Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/06/2022

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Llywydd
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Wythnos Ffoaduriaid 2022: Iacháu
4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Pride, a’r Cynnydd o ran y Cynllun Gweithredu LHDTC+
5. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Grŵp 1: Sefydlu’r Comisiwn, penodi ei aelodau a thelerau’r aelodau (Gwelliannau 120, 121, 122, 123, 124, 125, 126, 127, 128, 129, 130, 131, 132, 133, 134, 135, 136, 137, 138, 139, 140, 141, 142, 143, 144, 145, 146, 147, 148, 149, 150, 151, 152, 153, 154, 155, 156, 157, 158, 159, 160, 119)
Grŵp 2: Dysgu o bell (Gwelliannau 1, 2, 3, 4, 5, 7, 8, 9, 10, 11, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 37, 38, 42, 47, 48, 49, 50, 51, 63, 64, 67, 68, 69)
Grŵp 3: Anghenion Dysgu Ychwanegol (Gwelliant 6)
Grŵp 4: Darpariaeth cyfrwng Cymraeg (Gwelliannau 79, 80)
Grŵp 5: Awtonomi sefydliadol, rhyddid academaidd a rhyddid mynegiant (Gwelliannau 166, 81, 82, 83, 84)
Grŵp 6: Gweithdrefn y Senedd a’i phroses ar gyfer gwneud rheoliadau (Gwelliannau 85, 87, 88, 89, 96, 105, 106, 107, 108, 109, 66, 110, 111, 118)
Grŵp 7: Llesiant dysgwyr a diogelu dysgwyr (Gwelliannau 12, 13, 98, 99, 100)
Grŵp 8: Prentisiaethau (Gwelliannau 86, 97, 114, 116)
Grŵp 9: Polisi cyllido a thryloywder (Gwelliannau 78, 31, 58)
Grŵp 10: Cydsyniad i gyrff sy’n cydlafurio (Gwelliannau 23, 24, 25, 26. 27, 28, 29, 30, 35, 36, 44, 45, 46, 52, 53, 54, 55, 56, 57, 59, 60, 61, 62)
Grŵp 11: Pwerau cyllido Gweinidogion Cymru (Gwelliannau 32, 33, 34, 90, 91, 92, 93, 94, 95)
Grŵp 12: Diffiniadau o addysg bellach (Gwelliannau 39, 40, 41)
Grŵp 13: Gofynion cyflogeion a chyflogeion posibl (Gwelliant 43)
Grŵp 14: Rhannu gwybodaeth (Gwelliannau 101, 102)
Grŵp 15: Diddymu corfforaethau addysg uwch (Gwelliannau 103, 104)
Grŵp 16: Diogelu data (Gwelliant 65)
Grŵp 17: Dysgu oedolion yn y gymuned (Gwelliannau 112, 113, 115, 117)
Grŵp 18: Gwelliannau technegol a chanlyniadol (Gwelliannau 70, 71, 72, 73, 74, 75, 77)
Grŵp 19: Chweched dosbarth (Gwelliannau 161, 162, 76, 163, 164, 165)

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Samuel Kurtz. 

Gofal Iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella y ddarpariaeth o ofal iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ58240

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Ymhlith y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru mae diwygio'r contract deintyddol i wella mynediad at ofal y GIG. Er gwaethaf honiadau i'r gwrthwyneb, bydd dros 90 y cant o ddeintyddiaeth a ariennir gan y GIG yn etholaeth yr Aelod yn awr yn cael ei darparu gan bractisau sydd wedi dewis mabwysiadu'r contract newydd.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mewn gwirionedd, meddygfeydd meddygon teulu sydd gennyf dan sylw heddiw yn hytrach na deintyddiaeth. Neithiwr, cefais y pleser o gwrdd â grŵp cyfranogiad cleifion meddygfa Grŵp Meddygol Argyle—casgliad o gleifion sydd yno i ddylanwadu a chynghori'r staff a'r gymuned gleifion ehangach ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r feddygfa. Fel yr wyf wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen, mae'r feddygfa'n gwasanaethu dros 22,000 o gleifion gan gyflogi dim ond chwe meddyg teulu cofrestredig, ond mae pob un o'r aelodau staff hynny'n mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir yn eu gofal am eu cleifion. Er bod recriwtio bob amser yn bosibilrwydd i'w groesawu, gyda newyddion cadarnhaol posibl ar y gorwel yn hynny o beth, bydd Argyle a meddygfeydd meddygon teulu gwledig eraill yn tystio i'r ffaith bod anawsterau wrth recriwtio ymarferwyr meddygol i feddygfeydd gwledig. Felly a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu yr hyn mae ef a'i Lywodraeth yn ei wneud i gefnogi meddygfeydd gwledig er mwyn recriwtio a chadw meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol megis ffisiotherapyddion, ymarferwyr nyrsio a fferyllwyr? Ac wrth recriwtio'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hynny, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu cleifion nad oes rhaid iddyn nhw bob amser weld meddyg teulu i gael triniaeth gyflym ac effeithiol? Diolch. 

Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Sam Kurtz? Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth ar ddiwedd y cwestiwn yna. Mae wedi bod yn thema i mi, byth ers i mi fod yn Weinidog iechyd, fod yn rhaid i ddyfodol gofal sylfaenol yng Nghymru fod yn dîm o weithwyr proffesiynol, sy'n aml yn gweithredu o dan oruchwyliaeth y meddyg teulu, yr unigolyn â'r lefel uchaf o gymwysterau yn y tîm hwnnw, ond pryd mae'r holl aelodau hynny, y fferyllwyr ac eraill y soniodd amdanyn nhw, yn gwbl alluog yn glinigol i ddarparu gwasanaethau'n uniongyrchol i'r cleifion, ac weithiau'n gyflymach ac weithiau hyd yn oed yn fwy effeithiol na all y cyffredinolwr, y meddyg teulu, ei wneud. Felly, rwy'n llongyfarch y meddygon teulu yn llwyr yn y feddygfa y mae Sam Kurtz wedi'i chrybwyll. Rwy'n eu llongyfarch am gael y grŵp cyfranogiad cleifion hwnnw. Rydym wedi trafod hynny ar lawr y Senedd sawl gwaith, gan feddwl tybed a ddylem, ar fodel ein cynghorau ysgol, ddisgwyl y dylai pob practis meddyg teulu gael fforwm lle maen nhw'n dysgu'n uniongyrchol o safbwyntiau a phrofiadau eu cleifion. Rwy'n credu y tro diwethaf i ni ymweld â hyn y casgliad y daethpwyd iddo oedd ei fod yn gweithio'n dda pan fo gennych feddygon teulu sy'n hoffi'r syniad, ac mae'n anodd cyffredinoli ynghylch lleoedd lle mae llai o frwdfrydedd drosto efallai. Ond, lle mae'n gweithio, rwy'n credu ei fod yn dod â phersbectif pwerus iawn i bobl sy'n darparu gwasanaethau drwy ddysgu'n uniongyrchol gan y rhai sy'n eu cael.

O ran y cwestiwn am fuddsoddi mewn gweithlu yn y dyfodol, fel y gŵyr yr Aelodau yma, rydym wedi cael profiad da iawn yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran recriwtio meddygon teulu i bractisau hyfforddi yma yng Nghymru. Mae'r niferoedd hynny wedi rhagori ar y trothwy a bennwyd gennym y llynedd a'r flwyddyn flaenorol, ac rydym yn gwneud yn dda iawn i gynnwys yn y practisau hyfforddi hynny bractisau ychwanegol mewn rhannau gwledig o Gymru. Rwy'n teimlo'n ffyddiog bod yr egwyddor gyffredinol yno'n un gadarn—os ewch i hyfforddi yn rhywle, a'ch bod yn treulio amser yno, mae'n cynyddu'r siawns mai dyna lle y byddwch eisiau gweithio'n barhaol. A dyna pam, wrth gwrs, yr ydym wedi ymrwymo i ysgol feddygol newydd yn y gogledd, a fydd yn arwain nid yn unig at feddygon teulu, ond yr ystod ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu hyfforddi'n uniongyrchol yma yng Nghymru ac yn gallu parhau i wneud y gwaith da y cyfeiriodd Sam Kurtz ato y prynhawn yma. 

13:35
Datblygu Tai yng Nghaerdydd

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol mewn lle i ddiwallu anghenion datblygu tai yng Nghaerdydd? OQ58213

Llywydd, Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am y materion hyn. Rhaid i'r awdurdod weithredu o fewn y fframwaith a nodir yn 'Polisi Cynllunio Cymru', fel yr adroddwyd yn flaenorol i'r Senedd hon.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn i ddarllen yr adroddiad ynglŷn â chreu metro rhwng Llantrisant a Chaerdydd, a dwi'n cytuno yn llwyr â chi, ac â'r Cwnsler Cyffredinol, am bwysigrwydd hynny. Y drafferth yw, wrth gwrs, ei bod hi'n mynd i gymryd 10 mlynedd i'w adeiladu, ac, fel y gwyddoch chi, mae miloedd o bobl wedi symud i dai newydd yng ngogledd y ddinas, a driveways y tai yma â nifer o geir. Dyw'r ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ddim yn ddigonol yno o gwbl. Pryder arall sydd wedi codi'n ddiweddar gyda thrigolion yng ngogledd Caerdydd yw'r orsaf bwmpio carthion newydd ym mharc hanesyddol Hailey. Sut mae modd, Brif Weinidog, sicrhau bod darpariaethau angenrheidiol mewn lle cyn adeiladu datblygiadau mawr newydd? Diolch yn fawr.

Llywydd, diolch yn fawr i Rhys ab Owen am y cwestiwn ychwanegol. Mae'n rhaid i fi, Llywydd, fod yn ofalus i gadw'r bwlch rhwng pethau dwi'n eu gwneud fel Aelod lleol yng Ngorllewin Caerdydd a'r cyfrifoldebau sydd ar Weinidogion yma yng Nghymru. Jest i fod yn glir, ni fyddaf i na'r Cwnsler Cyffredinol yn cymryd rhan mewn unrhyw benderfyniadau am y posibiliad o ail-greu'r rheilffordd sy'n mynd mas o Orllewin Caerdydd i mewn i'r etholaeth ym Mhontypridd. Yn gyffredinol, mae lot o waith yn mynd ymlaen ym Mhlasdŵr, yn y meysydd bws a hefyd i gynllunio i bobl sydd eisiau mynd ar y beic o ble maen nhw'n byw i ble maen nhw'n gweithio. A dwi'n gwybod bod cynlluniau gan Gyngor Caerdydd, ac maen nhw'n ymgynghori â phobl ar hyn o bryd yn Llandaf, i ymestyn y system sydd gyda ni'n barod a chael hwnna i fynd mas i Plasdŵr, i helpu pobl i ddod i mewn i'r ddinas yn y ffordd yna. Mae dinas Caerdydd, Llywydd, yn ailwampio'r LDP sydd gyda nhw'n barod, a phan fyddan nhw'n gwneud hynny, bydd yn rhaid iddyn nhw weithio, fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, y tu fewn i'r broses statudol sydd gyda ni nawr yma yng Nghymru. Dyna beth mae'r cynllun rydym ni wedi ei roi mas i'r awdurdodau lleol yn ei ddweud.

Mae yn llawlyfr y cynllun datblygu. Rhaid paratoi cynlluniau seilwaith sy'n nodi'n glir pa seilwaith sydd ei angen, y gost a'r amseriad yn fras, yn ogystal â ffynonellau ariannu. Llywydd, cyflwynodd Cyngor Caerdydd gyfres o brif gynlluniau, ochr yn ochr â'i CDLl, yn ôl yn 2016. Ond bydd darparu cynllun seilwaith, fel rhan o'i CDLl newydd, bellach yn ofyniad statudol, a bydd hynny'n helpu o leiaf i ymateb i'r pwyntiau y mae Rhys ab Owen wedi'u codi y prynhawn yma.

Prif Weinidog, ar 8 Ionawr 2019, gofynnodd Huw Irranca-Davies i chi ynghylch yr hyn yr oedd y Llywodraeth hon yn ei wneud i sicrhau bod y seilwaith trafnidiaeth yn bendant ar waith i alluogi'r cynlluniau mawreddog ar gyfer tai newydd yng Nghaerdydd a'r de, i helpu i greu, yn ei eiriau ef, gannoedd a channoedd o berchnogion cartrefi hapus, nid etholwyr blin mewn tagfeydd. Fel y cofiwch efallai, gwnaethoch chi ymateb drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi deddfu i greu'r amodau pryd gall awdurdodau lleol ddod at ei gilydd i greu cynlluniau datblygu strategol, a'ch bod yn falch o weld, y llynedd, awdurdodau bargen prifddinas Caerdydd yn dod at ei gilydd i ddatblygu cynllun o'r fath ar gyfer ardal ehangach, a'ch bod yn edrych ymlaen at weld sut, yn 2019, y byddai'r bwriad hwnnw'n troi'n gamau ymarferol. Wel, dair blynedd yn ddiweddarach, gallwn weld yn glir fod y ddeddfwriaeth a grëwyd gan y Llywodraeth hon wedi helpu Caerdydd i droi'n ddinas gyda llawer o etholwyr blin mewn tagfeydd, ac mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Mae'r sefyllfa o ran seilwaith yng Nghreigiau a Radur a'r cyffiniau yn ofnadwy ar y gorau, ac, fel y gwyddoch chi'n iawn, mae'n cael ei waethygu gan y ffaith nad oes gan y datblygiadau tai newydd ddigon o amwynderau, sy'n golygu bod yn rhaid i drigolion yrru i gael mynediad i ysgolion, cyfleusterau iechyd, siopau a thebyg, sy'n gwaethygu'r sefyllfa ymhellach. Hefyd, mae gwasanaethau bysiau'n ofnadwy. Maen nhw'n cael gwared ar fwy a mwy o wasanaethau yn yr ardal—

13:40

Dywedwch hynna eto, mae'n ddrwg gennyf. Nid yw hwn—[Anghlywadwy.]  

Dim problem. Prif Weinidog, pam na all y Llywodraeth hon greu deddfwriaeth sy'n sicrhau bod digon o amwynderau, trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith yn cael eu rhoi ar waith cyn caniatáu i dai gael eu hadeiladu? Diolch. 

Wel, Llywydd, diolch i'r Aelod am y diddordeb y mae ef hefyd yn ei gymryd yn etholaeth Gorllewin Caerdydd. Rhoddaf sicrwydd iddo y byddaf yn adrodd ei safbwyntiau i'r Aelod etholedig ac y byddan nhw'n cael eu cymryd o ddifrif fel y dylen nhw, gan gynnwys yr holl waith sy'n mynd ymlaen i sicrhau bod yr amwynderau yno y mae angen eu darparu ar gyfer poblogaeth o'r fath sydd wedi dewis mynd i fyw yn natblygiad Plasdŵr. Yn hytrach na bod yn ddinasyddion 'blin' yng Nghaerdydd, fel yr awgryma'r Aelod, mae'r rhain yn bobl sy'n gwario miloedd lawer o bunnau yn wirfoddol i fanteisio ar y cyfle sydd wedi'i greu ar eu cyfer. 

Rwyf eisiau canolbwyntio ar y seilwaith cynllunio sy'n ymwneud â datblygiadau tai. Roeddwn yn siomedig iawn o glywed bod Cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatâd cynllunio i 700 o gartrefi ar hen safle Brains, ychydig i'r de o orsaf Caerdydd Canolog—datblygiad 29 llawr—a'r unig gyfraniad i dai cymdeithasol yw £600,000 i adeiladu cartrefi mewn mannau eraill. Wel, mae hynny'n cyfateb i tua phum cartref. Felly, tybed pa gynlluniau a allai fod gan Lywodraeth Cymru i gryfhau'r rhwymedigaeth i gartrefu nid yn unig y bobl sy'n gallu fforddio prynu tai, ond y rhai sy'n aros ar y rhestr aros am dai. 

Wel, Llywydd, mae'r penderfyniad i fwrw ymlaen â thai ar hen safle Brains, wrth gwrs, yn un i'w groesawu, oherwydd mae'n golygu bod codi tai'n digwydd ar safle tir llwyd ac yn rhan ganol dinas Caerdydd, lle gwyddom fod y galw am dai yn sylweddol. Ond rwy'n cytuno â'r hyn y mae Jenny Rathbone wedi'i ddweud: mai mater i awdurdodau lleol yw gwneud y defnydd gorau posibl o'r trefniadau sydd ar waith yno iddyn nhw sicrhau bod datblygwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol at anghenion tai yn y dyfodol, nid dim ond pobl a fydd yn gallu fforddio prynu eiddo ar y safle hwnnw, ond at yr ymdrech gyffredinol y mae angen ei gwneud i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol fforddiadwy o safon dda yma yng Nghymru. Rwy'n cymeradwyo cyngor dinas Caerdydd am bopeth y maen nhw'n ei wneud i adeiladu tai cyngor yn y ddinas am y tro cyntaf ers amser maith, ond mae angen manteisio ar gyfleoedd eraill hefyd. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r wlad heddiw'n llawn tagfeydd traffig oherwydd streiciau'r rheilffyrdd, y streiciau mwyaf ers y 1980au. A ydych chi'n cefnogi'r streiciau, Prif Weinidog? 

Llywydd, nid oes streiciau yng Nghymru. Nid oes unrhyw anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a'r undeb llafur. Lle yr wyf i yn gyfrifol am y pethau hyn, nid yw gweithwyr ar streic, oherwydd y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar sail partneriaeth gymdeithasol i ddod â phobl o amgylch y bwrdd at ei gilydd i sicrhau bod sgyrsiau'n digwydd a bod atebion yn cael eu cyflawni. Pa mor wahanol iawn i Lywodraeth gwbl absennol y DU, sy'n rhoi'r gorau i'w cyfrifoldebau sy'n golygu nad yw miloedd o bobl yn gallu teithio oherwydd bod y llywodraeth honno'n esgeuluso'i dyletswydd, rhywbeth sydd mor amlwg yn eu hagwedd tuag at gysylltiadau diwydiannol. 

Does dim byd tebyg i herio'r bleidlais gyflogres i'r undebau, nac oes, pan fydd eich rhai chi eich hun yn curo eu desgiau. Ni chlywais i nhw'n curo eu desgiau pan oedden nhw i fod i gefnogi eu hetholwyr a oedd yn sownd ar drenau na allen nhw ddarparu gwasanaeth gan Trafnidiaeth Cymru. A phan ewch chi i orsaf Caerdydd Canolog heddiw, neu'r rhwydwaith rheilffyrdd yn y gogledd neu'r canolbarth, nid oes trenau'n rhedeg, Prif Weinidog. Rwy'n sylwi na ddywedoch chi eich bod yn cefnogi'r streiciau, sydd i'w groesawu, Prif Weinidog, ond yn sicr, mewn oes pan fo angen i'r system trafnidiaeth gyhoeddus ddod yn ôl yn fyw ar ôl COVID, mae angen i ni symud oddi wrth arferion gwaith y 1950au a symud i'r 2020au—arferion sy'n gweld pobl yn peidio â rhannu faniau i gyrraedd yr un safle i weithio, arferion sy'n dyfarnu na ddylid defnyddio dronau oherwydd iechyd a diogelwch, neu na ddylid defnyddio apiau ar ffonau i anfon negeseuon at weithwyr mewn lleoliadau bregus. Siawns na chytunwch chi â mi ar hynny, Prif Weinidog—bod angen diweddaru arferion gwaith yn ein rheilffyrdd, boed hynny yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, fel bod gennym rwydwaith rheilffyrdd diogel a dibynadwy.

13:45

Llywydd, gadewch imi egluro i arweinydd yr wrthblaid pam nad yw trenau'n rhedeg yng Nghymru: y rheswm am hynny yw bod ei Lywodraeth wedi creu anghydfod gyda Network Rail, ac mae Network Rail wedi symud rhai o'r staff, a allai fod wedi bod ar gael i redeg trenau yng Nghymru, er mwyn cadw trenau i redeg yn Lloegr. Tybed a yw'n cefnogi'r mesur hwnnw, a oedd yn benderfyniad gan ei Lywodraeth ef, i wrthod y cyfle i bobl yng Nghymru deithio—lle nad oes anghydfod—drwy symud y gweithwyr hynny i ofalu am yr hyn sy'n amlwg iddyn nhw yn fwy o flaenoriaeth nag y bydd dinasyddion Cymru byth.

Yr undebau llafur—Llywydd, wrth gwrs, mae'r undebau llafur eisiau negodi ac eisiau negodi ynghylch arferion gweithio diogel ar gyfer y dyfodol, ond yr arferion gweithio diogel. Pan edrychwch chi ar yr hyn y mae Network Rail yn ei gynnig ar hyn o bryd, ni fyddwn i eisiau teithio ar drên gyda gyrrwr sydd newydd weithio am 16 awr yn olynol. Ni fyddwn i eisiau bod ar drên lle na allwn fod yn ffyddiog bod y trefniadau diogelwch a'r bocsys signalau yr hyn y mae angen iddyn nhw fod.

Llywydd, dim ond drwy negodi y caiff unrhyw anghydfod yn y pen draw ei ddatrys. Yr hyn yr wyf i eisiau ei weld yw Llywodraeth y DU yn defnyddio'r pŵer sydd ganddi, y pŵer cynnull sydd ganddi, cyhyrau'r trefniadau ariannu sydd ganddi, i gael pobl o gwmpas y bwrdd ac i sicrhau bod y trafodaethau hynny'n ailddechrau ac yn mynd tuag at gasgliad y cytunwyd arno. Absenoldeb Llywodraeth y DU sy'n gwrthod arfer y cyfrifoldebau hynny sy'n gyfrifol am y problemau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio teithio heddiw.

Prif Weinidog, mae'n amlwg nad ydych chi wedi bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae ysgrifennydd cyffredinol yr RMT wedi'i ddweud, pan ddywedodd ar goedd na fyddai'n negodi gyda Llywodraeth Geidwadol, sy'n ymddangos yn rhyfedd o ystyried bod ganddyn nhw fandad i lywodraethu—[Torri ar draws.] Rwy'n gwerthfawrogi bod y bleidlais gyflogres yn cynhyrfu tipyn, ac rwy'n siŵr y bydd y pleidiau Llafur etholaethol yn cael y rhoddion y maen nhw'n eu haeddu—[Torri ar draws.]

Iawn, iawn, iawn. Rydym yn amlwg—. Mae llawer ohonom yn ôl yn y Siambr—dim ond dau berson ar Zoom heddiw—ac rwy'n clywed effaith hynny o'm cwmpas. [Chwerthin.] Ond, mae angen i mi hefyd glywed arweinydd yr wrthblaid, felly os gallwn ni barhau â'r cwestiwn.

Mae nyrsys, mae myfyrwyr sy'n awyddus i sefyll eu harholiadau, mae busnesau na allant gael gweithwyr i'w gweithle, sy'n dioddef oherwydd y streic hon. Felly, efallai y byddwn yn anghytuno ar wahanol bwyntiau, Prif Weinidog, ond a ydych chi'n cytuno â mi ar y pwynt amlwg hwn: pan elwir streic—ac rwy'n parchu'r hawl i alw streic, oherwydd mae hynny'n rhan sylfaenol o ddemocratiaeth—y dylid gwarantu lefelau gofynnol o wasanaeth ar seilwaith trafnidiaeth allweddol? A ydych chi'n credu bod hynny'n rhan hanfodol o'r hyn sydd ei angen ar system drafnidiaeth fodern yn yr unfed ganrif ar hugain, yn hytrach nag arferion gwaith y 1950au, yr ydych yn ymddangos mor abl i'w hamddiffyn?

Llywydd, mae'r streic hon wedi'i galw yn erbyn y lefelau eithriadol o gydsyniad sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth y blaid Dorïaidd. Er mwyn i undebau allu cynnal streic heddiw, bu'n rhaid iddyn nhw symud drwy gyfres o rwystrau y mae ei Lywodraeth wedi'u gosod. Nawr mae eisiau gosod rhwystrau pellach o flaen pobl. Nid yw hynny'n rhan o'r trefniadau y mae ei Lywodraeth wedi'u rhoi ar y llyfr statud. Gadewch iddo siarad â'i Lywodraeth. Eich rheolau chi yw'r rheolau y mae'r undebau llafur yn gweithredu oddi tanyn nhw. Nawr rydych chi eisiau newid y llyfr rheolau, wrth gwrs.

Ond, fe ddywedaf i hyn wrth arweinydd yr wrthblaid: rwyf wedi ceisio yn fy atebion y prynhawn yma i bwysleisio'r ffaith mai consensws yw'r unig ffordd y caiff anghydfodau eu datrys erioed. Byddai'n well iddo ychwanegu ei lais ar yr ochr honno i'r ddadl, yn hytrach nag adleisio'r iaith bryfoclyd y mae'r Llywodraeth hon yn San Steffan yn ei defnyddio'n fwriadol. Mae eisiau brwydr gyda'r undebau, mae'n pryfocio brwydr gyda'r undebau, ac nid yw hynny o fudd i neb o gwbl.

Diolch, Llywydd. Rhaid i mi ddweud, yn yr wythnos pan fo miloedd o hediadau wedi'u canslo ac mae'r rhwydwaith rheilffyrdd wedi dod i stop ac mae prisiau petrol wedi codi eto, mae dewis y Torïaid i godi trafnidiaeth yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ac yn eu cynnig yr wrthblaid yr wythnos hon yn ddewis dewr iawn. Maen nhw'n dweud nad yw'r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn addas i'r diben. Yr hyn nad ydyn nhw'n barod i'w ddweud yw ei fod yn methu oherwydd eu Llywodraeth nhw yn San Steffan, ac mae'r streic rheilffyrdd yn enghraifft berffaith o hynny: gall gwasanaethau redeg o Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful i Radur, lle maen nhw'n stopio, oherwydd dyna'r rhan o'r seilwaith rheilffyrdd yr ydym ni'n ei reoli ein hunain yma yng Nghymru, lle nad oes dadl, oherwydd ein bod ni yng Nghymru yn credu bod trin gweithwyr â chwrteisi yn rhan annatod o ddarparu gwasanaeth cyhoeddus teilwng. Onid yw honno'n ddadl arall eto—? A'r hyn yr ydych chi wedi'i rannu nawr, Prif Weinidog, sef bod Network Rail yn blaenoriaethu Lloegr dros Gymru unwaith eto, onid yw honno'n ddadl eto dros ddatganoli pwerau'n llawn dros reilffyrdd i Gymru?

13:50

Wel, Llywydd, mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei le wrth ddweud nad yw'r rhesymau sydd gennym—[Torri ar draws.] Rwy'n deall mai gwadu yw noddfa gyntaf Plaid Geidwadol Cymru, ac maen nhw'n brysur yn gwneud hynny y prynhawn yma. Y rheswm pam nad oes trenau i'r de o Radur yw oherwydd bod penderfyniadau'n cael eu gwneud gan gyrff nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Mae'r rhesymau pam nad oes trenau o gwbl yn y gogledd yr un rhesymau'n union. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU a Network Rail drin Cymru gyda'r parch yr ydym yn ei haeddu, a chydnabod nad oes gennym anghydfod yma yng Nghymru, ac eto, oherwydd eu gweithredoedd, nid yw trenau a allai fod yn rhedeg heddiw yn rhedeg.

Fe'n hatgoffwyd gan arweinydd Plaid Cymru o Grant Shapps. Dyna enw—gwelaf bod rhai Aelodau yma'n gyfarwydd ag ef. Ond mae'n ergyd driphlyg ryfeddol, onid yw hi, i ddod â'r rheilffyrdd i stop, i ddod â'r meysydd awyr i stop, ac, yn olaf, ar ôl tua wyth wythnos, rwy'n credu, ei fod wedi sylweddoli nad oedd y 5c a dynnwyd oddi ar bris petrol wedi'i drosglwyddo i bobl yn y rhan honno o'r sector trafnidiaeth ychwaith. Mae'n hanes hynod o fethiant, ac mae arnaf ofn mai pobl nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y Deyrnas Unedig sy'n talu cost y methiant hwnnw heddiw.

O ran datganoli rheilffyrdd, rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gael safbwynt clir ar hynny yma yng Nghymru, ond hefyd gan Blaid Lafur y DU hefyd, sydd wedi bod yn amwys ar y gorau, ac, mewn gwirionedd, wedi cefnogi rheilffordd integredig yn y DU yn yr etholiad diwethaf.

Nawr, yn argyfwng rheilffyrdd San Steffan, mae'n ymddangos bod cystadleuaeth rhwng gwleidyddion i weld pwy all fod y mwyaf anweledig. Ai Grant Shapps sy'n gwrthod eistedd i lawr gyda'r undebau rheilffyrdd, ynteu Keir Starmer sy'n gwahardd ei Gabinet yr wrthblaid o'r llinellau piced a'u dwrdio rhag siarad o blaid? Roeddwn i ar linell biced RMT y bore yma—yn falch o fod yno'n mynegi fy undod â gweithwyr sy'n ymladd am swyddi a chyflogau ac amodau gweddus. Ar adeg pan fo undebau llafur a gweithwyr yn cael eu pardduo, yn cael eu troi'n fychod dihangol, yn cael eu difrïo i dynnu sylw oddi ar fethiannau niferus Boris Johnson, onid yw'n bwysicach fyth ein bod yn dangos ein cefnogaeth iddyn nhw? Felly, a wnewch chi gadarnhau nad yw gwaharddiad Mr Starmer yn berthnasol i'ch aelodau chi o'r Cabinet, ac a wnewch chi eich hun, Prif Weinidog, ymweld â llinell piced fel symbol o'ch undod a'ch cefnogaeth?

Wel, Llywydd, nid oes unrhyw rwystr yn bodoli rhag i aelodau o fy ngrŵp ddangos eu cefnogaeth i'r mudiad undebau llafur. Mae Keir Starmer mewn sefyllfa wahanol iawn. Mae'n gwybod yn iawn, pe bai'n cymeradwyo hynny, na fyddai'r stori byth, byth, yn ymwneud â chefnogi'r mudiad undebau llafur; y Torïaid fyddai'n llwyddo yn eu dymuniad i bortreadu hyn fel enghraifft rywsut o'r wlad yn dychwelyd i ddyddiau yr ydym wedi eu gadael ymhell ar ôl. Felly, yn ein cyd-destun ni, lle mae gennym ddull partneriaeth gyda'n hundebau llafur, lle nad oes gennym anghydfod gyda'n hundebau llafur, wrth gwrs gall aelodau o'r Blaid Lafur yma yng Nghymru ddangos eu cefnogaeth i'n cydweithwyr yn yr undebau llafur, ond rydym yn gweithredu mewn cyd-destun gwahanol a down i gasgliadau gwahanol am resymau da iawn.

Yn wyneb yr argyfwng costau byw cynyddol a diffyg twf yn yr economi, chwyddiant ar y naill law a diffyg twf ar y llaw arall ar yr un pryd fel y cafwyd yn y 1970au yn dychwelyd, mae gennym Lywodraeth yn San Steffan sy'n credu mai'r ymateb priodol i'r argyfwng hwn yw torri cyflogau gweithwyr ymhellach fyth—dychwelyd at ddogma'r 1930au. Nid yw'n syndod bod athrawon a nyrsys yn ystyried streicio. Efallai ei fod yn un o arwyddion yr oes fod hyd yn oed bargyfreithwyr wedi pleidleisio dros streicio, a dylai hynny fod yn ddigon o rybudd hyd yn oed i'r Llywodraeth fyddar hon. Rwy'n credu mai streic gan urdd bargyfreithwyr Paris, os cofiaf yn iawn, a sbardunodd y chwyldro Ffrengig. Os yw Lloegr eisiau ei haf o anfodlonrwydd, a allwn ni wrthgyferbynnu hynny yma yng Nghymru, o fewn y meysydd hynny yr ydym yn eu rheoli, gyda haf o undod, a gwrando, er enghraifft, ar yr alwad gan yr undebau iechyd am gytundeb cyflog sydd, o leiaf, ar yr un raddfa â chwyddiant cynyddol?

13:55

Wel, Llywydd, gadewch i mi gytuno â rhan gyntaf yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, oherwydd yn yr anghydfod a welwn yn y diwydiant rheilffyrdd a'r pleidleisiau a welwn ar gyfer streicio mewn rhannau eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus, rydym yn medi corwynt 10 mlynedd o gyni. Rwy'n meddwl am yr amser, dro ar ôl tro pan gefnogodd Aelodau meinciau'r Ceidwadwyr y polisi hwnnw a'i amddiffyn—y polisi hwnnw, sydd wedi cadw cyflogau i lawr, sydd wedi gwrthod rhoi codiadau cyflog i bobl, ac sy'n golygu, ym mhob stryd yma yng Nghymru, fod gennym deuluoedd sy'n waeth eu byd heddiw na phan ddaeth ei blaid i rym yn 2010. A phan ychwanegwch chwyddiant sy'n rhemp a Changhellor sydd wedi colli rheolaeth dros yr economi, yna nid oes amheuaeth o gwbl bod y camau hyn yn cael eu hysgogi gan y methiant economaidd cyfansawdd hwnnw.

Fodd bynnag, mae'r sefyllfa yng Nghymru o ran cyflogau yn y sector cyhoeddus yn rhan o'r broblem a grëwyd gan y Llywodraeth Geidwadol. Rydym yn cael swm penodol o arian bob blwyddyn. Os ydym eisiau talu mwy i rai gweithwyr nag yr ydym yn cael ein hariannu i'w talu, nid oes unman i ni fynd. Ni allwn godi arian ein hunain i ychwanegu at hynny. Ni allwn godi arian ein hunain—[Torri ar draws.]

Mae gen i ddiddordeb mawr yn wir. Llywydd, ni fydd pobl sy'n gwrando wedi clywed arweinydd yr wrthblaid yn dadlau o blaid codi trethi pobl yma yng Nghymru er mwyn talu am gyflogau pobl oherwydd dyna a wnaeth. Dywedodd wrthyf y dylem godi trethi er mwyn talu am godiadau cyflog. [Torri ar draws.]

Na na. Dim pwynt o drefn. Fe glywais innau chi yn ei ddweud e hefyd. [Torri ar draws.] Na na. Gadewch i ni barhau ac yn o fuan, fe ddown at Afon Wysg a bydd hynny'n tawelu pawb. Alla i ddim cofio, Wysg—.

Mae'r Prif Weinidog wedi gorffen neu—?

Llywydd, fel yr wyf wedi esbonio, er mwyn i ni godi cyflogau pobl, fel yr hoffem ei wneud, fel y maen nhw'n ei haeddu, byddai'n rhaid i ni gymryd yr arian hwnnw o ryw ran arall o gyllideb Llywodraeth Cymru, a bydd Aelodau yma'n gwybod pa mor dynn yw'r gyllideb honno. Mae'n werth £600 miliwn yn llai heddiw nag yr oedd ar y diwrnod y datganodd y Canghellor y gyllideb yn ôl ym mis Tachwedd. Yr ateb yw bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ddod at y bwrdd hwnnw, rhaid iddi fod yn barod i ariannu'r setliadau hynny'n iawn, ac yna bydd pobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn gallu cael eu talu yn y ffordd y maen nhw'n ei haeddu ac y byddem ni yn dymuno.

Ansawdd Dŵr yn Nalgylch Afon Wysg

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd dŵr yn nalgylch afon Wysg? OQ58199

Diolch i Peter Fox am y cwestiwn yna. Mae ansawdd dŵr yn afon Wysg yn wynebu risgiau lluosog sy'n amrywio o newid hinsawdd a llygredd diwydiannol ac amaethyddol, i danciau carthion diffygiol a gollyngiadau dŵr gwastraff. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu buddsoddiad uniongyrchol ac yn gosod y fframwaith rheoleiddio, ond bydd gwelliant effeithiol yn dibynnu ar gydweithredu ar draws ystod o wahanol sefydliadau ac unigolion.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb, ac mae ansawdd dŵr yn fater pwysig i gymunedau ledled y wlad ac i Aelodau yn y Siambr hon. Dim ond yr wythnos diwethaf yr oeddem ni'n trafod canfyddiadau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar y pwnc, a'u hadroddiad yr oedd ei ddarllen yn ddigon i sobri rhywun. Yfory, byddwn yn trafod adroddiad yr un pwyllgor ar Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n codi cwestiynau am eu cynnydd ar fesurau i fonitro a rheoli llygredd dŵr. Yn ddiweddar, ym Mrynbuga, gorymdeithiodd cannoedd o drigolion lleol mewn protest gan ei gwneud yn glir eu bod wedi cael digon ar weld Afon Wysg yn cael ei llygru fel y mae hi ar hyn o bryd, ac maen nhw'n mynnu bod rhywun yn gweithredu.

Rwy'n cydnabod ac yn croesawu'r ffaith bod Dŵr Cymru yn cymryd camau yn arbennig i leihau effaith gorlifo ar Afon Wysg a'r dalgylch cyfagos. Mae'r gwaith sydd ar y gweill ar orsaf bwmpio Brynbuga, yn ogystal â'r bwriad i osod offer tynnu ffosfforws ychwanegol, yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond mae rheoleiddio'n hanfodol i newid parhaol. Prif Weinidog, a ydych chi'n ffyddiog bod gan y rheolyddion y capasiti a'u bod yn cymryd camau digonol i fynd i'r afael â'r materion hyn ar Afon Wysg, ac, yn wir, holl ddalgylchoedd afonydd Cymru? Prif Weinidog, pa neges a allwch chi ei rhoi i roi sicrwydd i gymunedau yn nalgylch afon Wysg fod y Llywodraeth yn rheoli'r sefyllfa hon?

14:00

Diolch i Peter Fox am gydnabod y camau sy'n cael eu cymryd gan Dŵr Cymru ar Afon Wysg mewn ymateb i'r pryderon a fynegwyd gan drigolion lleol. Fel y gŵyr Peter Fox, mae'n rhaglen waith tri cham, gyda £10 miliwn i'w fuddsoddi. Mae cam 1, y gwaith yng ngorsaf bwmpio carthffosydd Brynbuga, eisoes ar y gweill, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd, yna gyda gwaith pellach i barhau dros y ddwy flynedd nesaf.

O ran rheoleiddio, Llywydd, wrth baratoi ar gyfer cwestiynau heddiw, a'r cwestiwn a ddaw'n ddiweddarach ar y papur trefn gan Laura Anne Jones, fe wnes i ddarganfod—oherwydd nid dyma fy mhrif ffynhonnell arbenigedd bob amser—mai cynllunio draenio a gwastraff dŵr yw'r unig faes heb statws statudol yn y sector dŵr. Felly, o ran yr adolygiadau pum mlynedd a gynhaliwyd gan Ofwat—yr adolygiad o brisiau—y perygl yw nad yw cynllunio draenio a dŵr gwastraff yn cael yr un lefel o flaenoriaeth ag agweddau eraill sydd â rhwymedigaeth statudol y tu ôl iddyn nhw. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau pwerau drwy Ddeddf yr Amgylchedd 2021 Llywodraeth y DU i ddod â rheoliadau o flaen y Senedd i roi'r cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff ar sail statudol yma yng Nghymru. Rydym ar hyn o bryd yn treialu'r cynlluniau rheoli hynny ar sail anstatudol. Byddwn yn dysgu o ganlyniad i wneud hynny—dyma'r ffordd y mae diwydiant wedi gofyn i ni fwrw ymlaen—ac yna bwriadwn gyflwyno'r rheoliadau o flaen y Senedd y flwyddyn nesaf, yn 2023. Bydd hynny'n golygu y bydd y cynlluniau hynny ar sail statudol yma yng Nghymru mewn pryd ar gyfer adolygiad nesaf Ofwat o brisiau yn 2024, sy'n golygu y bydd yn rhaid eu cymryd yr un mor ddifrifol â'r rhwymedigaethau eraill y mae Ofwat yn eu pwyso a'u mesur pan fydd yn dod i'w gasgliadau.

Rwy’n gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i drigolion yn etholaeth yr Aelod fod y fframwaith rheoleiddio, yn ogystal â'r buddsoddiad sy'n cael ei roi ar waith, hefyd yn cael ei gryfhau yma yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â'r hyn yr wyf yn cytuno'n llwyr â Peter Fox sy'n fater difrifol iawn sy'n gofyn am weithredu ar draws ystod o sefydliadau ac unigolion.

Addysg Ysgol

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu addysg ysgol o'r radd flaenaf yng Nghymru? OQ58197

A gaf i ddiolch i Altaf Hussain am y cwestiwn yna? O fis Medi eleni, bydd cwricwlwm newydd y Senedd hon yn realiti mewn 95 y cant o ysgolion a lleoliadau meithrin yng Nghymru. Mae'r cwricwlwm newydd yn cynrychioli newid radical o ran darparu'r addysg o'r radd flaenaf honno sy'n galluogi ein dysgwyr i ddod yn ddinasyddion gwybodus yng Nghymru a'r byd.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Prif Weinidog, mae'r pandemig wedi taflu goleuni llym ar anghydraddoldebau yng Nghymru, a gwelwyd llawer o hyn drwy'r ffordd y cyflwynwyd ein system addysg wrth i rieni ei chael yn anodd bod yn rhiant ac yn athro i'w plant, a hefyd pan ddaeth lles plant yn bryder yn ystod absenoldeb hir o'r ystafell ddosbarth. Mae'r argyfwng costau byw nawr yn gorfodi rhieni i ymateb i her arall, ac un pryd y gallem weld cynnydd yn nifer yr absenoldebau ysgol wrth i rieni geisio dod o hyd i wyliau rhatach yn ystod amser ysgol. Pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y Llywodraeth ac ar draws ein system ysgolion i asesu effaith yr argyfwng costau byw ar bresenoldeb yn yr ysgol? Diolch.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Cymeradwyaf iddo'r ddarlith ddiweddar a roddwyd gan y Gweinidog addysg i Sefydliad Bevan, pan oedd yn mynd i'r afael â'r union fathau o faterion y mae Dr Hussain wedi'u codi gyda ni y prynhawn yma. Mae'r rhain yn faterion cymhleth. Nid oes gennyf unrhyw ddymuniad o gwbl, Llywydd, i gosbi unrhyw deuluoedd sy'n cael trafferthion yn sgil effaith yr argyfwng costau byw ac sy'n wynebu anawsterau ychwanegol o ran sicrhau bod eu plant yn bresennol—fel y mae angen i'r plant hynny fod, gan fod gan blant hawl i gael addysg yng Nghymru—yn yr ystafell ddosbarth. Nid wyf yn credu y byddai fy ngoddefgarwch yn ymestyn yr holl ffordd i deuluoedd sy'n dewis mynd â'u plant allan o'r ysgol er mwyn mynd ar wyliau. Mae ateb gwahanol a gwell i hynny, a hynny yw diwygio'r flwyddyn ysgol. Mae hwnnw'n fesur arall y mae fy nghyd-Aelod Jeremy Miles yn gweithio arno ar hyn o bryd, gyda'n partneriaid yn y meysydd ysgol ac addysg. Drwy ddiwygio'r flwyddyn ysgol, byddem yn gallu dileu'r cymhelliant gwrthnysig hwnnw, neu effeithio arno, sy'n bodoli i rieni wneud yn union fel y mae Altaf Hussain wedi awgrymu. Nid dyna'r ateb i sicrhau bod plant yn cael yr addysg y mae arnyn nhw ei hangen ac yn ei haeddu yng Nghymru. 

14:05

Prif Weinidog, mae Ysgol Gynradd y Rhigos yn fy etholaeth i yn dathlu ar ôl ennill y teitl clwb brecwast gorau yng Nghymru yn ddiweddar. Rydym wedi bod yn darparu brecwast am ddim i blant yng Nghymru ers ychydig o dan 20 mlynedd bellach, gan wella nid yn unig eu hiechyd ond hefyd eu lefelau canolbwyntio. Ac wrth gwrs, bydd manteision y mynediad cyffredinol hwnnw at faethiad da yn cael eu hehangu'n sylweddol drwy gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn oedran cynradd yng Nghymru. Prif Weinidog, a wnewch chi anfon neges i longyfarch Mrs Mundy a'i thîm yn ysgol gynradd Rhigos am gael y wobr drawiadol hon? A pha arfer gorau, yn eich barn chi, y gellid ei gymryd o ysgol Rhigos a'i rannu fel y gall pob clwb brecwast gynnig ychwanegiad o'r radd flaenaf at addysg ysgol ein disgyblion?

Diolch i Vikki Howells am hynna, ac rwyf eisiau llongyfarch Ysgol Gynradd Rhigos a'r tîm o bobl sydd wedi ennill y wobr sylweddol iawn honno. Mae arnaf ofn, Llywydd, fy mod wedi bod o gwmpas yn ddigon hir i gofio ymweliad ag ysgol yn Rhondda Cynon Taf, yr awdurdod lleol a gynrychiolir yma, gydag eraill, gan Vikki Howells. Roedd yn ymweliad a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, a chyfarfu â phennaeth aruthrol, a ddywedodd wrtho, pe bai yna un peth yr hoffai weld Llywodraeth Cymru yn ei wneud, cymryd camau i atal plant yn ei hysgol rhag troi i fyny bob bore yn rhy lwglyd i ddysgu byddai hynny. Roedd honno'n foment sobreiddiol iawn, Llywydd. O'r un ymweliad hwnnw, mae'r rhaglen gyfan yr ydym wedi'i chael yn awr ledled Cymru ar gyfer datganoli, fel y dywedodd Vikki Howells, dros gyfnod cyfan datganoli bron i ddarparu brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd, dyna o le y daeth y syniad hwnnw. Ac fel y dywedodd Vikki Howells, mae'n gwneud yn siŵr bod plant sy'n dod i'r ystafell ddosbarth yng Nghymru yn barod i ddysgu ac nad ydyn nhw'n ymgolli'n gyson yn y ffaith nad ydyn nhw wedi bwyta ers iddyn nhw fod yn yr ysgol y tro diwethaf.

Caiff hynny ei wella ymhellach fyth gan ein rhaglen o giniawau am ddim, prydau ysgol am ddim—prydau ysgol am ddim i bawb—ymrwymiad sydd wedi'i wreiddio yn ein cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a phryd y cymerwyd cam mawr ymlaen ddoe gyda'r cyhoeddiad am y symudiad ymlaen ym mis Medi eleni. Caf fy nghalonogi yn fawr gan y ffaith bod cynifer o ysgolion a chymaint o awdurdodau lleol yng Nghymru yn gallu ymuno â chyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb mor gynnar yn y rhaglen, ac eraill sydd â chynlluniau gweithgar iawn i ymestyn y cynnig hwnnw, nid yn unig i ddisgyblion oedran derbyn, ond i fyfyrwyr blwyddyn 1 a blwyddyn 2 hefyd. Mae'n syniad sydd wedi cael croeso eang, am yr holl resymau a ddywedodd Vikki Howells, ac rydym yn dechrau'n dda iawn gyda'n rhaglen yma yng Nghymru. 

Afonydd Gwy ac Wysg

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i uwchraddio'r system garthffosydd yn nalgylchoedd afonydd Gwy ac Wysg? OQ58216

Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn yna, Llywydd. Roedd preifateiddio'r diwydiant dŵr gan Lywodraethau Ceidwadol blaenorol yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y system garthffosydd i gwmnïau dŵr. Mae rhai systemau carthffosydd, fel tanciau carthion, yn parhau i fod yn gyfrifoldeb unigolion preifat.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'n dda gweld bod MS lleol, Peter Fox, hefyd yn gofyn cwestiwn ynghylch afonydd heddiw, gan atgyfnerthu pa mor bwysig yw'r mater hwn i'n cymuned leol. Prif Weinidog, y penwythnos diwethaf, roeddwn yn bresennol yn yr orymdaith a amlinellwyd gan Peter Fox i achub ein hafonydd, ochr yn ochr â'r ymgyrchydd lleol Angela, cynghorwyr lleol, trigolion, pysgotwyr, cŵn, fy nheulu fy hun a llawer o blant lleol, y mae pob un ohonyn nhw'n mwynhau ein hafonydd, i gyd yn dangos cryfder y teimlad sydd ar y mater hwn. Prif Weinidog, rwyf wedi tyfu i fyny wrth ymyl—chwarae a physgota yn—Afon Wysg, ac yn awr rwy'n mynd â fy mhlant i lawr i'r afon a gwelwn fwy o lygredd, llai o bysgod a llawer iawn o algâu gwyrdd yn tyfu. Mae'n drist iawn gweld ei ddirywiad cyflym.

Roedd yn gyhoeddiad i'w groesawu'n fawr gan Dŵr Cymru, fel yr ydych wedi amlinellu eisoes, o £10 miliwn o gyllid a gaiff ei fuddsoddi yn afon Wysg i wella'r gwaith trin dŵr, ac yn y gorlif stormydd cyfunol—buddsoddiad yr oedd ei angen yn ddirfawr am amrywiaeth o resymau: achub bioamrywiaeth, bywyd gwyllt a nifer llai o bysgod. Ond, Prif Weinidog, rydych, yn rhannol, wedi ateb fy nghwestiwn eisoes yn gynharach am reoli afonydd a'n fframwaith rheoleiddio sydd ar waith, ac, wrth gwrs, rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn, gan fod rheoli afonydd yn eich awdurdodaeth, eich bod wedi ystyried hyn ac wedi gwrando ar Lywodraeth y DU a'r hyn y maen nhw yn ei wneud o dan y Bil amgylchedd newydd, ac ailadrodd rhai o'r pethau hyn, a byddwch yn awr yn treialu ar sail anstatudol, fel yr ydych chi wedi amlinellu, gan obeithio y daw hynny'n statudol yn 2024. Byddem yn croesawu hynny. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r mater hwn cyn i'n hafonydd farw.

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y cytunwch â mi fod angen i ni ystyried yn ofalus y system garthffosiaeth hefyd. Rydym wedi gweld buddsoddiad sylweddol— 

14:10

Mae angen i chi ddod at eich cwestiwn nawr. Rydych wedi amlinellu'r hyn a ofynnwyd ac a atebwyd o'r blaen; os wnewch chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch yn dda. 

Diolch, Llywydd. A ydych chi'n cytuno â mi fod angen i ni weld buddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru rywbryd i ddisodli neu adnewyddu'r system garthffosiaeth hen ffasiwn yng Nghymru, gan weithio gyda'r rhai a amlinellwyd gennych yn eich ateb blaenorol, fel ei bod yn addas i'r diben ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol? 

Rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â'r angen am fuddsoddiad sylweddol iawn, ond daw'r buddsoddiad gan gwmnïau dŵr. Nhw sy'n gyfrifol, nid Llywodraeth Cymru. Mae arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi, ac mae gennym £40 miliwn eisoes yn cael ei wario yn y maes hwn dros y tair blynedd nesaf, ond nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol. Y cwmnïau dŵr sy'n gyfrifol am hyn, ac rydym yn ffodus iawn yng Nghymru o gael cwmni dŵr nid-er-elw fel na chaiff miliynau a miliynau o bunnau eu tynnu oddi ar dalwyr biliau er mwyn elw. Dyma'r eironi, Llywydd, onid e? Mae gennym ddiwydiant dŵr sy'n eiddo i'r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig; ond mae'n eiddo i Lywodraeth Ffrainc a Llywodraeth yr Almaen, nid ein Llywodraeth ni, lle byddai'r elw hwnnw'n cael ei ailfuddsoddi, fel y mae yng Nghymru, ac rydym yn ffodus o fod yn y sefyllfa honno.

Rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad pum mlynedd nesaf yn gweld y math o newid sylweddol mewn buddsoddiad wrth ymdrin â'r problemau. Rwy'n cytuno â'r Aelod, ac rwy'n cytuno â Peter Fox, fod y rhain yn faterion difrifol ac rydym yn haeddu cael dadl ddifrifol yn eu cylch yng Nghymru. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fod yn barod i wynebu rhai sgyrsiau heriol. Byddaf yn cadeirio uwchgynhadledd yn Sioe Frenhinol Cymru ar lygredd ffosffad yn ein hafonydd. Ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog ganfyddiadau ymchwil sydd wedi'u cynnal gan ymchwilwyr annibynnol a ariannwyd gan Dŵr Cymru i Afon Wysg. Edrychodd ar lefelau dyddiol ffosfforws yn yr afon. Mae 21 y cant o'r llwythi dyddiol hynny o ganlyniad i waith trin carthion. Mae'r rheini'n hen weithiau heb y lefelau modern o soffistigeiddrwydd, ac mae angen eu huwchraddio fel y gellir lleihau hynny. Daw deuddeg y cant o'r hyn y mae'r ymchwilwyr yn ei ddisgrifio fel categorïau eraill: tanciau carthion, dŵr ffo trefol. Daw un y cant o ardaloedd all-lif carthion cyfunol, a daw 67 y cant o ganlyniad i ddefnydd amaethyddol o'r tir ar hyd glannau'r afon.

Dyna pam mae angen cael sgwrs aeddfed, heb feio gyda'n cydweithwyr sy'n ffermwyr. Rwy'n mynd i fod yn gwbl glir am hynny. Nid wyf yn rhoi'r ffigurau hyn i chi gan fy mod yn dymuno pwyntio bys, ond dim ond i egluro'r ffaith, os ydym ni am gael yr effaith ar ein hafonydd y gwn y bydd yr Aelod eisiau ei gweld, ac mae hynny'n cael ei rannu o amgylch y Siambr, mae'n rhaid i chi gael sgwrs aeddfed pryd y mae'r holl fuddiannau sydd â rhan i'w chwarae yn barod i fod yn rhan o'r sgwrs honno, i gydnabod y camau y gallan nhw eu cymryd. Gyda'i gilydd, bydd hynny'n arwain at wneud y gwahaniaeth. 

14:15
Iechyd Meddwl Amenedigol

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am wasanaethau i gefnogi menywod yn Arfon sy’n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl amenedigol? OQ58234

Diolch. Llywydd, mae buddsoddiad rheolaidd o £3 miliwn wedi caniatáu'r bwrdd iechyd a byrddau iechyd ar draws Cymru i ddatblygu timau iechyd meddwl amenedigol cymunedol. Mae ataliaeth ac ymyrraeth gynnar yn sicrhau bod mwy o fenywod yn derbyn cymorth effeithiol mor agos â phosib i’r cartref. Yn Arfon, mae hynny'n cynnwys nyrs arbenigol, yn gweithio fel rhan o'r tîm iechyd meddwl amenedigol cymunedol ehangach.

Diolch yn fawr. Wythnos nesaf, mi fyddai’n cyd-noddi digwyddiad i nodi pen-blwydd cyntaf yr uned mamau a babanod yn y de, sef Uned Gobaith. Fel dŷch chi’n gwybod, cafodd yr uned yma ei hagor yng nghanol y pandemig, a does yna ddim dwywaith ei bod hi wedi wynebu heriau oherwydd hynny, ond hefyd mae hi yn datblygu i fod yn adnodd gwerthfawr i famau sy’n datblygu problemau iechyd meddwl o gwmpas cyfnod geni plentyn.

Mae cynifer ag un o bob pedair menyw yn gallu datblygu problem o’r fath. Dwi felly’n bryderus ar ran mamau yn fy etholaeth i, ac ar draws y gogledd, nad oes yna fynediad at uned arbenigol yn agos at gartref i’r mamau rheini. A wnewch chi ymrwymo i ddatblygu cefnogaeth arbenigol mewn man addas? Rydych chi’n sôn am nyrs, ond mae eisiau lleoliad addas ar gyfer merched y gogledd. A wnewch chi roi blaenoriaeth i symud ymlaen efo creu’r ddarpariaeth yma? Mae ar y gweill ers tro. Mae angen gweld gweithredu.

Wel, diolch yn fawr i Siân Gwenllian, a diolch iddi am gyd-noddi’r digwyddiad yr wythnos nesaf. O bopeth dwi wedi’i glywed, mae flwyddyn gyntaf yr uned yn Ysbyty Tonna wedi bod yn un lwyddiannus, ac, wrth gwrs, rŷm ni’n trio tynnu gwersi mas o’r profiadau yna. Ac, wrth gwrs, hefyd, Lywydd, dwi’n deall y pwyntiau y mae’r Aelod yn eu gwneud am ddarpariaeth cleifion mewnol yn y gogledd. Mae llawer o waith wedi’i wneud eisoes gan y pwyllgor gwasanaethau arbenigol ar y mater hwn.

Er mwyn i uned annibynnol weithredu, byddai angen iddi fodloni’r safonau sy’n ofynnol gyda’r colegau brenhinol perthnasol. Mae hynny’n cynnwys nifer y cleifion sydd eu hangen i gynnal uned arbenigol o’r math hwn. Dyna’r peth mae pobl yn y gogledd yn ei drafod ar hyn o bryd: allwn ni sefydlu uned yn y gogledd ble bydd y colegau brenhinol yn fodlon rhoi caniatâd i honno symud yn ei blaen? Mae’r trafodaethau hynny yn parhau, a dwi’n gwybod bod pob cyfle yn cael ei gymryd i gyflymu’r broses o gytuno ar gyfres o gynigion ymarferol.   

Mynediad at Addysg

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo mynediad at addysg yng nghefn gwlad Conwy a Sir Ddinbych? OQ58201

Diolch i'r Aelod, Llywydd, am y cwestiwn. Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael mynediad i addysg yn eu hardaloedd eu hunain. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd mewn ysgolion a rhaid iddyn nhw sicrhau bod digon o ysgolion yn darparu addysg gynradd ac uwchradd yn eu hardaloedd. 

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Roeddwn i mewn gwirionedd yn codi'r cwestiwn oherwydd pryderon am fynediad i addysg bellach ymhlith rhai o fy etholwyr. Byddwch yn ymwybodol o'r ddarpariaeth ragorol a fu dros nifer o flynyddoedd yng Ngholeg Llysfasi, sydd ychydig y tu allan i Ruthun, sy'n darparu cyrsiau amaethyddol a chyrsiau sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid hefyd, o ran eu darpariaeth o gyrsiau anifeiliaid bach.

Mae'n destun gofid mawr i mi fod Coleg Cambria wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei fod yn bwriadu newid lleoliad y cyrsiau anifeiliaid bach hynny sydd ar gael yng Ngholeg Llysfasi. Mae wedi gwneud y penderfyniad hwnnw heb ymgynghori â myfyrwyr, heb ymgynghori â staff, a heb ymgynghori â rhieni myfyrwyr ychwaith.

Mae canlyniad tynnu'r cyrsiau gofal anifeiliaid yng Ngholeg Llysfasi yn ôl yn golygu y bydd y ddarpariaeth Gymraeg o gyrsiau yn cael ei llesteirio o ganlyniad i adleoli'r cyrsiau hyn i Laneurgain. Yn ogystal â hynny, bydd yn gwneud mynediad i'r cyrsiau hynny'n anodd iawn, yn enwedig i'r myfyrwyr hynny sydd eisoes wedi dechrau rhai o'u cyrsiau ac yn gobeithio symud ymlaen i flynyddoedd eraill hefyd, oherwydd bydd gan lawer, yn awr, deithiau o hyd at awr i'r ddau gyfeiriad er mwyn cael mynediad i'w cyrsiau. Mae hynny'n amlwg yn annerbyniol.

O gofio bod colegau AB yn cael incwm sylweddol gan Lywodraeth Cymru, hoffwn ofyn i chi a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi rhwymedigaethau ar golegau AB i sicrhau ei bod yn ofynnol iddyn nhw ymgynghori pan fyddan nhw'n cynnig newidiadau sylweddol yn y dyfodol i leoliad cyrsiau, o ystyried yr effaith sylweddol ar fyfyrwyr a staff.

14:20

Llywydd, a gaf i ddiolch i Darren Millar am godi'r mater yna y prynhawn yma? Er fy mod yn gyfarwydd iawn â Llysfasi a'r gwaith y mae'n ei wneud, ac yn wir y gwaith rhagorol a wnaed gan Goleg Cambria, dyna'r tro cyntaf i mi glywed am y mater penodol y mae wedi'i nodi'n gynhwysfawr y prynhawn yma. Bydd y Gweinidog wedi clywed yr hyn sydd ganddo i'w ddweud. Rwy'n siŵr y bydd yn fodlon ystyried a oes newidiadau i'r trefniadau y mae angen eu rhoi ar waith, neu a yw'n fwy o fater o fynd ar drywydd y pryder unigol y mae Darren Millar wedi'i godi y prynhawn yma.

Lles Anifeiliaid

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r risg gynyddol i les anifeiliaid o ganlyniad i'r argyfwng costau byw? OQ58242

Llywydd, mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio ar bob agwedd ar fywyd yng Nghymru, gan gynnwys risg gynyddol i les anifeiliaid. Rydyn ni'n asesu'r risg honno gyda'n partneriaid yn undebau'r ffermwyr, sefydliadau trydydd sector, a thrwy grŵp iechyd a lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru.

Diolch am hynny. Ces i'r fraint, wythnos diwethaf, o ymweld â'r elusen Almost Home Dog Rescue, yn ymyl yr Wyddgrug, a dwi'n gwybod bod yna Aelodau eraill wedi bod ac ar fin ymweld yn ogystal. Wrth gwrs, mi welwyd cynnydd yn nifer y bobl oedd yn cymryd anifeiliaid anwes yn ystod y pandemig, a nawr wrth gwrs, wrth i ni ddod yn ôl i ryw fath o normalrwydd, mae pobl yn sylweddoli efallai fod rhaid iddyn nhw adael yr anifeiliaid yna fynd, ond hefyd, yn sgil yr argyfwng costau byw, mae pobl jest yn methu fforddio cadw cŵn ac anifeiliaid anwes. Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae elusennau fel hyn hefyd yn ei chael hi'n anoddach i godi arian oherwydd y costau mae pobl yn eu hwynebu. Felly, gaf i ofyn a ydy'r Llywodraeth wedi rhoi unrhyw fath o ystyriaeth o safbwynt rhoi cefnogaeth ariannol ymarferol i nifer o'r elusennau hyn, oherwydd, ar ddiwedd y dydd, rŷm ni'n mynd i weld lles anifeiliaid yn dioddef yn aruthrol os ydy nifer o'r anifeiliaid yma yn gorfod cael eu rhoi i lawr?

Wel, Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn ychwanegol yna. Mae'n wir beth ddywedodd e. Mae rhai ffigurau yn dangos bod mwy na 3 miliwn o aelwydydd yn fwy wedi prynu anifeiliaid yn ystod y pandemig nag oedd yna erioed. So, mae rhywbeth mawr wedi digwydd yna, a nawr, gyda phroblemau costau byw, siŵr o fod, mae lot o deuluoedd yn wynebu problemau.

Dwi'n gwybod bod y Gweinidog a'r prif swyddog yn y maes yn gweithio'n agos gyda'r trydydd sector. Maen nhw'n gwneud gwaith arbennig o dda; wrth gwrs, safbwynt y Llywodraeth yw i gefnogi pobl yn y sector yna a'u helpu nhw. Dwi ddim yn siŵr os rŷn ni'n gallu ei wneud e'n ariannol ond rŷm ni yn ei wneud e mewn ffyrdd eraill i'w cefnogi nhw yn y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Daw'r cyntaf gan y Gweinidog iechyd ar gynyddu faint o apwyntiadau meddygon teulu sydd ar gael yng Nghymru. Gwn fod fy nghyd-Aelod Sam Kurtz wedi crybwyll hyn yn gynharach, ond un o bryderon mwyaf pobl yn fy rhanbarth yw'r anhawster a'r rhwystredigaeth y maen nhw'n eu hwynebu wrth wneud apwyntiadau i weld eu meddyg teulu. Mewn ymgais a gynlluniwyd i leddfu'r pwysau ar feddygon teulu a'u gadael gyda mwy o amser i weld y cleifion salaf a'r rhai sydd â phroblemau cymhleth, mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Sajid Javid, wedi cyhoeddi y bydd y gyfraith yn cael ei newid fel na fydd angen i gleifion weld eu meddyg teulu er mwyn cael caniatâd i fod i ffwrdd o'r gwaith mwyach. Bydd fferyllwyr, nyrsys, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion yn cael pwerau i gyflwyno nodiadau ffitrwydd o dan ddiwygiadau a fydd yn rhyddhau llawer mwy o apwyntiadau meddygon teulu ac yn helpu i leddfu'r pwysau y mae meddygon teulu yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae'r symudiad wedi'i groesawu gan grwpiau cleifion a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu, gan y bydd yn caniatáu i fwy o gleifion yn y de-ddwyrain gael mwy o apwyntiadau meddygon teulu. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch sut y bydd hyn yn newid y ffordd yr ydym yn gweithio yma yng Nghymru, er budd meddygon teulu a chleifion fel ei gilydd?

Yr ail ran, Gweinidog, yw yr hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am y cynllun dychwelyd ernes arfaethedig. Mae sawl busnes o bob rhan o fy rhanbarth i yn y de-ddwyrain a thu hwnt wedi bod mewn cysylltiad yn codi eu pryderon am y cynllun. Mae'r holl fusnesau yr wyf wedi siarad â nhw yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau amgylcheddol; fodd bynnag, maen nhw'n ofni y byddan nhw yn cael eu taro gan rwystrau masnachu sylweddol oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnwys gwydr yn y cynllun a mynd ar drywydd cynllun dychwelyd ernes digidol. Dywedodd un bragdy wrthyf y bydd y cynllun yn gosod costau sylweddol ar fusnesau, oherwydd, wrth gynnwys gwydr bydd angen labeli lluosog, ac o ganlyniad, bydd busnesau'n ei chael yn anodd talu'r costau cofrestru blynyddol, ffioedd cynhyrchwyr, yn ogystal â gofynion labelu. Maen nhw hefyd yn ofni mai dim ond brandiau byd-eang mawr fydd yn gallu addasu i'r rheolau newydd yn haws na busnesau annibynnol llai, ac y bydd llawer o gwmnïau'n dewis peidio â gwerthu eu cynnyrch yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Gweinidog, pe baech yn gwneud datganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phryderon dilys busnesau ledled Cymru. Diolch.

14:25

Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynghylch cynyddu apwyntiadau meddygon teulu drwy'r ffordd a awgrymwyd gennych—nid meddyg teulu yn unig sy'n gwneud rhai pethau—byddwch yn ymwybodol bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda phob gweithiwr gofal sylfaenol proffesiynol—felly, fferyllwyr, er enghraifft, yr ydym wedi cynyddu nifer y darpariaethau a wnânt. Nid wyf yn ymwybodol bod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn edrych arno. Yn amlwg, mae hi yn y Siambr a bydd hi wedi clywed eich cwestiwn, ond, os oes ganddi unrhyw beth pellach i'w ychwanegu, fe ofynnaf iddi ysgrifennu atoch.

Mewn ymateb i'ch cais am ddatganiad ynghylch cynllun dychwelyd ernes gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, mae hwn yn ddarn o waith sydd bellach wedi bod yn mynd rhagddo'n helaeth. Pan oeddwn yn ôl yn y portffolio ychydig flynyddoedd yn ôl, y cynllun dychwelyd ernes, roeddem yn gweithio arno ledled y DU, ynghyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban hefyd. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn y bydd rhai cwmnïau wedi'i ddweud wrthych. Mae'r rheini'n sicr yn ymatebion yr wyf i'n eu cydnabod, a phryderon dilys. Fodd bynnag, mae'r cynllun yn cael ei weithredu. Rydym hefyd yn gwneud cryn dipyn yn ymwneud â chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, ac rwy'n siŵr, pan fydd y cynllun wedi'i gyflawni, y bydd y Gweinidog yn hapus i wneud datganiad ysgrifenedig.

Diolch, Llywydd. Trefnydd, ddoe, mi wnes i ymweld efo banc bwyd Rhondda a dwi wedi cael nifer o brifathrawon hefyd yn cysylltu efo fi, yn poeni'n ddirdynnol am deuluoedd yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli, ac yn benodol yn poeni beth fydd y sefyllfa dros yr haf. Yn amlwg, mae’r Gweinidog a’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd  yna gymorth ar gael o ran prydau ysgol am ddim i deuluoedd sydd eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim, ond un o’r pryderon sydd wedi’i godi efo fi ydy am y rhai hynny sy’n disgyn yn y bwlch, a hefyd y rhai hynny sydd efallai ddim yn mynd i allu elwa o'r rhaglenni sy'n cael eu rhedeg yn yr ysgolion dros yr haf oherwydd costau trafnidiaeth. Mi glywsom ni dystiolaeth yr wythnos diwethaf fel pwyllgor plant a phobl ifanc o ran bod trafnidiaeth yn rhwystr rŵan i bobl ddod i’r ysgol ac yn cael effaith ar bresenoldeb, felly dim ond gwaethygu bydd hynny yn yr haf heb drafnidiaeth i ysgolion ar gael hefyd. Felly, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg cyn yr haf inni gael deall felly beth fydd ar gael i deuluoedd, fel bod yr eglurder yna.

Gaf i hefyd dynnu eich sylw chi, os gwelwch yn dda—? Mi fyddwch yn ymwybodol ein bod yn derbyn, fel Aelodau’r Senedd, nodyn yn rhoi gwybod os yw Gweinidog yn ein hetholaeth neu ein rhanbarth. Mae’r rhain yn ddefnyddiol iawn fel ein bod ni'n gallu paratoi, neu ragrybuddio Gweinidog os ydyn ni hefyd yn bresennol, ond nid ydy'r manylion wastad yn y datganiadau hyn. Rydyn ni dim ond yn cael gwybod gan rai Gweinidogion eu bod nhw yn y rhanbarth ar ddyddiad arbennig, ond ddim efo unrhyw syniad lle. Felly, a gaf i ofyn bod yna gysondeb o ran y wybodaeth yma? Diolch.

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n gwybod, yn gwneud llawer iawn o waith i gefnogi nid yn unig ysgolion o ran darparu bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol yn lle prydau ysgol am ddim, ond hefyd cynlluniau elusennol. Felly, nid wyf yn siŵr a oes unrhyw waith pellach i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ei gylch cyn gwyliau'r ysgol, ond yn sicr fe wnaf hynny—. Mae'r ddau Weinidog yn y Siambr a byddan nhw wedi clywed eich cais.

Yn sicr, dylech gael eich hysbysu bob amser—dylai pob Aelod—pan fydd Gweinidog yn eich etholaeth neu'ch rhanbarth, ac fe wnaf yn sicr ofyn i swyddfeydd preifat gael eu hatgoffa ei bod yn bwysig iawn bod yr wybodaeth hon yn mynd allan, ac i sicrhau bod swyddogion yn ymwybodol hefyd, oherwydd mae cysondeb yn bwysig iawn. Ac rwy'n credu ei bod hefyd yn braf i Aelodau roi gwybod i Aelodau eraill pan fyddan nhw yn eu hetholaethau hefyd.

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o rai o'r materion sy'n ymwneud â Grŵp Bryn yng Ngelligaer yn fy etholaeth i, sy'n effeithio ar gymunedau Gelligaer, Pen-y-bryn a Nelson. Roedd gennym bwyllgor cyswllt effeithiol iawn a sefydlwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a ddaeth i ben ychydig cyn i'r pandemig ddechrau. Rwy'n ceisio ailsefydlu'r pwyllgor cyswllt, gyda chefnogaeth drawsbleidiol cynghorwyr lleol, ac rwy'n cael llawer o wrthwynebiad gan swyddogion y cyngor, am resymau na allaf eu deall. Un o'r pethau y maen nhw'n ei ddweud yw y byddai pwyllgor cyswllt rywsut yn anghyfreithlon. Hoffwn gael datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar hynny, oherwydd nid wyf yn credu bod hynny'n wir. 

A fyddai'r Trefnydd yn cefnogi egwyddor pwyllgorau cyswllt o dan yr amgylchiadau hyn? Mae'n gwybod yn ei brîff arall pa mor ddefnyddiol y maen nhw wedi bod, ac a fyddai'n ei gwneud yn glir, mewn gwirionedd, fod hon yn ffordd ddefnyddiol iawn o ddatrys rhai o'r materion hynny sy'n effeithio ar y cymunedau hynny?

14:30

Diolch. Ydw, yn sicr, o safbwynt cynllunio, rwy'n cytuno'n llwyr fod pwyllgorau cyswllt o'r fath yn ddefnyddiol iawn yn ymarferol. Maen nhw'n helpu i ddad-ddwysáu tensiynau cymunedol lle mae busnesau'n gweithredu'n agos iawn at gymunedau. Ac rwy'n sicr yn meddwl, lle maen nhw'n gweithio'n dda—ac maen nhw'n gweithio'n dda mewn llawer o leoedd—maen nhw yn sicr yn helpu gyda hynny. Yn sicr, dydyn nhw ddim yn anghyfreithlon. Rwy'n credu ei bod yn drueni nad ydych wedi gallu cael y gefnogaeth drawsbleidiol honno, a byddwn i'n eich annog i barhau i wneud hynny, ond rwy'n siŵr bod canllawiau ar gael i'ch cynorthwyo. 

Gweinidog, hoffwn ofyn i'r Llywodraeth drefnu dadl ar wasanaethau bysiau a'u rôl bwysig o ran cefnogi teithio llesol, gydag effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd a chysylltu cymunedau. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y cwmni bysiau, Easyway, y byddan nhw'n rhoi'r gorau i fasnachu ar 31 Gorffennaf, sy'n ergyd enfawr i'r cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi dibynnu ar eu gwasanaethau bysiau. Byddwn yn colli tri llwybr ac, yn ôl y cyngor, nid oes yr un cwmni arall wedi cyflwyno ei hun i lenwi'r bwlch. Mae angen dadl arnom ynghylch sut y mae'n bosibl cyrraedd ein targedau ar gyfer gweithredu ar deithio llesol a newid hinsawdd pan fo ein gwasanaethau bysiau mor rhanedig. Diolch yn fawr, Gweinidog. 

Diolch i chi, ac mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Rwy'n siŵr bod pob un ohonom ni, fel Aelodau o'r Senedd hon, yn cael llawer iawn o ohebiaeth am wasanaethau bysiau gan ein hetholwyr. Fel y gwyddoch chi, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth ynghylch teithio ar fysiau yn ystod tymor y Llywodraeth hon. 

Hoffwn ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, ar y datganiad blaenoriaethau ac amcanion strategol i Ofwat. Rwy'n deall y bydd yn cael ei osod gerbron y Senedd yr wythnos nesaf, ond, yn y gorffennol, does dim dadl wedi bod ar y broses, ond yn ddiweddar, yn San Steffan, fe gafwyd dadl. Hoffwn sicrhau bod ASau yn cael yr un cyfle i drafod a herio'r broses, oherwydd mae'n helpu i benderfynu sut y caiff ein systemau dŵr eu rheoleiddio, sut y caiff yr amgylchedd ei ddiogelu, sut y caiff cwsmeriaid sy'n agored i niwed eu diogelu neu fel arall yn eu biliau dŵr, os oes ei angen arnyn nhw. Maen nhw'n bethau difrifol iawn, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, ac ni ddylid dim ond eu derbyn. Rydym wedi cael dadleuon yn ddiweddar ar lifogydd, ar systemau gorlifo stormydd, ac effaith carthion yn ein hafonydd. Gwyddom fod angen gwaith buddsoddi mawr i ddiogelu'r rheini ac i ddiogelu rhag newid hinsawdd, ac mae hyn mewn gwirionedd yn fater o ddiogelwch y cyhoedd ac mae angen buddsoddi yn awr. 

Felly, a gawn ni ddadl ar hyn, os gwelwch yn dda, oherwydd rwy'n ofni na fydd gwneud penderfyniad ar sail Cymru a Lloegr yn gweithio ac na fydd yn gwneud synnwyr, oherwydd nid yw Dŵr Cymru yn gwmni sy'n anfon elw i gyfranddalwyr yn unig; maen nhw'n ailfuddsoddi, maen nhw'n cefnogi cwsmeriaid sy'n agored i niwed? Y datganiad blaenoriaethau strategol yw'r unig gyfle sydd gennym i sicrhau bod y broses a'r penderfyniad terfynol yn gwneud synnwyr i Gymru. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, yn enwedig o ran Dŵr Cymru. Ni fydd amser i wneud datganiad o'r fath yn amser busnes y Llywodraeth cyn toriad yr haf, ond byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ystyried cais am ddatganiad ysgrifenedig. 

Trefnydd, rwyf wedi cael e-bost yn ddiweddar gan wirfoddolwr yn swyddfa Caerdydd yr elusen gyfreithiol Support Through Court, sydd, am yr wyth mlynedd diwethaf, wedi cael ei ariannu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nid problem i Gaerdydd yn unig yw hon; gwirfoddolwyr yw'r rhain sy'n cefnogi pobl ledled Cymru sy'n gorfod mynd i'r afael â'r system cyfiawnder sifil. Ac mae'n ymddangos bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn bwriadu newid y ffordd y maen nhw'n ariannu'r system cyfiawnder sifil, ac maen nhw yn awr yn mynd i fod â system o gystadleuaeth, sy'n golygu y gellid gorfodi'r nifer fach o wirfoddolwyr, a gefnogir gan swm bach iawn o arian, i roi'r gorau i'w gweithgareddau a chau, sy'n golygu y gallai'r 5,000 o gleientiaid a gefnogwyd ganddynt y llynedd, a'r 700 o gysylltiadau wyneb yn wyneb y maent wedi'u cael gydag unigolion hyd yn hyn eleni—gallai'r gwasanaeth hwnnw ddiflannu. Felly, tybed a allem ni gael datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch beth fyddai goblygiadau colli cyllid i Support Through Court, oherwydd mae hyn yn beth hynod o anodd i unrhyw un orfod ei wneud, ac nid yw cymorth cyfreithiol yn cwmpasu y rhan fwyaf o bobl. Felly, rwy'n credu bod hwn yn fater difrifol iawn, tybed a allem ni gael datganiad cyn gynted â phosibl.

14:35

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Diolch. Rydych yn sicr wedi codi mater pwysig iawn, ac rwy'n gwybod ei fod yn fater sy'n peri pryder gwirioneddol i Lywodraeth Cymru fod y gwasanaeth a ddarperir gan Support Through Court yng nghanolfan cyfiawnder sifil Caerdydd, mae'n ymddangos, mewn perygl gwirioneddol o gael ei dynnu'n ôl. Nid oes sicrwydd y byddai'n cael ei ddisodli. Rwy'n ymwybodol bod y Cwnsler Cyffredinol wedi codi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog cyfiawnder newydd, yr Arglwydd Bellamy, am ansicrwydd cyllid yn y dyfodol, i bwyso a mesur pa mor bwysig oedd hyn. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynghori y bydd arian grant y sector gwirfoddol yn y dyfodol ar gyfer helpu ymgyfreithwyr i ddeall prosesau llysoedd drostynt eu hunain wrth fynd i'r llys yn destun cystadleuaeth agored, fel y dywedoch chi. Felly, yr hyn nad yw'n glir ar hyn o bryd yw'r hyn y bydd yn ei olygu i ddarpariaeth gwasanaethau yng Nghymru. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a bydd yn ystyried y cais am ddatganiad.

Ganol mis Mai, gofynnodd James Evans gwestiwn amserol am y ffaith bod y Llywodraeth wedi prynu Fferm Gilestone yn ei etholaeth. Mewn ymateb, pwysleisiodd Gweinidog yr economi bwysigrwydd diogelu brand y Dyn Gwyrdd, a phwysleisiodd fod a wnelo'r pryniant â chadw gŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nghymru. Tanlinellodd y Gweinidog bwysigrwydd y brand a'r ŵyl. Fodd bynnag, yn ei ymateb wythnos yn ddiweddarach, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn ymwneud â datblygu elfennau eraill ym musnes y Dyn Gwyrdd, ac nid yr ŵyl. Felly, rwyf i a llawer o bobl eraill wedi bod yn pendroni pa un ydyw: ai'r cynnig yw ei brydlesu i'r cwmni at ddibenion yr ŵyl, neu ei brydlesu i'r cwmni at ddibenion eraill, a beth yw'r dibenion eraill hynny? Yn olaf, rwy'n sylwi bod y Gweinidog wedi dweud ar y pryd nad oedd y Llywodraeth yn talu mwy na gwerth y farchnad am Gilestone, a'r swm a dalwyd oedd £4.25 miliwn. Fodd bynnag, mae'r llyfryn gwerthu hwn yn y fan hyn yn dangos ei fod ar werth am £3.25 miliwn—£1 filiwn yn llai na'r hyn y talodd y Llywodraeth amdano. Felly, a gaf i ofyn i Weinidog yr economi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cynllun busnes ar gyfer Gilestone, a hefyd egluro'r hyn a wnaeth y Llywodraeth i gadarnhau bod gwerth yr eiddo'n gywir?

Diolch. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn dal i aros am y cynllun busnes, a'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn amdano ac yn ei ddisgwyl o'r cynllun busnes hwnnw yw i'r Dyn Gwyrdd nodi'r gweithgareddau sydd i'w cynnal drwy gydol y flwyddyn ar y safle. A bydd hynny'n cynnwys hefyd sut y bydd y tir yn parhau i gael ei ffermio. Felly, fel yr wyf yn ei ddweud, rydym yn dal i aros am y cynllun busnes hwnnw. 

Wrth i bawb fynd allan am yr haf i wneud y gorau o'r awyr agored sydd gennym yma yng Nghymru, a allem ni gael datganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol ac yn y dyfodol, i Adventure Smart Cymru? Mae'n wefan wych, yn llwyfan, yn bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n ceisio hyrwyddo gweithgareddau awyr agored diogel ac iach—cerdded bryniau, beicio mynydd, padlfyrddio, canŵio, cychod, nofio dŵr agored, a mwy—drwy roi gwybodaeth ddibynadwy a chyfoes am ddiogelwch i bobl ynghylch sut i wneud y gorau o'r awyr agored, ond i wneud hynny'n ddiogel ac i leihau cymaint â phosibl, mae'n rhaid imi ddweud, yr effaith ar griwiau achub mynydd neu wasanaeth gwylwyr y glannau, neu unrhyw un arall, drwy beidio â chael eu hunain i drafferthion hefyd.

A allem ni hefyd gael datganiad am yr adolygiad estynedig o'r polisi teithio gan ddysgwyr yng Nghymru? Mae wedi'i ymestyn, am resymau da, i gymryd mwy o syniadau ar gylch gwaith wedi'i ymestyn ychydig. Fe wnes i gwrdd â rhieni neithiwr yn fy etholaeth i fy hun, a oedd yn awyddus i fynegi eu barn am y meini prawf 3 milltir ar gyfer ysgolion uwchradd a sut y mae'n rhaid i hyn fod yn gysylltiedig â llwybrau diogel i ysgolion hefyd. Rwy'n awyddus i ddweud y byddai 2 filltir, yn eu barn nhw, yn fwy priodol, yn enwedig i rai o'r plant iau. Felly, byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny a phryd y byddwn yn clywed yn ôl o'r adolygiad hwnnw yn ddefnyddiol iawn.

Diolch. Rwy'n credu eich bod newydd ein hatgoffa ni, er gwaethaf llawer o fanteision i unigolion, ac wrth gwrs i Gymru, y dylem ni fod yn ymwybodol iawn o'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â hamdden awyr agored, ac mae hysbysu ac addysgu ymwelwyr ynghylch mwynhau'r awyr agored yn ddiogel yn agwedd bwysig iawn ar yr hyn a wnawn i hyrwyddo'r awyr agored yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu a hyrwyddo'r cod cefn gwlad a chyfres o godau sy'n benodol i weithgareddau, yn ogystal ag ymgyrchoedd ariannu sy'n hyrwyddo hamdden gyfrifol, fel ymgyrch Addo Croeso Cymru.

O ran polisi teithio gan ddysgwyr, fel y gwnaethoch chi sôn, cynhaliwyd adolygiad cychwynnol o'r Mesur yn ôl yn 2020-21, a daeth hynny i ben ar ddiwedd tymor blaenorol y Llywodraeth, flwyddyn yn ôl. Felly, o'r adolygiad cychwynnol, roedd yn glir iawn, rwy'n credu, fod angen adolygiad manylach a mwy trylwyr o'r Mesur. Felly, rwy'n gwybod bod swyddogion ar hyn o bryd yn sefydlu rhaglen ymgysylltu gynhwysfawr a fydd yn sicrhau bod yr holl randdeiliaid perthnasol i'r adolygiad ehangach o deithio gan ddysgwyr yng Nghymru yn cael y cyfle hwnnw i gyfrannu'n llawn a chael eu cynnwys. Felly, bydd rhanddeiliaid yn cael eu gwahodd yn fuan i amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu a fydd yn edrych yn fanylach ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ar ei ffurf ar hyn o bryd, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym etholwyr—os ydyn nhw hefyd eisiau cyfrannau at yr adolygiad hwnnw, byddai croeso mawr i hynny. 

14:40
3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Wythnos Ffoaduriaid 2022: Iacháu

Rydym ni am symud ymlaen yn awr at eitem 3, sef datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Wythnos Ffoaduriaid 2022: Iacháu. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt. 

Diolch. Mae'n Wythnos Ffoaduriaid yr wythnos hon. Dyma gyfle i ddathlu cyfraniad gwerth chweil ceiswyr noddfa i Gymru. Bydd y dathliadau yn dod â phobl o bob cefndir ynghyd i helpu cymunedau ddeall ei gilydd yn well a'u helpu i integreiddio. 

Ers i ni ddathlu Wythnos Ffoaduriaid y llynedd, fe ddaeth helyntion y rhai sy'n cael eu gorfodi i adael eu gwlad er mwyn ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth yn fwy i'r amlwg nag erioed o'r blaen, gyda'r mudo o Affganistan a'r rhyfel yn Wcráin i enwi dim ond dau ymysg llawer o ddigwyddiadau ledled y byd sy'n effeithio ar gynifer o bobl. Rwyf i wedi rhoi sawl datganiad ar ein cefnogaeth i bobl o Wcráin yn ddiweddar, ac rwyf am barhau i wneud hynny. Serch hynny, hoffwn i ganolbwyntio heddiw ar ein cefnogaeth ehangach ar gyfer ein ceiswyr noddfa yma.

Mae hi'n fraint i ni gynnig noddfa i'r rhai sy'n dod i Gymru, a mabwysiadu dull caredig o integreiddio, gan ystyried yr enbydrwydd y maen nhw wedi'i wynebu. Mae gan Gymru enw da o ran croesawu ffoaduriaid ers amser maith, a byddwn yn parhau i werthfawrogi ac elwa ar eu sgiliau, ac edmygu eu hysbryd entrepreneuraidd a rhannu eu traddodiadau. Yn ystod yr Wythnos Ffoaduriaid hon rydym yn datgan unwaith eto ein huchelgais i wneud Cymru yn genedl noddfa. Rwyf wedi fy nghalonogi yn fawr iawn wrth weld sut y mae hyn wedi ei wireddu dros y tair blynedd diwethaf, ers i mi lansio ein cynllun cenedl noddfa ym mis Ionawr 2019—cynllun nad yw'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn unig, ond i'r holl bobl a sefydliadau sy'n rhan o'n cenedl ac sy'n awyddus i roi yr hyn a allan nhw i gyflawni bwriad dyngarol. Rydym wedi gweld hyn drwy ymateb ysbrydoledig i bandemig COVID, yr allfudo o Affganistan ac yn ddiweddar yn y rhyfel yn Wcráin: aelodau'r cyhoedd, awdurdodau lleol, elusennau, arweinwyr ffydd a sefydliadau ledled Cymru yn dod i'r adwy i gefnogi'r rhai y mae angen cymorth arnyn nhw. Mae'r caredigrwydd hwn yn ymgorffori ystyr bod yn genedl noddfa.

Mae ein dull unigryw ni yng Nghymru, y cyfeirir ato'n aml yn ddull 'tîm Cymru' wedi arwain at lawer o ffyrdd arloesol o weithio. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i Urdd Gobaith Cymru am ymgorffori eu hymateb a'u hamcanion dyngarol hir sefydlog drwy gamu i'r adwy a chynnig llety dros dro i'r rhai sydd mewn angen dybryd, o Affganistan yn gyntaf ac o Wcráin yn awr. Rwyf i wedi ymweld â dwy o'n canolfannau croeso ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin, gan gynnwys un yr Urdd ddoe, gyda'r Prif Weinidog, gan dystio i'r croeso cynnes y maen nhw'n ei ddarparu i ffoaduriaid o Wcráin a'r gefnogaeth hollgynhwysol gan yr awdurdod lleol, staff y bwrdd iechyd a gwirfoddolwyr. Bydd llawer o deuluoedd yn cofio eu harhosiad gyda'r Urdd, ac mae llawer wedi mynd ymlaen i ddysgu Cymraeg yn rhan o'u taith ailsefydlu nhw. Mae'r Urdd, felly, yn deilwng iawn o ennill gwobr arbennig y Prif Weinidog yng ngwobrau Dewi Sant eleni.

Unwaith eto, dewiswyd thema addas ar gyfer Wythnos Ffoaduriaid eleni: iacháu. Er y bydd gan bob ceisiwr noddfa ei stori bersonol ei hun, mae gan bob un ohonyn nhw nod cyffredin sef goroesi a bod â'r dewrder i ailadeiladu eu bywydau. Ac rydym yn gwybod bod rhan o'r broses iacháu i lawer ohonyn nhw yn ymwneud â'r gallu i ailgychwyn eu bywydau ac integreiddio yn eu cymuned. Rydym yn awyddus i hynny ddechrau o'r diwrnod cyntaf y byddan nhw'n cyrraedd yma. Mae'r cynllun cenedl noddfa yn nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd i sicrhau bod yr anghydraddoldebau y mae'r cymunedau hyn yn destun iddyn nhw yn cael eu lleihau, a bod y gallu i fanteisio ar gyfleoedd yn cynyddu, a bod y berthynas rhwng y cymunedau hyn a'r gymdeithas ehangach yn cryfhau.

Rhoddodd ein prosiect AilGychwyn llwyddiannus, a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022, gymorth i 853 o ffoaduriaid dros y tair blynedd. Rydym wedi parhau i ariannu canolfannau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yng Nghymru i sicrhau bod ceiswyr noddfa a ffoaduriaid yn gallu mynd i ddosbarthiadau yng Nghymru i wella a mireinio eu sgiliau iaith. Rydym yn gweithio i annog busnesau i ystyried recriwtio ffoaduriaid i wneud eu gweithleoedd yn rhai cynhwysol i'w hanghenion.

Mae ysgolion yn dechrau ymgeisio am statws ysgol noddfa, drwy ddarparu man diogel a chroesawgar i bawb, gan wneud i blant deimlo eu bod nhw'n rhan o gymuned yr ysgol, gan helpu gyda'r broses iacháu. Ym mis Mawrth, roeddwn i wrth fy modd yn ymuno ag Ysgol St Cyres ym Mhenarth, i gyflwyno eu gwobr iddyn nhw wrth ddod yn ysgol noddfa.

Rydym wedi parhau i ddarparu cyllid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru a'i bartneriaid i ddarparu ein gwasanaeth noddfa Cymru a gwasanaethau symud ymlaen. Rydym wedi ariannu Cyfiawnder Lloches hefyd er mwyn parhau i ddarparu cyngor cyfreithiol a Chyfiawnder Tai Cymru er mwyn ehangu capasiti cynnal ledled Cymru. Rydym wedi rhoi cysylltiad i'r rhyngrwyd am ddim ym mhob llety lloches ledled Cymru drwy gydol pandemig COVID-19, ac rydym yn parhau i wneud hynny, sydd wedi golygu bod pobl wedi gallu cysylltu ag aelodau eu teulu, a pharhau â'u hastudiaethau, a pharhau i gael gafael ar wybodaeth a'r newyddion diweddaraf hanfodol o ran iechyd. Fe wnaethom ddarparu cludiant am ddim i ffoaduriaid i'w galluogi i integreiddio â chymunedau Cymru, ac rydym yn adolygu cam nesaf y cynlluniau hynny ar hyn o bryd.

Mae pob cam gweithredu unigol—rwyf wedi amlinellu rhai ohonyn nhw yn y datganiad hwn—yn dod â ni'n nes at fod yn genedl noddfa ac yn ailgadarnhau enw da ein gwlad am fod yn groesawgar a gofalgar. Rydym yn sefyll gyda ffoaduriaid o bob cwr o'r byd, ni waeth sut y gwnaethon nhw gyrraedd yma. Bydd polisi Llywodraeth y DU i anfon pobl i Rwanda a Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 yn niweidiol i'r broses iacháu ac yn achosi ymraniad. Ein dyletswydd foesol ni yw galluogi pobl i geisio diogelwch a chael croeso cynhwysol yma yng Nghymru.

Dylid canolbwyntio ar wella'r system lloches, ac nid ar ddarganfod ffyrdd newydd o wneud y system yn fwy heriol a hirwyntog i bobl sy'n chwilio am ddiogelwch. Mae penderfyniad y Swyddfa Gartref i ddefnyddio tagio electronig yn wrthun ac yn gwbl groes i'n safbwynt ni yn genedl noddfa. Dylai'r bobl hyn sy'n agored i niwed sy'n dod i'n gwlad ni i chwilio am ddiogelwch a noddfa gael eu trin ag urddas a pharch, nid eu tagio a'u gwneud yn droseddwyr. Mae'n rhaid datblygu llwybrau diogel a chyfreithiol i geiswyr lloches allu hawlio lloches o'r tu allan i'r DU, gan ddiddymu'r angen am deithiau peryglus ac amharu ar fodel busnes y rhai sy'n smyglo pobl.

Mae dynion, menywod a phlant yn cyrraedd y DU oherwydd cysylltiadau teuluol neu berthnasau presennol, eu gallu i siarad Saesneg, neu o ganlyniad i gysylltiadau diwylliannol sy'n aml yn gysylltiedig â hen wladychiaeth Brydeinig. Rydym yn cydsefyll â ffoaduriaid o bob cwr o'r byd, ni waeth sut y maen nhw wedi cyrraedd yma. Rydym yn dathlu'r ffordd y maen nhw'n cyfoethogi ein cymunedau yng Nghymru, yn ogystal â'r ffordd y mae eu hiachâd eu hunain yn troi'n llwyddiant, a sut rydym ni yn elwa ar hyn o fod yn genedl noddfa.

14:45

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw ac rwy'n credu y bydd pawb yn y fan hon yn cytuno yn llwyr â'r rhan fwyaf o'ch safbwyntiau. Hoffwn i ddechrau drwy ddweud bod cydnabod sefyllfa ffoaduriaid yn rhan sylfaenol o'n dynoliaeth ac mae'n iawn i ni gymryd camau i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth, ac mae Wythnos Ffoaduriaid yn amser i ni fyfyrio ar ein gweithredoedd ein hunain o ran sut yr ydym wedi helpu'r rhai hynny sydd wedi cyrraedd mewn angen ac wedi gofyn am ein cymorth.

Mae hi'n llethol meddwl bod nifer y bobl sydd wedi eu dadleoli drwy rym yn fyd-eang yn fwy na 100 miliwn erbyn hyn, a hoffwn i dalu teyrnged i bawb sy'n gweithio yn ddiflino i helpu ffoaduriaid ledled y byd. Mae yna gymaint ohonyn nhw o hyd na fyddwn ni byth yn gwybod amdanyn nhw sydd wedi rhoi cymaint i helpu eraill. Mae Wythnos Ffoaduriaid yn gyfle gwych i ddod â chymunedau at ei gilydd ac annog gwell dealltwriaeth, ac nid oes ffordd well na thrwy ddigwyddiadau celfyddyd, diwylliant ac addysgol i ddathlu cyfraniad ffoaduriaid i'r Deyrnas Unedig.

Gyda hyn mewn golwg, mae'r thema 'iacháu' eleni yn eithaf trawiadol. Pan edrychwn ni ar y gwrthdaro yn Wcráin, fel gyda chymaint o wrthdaro arall, er mai'r pryder uniongyrchol yw cael pobl i ddiogelwch, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r cwestiynau hirdymor ynghylch sut yr ydym yn ymdrin ag adfer ac ailadeiladu bywydau ffoaduriaid, a sut yr ydym yn lliniaru effeithiau'r gwrthdaro heb guddio'r dioddefaint nac anghofio'r trawma. Mae'r broses hon, yn y pen draw, yn ymwneud â maddeuant, ond mae hyn yn llawer haws ei ddweud na'i wneud, yn enwedig pan fo cymaint o boen, dioddefaint a niwed wedi ei achosi.

Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn y dylai'r broses iacháu ymestyn nid yn unig i'r trawma seicolegol o ffoi o'ch gwlad neu gael eich gwahanu oddi wrth deulu neu golli anwyliaid, ond hefyd i golli cymuned, a'r posibilrwydd o golli hunaniaeth, a cholli cartref, a bod yr holl faterion hyn yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae'n rhaid i ni gofio hefyd y bydd effeithiau llawer o'r materion hyn yn gudd. Mae'n ddigon posibl y bydd iselder, hunanladdiad, teuluoedd yn chwalu, Anhwylder Straen Wedi Trawma a phroblemau iechyd yn bwrw cysgod ar fywydau pobl wrth iddyn nhw geisio gwella o'u profiadau.

Mae pob cenedl yn y byd sy'n ymdrin â ffoaduriaid yn wynebu problemau tebyg, gan mai anaml y bydd ffoaduriaid yn chwilio am loches mewn niferoedd bychain. Yn aml, mae ffoaduriaid yn dianc am eu bywydau yn eu miloedd ac, fel yr ydym wedi ei weld o'r gwrthdaro rhwng Wcráin a Rwsia, yn eu miliynau. Mae hyn yn creu problemau o ran sut y mae gwledydd sy'n ymateb yn ymdrin â'r niferoedd llethol. Er ein bod ni i gyd yn cael ein taro gan drafferthion arswydus y ffoaduriaid, mae angen i ni fod yn ymwybodol bod gan Lywodraethau y dasg annymunol o geisio ymdrin â ffoaduriaid gorau y gallan nhw, yng ngoleuni'r sefyllfa y maen nhw ynddi, sy'n aml yn gymhleth iawn. Ac mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny'n wrthrychol, sydd, yn anffodus, yn arwain at eu cyhuddo o ddiffyg cydymdeimlad a charedigrwydd yn aml, ond mae'n rhaid i ni gofio, pan fydd y prosesau cywir ar waith, eu bod nhw'n cyflawni llawer mwy, ac er nad yw'r systemau bob amser yn gweithio ar y dechrau, mae yna gyfle bob amser i werthuso, myfyrio a gwella. Ac mae hyn, Gweinidog, yn dod â mi at fy nghwestiwn cyntaf.

Yn 2017, fe wnaethoch chi ysgrifennu at Kevin Foster, Gweinidog Ffiniau'r Dyfodol a Mewnfudo, yn annog Llywodraeth y DU i ddiwygio ei deddfwriaeth i roi hawl i geiswyr lloches weithio mewn unrhyw alwedigaeth yn y DU pe bai eu cais wedi cymryd mwy na chwe mis ar ôl i'r dystiolaeth lawn gael ei chyflwyno, a hoffwn i'n fawr gael gwybod a fu yna unrhyw ddiweddariad o ran hawl ceiswyr lloches i weithio. Yn ail, hoffwn i wybod pa fwriadau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun trafnidiaeth am ddim, ac a oes unrhyw gynlluniau gennych chi i ehangu cwmpas y cynllun ar gyfer ceiswyr lloches? Yn drydydd, tybed, Gweinidog, o gofio mai swyddi gwirfoddol yw un o'r ffyrdd gorau o ddysgu, deall ac integreiddio i wlad newydd, a ellir cynnig mwy o gyfleoedd gwirfoddoli i geiswyr lloches a ffoaduriaid. Ac yn olaf, Gweinidog, a fyddech chi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd o ran ymrwymiad y genedl noddfa i ddatblygu sgiliau hanfodol a llythrennedd digidol? Diolch i chi.

14:50

Diolch yn fawr, Joel James. A diolch i chi am eich cefnogaeth, mewn egwyddor, i'r datganiad, ac i ni fod yn genedl noddfa. Diolch i chi am gydnabod Wythnos Ffoaduriaid, a hefyd, rwy'n siŵr, yn ymhlyg yn llawer o'ch sylwadau, am y ffaith mai 'iacháu' yw'r thema ar gyfer Wythnos Ffoaduriaid, ac mae hynny'n arbennig o bwysig o ran y trawma y mae cynifer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ei wynebu pan fyddan nhw'n dod yma wrth i ni eu croesawu i'r wlad hon.

Rwy'n credu, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, nad oeddem yn rhagweld, ond fe wnaethom ymateb yn llawn, fel gwlad, i ffoaduriaid o Affganistan a'u dyfodiad yma, gan weithio ar sail Tîm Cymru, a oedd yn cynnwys rhai o'r lluoedd arfog mewn gwirionedd a fu'n rhan o'r cynllun i adsefydlu dinasyddion o Affganistan, lle'r oedd cyfieithwyr a oedd wedi bod yn gweithio gyda nhw, gyda'r rhai a leolwyd yng Nghymru, i sicrhau ein bod yn gallu darparu'r cymorth gorau posibl i ffoaduriaid o Affganistan. Rydym wedi croesawu tua 700 o bobl o Affganistan ac mae llawer ohonyn nhw, y rhan fwyaf ohonyn nhw, wedi ymsefydlu ledled Cymru erbyn hyn. Ac yn ogystal â hynny, erbyn hyn, wrth gwrs, rydym yn cefnogi ffoaduriaid o Wcráin hefyd.

Yr hyn sy'n bwysig, a bydd hynny'n ateb rhai o'ch cwestiynau, yw mai ystyr ein gweledigaeth yw bod Cymru nid yn unig yn groesawgar i fudwyr, ond ein bod hefyd yn manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mudo i helpu gyda ffyniant ein heconomi a'n cymunedau ni. Mewn gwirionedd, ystyr hyn yw bod yn genedl noddfa a bod â'r gallu i helpu'r rhai sydd ar wasgar neu sydd wedi ailsefydlu yng Nghymru i sicrhau eu bod nhw'n cael manteisio ar y gwasanaethau hynny ac y gallan nhw integreiddio i gymunedau o'r diwrnod cyntaf un. Ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, bod yr wybodaeth ar gael iddyn nhw am eu hawliau a'r hyn sy'n ddyledus iddyn nhw, gan gynnwys adrannau ar iechyd, addysg a chyflogaeth, ac mae llawer o hynny ar gael ar ein gwefan.

Rydych chi'n gofyn am y rhaglen hawliau lloches. Dyfarnwyd cyllid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru yn ddiweddar ar gyfer gwasanaeth noddfa Cymru, sy'n disodli'r rhaglen hawliau lloches, sydd ar waith o 1 Ebrill 2022 am o leiaf dair blynedd. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig dangos ein bod ni'n symud ymlaen, gan ddysgu gwersi o ran sut rydym wedi ariannu'r gwasanaethau hyd hynny, ond gan sicrhau hefyd mai gwasanaeth noddfa Cymru yw hanfod y gwaith y maen nhw'n ei wneud.

Yn fy natganiad, fe wnes i sylw am y ffaith ein bod ni wedi bwrw ymlaen â'n cynllun trafnidiaeth am ddim ni, ac mae'n bwysig cydnabod mai cynllun treialu oedd hwnnw, sy'n cael ei werthuso ar hyn o bryd, ac rydym yn ei ddatblygu o ran cydnabod y bu'n bwysig iawn i'n ffoaduriaid, yn enwedig y rhai sy'n dod o Wcráin, ochr yn ochr â'n holl ffoaduriaid sydd yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, dim ond o ran gwerthuso'r cynllun trafnidiaeth, ein bod ni'n edrych ar y cynllun treialu. Cynhaliodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru gynllun treialu trafnidiaeth am ddim i geiswyr lloches o fis Ionawr hyd fis Mawrth. Cynhaliwyd arolygon gyda'r rhai hynny a oedd yn defnyddio'r cynllun treialu i amgyffred manteision ac effaith cael cludiant am ddim i geiswyr lloches, nodwyd cyllid a chafodd ei ymestyn i roi rhagor o drafnidiaeth am ddim i bobl, ond roedd hyn hefyd yn ymwneud â sicrhau y gallem ni drafod â'n cydweithwyr ym maes trafnidiaeth, oherwydd bod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei ymgorffori yn eu polisïau a'u cynlluniau. Mae'r adborth cychwynnol wedi dod i'r casgliad bod trafnidiaeth am ddim wedi helpu ceiswyr lloches i fanteisio ar gyfleoedd nad ydyn nhw'n bosibl ar eu cyllideb wythnosol. Ac mae'n ymwneud â gallu ymweld â mannau o ddiddordeb, cadw apwyntiadau gofal iechyd, dosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, ac ymweld â ffrindiau—a'r cyfan yn bwysig o ran integreiddio a lles.

Rwy'n credu bod hynny hefyd yn ateb eich cwestiwn ynglŷn â chyfleoedd gwirfoddoli, oherwydd yn sicr, mae hyn yn rhywbeth, mae gwasanaeth noddfa Cymru a llawer o'r sefydliadau sy'n gweithio ledled Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol a'r trydydd sector, yn annog ffoaduriaid a cheiswyr lloches i wirfoddoli. Gan fynd yn ôl at waith adsefydlu llwyddiannus iawn y teuluoedd a'r ffoaduriaid a ddaeth i Gymru o Syria, ac rwy'n cofio yn fy etholaeth i fy hun hyd yn oed, pa mor bwysig oedd hi fod yr awdurdod lleol yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i ffoaduriaid o Syria a oedd yno eu hunain, yn awyddus i ymgysylltu a chynnig cefnogaeth yn y ffordd honno. A hefyd, rydym ni wedi gweld hynny yn ddiweddar iawn gyda llawer o'r ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi dod i Gymru sydd eu hunain yn awyddus i gyfrannu, yn amlwg, ac yn chwilio am waith ac i fod yn annibynnol, ond hefyd i wirfoddoli. Ac yn sicr fe welsom ni lawer a oedd yn cynnig bod yn wirfoddolwyr, yn enwedig gyda phethau fel cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, ond hefyd yn cefnogi ei gilydd, y plant a'r teuluoedd, yn ein canolfannau croeso.

Felly, rydym yn symud ymlaen ar bob un o'r pwyntiau a wnaethoch chi, ond gan gydnabod, ac rwy'n gobeithio eich bod chithau'n gwneud hynny hefyd, fod hyn yng nghyd-destun cyfnod heriol iawn pan fo angen i ni sicrhau bod ein gwerthoedd o fod yn genedl noddfa, yr wyf i'n sicr yn eu rhannu â Gweinidogion Llywodraeth y DU ar bob cyfle posibl—eu bod nhw'n cael eu cymryd o ddifrif a bod yr amgylchedd gelyniaethus yn gwbl groes i hynny, a bod y polisïau hynny gan Lywodraeth y DU, yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw, yn gwbl wrthun i'n hysbryd a'n cyflawniad ni o fod yn genedl noddfa.

14:55

Diolch am y datganiad, Weinidog, i nodi Wythnos y Ffoaduriaid.

Rwy'n edrych ymlaen at ymweld ag arddangosfa Cartref oddi Cartref Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn ddiweddarach yr wythnos hon, sy'n dathlu'r bobl a'r sefydliadau sydd wedi bod â rhan o'r gwaith o wneud Abertawe yn ddinas noddfa ers dros 10 mlynedd.

Y cam cyntaf yn unig yw cyrraedd man diogel, wrth gwrs—cam peryglus a blinderus yn aml—ar siwrnai faith i ffoaduriaid, yn llythrennol ac yn ffigurol, sydd, fel yr ydym wedi'i weld yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn cael ei gwneud hyd yn oed yn galetach gan Lywodraethau fel y rhai hynny sydd mewn grym yn San Steffan, sy'n annyneiddio ffoaduriaid, yn eu dibrisio ac yn gwadu hawliau dynol y rhai sydd yn aml wedi bod yn destun trais ac erledigaeth ar y daith honno at noddfa a normalrwydd, taith na all y rhan fwyaf ohonom hyd yn oed ddechrau ei hamgyffred. Ar ôl byw trwy hynny, ar ôl ymdopi â hynny, yna fe geir y dasg anhygoel o anodd ond allweddol o wneud bywyd newydd mewn gwlad newydd, y cam cyntaf i iacháu, a'r hyn sy'n peri rhwystredigaeth ac yn amhosibl heriol lawer gormod o ffoaduriaid yw methu â gwneud hynny.

Rydym wedi gweld erbyn hyn sut y mae Cymru wedi croesawu'r cyfle i ddarparu cymorth a noddfa i'r rhai hynny sy'n ffoi o Wcráin a gwledydd eraill, fel Affganistan a Syria yn y gorffennol. Mae'r ymateb gan bobl gyffredin yng Nghymru wedi bod mor galonogol, ond clywsom gan y Gweinidog yr wythnos diwethaf am rai o'r anawsterau ynglŷn â rhannau eraill o'r daith tuag at fywyd newydd. Ychydig wythnosau yn ôl, gofynnais i chi, Gweinidog, am y cymorth sydd ar gael i ffoaduriaid sy'n dod i Gymru o ran iechyd meddwl. Yn benodol, roeddwn i'n awyddus i chi rannu ffigurau o ran amseroedd a rhestrau aros ar gyfer rhai hynny sy'n ceisio manteisio ar gymorth y gwasanaethau hynny, ar ôl y cyhoeddiad bod rhai ffoaduriaid, ar lefel y DU, yn aros hyd at ddwy flynedd i gael cymorth trawma. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a wnewch chi rannu ffigurau neu amcangyfrifon â ni heddiw ynglŷn â'r sefyllfa ar hyn o bryd yng Nghymru. Yn eich ymateb hefyd, fe wnaethoch chi sôn bod Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles ychwanegol yn y canolfannau croeso, felly roeddwn i'n meddwl tybed a fu unrhyw gynnydd yn hyn o beth a beth fydd yr amserlen ar gyfer hynny.

Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i fynegi diolch Plaid Cymru i'r ymgyrchwyr, y sefydliadau a'r cyfreithwyr hawliau dynol a lwyddodd i herio ac atal yr awyren gyntaf a oedd am fynd â'r ceisiwyr lloches hynny o'r DU i Rwanda o dan bolisi ffiaidd, anfoesol, yr ydym yn gwybod y byddai wedi bod â chanlyniadau dinistriol a pheryglus i'r rhai hynny sy'n frodyr ac yn chwiorydd i ni. Cynhaliodd Meddygon Heb Ffiniau sesiynau iechyd meddwl gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches a oedd wedi eu trawsforio drwy rym o Awstralia oherwydd polisi tebyg, i ganolfannau cadw amhenodol ar ynys Nauru. Canfu'r Meddygon Heb Ffiniau rai o'r achosion mwyaf enbyd o ddioddefaint iechyd meddwl mewn 50 mlynedd o brofiad o gefnogi ffoaduriaid. Roedd plant mor ifanc â naw oed yn ystyried hunanladdiad, yn hunan-niweidio neu hyd yn oed yn ymgeisio hunanladdiad. Os bydd Llywodraeth Dorïaidd San Steffan yn parhau i chwarae gemau gwleidyddol gyda bywydau'r rhai sy'n ceisio ein cymorth a'n hamddiffyniad, byddwn yn rhoi'r bobl hyn mewn perygl o chwalfa ddychrynllyd o ran eu hiechyd meddwl, fel gwelsom ni yn Awstralia.

Mae'r cynllun treialu tagio a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yr ydych wedi cyfeirio ato, yr un mor frawychus. Mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi dweud bod mwyafrif clir y bobl sy'n cyrraedd y DU ar gychod bychain yn ffoaduriaid sy'n dianc rhag gwrthdaro neu erledigaeth ac nid, fel y mae Llywodraeth San Steffan yn ei ddadlau, yn groes i'w data ei hun, ymfudwyr economaidd. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod modd cyflawni ein dyhead i fod yn genedl noddfa yng ngoleuni polisïau mor farbaraidd? Sut mae'r Llywodraeth am sicrhau ei bod yn gallu amddiffyn pawb sy'n ceisio diogelwch mewn ffordd gyfartal yng Nghymru?

Yn olaf, mae etholwr sy'n lletya ffoadur o Wcráin wedi cysylltu â mi. Mae hi wedi bod yn ceisio trefnu apwyntiad yn y ganolfan drwydded breswylio fiometrig agosaf yng Nghaerdydd ers wythnosau, fel sy'n ofynnol er mwyn cael caniatâd i aros a pharhau i fod â hawl i gael gwasanaethau ar ôl y chwe mis cyntaf. Dywedodd wrthyf, 'Hyd y gwn i, Caerdydd yw'r unig le yng Nghymru y gallwch chi gael cerdyn preswylio biometrig, a hyd yma, mae hi'n amhosibl gwneud apwyntiad. Y ganolfan agosaf sy'n cynnig apwyntiadau yw llyfrgell Barnstable, sydd, fel y mae'r frân yn hedfan, yn ôl y cyfrifiadur, tua 50 milltir i ffwrdd.' Ond, wrth gwrs, mewn gwirionedd, mae hynny'n nes at 150 milltir ac yn daith chwe awr yno ac yn ôl. Dywedodd fy etholwr wrthyf hefyd nad oes lleoedd ar gael ar gwrs Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill tan fis Medi lle mae hi'n byw ym Mhort Talbot ar gyfer y fenyw o Wcráin sy'n aros gyda hi, ac mae hynny hefyd yn atal ei hymdrechion i ymgartrefu yn ei chartref newydd. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod pobl yn gallu trefnu'r apwyntiadau ar gyfer fisa a'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw a bod y straen o geisio gwneud bywyd newydd i'w hunain yn cael ei ysgafnu gymaint â phosibl? Diolch.

15:00

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Dinas noddfa ryfeddol yw Abertawe. Rwy'n cofio ymweld â'r ddwy brifysgol a Choleg Gŵyr a'r gwaith maen nhw wedi ei wneud. Rwy'n credu bod Julie James wedi cymryd rhan hefyd, yn rhinwedd ei hetholaeth hi mae'n debyg. Mae'r ffynnu yno yn wirioneddol, ac rwy'n siŵr y bydd yr arddangosfa yn un fywiog a grymus. Yn wir, fe soniodd Joel James am y ffyrdd yr ydym ni yn dathlu cyfraniadau diwylliannol a chelfyddydol ein ffoaduriaid yn ystod Wythnos Ffoaduriaid yn aml, ac rydym yn gwneud hynny i gydnabod eu sgiliau, eu talent, a'r gwersi diwylliannol a'r hyn a ddysgwn o hynny.

Mae eich cwestiynau yn allweddol o ran y ffordd y gallwn ni ein galw ein hunain yn genedl noddfa, onid ydyn nhw? O ran cefnogaeth, yn enwedig i'r rhai hynny, fel yr ydych yn sôn, sydd wedi bod ar deithiau peryglus ac wedi dioddef trawma wrth ddod yma—wrth gwrs, ddoe, fe wnaeth y Prif Weinidog a minnau gwrdd â llawer yng nghanolfan groeso'r Urdd, ac fe ymwelodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau â chanolfan groeso arall—gan adael hefyd, o ran yr Wcrainiaid, eu gwŷr a'u partneriaid sy'n ymladd yn y rhyfel ar ôl, y teithiau y buon nhw arnyn nhw, mae'n rhaid i'r bywyd newydd yn ein gwlad ni fod yn bwerus o ran y gefnogaeth yr ydym yn ei rhoi. Mewn gwirionedd, gair cryf a oedd yn dod o enau lawer o'r ffoaduriaid ddoe oedd eu bod nhw'n teimlo bod eu profiad yn yr Urdd yn eu 'hiacháu' nhw. Nid oedden nhw'n gwybod o reidrwydd mai'r gair hwn fu'r thema. Roedden nhw'n teimlo ei fod yn eu hiacháu—yr amgylchedd, y gofal a'r tosturi.

Mae'n rhaid i gymorth iechyd meddwl fod ar gael. Yn y canolfannau croeso, yn y ddau yr wyf i wedi ymweld â nhw, fe wnes i gyfarfod â nyrsys o'r timau iechyd meddwl cymunedol, a hefyd o ran anghenion eraill—archwiliadau iechyd i'r rhai sy'n mynychu'r canolfannau croeso. Nid oes unrhyw aros pan fyddwch chi'n mynd i ganolfan groeso, rydych chi'n cael gweld y timau. Ac, wrth gwrs, maen nhw'n cofrestru gyda meddygon teulu. Ond roedd y nyrsys yn dweud cymaint o fraint yr oedden nhw'n ei theimlo i allu cynnig y math hwn o gefnogaeth ar yr amser hwn. Dyna fynegiant o genedl noddfa gan weithwyr proffesiynol.

I'r rhai sy'n aros gyda theuluoedd noddi, byddaf yn ymchwilio ymhellach i hyn o ran y gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael, oherwydd yn amlwg, o ran y croeso yr ydym yn ceisio ei roi—y bwrdd iechyd, yr awdurdodau lleol—mae'n hanfodol ein bod ni'n gallu cael ein dwyn i gyfrif am yr hyn sy'n cael ei ddarparu, ond hefyd i roi sicrwydd i chi o hynny. Rwyf i'n sicr wedi canfod o fy adborth fod y gwasanaethau wedi gallu cael eu darparu.

Rwyf i am symud ymlaen i rai o'r pwyntiau eraill a wnaethoch chi ynglŷn â gwasanaethau pan fydd pobl yn cyrraedd yng Nghymru. Yn amlwg, o ran y ganolfan fiometrig a'r ffaith nad oedd gobaith cael apwyntiad a dim ond un sydd i'w chael yng Nghaerdydd, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwnnw. Byddaf yn codi hynny gyda'r Gweinidog Ffoaduriaid, Arglwydd Harrington. Rwy'n cyfarfod ag ef a fy nghymar yn yr Alban bob wythnos neu bob pythefnos, a byddaf yn codi hyn gyda nhw. Ond hefyd, mae'n annerbyniol bod yr oedi hwn, oherwydd bod y rhai sy'n dod ac sy'n ffoaduriaid yn awyddus i weithio, maen nhw eisiau bwrw ymlaen â'u bywydau.

O ran dosbarthiadau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill—mae'r Gweinidog addysg wedi ymuno â ni hefyd—rwy'n gwybod bod prifysgolion, awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn cynnig cymorth, felly byddaf yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a fydd yn digwydd dros wyliau'r haf. Byddaf yn sicr yn gwneud datganiad arall cyn diwedd y tymor hwn, rwy'n gobeithio—os nad ar lafar, yna'n ysgrifenedig, diweddariad—oherwydd bod Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn hanfodol ar gyfer integreiddio.

Yn olaf, hoffwn i ddiolch i chi am eich sylwadau ynglŷn â'r polisïau creulon tu hwnt y mae'r Llywodraeth hon yn y DU yn eu gweithredu wrth geisio anfon ceiswyr lloches i Rwanda, sy'n ymateb creulon ac annynol i'r rhai hynny sy'n ceisio noddfa yn y DU, ac yn gwbl groes i'n dull ni o fod yn genedl noddfa yng Nghymru. Mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn eglur bod y mesurau yn Neddf Cenedligrwydd a Ffiniau, y trawsforio, yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid. Mae'r DU wedi arwyddo hynny. Ond yn ogystal â hynny, unwaith eto, y tagio hefyd. Efallai fod y niferoedd sy'n croesi'r sianel mewn cychod bach wedi bod yn uchel yn ddiweddar, ond mae nifer cyffredinol y ceiswyr lloches sy'n cyrraedd y DU wedi gostwng o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol, er gwaethaf y rhethreg—a rethreg yw hi—sy'n awgrymu fel arall. Mae'r rhai hynny sy'n cyrraedd yma i geisio noddfa yn chwilio amdani oherwydd eu bod nhw'n agored i niwed, a dylid eu trin nhw ag urddas a pharch, a pheidio â'u trin nhw fel troseddwr. Rwyf yn croesawu'r datganiad a'r sylwadau hynny sydd wedi condemnio hyn yn gyffredinol, gan gynnwys gan yr eglwys. Roeddwn i'n falch iawn o ddarllen y datganiad gan Esgob Llandaf, y Gwir Barchedig June Osborne. Dywedodd:

'Mae Wythnos Ffoaduriaid yn cynnig cyfle perffaith i ni i gyd, yn ysgolion, eglwysi a chymunedau, ddod at ein gilydd a dathlu'r cyfraniad anhygoel y mae'r ffoaduriaid a'r mudwyr hyn yn ei wneud i'n cymdeithas, gan fyfyrio hefyd ar gryfder y rhai sydd wedi profi dioddefaint di-ben-draw.... Mae deddfwriaeth newydd sydd wedi gwneud llawer sy'n ceisio diogelwch yn droseddwyr wedi amharu ar eleni, a'r wythnos hon rydym ni wedi gweld yr ymgais gywilyddus gyntaf i drawsforio ceiswyr lloches i Rwanda',

a oedd, fel dywedodd y Prif Weinidog, wrth gwrs, yn ddiwrnod tywyll. Ond rydym yn gobeithio, fel yr ydych chi'n  ei ddweud, fod y rhai sydd wedi ymgyrchu a'n galluogi ni i ddefnyddio eu sgiliau a'u cymorth cyfreithiol hefyd—. Wrth gwrs, mae hi mor bwysig bod hyn yn rhan o'n hymrwymiad i'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. 

15:10

John Griffiths. A gaf i gwestiynau byr ac atebion byr, os gwelwch chi'n dda, oherwydd bod gennym ni ddiwrnod hir o'n blaenau? Diolch.

Yn wir. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad ac am eich gwaith. Rwyf i o'r farn bod Cymru wedi cymryd camau breision ar y ffordd yr ydym yn croesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid yma ac yn gofalu amdanyn nhw ac yn darparu'r gwasanaethau angenrheidiol iddyn nhw pan fyddan nhw yn ein gwlad. Mae'n dda iawn gweld hynny, ac rwy'n credu bod y genedl noddfa yn darparu fframwaith a phwyslais da iawn i'r math hwn o waith.

Gweinidog, mae Dwyrain Casnewydd yn ardal amrywiol. Roedd hi'n ddiddorol iawn i mi gyfarfod â menyw ifanc, ffoadur o Wcráin, yn y parkrun lleol yng Nghasnewydd. Roedd hi yno gyda'r fenyw sy'n ei lletya, fel petai, ac mae hi'n amlwg eu bod nhw'n tynnu ymlaen yn dda iawn ac roedd yr aelwyd yn mwynhau crempogau tatws Wcrainaidd, sy'n flasus iawn yn ôl pob tebyg. Meddyg yw'r fenyw ifanc ac mae hi'n gwella ei Saesneg ac yn edrych ymlaen yn fawr at wneud ei chyfraniad i wasanaeth iechyd gwladol Cymru. Roedd yn ddarlun cadarnhaol iawn yn wir, a da iawn oedd gweld hynny. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi clywed straeon cadarnhaol tebyg am ffoaduriaid o Affganistan, er enghraifft. Mae hi'n gwbl briodol bod y bobl hyn yn cael y lefel honno o wasanaeth a chroeso, ond nid yw'r un peth yn wir ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bob rhan o'r byd ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod cysondeb o ran yr ansawdd hwnnw. Yn hynny o beth, Gweinidog, hoffwn i adleisio'r sylwadau a wnaed am Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn fawr iawn, gan fy mod i'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyson dda ledled Cymru gyfan.

Rwy'n credu hefyd y gallwn ni wneud mwy ynglŷn ag Wythnos Ffoaduriaid ac efallai y gallem ni sefydlu ymgyrch ehangach i gyfleu'r negeseuon priodol o ran ceiswyr lloches a ffoaduriaid, gan weithio gyda'r wasg leol ac eraill efallai, oherwydd bod llawer o gamsyniadau, camwybodaeth, ac mae hynny'n tanseilio'r math o groeso yr ydym ni'n dymuno ei weld yn ein cymunedau. Gall straeon cadarnhaol am y cyfraniadau y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu gwneud fod yn rymus iawn o ran helpu i lunio canfyddiadau yn y ffordd briodol, Gweinidog, ond rwy'n credu bod angen cydlynu ac arwain hynny, ac rwy'n credu mai swyddogaeth i Lywodraeth Cymru yw honno. 

Diolch yn fawr iawn. Nid wyf i'n credu bod angen i mi roi ateb. Nid cwestiynau oedden nhw; roedd yn ddatganiad pwysig tu hwnt. Rwy'n credu bod hynny'n amlygu pwysigrwydd y ffaith fy mod i'n gwneud datganiad yma heddiw ynglŷn ag Wythnos Ffoaduriaid Cymru, a'n bod ni, mewn gwirionedd, wedi cael cydnabyddiaeth drawsbleidiol gref o ystyr bod yn genedl noddfa.

Dim ond un pwynt y byddwn i'n ei wneud. Ardderchog o beth yw eich bod chi wedi cael y meddyg o Wcráin yn ffoadur yn eich etholaeth chi. Fe wnes i gyfarfod â deintydd a oedd mewn canolfan groeso yn eich ardal chi hefyd mewn gwirionedd. Fe allen nhw weithio yn ein GIG, oni allen nhw, felly mae cysylltiadau eisoes yn cael eu trefnu rhyngddyn nhw a'r sefydliad Displaced People in Action, sydd wedi cefnogi meddygon sy'n ffoaduriaid dros y 22 mlynedd diwethaf, oherwydd fe wnes i helpu i sefydlu hwnnw pan oeddwn i'n Weinidog iechyd flynyddoedd lawer yn ôl. Felly, mae llawer o'r meddygon hynny sy'n ffoaduriaid yn gweithio yn y GIG erbyn hyn. Ond, yn aml mae yna rwystrau i'r cyfraniad y mae ffoaduriaid yn awyddus i'w wneud, yn dymuno'n daer i'w wneud. Mae'n rhaid i ni chwalu'r rhwystrau hynny. Byddwn yn edrych ar Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill a chysondeb y cynnig hwnnw ledled Cymru. Yn anffodus, o ran y cyllid yr ydym yn ei gael oddi wrth Lywodraeth y DU ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin, nid oes cyllid ar gyfer Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Roedd i'w gael ar gyfer ffoaduriaid o Affganistan; ond nid oes cyllid ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin. Felly, unwaith eto, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'r arian hwnnw.

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Pride, a’r Cynnydd o ran y Cynllun Gweithredu LHDTC+

Rwy'n symud ymlaen yn awr at eitem 4, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar Pride, a'r cynnydd o ran y Cynllun Gweithredu LHDTC+. Hannah Blythyn.

Diolch. Mae Mis Pride eleni'n nodi 50 mlynedd ers Pride cyntaf y DU; 50 mlynedd ers dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf 1972 pan ddaeth pobl ynghyd i gymryd y cam cyntaf hwnnw i ddod â Pride i strydoedd Llundain. Bum degawd yn ddiweddarach, fe allwn ni ymfalchïo yn ein cynnydd ni o ran hawliau LHDTC+ gan ddiolch i'r brwydrwyr a'r cynghreiriad a ddaeth o'n blaenau ni. Ond, ni allwn fod yn hunanfodlon, pan fo ymosodiadau ar gymunedau LHDTC+ a pherygl o gwtogi ar yr hawliau y brwydrwyd mor galed amdanyn nhw ledled y byd, gan gynnwys, yn gywilyddus, yma yn y DU.

Ganed Pride o'r angen a'r ewyllys i brotestio, i ymladd dros hawliau cyfartal, i gael ein gweld, i fod yn ni'n hunain, i gael ein parchu, i sefyll gyda'n gilydd fel cymuned ac i fynnu diwedd ar wahaniaethu. Mae mwy i'w wneud o hyd, ac felly mae cyfrifoldeb arnom i ddyblu ein hymrwymiad i barhau i newid hanes er gwell, yma a thramor, ac i greu dyfodol lle yr ydym yn cydnabod ac yn gwireddu Cymru fel y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop.

Fel Llywodraeth, rydym yn sefyll gyda'n cymunedau LGBTQ+. Dyna pam mae hawliau LHDTC+ yn rhan annatod o'n rhaglen lywodraethu, yn elfen allweddol o'r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a pham yr ydym yn datblygu ein cynllun gweithredu beiddgar. Mae'r cynllun hwn yn cryfhau amddiffyniadau i bobl LHDTC+, yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb, ac yn helpu i gydlynu camau gweithredu ar draws y Llywodraeth, cymunedau a'r wlad.

Ein nod yw cyhoeddi'r cynllun gweithredu yr hydref hwn, ac rydym yn gwneud cynnydd nid yn unig ar y cynllun ei hun ond, yn bwysig, ar roi ymrwymiadau ar waith. Rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau i gefnogi sefydliadau Pride yng Nghymru. Mae ein cefnogaeth i Pride Cymru yn parhau ac, am y tro cyntaf, rydym wedi darparu cyllid i ddigwyddiadau Pride ar lawr gwlad ledled Cymru. Rydym eisoes wedi rhoi cefnogaeth i Pride Abertawe a Pride Gogledd Cymru, ac mae trafodaethau ar y gweill gyda Pride in the Port yng Nghasnewydd.

Rydym yn galluogi addysg fwy cynhwysol, wrth i Lywodraeth Cymru ddarparu canllawiau cenedlaethol i ysgolion erbyn diwedd eleni i'w helpu i gefnogi disgyblion trawsryweddol yn llawn. Mae hyn yn cael ei wneud fel rhan o'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac rydym ni eisiau ei gwneud yn glir nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo unrhyw ganllawiau trydydd parti yn y maes hwn. Yn ddiweddar, mae ein cefnogaeth wedi galluogi Stonewall Cymru a Peniarth i gyfieithu dau lyfr am deuluoedd LHDTC+ i'r Gymraeg. Bydd y llyfrau, sydd wedi eu dosbarthu i ysgolion cynradd, yn sicrhau bod gan ystafelloedd dosbarth fynediad at lenyddiaeth gynhwysol sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru.

Gwnaed cynnydd hefyd ym maes iechyd rhywiol drwy'r cynllun gweithredu HIV i Gymru, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad yr wythnos diwethaf. Nod y cynllun yw cyrraedd y targed o ddim trosglwyddiadau HIV newydd erbyn 2030, mynd i'r afael â stigma a gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw â HIV.

Deugain mlynedd yn ôl, roedd pobl hoyw yn dioddef anfri cas ac ymosodiadau rhagfarnllyd. Heddiw, mae pobl draws yn destun llif tebyg o ymosodiadau wedi eu hysgogi gan gasineb. Nid yw ymestyn hawliau i un grŵp yn golygu erydu hawliau o un arall. Nid ydym yn credu y bydd gwella hawliau i fenywod traws yn niweidio hawliau i fenywod a merched cisryweddol. Mae ein cymunedau traws yn brifo, mae ofn arnyn nhw, ac maen nhw'n dioddef niwed. Fel cymdeithas, gallwn ni ac mae'n rhaid i ni wneud yn well na hyn.

Felly, rydym yn parhau i ddatblygu ein gwasanaeth rhyw yng Nghymru, sy'n adrodd am amseroedd aros byrrach ar gyfer asesiad cyntaf na gwasanaethau rhyw tebyg y GIG yn Lloegr ac sydd wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros ymhellach. Rydym hefyd wedi ymrwymo i wella'r llwybr ar gyfer pobl ifanc drawsryweddol yng Nghymru. Bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth, yn edrych ar y dystiolaeth sydd ar gael i ddiffinio'r model gwasanaeth clinigol ymhellach ar gyfer y dyfodol, a bydd lleisiau cymunedol yn flaenllaw ac yn ganolog i'r gwaith hwn.

Yn unol â'n hymrwymiad i'r cytundeb cydweithredu, byddwn hefyd yn ceisio datganoli pwerau ychwanegol i wella bywydau ac amddiffyn pobl drawsryweddol. Ni fu ein hymrwymiad i gefnogi pobl LHDTC+ sy'n ceisio noddfa yng Nghymru a chyflawni ein dyletswydd ryngwladol i ddangos arweiniad ar gydraddoldeb erioed yn bwysicach. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi ein harswyd ynghylch eu cynlluniau i anfon ceiswyr lloches i Rwanda. Byddai hyn yn ddinistriol i bobl LHDTC+, gan eu rhoi mewn perygl o gael eu trin yn wael, gwahaniaethu, arestio mympwyol, a'u cadw yn y ddalfa.

Felly, mae materion LHDTC+ y tu hwnt i'n ffiniau yn parhau i fod yn hollbwysig i ni ac, er bod Cymru'n ennill ei lle yng Nghwpan y Byd yn destun dathlu, ni ellir anwybyddu safbwynt gwarthus y wlad sy'n cynnal y bencampwriaeth ar hawliau LHDTC+. Bydd llawer yno na fyddan nhw'n teimlo'n ddiogel i deithio, neu a fydd yn dewis peidio â chefnogi cymunedau LHDTC+ Qatar ei hun, sy'n methu â byw yn agored ac yn rhydd fel eu hunain. Byddwn yn ceisio defnyddio ein platfform i ymgysylltu a dylanwadu ar y materion pwysig hyn.

Rydym wedi ymrwymo i beidio â gadael yr un garreg heb ei throi o ran gwahardd arferion trosi ar gyfer pobl LHDTC+. Ni fyddwn yn troi cefn ar ein cymunedau traws, fel y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud, ac ni fyddwn ychwaith dim ond yn siarad pan ddaw'n fater o weithredu. Gan weithio gyda Phlaid Cymru, rydym yn gwneud gwaith cymhleth, gan gynnwys ceisio cyngor cyfreithiol i bennu'r holl ysgogiadau sydd gennym ar gyfer gwaharddiad yng Nghymru, datblygu ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth ac erchyllterau arferion trosi, ac mae ein cynlluniau i sefydlu gweithgor o arbenigwyr ar y gweill.

Yn ystod fy ymweliad diweddar i gwrdd â'r grŵp Digon o Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd, gofynnais i'r myfyrwyr pa neges y bydden nhw'n dymuno i mi ei rhannu mewn datganiad yma i nodi Mis Pride. Roedd y neges yn glir: 'Dydw i ddim eisiau cael fy ngoddef yn unig, rwy'n dymuno cael fy nathlu.' Yn ystod y Mis Pride hwn, a phob mis arall, y deyrnged fwyaf y gallwn ei thalu i'r arloeswyr a baratôdd y ffordd yw parhau i siarad, sefyll a chwarae ein rhan ein hunain i sicrhau dyfodol tecach lle rydym yn teimlo'n ddiogel, yn cael ein cefnogi a'n dathlu, gyda'n hawliau wedi eu sicrhau.

15:20

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad, ac a gaf i ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi gweithio mor galed i lunio'r cynllun gweithredu hyd yn hyn? Mae gen i ychydig o gwestiynau byr, os caf i, ynglŷn â rhai o'r camau gweithredu. Gweinidog, byddwch yn gwybod mai hunanladdiad yw'r lladdwr mwyaf ymhlith pobl ifanc o dan 35 oed yn y DU, ac mae'n effeithio'n anghymesur ar aelodau o'r gymuned LHDTC+. At hynny, rydym yn gwybod bod dros bump o bobl ifanc, ar gyfartaledd, yn cymryd eu bywydau bob dydd, bod dros 200 o blant ysgol yn cael eu colli i hunanladdiad bob blwyddyn, a bod ymchwil wedi dangos, gyda'r ymyrraeth a'r gefnogaeth gynnar briodol, y gellir atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc. Sonnir yn y cynllun gweithredu arfaethedig y bydd gwaith iechyd cyhoeddus wedi'i dargedu yn cael ei wneud i fynd i'r afael â materion ar gyfer pobl LHDTC+ sydd mewn perygl anghymesur, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, iechyd rhywiol ac iechyd meddwl. Rydym hefyd yn ymwybodol bod yna rai sy'n rhan o'r gymuned LHDTC+ sy'n byw mewn ofn o gael eu hadnabod yn LHDTC+ drwy ymgysylltu ag unrhyw brosiect neu gael eu gweld yn ymwneud â mentrau, ac rwy'n meddwl tybed pa gamau penodol y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â materion iechyd meddwl y rhai hynny sydd wedi eu cuddio o fewn y gymuned LHDTC+ er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn.

Yn ail, hoffwn i ddeall yn well yr hyn a olygir wrth greu

'dull mwy cyfannol o lunio adnoddau hyfforddiant i weithleoedd preifat'

fel y gall gweithleoedd fod yn fwy cynhwysol i LHDTC+. Beth ydych chi'n ei olygu mewn gwirionedd gan 'ddull cyfannol'? Pam ydych chi wedi penderfynu mai dyma'r ffordd orau o weithredu? Rwy'n gofyn hyn gan fy mod i wedi bod o'r farn erioed nad yw un dull gweithredu sy'n addas i bawb yn caniatáu ar gyfer yr hyblygrwydd sydd ei angen, ac ni fydd model hyfforddi sefydlog o reidrwydd yn gweddu i'r holl wahanol ddiwydiannau a diwylliannau gwaith sydd gennym. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, mae gwahaniaethu yn y gweithle yn parhau i fod yn gyffredin, sydd, fel y gwyddom, wedi ei yrru gan ofn yr anhysbys, ac ofn rhywbeth gwahanol. Felly, sut y bydd yr hyfforddiant hwn yn ceisio'n benodol i addysgu pobl a newid ymddygiad gwahaniaethol?

Yn olaf, Gweinidog, roeddwn i eisiau ychwanegu fy ngeiriau fy hun at eich datganiad cadarnhaol ynglŷn â Pride. Mae themâu Pride yn newid nid yn unig o flwyddyn i flwyddyn, ond o le i le, i adlewyrchu a dathlu'r gymuned. Fodd bynnag, mae'r neges sy'n gorgyffwrdd bob amser yr un fath—er ein bod yn wahanol, rydym ni i gyd yr un fath hefyd. Er ein bod yn hoffi ac yn dda am wahanol bethau ac yn caru gwahanol bobl, rydym i gyd yn ddynol, ac ni ddylem ni byth gael ein herlyn na'n barnu na'n trin yn wahanol oherwydd y gwahaniaethau hynny. Yn hytrach, dylem ddathlu'r hyn sy'n ein gwneud yn unigryw a'r hyn sy'n ein gwneud yn unigolion, oherwydd, os gwnawn ni hynny, gallwn gyflawni pethau rhyfeddol drwy gynnwys pawb a gwneud y gorau o'n hamrywiaeth ar gyfer y ddynoliaeth. Diolch yn fawr, Gweinidog.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y geiriau cynnes hynny o gefnogaeth i Pride ar ddiwedd ei gyfraniad yn y fan yna, a hefyd croesawu'n fawr y sylwadau cefnogol am yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yn y cynllun gweithredu LHDTC+? Byddwn yn fwy na bodlon, wrth i ni ddatblygu'r cynllun, i drafod elfennau penodol y gallai fod gan yr Aelod ddiddordeb penodol ynddyn nhw. Wrth i ni wneud hynny dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, rwyf yn fwy na pharod i wneud hynny, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yn y lle hwn yn y fan yma, yn y Siambr hon, ein bod ni yn defnyddio naws wahanol iawn ac ymagwedd wahanol iawn nag mewn mannau eraill efallai o ran sefyll gyda'n gilydd i wneud y peth iawn.

Gwnaf i sôn rhywfaint am rai o'r pwyntiau penodol a wnaethoch, Altaf, yn y cyfraniad hwnnw. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at yr heriau gwirioneddol y mae'r gymuned LHDTC+ yn eu hwynebu o ran heriau iechyd meddwl, unigedd. Gall ddeillio o amrywiaeth o bethau. Rydym yn gwybod ei fod wedi ei waethygu, efallai, yn ystod y pandemig i bobl a allai fod wedi gorfod parhau i fyw gyda phobl nad oedden nhw efallai wedi dod allan iddyn nhw, nad oedden nhw'n gallu bod yn nhw eu hunain gyda nhw, neu efallai mewn amgylchedd a oedd yn llai na chyfeillgar tuag atyn nhw. Felly, rydym ni wedi gwneud—. Yn ogystal â'r hyn sydd wedi ei amlinellu yn y cynllun gweithredu, mae darn o waith rydym wedi bod yn ei wneud i edrych ar effaith COVID-19 ar y gymuned LHDTC+ yn arbennig. Felly, y gobaith yw y gall hynny fwydo i mewn i waith ehangach y cynllun gweithredu. Ond rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt dilys iawn, ac rwy'n siŵr bod ein swyddogion a'n harbenigwyr eisoes yn bwrw ymlaen, o ran sicrhau mewn gwirionedd fod pobl yn gwybod ble mae'r cymorth a'r adnoddau ac, os nad ydyn nhw'n teimlo eu bod yn gallu gwneud hynny, nid oes rhaid iddyn nhw roi eu llaw i fyny a datgan pwy ydyn nhw os nad ydyn nhw'n teimlo'n gyfforddus ar yr adeg honno yn eu bywyd i wneud hynny i allu cael mynediad at wasanaethau penodol. Felly, rwy'n credu bod pwynt gwirioneddol bwysig a dilys yno.

O ran gweithleoedd cyfeillgar a chynhwysol i bobl LHDTC+, rwy'n meddwl, yn hollol, ein bod yn treulio cymaint o'n hamser a'n bywyd yn y gwaith, mewn gweithle, ac rwy'n gwybod o fy mhrofiad personol fy hun, ar yr adeg pan oeddwn i'n gallu bod allan a bod fy hun yn y gwaith, nad oeddwn i ddim ond yn hapusach yn y gwaith yn sydyn, ond mae'n debyg fy mod i'n fwy cynhyrchiol; roeddwn i eisiau bod yno. Ac rwy'n meddwl pan fyddwch chi yn y sefyllfa honno weithiau pan nad ydych chi'n teimlo y gallwch chi fod eich hun, rydych chi'n gwario cymaint o egni ar hynny, yn hytrach nag egni ar bethau mwy cadarnhaol, pethau y gallech chi ganolbwyntio arnyn nhw. Felly, mae hynny'n elfen bwysig iawn o'r hyn yr ydym yn ei wneud. Rydych chi'n sôn am ddull gweithredu homogenaidd, ac rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych yn ei ddweud, nad yw un ateb yn addas i bawb, ond rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chael y tegwch hwnnw a chefnogaeth ac adnoddau cyfartal i weithleoedd, boed yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat—a'r sector gwirfoddol, wrth gwrs. Ac rydym yn gwybod bod enghreifftiau da iawn o arfer gorau. Rydym yn eu gweld yn y sefydliadau, busnesau mawr hynny yng Nghymru sy'n cael eu cydnabod am eu rhwydweithiau a'u cynwysoldeb. Ac rydym yn gwybod hefyd, o fewn y mudiad undebau llafur, fod llawer o gyrsiau cydraddoldeb da ar gael a chefnogaeth i aelodau, ac mae hynny'n ffordd arall o hwyluso a lledaenu'r wybodaeth honno yn y gweithle.

Felly, rwy'n credu mai'r hyn yr ydym yn ei olygu yw sicrhau ein bod yn cael yr arfer gwell hwnnw a sicrhau ei fod yn cael ei rannu a bod pawb yn cael cyfle i gael gafael ar y cymorth hwnnw a chael y cymorth hwnnw yn y gwaith hefyd. Ac, wrth gwrs, mae'n ganolog—pan fyddwn yn sôn am fod yn genedl o waith teg, wrth gwrs, mae cydraddoldeb yn y gweithle a gallu bod eich hun yn y gwaith yn rhan allweddol o hynny o ran eich lles yn y gwaith hefyd.

15:25

Diolch am y datganiad, Dirprwy Weinidog. 

Rwy'n falch bod y cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop ac i alw am ddatganoli'r pwerau i ddeddfu i wella bywydau a diogelu diogelwch pobl draws yng Nghymru. Mae'n amlwg pa mor hanfodol yw'r ymrwymiadau hynny, o ystyried sut mae troseddau casineb yn erbyn pobl ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol wedi codi bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr ers 2016. Ac mae ffigurau gan Heddlu Gwent, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu De Cymru a gafwyd drwy gais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru hefyd wedi dangos y duedd hon o gynnydd i droseddau casineb trawsffobig ac ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Rwy'n falch bod y Dirprwy Weinidog wedi cyfeirio'n benodol yn ei datganiad at y ffordd y mae pobl draws yn cael eu gwneud yn destun anoddefgarwch a chasineb cynyddol. Mae'n rhaid i ni gael pwerau i ddiogelu pobl draws yma yng Nghymru yn well, ac rwy'n edrych ymlaen at waith pellach ar hyn. Rwy'n credu hefyd fod menywod traws yn fenywod a bod y ffordd y mae menywod traws yn cael eu heithrio gan gyrff chwaraeon, p'un a ydych yn cytuno ag ef fel dull o sicrhau tegwch ai peidio, yn ymwroli'r rhai sy'n defnyddio chwaraeon i guddio eu trawsffobia a'u rhagfarn. O'i ystyried ynghyd â'r materion iechyd meddwl a chyfraddau hunanladdiad ymhlith pobl draws, a'r gyfran fach iawn o athletwyr traws sy'n cystadlu mewn chwaraeon elitaidd, mae'n ymddangos bod penderfyniadau i wahardd athletwyr trawsryweddol, yng ngeiriau un o newyddiadurwyr chwaraeon mwyaf blaenllaw America, Dan Wolken, yn ateb sy'n chwilio am broblem. Mae gan chwaraeon ran mor allweddol wrth hyrwyddo darlun cynhwysol ac amrywiol o ddinasyddion ein byd, gan gynnwys athletwyr trawsryweddol. Felly, sut ydym ni yng Nghymru, fel y'i mynegwyd yn gwbl briodol gan fyfyrwyr grŵp Digon Ysgol Gyfun Plasmawr, yn mynd i ddathlu ein dinasyddion traws sy'n athletwyr? Hoffwn i wybod felly, Dirprwy Weinidog, pa sgyrsiau yr ydych wedi'u cael gyda sefydliadau a chyrff chwaraeon yng Nghymru am oblygiadau'r penderfyniad a wnaed gan FINA a'r datganiadau a wnaed gan Nadine Dorries, y bydd yn annog cyrff chwaraeon y DU i ddilyn arweiniad FINA.

Ac i aros gyda chwaraeon, roeddwn i hefyd yn falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at ein cyfrifoldeb fel cenedl i dynnu sylw at ragfarn ac erledigaeth y tu hwnt i Gymru, a'r angen i sicrhau bod ein pryderon am record ofnadwy Qatar ar hawliau LHDTC+ yn cael eu lleisio'n glir pan fydd ein tîm cenedlaethol, a'u staff ategol, a chefnogwyr Cymru, yn teithio yno ar gyfer Cwpan y Byd.

Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu'n union pa sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda Llywodraethau eraill, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a rhanddeiliaid eraill ynghylch y mater hwn? Sut byddwn yn ymgysylltu â gwladwriaeth a all atal pobl LHDT rhag dod i mewn i'w gwlad, neu alltudio pobl LHDT o Qatar ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol a'u hunaniaeth o ran rhywedd, a cheisio dylanwadu arni? Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod cefnogwyr LHDTC+, y rhai sy'n gysylltiedig â'r timau, aelodau o gwmnïau a sefydliadau Cymru, yn gallu chwarae rhan lawn yn ymgyrch Cwpan y Byd Cymru heb fod ofn erledigaeth?

Yn olaf, hoffwn i droi at eich sylwadau ar sut y mae Cymru'n genedl noddfa i bawb—mae mor addas ein bod yn gwneud hynny yn ystod Wythnos Ffoaduriaid, ac yn dilyn y ddadl yr ydym newydd ei chael—a sut y mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei harswyd tuag at gynlluniau Llywodraeth San Steffan i anfon ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Rwanda. Ac mae Plaid Cymru yn cefnogi eich geiriau cryf, ac yn rhannu eich pryderon am y canlyniadau i ffoaduriaid LHDTC+ a'r risgiau posibl y bydden nhw'n eu hwynebu. Mae Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 yn ei gwneud yn anoddach byth i bobl LHDTC+ sy'n ceisio lloches gael eu cydnabod a'u diogelu. Mae triniaeth gywilyddus rhai o ffoaduriaid mwyaf agored i niwed y byd yn un o'r rhesymau pam mae'r DU wedi plymio yn y safleoedd ar gyfer hawliau LHDTC+ ledled Ewrop am y drydedd flwyddyn yn olynol. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud yn benodol i gefnogi ffoaduriaid LHDTC+, ac a yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, os ydym am ddiogelu pobl LHDTC+ sy'n dymuno gwneud Cymru'n gartref yn llawn, yna mae angen daer am fil hawliau Cymru arnom i'n helpu i ymgorffori'r amddiffyniadau cyfreithiol rhyngwladol y maen nhw'n eu haeddu? Diolch.

15:30

Diolch, Sioned, am eich cefnogaeth.

Rwy'n credu ei bod yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr, ac rwy'n credu bod gallu sefyll a siarad mewn undod am broblemau a materion sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i bobl—rydym yn sôn am fywydau pobl onid ydym ni—a gallu—. Rydym yn sôn am weithredu, ond ni allwch danbrisio pobl yn siarad ac yn herio ac yn cymryd y safbwynt cywir ar y pethau hyn. Nid oes fawr ddim i mi anghytuno ag ef ar unrhyw beth y gwnaethoch ei ddweud, yn enwedig ynghylch cefnogi cenedl noddfa a'r hyn y gallwn ei wneud ynghylch hynny, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'ch sylwadau.

Os cyfeiriaf yn gyntaf efallai at yr hyn y gwnaethoch ei ddweud am bobl drawsryweddol mewn chwaraeon, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n ymddangos ei fod wedi ei—. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, rwy'n hapus iawn am fod wedi colli sylwadau Nadine Dorries, ond af i edrych ar hynny a gweld yr hyn a ddywedodd unwaith eto. Ond, rwy'n meddwl, un o'r pethau y mae'n rhaid i chi ei ddweud yw, fel yr ydym wedi ei ddweud o'r blaen, mae'n ymddangos bod y gymuned drawsryweddol yn un o'r rhai sydd wedi'i halltudio fwyaf a'i diogelu lleiaf, ac mae methu â chydnabod a mynd i'r afael â hynny, boed hynny ym maes chwaraeon neu mewn meysydd eraill, yn fethiant yn ein dyletswydd a'n cenhadaeth i sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant. Os ydym yn dweud bod ein safbwynt yn glir bod hawliau LHDTC+, gan gynnwys hawliau traws, yn hawliau dynol, yna mae angen i chwaraeon fod yn fan lle gall pawb gymryd rhan, ac mae pawb yn cael eu trin â charedigrwydd, urddas a pharch. Ac rwy'n credu bod yn rhaid iddo ddechrau o safbwynt—. Roeddwn i'n gallu clywed murmur cefnogaeth yn y lle hwn. Mae chwaraeon, yn ei hanfod, yn gyfle i fod yn gynhwysol ac i gynnwys pobl mewn gwahanol gymunedau. Ac nid sôn am chwaraeon elitaidd yn unig ydym ni; rydym yn siarad yn gyffredinol hefyd.

Ac, rwy'n credu, yn fawr iawn, bod yn rhaid i ni ddechrau o safbwynt tosturi, tegwch a thryloywder. Mae'r mathau hynny o sgyrsiau eisoes wedi eu cynnal gyda rhai o'r cyrff chwaraeon hynny, a byddaf yn gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Dawn Bowden o'r safbwynt hwnnw. Mae'n rhywbeth yr wyf yn sicr yn mynd i'w ddatblygu a'i symud ymlaen yn awr, o ran sut y gallwn sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud fel hyn. Roeddwn i mewn digwyddiad PinkNews—wel, derbyniad gan y Senedd, nad oedd yn y Senedd—yr wythnos diwethaf, ac fe wnes i gyfarfod mewn gwirionedd â'r beiciwr Emily Bridges yno, ac rwyf i wedi gwahodd Emily i ddod i ymweld â ni yma i rannu ei phrofiadau, fel y gallwn ddysgu o hynny a gwella cefnogaeth a defnyddio profiadau byw pobl hefyd. Mae'n hynod bwysig fy mod i'n ffrind i'r gymuned honno, ond nid wyf yn dod o'r gymuned honno, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, fel gydag unrhyw beth a wnawn, eu bod yn llunio ein gwaith a'n ffordd ymlaen hefyd.

I sôn am y pwyntiau a wnaethoch ynghylch troseddau casineb a'r cynnydd mewn troseddau casineb, rwy'n credu bod rhywfaint ohono'n ddeublyg, bod pobl yn fwy parod i roi gwybod amdano, ond yn anffodus mae cynnydd mewn troseddau casineb. Rwy'n credu ein bod ni wedi siarad yn y Siambr hon o'r blaen am godi ymwybyddiaeth, drwy ein hymgyrchoedd Mae Casineb yn Brifo Cymru a'r gwaith yr ydym yn ei wneud, fod troseddau casineb ar sawl ffurf wahanol. Ar ei ben eithafol ac erchyll, mae'n dreisgar, ac, fel yr ydym wedi'i weld, gall arwain at ganlyniadau gwirioneddol ddinistriol, yma yn ein prifddinas ein hunain. Ond mae hefyd yn bobl sy'n meddwl y gallan nhw ddweud beth bynnag maen nhw'n ei ddymuno wrth bobl, ac rwy'n gwybod fy mod i wedi siarad am bethau o fy mhrofiad i o'r blaen, yma. Rwy'n ei chael yn anodd iawn ar hyn o bryd fod fy ngwraig yn darged oherwydd fi. Rwy'n gwybod ei bod wedi cael galwad ffôn i'w rhif gwaith yn y lle hwn gan rywun a oedd, yn ei hanfod, yn siarad mewn tafodau, wedi dweud wrthi ei bod yn mynd i losgi yn uffern. Mae ein heddluoedd yn ymdrechu'n galed, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nhw, ond rwyf i yn credu bod mwy o waith i'w wneud o ran sut yn union maen nhw'n trin ac yn ymdrin â phethau fel hynny, oherwydd ni chafodd ei drin yn ddigonol mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu bod angen gwella'r pethau hyn.

Rwy'n credu bod angen i gymorth fod ar gael i bobl deimlo y gallan nhw adrodd am bethau, oherwydd nid ydym yn mynd i newid pethau oni bai fod pobl yn teimlo bod ganddyn nhw'r gefnogaeth honno. Ac rwy'n credu bod gwahanol ffyrdd o'i wneud—mynd drwy'r broses, o adrodd i'w gofrestru fel trosedd casineb, ond mewn gwirionedd beth sy'n cael ei wneud yn ei gylch yn y dyfodol. Hefyd, mae'n mynd yn ôl at yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud o ran addysg hefyd. Ac rwy'n dal i ddarllen drosodd a throsodd, yn rhy aml, am bobl eraill sy'n cael profiadau tebyg. Mae'n mynd yn ôl at yr hyn yr oeddem yn ei ddweud am dynnu sylw at bethau. Rwy'n credu bod her i bob un ohonom yn y lle hwn, yn ein cymunedau ein hunain, yn ein sefydliadau ein hunain, yn ein pleidiau gwleidyddol ein hunain, i gael sgwrs anodd—gall fod, weithiau—i wneud y peth iawn, ac i amlygu hyn a dweud mewn gwirionedd, 'Dyma'r effaith y gall rhai o'r geiriau, y gall rhai o'r "ddadl" honedig y mae pobl yn ei chael, arwain ati, a'r effaith a'r niwed a'r dolur y gall ei achosi i bobl unigol a chymunedau cyfan.'

15:35

Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad heddiw. Roeddwn i eisiau dweud ychydig am awdurdodau lleol yng Nghymru a'r rhan bwysig sydd ganddyn nhw, a gofyn a fyddech yn cytuno â mi fod Cyngor Dinas Casnewydd mewn gwirionedd yn gwneud llawer o bethau da ar hyn o bryd ac yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar y materion hyn. Rwy'n gwybod eu bod wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi cynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru, ac mae ganddyn nhw gysylltiadau cryf iawn â chymunedau ledled dinas Casnewydd, ac mae ganddyn nhw rwydwaith staff Pride yn yr awdurdod, sydd, yn fy marn i, yn sicrhau canlyniadau yn wirioneddol o ran eu sefydliad mewnol, ond hefyd yn cysylltu wedyn â'r gymuned.

Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda Balchder yn y Porthladd, ac roeddwn i'n falch eich bod wedi sôn amdanyn nhw yn gynharach. Bydd gorymdaith yng Nghasnewydd ym mis Medi, yr orymdaith Pride gyntaf wedi'i threfnu gan Balchder yn y Porthladd, ac mae'r awdurdod lleol yn cefnogi hynny. Mae llawer o weithgareddau ar draws y gymuned leol erbyn hyn, gan godi baner Cynnydd Pride gan arweinydd y cyngor a Balchder yn y Porthladd i ddathlu Mis Pride. Mae llawer iawn yn digwydd ar hyn o bryd, gan gynnwys digwyddiad a lle diogel yn Theatr Glan yr Afon, a grëwyd, unwaith eto, i fwrw ymlaen â'r gweithgareddau hyn—i anfon y negeseuon cywir. Yn amlwg, rydych yn dymuno gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, Gweinidog, a tybed a fyddech yn cadarnhau yr hyn rwy'n gobeithio sy'n wir, sef bod Cyngor Dinas Casnewydd yn dangos esiampl dda ar hyn o bryd ac yn gwneud llawer o bethau addawol.

A gaf i ddiolch i John Griffiths am y cyfraniad yna? Rwy'n credu ei fod yn iawn i dynnu sylw at rôl, nid yn unig i Gyngor Dinas Casnewydd, ond y rhan sylweddol y gall awdurdodau lleol ei chwarae yn ein cymunedau mewn gwirionedd, nid yn unig o ran cefnogi digwyddiadau Pride, ond hefyd wedyn gan fynd yn ôl at yr hyn a ddywedodd Altaf o ran eu rhwydweithiau eu hunain, sut maen nhw'n cefnogi eu staff eu hunain, a sut maen nhw'n creu mannau a chyfleoedd cynhwysol i bobl mewn cymunedau—gallai fod mewn dinas, neu p'un a yw hynny mewn cymunedau mwy trefol, mwy gwledig hefyd. Felly, yn wir, hoffwn i yn fawr iawn ymuno â chi i longyfarch Cyngor Dinas Casnewydd, a Jane Hutt—Jane Mudd, mae'n ddrwg gen i. Mae Jane Hutt yn dangos arweiniad ar hyn hefyd. [Chwerthin.] Llongyfarchiadau i Jane Mudd, fel arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd. Roeddwn i mewn gwirionedd yn siarad â Jane ar Ddiwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn Wrecsam ddydd Sadwrn, oherwydd bod y baton yn cael ei drosglwyddo i Gasnewydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ac roeddem yn siarad yn llawn cyffro a brwdfrydedd am y potensial sydd gan Balchder yn y Porthladd, oherwydd, fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen yn y lle hwn, a byddaf yn ei ddweud dro ar ôl tro, mae'r mathau hynny o ddigwyddiadau Pride nodedig, fel yr un yn ein prifddinas, yn bwysig. Ni allwn danbrisio gwerth digwyddiadau mewn cymunedau a dinasoedd ledled y wlad. Felly, rwy'n gwybod bod Balchder yn y Porthladd ar 3 Medi. Rwy'n gobeithio bod yno fy hun, ac rwy'n gwybod bod Jayne Bryant wedi bod mewn cysylltiad â mi i roi hynny ar fy agenda, i sicrhau y gallaf geisio ei roi yn y dyddiadur. A byddwn i'n gwahodd yr Aelodau i ymuno â ni ar gynifer o orymdeithiau Pride ag y gallwn dros yr haf, oherwydd, mewn gwirionedd, gallwn ddod at ein gilydd fel hyn fel cymuned unwaith eto ar ôl pandemig y coronafeirws.

15:40

Diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad hwn am y cynllun gweithredu heddiw. Yr wythnos diwethaf, buom yn dathlu, fel y gwnaethoch ei ddweud, beth fyddai wedi bod yn ben-blwydd y Cymro, Terrence Higgins, ac yn cofio iddo farw 40 mlynedd yn ôl o salwch sy'n gysylltiedig ag AIDS. Enwyd Terry fel y person cyntaf yn y DU i farw o AIDS, ond arweiniodd yr argyfwng at ddynion hoyw a deurywiol yn wynebu homoffobia a stigma erchyll. Heb os, cyfrannodd hyn at golli llawer mwy o fywydau.

Ac, er ein bod ni wedi dod yn bell iawn wrth gydnabod yr homoffobia hwn a oedd yn gysylltiedig ag argyfwng HIV ac AIDS y 1980au, roedd yn frawychus gweld y troellau yn y cyfryngau a'r drafodaeth gyhoeddus wrth adrodd am feirws y frech mwnci yn ddiweddar. Cafodd yr eithrio, mynegi pobl queer fel bygythiad, yr ystrydebu, yr awgrymiadau negyddol yn ein cyfryngau prif ffrwd, i gyd eu hatgynhyrchu fel pe na bai'r gwersi o'r 40 mlynedd diwethaf erioed wedi digwydd. A dyna pam mae angen i lywodraethau fod yn weithgar wrth fynd i'r afael â homoffobia o bob math, a dyna pam rwy'n croesawu'r diweddariad hwn ar gynllun gweithredu LHDT Llywodraeth Cymru heddiw. Fel yr ydych wedi ei ddweud, mae'n ymwneud â chyrraedd man o gynhwysiant ac undod, yn hytrach na rhannu ac ymddieithrio. P'un a yw'n rhagfarn systemig yn ein sefydliadau, y rhai mewn swyddi cyhoeddus neu gasineb ar-lein, mae gennym lawer i'w wneud o hyd i ddileu hyn, fel yr ydym wedi ei weld.

Felly, Gweinidog, a wnewch chi gytuno â mi, wrth gymeradwyo'r datganiad, i ddweud wrth bawb a allai fod yn ei chael hi'n anodd, yn wynebu gwahaniaethu neu ragfarn, 'Nid oes dim o'i le arnoch chi; mae llawer o'i le ar y byd yr ydym yn byw ynddo'? Hefyd, mae'n ymwneud â phwysleisio a dod allan a dweud wrth y bobl hynny sy'n gwneud y sylwadau hynny am feirws y frech mwnci ei fod yn anwybodus, yn hurt, yn beryglus, yn sarhaus, ac mae rhoi'r bai am hynny ar y gymuned LHDTC+ yn gwbl annerbyniol.

Diolch, Sarah, am y sylwadau yna a oedd wedi eu mynegi yn dda iawn o ran amlygu'r risg y bydd hanes yn ailadrodd ei hun o ran anwybodaeth. Wyddoch chi beth? Nid wyf i'n credu mai anwybodaeth yw hi hanner yr amser, yn anffodus; mae'n fwriadol. A'r math hwnnw o eithrio a homoffobia, y math hwnnw o lefel isel, bron iawn, weithiau—. Mae'n homoffobia awgrymedig sy'n gudd mewn rhai o'r pethau hyn. Rwy'n falch iawn 40 mlynedd ar ôl yr argyfwng AIDS fod—. Hefyd, fe wnaethoch chi sôn am Terrence Higgins, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Jeremy Miles wedi noddi digwyddiad yn y lle hwn yr wythnos diwethaf, i lansio cynllun gweithredu HIV newydd Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n dangos pa mor bell yr ydym wedi dod, ond mae hefyd yn cydnabod bod gennym ffordd i deithio o hyd o ran mynd i'r afael â stigma a homoffobia. Yn sicr, rwy'n ymuno â chi yn yr hyn y gwnaethoch ei ddweud, a neges i bob person LHDTC+ yng Nghymru a thu hwnt eich bod chi'n anhygoel, rydych chi'n cael eich gwerthfawrogi, rydych chi'n cael eich caru am bwy ydych chi.

Diolch. Cyn i ni symud i ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), byddaf yn gohirio'r trafodion am 10 munud, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18. Bydd y gloch yn cael ei chanu bum munud cyn ailymgynnull. Os gwelwch yn dda, a wnaiff bob Aelod sicrhau ei fod yn dychwelyd yn brydlon, fel y gellir gwneud paratoadau pleidleisio?

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:43.

15:55

Ailymgynullodd y Senedd am 15:59, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

5. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dyma ni'n cyrraedd nawr yr eitem ar Gyfnod 3 y Bil Addysg Trydyddol ac Ymchwil (Cymru).

Grŵp 1: Sefydlu’r Comisiwn, penodi ei aelodau a thelerau’r aelodau (Gwelliannau 120, 121, 122, 123, 124, 125, 126, 127, 128, 129, 130, 131, 132, 133, 134, 135, 136, 137, 138, 139, 140, 141, 142, 143, 144, 145, 146, 147, 148, 149, 150, 151, 152, 153, 154, 155, 156, 157, 158, 159, 160, 119)

Fe fyddwn ni yn trafod y grŵp cyntaf o welliannau yn gyntaf, sy'n ymwneud â sefydlu'r comisiwn, penodi ei aelodau a thelerau’r aelodau. Gwelliant 120 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Laura Anne Jones i gynnig y prif welliant ac i siarad i welliannau eraill yn y grŵp. Laura Anne Jones. 

Cynigiwyd gwelliant 20 (Laura Anne Jones).

Diolch, Lywydd, am y cyfle hwn i gyfrannu at y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Siaradaf am welliannau 119 i 160 a gyflwynais. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn sicrhau cyfathrebu priodol rhwng Gweinidogion Cymru a'r comisiwn ynghylch y cylch gorchwyl.

Gan fod cyllideb mor sylweddol ar gael i'r comisiwn, mae'n gwbl briodol bod llythyrau cylch gwaith blynyddol yn cael eu defnyddio i sicrhau y gall corff hyd braich redeg yn effeithlon, yn enwedig pan fo Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn dal i gredu bod perygl gwirioneddol na fydd y corff sengl hwn yn gallu cyflawni ei ganlyniadau strategol. Mae arnom ni eisiau osgoi'r perygl o ganiatáu i Lywodraeth Cymru weithredu ar lefel weithredol, gan y byddai'n amlwg yn creu trefniadau llywodraethu aneglur, a fyddai yn ei dro yn achosi oedi a dryswch. Yn hollbwysig, bydd y gwelliannau hyn yn golygu penodi aelodau'r comisiwn, yn ogystal â chadeirydd ac aelodau'r pwyllgor ymchwil ac arloesi, yn amodol ar broses benodi yn y Senedd, fel mewn gwelliannau blaenorol a gyflwynwyd mewn perthynas â Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Er fy mod yn siomedig ein bod yn gorfod ailgyflwyno'r gwelliannau hyn, mae penderfyniad fy ngrŵp a minnau i sicrhau'r annibyniaeth fwyaf posibl i'r comisiwn yn fy ngymell i gyflwyno'r gwelliannau hyn a phwysleisio eu pwysigrwydd unwaith eto.

O ran gwelliant 161, fy mwriad yw hepgor y llinellau yn y Bil sy'n rhoi pwerau i'r comisiwn ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ailstrwythuro addysg chweched dosbarth. Nid pwerau sy'n perthyn i gylch gwaith y comisiwn yw'r rhain, ac nid oes rheswm dros gredu, hyd yn oed am eiliad, y byddai addysg chweched dosbarth ledled Cymru yn elwa o ymyrraeth o'r math hwn.

Yn olaf, o ran gwelliant 119, rwy'n ailgyflwyno'r gwelliant hwn gan fy mod yn dal i gredu'n gryf mewn ymestyn amser cymhwyso'r Bil. Mae'n bwysig caniatáu ystyriaeth bellach o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2021. Mae arnom ni angen sicrwydd gwirioneddol na fydd unrhyw un o'r achosion cyfreithiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn effeithio ar sut y cymhwysir y Bil.

Gan droi at welliannau'r Gweinidog, nid wyf yn credu eu bod yn mynd i'r afael yn llwyr â phryderon a nodir yng Nghyfnod 2 ynghylch addasu cynlluniau strategol, gan y caniateir y pŵer hwnnw iddyn nhw o hyd. Ydy, mae wedi'i wanhau ychydig, ond dim ond ychydig. Hoffwn weld bod y Gweinidog wedi addasu'r cynlluniau hyn i sicrhau y bydd y comisiwn yn gorff hyd braich mewn gwirionedd drwy ei welliannau a gyflwynwyd heddiw. Diolch.

16:00

Nid oes gyda fi ddim siaradwyr. Y Gweinidog i ymateb i'r grŵp yma o welliannau.

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gysidro'r gwelliannau i'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) heddiw.

Cyn imi siarad am y gwelliannau yn y grŵp hwn, hoffwn ddiolch ar goedd i'r pwyllgorau a'r holl Aelodau am graffu ar y Bil hwn, ac yn enwedig i'r Aelodau hynny sydd wedi cyflwyno gwelliannau i'r Bil heddiw. Er na fu'n bosibl cytuno ar bob gwelliant, a gaf i ddweud ar goedd yr hoffwn sicrhau'r Aelodau fy mod wedi ystyried pob gwelliant a gyflwynwyd yn ofalus?

Gan droi at y gwelliannau yn y grŵp hwn, fel y nodais pan gyflwynwyd hyn yng Nghyfnod 2, gwrthodaf welliant 119, sy'n gohirio'r darpariaethau yr effeithir arnynt fel na ddônt i rym tan 1 Ionawr 2024. Bydd hyn yn atal gwneud unrhyw Orchmynion, gan gynnwys mewn perthynas â'r pwerau hynny sy'n angenrheidiol i wneud trefniadau paratoadol i gefnogi gweithredu'r comisiwn mewn modd sy'n sicrhau parhad y ddarpariaeth ar gyfer y sector ac yn cefnogi pontio didrafferth i'r comisiwn. Wrth sefydlu'r comisiwn newydd, bydd y Bil yn dwyn ynghyd am y tro cyntaf y trefniadau o ran ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, gan roi dysgwyr wrth ei wraidd. Fel y dywedais i o'r blaen, mae'n hen bryd gweld y newid hwn, ac mae'n hanfodol bod hynny'n digwydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol, gan sicrhau ar yr un pryd bod y gweithredu'n gadarn ac nad yw rhanddeiliaid yn cael eu gorlwytho. O ran Deddf y farchnad fewnol, sef y cyfeiriad y credaf fod yr Aelod yn ei wneud, gallaf gadarnhau nad wyf yn ystyried bod unrhyw oblygiadau i'r Bil hwn, ac nid wyf o'r farn ei fod yn gwarantu oedi sylweddol i'r gweithredu.

Gwrthodaf hefyd welliant 120, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i'r comisiwn mewn perthynas â'r modd y dylai arfer ei swyddogaethau a hefyd adolygu'r canllawiau hynny'n flynyddol. Wrth sôn am y gwelliant, cyfeiriodd Laura Anne Jones ato'n darparu ar gyfer llythyr cylch gwaith blynyddol, i bob pwrpas, ac nid wyf o'r farn y byddai'r gwelliant hwn yn darparu ar gyfer hynny mewn gwirionedd, ac yn gyffredinol mae arnom ni eisiau edrych yn fwy hir dymor, yn hytrach na'r trefniadau blynyddol sydd ar waith ar hyn o bryd. Yn allweddol, nid wyf yn ystyried bod y gwelliant yn cefnogi'r egwyddor bod y comisiwn yn gorff hyd braich. Yn hytrach, mae'n darparu ar gyfer proses fiwrocrataidd a beichus sy'n peryglu gallu'r comisiwn i ystyried y safbwynt strategol hirdymor fel yr hoffem iddo ei wneud. 

Rwy'n ffyddiog mai ein dull o'r comisiwn yn gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, o fewn fframwaith cynllunio ac ariannu strategol, yw'r ffordd gywir ymlaen i gyflawni ein huchelgeisiau. Fodd bynnag, ni fyddai'r dull hwn yn ein hatal rhag darparu llythyr cylch gwaith blynyddol i'r comisiwn, pan fo angen hynny a phan fo'n briodol, gan fod y dewis hwnnw'n parhau i fod yn rhan o'r berthynas safonol rhwng Llywodraeth Cymru a chorff a noddir ganddi. Yn ogystal, mae adran 20 o'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r comisiwn roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o ran ei swyddogaethau o dan y Bil, y gwahaniaeth yma yw y gellir cyhoeddi canllawiau os oes angen yn hytrach na dyletswydd i gyhoeddi canllawiau ar holl swyddogaethau'r comisiwn ar unwaith, p'un a oes angen canllawiau o'r fath ai peidio. Nid yw'n fwriad gennyf gyhoeddi canllawiau i'r comisiwn ar eu holl swyddogaethau. Fel y stiward cenedlaethol ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru, bwriadaf i'r comisiwn gael yr ymreolaeth i weithredu fel corff hyd braich.

Rwyf hefyd yn gwrthod y gwelliannau sy'n weddill yn y grŵp hwn, sy'n tanseilio'r arfer hirsefydlog o benodi Gweinidogion i gyrff cyhoeddus. Fel yr wyf wedi cadarnhau yn ystod y camau blaenorol, bydd y Llywydd, y cadeirydd a'r dirprwy gadeirydd a'r prif weithredwr yn ymddangos o flaen pwyllgor perthnasol y Senedd ar gyfer gwrandawiadau rhagarweiniol. Yng ngoleuni hynny, galwaf ar Aelodau i wrthod yr holl welliannau yn y grŵp hwn.

16:05

Diolch, Llywydd. Diolch am eich ymateb, Gweinidog. Rwy'n siomedig, ond heb fy synnu, fod y Gweinidog wedi gwrthod fy ngwelliannau, ond hoffwn bwysleisio pwysigrwydd sicrhau cyfathrebu priodol eto rhwng Gweinidogion Cymru a'r comisiwn ynghylch ei gylch gwaith. Teimlaf hefyd fod yn rhaid i ni bwysleisio'r rheidrwydd llwyr i warantu dull gweithredu hyd braich effeithlon, a'r gwerth a fyddai'n dod yn sgil ymestyn amser cymhwyso'r Bil. Mae'n hanfodol i lwyddiant y comisiwn fod ganddo ymreolaeth ac annibyniaeth i deimlo mewn difrif calon y gall wneud penderfyniadau y bernir eu bod yn angenrheidiol heb ddylanwad gormodol Gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Rwy'n gwybod beth mae'r Gweinidog wedi'i ddweud o'r blaen am y broses penodiadau cyhoeddus, fel yr ydym ni wedi'i glywed o'r blaen mewn dadleuon blaenorol gan y Gweinidog iechyd ar y corff llais dinasyddion yn ystod hynt Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, ac yn fwyaf diweddar, yng Nghyfnod 2 o'r Bil hwn. Er nad oes arnom ni, wrth gwrs, eisiau bod yn rhy haearnaidd am strwythur y comisiwn, rwyf i a fy ngrŵp wedi dod yn fwyfwy pryderus bod rhai penodiadau'n agosach at Lywodraeth Cymru na bod yn wirioneddol annibynnol. Yn naturiol, hyn a hyn yw'r niferoedd sydd genym ni yng Nghymru, ond credaf fod achos i'w wneud y dylai Aelodau'r comisiwn fod wedi cael eu holi a'u gwerthuso gan y pwyllgor. Nid wyf yn siŵr a yw ymateb y Gweinidog yn y pwyllgor wedi lleddfu'r pryderon sydd gen i yn bersonol ynghylch gwahanu Llywodraeth Cymru a'r comisiwn, yn enwedig gan nad oedd yn ystyried bod angen gosod unrhyw ddarpariaeth ar wyneb y Bil. Cynigiaf ein gwelliannau.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 120? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly symudwn ni i bleidlais ar welliant 120. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 120: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 121 (Laura Anne Jones).

Gwelliant 121. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 121. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 121 wedi ei wrthod.

Gwelliant 121: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 122 (Laura Anne Jones).

Gwelliant 122. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gymrwn ni bleidlais ar welliant 122.

Gwelliant 122 yn enw Laura Anne Jones.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 122 wedi'i wrthod.

16:10

Gwelliant 122: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 123 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 123? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Symudwn ni i bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 123.

Gwelliant 123, yn enw Laura Jones.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 123 wedi'i wrthod.

Gwelliant 123: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 124 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig.

A ddylid derbyn gwelliant 124? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Ac felly, symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 124.

Gwelliant 124, yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 124 wedi'i wrthod.

Gwelliant 124: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 125 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig.

A oes gwrthwynebiad i welliant 125? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, cymrwn ni bleidlais ar welliant 125. Agor y bleidlais.

Gwelliant 125, yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 125 wedi'i wrthod.

Gwelliant 125: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 126 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae, i welliant 126. Symudwn i bleidlais ar welliant 126, yn enw Laura Jones.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 126 wedi'i wrthod.

Gwelliant 126: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 127 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig.

A oes gwrthwynebiad i welliant 127? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly symudwn i'r bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 127.

Gwelliant 127, yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 127 wedi'i wrthod.

Gwelliant 127: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 128 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig. 

A oes gwrthwynebiad i welliant 128? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gawn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 128.

Gwelliant 128, yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 128 wedi'i wrthod.

Gwelliant 128: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 129 (Laura Anne Jones).

129 wedi ei gynnig. 

A oes gwrthwynebiad i welliant 129? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 129. Agor y bleidlais.

Gwelliant 129, yn enw Laura Jones.

O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 129 wedi'i wrthod.

Gwelliant 129: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 130 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig. 

Gwelliant 130, a oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, mae yna bleidlais ar welliant 130. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 130, Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 130 wedi'i wrthod.

16:15

Gwelliant 130: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 131 (Laura Anne Jones).

Mae gwelliant 131 wedi'i gynnig. A oes gwrthwynebiad i 131? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna.

Felly, fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 131. Agor y bleidlais.

Gwelliant 131 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 131 wedi'i wrthod.

Gwelliant 131: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 132 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig.

Oes gwrthwynebiad i welliant 132? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly, symudwn ni i bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 132.

Gwelliant 132 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais.

Effeithiol iawn.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 132 wedi'i wrthod.

Gwelliant 132: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 133 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig.

Felly, oes gwrthwynebiad i 133? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly symudwn i bleidlas ar welliant 133. Agor y bleidlais. 

Gwelliant—[Anhyglyw.]

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae 133 wedi'i wrthod.

Gwelliant 133: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 134 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig.

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 134. Agor y bleidlais—

—ar welliant 134 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 134 wedi'i wrthod.

Gwelliant 134: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 135 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig.

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 135. Agor y bleidlais.

Gwelliant 135 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 135 wedi'i wrthod.

Gwelliant 135: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 136 (Laura Anne Jones).

Wedi ei gynnig.

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gwrthwynebiad. Felly, fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 135—no, 136. Gwelliant 136.

Gwelliant 136.

Agor y bleidlais.

Gwelliant 136 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 136 wedi'i wrthod.

Gwelliant 136: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 137 (Laura Anne Jones).

Mae'r gwelliant wedi'i gynnig.

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 137. Agor y bleidlais.

Gwelliant 137 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 137 wedi'i wrthod.

16:20

Gwelliant 137: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 138 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig.

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Agorwn ni'r bleidlais ar welliant 138.

Gwelliant 138, Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 138 wedi'i wrthod.

Gwelliant 138: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 139 (Laura Anne Jones).

Mae wedi ei gynnig.

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 139.

Gwelliant 139 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 139 wedi'i wrthod.

Gwelliant 139: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 140 (Laura Anne Jones).

Wedi ei gynnig.

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, cymrwn ni bleidlais ar welliant 140. Agor y bleidlais.

Yn agor y bleidlais. Gwelliant 140 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 140 wedi'i wrthod.

Gwelliant 140: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 141 (Laura Anne Jones).

Mae 141 wedi ei gynnig. 

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 141. Agor y bleidlais.

Dyma welliant 141 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 141 wedi'i wrthod.

Gwelliant 141: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 142 (Laura Anne Jones).

Gwelliant 142 wedi'i gynnig. Felly, oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 142. Agor y bleidlais.

Gwelliant 142 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 142 wedi ei wrthod.

16:25

Gwelliant 142: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 143 (Laura Anne Jones).

Gwelliant 143. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 143 yn enw Laura Jones.

Gwelliant 143.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae 143 wedi ei wrthod.

Gwelliant 143: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 144 (Laura Anne Jones).

Mae gwelliant 144 wedi'i gynnig. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.]

Oes. Felly pleidlais ar welliant 144. Agor y bleidlais.

Gwelliant 144 yn enw Laura Jones. 

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 144 wedi ei wrthod.

Gwelliant 144: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 145 (Laura Anne Jones).

Symud. Diolch yn fawr. Mae'r gwelliant wedi ei gynnig. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, bydd yna bleidlais ar welliant 145. Agor y bleidlais.

Gwelliant 145 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 145 wedi ei wrthod.

Gwelliant 145: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 146 (Laura Anne Jones).

Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 146? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 146. Agor y bleidlais.

Gwelliant 146 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 146 wedi ei wrthod.

Gwelliant 146: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 147 (Laura Anne Jones).

Mae'r gwelliant wedi ei symud, 147. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 147.

Gwelliant 147 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 147 wedi ei wrthod.

Gwelliant 147: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 148 (Laura Anne Jones).

Mae gwelliant 148 wedi ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, awn ni i bleidlais ar welliant 148. Agor y bleidlais.

Gwelliant 148.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 148 wedi ei wrthod.

Gwelliant 148: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 149 (Laura Anne Jones).

Mae gwelliant 149 wedi ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, awn ni i bleidlais ar welliant 149. Agor y bleidlais.

Gwelliant 149.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 149 wedi ei wrthod.

Gwelliant 149: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 150 (Laura Anne Jones).

Wedi ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly awn ni i bleidlais ar welliant 150. Agor y bleidlais.

Gwelliant 150.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 150 wedi'i wrthod. 

16:30

Gwelliant 150: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 151 (Laura Anne Jones).

Wedi'i symud. Felly, gwelliant 151. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac fe awn ni i bleidlais ar welliant 151. Agor y bleidlais.

Gwelliant 151.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 151 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 151: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 152 (Laura Anne Jones).

Mae gwelliant 152 wedi'i symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly awn ni i bleidlais ar welliant 152. Agor y bleidlais.

Gwelliant 152.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 152 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 152: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cyn imi symud ymlaen, a gaf i wirio fod gan unrhyw un sy'n pleidleisio o bell ei gamera ymlaen? Diolch ichi am hynny. Felly, byddwn yn symud ymlaen. Gwelliant 153. Laura Jones, a yw'n cael ei gynnig? 

Cynigiwyd gwelliant 153 (Laura Anne Jones).

Symud. Felly, mae gwelliant 153 wedi'i symud. Gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, awn ni i bleidlais ar welliant 153. Agor y bleidlais ar welliant 153.

Gwelliant 153.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwelliant 153 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 153: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 154 (Laura Anne Jones).

Gwelliant 154 wedi'i symud. Gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 154. Agor y bleidlais.

Gwelliant 154.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwelliant 154 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 154: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 155 (Laura Anne Jones).

Wedi symud gwelliant 155. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 155. 

Agor y bleidlais—gwelliant 155. 

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 155 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 155: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 156 (Laura Anne Jones).

Wedi'i symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, pleidlais ar welliant 156. Agor y bleidlais.

Gwelliant 156.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly mae gwelliant 156 wedi'i wrthod.

16:35

Gwelliant 156: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 157 (Laura Anne Jones).

Wedi symud gwelliant 157. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 157. Agor y bleidlais.

Gwelliant 157.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly mae gwelliant 157 wedi'i wrthod.

Gwelliant 157: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 158 (Laura Anne Jones).

Wedi'i symud mae gwelliant 158. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, awn ni i bleidlais ar welliant 158. Agor y bleidlais.

Gwelliant 158.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 158 wedi'i wrthod.

Gwelliant 158: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 159 (Laura Anne Jones).

Wedi'i symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly gwrthwynebiad i welliant 159. Agor y bleidlais felly.

Gwelliant 159.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly mae 159 wedi'i wrthod.

Gwelliant 159: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Y gwelliant olaf yn y grŵp yma, gwelliant 160, ac felly ydy gwelliant 160 yn cael ei symud?

Cynigiwyd gwelliant 160 (Laura Anne Jones).

Mae'r gwelliant wedi'i symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, awn ni i bleidlais ar welliant 160.

Agor y bleidlais, gwelliant 160.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly mae gwelliant 160 wedi'i wrthod.

Gwelliant 160: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 2: Dysgu o bell (Gwelliannau 1, 2, 3, 4, 5, 7, 8, 9, 10, 11, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 37, 38, 42, 47, 48, 49, 50, 51, 63, 64, 67, 68, 69)

Grŵp 2 nawr yw'r grŵp nesaf, ac mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â dysgu o bell. Gwelliant 1 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y cynnig ar y prif welliant. Jeremy Miles.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Jeremy Miles).

Diolch Llywydd. Galwaf ar Aelodau i gefnogi'r gwelliannau technegol ond pwysig hyn sy'n sicrhau bod cyrsiau dysgu o bell a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru, neu ar eu rhan, yn cael eu cynnwys yn y darpariaethau perthnasol yn y Bil, a hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwysiad tiriogaethol y Bil.

Llywydd, yn ystod y pandemig, llwyddodd y sector addysg drydyddol yng Nghymru i addasu'n gyflym, drwy gynyddu faint o addysgu a dysgu a ddarparwyd o bell ac ar-lein. Yn y dyfodol, rydym yn disgwyl y bydd mwy o ddefnydd o ddarpariaeth hybrid o addysgu a dysgu, ac mae'n bwysig bod y gyfraith yn parhau i fod yn gyfredol gyda hyn, gan ragweld a galluogi darparwyr i gyflawni ar ran dysgwyr.

Mae gwelliannau 1 i 5, 7, 10 ac 11 yn egluro'r cymhwysiad tiriogaethol o ddyletswyddau strategol y comisiwn mewn perthynas â chyfle cyfartal, gwelliant parhaus, ac addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg. Mae'r dyletswyddau hyn bellach yn berthnasol i addysg drydyddol yng Nghymru, a ddiffinnir gan welliant 68 fel addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr addysg drydyddol yng Nghymru, neu a ariennir neu a sicrheir fel arall gan y comisiwn.

Mae gwelliant 69 yn sicrhau bod cyfeiriadau at ddarparu addysg drydyddol gan ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru, neu ar eu rhan, yn cynnwys cyrsiau addysg drydyddol a ddarperir mewn un neu fwy o leoedd yng Nghymru neu rywle arall ac ar ffurf dysgu o bell.

Bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau bod y dyletswyddau strategol hyn yn berthnasol i addysg drydyddol a ddarperir gan ddarparwyr yng Nghymru drwy ddysgu o bell, neu ddarpariaeth wyneb yn wyneb a ddarperir y tu allan i Gymru, a hefyd addysg drydyddol a ariennir neu a sicrheir fel arall gan y comisiwn.

Mae gwelliannau 8 a 9 yn diwygio'r cymhwysiad tiriogaethol o'r ddyletswydd strategol i hyrwyddo cydlafurio a chydlynu mewn addysg drydyddol ac ymchwil. Bydd y ddyletswydd bellach yn ymgorffori darparwyr yng Nghymru, sef sefydliadau y mae eu gweithgareddau'n cael eu cyflawni'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.

Mae gwelliannau 14 a 15 yn egluro bod y diffiniad o 'gyrsiau cymhwysol' at ddibenion terfynau ffioedd o dan adran 32 o'r Bil yn cynnwys cyrsiau a ddarperir gan ddarparwr cofrestredig sy'n dod o fewn categori terfynau ffioedd, pan fo cyrsiau o'r fath yn cael eu darparu yng Nghymru neu rywle arall naill ai wyneb yn wyneb neu ar ffurf dysgu o bell. Mae hyn yn egluro'r gyfraith i sicrhau bod terfynau ffioedd ar gyfer cyrsiau cymhwysol yn berthnasol hyd yn oed pan fo myfyriwr yn dilyn y cwrs ar ffurf dysgu o bell, a lle darperir y cwrs yng Nghymru neu rywle arall.

Mae gwelliannau 16 i 20 yn egluro bod yr amodau cofrestru mewn perthynas â chyfle cyfartal yn berthnasol i gyrsiau wyneb yn wyneb a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru a chyrsiau dysgu o bell lle y gellir dweud bod y cyrsiau hynny'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru oherwydd lleoliad daearyddol staff dysgu a myfyrwyr. Mae gwelliant 21 yn ganlyniadol i'r gwelliannau hyn ac yn egluro'r diffiniad o 'grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol'.

Mae gwelliant 22 yn egluro cymhwysiad tiriogaethol y pwerau mynediad ac arolygu o dan adran 74 yn y Bil drwy ddatgan bod pwerau o'r fath yn gymwys mewn perthynas â lleoliadau yng Nghymru ac yn Lloegr.

Mae gwelliannau 37, 38 a 42, a'r diffiniad cysylltiedig o 'gyfleusterau i Gymru' yng ngwelliant 67, yn diwygio dyletswyddau'r comisiwn i sicrhau cyfleusterau ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant yng Nghymru ac ar gyfer pobl sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru. Gall hyn gynnwys darpariaeth ar ffurf dysgu o bell neu ddarpariaeth wyneb yn wyneb sy'n digwydd y tu allan i Gymru ac mae'n gyson ag effaith y dyletswyddau cyfatebol yn y ddeddfwriaeth bresennol.

Mae gwelliannau 47 i 51 yn diwygio cwmpas tiriogaethol y pwerau i ariannu gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysg drydyddol. Mae gwelliannau 47 a 48 yn ymwneud â phwerau Gweinidogion Cymru a'r comisiwn i ariannu gwybodaeth am addysg a hyfforddiant a chyfleusterau i gysylltu cyflogwyr a'r rhai sy'n darparu neu'n derbyn addysg a hyfforddiant o dan adran 102(1). Mae'r diwygiadau'n caniatáu i addysg o'r fath gynnwys addysg drydyddol a ddarperir gan ddarparwyr yng Nghymru, addysg drydyddol a ariennir neu a sicrheir fel arall gan y comisiwn, ac unrhyw addysg neu hyfforddiant arall a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, neu a ddarperir naill ai wyneb yn wyneb neu ar ffurf dysgu o bell i bobl sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru.

Mae gwelliannau 49 a 50 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â phwerau'r comisiwn i ariannu addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg ac i addysgu'r Gymraeg drwy gyfrwng addysg drydyddol. Mae gwelliant 51 yn darparu'r diffiniad o 'addysg berthnasol' at y dibenion hyn.

Yn olaf, mae gwelliannau 63 a 64 yn yr un modd yn diwygio cwmpas tiriogaethol pwerau Gweinidogion Cymru a'r comisiwn i ariannu ymchwil mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant.

Galwaf ar Aelodau i gefnogi'r holl welliannau hyn.

16:40

Does gyda fi ddim siaradwyr eraill ar y grŵp yma. Dwi'n cymryd bod y Gweinidog, felly, ddim angen ymateb. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw wrthwynebiad?

A oes gwrthwynebiad i welliant 1? Nac oes. 

Nac oes, felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Jeremy Miles).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 2? Nac oes, ac felly mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Jeremy Miles).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 4? Nac oes, ac felly mae gwelliant 4 wedi'i dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 5 (Jeremy Miles).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 5? Nac oes, felly mae gwelliant 5 wedi'i dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 3: Anghenion Dysgu Ychwanegol (Gwelliant 6)

Grŵp 3 sydd nesaf. Mae grŵp 3 o welliannau'n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol. Gwelliant 6 yw'r prif welliant, a'r unig welliant, yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig gwelliant 6, felly. 

Cynigiwyd gwelliant 6 (Jeremy Miles).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 6 yn ychwanegu cyfeiriad at unigolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol at adran 4 y Bil, sy'n darparu ar gyfer y ddyletswydd strategol o ran annog pobl i gymryd rhan mewn addysg drydyddol. Mae adran 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn

'annog unigolion sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru i gymryd rhan mewn addysg drydyddol'.

Mae'r gwelliant hwn yn newid yr adran hon i gynnwys cyfeiriad penodol at

'unigolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol'. 

Er bod y ddyletswydd, fel y'i cyflwynwyd, yn cynnwys pob unigolyn, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, fel y nodais yng Nghyfnod 2, rwy'n cyflwyno'r gwelliant hwn i gynnwys cyfeiriad penodol ar wyneb y Bil i roi y tu hwnt i unrhyw amheuaeth bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o fewn cwmpas y ddyletswydd strategol. Hoffwn ddiolch yn benodol i Laura Anne Jones am y dull adeiladol y mae wedi ei fabwysiadu o ran trafodaethau yng nghyswllt y gwelliant hwn, sy'n cymryd i ystyriaeth y trafodaethau a gawsom yn ystod trafodion Cyfnod 2 yn y pwyllgor. Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant pwysig hwn.

16:45

Rwy'n cydnabod bod y Gweinidog wedi cymryd rhywfaint o gamau yn hyn o beth, ac rydym ni'n croesawu hynny, wrth gwrs, a diolch am gydnabod ein cyfraniad ato. Ond, mae angen i ni weld y comisiwn yn bod yn eglur ynghylch sut y byddan nhw'n trin pobl ag anghenion dysgu ychwanegol yn eu polisi, yn enwedig o ran interniaethau a phrentisiaethau â chymorth, sy'n cael eu hintegreiddio i'r Bil. Mae rhwystrau eisoes yn bodoli i'r rheini ag anableddau dysgu sy'n ymuno â'r gweithlu, a gallai'r Bil hwn fod yn gyfle enfawr i chwalu'r rhwystrau hynny.

Mae'r Gweinidog yn ymwybodol bod y pwyllgor wedi mynegi ei bryderon am y comisiwn o ran Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a nodaf ei ymateb, a soniodd fod trefniadau manwl ar gyfer gweithredu diwygiadau ADY ôl-16 yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd. Byddwn yn ddiolchgar felly pe bai'r Gweinidog yn egluro pryd y mae'n disgwyl i'r trefniadau manwl hyn gael eu gweithredu a sut y bydd y rhain yn effeithio ar bolisi'r comisiwn ar ddarparu ADY yn y sectorau addysg drydyddol ac uwch. Hoffwn wybod hefyd a fydd cyllid ar gyfer interniaethau a phrentisiaethau â chymorth yn cael ei gynnwys yn y polisi hwn. 

Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cychwyn diwygiadau sylweddol i ADY yn y sector addysg, a chan fod ADY yn para am oes, mae angen i ni sicrhau bod pontio di-dor o ysgolion i addysg drydyddol ac yna, os yw'n bosibl, ymlaen i weithio. Diolch, Llywydd.

Mae Plaid Cymru'n cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp yma, ac yn sicr gwelliant 6, sy'n ymateb, fel y clywon ni, i faterion a godwyd yn ystod Cyfnod 2 o graffu. Fel y dywedodd y Gweinidog a Laura Anne Jones, mae'n gyfnod o ddiwygiad arwyddocaol ym maes ADY, ac mae'n hanfodol i sicrhau bod y Bil hwn, sy'n cyflwyno diwygiadau mawr ym maes addysg drydyddol, yn cyflawni dros ein dysgwyr ADY hefyd. Fel y gwyddom, mae yna rwystrau mawr i bobl ag anableddau dysgu rhag cael mynediad i'r gweithlu, ac mae'r Bil hwn yn gyfle gwirioneddol i geisio gwaredu rhai o'r rhwystrau hynny, fel y dywedodd Laura Anne Jones. Ac fel y cafodd ei gydnabod gan y Gweinidog yn ystod Cyfnod 2, mae'n hanfodol bod yna lwybr dirwystr a llyfn o addysg statudol i gyfleoedd ôl-16 ac yna i'r gweithle. Fel nododd y Gweinidog yn ystod Cyfnod 2, bydd gan y comisiwn rôl i'w chwarae wrth asesu a yw adnoddau yn ddigonol ar gyfer darpariaeth ADY ar lefel poblogaeth gyffredinol. Felly, beth hoffwn i glywed gan y Gweinidog yw sut y mae'n rhagweld y bydd y comisiwn yn annog unigolion sy'n byw yng Nghymru i gyfranogi mewn addysg drydyddol.

Gaf i ddiolch i Laura Anne Jones ac i Sioned Williams am eu cefnogaeth am yr hyn roeddwn i'n cynnig yn y gwelliant hwn ac i gydnabod y drafodaeth bositif a chydweithredol a gafwyd yng Nghyfnod 2 y Bil? O ran y cwestiwn a ofynnodd Laura Anne Jones, mater wrth gwrs i'r comisiwn fydd hyn, ond mae gwaith yn digwydd eisoes o ran rhoi'r Ddeddf hon ar waith o ran camau gweithredol, a bydd y diwygiad hwn i'r Bil yn cael ei gymryd i mewn i ystyriaeth wrth gwrs yn y cyd-destun penodol hwnnw. Ac fel y gwnaeth Sioned Williams grybwyll yn ei chwestiwn hi, mae e wir yn bwysig i sicrhau bod dilyniant i bobl gydag anghenion dysgu ychwanegol, ac mae'r ychwanegiad hwn yn gwneud hynny'n gwbl eglur ar wyneb y Bil. 

Hoffwn i jest ail-ddweud bod yr hyn oedd yn y Bil pan gafodd ei gyflwyno yn sicrhau bod rôl strategol y comisiwn i ddarparu ar draws y system yn glir a bod hynny'n cyd-fynd â'r diwygiadau o ran y ddeddfwriaeth sydd eisoes gyda ni o ran anghenion dysgu ychwanegol, a hwnnw sydd yn caniatáu gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill sydd â chyfrifoldebau penodol i ddarparu yng nghyd-destun unigolion.

Y cwestiwn nawr, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 6?

A oes gwrthwynebiad i welliant 6? 

Nac oes, ac felly derbynnir gwelliant 6.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 7 (Jeremy Miles).

Gwelliant 7. A oes gwrthwynebiad i welliant 7? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 7. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Jeremy Miles).

Felly, gwelliant 8. A oes gwrthwynebiad i amendment 8? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 8.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16:50

Cynigiwyd gwelliant 10 (Jeremy Miles).

A oes gwrthwynebiad i welliant 10? Nac oes, felly derbynnir gwelliant 10 hefyd. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 4: Darpariaeth cyfrwng Cymraeg (Gwelliannau 79, 80)

Grŵp 4 nawr yw'r grŵp nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Gwelliant 79 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Laura Anne Jones i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r grŵp. Laura Jones. 

Cynigiwyd gwelliant 79 (Laura Anne Jones).

Diolch, Llywydd. Hoffwn siarad am fy ngwelliannau 79 ac 80. Diben y gwelliannau hyn yw cryfhau'r ddyletswydd ar y comisiwn i hyrwyddo addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg i adlewyrchu uchelgeisiau 'Cymraeg 2050'. 

O ran gwelliant 79, rwyf i wedi dewis ailgyflwyno'r gwelliant hwn gan fy mod i'n dal i gredu ei fod yn hanfodol i adlewyrchu swyddogaeth bwysig y comisiwn o ran cyrraedd yr amcan o filiwn o siaradwyr Cymraeg. 

O ran gwelliant 80, mae hwn i ddiwygio gwelliannau Cyfnod 2 y Gweinidog. Y rheswm am hyn yw i ychwanegu eglurder a ffocws at welliannau'r Gweinidog o ran 'Cymraeg 2050', drwy sicrhau bod cyfeiriad penodol yn cael ei wneud at y ddarpariaeth o adnoddau. Gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn gweld y gwerth yn hyn. Diolch.

Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi'r egwyddor o sicrhau adnoddau i gwrdd, hyrwyddo ac ehangu'r galw am addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg, ac fe fuom ni'n lleisio ein pryderon am hyn yn ystod Cyfnod 1 a 2, pryderon a oedd wedi cael eu rhannu yng Nghyfnod 1 gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg. Roeddwn i'n falch wedyn o weld felly yn ystod Cyfnod 2 welliant cadarn i warantu bod angen i'r comisiwn nid yn unig gwrdd â'r galw, ond hefyd hyrwyddo, annog a sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rydym yn gytûn gyda'r Llywodraeth bod y dyletswydd strategol sy'n cael ei grybwyll yng ngwelliant 11 yn ateb y pryderon, a bod gwelliannau 79 ac 80 yn amhriodol gan fod y cwestiwn o adnoddau yn rhan o'r dyletswydd strategol i annog y galw. 

Os ydym am gyrraedd y miliwn o siaradwyr erbyn 2050, yna mae hyrwyddo manteision darpariaeth cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr a myfyrwyr, wrth gwrs, yn gwbl greiddiol. Mae angen i ni feithrin hyder dysgwyr bod llwybrau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn bosib iddynt, ac yn sicrhau bod y llwybrau hynny yn eu denu, ac y bydd y gefnogaeth briodol, wrth gwrs, yno ar eu cyfer. 

Cefais fy nghalonogi hefyd yng Nghyfnod 2 yn enwedig o ran sylwadau'r Gweinidog am rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hyn o beth, a'i berthynas gyda'r comisiwn. Wrth gwrs, rydym o'r farn bod yn rhaid i'r coleg benderfynu a chynghori ar sut i ddyrannu unrhyw adnoddau ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy'r comisiwn, a'u bod yn cael eu sianelu felly drwy'r coleg. Roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog yn cadarnhau bod ganddynt rôl hanfodol i'w chwarae i sicrhau dilyniant o addysg statudol i addysg ôl-16 drwy gydweithio gyda'r comisiwn. Felly, byddwn yn falch o gael cadarnhad o weledigaeth y Gweinidog yn hynny o beth y prynhawn yma.   

Diolch, Llywydd. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, dwi'n gwbl argyhoeddedig bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, a rhaid i ni barhau i annog a chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, yn enwedig yn ein sector addysg drydyddol. A gaf i longyfarch Laura Anne Jones ar ei defnydd o'r Gymraeg yn y Siambr y prynhawn yma heddiw? 

Bydd Aelodau’n ymwybodol bod y dyletswydd strategol mewn perthynas â hyrwyddo addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg wedi’i ddiwygio yng Nghyfnod 2, fel y soniwyd eisoes, gan ehangu'r dyletswydd i’w gwneud yn ofynnol i'r comisiwn annog y galw am a chyfranogiad mewn addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Er fy mod i’n croesawu cefnogaeth yr Aelod ar gyfer adnoddau i gynyddu cyfranogiad mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ni allaf gefnogi gwelliant 79 na gwelliant 80, gan fod darparu adnoddau wedi’i gynnwys yn y gofyniad i annog y galw am a chyfranogiad mewn addysg drydyddol a ddarperir yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai nodi risg o ran adnoddau yn golygu bod y dyletswydd yn llai clir, gan y gallai gyflwyno amwysedd ynghylch a yw darparu adnoddau yn dod o fewn cwmpas y dyletswydd i annog galw.

O ran y cwestiwn oddi wrth Sioned Williams, mae'r memorandwm esboniadol nawr wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r hyn a gytunwyd yng Nghyfnod 2. Felly, mae'r esboniad ehangach ynghlwm yn hwnnw. 

Felly, rwy'n galw ar Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn.

Diolch. Diolch, Gweinidog. Rwy'n siomedig bod y Gweinidog wedi gwrthod fy ngwelliant, gan ei fod yn anghytuno â'r syniad o sôn yn benodol am ddarparu adnoddau yn ein hymgais i fodloni amcanion 'Cymraeg 2050'. 

Er fy mod i'n cytuno â llawer o'r hyn y mae'r Aelod dros Blaid Cymru newydd ei ddweud, rwy'n siomedig bod y Gweinidog wedi gwrthod fy ngwelliant i'w welliant Cyfnod 2, oherwydd, yn fy marn i, ni fyddai ond yn gwella'r gwelliant. Felly, gofynnaf i'r Aelodau ei gefnogi.

Gwelliant 79, felly. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 79? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly cymrwn ni bleidlais ar welliant 79. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 79 wedi'i wrthod.

16:55

Gwelliant 79: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 11 (Jeremy Miles).

Ydy. Gwelliant 11—amendment 11. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Does yna ddim gwrthwynebiad i welliant 11. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 80 (Laura Anne Jones).

Symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 80? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 80. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 80 yn enw Laura Jones.

Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 80 wedi'i wrthod.  

Gwelliant 80: O blaid: 17, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 5: Awtonomi sefydliadol, rhyddid academaidd a rhyddid mynegiant (Gwelliannau 166, 81, 82, 83, 84)

Grŵp 5 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud ag awtonomi sefydliadol, rhyddid academaidd a rhyddid mynegiant. Gwelliant 166 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Sioned Williams i gynnig y prif welliant hwnnw ac i siarad i'r grŵp. Sioned Williams. 

Cynigiwyd gwelliant 166 (Sioned Williams)

Diolch, Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i agor y ddadl ar grŵp 5, ac yn benodol i siarad i welliant 166, a gyflwynwyd yn fy enw i. Yn ystod ein gwaith craffu ar y Bil fel y’i cyflwynwyd, roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awyddus i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon a’r trefniadau newydd y bydd yn eu creu yn cynnal ac yn ymestyn yr egwyddor hir sefydlog ynghylch rhyddid academaidd—hynny yw, bod angen pen rhyddid i’n cymuned academaidd i ddilyn eu diddordebau ymchwil eu hunain, waeth beth fo testun yr ymchwil hwnnw, a bod angen gwarchodaeth arnynt i wneud hynny, yn rhydd rhag unrhyw ragfarn neu ganlyniadau andwyol yn ei sgil, gan fod yr annibyniaeth barn honno yn gallu herio cymdeithas, sefydliadau, Llywodraethau ac yn y blaen, ond yn eu cyfoethogi hefyd.

Fy nod wrth gyflwyno’r gwelliant yw adeiladu ar y cryfhau a fu ar y Bil yn ystod, ac yn dilyn, Cyfnod 2, yn benodol, adran 17 o’r Bil, fel sydd ger ein bron heddiw. Mae adran 17(1) fel y mae yn creu gofyn ar i Weinidog Cymru a’r comisiwn arfaethedig roi sylw i bwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch, i’r graddau y mae’r rhyddid yn ymwneud ag addysg uwch a staff academaidd y darparwyr hynny.

Fe fydd Aelodau sydd wedi darllen y Bil yn ofalus, a dwi’n siŵr eich bod chi i gyd wedi gwneud, yn gweld bod diffiniad o ddarparwr addysg uwch i'w ganfod yn adran 141 o’r Bil, a bod hynny yn cynnwys darparu addysg drwy gwrs. Fodd bynnag, mae gweithgareddau’r sefydliadau hyn mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi yn ehangach na darparu addysg drwy gwrs, ac fe allant gynnwys rhaglenni ymchwil ôl-raddedig a phrosiectau arloesedd. Mae’n bwysig, felly, fod y warchodaeth o safbwynt rhyddid academaidd yn cydio yn y gweithgareddau hyn hefyd.

Mae’r gwelliant hwn felly yn diwygio ymhellach isadran 1 i gadarnhau bod y rhyddid hwnnw yn ymestyn i weithgareddau ymchwil ac arloesi a darparu addysg uwch, ill dau. Gofynnaf i’r Aelodau felly gefnogi’r gwelliant hwn, fydd yn hwyluso ac yn rhoi eglurder a sicrwydd pellach ynghylch hyd a lled y ddarpariaeth bwysig hon. Diolch.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Sioned Williams am gyflwyno'r ddadl hon. Hoffwn gynnig gwelliannau 81, 82, 83 ac 84. Diben y gwelliannau hyn yw adlewyrchu cynnwys cymal 1 Bil Addysg Uwch y DU (Rhyddid i Lefaru), sy'n cwmpasu cyrff llywodraethu darparwyr addysg uwch yng Nghymru. Byddai hyn yn golygu bod yn rhaid i gyrff llywodraethu gymryd camau i sicrhau rhyddid i lefaru o fewn y gyfraith i aelodau staff, myfyrwyr a siaradwyr gwadd. Maen nhw hefyd yn gorfodi cyrff llywodraethu darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru i gynnal y cod ymarfer sy'n nodi'r materion y cyfeirir atyn nhw yn is-adran 2.

Byddai'r cod ymarfer yn nodi materion gan gynnwys gwerthoedd y darparwyr o ran rhyddid i lefaru a'i gynnal, gweithdrefnau i'w dilyn gan staff a myfyrwyr wrth drefnu cyfarfodydd a gweithgareddau ar safle'r darparwyr, ac unrhyw faterion eraill y mae pob corff llywodraethu yn barnu eu bod yn briodol. Mae'r gwelliannau hefyd yn sicrhau amddiffyniad o ryddid academaidd a'r rhyddid i lefaru yn y Bil, yn ogystal â'i gwneud yn eglur na ellir cyflwyno hawliadau gwamal neu flinderus mewn cyfraith breifat. Byddwn yn gofyn i'r Aelodau gefnogi ein gwelliannau.

17:00

Rwy'n cefnogi gwelliant 166 ac wedi bod yn falch o gydweithio gyda Sioned Williams ynglŷn â'r cynnwys. Er dyw'r gwelliant ddim yn newid y diffiniad o ryddid academaidd yn sylfaenol, mae yn egluro bod darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy'n darparu ymchwil ac arloesi, yn ogystal â'r rhai sy'n darparu addysg uwch, yn dod o fewn cwmpas y dyletswyddau a osodir ar Weinidogion Cymru a'r comisiwn i roi sylw i bwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd darparwyr o'r fath, a staff academaidd yn y darparwyr hynny.

Fel yng Nghyfnod 2, rwy'n gwrthod yn bendant y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones mewn perthynas â rhyddid i lefaru, sef gwelliannau 81, 82, 83 ac 84.

Yn wahanol i'r gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2, rwy'n nodi fod y gwelliannau hyn bellach yn cadarnhau na chaiff camwedd statudol ei chreu o ganlyniad i dorri'r dyletswyddau arfaethedig. Er bod gwelliant 84 yn pennu y tu hwnt i amheuaeth na fyddai methiant darparwr addysg drydyddol yng Nghymru i gyflawni'r dyletswyddau hyn yn creu achos i weithredu mewn cyfraith breifat, nid yw'r ychwanegiad hwn yn mynd i'r afael â'n pryderon sylfaenol ynglŷn â'r gwelliannau hyn.

Mae'r gwelliannau yn tynnu'n bennaf ar Fil Addysg Uwch (Rhyddid i Lefaru) sylfaenol ddiffygiol a chamarweiniol Llywodraeth y DU. Yn hytrach na galluogi mwy o ryddid mynegiant a thrafodaeth ehangach mewn prifysgolion, bydden nhw'n peri risg o gyfyngu ar ryddid i lefaru drwy fwy o fiwrocratiaeth.

Fel y nodwyd yng nghasgliad y cyd-bwyllgor dethol seneddol ar hawliau dynol yn dilyn ymchwiliad trylwyr yn 2018,

'ni ddylid gorliwio'r graddau y mae myfyrwyr yn cyfyngu ar ryddid i lefaru mewn prifysgolion'.

Canfu arolwg uchel ei barch o fyfyrwyr a ryddhawyd yn ddiweddar gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch fod y mwyafrif llethol o fyfyrwyr yn dweud eu bod yn clywed amrywiaeth o safbwyntiau ar eu campws, gan gynnwys rhai sy'n wahanol i'w safbwyntiau eu hunain, ac mae mwyafrif tebyg yn teimlo'n gyfforddus i fynegi eu safbwyntiau nhw.

Dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod bygythiad sylweddol i'r rhyddid i lefaru mewn prifysgolion yng Nghymru; yn hytrach, mae ein sefydliadau'n parhau i fod yn amgylcheddau agored a chefnogol lle mae syniadau'n cael eu cyfnewid yn rhydd ac yn agored bob dydd.

Dylai Aelodau nodi hefyd fod y gyfraith eisoes yn gosod dyletswyddau digonol ar sefydliadau addysg i ddiogelu rhyddid i lefaru. Mae Deddf Addysg (Rhif 2) 1986 yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff llywodraethu sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru i

'cymryd unrhyw gamau sy'n ymarferol resymol i sicrhau bod rhyddid i lefaru o fewn y gyfraith yn cael ei sicrhau i aelodau, myfyrwyr a chyflogeion y sefydliad ac i siaradwyr gwadd'.

Mae Deddf 1986 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r sefydliadau gyhoeddi a diweddaru cod ymarfer ar gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â rhyddid i lefaru, gan nodi'r gweithdrefnau i'w dilyn ar gyfer cyfarfodydd ac ymddygiad staff a myfyrwyr mewn cysylltiad â gweithgareddau a bennir yn y cod. Rwy'n hyderus bod y dyletswyddau hyn a dyletswyddau eraill prifysgolion o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb a deddfwriaeth arall yn ddigonol i ddiogelu'r rhyddid i lefaru.

Rwyf wedi cyflwyno gwelliant i'r darpariaethau hyn yn Neddf 1986, a fydd yn cael eu trafod fel rhan o grŵp 18 maes o law, er mwyn sicrhau bod y darpariaethau'n parhau i fod yn gyfredol ac yn gweithredu fel y bwriadwyd.

Rwy'n galw felly ar Aelodau i ymuno â mi i gefnogi gwelliant 166 a gwrthod gwelliannau 81, 82, 83 ac 84.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 166? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Torri ar draws.] O, dwi'n cael fy nghywiro gan un o Aelodau newydd y Senedd yma, Sioned Williams—sydd ddim bellach yn newydd, wrth gwrs. Sioned Williams i ymateb i'r ddadl cyn cymryd y bleidlais.

17:05

Diolch, Llywydd. Ie, licien i jest roi ar gofnod bod Plaid Cymru yn cefnogi barn y Gweinidog ar y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones, 81, 82, 83 ac 84. Nid yw rhyddid mynegiant yn ddiamod, ac, fel nodwyd yn y ddadl, mae gennym ddeddfwriaeth yn barod i ddiogelu rhyddid mynegiant mewn sefydliadau addysg uwch ac i warchod myfyrwyr a staff y sefydliadau hynny rhag aflonyddu a chamwahaniaethu.

Rwy'n falch o'r cydweithio adeiladol rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ar y gwelliant yma, ac o gadarnhad y Gweinidog y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant. Mae'n briodol i ni gydnabod hefyd y gwaith gofalus sydd wedi ei wneud gan randdeiliaid, a bod stamp eu dylanwad a'u dyheadau nhw a'u pryderon a'u gofidiau a'r gwahanol ddiddordebau a sectorau o gymdeithas yng Nghymru y maent yn siarad ar eu rhan wedi cydnabod a'u hymgorffori i'r gwelliant yma. Diolch.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 166? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 166 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 81.

Rwy'n credu iddo gael ei gynnig yn ystod y ddadl, fe'i cynigiwyd gan Laura Jones.

Cynigiwyd gwelliant 81 (Laura Anne Jones).

A oes gwrthwynebiad i welliant 81? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 81. Agor y bleidlais.

Gwelliant 81.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 81 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 81: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 82 (Laura Anne Jones).

Do, fe'i cynigiwyd.

Gwelliant 82. Oes gwrthwynebiad i welliant 82? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 82. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 82 wedi ei wrthod.

Gwelliant 82: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 83 (Laura Anne Jones).

Iawn.

Felly, gwelliant 83 wedi ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 83. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 83 wedi ei wrthod.

Gwelliant 83: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 84 (Laura Anne Jones).

Ydy. Ac felly oes gwrthwynebiad i welliant 84? [Gwrthwynebiad.] Oes. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 84. Agor y bleidlais.

Gwelliant 84.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 84, felly, wedi ei wrthod.

Gwelliant 84: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 6: Gweithdrefn y Senedd a’i phroses ar gyfer gwneud rheoliadau (Gwelliannau 85, 87, 88, 89, 96, 105, 106, 107, 108, 109, 66, 110, 111, 118)

Grŵp 6 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae rhain yn ymwneud â gweithdrefn y Senedd a'i phroses ar gyfer gwneud rheoliadau. Gwelliant 85 yw'r prif welliant yn y grŵp yma a dwi'n galw ar Laura Anne Jones i gyflwyno'r grŵp. Laura Jones.

Cynigiwyd gwelliant 85 (Laura Anne Jones).

Diolch, Llywydd. Hoffwn siarad am fy ngwelliannau fy hun yn gyntaf. Diben gwelliant 85 a sawl un arall yn y grŵp yw ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru gael ei wneud drwy offeryn statudol, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, a gwneud hynny dim ond ar ôl ymgynghori â phwyllgor perthnasol y Senedd. Mae hyn yn unol ag argymhelliad 21 y pwyllgor ac â chynnal sefyllfa hyd braich wirioneddol gan sicrhau y cedwir y cydbwysedd priodol o ran unrhyw gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru.

Mae gwelliannau 87 i 89 a 96 yn ddiwygiadau treiddgar y bwriedir iddyn nhw annog eglurhad ynghylch dynodiad unrhyw ddarparwyr addysg drydyddol eraill ac ymgynghori â chyrff priodol.

O ran gwelliant 105 a'i elfennau amodol, rwy'n ailgyflwyno'r gwelliant i newid y pwerau o dan adran 138 i'r weithdrefn gadarnhaol. Mae fy ngrŵp a minnau yn dal i fod o'r farn ei bod yn gamgymeriad rhoi'r weithdrefn yn y negyddol, o ystyried nifer y rheoliadau negyddol a gyflwynwyd drwy gydol y Bil a'i effaith ganlyniadol ar graffu'r Senedd. 

Mae gwelliant 108 hefyd yn gweithredu fel gwelliant treiddgar i geisio cael eglurder ar y categorïau cofrestru ac ymgynghori â chyrff priodol.

O ran gwelliant 111, rwy'n ailgyflwyno'r gwelliant hwn fel rhagofal i sicrhau y ceir gwared ar bwerau Harri VIII ac i ail-bwysleisio fy ngwrthwynebiad i a Phrifysgol Caerdydd i elfennau o'r fath yn y ddeddfwriaeth.

Yn olaf, o ran gwelliant 118, rwyf i hefyd yn ceisio yn hyn o beth gwneud grym gwneud rheoliadau o dan adran 143 yn destun gweithdrefn gadarnhaol, yn ogystal â dileu pwerau Harri VIII.

O ran gwelliant y Gweinidog, rwy'n fodlon cefnogi'r gwelliant hwn gan fy mod i'n deall ei fod yn gymoni angenrheidiol ar gyfer y Bil. Diolch.

17:10

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau gyda gwelliant 66, sy'n fân welliant technegol yr wyf i wedi ei gyflwyno i ddileu cyfeiriad at adran 140 y Bil at rym gwneud rheoliadau y darparwyd ar ei gyfer yn flaenorol yn adran 33(1) y Bil yng ngoleuni ei ddileu yn ystod trafodion Cyfnod 2, a chroesawaf gefnogaeth Laura Anne Jones i'r gwelliant hwnnw. 

Mae'r rhan fwyaf o'r gwelliannau sy'n weddill yn y grŵp hwn yn ailadrodd y rhai a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2. Mae gwelliant 85 yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarwyddiadau cyffredinol o dan adran 21 y Bil gael eu gwneud drwy offeryn statudol, tra bod gwelliant 107 yn gwneud yr OS yn destun gweithdrefn gadarnhaol y Senedd. Mae'r cyfarwyddyd grym cyffredinol yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau i'r comisiwn o ran materion penodol a nodir ar wyneb y Bil, ac mae gwelliant 106 yn ganlyniadol i welliant 107. Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn ymwneud ag un corff a materion penodol, ac nid ydyn nhw'n darparu ar gyfer deddfu cyffredinol o natur ehangach. Bydd y gofyniad i gyhoeddi'r cyfarwyddyd, i hysbysu'r Senedd amdano a gosod copi o'r cyfarwyddiadau gerbron y Senedd yn sicrhau hygyrchedd a thryloywder unrhyw gyfarwyddiadau. Felly, rwy'n gwrthod gwelliannau 85, 106 a 107, a galwaf ar yr Aelodau i wneud yr un fath.

Rwyf i hefyd yn gwrthod gwelliannau 108 a 109, sy'n gwneud rheoliadau a wneir o dan adran 25(2) a 25(8) yn destun gweithdrefn gadarnhaol y Senedd, tra bod gwelliant 110 yn gwneud yr un ddarpariaeth o ran rheoliadau a wneir o dan adran 41(2) a 43(13). Neilltuwyd gweithdrefn negyddol y Senedd i'r rheoliadau hyn gan fod sylwedd y ddarpariaeth wedi'i gyflwyno yn eglur ar wyneb y Bil. Mae'r rheoliadau hyn yn rhagnodi materion technegol a gweinyddol y gallai fod angen eu diweddaru o bryd i'w gilydd, neu wneud darpariaethau trosiannol neu arbed. Felly, mae'r weithdrefn negyddol yn briodol o ran pob un o'r pwerau gwneud rheoliadau hyn.

Nid wyf i'n cefnogi gwelliant 111, sy'n cymhwyso gweithdrefnau cadarnhaol y Senedd i reoliadau a wneir o dan adran 143, sy'n ymdrin â materion fel gwelliannau canlyniadol neu ddarpariaeth ddeilliadol neu drosiannol o ran is-ddeddfwriaeth. Mae hyn yn anghymesur ac yn ddiangen, gan fod darpariaeth o'r fath, o ran is-ddeddfwriaeth, yn dechnegol yn ôl ei natur, ac nid yw'n cyflawni newidiadau polisi sylweddol. 

Rwy'n gwrthod gwelliant 118, sy'n cael gwared ar allu Gweinidogion Cymru i wella, addasu, diddymu neu ddirymu deddfiad o ganlyniad i ddarpariaethau'r Bil, neu i roi effaith lawn iddyn nhw. Heb y grym hwn, bydd angen deddfwriaeth sylfaenol bellach i wneud unrhyw welliant canlyniadol a ddaw i'r amlwg yn ôl yr angen ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Er mai grym Harri VIII yw hwn yn dechnegol, mae ei ddefnydd wedi'i gyfyngu i ddarpariaethau o ganlyniad i ddarpariaethau'r Bil, neu i roi effaith lawn iddyn nhw. Byddai'n anarferol iawn i ddeddfwriaeth sylfaenol beidio â chynnwys grym o'r fath, ac mae peri'r risg na fydd y ddeddfwriaeth yn gweithredu fel y bwriadwyd. Pan ddefnyddir y grym i wella neu addasu deddfwriaeth sylfaenol, mae'n destun gweithdrefn gadarnhaol y Senedd.

Nid oes angen gwelliannau 87, 88, 89 a 96. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori'n ffurfiol fel mater o drefn wrth baratoi is-ddeddfwriaeth, ac rydym ni'n cyhoeddi adroddiadau cryno ar ôl i'r ymgynghoriadau hyn ddod i ben. Fel y dywedais i, Llywydd, mae'r holl bwerau gwneud rheoliadau wedi cael eu hystyried yn llawn gan weithredu gweithdrefn briodol y Senedd, gan alluogi'r Senedd i graffu ar yr is-ddeddfwriaeth, ac nid wyf i o'r farn bod angen darparu gofyniad statudol i gyhoeddi rheoliadau drafft cyn i'r rheoliadau gael eu gosod neu eu gwneud. Ac felly, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant 66, a gyflwynwyd yn fy enw i, ac i wrthod yr holl welliannau eraill.

Diolch. Diolch am eich ymateb, Gweinidog. Rwy'n dal i gredu'n gryf bod gormod o welliannau yn y negyddol, a bod angen mesurau diogelu i sicrhau bod cyrhaeddiad pwerau Gweinidogion Cymru yn gyfyngedig, fel yr amlinellwyd yn flaenorol gan bryderon a amlygwyd gan y pwyllgor ei hun. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein gwelliannau.

17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 85? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly symudwn ni i bleidlais ar welliant 85. Agor y bleidlais.

Gwelliant 85.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 85 wedi'i wrthod.

Gwelliant 85: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 7: Llesiant dysgwyr a diogelu dysgwyr (Gwelliannau 12, 13, 98, 99, 100)

Grŵp 7 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â llesiant dysgwyr a diogelu dysgwyr. Gwelliant 12 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig y gwelliant hynny.

Cynigiwyd gwelliant 12 (Jeremy Miles).

Diolch, Llywydd. Rwy’n galw ar Aelodau i gefnogi gwelliannau 12 ac 13, sy'n cyflwyno amodau cofrestru cychwynnol a pharhaus gorfodol newydd ynghylch effeithiolrwydd trefniadau darparwyr addysg drydyddol ar gyfer cefnogi a hyrwyddo lles eu staff a'u myfyrwyr. Bydd hyn yn sicrhau y rhoddir ystyriaeth i ba un a oes gan ddarparwyr brosesau, gwasanaethau a pholisïau priodol yn eu lle i gefnogi lles, llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff.

Mae gan bawb yr hawl i gael profiad addysg hapus, ac rwyf am i Gymru feithrin enw da, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, am roi llesiant wrth wraidd ein system addysg. Gall diffyg cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant fod yn rhwystr i lwyddiant mewn addysg i lawer o ddysgwyr a myfyrwyr. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod darparwyr yn mynd i’r afael â'r heriau hyn ac yn cael eu cefnogi i wneud hynny gan y comisiwn. Mae'n amlwg ein bod yn wynebu llawer o heriau ar draws y Deyrnas Unedig. Mae myfyrwyr amser llawn yn fwy tebygol o ddioddef ymosodiadau rhywiol na'r rhai mewn unrhyw grŵp galwedigaethol arall, ac mae bron i chwarter myfyrwyr ethnig lleiafrifol yn profi aflonyddu hiliol ar y campws. Mae myfyrwyr yn adrodd yn barhaus am lefelau is o hapusrwydd a lefelau uwch o bryder na'r boblogaeth yn gyffredinol, ac mae hyn wedi'i waethygu gan effeithiau diweddar y pandemig.

Dros y degawd diwethaf gwelwyd trobwynt, yn enwedig yn sector addysg uwch y Deyrnas Unedig, o ran sut mae darparwyr yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â bwlio ac aflonyddu ac yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr, ac rwy’n credu y byddem ni i gyd yn cytuno bod angen mwy o gynnydd ar y materion hyn. Argymhellodd adroddiad gan Universities UK yn 2015 newidiadau ysgubol i'r ffyrdd y mae prifysgolion yn rheoli’r broses adrodd a’r cymorth i ddioddefwyr aflonyddu, trais a throseddau casineb, ac rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen gwneud mwy o gynnydd ar hyn. Yn Lloegr, nid yw'r Swyddfa Myfyrwyr yn rheoleiddio'n ffurfiol y ffordd y mae darparwyr addysg uwch yn hyrwyddo ac yn cefnogi lles myfyrwyr. Felly, byddwn ni'n mynd gam ymhellach yng Nghymru drwy sicrhau bod gan y comisiwn newydd y grym i roi blaenoriaeth i oruchwylio'r materion hollbwysig hyn.

Rwy'n gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn ennyn cefnogaeth drawsbleidiol. Hoffwn ddiolch i Laura Anne Jones am gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 a dynnodd sylw at bwysigrwydd sicrhau bod iechyd meddwl a llesiant yn cael eu hadlewyrchu yn y darn hwn o ddeddfwriaeth. Rwy’n credu y bydd y gwelliannau a gyflwynir yma yng Nghyfnod 3 yn cynnig y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod y comisiwn yn hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant dysgwyr. Allaf i ddim cefnogi gwelliannau 98, 99 a 100. Fel dywedais i pan gynigiwyd y rhain yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2, mae angen i'r comisiwn gadw'r gallu i addasu cynlluniau diogelu dysgwyr er mwyn sicrhau bod y cynlluniau'n gadarn ac yn parhau i ganolbwyntio ar y dysgwr. Galwaf ar Aelodau, felly, i gefnogi gwelliannau 12 a 13 ac i wrthod pob gwelliant arall yn y grŵp hwn.

Hoffwn ategu llawer o'r hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud a hoffwn ddiolch iddo hefyd am fwrw ymlaen â'n gwelliant gwreiddiol a chefnogi'r bwriadau a nodwyd yn wreiddiol gan y Ceidwadwyr Cymreig o ran llesiant ac amddiffyn dysgwyr.

Hoffwn gynnig gwelliannau 98, 99 a 100. Cyflwynwyd gwelliant 98 a'i ddau welliant canlyniadol eto i ail-bwysleisio awgrym Prifysgolion Cymru i'r comisiwn allu cymeradwyo'r cynllun amddiffyn dysgwyr gydag addasiadau neu hebddyn nhw. Mae'n rhaid i'r comisiwn allu pennu gofynion fel amod ar gyfer cymeradwyo, a dylai fod yn fater i'r corff llywodraethu benderfynu a ddylid derbyn yr addasiadau ai peidio. Mater i'r comisiwn hefyd fyddai penderfynu a ddylid cymeradwyo neu wrthod y cynllun. Fodd bynnag, mae'n ymddangos y byddai ymdrechion i wrthwynebu addasiadau yn uniongyrchol heb ganiatâd darparwyr yn peri'r risg na fyddai'r comisiwn yn cyflawni ei ddyletswydd o ran cyfraith elusennau, sy'n golygu bod y ddeddfwriaeth yn dibynnu ar ddarpariaethau nad ydyn nhw'n ymarferol. Felly, pwysleisiaf eto yma yng Nghyfnod 3 y dylid diwygio'r cymal i ddileu'r gallu i'r comisiwn wneud newidiadau unochrog i gynlluniau. Gofynnaf i'r Aelodau ystyried hyn. Diolch.

17:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Neb yn gwrthwynebu gwelliant 12, felly mae gwelliant 12 yn cael ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 13 (Jeremy Miles).

Ydy. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 13? Nac oes. Felly, mae gwelliant 13 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 14 (Jeremy Miles).

Ydy. Oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 14? Nac oes, felly derbynnir gwelliant 14.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Jeremy Miles).

Ydy. Felly, oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 15? Nac oes. Derbynnir gwelliant 15.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 16 (Jeremy Miles).

Ydy. Felly, a oes gwrthwynebiad i welliant 16? Nac oes, felly derbynnir y gwelliant hynny.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 17 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 18 (Jeremy Miles).

Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i 18?

Amendment 18, any objection?

Nac oes, felly derbynnir gwelliant 18.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 19 (Jeremy Miles).

Symud gwelliant 19, felly. Oes gwrthwynebiad? Dwi ddim yn meddwl bod gwrthwynebiad, felly derbynnir gwelliant 19.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 20 (Jeremy Miles).

Gwelliant 20 yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes, felly derbynnir gwelliant 20.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 8: Prentisiaethau (Gwelliannau 86, 97, 114, 116)

Grŵp 8 yw'r grŵp nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â phrentisiaethau, a gwelliant 86 yw'r prif welliant yn y grŵp. Dwi'n galw ar Laura Jones i gynnig y gwelliant hynny a siarad i'r grŵp. Laura Jones.

Cynigiwyd gwelliant 86 (Laura Anne Jones).

Diolch, Llywydd. Hoffwn i siarad am yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, rwy'n credu mewn system addysg drydyddol fwy cyflawn, gan gynnwys rhaglenni hyfforddeiaeth, rhaglenni cyflogadwyedd a phrentisiaethau, ac felly rwy'n dal i bryderu am le'r rhaglenni hyn yn y Bil. Mae eu cynnwys yn llawn yn gwbl hanfodol i wella economi gynaliadwy ac arloesol. Mae gwelliant 86 yn bodoli i gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldeb am yr arolygiad neu adolygiad o brentisiaethau gradd. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol ei bod hi'n cael ei gwneud yn eglur bod dyletswydd y comisiwn i asesu ansawdd addysg uwch yn cynnwys prentisiaethau gradd.

O ran gwelliant 97, rwy'n ceisio ei gwneud yn eglur y gall Rhan 4 y Bil fod yn berthnasol i brentisiaethau gradd, os caiff yr amodau eraill yn adran 109 y Bil eu bodloni. Ymhellach ar hyn, byddai gwelliant 114 yn diffinio prentisiaethau gradd yn eglur yn y Bil i sicrhau bod y diffiniad yn cwmpasu unrhyw gwrs sy'n cyfuno addysg uwch ran-amser a phrentisiaeth gymeradwy yng Nghymru, fel y'i diffinnir yn adran 109. Gyda hyn mewn golwg, rwyf i hefyd yn cyflwyno gwelliant 116 er mwyn ychwanegu prentisiaethau gradd at y diffiniad ehangach o addysg drydyddol yn y Bil, ochr yn ochr ag addysg uwch, addysg bellach a hyfforddiant, a gofynnaf i'r Gweinidog ystyried hyn.

Nodaf y pryderon y mae'r Aelod wedi eu mynegi, ond rwy'n gobeithio y bydd o gysur iddi i mi ddweud nad oes sail gadarn iddyn nhw yn nrafft y Bil mewn gwirionedd, ac felly galwaf ar yr Aelodau i wrthod gwelliannau 114 ac 116, dim ond oherwydd nad oes eu hangen. Nid oes angen cyflwyno diffiniad cyfreithiol newydd ar wahân o brentisiaethau gradd, gan eu bod nhw'n cael eu cynnwys yn y diffiniadau presennol yn y Bil. Hefyd, mae diffinio 'prentisiaethau gradd' ar wahân i 'brentisiaethau' yn peri'r risg o amwysedd ynghylch a yw prentisiaethau gradd o fewn cwmpas y cyfeiriadau niferus at brentisiaethau mewn mannau eraill yn y Bil ai peidio.

Nid oes angen gwelliant 86 chwaith, gan nad oes angen gwneud unrhyw ddarpariaeth bellach i sicrhau bod y trefniadau asesu ansawdd priodol ar waith ar gyfer prentisiaethau gradd yng Nghymru. Fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, mae'r Bil yn eglur ynghylch y trefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd addysg bellach ac addysg uwch, a'r comisiwn sy'n gyfrifol am y ddau faes. Mae'r trefniadau hyn eisoes yn darparu digon o sylw i brentisiaethau gradd.

Mae adran 54 y Bil yn darparu ar gyfer asesu ansawdd ym maes addysg uwch, ac mae prentisiaethau gradd yn cynnwys elfennau o addysg uwch. Gall hyn wedyn ganiatáu dirprwyaeth i gorff dynodedig ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch o dan adran 54 ac Atodlen 3. Nid yw hyn yn annhebyg i'r gyfraith ar hyn o bryd, sydd hefyd yn eglur. Mae gan CCAUC ddyletswydd debyg ar hyn o bryd o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Rwy'n sylweddoli y bu ystyriaethau o fewn y sector ynghylch pa swyddogaeth y gallai ac y dylai Estyn ei chyflawni o ran goruchwylio ansawdd prentisiaethau gradd, o ystyried eu profiad o arolygu prentisiaethau eraill, a chafwyd trafodaethau i'r perwyl hwn rhwng rhanddeiliaid perthnasol. Bydd y comisiwn yn gwneud penderfyniad terfynol ar hyn, ac os penderfynir y dylai prentisiaethau gradd fod yn rhan o gylch gwaith Estyn, gellir gwneud rheoliadau o dan adran 57(1)(f) heb unrhyw ddiwygiad i'r testun presennol.

Mae gwelliant 97 hefyd yn ddiangen. Mae unrhyw drefniant sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yn is-adrannau (2), (3) a (4) adran 102 eisoes yn brentisiaeth cymeradwy yng Nghymru. Felly, ni welaf unrhyw angen i nodi hyn ymhellach ar wyneb y Bil hwn. Ac felly galwaf ar yr Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn.

17:25

Diolch, Llywydd. Roeddwn yn amlwg yn rhagweld gwrthod ein gwelliant treiddgar, ond diolch i'r Gweinidog am roi mwy o eglurder ar y mater, er fy mod yn anghytuno â'r dull gweithredu yn y pen draw. Rwyf, fodd bynnag, yn siomedig bod fy ngwelliannau i egluro y bydd Rhan 4 o'r Bil yn gymwys i brentisiaethau gradd hefyd, er mwyn diffinio'r telerau perthnasol yn y Bil yn well, wedi'u gwrthod. Teimlaf fod hwn yn gyfle mawr a gollwyd, ac erfyniaf ar y Gweinidog i adolygu ei safbwynt ar y mater, wrth symud ymlaen. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 86? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 86. Agor y bleidlais.

Gwelliant 86.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 86 wedi ei wrthod.

Gwelliant 86: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 22 (Jeremy Miles).

Gwelliant 22, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad, felly mae gwelliant 22 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 87 (Laura Anne Jones).

Gwelliant 87, oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 87. Agor y bleidlais.

Gwelliant 87.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 87 wedi ei wrthod.

Gwelliant 87: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 9: Polisi cyllido a thryloywder (Gwelliannau 78, 31, 58)

Grŵp 9 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â pholisi cyllido a thryloywder. Gwelliant 78 yw'r prif welliant yn y grŵp a dwi'n galw ar Sioned Williams i gyflwyno'r prif welliant yma ac i siarad i'r grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 78 (Sioned Williams).

Diolch, Llywydd. Rwy'n codi i siarad i welliant 78, sef yr unig welliant yn y grŵp hwn. Un o egwyddorion canolog y Bil hwn yw ceisio chwalu ffiniau rhwng gwahanol rannau o'r sector addysg ôl-16, sydd yn hanesyddol wedi cael eu gweld yn ynysig oddi ar ei gilydd. Fodd bynnag, yn naturiol, efallai, mae pryder yn dod gyda symudiad tuag at system mwy cyfannol, ac fe glywyd hynny yn ystod ein gwaith fel Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gyda rhai rhanddeiliaid yn galw am gyflwyno egwyddor ariannu cytbwys neu balanced funding principle ar wyneb y Bil, fyddai'n ddyletswydd cyffredinol ar y comisiwn arfaethedig i sicrhau bod yna gydbwysedd rhwng gwahanol swyddogaethau addysg drydyddol y comisiwn a'i swyddogaethau ymchwil ac arloesedd.

Mae'n ddealladwy bod pryder y gallai ariannu darpariaeth addysg drydyddol rheng flaen gael ei flaenoriaethu ar draul gwaith ymchwil ac arloesi, yn enwedig pan fo'r esgid yn gwasgu a chyllidebau yn dynn. Fodd bynnag, y perygl drwy osod egwyddor o'r fath fel dyletswydd gyffredinol yn y ddeddfwriaeth yw y gallai filwrio yn erbyn y nod o gael gwell golwg gyfannol yn y tirwedd ôl-16.

Gan gydnabod y pryderon hyn i gyd, felly, pwrpas gwelliant 78 yw rhoi adran newydd i mewn i'r Bil sy'n mynd peth o'r ffordd i ateb y pryderon hyn a sicrhau tryloywder ym mhenderfyniadau ariannu'r comisiwn. Mae'n cyflawni hyn drwy olygu y bydd angen i'r comisiwn baratoi datganiad ar ei bolisi ynghylch sut y bydd yn defnyddio ei bwerau ariannu ac y bydd gofyn iddo roi sylw i'r egwyddor bod angen gwneud penderfyniadau ariannu mewn modd tryloyw. Yn ymarferol, bydd angen iddo ymgynghori hefyd cyn cyhoeddi datganiad neu ddatganiad diwygiedig. Disgwyliwn, felly, y bydd modd gweld yn glir effaith bwriadau ariannu'r comisiwn ar ei wahanol swyddogaethau, ac y gall y rheini sydd â diddordeb neu bryderon leisio eu barn drwy'r ddyletswydd i ymgynghori. Rydym ni o'r farn, felly, fod y gwelliant hwn yn taro'r cydbwysedd cywir ac yn cryfhau'r Bil drwy sicrhau mwy o dryloywder.

17:30

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddangos fy ngwerthfawrogiad i Blaid Cymru am gyflwyno gwelliant a ysbrydolwyd gan yr ymdrechion yr wyf i wedi'u gwneud drwy gydol y broses hyd yn hyn.

I nodi hynny, ac i ategu pwynt Sioned Williams, hoffwn ofyn i'r Gweinidog er mwyn eglurder yn unig. Nododd Llywodraeth Cymru ei bod yn disgwyl y bydd telerau ac amodau'r cyllid yn cael eu nodi yn y datganiad ac, o'r herwydd, yr ymgynghorir yn eu cylch. Gan nad yw yn y Bil, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau ai'r bwriad yw nodi telerau ac amodau'r cyllid yn y datganiad o bolisi ariannu ac yr ymgynghorir yn ei gylch yn y modd hwnnw?

Diolch, Llywydd. Rwy'n cefnogi gwelliant 78 a gyflwynwyd gan Sioned Williams. Rwy'n credu bydd y gwelliant yn mynd i'r afael, fel gwnaeth hi sôn, â'r pryderon a godwyd gan randdeiliaid ac argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch tryloywder mewn perthynas ag arfer pwerau cyllido'r comisiwn, ac rwy'n falch fy mod i wedi gallu gweithio gyda Sioned i ddrafftio'r gwelliant hwn er mwyn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad y gwnes i yng Nghyfnod 2 yng ngoleuni sylwadau ac argymhellion y pwyllgor.

Bydd ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn ymgynghori ar ddatganiad o'i bolisi cyllido a'i gyhoeddi, gan roi sylw i'r egwyddor y dylid gwneud penderfyniadau cyllido mewn ffordd sydd yn dryloyw, yn helpu i sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael gwybod am sut y mae'r comisiwn yn bwriadu arfer ei swyddogaethau cyllido mewn perthynas â'r ystod lawn o ddarpariaeth addysg drydyddol ac o ran ymchwil ac arloesi.

Jest i ymateb i'r cwestiwn gan Hefin David, rwy'n rhagweld y byddai'r ymgynghoriad o dan y ddyletswydd newydd hon yn cynnwys y telerau a'r amodau y mae'r comisiwn yn bwriadu eu gosod ar ei holl gyllid.

Gan ystyried y newidiadau a wnaed gan welliant 78, mae gwelliant 31 yn dileu gofyniad i'r comisiwn ymgynghori cyn pennu'r telerau ac amodau sy'n gymwys i'w gyllid addysg uwch. Mae gwelliant 31 yn darparu ar gyfer dull cydlynol o gymhwyso telerau ac amodau cyllido gan y comisiwn drwy gydol y Bil drwy ddileu darpariaeth nad oes ei hangen mwyach yn sgil y ddyletswydd ymgynghori ehangach o dan welliant 78.

Mae gwelliant 58 yn fy enw i, ond yn adlewyrchu trafodaethau adeiladol gyda Laura Anne Jones—ac rwy'n diolch iddi am ei chydweithrediad—yn mynd i'r afael ag argymhelliad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r Bil ddarparu dull mwy cyson ac eang o ymdrin â dyletswyddau cyfle cyfartal ac ehangu mynediad ar gyfer pob rhan o'r sector ôl-16, ac nid darparwyr cofrestredig yn unig.

Mae'r gwelliant hefyd yn mynd ymhellach na'r argymhelliad, gan greu mwy o gysondeb o ran goruchwyliaeth reoleiddiol y comisiwn o ddarparwyr cofrestredig a darparwyr nad ydynt wedi cofrestru. Mae'n cyflawni hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn ystyried gosod telerau ac amodau ar ei gyllid i ddarparwyr nad ydynt wedi cofrestru mewn perthynas â materion a nodir yn yr amodau cofrestru gorfodol parhaus o dan Ran 2 o'r Bil.

Rhaid i'r comisiwn wrth bennu telerau ac amodau sydd i'w gosod ar ei gyllid i ddarparwyr nad ydynt wedi'u cofrestru ystyried a ddylid gosod gofynion yn ymwneud ag ansawdd, effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli'r darparwr, cynaliadwyedd ariannol, effeithiolrwydd trefniadau'r darparwr ar gyfer cefnogi a hyrwyddo lles i fyfyrwyr a'u staff, a chyflawni canlyniadau mesuradwy mewn perthynas â nodau cyfle cyfartal.

Nid yw'r gwelliant yn mandadu pa delerau ac amodau y dylid eu cymhwyso. Mae'n briodol ei fod e'n rhoi i'r comisiwn reolaeth dros ei delerau ac amodau ei hun, oherwydd gall yr hyn sy'n briodol mewn perthynas â grant mawr, rheolaidd fod yn ddiangen ac yn rhy feichus ar gyfer trefniant cytundebol bach, ad hoc. Y comisiwn fydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar yr amodau penodol ar gyfer ffrwd gyllido benodol.

Gyda'i gilydd, mae gwelliannau 31 a 58 yn gwella cydlyniaeth ar draws y Bil, yn sicrhau triniaeth decach i ddarparwyr cofrestredig a darparwyr nad ydynt wedi'u cofrestru, ac yn rhoi'r hyblygrwydd angenrheidiol i'r comisiwn deilwra'r telerau ac amodau fel eu bod yn gymesur, yn briodol ac yn rhesymol, yn dibynnu ar amgylchiadau penodol trefniant cyllido penodol. Rwy'n galw felly ar Aelodau i gefnogi pob gwelliant yn y grŵp hwn.

17:35

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gael cefnogaeth y Llywodraeth ac o gael cefnogaeth y Blaid Geidwadol ar gyfer gwelliant 78, a hoffwn i nodi hefyd rwy'n falch o'r cydweithio adeiladol sydd wedi bod drwy gydol siwrnai y Bil yma, yn yr holl gyfnodau, a bod yr ymwneud adeiladol yma, gyda'r pwyllgor a hefyd gyda'r ddwy wrthblaid, wedi arwain at wella deddfwriaeth yn ystod ei thaith drwy'r Senedd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 78? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim gwrthwynebiad. Felly mae gwelliant 78 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 10: Cydsyniad i gyrff sy’n cydlafurio (Gwelliannau 23, 24, 25, 26. 27, 28, 29, 30, 35, 36, 44, 45, 46, 52, 53, 54, 55, 56, 57, 59, 60, 61, 62)

Grŵp 10 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau'n ymwneud â chydsyniad i gyrff sy'n cydlafurio. Gwelliant 23 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gyflwyno'r prif welliant hynny ac i siarad i'r grŵp. Jeremy Miles.

Cynigiwyd gwelliant 23 (Jeremy Miles).

Diolch Llywydd. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn mynd i'r afael â phryderon rhanddeiliaid ac argymhelliad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch darpariaethau sy'n ymdrin â chydsyniad ar gyfer trosglwyddo arian i gyrff sy'n cydlafurio. Yng Nghyfnod 2 eglurais na fyddai dileu'r darpariaethau hyn yn eu cyfanrwydd yn briodol gan fod angen o hyd i sicrhau bod cyllid sy'n cael ei drosglwyddo o ddarparwyr a ariennir yn uniongyrchol i gyrff eraill yn ddarostyngedig i reolaethau priodol. Mae sicrhau bod gennym ddarpariaeth cydsyniad cyffredinol yn adlewyrchu'r arferion gorau posibl, gan ganiatáu'r amodau cywir ar gyfer arloesi a phartneriaethau, gan gadw'r amddiffyniadau trosfwaol angenrheidiol ar waith. Rwyf o'r farn bod y gwelliannau yr wyf wedi'u cyflwyno heddiw yn ymateb i bryderon rhanddeiliaid a'r pwyllgor, gan fynd i'r afael â'r potensial ar gyfer biwrocratiaeth anfwriadol gan gadw'r diogelwch angenrheidiol o ran arian cyhoeddus ac, o ganlyniad i hynny, diogelu dysgwyr a'r sector addysg drydyddol.

Mae gwelliannau 23 i 30, 35 a 36, 44 i 46, 52 i 54, a 56 a 57 yn egluro bod yn rhaid rhoi cydsyniad cyn trosglwyddo arian gan ddarparwr a ariennir o dan Ran 3 o'r Bil i gorff sy'n cydlafurio, ac y gellir rhoi cydsyniad o'r fath mewn cysylltiad â chorff y mae'r darparwr a ariennir yn uniongyrchol yn bwriadu cydweithio ag ef, yn ogystal â'r rhai y mae'r darparwr eisoes yn cydweithio â nhw neu wedi cydweithio â nhw.

Mae gwelliant 59 yn dileu'r pŵer o adran 107 o'r Bil i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, gan bennu'r materion y mae'n rhaid i'r comisiwn eu hystyried wrth benderfynu a ddylid cydsynio i drosglwyddo arian gan ddarparwr a ariennir yn uniongyrchol i gorff sy'n cydlafurio. Mae'r gwelliant hwn hefyd yn egluro y gall y comisiwn roi cydsyniad yn gyffredinol, neu mewn cysylltiad â thaliad penodol neu gorff cydlafurio penodol. Mae gwelliant 55 yn ganlyniadol i welliant 59.

Mae gwelliannau 60 i 62 yn mireinio adran 107 o'r Bil. Maen nhw'n diogelu'r defnydd o arian cyhoeddus ac yn rhoi hyblygrwydd o ran sut y gall y comisiwn roi ei gydsyniad i basio arian. Mae'r newidiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn gymhwyso amod i'w gydsyniad sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr a ariennir yn uniongyrchol wneud trefniadau sy'n sicrhau bod adnoddau ariannol a delir i gorff sy'n cydlafurio yn cael eu rheoli'n effeithlon ac mewn ffordd sy'n rhoi gwerth am arian.

Mae'r newidiadau hyn hefyd yn egluro, pan fo caniatâd wedi'i roi'n gyffredinol, y gall y comisiwn dynnu'n ôl, atal neu amrywio ei gydsyniad yn gyffredinol, neu mewn cysylltiad â thaliad penodol i gorff penodol sy'n cydlafurio. Mae'r amddiffyniadau presennol mewn cysylltiad â thynnu'n ôl, atal dros dro neu amrywio caniatâd yn parhau, gan ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn roi hysbysiad i ddarparwyr a rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir yn unol â'r hysbysiad.

Yn gyffredinol, mae'r diwygiadau yn y grŵp hwn yn cynyddu ymreolaeth y comisiwn i benderfynu ar drefniadau cydsynio priodol drwy ganiatáu i gydsyniad gael ei roi yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â thaliad penodol neu gydlafurio penodol; egluro y gall darparwyr ofyn am gydsyniad y comisiwn i drosglwyddo arian i gyrff sy'n cydlafurio y maen nhw'n cydweithio â nhw eisoes, neu wedi cydweithio â nhw yn y gorffennol, neu'n bwriadu cydweithio â nhw yn y dyfodol; a sicrhau diogelwch ar gyfer defnyddio arian cyhoeddus. Felly, Llywydd, galwaf ar Aelodau i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.

17:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? Oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 23 wedi'i dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 24 (Jeremy Miles).

Oes gwrthwynebiad i welliant 24? Nac oes, felly mae gwelliant 24 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 25 (Jeremy Miles).

Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 25? Nac oes, felly derbynnir y gwelliant hwnnw.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 26 (Jeremy Miles).

Ydy. Felly, gwelliant 26—oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 26.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 27 (Jeremy Miles).

Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes, dim gwrthwynebiad. Felly, derbynnir gwelliant 27.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 28 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 29 (Jeremy Miles).

Ydy. Felly, a oes gwrthwynebiad i welliant 29? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 29.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 30 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 31 (Jeremy Miles).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i 31? Nac oes, felly derbynnir gwelliant 31 yn y grŵp yna hefyd.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 11: Pwerau cyllido Gweinidogion Cymru (Gwelliannau 32, 33, 34, 90, 91, 92, 93, 94, 95)

Grŵp 11 sydd nesaf. Y grŵp yma yw'r grŵp o welliannau sy'n ymwneud â phwerau cyllido Gweinidogion Cymru. Gwelliant 32 yw prif welliant y grŵp, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gyflwyno'r prif welliant yma ac i siarad i'r grŵp. Jeremy Miles.

Cynigiwyd gwelliant 32 (Jeremy Miles).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 33 yn addasu pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 91 o'r Bil i ariannu ystod gyfyngedig o gyrsiau addysg uwch er mwyn eu galluogi i ddarparu adnoddau eu hunain neu i wneud trefniadau gyda phersonau eraill, naill ai'n unigol neu ar y cyd, i ariannu'r ddarpariaeth o gyrsiau perthnasol yn yr un modd ag y darperir ar eu cyfer ar hyn o bryd o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000. Mae cyrsiau addysg uwch y gellir eu hariannu yn cynnwys y rhai sy'n paratoi ar gyfer arholiadau proffesiynol ar lefel uwch, er enghraifft cyrsiau nad ydynt yn raddau ac sy'n arwain at gymwysterau a achredir gan gyrff proffesiynol. Gallai'r rhain gynnwys cymwysterau sy'n berthnasol i iechyd a gofal cymdeithasol neu gymwysterau sy'n benodol i'r diwydiant sy'n diwallu angen cymdeithasol neu'n gwella rhagolygon am gyflogaeth.

Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau bod pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 91 yn cyd-fynd â'u pwerau i ariannu addysg bellach a hyfforddiant o dan adran 96 o'r Bil. Gyda'i gilydd, bydd y pwerau hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru barhau i ariannu ymyraethau cyflogadwyedd yn yr un modd ag ar hyn o bryd. Mae angen y gwelliant hwn gan y rhagwelir y bydd angen i Weinidogion Cymru ddibynnu ar adran 91 o'r Bil i ariannu cyrsiau penodol ar lefelau 4 a 5 o'r fframwaith credydau a chymwysterau i Gymru o fewn rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Gall rhai agweddau ar y rhaglenni hyn gael eu hariannu drwy drefniadau gyda thrydydd partïon.

Mae gwelliannau 32 a 34 yn ganlyniadol i welliant 33. Gwrthodaf welliannau 90 i 95 ac argymhellaf yn gryf i'r Aelodau wneud hynny hefyd. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cyfyngu ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan adrannau 96, 99 a 102 o'r Bil, sy'n bwerau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu dal ar yr un pryd â'r comisiwn. Bydd y pwerau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau adnoddau ariannol mewn cysylltiad ag addysg bellach a hyfforddiant, ymgymryd â phrofion cymhwysedd mewn cysylltiad â'u pwerau o dan adran 96(1)(d) neu (e), ac ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysg drydyddol. Un o ddibenion allweddol cadw'r pwerau ariannu hyn i Weinidogion Cymru yw'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau newydd, a gadarnhaodd y bydd yr holl raglenni cyflogadwyedd a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu darparu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, o dan un model gweithredu newydd o 2023 ymlaen.

Mae rhaglenni cyflogadwyedd yn amrywio. Er enghraifft, mae Cymunedau am Waith yn darparu gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned a gwasanaethau mentora. Yr un peth sydd gan y rhan fwyaf o raglenni cyflogadwyedd yn gyffredin yw eu bod yn canolbwyntio ar gael gwaith a dileu rhwystrau rhag cyflogaeth. Mae'r diwygiadau'n ceisio cyfyngu ar arfer pwerau Gweinidogion Cymru i ddarparu trefniadau cyflogadwyedd. Mae'r dull hwn yn anymarferol a byddai'n creu anawsterau o ran arfer swyddogaethau ariannu Gweinidogion Cymru ac mae'n debyg y byddai'n arwain at ganlyniadau anfwriadol, a fyddai'n effeithio'n negyddol ar bobl Cymru yr ydym yn ceisio'u cefnogi drwy'r rhaglenni hynny.

Llywodraeth Cymru sydd yn y sefyllfa orau i reoli cysylltiadau rhynglywodraethol yn uniongyrchol ar raglenni cyflogadwyedd ac i weithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill i lunio ymateb cydgysylltiedig yng Nghymru o fewn ei phwerau presennol. Mae ar Weinidogion Cymru angen hyblygrwydd wrth gymhwyso eu pwerau ariannu mewn cysylltiad ag addysg bellach a hyfforddiant, trefniadau cymhwysedd a darparu cyngor, gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud ag ymyraethau cyflogadwyedd. Byddai gwelliannau 91 i 95 yn dileu'r hyblygrwydd hwn. Dylwn ddweud hefyd, fel y'i drafftiwyd, yn ogystal, na fyddai'r gwelliannau'n cael eu diogelu at y dyfodol yn erbyn newidiadau i barth gwefan Llywodraeth Cymru.

Bydd cadw'r pwerau ariannu hyn hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ariannu ymyraethau a chynlluniau treialu penodol, ac mae enghraifft ohonyn nhw yn cynnwys prentisiaethau iau. Ymyrraeth 14 i 16 yw'r rhain sy'n cefnogi dysgwyr sydd wedi ymddieithrio drwy ganiatáu mynediad cynnar i lwybrau dysgu galwedigaethol yn eu coleg lleol. Ariennir hyn yn bennaf gan y gyllideb ysgolion, ond mae'n cynnwys cyllid atodol yn uniongyrchol gan Weinidogion Cymru i ddarparwyr addysg bellach. Galwaf felly ar Aelodau i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i ac i wrthod yr holl welliannau eraill.

17:45

Hoffwn gynnig gwelliannau 90, 91, 92, 93, 94 a 95. Amcan y gwelliannau hyn yn y pen draw yw cyfyngu ar bŵer ariannu Gweinidogion Cymru. Byddent yn sicrhau bod y gallu i un o Weinidogion Cymru awdurdodi'r ddarpariaeth o adnoddau ariannol yn amodol. Fel y pwysleisiwyd yng Nghyfnod 2, mae CCAUC wedi nodi y byddai galluogi Gweinidogion Cymru i ariannu addysg bellach a hyfforddiant ar yr un pryd ac yn yr un modd â'r comisiwn yn arwain at flaenoriaethau strategol aneglur sy'n pylu'r llinellau atebolrwydd ac yn ychwanegu cymhlethdod diangen. Dyna pam yr wyf wedi cyflwyno gwelliant 91 a'i welliannau canlyniadol unwaith eto. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein gwelliannau. 

I ymateb i'r pwynt a wnaeth Laura Anne Jones, rwy'n credu fy mod yn fy sylwadau agoriadol yn glir iawn ynghylch natur benodol y pwerau hyn. Maen nhw'n benodol iawn. Maen nhw'n ymwneud yn benodol â rhaglenni cyflogadwyedd a, hebddyn nhw, byddai ein gallu i gyflwyno'r rhaglenni hynny mewn perygl. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliannau ar wahân i'r rhai yn fy enw i. 

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 32? Nac oes. Felly, mae gwelliant 32 yn cael ei dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 33 (Jeremy Miles).

Ydy. Unrhyw Aelod yn gwrthwynebu 33? Nac oes. Felly, mae gwelliant 33 yn cael ei dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 34 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 35 (Jeremy Miles).

Ydy. Felly, gwelliant 35. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae 35 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 36 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 37 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 38 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 88 (Laura Anne Jones).

Mae 88 yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i 88? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe fydd yna bleidlais ar welliant 88. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, nid yw gwelliant 88 wedi ei dderbyn. 

Gwelliant 88: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

17:50
Grŵp 12: Diffiniadau o addysg bellach (Gwelliannau 39, 40, 41)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 12, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â diffiniadau o addysg bellach. Gwelliant 39 yw'r prif welliant. Y Gweinidog i gynnig y gwelliant hwnnw ac i siarad i'r grŵp. 

Cynigiwyd gwelliant 39 (Jeremy Miles).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliannau 39, 40 a 41 a gyflwynwyd yn fy enw i yn egluro'r disgrifiadau o lefelau cymwysterau at ddibenion dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddisgrifio addysg a hyfforddiant perthnasol at ddibenion dyletswydd y comisiwn i sicrhau cyfleusterau priodol ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant i bobl 19 oed neu hŷn. Mae'r diwygiadau'n egluro, pan fydd Gweinidogion Cymru yn pennu lefel cyrhaeddiad at ddibenion y rheoliadau hyn, y cânt wneud hynny gan gyfeirio at fframwaith credydau a chymwysterau Cymru neu ddogfen arall a bennir gan Weinidogion Cymru sy'n disgrifio lefelau cymwysterau. Mae cyflwyno'r fframwaith credydau a chymwysterau i Gymru fel pwynt cyfeirio ar gyfer disgrifio lefelau cymwysterau yn fwy cynhwysfawr na'r hyn a geir yn y Bil fel y'i cyflwynwyd, a oedd dim ond yn cyfeirio at gymwysterau TGAU a Safon Uwch. Er nad yw'r gwelliant yn newid effaith yr adran hon yn sylweddol, mae'n tanlinellu ein hymrwymiad i fwy o barch cydradd rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd drwy integreiddio pwynt cyfeirio mwy cyffredinol FfCChC, sy'n cynnwys pob math o gymwysterau. Felly, galwaf ar Aelodau i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i.  

Does gyda fi neb eisiau cyfrannu ar y grŵp yma ymhellach i'r Gweinidog. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 39? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 39. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Cynigiwyd gwelliant 40 (Jeremy Miles).

Ydy. Felly, a oes gwrthwynebiad i welliant 40? Nac oes. Felly, mae gwelliant 40 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 41 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 89 (Laura Anne Jones).

Ydy, mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 89? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 89. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 89. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn gwrthwynebu, ac felly mae gwelliant 89 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 89: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 42 (Jeremy Miles).

Ydy, mae gwelliant 42 wedi ei symud. 

A oes gwrthwynebiad i welliant 42? Dim gwrthwynebiad i welliant 42.

Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 13: Gofynion cyflogeion a chyflogeion posibl (Gwelliant 43)

Y grŵp nesaf yw grŵp 13, y grŵp sydd yn ymwneud â gofynion cyflogeion a chyflogeion posibl. Gwelliant 43 yw'r gwelliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig y gwelliant. 

Cynigiwyd gwelliant 43 (Jeremy Miles).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 43 wedi'i gyflwyno i fynd i'r afael â phryderon a nodwyd gan undebau llafur ynghylch sut y bydd y comisiwn yn mynd i'r afael ag anghenion cyflogeion wrth gyflawni ei ddyletswyddau i sicrhau cyfleusterau ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant. Ar hyn o bryd, mae adran 95 o'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn roi sylw, ymhlith pethau eraill, i ofynion cyflogwyr mewn cysylltiad â'r addysg a'r hyfforddiant sy'n ofynnol mewn gwahanol sectorau cyflogaeth. Mae'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn roi sylw i ofynion cyflogeion a darpar gyflogeion, yn ogystal â gofynion cyflogwyr. Bydd y gwelliant yn sicrhau bod y comisiwn yn ystyried anghenion a buddiannau cyflogeion i wrthbwyso buddiannau cyflogwyr wrth gyflawni ei ddyletswyddau i sicrhau cyfleusterau priodol a rhesymol ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant. Galwaf felly ar Aelodau i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i.

Does gyda fi ddim neb sydd eisiau siarad yn y grŵp yma. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 43? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, felly derbynnir gwelliant 43. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 90. 

Laura Jones, a yw'n cael ei gynnig? 

Ydy gwelliant 90 yn cael ei symud, Laura Jones? 

A yw'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 90 (Laura Anne Jones).

A oes gwrthwynebiad i welliant 90? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 90. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 90 wedi'i wrthod. 

17:55

Gwelliant 90: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 91 (Laura Anne Jones).

Ydy, mae'n cael ei symud gan Laura Jones. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 91? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, cymrwn ni bleidlais ar welliant 91. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 91 yw hwn.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 91 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 91: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 44 (Jeremy Miles).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 44? 

A oes gwrthwynebiad i welliant 44?

Nac oes. Felly, mae gwelliant 44 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 45 (Jeremy Miles).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 45? Nac oes. Felly, mae gwelliant 45 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 46 (Jeremy Miles).

Yn cael ei symud. Felly, oes gwrthwynebiad i 46? Nac oes. Felly, mae 46 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 92 (Laura Anne Jones).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 92? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, mae yna bleidlais ar welliant 92. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 92 wedi'i wrthod.

Gwelliant 92: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 93 (Laura Anne Jones).

Yn cael ei symud, ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 93? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu 93. Felly, bydd yna bleidlais ar welliant 93. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 93. 

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 93 wedi'i wrthod.

Gwelliant 93: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cyigiwyd gwelliant 94 (Laura Jones).

Ydy e'n cael ei symud? Ydy. Ydy e'n cael gael ei dderbyn neu ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Felly, fe wnawn ni gael pleidlais ar welliant 94. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 94.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 94 wedi'i wrthod.

Gwelliant 94: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 47 (Jeremy Miles).

Ydy. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 47? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 47 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 95 (Laura Anne Jones).

Ydy, mae'n cael ei symud. Oes yna wrthwynebiad i welliant 95? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 95. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 95.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 95 wedi ei wrthod.

18:00

Gwelliant 95: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 48 (Jeremy Miles).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 48? Oes gwrthwynebiad? Na, does dim gwrthwynebiad. Felly, does dim angen pleidlais. Mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 49 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 50 (Jeremy Miles).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 50? Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 50.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 51 (Jeremy Miles).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 51? Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae 51 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 52 (Jeremy Miles).

Ydy, yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 52.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 53 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 54 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 55 (Jeremy Miles).

Ydy. Gwelliant 55, a oes gwrthwynebiad? Na, dim gwrthwynebiad. Felly, mae gwelliant 55 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 56 (Jeremy Miles).

Ydy e'n cael ei wrthwynebu? Nac oes, does dim gwrthwynebiad. Felly, mae gwelliant 56 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 57 (Jeremy Miles).

Ydy.

Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes, dim gwrthwynebiad. Felly, mae 57 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 58 (Jeremy Miles).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Na, dim gwrthwynebiad. Felly, mae 58 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 59 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 60 (Jeremy Miles).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i 60? Na, does dim gwrthwynebiad i 60. Felly, mae'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 61 (Jeremy Miles).

Oes yna wrthwynebiad? Nac oes, does dim gwrthwynebiad. Felly, mae'n cael ei dderbyn—gwelliant 61, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 62 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 96 (Laura Anne Jones).

Yn cael ei symud gan Laura Jones. Oes gwrthwynebiad i welliant 96? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe fydd yna bleidlais ar welliant 96. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 96 wedi ei wrthod.

Gwelliant 96: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 97 (Laura Anne Jones).

Ydy, mae'n cael ei symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 97? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 97. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 97.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 97 wedi ei wrthod.

Gwelliant 97: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 98 (Laura Anne Jones).

Symud, ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 98? [Gwrthwynebiad.] Oes. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 98. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 98.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 98 wedi ei wrthod.

18:05

Gwelliant 98: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 99 (Laura Anne Jones).

Ydy, mae'n cael ei symud. Oes yna wrthwynebiad i welliant 99? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 99. Agor y bleidlais.

Gwelliant 99.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac mae gwelliant 99 wedi ei wrthod.

Gwelliant 99: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 100 (Laura Anne Jones).

Symud, ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 100?  [Gwrthwynebiad.] Fe gawn ni bleidlais ar welliant rhif 100. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 100.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, ac 38 yn erbyn. 

Gwelliant 100: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:06.

18:30

Ailymgynullodd y Senedd am 18:34, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Grŵp 14: Rhannu gwybodaeth (Gwelliannau 101, 102)

Dyma ni'n ailddechrau, gyda grŵp 14 o welliannau. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â rhannu gwybodaeth. Gwelliant 101 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Laura Jones i gyflwyno'r gwelliant hynny—Laura Jones.

Cynigiwyd gwelliant 101 (Laura Anne Jones).

Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau siarad am y ddau welliant yn y grŵp hwn. Er mai dim ond yr hyn a welaf fel gwelliant technegol angenrheidiol yw gwelliant 101, mae gwelliant 102 yn cael ei ailgyflwyno er mwyn ceisio, unwaith eto, gwella adran 128 yn unol ag un o'r gwelliannau a awgrymwyd gan CCAUC, drwy ehangu'r diffiniad o wybodaeth o gyflwyno’r cais i dderbyn y cynnig yn y Bil i sicrhau ein bod yn gwneud popeth sy'n angenrheidiol o ran ymgynghori. Diolch.

18:35

Diolch, Llywydd. Ni allaf gefnogi gwelliant 101, gan ei fod yn ddiangen, mewn gwirionedd. Fel y nodir yn adran 6 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y tabl yn Atodlen 1 i'r Ddeddf honno i'w dehongli yn unol â'r tabl hwnnw, pan fyddan nhw'n ymddangos mewn Deddf Senedd Cymru. Diffinnir 'Ysgrifennydd Gwladol' yn y tabl fel 'un o Brif Ysgrifenyddion Gwladol Ei Mawrhydi' ac felly byddai'n cynnwys unrhyw un o'r Ysgrifenyddion Gwladol.

Ni allaf ychwaith gefnogi gwelliant 102, gan ei fod yn ehangu'r rhestr o unigolion a all rannu gwybodaeth â'r comisiwn i gynnwys unrhyw unigolyn arall y mae'r comisiwn yn ei ystyried yn briodol neu a allai gadw gwybodaeth am unrhyw fater y mae gan y comisiwn swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef. Mae'r rhestr o unigolion yn adran 130 wedi'i datblygu er mwyn bod yn briodol eang i gynnwys pawb y gallai fod angen iddyn nhw rannu gwybodaeth â'r comisiwn. Hefyd, caiff Gweinidogion Cymru ychwanegu unigolion eraill at y rhestr drwy reoliadau. Bydd y dull hwn yn galluogi pobl i gael eu hychwanegu at y rhestr mewn modd rheoledig yn dilyn yr ymgynghoriad angenrheidiol a chraffu priodol gan y Senedd. Felly, galwaf ar Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn.

Diolch, Llywydd. Wel, rwy'n siŵr y bydd fy ngrŵp a CCAUC wedi'u digalonni o weld bod y gwelliannau wedi'u gwrthod gan y Gweinidog yn y fan yma. Mae'n ddryslyd pam mae'r Gweinidog yn credu na fyddai'r comisiwn yn cael budd o gronfa ehangach o ymgynghori ynghylch arfer ei swyddogaethau, a gofynnaf i'r Senedd ystyried hyn.

Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 101? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gymrwn ni bleidlais ar welliant 101. Agor y bleidlais.

Agor y bleidlais ar welliant 101.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 101 wedi'i wrthod.

Gwelliant 101: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 102 (Laura Anne Jones).

Symud. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 102? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gymrwn ni bleidlais ar welliant 102. Agor y bleidlais.

Agor y bleidlais ar welliant 102.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 102 wedi'i wrthod.

Gwelliant 102: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 63 (Jeremy Miles).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 63? A oes gwrthwynebiad? Does dim gwrthwynebiad. Felly, mae yna dderbyn ar welliant 63.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 64 (Jeremy Miles).

Oes yna wrthwynebiad i welliant 64? Na, does dim gwrthwynebiad. Felly, derbynnir gwelliant 64.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 15: Diddymu corfforaethau addysg uwch (Gwelliannau 103, 104)

Grŵp 15 yw'r grŵp nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau'n ymwneud â diddymu corfforaethau addysg uwch. Gwelliant 103 yw'r prif welliant yn y grŵp, ac rwy'n galw ar Laura Jones i gynnig y prif welliant—Laura Jones.

Cynigiwyd gwelliant 103 (Laura Anne Jones).

Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau siarad am y ddau welliant yn y grŵp hwn. Mae gwelliannau 103 a 104 ill dau yn dileu'r pŵer i'r comisiwn ddiddymu corfforaethau addysg uwch yng Nghymru. Mae'n gwbl annerbyniol, yn fy marn i, i'r comisiwn fod â'r gallu ac mae'n amlwg iawn ei fod yn mynd yn groes i fy egwyddor arweiniol o'r Bil hwn, sy'n cynnal dull o weithredu hyd braich go iawn. Fel y dywedais i wrth y Gweinidog yn gynharach, mae'r pŵer hwn yn bygwth annibyniaeth corfforaethau addysg uwch heb siarter frenhinol, a fyddai'n cael effaith arbennig o negyddol yng Nghymru, gan ei bod yn cwmpasu hanner ein prifysgolion. Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi dweud y byddai'n gwanhau yn hytrach na chryfhau'r sector pe bai'r prifysgolion hyn yn cael llai o ymreolaeth. Nododd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam y byddai hyn yn rhoi CAUau yng Nghymru yn y sefyllfa wannaf ledled y DU gyfan.

Yn Lloegr, cafodd darpariaethau o'r fath eu dileu o ddeddfwriaeth yn 2017. Mae'r Gweinidog wedi methu o hyd â chyfiawnhau pam y mae angen cadw'r pwerau hyn pan ydyn nhw wedi'u dileu mewn mannau eraill yn y DU, gan orfodi Cymru i fod mewn sefyllfa o fod yn allanolyn rhyfedd heb gyfiawnhad. Diolch.

Mae pawb wrth eu bodd eich bod wedi fy ngalw i [Chwerthin.] Roeddwn i eisiau dweud nad wyf yn credu bod y gwelliannau hyn mewn gwirionedd yn adlewyrchu'r ffaith bod y sefydliadau'n cael eu bygwth gan hyn. Nid wyf yn credu bod eu hannibyniaeth yn cael ei bygwth ganddo, felly nid wyf yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp. Ond, hoffwn gael rhywfaint o eglurder o hyd gan y Gweinidog, oherwydd mae angen rhyw ddull arnoch i ddiddymu corfforaethau addysg uwch, ac mae angen cynnwys y dull hwnnw mewn deddfwriaeth. Craidd y gwelliannau yw y gall Gweinidogion barhau i ddiddymu corfforaeth addysg uwch heb ganiatâd os ydyn nhw o'r farn bod cydsyniad yn cael ei wrthod yn afresymol, a dyna'r pwynt pwysig.

Felly, dau gwestiwn i'r Gweinidog: a oes unrhyw senarios sydd ar fin digwydd—a dywedaf wrth y Gweinidog mai dyna'r pwynt allweddol: unrhyw senarios sydd ar fin digwydd—pryd y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried bod cydsyniad yn cael ei ddal yn ôl yn afresymol, ac a yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl o gwbl y bydd yn defnyddio pwerau diddymu ac eithrio ar gais corfforaeth addysg uwch?

18:40

Ni allaf gefnogi gwelliannau 103 a 104. Mae cadw pŵer wrth gefn i ddiddymu corfforaeth addysg uwch, mewn gwirionedd, yn angenrheidiol er mwyn sicrhau, mewn amgylchiadau eithriadol iawn, ac yn amodol ar fesurau diogelu ac amddiffyniadau, y gellir gwneud trefniadau i ddiddymu CAU yn ddidrafferth ac ar gyflymder priodol a sicrhau y gellir gwneud trefniadau ar gyfer trosglwyddo dysgwyr, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i sefydliadau eraill mewn modd rheoledig. Fel y dywedais i, mae'n bŵer wrth gefn i sicrhau ein bod yn gallu diogelu arian cyhoeddus a buddiannau dysgwyr yn effeithiol.

Er mwyn ymdrin â'r pwyntiau y mae Hefin David wedi'u codi, nid wyf yn bwriadu i'r pŵer hwn hwyluso'r ffaith bod Gweinidogion Cymru yn diddymu addysg uwch fel rhan o rywfaint o ailstrwythuro mawr. Caiff Gweinidogion Cymru wneud Gorchymyn heb gydsyniad y gorfforaeth addysg uwch o dan sylw dim ond pan fyddan nhw o'r farn bod cydsyniad wedi bod yn afresymol—

Rai blynyddoedd yn ôl, roedd y Gweinidog addysg ar y pryd am gyfuno prifysgol Casnewydd, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd yma yng Nghaerdydd. O dan y pwerau yr ydych chi'n eu rhoi ar waith yn y Bil hwn, a fyddai'r Gweinidog yn gallu sbarduno newid o'r fath? Heddiw, rydym yn mwynhau Prifysgol Fetropolitan Caerdydd fel un o'r prifysgolion ôl-1992 mwyaf llwyddiannus oherwydd, bryd hynny, ni allai'r Gweinidog dros addysg orfodi'r uno hwnnw.

Dyna'r math o bryder a gydnabuwyd yng Nghyfnod 2, pan gyflwynwyd y gwelliannau i ddarparu'r amddiffyniadau ychwanegol y mae'r Bil, fel y mae'n dod i Gyfnod 3, eisoes yn eu cynnwys.

Fel yr oeddwn i'n ei ddweud, dim ond heb gydsyniad y gorfforaeth ei hun y gellir gwneud y Gorchymyn pan fo'r cydsyniad hwnnw wedi'i atal neu ei ohirio'n afresymol. Bydd penderfyniad gan Weinidogion Cymru bod cydsyniad wedi'i atal neu ei ohirio'n afresymol yn gallu cael ei herio gan adolygiad barnwrol yn y llysoedd, ac, o dan yr amgylchiadau eithriadol iawn pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn bod cydsyniad wedi'i wrthod yn afresymol, bydd yn rhaid i'w rhesymu dros ddod i'r farn honno fod yn ddigon cryf i gyfiawnhau'r penderfyniad hwnnw, a bydd angen i'r penderfyniad fod wedi'i wneud yn unol ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus, neu fel arall gellid ei ddileu neu ei ddatgan yn anghyfreithlon. Felly, mae'r amddiffyniad hwnnw'n amddiffyniad newydd yn y Bil, sydd wedi'i gynnwys o ganlyniad i drafodaethau Cyfnod 2.

Mae mesur diogelu pellach yn y Bil, a ddarperir gan y gofyniad bod Gweinidogion yn cyhoeddi ac yn parhau i adolygu datganiad sy'n nodi o dan ba amgylchiadau y bwriedir arfer y pŵer i wneud Gorchymyn i ddiddymu CAU yng Nghymru. A chyn gwneud y datganiad hwnnw, mae'n ofynnol i Weinidogion ymgynghori ag unigolion sy'n briodol yn eu barn nhw, a gosod y datganiad gerbron y Senedd cyn gynted â phosibl ar ôl ei gyhoeddi.

Mae'r sefydliadau siarter a'r CAUau wedi'u creu a'u diddymu gan ddefnyddio gwahanol ddulliau cyfreithiol. Dyna'r gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddau, ac mae'r Bil, fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 2, yn sicrhau bod mwy o debygrwydd rhwng y sefydliadau yn hynny o beth. Dyna fu amcan y gwelliannau yr ydym eisoes wedi'u gwneud i'r Bil, ac nad yw prifysgolion yng Nghymru sy'n gorfforaethau addysg uwch o dan anfantais sylweddol o'u cymharu â phrifysgolion siarter, lle, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau hynny, efallai y bydd angen diddymu angenrheidiol, yn amodol ar y mesurau diogelu.

Hoffwn ddiolch i Brifysgolion Cymru am weithio gyda ni, gweithio gyda fy swyddogion, mewn cysylltiad â hyn. Rwy'n cydnabod yn llwyr nad yw'r gwelliannau a gyflwynais yng Nghyfnod 2 yn darparu'r cyfan o'r hyn yr oedd Prifysgolion Cymru yn chwilio amdano, ond credaf eu bod yn taro cydbwysedd priodol rhwng ymreolaeth sefydliadau unigol a chyfrifoldeb y Llywodraeth i gamu i mewn pe bai angen gwneud hynny mewn amgylchiadau eithriadol iawn, ac felly galwaf ar Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn.

18:45

Diolch, Llywydd. Mae'n dda clywed Hefin David, yr Aelod dros Gaerffili, a fy arweinydd, Andrew R.T. Davies, yn deall sail ein pryderon yn hyn o beth. Rydym yn sylweddoli bod rhai newidiadau wedi'u gwneud, Gweinidog, ond dim ond cymeradwyo ein gwelliannau heddiw fyddai mynd i'r afael â'r pryderon hyn yn llawn. Mae'n gwbl ddiangen i'r comisiwn fod â'r pŵer i ddiddymu corfforaethau addysg uwch, ac mae'n cynrychioli'r hyn na allaf ond ei ddisgrifio fel enghraifft wych o orgyrraedd ac ehangu amcanion yn raddol. Ailadroddaf fy safbwynt y dylid mynd ar drywydd dull gweithredu hyd braich go iawn, ym mhob ystyr, mewn cysylltiad â'r Bil hwn, a gofynnaf i'r Aelodau ein cefnogi.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 103? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 103. Agor y bleidlais.

Gwelliant 103.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn gwrthwynebu. Felly, mae gwelliant 103 wedi ei wrthod.

Gwelliant 103: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 104 (Laura Anne Jones.)

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 104? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 104. Agor y bleidlais.

Gwelliant 104.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 104 wedi ei wrthod.

Gwelliant 104: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 16: Diogelu data (Gwelliant 65)

Grŵp 16 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â diogelu data. Gwelliant 65 yw'r unig welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig gwelliant 65. 

Cynigiwyd gwelliant 65 (Jeremy Miles).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 65 yn mewnosod adran newydd yn y Bil, gan roi, y tu hwnt i amheuaeth nad yw unrhyw ddyletswydd neu bŵer yn y Bil neu oddi tano sy'n ei gwneud yn ofynnol neu'n galluogi datgelu neu ddefnyddio gwybodaeth yn gweithredu'n groes i unrhyw ddeddfwriaeth diogelu data bresennol. Nid yw'r gwelliant yn newid effaith y ddeddfwriaeth. Fel y dywedais i o'r blaen, bydd yr holl ddata a ddefnyddir neu a ddatgelir o dan y Bil yn parhau i fod yn ddarostyngedig i'r holl ddeddfwriaeth diogelu data bresennol berthnasol. Mae'r gwelliant hwn yn rhoi hynny y tu hwnt i amheuaeth, ac mae hefyd yn sicrhau na ellid dehongli pwerau a dyletswyddau o'r fath fel rhai sy'n addasu deddfwriaeth diogelu data, a galwaf ar Aelodau i gefnogi'r gwelliant.

Does gen i ddim siaradwyr pellach. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 65? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, does yna ddim. Felly, derbynnir gwelliant 65.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 105 (Laura Anne Jones).

Mae gwelliant 105 yn cael ei symud. Os derbynnir gwelliant 105, bydd gwelliannau 106, 107, 108, 109, 66, 110, 111 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 105? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] 

Yn sydyn iawn yn awyddus iawn. [Chwerthin.]

Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 105. Agor y bleidlais.

Mae hon yn bleidlais ar welliant 105.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac, felly, mae gwelliant 105 wedi ei wrthod, gyda'r gwelliannau y gwnes i eu hadrodd yn methu.

Gwelliant 105: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Sydd yn mynd â ni nawr i grŵp—[Torri ar draws.]

Iawn. Rydym yn cymryd y pleidleisiau ar yr holl welliannau hynny, rwyf newydd sylweddoli.

Gwelliant 106. Ydy e'n cael ei symud?

18:50

Cynigiwyd gwelliant 106 (Laura Anne Jones).

Ydy. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 106? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 106. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 106 yw hwn.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 106 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 106: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 107 (Laura Anne Jones).

Ydy, mae'n cael ei symud. A oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, gwelliant 107 i bleidlais. Agor y bleidlais.

Gwelliant 107. 

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 107 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 107: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 108 (Laura Anne Jones).

Symud. Felly, a oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 108. Agor y bleidlais.

Gwelliant 108. 

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 108 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 108: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 109 (Laura Anne Jones).

Mae'n cael ei symud. Ac, felly, a oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 109. Agor y bleidlais.

Gwelliant 109. 

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 109 wedi ei wrthod.

Gwelliant 109: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 66 (Jeremy Miles).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 66? A oes gwrthwynebiad i 66? 

Gwelliant 66.

Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 66. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 110 (Laura Anne Jones).

Ydw. 

A oes gwrthwynebiad i welliant 110? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 110. Agor y bleidlais.

Gwelliant 110.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 110 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 110: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 111 (Laura Anne Jones).

Mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Pleidlais felly ar welliant 111. Agor y bleidlais.

Gwelliant 111. 

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 111 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 111: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 17: Dysgu oedolion yn y gymuned (Gwelliannau 112, 113, 115, 117)

Y grŵp nesaf felly yw grŵp 17. Ac mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â dysgu oedolion yn y gymuned. Gwelliant 112 yw'r prif welliant. Galwaf ar Laura Jones i gyflwyno'r gwelliant yma.  

Cynigiwyd gwelliant 112 (Laura Anne Jones).

Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau siarad am yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Mae gwelliant 112 yn bodoli i sicrhau bod dysgu oedolion yn y gymuned yn cael ei gynnwys yn y diffiniad o addysg drydyddol ac i wneud i'r diffiniad o ddysgu oedolion yn y gymuned weithredu'n briodol yn y Bil. Yn ychwanegol at hyn, mae gwelliannau 115 a 117 yn gysylltiedig â gwelliannau 112 a 113, a byddan nhw'n sicrhau bod dysgu oedolion yn y gymuned yn cael ei gynnwys yn niffiniad y Bil o'r term.

Mae dysgu oedolion yn y gymuned yn hanfodol os ydym ni am sicrhau, pan fydd cyfle'n codi i greu swyddi sgiliau uwch yng Nghymru, ein bod yn gallu manteisio arnyn nhw. Mae angen i ni sicrhau nad yw dyhead a chyfleoedd ar gael i'n pobl ifanc yn unig, er bod y Gweinidog yn gwybod bod hwn yn faes lle mae angen iddo wneud gwaith helaeth. Mae rhieni sy'n gweithio eisiau gallu cymryd y cam nesaf ar ysgol eu gyrfa ac eisiau gwella eu cymwysterau neu ddysgu sgil newydd. Mewn llawer o achosion, hwn fyddai eu cymhwyster ffurfiol cyntaf.

Er nad yw'r Gweinidog yn debygol o dderbyn y gwelliannau hyn heddiw, byddwn i'n ei annog ef a'i adran i edrych ar ddysgu oedolion yn y gymuned fel ei fod yn diwallu anghenion cymunedau'n llawn ac y gall y rhai sydd yn dymuno cyflawni, wneud hynny.

Bydd gwelliant 113, ar y llaw arall, yn golygu bod 'lefel mynediad' wedi'i diffinio'n glir yn y Bil, sy'n welliant angenrheidiol, yn fy marn i, er eglurder o fewn y ddeddfwriaeth, a gofynnaf i'r Aelodau ystyried hyn. Diolch.

18:55

Hoffwn ailadrodd y pwysigrwydd a roddaf ar ddysgu oedolion, ar ddysgu gydol oes, a sicrhau bod Cymru'n genedl o ail gyfle lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, ac mae'r darpariaethau yn y Bil hwn, sydd eisoes yn cynnwys dysgu oedolion yn y gymuned, yn hanfodol i gyflawni hyn. Felly, er fy mod yn deall y bwriad y tu ôl i'r gwelliannau yn y grŵp hwn, ni allaf eu cefnogi gan nad ydyn nhw'n angenrheidiol, ac nid ydyn nhw yn ychwanegu dim at y Bil na'r ffordd y mae'n gweithredu.

Mae gwelliant 117 yn ychwanegu 'dysgu oedolion yn y gymuned' at y diffiniad o addysg drydyddol. Mae hyn yn ddiangen gan ei fod eisoes wedi'i gynnwys fel rhan o'r diffiniad hwnnw fel y'i darllenir gydag adrannau 141(2), (4) a (5).

Mae gwelliannau 112, 113 a 115, yr wyf i hefyd yn eu gwrthod, yn ymwneud â'r diffiniad o ddysgu oedolion yn y gymuned. Fel y dywedais i, nid oes angen hyn gan fod dysgu oedolion yn y gymuned eisoes wedi'i gynnwys yn y diffiniadau presennol.

Gan weithio gyda'n grŵp cyfeirio allanol ar gyfer dysgu oedolion, rydym eisoes yn profi ac yn dylunio dulliau cyffrous o wireddu'r genedl ail gyfle honno. Mae hyn yn cynnwys rhaglen o gydlynu a chamau gweithredu cenedlaethol, sydd eisoes yn gweithio i wireddu ein hymrwymiad i ddysgu gydol oes fel y'i mynegir yn y dyletswyddau strategol ac mewn mannau eraill yn y Bil. Mae'r diffiniad o ddysgu oedolion yn y gymuned hefyd yn dibynnu ar y diffiniad o 'lefel 2' yn adran 93 o'r Bil, sydd wedi'i ddileu ar ôl i fy ngwelliannau 39, 40 a 41 gael eu cytuno yng ngrŵp 12.

Nid yw'r Bil yn cynnwys darpariaeth benodol mewn cysylltiad â dysgu oedolion yn y gymuned o gofio ei fod eisoes wedi'i gwmpasu gan y diffiniad o addysg drydyddol yn y Bil. Byddai dyletswydd y comisiwn i sicrhau y darperir cyfleusterau rhesymol ar gyfer addysg a hyfforddiant i bobl dros 19 oed, yn unol ag adran 94, yn cwmpasu darparu dysgu oedolion yn y gymuned. Hefyd, gallai'r addysg bellach a'r hyfforddiant a gwmpesir gan ddyletswydd y comisiwn yn adran 93 i ddarparu cyfleusterau priodol, yn amodol ar wneud rheoliadau o dan adran 93(3), hefyd gynnwys dysgu oedolion yn y gymuned.

Fel y dywedais i wrth drafod y gwelliannau arfaethedig sy'n diffinio prentisiaethau gradd mewn grŵp cynharach, mae diffinio dysgu oedolion yn y gymuned ar wahân i addysg bellach a hyfforddiant yn peryglu amwysedd ynghylch a yw dysgu oedolion yn y gymuned o fewn cwmpas y cyfeiriadau niferus at addysg bellach a hyfforddiant mewn mannau eraill yn y Bil, ac felly galwaf ar Aelodau i wrthod yr holl welliannau yn y grŵp hwn.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, diolch i chi am roi mwy o eglurder ac am yr hyn yr ydych chi wedi'i ychwanegu eisoes, ond nid yw eglurder pellach o fewn Bil byth yn beth drwg. Yr unig ddiben y gallaf ddychmygu ar gyfer ei wrthod yw cadw amwysedd bwriadol o fewn elfennau o'r Bil, sydd, yn yr achos hwn, yn arwain at hepgor dysgu oedolion yn y gymuned lle credaf yn wirioneddol y dylai fod yn bresennol, a gofynnaf i'r Aelodau ystyried hyn. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 112? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, pleidlais ar welliant 112. Agor y bleidlais hynny. 

Gwelliant 112.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 112 wedi ei wrthod.

Gwelliant 112: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 114 (Laura Anne Jones). 

Ydy, mae'n cael ei symud. Felly, oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, mi wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 114.

Agor y bleidlais ar welliant 114.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 114: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 113 (Laura Anne Jones).

Mae'n cael ei symud. Felly, oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 113. 

Gwelliant 113.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn, felly mae gwelliant 113 wedi'i wrthod.

19:00

Gwelliant 113: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 67 (Jeremy Miles).

Felly, gwelliant 67—oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant  67 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 115 (Laura Anne Jones).

Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 115. 

Agor y bleidlais, gwelliant 115.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 115 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 115: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 116 (Laura Anne Jones).

Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly pleidlais ar welliant 116. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 116.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 116 wedi'i wrthod.

Gwelliant 116: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 117 (Laura Anne Jones).

Oes gwrthwynebiad i welliant 117? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 117. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 117.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn, felly mae gwelliant 117 wedi'i wrthod.

Gwelliant 117: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 68 (Jeremy Miles).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 68? Does dim gwrthwynebiad, felly derbynnir gwelliant 68. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 69 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 118 (Laura Anne Jones).

Y cwestiwn yw: a oes gwrthwynebiad i welliant 118? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly, pleidlais ar welliant 118. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 118.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 118 wedi'i wrthod.

Gwelliant 118: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 18: Gwelliannau technegol a chanlyniadol (Gwelliannau 70, 71, 72, 73, 74, 75, 77)

Grŵp 18 sydd nesaf; gwelliannau technegol yw'r rhain, a chanlyniadol. Gwelliant 70 yw'r prif welliant. Y Gweinidog i gyflwyno'r gwelliannau yma. 

Cynigiwyd gwelliant 70 (Jeremy Miles).

Diolch, Llywydd. Mae'r holl welliannau yn y grŵp hwn yn ymwneud â newidiadau canlyniadol i'r ddeddfwriaeth bresennol sydd eu hangen oherwydd sefydlu'r comisiwn a chyflwyno'r gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol.

Mae gwelliant 70 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 8(4) o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 i addasu cwmpas darparwyr addysg sy'n dod o fewn dyletswydd Gweinidogion Cymru i sicrhau bod gwasanaethau gyrfa yn cael eu darparu ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr colegau addysg bellach. Mae angen gwelliant i sicrhau bod darparwyr addysg drydyddol sydd wedi'u cofrestru gyda'r comisiwn at ddibenion addysg uwch, ac eithrio sefydliadau yn y sector addysg bellach, yn cael eu heithrio o'r ddyletswydd. Mae hyn yn cyd-fynd ag eithrio sefydliadau yn y sector addysg uwch ar hyn o bryd. Bydd dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yn parhau i fod yn berthnasol mewn cysylltiad â myfyrwyr mewn sefydliadau addysg bellach ac ysgolion, hyd yn oed os yw'r sefydliad addysg bellach wedi'i gofrestru at ddibenion darparu addysg uwch.

Mae gwelliant 71 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 43(5) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986 i sicrhau bod y ddyletswydd i sicrhau rhyddid i lefaru yn berthnasol i brifysgolion, sefydliadau addysg bellach ac unrhyw ddarparwr addysg drydyddol arall sydd wedi'i gofrestru gyda'r comisiwn er mwyn darparu addysg uwch. Mae angen y gwelliant hwn er mwyn sicrhau bod pob darparwr addysg drydyddol sy'n cofrestru gyda'r comisiwn at ddibenion addysg uwch yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd i sicrhau rhyddid i lefaru yn ogystal â phrifysgolion yng Nghymru a sefydliadau yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

Mae gwelliant 72 yn gwneud newidiadau canlyniadol i'r diffiniad o sefydliad yn y sector addysg uwch yng Nghymru o dan adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Ar hyn o bryd, mae'r diffiniad yn dibynnu ar gyfeiriadau at brifysgolion yn cael cymorth ariannol gan CCAUC a phrifysgolion sy'n sefydliadau rheoledig o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Mae'r Bil yn diddymu pŵer ariannu CCAUC a Deddf 2015. Mae'r gwelliant yn sicrhau bod y diffiniad yn cynnwys darparwyr addysg drydyddol sydd wedi'u cofrestru mewn categori o'r gofrestr sy'n rhoi cymhwysedd i gael cyllid oddi wrth y comisiwn at ddibenion addysg uwch neu ymchwil neu arloesi. Nid yw'r gwelliant yn cynnwys sefydliadau yn y sector addysg bellach ac ysgolion yn y diffiniad.

Mae gwelliant 73 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 2A i Ddeddf Safonau Gofal 2000, gan sicrhau bod darparwyr cofrestredig sy'n gymwys i gael arian oddi wrth y comisiwn at ddibenion addysg uwch neu ymchwil neu arloesi yn dod o fewn cwmpas swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru o dan adran 72B o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae'r gwelliant yn galluogi Comisiynydd Plant Cymru i adolygu effaith arfer, neu arfer arfaethedig, unrhyw un o swyddogaethau darparwyr o'r fath ar blant sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru.

Mae gwelliant 74 yn gwneud newidiadau canlyniadol i Atodlenni 2 a 3 i Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, gan sicrhau y caiff y comisiynydd pobl hŷn benderfynu a yw darparwyr cofrestredig sy'n gymwys i gael arian oddi wrth y comisiwn at ddibenion addysg uwch neu ymchwil neu arloesi yn effeithiol o ran diogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn perthnasol yng Nghymru.

Mae gwelliant 75 yn gwneud newidiadau canlyniadol i Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, sy'n nodi y bydd arolygiadau a gynhelir gan y prif arolygydd o dan y Bil yn cael eu hystyried yn weithgareddau a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant at ddibenion Deddf 2006. Bydd hyn yn sicrhau statws parhaus yr arolygiadau hyn fel gweithgareddau a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant yng ngoleuni'r Bil sy'n diddymu swyddogaethau perthnasol o dan Ran 4 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.

Mae gwelliant 77 yn gwneud newidiadau canlyniadol i adran 162 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n darparu bod yn rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng yr awdurdod lleol, pob un o bartneriaid perthnasol yr awdurdod a chyrff eraill sy'n ymwneud â gweithgareddau sy'n berthnasol i oedolion y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw. Mae'r gwelliant yn sicrhau bod y comisiwn yn cael ei ddiffinio fel partner perthnasol i'r graddau y mae'r comisiwn yn arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 92, 93, 94, 96 neu 102(1) o'r Bil. Mae'r gwelliant hwn yn sicrhau hefyd fod Gweinidogion Cymru yn cael eu diffinio fel partner perthnasol i'r graddau y maen nhw'n arfer eu swyddogaethau o dan adrannau 91, 96 neu 102(1) o'r Bil. Mae angen y gwelliant hwn oherwydd diddymu pwerau Gweinidogion Cymru i ariannu addysg bellach o dan Ran 2 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000. Galwaf ar yr Aelodau i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.

19:05

Mae'n rhaid i mi ddatgan y byddaf yn ymatal ar welliant 77. Mae'r gwelliant o ganlyniad i welliant sy'n pasio yng Nghyfnod 2 y gwnes i anghytuno ag ef ac, er mai dim mwy na chymoni yw hyn, gwelliant technegol i lanhau'r Bil, ni allaf ei gefnogi fel mater o egwyddor. Diolch.

Ydy'r Gweinidog eisiau ymateb? Na, does yna ddim ymateb. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 70? A oes gwrthwynebiad i welliant 70? Nac oes, does dim gwrthwynebiad, felly mae'r gwelliant yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

19:10

Cynigiwyd gwelliant 71 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Cynigiwyd gwelliant 72 (Jeremy Miles).

Ydy. A oes gwrthwynebiad i welliant 72? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 73 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 74 (Jeremy Miles).

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 75 (Jeremy Miles).

Ydy e'n cael ei wrthwynebu? A oes gwrthwynebiad? Nac oes, felly rŷm ni'n derbyn gwelliant 75.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 19: Chweched dosbarth (Gwelliannau 161, 162, 76, 163, 164, 165)

Grŵp 19 sydd nesaf, y grŵp yma—y grŵp olaf o welliannau—yn ymwneud â chweched dosbarth. Gwelliant 161 yw'r prif welliant. Rwy'n galw ar Laura Jones i gyflwyno gwelliant 161. 

Cynigiwyd gwelliant 161 (Laura Anne Jones).

Diolch, Llywydd. Yn olaf, hoffwn i siarad am fy ngwelliannau yn y grŵp yn gyntaf. Fel y disgrifiais o'r blaen, mae fy ngrŵp a minnau yn anghytuno'n sylfaenol â phŵer dal Llywodraeth Cymru i ad-drefnu chweched dosbarth. Mae'n rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol fod yn ganolog i'r broses, a bod mewn cydweithrediad, nid yn ddim byd mwy nag ôl-ystyriaeth. Mae gwelliant 161 yn hepgor llinellau o'r Bil sy'n darparu ar gyfer pwerau i'r comisiwn ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth, a oedd o ganlyniad i ddiwygiad i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Yn ychwanegol at hyn, diben gwelliant 162 yw hepgor gwelliant sy'n ychwanegu amod sy'n ymwneud â gwrthwynebiadau i gynigion yng nghyd-destun cymeradwyo Gweinidogion Cymru.

Rwyf hefyd yn cyflwyno gwelliant 163 i ddileu Pennod 3A er mwyn mynd i'r afael â'r ymdrech ddi-baid i gipio pwerau bach dros ad-drefnu chweched dosbarth. Mae hyn yn dilyn pryderon a godwyd yn y cam blaenorol am yr effaith ar chweched dosbarth, gan gynnwys pryderon a godwyd gan y rhai yn y sector, yn enwedig NASUWT. Er eu bod wedi nodi sicrwydd blaenorol y Gweinidog nad yw'r cynigion yn nodi diwedd addysg chweched dosbarth, dyna mae'n ei wneud mewn gwirionedd, pan fydd y dewis o ddilyn addysg ôl-orfodol yn yr ysgol eisoes wedi ei ddileu mewn sawl awdurdod lleol—Blaenau Gwent, Merthyr a Thorfaen.

Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd gymryd camau i liniaru'r risg y bydd dysgwyr ac athrawon Cymraeg yn gadael. Mae NASUWT eisoes wedi derbyn adroddiadau bod hyn yn digwydd, yn enwedig ger y ffin â Lloegr. Mae'n rhaid i ni gofio bod Safon Uwch yn opsiwn poblogaidd a bod 70 y cant o'r ddarpariaeth Safon Uwch a ariennir yn gyhoeddus mewn chweched dosbarth.

Yn olaf, mae gwelliant 165, sy'n gysylltiedig â gwelliannau 161, 162, 163 a 164, yn ceisio dod â darpariaethau sy'n ymwneud â chweched dosbarth yn y Bil yn unol â darpariaethau presennol Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, sy'n ymwneud ag ysgolion cynradd ac uwchradd, fel y mae argymhelliad 29 y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc o'r cyfnod diwethaf yn ei awgrymu.

O ran gwelliant y Gweinidog, byddaf yn ymatal ar y gwelliant hwn. Mae gwelliant 76 yn debyg i welliant 77 yn y grŵp blaenorol, ac mae'n ganlyniad i basio gwelliant yng Nghyfnod 2. Ni wnaethom gymeradwyo'r gwelliant hwnnw yng Nghyfnod 2, ac rydym yn anghytuno'n sylfaenol â safbwynt yr agwedd hon ar y Bil. Ac felly, er ei fod yn welliant cymoni i lanhau'r Bil, ni allaf unwaith eto gefnogi hyn fel mater o egwyddor. Anogaf Aelodau eraill y Senedd i wrando ar y safbwyntiau hyn. Diolch.

Mae'r grŵp yma yn cynnwys gwelliannau sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech. Byddwn ni'n cefnogi gwelliannau 76 a 77 tra'n pleidleisio yn erbyn y gweddill. Y rheswm yw ein bod ni'n teimlo bod y cynigion nawr a fydd yn dod ger bron y comisiwn yn gorfod cael eu—. They will require approval; dwi ddim yn cofio'r gair Cymraeg—

—gan Weinidogion Cymru o ganlyniad i welliannau a wnaed yng Nghyfnod 2, y gwnaethom ni eu cefnogi. Rwy'n falch bod gwelliannau wedi'u gwneud yn hyn o beth o ran chweched dosbarth yn ystod Cyfnod 2, a bod y Gweinidog wedi mynd i'r afael â'r ystod lawn o bryderon a godwyd gan Blaid Cymru ac eraill yn y maes hwn.

Mae dosbarthiadau chwech yn chwarae rhan bwysig ac unigryw o fewn addysg cyfrwng Cymraeg, gan ddiogelu'r model trochi a sicrhau parhad hanfodol i ddatblygiad sgiliau iaith y dysgwyr sydd wedi derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a'u caniatáu hefyd i gyfrannu i ethos Cymraeg eu hysgolion ac i fod yn fodelau rôl ieithyddol a diwylliannol i ddisgyblion iau. Mae'n hanfodol bod y darpariaethau o fewn y Bil yn cefnogi atebolrwydd democrataidd lleol a chenedlaethol, a bod modelau lleol sy'n gweddu anghenion eu cymunedau yn cael eu caniatáu. Felly, rydym ni'n teimlo bod y newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yng Nghyfnod 2, sy'n ymwneud, er enghraifft, â defnyddio'r term 'ailstrwythuro' yn hytrach na 'rhesymoli', yn cwrdd â'r galw, a bod dewisiadau ac anghenion dysgwyr, ac yn enwedig dysgwyr cyfrwng Cymraeg, nawr yn cael eu diogeli, gan y bydden nhw'n cael eu cyfeirio at Weinidogion Cymru pe bai yna wrthwynebiad dilys.

19:15

Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i'n rhannu optimistiaeth y siaradwr blaenorol am y mesurau diogelu sydd ar waith yn y Bil. Rwyf i'n credu, yn y bôn, y dylai pobl gael mynegi dewis ynglŷn â'r ddarpariaeth y maen nhw'n dymuno ei mynychu yn eu hardal nhw. Rwy'n credu y dylai dysgwyr gael pob cyfle i fwynhau ystod eang o ddarpariaeth, p'un a ydyn nhw'n dymuno ymgymryd â'u dysgu ôl-16 ychwanegol mewn sefydliad addysg bellach neu goleg, neu'n dymuno mynychu chweched dosbarth lleol. Ond y realiti yw nad yw'r dewisiadau hynny ar gael ym mhob rhan o'r wlad, ac rydym ni wedi gweld erydiad y dewis hwnnw dros y blynyddoedd.

Un agwedd arall ar erydu'r dewis hwnnw yw'r diffyg dewis sydd ar gael, nid yn unig o ran addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg mewn rhai rhannau o Gymru, ond hefyd addysg mewn ysgolion ffydd mewn rhai rhannau o Gymru hefyd; mae'r Gwasanaeth Addysg Gatholig, yr Eglwys yng Nghymru, yn dymuno gallu cynnig mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ôl-16 ddysgu mewn amgylchedd lle mae nodwedd ffydd, ac nid yw hynny'n gyfle yr wyf i'n gweld yn cael ei hyrwyddo'n weithredol yn y Bil hwn, ac mewn gwirionedd rwy'n credu bod y mathau hynny o gyfleoedd, lle maen nhw ar gael, o dan fygythiad o bosibl, ac nid wyf yn gweld yr amddiffyniadau sydd ar waith o'r gwelliannau sydd wedi eu hawgrymu gan y Gweinidog.

Felly, dyna pam yr wyf i'n siarad o blaid y gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno gan Laura Anne Jones. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yn rhaid i ni roi'r mesurau diogelu hyn ar waith fel bod dewis dysgwyr yn rhywbeth sy'n hollbwysig, wrth symud ymlaen, ac nid yn rhywbeth sy'n cael ei wthio i'r ymylon.

A gaf i ddiolch i Sioned Williams am ei sylwadau cefnogol ynglŷn â'r gwelliannau? Rwy'n credu bod pethau wedi symud ymlaen cryn dipyn ers i Laura Anne Jones fynegi'r pryderon y mae wedi eu hailadrodd yn y ddadl hon heddiw, ac mae'r cysyniad o ad-drefnu, y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn y cwestiwn, eisoes wedi ei ddileu yn llwyr o'r ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gosod ysgyfarnog nad yw'n adlewyrchu realiti'r Bil sy'n dod i Gyfnod 3. Ac rwy'n gobeithio y gallaf gynnig sicrwydd i Darren Millar nad yw'r pryderon y mae ef wedi eu mynegi yn effeithio o gwbl ar y cynigion yn y ddadl heddiw, oherwydd eu bod nhw mewn gwirionedd yn diogelu'r mathau o drefniadau y mae'n sôn amdanyn nhw, yn hytrach na'u rhoi mewn perygl.

Byddaf yn siarad yn gyntaf, os caf i, am y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i, gwelliant 76, sy'n dileu darpariaeth sy'n diwygio Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a fyddai wedi galluogi'r comisiwn i gyfeirio unrhyw gynigion a wneir gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol wirfoddol neu sefydledig sy'n effeithio ar addysg chweched dosbarth fel y'i diffinnir ac sy'n destun gwrthwynebiad dilys i Weinidogion Cymru i wneud penderfyniad. Gan y bydd angen i Weinidogion Cymru gymeradwyo pob cynnig o'r fath sy'n ddarostyngedig i wrthwynebiad dilys bellach, o ganlyniad i welliant a wnes i yng Nghyfnod 2, nid oes angen y ddarpariaeth hon.

Gan droi at y gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, gwrthodaf welliannau 163 a 164 a gwelliannau 161 a 165 hefyd, sy'n ganlyniadol i'r gwelliannau hynny. Mae'r rhain i gyd yn ailadrodd gwelliannau a gyflwynwyd ac a wrthodwyd yng Nghyfnod 2, ac mae fy rhesymau dros eu gwrthod yn aros yr un fath. I grynhoi ar gyfer y cofnod heddiw, mae'r gwelliannau hyn yn dileu'r Bennod 3A newydd y mae'r Bil yn ei mewnosod ar hyn o bryd yn Rhan 3 o Ddeddf 2013, ac yn hytrach yn cadw pwerau presennol Gweinidogion Cymru i ad-drefnu addysg chweched dosbarth, ac yn ymestyn y pwerau hynny i'r comisiwn.

Mae'r Bil yn mewnosod Pennod 3A newydd yn Neddf 2013, yn hytrach na diwygio'r ddarpariaeth bresennol, er mwyn adlewyrchu'n well y newidiadau i'r dirwedd reoleiddiol a achoswyd gan sefydlu'r comisiwn. Bydd y darpariaethau yn y Bennod newydd hon yn galluogi'r comisiwn i fabwysiadu dull mwy strategol, gan gynnig persbectif ehangach i ddarpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion. Drwy'r darpariaethau, sefydlir fframwaith deddfwriaethol sy'n galluogi'r comisiwn i fabwysiadu'r farn strategol hon a chyfarwyddo awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion, gan sicrhau'r cysylltiad yn ôl i'r lefel leol. Drwy ddileu'r gwelliant i Ddeddf 2013 a fewnosodais yn y Bil yng Nghyfnod 2, mae gwelliant 162, a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymeradwyo pob cynnig sy'n effeithio ar addysg chweched dosbarth, hyd yn oed pan nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud. Mae hyn yn ychwanegu biwrocratiaeth ddiangen. Os nad oes gwrthwynebiadau dilys i'r cynnig, nid wyf i'n gweld pa fudd sy'n cael ei ychwanegu drwy fynnu bod angen i Weinidogion Cymru gymeradwyo cynnig o'r fath, ac felly galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant 76, a gyflwynwyd yn fy enw i, ac i wrthod yr holl welliannau eraill yn y grŵp.

19:20

Iawn. Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno â'r cyfan a ddywedodd fy nghyd-Aelod Darren Millar yn gynharach a'i bryderon am ysgolion ffydd a phob chweched dosbarth, ac nid wyf i'n credu o hyd fod y mesurau diogelu yn y Bil yn mynd yn ddigon pell. Darpariaeth ormodol ddylai fod yr unig ran sy'n bwysig yma. Rwyf i o'r farn bod gwrthod y gwelliannau yn y grŵp yn arbennig o rwystredig, mewn gwirionedd, ac mae ymgais parhaus Llywodraeth Cymru i geisio cael rhagor o bwerau dros addysg chweched dosbarth yng Nghymru yn rhywbeth y mae fy ngrŵp a minnau yn pryderu yn ei gylch. Mae'r Llywodraeth wedi gwrando'n rhannol ar bryderon, ond mae'n rhaid iddi wrando'n llwyr ar bryderon NASUWT, Cyngor y Gweithlu Addysg, Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru, nad ydyn nhw'n hapus o hyd â'ch gwelliannau, Gweinidog, ac nid wyf i'n deall pam na allwch chi gefnogi'r gwelliannau hyn. Rwy'n siŵr y bydden nhw'n ychwanegu at y mesurau diogelu yr ydych chi'n dweud eich bod yn dymuno eu cael. Diolch.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 161? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 161. Agor y bleidlais.

Gwelliant 161. 

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 161 wedi ei wrthod.

Gwelliant 161: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 162 (Laura Anne Jones).

Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 162? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 162. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwelliant 162 wedi ei wrthod.

Gwelliant 162: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 76 (Jeremy Miles).

Ydy. Gwelliant 76, oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 76. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 76 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 76: O blaid: 38, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 63 (Laura Anne Jones).

Symud, ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 163. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 163 wedi ei wrthod.

Gwelliant 163: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 164 (Laura Anne Jones).

Ydy. Felly, oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar 164.

Agor y bleidlais ar welliant 164.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 164 wedi'i wrthod.

19:25

Gwelliant 164: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 165 (Laura Anne Jones).

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 165. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae gwelliant 165 yn cael ei wrthod.

Gwelliant 165: O blaid: 16, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 77 (Jeremy Miles).

Ydy. Gwelliant 77, oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 77. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Gwelliant 77 yn cael ei dderbyn.

Gwelliant 77: O blaid: 38, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 119 (Laura Anne Jones).

Yn cael ei symud gan Laura Jones. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gawn ni bleidlais—pam lai—ar welliant 119. Agor y bleidlais. 

Gwelliant 119.

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 119 wedi'i wrthod.

Gwelliant 119: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein cyfres ni o bleidleisiau. Dŷn ni wedi, felly, cyrraedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 o'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a dwi'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil a phob atodlen iddo wedi'i dderbyn. Daw hynny â'n gwaith ni ar Gyfnod 3 i ben am heddiw. Diolch yn fawr i chi i gyd am eich cydweithrediad.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:29.