Y Cyfarfod Llawn

Plenary

20/06/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson. 

Addysg a Gyrfaoedd STEM

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog merched i mewn i addysg a gyrfaoedd STEM? OQ59722

Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion, colegau, cyflogwyr, a gyda modelau rôl, i sicrhau bod merched a menywod ifanc yn cael eu hannog yn gadarnhaol i ddewis cymwysterau a gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â STEM.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg y dydd Gwener yma, a byddaf yn nodi hynny gydag ymweliad â Dragon LNG. Mae mentrau da ar gael, fel y dywedwch chi, fel rhaglen Cynllun Addysg Beirianneg Cymru, ond, yn y gweithle, mae'n dal yn wir bod 73 y cant o'r gweithlu STEM yn ddynion, dim ond 14.5 y cant o beirianwyr sy'n fenywod, a dim ond 20 y cant o raddedigion gwyddoniaeth benywaidd sy'n mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd STEM, o'i gymharu â 44 y cant o ddynion. Mae'n bwysig nid yn unig o ran cydraddoldeb rhywiol, ond oherwydd bod diffyg o 173,000 o weithwyr yn sector STEM y DU, sy'n costio £1.5 biliwn y flwyddyn i'r economi. Mae'r newid yn yr hinsawdd, diogelwch bwyd a dŵr, pandemigau yn y dyfodol a'r heriau byd-eang yr ydym ni'n eu hwynebu yn galw am atebion sy'n seiliedig ar STEM. Allwn ni ddim fforddio gwastraffu talent a gwybodaeth menywod. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i gau'r bwlch hwnnw ac i weithio gyda phartneriaid eraill i sicrhau hynny?

Wel, Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y pwyntiau hynny, ac rwy'n cytuno â'i chynsail sylfaenol yn fawr iawn mai'r dyfodol yn economi Cymru fydd y gystadleuaeth i weithwyr ymgymryd â'r swyddi sy'n aros i weithwyr eu cyflawni. Ac mae hynny'n golygu yn gwbl sicr na ellir anwybyddu talentau a galluoedd dros hanner y boblogaeth yn yr ymgais honno. Nawr, mae merched yn perfformio'n well na bechgyn yn gyson o ran cyrhaeddiad mathemateg a gwyddoniaeth trwy gydol addysg orfodol. Ar gyrsiau TGAU, mae merched yn perfformio'n well na bechgyn ym mhob agwedd ar y gwyddorau ac eithrio ffiseg. Ac mae merched yn perfformio'n well na bechgyn ar gyrsiau Safon Uwch hefyd. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud, fel y mae Joyce Watson yn ei awgrymu, Llywydd, yw gwneud mwy o ymdrech i berswadio'r menywod ifanc hynny i ddefnyddio'r cymwysterau hynny yn y gweithle yn y swyddi sy'n dibynnu ar gefndiroedd STEM i fod yn llwyddiannus. Dyna pam, gan feddwl am yr hyn a ddywedodd Joyce Watson am y ffaith ei bod hi'n Ddiwrnod Menywod mewn Peirianneg ddydd Gwener yng Nghymru, y mae gan Gynllun Addysg Beirianneg Cymru gryfder penodol, gan annog merched ifanc mor gynnar â blwyddyn 8 yn yr ysgol i fod mewn cysylltiad â chyflogwyr, i fod mewn cysylltiad â phobl mewn addysg uwch, fel eu bod nhw'n cymryd diddordeb gweithredol mewn STEM cyn iddyn nhw wneud dewisiadau TGAU, gan wybod bod y dewisiadau hynny yn arwain at bosibiliadau cyflogaeth y dyfodol. Ar draws ymdrech y Llywodraeth—ond nid y Llywodraeth yn unig, cyflogwyr hefyd—mae angen pwyslais arnom ni ar y ffordd y mae menywod ifanc yn cael eu perswadio bod amrywiaeth o bosibiliadau iddyn nhw yno yn y gweithle, ac y bydd y buddsoddiad y maen nhw'n ei wneud mewn astudio pynciau STEM yn talu ar ei ganfed iddyn nhw o ran cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol.

Yn dilyn ymlaen o'r hyn rydych chi newydd ei ddweud, Prif Weinidog, am hyrwyddo diddordeb gweithredol i ferched mewn pynciau STEM cyn iddyn nhw gyrraedd lefel TGAU, fel llysgennad balch dros y Geidiaid, rwyf i wedi bod yn falch o weld bod Geidiaid Gwent, dros y ddau fis diwethaf, wedi cynnal digwyddiadau ar thema'r gofod ar gyfer Enfysau a Brownis, ac mae dros 80 o geidiaid wedi cymryd rhan mewn diwrnod STEM. Mae'r merched hyn wedi cael amser gwych yn gwneud batris lemon, breichledi deuaidd, a chymaint mwy, sydd, wrth gwrs, wedi helpu i hyrwyddo pwnc STEM i'r merched hyn. 

Fel Llywodraeth, dylech chi fod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod y merched hyn yn cael y cyfleoedd gorau mewn STEM, ac, yn amlwg, chwarae teg a chyfleoedd teg wrth gael mynediad at addysg uwch. Ac eto, Prif Weinidog, mae'n ymddangos bod eich Llywodraeth eisiau ei gwneud hi'n anoddach nag erioed i ddysgwyr benywaidd ifanc fynd i faes STEM, trwy gyfuno'r dair gwyddor ar wahân hynny yn wyddoniaeth ddwbl ar lefel TGAU, fel y soniais yr wythnos o'r blaen. Nid oeddech chi eisiau ei gydnabod y tro diwethaf, ond mae hyn yn rhywbeth sydd wedi cael ei feirniadu'n eang gan y proffesiwn a'r sector gwyddoniaeth hefyd: Dr Lowri Mainwaring, arweinydd tîm academaidd mewn gwyddorau biofeddygol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd; yr Athro Alma Harris o'r adran addysg ac astudiaethau plentyndod ym Mhrifysgol Abertawe; Eluned Parrott, pennaeth Cymru yn y Sefydliad Ffiseg. Mae'r Llywodraeth hon, ar un anadl, yn gofyn i ferched ifanc ymgymryd â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a swyddi ar gyfer y dyfodol, ac yna, ar yr un anadl, rydych chi'n eu rhoi nhw o dan anfantais ar unwaith i weddill y DU pan fyddan nhw'n ymgeisio am swyddi a lleoedd prifysgol. Prif Weinidog, sut mae cyfyngu addysg STEM pobl ifanc yn helpu merched i fynd i faes STEM mewn gwirionedd?

13:35

Llywydd, rwyf i wedi trafod y mater hwn gyda'r Aelod o'r blaen. Nid wyf i'n cytuno â'r pwyntiau y mae hi'n eu gwneud, ond, yn bwysicach o lawer na fy safbwynt i, nid yw'r bobl hynny sy'n gweithio yn y maes chwaith. Cynnig gan Cymwysterau Cymru yw hwn—y bobl hynny yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw am eu harbenigedd o ran cynllunio llwybr at ddyfodol i'n pobl ifanc. Cyrff diwydiant—. Ac, mewn gwirionedd, clywais iddi sôn am Eluned Parrott; rwy'n deall bod Eluned Parrott yn cefnogi'r cynigion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, ac, ar ben hynny, bod y rhannau hynny, y cyrff cynrychioliadol hynny yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw am gyngor ym meysydd cemeg, bioleg, ac ati, o blaid y cynigion hyn, gan eu bod nhw'n credu y bydd mwy o bobl ifanc—mwy o bobl ifanc—yn astudio gwyddoniaeth ar y lefel honno yn y pen draw, ac yn ei wneud mewn ffordd sy'n rhoi'r hyder iddyn nhw wybod y gallan nhw fynd ymlaen a'i hastudio ar lefelau uwch hefyd. Rwy'n clywed cyfres o honiadau gan yr Aelod, mewn ffordd ddi-dystiolaeth. Dyma ei safbwyntiau hi, y mae'n dymuno ein perswadio ni ohonyn nhw, yn nannedd y dystiolaeth—nid safbwyntiau, y dystiolaeth—gan y rhai sy'n arbenigwyr yn y maes y bydd y cynigion yn gwneud mwy i annog menywod ifanc, a dynion ifanc, i astudio'r gwyddorau yng Nghymru, a dyna pam mae'r Llywodraeth yn mynd ar drywydd yr uchelgeisiau hynny.

Ysgolion Ecogyfeillgar

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion i ddod yn fwy ecogyfeillgar? OQ59694

A gaf i ddiolch i Russell George am y cwestiwn yna, Llywydd? Ein pobl ifanc yw'r eiriolwyr gorau dros wneud ysgolion yn ecogyfeillgar. Mae llwyddiant y mudiad Eco-Sgolion yng Nghymru yn ffordd effeithiol y gellir troi'r ymrwymiad hwnnw yn weithredu ymarferol.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n cytuno â chi yn llwyr—rwy'n credu mai pobl ifanc yw'r bobl orau i arwain y maes hwn. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gyfarfod â phlant o Ysgol Gynradd Llanidloes—Belle, Reggie, Millie a Willow—sy'n aelodau o eco-bwyllgor yr ysgol. Nawr, maen nhw'n awyddus iawn i weld llai o wastraff plastig o ran y ddarpariaeth o laeth ysgol, ac fe wnaethon nhw esbonio i mi eu bod nhw'n derbyn 78 o boteli plastig bach unigol o laeth bob dydd yn rhan o gynllun ledled y DU gyfan, sy'n cael ei ariannu'n rhannol hefyd gan Lywodraeth Cymru. Amlinellodd y bobl ifanc wrthyf fod yr ysgol yn defnyddio 15,210 o gynwysyddion llaeth plastig bob blwyddyn. Fe wnaethon nhw hefyd amlinellu i mi bod hyn wedi costio £5,171.40—maen nhw'n dda iawn ym mhwnc mathemateg yn yr ysgol hon, dylwn ychwanegu. Nawr, pe baen nhw'n prynu'r llaeth eu hunain, gan gynnwys danfon, ac yn defnyddio cwpanau y gellir eu hailgylchu, byddai arbediad enfawr o ran pwysau; a dweud y gwir, roedden nhw wedi cyfrifo hynny fel tair gwaith pwysau eu hathrawes, Mrs Stead, bob blwyddyn. Felly, ar wahân i'r arbedion amgylcheddol, byddai arbedion cost enfawr hefyd, o 50 y cant. Er tegwch i'r plant, roedden nhw hefyd o'r farn y byddai adnodd o olchi'r cwpanau y gellir eu hailddefnyddio hefyd. Maen nhw wedi cyfarfod â'u hawdurdod lleol, maen nhw wedi cyfarfod ag eraill, ond maen nhw'n teimlo braidd eu bod nhw wedi bod yn curo eu pennau yn erbyn wal frics, yn anffodus—maen nhw'n teimlo'n ddigalon, maen nhw'n teimlo fel pe bai rhwystrau yn cael eu codi. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, i chi ofyn i un o'ch swyddogion yn Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r plant a'r ysgol, i redeg prosiect peilot, oherwydd, wedi'r cyfan, gallai fod arbediad enfawr yn y defnydd o blastig, ac arbediad cost enfawr hefyd, os meddyliwch chi am £2,500 ynghyd â phob ysgol gynradd, bob blwyddyn? Diolch, Prif Weinidog.

Diolchaf i Russell George yn fawr am y cwestiwn atodol yna. Mae hwnna yn gyfuniad rhyfeddol o sgiliau datrys problemau i ni ei weld gan y myfyrwyr yn Llanidloes. Rwy'n falch iawn o gytuno y byddwn ni'n dod o hyd i rywun i siarad yn uniongyrchol â'r ysgol, ac, yn wir, gyda'r plant, i weld a all eu syniadau ddod o hyd i ffordd arall o gael eu rhoi ar waith yn ymarferol. Ond mae'n wych gweld, onid yw, y ffordd y mae gan bobl ifanc eu hunain nid yn unig ddiddordeb, yn yr ystyr gyffredinol honno, yn nyfodol yr amgylchedd, ond y ffordd y maen nhw'n cyfateb hynny â'r pethau y maen nhw'n eu gweld o'u blaenau bob dydd, ac yna'n dod ymlaen gyda'r mathau hynny o syniadau llawn dychymyg i greu atebion newydd.

13:40

Prif Weinidog, fel Aelodau'r Senedd, rwy'n credu ein bod ni'n cael synnwyr cryf o'r angerdd sydd gan ddisgyblion ysgol at yr amgylchedd pan ddaw ysgolion yma i'r Senedd i ymweld ac i ddysgu mwy am waith Aelodau'r Senedd, a hefyd pan fyddwn ni'n ymweld ag ysgolion. Rwyf i wedi bod yn falch iawn o weld ysgolion lleol yn Nwyrain Casnewydd yn gosod esiampl dda iawn, rwy'n credu, o ran cydnabod angerdd eu disgyblion at yr amgylchedd a threfnu o'i gwmpas: gwahodd cynrychiolwyr lleol i mewn i drafod materion amgylcheddol a sut y gellir bwrw ymlaen â gweithredu; trefnu profiadau sgiliau goroesi; bwrw ymlaen â gwersi trwy Ysgol Goedwig; a mesurau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, Prif Weinidog. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi bod angen i ni edrych ar ysgolion yng Nghymru sy'n gosod esiampl dda iawn, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r angerdd hwnnw, wrth i ni fwrw ymlaen â'r polisïau hyn?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno, wrth gwrs, y dylem ni ddod o hyd i'r holl ffyrdd y gallwn ni i fanteisio ar yr ymrwymiad angerddol hwnnw y mae pobl ifanc yn ei deimlo at ddyfodol y blaned y byddan nhw'n parhau i fyw arni. Byddwn yn cyfarfod yfory â'r Senedd Ieuenctid yma, yn yr ystafell hon, ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n clywed bryd hynny safbwyntiau'r bobl ifanc hynny ar y newid yn yr hinsawdd, ar golli bioamrywiaeth, ar ffyrdd y gallwn ni weithredu gyda'n gilydd i wella'r amgylchedd.

Nawr, digwyddais weld bod yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd yn Ysgol Gynradd Ringland yn ddiweddar, yn cyfarfod â'i heco-gyngor ac yn rhannu syniadau â nhw. Yn union fel yn Llanidloes, dyma ysgol arall sydd â llawer o syniadau ymarferol. Cefais fy nharo gan y ffaith fy mod i wedi gweld bod ganddyn nhw gystadleuaeth ailgylchu wythnosol lle mae popeth y mae pob dosbarth wedi ei gasglu yr wythnos honno yn cael ei bwyso, ac yna caiff enillydd y gystadleuaeth ei gyhoeddi bob wythnos, ac mae hynny'n creu diddordeb ym mhob plentyn ac ym mhob rhan o'r ysgol mewn gwneud y pethau ymarferol y gallan nhw eu gwneud i wneud gwahaniaeth.

Cefais gyfarfod gwych gyda chyngor ysgol Albany, ac fe wnaethon nhw godi mater oedolion yn bwydo colomennod a oedd yn eu hatal nhw rhag defnyddio'r ychydig o fannau gwyrdd a oedd ganddyn nhw o amgylch eu hysgol. Felly, plant yw'r eco-ryfelwyr gorau. Fe wnaethon nhw hefyd godi â mi y broblem o barcio ceir ar balmentydd, a oedd yn amharu ar eu gallu i gerdded i'r ysgol yn ddiogel. Felly, rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ni ei wneud. Hoffwn atgoffa'r Llywodraeth am bwysigrwydd sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cerdded, beicio neu fynd ar sgwter i'r ysgol, os yw hynny'n bosibl yn ffisegol. Efallai na fydd yn bosibl i'r holl fyfyrwyr yn Llanidloes, a allai fod â chryn bellter i'w deithio. Ond, yn union fel mae gennym ni gynllun ar gyfer galluogi pobl i brynu beic os ydyn nhw'n gweithio i ni yma yn y Senedd, a roddwyd unrhyw ystyriaeth i gael rhyw fath o gynllun benthyg beic fel y byddai teuluoedd yn gallu prynu beic yn araf?

Rwy'n cytuno â Jenny Rathbone mai plant yw'r eiriolwyr mwyaf perswadiol gyda'u rhieni eu hunain ynghylch camau y gellir eu cymryd i wella'r amgylchedd o amgylch eu hysgolion eu hunain. Fel pob Aelod yma yn y Senedd, rwy'n siŵr, rwyf i wedi ymweld ag ysgolion lle'r ydych chi'n gweld arddangosiadau o'r negeseuon y mae plant yn eu cyfleu i'w rhieni am ysmygu, am sbwriel, am barcio, am yr holl bethau sy'n gwneud y gwahaniaeth uniongyrchol hwnnw i amgylchedd y plentyn. Ac, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod cynlluniau sydd eisoes yn bodoli sy'n annog ysgolion i brynu beiciau eu hunain fel y gall plant eu benthyg nhw a beicio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol—gan gyfuno hynny â dosbarthiadau hyfedredd beicio, yr holl bethau sy'n gwneud beicio yn hwyl, yn ogystal â'i wneud yn ddewis gwell i blant fynd yn ôl ac ymlaen rhwng eu cartrefi a'r ysgol. Ac, wrth gwrs, rwy'n annog pob ysgol a phob awdurdod addysg lleol i barhau i wneud popeth o fewn eu gallu i berswadio pobl ifanc ac i alluogi pobl ifanc i wneud y dewisiadau iach ac egnïol hynny.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Gyda'ch caniatâd, a gaf i groesawu arweinydd newydd Plaid Cymru i'w swydd, a dymuno'n dda iddo—ddim yn rhy dda—yn y swydd honno? [Chwerthin.] Rwy'n siŵr y byddwn ni'n cael dadleuon a sgyrsiau da ar draws llawr Senedd Cymru.

Prif Weinidog, roedd ffigurau diweithdra'r wythnos diwethaf yma yng Nghymru yn siomedig. Roedden nhw'n dangos, yn anffodus, bod y niferoedd yn cynyddu ar gyfer diweithdra yma yng Nghymru, o'i gyferbynnu â'r gostyngiad mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei wneud o'r ffigurau hynny, a pha gamau y mae'n eu cymryd i ymateb i'r nifer cynyddol o bobl ddi-waith yma yng Nghymru?

Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o ystadegau marchnad lafur yr wythnos diwethaf. Mae'r cefndir iddyn nhw yn un difrifol i'r Deyrnas Unedig gyfan. Mae'r Blaid Geidwadol wedi chwalu'r economi, ac rydym ni'n gweld hynny'n datblygu nawr ar ffurf y pwysau yr ydym ni'n eu gweld yn y gweithle hefyd. [Torri ar draws.] Nid wyf i'n credu y gallaf i gredu y gallaf feddwl am Aelodau'r Blaid Geidwadol yn chwerthin ar y syniad o'r ffordd y maen nhw wedi cyflawni cyfrifoldebau economaidd y wlad hon. Ond o ran ffigurau Cymru, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos darlun cymysg. Er bod y prif ffigurau diweithdra wedi cynyddu yng Nghymru, mae'r ffigurau y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn eu cyhoeddi ar weithwyr cyflogedig misol yng Nghymru yn dangos bod y ffigur hwnnw yn cynyddu mewn gwirionedd, ac yn cynyddu yng Nghymru yn gryfach nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Felly, roedden nhw'n ddwy set o ffigurau, a gyhoeddwyd ar yr un diwrnod, yn pwyntio i gyfeiriadau sy'n ymddangos yn wahanol; tra bod diweithdra yng Nghymru wedi cynyddu, fe wnaeth nifer y gweithwyr cyflogedig misol hefyd gynyddu yn yr un mis. Ac fel erioed, gydag unrhyw set fisol o ffigurau, mae'n well edrych dros ystod o fisoedd cyn i ni weld pa un o'r dangosyddion gwrthgyferbyniol hyn sy'n adrodd hanes gwirioneddol cyflwr presennol economi Cymru i ni yn y pen draw.

Prif Weinidog, economi'r DU oedd yr economi a oedd yn tyfu gyflymaf am y ddwy flynedd ddiwethaf yn y G7. Mae'r Almaen mewn dirwasgiad; er gwaethaf y ffaith fod holl aelodau eich meinciau cefn a'ch Llywodraeth yn dymuno i'r wlad hon fod mewn dirwasgiad, nid yw'r wlad hon mewn dirwasgiad. Dangosodd ffigurau yr wythnos diwethaf yn glir bod diweithdra yn cynyddu yn y rhan hon o'r Deyrnas Unedig, ond yn gostwng mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae'n ffaith nad yw gwerth ychwanegol gros o dan oruchwyliaeth y blaid Lafur wedi cynyddu fel y dylai fod wedi cynyddu, mae'n ffaith bod £2,000 yn llai mewn pecynnau cyflog yng Nghymru na'r rhai mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae'n ffaith, yn anffodus, fod gennym ni fwy o bobl ddi-waith hirdymor yn y rhan hon o'r Deyrnas Unedig. Y ffaith arall yw bod gennym ni 5 y cant o'r boblogaeth yma yng Nghymru, ond dim ond 3 y cant o'r cyfoeth yr ydym ni'n ei gynhyrchu. Ers 25 mlynedd, mae'r Blaid Lafur wedi methu â gwella'r ffigurau hynny. Gofynnaf i chi eto, Prif Weinidog: beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r rhagolygon hirdymor ar gyfer economi Cymru a chael y niferoedd hynny i symud i'r cyfeiriad cywir? Oherwydd y cwbl wnaeth y rhifau diweithdra hynny yr wythnos diwethaf oedd atgyfnerthu methiant polisi Llafur Cymru mewn Llywodraeth yma yng Nghymru.

Y peth gorau all ddigwydd i economi Cymru yw i ni gael Llywodraeth Lafur ar lefel y Deyrnas Unedig. Pe bai un cam y gallem ni ei gymryd i wneud yn siŵr bod pobl yma yng Nghymru yn mwynhau'r dyfodol economaidd y maen nhw'n ei haeddu, mae'n rhaid mai'r cam hwnnw fyddai cael Llywodraeth gymwys ar lefel y DU, Llywodraeth heb y staeniau rhyfeddol ar ei record economaidd sydd gan Lywodraeth bresennol y DU. Mae'n wirioneddol syfrdanol i mi y dylai'r Blaid Geidwadol feddwl y gallan nhw gynnig darlith i unrhyw un ar sut i ymgymryd â materion economaidd yma yn y Siambr hon.

Roedd yr Aelod yn anghywir—mae'n aml yn anghywir; rydym ni'n gwybod—pan ddywedodd wrthyf i fod cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn gwaethygu, gan fod y ffigurau yr oedd yn dibynnu arnyn nhw yn ei gwestiwn cyntaf yn dweud bod anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi gostwng 0.6 y cant yn y chwarter olaf yng Nghymru. Felly, mewn gwirionedd, rydym ni'n llwyddo i gael mwy o bobl yn ôl i waith o anweithgarwch economaidd yma yng Nghymru—nid llai, fel y dywedodd yn ei ail gwestiwn. Ac os yw'n dymuno edrych yn ôl dros holl gyfnod datganoli, yr hyn y bydd yn ei ganfod yw stori lwyddiant ryfeddol cynifer o bethau yma yng Nghymru.

Yn y 1980au a'r 1990au, roedd y bwlch cyflogaeth rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig—. Mae'r bwlch hwnnw wedi cael ei haneru yng nghyfnod datganoli. Os gwnaiff ef edrych yn ôl ar ffigurau anweithgarwch economaidd ar ddechrau'r 1990au, roedd Cymru yn allanolyn llwyr yn y Deyrnas Unedig, ac roedd y bwlch hwnnw wedi bod yn tyfu o un flwyddyn i'r llall. Byddai wedi syfrdanu unrhyw un ym 1999 pe baech chi wedi dweud 20 mlynedd yn ddiweddarach bod y bwlch anweithgarwch economaidd rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig wedi crebachu i'r lefel y mae heddiw. Mae economi Cymru, Llywydd, wedi bod yn llwyddiant yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, er gwaethaf ac nid oherwydd y polisïau y mae ei blaid ef wedi eu dilyn mewn grym.

13:50

Weithiau, rydych chi'n meddwl tybed a ddylech chi fod yn y neuadd gomedi yn hytrach nag ar lawr Senedd Cymru, Prif Weinidog. Mae'n ffaith, pan oeddech chi'n gynghorydd arbennig i Rhodri Morgan, eich bod chi wedi gosod y targed ar gyfer codi gwerth ychwanegol gros i fod ar gyfartaledd gweddill y DU o leiaf. Rydych chi wedi methu â gwneud hynny. Tynnais eich sylw at sut mae pecynnau cyflog yma yng Nghymru £2,000 yn ysgafnach nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac fe wnes i hefyd dynnu eich sylw at sut mae gennym ni 5 y cant o boblogaeth y DU ond ein bod ni'n cynhyrchu dim ond 3 y cant o'r cyfoeth. Gofynnais i chi pa strategaeth, pa bolisi, sydd gennych chi ar waith i edrych ymlaen, nid yn ôl, i wneud yn siŵr y gallwn ni wella'r rhifau hynny. Fe wnaethoch chi gynnig dim byd o gwbl. Rwyf i wedi rhoi'r cyfle i chi. Ar y trydydd cyfle, rhowch syniad i ni o ble'r ydych chi'n mynd ag economi Cymru, â rhai canlyniadau pendant y gallwn ni fesur y Llywodraeth hon ar eu sail, oherwydd ar hyn o bryd mae'r canlyniadau'n dangos cerdyn sgorio o 'wael iawn' o ran yr economi yma yng Nghymru.

Nid wyf i'n credu bod record economaidd y Deyrnas Unedig yn rhywbeth i chwerthin yn ei chylch, ac nid wyf i'n credu chwaith, pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn cael ei hun ar iâ mor denau, bod gweiddi'n uwch ac yn uwch arnaf i yn ffordd o guddio gwendid ei safbwynt. Mae'n gweiddi arnaf i eto. Mae'n ffordd y mae'n ceisio cuddio teneuder ei ddadl ei hun. Yma yng Nghymru, bydd pobl yfory yn wynebu cynnydd newydd i gyfraddau llog. Bydd pobl sy'n talu morgeisi yng Nghymru yn gweld eu hunain yn waeth eu byd eto oherwydd camreolaeth economaidd ei blaid. Yma yng Nghymru, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fuddsoddi yn economi Cymru, i fuddsoddi yn y sgiliau y bydd eu hangen ar bobl yn y dyfodol, i fuddsoddi yn y seilwaith sy'n cefnogi ein hymdrech economaidd, i fuddsoddi yn y diwydiannau newydd hynny—mewn seiberddiogelwch, mewn ynni adnewyddadwy, yn y pethau hynny sy'n cynnig dyfodol economaidd llwyddiannus i Gymru. Rydym ni'n gwneud hynny yn erbyn blaenwyntoedd gweithredoedd anghyfrifol Llywodraeth y DU. Cofiwn mor dda sut y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid gefnogi Boris Johnson yn gyntaf ac yna Liz Truss. Sut gwnaiff ef esbonio hynny i bobl yng Nghymru, pan fyddan nhw'n canfod bod eu dyfodol economaidd wedi cael ei ddinistrio gan weithredoedd anghyfrifol Llywodraeth Geidwadol y mae ef wedi mynd—[Torri ar draws.]  

Rwy'n credu bod y cwestiynau wedi cael eu gofyn eisoes. Arweinydd yr wrthblaid, a allwch chi wrando ar yr ateb i'r cwestiwn?

—allan o'i ffordd i'w cefnogi yma yng Nghymru dro ar ôl tro? 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae hi'n anrhydedd cael fy ngalw fel arweinydd Plaid Cymru i ddal Llywodraeth Cymru a Phrif Weinidog Cymru i gyfrif. Efo'ch caniatâd, Llywydd, mi fyddwn i'n licio diolch i'm cyd-Aelodau ar y meinciau yma am eu cefnogaeth, am y dymuniadau gorau gan Aelodau ar draws y Siambr, a'r dymuniadau lled dda gan arweinydd y Blaid Geidwadol. Rydyn ni i gyd yn dod i fan hyn, i'r Senedd—neu mi ddylem ni, yn sicr—efo darlun o'r math o gymdeithas rydyn ni eisiau gweithio tuag ati, ac i fi mae hynny'n cynnwys gweledigaeth glir o sut Gymru dwi'n dyheu amdani hi. 

Mae'r Gymru yr wyf i'n ymdrechu i'w sicrhau yn fwy uchelgeisiol. Mae'n decach. Mae'n wyrddach. Mae'n fwy llewyrchus. Mae'n wlad sy'n annibynnol ac yn gysylltiedig, yn pennu ei thrywydd ei hun ac yn chwilio am bartneriaethau newydd. Mae'n daith, ac rwy'n gwahodd y Prif Weinidog i weithio gyda mi tuag at y weledigaeth honno, hyd yn oed os nad yw ef ei hun wedi cael ei argyhoeddi i'r graddau yr wyf i o'n galluoedd fel cenedl. Rwy'n ei wahodd i wthio ein ffiniau fel cenedl ar unwaith. Felly, ar fater mwy o bwerau yn gyffredinol, cymryd mwy o gyfrifoldeb, a yw'n cytuno â'r egwyddor o 'os na ofynnwch chi, ni chewch chi'? 

13:55

I ddechrau, Llywydd, croeso’n ôl i Rhun ap Iorwerth at gwestiynau i'r Prif Weinidog, fel roedd arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud. Pob lwc iddo fe yn y swydd newydd mae e wedi ei derbyn.

O ran dyfodol Cymru, ceir llawer yn yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth a fyddai'n uchelgais a rennir gan lawer o bobl ar yr ochr yma i'r Siambr. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gydag ef a chydag Aelodau eraill o'i blaid yn rhan o'r cytundeb cydweithio yr ydym ni wedi ei lywio yn llwyddiannus yn ystod y 18 mis cyntaf. Mae gennym ni lawer o waith pwysig i'w gyflawni yn ail hanner y cytundeb hwnnw.

Fe wnaf i ateb y cwestiwn penodol fel hyn, Llywydd: mae adroddiad Gordon Brown, a gomisiynwyd gan fy mhlaid fel prosbectws ar gyfer Llywodraeth Lafur nesaf, pryd bynnag y bydd hynny yn digwydd, yn dweud nad oes unrhyw reswm pam na ddylid datganoli unrhyw beth sydd wedi'i ddatganoli i'r Alban i Gymru, os mai dyna oedd dymuniad y Senedd hon. Rwy'n credu bod hynny yn cynnig llwybr at ateb y cwestiwn a ofynnwyd gan Rhun ap Iorwerth. Os yw'r Senedd eisiau gofyn i bwerau sydd eisoes wedi'u datganoli mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig gael eu harfer yma, mae adroddiad Gordon Brown yn dweud na ddylai fod unrhyw rwystr i hynny ddigwydd.

Dwi'n ddiolchgar am y cyfarchion gan y Prif Weinidog, a dwi o ddifrif am gydweithio.

Yr wythnos diwethaf, disgrifiodd fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru pam roedd datganoli grym dros ddŵr mor bwysig, a pha mor siomedig oeddem ni bod Llywodraeth Cymru eisiau i'r trosglwyddiad grym hwnnw gael ei ohirio. Ond, wrth gwrs, rwy'n falch bod y Prif Weinidog yn cytuno â ni nawr ar yr egwyddor sylfaenol ynghylch y mater penodol hwnnw. Ond hoffwn ei wthio am fwy, ac rwy'n siŵr y byddai'n disgwyl i mi fod eisiau ei wthio am fwy.

Gyda'r Ceidwadwyr, rwy'n ei ddeall. Fel plaid, prin y gallan nhw guddio eu dirmyg tuag at ddatganoli, yn union fel y maen nhw wedi dangos eu bod nhw'n dirmygu egwyddorion sylfaenol uniondeb ac ymddiriedaeth. Mae'n anhygoel, onid yw, bod mwyafrif o ASau Ceidwadol Cymru i bob pwrpas wedi ochri gyda Boris Johnson neithiwr trwy beidio â phleidleisio ar yr adroddiad hwnnw yn Nhŷ'r Cyffredin. Byddech chi wedi meddwl mai dyna'r lleiaf y gallen nhw fod wedi ei wneud i geisio cael rhywfaint o iachawdwriaeth.

Ond yn ôl at y grymoedd hynny. Lle ceir tir cyffredin gwirioneddol rhwng y Prif Weinidog a minnau—ar ddŵr, ie, ond ar gyllid HS2 a materion eraill hefyd—rwyf i wir yn croesawu hynny. Ond mae'n rhaid iddo fod yn fwy na geiriau. A yw'n cytuno, tra bod Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn anghytuno ar gymaint o'r materion hynny, ac na wnaiff addo cyflawni, mai dim ond geiriau ydyn nhw mewn gwirionedd?

Yn gyntaf oll, gadewch i mi gytuno ar y pwynt hwn—roedd yn weithred ryfeddol o lwfrdra gwleidyddol neithiwr i Brif Weinidog y DU fethu â chefnogi adroddiad pwyllgor annibynnol yn Nhŷ'r Cyffredin a oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad hwnnw ac am lunio, gyda mwyafrif o ASau Ceidwadol ar y pwyllgor hwnnw, gyfres o argymhellion. Mae'r ffaith bod Prif Weinidog y DU wedi methu â chefnogi'r pwyllgor hwnnw, rwy'n credu, yn enghraifft syfrdanol o'i wendid gwleidyddol, ac rwy'n eithaf sicr y bydd yn difaru hynny, ac mae'n haeddu ei ddifaru, yn y dyfodol hefyd.

O ran datganoli, nid wyf i'n rhannu, wrth gwrs, yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru am betruster y Blaid Lafur, oherwydd y Blaid Lafur yw plaid datganoli. Ni fyddai datganoli oni bai am ymrwymiad y Blaid Lafur i'r achos hwnnw. Ni fyddai unrhyw dwf wedi bod yn y pwerau a welsom ni yn y Senedd yma. Ni fyddai dyfodiad pwerau deddfu sylfaenol i'r Senedd hon wedi digwydd oni bai am Lywodraeth Lafur a Deddf 2006 y rhoddodd Llywodraeth Lafur ar y llyfr statud. Rwy'n edrych ymlaen, yn sicr, at y diwrnod pan fo Llywodraeth Lafur eto yn San Steffan, Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i egwyddorion datganoli, Llywodraeth sy'n benderfynol o lunio Teyrnas Unedig lle mae grym ac awdurdod yn cael eu rhannu ymhlith y rhanbarthau yn ogystal â'r cenhedloedd. Rwy'n credu y bydd hynny yn rhoi prosbectws tra gwahanol i ni yma yn y Senedd, ac edrychaf ymlaen yn fawr at y diwrnod pan fyddwn ni yn y sefyllfa honno unwaith eto.

Rwy'n sicr yn falch iawn o'r cydweithrediad a ddigwyddodd dros gyfnod o ddegawdau a arweiniodd at ddatganoli a'r degawdau lawer o bwysau gan Blaid Cymru i'n cael ni i'r pwynt hwnnw. Ond yr hyn yr wyf i'n ceisio ei gyfleu heddiw gyda fy nghwestiynau yw ein bod ni wir angen gweld y Prif Weinidog yn dal traed ei blaid ei hun i'r tân, ond rwyf i hefyd eisiau gweld mwy gan y Llywodraeth hon ei hun o ran ceisio'r pwerau i lunio ein dyfodol ein hunain. O ran datganoli cyfiawnder a'r heddlu, enghraifft arall, cafwyd ateb ysgrifenedig diweddar gan Weinidog y DU yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw gais ffurfiol i gyfiawnder a phlismona gael eu datganoli mewn gwirionedd, er ei bod yn ymddangos ei fod yn safbwynt polisi ganddyn nhw ers y rhan helaeth o ddegawd bellach. Fe wnawn ni sôn mwy am hynny mewn dadl Plaid Cymru yma yn y Senedd yfory. Ond mae angen i ni barhau i wneud y ddadl dros ein dyfodol ein hunain fel cenedl. Felly, yn ôl i'r man lle dechreuais i: os na wnewch chi ofyn, ni chewch chi. Sut gwnaiff y Prif Weinidog wneud yn siŵr bod Cymru yn cael ei chlywed?

14:00

Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi fod yn glir: mae'n nonsens llwyr i unrhyw Weinidog Ceidwadol honni nad ydym ni wedi gofyn yn ffurfiol am y pwerau hynny. Rydym ni wedi bod mewn trafodaethau poenus gyda Llywodraeth y DU ynghylch adroddiad comisiwn Thomas ers ei gyhoeddi. Rydym ni wedi ennill darnau bach, bach o dir ar yr argymhellion niferus a wnaed gan yr Arglwydd Thomas i Lywodraeth y DU ei hun: enillion bach iawn o ran data, enillion pwysig, ond, yn y cyd-destun ehangach, rhai main o'u cymharu â'r agenda uchelgeisiol a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Thomas ac yr ydym ni wedi ei chyflwyno dro ar ôl tro ar ôl tro i Lywodraeth honno y DU.

Mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i wneud y ddadl dros ddatganoli'r system gyfiawnder yn seiliedig ar yr adroddiad awdurdodol hwnnw. Mae'r is-bwyllgor ar gyfiawnder yr wyf i'n eistedd arno gyda fy nghyd-Weinidog Jane Hutt ac o dan gadeiryddiaeth y Cwnsler Cyffredinol yn datblygu'r ddadl honno ochr yn ochr â'r gymuned gyfreithiol ehangach a'r gymuned broffesiynol yma yng Nghymru. Mae adroddiad Gordon Brown, Llywydd, i ddychwelyd at hwnnw, yn cynnig datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Rwy'n edrych ymlaen at weld y ddau beth hynny yn digwydd. Rwy'n credu bod datganoli pellach y tu hwnt i hynny, ond, mewn sawl ffordd, y cam cyntaf ar y daith yw'r anoddaf i'w gymryd, a'r ffaith bod adroddiad Brown yn gwbl ddiamwys yn cymeradwyo y dylai'r cyfrifoldebau hynny ddod yn gyfrifoldebau yma yn y Senedd—drwy'r pwyllgor hwnnw yr ydym ni'n eistedd arno, rydym ni'n paratoi nawr ar gyfer realiti'r pwerau hynny yn dod yma i Gymru; byddwn yn parhau i wneud y ddadl honno, a byddwn yn parhau i wneud y ddadl honno ar y sail y bydd y gwasanaethau hynny lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn agosach at y bobl sy'n uniongyrchol gysylltiedig â nhw a'r bobl hynny sy'n cael eu heffeithio yn uniongyrchol ganddyn nhw yn benderfyniadau gwell, ac y bydd y cyfrifoldebau hynny yn cael eu cyflawni yn fwy effeithiol pan fyddan nhw yma ar lawr y Senedd hon.

Anghydraddoldebau Iechyd a Marwolaeth

3. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaeth? OQ59687

Llywydd, mae anghydraddoldebau iechyd yn arwydd o anghydraddoldebau economaidd a chymdeithasol ehangach sy'n llywio cyfleoedd bywyd dinasyddion Cymru. Rydym ni'n gwybod mai'r camau cynharaf y gallwn ni eu cymryd—cynllun Cychwyn Iach a pholisïau gwneud iawn fel Dechrau'n Deg—sy'n cael yr effaith fwyaf, gan gynnwys lleihad mewn anghydraddoldebau iechyd a marwolaeth.

Bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi mai un o'r anghyfiawnderau mwyaf yn fyd-eang, ond hefyd yma yng Nghymru, yw pan fydd ansawdd bywyd rhywun, canlyniadau iechyd rhywun, ond hefyd ddisgwyliad oes rhywun yn cael eu culhau gan amgylchiadau eu geni neu amgylchiadau'r amgylchedd o'ch cwmpas. Cawsom adroddiad cyn i mi gyflwyno'r cwestiwn hwn—doeddwn i ddim yn gwybod bod yr adroddiad hwn yn dod—a ddangosodd y bwlch o 10 mlynedd o ran marwolaeth rhwng lleoedd yn fy etholaeth i fel Ynysawdre ym Metws a Melin Ifan Ddu a'r rhai sy'n byw yn Nhrelales a Bracla a Choety. Ac fe gawsom ni adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar ganser ar sut mae anfantais yn effeithio ar ganlyniadau canser. Dyma gyfraith gofal gwrthdro Dr Julian Tudor Hart wedi'i hamlygu, yr holl flynyddoedd hynny ar ôl creu'r GIG. Felly, 75 mlynedd ers creu'r GIG, rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod ni'n gofyn: beth fyddai Nye yn ei wneud nawr? Beth fyddai Attlee yn ei wneud nawr? Beth fyddai Jim Griffiths yn ei wneud nawr, a phobl eraill o'r fath, pe baen nhw'n edrych ar hyn ac yn dweud, 'Sut ddylem ni ymdrin â'r anghyfiawnder hwn?' Ond, yn bwysicach fyth, Prif Weinidog, beth ddylem ni ei wneud nawr, ym mhymthegfed blwyddyn a thrigain hon y GIG, i siarad am amodau tai, amodau eich magwraeth, yn ogystal ag iechyd, a symud at fodelau cymunedol ac ataliol fel ein bod ni'n culhau ymhellach yr anghyfiawnder hwnnw yn y bwlch o ran disgwyliad oes a chanlyniadau iechyd? Yn syml, nid yw'n deg ac mae'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu.

14:05

Llywydd, rwy'n credu bod Huw Irranca-Davies wedi mynegi yn dda iawn y ffaith nad yw gwelliant i anghydraddoldebau iechyd yn nwylo'r gwasanaeth iechyd yn bennaf; mae'n ymwneud â delio â'r achosion sylfaenol ac ysgogol hynny sy'n effeithio ar gyfleoedd bywyd pobl ym mhob rhan o'n cymunedau. Dyna pam, fel Llywodraeth, yr ydym ni'n buddsoddi mewn tai, gan ein bod ni'n gwybod bod yr amodau tai yr ydych chi'n byw ynddyn nhw yn cael effaith sylfaenol ar eich iechyd, o'r blynyddoedd cynharaf yr holl ffordd i gyfnod diweddarach eich bywyd. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi mewn addysg i wneud yn siŵr bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle gorau o fynd ymlaen i ennill bywoliaeth mewn economi sy'n ffynnu, ac lle maen nhw eu hunain yn cael eu hunain yn gallu byw bywydau lle mae disgwyliad oes iach —nid disgwyliad oes ei hun yn unig—lle mae disgwyliad oes iach o'u blaenau.

O ran cyfraniad y gwasanaeth iechyd ei hun, yna'r pethau y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd, wedi eu pwysleisio mor aml wrth siarad yma ar lawr y Senedd yw'r rheini. Ysmygu, gordewdra, yr agenda iechyd cyhoeddus sy'n cael yr effaith honno o lunio newidiadau bywyd pobl, a symud gwasanaethau yn agosach i'r fan lle mae pobl yn byw fel bod yr anfanteision iechyd hynny y mae pobl yn byw â nhw heddiw yn cael eu herydu. Yn etholaeth yr Aelod ei hun, rwyf i wedi bod yn dilyn gwaith y bwrdd iechyd yn ei gynllun i ailfodelu Ysbyty Cymunedol Maesteg, ysbyty yr wyf i wedi ymweld ag ef gyda'r Aelod fy hun yn y gorffennol, yn ganolfan iechyd cymunedol newydd i Faesteg yn y dyfodol, gan ddod â gofal cymdeithasol a gofal iechyd ynghyd, lleihau nifer y bobl nad ydyn nhw'n gallu manteisio ar apwyntiadau pan fydd yn rhaid iddyn nhw deithio ymhellach i ffwrdd, a lleihau nifer y cyflwyniadau hwyr. Mae honno'n nodwedd wirioneddol arall o anghydraddoldebau iechyd, Dirprwy Lywydd. Y bobl sydd â'r lleiaf sy'n aros hiraf cyn iddyn nhw ddod â'u problemau i'r gwasanaeth iechyd. Pan fyddwch chi'n symud y gwasanaethau hynny yn agosach at y cymunedau hynny, gallwch chi erydu'r anghydraddoldebau hynny hefyd. Ac yna mae'r gwasanaeth iechyd yn chwarae ei ran, ond ei ran ochr yn ochr â'r holl bethau eraill hynny y mae angen i ni eu gwneud i fynd i'r afael â'r sgandal nid yn unig o anghydraddoldebau iechyd, ond y ffordd y caniatawyd i anghydraddoldeb ei hun dyfu yn y Deyrnas Unedig dros y 15 mlynedd diwethaf a mwy.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Un o'r materion eraill o ran anghydraddoldebau iechyd yw'r gwahaniaeth enfawr ym mherfformiad y GIG mewn gwahanol rannau o Gymru. Er enghraifft, pobl yn y gogledd sydd â'r adrannau brys sy'n perfformio waethaf yn y wlad. Mae pob un o'r tri ysbyty mawr yn y gogledd yn tanberfformio'n ddifrifol, ac mae pobl yn y gogledd yn debygol o aros yn hwy i gael eu cyfeirio at driniaeth hefyd ar gyfer llawer iawn o wahanol lawdriniaethau. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i newid yr anghydraddoldebau hynny fel nad oes gennym ni'r math o system cod post sydd gennym ni o ran mynediad digonol at driniaeth pan fydd ei angen ar bobl?  

Nid wyf i'n anghytuno â'r cynnig agoriadol bod anghydraddoldebau o fewn y gwasanaeth iechyd ei hun yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni weithio'n galetach i gael gwared arnyn nhw. Pan oeddem ni'n arfer siarad am yr agenda gofal iechyd darbodus ar lawr y Senedd yma, rwy'n cofio'n aml dyfynnu'r ffaith eich bod chi bedair gwaith yn fwy tebygol o gael tynnu eich tonsiliau os oeddech chi'n byw ar Ynys Môn nag oeddech chi yn rhan o'r un bwrdd iechyd ond yn byw yn Wrecsam. Felly, rwy'n cytuno bod yr amrywiadau hynny mewn gofal iechyd yn rhan bwysig o wneud yn siŵr bod ymdrech i leihau anghydraddoldebau iechyd ym mhobman. Ac yn union fel y mae gan bob rhan o Gymru ei heriau ei hun, felly hefyd y mae pob rhan o Gymru yn gwneud yn well nag unman arall mewn rhai rhannau pwysig eraill o ofal iechyd.

Felly, pan fyddwch chi'n meddwl am anghydraddoldebau iechyd, un o'r prif arfau yn yr arfogaeth, Dirprwy Lywydd, yw brechu i atal salwch y gellir ei osgoi, ac, yn hyn o beth, Betsi Cadwaladr sy'n arwain Cymru gyfan. Mae ganddo'r cyfraddau brechu rhag ffliw gorau yng Nghymru gyfan. Mae ganddo'r cyfraddau brechu plant gorau o unrhyw le yng Nghymru. Yn wir, roedd cyfradd imiwneiddio plant erbyn pump oed ar ei huchaf ers i gofnodion ddechrau yn 2020-21, a'r prif berfformiwr, y bwrdd iechyd blaenllaw ar draws Cymru gyfan yn y perfformiad gorau erioed hwnnw, oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Felly, nid wyf i'n anghytuno â'r Aelod bod heriau yno y mae angen mynd i'r afael â nhw, ond, os ydych chi eisiau rhoi darlun teg a chytbwys, byddai'n rhaid i chi hefyd gydnabod bod llawer iawn o bethau lle mae'r bwrdd iechyd hwnnw, fel ym mhob rhan o Gymru, yn rhagori yn y gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i'w boblogaeth leol.

14:10

Gaf i hefyd ymestyn croeso mawr i Rhun ap Iorwerth ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol? Diolch.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Cefais reswm yn ddiweddar i ymweld â phresgripsiynydd annibynnol. Fe wnaethoch chi sôn am wasanaethau yn agos at y bobl. Mae presgripsiynwyr annibynnol a fferyllwyr yn agos iawn at ein pobl, ac mae angen cymorth a chyllid parhaus arnyn nhw i sicrhau bod gennym ni fwy a'u bod yn teimlo eu bod nhw'n yn cael eu cynorthwyo yn well ac yn fwy medrus. Mae Dylan Jones yn bresgripsiynydd annibynnol gwych sydd wedi'i leoli yn Llanidloes a Llanwrtyd. Mae'n dweud ei fod yn un o'r pethau gorau y mae erioed wedi ei wneud. Ond mae llawer ohonyn nhw'n sôn am ba mor bwysig yw bod â lleoliadau gyda meddygon teulu, ac mae meddygon teulu yn dweud ei bod hi'n bwysig iddyn nhw gael y cyllid a'r cymorth er mwyn darparu'r lleoliadau hynny. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi siarad am sut rydych chi'n bwriadu sicrhau bod y gwasanaeth ardderchog hwn, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel y canolbarth a'r gorllewin, yn cael y cymorth sydd ei angen arno i ehangu a pharhau. Diolch—diolch yn fawr iawn.

Wel, diolch yn fawr i Jane Dodds.

Wrth ateb Huw Irranca-Davies, Llywydd, ceisiais sôn am bwysigrwydd symud gwasanaethau yn agosach at bobl er mwyn ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd, ac mae'r gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud yng Nghymru ym maes fferylliaeth gymunedol, achos sydd wedi cael ei gefnogi ar draws y Siambr hon i gyd dros holl gyfnod datganoli, wedi symud, fel y mae Jane Dodds yn dweud, i gyfnod newydd a phwysig iawn gyda'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud mewn hawliau presgripsiynu annibynnol i fferyllwyr. Soniwyd llawer am Lanidloes ar lawr y Senedd y prynhawn yma, ond dyna'n union y math o gymuned lle, os oes gennych chi dîm gofal sylfaenol ehangach, lle mae pobl yn cael eu galluogi i ymarfer ar frig eu trwydded glinigol, gan wneud y defnydd mwyaf posibl o'r sgiliau y maen nhw wedi eu caffael, ac, yn achos fferyllwyr nawr, gallu presgripsiynu'n annibynnol o fewn ystod y cymhwysedd clinigol hwnnw, wrth gwrs mae'n golygu bod gwasanaethau mewn trefi a phentrefi mwy gwledig yn dod yn agosach at bobl.

Mae gennym ni bron i 700 o fferyllwyr cymunedol yma yng Nghymru o hyd. Nid yw'r niferoedd yng Nghymru yn gostwng fel y maen nhw mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n rhannol, rwy'n credu, oherwydd y bartneriaeth a fu gennym ni gyda'r proffesiwn hwnnw a'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud ynddo. Po fwyaf y gallwn ni ei wneud yn y ffordd y dywedodd Jane Dodds i gydnabod a gwella'r gwerth y gall pob aelod o'r tîm clinigol hwnnw, y tîm gofal sylfaenol hwnnw, ei ychwanegu, yna po fwyaf y bydd gennym ni wasanaethau sydd ar gael i bobl lle bydd pobl yn mynd i weld y person sydd yn y sefyllfa orau i ymateb i'w hangen, ac mae fferyllwyr yn rhan sylfaenol o'r ffordd yr ydym ni'n llunio'r dyfodol hwnnw. 

Yr Argyfwng Bysiau Cyhoeddus

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd yr argyfwng bysiau cyhoeddus presennol yn ei chael ar ddarpariaethau'r Mesur teithio gan ddysgwyr? OQ59705

Diolchaf i Carolyn Thomas. Llywydd, ddydd Gwener, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad gyda phartneriaid yn y diwydiant bysiau ac eraill. Cadarnhaodd y bydd cyllid a ddarperir eleni yn sicrhau y gall gwasanaethau hanfodol barhau. Mae'r effaith ar ddysgwyr cyn y flwyddyn ysgol newydd yn parhau i fod yn rhan annatod o'r gwaith ar y cyd hwn.

Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Rwy'n ymwybodol, yn enwedig yn y gogledd, bod trafnidiaeth gyhoeddus ynghlwm â thrafnidiaeth addysg—maen nhw'n helpu i ariannu ei gilydd—ac rwyf i wir yn cymeradwyo'r gwaith partneriaeth sydd wedi bod yn cael ei wneud dros yr wythnosau diwethaf i arbed cymaint o lwybrau bysiau â phosibl. Fodd bynnag, rydym ni wedi cyrraedd cnewyllyn gwasanaeth yn dilyn dau ddegawd o ostyngiad i nifer y teithwyr a hefyd toriadau i gymorthdaliadau yn dilyn mwy na degawd o doriadau i wasanaethau cyhoeddus. Mae gennym ni brinder gyrwyr hefyd, a gwn fod gyrwyr rheolaidd yn golygu llawer i deithwyr; maen nhw'n annog hyder i gael teithwyr yn ôl ar fysiau, maen nhw'n gwybod yr amserlenni ac maen nhw'n cynnig cyngor hefyd. Felly, nawr bod gennym ni rywfaint o sefydlogrwydd, yn y dyfodol, a fyddai Llywodraeth Cymru yn helpu i fwrw ymlaen ag ymgyrch recriwtio i gael gyrwyr yn ôl ar fysiau, a hefyd i gael nifer y teithwyr yn ôl i fyny eto i wneud ein gwasanaethau yn fwy sefydlog, yn y dyfodol? Diolch.

14:15

Diolch i Carolyn Thomas am hynny. Mae hi'n gywir bod chwe gwahanol bartner ar draws y diwydiant, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r datganiad y gwnaeth y Dirprwy Weinidog yr wythnos diwethaf. Mae ymdrech enfawr wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf i gyrraedd y pwynt hwnnw lle'r ydyn ni nawr yn gallu symud i fodel cyllid pontio ar gyfer bysiau.

Ond, mae Carolyn Thomas hefyd yn gywir, Dirprwy Lywydd, nad cyllid yw'r unig her sy'n wynebu'r diwydiant bysiau; mae her hefyd o ran y gweithlu. Mae proffil oedran gyrwyr bysiau yn broffil sy'n heneiddio, ac mae hynny'n arbennig o wir o ran teithio i ddysgwyr, lle mae cwmnïau'n dibynnu ar bobl nad ydyn nhw'n gweithio'n llawnamser, dim ond oriau penodol o'r dydd ac yn y blaen. Mae'n her pedair gwlad, oherwydd mae'r un proffil i'w weld ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, a dyna pam ein bod ni yng Nghymru yn rhan o ddull newydd pedair gwlad o ddenu pobl yn ôl i'r diwydiant hwnnw, i ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn rhwystrau a dod o hyd i ffyrdd y gallai pobl a oedd yn arfer gweithio yn y diwydiant hwn ddiweddaru eu sgiliau ac ymgymryd â swyddi yn y diwydiant eto. 

Mae ein rhaglen ReAct+, Dirprwy Lywydd, er enghraifft, yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i bobl sydd wedi colli eu swydd mewn un diwydiant ac a allai fod wedi gweithio fel gyrwyr bysiau o'r blaen, ond mae angen iddyn nhw fynd ar gyrsiau nawr i ddiweddaru eu hyfforddiant a sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen i fod yn yrrwr bws yn y cyfnod presennol. Mae ymgyrch i berswadio pobl bod hon yn swydd y gallen nhw ei gwneud a chyfraniad y gallen nhw ei wneud, wrth gwrs, yn rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried yn gadarnhaol iawn.

Prif Weinidog, ym mis Mawrth, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y byddai adolygiad eang yn cael ei gynnal o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 oherwydd yr anghenion cymhleth ynghylch dysgwyr ac, yn wir, y byddai mwy o drafnidiaeth gyhoeddus yn dod yn rhan o ddarpariaeth cludiant i ddysgwyr ledled y wlad. Fodd bynnag, hoffwn i wybod sut mae hynny'n mynd a pha ymgynghori sydd wedi bod yn digwydd gyda rhieni ac awdurdodau lleol, oherwydd yn fy etholaeth i, lle'r ydyn ni wedi dibynnu mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn Llanfair-ym-Muallt, roedd plant yn cael eu gadael ar ochr y ffordd neu blant yn sefyll ar y bws oherwydd nad oedd lle i'r disgyblion hynny fynd ar y drafnidiaeth gyhoeddus honno. Felly, a gawn ni rywfaint o sicrwydd, pan fydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal, y byddwn ni, os ydyn ni'n symud tuag at fodel lle'r ydyn ni'n defnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, yn sicrhau bod y bysiau hynny ar gael fel nad ydyn ni'n gadael dysgwyr ar ochr y ffordd ac nad yw pobl ifanc yn cael eu gorfodi i sefyll ar fws?

Mae'r adolygiad yn mynd rhagddo ac yn mynd rhagddo'n weithredol. Gofynnodd Mr Evans am yr ymgysylltiad ag awdurdodau lleol. Nodwyd dyddiad cau o 5 Mehefin i awdurdodau lleol gyflwyno eu tystiolaeth i'r adolygiad hwnnw—tystiolaeth ynghylch costau, rhifau, dulliau darparu cludiant ysgol. Roedd dros hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dychwelyd eu harolygon erbyn y dyddiad hwnnw ac rydyn ni'n disgwyl i'r gweddill gyflwyno eu tystiolaeth yn fuan iawn. Rydyn ni'n ymgynghori'n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc eu hunain. Rhwng 16 Mehefin a 17 Gorffennaf, bydd ymgynghoriad uniongyrchol yn cael ei gynnal mewn ysgolion yng Nghymru, wedi'i gomisiynu drwy Cymru Ifanc—y sefydliad hwnnw—i wneud yn siŵr ein bod ni'n casglu barn a dewisiadau pobl ifanc eu hunain o ran y cludiant hwnnw rhwng y cartref a'r ysgol.

Fy nealltwriaeth i yw bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn disgwyl tynnu ynghyd holl linynnau'r adolygiad sydd wedi bod yn cael ei gynnal fel y gallan nhw ddarparu tystiolaeth yn uniongyrchol i'r Gweinidog erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Yna bydd y Gweinidog yn gallu adolygu hynny ei hun dros yr haf, ac yna dychwelyd i'r Senedd yn yr hydref, fel bod Aelodau'n cael gwybod am ganlyniad yr adolygiad hwnnw.

14:20
Sector Tai Rhent Preifat

5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r sector tai rhent preifat am weddill tymor y Senedd hon? OQ59676

Mae cyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 fis Rhagfyr diwethaf wedi rhoi fframwaith ar waith ar gyfer gwelliannau sylweddol i'r sector rhentu preifat, gan gynnwys gofyniad am gontract ysgrifenedig, gwell diogelwch deiliadaeth a mwy o sicrwydd i landlordiaid. Mae agweddau ar ddiogelwch wedi cael eu gwella hefyd, gan gynnwys y gofyniad am larymau mwg wedi'u pweru gan y prif gyflenwad.

Prif Weinidog, gwnaeth adroddiad Cyngor ar Bopeth 'Diodde'r oerfel' ganfod bod un o bob pedwar person sy'n rhentu'n breifat yn teimlo na allan nhw wresogi eu cartref i dymheredd cyfforddus, bod saith o bob 10 wedi wynebu oerfel, lleithder neu lwydni gormodol, ac nad oedd un o bob pump yn cwyno oherwydd eu bod yn poeni am gael eu troi allan. Mae hyn yn adlewyrchu gwaith achos rwy'n ei ddewis gyda'r rhai sy'n rhentu'n breifat yn aros blynyddoedd, weithiau, i gael system gwresogi wedi'i thrwsio, yn byw mewn ystafelloedd y mae lleithder yn effeithio arnyn nhw'n wael, ac yn wynebu bygythiadau o gael eu troi allan os byddan nhw'n cwyno. Rwy'n gwybod y bydd datganiad yma y prynhawn yma ar y rhaglen Cartrefi Cynnes, ond a allech chi amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod landlordiaid yn y sector rhentu preifat yn darparu cartrefi sy'n gynnes ac yn ffit i bobl fyw ynddyn nhw?

Diolch i Vikki Howells am hynny, Dirprwy Lywydd. Yn wir, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad y prynhawn yma ar iteriad diweddaraf y rhaglen Cartrefi Cynnes a'r gwahaniaeth y mae hynny eisoes wedi'i wneud ac y bydd yn parhau i'w wneud i fywydau pobl sy'n byw yn yr amgylchiadau ffisegol mwyaf heriol. Ond, o ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y Senedd hon, mae gan y problemau y mae Vikki Howells wedi'u nodi ddatrysiadau newydd erbyn hyn y gall tenantiaid, yn arbennig, eu rhoi ar waith. Fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, Dirprwy Lywydd, ym mis Rhagfyr y llynedd, daeth y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi i rym. Maen nhw'n nodi 29 o faterion penodol y mae'n rhaid i landlordiaid roi sylw iddyn nhw pan fyddan nhw'n gosod eiddo yn y sector rhentu preifat, ac ymhlith y materion hynny mae mesurau i sicrhau nad oes gan yr eiddo lwydni na lleithder ac nad yw'n rhy oer.

Wrth gwrs, cyflwynodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) warchodaethau rhag troi allan dialgar, yr ydyn ni'n gwybod eu bod nhw wedi bod yn nodwedd o'r tai hynny nad ydyn nhw'n ffit i fod yn gartref, a phan fydd tenant yn cwyno amdano, yn hytrach na bod y pethau hynny'n cael eu cywiro, maen nhw wedi cael hysbysiadau troi allan. Bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi yn rhoi terfyn ar hynny ac yn rhoi'r hawl hefyd i denantiaid beidio â thalu rhent yn ystod unrhyw gyfnod pan nodir nad yw'r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. 

Dirprwy Lywydd, mae Cymru'n llawn o landlordiaid da, gadewch i ni fod yn siŵr o hynny, sy'n rhoi sylw priodol i safonau eu heiddo ac yn ymateb i gwynion pan fyddan nhw'n cael eu gwneud. Ond lle mae yna landlordiaid—ac yn anffodus mae gormod o achosion o hyn hefyd—nad ydyn nhw'n bodloni'r safonau sylfaenol y mae'r Senedd hon yn gofyn amdanyn nhw, rydyn ni nawr wedi rhoi cyfres newydd o warchodaethau ar waith, a bydd modd i'r tenantiaid eu hunain arfer y gwarchodaethau hynny'n uniongyrchol.

Diolch i Vikki am y cwestiwn yma. Wrth gwrs, dwi'n ymfalchïo bod y cytundeb cydweithredu yma rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi arwain at Bapur Gwyn y byddwn ni'n ei weld maes o law, a dwi'n edrych ymlaen at gyfrannu ato. Dwi hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad ar Bapur Gwyrdd gafodd ei wneud yn ddiweddar efo'r ffocws ar rentu. Mi ydych chi'n gwybod ein bod ni yma wedi bod yn galw am system i reoli rhenti yng Nghymru. Wrth gwrs, y brif ddadl yn erbyn hynny oedd y byddai hyn yn debygol o arwain at grebachu yn y farchnad dai sydd ddim yn wir, oherwydd yn ddiweddar ces i gyfle i fynychu gŵyl tai cymdeithasol rhyngwladol yn Barcelona a chael sgyrsiau efo'r sosialwyr Renaud Payre, is-lywydd awdurdod bwrdeistref Lyon, ac Ada Colau, maer Barcelona. Fe soniodd y ddau ohonyn nhw wrthyf i am y rhaglen o gyflwyno rheoli rhenti maen nhw wedi'u gwneud yn eu bwrdeistrefi nhw yn arbennig o lwyddiannus. Felly, ydych chi'n derbyn y gall math newydd o reoli rhenti, wedi'i gysylltu efo ansawdd a safon y tŷ, weithio yma yng Nghymru?

14:25

Wel, diolch yn fawr i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn ychwanegol, a diolch am beth ddywedodd e am bwysigrwydd y pethau sydd gennym ni yn y cytundeb. A’r rheswm pam rŷn ni wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd, wrth gwrs, yw achos ein bod ni eisiau tynnu tystiolaeth o bob man, a lle mae syniadau newydd ar gael o dramor, neu o’r Alban, neu o ble bynnag y mae syniadau newydd yn dod sy’n gallu ein helpu ni ar y llwybr i’r Papur Gwyn, rŷn ni’n agored i glywed ac i ystyried y dystiolaeth sy’n dod i mewn.

Dwi ddim yn gyfarwydd â’r dystiolaeth o Barcelona, ​​​​ond mae’n edrych fel bod syniadau yna y gallwn ni dynnu arnyn nhw yn y drafodaeth sy’n mynd i fod yn rhan o’r gwaith sy’n mynd ymlaen rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth i symud ymlaen at y Papur Gwyn, ac i ddyfeisio ffyrdd newydd yma yng Nghymru i ddelio â’r problemau rŷn ni'n gwybod sy’n wynebu’r sector a phobl sy’n dibynnu ar dai yn y sector preifat.

Tai yng Ngogledd Cymru

6. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer tai yng Ngogledd Cymru? OQ59723

Ein strategaeth ni yw cynyddu'r cyflenwad o dai i'w rhentu ac i'w prynu, gan wella ansawdd tai i gyd-fynd â'n rhwymedigaethau newid hinsawdd.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb hwnnw. Prif Weinidog, byddwch chi'n ymwybodol, ledled Cymru, bod tua 13,000 o bobl mewn llety dros dro ar hyn o bryd, boed hynny'n wely a brecwast neu westai, sy'n gost fawr iddyn nhw'n bersonol a hefyd i'r pwrs cyhoeddus, wrth gwrs. Ar yr un pryd, yn y gogledd, nid oes modd adeiladu tua 1,000 o gartrefi cymdeithasol oherwydd polisi Llywodraeth Cymru a diffyg eglurder ymhlith adeiladwyr tai ar sut i ymdrin â'r polisi hwnnw. Rwy'n gwybod bod uwchgynhadledd wedi cael ei chynnal yn gynharach eleni, a oedd yn ceisio symud ymlaen â materion i ddatrys y broblem honno. Tybed a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf yma heddiw ynglŷn â sut mae hynny'n mynd, a sut y bydd pobl yn y gogledd yn gallu gweld y tai hynny'n cael eu hadeiladu y mae eu hangen yn daer arnom.

Diolch i Sam Rowlands am dynnu sylw at y pwysau sydd yno o ran llety dros dro yng Nghymru. Maen nhw yno, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, oherwydd ein polisi o sicrhau nad oes neb yn cael ei adael yn ddigartref yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfres o gamau gweithredu i gynyddu'r cyflenwad o dai i ateb y galw hwnnw, p'un ai drwy sicrhau bod cartrefi gwag yn gallu cael eu defnyddio eto, drwy'r cymorth yr ydyn ni'n parhau i'w roi ar gyfer Cymorth i Brynu yma yng Nghymru, neu drwy'r gwaith yr ydyn ni'n ei gefnogi drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a fydd, er enghraifft, yn arwain at adeiladu dros 300 o gartrefi newydd ar hen safle ysbyty Dinbych.

Mae mater ffosffadau a'r angen i sicrhau, pan fydd tir yn cael ei ddatblygu, nad yw'n cael ei wneud mewn ffordd sy'n ychwanegu at y pwysau sylweddol iawn yr ydyn ni'n ymwybodol sydd i'w gweld mewn afonydd yng Nghymru yn broblem anodd ei datrys, oherwydd rydyn ni eisiau gweld y cartrefi hynny'n cael eu hadeiladu, ond nid yw'n bosibl i ni gytuno eu bod yn cael eu hadeiladu mewn ffordd sy'n ychwanegu'n fwriadol at anhawster arall. Dyna pam roedd yr uwchgynhadledd mor bwysig wrth ddod â'r holl fuddiannau hynny sydd â chyfraniad i'w wneud i ddatrys y broblem honno o amgylch y bwrdd. Ac roedd ffocws gwirioneddol yn yr uwchgynhadledd ddiwethaf ar ddod o hyd i ffyrdd y gellir rhyddhau tir at y dibenion tai pwysig iawn hynny mewn ffordd nad yw'n arwain at ddiraddio cyflwr afonydd yng Nghymru ymhellach; syniadau newydd gan Dŵr Cymru o ran sut y gallen nhw helpu; a syniadau newydd gan y swyddogion cynllunio yr oedd gennym ni yno o ran sut y gallai tir gael ei ryddhau at y dibenion hynny.

Felly, rwyf i eisiau rhoi sicrwydd i'r Aelod fod honno'n drafodaeth a oedd yn canolbwyntio'n gryf ar agweddau ymarferol, yn chwilio am ffyrdd y gallwn ni ryddhau'r tir hwnnw, oherwydd mae angen y tai hynny yn y gogledd fel mannau eraill, ond mae amharodrwydd i ddatrys un broblem ar draul problem polisi cyhoeddus arall sydd, fel yr ydyn ni'n gwybod, wir wedi cydio ym meddyliau'r cyhoedd sy'n poeni am gyflwr yr amgylchedd naturiol. 

14:30
Goroeswyr Strôc

Llywydd, ymhlith y camau y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu cymryd i gefnogi goroeswyr strôc mae eu rhyddhau'n gynnar gyda chefnogaeth a darparu adsefydlu hanfodol i alluogi adferiad yn y cartref.

Diolch. Yn gynharach y mis hwn, ymwelais i â grŵp strôc Bwcle, gyda'r Gymdeithas Strôc, i ddysgu am eu profiad o strôc yn sir y Fflint, Wrecsam a sir Ddinbych. Ar hyn o bryd mae dros 70,000 o oroeswyr strôc yng Nghymru, ac mae disgwyl i'r nifer gynyddu 50 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf. Cefais i fy atgoffa o ddata Rhaglen Archwilio Genedlaethol Strôc Sentinel sy'n dangos bod yr amser rhwng dechrau cael symptomau a'r amser pan fydd claf sydd wedi cael strôc yn cyrraedd yr ysbyty yn bedair awr, wyth munud ar gyfartaledd yn Lloegr, chwe awr, pum munud yng Nghymru, a naw awr, 23 munud yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Ymhlith y materion y gwnaeth goroeswyr strôc sôn wrthym amdanynt oedd diffyg gofal cydgysylltiedig—er bod gweithwyr proffesiynol yn garedig a gofalgar—cael strôc yn Lloegr, ond peidio â chael gwybod beth oedd ar gael pan wnaethon nhw ddychwelyd i Gymru; trafferth cysylltu â meddygon teulu; peidio â chael gwybod beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cael strôc, ac wrth ofyn a oedd modd iddyn nhw weld arbenigwr strôc, y meddyg yn dweud 'Rhowch enw i mi, ac fe wnaf i eich atgyfeirio chi'.

Gyda bwrdd y rhaglen strôc yn cynllunio gwaith ymgysylltu ar ddyfodol gwasanaethau strôc, sut y byddwch chi'n sicrhau bod lleisiau goroeswyr strôc a gofalwyr yn cael eu clywed a'u bod yn rhan o gyd-gynhyrchu'r gwaith hwn?

Wel, Llywydd, rwy'n credu ein bod ni'n lwcus iawn yng Nghymru i gael partneriaeth mor bwerus a phartner pwerus yn y Gymdeithas Strôc. A chlywais i'r hyn y dywedodd yr Aelod bod y Gymdeithas Strôc yn rhan o'i ymweliad ym Mwcle. Mae gennym ni berthynas hirsefydlog yng Nghymru rhwng arweinyddiaeth broffesiynol gwasanaethau strôc, ac rwy'n credu ein bod ni wastad wedi bod yn ffodus iawn yng Nghymru hefyd i gael clinigwyr pwerus sy'n gweithredu fel ein harweinwyr clinigol cenedlaethol. Ac mae Dr Shakeel Ahmad, yr arweinydd clinigol cenedlaethol presennol ar gyfer gwasanaethau strôc yng Nghymru, wedi parhau â'r ffordd honno o wneud pethau, gan sicrhau bod llais cleifion yn cael ei glywed yn rymus yn y ffordd y mae rhaglenni strôc, a gwelliannau strôc yng Nghymru, yn cael eu cyflwyno. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y ffordd maen nhw'n barod, nid yn unig i fod yn llais i gleifion wrth gyfleu profiadau, ond yn llais i gleifion wrth ddod o hyd i atebion hefyd.

Ac ar y rhestr o faterion y cyfeiriodd Mark Isherwood atyn nhw, roedd nifer ohonyn nhw'n ymddangos i mi'n hawdd iawn eu datrys, yn syml drwy wneud yn siŵr bod y profiad bywyd hwnnw'n cael ei gyfleu yn y ffordd bwerus y mae'r Gymdeithas Strôc yn ei wneud i bobl sy'n gyfrifol am eu gofal. 

Qatar Airways ym Maes Awyr Caerdydd

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Qatar Airways ynghylch dychwelyd i Faes Awyr Caerdydd? OQ59677

Wel, Llywydd, byddwn i'n croesawu ailddechrau gwasanaeth Doha o Gaerdydd, ond mater masnachol yw hwn, i'w ddilyn trwy drafodaethau rhwng tîm gweithredol y maes awyr a Qatar Airways.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb. Wrth gwrs, mae'r newyddion bod Qatar Airways yn dychwelyd, o bosibl, i Faes Awyr Caerdydd yn cael ei groesawu, rwy'n siŵr, gan bob un ohonon ni, er mai penderfyniad masnachol ydyw—rwy'n cytuno â chi yn hynny o beth. Gyda mwy o hediadau, dylai nifer y teithwyr, mewn theori, gynyddu, er y bydd yn rhaid i ni aros i weld a yw hynny'n digwydd mewn gwirionedd yn y maes awyr.

Fel y gwyddoch mae'n siŵr, Prif Weinidog, nid yn rhy bell yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd rheolau diogelwch meysydd awyr yn cael eu hailwampio'n sylweddol, gyda'r rheol 100 mililitr ar hylifau a'r gofyniad i dynnu eitemau trydan mawr o fagiau yn dod i ben. Bydd y newid mawr hwn, a allai fod wedi digwydd oherwydd technoleg newydd, yn lleihau ciwiau ac yn gwella profiadau teithwyr. Nawr, bydd y newid hwn yn cael ei gyflwyno'n raddol, gyda meysydd awyr yn gorfod gosod y dechneg newydd hon a gwella cyfarpar sgrinio erbyn y terfyn amser, sef mis Mehefin 2024. Yn amlwg, bydd gwneud y gwelliannau hyn ym Maes Awyr Caerdydd yn golygu y bydd yn rhaid i rywun rhoi ei law yn ei boced. Yn ddiweddar, ymwelais i â Maes Awyr Heathrow, lle rhoddodd staff esboniad i mi o'r heriau a'r symiau enfawr o arian sy'n gysylltiedig â chyflawni'r gwelliannau hyn. [Chwerthin.] Gallwch chi chwerthin, ond, ar ddiwedd y dydd, mae ennill gwybodaeth am rywbeth y mae angen i ni ei wella yma yn werthfawr. 

Prif Weinidog, a ydych chi'n hyderus y bydd Maes Awyr Caerdydd yn cwrdd â'r terfyn amser yn 2024, ac a ydych chi wedi cyfrifo cyfanswm y bil ar gyfer y gwaith hwn, gan fy mod i'n siŵr y bydd trethdalwyr ledled Cymru yn awyddus i wybod beth fydd hynny'n ei gostio iddyn nhw?

Wel, Llywydd, ydw wir, rwy'n ymwybodol o'r newidiadau mewn technolegau, ac rwy'n ymwybodol o'r ffaith mai dyma'r enghraifft fwyaf eithriadol o annhegwch polisïau Llywodraeth y DU tuag at feysydd awyr nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig, oherwydd, ar ôl gosod y rhwymedigaethau newydd hyn ar feysydd awyr, maen nhw'n gwrthod rhoi arian i unrhyw faes awyr rhanbarthol fodloni'r safonau newydd hynny. Ac mae hynny'n golygu, er bod rhwymedigaethau ar Faes Awyr Caerdydd, nad oes unrhyw gyllid o gwbl gan y rhai a osododd y rhwymedigaethau hynny yn y lle cyntaf. 

Nid yw hynny'n wir am feysydd awyr mawr fel Heathrow, y cyfeiriodd Natasha Asghar atyn nhw, ond mae'n wir am feysydd awyr bach, rhanbarthol nad oes ganddyn nhw'r un lefel o adnoddau. Felly, byddai fy neges i yn glir iawn: dylai'r lefel honno o lywodraeth sy'n gosod gofynion ar feysydd awyr hefyd gymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod gan feysydd awyr y cyllid angenrheidiol i gyflawni'r rhwymedigaethau newydd y maen nhw'n eu hwynebu nawr. A dylai hynny fod yn deg; dylai fod yn deg. Dyna'r pwynt allweddol yma. Ni ddylai fod cymorth i rai a dim cymorth i eraill, ond dyna bolisi presennol Llywodraeth y DU. 

14:35
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudwn ymlaen at y datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Lesley Griffiths.  

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae pedwar newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar raglen Cartrefi Cynnes. Yn ail, mae'r datganiad ar systemau draenio cynaliadwy wedi'i ohirio. Yn drydydd, mae'r ddadl Cyfnod Adrodd ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru) 2022 wedi'i chwtogi i 30 munud, ac yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd y ddadl yfory ar gynnig deddfwriaethol Adam Price yn cael ei gohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

A gaf i alw am ddatganiad llafar gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar adroddiad interim Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar? Darllenais i'r adroddiad hwnnw gyda diddordeb, ac rydyn ni i gyd yn gwybod bod angen gwella ein seilwaith trafnidiaeth yn y gogledd, a bod pryderon ynghylch pethau fel trafnidiaeth bysiau. Ond un o'r pethau y mae llawer o bobl yn poeni amdano yn y gogledd yw'r posibilrwydd o godi tâl ar rannau o'n rhwydwaith cefnffyrdd. Byddwch chi'n gwybod, cystal â minnau, pa mor bwysig yw'r A483, yr A55 a llwybrau prifwythiennol eraill i bobl symud o gwmpas, yn enwedig y rhai sy'n cysylltu rhannau gwledig o'r gogledd â'r prif rwydwaith trafnidiaeth. Mae'n awgrymu, yn yr adroddiad, mai argymhelliad y Comisiwn yw parhau i ystyried codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd. Rwy'n gwybod nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi'u gwneud eto, ond rwy'n credu bod angen trafodaeth eang ar hyn ymhlith Aelodau Gogledd Cymru, ac rwy'n credu y byddai datganiad yn ddefnyddiol wrth helpu i gychwyn hynny. Diolch. 

Diolch. Wel, mae'r adroddiad yr ydych chi'n cyfeirio ato yn adroddiad annibynnol, ac yn amlwg bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ei ystyried. Yn amlwg, mae ond yn rhan o'r polisi ehangach y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ystyried ar hyn o bryd ynghylch pob agwedd ar drafnidiaeth, ac yn amlwg mae hwn yn canolbwyntio ar y gogledd. Yn sicr, byddaf yn parhau i gael fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda'r Dirprwy Weinidog, gan wisgo het gogledd Cymru, ac ar yr adeg fwyaf priodol—. Yn amlwg, mae'r Dirprwy Weinidog bob amser yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am faterion o'r fath.  

Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y pwysau sy'n cael ei roi ar Lywodraeth y DU a'r ombwdsmon i ddod â chyfiawnder i fenywod Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, y mae pensiwn y wladwriaeth wedi'i wrthod iddyn nhw. Byddwch chi'n gwybod bod mwy na 200,000 o fenywod eisoes wedi marw heb i'r anghyfiawnder hwn gael ei unioni. Mae diffyg uniondeb a moesoldeb yn yr hyn sydd wedi'i wrthod i'r menywod hyn, sydd wedi bod yn flinedig yn gorfforol ac yn emosiynol iddyn nhw a'u hymgyrchwyr dewr sy'n ymladd dros yr hyn sy'n gyfiawn, gan gynnwys—ac rwy'n datgan diddordeb—fy mam, sy'n fenyw WASPI. Nid yw ymchwiliad yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd i'r Adran Gwaith a Phensiynau ar y mater hwn wedi dod i ben. Nid oes amserlen ar gyfer pryd y bydd yn dod i ben, ac mae menywod yn dioddef yn y cyfamser. Felly, a wnaiff y Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y camau y bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r impasse moesol hwn? 

Rydych chi'n hollol gywir, y newidiadau hynny i oedran pensiwn y wladwriaeth—nid oedd llawer o fenywod yn gwybod dim byd amdanyn nhw ac mae wedi effeithio ar filiynau o fenywod nid yn unig yng Nghymru, ond yn amlwg ledled y DU. Ac nid dim ond yr effaith ariannol, ond hefyd yr effaith ar eu hiechyd corfforol a meddyliol a'u lles. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU. Mae'n bwysig iawn bod y menywod hyn yn cael canlyniad teg a chyfiawn o rywbeth nad oedd unrhyw fai arnyn nhw amdano, a menywod, fel eich mam chi—. Nid oedd gan fenywod a gafodd eu geni yn y 1950au y cyfleoedd bywyd na'r cyfleoedd gwaith yr ydyn ni'n eu mwynhau heddiw, felly mae'n bwysig iawn. Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol gyfarfod yr wythnos diwethaf â grŵp o fenywod WASPI, ac mae ef wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn; dim ond hyn a hyn y gallwn ni ei wneud, ond yn amlwg, yr hyn y gallwn ni ei wneud yw rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU. Yn dilyn her gyfreithiol ymgyrch WASPI yn erbyn yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd, rwy'n gwybod bod yr ombwdsmon wedi cytuno i ailystyried adroddiad Cyfnod 2.

14:40

Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored. Meddalwedd gyfrifiadurol yw meddalwedd ffynhonnell agored sy'n cael ei rhyddhau o dan drwydded lle mae deiliad yr hawlfraint yn rhoi hawliau i ddefnyddwyr ddefnyddio, astudio, newid a dosbarthu'r feddalwedd a'i chod ffynhonnell i unrhyw un ac ar gyfer unrhyw ddefnydd. Mae'n bosibl datblygu meddalwedd ffynhonnell agored mewn modd cyhoeddus cydweithredol, ond, yn bwysicaf oll, caiff ei rhannu heb unrhyw gost. Mae hyn yn cynnwys Linux a'i deilliadau fel systemau gweithredu. Mae'n ffordd o arbed arian yn y sector cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio meddalwedd fasnachol ddrud yn gyson. Nid wyf i'n gofyn am ymrwymiad i'w defnyddio, dim ond datganiad arno, a'r rheswm pam nad yw'n cael ei defnyddio fel mater o drefn. Mae'n arbed talu miliynau o bunnoedd i Microsoft.

Diolch. Mae strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru yn cydnabod sut y gall cydweithredu ym maes arloesi digidol helpu i wella gwasanaethau a chynyddu effeithlonrwydd. Ac mewn rhai amgylchiadau, gall meddalwedd ffynhonnell agored fod yn addas, gall fod yn berthnasol a gall fod y peth iawn i'w ddefnyddio. Ond, fel gyda phob meddalwedd, mae risgiau ynghlwm wrthi, megis mewnosod codau maleisus, ac, o ystyried hynny ochr yn ochr â'r potensial am ddogfennaeth a chefnogaeth ffurfiol mwy cyfyngedig, gall hynny, unwaith eto, arwain at fwy o risg o dorri rheolau diogelwch data a pheryglon diogelwch. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod unrhyw sefydliadau sydd yn ei defnyddio yn bodloni eu hunain bod ganddyn nhw fynediad priodol at gymorth ac arbenigedd os ydyn nhw'n defnyddio meddalwedd ffynhonnell agored ar gyfer gwasanaethau hanfodol. Ac mae'n bwysig iawn bod sefydliadau'n cael y cydbwysedd cywir rhwng meddalwedd drwyddedig ac annhrwyddedig, yn seiliedig, yn amlwg, ar anghenion y sefydliad ac a yw'n barod i dderbyn risg.

A gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Llywodraeth y prynhawn yma ar bont Llanerch yn Nyffryn Clwyd, rhwng Trefnant a Thremeirchion? Fe wnes i a llawer o bobl eraill fynd i gyfarfod cyhoeddus yn y Tŷ Gwyn yn Rhuallt ddydd Iau diwethaf, ac roedd lawer o bobl leol, o Drefnant a Thremeirchion, fy hun, yr AS lleol Dr James Davies, arweinwyr y cyngor a swyddogion y cyngor yn bresennol. Ac roedd pwyslais cryf gan swyddogion Cyngor Sir Ddinbych—nid cynghorwyr—bod angen ymrwymiad ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu adeiladu pont newydd. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, sy'n nodi faint o gyfalaf y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w gyfrannu tuag at adfer pont Llanerch, gan fod hyn wedi bod yn mynd rhagddo am lawer rhy hir, ac mae angen atebion ar bobl Dyffryn Clwyd?

Hyd y gwn i, mae Llywodraeth Cymru yn dal i aros am yr achos busnes gan yr awdurdod lleol. Ond rwy'n gwybod bod swyddogion y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gweithio gyda'r cyngor ar hyn o bryd.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad, ysgrifenedig neu lafar, ar gyflwr afon Garw. Fel llawer o etholwyr yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, byddaf i'n aml yn mynd â fy nghi am dro ym Mharc Gwledig Bryngarw, lle mae afon Garw yn llifo. Yn ôl adroddiadau, dim ond dwy filltir i fyny'r afon, ar 325 allan o 365 o ddiwrnodau mewn blwyddyn, mae popeth y mae cartrefi yn ei fflysio ac yn ei arllwys i lawr eu toiledau a'u sinciau yn llifo heb ei drin am filoedd o oriau'r flwyddyn yn yr afon. Gwnaeth gorlifoedd carthffosydd cyfunol ym Mhontyrhyl a Llangeinor arllwys carthion heb eu trin am gyfanswm o 7,804 o oriau a 7,784 o oriau yr un yn y drefn honno yn 2022. Byddai briff gan y Gweinidog hefyd yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

Diolch. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd newydd glywed eich cais. Rwy'n credu y byddai'n well pe baech chi'n ysgrifennu ati'n uniongyrchol, ac yna bydd hi'n gallu ymateb.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddarparu tai cymdeithasol, neu ddatganiad ar y cyd efallai gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, gan fod y rheswm dros y cais hwn yn deillio o gyfarfod y gwnes i fynd iddo yn siarad am gau canolfan groeso Castell-nedd Port Talbot. Mae teuluoedd sy'n ffoaduriaid o Wcráin yn cael gwybod, gyda'r ganolfan ar fin cau, y gallan nhw gael eu symud i rannau eraill o Gymru. Mae nifer o deuluoedd mawr o Wcráin yn parhau i gael eu cartrefu yn y canolfannau croeso gan nad oes unrhyw eiddo addas i gynnig llety parhaol iddyn nhw. Mae dwy ran o dair o blant yn mynd i ysgolion lleol, ac mae 10 o'r oedolion mewn cyflogaeth leol, ac mae pob un nawr yn wynebu cael eu dadwreiddio unwaith eto, oherwydd ein bod ni wedi methu â darparu llety mwy parhaol. Ond nid ein gwesteion o Wcráin yn unig sy'n dioddef oherwydd diffyg cartrefi. Mae cyngor Castell-Nedd Port Talbot hefyd yn cartrefu wyth teulu digartref mewn gwesty lleol, a bu'n rhaid anfon un i westy yn Mryste, oherwydd prinder difrifol o lety.

Gweinidog, mae'n amlwg bod angen brys am dai ledled Cymru, ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu, yn enwedig os ydyn ni eisiau cynnal ein statws fel cenedl noddfa. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu sut y byddwch chi'n ymdrin â'r diffygion tai ar gyfer ein ffoaduriaid a'n teuluoedd sy'n byw yng Nghymru, yn ddelfrydol cyn i'r canolfannau croeso gau mewn ychydig wythnosau. Diolch yn fawr.

14:45

Diolch i chi. Wel, fel rydych chi'n dweud, fe agorodd llawer o bobl ddrysau eu cartrefi i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin, ac mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i weithio yn agos iawn gyda phobl a ymgartrefodd yng Nghymru. Ac, fel rydych chi'n dweud, fe fydd rhai ohonyn nhw wedi bod yma am fwy na blwyddyn, mae eu plant nhw wedi setlo yn yr ysgol, ac mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud pob peth a allwn ni. Fel gwyddoch chi, ni chawsom ni unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU; fe wnaethom ni hyn ar ein traul ein hunain, oherwydd dyna oedd y peth cyfiawn i'w wneud, ac, yn wir, rydyn ni'n genedl noddfa. Ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i weld y cymhlethdodau hynny o hyd ac, yn amlwg, mae hi'n gweithio yn agos iawn nid yn unig gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd o ran tai, ond gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol hefyd, i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu i roi cartref i'r teuluoedd hyn sydd, fel rydych chi'n dweud, wedi ymgartrefu yma.

Mae'r datganiad busnes yn cynnwys ymrwymiad i ddatganiad o 30 munud ynglŷn â 75 mlynedd y GIG. Go brin y caiff honno ei hystyried yn ffordd ddigonol o nodi'r pen-blwydd hwn, gyda datganiad o 30 munud. Fe hoffwn i ofyn i'r Llywodraeth gyflwyno cynnig a dadl ar ddyfodol y GIG.

Mae tri chwarter canrif wedi bod, wrth gwrs, ers i Aneurin Bevan ddweud ei fod am 'Dredegareiddio' gweddill y Deyrnas Unedig, ac efallai mai'r ffordd orau y gallwn ni roi coffâd i Aneurin a sefyllfa wirioneddol gwasanaeth iechyd gwladol yw cynnal dadl ddifrifol ar ei ddyfodol—sut rydym ni'n gweld y 75 mlynedd nesaf, sut rydym eisiau gweld y GIG yn datblygu i wasanaethu cenedlaethau'r dyfodol. Fe gafodd fy rhieni eu geni dan oruchwyliaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar, cyn sylfaenu'r GIG, ond rwy'n siŵr y bydd fy mhlant i'n dymuno gwybod barn y lle hwn am ddyfodol eu GIG nhw. Ac fe fydd y bobl sy'n gweithio yn y GIG heddiw yn disgwyl i ni lunio dyfodol sy'n gofalu am ei sefydliad, ond gan sicrhau hefyd y bydd y sefydliad yr esgorwyd arno dri chwarter canrif yn ôl yn addas ar gyfer y tri chwarter canrif nesaf.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, fel gwyddoch chi'n iawn, mae'r ymgynghoriad ynglŷn â rhyddhau a rheoli adar hela yng Nghymru ar fin dod i ben. Mae miloedd o bobl wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwn am eu bod nhw'n ei ystyried yn ymosodiad ar eu swyddi, ar eu bywoliaethau a'u busnesau. Yr hyn yr hoffwn i ofyn amdano yw dadl, yn amser y Llywodraeth, ar y rheoliadau hyn, pe cânt eu cyflwyno, i sicrhau y bydd y miloedd o bobl hyn sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw yn gallu hysbysu'r Siambr hon o'u barn, a bod barn y bobl sy'n cael eu cynrychioli yn cael eu gwyntyllu yn y Siambr hon.

Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben heddiw, mewn gwirionedd. Yn amlwg, fe fyddwn ni'n ystyried yr ymatebion wedyn.

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Rhaglen Cartrefi Clyd

Eitem 3 yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: y rhaglen Cartrefi Clyd. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni gyhoeddi'r gwersi a ddysgwyd yn ogystal â dogfennau ymateb y Llywodraeth ddydd Mercher diwethaf, ond, oherwydd materion technegol, nid oedd y datganiad polisi ar gyfer rhaglen newydd Cartrefi Clyd ar gael ar yr un pryd. Felly, yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, gadewch i mi ymddiheuro am yr oedi gyda'r cyhoeddi, ond rwyf i am nodi'r manylion heddiw y mae'r datganiad hwnnw'n eu rhoi.

Mae'n rhaid i'n rhaglen newydd ni, ac fe fydd hi'n gwneud hynny, gydbwyso'r amcanion deublyg o fynd i'r afael â thlodi tanwydd a lleihau effeithiau hinsawdd ein stoc dai. Fe fyddwn ni'n adeiladu ar ein dull ni o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru, gan sicrhau ein bod ni'n defnyddio dim ond yr ynni sydd ei angen arnom ni i gadw ein cartrefi ni'n gysurus gynnes am gost sy'n fforddiadwy. Ni ddylai teuluoedd orfod gwneud dewisiadau amhosibl, fel rhwng prynu bwyd a chadw yn ddiddos. Mae'r argyfwng ynni presennol wedi tanlinellu'r angen mawr i wneud gwresogi ein cartrefi ni'n fwy fforddiadwy. Er bod fy nghydweithwyr a minnau'n parhau i fynnu bod newid systemig yn digwydd yn Llywodraeth y DU i lunio system sy'n decach i bawb, bydd ein rhaglen newydd ni, Cartrefi Clyd, yn parhau i fod yn brif fecanwaith i Lywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith o fynd i'r afael â'r angen i gefnogi aelwydydd gyda'u biliau tanwydd nawr, nid ydym ni'n gallu colli golwg ar yr argyfwng hinsawdd a'n llwybr tymor hwy at sero net. Rydym ni'n parhau â'r ymagwedd 'adeiladwaith, y gwaethaf a charbon isel yn gyntaf', gan wella perfformiad yr aelwydydd incwm isel lleiaf effeithlon yn thermol yng Nghymru. Yn ein rhaglen newydd ni, serch hynny, rydym ni'n mynd ymhellach i ddewis datrysiadau carbon isel ac osgoi systemau amnewid tanwydd ffosil lle bynnag y bo modd.

Bydd pob cartref yng Nghymru yn gallu mynd at y rhaglen Cartrefi Clyd i gael cyngor a chymorth ynglŷn â'r dull gorau o wella effeithlonrwydd ynni'r cartref, a sut y gellir ariannu'r mesurau hynny. O ran mewnosod y mesurau, rwyf i o'r farn y dylem ni ganolbwyntio ein sylw ar yr aelwydydd sydd leiaf abl i dalu am y gwelliannau eu hunain yn sectorau'r perchen-feddianwyr, rhent preifat a chwmnïau cydweithredol tai. Mae'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a safon ansawdd tai Cymru eisoes yn cynyddu effeithlonrwydd ynni mewn tai cymdeithasol ac rwy'n falch o'r effaith y maen nhw'n ei chael.

Rydym ni wedi gwrando ar ein rhanddeiliaid ac wedi ystyried meini prawf cymhwysedd yn ofalus ar gyfer y cynllun newydd i sicrhau ei fod yn cyflawni ein hamcanion ni. Fe fyddwn ni'n pennu trothwy incwm isel, yn hytrach na seilio cymhwysedd ar fudd-daliadau prawf modd yn unig, i sicrhau ein bod ni'n anelu at y rhai tlotaf yn y gymdeithas. O ran y cartrefi a fydd yn gymwys, fe fyddwn ni'n ymdrin ag anheddau gyda gradd Tystysgrif Perfformiad Ynni E ac is. Fe gaiff hynny ei ymestyn hyd at radd Tystysgrif Perfformiad Ynni D i aelwydydd sy'n gartref i unigolion â chyflwr iechyd cydnabyddedig, megis anadlol cronig, cyflyrau cylchrediad gwaed neu o ran iechyd meddwl. Ein nod ni yw cynnig lle ar restr wrth gefn i aelwydydd incwm is gyda Thystysgrif Perfformiad Ynni D ond heb gyflwr iechyd, gydag adolygiadau o bryd i'w gilydd i sicrhau bod y llif gwaith yn gweithredu i'r eithaf fel dylai. Rwy'n awyddus i sicrhau y bydd pob ceiniog o'r gronfa a ddyrennir i'r rhaglen hon yn cael ei defnyddio er lles.

Fe fyddwn ni'n gwneud darpariaeth ar gyfer adeiladau sy'n cynnwys mwy nag un annedd, megis blociau o fflatiau, sy'n cael eu trin yn fwy effeithiol yn gyfunol, yn aml iawn. Fe fydd yna hyblygrwydd gyda meini prawf cymhwysedd ar gyfer peidio â rhoi aelwydydd sydd â thlodi tanwydd dan anfantais am eu bod yn rhannu adeiladau ag aelwydydd eraill nad ydyn nhw'n gymwys. Fe fyddwn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a chwmnïau ynni i wneud y gorau o ffynonellau eraill o gyllido, fel rhwymedigaeth y cwmni ynni, i anelu at aelwydydd sydd â'r angen mwyaf a'r rhai a all elwa ar y cynlluniau hyn.

O ran y mesurau a gynigir i'r aelwydydd hyn, fe fyddwn ni'n mabwysiadu dull adeiladwaith yn gyntaf, gan wella effeithlonrwydd thermol hyd at safon foddhaol cyn defnyddio mesurau o ran gwresogi ac awyru. Fe fydd ein camau ni'n cael eu harwain gan asesiad o'r tŷ cyfan, a gwblheir gan aseswyr annibynnol. Fe fydd technolegau carbon isel yn cael eu blaenoriaethu lle bo hi'n gwneud synnwyr i wneud hynny. Nid ydym ni am osod boeleri nwy newydd fel datrysiad dewisol mwyach. Lle bo hynny'n gost-effeithiol, rydym ni am osod datrysiadau amgen carbon isel fel pympiau gwres yn lle boeleri sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes. Lle byddai symud at system wresogi trydan yn achosi cynnydd sylweddol yn y costau rhedeg, y flaenoriaeth fyddai atgyweirio boeleri nwy ynni-effeithlon i ymestyn eu bywydau nhw. Gellir ystyried technolegau arloesol fel pympiau gwres hybrid neu systemau cymunedol pryd nad yw atgyweirio yn ddewis cost-effeithiol neu ymarferol.

Rydym ni wedi clywed ac ymateb i adborth ar gynnwys ffenestri a drysau, a gwaith galluogi ar raddfa fach o fewn terfyn ariannol y cytunwyd arno ymlaen llaw. Mae'n bwysig nad ydym ni'n caniatáu, er enghraifft, i newid teils ar raddfa fechan rwystro gosod paneli solar ffotofoltaig ar do, sy'n darparu ynni rhad am ddim a allai fod yn dro ar fyd i aelwyd dan anfantais.

Yn olaf, ni fydd cartrefi yn gyfyngedig i geisiadau sengl erbyn hyn. Os yw aelwyd a gefnogwyd gan gynllun Cartrefi Clyd blaenorol yn parhau i fod mewn tlodi tanwydd ac yn bodloni'r meini prawf o ran cymhwysedd, cânt wneud cais am gymorth ychwanegol nawr.

Mae canolbwyntio adnoddau ar ôl-osod dwysach i'r tlotaf yn y gymdeithas yn tanlinellu ein hymrwymiad ni i bontio teg ac fe fydd hynny'n ein helpu ni i ddysgu gwersi i lywio a galluogi ôl-osod ehangach a dwysach yn y dyfodol. Rydym ni'n cydnabod yr angen i ysgogi sgiliau a datblygu'r gadwyn gyflenwi yn y sector hwn hefyd. Er na allwn ni ymrwymo y tu hwnt i'r cyfnod adolygu gwariant presennol, fe allaf i gadarnhau bod tua £30 miliwn wedi cael ei neilltuo ar gyfer y rhaglen yn ystod blwyddyn gyntaf ei chyflwyno.

Gan ddysgu gwersi o'r gorffennol, rwyf i wedi ymrwymo i sicrhau y bydd defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn rhag safonau gwael o ran cyflawni a rhoi mesurau amhriodol yn eu lle. Fe fydd y gwasanaeth newydd yn gofyn am waith i gyrraedd safonau PAS, gan leihau'r tebygolrwydd o ganlyniadau anfoddhaol, cynnig atebolrwydd cyfreithiol lle bo angen, ac agor ffrydiau eraill o gyllido fel rhwymedigaeth ar y cwmni ynni. Rydym ni'n annog ansawdd ymhellach drwy sicrhau annibyniaeth rhwng y cyngor ynni, y sefydliad sy'n gosod y mesurau, a'r cyflenwyr sicrhau ansawdd ac archwilio.

Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi disgrifio'r gwasanaeth fel caiff ei ddarparu o'i ddiwrnod cyntaf. Eto i gyd, mae angen i ni fod yn hyblyg o ran amgylchiadau newidiol hefyd. Felly, er mai gwasanaeth fydd hwn a arweinir gan y galw ar y dechrau, ni fydd hynny'n rhwystro mentrau sy'n seiliedig ar ardaloedd. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda'r asiantau cyflenwi a'n partneriaid ehangach i gwmpasu'r elfen hon, gan roi ystyriaeth i fentrau eraill fel rhwymedigaeth cwmni ynni (ECO).

Mae'r rhaglen newydd hon yn rhan o'n gwaith ni o ddatblygu dull cydgysylltiedig ar draws pob deiliadaeth a chyfradd o incwm i ysgogi datgarboneiddio. Yn gam dechreuol, ein nod ni yw cyhoeddi ein strategaeth wres eleni, a fydd yn nodi'r weledigaeth a'r meysydd o flaenoriaeth ar gyfer camau. Mae ein dull ni o weithredu yn cyflawni ein gwerthoedd ac yn gwneud dewisiadau ymarferol iawn i sicrhau ein bod ni'n anelu ein hadnoddau ni'n gywir. Fe fydd yn cynnig dull sy'n integredig: gan ymateb i'r argyfwng costau byw presennol, hyrwyddo deunyddiau cynaliadwy o Gymru; darparu cyngor dibynadwy ar effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio; cefnogi sgiliau a swyddi yng Nghymru; a dysgu o'r gwersi a'r profiad a gafwyd o raglen ôl-osod er mwyn optimeiddio Llywodraeth Cymru. Diolch.

14:55

Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwyf i o'r farn fod y datganiad a wnaethoch chi ei roi yn un diddorol a chynhwysfawr iawn mewn gwirionedd, ac mae hi'n deg dweud ein bod ni'n rhannu'r un uchelgeisiau, yn y bôn. Mae'n rhaid i ni wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru, ac mae'n rhaid i ni ddiddymu tlodi tanwydd. Nawr, rydych chi siŵr o fod yn cofio mai eich uchelgais gyntaf chi oedd edrych—rwy'n datgan buddiant fel perchennog eiddo—ar dai cymdeithasol, ond roedd y dystiolaeth a gafwyd gennym ni yn y pwyllgor newid hinsawdd yn dangos i bawb, er mwyn cyflawni'r gwaith hwn, a'n nodau angenrheidiol o ran sero net, fe ddylid mynd i'r afael â thai o bob math. Nawr, dywedodd y Sefydliad Tai Siartredig wrth ein pwyllgor newid hinsawdd ni mai llety preifat yw'r mater amlycaf y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef os yw tai am chwarae eu rhan. Fe wyddom ni hefyd nad yw hen stoc dai Cymru mor rhwydd â hynny i'w hôl-osod. Nawr, mae'r cynlluniau blaenorol yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw yn y rhaglen Cartrefi Clyd wedi cyfrannu at leithder, anwedd, ac mae hi'n deg dweud, mewn llawer o achosion, iddyn nhw fod yn fethiant.

Nawr, fe hoffwn i wybod pa fonitro—ac mae gen i reswm da am ofyn y cwestiwn hwn i chi mewn munud—sydd gennych chi ar unrhyw waith sy'n cael ei wneud sydd, yn dechnegol, â'r bwriad o gefnogi preswylwyr. Nawr, rwy'n gwybod y bydd gan y rhaglen newydd drothwy o ran incwm isel yn hytrach nag o ran budd-daliadau prawf modd, felly nid drwg o beth yn fy marn i fyddai i chi roi diffiniad o 'incwm isel'.

Mae pryderon wedi cael eu codi gyda mi y gallai'r cynllun gael ei ddefnyddio ar gyfer systemau gwresogi tanwydd ffosil newydd o bosibl, ac fe allai hynny danseilio'r gwaith o ran sero net. Dim ond gair bach ynglŷn â hynny.

Mae ein pwyllgor newid hinsawdd wedi bod yn eglur yn flaenorol fod gennych swyddogaeth bwysig o ran newid ymddygiad defnyddwyr ac ysgogi ôl-osod i gynorthwyo effeithlonrwydd ynni. Felly, fe wyddom ni na fydd cartrefi Cymru, oni bai ein bod ni'n cyflawni'r arloesedd hwn mewn modd priodol, yn cyrraedd sero net erbyn 2050. Fe wyddom ni fod yr adroddiad ar newid hinsawdd yn nodi bod allyriadau wedi cynyddu 2% yn 2020, mae'r galw am nwy mewn adeiladau preswyl wedi parhau i fod yn weddol gyson dros y degawd diwethaf, ac fe gynyddodd y galw am drydan mewn adeiladau preswyl 5 y cant.

Nawr, mae eich datganiad chi'n ardderchog, Gweinidog. [Torri ar draws.] Beth bynnag am hynny, yr hyn yr hoffwn ei ofyn i chi—. Yn ddirybudd, yn un o fy nghymorthfeydd bythefnos yn ôl, fe ddaeth menyw ataf i ac, mae'n rhaid i mi ddweud, roedd hi mewn trallod. Mae hi wedi cael un o'r technolegau carbon isel hyn. Daeth rhywun a churo ar ei drws hi a dweud, 'Fe allwch chi gael y pwmp gwres hwn ac fe wnaiff hwnnw bob un dim i chi'. Felly, fe wnaeth hi ganiatáu iddyn nhw fynd yn eu blaenau ac, mae hi'n deg dweud, mae hi mewn trallod. Cost y cynllun oedd £18,000. Roedd ganddi hi dŷ â thair ystafell wely, ac rwyf i wedi gweld yr holl ffotograffau i roi tystiolaeth. Mae hi wedi gweld un o'i hystafelloedd hi'n llawn dop erbyn hyn, mae'r teclyn mawr hwn yno a phibellau yn mynd i bobman. Mae ei nenfydau'n llawn tyllau, mae lloriau wedi eu codi a'u rhoi yn eu holau'n flêr iawn. Tynnwyd ei boeler o'i chegin drwy waith diofal iawn. Y tu allan, mae'r ardd wedi cael ei difetha, ac, mae'n rhaid i mi ddweud, mae ansawdd y gwaith yn dila iawn, a dweud y lleiaf. Nid yw hi wedi cael unrhyw warantau ardystio, ac mae gwaith wedi'i wneud gyda'r trydan, gwaith gyda'r nwy, tynnu pethau allan, ac rwyf i'n gresynu. Felly, rwyf i wedi ysgrifennu at y cwmni a oedd yn gyfrifol am y gwaith hwn, Gweinidog. Nid wyf i'n gallu canfod pwy sydd wedi ariannu'r cynllun hwn. Y cyfan sy'n cael ei ddweud wrthyf i yw, 'Y rhaglen Cartrefi Clyd yw hon.' 'O, iawn, Llywodraeth Cymru felly.' 'Nage ddim. Nid wyf i'n gwybod pwy sy'n ein hariannu ni am ein bod ni'n gweithredu ar ran cwmni arall sy'n gwneud hyn ar ran rhywun arall.' Ac, yn sydyn, mae diogelwch adeiladau a'r holl broblemau a gawsom ni gyda chladin yn dod i'r meddwl. Fe ddywedodd hi wrthyf i wedyn fod ffrindiau eraill ganddi hi sy'n byw yn yr un ardal sydd am ddod i fy ngweld i oherwydd eu bod nhw wedi mynd i sefyllfa eu hunain o fod wedi ymgymryd â'r teclyn newydd hwn. Ni wnaeth hi arwyddo unrhyw waith papur tan y diwedd un, hyd yn oed. Ni ofynnwyd iddi hi arwyddo unrhyw beth. Felly, yn y bôn, yr hyn yr wyf i'n ei ofyn, Gweinidog, yw sut y gallwch chi fonitro'r gwaith hwn. Yr hyn nad ydym ni'n dymuno ei wneud—. Nid ydym ni'n dymuno gweld trychineb arall fel Arbed. Rydym ni'n awyddus i sicrhau, os yw symiau o arian trethdalwyr yn mynd i mewn i'r cynlluniau hyn, y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau hyd at safon dda a safon ddiogel. Diolch.

15:00

Diolch yn fawr i chi, Janet. O ran cyfyng-gyngor eich etholwraig chi, mae hynny'n swnio fel twyll i mi, ond ni allaf i wybod i sicrwydd. Pe byddech chi'n ysgrifennu ataf i a rhoi gwybod i mi am y cyfeiriad, yn sicr fe allaf i wirio nad yw hi'n un o'n rhaglenni ni, am na all hi fod, oherwydd nid oes unrhyw bosibilrwydd y gallai rhaglen heb ddogfennaeth ac ati fod yn un o rai ni. Ond ysgrifennwch a rhowch y cyfeiriad i mi, ac fe wnaf i wirio hwnnw i chi. Nid yw hwn yn swnio fel unrhyw raglen a ariennir gan y llywodraeth a glywais amdani erioed, felly fe fyddwn i fy hunan yn cyfeirio'r etholwraig at Gyngor ar Bopeth neu gyfreithiwr, oherwydd mae honno'n swnio fel sefyllfa ddifrifol iawn wir.

Yr hyn a nodais yn fy natganiad i, serch hynny, oedd ein bod ni'n dysgu'r gwersi o rai o'r cynlluniau a gawsom ni yn y gorffennol, a lle rydym ni wedi gweld cynlluniau llwyddiannus iawn yn y gorffennol, fe welsom ni, serch hynny, rai cartrefi heb gael eu trin yn dda. Rydym ni wedi cywiro rhai o'r rhain lle bo hynny'n bosibl. Mae rhai ohonyn nhw wedi cwympo i'r categori hwnnw oherwydd cynlluniau gan Lywodraeth y DU hefyd. Felly, rydyn ni'n dysgu gwersi o hyn. Rhan o'r hyn yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw yw gwasanaeth cynghori a fydd yn caniatáu i bobl gymryd cyngor ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd yn eu cartrefi nhw, felly fe fyddai eich etholwraig chi wedi gallu cael mynd at y gwasanaeth cynghori hwnnw, a fyddai'n dweud wrthi hi a oedd ei chartref yn addas ar gyfer pwmp gwres ffynhonnell aer neu beth bynnag allai fod, a'i helpu hi i ddeall beth ellir ei wneud gyda'r math o dŷ sydd ganddi. Mae hynny'n dod yn syth o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, lle gwnaethom ni dreialu cyfres o wahanol atebion yn fwriadol i wahanol fathau o dŷ—chwech enghraifft glasurol o dŷ—er mwyn sicrhau bod yr ateb yr oeddem ni'n ei gynnig yn gweithio mewn gwirionedd. Rwyf i wedi sôn am hyn sawl gwaith. Rydym ni'n gallu cyflwyno'r cyngor hwnnw erbyn hyn oherwydd mae gennym ni ddigon o ddata yn dod allan i allu rhoi cyngor dibynadwy i bobl.

Yna, rydym ni'n anelu at rai sydd mewn tlodi tanwydd. Mae tlodi tanwydd yn anodd iawn oherwydd fe allech chi fod ag incwm eithaf uchel mewn gwirionedd a bod yn berchen-feddiannydd yn prynu tŷ ar forgais ac yn dal i fod mewn tlodi tanwydd. Felly, yr hyn a wnawn ni yw ceisio anelu hyn yn briodol ar gyfer aelwydydd sy'n annhebygol iawn o allu rheoli'r sefyllfa ond lle bydd yn lleihau eu bil ynni yn sylweddol yn ogystal â'u cyfraniad o ran sero net. A chyfaddawdu yw hynny—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Dyma un o'r pethau y bydd yn rhaid i ni ei wneud ar y llwybr oherwydd mae gennym argyfwng costau byw yn ogystal ag argyfwng hinsawdd. Felly, yn rhan o'n cynlluniau pontio teg, rydym ni'n ceisio helpu cymaint o bobl â phosibl. Ond yr hyn y mae'r rhaglen hon yn ei wneud, am y tro cyntaf, mewn gwirionedd, yw edrych yn gyfannol ar yr eiddo cyfan. Mae'n rhoi insiwleiddio'r cartref cyfan yn gyntaf, ac yna, lle gellir trwsio boeler nwy, gyda'r carbon sy'n gorfforedig yn hwnnw, fe fyddwn ni'n ei atgyweirio; os na ellir ei atgyweirio, yna fe fydd systemau gwahanol yn dod i rym. Ond, ie, pe byddech chi'n ysgrifennu ataf i am eich etholwraig, Janet. Rwy'n amau hynny'n fawr iawn, ond fe wnaf i wirio hynny.

Mae rhaglen Cartrefi Clyd yn pennu rhai nodau sy'n glodwiw iawn, ac nid oes amheuaeth fod y canlyniadau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o bobl. Mae gwneud cartrefi yn fwy clyd a chysurus gan gyfrannu yn sylweddol at ddatgarboneiddio hefyd yn dangos ein bod ni o ddifrif yng Nghymru ynglŷn â mynd i'r afael â newid hinsawdd a'r argyfyngau costau byw, gan gefnogi pobl sy'n agored i niwed wrth wella eu llesiant a'u cydnerthedd rhag salwch y gellir ei osgoi hefyd.

Fodd bynnag, wrth i ni werthuso'r rhaglen flaenorol, mae'n rhaid i ni dderbyn bod gwersi difrifol i'w dysgu. O ran yr ailadroddiad newydd o raglen Cartrefi Clyd, mae'r ffaith ei bod hi wedi cymryd cymaint o amser i gael y cyhoeddiad hwn heddiw yn peri dryswch i mi. O ystyried y brys gwirioneddol ynghylch y mater hwn, a'r ffaith fod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd wedi cael eu trafod yn y Siambr dros flwyddyn yn ôl, pam mae hi wedi cymryd cymaint o amser i'r cyhoeddiad hwn gael ei wneud, gyda chyhoeddiad ar y funud olaf hefyd?

O edrych ar yr ailadroddiad blaenorol, fe wyddom ni i gyd am yr aflwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac rwy'n gwybod o brofiad personol yn Nhanygrisiau yn fy etholaeth fy hun na wnaeth pethau weithio allan fel y cynlluniwyd. Felly, pa wersi a ddysgodd y Gweinidog o'r camgymeriadau hyn, a pha ddylanwad a fydd hynny'n ei gael ar y rhaglen newydd?

Mae llawer o bobl mewn etholaethau ledled Cymru, gan gynnwys fy un i, yn byw mewn adeiladau rhestredig, lle mae gwaith adfer bron yn amhosibl neu, yn wir, yn anghyfreithlon. Ond mae'r cartrefi hyn, mewn llawer o achosion, yn aneffeithlon o ran ynni ac yn gartref i bobl agored i niwed. Yn gryno, a wnaiff y Gweinidog roi mewnwelediad pellach o ran sut mae eiddo rhestredig yn cyd-fynd â'r rhaglen hon?

O ran data, mae angen i ni ddeall maint yr effaith a gafodd rhaglen Cartrefi Clyd hyd yn hyn. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddarparu data ar nifer yr aelwydydd sydd wedi elwa ar y rhaglen hyd yma? Yn ogystal â hynny, fe fyddai dadansoddiad o effaith y rhaglen ar iechyd a llesiant unigolion a theuluoedd yn amhrisiadwy wrth ddeall ei llwyddiant yn gyffredinol. Fe fyddai gwybodaeth o'r fath yn ein galluogi ni i asesu a yw rhaglen Cartrefi Clyd yn cynorthwyo'r rhai sydd â'r angen mwyaf amdani, ac yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon yn eu bywydau nhw. Felly, a wnaiff y Gweinidog rannu data effaith y rhaglen ynglŷn ag iechyd y cyfranogwyr?

Un elfen allweddol wrth fynd i'r afael ag effeithlonrwydd ynni stoc dai Cymru yw uchelgais Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy carbon isel newydd erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Felly, pa gynnydd a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ôl cyflawniad y nod hwn? A ydym ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y nod hwn erbyn 2026?

Yn yr un modd, ar wahân i adeiladu cartrefi fforddiadwy cymdeithasol newydd sy'n effeithlon o ran ynni, un o'r prif flaenoriaethau eraill yw gwneud cartrefi presennol yn fwy effeithlon o ran ynni, o ystyried mai gan Gymru y mae'r stoc dai sydd leiaf effeithlon o ran ynni yn Ewrop. Yn rhannol, fe fydd cyflawni hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i berchnogion tai fod yn ymwybodol o'r mesurau y gallan nhw eu cymryd i wneud eu cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni, a chael gafael ar gynhyrchion a gwasanaethau angenrheidiol. Fe fyddai hyn, wrth gwrs, yn gofyn am weithlu medrus sy'n gallu cynnig mesurau o'r fath. Mae awdurdodau trefol ledled Ewrop, fel yn Valencia, wedi datblygu siopau un stop lle gall perchnogion cartrefi gael gafael ar ganllawiau, cynhyrchion a gwasanaethau datgarboneiddio ac effeithlonrwydd tai, gan ei gwneud hi'n gynt, yn symlach ac yn fwy cyfleus i bobl gyfrannu at ddatgarboneiddio wrth wella eu cartrefi. Fe fyddai hi'n dda gennyf i gael clywed safbwynt y Gweinidog am y dull hwn, ac a fyddai hi'n ystyried mabwysiadu polisi o'r fath yng Nghymru.

Mae datblygiadau technolegol o ran effeithlonrwydd ynni yn cynnig cyfleoedd ac atebion newydd i ni. Fe fyddwn i'n gwerthfawrogi clywed barn y Gweinidog ynglŷn â sut yr effeithir ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i ymgorffori'r technolegau newydd hyn yn y rhaglen Cartrefi Clyd. A oes unrhyw fentrau ymchwil a datblygu ar y gweill i archwilio dulliau arloesol a all wella effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi ni? 

Mae'n rhaid i raglen Cartrefi Clyd ddarparu ar gyfer anghenion cymunedau difreintiedig mewn ardaloedd trefol a gwledig. Felly, rwy'n erfyn ar y Gweinidog i ymhelaethu ar sut mae'r rhaglen am anelu at y cymunedau hyn yn benodol a sicrhau bod modd teg o gael gafael ar ei manteision. Trwy fynd i'r afael â'r mater hwn yn rhagweithiol, fe allwn ni bontio'r bwlch a llunio cymdeithas fwy cynhwysol a chyfiawn.

Yn olaf, bu fy nghyd-Aelodau Peredur Owen Griffiths a Hefin David mewn cyfarfod yng Nghanolfan Gymdeithasol y Glowyr yng Nghaerffili yn ddiweddar, lle cododd trigolion lleol nifer o gwestiynau perthnasol, yr hoffwn eu mynegi yn y fan hon, rhai ohonyn nhw o leiaf. Roedden nhw'n gofyn a oedd y Gweinidog wedi ystyried benthyciadau di-log ar gyfer ôl-osod, heb gychwyn yr ad-daliadau cyn y daw biliau gwresogi i lawr, neu a oedd y Gweinidog wedi ystyried hyfforddiant rhad ac am ddim i adeiladwyr a chrefftwyr mewn technegau a deunyddiau modern ar gyfer ôl-osod.

Yn olaf, dim ond i ymateb i stori Janet Finch-Saunders yn ei hetholaeth hi, mae gennyf i astudiaeth achos debyg yn fy etholaeth innau ym Mlaenau Ffestiniog, felly mae hi'n ymddangos bod rhai pobl o leiaf yn ceisio dilyn y llif o ran y rhaglen Cartrefi Clyd a'i hawlio hi'n rhywbeth ar gyfer gwneud arian iddyn nhw eu hunain. Felly, fe fyddai'n dda o beth inni edrych i mewn i hynny. Diolch. 

15:05

Diolch, Mabon. Roedd honna'n rhestr eithaf hir o gwestiynau, a bod yn deg. Os oes gennych chi rywun sydd â phroblem benodol o'r fath yna, ysgrifennwch chi ataf i. Rwy'n credu mai'r tebygolrwydd yw nad yw honno'n rhaglen a noddir gan y Llywodraeth; rhywun sy'n cymryd mantais ar bobl sydd heb gael cyngor iawn. Ond mae hi'n werth gwirio hynny ac rwy'n hapus iawn i wneud felly.

Ynglŷn â'r amser a gymerodd hi, un o'r pethau y buom ni'n awyddus iawn i'w gwneud yw sicrhau bod y data sy'n dod o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn addas i'r diben ac y gellir eu lledaenu, yn yr union ffordd y mae nifer o'ch cwestiynau chi'n cyfeirio ati. Felly, roeddem ni'n awyddus iawn i gael y cyngor, sefydlu'r cyngor. Un o'r gwersi a ddysgwyd yw y dylai'r cyngor ynglŷn â'r hyn sydd ei angen ar gartref fod ar wahân i'r bobl sy'n gwneud y gwaith, fel nad oes unrhyw—ac nid wyf i'n ceisio difrïo llawer o'r gosodwyr da iawn sydd gennym ni—gymhelliant i gynyddu cyfradd y gwaith sydd ei angen ar y tŷ; fe fyddai'r cyngor yn cael ei ddarparu ar wahân. Dyma un o'r pethau y gwnaethom ni ei ddysgu. Ac yna fe ddywedais i yn fy natganiad y byddwn ni'n ofalus iawn i sicrhau bod yr amddiffyniadau cywir i gyd ar waith, felly os na wneir y gwaith hyd at safon dderbyniol, mae yna lwybr cyfreithiol i unioni hynny, ond fe fydd yna broses archwilio fwy cadarn a phroses hapwirio hefyd i gyd-fynd â honno.

Fe hoffwn i ond pwysleisio bod y mwyafrif helaeth o bobl sydd wedi elwa ar raglenni Cartrefi Clyd Cymru yn y gorffennol—ac, yn wir, ar raglenni Llywodraeth y DU yn y gorffennol—yn fodlon ar hynny, ond fe brofodd nifer o bobl waith nad oedd yn bodloni'r safon, ac rydym ni'n awyddus i sicrhau bod hynny'n cael ei gyfyngu neu ei ddileu yn gyfan gwbl. Felly, rwy'n cytuno â hynny i gyd. Ond y rheswm pam mae hyn yn cael ei gyflwyno nawr yw oherwydd ein bod ni'n dymuno i'r data fod ar gael er mwyn i ni allu rhoi cyngor priodol i bobl gyda phob un o'r mathau o dai yr ydym ni'n ymdrin â nhw yn bennaf yng Nghymru.

Ynglŷn ag adeiladau rhestredig, mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid i mi ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny, Mabon, oherwydd un o'r problemau gydag adeiladau rhestredig yw eu bod nhw'n tueddu i fod yn unigryw, ac os oes gennych chi eiddo sy'n hŷn—mae gennyf innau eiddo sy'n hŷn—mae hi'n anodd iawn cael y cyngor priodol ar gyfer hwnnw. Felly, rwyf i am ysgrifennu atoch chi ar wahân ynglŷn â hynny. Mae yna gyfres gymhleth iawn o bethau yr ydym ni'n eu gwneud i geisio cwmpasu pobl sydd â thai anarferol sydd ag angen cymorth arbenigol.

O ran y rhaglenni blaenorol, rwy'n cyhoeddi'r rhaglen newydd heddiw, ond yn y pen draw, Dirprwy Lywydd, fe fyddwn ni'n cyflwyno'r ymateb i'r hen raglenni, yr adroddiadau gwerthuso a monitro. Yn sicr, fe fyddaf i'n gwneud hynny yn y dyfodol rhagweladwy, ond dim ond cyhoeddi'r rhaglenni newydd yr wyf i heddiw. Yn amlwg, nid yw'r wybodaeth honno gennym ni ar hyn o bryd.

O ran pethau fel benthyciadau di-log ac yn y blaen, fe wnaeth Vaughan Gething a minnau lawer o waith gyda Banc Datblygu Cymru ynglŷn â'r cynnyrch a allai fod ar gael i bobl. Mae darn o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ynglŷn â mecanweithiau eraill i ganiatáu i bobl ddatgarboneiddio eu cartrefi wrth iddyn nhw fyw ynddyn nhw, ac efallai dalu cost y datgarboneiddio sydd ar werth neu ar etifeddiaeth—felly, codi'r pris ar sail y tir am gost wirioneddol y gosod yn hytrach na'r budd cronedig i'r tŷ, er enghraifft. Felly, rydym ni'n edrych ar hyn o bryd ar ffyrdd y gallwn ni annog pobl a allai fod ag ased, ond sy'n dlawd o ran arian, i fuddsoddi. Rydym ni am wneud hynny'n hollol, felly rydym ni'n mynd ati i ystyried methodolegau ar gyfer hynny.

Ac yna o ran eiddo masnachol—ac i'r rhai ohonoch sydd â phyllau nofio yn eich etholaethau chi, efallai yr hoffech chi ystyried hyn—mae gennym ni wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, sydd â benthyciad di-log cylchredol, ac mae hwnnw'n gweithio yn union fel yr oeddech chi'n ei ddisgrifio. Felly, yn waelodol, mae'r benthyciad yn cael ei roi i osod beth bynnag fyddo'r dechnoleg adnewyddadwy—paneli solar, yn aml, ar gyfer pwll nofio, er enghraifft—ac yna mae'r ad-daliad yn cael ei raddnodi yn ôl yr arbedion ynni yn ei sgil, dros gyfnod o amser, a'r arian hwnnw'n cael ei ailgylchu wedyn ar gyfer prosiect arall. Felly, mae hynny'n bodoli, ond ar hyn o bryd dim ond ar gyfer eiddo masnachol y mae hynny ar gael, oherwydd ystod o gymhlethdodau cyfreithiol nad wyf i am ymhelaethu arnyn nhw.

Ac yna roeddwn i'n dymuno dweud hefyd ein bod ni'n wirioneddol awyddus i bobl fod â ffydd yn y cyngor y maen nhw'n ei gael. Fe ddywedais i yn fy natganiad ein bod yn niwtral iawn o ran y dechnoleg yn hyn o beth, felly fe fydd y cyngor yn cwmpasu technolegau newydd wrth iddyn nhw ddod i'r amlwg, ac atebion arloesol eraill hefyd. Rwy'n awyddus iawn i fod â datrysiadau sy'n seiliedig ar ardal, a'r hyn a wnaethom ni yw gweithio yn galed iawn fel nad oes ardal sydd â rhai pobl a allai fforddio gwneud hyn eu hunain, a phobl eraill na allen nhw fforddio i'w wneud eu hunain, dan anfantais pe byddai datrysiad i'w gael i'r ardal i gyd, er mwyn i'r datrysiad aros o fewn y rhaglen. Mae nifer o brosiectau treialu o gwmpas Cymru y gallai'r Aelodau fod yn dymuno mynd i gael golwg arnynt—mae un yn etholaeth Mike Hedges yn Abertawe, lle mae cyfarpar solar wedi ei osod ar y cartrefi hynny sy'n gallu eu cael yn effeithlon. Mae'r batri storio yn cael ei rannu wedyn ac mae'r ynni yn cael ei rannu rhwng y gymuned gyfan. Felly mae atebion arloesol iawn yn yr arfaeth fel rhan o'r rhaglen hon.

15:10

Mae heddiw yn ddiwrnod ar gyfer newyddion gwirioneddol dda. Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n croesawu'n fawr y cyngor rhad ac am ddim, diduedd y gall unrhyw un ei gael ynglŷn â sut i ddatgarboneiddio'r adeilad y mae'n byw ynddo, neu y mae'n berchen arno ac yn ei roi ar rent. Oherwydd mae'n rhaid i mi dybio nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud y peth rhesymegol. Os ydyn nhw'n berchen ar dŷ yn gyfan gwbl, yn sicr fe allan nhw dalu am y gwaith ôl-osod a fydd yn caniatáu iddyn nhw ddianc o grafangau polisi ynni'r Torïaid sy'n eu gorfodi nhw i dalu drwy eu trwynau am rywbeth a bennir yn unol â'r pris sy'n digwydd bod ar nwy. Felly, rwy'n cymryd naill ai nad ydyn nhw'n gwybod am yr hyn sydd ar gael neu eu bod nhw'n petruso rhag hyn oherwydd twyll o'r fath yr ydym ni newydd fod yn siarad amdano, neu eu bod nhw'n ansicr ynghylch yr hyn a fyddai orau iddyn nhw. Felly, rwy'n credu bod hwn yn ddatblygiad pwysig iawn, iawn, oherwydd mae hi'n debyg y bydd cynnydd enfawr yn y galw o ganlyniad iddo, ac roeddwn i'n meddwl tybed pa asesiad a wnaeth y Llywodraeth ynglŷn â sut y bydd hyn yn ysgogi'r farchnad ar gyfer hyfforddiant gan y dorf o blymwyr, trydanwyr a thowyr nad ydyn nhw'n deall sut i wneud hyn eto. Oherwydd rwy'n cael fy synnu yn fawr gan bobl yn rhoi llechi ar eu toeau yn hytrach na phaneli solar pan fydd angen atgyweirio'r to. Mae hi'n ymddangos i mi yn gwbl afresymol ac mae'n rhaid i hynny fod yn seiliedig ar anwybodaeth ar ran deiliad y tŷ ac, yn wir, y bobl sy'n gosod y to newydd.

Na, rydych chi wedi gofyn y cwestiwn. Fe aethoch chi ar grwydr, ac rydym ni ymhell dros amser. Diolch i chi.

Jenny, mae sawl peth ynglŷn â hyn. Yn gyntaf oll, fe fydd y gwasanaeth cynghori yn rhoi cyngor ynglŷn â'r ffordd orau o fuddsoddi mewn datgarboneiddio eich cartref gyda'r bwriad o leihau eich costau ynni. Nid yw rhai o'r mesurau effeithlonrwydd ynni y mae pobl yn siarad amdanyn nhw yn arbed costau mewn gwirionedd dan amgylchiadau arbennig, ac felly mae gwneud hynny'n iawn yn bwysig ofnadwy. Fe geir materion eraill yn ymwneud â gosod paneli solar ac yn y blaen, ynghylch gallu eich tŷ i fod â chyflenwad dŵr sy'n ddigonol i ddal yr ynni ac yn y blaen, felly mae hi'n bwysig iawn cael y cyngor priodol ar gyfer y math o gartref sydd gennych chi.

Ac yna'r peth arall i'w ddweud yw mai'r ffordd y mae'r farchnad dai wedi bod yn gweithio yw hon yn unig, yn arbennig dros 14 mlynedd diwethaf o Lywodraeth Geidwadol, y duedd yw mai pobl sydd wedi ymddeol ac sydd wedi cael budd o lywodraethau Llafur cynharach sydd â digon o arian i wneud hyn, ac maen nhw'n tueddu i fod yn wyliadwrus iawn ynglŷn â buddsoddi mewn rhywbeth gyda chyfnod ad-dalu o dros 10 mlynedd. Felly, mae sicrhau eich bod chi'n cael cyngor priodol ynglŷn â sut i fuddsoddi yn eich cartref yn bwysig iawn. Hefyd, un o'r pethau da prin ynghylch cost ynni yw, mewn gwirionedd, bod y cyfnod ad-dalu yn sylweddol is, wrth gwrs, oherwydd fe allwch chi dynnu eich hunan oddi ar y grid. Ond nid yw llawer o bobl yn deall sut mae hynny'n gweithio ac nid ydyn nhw'n deall sut mae'r tariff yn gweithio.

Mae gennym broblemau gyda'r grid mewn rhai rhannau o Gymru—nid ym mhobman, wrth gwrs, ond mewn rhai rhannau o Gymru mae problemau grid gwirioneddol o ran cysylltu â'r grid ar gyfer llif dwy ffordd. Felly, mae hynny ychydig yn gymhleth ac mae hi'n bwysig cael cyngor priodol. Er hynny, fel dywedais i wrth Mabon, rydym ni'n gweithio yn brysur iawn gyda Banc Datblygu Cymru ac, mewn gwirionedd, gyda benthycwyr eraill i weld a allwn roi cynlluniau ar y gweill a fydd yn caniatáu i bobl gael arian drwy ryddhau ecwiti, er enghraifft, neu i weld a allem ni osod fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru ac yna defnyddio system pridiant tir ar gyfer y gost o osod fel y caiff ei had-dalu ar etifeddiaeth neu ar werthiant, er enghraifft. Felly, mae yna bethau yr ydym ni'n gweithio arnyn nhw.

Ond fe wyddom ni, mewn gwirionedd, fod cyfran fawr iawn o bobl sydd ag angen gwaith ôl-osod ar eu cartrefi yn y dosbarth incwm is mewn gwirionedd, ac felly fydd hyn yn gweithio ar gyfer hynny. Rydyn ni wedi bod yn gwneud llawer o waith gyda chynghorau lleol ledled Cymru yn rhan o'n gwasanaeth ynni i lunio mapiau o ynni yng Nghymru fel ein bod ni mewn gwirionedd yn gwybod ble mae cymunedau ag ynni uchel ac effeithlonrwydd thermol isel, ac fe allwn ni anelu, mewn datrysiad ar sail ardal, at rai o'r cymunedau hynny hefyd. Rwy'n awyddus iawn i weithio gyda phobl mewn etholaethau fel eich un chi. Gyda rhes o dai teras, er enghraifft, mae hi'n ddigon posibl fod yna ateb ardal ar gyfer hynny a allai weithio yn dda iawn. Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw cyllido—yn rhan o'n cytundeb cydweithio, gydag Ynni Cymru, fe fyddwn ni'n ariannu gweithwyr a fydd yn mynd allan i helpu cymunedau i ddod at ei gilydd gyda'r math o gynllun yr ydym ni'n dymuno iddyn nhw ei gyflawni. Fe gyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, Jane Hutt, er enghraifft, rai o'r cynlluniau ar gyfer helpu pobl i brynu olew mewn llwyth mawr, oherwydd os dewch at eich gilydd fe gewch chi bris llawer gwell. Nid yw hynny'n golygu y byddwch chi'n datgarboneiddio eich cartref, ond yn sicr fe fydd hynny'n helpu gyda'ch problemau chi o ran tlodi tanwydd. Felly, mae yma nifer o gymhlethdodau.

Y tamaid olaf yw: o ran y pwynt am sgiliau, rydyn ni wedi cael sgyrsiau gyda fy nghyd-Weinidog i yma Jeremy Miles a gyda Vaughan Gething. Roedd llawer o'r hyn a wnaethom ni yn y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn ymarferiad ar sail sgiliau i ganfod, mewn gwirionedd, pa sgiliau sydd eu hangen: ai dim ond arfogi eich plymwr o'r newydd neu, mewn gwirionedd, a ydych chi'n edrych ar fath gwahanol o grefftwr, y mae angen iddo allu ymdrin â thrydan a phlymio? Mae hyn yn gyffredin iawn i rai o'r systemau hyn. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r colegau addysg bellach a gyda'n fforwm adeiladu. Mae Vaughan Gething, Lee Waters a minnau'n rhedeg—rwy'n credu mai unwaith bob chwarter—fforwm adeiladu, pryd rydyn ni'n siarad â'r mentrau bach a chanolig a chwmnïau ledled Cymru ynglŷn â sut i ddwyn cynllun hyfforddi at ei gilydd ar gyfer eu gweithlu presennol, oherwydd fe fydd angen ailhyfforddi tua 60 y cant o'r gweithlu presennol rywbryd dros y 10 mlynedd nesaf. Felly, rydym ni'n edrych yn ofalus iawn ar gynllun sgiliau hefyd.

Yn olaf, gan ddolennu yn ôl at y cyngor, rhan o'r rheswm pam rydym ni'n awyddus i roi'r cyngor ar waith yw oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n rhaid dod o hyd i'r crefftwr priodol ac osgoi pobl sy'n rhoi cyngor gwael i chi a dyna un o'r rhesymau mwyaf pam nad yw pobl yn mynd amdani.

15:15

Prynhawn da, Gweinidog, fe hoffwn innau hefyd roi croeso cynnes iawn i'r datganiad hwn; mae cymaint ynddo ac mae hi'n wirioneddol wych gweld hyn. Fe hoffwn i ddim ond crybwyll mater amserlenni. Yn eich datganiad chi, rydych chi'n dweud y bydd strategaeth gwres eleni, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n dweud ychydig bach mwy wrthym ni ynglŷn â phryd y bydd hynny'n digwydd, ond hefyd, yn sylfaenol, pryd y byddwn ni'n gweld cyflwyno'r rhaglen—hynny yw, pan fydd cartrefi mewn gwirionedd â chyfle i gyflawni'r cynlluniau hyn.

Fe wyddom ni y bydd hi'n cymryd 134 o flynyddoedd dan gynllun cyfredol Nyth i inswleiddio pob tŷ yng Nghymru a bod bron i 200 o bobl yng Nghymru wedi marw, yn ôl Climate Cymru, o ganlyniad i fyw mewn cartrefi oer, llaith ac wedi eu gwresogi yn wael iawn. Mae hwn yn achos brys mawr, felly fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i glywed am yr amserlenni, os caf i, oddi wrthych chi, Gweinidog. Diolch yn fawr iawn.

Ie, diolch, Jane. Rwy'n deall yn llwyr yr angen am frys, ond mae'n rhaid i ni wneud hyn yn iawn hefyd. Fel dywedodd llawer o bobl, mae hi'n bwysig bod â'r datrysiad iawn i'r tŷ iawn hefyd. Rydym ni wedi ymestyn rhaglen Nyth drwy'r gaeaf nesaf, dim ond ar gyfer sicrhau nad oes bwlch, ond rwy'n obeithiol iawn y byddwn ni'n rhoi'r rhaglen hon ar waith tua dechrau'r gaeaf nesaf. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei fwriadu ar hyn o bryd, ond fe wnaethom ni'n siŵr y bydd rhaglen Nyth yn parhau, dim ond er mwyn sicrhau nad oes yna fwlch.

Dim ond dweud—gydag ymddiheuriadau i Mabon, oherwydd yn amlwg nid wyf wedi troi at y dudalen gywir yn fy mriff yma—rhaglen Cartrefi Clyd, o 2010 hyd at ddiwedd Mawrth 2022, fe wnaethom wario £420 miliwn a gwella cartrefi ar gyfer 73,000 o aelwydydd ar incwm is. Felly, mae hyn yn sylweddol iawn eisoes, ond, rydych chi'n hollol iawn, mae angen gwneud llawer mwy.

Mae hwn yn ddull gwahanol, fel clywsoch chi fi'n dweud wrth eraill, felly mae hwn yn ddull llawer mwy cyfannol. Rydym ni'n annog pobl i ddod ynghyd â chymdogion hefyd i wneud y defnydd gorau o ystafelloedd sy'n wynebu'r de a threfniadau gyda phympiau gwres o'r ddaear lle na fyddai pob tŷ unigol yn gallu rhedeg hynny, ond mae'r ynni a gynhyrchir yn ddigonol ar gyfer nifer o dai a, phe byddech chi'n cyfuno gyda'ch gilydd, fe allech chi gael y buddsoddiad. Felly, rydyn ni'n awyddus iawn i helpu pobl i ddod at ei gilydd yn y ffordd honno i sicrhau datrysiadau cymunedol. Rydym ni'n rhai da iawn am ddatrysiadau cymunedol yng Nghymru, ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol—Caerdydd, yn arbennig, yn dod i'r meddwl—ynglŷn â dod o hyd i ddatrysiadau ynni ar gyfer nifer o gartrefi. Mae Mike yn ymwybodol iawn o'r un yn ei etholaeth ef yr wyf i wedi ymweld ag ef sawl gwaith. Felly, mae hwn yn beth arloesol iawn.

Un o'r materion mawr i ni fydd sicrhau ein bod ni'n gwneud yr asesiad cychwynnol hwnnw o'r cartref mewn ffordd briodol, a'n bod ni'n gosod yr inswleiddio thermol mewn ffordd briodol wedyn yn ogystal â'r system wresogi. Fel dywedais i, i rai cartrefi, mewn gwirionedd, dim ond sicrhau bod eu boeler nwy presennol mor effeithlon â phosibl wrth inswleiddio eu cartref fydd y datrysiad yn y cyfamser, ac, i eraill, fe fydd angen ôl-osod y cwbl.

15:20

Fel fy nghyd-Aelodau, dwi wedi bod yn disgwyl yn eiddgar ac yn aros yn llawer rhy hir am y datganiad hwn am raglen Cartref Clyd nesaf y Llywodraeth. Felly, rwy'n ddiolchgar i gael y cyfle byr yma—trueni ein bod ni ddim yn gallu cael mwy o amser i drafod y rhaglen bwysig yma, a'n bod ni jest yn cael munud yr un i holi rhai o'r cwestiynau sydd yn dal angen atebion. Mae llawer i'w groesawu yma, yn sicr, gan gynnwys ffocws ar gefnogi'r rhai sydd lleiaf abl i dalu a bod y mesurau hynny'n mynd i fynd yn ddyfnach ar eu cyfer nhw. Ond, o ran y cymhwysedd, beth yw'r diffiniad o'r trothwy lefel incwm? A fydd yna ffactorau eraill ar wahân i incwm yn cael eu hystyried yn rhan o'r darlun yma o'r cymhwysedd—nifer ar yr aelwyd, ffactorau lleol, cyflyrau iechyd, anableddau ac yn y blaen?

Mae'n dda clywed bod y gyllideb yr eiddo yn mynd i gael ei chynyddu, felly beth fydd lefel y cap cyllido ar bob eiddo? A'r cwestiwn mawr yma rydym ni wedi eich clywed chi'n sôn tipyn amdano fe nawr, eto, mewn termau sydd ddim yn benodol iawn, yw pryd. Mae pennaeth Cymru National Energy Action, Ben Saltmarsh, wedi dweud ei bod hi'n gwbl angenrheidiol bod y cynllun yn weithredol y gaeaf hwn, felly yr amserlen yna—ydy dechrau y gaeaf, fel dŷch chi newydd sôn, yn meddwl Tachwedd 2023?

Diolch, Sioned. Nid wyf i'n anghytuno â llawer o'r hyn a wnaethoch chi ei ddweud nawr. Ni allaf i ddweud wrthych chi'n onest ai mis Tachwedd fydd hi, oherwydd rydym ni ar ganol y broses gaffael ar hyn o bryd, ac, mae arnaf i ofn, 'Mae hynny'n ddibynnol,' yw'r ateb ar gyfer llawer o hynny, fel mae hi'n digwydd. Felly, os bydd y broses gaffael yn mynd yn ddidrafferth, ni fydd yna broblem o ran dechrau'r gaeaf; pe byddai anawsterau ar y ffordd, mae hi'n ddigon posibl mai ymhellach ymlaen ym mis Rhagfyr fydd hi. Dyna pam rydym ni wedi ymestyn rhaglen Nyth i sicrhau na fydd bwlch yn y ddarpariaeth.

Mae hon yn rhaglen o fath gwahanol. Mae hi'n anodd iawn ateb y cwestiwn, 'Beth mae "incwm isel" yn ei olygu?', oherwydd mae hyn yn dibynnu hefyd ar sut mae'r gyfrifiannell tlodi tanwydd yn gweithio. Yn y bôn, nid yw'n destun prawf modd, felly fe fyddwch mewn tŷ sydd â Thystysgrif Perfformiad Ynni E, oni bai bod gennych chi gyflyrau iechyd, ac os felly fe fydd Tystysgrif Perfformiad Ynni D yn cael ei gynnwys. Fe fyddwn ni'n cynnwys pobl yn D yn rhai i lenwi bwlch, os mynnwch chi, oherwydd rydym ni'n awyddus i'r rhaglen hon redeg yn ddi-dor, felly fe fyddan nhw'n cael eu rhoi ar restr aros neu restr wrth gefn, ac wedyn, a dweud y gwir, fe welwn ni sut bydd hynny'n gweithio, oherwydd mae hi'n anodd iawn mesur faint o bobl sydd mewn tlodi tanwydd. Nid yw'n fesur absoliwt, nac ydyw? Mae'n ymwneud â pha un a ydych chi'n gwario mwy na 45% o'ch incwm ar danwydd, ac mae pobl sydd ag incwm eithaf uchel yn gwneud hynny mewn rhai amgylchiadau. Felly, fe fyddwn ni'n gweithio ar hynny gyda phob un ohonoch chi ac yn ystyried cymunedau y gwyddom ni fod y mathau hynny o faterion yn bodoli ynddyn nhw. Felly, nid wyf i'n ceisio osgoi'r cwestiwn—mae'n un da iawn—ond rwy'n credu y bydd hi'n rhaid i mi ddod yn ôl i'r Senedd pan fyddwn ni wedi bod drwy'r cam caffael, dim ond ar gyfer dweud wrthych chi beth yw'r graddnodiad yn union, oherwydd rydyn ni wedi gofyn i'r partneriaid yr ydym ni'n caffael hyn gyda nhw i roi syniad i ni o ran sut y bydden nhw'n gwneud hynny, oherwydd rydyn ni'n dymuno iddo fod yn gaffaeliad mor eang â phosibl.

Rwy'n awyddus i hyn fod o fudd i gynifer o aelwydydd â phosib yn y ffordd gyfannol honno, hefyd, ac mae hwnnw'n benderfyniad anodd, onid ydyw, oherwydd rydym ni wedi bod yn rhoi boeleri nwy effeithlon i mewn dan raglen Nyth. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i gartrefi pobl. Ond, wrth gwrs, nid yw'n eu gwneud nhw'n effeithlon o ran ynni yn arbennig felly oni bai eich bod yn cwblhau'r camau eraill hefyd, a dyna pam rydym ni wedi agor y rhaglen hon i bobl y mae rhywbeth wedi cael ei wneud ar eu cyfer nhw eisoes. Felly, pe byddai boeler nwy effeithlon o ran ynni gennych chi eisoes a roddwyd i chi dan raglen flaenorol, ond, mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen arnoch chi yw inswleiddio priodol, yna fe gewch chi ymgeisio unwaith eto, oherwydd fe fyddai hynny'n caniatáu i chi gael rhywbeth arall o'r un peth efallai. Felly, os ydych chi'n dal i fod mewn tlodi tanwydd, a'ch bod chi wedi cael yr ymyrraeth honno eisoes, fe gewch chi wneud cais newydd, oherwydd fe wyddom ni nad aeth pawb o dlodi tanwydd o ganlyniad i'r ymyrraeth gyntaf honno, er y bydd hi wedi eu rhoi nhw'n is i lawr ar y raddfa.

Felly, mae arnaf i ofn ei bod hi'n anodd iawn ateb y cwestiynau da iawn yr ydych chi wedi eu gofyn i mi nes ein bod ni ychydig ymhellach ymlaen yn y rhaglen, ond, Dirprwy Lywydd, rwy'n fwy na pharod i ddod yn ôl ar ddechrau'r hydref a rhoi ateb i rai o'r rhain pan fyddwn ni wedi bod trwy'r profiad.

15:25

Diolch i chi. Yn y ddadl yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni ofyn am ragor o fanylion, a mawredd mawr, fe gawsom ni ragor o fanylion, sy'n bwysig iawn ac i'w croesawu yn fawr, ond mae hynny'n gwneud dewis cwestiwn yn fwy anodd.

Roedd Mabon yn sôn am y ffaith bod Pred a minnau wedi mynd i gyfarfod Cyfeillion y Ddaear wythnos diwethaf gyda'r Cynghorydd Shayne Cook, yr aelod o Gyngor Caerffili sydd â chyfrifoldeb am dai, ac roedd hwnnw'n gyfarfod da iawn, gyda llawer o gwestiynau, yr ydych chi, mewn gwirionedd, wedi eu hateb nhw'n rhannol yn eich datganiad ac yn rhannol yn eich ymatebion yn y Siambr. Roedd Pred a minnau'n perfformio fel deuawd o fath. Roedd hynny'n llawer o sbort mewn gwirionedd, onid oedd, Pred?

Felly, y mater yr hoffwn i ei godi yw hwn: yr esiampl yn fy etholaeth i yw Parc Lansbury, lle, o dan gynllun Arbed, roedd nifer o dai wedi eu gorffen, ond roedd nifer ohonyn nhw heb eu gorffen, a fy mhryder i—. Rydych chi wedi sôn am fflatiau a fydd yn cael eu cwblhau ar y cyd; beth am yr ystadau tai hynny sydd yn yr economi gymysg ar hyn o bryd, gyda rhai ohonyn nhw'n dai cyngor, rhai ohonyn nhw'n perthyn i gymdeithas dai, rhai yn dai preifat—sut fyddwch chi'n sicrhau nad oes rhywfaint o anghydraddoldeb yn digwydd ar draws ystadau tai o'r fath?

Felly, fe gaiff y rhaglen hon ei hanelu yn fwriadol tuag at ddatrysiad cymunedol o'r math hwn. Felly, gan dybio y gallwn ni helpu'r gymuned i ddod at ei gilydd gyda datrysiad y cytunwyd arno rhwng pawb—hynny yw, mae hi'n hawdd iawn dweud hynny, ond fe all fod yn anodd ei wneud, ond gan dybio bod—. Ac ni fyddem ni'n eithrio cymuned oherwydd nad yw rhai o bobl y gymuned yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd am fod eu hincwm nhw'n uwch ac nad ydyn nhw mewn tlodi tanwydd a bod yn fanwl gywir. Cyn belled â bod nifer o'r bobl yn y gymuned honno yn cael mantais ac y gellid cyflwyno datrysiad da o ran effeithlonrwydd ynni carbon isel ar draws y gymuned—. Ac rydym ni'n awyddus iawn i weithio ar y rhan honno o'r peth, ac mae'r enghraifft ym Mhenderi yn ardal Mike yn un dda iawn, ac, mewn gwirionedd, Hefin, fe fyddai hi'n werth i chi fynd i lawr i ymweld ag ef, oherwydd welwch chi sut mae hynny'n gweithio ar lawr gwlad. Felly, hen ystad o dai cymdeithasol yw honno, gyda llawer o berchnogaeth breifat ynddi hi nawr, drwy gynllun Hawl i Brynu ac yn y blaen, ac ystad newydd o dai gerllaw yn dod at ei gilydd i gyflwyno datrysiad ynni. Felly, mae hynny'n deillio o'r hyn yr ydych chi'n ei ofyn i ryw raddau.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog yn fawr iawn. Mae angen cartref clyd ar bawb ac mae pawb yn haeddu un. Mae cartref oer yn effeithio ar iechyd yn ddifrifol ac, i blant, fe all hynny achosi tanberfformio yn yr ysgol. Rwy'n croesawu'r ffaith fod bob cartref yng Nghymru yn gallu troi at y rhaglen Cartrefi Cynnes i gael cyngor a chymorth ynglŷn â'r ffordd orau o wella effeithlonrwydd ynni eu cartref. A yw'r Gweinidog yn cytuno, i lawer o bobl, mai'r unig beth sydd ei angen arnyn nhw yw cyngor? Mae hi'n bwysig gosod trothwy incwm isel, yn hytrach na seilio cymhwysedd ar fudd-daliadau prawf modd yn unig, sy'n eithrio'r rhai sydd ag incwm ychydig yn uwch na'r trothwy budd-daliadau, ac fe allai'r rhai o'r rhain fod mewn mwy o angen.

Rhywbeth sydd am fod o fudd i lawer yn fy etholaeth i yw na fydd aelwydydd yn cael eu cyfyngu i geisiadau sengl erbyn hyn. A fydd yn gallu ariannu atgyweirio problemau oherwydd gwaith a wnaethpwyd yn flaenorol, fel yr inswleiddio wal geudod amhriodol sydd wedi effeithio ar etholwyr llawer o Aelodau yn y fan hon? A oes cyfyngiad ar nifer y ceisiadau y gall aelwyd eu cyflwyno? Sut fyddai hynny'n gweithio ar gyfer tai ar rent preifat? Ac yn olaf, grŵp Pobl yn Abertawe a wnaeth y gwaith.

Ie, diolch i chi, Mike. Roeddwn i'n gwybod mai Pobl a wnaeth hyn. Mae hwn yn gynllun da iawn ac, mewn gwirionedd, maen nhw'n falch iawn ohono, felly, pe byddai Aelodau yn dymuno mynd yno, mae hi'n werth ymweld â'r lle mewn gwirionedd. Mae'n rhoi syniadau gwirioneddol eang i chi o ran yr hyn sy'n bosibl; maen nhw wedi gweithio yn galed iawn gyda'r gymuned yno.

Felly, ie, Mike, rwy'n credu mai ateb cadarnhaol sydd i bob un o'ch cwestiynau chi nawr. Felly, yn bendant ni fyddwn ni'n profi modd; yn bendant, mae hyn ar gyfer pobl sydd â modd ychydig dros y trothwy ar gyfer budd-daliadau, a phobl eraill hefyd a allai fod ychydig dros hwnnw, oherwydd eu bod nhw mewn tlodi tanwydd ac mewn cartref aneffeithlon iawn. Yn bendant mae gennym ni ddatrysiad i'r gymuned ac, yn sicr, fe allwch chi wneud cais fwy nag unwaith. Felly, rwy'n falch iawn o ddweud fy mod i'n credu mai ymateb cadarnhaol sydd yna i'ch cwestiynau chi i gyd. Diolch.

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch o gadarnhau y bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn cael ei sefydlu ym mis Medi, cyn dod yn weithredol fis Ebrill nesaf. Y prif nod wrth sefydlu’r comisiwn yw creu corff annibynnol sy'n gallu delio â chynllunio strategol a chyllid ar draws y sectorau addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, gyda ffocws allweddol ar lwybrau dysgwyr a llwybrau gyrfa.

Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddatblygu ein rhaglen ar gyfer diwygio addysg, a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau'n codi. Mae cael pob agwedd ar addysg drydyddol ac ymchwil o dan un corff yn gam hanfodol i'r cyfeiriad yma.

Bydd gan y comisiwn rôl flaenllaw o ran gwella pob agwedd ar lesiant ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, a bydd yn cael ei rymuso i sicrhau bod y sector addysg drydyddol wedi’i drefnu mewn ffordd sy’n diwallu anghenion dysgwyr, yr economi, cyflogwyr a'r genedl gyfan. Mae’r dyletswyddau strategol yn allweddol wrth nodi ein gweledigaeth ar gyfer y sector, yn ogystal â'n datganiad o flaenoriaethau yr wyf yn bwriadu ei gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd y gwaith o ddatblygu'r datganiad yn parhau dros y misoedd nesaf, a byddaf yn ystyried barn rhanddeiliaid, y sector, y comisiwn ac, wrth gwrs, fy nghydweithwyr yn y Cabinet ac Aelodau'r Senedd.

Fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi penodi Simon Pirotte yn brif swyddog gweithredol cyntaf y comisiwn. Mae penodiad Simon wedi cael croeso cynnes ar draws y sector ac wedi'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Bydd Simon yn dechrau yn ei swydd fis Medi eleni am gyfnod o ddwy flynedd. Ar hyn o bryd, mae Simon yn bennaeth ac yn brif weithredwr Coleg Penybont, ac mae wedi gweithio yn y sector addysg ers dros 30 mlynedd, gyda phrofiad yn y sectorau addysg uwch, addysg bellach ac ysgolion yng Nghymru, Lloegr ac UDA. Rwy'n hyderus bod cyfuniad yr Athro Fonesig Julie Lydon fel cadeirydd, yr Athro David Sweeney fel dirprwy gadeirydd, a Simon Pirotte fel Prif Swyddog Gweithredol, yn darparu profiad a gwybodaeth arweinyddiaeth eang i dîm a all arwain y comisiwn newydd wrth gyflawni ein gweledigaeth arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer sector addysg drydyddol ac ymchwil Cymru. 

Gan droi at benodi aelodau bwrdd cyffredin y comisiwn, a fydd yn dechrau yn eu swyddi ym mis Medi, cawsom gyfanswm o 108 o geisiadau ar gyfer y rolau hyn, sydd, yn fy marn i, yn dangos y gefnogaeth a'r brwdfrydedd o bob rhan o'r sector i'r comisiwn. Roedd y ceisiadau hyn yn cynnwys nifer o siaradwyr Cymraeg, neu unigolion â phrofiad o ddarparu neu hyrwyddo addysg neu hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyrwyddo addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg yn un o ddyletswyddau strategol y comisiwn, ac rwyf wedi dynodi'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ffurfiol i gynghori'r comisiwn ar gyflawni'r ddyletswydd honno. Bydd hyn yn galluogi'r comisiwn i gael budd o rwydweithiau presennol y coleg a'i gyfoeth o brofiad o ddatblygu a chefnogi addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg.

Yfory, byddaf yn lansio ymgynghoriad sy'n ceisio barn rhanddeiliaid ar y rhestr o undebau llafur a chyrff cynrychiolaeth dysgwyr a all enwebu unigolion at ddiben penodi aelodau cyswllt y comisiwn. Rwy'n bwriadu penodi'r aelodau cyswllt erbyn mis Ebrill 2024, er mwyn cyfrannu at y comisiwn cyn gynted ag y bydd yn weithredol. Bydd yr aelodau hyn yn chwarae rhan allweddol, gan sicrhau mewnbwn democrataidd i benderfyniadau'r comisiwn drwy drefniant partneriaeth gymdeithasol, a helpu i sicrhau bod llais y dysgwr yn cael ei glywed ar lefel y bwrdd ac yn llywio'r penderfyniadau hynny.

Mae'r Ddeddf yn cynnwys nifer o ddiwygiadau a fydd yn cyflawni gwelliannau uniongyrchol i ddysgwyr. Mae'r rhain yn cynnwys y cod ymgysylltu â dysgwyr, a darpariaethau mewn perthynas â lles staff a myfyrwyr, a thrwy hynny yn rhoi dysgwyr wrth wraidd y diwygiadau rydym yn ceisio eu cyflawni drwy'r comisiwn.

O ran gweithredu'r Ddeddf yn ehangach, bydd hefyd cyfres o ymgynghoriadau eraill dros y misoedd nesaf a fydd yn cael eu rheoli'n ofalus er mwyn osgoi baich gormodol ar y sector. Dwi’n ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yr wythnos hon, yn nodi rhagor o fanylion am y rheoliadau a'r ymgynghoriadau arfaethedig a fydd yn cefnogi gweithredu'r Ddeddf hon.

Yn yr hydref, byddwn ni’n ymgynghori ar reoliadau drafft sy'n angenrheidiol i gefnogi'r broses o weithredu'r gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol. Byddaf hefyd yn gwneud Gorchymyn cychwyn dros yr haf, a fydd yn cynnwys darpariaeth i ddod â swyddogaethau penodol o’r Ddeddf i rym yn rhannol, er mwyn galluogi'r comisiwn i ymgymryd â gweithgareddau paratoi dros yr hydref a'r gaeaf, i gefnogi gweithredu swyddogaethau allweddol. 

Dirprwy Lywydd, mae hon yn Ddeddf uchelgeisiol sy'n cyflwyno diwygiadau eang, gan roi lle canolog i ddysgwyr mewn sector addysg drydyddol sy'n diwallu anghenion pobl o bob oed a chyda gwahanol ddiddordebau, cymwyseddau, anghenion a dyheadau. Dwi’n falch o'r cynnydd rŷn ni wedi ei wneud i weithredu'r Ddeddf a sefydlu'r comisiwn, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth a'r ymgysylltiad rydw i a'm swyddogion wedi’u cael o bob rhan o'r sector a'r Senedd.

15:35

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Drwy gydol y gwaith craffu ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau a cheisio pasio gwelliannau ar yr angen gwirioneddol i'r comisiwn a Llywodraeth Cymru fod, wrth gwrs, hyd braich oddi wrth ei gilydd. Dywedais hefyd y byddwn yn cadw llygad ar faint o ddylanwad mae Gweinidogion yn ei gael dros y comisiwn er mwyn gwneud yn siŵr nad yw ei annibyniaeth a'i ymreolaeth yn cael eu peryglu wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau. Eto dyma ni, yn anffodus, gydag amheuon ar y gorwel ynghylch sut y dewiswyd y cadeirydd, gan arwain at gwestiynau amlwg o ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn fy mhwyllgor plant a phobl ifanc, ynghylch pa mor agos oedd y Gweinidog i benodi'r cadeirydd newydd, ar ôl i'r panel, wrth gwrs, fethu â phenodi ymgeisydd fel rhan o'r broses recriwtio rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Chwefror 2023.

Cyfaddefodd y cadeirydd newydd, er ei bod yn ddymunol iawn ac yn dalentog iawn mewn sawl ffordd, nad oedd ganddi'r profiad o ymdrin â chyllideb mor sylweddol â'r hyn y bydd gan y comisiwn addysg drydyddol fynediad ato, sef amcangyfrif o £800 miliwn y flwyddyn—mwy nag unrhyw gorff cyhoeddus arall yng Nghymru y tu allan i GIG Cymru. Pwysleisiais wrth graffu ar y Bil hwn fod yn rhaid dangos cyfrifoldeb ariannol priodol. Felly, Gweinidog, fy nghwestiwn cyntaf yw: pa sicrwydd sydd y bydd y cyllidebau'n cael eu goruchwylio'n briodol gan ddwylo profiadol? 

Nododd y pwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg, wrth benodi'r cadeirydd a'r dirprwy gadeirydd, eu siom nad yw'r cymysgedd o gefndiroedd y ddau benodiad yn rhoi effaith i bob rhan o'r sector. Cefais fy siomi gyda'r broses a ddilynwyd ar gyfer yr apwyntiadau hyn. Mae hwn yn gomisiwn pwysig dros ben, a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr uchelgeisiau beiddgar a nodir yn cael eu cyflawni, ac mae'n hanfodol nad yw pob rhan o'r comisiwn yn colli allan ar gyllid, fel, colegau chweched dosbarth o bosibl, oherwydd diffyg profiad yr apwyntiadau yn hyn o beth. Felly, Gweinidog, o ystyried nad yw'r cadeirydd a'r dirprwy gadeirydd yn meddu ar ddigon o brofiad yn cwmpasu ehangder y bobl a fydd yn y comisiwn i gyd, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r sector bod y comisiwn yn cynnwys y profiad angenrheidiol ac nad yw'n effeithio ar ehangder y sector hwnnw? 

Ac, yn olaf, ar ein hymchwil a'n datblygiad, ymchwil ac arloesi yng Nghymru, y mae angen cefnogaeth, cyllid a strategaeth sylweddol arnyn nhw, bu diffyg mawr o ran hynny yng Nghymru, ac mae sefydliadau yng Nghymru wedi bod yn galw'n daer amdano. Yn ystod Cyfnod y Pwyllgor, dywedodd y Cadeirydd newydd:

'Rwy'n credu, mae'n debyg, mai'r maes sy'n fwy o ddallbwynt i mi fyddai hwnnw yn ymwneud ag ymchwil'. 

Felly, sut allwn ni fod yn sicr y bydd y comisiwn yn rhoi'r sylw, y cyllid a'r arweinyddiaeth briodol sydd eu hangen i ysgogi'r sector ymchwil a datblygu hwnnw er mwyn sicrhau ei fod yn ffynnu? Ac onid ydych chi'n cytuno ei bod yn gwbl hanfodol bod ymchwil a datblygu yn rhan fawr a sylweddol o waith y comisiwn wrth symud ymlaen, ar gyfer y manteision i Gymru y byddai'n eu cyflwyno, wrth gwrs?

Ac, yn olaf, a gaf i ddymuno pob llwyddiant i'r comisiwn wrth symud ymlaen, gan fod yr hyn sydd o'i flaen yn dasg bwysig iawn?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny, ac rwy'n siŵr y bydd y comisiwn yn croesawu'r farn honno wrth gloi gan lefarydd addysg y Ceidwadwyr.

Dydw i ddim yn siŵr fy mod wedi dilyn y ddadl yn llawn yn y cwestiwn. Cyfeiriodd yr Aelod at benodiad y cadeirydd droeon. Doeddwn i ddim yn siŵr a oedd hi'n golygu'r prif swyddog gweithredol ynteu'r cadeirydd. Beth bynnag, roedd y pwyllgor ei hun yn awyddus i sicrhau bod cymysgedd da o brofiad yn cwmpasu addysg uwch, addysg bellach ac ymchwil ymhlith y tîm arweinyddiaeth yn y comisiwn. Ac rwy'n gwbl hyderus bod profiad y dirprwy gadeirydd, gyda phwyslais penodol ar ymchwil, sef y pwynt y pwysleisiodd hi ei fod yn gwbl hanfodol, ac rwy'n cytuno â'r pwynt hwnnw—mae ei brofiad yn y gymuned ymchwil yn ddigyffelyb. Ac mae'r profiad o addysg bellach yn gwbl flaenllaw ac yn ganolog wrth benodi'r prif swyddog gweithredol, sydd â hanes sylweddol o lwyddiant yn y sector addysg bellach yng Nghymru, fel arweinydd sy'n greadigol ac yn gydweithredol, sef yr union fath o berson sydd ei angen arnom ni i fod yn brif swyddog gweithredol y sefydliad newydd.

Mae hi'n iawn i ddweud bod cyfrifoldebau cyllidebol sylweddol y bydd y comisiwn yn eu cyflawni. Dyna sydd wrth wraidd y rheswm pam ein bod yn ei sefydlu ar hyd braich fel yr ydym ni, a bydd hi'n gwybod fy mod wedi ateb nifer o gwestiynau am hyn tra'r oedd y Ddeddf ar ei hynt. Ond rwy'n gwbl hyderus, gyda'r tîm arweinyddiaeth sydd gennym ar waith, ynghyd â'r gwir ddiddordeb rydym wedi'i dderbyn gan bob rhan o'r sector ar gyfer swyddi ar y bwrdd, y gallwn ni fod yn gwbl hyderus y bydd materion mewn perthynas ag archwilio, rheoli ariannol, ac ati, yn cael eu cyflawni'n llawn gan arweinyddiaeth y sefydliad newydd.

15:40

Hoffwn i ddatgan budd bod fy ngŵr yn gyflogedig gan Brifysgol Abertawe.

Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'n destun llawenydd; mae wedi bod yn daith hir nes cyrraedd y pwynt yma, o feddwl y gofynnwyd i'r Athro Hazelkorn gynnal adolygiad o addysg a hyfforddiant ôl-statudol nôl yn 2016. Ac roeddem ni ym Mhlaid Cymru yn falch bod y camau i sefydlu'r comisiwn drwy ddeddfwriaeth yn rhan o'n cytundeb cydweithio ni gyda'r Llywodraeth. Rŷm ni'n edrych ymlaen at weld y comisiwn yn dechrau ar ei waith, a bod y weledigaeth yna o ddatblygu a chefnogi darpariaeth o safon fyd-eang, sy'n cwrdd ag anghenion pob dysgwr mewn modd integredig a blaengar, yn mynd rhagddi.

Fel Laura Anne Jones, rwy hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac felly wedi cael cyfle i fod yn rhan o'r gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y cadeirydd, yr is-gadeirydd a, ddiwedd y mis diwethaf, ar gyfer y prif weithredwr. Rŷm ni wedi codi cwestiynau yn ein hadroddiad ar y broses o benodi'r prif weithredwr ar gyfer y corff Cymreig hynod bwysig hwn, a fydd yn ail yn unig i'r gwasanaeth iechyd gwladol o ran maint ei gyllid; cwestiynau sydd ddim mewn unrhyw ffordd yn sylw ar briodoldeb y prif weithredwr newydd ar gyfer y rôl, nac ar ei allu, ond, yn hytrach, yn ystyried y broses ar gyfer y penodiad allweddol yma. Rŷm ni'n mynegi ein siom â'r broses a ddyluniwyd na ailagorwyd y broses recriwtio agored, ac na chafodd yr ymgeisydd a benodwyd gyfweliad ffurfiol na'r elfennau eraill a fu'n rhan o'r broses agored, fel asesiad seicolegol, profion seicometreg, digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid, a gofyniad i baratoi cyflwyniad. Yn eich ymateb i'r pwyllgor, rydych chi'n tynnu sylw at y ffaith nad penodiad cyhoeddus mo hwn, ac at yr amserlen heriol o ran sefydlu'r comisiwn. Ond hoffwn i ofyn, Weinidog, a ydych chi'n cytuno yn yr achos hwn bod y broses benodi wedi bod yn ddiffygiol i raddau, ac a ydych chi'n cytuno y dylai penodiadau gweinidogol, fel penodiadau cyhoeddus, ddilyn prosesau cadarn, teg a thryloyw?

I droi nawr at swyddogaethau'r comisiwn, hoffwn gael ychydig mwy o eglurder gan y Gweinidog o ran y weledigaeth ar gyfer y sector addysg uwch, a datblygu strategaeth o ran hynny, wrth i'r comisiwn ddechrau ar y gwaith. Hynny yw, beth yw'ch gweledigaeth chi o ran y cydweithredu a phartneriaeth rhwng y comisiwn a'r cyrff addysg uwch yng Nghymru sydd ei angen, er mwyn llunio'r strategaeth honno a'i gweithredu?

Hoffwn i hefyd sôn am y ffocws ar ymchwil o fewn y comisiwn. Heblaw ei fod e yn nheitl y corff, a'i fod e'n un o ddyletswyddau statudol y corff, mae ymchwil yn amlwg yn mynd i fod yn faes llai efallai o ran ffocws a chyllid o'i gymharu â'r holl sectorau addysg a dyletswyddau eraill a fydd o dan reolaeth y comisiwn. Ond mae'n hollbwysig, onid yw hi, os yw Cymru o ddifrif o ran bod yn gymdeithas ac yn genedl sy'n gwneud penderfyniadau ac yn gweithredu ar sail ymchwil Cymreig. A gyda'r diffyg o ran cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, mae ymchwil o fewn addysg uwch yng Nghymru yn profi toriadau enbyd a pheryglus, ar adeg pan fo angen i'r sector fod mor gystadleuol ac mor ystwyth â phosibl i sicrhau cyllid drwy UK Research and Innovation. Felly, mae dirfawr angen eglurder a chyfeiriad ar gyfer y blynyddoedd nesaf, ac mae angen i'r sector addysg uwch yng Nghymru fod yn lle da hefyd i fod yn ymchwilydd. Felly, beth yw'ch gweledigaeth chi o ran sut y dylai'r comisiwn gyflawni hynny?

Ac yn olaf, mae Plaid Cymru'n croesawu'n fawr eich cadarnhad y prynhawn yma o ddynodiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynghori'r comisiwn ar ei ddyletswydd i hyrwyddo addysg trydyddol cyfrwng Cymraeg, gan gydnabod rôl greiddiol y coleg yn strategaeth Gymraeg y Llywodraeth. Mae'n allweddol nawr fod y comisiwn yn ymroi i'r berthynas hollbwysig hon, er mwyn cwrdd â'i dyletswyddau statudol o ran yr iaith Gymraeg, gan hybu ac annog y galw ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ôl 16, nid ei gwrdd yn unig. Ydych chi'n cytuno, Weinidog, fod angen i'r cyfle hwn gan y comisiwn i ymestyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog gael ei ddefnyddio i'r graddau llawnaf posib? Beth yw'ch barn chi o ran y cyfleon i wneud hyn, ac a fyddwch chi'n sicrhau bod yna benodi aelodau sy'n medru'r Gymraeg, sydd â phrofiad o addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, i fwrdd y comisiwn? Mae'n dda clywed bod nifer wedi gwneud cais am hynny, achos dyn ni'n teimlo bod hynny'n hollol angenrheidiol er mwyn cyflawni hyn.

15:45

Diolch i'r Aelod am yr amryw gwestiynau hynny. Gwnaf i geisio fy ngorau i'w hateb nhw mor llawn ag y gallaf i. O ran apwyntiad y prif weithredwr, jest i fod yn glir, o ran proses, ychwanegwyd cam i'r broses y tro yma er mwyn sicrhau y tegwch a'r tryloywder mae'r Aelod yn dweud sydd mor bwysig—ac rwy'n cytuno gyda hi bod yr egwyddorion hynny yn bwysig ac rwy'n sicr yn fy meddwl eu bod nhw wedi cael eu cyflawni yn yr achos hwn. Ond ychwanegwyd cam y tro yma fel bod gan y pwyllgor gyfle i gael y drafodaeth fyddai ddim wedi bod ganddyn nhw fel arall. Felly, dyma i chi enghraifft o gymryd cam penodol i sicrhau bod y broses honno yn gallu bod yn gyhoeddus ac yn dryloyw. Gwnes i ddarllen adroddiad y pwyllgor, a gyda phob parch, rwy'n anghytuno gyda'r casgliad yn hyn o beth, ond yn falch o weld bod y pwyllgor yn cadarnhau bod y prif weithredwr â'r sgiliau a phrofiad priodol iawn ar gyfer y gwaith.

Mae'r pwyllgor wedi fy annog i sicrhau ein bod ni'n edrych ar y farchnad dalent, os hoffwch chi, yn ehangach. Gwnaethpwyd hynny. Mae'r pwyllgor wedi gofyn i sicrhau bod apwyntiad yn adlewyrchu ystod o sgiliau, yn cynnwys sgiliau yn y sector addysg bellach. Gwnaethpwyd hynny. Gwnaeth y pwyllgor ofyn inni sicrhau ein bod ni'n bwrw ati gyda'r broses o sefydlu'r comisiwn, fel bod hynny'n digwydd mewn ffordd oedd yn amserol ac yn gallu sicrhau bod buddiannau'r Ddeddf yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl. Gwnaethpwyd hynny. Ac mae'r pwyllgor yn gyson wedi gofyn i fi sicrhau fy mod i'n adlewyrchu y consyrn a blaenoriaethau'r sector a'r rhanddeiliaid wrth fynd ati i sefydlu'r comisiwn, ac mae'r ymateb wrth y sector o groeso cyffredinol i'r apwyntiad yn dangos yn glir hefyd. Gwnaethpwyd hynny. Felly, rwy'n hapus ddigon bod y broses wedi bod yn ddigonol ac yn deg ac yn dryloyw, a bod yr apwyntiad yn un teilwng iawn.

O ran y cwestiynau eraill, mae sefydlu'r comisiwn yn sicrhau, wrth gwrs, fod gennym ni gorff hyd braich wrth y Llywodraeth sydd yn mynd ati i wneud ei waith. Byddaf yn gwneud datganiad ar ddiwedd y flwyddyn ar y blaenoriaethau sydd gen i fel Gweinidog i'r comisiwn, fel bod y comisiwn yn gallu cymryd ystyriaeth lawn o hynny wrth eu bod nhw'n bwrw at eu gwaith.

Gwnaeth yr Aelod ofyn i fi sut fyddwn i'n hoffi gweld y comisiwn yn gweithredu gyda'r sector, ac mae'n bwynt da. Mae'r drafodaeth yn ystod pasio'r Ddeddf wedi bod yn aml ynglŷn â sut rŷn ni'n gobeithio gweld y sector yn gweithio gyda'i gilydd. Byddwn i'n hoffi gweld yr un gwerthoedd ar waith rhwng y comisiwn a'r sector ei hun—hynny yw, gweithio mewn ffordd greadigol, mewn ffordd sydd yn gydweithredol, sydd yn sicrhau bod cyd-gynhyrchu'n digwydd, pan fo hynny yn bosib. Materion yn y pen draw i'r comisiwn yw'r rhain, ond byddwn i'n credu bod rheini'n ffyrdd da o sicrhau ein bod ni'n cael sector sydd yn gallu ymateb yn gyflym i ddatblygiadau a sicrhau buddiannau dysgwyr a'r economi yn ehangach.

Mae hi'n iawn i ddweud bod ymchwil yn bwysig. Gwnaeth hi ddweud oni bai bod hwn yn enw'r corff ac oni bai bod strwythur yn delio â hyn—. Wel, byddwn i'n awgrymu bod rheini'n arwydd clir o ba mor ganolog yw cefnogi gwaith ymchwil yn remit y comisiwn, a dyna pam rwy'n falch iawn o'r apwyntiad o ddirprwy gadeirydd sydd â track record cryf iawn yn y maes hwnnw, ac rwy'n sicr iawn bydd e'n gallu gwneud beth rwy'n credu rŷn ni i gyd eisiau ei weld, hynny yw, cefnogi'r prifysgolion i fod yn gystadleuol, a hefyd sicrhau bod y sail sydd ganddyn nhw i gystadlu o fewn y Deyrnas Gyfunol, ond yn rhyngwladol hefyd, mor gryf ag y gall e fod.

Ar y pwynt diwethaf gwnaeth yr Aelod ei ofyn ynglŷn â'r Gymraeg, rwy'n cytuno'n llwyr â hi fod amryw o gyfleoedd fan hyn nawr i ymestyn darpariaeth ôl 16. Mae gwaith y coleg, wrth gwrs, yn hwn, yn rhywbeth rŷn ni i gyd yn adnabod fel rhywbeth sydd yn arwain ac ar y blaen yn hyn o beth. Mae dyletswydd statudol benodol wrth gwrs gyda'r comisiwn yn hyn o beth, a byddaf i eisiau sicrhau bod y bwrdd hefyd yn dod â'r profiad â'r talent hwnnw i'r blaen, fel bod gennym ni gyfle da i sicrhau bod y Gymraeg yn mynd i gael ei phrif-ffrydio yng ngwaith y comisiwn.

15:50

A gaf i ddechrau fy sylwadau byr drwy groesawu'n gryf benodiad Simon Pirotte yn Brif Swyddog Gweithredol? Er, mae'n rhaid i mi ddweud y bydd Sarah Murphy, fy Aelod Seneddol cyfagos, a minnau yn colli ei gyfraniad i Goleg Penybont yn arw, oherwydd fel arweinydd, nid yn unig y mae wedi bod yn ddeinamig, yn egnïol ac yn llawn cymhelliant, ond—ansoddeiriau anarferol, efallai, i'w defnyddio i ddisgrifio arweinydd coleg—mae e' wedi bod yn dosturiol ac wedi'i lywio gan werthoedd yn yr hyn y mae wedi ceisio'i wneud gyda'r sefydliad hwnnw hefyd. Ond rwy'n credu y bydd e'n wych yn y rôl. Rydyn ni'n ffodus; mae gennym y dirprwy brifathro, Viv Buckley, yn camu i'r adwy fel arweinydd dros dro am gyfnod, ac mae hi ei hun yn llawn egni a brwdfrydedd hefyd, felly rydyn ni'n ffodus iawn unwaith eto.

A gaf i ofyn, serch hynny, am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at ddyletswydd strategol y comisiwn ar ddysgu gydol oes, a ddylai, fel y mae llawer o bobl wedi'i ddweud, fod wrth wraidd gwaith y comisiwn? Mae'n hanfodol, yr holl ffordd ar hyd y llwybr gydol oes, ein bod yn sicrhau bod addysg—addysg o safon—ar gael i bawb. Felly, pa gynnydd ydym ni'n ei wneud ar hynny, o ran cyflawni'r ddyletswydd honno a chyflawni canlyniadau y gellir eu mesur go iawn?

Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw. Gair sydyn i ddweud, rwy'n credu mai'r rhinweddau a amlinellodd Huw ar ddechrau ei gwestiwn yw'r union reswm pam mae penodiad Simon wedi ei groesawu gan gynifer o bobl. Mae'r ddyletswydd mewn perthynas â dysgu gydol oes, wrth gwrs, yn hanfodol. Mae pob un ohonom ni'n awyddus i Gymru fod yn genedl ail gyfle, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, ac felly y ddyletswydd statudol gyntaf ar wyneb y Ddeddf i'r comisiwn yw'r ddyletswydd i hyrwyddo dysgu gydol oes. Mae hyn yn ategu llawer o'r gwaith yr ydym, yn amlwg, wedi bod yn ei wneud y tu allan i'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â chyllid ychwanegol ar gyfer dysgu cymunedol i oedolion, cyllid ychwanegol ar gyfer y cyfrifon dysgu personol, ac ystod o fentrau eraill. Ond rwy'n credu mai'r cam nesaf yn y datblygiad hwnnw nawr yw'r hyn y bydd angen i'r comisiwn ei ddatblygu.

O'n safbwynt ni, bydd yn cofio bod y ddeddfwriaeth yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau fel y gall Gweinidogion nodi pa mor eang y mae'r ddyletswydd i ariannu yn ymestyn, i bob pwrpas, a dyna'r mecanwaith, y bydd yn ei gofio, ar gyfer ehangu'r ddarpariaeth dysgu gydol oes ar sail statudol, nad ydym erioed wedi'i wneud o'r blaen. Mae hyn yn sail statudol newydd i ni yng Nghymru. Rydym wrthi'n gweithio gyda rhanddeiliaid i archwilio sut y gallwn lunio'r ddyletswydd honno orau, ac mae dewisiadau. Mae cwestiwn manwl ac mae cwestiwn eang, ac maent yn amlwg yn cyfaddawdu, i ryw raddau, onid ydyn nhw? Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn cael yr ystod lawn o leisiau cyn i mi wneud y penderfyniad ynghylch y cymysgedd hwnnw, os mynnwch chi. Ond fy mwriad i yw y byddwn ni'n ymgynghori ar y rheoliadau erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf a fydd yn nodi cwmpas y ddyletswydd honno yn y gyfraith, a fydd wedyn yn rhoi'r cnawd ar yr esgyrn, sydd mewn deddfwriaeth, ond mae'n gam nesaf pwysig iawn i ni.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn union fel Sioned Williams, hoffwn hefyd groesawu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel cynghorydd i CTER.

A gaf i ofyn hefyd—? Os yw'r corff am fod yn wirioneddol lwyddiannus, yna mae angen i'r holl randdeiliaid sydd oddi tano, ym maes addysg uwchradd, drydyddol ac uwch, a chyflogwyr ac undebau llafur cysylltiedig weithio gyda'i gilydd i greu'r cyfnod pontio di-dor hwnnw, ac os bydd hynny'n llwyddiannus, efallai y bydd angen newid diwylliant mewn sawl rhan o'r sectorau hynny.

Diolch i Hefin David am y pwynt y mae newydd ei wneud. Bydd yn cofio, tra roedd y Bil ar ei hynt, yn anad dim oherwydd ei fod, yn ei waith fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion, wedi cadeirio mwy nag un sesiwn ar hyn. Un ohonyn nhw, bu modd i mi fynd iddo fy hun, ac rwy'n credu y byddai'n cytuno â mi fod yna lefel uchel o awydd i gydweithio ar draws y sector mewn perthynas â hyn, ond mae rhai rhwystrau, y mae'r ddeddfwriaeth yn bwriadu eu cywiro, yn anad dim y cwestiwn o rwystrau cyllido. Pan fyddwch chi'n cael eich ariannu gan fwy nag un endid ar wahân—sydd wedi bod yn wir, sydd yn dal yn wir, ac fe fydd yn wir nes bydd gwaith y comisiwn yn dechrau—mae hynny'n creu ei heriau ei hun i gydweithio'n llawn. Ond rwyf wedi fy nghalonogi'n fawr, mewn gwirionedd, hyd yn oed cyn i'r comisiwn ddechrau ar ei waith, fy mod yn teimlo bod hynt y ddeddfwriaeth hon a'r drafodaeth gyhoeddus ar draws y sector a'r ddadl gyhoeddus a gawsom yn y Siambr hon wedi dechrau creu cyd-destun a diwylliant lle mae pobl yn awyddus i gydweithio.

A dim ond amser cinio heddiw, roeddwn i'n gallu siarad yn y lansiad yma yn Neuadd Athrofa Dechnegol Prifysgol Cymru, sy'n fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot, Coleg Ceredigion, Coleg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro, a Choleg Caerdydd a'r Fro, gan ganolbwyntio ar ddarparu sgiliau technegol lefel uwch i'n pobl ifanc. Ac mae amrywiaeth o fodelau eraill ar gyfer cydweithredu sy'n cael eu harchwilio'n weithredol, ac rwy'n credu y bydd bod â dulliau gwahanol yn dda, oherwydd gall pob un ohonom ddysgu o'r pethau sy'n gweithio orau o hynny. Ond fy mhrif obaith ar gyfer y newid y bydd y Bil yn ei roi ar waith yw sicrhau bod sefydliadau'n cydweithio'n llawn er mwyn gwireddu'r ymrwymiad hwnnw sydd gennym ni i gyd yn y fan yma i roi dysgwyr wrth wraidd ein holl ddarpariaeth ôl-16.

15:55
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau cenedlaethol i gryfhau gofal cymdeithasol

Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar fesurau cenedlaethol i gryfhau gofal cymdeithasol. Galwaf ar y Gweinidog, Julie Morgan.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau a fydd yn cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys camau gweithredu ar unwaith a mentrau strategol tymor hwy. Bydd yr Aelodau yn cofio, fis diwethaf, i mi lansio ymgynghoriad ffurfiol ar y rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth. Mae'r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar gynigion bras ym Mhapur Gwyn 2021 o'r un enw drwy nodi'r camau gweithredu arfaethedig ar amrywiaeth o feysydd.

Er bod swyddogion eisoes wedi cyflawni amrywiaeth o ymgysylltiadau gyda phartneriaid ar y cynigion penodol yn yr ymgynghoriad, byddwn hefyd yn ymgysylltu yn eang yn ystod y cyfnod ymgynghori 12 wythnos. Gyda'i gilydd, bydd y cynigion ar y fframwaith cenedlaethol a'r swyddfa genedlaethol, wedi'u hategu gan y mentrau eraill yn yr ymgynghoriad, ymhlith blociau adeiladu pwysig cyntaf gwasanaeth gofal cenedlaethol—ymrwymiad allweddol yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae'r cynigion hyn yr ydym yn ymgynghori arnyn nhw wrth ailgydbwyso gofal a chymorth yn ategu canfyddiadau'r grŵp arbenigol a sefydlwyd i wneud argymhellion ynghylch y camau tuag at greu gwasanaeth gofal cenedlaethol. Mae eu hadroddiad, o'r enw 'Tuag at Wasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru', yn hanes cynhwysfawr o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r sector, gan fynd i'r afael â'r cylch gorchwyl, a hefyd dangos dyfnder ac ehangder trafodaethau ac ystyriaethau'r grŵp. Felly, ar ran y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Aelod dynodedig, Cefin Campbell AS, hoffwn ddiolch unwaith eto i'r cyd-gadeiryddion a holl aelodau'r grŵp arbenigol am eu cyfraniadau at y gwaith hanfodol a heriol hwn, gan gydnabod bod ymrwymiad wedi mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn a ragwelwyd ar y cychwyn.

Roeddem ni'n falch iawn o ddarllen sut mae nifer o argymhellion y grŵp arbenigol yn cyd-fynd â'n rhaglen bresennol ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i ddiwygio'r sector gofal cymdeithasol. Mae hyn yn golygu y gallwn ni symud ymlaen yn hyderus i ddatblygu cefnogaeth genedlaethol gryfach i'r sector. Mae ein camau arfaethedig yn yr ymgynghoriad ailgydbwyso gofal a chymorth yn cynnwys datblygu fframwaith comisiynu cenedlaethol statudol; sefydlu swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth; datblygiad y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol o fframwaith tâl a dilyniant cenedlaethol; gwaith agos gydag awdurdodau lleol ar set ddata perfformiad a gwelliant cenedlaethol; a chryfhau trefniadau ar gyfer gweithio partneriaeth rhanbarthol ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r camau hyn gyda'i gilydd yn gyfystyr â chryfhad sylweddol o'r trefniadau cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth, ac felly byddan nhw'n rhan sylweddol o'r cynllun gweithredu sydd ar ei ffordd ar gyfer gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol.

Nawr, mewn sector lle mae tua 90 y cant o'r darparwyr yn y sector annibynnol, bydd datblygu fframwaith comisiynu cenedlaethol statudol yn llywio pwyslais ar ansawdd wedi'i ategu gan ffioedd teg am gost gofal. Bydd newid o gymhlethdod trefniadau comisiynu tuag at symlrwydd yn seiliedig ar egwyddorion cyffredin. Bydd yn annog newid o arfer sy'n seiliedig ar dasgau tuag at arfer sy'n seiliedig ar ganlyniadau. Bydd y fframwaith comisiynu hefyd yn ddull dynamig, y gellir ei ddiweddaru gyda manylebau model gwasanaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Bydd y swyddfa genedlaethol yn galluogi pwyslais ar wella a gweddnewid gwasanaethau i oedolion a phlant ac yn adeiladu ar gynnydd a wnaed eisoes o ran gwella data gofal cymdeithasol, gan ddatblygu darlun mwy eglur o'r ddarpariaeth o wasanaethau, a thrwy hynny galluogi meincnodi a gwelliant i wasanaethau. Bydd hefyd yn cefnogi'r prif swyddog gofal cymdeithasol fel llais cryfach i'r sector, ac yn llwyfan y caiff elfennau eraill o'r gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol eu hadeiladu arno trwy gamau olynol cynllunio gweithredu.

Bydd cydweithio â Gweithrediaeth y GIG yn hanfodol i sicrhau y rhoddir cyfeiriad cyson i system iechyd a gofal cymdeithasol yr ydym ni'n ei gwthio tuag at integreiddio pellach.

Mae'r fframwaith tâl a dilyniant yn dangos ymhellach ein hymrwymiad i'r gweithlu gofal cymdeithasol, pa bynnag ran o'r sector y maen nhw wedi'u cyflogi ynddi. Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol, ac rydym ni wedi buddsoddi ynddo, gan gynnwys drwy sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael ei dalu ar lefel y cyflog byw gwirioneddol o leiaf. Er bod sefydliadau annibynnol yn gyfrifol am eu harferion cyflogaeth eu hunain, mae'r fframwaith newydd, a ddatblygwyd mewn partneriaeth gymdeithasol gan y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, yn dechrau gosod disgwyliadau ynghylch sut y dylai ein gweithlu medrus ac ymroddedig gael ei gydnabod yn genedlaethol.

Mewn ymateb i ymgynghoriad Papur Gwyn cynharach, fe wnaethom ni wrando ar sefydliadau statudol nad oedden nhw eisiau i strwythur cyfreithiol byrddau partneriaeth rhanbarthol newid. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni wedi gweithio gyda phartneriaid i egluro a chryfhau llywodraethu, atebolrwydd, cynllunio a llais dinasyddion. Wrth weithio'n agos gyda'r sector i ddatblygu'r mesurau hyn, rwy'n edrych ymlaen at y gwahaniaeth y byddan nhw'n ei wneud o ran integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ymhellach.

Mae'r holl ddatblygiadau hyn yn cyd-fynd â'r datganiad diweddar a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 'Meithrin Gallu drwy Ofal Cymunedol – Ymhellach, Yn Gyflymach'. Ein nod drwy'r fenter hon yw gweithio gyda'n partneriaid llywodraeth leol a GIG i gryfhau capasiti gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys amrywiaeth o gamau ar unwaith i wneud gwahaniaeth mesuradwy i wasanaethau gofal cymunedol cyn y gaeaf nesaf, ynghyd â nod tymor hwy o gryfhau darpariaeth gymunedol yn ehangach. Mae egwyddorion system gydgysylltiedig, ataliol, sy'n canolbwyntio ar y gymuned, a gefnogir gan 'Ymhellach yn Gyflymach' yn cyd-fynd â'r rhai y byddem ni'n disgwyl eu gweld mewn gwasanaeth gofal cenedlaethol.

Byddwn yn rhoi diweddariad pellach ar gynnydd o ran datblygiadau gofal cymdeithasol a chamau tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol yn ystod yr wythnosau nesaf. Diolch.

16:00

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, ar y mesurau cenedlaethol i gryfhau gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru. Er fy mod i'n cefnogi ac yn cytuno i raddau helaeth â chynnwys eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn ddull gweithredu eithaf cyffredinol a chymedrol o fynd i'r afael â rhai o'r ffactorau mawr, acíwt a phenodol sy'n wynebu'r sector gwasanaethau cymdeithasol ar ôl COVID ac yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain.

Nawr, y rheswm yr wyf i'n dweud hyn yw bod llawer o agweddau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y mae angen mynd i'r afael â nhw nad yw'r Llywodraeth wedi ymdrin â nhw yn ei datganiad heddiw. Un enghraifft o'r hyn y byddai angen ei ymgorffori yn aliniad y ddau sector, un o'r rheini, yw gwasanaethau i blant, a'r hyn nad ydym wedi ei weld, a'r hyn yr ydym ni wedi ei drafod sawl gwaith yn Siambr y Senedd hon, fy hun a chyd-Aelodau, yw methiant Llywodraeth Cymru i gomisiynu pwyslais hynod fanwl ar adolygu'r holl wasanaethau i blant ledled Cymru, gan roi cyfle i bob un o'r 22 awdurdod lleol adolygu eu harferion i wneud yn siŵr bod y nifer leiaf posibl o blant yn llithro drwy'r rhwyd a sicrhau eu diogelwch. Rwy'n gwneud cyfeiriadau penodol at ddioddefwyr esgeulustod a llofruddiaeth plant, gan gynnwys Logan Mwangi a Kaylea Titford, i enwi dim ond dwy enghraifft o hyn, gan fod tystiolaeth yn awgrymu y gallai adolygiad plant wedi bod yn fesur mwy ataliol yn eu hachosion nhw, ac atal y posibilrwydd o fwy yn y dyfodol mewn ffordd na fyddai'n niweidiol i uchelgais y Llywodraeth o integreiddio yn y dyfodol, a chael ei ddarparu mewn swyddogaeth a fyddai'n rhychwantu llawer o broffesiynau sy'n cwmpasu'r pecyn cyfannol y mae plant agored i niwed yn ei dderbyn drwy eu taith ddatblygiadol, weithiau gyda chymorth ac arbenigedd darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Nawr, ar wahân i wasanaethau plant, ac er gwaethaf ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, yr ydym ni ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'i gefnogi, ac yn parhau i'w gefnogi, ac yn wir integreiddiad pellach gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd, mae'r sector yn dal i wynebu argyfwng recriwtio, â brwydr barhaus i recriwtio ymgeiswyr i faes gofal cymdeithasol, yn enwedig yn ein cartrefi gofal, sy'n cael effaith ganlyniadol ar ryddhau o ysbytai, rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac adrannau damweiniau ac achosion brys, gan fod cysylltiad cynhenid rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, Dirprwy Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi mewn ymateb i'ch datganiad heddiw y bydd cyfleoedd hyfforddi, llwybrau gyrfaol digonol a nenfydau gwydr yn cael eu torri i ddenu darpar weithwyr gofal cymdeithasol i'r sector? A pha ymrwymiad allwch chi ei roi i gyflogwyr gofal cymdeithasol a pherchnogion cartrefi gofal y gall Llywodraeth Cymru sicrhau ei phwerau datganoledig mwyaf posibl i awdurdodau lleol, fel bod pob penderfyniad gan y Llywodraeth ar y sector gofal cymdeithasol yn cael ei deimlo ar lawr gwlad ledled Cymru, ac nid yn swigen bae Caerdydd yn unig?

Nawr, gan aros ar thema penderfyniadau'r Llywodraeth yn cael eu teimlo ar lawr gwlad, pa mor gadarn yw uchelgeisiau'r Llywodraeth a'r cytundeb cydweithio ar gyfer integreiddio pellach i'r posibilrwydd o newid a gwahaniaethau gwleidyddol yn y dyfodol? A'r rheswm am ofyn hyn yw'r realiti moel nad oes gan Lywodraeth Cymru fwyafrif yn Siambr y Senedd hon a bod yn rhaid iddi ddibynnu ar gefnogaeth Plaid Cymru, sydd ei hun wedi bod yn garwsél o arweinwyr a swyddogion dros dro yn ddiweddar, a fydd, heb os, yn cael ei ystyried yn fygythiad yn y sectorau perthnasol i gyflawni rhai o nodau ac amcanion y Llywodraeth. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi, Dirprwy Weinidog, bod y cynlluniau ar gyfer integreiddio a'r lefelau cywir o arfau ac adnoddau wedi'u diogelu at y dyfodol ac yn gadarn er mwyn wynebu'r posibilrwydd o newidiadau yn y dyfodol, gan y byddwch chi'n derbyn heb amheuaeth bod hwn yn sector sy'n effeithio ar fywydau pobl bob un dydd? Felly, a ydych chi wedi rhoi diwydrwydd dyladwy i'r realiti hwn?

Ac a all y Dirprwy Weinidog ymhelaethu ymhellach ar sefydlu swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth? Sut fydd y swyddfa'n edrych? A fydd bwrdd? Faint o staff fydd hi'n eu cyflogi, ac a fydd ariannu hon yn creu'r risg y bydd adnoddau yn cael eu sugno gan y swyddfa ei hun yn hytrach na'r bwriad o greu integreiddio? A pha ddulliau cadw cydbwysedd fyddwch chi'n eu defnyddio i fonitro hyn?

Yn olaf, Dirprwy Weinidog, a allwch chi roi rhywfaint o eglurder pellach ynghylch y gwahaniaeth rhwng gwaith agos gydag awdurdodau lleol a chryfhau'r trefniadau ar gyfer gweithio partneriaeth ranbarthol, gan ei bod hi'n ymddangos bod y ddau yn gwrthddweud ei gilydd, o ystyried uchelgais Llywodraeth Cymru i greu cyd-bwyllgorau corfforedig, CBCau? A beth fyddai canlyniad CBCau ar y gwasanaethau gofal cymdeithasol os byddan nhw'n cael eu darparu mewn gwirionedd?

Diolch yn fawr iawn unwaith eto am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, ac edrychaf ymlaen at eich ymateb. Diolch.

16:05

Diolch yn fawr iawn, Gareth, am groesawu'r rhan fwyaf o'r datganiad ac am eich cefnogaeth yn gyffredinol. Rydych chi'n dweud ei fod yn gyffredinol. Rwy'n credu y byddwch chi'n ymwybodol, yn natganiad y Gweinidog yn weddol ddiweddar ar 'Ymhellach, Yn Gyflymach', ein bod ni wedi mynd i gryn fanylder ynghylch sut y byddem ni'n gweithio ar lawr gwlad er mwyn mynd i'r afael â'r materion sydd wedi codi ym maes gofal cymdeithasol. Felly, mae'r pwyntiau yr wyf i wedi bod yn eu gwneud yn y datganiad heddiw yn gysylltiedig â'r ymgynghoriad yr ydym ni'n ei gael gyda'r gymuned, sy'n parhau, ar yr holl gynigion hyn sydd, mewn gwirionedd, wedi bod yn destun trafod ers cryn nifer o flynyddoedd.

O ran y gwasanaethau i blant, bydd y swyddfa genedlaethol a'r fframwaith comisiynu yn cwmpasu gwasanaethau i oedolion a phlant. Felly, mae'r hyn yr wyf i wedi siarad amdano heddiw yn berthnasol i blant. O ran adolygu gwasanaethau i blant, cynhaliwyd adolygiad ar y cyd yn ddiweddar gan yr asiantaethau arolygu yn edrych yn benodol ar faterion amddiffyn plant mewn nifer o awdurdodau lleol, yr wyf i'n siŵr y bydd gan yr Aelod ddiddordeb yn ei ddarllen. Ac rwy'n siŵr ei fod hefyd yn ymwybodol ein bod ni'n cynnal nifer o adolygiadau o ganlyniad i rai o'r achosion amddiffyn plant trasig iawn sydd wedi codi yn ddiweddar. Felly, rydym ni'n edrych yn ofalus iawn ar yr holl feysydd hyn, ac yn amlwg yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif.

Y cyflog byw gwirioneddol—ydw, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol. Rwy'n credu ei fod yn gwbl ardderchog—£70 miliwn eleni i sicrhau bod rhai o'n gweithwyr ar y cyflogau isaf wedi cael codiad cyflog mewn gwirionedd, ac mae'r gweithlu wedi ei werthfawrogi'n fawr iawn. Ceir problem gyda recriwtio a chadw, ac rydym ni'n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau rhagolygon gyrfaol pobl sydd yn y maes. Un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud yw darparu hyfforddiant ar-lein cychwynnol a hefyd yn gweithio i hysbysebu manteision mawr gweithio yn y maes hwn trwy fenter Gofalwn.Cymru, ac yn amlwg, gweithio'n agos iawn gyda maes gofal cymdeithasol. Oherwydd mae'r Aelod yn llygad ei le—mae problem allweddol o gadw staff, a dyna un o'r pethau yr ydym ni'n rhoi sylw iddyn nhw. Ac wrth gwrs, rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol bod gennym ni lawer iawn o gefnogaeth gan Fforwm Gofal Cymru, sef, fel y gwyddoch, y sefydliad sy'n gweithio gyda'r darparwyr preifat, sy'n llawn canmoliaeth i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gefnogi'r sector cartrefi gofal yn benodol. Aethom wir allan o'n ffordd yn ystod y pandemig i wneud popeth y gallem ni, ac o ganlyniad ychydig iawn o gartrefi gofal yng Nghymru sydd wedi cau o ganlyniad i'r pandemig a'r holl bwysau a gafwyd yno, tra bu llawer mwy dros y ffin.

Ac yna pa sicrwydd y bydd cynlluniau ar gyfer integreiddio yn parhau? Rydym ni wedi seilio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar y cynigion gan y grŵp arbenigol, a sefydlwyd ar y cyd gan Blaid Cymru a'r Llywodraeth, ac mae'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yn seiliedig ar yr hyn a gyflwynwyd gan y grŵp arbenigol i ni. Fel y dywedais, yn ffodus, roedd llawer ohono yn cyd-fynd â phethau yr oeddem ni wedi bod yn ystyried eu gwneud cynt beth bynnag, fel y swyddfa genedlaethol a'r fframwaith cenedlaethol.

Bydd y swyddfa genedlaethol yn cael ei sefydlu fel uned o fewn y Llywodraeth. Mae hyn yn rhywbeth y gwnaethom ni ymgynghori arno flwyddyn neu ddwy yn ôl, ac nid oedd unrhyw awydd i sefydlu corff ar wahân, gan y byddai rhywfaint o hyblygrwydd o'i sefydlu o fewn y Llywodraeth yn ogystal â gwneud y defnydd mwyaf posibl o adnoddau. Felly, bydd y swyddfa genedlaethol, gobeithio, yn weithredol erbyn y flwyddyn nesaf.

Ac yna wrth gwrs gweithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd—mae llawer o'r gwaith hwnnw yn cael ei wneud yn y byrddau partneriaeth rhanbarthol, a sefydlwyd yn benodol er mwyn dod â meysydd iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd, ac maen nhw'n cryfhau wrth iddyn nhw ddatblygu, ac yn rhan o'r cynigion hyn rydym ni'n cynnig eu cryfhau ymhellach. Felly, dyna lle'r ydym ni'n gweld un o'r meysydd allweddol lle mae integreiddio yn digwydd o ran datblygu polisi, ac wrth gwrs yn y gwaith ar lawr gwlad mewn timau sydd wedi'u cyfansoddi o weithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd, a disgyblaethau eraill.

16:10

Diolch yn fawr am y datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. 

Rydym ni'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw am ddatblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, ymrwymiad maniffesto gwirioneddol chwyldroadol gan Blaid Cymru sy'n cael ei gyflawni drwy ein cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n gweld unwaith eto, pan fydd gan Blaid Cymru ddylanwad ar y rhaglen lywodraethu, bod Cymru ar ei hennill. Gyda'n poblogaeth sy'n heneiddio a phwysau llym ar ein GIG sydd mewn trafferthion, ni fu'r angen am wasanaeth gofal cenedlaethol erioed yn fwy, ac mae'n galonogol yn hyn o beth bod adroddiad ac argymhellion y grŵp arbenigol yn sicr yn cyd-fynd â'n gweledigaeth radical ar gyfer diwygio yn y sector hwn.

Gan droi at y camau penodol sy'n deillio o'r ymgynghoriad ailgydbwyso gofal a chymorth, a gaf i ofyn i chi, Dirprwy Weinidog, am ragor o fanylion am yr amserlenni perthnasol ar gyfer cyflwyno'r fframwaith comisiynu cenedlaethol statudol? Mae hefyd yn briodol y bydd y fframwaith dan sylw yn ceisio sicrhau newid i ddulliau sy'n seiliedig ar ganlyniadau ymhlith darparwyr, wedi'u seilio ar set o egwyddorion cyffredin, a rennir. A gaf i ofyn a allai'r Gweinidog ymhelaethu ar y metrigau neu'r meini prawf perthnasol a fydd yn hysbysu sut mae'r canlyniadau hyn yn cael eu hasesu? Mae hefyd yn gwbl briodol y bydd y rhaglen waith hon yn ceisio ymwreiddio arferion gwaith teg a chyflog teg ymhlith cyflogwyr, gan adeiladu ar ymrwymiad blaenorol y Llywodraeth i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol o leiaf. Fodd bynnag, dylem ni hefyd gydnabod cyfraniad enfawr a hanfodol gofalwyr di-dâl at y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol yng Nghymru. Dangosodd y cyfrifiad diwethaf bod 310,751 o ofalwyr o'r fath yng Nghymru, y mae 107,000 ohonyn nhw'n darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos. A gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog esbonio sut y bydd y gwasanaeth gofal cenedlaethol yn helpu i leddfu'r baich ar ofalwyr di-dâl ac a allai eu harbenigedd a'u profiad hynod werthfawr helpu i lywio dyluniad y gwasanaeth gofal?

Bydd y GIG yn saith deg pum mlwydd oed ymhen ychydig wythnosau. Ei sefydlu oedd y foment a ddiffiniodd hanes gwleidyddol Prydain ar ôl y rhyfel ac roedd yn waddol aruthrol o sosialaeth ddemocrataidd ar waith. Rydym ni hefyd yn wynebu heriau gofal iechyd yr unfed ganrif ar hugain. Mae angen i ni sianelu'r un synnwyr o radicaliaeth, gweledigaeth ac uchelgais a nodweddodd brosiect mawr Nye Bevan ym 1948. Trwy fwrw ymlaen â'r cynlluniau ar gyfer sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol, a fydd, yn ei dro, yn sicrhau dyfodol GIG mwy sefydlog a chynaliadwy, mae Plaid Cymru wedi dangos unwaith eto nad ydym ni'n cilio rhag rhoi atebion pellgyrhaeddol a thrawsnewidiol ar waith i Gymru. Diolch yn fawr.

16:15

Diolch, a diolch yn fawr iawn am groesawu'r datganiad heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith yr ydym ni wedi gallu ei wneud gyda Phlaid Cymru i fwrw ymlaen â hyn, oherwydd rwy'n credu, fel y dywedodd yr Aelod yn ei gyfraniad, na fu erioed fwy o angen am ffordd radical o fynd i'r afael ag anawsterau gofal cymdeithasol. Cyfeiriodd yr Aelod at boblogaeth sy'n heneiddio, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod unrhyw beth yr ydym ni'n ei wneud, gan gydnabod yr anghenion ychwanegol a allai fod yno, yn cydnabod cyfraniad pobl hŷn at gymdeithas hefyd.

Yr amserlenni: wel, y peth cyntaf y byddwn ni'n ei wneud yw sefydlu'r swyddfa genedlaethol, oherwydd, yn amlwg, rydym ni angen y swyddfa genedlaethol yno i fwrw ymlaen â'r newidiadau hyn. Y nod yw cael y swyddfa genedlaethol yn weithredol erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf, ac yna bydd y fframwaith yn dilyn ymlaen o hynny. Rydym ni eisiau symud tuag at weld beth yw'r canlyniadau a mesur y canlyniadau hynny. Trwy gael fframwaith cenedlaethol, byddwn yn gallu—. Gyda'r contractau, er enghraifft, sydd yno gyda'r cartrefi gofal, ni fydd gennym ni lawer o wahanol gontractau wedi'u cytuno yn unigol gyda channoedd o fusnesau preifat bach ar wahân. Rydym ni'n gobeithio y byddwn ni'n gallu sicrhau dull llawer mwy unedig pan fydd yr egwyddorion yn cael eu penderfynu ar lefel genedlaethol, ac y byddwn ni'n gallu symud tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol yn y math hwnnw o ffordd, trwy drefnu bod gan bobl gontractau tebyg ac egwyddorion cyffredin tebyg. Felly, rydym ni'n gweld hynny yn datblygu.

O ran gwaith teg a chyflog teg—cwbl hanfodol. Rydym ni'n gweithio yn agos iawn gyda'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sy'n cynnwys cyflogwyr, undebau llafur a phartïon eraill â buddiant. Fe'n cynghorwyd ganddyn nhw ar gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol—ar sut i wneud hynny—ac maen nhw bellach yn edrych ar yr holl agweddau eraill, oherwydd, yn amlwg, mae gwaith teg yn mynd ymhell y tu hwnt i'r arian yn unig, ac rydym ni eisiau amodau llawer gwell i weithwyr gofal. Felly, maen nhw'n gweithio ar hynny nawr.

Gofalwyr di-dâl: cwbl hanfodol a sylfaen gwasanaeth gofal cymdeithasol. Rwy'n credu ein bod ni wedi symud rhyw fymryn tuag at gydnabod eu gwaith, o ran rhai o'r budd-daliadau arian parod bach yr ydym ni wedi gallu eu cynnig iddyn nhw a'r cymorth gyda seibiant i'w helpu i reoli eu bywydau bob dydd a rhoi ychydig o seibiant iddyn nhw. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi gallu eu cydnabod nhw llawer mwy, ond mae gennym ni siarter ar gyfer gofalwyr erbyn hyn ac mae gennym ni grŵp cynghori gweinidogol, lle mae pobl sy'n gweithio yn y maes hwnnw a phobl sy'n ofalwyr di-dâl yn cael eu tynnu i mewn i'n cynghori ni ar yr holl waith hwn. Bydd y siarter ar gyfer gofalwyr di-dâl yn cael ei hymgorffori yn y rheoliadau a fydd yn cael eu harfer gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Felly, byddwn yn trefnu hynny yn uniongyrchol yno, fel y bydd gofalwyr di-dâl yn cael eu cydnabod yno.

Ac yna'r GIG, 75 mlynedd, ie, amser pwysig i ddathlu, ac rwy'n teimlo bod hwn yn gam sylweddol yr ydym ni'n ei wneud o ran gofal cymdeithasol. Fel y dywedais, dyma'r blociau adeiladu. Byddwn yn cyflwyno'r cynllun gweithredu, wedi'i lunio gyda Phlaid Cymru, yn ystod yr wythnosau nesaf, ac rwy'n credu ein bod ni'n cymryd camau tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol.

16:20

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad. Rwy'n ddiolchgar iddi hefyd am y pwyslais y mae hi wedi ei roi ar y maes gwaith hwn ac ar y portffolio hwn. Rwy'n credu ei fod yn bortffolio pwysig iawn, ac mae'n bwysig cael y pwyslais hwnnw. Rwy'n croesawu'r hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud y prynhawn yma am y camau tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol. Mae'n amlwg i mi nad yw'r farchnad gymysg ym maes gofal cymdeithasol yn cyflawni ar gyfer y bobl rydym ni'n eu cynrychioli. Nid yw'n cyflawni'r lefel o ofal a chymorth sydd ei hangen ar bobl. I mi, pan fyddaf i'n meddwl am wasanaeth gofal cenedlaethol, ac mae siaradwyr eisoes wedi cyfeirio at Aneurin Bevan y prynhawn yma, rwy'n meddwl am wasanaeth gofal cenedlaethol sy'n cael ei ddarparu gan y cyhoedd ar gyfer y bobl sydd angen y gwasanaeth hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gallu symud i'r cyfeiriad hwnnw.

Mae'r Gweinidog wedi siarad y prynhawn yma am integreiddio gwasanaethau. Mae'n amlwg i mi nad yw strwythurau fel y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cyflawni'r integreiddio sydd ei angen arnom ni. Nid yw gwahanu llywodraeth leol a'r gwasanaeth iechyd gwladol o ran darparu gofal cymdeithasol yn cyflawni ar gyfer y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Os ydym ni o ddifrif am wasanaeth gofal cenedlaethol, yna mae'n rhaid i ni fod o ddifrif hefyd am y strwythurau a fydd yn darparu, yn cefnogi ac yn cynnal y gwasanaeth hwnnw. Ni fydd natur ddarniog bresennol gwasanaethau cymdeithasol ledled y wlad yn cefnogi ac yn cynnal gwasanaeth gofal cenedlaethol. Rydym ni'n creu strwythurau i oresgyn y darnio sydd gennym ni heb fynd i'r afael ag achos y darnio. Efallai, o'm safbwynt i, nad y ffordd orau o ddathlu gwaddol Aneurin Bevan yw rhoi rhywbeth a grëwyd dri chwarter canrif yn ôl mewn asbig, ond edrych ar yr hyn sy'n ofynnol a'i angen ar gyfer y ganrif nesaf.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn i Alun Davies am y cyfraniad yna. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud drwy'r Papur Gwyn ail-gydbwyso a'r ymgynghoriad ail-gydbwyso yw symud y cydbwysedd oddi wrth ddibyniaeth drom ar y sector preifat i ddarpariaeth fwy cytbwys. Ar hyn o bryd, rwy'n credu bod tua 90 y cant o'r ddarpariaeth yn y sector preifat, felly rydym ni'n ddibynnu'n fawr ar y cyrff hynny i ddarparu ar gyfer ein pobl agored i niwed. Felly, ail-gydbwyso yw'r pwyslais yn yr hyn yr wyf i wedi bod yn ei ddweud heddiw, symud tuag at ddarpariaeth fwy cymysg fel nad ydym ni mor eithriadol o ddibynnol ar un maes. Er enghraifft, hoffem weld mwy o ddarpariaeth gan y sector gwirfoddol, hoffem weld mwy o ddarpariaeth awdurdod lleol, oherwydd, wrth gwrs, bu'r newid mawr hwnnw oddi wrth yr awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau yn uniongyrchol. Felly, rydym ni eisiau darpariaeth fwy cytbwys.

Roedd y grŵp arbenigol, yn ei gasgliadau, yn cefnogi'r drefn o wasanaethau gofal cymdeithasol yn aros gyda'r awdurdodau lleol, ac ni fu erioed unrhyw gwestiwn mewn gwirionedd yn yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud am symud oddi wrth darpariaeth awdurdod lleol ar gyfer gofal cymdeithasol, gan ein bod ni'n credu ei bod hi'n bwysig darparu gofal cymdeithasol mor agos at y bobl ag y gallwn ni, ac mae cyrff etholedig awdurdodau lleol yn agos at y bobl ac mae ganddyn nhw gyfrifoldeb am lawer o'r meysydd eraill sydd mor gwbl annatod i ofal cymdeithasol, fel tai, er enghraifft. Felly, nid oes gennym ni unrhyw gynigion o ran symud gofal cymdeithasol o awdurdodau lleol, ond rydym ni'n credu y gallwn ni adeiladu gwasanaeth gofal cymdeithasol cenedlaethol, a dyma'r blociau adeiladu yr wyf i'n eu cyhoeddi heddiw.

Prynhawn da, Gweinidog. A gaf i groesawu'r datganiad hwn? Mae'n uchelgeisiol iawn o ran ei gyrhaeddiad, ac rwy'n siŵr y byddai llawer ohonom ni'n cytuno ei fod yn hir-ddisgwyliedig. Dywedodd Steve Thomas, a oedd yn rhedeg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, am ofal cymdeithasol:

'Gallwn blastro llawr Stadiwm Principality gyda'r cynlluniau a'r syniadau cyfrwys a fu gan bleidiau gwleidyddol dros y blynyddoedd i drwsio gofal cymdeithasol'. 

Nawr mae llawer ohonom ni'n teimlo bod hynny'n rhywbeth sy'n taro deuddeg, a dweud y gwir, ac mae'n debyg mai fy nghwestiwn i chi yw: o ystyried yr uchelgeisiau eglur a gwirioneddol sydd gennych chi yn y datganiad hwn, pwy fydd yn gyfrifol, o'r holl gyrff sydd wedi'u rhestru, am fwrw ymlaen â'r agenda hon? Oherwydd mae angen brys a chyflymder arnom ni i sicrhau bod y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli, y mae Alun Davies wedi siarad amdanyn nhw—. Mae hyn i gyd yn ymwneud â phobl, yn enwedig mewn poblogaeth sy'n heneiddio yma yng Nghymru, ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, y mae llawer ohonom ni'n eu cynrychioli. Mae angen i ni weld bod cyflawni, a bod rhywun yn atebol amdano. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Diolch am y cwestiwn, Jane.

Mae sefydlu'r swyddfa genedlaethol yn canolbwyntio ar bwynt cenedlaethol lle gallwn fwrw ymlaen â pholisïau. Felly, rwy'n gweld y swyddfa genedlaethol yn cyflwyno'r fframwaith cenedlaethol a chael strwythur y gallwn ddatblygu'r gwasanaeth gofal cenedlaethol ohono. Ond, yn amlwg, mae'n ymwneud yn llwyr â gweithio partneriaeth oherwydd, dim ond i ateb cwestiwn Alun Davies, roeddwn i'n dweud pa mor bwysig yw awdurdodau lleol, gan eu bod nhw'n agosach at bobl, maen nhw'n cael eu hethol yn ddemocrataidd, ac mae angen i ni sicrhau eu bod nhw'n gweithio gyda ni, ynghyd â'r byrddau iechyd. Felly, rwy'n ei gweld fel partneriaeth, yn y dyfodol, wedi'i hysgogi gan y swyddfa genedlaethol. A'r ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal ar swyddfa genedlaethol, fframwaith cenedlaethol, bydd yn bwysig iawn gweld beth yw'r ymatebion i hynny, yn bennaf gan bobl sy'n chwarae rhan fawr yn hyn. Rwy'n gwybod mai dyna'r prif ymatebion sy'n dod i mewn. A phan fyddwn ni wedi cael y rheini, byddwn hefyd wedyn yn symud ymlaen, fel y dywedais, i'r cynllun gweithredu, lle bydd Llafur a Phlaid Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i gyflwyno'r gwasanaeth gofal cenedlaethol.

Diolch, Dirprwy, Weinidog, am eich datganiad pwysig heddiw. Mae'n dda iawn clywed am gyfeiriad y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol ac ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i wella hyn ar gyfer pobl sy'n rhoi ac yn derbyn gofal ledled Cymru. Roeddwn i'n falch o glywed yr wybodaeth ddiweddaraf am fesurau sy'n arwain tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol. Rwy'n gefnogwr mawr o'r cysyniad hwn, y mae wir ei angen yn fy marn i. Wrth i ni ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG gyda'n poblogaeth sy'n heneiddio, mae hyn yn ymddangos yn hollbwysig.

Fodd bynnag, byddwn yn croesawu diweddariad ar safbwynt presennol Llywodraeth Cymru o ran adroddiad Holtham a'r ardoll gofal cymdeithasol arfaethedig. Os ydym ni'n mynd i sicrhau gwasanaeth gofal cenedlaethol sy'n addas i'r diben ac yn addas ar gyfer y dyfodol, a oes angen i ni ofyn cwestiynau diffuant am ei gyllid?

Yn ail, fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, mae Pythefnos Cydweithfeydd yn dechrau yr wythnos hon, ac rydym ni'n gwybod yn y sector gofal cymdeithasol, bod cwmnïau cydweithredol yn creu gwerth cymdeithasol aruthrol, yn blaenoriaethu llesiant ac yn arwain at well tâl ac amodau gwaith. Enghraifft dda o hyn yw menter Drive Wales. Felly, hoffwn ofyn pa waith sy'n cael ei wneud i hyrwyddo'r ddarpariaeth gydweithredol o ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn i Vikki Howells am y cwestiynau yna ac am ei chroeso i'r datganiad hwn heddiw, ac am ei brwdfrydedd dros wasanaeth gofal cenedlaethol. Heddiw, nid wyf i wedi crybwyll sut rydym ni'n talu am ofal o gwbl, ac roedd hynny yn rhywbeth na wnaeth y grŵp gofal arbenigol unrhyw gynigion yn ei gylch mewn gwirionedd. Wrth gwrs, roeddem ni'n meddwl y byddai gennym ni gynigion gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan, ac y byddai hyn i gyd yn cael ei ddatrys ar sail Cymru a Lloegr, ond wrth gwrs, fe'u gollyngwyd yn weddol gyflym. Felly, o ran sut rydym ni'n talu am symud tuag at wasanaeth sydd am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, mae'n rhaid i mi ddweud nad ydym ni wedi cyflwyno unrhyw atebion ynglŷn â hynny, ond rhan o'n cynigion a'r hyn rydym ni'n gweithio arno gyda Phlaid Cymru yw ceisio comisiynu rhai darnau penodol o waith ymchwil i edrych ar ffyrdd y gallem ni symud ymlaen.

Yn ystod y Senedd ddiwethaf, cawsom drafodaethau dwys iawn ynghylch talu am ofal, ac fe wnaethom ni ystyried adroddiad Holtham bryd hynny. Felly, mae'n debyg, mewn gwirionedd, mai'r ateb iddi yw y byddwn ni'n edrych ar sut y byddwn ni'n talu am ofal cymdeithasol, ond oherwydd y sefyllfa ariannol anodd iawn bresennol yr ydym ni ynddi, ni allwn roi unrhyw ymrwymiad ynghylch pryd y byddwn ni'n gallu gwneud hynny mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu mai'r peth pwysig y mae angen i ni ei wneud nawr, ac yr ydym ni'n ei wneud, yw gosod y blociau, y blociau adeiladu, fel y byddwn ni mewn sefyllfa, pan fydd y sefyllfa ariannol yn gwella yn y tymor hwy, i symud ymlaen pan fyddwn ni'n gallu.

Yna, o ran cwmnïau cydweithredol, ydym, rydym ni'n gweithio i gael rhai—. Hoffem yn fawr iawn i gwmnïau cydweithredol fod yn rhan o'n mudiad yn y dyfodol, ac yn rhan o'r agenda ail-gydbwyso, felly rydym ni'n symud tuag at hynny hefyd.

16:30

Diolch. Diolch am eich datganiad. Rwy'n gobeithio nad ydym ni'n mynd i fod yn gwneud gwaith ail-wneud strwythurau, oherwydd mae'n ymddangos i mi mai'r cwbl y mae hynny yn ei wneud yw oedi unrhyw welliannau i ofal. Rwyf i wir eisiau gweld rhywfaint o gynnydd o ran symud arian oddi wrth gofal eilaidd, sydd wedi llowcio'r holl adnoddau hyd yn hyn, a chael gwell gofal yn y gymuned i'r rhai nad oes angen iddyn nhw fod yn yr ysbyty. Rwyf i eisiau i bawb gael y cyfleoedd a gafodd fy etholwr yr wythnos diwethaf, i allu marw gydag urddas gartref, wedi'i hamgylchynu gan deulu a nyrsys arbenigol a oedd yn gwybod sut i reoli poen, yn ogystal â gofalwyr gwych a wnaeth ddiwallu ei holl anghenion. Nid yw hyn yn ymwneud â phwy oedd yn cyflogi'r bobl hyn mewn gwirionedd; mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym ni system gydgysylltiedig i alluogi pawb i gael y dewis o beidio â gorfod marw yn yr ysbyty.

Roeddwn i eisiau gofyn i chi am yr wybodaeth sy'n cael ei darparu drwy'r llwybrau oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai, sy'n ddogfen ddefnyddiol gan ei bod hi'n gweld pa mor bell y mae'n rhaid i ni deithio, ond nid yw wedi'i ddadansoddi fesul awdurdod lleol, dim ond fesul bwrdd iechyd, a byddai'n ddefnyddiol iawn gallu gweld a ellid ei ddadansoddi fesul awdurdod lleol fel y gallwn ni weld ble mae'r broblem, a phe bai'r rhesymau am oedi'r gofal hefyd yn cael eu hamlygu gan yr awdurdod lleol, yna byddem ni'n gwybod yn union ble'r oedd y tagfeydd a byddai'n canolbwyntio meddyliau yn rhyfeddol ar eu datrys.

Diolch yn fawr iawn, Jenny, am eich cyfraniad a'r pwyntiau pwysig iawn a wnaethoch. Rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i roi cymaint o adnoddau ag y gallwn yn y gymuned, fel y gallwn ni atal pobl rhag mynd i'r ysbyty, neu eu gohirio rhag mynd i'r ysbyty, a dyna fu llawer o'r gwaith y mae'r Gweinidog iechyd a minnau wedi bod yn ei wneud. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o lansiad ein menter Ymhellach, Yn Gyflymach, sy'n sicr yn mynd i'r afael â'r materion hyn yr ydych chi'n eu codi heddiw, ac mae honno yn rhoi adnoddau ychwanegol i'r gwaith cymunedol, a chan gyfeirio at achos eich etholwr a oedd yn gallu marw'n heddychlon gartref gyda'r cymorth gartref, aeth rhywfaint o'r arian hwnnw yn benodol tuag at ofal lliniarol, oherwydd mae pobl eisiau marw gartref a dylen nhw allu gwneud hynny, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni roi mwy o arian i'r gwasanaethau gofal lliniarol. A hefyd, wrth gwrs, yn bwysig iawn—ailalluogi. Oherwydd, mae'n anhygoel sut y gall ymyrraeth ailalluogi fach, weddol fyr, wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl a gall eu hatal rhag mynd i'r ysbyty, eu cadw gartref yn hwy, ac eto roedd hynny yn rhan o'r datganiad a wnaeth y Gweinidog am fenter Ymhellach, Yn Gyflymach. Felly, rwy'n credu, gyda'r fenter honno, yr ydym ni'n gobeithio y gallai fod yn lasbrint pan fyddwn ni'n datblygu gwasanaethau ledled Cymru, bod honno'n ateb yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud o ran cynyddu'r ddarpariaeth yn y gymuned.

Ond o ran y data yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, mae ansawdd y data yn gwella, ac roedd yn ddiddorol, oherwydd yr wythnos diwethaf, cafodd y Gweinidog a minnau gyfarfod gyda'r bwrdd iechyd lleol ac awdurdod lleol yn eu hardal eu hunain i geisio ymchwilio'n drylwyr i fater rhyddhau cleifion o'r ysbyty a swyddogaeth bwysig gwasanaethau cymunedol, ac i weld sut yr oedden nhw'n rhyngweithio, a oedd yn ymarfer defnyddiol iawn. Ond mae ein fframwaith newydd ar gyfer adrodd am oedi gofal bellach ar waith, fel y dywedwch, ac mae'n rhoi trosolwg i ni o oedi ledled Cymru, y gellir ei adolygu ar lefel byrddau iechyd rhanbarthol yn ogystal â fesul awdurdod lleol unigol. A dweud y gwir, mae'r fframwaith adrodd wedi'i ddilysu rhwng y bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol, i sicrhau ei fod yn adlewyrchu'n gywir yr hyn sy'n digwydd yn y gymuned, a bydd hyn yn rhoi llawer mwy o fanylion i ni nag yr ydym ni wedi eu cael yn flaenorol o ran oedi a bydd yn caniatáu i ni, fel y gwnaethoch chi ddweud, ganolbwyntio ar welliannau lle mae eu hangen nhw fwyaf.

16:35
6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Sicrhau mwy o fanteision i fyd natur, yr amgylchedd a chymunedau drwy systemau draenio cynaliadwy—Cyhoeddi adolygiad Llywodraeth Cymru a ffordd ymlaen
7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Lansio 111 dewis 2 ar gyfer iechyd meddwl brys

Eitem 7 sydd nesaf, felly, sef y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar lansio '111 dewis 2' ar gyfer iechyd meddwl brys. Felly, y Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod ein gwasanaeth newydd—gwasanaeth '111 pwyso 2' y GIG ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys—ar gael nawr ledled Cymru. Bydd y gwasanaeth newydd yn trawsnewid y ffordd y mae modd cael gafael ar gymorth iechyd meddwl brys yng Nghymru, ac mae ar gael i bobl o bob oedran, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. 

Mae'r trawsnewidiad hwn o ran gwasanaethau yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl yng Nghymru ac mae'n cyflawni un o'r ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu sef blaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau a dull 'dim drws anghywir' o ddarparu cymorth iechyd meddwl. Mae hefyd yn ymateb i argymhellion yn yr adolygiad 'Tu Hwnt i'r Alwad'. Cafodd yr adolygiad hwn ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a'i arwain gan grŵp llywio amlasiantaeth i'n helpu ni i ddeall anghenion unigolion sy'n cysylltu â'r gwasanaethau brys ynghylch pryderon iechyd meddwl yn well. Nododd yr adolygiad ehangder anghenion cymdeithasol a lles sydd yn aml y tu ôl i argyfwng iechyd meddwl a'r angen i gael mynediad hawdd at gymorth cydgysylltiedig, amlddisgyblaethol. Mae gwasanaeth '111 pwyso 2' y GIG yn gam sylweddol tuag at hyn. Mae'n golygu bod modd cael mynediad cyflym at wasanaethau cyngor, asesu a dad-ddwysáu gan ymarferydd iechyd meddwl sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig, dros y ffôn. Lle bo angen, gall unigolion gael eu hatgyfeirio'n ddi-dor i wasanaethau iechyd meddwl arbenigol neu gymorth hunangymorth. Wrth i'r gwasanaeth ddatblygu, mae'n hanfodol bod y GIG yn cael ei gefnogi gan asiantaethau eraill er mwyn galluogi'r rhai sy'n cael eu hatgyfeirio i gael gafael ar gymorth priodol, yn enwedig ar gyfer materion cymdeithasol a lles.

Ar ôl i wasanaeth ehangach 'GIG 111 Cymru' gael ei gyflwyno'n genedlaethol ym mis Mawrth 2022, cynhaliwyd ymgyrch genedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth. Mae ychwanegu '111 pwyso 2' yn adlewyrchu ein hymrwymiad i barhau i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl brys. Ers i'r broses gyflwyno ddechrau ym mis Tachwedd 2022, mae eisoes wedi helpu dros 15,000 o bobl mewn trallod yn ogystal â gofalwyr ac aelodau o'r teulu sy'n pryderu i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Yn ogystal â darparu ymyriadau byr i leihau trallod a rheoli argyfwng iechyd meddwl uniongyrchol, mae '111 pwyso 2' wedi darparu mynediad amserol i wasanaethau iechyd meddwl. I'r lleiafrif, mae hyn wedi golygu gwasanaethau gofal brys, gwasanaethau iechyd meddwl y GIG, neu ofal sylfaenol, ond mae'r mwyafrif wedi cael eu cyfeirio at grwpiau trydydd sector lleol neu wedi cael cyngor ar hunanreoli. Bydd ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol yn cael ei lansio'r wythnos hon i hyrwyddo'r gwasanaeth pwysig hwn ymhellach ac i ymestyn y cymorth sy'n cael ei gynnig i bawb sydd ei angen yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i'n byrddau iechyd am eu hymrwymiad i sefydlu'r gwasanaeth hwn yng nghyd-destun y pwysau parhaus a sylweddol sydd ar ein gwasanaethau iechyd meddwl, gyda chefnogaeth yr Uned Comisiynu Cydweithredol Genedlaethol a rhaglen GIG 111. Erbyn hyn, mae gan y gwasanaeth dros 140 o staff mewn hybiau yn ein saith bwrdd iechyd, ac rwyf yn llawn werthfawrogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan ein timau ymroddedig a'r gweithwyr tosturiol sy'n cymryd galwadau i wireddu'r weledigaeth hon.

Mae'r gwasanaeth newydd yn ganlyniad buddsoddiad sylweddol mewn cymorth iechyd meddwl yng Nghymru, ac mae'n un o nifer o welliannau i wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys rhoi amrywiaeth o ddewisiadau amgen ar waith yn lle derbyn pobl i'r ysbyty, gan gynnwys noddfeydd. Fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, mae'r cynnig noddfa wedi cael ei ymestyn, ac mae nifer o brosiectau wedi cael eu treialu sy'n darparu noddfeydd pwrpasol i blant a phobl ifanc sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl. Rydym hefyd wedi rhoi model cludiant iechyd meddwl cenedlaethol ar waith o'r enw 'Taith Dda' neu 'Good Journey', sy'n cynnig dull cludo diogel, tosturiol ac ymatebol i helpu pobl i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl priodol. Bydd yn sicrhau bod dewis arall ar gael yn lle ambiwlans neu gerbyd heddlu, ac mae'n bartneriaeth rhwng y GIG ac Ambiwlans Sant Ioan Cymru. Mae'r gwelliannau hyn yn darparu'r llwyfan ar gyfer cymorth iechyd meddwl gwirioneddol integredig.

Mae '111 pwyso 2' yn ymestyn ein pecyn cymorth iechyd meddwl sy'n hawdd cael gafael arno ymhellach. Mae hyn yn cynnwys ein llinell gymorth iechyd meddwl CALL, cymorth ar gyfer anhwylderau bwyta gan BEAT, a therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein trwy SilverCloud. Trwy SilverCloud yn unig, rydym wedi cefnogi dros 22,000 o bobl yng Nghymru drwy gymorth arloesol lle nad oes angen atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol. Gallwn ni deimlo'n falch o'r datblygiadau hyn sydd wedi cael eu gwneud yng Nghymru i wella'r cymorth sydd ar gael i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'r gwaith hwn i wella mynediad at gymorth i'r rhai sydd wedi cyrraedd pwynt argyfwng yn digwydd yng nghyd-destun gwaith system gyfan llawer ehangach i wella iechyd meddwl a lles. Mae ein dull ysgol gyfan a fframwaith cynllunio NEST/NYTH yn enghreifftiau da o'n hymrwymiad parhaus i gyflawni gwaith trawslywodraethol a thraws-sectoraidd i amddiffyn a chefnogi ein lles emosiynol a'n hiechyd meddwl.

Yn ddiweddarach eleni, byddwn ni'n ymgynghori ar ein strategaethau iechyd meddwl ac atal hunanladdiad yng Nghymru yn y dyfodol. Cyhoeddwyd gwerthusiad annibynnol o'r ddwy strategaeth ym mis Mawrth, ac mae swyddogion eisoes wedi gwneud cryn dipyn o waith paratoi ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau i lywio cyfres o egwyddorion a datganiadau gweledigaeth. Rydym bellach yn symud i gyfnod o ymgysylltu cyn yr ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau olynol yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cael eu llywio gan leisiau defnyddwyr, gofalwyr a rhanddeiliaid yng Nghymru.

Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar hyn yn ddiweddarach eleni, cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Diolch, Llywydd.

16:40

Diolch, Dirprwy—. Diolch, Llywydd, a hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad. Mae wedi bod yn ddiwrnod hir yn barod, Dirprwy Weinidog. [Chwerthin.]

Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth cadarnhaol iawn, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae fy mhlaid i yn y fan yma yn frwd iawn yn ei gylch ac yn gefnogol iawn i'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar hyn.

Mae llawer o gwestiynau gen i ynghylch y datganiad. Yn amlwg, mae'r un ynghylch y gwasanaeth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae hynny'n dda iawn, ond yr hyn yr hoffwn i ei ddeall yw, hoffem weld pobl ar lawr gwlad hefyd, y timau hynny, mewn byrddau iechyd hefyd, a all ddarparu'r gofal hwnnw 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae'n dda iawn bod gennym y llinell ffôn lle y gall pobl gael cymorth, ond weithiau, mae angen i rywun fynd allan i weld y bobl hynny yn ystod yr amseroedd hynny y tu allan i oriau i roi'r help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Felly, hoffwn wybod pa waith arall y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gennym y timau argyfwng gwirioneddol hynny yn yr ardaloedd hynny i fynd allan a rhoi cymorth.

Y dull 'dim drws anghywir': rwy'n gwybod fy mod i wedi siarad â chi am hyn sawl gwaith, ac rwy'n gefnogol iawn i'r dull 'dim drws anghywir' hwnnw. Mae'n dweud bod pobl yn mynd yn ddi-dor i wasanaethau eraill i gael yr help. Hoffwn ddeall sut mae hynny'n gweithio mewn gwirionedd, gan ein bod ni'n gwybod, mewn rhai rhannau o Gymru, fod pobl yn ei chael hi'n anodd cael y gefnogaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw, pan fyddan nhw'n ffonio, ac mae rhywun yn dweud, 'Wel, mae angen y gefnogaeth ychwanegol honno arnoch chi', sut yn union mae hynny'n gweithio, oherwydd rwy'n credu ei bod yn beth da iawn i ni wybod hynny, a gallwn ni fynd yn ôl at ein hetholwyr a deall hynny.

Beth arall sydd gennym yma? Rwy'n credu bod y 15,000 o bobl sydd wedi cael cymorth, rwy'n credu bod hynny'n nifer eithriadol o bobl sy'n mynd trwy'r gwasanaeth hwnnw eisoes, ac rwy'n credu ei fod yn dangos bod problem wirioneddol ddifrifol gennym o ran iechyd meddwl yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn bod y llinell hon ar gael nawr i roi'r cymorth sydd ei angen ar y bobl hynny, oherwydd rwy'n credu bod y bobl yna wedi dioddef mewn tawelwch gartref yn rhy hir heb wybod ble i gael y cymorth yna. Felly, fel y dywedais i, rwy'n falch iawn ei fod wedi cael ei gyflwyno. Felly, ie.

Hefyd, mae nifer y bobl, fel y dywedoch chi, sy'n mynd i mewn i'n hybiau, y bobl sydd wedi cael eu recriwtio fel petai ledled Cymru, yr hyn yr hoffwn i ei wybod, yn ogystal â'r rhai sy'n ateb y ffonau a'r bobl ymroddedig hynny, a oes gennym ni gapasiti llawn ym mhob un o'n byrddau iechyd nawr o ran y bobl sy'n gallu ateb y ffôn a rhoi'r cymorth arbenigol hwnnw sydd ei angen ar y bobl hynny? Hoffwn ategu'r sylwadau a wnaethoch: mae'r bobl hynny'n gwneud gwaith hollol anhygoel, a dydy hi ddim yn hawdd gwneud y swydd honno, ac rwy'n codi fy het i bob un o'r rhai sy'n gwneud hynny, ond hoffwn wybod, a yw'r holl swyddi hynny wedi'u llenwi ledled Cymru? Fe ddywedoch chi fod y pethau maen nhw'n eu gwneud yn cynnwys ystod o opsiynau amgen i dderbyn pobl i'r ysbyty. Roedd yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Hoffwn wybod pa opsiynau amgen eraill rydych chi'n eu hystyried, heblaw mynd i'r ysbyty, oherwydd dydw i ddim yn credu ei bod hi'n iawn ein bod ni'n anfon pobl sydd â chyflwr iechyd meddwl i adrannau damweiniau ac achosion brys neu i'n hysbytai; mae angen iddyn nhw fynd i rywle arall i gael y cymorth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw.

Y 'Taith Dda'—rwy'n credu bod hynny'n waith da iawn rydych chi'n ei wneud gydag Ambiwlans Sant Ioan, oherwydd, fel y dywedoch chi o'r blaen, dydy hi ddim yn iawn rhoi pobl sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl yng nghefn car heddlu. Maen nhw'n gallu mynd mewn ambiwlansys, ond dydw i ddim yn credu mai dyna sydd ei angen arnyn nhw. Does dim angen iddyn nhw fynd mewn car heddlu. Mae hynny'n gwneud pethau'n waeth. Ond yr hyn yr hoffwn i ei wybod am hynny yw: ydy hynny'n cael ei gyflwyno ar draws Cymru neu a yw'n mynd i fod yn ein dinasoedd yn unig, oherwydd doedd hynny ddim yn hollol glir yn y datganiad—rhannau o'r byd rwy'n eu cynrychioli ym Mhowys, er enghraifft? Hoffwn wybod a yw hynny yno, oherwydd mae'r heddlu'n gwneud llawer iawn o waith cludo pan fydd pobl yn ffonio, a dydw i ddim yn credu bod hynny'n iawn.

Roeddech chi'n sôn ei fod yn ymwneud â gwasanaethau anhwylderau bwyta hefyd. Fe wnes i godi hyn gyda'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, felly hoffwn wybod pa waith pellach rydyn ni'n ei wneud ar wasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru i sicrhau bod y bobl hynny'n cael eu cefnogi ac yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw. Ac os gallech chi egluro safbwynt y Llywodraeth ar hynny, byddwn i'n ddiolchgar iawn.

A hefyd, i orffen, o ran yr hyn fydd yn cymryd lle 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', mae'n braf iawn gweld ei fod wedi cael ei gyflwyno ac i weld y gwaith rydych chi'n ei wneud ar hynny. Felly, hoffwn pe gallech chi roi unrhyw ddiweddariadau pellach ar y strategaeth honno, gyda phwy rydych chi'n siarad a phryd bydd yr ymgynghoriad yn dechrau, oherwydd byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod hynny.

Fel y dywedais i, hoffwn ddiolch i chi am y datganiad hwn, Gweinidog. Rwy'n credu'n gryf bod hyn yn rhywbeth sydd ei angen arnom. Mae angen ei gyflwyno ymhellach, a hoffwn ei weld yn cael ei gyflwyno ledled Cymru ac yn gwneud mwy, ond rwy'n credu ein bod ni'n gwneud cymaint ag y gallwn ni ar hyn o bryd, ac rwy'n diolch yn fawr iawn i chi am ei gyflwyno.

16:45

Diolch yn fawr iawn i James Evans am y croeso a'r ymateb cadarnhaol hwnnw. Roedd llawer o gwestiynau yn y fan yna; byddaf yn gwneud fy ngorau i ateb yr hyn y gallaf. Mae'n 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ond nid dyna'r unig beth rydyn ni'n ei wneud. Yn amlwg, mae'r cysylltiadau hefyd â'r timau argyfwng, â'r timau ymyrraeth yn y cartref, ac â phethau fel gwasanaethau noddfa. Felly, mae hyn yn rhan o ddarn ehangach o waith ynghylch cymorth iechyd meddwl brys i bobl. A'r peth da am y gwasanaeth hwn yw bod gennym ni set ddata dda iawn ar yr hyn y mae pobl yn galw amdano, felly bydd hynny'n ein galluogi i nodi unrhyw fylchau mewn gwasanaethau.

Felly, er enghraifft, pe byddem ni'n gweld llawer o bobl yn gorfod mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys mewn ardal benodol, byddai hynny'n dweud wrthym ni fod gennym ni broblem yn yr ardal honno, ac yna gallwn ni weithio i geisio llenwi'r bylchau o ran hynny. Ac mae wir yn drawiadol iawn—ac mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i'r Uned Comisiynu Cydweithredol Genedlaethol a Shane Mills, sydd wedi arwain y gwaith hwn—mae'n ddarn wirioneddol drawiadol o waith maen nhw wedi'i wneud o amgylch y data a fydd yn hynod ddefnyddiol. 

Mae'n ddull 'dim drws anghywir', sy'n amlwg yn un o'r ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu. Yr hyn dydyn ni ddim eisiau ei weld yw pobl yn cael eu symud rhwng gwasanaethau, ac rydyn ni wedi gweld hynny yn y gorffennol. Felly, yr hyn fydd yn digwydd gyda hyn yw, os bydd rhywun yn ffonio a bod angen mwy o help na'r hyn y gellir ei ddarparu dros y ffôn, yna dylai'r ymarferwyr lles meddyliol drefnu'r apwyntiad yn y fan a'r lle i bobl weld rhywun, gyda CAMHS arbenigol neu'r tîm argyfwng, dyweder. Maen nhw i fod i wneud y darn hwnnw o waith fel nad yw rhywun yn cael ei anfon i ffwrdd i fynd yn ôl i chwilio am wasanaethau eraill. Felly, o'r safbwynt hwnnw, mae'n sicr yn ddull 'dim drws anghywir'. 

Ac fel rydych chi wedi pwysleisio, mae 15,000 o bobl eisoes wedi ei ddefnyddio, a'r hyn sy'n ddiddorol yw y gallwn ni weld o'r ffigurau hynny bod tua hanner y rheini yn bobl a oedd eisoes mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl. Felly, mae hynny'n golygu nad yw'r hanner arall wedi cael unrhyw gyswllt blaenorol â gwasanaethau iechyd meddwl, felly, fel rhan o'r cyhoeddusrwydd ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn nawr, yr hyn yr ydym am ei wneud dros y misoedd i ddod yw sicrhau ein bod ni'n cyrraedd mwy a mwy o bobl sydd angen cymorth ond sydd heb gysylltu â gwasanaethau.

Mae'r prosiect cludiant iechyd meddwl yn brosiect rhagorol ac, fel y dywedwch chi, mae mor bwysig osgoi'r stigma o roi pobl yng nghefn car heddlu, ac mae hwnnw ar gael ledled Cymru. Felly, mae honno'n fenter dda iawn.

O ran capasiti'r gwasanaeth, mae 147 o staff yn gweithio yn yr hybiau ledled Cymru ar hyn o bryd. Rydym yn monitro cydnerthedd y gwasanaeth yn ofalus iawn, oherwydd mae wedi mynd o wasanaeth sy'n gweithredu rhan o'r dydd i wasanaeth 24 awr. Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr yw monitro'r cydnerthedd hwnnw fel ein bod ni'n gwybod pa mor hir y mae'n ei gymryd i ateb y galwadau yn y canolfannau galwadau penodol, oherwydd y peth olaf rydych chi ei eisiau yw bod rhywun yn ffonio rhif iechyd meddwl brys ac yna, 'O, wyddoch chi, bum munud yn hwyr'. Byddai hynny'n ofnadwy, a dydy hynny ddim yn digwydd, ond mae angen i ni sicrhau bod y gwasanaeth yn gydnerth, yn enwedig wrth i ni agosáu at y gaeaf, pan fydd y pwysau hynny bob amser. Felly, rydyn ni'n parhau i adolygu hynny.

O ran gwasanaethau anhwylderau bwyta, fel y gwyddoch chi, James, mae anhwylderau bwyta yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydyn ni wedi buddsoddi tua £2.5 miliwn ychwanegol y llynedd mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta. Mae'r pwyslais wedi bod ar sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn bodloni canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a'r amser aros, sef pedair wythnos. Mae gennym arweinydd clinigol nawr ac rydyn ni'n gwneud cynnydd da. Rwy'n gwybod bod diddordeb arbennig gennych chi mewn gwasanaethau i gleifion mewnol, ac mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gwneud darn o waith i ni gael ein huned cleifion mewnol ein hunain yng Nghymru. Bydd hynny'n cael ei wneud fel rhan o'r gwaith o amgylch eu strategaeth gwasanaethau arbenigol, ond gallaf gadarnhau hefyd ein bod ni'n hyderus y bydd gennym rai gwelyau dros dro yng Nghymru yr haf hwn, felly bydd hynny'n gam ymlaen.

O ran y strategaeth, mae llawer iawn o ymgysylltu yn digwydd gyda'n fforwm defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, rydyn ni'n sefydlu grŵp o bobl ifanc i weithredu fel grŵp cyfeirio i ni, mae gennym ni bethau fel Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru, mae gennym ni'r grŵp gorchwyl a gorffen du a lleiafrifoedd ethnig. Mae honno'n broses barhaus, ailadroddol, ac mae fideo newydd fynd yn fyw sy'n nodi rhai o'r gweledigaethau yn y datganiad er mwyn i ni gael barn cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol. Felly, rydyn ni'n bwriadu cynnal ymgynghoriad sydd mor eang ac mor gynhwysol â phosibl.

16:50

Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog, am y datganiad a'r atebion yna i'r cwestiynau gan James, a dwi'n cytuno efo James bod yn rhaid inni fynd mor bell â rydym ni'n gallu mynd gyda'r gwasanaeth yma, achos mae'n hynod o bwysig.

Mae llawer o gefnogaeth i'r gwasanaeth hwn ar draws y Siambr a chan fy mhlaid i—mae llawer iawn o gefnogaeth wedi bod ar gyfer cymorth iechyd meddwl dros y ffôn ac ar-lein. Fel y sonioch chi, nododd 'Tu Hwnt i'r Alwad', yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020, y galw sydd ar ofal sylfaenol, yr heddlu, gwasanaethau ambiwlans ac adrannau brys, yn ogystal â gwasanaethau iechyd meddwl y GIG i'r rhai mewn argyfwng, ac mae'n sylweddol. Amcangyfrifodd yr adolygiad hwnnw fod 941 o alwadau neu bresenoldeb neu atgyfeiriadau ar gyfer pryderon iechyd meddwl neu les bob dydd yng Nghymru. Pan fydd eich iechyd meddwl yn fregus, mae angen i chi wybod y gallwch chi gael gafael ar y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnoch. Mae hi yr un mor bwysig, pan fyddwch chi'n cael y cyngor neu'r cymorth hwnnw, ei fod yn cael ei roi gan staff hyfforddedig ac arbenigol. Rwy'n mawr obeithio y bydd y gwasanaeth hwn yn nodi newid mawr yn y modd y mae pobl sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl yn cael eu cefnogi a'u trin a pha mor gyflym y mae hynny'n digwydd. Rwy'n amau bod llawer o bobl, dros y blynyddoedd, wedi cael eu colli rhwng y gwasanaethau hyn cyn lansio gwasanaeth arbenigol fel hwn. I unrhyw un yng nghanol argyfwng iechyd meddwl, dydy cael ei adael ar ei ben ei hun ddim yn ddelfrydol o bell ffordd, ac rwy'n siŵr bod gan bob un ohonom ni unigolion yn ein cymunedau ac yn ein teuluoedd ein hunain y mae pethau fel hyn wedi effeithio arnynt.

Mae hyn yn fy arwain at fy nghwestiwn cyntaf. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthyf am y cynlluniau i roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaeth er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod ei fod yn bodoli? Fe wnaethoch chi sôn am y bwriad i gynnal ymgyrch genedlaethol, ond dydy'r record o ran rhoi gwybod i bobl am wasanaethau ffôn presennol ddim yn wych. Er enghraifft, mewn arolwg o oedolion yng Nghymru, dywedodd 65 y cant nad oedden nhw'n gwybod y dylen nhw ffonio'r heddlu ar y rhif 101 ar gyfer mater nad yw'n argyfwng, a doedd 48 y cant o fenywod a 72 y cant o ddynion ddim yn gwybod y dylen nhw ffonio'r GIG ar 111 os oes sefyllfa feddygol nad yw'n argyfwng. A oes cynlluniau i roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaeth hwn mewn ffordd wahanol i'r modd y cynhaliwyd ymgyrchoedd cenedlaethol yn y gorffennol?

Mae angen sicrhau hefyd fod y seilwaith ar waith i gefnogi'r gwasanaeth. Rydyn ni'n debygol o weld mwy o alw ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wrth i fwy o bobl gael eu cyfeirio at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae hyn yn beth da, ond nid yw ond yn beth da os oes capasiti ym maes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r trydydd sector, sydd efallai, dros y blynyddoedd, heb gael yr arian a'r adnoddau y dylen nhw fod wedi'u cael. Felly, a ydych yn hyderus y bydd y cyllid ychwanegol rydych wedi'i roi hyd yn hyn neu wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn ddigonol i ateb y galw ychwanegol a ragwelir o ganlyniad i'r fenter hon? Gallai'r gwasanaeth ffôn ac ar-lein ddarparu safon aur ar gyfer triniaeth a chyfeirio, ond os nad oes digon o gapasiti yn y system a allai fynd â'r galwr ymlaen at gam nesaf y driniaeth, yna byddai hynny'n drueni mawr; byddai hefyd yn gwneud cam â rhywun yn y cyflwr bregus hwnnw.

Yn olaf, a wnewch chi ddweud wrthyf sut y bydd gwybodaeth a gasglwyd o'r gwasanaeth yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch dyrannu cyllid ar gyfer y dyfodol? Mae hefyd yn bwysig bod unrhyw ddata a gwerthusiadau o'r gwasanaeth yn cael eu rhannu â phartneriaid ym maes iechyd meddwl i'w helpu i wella'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Diolch yn fawr.

16:55

Diolch yn fawr iawn, Peredur, am y pwyntiau hynny. Rwy'n hapus iawn i geisio ateb eich cwestiynau. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at 'Tu Hwnt i'r Alwad'; roedd yn ddarn o waith arloesol iawn. Ond yr hyn a ddangosodd oedd, i'r mwyafrif helaeth o bobl oedd yn gwneud y cysylltiadau brys hynny gyda phethau fel yr heddlu, doedd hynny ddim oherwydd eu bod nhw'n sâl yn feddyliol; roedd hynny am resymau lles—roedd pobl mewn trallod, roedden nhw mewn dyled, mae pobl yn unig. Felly, mae hwn yn ymgais, mewn gwirionedd, i fynd i'r afael â hynny.

Bydd yna ymgyrch gyhoeddusrwydd lawn. Yn amlwg, mae wedi cael cyhoeddusrwydd yn barod, ond nawr ei fod wedi mynd yn fyw 24 awr y dydd, bydd ymgyrch gyhoeddusrwydd yn cael ei chynnal a, wyddoch chi, mae wedi gweithio i'r gwasanaeth 111 arferol. Galla' i ddim gwneud sylw ar 101, oherwydd mae hynny'n amlwg yn wasanaeth heddlu, ond rwy'n gwybod bod byrddau iechyd yn gwneud eu cyhoeddusrwydd a'u hysbysebu eu hunain hefyd trwy eu sianeli cyfryngau cymdeithasol eu hunain. Yr hyn rydyn ni'n ei weld hyd yn hyn yw defnydd da o'r gwasanaeth a byddem yn disgwyl i hynny gynyddu.

Rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig am y cynnydd yn y galw, ond diben hyn, mewn gwirionedd, yw dad-ddwysáu'r anghenion hynny a chyfeirio pobl at y cymorth mwyaf priodol. Yn y ffigurau sydd gennym hyd yn hyn ar yr hyn sydd wedi digwydd i'r bobl sydd wedi cysylltu â'r gwasanaeth, mae 45 y cant ohonyn nhw, drwy'r alwad, wedi mynd ymlaen i roi dulliau hunanofal ar waith—maen nhw wedi cael cyngor ar hunanofal. Mae 5 y cant ohonyn nhw wedi cael eu rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau trydydd sector. Mewn gwirionedd, nifer fach iawn o bobl sydd wedi cael eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol.

Rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig am gyllid, ond mae'n un o ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu, fe gafodd £50 miliwn yn ychwanegol y llynedd a £75 miliwn yn ychwanegol eleni, a bydd yn cael £90 miliwn y flwyddyn nesaf, felly rydyn ni'n gwneud defnydd da o'r arian hwnnw. Yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r data a gawn o'r galwadau hyn yw, os oes bylchau, gallwn geisio eu llenwi. Fel y dywedais i, os oes llwyth o bobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, dydy hynny ddim yn ganlyniad da i bobl, neu os ydyn ni'n meddwl bod pobl ifanc sy'n ymgyflwyno mewn ardal benodol—. Felly, byddwn ni'n defnyddio'r data hwnnw i lywio ein cynlluniau yn y dyfodol, wrth symud ymlaen.

Diolch, Llywydd, am eich datganiad heddiw. Mae '111 pwyso 2' yn gynllun trawiadol iawn, felly rwy'n croesawu eich diweddariad. Rwy'n gwybod bod cyflwyno'r dull 'dim drws anghywir' yn rhywbeth rydych chi'n angerddol iawn amdano, ac rwy'n credu y bydd o werth amhrisiadwy i bobl yn ein cymunedau sydd angen cael gafael ar gymorth iechyd meddwl brys. Rwy'n falch iawn o glywed ei fod wedi helpu dros 15,000 o bobl yn barod a bod 140 o staff ar draws ein byrddau iechyd yn darparu'r gwasanaeth hwn. 

Cefais gyfle yn ddiweddar i ymweld â hwb Cwm Taf Morgannwg ac i gwrdd â'r tîm sydd wrthi'n cyflwyno hyn, ac roedd yn hynod ddiddorol clywed am y sgiliau gwahanol yr oedden nhw'n eu defnyddio yn eu rolau, eu cefndir a sut roedd yr amrywiaeth o sgiliau a oedd ganddynt yn gwella'r ddarpariaeth. Felly, tybed pa fecanweithiau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod byrddau iechyd yn gweithio i ddarparu gwasanaeth cynaliadwy o ansawdd da yn y tymor hir, yn enwedig o ran cynllunio'r gweithlu yn y dyfodol.

Fy ail gwestiwn—. Rwy'n edrych ymlaen at ddilyn yr ymgyrch ymwybyddiaeth arfaethedig. Mae'n amlwg yn bwysig iawn bod pobl yn gwybod bod y gwasanaeth yno, ac rwy'n credu mai un o'r teyrngedau mwyaf trawiadol a glywais pan wnes i gyfarfod â'r gwasanaeth lleol yw bod ymwybyddiaeth ohono ar y pryd wedi tyfu'n organig ar lafar. Mae hyn yn adeiladu ar gwestiwn a ofynnais i'r Gweinidog Addysg yn flaenorol. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi siarad yma yn barod am sut y gall yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth ymateb i ddata sydd wedi'i gasglu, ond, yn amlwg, bydd gwahanol negeseuon a llwyfannau yn apelio orau at wahanol ddemograffeg, felly sut y bydd modd ymgorffori hynny yn yr ymgyrch a pha negeseuon y gellid eu defnyddio fel bod pobl iau, yn arbennig, yn ymwybodol o'r gwasanaeth? 

17:00

Diolch yn fawr iawn, Vikki, ac rwy'n falch iawn eich bod chi wedi cael y cyfle i fynd i'w weld ar waith. Mae'n wasanaeth trawiadol iawn, ac rydych chi wedi gwneud pwynt pwysig iawn am y gweithlu, oherwydd yr her rydyn ni wedi'i hwynebu gyda gwasanaethau—ac nid yw'n unigryw i Gymru—yw bod pwysau go iawn o ran y gweithlu. Yr hyn rydym yn ei weld yn aml pan fyddwn ni'n buddsoddi mewn gwasanaeth newydd yw ein bod ni'n cymryd oddi ar un gwasanaeth ac yn rhoi i wasanaeth arall, felly bydd staff yn gadael un gwasanaeth ac yn mynd i weithio mewn gwasanaeth gwahanol. 

Y peth da am y gwasanaeth hwn yw mai aelodau staff hollol wahanol sy'n rhedeg y gwasanaeth, maen nhw'n ymarferwyr lles meddyliol; maen nhw i gyd wedi cael hyfforddiant llawn, ond maen nhw'n dod o amrywiaeth o gefndiroedd. Felly, yn hytrach na chael eu cyfyngu i, dyweder, nyrsys band 6, gallen nhw fod yn therapyddion galwedigaethol, yn bobl sydd wedi gwneud graddau mewn seicoleg, ond maen nhw i gyd wedi cael y lefel hon o hyfforddiant. Felly, mae'n fath newydd o weithlu i raddau helaeth, ni fydd staff yn cael eu cymryd oddi wrth wasanaethau sy'n bodoli'n barod, ac mae hefyd yn cyd-fynd i raddau helaeth â gofal iechyd darbodus.

O ran yr ymgyrch ymwybyddiaeth, byddwn ni'n gwneud ein gorau i ddefnyddio'r data, ac rydym yn monitro nifer y bobl o wahanol grwpiau sy'n galw, felly byddwn ni'n gwybod faint o blant sydd wedi galw. Mae gennym ni fanylion am gyn-filwyr a phopeth felly, felly byddwn ni'n defnyddio'r data wedyn i geisio targedu ein dulliau cyfathrebu. Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallai Aelodau'r Siambr hon roi gwybod i'w hetholwyr am y gwasanaeth, oherwydd, yn amlwg, rydych chi i gyd mewn sefyllfa unigryw i hyrwyddo'r gwasanaeth hefyd. Bydd codi ymwybyddiaeth ohoni yn rhywbeth parhaus, ond rwy'n credu bod y ffigurau cychwynnol yn galonogol iawn.

Prynhawn da, Gweinidog. Rwyf innau hefyd yn ymuno â phawb yn y Siambr, rwy'n credu, sy'n cefnogi datblygiad y gwasanaeth a darpariaeth y gwasanaeth, hefyd. Mae'n drawiadol iawn o ran anghenion cynifer o bobl y mae wedi'u diwallu hyd yn hyn ac mae wedi newid bywydau pobl, rwy'n siŵr—pobl fel ni. Gallai unrhyw un ohonom ni ddioddef, ac efallai fod llawer ohonom ni wedi dioddef o heriau iechyd meddwl penodol, felly mae'n drawiadol iawn. Diolch yn fawr iawn.

Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar un peth, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymuno â'n grŵp trawsbleidiol sy'n edrych ar 1,000 diwrnod cyntaf plant. Rydych chi'n gwybod pa mor bwysig yw'r cyfnod cyntaf hwnnw o fywyd plentyn, o fywyd babi, o ran sicrhau bod ein babanod newydd-anedig—ac, yn wir, buddsoddi i gynilo ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ran gwasanaeth. Rydyn ni'n gwybod bod problemau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio ar hyd at 27 y cant o famau newydd a mamau beichiog, ac, os na chânt eu trin, gallan nhw gael effeithiau hirdymor sylweddol ar rieni ac ar blant. Felly, tybed beth allem ni ei wneud o ran y gwasanaeth i wella sgiliau pobl er mwyn diwallu anghenion posibl y bobl sydd mewn cysylltiad â'r gwasanaeth hwnnw, a pha gynlluniau sydd gennych chi ar gyfer datblygu hynny yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, Jane, am y croeso hwnnw i'r gwasanaeth, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf, ac, fel y gwyddoch chi, rwy'n angerddol iawn am iechyd meddwl babanod. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb, mewn gwirionedd, ac rydym hefyd yn cofnodi nifer y bobl sy'n galw am faterion iechyd meddwl amenedigol. Yn amlwg, mae gennym wasanaethau arbenigol, timau arbenigol ym mhob rhan o Gymru sy'n darparu cymorth iechyd meddwl amenedigol, felly rwy'n credu y byddai'n dibynnu ar lefel angen yr unigolyn. Gall fod angen i rywun sy'n cysylltu â'r gwasanaeth gael gwybodaeth am grŵp mamau neu grŵp tadau neu gael ei roi mewn cysylltiad ag ef, neu gall fod angen ei roi mewn cysylltiad â'r tîm iechyd meddwl amenedigol arbenigol hwnnw. Ond mae hwn yn wasanaeth i bawb, ni waeth beth yw eu hanghenion iechyd meddwl, a dyna pam ei bod yn bwysig iawn bod yr holl hybiau wedi datblygu llwybrau at yr holl wasanaethau lleol, ac maen nhw hyd yn oed yn mynd i weld rhai o'r gwasanaethau hynny, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gyfarwydd â'r hyn sydd ar gael yn eu hardal leol fel y gallan nhw rhoi pobl mewn cysylltiad â nhw.

17:05

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, sy'n llawn manylion diddorol. Yn amlwg, os yw rhywun mewn argyfwng iechyd meddwl, y lle olaf maen nhw am fynd iddo yw adran frys brysur a swnllyd, felly mae croeso mawr i bopeth y gallwn ni ei wneud i gadw pobl allan o'r sefyllfa honno.

Credaf y bydd hyn yn rhoi sicrwydd arbennig i'r rhai sydd ag aelod o'r teulu y maen nhw'n gwybod sy'n wynebu argyfyngau o bryd i'w gilydd, ac os gallan nhw fod yn sicr o wybod y bydd gwasanaeth ar gael 24/7 drwy'r amser, hyd yn oed pan fydd gwasanaethau eraill ar gau, mae hynny'n newyddion da iawn.

Roedd yn ddiddorol, y sylw am sefydlu'r 'Taith Dda', i fynd â rhywun i fan diogel nid mewn car heddlu. Wedi dweud hynny, yn y gorffennol roedd yr heddlu bob amser â rhan bwysig iawn i'w chwarae, gan mai nhw oedd yr unig wasanaeth oedd ar gael 24/7 ac yn mynd at bobl sydd mewn trallod meddyliol yr oedd eu cymdogion wedi eu riportio, efallai. Meddwl oeddwn i tybed a ydych chi'n fodlon bod yr heddlu bellach yn ailbwysleisio eu hymdrechion ar agweddau eraill ar bobl yn torri'r gyfraith, a yw'r gwasanaeth hwn yn mynd i fod yn ddigonol i weithredu fel yr ymateb 24/7 hwnnw, oherwydd bod rhai pobl—. Os mai cymydog neu aelod o'r teulu sy'n gwneud yr alwad honno, efallai na fydd yr unigolyn sydd mewn trallod mewn cyflwr i siarad â'ch ymarferwyr iechyd meddwl mewn gwirionedd ac i'w helpu nhw i ddod trwy'r argyfwng. A fydd gennych chi, fel cymorth wrth gefn, bobl sy'n gallu neidio i mewn i gar, os oes angen, i fynd at rywun mewn trallod?

Diolch, Jenny. Mae hwn yn wasanaeth iechyd meddwl brys. Os oes argyfwng a bygythiad uniongyrchol i fywyd, yna ffonio 999 yw'r peth cywir i'w wneud. Rydyn ni wedi clywed y cyhoeddiadau sydd wedi cael eu gwneud yn Lloegr, yn enwedig gan y Met, ond mae'r rheiny'n ymwneud â Lloegr. Mae gennym drefniadau partneriaeth cydweithredol da iawn gyda'r heddlu a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Mae gennym fwrdd plismona a phartneriaeth i Gymru, yn ogystal â phob math o waith partneriaeth arall sy'n mynd ymlaen yn barhaus, ac mae gennym gytundeb ar y cyd â'r heddlu fod ymateb i anghenion iechyd meddwl yn gofyn am ddull cydgysylltiedig ac amlasiantaethol. Rydyn ni'n gweithio gyda'r heddlu i ddeall effaith y fenter o'r enw'r rhaglen 'Right Care, Right Person' yn Lloegr, a bydd hynny'n cynnwys edrych ar y rhan y gall '111 pwyso 2' ei chwarae fel rhan o ddull amlasiantaethol o ymdrin ag iechyd meddwl yng Nghymru.

Diolch i'r Gweinidog.

Rydych chi wedi ymdrin â'r holl gwestiynau a'r bobl oedd eisiau cyfrannu.

8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Diwrnod y Lluoedd Arfog

Felly, eitem 8 sydd nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Felly, y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad. Hannah Blythyn.

Diolch, Llywydd. Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos ein cefnogaeth i bawb sy'n rhan o'r gymuned, o filwyr i deuluoedd a chyn-filwyr y lluoedd arfog.

Fel rhan o Wythnos y Lluoedd Arfog, ddydd Sadwrn yma, rydyn ni'n nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog gyda digwyddiad cenedlaethol yng Nghasnewydd. Eleni, yn y Senedd, rwyf am dynnu sylw arbennig at ein cenhedlaeth gwasanaeth cenedlaethol. Yn ddiweddar, mynychais goffâd yn yr ardd goed genedlaethol i nodi 60 mlynedd ers i'r gwasanaeth cenedlaethol ddod i ben. Maen nhw bellach ymhlith ein cenhedlaeth hynaf o gyn-filwyr a gwnaethon nhw wasanaethu ledled y byd gyda chlod, gan gynnwys rhyfel Corea, a ddaeth i ben 70 mlynedd yn ôl.

Wrth dawelu i feddwl a chofio yr wythnos hon, wrth gwrs, mae cymunedau eraill gyda ni yma yng Nghymru yr wyf yn siŵr y bydd Aelodau'r Senedd yn ymuno â mi i gofio amdanyn nhw heddiw: y rhai a fu'n gweithio ochr yn ochr â'n milwyr yn Afghanistan, a'r rhai sydd yma yn ceisio lloches rhag y rhyfel yn Wcráin, y bydd gan lawer ohonyn nhw deulu a ffrindiau yn cymryd rhan mewn gweithrediadau ymladd. Mae ein lluoedd arfog ein hunain yn darparu cefnogaeth trwy ymfyddiniadau i flaen-bresenoldeb Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd yn Estonia, a thrwy hyfforddi a chyflenwi milwyr Wcráin yn y DU. Fel arfer, mae'r ymrwymiad hwn wedi bod yn ddwys iawn, gydag oriau hir a gwahanu yn effeithio ar unigolion a bywyd teuluol.

Mae'r ymrwymiadau a ymgorfforir yng nghyfamod y lluoedd arfog yn parhau i fod yn allweddol, sef bod ymrwymiad gwasanaethu yn cael ei gydnabod; y gweithredir ar anfantais, lle mae'n digwydd; a bod, mewn rhai achosion, fodd cyfiawnhau mynediad â blaenoriaeth at wasanaethau. Nid rhywbeth sy’n digwydd unwaith y flwyddyn drwy Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yn unig yw cydnabyddiaeth. Mae codi ymwybyddiaeth a gwybodaeth am anghenion cymuned y lluoedd arfog yn dasg barhaus.

Mae ein hymarfer cwmpasu cyn-filwyr, sy'n ategu strategaeth cyn-filwyr y DU, yn ategu hynny. Dair blynedd ers ei greu, mae ein cynnydd yn cynnwys 35 y cant o gynnydd yn y cyllid ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, ein gwasanaeth iechyd meddwl blaenllaw, sydd bellach yn treialu ymyrraeth sy'n darparu cymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr mewn carchardai yng Nghymru; sefydlu ffair gyflogaeth i gyn-filwyr yn 2021, gyda chynlluniau wedi'u datblygu'n dda ar gyfer digwyddiad 2023, a digwyddiad newydd yn 2024 yn y gogledd a'r canolbarth; cyflwyno cyrsiau pontio ychwanegol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r bartneriaeth newid gyrfa yng Nghymru; darparu prostheteg arbenigol i gyn-filwyr yng Nghymru, sydd bellach yn cynnwys darparu pengliniau microbrosesydd i gyn-filwyr ag anafiadau nad ydyn nhw'n gysylltiedig â gwasanaethu, yn amodol ar angen clinigol; cydnabod pwysigrwydd teuluoedd y lluoedd arfog drwy barhau i ariannu Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru; buddsoddi £80,000 yn ychwanegol yn 2023-24 i ariannu swyddogion cyswllt ysgolion rhanbarthol ledled Cymru; a gweithio i wella'r wybodaeth sydd ar gael i gymuned ein lluoedd arfog drwy gylchlythyr cyfamod Cymru a chanllaw pontio Cymru sydd bellach yn cael ei rannu gyda swyddogion pontio ledled y DU.

Ond dydy hi ddim yn stopio yno, ac ni ddylai stopio yno, a chan adeiladu ar yr ymarfer cwmpasu cyn-filwyr, rwy'n falch o roi gwybod am ddatblygiadau pellach. Dim ond fis diwethaf, ymunais â'm cydweithiwr, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r prif swyddog meddygol wrth lansio cynllun achredu meddygon teulu. Buon ni'n ymweld â meddygfa yng Nghwmbrân a chlywed am ba mor bwysig yw hi i'r practis meddyg teulu ddeall a allai cyflwr fod yn gysylltiedig â gwasanaethu, a gallu gwneud atgyfeiriadau ymlaen gyda'r mewnwelediad hwnnw. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd wedi lansio canllawiau blaenoriaeth glinigol newydd a fydd yn helpu meddygon teulu i flaenoriaethu triniaeth cyn-filwyr pan fydd hi'n briodol gwneud hynny.

Mae gan y rhai sy'n darparu tai, iechyd ac addysg ar lefel leol ddyletswydd gyfreithiol i ddangos sylw dyledus i'w cymuned lluoedd arfog leol. I helpu gyda hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynhyrchu hyfforddiant dwyieithog ar-lein i helpu i godi ymwybyddiaeth o fewn awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

Daw'r ddadl hon flwyddyn i mewn i gyfnod y Cyrnol James Phillips fel Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru. Mae wedi bod yn eiriolwr gweithredol dros gyn-filwyr yng Nghymru. Ei adroddiad cyntaf yw asesiad allanol defnyddiol o rai o'r heriau a'r cyfleoedd wrth gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru, a'i asesiad cyffredinol yw bod

'Cymru yn lle da i fod yn gyn-filwr ond gyda rhai meysydd lle mae potensial i wella'.

Gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r heriau hyn yw'r hyn rydyn ni'n ei wneud yng Nghymru, ac mae llawer o sefydliadau yn y trydydd sector yn darparu cymorth a gwasanaethau i rai o'n cyn-filwyr mwyaf agored i niwed. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i gwrdd ag amrywiaeth o elusennau a ariennir drwy Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog fel rhan o'r portffolio lleoedd, llwybrau a phobl ar gyfer cyn-filwyr. Mae gan yr ymddiriedolaeth ymgynghoriad sydd ar agor nawr ar lunio ei blaenoriaethau ariannu ar gyfer y tair blynedd nesaf, ac mae cyfle i leisiau o Gymru helpu i lunio hynny.

Mae ein swyddogion cysylltu â'r lluoedd arfog ledled Cymru yn ganolog i'r dull partneriaeth hwn. Cafwyd cydnabyddiaeth eang am waith ein swyddogion cysylltu â'r lluoedd arfog, yr rwyf wedi ymrwymo i'w ariannu am ddwy flynedd arall. Yn ddiweddarach eleni, byddaf yn comisiynu gwerthusiad allanol o'u heffaith a sut y gallwn ni ddysgu a gwella ar gyfer y dyfodol.

Yn olaf, rydyn ni'n disgwyl gweld canfyddiadau adolygiad annibynnol yr Arglwydd Etherton cyn bo hir i'r gydnabyddiaeth hwyr ar gyfer rhan benodol o'n cymuned lluoedd arfog—sef y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan y gwaharddiad hoyw cyn 2000. Rwyf wedi cwrdd â'r Arglwydd Etherton ac rwy'n disgwyl i'r adroddiad gynnwys awgrymiadau i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Yn ddiweddar, mynychais y digwyddiad swyddogol i nodi cwblhau'r adolygiad, a siaradais â chyn-filwyr a gyfrannodd at yr adroddiad. Mae eu straeon am yrfaoedd a gafodd eu difetha, cywilydd a dioddefaint yn peri gofid, ac rwyf wedi ymrwymo'n fawr i barhau i weithio gyda'r elusen Fighting With Pride i gefnogi cyn-filwyr LHDTC+ ac ymateb i argymhellion yr adolygiad.

Yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog eleni, rwy'n falch fy mod wedi cael y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar ein cefnogaeth i'n cymuned lluoedd arfog.

Yr wythnos hon, a bob wythnos, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud ein gorau dros y rhai sydd wedi gwasanaethu, a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu hefyd.

17:10

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn olaf pob mis Mehefin: eleni, mae'n digwydd ar 24 Mehefin. Dechreuodd y dathliadau ddoe, pan godwyd baner y lluoedd arfog ar adeiladau a thirnodau enwog ledled y wlad. Bydd Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn yfory, 21 Mehefin, hefyd yn gyfle i gydnabod ein lluoedd wrth gefn, gan gynnwys derbyniad cyflogwyr i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn yn y Senedd nos yfory, a noddir gan gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid, Darren Millar.

Gyda'r ffigurau swyddogol yn 2021 yn nodi bod tua 115,000 o bobl yng Nghymru wedi dweud eu bod wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU o'r blaen, roedd y ganran yn uwch nag yn Lloegr. O'r rhain, roedd 113,000—98.2 y cant—yn byw mewn aelwydydd, ac roedd canran yr aelwydydd ag un neu fwy o bobl a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn uwch yng Nghymru ar 8.1 y cant nag yn Lloegr ar 7 y cant. Ar draws Cymru, mae'r awdurdodau lleol sydd â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr yn cynnwys Conwy, Ynys Môn a sir Benfro. Pa ffigurau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer nifer y bobl yng nghymuned y lluoedd arfog yng Nghymru, gan gynnwys personél sy'n gwasanaethu, cyn-bersonél a'u teuluoedd? A sut mae'n ystyried hyn yn ei gwaith cefnogi, cynllunio a chyflawni?

Mae bron 19 mlynedd ers i mi godi yn y fan yma yr angen i gyn-filwyr sydd wedi'u trawmateiddio gael gafael ar ofal iechyd meddwl a chael triniaeth â blaenoriaeth am y tro cyntaf. Ar ôl cwrdd â chyn-aelodau o'r lluoedd arfog sydd â phroblemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwasanaethu, gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma yn Nhŷ Gwyn yn Llandudno, sef yr unig ganolfan seibiant preswyl ar y pryd i gyn-aelodau'r lluoedd arfog yn y DU yr oedd eu gwasanaeth wedi amrywio o encil Dunkirk i Ynysoedd Falkland. Er gwaethaf hyn, caniatawyd iddo gau, heb unrhyw ddarpariaeth amgen yn ei lle. Ond yn y pen draw, lansiodd Llywodraeth Cymru GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan ddarparu asesiadau a thriniaethau seicolegol amhreswyl ar gyfer problemau iechyd meddwl i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru, gan gynnwys PTSD. Fel y dywedodd GIG Cymru i Gyn-filwyr wrthyf, maen nhw'n ddiolchgar am eu cyllid rheolaidd ychwanegol, yr oeddem wedi bod yn galw amdano. Fodd bynnag, dywedwyd wrthyf fod angen mentor cymheiriaid ym mhob bwrdd iechyd lleol. A wnaiff y Dirprwy Weinidog, felly, gadarnhau pa gamau sy'n cael eu cymryd nawr ynghylch yr angen hwn am fentor cymheiriaid ym mhob bwrdd iechyd lleol, ac a yw Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi hyn ar waith, neu a fydd yn gwneud hynny?

Ac a wnaiff y Dirprwy Weinidog ymuno â mi i groesawu buddsoddiad £320 miliwn Llywodraeth y DU yn ystâd y lluoedd arfog yng Nghymru, gan gynnwys cwmni wrth gefn newydd o'r Cymry Brenhinol ym marics Hightown Wrecsam a chadw barics Aberhonddu?

Yn 2013, siaradais i yn lansiad Change Step, sef y rhaglen cymorth i gyn-filwyr yng Nghymru sy'n helpu cyn-filwyr a'u teuluoedd i fynd i'r afael â chyflyrau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwasanaethu trwy ddarparu cymorth cymheiriaid wedi'i deilwra ac ymyrraeth arbenigol, a gynhaliwyd ym marics Hightown Wrecsam. Ymwelais i â chanolfan alwadau Porth y Cyn-filwyr yn Nantgarw gydag aelodau eraill o'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid ddydd Iau diwethaf, ac mae un ohonyn nhw yn eistedd y tu ôl i chi, sydd yno i unrhyw gyn-bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd sy'n chwilio am gyngor neu gefnogaeth, beth bynnag maen nhw'n delio ag ef. Cawsom gyfle i gyfarfod ag aelodau o'u tîm llinell gymorth cyfeillgar, y gellir cysylltu â nhw 24/7, a ddywedodd wrthyf fod Change Step yn un o'r gwasanaethau allweddol y maen nhw'n cyfeirio atyn nhw. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd felly i sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol a ddarperir gan Change Step yn parhau i fod ar gael?

Roedd Deddf Lluoedd Arfog y DU 2021 ym mis Rhagfyr 2021 yn ymgorffori cyfamod y lluoedd arfog yn y gyfraith am y tro cyntaf i helpu i atal personél a chyn-filwyr y lluoedd arfog rhag cael eu rhoi dan anfantais wrth gael gafael ar wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd, addysg a thai. Y tu hwnt i gefnogi cynhyrchu hyfforddiant dwyieithog ar-lein, pa gamau ymarferol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd ers hynny i sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu a'i fonitro yng Nghymru?

Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i bum argymhelliad allweddol yn yr adroddiad ym mis Mehefin 2022 am gyn-filwyr benywaidd, 'Female veterans: The forgotten and invisible servicewomen of our Armed Forces', sy'n cynnwys cefnogaeth rhwng cymheiriaid, gwella gwasanaethau pontio ac adsefydlu, gwasanaethau meddygol, cymorth cyflogaeth ariannol a gweithdai sgiliau bywyd?

Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiffiniad Llywodraeth Cymru o 'blant milwyr' a'r data a gesglir gan y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion, ac ar sut mae hyn yn cael ei ddefnyddio i lywio'r ddarpariaeth ar gyfer plant y lluoedd arfog yn ysgolion Cymru? Diolch yn fawr.

17:15

Diolch i Mark Isherwood am ei gyfraniadau ac, mewn gwirionedd, y ffordd yr ydych chi, yn ystod eich cyfraniad, wedi codi ymwybyddiaeth o'r nifer hynny o sefydliadau y gwyddom eu bod nhw'n gwneud gwaith anhygoel mewn cymunedau ledled Cymru, gan gefnogi nid yn unig ein cyn-filwyr, ond eu teuluoedd a'r bobl o'u cwmpas hefyd. Rydym yn gwybod mai dim ond trwy weithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau hyn y gallwn ni wneud y gwaith a wnawn yng Nghymru, boed hynny drwy ein grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog, neu allan yn y maes, y gwaith gyda swyddogion cysylltu â'r lluoedd arfog hefyd. Fe wnaf ymdrechu i ymateb i gynifer o'r pwyntiau a gododd Mark Isherwood ag y gallaf, ond os na fyddaf yn eu cynnwys i gyd, yna mae croeso mawr i chi ddod ataf, ac rwy'n fwy na pharod i godi hynny y tu allan i'r Siambr hon gyda rhai o'r pwyntiau manylach hefyd.

Os caf godi'r pwynt ynghylch GIG Cymru i Gyn-filwyr a'r gwaith sy'n cyd-fynd â hynny o ran mentora cymheiriaid a Step Change hefyd. Rwy'n ymwybodol bod nifer o fyrddau iechyd wedi nodi pryderon posibl ynghylch colli mentoriaid cymheiriaid, trwy Step Change, gyda'u harweinwyr y GIG i gyn-filwyr. Maen nhw wedi gweithio i'r cymorth cofleidiol hwnnw o'r blaen, ac mae'r mater hwnnw wedi'i ddatrys gan gydweithwyr iechyd trwy gyfarfod hyrwyddwyr cyn-filwyr y byrddau iechyd, ac rydym yn gweithio gyda nhw i sicrhau y gallwn ni fynd i'r afael â'r heriau hynny wrth symud ymlaen. Soniais yn fy natganiad hefyd yr wythnos diwethaf i mi gwrdd â nifer o sefydliadau sy'n ffurfio'r pedwar sefydliad 'P', fel y maent erbyn hyn, ac roedden nhw'n sôn am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i gefnogi, yn arbennig, iechyd meddwl a sut mae hynny'n ategu ac yn cyd-fynd â gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Felly, rwy'n awyddus iawn i barhau â'r gwaith hwnnw gyda nhw a'u cyllid—cyllid cyfamod y lluoedd arfog—i wneud yn siŵr ei fod yn cyd-fynd ac yn ategu'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Gwnes i'n glir iawn, yn y digwyddiad hwnnw, ein bod ni yno i'w cefnogi nhw a gweithio gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod cyn-filwyr yng Nghymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn llawn.

O ran y sefyllfa o amgylch ffeithiau a ffigurau a'r ystadegau a sut mae hynny'n helpu i lunio ein gwaith, wel, eleni, byddwch chi'n ymwybodol, rydyn ni wedi gweld—. Gwyddom fod mwy o bobl yng Nghymru, yn gyfrannol, wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog nag mewn rhannau eraill o'r DU. Mae gennym fwy o gynrychiolaeth o bobl sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr ymhlith ein poblogaeth na thros y ffin yn Lloegr. Gwelwyd rhai elfennau cadarnhaol iawn eleni o ran y data a fydd ar gael i ni, felly erbyn hyn, rydyn ni'n dechrau cael datganiadau o wybodaeth fanwl o gyfrifiad 2021, a byddwn yn gweld gwybodaeth debyg yn fuan o arolwg y cyn-filwyr a gynhaliwyd hefyd. Felly, byddwn ni'n gweithio i weld bod y cyfrifiad hwnnw a'r data hwnnw o'r arolwg yn gyfle gwirioneddol i weithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth honno o ran sut maent nid yn unig yn dangos y sylw dyledus i'w cymuned lluoedd arfog leol, ond hefyd yn helpu i gefnogi gwaith swyddogion cysylltu â'r lluoedd arfog.

Ac yn olaf, gwnaethoch chi sôn am y Diwrnod Lluoedd Wrth Gefn a'r digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn yn y Senedd yfory, sy'n cael ei noddi gan Darren Millar, sy'n hyrwyddwr brwd o'n cymuned cyn-filwyr a'r lluoedd arfog, rwy'n gwybod, a byddaf yn falch iawn o ymuno â chydweithwyr yn y digwyddiad hwnnw, i gefnogi, nos yfory hefyd.

17:20

Diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad.

Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn clywed am yr adnoddau ychwanegol sy'n cael eu buddsoddi i wella'r cynigion i gyn-filwyr a'r ymrwymiadau o'r newydd i'r cyfamod milwrol. Mae materion o ran y ffordd y caiff cyn-filwyr eu trin ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus yn fater mwy yma nag ydyw dros y ffin yn Lloegr. Mae cyn-filwyr yn ffurfio 4.5 y cant o'r oedolion yng Nghymru, o'i gymharu â 3.8% yn Lloegr. Felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn iawn yng Nghymru.

Rwyf am ddechrau drwy ddweud y byddai'n anfoesgar peidio â chydnabod y camau breision sydd wedi'u cymryd i wella gwasanaethau i gyn-filwyr; gwnaethoch chi restru llawer ohonyn nhw yn eich datganiad yn gynharach. Rydym wedi dod yn bell yn ystod y degawd diwethaf i wneud bywydau yn haws i bersonél milwrol sy'n gwasanaethu, yn ogystal â chyn-filwyr. Mae'n gam cadarnhaol bod cyfamod y lluoedd arfog bellach wedi dod yn gyfraith ar gyfer tai, addysg ac iechyd. Mae rhaid i staff yn yr adrannau hyn roi sylw dyledus i gymuned y lluoedd arfog, ac mae hynny'n iawn ac yn briodol. Felly, a ydym mewn sefyllfa lle gallwn ni eistedd yn ôl ac edmygu'r gwaith sydd wedi'i wneud ar ran cymuned y lluoedd arfog? Nac ydym, yn fy marn i. Hefyd, Dirprwy Weinidog, rydych chi eisoes wedi cyfeirio at hynny a'ch bod yn tueddu i gytuno ar hyn. Fel rydych chi wedi dweud, dyma hefyd farn y Cyrnol James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru. Yng nghylchlythyr diweddaraf Cyfamod Lluoedd Arfog Cymru ar gyfer Cymru, mae'n dweud:

'Fy asesiad i yw nad yw Cymru yn 2023 yn lle drwg i fod yn gyn-filwr, ond gallwn ni ei wella o hyd.'

Er mwyn cydweithredu, byddaf yn amlinellu ychydig o bethau a fyddai'n helpu personél y lluoedd arfog yn eu bywyd bob dydd, a byddwn yn ddiolchgar am adborth y Dirprwy Weinidog ynghylch a yw'r materion hyn ar y gweill neu'n cael eu hystyried. Rwy'n credu bod angen sicrhau bod gwasanaeth cyfartal i gyn-filwyr, waeth ble maen nhw'n byw yn ein gwlad. Efallai fod enghreifftiau da o fyrddau iechyd yn dilyn y cyfamod milwrol, tra nad yw eraill yn talu'r sylw y mae'n ei haeddu—rwyf wedi clywed tystiolaeth anecdotaidd bod hyn yn digwydd yn fy rhanbarth fy hun. Gyda hynny mewn golwg, a allwch ddweud wrthyf pa fecanweithiau sydd ar waith i sicrhau bod cyn-filwyr yn cael eu trin fel y dylen nhw gael eu trin, p'un a ydynt yn byw yng ngogledd, de, dwyrain neu orllewin ein gwlad?

Wrth sôn am iechyd, roeddech chi'n sôn am y cynllun achredu meddygon teulu sy'n cael ei lansio yng Nghymru. Cafodd meddygfeydd sy'n gyfeillgar i gyn-filwyr eu dyfeisio'n wreiddiol gan feddyg teulu o Swydd Efrog, a oedd, cyn ei yrfa ym maes gofal iechyd sylfaenol, wedi gwasanaethu yn Irac. Meddyliodd am y syniad pan ddywedodd claf wrtho ei fod wedi ymuno â'i bractis yn benodol i weld rhywun a allai ddeall ei anghenion fel cyn-filwr. Mae'r cynllun, sydd wedi'i gefnogi gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, yn ceisio adnabod a thrin cyn-filwyr yn well, gan sicrhau eu bod yn cael mynediad at ofal penodol lle bo hynny'n briodol. Fy nealltwriaeth i yw bod tua 1,000 o feddygfeydd sy'n ystyriol o gyn-filwyr yn Lloegr, ond eto roedd rhaid i ni aros tan y mis hwn am yr un cyntaf i ni. Roeddech chi'n sôn am lansiad swyddogol cynllun Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallen ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyflwyno'r cynllun a'r posibilrwydd o gyrraedd yr un lefel â Lloegr ar y mater hwn. Mae gwneud Cymru mor ystyriol o gyn-filwyr ag y gall fod yn nod a rennir ar draws y rhaniad gwleidyddol. Gyda'r uchelgais cywir, yr ewyllys wleidyddol, gallwn ni lwyddo. Diolch yn fawr.

17:25

Diolch, Peredur. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt da iawn ar y diwedd ynglŷn â lle mae cymaint o dir cyffredin a rennir o ran cefnogaeth i gyn-filwyr a'n cymuned lluoedd arfog. A dim ond ychydig wythnosau yn ôl, mewn gwirionedd, cwrddais â Gweinidog y Cyn-filwyr, Johnny Mercer, yn Llundain, a gwnaethom yn glir yn y cyfarfod hwnnw hefyd—roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn—ein bod ni wir eisiau gweithio gyda'n gilydd, i wneud yn siŵr bod y gefnogaeth honno yno. A phan geir buddsoddiad neu gyhoeddiadau ar sail y DU, rydym eisiau gweithio gyda'n gilydd, i sicrhau eu bod yn gweithio yn y ffordd orau bosib yng Nghymru hefyd, a sicrhau ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n diwallu anghenion cyn-filwyr yma yng Nghymru, gan gymryd y data hwnnw, yr wybodaeth honno sydd gennym gan y bobl hynny sy'n gweithio o fewn byrddau iechyd, fel swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, ac rydym yn gwybod am y gwahanol sefydliadau elusennol hefyd.

Rydych chi'n hollol iawn hefyd o ran y ffaith y gallwn fyfyrio a bod yn falch o'r hyn rydyn ni wedi'i wneud, ond yn sicr nid ydym yn hunanfodlon ac yn eistedd i lawr ac yn meddwl mai dyna'r cyfan sydd angen i ni ei wneud, a gallwch chi bob amser adeiladu ar yr hyn a wnaethpwyd eisoes a cheisio gwella hynny a mynd ymhellach hefyd. O ran y cydraddoldeb hwnnw—byddaf yn canolbwyntio'n arbennig, efallai, ar iechyd—mae gennym hyrwyddwyr annibynnol y lluoedd arfog a chyn-filwyr ac arweinwyr gweithredol ym mhob bwrdd iechyd i eiriol dros bersonél a chyn-filwyr sy'n gwasanaethu'n filwrol, er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu cynnwys mewn pethau fel cynllunio'r gwasanaeth. Rydym eisoes wedi cyhoeddi canllawiau ar flaenoriaeth gofal iechyd cyfamodol y lluoedd arfog i gyn-filwyr i bob bwrdd iechyd, ac i'w hatgoffa o ymrwymiad cyfamod y lluoedd arfog i ddarparu triniaeth â blaenoriaeth i gyn-filwyr sy'n dioddef o bryderon iechyd ac amodau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r cyfnod mewn gwasanaeth milwrol. Rwy'n gwybod bod gan rai byrddau iechyd—a chredaf fod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd a Chaerdydd a'r Fro swyddogaethau penodol bellach i gefnogi cyflawni cyfamod y lluoedd arfog, ac mae hynny'n amlwg i'w groesawu. Ond mae'n rhywbeth yr ydym ni eisiau parhau i weithio gydag ef, i weld yr arferion gorau hynny'n cael eu lledaenu ledled Cymru, felly pan fyddwn ni'n dysgu o'r hyn sy'n gweithio mewn rhai mannau, gellir rhannu hynny mewn mannau eraill, a dyna y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio arno wrth gefnogi gyda'n cydweithwyr a'n gwasanaethau ledled y wlad, i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mewn cysylltiad â'r cynllun achredu meddygon teulu, er i ni ei lansio fis diwethaf, roedd ei gyflwyno wedi dechrau cyn hynny, ond roeddem am gael lansiad meddal, ac yna mynd yn ôl a'i lansio'n swyddogol. Mae'r cynllun wedi ei gyflawni gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru—sonioch chi am y cynllun yn Lloegr—ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith maen nhw wedi'i wneud i ddatblygu'r cynllun sy'n cefnogi meddygon teulu i fod yn ymwybodol o gyn-filwyr drwy hyfforddiant ac achrediad. Ac roedd yn ddiddorol iawn i mi weld yn bersonol hefyd, y systemau a'r pethau roedd y meddygon teulu yn arfer eu gwneud hefyd, a'r cwestiynau a ofynnwyd, a'r ffordd maen nhw'n gwneud hyn. Rwy'n ymwybodol ar hyn o bryd, rwy'n credu, ers y lansiad, fod dros 40 o feddygon teulu wedi cofrestru. Felly, byddwn i'n gofyn i'r Aelodau yn y lle hwn mewn gwirionedd, ac yn eu hannog i'n helpu ni i ledaenu'r gair hefyd, i hyrwyddo'r cynllun ac annog meddygfeydd i gofrestru yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain hefyd. Ac rwy'n hapus i barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau o ran sut mae'r broses honno'n cael ei chyflwyno, ac efallai lle y gallai fod angen i ni wneud y gwaith ychwanegol hwnnw gyda'n gilydd i annog rhagor o feddygfeydd teulu i ymuno â'r cynllun hefyd.

Dylwn gofnodi, ochr yn ochr â Darren Millar, fy mod yn gwasanaethu ar fwrdd y lluoedd arfog wrth gefn a chadetiaid Cymru.

Rwy'n credu bod hwn yn gyfle i ni dalu teyrnged i'n lluoedd arfog a'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu i ni, gartref a thramor. Rydym wedi gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth gwrs, sut y gwnaeth y lluoedd arfog ein cefnogi yn ystod pandemig COVID, a'r ffordd yr oeddem yn gallu cyflawni'r rhaglen i gefnogi'r GIG trwy gefnogaeth ein lluoedd arfog, ac rwy'n credu ein bod yn dal yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am y gwaith y gwnaethon nhw drwy'r rhaglen honno. Ond hefyd, rwy'n meddwl yn arbennig am y catrodau Cymreig hynny sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu i amddiffyn ystlys ddwyreiniol NATO, oherwydd rydyn ni'n siarad am y rhyfel yn Wcráin a'r effaith y mae'n ei gael ar bobl Wcráin, a sut mae pobl y Deyrnas Unedig wedi cefnogi pobl Wcráin yn ddiweddar, ond ein lluoedd arfog, wrth gwrs, sy'n amddiffyn gwladwriaethau'r Balcanau ac yn amddiffyn ystlys ddwyreiniol NATO ar hyn o bryd.

Roeddwn yn falch o ddarllen yn eich datganiad, Dirprwy Weinidog, y byddwch yn adolygu gwaith swyddogion cyswllt y lluoedd arfog. Mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn gwneud gwaith aruthrol wrth gefnogi a chynnal gwasanaethau sy'n cael eu darparu i gyn-filwyr mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Rwy'n gobeithio, pan fyddwch chi wedi gallu adolygu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y swyddogion cyswllt y byddwch yn gallu gwneud y cyllid yn fwy parhaol, oherwydd rwy'n credu mai un o'r materion sy'n wirioneddol bwysig—. Ac mewn sgwrs a gawsom ar HMS Cambria bythefnos yn ôl gyda'r grŵp hollbleidiol ar y lluoedd arfog, clywsom am sut mae'r rhaglen ariannu dwy flynedd reolaidd yn ei gwneud hi'n anodd iawn cynllunio ymlaen llaw a darparu cynaliadwyedd a chysondeb dros amser. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallech wneud datganiad ar hynny, Dirprwy Weinidog. Ond rwy'n credu bod hwn yn achlysur pan fydd Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr yn dod at ei gilydd ac yn siarad am sut y gallwn ad-dalu'r ddyled sy'n ddyledus i'n lluoedd arfog am y gwaith y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd, yn ein gwasanaethu ni a phobl y wlad hon. 

17:30

A gaf i ddiolch i Alun Davies, fel Aelod arall yn y Siambr hon unwaith eto, sydd wedi ymrwymo'n gryf iawn i eirioli dros hyn, dros ein cymuned lluoedd arfog a chyn-filwyr, nid yn unig yn y lle hwn ond y tu hwnt hefyd? Ac rwy'n ymuno yn llwyr ag Alun i dalu teyrnged i'n lluoedd arfog sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, boed hynny mewn cysylltiad â ffrynt y dwyrain yn Wcráin neu ynghylch cefnogi ymdrech Wcráin, fel y mae cymunedau yma yng Nghymru yn ei wneud hefyd. Ond rydym yn myfyrio hefyd, fel y dywedoch chi, ar y rhan a chwaraeodd cymuned y lluoedd arfog i'n helpu ni i ymateb i'r her yma gartref o ran pandemig COVID nad yw mor bell yn ôl â hynny. 

O ran eich sylwadau cefnogol am swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, neu AFLOs fel yr ydym yn cyfeirio atynt yn aml, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld canlyniad yr adolygiad, ond hefyd gan ddefnyddio hynny i—. Mae swyddogaeth AFLOs yn cael ei chydnabod y tu hwnt i Gymru hefyd, ac rwy'n awyddus iawn i weld sut y gallwn ddefnyddio canlyniad yr adolygiad hwnnw i dynnu sylw at y gwaith da maen nhw'n ei wneud, yr enghreifftiau hynny o arferion da iawn, y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i'r gymuned a sut maen nhw'n chwarae rhan bwysig a gwerthfawr iawn mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod ein bod wedi siarad yn y lle hwn o'r blaen am y cyllid dwy flynedd, ac rwy'n cydnabod nid yn unig cwestiynau ynghylch sefydlogrwydd o ran cynllunio a'r gwaith y gallant ei wneud, ond cydnabod mai swyddi pobl yw'r rhain hefyd. Felly, rydym yn y sefyllfa hon oherwydd y ffordd y penderfynir ar ein cyllid ar hyn o bryd, ond mae'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono pan edrychwn ni ar swyddogaeth yr AFLOs yn y dyfodol.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwy'n falch iawn bod hwn yn achlysur blynyddol sydd bellach yn ein dyddiaduron fel Aelodau'r Senedd. Nid yw hynny bob amser wedi bod yn wir, ond rydych yn sicr wedi cofleidio'r cyfle hwn i sicrhau ein bod yn dathlu ein lluoedd arfog yma yng Nghymru yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog, ac rwy'n falch iawn hefyd eich bod wedi derbyn y gwahoddiad i ddigwyddiad nos yfory i nodi Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn, oherwydd rydym yn ymwybodol o'r rhan bwysig y mae milwyr wrth gefn yn ei chwarae wrth sicrhau bod gennym bersonél gwasanaethau arfog digonol, ac mae'r ffordd y mae cyflogwyr yn cefnogi ac yn hwyluso eu swyddogaeth fel milwyr wrth gefn hefyd yn bwysig iawn, iawn yn wir.

Yn sicr, rwyf eisiau adleisio'r galwadau am gyllid mwy cynaliadwy ar gyfer swyddogion cyswllt ein lluoedd arfog. Cawsom gyflwyniad ardderchog gan Lisa Rawlings o Went a ddywedodd fwy wrthym am bwysigrwydd eu gwaith yn ein grŵp trawsbleidiol diweddar, ac, wrth gwrs, maent yn cyfrannu'n rheolaidd at ein gwaith yma yn y Senedd. Un o'r heriau yr ydym wedi'u gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw nad oes ymgysylltiad tebyg, os mynnwch chi, gyda'r lluoedd arfog yn ein byrddau iechyd. Nawr, mae rhai eithriadau. Mae gennym ni bobl dda iawn yn gweithio yn y gogledd, er enghraifft. Mae Zoe Roberts, arweinydd cyfamod y lluoedd arfog, yn gwneud gwaith gwych. Ond mae arnom angen pobl fel hynny ym mhob un bwrdd iechyd yng Nghymru i sicrhau bod dull cyson o gymhwyso cyfamod y lluoedd arfog, a rhaid i ni atgoffa'n hunain, wrth gwrs, bob amser o'r ffaith bod gwasanaethau cyhoeddus, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru yn arddel y cyfamod hwn yr ydym ni i gyd eisiau sicrhau ei fod yn cael ei gynnal mewn gwirionedd. Felly, byddaf eisiau gweithio gyda chi, Gweinidog, ac felly hefyd y grŵp trawsbleidiol, i wneud yn siŵr y gallwn ddwyn pwysau ar bobl i sicrhau y bydd y cyfamod yn cael ei gyflawni gan y bobl hynny sy'n ei arddel.

A dau beth, os caf i: a fyddwch chi'n cefnogi ysgolion i gofleidio'r cyfle newydd hwn drwy fenter ysgolion sy'n gyfeillgar i'r lluoedd arfog, y mae Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg Cymru bellach wedi'i greu? Mae'n amlwg yn rhaglen sy'n cael ei harwain gan y Deyrnas Unedig. Rydyn ni eisiau ei chyflwyno ar draws Cymru gyfan, yn enwedig lle mae plant milwyr yn ein hysgolion, ac rydw i eisiau gwybod pa adnodd rydych chi'n mynd i'w roi ar gyfer hynny. Rwy'n falch iawn, yn amlwg, o'r adnoddau ychwanegol sydd wedi mynd i mewn i GIG Cymru, ond mae mwy y gallwn ei wneud. Rydym yn ategu sylwadau'r Cyrnol James Phillips am y ffaith bod Cymru'n lle sy'n cefnogi ein cyn-filwyr a'n lluoedd arfog, ond gallwn wneud mwy bob amser, a dyma rai o'r pethau y gallem eu gwella.

17:35

Diolch, Darren, ac mae'n un o'r achlysuron prin hynny i'w croesawu yn Siambr y Senedd pan na allaf ddod o hyd i unrhyw beth rwy'n anghytuno â Darren Millar yn ei gylch. Peidiwch â fy nyfynnu i ar hynny, unrhyw un, y tu allan i'r lle hwn. Ond, na, o ddifrif, gwnes i groesawu'n fawr y ffordd y gwnaethoch chi ymgysylltu a'r ffordd y gwnaethom ni weithio gyda'n gilydd ar y mater hwn, a hefyd y rhan yr ydych chi'n ei chwarae fel sylwedydd nawr ar grŵp arbenigol y lluoedd arfog hefyd, gan gynnal y cysylltiad hwnnw rhwng y grŵp hwnnw a gwaith y grŵp trawsbleidiol yn y Senedd. Rwy'n gwybod bod fy swyddogion i bob amser yn mynychu'r grŵp trawsbleidiol hefyd, i sicrhau bod gweithio dwy ffordd yn parhau a bod yr ymrwymiad yno i barhau â hynny wrth symud ymlaen. Rydych chi unwaith eto'n tynnu sylw at rhan swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn bod Lisa Rawlings wedi gallu dod i roi'r cyflwyniad hwnnw. Roedd Lisa'n wych. Ymunodd hi â ni yn ddiweddar yn nigwyddiad lansio swyddogol y cynllun achredu meddygon teulu, ac roedd hi yn gyfiawn yn llawn cyffro, oherwydd mae'n rhywbeth sydd wedi effeithio arni hi ei hun, ac y mae hi wir wedi bod yn dadlau drosto a gwthio amdano ers amser maith. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dechrau cyflwyno hynny, a gobeithio gweld hynny'n gwreiddio ym mhob meddygfa ledled Cymru hefyd.

Rydych chi'n gywir—byddaf i'n ymuno â chi yn y digwyddiad nos yfory, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr ato. O ran ysgolion hefyd, a chyswllt ysgolion, roeddwn i'n falch iawn bod fy nghyd-Aelod, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi cynnydd o £350,000 mewn cyllid ar gyfer prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru (SSCE Cymru) ddoe. Felly, rydyn ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod ni'n gallu cefnogi nid yn unig ein cyn-filwyr, ond plant milwyr a theuluoedd milwyr hefyd. Er mwyn pwysleisio'r gwaith trawslywodraethol hwnnw yn y maes hwn, ar ôl i'r Cyrnol James Phillips ddod i'w swydd, rydyn ni wedi sicrhau fy mod i wedi hwyluso cyfarfodydd gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth fel ei fod wedi cael y cyflwyniadau hynny ac mewn gwirionedd ble mae'r holl ysgogiadau gwahanol hynny, fel ein bod ni i gyd yn gweithio ar draws y Llywodraeth, ac mae ef wedi cael cyfleoedd i gyflwyno ei flaenoriaethau fel comisiynydd cyn-filwyr cyntaf Cymru. Felly, rydw i wir yn credu  bod y cydweithio hwnnw gyda'r comisiynydd hefyd wedi dechrau, ac mae'n rhywbeth yr ydyn ni wedi ymrwymo i'w barhau.

Rydyn ni wedi cyrraedd diwedd yr amser ar y datganiad hwn ac mae gennyf i fwy o bobl ar ôl ar fy rhestr i siarad nag yr wyf i wedi'i alw'n barod, felly os gallaf i gael cwestiynau cryno ac atebion cryno, yna caf i gweld lle byddaf yn tynnu'r llinell. Rhianon Passmore. 

Diolch, Llywydd. Diolch am y datganiad hwn, ac rwy'n falch ei fod yn cael ei grybwyll, y digwyddiad yng Nghasnewydd, ddydd Sadwrn i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae'n bwysig iawn i ni. 

Mae'n dal i fy rhyfeddu i, os af at fy nghwestiwn i, Llywydd, bod arolygon barn yn awgrymu bod hanner pobl Prydain, dim ond hanner pobl Prydain—yn wybodol o'r hyn oedd D-day mewn gwirionedd a'i bwysigrwydd i ni. Mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cadw ffrwd gyllido gynaliadwy ar gyfer swyddogion cyswllt ein lluoedd arfog. Hyrwyddwr cyfamod cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r Cynghorydd Teresa Heron, sy'n cynrychioli Cefn Fforest a Phengam, ac rwy'n siŵr y byddai hi hefyd yn croesawu, ochr yn ochr â mi, y gefnogaeth ddiweddar i blant aelodau o'r lluoedd arfog yn ein hysgolion yng Nghymru. Felly, fy nghwestiwn i, Dirprwy Weinidog: beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gynyddu proffil a chyfleoedd i bencampwyr y lluoedd arfog rhoi adborth i fywyd gwaith awdurdodau lleol a gwneud yn gliriach yr amrywiaeth o bolisïau sy'n cael eu datblygu a'u rhaeadru ar gyfer ein cyn-filwyr, y lluoedd arfog a'u teuluoedd ar draws cymunedau Cymru?

17:40

A gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am ei chwestiwn ac ymuno â hi i ddiolch i bobl fel Teresa am y gwaith maen nhw'n ei wneud i hyrwyddo ein lluoedd arfog mewn awdurdodau lleol ledled Cymru? Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos iawn, drwy ein swyddogion cyswllt lluoedd arfog, drwy grŵp arbenigol ein lluoedd arfog, sy'n cynnwys cynrychiolwyr gwahanol yno, i wneud yn siŵr bod yr arfer gorau, ac mewn gwirionedd yn nodi'r meysydd hynny lle mae angen i ni wneud rhywfaint mwy o waith, a sut yr ydyn ni'n lledaenu'r wybodaeth honno, felly, gan sicrhau bod—. Un o'r pethau y gwnaethom ni gyda'r ymarfer cwmpasu oedd gofyn, 'Beth yw'r man cychwyn?' Ble mae'r wybodaeth nid yn unig ar gyfer cyn-filwyr, ond, fel y dywedwch chi, i godi ymwybyddiaeth ynghylch y rhan a gafodd ei chwarae yn ein cymunedau ac yn ein gwlad, boed hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf neu ymhellach yn ôl mewn hanes? Felly, mae llawer iawn o waith parhaus yno, a gallaf i roi'r ymrwymiad i'r Aelod yr ydyn ni wedi ymrwymo'n gryf i barhau â hynny.

Rydych chi'n codi pwynt cwbl gywir fod Casnewydd yn cynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni, ac rwy'n edrych ymlaen at fod yn bresennol yno am ran o ddigwyddiadau coffa'r diwrnod. Y llynedd, roedd yn Wrecsam, ac rwy'n credu y flwyddyn nesaf y bydd yn Abertawe—

Dirprwy Weinidog, un o'r ffyrdd pwysicaf y gallwn ni anrhydeddu ein harwyr a thalu teyrnged i'w gwasanaeth a'u haberth yw diogelu cofebion rhyfel Cymru, ac rwy'n gwerthfawrogi bod rhywfaint o'r cyfrifoldeb hwn yn gorwedd gyda'ch cyd-Aelod, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, ac rwy'n falch ei bod yn ei lle yma y prynhawn yma. Ond rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb mawr yn hyn hefyd. Nawr, byddwch chi a'ch cyd-Aelodau'n gwybod, ers sawl blwyddyn, fy mod i wedi bod yn galw am gyflwyno deddfwriaeth ynghylch y mater hwn, ac er fy mod i'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio cefnogi'r ymgyrch honno, mae'n gwbl hanfodol bod camau'n cael eu cymryd i ddiogelu cofebion rhyfel yma yng Nghymru yn well. Felly, Dirprwy Weinidog, a wnewch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau y cawsoch chi gyda'ch cyd-Aelodau ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu diogelu cofebion rhyfel, wrth symud ymlaen?

Yn olaf, mae hi hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dangos rhywfaint o arweiniad o ran ymdrin â fandaliaeth a dwyn cofebion rhyfel. Nawr, mae'r rhain yn droseddau yn erbyn y gymdeithas, a dylai popeth posibl gael ei wneud o ran nodi ffyrdd o atal y rhai sy'n ceisio symud neu fandaleiddio cofebion rhyfel. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan awdurdodau lleol y cymorth a'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i ymdrin â digwyddiadau fandaliaeth a dwyn cofebion rhyfel yn ein cymunedau? Ac a allwch chi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw drafodaethau yr ydych chi a'ch cyd-Aelodau wedi'u cael gydag awdurdodau lleol a heddluoedd ar y mater penodol hwn?

Rwy'n ymuno â Paul Davies i gondemnio'r gweithredoedd hyn o fandaliaeth neu ladrad o ran ein cofebion rhyfel, a gwyddom ni fod llawer iawn o grwpiau yn treulio llawer iawn o amser yn eu cynnal, yn gofalu amdanyn nhw ac yn addysgu ynghylch cofebau rhyfel. Mae gennyf i sefydliad o fewn fy ardal i fy hun o'r enw Cofebau Rhyfel Sir y Fflint—enwau ar gerrig—ac maen nhw wedi gwneud llawer o waith fel bod pobl yn gwybod pwy yw'r bobl hynny ar y cofebion rhyfel hynny hefyd. Felly, rwy'n ymuno â chi yn hynny o beth.

Gyda pharch, ac er mwyn bod dyn gryno hefyd nawr, rwy'n fwy na pharod i godi'r pwyntiau yr ydych chi wedi'u codi o ran cofebion rhyfel a'u cynnal gyda fy nghyd-Aelod, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, sy'n eistedd wrth fy ymyl. Ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod am hynny maes o law.

Ar gyfer y cofnod, efallai y bydd Aelodau'n ymwybodol fy mod i'n hynod falch o fod yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Cymrodyr Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig Shotton a Glannau Dyfrdwy. Gan nodi'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn gynharach, Llywydd, tybed, Dirprwy Weinidog, os ydych chi'n rhannu fy uchelgais  o ddod â Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ôl i'r gogledd ar y cyfle cyntaf posibl, ac a oes modd i chi amlinellu sut y gallai cynghorau sydd â diddordeb yn hynny wneud cais, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i gynnal digwyddiadau o'r fath.

Rwy'n diolch i'r Aelod ac yn cydnabod yr hyn y mae'n ei ddweud o ran y diddordeb lleol sydd gennym ni i gyd o ran y grwpiau a'r sefydliadau hynny a'n cefndiroedd lleol ein hunain hefyd. Gwnes i sôn am yr ardd goed genedlaethol a chofeb y gwasanaeth cenedlaethol, ac roeddwn i'n falch iawn, yn llawn balchder ac yn freintiedig o gael mynd ar ran Llywodraeth Cymru, ond hefyd cyflawnodd fy nhad-cu fy hun wasanaeth cenedlaethol yn Nigeria ychydig flynyddoedd ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd. Rwy'n cofio tyfu i fyny yn gweld y delweddau du-a-gwyn hynny ohono yn gwasanaethu yn Lagos ac, ar y cefn, llythyrau caru bach at fy mam-gu, yr oedd ef yn ei chanlyn hi ar y pryd, fel yr oedden nhw'n arfer ei ddweud. Felly, mae gan bob un ohonom ni y cysylltiadau lleol hynny, ac rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod ni'n eu codi nhw a'u hyrwyddo nhw y gorau y gallwn ni bob cyfle posibl.

O ran Diwrnod y Lluoedd Arfog yn dod yn ôl i'r gogledd, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol, felly byddwn i'n annog awdurdodau lleol i gamu ymlaen, a chysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru i ystyried sut, efallai, ar ôl Abertawe y flwyddyn nesaf, y flwyddyn wedyn, y gallwn ni ddychwelyd i'r gogledd.

17:45

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn groesawu'r holl bethau cadarnhaol rydych chi wedi'u gwneud, yn enwedig o ran plant milwyr a'r pethau rydych chi wedi'u gwneud yn hyn o beth. Gan fy mod yn dod o deulu'r lluoedd arfog, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw cydnabod y gwaith a'r ymrwymiad a'r cyfraniad y mae ein lluoedd arfog yn ei wneud, a'r ddyled enfawr o ddiolchgarwch, yn amlwg, sydd gennym ni iddyn nhw. Bydd y Diwrnod Lluoedd Arfog hwn a'r digwyddiad yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn yn rhoi'r cyfle hwnnw i ni dalu teyrnged a chydnabod y cyfraniad y maen nhw yn ei wneud.

Yn ystod fy nghyfnod ar Gyngor Sir Fynwy, roeddwn i'n hyrwyddwr y lluoedd arfog, a nawr, mae pum awdurdod lleol wedi ennill y wobr aur yn y cynllun cydnabod cyflogwyr y weinyddiaeth amddiffyn, a hefyd yn cynnig y cynllun gwarant o gyfweliad, sy'n hollol wych ac i'w groesawu. Mae'n bennaf oherwydd cyfraniad swyddogion cyswllt y lluoedd arfog hynny, sydd eisoes wedi'i grybwyll, gan gynnwys Lisa Rawlings o fy ardal i, sy'n hollol anhygoel a gweithgar, effeithiol a gwybodus. A diolch lle mae angen diolch: mae'r Senedd wedi cymryd camau breision dros gyn-filwyr, ond er mwyn i ni ymdrechu a gwneud y trosglwyddiad esmwyth hwnnw i fywyd sifil, mae angen y swyddogion cyswllt hynny. Ac felly, fy nghwestiwn i chi, sydd eisoes wedi'i ofyn, oedd sicrhau parhad y cyllid hwnnw, y tâl hwnnw i'n swyddogion cyswllt; maen nhw'n gwbl hanfodol. Rwyf hefyd yn ailadrodd y galwadau a wnaeth Darren Millar ar gyfer yr un math o swyddogion cyswllt o fewn ein GIG. Felly, gofynnaf ichi wneud hynny. Diolch.

Rwy'n gwybod, Laura Anne Jones, o ystyried eich cefndir, fod hyn yn rhywbeth rydych chi wedi ymrwymo'n fawr iddo. A gaf i ymuno â chi i longyfarch yr awdurdodau hynny sy'n derbyn eu gwobr aur? Nid chwarae bach mo hynny, ac rwyf wir eisiau annog eraill i wneud yr un peth a gweld cydnabyddiaeth bellach ledled Cymru. Ac mewn perygl o ennyn digofaint y Llywydd nawr o ran crynoder, rwy'n ystyried yr holl bwyntiau rydych chi wedi'u gwneud, ac mae eraill wedi'u gwneud, o ran swyddogion cyswllt y lluoedd arfog a'u swyddogaeth anhygoel mewn cymunedau ledled Cymru.

Fe fyddwn yn hoffi pe baech chi wastad yn gwrando cystal pan fyddaf yn gofyn am gwestiynau ac atebion cryno. Oherwydd eich bod chi wedi gwneud mor dda, gallaf alw James Evans. 

Diolch, Llywydd. Dirprwy Weinidog, mae'n dda iawn y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd heddiw i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog a'r gwaith gwych y mae ein lluoedd arfog yn ei wneud i'n hamddiffyn ni yma i sicrhau ein bod ni i gyd yn ddiogel, a hefyd y gwaith dyngarol maen nhw'n ei wneud ledled y byd. Ond mae hefyd yn gyfle da i dynnu sylw at rai o'r materion sy'n wynebu ein lluoedd arfog. Yr hyn yr ydym yn ei weld yw gostyngiad o 30 y cant yn nifer y bobl sy'n gwasanaethu'n llawn amser yn ein lluoedd arfog. Hoffwn wybod pa waith y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog pobl i ymuno â'r lluoedd arfog, i sicrhau bod gan y gwasanaeth hwnnw bersonél bob amser yn barod i'w defnyddio pryd bynnag y bydd eu hangen arnom ni.

Dylwn fod yn ofalus o'r hyn rwy'n ei ddymuno; Dylwn i fod wedi siarad am fwy o amser mewn ymateb i Laura Anne Jones—na. Rwy'n croesawu cyfraniad James Evans, ac rwy'n gwybod o ran yr etholaeth rydych chi'n ei chynrychioli, mae hyn yn rhywbeth sy'n agos iawn at eich calon ac yn rhywbeth rydych chi'n ei godi pryd bynnag y gallwch chi yn Siambr y Senedd. Rwy'n credu o ran recriwtio i'r lluoedd arfog, mae'n amlwg bod hynny'n fater a gedwir yn ôl, ond mae'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno. Rydym ni'n gwneud llawer o waith o ran cyflogaeth a phontio, ond mae'r gwaith rydym ni'n ei wneud hefyd o ran Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn a'r digwyddiad lluoedd wrth gefn hefyd, a sut rydym ni'n annog cyflogwyr efallai yng Nghymru i gydnabod rhan y lluoedd wrth gefn, a bod hynny yn fudd ac yn ased i'r gymuned hefyd—felly, a dweud y gwir, sut y gallwn ni wneud hynny o ran defnyddio ein grym yng Nghymru o ran gweld hynny fel rhywbeth cadarnhaol o ran cyflogwr, i roi'r amser hwnnw i bobl wneud hynny fel y cam hwnnw i gefnogi cymuned y lluoedd arfog hefyd.

9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 9, y cynnig cydsyniad  deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol. Y Dirprwy Weinidog sy'n cyflwyno'r cynnig yma. Dawn Bowden.

Cynnig NDM8297 Dawn Bowden

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, i'r graddau y maen nhw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU. Diolchaf i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ac am eu hargymhellion bod y Senedd yn cefnogi ac yn cydsynio i gymalau 141 a 142 o'r Bil, ac Atodlenni 6 a 7 i'r Bil.

Mae gan y DU un o'r economïau mwyaf sylweddol a mwyaf agored, sy'n ei gwneud yn lle deniadol i fusnes byd-eang. Fodd bynnag, mae'r natur agored hon yn agor y DU i'r risg gan y rhai sy'n ceisio cyflawni twyll a gwyngalchu arian. Mae'r Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol yn cynnwys darpariaethau i ddiwygio Tŷ'r Cwmnïau, i atal cam-drin partneriaethau cyfyngedig, ac i alluogi atafaelu ac adennill cryptoasedau a ddelir gan droseddwyr. Rwy'n cefnogi'r amcanion polisi yn y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol i atal troseddau cyfundrefnol, twyllwyr, cleptocratiaid a therfysgwyr rhag defnyddio cwmnïau ac endidau corfforaethol eraill i gam-fanteisio ar economi agored y DU.

Byddai gwneud y darpariaethau hyn yn sicrhau bod economi Cymru yn lle anodd i wyngalchu arian, cyflawni troseddau seiber economaidd a gweithgareddau anghyfreithlon cysylltiedig eraill. Rwy'n cefnogi dyrannu adnoddau priodol i Dŷ'r Cwmnïau weithredu'r newidiadau o ran ei gyfrifoldebau cynyddol o ganlyniad i weithredu'r Bil.

Ym mis Tachwedd, fe wnaethom ni gyflwyno memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac ym mis Ionawr a mis Mawrth femoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol, ac argymhellwyd bod y Senedd yn cefnogi'r cynigion ac yn rhoi ei chydsyniad. Felly, gofynnaf i'r Senedd roi ei chydsyniad i'r memorandwm hwn y prynhawn yma.

17:50

Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu defnyddio memoranda cydsyniad deddfwriaethol fel mater o egwyddor. Credwn yn gryf y dylai penderfyniadau ar feysydd cymhwysedd datganoledig gael eu gwneud yn ddi-eithriad gan y Senedd hon.

O ran y Bil hwn, croesewir rheoliadau i wrthsefyll dylanwad cyllid anghyfreithlon a gorfodi tryloywder corfforaethol. Mae'n werth atgoffa ein hunain, fodd bynnag, cyn i Putin ymosod ar Wcráin, fod y Llywodraeth Dorïaidd hon wedi goruchwylio llif gwirioneddol o arian Rwsiaidd budr i economi'r DU. Mae yna reswm da bod Llundain wedi cael yr enw 'Moscow-on-Thames'. A hyd yn oed nawr, bron i flwyddyn a hanner ers dechrau'r goresgyniad llawn a bron i ddegawd ers cipio'r Crimea yn anghyfreithlon, nid yw'r cysylltiadau ymddangosiadol rhwng y Torïaid ac arian Rwsiaidd wedi'u datgelu llawn eto. Er enghraifft, efallai y gallai'r Torïaid wrthod unrhyw roddion pellach o ffynonellau Rwsiaidd a gallent dalu'n ôl y £243,000 y maen nhw eisoes wedi'i dderbyn gan roddwyr o'r fath ers dechrau'r goresgyniad ar Wcráin. Fel yr amlygwyd gan waith ymchwiliol y Good Law Project, mae hyn yn cynnwys rhoddion gan wraig cyn-ddirprwy Weinidog cyllid Rwsiaidd a chwmni sy'n eiddo i un o enwau mawr Rwsia yn y diwydiant olew.

Dylem hefyd ystyried ymgreinio'r Torïaid ger bron oligarchiaid fel Evgeny Lebedev. Fe wnaeth Boris Johnson, yn ei holl ddoethineb, ei enwebu i fynd i Dŷ'r Arglwyddi er iddo gael ei gyfoeth gan ei dad, Alexander, a gafodd ei gosbi yn ddiweddar gan Wcráin am ei gysylltiad â chyfundrefn y Kremlin. O ystyried eu hanes alaethus yn y maes hwn, rydym yn amheus iawn y bydd y Llywodraeth Dorïaidd hon yn effeithiol ar orfodi tryloywder corfforaethol yn hyn o beth. Yn y pen draw, y ffordd orau o sicrhau bod ein heconomi yn gweithio'n llawn er budd pobl Cymru, yn hytrach nag er budd oligarchiaid dirgel a chwmnïau rhyngwladol sy'n osgoi treth, yw drwy annibyniaeth.

Gan droi at ddarpariaethau penodol y Bil ar ddiwygio Tŷ'r Cwmnïau, a allai'r Gweinidog ddatgelu a yw hi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar ddarparu adnoddau ychwanegol i ganghennau Cymru Tŷ'r Cwmnïau i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau newydd yn effeithiol? Diolch yn fawr.

Diolch, Llywydd. Dim ond i ddweud yn fyr iawn na fyddwn o reidrwydd yn anghytuno â phryderon Peredur am oligarchiaid a chysylltiadau Rwsiaidd yn y DU. Fodd bynnag, nod y Bil yw cryfhau ffiniau'r DU mewn ymateb i droseddau economaidd yn benodol, gan roi pwerau newydd i asiantau gorfodi'r gyfraith atafaelu'r cryptoasedau hynny a galluogi busnesau yn y sector ariannol i rannu gwybodaeth yn fwy effeithiol. 

Mae'r trafodaethau paratoadol gyda Llywodraeth y DU a'r dadansoddiad dilynol wedi nodi bod y darpariaethau datganoledig dan sylw yn dechnegol ac nad ydynt yn gynhennus ac felly mae'n briodol defnyddio'r Bil i wneud y darpariaethau hyn yn hytrach na defnyddio Bil Senedd. O gofio, Llywydd, y bydd y Bil yn helpu economi Cymru i barhau i fod yn economi agored, gan barhau i fod yn lle anodd i wyngalchu arian, cyflawni troseddau seiber economaidd a gweithgareddau anghyfreithlon cysylltiedig eraill, felly gofynnaf i'r Aelodau gydsynio i'r Bil. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon

Eitem 10 sydd nesaf, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon. Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sydd yn gwneud y cynnig yma. Jane Hutt.

Cynnig NDM8296 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Mudo Anghyfreithlon i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig ac yn argymell nad yw Aelodau'n cydsynio i'r Bil hwn. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac am eu hadroddiad diweddar. Rwy'n nodi bod mwyafrif aelodau'r pwyllgorau yn cytuno â'r safbwynt rwy'n ei gyflwyno i'r Senedd heddiw. Byddaf wrth gwrs yn darparu rhagor o wybodaeth maes o law mewn ymateb i adroddiadau'r pwyllgorau.

Llywydd, bydd Bil Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth y DU yn tanseilio yn sylfaenol ein gweledigaeth o fod yn genedl noddfa, y mae'r Senedd wedi'i chymeradwyo. Mae cyfres o unigolion a sefydliadau uchel eu parch wedi datgan yn ddiamwys bod y Bil hwn yn torri ein rhwymedigaethau ac yn gyfystyr â gwaharddiad ar loches. Wrth gwrs, ategwyd y lleisiau hynny ddoe gan gyrff meddygol blaenllaw. Mae'r Cyd-bwyllgor Tai Seneddol ar Hawliau Dynol wedi nodi'n glir nad yw darpariaethau'r Bil yn gydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, neu nifer o rwymedigaethau cyfreithiol rhwymol eraill, gan gynnwys mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern a'r confensiwn ffoaduriaid.

Mae yna ffyrdd tosturiol ac effeithiol y gallwn ni fynd i'r afael â thrafferthion ceiswyr lloches, yn bennaf trwy sicrhau llwybrau diogel a chyfreithiol, fel y gelwais amdanynt yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Mawrth. Mae'n Wythnos Ffoaduriaid, a'r thema eleni yw tosturi. Mae'n amserol bod angen i ni fel Senedd ystyried y Bil Mudo Anghyfreithlon hwn yn y cyd-destun hwnnw. Mae ein dull yn ymwneud ag integreiddio, am weld y plentyn yn gyntaf cyn y statws mewnfudo, ynghylch rhoi budd gorau plant fel yr ystyriaeth bwysicaf. Mae'r Bil yn diystyru’r dull hwn.

Mae'r darpariaethau a gwmpesir gan y ddau femorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynais yn cynnwys tynnu plant o ofal gwasanaethau cymdeithasol Cymru gyda'r posibilrwydd o'u rhoi mewn ystafell ddal neu eu halltudio; dileu'r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad asesu oedran, er gwaethaf yr effeithiau niweidiol sylweddol iawn a achosir gan benderfyniad anghywir; y pŵer i Lywodraeth y DU dybio bod person ifanc yn oedolyn os yw'n gwrthod caniatâd i gymryd rhan mewn asesiad oedran gwyddonol honedig, er gwaethaf effaith hyn a natur ymwthiol y profion hyn; a phŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i ddiwygio deddfwriaeth Senedd Cymru o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed i eithrio carfannau penodol o bobl o'r ddyletswydd newydd i'w hanfon o'r DU. Hoffwn nodi y bu newid yn rhif y Bil yn ystod yr wythnos ddiwethaf, fel bod yr hyn yr ydym ni wedi bod yn cyfeirio ato fel cymalau 55 a 56 bellach yn gymalau 56 a 57.

Nid yw'r Bil yn cydnabod cyd-destun datganoledig Cymru, ac mae'n rhoi pŵer, fel yr amlinellais i, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy'n gosod swyddogaethau ar awdurdodau datganoledig Cymru. Yng Nghymru, rydym ni'n trin pob plentyn ar ei ben ei hun sy'n chwilio am loches fel plentyn sy'n derbyn gofal, ac mae hyn wedi'i nodi yng nghyfraith Cymru o dan Ran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae ein safbwynt polisi yn deillio o'n hymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i weithredu er budd gorau pob plentyn. Ac fel yr adroddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'n pwyllgor, bydd gan awdurdodau lleol yr her o ymdrin â dau ddull statudol ond croes o asesu oedran, wrth iddyn nhw geisio cyflawni eu dyletswyddau tuag at blant. Mae'n gwbl annerbyniol i Lywodraeth y DU, drwy'r Bil hwn, fod yn tanseilio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd drwy geisio penderfynu beth sydd er budd gorau plant, neu orfodi dulliau penodol o asesu oedran nad ydynt yn cael eu hystyried yn arfer dda yng Nghymru. Felly, Llywydd, gofynnaf i'r Aelodau beidio â chydsynio i'r darpariaethau hyn yn y Bil hwn heddiw. Diolch.

17:55

Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gyntaf. Jenny Rathbone.

Diolch yn fawr iawn. Ystyriodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ym mis Mai, ac ysgrifennodd ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at randdeiliaid sydd â diddordeb yn y materion a gwmpesir gan y Bil neu arbenigedd ynddynt, yn ogystal ag at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Fe wnaethom ni ofyn i randdeiliaid wneud sylwadau ar ddarpariaethau'r Bil sy'n ymwneud â meysydd cymhwysedd datganoledig, materion gofal cymdeithasol yn bennaf. Cawsom wyth ymateb, ac mae'n drawiadol bod y negeseuon allweddol a fynegwyd mor gyson. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn gwrthwynebu'r Bil, ac roedd y rhai a roddodd farn ar gydsyniad yn argymell bod y Senedd yn gwrthod cydsyniad.

Codwyd tri mater allweddol ynghylch Bil Llywodraeth y DU: (1) diffyg cydnawsedd â hawliau dynol; (2) y goblygiadau posibl ar gyfer hawliau plant; a (3) potensial y Bil i danseilio polisi Cymru a'r cyd-destun deddfwriaethol, ac, yn benodol, Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Disgrifiodd Comisiynydd Plant Cymru y goblygiadau i hawliau plant fel rhai sy'n groes i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Y bobl sy'n ganolog i'r mater hwn yw dynion, menywod a phlant unigol a fydd i gyd â'u rhesymau neu amgylchiadau anobeithiol eu hunain sy'n eu cymell, yn gyffredinol, i wneud teithiau peryglus iawn. Rydym yn rhannu'r awydd i roi terfyn ar y teithiau peryglus dros y sianel a'r golled drasig o fywyd sy'n digwydd ym Môr Udd, ond ni lwyddir i wneud hynny heb ffyrdd amgen o wneud cais am loches i'r DU. Oni bai eich bod o Wrcráin, o Hong Kong, ac, o bosib, os ydych chi'n gyfieithydd o Afghanistan, nid oes unrhyw ffyrdd amgen o wneud cais cyn cyrraedd ynysoedd Prydain.

Yn benodol, mae dibenion cymalau 19, 20, 55 a 56 yn ymwneud â gofal cymdeithasol, sydd i gyd yn faterion datganoledig. At hynny, byddai cymal 3 yn grymuso'r Ysgrifennydd Gwladol i ddiwygio deddfiadau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd heb ganiatâd y Senedd. Felly, byddai hyn mewn gwirionedd yn tanseilio datganoli

Cytunodd mwyafrif yr Aelodau fod cymalau 3, 19, 20, 55 a 56 yn gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Senedd, ac roedd un Aelod yn anghytuno. Y goblygiadau ar gyfer polisi datganoledig pe bai darpariaethau cymal 15 i 18 yn cael eu hymestyn i Gymru yw eu bod yn debygol o danseilio swyddogaeth awdurdodau lleol wrth gynnal asesiadau o angen o dan Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Wrth drin plant dan oed ar eu pen eu hunain a phlant sy'n ceisio lloches yn wahanol i blant eraill, gall y cymalau hyn dorri Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r dull gweithredu seiliedig ar hawliau sy'n ganolog i'n dull gweithredu yng Nghymru. Byddai dulliau polisi eraill a fabwysiadwyd yng Nghymru, gan gynnwys plant yn gyntaf, ymfudwyr yn ail, ac uchelgais Llywodraeth Cymru i Gymru fod yn genedl noddfa, hefyd yn cael eu peryglu o ganlyniad. Mae mwyafrif y pwyllgor yn argymell y dylai'r Senedd atal cydsyniad deddfwriaethol, gydag un Aelod yn anghytuno. Roedd Aelod arall yn gwrthwynebu egwyddor Bil Llywodraeth y DU yn deddfu ar ddeddfwriaeth a fydd yn berthnasol i Gymru, ond a oedd o blaid gwrthod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. 

18:00

Diolch, Llywydd. Rwy'n cyfrannu heddiw yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac rwy'n siarad ar ran mwyafrif y pwyllgor, ond nid ar ran fy nghyd-Aelodau James Evans a Laura Jones, nad ydynt yn cytuno â'r casgliadau a'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad.

Ym mis Chwefror 2022, siaradais yn y Siambr hon am y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn ystod dadl a rannodd lawer o'r un nodweddion â'r ddadl hon heddiw. Yna, daeth mwyafrif y pwyllgor i'r casgliad bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer rhai darpariaethau yn y Bil, er nad oedd Llywodraeth y DU yn cytuno â hynny. Ac fe wnaethom ni argymell bod y Senedd yn atal y cydsyniad hwn. Roeddem wedi derbyn tystiolaeth gyson yn nodi bod technegau asesu oedran gwyddonol honedig ar gyfer asesu oedran ceiswyr lloches, fel y nodir yn y Bil, yn anghywir ac yn gallu bod yn drawmatig i bobl ifanc.

Heddiw, unwaith eto, rwyf yma'n siarad yn ystod dadl am gynnig cydsyniad deddfwriaethol arall am drin ceiswyr lloches y mae anghydfod o ran eu hoedran. Yn union fel ym mis Chwefror y llynedd, rydym ni wedi dod i'r casgliad bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer cymalau penodol yn y Bil. Ac yn union fel ym mis Chwefror y llynedd, rydym ni wedi argymell nad yw'r Senedd yn cydsynio.

Cyn i mi egluro pam ein bod wedi dod i'r casgliadau hyn, hoffwn ddiolch i'r sefydliadau a ymatebodd i'n cais ar y cyd, gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, am dystiolaeth ysgrifenedig, a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ymateb yn gynhwysfawr i'n cais am ragor o wybodaeth mewn amser mor fyr. Roedd y dystiolaeth a gawsom yn hynod gyson, ac yn sail i'r casgliadau a'r argymhellion yn ein hadroddiad.

Yn gyntaf, ynglŷn ag a oes angen cydsyniad, nid yw Llywodraeth y DU yn credu bod unrhyw gymalau yn y Bil yn gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Nid yw nodiadau esboniadol y Bil yn esbonio pam yn fanwl iawn. Maen nhw'n nodi bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod llawer o gymalau yn y Bil yn ymestyn i Gymru, ond nid ydynt yn credu eu bod yn sbarduno'r broses cydsyniad deddfwriaethol. Rydym yn anghytuno. Mae Cymal 3 yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud diwygiadau i unrhyw Ddeddfau neu Fesurau'r Senedd at ddibenion penodol. Mae cymalau 19 ac 20 yn ymwneud â darparu llety i blant mudol ar eu pen eu hunain a'u trosglwyddo o un awdurdod lleol i'r llall, sy'n effeithio ar faes datganoledig gofal cymdeithasol. Ac mae dau gymal yn newid natur y broses asesu oedran ar gyfer ceiswyr lloches sy'n destun anghydfod oedran yng Nghymru, sydd hefyd yn effeithio ar faes datganoledig gofal cymdeithasol. Er bod prif ddiben y darpariaethau hyn yn ymwneud â'r maes mewnfudo a gedwir yn ôl, credwn fod ganddyn nhw ddiben deuol sy'n effeithio ar faterion datganoledig.

Yn ail, o ran a ddylai'r Senedd gydsynio, os caiff ei ddeddfu, bydd y Bil Mudo Anghyfreithlon yn gwneud yr hyn yr ydym yn credu sy'n newidiadau pryderus iawn i'r broses asesu oedran sydd eisoes yn ddadleuol a gyflwynwyd gan Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022. Mae'r Bil i bob diben yn gwarafun yr hawl i bobl ifanc apelio yn erbyn penderfyniad asesu oedran. Mae hon yn broblem ynddi hi ei hun. Mae cael gwared ar hawl person ifanc i apelio yn erbyn penderfyniad mor dyngedfennol sy'n newid ei fywyd yn peri gofid, ond mae'n arbennig o broblemus pan fo tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu y canfyddir yn ddiweddarach fod dwy ran o dair o'r asesiadau oedran wyddonol honedig hyn yn anghywir. Mae'r Bil hefyd yn rhoi'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol gymryd yn ganiataol mai oedolyn yw unrhyw geisiwr lloches y mae anghydfod am ei oedran nad yw'n cydsynio i'r technegau asesu oedran dadleuol hyn. Gallai hyn olygu bod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i'w halltudio o dan gymal 2 y Bil.

Rydym ni wedi ymrwymo i roi hawliau plant wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'r holl dystiolaeth a gawsom yn dangos bod y Bil Mudo Anghyfreithlon yn diystyru hawliau plant a hawliau dynol yn ehangach. Yn gymaint felly fel nad yw Llywodraeth y DU yn gallu cadarnhau bod darpariaethau'r Bil yn gydnaws â hawliau confensiwn y Cenhedloedd Unedig. Ac yn gymaint felly nes bod Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi mynegi pryder mawr am y Bil, gan nodi, pe bai'n cael ei basio, y byddai'n torri rhwymedigaeth y DU o dan gyfraith ryngwladol. Felly, ar ran plant a phobl ifanc ym mhobman, rydym yn argymell bod y Senedd yn gwrthod cydsynio i'r Bil hwn heddiw.

18:05

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Cyflwynodd fy mhwyllgor ei adroddiad ddoe ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon. Daethom i dri chasgliad a gwnaethom un argymhelliad, a byddaf yn ymdrin â'r rheini mewn byr eiriau yn y sylwadau.

Bydd yr Aelodau'n gwybod yr awn ati i drin a thrafod mewn ffordd sych a ffeithiol iawn. Rydym yn edrych ar y cyfansoddiad ac effeithiau cyfreithiol cynnig deddfwriaethol, ond nid yw hynny o reidrwydd yn ei gwneud yn llai diddorol.

Roedd ein casgliad cyntaf yn cytuno gydag asesiad y Gweinidog bod cymalau 3, 19, 20 a chymalau newydd 55 a 56 o'r Bil yn dod o fewn diben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac felly bod angen cydsyniad y Senedd.

Mae cymalau 15 i 18 yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i ddarparu llety i blant mudol ar eu pen eu hunain yn Lloegr, darparu fframwaith i'r Ysgrifennydd Gwladol drosglwyddo plant o lety'r Swyddfa Gartref i ofal awdurdodau lleol ac i'r gwrthwyneb, yn gosod dyletswyddau gwybodaeth ar awdurdodau lleol, a rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol orfodi'r dyletswyddau hynny. Byddai cymal 19 o'r Bil yn caniatáu ymestyn cymalau 15 i 18 i Gymru. Nawr, wrth wneud hynny, mae'n rhoi pŵer—ac fe hoffwn i bwysleisio hyn—gan ganiatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru neu a basiwyd gan y Senedd hon, heb ofyn am gydsyniad y naill na'r llall. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw nad ydym yn ystyried bod hyn yn dderbyniol.

Nodwn sylwadau'r Gweinidog, a bydd y Senedd yn nodi hefyd, fod Llywodraeth y DU wedi methu â chadarnhau bod y Bil yn gydnaws â hawliau'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, ac, yn wir, mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw o dan adran 19(1)(b) o Ddeddf Hawliau Dynol 1998.   

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud ei bod yn fodlon bod modd cymhwyso darpariaethau'r Bil yn gydnaws â hawliau'r confensiwn. Nid yw Memorandwm Rhif 2 yn ystyried y datganiad penodol hwn, ac felly argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru nodi ei barn ar y mater hwn. Ni chlywais hynny yn sylwadau agoriadol y Gweinidog, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai ymateb i hynny ar y diwedd.

Mae ein hadroddiad hefyd yn tynnu sylw at bryderon cynrychiolwyr llawer o sefydliadau rhyngwladol blaenllaw, er enghraifft, Comisiynydd Hawliau Dynol Cyngor Ewrop ac Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, ac rydym yn tynnu sylw'r Senedd at adroddiad y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol, pwyllgor o'r ddau Dŷ yn San Steffan, a ddaeth i'r casgliad bod y Bil, ac rwy'n dyfynnu,

'yn torri nifer o rwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol y DU...ac yn peryglu torri rhai eraill.'

Rwy'n dweud unwaith eto, rydym yn cloriannu hyn mewn dull cyfreithiol a chyfansoddiadol sych iawn, ond mae hynny'n eithaf clir. Felly, fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r setliad datganoli yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol a hawliau confensiwn. Mae cod gweinidogol Llywodraeth Cymru hefyd yn gosod dyletswyddau penodol ar Weinidogion i gydymffurfio â chyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau cytundebau.

Felly, daw hyn â mi at ddau gasgliad terfynol ein hadroddiad unfrydol, y bydd ar yr holl Aelodau eisiau ei ystyried o ddifrif, wrth i ni geisio heddiw rhoi ein barn fel Senedd ar y cyd ac yn unigol ar fater pwysig cydsyniad. Yn gyntaf, rydym yn rhannu pryderon y Gweinidog a'r nifer o gyrff y cyfeirir atyn nhw yn ein hadroddiad, ac, yn wir, rhai pwyllgorau eraill yma, ynghylch cydnawsedd y Bil â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Ar ben hynny, rydym yn tynnu sylw at y ffaith y gallai penderfyniad gan y Senedd i gydsynio i'r Bil hwn gyfrannu at dorri cyfraith ryngwladol a byddai'n golygu bod y Senedd yn gweithredu'n anghyson â rhwymedigaethau rhyngwladol, a fyddai'n gwbl groes i ysbryd y setliad datganoli.

Felly, dyna gasgliadau cytunedig ein pwyllgor, a diolchaf i'n holl Aelodau am eu hystyriaeth fanwl a diduedd iawn o'r cyngor cyfreithiol ar y dystiolaeth a'r dadansoddiad. Hoffwn ddiolch hefyd i'n clercod a'r tîm ehangach am eu cymorth. Gobeithiwn y bydd ein hadroddiad o gymorth i holl Aelodau'r Senedd wrth ddod i benderfyniad ynghylch cydsynio.

18:10

Mae Cymru, fel cenedl noddfa, yn bodoli i gyfeillion o dramor ar ôl iddyn nhw gyrraedd yma a chael mynediad at wasanaethau datganoledig, er, wrth gwrs, mae'r gwasanaethau hynny eisoes dan bwysau aruthrol, gydag argyfwng cyflenwad tai ac amseroedd aros gwaethaf y GIG ym Mhrydain. Fodd bynnag, mae mewnfudo yn fater nad yw wedi'i ddatganoli ac a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod pryderon am yr effaith y gallai'r Bil hwn ei chael ar blant ar eu pen eu hunain a dioddefwyr masnachu pobl, am yr angen am lwybrau diogel a chyfreithiol i'r DU ac am yr angen i ddarparu noddfa i'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Rydyn ni hefyd yn ymwybodol fod y pryderon hyn yn cael eu codi gan Aelodau o bob plaid yn nau Dŷ'r Senedd yn y DU, lle mae'r cyfrifoldeb am ddiwygio'r ddeddfwriaeth hon. Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn cydnabod bod dros 45,700 o bobl wedi cyrraedd ar gychod bach yn 2022, cynnydd o 60 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol; bod pobl wedi colli eu bywydau yn ceisio croesi lôn longau brysuraf y DU mewn cychod llipa; bod y rhai sy'n croesi yn teithio o wledydd diogel; y camfanteisir ar y bobl sy'n gwneud y teithiau hyn gan smyglwyr pobl sy'n codi miloedd o bunnau arnyn nhw cyn defnyddio'r arian hwn i ariannu troseddau difrifol eraill; ac na allwn ni barhau i ychwanegu pwysau annerbyniol ar ein gwasanaethau iechyd, tai, addysg a lles.

Nid yw'r ddyletswydd i ddileu, yng nghymal 2(1) y Bil, yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud trefniadau symud ymaith ar gyfer plant ar eu pen eu hunain nes eu bod yn 18 oed. [Torri ar draws.]

Fel mater o bolisi, y pŵer yng nghymal 3(2) y Bil—. Mae'n ddrwg gennyf, ai ymyriad yw hwnna?

Diolch. Diolch am dderbyn ymyriad. Rydyn ni'n siarad am blant dan oed ar eu pen ein hunain ac rydyn ni'n sôn am eu cadw'n ddiogel a chael gwared ar yr hawl i ni wneud hynny. A ydych chi'n rhannu'r un pryderon sydd gennyf i fod Llywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am gadw plant dan oed ar eu pen eu hunain yn ddiogel, wedi llwyddo i golli mwy na 100 o blant, ac nad ydyn nhw hyd yn oed yn gwybod ble maen nhw? Nid yw hynny'n hanes da o gadw plant dan oed yn ddiogel.

18:15

Wel, rwy'n credu ei bod hi'n erchyll bod gangiau'n dwyn plant oddi ar ein strydoedd, ac rwy'n rhannu eich pryder. Ond fel mater o bolisi, dim ond ar gyfer plant ar eu pen eu hunain y bydd y pŵer yng nghymal 3(2) y Bil yn cael ei arfer pan fo nhw o dan 18 oed o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn cyn iddyn nhw fod yn oedolion, megis at ddibenion aduniad teuluol, neu pan symudir nhw ymaith i wlad wreiddiol ddiogel. Os yw rhywun yn cael ei adnabod fel rhywun sydd o bosib yn dioddef caethwasiaeth fodern, bydd y Bil yn sicrhau ei fod yn cael ei dychwelyd adref neu i wlad ddiogel arall. Gellir gohirio symud ymaith o'r DU pan fydd rhywun yn cydweithredu ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith mewn ymchwiliad i amgylchiadau masnachu neu gaethwasiaeth fodern.

Rhwng 2015 a Rhagfyr 2022, cynigiodd y DU le i 481,804 o ddynion, menywod a phlant a oedd yn ceisio diogelwch trwy lwybrau mynediad diogel a chyfreithiol. Mae angen i ni nawr weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i gynyddu faint o lwybrau diogel a rheolaidd sydd ar gael i'r DU hon yr ydym ni'n ei rhannu. Wrth i fudo anghyfreithlon gael ei gyfyngu, bydd gan Lywodraeth y DU fwy o gapasiti i ddarparu hafan ddiogel i'r rhai sy'n wynebu perygl rhyfel ac erledigaeth. Ac mae'r Bil yn darparu i Lywodraeth y DU ymrwymo i ailsefydlu ffoaduriaid agored i niwed o bob cwr o'r byd, bob blwyddyn. Byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn yn unol â hynny.

Bob tro y daw cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd hon, rwy'n dweud yr un peth, ac rydych chi eisoes wedi'i glywed y prynhawn yma: ni waeth beth fo'r pwnc, mae Plaid Cymru yn credu'n gryf y dylai'r Senedd hon wneud pob penderfyniad sy'n ymwneud â meysydd cymhwysedd datganoledig, yn unol â dymuniadau democrataidd pobl Cymru. Mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi troi fwyfwy at ddefnyddio cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn tanlinellu'r agenda canoli niweidiol sy'n anwybyddu ein datganoli yn llwyr.

Trown yn awr at bwnc y cynnig hwn, sef mae'n siŵr un o'r darnau mwyaf caeth o ddeddfwriaeth sydd wedi dod ger ein bron. Bwriad y Bil hwn yw ymosod ar hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae fy mhlaid yn erbyn y Mesur Mudo Anghyfreithlon annynol sydd wedi'i gynnig gan San Steffan, ac rydym ni wedi ei ymladd ar bob lefel o Lywodraeth. Nid yw'n syndod na fyddwn yn pleidleisio o blaid y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sy'n cael ei drafod yn y Senedd hon ynghylch y Bil Mudo Anghyfreithlon.

Gyda'n nod o fod yn genedl noddfa, does gan ddeddfwriaeth greulon a didostur fel hon ddim lle o gwbl yng Nghymru. Pe bai gennym ni'r pwerau angenrheidiol yn ein gwlad, gallem sicrhau na fyddai'r Bil annynol hwn tuag at ffoaduriaid yn berthnasol yma. Mae hyn yn mynd at wraidd pam fod Plaid Cymru yn cefnogi annibyniaeth: nid er mwyn annibyniaeth y mae hynny, ond fel y gallwn ni amddiffyn ein hunain rhag polisïau cyntefig a didostur sy'n deillio o San Steffan.

Bydd y cynlluniau ar gyfer cadw ac alltudio o dan y Bil yn torri hawliau ffoaduriaid. O gartrefu ffoaduriaid mewn cychod camlas ar ffurf carchar a gwersylloedd milwrol segur, i alltudio i Rwanda, mae'n ymddangos nad oes diwedd i'r driniaeth erchyll hon o ffoaduriaid gan y blaid Dorïaidd, yn gyfnewid am bennawd di-chwaeth mewn papur newydd tabloid.

O roi moeseg i un ochr, nid yw hefyd yn gwneud unrhyw synnwyr ariannol, gan fod y polisi yn gwbl aneffeithiol. Os gellid defnyddio'r biliynau o bunnau hyn i gyd i ddatrys y broses loches yn y DU, yna efallai y byddwn yn gwneud cynnydd. Mae angen i'r DU edrych eto ar ei blaenoriaethau, er mwyn trwsio'r systemau proses loches diffygiol y mae'r blaid Dorïaidd wedi'u chwalu. Mae mudo afreolaidd ar gynnydd ledled y byd, ac mae hyn yn gofyn am ymateb byd-eang. Yn hytrach na gweithredu Bil mor annynol, dylem fod yn gweithio gyda gwledydd eraill i ddatblygu llwybrau diogel sy'n amddiffyn hawliau dynol ffoaduriaid, yn ogystal â buddsoddi mewn ymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

I gloi, hoffwn ofyn y cwestiynau canlynol. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i gwneud o lwybrau amgen sydd ar gael i liniaru risgiau ac amddiffyn y rhai y mae'r Bil hwn yn effeithio arnynt? Ac, o ddysgu o gynllun noddi Wcráin, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sut i gynnig yr un radd o amddiffyniad i bob ffoadur a pherson sy'n ceisio lloches? Yn olaf, a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adolygu—

Mae'n ddrwg gennyf i, rwy'n dod i ben nawr.

Yn olaf, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i adolygu amddiffyniadau i geiswyr lloches yng Nghymru yng ngoleuni'r Bil hwn? Diolch yn fawr.

Hoffwn siarad, yn amlwg, o blaid yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i gyflwyno. Mae'n werth nodi, onid yw, mai y Mesur Mudo Anghyfreithlon yw teitl hwn, yn hytrach na thybiaeth i helpu ceiswyr lloches—oherwydd, yn bennaf, dyna beth rydym ni'n sôn amdano—a chynnig rhai llwybrau diogel, sydd wedi cael eu crybwyll yma heddiw. Ac yn amlwg, mae yna—[Torri ar draws.] Na, nid ar hyn o bryd, na.

Does dim trugaredd yma yn hyn o beth. Rwyf wedi clywed yr Aelodau Torïaidd yn y Siambr hon, rwyf wedi clywed yr Aelodau Torïaidd yn San Steffan yn sôn am y ffaith ein bod yn cefnogi plant dan oed, gan gynnwys ceiswyr lloches, yn gadael gofal. Rwyf wedi gweld penawdau am y cymorth yr ydym ni wedi'i roi, ond yr hyn rwy'n methu ei weld na'i glywed yn y Siambr hon gan y Torïaid yw unrhyw beth o gwbl am nifer y plant y maen nhw wedi'u colli a lles y plant hynny, ac yn annog y Llywodraeth i chwilio amdanyn nhw. Dydw i ddim wedi clywed gair am hynny, ond rwyf wedi clywed digon yma ac rwyf wedi gweld y trydariadau—sy'n warthus yn fy marn i—gan eu harweinydd, ond cywain ynghyd y cymorth rydym ni'n ei roi i blant sydd wedi dod i'n gofal, sef y plant mwyaf agored i niwed, a chysylltu hynny â rhywbeth arall: defnyddio a chamddefnyddio'r plant hynny. Felly, roedd yn rhaid i mi ddweud hynny. [Torri ar draws.]

Mae symud plant ymaith, wrth gwrs, o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn— 

18:20

Na, dydw i ddim, oherwydd rydw i'n mynd i ddweud fy marn i. Nid yn unig fod hyn yn ymosodiad graddol ar ddatganoli, o dan nawdd, fe ymddengys, y Bil Mudo Anghyfreithlon, ond maen nhw wedi ei wneud mewn mannau eraill hefyd. Felly, does dim pall ar eu hymdrechion, mae'n ymddangos i mi, i geisio hyrwyddo eu hagenda asgell dde, a dyna'n union ydyw. Mae'n hyrwyddo system o gasineb, o ni a nhw, ac nid oes atebion yn hyn o ran sut maen nhw'n mynd i helpu pobl i gael taith ddiogel. Pe baen nhw'n gwario'r arian ar hynny—ac roedd Peredur yn hollol gywir—yn lle ceisio erlid pobl sy'n ceisio lloches, pe baen nhw'n gwario rhywfaint o'r arian yna wrth geisio darparu ar gyfer y plant dan oed hynny, y plant hynny, pe baen nhw'n gwario rhywfaint o'r arian yna yn ceisio dod o hyd i'r rhai maen nhw wedi llwyddo i'w colli—. Ac os ydych chi'n colli plant ac yna rydych chi'n gofyn i ni drosglwyddo drwy ddeddfwriaeth eich hawl i ofalu amdanyn nhw, rwy'n credu eich bod chi o dan gamsyniad mawr.

Mae Plaid Cymru wedi lleisio ein condemniad llwyr o'r Bil Mudo Anghyfreithlon hwn lawer gwaith, yn y fan yma ac yn nau dŷ Senedd y DU, ac unwaith eto, byddwn yn honni ei fod yn anghyfreithlon yn sicr, gyda sefydliadau hawliau dynol yn cytuno'n llwyr, fel yr ydym ni wedi clywed, a hyd yn oed yr Ysgrifennydd Cartref yn methu gwadu bod y Bil yn anghydnaws â'r cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol y mae'r DU yn llofnodwr iddyn nhw, gan gynnwys y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, confensiwn ffoaduriaid 1951 a datganiad cyffredinol o hawliau dynol 1948.

Llywydd, ni ddylai unrhyw Aelod o'r Senedd hon gydsynio i Fil a allai ei gwneud hi'n ofynnol i Gymru dorri cyfraith hawliau dynol rhyngwladol, yn groes i'n setliad datganoli ein hunain. Mae Plaid Cymru yn cytuno â Llywodraeth Cymru ei bod yn tanseilio hawliau plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches, ac mae'n gwbl ac yn gywilyddus anghydnaws â'r dull plentyn yn gyntaf, mudwr yn ail sy'n gwarchod buddiannau a hawliau plant yng Nghymru. Ac mae'n gwbl anghyson â'n hymrwymiad i fod yn genedl noddfa.

Mae Plaid Cymru yn cytuno â'r pryderon a leisiwyd gan y Groes Goch Brydeinig bod y Bil hwn—[Torri ar draws.] Na, rydym ni wedi clywed digon o'ch barn ar y cyfryngau cymdeithasol, diolch yn fawr iawn. Mae Plaid Cymru yn cytuno â'r pryderon a leisiwyd gan y Groes Goch Brydeinig y bydd y Bil hwn yn dileu'r amddiffyniadau presennol sydd gan blant ar eu pen eu hunain a dioddefwyr masnachu pobl. Mae Plaid Cymru yn cytuno â Chyngor Ffoaduriaid Cymru a Chlymblaid Ffoaduriaid Cymru y dylai'r Senedd wrthwynebu'r Bil hwn yn gyfan gwbl, a gwrthod cydsyniad deddfwriaethol er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau i amddiffyn dioddefwyr masnachu yng Nghymru. [Torri ar draws.] Rydym yn gwrthod yr ymgais annynol ac anfoesol hon i erlid, dad-ddyneiddio a chefnu ar y rhai sydd angen cefnogaeth ac amddiffyniad.

A hyd yn oed os nad yw'r dadleuon moesol a chyfreithiol yn ddigon, mae Plaid Cymru yn cytuno â'r Sefydliad Llywodraethu annibynnol ac arbenigwyr polisi eraill sydd wedi dod i'r casgliad bod hwn yn ddarn aneffeithiol o ddeddfwriaeth sigledig iawn ei siliau. Mae'r Bil yn nodi, drwy ei gwneud hi'n ofynnol symud pobl ymaith sy'n cyrraedd y DU drwy ddulliau afreolaidd, ei fod yn anelu at 'atal mudo anghyfreithlon', yn enwedig trwy lwybrau peryglus. Ond, medd y Sefydliad Llywodraethu,

'prin yw'r dystiolaeth i ddangos bod y rhai sy'n barod i beryglu eu bywydau...yn cael eu hatal gan newidiadau i bolisi lloches.'

Rydym yn clywed Aelodau Seneddol Ceidwadol ac Aelodau'r Senedd hon yn ailadrodd yn gywilyddus 'gwirionedd y ffactor atyniad' honedig, y syniad y bydd pobl yn cael eu hatal rhag teithio i'r DU trwy sefydlu system lymach. Ond mae'r Sefydliad Llywodraethu yn datgan yn bendant nad oes 'unrhyw dystiolaeth gadarn'. Mae'n safbwynt gwleidyddol, ideolegol.

Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn gwrthwynebu yn sylfaenol unrhyw ymgais i danseilio hawl a phŵer y Senedd hon i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig. Mae'r Bil hwn yn enghraifft berffaith o pam ein bod yn dal y farn honno. Rhaid i ni, gynrychiolwyr etholedig pobl Cymru, gael yr hawl i benderfynu beth sydd o fudd i'n cymunedau ein hunain a phwy y byddem yn eu croesawu i'r cymunedau hynny. A byddwn yn gofyn i chi, Gweinidog, sawl gwaith ydych chi'n mynd i anobeithio yn y diffyg gweithredu cyn gweld mai'r ateb i hyn yw Llywodraeth a etholir gan bobl Cymru sydd â'r pwerau i sicrhau na fyddai unrhyw ddeddfwriaeth sy'n anghydnaws â gwerthoedd a buddiannau gorau Cymru, fel y Bil anghyfreithlon hwn, yn berthnasol yng Nghymru?

Gwnaed un o'r apeliadau mwyaf pwerus ymhlith y di-rif a wnaed gan sefydliadau yn erbyn pasio'r Bil gan grwpiau ffoaduriaid Iddewig. Llyfrgell Holocost Wiener yw casgliad hynaf a mwyaf Prydain o ddeunydd archifol gwreiddiol ar oes y Natsïaid, ac eleni mae'n nodi ei phen-blwydd yn 90 oed. Mae gwreiddiau'r llyfrgell yng ngwaith Dr Alfred Wiener, a ymgyrchodd yn erbyn Natsïaeth yn y 1920au a'r 1930au ac a gasglodd dystiolaeth am wrthsemitiaeth ac erledigaeth Iddewon yn yr Almaen. Mae ganddo hefyd gasgliadau unigryw yn ymwneud â phrofiadau teuluoedd ffoaduriaid Iddewig a ddaeth i Brydain yn y 1930au a'r 1940au. Mewn ymyrraeth wleidyddol brin, dywedodd y llyfrgell, ynghyd â Chymdeithas Ffoaduriaid Iddewig, fod y ddau sefydliad yn poeni am effaith Bil Mudo Anghyfreithlon arfaethedig y Llywodraeth a'r drafodaeth a'r iaith sy'n ymwneud â'i llunio. Er bod casgliad y llyfrgell yn tystio i'r boen a brofir gan y rhai y bu'n rhaid iddyn nhw ffoi rhag erledigaeth, mae Cymdeithas Ffoaduriaid Iddewig wedi cefnogi ffoaduriaid a goroeswyr yn barhaus.

'Os yw "Byth Eto" yn mynd i ddod yn realiti yn hytrach nag yn rhywbeth a ailadroddir, rhaid i ni ddangos arweinyddiaeth i agor ein drysau i warchod y rhai sydd mewn perygl rhag niwed.'

Pan fyddwn yn dweud 'byth eto', mae'n rhaid i ni ei olygu, mae'n rhaid i ni ei fyw, mae'n rhaid i ni orfodi hynny; rhaid i ni beidio byth â thanseilio hynny.

18:25

Diolch, Llywydd, a diolchaf i'r Aelodau heddiw am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig iawn hon. Yn benodol, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i gadeiryddion y pwyllgorau allweddol a fu'n craffu ar y Memorandwm hwn, gan gadarnhau fy safbwynt mewn cysylltiad â'r Bil hwn, gan gymeradwyo ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu cenedl noddfa? A diolchaf i bawb a roddodd dystiolaeth i'ch pwyllgorau, gan gynnwys Cyngor Ffoaduriaid Cymru, y cyfarfu llawer ohonom heddiw â'r aelodau ar risiau'r Senedd, gan gwrdd â ffoaduriaid y mae eu bywydau, wrth gwrs, wedi cael eu peryglu gan wrthdaro ac a ddaeth yma i geisio'r genedl noddfa a'r gefnogaeth hon.

Rydym yn glir yn ein rhaglen lywodraethu ein bod wedi ymrwymo i barhau i gynnal hawliau a breintiau plant ar eu pen eu hunain sy'n geiswyr lloches, ac rydym yn falch ein bod yn mabwysiadu dull plentyn yn gyntaf, mudwr yn ail, ac rydym yn falch bod hyn yn cynnal buddiannau a hawliau i ddarparu gofal a chymorth i blant yng Nghymru. Nid yw unrhyw gynnig polisi sy'n ymddangos i leihau'r sefyllfa statudol hon—ein sefyllfa statudol yma yng Nghymru—yn un y byddem yn ei gefnogi.

Bu sôn am yr angen am lwybrau diogel a chyfreithiol, ac wrth gwrs, yn fy sylwadau agoriadol, gelwais eto am hyn. Hoffwn atgoffa'r Aelodau unwaith eto o'r datganiad a wneuthum ar 31 Mawrth, 'Llwybrau Diogel a Chyfreithiol ar gyfer Ceiswyr Lloches', yr ydym ni wedi bod yn galw amdanynt gan Lywodraeth y DU. A hoffwn atgoffa pobl o gynllun Dubs. Fe wnes i eu hatgoffa nhw i ddweud y gwir yn fy natganiad:

'Ein safbwynt ni yw y dylai nodwedd o gytundeb adsefydlu ledled Ewrop',

y credaf y dylem ni i gyd ymrwymo iddo,

'gynnwys hefyd y DU yn ailgyflwyno cynllun tebyg i'r cynllun "Dubs"...—a enwyd ar ôl yr Arglwydd Alf Dubs. Cafodd y llwybr diogel a chyfreithiol hwn i'r DU ei gau sawl blwyddyn yn ôl ond sicrhaodd fod plant arbennig o agored i niwed ar eu pen eu hunain yn gallu dod i'r DU yn ddiogel yn hytrach na gwneud teithiau peryglus.'

Ac fe wnaethon ni alw am hynny—ac, wrth gwrs, galwodd ein Haelodau cyfatebol yn San Steffan am ymestyn a chefnogi hynny, a chredaf:

'Mae cynllun Pobl Ifanc Dan Oed Cymwys Wcráin yn darparu model ar gyfer sut y gellid dylunio fersiwn fwy effeithiol o'r cynllun Dubs.'

Felly, yn amlwg, Llywydd, mae'r Bil Llywodraeth y DU hwn yn gwneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig y Senedd fel y mae'r Aelodau wedi cydnabod—darpariaeth nad ydym yn ei chefnogi. Ac ni allaf argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau hyn sydd wedi'u cynnwys yn y Bil. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio beth ddywedodd yr arbenigwyr a'r cyrff meddygol blaenllaw hynny ddoe. Dywedodd yr Athro Kevin Fenton, llywydd y Gyfadran Iechyd y Cyhoedd,

'Ni ddylai fod lle i roi plant dan glo sydd wedi ffoi rhag amgylchiadau ofnadwy i geisio diogelwch yn y DU. Mae'r dystiolaeth yn glir ei fod yn achosi niwed erchyll i'w hiechyd corfforol a meddyliol gyda chanlyniadau gydol oes'.

Ni allwn ni sefyll o'r neilltu a chaniatáu i'r Bil hwn roi plant sy'n agored i niwed drwy greulondeb o'r fath. Dyna pam rydyn ni'n galw am gyfarfod brys i annog y Llywodraeth i roi diwedd ar y cynigion echrydus hyn, a dyna pam mae'n rhaid i ni heddiw yn y Senedd alw gyda'n gilydd—fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mor glir—a dangos ein hymrwymiad i roi hawliau plant wrth wraidd popeth a wnawn. Felly, os gwelwch yn dda, Aelodau, heddiw, dewch at eich gilydd a gwrthod cydsyniad i'r Bil Mudo Anghyfreithlon.

18:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Cyfnod Adrodd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, fydd y Cyfnod Adrodd ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), ac mae un gwelliant wedi ei gynnig yn y Cyfnod Adrodd yma ar gyfer y Bil amaethyddiaeth, ac mae'r gwelliant hynny yn ymwneud â darparu cymorth i ffermwyr, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig gwelliant 1, Lesley Griffiths.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Lesley Griffiths).

Diolch, Llywydd. Mae'r gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ceisio disodli'r gwelliant i adran 9(3) a gyflwynwyd yng Nghyfnod 3. Ar 24 Mai, cyflwynais gynnig i symud y Bil hwn i'r Cyfnod Adrodd, pan amlinellais y cyfyngiadau a'r effeithiau heriol sy'n deillio o gyflwyno adran 9(3), sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar allu Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ar draws y sector amaethyddol yn y dyfodol. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen ar sawl achlysur yma yn y Siambr, yn ystod gwaith craffu gan bwyllgorau a gyda'n rhanddeiliaid, rhaid i'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) hwn weithio i bob ffermwr, a pheidio â chreu rhwystrau rhag y cymorth y gellir ei ddarparu i'r sector.

Ar hyn o bryd, mae adran 9(3) o fewn y Bil yn arbennig o heriol ac mae perygl y bydd y cymorth y gall Gweinidogion Cymru ei ddarparu i'r sector o dan adran 8 o'r Bil leihau. Nid yw'r ddarpariaeth hon yn gweithio i bob ffermwr ar draws y sector. Mae hyn yn cynnwys porwyr tir comin, lle gall yr amodau o fewn y ddarpariaeth eithrio cymorth ariannol i'r ffermwyr hynny sydd â hawliau dros dir comin, lle nad oes gan ffermwyr o'r fath reolaeth lawn dros y tir. At hynny, o dan adran 9(3), ni fyddai Gweinidogion Cymru yn gallu darparu cymorth ariannol tuag at ddatblygu cynlluniau busnes i newydd-ddyfodiaid nad ydynt yn meddiannu tir ar hyn o bryd, neu nad ydynt yn bodloni gofynion eraill adran 9(3), megis gweithredu tir sy'n cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer amaethyddiaeth.

Mae ffermwyr wrth wraidd ein sector amaethyddol a'r cymunedau y maen nhw'n gweithredu ynddynt. Fy mwriad i drwy'r Bil hwn yw i gymorth yn y dyfodol, fel y cynllun ffermio cynaliadwy, fod ar gael ar gyfer pob math o ffermwyr a'i gyfeirio atyn nhw, o berchnogion busnes fferm i ffermwyr sy'n denantiaid, a ffermwyr tir comin fel ei gilydd. Mae'n allweddol i gadw ein ffermwyr ar y tir, gan eu galluogi i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau. Am y rheswm hwn rwyf wedi cyflwyno'r gwelliant i ddisodli adran 9(3) o'r Bil, un nad yw'n eithrio ffermwyr a'r ystod amrywiol o gymorth sydd ei angen i helpu ein sector amaethyddol i ffynnu.

Mae fy ngwelliant Llywodraeth yn osgoi'r materion sy'n codi o adran 9(3) ac yn darparu ar wyneb y Bil y caiff cynlluniau a sefydlwyd yn unol ag adran 8 ddarparu cymorth, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd. Byddai meini prawf cymhwysedd yn cael eu pennu fel rhan o broses ddylunio'r cynllun, ac mae'r ddarpariaeth yn darparu enghreifftiau o feini prawf cymhwysedd sy'n ymwneud â chymorth ariannol a chymorth arall a ddarperir o dan adran 8. Mae'r diwygiad yn cyd-fynd ag adran 12 o'r Bil, sy'n rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wirio, ymhlith pethau eraill, a yw cymhwysedd ar gyfer cymorth wedi'i fodloni. Mae'r gwelliant hwn yn cydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth a'r ffermwyr hynny sy'n rheoli'r tir yn weithredol drwy ei gwneud yn glir y gall Gweinidogion Cymru osod rhag-amodau i gynlluniau, megis pwy fydd yn gymwys i gael ac elwa ar gymorth gan gynlluniau a sefydlwyd o dan adran 8 o'r Bil.

Bydd y meini prawf cymhwysedd yn cael eu pennu gan bob cynllun cymorth a sefydlir o dan adran 8, a gallant esblygu dros amser wrth i ffermio a rheoli tir addasu a newid. Mae'r ddarpariaeth yn adlewyrchu'r hyblygrwydd sydd ei angen ar Weinidogion Cymru yn ymarferol i osod meini prawf cymhwysedd priodol ar gyfer cynlluniau sy'n gweithredu o dan y pŵer i ddarparu cymorth. Gallai'r meini prawf cymhwysedd alluogi cymorth i gael ei dargedu tuag at yr unigolion hynny sy'n rheoli tir Cymru yn weithredol, sy'n cyfrannu at gyflawni'r amcanion rheoli tir cynaliadwy, megis cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy.

18:35

Rwy'n ddiolchgar i gael un cyfle olaf i siarad ar y mater hwn cyn i'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) basio i Gyfnod 4. Er fy mod i'n sylweddoli bod camgymeriad pleidleisio a wnaed ar feinciau y Llywodraeth yn ystod dadl Cyfnod 3 wedi dod â hyn yn ôl i'r Siambr heddiw, ac mae'r Gweinidog wedi amlinellu eu pryderon ynghylch yr hyn y gallai fy ngwelliant 55 gwreiddiol fod wedi'i achosi drwy ganlyniadau anfwriadol, rwy'n siomedig, er gwaethaf ymgysylltiad cadarnhaol yn ystod camau cynharach y Bil, nad yw'r Llywodraeth na'r Gweinidog wedi estyn allan ataf i na'r meinciau hyn mewn ymdrech i ddod o hyd i gonsensws ar bwrpas fy ngwelliant gwreiddiol neu i gydweithio i oresgyn y canlyniadau anfwriadol canfyddedig hynny—rhywbeth rwy'n deall sydd wedi'i wneud yn flaenorol gyda Biliau eraill.

Rwy'n ailadrodd y sylwadau a wnes i pan gyflwynwyd y cynnig i ystyried gwelliannau pellach i Fil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y cyfnod adrodd i lawr y Senedd cyn toriad Sulgwyn. Roedd diben gwelliant 55 yn ddeublyg. Yn gyntaf, roedd i sicrhau bod ein ffermwyr, boed yn ffermwyr sy'n denantiaid, ffermwyr iseldir neu ucheldiroedd, yn cael eu blaenoriaethu wrth dargedu cefnogaeth—y ffermwyr gweithredol. Yn ail, ac o ganlyniad, roedd i sicrhau nad yw corfforaethau mawr, sy'n cynyddu pris tir amaeth Cymru yn artiffisial trwy wneud cynnig uwch na darpar brynwyr lleol, yn cael arian cyhoeddus i blannu coed i wrthbwyso eu hôl troed carbon heb newid unrhyw un o'u hymddygiadau busnes eu hunain—pwnc emosiynol sydd wedi ei godi ar lawr y Siambr hon sawl gwaith.

Rwy'n nodi bod y gwelliant a gyflwynwyd yn enw'r Gweinidog, yr ydym yn ei drafod heddiw, yn mynd ychydig o'r ffordd i liniaru'r pryderon hyn. Fodd bynnag, rwy'n dal i bendroni a ydym ni, trwy beidio â bod ag iaith gryfach ac eglurach, yn gadael bwlch ar agor i'w ecsbloetio er anfantais i ffermwyr Cymru a'n cymunedau gwledig. Pe bai fy ngwelliant 55 wedi pasio, ochr yn ochr â'r gwelliannau eraill yn fy enw i, ni fyddai'r canlyniadau anfwriadol wedi dod i fodolaeth a byddai amddiffyniadau cryfach wedi cael eu rhoi i'n cymunedau ac i'r rhai y dewisodd y Llywodraeth roi cymorth iddynt trwy arian cyhoeddus.

Mae hwn yn Fil nodedig—un sydd o bwys mawr i ffermwyr Cymru, ein cefn gwlad a'n hamgylchedd. Ac wrth i ni ddathlu Wythnos bwyd a ffermio Cymru, edrychaf ymlaen at weld y Gweinidog a'r Llywodraeth yn nigwyddiad NFU Cymru i ddathlu bwyd a ffermio Cymru yn y Neuadd cyn bo hir. Diolch, Llywydd.

Trwy gydol taith y Bil drwy'r Senedd, mae Plaid Cymru wedi ymdrechu i hyrwyddo y fferm deuluol yng Nghymru, cymunedau gwledig a'r sector amaethyddol yn ehangach, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. 

Meddyliwch yn ôl at fersiwn gyntaf y Bil arfaethedig hwn, 'Brexit a'n tir' yn 2018, pan gynigiodd y Llywodraeth y dylai'r cymorth yn y dyfodol ddilyn darpariaeth nwyddau cyhoeddus o dir, lle gallai sefydliadau rhyngwladol mawr hawlio arian cyhoeddus Cymru am bethau fel cnydau pren. Mae'r Bil fel y mae bellach filltiroedd lawer i ffwrdd o'r cynigion cychwynnol hynny.

Roedd y drafft cyntaf, i bob pwrpas, yn gynnig ar gyfer Bil amgylcheddol wedi'i wisgo fel Bil amaethyddiaeth. Er ein bod ni i gyd yn derbyn yn llawn yr angen i chwarae ein rhan yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd yn fyd-eang ac adfer natur, dylai Bil amaethyddiaeth ymwneud ag amddiffyn a gwella amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd, a chynnal a chadw'r gymuned a gefnogir gan y sector, yn ogystal â chyflawni ar gyfer yr hinsawdd.

Roedd y Bil fel y'i cyflwynwyd yn brin iawn ym maes cynhyrchu bwyd ac ar bwysigrwydd amaethyddiaeth i economi a bwrlwm diwylliannol Cymru. Mae'r rhai hynny ohonom sy'n byw a bod ffermio yn gwybod yn iawn mai prif rôl amaethyddiaeth yw cynhyrchu bwyd. Mae ffermwyr yn cynhyrchu'r bwyd sydd ar ein platiau fel nad oes rhaid i eraill gynhyrchu eu bwyd eu hunain. Mae ffermwyr yn ffermio fel nad oes rhaid i eraill wneud hynny. Rydyn ni hefyd yn gweld yn ddyddiol y cyfraniad y mae'r gymuned ffermio yn ei wneud i'n heconomi leol a'r diwylliant bywiog sydd gennym yma yng Nghymru. Mae ffermwyr yn ychwanegu gwerth, nid yn unig yn economaidd ond yn ddiwylliannol. Mae'r cyfraniadau hyn bellach yn ganolog i'r Bil amaethyddiaeth newydd arfaethedig, diolch i Blaid Cymru.

Un o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol yr ydym wedi llwyddo ei wreiddio yn y Bil amaethyddiaeth yw cael cydnabyddiaeth o'r ffaith bod yn rhaid i deuluoedd ffermio gynllunio eu busnes am flynyddoedd ymlaen llaw. Mae angen iddyn nhw wybod pa gaeau i'w haredig a'u hail-hadu, a ddylen nhw gymryd mwy o wartheg, cylchdroi caeau, a fydd angen iddyn nhw dyfu cnydau ar gyfer bwyd anifeiliaid, a nifer o benderfyniadau eraill y mae'n rhaid eu gwneud flynyddoedd cyn y gallan nhw elwa ar y buddsoddiad hwnnw. Felly, mae angen diogelwch ar ffermwr er mwyn buddsoddi gan wybod y bydd yn eu helpu i gynhyrchu bwyd i ni ei fwyta, flynyddoedd ymlaen llaw. I'r perwyl hwnnw, mae Plaid Cymru hefyd wedi llwyddo i sicrhau setliad cynllun cymorth amlflwydd fel rhan o'r Bil amaethyddiaeth newydd, gyda'r Llywodraeth yn gorfod rhoi sicrwydd ar y cynlluniau cymorth sydd ar gael ar gylch pum mlynedd, syniad dangosol o beth fydd y cyllid, sawl blwyddyn ymlaen llaw.

Yn olaf, mae hyn yn dod â mi at fy mhwynt olaf. Cafodd y gwelliant a gyflwynwyd gan Samuel Kurtz a'i gefnogi gennym ni ei wneud yn ddidwyll. Cafodd ei wneud er mwyn osgoi'r sefyllfa honno, y soniais amdani yn gynharach, lle gallai cwmnïau rhyngwladol a sefydliadau mawr nad ydyn nhw'n ymwneud â ffermio hawlio arian cyhoeddus sydd i fod ar gyfer cynhyrchu bwyd. Yn fyr, roedd yn ymgais ddiffuant i ddiffinio ffermwr gweithredol, a hynny yn y gyfraith. Diolch i Samuel Kurtz am ei ymdrechion i'r perwyl hwnnw. Fodd bynnag, daeth yn amlwg y byddai'r geiriad yn achosi pob math o anawsterau, ac felly bu'n rhaid ailedrych arno. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei sicrwydd ynghylch sicrhau bod arian yn cael ei dargedu lle y dylai fod, cadw ffermwyr ar y tir, fel y clywsom ni, a gallwn osgoi'r sefyllfa o arian yn cael ei dynnu allan o ffermio i gefnogi mentrau nad ydynt yn rhai ffermio. Diolch yn fawr iawn.

18:40

Diolch, a diolch i'r ddau Aelod am eu cyfraniadau. Rwy'n credu yn sicr, yn y drafodaeth a gefais gyda Sam Kurtz, ei fod yn llwyr gydnabod bod canlyniadau anfwriadol, ac rwy'n gwybod eich bod wedi codi gyda mi o'r blaen ynghylch y mater o gorfforaethau a chwmnïau yn prynu tir amaethyddol at ddibenion plannu coed ar gyfer gwrthbwyso carbon. Ac mae wastad wedi bod yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru i gadw ffermwyr ar eu tir. Wrth gwrs, ni allaf atal unrhyw ffermwr rhag gwerthu ei dir i unrhyw un, ond ni fyddaf yn cefnogi'r hyn rydych chi newydd ei godi o ran corfforaethau a chwmnïau yna'n plannu coed ar gyfer gwrthbwyso carbon, ac nid dyna lle rydyn ni eisiau i'r arian fynd. Rwy'n disgwyl i ni osod amodau cymhwysedd ar gyfer cynlluniau a sefydlir o dan adran 8 o'r Bil, gan alluogi cymorth ariannol ac anariannol i gael ei gyfeirio at y person priodol, fel y mae Mabon ap Gwynfor newydd ei ddweud, sef ffermwyr sy'n ffermio'r tir.

Rwy'n cytuno'n llwyr: mae amaethyddiaeth yn sector tymor hir. Pan fyddan nhw'n ystyried cynlluniau, mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny. Ond y bygythiadau mwyaf i gynhyrchu bwyd cynaliadwy yw'r argyfyngau hinsawdd a natur, a dyna pam mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd hwnnw. Ond yn anffodus, byddai'r gwelliant a basiwyd wedi golygu na fyddai pobl fel milfeddygon a lladd-dai yn gymwys i gael cymorth ariannol, nac unrhyw fusnesau eraill yn y gadwyn gyflenwi amaethyddol—popeth y mae ein cymuned wledig yn dibynnu arno. Gallai cytundebau ffermio a rennir, partneriaethau gan gynnwys partneriaethau teuluol, hefyd fod yn anghymwys i dderbyn cymorth ariannol. Felly, byddwn i'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn gan y Llywodraeth. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fyddwn ni'n symud i bleidlais ar welliant 1, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud yn syth i bleidlais ar welliant 1—gwelliant 1 y Bil amaeth.

Felly, gwelliant 1—

Rydych chi'n iawn, Joyce Watson—dydw i ddim wedi agor y bleidlais.

Agor y bleidlais, felly, ar welliant 1. Cau'r—. Ocê, problem technegol gyda Mabon ap Gwynfor eto? Ie, ocê. Siẁd ydych chi'n bwrw'ch pleidlais, Mabon? 

18:45

O blaid. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. 

Eitem 11: Cyfnod Adrodd Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 38, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gan fod y gwelliant yna wedi ei dderbyn, dwi'n gallu dweud ein bod ni wedi dod i ddiwedd ystyriaeth y Cyfnod Adrodd ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru), a dwi'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil, felly, a phob Atodlen iddo, wedi eu derbyn. [Cymeradwyaeth.]

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

12. Cyfnod Pleidleisio

Nawr, fe awn ni ymlaen i'r cyfnod pleidleisio ar gyfer gweddill y pleidleisiau y prynhawn yma. Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Dawn Bowden. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

Eitem 9: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol: O blaid: 43, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf fydd y cynnig ar y cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod. 

Eitem 10: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Dyna ddiwedd ar ein pleidleisiau ni y prynhawn yma. Diolch yn fawr i chi i gyd. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:47.