymdeithasol y bydd eu hangen yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn ôl UK Finance, ym mis Mehefin 2023, roedd ychydig yn llai na 380,000 o forgeisi heb eu talu yng Nghymru, â chyfanswm gwerth o £40 biliwn. O'r £40 biliwn hwnnw, mae llai nag 1 y cant gyda chwmnïau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae hyn yn dweud wrthym ni, yn fras, bod tua £39 biliwn a mwy o'n cyfoeth yn llifo allan o Gymru i gwmnïau aml-wladol mawr a'u cyfranddalwyr. Felly, a all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau i ddatblygu darparwr morgeisi a gefnogir yn lleol yma yng Nghymru?
Mae gennym ni ddarparwr morgeisi wedi'i leoli'n lleol yma yng Nghymru: mae gennym ni Gymdeithas Adeiladu Principality, mae gennym ni Monmouthshire Building Society, mae gennym ni Swansea Building Society. Mae'n nonsens awgrymu nad oes gennym ni sefydliadau yma yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, nid wyf i'n rhannu ei ragfarn yn erbyn pobl sy'n dewis trefnu eu morgeisi gyda chwmnïau sy'n gweithredu mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae gan bobl yng Nghymru ddewis ynghylch ble maen nhw'n mynd; nid wyf i'n ei ystyried rywsut yn anwlatgarol bod â'ch morgais gyda chwmni lle mae arian yn mynd y tu allan i Gymru.
Diolch i Altaf Hussain am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn. Wrth gwrs, er mwyn darparu mwy o dai cymdeithasol, mae angen i ni fod â systemau cynllunio effeithiol ar waith ar draws awdurdodau lleol. Byddai Aelodau Torïaidd yn gwneud yn dda i ddysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, lle penderfynodd llawer o'u gwleidyddion, eu cynghorwyr, bleidleisio yn erbyn CDLl yr oedden nhw'n gyfrifol amdano. Nawr, Prif Weinidog, oni fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n bryd rhoi'r saga druenus hon y tu ôl i ni, i symud ymlaen er mwyn y fwrdeistref sirol, ac er mwyn darparu mwy o gartrefi cymdeithasol i bobl sydd eu hangen yn daer?
Wel, diolch i Ken Skates am y cwestiwn yna, Llywydd. Gofynnodd yr Aelod gwestiwn i mi am CDLl Wrecsam dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, ac rwy'n cofio dweud, bryd hynny, fy mod i'n gobeithio, nawr, bod pen y mwdwl yn cael ei gau ar y stori druenus hon, ac, o'r diwedd, bod yr awdurdod lleol yn cydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol o dan gyfarwyddyd yr Uchel Lys. Mae'n drueni mawr i mi ddarganfod bod ansicrwydd pellach yn cael ei gyflwyno i'r darlun hwnnw bellach. Mae hynny'n arbennig o anffodus yn erbyn cefndir adroddiad Archwilio Cymru ar wasanaethau cynllunio yn y cyngor a gyhoeddwyd ddim ond wythnos neu ddwy yn ôl. Mae ganddo stori drist iawn i'w hadrodd am y berthynas doredig rhwng aelodau a swyddogion yn yr awdurdod lleol hwnnw, a'r risgiau sylweddol a grëwyd i'r cyngor ac, felly, i bobl sy'n byw yn y fwrdeistref sirol honno, o ganlyniad i chwalfa yn y cysylltiadau hynny. Byddai'n ddoeth i aelodau'r cyngor hwnnw roi sylw i argymhellion yr adroddiad hwn a'r cyfrifoldebau sydd ganddyn nhw nid i geisio annog ffyrdd anghyfreithlon o ymddwyn, ond i drwsio'r difrod a wnaed gan eu methiant i wneud hynny yn ystod yr wythnosau diwethaf.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o ddigartrefedd ledled Cymru? OQ60664
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi ymrwymo i'n huchelgais i ddod â digartrefedd i ben. Rydyn ni'n buddsoddi dros £210 miliwn eleni yn unig mewn gwasanaethau atal a chymorth digartrefedd. Mae hynny wedi'i ddiogelu, er gwaethaf y sefyllfa gyllidebol hynod heriol. Ac rydyn ni hefyd yn buddsoddi dros £300 miliwn eleni, y swm uchaf erioed, mewn tai cymdeithasol.
Diolch. Mae digartrefedd yn fesur allweddol, wrth gwrs, o ffyniant cymdeithas, felly gadewch i ni edrych ar y ffigurau yn ystod eich deiliadaeth chi, o bum mlynedd, Prif Weinidog. Y llynedd, cafodd 5,481 o aelwydydd, sef dros 10,000 o unigolion a 3,000 o blant eu rhoi mewn llety dros dro, i fyny o 2,052 o aelwydydd yn 2018, cynnydd o 167 y cant. Y llynedd, cafodd 5,094 o aelwydydd eu nodi'n anfwriadol ddigartref ac mewn angen blaenoriaethol, i fyny o 2,229 o aelwydydd pan ddaethoch chi i mewn yn gyntaf, cynnydd o 129 y cant. Ar yr un pryd, mae mwy na 100,000 o gartrefi yng Nghymru yn eistedd yn gwbl wag, cynnydd o 303 y cant ers 2018. Mae nifer y bobl sy'n cysgu yn y stryd yn cynyddu'n wythnosol ac mae cylchgrawn Inside Housing wedi nodi bod llety dros dro, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi cynyddu mwy na 7,000 y cant. Onid yw'n arwydd trist o'ch amser chi fel ein Prif Weinidog bod digartrefedd wedi cynyddu'n aruthrol, ac a ydych chi'n falch o'r record honno? Diolch.
Diolch i'r Aelod am nodi mor fyw effaith y polisïau y mae ei Llywodraeth hi wedi'u gweithredu ar Gymru. Dyma ganlyniad dros ddegawd o gyni ym mywydau pobl yma yng Nghymru. Dyma effaith drychinebus prifweinidogaeth Liz Truss a'r effaith ar gost morgeisi pobl. Sut mae hi'n credu bod pobl yn dod yn ddigartref yn y lle cyntaf? Y rheswm am hyn yw bod pobl wedi cael eu gadael yn y sefyllfa ofnadwy honno, o ganlyniad i'r polisïau hynny.
A gaf i achub ar y cyfle hefyd, Llywydd, i gywiro'r Aelod ac Aelodau Ceidwadol eraill pan fyddan nhw'n honni bod 100,000 o dai gwag yma yng Nghymru? Maen nhw'n dibynnu ar giplun a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Dyna unrhyw fath o dŷ sy'n wag ar y diwrnod hwnnw. Mae'r ffigyrau gwirioneddol i'w gweld yn y ffigyrau blynyddol sy'n cael eu cynhyrchu o dai sy'n wag ers dros chwe mis. Mae hynny'n dangos chwarter y ffigwr y mae'r Aelod wedi'i nodi. Ac, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon wedi caniatáu i awdurdodau lleol godi 300 y cant o dreth gyngor ar dai sy'n wag dros y cyfnod hwnnw.
Rwy'n falch, Llywydd—rwy'n falch o'r ffaith bod y Senedd hon wedi pasio newid mewn rheoliadau sy'n golygu, erbyn hyn, bod pobl sy'n ddigartref yn cael ei hystyried mewn angen blaenoriaethol, yma yng Nghymru. Oes, mae llawer gormod o bobl mewn llety dros dro o ganlyniad, ond o ran ei phlaid hi, nid yw'r bobl hynny mewn llety dros dro—maen nhw allan ar y stryd.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr y gall pob un ohonom yn y Siambr hon gofio'r sylwadau gwarthus gan y cyn-Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, fod cysgu ar y stryd yn 'ddewis ffordd o fyw' honedig, wrth amddiffyn ei phenderfyniad i gyfyngu ar ddefnyddio pebyll ar strydoedd Prydain gan bobl ddigartref. Mae ei phenderfyniadau cywilyddus wedi cael eu trosi'n gynigion i droseddoli cysgu ar y stryd niwsans ym Mil Cyfiawnder Troseddol Llywodraeth y DU, sydd, wrth gwrs, yn wahanol iawn i'r dull blaengar sy'n canolbwyntio ar bobl y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei ddefnyddio ar gyfer bobl sy'n byw ar y strydoedd yma. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod troseddoli'r rhai sy'n cysgu ar y stryd yn cyfyngu gyfleoedd i'r rhai mwyaf agored i niwed ymgysylltu â gwasanaethau hanfodol, yn aml eu hunig lwybr diogel allan o amgylchiadau a orfododd iddyn nhw gysgu ar y stryd yn y lle cyntaf?
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Vikki Howells newydd ei ddweud. Roedd ei dyfyniad gan y cyn-Ysgrifennydd Cartref yn datgelu barn y Llywodraeth honno. Dyma'r person a oedd yn gyfrifol am y Bil hwnnw, ac roedd yn warthus, yn hollol warthus, i ddisgrifio pobl sydd yn y sefyllfa anffodus y nododd Janet Finch-Saunders, fel eu bod wedi 'dewis ffordd o fyw'. A nawr, mae'r bobl hynny sy'n cael eu gorfodi i'r sefyllfa honno i gael eu troseddoli am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw. Roedd Suella Braverman am droseddoli sefydliadau trydydd sector ac elusennol a oedd yn rhoi cymorth i bobl o dan yr amgylchiadau hynny. Ond y gwir bwynt yw'r pwynt y mae Vikki Howells yn ei wneud, Llywydd—lle mae pobl i gael eu helpu, os ydych chi'n eu trin nhw fel troseddwyr, rydych chi ond yn eu gyrru nhw i ffwrdd o'r help sydd ar gael iddyn nhw. Ni allai fod ffordd fwy gwrthgynhyrchiol o ddarparu gwasanaethau i bobl y mae arnyn nhw eu hangen fwyaf na throi'r bobl hynny yn droseddwyr. Rwy'n gobeithio, pan ddaw cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd hon, y byddwn ni'n gwneud ein barn ni ar y pwynt hwnnw'n glir.
5. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i gryfhau'r economi yn Nwyrain De Cymru? OQ60674
Rydyn ni'n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd i gynyddu ffyniant economaidd. Mae gan dde-ddwyrain Cymru gryfderau economaidd sylweddol, er enghraifft mewn lled-ddargludyddion, seiber a thechnoleg ariannol. Mae ein cynlluniau'n cefnogi'r cryfderau hyn fel sylfaen dyfodol economaidd y rhanbarth.
Diolch am yr ateb yna, a dwi'n falch eich bod chi wedi sôn am semiconductors yn fanna.
Hoffwn i ganolbwyntio ar Newport Wafer Fab a'r broses gaffael barhaus gan y cwmni o America, Vishay. Ni wnaf fanylu ar hanes cythryblus y safle hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mae'n deg dweud bod y cannoedd o staff sy'n gweithio yno yn haeddu newyddion da am y trosglwyddiad hwn. Er bod pencadlys y cwmni sydd â diddordeb yng ngwlad ein cynghreiriad agosaf, yn ôl y sôn, mae'n ymddangos bod San Steffan wedi bod yn llusgo ei thraed o ran cymeradwyo'r broses gaffael. Mae'r oedi hwn yn gohirio buddsoddi, mae'n gohirio diogelwch swyddi ac mae'n gohirio ehangu. A ydych chi'n rhannu fy mhryderon a fy rhwystredigaethau i, yn ogystal â'r cannoedd sy'n gweithio ar y safle yn Newport Wafer Fab, am yr aros i San Steffan gymeradwyo safle mor allweddol i economi Cymru? Beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau bod y broses hon yn cael ei chwblhau erbyn y dyddiad cau ar 22 Chwefror er mwyn diogelu'r diwydiant lled-ddargludyddion?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig hyn. Maen nhw'n adleisio pwyntiau a gafodd eu gwneud i mi yn ddiweddar gan yr Aelod dros Orllewin Casnewydd ar ran ei hetholwyr hi. Dyma enghraifft o ffatri bwysig iawn, sy'n bwysig i dde Cymru ond sy'n bwysig ymhell y tu hwnt i hynny, lle penderfynodd Llywodraeth y DU nad oedd Nexperia, y cwmni a oedd wedi prynu'r cyfleuster, yn cael parhau â'r berchnogaeth honno. Yna, gwnaethon nhw droi eu cefnau arno. Yn blwmp ac yn blaen, fe wnaethon nhw droi eu cefnau arno. Ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw ni wnaethon nhw gynnig unrhyw gymorth, ni wnaethon nhw gynnig unrhyw arweiniad, ni wnaethon nhw gynnig unrhyw ffordd o wneud gwahaniaeth i'r penderfyniad hwnnw.
Yn ffodus, mae yna gwmni sy'n dymuno buddsoddi ar y safle hwnnw. Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod yn rhaid iddi gyflawni proses glirio uned diogelwch buddsoddi o'r cais hwnnw, ac fe addawodd y bydd wedi cwblhau honno erbyn 5 Ionawr. Wel, dyma ni, ymhell i mewn i fis Chwefror, ac nid oes unrhyw gliriad o gwbl wedi dod. Ysgrifennodd y Gweinidog at y Gweinidog yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg ar 30 Ionawr, yr wythnos diwethaf, yn gofyn iddo hwyluso'r penderfyniad, a thynnu sylw at ganlyniadau peidio â gwneud hynny—y bydd unrhyw oedi pellach i gwblhau'r broses caffael nawr yn golygu na all y broses gaffael ddigwydd tan fis Mawrth ar y cynharaf. Mae hynny'n golygu ansicrwydd newydd: ansicrwydd newydd i weithwyr, ansicrwydd newydd i gyflenwyr, ansicrwydd newydd i'r cwmni sy'n ceisio buddsoddi yma yng Nghymru.
Felly, rwy'n cytuno â'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud. Gallwch chi fod yn dawel eich meddwl bod Gweinidog yr economi yn y fan yma'n gwneud popeth o fewn ein gallu i berswadio Llywodraeth y DU i gyflawni'r amserlenni y maen nhw eu hunain wedi'u pennu ac i ddod â'r ansicrwydd sydd wedi'i wreiddio yn y penderfyniad y gwnaethon nhw eu hunain yn y lle cyntaf.
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghonwy a Sir Ddinbych? OQ60649
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghonwy a sir Ddinbych yn cael eu hasesu mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys drwy'r bwrdd iechyd lleol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Cafodd adroddiad blynyddol monitro iechyd meddwl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ei gyhoeddi ym mis Ionawr. Mae'n asesu'r cynnydd sydd wedi ei wneud ac yn nodi meysydd i'w gwella ymhellach ledled Cymru.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw, Prif Weinidog. Ar hyn o bryd mae gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd mewn mesurau arbennig oherwydd methiannau, ac rydyn ni'n gwybod eu bod nhw wedi bod mewn mesurau arbennig ac yn destun ymyrraeth ers 2015. Ond mae'n ddrwg gennyf i roi gwybod i chi fy mod i'n cael adroddiadau o hyd am broblemau parhaus yn y gwasanaethau hyn, yn enwedig o ran gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, mae arnaf i ofn, ar hyn o bryd.
Mae etholwyr a sefydliadau eraill sy'n gweithio i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cysylltu â mi yn aml gan ddweud wrthyf eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd i gael cymorth gan y gwasanaeth iechyd meddwl cymunedol yng nghanolfan iechyd meddwl Nant y Glyn Bae Colwyn. Mae cleifion sy'n cysylltu â'r ganolfan yn cael eu diystyru, maen nhw'n addo eu ffonio yn ôl, ond dydyn nhw ddim yn eu derbyn, ac mae hyd yn oed gorchmynion llys i roi cymorth i gleifion yn cael eu hanwybyddu.
Rwy'n gwybod bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi codi pryderon am fynediad at gymorth iechyd meddwl cymunedol yn y ganolfan honno; rwyf i hefyd wedi codi pryderon gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ond mae arnaf i ofn nad oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw welliant. Os rhywbeth, mae'n ymddangos bod pethau'n gwaethygu, ac ymddengys nad oes llawer yn cael ei wneud ar hyn o bryd o ran taflu goleuni ar y pethau hyn gan y bwrdd iechyd ei hun, nac, yn wir, Llywodraeth Cymru.
Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cleifion yn fy etholaeth i'n gallu cael y gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol hanfodol hynny y mae eu hangen arnyn nhw, fel nad yw eu hiechyd yn gwaethygu, ac nad ydyn nhw'n dod i niwed?
Diolch i Darren Millar am y pwyntiau pwysig hynny, yr wyf i'n eu cymryd o ddifrif. Rwy'n ymwybodol o'r cwynion sydd wedi'u gwneud am wasanaeth tîm iechyd meddwl cymunedol Nant y Glyn yn ei etholaeth ef. Rwy'n ymwybodol mai un o'r rhesymau pam y cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru archwiliad o'r gwasanaeth yn ddiweddar, oedd oherwydd nifer y pryderon a gafodd eu codi gyda nhw. Byddai'r bwrdd iechyd ei hun yn dweud bod camau wedi'u cymryd a bod nifer y cwynion y llynedd yn is na nifer y cwynion a ddaeth i law yn 2022. Siaradais i fy hun ag is-gadeirydd y bwrdd dros y penwythnos—yr is-gadeirydd sydd newydd ei benodi, Gareth Williams, a fydd yn arwain ar ran y bwrdd ar wasanaethau iechyd meddwl. Roedd e'n ymwybodol ar unwaith o natur y pryderon a gafodd eu codi, ac adleisiodd lawer o'r pethau y mae'r Aelod lleol wedi'u codi y prynhawn yma, Llywydd.
Byddwn ni'n aros am adroddiad yr arolygiad hwnnw gan AGIC. Ni chodwyd unrhyw bryderon ar unwaith. Bydd e'n ymwybodol mai'r peth cyntaf y mae AGIC yn ei wneud yw nodi unrhyw bethau y mae angen eu cywiro yn y fan a'r lle. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n rhywfaint o gysur o leiaf nad oedd unrhyw faterion o'r math hwnnw. Mae disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill, ac yna bydd gennym asesiad annibynnol o gyflwr presennol y gwasanaethau. Rwy'n siŵr y bydd yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella, ac rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod yr argymhellion hynny'n cael eu cymryd o ddifrif a bod y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gweithredu.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl y Llywodraeth yng ngwaith Ambiwlans Awyr Cymru? OQ60634
Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn annibynnol. Mae'n cael ei ariannu gan bobl Cymru ac nid yw'n atebol i Lywodraeth Cymru. Mae'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, sy'n gweithio gyda'r elusen i ddarparu gwasanaethau gofal critigol arbenigol, yn cael ei gomisiynu gan y byrddau iechyd.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Prif Weinidog, mewn ymateb i gwestiwn gan Rhun ap Iorwerth ynghylch y cynlluniau i aildrefnu'r ambiwlans awyr, y gallai
'dau neu dri o bobl bob diwrnod nad ydyn nhw'n derbyn y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd dderbyn y gwasanaeth o dan y trefniadau newydd'.
Dyna'r dyfyniad. Mae'r modelu yn dangos bod yr hyn ddywedodd y Prif Weinidog yn wir am fwy nag un o'r opsiynau sydd yn cael eu hystyried. Mae'n wir cyn belled ag y mae canoli gwasanaeth yn rhywle fel Rhuddlan yn y cwestiwn, ond mae e hefyd yn wir y byddai mwy o bobl yn cael eu gweld o gadw'r canolfannau presennol yn Ninas Dinlle a'r Trallwng, a thrwy gyflwyno cerbyd ymateb brys yn y gogledd-ddwyrain. Ond y gwahaniaeth rhwng y ddau opsiwn ydy bod y modelu'n dangos, drwy ganoli'r gwasanaeth, y byddai cymunedau gogledd Môn, Pen Llŷn, Meirionnydd, Maldwyn a gogledd Ceredigion oll yn colli allan yn sylweddol. Ydy'r Prif Weinidog, felly, yn cytuno â mi fod hyn yn bryderus ac, ymhellach, yn cytuno na ddylid cyflwyno unrhyw gynllun ad-drefnu sydd yn peryglu pobl yn y cymunedau yma?
Wel, allaf i ddim cytuno gyda'r Aelod, achos beth dwi wedi'i weld yw bod dau egwyddor gyda'r bobl a'r arbenigwyr yn y maes sydd wedi gwneud y gwaith i weld a allwn ni dynnu mwy o wasanaeth mas o bopeth sydd gyda ni ar hyn o bryd. A'r egwyddor gyntaf oedd: os yw pobl yn cael y gwasanaeth nawr, dylid parhau i'w gael—parhau i'w gael. Dyna'r egwyddor gyntaf—nid cael llai o wasanaeth, ond cario ymlaen gyda'r gwasanaeth sydd gyda nhw ar hyn o bryd. A'r ail egwyddor oedd i weld a yw'n bosibl, trwy newidiadau, i gael mwy o bobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth. Dyna oedd pwrpas y gwaith i gyd.
Nawr, mae'r gwaith yna'n parhau i fynd ymlaen. Mae mwy o drafodaethau gyda phobl leol. Ond ar ddiwedd y dydd, os yw'r gwaith yn dangos y gallwn ni gario ymlaen gyda'r gwasanaeth sy'n bodoli nawr i bobl yng ngogledd Cymru, ac yn y gorllewin hefyd, a hefyd i gael mwy o bobl i gael y gwasanaeth yn y dyfodol, gallaf i ddim dweud fy mod yn mynd i fod yn erbyn y casgliad yna.
8. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar gynnal perthnasoedd â Chymry sy'n byw dramor? OQ60655
Llywydd, mae’r Cymry ar wasgar, y rhai sydd wedi astudio yng Nghymru, a chyfeillion Cymru sy’n byw ac yn gweithio dramor yn chwarae rôl bwysig i hyrwyddo ein gwlad. Maen nhw’n cynrychioli y gorau o ddiwylliant Cymru, ac maen nhw’n annog cysylltiadau busnes ac eraill. Rydym yn parhau i feithrin cysylltiadau â’r Cymry ar wasgar fel rhan o'n strategaeth rhyngwladol.
Diolch, Brif Weinidog. Gyda'r cyfyngiad yn cael ei godi ar bleidleiswyr Cymreig sy'n byw dramor yn yr etholiad cyffredinol nesaf, mae'n bwysicach fyth ein bod ni yn creu cyswllt gyda'r Cymry alltud. A'r wythnos diwethaf, roedd yn fraint cwrdd â nifer o Gymru alltud yn Philadelphia a Washington. Er bod nifer heb eu geni yng Nghymru, a rhai heb dras Gymreig o gwbl, maent yn angerddol, fel y dywedoch chi, dros ein gwlad ni. Maent yn cadw ac yn hyrwyddo nifer o lefydd hanesyddol, yn siarad, canu ac yn gweddïo yn Gymraeg, ac yn pobi'r piciau ar y maen gorau dwi wedi'u blasu ers blynyddoedd.
Dwi ddim yn mynd i ailadrodd consérn Cadeirydd y pwyllgor diwylliant yr wythnos diwethaf ar impact y gyllideb ar gysylltiadau rhyngwladol, ond, yn sicr, mae yna botensial enfawr fan hyn ymysg y Cymry dramor i gyfrannu tuag at ein heconomi, ein cymdeithas a'n diwylliant. Yn yr amserau heriol ac ansefydlog yma, Brif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i hyrwyddo Cymru yn effeithiol yn fyd-eang? Diolch yn fawr.
Wel, Llywydd, dwi'n cytuno gyda'r Aelod am bwysigrwydd gwneud gwaith ledled y byd. Ble bynnag rŷch chi'n cwrdd â phobl o Gymru ar draws y byd, maen nhw mor frwdfrydig i gynrychioli Cymru ac i gyfrannu at lwyddiant Cymru yn y dyfodol.
Clywais fod yr Aelod wedi bod draw yn America, ac, wrth gwrs, mae tîm o bobl gyda ni yn America yn barod sy'n gweithio'n galed i wneud popeth roedd yr Aelod yn siarad amdano, i wneud mwy i godi ymwybyddiaeth am Gymru, i wneud mwy i gydweithio â phobl sy'n fodlon ein helpu ni yn yr ymdrech yna. Rŷn ni wedi cefnogi, dros y blynyddoedd, yr ŵyl sydd ar gael yng Ngogledd America, sy'n tynnu pobl o Gymru at ei gilydd, ac mae nifer o Weinidogion wedi bod draw yn America i wneud yr un peth.
Llywydd, rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf trawiadol dros y chwe mis diwethaf oedd ymweliad Gweinidog yr Economi â Birmingham, Alabama, i helpu i nodi chwe deg mlynedd ers y digwyddiadau ofnadwy pan fomiwyd Eglwys y Bedyddwyr ar Sixteenth Street, a lle gwnaeth pobl o Gymru y cyfraniadau hynny i'r ffenestr honno sydd wedi bod yn gymaint o symbol o'n cyfeillgarwch â phobl Birmingham yn Alabama. Ac rwy'n credu bod hynny'n symbol go iawn o'r union bwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud y prynhawn yma, a phenderfyniad y Llywodraeth hon i barhau i gefnogi'r ymdrechion hynny.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a Lesley Griffiths, y Trefnydd, i wneud y datganiad yma.
Diolch, Llywydd. Mae yna dri newid i agenda heddiw. Yn gyntaf, bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gwneud datganiad ar adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd—y camau nesaf. Yn ail, rwyf i wedi gohirio'r ddadl ar y Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024, a gaiff ei haildrefnu maes o law. Yn olaf, bydd Gweinidog yr Economi yn ceisio ataliad o'r Rheolau Sefydlog wedi ystyriaeth o'r gyllideb ddrafft, er mwyn rhoi cyfle inni drafod y diwydiant dur yng Nghymru. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, neithiwr fe wnes i ymuno â ffermwyr yn Arberth, yn fy etholaeth i, ar gyfer sioe deithiol NFU Cymru, ar gyfer ymdrin â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rydych chi'n ymwybodol fod dros 1,000 o ffermwyr wedi cyfarfod yn y Trallwng yr wythnos diwethaf, gyda phryderon ynghylch dull y Llywodraeth hon o ymdrin ag amaethyddiaeth a'r economi wledig yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn y digwyddiad ddoe, roedd hi'n amlwg oddi wrth NFU Cymru—. Ac rwyf i'n eu canmol nhw am gyflwyniad effeithiol eu sioe deithiol nhw, a'u dadansoddiad manwl o'r cynllun ffermio cynaliadwy, gan fynd drwy 17 pwynt y camau gweithredu cyffredinol. Mae hynny'n wahanol iawn i ddigwyddiadau teithiol gan Lywodraeth Cymru, sy'n gwneud dim ond dethol rhai o'r camau gweithredu cyffredinol—fe gafodd hynny ei gyfleu yn ei ôl i mi. Nawr, nid aeth eironi'r sefyllfa heibio i mi pan dynnwyd sylw at y ffaith mai'r darlun mwyaf amlwg a welir yn yr ymgynghoriad yw darlun o goeden. Mae ffermwyr yng Nghymru yn teimlo yn ddigalon, yn rhwystredig ac yn ddig. Fe ysgrifennais i atoch chi yr wythnos diwethaf i ofyn a fyddech chi'n gohirio'r ymgynghoriad ar y cynllun ffermio cynaliadwy am y tro, er mwyn i'r tymheredd ostwng, ac er mwyn i Lywodraeth Cymru, ffermwyr, a'r undebau ffermio edrych unwaith eto ar y cynllun ffermio cynaliadwy, gan sicrhau nad yw'n parhau fel y mae, sef polisi o hunan-niweidio economaidd, a fyddai'n achosi colli 5,500 o swyddi. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch a ydych chi wedi ystyried gohirio'r cynllun am y tro, ar gyfer sicrhau bod y tymheredd yn gostwng, ac nad yw ffermwyr yn cael eu gorfodi i blygu i gynllun nad yw'n addas i'r sector yma yng Nghymru. Oherwydd, cofiwch: heb ffermwyr, nid oes bwyd—heb amaeth, heb faeth.
Rwy'n ymwybodol eich bod chi wedi ysgrifennu ataf i, ac wrth gwrs fe fyddaf i'n ymateb i chi'r wythnos hon. Gydag NFU Cymru y bydd fy nghyfarfod nesaf i, yn union ar ôl i mi ymadael â'r Siambr wedi'r datganiad busnes hwn. Rydym ni wedi mynd allan i ymgynghori. Rwy'n credu bod angen i bawb gofio ein bod ni allan i ymgynghori. Mae mis arall eto. Fel clywsoch chi'r Prif Weinidog yn dweud, mae'r ymgynghoriad wedi newid ac esblygu dros y blynyddoedd. Rydym ni wedi gwrando ar y ffermwyr ers saith mlynedd—ymhell cyn i chi fod yma. Rydym ni wedi bod yn gwrando ar ffermwyr ers saith mlynedd, ers pleidlais y refferendwm i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae hwn yn gyfnod o newid, ac rydych chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ein bod ni'n llwyr gydnabod hynny ac yn deall hynny. Rwyf innau hefyd am roi teyrnged i'r NFU am gynnal y sioeau teithiol hyn. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig i gymaint o ffermwyr â phosibl ymgysylltu â'r rhain, nid sioeau teithiol Llywodraeth Cymru yn unig—. Ac fe gefais i gyfarfod gyda'm swyddogion ychydig cyn i mi ddod i mewn i'r Siambr, i gael y data diweddaraf yn ôl a'r trafodaethau sy'n cael eu cynnal. Ac mae hi'n ddiddorol iawn gweld nifer y ffermwyr sy'n awyddus i fynychu'r sioeau teithiol, i gael atebion i'r cwestiynau sydd ganddyn nhw ynghylch yr ymgynghoriad. Ond ymgynghoriad ydyw. Mae angen i ni aros i'r ymgynghoriad hwnnw ddod i ben, ymhen mis. Fe fydd yna drafodaethau pellach, ac wedyn fe fydd yna ddadansoddiad economaidd pellach. Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael wneud ar frys. Rwyf i wedi dweud na fydd y newid hwnnw i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn digwydd hyd nes y bydd y cynllun hwnnw'n barod. Ac fe wnaf i ymateb i chi'r wythnos hon.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch sut mae sefydliadau o fewn ei phortffolio yn ymateb i'r toriadau yn y gyllideb ddrafft. Yn amlwg, fe fyddwn ni'n trafod y gyllideb ddrafft yn nes ymlaen, ond fe geir un pwynt penodol. Mae llawer o sefydliadau wedi agor cynlluniau diswyddo gwirfoddol eisoes, gan ragweld y toriadau, ac maen nhw'n rhybuddio y bydd diswyddiadau gorfodol yn debygol. Mae'r ffaith fod rhai o'r sefydliadau, fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, rwy'n credu, wedi agor y cynlluniau mewn gwirionedd ar ôl newid yn ddiweddar, heb fawr ddim ymgynghori, y telerau a'r amodau sy'n ymwneud â diswyddiadau gwirfoddol a diswyddiadau gorfodol yn peri pryder. Fe fydd yr amodau llai ffafriol yn effeithio yn anghymesur ar bobl ifanc, ond ar rai hefyd sydd wedi cymryd cyfnodau i ffwrdd o'u gyrfaoedd—menywod sydd wedi bod yn magu eu teuluoedd yw'r rhan fwyaf. Felly, y datganiad yr hoffwn ei gael byddai un ynglŷn ag unrhyw asesiad a wnaeth y Dirprwy Weinidog o ran sut mae sefydliadau yn paratoi i weithredu'r toriadau, a sut ydym ni am sicrhau y bydd cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'i gilydd, i sicrhau nad oes anghysondebau fel hyn, pe byddai hi'n mynd i'r pen a bod rhaid diswyddo pobl yn orfodol.
Diolch i chi. Wel, yn amlwg, mae pob cyllideb wedi gorfod wynebu toriadau ar draws Llywodraeth Cymru, ac mae Gweinidog yr Economi, ac mae hwnnw, wrth gwrs yn bortffolio'r Dirprwy Weinidog hefyd, wedi gweld toriadau sylweddol y bu'n rhaid, wedyn, yn anffodus, eu trosglwyddo i'r math o sefydliadau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw. Rwy'n credu ei fod yn ddarn pwysig iawn o waith, cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, ein bod ni i gyd, fel Gweinidogion, yn cael trafodaethau gyda'n rhanddeiliaid ynglŷn â'r mathau o ostyngiadau y bu'n rhaid i ni eu trosglwyddo, yn anffodus. Ac rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Weinidog yn parhau i gael y trafodaethau hyn, wrth symud ymlaen.
Fe hoffwn i sôn ychydig mwy am y sylwadau a wnaeth Sam Kurtz, oherwydd mae'n rhaid eu gweld nhw o ran effaith Brexit ar ein gallu ni i sicrhau bod gennym ddiogelwch bwyd, yn ogystal â newid hinsawdd, wrth inni weld Barcelona yn cyhoeddi sychder y mis hwn, a'r materion difrifol iawn sy'n ein hwynebu ni i gyd. Felly, tybed a yw hi'n bosibl cael dadl yn amser y Llywodraeth ar ein diogelwch bwyd a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â hynny, gan gynnwys sut y byddwn ni'n rheoli ein rhaglen rheoli tir.
Fe glywsoch chi'r Prif Weinidog, yn gynharach, yn dweud ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ceisio sicrhau nad yw pobl yn cael eu derbyn i ysbytai heb angen gwirioneddol iddyn nhw fod yno. Felly, o edrych ar yr Academi Gwyddorau Meddygol, a alwodd am gamau ddoe i ymdrin â chyfraddau marwolaethau babanod, lle mae'r DU yn safle rhif deg ar hugain o blith 49 o wledydd cyfoethog, o ran gordewdra, lle mae un o bob pump o blant dan bump oed yn ordew neu dros bwysau, a phydredd dannedd, sy'n cael ei godi yn aml gan fy nghyd-Aelod, Jane Dodds. Ac yng ngoleuni adroddiad y Sefydliad Bwyd ar fwydo ar y fron heddiw, sy'n nodi, mewn arolwg o famau â phlant dan 18 mis, bod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n dweud y bydden nhw wedi hoffi parhau i fwydo o'r fron am ragor o amser, ac fe wyddom ni mai hwnnw yw un o'r ymyriadau pwysicaf—. Rwy'n gwybod bod Gweinidogion iechyd wedi gwneud llawer iawn i gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron, ond mae mwy eto i'w wneud bob amser, a dyma un o'r ffyrdd o atal plant rhag cael eu derbyn i'r ysbyty naill ai â heintiau anadlol neu gastrig, oherwydd pan fydd y rhain yn cychwyn, fe allan nhw fynd yn ddifrifol iawn yn gyflym iawn.
Diolch i chi. Rwy'n credu eich bod chi'n codi dau bwynt pwysig iawn, ond mae'r un olaf, yn fy marn i, yn un pwysig tu hwnt. Yn sicr, yn rhinwedd fy swydd o ran y gogledd, roeddwn i yn yr Eisteddfod yr haf y llynedd, pan gwrddais i ag ymwelwyr iechyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gwneud gwaith gwych i barhau i hyrwyddo'r union bwnc yr oeddech chi'n cyfeirio ato o ran sicrhau bod pobl yn ymwybodol o fanteision bwydo ar y fron cyn belled ag y bo modd.
O ran diogelwch bwyd, sydd, wrth gwrs, yn hynod bwysig, ac yn un o'r pethau yn y cynllun ffermio cynaliadwy—. Fe wyddom ni mai'r bygythiad mwyaf i'n cynhyrchiad bwyd cynaliadwy yw'r argyfwng newid hinsawdd. Ac rwy'n cytuno yn llwyr â'ch sylwadau ynghylch gadael yr UE. Roeddwn i ar fferm ddydd Iau, lle'r oedd saith o bobl o gwmpas y bwrdd yn trafod sut roedden nhw'n teimlo—wel, nid wyf i'n credu bod yr ymadrodd 'fe'n twyllwyd ni' yn rhy gryf—pan wnaethon nhw bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, am eu bod nhw'n credu yn gryf yn yr hyn a ddywedwyd wrthyn nhw. Yn anffodus, ni ddaeth yr wybodaeth briodol na'r wybodaeth gywir i'r amlwg, ac mae effaith hynny yn cael ei deimlo ledled y wlad ar hyn o bryd.
Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog llywodraeth leol a chyllid, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, ac yn enwedig ar effaith y Gorchymyn hwnnw, y mae rhan sylweddol ohono yn diffinio busnes hunanarlwyo fel un y mae'n rhaid ei osod am 182 noson y flwyddyn, sy'n gynnydd, fel gwyddoch chi, o'r diffiniad blaenorol o 70 noson. Ac fe fyddwch chi'n cofio fy mod i wedi codi pryderon sylweddol am y Gorchymyn hwn, wrth iddo wneud ei ffordd drwy'r Senedd. Ac rwy'n poeni nawr o glywed am faterion penodol, sy'n dangos cyfyngiadau ar fusnesau—y busnesau hunanarlwyo hynny—yn ystod cyfnodau cyfyngiadau symud COVID, ac sy'n cael eu hystyried i bob pwrpas yn 'ddiddymiadau' erbyn hyn o ran y busnesau hynny, er nad oedd gan y busnesau hynny unrhyw ddewis ar y pryd. Felly, mae hyn yn gwthio nifer o fusnesau dilys allan i'w dosbarthu yn ail gartrefi ac yn agored i gostau ychwanegol sylweddol, er nad oedd ganddyn nhw ddewis o ran y cyfyngiadau hynny a orfodwyd arnyn nhw yn ystod cyfyngiadau symud COVID. Felly, fe fyddwn yn ddiolchgar o gael datganiad gan y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf y mae cymaint o'i hangen ynghylch effaith y Gorchymyn hwn ers iddo ddod i rym bron i ddwy flynedd yn ôl. Diolch i chi.
Wel, mae'r Gweinidog yn ei lle ac fe glywodd eich cwestiwn. Rwy'n credu y byddai hi'n well pe byddech chi'n ysgrifennu yn uniongyrchol ati hi.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os caf i, ynglŷn â defnyddio meddalwedd cofnodion cleifion electronig mewn offthalmoleg ar draws bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? Caniatawyd rhoi meddalwedd cofnodion cleifion electronig OpenEyes ar draws Betsi Cadwaladr cyn COVID. Cafodd sefydlu'r meddalwedd ei ohirio i ddechrau oherwydd caeadau yn sgil COVID, ac fe'i gohiriwyd ymhellach bryd hynny oherwydd newidiadau ymysg rheolaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Nawr, mae'r meddalwedd wedi profi ei fod yn ddibynadwy, mae'n barod i'w ddefnyddio ar draws Betsi, ac fe fyddai o gymorth mawr i ymarferwyr oherwydd ei ddefnyddioldeb o ran atgyfeiriadau electronig a'i weithrediad rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd. Fe fyddai'n caniatáu i gofnodion fod ar gael ledled Cymru gyfan hefyd, sy'n hanfodol wrth gwrs ar gyfer gwneud mesurau gofal llygaid Cymru yn effeithiol. Nawr, yn anffodus, nid yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ystyried defnyddio OpenEyes ar draws Betsi erbyn hyn. Mewn gwirionedd, mae Betsi yn gweithio erbyn hyn i ddatblygu meddalwedd arall a allai achosi oedi am flynyddoedd lawer cyn y gellir defnyddio meddalwedd cofnodion cleifion electronig ar draws y gogledd, ac fe fyddai hynny'n rhoi cleifion dan anfantais fawr. Felly, mae angen i ni ddeall, mewn gwirionedd, a yw'r Gweinidog o'r farn y dylid defnyddio meddalwedd OpenEyes, sydd â'r gost leiaf posibl i'w rhedeg ac y profwyd ei bod yn gweithio, ledled y gogledd i sicrhau nad yw cleifion offthalmoleg yn cael eu rhoi dan ragor o anfantais.
Diolch i chi. Wel, rwy'n ymwybodol o hynny; nid oeddwn i'n ymwybodol fod y penderfyniad hwnnw wedi cael ei wneud. Nid wyf i'n siŵr mai mater i'r Gweinidog yw gwneud y penderfyniad hwnnw, ond yn sicr fe wnaf i ofyn iddi hi ynglŷn â'r pwynt y gwnaethoch chi ei godi a gofyn iddi hi ysgrifennu atoch chi.
Prynhawn da, Gweinidog. Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os caf, un gan y Gweinidog iechyd unwaith eto, ynghylch estyn rhagor o gefnogaeth i feddygon teulu yng nghefn gwlad. Rwyf wedi bod yn ymweld â nifer o feddygon teulu yng nghefn gwlad Powys dros yr wythnos ddiwethaf i siarad â nhw ynglŷn â'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu, a thema gyffredin sy'n deillio o'r trafodaethau hynny yw nad yw'r modelau presennol o ran sefydlu a chyllido cytundebol yn rhoi digon o ystyriaeth i'r gwasanaethau ychwanegol y maen nhw'n eu darparu, fel fflebotomi, apwyntiadau'r un diwrnod, ac ati, y mae'n rhaid i feddygfeydd cefn gwlad eu darparu oherwydd, mewn ardaloedd trefol, fe allen nhw fod gennych chi wrth law. Felly, rwyf i'n cefnogi taliad i feddygon teulu yng nghefn gwlad i sicrhau ein bod ni'n gallu cefnogi ein meddygon teulu yng nghefn gwlad. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan y Gweinidog ynglŷn â'r gefnogaeth i'n meddygon teulu yng nghefn gwlad.
Hefyd, yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r cynnydd o ran adfer adeiladau preswyl anniogel yng Nghymru? Fe fyddwn yn ddiolchgar iawn am ddatganiad ar ba asesiad a wnaeth hi o'r achos tribiwnlys diweddar ac, yn benodol, a yw deddfwriaeth Cymru wedi syrthio tu ôl i'r un yn Lloegr erbyn hyn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Wel, mae hi'n amlwg bod meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig yn gorfod darparu gwasanaethau gwahanol i'w cleifion na'r rhai mewn ardaloedd trefol efallai, yn ôl pob tebyg. Fe ymwelais i fy hun â meddygfa yn Wrecsam, yn fy etholaeth i, ddydd Gwener, lle'r oedd hi'n anhygoel gweld yr ystod o wasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Felly, rwy'n credu mai'r peth tebygol yw bod hynny'n cael ei wneud ar sail meddygfeydd unigol. Ond, rwy'n derbyn yn llwyr y pwynt a wnaethoch chi ynglŷn â meddygon teulu yng nghefn gwlad. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn ynglŷn â'r ymgyrch farchnata i sicrhau bod meddygfeydd gwledig yn gallu bod yn ddeniadol i'r meddygon teulu newydd sy'n dod yno wrth symud ymlaen, oherwydd fe welsom ni gynnydd sylweddol yn y niferoedd sy'n manteisio ar leoedd i hyfforddi meddygon teulu, ond efallai yn yr ardaloedd trefol yn fwy na'r ardaloedd gwledig. Nid wyf i'n siŵr a oes ystyriaeth yn cael ei rhoi i daliad llawfeddygaeth wledig, ond rydych chi'n ymwybodol, yn amlwg, bod cymhellion ariannol yn cael eu cynnig ar gyfer meddygon teulu ers tua 2017, rwy'n credu.
O ran diogelwch adeiladau, fe wn i fod y Gweinidog wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd yn ôl ym mis Tachwedd, rwy'n credu mai dyna pryd oedd hi, tua thri mis yn ôl, am faterion diogelwch tân. Mae ganddi hi ragor o wybodaeth ynglŷn â'r tribiwnlys yr oeddech chi'n sôn amdano, ac rwyf i am ofyn iddi hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.
Yn olaf, Gareth Davies.
Diolch, Llywydd. Gan ein bod bellach wedi dechrau ar gyfnod rygbi'r chwe gwlad, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ar benderfyniad Undeb Rygbi Cymru i symud dwy o gemau dan 20 Cymru o'r gogledd ac yn ôl i Gaerdydd. Nawr, ar gyfer rhoi hyn yn ei gyd-destun, mae gemau dan 20 y chwe gwlad yng Nghymru wedi cael eu chwarae yn y gogledd ers sawl blwyddyn ac wedi eu mwynhau gan lawer o bobl yn yr ardal honno ers ymhell dros ddegawd. Ac, i rai pobl, dyma'r unig gyfle ar gael iddyn nhw weld rygbi rhyngwladol byw yn eu hardal leol, gyda'r rhan fwyaf o gemau rygbi Cymru a chwaraeon yn gyffredinol yn cael eu chwarae naill ai yng Nghaerdydd neu yn y de. I bobl leol, dyma enghraifft arall o ddigwyddiadau mawr Cymru yn cael eu cynnal yn y de, heb fawr o ystyriaeth i bobl yn y gogledd. Felly, a all y Dirprwy Weinidog roi datganiad ar ba drafodaethau a gafodd hi gydag URC ynghylch y mater hwn, a beth yw'r rhesymau dros symud gemau rygbi rhyngwladol byw o'r gogledd, a pha gynlluniau, os o gwbl, sydd gan Undeb Rygbi Cymru i arallgyfeirio ei gynnig chwaraeon i bobl ledled Cymru, ac nid yn unig i'r de, oherwydd, unwaith eto, y gogledd sydd ar ei golled o ran digwyddiadau arwyddocaol wrth iddyn nhw gael eu cynnal yng Nghaerdydd? Diolch i chi.
Diolch i chi. Rwyf i'n cytuno yn llwyr â'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud. Penderfyniad gan URC oedd hwn. Rwyf i o'r farn mai'r penderfyniad anghywir oedd hwnnw. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn—i lawer o bobl ifanc, na fydden nhw fyth yn cael cyfle i ddod i lawr i Gaerdydd i weld rygbi rhyngwladol. Felly, mae'r ffaith ein bod ni wedi gweld y gemau dan 20 oed yn cael eu chwarae ym Mharc Eirias wedi bod yn bwysig iawn. Yn sicr fe fyddaf i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog a gafodd hi neu ei swyddogion unrhyw drafodaethau cyn i URC wneud y penderfyniad hwnnw. Os nad felly, fel Gweinidog gogledd Cymru, fe fyddaf i'n ysgrifennu at URC i gael deall sut y bu iddyn nhw wneud y penderfyniad hwnnw.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd, a'r camau nesaf. Y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad—Hannah Blythyn.
Ar 3 Ionawr, cyhoeddodd Fenella Morris CB adroddiad damniol ar ddiwylliant a gwerthoedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Roedd yn tynnu sylw at gamdrin a gwahaniaethu ar bob lefel, a methiant difrifol gan yr arweinwyr a’r rheolwyr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Yn fy natganiad llafar yr wythnos ganlynol, roeddwn i'n egluro pa mor ddifrifol oedd y canfyddiadau hyn. Nid dim ond bod rhai aelodau o staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymddwyn yn ofnadwy, ond bod y sefydliad wedi methu ag atal, canfod nac ymdrin â hynny. Roedd safonau sylfaenol llywodraethu a rheoli da wedi methu, gan feithrin diwylliant gwenwynllyd yn y gweithle lle nad oedd gwahaniaethu, camdriniaeth na chamymddwyn yn cael eu hatal. Felly, fe ddywedais i nad y cwestiwn oedd a fyddai Llywodraeth Cymru yn ymyrryd, ond ym mha fodd y byddai'n gwneud hynny. Rwyf i wedi myfyrio ar y dewisiadau sydd ar gael yn llawn ond â brys mawr. Rwyf i wedi ystyried ymateb ffurfiol yr awdurdod tân ac achub i'r adroddiad hefyd, y cytunodd yn unfrydol arno ar 15 Ionawr, ac rwyf i wedi cael rhagor o sgyrsiau gyda'r cadeirydd. Rwy'n falch fod ymateb yr awdurdod tân ac achub wedi derbyn argymhellion yr adroddiad yn llawn. Prin y gallai fod wedi gwneud fel arall o ystyried grym y dystiolaeth yn yr adroddiad, ond ychydig iawn a welais i sy'n mynd i'r afael â'r pryderon ehangach a amlinellais i'n flaenorol mewn ffordd ddigonol.
Yn anffodus, nid wyf i'n hyderus o allu'r gwasanaeth ynddo'i hun i oruchwylio ei adferiad. Mae rheolaeth ar bob lefel, hyd at ac yn cynnwys yr uchaf, yn ymhlyg yn y methiannau a nodwyd. Ni all yr un rhai fod yn gyfrifol am achosi'r broblem a'i datrys hi hefyd. Ac mae hi'n amlwg nad yw bwriad y prif swyddog tân i ymddeol yn ddigonol i ysgogi'r newidiadau mawr a fydd eu hangen o ran prosesau, gwerthoedd a diwylliant.
Mae cynllun yr awdurdod yn galw am gymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill. Mae hynny'n rhesymol. Ond mae angen sylfeini cadarn ar gefnogaeth o'r fath ac arweinyddiaeth amlwg ac ymroddedig i sbarduno'r newid, ac nid wyf i'n gweld unrhyw dystiolaeth o hynny. Pan drafodais i hyn gyda'r cadeirydd mewn cyfarfod diweddar yr unig beth a ddywedodd ef oedd bod rhaid iddo ymddiried yn y personél a'r prosesau a oedd ar waith. Nid yw hynny'n rhoi unrhyw sicrwydd o gwbl i mi.
Rwy'n pryderu yn ddifrifol hefyd oherwydd bod y methiannau hyn yn peryglu gallu'r gwasanaeth i weithredu gyda diogelwch ac effeithiolrwydd. Wrth gwrs, mae llawer iawn o ddiffoddwyr tân yn y de sy'n gwbl ymroddedig i'w gwaith. Ond fe fydd staff sy'n ddiawydd, sy'n cael eu camreoli, a'u harwain yn wael ac yn agored i wahaniaethu a cham-drin bob amser yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae gan ddiffyg rheolaeth briodol sy'n caniatáu i arferion gwael barhau fel mae'r adroddiad yn eu nodi oblygiadau mwy eang sy'n mynd y tu draw i faterion o gamymddwyn a gwahaniaethu. Mae hynny'n annerbyniol mewn unrhyw wasanaeth cyhoeddus, yn enwedig un sydd â chyfrifoldeb i amddiffyn pobl rhag niwed difrifol. Nid yw cynllun yr awdurdod yn sôn o gwbl am y perygl hwn. Mae'r cadeirydd wedi rhoi sicrwydd i mi'n gyffredinol nad oes ac na fydd unrhyw effaith ar wasanaethau craidd, ond dim mwy na hynny. Nid yw hynny'n ddigonol. Mae'r peryglon hyn yn wirioneddol ac o'n blaenau ni nawr, ac mae gennyf i ddwy enghraifft ddiweddar o sut mae'r methiannau o nodwyd o ran rheolaeth yn effeithio yn uniongyrchol ac yn ddifrifol ar wasanaethau craidd.
Yn gyntaf, mae ein prif gynghorydd tân ac achub yn gyn-brif swyddog tân uchel ei barch a phrofiadol. Ef yw arolygydd statudol yr awdurdodau tân ac achub yng Nghymru hefyd, sy'n gyfrifol am wneud argymhellion iddyn nhw ac i minnau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fe gynhyrchodd ef adroddiadau ar y gwersi o dân Tŵr Grenfell, ar wella gallu'r gwasanaethau ac ar hyfforddiant i ddiffoddwyr tân. Mae pob un ohonyn nhw'n cynnwys argymhellion sy'n llawn tystiolaeth ar gyfer gwella safonau'r gwasanaeth a diogelwch y diffoddwyr tân. Mae hi'n siomedig iawn felly fod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gwrthod llawer o'r argymhellion hyn yn syth. Mae ymateb fel hwn yn awgrymu nad oes gan y sefydliad ddiddordeb mewn ffyrdd amgen o ddiffodd tanau tai, na lleihau'r perygl o flinder, na sicrhau bod gan ddiffoddwyr tân y sgiliau angenrheidiol.
Yn ail, mae galwadau tân diangen wedi bod yn fwy niferus na thanau gwirioneddol ers cryn amser. Mae gorfod mynychu galwadau tân diangen yn ymrwymo diffoddwyr tân i weithgaredd sy'n gwastraffu amser ac adnoddau am gyfnodau maith. Mae ffyrdd profedig, syml a diogel o liniaru effeithiau galwadau tân diangen, ac mae ein fframwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub o 2016 yn galw am weithredu yn hynny o beth. Cydymffurfiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar unwaith gan leihau yn sylweddol yr amser a ddefnyddiwyd i ymdrin â galwadau tân diangen. Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru'r un fath. Ni wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru unrhyw beth ystyrlon. Mae nifer y galwadau tân diangen a wastraffodd eu hamser a'u hadnoddau nhw wedi cynyddu yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hi'n amlwg mai yno y mae'r sefyllfa neilltuol honno ar ei gwaethaf drwy Gymru i gyd ac ymhlith grŵp o wasanaethau tân ac achub y gellir eu cymharu yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn darlunio'r un culni o ran rheolaeth a'r parodrwydd i oddef arfer gwael ag a nodwyd yn yr adolygiad. Nid yn unig y mae hynny wedi arwain at gamymddwyn a gwahaniaethu ymhlith y staff, mae'n effeithio ar ansawdd ac effeithlonrwydd y gwasanaethau hefyd, ac ar ddiogelwch y diffoddwyr tân, ac mae'n rhaid i ni weithredu i fynd i'r afael â hynny.
Yn olaf, ceir yr awdurdod tân ac achub ei hun. Mae'n rhaid iddo arddangos arweinyddiaeth strategol a dal yr uwch reolwyr i gyfrif. Yn amlwg, ni wnaeth y naill beth na'r llall. Mae'r methiannau yn dyddio yn ôl i 2015, ac eto ni chymerodd yr awdurdod unrhyw gamau o gwbl yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn hytrach na hynny, fe wrthododd rai o argymhellion y prif gynghorydd yn unfrydol ym mis Mawrth y llynedd, ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach fe roddodd godiad cyflog sylweddol i'w uwch-swyddogion. Mae gwneud hynny'n ymddangos yn beth annoeth iawn erbyn hyn.
Mae ymateb yr awdurdod yn cynnwys sefydlu pwyllgor i oruchwylio gweithrediad yr adroddiad. Mae'n cynnig y dylid cyfethol arbenigedd allanol ar y pwyllgor hwnnw hefyd, sy'n rhywbeth cadarnhaol. Ond, ni welaf i unrhyw arwydd o geisio newid y gwendidau sylfaenol o ran llywodraethu. Fel gyda'r rheolwyr, ni all aelodau'r awdurdod fod yr un rhai sy'n achosi problem ac yn ei datrys hefyd.
Nid yw hyn i gyd yn rhoi llawer o hyder i mi y bydd argymhellion yr adolygiad yn cael eu gweithredu yn llawn ac mewn ffordd y gellir eu cynnal, ac y bydd y methiannau ehangach o ran rheolaeth yn cael eu hunioni, neu y bydd y risgiau i ddarpariaeth y gwasanaethau a diogelwch diffoddwyr tân yn cael eu hosgoi. Mewn gwirionedd, mae yna arwyddion eisoes o bryder pellach. Yn ddiamau, bydd Aelodau eraill o'r Senedd, fel minnau, wedi derbyn gohebiaeth gan lawer o aelodau presennol a chyn-aelodau o staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn codi cwynion difrifol na chynhaliwyd ymchwiliad priodol iddyn nhw erioed. Fel dywedais i o'r blaen, mae gwneud hynny'n arddangos dewrder mawr. Felly, fe ofynnais i'r cadeirydd sicrhau y byddai'r achosion hyn yn cael eu hailagor a'u hailystyried yn rhan o'r diwygio, ac fe gytunodd ef, ac eto nid oes sôn am hyn yn yr ymateb y cytunodd yr awdurdod arno. Yn ogystal â hynny, yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr, roedd sawl aelod o'r awdurdod tân ac achub yn dadlau yn gryf yn erbyn penodi unrhyw un yn brif swyddog nad oedd â chefndir yn y gwasanaeth tân, er bod Fenella Morris CB yn argymell y dylai'r sefydliad fynd ati i annog penodiadau o'r fath.
Dirprwy Lywydd, un o'r themâu mwyaf trist a gasglwyd yn y dystiolaeth oddi wrth staff yn yr adroddiad yw'r gred gyffredin na fyddai unrhyw beth yn newid byth. Os na wnawn ni weithredu, mae'n debyg y bydd y rhai a ddywedodd fel hyn ac sy'n teimlo fel hyn yn cael eu profi yn gywir. Ni allaf i ac nid wyf i am ganiatáu i hynny ddigwydd. Felly, rwy'n cyhoeddi cyfarwyddyd i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru heddiw, gan ei gwneud yn ofynnol i bedwar comisiynydd ymarfer ei swyddogaethau i gyd. Bydd y comisiynwyr hynny'n gyfrifol am sicrhau bod argymhellion yr adolygiad yn cael eu gweithredu yn llawn ac mewn modd cynaliadwy, yn ogystal â gweithredu ar argymhellion ein prif gynghorydd. Bydd pwerau llawn ganddyn nhw i ailstrwythuro a diwygio rheolaeth gwasanaethau a meithrin diwylliant cadarnhaol, anwahaniaethol, ac fe fyddan nhw'n aros nes bod y gwaith wedi ei orffen a hyd nes y bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn amlwg yn weithle sy'n gynhwysol ac yn groesawgar i bawb.
Y comisiynwyr yr wyf yn eu penodi yw Barwnes Wilcox, cyn-arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Kirsty Williams, a fu'n Aelod o'r Senedd dros Aberhonddu a Sir Faesyfed; Vijith Randeniya, cyn-brif swyddog tân gorllewin canolbarth Lloegr; a Carl Foulkes, cyn-brif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru. Mae gan y comisiynwyr dasg anodd o'u blaenau ond fe fyddan nhw'n cael ein cefnogaeth lawn ni ac, rwy'n siŵr, cefnogaeth partneriaid eraill a gweithlu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Fe fyddaf i, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn rheolaidd am eu gwaith nhw.
Wrth gloi, fe hoffwn i roi cydnabyddiaeth unwaith eto i bawb a ddaeth ymlaen i gyflwyno eu profiadau. Ni ddylai'r hyn a ddigwyddodd fod wedi digwydd ac rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i unioni'r drwg hwnnw a sicrhau newid ystyrlon. Diolch.
Diolch i chi am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Rwy'n cytuno ei bod hi'n gwbl amlwg mai'r tîm rheoli yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw'r rhai sydd wedi bod yn allweddol o ran caniatáu i'r diwylliant annymunol a niweidiol hwn fagu o fewn y gwasanaeth tân. Rwy'n cytuno ymhellach fod angen gweithredu ac rwy'n rhannu eich pryderon chi nad yw'r gwasanaeth yn debygol o allu ei ddiwygio ei hun. O ran penodi comisiynwyr, rwyf i o'r farn fod angen dangos tryloywder a darparu tystiolaeth ynglŷn â sut mae'r unigolion y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw'n gymwys ar gyfer y swyddogaeth hon. Nid yw hi'n ddigonol inni ddweud eu bod wedi dal swyddi uwch yn flaenorol; os ydych chi, fel pob un ohonom ni, yn awyddus i weld Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cael ei drawsnewid, mae angen i ni gael cefnogaeth y staff yn y broses, ac mae perygl y bydd gwthio comisiynwyr heb unrhyw gymwysterau adnabyddadwy yn creu gwrthwynebiad sylweddol yn y sefydliad. Gyda hyn mewn golwg, Dirprwy Weinidog, pryd fyddwch chi'n cyhoeddi'r meini prawf y gwnaethoch chi eu defnyddio i ddewis y comisiynwyr hyn a'r dystiolaeth eu bod nhw'n gymwys ar gyfer y swyddi mewn gwirionedd?
Fe wnaethom ni ddarllen yr adolygiad annibynnol o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a sut roedd aelodau'r gwasanaeth yn gyfyngedig i un o ddau lwybr wrth iddyn nhw fod yn destun tynnu coes amhriodol a sylwadau ac ymddygiad difrïol neu sarhaus. Fe allai'r staff naill ai wneud cwyn ffurfiol a fyddai, yn eu geiriau nhw, yn cael ei thrin yn llawdrwm iawn, heb fawr ddim gweithredu hirdymor, neu ddweud dim a cheisio anwybyddu'r sylwadau a'r ymddygiadau hyn a fyddai'n digwydd yn gyson a cheisio byw gyda chanlyniadau hynny wedyn. Yn fy marn i, Dirprwy Weinidog, roedd yna fethiant llwyr o ran prosesau disgyblu a oedd, ac mae'n debyg eu bod nhw'n parhau i fod ar waith, ac rwy'n credu ei bod hi'n amlwg i bawb mai dyna un o sawl rheswm sylfaenol pam y datblygodd y diwylliant dinistriol sydd wedi cael llonydd i lygru Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae angen aildrefnu yn llwyr yr uwch dîm a fethodd â chydnabod a chymryd camau priodol mewn llawer o'r achosion a ddaeth i'r amlwg. Yn y pen draw, eu cyfrifoldeb nhw oedd sicrhau nad oedd y diwylliant hwn yn cael cyfle i ddatblygu ac rwy'n credu y byddai gadael iddyn nhw aros yn eu swyddi yn y pen draw yn rhoi esiampl wael iawn, o ystyried bod eu methiant nhw wedi dod i'r goleuni. Pa gamau yr ydych chi am eu cymryd nawr i fynd i'r afael â hyn?
Rwy'n dymuno mynd i'r afael hefyd, Dirprwy Weinidog, ag un o'r canfyddiadau yn yr adroddiad sydd, yn fy marn i, yn elfen bwysig o'r hyn sydd angen ei wneud nesaf. Roedd yr adroddiad yn dangos nad oes unrhyw hawl na gweithdrefn ar gyfer cymodi rhwng staff ar gyfer datrys materion wrth iddyn nhw godi gyntaf heb gymryd camau disgyblu. Fe ddylai'r staff fod yn gallu tynnu sylw at ymddygiad amhriodol a datrys y materion hynny heb berygl o niweidio perthnasoedd yn y gwaith, heb beryglu rhagolygon eu gyrfaoedd na theimlo y byddai unrhyw godi llais yn cael ei anwybyddu. Y gwir yw y bydd y gwasanaeth tân yn debygol o gael ei orfodi i ymgymryd â chyrsiau hyfforddiant ymddygiadol eang iawn a gaiff eu cynllunio ar gyfer newid y diwylliant annymunol. Ond oni bai eich bod chi, Dirprwy Weinidog, yn cymryd camau penodol i ailgynllunio'r gweithdrefnau disgyblu a chyflwyno dulliau newydd i liniaru ymddygiad annymunol ar gam cynnar, fe fyddwch chi'n peryglu unrhyw newid o gwbl yn y diwylliant annymunol iawn a nodir, oherwydd fe fydd yr unigolion hynny sy'n gyfrifol yn canfod dull o fynd o gwmpas pobl y maen nhw'n eu hystyried yn rhai tebygol o gael eu tramgwyddo.
Mae perygl mawr iawn yn hyn, heb unrhyw ddull ystyrlon gan Lywodraeth Cymru sy'n cymryd agweddau da a chadarnhaol y gwaith a wneir yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ystyriaeth—ac mae yna lawer ohonyn nhw—fe fyddwn ni'n gweld mwy o ddynion a menywod yn ymadael â'r gwasanaeth tân. Yn y pen draw, rwyf i o'r farn fod cyfle gan y Llywodraeth yn y fan hon i ailgynllunio'r broses ddisgyblu yn llwyr a fydd nid yn unig yn dal yr uwch reolwyr yn atebol os nad yw camau disgyblu yn newid yr ymddygiadau dinistriol, ond yn caniatáu i bob aelod o staff deimlo hefyd y gall ddatrys problemau heb deimlo pryder na phoendod oherwydd sgil-effeithiau posibl. Gyda hynny mewn golwg, Dirprwy Weinidog, pa gamau a gymerwch chi nawr i werthuso gweithdrefnau disgyblu o'r newydd? Roeddech chi'n sôn yn flaenorol nad oes unrhyw gamau gweithredu wedi eu diystyru yn llwyr, ac rwyf i o'r farn y gallai sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus cyfan elwa ar adnewyddu gweithdrefnau disgyblu.
Yn olaf, fe hoffwn i fynd i'r afael â mater arall yr wyf wedi ei grybwyll o'r blaen a hwnnw yw adolygiad o achosion hŷn i sicrhau bod staff wedi cael eu trin gyda thegwch. O safbwynt personol, rwy'n credu y byddai honno'n ffordd weddaidd o helpu'r broses o wellhad a chaniatáu ystyriaeth wrthrychol o faint y dylanwad a gafodd y diwylliant erchyll hwn ar y gweithwyr. Fe wyddom ni fod llawer o'r staff sydd wedi gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn anhapus gyda'r ffordd y cafodd eu cwynion nhw eu trin. Mae sawl un wedi cysylltu gyda mi, fel gyda chwithau, gan dynnu sylw at eu hachosion unigol nhw. Maen nhw'n ddig iawn oherwydd y ffordd yr ymdriniwyd â'u cwynion, nid yn unig gan unigolion ond gan y sefydliad cyfan, a'r peth cyfiawn fyddai, yng ngoleuni'r adolygiad annibynnol, i'w hachosion gael eu hadolygu. Gyda hynny mewn golwg, Dirprwy Weinidog, beth yw'r amserlenni y gall pobl eu disgwyl o ran ailagor ac adolygu eu hachosion nhw? A ydych chi'n barod i gomisiynu corff annibynnol i ymgymryd â'r adolygiadau hyn? Ac, mewn achosion lle bu methiannau o du Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a ydych chi'n disgwyl i iawndal gael ei dalu? Diolch i chi.
Joel James, roeddech chi'n dweud tuag at ddiwedd eich cyfraniad nawr fy mod i wedi dweud, yn fy natganiad blaenorol ym mis Ionawr, nad oedd dim yn cael ei ddiystyru o ran y camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd, ac er eglurder, rwy'n cymryd camau pendant heddiw hyd eithaf y pwerau sydd gennyf i wneud felly, ac mae holl swyddogaethau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn cael eu rhoddi i'r comisiynwyr. Mae'r comisiynwyr hynny wedi cael eu dewis ar sail ystod a chydbwysedd eu profiad, sgiliau, cefndir a'u hannibyniaeth. Mae Vijith Randeniya gennym ni, sy'n gyn-brif swyddog tân profiadol iawn ac uchel ei barch o orllewin canolbarth Lloegr, ond rydym ni'n awyddus hefyd i sicrhau bod cymysgedd o wybodaeth am waith tân ac achub, ond dealltwriaeth hefyd o elfennau allweddol a gofynion o ran ymyrraeth ac arweinyddiaeth gadarn y bydd eu hangen i gyflawni'r newid cynaliadwy hwnnw i'r diwylliant a'r ddarpariaeth o wasanaethau yr oedd yr Aelod yn eu crybwyll yn ei gyfraniad. Nid yw hyn yn ymwneud ag achosion unigol o gamymddwyn ac ymddygiad annerbyniol yn unig, mae'n ymwneud â'r diwylliant, y gyfundrefn a'r prosesau a oedd yn caniatáu i'r pethau hyn barhau heb eu herio, ac, mewn gwirionedd, i fod â phrosesau cyfiawn a theg ar waith.
Felly, o ran cylch gwaith y comisiynwyr, eu cylch gorchwyl nhw, fe fyddan nhw'n rhoi ystyriaeth i bob un o argymhellion adroddiad ac adolygiad Fenella Morris CB ynglŷn â'r diwylliant a'r gwerthoedd. Rydym yn disgwyl i'r argymhellion hynny gael eu gweithredu yn eu llawnder ac mewn modd cynaliadwy a hynny heb fod ddim hwyrach na'r dyddiadau cau a nodir ynddo. Fel roeddech chi'n dweud hefyd—. Fe wnaethoch chi grybwyll llawer o bethau y gwnes i eu codi yn y datganiad ei hun, yn enwedig o ran y bobl hynny sy'n teimlo na chafodd eu cwynion na'r materion a godwyd ganddyn nhw eu trin yn y ffordd ddyledus, neu nad oedd y canlyniad yn foddhaol, ac mae'r adolygiad, mae'n debyg, a'r sylwadau yn y gorffennol wedi amlygu'r neges ac wedi gorfodi pobl i ddwyn profiadau annymunol iawn i gof unwaith eto hefyd. Dyna pam mae hi'n bwysig iawn, yn rhan o waith y comisiynwyr sy'n ymgymryd â swyddogaethau llawn yr awdurdod tân ac achub, fod y broses honno'n cael ei sefydlu i nodi'r achosion hynny o gwynion a gododd yn y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad a allai fod wedi cael ymdriniaeth amhriodol ac annheg am resymau a nodir yn yr adroddiad, a sicrhau eu bod yn cael eu hailagor a'u hymchwilio o'r newydd, gan arwain at ganlyniad teg a chyfiawn.
O ran yr amserlen ar gyfer y gwaith hwn, yn amlwg, nodir amserlen yn adolygiad Fenella Morris CB, sy'n ystyried cyfnod o 18 mis. Fe fyddwn ni'n adolygu hynny'n barhaus. Mae'r cyfarwyddyd ynglŷn â swyddi'r comisiynwyr yn dod i rym o 5 p.m. heddiw, ac fe fyddan nhw yn eu swyddi yn syth er mwyn dechrau ar y gwaith pwysig hwn. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn y Siambr hon yn ein cefnogi yn y gwaith hwn. Hefyd, fel dywedais yn fy natganiad, rwyf i wedi ymrwymo i ddiweddaru'r Siambr hon yn rheolaidd ar gynnydd yng ngwaith y comisiynwyr, oherwydd, fel dywedwn ni, rydym ni wedi llwyr ymrwymo i gyflawni newid ystyrlon. Fe ddywedais i o'r blaen yn y Siambr hon wrth Sioned ac wrth eraill fy mod i wedi hen flino ar siarad am ddiwylliant ac ymddygiad fel hyn, a dyna pam rydym ni'n cymryd camau pendant i unioni'r camweddau hynny.
Diolch am y diweddariad, Ddirprwy Weinidog, ac am weithredu mewn modd mor gadarn yn sgil y sefyllfa gwbl annerbyniol sydd wedi cael ei chaniatáu i godi o fewn Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru o ran y diwylliant ac, fel rŷn ni wedi'i glywed, o ran y gwasanaeth hefyd. Mae yna yn sicr gwestiynau mawr i'w gofyn a'u datrys o ran atebolrwydd, craffu a natur effeithiolrwydd y llywodraethiant ac rwy'n croesawu'n fawr y camau ŷch chi wedi eu gosod mas y prynhawn yma.
Roedd yr angen i weithredu i sicrhau llywodraethiant well a mwy effeithiol drwy wahanu rôl weithredol a rôl craffu’r awdurdodau yn rhywbeth sydd wedi dod i'r amlwg ers degawdau bellach, a'r cynnydd, rhaid dweud, wedi bod yn annigonol ac yn araf. Fe ddywedodd y Llywodraeth yr union beth hynny wrth gyflwyno'r adroddiad cynnydd diwethaf i'r fframwaith cenedlaethol union bedair mlynedd yn ôl ym mis Ionawr 2020. Er bod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dilyn y patrwm hwn o weithio ers tro, doedd y ddau awdurdod arall ddim yn gwneud hynny. Roeddech chi yn Ddirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd ac fe ddywedoch chi wrth y Senedd eich bod chi'n
'fodlon bod yr Awdurdodau Tân ac Achub yn gwneud cymaint â phosibl i werthfawrogi a datblygu'r gweithlu'
er fe wnaethoch chi gydnabod bod yna heriau mwy i'w datrys. Fe ddywedoch chi hefyd nad oedd y trefniadau statudol a oedd yn berthnasol i’r awdurdodau tân ac achub yn creu’r math o sicrwydd yr hoffech chi ei weld i wella effeithlonrwydd ac atebolrwydd yr awdurdodau a hefyd y byddech chi'n ymweld â’r awdurdodau i ystyried diwygiadau eraill. Fodd bynnag, penderfynwyd, er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i fesurau diwygio mewn egwyddor, na fyddai'r ddau gynnig yr oedd gan yr awdurdodau'r amheuon mwyaf yn eu cylch yn mynd ymhellach. Ac roedd hyn yn golygu wedyn na dynnwyd aelodau awdurdodau tân ac achub o gabinet cynghorau, ac ni ofynnwyd ar i awdurdodau gytuno ar eu cyllidebau gydag awdurdodau lleol.
Ydych chi, felly, yn meddwl bod diffyg cynnydd yn y maes hwn dros y blynyddoedd wedi arwain yn rhannol at ddiffyg gweithredu o ran y sefyllfa annerbyniol a welwyd yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? Ydych chi'n fodlon gyda sut yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r pryderon a nodwyd yn ei hymgynghoriad ei hun yn 2018 ynghylch diwygio’r awdurdodau tân ac achub a’r adroddiad cynnydd wedyn?
Ac yn olaf, ydych chi'n cytuno y byddai adolygiad annibynnol o'r holl wasanaethau tân ac achub yng Nghymru yn fodd o sicrhau na fydd modd i'r fath ymddygiad a diwylliant annerbyniol godi heb eu taclo eto? Byddai hyn hefyd yn gwirio nad yw'r diffygion hyn a amlygwyd gan yr adolygiad annibynnol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar led drwy'r gwasanaethau eraill yng Nghymru. Diolch.
Diolch, Sioned, am eich cyfraniad a'r gwaith yr ydych chi'n ei wneud yn y maes hwn hefyd. Rwy'n credu, i gyffwrdd â'r heriau a'r materion o ran llywodraethu ac atebolrwydd, rwy'n credu bod yr adolygiad hwn a chanlyniad y camau gweithredu a gymerwyd wedi taflu goleuni arnyn nhw, ac yn amlwg, ni fu ac nid yw'r strwythurau hynny wedi bod yn addas i'r diben yn y de. Ac fel roeddech chi'n dweud, rydym ni wedi bod â phryderon yn fwy eang ynglŷn â'r diffygion o ran atebolrwydd a llywodraethu yn yr awdurdodau tân ac achub, ac fel gwnaethoch chi grybwyll, pan wnaethom ni gynnig diwygiadau'r tro diwethaf yn 2018, fe welodd hynny wrthwynebiad mawr iawn—nid yn unig oddi wrth yr awdurdodau tân ac achub, ond oddi wrth yr awdurdodau lleol eu hunain hefyd. Er hynny, mae'r materion hyn wedi dod i'r amlwg nawr, yn sicr, yn yr amgylchiadau mwyaf gofidus, ac rwy'n glir y byddwn ni'n mynd ati i ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio, yn enwedig pe bai tystiolaeth yn dod i'r amlwg a fyddai'n tynnu sylw at heriau mewn meysydd eraill.
O ran y ddau awdurdod tân ac achub arall, rwy'n credu, pan roddais i ddatganiad ddiwethaf yn Siambr y Senedd, fe'i gwnes hi'n eglur y byddem ni'n disgwyl, er bod yr adolygiad yn berthnasol i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, nid yn unig i'r ddau awdurdod tân ac achub arall roi ystyriaeth i'r adolygiad, ond gweithredu eu hunain yn unol â hwnnw. Felly, fe wyddom ni fod problemau penodol a difrifol iawn o gamreoli a chamymddwyn wedi bod yn y de, a dyna pam rydym ni'n ymyrryd, ond rwyf i wedi ysgrifennu, ers y datganiad hwnnw ym mis Ionawr, at gadeiryddion Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ac Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i ofyn am sicrwydd manwl ar fyrder ynglŷn â'r chwe thema sy'n codi o'r adolygiad. Yr her nawr yw edrych ar y rhain, a myfyrio ar yr ymatebion wrth i ni eu cael nhw, a phenderfynu pa gamau pellach y gellid bod eu hangen o ganlyniad i hynny.
Wel, rwy'n eich cymeradwyo chi, Dirprwy Weinidog, am fynd i'r afael yn wirioneddol â'r materion ynglŷn â hyn, oherwydd yr oeddem yn gwybod am fodolaeth y broblem hon ers 2014, pan adroddodd y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus nad yw awdurdodau tân ac achub yn ac na allant oruchwylio’r gwasanaethau y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw a hynny'n rhannol am nad ydyn nhw eu hunain yn gallu craffu ar yr agweddau gweithredol. Ond mae'n amlwg nad ydyn nhw, yn anffodus, yn yr achos hwn, wedi bod yn gwneud y gwaith o oruchwylio rheolaeth ac atebolrwydd uwch reolwyr yn y gwasanaeth hwn. Rwy'n credu bod hyn yn holi llawer o gwestiynau ynghylch llywodraethu awdurdodau tân ac achub yn y dyfodol, oherwydd beth mae hyn yn ei ddweud wrthym ni am hanfodion hyn i gyd? Rwy'n nodi mai un o argymhellion adroddiad 2014 oedd cyfuno gwasanaethau ambiwlans ag awdurdodau tân ac achub, o gofio bod eu swyddogaethau nhw'n aml yn ategu ei gilydd yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ac roeddwn i'n meddwl tybed beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud ynghylch llywodraethu tân ac achub yn y dyfodol yn sgil methiant llwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Diolch i chi, Jenny Rathbone, am y pwyntiau yr oeddech chi'n tynnu sylw atyn nhw nawr, ac rwy'n credu bod hyn yn cysylltu â'r pwynt blaenorol gan Sioned Williams am ein sefyllfa bresennol gyda sylwedd posibl y gwersi i ni o ran llywodraethu awdurdodau tân ac achub yn fwy eang yn y dyfodol. Felly, nid wyf i am ailadrodd y pwyntiau a wnes i gynnau unwaith eto, ac eithrio er mwyn tynnu sylw at y ffaith eich bod chi'n ymwybodol hefyd fod gwaith Archwilio Cymru ar lywodraethu awdurdodau tân ac achub yn parhau ar hyn o bryd, ac fe allai hwnnw ei gynnig ei hun ar gyfer meithrin sgwrs yn fwy eang ynglŷn â'n cyfeiriad i'r dyfodol. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig nodi hefyd y bydd datblygu cynigion ar gyfer llywodraethu Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn y dyfodol fydd â’r tebygolrwydd mwyaf o leihau'r risg yn sgil methiannau eraill o'r fath ymhlith cylch gorchwyl gwaith comisiynwyr Awdurdod Tân ac Achub De Cymru. Rydym ni wedi ymyrryd yma, nawr, ac mae honno'n ymyrraeth ddigynsail mewn unrhyw awdurdod tân ac achub, oherwydd fe wyddom ni nid yn unig am gamymddwyn, ond am gamreoli ehangach, ac fel dywedais i, fe geir gwersi i'w dysgu yn fwy eang wrth i ni symud ymlaen.
Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad yn y fan hon heddiw. Rwy'n nodi'r camau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod hyder yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a bod trawsnewidiad yn digwydd, fel y bydd arferion annerbyniol yn cael eu taro allan yn y gweithle. Dau gwestiwn sydd gennyf i chi heddiw. Yn gyntaf, mae gwasanaeth tân ac achub de Cymru yn recriwtio prif swyddog gweithredol neu brif swyddog tân ar hyn o bryd. Ar y cyd â'ch comisiynwyr chi, pa ran yr ydych chi'n disgwyl ei chael yn y broses hon i sicrhau y bydd arweinydd yn cael ei benodi a all fynd i'r afael â'r materion diwylliannol hyn?
Yn ail, mae eich datganiad yn datgan y bydd comisiynwyr yn aros hyd nes y bydd y gwaith wedi ei orffen. Beth fydd yr amserlen ar gyfer cyfnod eu gwaith nhw, a sut ydych chi am fonitro ac asesu eu gwaith nhw i sicrhau eu bod nhw'n cyflawni'r newid sy'n angenrheidiol i'r gwasanaeth? Beth yw'r nodau byrdymor, tymor canolig a hirdymor yr ydych yn eu gosod i asesu i ba raddau y bydd y diwylliant wedi newid?
Rwy'n diolch i Vikki Howells am y cwestiynau pwysig yna. Rwyf i am grybwyll un yn gyntaf, sef o ran yr amserlen. Rydym ni wedi dweud y bydd y comisiynwyr yn parhau wrth eu gwaith tan y byddwn ni'n gallu gweld a mesur y newid hwnnw sy'n gynaliadwy, ac mae'r adolygiad a'r adroddiad ei hun yn nodi amserlen ar gyfer hynny, sy'n cwmpasu cyfnod o 18 mis, ond gyda nodau i'w cyrraedd hefyd ar gyfer newid yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd. Felly, rydym ni'n rhagweld, dros amser efallai, y bydd gwaith y comisiynwyr yn newid, yn ddibynnol ar gynnydd, ond mae hwnnw'n rhywbeth, fel dywedwch chi, y bydd angen ei fonitro a'i werthuso yn ofalus iawn.
Ar gyfer ymdrin â'r pwynt o ran recriwtio prif swyddog tân nesaf Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, mae gan y comisiynwyr a benodir gylch gwaith llawn o ran recriwtio ac ailstrwythuro swyddi'r uwch reolwyr yn Awdurdod Tân ac Achub De Cymru. Dyna un o'r pethau a nodwyd gennym ni yn y cylch gwaith a chylch gorchwyl, o ran sefydlu a goruchwylio uwch dîm rheoli a phrosesau cysylltiedig heb eu difwyno gan y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad, ac yn gam cyntaf, penodi prif swyddog tân ac, yn ôl yr angen, uwch staff eraill sy'n ymddangos yn fwyaf tebygol o gyfrannu yn llawn ac yn effeithiol at adfer yr awdurdod tân ac achub.
Mae hyn yn ddigalon iawn, onid ydy? Fe allaf i ddychmygu bod morâl ymhlith y gweithlu yn isel, yn enwedig i'r cannoedd o weithwyr nad oedd unrhyw ran ganddyn nhw yn unrhyw un o'r achosion hyn o ymddygiad ofnadwy y soniwyd amdano. Fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i wybod sut ydych chi am sicrhau yr ymdrinnir â'r rhai a fu'n gyfrifol am ymddygiadau o ran casineb at fenywod, hiliaeth a homoffobia, ac a fydd rhai adroddiadau i'r perwyl hwnnw'n cael eu cyflwyno.
Ond fe geir cwestiwn llawer mwy eang yn hyn o beth, ac mae hwnnw'n ymwneud â'r newid strwythurol, yn fy marn i, sy'n angenrheidiol ar draws byrddau'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—nid y rhai tân ac achub yn unig, ond yr heddlu a rhai eraill hefyd. Felly, er ein bod ni'n canolbwyntio ar un awdurdod—yn yr achos hwn, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru—rwy'n credu bod angen ymarfer cwmpasu llawer mwy arnom ni er mwyn edrych ar gyfansoddiad y rhai sy'n gyfrifol am ddal pobl i gyfrif, sut y cânt eu dewis, ac ym mha ffordd y byddan nhw'n atebol, oherwydd rwyf i o'r farn fod mater arall ynghylch eu hatebolrwydd nhw. I ba le y bydd eu hatebolrwydd nhw'n mynd? I bwy y maen nhw'n atebol? Rwy'n credu, os yw hyn wedi amlygu unrhyw beth o gwbl, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael o ddifrif â chyfansoddiad y byrddau hynny a sut y maen nhw'n cael eu dewis ac i bwy y byddan nhw eu hunain yn atebol.
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rydych chi'n cyffwrdd ar—. Rwy'n credu mai myfyrio yr oeddech chi, fel gwnaeth eraill yn y Siambr nid yn unig heddiw, ond ym mis Ionawr a chyn hynny, fod yr hyn a welsom ni—. Mae nifer o achosion wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yn unig pryd clywsom ni am ymddygiadau annerbyniol mewn nifer o weithleoedd, ac rwy'n credu bod cyfrifoldeb yma ac rwy'n gobeithio, trwy weithredu mor bendant heddiw, mai dyma'r cam cyntaf i gywiro hynny yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Ond rwy'n meddwl bod cyfrifoldeb arnom ni i gyd mewn bywyd cyhoeddus, ym mhob gweithle, gan gynnwys y gweithle hwn hefyd, i wneud yn siŵr bod y gweithdrefnau cywir gennym ni ar waith a bod ein staff ein hunain yn cael cefnogaeth o ran bod ag ymdeimlad y gallan nhw godi pryderon mewn ffordd sydd—bod y broses honno yn eu cefnogi nhw hefyd. Ond o ran y pwyntiau y gwnaethoch chi eu codi yn fwy eang ynghylch arweinyddiaeth, materion sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth, diwylliant, atebolrwydd, y prosesau sydd ar waith, amrywiaeth y bobl yn y swyddi arweiniol hynny ac mewn gweithle, mae'r rhain yn wirioneddol bwysig, oherwydd nid yw hyn yn ymwneud â mynd i'r afael ag achosion unigol o'r hyn y byddem ni'n ei alw yn 'ymddygiad annerbyniol' yn unig.
Rwy'n credu mai un o'r pethau yr hoffwn ei ddweud yw ein bod ni'n clywed y term 'woke' yn cael ei ddefnyddio, ac nid yw hwn yn ymwneud â rhywun yn methu â derbyn jôc yn y gweithle, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â bod yn bobl dda sy'n trin ein gilydd gydag urddas a pharch. Roeddwn i'n arfer dweud, yn ôl mewn bywyd blaenorol pan oeddwn i'n gweithio yn y mudiad undebau llafur, rwy'n cofio ysgrifennu rhywbeth, eich bod chi'n treulio cyfran sylweddol iawn o'ch oes yn eich gweithle. Oni bai i chi naill ai gael eich geni i olud neu ennill y loteri, fe fyddwch chi'n treulio cyfran uchel o'ch bywyd yn y gwaith ac fe ddylech fod â disgwyliad y byddwch chi'n cael eich cefnogi a'ch bod chi'n ddiogel yn eich gweithle. Felly, rydych chi'n iawn i dynnu sylw at yr angen i edrych ar draws gweithleoedd, ac yn enwedig ar draws y sector cyhoeddus, lle mae'r ysgogiadau hyn gennym ni yng Nghymru i wneud felly, ac mae'r gwaith hwnnw wedi dechrau yn Llywodraeth Cymru.
Ond dim ond i orffen, mewn gwirionedd, ynglŷn â—. Rwy'n ymwybodol iawn, wrth glywed y cyhoeddiad hwn heddiw, y gallai'r gweithlu yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru deimlo gofid ac ansicrwydd a bod yn awyddus i wybod beth sy'n digwydd nesaf. Felly, wrth gwrs, rwy'n ymgysylltu ac yn anfon llythyrau at yr undebau llafur i gyd sy'n cynrychioli ac yn gweithio gyda staff, a'r cyrff cynrychioli staff sy'n weithredol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac fe fyddwn ni'n cyfarfod gyda'n gilydd yng nghyfarfod nesaf fforwm partneriaeth gymdeithasol y gwasanaeth tân ac achub, ac rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu a chwrdd â nhw'n unigol yn y cyfamser. Mae yna rywfaint o ohebiaeth yn cael ei hanfon yn uniongyrchol oddi wrthyf i weithlu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd, dim ond ar gyfer nodi'r hyn sy'n digwydd, gan geisio eu sicrhau nhw ein bod ar gael i'w cefnogi nhw, mewn gwirionedd, ac fe fyddwn ni'n gweithredu i'w cefnogi drwy'r cyfnod hwn o newid.
Ac yn olaf, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad brynhawn heddiw. Fe glywais i'r gair 'pendant' yn cael ei ddefnyddio gennych chi sawl gwaith heddiw. Mae'r pwerau i reoleiddio a rheoli'r gwasanaeth tân yng Nghymru wedi bod ym meddiant Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer, ac fe dynnodd yr Aelod dros Ganol Caerdydd sylw at adroddiad o 2014. Mae'r camau a gymerodd Llywodraeth Cymru yn briodol ac yn angenrheidiol, ac fe ddylai'r aelodau staff sydd wedi dioddef oherwydd rhai o'r ymddygiadau yr oedd yr adroddiad yn tynnu sylw atyn nhw allu cael y gefnogaeth angenrheidiol i gyd er mwyn bod â hyder naill ai i aros yn y gwasanaeth neu i gael y sicrwydd yr ymdrinnir â'u pryderon.
Ond rwyf i wedi gweld y gwasanaeth tân yn gweithio ar ei orau. Pan gafwyd tân yn ddiweddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, ar yr ystad ddiwydiannol, roedd y gwasanaeth tân pwrpasol hwnnw yn gweithio hyd at y safon uchaf o broffesiynoldeb. Fe ymwelais i â gorsaf dân yn y Barri, ac fe welais i'r criw ymroddedig yno a'r ymrwymiad sydd ganddyn nhw i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd. Ond, beth a ddysgodd Llywodraeth Cymru o'r ymarfer hwn? Rwy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am anfon comisiynwyr i mewn, ond o gofio eich bod wedi bod â'r awdurdod i ymyrryd ar unrhyw adeg yr oeddech chi'n gweld yn dda i wneud hynny a phan ddygwyd y dystiolaeth hon i'ch sylw, pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried, y mesurau y gallai fod wedi eu defnyddio ynghynt, i gamu i mewn a chyflawni hynny cyn gynted â phosibl, fel nad yw'r staff yn teimlo eu bod wedi ymddieithrio a'u gwthio i'r cyrion, ac na welwn ni hyn yn cael ei ailadrodd eto mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill?
Felly, fel arfer, yn amlwg, fe fyddem ni'n disgwyl i reolwyr y gwasanaeth tân reoli eu staff mewn ffordd deg a chyfiawn, ac felly y dylai hi fod, ac fe fyddem ni'n disgwyl i aelodau'r awdurdod tân ddangos arweiniad a dal rheolwyr i gyfrif, a phan nad yw hynny'n digwydd, mae yna achos dros ymyrraeth gan Lywodraeth, fel gwelsom ni'r tro hwn, oherwydd methiannau difrifol a phenodol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Rydych chi'n tynnu sylw at nifer y pwerau o ran cymorth, a amlinellais i yn fy natganiad blaenorol, sef o ran cefnogaeth, cyfarwyddyd, ac ymyrraeth. Felly, rydym ni'n gweithredu'r ymyrraeth hon yn unol ag adran 29 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ac mae hwn ar gael i ni dim ond pan fo'r awdurdod wedi methu â gwneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus o ran ymarfer ei swyddogaethau. Ac rydym wedi cyrraedd y pwynt hwn nawr oherwydd yr ydym ni'n credu bod y methiannau hyn yn cynnwys, yn gyntaf—fel y gwnaethom siarad amdano heddiw, a chanolbwynt yr adolygiad—y methiant i sicrhau rheolaeth deg a phriodol ar staff, gan gynnwys methiant i ymdrin yn effeithiol â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, a hefyd, y methiant i ymateb i gyfleoedd pendant ac amlwg i wella safonau'r gwasanaethau. Rydym ni wedi cymryd camau pendant heddiw ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n myfyrio ar y camau hynny ac fe fyddwn ni'n myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd wrth i ni symud ymlaen, a sut y gallwn ni ddysgu nid yn unig yn y gwasanaethau tân ac achub, ond ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru. Oherwydd, fel dywedais i, Andrew R.T. Davies, rwyf i wedi hen alaru ar siarad am gamymddygiadau a chamymddwyn fel hyn ym mhob agwedd ar fywyd, ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, ac rydym ni'n cymryd camau heddiw, ac fe fyddwn ni'n parhau i gymryd camau wrth i ni symud ymlaen.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Eitem 4 yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gymwysterau galwedigaethol. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gynyddu cydraddoldeb parch rhwng llwybrau addysg galwedigaethol ac academaidd. Credwn yng ngwerth priodol addysg alwedigaethol, gyda'i chysylltiadau hanfodol â sgiliau, yr economi ac â chymdeithas Cymru. Rydym hefyd wedi ymrwymo, drwy ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, i ddiwygio cymwysterau galwedigaethol ac i ystyried ehangu cymwysterau gwneud-i-Gymru.
Roedd yr ymrwymiadau hyn yn sail i fy ngwaith o gomisiynu'r adolygiad cymwysterau galwedigaethol annibynnol, dan gadeiryddiaeth Sharron Lusher. Hoffwn gofnodi fy niolch i Sharron ac aelodau'r grŵp llywio am y gwaith a aeth i mewn i'w hadroddiad, a gyhoeddais ym mis Medi. Rwy'n croesawu'r adroddiad a'i asesiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. Mae'n nodi 33 o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, a Cymwysterau Cymru. Mae'n amlwg bod cydweithio yn allweddol i lawer, os nad pob un, o'r argymhellion hyn. Felly, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r ddau sefydliad, a gyda rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol, i ddatblygu uchelgeisiau'r adolygiad.
Fel y gwnaeth yr adolygiad yn glir, Dirprwy Lywydd, mae cryfderau y gallwn adeiladu arnynt o ran sut mae cymwysterau galwedigaethol yn gweithredu yng Nghymru, megis y niferoedd cynyddol sydd ar gael yn ddwyieithog neu yn Gymraeg, a bodlonrwydd cyffredinol dysgwyr â'u cyrsiau. Mae'r adroddiad yn archwilio manteision ac anfanteision sefydlu corff dyfarnu cenedlaethol ar gyfer cymwysterau galwedigaethol. Er fy mod yn gallu gweld apêl corff o'r fath, ar hyn o bryd pan fo cyllidebau yn gyffredinol o dan bwysau mor aruthrol, rwy'n derbyn na all fod yn flaenoriaeth.
Mae'r adolygiad yn cydnabod yr angen am bragmatiaeth wrth archwilio cyfleoedd i ddatblygu cymwysterau galwedigaethol gwneud-i-Gymru ymhellach. Rwy'n croesawu'r dull gwneud-i-Gymru a gynigiwyd gan yr adolygiad. Bydd yn golygu adolygu cymwysterau newydd a phresennol i sicrhau eu bod yn addas i'r diben, yn diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr, a'u bod ar gael yn ddwyieithog. Bydd hefyd yn golygu cynnal dewis dysgwyr, cyn belled ag y bo modd, wrth gydnabod yr angen i sicrhau bod gennym y sgiliau cywir i gefnogi ein blaenoriaethau economaidd. Bydd hynny'n golygu gweithio'n strategol gyda'n partneriaid, gan gynnwys partneriaethau sgiliau rhanbarthol a darparwyr dysgu, i wneud y defnydd gorau o ddeallusrwydd y farchnad lafur. Mae hefyd yn golygu sicrhau bod gan ddysgwyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus am gymwysterau a fydd yn rhoi'r cyfleoedd gorau iddynt symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Byddaf yn dychwelyd at hynny mewn munud.
Mae'r adroddiad yn galw am strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ac yn nodi'r pwrpas a'r egwyddorion a ddylai fod yn sail i hynny. Mae'r rhain yn cynnwys ymateb i anghenion economaidd a chymdeithasol, a pharatoi dysgwyr i ymuno â gweithlu dwyieithog. Rwy'n derbyn yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad strategol clir. Felly, byddwn yn datblygu datganiad polisi byr sy'n canolbwyntio ar weithredu sy'n canolbwyntio'n strategol ar addysg a hyfforddiant ôl-16 ac sydd hefyd yn cyd-fynd ag ymrwymiadau strategol cysylltiedig, gan gynnwys sero net ac, wrth gwrs, ein cenhadaeth economaidd sydd wedi'i hadnewyddu.
Ni allwn siarad am gymwysterau galwedigaethol heb ystyried yr ecosystem y maent yn gweithredu ynddi. Rydym wedi bod yn trafod gyda Cymwysterau Cymru sut y gallwn gydlynu adolygiadau sector yn well a datblygu fframweithiau prentisiaethau, fel y cynghorir gan yr adolygiad. Bydd hyn yn sicrhau bod rhaglenni dysgu galwedigaethol yn cyd-fynd yn well ag anghenion sgiliau cyflogwyr.
Rwy'n cefnogi argymhelliad yr adroddiad nad yw Cymru'n mabwysiadu'r un dull â Lloegr wrth weithredu safonau T. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Cymwysterau Cymru i fonitro datblygiadau, a gweithio i sicrhau sefydlogrwydd a pharhad i gael mynediad at gymwysterau galwedigaethol perthnasol i ddysgwyr yng Nghymru. Byddwn hefyd yn sicrhau, wrth i Loegr ddatblygu ei chynigion ar gyfer fframwaith cymwysterau safon Brydeinig uwch, y bydd ein dull o ddysgu 16-19 yn parhau i ganolbwyntio ar anghenion dysgwyr yng Nghymru.
Rwyf am annog mwy o gydweithio rhwng ysgolion a darparwyr ôl-16, er mwyn sicrhau bod gan ddysgwyr y wybodaeth a'r cymorth y mae eu hangen arnynt i symud ymlaen ar hyd llwybrau galwedigaethol lle bo hynny'n briodol ar eu cyfer. Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen mewn perthynas ag adroddiad Hefin David ar bontio i gyflogaeth, mae gan bawb ran i'w chwarae wrth sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn gadael addysg wedi'u paratoi i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Mae fy swyddogion wedi bod yn edrych ar ffyrdd o dynnu sylw at bocedi presennol o arfer da yn well ac ehangu hyn ledled y sector.
Roedd yr adolygiad yn argymell ymestyn cyfleoedd lleoliad gwaith i bob dysgwr lefel 3 nad oedd ganddyn nhw leoliad gwaith fel rhan orfodol o'u cymhwyster. Byddaf yn derbyn yr argymhelliad hwn, gan fod pob dysgwr lefel 3 bellach yn cael cyfleoedd i gael profiad gwaith fel rhan o'u hastudiaeth, naill ai drwy'r elfen gymunedol, elfen y dysgwr, neu'r elfen sy'n canolbwyntio ar y diwydiant o'u cyrsiau amser llawn, neu drwy'r rhaglen lleoliad estynedig, sy'n cynnig cyfle i ddysgwyr lefel 3 gael mynediad at hyd at 100 awr o brofiad gwaith perthnasol i ddiwydiant. Mae'r rhaglen lleoliad estynedig yn un o bedair rhaglen beilot sy'n cael eu hariannu drwy'r gronfa arloesi gwerth £5.8 miliwn ac sy'n cael eu prif-ffrydio yn y flwyddyn academaidd hon.
Rwy'n bwriadu cyhoeddi canllawiau statudol i ysgolion ar ddysgu 14-16 yn y Cwricwlwm i Gymru fel rhan o'r gwaith o ddatblygu ein polisi ar lwybrau 14-19. Bydd cymwysterau cyffredinol a chymwysterau galwedigaethol bob amser yn rhan bwysig o hyn. Rwy'n benderfynol o sicrhau bod pobl ifanc mewn addysg orfodol hefyd yn cael cynnig cydlynol yn seiliedig ar sgiliau, cynllunio ar gyfer y camau nesaf—gan gynnwys trwy addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith o ansawdd uchel—yn ogystal â chyfleoedd dysgu personol. Mae hyn yr un mor bwysig i'n pobl ifanc sy'n dechrau addysg a hyfforddiant ôl-16, er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi cyfranogiad ar draws ystod o gyfleoedd a phrofiadau dysgu o safon i gefnogi datblygiad gyrfa a lles dysgwyr. Mae'r dull gweithredu hwn yn adlewyrchu'r cwricwlwm newydd, ac yn cadarnhau fy ymrwymiad bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi yn y llwybr o'u dewis, boed hynny'n addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Roedd yr adolygiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru a darparwyr dysgu yn cydweithio i gynnig cwricwlwm ehangach i ddysgwyr pan fo'r dewis yn fwy cyfyngedig neu pan fo nifer y dysgwyr yn isel. Rydyn ni'n datblygu canllawiau statudol sydd wedi'u diweddaru i gefnogi'r cwricwlwm 16-19. Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil mewn sefyllfa dda i weithio'n gyson ac yn effeithiol ar draws y system addysg drydyddol, a chyda'n partneriaid addysg, pan fydd yn gwbl weithredol. Bydd hynny'n cynnwys cefnogi dull cydgysylltiedig o ran sut y mae darpariaeth ôl-16 yn cael ei ddarparu ar bob lefel ledled Cymru, i ategu'r canllawiau statudol. Byddwn ni'n disgwyl gweld elfen allweddol o’r rôl gynllunio honno yn cynnwys ystyriaeth o’r ffordd orau i’r system drydyddol sicrhau bod anghenion sgiliau Cymru, heddiw ac ar gyfer y dyfodol, yn cael eu bodloni. Rwy'n benderfynol o weld y comisiwn yn hwyluso mwy o gydweithio a chydlyniant, ac yn darparu cyfleoedd pellach i adeiladu llwybrau clir i ddysgwyr i feysydd gwahanol o ddarpariaeth neu gyflogaeth. Mae gan bawb gyfrifoldeb am addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
O ran yr amserlen ar gyfer y gwaith, mae rhywfaint yn mynd rhagddo eisoes, fel y soniais i. Mae hynny’n cynnwys y canllawiau 16-19 statudol, cyfleoedd gwaith ar gyfer dysgwyr lefel 3, ac edrych ar y ffordd orau o ddatblygu strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gan weithio ar draws pob maes polisi cysylltiedig. Mae fy swyddogion wedi bod yn datblygu cynllun gwaith, mewn trafodaeth ar draws gwahanol rannau o’r Llywodraeth, gan ystyried y ffordd orau o flaenoriaethu ffrydiau gwaith eraill. Rydyn ni’n siarad â Cymwysterau Cymru am y camau y byddan nhw’n eu cymryd mewn ymateb i’r adolygiad yn y flwyddyn weithredol nesaf a thu hwnt. Rwy’n disgwyl y bydd ystyriaethau tebyg ar gyfer y comisiwn wrth iddo ddatblygu ei gynllun strategol, pan fydd yn gwbl weithredol.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Wrth gwrs, mae cymwysterau galwedigaethol yn hynod bwysig i ddyfodol ein plant, ond ar ôl blynyddoedd o aros am hyn, pam mai dim ond yn dawel a bron yn gyfrinachol y datgelwyd y cyhoeddiad hwn yr wythnos diwethaf? Mae tair gwlad arall y DU eisoes wedi amlinellu cynlluniau strategol ar gyfer addysg alwedigaethol, ac eto mae Llywodraeth Cymru, a chi fel y Gweinidog, ond nawr yn nodi'r cynlluniau hyn. Rydym ni y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw dro ar ôl tro ar i'r Llywodraeth Lafur wneud mwy i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru, er lles ein pobl ifanc ac ar gyfer iechyd economi Cymru wrth symud ymlaen. Mae addysg alwedigaethol yn aml yn arwain at yrfaoedd hir a llwyddiannus sy'n talu'n dda. Yn y pen draw, mae diffyg cynllun strategol y Llywodraeth Lafur ar gyfer addysg alwedigaethol wedi arwain at fethu â darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer dyfodol Cymru.
Felly, Gweinidog, pam mae hi wedi cymryd cymaint o amser i gyhoeddi'r cymwysterau hyn? A fydd pob ysgol yn eu cynnig? Fel y gwyddom ni o'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf, fel y mae ar hyn o bryd, bydd ysgolion yn cael cynnig y cyfle i'w cyflwyno, ond nid oes unrhyw ganllawiau yn eu cymell nhw i wneud hynny. Mae'n amlwg i bawb y gallai hyn arwain at nifer llai na'r disgwyl, oherwydd blynyddoedd o danariannu cronig a thoriadau gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi gweld, flwyddyn ar ôl blwyddyn, doriadau arian mewn termau real i'r gyllideb addysg ac athrawon yn gadael y sector mewn heidiau, gyda'r Llywodraeth hon yn methu â'u disodli na hyfforddi cynorthwywyr addysgu. Felly, mae gen i amheuon difrifol ynghylch y llwyth gwaith i athrawon, a fydd nawr yn gorfod ymgyfarwyddo â chymwysterau newydd, ac unrhyw gostau ychwanegol ar gyllidebau ysgolion sydd eisoes dan bwysau. Felly, Gweinidog, a fydd cyllid ychwanegol yn dilyn yn uniongyrchol i ysgolion i annog pobl i'w gweithredu? Sut ydych chi'n bwriadu eu cyflwyno heb roi hyd yn oed mwy o straen ar ein hathrawon?
Ac yn olaf, Gweinidog, fel y gwyddoch chi, nid oes gan Gymru asesiad clir o'n hanghenion galwedigaethol a sgiliau cenedlaethol ar gyfer y dyfodol. Roeddwn i'n meddwl y byddai hyn wedi dod law yn llaw â'r cyhoeddiad hwn, fel y gallwn ddeall yn well y prinder sy'n ein hwynebu a sicrhau ein bod yn blaenoriaethu'r sgiliau hynny trwy gydol y cymwysterau hyn. Dyma'r unig ffordd y gallwn sicrhau bod gweithlu Cymru yn ddiogel at y dyfodol a rhoi diwedd ar unrhyw ddibyniaeth ar lafur tramor. Mae hefyd yn bwysig nodi cofrestriadau ar gymwysterau a chyrchfannau dysgwyr, oherwydd, heb gydberthynas o'r fath, mae'n anodd penderfynu a oes ystod berthnasol ac effeithiol o gymwysterau galwedigaethol i ddiwallu anghenion y dyfodol. Felly, Gweinidog, a fydd asesiad o'n hanghenion galwedigaethol a sgiliau cenedlaethol ar gael, ac a fyddwch yn nodi cofrestriadau a chyrchfannau dysgwyr? Diolch.
Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiynau, er fy mod yn credu bod y cwestiynau'n ymwneud â'r datganiad a wnaeth Cymwysterau Cymru yr wythnos diwethaf ynghylch cyflwyno TAAU, yn hytrach na'r datganiad rwy'n ei wneud heddiw mewn perthynas â'r ymateb i adolygiad Lusher. Does dim cyfrinach ynghylch hyn—cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Medi y llynedd, ac rwyf yma yn y Siambr yn gwneud y datganiad ac yn ateb cwestiynau. Felly, nid wyf yn siŵr pa ran o gyfrinach y byddai'r diffiniad hwnnw'n ei fodloni.
O ran y pwyntiau oedd yn berthnasol i'r datganiad heddiw, mae dwy agwedd a amlygodd Janet Finch-Saunders yn fy marn i sy'n bwysig. Y cyntaf yw bod angen alinio polisi economaidd, polisi sgiliau a chymwysterau galwedigaethol, fel y mae adolygiad Lusher yn ei nodi. Mae'r Llywodraeth yn derbyn hynny, a bydd hi wedi clywed o fy natganiad bod gwaith ar y gweill mewn perthynas â hynny. A'r ail bwynt a wnaeth hi oedd mewn perthynas â'n dealltwriaeth o anghenion sgiliau'r economi yn y dyfodol. Bydd hi'n gwybod, wrth gwrs, am y gwaith y mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol eisoes yn ei wneud, mewn ôl troed rhanbarthol, i ddeall anghenion y rhanbarth hwnnw. Bydd hefyd yn gwybod bod gennym raglen ar gyfer ymrwymiad llywodraeth i gryfhau'r gwaith y maent yn ei wneud mewn perthynas â hynny. Ond fel mae'r adolygiad ei hun yn ei wneud yn glir, mae angen cael darlun cenedlaethol o'r gwaith hwnnw hefyd, a bydd hynny'n rhan bwysig o'r ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn.
O ran y pwyntiau y mae hi'n eu gwneud mewn perthynas â chyhoeddiad y TAAU yr wythnos diwethaf gan Cymwysterau Cymru, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwnnw yn yr ystyr ganlynol: rwy'n credu ei bod yn gwbl bwysig ein bod yn helpu i symleiddio'r cynnig i'n dysgwyr, fel ei fod, yn y maes cyn 16, yn gynnig mwy cydlynol â mwy o ffocws, y bydd y rhaglen TAAU yn ei sicrhau. Rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn datblygu partneriaethau rhwng ysgolion a cholegau mewn perthynas â sut y caiff y TAAU hynny eu darparu, fel y gallwn sicrhau eu bod yn cael eu darparu'n effeithiol. Rwyf am weld—ac mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi ymrwymo i hyn—gweithio'n agos rhwng Cymwysterau Cymru a cholegau yng Nghymru i sicrhau bod y cymwysterau hynny, pan fyddant yn dod ymlaen, wedi'u cynllunio'n dda ac wedi'u cyflawni'n dda.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw? Hoffwn ategu eich diolch i Sharron Lusher am ei gwaith yn arwain yr adolygiad ac i aelodau'r pwyllgor llywio am eu cyfraniad. Fel y gwnaethoch chi sôn, wrth gwrs, mae hwn yn deillio o'r cytundeb cydweithio. Mae Plaid Cymru yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd addysg alwedigaethol, a hefyd yn cytuno gyda'r pwysigrwydd bod cymwysterau'n cael eu creu yng Nghymru ar gyfer Cymru, a bod hyn yn angenrheidiol. Fel rydych chi newydd sôn, wrth ymateb i Janet Finch-Saunders, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y rhain yn cyd-fynd efo'r sgiliau allweddol hynny sydd eu hangen ar gyfer dyfodol ein pobl, ein cymunedau, ein hiaith, ein heconomi a hefyd, wrth gwrs, wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Mi wnaethoch chi sôn yn y datganiad eich bod yn derbyn yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad strategol clir ar gyfer addysg alwedigaethol a hyfforddiant, a, heb os, mae hyn yn bwysig. Ond mae angen strategaeth neu gynllun gweithredu a pholisïau cynhwysfawr i gwmpasu holl agweddau addysg ôl-16, yn hytrach nag ystyried y maes addysg alwedigaethol a hyfforddiant mewn seilo neu ar ei ben ei hun. Mae yna dal elfen gref sy'n hybu, yn anffodus, addysg alwedigaethol a hyfforddiant fel llwybr i rai sydd ddim yn disgleirio yn academaidd, yn ôl mesurau confensiynol a henffasiwn. Dwi'n credu bod yn rhaid inni chwalu'r myth yma a sicrhau bod yr ystod o gymwysterau sydd ar gael, ac sydd am fod ar gael yma yng Nghymru, yn cael eu hybu i bawb fel llwybr posib. Allwch chi, felly, amlinellu, os gwelwch yn dda, pryd rydych chi'n disgwyl y gwelwn ni strategaeth o’r fath nid yn unig yn cael ei chyhoeddi, ond hefyd yn dechrau cael ei gweithredu?
O ran y trywydd sydd yn cael ei argymell yn yr adroddiad, mae’r syniad o farchnad agored yn groes i’r graen o ran ein gwerthoedd ni yn gyffredinol, sydd, wrth gwrs, yn credu’n gryf mewn cydweithio yma yng Nghymru. Ond, o dderbyn yr opsiwn yma, mae hyn hefyd yn groes i’r sefyllfa yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, sydd â byrddau arholi dan arweiniad y wladwriaeth yn y maes hwn, a hefyd yn rhyngwladol, lle mae naill ai cyflogwyr neu'r wladwriaeth yn arwain. Mae sefyllfa ryfedd gennym ni, lle mai dewis yr unigolyn a’r farchnad rydd sy’n arwain. Ond rydyn ni’n derbyn y bragmatiaeth sy’n sail i’r ffordd ymlaen, ac yn deall nad oes dim awydd yn y sector ar hyn o bryd, a bod heriau ariannol efo symud i greu corff dyfarnu newydd penodol i Gymru, fel y gwnaethoch chi amlinellu.
Heb os, mae angen mecanwaith cadarn i adnabod y galw am sgiliau yng Nghymru, a bod hynny’n siapio ac yn dylanwadu ar addysg ôl-16, wedyn, gan gynnwys cymwysterau. Mae angen ffordd i fonitro i ba raddau mae hynny’n digwydd yn llwyddiannus, ynghyd â llinellau cyfrifoldeb ac atebolrwydd clir o ran cyfrifoldebau a rôl arweiniol Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a’r comisiwn CTER newydd. Ac mae angen i CTER fod yn sylfaenol wahanol a mwy uchelgeisiol na jest rheoli’r status quo, rhywbeth dwi'n gwybod rydych chi'n cytuno ag ef.
Un peth, wrth gwrs, yng nghyd-destun hyn oll, sydd wedi peri pryder ydy'r toriadau o bron i 25 y cant yn y gyllideb brentisiaethau, a sut y bydd hyn yn effeithio ar allu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau yn bellach yn y meysydd hyn, unwaith maent wedi cwblhau'r cymwysterau. Ydych chi'n rhannu’r pryderon hyn, ac a oes unrhyw sicrwydd y gallwch ei roi heddiw y bydd y newidiadau hefyd yn cael eu hystyried yn y cyd-destun ehangach hwn, fel bod llwybrau i ddatblygu eu sgiliau yn bellach yn parhau yn agored i ddysgwyr yn sgil cwblhau eu cymhwyster TAAU? Diolch.
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Mae gwaith eisoes yn digwydd ynglŷn â'r cwricwlwm ôl-16, fel gwnes i sôn yn fras yn fy natganiad, a rhan o hwnnw yw sefydlu canllawiau statudol i ddarparwyr fel bod y cwricwlwm hwnnw yn dilyn egwyddorion, os hoffwch chi, y cwricwlwm tan 16 ond mewn ffordd sy'n gymwys ar gyfer yr opsiynau sydd ar gael i ddysgwyr ar ôl 16. Ac mae'n gwbl iawn i ddweud ei bod hi'n bwysig bod yr hyn rŷn ni'n darparu, a'r canllawiau rŷn ni'n eu darparu i ddarparwyr, yn sicrhau mai'r peth sy'n gyrru pob penderfyniad yw'r llwybr sy'n addas i'r unigolyn, y dysgwr, sy'n cymryd y cymhwyster. Ac mae angen inni ddylunio ac ailddylunio'r ffordd rŷn ni'n darparu fel mai hwnnw yw'r egwyddor sy'n gyrru'r dewisiadau, nid y strwythurau sy'n digwydd bod gyda ni, os hoffwch chi, ar hyn o bryd. Felly, mae hynny'n egwyddor heriol, ond mae hefyd yn un creadigol iawn, dwi'n credu. Dyna, yn sicr, sy'n rhaid inni ei ddilyn fel rhan o'r gwaith hwnnw.
O ran y pwynt roedd yr Aelod yn ei wneud, y pwynt ehangach ar sut rŷn ni'n mynd ati i ddarparu cymwysterau yn gyffredinol, fy marn i yw bod yr adroddiad yn taro'r cydbwysedd pragmataidd rhwng y galw i sicrhau, ar yr un llaw, fod y cymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru yn diwallu anghenion ein heconomi ni, blaenoriaethau ein pobl ifanc ni eu hunain, ar yr un llaw, ond hefyd yn rhywbeth sy'n gymwys ac yn darparu ystod o opsiynau. Felly, rwy'n credu bod y ffordd y mae'r adolygiad yn argymell ein bod ni'n edrych ar a ydy'r cymhwyster yn fit for purpose ac wedyn, os nad yw e, beth allwn ni ei wneud i sicrhau ei ddarparu mewn ffordd amgen yn dilyn yr egwyddorion hynny mewn ffordd addas iawn. Ac mae'r syniad yma o gymwysterau sy'n made for Wales, er enghraifft, rwy'n credu yn ein caniatáu ni i daro'r cydbwysedd addas hwnnw.
O ran y cwestiwn am gyllidebau, wel, mae toriadau wedi bod i'r gyllideb prentisiaethau. Mae Gweinidog yr Economi wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn, fel mae pob un ohonon ni wedi gorfod gwneud, a byddai dim un ohonon ni'n dweud mai dyma'r pethau y byddem ni'n dymuno eu gwneud, ac yn sicr nid dyma'r pethau rŷn ni'n credu yn y tymor hir yw'r pethau addas i ni eu gwneud. Felly, byddwn ni i gyd yn chwilio am ffyrdd i allu adfer y gyllideb honno cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny, ond mae cyfyngiadau ymarferol ar y Llywodraeth yn hyn o beth ac mae'n rhaid, rwy'n credu, ymateb i'r adroddiad mewn ffordd sy'n adlewyrchu a chydnabod y pwysau cyllidebol sydd ar bob un o'n darparwyr ni ynghyd â ni fel Llywodraeth.
Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwyf mor falch o weld ymrwymiad cadarn i symud ymlaen i sicrhau cydraddoldeb rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd. Dyma y mae ein pobl ifanc yn ei haeddu, yr hyn sydd ei angen ar ein gwlad ar frys os gallwn lenwi'r bwlch sgiliau heddiw ac yfory.
Rwy'n deall yr ystyriaethau ariannol ymarferol sydd wedi eich arwain i ddod i'r casgliad nad yw'n bosibl sefydlu corff dyfarnu cenedlaethol ar gyfer cymwysterau galwedigaethol ar hyn o bryd. Gyda hyn mewn golwg, sut allwch chi sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol yn cael eu hasesu mewn modd priodol, gan ystyried sgiliau ymarferol myfyrwyr yn llawn ac nad ydynt yn dibynnu'n ormodol ar asesiadau ysgrifenedig?
Ac, yn ail, symud i'r maes hanfodol o gyfleoedd lleoliad gwaith ar gyfer dysgwyr lefel 3, rwy'n falch o nodi bod y rhain bellach yn orfodol. Fodd bynnag, o sgyrsiau rwy'n eu cael gyda fy ngholeg addysg bellach leol, eu dysgwyr, rhieni a chyflogwyr lleol, rwy'n gwybod y gall sicrhau'r lleoliadau gwaith hyn fod yn heriol dros ben, gyda lleoliadau mewn cyflenwad byr iawn a rhai myfyrwyr mewn perygl o orfod gadael eu cyrsiau os na ellir sicrhau lleoliadau. Gweinidog, y biwrocratiaeth ydyw, mae'r llenwi ffurflen y dywedir wrthyf yn gyson yn gweithredu fel rhwystr i fwy o gyflogwyr gymryd rhan yn y system hon, felly beth allwch chi ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn?
Diolch i Vikki Howells am y ddau bwynt pwysig iawn. Rwy'n credu, wrth wraidd y ffordd y mae angen i ni gyflwyno'r cymwysterau gwneud-i-Gymru rhaid sicrhau bod y cydbwysedd rhwng cynnwys a asesir a chynnwys ymarferol yn taro'r cydbwysedd cywir. Ac mae heriau wedi bod yn y gorffennol, fel rwy'n siŵr y mae hi'n cyfeirio ato yn ei chwestiwn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dysgu'r gwersi hynny. Ac rwy'n credu bod rhan o hynny, mewn gwirionedd, yn ymwneud â sut yr ydym yn sicrhau bod darparwyr, rheoleiddwyr, dysgwyr a chyflogwyr yn bedair rhan o system gydlynol sydd wedyn yn bodloni gofynion y pedair elfen, os dymuna.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn sicrhau, ochr yn ochr â'r argaeledd ffurfiol, os gwnaf ei roi fel yna, o brofiad gwaith fel rhan o gymwysterau, ein bod yn cyflawni hynny yn ymarferol ar lawr gwlad. Rwy'n cydnabod yr her y mae hi'n ei hamlinellu yno. Felly, gwyddom y dylai cymysgedd y rhaglen sy'n cael ei wella ar leoliad a'r elfennau cymunedol, dysgwr a ffocws y diwydiant rhyngddynt gwmpasu'r hyn sydd ei angen mewn perthynas â dysgwyr lefel 3 yn gyffredinol, ond mae rhai ardaloedd yng Nghymru lle gall argaeledd lleoliadau gwaith perthnasol, yn benodol, fod yn gyfyngedig. Felly, rhan o'r ffordd yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â hynny yw drwy'r cyllid arloesi a ddarparwyd gennym, dros £6 miliwn o gyllid, a ddefnyddiwyd i roi cynnig ar ffyrdd newydd o ddarparu lleoliad gwaith. Ond mae hi'n iawn i ddweud bod hyn yn rhywbeth y mae angen i ni gadw llygad arno a sicrhau ein bod yn gwireddu hynny, a soniais am adroddiad a baratowyd gan Hefin David ar gyfer y Llywodraeth ychydig fisoedd yn ôl. Mae gan yr adroddiad nifer o ffyrdd ymarferol iawn y gellir bwrw ymlaen â hynny.
Ac yn olaf, Hefin David.
Fe af ymlaen o ble wnaethoch chi orffen. [Torri ar draws.] [Chwerthin.] O ran y mater o gydweithio gwell rhwng sefydliadau ôl-16 ac ysgolion uwchradd, yn yr adroddiad hwnnw soniais yn arbennig am Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot ac Ysgol Uwchradd Llanidloes, sydd â chweched dosbarth. Amlygais hynny fel enghraifft o ymarfer cydweithredol da iawn. A fyddai, efallai, yn awgrym adeiladol y gallai'r Llywodraeth geisio deall yn union beth sy'n mynd yn iawn yno, ac efallai ehangu prosiect treialu mewn mannau eraill yng Nghymru i weld a oes modd efelychu hynny a bod y llwyddiannau a welsom yno yn digwydd mewn mannau eraill wedyn, ac yna gweld a allech chi ehangu hynny ymhellach drwy Gymru?
Dim ond i gydnabod y pwynt mae Hefin David yn ei wneud, ac mae'n gyson iawn â thema ei adroddiad, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â nodi arfer da, onid ydyw? Soniodd am goleg Castell-nedd Port Talbot; mae gennyf i fy nghysylltiad fy hun â'r coleg hwnnw o safbwynt etholaeth. Soniodd am y gwaith yn Llanidloes, ond gallai hefyd, rwy'n gwybod, fod wedi cyfeirio at y gwaith gydag ysgol gyfun Maesteg, lle mae gweithio agos da rhwng y coleg a'r ysgol i roi'r hyfforddiant ymarferol hwnnw i ddysgwyr mewn meysydd galwedigaethol fel adeiladu. Mae enghreifftiau da hefyd ym Mlaenau Gwent drwy brosiect hwyluso STEM Y Cymoedd Technoleg, ac mae'r gwaith y mae fy adran yn ei wneud nawr, ynghyd ag adran yr economi, wir yn ceisio nodi ble mae'r perthnasoedd da hynny'n bodoli.
Rwy'n credu un o'r heriau i ni, yn ogystal â darparu'r canllawiau, astudiaethau achos a'r ffyrdd o weithio y gall ysgolion a cholegau fanteisio arnynt—. Yr her arall i ni yw sicrhau nad oes unrhyw rwystrau yn nyluniad y system sy'n ei gwneud hi'n anoddach i ysgolion a cholegau gydweithio, ac rwy'n ymwybodol iawn o hynny hefyd.
Diolch i'r Gweinidog.
Mae eitem 5 wedi ei gohirio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.
Felly, symud ymlaen i eitem 6: dadl ar y gyllideb ddrafft 2024-25. A galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM8473 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 19 Rhagfyr 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Rwy'n falch o agor dadl y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Ers i ni gael y cyfle cyntaf i drafod y gyllideb ddrafft yn y Senedd ar 9 Ionawr, mae pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn brysur yn craffu ar ein cynlluniau gwariant. Rwy'n croesawu'r sesiynau adeiladol a gefais gyda'r Pwyllgor Cyllid yn fy swyddogaeth yn Weinidog cyllid, a'r rhai y mae fy nghyd-Weinidogion a minnau wedi'u cael gyda'n pwyllgorau pwnc priodol.
Cyn i mi roi rhai myfyrdodau cynnar ar y themâu sy'n codi o'r gwaith craffu, mae'n bwysig cofnodi'r hinsawdd heriol iawn yr ydym yn gosod cyllideb Cymru ynddi unwaith eto. Unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi ceisio gweithio yn ein herbyn ni yn hytrach na gyda ni. Rydym yn parhau i weld effeithiau parhaus chwyddiant uchel, y mae ei effeithiau ar aelwydydd, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a'r Llywodraeth ddatganoledig wedi cael eu hisraddio gan Lywodraeth y DU. Ac er ein bod wedi gweld cyfraddau yn gostwng dros fisoedd y gaeaf diolch byth, mae bwlch sylweddol o hyd rhwng lle rydym ni nawr a tharged Banc Lloegr o 2 y cant. Mae hyn yn parhau i gael effaith sylweddol ar yr hyn y gallwn ni ei gyflawni.
Roedd datganiad hwyr iawn y Canghellor yn yr hydref yn llawer llai na'r setliad oedd ei angen i ymateb i'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, ac nid oedd cydnabyddiaeth benodol o'r materion sy'n wynebu Cymru. Mae'r setliad cyllido cyfyngedig sydd gennym yn golygu na allwn fynd mor bell ac mor gyflym ag yr hoffem, ond mae'r gyllideb ddrafft hon yn ceisio blaenoriaethu'r materion y mae pobl a chymunedau ledled Cymru yn eu hystyried y rhai pwysicaf. Byddaf yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn briodol ac i gydnabod ein galwadau penodol am fwy o fuddsoddiad mewn diogelwch tomenni glo a rheilffyrdd yng nghyllideb y gwanwyn sydd ar ddod, y disgwylir iddi ddod ychydig ddyddiau yn unig ar ôl i ni gyhoeddi ein cyllideb derfynol ni.
Wrth i'r Cabinet ddatblygu'r gyllideb ddrafft hon, roedd yn rhaid i ni wneud rhai dewisiadau llwm a phoenus, ond gwnaethom hynny yn ysbryd cydweithredu a thryloywder, gan roi pobl a chymunedau yn gyntaf i gefnogi'r gwasanaethau sydd bwysicaf oll. Rydym wedi ail-lunio ein cyllidebau yn sylweddol yn unol â set o egwyddorion arweiniol: amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd cyn belled ag y bo modd, er mwyn sicrhau'r budd mwyaf i aelwydydd sy'n cael eu taro galetaf, blaenoriaethu swyddi lle bynnag y bo modd, a gweithio mewn partneriaeth â chyrff y sector cyhoeddus eraill i wynebu'r storm ariannol hon gyda'n gilydd.
Drwy fabwysiadu'r dull hwn, rydym wedi canolbwyntio cyllid i fuddsoddi mwy yn y GIG—£450 miliwn yn 2024-25, yn ychwanegol at y £425 miliwn a oedd ar gael ym mis Hydref ar gyfer 2023-24. Rydym yn diogelu'r setliad llywodraeth leol craidd. Ochr yn ochr â'r cynnydd o 3.1 y cant a addawyd gennym y llynedd, rydym hefyd yn darparu £1.3 miliwn ychwanegol drwy'r grant cynnal refeniw i ddarparu cyllid gwaelodol, gan sicrhau nad oes gan yr un awdurdod gynnydd mewn setliad o lai na 2 y cant.
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, a arweiniodd at gyllid canlyniadol, rwyf hefyd yn dyrannu £25 miliwn arall i gefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol a phwysau eraill yn y gyllideb derfynol. Byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig gyda mwy o fanylion am hyn cyn bo hir, ond mae angen i mi bwysleisio bod hyn mewn perygl, ac mae'n ddigon posibl y bydd y cyllid yn cael ei wrthbwyso gan symudiadau negyddol yn natganiad y gwanwyn. Felly, rwyf eisiau amlygu hynny i fy nghyd-Aelodau.
Er ein bod yn diogelu'r cyllid sy'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion, gan gynnwys y grant datblygu disgyblion ac yn parhau â'n rhaglen adferiad COVID lwyddiannus i recriwtio, adfer a chodi safonau, wrth wneud hynny, ac wrth ddiogelu'r meysydd hyn, fodd bynnag, mae wedi golygu gwneud penderfyniadau anodd iawn, megis ailgyfeirio gwariant i ffwrdd o feysydd eraill, gan gynnwys o feysydd nad ydynt wedi'u datganoli lle rydym wedi camu i'r adwy yn draddodiadol i wneud iawn am ddiffygion Llywodraeth y DU.
Felly, fe drof yn awr at rai o'r pwyntiau allweddol sydd wedi'u codi yn sgil gwaith craffu'r pwyllgorau. Roedd pwyslais arbennig a derbyniol unwaith eto ar wariant ataliol, a sut mae'r gyllideb ddrafft hon yn mynd i'r afael â hyn. O fewn y setliad hynod heriol sydd gennym ar hyn o bryd, bu'n rhaid i ni weithredu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus craidd. Mae hon yn gyllideb lle mae angen anelu ein gwariant at y meysydd hynny sy'n feysydd mwy acíwt o atal. Os ydym am symud tuag at fwy o atal sylfaenol yn y dyfodol, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus craidd yn gynaliadwy nawr, ac yn gallu dygymod â'r storm newydd hon o gyni a orfodwyd arnom gan Lywodraeth y DU.
Nid wyf yn cydnabod bod y gyllideb hon yn un sy'n tynnu cyllid o feysydd atal sylfaenol. Nid yw hynny'n wir o gwbl. Er enghraifft, drwy fuddsoddi £450 miliwn ychwanegol yn y GIG, ein nod yw diogelu pawb, gan gynnwys plant, pobl anabl a phobl hŷn ac agored i niwed. Mae hwn, yn ei hanfod, yn wariant ataliol, mewn sawl ffordd. Mae hefyd yn werth cydnabod bod llywodraeth leol a'r GIG yn cynrychioli 90 y cant o gyflogaeth yn y sector cyhoeddus, a dyna'r meysydd lle rydym wedi canolbwyntio cyllid sydd ar gael ar eu cyfer, gan gefnogi llawer o weithwyr a chymunedau ledled Cymru. Nid yw atal ychwaith yn ymwneud â faint o gyllid yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â'r ffordd y mae cyllid yn cael ei wario. Mae diffinio canlyniadau gwariant o safbwynt atal yn gymhleth, yn enwedig pan fo sawl buddiolwr a sawl math o atal yn digwydd o fewn un buddsoddiad. O'r herwydd, rydym yn parhau i archwilio'r maes hwn fel rhan o waith ein cynllun gwella cyllideb, ochr yn ochr â'r camau y byddwn yn eu cymryd ar gyllidebu rhywedd a diwygio ein dull o asesu effaith y gyllideb.
O ran terfynau benthyca a chronfeydd wrth gefn, rwy'n adleisio galwadau'r Pwyllgor Cyllid am hyblygrwydd. Y flwyddyn nesaf bydd ein terfynau werth bron i chwarter yn llai mewn termau real na phan gawsant eu cyflwyno yn 2018-19. Dylai Llywodraeth y DU gymhwyso'r newidiadau y mae wedi'u gwneud i fframwaith cyllidol yr Alban mewn cysylltiad â therfynau cronfeydd wrth gefn a benthyca i Gymru, gan roi'r un hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol i ni. Byddai hyn yn mynegeio ein terfynau benthyca a chronfeydd wrth gefn i chwyddiant, ac yn dileu terfynau tynnu i lawr o gronfeydd wrth gefn. Unwaith eto fe wnes i'r achos hwn yn ystod cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys fis diwethaf, gan bwysleisio bod y newidiadau a wnaed i fframwaith yr Alban yr un mor berthnasol i ni. Maen nhw'n newidiadau pragmatig y gellid eu gwneud ar unwaith.
Mae'r pecyn cymorth ariannol i Ogledd Iwerddon gan Lywodraeth y DU wedi cydnabod costau gwasanaethau'r sector cyhoeddus a phwysau cyflog. Nid yw'r costau hyn yn unigryw i Ogledd Iwerddon, a dylid eu cydnabod ar gyfer pob rhan o'r DU. Fel Gogledd Iwerddon, rydym yn chwilio am gyfle cyfartal i fynd i'r afael â'r pwysau hynny.
Amlygais hefyd adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, sy'n dadlau bod yr hyblygrwydd ariannol yr ydym yn parhau i'w geisio yn rhesymol ac y dylai'r Trysorlys naill ai ei dderbyn neu egluro pam nad yw'n ei dderbyn.
Eleni, unwaith eto, rydym wedi derbyn cais gan y Pwyllgor Cyllid am fwy o wybodaeth i gynorthwyo gwaith craffu. Hoffwn ailadrodd y negeseuon o'r llynedd ar y cysyniad amlflwyddyn a sut y dylid ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd eleni fel diweddariad i'r amgylchiadau ac yn ychwanegol at yr hyn a ddarparwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Rydym wedi darparu llawer iawn o wybodaeth, wedi bod yn dryloyw yn y dull yr ydym yn ei fabwysiadu ac yn ymgysylltu â'r pwyllgor yn gynnar. Mae maint ac ystod y deunydd a gynhyrchwn yn fwy na llawer o Lywodraethau eraill, felly o ganlyniad rwy'n ystyried a yw hwn yn fater o fwy o wybodaeth, neu a yw'r pwyllgor eisiau gwybodaeth wahanol. Yn hyn o beth, rwy'n teimlo y gellid defnyddio protocol y gyllideb i gael gwell effaith, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r hyn y mae'r Senedd yn disgwyl ei wneud i gynorthwyo gwaith craffu. Rwy'n gwerthfawrogi'r trafodaethau rwyf wedi'u cael hyd yma gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y protocol, a byddwn yn croesawu trafodaethau pellach gyda'r bwriad o negodi fersiwn ddiwygiedig wrth i ni ddod â'r cyfnod amlflwyddyn hwn i ben.
Ni fu unrhyw newid ystyrlon yn ein cyllid cyfalaf cyffredinol oddi wrth Lywodraeth y DU yn natganiad yr hydref. Mewn gwirionedd, mae ein cyllideb gyfalaf yn 2024-25 bellach werth hyd at 10 y cant yn llai mewn termau real na'r disgwyl adeg yr adolygiad gwariant yn 2021. Yn syml, nid ydym mewn sefyllfa i wneud unrhyw ddyraniadau cyfalaf cyffredinol pellach o fewn y gyllideb hon.
Rwyf wedi amlinellu rhai dyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol fel rhan o'r gyllideb ddrafft, a byddaf yn amlinellu dyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol pellach o fewn ein cyllideb derfynol, yn unol â'n blaenoriaethau. Rwy'n cydnabod y byddai'r Senedd yn hoffi gweld yr holl ddyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol yn cael eu darparu yn y gyllideb ddrafft, ac, yn wir, dyna fyddai ein dewis. Mae'r ffaith bod datganiad Llywodraeth y DU yn yr hydref wedi bod mor hwyr, ynghyd â chymhlethdod y mecanweithiau hyn, yn aml yn gofyn am ddiwydrwydd dyladwy ychwanegol cyn y gallwn gyhoeddi cyllid. Ein bwriad o hyd yw dyrannu cyfalaf trafodiadau ariannol yn y gyllideb ddrafft wrth symud ymlaen.
Wrth gloi, hoffwn ailadrodd fy niolch i bawb a fu'n rhan o'r paratoadau a'r gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft hon. Rwy'n gwerthfawrogi'r sgyrsiau adeiladol rwyf wedi'u cael gydag Aelod dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian, ac Aelod y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds. Mae craffu yn rhan hanfodol o'r broses, ac er fy mod yn cytuno â llawer o argymhellion y Pwyllgor Cyllid, mae rhai y byddai angen i mi eu hystyried ymhellach yng ngoleuni'r cyfyngiadau a nodwyd gennyf heddiw. Byddaf i a fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion holl adroddiadau pwyllgorau'r Senedd cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ar 6 Mawrth.
Felly, i gloi, ni ellir tanamcangyfrif wrth bennu ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25 y ffaith ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anhygoel o anodd—y mwyaf llwm a'r mwyaf poenus ers datganoli. Fodd bynnag, rydym wedi gweithio'n galed gyda'n cyd-Aelodau, gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i nodi lle fyddai cyllid yn cyflawni orau er mwyn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen fwyaf ar bobl yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at glywed y ddadl.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i wneud cyfraniad yn y ddadl allweddol yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25.
Cyn imi droi at feysydd penodol yn ein hadroddiad, hoffwn ddiolch o'r cychwyn cyntaf i'r rhai sydd wedi ymgysylltu â'r pwyllgor ers inni gynnal ein sesiynau cyntaf ar y gyllideb hon yn ôl ym mis Mehefin y llynedd. Roedd nifer yr ymatebion i'n hymgynghoriad ysgrifenedig y mwyaf rydym wedi eu cael yn y chweched Senedd hyd yma, sy'n arwydd o gryfder y teimlad a'r pryder sy'n bodoli yng Nghymru ynglŷn â goblygiadau'r penderfyniadau ariannu yr ydym yn eu gwneud heddiw a dros yr wythnosau nesaf. Rydym yn croesawu ymgysylltu ar y lefel hon am ei fod yn hanfodol fel canllaw i ystyriaethau'r pwyllgor ac o ran cyfoethogi ein casgliadau a'n hargymhellion. Ein gobaith, o ganlyniad, yw bod ein hadroddiad yn gwneud cyfiawnder â'r safbwyntiau gafodd eu mynegi ac ymdrechion pobl a sefydliadau ledled Cymru i ymgysylltu â ni.
Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau dechrau drwy gydnabod nad yw hon yn gyllideb hawdd i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gwelsom wendidau mewn sawl maes allweddol o'r gyllideb ddrafft, sy'n bwrw amheuaeth ynghylch a yw'n cyflawni prif amcanion y Gweinidog.
Yn gyntaf, mae marciau cwestiwn ynghylch a yw lefelau cyllido o fewn y gyllideb ddrafft yn ddigonol i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, sy'n un o egwyddorion arweiniol Llywodraeth Cymru. Mae'r pwyllgor yn arbennig o bryderus am y diffygion ariannol sy'n wynebu gwasanaethau rheng flaen a ariennir gan awdurdodau lleol, yn enwedig addysg, tai a gofal cymdeithasol. Pan siaradais yn y Siambr hon fis Gorffennaf diwethaf yn ystod dadl y pwyllgor ar flaenoriaethau'r gyllideb, dywedais yn glir bod angen cyllid digonol ar lywodraeth leol i gyd-fynd â'r pwysau polisi a gwasanaethau y maent yn eu hwynebu. Yn anffodus, ymddengys nad yw pethau wedi symud ymlaen ers hynny. Dyna pam rydym wedi gofyn i'r Gweinidog egluro sut mae'r gyllideb ddrafft hon yn diogelu'r gwasanaethau rheng flaen craidd hynny.
Mae gan y pwyllgor bryderon hefyd ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyllid y GIG heb gynnydd cyfrannol mewn dyraniadau ar gyfer gofal cymdeithasol, yn enwedig gan fod cysylltiad annatod rhwng y ddau ac y gallai mwy o bwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol greu pwysau ychwanegol ar y GIG.
Roedd gennym bryderon hefyd ynghylch materion gweithlu o fewn gwasanaethau rheng flaen, yn enwedig o ran recriwtio a chadw o fewn y sectorau gofal cymdeithasol ac iechyd. Roeddem felly yn siomedig bod toriadau wedi eu gwneud i grant datblygu gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru, cynllun a gynlluniwyd i fynd i'r afael â phwysau'r gweithlu, a gofynwn i'r Gweinidog esbonio pam y gwnaed y penderfyniad hwn, o ystyried y pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r sector hwnnw.
Rwy'n deall bod pryderon tebyg wedi'u mynegi gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac rwy'n falch bod tir cyffredin rhwng y pwyllgorau ar y pwynt hwnnw. Ond rwy'n croesawu'r sylwadau y prynhawn yma ynglŷn â'r £25 miliwn o gyllid canlyniadol a allai ddod. Felly, byddaf yn edrych ymlaen at ddarllen y datganiad hwnnw yn nes ymlaen, yn ystod y dyddiau nesaf.
Gwnaethom hefyd edrych ar effaith penderfyniad y Gweinidog i ddyrannu cyllid ychwanegol i rai meysydd gwasanaeth craidd. Er bod gan y dull gweithredu ei rinweddau, teimlai'r pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi methu â nodi sut y bydd yn sicrhau monitro canlyniadau yn effeithiol yn ystod y flwyddyn o'u cymharu â gwariant. O ganlyniad, rydym wedi gofyn i'r Gweinidog ddarparu'r wybodaeth hon mewn cysylltiad â'r dyraniadau a wnaed o fewn y gyllideb ddrafft i GIG Cymru a Trafnidiaeth Cymru.
Yn ail, rydym yn bryderus yn sgil tystiolaeth sy'n awgrymu bod penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru yn debygol o gael effaith anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ar adeg pan fo ei angen fwyaf. Mae'r Gweinidog yn honni y bydd y gyllideb ddrafft yn sicrhau'r budd mwyaf i'r aelwydydd sy'n cael eu taro galetaf. Ond clywsom dystiolaeth a oedd yn cwestiynu hyn. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym fod penderfyniadau i ariannu gwasanaethau rheng flaen wedi dod ar draul mesurau tymor hwy i liniaru achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb, ac y bydd hyn yn effeithio'n anghymesur ar fenywod. Felly, rydym eisiau i'r Gweinidog asesu effaith ei phenderfyniadau cyllidebol ar fentrau sy'n amddiffyn pobl rhag caledi. Mae hyn yn cynnwys edrych eto ar effaith y gyllideb ar y gronfa cymorth dewisol, grant dysgu Llywodraeth Cymru, y trothwyon ar gyfer prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, i weld a ellir ei ymestyn i blant y mae eu rhieni'n derbyn credyd cynhwysol, y rhaglen Cartrefi Clyd a chartrefi fforddiadwy.
Rydym hefyd yn synnu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu symud £11 miliwn o gyllid i ffwrdd o'i chynnig gofal plant. Er ein bod yn deall bod hyn oherwydd diffyg galw, rydym yn pryderu y gallai'r ffordd y mae'r cynllun yn cael ei ddylunio a'i weithredu fod yn atal rhieni rhag cael gafael ar gymorth. Gofynnom hefyd i'r Gweinidog ddarparu rhagor o wybodaeth i esbonio'r effaith ar feysydd eraill o'r gyllideb os bydd nifer y rhai sy'n manteisio ar y cynnig yn cynyddu.
Hefyd, er bod y pwyllgor yn falch o weld lansiad siarter budd-daliadau Cymru y mis diwethaf, a fydd yn helpu i ddarparu system gydlynol o gefnogaeth i'r rhai mwyaf anghenus, mae angen mwy o wybodaeth cyn y gallwn asesu a yw'n llwyddiannus ai peidio. Ar fater cysylltiedig, er ein bod yn cydnabod yn anffodus y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu taliadau am rai gwasanaethau cyhoeddus i lenwi diffygion ariannol, nid ydym yn credu y dylai hyn effeithio ar y rhai mwyaf anghenus, ac yn galw ar y Gweinidog i sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu diogelu pe bai'r polisi hwn yn cael ei ddilyn.
Y trydydd maes sy'n peri pryder i'r pwyllgor yw absenoldeb meddwl strategol o fewn Llywodraeth Cymru ynghylch cyllido ei mesurau ataliol hirdymor. Ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am rywfaint o'r cyd-destun ynghylch hyn y prynhawn yma. Ond ni chawsom sicrwydd o sylwadau'r Gweinidog fod blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd ynddo'i hun yn weithred atal, ac yn teimlo mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd yn y ddogfennaeth a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft sy'n dangos sut mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu cydbwyso gan amcanion hirdymor strategol sy'n canolbwyntio ar atal. Dyna pam rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i asesu effaith y penderfyniad i ailflaenoriaethu cyllid o fesurau ataliol, yn enwedig ar gynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau.
O ran mesur effaith, rwy'n falch o ddweud bod arwyddion o gynnydd, ac rydym yn croesawu penderfyniad y Gweinidog i adolygu'r cynllun gwella cyllideb a'i asesiad effaith integredig strategol. Fodd bynnag, mae meysydd o'r gyllideb o hyd lle gellid gwneud mwy i egluro effaith penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys rhoi manylion yr holl feysydd nad ydynt wedi'u datganoli lle bydd cyllid yn cael ei ailflaenoriaethu, gan egluro pam mae'r galw yn llai mewn rhai meysydd a'i effaith gyllidebol, gan egluro sut y caiff Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ei hystyried wrth wneud penderfyniadau cyllidebol, cyhoeddi canlyniadau'r ddau gynllun treialu cyllidebu rhywedd sydd ar ôl gyda'r bwriad o brif ffrydio cyllidebu rhywedd ar draws Llywodraeth Cymru, ac egluro effaith yr erydiad yng ngwerth cyllidebau cyfalaf Llywodraeth Cymru ar y prosiectau y bydd angen eu lleihau neu eu canslo'n gyfan gwbl.
Dirprwy Lywydd, hoffwn symud i feysydd eraill o'n hadroddiad. Byddai'r pwyllgor yn hoffi i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy o wybodaeth o fewn y flwyddyn a fyddai'n galluogi'r Senedd i ddeall ei safbwynt cyllido a sut mae'n dylanwadu ar benderfyniadau gwariant. Mae hyn yn cynnwys archwilio rhannu data yn rheolaidd i roi trosolwg o sut mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen o gymharu â'i phroffiliau gwariant o fewn y flwyddyn, a darparu mwy o eglurder ar effaith chwyddiant ar gyllidebau datganoledig.
Yn olaf, mae'r pwyllgor hwn wedi beirniadu'n rheolaidd yr amser sydd ar gael i bwyllgorau'r Senedd graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod y ffaith mai amseriad y digwyddiadau cyllidol yn San Steffan, sy’n cael ei bennu gan y Trysorlys, sy’n dylanwadu’n bennaf ar yr amseriad ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft, ond rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd o weithio gyda phwyllgorau’r Senedd cyn rowndiau’r gyllideb yn y dyfodol i gynyddu’r cyfleon sydd gan bobl i ddweud eu dweud am y newidiadau sy’n effeithio arnyn nhw. Rwyf hefyd yn falch ein bod ni wedi bod yn gallu parhau â'r drafodaeth ar y budget protocol.
Rwyf hefyd yn ymwybodol, o siarad â chydweithwyr ar bwyllgorau eraill, fod problemau gydag ansawdd a chywirdeb y dystiolaeth ategol y mae Gweinidogion unigol wedi ei darparu yn ymwneud â’u meysydd portffolio. Mae hyn yn amlwg yn siomedig ac yn dangos bod gwaith i’w wneud i wella’r broses o rannu tystiolaeth sy’n ymwneud â’r gyllideb, a’n nod yw parhau â’n deialog â phwyllgorau ar y mater hwn.
I gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn adleisio teimladau a fynegwyd ar ddechrau fy nghyfraniad. Rwyf bob amser yn dweud, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, y byddaf yn cael fy arwain gan farn y rhai sydd wedi cymryd yr amser i ymgysylltu â ni. Mae gwneud hynny'n cymryd cryn dipyn o amser, arbenigedd ac ymdrech. Nid yw adroddiad eleni yn wahanol, ac mae’r dystiolaeth bwerus a gawsom gan amrywiaeth o unigolion a sefydliadau wedi bod yn allweddol i’n casgliadau a’n hargymhellion.
Nid oes dim amheuaeth bod hwn yn gyfnod anodd a bod yn rhaid i ddewisiadau anodd gael eu gwneud. Rydym o’r farn bod gan y Gweinidog dipyn o ffordd i fynd cyn y bydd y gyllideb ddrafft hon yn gwneud beth mae’n dweud ar y tun ac yn diogelu’r gwasanaethau sydd fwyaf pwysig i bobl Cymru. Rydym yn galw ar y Gweinidog i roi sylw i’r adroddiad hwn er mwyn sicrhau bod y gyllideb ddrafft yn gweithio i’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Peter Fox i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am y datganiad. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft hon, gan gynnwys yr holl bwyllgorau ac, mae'n rhaid dweud, y clercod o'r radd flaenaf am eu gwaith amhrisiadwy. Mae mor bwysig bod rhanddeiliaid a'r bobl yn dweud wrthym beth maen nhw'n ei deimlo a sut y bydd penderfyniadau'r Llywodraeth yn effeithio arnyn nhw. Gallwn weld o adroddiad y Pwyllgor Cyllid fod llawer o bryderon.
Bob wythnos, rydym yn clywed am bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael meddyg teulu i'w gweld neu'n aros am driniaeth, neu am ddiffyg pecynnau gofal cymdeithasol neu fynediad at ofal plant fforddiadwy, neu fynediad i gartref. Rydym yn clywed sut mae busnesau'n cau eu drysau oherwydd diffyg cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, neu sut mae cymunedau'n dod yn fwy ynysig o ganlyniad i drafnidiaeth gyhoeddus wael. Rydym yn clywed ofnau gan ein cymunedau ffermio a gwledig bod eu busnesau, eu ffordd o fyw a'n diogeledd bwyd yn cael eu bygwth gan bolisïau’r Llywodraeth.
Ateb parod Llywodraeth Cymru i lawer o'r pethau hyn yw nad oes ganddyn nhw'r arian—bai Llywodraeth y DU yw hynny. Y ffaith yw, y bu codiadau mewn arian—cannoedd o filiynau o bunnau, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ac fel y mae pob teulu yn gwybod, pan fydd hi'n gyfnod anodd, mae'n rhaid i chi dorri'r got yn ôl y brethyn, ond sut rydych chi'n dewis ei dorri yw eich penderfyniad chi. Mae'r llywodraeth ar bob lefel yn gwneud dewisiadau ac mae'n rhaid iddynt fod yn atebol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei dewisiadau yn y gyllideb hon ac ni all barhau i feio San Steffan am ei methiannau. Mae bwrw'r bai fel hyn yn llen i guddio degawdau o gynllunio strategol gwael a dewisiadau a phenderfyniadau'r Llywodraeth. Mae'n dda iawn bod Cymru'n derbyn £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario y pen ar iechyd ac addysg yn Lloegr, ond mae'r Llywodraeth wedi gwario'r arian ychwanegol ar bethau eraill—rydyn ni'n gwybod hynny. Pe bai arian wedi'i wario lle y dylid fod wedi'i wario, ni fyddai ein rhestrau aros wedi bod mor hir, ni fyddai ein byrddau iechyd o dan yr un pwysau ariannol, byddai ein canlyniadau addysg yn well ac ni fyddai ein seilwaith yn y fath gyflwr.
Mae naratif y gyllideb yn dweud bod y Llywodraeth eisiau canolbwyntio ar gyllido'r gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru, ond nid yw wedi gwneud hynny. Edrychwch ar setliad llywodraeth leol ar 3 y cant—toriad enfawr, mewn termau real a fydd yn golygu y bydd cynghorau'n ei chael hi'n anodd darparu gwasanaethau hanfodol. Fel y dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y Pwyllgor Cyllid, mae'r 3 y cant
'dim ond tua thraean o'r pwysau sy'n wynebu gwasanaethau lleol, felly bydd yn anochel yn golygu dewisiadau anodd, colli swyddi a thoriadau i wasanaethau,'
ac rydym yn gwybod, codiadau enfawr yn y dreth gyngor. Gadewch i ni fod yn glir: mae Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo'r baich i'n cynghorau, gan wybod yn iawn y bydd cynnydd yn y dreth gyngor yn dilyn a phobl Cymru fydd yn talu'r pris. Nid yw hon yn ddim byd ond treth lechwraidd.
Rwy'n croesawu'r cynnydd mewn cyllid ar gyfer gofal iechyd eleni. Mae angen hyn yn fawr ac mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd. Ond y gwir syml yw y dylai'r cyllid hwn fod wedi cael ei fuddsoddi flynyddoedd yn ôl, er mwyn trwsio'r methiannau systemig a welwn bellach sydd wedi lleihau'r cydnerthedd yn ein gwasanaeth iechyd. Yn 2022-23, gwelodd y diffyg canolbwyntio ar yr hirdymor £325 miliwn yn cael ei wario ar staff asiantaeth ar draws y GIG.
Gwyddom hefyd, ar hyn o bryd, fod tua 1,500 o bobl yn aros i gael eu rhyddhau o'r ysbyty oherwydd heriau capasiti yn y sector gofal cymdeithasol. Nid yw'r gyllideb yn cydnabod hyn. Yn wir, mae'r Pwyllgor Cyllid a'r rhanddeiliaid, fel y clywsom, yn pryderu bod y Llywodraeth wedi cynnig cynnydd i gyllid y GIG heb unrhyw gynnydd cymesur ar gyfer gofal cymdeithasol. Maen nhw'n credu bod prinder meddwl strategol yma, gan fod mwy o bwysau mewn gofal cymdeithasol yn arwain at fwy o bwysau yn y GIG. Croesewir cyhoeddiad y Gweinidog heddiw ynghylch y £25 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol, ond dim ond piso dryw yn y môr yw hwn pan wyddom fod y pwysau gofal cymdeithasol yn unig, y mae llywodraeth leol yn ei wynebu ar hyn o bryd, oddeutu £260 miliwn.
Yn amlwg, os ydym am fynd i'r afael â'r materion iechyd a gofal cymdeithasol hyn, mae angen diwygiadau sefydliadol arnom, gan gynnwys polisïau ystyrlon, megis ein cynllun gweithlu sylweddol—rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw amdano dro ar ôl tro i fynd i'r afael â diffyg staffio cronig yn y sector. Mae angen strategaeth adfer gadarn, un y gall y cyhoedd ei deall ac sy'n rhoi rhywfaint o obaith iddynt y bydd pethau'n gwella. Mae angen i ni sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn cael ei gyllido'n ddigonol, ac, yn hollbwysig, bod y cyllid hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n dda. Mae'n rhaid codi safonau er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn cael y gofal iechyd y maen nhw'n ei haeddu.
Dirprwy Lywydd, mae Cymru hefyd yn cael ei dal yn ôl gan bolisïau gwael sy'n lleddfu twf economaidd, yn enwedig o ran seilwaith trafnidiaeth. Dywedodd Sefydliad y Peirianwyr Sifil wrth y pwyllgor newid hinsawdd fod diffyg trosolwg o wendidau rhwydweithiau seilwaith Cymru wedi creu bylchau yn ein dull o amddiffyn seilwaith hanfodol. Maen nhw'n mynd ymlaen i dynnu sylw at y broblem gynyddol ar goridor yr M4 a'r A55. Ond yn hytrach na buddsoddiad hanfodol sy'n canolbwyntio ar rymuso ein gwlad a'i heconomi, yr hyn a welwn yw canslo sawl prosiect ffordd, terfyn cyflymder 20 mya diofyn niweidiol, adnoddau gwefru cerbydau trydan annigonol a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n lleihau. Lle mae'r strategaeth gydlynol ar gyfer polisi trafnidiaeth o fewn y gyllideb hon?
Wrth edrych yn ehangach ar yr economi, bydd yn rhaid i fusnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden dalu dwbl yr ardrethi busnes y byddent yn eu talu yn Lloegr, oherwydd mae'r Llywodraeth hon yn gwrthod trosglwyddo'r un rhyddhad, er bod y cyllid ar gael. Dyma'r un sefyllfa yn y sector gofal plant: £180 miliwn o gyllid canlyniadol ar gael i gefnogi rhieni i fynd yn ôl i'r gwaith drwy ddarparu'r 30 awr hynny o ofal plant am ddim i blant dros naw mis oed o fis Medi 2025, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad gweithredol i beidio â gweithredu'r un pecyn cymorth yma yng Nghymru.
Byddant yn gofyn i mi sut y byddwn yn talu am hyn—rwyf eisoes wedi gofyn hyn—i ni ei ystyried, yn hytrach. Mae'n gwestiwn roeddwn i'n arfer ei ofyn i'r gwrthbleidiau pan oeddwn yn arweinydd cyngor, gan wybod yn iawn na fyddai ganddyn nhw fynediad at yr adnoddau a'r llinellau cyllideb manwl yr oedd eu hangen arnyn nhw. Gadewch i ni gael mynediad at eich gwaith a'ch adnoddau a byddwn yn herio meysydd gwario yn gadarn, ailalinio, ail-flaenoriaethu a symud arian i'r blaenoriaethau a'r pwysau allweddol, uniongyrchol, ac yn mynd i'r afael â'r pethau sydd bwysicaf i'r bobl. Mae angen cynllunio cadarn a strategol ar Gymru sy'n cwmpasu dull gweithredu Llywodraeth gyfan o ran strategaeth ariannol, yn hytrach na phwyslais cyllidebu adrannol difeddwl, digyswllt ar hoff brosiectau. Rhaid i'r wlad weld cynllun i roi gobaith yn ôl i bobl Cymru, un sy'n ailadeiladu ac yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus, yn cefnogi busnesau, yn creu ac yn hyfforddi gweithlu'r dyfodol ac yn tyfu ein heconomi; un sy'n ailadeiladu ein GIG, yn cynyddu darpariaeth gofal cymdeithasol ac yn cyllido ysgolion yn iawn.
Yn anffodus, nid oes gan Lywodraeth Cymru y weledigaeth sydd ei hangen, fel y gwelir gan gyhoeddiadau fel toriadau o 10,000 i brentisiaethau, torri cyllid i addysg bellach, neu ddargyfeirio arian i ffwrdd o'r cynnig gofal plant tra bod rhieni'n gweiddi am fwy o ddarpariaeth, ac mae lleoliadau meithrin yn cael trafferth goroesi. Ni allwn ddadwneud methiannau Llafur dros nos, ond gallwn adeiladu gwasanaethau cyhoeddus gwell a mwy cydnerth drwy gynllunio strategol hirdymor gyda blaenoriaethau priodol. Dirprwy Lywydd, credwn fod y gyllideb hon yn methu â chyflawni o ran blaenoriaeth pobl Cymru, ac rwy'n cynnig gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig.
Dwi'n croesawu'r cyfle i graffu ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth, ac mae yna lawer iawn wedi digwydd ers cytuno'r gyllideb ddiwethaf, ond mi allwn ni ddadlau bod y cyd-destun yn debyg iawn mewn llawer ffordd. Heb os, mae hon yn gyllideb a wnaed mewn cyfnod anodd ar gyfer cyfnod anodd. Mae'n adlewyrchu cyfyngiadau ein setliad cyllido ac rydym wedi gweld
'camreoli cyllid cyhoeddus ysgytwol gan Lywodraeth y DU.'
Nid fy ngeiriau i, ond dadansoddiad y Gweinidog ar 7 Mawrth y llynedd pan gytunwyd y gyllideb ddiwethaf. Ac eto, heddiw, dyma ni yn yr un sefyllfa, yn ailadrodd yr un ansoddeiriau er mwyn adlewyrchu annhegwch y setliad ariannol i Gymru.
Cyllideb Llywodraeth Lafur Cymru ydy hon, ac yn hynny o beth, mae'n rhaid iddyn nhw berchnogi a chyfiawnhau'r hyn sydd o'n blaenau ni, ond dwi'n llawn gydnabod yr heriau sydd yn wynebu Gweinidogion Cymru. Mae agenda llymder y Lywodraeth Geidwadol a'u camreolaeth affwysol nhw o'r economi wedi golygu bod yn sylweddol llai o arian ar gael i'w wario, er bod y pwysau ar gynnal gwasanaethau yn dwysáu.
Pan fydd hi'n wleidyddol gyfleus i Lywodraeth Prydain agor y pwrs cyhoeddus, mae'r arian fel pe bai o ar gael—rydyn ni'n gweld hynny mor aml. Dwi ddim yn gwarafun ceiniog, gyda llaw, o'r £3 biliwn ychwanegol sydd wedi mynd i Ogledd Iwerddon sydd wedi helpu datgloi datganoli yng Ngogledd Iwerddon, ond mae hi'n gwbl annerbyniol nad ydy anghenion Cymru hefyd yn cael eu hystyried yn y setliad gan San Steffan.
Nawr, ni ellir gorbwysleisio canlyniadau'r byd go iawn o danariannu Cymru. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi amcangyfrif y bydd incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru £10,300 yn is erbyn 2027 na phe bai tueddiadau cyn yr argyfwng wedi'u cynnal, ac, fel y mae adroddiad y prif economegydd yn nodi, rhagwelir y bydd incwm cyfartalog yng Nghymru yn ystod 2024 fwy na 2 y cant yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Mae angen model ariannu tecach arnom ar gyfer Cymru.
Fel y nodwyd gan gomisiwn Holtham, nid yw Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, fformiwla Barnett ar gyfer y Senedd, a osodir heb unrhyw fewnbwn gan Weinidogion Cymru, yn addas i'r diben o fynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol Cymru. Er gwaethaf yr ystod o feysydd polisi y mae gan y Senedd gyfrifoldeb drostynt nawr, mae ei phŵer gwariant yn seiliedig ran amlaf o lawer ar grant sefydlog na all ei newid yn sylweddol oherwydd cyfyngiadau cynhenid ei ysgogiadau dros drethu a benthyca.
Pan feddyliwch chi am anghyfiawnderau penodol, gadewch iddo dreiddio i'r cof, y byddai'r symiau canlyniadol o HS2, y mae pob Aelod yn y Siambr hon yn cytuno sy'n ddyledus i Gymru, nid yn unig yn gwneud iawn am y toriadau i'r gyllideb, ond byddai hefyd yn darparu mwy na £2.5 biliwn mewn cyllid ychwanegol. Prin y gall Rishi Sunak guddio ei ddirmyg tuag at Gymru drwy beidio â throsglwyddo'r arian ymlaen, ond Keir Starmer, os yw'n dymuno bod yn Brif Weinidog y DU cyn diwedd eleni, mae angen i ni ei weld yn dod o hyd i'w gwmpawd moesol gan addo unioni camwedd y Toriaid—a gwn fod llawer ar y meinciau Llafur yma yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw.
Er ei bod yn iawn ein bod yn amlygu methiannau trychinebus Llywodraeth y DU wrth erydu pŵer gwariant y Senedd, nid yw hynny'n golygu y bydd penderfyniadau yma yng Nghymru, a wneir yng Nghymru, o reidrwydd yn arwain at y canlyniad gorau posibl, dyweder. Bydd cyllidebau awdurdodau lleol yn dal i gael eu gwasgu hyd yn oed ymhellach, gyda phreswylwyr yn gorfod talu'r dreth gyngor uwch gan barhau i ddioddef gwasanaethau o safon is—rhywbeth nad yw unrhyw arweinydd y cyngor eisiau ei weld. Dim ond yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd adroddiad gan ASau yn San Steffan fod yr argyfwng ariannol sy'n wynebu cynghorau yn Lloegr allan o reolaeth, wrth iddyn nhw alw ar y Llywodraeth i lenwi bwlch o £4 biliwn. Nawr, gyda Chymru ar drugaredd cymaint o benderfyniadau ariannol mawr a wnaed yn San Steffan, pa obaith sydd gan gynghorau Cymru o oroesi'r storm hon?
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi amcangyfrif y gallai'r bwlch cyllido sy'n wynebu awdurdodau lleol gyrraedd £740 miliwn erbyn 2027-28, yn seiliedig ar drywyddau presennol. Nawr, er bod bron pob cyllideb wedi'i gwasgu ac mae gan bob maes portffolio hawliad dilys ar unrhyw arian ychwanegol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, rwy'n pwyso arnoch chi yr angen brys i flaenoriaethu awdurdodau lleol i ddiogelu cymaint o wasanaethau rheng flaen â phosibl.
Ein dewis ni yw y byddai cynnydd cyffredinol mewn cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn cynnwys codi'r cyllid gwaelodol o 2 y cant i o leiaf 3 y cant, a fyddai o fudd sylweddol i lawer o awdurdodau lleol—y rhai a gafodd eu taro galetaf, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig. Ond beth bynnag mae'r Gweinidog yn penderfynu ei wneud, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn anffodus nad ydym yn gwybod o hyd, nad oes gennym yr eglurder, nid oes gennym y sicrwydd y byddem ei eisiau ar hyn o bryd, y gellir rhoi cymorth ychwanegol i lywodraeth leol neu ar ba lefel y bydd y cymorth ychwanegol, oherwydd rydym yn mynd yn agos iawn, iawn at y pwynt o bennu cyllidebau a gosod y dreth gyngor mewn rhai awdurdodau lleol, a bod angen eglurder ar frys go iawn.
Mae'n amlwg bod y Llywodraeth wedi gwneud dewis ymwybodol i flaenoriaethu iechyd a gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth, sydd o reidrwydd wedi arwain at ddargyfeirio arian o bortffolios eraill. Rwy'n gwybod na fydd y penderfyniadau hyn wedi'u gwneud ar chwarae bach. Rwyf hefyd yn cydnabod yn llawn y realiti, o ran dosbarthu bloc mor gyfyngedig a sefydlog o arian, yn enwedig ar adegau fel y rhain, y bydd rhywfaint o flaenoriaethu yn anochel, ond yr hyn rwy'n llai argyhoeddedig yn ei gylch yw bod y broses flaenoriaethu wedi bod cystal ag y gall fod, ac mae angen i ni fod yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif am y blaenoriaethau a'r penderfyniadau y mae eisoes wedi'u gwneud ac annog newidiadau.
O ran iechyd a thrafnidiaeth, rydym yn gweld ailadrodd ailddyrannu a wnaed o'r blaen: £425 miliwn a £125 miliwn yn y drefn honno i iechyd a thrafnidiaeth a gyhoeddwyd ym mis Hydref ar draul portffolios eraill, a nawr rydym yn edrych ar ddyraniad pellach o £450 miliwn ar gyfer iechyd, £111 miliwn ar gyfer trafnidiaeth, sydd wedi'u hariannu'n bennaf gan doriadau dyfnach fyth i feysydd polisi eraill sydd wedi'u tangyllido'n barhaol.
Bydd fy nghyd-Aelodau Mabon ap Gwynfor a Delyth Jewell yn trafod dimensiynau iechyd a thrafnidiaeth y gyllideb yn fanylach, ond digon yw dweud nad yw hyn yn adlewyrchu'n dda ar allu'r Llywodraeth i gynllunio cyllideb ar gyfer y tymor hir. Byddai ail-flaenoriaethu mor ddifrifol, wrth gwrs, yn fwy goddefgar pe baent yn cyflawni gwelliannau sylweddol yn ein gwasanaethau iechyd a thrafnidiaeth gyhoeddus, ond fel y dysgom ni yn sgil yr ymarfer ail-gyllidebu ym mis Hydref, mae'r arian ychwanegol sydd wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd a thrafnidiaeth yn cael ei ddefnyddio dim ond i lenwi bylchau cyllidebol presennol sydd wedi tyfu'n sylweddol dros gyfnod o flynyddoedd lawer o dan y Llywodraeth hon. Dyma'r anghynaliadwyedd yr ydym yn siarad amdano mor aml.
Yn achos iechyd, datgelodd adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru fod chwech o'r saith prif fwrdd iechyd wedi torri eu dyletswydd statudol i fantoli'r gyllideb yn ystod 2022-23, gan arwain at ddiffyg cyfunol o dros £150 miliwn. Cyrhaeddodd gwariant ar staff asiantaethau, y cyfeirir ato mor aml, y lefel uchaf erioed sef £325 miliwn yn 2022-23, sydd wedi'i achosi'n bennaf gan fylchau swyddi gwag sy'n ehangu'n barhaus o fewn gweithlu'r GIG.
Yn y cyfamser, mae'r £236 miliwn cyfunol sydd wedi'i roi yn gyfan gwbl i wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, heb ddim dros ben ar gyfer gwasanaethau bysiau y mae'r rhan fwyaf o Gymru yn dibynnu arnynt, ar gyfer mynd i'r afael â'r diffyg enfawr sydd wedi dod i'r amlwg rhwng nifer y teithwyr a ragwelir a gwerthiant tocynnau gwirioneddol. Dylid cyd-destunoli hyn yn erbyn hanes diysgogiad Trafnidiaeth Cymru o ran bodlonrwydd cwsmeriaid, eu hanes o ran prydlondeb a chanslo yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae yna elfennau o'r gyllideb i'w croesawu. Er gwaethaf toriad cyffredinol i faterion gwledig, sy'n anffodus ac yn rhywbeth y mae fy mhlaid wedi gwneud sylwadau arno'n eang, mae diogelu'r cynllun taliadau sylfaenol yn rhywbeth yr oedd fy mhlaid yn falch iawn o allu dylanwadu arno. Mae hynny'n werth £238 miliwn, a Duw a ŵyr, mae'n arian y mae sector dan bwysau ei angen.
Rwy'n cydnabod, Dirprwy Lywydd, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru basio ei chyllideb, ond ein dyletswydd ni, ein rôl ar y meinciau hyn, yw craffu mor ofalus ag y gallwn ni lle mae arian yn cael ei wario, i amlygu ble rydyn ni'n credu y gellir ac y dylid gwneud newidiadau, anfon Gweinidogion yn ôl i feddwl eto—ac rydyn ni'n gwneud hynny'n gyson, ond rhaid i Weinidogion edrych eto ar eu cynlluniau gwariant—a gofyn y cwestiynau treiddiol sy'n rhoi'r sicrwydd na fydd y rhai mwyaf difreintiedig ar eu colled ymhellach, na fydd y busnes hwnnw yn disgyn oddi ar glogwyn wrth i ardrethi busnes gynyddu, ac nad effeithir yn andwyol ar ddyfodol ein pobl ifanc oherwydd toriadau i brentisiaethau.
Mae hon, Ddirprwy Lywydd, yn gyllideb unwaith eto ar gyfer amseroedd caled, wedi'i gwneud yn galetach gan benderfyniadau Llywodraeth Geidwadol sy'n poeni dim am Gymru. Ond y cwestiwn i Lywodraeth Cymru ydy a ydy hi wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i liniaru y setliad ariannol annheg hwnnw—cydbwyso anghenion pob portffolio a rhoi tegwch ac uchelgais wrth galon yr hyn mae hi'n ceisio ei gyflawni. Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi, a dwi'n gofyn i'r Llywodraeth ddefnyddio'r amser rhwng heddiw a'r bleidlais ar y gyllideb derfynol i ailystyried y materion hynny yr ydw i, ac y bydd fy nghyd-Aelodau o Blaid Cymru, yn eu hamlygu y prynhawn yma.
Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Jayne Bryant.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyn i mi wneud fy sylwadau sylweddol, rwyf am gydnabod mai hon yw'r gyllideb anoddaf ers dechrau datganoli. Fel pwyllgor, yn y cyd-destun hwn aethom ati i graffu ar ein cyllideb. Rydym yn cydnabod y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud rhai penderfyniadau na fyddai'n eu gwneud mewn hinsawdd ariannol wahanol. Mae ein sesiynau craffu a'n hargymhellion yn cael eu llunio o fewn y cyd-destun hwnnw.
Hoffwn gofnodi fy niolch i a diolch ein pwyllgor i'r Gweinidogion a'r swyddogion perthnasol am ymgysylltu â sesiynau craffu'r pwyllgor mewn modd adeiladol. Rydym hefyd yn croesawu'r briff technegol gan y swyddogion ar y dull o ymdrin â'r asesiad effaith integredig sengl, a hoffwn hefyd ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am eu hymgysylltiad cadarnhaol. Nid oes gennym amser heddiw i siarad am yr holl faterion a drafodwyd yn ein hadroddiad, er enghraifft lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion, sy'n bryder enfawr eto eleni. Felly, byddaf yn canolbwyntio drwy dynnu sylw at bwysigrwydd sut rydym yn defnyddio'r cyllid sydd ar gael i ni yng Nghymru er mwyn sicrhau'r gefnogaeth orau posibl i'n plant a'n pobl ifanc.
Eleni, mae gwariant ar blant wedi cael ei effeithio mewn nifer o feysydd polisi. Rydym wedi dadlau'n gyson dros wariant mwy tryloyw ar blant, o gofio, er enghraifft, bod mwy na £10 biliwn o gyllid cyhoeddus nad yw'n cael ei neilltuo i fyrddau iechyd. Felly, heddiw rwy'n tynnu sylw at ein siom barhaus nad oes asesiad o'r effaith ar hawliau plant yn sail i'r gyllideb. Mae asesiad o'r effaith ar hawliau plant yn hanfodol i'r Llywodraeth, y Senedd, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach, i'n helpu i ddeall effaith penderfyniadau cyllidebol ar blant a phobl ifanc.
Y llynedd, yn yr un ddadl, amlygais, pe na bai asesiad o'r effaith ar hawliau plant yn cael ei gyhoeddi eleni, mai hon fyddai'r degfed flwyddyn yn olynol i Lywodraeth Cymru beidio â gwneud hynny, ac mae hyn er gwaethaf nodi mai cynhyrchu a chyhoeddi asesiad effaith o'r fath yw sut mae'n cydymffurfio â'i dyletswydd gyfreithiol i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn yr holl benderfyniadau a wna. Mae'n ddrwg iawn gennyf eto fy mod yn gorfod tynnu sylw at y garreg filltir hon mewn perthynas â'r hyn rydym yn ei wario ar blant—gellid dadlau mai dyma'r penderfyniad pwysicaf y bydd unrhyw lywodraeth yn ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod realiti amlwg yr amgylchiadau ariannol eithriadol hyn yn golygu bod angen dull mwy sylfaenol arni. Fodd bynnag, ein barn ni yw, pan fydd pwrs y wlad yn dynn, yn fwy nag erioed, fod yn rhaid i ni fod yn drylwyr wrth sicrhau nad yw hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu bwrw i'r cysgod gan y sefyllfa i oedolion.
Nid ydym yn cytuno â rhesymeg Llywodraeth Cymru nad oes angen asesiad o'r effaith ar hawliau plant ar wahân. Fel y dywedais ar y dechrau, rydym yn ymwybodol iawn o heriau'r hinsawdd ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi'r gyllideb ddrafft hon ynddi. Fel yr ydym wedi trafod yn y Siambr hon nifer o weithiau yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae mwy o blant a phobl ifanc yn byw mewn tlodi nag unrhyw grŵp oedran arall, ac mae effeithiau tlodi yn torri ar draws pob agwedd ar eu bywydau ac yn parhau i gael effaith ymhell ar ôl iddynt dyfu i fyny. Yn y cyd-destun hwn mae'n rhaid inni fod yn drylwyr wrth sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu cynnal, a dyna pam, yn unol ag erthygl 4 o'r confensiwn, fod angen clir am asesiad seiliedig ar ffeithiau o'r uchafswm adnoddau sydd ar gael sy'n cael eu gwario ar blant. Nid ydym yn credu bod hyn yn bosibl heb asesiad o'r effaith ar hawliau plant, a dyma farn amrywiaeth o elusennau plant dan arweiniad Plant yng Nghymru hefyd.
Yn olaf, hoffwn adleisio barn y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill ar bwysigrwydd monitro canlyniadau yn effeithiol yn erbyn gwariant ariannol. Mae nifer cynyddol o grantiau ar gyfer plant yn cael eu cyfuno ar draws addysg a gofal cymdeithasol plant, gan gynnwys y grant plant a chymunedau, sydd werth £175 miliwn erbyn hyn. O'r flwyddyn nesaf ymlaen, gallwn weld bod ffrydiau ariannu gwerth £379 miliwn o fewn y prif grŵp gwariant addysg a'r Gymraeg wedi cael eu cyfuno'n un grant addysg cyn-16 awdurdod lleol. Rhaid i fecanweithiau cadarn i fonitro canlyniadau i blant gael eu rhoi ar waith ar gyfer y grantiau mawr hyn, ac ar gyfer holl wariant Llywodraeth Cymru, gan gynnwys mwy o wariant ar y GIG. Mae hyn yn bwysig iawn, yn enwedig mewn cyfnod economaidd bywiog, ond mae'n dod hyd yn oed yn fwy hanfodol yn y stormydd ariannol presennol. Fel y nodwyd gennym yn argymhelliad 1 o'n hadroddiad, rhaid i hyn fynd y tu hwnt i fonitro yn unig, ac yna dylai arwain at ailflaenoriaethu gwariant ariannol os nad yw'r canlyniadau yr ydym eu heisiau ar gyfer ein plant yn cael eu cyflawni gan yr hyn yr ydym yn ei wario arnynt. Diolch yn fawr.
Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl hon fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, a hoffwn ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor am y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud ar y gyllideb ddrafft hon.
Mae'r gyllideb ddrafft hon yn cynnwys gostyngiadau sylweddol mewn termau real i gyllid amaethyddiaeth a'r economi. Dywedodd y Gweinidog dros faterion gwledig wrth y pwyllgor mai dyma'r cylch cyllideb mwyaf heriol yr oedd hi erioed wedi cymryd rhan ynddo, a mynegodd Gweinidog yr economi farn debyg. Er bod y pwyllgor yn cydnabod yr heriau hyn a'r angen i flaenoriaethu gwariant, mae gennym hefyd lawer o bryderon ynghylch y gostyngiadau a gynigir ar gyfer y cyllidebau materion gwledig a'r economi.
Hoffwn dynnu sylw at rai materion allweddol a godwyd yn ein hadroddiad. Yn gyntaf oll, rwyf am siarad am effaith gronnol y gostyngiadau hyn yn y gyllideb. Yna byddaf yn mynd ymlaen i siarad am bryderon penodol sydd gennym ynghylch dyfodol cymorth amaethyddol, cymorth posibl i bobl sy'n cael eu diswyddo, a chyllid ar gyfer prentisiaethau. Yna byddaf yn gorffen gyda throsolwg o neges allweddol yr adroddiad.
Mae'r pwyllgor yn bryderus iawn am effeithiau cronnol gostyngiadau i gymorth ffermio a busnes. Er enghraifft, efallai y bydd ffermwr sy'n allforio cig ac yn gwerthu i fusnesau lletygarwch lleol yn cael ei effeithio gan y gostyngiad mewn cymorth amaethyddol, y gostyngiad mewn cymorth busnes, y gostyngiad mewn cymorth allforio ar gyfer eu gwerthiannau rhyngwladol, a'r gostyngiad yn y cymorth i letygarwch ar gyfer eu gwerthiannau domestig. Bydd pawb yn y Siambr hon yn gwybod yn iawn pa mor anodd yw hi i fusnesau a ffermydd yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda llawer yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn deall effaith gronnol y gostyngiadau y mae'n eu gwneud er mwyn sicrhau nad nhw yw'r hoelen olaf yn yr arch i'n busnesau a'n ffermydd, a allai fod eisoes ar fin cau.
Ers cyhoeddiad Tata fis diwethaf, mae'r gweithwyr y mae eu swyddi mewn perygl a'u cymunedau wedi bod ar flaen meddyliau nid yn unig pawb yn y Siambr hon, ond pobl ledled Cymru. Rydym wedi archwilio goblygiadau cyhoeddiad Tata yn y Siambr hon, a bydd y pwyllgor yn clywed gan Tata a Gweinidog yr Economi ar y mater hwn yfory, felly ni fyddaf yn trafod y manylion nawr. Fodd bynnag, nid y gweithwyr dur yw'r unig rai sy'n wynebu'r risg hon o golli gwaith; mae nifer o fusnesau proffil uchel mewn sectorau eraill wedi cau yn ystod y misoedd diwethaf. Er bod pob un ohonom yn gobeithio y gellir osgoi diswyddiadau yn Tata ac nad ydym yn gweld unrhyw achosion eraill o fusnesau proffil uchel yn cau, mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer y gwaethaf. Rhaid i Weinidog yr Economi a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gydweithio i ymgymryd â chynllunio wrth gefn—cynllunio sy'n sicrhau y gall Llywodraeth Cymru ddarparu ymateb cryf a chyflym i gefnogi pobl sy'n wynebu colli eu swyddi, os bydd angen, drwy gynyddu'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer rhaglenni fel ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy.
Gan symud ymlaen at ffermio, bydd yr Aelodau'n ymwybodol mai hon yw'r rownd gyntaf o gymorth amaethyddol ar ôl i gyllid yr UE ddod i ben. Dyma'r tro cyntaf erioed i lefel y cymorth amaethyddol gael ei osod yma yng Nghymru, a dyma'r tro cyntaf ers nifer o ddegawdau lle mae amaethyddiaeth wedi gorfod cystadlu'n uniongyrchol â blaenoriaethau ariannu eraill y Llywodraeth. Rydym wedi gweld canlyniad y gystadleuaeth honno yn y gyllideb ddrafft hon, gyda chyllid yn cael ei symud o amaethyddiaeth i gefnogi gwasanaethau rheng flaen fel y GIG. Y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy. Os yw'r cynllun ffermio cynaliadwy am fod yn llwyddiant, mae'n rhaid iddo gael ei ariannu'n briodol, felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau trafod maint y cyllid ar gyfer y cynllun gyda Llywodraeth y DU ar unwaith.
Mae'r gyllideb ar gyfer prentisiaethau wedi gostwng 3.65 y cant, sy'n ostyngiad o 24 y cant i werth y contract. Mae aelodau'n bryderus iawn am effaith y gostyngiad hwn ar bobl ifanc ac ar yr economi. Gan y bydd angen i ddarparwyr prentisiaethau flaenoriaethu cefnogi pobl sydd eisoes wedi cofrestru ar gyrsiau, bydd y cyfuniad o'r gyllideb lai a chostau uwch yn disgyn ar ddechreuwyr newydd. Er bod y pwyllgor yn falch bod y Gweinidog wedi ymrwymo i gefnogi'r ystod o lefelau prentisiaeth, mae'r Aelodau'n bryderus iawn am effaith y gostyngiad hwn, nid yn unig ar gyfleoedd i bobl ifanc ond hefyd ar economi Cymru, gan y bydd yn cyfyngu ar allu dinasyddion yng Nghymru i wella eu sgiliau.
Ac yn olaf, rydym wedi clywed gan siaradwyr eraill heddiw am ba mor bwysig ydyw bod Llywodraeth Cymru yn monitro gwariant ac yn sicrhau'r gwerth gorau. Yng ngoleuni'r gostyngiadau ar draws y cyllidebau materion gwledig a'r economi, gwnaeth ein pwyllgor argymhelliad tebyg, felly hoffwn adleisio teimladau'r siaradwyr eraill ar y pwynt hwnnw.
Hoffwn orffen, Dirprwy Lywydd, drwy grynhoi neges gyffredinol adroddiad y pwyllgor. Mae'r Aelodau'n cydnabod bod hwn yn gylch gyllideb anodd iawn i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn pryderu am y gostyngiadau, felly mae'n credu ei bod yn gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn monitro effaith yr holl ostyngiadau gwahanol hyn yn y gyllideb a'i bod yn barod i ymateb ac ailflaenoriaethu cyllid os ystyrir bod y gostyngiadau yn cael mwy o effaith na'r disgwyl, a bod yn barod i ymateb i heriau sy'n datblygu. Gyda hynny, Dirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at barhau i glywed barn Aelodau eraill ar y gyllideb ddrafft hon. Diolch yn fawr iawn.
Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i gyfrannu fel Cadeirydd y pwyllgor. Dwi jest eisiau dechrau drwy ddweud ychydig o eiriau am brofiad y pwyllgor o'r broses o graffu ar y gyllideb ddrafft yma eleni, ac mi fyddaf i’n gryno iawn gyda'r sylwadau hynny.
Mae ein gallu ni i wneud gwaith craffu effeithiol, wrth gwrs, ddim ond cystal â'r wybodaeth sy’n cael ei darparu ar ein cyfer ni, a doedd tystiolaeth ysgrifenedig y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog i gefnogi ein gwaith craffu ni ar y gyllideb ddrafft yma ddim yn cyrraedd y safon y mae’r pwyllgor yn ei disgwyl. Roedd gwybodaeth allweddol y gwnaethom ni ofyn amdani ymlaen llaw ar goll, roedd gwybodaeth roedd y Llywodraeth yn dweud oedd wedi'i chynnwys hefyd ar goll, ac roedd ffigurau yn anghywir. Yn ogystal â rhwystro'r pwyllgor rhag gallu asesu cynlluniau gwariant y Llywodraeth, mae’r diffyg eglurder yma hefyd yn adlewyrchu pryderon ehangach, dwi'n meddwl, am dryloywder o ran llywodraethiant. Er ein bod ni wedi cael ymddiheuriadau gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog yn barod, mae'r pwyllgor yn awyddus i wersi gael eu dysgu o’r profiad yma er mwyn inni osgoi sefyllfa debyg yn y dyfodol.
Fel sydd wedi’i nodi gan nifer yn barod, mae ond yn deg cydnabod, wrth gwrs, yr heriau ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u hwynebu wrth osod y gyllideb ddrafft yma. Dyw gorfod penderfynu ble i wneud toriadau ddim yn dasg ddymunol iawn, ond roedd hynny yn anochel, wrth gwrs, o ystyried y setliad cyffredinol. I’r portffolio newid hinsawdd, mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r Gweinidog ddwyn o un lle i roi i'r lle arall, gan dorri cyllid ar gyfer meysydd polisi allweddol, yn cynnwys ynni glân, gwastraff, bioamrywiaeth a llifogydd, a hynny, wrth gwrs, i gryfhau’r cyllid wedyn i gynnal gwasanaethau rheilffyrdd.
Beth fydd y toriadau cyllid yma yn eu golygu? Wel, mi fydd rhaid torri'n ôl ar brosiectau a rhaglenni sy’n ceisio cyflawni targedau newid hinsawdd ac ymrwymiadau bioamrywiaeth byd-eang Cymru. Ar adeg hollbwysig, wrth gwrs, yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a dirywiad byd natur, mae effaith ehangach hyn yn amlwg yn peri pryder i'r pwyllgor.
Mae’r penderfyniad i gryfhau’r cyllid i gynnal gwasanaethau rheilffyrdd yn ddealladwy; mae rheilffyrdd, wrth gwrs, wrth wraidd y system drafnidiaeth aml-foddol gynaliadwy y mae mawr addewid amdani. Ond dyw Trafnidiaeth Cymru ddim yn gallu cael arian di-ben-draw, ac mae angen inni weld cynnydd cyflym tuag at wasanaeth rheilffyrdd sy’n ariannol gynaliadwy. Rŷn ni fel pwyllgor angen cynllun clir a manwl ar gyfer lleihau’r bwlch yna sy'n bodoli rhwng costau rheilffyrdd a refeniw tocynnau. Mae angen inni weld diwedd ar y symiau enfawr yma yn cael eu talu allan i Trafnidiaeth Cymru o un flwyddyn i'r llall.
Wrth gwrs, mae gwasanaeth bysiau effeithiol hefyd yn hanfodol i system drafnidiaeth gynaliadwy. Y sôn yw bod 10 y cant o lwybrau bysiau wedi’u colli yn ystod 2023, sydd wrth gwrs yn destun braw i ni gyd. Gyda chyllideb refeniw sy'n weddol wastad ar gyfer 2024-25, mae'n anodd gweld sut y bydd y sefyllfa yna yn cael ei gwyrdroi yn fuan iawn.
Gan symud ymlaen at effeithlonrwydd ynni cartrefi, mae cwestiynau sylfaenol dal i’w hateb am lefel y buddsoddiad sydd ei angen i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a datgarboneiddio stoc dai bresennol Cymru. Mae'r lefelau buddsoddi presennol yn llawer is, wrth gwrs, na'r amcangyfrifon diweddar. Mae’r rhaglen Cartrefi Clyd sydd ar ei newydd wedd, wrth gwrs, yn gwbl briodol, yn rhoi mwy o bwyslais ar ddatgarboneiddio na’i ragflaenydd. Ond mae cost technolegau carbon isel yn golygu na fydd buddsoddiad yn ymestyn mor bell. Gyda’r cyllid, wedyn, yn aros yn yr un man, mae’n debygol y bydd llai o gartrefi’n elwa o’r rhaglen yn 2024-25 nag yn y flwyddyn ariannol hon. O ystyried y ffaith bod yr argyfwng tlodi tanwydd yn gwaethygu a’r angen i gynyddu’r gwaith o ddatgarboneiddio cartrefi presennol, mae hyn eto yn peri pryder.
Rwyf wedi sôn yn barod am ein pryder ni am effaith toriadau cyllid ar fioamrywiaeth. Y ffaith yw, hyd yn oed gyda chynnydd mewn cyllid yn y dyfodol, fydd arian cyhoeddus yn unig ddim yn ddigon i sicrhau adferiad byd natur. Ac mae buddsoddiad preifat yn hanfodol, felly, i fynd i'r afael â bwlch cyllid byd natur. Rŷn ni wedi clywed dros y blynyddoedd diwethaf fod gwaith yn mynd rhagddo ar fodel cyllid arloesol a chynaliadwy ar gyfer bioamrywiaeth sy’n ymgorffori'r defnydd o fuddsoddiad preifat. Mae’n ymddangos, o dystiolaeth y Gweinidog, fod cynnydd yn cael ei wneud o’r diwedd. Ond mae angen bwrw ymlaen â hyn, a hynny'n gyflym. Rŷn ni’n disgwyl i'r model cyllid yma gael ei gwblhau cyn y rownd cynllunio cyllideb nesaf gobeithio, fel bod modd wedyn ei ddefnyddio fe i lywio penderfyniadau gwariant yn y dyfodol.
Yn olaf, ond nid y lleiaf o bell ffordd, y mae polisi morol. Mae’r gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer 2024-25 yn ergyd arall i faes polisi sydd heb gael digon o adnoddau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r diffyg blaenoriaeth hwn wedi arwain at oedi wrth gyflawni, er enghraifft y prosiect asesu sut y mae gweithgareddau pysgota yn effeithio ar ardaloedd morol gwarchodedig, a gafodd ei ddechrau yn 2016 ond sydd dal heb ei gwblhau. Mae’r Gweinidog wedi rhoi sicrwydd i ni yn y gorffennol fod dynodiad parthau cadwraeth morol yn ‘flaenoriaeth fawr’—ei geiriau hi—ac yn cael adnoddau digonol. Rŷn ni wedi gofyn am sicrwydd na fydd dyraniadau’r gyllideb ddiweddaraf yn effeithio ar y gwaith yma.
Dirprwy Lywydd, mae ein hadroddiad ni ar y gyllideb ddrafft yn deg ac yn ystyriol. Rŷn ni’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau ariannol. Rŷn ni’n cydnabod bod y Gweinidog wedi mynd ati’n bragmatig i reoli cyllideb sy’n crebachu. Ond rŷn ni hefyd yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru barhau i fod yn benderfynol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Dyw’r argyfyngau hyn ddim yn diflannu achos bod y sefyllfa ariannol yn anodd. Rŷn ni’n edrych ymlaen, felly, at ymateb y Gweinidog i’n hadroddiad ni cyn y ddadl ar y gyllideb derfynol. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, fel y dywedwch chi, a hoffwn ddiolch i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd am fynychu sesiynau tystiolaeth y pwyllgor.
Efallai y bydd y rhai sy'n darllen ein hadroddiad yn nodi ei fod yn darllen yn debyg i adroddiad y llynedd, gyda llawer o'r un pryderon yn cael eu codi a'u hailadrodd. Ar y pryd, gwnaethom gydnabod bod gosod cyllideb ddrafft wrth wynebu pwysau ariannol eithafol yn her anodd i Lywodraeth Cymru. Mae'r un peth yn wir unwaith eto eleni, ac mae awdurdodau lleol yng Nghymru, yn eu tro, yn wynebu un o'r setliadau cyllideb mwyaf heriol yn y cyfnod diweddar. Mae ein hadroddiad yn archwilio amrywiaeth o faterion, gan gynnwys y setliad llywodraeth leol, pwysau gwariant, cyllid cyfalaf, digartrefedd, cyflenwad tai, safonau tai a diogelwch adeiladau. Byddaf yn tynnu sylw at rai o'r meysydd sy'n codi pryderon penodol i'r pwyllgor, yn enwedig yng ngoleuni'r sylwadau a wnaethom wrth graffu ar y gyllideb y llynedd.
Clywsom fod awdurdodau lleol yn eu cael eu hunain mewn sefyllfa lle maent nid yn unig yn gwneud penderfyniadau anodd, ond dewisiadau gwael. Rhybuddiodd CLlLC wrthym, os na fydd unrhyw newid o ran ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'n debygol y bydd llai o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnig. Mae hwn yn rhybudd amlwg, ac yn un na ddylid ei anwybyddu. Mae'n peri pryder, drwy orfod cyfeirio adnoddau i ddelio â phwysau uniongyrchol, fod gallu awdurdodau i ariannu gwaith ataliol tymor hwy yn cael ei gyfyngu. Rydym yn pryderu'n arbennig am gydnerthedd ariannol awdurdodau lleol. Er ein bod yn gwybod nad oes unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru eto wedi cael ei hun yn y sefyllfa o orfod ystyried cyhoeddi hysbysiad adran 114, i bob pwrpas yn datgan methdaliad, gwyddom fod rhai yn wynebu cyllidebau sydd o dan bwysau gyda chronfeydd wrth gefn cyfyngedig. Rydym yn falch bod y Gweinidog mewn cysylltiad rheolaidd ag awdurdodau lleol, ac mae'n hanfodol bod y dull hwnnw'n parhau. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun clir i ddarparu cymorth cynnar i unrhyw awdurdod lleol sy'n wynebu anawsterau penodol, gyda'r nod o atal yr angen i gyhoeddi hysbysiad adran 114.
Rydym yn croesawu defnydd y Gweinidog o gyllid gwaelodol eleni, gan ei fod yn offeryn hanfodol i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cael isafswm cynnydd mewn cyllid. Fodd bynnag, byddem yn awgrymu bod y Gweinidog yn ystyried dyrannu unrhyw gyllid canlyniadol yn y dyfodol, yn llawn neu'n rhannol, i osod y cyllid hwnnw ar lefel uwch, gan fod o fudd i fwy o awdurdodau lleol.
Dirprwy Lywydd, mae gofal cymdeithasol yn cyfrif am 36 y cant o bwysau gwariant llywodraeth leol yn 2024-25, sef £261 miliwn. Rydym yn pryderu y byddai'r gostyngiad yn y grant gweithlu gofal cymdeithasol yn cefnogi gwasanaeth statudol allweddol a ddarperir gan awdurdodau lleol yn ychwanegu at y pwysau presennol yn y sector. Mae pryderon a fynegwyd gennym y llynedd mewn perthynas â recriwtio a chadw staff i weithio yn y sector gofal cymdeithasol yn wir unwaith eto eleni. Gallai pwysau ychwanegol fel hyn mewn sector mor allweddol ffurfio pwynt tyngedfennol i'r awdurdodau lleol hynny yn y sefyllfaoedd ariannol mwy heriol, a hynny'n rhy hawdd.
Felly, rydym yn cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Cyllid y dylai'r Gweinidog esbonio pam y gwnaed gostyngiadau i'r grant gweithlu gofal cymdeithasol, ac ar gyfer asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y penderfyniad hwn. Cawsom ein dychryn wrth ddysgu, am yr ail flwyddyn yn olynol, na fu unrhyw wariant o grant cyfalaf safleoedd Sipsiwn/Teithwyr. Fel y nodwyd gennym o'r blaen, mae ein gwaith yn y maes hwn wedi tynnu sylw at rai safleoedd awdurdod lleol sydd angen gwaith cynnal a chadw neu adnewyddu ar frys, felly mae'r diffyg gwariant yn peri llawer o bryder. Rydym yn cydnabod gwaith y Gweinidog yn y maes hwn, ond mae'r diffyg cynnydd yn siomedig iawn. Fel y llynedd, rydym wedi gwneud argymhelliad ar y cyd â'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi'r rhesymau dros y diffyg cynnydd ar ddefnyddio'r grant cyfalaf safleoedd Sipsiwn a Theithwyr fel mater o frys, yn ogystal â nodi sut mae'n bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y gronfa bwysig hon yn cael ei defnyddio.
Nodwyd yn ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol hon bod cynnal y grant cymorth tai ar £166.7 miliwn mewn gwirionedd yn arwain at ostyngiad mewn termau real. Felly, rydym yn bryderus iawn nad yw'r dyraniad drafft wedi newid unwaith eto, sy'n golygu rhagor o ostyngiadau i bob pwrpas.
Allwch chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda?
Diolch, Dirprwy Lywydd. I gloi, felly, er ein bod yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r Gweinidog Newid Hinsawdd wrth bennu'r gyllideb hon, byddem yn annog Llywodraeth Cymru i archwilio'r holl opsiynau posibl ar gyfer darparu cyllid ychwanegol i'r grant cymorth tai hwnnw, o ystyried popeth y mae'n ei ariannu. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau a gymerodd ran yn ein hadroddiad. Er mwyn rhoi rhywfaint o gyd-destun o safbwynt iechyd a gofal cymdeithasol, mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn parhau i deimlo effeithiau'r pandemig. Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, fod chwyddiant hefyd, ac mae angen ystyried pwysau ar gostau ynni hefyd. Ochr yn ochr â hyn, rhaid iddynt hefyd ddelio â galw enfawr a chynyddol am wasanaethau, yn ogystal â materion hirsefydlog yn ymwneud â'r gweithlu.
Yn y gyllideb ddrafft hon, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis blaenoriaethu gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Ond, wrth gwrs, er gwaethaf hyn, mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn dal i wynebu penderfyniadau anodd ynghylch sut i gynllunio a darparu gwasanaethau. Mae pob un o'r saith bwrdd iechyd yn cael eu hunain ar lefelau uwchgyfeirio uwch mewn perthynas â'u sefyllfa ariannol, ac nid yw'n glir i ni, fel aelodau o'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol, sut y byddant yn gallu sefydlogi eu cyllid, gan ymateb i'r galw digynsail a chyflawni arbedion yn unol â'r lefelau a osodwyd yn 2023-24 hefyd.
Trof nawr i siarad am rai o'r materion sy'n ymwneud ag amseroedd aros. Mae maint yr her yn frawychus o hyd, ac mae targedau i leihau arosiadau cleifion allanol i lai na 52 wythnos ac i sicrhau nad oes neb yn aros mwy na dwy flynedd i ddechrau triniaeth wedi'u methu. Felly, rwy'n credu bod angen i'r Gweinidog fod yn glir ynghylch pryd y mae'n disgwyl i'r targedau hyn gael eu cyflawni. Mae angen iddi hefyd fod yn glir ynghylch sut y bydd y gyllideb yn cyfrannu tuag at ganlyniadau canser gwell, o gofio bod y ffigurau diweddaraf yn dangos i ni fod 54 y cant o lwybrau cleifion yn cydymffurfio â tharged y llwybr canser sengl.
Gan symud ymlaen at y gweithlu gofal cymdeithasol, gwn fy mod i, ac aelodau eraill o'r pwyllgor, yn parhau i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, ac rydym yn nodi bod cyllid wedi'i ddarparu at y diben hwn o fewn y grant cynnal refeniw. Credwn fod yn rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol barhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi a gwella gan Lywodraeth Cymru, felly roeddem yn bryderus i glywed bod mwy na chwarter y gweithlu hwnnw'n debygol o adael y sector erbyn diwedd y flwyddyn hon, a 44 y cant yn y pum mlynedd nesaf. O ystyried y prinder staff yn y gweithlu ar hyn o bryd a'r galw cynyddol am wasanaethau, credaf fod angen i'r Dirprwy Weinidog nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gadw'r staff hyn. Dyma un o'r argymhellion yn ein hadroddiad.
Rydym yn cydnabod bod heriau ariannol sylweddol wedi sbarduno penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu ei hadnoddau i gefnogi gwasanaethau rheng flaen, ond mae'n destun pryder clywed gan wahanol gyrff y bydd y GIG yn anghynaliadwy os na chaiff adnoddau eu symud yn benodol tuag at waith atal ac ymyrraeth gynnar. Felly, rydym wedi galw ar y Gweinidog i nodi sut y bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu adnoddau tuag at y rheng flaen yn effeithio, yn y tymor hwy, ar iechyd y boblogaeth, a phryd y mae hi'n disgwyl bod mewn sefyllfa i gyfeirio mwy o adnoddau at waith atal hirdymor.
Ac yn olaf, digideiddio: fel pwyllgor, rydym wedi clywed dro ar ôl tro bod gwella gwasanaethau a seilwaith digidol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn y gyllideb ddrafft hon, mae cyllid ar gyfer y strategaeth ddigidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael ei ailflaenoriaethu, ac mae toriad wedi bod hefyd i'r gyllideb cynhwysiant digidol. Rydym wedi galw ar y Gweinidog i ddarparu asesiad o oblygiadau'r toriadau hyn.
Dirprwy Lywydd, dyma rai o'r materion a godwyd yn ein hadroddiad, a gyflwynwyd ddoe. Edrychwn ymlaen at gael ymateb y Gweinidog i'n holl argymhellion cyn y ddadl derfynol ar y gyllideb.
A'r Cadeirydd olaf i siarad, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n falch iawn, yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, i gyfrannu at y ddadl hon, yn dilyn y cyfraniadau gan Aelodau eraill ac yn wir gan Gadeiryddion pwyllgorau eraill hefyd.
Hoffwn ddiolch, fel bob amser, i'm cyd-Aelodau ar y pwyllgor, a'n clercod a'r tîm cymorth hefyd. Ac rydym yn nodi'r cefndir heriol yn yr holl gyfraniadau y prynhawn yma, ac yn wir yn ein gwaith craffu, i'r trafodaethau hyn ar y gyllideb.
Felly, roedd ein gwaith craffu ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod, 2024-25, yn canolbwyntio ar wariant arfaethedig ar weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyfiawnder. Fodd bynnag, gwnaethom hefyd ystyried gwariant arfaethedig ar welliannau i hygyrchedd y gyfraith, a hefyd ar weithgaredd sy'n deillio o adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Felly, rydym yn ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig i ni i lywio'r gwaith craffu hwnnw.
Yn yr un modd â'n gwaith craffu ar wariant ar weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyfiawnder mewn blynyddoedd cyllidebol blaenorol, gwnaethom archwilio sut y gellid nodi'r gwariant arfaethedig ar weithgarwch o'r fath o fewn y gyllideb ddrafft hon. Fel y gellid disgwyl unwaith eto, gwelsom nad yw'n hawdd cael gafael ar y wybodaeth hon. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod yr anawsterau—fel yr eglurodd y Cwnsler Cyffredinol i ni—o ran dadgyfuno'r gwariant ar weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyfiawnder o fewn cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn absenoldeb Gweinidog ar gyfer materion sy'n ymwneud â chyfiawnder neu gyfran benodol o'r gyllideb ar gyfer y materion penodol hynny. Maent wedi'u gwasgaru ar draws penawdau'r gyllideb. Mae'n eithaf anodd.
Nawr, fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth y Senedd yr wythnos diwethaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad cynnydd yn fuan ar ei rhaglen 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Nawr, fel pwyllgor, yn ddelfrydol, roeddem wedi gobeithio gallu ystyried yr adroddiad hwn cyn craffu ar y gyllideb, fel y gallem ystyried cynnydd Llywodraeth Cymru yn y maes, a nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwariant yn y dyfodol.
Felly, yn lle hynny, rydym felly wedi gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ddweud wrthym pryd y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno. Pan gaiff ei gyflwyno, rydym yn mawr obeithio ac, yn wir, yn disgwyl gweld, os gallwn, cymaint o fanylion â phosibl ar y gwariant blaenorol ar weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyfiawnder a'r canlyniadau a gyflawnwyd yn sgil hynny. Byddai hynny'n ddefnyddiol, oherwydd, os gwelwn nad yw'r manylion yn ddigonol, bydd yn rhaid i ni wedyn ystyried cynnal gwaith craffu ar y gyllideb yn ystod y flwyddyn o ran gwariant ar y gweithgarwch hwn. Felly, rydym yn gwahodd y Cwnsler Cyffredinol a chyd-Aelodau i gynorthwyo'r pwyllgor gyda chynifer o fanylion â phosibl yn yr adroddiad cynnydd.
Mae Llywodraeth Cymru, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, wedi penderfynu—ac wedi bod yn eithaf eglur ynghylch hyn—i flaenoriaethu cyllid ar gyfer meysydd sydd wedi'u datganoli'n llawn. Felly, yn y maes hwn y gwnaethom edrych arno, mae hyn wedi arwain at lai o gyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a thynnu cyllid yn ôl ar gyfer rhaglen ysgolion heddlu Cymru, y bydd llawer ohonom yn ei wybod, fel Aelodau o'r Senedd. Nawr, er ein bod yn derbyn bod angen gwneud dewisiadau anodd, rydym, wrth gwrs, yn pryderu am effaith bosibl y toriadau hyn ym meysydd y gyllideb, a chredwn y gallai Llywodraeth Cymru ein helpu drwy ddarparu cymaint o fanylion â phosibl i bwyllgorau'r Senedd ar effeithiau'r toriadau hyn.
Yn ein hadroddiad, gwnaethom hefyd nodi tystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyllid yn tynnu sylw at y pwysau difrifol sy'n wynebu sefydliadau'r sector gwirfoddol sy'n gweithio ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu'n llawn â'r sefydliadau hyn wrth ystyried gwariant arfaethedig, gan y byddai ymgysylltu cyfyngedig â nhw yn golygu y gallai Llywodraeth Cymru golli cyfleoedd i wneud y gorau o effeithiau'r cyllid sydd ar gael.
Gwnaeth ein gwaith craffu hefyd gyffwrdd ar gynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru. Rydym yn awyddus i wybod costau'r diwygio hyn a sut y caiff ei ariannu. Felly, gwnaethom argymell yn ein hadroddiad y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu asesiad cychwynnol o'r costau disgwyliedig ochr yn ochr â fersiwn ddrafft o'r Bil a fydd yn darparu ar gyfer diwygio tribiwnlysoedd Cymru. Felly, rydym yn edrych ymlaen at weld hynny.
Mae'r argymhelliad terfynol yn ein hadroddiad, Dirprwy Lywydd, yn ymwneud â'r dyraniad o fewn y gyllideb ddrafft i ariannu gwaith yn y dyfodol sy'n deillio o ganfyddiadau'r comisiwn cyfansoddiadol. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym fod Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried adroddiad y comisiwn, ac y bydd yn nodi ei chynlluniau ar gyfer bwrw ymlaen maes o law. Felly, gwnaethom argymell, pan fydd yn bosibl, y dylai Llywodraeth Cymru roi gwybodaeth fanwl i'r Senedd ar sut y bydd y dyraniad cyllid yn cael ei ddefnyddio.
Felly, diolch unwaith eto, Dirprwy Lywydd, i'm cyd-Aelodau ar y pwyllgor, aelodau'r pwyllgor a'r clercod a'r tîm cymorth am eu gwaith wrth gynhyrchu ein hadroddiad. Diolch yn fawr.
Wrth drafod MEGs a chyfalaf a refeniw, mae yna berig inni golli ffocws ar y pethau pwysig, sef pobl. Y bobl sydd wedi ein hethol ni i fod yma, y bobl yr ydym ni â’r fraint o’u cynrychioli—nhw sydd am gael eu heffeithio, naill ai yn uniongyrchol drwy golli swydd neu golli cytundeb, neu drwy fethu â derbyn gwasanaeth fyddai yn gallu achub eu bywyd neu eu cadw’n ddiogel.
Mae hyn yn arbennig o wir wrth edrych ar y gwariant ar iechyd. Er ar y wyneb ymddengys bod mwy yn cael ei roi i iechyd, y cwestiwn ydy a ydy o'n cael ei gyfeirio at y llefydd cywir. Mae’n bryder garw fod yna sifft oddi wrth ariannu rhaglenni ataliol i’w weld yn y gyllideb eleni—rhaglenni megis atal gordewdra ac atal ysmygu. Bydd hyn yn creu cylch dieflig, gyda mwy a mwy o arian yn cael ei sugno dros amser i wasanaethau rheng flaen, gan gyfyngu ar ddulliau mwy effeithiol o atal clefydau yn y lle cyntaf.
Mae’r toriad o £10 miliwn yn y grant i’r gweithlu gofal cymdeithasol, ynghyd â’r cyfyngiad ar ariannu’r cyflog byw go iawn yn y sector gofal cymdeithasol, yn hynod o beryglus hefyd, ac am arwain at fwy o drafferthion yn ein hysbytai ac i'r ambiwlansys.
Fel yr ydym wedi sôn o'r blaen, mae cyfran y gyllideb iechyd sy'n cael ei neilltuo i ymarfer cyffredinol hefyd wedi gostwng ymhell islaw ei lefel hanesyddol o 8.7 y cant, sydd wedi arwain at erydu gwasanaethau meddygon teulu ledled Cymru. Mae'n siŵr na fydd uchelgais y Llywodraeth ar gyfer dull o ddarparu gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn cael ei gyflawni, yn seiliedig ar lwybr presennol ei chynlluniau gwariant.
Ni ellir alinio cyllid iechyd ag anghenion y rheng flaen yn unig; dylid ei ddyrannu mewn modd cyfannol sy'n adlewyrchu'r rhyngweithio agos rhwng gofal cymdeithasol, gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Heb gynllun clir gan y Llywodraeth i roi cyllid iechyd ar sail gynaliadwy, felly, bydd cyfrannau cynyddol o gyllideb Cymru yn cael eu taflu at atebion plasteri glynu byrdymor, tra bod y pwysau ar wasanaethau rheng flaen yn parhau i gynyddu.
Yn olaf, o ran iechyd, mae angen llawer mwy o bwyslais ar strategaethau cadw i fynd i'r afael â bylchau hirsefydledig yn y gweithlu, a chydnabyddiaeth nad yw ein GIG yn ddim heb ei lengoedd o staff ymroddedig. Rhaid i hyn gynnwys y Llywodraeth yn cyflawni ei haddewid i adfer cyflogau yn y sector, gan wyrdroi erydiad difrifol cyflogau'r GIG mewn termau real sydd wedi digwydd dros y degawd diwethaf.
Ar ddechrau fy nghyfraniad, cyfeiriais at effaith y gyllideb hon ar bobl. Yr enghraifft fwyaf amlwg sy'n dod i'm meddwl yw'r effaith ar bobl sy'n wynebu digartrefedd neu drais yn y cartref—y rhai fydd yn gorfod byw trwy ddioddefaint anhysbys oherwydd y methiant i gynyddu'r grant cymorth tai. Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Gam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol, felly dyma fy nghyfraniad bach i godi ymwybyddiaeth am hynny. Mae'r grant cymorth tai yn fwy na grant i gynghori pobl sydd dan fygythiad o ddigartrefedd; mae'n ariannu gwasanaethau rheng flaen sy'n delio â cham-drin domestig ar adeg pan ydym yn gweld cynnydd sylweddol mewn ymosodiadau ac achosion o gam-drin. Yng Ngwynedd a Môn yn unig, mae'r sefydliadau hynny sy'n gweithio ar y rheng flaen gyda dioddefwyr cam-drin domestig wedi gweld cynnydd o 78 y cant yn nifer y bobl maen nhw'n eu cynorthwyo. Mae'r arian hwn yn llythrennol yn achub bywydau.
Ynghyd â thros 11,000 o bobl sydd mewn llety dros dro a'r degau o filoedd sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, mae'n amlwg bod penderfyniadau a wneir yma yn cael effaith go iawn ac yn gallu newid bywydau pobl, er gwell neu er gwaeth. Diolch.
Rwy'n siŵr bod pob un ohonom yma yn y Siambr yn glir iawn bod hon yn flwyddyn heriol iawn i Lywodraeth Cymru o ran ei chyllideb, ond roeddwn i wir eisiau canolbwyntio ar dri maes allweddol, os caf i. Yn gyntaf, gofal plant—rydym wedi clywed am y pryder ynghylch y toriadau i'r gyllideb gofal plant, ac mae llawer ohonom sydd ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn bryderus iawn am ofal plant a'r effaith ar dlodi plant.
Gwyddom fod y gyllideb ddrafft yn cynnwys £11.2 miliwn arall o doriadau i ofal plant, ar ben y toriad o £16 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Nid yw hyn yn dderbyniol mewn gwirionedd pan fo teuluoedd Cymru yn wynebu rhai o'r costau gofal plant uchaf yn y byd ac nid oes ganddynt fynediad syml a theg at ofal o ansawdd uchel. Nid yw'r diffyg defnydd, fel yr ydym wedi clywed, yn esgus, ac nid yw'n gyfystyr â diffyg angen. Dylai fod yn amlwg iawn, o'r ddwy ddeiseb a'r adroddiadau rydym wedi'u clywed gan wahanol bwyllgorau, bod gofal plant fforddiadwy, hygyrch o ansawdd uchel yn parhau i fod yn hanfodol i bob teulu yng Nghymru, yn enwedig pan ydym yn ceisio lleihau tlodi plant. Yr hyn y mae'r diffyg defnydd yn ei ddangos yw camgyfatebiad rhwng yr hyn sydd ei angen ar deuluoedd a'r hyn sydd ar gael. Mae bylchau sylweddol, er enghraifft, i'r plant hynny sydd angen gofal plant sy'n dair a phedair oed, i rieni sy'n gweithio oriau annodweddiadol, ac i blant anabl a'r rhai mewn ardaloedd gwledig. Yn lle ailflaenoriaethu’r cyllid hwn, a gaf i awgrymu ein bod yn ailgynllunio gweithrediad y cynnig i sicrhau ei fod ar gael i'r rhai sydd â'r angen mwyaf?
Yn ail, rwyf am ganolbwyntio, fel yr ydym wedi clywed eto gan bobl yn y Siambr, ar lywodraeth leol. Fe wnes i a llawer o rai eraill groesawu Llywodraeth Cymru yn diogelu'r setliad craidd. Rydym i gyd yn deall, fodd bynnag, nad yw'r amddiffyniad hwn yn ddigonol o bell ffordd i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen yn briodol. Gwyddom eu bod yn wynebu ton ddinistriol o ddiswyddiadau a thoriadau i'r holl wasanaethau anstatudol, sy'n drasiedi i gymunedau lleol. Yn ôl CLlLC, mae'r cynnydd yn y cyllid ond yn cyfrif am tua thraean o'r pwysau cost cynyddol y maent yn eu hwynebu, gydag awdurdodau lleol yn dadlau bod angen, fel y clywsom, £800 miliwn o gyllid ychwanegol arnynt ar gyfer cynaliadwyedd ar draws ein 22 awdurdod lleol. Gall Llywodraeth Cymru honni ei bod wedi bod yn hael wrth sicrhau'r £170 miliwn hyd yma, ond mae'r darlun ehangach yn dangos bod cyllid cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol, mewn gwirionedd, wedi gostwng 12 y cant ers 2009. Yr hyn sydd ei angen arnom yw creu fframwaith ariannu gwell—un sy'n darparu cyllid cynaliadwy a theg ac sy'n caniatáu i gynghorau ddiwallu eu hanghenion yn fwy hyblyg.
Yn olaf, fel unwaith eto, rydym wedi clywed gan lawer o gyfranwyr yn y Siambr, rwyf am ganolbwyntio ar Gymru wledig a'r blaenoriaethau ar gyfer cymunedau gwledig. Ar adeg o drawsnewid ac ansicrwydd mawr, gyda'r diwydiant amaeth yn wynebu biwrocratiaeth newydd wedi'i llwytho ar ben mwy o fiwrocratiaeth, mae angen iddo symud i ddyfodol cynaliadwy sy'n deg. Ein pentrefi a'n cymunedau ffermio yw curiad calon Cymru. Maent yn wynebu heriau, o ddiffyg cysylltedd digidol i bryderon ynghylch cau ysgolion a chysylltiadau trafnidiaeth. Yr wythnos diwethaf, roeddwn mewn cyfarfod o 500 o ffermwyr yn Aberhonddu, a mynegodd pob un ohonynt bryderon difrifol am y trefniadau cyllido yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Rwy'n sylweddoli bod hyn yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd ac rwy'n edrych ymlaen, gobeithio, i'w weld yn cael ei newid yn sylweddol. Rwyf wir yn gobeithio y gallwn edrych ar ffordd well, decach a llai beichus o gefnogi ein ffermwyr hanfodol.
Yn olaf, mae angen i Gymru ddefnyddio ei holl ysgogiadau i fynd i'r afael â thlodi plant yn benodol. Mae angen i ni gynyddu gofal plant a sicrhau bod ein gwasanaethau awdurdod lleol yn cael yr arian sydd ei angen arnynt. Ac, i'r cymunedau gwledig rwy'n eu cynrychioli, mae angen i ni sicrhau bod ein ffermwyr a'r rhai sy'n gweithio ym myd amaeth yn cael yr arian teg y maent yn ei haeddu i gynhyrchu ein bwyd. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
I gyn-aelodau seneddol a chyn-gynghorwyr, mae'n rhaid bod trin y gyllideb fel dadl gyffredin yn ymddangos yn rhyfedd. Dwy awr i drafod cyllideb ddrafft Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf: rwyf wedi mynychu cyfarfodydd cyllideb cynghorau a oedd yn llawer hirach na hyn.
Rwy'n siomedig nad yw'r Ceidwadwyr na Phlaid Cymru wedi llunio cyllideb amgen. Nid oes angen dadansoddiad llinell wrth linell ar hyn, ond penderfyniad ar flaenoriaethau cymharol. Roedd y gyllideb atodol yn dangos hynny. Mae'r gwrthbleidiau'n eithriadol o dda am ddod o hyd i feysydd i wario arian neu i leihau incwm, ond nid ydynt cystal am ddod o hyd i feysydd i arbed gwariant refeniw. Hyd yn hyn, mae'r Ceidwadwyr ond wedi awgrymu arbediad y flwyddyn nesaf o £1 filiwn ar ddiwygio'r Senedd. Maen nhw hefyd wedi awgrymu bod Maes Awyr Caerdydd yn cael ei werthu, a fyddai'n codi swm mawr o arian pe bai'n cael ei werthu ar gyfer tai. Mae'n anwerthadwy fel maes awyr heb waddol sylweddol a pharhaus. Rydyn ni naill ai'n dymuno cael maes awyr yng Nghymru, neu dydyn ni ddim.
O edrych ar y rhagolwg economaidd, gwelwn dwf araf iawn yn economi'r DU a gwariant cyhoeddus, a disgwylir i gynnyrch domestig gros gwirioneddol gynyddu 0.7 y cant yn unig yn 2024 ac 1.5 y cant ar gyfartaledd rhwng 2025 a 2028. Disgwylir i chwyddiant barhau i ostwng i tua 3 y cant erbyn diwedd 2024, sy'n dal yn uwch na 2 y cant Banc Lloegr, ac yn dibynnu ar brisiau nwyddau fel olew ddim yn codi. Mae ein chwyddiant wedi cael ei yrru gan brisiau nwyddau a dyna pam nad yw cynnydd mewn cyfraddau llog wedi gweithio. Mae cyfraddau chwyddiant ystyfnig hefyd wedi lleihau pŵer prynu cynlluniau gwariant 2024-25 yn sylweddol o gymharu â'r adeg pan y'u pennwyd yn wreiddiol, ac mae disgwyl i gyfraddau llog ostwng ar gyfradd arafach na chwyddiant. Er gwaethaf y twf cyflog mewn termau real y disgwylir ei weld yn 2024-25, disgwylir i incwm gwario real cartrefi ostwng. Ffactor allweddol yn hyn o beth yw bod hwb i incwm cynilion yn cael eu gwrthbwyso gan y cynnydd mewn taliadau llog—gofynnwch i unrhyw un sy'n talu morgais.
Mae Cymru yn cael ei thanariannu gan oddeutu £1.3 biliwn. Mae Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol. Mae Llywodraeth y DU wedi neilltuo £600 miliwn i setlo hawliadau cyflog y sector cyhoeddus fel rhan o becyn ariannol gwerth £3.3 biliwn i gefnogi dychwelyd datganoli yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn, hyd y gwelaf, y tu allan i fformiwla Barnett. Yr hyn y mae fformiwla Barnett yn ei osod yw'r dyraniad lleiaf, o dan y fformiwla, i'w ddarparu, ond gallwch ddarparu mwy. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn gael ei wneud. Yn 2011-12, yn ogystal â therfyn o £200 miliwn ar fenthyciadau menter ailfuddsoddi a diwygio, cafwyd caniatâd i fenthyg £175 miliwn ychwanegol ar gyfer y Gymdeithas Gydfuddiannol Bresbyteraidd. Roedd hon yn ddarpariaeth arbennig ychwanegol ac ni chafodd effaith ar y terfyn arferol o £200 miliwn y flwyddyn, er ei bod bron yn gyfartal â hynny.
Y broblem gyda chyllideb Llywodraeth Cymru yw bod cynifer o feysydd na ellir eu cwestiynu. Awgrymais o'r blaen y dylid diddymu'r taliadau sylfaenol. Mae Undeb Amaethwyr Cymru o blaid capio taliadau fferm sylfaenol, a byddwn yn annog y Gweinidog i ymgysylltu â nhw ar osod cap. Yn Lloegr, maen nhw eisoes yn dechrau cwtogi cymorth uniongyrchol i ffermwyr—wyddoch chi, y Llywodraeth Geidwadol sydd mor wych yno—ac elfennau o gynlluniau amgylcheddol a rheoli tir. A gaf i ofyn i'r Gweinidog fonitro sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar Loegr ac i adrodd ar symiau canlyniadol Barnett yn sgil y newid hwn yn Lloegr, oherwydd os ydyn nhw'n torri cyllid i ffermwyr yn Lloegr, mae'n mynd i gael effaith ar Gymru?
Cwestiynau pellach i Lywodraeth Cymru yw: pa drafodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael gyda'r Trysorlys i roi'r un gallu i fenthyca a'r un defnydd o gronfeydd wrth gefn iddynt ag awdurdodau lleol? Rwyf wedi dweud hyn lawer gwaith, ac fe wnaf i ddweud eto: mae'n chwerthinllyd bod Cyngor Abertawe yn gallu benthyg arian, yn gallu tynnu unrhyw arian allan o'r cronfeydd wrth gefn sydd ganddynt, ond ni all Llywodraeth Cymru. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr.
Wrth sôn am y pwysau sy'n wynebu'r GIG, dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod rhywfaint o broblem cynhyrchiant sylfaenol o hyd yn y GIG, ac rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno ar hynny. Sawl llawdriniaeth i osod clun neu lawdriniaeth cataract a ddisgwylir y flwyddyn nesaf? Oes unrhyw un yn gwybod? Sawl un a gafwyd eleni? Oes unrhyw un yn gwybod? Sut ydyn ni'n mynd i weld a yw'n gwella os nad oes gennym y ffigurau? Rwy'n cefnogi mesurau ataliol, ac rwy'n cymeradwyo Cynllun Gwên a'i effaith ar leihau pydredd dannedd mewn plant, ond mae angen mwy o wariant ataliol arnom.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor Cyllid, o ran rheilffyrdd, o ystyried y lefelau cymhorthdal a gynlluniwyd ar gyfer 2024-25 a nifer y teithwyr sy'n debygol yn y flwyddyn honno, fod y cymhorthdal fesul taith fesul teithiwr ar gyfer Trafnidiaeth Cymru i fyny at £13 neu £14 y daith. Beth mae Llywodraeth Cymru yn credu sy'n dderbyniol? Sut maen nhw'n mynd i'w leihau, a faint o'r gost hon sy'n deillio o ddefnyddio tacsis yn eu lle?
Yn olaf, mae angen i ni edrych ar gymorthdaliadau busnes. Os na all busnes fenthyca i ehangu, pam mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth? Pe bai'n hyfyw yn fasnachol, gallent fenthyca. Os oes angen i ni lwgrwobrwyo cwmnïau i ddod â gweithgarwch canghennau, nid ydynt am ddod a gallant adael ar y cyfle cyntaf posibl pan nad oes rhaid iddynt wneud unrhyw adfachiad. Nid oes rhaid i Palo Alto lwgrwobrwyo cwmnïau i fynd yno, maen nhw'n ciwio i fyny. Nid oes rhaid i Gaergrawnt lwgrwobrwyo cwmnïau, maen nhw'n ciwio i fyny. Pam nad oes gennym bobl yn ciwio i fyny yma yn hytrach na cheisio eu llwgrwobrwyo?
Yn ystod cyfnod o hinsawdd anrhagweladwy, ansicrwydd ynni a phryder amgylcheddol, mae'n hanfodol dyrannu buddsoddiadau tuag at sectorau fel bioamrywiaeth, lles morol, rheoli gwastraff, datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy ac amddiffyn rhag llifogydd. Fodd bynnag, mae'r gyllideb ddrafft y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyflwyno yn methu'n llwyr yn hyn o beth. Mae pob sector yn mynd i ddioddef esgeulustod enfawr, gan wynebu miliynau o doriadau yn y gyllideb. Rydyn ni'n mynd i weld—ac mae hyn er i'r Llywodraeth hon gyhoeddi argyfwng hinsawdd bum mlynedd yn ôl, ac argyfwng natur ddwy flynedd yn ôl—bioamrywiaeth i lawr 11 y cant; amgylchedd morol, 13 y cant; rheoli gwastraff, 8 y cant; datgarboneiddio preswyl i lawr 37 y cant; adnoddau ynni glân i lawr 73 y cant; ac amddiffyn rhag llifogydd i lawr 63 y cant.
Nawr, yn benodol lle mae tai yn y cwestiwn, fel y nodais yn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog, mae digartrefedd cynyddol yn costio £60 miliwn i Gymru bob blwyddyn. Mae'n ymgorfforiad o'r 30 mlynedd diwethaf bron o gamreoli cyllidol gan Lywodraeth Lafur Cymru, ac, ym mhob un tymor, wedi'i gynnal gan Blaid Cymru, ar wahân i'r un tymor lle'r oeddech chi mewn Llywodraeth. Felly, wyddoch chi—. Gwyddoch.
[Anghlywadwy.]—mae'r gyllideb yn parhau'n sefydlog. Mae Climate Cymru wedi amlygu i fi y byddai'n cymryd 400 mlynedd ar hyn o bryd i godi'r 600,000 o gartrefi yng Nghymru allan o dlodi tanwydd. A gallwch chi gyd wenu, ond, wyddoch chi, rydyn ni'n ddieuog yn hyn i gyd, oherwydd rydyn ni—[Chwerthin.]
Hoffwn glywed cyfraniad yr Aelod, os gwelwch yn dda.
Nid ydym wedi cael yr ysgogiadau, nid ydym wedi cael y gyllideb yn sicr, ac nid ydym wedi bod mewn Llywodraeth. Felly, mae'r 25 i 30 mlynedd diwethaf yn feirniadaeth drist o bawb yma heblaw ni.
Mae'r toriadau hyn yn y gyllideb wedi effeithio ar nifer o brosiectau a rhaglenni sy'n hanfodol ar gyfer cadwraeth—[Torri ar draws.]—llesiant, i'r pwynt lle nad oes dim byd yn digwydd. Ar adeg pan ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwthio'u hunain o ran yr hinsawdd, rwy'n ofni eich bod yn encilio i aeafgwsg.
Mae'n ymddangos bod hyn yn deillio o ddau achos: esgeulustod cyllidol a diffyg tryloywder. Yn y gyllideb hon, mae swm anhygoel o £150 miliwn yn cael ei ailddyrannu i Trafnidiaeth Cymru oherwydd diffyg o £100 miliwn. Pam? Pam mae Trafnidiaeth Cymru yn wynebu diffyg o £100 miliwn? Ai oherwydd eich diffyg rhagwelediad i ddeall y byddai niferoedd y teithwyr yn gostwng ar ôl COVID ac y byddai Trafnidiaeth Cymru yn wynebu gostyngiad sylweddol mewn refeniw. Fel yr eglurodd y Gweinidog, mae cyllid ychwanegol wedi bod yn hanfodol ar gyfer parhad gwasanaethau rheilffordd. Mae hynny, mewn gwirionedd, mewn termau busnes, yn esgeulustod cyllidol. Mae rhoi arian ychwanegol i Trafnidiaeth Cymru i fynd i'r afael ag amcanestyniadau refeniw chwyddedig gyda chyllid newid hinsawdd yn warthus ac mae'n golygu nawr y bydd £116 miliwn ychwanegol yn cael ei ailddyrannu i ffwrdd oddi wrth brosiectau a rhaglenni newid hinsawdd pwysig.
Fel y nododd ein pwyllgor, mae pryder dirfawr am yr effaith y mae ailddyrannu arian wedi'i chael ar draws y portffolio newid hinsawdd. Mae'n ymddangos nad diffyg arian yw'r rheswm am y toriadau; mae'n ymwneud yn fwy â sut rydych chi wedi rheoli'r cyllid rydych chi wedi'i gael gan Lywodraeth y DU—ydych chi'n cofio, y £1.20 rydych chi'n ei gael yma am bob £1 sy'n cael ei gwario yn Lloegr.
Trwy gydol adroddiad y pwyllgor, mae'n nodi nad oedd y dystiolaeth ysgrifenedig a gawsom yn cyrraedd y safon a ddisgwyliwn, gyda gwybodaeth allweddol ar goll heb gydnabyddiaeth nac esboniad—ac mae hynny'n sôn am y gyllideb ddrafft yn fy mhortffolio i. Er enghraifft, nid yw'n glir faint o gyllid sydd wedi'i ddyrannu i gefnogi'r archwiliad dwfn o fioamrywiaeth, a chyda'r adroddiad chwemisol ar goll, pa gynnydd sy'n cael ei wneud?
Mae'r diffyg tryloywder hwn nid yn unig yn ei gwneud hi'n amhosibl i unrhyw un asesu'r gyllideb, ond mae hefyd yn rhwystro llawer o wleidyddion rhag gwneud eu gwaith. Sut y gellir disgwyl i ni weithio gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy disglair i bobl Cymru, pan nad yw'r Llywodraeth yn rhoi gwybodaeth bwysig i ni, sy'n cael ein hethol i herio a chraffu ar y Llywodraeth hon? Dylai pobl Cymru allu ymddiried ynddynt, dylent allu gweld sut mae eu harian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Rhaid i bob ceiniog gael ei neilltuo gydag ystyriaeth ac eglurder gofalus. Fel arall, rydym yn wynebu'r posibilrwydd o feithrin diffyg ymddiriedaeth ymysg y cyhoedd.
Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen buddsoddiad arnom mewn newid yn yr hinsawdd, nid mewn mwy o brosiectau porthi balchder drud, fel ychwanegu 36 Aelod arall i'r Senedd hon.
Mewn cyferbyniad â'r rhan fwyaf o bobl yn y ddadl yma y prynhawn yma, dwi eisiau siarad am ddarn o'r gyllideb sy'n cael mwy o arian, sef Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n berson sy'n credu'n gryf yn yr egwyddor o berchnogaeth gyhoeddus pan fo'n dod i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r model preifat yn amlwg wedi methu. Rwy'n dal i gredu'n gryf yn ac yn gefnogol o'r egwyddor honno. Ni ellir dianc, gwaetha'r modd, o'r methiannau rŷn ni wedi eu gweld gyda TfW. Nid ar gyfer gwelliannau yn y gwasanaethau bydd y £110 miliwn sydd wedi'i glustnodi ar gyfer TfW yn cael ei wario, ond, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, i lenwi'r tyllau cyllid enfawr sy'n bodoli yn ei llyfrau.
Ac mae'r miliynau hynny sy'n cael eu gwario i gynnal y gweithredwr hwn yn golygu bod yn rhaid dod o hyd i doriadau poenus mewn mannau eraill. Rydym yn clywed yn y ddadl hon, Dirprwy Lywydd, pa mor boenus fydd brathiad y toriadau hyn: swyddi yn cael eu colli, ansawdd bywyd yn gwaethygu, gwasanaethau yn cael eu cwtogi, ac adnoddau cyfyngedig iawn. Felly, mae'r swm cyfunol o £235 miliwn y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i gael ers mis Hydref diwethaf yn galw am graffu.
Rwy'n gwerthfawrogi'n llawn yr effeithiau digynsail a deimlir o'r pandemig ar nifer y teithwyr. Rwyf hefyd yn ddiolchgar bod y Gweinidog wedi egluro rhai o'r ffactorau lliniaru eraill yn sesiwn graffu'r pwyllgor yn ddiweddar, yn enwedig y gost ychwanegol uchel o ddisodli traciau ar rwydwaith Fictoraidd adfeiliedig sydd wedi gweld diffyg buddsoddiad truenus gan San Steffan ers degawdau. Gadewch i ni gadw mewn cof yn y ddadl hon o ble rydym yn cael yr arian fel Llywodraeth a phwy yn y pen draw sy'n cadw Cymru yn dlawd. Oes, mae cwestiynau mawr i'w gofyn ynglŷn â sut mae'r arian hwn yn cael ei wario, ond mae honni bod unrhyw fath o ddiniweidrwydd gan y Blaid Geidwadol wir yn—. Wel, mae'n mynd y tu hwnt i ddychan, mae gen i ofn.
A fyddech chi'n cymryd ymyrraeth fach iawn?
Byddwn, wrth gwrs.
Iawn. Sut allwn ni gael y bai pan mai chi sy'n gwneud yr holl benderfyniadau, yn llunio'r holl bolisïau, ac yn pleidleisio drostyn nhw bob tro gyda'ch gilydd, fel rhan o'ch cytundeb cydweithio? Ydy, mae'n cael ei alw'n 'gytundeb cydweithio'. Roeddwn i'n mynd i ddweud 'clymblaid'.
Diolch, Janet. Fel yr oeddwn i'n ei nodi, rwy'n credu bod yna gwestiynau mawr y mae angen eu gofyn am sut mae'r arian hwnnw'n cael ei wario, ond mae'n deisen lai oherwydd bod y deisen honno a roddwyd yn y ffwrn wedi'i rhoi yno gan Lywodraeth San Steffan. Fe ddylen ni fod yn cael teisen fwy. Fe ddylen ni fod yn pobi'r deisen ein hunain, a dweud y gwir, ond dyna ni. Mae'r Llywodraeth hon, wrth gwrs, yn—[Torri ar draws.] Nid wyf am barhau â'r trosiad hwnnw. Rwy'n credu y gallai gael ei or-goginio'n gyflym. [Aelodau'r Senedd: 'O.'] O dwi'n gwybod.
Mae'r Llywodraeth hon, fodd bynnag, fel yr oeddwn ar fin dweud, yn gyfrifol am ddibynnu ar y rhagamcanion refeniw uchelgeisiol ac, o edrych yn ôl, afrealistig a ddarparwyd gan gais KeolisAmey ar gyfer masnachfraint Trafnidiaeth Cymru yn 2018, sydd wedi taflu fframwaith ariannu cynaliadwy a chyson ar gyfer Trafnidiaeth Cymru oddi ar y cledrau yn llwyr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nawr, fel yr wyf wedi sôn o'r blaen, mi hi er budd y cyhoedd fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r wybodaeth honno a oedd yn sail i ragamcanion y cynnig yn 2018. Rwy'n siŵr bod y cais wedi'i gyflwyno a'i gredu'n ddidwyll, ond does bosib bod yn rhaid dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol, fel y gallwn gael rhwydwaith rheilffyrdd cyhoeddus sy'n gweithredu'n dda sy'n cynrychioli gwerth am arian. Does bosib hefyd fod angen cynlluniau wrth gefn clir arnom er mwyn sicrhau na fydd unrhyw darfu ar nifer y teithwyr yn y dyfodol yn cael dylanwad mor ansefydlog ar gyllid cyhoeddus Cymru.
Ac yn y cyfamser, wrth gwrs, mae gwasanaethau bysiau, sy'n cyfrif am dri chwarter yr holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael eu gwneud yng Nghymru, yn cael eu hamddifadu o gyllid. Mae'n ymddangos bod safon ddwbl yma, neu o leiaf ddatgysylltiad, oherwydd tra bod y buddsoddiad helaeth mewn rheilffyrdd wedi'i gyfiawnhau'n bennaf gan effaith barhaus y pandemig, mae'r penderfyniad i dynnu'r cynllun argyfwng bysiau yn ôl yn awgrymu nad yw gweithredwyr bysiau yn cael yr un hyblygrwydd.
Roedd yn ddiddorol ac yn destun pryder nodi honiad y Gweinidog y byddem wedi gweld gwasanaethau rheilffyrdd yn cau heb y gwariant sylweddol hwn ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, ac wrth gwrs dyna'n union sy'n digwydd eisoes i lwybrau bysiau ledled Cymru. Cafodd tua 10 y cant o lwybrau bysiau Cymru eu lleihau neu eu tynnu'n ôl yn ystod haf y llynedd oherwydd diffyg cyllid. Mae Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr yn amcangyfrif y bydd 15 i 25 y cant arall mewn perygl dros y flwyddyn nesaf. Mae risg y bydd y cymunedau ar hyd a lled Cymru nad oes ganddynt fynediad i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn dod yn fwy datgysylltiedig, hyd yn oed yn fwy ynysig, o ganlyniad i'r cynlluniau gwariant.
Mae'r holl bwyntiau rwyf wedi'u codi yn tanlinellu, rwy'n credu, difrifoldeb yr anghyfiawnder ynghylch cyllid canlyniadol HS2 y mae San Steffan yn parhau i'w wadu i Gymru. Gallai'r biliynau o bunnoedd sy'n ddyledus i ni fod wedi talu am y diffyg hwn yng nghyllid Trafnidiaeth Cymru sawl gwaith drosodd, gyda digon o arian i'w sbario i wrthdroi'r toriadau dinistriol a osodwyd mewn mannau eraill yn y gyllideb. Mae'r distawrwydd parhaus—ac, mae arnaf ofn, y difaterwch, mae'n ymddangos—gan y Llywodraeth Dorïaidd a'r darpar Lywodraeth Lafur yn San Steffan ar y mater hwn yn dangos cyn lleied o obaith sydd gennym y bydd pethau'n newid.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, Dirprwy Lywydd. Allwn ni ddim aros i San Steffan dyfu cydwybod; maen nhw'n ein trin ni â dirmyg. Byddwn i'n annog Aelodau Llafur a Cheidwadol i fynnu gwell gan arweinwyr eu pleidiau yn y DU, oherwydd os na fyddwn ni'n sefyll dros yr hyn sy'n iawn i Gymru, rydym yn sicr o ddychwelyd i'r un sefyllfa drychinebus o orfod mynd i'r afael â chanlyniadau dinistriol esgeulustod parhaol San Steffan.
Er mwyn atgoffa'r Aelodau, mae gennym naw siaradwr ar y rhestr o hyd, ynghyd â'r Gweinidog i ymateb, a hanner awr ar ôl am yr amser penodedig, felly cadwch eich hunain i'ch amser.
Rwyf am bwysleisio'r risgiau yr ydym yn eu cymryd drwy leihau gwariant ataliol. Mae hyn yn rhywbeth y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi ein rhybuddio. Bydd gan leihau gwariant ataliol y potensial i gynyddu'r galw ar wasanaethau yn y blynyddoedd i ddod, ac nid oes unman yn gliriach nag ar y gyllideb iechyd.
Mae'n rhyfeddol bod gofal sylfaenol yn gweld 1.5 miliwn o bobl bob mis, sy'n cynrychioli hanner poblogaeth Cymru, sy'n dangos bod gennym lawer mwy i'w wneud o ran hyrwyddo cenedl iachach sy'n llai dibynnol ar wasanaethau afiechyd. Mae hynny'n anodd iawn, iawn i'w wneud yng nghyd-destun yr holl heriau y mae cymunedau'n eu hwynebu ynghylch prinder arian a'r cynnydd mewn costau byw, ond mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fod yn cadw llygad arno drwy'r amser.
Roeddwn i dim ond eisiau mynd i'r afael â'r sylwadau agoriadol gan y Gweinidog cyllid nad oedd yn bosib buddsoddi mwy mewn atal sylfaenol nes ein bod ni wedi darparu gwell adnoddau ar gyfer gwasanaethau craidd. Rwy'n credu bod honno'n ddadl iâr ac wy, ac yn un nad wyf yn credu y gallwn fforddio parhau i'w defnyddio. Oherwydd ar ddiwedd y dydd, mae methu ag atal problemau rhag digwydd yn eu troi'n broblemau llawer mwy costus ymhellach i lawr y llinell. Er enghraifft, rydym yn wynebu rhagor o streiciau meddygon iau, a fydd yn sicr yn arwain at lawdriniaethau wedi'u canslo a defnydd llai effeithlon o offer cyfalaf drud, a chostau llawer mwy gweinyddol wrth geisio sicrhau ein bod yn osgoi trychinebau tra bod y meddygon iau ar streic. Rwy'n gwerthfawrogi na allwn wneud yr hyn y mae'r Alban yn ei wneud a gwario arian nad oes gennym eto. Hyd nes y bydd y Trysorlys yn glir ynghylch pa arian y byddwn yn ei gael, mae'n amhosibl gwybod a allwn fodloni gofynion pobl sy'n dioddef o ostyngiad enfawr yn eu hincwm.
Rwy'n credu bod gennym ni heriau difrifol yma. Yn ymateb y Gweinidog, roeddwn i'n meddwl tybed a allai ddweud wrthym pa mor llwyddiannus yr ydym ni ar ddileu biwrocratiaeth ddiangen a dyblygu ymdrech. Rwy'n llwyr werthfawrogi ymdrechion y Gweinidog Addysg i atgyfnerthu 25 o grantiau yn bedwar, ac rwy'n siŵr bod hyn wedi arbed llawer o amser i benaethiaid, ond yn anffodus nid yw'n golygu nad yw swm yr arian a fydd yng nghyllideb ysgolion yn creu dyfodol heriol iawn ar gyfer sut y byddwn yn cefnogi pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Yn yr un modd, gallaf weld pam yn y gyllideb newid hinsawdd ein bod yn buddsoddi swm enfawr o arian ychwanegol mewn digartrefedd; mae wedi codi o £46 miliwn yn y flwyddyn bresennol i £215 miliwn yn y flwyddyn i ddod. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, oherwydd mae atal digartrefedd hefyd yn ffordd o beidio ag achosi i bobl fynd yn ddifrifol wael, yn feddyliol ac yn gorfforol. Ond serch hynny, mae wedi golygu toriadau yn uchelgais y rhaglen Cartrefi Cynnes, gan arafu'r rhaglen Cartrefi Cynnes, sy'n amlwg yn golygu llai o arian ym mhocedi pobl pan fyddan nhw'n gorfod talu am danwydd ffosil drud i gynhesu eu cartrefi.
Rwy'n credu bod angen mwy o'r math o enghraifft a ddangosir gan Lynne Neagle wrth gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar dalebau Cychwyn Iach trwy gael hyfforddiant gorfodol ar gyfer ymwelwyr iechyd a bydwragedd, sydd wedi sicrhau, fel y gwyddom bellach gan y Prif Weinidog y prynhawn yma, ei fod wedi mynd i fyny at 78 y cant o'r rhai sy'n gymwys nawr yn derbyn y budd-dal hwnnw. Mae hyn yn amlwg yn golygu mwy o arian ym mhocedi menywod beichiog a mamau â phlant dan bedair oed.
Dyna'r math o beth sydd angen arnom i sicrhau bod pob adran o'r Llywodraeth yn meddwl amdano: sut y gallwn ni gynyddu faint o arian sydd gennym ni mewn gwirionedd yn dod i mewn i Gymru drwy dderbyn grantiau sydd ar gael, nid yn unig yn y gyllideb graidd annigonol y mae Llywodraeth y DU yn ei darparu ar ein cyfer. Mae hefyd yn golygu ein bod yn cael mwy o arian i bocedi pobl drwy bob dull arall hefyd, ac rydym yn cymryd o ddifrif y storm o broblemau sydd ar ddod y gallem fod yn eu creu i ni ein hunain trwy leihau arian ar atal.
Rwyf eisiau siarad yn fyr, os gallaf i, am y sefyllfa sy'n wynebu plant a phobl ifanc o ganlyniad i'r gyllideb heddiw. Ein plant yw ein dyfodol ac mae gennym ddyletswydd yn y Siambr hon i weithredu er budd cenedlaethau'r dyfodol. Dyna pam y pasiwyd Deddf yn y Senedd hon nifer o flynyddoedd yn ôl. Ac eto yr hyn a welwn yn y gyllideb benodol hon yw toriadau i wariant addysg a thoriadau i brentisiaethau, a bydd y ddau ohonynt yn cael effaith ar bobl ifanc. Gwnaed y penderfyniadau hynny, fel y dywedwyd eisoes yn y Siambr hon, heb unrhyw asesiad effaith ar hawliau plant o gwbl, er gwaethaf y ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod y penderfyniadau a wnânt yn ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Rwy'n ei gweld hi, a dweud y gwir, yn syfrdanol, oherwydd rydyn ni'n gwybod, os nad oes gennych chi addysg dda, yna mae'n effeithio ar bopeth yn y dyfodol. Mae'n effeithio ar eich potensial i ennill, mae'n golygu eich bod yn fwy tebygol o fynd i dlodi, ac mae tlodi yn effeithio ar eich canlyniadau iechyd. Mae'n effeithio ar y buddsoddiad sy'n dod i mewn i'ch cenedl. Ac mae'n destun cywilydd, rwy'n credu, fod Llywodraeth Cymru wedi gweld ein safleoedd rhyngwladol yng nghanlyniadau PISA, y profion annibynnol sy'n cael eu cynnal bob ychydig o flynyddoedd, sy'n rhoi'r anrhydedd i ni o fod y system addysg waethaf yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni wedi mynd yn ôl mewn mathemateg, yn ôl mewn gwyddoniaeth, yn ôl yn ein sgorau darllen ac, yn waeth na hynny, ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig—Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig—yn hanner isaf tablau'r gynghrair ryngwladol. Felly, o ystyried yr hanes hwnnw, byddech yn disgwyl gweld Llywodraeth a oedd am flaenoriaethu gwariant ar addysg er mwyn sicrhau bod y sefyllfa honno'n cael ei gwrthdroi ar gyfer y dyfodol. Ond, fel y dywedais i, nid dyna'r hyn yr ydym yn ei weld yn y gyllideb benodol hon.
Bydd Llywodraeth Cymru wrth gwrs yn dweud nad oes digon o arian yn dod oddi wrth Lywodraeth y DU er mwyn buddsoddi yn ein system addysg. Ond rydym yn gwybod, yn Lloegr, mai'r ffaith amdani yw bod gwariant ar ysgolion wedi cynyddu. Felly, os yw'r gwariant ar ysgolion wedi cynyddu yn Lloegr, mae'n golygu bod cyfle i wario yma yng Nghymru, gan ein bod yn gwybod, am bob £1 sy'n cael ei wario mewn maes datganoledig, gan gynnwys ar ddisgyblion yn ein hysgolion, yn Lloegr, yna mae Cymru'n cael £1.20 i'w wario. Felly, does dim esgus o gwbl dros y gostyngiad yng ngwariant ysgolion yma yng Nghymru.
Rwy'n gwerthfawrogi'r esgus arall a allai fod gan y Llywodraeth sef ei bod yn datganoli, i bob pwrpas, gyfrifoldeb dros wariant addysg i awdurdodau lleol a mater iddyn nhw yw penderfynu sut i rannu'r arian a roddir iddynt. Ond gwyddom fod y fformiwla ariannu yn hynod annheg ac annigonol. Mae'n hynod annheg yn enwedig i awdurdodau'r gogledd ac i awdurdodau mewn rhannau gwledig o Gymru hefyd. Dyna pam rydyn ni wedi galw'n gyson nawr, ers nifer o flynyddoedd, am adolygiad annibynnol—does gan neb unrhyw beth i'w ofni o adolygiad annibynnol—o'r fformiwla ariannu i wneud yn siŵr bod pob rhan o Gymru yn cael ei chyfran deg o fuddsoddiad. Nid yw hynny wedi bod yn wir o ran y Llywodraeth hon na Llywodraethau Cymru blaenorol, ac mae angen i ni fynd i'r afael â'r mater hwnnw.
Oherwydd hynny, mewn lleoedd fel Conwy a sir Ddinbych, bydd yn rhaid i dalwyr y dreth gyngor dalu cynnydd o 10 y cant yn eu treth gyngor gan weld, ar yr un pryd, ostyngiad yn y gwasanaethau cyhoeddus y gall yr awdurdodau lleol hynny eu darparu, gan gynnwys y buddsoddiad y gallant ei roi i bethau fel ysgolion, Llyfrgelloedd a gwasanaethau cyhoeddus pwysig eraill ar gyfer y dyfodol. Felly, hoffwn weld, Gweinidog, rywfaint o newid cyfeiriad yn eich cyllideb, symud adnoddau o bethau nad yw pobl Cymru, a dweud y gwir, yn eu hystyried yn flaenoriaethau—pethau fel cynyddu nifer y gwleidyddion, pethau fel y buddsoddiad rydych chi'n ei roi mewn i faes awyr gwladoledig nad oedd angen ei wladoli, y miliynau o bunnau yr ydym yn ei wario ar lysgenadaethau bychain ledled y byd, sydd, heb os, yn gwneud gwaith gwych a gwerthfawr, ond, a dweud y gwir, yn foethusrwydd na allwn ei fforddio, yr arian rydych chi'n ei dywallt i'r undebau gyda chronfa ddysgu undebau Cymru yn flynyddol. Gadewch i ni weld rhywfaint o degwch yn y ffordd yr ydych yn rhannu'r arian, fel bod awdurdodau lleol, yn enwedig yn y gogledd, mewn lleoedd fel Conwy a sir Ddinbych yr wyf yn eu cynrychioli, yn cael setliad teg.
Mae'n warthus, a dweud y gwir, bod Casnewydd a Chaerdydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn cael cynnydd o fwy na dwbl cyfradd y cynnydd yn y grant sy'n mynd i Gonwy eleni yn y grant cynnal refeniw. Felly, gadewch i ni weld rhywfaint o degwch, gadewch i ni weld cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hamddiffyn rhag y pelediad hwn o doriadau, fel y gallwn gael rhywfaint o degwch cenhedlaeth yn y ffordd y caiff y gyllideb ei gwario yn y dyfodol. [Torri ar draws.] Mae fy amser ar ben, ond rwy'n hapus i gymryd ymyriad.
Na, ni fyddwch yn cymryd unrhyw ymyriad.
Gaf i ddechrau drwy gysylltu fy hun efo sylwadau Jayne Bryant fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg? Yn amlwg, dwi'n aelod o'r pwyllgor, wedyn does dim syndod fy mod i'n cytuno. Ond mi oedd y pwyntiau yna'n eithriadol o bwysig—yn amlwg, rhai ohonyn nhw'n cael eu hategu gan Darren Millar. Ond yn sicr, mae'n rhaid inni feddwl o ddifri. Os ydyn ni o ddifri efo'r Ddeddf sydd gennym ni, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae yna bethau rydym ni wir, wir angen canolbwyntio arnyn nhw.
Dwi'n falch iawn bod Mabon ap Gwynfor hefyd wedi'n hatgoffa ni, yn yr un cyd-destun, mai pwysigrwydd y penderfyniadau yma ydy'r effaith ar bobl. Wedi'r cyfan, pobl sydd wedi bod yn cysylltu efo ni i gyd i fynegi eu siom am y toriadau amrywiol. Pobl sy'n cysylltu efo ni i ddweud am effaith y toriadau yma, beth fyddant yn ei olygu nid dim ond iddyn nhw, ond i'w plant nhw a hefyd cenedlaethau'r dyfodol. Felly, mae yna gyfrifoldeb arnom ni. Mae'n hawdd dod yma a chael rhethreg a phwyntio bys, ac mi fyddwn ni'n gobeithio y gallem ni, mewn blwyddyn o etholiad cyffredinol, gytuno bod angen i bwy bynnag fydd yn arwain Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn yr etholiad hwnnw edrych o ddifri ar yr arian rydym ni yn ei dderbyn yma, oherwydd dydy o ddim yn ddigonol. Mae'n rhaid inni uno i frwydro am yr hyn mae Cymru'n ei haeddu, ond yn fwy pwysig, ein cymunedau ni a phobl Cymru.
Rydym ni i gyd yn deall difrifoldeb y sefyllfa sydd ohoni o ran cyllideb Llywodraeth Cymru, ond mae yna bethau mae'n rhaid inni dynnu sylw atyn nhw, wrth gwrs. Fel y soniwyd, mae plant a phobl ifanc, a'r toriadau sylweddol i'r gyllideb addysg, yn rhywbeth sydd yn peri pryder. Rydym ni'n gwybod am yr heriau presennol yn y maes addysg o ran cadw a recriwtio staff, sicrhau darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol sy’n diwallu anghenion dysgwyr yn eu dewis iaith lle bynnag eu bo nhw'n byw yng Nghymru, y bwlch cyflawni a’r cysylltiad gyda anghyfartaledd, fel amlygwyd gyda chanlyniadau PISA. Mi hoffwn i ofyn, felly, fel mae eraill wedi, pa asesiad sydd wedi ei wneud gan y Llywodraeth o effaith y toriadau arfaethedig yma ar blant a phobl ifanc yn benodol.
O ran tâl athrawon, allwch chi gadarnhau a fydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’n llawn y cyfran o’r codiad tâl o 5 y cant ar gyfer athrawon a gytunwyd fis Hydref diwethaf? Dydy'r setliad llywodraeth leol ddim yn ddigonol er mwyn medru talu hyn yn llawn. Hoffwn ofyn, felly, i’r Llywodraeth ystyried adfer y model ariannu rheolaidd y cytunwyd arno ar gyfer y dyfarniad cyflog blaenorol i leddfu'r pwysau cyllidol eithafol ar lywodraeth leol. Yn bellach, dylai Llywodraeth Cymru hefyd ofyn am eglurhad gan Drysorlys y Deyrnas Unedig, fel mater o frys, ar gyllid ar gyfer cyfraniadau pensiwn athrawon.
Maes arall sydd wedi llenwi fy mewnflwch ydy diwylliant a’r celfyddydau, lle mae toriadau sylweddol. Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod pryderon dybryd wedi eu codi ynghylch diogelwch y casgliadau cenedlaethol—nid o ran cael eu dwyn, ond yn hytrach eu diogelwch o fewn yr adeiladau eu hunain gan ddŵr ac amgylchiadau anaddas. Dwi’n siŵr ein bod ni gyd yn cofio’r tân brawychus a ddinistriodd amgueddfa genedlaethol Brasil yn 2018, gyda 92.5 y cant o’r casgliadau wedi eu colli am byth. Yn dilyn y tân, fe ddywedodd dirprwy gyfarwyddwr yr amgueddfa mai bai gwleidyddion oedd y tân, gan ddweud bod curaduron, a dwi’n dyfynnu yma:
'wedi brwydro gyda llywodraethau gwahanol i gael digon o adnoddau i warchod yr hyn sydd bellach wedi'i ddinistrio'n llwyr'.
Duw â’n gwaredo pe byddai yr un peth yn digwydd yma, a hoffwn wybod heddiw pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi eu cael gyda’r Dirprwy Weinidog â chyfrifoldeb dros ddiwylliant ynglŷn â’r mater hwn, a pha sicrwydd all hi ei roi na fydd y toriadau yn peryglu ein casgliadau cenedlaethol. A allwch chi hefyd roi sicrwydd pellach fod y polisi mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol, sydd wedi bod mor llwyddiannus, yn un mae’r Llywodraeth yn parhau i ymrwymo iddo?
Yn bellach, hoffwn ddeall pam fod y comisiwn brenhinol yn wynebu toriad o 22 y cant, a fydd yn cael effaith andwyol ar gorff sy’n cyflawni gymaint ar gyllideb fach iawn. Byddai toriad o 22 y cant yn golygu lleihad posib o bron i draean o’r gweithlu o 28. A oes sgyrsiau wedi bod i drafod lleihau y toriad i rywbeth fyddai yn llai niweidiol? A sut mae’r Llywodraeth yn ymateb i bryderon eraill gan y cyngor celfyddydau a’r cyngor llyfrau, a’u cefnogwyr? Mae'r rhain yn sectorau sy’n gwneud cymaint o ran iechyd a lles pobl yn ein cymunedau, ond hefyd o ran economi Cymru fel cyflogwyr, ond hefyd o ran twristiaeth. Maen nhw’n rhan annatod o’n hunaniaeth fel cenedl, ac mae’n rhaid i'r Llywodraeth wneud mwy i fuddsoddi ynddyn nhw fel rhan o sicrhau twf economaidd. Felly, mae’n hollbwysig ein bod yn cael gwybod heddiw sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau hynny.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae degawd o gyni Llywodraeth y DU, Brexit a oedd yn draed moch a Liz Truss wedi llorio'r DU: pobl yn methu talu morgeisi a chyflogau'r sector cyhoeddus yn aros yn eu hunfan tra bo disgwyl iddynt fod yn fwy cynhyrchiol. Y trethi uchaf ers y 1940au, ond mae'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt yn brin o arian. Mae unrhyw beth ychwanegol dros y tair blynedd diwethaf wedi disgyn i dwll du o bwysau chwyddiant, ac eto mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno rhestr siopa a rhagrith. Yn ychwanegol at y ffaith fod cyllideb Llywodraeth Cymru yn £1.3 biliwn waeth ei byd na phan gafodd ei gosod yn 2020-21, nid yw'r setliad yn disodli arian Ewropeaidd coll ar gyfer prosiectau cenedlaethol Cymru, ar gyfer taliadau amaethyddol, prentisiaethau, seilwaith priffyrdd neu drafnidiaeth gyhoeddus—rhai o'r pethau ar y rhestr siopa rydych chi'n ei chyflwyno.
Yn natganiad yr hydref, fe barhaodd Jeremy Hunt gyda'r cyni, gan ddweud bod y cyhoedd—[Torri ar draws.] Gwnaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am gymryd ymyriad. A allech chi enwi gwlad arall nad yw wedi wynebu ffrwydrad mewn gwariant sector cyhoeddus oherwydd COVID, neu heb orfod codi cyfraddau llog ac wedi wynebu pwysau chwyddiant oherwydd y rhyfel yn Wcráin? Dim ond un wlad, os gwelwch yn dda.
Mae Llywodraeth y DU yn dioddef mwy—yr economi—na llawer o wledydd eraill. Yn natganiad yr hydref, fe barhaodd Jeremy Hunt gyda chyni, gan ddweud bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus fod yn fwy effeithlon eto. Ac eto, mae un o bob pum cyngor yn Lloegr yn wynebu methdaliad. Nid wyf yn gwybod ym mha fyd y mae'n byw. Ac mae'r Prif Weinidog eisiau ymosod ar fudd-daliadau unwaith eto.
Yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, rhybuddiodd y Cynghorydd Jane Gebbie y byddai angen gwneud penderfyniadau rhwng yr hyn sy'n gwneud gwasanaethau'n statudol ac yn anstatudol, sy'n golygu y gallai gwaith pwysig fel ymyrraeth gynnar ac atal fod mewn perygl, fel y trafodwyd yn gynharach. Mae digartrefedd ar gynnydd: mae 81 y cant o ddarparwyr gwasanaethau a ariennir gan y grant cymorth tai wedi gweld mwy o alw yn eu gwasanaethau dros y flwyddyn ddiwethaf, ac eto mae'r lwfans tai lleol yn parhau i aros yn llonydd, a ddylai fod yn dod oddi wrth Lywodraeth y DU. Mae 75 y cant o ddarparwyr yn gweithredu ar ddiffyg, gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn, rhywbeth nad yw'n gynaliadwy, ac mae'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth eu hunain yn ei chael hi'n anodd talu'r biliau.
Ddoe cwrddais ag End Youth Homelessness Cymru. Fe wnaethant ddisgrifio'r dewisiadau erchyll sy'n wynebu rhai mor ifanc â 14 neu 15 oed wrth i'r argyfwng costau byw, toriadau i fudd-daliadau a chwalfeydd teuluol ei gwneud yn anoddach aros yng nghartref y teulu. Mae rhai pobl ifanc yn cael eu gosod yn amhriodol mewn llety dros dro heb unrhyw gefnogaeth briodol. Mae angen i fwy o arian fynd i mewn i'r grant cymorth tai, a gofynnaf os bydd unrhyw arian yn cael ei symud, ei fod yn mynd yno. Mae digartrefedd yn cynyddu a bydd yn parhau i wneud hynny oherwydd dewisiadau a wneir gan Lywodraeth Dorïaidd y DU.
Clywais arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dweud, 'Does dim ots gennyf wneud dewisiadau anodd, ond rydyn ni mewn gwirionedd yn cael ein gorfodi i wneud dewisiadau gwael—dewisiadau a fydd yn cael effaith yn y tymor hir.' Mae ASau'r gogledd yn derbyn negeseuon e-bost gan rieni sy'n bryderus iawn ynghylch toriadau parhaus i addysg a chyllid blynyddoedd cynnar. Ond mae angen i mi ddweud bod Conwy, gan fynd yn ôl flynyddoedd, wedi defnyddio ei chronfeydd wrth gefn yn y gorffennol yn hytrach na chodi'r dreth gyngor. Mae'n allanoli gwasanaethau fel nad oes ganddo gydnerthedd ar ôl i ymdrin nawr â'r hyn sy'n digwydd.
Fe wnaeth dros 40 o—[Torri ar draws.] Mae angen i mi barhau oherwydd fy mod i'n mynd i redeg allan o amser. Fe wnaeth dros 40 o ASau Ceidwadol yn San Steffan fygwth pleidleisio yn erbyn y gyllideb wrth iddynt sylweddoli, ond daeth £600 miliwn o gyllid munud olaf ar gael yn sydyn gan Gove. Roedd sôn am £25 miliwn o gyllid canlyniadol i Gymru, ond nid ydym yn gwybod a yw hynny am ddod mewn gwirionedd. Hoffwn i'r Gweinidog ymateb i hynny. Os daw, gofynnaf iddo gael ei drosglwyddo i gynghorau a bod y cyllid gwaelodol yn cynyddu i helpu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl. Yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, roedd y Cynghorydd Lis Burnett yn argymell defnyddio cyllid gwaelodol yn amlach. Dywedodd hi:
'Rwy'n credu mai'r un peth rydym i gyd yn cytuno arno yw bod angen i ni ddefnyddio'r cyllid gwaelodol yn fwy rheolaidd, oherwydd mae 'na sefyllfaoedd lle... mae awdurdod lleol ar wahân i bawb arall o ran cyllid, ac felly mae angen i hynny fod yn rhan o'r broses i sicrhau nad yw ar lefel islaw yr hyn sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau'n gynaliadwy.'
Ond rwy'n amheus y bydd yn cyrraedd Cymru, oherwydd dro ar ôl tro mae arian yn dal i gael ei ganfod lawr cefn y soffa i Loegr, heb unrhyw gyllid canlyniadol yn dod i Gymru. Mae angen mwy o dryloywder, fel cyllid ar gyfer cyflogau meddygon.
Rwy'n clywed bod angen i ni dyfu'r economi, ond er mwyn gallu ariannu gwasanaethau cyhoeddus—allwch chi ddim trwsio'r economi os na allwch chi gael natur. Nid yw'n ddewis. Mae natur yn tanategu'r economi. Mae angen arian cyhoeddus i wneud ymyriadau a rhoi cymorth. Ni ddylem fod yn ymladd dros friwsion y gyllideb ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, sy'n rhy fach i ddechrau. Dylem fod yn brwydro i ddod â 14 mlynedd o gyni i ben a rhoi terfyn ar doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon, ac fel erioed, rwyf am wneud cyfraniad synhwyrol i'r drafodaeth hon y prynhawn yma. Rwyf wedi gwneud fy ngwrthwynebiad i'r gyllideb ddrafft hon yn hysbys mewn dadleuon blaenorol, ac fel arfer, po fwyaf o wthio sydd ar Lywodraeth Cymru, y mwyaf cadarn y maent yn eu hymrwymiad i benderfyniadau gwael gan feio Llywodraeth y DU, fel Carolyn Thomas gynnau.
Mae pawb yn deall bod yn rhaid cwtogi ar wariant mewn rhai meysydd, ond mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn mynnu torri cymorth i ran gynhyrchiol yr economi er mwyn ariannu'r darn anghynhyrchiol. Os bydd hyn yn parhau, byddwn mewn sefyllfa lawer gwaeth yn 2025 nag yr ydym ynddi ar hyn o bryd, a hoffwn gyflwyno fy ngwrthwynebiad ar ran fy etholwyr, sy'n gweld eu strydoedd mawr yn marw, torri gwasanaethau hanfodol, a chynghorau yn sgrialu am arian oherwydd y bwlch cyllido mewn gwasanaethau cymdeithasol gwerth £646 miliwn, gyda'u treth gyngor yn cael ei chodi 9.34 y cant, sy'n afresymol, gan Gyngor Sir Ddinbych sy'n cael ei redeg gan y Blaid Lafur.
Mae'r gyllideb hon yn ergyd wirioneddol i'r busnesau bach a chanolig sy'n asgwrn cefn economi Cymru, ac fel yr wyf wedi cyfeirio ato sawl gwaith, mae'n 99.3 y cant o'r holl fentrau yng Nghymru. Ac mae'n ddoniol mai'r unig fusnesau ar y stryd fawr gyffredin yng Nghymru sy'n ymddangos fel pe baen nhw'n ffynnu heb gael eu rhwystro gan Lywodraeth Cymru y dyddiau hyn yw siopau barbwr dros dro, siopau fêps ac e-sigaréts hyll, a lleoedd golchi ceir â llaw sydd yn derbyn arian parod yn unig, ymhlith amrywiaeth o fusnesau 'ffrynt' o bosib sy'n cuddio gweithgareddau gwyngalchu arian. Mae hwn, mae gen i ofn, yn dditiad digalon—[Torri ar draws.] Mae'n wir. Mae'n wir. Mae'n dditiad o gyflwr mentrau bychain yng Nghymru.
Mae un o bob chwe siop yng Nghymru yn wag, gyda chyhoeddiad fod mwy yn cau yr wythnos hon. Bydd torri rhyddhad ardrethi busnes i 40 y cant yn—[Torri ar draws.] Iawn.
Rwyf eisiau bod yn glir—rydyn ni i gyd yn hynod bryderus ynghylch pethau fel masnachu pobl a gwyngalchu arian. Rydych chi newydd gategoreiddio, rydych chi newydd nodi, cyfres o sectorau busnes, entrepreneuriaid, rhai ohonyn nhw, a'u dosbarthu i gyd fel rhai twyllodrus. A wnewch chi ei gwneud hi'n glir mai dyna oeddech chi'n ei olygu pan aethoch chi drwy'r rheini, bod y rhain yn fusnesau 'ffrynt' ar gyfer cuddio gweithrediadau anghyfreithlon—pob un ohonynt? [Torri ar draws.] Gwyngalchu arian—dywedoch chi yn benodol, gwyngalchu arian.
Iawn, rwy'n deall eich pwynt, Huw. Fe roddaf un enghraifft i chi i ddechrau. Cymerwch Stryd Fawr Prestatyn—mae'n debyg nad ydych erioed wedi bod yno yn eich bywyd, ond mae'n debyg fod yna ddwy siop barbwr 15 mlynedd yn ôl, ond mae'n debyg bod tua 15 nawr, pob un â thema debyg. Ac nid dyna'r pwynt rydw i'n ei wneud. Y pwynt yw ein bod ni wedi gweld gwahanol—[Torri ar draws.] Na na.
A fyddech chi'n rhoi'r dystiolaeth—[Anghlywadwy.]
Nid wyf am gymryd ymyriad. [Torri ar draws.] Nid wyf am gymryd ymyriad.
Nid yw'r Aelod yn ildio, ac mae eisiau parhau.
Bydd. Fe fydd torri rhyddhad ardrethi busnes i 40 y cant yn ergyd farwol i lawer o fusnesau bach ar y stryd fawr, ond bydd hyn yn sicr o helpu'r manwerthwyr ar-lein mawr a'r cydweithrediadau rhyngwladol mawr nad oes rhaid iddynt dalu'r dreth hon. Wrth wynebu'r flwyddyn ddigalon hon o'n blaenau, efallai y gall pobl godi eu hysbryd—
Mae llawer o drafod yn mynd ymlaen yn y Siambr hon nawr. Rwy'n credu bod angen i ni glywed gweddill cyfraniad yr Aelod.
Diolch. Wrth wynebu'r flwyddyn ddigalon hon o'n blaenau, efallai y gall pobl godi eu hysbryd a datrys yr holl negyddiaeth drwy fynd i weld cynhyrchiad theatr, neu fynd i weld cerddorfa'r canolbarth, ond rwy'n ofni bod cyllid i'r rhain i gyd wedi dod i ben yn llwyr hefyd.
A beth mae pobl wir yn poeni amdano yma yng Nghymru? Gadewch i ni ofyn y cwestiwn hwnnw. Mae'r arolwg barn o fis Medi y llynedd yn dangos mai'r economi yw'r broblem y mae pobl yn poeni fwyaf amdani, ac yna'r GIG yn ail agos. Y materion nad yw pobl yn poeni amdanynt yw'r cynlluniau incwm sylfaenol cyffredinol sosialaidd ffasiynol, ariannu 36 o wleidyddion newydd a gwario £34 miliwn ar y broses o gyflwyno 20 mya. Mae'r gyllideb hon yn cyflwyno cynnydd o £22.5 miliwn ar gyfer ariannu'r rhaglen prydau ysgol am ddim—Llywodraeth Cymru yn dangos ei bod yn poeni mwy am anrhydeddu Plaid Cymru na gwella'r cwricwlwm mewn ysgolion ac ansawdd yr addysgu, oherwydd bod addysg, yn gyffredinol, wedi cael ei dorri yn y gyllideb hon. Byddai'n well gan rieni yn Nyffryn Clwyd fod mewn sefyllfa lle gallant fforddio talu am brydau eu plentyn eu hunain, yn hytrach na byw ar gymhorthdal y wladwriaeth.
I gau, bydd dyrannu arian yn anghyfrifol i gynlluniau na ofynnodd neb amdanynt yn arwain at fwy o ddrwgdeimlad tuag at Lywodraeth Cymru, oni bai eu bod yn barod i ailystyried eu hymrwymiadau gwariant. Diolch.
Cyn i mi alw Luke Fletcher, felly, mae angen i mi wneud Aelodau yn ymwybodol o'r ffaith ein bod ni dros amser yn sylweddol, ac mae gennyf i un siaradwr ar ôl o bob grŵp gwleidyddol, ar ôl Luke Fletcher. Bydda i'n gofyn i'r tri siaradwr yna—fe fydda i'n eu galw—os ydyn nhw'n gallu gwneud, wrth i Joyce Watson weiddi o'r cefn, gyfraniad dau funud. Os gwelwch yn dda byddwch yn fyr. Mae gennym lawer o fusnes arall i fynd drwyddo y prynhawn yma, ac rydym i gyd eisoes dros amser. Felly, dylwn i symud ymlaen hefyd—Luke Fletcher.
Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod y gyllideb hon wedi bod yn broses anodd i'r Llywodraeth a gadewch i ni fod yn onest, mae wedi bod yn anoddach fyth wrth gwrs oherwydd yr anallu economaidd a welwn yn San Steffan.
Os caf ddechrau gydag ardrethi busnes. Yr wythnos diwethaf codais y potensial ar gyfer amrywio'r lluosydd yn seiliedig ar y math o fusnes ac, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith fod lle yn y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) ar gyfer hynny. Wrth gwrs, mae hynny yn y dyfodol, ac rwy'n meddwl tybed a yw'r pŵer i amrywio'r lluosydd yn dibynnu ar y Bil hwnnw, neu a oes gan y Gweinidog y pŵer i wneud hynny eisoes. Oherwydd mae realiti yn llwm, yn enwedig i'r sector lletygarwch. Os na wneir rhywbeth nawr, yna byddai lleoedd yn fy rhanbarth, fel Zia Nina, fel Ristorante Vecchio, fel Beat, yn cael eu taro gan gost arall eto.
Ar 9 Ionawr, cododd Adam Price nifer o ffyrdd y gallem godi arian ychwanegol. Yng nghyd-destun ardrethi busnes, byddwn yn gofyn i'r Gweinidog ystyried un o'i awgrymiadau, sef atodiad iechyd cyhoeddus ar ardrethi busnes archfarchnadoedd mawr sy'n gwerthu alcohol a thybaco. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi gwneud hyn, ac mae ganddo'r potensial i godi £23 miliwn arall yma yng Nghymru, y gellid ei ddefnyddio wedyn i liniaru'r toriad hwn i ardrethi busnes, ochr yn ochr ag edrych eto wedyn ar amrywio'r lluosydd. Felly, byddai rhywfaint o fyfyrio ar hynny gan y Gweinidog i'w groesawu'n fawr.
Fe ddof at y gyllideb brentisiaeth. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae'n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau—a gyda llaw, rwyf i a Huw Irranca-Davies yn lansio'r grŵp trawsbleidiol ar brentisiaethau am 7.00 p.m. ac mae nifer o Aelodau wedi codi'r toriadau prentisiaeth, felly rwy'n gobeithio gweld nifer o Aelodau yno. Rydym wedi trafod hyn eisoes yn helaeth yn y Siambr, ond mae'r toriad hwn yn 24 y cant. A hyn pryd y dywedwyd wrth y sector, wrth gwrs, cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, i ddisgwyl toriad o 3 y cant. Nawr, ni allaf bwyso digon ar y Llywodraeth pa mor bwysig yw'r gyllideb brentisiaethau ar gyfer datblygu economi Cymru yn y dyfodol, gyda Tata a'r cynigion yno yn sail i'r angen am brentisiaethau o ansawdd da wrth symud ymlaen. Ond nid ydym yn sôn am brentisiaethau mewn sectorau uwch-dechnoleg neu'r sector gwyrdd yn unig. Maent hefyd yn chwarae rhan mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Pe bai'r toriad yn parhau, byddem yn gweld 5,500 yn llai o brentisiaethau mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gofal iechyd clinigol, nyrsio deintyddol, a gofal a dysgu a datblygiad plant. Byddai hyn, wrth gwrs, yn cael effaith hirdymor nid yn unig yn yr economi, ond ar draws pob sector.
Nawr, soniais fod y sector eisoes wedi modelu ar gyfer toriadau. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud nad yw'r sector, yn enwedig o ystyried effaith colli cyllid yr UE, yn disgwyl gwrthdroi'r toriadau arfaethedig yn llawn ar hyn o bryd. Felly, fy nghwestiwn i yw a oes lle i leihau maint y toriadau mewn ymgais i gwrdd â'r sector hanner ffordd. Rydych chi wedi clywed gan Weinidog yr Economi yn ei addewidion arweinyddiaeth ei fod yn bwriadu cynyddu nifer y prentisiaethau, pan fo'r toriadau i'r gyllideb ar hyn o bryd o fewn ei adran ei hun. Mae yna hefyd ddatganiad polisi wedi'i drefnu ar gyfer 27 Chwefror ar brentisiaethau, felly mae'n gwneud i mi feddwl tybed a oes lle i symud.
Awgrym arall ar gyllid o ran prentisiaethau: beth am edrych eto ar ryddhad elusennol i ysbytai preifat ac ysgolion? Nawr, ni fydd yn codi digon i wrthdroi'r toriadau yn eu cyfanrwydd ond gallai ddarparu rhywfaint o le i droi. Felly, er fy mod yn deall bod yr heriau sy'n wynebu'r Llywodraeth yn y gyllideb hon yn amlwg, ac rwy'n gwerthfawrogi y bydd pawb yn gofyn am fwy o arian, byddai croeso mawr i rywfaint o fyfyrdodau gan y Gweinidog ar y pwyntiau a godais.
Mae Cymru, heddiw, yn wynebu'r sefyllfa ariannol waethaf ers dechrau datganoli gyda phrosesau cyllidol a chyfansoddiadol y DU yn cael eu herydu. Felly, gadewch i ni fod yn glir, nid yw Cymru fel deddfwrfa ddatganoledig o fewn y DU yn adran wladwriaeth fechan sy'n cael clywed ar y funud olaf, yn sydyn iawn nad oes symiau canlyniadol disgwyliedig yn bodoli i Gymru. Ac wrth i'r rhan fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru ddod yn uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth Dorïaidd y DU fel grant bloc, mae Cymru'n agored yn uniongyrchol i bolisi cyllidol allanol y DU a phwysau chwyddiant, ond heb yr ysgogiadau ystwyth, hyblyg a'r pwerau benthyca sydd eu hangen i barchu angen Cymru, neu i'n halinio â symiau canlyniadol Lloegr neu hyd yn oed symiau canlyniadol Gwyddelig o ran hynny—a bydden nhw fodd bynnag yn croesawu hynny.
Ers 14 mlynedd hir, mae Cymru a gweddill y DU wedi cael eu cam-lywodraethu gan ormod o Brif Weinidogion y DU o bolisi Torïaidd, a gormod o Gangellorion. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi perswadio ac erlyn a dilyn dros ddegawd a hanner ddogma ideolegol sy'n gwneud i Gymru a gweddill y DU ddioddef rhywbeth o'r enw cyni, neu, yn syml, tanfuddsoddiad—diffyg buddsoddiad sylweddol ar gyfer pobl a phlant Cymru a'r Deyrnas Unedig sy'n haeddu gwell—[Torri ar draws.] Na, ni wnaf.
Felly, yn yr amser sydd ar gael i mi, a allwn ni fod yn onest â phobl Cymru? Gadewch i ni ei ddweud y gwir: bu tanfuddsoddi strategol yng Nghymru ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi mewn seilwaith ac yn ehangach a'r gyllideb gyfalaf wirioneddol bathetig gwerth £100 miliwn eleni—dim trydaneiddio i Gymru o hyd. Heddiw, mae cyllideb Llywodraeth Cymru £1.3 biliwn yn llai, dywed rhai £1.5 biliwn yn llai. Felly, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac anhygoel o galed, felly byddaf yn cefnogi'r gyllideb hon. Diolch.
Ar adeg cyllideb Llywodraeth Lafur y DU ym mis Mawrth 2010, cyfaddefodd y Canghellor Llafur ar y pryd y byddai toriadau arfaethedig Llafur mewn gwariant cyhoeddus, a dyfynnaf, 'yn ddyfnach ac yn llymach' nag yn yr 1980au, a ddilynodd chwalfa economaidd o dan Wilson, Callaghan a Healey. Felly etifeddwyd cyni, ac roedd methu â lleihau'r diffyg mewn perygl o weld toriadau yn cael eu gorfodi a fyddai wedi arwain at ostyngiadau mewn gwariant cyhoeddus llawer mwy yn nes ymlaen. Byddai'r rhai sy'n gwadu hynny bellach yn rheoli cyllidebau llawer llai nag y maent wedi'u cael fel arall.
O ystyried y datganiad gan Fforwm Economaidd y Byd bod cost gynyddol bwyd ac ynni yn effeithio ar bobl ledled y byd a bod chwyddiant ar hyn o bryd yn uwch mewn 19 o wledydd Ewropeaidd, a bod cyfraddau llog ar hyn o bryd yn uwch mewn 11 gwlad Ewropeaidd a 10 gwlad G20 arall nag yn y DU, dim ond ffŵl gwirion fyddai'n honni bod yr argyfwng costau byw wedi'i achosi gan San Steffan. Mae pob Llywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth y DU, yn gorfod gweithredu o fewn yr amgylchedd chwyddiant byd-eang hwn.
Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn torri £11.6 miliwn o gyllid cyfiawnder cymdeithasol—mwy mewn termau real. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth tlodi plant newydd i Gymru, mae Barnardo's Cymru wedi mynegi siom nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar nifer o argymhellion ynghylch yr angen am dargedau a chynllun gweithredu ynghlwm wrth y strategaeth fel y gellir 'monitro cynnydd yn dryloyw ac yn rheolaidd'. Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru fod y diffyg manylder ar weithredoedd, amserlenni a chyflawniadau yn golygu nad oedd modd dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif—25 mlynedd o hyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio siarter budd-daliadau newydd i Gymru, ond ymhell o fod yn system fudd-daliadau integredig i Gymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau prawf modd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, y mae'r sector wedi bod yn galw amdanynt ers bron i ddegawd, mae'n dal i fod yn ymwneud â datblygu un yn unig, ac unwaith eto, heb dargedau nac amserlenni.
Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru wedi osgoi'r holl alwadau am dargedau ac amserlenni interim ar gyfer ei chynllun 'Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035', er gwaethaf rhwymedigaethau statudol a'r sector yn datgan y byddai targedau interim yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn atebol am gynnydd—mawredd annwyl, am syniad doniol.
Mae'r sector gwirfoddol wedi pwysleisio ers amser maith, er eu bod yn darparu ffens ar ben y bryn yn hytrach nag ambiwlans ar y gwaelod, gan ddarparu gwasanaethau sy'n arbed miliynau i'r sector cyhoeddus, maen nhw'n brin o gyllid statudol cynaliadwy. Mae llawer o wasanaethau ymladd tlodi a ddarperir gan y sector gwirfoddol hefyd yn cael eu hariannu gan y grant cymorth tai. Yn ei dogfen gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25, mae Llywodraeth Cymru yn honni bod ganddyn nhw,
'wasanaethau cymorth rheng flaen gwarchodedig, gan gynnwys y grant cymorth tai.'
Fodd bynnag, yn ei ymateb i'r gyllideb ddrafft, dywedodd Cymorth Cymru, y corff sy'n cynrychioli cymorth sy'n gysylltiedig â thai yng Nghymru,
'Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r Grant Cymorth Tai yn y Gyllideb Ddrafft,'
mae hynny mewn termau real £24 miliwn yn llai nag yn 2012, a
'dywedodd tri chwarter y darparwyr cymorth wrthym y byddai angen iddynt leihau capasiti gwasanaethau.'
Drwy gael gwared ar wasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal, mae economïau ffug yn cynyddu pwysau ar y GIG, adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau golau glas, yn ogystal â gwasanaethau tai, pan ddylai Llywodraeth Cymru, yn hytrach, fod yn dileu'r degau o filiynau o bunnau o bwysau ychwanegol ar wasanaethau statudol y maent yn eu hachosi. Dim ond ers dros ddau ddegawd yr wyf wedi bod yn dweud hyn, ond nid ydynt yn ei ddeall o hyd.
Mae'r gyllideb cyfiawnder cymdeithasol yn wynebu'r toriad mwyaf, mewn termau cyfrannol, o holl feysydd gwariant Llywodraeth Cymru, a fydd, yn anochel, yn peryglu gallu'r Llywodraeth hon i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn ein cymdeithas a'u heffeithiau ar ein dinasyddion. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gofio bod 14 mlynedd o gyni Torïaidd, a fydd, mae'n ymddangos, yn parhau, yn ôl datganiadau diweddar canghellor cysgodol Llafur ar dreth a lles, wedi cael effaith anghymesur ar yr aelwydydd incwm isel mwyaf difreintiedig, pobl anabl, pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, gwragedd, pobl hŷn a phlant.
Mae rhai ystadegau y mae'n rhaid eu hamlygu wrth i ni drafod blaenoriaethau'r gyllideb hon, ac mae'r cyd-destun economaidd a gwleidyddol y mae Cymru'n canfod ei hun ynddo yn sefyllfa—sefyllfa ariannol—lle na all gefnogi anghenion ei dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ddigonol a llunio'r dyfodol tecach y maent yn ei haeddu, oherwydd, am y tro cyntaf erioed y llynedd, roedd hanner y ceisiadau am gymorth gan Cyngor ar Bopeth Cymru gan y rhai mewn sefyllfa gyllidebol negyddol, pryd yr oedd biliau'r cartref yn fwy na'r incwm. Mae 28 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi. A dyma ffaith y mae'n rhaid i ni i gyd gadw ar flaen ein meddyliau, gan mai dyma'r ystadegyn mwyaf arswydus, mwyaf cywilyddus, mwyaf torcalonnus, a ddylai danlinellu pob penderfyniad cyllidebol: mae'r gyfradd marwolaethau plant yng Nghymru 70 y cant yn uwch ar gyfer plant yn y grwpiau mwyaf difreintiedig nag ar gyfer y plant lleiaf difreintiedig.
Yn fy ngwaith gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn craffu ar y toriadau i'r gyllideb cyfiawnder cymdeithasol, roedd yn amlwg, er i'r Gweinidog ddweud wrthym fod arbedion sylweddol o'r portffolio bach hwn wedi cael eu harwain gan sawl egwyddor, gan gynnwys diogelu gwasanaethau rheng flaen ac osgoi penderfyniadau sy'n ehangu anghydraddoldebau, y canlyniad o'n gwaith craffu yw nad dyma realiti effaith y gyllideb hon. Os yw creu tegwch drwy flaenoriaethu mesurau gwrthdlodi a lliniaru tlodi wrth wraidd ymagwedd y Llywodraeth hon tuag at y gyllideb, yna mae'n rhaid i'r ffaith fod y gyllideb cyfiawnder cymdeithasol wedi derbyn y toriadau dyfnaf, felly, fod yn gwbl anstrategol.
Dylai gwariant ddilyn strategaeth; dylai'r ddarpariaeth ddilyn gwariant. Mae Plaid Cymru wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at yr angen ar frys i gyflawni cynlluniau fel system fudd-daliadau Cymru i sicrhau bod cefnogaeth yn cyrraedd y pocedi cywir yn gyflym ac yn rhwydd. Mae'r gwaith newydd ddechrau—rydyn ni wedi cael lansiad siarter anstatudol. Mae'r rhaglen Cartrefi Clyd—a oedd i fod yn weithredol y llynedd, yn dal i gael ei chaffael. Ac mae gennym ni'r strategaeth tlodi plant newydd, hanner ffordd i mewn i dymor y Senedd hon—faint o flaenoriaeth yw hi—ac sy'n cael ei beirniadu'n gyffredinol, fel rydyn ni wedi clywed, am ddiffyg targedau clir. Mesurau nad ydynt yn gweithio wedi'u cynnwys yn y gyllideb hon, neu, yn achos y cynllun bwndeli babanod, wedi'u torri'n ôl. Sut allwn ni fforddio torri £11 miliwn yn y ddarpariaeth gofal plant pan ydym ni'n gwybod bod buddsoddi mewn gofal plant—mae UNICEF yn dweud hyn—yn un o'r ffyrdd unigol mwyaf effeithiol o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb? Mae yna reswm pam nad yw cynnig gofal plant sy'n cael ei arwain gan alw, sydd ei wir angen i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, yn gweithio fel y dylai.
Os yw'r Llywodraeth yn honni bod y gyllideb ddrafft wedi'i llunio gan egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys yr egwyddor o atal, sut mae'n cyfiawnhau gostyngiad o 50 y cant mewn cyllid ar gyfer Cymunedau Digidol Cymru, er enghraifft, sy'n cynnwys rhaglenni i fynd i'r afael ag allgáu digidol? Mae Cwmpas wedi nodi bod grwpiau sydd ar y cyrion yn fwy tebygol o gael eu hallgáu'n ddigidol a bod tueddiadau diweddar, fel costau byw cynyddol, mewn perygl o ehangu'r bwlch allgáu digidol hyd yn oed ymhellach. A gyda llaw, mae mynd i'r afael ag allgáu digidol yn allweddol i amcan 1 y strategaeth tlodi plant—efallai y dylai'r Gweinidog cyllid ei darllen. Fel y dangosodd yr ystadegyn erchyll a chywilyddus hwnnw a ddyfynnais yn gynharach, mae gan anghydraddoldeb gysylltiad profedig â chanlyniadau iechyd andwyol, felly er bod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen y GIG yn y gyllideb hon, rhaid iddi gyfaddef y bydd esgeuluso mentrau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol yn ddieithriad yn pylu effeithiolrwydd eu gwariant gofal iechyd.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn nodi'n glir, ac rwy'n dyfynnu:
'Er gwaethaf ymrwymiad rhethregol i atal, mae profiad blaenorol yn awgrymu bod mesurau gwariant ataliol yn cael eu gwanhau yn y Gyllideb Ddrafft hon',
ac mae Plaid Cymru yn cymeradwyo'r farn honno yn y termau cryfaf posib. Ni ellir rhoi mwy o flaenoriaeth na buddsoddi ym mhotensial pobl Cymru, drwy leihau tlodi ac anghydraddoldeb drwy wariant strategol a pharhaus. Rhaid ei adlewyrchu'n well yng nghyllideb y Llywodraeth hon.
Y Gweinidog cyllid nawr i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Gwych. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A diolch i'r holl gyd-Aelodau hynny sydd wedi gwneud cyfraniadau meddylgar ac adeiladol yn y ddadl heddiw, a hefyd yn arbennig i Gadeiryddion y pwyllgorau. Ac rwy'n gwybod eu bod nhw wedi diolch i'r rhanddeiliaid hynny a oedd, rwy'n gwybod, wedi treulio llawer iawn o amser yn paratoi eu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw i gyd.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig atgoffa ein hunain o'r cyd-destun rydyn ni'n ei wynebu. Mae twf economaidd wedi arafu o dan 13 mlynedd o Lywodraethau'r DU, ac maent wedi bod yn anghyfrifol gyda chyllid cyhoeddus. Mae gennym ddegawd o gyni y tu ôl i ni a Brexit sy'n smonach, sydd wedi gadael gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU yn gwegian ac yn methu gwrthsefyll mwy o siociau. Ac wrth gwrs, bydd safonau byw y flwyddyn nesaf 3.5 y cant yn is yn 2024-25 nag yr oedden nhw cyn y pandemig, a dyna fyddai'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau yn y 1950au. Rydyn ni wedi gweld prisiau defnyddwyr yn cynyddu 22 y cant ers y pandemig, a phe bai chwyddiant wedi bod ar darged, byddai'r prisiau wedi cynyddu—rwy'n dweud 'dim ond'—8 y cant. A rhagwelir y bydd baich treth y DU, wrth gwrs, yn cynyddu i uchafbwynt wedi'r rhyfel, gyda miliynau o bobl yn cael eu llusgo i dalu cyfraddau uwch o dreth incwm. Felly, dyna'r cyd-destun a'r sefyllfa anodd rydyn ni'n cael ein hunain ynddi.
Cafodd Llywodraeth y DU y cyfle i fynd i'r afael â hyn yn natganiad yr hydref, ond nid oedd unrhyw gefnogaeth wedi'i thargedu i'r bobl fwyaf agored i niwed, dim byd newydd nac ystyrlon i Gymru, ac roedd yn drychineb lwyr i wasanaethau cyhoeddus ledled y DU, sy'n cael eu hamddifadu o gyllid angenrheidiol. Mae methiant y Canghellor i gydnabod y pwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn golygu ein bod yn wynebu toriadau mewn termau real yma yng Nghymru, ac rydym yn wynebu cyfres anodd iawn o benderfyniadau o'n blaenau. Rwy'n credu bod hynny wedi cael ei adlewyrchu mewn gwirionedd yn y cyfraniadau rydyn ni wedi'u clywed y prynhawn yma. Mae pobl yn gwbl angerddol am y pethau rydyn ni'n eu gwneud ym mhob cefndir yma yng Nghymru, ac rydyn ni wedi cael rhywfaint o archwilio o'r mathau o gyfaddawdau anodd iawn y bu'n rhaid i ni fod yn eu gwneud yma yng Nghymru. Cawsom wahoddiad, ar ddechrau'r ddadl, i ofyn y cwestiynau treiddgar i ni'n hunain. Wel, bobol bach, rydyn ni wedi bod yn gofyn y cwestiynau treiddgar hynny i ni'n hunain am fisoedd diddiwedd i wneud y dewisiadau anodd iawn hynny y bu'n rhaid i ni eu gwneud, ac, yn y pen draw, rydyn ni wedi rhoi pobl wrth wraidd y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud, gan flaenoriaethu'r GIG, y gwyddom mai dyna yw'r brif flaenoriaeth yn sicr i bobl yng Nghymru, ynghyd â'r gwasanaethau cyhoeddus hynny a ddarperir gan lywodraeth leol.
Ac fe fyddaf yn onest, rydyn ni wedi cael rhai cyfraniadau y prynhawn yma sydd wedi bod yn rhestr hir o bethau, gan ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth y mae'n rhaid iddi ei wneud i wella pethau i bobl yng Nghymru. Dim byd o gwbl gan lawer o'r bobl hynny a oedd yn gwneud cyfraniadau ynghylch o ble y byddent yn gwneud y toriadau. Nid ydym ychwaith wedi cael unrhyw wrthwynebiad gwirioneddol i ddull strategol cyffredinol ein cyllideb, gyda'r bwriad o ddiogelu'r GIG, diogelu gwasanaethau lleol mewn llywodraeth leol. Nid ydym wedi gweld unrhyw wrthwynebiad i hynny chwaith. Felly, beth yw'r dewis arall y mae pobl eisiau i ni ei wneud?
Fe ddywedaf fy mod wedi gwrando'n astud iawn ar y cyfraniadau, ac rydyn ni'n ystyried yn ofalus yr ymatebion y mae pwyllgorau'n eu darparu hefyd. Os oes unrhyw newid yn y sefyllfa, wrth i ni symud tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol, efallai y byddaf yn gallu gwneud dyraniadau bach yn y gyllideb derfynol. Felly, rydyn ni'n gwrando'n astud ar y sylwadau sy'n cael eu gwneud. Fe ddywedaf, wythnosau yn unig, nawr, o ddiwedd y flwyddyn ariannol, nad oes gennym gadarnhad o hyd o'r amcangyfrifon atodol, felly nid ydym yn gwybod o hyd beth yw ein cyllideb ar gyfer eleni ac nid ydym wedi cael y cyfle eto i gael y ddadl derfynol ar ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy'n credu bod hynny, unwaith eto, yn arwydd o'r diffyg eglurder sydd gennym gan Lywodraeth y DU.
Byddwn yn ymateb yn gadarnhaol, lle bynnag y gallwn, wrth gwrs, i argymhellion y pwyllgorau, ac rydym eisoes wedi ceisio gwneud hynny heddiw mewn perthynas â'r £25 miliwn ychwanegol o gyllid a ddaeth o ganlyniad i gyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol yn y DU, a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ddiweddar yn dilyn llythyrau gan nifer o Aelodau Seneddol presennol a chyn-Aelodau Seneddol at Lywodraeth y DU, yn sôn am y diffyg buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol yno. Felly, rydym yn falch o'r £25 miliwn ychwanegol hwnnw. Y bwriad nawr yw gwrthdroi'r toriad hwnnw i'r grant gweithlu gofal cymdeithasol, sef ychydig dros £10 miliwn, a defnyddio gweddill y cyllid i'w roi drwy'r grant cynnal refeniw i lywodraeth leol. Rwy'n credu bod hynny'n ymateb yn eithaf cadarnhaol o leiaf i argymhelliad gan y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ac rwy'n gwybod y bu Carolyn Thomas yn gwneud y sylw hwnnw eto yma y prynhawn yma. Felly, rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gwneud hynny.
Rwy'n gwybod y bu rhywfaint o ddadl ynghylch a ddylai'r cyllid hwnnw fynd i godi'r terfyn isaf yn y grant cynnal refeniw, ond rwy'n credu, wedi ystyried, bod yn rhaid i ni ddeall bod y grant cynnal refeniw yn cynrychioli angen, a phe byddem yn codi'r terfyn isaf yn uwch, yn hytrach na chydnabod yr angen sy'n bodoli ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru ym mhob awdurdod lleol, yna rwy'n credu y byddem wedi bod yn gwneud anghymwynas â'r ffaith bod y fformiwla yn cydnabod angen ynddo, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn deg â'r holl awdurdodau yn y maes hwnnw. Ac, wrth gwrs, codi'r terfyn isaf—mae'r terfyn isaf mewn gwirionedd yno i fod derfyn isaf na fydd unrhyw awdurdod yn disgyn oddi tano, yn hytrach nag yn derfyn isaf lle na fydd gan unrhyw awdurdod lai o gynnydd. Bydd yn achosi problemau ar gyfer y blynyddoedd i ddod os byddwn yn mynd ar drywydd y dull hwnnw hefyd. Felly, rwy'n credu, wedi ystyried, ein bod ni wedi gwneud y dewis cywir.
Ond nid wyf yn diystyru pa mor anodd y bydd pethau i lywodraeth leol. Maent mewn sefyllfa llawer gwell na'u cydweithwyr dros y ffin, wrth gwrs, oherwydd, ar ddechrau'r cyfnod adolygu gwariant, gwnaethom gynyddu eu cyllideb o fwy na 9 y cant. Rhoddwyd llinell sylfaen ynddi. Y flwyddyn ariannol hon, mwy na 7 y cant, unwaith eto gyda llinell sylfaen, ac rydym wedi cadw ein haddewid i'w chynyddu 3.1 y cant ar gyfer y flwyddyn nesaf, sef y gorau y gallem ei wneud o dan yr amgylchiadau. Dylwn i ddweud y bydd y cyllid ychwanegol yr ydym wedi'i gyhoeddi heddiw drwy'r £25 miliwn hwnnw, unwaith eto, yn helpu i leddfu peth o'r pwysau hynny, yn enwedig o ran y cyflog byw, ond hefyd cyflog athrawon, oherwydd rydym yn cydnabod y pwysau sydd yno. Rydym wedi gallu cefnogi awdurdodau lleol mewn blynyddoedd blaenorol drwy gyfeirio rhywfaint o danwariant ar draws y Llywodraeth i helpu gyda hynny, ond, ar ddiwedd y dydd, mae'n rhan o'r grant cynnal refeniw. Nid yw Llywodraeth Cymru yn chwarae unrhyw ran yn negodiadau cyflog athrawon—mae'r pethau hynny yn cael eu cytuno y tu allan i Lywodraeth Cymru—ond, os gallwn ni helpu, rydyn ni wedi gwneud mewn blynyddoedd blaenorol, a, gobeithio, bydd y dyraniad hwn yn helpu hefyd.
Mae argaeledd cyllid, wrth gwrs, yn bwysig iawn, ac ni allwn ond meddwl am effaith Brexit nawr ar ein cyllideb. Rydyn ni wir yn gweld camgymeriadau'r gorffennol yn effeithio ar y presennol, onid ydyn ni? Cefais fy atgoffa o erthygl a ysgrifennais yn ôl yn 2015, a chwiliais amdani yn ystod cyfraniad Paul Davies heddiw, ac roedd yn dweud
'Dywedodd Rebecca Evans y byddai colli cyllid yr UE gwerth £240m y flwyddyn heb unrhyw sicrwydd y bydd llywodraeth y DU yn rhoi cyllid yn ei le yn niweidiol iawn.'
A dywedais y byddai gadael yr UE yn drychinebus i ffermio yng Nghymru. Wel, prosiect codi ofn oedd hwnnw neu a oedd yn adlewyrchu ar ffaith yn unig? Oherwydd rydyn ni wedi parhau nawr i deimlo effaith penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU; mae gennym ni £243 miliwn o gyllid newydd gan yr UE wedi ei golli i Gymru nawr. Ond, er hynny, mae'r Gweinidog wedi gallu diogelu cyllideb y cynllun taliadau sylfaenol o £238 miliwn ar gyfer 2024. Ac fe ddywedaf mai hwn, y tu hwnt i'r GIG a thu hwnt i lywodraeth leol, yw un o'r meysydd gwariant mwyaf i Lywodraeth Cymru a byddai wedi bod yn hawdd iawn targedu'r gyllideb benodol honno i chwilio am rai gostyngiadau i'w gwneud. Ond roedd y Gweinidog yn glir iawn mai dyma oedd ei blaenoriaeth hi yn sicr—roedd hi wedi gwrando ar ffermwyr a dyma beth roedden nhw'n galw amdano yn sicr. Felly, roeddem yn gallu diogelu'r gyllideb honno, ond nid oedd yn hawdd o bell ffordd i wneud hynny.
A phrentisiaethau—rwy'n credu mai dyma un o'r meysydd allweddol iawn sydd wedi dod drwodd yn y ddadl y prynhawn yma. Ac er gwaethaf cefndir o her ac ansicrwydd economaidd sylweddol, sydd wedi'i waethygu gan golli'r cronfeydd hynny o'r UE, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu rhaglen brentisiaeth lwyddiannus iawn ac o ansawdd uchel. Rydym wedi elwa o fwy na dau ddegawd o gyllid tuag at raglenni prentisiaeth gan yr Undeb Ewropeaidd, gan helpu i ostwng diweithdra, hybu sgiliau a thyfu busnesau, ond nawr, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni wneud darpariaethau eraill ar gyfer hynny. Ac nid oes ceiniog o'r arian hwnnw bellach ar gael i ni yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydym bellach o leiaf £375 miliwn yn waeth ein byd bob blwyddyn o ganlyniad uniongyrchol i broses codi'r gwastad Llywodraeth y DU. Mae hynny'n hollol eironig, onid ydyw? Ac mae hynny'n ychwanegol at y ffaith bod y gyllideb gyffredinol werth £1.3 biliwn yn llai. Felly, rwyf eisiau pwysleisio wrth fy nghyd-Aelodau y sefyllfa anodd yr ydym yn ei hwynebu o ganlyniad i rai o'r dewisiadau a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Rydym yn awyddus, wrth gwrs, i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i gyflwyno'r gyllideb mewn modd sy'n ddefnyddiol i gyd-Aelodau. Felly, rydym wedi bod â nifer o ddatblygiadau arloesol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fe wnaethon ni gyflwyno'r cynllun gwella cyllideb yn 2019-20, ac ers hynny rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn ceisio arloesi bob blwyddyn. Rydym wedi cael ein cynllun peilot cyllidebu ar sail rhyw, rydym wedi cael ein hasesiadau effaith dosbarthu, ein hasesiadau effaith carbon, ac mae gennym strategaeth buddsoddi seilwaith newydd i Gymru, a chynlluniau cyllid sy'n sylfaen i honno hefyd. Felly, os oes mwy y gallwn ni fod yn ei wneud i gyflwyno ein cyllidebau mewn ffordd sy'n ddefnyddiol i gyd-Aelodau, rydym yn awyddus iawn i archwilio hynny. Ac rwy'n gwneud hynny trwy'r gwaith y byddaf yn ei wneud gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â'r protocol cyllidebol, yr wyf yn parhau i edrych ymlaen at wneud rhywfaint o gynnydd arno, wrth inni symud tuag at y gyllideb derfynol a thu hwnt i'r cyfnod adolygu gwariant. Bydd y gwaith ar hynny yn dechrau ym mis Ebrill eleni. Felly, mae gennym lawer mwy i edrych ymlaen ato.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r gwelliant? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni'r pleidleisiau ar ddiwedd y prynhawn, ar ddiwedd y noson heno, yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Bydd angen cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu y ddadl nesaf ar y diwydiant dur. Gweinidog yr Economi i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NNDM8481 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8480 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Diolch i'r Gweinidog. A'r cynnig yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae hwnna wedi'i ganiatáu.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Darren Millar.
Sydd yn ein caniatáu ni i symud ymlaen i'r ddadl ar y diwydiant dur. Gweinidog yr Economi i wneud y cynnig yma. Vaughan Gething.
Cynnig NNDM8480 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod dyfodol addawol i waith creu dur mewn ffwrneisiau chwyth yng Nghymru fel rhan o bontio teg sy’n cefnogi economi Gymreig gryfach ac sydd hefyd yn diogelu ased sy’n perthyn i’r DU.
2. Yn cefnogi’r achos dros drafodaethau pellach a fydd yn galluogi proses bontio hirach i ddiogelu swyddi er mwyn creu dyfodol uchelgeisiol a gwyrddach ar draws cyfleusterau Tata yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron.
Ddydd Gwener diwethaf, dechreuodd Tata Steel y broses ymgynghori gyfreithiol ffurfiol ar gyfer diswyddiadau posibl ar draws ei safleoedd yn y DU. Rydym ar ddeall y gallai fod hyd at 2,800 o ddiswyddiadau, y gallai bron i 2,500 ohonynt ddigwydd o fewn y 18 mis nesaf. Rhaid i'r Siambr sylweddoli mai dim ond dechrau'r ymgynghoriad ffurfiol rhwng y cwmni a'r undebau llafur yw hyn. Y tri undeb llafur dur yw Community, y GMB ac Unite. Maent i gyd yn unedig yn eu dealltwriaeth nad yw'r chwiban olaf wedi chwythu ac nad oes sicrwydd y bydd y ddwy ffwrnais chwyth yn cau yn unol â'r cynigion.
Mae cyflymder a graddfa'r newidiadau hyn yn bryder gwirioneddol. Fel y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod, rydym wedi awgrymu y dylai fod proses bontio hirach, arafach tuag at gynhyrchu dur gwyrdd ym Mhort Talbot am gryn amser cyn heddiw. Nid yw Llywodraeth Cymru yn credu bod y cynigion hyn yn gyfystyr â phontio teg, ac rwy'n nodi nad yw Greenpeace hyd yn oed o'r farn bod y cynigion yn bontio teg.
Ddydd Iau yr wythnos diwethaf ym Mhort Talbot, fe wnaeth y Prif Weinidog a minnau gyfarfod â phrif weithredwr gweithrediadau byd-eang Tata a'i brif weithredwr yn y DU. Fe wnaethom chwe phwynt eang yn glir. Y cyntaf yw nad ydym yn credu y dylai Tata wneud dewisiadau diwrthdro yn seiliedig ar lefel bresennol y cymorth y mae'n ei gael gan Lywodraeth y DU. Yr ail yw bod cynllun amgen credadwy yn bodoli, ac mae unrhyw gynllun credadwy yn cynnwys cynhyrchu mwy o ddur arc trydan.
Y trydydd yw bod yn rhaid i'r ymgynghoriad fod yn ystyrlon ac ni ddylai gael ei gwtogi gan yr isafswm cyfreithiol o 45 diwrnod. Dylai unrhyw gynllun amgen ystyrlon gael ei ystyried yn briodol ac yn llawn. Rwy'n falch o ddweud bod y cwmni wedi cadarnhau'n uniongyrchol i mi ac i'r Prif Weinidog y byddai'r holl amser angenrheidiol yn cael ei roi i unrhyw wrthgynigion gan yr undebau llafur. Yr amser lleiaf yw hynny'n union, a bydd trafodaethau am y dyfodol yn cymryd cyhyd ag y bydd angen.
Y pedwerydd pwynt oedd ein bod wedi tynnu sylw at yr angen i gymryd camau rhagweithiol i hyrwyddo gwasanaethau cymorth iechyd meddwl gyda'r gweithlu ac ar eu cyfer. Rwyf eisoes wedi trafod rhywfaint o'r gwaith hwn gyda fy nghyd-Aelod Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Rydym am i'r holl bartneriaid ailadrodd y neges gymdeithasol ehangach a amlygodd Jack Sargeant yn glir yr wythnos diwethaf: mae hi wir yn iawn i ddweud nad ydych chi'n iawn, gofyn am help, a bod yn gydymdeimladol tuag at y pryderon gwirioneddol sydd gan bobl.
Y pumed pwynt oedd ein bod wedi ailadrodd cwestiwn a ofynnwyd i mi yn y Pwyllgor Materion Cymreig yr wythnos diwethaf. Mae yna biblinell nwy i orsaf bŵer Baglan gerllaw. Mae hynny'n opsiwn realistig i'w archwilio ar gyfer cyfleuster lleihau haearn yn uniongyrchol yn y dyfodol.
A'r chweched pwynt a wnaethom oedd y bydd Llywodraeth Cymru hon yn parhau i ymgysylltu'n ddidwyll â'r holl bartneriaid. Mae hynny'n cynnwys y cwmni, Llywodraeth y DU, undebau llafur a'r gymuned ehangach. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i ymgysylltu ar draws y Siambr hon hefyd.
Mae'r diwydiant dur yn rhan o stori ein cenedl, ac mae'n sefyll fel arwydd o ragoriaeth Cymru yn 2024. Mae'n cynrychioli ased economaidd gyda chyrhaeddiad byd-eang sy'n hanfodol i fodloni gofynion dyfodol gwyrddach, mwy diogel. Ym Mhort Talbot mae yna weithlu gyda'r arbenigedd, y gallu a'r ymroddiad i gyflawni pontio hirach, tecach ar gyfer dur sydd ei angen ar economi Cymru, ac felly economi'r DU.
Mae gan Lywodraeth y DU a Tata Steel yr offer rhyngddynt i sicrhau pontio hirach, tecach ar gyfer sector sy'n dda ar gyfer twf gwyrdd ac sy'n hanfodol i'n diogelwch ar y cyd. Mae'n fuddiol i bob un ohonom sicrhau'r cytundeb gorau ar gyfer dur, nid y cytundeb rhataf. Fis Medi diwethaf, cyhoeddodd Tata gytundeb â Llywodraeth y DU a fyddai'n golygu cau'r ddwy ffwrnais chwyth erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Mae'r cytundeb hwnnw'n cynrychioli colled economaidd ar raddfa hanesyddol i Gymru o fewn diwydiant sy'n sail i'n sector gweithgynhyrchu presennol a'r cyfleoedd economaidd enfawr o ran ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, er enghraifft. Yn hytrach na darparu pont i'r dyfodol a fyddai yn ein gweld yn cynhyrchu dur glanach, mae'r cytundeb a gafodd ei daro yn cynnig dibyn a chaledi y gellir ei atal i'r union weithwyr sydd yn y sefyllfa orau i wneud i'r broses bontio weithio.
Yn ogystal â'r sioc economaidd, barn gadarn Llywodraeth Cymru yw bod yna fethiant gwirioneddol i gydnabod buddiannau diogelwch strategol y DU. Os caiff y cynigion hyn eu rhoi ar waith, yna y DU fydd yr unig economi G20 i ddod â'i galluoedd gwneud dur crai i ben. Hyn i gyd ar adeg o wrthdaro byd-eang cynyddol ac aflonyddwch masnach cynyddol. O ganiau i geir i adeiladu, mae dur crai yn elfen hanfodol o'r dur sydd ei angen arnom heddiw. Pe byddai'r cynigion yn cael eu gweithredu'n llawn, byddai'r DU yn dod yn ddibynnol ar fewnforion a gynhyrchir i safonau amgylcheddol is ac a gaiff eu cludo miloedd o filltiroedd i Gymru ar longau tanwydd diesel.
Er bod y cwmni wedi disgrifio'r uchelgais sydd ganddo ar gyfer y dyfodol, mae cynlluniau'r undebau llafur yn cynnig ffordd gredadwy ymlaen i'r busnes nad yw'n cynnwys colli'r nifer syfrdanol o swyddi sy'n cael ei gynnig. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r bobl a'r cymunedau y mae'r cynigion hyn yn effeithio arnynt. Byddwn yn defnyddio'r holl asedau sydd ar gael, gan gynnwys y bwrdd pontio a'i ddau is-grŵp, i geisio lleihau'r effaith gymdeithasol ac economaidd cymaint â phosibl os bydd y cynlluniau hyn yn mynd yn eu blaen. Rydym yn parhau i gymryd rhan yn y bwrdd i gefnogi meysydd blaenoriaethau a rennir. Fe fynychais drydydd cyfarfod o'r bwrdd ddydd Iau diwethaf.
Yn ogystal, byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol fel y Ganolfan Byd Gwaith, Cymru'n Gweithio, awdurdodau lleol ac undebau llafur i sicrhau bod pobl sy'n wynebu diswyddiadau o ganlyniad i'r cynigion hyn yn cael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar y cymorth sydd ar gael iddynt. Gall rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru ReAct+, Cymunedau am Waith+, gefnogi hyfforddiant a mentora i'r rhai sy'n dymuno neu sydd angen y cymorth hwn. Ac rwyf i, wrth gwrs, yn adolygu maint y gyllideb y gallai fod ei hangen. Mae Busnes Cymru hefyd ar gael i ddarparu gwybodaeth, arweiniad a chymorth i fusnesau yn y gadwyn gyflenwi y gallai hyn effeithio arnynt, i adolygu'r effaith ac, o bosibl, i nodi marchnadoedd amgen. Wrth gwrs, gall Busnes Cymru hefyd ddarparu gwybodaeth am opsiynau hunangyflogaeth posibl yn y dyfodol.
Efallai y bydd cyfleoedd cyflogaeth posibl ar gael o'n fforymau diwydiannol, gan gynnwys Diwydiant Cymru, Fforwm Modurol Cymru, Awyrofod Cymru, ac eraill. Yr her y gallem ei hwynebu yw nifer y colledion swyddi, y gwahaniaeth posibl mewn cyflogau a pha mor gyflym y gallai gweithwyr ailsgilio.
Rwy'n gwybod bod Tata wedi trafod cynllun ymchwil ac arloesi manwl gyda Phrifysgol Abertawe i gefnogi pontio arfaethedig Tata. Fodd bynnag, bydd y gefnogaeth hon yn cael ei darparu o ganlyniad i'r cytundeb anghywir ar gyfer dur. Mae'r dicter a'r boen, a deimlir gan gynifer o bobl, yn cael eu gwaethygu gan yr honiad rhesymol a rennir bod modd ei atal. Gallai Prif Weinidog y DU sylweddoli maint y dicter hwnnw o hyd ac ymgysylltu â manylion y cytundeb hwn. Mae cyfle i sicrhau canlyniad gwell sy'n diogelu ased sofran sy'n rhan o'n gwead cymdeithasol ac economaidd yma yng Nghymru. Byddai Cymru a gweddill y DU yn well eu byd ac yn fwy diogel pe bai cynnyrch y dyfodol a fydd yn ein pweru tuag at ddyfodol mwy gwyrdd yn cael eu cynhyrchu yma.
Rwyf am ddweud rhywbeth am y gweithlu cyn i mi orffen. Yr oedran cyfartalog ym Mhort Talbot yw 37. Mae'n is na hynny yn Llanwern. Wrth gwrs, mae yna weithwyr profiadol sy'n dod tuag at ddiwedd eu gyrfa, ond mae llawer o brentisiaid ifanc a llawer o weithwyr â chyfrifoldebau ac ymrwymiadau i gartrefi a theuluoedd sy'n dibynnu ar eu hincwm. Yr un yw'r sefyllfa yn Nhrostre a Shotton. Mae'r rhain yn weithwyr balch—yn falch o'u cynnyrch, yn falch o'u sgiliau. Maen nhw'n ddeallus ac yn deall eu sector. Maen nhw wedi gwneud newidiadau dro ar ôl tro i addasu a chadw'r busnes a'u swyddi'n fyw. Maen nhw'n gwybod bod yna ddyfodol i ddur, dyfodol sy'n werth ymladd drosto.
Byddaf yn parhau i weithio gyda'r cwmni, undebau llafur a Llywodraeth y DU i geisio brwydro am y dyfodol hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd ein Senedd heddiw yn uno i ddangos ein bod ni i gyd yn credu yr un peth a bod dyfodol gwell yn bosibl. Edrychaf ymlaen at y drafodaeth ac i ymateb maes o law.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig a dwi'n galw ar Paul Davies i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3.
Gwelliant 1—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r £500 miliwn gan Lywodraeth y DU i sicrhau dyfodol y gwaith cynhyrchu dur ym Mhort Talbot.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r gronfa bontio gwerth £100 miliwn gydag £80 miliwn gan Lywodraeth y DU ac £20 miliwn gan Tata Steel Ltd.
Gwelliant 3—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu cyllid ar unwaith i gefnogi gweithwyr dur.
Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.
Diolch, Llywydd. Fel y dywedodd y Gweinidog, ddydd Gwener, cyflwynodd Tata ddadansoddiad o'i ailstrwythuro arfaethedig, ac mae'r broses ymgynghori sy'n dilyn yn gyfle ar gyfer ymgysylltu difrifol rhwng y cwmni, ei weithlu, cynrychiolwyr a Llywodraethau ynghylch cynlluniau'r cwmni, ac rwy'n cytuno â'r Gweinidog mai dyma ddechrau'r broses honno. Mae'n dal i fod yn gyfnod pryderus iawn i lawer o weithwyr ar safle Port Talbot ac rydym yn meddwl amdanyn nhw a'u teuluoedd o hyd wrth iddyn nhw fynd drwy'r cyfnod anodd iawn hwn. Ac, fel y mae Aelodau o bob plaid yn y Siambr hon wedi dweud yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae'n gwbl hanfodol bod y gweithwyr ar y safle yn cael eu cefnogi.
Mae'r cynnig heddiw yn credu bod dyfodol hyfyw ar gyfer gweithgynhyrchu dur ffwrnais chwyth yng Nghymru fel rhan o bontio teg sy'n cefnogi economi gryfach yng Nghymru ac sy'n amddiffyn ased sofran y DU ar yr un pryd, ac mae fy nghyd-Aelodau a minnau yn cefnogi hynny. Rydym wedi bod yn glir ein bod ni hefyd yn credu y dylai ffwrneisi arc chwyth chwarae rhan yn y gwaith o gynhyrchu dur wrth symud i arferion mwy gwyrdd ac y dylai fod cyfnod pontio mwy synhwyrol.
Fel y gŵyr yr Aelodau, yn ddiweddar cymerodd Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU dystiolaeth gan Tata a'r undebau llafur am y sefyllfa bresennol, a nodwyd yn glir yn ystod y sesiwn honno y bydd gan 55 y cant o gynhyrchwyr yr UE ffwrnais chwyth o hyd yn 2030. Yn wir, clywodd y pwyllgor, erbyn 2040, y bydd 40 y cant o'r holl ddur gwastad yn Ewrop yn dal i gael ei gynhyrchu mewn ffwrneisi chwyth ac y bydd 40 y cant yn cael ei gynhyrchu mewn ffwrneisi arc trydan, wedi'i ategu gan leihau haearn yn uniongyrchol. Ac rydym yn gwybod bod Tata eu hunain yn adeiladu tair ffwrnais chwyth yn India hefyd, ac felly rwy'n deall rhwystredigaethau llawer ynghylch rhoi'r gorau i'n ffwrneisi chwyth ni pan fo'n ymddangos nad yw hynny'n digwydd mewn rhannau eraill o'r byd.
Yn wir, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth y Pwyllgor Materion Cymreig ei hun nad oedd am weld y ffwrneisi chwyth hynny'n cau a'i fod yn benderfyniad i Tata, ac rwy'n cytuno ag ef. Fel eraill yn y Siambr hon, rwy'n dal i gredu bod dyfodol hyfyw ar gyfer dur a gynhyrchir mewn ffwrneisi chwyth yng Nghymru wrth i ni symud at arferion mwy gwyrdd, ac rwy'n gobeithio bod pob llwybr a phob cynllun yn dal i fod ar y bwrdd. [Torri ar draws.] Ydw, rwy'n fwy na pharod i gymryd ymyriad.
Diolch, Paul. Rwy'n gwrando'n astud iawn ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud, ac rwy'n falch iawn eich bod chi'n cytuno y dylai ffwrneisi chwyth barhau i weithredu tan bod yr amser yn iawn. Ond onid ydych chi'n credu bod Llywodraeth y DU wedi gwneud camgymeriad, pan darwyd y cytundeb, drwy beidio â gosod amodau i sicrhau y gallai ffwrneisi chwyth barhau, i ganiatáu'r pontio didrafferth hwnnw, oherwydd ni chafodd unrhyw amodau eu gosod ar y cytundeb hwnnw? Yn syml, dywedon nhw, 'Dyma'r arian, rydyn ni eisiau ffwrnais arc drydan—a dyna ni.' Dim amodau. Oni ddylen nhw fod wedi gosod amodau?
Wel, fel pwyllgor, wrth gwrs, rydym yn gobeithio'n fawr y bydd gennym Weinidogion Llywodraeth y DU o'n blaenau fel pwyllgor maes o law, ac yn sicr dyna fydd rhai o'r cwestiynau y byddwn ni'n eu gofyn i Weinidogion Llywodraeth y DU.
Nawr, drwy gydol y cyfnod hwn, mae'n hanfodol bod y gweithwyr ar y safle yn cael eu cefnogi, ac mae'n rhaid i'r gefnogaeth honno fod ar ffurf cyfleoedd gwaith a hyfforddiant wrth gwrs, ond hefyd ar ffurf cymorth iechyd meddwl a chymorth emosiynol hefyd. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi cyffwrdd ar hyn yn ei sylwadau yn gynharach, ond efallai y gallai ddweud ychydig mwy wrthym am sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gweithwyr yn gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw yn ystod y cyfnod hwn.
Mae Tata wedi cynnig rhoi £130 miliwn i gefnogi unrhyw ddiswyddiadau, ac rwy'n gwybod bod cymorth wedi'i roi hefyd, ynghyd â chymorth gan Lywodraeth y DU, ar ffurf y gronfa bontio. Fy nealltwriaeth i yw bod gan y bwrdd pontio, y mae'r Gweinidog yn ddirprwy gadeirydd arno, ddwy ffrwd waith benodol. Y cyntaf ohonynt yw rheoli pobl a sgiliau, ac mae'r ail ffrwd waith yn ystyried yr effaith ehangach ar y gymuned ac adfywio. Ni allaf ond pwysleisio pa mor bwysig yw gwaith y bwrdd pontio ar hyn o bryd, ac rwy'n gobeithio, lle y bo'n bosibl gwneud hynny, y bydd gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd, fel y gallwn ni ddysgu mwy am y gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Nawr, Llywydd, gan droi at y sector yn ehangach, mae'n rhaid i ddyfodol hirdymor i ddur Prydain fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a chan fod y broses ymgynghori wedi dechrau, nawr yw'r amser i ystyried pob cynllun. Mae'r undebau wedi llunio eu cynlluniau nhw, ac fel yr ydym wedi clywed o'r blaen, mae'n hanfodol bod yr holl gynlluniau yn cael eu hystyried. Fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud, mae dur yn gwbl hanfodol i'n seilwaith cenedlaethol ac o ran amddiffyn ein cenedl, a fy marn i yw na ddylem ddibynnu ar fewnforion o wledydd eraill i gael mynediad at ddur pan fo'r capasiti a'r sgiliau sydd eu hangen i gynhyrchu dur yn ein gwlad ein hunain yn barod. Ac fel y dywedwyd yn gynharach, mae yna gyfleoedd i'r sector dur, er enghraifft, mewn perthynas â'r môr Celtaidd a'r datblygiadau mewn gwynt ar y môr a ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, ac mae'n bwysig bod trafodaethau'n cael eu cynnal ynglŷn â manteisio ar y cyfleoedd hynny. Mae angen i'r ddwy Lywodraeth gynnal trafodaethau rhynglywodraethol strategol ynglŷn â sut y dylai'r sector edrych yn y byrdymor a'r hirdymor, a nodaf fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidog yr economi wedi dweud eu bod am weithio mewn partneriaeth, ac edrychaf ymlaen at weld hynny'n digwydd.
Felly, Llywydd, wrth gloi, mae'n rhaid i ni ddatblygu ffordd ymlaen sy'n cefnogi datgarboneiddio'r sector ac yn croesawu technoleg i gynhyrchu dur mwy gwyrdd, ac sy'n gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n peryglu ein gallu a'n sgiliau gwneud dur am gyfnod amhenodol. Yfory, bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn craffu ar swyddogion gweithredol Tata ac yn eu holi am eu penderfyniadau hyd yma a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac felly rwy'n annog yr holl Aelodau i wylio'r sesiwn honno a chlywed yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Byddwn yn cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru heddiw, ac yn ysbryd consensws rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi ein gwelliannau ni hefyd. Diolch.
Rydym hefyd yn cefnogi cynnig y Llywodraeth, gan nad oes dyfodol gwyrdd heb ddur. Fel y dywedwyd sawl gwaith, mae Plaid Cymru yn un â'r gweithlu, ein cymunedau, a'r undebau, sydd i gyd wedi rhoi eu bywydau i'r diwydiant ac sy'n gweithio'n galed i ddiogelu dyfodol y diwydiant hwnnw yma yng Nghymru. Ac mae'r Gweinidog yn iawn: nid yw'r chwiban olaf wedi cael ei chwythu. Mae yna gynlluniau credadwy eraill y mae angen eu harchwilio—pob opsiwn ar y bwrdd—oherwydd, fel y mae nifer o Aelodau wedi dweud mewn dadleuon a datganiadau blaenorol, ac mae'n siŵr y byddwn ni'n ei glywed eto heddiw, dydyn ni ddim yn sôn am 'braf cael' yma. Rydym yn sôn am ased strategol a diwydiant lle mae arallgyfeirio cynhyrchu yn bwysig i ddyfodol y sector ac, yna, ein gallu i gynhyrchu adnodd i gyflawni ein huchelgeisiau a bod yn hunangynhaliol. Nid yw dibynnu ar fewnforion yn opsiwn credadwy. Nid dibynnu'n llwyr ar un ffordd o gynhyrchu dur yw'r ffordd ymlaen chwaith, ac os na fyddwn yn sicrhau pontio teg i weithlu medrus—gweithlu, gyda llaw, sydd ei angen arnom ar gyfer y pontio gwyrdd—bydd hynny'n niweidiol i ni.
Yn ystod fy nghyfnod yma yn y Senedd, rydym wedi cael nifer o ddatganiadau a dadleuon am Tata, ac rwyf wedi bod yn glir bod Llywodraeth Cymru, y Gweinidog, wedi gweithio'n agos gyda'r undebau, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Rwyf hefyd wedi bod yn glir, yn y pen draw, oherwydd y buddsoddiad sylweddol sydd ei angen yn y safle, y bydd ei ddyfodol yn cael ei benderfynu yn San Steffan yn bennaf. Ar y nodyn hwnnw, perchenogaeth bydd y ffactor a fydd yn penderfynu ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Roedd gen i ddiddordeb yn y sylw a wnaed gan Weinidog yr economi mai codi sgwarnogod yw gwladoli. Efallai yr hoffai ymhelaethu ymhellach ar yr hyn y mae'n ei olygu wrth hynny, ac rwy'n dweud hyn am fy mod i wir eisiau gweithio trwy'r holl opsiynau ar y bwrdd, oherwydd, hyd y gwelaf, yr hyn sydd gennym yma yw adnodd strategol sy'n hanfodol i hunangynhaliaeth. Mae gwledydd eraill yn poeni am bwy sy'n berchen ar ba adnoddau strategol. Mae gwledydd eraill hefyd yn cydnabod yr angen i sicrhau bod perchnogaeth o'r asedau pwysig hyn yn aros, o leiaf, o fewn y wlad honno—sy'n fwy pwysig nawr, fel yr amlygodd y Gweinidog, mewn byd sy'n dod yn fwy ynysig a gelyniaethus. Rydym yn canfod ein hunain mewn sefyllfa lle gallem golli ein gallu i gynhyrchu ased sofran oherwydd penderfyniadau cwmni preifat ar ben arall y byd.
Rydym i gyd yn gwybod y bydd angen buddsoddiad ariannol sylweddol yn y diwydiant; mae'n anochel. Ac mae'n dod â mi at y gwaith a wnaed gan Mazzucato ar gymdeithasu risg a phreifateiddio gwobr. Os daw buddsoddiad sylweddol o'r wladwriaeth, yna pam na all y wladwriaeth gael cyfran yn y buddsoddiad hwnnw neu fod yn berchen ar yr ased? Rydym yn glir yma: mae angen i bob opsiwn gael eu hystyried os ydym o ddifrif ynghylch diogelu swyddi yn Tata a diogelu gallu'r DU i gynhyrchu dur. I mi, mae hynny'n golygu peidio â dibynnu ar gwmni preifat i newid ei feddwl a gadael gweithwyr ar ei drugaredd, dim ond i ni orfod dod yn ôl a delio â'r canlyniad wedyn. A byddwn i'n annog Llywodraeth y DU, ac unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol, i fod yn fentrus o ran ei syniadau. Gall gwladoli fod yn gam cyntaf yn unig. Nid yw'n fwled arian, na'r diwedd; gallai fod yn gam cyntaf yn unig. Cymerwch Bwll Glo'r Tower fel model enghreifftiol, edrychwch ar Mondragon, ac ewch ati i ddiogelu dyfodol y diwydiant strategol bwysig hwn.
Llywydd, ddydd Gwener diwethaf, fe gwrddais i â phrif swyddog gweithredol Tata Steel, Mr T.V. Narendran, i drafod y camau sy'n cael eu cymryd gan y cwmni yn dilyn y cyhoeddiad gan Tata i gau'r ddwy ffwrnais chwyth, ac, i bob pwrpas, i ddod â'r gwaith o weithgynhyrchu dur ym Mhort Talbot i ben ar gyfer y dyfodol agos. Yn y cyfarfod, fel y mae'r Aelodau eisoes wedi dweud, cefais wybod bod yr hysbysiad 45 diwrnod—hysbysiad statudol—wedi cael ei roi i'r undebau llafur. Ac, felly, wrth i ni gyfrannu at y ddadl hon, gofynnaf i bawb fod yn ymwybodol o'r ffaith honno, a galw ar Tata, a fydd, rwy'n siŵr, yn gwrando, i beidio â rhuthro'r broses hon, ond i roi cymaint o amser ag sydd ei angen i'r gweithlu.
Llywydd, ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae gan Bort Talbot hanes balch o gynhyrchu dur, sydd wedi arwain at y gwaith dur presennol, a adeiladwyd yng nghanol yr ugeinfed ganrif ac a addaswyd yn y blynyddoedd dilynol. Ac o'r dechreuadau gostyngedig hynny yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, i'w safle presennol fel canolbwynt cynhyrchu dur integredig modern heddiw, mae taith Port Talbot yn adlewyrchu gwydnwch y bobl leol a gallu'r diwydiant i addasu i amseroedd sy'n newid. Mae hanes cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn dyst i ysbryd diwydiannol y dref, ynghyd ag ysbryd diwydiannol Cymru, a'r ymdrechion parhaus i gydbwyso datblygiad economaidd â chynaliadwyedd amgylcheddol.
Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cynhyrchu dur ym Mhort Talbot wedi bod dan fygythiad, ac rydym nawr yn wynebu dyfodol a fydd, eleni, yn gweld diwedd y gwaith o gynhyrchu dur sylfaenol ym Mhort Talbot. Gyda'r addewid o ailgylchu drwy'r ffwrneisi arc trydan tuag at ddiwedd y degawd, mae hynny'n gadael cyfnod o sawl blwyddyn lle na fydd Port Talbot yn cynhyrchu ei dur ei hun, ond yn ei fewnforio o safleoedd sydd wedi'u lleoli ar draws y byd. Nid yw hynny o reidrwydd yn agenda werdd. Mae miloedd o weithwyr ym mhob rhan o'n tref, a'r rhanbarth ehangach, yn gofyn nawr beth yw'r dyfodol iddyn nhw a'u teuluoedd, nid dim ond y 2,800 sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Tata, ond hefyd y rhai sy'n cael eu cyflogi gan gontractwyr a'r gadwyn gyflenwi sy'n gwasanaethu'r diwydiant hwn. Ac rydym yn gwybod bod y ffigurau yn ddwy, tair, pedair gwaith pob gweithiwr dur, mae rhywun yn y diwydiannau ychwanegol hynny. Maen nhw'n pryderu am sut y byddan nhw'n goroesi yn ystod y cyfnod rhwng cau'r ffwrneisi chwyth a chychwyn EAF, a thu hwnt i hynny. Maen nhw'n pryderu am ddyfodol ein tref, ac am fusnesau lleol sydd wedi cael ei chael hi'n anodd dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw'n pryderu am ddyfodol eu plant. Maen nhw'n edrych atom ni i sefyll i fyny drostyn nhw a'u cymunedau.
Bydd Aelodau ar draws y Siambr hon yn gwybod fy mod i'n gefnogwr brwd o gynhyrchu dur, ac o'r angen i gael diwydiant sy'n hyfyw ac yn gynaliadwy. Ac rwy'n credu'n gryf nad y cynlluniau presennol i gau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot nawr, a mewnforio dur, yw'r ffordd ymlaen i'r diwydiant, na'r dref, nac yn wir ein cenedl. Nid dyma'r pontio cyfiawn a theg i ddiwydiant dur wedi'i ddatgarboneiddio yr oeddem yn ei ragweld pan gyhoeddwyd y cytundeb rhwng Tata a Llywodraeth y DU ym mis Medi.
Ynghyd â gweithwyr dur, rwy'n derbyn bod angen newid y ffordd y mae dur yn cael ei gynhyrchu, ond mae llwybr arall ar gael i gyrraedd y nod hwnnw. Dylai Llywodraeth y DU ddeall bod y cynllun a gyflwynwyd gan yr undebau llafur yn ffordd o ddatgarboneiddio cynhyrchu dur, gan adeiladu diogelwch a chynnal gallu'r DU i fod yn genedl cynhyrchu dur sylfaenol ar yr un pryd. Mae'n sicrhau y bydd cynhyrchiant ffwrnais chwyth yn parhau hyd nes ein bod mewn sefyllfa i drosglwyddo i ddewisiadau amgen, a ddylai gynnwys gallu lleihau haearn yn uniongyrchol. Nid yw'r dull hwnnw'n unigryw i'r DU—mae'n un sy'n cael ei ddatblygu gan fusnesau ledled y byd.
Mae llawer o fusnesau, a gefnogir yn aml gan eu Llywodraethau—ac rwy'n mynd i enwi ambell wlad; wna' i ddim eu henwi i gyd, oherwydd does gen i ddim amser—mae Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, yr Eidal, y Ffindir, UDA a Sbaen i gyd yn edrych ar ddefnyddio ffwrneisi arc trydan fel ateb, ond nid EAF yn unig. Maent yn defnyddio'r ymchwil a'r datblygiadau technolegol a fydd yn cynnig defnyddio ffwrneisi DRI gan ddefnyddio nwy naturiol a symud ymlaen i hydrogen pan fydd ar gael. Mae'r cyfuniad hwn yn cynnig dull carbon isel a fydd yn defnyddio'r dur sgrap sy'n bodoli o'r DU ac yn cadw cyfleuster cynhyrchu dur sylfaenol—dyna'r ffordd ymlaen. Dyna'r hyn yr oedd yr undebau yn ei gynnig. Y cwestiwn y dylem fod yn ei ofyn i Tata a Llywodraeth y DU yw pam na wnewch chi fabwysiadu'r dull hwn. Pam nad ydyn nhw'n gwneud hynny? Dylen nhw fod yn gofyn sut allwn ni wneud hynny mewn ffordd sy'n deg ac yn gyfiawn i bawb sy'n gysylltiedig. Dyna'r cwestiwn y dylid ei ofyn.
Wrth gefnogi'r defnydd parhaus o'r ffwrneisi chwyth ar gyfer eu hoes ddisgwyliedig, rydym yn cydnabod nad dyna'r pwynt terfynol, ein bod ni yn symud ymlaen, ond mae'n rhan o'r broses drosiannol. Mae'n ymwneud â chydnabod cryfderau'r hyn sydd wedi ein gwasanaethu mor dda, a mynd ati i chwilio am ddewisiadau amgen glanach ar yr un pryd. Nid yw ein sefyllfa yn un lle rydym yn gwrthsefyll newid, ond rydym yn ei reoli'n well. Gadewch i ni groesawu'r her o ddatgarboneiddio cynhyrchu dur gyda dull pragmatig trwy arloesi, ôl-osod a dod o hyd i lwybrau i ddefnyddio ffwrneisi chwyth yn gynaliadwy. Gallwn ni bontio'r bwlch rhwng trawsnewid a chynnydd. Ein nod yw diwydiant dur sydd nid yn unig yn adeiladu ein byd, ond sy'n gwneud hynny gydag ymrwymiad i safonau amgylcheddol. Drwy wneud hynny, gallwn ni sicrhau trosglwyddiad llyfnach a chynhwysol sy'n ystyried goblygiadau economaidd ac yn sicrhau bod diwydiannau yn parhau i weithredu. Gyda'n gilydd, gallwn ni weithio tuag at ddyfodol carbon isel.
Llywydd, rwyf am orffen drwy atgoffa pobl y byddaf yn parhau i frwydro dros bob un swydd ym Mhort Talbot, pob un busnes a phob un teulu y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio arnynt, ac rwy'n parhau i annog Tata i feddwl yn ofalus am wneud unrhyw benderfyniadau diwrthdro nawr a fydd yn difetha cymaint o fywydau pan fo cynllun ar gyfer ffordd yn y dyfodol. Rwyf am gofnodi fy mod i'n hynod ddiolchgar i'r undebau llafur—Community, GMB ac Unite—am yr holl waith y maen nhw wedi'i wneud i gefnogi ein gweithwyr dur ac i gyflwyno cynlluniau ar gyfer dyfodol pob un ohonom.
Roeddwn i eisiau dechrau fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw ar gynhyrchu dur yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y cyhoeddiad siomedig, a drafodwyd eisoes, gan Tata y gallai swyddi gael eu colli ym Mhort Talbot. Bydd colli swyddi ar y raddfa a gynigiwyd gan Tata mewn tref maint Port Talbot yn amhosib i'w amsugno.
Ond rwy'n croesawu'r buddsoddiad o £100 miliwn gan Lywodraeth y DU mewn bwrdd pontio i helpu a chefnogi gweithwyr sydd angen hyfforddiant a chymorth i ddod o hyd i gyflogaeth arall. Bydd yn mynd yn bell o ran pontio'r bwlch rhwng eu cyflogaeth bresennol ac unrhyw sgiliau a chymorth newydd y gallai fod eu hangen ar weithwyr i sicrhau cyflogaeth arall. Bydd hefyd yn chwarae rhan, fel y soniodd Paul Davies, wrth adfywio'r ardal ehangach, un sydd â chymaint o botensial economaidd. Dyna pam y cafodd ei ddewis fel safle ar gyfer porthladd rhydd Celtaidd ym Mhort Talbot. Wedi'i baru â phorthladd Aberdaugleddau, mae ganddo'r potensial i newid pethau'n llwyr, fel yr wyf wedi'i ddweud yn y Siambr hon o'r blaen, i bobl yn yr ardal, ac, yr un mor bwysig, i ffyniant economaidd hirdymor y dref a'r rhanbarth. Bydd tua 16,000 o swyddi sgiliau uchel newydd sy'n talu'n dda wedi'u gwreiddio mewn ynni glân, gwyrdd yn newid natur a'r naratif o amgylch tref fel Port Talbot, ac mae'n golygu bod gan y dref ddyfodol tymor hwy i edrych ymlaen ato; ond mae hynny, fel y soniais i, yn y tymor hir. Ac ni fydd yn rhoi fawr o sicrwydd i bobl heddiw, y gallai eu swyddi fod yn y fantol, fod dyfodol tymor hwy mwy disglair ar y gorwel. Rwy'n derbyn hynny.
Dyna pam mae'r bwrdd pontio hwnnw y soniais amdano mor bwysig, wedi'i ariannu bron yn gyfan gwbl gan arian a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU. Os caiff ei ddefnyddio'n ddoeth, bydd yn helpu i bontio'r bwlch hwnnw i lawer iawn o bobl. Dywedodd y Gweinidog yn ddiweddar nad oedd yn argyhoeddedig bod y £100 miliwn yn ddigon i ymgymryd yn ddigonol â maint y gwaith sydd ei angen ar y safle ac ar ran y gweithwyr, ac mae'n ddigon posibl ei fod yn iawn. Ond dyna pam—ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, a byddaf yn ei ddweud eto—mae'n arbennig o siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i'r un geiniog o'i harian ei hun o hyd i gyfrannu tuag at y gronfa honno. Rydym wedi clywed un gair cynnes ar ôl y llall am y diwydiant dur gan Weinidog yr economi, hyd yn oed mwy o feirniadaeth am y cytundeb sydd ar y bwrdd, ond ychydig iawn rydym wedi'i glywed am y gwaith o gefnogi gweithwyr dur ym Mhort Talbot mewn gwirionedd. Yn wir, nid yn unig y mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chyfrannu un geiniog tuag at gronfa bontio Tata Steel i gefnogi gweithwyr yr effeithiwyd arnynt, mae ymchwilwyr y Ceidwadwyr Cymreig wedi canfod bod y darlun go iawn hyd yn oed yn fwy llwm na hynny. Pan ofynnwyd faint o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r diwydiant dur a'i weithwyr ym Mhort Talbot ers 2019, yr ateb, unwaith eto, yw dim.
Ar ddiwedd y dydd, Llywydd—[Torri ar draws.] Rwy'n gorffen nawr. Ar ddiwedd y dydd, Llywydd, rydym yn cael dadl arall ar bwnc Tata Steel, un o nifer ers i'r cyhoeddiad hwn gael ei wneud gan Tata ynglŷn â cholli swyddi, ac mae hynny'n hollol gywir. Ond nid yw'r dadleuon hyn yn golygu dim oni bai bod Llywodraeth Cymru yn camu ymlaen i gefnogi'r diwydiant dur ac yn sicrhau bod arian ar gael. Mae'n Llywodraeth sydd wedi cynnig digon o feirniadaeth ond dim un geiniog. Gweithredoedd sy'n bwysig, nid geiriau.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud nad oes cynllun C ar gyfer dur Cymru—mae naill ai cynllun A, sef cau popeth, neu gynllun B, sef cynllun A fesul tipyn ac yn llechwraidd. Mae angen cynllun C arnom, a does neb arall yn mynd i ddod o hyd iddo drosom. Mae'n rhaid i ni weithredu ar frys a chyda phendantrwydd, oherwydd mae Tata eu hunain wedi dweud bod y cytundeb fwy neu lai'n derfynol cyn belled ag y maen nhw yn y cwestiwn. 'Oni fyddai gennym ni Gynulliad nawr i'n hamddiffyn', oedd geiriau llawer ohonom yn ystod streic y glowyr. Wel, mae gennym ni'r Senedd hon nawr, felly beth allwn ni ei wneud â hi? Gadewch i ni wrthod bod yn wylwyr mewn angladd; gadewch i ni benderfynu bod yn asiantau gweithredol wrth lywio ein dyfodol.
Felly, beth yw'r cynllun? Fel y dywedodd Dai Rees, mewn gweithfeydd dur ledled Ewrop—yn Ghent, yn Duisburg, yn Dunkirk—rydym yn gweld y dewis arall: nid diswyddiadau torfol, ond ailstrwythuro rheoledig; rhaglenni buddsoddi 10 mlynedd mewn technolegau newydd fel lleihau haearn yn uniongyrchol a hydrogen gwyrdd, torri allyriadau gan amddiffyn cynhyrchu dur sylfaenol ar gyfer y dyfodol. Er mwyn ein helpu ni i gyrraedd y dyfodol hwnnw, mae angen nod canolraddol arnom, sef rhwystro ffwrneisi chwyth rhag cau dros y 12 mis nesaf, gan brynu amser i ni ar gyfer newid yn y polisi a'r wleidyddiaeth yn San Steffan, er mwyn adeiladu pont i ddyfodol gwell. Os gall dur oroesi tan fis Ionawr, ni fydd Llywodraeth Lafur newydd eisiau i'w dranc daflu cysgod dros ei 100 diwrnod cyntaf. Felly, ein tasg gyntaf yw ceisio apelio i Tata, fel y clywsom gan y Gweinidog, i roi'r amser ychwanegol hwnnw i ni.
Mae'r cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod yn dod i ben ar 17 Mawrth, rwy'n credu, diwrnod ar ôl i'r darpar Brif Weinidog gael ei gyhoeddi. Mae'n wych clywed am y cyfarfodydd â phrif weithredwr Tata Steel, ond y peth cyntaf y dylai'r Prif Weinidog newydd hwnnw ei wneud, rwy'n credu, yw hedfan i Mumbai i siarad ag arweinyddiaeth Indiaidd Tata, rhiant-fwrdd y grŵp. Gwersyllodd Carwyn Jones y tu allan i'r cyfarfodydd bwrdd hynny yn 2016. Roedd yn ymdrech arwrol. Mae angen hynny arnom nawr; mae angen yr un egni a ffocws arnom. Ac fe weithiodd. Gorau oll, wrth gwrs, os bydd gan y Prif Weinidog newydd addewid am arian gan Keir Starmer yn ei boced cefn.
Os bydd Tata yn ddiwrthdro o hyd, dylem gynnig prynu eu hasedau Cymreig am eu gwerth llyfrau cyfredol, sef $1. Fyddan nhw ddim yn gwneud hynny, gan nad ydyn nhw eisiau'r gystadleuaeth. Mae hynny'n ein gadael gyda thri opsiwn. Opsiwn 1 yw gwneud dim, neu hoelio ein gobeithion ar Lywodraeth bresennol y DU, sydd yr un peth â gwneud dim. Opsiwn 2 yw prynu amser, yn llythrennol, drwy warantu colledion ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod, hyd at uchafswm penodol. Byddai'n rhaid ein bod ni'n sôn am gannoedd o filiynau—hyd at £300 miliwn, dyweder. Mae hynny'n ffigwr mawr. Dydyn ni erioed wedi gwneud y math hwnnw o fuddsoddiad yn nyfodol ein heconomi. Ond pan feddyliwch chi mai'r hyn sydd yn y fantol yn y flwyddyn nesaf yn unig yw £1.2 biliwn, gan haneru diwydiant dur Cymru—dros 10 mlynedd, mae hynny'n £12 biliwn—yna dyna fyddai'r buddsoddiad gorau y byddwn ni erioed wedi'i wneud.
Gallem ei ariannu drwy ddefnyddio ein pwerau benthyca dros flynyddoedd olynol, defnyddio rhywfaint o'n cronfa wrth gefn, defnyddio rhywfaint o'n cyllideb datblygu economaidd, ac, ie, defnyddio ein dychymyg. Ni fyddai bond 30 mlynedd, ar 4 neu 5 y cant, yn costio mwy na'r derbyniadau treth a fyddai'n cael eu colli trwy gau. Mae'n fuddsoddiad da. Pe bai Tata yn gwrthod, yna gallem basio deddfwriaeth frys i orfodi prynu asedau Cymreig Tata yn orfodol—eu ffatri, eu hoffer a'u hadeiladau. Mae cyfreithwyr y Senedd wedi cadarnhau y byddai gwladoli o'r fath, wedi'i gynllunio i achub y diwydiant dur yng Nghymru, o fewn ein cymhwysedd. Byddai hyn bron yn sicr o fod yn destun her gyfreithiol gan Tata, ond o leiaf byddai'n rhoi'r pŵer gorchmynnol i ni osgoi colli'r gallu ffwrnais chwyth hwnnw yn barhaol, a gallai sbarduno gwerthiant a drafodir fel busnes gweithredol, a allai ein helpu wedyn i arbed dur Cymru a'i gadw'n gyfan dros y 12 mis hollbwysig nesaf.
Rwy'n derbyn bod y syniadau hyn yn rhai newydd, nid ydynt wedi'u profi, ond mewn sefyllfaoedd digynsail dyna'n union sydd ei angen. Nid ydynt yn ddi-risg, ond nid yw gwneud dim yn ddi-risg ychwaith. Felly, dyma apêl i'r Prif Weinidog sy'n gadael: profwch y syniadau hyn gyda'r rhai sydd â gwybodaeth arbenigol i weld a allen nhw weithio, gofynnwch i gyfreithwyr y Llywodraeth, gofynnwch i ymgynghoriaeth gydweithredol Mondragon, gofynnwch i gynghorwyr yr undebau, Syndex. Efallai nad oes gennym y pŵer i achub dur Cymru ar ein pennau ein hunain yn y tymor hir, ond mae gennym y pŵer i ohirio ei dranc. Gadewch i ni ei ddefnyddio.
Fyddaf i ddim yn ailadrodd yr hyn rwyf wedi'i ddweud yn flaenorol ar y mater hwn yn y Siambr hon. Ond hoffwn ddiolch i'm cymydog a'm ffrind David Rees am ei gefnogaeth barhaus ac angerddol i'r diwydiant dur, gan gynnwys yn yr araith a wnaeth heddiw, ac rwyf i ac eraill yn falch o ymuno ag ef, gan fod cyrhaeddiad dur mewn gwirionedd yn cwmpasu Cymru gyfan, gan gynnwys Aberogwr, lle mae mwy na 500 yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Tata ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a llawer iawn mwy, nid yn unig yn y gadwyn gyflenwi, ond yr economi ehangach, sy'n dibynnu ar y cyfoeth a gynhyrchir yn ein cymunedau lleol.
Ond ymhlith eraill sydd wedi siarad yn barod heddiw, hoffwn ddiolch hefyd i Paul Davies am gadarnhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig sylweddol. Ac mae hynny'n bwysig iawn; mae'n bwysig iawn bod gennym farn unfryd ar y mater hwn o'r Siambr hon. Ond yn anad dim, hoffwn i ac eraill ddiolch i'r gweithwyr dur hynny a chynrychiolwyr yr undeb sydd wedi cwrdd â mi, a chyd-Aelodau eraill, i fynegi eu harswyd gyda'r cynigion gwreiddiol, i egluro eu dewis amgen credadwy yn y cynllun aml-undeb, a gefnogir gan GMB, Unite a Community, a hefyd eu cefnogaeth i Lywodraeth y DU sy'n barod i'w cefnogi, cefnogi eu teuluoedd, cefnogi eu cymunedau, cefnogi ein diwydiant dur.
Mae'r cynnig sydd o'n blaenau, y cynnig sylweddol, yn syml iawn, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem ni i gyd ei gefnogi. Mae'n syml ac yn gryno. Mae'n dweud bod y Senedd hon
'Yn credu bod dyfodol addawol i waith creu dur mewn ffwrneisiau chwyth yng Nghymru fel rhan o bontio teg sy’n cefnogi economi Gymreig gryfach ac sydd hefyd yn diogelu ased sy’n perthyn i’r DU.'
Oherwydd dyna beth ydyw, a byddai'n beryglus i ni daflu hynny i ffwrdd. Ac rwy'n credu bod cefnogaeth y Ceidwadwyr yn cydnabod hynny hefyd. Ac yn ail, mae'n dweud bod y Senedd
'Yn cefnogi'r achos dros drafodaethau pellach'—
dyna'r hyn rydym yn gofyn amdano; mae dewis arall credadwy ar y bwrdd—
'a fydd yn galluogi proses bontio hirach i ddiogelu swyddi er mwyn creu dyfodol uchelgeisiol a gwyrddach ar draws cyfleusterau Tata yng Nghymru.'
A bydd, mi fydd y dyfodol gwyrddach hwnnw yn rhannol o fewn arc trydan a dur wedi'i ailgylchu—rydym yn gwybod hynny. Mae angen i ni fod yn allforio llai o ddur dramor a'i ailgylchu yma, a sicrhau bod hynny hyd yn oed yn well fel proses. Ond mae hefyd yn ymwneud â chynhyrchu dur crai sylfaenol hefyd. Os oes gennym gefnogaeth lawn y Senedd heddiw ar gyfer y cynnig hwnnw—dau bwynt clir, heb eu diwygio—i galon dyfodol cynhyrchu dur sylfaenol a swyddi, a phontio teg, yna rydym yn anfon neges glir, ddiamwys ac uchel o galon democratiaeth yng Nghymru oddi wrth bob un ohonom, cynrychiolwyr etholedig pob plaid, oddi wrth Lywodraeth Cymru hefyd, i ddweud wrth Tata a Llywodraeth y DU, 'Arhoswch. Meddyliwch eto. Eisteddwch. Rhowch amser i ddyfodol gwahanol gael ei adeiladu ar gyfer dur yn y DU.' Ac mae'n ddyfodol lle nad ydym yn allforio swyddi ac yn allforio allyriadau carbon i wledydd eraill, ond lle rydym yn arwain y ffordd mewn dur gwyrdd, rydym yn arwain y ffordd, rydym yn gosod y safon nid yn unig o ran arc trydan a dur wedi'i ailgylchu, ond o ran cynhyrchu dur sylfaenol hefyd.
Felly, rwy'n annog Aelodau, pob Aelod: cefnogwch y prif gynnig. Ac os caiff ei basio, gofynnaf i Tata a Llywodraeth y DU wrando ar y Siambr unfrydol hon, gweithio gyda ni, gweithio gyda'r undebau, gweithio gyda'r gweithwyr dur, gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwell i ddur, nid yn unig ym Mhort Talbot, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, a dyfodol gwell, mae'n rhaid i mi ddweud, i'r gweithwyr hynny—llawer o weithwyr ifanc, fel y clywsom heddiw, nid dim ond pobl sydd wedi rhoi degawdau ond pobl ifanc sydd newydd bwrw eu prentisiaethau ledled Cymru, ar draws yr holl sectorau hynny o'r diwydiant sy'n dibynnu ar gynhyrchu dur sylfaenol—dyfodol i'r gweithwyr hynny a'u teuluoedd, ac i'r cymunedau rydym yn eu cynrychioli.
Ddydd Gwener diwethaf cefais y fraint o fod yn narllediad drama deledu newydd Michael Sheen, The Way, yn Reel Cinema, Aberafan. Roedd disgwyl mawr a balchder, fel y gallwch chi ddychmygu, gydag un o feibion enwocaf Port Talbot yn dod â phrosiect creadigol hirddisgwyliedig i'w ardal, wedi'i ysbrydoli gan rym a phwysigrwydd hanes a brwydrau cymdeithasol a gwleidyddol yng Nghymru. Ond ymhlith llawer o westeion, yn enwedig y rhai a oedd yn lleol, roedd yna dywyllwch anochel a thristwch enbyd. Buom yn siarad am yr hyn fydd yn wynebu'r gymuned rydym yn ei charu a'i gwasanaethu, a sut y bydd ffrindiau a chymdogion yn ymdopi â'r dyfodol tywyll sy'n ffurfio.
Dywedodd Michael mai noson i anrhydeddu gweithwyr dur Port Talbot ydoedd. Gwnaethom i gyd guro ein dwylo'n uchel, yn frwd, yn benderfynol a heb roi gormod i ffwrdd, roedd y ddrama ddystopaidd sy'n datblygu yn teimlo mewn rhai ffyrdd yn rhy agos at yr asgwrn. Roedd hi wir yn teimlo'n frawychus ar brydiau.
'Nes na'r hanesydd at y gwir di-goll / Ydyw'r dramodydd, sydd yn gelwydd oll.'
Gwnaeth y noson gyfan grynhoi gwirionedd y trawma sy'n wynebu cynifer o gymunedau yr wyf yn eu cynrychioli sy'n dibynnu ar waith dur Port Talbot. Y teimlad brawychus o ddiffyg pŵer y mae cymunedau Cymru wedi'i deimlo mor aml yn wyneb grymoedd economaidd a gwleidyddol, sy'n parhau er gwaethaf datganoli. Llais yr undebau a phrotestio yn lleihau. Yr anghrediniaeth yn llygaid pobl nad oes rhwyd ddiogelwch wedi'i rhoi ar waith i'w dal, er eu bod yn gwybod bod modd rhagweld ymyl y clogwyn y maen nhw cael eu hunain arni nawr.
Dywedodd Adam Curtis, y gwneuthurwr ffilmiau dogfen enwog a oedd yn un o gyd-grëwyr The Way:
'Mae hon yn ffordd amserol iawn o archwilio un o bosau mawr y foment hon—pam mae hi mor anodd dychmygu math gwell, neu hyd yn oed math gwahanol, o ddyfodol i'r wlad hon? Beth sy'n ein dal yn ôl?'
Ei llinell agoriadol yw, 'It started in the steelworks', a gallai hyn fod yn ddechrau, nid diwedd. Gallai hyn fod yn ddechrau ffordd newydd ymlaen i ddiwydiant hanesyddol a gweithlu medrus os gwnawn ni, fel y mae'r cynnig yn ei nodi, gefnogi cred gyffredin bod dyfodol hyfyw i gynhyrchu dur mewn ffwrneisi chwyth, os gwnawn ni gefnogi'r achos dros bontio hirach sy'n diogelu swyddi ar gyfer dyfodol gwyrddach uchelgeisiol ar draws cyfleusterau Tata yng Nghymru—dechrau, nid diwedd chwerw trasig, i'r traddodiad balch sydd wedi'i wreiddio mewn sgiliau a chymuned nac i'r weledigaeth o bontio teg i ddyfodol gwyrdd, oherwydd bydd pobl yn ymateb i hynny.
Byddan nhw'n cwestiynu'n briodol sut y caniatawyd i hyn ddigwydd iddyn nhw. Byddan nhw'n gofyn, 'Ble mae'r pŵer mewn gwirionedd?' Fe ddylen ni fel eu cynrychiolwyr ofyn yr un peth. Felly, ni ddylai unrhyw opsiwn gael ei ddiystyru, gan gynnwys y syniadau creadigol a awgrymwyd gan Luke Fletcher ac Adam Price. Rhaid i ni sicrhau mai'r flaenoriaeth yw'r gweithwyr dur a'r gymuned sy'n cynhyrchu dur. Mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal y dinistr torfol y bydd hyn yn ei achosi i unigolion, yr ardal o amgylch Port Talbot ac economi ehangach Cymru.
Mae effaith colli swydd neu ddiswyddiad nid yn unig yn effeithio ar sefyllfa ariannol a gyrfa unigolyn, mae'n cael llawer iawn o effaith hefyd ar ei les a'i fywyd personol, ac wrth gwrs ar y gymuned. Mae'r risg o hunanladdiad, er enghraifft, yn cynyddu'n sylweddol pan fydd unigolyn yn wynebu effeithiau negyddol ar fywyd fel adfyd, colli swydd, perthynas yn chwalu ac ynysu cymdeithasol. Ac mae Samariaid Cymru wedi codi nifer o bryderon penodol am y sefyllfa sy'n datblygu ym Mhort Talbot, gan fod nifer o anghydraddoldebau haen a ffactorau risg sy'n gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o hunanladdiad, fel demograffig y gwaith dur a'r amddifadedd sydd eisoes yn gyffredin yn y gymuned leol. Allwn ni ddim fforddio anwybyddu hyn, felly erys y cwestiwn: beth sy'n ein dal yn ôl? Sut allwn ni ddileu'r rhwystrau i gyflawni'r hyn y mae gweithwyr a'u teuluoedd a'u cymunedau ei angen a'r hyn y maen nhw'n gofyn amdano? Oherwydd dyna yw ein gwaith ni fel eu cynrychiolwyr yn y Senedd hon. Byddai esgeuluso'r ddyletswydd honno yn annerbyniol. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud? Sut fydd yn gweithredu? Pa atebion sydd ganddi i'r cwestiwn hwnnw?
Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw a chyfraniadau'r Aelodau, Llywydd, oherwydd mae'n dangos, rwy'n credu, unwaith eto, y consensws trawsbleidiol sydd yna ar lawer o'r cwestiynau a'r materion hanfodol yr ydym yn eu hwynebu. Ac, wrth gwrs, mae angen i ni gadw'r ymgyrch i fynd. Mae angen i ni gynnal y ffocws a'r alwad honno am adroddiad Syndex, i fwrw ymlaen â'r trosglwyddiad priodol hwnnw i ddur gwyrdd yn hytrach na dull tymor byr Tata a Llywodraeth y DU ar hyn o bryd. Ac mae'n dda iawn eto clywed llais cryf David Rees a chyd-Aelodau eraill. David Rees, sydd mewn sefyllfa mor allweddol yma, yn siarad dros ei gymunedau, dros y swyddi yn ei etholaeth, ond yn cynrychioli nid yn unig ei ardal leol, ond yn cynrychioli pob un ohonom, ledled Cymru—pob un ohonom y mae'r penderfyniadau fydd yn cael eu gwneud yn effeithio arnom ac y byddant yn effeithio arnom.
Oherwydd rydyn ni'n gwybod, fel y mae llawer o Aelodau yn y fan yma wedi dweud, a llawer y tu allan wedi dweud, ac fel yr wyf i'n credu y mae'r cyhoedd yn ei gefnogi'n fawr—maen nhw'n gwybod mai diwydiant strategol yw hwn a bod angen i ni gadw'r capasiti cynhyrchu dur sylfaenol hwnnw. Mae'n bwysig ar gyfer gweithgynhyrchu yn gyffredinol, ynni adnewyddadwy, prosiectau seilwaith, ac, wrth gwrs, amddiffyn. Yma o fewn Llywodraeth y DU a'r Blaid Geidwadol ar lefel y DU, mae pwysigrwydd amddiffyn, pwysigrwydd y diwydiant dur hwnnw a chynhyrchu dur sylfaenol ar gyfer amddiffyn, boed yn llongau rhyfel y gallai fod eu hangen yn y dyfodol, sydd eu hangen nawr, neu unrhyw agwedd arall ar y diwydiant amddiffyn—rydyn ni'n gwybod pa mor ansicr, erchyll yw'r byd mewn cymaint o ffyrdd, a pha mor bwysig yw hi i genhedloedd fel y DU allu amddiffyn eu hunain, amddiffyn eu cymunedau, eu pobl, eu diwydiannau yn y byd ansicr hwnnw yr ydym yn ei wynebu.
Ac rydym yn gwybod, Llywydd, bod y dewis arall hwnnw wedi'i nodi'n glir trwy waith caled yr undebau lawer gyda'r adroddiad Syndex hwnnw. Nid yw fel pe na bai'r gwaith caled wedi'i wneud wrth nodi'n glir y dewis arall sy'n bodoli.
I mi, Llywydd, yn Llanwern mae'n ymwneud â chydnabod hefyd y materion penodol yn Llanwern—y gweithlu ifanc, y prentisiaethau hynny a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r teuluoedd ifanc hynny gyda'u morgeisi a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae'n ymwneud ag ansawdd y felin oer yn Llanwern a'r hyn y mae'n ei gynhyrchu. Mae'n ymwneud â safle Zodiac, a'r angen am y safle hwnnw, ar gyfer y dur o ansawdd uchel sy'n dod o'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot. Mae'n ymwneud â channoedd o swyddi, mae'n ymwneud â'r contractwyr, y cyflenwyr a'r gwariant yn yr economi leol. Ac mae hefyd yn ymwneud â manteision y safle hwnnw yn Llanwern—y manteision mawr o ran trafnidiaeth, y cysylltiadau rheilffyrdd, y draffordd, y dociau yng Nghasnewydd, y safle ei hun. Mae ganddo gymaint o fanteision a gallai fod yn rhan mor gryf o'r dyfodol hwnnw ar gyfer dur gwyrdd, ar y cyd â Phort Talbot a'r gweithfeydd eraill ledled Cymru. Gwyddom fod potensial y prosiect dur gwyrdd hwnnw yn y dyfodol yno yng Nghymru fel rhan o'r DU yn gyffredinol, ac mae Llanwern yn rhan sylweddol iawn o hynny.
Yr hyn mae'n ymwneud ag ef yn y pen draw, Llywydd, onid ydyw, yw ymrwymiad? A yw'r ymrwymiad yno i fwrw ymlaen â'r dewis amgen Syndex hwnnw ar gyfer ein cymunedau, ein pobl, ein diwydiant yn y DU, yng Nghymru, yn Llanwern? Gwyddom fod yr ymrwymiad yno gan y gweithlu—y gweithlu medrus iawn. Mae yno gan yr undebau llafur sy'n gwneud gwaith mor dda. Mae yno gan gynrychiolwyr gwleidyddol yng Nghymru, yn y Senedd. Ac mae yno yn y cymunedau a'r cyhoedd yn gyffredinol. Rydyn ni'n gwybod bod Plaid Lafur y DU wedi ymrwymo i wneud yr hyn sydd angen ei wneud pan fydd yn dod yn Llywodraeth, fel yr ydyn ni'n gobeithio'n fawr y bydd hi.
Yn ddiweddarach y flwyddyn hon.
Gobeithio cyn bo hir, ond, yn amlwg, mae'n rhaid i ni bontio'r bwlch hwnnw, Llywydd. Rydyn ni'n gwybod bod gan Lafur Cymru yr ymrwymiad hwnnw, mae wedi gweithio'n galed iawn a bydd yn gweithio'n galed iawn i'w wireddu. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw i Tata a Llywodraeth Geidwadol y DU gamu ymlaen a dangos eu hymrwymiad, am yr holl resymau yr ydym wedi'u clywed eto yma heddiw, ac sydd mor amlwg i bawb arall. Mae'n rhaid iddyn nhw ei ystyried, mae'n rhaid iddyn nhw newid eu safbwynt, mae'n rhaid iddyn nhw wneud yr hyn sy'n angenrheidiol nawr.
Ym 1947 gwelodd grŵp o wneuthurwyr dur annibynnol yng Nghymru na allai eu diwydiant cymharol fach a darniog gystadlu'n rhyngwladol, ac felly fe wnaethon nhw gyfuno eu hadnoddau i greu Cwmni Dur Cymru. Gwnaethon nhw ddatblygu cynllun i greu gwaith dur integredig modern enfawr ym Margam, Port Talbot, gyda'i borthladd ei hun i alluogi mewnforio mwyn haearn a'i gysylltu drwy'r rheilffordd â chyfres o weithfeydd tunplat yn Nhrostre, a agorwyd ym 1951, a Felindre, a agorodd ym 1956. Ac fel yr wyf wedi sôn o'r blaen, bu fy nhad-cu yn gweithio yng ngwaith dur Port Talbot nes iddo ymddeol, fel y gwnaeth fy ewythrod a fy nhad yn ei wyliau haf, ac mae hon yn stori gyffredin iawn ar draws fy nghymuned i ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, gydag aelwydydd cyfan yn dal i weithio yno. Ni allaf bwysleisio digon y poeni. Pan fyddwch chi allan yn y gymuned ar hyn o bryd, dyna'r cyfan y mae unrhyw un yn sôn amdano. Mae'n anodd deall yr effaith mewn gwirionedd, oherwydd rydyn ni eisoes wedi colli Ford Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid oedd cymaint o swyddi yno â hwn. Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn mynd i fod yn ddrwg iawn. Hoffwn ddiolch i'r holl undebau llafur, Community, Unite a GMB, sy'n cefnogi'r gweithlu ar hyn o bryd, ac sydd hefyd yn tynnu sylw at y cynlluniau anystyriol i ddiffodd y ddwy ffwrnais eleni.
Yn anffodus, hefyd, rydyn ni wedi colli'r rhan fwyaf o'n gallu i gynhyrchu dur sylfaenol, ond Port Talbot yw'r gwaith dur mwyaf ym Mhrydain o hyd. Bellach mae gan y safle yr unig ffwrneisi chwyth gweithredol, sy'n cynhyrchu dur sylfaenol, ac mae ei felinau stribed yn cynhyrchu dros 3.5 miliwn tunnell o ddur gorffenedig o ansawdd uchel y flwyddyn. Mae gweithfeydd annibynnol llai yng Nghasnewydd, yng Nghaerdydd, yn darparu cynhyrchion arbenigol a gyda'i gilydd mae gan ddiwydiant dur Cymru refeniw blynyddol o tua £4 biliwn. Felly, rwy'n cefnogi ein cynnig heddiw—gobeithio y gwnewch chi i gyd. Rwy'n credu bod dyfodol hyfyw ar gyfer cynhyrchu dur chwyth yng Nghymru fel rhan o bontio teg, ac rwyf wir eisiau i'r trafodaethau barhau, gydag ymgynghoriad yn caniatáu i'r undebau llafur gymryd rhan lawn gyda Llywodraeth Cymru.
Oherwydd, ydyn, mae ffwrneisi arc trydan yn cynhyrchu dur gwyrdd, ar yr amod bod y trydan sy'n eu gweithredu yn wyrdd, ond mae iddo heriau difrifol hefyd, gan gynnwys y colledion swyddi y mae'n ei olygu. Ochr yn ochr â bargen debyg a wnaed gan Lywodraeth y DU gyda British Steel a'u safle yn Scunthorpe, ni fydd gan y DU ffwrneisi chwyth ar ôl. Ar hyn o bryd ffwrneisi chwyth yw'r unig ffordd o gynhyrchu dur sylfaenol. Gwneir dur sylfaenol o haearn ac mae'n hanfodol bwysig i sectorau'r DU, er enghraifft y maes modurol a dyfodol ein seilwaith gwyrdd a'n diwydiant.
Mae'r gweithlu bob amser wedi bod yn gofyn, 'Beth fydd yn digwydd i'n harchebion presennol?' Mae Tata wedi cadarnhau mewn cyfarfodydd preifat y byddan nhw'n cyflawni eu llyfr archebion trwy fewnforio dur carbon-ddwys o India. Mae hyn yn golygu y byddai cynlluniau Llywodraeth y DU yn golygu mai ni fyddai'r wlad ddatblygedig gyntaf yn y byd heb unrhyw alluoedd cynhyrchu dur sylfaenol. Mae i hyn bryderon diogelwch cenedlaethol difrifol, ond mae hefyd yn golygu bod y dur sylfaenol a ddefnyddiwn yn y DU yn debygol o gael ei fewnforio, sy'n golygu, er bod gweithfeydd dur yn y DU yn datgarboneiddio, ein bod ni ond yn allforio'r allyriadau carbon hynny i fannau eraill o'r byd. Rydyn ni'n mynd i fod, i bob pwrpas, yn allforio ein swyddi ac yn mewnforio ein dur.
Ac felly o ran y gwelliannau sydd wedi eu hawgrymu ar gyfer heddiw, dyna pam na allaf eu cefnogi. Oherwydd mae'r £500 miliwn gan Lywodraeth y DU, heb yr amod hwnnw a grybwyllodd fy nghyd-Aelod, David Rees, i gadw'r ffwrnais chwyth honno ymlaen tra bod gennym y cyfnod pontio, wedi golygu eich bod yn gofyn i mi groesawu £500 miliwn i gael gwared ar swyddi, ac ni allaf wneud hynny i fy etholwyr. Hefyd, pan ddaw at y gronfa, y gronfa bwrdd pontio gwerth £100 miliwn, hoffwn nodi nad yw'r £80 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi'i roi i mewn i honno, yn golygu eu bod nhw'n rhoi'r arian hwnnw i ni yng Nghymru. Nid yw hynny'n rhyw Lywodraeth Geidwadol y DU garedig sy'n rhoi'r £80 miliwn i ni yma. Ein harian ni yw hwnnw hefyd, sef arian ein trigolion a'n hetholwyr ni hefyd, arian trethdalwyr Cymru, yn ogystal, dyna sydd yn y gronfa honno. Ac fe fyddwn i'n disgwyl i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy a gwneud hyn mewn unrhyw gymuned ledled y DU pe baen nhw mewn angen dybryd hefyd.
O ran bod angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i'r arian ar unwaith i gefnogi'r gweithwyr dur, yn gyntaf oll, dywedwch wrthyf o ble. Rydyn ni newydd gael dwy awr yn edrych ar y gyllideb ddrafft. Dydw i ddim yn deall, gyda'r toriadau difrifol a gawsom, o ble mae'r arian hwnnw i fod i ddod ar unwaith, fel yna. Felly, wyddoch chi beth? Mae gen i syniad gwell: etholiad cyffredinol a Llywodraeth Lafur y DU, oherwydd dyna'r unig ffordd y byddwn ni'n cael y pontio teg y mae ein gweithlu yn ei haeddu. Mae Llafur wedi bod yn glir na all datgarboneiddio olygu dad-ddiwydiannu, ac mae'r llwybr at ddur gwyrdd, sy'n dod â gweithwyr gyda ni, yn cynnwys cymysgedd o dechnolegau, fel a nodwyd gan David Rees a Huw Irranca-Davies. Gallwn ni wneud hyn. Mae'n bosibl. Ac felly, yr hyn rwy'n ei ofyn ac rwy'n galw ar bawb i'w wneud heddiw yw cofio'r gweithwyr dur hynny yng Nghymru yn ôl yn y 1940au yn dod at ei gilydd, a dweud y gallwn ni ddiogelu'r swyddi mewn gwirionedd, gallwn ni fod ag ymrwymiad a strategaeth a rhagwelediad a fydd yn golygu y gallwn ni fod â dyfodol gwyrdd ar draws cyfleusterau Tata yng Nghymru gyfan. Ac rwyf hefyd yn galw ar Tata Steel i beidio â rhuthro i wneud y penderfyniad hwn ar frys pan fo Llywodraeth Lafur y DU wedi gwneud ymrwymiad difrifol, fel y gallwn ni gadw'r swyddi a'r ffwrneisi chwyth yng Nghymru. Diolch.
Rwyf hefyd yn croesawu'r Gweinidog yn cyflwyno'r ddadl hon ac rwyf am gyfeirio fy sylwadau, mewn gwirionedd, at bwynt 2 y cynnig, fel y cynigiwyd gan Lesley Griffiths, sef,
'Yn cefnogi’r achos dros drafodaethau pellach a fydd yn galluogi proses bontio hirach i ddiogelu swyddi er mwyn creu dyfodol uchelgeisiol a gwyrddach ar draws cyfleusterau Tata yng Nghymru.'
Hoffwn sôn am safle allweddol Tata yng Ngwent, yn Llanwern. I gymunedau Islwyn a rhanbarth cyfan Llanwern yng Ngwent, mae'n parhau i fod yn ffynhonnell hanfodol o gyflogaeth a balchder. Mae gan Islwyn, a Tŷ Sign yn arbennig, yr ystad tai cymdeithasol fwyaf a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr Llanwern. Ond mae'r ansicrwydd, fel y mae llawer wedi crybwyll, sydd wedi ei achosi gan y cyhoeddiad hwn ynghylch gweithrediadau ffwrneisi chwyth Tata ym Mhort Talbot, wedi achosi ofn—ansicrwydd am swyddi a chadwyni cyflenwi a bywoliaethau, teuluoedd, plant a morgeisi. Felly, gadewch i'r Senedd hon, rwy'n gobeithio, anfon neges ar y cyd, yn uchel ac yn glir, am bwysigrwydd enfawr y diwydiant hwn, nid yn unig i bobl Gwent neu Gymru, ond ledled y DU, i beidio â rhuthro'r broses hon ac i amddiffyn capasiti cynhyrchu dur sylfaenol ar gyfer y DU.
Mae'r rhan fwyaf o wneuthurwr ceir yn y DU, os nad pob un, yn defnyddio dur o Lanwern. Yn wir, mae Tata eu hunain wedi dweud bod y sector modurol yn strategol i Tata Steel yn y DU. Mae sector modurol y DU yn cael ei wasanaethu gan y gwaith rholio oer a galfaneiddio o linell Zodiac yn Llanwern. Mae cwsmeriaid Tata, fel BMW, Mini, Jaguar, Land Rover a Nissan, i gyd yn elwa o'r cynhyrchion o'r radd flaenaf a grëwyd gan y menywod, dynion a phrentisiaid yno—y dur glân o'r radd flaenaf yn y byd y mae Zodiac ei angen ac yn ei ddefnyddio. Ers 2007, bu buddsoddiadau sylweddol yn llinell Zodiac, gan ei galluogi i gynyddu'r gwaith cynhyrchu a chynhyrchion cyrydiad uchel eraill, fel MagiZinc. Ac mae'r prentisiaethau a'r datblygiadau arloesol wrth wraidd hyn, ac fe'u defnyddir ar draws seilwaith solar ledled Cymru.
Yn wir, roedd erthygl ddiweddar yn y South Wales Argus am ddyn ifanc o'r enw Callum Ford, sy'n gweithio yn Zodiac, ac mae'n siarad dros genhedlaeth newydd o weithwyr dur proffesiynol ifanc, gyda chyflogau uchel, gweithlu iau â sgiliau medrus. Ac fe siaradodd yn dda iawn am yr ofn, y peryglon sydd i ddod a'r alwad gyfunol, unwaith eto, i beidio â rhuthro'r broses hon, i'w chael hi'n iawn ar gyfer y pontio teg hwnnw i Gymru. Ac mae'n rhaid i'r Senedd hon wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu'r diwydiant dur ar gyfer Cymru a'r Deyrnas Unedig. Bydd colli swyddi mor dda, sy'n talu'n dda, yn ofnadwy.
Felly, rwy'n sefyll gyda fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon, John Griffiths, Jayne Bryant, Dai Rees ac eraill, i amddiffyn y gweithwyr dur. Gwyddom, i gloi, fod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ei thrallod olaf ar adeg ei marwolaeth, ond, gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel, mae'n rhaid i bob un ohonom ni ymrwymo bod Llywodraeth nesaf y DU yn camu i'r adwy i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cadw ei diwydiant dur ac yn gwrthod ildio i'w gywasgiad. Heddiw, bydd y cyhoedd a'r gweithlu a'r cymunedau yn Rhisga a Thŷ Sign a ledled Cymru i gyd yn gwrando'n astud ar bopeth sydd gan Tata a Llywodraeth y DU, nawr ac yn y dyfodol agos, i'w gynnig. Felly, rwy'n cefnogi'r cynigion a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths, ac yn gofyn am gynnydd diffwdan y tu allan i'r lle hwn i ddiogelu gweithlu Cymru ar gyfer y dyfodol a chapasiti cynhyrchu dur sylfaenol y DU. Diolch, Llywydd.
Mae'r cyhoeddiad ofnadwy hwn gan Tata wir wedi atseinio ledled Cymru. Yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf, bydd gweithwyr Tata ledled de Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Casnewydd, yn dysgu mwy am ble a phryd y cynigir colli swyddi. I unrhyw un, fel fi a fy nghyd-Aelod John Griffiths, a fagwyd yng Nghasnewydd, y tebygolrwydd oedd eich bod yn adnabod rhywun oedd yn gweithio yn y gwaith dur. Cyffyrddodd â chynifer o deuluoedd, ac roedd mor bwysig i Gasnewydd a'r ardal gyfagos, fel y dywedodd Rhianon Passmore, bod ystadau tai cyfan yn cael eu hadeiladu ar gyfer y gweithwyr hynny. Mae gan Gasnewydd hanes balch o'r diwydiant dur. Mae yn DNA ein dinas a dylai fod â dyfodol balch. Mae'r posibilrwydd o golli swyddi medrus sy'n talu'n dda yng ngwaith dur Llanwern yn ergyd chwerw iawn i'r gymuned leol.
Ar ymweliad â Llanwern gyda Gweinidog yr Economi a fy nghyd-Aelodau John Griffiths, Jessica Morden, Ruth Jones a'r Cynghorydd Jane Mudd ddiwedd mis diwethaf, dywedodd cynrychiolwyr undeb a gweithwyr wrthym mai dim ond 32 yw oedran cyfartalog y gweithlu yno—prentisiaid ifanc, teuluoedd ifanc. Clywsom pa mor gryf y mae'r rhai sydd wedi gweithio yn Llanwern ers bron i 30 mlynedd yn teimlo mor ddigalon dros y bobl ifanc hynny, ac maen nhw am wneud popeth o fewn eu gallu i'w cefnogi. Nawr, mae hynny'n dweud cymaint am y gweithlu ymroddedig hwnnw a'r undod maen nhw'n ei deimlo.
Mae'r gweithwyr hyn yn gwybod bod dyfodol gwyrddach i'r diwydiant dur yng Nghymru yn bosib. Mae yna ffordd well. Mae'r Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi wedi nodi'n glir sut y byddai cyfnod pontio hirach, tecach i'r diwydiant dur o fudd i'r DU ac nid dim ond i Gymru. Fel y dywedodd John, mae'r gwaith wedi'i wneud yn yr adroddiad Syndex hwnnw.
Rhaid dysgu gwersi hefyd o gau gwaith dur Orb yng Nghasnewydd. Pan gaeodd yr Orb ar ôl 122 o flynyddoedd yn 2020, methiant Llywodraeth y DU i achub ar y cyfle oedd yna ar gyfer dewis arall hyfyw oedd hynny. Gallem fod wedi bod ar flaen y gad o ran cynhyrchu dur trydanol ar gyfer ceir trydan. Gallwn arwain y ffordd nawr. Mae gan Lywodraeth y DU adnoddau sydd ar gael iddynt a allai leihau effaith economaidd penderfyniad Tata, ac mae yna lawer o gwestiynau i Weinidogion yn San Steffan eu hateb, a daethpwyd ag un ohonynt i fy sylw y bore yma, sef a fydd Tata yn cael elwa o werthu credydau carbon nad oes eu hangen mwyach os bydd ffwrneisi chwyth Port Talbot yn cau. Rwy'n deall y gallai hynny godi £35 miliwn i Tata ar adeg pan fo cannoedd o weithwyr yn cael eu diswyddo.
Fel eraill, hoffwn gofnodi fy niolch i Community, GMB ac Unite am weithio mor galed a gweithio gyda'r gweithlu yn Llanwern ac mewn mannau eraill ledled Cymru. Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at effaith emosiynol cynlluniau Tata ar weithwyr a'u teuluoedd. Rwy'n ymwybodol bod y Samariaid wedi cysylltu â Tata a'r undebau llafur i roi cyhoeddusrwydd i'w rhadffôn i unrhyw un y mae'r digwyddiadau diweddar wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl, oherwydd y tu ôl i'r ffigurau a'r ystadegau economaidd mae pobl, pobl sy'n poeni'n fawr am yr hyn y gallai fod yn y dyfodol. Nawr, rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai yr effeithir arnynt. Unwaith eto, hoffwn ofyn i'r Gweinidog barhau i gefnogi'r gweithlu a gweithio gydag undebau i bwyso ar Lywodraeth y DU ar hyn, a Tata i ailystyried a gwrthdroi'r toriadau gwaethaf. Nid yw'r penderfyniad hwn yn anochel. Mae cynllun credadwy yn bodoli, ac, fel y dywed y Gweinidog, mae dyfodol sy'n werth ymladd drosto.
Gweinidog yr Economi nawr i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu yn y ddadl. Ni fyddaf yn gallu mynd trwy bob sylw a wnaed, ond rwyf am ddewis rhai o'r pwyntiau a wnaed yn y ddadl i gydnabod yr holl bobl sy'n cynrychioli gweithwyr dur ar draws y Siambr, o Huw i Sioned, i gysylltiadau teuluol Sarah Murphy, i Rhianon Passmore, ac, yn arbennig, John a Jayne Bryant, sydd â llawer o weithwyr o Lanwern yn eu hetholaethau, ond hefyd y pwynt a wnaeth Jayne Bryant am undod y gweithlu a oedd yn glir iawn ar adeg yr ymweliad a wnaethom, a phwynt pwysig sy'n aml yn cael ei dan-ystyried yn y ddadl hon am y dyfodol, a phwynt penodol ynghylch credydau carbon a'r hyn y gallai hynny ei olygu.
Rwy'n derbyn rhai o'r pwyntiau a wnaeth Adam Price, ac roedd yn cydnabod bod ei feddyliau heb eu profi, ond mae gen i ddiddordeb yn yr hyn y gellir ei wneud. A dyna'r pwynt, ynte? Beth y gellir ei wneud i geisio sicrhau nad ydym yn wynebu canlyniad terfynol y cynigion hyn os cânt eu gweithredu? A dylwn i ailadrodd, os nad wyf wedi bod yn glir: mae'r Prif Weinidog a minnau wedi cwrdd â'r prif weithredwr byd-eang, T.V. Narendran, o Mumbai, ac mae wedi egluro y bydd yn cwrdd â ni eto yn rheolaidd wrth i ni fynd drwy'r broses hon. Felly, mae Mumbai yn dod i Gaerdydd ac i Bort Talbot i gael y sgwrs gyda ni.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Gwnaf.
Dim ond gwneud y pwynt ydw i bod mynd i Mumbai yn gwneud achos hyd yn oed cryfach ein bod o ddifrif.
Ac yn wir fe ddylai fod Gweinidog Cymru ym Mumbai yn ystod yr wythnosau nesaf hefyd. Fel y dywedais i, does dim byd yn cael ei ddiystyru. Felly, nid yw'n golygu, yn y dyfodol, na fyddai Gweinidog, na hyd yn oed Prif Weinidog yn y dyfodol, yn mynd i Mumbai os oes ffordd o achub swyddi a chreu'r dyfodol yr ydym yn ei drafod yn y cynnig sydd ger ein bron.
Gallaf gadarnhau hefyd fy mod wedi cwrdd â Keir Starmer gyda'r Prif Weinidog. Rydyn ni wedi cael sgyrsiau am y dyfodol—am y cynnig dur gwyrdd gwerth £3 biliwn. Ac rwy'n cytuno ag Adam Price, os na fydd Llywodraeth bresennol y DU yn newid trywydd ac na allwn ddwyn perswâd arnyn nhw i fod â lefel wahanol o fuddsoddiad, yna y dyfodol fyddai, 'Beth allai Llywodraeth Lafur y DU ei wneud yn y dyfodol?' Nawr, fy newis i o hyd yw gweld Llywodraeth bresennol y DU yn gweithredu. Byddai'n llawer gwell gennyf weld y cynnydd hwnnw'n cael ei wneud nawr, gyda'r holl heriau sydd ar gael. Ac rwy'n gobeithio y bydd yr undod o ran pwrpas yn y Senedd am y math o ddyfodol y credwn y gallem ni ei gael yn ddefnyddiol wrth geisio ein cael ni yno.
Dylwn i fynd i'r afael â rhai o bwyntiau Tom Giffard. Doeddwn i ddim yn anghytuno â phopeth a ddywedodd Tom Giffard, ond, ar y bwrdd pontio a'r arian, dydw i ddim yn credu ei bod yn realistig meddwl y bydd £100 miliwn yn bont i'r dyfodol ar gyfer mwy na 10,000 o swyddi, os cânt eu colli o fewn y 18 mis nesaf. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig am y bwrdd pontio yw bod partneriaid sy'n eistedd o amgylch y bwrdd yn gweithredu ac yn cymryd rhan gydag ewyllys da, ac mae'n rhaid i ni feddwl bob amser am y gwahanol ymyriadau o amgylch y bwrdd hwnnw hefyd. Felly, os ydym yn meddwl, er enghraifft, ar gyflogadwyedd, ar sgiliau, ar adfywio, ar ddatblygu economaidd, ar ofal iechyd a mwy, mae'r rhain i gyd yn swyddogaethau datganoledig. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n deall beth mae'r bwrdd pontio yn bwriadu ei wneud, ble a sut, a sut mae hynny'n gweithio ar y cyd â phethau yr ydym eisoes yn eu gwneud, yn ogystal â sgyrsiau am ddyfodol cyllidebau cyflogadwyedd a sgiliau yn y dyfodol, ochr yn ochr â phethau yr ydym yn eu hariannu ar y cyd, fel bargeinion twf a phorthladdoedd rhydd. Felly, mae yna bwynt a phwrpas i ni ymgysylltu, ac, wrth gwrs, nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn awgrymu yn y Siambr hon y dylai Llywodraeth Cymru orfod talu am fynediad i'r bwrdd pontio. Byddai'n arwain at ddull mwy digyswllt a datgymalog.
O ran cyfraniad David Rees, rwy'n cytuno ag ef am amser i'r cynigion gael eu hystyried yn llawn—dyna y gwnaeth y prif weithredwr ei ddweud gan edrych i fyw llygaid y Prif Weinidog a minnau. Rwy'n deall bod hynny'n ymrwymiad y mae wedi'i roi i'r undebau llafur hefyd. Mae mater go iawn ynghylch y gallu i fewnforio dur i'w rolio, os bydd y cynigion hynny'n mynd yn eu blaen. Ac rwy'n falch bod David wedi gwneud y pwynt y gallai contractwyr, a'r grŵp ehangach o weithwyr yr effeithir arnynt, fod yn fwy na 10,000 o swyddi yr effeithir arnynt os bydd y cynigion hyn yn mynd yn eu blaen, ac mae enghreifftiau eraill o wahanol economïau Ewropeaidd sy'n cymryd ymagwedd wahanol i gynnal y gallu i gynhyrchu dur sylfaenol a buddsoddi mewn cyfleusterau arc trydan newydd.
Trof at Luke Fletcher. Y rheswm pam y dywedais mai codi sgwarnogod yw gwladoli yw oherwydd nad yw'n opsiwn sydd o'n blaenau. Mae opsiwn o'n blaenau nawr ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd a fyddai'n gofyn am fuddsoddiad pellach. Mae'n ddewis ynglŷn â beth i fuddsoddi ynddo. A oes dewis i fuddsoddi mewn prynu neu a oes dewis i fuddsoddi nid yn unig mewn prynu ased, ond mewn gwirionedd yn yr hyn y gallwch chi ei wneud ar gyfer swyddi a'r amodau sy'n dod gyda'r gefnogaeth honno, a sut rydyn ni'n defnyddio arian sydd ar gael i ni? Wrth i ni eistedd i lawr yma nawr, nid yw gwladoli yn opsiwn. Mae angen i ni feddwl am yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol. Ac, fel y dywedais i, byddai'n llawer gwell gen i fod gan y sector dur ddyfodol disglair cyn etholiad cyffredinol, yn hytrach na bod yn rhywbeth y mae angen ei achub ar ei ôl. Ond rwy'n cydnabod rhai o'r gwirioneddau.
Ac rwy'n arbennig o awyddus i ddweud 'diolch' wrth Paul Davies am gyfraniad meddylgar. Edrychaf ymlaen at fod o'i flaen yn y pwyllgor yfory yn ei rôl fel y Cadeirydd. A dylwn i ddweud bod arc trydan yn bendant yn rhan o'r dyfodol. Mae'n ffurf wyrddach o gynhyrchu dur. Dylwn i nodi bod gen i wneuthurwr dur trydan yn fy etholaeth i. Ond bydd rhan o'r dyfodol hefyd yn ymwneud â gweithredu ehangach yn y DU hefyd ar brosesu sgrap yn briodol. Rydyn ni'n prosesu ac yn allforio miliynau o dunelli o sgrap ar hyn o bryd. Nawr, ni ddylai hynny fod yr hyn yr ydym ni'n parhau i'w wneud ledled y DU. Mae hynny'n ased ar gyfer ein dyfodol yr hoffwn weld y Llywodraeth bresennol ac unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Bydd yn sicrhau bod cynhyrchu dur arc trydan yn obaith gwell gyda metel o ansawdd gwell yn cael ei gynhyrchu ohono.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig—rwy'n credu iddo wneud y pwynt hwn—nad yw'r cynigion ar hyn o bryd yn dileu capasiti ffwrneisi chwyth byd-eang. Mae'n dal i ddigwydd ac, yn wir, yn cael ei fuddsoddi ynddo.
Soniodd llawer o bobl yma am y dyfodol, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am gydnabod yr hyn y mae Community, GMB ac Unite yn ei wneud i gefnogi eu gweithwyr.
Rwyf am orffen yn fyr ar y cynnig ei hun. Mewn gwleidyddiaeth, mae bob amser rhaniadau. Ym mhob plaid, rydym yn treulio amser yn eu nodi a'u hyrwyddo. Mae yna hefyd adegau i ymgyrraedd at ddull mwy unedig, amser i beidio â mynd ar drywydd rhaniad. Byddwn ni, wrth gwrs, yn parhau i fod â gwahaniaethau rhwng pleidiau ar ddyfodol dur, ac rydyn ni wedi clywed rhai ohonyn nhw heddiw. Fodd bynnag, mae cynnig y Llywodraeth heddiw yn fwriadol yn ceisio undod, nid rhaniad, ar draws y Siambr. Mae'r cynnig wedi'i ddrafftio i ganiatáu i bob plaid bleidleisio o'i blaid. Rwy'n gobeithio y cawn unfrydedd yn y bleidlais derfynol ar y mater hwn. Bydd honno'n neges bwysig i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau drwy gydol a thu hwnt i'r broses ymgynghori hon. Bydd hefyd yn neges bwysig i weithwyr dur a chymunedau dur. Gofynnaf am eich cefnogaeth i gynnig y Llywodraeth fel ag y mae ger ein bron heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 1. Ac felly fe fyddwn ni’n gohirio’r pleidleisio ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitemau 8 a 9 sydd nesaf, ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 8 a 9 yn cael eu grwpio i’w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Os nad oes yna wrthwynebiad, gwnaf i alw ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gyflwyno.
Felly, y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Mick Antoniw.
Cynnig NDM8475 Mick Antoniw
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).
Cynnig NDM8474 Mick Antoniw
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n symud y cynigion. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ac i symud y cynnig ar y penderfyniad ariannol. Mae'r Bil yn gam pwysig arall ar ein taith i gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth hon i leihau'r diffyg democrataidd yng Nghymru a datblygu system etholiadol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r Cadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu trylwyr ar y Bil hwn. Rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith caled sydd wedi'i wneud i gyflwyno eu hadroddiadau cynhwysfawr a defnyddiol o fewn amserlen dynn.
Rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid mewn ymateb i'w adroddiad. Rwyf hefyd wedi darparu'r datganiadau o fwriad polisi y gofynnodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad amdanynt ynghylch darpariaethau sy'n ymwneud â phlatfform gwybodaeth a gwasanaethau etholiadau Cymru i hyrwyddo amrywiaeth i bobl sy'n ceisio swydd etholedig. Byddaf yn ysgrifennu i ymateb yn llawn i'r holl argymhellion yn fuan iawn ac edrychaf ymlaen at fynd i'r afael â chwestiynau pellach yn ddiweddarach yn y ddadl hon.
Hoffwn hefyd ddiolch i'r gymuned etholiadol, a'n helpodd i ddatblygu ein cynigion, a'r nifer o randdeiliaid a rannodd eu dirnadaeth i gefnogi gwaith craffu'r gwahanol bwyllgorau. Byddwn yn parhau i fanteisio ar eu profiad wrth i'r Bil fynd ar ei hynt, datblygu'r is-ddeddfwriaeth a pharatoi ar gyfer gweithredu ein diwygiadau mewn pryd ar gyfer y gyfres fawr nesaf o etholiadau yng Nghymru, yn 2026 a 2027. Ein huchelgais yw sicrhau bod gofynion deddfwriaethol, gweinyddol a digidol ar waith o leiaf chwe mis cyn yr etholiadau hyn, yn unol â chonfensiwn Gould, i roi amser i awdurdodau lleol gynllunio a pharatoi ar gyfer gweithredu.
Mae'r Bil yn cynnwys nifer o ddarpariaethau a fydd yn gofyn am is-ddeddfwriaeth neu ganllawiau manwl. Wrth gwrs, rwyf wedi ymrwymo i gynnal ein dull agored, deniadol ac ymgynghorol wrth i ni symud ymlaen. Mae adeiladu a gwella ein democratiaeth nid yn unig yn fater i'r Llywodraeth, ac rwy'n croesawu'n fawr y gefnogaeth a fynegwyd gan adroddiadau'r pwyllgor ar gyfer egwyddorion cyffredinol y Bil, y darpariaethau sydd ynddo a sut rydym ni'n mynd ati i weithredu. Ac er nad wyf yn gallu ymdrin â'r holl argymhellion yn adroddiadau'r pwyllgorau perthnasol heddiw, byddaf yn ceisio ymateb i'r hyn rwy'n ystyried yw'r prif bwyntiau.
Dechreuaf drwy wneud sylwadau ar fater cofrestru awtomatig, oherwydd cofrestru awtomatig a chynlluniau treialu eraill y gellir eu cynnal yn y dyfodol—. Ac rydym yn cytuno â'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch pwysigrwydd amrywiaeth ddaearyddol yn ein cynlluniau treialu. Byddwn yn sicr yn asesu datganiadau o ddiddordeb yn yr ysbryd hwnnw a, lle mae bylchau, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i recriwtio awdurdodau ychwanegol fel bod y cynlluniau treialu, lle bynnag y bo modd, yn ystyried amrywiaeth o ran demograffeg.
Rwyf o ddifrif hefyd ynghylch yr angen i amddiffyn pleidleiswyr sy'n agored i niwed, a chanolbwyntiodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn briodol ar gofrestru dienw yma. Byddwn yn sicrhau bod pleidleiswyr yn cael eu cefnogi yn y ffordd orau bosibl i ddeall pa ddewisiadau sydd ar gael iddyn nhw os ydyn nhw'n credu bod ganddyn nhw hawl i gofrestru'n ddienw.
Fel rhan o'r cynlluniau treialu, byddwn yn adolygu effeithiolrwydd y cyfnod aros o 45 diwrnod rhwng yr hysbysiad cofrestru a chofrestru'n llawn mewn gwirionedd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni ddeall a oes gan bobl ddigon o amser i gysylltu ag awdurdodau lleol os ydyn nhw'n dymuno cofrestru'n ddienw neu ddim o gwbl.
Rwyf wedi ystyried argymhellion y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ofalus ynghylch cyfnodau adnewyddu a gofynion tystiolaeth i gefnogi cais cofrestru dienw. Mae hwn yn faes hanfodol i'w gael yn iawn er mwyn peidio â pheryglu diogelwch a hyder yn y broses gofrestru. Ar hyn o bryd mae'r broses ymgeisio yn cynnwys cofrestrau seneddol a llywodraeth leol y DU, felly byddai gwneud newidiadau i'r gofrestr llywodraeth leol dim ond yn ei gwneud hi'n ofynnol i rywun sydd hefyd eisiau aros yn ddienw ar gofrestr seneddol y DU orfod gwneud cais pellach gyda gofynion gwahanol. Felly, rwyf wedi dod i'r casgliad y byddai'r gwelliannau da eu bwriad a argymhellir yn dod â chymhlethdod di-angen i'r broses.
Fel y trafodwyd yn y pwyllgor, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y cynhelir cynlluniau treialu a bod y gofrestr llywodraeth leol agored yn cael ei diddymu cyn cyflwyno cofrestru awtomatig yn llawn. Felly, mewn ymateb i argymhelliad 4 gan Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ac 11 gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, rwyf wedi gofyn i swyddogion baratoi gwelliannau gan roi dyletswydd gyfreithiol i dreialu cofrestru awtomatig cyn ei weithredu a gwneud darpariaeth ddeddfwriaethol ar gyfer dileu'r gofrestr agored. Gallaf gadarnhau hefyd y byddai ymgyrch gyfathrebu yn cyd-fynd â chyflwyno unrhyw fath o gofrestru awtomatig.
O ran cynlluniau treialu, mewn ymateb i'r pryderon am y pŵer i orfodi awdurdodau lleol i gymryd rhan yn y cynlluniau treialu, gallaf egluro mai dim ond fel dewis olaf y gwneir hyn. Er mwyn rhoi sicrwydd pellach, rwy'n cytuno i gyflwyno gwelliant sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion, ar adeg cyflwyno rheoliadau o ran cynlluniau treialu a wnaed heb gydsyniad prif gyngor, gyflwyno datganiad i esbonio'r penderfyniad i fwrw ymlaen heb gael y caniatâd hwnnw.
O ran hygyrchedd, mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn gofyn i ni roi darpariaethau sy'n ymwneud â chanllawiau hygyrchedd ar wyneb y Bil. Byddai ei gwneud hi'n ofynnol i swyddogion ystyried canllawiau'r Comisiwn Etholiadol ac anghenion pleidleiswyr anabl yn lleol yn rhan o'r rheolau sy'n nodi sut mae etholiadau'n cael eu cynnal. Byddwn yn ystyried gwneud y gwelliannau a awgrymwyd gan y pwyllgor i ymgorffori'r ddyletswydd ar swyddogion canlyniadau yng Ngorchymyn cynnal etholiadau'r Senedd a rheolau etholiadau llywodraeth leol.
O ran y llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr, ni allaf dderbyn argymhelliad 11 o adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am welliant i bennu pa gorff fydd yn gyfrifol am gynnal y llwyfan gwybodaeth am etholiadau. Yn fy marn i, ni ddylai'r llwyfan fod ynghlwm wrth sefydlu a bodolaeth barhaus y bwrdd rheoli etholiadol, oherwydd gallai hyn leihau hyblygrwydd i ymateb i newidiadau yn y dyfodol.
Ar fater y Gymraeg, rwyf hefyd wedi ystyried argymhellion y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ofalus ar gyfer gwelliant sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i swyddogion canlyniadau fodloni safonau'r Gymraeg. Fel y trafodwyd, mae hwn yn ddewis sydd ar gael i ni mewn is-ddeddfwriaeth ac rydym yn manteisio ar y cyfle i ail-lunio'r Gorchymyn cynnal etholiadau fel Gorchymyn cyfunol dwyieithog i sicrhau y gellir cyflwyno etholiadau Cymru drwy'r Gymraeg ar bob cam. Yn hytrach na chyflwyno diwygiad, byddwn yn parhau i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg, gweinyddwyr etholiadol a rhanddeiliaid eraill i benderfynu ar y dull gorau o wella darpariaeth ddwyieithog etholiadau Cymru.
Ac eto, ar ôl cyfuno cyfraith etholiadol, mae'r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn adlewyrchu cymhlethdod cyfraith etholiadol. Rwyf wedi bod yn glir bod hwn yn faes sy'n barod i'w atgyfnerthu a chafwyd trafodaethau anffurfiol ar hyn eisoes gyda Chomisiwn y Gyfraith.
Ymhellach i'r meysydd rwyf eisoes wedi'u crybwyll, hoffwn roi rhywfaint o rybudd ymlaen llaw o'n bwriad i gyflwyno nifer fach o welliannau pellach yng Nghyfnod 2, pe bai'r Aelodau'n cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw.
Mae'r diwygiadau yn y Bil hwn yn uchelgeisiol ac yn eistedd ochr yn ochr â diwygiadau a wnaed drwy Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a moderneiddio drwy'r rheolau manwl ynghylch cynnal etholiadau'r Senedd, yr ydym yn eu hadolygu ac yn bwriadu eu hail-lunio cyn etholiadau'r Senedd 2026.
Wrth gwrs, bydd y daith yn parhau y tu hwnt i'r Senedd hon, a gobeithiwn geisio eu cyflwyno mewn Senedd yn y dyfodol. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gytuno ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil. Diolch yn fawr, Llywydd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i gyfrannu yn gyntaf—John Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o siarad yn y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, sydd wedi cynnal gwaith craffu ar y Bil hwn yn ystod Cyfnod 1, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, gan gynnwys pawb a ddarparodd dystiolaeth ysgrifenedig, a ddaeth i roi tystiolaeth lafar a chymryd rhan yn ein harolwg ar-lein. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol, wrth gwrs, am ei araith agoriadol yma heddiw a'r ffordd y mae wedi mynd i'r afael â rhai o'r argymhellion gan y pwyllgor a pheth o'r datblygiadau a fu o ran y rheini.
Mae'r Bil yn cynnwys amrywiaeth o ddarpariaethau, wrth gwrs, yn ymwneud â gweinyddu etholiadau llywodraeth leol ac mewn cysylltiad â hygyrchedd etholiadau Cymru. Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni, daethom i'r casgliad ein bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Felly, rydym yn argymell bod y Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol.
Fodd bynnag, er ein bod yn nodi'r gefnogaeth eang gan randdeiliaid, rydym ni hefyd yn cydnabod bod rhai pryderon wedi'u codi mewn cysylltiad â rhai agweddau. Mae ein hadroddiad yn manylu ar ein hystyriaeth o bob un o'r darpariaethau, ac mae ein hargymhellion yn ceisio gwneud gwelliannau lle credwn fod angen y rhain i gryfhau'r ddeddfwriaeth hon, a byddaf yn amlinellu rhai o'r meysydd hyn heddiw.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cynnwys darpariaeth i ail-bwrpasu ac ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Soniwyd wrthym ni am un o'r prif bryderon ynghylch atebolrwydd y corff newydd, yng ngoleuni'r cyfrifoldebau newydd y rhoddid iddo o ganlyniad i'r darpariaethau yn y Bil hwn. Un o'r cyfrifoldebau newydd hyn yw cydlynu'r gwaith o weinyddu etholiadau Cymru, gan gynnwys sefydlu bwrdd rheoli etholiadol statudol, yr EMB, dros Gymru.
Er ein bod yn cefnogi sefydlu'r Bwrdd Rheoli Etholiadol, rydym yn ymwybodol bod annibyniaeth bwrdd o'r fath yn hanfodol. Bydd yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru ac, er bod gan y comisiwn ar ei ffurf bresennol hanes profedig o weithio'n annibynnol ar Lywodraeth, rydym yn deall sut y gallai bod yn rhan o gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru greu canfyddiad o leiaf nad yw'r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn wirioneddol annibynnol. Felly, credwn y dylai fod yn atebol i'r Senedd, ac y dylid pennu llwybr clir i ddangos hyn mewn deddfwriaeth, ac mai un ffordd o gyflawni hyn fyddai cynnwys gofyniad cyfreithiol i'r Senedd drafod adroddiad blynyddol y comisiwn. Ar hyn o bryd, rhaid i'r comisiwn gyflwyno adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru, a rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r adroddiad a chyflwyno copi gerbron y Senedd. Nid oes gofyniad i'r Senedd drafod adroddiadau blynyddol nac iddynt gael eu hystyried gan bwyllgor dynodedig o'r Senedd. Nid ydym yn ymwybodol bod unrhyw un o adroddiadau blynyddol blaenorol y comisiwn wedi cael eu trafod fel hyn. O ystyried y cyfrifoldebau newydd, nid ydym ni'n credu bod y sefyllfa bresennol yn ddigonol, ac felly rydym ni wedi argymell newid o'r fath. Credwn hefyd y dylai fod gofyniad cyfreithiol i'r Senedd gynnwys gwrandawiadau cyn penodi yn y broses recriwtio ar gyfer swydd cadeirydd y comisiwn. Mae nifer o swyddi blaenllaw yn destun gwrandawiadau cyn penodi, a chredwn y dylai'r swydd hon fod yn un o'r rheini.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Mae'r Bil hwn yn cynnwys darpariaethau pwysig ynghylch cofrestru pleidleiswyr heb gais neu 'gofrestriad awtomatig', fel y'i gelwir. Nod y darpariaethau yw cynyddu'r nifer sy'n cofrestru ymysg pobl sy'n gymwys i bleidleisio drwy ei gwneud hi'n haws iddyn nhw wneud hynny. Fel pwyllgor, rydym ni'n croesawu'r bwriad hwn. Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni yn cefnogi'r egwyddor o gyflwyno cofrestru awtomatig. Roedd y darpariaethau hyn yn ganolbwynt i'n harolwg ar-lein, ac unwaith eto, roedd y rhai a ymatebodd o blaid yn gyffredinol: 58 y cant o blaid—yn gryf o blaid—cofrestru awtomatig, tra bod 28 y cant arall yn bur gefnogol, 8 y cant yn bur wrthwynebus, neu'n gwrthwynebu'r syniad yn gryf, a'r 6 y cant sy'n weddill ddim yn cefnogi nac yn gwrthwynebu.
Er ein bod ni'n cefnogi'r egwyddor, rydym yn teimlo'n gryf y dylid cyflwyno cofrestru awtomatig dim ond os yw diogelwch etholwyr agored i niwed yn cael ei warantu. Credwn fod angen newidiadau i'r Bil er mwyn darparu mesurau diogelu ychwanegol. Rydym ni'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dreialu cofrestru awtomatig a gwerthuso'r cynlluniau treialu hynny cyn ei gyflwyno ledled Cymru. Bydd dysgu o brofiad cynlluniau treialu yn hanfodol cyn gweithredu newid mor sylweddol. Bydd angen profi a gwerthuso nifer o ffactorau yn rhan o'r cynlluniau treialu i fesur eu heffaith. Ac mae'r pwyllgor yn credu y dylai ardaloedd a ddewisir ar gyfer cynlluniau treialu gynnwys cyfuniad o rai trefol a gwledig, cefnog a llai cefnog, ac ardaloedd lle mae cyfrannau uchel o siaradwyr Cymraeg a phobl nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw.
Rydym ni'n croesawu'r gallu i bobl gofrestru'n ddienw, ac yn gweld hyn fel elfen ddiogelu hanfodol. Credwn y dylai'r broses hon fod mor syml a hyblyg â phosibl. Rydym ni'n arbennig o bryderus y bydd angen i bobl sy'n dymuno cofrestru'n ddienw ddarparu tystiolaeth i gefnogi cais, a bydd angen adnewyddu eu cais yn flynyddol. Gallai darparu tystiolaeth o'r fath fod yn anodd i bobl agored i niwed, gan y gallai fod yn atgof o brofiadau trawmatig, yn enwedig pe byddai angen iddyn nhw wneud hynny eto wrth ailymgeisio yn y blynyddoedd dilynol. Rydym ni'n pryderu os yw'r broses yn rhy feichus, neu'n rhy drawmatig, efallai y bydd pobl yn dewis peidio â chofrestru, a fyddai'n arwain at ddifreinio ac yn mynd yn groes i amcan y darpariaethau.
Rydym ni felly wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried peidio â gosod gofyniad i ddarparu tystiolaeth i gefnogi cais, ac unwaith y bydd rhywun wedi'i gofrestru'n ddienw, ni ddylai fod yn ofynnol iddo adnewyddu hyn yn flynyddol. Yn hytrach, dylai cofrestru dienw aros yn ei le nes bod rhywun yn dewis newid y trefniant hwnnw'n benodol.
Rydym ni'n croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y gofrestr agored ar gyfer etholiadau Cymru. Am resymau diogelwch y cyhoedd, rhaid i'r broses o gyflwyno cofrestru awtomatig ddod yr un pryd â'r broses o ddileu'r gofrestr agored.
Felly, croesawn yn fawr yr arwyddion a'r ymrwymiadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u rhoi, Dirprwy Lywydd, o ran cymaint o'r materion hyn, ac rwy'n siŵr y bydd dadl barhaus ynghylch agweddau eraill wrth i'r ddeddfwriaeth hon fynd rhagddi ac i'r ddadl fynd rhagddi. Ac, o ran y ddyletswydd, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr yr hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol eisoes wedi'i ddweud.
Gwyddom fod llawer o'r materion hyn yn esgor ar deimladau cryfion y tu allan i'r—
Mae'n rhaid i chi ddod i ben nawr, John.
—Senedd, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n siŵr, fel y dywedwn ni, y bydd yr hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddweud yn gynharach yn cael ei adlewyrchu'n fawr iawn yn y ddadl barhaus honno.
Mae yna rai materion eraill yr oedd arna i eisiau eu trafod, Dirprwy Lywydd, ond fe gymeraf eich cyngor a dod i ben gyda hyn. Ond, yn amlwg, byddwn yn cael dadl barhaus ar y materion hyn, wrth i'r ddeddfwriaeth hon fynd yn ei blaen.
Bydd gennych chi gyfle yng Nghyfnod 2, yn bendant, i feddwl am y materion hynny.
Yn wir.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).
Diolch i aelodau'r pwyllgor a'r clercod am eu gwaith craffu diwyd, fel bob amser. Fe ddaethom ni i ddau gasgliad yn ein hadroddiad a gwneud 16 o argymhellion, y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu crybwyll heddiw. A gaf i ddechrau drwy ddiolch hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol am ddod i'r pwyllgor ym mis Tachwedd i'n cynorthwyo wrth lywio ein hystyriaeth o'r Bil, a hefyd am ddarparu rhagor o wybodaeth i ni mewn gohebiaeth, gan gynnwys heddiw, y trof ati yn nes ymlaen yn fy sylwadau?
Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, mae llawer o'r Bil yn ymwneud â mecanweithiau ar gyfer cynnal cynlluniau treialu etholiadol, felly byddaf yn canolbwyntio yn fy sylwadau ar yr agweddau hynny. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymrwymo i dreialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, a ddarperir gan adran 3, cyn dod â'r darpariaethau hyn i rym. Fodd bynnag, nid yw'r Bil fel y mae yn sicrhau y bydd hyn yn digwydd. Felly, fe wnaethom ni argymell felly y dylid diwygio'r Bil fel y gellir dod ag adran 3 i rym ar ôl cwblhau cynllun treialu yn unig. A nodwn, yn y sylwadau gan y Cwnsler Cyffredinol heddiw, ein bod yn deall ei fod wedi cadarnhau hyn.
Mae'r Bil hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i orfodi prif gyngor i gynnal cynllun treialu etholiadol heb eu caniatâd. Er i'r Cwnsler Cyffredinol ddweud wrthym ni ei bod hi'n annhebygol y cai'r pŵer hwn fyth ei ddefnyddio, neu, fel y dywedodd heddiw, y cai ei ddefnyddio fel cam olaf, fe wnaethom ni argymell, os caiff ei ddefnyddio ar unrhyw adeg, bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno datganiad i esbonio'r penderfyniad hwnnw i'r Senedd, a oedd yn deg yn ein barn ni ac yn rhoi tryloywder yn y broses. Unwaith eto, nodwn, yn y sylwadau heddiw, fod y Cwnsler Cyffredinol, yn wir, wedi cadarnhau y bydd hyn yn digwydd.
Cadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol hefyd y gallai Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r pwerau o dan adran 5 o'r Bil i gyflwyno rheoliadau sy'n addasu deddfwriaeth sylfaenol, ac, oni bai eu bod yn bodloni meini prawf penodol, byddai'r rheoliadau hynny'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol. Nawr, ni fydd yn syndod, fel yr ydym ni wedi datgan o'r blaen fel pwyllgor y dylai rheoliadau sy'n addasu deddfwriaeth sylfaenol, pwerau Harri'r VIII, fel y'u gelwir, fod yn destun y weithdrefn gadarnhaol, yn ein tyb ni, a dyma yr ydym ni wedi'i argymell mewn cysylltiad â'r pŵer yn adran 5. Roeddwn i'n ceisio deall yr hyn roedd y Cwnsler Cyffredinol yn ei ddweud. Wn i ddim a all grybwyll hynny eto, ar y diwedd, i egluro sut y bydd yn mynd i'r afael â hynny.
Gadewch i mi droi nawr at adran 8 o'r Bil. Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i newid y pŵer yn y Bil sydd ynghlwm wrth wneud rheoliadau treialu. Gwelsom bŵer tebyg yn y Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), ac fe wnaethom ni wrthwynebu bryd hynny gynnwys pŵer o'r fath. Mae gennym ni gred gadarn fel pwyllgor nad yw'n briodol yn gyfansoddiadol i Weinidogion Cymru ddal pŵer a all ddiwygio'r pwerau a ddirprwyir iddyn nhw gan y Senedd hon. Felly, mewn cysylltiad ag adran 8 o'r Bil hwn, argymhellwyd y dylid ei ddileu'n llwyr. Ac eto, os caf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol egluro a yw hynny wedi'i wrthod, neu a yw'n cael ei ystyried.
I gael peth newyddion da, mae adran 19 o'r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru, ar ôl i gynllun treialu llwyddiannus ddod i ben, wneud y newidiadau arbrofol hynny yn barhaol. Nawr, fel pwyllgor, fel arfer byddem o'r farn y dylai newidiadau parhaol o'r fath i'r gyfraith gael eu gwneud gan ddeddfwriaeth sylfaenol. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, ar ôl pwyso a mesur, ar yr achlysur hwn, gwelsom fod y fframwaith a ddarperir gan y Bil yn gyffredinol yn darparu ar gyfer craffu digonol yn y Senedd hon ar yr is-ddeddfwriaeth honno, yn anad dim oherwydd y bydd wedi cael ei lywio gan gasglu tystiolaeth sydd ei hun wedi'i gymeradwyo gan gorff annibynnol sydd â'r dasg o sicrhau uniondeb y broses ddemocrataidd yn y DU.
Fe wnaethom ni, fodd bynnag, Cwnsler Cyffredinol, rai argymhellion o ran diwygio'r adran hon er mwyn gosod cyfyngiadau ychwanegol ar bwerau Gweinidogion Cymru, ac roedd hyn yn cynnwys na chaiff rheoliadau a wneir o dan adran 19 greu, ddileu nac addasu unrhyw droseddau, ac na chaiff rheoliadau a wneir o dan yr adran honno naill ai roi, dileu neu addasu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth. Felly, unwaith eto, dim ond ceisio rhywfaint o eglurder yn eich sylwadau ydw i.
Fe wnaethom ni hefyd nifer o argymhellion eraill yn ein hadroddiad, a oedd yn galw am roi mwy o fanylion ar wyneb y Bil mewn cysylltiad â rhai o'i bwerau deddfu. Mae'r rhain yn ymwneud â'r swyddogaethau y gall y rheoliadau hynny eu rhoi i bobl neu sefydliadau. Fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, credwn fod rhai o'r darpariaethau hyn yn rhy eang. Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol—soniais yn gynharach—am ddarparu rhywfaint o wybodaeth ysgrifenedig bellach i'n pwyllgor heddiw ar fwriad polisi'r pwerau deddfu dan sylw. Bydd angen, fodd bynnag, i ni ddychwelyd at hyn i adolygu hyn yn llawn, llythyr y Cwnsler Cyffredinol heddiw, yn ein cyfarfod nesaf. Cafwyd nifer o arsylwadau a chamau gweithredu eraill, ac yn wir gwelliannau, gan y Cwnsler Cyffredinol heddiw, y bydd yn rhaid i'n pwyllgor fyfyrio arnynt.
Ond, yn olaf, fe wnaethom ni hefyd argymhelliad mewn cysylltiad ag adran 27 o'r Bil. Mae hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru drwy reoliadau sefydlu llwyfan gwybodaeth ar gyfer etholiadau Cymru. Mae Gweinidogion Cymru eto i benderfynu pwy fydd yn cynnal y llwyfan, er eu bod yn rhagweld mai'r bwrdd rheoli etholiadol fydd yn gwneud hyn. Credwn fod annibyniaeth, ac annibyniaeth ganfyddedig, pwy bynnag sy'n cynnal y llwyfan hwn yn allweddol, felly fe wnaethom ni argymell y dylid diwygio'r Bil i bennu pa gorff ddylai fod yn gyfrifol am gynnal y llwyfan. Ond nodwn, gyda pheth esboniad, fod y Cwnsler Cyffredinol wedi gwrthod ein gwahoddiad i dderbyn yr argymhelliad hwnnw heddiw.
Ond, unwaith eto, diolch, Dirprwy Lywydd, i'm cyd-Aelodau ac i glercod y pwyllgor.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o gael cyfrannu yn y ddadl yma heddiw ar egwyddorion cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), ac i siarad ar y pum argymhelliad gwnaeth y Pwyllgor Cyllid eu gwneud.
Hoffwn hefyd ddiolch, ac achub ar y cyfle yma, i ddiolch i'r Gweinidog a'i swyddogion am ddod i'n sesiwn dystiolaeth, ac am ddarparu ymateb i'n hargymhellion cyn y ddadl heddiw. Dwi'n falch bod y Gweinidog wedi derbyn pob un o'r pum argymhelliad yn llawn.
Mae'r pwyllgor yn cefnogi nodau'r Bil ac yn fodlon ar y cyfan â'r goblygiadau ariannol fel y nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, rydym ni wedi gwneud nifer o argymhellion gyda'r nod o wella ansawdd ac eglurder yr wybodaeth ariannol a ddarperir ochr yn ochr â'r Bil hwn. Pryder allweddol i ni oedd y diffyg manylion am y costau sy'n gysylltiedig ag is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y ddeddfwriaeth hon—thema yr ydym ni wedi gwneud sylwadau arni o'r blaen, a mater sy'n agos at ein calonnau.
Yn hanesyddol, nid yw Llywodraeth Cymru wedi darparu digon o wybodaeth i ganiatáu i'r pwyllgor graffu yn ddigonol ar yr amcangyfrifon ar gyfer deddfwriaeth fframwaith, fel yr un sydd ger ein bron heddiw. Rydym ni wedi clywed y Gweinidog yn cyfeirio at y dadansoddiad amcangyfrifon sy'n ymwneud â'r costau hyn fel 'gwaith sydd ar y gweill' sawl gwaith yn ystod y dystiolaeth. Gwelwn hyn yn siomedig, ac rydym ni'n ailadrodd ein hargymhelliad fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddarparu asesiadau effaith rheoleiddiol llawn a chadarn i gyd-fynd ag unrhyw is-ddeddfwriaeth berthnasol a wneir o dan y Bil.
Gan droi nawr at feysydd eraill, rydym yn cydnabod bod rhai agweddau ar y Bil sy'n ei gwneud hi'n anodd darparu costau penodol, yn fwyaf nodedig ynghylch treialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig a datblygu'r system rheoli etholiadol. O ystyried natur arbenigol a sensitifrwydd masnachol y gwaith, nodwn hefyd fod y Gweinidog wedi ymrwymo i gyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol, gan gynnwys costau manwl, ochr yn ochr ag unrhyw reoliadau yn ymwneud â'r gwaith hwn yn y dyfodol. Fodd bynnag, o ystyried bod gweithredu'r systemau hyn yn ganolog i nodau'r Bil, mae'n anffodus nad ydym ni wedi gallu archwilio'r goblygiadau ariannol hyn yn llawn ar hyn o bryd. Rydym ni felly'n argymell bod y Gweinidog yn darparu rhagor o wybodaeth am gostau sy'n ymwneud â newidiadau i'r system rheoli etholiadol wrth iddyn nhw ddod yn glir, gan gynnwys manylion am sut y caiff cost effeithiolrwydd cynlluniau treialu unigol eu hasesu.
Mae argymhellion 3 a 4 ynghylch y gwaith a wneir i gynyddu hygyrchedd etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol. Roedd y pwyllgor yn falch o glywed y Gweinidog yn ailadrodd ei fwriadau i roi gwasanaethau ar waith i hyrwyddo amrywiaeth yn nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol pobl sy'n sefyll etholiad. Rydym ni hefyd yn cael ein calonogi gan y gwelliannau a gynigir yn y Bil i ddarparu cymorth i bleidleiswyr anabl mewn etholiadau yng Nghymru. Mae'r nodau hyn wedi'u nodi'n glir yn y Bil, ac eglurodd y Gweinidog wrth y pwyllgor bod y Llywodraeth yn bwriadu comisiynu ymchwil i gasglu'r wybodaeth bwysig. Fodd bynnag, rydym ni yn pryderu am y diffyg ystyriaeth a roddir i sut y caiff y manylion wedyn eu defnyddio i wneud ymyriadau penodol. Unwaith eto, mae'n siomedig na chafodd y gwaith hwn ei wneud yn gynharach, a fyddai wedi rhoi eglurder ychwanegol i'r Senedd ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r mater hwn yn ymarferol.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rhaid imi gofnodi pa mor ddefnyddiol i’r pwyllgor oedd yr asesiad fforddiadwyedd a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r asesiad effaith rheoleiddiol wrth inni ystyried y Bil hwn. Rydym eisoes wedi tynnu sylw at y diffygion o ran y costau manwl a gyhoeddir ochr yn ochr â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, felly rydym yn croesawu’n fawr yr ymrwymiad i gynnwys gwybodaeth o’r fath wrth gyflwyno Biliau yn y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn cyfnod o chwyddiant uchel, fel y cyfnod yr ydym yn ei brofi ar hyn o bryd. Mae’n rhoi sicrwydd, yn ogystal â thryloywder ychwanegol, fod y ddeddfwriaeth hon wedi ei chostio’n gywir. Diolch yn fawr.
Rwy'n sicr yn croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac rwy'n ddiolchgar hefyd am sylwadau agoriadol y Cwnsler Cyffredinol yn egluro ychydig o bwyntiau a gwelliannau posibl yn y dyfodol hefyd. I fod yn glir ar hyn o bryd, rydym ni ar y meinciau hyn yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Fodd bynnag, credwn fod angen mynd i'r afael â nifer o faterion drwy welliannau pellach, os ydym ni'n mynd i barhau i gefnogi. Af ymlaen i egluro rhai o'r rheini nawr, na fydd yn synnu'r Cwnsler Cyffredinol rwy'n siŵr.
Yn gyntaf, y manylion ynghylch treialu cofrestru etholiadol heb gais. Wrth gwrs, un o hawliau democratiaeth yw dewis cymryd rhan ai peidio yn ein proses ddemocrataidd, ac, yn anffodus, ym mhob etholiad Senedd ers dechrau datganoli, mae mwyafrif y pleidleiswyr wedi dewis peidio â chymryd rhan yn yr etholiad hwnnw. Mae hynny'n gwrthgyferbynnu, wrth gwrs, ag etholiadau yn San Steffan, Holyrood a Stormont, lle mae nifer y pleidleiswyr yn llawer mwy. Er bod hynny'n sicr yn bryder i nifer ohonom ni yn y fan yma, dyna ddewis yr etholwyr.
Mae'r dewis a'r hawl hwnnw hefyd yn ymestyn i gofrestru i bleidleisio ai peidio. Mae yna lawer o resymau pam y byddai rhywun yn dewis peidio â chofrestru i bleidleisio, a bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol bod y rhain, weithiau, yn rhesymau da iawn. Enghraifft y bydd yr Aelodau'n ymwybodol ohoni yw'r rhai sydd efallai yn ddioddefwyr cam-drin domestig, sydd â rheswm difrifol dros beidio â dymuno bod ar gofrestr etholiadol. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn bobl sydd wedi dioddef dan ddwylo camdriniwr, a dylai eu diogelwch fod yn flaenoriaeth lwyr. Yn y pwyllgor yr wyf yn eistedd arno, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, fe glywsom ni gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, a ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu:
'hyd yn oed pan fydd y gofrestr agored yn cael ei dileu a dim ond y gofrestr gaeedig gennym ni, mae peryglon o hyd... gall bod ar gofrestr gaeedig beri perygl sylweddol i oroeswyr, os yw eu gwybodaeth bersonol yn mynd i ddwylo anghywir.'
Er fy mod i'n sylweddoli nad oes bwriad yn sicr i hyn ddigwydd gan unrhyw un yn y fan yma, mae'n berygl y mae angen ymdrin â hi gyda'r tringarwch mwyaf, ac mae angen i hyn fod yn greiddiol i ystyriaeth y Bil hwn, yn sicr cyn y byddwn ni'n ddigon sicr i gefnogi'r Bil y tu hwnt i'r egwyddorion y cytunir arnyn nhw yma heddiw.
Yn ail, dyna'r cynllun y cyffyrddodd y Cwnsler Cyffredinol ag ef i orfodi cynlluniau treialu etholiadol. Gwyddom y gwnaed hyn eisoes, a bu'r canlyniadau yn bur siomedig, gan siarad yn haelfrydig. Mewn tair o'r pedair ardal awdurdod lleol, 0.3% neu lai oedd y nifer a bleidleisiodd ymlaen llaw. Ym Mlaenau Gwent, mae hyn yn cyfateb i ddim ond 68 o bleidleiswyr. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y nifer anferthol a bleidleisiodd ymlaen llaw oedd 1.5 y cant, ond mewn gwirionedd roedd hynny oherwydd presenoldeb nifer enfawr o leoliadau pleidleisio ymlaen llaw, tua 20, a oedd ar agor dros sawl diwrnod. Dywedodd y Comisiwn Etholiadol fod hyn yn heriol iawn i staff y cyngor, a galwasant am i unrhyw weithredu fod, ac rwy'n dyfynnu,
'yn bosib ei gyflawni yn realistig gan Swyddogion Canlyniadau'.
Mae rhoi mwy o bwysau ar adnoddau awdurdodau etholiadol yn cael effaith ganlyniadol mewn rhannau eraill o'r system etholiadol ac yn sicr mae ganddo'r potensial i wanhau'r broses ddemocrataidd yn gyffredinol. Beth bynnag, mae gennym ni eisoes system ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw: fe'i gelwir yn bleidleisio drwy'r post, sy'n galluogi pobl i bleidleisio, o unrhyw le y dymunant wneud hynny, am hyd at bythefnos cyn etholiad. Fe allech chi fod ar ben y Tŵr Eiffel yn bwrw eich pleidlais ar gyfer etholiad hyd at bythefnos cyn yr etholiad hwnnw. Mae'n hyblyg iawn ac eisoes yn cael ei ddeall gan nifer fawr o bobl. Byddwn i'n eirioli, yn sicr, i fwy o bobl, efallai, ddechrau pleidleisio drwy'r post, yn hytrach na gwario arian yn arbrofi gyda chynlluniau treialu etholiadol.
Pryder arall y gwn i fod y Cwnsler Cyffredinol wedi ei grybwyll eiliad yn ôl yw'r hawl sylfaenol i bobl allu pleidleisio'n annibynnol. Gwyddom fod gan grwpiau fel RNIB Cymru nifer o bryderon am y Bil hwn, gan gynnwys cael gwared ar ddeddfwriaeth bresennol sy'n sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio yn darparu dyfais ragnodedig i alluogi pobl ddall a rhannol ddall i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. Mae pryder bod modd i'r newidiadau hyn a gynigir yn y Bil wanhau amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall trwy ddileu'r gofyniad hwnnw i orsafoedd pleidleisio gael y ddyfais bleidleisio gyffyrddadwy ragnodedig hon a'i newid i benderfyniad swyddogion canlyniadau, a allai fod â safbwyntiau a blaenoriaethau gwahanol ar y pwnc hwn. Mae RNIB Cymru yn galw am ofyniad cyfreithiol i gael dyfais gyffyrddadwy a sain ym mhob gorsaf bleidleisio ledled Cymru, i sicrhau y perchir pleidlais pawb sy'n ddall a rhannol ddall yng Nghymru ac y perchir annibyniaeth a chyfrinachedd eu pleidlais. Rwy'n sicr yn cymeradwyo'r alwad hon yn llwyr.
Ceir y mater o gydnabyddiaeth ariannol hefyd. Rwy'n credu bod cyfle wedi'i golli yn y Bil, nad yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei grybwyll eto. Gwyddom fod y Bil yn ceisio ymestyn cymhwysedd ynghylch materion taliadau i gynghorwyr, aelodau o awdurdodau'r parciau cenedlaethol, cydbwyllgorau corfforaethol a grwpiau eraill, ond nid i Aelodau'r Senedd. Mae'r Bil yn hepgor unrhyw gyfeiriad at gorff—
Sam, allwch chi orffen nawr, os gwelwch yn dda?
—gyda thaliad cydnabyddiaeth i Aelodau'r Senedd, a chredaf fod hwn yn gyfle a gollwyd.
Fe drafodaf pryder arall yn fyr. Dydw i ddim eisiau trethu'ch amynedd—
Na, does gennych chi ddim amser. Rydych chi wedi mynd y tu hwnt i'ch amser, Sam.
Mae gen i bryderon ynghylch y llwyfan gwybodaeth—
Rydych chi wedi mynd y dros eich amser, felly rwy'n credu y dylech chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—hefyd, y gallwn ni ei drafod rywbryd eto. Felly, yn eich ymateb, Cwnsler Cyffredinol, byddwn i'n ddiolchgar—
Sam, rydw i wedi gofyn i'r meicroffonau gael eu diffodd. Rwyf wedi gofyn ddwywaith i chi ddod i ben. Rydych chi wedi mynd dros eich amser. Rydych chi'n gwybod beth yw eich terfyn amser.
Diolch. Mae'r Bil yma yn un o driawd o Filiau sy'n cryfhau ein democratiaeth ni sydd ger ein bron ni eleni. Ac mae'n amserol iawn, wrth gwrs, achos dyma ni chwarter canrif ers creu y Senedd yma, ac mewn blwyddyn hefyd lle mae'r canran mwyaf erioed o'r boblogaeth ar draws y byd, 40 y cant o bobl, yn mynd i bleidleisio mewn etholiadau eleni—4 biliwn ohonyn nhw. Mae'n rhaid, wrth gwrs, bod yn ymwybodol bod democratiaeth yn wynebu argyfwng yn fyd-eang—does dim rhaid i fi ddweud hynny i un o wŷr Wcráin—ar hyn o bryd, mewn gwahanol ffyrdd.
Ond mae'r Mesur yma yn ceisio creu sylfaen well i ni ar gyfer democratiaeth i'r dyfodol. Dŷn ni'n croesawu hynny o ran y darpariaethau ynglŷn â chofrestru heb geisiadau—mae hynny wedyn, gobeithio, yn ein galluogi ni i gael rhagor o bobl i gymryd rhan yn ein prosesau democrataidd ni. Mae'r broses o beilota, o gael proses o gynlluniau peilot, yn ein galluogi ni i arloesi yn barhaus, i dreial syniadau mas—rhai yn mynd i lwyddo, rhai ddim. Dyna'r unig ffordd dŷn ni'n mynd i wella ein democratiaeth ni a'i chadw hi yn gyfoes i'r dyfodol.
Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â hybu amrywiaeth o fewn ein system ddemocrataidd ni, ar bob lefel, mor bwysig. Allwn ni ddim gwneud ein priod waith o gynrychioli'r bobl os nad ydy'r bobl i gyd yn cael eu cynrychioli yma. Felly, mae'r awgrymiadau yn y Mesur sy'n ymwneud ag adeiladu ar y broses sydd eisoes ar waith o ran ariannu, cefnogi pobl anabl i gymryd rhan mewn etholiadau, ehangu hwnna wedyn i grwpiau eraill sydd heb eu cynrychioli'n ddigonol yn draddodiadol, i'w croesawu.
Dŷn ni'n croesawu hefyd gryfhau ac ehangu swyddogaeth Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, fel y'i gelwir yn y Ddeddf yma. Mae hynny i'w groesawu, ac mae yna gyfeiriad yn y nodiadau esboniadol at rôl ehangach y comisiwn yma yn cynghori Gweinidogion Cymru ar iechyd democrataidd. Felly, mae'n dda gweld y capasiti ehangach yna yn gallu cael ei ddatblygu—corff sydd wedi ei wreiddio yng Nghymru ac yn ffocysu ar ein democratiaeth. Mae'r rhan o'r Mesur sy'n ymwneud â chreu platfform gwybodaeth hefyd mor bwysig o ran sicrhau ein bod ni yn sicrhau lefel o ddealltwriaeth o'n democratiaeth ni ymhlith ein dinasyddion.
Felly, dŷn ni'n croesawu nifer o elfennau, ond dŷn ni eisiau mwy, wrth gwrs, trwy welliannau y byddwn ni'n eu cynnig. Dŷn ni'n cefnogi awgrym yr RNIB, sydd wedi cael ei grybwyll yn barod. Byddwn i dal eisiau gweld y swyddogion canlyniadau etholiadau yn dod o dan safonau'r Gymraeg. Rydym ni'n croesawu'r awgrymiadau sydd wedi cael eu gwneud gan y pwyllgorau i wella atebolrwydd comisiwn democratiaeth Cymru.
Byddem ni hefyd eisiau cyflwyno ac archwilio, Dirprwy Lywydd, rhai gwelliannau sydd yn edrych ar elfennau eraill lle mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r heriau yn ein democratiaeth ni, fel yr epidemig o aflonyddu, yn arbennig ar fenywod, yn ein system ddemocratiaeth. A ydym ni'n gallu gwneud mwy i'r cyfeiriad hwnnw? Anwybodaeth a chamwybodaeth, os taw dyna'r gair ar gyfer 'misinformation', sydd hefyd yn mynd yn bla ar ein democratiaeth—a oes yna fwy y gallem ni ei wneud i'r cyfeiriad hwnnw? Cryfhau ac ehangu ymhellach swyddogaeth y comisiwn—mae yna rai syniadau gyda ni ynglŷn â chryfhau y cosbau sydd yn y Mesur ar gyfer ymddygiad anghyfreithlon, ac yn y blaen. Ac ehangu'r sgôp ar gyfer y broses beilota sydd ger ein bron ni.
Felly, rydyn ni'n croesawu'r egwyddorion craidd, y fframwaith craidd. Mae rhagor o syniadau gyda ni y byddwn ni yn eu trafod yn ystod y cam nesaf, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at y drafodaeth honno pan ddaw.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy groesawu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau a refferenda Cymru. O dan y system bresennol a gyflwynwyd yn 2014, rhaid i bleidleiswyr gyflwyno cais er mwyn arfer eu hawl ddemocrataidd, ac, o ganlyniad, yn 2022 tynnodd y Comisiwn Etholiadol sylw at y ffaith nad oedd bron i 10 y cant o'r rhai sy'n gymwys i bleidleisio yn Lloegr wedi eu cofrestru.
Rwy'n falch bod Llywodraeth Lafur Cymru yn dilyn trywydd gwahanol i Lywodraeth y DU, ac yn gwneud ymdrech ar y cyd i sicrhau bod pleidleisio mor hawdd â phosibl, yn hytrach na gosod rhwystrau ar ffurf prosesau ymgeisio a gofynion adnabod lluniau. Fodd bynnag, codwyd rhai pryderon ynghylch a yw'r cyfnod rhwng hysbysu unigolyn o'r bwriad i gofrestru a'u hychwanegu at y gofrestr yn ddigonol, fel y dywedwyd.
Hoffwn hefyd gefnogi'r hyn a ddywedwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, gan bwysleisio efallai na fydd digon o amser i bobl gasglu gwybodaeth i gefnogi cais dienw, ac rwy'n gobeithio bod hwn yn fater y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ei gymryd o ddifrif ac yn ceisio ei gywiro.
Rwy'n falch o weld bod adran 27 yn darparu ar gyfer creu llwyfan gwybodaeth i Gymru i roi gwybodaeth gyfoes i etholwyr sy'n ymwneud ag etholiadau'r Senedd a chynghorau, gan gynnwys cyhoeddi datganiadau ymgeiswyr. Fel cyn-bostwraig, cefais lawer o gwynion am nifer y taflenni etholiadol a choed yn dod trwy'r drysau. Awgrymwyd i mi bryd hynny y byddai llwyfan ar-lein yn fwy cynaliadwy, a fyddai'n galluogi pobl i weld gwybodaeth ddibynadwy a chywir yn yr un lle. Clywsom hefyd gan yr RNIB y byddai adnoddau digidol yn ddefnyddiol i'r rhai sy'n ddall ac yn rhannol ddal. Rwy'n deall y caiff y llwyfan ei reoli gan y bwrdd rheoli etholiadol, ond hoffwn bwysleisio ei bod hi'n hanfodol bod gwybodaeth ar y llwyfan yn gyfredol, yn wrthrychol ac yn gywir bob amser.
Rwyf hefyd yn croesawu adran 28 i hyrwyddo amrywiaeth ymysg y bobl sy'n gobeithio cael eu hethol, ac mae hyn yn cynnwys rhwymedigaethau o dan y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Mae'r gyfres o wasanaethau y gellir eu darparu i gynyddu amrywiaeth yn cynnwys ystod o gefnogaeth, ac mae croeso mawr iddynt.
Ac yn olaf, credaf fod y cynlluniau cymorth ariannol yn gam cadarnhaol iawn wrth helpu ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig penodol i oresgyn rhwystrau rhag cyfranogi. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith fel bod pob ymgeisydd yn ymwybodol o'r cymorth ariannol sydd ar gael, ac y derbynnir cymorth mewn modd amserol. Ond hoffwn hefyd weld cynllun cymorth ariannol yn cael ei ymestyn i'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Gall hyn fod yn rhwystr enfawr rhag sefyll mewn etholiad ac effeithio'n anghymesur ar fenywod. Gan nad yw bod yn ofalwr yn nodwedd warchodedig, mae'r heriau ychwanegol sy'n wynebu'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu yn aml yn cael eu cuddio ac nid ydynt wedi'u cynnwys wrth fonitro cydraddoldeb. Hoffwn weld hyn yn newid, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried edrych ar hyn yn y dyfodol. Diolch.
Fel llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldebau, dwi eisiau holi rhai cwestiynau yn benodol heddiw ar sut mae'r Bil yn mynd i'r afael ag amrywiaeth ymgeiswyr, sut mae'n mynd i ystyried eu hanghenion nhw, sut mae e'n eu cefnogi nhw. Mae Adam Price wedi crybwyll pwysigrwydd hyn, ac mae Carolyn Thomas hefyd wedi cyffwrdd â rhai elfennau o hyn. A hoffwn i ddiolch i Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru am gadw llygad barcud ar y ddeddfwriaeth rŷn ni'n ei chreu yn y lle yma, er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi ystyriaeth lawn i amrywiaeth a chydraddoldebau.
Mae adran 26 o’r Bil yn dileu’r gofyniad i osod mas geiriad a fformat cwestiynau’r arolwg ymgeiswyr llywodraeth leol mewn rheoliadau er mwyn darparu hyblygrwydd. Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi y bydd newidiadau i'r geiriad yn y dyfodol yn cael eu llywio gan grŵp rhanddeiliaid. Er, wrth gwrs, fy mod i'n croesawu hyn, yr hyblygrwydd yma, er mwyn adlewyrchu newidiadau o ran ieithwedd ac yn y blaen, a newidiadau mewn gofynion, dwi'n credu bod angen cydbwyso hyn â’r angen am gasglu data cadarn dros amser.
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wedi argymell y dylai’r arolwg gasglu data ar brofiad ymgeiswyr o aflonyddu a cham-driniaeth, ac, wrth gwrs, yn gwneud yn siŵr bod rhagofalon priodol mewn lle. Cafodd hyn sylw yn y Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol. Ac er gwaethaf cefnogaeth bron i 70 y cant o’r ymatebwyr, doedd y cynnig yma ddim yn rhan o’r Bil, ac rwy’n cytuno gyda WEN fod hyn yn gyfle wedi ei golli, efallai, i sefydlu sylfaen dystiolaeth y mae dirfawr ei hangen ar un o'r prif rwystrau yma i swyddi etholedig, ac i yrru neges hefyd o ran pwysigrwydd a difrifoldeb ystyried aflonyddu a cham-driniaeth ymgeiswyr.
Mae WEN hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith, er bod y Papur Gwyn yn archwilio ystod o fesurau i liniaru aflonyddu a chamdriniaeth, dyw'r pwnc ddim yn bresennol o gwbl yn y Bil na'r memorandwm esboniadol. Felly, Cwnsler Cyffredinol, sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi ymgeiswyr yn etholiadau Cymru sy'n profi aflonyddu a chamdriniaeth?
Mae adran 28 o’r Bil yn creu dyletswydd statudol gyffredinol ar Weinidogion Cymru i roi gwasanaethau ar waith i hyrwyddo amrywiaeth yn y Senedd a llywodraeth leol, fel rŷn ni wedi clywed—gwybodaeth, hyfforddiant, mentora a darparu offer. Fodd bynnag, does dim cefnogaeth wedi'i chynnwys yn yr adran i fynd i'r afael â dau o'r prif rwystrau y mae menywod yn enwedig yn eu hwynebu wrth iddyn nhw sefyll, sef aflonyddu a cham-driniaeth ac, fel y clywon ni gan Carolyn Thomas, gyfrifoldebau gofalu.
Mae angen ymrwymiadau clir ynghyd ag amserlenni cadarn, os ŷn ni'n moyn gweld newid gwirioneddol yn amrywiaeth yr ymgeiswyr fydd yn sefyll yn ein hetholiad nesaf. Felly, sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau i hyrwyddo amrywiaeth o fewn y Senedd ar waith cyn 2026?
Mae adran 29 o’r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer cynllun o gefnogaeth ariannol i gefnogi ymgeiswyr anabl. Mae hyn wedi’i dreialu o dan y gronfa mynediad i swyddi etholedig ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021 a'r rhai llywodraeth leol yn 2022, ac mae’n rhywbeth i’w groesawu bod y cynllun nawr yn rhoi hyn ar sail statudol. Fodd bynnag, mae’r cynnydd cyfyngedig ar ehangu’r cynllun i gefnogi ymgeiswyr â nodweddion gwarchodedig eraill, a oedd yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, yn siomedig.
Yn eu hymateb ysgrifenedig i’r ymgynghoriad ar y Bil gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, nododd WEN pam fod y rhwystrau sy’n ymwneud â chyfrifoldebau gofalu yn ddigon tebyg i’r cynllun presennol fel y gellir blaenoriaethu’r ehangu hwn. Yn benodol, mae’r cyrff taliadau ar gyfer y Senedd a llywodraeth leol eisoes yn darparu cefnogaeth ar gyfer treuliau sy’n ymwneud â gofal, yn union fel y maent ar gyfer y treuliau sy’n ymwneud â chyflyrau neu namau iechyd. O ystyried bod penderfyniadau’r ddau gorff taliadau wedi barnu ei bod yn briodol i ddarparu cymorth ariannol yn y ddau achos, mae’n fy synnu i braidd nad yw Llywodraeth Cymru wedi dod i’r un casgliad o ran y gefnogaeth sy'n cael ei hystyried yn briodol i’r rhai sy’n ymgeisio ar gyfer swyddi etholedig.
Roedd eu cyflwyniad hefyd yn adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ymchwil a gomisiynwyd ar ehangu’r cynllun a’r adolygiad o’r gronfa beilot. Ac er bod pob un o’r rhain yn cynnwys tystiolaeth o blaid ehangu cynlluniau cefnogaeth ariannol i’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu di-dâl, does dim un un o’r dogfennau hyn yn cynnwys unrhyw bryderon neu wrthwynebiadau sylweddol yn erbyn gwneud hynny. Felly, yn wyneb y dystiolaeth sylweddol yma o blaid darparu—
Sioned, mae'n rhaid i chi orffen nawr.
—cefnogaeth ariannol i ymgeiswyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, pam does dim darpariaethau wedi'u cynnwys yn y Bil? Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi ymgeiswyr sydd â chyfrifoldebau gofal, fel rhieni a gofalwyr di-dâl—nifer helaeth ohonyn nhw'n ferched—yn etholiadau Cymru?
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. Efallai os dechreuaf gyda rhai o'r pwyntiau a wnaed yn fwyaf diweddar, ac a gaf i ddweud, yn y dechrau'n deg, mae'n amhosibl i mi ateb pob un pwynt sydd wedi'i godi? Ond rwy'n ddiolchgar iawn am yr hyn sy'n gyfres adeiladol iawn o gyfraniadau drwyddi draw, ac rwy'n credu bod hynny'n cydnabod bod hon yn ddeddfwriaeth arloesol a phwysig iawn. A gaf i ddiolch i'r wrthblaid hefyd am eu cefnogaeth i'r egwyddorion cyffredinol? Ac, wrth gwrs, wrth i ni symud ymlaen i Gyfnod 2, bydd hynny'n canolbwyntio ar rai o'r meysydd sydd wedi'u codi mewn gwirionedd.
A gaf i ddim ond dweud, yn y pwyntiau, bod nifer o Aelodau wedi codi mater amrywiaeth? Mae amrywiaeth, rwy'n credu, yn rhan sylfaenol bwysig o hyn. Wrth gwrs, mae darpariaeth mewn cysylltiad â'r Comisiwn Etholiadol yn adrodd ar y camau a gymerwyd. Mae darpariaeth o fewn y ddeddfwriaeth mewn cysylltiad â chymorth, mewn cysylltiad ag anableddau. Hefyd, ynddi, rwy'n credu, mae rhan arloesol arall o'r ddeddfwriaeth hon sy'n ymwneud â chyflwyno meini prawf economaidd-gymdeithasol. Esboniwyd hynny yn y pwyllgor fel rhywbeth sydd mewn gwirionedd yn waith ar y gweill, y mae gwir angen i ni fynd i'r afael ag ef, ond rwy'n credu efallai mai dyma'r ffactor sy'n ein galluogi i edrych ar yr enghreifftiau hynny mewn gwirionedd. Yr anhawster, wrth gwrs, yw bod angen y math hwnnw o ddarpariaeth arnom ni o ran yr hyn y gallwn ni ac na allwn ni ei wneud.
O ran yr arolygon ymgeiswyr, wel, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Y rheswm y bu inni gynnwys yr hyblygrwydd yw nid i geisio cyfyngu, ond i agor, oherwydd rwy'n credu y gallai pob math o gwestiynau ychwanegol godi. Ac rwy'n credu bod y pwynt a godwyd gennych chi yn enwedig o ran y pleidleiswyr agored i niwed hynny a'r pryderon sydd ganddyn nhw—maen nhw'n bwysig iawn. Felly, mae mater pobl agored i niwed a'r darpariaethau ynghylch sut y gallan nhw gofrestru, cofrestru'n ddienw, neu sicrhau y diogelir eu diogelwch a'u pryderon, yn flaenllaw iawn yn ein meddyliau o ran y cynlluniau treialu.
Dim ond i ddweud, o ran y sylwadau ynghylch y cynlluniau treialu, wel, wrth gwrs, ni allwn gael y cynlluniau treialu nes bod gennym ni'r pŵer i'w cael nhw mewn gwirionedd. Rwyf wedi rhoi'r sicrwydd bod y cynllun treialu yr hoffem ni ymgymryd ag ef yn ymwneud â chofrestru awtomatig. A dim ond i ddweud hefyd nad yw cofrestru awtomatig yn bleidleisio awtomatig—does dim gorfodaeth i bleidleisio. Nid yw ond yn golygu na allwch chi ymarfer eich dewis mewn gwirionedd, oni bai eich bod mewn sefyllfa i allu pleidleisio. Ac mae a wnelo'r ddeddfwriaeth hon â gwneud y mwyaf o hynny mewn gwirionedd. Ond un o fwriadau'r cynlluniau treialu yn amlwg fydd gweld sut mae hynny'n gweithio.
Sam, fe wnaethoch chi sylwadau am y cynlluniau treialu blaenorol yr ydym ni wedi eu cynnal. Ni fwriadwyd y cynlluniau treialu hynny erioed ac ni fyddan nhw byth yn arwain at nifer enfawr o bobl yn sydyn yn pleidleisio. Eu diben o hyd oedd dangos sut y gallwch chi ddefnyddio technoleg i wneud pethau'n wahanol, i wneud pethau'n well. Ac mae llawer o'r Bil hwn yn ymwneud â'r cofrestru awtomatig hwnnw a'r holl gyfleoedd o gael system etholiadol decach a mwy agored, gyda digideiddio'r sector a defnyddio technoleg fodern, ac mae hynny'r un mor berthnasol o ran y mater amrywiaeth a'r rhai ag anableddau amrywiol, rwy'n credu.
O ran y llwyfan gwybodaeth, wel, yn amlwg, fe hoffem ni i'r bwrdd rheoli etholiadol weithredu hwnnw, ond gyda thechnoleg, gyda newidiadau, y pethau a allai ddigwydd yn y dyfodol, dw i ddim yn meddwl bod arnom ni eisiau deddfwriaeth i ddweud, 'Ni all ond fod yn—'; efallai y bydd cynigion a fydd yn dweud mewn gwirionedd y gellid ei wneud yn llawer gwell mewn ffordd wahanol. Felly, ni fyddai wedyn angen i ni ailddeddfu er mwyn gwneud rhywbeth sy'n ymarferol ac yn dechnolegol yn welliant sylweddol mewn gwirionedd. Ond ni fyddai'r argymhellion hynny ond yn dod gan y gwahanol gyrff etholiadol sy'n ymwneud â hyn.
Y broblem o ran costau ariannol, wel, un o'r materion sy'n ymwneud â chynlluniau treialu yw, wrth gwrs, cael syniad o ran faint mae pethau'n costio mewn gwirionedd a beth fydd yr heriau gyda hynny. Felly, rwy'n gobeithio ein bod ni wedi rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallwn ni ynghylch hynny.
A gaf i ddweud hefyd, roedd un neu ddau faes arall wedi eu codi? Mae fy nodiadau yn dechrau edrych fel presgripsiwn meddyg teulu. [Chwerthin.] Yr hyn y byddaf yn ei wneud, wrth gwrs, yw ysgrifennu at yr holl bwyllgorau, yn ymateb. Ac, wrth gwrs, proses o ymgysylltu yw hon hefyd. Felly, wrth i ni gyrraedd Cyfnod 2, bydd mwy o ymgysylltu ynghylch hynny.
A gaf i efallai ystyried y pwyntiau a gododd Adam hefyd? Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â chryfhau ein democratiaeth. Mae'n ymwneud â'i llusgo i mewn i'r unfed ganrif ar hugain, gan ei gwneud yn agored, yn decach ac yn fwy cynhwysol. Ac rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu â'r Aelodau. Os wyf wedi methu rhai pwyntiau nawr, yn amlwg byddaf yn mynd i'r afael â nhw maes o law. Ac rwy'n rhoi'r sicrwydd hwn o barhau i ymgysylltu ag Aelodau. Mae hon yn ddeddfwriaeth y mae'r Senedd yn gyfrifol amdani ac mae'n rhywbeth rwy'n credu sy'n bwysig iawn i ddyfodol ein democratiaeth.
Cododd Adam y mater o gryfhau ein democratiaeth a chredaf y dylem ni weld y broses hon, mewn gwirionedd, fel cyfraniad sylweddol tuag at hynny. Credaf fod hon yn ddeddfwriaeth arloesol ac rwy'n gwybod bod llygaid cenhedloedd eraill y DU ar hyn ac ar yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i gyflawni yma. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nesaf, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar gyllideb ddrafft 2024-25. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, roedd 12 yn ymatal a 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2024-2025. gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 28, Ymatal: 12
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais yn awr ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, roedd 12 yn ymatal ac 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2024-2025. Cynnig: O blaid: 30, Yn erbyn: 12, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y diwydiant dur yng Nghymru. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl: y Diwydiant Dur yng Nghymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Nesaf, galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl: y Diwydiant Dur yng Nghymru. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 3 nesaf, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae gwelliant 3 wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl: y Diwydiant Dur yng Nghymru. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 54, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 7. Dadl: y Diwydiant Dur yng Nghymru. Cynnig: O blaid: 54, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y cyfarfod i ben am 20:31.