Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/10/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn heddiw. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan James Evans. 

Ailgylchu yn y Gweithle

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau i ailgylchu yn y gweithle? OQ60129

Llywydd, bydd rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle wahanu deunyddiau ailgylchadwy allweddol, fel y mae aelwydydd eisoes yn ei wneud ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Cyn belled ag y bo'r rheoliadau yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd, byddan nhw'n dod i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwnaethoch chi sôn, bydd y rheoliadau hynny yn dod i rym ar 6 Ebrill y flwyddyn nesaf. Cefais gyfarfodydd â nifer o fusnesau yn fy etholaeth i sy'n poeni am hyn, gan eu bod nhw'n poeni, gyda'r biniau y bydd eu hangen, na fydd ganddyn nhw'r lle i'w rhoi ar eu safleoedd. A chefais gyfarfodydd â rhai cwmnïau ailgylchu hefyd, sy'n poeni am nifer y lorïau ychwanegol y bydd yn rhaid iddyn nhw eu rhoi ar waith, yn enwedig ardaloedd gwledig, i gasglu'r holl wastraff hwn, a fydd yn niweidiol i'r heriau amgylcheddol sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd. Gofynnodd yr ymgynghoriad am ddull fesul cam o weithredu hyn, felly meddwl ydw i tybed a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych ar hyn eto a gweithio gyda'r diwydiant ailgylchu i wneud yn siŵr nad oes unrhyw darfu ar fusnesau yn fy etholaeth i.

Wel, Llywydd, cyngor Powys sy'n casglu dros chwarter y busnesau yn etholaeth yr Aelod, ac mae eu gwasanaethau gwastraff masnach eisoes yn casglu deunydd sydd wedi'i wahanu yn y ffordd a fydd yn ofynnol i bob busnes. Ac mae gwasanaeth gwastraff masnach Powys yn gweithredu ym mhob rhan o'r sir, ac yn gwneud hynny'n llwyddiannus iawn. Felly, rwy'n gwbl sicr y bydd busnesau yn addasu i'r rheoliadau newydd, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r rheoliadau newydd yn dda i fusnesau hefyd, Llywydd. Byddan nhw'n arwain at arbedion ariannol sylweddol i fusnesau, ac, yn hytrach na thaflu pethau a'u hanfon i safleoedd tirlenwi, byddan nhw'n dod yn gyflenwad cadarn o ddeunydd eildro o ansawdd uchel yn mynd yn ôl i'r economi. Felly, bydd busnesau yn canfod bod ganddyn nhw adnodd y gallan nhw ei ddefnyddio'n fasnachol, yn hytrach na gorfod talu iddo gael ei waredu mewn ffordd yr ydym ni'n gwybod nad yw'n gyson â'n rhwymedigaethau na'n huchelgeisiau amgylcheddol.

Fe wnaethom ni wrando yn ystod yr ymgynghoriad, Llywydd, ar y galwadau am gyflwyno fesul cam. Bydd dull fesul cam o ymdrin â nwyddau electronig a thrydanol bach, a bydd dull fesul cam o ymdrin â thecstilau—dwy flynedd yn yr achos cyntaf, tair blynedd yn yr ail—i wneud yn siŵr y gall busnesau baratoi, a bod y seilwaith yno i wneud yn siŵr bod modd ailgylchu'r nwyddau hynny yn llwyddiannus. Felly, yn rhan o'n heconomi gylchol, rwy'n eithaf siŵr, Llywydd, y bydd busnesau yn etholaeth yr Aelod yn chwarae eu rhan.

Rwy'n falch o ddweud, trwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a thrigolion, mai ni yw'r trydydd gorau am ailgylchu yn y byd. Mae wedi dod â newid diwylliant, gan arwain i blant ac oedolion feddwl am yr amgylchedd a faint rydym ni'n ei wastraffu fel gwlad. Gellir ailddefnyddio'r deunyddiau eildro gwerthfawr, ac mae wedi dod â busnesau i Gymru. Ac mae'r gwastraff bwyd yr ydym ni'n ei gasglu yn creu ynni hefyd. Fe'i defnyddiwyd ar gyfer trydan, ac fe'i defnyddir fel gwrtaith hylif hefyd, felly mae pawb ar eu hennill. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n siomedig bod Prif Weinidog y DU wedi diddymu'r hyn y mae'n ei alw'n gynlluniau ailgylchu 'beichus' yn Lloegr, ac a wnewch chi ymrwymo i weithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru fel y gallwn ni barhau ar ein llwybr at ddyfodol mwy cynaliadwy yng Nghymru?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â Carolyn Thomas bod y llwyddiant yr ydym ni wedi ei gael yng Nghymru wedi bod o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac uchelgeisiau ein hawdurdodau lleol. Ac, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae cyfraddau ailgylchu yng Nghymru eisoes ymhell ar y blaen i le maen nhw yn Lloegr, ac mae ein huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol ymhell ar y blaen i'r uchelgeisiau yn Lloegr hefyd. Felly, mae penderfyniad Prif Weinidog y DU i dynnu'n ôl o ailgylchu yn Lloegr hyd yn oed yn fwy siomedig, ond dydych chi ddim angen i mi ddweud hynny wrthych chi, rwy'n gwybod. Dyma gyfarwyddwr y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol—dyma'r corff masnach sy'n gweithredu yn y sector gwastraff—a dyma'r hyn a ddywedodd am benderfyniad Prif Weinidog y DU, Llywydd: 

'Mae cael gwared ar y diwygiadau hyn yn peryglu'r potensial ar gyfer gwerth biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad gan ein sector mewn seilwaith gwyrdd newydd a bydd yn arwain i Loegr fod ar ôl ei chymdogion datganoledig yng Nghymru a'r Alban sy'n dilyn agenda bolisi fwy blaengar ar gyfer ailgylchu a gwastraff, gyda Chymru yn benodol yn dangos yr hyn y gellir ei wneud gyda'r cyfeiriad polisi a'r eglurder cywir.'

Wel, rwy'n credu bod hynny'n gymeradwyaeth grymus iawn o'r dull y cytunwyd arno ar draws y Siambr yma yng Nghymru, ac, wrth gwrs, rydym ni'n benderfynol o barhau i'w fabwysiadu yn y dyfodol.

13:35
Tlodi

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd â phlant mewn tlodi? OQ60111

Diolch i Sioned Williams am y cwestiwn, Llywydd. Wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynyddu tlodi plant yng Nghymru, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w leihau. Er gwaetha'r pwysau eithriadol ar ein cyllidebau, fe fyddwn ni yn ystod y tymor hwn wedi ehangu ein cynnig gofal plant, wedi darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, ac wedi cynyddu lefel y lwfans cynhaliaeth addysg.

Diolch, Brif Weinidog. Mae cinio ysgol am ddim i bob plentyn cynradd yn sgîl y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru wrth gwrs yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd â phlant mewn tlodi, ac, yn ôl Cymdeithas y Plant, yn werth cymaint mwy i deuluoedd na phris y pryd i'r Llywodraeth. Mae'r trothwy incwm ar gyfer cymhwysedd cinio ysgol am ddim yn dal mewn lle, wrth gwrs, ar gyfer plant uwchradd, ac wedi aros ar £7,400 ers ei gyflwyno yn Ebrill 2019. Mae'r trothwy yma'n golygu bod miloedd o blant sy'n dod o deuluoedd ag incwm ddigon isel i fod yn gymwys ar gyfer credyd cynhwysol, ond sydd ddim yn gymwys am ddiogelwch trosiannol, yn colli mas, a'r trothwy hefyd yn gweithredu fel trap tlodi ar gyfer teuluoedd. Ydych chi'n cytuno, Brif Weinidog, y byddai dileu'r trothwy yn rhoi tawelwch meddwl i deuluoedd y bydd eu plant yn gallu cael cinio am ddim ar ôl i'r credyd cynhwysol gael ei rowlio mas i bawb, a phan ddaw'r cyfnod diogelu trosiannol i ben, ac yn lleihau costau a chynyddu incwm i deuluoedd? Y gost i Lywodraeth Cymru, yn ôl Cymdeithas y Plant, fyddai rhyw £4.29 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn, ond i deuluoedd â phlant mewn tlodi, ac i ni fel cymdeithas, byddai'n werth gymaint yn fwy.

Diolch, Llywydd, i Sioned Williams am y cwestiynau ychwanegol. Roedd popeth yn fy ateb gwreiddiol i yn rhan o'r cytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, ac wrth gwrs rydyn ni'n awyddus i fwrw ymlaen â beth rydyn ni wedi cytuno i wneud yn barod. Os bydd y cyllidebau gyda ni yn y dyfodol, mae nifer fawr o bethau roeddem ni eisiau eu gwneud i helpu teuluoedd, yn enwedig ble mae plant yn byw mewn tlodi. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n canolbwyntio ar beth rydyn ni'n cytuno i wneud yn y tymor hwn, ac i wneud popeth rydyn ni wedi ei gytuno—dyna ble bydd y cyllidebau sydd gyda ni yn mynd yn y lle cyntaf. Am y dyfodol, mae'n dibynnu, fel dwi'n dweud, ar y cyllid sydd ar gael i'r Llywodraeth, ac, o fewn y gyllideb, bydd nifer fawr o bethau y gallwn ni eu gwneud yn y maes bwyd yn yr ysgol, a phethau eraill. Ond, ar hyn o bryd, rydyn ni'n canolbwyntio ar beth rydyn ni wedi cytuno i wneud yn barod.

Prif Weinidog, yn eu seithfed arolwg blynyddol ar dlodi plant a theuluoedd, tynnodd Plant yng Nghymru sylw at bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus, i alluogi plant a phobl ifanc i gyrraedd yr ysgol a rhieni i gyrraedd y gwaith, o ran lleddfu tlodi plant. Fodd bynnag, oherwydd toriadau i gyllid, mae llawer iawn o wasanaethau bysiau yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, yn cael eu lleihau, eu newid neu eu canslo'n gyfan gwbl. Mae teuluoedd â phlant ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed, ac maen nhw'n dibynnu ar wasanaethau bysiau dibynadwy a chyfleus. Bydd y cam hwn gan eich Llywodraeth yn gwneud bywyd yn anoddach iddyn nhw ac yn rhwystro ymdrechion i leddfu tlodi plant. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio rhan o'r cyllid cynyddol yr ydych chi'n ei dderbyn o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth y DU mewn seilwaith trafnidiaeth i gefnogi gwasanaethau bysiau yng Nghymru, i helpu'r teuluoedd hyn i gyrraedd yr ysgol a'r gwaith?

Llywydd, mae gen i ofn bod yr Aelod yn byw mewn bydysawd cyfochrog i'r bydysawd y mae'r gweddill ohonom ni'n byw ynddo, a'r bydysawd y mae teuluoedd yn byw ynddo hefyd. Cyfeiriodd yr un adroddiad Plant yng Nghymru at benderfyniadau bwriadol Llywodraeth y DU a fydd yn arwain at gannoedd o filoedd yn fwy o blant yn byw mewn tlodi ar draws y Deyrnas Unedig dros y cyfnod sydd i ddod. Ac mae'r syniad bod cyllid helaeth sy'n dod i Gymru i ganiatáu i ni wneud mwy nag yr ydym ni'n ei wneud heddiw yn weithred syml o ffuglen. Fel y byddwch chi'n clywed yn ddiweddarach y prynhawn yma, mae'n rhaid i swyddogaeth Llywodraeth Cymru fod yn un o fyw o fewn y moddau llai sydd ar gael i ni ac i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn y broses. Dyna pam rydym ni, yn wir, wedi buddsoddi degau o filiynau o bunnoedd yn ychwanegol mewn cefnogi gwasanaethau bysiau yn ystod y flwyddyn ariannol hon fel ffordd o bontio'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw a'r sefyllfa y byddwn ni ynddi unwaith y bydd y Bil bysiau, a fydd yn dod â bysiau yn ôl o dan reolaeth budd y cyhoedd yng Nghymru, yn caniatáu i ni greu'r dyfodol cynaliadwy hwnnw. Dyna'r ffordd y byddwn ni'n helpu teuluoedd, ac yn sicr nid ydym ni'n cael ein helpu gan Lywodraeth y DU sydd wedi chwalu economi'r DU ac sy'n lleihau cyfanswm y buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. 

13:40

Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae gan lawer ohonom ni wahanol safbwyntiau a meddyliau a syniadau o ran yr hyn a allai helpu ein plant tlotaf, ond un peth yr oeddem ni eisiau siarad amdano oedd gofal plant a pha mor bwysig yw hwnnw i bob teulu, nid y rhai sy'n byw mewn tlodi yn unig. Yn 2022-23, cafwyd y cynnydd mwyaf i gostau gofal plant yn y DU yng Nghymru, â rhai rhieni yn gwario 60 y cant o'u hincwm ar ffioedd. Y bore yma, lansiodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru gynllun gofal plant, cynllun trawsnewidiol i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel, fforddiadwy a hygyrch sy'n diwallu anghenion teuluoedd Cymru a'r Gymraeg. Mae ein cynllun yn edrych ar drechu tlodi plant a sicrhau ein bod ni'n agor y potensial economaidd i fenywod, rhoddwyr gofal a phob rhiant. Mae rhieni sy'n gweithio'n galed yn wynebu dewisiadau amhosib ar adegau. Maen nhw'n talu naill ai ffioedd aruthrol sy'n cymryd llawer gormod o incwm eu teulu neu maen nhw'n gadael y gweithlu yn gyfan gwbl. Ac i blant o dan ddwy oed does dim byd, ac i blant anabl ychydig iawn ac yn sicr ychydig iawn o ddewis. Felly, Prif Weinidog, rwy'n gobeithio, os byddwn ni'n anfon y cynllun atoch chi, y cewch chi gyfle i'w ddarllen. Ond a fyddech chi'n cytuno â mi bod y cyfnod rhwng dim a dwy oed yn gwbl hanfodol o ran ein helpu ni i drechu tlodi plant? Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiynau, Llywydd. 

Wrth gwrs, byddwn i'n awyddus i gael cyfle i ddarllen y cynllun, gan fy mod i'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, bod gofal plant yn rhan sylfaenol o'r ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael â thlodi plant, ond hefyd i alluogi teuluoedd sy'n gweithio i allu cymryd rhan yn y gweithlu a gwneud yn siŵr bod gofal o ansawdd yn cael ei ddarparu i'w plant ar yr un pryd. Bydd yr Aelod yn gwybod ein bod ni eisoes yn nhymor y Senedd hon wedi ymestyn ein cynnig gofal plant—y cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig—i deuluoedd sydd ar drothwy gwaith, pobl sydd mewn hyfforddiant neu addysg ac a fydd yn y gweithle yn fuan. Ac, o ganlyniad i'r cytundeb gyda Phlaid Cymru, rydym ni'n ehangu gofal plant i blant dwy oed, gyda phwyslais arbennig ar ddod o hyd i fwy o leoedd i'r teuluoedd hynny sy'n dymuno cael gofal i'w plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae miloedd yn fwy o leoedd eisoes o ganlyniad i'r camau a gymerwyd ym mis Ebrill eleni, ac yna camau pellach ym mis Medi eleni, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y polisi hwnnw ymhellach eto. Os oes syniadau ychwanegol sydd, fel y dywedodd yr Aelod, yn fforddiadwy ac y mae modd ei gwireddu, yna, wrth gwrs, byddwn ni'n awyddus iawn i ddysgu amdanyn nhw. 

Wrth gwrs, union flwyddyn yn ôl heddiw y gwnaeth Jeremy Hunt wrthdroi'r holl fesurau yng nghyllideb drychinebus Liz Truss, a blwyddyn yn ôl i'r wythnos hon y gorfodwyd Liz Truss o'i swydd. Ond, yn y flwyddyn honno, dydyn ni ddim wedi clywed yr un ymddiheuriad gan unrhyw Aelod Ceidwadol am yr effaith a gafodd Prif Weinidog byrhoedlog honno y DU ar yr economi ac ar blant ac ar bobl y wlad hon. [Torri ar draws.] Maen nhw'n ddigon swnllyd nawr, Llywydd, ond rwyf i eto i glywed gair o ymddiheuriad gan unrhyw un ohonyn nhw.

Prif Weinidog, rydych chi'n ymwybodol bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio adroddiad yn rhoi manylion effaith tlodi ar blant, yr effaith ar eu dysgu, yr effaith ar eu hiechyd, yr effaith ar eu dyfodol. Mae'r holl faterion hyn yn ganlyniad i dlodi ac yn ganlyniad i economi Dorïaidd sydd wedi torri. Mae'n bwysig, Prif Weinidog, wrth i ni wneud penderfyniadau ar gyllid a chyllido gwasanaethau cyhoeddus, ein bod ni'n parhau i ddiogelu plant a theuluoedd, ac, wrth i ni ddiogelu plant, rydym ni hefyd yn egluro pam maen nhw'n dioddef tlodi a beiusrwydd Llywodraeth Dorïaidd y DU nad oes ots ganddi am blant oer, llwglyd nad ydyn nhw'n gallu cael y pethau sylfaenol mewn bywyd.

13:45

Wel, Llywydd, mae Alun Davies yn gwneud cymwynas â ni drwy ein hatgoffa o'r hyn a oedd yn digwydd union flwyddyn yn ôl heddiw, pan wnaeth Jeremy Hunt wrthdroi bron i bopeth a oedd yn y fini-gyllideb drychinebus yn ystod goruchwyliaeth fer Liz Truss. Wrth gwrs, erbyn diwedd yr wythnos hon y llynedd, nid hi oedd Prif Weinidog y DU mwyach. Cafodd gefnogaeth Aelodau'r Blaid Geidwadol yma tan y funud pan gafodd ei bysedd eu gorfodi oddi ar forthwyl drws 10 Stryd Downing. Ac, fel y dywedwch chi, Mr Davies, dim un gair o ymddiheuriad gan y bobl hynny a wnaeth ei chefnogi drwy'r dyddiau trychinebus hynny. 

Darllenais adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywydd. Roedd yn adroddiad a oedd yn canolbwyntio ar yr effaith ar iechyd plant mewn tlodi. Ceir llawer o adroddiadau ysgytwol yr ydym ni'n eu darllen—roeddem ni'n clywed am rai ohonyn nhw'n gynharach—ond cefais wir fy syfrdanu gan yr hyn a ddywedodd yr adroddiad hwnnw, am deuluoedd yng Nghymru nad ydyn nhw'n gallu fforddio cadw eu plant yn lân, nad ydyn nhw'n gallu fforddio sebon iddyn nhw gael eu golchi, nad ydyn nhw'n gallu fforddio powdwr golchi i wneud yn siŵr bod eu dillad nhw'n lân, a phan fydd y plant hynny yn mynd i'r ysgol, maen nhw'n eistedd ochr yn ochr â phlant eraill ac yn dioddef y stigma a'r cywilydd sy'n dod o fethu â gallu fforddio'r pethau sylfaenol hynny o fywyd gweddus. I feddwl bod hynny'n digwydd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain—roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddarganfyddiad gwirioneddol ysgytwol. Ac mae'r teuluoedd hynny yn gwybod pwy sy'n gyfrifol. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, roedd adroddiadau am sgrinio canser yr ysgyfaint a'r treial bach sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y Rhondda, wedi'i noddi gan Tenovus, yr elusen ganser. Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae cynllun sgrinio cynhwysfawr ar waith, ac, erbyn 2025, bydd 40 y cant o'r boblogaeth yn Lloegr yn elwa o'r sgrinio hwnnw, ac, erbyn 2030, bydd 100 y cant o'r boblogaeth yn elwa ohono. Rydym ni'n gwybod o'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg bod canserau cam 1 a cham 2 wedi cael eu darganfod yn llawer cynharach oherwydd y sgrinio hwnnw, yn hytrach, yn anffodus, nag yng Nghymru, pan ddaw i ganser yr ysgyfaint, mae llawer o achosion cam 3 a 4 yn cyflwyno, nad yw, fel y gwyddom ni, yn anffodus, yn brognosis da i'w gael.

Mae'r Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor yr angen i gael sgrinio canser yr ysgyfaint yma yng Nghymru. Fel y bydd llawer o Aelodau sy'n eistedd ar feinciau'r gwrthbleidiau yn deall, nid yw derbyn rhywbeth mewn egwyddor bob amser yn golygu ei fod yn anochel yn mynd i ddod yn realiti. A allwch chi ymrwymo Llywodraeth Cymru heddiw i gadw at yr amserlen y mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi'i mabwysiadu i gyflwyno'r sgrinio hwnnw, oherwydd, fel y dywedais i, rydym ni'n gwybod pa fanteision sy'n cael eu sicrhau o gael y sgrinio hwnnw, a does bosib nad oes yn rhaid i ni i gyd geisio ymroi i leihau'r gyfradd marwolaethau o ganser yr ysgyfaint, sydd, yn anffodus, ymhlith y cyfraddau marwolaeth gwaethaf o unrhyw ran o Ewrop?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno ag arweinydd yr wrthblaid am bwysigrwydd sgrinio a'r ffordd y mae'n galluogi canser i gael ei ddarganfod yn gynharach yn y broses. Mae'n iawn i ddweud, yn dilyn argymhelliad pwyllgor sgrinio'r Deyrnas Unedig, ein bod ni wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad y dylid cael rhaglen sgrinio yma yng Nghymru. 

Roedd yr Aelod yn anghywir i ddweud bod gwasanaeth cynhwysfawr mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig oherwydd, fel yr aeth ymlaen wedyn i ddweud, yr uchelgais yn Lloegr yw y dylai fod gwasanaeth llawn ar waith erbyn 2030, ac yn sicr nid oes rhaglen gynhwysfawr yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Ac, yn wir, os bydd yr Aelodau yn darllen argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, mae'n dweud ei hun y bydd angen gwneud gwaith ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn gallu gweithredu ei argymhelliad. Dyna pam mae grŵp dichonoldeb sgrinio canser yr ysgyfaint yn y DU wedi'i sefydlu, ac rydym ni'n aelodau o'r grŵp dichonoldeb hwnnw. Felly, rydym ni'n cynllunio ar gyfer y dyfodol. Bydd canlyniadau o gynllun peilot Cwm Taf Morgannwg yn bwysig i ni wrth wneud hynny.

Mae'n rhaid i chi allu adeiladu gwasanaeth o'r math hwn, Llywydd; ni ellir ei roi ar waith ym mhobman ar unwaith. Byddwn ni eisiau'r rhaglen fwyaf uchelgeisiol y gallwn ni ei chael yng Nghymru, ond mae'n rhaid iddi fod yn realistig hefyd. Mae angen safle arnoch chi, mae angen staff arnoch chi, mae angen systemau arnoch chi, mae angen offer arnoch chi; mae hynny i gyd yn cael ei gynllunio, ac rydym ni'n ei gynllunio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

13:50

Y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud i chi, Prif Weinidog, yw bod taith yn Lloegr y maen nhw'n ymgymryd â hi i gyrraedd, erbyn 2025, 40 y cant o'r boblogaeth ac, erbyn 2030, 100 y cant o'r boblogaeth, a byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynllun llwybr uchelgeisiol o'r fath i gyflawni hynny yma yng Nghymru.

Tynnodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys sylw ddoe at y broses eithriadau dros oriau sydd wedi bod ar gael i glinigwyr mewn adrannau brys ers 2011. Nawr, ychydig cyn i ni ddechrau cwestiynau i'r Prif Weinidog, cyhoeddwyd datganiad gan y Gweinidog iechyd yn nodi barn y Llywodraeth ar eu dehongliad o ddealltwriaeth y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys—[Torri ar draws.] Wel, maen nhw'n gweiddi 'ffeithiau'. Rwy'n digwydd meddwl bod tystiolaeth y Coleg Brenhinol yn dystiolaeth gref, ac yn haeddu ystyriaeth ac, yn y pen draw, dadansoddiad fel y gallwn ni ddeall a yw'r Llywodraeth wedi bod yn datgan y ffigurau'n gywir o ran amseroedd aros yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. A allwch chi gadarnhau y prynhawn yma, Prif Weinidog, bod y ffigurau ar eithriadau dros oriau yn cael eu cyfrifo ar gyfer arosiadau wyth a 12 awr, nid arosiadau pedair awr yn unig?

Wel, Llywydd, roedd llawer iawn o gwestiynau yn hynna. Yn gyntaf oll, gadewch i mi fod yn eglur: mae'r dystiolaeth fel y'i cyflwynir yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog. Yn rhywle, bu camddealltwriaeth o'r ffigurau, ond nid gennym ni. Mae'r ffigurau a ddarparwyd i'r Coleg Brenhinol wedi cael eu camddeall a'u camddehongli. Efallai fod hynny'n destun siom i'r Aelodau ar feinciau'r wrthblaid, ond rwy'n ofni mai dyna yw'r gwirionedd.

Gadewch i mi ailadrodd yr hyn a ddywedodd datganiad y Gweinidog:

'nid yw ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn hepgor eithriadau clinigol o'r data'

sy'n cael eu derbyn gan y byrddau iechyd lleol. Rydym ni'n cyhoeddi'r data hynny. Dyna a awgrymwyd nad oedd yn digwydd; nid yw hynny'n wir. Mae'r data yn cael eu casglu a'u hadrodd yn y ffordd yr ydym ni wedi ei ddweud erioed. Yn unol â'r polisi sydd wedi bod ar waith ers Rhagfyr 2011, mae eithriadau clinigol—. Mae clinigwyr yn penderfynu a ddylai rhywun gael ei gadw mewn adran frys neu beidio y tu hwnt i bedair awr pan fo er budd y claf i wneud hynny. Fel y dywedodd llythyr 9 Rhagfyr 2011, mae'r egwyddorion hyn yn cael eu cydnabod a'u cefnogi gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys.

Roedd fy nghwestiwn i chi yn syml, Prif Weinidog, a sylwais eich bod chi wedi edrych ar y Gweinidog iechyd i weld a allech chi gael cadarnhad. Nid wyf i'n dadlau bod y cleifion sy'n dod i adrannau damweiniau ac achosion brys—ac nid wyf i'n credu bod y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn dadlau, yn amlwg, bod y cleifion hyn yn cael eu nodi fel unigolion sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Fy nghwestiwn i chi oedd: pan fyddan nhw'n mynd y tu hwnt i'r arhosiad pedair awr, a ydyn nhw'n cael eu nodi yn yr arhosiad wyth a 12 awr, sy'n borth allweddol o ran mesur y llif trwy adrannau damweiniau ac achosion brys? Dydych chi ddim wedi ateb y rhan honno o'm cwestiwn i chi.

Oherwydd, pan edrychwch chi ar y rhifau, ni chafodd 45,000, yn ôl y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, eu nodi yn y ffigurau wyth a 12 awr yn ystod chwe mis cyntaf eleni. Yn y 10 mlynedd ers cyflwyno'r ffigurau hyn, nid yw 670,000 o bobl wedi cael eu nodi yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyfatebu'r ffigurau hyn yn yr arosiadau wyth a 12 awr. Nawr, a allwch chi gadarnhau bod yr eithriadau hynny yn cael eu nodi gan y porth wyth a 12 awr? Oherwydd, os nad ydyn nhw, a allwch chi ymrwymo i wneud yn siŵr bod y data yn eu nodi a'ch bod yn rhoi sylw i bryderon y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys i wneud yn siŵr bod yr adnoddau gan ein hadrannau damweiniau ac achosion brys i ymdrin â'r 45,000 a nodwyd yn y chwe mis cyntaf a'r 670,000 dros y 10 mlynedd ers i'r canllawiau hyn fod ar waith?

13:55

Llywydd, rwyf i eisiau gwneud yn siŵr fy mod i wedi clirio unrhyw ddryswch ym meddwl arweinydd yr wrthblaid. Nid yw gofal yr un claf yn cael ei effeithio gan y ffigurau hyn—[Torri ar draws.] Na na. Na, fe—

Fe wnaf i fy ngorau i egluro. Mae clinigwyr yn penderfynu a oes angen cadw rhywun yn yr adran damweiniau ac achosion brys neu beidio neu ei symud ymlaen i wahanol ran o'r system. Roedd cyfnod pan, er mwyn curo'r cloc, yr arosiadau pedair awr, yr oeddem ni'n gwybod y byddai pobl yn cael eu symud allan o'r adran yn artiffisial fel nad oedden nhw'n sgorio yn erbyn arhosiad pedair awr. Dywedodd clinigwyr wrthym yn gyson nad dyna'r ffordd gywir i gleifion gael eu trin. Ond, os oedd clinigwr yn credu y dylai'r claf hwnnw aros yn yr adran damweiniau ac achosion brys, dyna lle dylai aros gan mai dyna'r—[Torri ar draws.] Allaf i ddim cystadlu.

Rwyf i eisiau i'r Prif Weinidog allu ateb y cwestiwn hwn yn eglur heb ymyriad na gwrthdyniad. Prif Weinidog, parhewch.

I'w gwblhau, Llywydd, y rheswm am eithriadau clinigol yw i wneud yn siŵr bod y penderfyniad cywir yn cael ei wneud am y claf, yn hytrach nag am y ffordd y caiff data eu hadrodd. I ddychwelyd at gwestiwn arweinydd yr wrthblaid, mae'r ffigurau yr wyf i'n eu gweld yn cael eu hadrodd fel mater o drefn ar bedair awr a 12 awr. Fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog a oes gwybodaeth, gwybodaeth reoli, sy'n cofnodi wyth awr, ond, fel mater o drefn, rydym ni'n hysbysu am yr hyn sy'n digwydd i gleifion ar ôl pedair awr ac wyth awr—pedair awr a 12 awr; mae'n ddrwg gen i. Mae datganiad y Gweinidog, ei datganiad ysgrifenedig, yn gwbl eglur, os bu unrhyw gamddealltwriaeth o'r data, nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y camddealltwriaeth hwnnw. Dydyn ni ddim yn eithrio eithriadau clinigol o'r data a adroddir ac mae'r data yr ydym ni'n eu hadrodd yn debyg i'r data a adroddir mewn mannau eraill, fel yr ydym ni wedi ei ddweud erioed. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r erchyllterau yn Israel a Gaza yn parhau i'n cyffwrdd ni i gyd dros wythnos ar ôl yr ymosodiadau gan Hamas. Yn yr un modd ag y gwnaethon ni uno i gondemnio’r ymosodiadau cwbl erchyll yna, mae'n rhaid i ni uno rŵan wrth alw am warchod a pharchu cyfraith ryngwladol. Does yna fyth gyfiawnhad dros gosbi poblogaeth gyfan fel sy'n digwydd yn Gaza ar hyn o bryd. Dŷn ni ym Mhlaid Cymru—a dwi'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran y Senedd i gyd—yn cyd-sefyll efo pawb yng Nghymru sydd yn gofidio am anwyliaid yn y dwyrain canol. Dŷn ni'n anfon ein cefnogaeth i wylnos yng Nghaerdydd, y penwythnos yma, dan arweiniad Rowan Williams, dros bobl Israel a Phalestina.

Yn Gaza, wrth gwrs, mae yna argyfwng dyngarol gwirioneddol, efo'r Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio bod gofyn i bobl symud o ysbytai yng ngogledd Gaza gyfystyr â rhoi dedfryd o farwolaeth iddyn nhw. O ystyried y diffyg cyflenwadau meddygol, dŵr a thanwydd, a wnaiff y Prif Weinidog sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan, fel Llywodraethau eraill ar draws yr ynysoedd yma, drwy wneud cyfraniad, yn cynnwys cyfraniad ariannol, tuag at yr ymgyrch dyngarol yna yn Gaza?

Diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am y cwestiynau yna. Fel yr oeddwn i'n ei ddweud yr wythnos diwethaf, dwi'n siŵr bod pawb yma yn y Senedd yn dal i fod yn bryderus am y sefyllfa yn Israel ac yn Gaza hefyd.

Dwi'n ddiolchgar i bobl fel Rowan Williams ac arweinwyr eraill yn y cymunedau ffydd, sydd wedi dod at ei gilydd i gefnogi pobl yma yng Nghymru sydd â theuluoedd a phobl eraill draw yn Israel ac yn Gaza hefyd. Heddiw, mae'r Gweinidog, Jane Hutt, wedi bod yn siarad gyda phobl yn y maes, jest yn siarad gyda phobl os bydd yn ddefnyddiol i dynnu pobl at ei gilydd, fel rŷn ni'n ei wneud yn y faith communities forum sydd gyda ni yma yng Nghymru. Os bydd mwy y gallwn ni ei wneud i helpu pobl yma yng Nghymru i ymdopi â phopeth maen nhw'n ei wynebu, wrth gwrs, rŷn ni'n awyddus i'w wneud e. Ond mae pethau'n symud mor gyflym bob dydd, beth rŷn ni'n ei wneud yw trial cadw gyda'r bobl sydd â'r cyfrifoldebau. Does dim cyfrifoldebau gyda ni ar lawr y Senedd am bethau tramor, ond rydym ni'n trial cadw gyda'r bobl gyda'r cyfrifoldebau yna yn San Steffan, yn y Llywodraeth, yn y gwrthbleidiau, i weld os oes rhywbeth gallwn ni ei wneud, ac, wrth gwrs, rydym ni'n awyddus i'w wneud e.

14:00

Diolch, Brif Weinidog. Yn ôl at faterion cartref, rŵan.

Bydd cyfle yn ddiweddarach i ni edrych ar faint o reolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru dros ei chyllidebau. Ers yr haf, mae Gweinidogion wedi bod yn tynnu sylw at dwll gwerth £900 miliwn y mae'n debyg oedd wedi ymddangos yn eu cyllid. Ond gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud eu bod nhw wedi rhybuddio am ddiffyg posibl o £800 miliwn y llynedd, mae'n rhaid i rywun feddwl tybed pam ei bod hi'n ymddangos ei fod yn syndod. Rwy'n pryderu bod peidio â gwrando ar rybuddion yn batrwm.

Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn dweud ei fod wedi codi tanadrodd damweiniau ac achosion brys yn aml gyda Gweinidogion a swyddogion. Rwy'n ofni bod ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau hynny gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn gwbl annigonol. Mae Llywodraeth Cymru wedi newid ei stori dair gwaith, ac mae hyder y cyhoedd yn ei gallu i redeg ein gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol yn lleihau gyda phob ailddrafft. Rwyf i wedi gweld yn ystod yr ychydig funudau diwethaf datganiad arall gan y Gweinidog, yn egluro pethau o safbwynt y Llywodraeth. Ond rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog, nid y ffigurau sy'n bwysig mewn gwirionedd, ond cleifion yn y pen draw, ond a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi nad yw unrhyw esboniad ynghylch ffigurau yn tynnu oddi wrth y realiti sy'n wynebu cleifion bod gwasanaethau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru yn gwbl anghynaliadwy?

Yn gyntaf oll, gadewch i mi gywiro'r Aelod pan ddywedodd bod ffigurau wedi'u tanadrodd. Dyna'n union y mae'r datganiad ysgrifenedig yn ei ddweud wrthych chi nad yw'n wir. Ni chafodd y ffigurau eu tanadrodd, ac mae'r ffigurau yr ydym ni'n eu cyhoeddi yn gadarn mewn archwiliadau gan awdurdodau annibynnol. Felly, gadewch i ni fod yn eglur am hynny.

Gadewch i mi gytuno ag ef bod adrannau damweiniau ac achosion brys dan bwysau ledled Cymru, fel y maen nhw ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Er gwaethaf hynny, mae'r staff sy'n gweithio ynddyn nhw yn parhau i gynnal y gwasanaeth hwnnw bob un dydd. Maen nhw'n gweld miloedd ar filoedd o bobl bob diwrnod o bob wythnos yng Nghymru. Nid yw'n eu helpu nhw i ddisgrifio'r hyn y maen nhw'n ei wneud fel 'anghynaliadwy', oherwydd cynnal y gwasanaeth yw'r union beth y maen nhw'n ei wneud. Nawr, maen nhw o dan bwysau enfawr wrth wneud hynny, ac rydym ni'n cydnabod hynny, a dyna pam rydym ni'n gweithio gyda nhw drwy'r chwe nod newydd i geisio lleddfu rhywfaint o'r pwysau hwnnw, i wneud yn siŵr bod pobl yn mynd i'r rhan iawn o'r system ac yn cael eu gweld yn brydlon ac yn y lle mwyaf effeithiol. Ond rwyf i yn dweud wrth yr Aelod nad wyf i'n credu ei fod yn helpu pobl sy'n gweithio mor galed bob dydd i ddisgrifio'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu yn y ffordd y mae ef newydd ei wneud.

Staff sy'n esbonio'r gwasanaeth i mi yn y ffordd honno mor aml, a'r diffyg syniadau newydd am sut i wynebu'r problemau anghynaliadwyedd o fewn y gwasanaeth iechyd sy'n peri cymaint o rwystredigaeth i bobl. Rydym ni angen syniadau newydd, ac mae hynny yr un mor wir am redeg y GIG â'r trenau sydd ddim yn rhedeg o gwbl. Gadewch i mi droi at drenau. Wythnos ar ôl wythnos, mae trenau'n cael eu canslo, ceir y trenau anghywir ar gyfer teithiau traws gwlad, newidiadau lluosog ar wasanaethau uniongyrchol, lle i sefyll yn unig, addewidion wedi'u torri o ran darparu trenau newydd. Nid yn unig nad yw'r cerbydau gennym ni, ond nid yw'r cerbydau sydd gennym ni yn symud. Ac ymateb y Dirprwy Weinidog ar Twitter? 'Nid wyf i'n adeiladu trenau.' Nid yw'n ddigon da o gwbl i bawb sy'n wynebu heriau yn teithio ar y rheilffordd bod un dydd. A wnaiff y Prif Weinidog gyfaddef ein bod ni'n wynebu argyfwng gwirioneddol yn ein gwasanaeth rheilffyrdd yng Nghymru, ac a wnaiff ef ddweud wrthym ni pa gynllun sydd ganddo i'n cael ni yn ôl ar y trywydd iawn?

Wel, Llywydd, rwy'n credu y byddai o gymorth i'r Aelodau yma glywed y syniadau newydd y mae arweinydd Plaid Cymru yn sôn amdanyn nhw. Pe baen nhw'n syniadau newydd, byddem yn falch iawn o glywed amdanyn nhw, felly efallai y tro nesaf y gwnaiff ef ein difyrru gydag ychydig o'r syniadau y mae'n galw amdanyn nhw. O ran gwasanaethau trenau, mae'n wir ein bod ni wedi gobeithio erbyn heddiw y byddai 77 o drenau CAF newydd ar gael yn weithredol. Dim ond 34 o'r rheini sydd wedi cael eu danfon gan y gweithgynhyrchydd, ac mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn: nid yw Llywodraeth Cymru yn gweithgynhyrchu trenau, a dim ond 34 o'r 77 trên y cawsant eu contractio i'w darparu erbyn heddiw y mae'r gweithgynhyrchydd wedi eu darparu. Nawr, ceir rhesymau pam mae hynny'n wir, ond mae'n anochel bod Trafnidiaeth Cymru yn teimlo effaith ymarferol hynny pan fyddan nhw'n amserlennu eu gwasanaethau.

Y newyddion gorau yw bod Trafnidiaeth Cymru bellach yn derbyn trên newydd gan y gweithgynhyrchydd bob saith i 10 diwrnod, felly mae'r cyflymder y mae'r trenau newydd hynny yn cyrraedd wedi cynyddu, ac mae hefyd yn wir, Llywydd, bod gwasanaethau a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru wedi gwella ers mis Medi eleni i mewn i fis Hydref, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn dal i fod yn hyderus y bydd y gwelliant hwnnw yn cael ei gynnal trwy weddill y flwyddyn galendr hon ac i mewn i 2024.

14:05
Argyfwng Costau Byw

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi grwpiau cymunedol yn Islwyn drwy'r argyfwng costau byw? OQ60134

Diolch i Rhianon Passmore, Llywydd, am y cwestiwn yna. Ymhlith y ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo grwpiau cymunedol mae darparu cyllid craidd i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru. Mae hynny'n gyfanswm o £6.98 miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol, cynnydd o 10 y cant ar lefelau cyn y pandemig.

Diolch, Prif Weinidog. Yn gynharach eleni, lansiodd Newsquest Media Group Cymru eu hapêl Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd gyntaf, mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Cymru. O ganlyniad, mae grwpiau cymunedol ledled Cymru wedi derbyn grantiau gwerth cyfanswm o dros £1 filiwn i helpu pobl drwy'r argyfwng costau byw. Gofynnodd yr apêl gan y Free Press Series a'i chwaer gyhoeddiadau—gan gynnwys South Wales Argus Gwent ei hun—i'w darllenwyr a busnesau a sefydliadau i gyfrannu at gronfa a fyddai'n dyfarnu grantiau i elusennau llawr gwlad ledled Cymru, yn cynorthwyo'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau drwy'r argyfwng costau byw.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y South Wales Argus ail-lansiad yr ymgyrch ar ôl mynd heibio'r garreg filltir grant o £1 filiwn, a dywedodd Gavin Thompson, golygydd rhanbarthol Cymru yn Newsquest:

'Pan lansiwyd yr apêl hon gennym, doedd dim syniad gennym ni y byddem ni'n gallu dosbarthu mwy na £1 filiwn i grwpiau cymunedol ledled Cymru. Rwyf mor ddiolchgar i bawb sydd wedi ei chefnogi, o roddwyr unigol i fusnesau a Llywodraeth Cymru.'

Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi nawr i longyfarch pawb sy'n gysylltiedig ag apêl Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd Newsquest Cymru, ac a wnewch chi ymuno â mi yn Islwyn yn y dyfodol ar gyfer prosiect sydd wedi elwa o grant o'r fath? Ac a allwch chi fynegi dros bobl Islwyn a Chymru pam mae gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru mor arbennig o bwysig?

Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd, ac rwy'n credu ei bod hi ei hun eisoes wedi mynegi pwysigrwydd gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru oherwydd y ffordd y mae'n ysgogi'r cyfraniad y mae gwirfoddolwyr mewn cynifer o rannau o Gymru yn ei wneud at y cymunedau lleol hynny. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn falch o wneud ein cyfraniad ein hunain at waith apêl Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd, ac rwy'n llongyfarch staff Newsquest a Sefydliad Cymunedol Cymru ar y gwaith y maen nhw'n ei wneud.

Mae eu gwaith, fel y dywedodd Rhianon Passmore, Llywydd, wedi bod yno ers dros 20 mlynedd, gan ariannu sefydliadau i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae hefyd wedi chwarae rhan bwysig iawn yng nghronfa Croeso Cenedl Noddfa, ac ar hyn o bryd mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr bod ymddiriedolaethau neu sefydliadau segur yng Nghymru yn cael eu nodi ac y gellir eu hadfywio. Yn y gwaith y mae wedi ei wneud hyd yma, Llywydd, mae wedi dod o hyd i 139 o ymddiriedolaethau segur yng Nghymru sydd ag asedau o bron i £5 miliwn; £5 miliwn nad yw'n gwneud y gwaith y bwriadwyd iddo ei wneud, ac y gellir ei adfywio nawr. Felly, ym mhob un o'r ffyrdd hynny, mae'r ymddiriedolaeth yn parhau i wneud ei chyfraniad yn Islwyn, ac ar draws ein cenedl gyfan.

Prif Weinidog, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi gweithwyr, grwpiau cymunedol a busnesau ers amser maith i allu cadw mwy o'r arian y maen nhw'n ei ennill. Yn hytrach, o dan eich Llywodraeth chi, mae trigolion a sefydliadau yn bryderus ynghylch y posibilrwydd o fwy o godiadau treth. Prif Weinidog, a wnewch chi ddiystyru unrhyw gynnydd i ardrethi busnes, treth trafodiadau tir a threth incwm yng Nghymru am weddill tymor y Senedd hon?

Wel, Llywydd, mae'n eironig y dylai Aelod Ceidwadol wneud y cyfraniad hwnnw ar ddiwrnod pan fydd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn cyhoeddi ei chyllideb werdd, ac yn dweud pan ddaeth ei Llywodraeth hi i rym, bod incwm ar draws y Deyrnas Unedig yn cael eu trethu ar 33 y cant, ac erbyn yr adeg y bydd y Llywodraeth hon yn gadael o'r diwedd, y bydd hynny wedi codi i 37 y cant, y lefel uchaf o drethiant yn unrhyw gyfnod ers 1945. Record syfrdanol, onid ydych chi'n meddwl? Bydd Llywodraeth y mae hi'n dweud sy'n ymroddedig i adael arian ym mhocedi pobl yn tynnu mwy o arian allan o'u pocedi nag erioed o'r blaen. A yw hi'n falch o'r record honno?

14:10
Tai Cymdeithasol Fforddiadwy

4. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ehangu tai cymdeithasol fforddiadwy? OQ60092

Llywydd, rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn ystod tymor y Llywodraeth hon, wedi'u seilio ar y lefelau uchaf erioed o gyllid—bron i £1.2 biliwn dros bedair blynedd gyntaf tymor y Senedd hon. Ac ochr yn ochr â'r gwaith adeiladu newydd, rydym ni wedi lansio amrywiaeth o fentrau eraill i ddarparu mwy o gartrefi sector cymdeithasol cyn gynted â phosibl.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n mynd i ryngwladoli fy nghwestiwn atodol fel cydnabyddiad cyflym o aelodau sydd gyda ni heddiw yn rhan o arweinwyr ieuenctid rhyngwladol, o Liberia, o Minnesota yng Ngogledd America, o Fecsico, o Dde Affrica, yn rhan o raglen Taith. Felly, o ryngwladoli fy nghwestiwn, a gaf i ofyn iddo—? Ysgrifennodd fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, bamffled hynod ddiddorol yn ôl ym mis Mawrth eleni ar ddulliau cydweithredol o ymdrin â thai a fyddai'n fforddiadwy ac yn sicrhau deiliadaeth pobl hefyd. Rydyn ni'n ymdrechu'n galed yng Nghymru, gyda chymorth sefydliadau fel Cwmpas a chyllid Llywodraeth Cymru, ond tynnodd sylw at leoedd fel Sgandinafia a Denmarc, ond hefyd enghreifftiau ledled y byd lle maen nhw wedi mynd ymhellach, gan gynnwys yng Ngogledd America. Tybed, Prif Weinidog, sut allwn ni adeiladu ar yr ychydig—ond ychydig ydyn nhw—o enghreifftiau yng Nghymru o dai cymdeithasol cydweithredol, a reolir ac sy'n eiddo i'r bobl sy'n byw ynddyn nhw? Sut allwn ni adeiladu ar hynny a'i dyfu i'r raddfa y gallwn ni ei gweld mewn gwledydd eraill? Oherwydd rydym ni'n teimlo'n gryf, fel aelodau cydweithredol yn ogystal ag Aelodau Llafur Cymru, bod hyn yn rhan o'r ateb i bobl gael deiliadaeth ddiogel o'u heiddo ac i allu ei redeg a'i reoli eu hunain a gosod y rhenti hefyd. Sut allwn ni ei dyfu?

Wel, Llywydd, un o'r ffyrdd y gallwn ni ei dyfu yw trwy ddysgu, yn wir, o brofiad rhyngwladol. Mae'n wych gweld pobl yn yr oriel sy'n gysylltiedig â'n rhaglen Taith, gan wneud yn siŵr bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael y cyfleoedd hynny i weld y ffordd y mae rhannau eraill o'r byd yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n ein hwynebu ni ac yn eu hwynebu hwythau hefyd.

Mae'r Aelod yn iawn i ddweud nad yw'r ymdrechion a wnaed i ddatblygu tai cydweithredol yng Nghymru bob amser wedi arwain at y llwyddiant y byddem ni wedi ei ddymuno. Mae enghraifft yn fy etholaeth i fy hun a adeiladwyd fel datblygiad cydweithredol, lle ar ôl ychydig flynyddoedd yn unig, dychwelodd tenantiaid i'r gymdeithas dai a oedd wedi datblygu'r tai yn y lle cyntaf. Ond mae gwersi i'w dysgu o hynny hefyd, ynglŷn â'r ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael â'r syniad o dai sy'n cael eu hadeiladu trwy fentrau cydweithredol neu drwy grwpiau a arweinir gan y gymuned.

A'r newyddion da, Llywydd, yw bod gennym ni don newydd o fentrau yn cael eu harwain mewn gwahanol rannau o Gymru: ymddiriedolaeth tir cymunedol Solfach, ymddiriedolaeth tir cymunedol Gŵyr, Menter Dai Gydweithredol Taf Fechan ym Merthyr—pob un ohonyn nhw'n fentrau sydd wedi'u cynllunio i ddatblygu tai a fydd yn cael eu rhedeg a'u rheoli gan y bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd y gallwn ni gefnogi'r gwaith hwnnw. Er enghraifft, rydym ni'n dod o hyd i ffyrdd newydd y gall y grwpiau hynny gael mynediad at ein grant cartrefi gwag a'r gronfa datblygu tir ac adeiladau. Felly, rydym ni'n rhannu uchelgais i wneud yn siŵr bod tai sy'n cael eu rhedeg yn gydweithredol yn chwarae rhan fwy yn y ffordd yr ydym ni'n darparu'r cartrefi cymdeithasol hynny y mae eu hangen yn daer i'w rhentu yn y dyfodol, ond ei wneud mewn ffordd sy'n cael ei rhedeg yn gynaliadwy gan y bobl hynny, ac mae llawer o wersi i'w dysgu o dramor yn y ffordd y gellir cyflawni hynny.

Gadewch i ni gael rhywfaint o realiti yma. Tri degawd o Lafur Cymru, a'r hyn sydd gennym ni yw targedau adeiladu tai yn cael eu methu'n gyson. Rydym ni'n wynebu argyfwng tai pendant erbyn hyn. Mae angen 12,000 o gartrefi y flwyddyn arnom ni, ond eleni dim ond 5,785 rydych chi wedi eu hadeiladu. Er gwaethaf eich targedau a osodwyd dros nifer o flynyddoedd, rydych chi wedi eu methu nhw i gyd. Mae adeiladwyr tai yn dweud wrthyf i ei bod hi'n cymryd tua dwy i dair blynedd o gynllunio i osod yr un fricsen. Mae eich gwasanaeth cynllunio yma yng Nghymru yn ofnadwy. Mae eich record yn cynnig tystiolaeth eglur na ddylem ni fod ag unrhyw hyder o gwbl. Anghofiwch am eich tai cydweithredol. Rydym ni i fod ar drywydd ar gyfer 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu yn ystod y tair blynedd nesaf. O ystyried y costau uwch sy'n gysylltiedig â'r adeiladau hyn, a wnewch chi, Prif Weinidog, esbonio sut mae eich Aelod o senedd y DU, Keir Starmer, yn sôn mai 'ni yw'r adeiladwyr'? Ac eto yma yn Llafur Cymru, mae gennym ni'r rhwystrwyr adeiladu. Oni fyddech chi'n cytuno â mi bod ei ddatganiad yn y gynhadledd yn gamarweiniol a dweud y lleiaf?

14:15

Wel, Llywydd, bod mor siriol sy'n ei chadw hi i fynd, fel maen nhw'n dweud. Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod nifer fach o aelodau'r cyhoedd wedi anfon trydariad ataf gan ei harweinydd. Mae'n debyg mai pennawd y trydariad oedd, 'Allech chi ddim gwneud e' i fyny'. Gofynnodd y bobl a'i hanfonodd ataf a oedd eironi wir wedi gadael Plaid Geidwadol Cymru yn llwyr, oherwydd gwneud e' i fyny yw beth maen nhw'n ei wneud. Dywedodd hi wrtha i ein bod ni wedi methu ein targedau. A yw hi'n gwybod bod y targed tai fforddiadwy a bennwyd gennym ar gyfer tymor diwethaf y Senedd nid yn unig wedi'i gyrraedd, ond y rhagorwyd arno'n sylweddol iawn? Fe wnaethom ni adeiladu mwy o gartrefi nag y dywedon ni y byddem ni yn y tymor diwethaf, ac mae hynny, credwch chi fi, yn hollol wir. Does dim amwysedd am y peth. Mae'r ffigurau yno i unrhyw un eu gweld. Fe wnaethom ni bennu'r targed, ac ymhell o fod, fel y dywedodd yr Aelod, wedi methu â'i fodloni, fe wnaethom ni ragori arno. Fe wnaethom ni bennu targed newydd ar gyfer tymor y Senedd hon—20,000 o gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol. Mae'n darged uchelgeisiol, Llywydd. Mae'n darged arbennig o uchelgeisiol o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd ers pennu'r targed hwnnw o ran chwyddiant yn y diwydiant hwnnw, rhwystrau newydd a achosir gan Brexit i fewnforio'r deunyddiau angenrheidiol ac yn y blaen. Ond rydyn ni'n cadw at y targed hwnnw oherwydd ein bod yn gwybod pa mor bwysig ydyw yma yng Nghymru, ac mae popeth a wnawn wedi'i gynllunio i beidio â thanseilio'r targed, ond i'w gyflawni.

Yn hytrach na chwyno, dwi am gyflwyno ambell i syniad, os gwelwch chi'n dda, ar y pwnc yma. Wrth gwrs, mae chwyddiant a diffyg cyllid yn rhwystr amlwg i adeiladu tai cymdeithasol a thai o dan berchnogaeth gyhoeddus, ond o ddilyn enghraifft yr Aelod dros Ogwr, mi wnaf i hefyd edrych ar enghreifftiau rhyngwladol. Yn yr Iseldiroedd, dydy’r wladwriaeth yna ddim yn ariannu tai cymdeithasol o gwbl, ond yn hytrach mae arian tai cymdeithasol yn dod o fenthyciadau gan ddau fanc sydd o dan berchnogaeth gyhoeddus, gyda thelerau hynod o ffafriol. Yn Iwerddon, mae undebau credyd yn rhoi benthyg arian i gymdeithasau tai ar gyfer adeiladu tai. Ydy'r Prif Weinidog, felly, yn credu fod cyfle yma yng Nghymru i ddefnyddio Banc Datblygu Cymru a/neu bartneriaethau efo undebau credyd fel modd o ddod ag arian newydd i mewn ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol a thai o dan berchnogaeth gyhoeddus?

Diolch i Mabon ap Gwynfor. Dwi'n cytuno gyda fe. Dŷn ni'n lwcus yng Nghymru i gael Banc Datblygu Cymru, ac mae'r Gweinidog wedi gofyn iddyn nhw wneud mwy o waith yn y maes yma. Rŷn ni'n defnyddio’r banc yn barod, ond os oes posibiliadau newydd allwn ni eu defnyddio, wrth gwrs, rŷn ni'n agored i wneud hynny. Mae lot o wersi allwn ni dreial eu tynnu o beth maen nhw'n ei wneud yn yr Iseldiroedd. Mae Gweinidogion o Iwerddon yn dod draw i Gymru ar ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos hon, ac rŷn ni'n mynd i gwrdd â nhw yn y gogledd. Mae llwyddiant yr undebau credyd yn Iwerddon yn rhywbeth allwn ni dreial tynnu gwersi mas ohono, ac i wneud mwy gyda'r bobl sy'n gweithio’n galed yn yr undebau credyd yma yng Nghymru. So, ble mae gwersi allwn ni dynnu i mewn i Gymru, wrth gwrs, rŷn ni'n awyddus i’w wneud e, ac i wneud mwy gyda'r asiantaethau sydd gyda ni yma yn barod.

Yr Economi Wledig ym Mhreseli Sir Benfro

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi wledig ym Mhreseli Sir Benfro? OQ60087

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Rydyn ni'n buddsoddi'n sylweddol ar draws yr economi wledig, gan gynnwys ym Mhreseli Sir Benfro. Er enghraifft, rydyn ni'n buddsoddi dros £200 miliwn mewn cynlluniau i gefnogi'r cyfnod pontio i'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac i gyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd.

14:20

Prif Weinidog, yn gynharach y mis hwn roedd gwobrau lletygarwch Cymru, ac rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ymuno â mi i longyfarch fy etholwr Andy Stirling, rheolwr gwesty a sba gwledig Wolfscastle, a enillodd y wobr uchel ei pharch rheolwr cyffredinol y flwyddyn. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod yr economi wledig yn sir Benfro yn dibynnu ar ddiwydiant lletygarwch cryf. Yn anffodus, mae ffigurau diweddar o'r arolwg teithwyr rhyngwladol yn dweud wrthym fod 33 y cant yn llai o ymwelwyr i Gymru yn 2022 nag yn 2019, ac mae'r swm a wariwyd ganddynt hefyd wedi gostwng 24 y cant. Prif Weinidog, mae'r ffigurau hyn yn peri pryder, a phe bai'r tueddiadau hyn yn parhau, gallai danseilio cynaliadwyedd y sector yn ddifrifol wrth fwrw ymlaen, yn enwedig mewn lleoedd fel y rhai yr wyf i yn eu cynrychioli. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella marchnata Cymru fel cyrchfan wyliau i ymwelwyr tramor, ac a wnewch chi ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwestai gwledig a darparwyr llety yn benodol, sydd â rôl mor bwysig yn yr economi wledig?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hyn. Rwy'n ymuno ag ef i longyfarch y rhai yng ngwesty Wolfscastle ar eu gwobr. Wrth gwrs mae Paul Davies yn iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd twristiaeth i'r economi wledig ac economi sir Benfro. Roeddwn i yn sioe sir Benfro yn gynharach eleni, ac roedd cryfder cynrychiolaeth ar faes y sioe gan gynrychiolwyr o'r sector twristiaeth yn amlwg iawn.

Rwy'n credu y dylem ni ystyried y ffigurau o'r arolwg teithwyr rhyngwladol ar gyfer 2022 yn ofalus. Mae'r farchnad yn adfer ar ôl COVID; mae'n adfer wedi'r misoedd lawer hynny yn ystod y blynyddoedd blaenorol lle nad oedd teithio rhyngwladol yn bosibl, ac nid ydym yn unigryw o ran gweld adferiad arafach o hynny. Ond rwy'n credu y bydd yr adferiad yn dod, ac, wrth gwrs, mae pethau y gellir eu gwneud i annog ymwelwyr o dramor i ddod i Gymru.

Rwy'n cymeradwyo i'r Aelod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar y mater hwn, a oedd yn tynnu sylw at fethiannau VisitBritain i hyrwyddo Cymru dramor. Eu cyfrifoldeb nhw yw hyn ac fe'u hariennir i wneud hynny; maen nhw i fod i gynrychioli Cymru yn ogystal â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Cyfeiriodd y Pwyllgor Materion Cymreig, dan gadeiryddiaeth cydweithiwr iddo o'r gorllewin, at y diffygion yng ngwaith VisitBritain ar ran Cymru, ac mae wedi gofyn i VisitBritain ymddangos o'u blaenau eto i nodi'r hyn y maen nhw'n bwriadu ei wneud i wneud yn iawn am y diffyg hwnnw. Byddwn ni'n gweithio ochr yn ochr â nhw, gyda'r ymgyrchoedd yr ydym yn eu gweithredu hefyd, ond mae arnom angen cymorth y rhai sy'n cael eu hariannu i wneud hynny.

Datblygiad Economaidd yng Nghaerffili

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi datblygiad economaidd yng Nghaerffili? OQ60133

Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Rydym ni'n gweithio gydag amryw eang o bartneriaid, gan gynnwys cyngor Caerffili, i gefnogi busnesau lleol. Mae'r canlyniad yn amlwg yn y ffigurau: rhwng 2011 a 2021, mae nifer y busnesau gweithredol fesul pen o’r boblogaeth yng Nghaerffili wedi cynyddu 35 y cant. Mae hyn yn uwch na'r cynnydd yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig dros yr un cyfnod.

Rwy'n credu, ar ddiwrnod pan fo gennym newyddion anodd, fod hwn yn gyfle i gydnabod bod rhai pethau da iawn yn digwydd yng Nghaerffili mewn partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth Cymru. Mae'r llwyddiant y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato oherwydd yr uwch gynlluniau uchelgeisiol a'r cynlluniau creu lleoedd a fydd yn effeithio'n gadarnhaol ar dref Caerffili, Ystrad Mynach a fy nhref enedigol, Bargoed, sy'n elwa'n aruthrol o'r gwaith y mae Caerffili wedi'i wneud.

Bydd gan dref Caerffili, drwy bartneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cadw a Trafnidiaeth Cymru, farchnad dan do newydd a chanolfan llesiant cyfoes, ac mae cynlluniau ar gyfer cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus newydd. Gwelodd Bargoed ffair haf wych, yr aeth llawer iawn o bobl iddi, ym mis Mai eleni, a welodd y nifer uchaf erioed o ymwelwyr. Daeth pobl o bob rhan o dde Cymru i weld beth oedd yn digwydd ym Margoed. Cynhaliwyd digwyddiad Ysgogi'n Rhanbarthol yn ddiweddar, ar 12 Gorffennaf, mewn ymgynghoriad â thîm Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac mae cyfarfodydd yr wythnos hon yn cael eu cynnal ym Margoed i weld pa welliannau pellach a all ddigwydd yn y dref wych honno.

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau felly ei ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad economaidd drwy bolisïau fel menter Trawsnewid Trefi a phrosiectau seilwaith strategol sy'n dangos manteision enfawr, fel metro de Cymru?

14:25

Diolch i Hefin David am hynny. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau â'r polisïau hynny a'r ffynonellau ariannu hynny. Maen nhw'n gweithio orau lle mae gennych bartner uchelgeisiol ar lawr gwlad, ac rwyf am dalu teyrnged i Gyngor Caerffili am y ffordd y mae wedi datblygu set o gynigion cynllun creu lleoedd Caerffili 2035. Ac fel mae Hefin David wedi dweud, Llywydd, rydym eisoes yn gweld ffrwyth y gwaith hwnnw, gyda'r cynlluniau ar gyfer y farchnad dan do newydd yng Nghaerffili ac ar gyfer y gwaith sy'n gysylltiedig â'r hyn yn Stryd Pentrebane. Rydyn ni'n sôn llawer ar lawr y Senedd am yr heriau sy'n wynebu'r sector manwerthu a chanol trefi, ac rwyf wedi dweud, mewn nifer o atebion, mai'r hyn sy'n rhaid i chi ei weld yw cymysgedd o ddefnyddiau i adfywio'r canol trefi hynny, a dyna'n union a welwn yn y cynlluniau hynny: llety, mannau cychwyn busnes, cyfleoedd ar gyfer hamdden, cyfleoedd i fanwerthu, i gyd yn dod at ei gilydd mewn un datblygiad sydd wedi'i gynllunio. Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o fod yn darparu £6.8 miliwn fel ein cyfraniad i'r datblygiadau hynny, ac rydym yn bwriadu mynd ymlaen, fel y dywedodd Hefin David, i sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi canol trefi yng Nghaerffili ac ar draws y fwrdeistref, ond wrth gwrs ledled Cymru gyfan hefyd.

Yr Argyfwng Costau Byw

7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn ymateb i adroddiad y grwp arbenigol ar yr argyfwng costau byw o safbwynt lliniaru tlodi yn Arfon? OQ60096

Mae llawer o'r argymhellion yn adroddiad y grŵp arbenigol eisoes yn cael eu datblygu. Gyda'i gilydd, byddan nhw'n helpu i leddfu tlodi ar draws Cymru ac yn Arfon. Bydd y Llywodraeth hefyd yn ystyried yr adroddiad wrth inni baratoi ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf.

Mae adroddiad y grŵp arbenigol ar yr argyfwng costau byw yn cynnwys argymhellion pwysig ac ymarferol ar gyfer lliniaru tlodi plant, mater sy'n effeithio pob cymuned yn Arfon ac un o'r materion ddylai fod yn gyrru gwaith pob gwleidydd sy'n blaenoriaethu lliniaru yr argyfwng costau byw presennol, efo dros chwarter ein plant yn byw mewn tlodi. Mae argymhelliad rhif 6 yn yr adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno taliad costau byw plentyn i deuluoedd incwm isel sydd â phlant. Heblaw am y cyfyngiadau ariannol amlwg sydd arnom ni ar hyn o bryd, oes yna unrhyw reswm arall dros beidio â symud i'r cyfeiriad yma a chyflwyno'r taliad sydd yn cael ei argymell?

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian. Dwi wedi cael cyfle i ddarllen crynodeb o'r adroddiad, a diddorol oedd e, a llawn o syniadau ymarferol i helpu pobl yn Arfon. Fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, rŷn ni'n dal yn gweithio ar yr adroddiad, gyda phopeth arall rŷn ni'n ei wneud yn y maes tlodi. Dŷn ni ddim wedi troi cefn ar unrhyw beth yn yr adroddiad, ond rŷn ni'n dal i weithio trwy bopeth sydd yn yr adroddiad. So, dwi ddim yn gallu sôn heddiw am bob manylyn, ond rŷn ni eisiau defnyddio'r adroddiad, gyda'r cyngor lleol, achos mae nifer fawr o'r argymhellion i'r cyngor yn yr adroddiad hefyd, i weld sut allwn ni gydweithio gyda'n gilydd i gael yr effaith ar fywydau plant yn Arfon dwi'n siŵr rŷn ni i gyd eisiau ei gweld.

Gwasanaethau Iechyd yr Ysgyfaint

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwasanaethau iechyd yr ysgyfaint? OQ60132

Rydym yn cymryd camau eang i gefnogi iechyd anadlol yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys canolbwyntio ar ddiagnosis cywir, rheoli'r cyflwr yn dda a pharatoadau gwasanaeth ar gyfer y gaeaf.

Prif Weinidog, fel y clywsom ni yn gynharach yn eich trafodaeth ag arweinydd yr wrthblaid, yn llawer rhy aml, mae achosion canser yr ysgyfaint yn cael eu canfod ar gam hwyrach, pan fydd triniaeth yn anodd iawn, a byddai system sgrinio ysgyfaint effeithiol wedi'i thargedu yng Nghymru yn mynd yn bell i ganfod yr achosion canser hynny yn gynharach, gan ganiatáu triniaeth effeithiol, ac felly achub bywydau. A fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, y byddai bwrw ymlaen â'r math hwnnw o raglen sgrinio yn gwneud cyfraniad sylweddol at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, oherwydd gwyddom fod mwy o achosion o ganser yr ysgyfaint yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ac mewn gwirionedd, mae'n rhan arwyddocaol iawn o pam mae pobl yn y cymunedau hynny'n marw'n iau ac yn cael llai o flynyddoedd o fywyd iach?

14:30

Wel, Llywydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno â John Griffiths bod gan ganser yr ysgyfaint raddiant dosbarth cymdeithasol penodol ac y byddai rhaglen sgrinio yn helpu i fynd i'r afael â hynny. Byddai'n gwneud hynny ochr yn ochr â'r holl bethau eraill rydyn ni'n eu gwneud. Bydd yr Aelodau'n cofio, rwy'n siŵr, o drafodaethau cynharach, fod nifer y bobl sydd bellach yn cael eu cyfeirio at wasanaethau canser ar sail rhagofalus wedi cynyddu'n aruthrol yng Nghymru ers i'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal newid ei chanllawiau tua phum mlynedd yn ôl. A'r mwyaf o bobl a ddaw ymlaen i'w hystyried yn y rhaglen trin canser, y mwyaf o bobl fydd yn cael eu dal yn gynnar yn y ffordd y mae John Griffiths wedi ei nodi. Ac, wrth gwrs, popeth y gallwn ni ei wneud i ddarbwyllo mwy o bobl i roi'r gorau i ysmygu—achos unigol mwyaf canser yr ysgyfaint—ac mae camau breision wedi bod yng Nghymru ers i'r Senedd ddod i fodolaeth, yna y bydd hynny, ochr yn ochr â rhaglen sgrinio, yn cael yr effaith y mae'r Aelod yn cyfeirio ato y prynhawn yma. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phroblemau gamblo ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru? Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd y cam beiddgar o gydnabod bod problemau gamblo yn fygythiad iechyd cyhoeddus ac mae angen ymdrin â nhw, ac roeddwn i'n falch o weld bod y prif swyddog meddygol wedi cyfeirio at hyn yn ei adroddiadau blynyddol ar sawl achlysur. 

Yr wythnos diwethaf, cyfarfu llawer o Aelodau'r Senedd â YGAM, yr Young Gamers and Gamblers Education Trust, elusen sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i fynd i'r afael â phroblemau gamblo a niwed gamblo, ac mae'r ystadegau, i fod yn gwbl onest, yn eithaf syfrdanol. Gwyddom fod traean o bobl ifanc 12 i 16 oed wedi bod yn cymryd rhan weithredol mewn gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf, a 30 y cant o'r rheini yn gamblo gyda'u harian eu hunain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a dywedodd 70 y cant o athrawon nad oes gan eu hysgolion raglen atal niwed gamblo eto. O gofio bod hynny'n wir, ac nad yw'n ymddangos bod unrhyw gamau sylweddol yn cael eu cymryd i addysgu ein plant a'n pobl ifanc ledled Cymru am beryglon gamblo, tybed a allem gael datganiad ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynghylch hyn? Ac, yn ail, dim ond mewn perthynas â'r mater gamblo hwn, rydyn ni, yn amlwg, fel cenedl, eisiau manteisio ar dwf y diwydiant e-chwaraeon a gemau cyfrifiadurol, fel y mae gwledydd eraill, ac mae hynny'n bwysig iawn. Ond rydym hefyd eisiau diwydiant e-chwaraeon a gemau cyfrifiadurol cyfrifol, nid un sy'n hyrwyddo cistiau trysor a'r math o gamblo yr ydym wedi'i weld yn y diwydiant hwnnw dros y blynyddoedd. Felly, a gaf i ofyn bod y datganiad hefyd yn cwmpasu'r agwedd honno ar y broblem benodol hon? Diolch. 

Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae gamblo fel y cyfryw yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bryderus iawn amdano. Fel y byddwch chi'n ei werthfawrogi, mae llawer o'r pwerau ynghylch gamblo yn rai Llywodraeth y DU, ond mae'r mater rydych chi'n ei godi ynglŷn â'r cynnydd mewn gamblo ymhlith ein plant ysgol yn berthnasol iawn yn fy marn i. Rwy'n gwybod bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg—mae'n rhywbeth y mae o wedi edrych arno, a bydd yn hapus iawn i gyflwyno datganiad. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n cael, o fewn y datganiad hwnnw, yr holl waith trawslywodraethol sy'n digwydd.FootnoteLink

A gaf i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y gall Aelodau ddisgwyl datganiad ysgrifenedig ar y sefyllfa ym marchnad dan do Pen-y-bont ar Ogwr? Rwy'n deall y gall y pethau hyn gymryd peth amser, ond mae pythefnos wedi mynd heibio ers i mi ofyn yn y cwestiynau busnes yn wreiddiol, ac, wrth gwrs, mae'n gyfnod anodd i fasnachwyr ar hyn o bryd, cyfnod pryderus iawn, a byddai unrhyw gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru o bosibl ei darparu yn cael ei chroesawu'n fawr.

14:35

Diolch. Rwy'n credu y bydd datganiad yn cael ei gyflwyno unwaith y bydd y trafodaethau hynny rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas â'r concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth a ganfuwyd yno wedi'i gwblhau.

Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, y cyntaf ar lygredd afonydd a môr. Rwy'n poeni am garthffosiaeth amrwd yn cael ei rhyddhau i afonydd. Mae fy mhryder yn ymwneud yn bennaf ag Afon Tawe, ond, ar sail Cymru gyfan, rwy'n pryderu am unrhyw afon yng Nghymru sy'n cael carthffosiaeth amrwd yn cael ei rhoi ynddi. Yn ddiweddar, cysylltodd etholwr â mi, a ddywedodd, 'Fe es i'n sâl ar ôl nofio ym mae Caswell, ond mae Caswell yn llawer glanach na'r môr yn Abertawe.' Rwy'n credu bod hynny'n gyhuddiad o ran faint o lygredd, carthffosiaeth amrwd yn bennaf, sy'n mynd i'r afon yn y pen draw.

Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano ar addysg plant byddar, gan gynnwys pwysigrwydd lleferydd, iaith arwyddion a darllen gwefusau—y datganiad i gynnwys llwyddiant academaidd plant byddar a'r hyn sy'n mynd i gael ei wneud i leihau'r gwahaniaeth mewn llwyddiant academaidd rhwng plant byddar a phlant nad ydynt yn fyddar ar lefel TGAU.

Diolch. O ran eich cais cyntaf, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno datganiad llafar cyn i ni orffen ar gyfer y Nadolig, felly yn ystod y tymor hwn.

Ac ynghylch addysg plant byddar, mae'r cwricwlwm i Gymru wedi ei ddatblygu i fod yn gynhwysol i bob dysgwr. Roedd ymarferwyr BSL ac arbenigwyr eraill, gan gynnwys aelodau o'r gymuned fyddar, yn ymwneud â datblygu canllawiau'r cwricwlwm i Gymru ar sicrhau ein bod yn cynllunio cwricwlwm sy'n cynnwys dilyniant yn BSL ar gyfer defnyddwyr BSL byddar, yn ogystal â chanllawiau i ysgolion sy'n dewis cyflwyno BSL fel ail, neu drydedd, neu hyd yn oed iaith ddilynol, wrth fwrw ymlaen. Mae rhannau allweddol o'r cwricwlwm bellach ar gael yn BSL hefyd, er mwyn i ymarferwyr allu eu defnyddio gyda dysgwyr, a hefyd gyda'u teuluoedd. Mae adnoddau ar gael am ddim ar Hwb, platfform dysgu Cymru gyfan, i helpu i wella ymwybyddiaeth o BSL ymhlith staff a dysgwyr. Fel y mae'r Aelod yn ymwybodol, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am sicrhau bod BSL ar gael i blant y nodwyd sydd ei angen.

Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, y cyntaf ar ddiogelwch ar y ffyrdd i geffylau a marchogion yng Nghymru. Oherwydd damwain gyda char, dechreuodd Debbie Smith o Benzance y ddeiseb 'Pass wide and slow', ym mis Medi 2015, i'w gwneud yn ofyniad cyfreithiol i yrru heibio ceffyl yn llydan ac araf. Cafodd y ddeiseb hon, sydd wedi cael dros 148,000 o lofnodion hyd yma, ei rhoi i Weinidog trafnidiaeth y DU ym mis Chwefror 2016, ac fe'i trafodwyd yn Senedd y DU ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Yna daeth y syniad o reidiau ymwybyddiaeth ledled Prydain, ac yn gynharach y mis hwn ymunais â Lyndsey Vaughan Jones yng Nghanolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd ar ei reid pasio'n llydan ac araf, i godi ymwybyddiaeth am basio ceffyl yn llydan ac yn ddiogel, ar droed, ar feic neu mewn car, i addysgu pobl pam y dylen nhw basio ceffyl yn ddiogel, ac annog marchogion i wisgo siaced lachar a defnyddio camera pen i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau y gallai pobl ddod ar eu traws wrth reidio i'r heddlu, codi ymwybyddiaeth a dal gyrwyr yn atebol am eu gweithredoedd. Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny, o ystyried yr agwedd ddatganoledig ar yr ymgyrch hon nawr, ac, fel y dywedais i, y reid a ddigwyddodd yn Llanfynydd yn ddiweddar iawn.

Rwyf hefyd yn galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i bobl Iran yn eu brwydr am weriniaeth seciwlar a democrataidd. Cefnogodd mwyafrif Aelodau'r Senedd hon, ASau, ddatganiad ar Iran, a ddrafftiwyd gan Gymdeithas Academyddion Iran, a oedd yn cynnwys,

'Rydym yn sefyll mewn undod â phobl Iran yn eu hawydd am weriniaeth seciwlar a democrataidd'.

Ddydd Mercher diwethaf, noddais gyfarfod yn y Senedd, gyda Chymdeithas Academyddion Iran, o'r enw 'Conference on Iran: Free and Democratic Iran within reach', gan gefnogi eu hymdrechion i gefnogi awydd pobl Iran am weriniaeth ddemocrataidd. Roedd yn cynnwys cyflwyniadau gan fenywod o Iran, sy'n cynnwys mwyafrif aelodau'r gymdeithas, ac fe rannodd y ddwy eu profiadau personol ofnadwy eu hunain, ac fe wnaethant hyrwyddo dewis democrataidd hyfyw amgen Iran, National Council of Resistance of Iran—NCRI—ei lywydd etholedig, Mrs Maryam Rajavi, a'i chynllun 10 pwynt ar gyfer dyfodol Iran, gan gynnwys rhyddid i lefaru, rhyddid pleidiau gwleidyddol, rhyddid i ymgynnull, cydraddoldeb rhywiol cyflawn, barnwriaeth annibynnol, a gwahanu crefydd a gwladwriaeth, gyda rhyddid crefydd a gwladwriaethau. O ystyried y gefnogaeth a roddwyd i hyn gan Aelodau'r Siambr hon, rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.

14:40

Diolch. O ran eich cais cyntaf ynghylch diogelwch ar y ffyrdd a marchogaeth ceffylau, nid wyf yn ymwybodol y bu unrhyw ddiweddariad ar y canllawiau, ond efallai y byddai'n well petaech yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gofyn am ddiweddariad. O ran eich ail gwestiwn, credaf fod hynny'n fwy o fater i Lywodraeth y DU; mae'n fater sydd wedi'i gadw'n ôl. 

A gaf i ofyn am ddiweddariad gan y Gweinidog iechyd ar ddatganiad ansawdd y Llywodraeth ar glefydau anadlol? Bydd diwedd mis Tachwedd yn nodi blwyddyn ers y datganiad ansawdd ar glefyd anadlol, ac o ystyried natur datganiadau ansawdd, gyda'u dangosyddion lefel uchel o sut olwg sydd ar ofal iechyd anadlol da, mae'n anodd penderfynu pa gynnydd sydd wedi'i wneud i ddarparu gwell gwasanaethau iechyd anadlol ers ei gyhoeddi. Er mwyn i ni graffu ar gynnydd yn fwy effeithiol, ac er mwyn i ni allu dechrau gweld y gwelliannau sydd eu hangen, a gawn ni gyhoeddiad a datganiad o'r fath, os gwelwch yn dda? Ac a wnaiff y Gweinidog ystyried datblygu cynllun gweithredu i danategu'r datganiad ansawdd ar ofal anadlol? 

Diolch. Wel, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cadw llygad barcud arno a bydd hi'n hapus i gyflwyno datganiad ysgrifenedig. 

Rwyf am gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed gan Darren Millar. Ar ôl darllen y Papur Gwyn ar gamblo, rwy'n credu ei fod yn gwbl anaddas i'r diben. Fe'i gelwir yn 'High stakes: gambling reform for the digital age', ond nid yw'n mynd i'r afael â lefel y risg sy'n gysylltiedig o gwbl, nid yn unig i bobl ifanc, ond i unrhyw un sydd â phersonoliaeth gaethiwus. Mae'n cynnig trothwy o £1,000 i unrhyw un sy'n colli arian o fewn 24 awr cyn bod unrhyw rwymedigaeth ar y cwmni gamblo.

Mae'r rhan fwyaf o'r niwed sy'n cael ei wneud yn cael ei wneud ar-lein neu drwy hysbysebu mewn mannau mentro uchel. Mae'n ymddangos bod y diwydiant pêl-droed wedi ei dreiddio yn llwyr gan y diwydiant gamblo. Meddwl oeddwn i tybed a allem ni gael datganiad gan y Llywodraeth ar ei safbwynt ar y Papur Gwyn ar gamblo, o ystyried nad yw hyn yn rhywbeth y mae gennym y pwerau i'w reoli, o ystyried mai gamblo ar-lein yw'r rhan fwyaf niweidiol o'r gweithgaredd hwn o bell ffordd.

Diolch. Wel, byddwch chi wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb i Darren Millar, er bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn hapus iawn i gyflwyno datganiad ysgrifenedig, mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar draws y Llywodraeth ar ba waith yr ydym ni'n ei wneud mewn perthynas â hynny, ac yn amlwg mae agweddau arno—ac rydych chi newydd gyfeirio atyn nhw—sy'n faterion a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU. Ond rwy'n credu y bydd yn bwysig iawn sicrhau ein bod yn cynnwys holl agweddau ar waith Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r hyn sy'n broblem ac yn fater sy'n tyfu'n gyflym iawn, iawn. 

Gweinidog, mae cynlluniau i ddatblygu canolfan chwaraeon a chymunedol newydd ym Mhonthir yn fy rhanbarth i yn y fantol. Mae hyn oherwydd diffyg cydlynu a thryloywder gan awdurdodau lleol ynghyd â rhaglen cyfleusterau cymunedol di-fudd Llywodraeth Cymru. Mae'r gwirfoddolwyr y tu ôl i'r fenter hon ym Mhonthir wedi gweithio'n galed i sicrhau cyllid a llunio cynlluniau i wireddu'r freuddwyd hon, a fyddai'n cynnig manteision iechyd meddwl a lles enfawr i blant a phobl o bob oed ar draws y rhanbarth. Rhoddodd y rhaglen cyfleusterau cymunedol wybod i'r ganolfan y byddai angen iddynt gyflwyno cais newydd sbon, oherwydd nad oedd yr un gwreiddiol, a oedd eisoes wedi'i gymeradwyo, yn nodi cynlluniau ar gyfer maes parcio. Os na fyddant yn cyflwyno cais nawr, bydd y cyllid grant o £229,000 gan Lywodraeth Cymru, sy'n hanfodol i'r prosiect cyffredinol, yn cael ei dynnu'n ôl a bydd y cynllun yn dymchwel ac ni fydd gan gannoedd o bobl unman i chwarae chwaraeon. Mae'r clwb wedi gofyn am oedi'r cyllid neu ei roi yn y flwyddyn ariannol nesaf, dim ond mewn ymgais i achub y grant, ac eto mae tîm y rhaglen cyfleusterau cymunedol wedi dweud 'na' wrthyn nhw ac wedi bod yn hynod rwystredig a di-fudd. O'r hyn y gallaf i ei weld, maen nhw'n ymddangos yn benderfynol o roi rhwystrau yn ffordd y clwb ar bob cyfle sydd ar gael. Mae gwir angen i synnwyr cyffredin fod yn drech fan hyn, Gweinidog, oherwydd byddai'n warth gweld y prosiect cymunedol hwn yn methu oherwydd amharodrwydd Llywodraeth Cymru i helpu. Felly, gyda'r dyddiad cau yn agosáu, mae amser wir yn hanfodol, felly byddwn yn gwerthfawrogi datganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn y bydd yn ei wneud i sicrhau bod y prosiect hwn yn mynd rhagddo heb unrhyw oedi na phroblemau pellach. Diolch. 

Wel, dydw i ddim yn credu ei fod yn fater o amharodrwydd i helpu. Mae'r ffaith bod gennym y rhaglen cyfleusterau cymunedol, sydd wedi bod o fudd i gynifer o'n cymunedau a'n hetholaethau a'n rhanbarthau ers blynyddoedd lawer, yn dangos yn sicr fod Llywodraeth Cymru yn barod i helpu. Rhaid i chi werthfawrogi bod meini prawf llym iawn ynghlwm wrth yr holl geisiadau hyn; arian cyhoeddus yw hwn, wedi'r cyfan. Nid wyf yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r un achos yr ydych chi'n ei argymell. Rwy'n credu y byddai'n well i chi ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. 

Prynhawn da, Gweinidog. Roeddwn i wir eisiau codi gyda chi, mewn gwirionedd, fater cynllun Cynefin Cymru. Mae llawer o ffermwyr wedi codi materion, rwy'n credu, gyda llawer ohonom ni yn y Siambr ynghylch y cynllun, ac er ein bod ni i gyd yn deall ei fod yn gynllun pontio, mae pryderon ynghylch yr ymrwymiadau hirdymor a allai fod yn gynhenid o fewn y ffurflen gais. Yn y rheoliadau, er enghraifft, mae'n nodi:

'Trwy gynnwys tir o dan y categori hwn, mae ymgeiswyr yn ymrwymo o bosibl i reoli’r tir hwn fel cynefin i’r tymor hir.'

Mae'r rheoliadau a'r ffurflen gais yn eithaf cymhleth ac yn eithaf hir, a byddwn yn gofyn i'r Gweinidog a oes cyfle—. A allwch chi gadarnhau, os bydd ymgeiswyr yn cyflwyno cais, eu bod yn cael cyfle yn nes ymlaen i ddiwygio'r cais hwnnw, pe bydden nhw'n sylweddoli, mewn gwirionedd, nad yw'r amgylchiadau yr hyn yr oedden nhw yn ei ddisgwyl? Diolch yn fawr iawn.

14:45

Diolch i chi. Rydych chi'n gwbl gywir, cynllun pontio yw hwn. Y rheswm y cyflwynais i Cynefin Cymru yw am fod yn rhaid i gytundebau Glastir ddod i ben—ac roedd pawb yn gwybod y byddai'n rhaid iddyn nhw ddod i ben—ar ddiwedd y flwyddyn hon. Felly, mae hwn yn gynllun pontio cyn y cynllun ffermio cynaliadwy, oherwydd, fel dywedais i ar hyd y daith, pan ddaw contractau cynllun y taliad sylfaenol a Glastir i ben, y prif ffynhonnell o gefnogaeth i'n ffermwyr ni fydd y cynllun ffermio cynaliadwy. 

Yr ateb byr i'ch cwestiwn chi yw, pan gaiff ffurflen mynegi diddordeb ei chyflwyno, ni fyddwn ni'n caniatáu unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sydd yn y cais. Pe byddai camgymeriad ynddo neu pe byddai tir yn cael ei gynnwys, er enghraifft, a'u bod nhw'n awyddus i'w ddileu yn ddiweddarach, fe fyddai'n rhaid tynnu'r mynegiant o ddiddordeb yn ei ôl a'i ailgyflwyno gyda'r wybodaeth gywir wedyn.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg y prynhawn yma ynglŷn â'r newyddion bod Ysgol Uwchradd y Rhyl yn cwtogi oriau addysgu i ategu presenoldeb hwyr gan ddisgyblion? Fe ddaeth i'r amlwg ddydd Mercher diwethaf, ac rwy'n nodi nad oes cwestiynau i'r Gweinidog addysg tan 25 o fis Hydref, sef dydd Mercher nesaf. Rwyf i wedi gofyn am gyfarfod gyda'r pennaeth, Claire Armitstead, ynglŷn â'r mater hwn ac rwy'n gobeithio cael cwrdd â hi cyn bo hir, ond a gaf i ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu ei safbwynt ar y mater hwn a'i hymateb i'r newyddion hyn, sy'n peri gofid mawr i fy etholwyr? Diolch i chi.

Diolch i chi. Wel, rwy'n credu i chi wneud y peth cwbl briodol wrth drefnu i gwrdd â'r pennaeth. Yn amlwg, mae hwn yn fater i Gyngor Sir Ddinbych hefyd. Nid oes unrhyw ddatrysiad unigol, yn fy marn i, nac un grŵp nac un sector a all fynd i'r afael â'r mater hwn, ac fe wyddoch chi fod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn sefydlu tasglu cenedlaethol, wrth symud ymlaen. Bydd hwnnw'n dynodi cyfeiriad strategol. 

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2023-24

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ar y diweddariad ar sefyllfa ariannol 2023-24. Y Gweinidog, felly, i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.

Diolch i chi. Rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ein sefyllfa ariannol bresennol ni eleni. Mae hyn yn dilyn datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog ym mis Awst pryd nododd ef y byddai gwaith yn mynd rhagddo yn ystod yr haf i fynd i'r afael ag effaith ein cyllideb ni sydd yn werth oddeutu £900 miliwn yn llai na phan gafodd ei phennu yn 2021.

Ar hyn o bryd rydym ni yn ail flwyddyn setliad ariannol o dair blynedd. Cynyddodd ein cyllideb refeniw gan ddim ond 5 y cant eleni, o gymharu ar gyfradd chwyddiant o 8 y cant ar gyfartaledd hyd yma eleni. Rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr yn y Cabinet am weithio yn galed i fynd i'r afael â'r wasgfa hon, a achosir gan effaith driphlyg chwyddiant, effaith mwy na degawd o gyni ar wasanaethau cyhoeddus, a chanlyniadau parhaus Brexit. Mae'r rhain, ynghyd â chamreolaeth economaidd Llywodraeth y DU, gan gynnwys y gyllideb 'fechan' drychinebus, wedi cyfuno i roi pwysau ar gyllideb ddatganoledig Cymru na welwyd ei debyg erioed o'r blaen.

Yn y Cabinet, fe gawsom ni ein harwain gan nifer o egwyddorion clir wrth ddod i'r penderfyniadau a wnaethom ni, gan gynnwys diogelu gwasanaethau rheng flaen i'r fath raddau ag y gallem ni, a chefnogi'r aelwydydd sy'n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw, a rhoi blaenoriaeth i swyddi. Rwy'n falch o adrodd i'r Senedd, trwy reolaeth ariannol ofalus iawn, a arweiniwyd gan ein hegwyddorion a'n gwerthoedd, ein bod ni wedi llwyddo i ddylunio pecyn o newidiadau ariannol sy'n lleihau'r effaith ar bobl a'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw, gan ein galluogi ni i gyflawni ein hamcan i liniaru'r pwysau eithriadol sydd ar ein cyllideb ni.

Fel nododd fy nghyd-Weinidog y Gweinidog iechyd, mae'r GIG yng Nghymru yn wynebu'r pwysau ariannol anoddaf yn y cyfnod diweddar. Mae hyn oherwydd effeithiau chwyddiant uchel parhaus ar gostau, gan gynnwys ynni a meddyginiaethau a phwysau sy'n gysylltiedig â chyflogau, heb sôn am fwy na degawd o danariannu gwasanaethau cyhoeddus gan olyniaeth o Lywodraethau Ceidwadol yn y DU. Mae'n ymdrin hefyd â phwysau parhaus sy'n gysylltiedig â COVID a'r galw cynyddol ar ofal a gynlluniwyd ac mewn argyfwng. I gydnabod yr effeithiau cydberthynol hyn, drwy'r pecyn hwn o newidiadau ariannol, fe fyddwn ni'n darparu £425 miliwn ychwanegol i gefnogi'r GIG eleni. Ond, er gwaethaf y cymorth ychwanegol hwn, mae hi'n amlwg y bydd yr angen yn parhau i fyrddau iechyd wneud penderfyniadau anodd iawn, eleni ac yn y flwyddyn ariannol nesaf i fantoli eu cyllidebau nhw.

Yn ogystal â hynny, rydym ni wedi penderfynu diogelu'r grant cynnal refeniw i awdurdodau lleol, sy'n talu am ysgolion, gofal cymdeithasol a llawer mwy na hynny, gan gydnabod y pwysau sydd ar y gwasanaethau hyn. Mae gwasanaethau rheilffyrdd yn wynebu pwysau sylweddol o ran costau, sy'n tarddu o'r pandemig ac o'r newid yn nefnydd arferol pobl ohonyn nhw. Rydym ni wedi gallu cynyddu'r gyllideb ar gyfer Trafnidiaeth Cymru £125 miliwn eleni i ddiogelu gwasanaethau i deithwyr a pharhau â'r rhaglen drawsnewid sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Ni ddylem ni fychanu'r heriau a wynebir gan y gwasanaethau hyn, a rhai eraill hefyd, ond, yn y Cabinet, rydym ni wedi ceisio mynd i'r afael â'r rhain mewn modd mor uniongyrchol â phosibl yn yr amgylchiadau ariannol ar hyn o bryd. Fe hoffwn i ddiolch i'n partneriaid o ran ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru am y ffordd gadarnhaol ac ymarferol y maen nhw wedi mynd i'r afael â hyn.

Fe geir nifer o gydrannau yn y pecyn o newidiadau ariannol y byddwn ni'n ei weithredu nawr, ac rwyf i am ymdrin â phob un ohonyn nhw yn ei thro. Gofynnwyd i bob portffolio gweinidogol wneud cyfraniad er mwyn cwrdd â'r pwysau sy'n ein hwynebu ar sail drawslywodraethol. I fod â'r effaith leiaf ar wasanaethau, fe wneir hyn drwy ailflaenoriaethu gwariant a gweithgarwch gymaint â phosibl, yn hytrach na thorri rhaglenni cyfan. O ganlyniad i hynny, mae'r newidiadau adrannol i gyllidebau refeniw yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn, ac mae'r newidiadau yn gymesur yn fras i faint y cyllidebau adrannol fel cyfran o gyllideb gyffredinol Cymru. Fe fydd cyllideb addysg a'r Gymraeg yn cael ei hadolygu gyda gostyngiad o £74.7 miliwn. Fe fydd y gyllideb cyllid a llywodraeth leol, ac eithrio'r grant cynnal ardrethi, yn cael ei hadolygu gyda gostyngiad o £28.5 miliwn. Fe fydd cyllideb yr economi yn cael ei hadolygu gyda gostyngiad o £28.6 miliwn. Fe fydd y gyllideb materion gwledig yn cael ei hadolygu gyda gostyngiad o £17.3 miliwn. Fe fydd y gyllideb cyfiawnder cymdeithasol yn cael ei hadolygu gyda gostyngiad o £7 miliwn. Ac fe fydd y gyllideb ar gyfer costau rhedeg Llywodraeth Cymru yn cael ei hadolygu gyda gostyngiad o £27.5 miliwn. Fel nodais i, fe fydd yna ddau bortffolio yn gweld cynnydd. Fe fydd y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cynyddu £425 miliwn, a fydd yn golygu bod buddsoddiad yn y GIG yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Fe fydd y gyllideb newid hinsawdd yn cynyddu £82.6 miliwn, a fydd, ynghyd ag arbedion eraill yn y portffolio, yn caniatáu £125 miliwn o gyllid ychwanegol i Drafnidiaeth Cymru.

Ar gyfer ymateb i'r pwysau cyffredinol sydd arnom ni, fe fydd angen i ni wneud newidiadau i gyllidebau cyfalaf hefyd. Fe fydd y gyllideb cyfalaf newid hinsawdd yn gweld newid o £37.7 miliwn. Fe fydd cyllideb gyfalaf addysg a'r Gymraeg yn gweld newid o £40 miliwn. Fe fydd cyllideb cyfalaf yr economi yn gweld newid o £36.5 miliwn. Fe fydd cyllideb cyfalaf materion gwledig yn gweld newid o £20.2 miliwn. Ac fe fydd cyllidebau cyfalaf cyllid a llywodraeth leol a chyfiawnder cymdeithasol hefyd yn gweld newid o lai na £10 miliwn yr un, gyda chyfalaf iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn parhau heb ei newid. Fe nodais i benawdau manylion y newidiadau hyn mewn dogfen a gyhoeddwyd heddiw ochr yn ochr â'r datganiad. Fe gysonir y newidiadau manwl yn y ffordd arferol drwy gyfrwng yr ail gyllideb atodol, i'w dodi gerbron y Senedd yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Fe wnaethom ni gais ffurfiol i Drysorlys y DU i newid rhywfaint o'n cyllideb gyfalaf i refeniw yn ystod y flwyddyn ariannol hon i ymateb i'r pwysau oherwydd chwyddiant a'n galluogi ni i ddod i ben o fewn ein cyllideb gyffredinol ni yng Nghymru. A bod yn eglur iawn, nid ydym ni'n gofyn am unrhyw gyllid ychwanegol, dim ond y rhyddid i ddefnyddio ein cyllideb bresennol mewn ffordd sy'n ein galluogi ni i gyflawni ein blaenoriaethau heb lyffethair artiffisial ein fframwaith cyllidol anfoddhaol cyfredol. Mae Trysorlys y DU yn cytuno i newidiadau cyfalaf i refeniw ar gyfer adrannau Whitehall bob blwyddyn, ac, er tegwch, fe ddylai gytuno i'r cais hwn. Rwyf i wedi trafod hyn yn uniongyrchol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ac wedi egluro ein safbwynt ni iddo ef. Mae'r pecyn yn cynnwys disgwyliad hefyd y bydd symiau canlyniadol ar gael gan Lywodraeth y DU yn ystod y flwyddyn hon o ganlyniad i wariant cynyddol yn Lloegr, yn fwyaf nodedig ar gyflogau'r GIG, ac fe fyddaf i'n diweddaru'r Senedd cyn gynted ag y bydd gennym ni eglurder yn hyn o beth. Fe fyddwn ni'n sicrhau hefyd fod hyd at £100 miliwn ar gael o'n cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn ac o gronfa wrth gefn Cymru. Gyda'i gilydd, fe ddylai'r pecyn hwn ein galluogi ni i weithredu o fewn ein cyllideb gyffredinol eleni, yn ogystal ag ymateb i rywfaint o'r pwysau neilltuol y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu o ganlyniad i chwyddiant a chyni.

Gan droi at y flwyddyn ariannol nesaf, rwy'n dymuno bod yn eglur gerbron y Senedd. Mae disgwyl i'n cyllideb refeniw gynyddu 2 y cant yn unig, ac fe fydd ein cyllideb gyfalaf ni'n gostwng 1 y cant mewn gwirionedd. Gyda chwyddiant yn aros yn ystyfnig o uchel, fe fydd y pwysau hyn yr ydym ni wedi ceisio mynd i'r afael â nhw eleni yn waeth fyth y flwyddyn nesaf, ac ni fyddwn ni'n gallu gwneud popeth y byddem ni'n dymuno ei wneud. Fe fyddwn ni'n parhau i wneud penderfyniadau ariannol a arweinir gan ein hegwyddorion a'n gwerthoedd ni, gan ddiogelu pobl Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru gymaint â phosibl rhag y pwysau a wynebwn ar hyn o bryd.

14:55

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Fe hoffwn i ddechrau drwy gydnabod unwaith eto fod llywodraethau ledled y byd yn wynebu dewisiadau anodd o ganlyniad i ddigwyddiadau byd-eang. Fe wn i hefyd, o brofiad uniongyrchol, fod diffygion ariannol rhagamcanol yn cyflwyno heriau gwirioneddol yn ogystal ag ansicrwydd i wasanaethau a'u defnyddwyr. Serch hynny, mae'n rhaid i ni fod yn eglur. Mae'n rhaid dweud bod Cymru yn ei sefyllfa ariannol bresennol o ganlyniad uniongyrchol i reolaeth hynod o wael a phenderfyniadau a chynllunio cibddall, ar sail athroniaeth wleidyddol sy'n arwain at Gymru sy'n eithriadol o agored i niwed, yn enwedig i newidiadau economaidd byd-eang. Mae hi'n gwbl resynus mai dim ond yn eu cyllideb ar 1 o fis Awst y dechreuodd y Llywodraeth ganolbwyntio ar sefyllfa ragamcanol ei chyllideb mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Ar ddiwedd y flwyddyn y llynedd, fe wyddom ni fod Dadansoddi Cyllid Cymru wedi codi posibilrwydd y prinder hwn gyda'r Llywodraeth. Roedd ganddyn nhw ragolygon o tua £800 miliwn bryd hynny. Roedden nhw'n dweud y gellid rhagweld y sefyllfa, oherwydd bodolaeth pwysau chwyddiant, a'u bod nhw'n rhyfeddu bod Llywodraeth Cymru wedi cael y fath sioc.

Felly, pam na feddyliwyd am hyn, i ryw raddau, cyn pennu'r gyllideb ym mis Mawrth? Fe ddylai'r heriau sy'n wynebu'r gyllideb oherwydd ffactorau chwyddiant fod wedi cael eu rhagdybio ymhell o flaen llaw. Mae hi'n hanfodol fod cynllunio ymlaen llaw ac ystyriaethau o ran pethau annisgwyl yn flaenllaw yn ystyriaethau'r Llywodraeth yn gynharach o lawer. Ond ni ddigwyddodd hi felly, naddo? Mae eu pennau nhw wedi bod yn y gwynt ers cryn amser, am eu bod nhw'n canolbwyntio ar eu cyfres o hoff brosiectau sydd wedi sugno miliynau oddi wrth wasanaethau craidd, gan waethygu bregusrwydd ein sefyllfa ni. Rwy'n cydnabod y materion na ellid eu rhagweld o ran cyfraddau cyflog ym meysydd gwasanaeth. Eto i gyd, ni all hwnnw fod yn esgus dros y sefyllfa bresennol. Fe wyddom ni mai cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru eleni yw'r un mwyaf a fu erioed, sef bron i £25.5 biliwn. Unwaith eto, rwy'n awyddus i bwysleisio'r ffaith mai hwn yw'r setliad mwyaf a roddwyd gan San Steffan erioed, a rhagwelir y bydd un y flwyddyn nesaf yn £26.5 biliwn—mil o filiynau arall.

Fodd bynnag, Llywydd, mae hi'n siomedig—rwyf i'n siomedig, ond heb fy synnu—bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gweld bai ar Lywodraeth y DU unwaith eto oherwydd y dewisiadau gwleidyddol a wnaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r penderfyniad i weithredu'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yn enghraifft berffaith o hyn—mae'n costio £33 miliwn ac yn golygu cost o £4.5 miliwn i economi Cymru ac yn esiampl ragorol o'r hyn yr wyf i'n ei ddweud. A chyda'r incwm sylfaenol cyffredinol, ychwanegwch chi £20 miliwn arall, ynghyd â llu o hoff brosiectau eraill, ynghyd â'r cynlluniau ar gyfer 36 o Aelodau ychwanegol i'r Senedd, sef £120 miliwn dros y blynyddoedd i ddod, yn dweud y cyfan. Blaenoriaethau a phenderfyniadau'r Llywodraeth oedd y rhain a gefnogwyd a'u hannog gan Blaid Cymru. Felly, fe fyddai eisiau ceiliog glân i ganu heddiw ar y meinciau draw.

A hon yw ein sefyllfa ni nawr, gyda'r Prif Weinidog yn gofyn i'w Weinidogion Llafur ef ddod o hyd i doriadau o hyd at £900 miliwn, ac rwy'n falch o nodi yn natganiad y Gweinidog, serch hynny, nad yw hi am anelu toriadau at y GIG, gan fod y gwasanaeth yn ei chael hi'n anodd iawn eisoes. Rydym ni'n deall bod pwysau rhagamcanol o tua £800 miliwn yn bresennol, felly fe aiff £425 miliwn rywfaint o'r ffordd o ran ymdrin â'r problemau eleni, ond o ble y daw'r cyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod? Ni ddylai ein GIG ni yma yng Nghymru fod ar fin amddifadrwydd ariannol. Mae'r fframwaith cyllidol y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru a'i ddiwygio yn 2016, ac a lofnodwyd gan y Gweinidog bryd hynny, yn galluogi Llywodraeth Cymru i dderbyn 20 y cant yn ychwanegol i wario ar iechyd yng Nghymru na'r hyn a gaiff ei wario fesul unigolyn ar iechyd yn Lloegr. Ond fe wyddom ni i gyd nad yw'r cyllid hwnnw'n cael ei ddyrannu i'r gwasanaeth iechyd yma, nac ydi? Fe wyddom ni i ble'r aeth—fe soniais i am hynny'n gynharach. Fe wyddom ni, pe byddai ychydig geiniogau yn rhagor ym mhob punt wedi cael eu cyfeirio fel dylen nhw dros y blynyddoedd fe fyddai'r GIG yng Nghymru wedi bod mewn sefyllfa dda i ymdrin â chwyddiant, ôl-groniad gofal a gynlluniwyd, recriwtio a chadw staff a gofal iechyd parhaus. Fe fyddai wedi bod yn gydnerth a chynaliadwy.

Llywydd, nid oes llawer o fanylion yn y datganiad heddiw, ac fe fydd llawer o bobl a phrosiectau yn bryderus ynghylch ble yn union fydd y toriadau. Fel pob amser, mae'n rhaid edrych yn fanwl ar y manylion. Yr hyn sy'n amlwg heddiw, serch hynny, yw bod Llafur Cymru wedi rheoli pethau am amser rhy faith, ac, os hwnnw yw'r glasbrint ar gyfer llywodraethu'r DU, y nef a'n gwaredo pe câi Llafur ei ffordd. 

15:00

Wel, rwyf i am ddechrau, Llywydd, gyda'r hyn yr wyf i'n cytuno â llefarydd yr wrthblaid arno, ac fe ddechreuodd ef ei gyfraniad drwy gydnabod bod llywodraethau ledled y byd yn mynd i'r afael ag effeithiau chwyddiant, ac mae hwnnw'n sylw teg. Er ein bod ni yn y DU mewn gwirionedd yn mynd i'r afael ag ef mewn ffordd lawer fwy llym na llawer o economïau mawr eraill, ac rwy'n credu ein bod ni'n ymdopi yn wael iawn o gymharu ag economïau eraill ledled y byd y byddech chi'n ein cymharu ni â nhw mewn amgylchiadau cyffredin. 

Ond, wedi dweud hynny, rydym ni wedi pennu ein cyllideb ni; rydym ni ar ganol adolygiad tair blynedd o wariant nawr. Fe bennais i'r cynlluniau gwariant hyn yn ystod gaeaf 2021. Ni allem ni fod wedi dychmygu effaith chwyddiant bryd hynny, ni allem ni fod wedi dychmygu'r math o—

Rwy'n gallu deall Aelodau Llafur yn ceisio siarad ar draws llefarydd y Ceidwadwyr, ond nid wyf i'n deall rhesymeg Aelodau Llafur yn siarad dros ymateb y Gweinidog. Nid wyf i fy hun yn gallu ei glywed. Mae angen i Aelodau eraill ei glywed hefyd. Gweinidog, os gwelwch chi'n dda. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Myfyrio ar y ffaith yr oeddwn i ein bod ni wedi pennu'r cynlluniau hyn o ran gwariant yn ôl ar ddiwedd 2021 ar ddechrau ein hadolygiad tair blynedd ni o wariant ac nid oedd unrhyw ffordd bryd hynny y gallem ni fod wedi dychmygu'r sefyllfa yn Wcráin, er enghraifft, ac effaith chwyddiant ledled y byd, a'r hyn a olygodd hynny i ni wedyn o ran y cytundebau cyflog a wnaethom ni gyda'r GIG, er enghraifft. Y peth cwbl briodol i'w wneud—mae hi'n bwysig cydnabod gwaith caled y staff hynny—ond yn y pen draw mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o ddarparu ar gyfer hynny nawr yn ein cyllideb ni. Felly, nid oes unrhyw ffordd y gallem ni fod wedi gwybod hyn i gyd bryd hynny.

Rwy'n credu y byddai hi o ddefnydd i mi nodi ar gyfer cyd-Aelodau sut y daethom ni at y pwynt hwnnw o £900 miliwn, oherwydd rwy'n credu y bu rhai ymholiadau ynghylch sut y gwnaethom ni gyfrifo hwnnw. Ac fe gafodd yr amcangyfrif ei lunio ar adeg cyllideb y gwanwyn i ddangos effaith y sioc oherwydd chwyddiant ar bŵer gwario Llywodraeth Cymru ers cynnal yr adolygiad o wariant. Ac mae hwnnw'n ystyried y cynnydd i'n setliad ni ers yr adolygiad o wariant. Roedd y ffigurau hyn ar sail rhagolygon fis Mawrth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer chwyddiant mynegai prisiau defnyddwyr ynghyd â chwyddiant mynegai prisiau defnyddwyr alldro ers yr adolygiad o wariant ac o gymharu hwnnw â rhagolygon chwyddiant mynegai prisiau defnyddwyr ar adeg yr adolygiad o wariant. Defnyddiwyd yr un ffigurau hynny i'n cyllidebau refeniw ni a'n cyllidebau cyfalaf ni i lunio'r amcangyfrif cyffredinol hwnnw o £900 miliwn. Felly, mae'r ffigur hwnnw mewn gwirionedd yn arwydd o ddifrifoldeb y sioc oherwydd chwyddiant ers yr adolygiad o wariant.

Ac mae'r un cyfrifiad, mewn gwirionedd, ar gyfer 2024-25 yn cynhyrchu ffigur o tua £700 miliwn. Mae hynny ychydig yn is na ffigur 2023-24, oherwydd roedd rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fis Mawrth ar gyfer chwyddiant mynegai prisiau defnyddwyr yn 2024-25 yn is nag ar gyfer 2024-25 ar adeg yr adolygiad o wariant. Felly, wyddoch chi, mae'r rhain i gyd yn ffigurau a gyfrifwyd yn fanwl iawn gan ddefnyddio'r dystiolaeth orau a oedd ar gael i ni, ac ni allem ni fod wedi rhagweld hyn ar adeg pennu'r cynlluniau o ran gwariant ar ddiwedd 2021. Ond mae'r hyn a wnaethom ni, mewn gwirionedd, yn cael ei weithredu arno yn gynnar iawn yn y flwyddyn ariannol hon, felly, hyd yn oed cyn i ni ddechrau'r flwyddyn ariannol hon—cyn i ni gyrraedd yr awr gyntaf—roeddem ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth i nodi'r pwysau a fyddai'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Mae gennym ni system adrodd ariannol sy'n gadarn iawn, cyfundrefn yn Llywodraeth Cymru lle mae adrannau ar draws Llywodraeth Cymru yn adrodd i fy swyddogion a minnau bob mis, ac mae hynny'n ein galluogi ni i nodi ym mha le y mae'r pwysau, ym mha le y mae'r tanwariant o bosibl ac ym mha le y mae'r risgiau. Ac yna fe fyddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth honno i'n tywys ni drwy'r flwyddyn ariannol. Fe ddaeth hi'n amlwg yn gynnar iawn fod y pwysau yn ddifrifol ac felly fe wnaethom ni gymryd camau yn gynnar iawn yn y flwyddyn ariannol i ymateb i hynny.

Ac yna i droi'n ôl, mae'n debyg, i'r pwynt cyntaf hwnnw ynglŷn â phob Llywodraeth yn wynebu hyn. Wel, mae pob Llywodraeth yn y DU yn wynebu hyn hefyd. Felly, mae Llywodraeth y DU yn cynnal ei hadolygiad o gynhyrchiant ar hyn o bryd, sy'n debyg iawn yn ei hanfod i'r gwaith a wnawn ni yma mewn llawer o ffyrdd, ac fe garwn i Lywodraeth y DU fod mor dryloyw ag yr ydym ni o ran y gwaith y mae'n ei wneud, ac rwy'n annog hynny. Efallai y byddwn ni'n clywed mwy ganddi hi am hyn yn natganiad yr hydref ar 22 o fis Tachwedd. Rwy'n gobeithio, er hynny, na fydd hwnnw'n rhywbeth nad ydyw mor dryloyw â'r hyn yr ydym ni'n ymgeisio amdano yma.

Yna, wrth gwrs, fe ymgymerodd yr Alban â chyllideb frys y llynedd, pryd gwelwyd cannoedd o filiynau o bunnau yn cael eu hail flaenoriaethu o gyllidebau ar draws y Llywodraeth, yn enwedig yn yr adran iechyd, i gefnogi'r GIG yn yr Alban. Unwaith eto, fe welwn ni bwysau tebyg yma ar y GIG yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, Gogledd Iwerddon—yn amlwg, maen nhw mewn sefyllfa wahanol, ond fe wnaethon nhw fynd dros eu terfynau gwariant adrannol y llynedd, felly mae'n rhaid iddyn nhw dalu hynny'n ôl nawr i Lywodraeth y DU eleni a'r flwyddyn nesaf. Felly, mae hon yn her sy'n wynebu pob Llywodraeth, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n agored ac yn dryloyw gyda'r Senedd.

15:05

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Rwy'n croesawu diweddariad y Gweinidog ar sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru, ac rydym ni'n falch i arian ychwanegol gael i glustnodi i gefnogi gwasanaethau iechyd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Ond, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn dweud wrthym ni ers mis Awst eu bod nhw wedi bod yn gweithio i fynd i'r afael â'r bwlch o £900 miliwn yn ei chyllideb, sydd, gadewch i ni beidio ag anghofio, yn cynrychioli bron i 5 y cant o'r grant bloc cyfan ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, rwy'n siŵr y bydd llawer yn crafu eu pennau o ran sut y maen nhw wedi gallu dod o hyd i £550 miliwn ychwanegol.

Ceir mater ynglŷn ag amseru yma hefyd. Cyhoeddwyd y gyllideb atodol gyntaf ym mis Mehefin ac roedd hi ar sail, rwy'n dyfynnu,

'nifer o ddyraniadau o'r cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu newidiadau i linellau sylfaen gan gynnwys y rhai a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.'

Ond, ychydig dros ddeufis yn ddiweddarach, fe welodd Llywodraeth Cymru ei hun mewn sefyllfa wedyn o orfod dod o hyd i werth £900 miliwn o arbedion ychwanegol, ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei hesboniad hi o ran y mynegai prisiau defnyddwyr a'r elfennau yn hynny gynnau fach. Gan fod llawer o'r arbedion a amlinellwyd yma yn deillio o symiau canlyniadol disgwyliedig o ddyfarniadau cyflog y GIG a thynnu i lawr o gronfa wrth gefn Cymru, y gallasai'r ddeubeth fod yn hysbys ers cryn amser, nid wyf i'n deall yn iawn pam y cymerodd hi dros bedwar mis ar ôl y gyllideb atodol i roi'r eglurder hwn. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn, Gweinidog, pe byddech chi'n ymrwymo i ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid cyn gynted â phosibl i esbonio'r amserlenni, y datblygiadau a'r penderfyniadau perthnasol a gymerwyd gan y Llywodraeth sydd wedi ein harwain ni at y pwynt hwn.

Fe hoffwn i fanylu hefyd ar rai materion penodol ynglŷn â hyn ar gyfer deall yn iawn sut yr oeddech chi'n gallu cynyddu'r bwlch o £900 miliwn mewn gwirionedd trwy'r ymrwymiadau pellach hyn o ran gwariant, dim ond i'ch canfod eich hun mewn sefyllfa gyda mantolen fwy hylaw erbyn hyn. Yn gyntaf, rydych chi wedi sicrhau rhoi £425 miliwn o gyllid ychwanegol i'r GIG, ac rydych chi wedi dweud eu bod nhw hefyd am fod yn gwneud penderfyniadau anodd iawn yn ystod y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn nesaf. A wnewch chi gadarnhau beth fydd sefyllfa net y GIG ar ddiwedd y flwyddyn ariannol? A yw hi'n gywir dweud na all y byrddau iechyd fantoli eu llyfrau nhw?

Fel gwyddoch chi, mae anallu chwech o'r saith bwrdd iechyd mawr i gadw eu pennau uwchlaw'r dŵr hyd yn oed yn ystod y tair blynedd diwethaf, yn groes i'w dyletswyddau statudol nhw, yn rheswm pwysig pam mae pob un ohonyn nhw'n destun rhyw fath o ymyrraeth a anelir. A gawn ni, felly, ei chymryd hi'n ganiataol, trwy ychwanegu at y diffyg hwn, na ddylem ni ddisgwyl iddyn nhw allu mantoli'r cyfrifon yn fuan iawn, ac o ganlyniad i hynny, y bydd ymyrraeth a anelir ledled byrddau iechyd Cymru yn nodwedd hirdymor o agenda iechyd Llywodraeth Cymru?

Yn ail, rydych chi wedi sicrhau hefyd y bydd £125 miliwn ychwanegol ar gael i Drafnidiaeth Cymru. A yw hyn yn gyfaddefiad nad yw'r gwasanaeth yn gwneud ei waith fel dylai a'i fod wedi mynd yn rhywbeth sy'n llyncu arian i ryw raddau? Roeddech chi'n sôn hefyd y canfuwyd arbedion sylweddol drwy ailflaenoriaethu portffolios, y mae cyfran sylweddol ohonyn nhw'n dod oherwydd tanwariant rhai rhaglenni a arweinir gan alw.

O ran prydau ysgol am ddim i bob plentyn, rwy'n croesawu'r ffaith fod dros hanner yr awdurdodau lleol wedi cwblhau'r broses o gyflwyno'r cynllun yn barod a bod cyflawni'r ymrwymiad yn llawn erbyn mis Medi 2024 ar y trywydd iawn, fel cynlluniwyd hynny, ac nad yw'r newid mewn gwariant proffil am weddill y flwyddyn am effeithio ar hynny. Fel gwnaethom ni ei ddadlau ers yr haf, fe fyddem ni'n cefnogi ffyrdd o gyflawni ymrwymiadau'r cytundeb cydweithredu mor effeithiol ac effeithlon â phosibl, gan sicrhau bod y canlyniadau yn cael eu cyflawni yn eu llawnder yn unol â'r amserlenni y cytunwyd arnyn nhw. Rwy'n falch fod fy nghyd-Aelodau wedi gallu cyflawni hyn. Eto i gyd—. Nage, mae'n ddrwg gennyf i.

Yn dilyn ymlaen o'r gwaith a wnaed ar y rhaglenni a arweinir gan alw, pa fewnwelediadau allwch chi eu cyfrannu i'r Siambr hon o ganlyniad i'r ymarfer a wnaethoch chi? A gaiff hyn ei adlewyrchu yn y modelau y byddwch chi'n eu defnyddio yn y dyfodol i sicrhau y bydd y niferoedd mwyaf yn manteisio ar y rhaglenni hyn ac y bydd unigolion sy'n gymwys yn cael y cymorth y mae hawl ganddynt i'w gael? Rwy'n sylwi bod cyfran arall o arbedion ar sail rhagdybiaethau y bydd Trysorlys y DU yn cydsynio i newidiadau o gyfalaf i refeniw yng nghyllideb Cymru. Mae Plaid Cymru wedi dadlau yn gyson dros roi mwy o hyblygrwydd i'r Senedd reoli ei chyllideb yn ystod y flwyddyn, sef yr ymarfer safonol yn y rhan fwyaf o ddeddfwrfeydd cenedlaethol. Felly, rwy'n falch fod y Gweinidog yn ymgymryd â threfniant a gafodd ei deilwra gyda San Steffan i ganiatáu hynny, ond, o ystyried diffyg parch neilltuol Llywodraeth y DU at ddatganoli, pa mor ffyddiog ydych chi fod y rhagdybiaethau hyn yn gredadwy? Yn debyg iawn, os ydych chi'n gyfforddus i'w cynnwys nhw yn eich cyfrifiadau dros dro heddiw, er gwaethaf gwrthwynebiad y Torïaid, rydych chi wedi bod yn cyfathrebu â swyddogion y DU ers peth amser ynglŷn â'r mater hwn—a yw hynny'n gywir?

Yn olaf, yng ngoleuni'r newidiadau hyn i ymrwymiadau gwariant Llywodraeth Cymru, pa gyfradd o sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r cyhoedd y bydd gwasanaethau rheng flaen â chefnogaeth sy'n ddigonol, yn enwedig gyda'r heriau anochel sy'n dod yn ystod misoedd y gaeaf? Mae'n rhaid i ni amddiffyn ein gwasanaethau, yn enwedig i'r cymunedau agored i niwed hynny sy'n dibynnu arnyn nhw. Diolch yn fawr.

15:10

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Rwy'n credu y gallai hi fod o gymorth pe byddwn i'n mynd trwy rai o adrannau'r pecyn ar gyfer ceisio ymateb i'r cwestiynau hyn. Felly, yn y bôn, mae dau beth yn digwydd gyda'i gilydd yn y pecyn hwn. Y cyntaf yw'r math o reolaeth ariannol a welwch chi fel arfer yn ystod blwyddyn, y mathau o bethau y byddem ni'n eu gweld nhw mewn unrhyw gyllideb atodol wrth i'r arian gael ei symud o un llinell gyllideb i un arall neu o un prif grŵp gwariant i un arall—symudiadau cymharol fychain, dim mwy na'r hyn sy'n digwydd fel arfer yn ystod blwyddyn. Felly, mae gennym ni rywfaint o hynny'n digwydd yn y fan hon.

Ac yna mae'r gwaith arferol sydd gennych chi yn ystod blwyddyn y mae Gweinidogion yn ei wneud i geisio mantoli eu cyllidebau nhw pan fydd pwysau yn cynyddu o fewn y flwyddyn. Felly, er enghraifft, ym maes iechyd, mae'r Gweinidog wedi bod yn gweithio yn galed iawn o fewn y Prif Grŵp Gwariant i geisio addasu arian o'r tu mewn i'r Prif Grŵp Gwariant at ddibenion gwahanol a'i roi i sefydliadau'r GIG, ond gan herio a bod yn gadarn iawn gyda'r GIG hefyd o ran yr angen iddo reoli'r prinder sydd ynddo beth bynnag. Roeddech chi'n gofyn sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r byrddau iechyd. Wel, mae hi wedi cyfarwyddo'r byrddau iechyd i weithio o fewn y gyllideb ac mae hynny'n cynnwys, nawr, y £425 miliwn ychwanegol, ond gan gyflawni arbedion y mae hi wedi gofyn iddyn nhw eu gwneud hefyd. Ac fe fyddan nhw'n parhau i fod mewn ymyrraeth nes eu bod nhw'n mantoli'r cyllidebau hynny. Felly, yn fy marn i, mae'r Gweinidog wedi bod yn eglur dros ben. Ac felly, cyfrifoldeb sefydliadau'r GIG a byrddau iechyd nawr, yn benodol, fydd datblygu eu cynlluniau o ran sut y byddan nhw'n ymdopi o fewn eu cyllideb a chyflawni'r gyfradd o arbedion y mae'r Gweinidog yn gofyn amdanyn nhw. Felly, mae gennych chi'r mathau hynny o bethau sy'n arferol, sy'n digwydd yn ystod blwyddyn ac yna mae gennych chi'r pethau sy'n eithriadol, a gyda rhain rydym ni wedi gweithio ar draws y Llywodraeth i nodi cyllid y gallwn ni ei addasu at ddibenion gwahanol a'i roi i'r GIG ac i'r rheilffyrdd hefyd.

O ran Trafnidiaeth Cymru, ac yn enwedig y rheilffyrdd, fe wn i fod rhai brwydrau gwirioneddol wedi bod am nad yw pobl wedi dechrau defnyddio'r rheilffyrdd unwaith eto yn y niferoedd yr oeddem ni'n eu rhagweld nhw wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Fe wn i fod rhaglen o drawsnewid yn digwydd yn y rheilffyrdd ar hyn o bryd, felly fe fydd hynny'n caniatáu i'r darn hwnnw o waith barhau ac yn rhoi cefnogaeth i'r gwasanaethau hynny wrth i bethau symud ymlaen drwy gydol y flwyddyn ariannol hon, o leiaf.

Fe wnaethoch chi ofyn yn benodol am brydau ysgol am ddim ac a ydym ni ar y trywydd iawn o hyd. Rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod ni'n dal i fod ar y trywydd iawn. Roedd y gyllideb prydau ysgol am ddim yn un o'r cyllidebau hynny yr oeddem ni'n gallu ailflaenoriaethu cyllid oddi wrthi hi am ei bod hi'n gyllideb a arweinir gan alw. Ac roeddwn i'n falch iawn o weithio yn agos gyda'r Aelod dynodedig Siân Gwenllian ar hon ac rydym ni wedi rhoi sicrwydd i hynny—. Mae gennym ni amcan da ar hyn o bryd, mae'r rhagolygon gennym ni ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ond, pe byddai'r darlun yn newid, wedyn, ie, yn hollol, fe ddown ni o hyd i arian ychwanegol i gefnogi'r prydau ysgol am ddim ar gyfer cyflawni ein haddewid. Mae'r trafodaethau wedi bod yn gadarnhaol ac yn ymarferol iawn o ran Plaid Cymru, ac felly fe hoffwn i gydnabod hynny brynhawn heddiw.

Ac yna, roeddech chi'n holi hefyd am ein rhagdybiaethau ni a'r hyn y gallwn ni ei ddysgu o'r ffaith ein bod ni'n gallu rhyddhau arian, ar yr adeg hon yn y flwyddyn ariannol, o rai o'r cyllidebau hynny sy'n cael eu harwain gan alw. Wel, un enghraifft, debyg iawn, fyddai cyllid yr oeddem ni'n gallu ei ryddhau o'r gyllideb grant cymorth i fyfyrwyr. Felly, unwaith eto, dyma danwariant disgwyliedig eto mewn cyllideb a arweinir gan alw, oherwydd ystod o ffactorau, ac un ohonyn nhw yw niferoedd llai yn cofrestru—felly, yn syml, nid yw'r myfyrwyr yno i ofyn am y cyllid hwnnw. Mae hwnnw'n faes lle rydym ni wedi gallu rhyddhau cyllid a hynny heb effeithio ar unigolion, felly rwy'n credu bod honno'n enghraifft arall. Felly, bob blwyddyn, rydym ni'n bwrw'r amcanion gorau y gallwn ni ar sail y wybodaeth sydd ar gael pan fyddwn ni'n cynllunio cyllidebau a arweinir gan alw, ond yn ôl natur y peth, ni allwn ni ragweld i'r bunt yn union, felly fe geir cyfleoedd bob amser i ryddhau cyllid. Ond, yn yr un modd, efallai y bydd adegau eraill o'r flwyddyn pryd gallai fod mwy o alw ar y cyllidebau hynny a arweinir gan y galw nag y gwnaethom ni ragweld ac mae'n rhaid i ni weithredu i ymateb i'r galw ychwanegol hwnnw.

15:15

Yn dilyn cyni, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr, fe welsom ni'r Ceidwadwyr, o dan arweinyddiaeth Liz Truss, yn malurio'r economi, ac yn awr, o dan arweinyddiaeth amlfiliwnydd o Brif Weinidog, rydym ni wedi mynd yn ôl at gyni. Gwaddol y Ceidwadwyr yw twf isel neu ddim o gwbl, trethiant uchel a llai o wariant ar wasanaethau cyhoeddus. Mae gan Lywodraeth Cymru dasg anodd. Fe awgrymais i doriadau i'r Llywodraeth: cymryd difidend Brexit a rhoi cap ar daliadau fferm, fel galwodd Undeb Amaethwyr Cymru amdano. Dod â Chymorth i Brynu i ben, sy'n chwyddo prisiau tai, a defnyddio cyfalaf y trafodiadau i helpu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Rhoi'r gorau i ariannu parthau menter. Diddymu cymorth ariannol ar gyfer mewnfuddsoddi, nad yw'n darparu'r hyn y mae'n ei addo yn aml iawn, ac yn cau yn aml, ac ailgyfeirio'r arian hwnnw at gynyddu sgiliau a chyrhaeddiad academaidd. Mae gennym ni nifer o gomisiynwyr a grëwyd gan Lywodraeth Cymru; rwy'n awgrymu cynnal ymarfer gwerth am arian, a chau neu leihau'r rhai nad ydyn nhw'n cynnig gwerth am arian. Edrychwch ar sut y gall y sector cyhoeddus leihau costau ynni trwy ddefnyddio goleuadau LED a throi eu thermostatau i lawr. Ac rwy'n ymwybodol hefyd, os yw'r byrddau iechyd yn gorwario, bod rhaid i Lywodraeth Cymru warantu hynny, am mai is-gwmnïau ydyn nhw sy'n gyfan gwbl ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike Hedges am y sylwadau a'r awgrymiadau hyn brynhawn heddiw. Yn bendant, fe wn i y bydd cyd-Aelodau yn ystyried y pwyntiau arbennig hyn, oherwydd mewn gwirionedd, er ein bod ni, heddiw, yn trafod ein sefyllfa gyfredol yn y flwyddyn ariannol, rydyn ni'n dechrau pennu ein cynlluniau eisoes gan edrych ymlaen at y flwyddyn ariannol nesaf, ac fe allai rhai o'r penderfyniadau a wnawn ni yn y cyfnod canol hwn yn y flwyddyn ariannol hon gael effaith ar y flwyddyn ariannol nesaf. Fel dywedais i, rydym ni wedi ceisio lleihau'r effeithiau lle bynnag y bo modd, ond nid yw hi'n sicr na fydd dewisiadau eleni ag effaith ar y flwyddyn nesaf, yn enwedig felly, er enghraifft, pryd y gellid bod gobeithion y gallem ni beidio â gwneud rhywbeth eleni ar y sail y byddem ni'n gallu ei wthio ymlaen i'r flwyddyn nesaf; felly, mae hynny'n rhoi pwysau ychwanegol ar y flwyddyn nesaf. Felly, fe wn i, fe fydd yr holl syniadau wedi bod o ddefnydd mawr. Mae'r ddadl a gawsom ni cyn toriad yr haf wedi bod o ddefnydd mawr hefyd i gyd-Aelodau, ond rwy'n credu y byddwn ni'n gwybod mwy, yn amlwg, ar 22 Tachwedd pan fydd datganiad yr hydref gennym ni, ac fe fydd hwnnw'n ein helpu ni wedyn i bennu ein cynlluniau i'w cyhoeddi ar 19 Rhagfyr ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond fel dywedais i, rydym ni wedi ceisio mynd i'r afael â'r mater hwn yn gynnar yn y flwyddyn ariannol; roedd gwneud hynny'n golygu bod mwy o lwybrau ar agor i ni, ond hyd yn oed wedi dweud hynny, mae hi'n anos gwneud newidiadau yng nghwrs y flwyddyn, felly fe fyddwn ni'n bendant yn ystyried y pwyntiau hynny i gyd, Mike, ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich datganiad brynhawn heddiw, Gweinidog. Rwy'n cymeradwyo'r sylwadau a wnaeth Peter Fox yn llwyr wrth ymateb i'ch datganiad chi, gan fod llawer o wariant y Llywodraeth yn ymwneud â blaenoriaethau, ac yn bersonol rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru â'i holl—wel, y rhan fwyaf o'u blaenoriaethau nhw yn y mannau anghywir.

Fe hoffwn i ganolbwyntio ar y sylwadau a wnaethoch chi am y GIG, os caf i. Fe wnaethoch chi gyhoeddi'r cynnydd o £425 miliwn i'r GIG, ond yna, ar yr un gwynt, rydych chi'n dweud y bydd yn rhaid i'r byrddau iechyd barhau i wneud penderfyniadau anodd. Felly, beth mae hynny'n ei olygu yn ei hanfod? Ai cwtogi mewn termau real yw hynny, neu sut fath o neges y mae hynny'n ei fynegi i'r byrddau iechyd? Ac o safbwynt y gogledd, fe hoffwn i ofyn—. Mae gofyn i Betsi Cadwaladr wneud penderfyniadau anodd a'r bwrdd hwnnw mewn mesurau arbennig yn dipyn o dasg, oherwydd yn amlwg, her mesurau arbennig yw cael y bwrdd allan o fesurau arbennig yn y pen draw, ac os ydyn nhw'n gorfod dechrau gwneud penderfyniadau anodd yn sydyn, yna mae hynny'n mynd i beryglu cyflwr y bwrdd iechyd o ran dod allan o fesurau arbennig mewn amser penodol. Felly, a wnewch chi roi sylwadau ynglŷn â'r mater hwnnw ac ehangu ychydig mwy ar eich sylwadau ynglŷn â'r GIG a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i bobl y gogledd o ran Betsi Cadwaladr? Diolch i chi.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Felly, fe fyddwn i'n anghytuno â'ch rhagdybiaeth sylfaenol chi nawr o ran bod Llywodraeth Cymru â'i blaenoriaethau yn y mannau anghywir. Fe gynhaliwyd yr ymarfer hwn yn ei gyfanrwydd ar sail ystod o flaenoriaethau ac ystod o egwyddorion a oedd yn ymwneud ag amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus ac amddiffyn y bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed, yn arbennig o ran yr argyfwng costau byw, a diogelu swyddi hefyd. Y rhain, yn fy marn i, yw blaenoriaethau pobl Cymru, ac mae hi'n dristwch i mi nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn ystyried y rhain yn flaenoriaethau ac yn mynegi bod y blaenoriaethau hyn yn y mannau anghywir.

O ran y GIG, mae'r GIG wedi bod yn gwneud penderfyniadau anodd ers blynyddoedd bellach, ac fe wnaeth hynny oherwydd cyni a'r gwariant cyhoeddus cyfyngedig yr ydym ni wedi gallu ei roi ar y GIG a'r gwasanaethau cyhoeddus i gyd yng nghyd-destun cyni. Ond wedi dweud hynny, fe fydd y GIG yn gweld cynnydd, eleni ac o flwyddyn i flwyddyn, o fwy na £800 miliwn o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol. Ond nid yw hynny fyth yn ddigon, nid yw'n ddigon i ysgafnu'r pwysau ar iechyd, nid yw'n ddigon i ddarparu'r math o wasanaeth y byddem ni'n hoffi ei gynnig i bawb. Ond dyna yw ein sefyllfa ni, ac felly rydym ni'n blaenoriaethu'r GIG ac yn gofyn i gydweithwyr wneud penderfyniadau anodd ar draws y Llywodraeth i gyflawni hynny. Mae'r pwysau yn bodoli oherwydd chwyddiant ac yn sgil blynyddoedd lawer o danfuddsoddi gan Lywodraeth y DU yn y gwasanaethau cyhoeddus.

15:20

Felly, dyna doriad o £37.5 miliwn i'r gyllideb materion gwledig ar draws cyllid refeniw a chyfalaf, ac rwy'n siŵr y bydd honno'n ergyd enfawr i'r sector, oherwydd dyma ennyd o'r bregusrwydd, yr amhendantrwydd a'r ansicrwydd mwyaf i'r sector wrth i ni drosglwyddo o ffordd sefydledig o gefnogi'r sector i rywbeth sy'n newydd iawn, iawn ac yn heriol iawn, iawn. Nid ydym ni wedi gweld y manylion eto. Pan fyddwn ni'n gwneud hynny, ni synnwn i fawr pe caiff rhywfaint o'r toriad ei gyfiawnhau gan danwariant dichonadwy oherwydd nifer fach yn manteisio ar gynllun Cynefin Cymru. Wrth gwrs, pa byddai nifer fach yn manteisio arno, fe wyddem ni'n union pam felly: oherwydd y ffordd anniben y mae'r Llywodraeth hon wedi cyflwyno'r cynllun hwnnw, gyda chwestiynau heb eu hateb, mapiau anghywir, amwysedd o ran cyfraddau cyllido sy'n tanseilio unrhyw hyder y byddai'r sector yn ei gael wrth fynd i mewn i'r cynllun hwnnw, ac o ganlyniad i hynny, maen nhw'n pleidleisio gyda'u traed. Felly, ni ddylai hi fod o unrhyw syndod, er gwaethaf yr hyn y mae'r Gweinidog yn ceisio ei daflu i mewn.

Rydych chi'n dweud yn y ddogfen a gyhoeddwyd gyda'ch datganiad chi y bydd yna

'oblygiadau bach iawn i ddarparu cynlluniau sefydledig presennol gydag effeithiau bach ar lefel busnes fferm unigol.'

Rwyf i'n anghytuno â hynny. Mae digonedd y gallasid ei wneud gyda'r arian hwn. Rydym ni'n edrych ar bethau fel cynllun dolur rhydd feirysol y gwartheg. Mae Gwaredu BVD wedi bod yn crefu am arian. Fe allech chi fod wedi defnyddio rhywfaint o hwnnw. Yn yr un modd gyda'r clafr—

[Anghlywadwy.] Felly, fy nghwestiwn i yw hwn: rydych chi'n rhoi'r sector ar y rheng flaen o ran cyflwyno polisïau newid hinsawdd, yr argyfwng natur, gan ddal ati i roi bwyd ar ein byrddau ni, felly a wnewch chi roi sicrwydd i ni—[Torri ar draws.]

Fe garwn i'r Aelod ofyn ei gwestiwn, oherwydd fe aeth ymhell dros ei amser yn barod, ac mae angen iddo ofyn ei gwestiwn.

A wnewch chi roi sicrwydd i ni na fydd y niferoedd bychain sy'n manteisio ar gynllun Cynefin Cymru nac unrhyw danwariant o ganlyniad i hynny yn effeithio ar ystyriaethau o ran cyllid i'r dyfodol?

Fel rwyf i'n ei deall hi, mae'r cynllun hwnnw'n dal i fod yn agored i geisiadau, felly, yn amlwg, fe fyddem ni'n annog pobl i gyflwyno eu ceisiadau nhw i'r cynllun arbennig hwnnw. Ac fel rydych chi'n ei weld yn y ddogfen a gyhoeddwyd heddiw ac a ddyfynnwyd ohoni hi, fe ddaeth y tanwariant hwn i'r amlwg yn sgil y llinellau penodol hynny yn y gyllideb.

Fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma. Yn fy marn i, y peth hawsaf yn y byd i Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yw codi ar eu traed ac awgrymu ffyrdd amgen o gwrdd â gofynion y gyllideb, ac rwy'n credu y dylai'r Aelodau, mewn gwirionedd, longyfarch y Gweinidog ar y gwaith a wnaeth hi gyda'i chyd-Aelodau. Fe ddaw hyn o ganlyniad i gamreolaeth economaidd Dorïaidd, ac nid oes diben ceisio gwneud esgusodion ar gyfer unrhyw beth arall. Fe welsom ni effaith camreolaeth y Torïaid flwyddyn yn ôl, ac mae pob un ohonom ni'n gweld effaith hynny bob dydd heddiw.

Fe geir cwestiwn difrifol yn hyn o beth y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef, er hynny, oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ymdrin ag ef yma yw canlyniadau system ariannol doredig yn y Deyrnas Unedig. Fe wyddom ni y bydd Brexit yn golygu trethi uwch ar symiau llai o incwm. Fe wyddom ni hynny; mae'r economi yn llai o ganlyniad i Brexit. Felly, mae angen i unrhyw un sy'n gofyn am gyllid ychwanegol i unrhyw ran o'r sector gwasanaethau cyhoeddus egluro o ble y bydd yr arian hwnnw'n dod, ac ni allwch chi ariannu'r GIG ar sail cwpl o arwyddion ffyrdd, ni waeth beth mae'r Torïaid yn ei gredu. Gadewch i mi ddweud hyn—

Mae angen i ni fynd i'r afael â fformiwla Barnett, nad yw'n darparu cyllid teg i Gymru; mae angen i ni fynd i'r afael â'r Trysorlys, sy'n adran o'r Llywodraeth sy'n methu o dan bob gweinyddiaeth; ac mae angen i ni fod â dosbarthiad teg ac ailddosbarthiad cyllid ledled y Deyrnas Unedig, yn ogystal â'r rhyddid i alluogi Llywodraeth Cymru—

15:25

[Anghlywadwy.] —i fenthyg a chyflawni'r rheolaeth ariannol sydd ei hangen i reoli cyllideb o £20 biliwn.

A ydych chi'n cytuno?

Rwy'n hapus iawn i gytuno â sylwadau Alun Davies nawr, ac yn enwedig y rhai ynglŷn â'r angen i'r system fod yn ddigon hyblyg i'n galluogi ni i reoli ein cyllideb yn y ffordd orau bosibl. Felly, mae'r fframwaith cyllidol fel mae ar hyn o bryd yn rhoi rhai pwerau i fenthyca i ni ac mae'n rhoi cronfa wrth gefn i ni, ond mae gwerth gwirioneddol y rhain wedi gostwng 17 y cant ers y rhoddwyd nhw ar waith, a phob blwyddyn sy'n mynd heibio, mae hyn yn ei gwneud hi'n anos defnyddio'r arfau hynny yn y ffordd orau.

Yr hyn yr wyf i am ei ddweud yw: yn ddiweddar mae Llywodraeth yr Alban wedi cynnal adolygiad o'i fframwaith cyllidol drwy'r systemau gyda Llywodraeth y DU, ac mae Llywodraeth y DU wedi gweld yn dda i ddarparu'r cynnydd hwnnw i Lywodraeth yr Alban nawr yn unol â chwyddiant, ac rwy'n credu mai dyna'r lleiafswm y dylai Lywodraeth y DU ei ddarparu i ni. Nid yw hynny'n rhywbeth sy'n gofyn am agor y cytundeb yn ei holl gyflawnder; nid rhywbeth a ddylai gymryd 18 mis mohono; mae'n rhywbeth y byddai Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, pe bai hwnnw'n bragmatig, yn ei gytuno i ni ar unwaith, oherwydd dim ond gofyn am y swm lleiaf un yw hynny.

Yr hyn yr ydym ni'n gofyn amdano eleni, sy'n rhywbeth nad ydym ni wedi gofyn amdano o'r blaen, yw'r newid hwnnw o gyfalaf i refeniw. Nawr mae hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn adrannau Whitehall bob blwyddyn; mae'n ei wneud yn rheolaidd, bron iawn, ond mae'n rhywbeth nad ydym ni wedi gofyn amdano erioed. Rydym ni'n gweld newidiadau o gyfalaf i refeniw, ond fe ddaw'r rhain o beiriant selsig fformwla Barnett ar amcangyfrifon atodol, ac yn y bôn rydym ni'n cael ein cyfran ni o'r hyn y cytunwyd arno ar gyfer adrannau Llywodraeth y DU. Nawr, nid yw honno'n ffordd foddhaol o ymdrin â sefyllfa fel hon. Felly, yn unol â'r canllawiau cyllidebu cyfunol, fe siaradais â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ac ysgrifennu ato, gan ofyn am y newid hwnnw o gyfalaf i refeniw i'n helpu i reoli ein cyllideb yn y flwyddyn ariannol hon, ac fe fyddem ni'n disgwyl iddo ef ddangos rhywfaint o degwch i ni a chaniatáu i ni wneud yr hyn y mae ef yn ei ganiatáu i adrannau eraill, fel byddech chi'n eu gweld nhw, ei wneud.

Yr hyn a ddywedaf i yw, o safbwynt y Prif Ysgrifennydd, pan geir cais cyfalaf i refeniw gan Weinidogion Whitehall, fe fydd ef yn eistedd i lawr gyda nhw, ac yn mynd trwy eu llyfrau nhw, ac yn eu holi nhw ynglŷn â'u cynlluniau gwario, eu dewisiadau, ac ati, a chraffu, ond ni allwn ni ganiatáu i hynny ddigwydd yn ein hachos ni, oherwydd wrth gwrs, swyddogaeth y Senedd hon yw craffu ar Lywodraeth Cymru a'n dewisiadau ni o ran gwariant, ac nid swyddogaeth Llywodraeth y DU yw gwneud hynny. Felly, fe fyddwn ni'n parhau i gael y trafodaethau hyn gyda'r Trysorlys a byddai unrhyw gefnogaeth y gallem ni ei chael gan gyd-Aelodau o unrhyw liw gwleidyddol o ran y trafodaethau hynny, rwy'n credu yn cael croeso mawr.

Diolch i chi am eich datganiad ac i'ch swyddogion a chwithau am gwrdd â mi hefyd. Roeddwn i'n falch o weld bod y Grant Cynnal Refeniw wedi cael ei ddiogelu, yn enwedig gwasanaethau plant, ac rwy'n gwybod ein bod ni i gyd wedi bod yn poeni amdanyn nhw, ac rwy'n ddiolchgar am yr ymrwymiad parhaus i'r cynllun incwm sylfaenol cyffredinol i'r rhai sy'n gadael gofal, fel gallwn ni weld eisoes, sydd wedi trawsnewid bywydau rhai o'r plant mwyaf agored i niwed yma yng Nghymru. Felly, rwy'n ddiolchgar o weld y bydd y cynllun parhaus hwnnw'n cael ei ariannu.

Ond tybed a wnewch chi roi sylwadau ar gydnerthedd ariannol Llywodraeth Cymru wrth symud ymlaen. Fel gwyddoch chi, nid wyf i'n fedrus iawn o ran mathemateg nac economeg, ond fe wn i pe byddech chi'n gwario eich cronfeydd wrth gefn, mai dim ond un waith y gallwch chi wneud hynny, ac rwy'n nodi yn eich datganiad chi y byddwch chi'n cael £100 miliwn a mwy oddi wrth gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru. Felly, tybed a fyddech chi'n gwneud sylw ar y materion sy'n wynebu cyllideb Llywodraeth Cymru wrth symud ymlaen, os yw honno'n parhau i fod yn rhaglen yr ydych chi'n mynd i'w defnyddio.

Diolch i chi am gydnabod pwysigrwydd diogelu'r grant cynnal refeniw, yn enwedig i'r graddau y mae'n cefnogi plant ac yn enwedig felly drwy'r ysgolion, ond drwy wasanaethau plant ac ati hefyd. Rwy'n credu bod honno wedi bod yn fan cychwyn bwysig iawn yn ein golwg ni wrth i ni ddechrau rhoi ystyriaeth i'r ymarfer hwn.

Rwy'n credu bod y pwyntiau ynglŷn â chydnerthedd yn dychwelyd at bwynt a wnaeth Alun Davies mewn gwirionedd, ynglŷn â bod â system sy'n gadarn ac sy'n ein galluogi ni i ymateb, ac sy'n ein galluogi i fod yn hyblyg yn wyneb heriau anodd. Felly, nid yw maint cronfa wrth gefn Cymru ar hyn o bryd yn addas i'n hanghenion; dyna £350 miliwn ar gyllideb o dros £20 biliwn, ac nid yw wedi cynyddu ers iddi gael ei phennu. Felly, fe fyddai'r pethau syml hynny fel y Trysorlys yn cynyddu codiad i roi ei werth gwirioneddol heddiw, ac yna cynyddu yn unol â chwyddiant yn y blynyddoedd i ddod, rwy'n credu, yn fan cychwyn da ac ymarferol.

15:30

Er eglurder, ar y meinciau hyn, rydyn ni'n cefnogi gallu Llywodraeth Cymru i gynnal cyfnewidiadau cyfalaf i refeniw. Ond, Gweinidog, o fewn fy mhortffolio cysgodol, ni fydd yn syndod bod fy llygaid wedi'u tynnu, yn y ddogfen 'Diweddariad ar sefyllfa ariannol 2023-2024', ac ar ôl gwrando ar eich datganiad, i'r ffaith y bydd y gyllideb gyfalaf materion gwledig yn cael ei thorri 50 y cant—toriad o £20.2 miliwn—ynghyd â thoriad o £17.3 miliwn i refeniw. Mae hynny'n doriad o £37.5 miliwn i gyfanswm y gyllideb materion gwledig, sy'n gyfanswm o ryw 10 y cant o gyfanswm y gyllideb, sydd bellach wedi'i golli oherwydd Llywodraeth Cymru, oherwydd na wnaethon nhw wrando ar y cyngor na'r rhybuddion gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, oherwydd, yn y pen draw, Llywodraeth Cymru sy'n gwybod orau.

Gofynnodd Llyr y cwestiynau o ran ariannu prosiectau yn y dyfodol, ond nid ydym yn gwybod eto beth yw cyfanswm y gyllideb ar gyfer cynllun Cynefin Cymru. Felly, o ystyried eich bod wedi gwneud y datganiad hwn heddiw, a ydych chi mewn sefyllfa i gyhoeddi beth yw'r gyllideb ar gyfer cynllun Cynefin Cymru? A ydym mewn sefyllfa i glywed gan y Llywodraeth heddiw, neu'r wythnos hon, beth fydd ffermwyr yn cynnig amdano o gyfanswm y gyllideb honno? Diolch.

Fe ddechreuaf drwy ddiolch i'r Aelod am y cymorth y mae wedi'i gynnig o ran ein cais i Lywodraeth y DU am y gyfnewidiad cyfalaf i refeniw. Mae hynny'n cael ei groesawu'n gynnes. Gobeithio y byddwch chi hefyd yn ein cefnogi ni—rwy'n sicr y byddwch chi—yn ein cais i Lywodraeth y DU gynnal cyllid priodol ar gyfer ffermio mewn rowndiau cyllideb yn y dyfodol hefyd, oherwydd dyna rai o'r trafodaethau rydyn ni wedi bod yn eu cael, gan edrych ymlaen at y cyfnod adolygu gwariant nesaf.

O ran y cwestiwn penodol, mae arnaf ofn na allaf ei ateb heddiw, ond fe wnaf ofyn i'r Gweinidog ystyried eich sylwadau, ac rwy'n siŵr y bydd yn gwneud cyhoeddiad pan fydd hi'n gallu.

Yn gynharach, roedd y Prif Weinidog, mewn ymateb i gwestiwn gen i ar y gefnogaeth i deuluoedd a phlant mewn tlodi, yn sôn am bwysigrwydd cynnig gofal plant a chinio ysgol am ddim i blant cynradd drwy'r cytundeb gyda Phlaid Cymru. Soniodd mewn termau cryfion am ei siom a'i boen meddwl am y ffaith bod yna deuluoedd mewn tlodi yn ei chael hi mor anodd yma yng Nghymru. Sonioch chi fod cefnogi aelwydydd sydd wedi'u taro galetaf yn un o'r egwyddorion a ddefnyddioch chi wrth ddod i'ch penderfyniadau—teuluoedd â phlant yw'r rheini. 

Felly, rhaid gofyn pam nad yw'r arbedion sydd ar gael yn y cyllidebau sy'n gallu mynd i'r afael â thlodi plant, sef y gyllideb blynyddoedd cynnar a chynnig gofal plant—dros £16 miliwn—a'r hyn sydd ar gael o'r gyllideb prydiau bwyd am ddim—£11.5 miliwn—nawr yn cael eu defnyddio i sicrhau llwyddiant strategaeth tlodi plant y Llywodraeth. Weinidog, mae tlodi yn creu anghydraddoldeb, yn cloi plant i mewn i'r anghydraddoldeb hwnnw, a hynny am genedlaethau. Felly, o ran y toriad hefyd i'r gyllideb cydraddoldeb, cynhwysiant a hawliau dynol, pa raglenni yn benodol fydd yn cael eu hoedi neu eu hisraddio? Beth yw asesiad y Llywodraeth o effaith hyn oll ar deuluoedd sy'n byw mewn tlodi?

Rwy'n ddiolchgar am y sylwadau hynny. Byddwn i'n eich cyfeirio at yr ymateb a wnes mewn perthynas â phrydau ysgol am ddim a'r ffaith bod honno'n gyllideb sy'n cael ei harwain gan alw. Rydym yn disgwyl ateb y galw, ac os bydd y galw'n tyfu, yna bydd gennym systemau ar waith i allu darparu cyllid ychwanegol i ateb y galw hwnnw. Felly, rwyf am roi'r sicrwydd hwnnw.

O ran y blynyddoedd cynnar, rydym yn rhyddhau £16.131 miliwn o'r cyllidebau sy'n cefnogi'r blynyddoedd cynnar, gofal plant a gweithgareddau chwarae, ond mae'r rhan fwyaf o'r cyllid hwnnw wedi'i ryddhau o ganlyniad i ragolygon wedi'u diweddaru ar y nifer sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant i Gymru. Mae'r cynnig hwnnw, sy'n darparu gofal plant wedi'i ariannu ar gyfer plant tair a phedair oed, yn cael ei arwain gan alw, gydag amrywiadau blynyddol yn nifer y teuluoedd cymwys, nifer y teuluoedd sy'n manteisio ar eu hawl, a nifer yr oriau o ofal plant a ddefnyddir gan yr aelwydydd hynny. Rydym yn monitro'r galw yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r cyllid hwnnw, ac, ar yr achlysur hwn, rydym mewn sefyllfa i ryddhau'r gwariant is a ragwelir, sy'n dod i'r amlwg, heb effaith ar y gallu i gyflawni na'r fynediad i'r ddarpariaeth.

Rydym hefyd wedi gweld rhagamcanion gwariant is ar y rhaglen integreiddio a thrawsnewid blynyddoedd cynnar, ac rydym yn lleihau rhywfaint o'r cymorth a gynlluniwyd ar gyfer gweithgareddau hyfforddi ar draws y gweithlu gofal plant a chwarae yn ystod y flwyddyn fel rhan o'r rhaglen hyfforddiant a chymorth ehangach. Rydym wedi cynnal cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau a hyfforddiant statudol sy'n ofynnol drwy'r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir, gan flaenoriaethu ansawdd a diogelwch y ddarpariaeth.

Ond mae'r pwynt a wnaed am ddeall yr effaith ar bobl â nodweddion gwarchodedig, ar deuluoedd ac yn y blaen, yn bwysig iawn. Dyna pam, ochr yn ochr â'r gyllideb atodol, pan fydd llawer o'r rhannau symudol hyn wedi cronni, byddaf yn darparu atodiad i'r asesiad effaith integredig strategol, fel y gallwn adeiladu ar y ddogfen a ddarparwyd gennyf heddiw, ond darparu mwy o fanylion o ran effaith, a hefyd yr effeithiau rhyngadrannol hynny ar bobl sydd â mwy nag un nodwedd warchodedig. Felly, hoffwn sicrhau cydweithwyr y bydd hynny'n cael ei ddarparu yn y gyllideb atodol.

15:35

Mae'n amlwg o'ch datganiad, Gweinidog cyllid, ein bod yn wynebu cyfnod heriol iawn, yn enwedig oherwydd camreoli Llywodraeth y DU. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael i ni er mwyn cael yr effaith orau bosibl. Mae angen i ni fuddsoddi i arbed, a'n gwaith ni fel Aelodau nad ydynt yn y Llywodraeth yw craffu ar y ffordd yr ydym yn gwario arian, a meddwl am ffyrdd y gallwn ni ei wario'n well. Felly, mae'n amlwg i mi, os ydym ni am wneud pethau newydd neu arloesol, bod yn rhaid i ni roi'r gorau i wneud pethau eraill. Clywsom gan y Prif Weinidog faint mae'r cyllid a geir trwy drethi wedi cynyddu ac mae'r ddyled wedi cynyddu. Nid oes unrhyw beth yn mynd i newid o ran hynny am sawl blwyddyn, pwy bynnag sy'n ymgymryd â'r Llywodraeth ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Es i ar daith i fro atgofion i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr oeddwn i'n arfer gwasanaethu arno yn y pedwerydd Senedd, dan gadeiryddiaeth fedrus Darren Millar. Gwnaethom edrych ar gyllidebau comisiynwyr yn ogystal â'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn ôl yn 2015—

—gwnaethom argymell ymdrechion i sicrhau effeithlonrwydd a mwy o gynhyrchiant drwy gydweithio, gan gynnwys integreiddio swyddogaethau swyddfa gefn rhwng y comisiynydd a'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Ac eto fe wnaeth yr adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ym mis Gorffennaf eleni nodi camau mân iawn i'r perwyl hwn. Meddwl oeddwn i tybed pa sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda'r cyrff hyd braich hyn i sicrhau eu bod yn sicrhau'r effaith fwyaf bosibl o'u cyllidebau, yn hytrach nag ailadrodd, gyda'r un gwasanaethau mewn gwahanol leoliadau. Gallen nhw i gyd gael eu lleoli yn yr un mannau, ledled Cymru—

—ond hefyd bod â'r gwasanaethau swyddfa gefn i gyd wedi'u cyfuno mewn un gwasanaeth.

Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod â diddordeb mawr mewn clywed eich pwyntiau; rwy'n gwybod eich bod wedi eu gwneud iddi o'r blaen hefyd, o ran rhannu'r swyddogaethau swyddfa gefn hynny ymhlith y comisiynwyr. Rhywbeth yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd yw edrych ar draws ystad Llywodraeth Cymru, i weld beth gallwn ni ei ryddhau i bartneriaid sector cyhoeddus eraill ei ddefnyddio. Er enghraifft, rydym yn gweld rhywfaint o hynny'n digwydd nawr ym Mharc Cathays, ac rwy'n credu bod yna, yn bendant, fwy y gallwn ni ei wneud yn y maes hwnnw. Mae Ystadau Cymru yn fecanwaith pwysig iawn i'n helpu i wneud hynny. Maen nhw'n hybu rhagoriaeth o fewn yr ystad gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hynny'n rhannol ynghylch sicrhau, am lu o resymau, y gall sefydliadau gydleoli. Yn y pen draw, mewn gwirionedd, mewn llawer o achosion, mae'n rhoi gwell gwasanaethau i bobl hefyd, pan fydd pobl yn gallu cael y sgyrsiau wyneb yn wyneb hynny a gweld ei gilydd yn amlach. Felly, mae'r math yna o waith yn mynd rhagddo, yn sicr ar lefel ystad, drwy Ystadau Cymru a thrwy ein rheolaeth ni ein hunain o ystad Llywodraeth Cymru. Ond bydd eich pwynt ehangach am y swyddogaethau swyddfa gefn hynny, rwy'n gwybod, wedi cael ei glywed yn sicr gan y Gweinidog.

Tybed a allech chi ymhelaethu ar rai o'r cwestiynau a grybwyllodd fy nghyd-Aelod Sioned Williams, a hefyd Peredur, o ran deall yr effaith. Rydym yn falch y byddwch yn cyhoeddi rhagor o ddata, ond a allwch chi rannu'r asesiad effaith ar gydraddoldeb gyda ni, yn enwedig o ran yr effaith ar gyllidebu rhywedd? Os gallech chi, rhowch unrhyw sicrwydd os gwelwch yn dda. Oherwydd ar gyfer nifer o'r rhaglenni hyn, rydych chi wedi sôn eu bod yn wasanaethau sy'n cael eu harwain gan alw, ond maen nhw'n ymyriadau wedi'u targedu i fynd i'r afael â phroblemau presennol o ran anghydraddoldeb a thlodi. Rwy'n bryderus iawn o weld y toriadau hynny, ac os nad cymaint â hynny yn manteisio arnyn nhw, sef y pwynt a wnaed gan Peredur Owen Griffiths, yna mae'n siŵr y dylem ni fod yn cwestiynu pam nad yw'r ymyriadau hynny'n llwyddiannus.

Hefyd, o edrych ar addysg, mae gwir angen athrawon arnom, ond nid yw'r nifer sy'n manteisio yno, felly gellir rhyddhau arian. Dyna'r hyn a ddywedir yn y datganiad yno. A allwn ni ddeall am brentisiaethau ac yn y blaen? Roeddech chi hefyd yn sôn nad ydych yn gofyn am gyllid ychwanegol, ond rydym ni i gyd yn cytuno yma nad yw Cymru'n derbyn ei chyfran deg o ran HS2, Ystad y Goron, dŵr, fformiwla Barnett, pob un o'r rheini. Felly, os gwelwch yn dda, a allwch chi hefyd esbonio sut rydych chi'n sefyll dros Gymru i sicrhau bod gennym ni'r adnoddau rydyn ni'n eu haeddu, fel nad ydyn ni'n effeithio ar, ac yn torri, sefyllfaoedd y mae taer eu hangen ar ein cymunedau? Ac mae'r pwynt am dlodi yn un sy'n hanfodol yma. Rwy'n poeni'n fawr y bydd yr ymyriadau hyn sydd eu hangen yn cael eu colli.  

15:40

Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau hynny. Fel y soniais i, byddwn ni'n cyhoeddi'r atodiad i'r asesiad effaith integredig strategol. Ond mae ein dull ni o ymdrin â'r ymarfer wedi ymwneud â dyrannu cyllid ac asesu effeithiau strategol a chronnol y dewisiadau a wnawn, er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth briodol o'r effeithiau ac nad oes effaith anghymesur ar unrhyw un grŵp penodol o bobl neu unrhyw un nodwedd benodol. Wrth ymgymryd â'r dull gweithredu, byddwn ni—ac rydym ni wedi bod—yn ystyried ein dyletswyddau statudol ac, hefyd, ein dyletswyddau anstatudol, yn enwedig Deddf Cydraddoldeb 2010, dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yna iechyd, cyfiawnder, asesiadau amgylcheddol, bioamrywiaeth, prawfesur gwledig, a'r Gymraeg. Rydym yn ceisio, wrth ddeall yr effeithiau, edrych trwy'r lensys hynny i gael y math hwnnw o ddarlun cywir.

O ran yr hyn rydyn ni'n ei wneud, nid yw yr ymarfer hwn heddiw yn ymwneud â gofyn am fwy o arian; mae'n ymwneud â hyblygrwydd i ddefnyddio'r arian sydd gennym. Ond nid yw hynny'n golygu nad ydym yn gofyn i Lywodraeth y DU am yr arian sydd ei angen arnom. Rwyf wedi ysgrifennu at y Canghellor, cyn datganiad yr hydref, i amlinellu'r blaenoriaethau i Gymru, a dweud bod yn rhaid i hynny ymwneud â buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a mynd i'r afael ag effeithiau chwyddiant ar ein cyllideb, gan gynnwys nodi'r pwysau ar lywodraeth leol, parhau i ddarparu cymorth costau byw, gan gynnwys gweithredu gwarant ar gyfer hanfodion a fyddai'n sicrhau bod pobl yn gallu talu eu costau hanfodol, a hefyd cynyddu'r cyllid dewisol ar gyfer taliadau tai a chyfraddau lwfans tai lleol. Hefyd, yn y llythyr hwnnw at y Canghellor, soniais am ailddosbarthu HS2 fel prosiect yn Lloegr yn unig, gan sicrhau bod Cymru'n derbyn y cyllid canlyniadol a gollwyd hyd yma—y £270 miliwn—ac, hefyd, wedyn, cynnal adolygiad ehangach o gymhariaeth rheilffyrdd ac ymrwymo i fuddsoddi mewn rhaglen ehangach o fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru, gan ddarparu'r seilwaith sydd ei angen arnom. 

Diolch. Mae hwn yn gyfuniad gwenwynig o ddegawd o gyni, cam-reoli'r economi gan y Ceidwadwyr, Brexit a phwysau chwyddiant sy'n deillio o gyllideb drychinebus Truss. Nid wyf yn genfigennus o'r penderfyniadau y mae'n rhaid i chi eu gwneud, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen a'r rhai mwyaf agored i niwed.

Mae gwasanaethau cyhoeddus wrth galon ein cymunedau. Maen nhw'n ein cadw ni'n ddiogel ac yn iach. Er hynny, nhw yw'r cyntaf i gael eu torri a'u heffeithio gan benderfyniadau Llywodraeth y DU ers 2010, pan wnaethon nhw gyflwyno Brexit, ac maen nhw'n hynod fregus. Yn ogystal â Llywodraeth Cymru sy'n wynebu £900 miliwn o bwysau, mae'n rhaid i gynghorau ddod o hyd i £600 miliwn i £700 miliwn mewn arbedion, oherwydd pwysau chwyddiant y Llywodraeth Dorïaidd, ac maen nhw'n mynd trwy broses arall o wneud penderfyniadau anodd eto. Rwy'n falch, Gweinidog, y bydd y grant cynnal refeniw yn cael ei ddiogelu. Diolch am hynny. 

Rydyn ni'n aml yn clywed am benderfyniadau cyllido gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr pan nad oes unrhyw arian canlyniadol i Gymru, fel gyda HS2. Rydyn ni hefyd yn clywed am brosiectau penodol eraill, fel y cynllun tocyn bws £2, ac rwy'n meddwl, 'Sut maen nhw'n gallu fforddio hynny?' Felly, rwy'n dweud, Gweinidog, o'ch gohebiaeth â'ch swyddogion cyfatebol yn y DU ar y materion hyn, a wnewch chi egluro pam nad yw'r cyllid hwn wedi bod ar gael bob amser? Mae'n ymddangos ei fod yn dod i'r golwg lawr cefn soffas pan fydd ei angen fwyaf ar gyfer Cymru. A pham nad ydyn nhw'n meddwl am Gymru hefyd, yn ogystal â Lloegr, gyda'r arian hwn? Diolch. 

Diolch. Rwy'n credu bod rhai o'r problemau'n ymwneud â—rydyn ni wedi'i weld gyda HS2, on'd ydyn ni—y ffactorau cymaroldeb, ac mae hynny'n fater arbennig o ddifrifol o ran y rheilffyrdd. Ond rhan arall yn unig yw'r diffyg tryloywder yn ystod y flwyddyn. Rydym yn gwneud penderfyniadau anodd iawn nawr, bydd byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau anodd iawn. Mae llawer o'n cynlluniau yr ydym yn dibynnu arnyn nhw ar hyn o bryd yn ymwneud â rhai rhagdybiaethau. Rydym wedi gwneud rhagdybiaethau ynghylch cyfnewid cyfalaf i refeniw, rydym wedi gwneud rhagdybiaethau ynghylch cyllid ychwanegol mewn perthynas â chyflog y GIG fel symiau canlyniadol ac yn y blaen. Ni ddylem orfod aros tan fis Chwefror mewn blwyddyn ariannol i ddeall sut olwg sydd ar ein cyllideb wirioneddol ar gyfer y flwyddyn honno, ond dyna'r sefyllfa yr ydym yn cael ein hunain ynddi. Rydym wedi bod â blynyddoedd blaenorol lle mae ein cyllideb gyfalaf wedi cael ei thorri £100 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, felly mae'n rhaid i chi ddarparu ar gyfer hynny. Ni ddylai fod y sefyllfa ei bod hi'n fis Chwefror cyn i ni ddeall yn iawn beth yw ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn honno, oherwydd fe allech chi golli cyfle i wario o fewn y flwyddyn ariannol. Yn yr un modd, fe allech chi wneud y penderfyniadau anodd hyn a darganfod ym mis Chwefror, mewn gwirionedd, nad oedd angen i chi fod wedi creu'r math hwnnw o boen yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n credu bod mwy o dryloywder yn gwbl hanfodol.

15:45
4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd Rhanbarthol

Eitem 4 yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar ddatblygu economaidd rhanbarthol. Galwaf ar Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething. 

Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i amlinellu'r cynnydd yr ydym yn ei wneud i gefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol cryfach ledled Cymru. Bydd yr Aelodau newydd glywed y datganiad diweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn amlinellu difrifoldeb y sefyllfa ariannol yr ydym yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Costau cynyddol, dros ddegawd o gyni—mae'r rhain i gyd yn effeithio ar fusnesau a chymunedau ledled Cymru ac yn bygwth ein huchelgeisiau ar gyfer dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach.

Dirprwy Lywydd, mae'n hynod rwystredig bod ffrydiau ariannu ôl-UE anghyson, tymor byr wedi eu hoedi ac sy'n cael eu penderfynu yn Whitehall yn rhwystro gweithio rhanbarthol ac yn tanseilio'r cyd-gysylltiad llyfn y mae pobl, buddsoddwyr a chymunedau ei angen a'i ddisgwyl. Yn erbyn y cefndir hwn, rwy'n awyddus i ailddatgan ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, busnesau, undebau llafur a phartneriaid ehangach i roi cymaint o sicrwydd â phosibl o dan yr amgylchiadau heriol hyn. Rwyf hefyd yn ailadrodd heddiw y gallai Llywodraeth y DU ddewis dychwelyd arian ôl-UE i Gymru, at Lywodraeth Cymru, i fod yn destun craffu gan y Senedd hon. Byddai hynny'n ategu, nid gwrth-ddweud, y weledigaeth hirdymor a rannwyd yr ydym wedi'i datblygu ar lefel ranbarthol ledled Cymru.

Mae ein hymrwymiad i weithio rhanbarthol yn bodoli i sicrhau y gellir gwneud mwy o benderfyniadau yn agosach at gymunedau, gyda chenhadaeth a rennir i helpu mwy o bobl i gynllunio dyfodol uchelgeisiol mewn Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Cyhoeddwyd ein fframweithiau economaidd rhanbarthol ym mis Rhagfyr 2021. Fe'u lluniwyd ar y cyd â phartneriaid ac maent yn seiliedig ar dystiolaeth a chytundeb. Maent yn amlinellu gweledigaeth ar y cyd ynghylch cyfres gyffredin o flaenoriaethau economaidd ac ymrwymiad i gydweithio i hybu cryfderau presennol a datgloi potensial newydd.

Dirprwy Lywydd, mae ein gwaith ar bedair bargen ddinesig a thwf Cymru yn canolbwyntio ar weithio'n agos sy'n manteisio i'r eithaf ar ein cryfderau, gan gynnwys yr economi bob dydd, gyda phrosiectau a rhaglenni sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Yn y de-ddwyrain, rydym yn gweithio gyda phartneriaid dibynadwy i ddatblygu meysydd twf allweddol, gan gynnwys seiber, diwydiannau creadigol a thechnoleg ariannol i adeiladu ar y llwyddiant presennol i gefnogi twf a swyddi newydd o ansawdd. Mae'n werth myfyrio heddiw y bu cyhoeddiad pellach bod PwC yn buddsoddi ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, gydag o leiaf 1,000 o swyddi eraill, unwaith eto yn dod o'r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn y brifddinas-ranbarth honno. Rwy'n falch bod cydweithio rhwng prifddinas-ranbarth Caerdydd a Cymru Greadigol wedi arwain at fuddsoddiad newydd yn Seren Stiwdios yn ddiweddar, gan ddatgloi cannoedd o swyddi newydd mewn sector twf pwysig.

Mae clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Casnewydd yn cynrychioli cryfder rhanbarthol gydag effaith fyd-eang mewn sector sydd ar drobwynt. Mae'r byd yn talu sylw i'r rhan y bydd y rhanbarth hwn, a'r gweithlu medrus y mae mor falch ohono yn ei chwarae wrth hybu cyflenwad y cynhyrchion y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt yn ein bywydau bob dydd. Bydd economi sero net yn dibynnu fwyfwy ar y dechnoleg hon. Rydym yn uchelgeisiol ynghylch y potensial y mae'n ei gynnig i bobl greu gyrfaoedd rhagorol, yn agosach at adref. Roeddwn yn falch iawn o weithio gyda'r awdurdod lleol a KLA i helpu i sicrhau eu cynlluniau buddsoddi a fydd yn gweld cannoedd o swyddi newydd yn y sector hwn yn cael eu creu ar safle KLA sydd wedi ehangu. Yn fwy diweddar, rwyf wedi ei gwneud yn glir i Weinidogion y DU ein bod yn awyddus i weld lefel ystyrlon o ymrwymiad ariannol i'r maes hwn—nid yn unig y sector, ond i'r maes hwn ac i'r clwstwr hwn y tu allan i Gasnewydd—o strategaeth lled-ddargludyddion newydd y DU. Rwy'n edrych ymlaen at weld a fydd hynny'n digwydd.

Dirprwy Lywydd, rwy'n parhau i gwrdd yn rheolaidd ag arweinwyr ar draws y brifddinas-ranbarth. Edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ymhellach ar drafodaethau parhaus i wella cydweithio ar feysydd o flaenoriaeth gyffredin, gan gynnwys datblygu economaidd yng nghymunedau'r Cymoedd.

Wrth edrych tua'r gogledd, rwy'n falch bod hwb hydrogen Caergybi wedi dod yn rhan o fargen twf y gogledd. Mae'n cynrychioli catalydd ar gyfer sbarduno economi hydrogen y rhanbarth, gan weithredu fel angorfa strategol y tu mewn i borthladd rhydd arfaethedig Ynys Môn. Bydd yn cefnogi trosglwyddiad rhanbarthol i hydrogen gwyrdd ac yn helpu i sicrhau bod y galw rhanbarthol yn cael ei ateb gan gyflenwad rhanbarthol.

Mae Banc Datblygu Cymru, sydd â'i bencadlys yn Wrecsam, yn cynnig cefnogaeth gref i'r rhanbarth, gyda Wrecsam wedi'i rhestru fel yr ardal Rhif 1 yng Nghymru o ran cyfanswm y swm a fuddsoddwyd yn lleol yn 2022-23. Roeddwn yn arbennig o falch o weld sut mae'r gronfa sbarduno technoleg wedi cefnogi egin fusnes technoleg Môn, Explorage.com, ochr yn ochr â M-SParc. Mae hon yn enghraifft wych o fuddsoddiad sy'n tynnu i'r un cyfeiriad i helpu i gynyddu busnes newydd mewn marchnad sy'n tyfu'n gyflym.

Dirprwy Lywydd, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau yn ddiweddar ar weithgarwch datblygu economaidd yn y canolbarth, gydag enghreifftiau o fuddsoddiad yn Aberystwyth, Machynlleth, Llanfyllin, Y Trallwng a Threfyclo, ymhlith eraill. Yn ddiweddar rydym wedi rhyddhau'r gyfran gyntaf o gyllid ar gyfer bargen twf y canolbarth—carreg filltir hollbwysig a cham pwysig ymlaen. Mae hyn yn arwydd i fuddsoddwyr bod y fargen yn dechrau ar ei chyfnod cyflawni, sy'n hanfodol i'r dasg o sicrhau buddsoddiad pellach yn y sector preifat.

Yn y de-orllewin, rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu dull aml-borthladd o ymdrin â'r cyfleoedd enfawr a gyflwynir gan wynt arnofiol yn y môr Celtaidd. Mae wedi bod yn galonogol gweld y cydweithio a arweiniodd at gais porthladd rhydd Celtaidd, yn seiliedig i raddau helaeth ar y cyfleoedd yn ymwneud â gwynt, gweithgynhyrchu ac arloesi ehangach ar y môr sy'n bwysig hefyd ar gyfer dyfodol ein sector dur yng Nghymru.

Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol i nodi blaenoriaethau sgiliau rhanbarthol a lleol. Mae'r partneriaethau sgiliau hyn yn allweddol, gan ddarparu gwybodaeth am y farchnad lafur i Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar angen economaidd a photensial. Maent yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr i nodi'r sgiliau sydd eu hangen yn y gweithlu rhanbarthol i gefnogi prosiectau twf a seilwaith allweddol. Maent yn helpu i ganolbwyntio mwy ar feysydd fel sgiliau digidol, Sero Net Cymru, a'r Gymraeg, yn ogystal â blaenoriaethau strategol ar gyfer y sector addysg bellach a darparu prentisiaethau. Mae gennyf i ddiddordeb arbennig yn y potensial i droi'r cyfleoedd hyn yn ganlyniadau cyflogaeth tecach, o ystyried bod angen i'r busnes ystyried y tymor hir wrth i ni i gyd gynllunio ar gyfer dyfodol sero net.

Dirprwy Lywydd, ym mis Chwefror fe gyhoeddom ni strategaeth arloesi newydd, 'Cymru'n arloesi', fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Mae'r strategaeth yn dangos y ffordd ar gyfer dull gwahanol o arloesi yng Nghymru ar adeg o drawsnewid enfawr. Mae'n mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar genhadaeth, gan hyrwyddo cydweithredu ac arferion gorau sy'n gweithio i bob rhanbarth. Bryd hynny, fe wnaethom ymrwymo i gyhoeddi cynllun cyflawni arloesedd, yr wyf yn falch o ddweud ein bod wedi'i gyhoeddi heddiw.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth gael cymorth pwrpasol i entrepreneuriaid a busnesau, gan eu galluogi i ddechrau a thyfu ym mhob un o'n rhanbarthau. Mae'n wasanaeth cwbl ddwyieithog, hyblyg sy'n cael ei addasu i ddarparu ar gyfer ystyriaethau rhanbarthol. Fel Banc Datblygu Cymru, mae'n ddigon agos i ddeall yr angen economaidd mewn cymunedau ac yn ddigon mawr i weithredu ar raddfa fawr, gan brofi cryfder datganoli yng Nghymru.

Wrth i ni barhau i gefnogi cyd-bwyllgorau corfforedig newydd ac annog gweithio'n rhanbarthol yn ehangach, rydym yn gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fel rhan o bartneriaeth hirdymor i helpu i ddod ag ansawdd, cyngor a syniadau allanol i bolisi rhanbarthol. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen, gyda phartneriaid awdurdodau lleol yn Ynys Môn, Gwynedd, sir Gaerfyrddin a Cheredigion, ein hymrwymiad cytundeb cydweithio i Arfor 2, sy'n adeiladu ar brofiad y rhaglen gynharach. Roeddwn yn falch o drafod y rhaglen yn yr Eisteddfod eleni, wrth i ni drafod ein huchelgais i gefnogi busnesau lleol ffyniannus.

Fel rhan o'n cynllun ar gyfer twf economaidd, rwyf eisiau cryfhau'r partneriaethau unigryw sy'n dod â busnesau, awdurdodau lleol, undebau llafur, academia, y trydydd sector, a phawb sy'n cael eu cymell i greu economi Gymreig decach a gwyrddach y dylai pob un ohonom ei hadeiladu, at ei gilydd. Rydym yn rhannu dadansoddiad llawer o bobl ledled y DU bod canoliaeth economaidd yn ddifäol i ymddiriedaeth y cyhoedd, yn wael i dwf ac yn wael i fuddsoddiad mewn byd sy'n newid yn gyflym. Gyda pholisi diwydiannol clir, hirdymor ar lefel y DU, bydd Cymru mewn sefyllfa unigryw i dyfu ein heconomi gyda swyddi gwerth chweil o safon mewn cymunedau sy'n fwy diogel ac yn gadarn yn rhan o'n dyfodol economaidd a rennir. Rwy'n hapus i dderbyn cwestiynau a sylwadau gan Aelodau.

15:55

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cryfhau economïau rhanbarthol. Fel y dywedais i o'r blaen, rwy'n croesawu'n fawr symud tuag at ddull seiliedig ar le o ddatblygu economaidd, ac mae'r datganiad heddiw yn rhoi rhywfaint o fanylion i ni am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn y maes hwn.

Nawr, mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at y fframweithiau economaidd rhanbarthol a sefydlwyd er mwyn ysgogi cydweithredu ar lefel fwy lleol. Cafodd y fframweithiau hynny eu datblygu bron i ddwy flynedd yn ôl, ac felly mae'n bwysig deall yn union beth maen nhw wedi'i gyflawni a lle mae angen mwy o waith. Felly, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn asesu eu heffeithiolrwydd a pha feini prawf sy'n cael eu defnyddio i brofi a yw'r fframweithiau hynny'n cyflawni canlyniadau go iawn. Yn wir, efallai y bydd y Gweinidog yn ymrwymo i ddarparu gwybodaeth am nifer y swyddi a grëwyd, faint o fewnfuddsoddiad a gynhyrchwyd, yn ogystal â pha bartneriaethau newydd sy'n cael eu creu o ganlyniad i'r fframweithiau hyn.

Nawr, mae'r datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at y dinas-ranbarthau a'r bargeinion twf ac fel y mae'r Gweinidog wedi'i wneud yn glir, maent yn parhau i nodi a datblygu cyfleoedd ar gyfer twf. Er enghraifft, yn y gogledd rwyf hefyd yn falch bod Hwb Hydrogen Caergybi wedi dod yn rhan o fargen twf y gogledd. Rwyf hefyd yn cytuno â'r Gweinidog bod gan glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Casnewydd gyfle gwirioneddol i ddod yn arweinydd byd-eang, a bu rhywfaint o gynnydd da yn y de-ddwyrain i ddatblygu meysydd twf allweddol mewn diwydiannau seiber a chreadigol. Ac wrth gwrs, yn y de-orllewin, rwy'n gwybod bod cyfleoedd enfawr yn cael eu cyflwyno gan wynt arnofiol yn y Môr Celtaidd, ac mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar yr agenda hon. Bu rhywfaint o gynnydd da, ond mae'n hanfodol nad yw buddsoddiad yn canolbwyntio gormod ar feysydd penodol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob rhan o bob rhanbarth yn teimlo'r manteision sy'n gysylltiedig â'r bargeinion twf a dinas-ranbarthau.

Mae'r Gweinidog yn gwybod fy mod yn credu y dylai darpariaeth sgiliau fod yn flaenoriaeth i bob rhanbarth, ac rwy'n ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf am waith partneriaethau sgiliau rhanbarthol ledled Cymru. Rwy'n dal i gredu y dylai pob maes ddarparu diweddariad sgiliau blynyddol ynghyd â chynllun gweithredu ar y ffordd orau o fynd i'r afael ag unrhyw brinder sgiliau. Mae'n hanfodol bod pob rhanbarth yn deall y darlun sgiliau yn eu meysydd eu hunain, ac mae angen ymrwymiad i sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau yn diwallu anghenion y gymuned fusnes ym mhob rhanbarth. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried hyn ac, yn y cyfamser, yn dweud mwy wrthym am sut mae pob rhanbarth yn blaenoriaethu datblygu sgiliau, a sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rhanbarthau i sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau yn diwallu anghenion diwydiannau lleol ym mhob rhanbarth.

Nawr, mae'r datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at gyllid ôl-UE a'r agenda ffyniant bro, a fy marn i o hyd yw pan fydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithio, y bydd Cymru'n elwa. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog eisoes wedi darllen adroddiad rhagorol Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y pwnc penodol hwn, sydd wedi gwneud argymhellion difrifol i'r ddwy Lywodraeth ar sut y gellir cryfhau'r system a'r strwythur presennol. Rwy'n gwerthfawrogi nad yw'r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi ers tro, a gwn y bydd y Gweinidog yn ymateb yn swyddogol maes o law, ond efallai y gallai roi syniad cynnar i ni o farn Llywodraeth Cymru ar yr adroddiad hwnnw a'r argymhellion a wnaed ynddo.

Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud bod datblygu economïau rhanbarthol cryfach yn dibynnu ar greu partneriaethau cryf, lle mae'r holl randdeiliaid yn chwarae rhan lawn, ac felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog gadarnhau a yw'n credu bod partneriaid yn y sector preifat a'r trydydd sector, er enghraifft, yn cymryd rhan lawn mewn polisi economaidd rhanbarthol. Bwriad datblygu fframweithiau economaidd rhanbarthol yn benodol yw hwyluso datblygiad economaidd rhanbarthol cydweithredol, ac mae'n hanfodol ein bod yn gweld rhywfaint o dystiolaeth bod y fframweithiau hyn yn cyflawni mewn gwirionedd. Mae yna ofn bod dyblygu rhwng gwaith y bargeinion twf a dinas-ranbarthau, y cyd-bwyllgorau corfforedig a'r fframweithiau economaidd rhanbarthol, ac felly mae'n rhaid i ni gael rhywfaint o eglurder ynghylch sut mae'r rhain yn gweithio gyda'i gilydd.

Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at y strategaeth arloesi a'i chynllun cyflawni, a gyhoeddwyd heddiw. Mae gan y cynllun cyflawni hwnnw dargedau diddorol, megis cael cyfran o 3 y cant o gyllideb gystadleuol Innovate UK erbyn 2026, a 5 y cant erbyn 2030. Gan mai nod y cynllun yw cynyddu maint y buddsoddiad mewn ymchwil, datblygu ac arloesi ar draws pob sector, a sicrhau cyfran ranbarthol deg, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym sut y bydd y cynllun cyflawni yn treiddio drwodd i bolisi economaidd rhanbarthol Llywodraeth Cymru.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn grybwyll rhai o flaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, a sut mae'r blaenoriaethau hyn yn treiddio drwodd i bolisi economaidd rhanbarthol. Er enghraifft, sut mae Llywodraeth Cymru yn ysgogi ei hagenda datgarboneiddio mewn polisi datblygu economaidd rhanbarthol, a sut mae'n annog ei hegwyddorion o waith teg a chydraddoldeb, er enghraifft? Diolch.

16:00

[Anghlywadwy.]—am y gyfres hir o gwestiynau. Fe geisiaf ymdrin â nhw, a cheisio ymdrin â nhw cyn gynted â phosibl. Ers 2021, wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol, rydym wedi gweld newid sylweddol ar lefel y DU, sydd wedi effeithio'n uniongyrchol ar waith pob un ohonom—busnesau, Llywodraeth yma, yn Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a thu hwnt. Newid o ran cyfeiriad polisi, hefyd newidi o ran polisïau a seddi gweinidogol hefyd. Rydym hefyd wedi cael cyfnod o anhawster economaidd sylweddol, gyda heriau gwirioneddol yn ymwneud â chwyddiant sydd wedi newid yr amgylchedd. Rydym hefyd wedi cael llawer o ymyrraeth polisi yn torri'n fwriadol ar draws meysydd datganoledig. Rydym wedi trafod hyn sawl gwaith yn y Siambr hon a'r tu allan. Mae hynny wedi bod yn anfuddiol i fusnesau ac i'n holl ranbarthau economaidd. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanbarthau i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd ac eisiau deall sut y gallwn barhau i gynnal pwrpas a chyfeiriad o'r blaenoriaethau a rennir yr ydym wedi'u casglu ynghyd.

Efallai y gallaf ymdrin ag un o'r pwyntiau y soniodd yr Aelod amdanynt yn nes ymlaen. Nid wyf yn credu bod gwrthddywediad rhwng cytundebau twf, cyd-bwyllgorau corfforedig a fframweithiau economaidd. Cynhyrchodd partneriaethau'r fargen dwf y fframweithiau economaidd ar gyfer eu rhanbarthau; maent wedi cael eu cyd-ddylunio a'u cytuno, fel y dywedais i. Mae'n fater o gytundebau a thystiolaeth, nad yw bob amser yn nodweddu ein hymyraethau gan Lywodraeth y DU. Mae nifer o'r cytundebau twf hynny'n mudo eu llywodraethiant fel rhan o gyd-bwyllgorau corfforedig i sicrhau bod ffordd gyson o ymdrin â'r ffordd y mae partneriaid yn cael y trafodaethau hynny ym mhob ardal cyd-bwyllgor corfforedig, ac yn wir gyda phartneriaid ehangach, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Nawr, o ran bargeinion twf a lledaeniad a llwyddiant y rheini ym mhob un o'r ardaloedd, mae'n un o'r sgyrsiau rydyn ni'n eu cael. Rwy'n cwrdd â Gweinidog Swyddfa Cymru a phartneriaethau bargen twf drwy gydol y flwyddyn. Yn amlwg, mae gennym fwy o ddiddordeb yn yr ystyr bod gennym ystod o ysgogiadau a phartneriaethau datblygu economaidd gydag awdurdodau lleol sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r fargen dwf yn unig. Y pwynt o gael gwahanol awdurdodau lleol fel partneriaid yw bod gan bob un ohonynt ddiddordeb yn y rhanbarth cyfan, ond hefyd eu hardal nhw ynddo. Fel enghraifft dda, er mai arweinydd Abertawe yw cadeirydd ardal bargen twf bae Abertawe, arweinydd Torfaen, nid arweinydd Caerdydd, sy'n cadeirio bargen twf y de-ddwyrain. Ac, wrth gwrs, Dyfrig Siencyn, arweinydd Gwynedd, sy'n cadeirio'r fargen dwf yn y gogledd. Ac yn y canolbarth mae'r ddau awdurdod lleol, rwy'n credu, yn gweithio'n dda iawn gyda'i gilydd, ac rwyf wedi cwrdd â nhw yn ddiweddar ac rwy'n falch o'u gweld yn symud i'r cyfnod cyflawni.

O ran datblygu sgiliau, soniais am hyn yn y datganiad am swyddogaeth partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ac unwaith eto, rydym wedi cael gwrthddywediadau di-fudd gan Lywodraeth y DU ym maes sgiliau. Mae'r ddau wedi drysu'r dirwedd mewn ffordd nad yw'n ddefnyddiol i ddysgwyr, i ddarparwyr nac i fusnesau, ac, wrth gwrs, mae colli mwy na £1 biliwn mewn cronfeydd ôl-UE yn cael effaith wirioneddol ym maes sgiliau. O ran ein rhaglen brentisiaethau flaenorol, ariannwyd tua 30 y cant o honno gan gronfeydd blaenorol yr UE. Felly, mewn gwirionedd, mae'r dewisiadau cyllido a osodir arnom, gan gynnwys y toriadau a wnaed i'n cyllidebau gan Lywodraeth y DU, yn cael effaith wirioneddol yn y maes hwn, a byddai'n braf pe gallai Aelodau Ceidwadol bob hyn a hyn fyfyrio'n onest ar hynny. Mae'n sicr yn rhywbeth y mae busnesau a darparwyr yn ei ddeall yn dda iawn.

Fodd bynnag, rwy'n edrych ymlaen at ymateb i adroddiad y pwyllgor. Rwy'n gwybod bod gennym ddyddiad ar y gweill i mi ymateb yn ffurfiol yn y Siambr. Mae gennyf i ddiddordeb mewn gweld yr hyn y gallwn ei wneud i fodloni a mynd i'r afael ag ystod o'r argymhellion hynny. Fodd bynnag, bydd angen dull gwahanol gan Lywodraeth y DU i fabwysiadu dull mwy pragmatig ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd gennym Lywodraeth y DU yn y dyfodol nad yw'n ein gweld ni fel cystadleuwyr i'w hosgoi neu i'w rheoli, ond mewn gwirionedd yn cydnabod, os ydych chi'n mynd i ddatganoli pŵer ledled y DU, y dylai cyfrifoldeb dros arian ôl-UE ddod yn ôl i Lywodraeth Cymru i fynd drwy'r broses graffu yn y Senedd.

Nawr, o ran ymgysylltu â busnes a bargeinion twf, rwyf i mewn gwirionedd yn eithaf cadarnhaol ynghylch sut mae busnesau'n ymgysylltu. Os edrychwch ar nifer o'r prosiectau sy'n cael eu rhedeg, y gallu i ysgogi buddsoddiad yn y sector preifat hefyd, dim ond drwy ymgysylltu'n dda â'r sector preifat y gall hynny ddigwydd, a chredaf mai dyna un o gryfderau'r dulliau sy'n cael eu cymryd a'u harwain gan awdurdodau lleol.

O ran y cynllun cyflawni arloesi, credaf ei fod yn gyson â'r ffordd y mae ein rhanbarthau economaidd a'n bargeinion twf yn gweithredu eu busnes. Fe'i hysgrifennwyd yn fwriadol yn y ffordd honno, i feddwl am sut rydym yn gweithio gyda meysydd cryfder yng Nghymru. Ac fe geisiwn wedyn brofi'r hyn yr ydym yn ei wneud o'i gymaru â'r cynllun cyflawni hwnnw, a byddwch yn gallu gweld, yn dryloyw, y math o gynnydd yr ydym yn ei wneud ym mhob un o ranbarthau Cymru.

Ac yna, o ran eich cwestiynau olaf ac ehangach, rydyn ni'n edrych ar waith teg mewn nifer o'r meysydd rydyn ni'n mynd i edrych arnyn nhw. Felly, mae'n un o'r ystyriaethau ar gyfer porthladdoedd rhydd, er enghraifft. Bydd angen iddynt ddangos eu bod yn cwrdd â'r agenda gwaith teg yma yng Nghymru. Mae'n rhan o'r sgwrs rydym wedi'i chael gyda'r sector manwerthu heddiw ar ddatblygu'r cynllun cyflenwi manwerthu. Ac mae'r un peth yn wir am sero net hefyd. Er bod Llywodraeth y DU efallai wedi cefnu ar ymrwymiadau sero net, rydym yn dal i annog pobl i fuddsoddi yn y dyfodol hwnnw, i feddwl am effeithlonrwydd ynni nid yn unig fel her ond fel cyfle, sut rydym yn datgarboneiddio ein heconomi ehangach, a dyna pam y byddwn yn parhau i gefnogi Diwydiant Sero Net Cymru ac ystod o ymyraethau eraill. Nid un maes yn unig o Lywodraeth Cymru yw hwn; mae'n ddull cyson yr ydym eisiau ei fabwysiadu, i sicrhau bod economi sero net a'n llwybr at ddatgarboneiddio yn cyflawni'r swyddi da y credwn y gallai eu cyflawni ac y dylai eu gwneud mewn cyfnod pontio teg go iawn.

16:05

Diolch am y diweddariad heddiw, Weinidog. 

Ers dechrau datganoli, mae economïau lleol Cymru wedi llusgo yn gyson y tu ôl i weddill y DU. Caerdydd a sir y Fflint yw'r unig ddau o'r 22 awdurdod yng Nghymru sydd wedi cofnodi lefelau uwch o gynnyrch domestig gros y pen o'i gymharu â chyfartaledd y DU mewn 25 mlynedd. Ac mewn ardaloedd fel Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr, mae'r bwlch wedi ehangu yn y cyfnod hwnnw mewn gwirionedd.

Fel y soniais i yr wythnos diwethaf, yn ystod dadl Plaid Cymru ar HS2, mae ein hardaloedd gwledig, sydd â rhai o'r cysylltiadau trafnidiaeth gwaethaf yn y DU, hefyd ymhlith y lleiaf cynhyrchiol yn y DU. Er enghraifft, mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod allbwn prisiau Powys yr awr a weithiwyd yn 63 y cant o gyfartaledd y DU. Nawr, wrth gwrs, mae'r pedair bargen twf ranbarthol yng Nghymru i fod yn brif ysgogwyr datblygiad economaidd ar lefel ranbarthol, ac mae gan y pedwar uchelgais i hybu perfformiad gwerth ychwanegol gros eu rhanbarthau priodol dros y degawd nesaf. Fodd bynnag, mae'r adroddiad diweddaraf ar gynnydd ar gyfer bargen twf y gogledd yn nodi bod proffil risg y fargen yn parhau'n uchel, yn enwedig mewn cysylltiad â chapasiti a buddsoddiad gan y sectorau cyhoeddus a phreifat. Yn ddealladwy, mae fforddiadwyedd prosiectau a gwmpesir gan y fargen hefyd wedi'i nodi fel pryder mawr, oherwydd effaith chwyddiant, materion yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi a chynnydd mewn costau adeiladu.

Nawr, o ystyried yr anawsterau y daethom ar eu traws, ac y daeth bargen twf bae Abertawe ar eu traws, cyn y pandemig, a ysgogodd adolygiad annibynnol cynhwysfawr i'w strwythurau llywodraethu wrth gwrs, rwy'n wyliadwrus ynghylch gallu'r cytundebau hyn i gyflawni gwelliannau ystyrlon, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Rhan o'r mater fu gwendid hanesyddol ac anghysondeb strwythurau llywodraethu ar gyfer meithrin twf ar lefel ranbarthol, hyd yn oed yng nghyd-destun cytundebau twf, a nodwyd mewn erthygl ddiweddar yn y cyfnodolyn Regional Studies, sy'n asesu perfformiad bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, bod hyn wedi'i ymgorffori gan ddibyniaeth y bargeinion twf ar fodelau grant sydd wedi'u canoli'n ormodol ac o'r brig i lawr, nad ydynt yn darparu digon ar gyfer nodweddion economïau lleol. Mae problem gysylltiedig hefyd o fargeinion twf yn cael eu halinio'n gynhenid â chorfforaethau mwy, ar draul busnesau bach a chanolig domestig. Felly, yn hyn o beth, mae tueddiad Llywodraeth y DU i ganoli, i ddileu pwerau gwneud penderfyniadau awdurdodau lleol dros fuddsoddiadau ac adnoddau, yn gwbl anghydnaws o fewn agenda amlwg ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol. Efallai y dylent wrando ar eiriau eu cyn-gyfarwyddwr cyffredinol ar gyfer gwariant cyhoeddus yn y Trysorlys, Sharon White, a ddywedodd fod data traws gwlad eithaf da sy'n dangos bod datganoli yn tueddu i fod yn fwy cysylltiedig â thwf cryfach a gwell gwasanaethau cyhoeddus. Dyna pam y mae mor bwysig ein bod yn adfer eu pwerau gwneud penderfyniadau i awdurdodau lleol sydd wedi cael eu herydu mor sylweddol yn sgil Brexit.

Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith bod Keir Starmer, mewn cydnabyddiaeth brin o fodolaeth Cymru, wedi ymrwymo o'r blaen i roi i'r Senedd a, thrwy hynny, ein hawdurdodau lleol, reolaeth lawn dros unrhyw raglenni ariannu ôl-UE yn y dyfodol, ond, fel mae Aelodau Llafur wedi dod i sylweddoli yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r rhan fwyaf o addewidion Keir yn ddiwerth. Felly, byddwn yn annog y Gweinidog i bwyso ar ei arweinydd yn y DU i gadw at ei air ac i ddal ati i guro'r drwm i ehangu pwerau dros ddatblygu economaidd rhanbarthol ar lefel leol yma yng Nghymru, yn hytrach na'u hallanoli i Lundain.

16:10

Nid wyf yn siŵr y gallwn i ganfod llawer o gwestiynau o fewn y cyfraniad, ond, i fod yn deg, mae gan Luke Fletcher naratif cyson lle nad yw, yn fras, yn credu y byddwn yn gallu cyflawni datblygiad economaidd sylweddol yn y ffordd yr ydym yn ceisio ei wneud gyda'n partneriaid, ac mae'n iawn iddo fod yn amheus o hynny. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod bargen twf bae Abertawe yn enghraifft dda. Soniodd am yr adolygiad llywodraethu blaenorol a gynhaliwyd. Mewn gwirionedd, mae holl brosiectau bargen twf Bae Abertawe yn y cyfnod cyflawni, ac rwy'n credu eu bod wedi gosod lefel o uchelgais a chyflawni i'w hunain a fydd yn gwneud gwahaniaeth hanfodol. Rwy'n credu y ceir anhawster os ydych chi'n dweud mai'r fargen dwf yw'r hyn sy'n mynd i drawsnewid rhagolygon economaidd pob un o'r rhanbarthau hynny ar eu pennau eu hunain. Nid yw honno'n brawf yr ydym erioed wedi'i gosod arnyn nhw, a chredaf na fyddai hynny'n ffordd deg o edrych arno. Ond rydych chi'n gweld nifer o brosiectau sy'n cael eu cyflawni yn y fargen dwf a'r tu allan iddi, ac rwy'n credu bod bargen ddinesig bae Abertawe yn enghraifft dda o dri awdurdod lleol gwahanol, sydd bellach â thri math gwahanol o arweinyddiaeth wleidyddol, yn dal i lwyddo i ddod o hyd i ffordd o gytuno ar flaenoriaethau mwy ar draws y rhanbarth. 

O ran eich pwynt ynghylch fforddiadwyedd, mae hyn yn bryder yr ydym wedi'i drafod gyda phob un o ardaloedd y fargen twf. Mae realiti chwyddiant, y ffaith nad yw'r gyllideb wedi cynyddu, a rhai o'r heriau a'r disgwyliadau wrth gyflawni, yn bwyntiau yr ydym wedi'u codi gyda nhw yn ein sgyrsiau â nhw, ac, o fy safbwynt i, rwy'n credu bod lefel resymol o ddealltwriaeth os oes angen iddynt naill ai ail-lunio rhai o'r prosiectau sydd ganddynt, ond i geisio cadw ar y trywydd iawn ar gyfer effaith hirdymor yr hyn y gallant ei wneud trwy weithio gyda'i gilydd ar draws y rhanbarth. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, ei bod wedi bod yn ddefnyddiol cael pobl i gydnabod y gallant wneud mwy trwy gydweithio ar ystod o feysydd.

Fel y dywedais i yn fy agoriad i, mae'r newyddion am PwC yn newyddion da, nid yn unig ar gyfer Caerdydd ond, ar draws y rhanbarth. Daeth arweinwyr awdurdodau lleol at ei gilydd o bob rhan o'r rhanbarth i gefnogi'r achos dros fuddsoddiad PwC, ac rydym wedi gallu sicrhau cytundeb gyda PwC iddynt helpu i gyflawni ystod o fanteision yn yr ardaloedd hynny lle mae angen y twf a'r datblygiad economaidd fwyaf, o fewn bwa deheuol tlotach dinas Caerdydd ond hefyd y tu allan i ddinas Caerdydd hefyd.

O ran eich pwynt ehangach ynghylch datganoli, unwaith eto, mae yn y datganiad rwyf wedi'i wneud, ac rydym wedi bod yn gyson ynglŷn â hyn. Credwn fod y DU yn wladwriaeth sydd wedi'i chanoli'n ormodol, ac, mewn gwirionedd, yn ogystal â phwerau blaenorol yr UE sy'n dod yn ôl i ni, mae yna sgwrs bellach am y math o gyfran o bwerau a ddylai fodoli. Ac mae'n ymhlyg, mewn gwirionedd—nid yn ymhlyg—mae'n eglur yn y strategaeth ddiwydiannol ddrafft y mae cymheiriaid Llafur y DU eisoes wedi'i llunio. Maent yn cyfeirio at wladwriaethau fel yr Almaen, lle mae gan y Länder genhadaeth wahanol a chlir o gymharu â'r Llywodraeth ganolog, y Llywodraeth ffederal. Rydym yn credu y dylai'r DU newid y ffordd y mae'n gweithio'n barhaol, a dim ond gyda Llywodraeth Lafur y DU y bydd hynny'n digwydd. Rwy'n optimistaidd ynghylch ein gallu i anelu'n uwch pan fydd y Llywodraeth honno'n cael ei ffurfio, ac edrychaf ymlaen at weld pleidleiswyr yn cael cyfle i gael gwared ar y Llywodraeth doredig bresennol, a chael dechrau newydd gyda Phrif Weinidog Llafur yn Downing Street.   

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog. Un o'r datblygiadau gorau yn y Senedd ddiwethaf oedd creu'r pedwar rhanbarth economaidd yng Nghymru. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i weithio'n rhanbarthol i sicrhau y gellir gwneud mwy o benderfyniadau yn agosach at gymunedau o fewn cenhadaeth a rennir sy'n caniatáu i fwy o bobl gynllunio dyfodol uchelgeisiol a Chymru gryfach, decach a gwyrddach. Er fy mod bob amser yn falch o weld datblygiad economaidd yn sir y Fflint, nid yw o fudd i unrhyw un o fy etholwyr. Rwy'n croesawu'r gefnogaeth ar gyfer tyrbinau gwynt arnofiol ar y môr a adeiladwyd ym Mhort Talbot, a fydd yn caniatáu i ddiwydiant newydd ddatblygu. Ar gyfer dyfodol economaidd llwyddiannus dinas-ranbarth Bae Abertawe, mae angen cyflogaeth sefydlog a chyflogau uchel, a dyna pam rwyf wedi bod yn gefnogwr brwd o fargen ddinesig bae Abertawe o'r cychwyn cyntaf. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae bargen ddinesig Bae Abertawe yn datblygu, ac a wnaiff y Gweinidog hefyd ddweud wrthym beth sy'n cael ei wneud i gynyddu nifer y swyddi yn y gwyddorau bywyd, gwasanaethau proffesiynol a TGCh, lle dangosir ein bod yn wan yng Nghymru, a hyd yn oed yn wannach yn y de-orllewin? 

Diolch am y cwestiynau, ond dylwn nodi, o safbwynt etholaeth, fod gan Mike Hedges lai o ddiddordeb yn sir y Fflint, mae gan Aelodau etholaeth yn sir y Fflint ddiddordeb mawr ac mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mawr yn llwyddiant economaidd sir y Fflint yn y dyfodol, ac nid dim ond angor sylweddol i fusnes fel Airbus sy'n darparu llawer iawn o gyflogaeth ar ddwy ochr ffin Cymru a Lloegr. Mae'n ganolfan gweithgynhyrchu wirioneddol ryngwladol gyda chadwyn gyflenwi sylweddol, llawer a llawer o swyddi, a'r hyn rwy'n chwilio amdano yw mwy o brosiectau â statws ac arwyddocâd sy'n denu buddsoddiadau newydd fel yna ledled Cymru.

Fyddwn i ddim mor ddigalon gan fod Mike yn ymwneud â gwyddorau bywyd yng Nghymru, gan gynnwys y de-orllewin hefyd. Felly, mae gennym ganolfan o wasanaethau proffesiynol. Ein her yw gweld mwy o'r gwasanaethau proffesiynol hynny yn symud y tu allan i Gaerdydd hefyd. Mae hynny'n rhan o'r cynnig ac yn rhan o'r cynnig sgiliau rydyn ni'n bwriadu ei ddatblygu. Os edrychwch chi ar yr hyn sy'n unigryw—ac fe wnaethoch chi sôn am hyn, Mike—os ydyn ni'n mynd i ddatblygu ac adeiladu tyrbinau gwynt arnofiol ar y môr ym Mhort Talbot, fel rydw i eisiau i ni wneud, yna bydd angen i ni fuddsoddi mewn porthladdoedd, buddsoddi yng Nghastell-nedd Port Talbot a buddsoddi yn Aberdaugleddau hefyd. Dylai'r cyfleoedd gweithgynhyrchu hynny a'r cyfle i ychwanegu dyfodol tymor hir ar gyfer cynhyrchu dur ddarparu swyddi da iawn i bobl yn etholaeth Mike ac ymhell y tu hwnt, ac rwy'n optimistaidd y byddwn yn gallu gwneud hynny. Mae mwy o ddatblygiad yn digwydd yn y llwybr at sero net ac economi wyrddach hefyd, a chredaf y byddai hynny o fudd i bobl yn ardal bargen ddinesig bae Abertawe y tu hwnt i'r cyfle i weithgynhyrchu'r tyrbinau gwynt hynny.

Fel roeddwn i'n ei ddweud wrth Luke Fletcher, rwy'n credu bod bargen ddinesig bae Abertawe mewn lle da. Mae pob un o'i phrosiectau yn cael eu cyflwyno. Maen nhw wedi llwyddo i fynd drwy'r adolygiad llywodraethu a gynhaliwyd ychydig flynyddoedd yn ôl i le llawer gwell. Mae dealltwriaeth gyffredin gan y tri awdurdod lleol ynghylch yr hyn y maen nhw'n ceisio'i wneud, ac mae'n rhan o sicrhau dyfodol uchelgeisiol i ardal bargen ddinesig bae Abertawe nad yw'n canolbwyntio ar yr hyn y mae rhannau eraill o Gymru yn ei wneud, ond sy'n canolbwyntio ar yr hyn y gallwch ei wneud a'r hyn y gallwch chi ei wneud yn unig, mewn rhai ffyrdd, yn y rhan honno o Gymru, deall beth sy'n unigryw ac yn gadarnhaol am wneud hynny. Ac rwy'n credu, Mike, y gall pob un ohonom ymfalchïo yn y gwaith o gyflawni bargen ddinesig bae Abertawe. Yr hyn y byddaf yn ei wneud, serch hynny, yw y byddaf yn anfon papur briffio manylach iddo ar gyflawni yn yr ardal honno i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf ganddo ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud yn hynny o beth, yn ogystal â'n huchelgeisiau i fynd i'r afael â rhai o'r meysydd blaenoriaeth uchel y mae wedi'u crybwyll.

16:15

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Rwy'n falch eich bod wedi codi bargen twf y gogledd heddiw, ac wrth gwrs porthladd rhydd Ynys Môn a gyflawnwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU a'r AS lleol, Virginia Crosbie. Gan ganolbwyntio ar borthladd rhydd Ynys Môn, a allai'r Gweinidog roi ei asesiad o'r cyfleoedd cyflogaeth y bydd y porthladd rhydd yn eu rhoi i bobl leol Ynys Môn, ac yn wir ar draws y gogledd, gan fy mod i'n credu bod cyfle gwirioneddol i fanteisio i'r eithaf ar ragolygon cyflogaeth ar draws y rhanbarth, a gwneud y gogledd yn ganolbwynt economaidd yn y dyfodol?

Diolch am y cwestiwn. Ni fyddaf yn gallu ateb hwnnw'n llawn, oherwydd fel y bydd yr Aelod yn gwybod, rwy'n Weinidog sy'n gwneud penderfyniadau o ran dyfodol y rhaglen porthladdoedd rhydd. Rydym yn disgwyl yr achos busnes amlinellol ar gyfer pob un o'r porthladdoedd rhydd tua diwedd mis Tachwedd, ac efallai i mewn i ddechrau mis Rhagfyr. Mae'n wych ei fod am roi clod am y porthladd rhydd i Lywodraeth y DU ac Aelod Seneddol presennol Ynys Môn. Wrth gwrs, mae'n wir fod amrywiaeth o bartneriaid eraill yn ymwneud ag eirioli dros hwnnw, a'r hyn a wnaeth hwn yn bosibl mewn gwirionedd oedd y ffaith i ni gefnu ni ar Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol blaenorol Cymru a oedd yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cytuno i beth bynnag oedd ar gael, gan gynnwys cyfran lai na theg o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU, ac fe wnaethom ni ddianc rhag y bloeddio enllibus a oedd yn digwydd a chael sgwrs uniongyrchol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Roedd hynny wedyn yn creu ffordd llawer mwy aeddfed o ymddwyn gyda'n gilydd. Mae'n arwydd o'r hyn y gallem ac y dylem ei wneud yn rheolaidd. Fodd bynnag, nid yw'n arwydd o bob un ymyrraeth gan Lywodraeth y DU.

Edrychaf ymlaen at weld y porthladd rhydd yn Ynys Môn yn llwyddo. Rwy'n gobeithio y bydd yr achos busnes amlinellol yn caniatáu i mi a'r Gweinidog sy'n gwneud penderfyniadau yn yr adran ffyniant bro allu amlygu symudiad i'r cam nesaf, fel y bydd gennym syniad cliriach o'r mathau o swyddi a fydd yn mynd yno a'r budd y bydd yn ei greu, a'r effaith hirdymor, rwy'n credu, nid yn unig yn ardal porthladd rhydd Ynys Môn, ond hefyd ymhellach i ffwrdd hefyd. Mae gennym ddiddordeb mewn twf yn yr economi ac nid dim ond disodli gweithgaredd gyda'r cymhellion a ddylai fod ar gael yn sgil y cynnig porthladd rhydd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Y buddsoddiad mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn economi cymoedd gogleddol Blaenau Gwent yw hwnnw ym mhrosiect deuoli'r A465, ac mae'r awdurdod lleol yn glir iawn bod y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn deuoli'r A465 wedi golygu bod nifer yr ymholiadau busnes y maen nhw yn eu derbyn wedi cynyddu'n sylweddol, a thwf busnesau o fewn y fwrdeistref. Rwy'n awyddus i weld y Gweinidog y dod i Flaenau Gwent, i ddod i'r Cymoedd gogleddol, a thrafod gyda ni sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i fuddsoddi mewn datblygu economaidd yn y rhan hon o'r byd. Mae'r buddsoddiad a wnaed gan Cymoedd Technoleg eisoes wedi dwyn ffrwyth, ond, Gweinidog, mae angen unedau busnes ychwanegol, unedau cychwynnol, buddsoddiad mewn unedau ehangu. Mae angen i ni weld buddsoddiad yn y rhwydweithiau ynni sy'n gwasanaethu rhanbarth Blaenau'r Cymoedd ac mae angen i ni hefyd barhau i fuddsoddi mewn sgiliau a phrentisiaethau a hyfforddiant, yn ogystal â buddsoddi mewn seilwaith a all gynnal mwy o fuddsoddiad mewn busnesau, fel yr ystadau diwydiannol lleol, ond hefyd pethau fel signalau ffôn symudol sydd ar ôl 20 mlynedd o Ofcom dal yn annigonol. Felly, mae angen buddsoddiad cyfannol cyflawn yn yr amgylchedd busnes ym Mlaenau'r Cymoedd i sicrhau bod y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i wneud yn y gwaith o ddeuoli'r A465 â'r gwerth mwyaf.

16:20

Diolch i'r Aelod am y pwyntiau y mae wedi'u gwneud ac rwy'n cytuno, mae wedi bod yn fuddsoddiad sylweddol, ac roedd yn ymwneud ag agor cyfleoedd datblygu economaidd. Mae arnom angen mwy o dir datblygu ac—mae'r Aelod yn iawn—ystod o safleoedd o rai mwy i rai llai hefyd. Mae eisoes wedi agor cryn dipyn o ddatblygiad sydd wedi digwydd mewn ffordd y dylai sicrhau ei fod yn gynaliadwy hefyd. Rwy'n credu bod yr Aelod hefyd yn iawn i bwyntio at y rhaglen Cymoedd Technoleg. Rydym wedi ymrwymo tua £40 miliwn eisoes, gan gynnwys, wrth gwrs, y buddsoddiad mwyaf yng Nglyn Ebwy sef y campws technoleg Thales gwerth £16 miliwn hefyd. 

Hoffwn weld ein buddsoddiadau yn cael eu gwneud yn real a gweld arwyddocâd yr hyn a all ddigwydd yno hefyd. Rwy'n cydnabod ei fod yn fwy nag un peth. Dyna'r cysylltiadau trafnidiaeth, dyna'r tir datblygu, dyna'r buddsoddiad mewn sgiliau, mae'n fuddsoddiad mewn seilwaith, gan gynnwys cysylltedd band eang hefyd. Gwn fod yr Aelod wedi fy ngwahodd i Flaenau Gwent i ymweld â nifer o fusnesau, ac rwy'n siŵr y cawn gyfle i wneud hynny, i weld beth rydym eisoes yn ei wneud gyda'r buddsoddiadau sydd eisoes wedi'u gwneud, ond yn bwysicach na hynny, i fod yn glir iawn am y cyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Gan na fydd y dyfodol i gyd yn ymwneud â chludo pobl i'n tair dinas yn y de ar gyfer gwaith, bydd yn ymwneud â sut mae gwaith yn mynd i wahanol rannau o'r brifddinas-ranbarth, yn ogystal â'r cyfleoedd sylweddol a gawn yn a gogledd-ddwyrain a'r gogledd-orllewin hefyd.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae bob amser yn dda clywed y Gweinidog yn siarad am bwysigrwydd llwyddiant sir y Fflint i economi Cymru. Ac fe fydd yn gwybod yn yr ymweliadau a gefais gyda'r Gweinidog fod gennym hanes balch o weithgynhyrchu uwch yng Nglannau Dyfrdwy. Bydd hefyd yn gwybod fy mod i wedi gweithio ochr yn ochr â phobl sydd â'r setiau sgiliau hynny bob dydd cyn mynd i mewn i'r Senedd hon, ac o gael y gefnogaeth gywir, gall y bobl hynny sydd â'r set sgiliau honno sicrhau'r buddsoddiad newydd yr ydym yn chwilio amdano yng Nglannau Dyfrdwy. Mae gan gyflogwyr fel Airbus a'r Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch weledigaeth i hybu'r gweithlu medrus a'r ffrwd o dalent o fewn rhanbarth y gogledd-ddwyrain.

Dyma sut mae'r dyfodol yn edrych, Gweinidog: darparu'r genhedlaeth nesaf o sgiliau i gynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion carbon niwtral sydd eu hangen arnom. Clywais ymrwymiad y Gweinidog i gydweithio â Llywodraeth y DU. Tybed a fydd yn ymrwymo ymhellach i weithio gyda chymheiriaid y DU i ddarparu parth buddsoddi yn rhanbarth y gogledd-ddwyrain i wireddu'r weledigaeth hon.

Diolch i'r Aelod am y sylwadau a'r cwestiynau. O ran cynigion y parth buddsoddi, byddai wedi bod yn well pe byddem wedi gallu gweithio drwy'r rheini cyn iddynt gael eu cyhoeddi, ond rwyf wedi defnyddio dull pragmatig ac adeiladol wrth ymgysylltu â'r adran ffyniant bro a, phan oedd yn bosibl, â Gweinidogion yn yr Adran Busnes a Masnach, er mwyn deall sut y gallwn gael cynnig sy'n gweithio gyda datganoli. Oherwydd er mwyn iddo weithio'n iawn, mae'n rhaid iddo ystyried rhai o'r ysgogiadau sydd gennym, yn ogystal â rhywfaint o'r cynnig gan Lywodraeth y DU. Nid ydym wedi cwblhau'r drafodaeth honno eto, er fe wn, yn ogystal ag yn y gogledd-ddwyrain fod gan bobl eraill ddiddordeb hefyd. Rwy'n gobeithio, yn ystod y misoedd nesaf, heb ormod o oedi pellach, y byddaf yn gallu datrys y mater hwn, a bod yn glir ynghylch beth allai ddigwydd gyda pharth buddsoddi, gan gynnwys y potensial yn y trafodaethau i weld mwy nag un, ond nid oes penderfyniad pendant wedi'i wneud eto. Cyn gynted ag y bydd hynny wedi digwydd, byddaf yn sicrhau nid yn unig yr Aelodau a ofynnodd y cwestiynau, ond bod Aelodau eraill sydd â buddiant yn cael gwybod mewn penderfyniad cyhoeddus.

Rwy'n falch ein bod hefyd wedi siarad am y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, ac wrth gwrs y ganolfan dechnoleg uwch rwy'n credu yr ydym yn dymuno iddi ddigwydd yn y gogledd. Eich pwynt o ran sgiliau, y bobl y buoch chi'n gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd yn eich gyrfa flaenorol cyn dod i'r Senedd, mae'n bwysig iawn bod gennym ni bobl sy'n gallu gwneud y swyddi hynny. Un o'r heriau allweddol y mae buddsoddwyr bob amser yn chwilio amdanynt, ar gyfer busnesau o bob maint a phob sector, yw, 'Oes gennych chi'r bobl? Oes gennych chi'r sgiliau? Ydych chi'n buddsoddi mewn sgiliau pobl yn y dyfodol?' Daw rhywfaint o hynny drwy addysg uwch; bydd llawer ohono'n dod trwy addysg bellach a chyfleoedd i ailsgilio ac uwchsgilio yn ystod bywyd gwaith. Un o'r pethau rwy'n credu y gallwn ni fod yn falch ohono ac rwyf eisiau bod yn glir yn ei gylch, er gwaethaf yr holl heriau sy'n ein hwynebu, yw bod gennym ragolygon da ar gyfer dyfodol da iawn mewn gweithgynhyrchu uwch ac amrywiaeth o feysydd eraill. Mae'r cyfan yn ymwneud â'r dalent, y cyflawniad hyd yn hyn a'r uchelgais ar gyfer y dyfodol i wneud i hynny ddigwydd mewn gwirionedd, i'w wireddu. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

16:25
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn annog pobl o bob cefndir a chymuned i weithio gyda'i gilydd i daclo troseddau casineb. Mae'n gyfle i dynnu sylw at yr help sydd ar gael ac i ddangos pa mor bwysig yw hi i riportio troseddau fel hyn. Mae hefyd yn gyfle i addysgu ac i gefnogi'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio. 

Thema Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb eleni yw troseddau casineb ffydd a gwrthsemitiaeth. Gyda'r digwyddiadau mwyaf erchyll yn datblygu yn y dwyrain canol, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n parhau i ymrwymo i fynd i'r afael â phob math o drosedd casineb sy'n seiliedig ar grefydd. Mae Gweinidogion mewn cysylltiad â chynrychiolwyr cymunedau Iddewig a chymunedau Mwslimaidd yma yng Nghymru i sicrhau y gallwn ni gefnogi'r cymunedau hynny ar yr adeg hynod ofidus hon. Rydym yn glir bod Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gadarn yn erbyn unrhyw fath o wrthsemitiaeth, Islamaffobia a phob trosedd casineb sy'n seiliedig ar ffydd.

Mae canolfan cymorth casineb Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ac eiriolaeth i ddioddefwyr troseddau casineb ledled Cymru, a hoffwn i ddiolch iddyn nhw am gydlynu gweithgareddau a gweithio gydag ystod o bartneriaid i nodi'r wythnos hon. Ddoe, siaradais mewn digwyddiad cenedlaethol a drefnwyd gan y ganolfan, a dynnodd sylw at bwysigrwydd cynghreiriaeth a gwylwyr wrth fynd i'r afael â throseddau casineb. Dim ond os yw pob un ohonom yn ymwybodol o'r hyn mae trosedd casineb yn ei olygu a'r niwed y gall ei achosi, a'n bod yn barod i herio, newid a rhoi gwybod amdani, y gallwn wir fynd i'r afael â throseddau casineb. Roedd y digwyddiad ddoe yn un o'r nifer o ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu i nodi'r wythnos, sy'n cynnwys sesiynau codi ymwybyddiaeth gyda phlant a phobl ifanc, trafodaeth banel gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru a sioe deithiol troseddau casineb dan arweiniad Heddlu Gwent.

Erbyn hyn, mae canolfan cymorth casineb Cymru yn ei hail flwyddyn o ddarparu gwasanaeth troseddau casineb cenedlaethol i blant a phobl ifanc. Mae wedi datblygu ei fforwm eiriolaeth profiad bywyd ymhellach i geisio gwella'r gwasanaeth yn barhaus. Mae'r fforwm yn cynnwys cyn-ddefnyddwyr y gwasanaeth ac mae'n rhoi cipolwg gwerthfawr i'r ganolfan, sy'n helpu gyda gwaith fel adolygu gweithdrefnau cwynion y ganolfan a nodi rhwystrau i adrodd am droseddau casineb. Helpodd aelodau'r fforwm hefyd i lywio'r gwaith o ddatblygu ein hymgyrch gwrth-droseddau casineb, Mae Casineb yn Brifo Cymru.

Ym mis Chwefror, gwnaethom ail-lansio Mae Casineb yn Brifo Cymru i gyd-fynd â Mis Hanes LHDTC+ a chyhoeddi'r 'Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru'. Yn ogystal â grymuso dioddefwyr i roi gwybod am droseddau casineb, mae fersiwn ddiwygiedig yr ymgyrch yn galw ar dystion a gwylwyr i gamu ymlaen. Mae adnoddau ein hymgyrch newydd yn dangos pobl o gefndiroedd gwahanol yn dod at ei gilydd i wrthsefyll troseddau casineb, ac mae'r enghraifft hon o undod yn symbol pwerus ac yn neges nad oes croeso i gasineb a rhagfarn yng Nghymru.

Yn ogystal, rydym wedi cynyddu gweithgarwch yn y cyfryngau ar gyfer Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, gan ychwanegu hysbysebion teledu, radio a thu allan i'r cartref. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch cyfryngau wedi'i dargedu o amgylch trafnidiaeth gyhoeddus a stadia chwaraeon. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda'r cyn-ddyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens i godi ymwybyddiaeth o Mae Casineb yn Brifo Cymru, gydag ef yn rhannu ei brofiadau ei hun o ragfarn a gwahaniaethu.

Mae mynd i'r afael â chasineb ar-lein yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac, yn anffodus, yn aml mae'r cyfryngau cymdeithasol yn hwyluso amgylchedd gwenwynig a all gynyddu casineb. Rydym yn cryfhau cysylltiadau â'r Swyddfa Gyfathrebu yn barod ar gyfer ei rôl newydd fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein yn y DU. Rydym yn croesawu ehangu cylch gwaith Ofcom, ac rydym yn bwriadu gweithio'n agos gyda nhw, wrth symud ymlaen, wrth iddyn nhw ddefnyddio eu pwerau newydd i ddwyn cwmnïau i gyfrif.

Mae ein timau cydlyniant cymunedol hefyd yn parhau i fod yn allweddol i'r gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi cymunedau a lliniaru tensiynau.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'r bwrdd cyfiawnder troseddol yng Nghymru i ymchwilio i'r bobl sy'n cyflawni troseddau casineb. Mae'r gwaith ymchwil yma yn adeiladu ar gynlluniau eraill sydd wedi llwyddo i newid agwedd pobl sy'n gwneud y troseddau hyn ac arferion cyfiawnder adferol. Rŵan, rydyn ni'n edrych ar y camau nesaf ar gyfer y gwaith hwn. Byddwn yn trafod efo partneriaid cyfiawnder troseddol yn ystod cyfarfod bwrdd casineb a thensiwn cymunedol Cymru nes ymlaen yn y mis.

Cafodd yr ystadegau cenedlaethol ar droseddau casineb ar gyfer Cymru a Lloegr 2022-23 eu rhyddhau ar 5 Hydref. Maen nhw'n dangos gostyngiad o 4 y cant mewn troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru o'i gymharu â'r llynedd. Dyma'r gostyngiad blynyddol cyntaf ers i'r Swyddfa Gartref ddechrau casglu data cymaradwy 10 mlynedd yn ôl.

Pan fydd lefelau troseddau casineb yn gostwng, mae pryder y gall olygu nad yw troseddau'n cael eu riportio. Felly, byddwn ni'n parhau i ganolbwyntio ar annog dioddefwyr a gwylwyr i roi gwybod am ddigwyddiadau drwy fentrau fel ein hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth canolfan cymorth casineb Cymru. Trwy wrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd, rydym yn cynyddu ein dealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n atal dioddefwyr rhag riportio. Mae fforwm eiriolaeth profiad bywyd canolfan cymorth casineb Cymru yn ganolog i'r dull hwn.

Fodd bynnag, nid yw'r gostyngiad cyffredinol hwn o 4 y cant mewn troseddau casineb a gofnodwyd yn adrodd y stori gyfan. Er gwaethaf y gostyngiad yng nghyfanswm y rhai a gofnodwyd, bu cynnydd o 26 y cant mewn troseddau casineb crefyddol a chynnydd o 22 y cant mewn troseddau casineb trawsrywiol. Gall y cynnydd hwn fod oherwydd bod y digwyddiadau hyn wedi cael eu tangofnodi mewn blynyddoedd blaenorol. Er enghraifft, ddwy flynedd yn ôl, cafwyd gostyngiad o 25 y cant mewn troseddau casineb crefyddol. Efallai bod gwell ymwybyddiaeth a chofnodi gwell gan heddluoedd wedi cyfrannu at y cynnydd hwn hefyd, ond, yn y pen draw, mae unrhyw gynnydd yn amlwg yn achos pryder.

Mae'r cynnydd mewn casineb trawsffobig yn ein hatgoffa, er ein bod wedi gwneud cynnydd ar gydraddoldeb LHDTC+, na allwn gymryd cynnydd yn ganiataol o bell ffordd a bod gwaith i'w wneud o hyd. Dyna pam mae ein cynllun gweithredu LHDTC+, a lansiwyd nôl ym mis Chwefror, gyda'i gamau gweithredu i fynd i'r afael â chasineb, yn parhau i fod yn flaenoriaeth angenrheidiol. Ac fel y dywedais yn ystod y datganiad llafar wrth lansio'r cynllun, mae'r gymuned draws yn parhau i gael ei thargedu ar gyfryngau cymdeithasol a chan naratif yn y cyfryngau sydd wedi'i gynllunio i roi pobl benben â'i gilydd.

Rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais bryd hynny: mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda'i gilydd o fewn a chyda'n holl gymunedau LHDTC+, ac fel gwleidyddion a ffigurau cyhoeddus, fe allwn ni ac mae'n rhaid i ni fod yn well. Gadewch i ni fod yn glir; mae rhethreg niweidiol a chas yn cael canlyniadau go iawn ar fywydau pobl. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn ymuno â mi heddiw i gefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Gadewch i ni ddefnyddio'r cyfle hwn i anfon neges glir na ddylai cam-drin a thrais atgas gael eu goddef yng Nghymru ac na fyddant yn cael eu goddef. A gadewch i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb fel unigolion ac ar y cyd am chwarae ein rhan ein hunain wrth ddiffodd fflamau casineb, yn hytrach na'u tanio. Diolch.

16:30

Diolch am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Fel yr ydych chi'n ei ddatgan yn gywir, mae'n rhaid i ni i gyd sefyll yn erbyn casineb. Mae nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru bron wedi treblu dros y degawd diwethaf. Roedd y mwyafrif helaeth o'r troseddau hyn yn rhai a ysgogwyd gan hiliaeth, ac roedd hil yn ffactor mewn 62 y cant o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru. Cafodd 21 y cant eu cymell gan gyfeiriadedd rhywiol, 14 y cant gan anabledd, 5 y cant gan hunaniaeth drawsryweddol a 4.5 y cant gan grefydd. Mae'r ystadegau yn paentio darlun pryderus, ond mae troseddau casineb yn dal i gyfrif am ganran fach o weithgarwch troseddol cyffredinol. Mae llawer o ysgolheigion yn credu mai'r rheswm am y cynnydd mewn troseddau casineb a gofnodwyd yw cynnydd mewn ymwybyddiaeth—ein bod ni'n mynd yn fwy anoddefgar o anoddefgarwch—ond mae un drosedd casineb yn un yn ormod.

Dirprwy Weinidog, rwy'n hapus i sefyll gyda chi a datgan nad oes lle i ymosodiadau geiriol a thrais atgas yn ein cenedl. Er na fyddwn ni byth yn dileu casineb yn llwyr, dylem allu chwalu'r rhwystrau rhwng cymunedau gwahanol a sicrhau bod troseddau casineb yn llai tebygol o ddigwydd. Dywedir yn aml ein bod ni'n casáu'r hyn rydyn ni'n ei ofni, ac mae'n ymddangos bod ofni'r llall yn sbardun allweddol i droseddau casineb. Dylem fod yn canolbwyntio ar addysgu cenedlaethau'r dyfodol i beidio â chasáu gwahaniaethau, ond i'w cofleidio.

Dirprwy Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog addysg am y rôl mae addysg yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â chasineb? Ydych chi wedi trafod gydag ef yr angen i gyflogi gweithlu addysgu mwy amrywiol? Fel rhan o'i chynllun gwrth-hiliol, mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn orfodol i addysgu hanes a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol fel rhan o wersi hanes Cymru, ond dim ond canran fach o athrawon sy'n dod o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Y llynedd, dim ond 0.2 y cant o athrawon newydd gymhwyso oedd yn ddu, a dim ond 44 allan o bron i 1,500 o athrawon newydd gymhwyso oedd yn dod o gefndir du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Sut allwn ni obeithio rhoi diwedd ar wahaniaethu ar sail hil ac, yn y pen draw, droseddau casineb, drwy addysg a dathlu amrywiaeth, os nad yw ein hathrawon yn gynrychioliadol? 

Yn olaf, Dirprwy Weinidog, yn eich sylwadau agoriadol, rydych chi'n tynnu sylw at y digwyddiadau ofnadwy sy'n datblygu yn Israel. Er ein bod ni i gyd yn gweddïo am heddwch yn y rhanbarth, mae'n rhaid i ni hefyd wneud popeth o fewn ein gallu i atal cynnydd mewn troseddau casineb yn y wlad hon. Roeddwn i wrth fy modd yn gweld arweinwyr y crefyddau Cristnogol, Mwslimaidd ac Iddewig yn sefyll ochr yn ochr yn Llundain y bore yma mewn ymgais i annog unrhyw fath o gasineb neu drais yn y DU. Sut allwn ni yng Nghymru helpu i ledaenu'r neges honno i'n cymunedau? Wedi'r cyfan, rydyn ni i gyd yn un bobl, yn un hil—yr hil ddynol. Diolch yn fawr.

16:35

Diolch. Diolchaf i Altaf Hussain am y cyfraniad meddylgar a chynhwysfawr hwnnw i'r hyn sy'n ddatganiad pwysig iawn heddiw, fel rhan o'n gwaith ar y cyd i fynd i'r afael â throseddau casineb ym mhob cymuned ledled y wlad. Rydych chi'n iawn wrth ddweud, Altaf, bod un drosedd casineb yn un yn ormod. Rydym yn siarad am yr ystadegau, ond ar gyfer pob ystadegyn mae yna berson, person sydd, fwy na thebyg, wedi profi rhywbeth rydym yn ei chael hi'n anodd ei roi i mewn i eiriau. Mae'r un person hwnnw bob amser, yn hollol gywir, yn un yn ormod.

Fe wnaethoch chi sôn am bwysigrwydd addysg o ran ymgorffori pethau yn ein cwricwlwm i fynd i'r afael â phethau fel bwlio, boed hynny'n homoffobig neu ar sail hil, a'r gwaith rydym yn ei wneud o ran sicrhau mai Cymru yw rhan gyntaf y DU i'w gwneud yn orfodol, fel y dywedoch chi, i addysgu hanes a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol drwy'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Ond rydych chi'n iawn i ddweud bod y rôl o ran sicrhau ein bod ni'n recriwtio athrawon o gefndir amrywiol yn bwysig iawn hefyd, oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod na allwch chi fod yr hyn na allwch chi ei weld; mae angen i chi gael hynny i anelu ato fel plentyn a pherson ifanc hefyd. Felly, mae ffocws yno, a gwaith, fel rhan o gynllun Cymru Wrth-hiliol, i recriwtio athrawon o gymunedau ethnig lleiafrifol, ac ymgorffori ymarfer gwrth-hiliol. Mae'n rhywbeth yr ydym yn parhau i adeiladu arno trwy gynllun recriwtio addysg gychwynnol i athrawon, a darparu cymhellion ar gyfer hyfforddi athrawon o leiafrifoedd ethnig. Ond rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y bydd yr Aelod yn hapus i weithio gyda ni arno yng Nghymru i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth ac adeiladu ar hynny yn y dyfodol.

Diolch am y datganiad, Dirprwy Weinidog.

Ar eu gwefan, mae Heddlu De Cymru yn dweud bod yna sawl math gwahanol o droseddau casineb a bod y troseddau hynny'n taro wrth galon cymunedau. Mae mor wir, oherwydd mae troseddau casineb yn tanseilio'r union wead sy'n gwneud cymunedau yr hyn ydynt. Beth bynnag fo'n gwahaniaethau fel unigolion, boed ein hethnigrwydd, ein rhywedd, ein hanableddau, y ffordd yr ydym yn addoli neu'r ffordd yr ydym yn caru, mae ein cymunedau'n rhannu dynoliaeth, rydym yn rhannu cenedl. Ac mae pob cymuned yn rhannu rhwymedigaeth i barchu'r gwahaniaethau hynny, oherwydd trwy undod, gweld ein gilydd a sicrhau bod pawb yn rhan gyfartal o'n cenedl y byddwn yn dileu'r rhagfarn a'r anwybodaeth sy'n arwain at droseddau casineb.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi bod yn rhaid i ni ddwyn y rhai sydd â phŵer a llwyfan cyhoeddus i gyfrif os nad ydyn nhw'n ysgwyddo'u cyfrifoldeb, eu dyletswydd foesol a chyfreithiol i feithrin yr undod hwn trwy eu geiriau. Mae gwleidyddion Ceidwadol yng Nghymru, yn y DU a thu hwnt sydd wedi cofleidio gwleidyddiaeth boblyddol yn fwriadol ac yn sinigaidd a fyddai'n hau rhaniad yn hytrach na meithrin dealltwriaeth ac empathi, ac yn ysgogi ac yn cryfhau rhagfarn yn hytrach nag annog goddefgarwch a derbyniad. Oherwydd gall lleferydd casineb arwain at gynnydd mewn troseddau casineb treisgar. A ydych chi'n cytuno, Dirprwy Weinidog, na ellir ystyried bod lleferydd casineb ar ei ben ei hun, wrth ymosod ar urddas a chydraddoldeb person neu grŵp, ond yn achosi gweithred, ond ei fod ei hun yn weithred, sy'n niweidiol ynddi'i hun, gan ei bod yn tanseilio cydraddoldeb cymdeithasol ac felly hawliau dynol yr unigolyn neu'r grŵp i beidio â dioddef gwahaniaethu? [Torri ar draws.] Datganiad yw hwn, Janet.

Mewn ychydig wythnosau, byddaf yn noddi digwyddiad yn y Senedd i nodi Mis Ymwybyddiaeth Islamoffobia. Ei nod yw tynnu sylw at yr effeithiau y gall gwahaniaethu a achosir gan anwybodaeth eu cael ar Fwslimiaid a dangos y cyfraniad cadarnhaol y mae Mwslimiaid yn ei wneud yn ein cymdeithas. Eu slogan ardderchog yw:

'Cymerwch ran yn y sgwrs, byddwch yn rhan o'r ateb.'

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y digwyddiadau trasig yn y dwyrain canol, ac rydym wedi gweld cynnydd mewn ymosodiadau gwrthsemitig ac ymosodiadau Islamoffobig. Fe ddywedoch chi fod Gweinidogion yn siarad ag arweinwyr cymunedol, felly sut, yn benodol, y mae'r Llywodraeth yn mynd i fynd i'r afael â'r risgiau a berir i bobl o ffydd Mwslimaidd ac Iddewig yng Nghymru, o ystyried y tensiynau cyfredol?

Nid yw agweddau a gweithredoedd yn dod i'r amlwg mewn gwacter; nid yw pobl yn eu hanfod yn gas. Mae'r ymchwydd mewn casineb tuag at bobl draws, er enghraifft, yn ganlyniad i wleidyddiaeth sy'n llawn casineb. Mae Plaid Cymru yn falch o'r gwaith sydd wedi cael ei wneud drwy'r cytundeb cydweithio o ran ceisio sicrhau cydraddoldeb i'r gymuned LHDTC+. Fodd bynnag, fel y dywedoch chi, mae llawer o waith i'w wneud ac rydym yn bell i ffwrdd o'n nod o fod y genedl fwyaf cyfeillgar o ran LHDTC+ yn Ewrop gyda'r ystadegau hynny'n dangos cynnydd mewn troseddau casineb ledled Cymru a'r DU, yn enwedig tuag at y gymuned draws. Beth ydyn ni'n mynd i'w wneud i fynd i'r afael â sut rydym yn gweld mwyfwy o ofodau ar gyfer sgyrsiau niweidiol am hawliau pobl draws yng Nghymru? Sut rydym yn mynd i fynd i'r afael â hynny?

Ar eu gwefan, mae Heddlu De Cymru yn dweud:

'Rydym yma ac yn barod i helpu unrhyw un yr effeithir arnynt gan ragfarn, anwybodaeth neu drais rhywun arall.'

A ydych chi'n cytuno, Dirprwy Weinidog, nes bod cyfiawnder a phlismona yn cael eu datganoli'n llawn, ein bod ni'n peryglu lles a hawliau ein dinasyddion LHDTC+, ac rydym yn eu rhoi mewn perygl o gasineb, gwahaniaethu ac anghyfiawnder? A ydych yn cytuno y dylai Cymru gael yr hawl i ddeddfu ar faterion cydraddoldeb fel y bydd gan ein Senedd y pŵer priodol i amddiffyn pobl draws a phawb arall sy'n dioddef rhagfarn a gwahaniaethu? Diolch.

16:40

Diolch, Sioned Williams. Rwy'n gwybod eich bod chi'n eiriolwr pwerus ac angerddol yn y maes hwn, ac rwy'n falch o weithio a sefyll gyda chi i weithio gyda'n gilydd dros Gymru decach a mwy cyfartal. Rwy'n credu bod y pwynt a wnaethoch chi ar y dechrau wir wedi fy nharo i—sut mae ein cymunedau yn rhannu dynoliaeth. Mae'n fy atgoffa o'r pethau rydym wedi'u dweud, bod gennym ni fwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu. Nid oes neb yn ei hanfod yn gas nac yn cael ei eni'n rhagfarnllyd, felly mae'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedwyd gennym o'r blaen am bwysigrwydd addysg.

Mae'r pwynt rydych chi'n ei wneud am effaith geiriau a throseddau casineb llafar a'r effaith y gallan nhw ei chael—nid yw'n digwydd mewn gwactod, mae'n cael effaith. Y pethau rydym yn eu dweud yn y lle hwn, y pethau rydym yn eu dweud ar gyfryngau cymdeithasol. Rwy'n credu ein bod ni wedi crybwyll o'r blaen, onid ydyn ni, pan ydym wedi cael y sgyrsiau hyn yn y Siambr hon, yr hen ddywediad, 'Gall ffyn a cherrig dorri fy esgyrn ond fydd enwau byth yn fy mrifo', ac nid yw hynny'n wir. Yr hyn yr ydym yn ei wybod, o'r digwyddiad yr es i iddo ddoe a'n gwaith gyda'r ganolfan troseddau casineb yng Nghymru, yw bod pethau sy'n cael eu dweud yn gallu arwain at weithredu yn y dyfodol. Felly, nid yw'n bodoli mewn gwactod, a dyna pam mae'n rhaid i ni i gyd fod yn ymwybodol iawn, yn ystyriol ac yn well am yr hyn rydym yn ei ddweud, oherwydd mae'n cael effaith ar eraill. Gall fod yn eiriau yn unig, ond gall y geiriau hynny frifo. Yn y pen draw, gall arwain at weithredoedd corfforol a niweidiol hefyd. Rwy'n credu mai dyna ran o'r rheswm pam mae addysg yn bwysig iawn hefyd o ran beth yw trosedd casineb, yn ogystal â'i stopio a'i hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf.

I gyffwrdd ar lle rydym ni arni o ran y digwyddiadau erchyll sy'n datblygu yn y dwyrain canol, a'r gwaith y mae fy nghydweithwyr yn ei wneud i weithio gyda chymunedau yng Nghymru a'u cefnogi, yn amlwg byddem yn pryderu am unrhyw adroddiadau neu bosibilrwydd o gynnydd mewn troseddau casineb wedi'u targedu at gymunedau Iddewig a Mwslimaidd yng Nghymru, neu unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Y neges i aelodau'r cymunedau hynny yw y dylen nhw roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau casineb, waeth pa mor anodd yw hynny, a gallan nhw wneud hynny drwy gysylltu â'r heddlu neu drwy ganolfan cymorth casineb Cymru sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr. Yn ogystal â'r cyfarfodydd y mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn eu cynnal, rydym hefyd wedi gofyn i ganolfan cymorth casineb Cymru fonitro unrhyw gynnydd yn nifer y troseddau casineb gwrthsemitig ac Islamoffobig sy'n cael eu riportio a sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at y digwyddiad rydych chi'n ei gynnal yn y Senedd i fynd i'r afael ag Islamoffobia, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallaf ddod draw i'w gefnogi ar y diwrnod hefyd.

Gweinidog, diolch am eich datganiad; mae'n bwysig iawn ar hyn o bryd. Rwy'n falch mai'r thema ar gyfer wythnos ymwybyddiaeth o droseddau casineb eleni yw casineb ffydd, ac yn enwedig gwrthsemitiaeth, nad oes ganddyn nhw unrhyw le o gwbl yn ein cymdeithas. Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno, er ein bod ni'n siarad yn rheolaidd am hiraeth yng Nghymru, bod yn rhaid i ni hefyd wynebu'r ffaith bod gormod o gasineb yma yng Nghymru o hyd? Cefais fy synnu a'm dychryn gan y casineb a dargedwyd yn ddiweddar at gyflwynydd S4C, Ameer Davies-Rana. Rwy'n credu ei fod yn dangos bod casineb yn dal i lechu ym mhob rhan o Gymru, mewn cymunedau Saesneg a Chymraeg eu hiaith, ond mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi allweddell i lyfrgwn hiliol, homoffobig sydd â chasineb tuag at ffydd rannu eu gwenwyn, ac felly a fyddech chi'n cytuno bod yn rhaid i blatfformau cyfryngau ar-lein fod yn fwy cyfrifol ac, yn wir, yn fwy rhagweithiol wrth atal troseddau casineb, ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Aelodau yn y Siambr hon sydd â dealltwriaeth ddofn o'r maes pwnc hwn, a cheisio amddiffyn pobl yn well rhag negeseuon casineb? Ac yn olaf, Gweinidog, ymhellach i gwestiwn Altaf Hussain ar rôl addysg, a fyddech chi'n cytuno, drwy'r cwricwlwm newydd, bod yn rhaid hyrwyddo a dathlu pob math o amrywiaeth, ac na ddylai pobl ifanc gael eu hamddifadu o'r hawl—o'r hawl—i fod yn bwy bynnag a beth bynnag y maen nhw am fod, yn rhydd o ofn, anoddefgarwch a chasineb?

16:45

A gaf i gysylltu'n llwyr â'r sylwadau a wnaeth Ken Skates ar ddiwedd ei gyfraniad yn y fan yna, y dylai pob person ifanc fod â'r hawl i fod pwy ydyn nhw a bod yn nhw eu hunain, yn rhydd o arswyd ac o gasineb hefyd, a phwysigrwydd addysg, nid yn unig o ran y gwaith rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â bwlio ar sail casineb neu fwlio trawsffobig, homoffobig, neu unrhyw fwlio ar sail hunaniaeth unrhyw un, ond hefyd y gwaith mwy cadarnhaol yr ydym yn ceisio ei wneud o ran y cwricwlwm newydd a chofleidio a dathlu ein hamrywiaeth fel rhywbeth cadarnhaol, budd cadarnhaol, nid yn unig i gymuned yr ysgol, ond i'r gymuned a'r wlad ehangach yma yng Nghymru?

Ac mewn gwirioneddol fe fues i'n ymweld ag ysgol yn ddiweddar iawn—roedd yn Hwlffordd—a bydden i wrth fy modd pe bawn i'n gallu gwneud rhai o'r ymweliadau ysgol hyn bob wythnos; byddai fwy na thebyg yn rhoi rhywfaint o'r ysbrydoliaeth a'r ysfa i'n hatgoffa pam rydym yn gwneud hyn weithiau. Roedden nhw wedi cefnogi aelod o staff yno i drawsnewid, ac roedden nhw wedi ei wneud mewn partneriaeth, mewn gwirionedd: roedden nhw wedi cynnwys eu hundeb llafur a'r uwch dîm rheoli a'r staff a'r myfyrwyr hefyd. Ond roedd ganddyn nhw glwb cynhwysol iawn hefyd, sef Ystafell yr Enfys, ac fe wnes i gyfarfod â'r bobl ifanc hyn ac, mewn gwirionedd, roedd yna foment o 'Pwy yw'r person hwn sydd wedi dod i mewn nad ydym yn ei adnabod, ac rydym yn mynd i eistedd yma am ychydig a bod yn eithaf swil a pheidio â dweud unrhyw beth.' Wel, yna fe ddechreuon nhw siarad am werth cael y gefnogaeth honno a'r gwahaniaeth yr oedd hynny'n ei wneud a chael y gofod hwnnw gallan nhw fynd iddo gydag un o'u ffrindiau, a neb yn gofyn cwestiynau, a dim ond yn ystod y dydd. Ac fe ofynnais iddyn nhw, 'Pa un peth yr hoffech chi i fi fynd yn ôl gyda fi am sut y gallwn ni eich cefnogi chi? Beth ydych chi'n meddwl y dylai eich Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud, a beth ddylem ni fod yn ei wneud yn y Senedd hon ar eich rhan?' Roedd ambell beth gwahanol, ac un o'r pethau wnaeth fy nharo i go iawn oedd ynghylch yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i greu'r ymdeimlad yna o gydlyniant cymunedol a man lle mae pobl—yn enwedig pobl ifanc—yn gallu teimlo'n ddiogel a chael cefnogaeth i fod yn nhw eu hunain. Yn wir, fe wnaeth un person ifanc dynnu sylw at y gwahaniaeth yr oedd digwyddiad Pride lleol wedi'i wneud iddyn nhw, oherwydd roedd hynny'n digwydd ac roedden nhw'n gweld y ffordd yr oedd y rhan fwyaf o aelodau'r gymuned yn ei gofleidio ac yn ei gefnogi—fe roddodd y dewrder a'r hyder iddyn nhw gael sgwrs gyda'u rhieni.

Felly, rwy'n credu ei fod yn dangos, mewn gwirionedd, fod yna bethau y gallwn ni eu gwneud ac rydym yn eu gwneud yma yng Nghymru, boed drwy ein Cronfa Balchder Llawr Gwlad neu'r gwaith rydym yn ei wneud ym myd addysg, ond hefyd i fynd i'r afael â rhywfaint o'r troseddau casineb hynny sy'n digwydd—. Ydy, mae'r ffigurau—[Anghlywadwy.] —mae un drosedd casineb yn un yn ormod, ond mae'n rhaid i ni ddal ati gyda'r pethau positif rydym yn eu gwneud i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, ac roedd yn ddatganiad addas iawn hefyd, o ystyried y problemau presennol yn y dwyrain canol, ac rwy'n croesawu condemniad Llywodraeth Cymru o wrthsemitiaeth, o ystyried y materion blaenorol o fewn y Blaid Lafur ar y pwnc penodol hwnnw.

Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â heddluoedd a pha drafodaethau neu sgyrsiau y gallech chi fod wedi'u cael gyda'r heddluoedd, yn enwedig swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, o ystyried bod hynny'n gymhwysedd datganoledig, ar sbardunau troseddau casineb ac amrywiolion lleol troseddau casineb a allai ddigwydd mewn ardaloedd gwledig, a throseddau casineb wedi'u targedu, yn dibynnu ar ddemograffeg yr ardal benodol honno, oherwydd gall y troseddau casineb wedi'u targedu sy'n amlwg yng Nghaerdydd, er enghraifft, fod yn wahanol i'r hyn a welir mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, pa ymdrech y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i deilwra'r neges hon i gynyddu ymwybyddiaeth ym mhob rhan o Gymru, fel y gallwn ni addysgu pobl yn y ffordd orau nad yw troseddau casineb o unrhyw fath yn dderbyniol?

Mae Gareth Davies yn codi pwynt pwysig o ran sicrhau bod y gwaith yr ydym yn ei wneud nid yn unig yn estyn allan ond yn cofleidio ac yn cynnwys pob cymuned ledled Cymru, ac mae'n cysylltu'n ôl â phethau a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yn flaenorol, o ran y ffaith ein bod ni wedi dod yn bell yn ystod y degawdau diwethaf o ran lle rydym ni fel gwlad a chymdeithas, ond ni allwn fod yn hunanfodlon bod yr holl waith wedi'i wneud, oherwydd yn anffodus, fel y gwelwn ni o'r ystadegau ar droseddau casineb, mae'r casineb hwnnw'n dal i fodoli ym mhob cwr o'r wlad hefyd. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn trwy ein mecanweithiau gwahanol, drwy'r bwrdd partneriaeth plismona, ond hefyd, fel y dywedais i, mae digwyddiad wedi'i gynnal yn benodol yn y gogledd, gyda chomisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru, i nodi a chefnogi pobl yn y cymunedau hynny. Ac rydym yn falch iawn ein bod ni'n gallu cefnogi canolfan cymorth casineb Cymru i gael y gefnogaeth honno wedi'i thargedu hefyd, a'r wybodaeth y maen nhw'n ei rhoi i ni. Ac rydym yn gweithio gyda'r partneriaid hynny i sicrhau ein bod ni'n gallu gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r holl wahanol fathau hynny o droseddau casineb, ond deall mewn gwirionedd beth yw'r heriau mewn gwahanol gymunedau ac, ar yr un pryd, sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd, nid yn unig i addysgu, ond i dynnu sylw ato hefyd.

16:50
6. Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2023

Eitem 6 sydd nesaf: Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2023. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM8377 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Medi 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2023, sy'n gwneud mân ddiwygiad i Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020. Mae'r gwelliannau hyn yn helpu i alinio cynllun masnachu allyriadau'r DU â pholisïau hinsawdd ehangach a thechnolegau datgarboneiddio. Mae'r Gorchymyn yn capio dyraniad am ddim gweithredwyr awyrennau ar 100 y cant o'u hallyriadau wedi'u gwirio, yn newid dosbarthiad generaduron trydan i alluogi mynediad tecach i ddyraniadau cynllun masnachu allyriadau y DU am ddim, yn egluro bod y cynlluniau dal carbon yn gymwys ar gyfer dyraniadau cynllun masnachu allyriadau am ddim y DU, ac yn cynnwys Cymru, Lloegr a'r Alban o ran cyrraedd tiriogaethol. Gofynnwyd am gyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar y cynigion a gwmpesir yn y Gorchymyn. Drwy wneud cynllun masnachu allyriadau y DU yn fwy cydlynol â pholisïau hinsawdd ehangach, byddwn mewn gwell sefyllfa i gyflawni nodau datgarboneiddio Cymru. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu ar y Gorchymyn, ac felly rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Eitem 7 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio, a galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM8378 Julie James

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl heddiw wedi ei haildrefnu nifer o weithiau wrth i ni ymateb i ping-pong parhaus mewn gwelliannau i'r Bil. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau am eu hystyriaeth o'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Er bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei haddewidion maniffesto o ddarparu cyllid yn lle cronfeydd yr UE yn llawn ac nad oes pŵer yn cael ei golli i Gymru, mae Gweinidogion Cymru yn parhau i geisio rôl cyd-benderfynu ar gytuno ar y canlyniadau a sut y dylid gwario'r arian sy'n cefnogi'r agenda ffyniant bro. Mae hyn yn helpu i sicrhau cydlyniad polisi ac osgoi dyblygu. Mae cenadaethau ffyniant bro yn Rhan 1 o'r Bil yn ganlyniadau uchelgeisiol lefel uchel sy'n gysylltiedig â meysydd penodol: addysg, iechyd, trafnidiaeth, cyflogaeth a datblygu economaidd—meysydd yr wyf i'n ystyried eu bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gallai'r Senedd basio darpariaethau cyfatebol i'r rhai a gynhwysir yn Rhan 1, oherwydd amcan ffyniant bro i leihau anghyfartaledd daearyddol yn sylweddol yn y DU, ac nid yw hynny'n fater a gadwyd yn ôl.

Trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae gennym eisoes set o nodau integredig, hirdymor, wedi'u cynllunio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru gyfan ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. Cafodd y rhain eu datblygu gan bobl Cymru ar gyfer Cymru a chytunwyd arnynt gan y lle hwn. Yn fy marn i, mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ar 4 Gorffennaf 2023 ar Ran 1 yn gwella ar y sefyllfa a nodwyd yn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig gwreiddiol, a osodwyd ar y Bil hwn ar 25 Tachwedd 2022, i'r graddau y gallaf nawr argymell bod y Senedd yn rhoi cydsyniad i'r Bil. Mae ein pryderon ni ynghylch gweithredu'r ddyletswydd hon, ei rhyngweithiad â dyraniadau cyllid a sut y bydd Llywodraeth y DU yn cyflawni eu dyletswyddau i ystyried rôl Gweinidogion Cymru a'r Senedd yn parhau. Byddem yn disgwyl defnyddio'r trefniadau rhynglywodraethol i Weinidogion Cymru gymryd rhan yn yr agenda hon. Mae hyn yn helpu i sicrhau cydlyniad polisi ac osgoi dyblygu.

Dirprwy Lywydd, gan droi at y brif ddarpariaeth arall o fewn y Bil, mae'r Bil yn cynnig disodli'r system bresennol o asesu amgylcheddol, sef asesiad o'r effaith amgylcheddol ac asesiad amgylcheddol strategol, y cyfeirir atynt yn gyffredin gan eu hacronymau AEA ac AAS. Roedd y prosesau hyn yn deillio o'r cyfarwyddebau Ewropeaidd perthnasol, ac fe'u troswyd yn bennaf trwy reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972. Nawr bod y Ddeddf wedi'i diddymu wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd, nid oes pwerau galluogi bellach ar gael i wneud rheoliadau diwygio cynhwysfawr. Fodd bynnag, nid yw'r achos dros fframwaith o ddeddfwriaeth amgylcheddol wedi newid. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod safonau amddiffyn yn parhau, ac mae angen diweddaru'r fframweithiau asesu ar draws yr ystod eang o feysydd datganoledig amaethyddiaeth, morol, draenio tir, adnoddau dŵr, priffyrdd, porthladdoedd, coedwigaeth, trafnidiaeth a gwaith ffordd, a chynllunio. Mae'r Bil yn ein galluogi i ddiwygio cyfundrefnau asesu i'w diweddaru, sy'n hanfodol bwysig oherwydd bydd cyfundrefnau cydsynio yn Lloegr a chyfundrefnau cydsynio a gadwyd yn ôl ledled Cymru yn symud at y dull o gyflawni canlyniadau amgylcheddol, p'un a fydd cydsyniad datganoledig yn aros gydag AAS ac AEA ai peidio. Felly, mae'n bwysig bod gan Weinidogion Cymru y pwerau i wneud rheoliadau i'w defnyddio, pe bai eu hangen arnom ni, i sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gyfer prosiectau traws-awdurdodaethol, hyd yn oed os yw'n golygu derbyn dull cydredol plws.

Dechreuodd y Bil hwn mewn cyflwr anfoddhaol iawn, yn cynnwys darpariaethau cadw lle, a roddodd bwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol ddeddfu o fewn cymhwysedd datganoledig. Yr unig gydnabyddiaeth o ddatganoli oedd y gofyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud rheoliadau data cynllunio ac adroddiad canlyniadau amgylcheddol. O ganlyniad i ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â'r DU, mae'r gofynion ymgynghori wedi'u diwygio i roi'r gallu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig, ac yn cyfyngu ar allu Llywodraeth y DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig drwy ofyn am ganiatâd ymlaen llaw.

Rwy'n cydnabod ac yn rhannu rhwystredigaethau'r Aelodau yn llawn â nifer ac amseriad y gwelliannau niferus i'r Bil hwn, sydd wedi rhwystro craffu ar y cynigion. Wrth ystyried a ddylid cyflwyno'r dull adroddiad canlyniadau amgylcheddol o fewn sectorau unigol, byddaf yn disgwyl ymgysylltu'n llawn â rhanddeiliaid Cymru. O ystyried diogeliad y mecanwaith cydsynio, rwyf o'r farn bod defnyddio pwerau cydredol plws yn yr achos hwn yn ymarferol ac yn gyson â'n hegwyddorion ar gyfer Biliau'r DU. Bydd y dull hwn yn galluogi cyflawni manteision posibl y Bil, fel y nodir yn fy memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol, gan osgoi gwrthddywediadau ac ansicrwydd yn y gyfraith, ac i alluogi llwybrau cydsynio llyfn ar gyfer cynlluniau traws-awdurdodaethol y gallai fod eu hangen. Dirprwy Lywydd, rwyf felly'n argymell bod yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig i roi cydsyniad y Senedd i'r Bil, ac rwy'n cynnig y cynnig. Diolch.

16:55

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch hefyd i aelodau fy mhwyllgor. Rydym wedi llunio pedwar adroddiad ar bum memorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil hwn, a'n hadroddiad terfynol yn cael ei osod ar ôl ein cyfarfod pwyllgor brynhawn ddoe.

Nawr, rydym yn sylweddoli ei bod yn ymddangos bod y Bil hwn wedi trethu a phrofi'r Gweinidog a'i thîm. Mae cynnydd y Bil wedi trethu ein pwyllgor yn wirioneddol, ac mae wedi profi rhai o'r egwyddorion sydd gennym yn eithaf difrifol ar ran y Senedd hon. Cyfeiriodd y Gweinidog, yn ei sylwadau agoriadol, at wneud penderfyniadau ar y cyd rhwng Llywodraethau. Rydym yn deall hynny, ond gall cyd-benderfyniad rhwng Llywodraethau, weithiau, olygu osgoi craffu o fewn y Senedd hon.

Felly, daeth ein hadroddiadau i gyfanswm o wyth casgliad, gan wneud 38 o argymhellion, gan adlewyrchu'r graddau y mae'r Bil wedi newid, fel y dywedodd y Gweinidog, ers ei gyflwyno i Senedd y DU tua 17 mis yn ôl. Ond mae hefyd yn adlewyrchu ein pryderon ynghylch rhywfaint o ansawdd rhai o'r memoranda, a diffyg eglurder ar rai materion.

Nawr, yn ein hadroddiad cyntaf sy'n cwmpasu'r ddau femorandwm cyntaf, sy'n berthnasol i heddiw hefyd, daeth mwyafrif o'r Aelodau i'r casgliad bod Rhan 1 o'r Bil, sy'n ymwneud â'r cenadaethau ffyniant bro, yn gofyn, yn wir, am gydsyniad y Senedd. Ac roedd cytundeb unfrydol bod pob Rhan arall o'r Bil sy'n gwneud darpariaeth mewn meysydd datganoledig yn gofyn am ganiatâd y Senedd.

Roedd ein naw argymhelliad yn yr adroddiad cyntaf hwnnw yn gofyn am eglurder ar nifer o faterion ac, yn benodol, roedd dau argymhelliad yn gofyn am wybodaeth ynghylch pam roedd y Gweinidog yn ceisio pwerau gweithredol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â data cynllunio ac adroddiadau canlyniadau amgylcheddol. Nawr, wrth wneud yr argymhellion hyn, gwnaethom nodi datganiad y Gweinidog ei bod yn agored i gael ei darbwyllo ar welliannau i'r Bil yn y meysydd polisi hyn ac y 'byddai hynny o fudd i Gymru ond byddai hefyd yn amddiffyn ein setliad datganoli'. Amlygodd ein hadroddiad y byddai gwelliannau i'r Bil yn darparu pwerau gweithredol o'r fath yn digwydd ar ddiwedd proses ddeddfwriaethol y DU ac, felly, ychydig iawn o graffu y byddent yn ei gael drwy'r broses gydsynio deddfwriaethol. Fel mater o egwyddor, gwnaethom nodi mai'r ffordd orau o wireddu unrhyw fanteision posibl i Gymru ar ddarpariaethau data cynllunio ac adroddiadau canlyniadau amgylcheddol fyddai drwy Fil Llywodraeth Cymru yn amodol ar graffu llawn gan y Senedd hon. Byddai hyn yn well na thrafodaethau rhwng Llywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU ac yna cyflwyno gwelliannau yn Senedd y DU yn hwyr yn y broses ddeddfwriaethol, sy'n osgoi'r craffu ystyrlon hwnnw gan y Senedd.

Felly, mewn mannau, ni welsom fod yr ymateb i'n hadroddiad cyntaf yn foddhaol, a gwnaethom ddilyn pryderon yn ein hail adroddiad, a oedd yn canolbwyntio ar femorandwm Rhif 3, a gwnaethom chwe argymhelliad arall.

Nododd ein hail adroddiad gadarnhad y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol sy'n ymwneud â darpariaethau data cynllunio ac adroddiadau canlyniadau amgylcheddol. Fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod peth o sylwebaeth ychwanegol y Gweinidog yn y llythyr hwnnw yn awgrymu mai'r rhwystr i ddefnyddio Bil Llywodraeth Cymru oedd nad oedd yn rhan o raglen ddeddfwriaethol y Prif Weinidog am y flwyddyn honno, neu nad oedd cyfrwng addas yn bodoli o fewn y rhaglen honno. Nawr, gwnaethom fynegi pryder ynghylch goblygiadau'r awgrym hwn y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried y gellir defnyddio Biliau'r DU i wneud darpariaeth mewn meysydd datganoledig o dan yr amgylchiadau hyn. Nawr, mae hwn yn fater y dywedom y byddwn yn parhau i'w fonitro ac ymchwilio iddo oherwydd ei oblygiadau ehangach nid yn unig o ran sut y caiff cyfraith ei gwneud i Gymru, ond hefyd egwyddorion datganoli.

Gosodwyd memorandwm Rhif 4 yn ystod toriad yr haf a gwnaeth ein trydydd adroddiad, a gyhoeddwyd ddechrau mis Hydref, 23 o argymhellion eraill. Mae hwn yn rhif digynsail, Dirprwy Lywydd, ar ddiwedd proses cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r Gweinidog wedi darparu ymateb manwl, ond daeth ychydig ar ôl 3 p.m. heddiw, felly yn anffodus ni allwn fynd i'r afael yn llwyr â'r materion ynddo ac ymateb y Gweinidog. Fodd bynnag, mae dadansoddiad cychwynnol byr yn awgrymu bod rhai meysydd sy'n peri pryder rwy'n credu, Gweinidog, y byddwn fwy na thebyg yn ysgrifennu atoch chi eto amdanynt. Mae'r ymatebion i argymhellion 18 a 22 yn enghreifftiau o'r fath. Ond, ar gyfer heddiw, ac ar gyfer y broses graffu hon, mae'n bwysig nodi bod gwneud penderfyniad ar y Bil hwn yn absenoldeb gwybodaeth amserol yn rhoi Aelodau'r Senedd dan anfantais.

Nawr, y rheswm am y 23 o argymhellion yn ein trydydd adroddiad oedd diffyg gwybodaeth ym memorandwm Rhif 4 am rai materion arwyddocaol. Daethom i'r casgliad nad oedd memorandwm Rhif 4 wedi cyrraedd safon foddhaol, ac roedd ein pryderon mewn dau faes eang. Yn gyntaf, mae'r Gweinidog wedi newid ei safbwynt ac mae hi bellach yn argymell cydsyniad ar gyfer Rhan 1 o'r Bil ar genadaethau ffyniant bro, ond nid oes llawer o esboniad manwl am y newid hwn. Nawr, mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried gohebiaeth flaenorol y Gweinidog, ac yn wir heddiw, bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 eisoes yn ymdrin â rhai darpariaethau yn Rhan 1 y Bil ac, mewn dyfyniadau:

'Nid mater i Weinidogion Llywodraeth y DU yw gosod targedau ar gyfer y materion hyn yng Nghymru, nac adrodd ar gyflawni'r rhain i Senedd y DU.'

Ac, o'r un pwys, nodwn farn y Cwnsler Cyffredinol, a ddywedodd ym mis Mehefin fod Rhan 1 y Bil, mewn dyfyniadau,

'yn cynrychioli ymyrraeth amhriodol yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.'

Felly, roedd argymhelliad 7 yn gofyn a oedd Llywodraeth Cymru yn dal i arddel y farn hon, ac ni allaf weld, Dirprwy Lywydd, fod llythyr y Gweinidog y prynhawn yma'n mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol, felly rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog fynd i'r afael â'r pwynt hwn yn ei sylwadau cloi. Ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd; oherwydd i mi gael y llythyr yn hwyr y prynhawn yma, rwy'n ceisio ymateb i gwpl o bwyntiau yn y fan yna, os oes gen i eich caniatâd. 

17:00

Diolch yn fawr iawn. 

Ar ben hynny, pwysleisiodd y Gweinidog ym memorandwm Rhif 4 fod Llywodraeth Cymru o'r farn o hyd y gallai'r Senedd basio darpariaethau cyfwerth â'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn Rhan 1 y Bil, a chyfeiriodd at yr angen i ddefnyddio trefniadau rhynglywodraethol a gwneud penderfyniadau ar y cyd mewn perthynas â'r agenda ffyniant bro.

Felly, mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi newid ei safbwynt yn codi cwestiynau pwysig, gan gynnwys, 'Sut mae'r Senedd yn craffu ar y materion hyn wedi hynny?' Nod deuddeg o'n hargymhellion yw ceisio atebion i'r cwestiynau hynny. Felly, mae ymateb y Gweinidog, a gafwyd y prynhawn yma, yn mynd i gymryd peth dadansoddi, Dirprwy Lywydd; nid yw'n bosibl ei ystyried yn yr amser sydd ar gael, na mynd i'r afael â'r materion yn yr araith hon.

Ond yr ail faes sy'n peri pryder, testun chwe argymhelliad, oedd ynghylch caffael y pwerau cydredol plws hyn i wneud rheoliadau i Weinidogion Cymru, ar ddiwedd y broses ddeddfwriaethol, mewn perthynas â darpariaethau data cynllunio ac adroddiadau canlyniadau amgylcheddol. Nid oes unrhyw wybodaeth yn cael ei darparu ym memorandwm Rhif 4 ynghylch cwmpas pob pŵer a ddirprwywyd, bwriad polisi pob pŵer, na phryd y bydd y pwerau'n cael eu defnyddio. Felly, mae'n golygu y bydd Senedd y DU, yn hytrach na'r Senedd, yn gyfrifol am ddirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru a phenderfynu ar y gweithdrefnau craffu a ddylai fod yn berthnasol i'r rheoliadau hyn a osodir gerbron y Senedd gan Weinidogion Cymru. Felly, caiff swyddogaeth craffu'r Senedd ei hanwybyddu unwaith eto a'i disodli gan yr hyn a fydd, i bob pwrpas, yn ddarpariaeth 'ei derbyn neu ei gadael' ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol. Nid ydym yn credu, Dirprwy Lywydd, fod y dull hwn yn ddigonol i gymryd lle swyddogaeth craffu a deddfu'r Senedd hon.

Felly, i gloi, pa bynnag reswm sydd gan Lywodraeth Cymru dros fabwysiadu'r dull hwn yn yr achos hwn, dyma'r canlyniad nawr. Felly, rhaid i'n pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Dirprwy Lywydd, barhau i ddadansoddi a gwneud sylwadau ar hyn, i fod yn wyliadwrus a rhoi sylw i'r materion hyn er mwyn i'r Aelodau eu hystyried, a bod yn gyson wrth annog y Llywodraeth i ailystyried y dull hwn, yn gyffredinol yn ogystal ag yn yr achos hwn. Diolch yn fawr.

17:05

Fe wnes i ganiatáu'r estyniad ar y cyfraniad hwnnw gan fy mod o'r farn ei bod yn bwysig ein bod yn clywed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y mater hwn, ond rwy'n siŵr y bydd pob cyfrannwr arall yn cadw at y terfyn pum munud.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi cyhoeddi tri adroddiad ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio, yn trafod y pedwar memorandwm cyntaf. Ar ôl iddo gael ei gyflwyno ar 6 Hydref, mi gafodd memorandwm Rhif 5 ei gyfeirio atom ni ar 10 Hydref, a'r terfyn amser wedyn i gyflwyno adroddiad arno fe oedd 16 Hydref, ond roedd hi'n amhosib i’r pwyllgor wneud hynny erbyn y dyddiad dan sylw. Mae ein hadroddiadau ar y memoranda yn canolbwyntio ar y cymalau sy’n ymwneud â data cynllunio ac adroddiadau am ganlyniadau amgylcheddol, sydd o ddiddordeb arbennig i’r pwyllgor.

Pan gafodd y Bil ei gyflwyno, roedd y cymalau hyn yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ar gyfer Cymru mewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn hytrach na Gweinidogion Cymru. Yn y ddau adroddiad cyntaf gan y pwyllgor, ein casgliad ni oedd nad oeddem ni mewn sefyllfa i wneud argymhelliad i’r Senedd o ran cydsyniad deddfwriaethol, gan fod trafodaethau’n dal i fynd ymlaen rhwng y ddwy Lywodraeth i wneud yn siŵr bod y cymalau yn adlewyrchu cymhwysedd datganoledig yn llawn.

Cafodd memorandwm Rhif 4 ei gyfeirio atom ni ar 12 Medi. Roedd y memorandwm hwn yn cynnwys diwygiadau i’r cymalau ynghylch data cynllunio ac adroddiadau am ganlyniadau amgylcheddol a wnaed yn ystod y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae’r cymalau, fel y'u diwygiwyd, yn welliant mawr ar yr hyn a oedd wedi’i gynnwys yn y Bil fel y’i cyflwynwyd. Fodd bynnag, gwnaethom ni nodi yn ein hadroddiad fod yna ddau bwynt yn peri pryder i ni. Oherwydd y pryderon hyn, unwaith eto, ein casgliad ni oedd nad oeddem ni mewn sefyllfa i wneud argymhelliad o ran cydsyniad.

Felly, mae ein pwynt pryder cyntaf yn ymwneud â'r defnydd o bwerau cydredol ac osgoi craffu ar reoliadau data cynllunio ac adroddiadau canlyniadau amgylcheddol a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar ran Gweinidogion Cymru. Nawr, mae'r mater hwn eisoes wedi'i gwmpasu gan Huw, felly, i arbed amser, ni af i fanylder pellach ar wahân i ddweud ein bod yn rhannu'r pryderon a fynegodd.

Mae'r ail bwynt pryder yn ymwneud â'r gofyniad ar Weinidogion Cymru i roi sylw i gynllun gwella amgylcheddol Llywodraeth y DU wrth wneud rheoliadau adroddiadau canlyniadau amgylcheddol i Gymru. Nawr, mae'r cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth y DU yn gwella'r amgylchedd naturiol yn Lloegr; nid yw'n berthnasol i Gymru. O gymharu, rhaid i Weinidogion yr Alban ac adran berthnasol Gogledd Iwerddon roi sylw i gynlluniau gwella amgylcheddol ar gyfer eu gwledydd perthnasol. Yn ein hadroddiad ni, gwnaethom ofyn i'r Gweinidog egluro a oedd y gofyniad ar Weinidogion Cymru yn briodol yn ei barn hi ac, os felly, pam, roedd hi'n credu bod y gofyniad ar Weinidogion Cymru yn briodol. Nawr, ers i ni adrodd, mae'r Bil wedi'i ddiwygio fel bod yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i bolisi adnoddau naturiol cenedlaethol Cymru wrth wneud rheoliadau adroddiadau canlyniadau amgylcheddol. Mae hyn, wrth gwrs, i'w groesawu. Cwmpaswyd y gwelliant hwn gan femorandwm Rhif 5, nad oedd y pwyllgor, fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, yn gallu ei ystyried.

Dirprwy Lywydd, hoffwn unwaith eto dynnu sylw at y duedd bryderus o welliannau i gymalau y mae angen cydsyniad ar eu cyfer ar ddiwedd y broses ddeddfwriaethol yn Senedd y DU. Ychydig iawn o gyfle y mae hyn yn ei roi i bwyllgorau'r Senedd ystyried goblygiadau'r darpariaethau y ceisir cydsyniad ar eu cyfer ar gyfer datblygu a chyflawni polisi Cymru yn y dyfodol. Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at ymateb y Gweinidog i'n hadroddiad diweddaraf, a gawsom y bore yma, ac rydym wedi gofyn iddo gael ei gyhoeddi ochr yn ochr ag agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw, a gobeithiaf y bydd yn helpu i lywio penderfyniad yr Aelodau ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad i'r Bil ai peidio. Diolch.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, am y cyfle hwn i wneud sylwadau ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Mae'n rhaid i mi ddweud—waeth i mi fod yn gwbl onest gyda'r Siambr gyfan—pan wnes i'r cais i siarad, fe wnes i gymryd yn ganiataol y byddai'r Llywodraeth yn gofyn i ni bleidleisio yn ei erbyn. Felly, rwy'n gosod fy hun mewn sefyllfa braidd yn anodd o orfod siarad yn ei erbyn a phleidleisio drosto—[Torri ar draws.] Rwyf wedi ei wneud o'r blaen, meddai'r Aelod, ac mae'n draddodiad yn y lle hwn, rwy'n gobeithio; rwyf wedi ceisio creu hynny. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig nad ydym ond yn derbyn y cynigion cydsyniad deddfwriaethol hyn, a'n bod mewn gwirionedd yn trafod y materion sydd o'u cwmpas. Pan lansiwyd ffyniant bro gan, rwy'n credu mai Boris Johnson ydoedd, pan oedd yn cymodi gyda Michael Gove, roedd yn glir iawn. 'Mae ffyniant bro', meddai,

'yn rhaglen foesol, gymdeithasol ac economaidd i'r llywodraeth gyfan.'

ac roedd e'n glir iawn am hynny. Mae'n ddiddorol iddo ddefnyddio'r gair 'moesol' am y rhaglen; dydy hynny ddim yn rhywbeth yr ydych chi'n ei gysylltu'n hawdd â Boris Johnson. Ac roedd yn glir iawn ei bod yn rhywbeth a oedd yn uno'r Llywodraeth, yn ei gweithredoedd a'i phenderfyniadau, ond hefyd yn yr hyn y mae'n ei wneud, sut mae'n meddwl a sut mae'n gwneud y penderfyniadau hynny.

Felly, nid yw'r Bil yr ydym ni'n ei drafod y prynhawn yma yn ymwneud â rhaglen yn unig, ond mae'n ymwneud â sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ar y rhaglen honno, ac rwy'n cymeradwyo'r Gweinidog ar y gwaith y mae hi wedi'i wneud mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn rhan o'r penderfyniadau hynny. Rwy'n derbyn y pwyntiau a wnaed gan y ddau Gadeirydd pwyllgor bod angen i'r lle hwn fod yn rhan o'r rheiny hefyd. Ond mae pwynt mwy sylfaenol ar waith yma, onid oes e'? Os ydych chi'n darllen y Papur Gwyn ar ffyniant bro, a gyhoeddwyd rai blynyddoedd yn ôl, mae'n dechrau gyda chrynodeb gweithredol sy'n dweud bod y Deyrnas Unedig wedi bod yn lle mor llwyddiannus, ac yna mae'n mynd at wraidd y mater. Mae'n dweud bod mwy o wahaniaethau daearyddol yn y Deyrnas Unedig nag mewn unrhyw wlad arall a fyddai modd ei chymharu mewn unrhyw ffordd â'r Deyrnas Unedig. Ac yna mae'n rhestru beth yw'r gwahaniaethau hynny, ac mae'n mynd trwy bron unrhyw gymharydd demograffig y gallwch ei ddefnyddio, boed hynny ar iechyd neu'r economi neu ddangosyddion cymdeithasol. Mae gan bob un ohonyn nhw ystod o wahaniaethau, ac rydym ni i gyd yn gwybod, mewn rhai rhannau o'r Deyrnas Unedig, fod gennym grynodiadau o gyfoeth a bod polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yno i gynhyrchu nid yn unig mwy o gyfoeth, ond i gynnal cyfoeth yn y lle hwnnw, a bod ffyniant bro yn fodd o roi briwsion o'r bwrdd hwnnw i ardaloedd eraill. Fe wnaf gymryd ymyriad.

17:10

A fyddech chi'n derbyn, gyda'r pwyntiau hynny a wnaethoch chi, y gall y gwahaniaeth mewn lliwiau gwleidyddol mewn gwledydd datganoledig chwarae rhan yn y broses honno o gymhlethu'r agenda ffyniant bro rhywfaint trwy anwadalwch gwleidyddol a gwahaniaethau gwleidyddol rhwng pleidiau sy'n gweithredu fel rhwystrau i sicrhau cyllid ffyniant bro, yn hytrach na phe bai'n cael ei weinyddu'n uniongyrchol gan Lywodraeth y DU?  

Mae'r Aelod yn dal i fod yn eithaf newydd i'r lle hwn, ond fy nghyngor i iddo fyddai, os yw'n mynd i ymyrryd ar rai o'r materion hyn, y dylai ddarllen y Papur Gwyn yr wyf yn ei ddisgrifio, a dylech ei ddarllen cyn i chi ymyrryd. Pe baech wedi ei ddarllen, yna byddech chi'n gwybod na wnaeth Llywodraeth y DU y gymhariaeth honno yn y Papur Gwyn, ac nid dyna oedd Llywodraeth y DU yn ei ddweud. Roedd Llywodraeth y DU yn cyfeirio at Loegr gymaint ag yr oedd yn cyfeirio at wahaniaethau ledled y Deyrnas Unedig. Mae angen i chi wrando ar yr hyn y mae eich Llywodraeth eich hun yn Llundain yn ei ddweud. Chi—[Torri ar draws.] Na, gwrandewch ar hynny. Peidiwch â thorri ar draws. Gwrandewch ar hynny. Gwrandewch arno, oherwydd rwyf i wedi ei ddarllen ac rwyf i wedi'i ddeall.

A gadewch imi ddweud hyn: rwyf i o'r farn—a dywedaf hyn fel mater o dristwch gymaint ag unrhyw beth arall—bod ffyniant bro wedi marw. Mae wedi marw. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU erioed wedi ymrwymo iddo, ond y foment y gwnaethon nhw y penderfyniad ar HS2, bu farw. A bu farw oherwydd bod pob un ohonom ni yn gwybod, pe bai angen yr arian hwnnw i ddarparu rhaglen drafnidiaeth, neu unrhyw raglen arall o'r math hwnnw, a phe bai angen yr arian hwnnw yn Llundain neu dde-ddwyrain Lloegr, byddai'r arian wedi ei ganfod. A'r gwir amdani yw na fyddai Llywodraeth y DU yn darparu'r rhaglen honno, ac na fydd yn darparu'r rhaglen honno, oherwydd nid yw'n bwysig iddyn nhw gan nad yw'n rhywbeth sy'n cael ei chyflawni yn ne-ddwyrain Lloegr nac yn Llundain. Mae gennym Lywodraeth y DU o Lundain ar gyfer Llundain, ac mae hynny yr un mor wir i'r bobl yn Lloegr ag ydyw i'r rhai ohonom sy'n eistedd yma. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. 

Felly, Gweinidog, rwy'n amlwg yn cefnogi—[Torri ar draws.] Iawn, iawn, digon teg. Fe wnaf gymryd yr ymyriad.

Rydych chi wedi gwneud pwynt ynglŷn â gwahaniaethau rhanbarthol. Beth am y gwahaniaethau rhanbarthol yma yng Nghymru? Beth am y ffaith bod y gogledd yn cael ei hanwybyddu'n gyson o ran buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru? Ac oni fyddai'n well gennych fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau rhywfaint o ffyniant bro ledled ein gwlad, yn hytrach na beirniadu ymdrechion Llywodraeth y DU i sicrhau ffyniant bro ledled y DU? 

Byddai ffigwr mwy angharedig yn dadlau efallai nad yw'r cynrychiolwyr o rai etholaethau mor gryf ag eraill. Ond dydw i ddim yn credu—[Torri ar draws.] Dydw i ddim yn credu—[Torri ar draws.] Dydw i ddim yn credu bod y pwynt—. Dydw i ddim yn credu bod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwynt dilys. Ond mae pwynt mwy sylfaenol na hynny, wrth gwrs, oherwydd yng Nghymru nid oes gennym y strwythurau a'r mecanweithiau ariannol a'r dulliau o ailddosbarthu yn y ffordd sydd gennych ledled y Deyrnas Unedig. A thros y ganrif ddiwethaf, dyweder, mae'r Deyrnas Unedig wedi creu mwy o gyfoeth na bron unrhyw wlad debyg arall yn y byd. Mae hefyd wedi creu mwy o anghydraddoldeb nag unrhyw wlad debyg arall yn y byd, neu yn sicr yn Ewrop, a diffyg ailddosbarthu cyfoeth, creu anghydraddoldeb, yw'r pwynt yr wyf yn ceisio ei wneud y prynhawn yma.

Ond rwy'n profi amynedd y Dirprwy Lywydd ddwywaith mewn un prynhawn, ac rwyf wedi dysgu na ddylwn wneud hynny mewn gwirionedd. Felly, fe wnaf orffen gyda'r pwynt hwn: beth bynnag yw'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio drwy Senedd San Steffan, beth bynnag fo'r cytundebau a wnaed yn y negodi hwn, beth bynnag fo'r bleidlais y prynhawn yma, ni fydd ffyniant bro yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac ni fydd yn cyflawni'r ailddosbarthu cyfoeth sydd ei angen arnom yn y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu dylem ni, fel Senedd—a, gobeithio, Llywodraeth Cymru fel Llywodraeth—gyflwyno'r achos i'r Deyrnas Unedig bod angen diwygio yn fwy sylfaenol wladwriaeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a sefydliadau'r wladwriaeth honno a sefydliadau'r Llywodraeth honno, er mwyn sicrhau ein bod yn cael ailddosbarthu go iawn, mynd i'r afael go iawn ag anghydraddoldeb, a ffyniant bro a fydd werth y term, ac a fydd werth Papur Gwyn arall. 

17:15

I ddilyn Alun Davies, mae'n sicr yn wir, os edrychwch chi ar dystiolaeth ledled y byd, ar wladwriaethau sydd wedi llwyddo i leihau'r bwlch economaidd rhwng gwahanol rannau o'u gwladwriaeth, yna mae ailddosbarthu cyfleoedd economaidd, cyfoeth, yn mynd law yn llaw ag ailddosbarthu grym gwleidyddol hefyd. Rydyn ni'n ei weld yn achos yr Almaen, er enghraifft, i raddau helaeth, ac mewn mannau eraill hefyd. Ac, yn wir, mae hynny'n cael ei adlewyrchu, yn eironig, yn y cenadaethau ffyniant bro. Mae yn y ddeuddegfed genhadaeth, sef 'Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol', ond wrth gwrs dim ond at ddatganoli yn Lloegr y mae'n cyfeirio, oherwydd cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn yn y lle hwn, nid Bil gwella ffyniant bro i ni yw hwn, mae'n Fil gwaethygu ffyniant bro, sy'n dileu pŵer ac mewn gwirionedd yn ein rhwystro rhag gwneud y math o waith adfywio economaidd sy'n angenrheidiol er mwyn cynyddu ffyniant ym mhob rhan o Gymru. Ac yn hynny—[Torri ar draws.] Ie, iawn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y cyfan y byddwn i'n ei ddweud ar y pwynt hwnnw yw bod yna ddatganoli yn Lloegr hefyd, ac roeddwn i'n ei grybwyll wrth Alun, y ffaith bod gennych chi feiri dinas mewn gwahanol rannau o Loegr, meiri rhanbarthol, rhai ag ideoleg wleidyddol wahanol. Felly, y pwynt roeddwn i'n ei wneud oedd mwy bod rhwystrau gwleidyddol sydd yn naturiol ar waith oherwydd y datganoli hynny—. Nid yw'n ddadl yn ei erbyn; dim ond gwneud y pwynt bod hynny'n realiti gwleidyddol, hyd yn oed yn Lloegr.

Ie, ond y pwynt yw bod y Bil hwn a'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol sydd wedi dod ger ein bron ni nawr, maen nhw'n diystyru yn llwyr, maen nhw'n tanseilio ein democratiaeth ni yma, ac maen nhw mewn gwirionedd yn tanseilio ein gallu ni i gynyddu cyfleoedd economaidd i'n holl bobl ni. A dyna pam y mae'n siomedig bod y Llywodraeth wedi newid ei meddwl.

Mae'n rhyfedd yng ngoleuni—fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol am y Bil hwn. A'r ffaith yw ein bod ni'n gwneud penderfyniad yn y tywyllwch, yma, onid ydyn ni? Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i'r pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad, ac mae 23 o argymhellion yn un o'r adroddiadau hynny mewn gwirionedd yn gofyn am ragor o wybodaeth oherwydd diffyg eglurder gan y Llywodraeth yn y memorandwm. Cawsom yr ymateb hwnnw 90 munud cyn i'r Gweinidog godi ar ei thraed. Pwy yma sydd wedi cael y cyfle i ddeall mewn gwirionedd yr hyn y gofynnir i ni bleidleisio arno?

Mae un o'r ymatebion hynny'n cyfeirio at y rheswm pam y newidiodd y Llywodraeth ei meddwl. Yn y bôn, mae'n dweud bod yna lyffethair angenrheidiol bellach ar Lywodraeth y DU oherwydd bod y Llywodraeth wedi negodi adroddiad y mae'n rhaid ei roi gerbron Senedd y DU, a fydd yn nodi'r ymgynghoriad y mae wedi'i gael gyda Llywodraeth Cymru, a thrwy Lywodraeth Cymru, yn ôl pob tebyg, gyda'r Senedd, ac mae'n rhaid iddo roi sylw dyledus. Wel, wyddoch chi, mae'r hawl i gael eich ymgynghori hefyd yn gyfle i gael eich anwybyddu. Ac yn yr un llythyr mae'r Gweinidog yn mynd ymlaen i fynegi rhwystredigaeth barhaus y Llywodraeth gyda pha mor ddi-fudd yw agwedd y Llywodraeth o ran y gronfa ffyniant gyffredin neu'r rhaglen a gyhoeddwyd o ran adfywio trefi, a anwybyddodd Llywodraeth Cymru yn llwyr, ac amryw agweddau neu enghreifftiau eraill o sut mae Llywodraeth y DU yn parhau i anwybyddu rôl briodol y lle hwn wrth siarad dros bobl Cymru mewn gwirionedd.

Pam ar y ddaear, felly, y cafodd y Llywodraeth ei hargyhoeddi gan y cyfrifoldeb i lunio adroddiad i'r—? Beth fydd yr adroddiad hwnnw'n ei ddweud? 'Fe wnaethon ni ymgynghori â Llywodraeth Cymru, doedden ni ddim yn cytuno â nhw a phenderfynon ni fwrw ymlaen'—dyna beth fyddwn ni'n ei gael. Felly, byddwn i'n gofyn i'r Gweinidog a allai hi roi ar y cofnod, oherwydd mae'n un o gwestiynau'r pwyllgor na chafodd ei ateb, mewn gwirionedd, yn eich llythyr, a ydych chi'n dal i ystyried Rhan 1 o'r Bil yn

'ymyrraeth amhriodol yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.'

Dyna ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol ychydig wythnosau yn unig cyn y cyfarfod a ddigwyddodd pan fo'n ymddangos eich bod wedi newid eich meddwl. A oes gennych chi farn wahanol bellach i'r datganiad a roddodd y Cwnsler Cyffredinol ger ein bron pan oedd yn gwneud ei sylwadau?

17:20

Rydym wedi clywed ar sawl achlysur bryderon yn y lle hwn ynghylch y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol; rydym wedi clywed llawer ohonyn nhw'n cael eu datgan eto y prynhawn yma, ac mae Cadeirydd y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ac Adam Price wedi nodi'n huawdl y diffyg craffu ynghylch y cynnig hwn. Yn wahanol i Alun Davies, byddaf i yn siarad yn erbyn ac yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn, ond fe wnaf ddechrau ar nodyn cadarnhaol. Roeddwn i'n falch iawn bod y Gweinidog wedi llwyddo i ddiwygio'r Bil fel nad yw Cymru'n rhwym i gynllun gwella amgylcheddol ledled y DU. Mae'r syniad y byddem ni yn rhwym i'r polisïau gwrth-wyrdd sy'n dod o San Steffan yn frawychus, ac mae'n hanfodol ein bod yn cadw ein dwylo ar y pwerau dros yr amgylchedd.

Fodd bynnag, rwy'n bryderus iawn bod y Bil hwn yn parhau â'r duedd o ganoli penderfyniadau i Weinidogion y DU; yn yr achos hwn, i'r Ysgrifennydd ffyniant bro. Unwaith eto, gwelwn arfer ofnadwy cymalau Harri VIII yn cael eu defnyddio. Mae hyn yn wneud cyfraith wael sydd nid yn unig yn achosi materion cyfansoddiadol mawr, ond sydd hefyd yn gwneud y gyfraith yn llawer mwy ansicr ac yn dileu pŵer craffu hanfodol. Fe'u crëwyd gan y Brenin enwog fel ffordd o danseilio'r Senedd, ac mae eu defnydd heddiw yn erydiad o bwerau ein deddfwrfeydd yn y Deyrnas Unedig. Fel eu henw, a gawn ni adael cymalau Harri VIII yn y llyfrau hanes?

Mae awdurdodau lleol wedi mynegi pryderon y byddan nhw, o dan adran 94, yn cael eu gorfodi i gydymffurfio â'r polisi rheoli datblygu cenedlaethol yn hytrach na darparu eu cynllun lleol eu hunain. Ni chaniataodd drafft cychwynnol y Bil unrhyw gyfyngiad cyfreithiol ar gyfer lefel yr ymyrraeth gan Lywodraeth y DU, ac er fy mod yn falch bod gwelliant wedi'i basio i ganiatáu craffu cyhoeddus a seneddol, mae'r pŵer yn dal i sefyll, yn y pen draw, yn nwylo'r Ysgrifennydd ffyniant bro.

Nawr, mae'r Ysgrifennydd ffyniant bro wedi mynnu y bydd y Bil hwn er budd pobl Cymru. Wel, mae gen i rai pryderon mawr am hynny, yn enwedig gan fod hynny wedi'i addo i ni o ran y rheilffordd cyflymder uchel 2. Er gwaethaf y rhaglenni ffyniant bro niferus a fu ers Brexit, mae cyllideb Cymru wedi cael ei thorri bron i £1 biliwn o hyd. Rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno ag Adam Price bod hyn yn teimlo'n llawer mwy fel gwaethygu ffyniant bro yn hytrach na'i wella.

Yn olaf, Gweinidog, roeddwn i'n siomedig iawn o weld nad yw'r Bil hwn yn diddymu Deddf Crwydraeth greulon 1824. Yn fargyfreithiwr ifanc, roeddwn i'n aml yn gweld pobl ddigartref yn cael eu herlyn yn ein llysoedd ynadon dim ond am geisio goroesi. Mae'r Bil ond yn gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol asesu effaith y Bil. Gweinidog, siawns—siawns—nad oes angen unrhyw asesiadau ychwanegol arnom. Mae hyn yn gwbl groes i'ch cyhoeddiad diweddar i'r Senedd hon. Rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd gytuno y dylai Deddf sy'n parhau i gosbi pobl ddigartref yng Nghymru ac yn y DU hefyd gael ei gadael ar dudalennau cywilyddus ein llyfrau hanes. Diolch yn fawr.

17:25

Diolch, Llywydd. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi gwneud eu cyfraniadau heddiw. O'r dechrau, rwyf wedi bod yn glir iawn bod proses Llywodraeth y DU o fynd ati i wneud y Bil hwn wedi cymhlethu materion yn sylweddol. Mae wedi llesteirio fy ngallu i a gallu'r pwyllgorau i ystyried y newidiadau ac, yn gyffredinol, nid yw wedi bod yn brofiad hapus o gwbl.

O'r cychwyn cyntaf, rwyf wedi bod yn glir bod manteision posibl i Gymru yn narpariaethau ar yr adroddiad canlyniadau amgylcheddol a data cynllunio newydd, ac roeddwn i'n glir yn y pwyllgorau y gellid fy narbwyllo, pe gellid addasu'r Bil, mai dyna'r cyfeiriad iawn i fynd iddo. Dechreuodd y cynigion yn sicr mewn cyflwr anfoddhaol iawn. Roedden nhw'n cynnwys darpariaethau cadw lle a oedd yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol ddeddfu o fewn cymhwysedd datganoledig, a'r unig gydnabyddiaeth yn y sefyllfa gyntaf honno oedd y gofyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud data cynllunio ac, yn wir, y rheoliadau adroddiadau canlyniadau amgylcheddol newydd. Yr hyn sydd gennym nawr yw darpariaethau ar gyfer Cymru ar adroddiadau canlyniadau amgylcheddol sy'n parchu'r setliad datganoli ac sy'n sicrhau y gallwn ni barhau i ddarparu deddfwriaeth newydd yn y maes hwn. Mae hon wedi bod yn daith hir ac anodd. Mae wedi bod yn llawn anawsterau. Rwyf am ymddiheuro i'r ddau bwyllgor am hwyrni'r ymateb, ond yr hyn sy'n ei achosi yw'r problemau sydd gennym wrth gael unrhyw fath o ymateb gan Lywodraeth y DU, a chan hwyrni'r holl brosesau ymgynghori ar hyn. Felly, nid yw hon wedi bod yn broses hapus o gwbl.

Dim ond o ran yr adroddiadau canlyniadau amgylcheddol, fe wnaf fynd trwy, Llywydd—maddeuwch i mi, mae'n ddrwg gen i, oherwydd roedd llawer o bwyntiau wedi'u gwneud ar y mater hwn. Roedd y pwerau gwneud rheoliadau ar gyfer asesiadau o'r effaith amgylcheddol ac asesiadau amgylcheddol strategol i'w canfod yn bennaf yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Heb y Ddeddf honno ar waith—mae bellach wedi ei diddymu—bydd llawer o'n systemau yn aros yn eu hunfan. Nid yw hon yn sefyllfa dderbyniol i fod ynddi. Mae'r cyfundrefnau AEA ac AAS yn croestorri ystod eang o feysydd datganoledig, ac fe ddywedais yn fy nghyfraniad ar y dechrau bod y rhain yn cynnwys cynllunio, coedwigaeth, amaethyddiaeth, priffyrdd, draenio tir, gweithfeydd morol a mwynau, i enwi ond ychydig. O ystyried natur helaeth y darpariaethau, mae'r broblem bosibl o beidio â bod â deddfwriaeth sylfaenol yn real; mae'n berygl gwirioneddol. Ni allwn gael ein rhoi yn y sefyllfa honno. Nid oes gennym unrhyw amser ar gael yn ein rhaglen ddeddfwriaethol i fwrw ymlaen â'n deddfwriaeth ein hunain yn yr amser sydd ar gael i ni, ac felly, os na fyddwn ni'n derbyn y cyfle hwn, bydd yna fwlch. Nid yw hyn yn atal y Senedd rhag gwneud rheoliadau diweddarach sy'n fwy addas i Gymru, ond mae'n ein hatal rhag bod â bwlch llwyr yn y rheoliadau. A dyna'r pwynt darbwyllol cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn.

Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn. Ni allwn ddeall y rhesymau pam, y tu hwnt i nad oes bwlch ar hyn o bryd, efallai na allai Bil cyfochrog fod wedi cael ei gyflwyno, ond gall fod yn ystod o resymau. Rydych chi'n dal ymlaen i'r potensial o gyflwyno rhywbeth a fydd yn well yn y dyfodol, a fydd yn disodli'r craffu hwnnw yn ôl yn y fan yma. Ond gallai'r un peth fod yn berthnasol yn y dyfodol, nad oes bwlch oherwydd bod materion deddfwriaethol brys eraill i ddelio â nhw. Onid yw hynny'n berygl hefyd?

Yn sicr. Mae hynny'n bwynt teg, onid yw e? Ond pe bai'r drefn hon yn gweithio, yna ni fyddai angen i ni wneud hynny. Os nad yw'n gweithio, yna bydd angen dybryd i wneud hynny. Yr hyn sydd gennym yn sicr yw ein bod yn wynebu bwlch sy'n real a phresennol, ac ni allaf i ei ddatrys. Felly, mae hon yn ffordd o ddatrys hynny. Efallai y bydd yn y pen draw yn ateb dros dro; efallai y bydd yn ateb parhaol, yn dibynnu ar sut mae'n gweithio, ond mae'r cyfle yno i'w newid yn y dyfodol.

Ac i bwysleisio'r pwynt, ni allwn anwybyddu'r dull adroddiad canlyniadau amgylcheddol newydd, oherwydd bydd Llywodraeth y DU yn ei gymhwyso i gyfundrefnau cydsyniad a gadwyd yn ôl, megis prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol a gydsynnir ar sail Cymru a Lloegr o dan Ddeddf Cynllunio 2008. Felly, bydd hyn yn digwydd, p'un a ydym ni'n cydsynio iddo ai peidio, ac mae'r broses y gwnaethom ni ymgysylltu ynddi wedi ein rhoi mewn sefyllfa llawer gwell nag y byddem ni wedi bod ynddi fel arall, a dyna'r pwynt yr oeddwn i'n ei wneud. Nid fy mod i'n hapus am y peth—dydw i ddim.

Fodd bynnag, mae tri mater arall. Mae yna faterion go iawn, os ydym yn creu gwahaniaethau dros y ffin ar gyfer prosiectau buddsoddi seilwaith, mae hynny'n broblem wirioneddol. Felly, 'alinio', mae'n debyg, yw'r gair yr ydym ni ei eisiau; rydyn ni eisiau alinio. Efallai bod gwahaniaethau cynnil ar yr ochr hon i'r ffin, ond ar gyfer prosiectau trawsffiniol—mae llawer ohonyn nhw'n brosiectau trawsffiniol ac mae trosglwyddo trydan yn un ohonyn nhw, er enghraifft—dydyn ni ddim eisiau i unrhyw broblemau o'r fath atal buddsoddi yng Nghymru. Rydyn ni wir yn brwydro am fuddsoddiad yn y grid yng Nghymru, er enghraifft, ac nid ydym am i fuddsoddwyr gael eu digalonni gan hynny. Felly, ni fyddai bod â bwlch yn y ddeddfwriaeth yn addas o gwbl. Ac yna mae'n gwneud synnwyr i osgoi dyblygu a phrosesau ychwanegol, felly wrth i hyn fynd rhagddo, byddwn yn gallu gweld beth allwn ni ei wneud i'w wella, ac mae gennym ni, wrth gwrs, ein Bil seilwaith ein hunain yn mynd ar ei hynt ar y foment hefyd.

Mae'r darpariaethau yn y Bil hwn yn darparu pŵer trosfwaol i wneud darpariaethau mewn perthynas ag adroddiadau canlyniadau amgylcheddol i gyd-fynd â chynlluniau strategol a chydsyniadau prosiect perthnasol. Maen nhw'n darparu fframwaith, gyda phwerau i osod canlyniadau amgylcheddol a gofyniad dilynol i adroddiad gael ei baratoi ar gyfer cynlluniau perthnasol a cheisiadau am ganiatâd prosiect a bennir yn y rheoliadau a fydd yn dilyn. Bydd ychydig yn gliriach na'r system bresennol beth bynnag, sydd â rheoliadau lluosog cyfredol ar gyfer y mathau hynny o brosiectau, ond byddwn yn cefnogi unrhyw system newydd gyda set gynhwysfawr o ganllawiau a hyfforddiant yma yng Nghymru i sicrhau pontio didrafferth ac i helpu ein rhanddeiliaid. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni wedi negodi'r cydsyniad hwnnw gan Lywodraeth y DU.

Rydym hefyd yn ddarostyngedig i gyfyngiadau ar gonfensiwn Espoo ar AEA, confensiwn Aarhus ar wybodaeth, ac unrhyw gytundebau masnach ryngwladol. Felly, mewn gwirionedd, byddwn ni'n cael ein gorfodi i system debyg beth bynnag, oherwydd mae'n rhaid i ni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau rhyngwladol eraill, waeth beth yr ydyn ni'n eu galw neu pwy sy'n eu drafftio. Rwyf yn gwbl glir ynghylch hyn, Llywydd, mae hon yn sefyllfa gyfaddawdu. Mae'n sefyllfa well nag y byddem ni ynddi pe na baem yn gwneud hynny, nid dyna'r sefyllfa yr hoffwn fod wedi bod ynddi, ond, yn y diwedd, mae'n ddull pragmatig.

Y pwynt arall yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd ein bod ni wir eisiau sicrhau bod hyn yn rhoi'r pŵer i ni wneud rheoliadau mewn meysydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Dim ond gyda'n cydsyniad ni ymlaen llaw y gall yr Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig. Nid oes angen i ni roi'r cydsyniad hwnnw, gallwn wneud y rheoliadau hynny yma. Mae'n rhoi sefyllfa ychwanegol i ni nad oedd gennym ni yn y lle cyntaf, felly roeddwn i eisiau bod yn glir ynglŷn â hynny. Rydyn ni wedi gwneud yn siŵr bod diwygiadau a wnaed i Ddeddf Llywodraeth Cymru yn golygu y gellir gwneud hyn heb fod angen caniatâd Llywodraeth y DU, a oedd yn sgwrs hir ac anodd, mae'n rhaid dweud. Yn fy marn i, Llywydd, mae hynny'n diogelu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, ac roeddwn i'n glir fy mod i eisiau gwneud hynny.

Ac yna, dim ond ar y cenadaethau ffyniant bro, oherwydd bydd hynny'n ymwneud yn bennaf â'r adroddiadau canlyniadau amgylcheddol, rydym yn parhau i geisio rôl gyd-benderfynu wrth gytuno ar y canlyniadau a sut y dylid gwario arian sy'n cefnogi'r agenda ffyniant bro, gan gynnwys y gronfa ffyniant gyffredin, i osgoi dyblygu ac i sicrhau cydlyniad polisi.

Ein barn ni yw y gallai'r Senedd basio darpariaethau cyfwerth â'r rhai a gynhwysir yn Rhan 1, ac felly, ein barn ni yw bod Rhan 1 o'r Bil yn gofyn am gydsyniad y Senedd, a dyna pam yr ydym ni yma. Rwy'n fodlon bod y gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ar 4 Gorffennaf 2023 yn gwella ar y sefyllfaoedd a nodwyd yn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig gwreiddiol a osodwyd ar y Bil hwn ar 25 Tachwedd. Maen nhw'n nodi'n glir gydnabyddiaeth o rôl Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn y meysydd datganoledig sy'n cael sylw gan y cenadaethau ffyniant bro ac yn ymateb i'r pryderon yr ydym wedi'u mynegi'n gyson i Lywodraeth y DU ar y Bil. Maen nhw'n gosod nifer o rwymedigaethau ymgynghori a sylw dyledus ar Lywodraeth y DU wrth osod, adrodd, diwygio ac adolygu'r datganiad o genadaethau ffyniant bro a methodoleg gysylltiedig. Maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidog adrodd i Senedd y DU ar sut maen nhw wedi rhoi sylw i rôl Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, a fydd yn destun craffu seneddol—

17:30

Heb ddatgelu union gynnwys unrhyw gyngor cyfreithiol a gawsoch, beth yw eich dealltwriaeth chi o draddodadwyedd yr ymadrodd 'sylw dyledus' hwnnw?

Rwy'n cymryd eich pwynt. Wrth gwrs, gall sylw dyledus fod yn, 'Rydym wedi rhoi sylw iddo, rydym wedi penderfynu ei wneud beth bynnag.' Cawsom sgyrsiau hir gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch sut y gallem ni ddiogelu sefyllfa Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru o ran gorfod ystyried ein materion arni. Rwy'n fodlon wrth orfod ysgrifennu adroddiad i Senedd y DU sy'n nodi pam mae gennym broblem—oherwydd dyna'r unig reswm pam y bydden nhw'n ei wneud; pe na bai gennym broblem, ni fyddai yna adroddiad o'r fath—byddai'n rhaid iddyn nhw eu hunain fynd trwy broses a fyddai'n gwneud iddyn nhw feddwl pam nad oedden nhw'n gallu edrych ar hynny, ac, wrth gwrs, mae'n amlygu hynny i graffu seneddol. Rwy'n credu ei bod yn debyg y byddem yn gallu datblygu proses debyg yma a fyddai'n ein galluogi i fynegi barn arni. Nid yw'n berffaith, rwy'n cytuno'n llwyr, ond mae'n llawer gwell na lle y dechreuon ni, ac os na wnawn ni hyn, bydd gennym fwlch yn ein deddfwriaeth, sy'n llawer gwaeth. Rwy'n derbyn ei fod yn gyfaddawd.

Llywydd, fe wnaf orffen yn y fan yna, oherwydd mae nifer fawr o bwyntiau manwl wedi'u gwneud, ac rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf ohonyn nhw, ond yn y pen draw, mae hon yn sefyllfa gyfaddawdu, ac wedi ystyried, rydym yn credu ei bod yn well cael cydsyniad ar gyfer y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac felly fod â'r consesiynau a roddwyd gan Lywodraeth y DU, na pheidio â'i gael. Felly, ar y sail honno, rwy'n argymell y cynnig i'r tŷ.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd Plant Cymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar aroddiad blynyddol y comisiynydd plant, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig yma—Jane Hutt.

Cynnig NDM8376 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2022-23.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle heddiw i gyflwyno ein dadl flynyddol ar adroddiad y comisiynydd plant. Mae'r adroddiad yn rhoi cyfle i fyfyrio ar waith y flwyddyn flaenorol i gefnogi hawliau plant yng Nghymru. Mae adroddiad y comisiynydd yn nodi'r hyn a wnaethon nhw i ddiogelu a hyrwyddo hawliau plant. Mae'n cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau, o'u hymgysylltiad â phlant a phobl ifanc i'w gwaith ymchwil, a sut maen nhw wedi cyflawni eu swyddogaeth statudol o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae ganddo hefyd swyddogaeth hanfodol o amlygu'r materion sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Yn olaf, mae'n rhoi trosolwg annibynnol i ni ar hawliau plant ac yn sicrhau ein bod ni fel Llywodraeth yn canolbwyntio ar y cyd arnynt. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, am yr adroddiad. Mae'n amlwg ei bod wedi defnyddio 18 mis cyntaf ei chyfnod i archwilio a gosod gweledigaeth glir o ran sut mae arni eisiau llywio ei hamser yn y swydd, ac rwyf wedi bod yn falch o gwrdd â'r comisiynydd ar sawl achlysur. Rwy'n gwybod ei bod hi hefyd yn cael diweddariadau rheolaidd gyda chydweithwyr a swyddogion gweinidogol eraill.

Mae rôl annibynnol y comisiynydd yn hanfodol wrth ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, a byddwn yn parhau i weithio gyda hi er budd pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn o weld ei bod yn canolbwyntio'n fawr ar wrando ar leisiau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae tîm y comisiynydd wedi cyrraedd 17,000 o blant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae hyn wedi bod yn gyflawniad sylweddol, ac rwy'n llongyfarch y comisiynydd arno. Bu llawer o'r rhyngweithio hwn drwy'r ymgynghoriad Uchelgais i Gymru, a gafodd dros 10,000 o ymatebion. Roedd hyn yn cynnwys, am y tro cyntaf, barn plant ag anawsterau dysgu lluosog dwys. Mae'r gwaith hwn wedi rhoi cipolwg gwerthfawr ar y materion y mae plant a phobl ifanc yn poeni fwyaf amdanyn nhw. Mae canlyniadau'r ymgynghoriad Uchelgais i Gymru wedi arwain at y comisiynydd yn nodi ei gweledigaeth mewn cynllun gwaith tair blynedd, a ddyluniwyd i'w galluogi i gyflawni ei chylch gwaith i amddiffyn a hyrwyddo hawliau plant. Edrychaf ymlaen at weld ei datblygiad dros y tair blynedd nesaf.

Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at waith parhaus y comisiynydd wrth gefnogi cyrff cyhoeddus i fabwysiadu dull gweithredu hawliau plant. Mae rhoi plant a phobl ifanc yng nghanol ein gwasanaethau cyhoeddus a dysgu gan ein plant a'n pobl ifanc mor bwysig, ac rwy'n croesawu ymrwymiad swyddfa'r comisiynydd i ddarparu'r cymorth hwn. Rydym yn cydnabod bod angen pob lefel o Lywodraeth arnom ni i gydweithio mewn partneriaeth â'r trydydd sector plant os ydym yn mynd i gefnogi plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn y dyfodol. Hoffwn dynnu sylw at wasanaeth ymchwiliadau a chyngor y comisiynydd yn benodol, sy'n cynghori ac yn cefnogi plant a phobl ifanc yn benodol os ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg neu y gwrthodwyd eu hawliau. Mae'r adroddiad yn cynnwys rhai enghreifftiau teimladwy o waith achos yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a gwn fod hwn yn faes gwaith yr hoffai'r comisiynydd ei ehangu.

Mae'r adroddiad hwn hefyd yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar gynnydd Llywodraeth Cymru ar rai o'r materion pwysicaf i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ein hadroddiad cydymffurfio ar hawliau plant, ac mae'r adroddiad yn nodi sut rydym ni wedi bod yn cydymffurfio â'r ddyletswydd sylw dyladwy ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Fe wnaethom ni seilio'r adroddiad ynghylch y pum ffordd o weithio yn 'Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant', gan ddefnyddio astudiaethau achos i ddangos sut y cafodd y rhain eu cymhwyso. Byddwn yn annog Aelodau i ddarllen yr adroddiad i gael syniad o ehangder y gwaith rydym yn ei wneud gyda ac ar ran plant a phobl ifanc, dan arweiniad y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Yn ei hadroddiad, mae'r comisiynydd wedi gwneud 30 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gwmpasu 17 maes polisi. Mae'r rhain yn cynnwys tlodi plant, iechyd meddwl a lles, diwygio gofal cymdeithasol ac addysg plant. Mae'r comisiynydd yn tynnu sylw at yr effaith y mae'r argyfwng costau byw, COVID a newid yn yr hinsawdd wedi'i chael ar blant a phobl ifanc ac y bydd yn parhau i'w gael ar eu bywydau. Byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein plant rhag y materion hyn wrth i ni barhau i ymdrechu i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae llawer iawn o gynnydd wedi'i wneud ers diwedd cyfnod adrodd y comisiynydd plant. Rydym ni wedi ymgynghori ar ein strategaeth tlodi plant ddrafft ac ar hyn o bryd rydym yn dadansoddi'r ymatebion. Bwriad y strategaeth tlodi plant ddiwygiedig yw bod yn strategaeth hirdymor sy'n gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer y Llywodraeth hon a Llywodraethau dilynol am y degawd neu fwy nesaf i fynd i'r afael â thlodi plant. Rwy'n falch bod y comisiynydd plant wedi cydnabod yn ei thystiolaeth i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol mai'r dull gweithredu ac amcanion cyffredinol yn y strategaeth ddrafft yw'r dull cywir i ni ei fabwysiadu i fynd i'r afael â thlodi plant.

Ar sail drawslywodraethol, rydym yn gweithio gyda'n gilydd fel Gweinidogion i gyflawni ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Mae cyhoeddi'r canllaw ar gyfer y rhaglen drawsnewid ar gyfer gwasanaethau plant yn gyflawniad allweddol, gyda diweddariadau yn cael eu cyhoeddi bob chwe mis i randdeiliaid a phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae'r canllawiau gwrth-fwlio cyfredol, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb' yn cael eu diweddaru y flwyddyn academaidd hon, yn benodol i gryfhau canllawiau mewn perthynas â bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn o bob math, gan bwysleisio ein hymrwymiad i gyfle cyfartal a thegwch y ddarpariaeth, gan sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi'n briodol i gyflawni eu potensial llawn a bod cydraddoldeb yn ein canlyniadau yn gyffredinol. Ac rydym yn parhau â'n hymrwymiad i ddatblygu dull cyson ledled Cymru o wella gwasanaethau niwrowahaniaeth. Mae mater diagnosis meddygol preifat ar gyfer niwrowahaniaeth yn faes blaenoriaeth yr ydym eisoes yn mynd i'r afael ag ef o fewn y rhaglen gwella niwrowahaniaeth.

Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd yn rhoi cyngor pwysig i ni, gan ein helpu i feddwl sut y gallwn ni barhau i wneud gwelliannau i'n polisïau a'n rhaglenni ar draws ehangder ein cyfrifoldebau. Rwy'n croesawu argymhellion y comisiynydd yn ei hadroddiad, y bydd y Prif Weinidog yn ymateb iddo erbyn diwedd mis Tachwedd. Bydd barn yr Aelodau heddiw yn ein helpu i lunio ein hymatebion, ac edrychaf ymlaen at y ddadl bwysig hon ar adroddiad y comisiynydd plant a'n cynnydd o ran cefnogi hawliau plant yng Nghymru. Diolch, Llywydd. 

17:40

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Sioned Williams i gynnig gwelliant 1.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod traean o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi rhwng 2019 a 2022, ond yn gresynu bod yr ystadegyn hwn yn dod o gyfnod cyn yr argyfwng costau byw presennol, sy'n golygu bod y gwir ffigur tlodi plant yn debygol o fod yn llawer uwch.

Yn cefnogi galwad y Comisiynydd Plant ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth fanwl ar gyfer tlodi plant sy'n cynnwys camau gweithredu, targedau a cherrig milltir penodol ar gyfer cyflawni.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Dwi'n symud y cynnig. Pwrpas gwelliant Plaid Cymru i gynnig y Llywodraeth sy'n galw ar y Senedd i nodi adroddiad y comisiynydd plant yw tynnu sylw penodol at agweddau yn yr adroddiad blynyddol sy'n galw am weithredu brys. Dydyn nhw ddim yn bwyntiau ideolegol, maen nhw'n bwyntiau ffeithiol a'u pwrpas yw sicrhau ffocws a gweithredu ar waith rwy'n gobeithio ac yn hyderus sy'n uno pob aelod yn y Siambr, sef bod yn rhaid i'r Llywodraeth hoelio ei sylw ar y ffaith rydym yn galw ar y Senedd i'w nodi yn benodol, sef bod traean o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi rhwng 2019 a 2022, ond yn gresynu bod yr ystadegau hyn yn dod o gyfnod cyn yr argyfwng costau byw, sy’n golygu bod y gwir ffigwr yn debygol o fod yn llawer uwch.

Yn ei rhagymadrodd, dywed y comisiynydd:

'Fydda i ddim yn anghofio un o’r sgyrsiau cyntaf ges i gydag aelod o’m panel ymgynghorol pobl ifanc, ynghylch ei phryder na fyddai ei theulu yn gallu fforddio cludiant i’r ysgol i’w brawd bach, a darllen rhai o ganlyniadau ein gwaith Gobeithion i Gymru, lle roedd plant 7 oed yn rhannu’n agored eu pryderon ynghylch fforddiadwyedd bwyd i’w teuluoedd. O ganlyniad, bydd tlodi a’i effeithiau yn un o brif sylfeini fy ngwaith, yn ogystal â sicrhau bod Llywodraeth Cymru a’r rhai sydd mewn swyddi pwerus yng Nghymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gyfyngu ar ei effaith andwyol ar blentyndod.'

Dyna her i ni oll—her y mae'n rhaid ei hateb.

Roeddwn i yn y cyfarfod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a glywodd alwad groch a chlir y comisiynydd plant ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth fanwl ar gyfer tlodi plant sy’n cynnwys camau gweithredu, targedau a cherrig milltir penodol ar gyfer cyflawni hynny. Mae hwn yn waith brys, yn waith hollbwysig ac mae'r hyn y mae y mae miloedd o blant Cymru wedi mynegi fel rhan o waith ymgysylltu y comisiynydd yn brawf clir o'r angen i'r Llywodraeth ymateb i'r alwad.

Rhaid i'r Llywodraeth hoelio ei sylw ar y ffaith rydym yn galw ar y Senedd i'w nodi yn benodol yn yr achos yma, achos mae neges graidd y comisiynydd yn un syml, os brawychus; yn un plaen, os cywilyddus. Ar hyn o bryd, rydym yn llesteirio ac yn peryglu potensial cyfran enfawr o ddinasyddion y dyfodol. Wrth ymateb i strategaeth tlodi plant ddrafft Cymru, dywedodd y comisiynydd mai tlodi plant yw'r

'mater mwyaf sy’n effeithio ar blant yng Nghymru'.

Ac mae lleisiau y plant yma yn galw arnom o dudalennau'r adroddiad hwn. Mae bron dau draean o blant rhwng 7 a 11 oed yn pryderu a fydd gan eu teulu ddigon o arian. Mae bron hanner rhwng 7 ac 11 oed yn pryderu am gael digon i'w fwyta. Meddyliwch. Mwy na hanner o bobl ifanc 12 i 18 oed yn pryderu a fydd gan eu teulu ddigon o arian. Chwarter o bobl ifanc 12 i 18 oed yn pryderu am fod â rhywle i fyw, a 25 y cant yn pryderu am gael digon i'w fwyta.

Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi pum argymhelliad y comisiynydd i Lywodraeth Cymru sydd yn yr adroddiad er mwyn mynd i'r afael o ddifri â thlodi plant, sef: cyhoeddi cynllun gweithredu manwl sy'n cynnwys camau gweithredu, targedau a cherrig milltir penodol; gwella ansawdd, gyda chynhwysion iach, ochr yn ochr â pharhau i estyn prydau ysgol am ddim; buddsoddi mwy mewn cyfleusterau chwarae, chwaraeon a hamdden a chymorth i bobl ifanc; teithio am ddim ar fws i bob plentyn; ystyried pwerau datganoledig pellach, fel bod modd gwneud taliad plentyn tebyg i'r Alban. Rŷn ni hefyd yn cytuno mai dyletswydd Llywodraeth yw sicrhau, yng ngeiriau'r adroddiad,

'na fydd y gwasgu ar y pwrs cyhoeddus yn cael effaith niweidiol eto ar y cenedlaethau iau.'

Doedd y datganiad a gawson ni heddiw gan y Gweinidog cyllid ddim yn fy narbwyllo i o hynny. A allwch chi roi sicrwydd o hynny, Weinidog? Felly, sut mae'r Llywodraeth yn gwrando ar y neges glir hon sy'n deillio o'r adroddiad wrth gynllunio'r gyllideb, ac a fydd y strategaeth tlodi plant yn cael ei chryfhau, yn ymgorffori'r ewyllys gwleidyddol sydd ei angen i waredu ar staen tlodi plant sydd eisoes wedi niweidio cenhedlaeth o blant ers i'r Llywodraeth hon ddal grym? A fydd eu dyfodol nhw, ac felly dyfodol ein cenedl ni, yn cael y sylw y mae'n ei haeddu? Achos nid llais unig sy'n darogan gwae ac yn mynnu gwell ymateb sydd yma; mae corws o arbenigwyr ac ymgyrchwyr, ac, yn bwysicach, plant a phobl ifanc, yn datgan ag un llais, 'Mae angen i bethau newid.'

17:45

Hoffwn hefyd ddechrau drwy ddiolch i'r comisiynydd am ei hadroddiad. Mae'n siomedig darllen nad yw llawer o bobl ifanc yn estyn allan o hyd at y comisiynydd a'r gefnogaeth sydd gan ei swyddfa i'w gynnig. Yn wir, roedd hwn yn fater a godwyd y llynedd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a ofynnodd i'r comisiynydd fyfyrio ar y ffordd y mae swyddfa'r comisiynydd yn ymgysylltu â phobl ifanc, ac mae'n rhwystredig gweld ei fod yn dal i fod yn broblem. Gyda hyn mewn golwg, byddwn wedi gobeithio am rywfaint o fanylion a thystiolaeth yn yr adroddiad ynghylch yr hyn a wnaed i fynd i'r afael yn benodol ag ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, yn hytrach na dim ond dweud eu bod wedi gwneud pob ymdrech ac y byddant yn gweithio gyda phobl ifanc i weld a oes ganddynt gefnogaeth ddigonol mewn mannau eraill. Mae hyn yn rhan hanfodol o'r comisiwn plant a dylid fod wedi cael tystiolaeth o sut mae ymgysylltu'n digwydd. Gobeithio y bydd hyn yn cael sylw mewn rhifynnau yn y dyfodol.

Mae'n amlwg bod y diffyg ymgysylltiad â'r gwasanaeth yn dangos nad yw pobl ifanc yn gwbl glir ynghylch pa gymorth sy'n cael ei gynnig mewn gwirionedd. Pan es i wefan y comisiynydd yn ddiweddar, cefais fy synnu gan ba mor gorfforaethol ydoedd, gan ganolbwyntio mwy ar adrodd ar gyhoeddiadau, strategaethau ac uchelgeisiau yn hytrach na helpu plant i gael mynediad i'r gwasanaeth a deall pa gymorth y gallant ei gael. Os mai dyma'r prif bwynt gwybodaeth a chyswllt i bobl ifanc, gallaf weld yn glir pam mai dim ond llai na dau berson y dydd y cysylltodd â swyddfa'r comisiynydd ar gyfartaledd. Rhaid i mi gyfaddef, byddwn wedi disgwyl gweld astudiaethau achos a gwefan sy'n addas i blant neu ieuenctid sy'n darparu mwy o dystiolaeth i bobl ifanc, yn hytrach na dim ond manylion cyswllt, ac enghreifftiau o sut mae'r comisiynydd wedi helpu pobl. Mae'r fideo YouTube sydd ganddyn nhw, sydd yn ôl pob tebyg yno i annog pobl ifanc i gysylltu â nhw, yn cyfeirio at blant yn y trydydd person, fel 'nhw', yn hytrach na siarad yn uniongyrchol â nhw, ac mae hefyd yn tynnu sylw at gael eu trin yn annheg fel achos pryder, ond nid yw'n mynd i unrhyw fanylion ynghylch beth yw 'annheg'. Byddai defnyddio enghreifftiau perthnasol a chyd-destunol yma yn cael effaith llawer mwy. Ar ben hynny, gallai'r wefan hon ddarparu'r man cychwyn i blant a phobl ifanc, a'u teuluoedd, ddarganfod pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw a'u helpu ar y daith i gael mynediad ato. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn herio'r comisiynydd plant ar hyn, a'i gwneud hi'n glir i bobl ifanc a phlant pa gymorth a chefnogaeth y gallant ei gael.  A chredaf hefyd y dylid rhoi meini prawf ar waith o ran sut y gellid dal y comisiynydd yn atebol.

Gan symud ymlaen, hoffwn ddal sylw ar y pwynt y mae'r comisiynydd ei hun wedi'i wneud ynghylch Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 gan nad yw bob amser yn effeithio ar blant yn gadarnhaol. Credaf fod hwn yn ddarganfyddiad hanfodol a sylweddol iawn, a gobeithiaf y bydd y comisiynydd yn gallu helpu i roi rhagor o ddirnadaeth a hysbysu'r Gweinidog addysg am fethiannau'r Ddeddf. Mae gen i ddiddordeb gweld y Ddeddf ADY yn cael ei diwygio oherwydd bod gen i etholwyr yn fy rhanbarth sydd wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol gan y ddeddfwriaeth, yn enwedig y plant hynny sydd â diabetes. Oherwydd y Ddeddf ADY, maen nhw wedi darganfod, nad yw'n caniatáu i ysgolion dderbyn cyllid ychwanegol ar gyfer cymorth athrawon i helpu'r plant hynny sydd â diabetes, ac yna mae'r plant hyn yn cael eu gwrthod yr un cyfleoedd i ddysgu â phawb arall.

Fel y bydd y rhai yma yn y Siambr yn ymwybodol, mae'r comisiynydd wedi rhestru pum argymhelliad i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael o ddifrif â thlodi plant, fel y mynegwyd yn yr adroddiad ac yr ychwanegwyd fel gwelliant i'r cynnig heddiw. Nid yw tlodi plant yng Nghymru yn gwella, sydd ynddo'i hun yn achos pryder. Fel y bydd llawer yn gwybod, heddiw yw'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Tlodi, ac er bod yr argymhelliad i Lywodraeth Cymru lunio cynllun gweithredu tlodi plant manwl yn argymhelliad cryf ac yn un y byddwn i ac yn sicr fy mhlaid yn ei gefnogi, rwy'n teimlo bod yr argymhellion eraill braidd yn ddi-fflach ac yn ddi-uchelgais. Mae pwysleisio'r angen am wella ansawdd ochr yn ochr â phrydau ysgol am ddim yn anfesuradwy, ac nid yw'n glir at ba ansawdd y mae'r comisiynydd yn cyfeirio. O ran mwy o fuddsoddiad mewn cyfleusterau chwarae, chwaraeon a hamdden mewn cymorth ieuenctid, tra bod hwn yn ymdrech nodedig iawn—ac yn rhywbeth rwy'n cytuno ag ef yn rhan o adeiladu cymunedau—nid yw'n helpu teulu i fwydo eu plant na thalu eu biliau, a dyna lle mae llawer o dlodi yn cael ei amlygu. Yn yr un modd gyda theithio am ddim ar fysiau i blant, nid yw'n mynd i helpu o ddifrif i godi bron i draean o blant allan o dlodi yng Nghymru, ac mae'n argymhelliad dibwrpas pan nad oes gennym y gwasanaeth bysiau na'r rhwydwaith bysiau i ddefnyddio tocyn o'r fath. Yn yr un modd, nid yw'r argymhelliad terfynol sy'n galw am fwy o ddatganoli pŵer yn mynd i newid y sefyllfa hon.

Yn y pen draw, yr hyn a fydd yn helpu i leihau tlodi plant yng Nghymru yw helpu pobl i gael gafael ar yr adnoddau eithaf sylweddol sydd eisoes ar gael iddyn nhw gan Lywodraeth y DU. Rwyf wedi siarad yn flaenorol yn y Siambr am sut mae bron i £15 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio bob blwyddyn ledled y Deyrnas Unedig, yn benodol tua £1 biliwn o fudd-dal plant heb ei hawlio, a £2.5 biliwn mewn credydau treth plant. Heb os, o ystyried lefelau tlodi yng Nghymru, byddwn yn dadlau y byddai teuluoedd Cymru yn hawlio cryn dipyn o'r arian hwn. Ar ben hynny, gall tlodi plant, er bod ganddo lawer o achosion gwahanol, fod yn gysylltiedig yn aml iawn â rhwystrau sy'n bodoli, gan atal teuluoedd rhag gallu ennill digon o arian, fel darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus wael a diffyg gofal plant fforddiadwy, a dylem fod yn annog Llywodraeth Cymru i edrych yn ofalus ar sut i adeiladu gwytnwch yn y gweithlu fel eu bod yn gallu addasu i amgylchedd gwaith sy'n newid ac annog hyfforddiant cyson o ran y gweithlu fel y gallant ennill cyflogau gwell. Diolch, Llywydd, a, gyda hyn i gyd mewn golwg, rwy'n argymell ein bod yn nodi'r adroddiad. Diolch.  

17:50

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r comisiynydd a'i thîm am y gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, a drafodwyd yn yr adroddiad blynyddol hwn, ac edrychaf ymlaen at archwilio rhai o'r materion yn yr adroddiad gyda'r comisiynydd, yn fanylach, pan ddaw at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 29 Tachwedd ar gyfer craffu blynyddol.

Byddaf yn canolbwyntio nawr ar rai meysydd a amlygwyd yn yr adroddiad, sy'n atseinio'n gryf â gwaith y pwyllgor. Yn gyntaf, y mater y mae'r comisiynydd yn ei ddisgrifio fel y mater mwyaf sy'n effeithio ar blant yng Nghymru—tlodi plant. Gyda 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol, a'r effeithiau hirdymor y gwyddys y gall tlodi eu cael, nid yw'n syndod bod hwn yn faes pwyslais allweddol i'r comisiynydd. Roeddwn yn falch o gymryd rhan yng ngwaith diweddar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn edrych ar strategaeth tlodi plant ddrafft Llywodraeth Cymru, ac roeddwn yn ddiolchgar am wahoddiad cadeirydd y pwyllgor hwnnw i fod yn bresennol. Ac rydym ni wedi ysgrifennu at y pwyllgor hwnnw, gan rannu peth o'r dystiolaeth berthnasol yr ydym ni wedi'i chasglu yn rhan o'n hymchwiliad sy'n edrych ar fynediad plant a phobl ifanc anabl at addysg a gofal plant. Mae diffyg addysg a gofal plant cynhwysol, hygyrch yn cael effaith sylweddol ar allu rhieni a gofalwyr i weithio. Mae hyn, felly, yn cael effaith sylweddol ar incwm teuluoedd ac iechyd meddwl a lles ehangach. Byddwn yn ysgrifennu at Weinidog yr Economi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y materion hyn cyn bo hir.

Yn ail, mae'r comisiynydd wedi tynnu sylw at faterion sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol a diwygio radical, ac, fel y gŵyr yr Aelodau, fe wnaethom ni gyhoeddi adroddiad yn ddiweddar ar yr union fater hwn. Fe wnaethom ni alw am 12 diwygiad radical. Roedd y rhain yn newidiadau mawr, uchelgeisiol i ail-lunio'r system yn sylfaenol er mwyn darparu ar gyfer plant â phrofiad o ofal a'r hyn y byddai ar unrhyw riant rhesymol ei eisiau ar gyfer eu plentyn eu hunain. Gyda'i gilydd, fe wnaethom ni 27 o argymhellion.

Ers ein dadl yma ym mis Gorffennaf, rydym ni wedi croesawu ymgysylltiad y Dirprwy Weinidog â'n pwyllgor, ond gwyddom fod llawer mwy o waith caib a rhaw i'w wneud o hyd i gyflawni newid radical, ac mae arnom ni ddyled i'r holl blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac, yn ei dro, eu plant biolegol i ddarparu diwygiad radical i'r system ofal.

Cafodd ein hadroddiad ei gyd-gynhyrchu'n ystyrlon i safon uchel gyda rhai o'r plant a'r bobl ifanc mwyaf ymylol yng Nghymru. Fel y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, efallai y bydd eu profiadau yn anghyfforddus gwrando arnyn nhw, a gallaf sicrhau'r Siambr, nid ydym ni'n ystyried ein gwaith ar y mater pwysig hwn wedi ei gwblhau.

Yn olaf, fe hoffwn i grybwyll rhai o'r materion yn adroddiad y comisiynydd sy'n cyd-fynd â gwaith cyfredol y pwyllgor, gan edrych ar ba mor gynhwysol a hygyrch yw addysg a gofal plant. Rydym yng nghanol cymryd tystiolaeth ar y mater pwysig hwn, ac rydym ni wedi bod yn siarad yn uniongyrchol â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, ac mae'n gwbl amlwg bod plant a phobl ifanc anabl, a'r rhai ag anghenion ychwanegol, yn cael eu siomi mewn sawl ffordd wahanol. Mae adroddiad y comisiynydd yn tynnu sylw at nifer o feysydd polisi y byddwn ni hefyd yn eu hystyried yn rhan o'r gwaith hwn, gan gynnwys mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig trafnidiaeth i'r ysgol, gofal plant a gweithgareddau hamdden. Yn ein hadroddiad ar absenoldeb disgyblion y llynedd, fe wnaethom ni alw am i benderfyniadau ynghylch dysgwyr sy'n teithio i'r ysgol fod yn seiliedig ar anghenion dysgwyr unigol. Fe wnaethom ni alw am yr adolygiad cyfredol o'r Mesur teithio gan ddysgwyr i flaenoriaethu datrysiad dysgwr yn gyntaf, ac i fod yn radical wrth ddod o hyd i atebion arloesol. Byddwn yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn fuan am y mater pwysig hwn.

Gan symud ymlaen i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae adroddiad y comisiynydd yn amlygu mai dyma'r mater mwyaf cyffredin a godwyd gyda'u tîm ymchwilio a chynghori. Unwaith eto, roedd hyn yn taro tant gyda rhai o'r straeon personol rydym ni wedi bod yn eu clywed fel rhan o'r gwaith rydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd. Mae bron pob teulu yr ydym ni wedi clywed ganddo yn uniongyrchol wedi disgrifio'r frwydr barhaus i roi'r cymorth mwyaf syml ar waith i helpu plant a phobl ifanc i allu derbyn eu hawl i addysg.

Rydym ni wedi clywed gan deuluoedd sydd, ar ôl llwyddo i sicrhau cynllun datblygu unigol, yn canfod nad yw'r argymhellion yn y cynllun yn cael eu dilyn, gan ei gwneud hi'n anodd iawn i blant gael mynediad at a ffynnu mewn lleoliad addysg gynhwysol, tra bod eraill yn ei chael hi'n anodd cael diagnosis neu gynlluniau priodol ar eu cyfer.

Nodaf fod y comisiynydd yn gwneud argymhelliad ynghylch dysgu proffesiynol ynghylch anghenion dysgu ychwanegol i athrawon. Rydym ni wedi clywed yn uniongyrchol gan deuluoedd, ond hefyd athrawon a staff ategol, am yr angen am well dealltwriaeth, a hyfforddiant, am anghenion dysgu ychwanegol, ac mae hyn yn debygol o fod yn fater y byddwn yn gwneud sylwadau arno yn rhan o'n gwaith.

Mae llawer mwy o feysydd polisi pwysig yn yr adroddiad hwn, a dim digon o amser i'w trafod i gyd, ond rwy'n annog holl Aelodau'r Senedd i ddarllen yr adroddiad hwn a defnyddio canfyddiadau'r comisiynydd yn sail i'w gwaith. Mae'r adroddiad hwn yn berthnasol i bob un ohonom ni. Diolch yn fawr.

17:55

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r comisiynydd plant, wrth gwrs, am ei hadroddiad. Mae'r ddadl heddiw yn un bwysig, sy'n tynnu sylw at ganfyddiadau adroddiad diweddaraf y comisiynydd plant, ond yn anffodus nid oes digon o amser i siarad am yr holl faterion yr hoffwn eu crybwyll, ond roedd yn darllen diddorol, gyda rhai ystadegau pryderus, wrth gwrs, ynddo.

Yn yr adroddiad, mae'r comisiynydd yn tynnu sylw mai'r mater a godir amlaf yw addysg, yn ddealladwy, ac yn benodol cymorth addysg i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Ers galw am adolygiad i gydraddoldeb mynediad i addysg i blant anabl yn ein pwyllgor plant a phobl ifanc yr ydym ni bellach yn ei gynnal, fel yr amlinellodd y Cadeirydd, rydym ni wedi datgelu llu o faterion a rhwystrau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, y gobeithiaf y cawn ni gyfle i'w trafod yn helaeth yn y Siambr hon ar ryw adeg.

Rwy'n falch ei bod, yn adroddiad y comisiynydd plant, yn mynd i'r afael â hyn, gan ei bod yn hanfodol bod pob plentyn yng Nghymru yn cael yr addysg orau y gallant ei chael, ac nad yw anghenion dysgu ychwanegol yn rhwystr iddynt. Rwyf felly'n cefnogi argymhelliad y comisiynydd plant ac yn galw am hyfforddiant anghenion dysgu ychwanegol i fod yn rhan orfodol o holl hyfforddiant athrawon. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am hyn ers amser maith, ac rydym yn credu'n llwyr y byddai hyn yn helpu o ran ansawdd addysg, plant a phobl ifanc i gael y cymorth cywir sydd ei angen arnyn nhw yn unigol ac, yn bwysicach, yr ymyrraeth gynnar honno sydd mor hanfodol. Bydd hefyd yn helpu athrawon i sicrhau'r addysg orau i'w myfyrwyr. Mae'n hanfodol, ochr yn ochr â'r nod hwn, fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod digon o arian ar gael i ysgolion uwchsgilio staff presennol hefyd yn hyn o beth, gan sicrhau y gall athrawon gael hyfforddiant adweithiol, pe bai achos anghenion dysgu ychwanegol arbenigol yn bresennol mewn ysgol, yn ogystal â hyfforddiant cyffredinol i bob oedolyn sy'n dod ar draws plant mewn ysgolion gydag anghenion dysgu ychwanegol. Yr hyn nad oes arnom ni eisiau ei weld yw sut olwg fydd ar 22 dehongliad gwahanol o'r hyfforddiant hwn, oherwydd ein 22 awdurdod lleol, a loteri cod post o'r rhai sy'n gallu fforddio ei wneud. Felly, byddai angen i hyn ddod o'r canol—strategaeth a'r arian gan Lywodraeth Cymru.

Fe hoffwn i hefyd glywed barn y Gweinidog ar ba mor effeithiol y mae'n credu yw rôl y comisiynydd plant mewn gwirionedd a faint o blant sy'n gwybod a faint o blant sy'n ymwybodol o'r hyn y mae'r comisiynydd yn ei wneud, a hefyd a yw hi'n credu bod y swydd yn cynnig gwerth am arian, yn seiliedig ar yr hyn yr ydym yn ei weld yn yr adroddiad hwn a faint o sylw y mae'r Gweinidog yn ei roi i argymhellion y comisiynydd mewn gwirionedd.

Rwyf hefyd yn bryderus iawn bod y comisiynydd plant, yn yr adroddiad hwn, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i brysuro'r gwaith o greu gwasanaeth rhywedd i blant a phobl ifanc Cymru. Mae hi'n destun pryder mawr i mi, pan fo myrdd o faterion dybryd yn wynebu plant Cymru a'r methiannau dros y ddau ddegawd diwethaf, bod hyn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth. O ystyried safbwynt Llafur Cymru ar y mater tringar hwn, byddwn i'n gobeithio'n bersonol na fydd y maes hwn wedi'i ddatganoli i'r Senedd, ac nid yw'n realistig disgwyl hynny. Mae hefyd yn peri pryder i mi fod y comisiynydd plant a Llywodraeth Cymru yn credu y dylid caniatáu i blant dan 18 oed gael meddyginiaeth sy'n newid bywyd a llawdriniaeth na ellir ei dad-wneud ar oedran mor ifanc. Mae angen i ni gofio mai plant yw'r rhain ac mae angen eu diogelu a'u trin felly, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei ddisgwyl gan gomisiynydd plant. Fe ddylem ni hefyd barchu awydd rhieni i fod yn rhan, gan eu bod yn aml yn gwybod beth sydd orau i'w plant, ac mae'n eithaf amlwg y byddai'n well gan y comisiwn a Llywodraeth Cymru anwybyddu rhieni pryderus. Mae'n hen bryd i ni ganolbwyntio ar nifer o faterion ac anghenion dybryd plant yn hytrach na cheisio hyrwyddo ideoleg rhywedd yng Nghymru. Diolch.

18:00

Roeddwn i'n meddwl bod pwynt Jayne Bryant yn un pwysig, gan ein hatgoffa ni i gyd ddarllen yr adroddiad, oherwydd ei fod yn berthnasol i bob un ohonom ni. A chaf fy hun yn myfyrio, wrth ddarllen yr adroddiad a gwrando ar y ddadl nawr, ar y rheswm pam yr wyf yma a pham bod pob un ohonom ni yma. Rwy'n gobeithio ei fod oherwydd bod arnom ni eisiau gwneud gwahaniaeth. Ac, i mi, tlodi plant yw un o'r agweddau hynny lle na allwn ni fentro peidio â chael y strategaeth hon yn iawn. Oherwydd rwy'n cofio, cyn cael fy ethol yma, a gweithio tuag at ddileu tlodi plant erbyn 2020, darllen y strategaeth tlodi plant, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015, ac rwyf wedi bod yn ailddarllen hynny ac yn myfyrio arno, lle dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar y pryd,

'Mae’r Strategaeth hon yn adlewyrchu’r ffaith bod tlodi plant yn fater trawsLywodraethol ac yn flaenoriaeth i bob adran.'

A dywedwyd geiriau tebyg gan y Gweinidog pan ddechreuodd y ddadl hon heddiw, wyth mlynedd ers hynny. Ac rydym ni i gyd yn gwybod beth yw'r sefyllfa o ran tlodi plant yma yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i'r comisiynydd a'i thîm am yr adroddiad pwysig hwn a'u gwaith, ond ni allaf beidio â myfyrio ar yr argymhellion hynny: sawl gwaith y mae'n rhaid i ni eu clywed, sawl gwaith y mae angen i ni gael gwybod amdanyn nhw? Fel y gwnaeth Sioned Williams fyfyrio, nid llais unig yw hi o ran yr argymhellion hyn, ac, yn syml, rydym ni'n siomi, ac yn parhau i siomi, cymaint o blant a phobl ifanc. A fy nghwestiwn i, mewn gwirionedd, yw: beth sy'n mynd i newid o ganlyniad i'r adroddiad hwn? Beth sy'n mynd i newid o ran y strategaeth a'r holl argymhellion hynny, oherwydd, yn y pen draw, dyna sut y bydd pob un ohonom ni'n atebol?

Roeddwn i y tu allan i'r Senedd ddydd Gwener diwethaf, yn cwrdd â'r rhai sydd wedi dod o bob cwr o Gymru i brotestio ynghylch yr anghenion dysgu ychwanegol. Ond nid protest oedd hi mewn gwirionedd; roedd hi'n gri am help—cri am help gan rieni taer, gofalwyr, gyda phlant a phobl ifanc yno hefyd, sy'n cael eu siomi gan system sydd yn syml ddim yn gweithio. Rhannodd mam yn eithaf agored gyda mi ac eraill yr oedd hi wedi ystyried cyflawni hunanladdiad, dim ond er mwyn i'w phlentyn gael y cymorth y mae ar y plentyn hwnnw ei angen ac yn ei  haeddu, ac nid llais unig oedd hi yno. A chefais fy synnu mewn gwirionedd, yn sefyll yno yn gwrando ar y straeon hynny, ac mae wedi cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad hwn. Rydych chi'n ei ddarllen ac rydych chi'n clywed, y tu ôl i bob stori, mai'r plentyn, y person ifanc a'r perthynas sy'n ei chael hi'n anodd. Mae gennym ni sefyllfa yma yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae'n dod yn gwbl amlwg pan fyddwch chi'n darllen yr adroddiad, na all plant gyrraedd yr ysgol oherwydd tlodi, neu oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Ac mae gennym ni lawer o strategaethau ar waith, mae gennym ni ymyriadau, ond dydyn nhw ddim yn gweithio i'r mwyafrif o bobl yr ydym ni'n ceisio eu cyrraedd. Felly, fel y dywedais i, mae fy nghwestiwn yn un syml, Gweinidog: beth fydd yn newid? Pan oedd y gyllideb yn cael ei thrafod a'r toriadau o £900 miliwn, lle ymddangosodd tlodi plant yn y trafodaethau hynny, a pha sicrwydd allwch chi ei roi i ni fod hyn yn flaenoriaeth lwyr i Lywodraeth Cymru, yn y dyfodol, ac nad ydym ni'n clywed geiriau sydd wedi'u llefaru yma o'r blaen?

18:05

Rydw i'n mynd i ganolbwyntio yn fy nghyfraniad ar un argymhelliad penodol yn adroddiad y comisiynydd, ac mae hynny i'w weld ar dudalen 42, ac mae'n darllen:

'Dylai Llywodraeth Cymru gyflymu gwaith yr ymrwymwyd iddo yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+ ar archwilio Gwasanaeth Rhywedd Cymreig i blant a phobl ifanc, yn lle dibynnu ar gomisiynu gwasanaethau o’r GIG yn Lloegr. Dylid sefydlu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd newydd i Gymru.'

Mae sylw terfynol y Cenhedloedd Unedig sy'n cyd-fynd â'r argymhellion yn pwysleisio'r angen i

'fynd i'r afael ar frys â'r amseroedd aros hir sy'n wynebu plant trawsryweddol ac sy'n cwestiynu eu rhywedd wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd arbenigol, gwella ansawdd y gwasanaethau hynny, a sicrhau bod barn plant yn cael ei hystyried ym mhob penderfyniad sy'n effeithio ar eu triniaeth.'

Ac fe fyddwn i'n dweud wrth Laura Anne Jones bod dyn ifanc yn yr oriel heddiw, a fydd yn etholwr i mi ac i chi, a fydd yn siomedig iawn yn yr hyn a ddywedoch chi. Mae Sean Donovan yn etholwr a geisiodd gael yr union wasanaethau hynny yn ei arddegau cynnar, ac nid oedd yn gallu gwneud hynny. A dim ond pan oedd yn 18 oed y cafodd fynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom ni, ac fe dynnodd fy sylw at y problemau felly sy'n dal i fodoli o ran mynediad i wasanaeth rhywedd yng Nghymru i bobl fel yntau pan oedd yn trosglwyddo. Mae ei fam yn rhan o grŵp o rieni sy'n ymgyrchu dros GIG Cymru i ddarparu llwybr i bobl ifanc yng Nghymru gael gofal yma yng Nghymru, yn hytrach na pheidio gorfod defnyddio gwasanaethau yn Lloegr, nad ydyn nhw chwaith yn ddigonol. Felly, unwaith eto, dywedaf wrth Laura Anne Jones yng ngoleuni'r hyn a ddywedodd, siaradwch â'ch etholwr chi a fi hyn, oherwydd credaf y byddai ei stori yn werth ei chlywed ac efallai hyd yn oed newid eich meddwl ar rai o'r pethau hyn. Rwy'n deall bod y comisiynydd wedi cyfarfod â phobl ifanc i glywed rhagor o straeon personol am sut mae'r mater hwn wedi effeithio arnyn nhw, ac mae teuluoedd yn teimlo bod llwybr sy'n cael ei ddatblygu ac yn barod i'w gomisiynu fel bod pobl ifanc yng Nghymru yn derbyn y gofal sy'n cadarnhau rhywedd sydd ei angen arnyn nhw ac maen nhw'n ei haeddu. A byddaf yn sefyll gyda theulu Sean wrth ymgyrchu dros y gofal hwnnw.

Ymrwymwyd i hynny hefyd yng nghynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru, a grybwyllwyd gan y Dirprwy Weinidog, sy'n anelu at wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, ac yn ei rhagair gweinidogol i'r ddogfen arloesol honno, dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

'Rydym hefyd yn ymrwymedig i wella’r llwybr i gefnogi pobl ifanc drawsryweddol yng Nghymru. Bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy’n gyfrifol am y gwasanaeth, yn edrych ar y dystiolaeth sydd ar gael i ddiffinio’r model gwasanaeth clinigol ymhellach yn y dyfodol, a bydd lleisiau yn y gymuned yn chwarae rhan amlwg a chanolog yn y gwaith hwn.'

Ac unwaith eto, rwy'n dweud wrth y Dirprwy Weinidog ac wrth y Llywodraeth gyfan, mae Sean Donovan yno i chi wrando arno a chlywed y stori honno.

Mae wyth mis wedi heibio bellach ers cyhoeddi'r cynllun gweithredu, ac mae'r comisiynydd plant wedi mynegi pryder yn ei hadroddiad y gallai dibyniaeth barhaus pobl ifanc trawsryweddol ar wasanaethau yn Lloegr fod yn groes i ysbryd y cynllun gweithredu. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog sôn yn ei hymateb, naill ai heddiw neu efallai mewn datganiad ysgrifenedig yn fuan, am ddatblygu a chomisiynu'r llwybr hwn, a sefydlu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd newydd i Gymru, fel yr argymhellwyd yn adroddiad y comisiynydd.

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, a diolch i'r comisiynydd plant, Rocio Cifuentes, a'i thîm am lunio'r adroddiad blynyddol cynhwysfawr a hollgynhwysol hwn. Rwyf am gadw fy sylwadau yn weddol fyr heddiw, gan fy mod wedi cael cyfle i gwrdd â'r comisiynydd plant yr wythnos diwethaf i drafod yr adroddiad yn fanwl. Ond un agwedd yr hoffwn ymchwilio iddi yw iechyd meddwl plant, gan ei fod yn faes mor fawr sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac yn effeithio ar fywydau llawer o blant. Felly, mae'n hanfodol bod plant a theuluoedd yn gallu cael y mynediad gorau at wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc a gwasanaethau cysylltiedig eraill i helpu plant sy'n ei chael hi'n anodd ym mhob lleoliad, gan gynnwys yr ysgol a'r cartref, fel y gallwn ni sicrhau pecyn gofal cyfannol i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant sy'n dioddef problemau iechyd meddwl.

Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ymateb i'r pwnc penodol hwn yn ei sylwadau, gan amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar wella mynediad plant at wasanaethau iechyd meddwl mewn lleoliadau addysgol ac ym mhob cefndir, fel y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a gobeithio atal y problemau hyn rhag gwreiddio ar lefel sylfaen i geisio atal materion rhag amlygu eu hunain ym mlynyddoedd yr arddegau, mewn pobl ifanc ac oedolion. Gadewch i ni achub ar y cyfle hwn i wneud y peth iawn i blant Cymru—y genhedlaeth nesaf—er mwyn iddyn nhw gael y gofal priodol ar yr adeg briodol. Diolch.

18:10

Hoffwn hefyd fynegi fy niolch i'r comisiynydd plant am ei gwaith yn sicr o ran cynnal hawliau a lles plant yma yng Nghymru. Mae ei hadroddiad yn adroddiad sy'n gwbl addas i blant, mae'n hawdd iawn ei ddarllen a'i ddeall, ac edrychaf ymlaen at y strategaeth tair blynedd a fydd, gobeithio, yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. 

Hoffwn edrych heddiw ar y mater ynghylch plant sy'n derbyn gofal ac sydd â phrofiad o ofal. O ystyried y cynnydd brawychus o 23 y cant mewn plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru ers 2013—cyfradd sy'n llawer uwch na chyfradd y pen yn Lloegr—mae'r materion a godwyd yn ei hadroddiad wir yn effeithio ar y plant hyn. Yn fwy perthnasol i bobl ifanc â phrofiad o ofal yw pwyslais y comisiynydd ar fater parhaus lleoliadau anghofrestredig. Mae llawer o blant sy'n derbyn gofal yn parhau i fyw mewn lleoliadau anghofrestredig, gyda'r niferoedd yn chwyddo, er gwaethaf anghyfreithlondeb trefniadau o'r fath, yng Nghymru ac yn Lloegr. Yn yr adroddiad diwygio radical, a amlygodd y Cadeirydd yn gynharach, disgrifiodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yr heriau sy'n eu hwynebu o ran lleoliadau heb eu cofrestru fel rhai 'digynsail'.

Mae yna lawer o resymau cymhleth pam mae plant yn mynd i leoliadau nad ydyn nhw wedi eu cofrestru. Mae gennym ni brinder systemig o leoliadau cofrestredig, anghenion uchel a chymhleth, dadfeiliad sydyn sy'n gofyn am symudiadau brys. Ond, yn sylfaenol, yn aml nid oes gan y gofal digofrestredig hwn y mesurau diogelu hanfodol ar gyfer y plant bregus iawn hyn. Gwyddom fod y comisiynydd plant yn ei hadroddiad yn galw am

'llety...sy’n cael ei ddatblygu gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol',

ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog sut y bydd hynny'n cael ei weithredu.

Mae gennym ni lety heb ei reoleiddio hefyd, a gwn y gall fod dryswch yn ei gylch, sy'n darparu lleoedd i fyw ond nad yw'n ofynnol iddyn nhw ddarparu gofal, ac yn anffodus maen nhw'n dal i fod yn gyfreithlon yng Nghymru, er gwaethaf cael eu gwahardd yn y DU ar gyfer plant o dan 16 oed. Gall y llety hyn amrywio o eiddo ystyrlon i safleoedd cwbl amhriodol, ansefydlog, anniogel fel gwestai neu lety Airbnb. Rwy'n gwerthfawrogi addewid Llywodraeth Cymru i adolygu lleoliadau heb eu cofrestru a lleoliadau heb eu rheoleiddio, ac eto rwy'n rhannu pryderon y comisiynydd plant, heb weithredu traws-adrannol, y byddwn ni unwaith eto'n methu â diwallu maint yr angen sy'n bodoli ar hyn o bryd.

Ac, ar ben hynny, roeddwn yn hynod o ofidus o glywed, yn dilyn cyngor gan lywydd adran deulu'r Uchel Lys, nad oes rheidrwydd arnyn nhw bellach i oruchwylio rheoleiddio lleoliadau anghofrestredig ar gyfer plant sy'n wynebu gorchmynion amddifadu o ryddid—yr hyn y maent yn ei alw'n DoLS—gan nodi system llys sydd dan straen aruthrol. Dyma ein plant mwyaf bregus, ac mae esgeuluso eu goruchwylio yn eu rhoi mewn perygl eithafol o niwed. Codwyd pryderon eisoes gan yr adroddiad diwygio radical ynghylch cynyddu'r gorchmynion amddifadu o ryddid i blant yng ngofal awdurdodau lleol Cymru, sy'n deillio o brinder llety addas. Felly, mae'r diffyg goruchwyliaeth ac absenoldeb strategaeth glir ar gyfer lleihau DoLs yn anghynaladwy, ac mae angen pwyslais ar y cyd arnom ni ar frys gan Lywodraeth Cymru i godi safonau gofal a chynyddu cartrefi fforddiadwy, sefydlog. Rwy'n credu, gyda thosturi ac ymrwymiad i weithredu, y gallwn ni drawsnewid y system ofal i wasanaethu budd gorau ein plant mwyaf agored i niwed.

Hoffwn hefyd wneud sylwadau ar fater tlodi plant. Rydym ni wedi clywed bod y comisiynydd plant yn glir bod y strategaeth gan Lywodraeth Cymru yn uchelgeisiol. Nid oes ganddi dargedau, nid oes ganddi amserlenni, nid oes ganddi unrhyw ffordd glir o drawsnewid y camau gweithredu yn yr hyn a fydd yn mynd i'r afael â'r sefyllfa fwyaf ofnadwy sy'n effeithio ar ein plant tlotach. Dyma sy'n sail i bopeth yn yr adroddiad hwn mewn gwirionedd. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael ar frys â thlodi plant yma yng Nghymru. Dyma fu'r sefyllfa ers llawer rhy hir, ac rydym yn galw ac yn gofyn i chi feddwl o ddifrif am y materion y mae angen i ni eu gweld ar waith i weld sefyllfa lle nad yw plant Cymru'n dlawd. Mae'n annerbyniol, yn 2023, bod gennym ni deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i fwyd i'w plant, heb lety digonol, ac nad yw plant yn gallu mynd i'r ysgol oherwydd diffyg arian i dalu am fws. Felly, byddwn yn gofyn i'r Gweinidog ddyblu ei hymdrechion i edrych ar dlodi plant, a byddwn yn ychwanegu at hyn bod gwir angen Gweinidog Plant arnom ni. Rwy'n sylweddoli y bu un o dan Lywodraeth flaenorol, ond mae arnom ni angen rhywun sy'n mynd i gymryd cyfrifoldeb dros ein plant a sicrhau eu bod yn gallu mynd i'r afael â'r mater cyfredol a pharhaus hwnnw o dlodi plant. Diolch yn fawr iawn.

18:15

Mae nifer o bobl wedi sôn am effaith tlodi plant a hoffwn godi'r ystadegyn bod 45 y cant o blant 7 i 11 oed yn poeni am beidio â bod â digon i'w fwyta. Oherwydd rwy'n credu bod hyn yn fwy cymhleth na dim ond dweud, 'Mae hyn yn broblem', o ystyried bod y rhain yn blant ysgol gynradd a fydd i gyd yn cael brecwast am ddim, ac mewn llawer o garfannau yn cael cinio am ddim hefyd. Ac eto, dywedir wrthym ni fod 45 y cant ohonyn nhw—bron i hanner—yn poeni am beidio â bod â digon i'w fwyta. Felly, beth sy'n bod yma? Onid yw'r bwyd maen nhw'n cael ei ddarparu yn yr ysgol yn ddigon da? Nodaf fod ar y comisiynydd plant eisiau gweld gwell ansawdd ochr yn ochr â chyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb. Nid yw'n cyfeirio at yr angen i dynnu bwyd wedi'i brosesu'n ddwys o'r bwyd sy'n cael ei weini mewn ysgolion, er ein bod yn gwybod bod hynny'n gysylltiedig â gordewdra, sy'n cael ei godi gan lawer o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant. Ac rydym ni hefyd yn gwybod bod risgiau posibl o nid yn unig gordewdra, ond materion hirdymor fel canser, diabetes a dementia. Felly, mae hynny'n fater iechyd y cyhoedd mawr i mi, ond rwy'n credu bod gwir angen i ni ddeall: a yw'r bobl sydd â'r angen mwyaf am y cynnig am ddim yn manteisio ar hynny mewn gwirionedd? Onid ydyn nhw'n cyrraedd yr ysgol mewn pryd i gael brecwast am ddim? Ac am ba reswm nad ydyn nhw'n bwyta'r cinio am ddim? Felly, rwy'n credu bod angen gwneud llawer mwy o waith ar ddeall hyn cyn i ni geisio taflu mwy o arian ato. 

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch yn fawr iawn. Mewn gwirionedd, nid wyf yn derbyn eich safbwynt. Mae gen i'r parch mwyaf tuag atoch chi, ond nid yw plant yn yr ysgol am 52 wythnos y flwyddyn. Dim ond am 36 wythnos maen nhw yn yr ysgol, felly beth sy'n mynd i ddigwydd yn ystod gweddill yr amser nad ydyn nhw yn yr ysgol? Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â thlodi plant. Rwy'n credu ei fod yn syml iawn, mewn gwirionedd, felly gobeithio y byddech chi'n cytuno nad yw'n gymhleth, mae'n eithaf syml. Diolch.

Rwy'n sicr yn cytuno gyda chi mai dim ond am 39 wythnos maen nhw yn yr ysgol—mae'n 39 wythnos—ond rwy'n dal i feddwl bod angen i ni ddeall cymhlethdodau hyn llawer mwy. Felly, mae'r niferoedd sy'n poeni am beidio â bod â digon i'w fwyta yn lleihau erbyn i'r plentyn fynd yn hŷn, ac mae'n debyg bod hynny oherwydd bod ganddyn nhw fwy o allu i wneud rhywbeth am y pethau hyn. Rydym ni'n gwybod o arolygon eraill bod dau o bob 10 person ifanc yn mynd i'r gwely yn llwglyd heno, ond gall y rhesymau am hynny fod yn eithaf cymhleth, oherwydd nad yw plant fel arfer yn rheoli cyllideb eu cartref. Os oes caethiwed ar yr aelwyd, gallai hynny fod yn rheswm pam nad oes digon o fwyd yn y tŷ, ac os yw trais ar sail rhywedd yn bresennol—rhywbeth rydym ni'n gwybod sy'n endemig—mae hynny hefyd yn fater arall lle nad yw pobl yn cael eu bwydo'n iawn. Felly, rwy'n credu bod pryder gwirioneddol ynghylch hynny, a byddai'n wych clywed llawer mwy gan y comisiynydd plant am yr hyn y mae'n ei feddwl am hynny.

O gofio bod plant yn ddibynnol ar allu cael cymorth os nad yw pethau'n mynd yn dda gartref, neu os ydyn nhw'n cael eu bwlio yn yr ysgol, mae'n bwysig iawn bod y gwasanaethau yno yn yr ysgol i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael cymorth gan oedolyn dibynadwy. Felly, rwy'n credu ei fod yn peri pryder, a hoffwn ddeall ychydig mwy ynghylch pam mae'r nifer sy'n credu y gallan nhw gael help yn yr ysgol os ydyn nhw'n anhapus, yn bryderus neu'n methu ymdopi, wedi gostwng o 73 y cant yn 2017 i 62 y cant. Felly, rwy'n credu bod hynny'n fater ac yn her, a hoffwn wybod pa gydweithrediad y mae'r comisiynydd plant yn ei gael gydag Estyn, gydag awdurdodau addysg lleol neu wasanaethau cwnsela i sicrhau bod pob person ifanc yn gwybod y gall gael help mewn ysgolion.

Gan droi at ei sylwadau ar anabledd a nifer yr achosion a ddaw i'w swyddfa, mae'n sicr yn wir fod pobl dan anfantais ddwbl os nad yw lleoliadau ysgol yn addasu'r cynnig cwricwlwm i ddiwallu anghenion y plentyn, yn hytrach na disgwyl i'r plentyn addasu i beth bynnag sydd ar gael i'r mwyafrif. Mae hi'n hollol gywir i dynnu sylw at y niferoedd o waharddiadau—ac rwy'n rhannu pryder y comisiynydd plant am yr angen i newid y canllawiau statudol fel nad yw ysgolion yn eithrio pobl sy'n anghyfleus ac afreolus. Ac mae'n rhaid i hynny, wrth gwrs, gynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, y mae hi'n tynnu sylw atyn nhw fel un o'r grwpiau sydd fwyaf tebygol o wynebu hynny. Ond, o ystyried y pwysigrwydd y mae hi'n ei roi i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, rydw i wir eisiau gwybod pam nad yw'n ymddangos ei bod hi'n meddwl bod hawl plant i wybod am eu cyrff a sut mae perthynas dda yn edrych a phwysigrwydd parchu ein gilydd a'n hiliau gwahanol, ein dewisiadau rhywiol a'n hunaniaeth rhywedd—mae'n rhywbeth yr ymddengys ei bod wedi newid ei chân yn ei gylch o ran dweud bod ac mae angen addasu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn unol ag anghenion cymunedau. Rwy'n credu bod pob plentyn, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu haddysgu gartref—ac rwy'n rhannu ei phryder yn llwyr yn hyn o beth na ddylem ni gael unrhyw blant anweledig—rhaid i bob plentyn dderbyn addysg addas, sy'n hawl sylfaenol, a rhaid gweld pob plentyn. Ac felly rwy'n credu bod y rheini'n negeseuon pwysig iawn i wahanol Weinidogion wrth gamu i'r dyfodol.

18:20

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant. Mae'n amlwg bod y Senedd yn rhannu ymrwymiad i hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru a bod yr hawliau hynny'n parhau i lunio ein gwaith. Ac mae'r Aelodau wedi nodi nifer o faterion pwysig sydd wedi codi o'r adroddiad, gan argymhellion y comisiynydd plant. Wrth gwrs, bydd y comisiynydd plant yn gwerthfawrogi'r sylwadau, y cwestiynau, y pwyntiau a wnaed heddiw yn y ddadl hon, yn ogystal â ni ein hunain, fel Llywodraeth, wrth i ni geisio ymateb i'r argymhellion hynny yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ond hoffwn i ddechrau ar y mater hollbwysig hwnnw a adlewyrchwyd yng ngwelliant Plaid Cymru ac a adlewyrchwyd o gyfraniadau ar draws y Siambr heddiw, bod yn rhaid i ni, unwaith eto, ddatgan ein cyd-ddyhead. Ein cyd-ddyhead, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yw bod arnom ni eisiau Cymru lle nad oes unrhyw blentyn yn byw mewn tlodi. Felly, mae mynd i'r afael â'r materion a fynegwyd ar draws y Siambr yn y ddadl heddiw am yr angen i fynd i'r afael â thlodi plant yn amlwg yn flaenoriaeth. Mae'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac, er gwaethaf y pwysau eithriadol ar ein cyllideb—rydym ni wedi clywed heddiw eto—bydd mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yn parhau i fod yn sbardun canolog wrth ddatblygu ein polisïau a'n rhaglenni ar draws y Llywodraeth. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi'i nodi'n eithaf clir yn ein strategaeth tlodi plant drafft. Mae pob un o Weinidogion Cymru sydd  â chyfrifoldeb am wella canlyniadau, unwaith eto'n cydnabod y cyfyngiadau o ran ein pwerau, gan fod cymaint o'r pwerau o ran mynd i'r afael â thlodi plant yn nwylo Llywodraeth y DU. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod dyletswydd arnom ni i gyhoeddi ac adrodd o dan ein Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae gennym ni'r ddyletswydd honno. Ac fe wnes i adrodd, wrth gwrs, am gynnydd ym mis Rhagfyr ac yna lansio'r ymgynghoriad 12 wythnos hwnnw ar y strategaeth tlodi plant drafft. A'r hyn a oedd yn bwysig yw cyhoeddi'r strategaeth ddrafft honno mewn gwirionedd. Fe wnaethom ni ymgynghori â dros 3,300 o blant a phobl ifanc, gan fanteisio ar eu cymorth i ddatblygu'r strategaeth tlodi plant ddiwygiedig yr ydym ni wedi ymgynghori arni. A dywedodd pobl ifanc wrthym ni beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'w bywydau, ac rwy'n credu bod y strategaeth ddrafft yn nodi'r hyn a glywsom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud am y peth a lle gallwn ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar greu Cymru fwy cyfartal.

Felly, bydd y strategaeth tlodi plant olaf yn cael ei chyhoeddi erbyn diwedd eleni ac yna bydd y gwaith go iawn yn dechrau. Mae'n bwysig ein bod yn cyflawni hyn gyda'n partneriaid, yn cyflawni'r strategaeth, gan sefydlu fframwaith ar gyfer tystiolaeth i ddangos—

18:25

Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn dweud bod gwaith yn mynd i gael ei wneud ar y strategaeth tlodi plant drafft, ond sut ydych chi'n mynd i fesur cynnydd heb dargedau?

Mae'r cwestiwn pwysig hwnnw wedi codi ac, yn wir, fe wnaethom ni fynd i'r afael ag ef, mewn gwirionedd, yn ystod ein hymarfer cyn-ymgynghori. Rhoddais yr ymrwymiad hwnnw bod angen i ni gael yr atebolrwydd tryloyw hwnnw i ddangos ein bod yn cynhyrchu ac yn cyflawni'r canlyniadau hynny. Rwyf wedi rhoi'r ymrwymiad hwn, ac mae yn y strategaeth ddrafft, ein bod yn archwilio cyngor annibynnol ar ddangosyddion tlodi cenedlaethol addas, argaeledd data a fframwaith monitro. Rydym yn ymgynghori ar y gwaith hwnnw. Hefyd, mae hyn yn ymwneud ag atebolrwydd a chynhyrchu adroddiad cynnydd llawn yn erbyn y strategaeth tlodi plant bob tair blynedd—sy'n ofynnol o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Unwaith eto, mae hynny'n cynnwys rhoi llais i bobl â phrofiad o lygad y ffynnon, gan gynnwys plant a phobl ifanc, i ddweud wrthym ni beth rydym yn ei gyflawni a sut rydym yn ei gyflawni. Felly, mae'r rhaglen lywodraethu yn nodi sut y byddwn yn darparu ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi, y strategaeth 10 mlynedd hon, sy'n mynd i ailgydbwyso camau tuag at atal tlodi a lliniaru effeithiau gwaethaf tlodi.

Nawr, hoffwn droi at rai o'r pwyntiau a wnaed, pwyntiau penodol a phwysig iawn a wnaed gan gyd-Aelodau heddiw a chydnabod bod Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Jayne Bryant, Laura Anne Jones a Joel James i gyd wedi gwneud y pwynt hwn, gan ymateb i'r argymhelliad am bwysigrwydd pobl ifanc a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol, mai'r cyfrifoldeb dros sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu nodi a'u darparu yw craidd y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, gan gydnabod bod gennym ni genhadaeth genedlaethol gydag ymrwymiad i sefydlu diwylliant o gyd-gyfrifoldeb mewn perthynas â dysgu proffesiynol, a chydnabod hefyd bod awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn gyfrifol am sicrhau darpariaeth addysg addas i ddysgwyr yn eu hardaloedd, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Mark.

Diolch. Yn benodol ynghylch anghenion dysgu ychwanegol, a ydych chi'n rhannu fy mhryder fy mod i bellach yn dechrau derbyn achosion gan rieni, lle mae disgyblion niwroamrywiol, gan gynnwys disgyblion awtistig, yn cael eu gwrthod cynlluniau datblygu unigol ar y sail bod y cynlluniau hynny yn seiliedig ar allu, nid cyflyrau, oherwydd eu bod yn ddisglair ac oherwydd eu bod yn cuddio'u hanghenion yn dda er gwaethaf yr anghenion sydd ganddyn nhw o hyd, sy'n parhau heb eu darganfod?

Diolch yn fawr, Mark. Gwn y byddwch wedi clywed, yn fy sylwadau agoriadol, fy mod yn ymateb i rai o'r ffyrdd yr ydym ni'n mynd i'r afael ag ymatebion i lawer o'r argymhellion yn adroddiad y comisiynydd plant, y gwyddoch chi ein bod yn datblygu, rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu'r dull cyson hwn ledled Cymru o wella gwasanaethau niwrowahaniaeth, ac, wrth gwrs, mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu o ran ein hymateb i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig cydnabod, fel y gwnaeth Jayne Bryant, a Jane Dodds, fod hwn hefyd yn gyfle i ni fyfyrio eto ar yr holl waith a arweiniwyd gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ein canllaw ar gyfer trawsnewid y rhaglen gwasanaethau plant. Mae'r canllaw hwnnw'n cynnwys y camau gweithredu a'r amserlenni hynny i gyflawni'r rhaglen. Ac mae trawsnewid rhaglen gwasanaethau plant yn hanfodol i'r agenda ddiwygio radical sydd gennym ni a byddwch yn ymwybodol iawn ohoni. Rydym yn cyfarfod â phobl ifanc â phrofiad o ofal yn rheolaidd i ystyried hyn, ac wrth gwrs, mae hefyd yn cael ei arwain a'i gefnogi gan y Prif Weinidog.

Gareth Davies, rwy'n falch eich bod wedi sôn am y materion iechyd meddwl a lles, oherwydd rydym yn parhau i fonitro'r dull ysgol gyfan yn unol ag argymhellion o ran y papurau a gynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddwn yn edrych ar hynny o ran y fframwaith dull gweithredu ysgol gyfan, yn cynnwys i raddau helaeth iawn a hefyd yn cael ei arwain gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

Mae hyn yn dangos, rwy'n credu—ac rydyn ni'n symud ymlaen i dai—bod hwn yn ymateb trawslywodraethol i bob argymhelliad. Rwy'n credu bod y pwyntiau y mae Jane Dodds wedi'u gwneud o ran cartrefu plant bregus yn ddiogel yn allweddol o ran datblygu lleoliadau addas a bod gwaith sy'n cael ei wneud yn rhanbarthol hefyd.

Byddwn yn dweud i gloi, gan yr hoffwn i ddiolch i Hefin David am ei gwestiwn a chroesawu Sean Donovan yma heddiw yn y Siambr, rydym yn parhau i weithio tuag at ein hymrwymiad yn y cynllun LHDTC+ i wella'r gefnogaeth i blant a phobl ifanc. Wrth gwrs, mae'n weithred yn y cynllun LHDTC+ i edrych ar yr ymrwymiad i'r llwybr ar gyfer gwasanaethau hunaniaeth rhywedd. Gwn, yn y cyfarfod diwethaf gyda'r comisiynydd plant, fod y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi gofyn a allai hwyluso cyfarfod gyda phobl ifanc, ac rwy'n credu bod hynny'n neges i Sean ac i Hefin David heddiw ar ran eich etholwyr ynglŷn â'r llwybr hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc. Felly, mae hynny'n ymrwymiad yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth Cymru.

Yn olaf, mae pob aelod o'r Cabinet yn gyfrifol am hawliau plant. Mae dyletswydd arnom ni, fel Gweinidogion Cymru, i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i ddiolch i'r comisiynydd am yr adroddiad, yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'i swyddfa a chefnogi anghenion pob plentyn. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig. Bydd ein hymateb yn cael ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog i argymhellion y comisiynydd plant ar 30 Tachwedd, a bydd sylwadau'r ddadl hon yn helpu i lywio'r ymateb hwnnw. Diolch yn fawr.

18:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebu.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly byddwn ni yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, yna fe wnawn ni symud i'r cyfnod pleidleisio hwnnw. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio a gyflwynwyd yn enw Julie James: O blaid: 43, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 8 ar adroddiad blynyddol 2022-23 gan Gomisiynydd Plant Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. [Anghlywadwy.] Mi fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly canlyniad y bleidlais yna yw bod 28 o blaid, neb yn ymatal, 29 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod. 

Eitem 8. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd Plant Cymru. Gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 28, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Dwi'n galw nawr am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 56, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

18:35

Eitem 8. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd Plant Cymru. Cynnig: O blaid: 56, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:35.