Y Cyfarfod Llawn
Plenary
15/03/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn inni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf. Cyn inni ofyn i Alun Davies ofyn y cwestiwn, a gaf fi groesawu pobl ifanc ysgol rywle neu'i gilydd i'r oriel gyhoeddus? Dwi'n meddwl taw dyma'r ysgol gyntaf i ymweld â ni ers y cyfnod clo, felly rŷn ni'n arbennig o ddiolchgar ac yn eich croesawu chi'n fawr atom ni heddiw.
Croeso, o ble bynnag rydych chi'n dod, a mwynhewch.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog. Alun Davies sydd â'r cwestiwn cyntaf.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol rhaglen y Cymoedd Technoleg? OQ57800
Llywydd, mae rhaglen y Cymoedd Technoleg yn rhaglen lywodraethu 10 mlynedd gan Lywodraeth Cymru hyd at 2028, gyda Blaenau Gwent yn ganolog iddi. Edrychaf ymlaen at fod gyda'r Aelod yn agoriad y gwaith cydnerth newydd yn Thales, un o'r buddsoddiadau cyfredol mwyaf o fewn y rhaglen.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog, ac rwyf innau'n edrych ymlaen hefyd at ei groesawu yn ôl i Flaenau Gwent. Mae'r ymrwymiad i brosiect y Cymoedd Technoleg ym Mlaenau Gwent, yn ein maniffesto, ac yn y rhaglen lywodraethu, yn fwy, Prif Weinidog, na buddsoddiad yn y fwrdeistref yn unig; mae'n ymrwymiad i'r bobl a'r cymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd. Wrth i Lywodraeth Cymru barhau i fuddsoddi yn y rhaglen gwerth £100 miliwn hon, a ydych chi'n cytuno â mi bod angen ei darparu yn rhan o fuddsoddiad ehangach mewn strategaeth datblygu economaidd ar gyfer rhanbarth cyfan Blaenau'r Cymoedd, ac un sy'n ceisio sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o'r buddsoddiad yn neuoli'r A465? Prif Weinidog, rydym ni eisoes wedi gweld rhywfaint o newyddion da yn yr arolwg o'r farchnad lafur yn ddiweddar, sydd o ganlyniad uniongyrchol i ddull y Llywodraeth hon o fuddsoddi mewn polisi economaidd gweithredol. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu parhau i wneud hyn ym Mlaenau'r Cymoedd.
Wel, Llywydd, diolch i Alun Davies am hynna. Fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, mae Blaenau Gwent ac etholaeth yr Aelod yn ganolog i raglen y Cymoedd Technoleg, ond nid yw'n rhaglen sy'n aros ym Mlaenau Gwent. Ffordd Blaenau'r Cymoedd, fel y mae Alun Davies wedi ei ddweud yn aml ar lawr y Siambr yma, yw'r buddsoddiad unigol mwyaf mewn cynllun seilwaith ffyrdd a wnaed yn ystod y cyfnod datganoli cyfan. Bydd y ffordd ddeuol barhaus y bydd yn ei chreu yn cysylltu canolbarth Lloegr â de-orllewin Cymru a'r M4. Bydd yn lleihau amseroedd teithio. Bydd yn gwella diogelwch ar y ffyrdd. Bydd yn ychwanegu gwytnwch at y rhwydwaith, a bydd adrannau 5 a 6 yn unig yn cynhyrchu gwerth £400 miliwn o wariant yng Nghymru, ond yn enwedig yn y cymunedau hynny y cyfeiriodd Alun Davies atyn nhw yn ei gwestiwn atodol.
Ac mae'r Aelod yn iawn, Llywydd, i dynnu sylw at ffigurau heddiw—y ffigurau cyflogaeth a diweithdra a gyhoeddwyd heddiw—sy'n dangos unwaith eto bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi codi yn gyflymach na'r gyfradd gyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig, bod ein cyfradd diweithdra bellach yn is na'r gyfradd ddiweithdra ledled y Deyrnas Unedig, a'i bod wedi gostwng yn gyflymach na'r Deyrnas Unedig, a bod cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi gwella yn gyflymach nag y gwnaethon nhw wella ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y manteision hynny sy'n cael eu teimlo ledled Cymru yn cael eu teimlo hefyd yng ngogledd y Cymoedd. Dyna pam mae fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething wedi dod ag arweinwyr y pum awdurdod lleol sy'n rhychwantu ffordd Blaenau'r Cymoedd ynghyd, ac wedi nodi gyda nhw pum blaenoriaeth allweddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cannoedd o filoedd o bunnoedd ar y bwrdd i gefnogi datblygiad y flaenoriaeth gyntaf—safleoedd ac adeiladau strategol—ac rwy'n falch iawn o ddweud wrth yr Aelod bod cabinet bargen prifddinas Caerdydd wedi cytuno ddoe ar £1 filiwn i gefnogi'r pedair blaenoriaeth arall, yn ychwanegol at y £30 miliwn y maen nhw wedi ei glustnodi yn eu cyllideb fel cronfa wedi'i neilltuo ar gyfer datblygiadau yng ngogledd y Cymoedd. Mae hynny i gyd, gobeithio, Llywydd, yn rhoi hyder i drigolion etholaeth yr Aelod y bydd rhaglen y Cymoedd Technoleg a'i buddsoddiad yn parhau i ddod â ffyniant i Flaenau Gwent, ond i gymunedau ehangach gogledd y Cymoedd hefyd.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi'r Siambr ar ben ffordd heddiw ynghylch faint o swyddi sydd wedi cael eu creu ers lansio'r prosiect, faint o'r swyddi hynny sydd wedi mynd i'r ardal leol, ac amlinellu hefyd pa asesiad yr ydych chi wedi ei wneud o'r cyfraddau cyflog a gynigiwyd i'r bobl leol hynny, i gefnogi'r gwaith o liniaru tlodi ym Mlaenau Gwent. Diolch.
Gadewch i mi helpu'r Aelod cystal ag y gallaf. Rhwng 2011 a 2021, cynyddodd y gyfradd gyflogaeth ym Mlaenau Gwent 8.1 pwynt canran, ac roedd hynny yn fwy na'r cynnydd mewn cyflogaeth ledled Cymru, a'r cynnydd ar lefel y Deyrnas Unedig hefyd. Dros yr un degawd, gostyngodd y gyfradd ddiweithdra ym Mlaenau Gwent o 16 y cant i 5.3 y cant, gostyngiad mwy nag y byddech chi'n ei ganfod mewn cymunedau eraill ledled Cymru. Mae hynny i gyd yn dangos, Llywydd, llwyddiant buddsoddiadau Llywodraeth Cymru o ran dod â swyddi nid yn unig i'r rhannau hynny o Gymru sydd eisoes yn mwynhau ffyniant, ond i'r rhannau hynny o Gymru lle mae'r swyddi hynny yn arbennig o angenrheidiol i gefnogi datblygiad cymunedau lleol ac economïau lleol.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yng Nghymru? OQ57811
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws amrywiaeth o dechnolegau a graddfeydd, gan gynnwys drwy'r rhaglen ynni môr. Ein blaenoriaeth yw cadw cyfoeth yma, yng Nghymru, ochr yn ochr â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd byd-eang, a'n nod i Gymru yw cynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni ein hunain yn llawn o leiaf.
Diolch, Prif Weinidog. Yn 2019 roedd 51 y cant o'r trydan a ddefnyddiwyd gan Gymru yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ac ynni gwynt ar y tir ac ar y môr oedd yn gwneud y cyfraniad mwyaf. Fodd bynnag, mae'r byd wedi newid yn fawr ers 2019—mae prisiau nwy sy'n mynd drwy'r to a gorddibyniaeth ar nwy Rwsia ledled Ewrop wedi tynnu sylw at fregusrwydd y system bresennol. Mae Cymru yn gyfoethog o ran arfordir; mae pŵer y llanw yn lân, yn wyrdd ac yn ddiddiwedd. Aber Afon Hafren sydd â'r ail amrediad llanw mwyaf yn y byd ac mae'n adnodd sydd heb ei gyffwrdd ar hyn o bryd. Yng ngoleuni'r newid i'r darlun rhyngwladol a'r ysgogiad newydd ar gyfer mwy o hunanddibyniaeth pan ddaw i ynni, beth arall allwn ni ei wneud yng Nghymru i gefnogi prosiectau adnewyddadwy graddfa fawr ein hunain, a sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wthio Llywodraeth y DU i gydnabod pwysigrwydd bod Cymru yn harneisio'r cyfleoedd ar gyfer ynni gwyrdd sydd gennym ni ar garreg ein drws?
Diolch i Jayne Bryant am y cwestiwn pwysig iawn yna yng nghyd-destun y digwyddiadau yr ydym ni'n eu gweld yn datblygu ar draws y byd heddiw. Mae'n rhaid i ni leihau ein dibyniaeth ar bŵer o rannau ansefydlog o'r byd, gyda Llywodraethau na fydden nhw'n bodloni ein profion ar gyfer yr hyn y byddai Llywodraeth resymol a pharchus yn ei ddarparu. Mae'n newyddion da iawn bod dros hanner y trydan a ddefnyddiwyd gennym ni yng Nghymru, yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer, dros hanner yr ynni yr oedd ei angen arnom ni, a chawsom ni'r cyfnod parhaus hwyaf lle'r oeddem ni'n gallu tynnu pŵer o ynni adnewyddadwy yn yr un cyfnod. Ond mae'n rhaid i ni fynd ymhellach, wrth gwrs, ac mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn yn wir, Llywydd, i wneud hynny: cynnig Garn Fach yn y canolbarth—rydym ni wedi trafod hwnnw ar lawr y Senedd yn weddol ddiweddar—ar fin mynd i ran ffurfiol y system gynllunio; datblygiad coedwig Brechfa o ynni gwynt ar y tir, yn ystâd Llywodraeth Cymru ei hun; Awel y Môr, i ddilyn Gwynt y Môr, yn y gogledd, gyda gwynt sefydlog ar y môr; ac Ystâd y Goron yn ymgymryd â chylch prydlesu o hyd at 4 GW o wynt arnofiol yn y môr Celtaidd. Mae gennym ni'r cyfleoedd mwyaf enfawr yma yng Nghymru, ond mae mwy y gellid ac y dylid ei wneud.
Llywydd, rwyf i wedi ailedrych ar adroddiad adolygiad Charles Hendry yn y dyddiau diwethaf. Gallaf ddweud wrthych chi ei bod ei ddarllen yn sobreiddiol iawn, oherwydd, ymhlith y ddadl yr oedd yn ei gwneud dros forlyn llanw bae Abertawe, diogelwch ynni oedd un o'r achosion y canolbwyntiodd yr adolygiad hwnnw arnyn nhw. Pe bai'r cynllun hwnnw wedi cael sêl bendith, byddem ni'n agos iawn erbyn hyn at allu cyflenwi ynni yma yng Nghymru, a byddem ni wedi dysgu llawer iawn, fel y dywedodd adolygiad Hendry, o'r prosiect arddangos hwnnw. Wrth gwrs, mae angen i Lywodraeth y DU ddod yn ôl at y bwrdd, bod yn barod i fuddsoddi yn ynni adnewyddadwy'r dyfodol, a darparu'r tariffau bwydo i mewn a wnaeth wahaniaeth mor bwysig o ran dod â phrisiau ynni haul a gwynt i'r man lle maen nhw heddiw, a lle y gall ynni môr fod y prif opsiwn ar gyfer y dyfodol, ond lle, yn y cyfamser, y mae'n rhaid buddsoddi tra bo'r technolegau hynny yn anochel ar eu camau ffurfiannol yn mynd i fod yn ddrytach nag y bydd technolegau aeddfed. Rydym ni'n cyflwyno'r ddadl honno i Lywodraeth y DU drwy'r amser, a byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i wneud hynny.
Prif Weinidog, mae Mostyn SeaPower Ltd yn cyflwyno tendr ar hyn o bryd ar gyfer adolygiad o'r dyluniad a'r prisiadau cychwynnol ar gyfer cynllun ynni'r llanw yma yn y gogledd, ac un a fyddai'n creu 300 o swyddi adeiladu ac yn cyflogi 35 o bobl yn ystod ei oes weithredol o fwy na 100 mlynedd. Byddai'r cynllun hwn yn darparu trydan carbon isel ar gyfer 82,000 o gartrefi, yn ogystal â phedair milltir o amddiffynfeydd rhag llifogydd, ac yn ôl y rheolwr gyfarwyddwr, maen nhw'n dweud,
'Hyd yma rydym ni wedi buddsoddi yn helaeth heb unrhyw gyllid gan y llywodraeth i gyrraedd y pwynt hwn ond mae angen cymorth arnom ni nawr i roi hyder ychwanegol i ddarpar gyllidwyr fuddsoddi yn y prosiect.'
Mae cynigion gan gynifer ag wyth morlyn arall ar hyd arfordir Cymru, sy'n addas iawn, fel y soniwyd, ar gyfer y math hwn o ynni adnewyddadwy. Nawr, er bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi £20 miliwn y flwyddyn mewn trydan llif llanw, a wnewch chi egluro heddiw pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r prosiectau ynni'r llanw hyn sy'n cael eu cyflwyno nawr yn y flwyddyn ariannol nesaf? Diolch.
Wel, roedd yr Aelod yn gwneud yn eithaf da, Llywydd, roeddwn i'n meddwl, am gryn amser, cyn i'r cwestiwn fynd yn bell oddi ar y trywydd iawn. Edrychwch, gadewch i mi ymateb yn gadarnhaol i'r rhannau a oedd yn rhan wreiddiol cwestiwn Janet Finch-Saunders, oherwydd mae'n gwneud y pwynt pwysig nad Abertawe yw'r unig ran o Gymru sydd ag uchelgeisiau ar gyfer ynni morlynnoedd llanw. Dyna pam, yn ein rhaglen lywodraethu, y mae gennym ni ymrwymiad i ddatblygu her morlynnoedd llanw, a byddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog newid hinsawdd am hynny yn ddiweddarach y prynhawn yma. Bydd hynny yn cynnig cyfle i gymunedau mewn gwahanol rannau o Gymru sy'n teimlo mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i gael y prosiect arddangos hwnnw a fethodd yn Abertawe, i ganiatáu i'r dechnoleg honno gael ei phrofi yn y modd hwnnw.
Rwy'n croesawu'r buddsoddiad o £20 miliwn mewn llif llanw. Mae'n bwysig iawn i ni yma yng Nghymru, ond nid ar gyfer ynni morlynnoedd yn unig y mae hwnnw; bydd yn rhaid iddo hefyd gefnogi ynni'r gwynt ar y môr, mathau eraill o ynni'r môr lle ceir potensial gwirioneddol yn y gogledd ac yn swnt Dewi, ac mae'n rhaid i mi ailadrodd—dyma lle'r oeddwn i'n teimlo nad oedd y cwestiwn wir yn cynnig adlewyrchiad cywir i ni o ddigwyddiadau yma—byddem ni'n agos iawn eisoes at gael ynni morlynnoedd llanw yma yng Nghymru pe na bai ei Llywodraeth hi wedi tynnu'r plwg ar brosiect Abertawe, er gwaethaf yr adroddiad gan Geidwadwr—Ceidwadwr—cyn-aelod o'r Cabinet, a gomisiynwyd gan Geidwadwr—. Fel y cofiaf—rwy'n clywed arweinydd yr wrthblaid yn grwgnach arnaf i—fel y cofiaf, ar y pryd, roedd y Blaid Geidwadol, o dan wahanol reolaeth, mae'n siŵr, yn cefnogi morlyn llanw bae Abertawe. Mae'n drueni nad oedden nhw yn fwy effeithiol.
Rwy'n ddiolchgar i Jayne Bryant am gyflwyno'r cwestiwn hynod bwysig hwn heddiw, ac mae'n iawn, os ydym ni'n mynd i hyrwyddo ynni adnewyddadwy, bod angen i ni edrych ar ble yr ydym ni'n buddsoddi a lle mae eraill yn buddsoddi i ni, ac mae hynny yn rhan allweddol o hyn. Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o ymgyrch gynyddol i symud cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus oddi wrth danwydd ffosil i greu'r lle ar gyfer y buddsoddiad allweddol mewn technolegau adnewyddadwy, a byddwch yn ymwybodol fy mod i wedi bod yn gweithio gyda Cyfeillion y Ddaear Cymru i sefydlu targed Llywodraeth Cymru ar gyfer cronfeydd pensiwn sector cyhoeddus i'w dadfuddsoddi. Rwy'n credu y gellid gwneud hyn drwy ei wneud yn rhan o dargedau sector cyhoeddus 2030 i fod yn garbon niwtral. Nawr, yr wythnos nesaf—ac estynnaf y gwahoddiad i bob Aelod ar draws y Siambr—byddaf yn cynnal digwyddiad i drafod y mater hwn ymhellach, i ddeall yr hyn y gallwn ni ei wneud yn fwy. Ond a allwch chi ymrwymo heddiw, Prif Weinidog, i ofyn i swyddogion o Lywodraeth Cymru, efallai o'r adran gyllid, ymuno â'r digwyddiad hwn i ddeall, mewn cydweithrediad ag Aelodau o bob rhan o'r Siambr, yr hyn y gallwn ni ei wneud i wireddu hyn? Oherwydd mae angen i ni wireddu hyn er mwyn i'r bobl yn yr oriel fyw bywyd hapus a llwyddiannus.
Hoffwn longyfarch Jack Sargeant ar gyflwyno'r digwyddiad hwnnw. Bydd yn drafodaeth bwysig iawn, ac rwy'n hapus iawn i gynnig nid yn unig y byddai swyddog o Lywodraeth Cymru yn bresennol yn y digwyddiad, ond, os yw o gymorth, cael rhywun i siarad a gwneud cyfraniad fel y gall y gwaith sy'n digwydd y tu mewn i Lywodraeth Cymru ar berchnogaeth leol a chyllid ar gyfer ynni adnewyddadwy fod yn rhan o'r drafodaeth honno. Bydd yn gallu manteisio ar y gwaith yr ydym ni wedi dechrau arno gyda chynrychiolwyr cynlluniau pensiwn o lywodraeth leol i drafod y posibilrwydd o fuddsoddi o'r cronfeydd pensiwn hynny mewn ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru. Mae cronfeydd pensiwn angen enillion dibynadwy hirdymor ar y buddsoddiadau a maen nhw'n eu gwneud, ond gwn y byddai'r bobl y mae eu harian wedi cronni'r cronfeydd pensiwn hynny yn hoffi gweld yr arian hwnnw yn gwneud daioni i ddyfodol Cymru ac nid iddyn nhw eu hunain yn unig ond i'w teuluoedd a'u dyfodol. Ac yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n croesawu yn fawr iawn menter yr Aelod o ran trefnu cyfarfod o'r fath a byddaf yn hapus iawn i swyddogion Llywodraeth Cymru gymryd rhan.
Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Felly, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Prif Weinidog, mae'n flin gen i bod yn rhaid i mi godi adroddiad arall gyda chi am fethiant gwasanaethau ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd. Yn yr adroddiad diweddaraf, a oedd yn peri gofid mawr, cawsom wybod am y methiannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl a arweiniodd at farwolaethau trasig dau unigolyn. Cymerodd un claf ei fywyd ei hun, a bu farw'r llall drwy'r hyn sy'n edrych fel esgeulustod. Roedd y marwolaethau hyn mor ddiweddar â 2021, ychydig fisoedd ar ôl i'r Gweinidog iechyd ar y pryd dynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig, canlyniad uniongyrchol gan eich Llywodraeth. Ar ôl cael yr amser hwn i fyfyrio ar yr adroddiad a'i ganfyddiadau, a ydych chi, fel fi, yn credu bod y teuluoedd yn haeddu ymddiheuriad gan y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru na dderbyniodd eu hanwyliaid ofal mewn ffordd well?
Yn bendant, Llywydd. Wrth gwrs. Rwy'n credu bod y bwrdd iechyd eisoes wedi bod mewn cysylltiad â'r teuluoedd ac mae ymddiheuriad yn ddyledus iddyn nhw. Mae'r crwner wedi gofyn i'r adroddiadau gael eu tynnu yn ôl wrth i'w ymchwiliadau i'r marwolaethau barhau, ac rwy'n credu bod y bwrdd iechyd wedi eu tynnu nhw oddi ar eu gwefan. Maen nhw'n achosion gwahanol iawn ac maen nhw'n haeddu'r mathau o ymchwiliad y gall y crwner eu cyflawni iddyn nhw.
Diolch, Prif Weinidog, am yr adroddiad yna. Rydych chi wedi bod yn Weinidog yn y Llywodraeth ers naw mlynedd, ac yn Brif Weinidog ers sawl blwyddyn bellach, ac mae'n amlwg nad yw pethau yn gwella yn ddigon cyflym o ran gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Rydym ni'n dal i dderbyn adroddiadau fel hyn, adroddiadau gofidus iawn, ac nid yw argymhellion yn cael eu gweithredu. Nodwyd carfanau cymysg o gleifion, a ddisgrifiwyd fel cymysgedd gwenwynig gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, fel problem am y tro cyntaf yn ôl yn 2013, ac, yn gywilyddus, mae'n dal i barhau heddiw, fel y mae'r adroddiad hwn yn ei nodi. Fe'i cysylltwyd ag o leiaf un o'r marwolaethau yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw nawr. A wnewch chi wneud yn siŵr bod y bwrdd iechyd yn atal cymysgu carfanau o gleifion ar wardiau?
Llywydd, dim ond i fod yn eglur, mae carfanau cymysg yn ffactor yn un o'r ddau achos yn unig, nid yw'n ffactor yn—[Torri ar draws.] Rwy'n credu eich bod chi wedi dweud 'o leiaf un'. Rwy'n egluro mai 'un' yw ef, nid 'o leiaf un'. Nid oedd yn ffactor yn yr achos arall. Ac rwy'n falch o—. Rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod mai'r wybodaeth sydd gen i yw nad yw'n ymddangos bod cymysgu carfanau yn digwydd mwyach yn yr uned lle'r oedd yn ffactor.
Y peth sy'n peri gofid am hyn, Prif Weinidog, yn bod hyn yn amlwg wedi cael ei nodi fel methiant yn 2013, ac fe'i nodwyd o hyd yn 2021 fel ffactor sy'n cyfrannu at un o'r marwolaethau hyn. Hefyd, Prif Weinidog, mae'r Gweinidog iechyd a'r Llywodraeth wedi comisiynu Donna Ockenden i gyflawni sawl adroddiad ar wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Yn anffodus, o'r adroddiadau hyn a'r argymhellion yn yr adroddiadau hyn, gallwn weld nad yw'r bwrdd iechyd wedi cymryd camau dilynol ar sail yr argymhellion hyn a'u gweithredu yn eu cyfanrwydd. Mae patrwm yma o'r methiant hwnnw i weithredu'r argymhellion hynny, felly a wnewch chi gomisiynu Donna Ockenden i wneud darn newydd o waith i edrych ar adroddiadau blaenorol ac, yn bwysig, yr argymhellion a geir yn yr adroddiadau hynny, a nodi methiannau i weithredu'r argymhellion hynny, a chynllun i wneud yn siŵr nad ydym ni'n parhau i dderbyn adroddiadau annymunol iawn am farwolaethau cleifion sydd yng ngofal y bwrdd iechyd?
Llywydd, roeddwn i'n cytuno â rhywbeth a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid yn gynharach yn ei gwestiynau, nad yw'r gwelliant i wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd wedi bod mor gyflym ag y mae angen iddo fod, ac mae'n amlwg bod camau pellach y mae angen eu cymryd i wneud yn siŵr, ym mhob agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl, bod pobl yn y gogledd yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu. Mae ai adroddiad pellach ac adolygiad pellach yw'r ffordd orau o gyflawni hynny yn fwy dadleuol, yn fy marn i.
Gwn, gan fy mod i wedi siarad yn uniongyrchol â phobl sy'n gyfrifol am y gwasanaethau hynny, eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n gweithio mor galed ag y gallan nhw i sicrhau'r gwelliannau sy'n angenrheidiol, eu bod nhw'n aml yn gorfod gwneud hynny yn wyneb beirniadaeth gyson a thanseilio cyson—[Torri ar draws.] Dyna sut maen nhw'n ei gweld hi. Mae beirniadaeth ddilys i'w gwneud, ac rwyf i wedi cytuno â'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid, ond rwy'n awgrymu i chi hefyd, oherwydd dyma'r pwyntiau y gwnaethon nhw eu gwneud i mi, nad yw gwneud y cynnydd y maen nhw eisiau ei wneud mor hawdd ag yr hoffen nhw iddo fod pan fyddan nhw'n teimlo yn gyson bod pobl yn craffu ar eu hymdrechion mewn ffordd elyniaethus, yn hytrach na ffordd sy'n ceisio cefnogi gwelliant. Mae hwnnw yn bwynt teg iddyn nhw ei wneud. Rwyf i wedi dweud y prynhawn yma fy mod i'n cymryd rhai o'r pwyntiau yr ydych chi wedi eu gwneud o ddifrif. Gwnaf y pwynt hwnnw, ac rwy'n gobeithio y caiff ei gymryd yr un mor o ddifrif gennych chi.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae adroddiadau yn dangos bod Boris Johnson ar fin ymweld â Riyadh mewn ymgais i argyhoeddi llywodraeth Saudi i hybu cynhyrchiad olew. Credir y bydd Llywodraeth Saudi yn ceisio cael sicrwydd na fydd eu polisi yn Yemen dros yr wyth mlynedd diwethaf, o fomio sifiliaid diniwed, yn cael ei rwystro gan y DU. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, y byddai'n gwbl anghywir i Brif Weinidog y DU geisio dyhuddo un unbennaeth a ariennir gan arian budr er mwyn gwrthsefyll un arall? Mae'r cwestiwn hwn yn arbennig o bwysig yn y Senedd hon yng nghanol Tiger bay, sy'n gartref i gymuned Gymreig-Yemeni bumed genhedlaeth. Ac o gofio'r ymrwymiad i gydraddoldeb hiliol a gadarnhawyd gennych chi yr wythnos diwethaf, a ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i'n cefnogaeth a'n undod â sifiliaid diniwed fod yr un fath beth bynnag fo lliw croen pobl, ble bynnag y bônt, beth bynnag fo'u cred, ac na ddylem ni gyfnewid dibyniaeth ar un lywodraeth filain am un arall, ac, os yw Boris Johnson yn mynd ar y sail yr wyf i wedi ei disgrifio, y dylem ni ei gwneud yn eglur nad yw'n gwneud hynny yn ein henw ni?
Hoffwn ymateb yn benodol i'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod, ynghylch cyfnewid dibyniaeth ar un lywodraeth ansefydlog am ddibyniaeth ar un arall o'r un math. Ceisiais wneud y pwynt hwnnw yn fy ateb i Jayne Bryant yn gynharach, Llywydd, mai'r ateb i ddiogelwch ynni yn y Deyrnas Unedig yw canolbwyntio yn wirioneddol gyflym ac ymroddedig ar ddatblygu ynni adnewyddadwy, lle'r ydym ni mor gyfoethog. Byddai hynny yn golygu na fyddai angen i ni weld Prif Weinidog y DU yn mynd ar awyren i Riyadh, gan y byddem ni wedi creu digon o ynni o'n hadnoddau ein hunain i fod yn ddibynnol nid ar y llywodraeth yn Rwsia na llywodraethau annymunol mewn rhannau eraill o'r byd.
Prif Weinidog, mae confensiwn ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig o 1951, y mae'r DU wedi'i gadarnhau, yn nodi na ddylai'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel—pob ffoadur o bob rhyfel—orfod ceisio caniatâd yn gyntaf cyn gofyn am ddiogelwch gan wlad groesawu. Mae'r cam presennol gan Lywodraeth y DU o fynnu ar fisâu i ffoaduriaid o Wcráin yn mynd yn groes i'w rhwymedigaethau rhyngwladol. Rydych chi eich hun wedi galw am system hepgor fisâu, fel y rhoddwyd ar waith yn eang ledled Ewrop. A gawsoch chi gyfle dros y penwythnos i dynnu sylw arweinydd eich plaid, cyfreithiwr nodedig a chyn-gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus, bod safbwynt presennol eich plaid yn San Steffan o blaid fisa argyfwng fel y'i gelwir nid yn unig yn gwbl ffiaidd yn foesol ond hefyd yn torri cyfraith ryngwladol?
Wel, Llywydd, rwyf i'n gyfrifol am bolisi Llywodraeth Cymru, ac rwyf i wedi bod mor eglur ag y gallaf yn ei gylch. Rwy'n credu y dylid caniatáu i bobl sy'n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin ddod i'r Deyrnas Unedig ac yna dylid cynnal yr archwiliadau angenrheidiol ar ôl iddyn nhw gyrraedd: mewn geiriau eraill, nad oes angen gweithredu trefn fisâu cyn i bobl gyrraedd. Nid dyna safbwynt Llywodraeth y DU, ond rwy'n falch o allu hysbysu'r Aelodau ein bod ni, yn dilyn trafodaethau dwys iawn ddiwedd yr wythnos diwethaf a dros y penwythnos, yn dod at bwynt o gytundeb, gobeithio, gyda Llywodraeth y DU, lle bydd Cymru yn gallu chwarae'r rhan yr wyf i'n credu y byddai pobl yng Nghymru eisiau ei gweld yn cael ei chwarae o ran croesawu pobl i Gymru sy'n ffoi rhag y digwyddiadau ofnadwy rydym ni wedi eu gweld yn datblygu eto y bore yma yn Wcráin.
Prif Weinidog, yn eich datganiad ysgrifenedig rydych chi wedi nodi eich parodrwydd i gydweithio â chynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae elusennau ffoaduriaid wedi mynegi eu pryder na fydd Wcráiniaid sy'n cyrraedd drwy'r cynllun hwn yn cael statws ffoadur, gan gyfyngu ar eu mynediad at fudd-daliadau, er enghraifft. Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod paru gwesteiwyr â gwesteion yn gofyn am sensitifrwydd a phrofiad. Mae angen cynnal ymweliadau cartref priodol i sicrhau bod cartrefi yn addas a bod pawb yn yr aelwyd letyol wedi ymrwymo yn llwyr ac yn gwybod beth i'w ddisgwyl; mae angen darparu cymorth dilynol i westeiwyr a gwesteion; mae'n rhaid rhoi cynlluniau symud ymlaen ar waith; ac mae angen cael opsiwn wrth gefn ar gyfer y sefyllfaoedd prin lle nad yw lleoliad yn gweithio. A ydych chi'n deall y pryderon hyn, ac a all teuluoedd yng Nghymru sy'n dymuno bod yn rhan o ddull mwy cyfannol gofrestru eu diddordeb yn hytrach gydag awdurdodau lleol, gydag elusennau yng Nghymru neu Lywodraeth Cymru?
Llywydd, wel, nid yn unig yr wyf i'n deall, rwy'n rhannu nifer fawr o'r pryderon hynny gyda chynllun Llywodraeth y DU, a dyna pam rydym ni wedi gweithio gyda nhw i allu rhoi gwahanol drefniadau ar waith yng Nghymru a fyddai, yn fy marn i, yn rhoi gwell cyfle i ni allu croesawu pobl yma o Wcráin gyda'r gobaith gorau o ymateb i'r anghenion hynny a lliniaru perygl y bydd pobl yn dod yma ac yn methu ag ailsefydlu eu bywydau yn y ffordd yr hoffem ni ei gweld. Gallaf gadarnhau i'r Aelod, oherwydd cefais lythyr dros nos gan Michael Gove lle mae'n cadarnhau y bydd arian cyhoeddus ar gael i bobl sy'n dod o Wcráin, y bydd ganddyn nhw fynediad at wasanaethau cyhoeddus ac y bydd ganddyn nhw hawl i weithio. Ac rwy'n falch o weld y sicrwydd hwnnw, oherwydd mae'n golygu y bydd pobl yn gallu ailsefydlu eu bywydau mewn ffordd na fydden nhw wedi gallu ei wneud pe na bai'r cyfleusterau hynny ar gael iddyn nhw.
Yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw gwneud yn siŵr bod pobl sy'n dod i Gymru yn cael cyfle i gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, i wneud yn siŵr bod y lleoedd y maen nhw'n mynd i aros wedi cael o leiaf y lefel o archwilio y byddai ei hangen arnoch chi i wneud yn siŵr nad oes unrhyw gamfanteisio ar unigolion agored i niwed, o gofio y bydd llawer o bobl sy'n dod o Wcráin yn agored i niwed ac y byddan nhw'n gadael yr amgylchiadau hynod ofidus hynny, ac y gallwn ni lunio gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol—ac rydym ni wedi bod yn gweithio yn agos iawn gyda nhw, Llywydd, yn y dyddiau diwethaf—y gallwn ni gyflwyno'r cynnig addysg a fydd yn angenrheidiol i blant, eu bod nhw'n cael eu cofrestru gyda GIG Cymru pan fyddan nhw'n cyrraedd, bod gwasanaethau tai'n cael eu paratoi a chymorth gan y trydydd sector. Rydym ni'n ymwybodol o gyfoeth y sefydliadau trydydd sector yng Nghymru sydd eisiau chwarae eu rhan. I hynny ddigwydd, serch hynny, mae'n rhaid i chi ei gael ar sail drefnus.
Fy mhryder am gynllun y DU yw ei fod yn dibynnu yn llwyr ar unigolion i ddod o hyd i'w gilydd. Ac fel yr wyf i'n ei ddeall, pe bai rhywun yng Nghymru, gyda'r haelioni yr ydym ni'n gwybod bod pobl yn ei arddangos, yn cael eu paru â rhywun ar ffin Gwlad Pwyl, bydd Llywodraeth y DU yn rhoi fisa iddyn nhw, ac yna mae hi fyny iddyn nhw. Mater i'r unigolyn hwnnw ddatrys ei hun, o dan yr holl amgylchiadau y mae'n eu hwynebu, fydd sut y mae'n cyrraedd o ble y darperir y cynnig hwnnw o gymorth o le y mae. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi gael gwahanol lefel o gymorth gwasanaethau cyhoeddus er mwyn gwneud yn siŵr bod y croeso yr ydym ni eisiau ei gynnig i bobl, y llwyddiant yr ydym ni eisiau i'r cynllun hwnnw weithredu ag ef, ei fod yn cael y cyfle gorau posibl o weithredu, a dyna y mae fy nghyd-Weinidog Jane Hutt a minnau ac eraill wedi bod yn gweithio'n galed i geisio ei gyflawni ochr yn ochr â Llywodraeth y DU. Rwy'n credu bod y llythyr gan Mr Gove yn galonogol yn hyn o beth, y byddwn ni'n gallu ei wneud yn y ffordd gywir yma yng Nghymru, ac, yn y broses, osgoi rhai o'r peryglon y mae arweinydd Plaid Cymru wedi cyfeirio atyn nhw.
3. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi sgiliau yn ystod tymor y Senedd hon? OQ57808
Llywydd, ar 8 Mawrth, lansiwyd ein cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau. Mae'n amlinellu ein blaenoriaethau i helpu mwy o bobl i gael gwaith a chyflawni ymrwymiad y Llywodraeth hon i warant i bobl ifanc, yn seiliedig ar y sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, clywodd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol gan y dirprwy bennaeth Sharon James am sut mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn gweithio i sicrhau bod gan Gymru'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu yn sgil y symud i sero net. Cefais ddwy neges allweddol yn ymwneud â phwysigrwydd cydweithio ar draws yr holl bartneriaid ac ar bob lefel o hyfforddiant, o brentisiaethau i ficro-gymwysterau, a hefyd yr angen i gefnogi busnesau bach a chanolig i uwchsgilio eu gweithlu. Roedd hon yn drafodaeth amserol iawn ar ôl cyhoeddi'r cynllun gweithredu cyflogadwyedd a sgiliau, felly sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r ddwy her allweddol hyn yn ei pholisi sgiliau?
Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn atodol yna, Llywydd. Mae'n braf iawn clywed cyfeiriad at Goleg Caerdydd a'r Fro ar y diwrnod pan fyddwn yn gobeithio y bydd y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) symud i'w ail gyfnod o graffu yma yn y Senedd. Ac rwy'n cymryd y ddwy flaenoriaeth a ddeilliodd o'r drafodaeth honno gyda'u his-bennaeth o ddifrif, Llywydd. Y cyntaf o'r rheini y mae'r Aelod wedi cyfeirio ati yw'r angen am gydweithio, ac mae'r cynllun ei hun yn deillio o hanes hir o gydweithio â phartneriaid allweddol ym maes addysg, mewn llywodraeth leol a gyda chyflogwyr yn y sector preifat hefyd. Lluniwyd y cynllun gan ymgynghoriad cyhoeddus ehangach y llynedd ar ein hymrwymiad i gyflogaeth a sgiliau pobl ifanc. Ac wrth sicrhau bod y dull cydweithredol hwnnw'n cael ei roi ar waith ar lawr gwlad, mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol sydd gennym yma yng Nghymru mewn gwirionedd yn allweddol i ddod â'r holl bartneriaid hynny at ei gilydd i sicrhau cydlyniad a chydweithredu mewn gwahanol ardaloedd lleol.
O ran cymorth i fusnesau bach a chanolig—yr ail bwynt y cyfeiriodd Vikki Howells ato, Llywydd—efallai y gallaf gynnig un enghraifft yn unig; bydd yn enghraifft gyfarwydd, rwy'n credu, i'r Aelod dros Gwm Cynon, sef rhaglen brentisiaeth a rennir Aspire, sy'n gweithredu yng nghymunedau'r Cymoedd hynny. Rwyf wedi'i drafod o'r blaen gyda fy nghyd-Aelod Alun Davies ar lawr y Senedd, oherwydd busnesau bach a chanolig, sef sylfaen economïau lleol yno, pan nad yw un cyflogwr yn gallu cefnogi prentis llawn amser drwy'r broses gyfan, mae'r busnesau llai hynny'n gallu dod at ei gilydd a rhannu prentis. Mae dros 60 o gwmnïau'n rhan o raglen Aspire. Mae nifer fawr ohonyn nhw yn fusnesau bach a chanolig. Maen nhw'n cymryd 25 o brentisiaid bob blwyddyn, ac mae'r bobl ifanc hynny'n cael amrywiaeth o brofiadau. Maen nhw'n symud rhwng y grŵp o gyflogwyr sy'n gyfrifol am y rhaglen honno; mae'r BBaCh yn elwa ar gael rhywun, ac mae'r unigolyn yn elwa ar y gallu i ennill yr ystod ehangach honno o brofiad a sgiliau.
Prif Weinidog, fel y dywedoch chi, yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Gweinidog yr Economi gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, ac fel y byddwch chi'n ymwybodol, dwi wedi galw am gynnal archwiliad sgiliau net zero, fel y gallwn nodi'r bylchau mewn sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau, er mwyn sicrhau ein heconomi ni ar gyfer y dyfodol. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliad sgiliau net zero, ac os felly, pryd y gallwn ni ddisgwyl canlyniadau archwiliad o'r fath?
Wel, diolch yn fawr i Paul Davies am y cwestiwn pwysig yna. Cyfeiriodd Vikki Howells at bwysigrwydd net zero yn ei chwestiwn gwreiddiol hi. Rŷn ni'n cydnabod, fel Llywodraeth, dros y degawdau nesaf, er mwyn cael y sgiliau sy'n angenrheidiol i wneud beth rŷn ni eisiau ei wneud yma yng Nghymru o ran newid hinsawdd, wel, mae hynny'n ganolog i'r cynllun.
Mae'r cynllun rŷn ni wedi cyfeirio ato yn cynnwys nifer o bethau ymarferol i gynyddu'r sgiliau sydd gyda ni yma yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc yn enwedig, ac i gael y sgiliau y mae'n rhaid inni eu cael os ydym ni'n mynd i ddod at Gymru Sero Net erbyn 2050. Nawr, rŷn ni'n gweithio gyda'r brifysgol yng Nghaerdydd i roi pethau yn eu lle, i gael yr ymchwil, i dynnu'r wybodaeth at ei gilydd, i'n helpu ni i roi yn ei le beth sydd yn rhaid inni ei roi yn ei le i fynd ar ôl y pwyntiau y mae Paul Davies wedi eu codi y prynhawn yma.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i groesawu a chefnogi ffoaduriaid sy'n ffoi o Wcráin? OQ57778
Llywydd, rydym yn paratoi ar frys i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin ac yn gwneud hynny drwy ddeialog agos gyda llywodraeth leol Cymru ac eraill i ddeall beth fydd yn bosibl o fewn paramedrau cynlluniau cyffredinol Llywodraeth y DU.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae Cymru'n genedl noddfa, ac mae hyn yn cynnwys croesawu'r rhai sy'n ffoi o Wcráin i fy nghymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, mae trigolion wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl i gasglu rhoddion, codi arian, a hoffwn ddiolch i'r Cynghorydd Cymuned Heidi Bennett, y Cynghorydd David White a'r Parchedig Wheeler, yn arbennig, am gydlynu gwylnos leol hyfryd a phwerus ac emosiynol iawn i wrando a sefyll gyda phobl Wcráin yr wythnos diwethaf.
Prif Weinidog, mae pobl eisiau helpu a gwneud yr hyn a allan nhw, o fusnesau lleol i ddisgyblion ysgol. Dyma ein cymuned ar ei gorau. Ond rhaid i ni beidio byth ag anghofio, wrth wraidd hyn, mae pobl sydd bellach wedi dioddef trawma mawr. Gwelwn hyn ar ein sgriniau teledu, ein papurau, ein ffonau. Mae'r ymosodiad hwn wedi dychryn poblogaeth drwy'r hyn y maen nhw wedi'i brofi. Felly, Prif Weinidog, sut y bydd y gwasanaethau cyhoeddus angenrheidiol yn cael eu paratoi i helpu'r rhai yr effeithir arnyn nhw gan yr ymosodiad ar Wcráin sy'n dod i Gymru, ac a fydd darpariaeth iechyd meddwl yn cael ei hymestyn i'w cynnwys nhw?
Diolch i Sarah Murphy am hynna, Llywydd. Rwy'n tybio bod Aelodau o bob rhan o'r Senedd sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol a gwylnosau lleol, a oedd wedi'u trefnu'n ddigymell gan grwpiau ffydd ac eraill yn eu cymuned eu hunain. Maen nhw'n arddangosiadau ymarferol o'r haelioni y gwyddom ei fod yn cael ei arddangos ar draws ein cenedl.
O ran y pwynt penodol ynghylch sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu paratoi, yn fy ateb cynharach i Adam Price, Llywydd, ceisiais egluro sut, drwy weithio gyda llywodraeth leol, y gobeithiwn greu ffordd y bydd pobl sy'n dod i Gymru yn cael cyfnod cychwynnol o gymorth ac ailgyfeirio, pryd gallwn sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus hynny'n cyd-fynd â'u hanghenion, lle gallan nhw eu hunain gofrestru am gyfnod byr. Mae'n amhosibl dychmygu, onid yw, mewn gwirionedd, sut beth yw cael eich hun yn cael eich cludo ar draws cyfandir, ni waeth pa mor groesawgar fydd y cyd-destun, pan dim ond ychydig wythnosau'n ôl, roeddech yn byw bywyd hollol heddychlon heb ddychmygu bod hyn ar fin digwydd i chi. Felly, mae'n siŵr y bydd angen, oni fydd, pan fydd pobl yn cyrraedd yma, cyfnod i roi cyfle i anadlu a meddwl am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, a meddwl am bobl y maen nhw wedi'u gadael ar ôl ac ati. Felly, rydym yn ceisio creu ffordd i hynny ddigwydd, ac yna, gydag asesiad o'r anghenion sydd gan bobl, i sicrhau bod y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw yn cyd-fynd â nhw.
Ac ym maes iechyd meddwl, wrth gwrs mae Sarah Murphy yn llygad ei lle, Llywydd; bydd pobl yn dod i Gymru ar ôl gweld pethau anesboniadwy nad oedden nhw erioed wedi dychmygu y bydden nhw byth yn eu gweld. Rydym ni eisoes wedi dechrau paratoi ar gyfer hynny. Mae'r arbenigwyr sy'n gweithio yn ein byrddau iechyd, gan weithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, eisoes wedi cyfieithu gwybodaeth iechyd meddwl i Wcreineg a Rwsieg y bydd y bobl hynny eu hangen i'w helpu gyda'r sefydlogi cychwynnol hwnnw. Rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth honno ar wefan Straen Trawmatig Cymru, ac rydym yn gweithio gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, sydd hefyd eisoes wedi cyhoeddi deunyddiau cymorth penodol i helpu pobl yn ystod y cyfnod ailsefydlu cychwynnol hwnnw. Rydym yn gweithio gyda'n llinell gymorth iechyd meddwl CALL i sicrhau bod ganddi fynediad at wasanaethau yn yr ieithoedd y bydd eu hangen. Ac mae hyn i gyd yn cael ei wneud, fel y bydd Aelodau yma'n cydnabod, o dan bwysau digwyddiadau a phwysau amser, ond mae'r pethau hynny eisoes wedi digwydd a bydd mwy y bydd arnom angen ei wneud ac yr ydym ni eisiau ei wneud i sicrhau y bydd pobl y mae angen cymorth gwasanaethau iechyd meddwl arnyn nhw yn cael hynny fel rhan o'r cynnig y byddwn ni eisiau ei gyflwyno iddyn nhw pan fyddan nhw yn cyrraedd Cymru.
Wel, wrth siarad yma bythefnos yn ôl, galwais arnoch i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i awdurdodau lleol i'w galluogi a'u hannog i gyflwyno gallu cyflymach i roi cymorth i ffoaduriaid sy'n ffoi o Wcráin. Ond wrth gwrs, er mwyn cael darpariaeth effeithiol bydd angen hefyd i awdurdodau lleol weithio gyda sefydliadau cymunedol, ac mae llawer o'r gwaith codi trwm ledled Cymru eisoes yn cael ei wneud, yn aml am geiniog a dimai, gan lu o gyrff a phartneriaethau trydydd sector a rhwng y trydydd sector ac eraill, gan gynnwys NWAMI, Networking for World Awareness of Multicultural Integration; Synergy yn sir y Fflint, a chlymblaid Tref Noddfa Wrecsam. Mae Ukrainian Friends and Families Link hefyd wedi bod mewn cysylltiad erbyn hyn. Maen nhw'n cael eu sefydlu gan dîm o weithwyr proffesiynol lleol a phartneriaeth sefydliadau'r trydydd sector ac eglwysi ar draws y gogledd, gan weithio o ganolfan ganolog yn Llandudno, i baratoi ar gyfer dyfodiad gwladolion o Wcráin ac eraill y mae'r rhyfel yn effeithio arnyn nhw a fydd yn dod i'r gogledd yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r mentrau hanfodol hyn ac yn hwyluso ymgysylltiad awdurdodau lleol â nhw?
Llywydd, mae hynny i gyd yn swnio'n galonogol iawn o ran y camau y mae Mark Isherwood wedi'u nodi sydd eisoes yn digwydd yn y gogledd. Dywedais mewn ateb cynharach fod arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yng nghyfarfod cabinet Cymru brynhawn ddoe, wedi ymuno â ni, a hefyd prif weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y WVCA. Clywsom ganddi am y ffordd y bydd cynghorau gwirfoddol sirol lleol yn rhan o'r ymateb y byddant yn ei ysgogi, ac yn ymateb yn gadarnhaol, gobeithio, i gwestiwn yr Aelod, rydym yn chwarae ein rhan i sicrhau bod ymdrechion awdurdodau cyhoeddus ac ymdrechion grwpiau'r trydydd sector yn cyd-fynd o'r cychwyn cyntaf. Ac eto, mewn ateb cadarnhaol, Llywydd, mae'r llythyr a gefais dros nos gan Michael Gove yn cadarnhau, pan ddaw pobl i Gymru, y bydd y £10,500 y pen sydd i fynd i lywodraeth leol yn Lloegr ar gael yng Nghymru hefyd, ac y bydd y £350 y mis i unigolion ar gael i unigolion yng Nghymru sy'n gwneud y cynnig hwnnw, a bod Llywodraeth y DU yn bwriadu eithrio'r taliadau hynny rhag treth. Mae hynny'n ddefnyddiol i ni gael y cadarnhad hwnnw ar hyn o bryd er mwyn caniatáu i ni weithio gydag eraill i roi ar waith y mathau o drefniadau y mae Mark Isherwood wedi cyfeirio atyn nhw.
Rwy'n ddiolchgar i Sarah am godi'r pwnc yma heddiw. Rydym ni'n byw mewn cyfnod tywyll ar hyn o bryd, ac felly mae'n bwysig, dwi'n meddwl, i geisio chwilio am oleuni pan fo modd. Roedd adroddiad Andy Davies o Channel 4 ynglŷn â menter ffoaduriaid Affganistan yr Urdd yn dangos y goleuni yma i ni, gyda phlant a theuluoedd yn derbyn gofal cariadus a chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd er mwyn ceisio adeiladu bywyd newydd yma yng Nghymru. Roedd sôn yn yr adroddiad, Brif Weinidog, y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i weithredu menter debyg ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin. A fyddai modd i chi plis ddweud os ydy hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried, os gwelwch yn dda, yn ogystal ag os ydy Llywodraeth Cymru yn gallu ceisio helpu’r Urdd i ledu'r ymarfer da a welwyd gyda'r fenter lwyddiannus hon gyda sefydliadau a hefyd gwledydd eraill?
Dwi'n cytuno’n llwyr gyda’r Aelod am bwysigrwydd y gwaith roedd yr Urdd wedi ei wneud yng nghyd-destun Affganistan, ac wrth gwrs, maen nhw wedi dysgu lot o bethau sy'n mynd i fod yn help i ni nawr pan ŷn ni'n trio ymateb i anghenion pobl sy'n dod o Wcráin. Bydd yr Urdd yn rhan o’r trafodaethau sy'n mynd ymlaen yn ystod yr wythnos hon. Bydd rhaid i ni feddwl am nifer o bosibiliadau i roi cymorth i bobl sy'n mynd i ddod yma i Gymru. Mae'r profiadiau y mae’r Urdd wedi’u cael, a’r ffaith bod yr Urdd mor agored i rannu y profiadau maen nhw wedi eu cael, ac i helpu pobl eraill sy'n mynd i roi help hefyd, yn rhywbeth unigryw i ni yma yng Nghymru, ond yn rhywbeth ymarferol i ni hefyd.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc? OQ57815
Ymhlith y ffyrdd y mae ein polisïau i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn cael eu datblygu mae camau ymarferol i weithredu argymhellion y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd, fel y nodir yn y cytundeb cydweithredu rhwng ein dwy blaid.
Diolch. Ddydd Mercher diwethaf yn Neuadd y Senedd, cyflwynodd End Youth Homelessness Cymru eu map ffordd i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Hoffwn ddiolch i Jane Hutt am noddi'r digwyddiad hwnnw; roedd yn hynod fewnweledol. Un o'r negeseuon i mi oedd sut y dylem ni wrando ar y bobl ifanc hynny sydd wedi profi digartrefedd ymhlith pobl ifanc wrth i ni geisio datrys y mater. Roeddwn yn falch o gyfarfod â Dafydd ac Ashleigh neithiwr i drafod y camau y gallwn ni eu cymryd fel Aelodau, a helpodd Dafydd ac Ashleigh i roi'r cwestiwn hwn at ei gilydd i chi heddiw. Eu neges i ni yw bod digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn fater i bawb ac yn fater i bawb ar draws y gymdeithas, nid mater tai yn unig. Prif Weinidog, ymrwymodd eich rhagflaenydd i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc erbyn 2027. A yw rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth chi, ac a ydych yn ffyddiog y gallwch chi roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc erbyn 2027?
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Luke Fletcher am bwysigrwydd dysgu oddi wrth bobl ifanc a phobl sy'n cael eu hunain yn y sefyllfaoedd hynod o anodd hyn, felly diolch i'r bobl ifanc yna am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae llawer o ddigwyddiadau annisgwyl wedi digwydd ers i'r ymrwymiad gael ei wneud yn wreiddiol, gan gynnwys yr ymdrechion syfrdanol a wnaed gan ein partneriaid awdurdod lleol a'r trydydd sector yn ystod yr argyfwng coronafeirws i ddod â phobl a oedd yn ddigartref ac ar y stryd i lety sefydlog a dibynadwy.
Rwy'n cytuno yn llwyr â'r pwynt a wnaeth y bobl ifanc fod digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn fusnes i bawb ac nad yw'n fater tai ar ei ben ei hun. Nod nifer o'r prosiectau yr ydym yn eu hariannu o ganlyniad i'n gwaith gyda'r glymblaid—20 o brosiectau sy'n weithredol ledled Cymru—yw gwneud hynny'n union, er mwyn sicrhau bod tai yn ganolog i ystod lawer ehangach o wasanaethau a chydweithio â phobl ifanc i fynd i'r afael â'r materion ehangach hynny yn eu bywydau. Gallwn gynnig rhestr hir ohonyn nhw i chi, ond a wnaf i sôn am un yn unig y prynhawn yma? Mae hyn yn y gogledd, mae hyn yng Nghyngor Sir Ddinbych; mae'n brosiect rhwng y cyngor sir, Llamau—sefydliad yr wyf wedi'i adnabod drwy gydol ei hanes—a Viva, a Tŷ Pride yw hwnnw. Mae hwnnw'n wasanaeth sy'n seiliedig ar dai, ond ei nod penodol yw sicrhau bod anghenion ac amgylchiadau pobl ifanc o'r gymuned LHDTC+ yn gallu dod at ei gilydd a chael y gyfres ehangach honno o wasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen yn y ffordd yr oedd y bobl ifanc y mae Luke Fletcher yn siarad â nhw yn awgrymu.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion ar gyfer campws iechyd a lles amlasiantaethol yn y Drenewydd? OQ57780
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r achos busnes trosfwaol sy'n nodi'r nodau a'r amcanion ar gyfer datblygiad llesiant gogledd Powys wedi cwblhau proses graffu Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch o gadarnhau bod cytundeb yr holl Weinidogion perthnasol, o ddoe ymlaen, wedi'i sicrhau ar gyfer y cynigion, a nawr gallant symud i'r cam nesaf.
Prif Weinidog, rwy'n hynod ddiolchgar am yr ateb yna. Rwy'n gobeithio bod y ffaith i mi gyflwyno'r cwestiwn hwn wedi dod â'r mater i ben. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn ddiolchgar, Prif Weinidog, am eich ateb fis Gorffennaf diwethaf pan wnaethoch chi ymrwymo Llywodraeth Cymru i'r prosiect. Rhaid i mi ddweud, roeddwn i braidd yn bryderus oherwydd cododd y Gweinidog iechyd fater o gyllid cyfalaf a'r posibilrwydd y byddai'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd pan godais y cwestiwn y mis diwethaf, ond rwy'n gwerthfawrogi yn fwy na thebyg ei bod yn well i mi ofyn i chi, Prif Weinidog, oherwydd, wrth gwrs, mae'r campws yn rhan o ranbarth y Gweinidog iechyd. Felly, rwy'n gwerthfawrogi hynny. Ond a gaf i ofyn, Prif Weinidog, o ystyried y newyddion cadarnhaol hyn yn awr, beth yw'r camau nesaf ar gyfer y prosiect hwn? Rwy'n deall y bydd yn mynd at y bwrdd iechyd i ddatblygu cynlluniau ymhellach, ond pryd ydych chi'n rhagweld y bydd y prosiect yn cyrraedd cyfnod y gwaith adeiladu?
Rwy'n falch iawn o allu cynnig y newyddion cadarnhaol yna i'r Aelod y prynhawn yma, oherwydd bydd yn golygu, yn y model busnes pum achos yr ydym ni'n ei ddilyn, yn ôl Llyfr Gwyrdd y Trysorlys, bydd y broses yn awr yn symud i'r cam nesaf. Rwy'n deall mor rhwystredig y gall fod i bobl leol i weld y ffordd y mae'r system yn datblygu'n raddol, ond mae hon yn garreg filltir bwysig yn y prosiect hwn. Bydd yr Aelod ac eraill sy'n cynrychioli'r ardal yn gwybod bod cymeradwyaeth eisoes mewn egwyddor i'r ysgol y mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu ei hadeiladu fel rhan o fand B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain o fewn y prosiect llesiant hwn, ac yn awr bydd bwrdd iechyd lleol Powys yn gallu defnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru fel y gallant ddatblygu manylion y cynnig uchelgeisiol sydd ganddyn nhw fel rhan o'r cyfan.
Bydd Russell George yn gwybod yn iawn fod y bwrdd iechyd wedi bod yn edrych ar ddatblygiad sy'n cynnwys diagnosteg, gwasanaethau iechyd meddwl, cleifion mewnol yn ogystal â chyfleusterau cleifion allanol, theatrau achosion dydd ac yn y blaen. Darllenais y cofnod o'r drafodaeth rhwng yr Aelod a'r Gweinidog iechyd, Llywydd, a rhaid i mi ddweud bod yr hyn a ddywedodd y Gweinidog iechyd yn wir: mae hon yn garreg filltir bwysig yn y broses hon. Ond pan ddaw'r cynigion manwl gan y bwrdd iechyd gerbron, byddant yn dod i gyd-destun anodd iawn o ran cyfalaf. Mae cyfalaf ar gyfer y pethau yr hoffem eu gwneud yn y gwasanaeth iechyd a rhannau eraill o Lywodraeth Cymru yn rhy brin. Ond serch hynny, dyma'r ffordd y mae'r system yn gweithio ac yn awr bydd y bwrdd iechyd yn gallu gwneud y gwaith manwl hwnnw a gwneud ei gynigion i Lywodraeth Cymru.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiau'r argyfwng costau byw ar gymunedau yng Nghanol De Cymru? OQ57777
Bydd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys y rheini yn etholaeth yr Aelod ei hun. Mae dadansoddiad diweddar gan sefydliadau fel Sefydliad Joseph Rowntree, Sefydliad Bevan a'r Resolution Foundation wedi dod i'r casgliad y bydd y flwyddyn i ddod yn arbennig o heriol i'r aelwydydd hynny ar incwm isel.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwyf wedi gweithio yn y Rhondda i gefnogi ein cymunedau ers 20 mlynedd. Nid wyf erioed wedi teimlo mor bryderus na dig ag yr wyf i'n teimlo ar hyn o bryd. Mae trigolion yn fy etholaeth i yn wynebu argyfwng costau byw heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mae teuluoedd sy'n byw mewn tlodi wedi cael eu taflu i dlodi dyfnach, ac mae teuluoedd sy'n gweithio yn profi tlodi am y tro cyntaf. Nid wyf yn siŵr a yw Aelodau ar feinciau'r Torïaid wedi clywed oddi wrth etholwyr sy'n methu â throi eu gwres ymlaen na rhoi bwyd ar y bwrdd, ond os ydyn nhw, a wnawn nhw roi gwybod i'w cydweithwyr yn San Steffan sydd wedi colli gafael ar yr hyn sy'n digwydd? Gallant geisio ei guddio mewn unrhyw ffordd y dymunan nhw, ond gadewch i ni beidio â thin-droi ynghylch hyn: nid argyfwng costau byw yw hwn, mae hwn yn argyfwng costau byw Torïaidd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod Llywodraeth Dorïaidd San Steffan naill ai'n rhy anghymwys i ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael iddyn nhw i gefnogi teuluoedd, neu eu bod yn gwbl galon-galed ac wedi gwthio ein cymunedau'n fwriadol i dlodi, neu'r ddau?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n sylwi, Llywydd, pryd bynnag yr aiff unrhyw beth o'i le ar feinciau'r Ceidwadwyr, caiff hyn ei drin fel pe bai rywsut yn waith Duw nad oes ganddyn nhw gyfrifoldeb drosto o gwbl. Y ffaith eu bod nhw wedi bod mewn grym ers dros ddegawd, degawd o gyni, Llywydd, pryd bob tro—[Torri ar draws.] Fe'u clywaf yn gweiddi—
A gaf i glywed ymateb y Prif Weinidog? Rwy'n siŵr y byddech chi'n cael eich goleuo o'i glywed ac yr hoffech ei glywed. A wnewch chi barhau?
Rwy'n eu clywed yn gweiddi, Llywydd, oherwydd nid oes ganddyn nhw ddim byd arall y gallan nhw ei wneud dim ond gwneud sŵn i geisio cuddio gwirionedd eu hanes eu hunain—degawd o gyni, a gefnogir wythnos ar ôl wythnos ar lawr y Senedd hon gan Aelodau'r grŵp Ceidwadol yma. Dyna sydd y tu ôl i'r argyfwng costau byw—degawd pan gafodd budd-daliadau eu cadw i lawr, pan yr oedd cyflogau'n cael eu cadw i lawr. Mae pobl mewn sefyllfa na fydden nhw wedi bod ynddi fel arall oni bai am yr argyfwng costau byw a gafodd ei greu gan y Blaid Geidwadol; ni fydden nhw wedi bod yn y sefyllfa y maen nhw ynddi heddiw. Ac yna, ar ben hynny, mae gennych chi greulondeb y toriad mewn credyd cynhwysol ddiwedd y llynedd—y toriad cywilyddus hwnnw: cymerwyd £1,000 i ffwrdd yn fwriadol, wedi'i dynnu oddi ar y teuluoedd tlotaf yn y wlad yn fwriadol. Sut y credwch chi y gallwch chi amddiffyn y penderfyniad hwnnw yng ngoleuni'r hyn y bydd pobl yn ei wynebu o'r mis nesaf ymlaen, 'wn i ddim. Ym mis Ebrill, Llywydd, bydd budd-daliadau yn codi 3.1 y cant, penderfyniad gan y Llywodraeth Geidwadol. Bydd chwyddiant yn codi 7 y cant ym mis Ebrill a gall gyrraedd 9 y cant neu 10 y cant yn ystod y flwyddyn. Ar ei ben ei hun bydd hynny'n tynnu £300 ar ben y £1,000 allan o bocedi'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru. Nid oes rhyfedd bod pobl yn etholaeth yr Aelod yn gofyn iddyn nhw eu hunain ai anallu neu falais sydd y tu ôl iddo.
8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda chynghorau lleol am dreth dwristiaeth? OQ57795
Rydym yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol, busnesau a grwpiau cynrychioliadol ar draws ystod o ddewisiadau cynllunio ar gyfer treth dwristiaeth, ochr yn ochr â'r manteision a'r effeithiau posibl. Cynhelir ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni i sicrhau bod pob barn wrth ddatblygu'r ardoll hon yn cael ei hystyried.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb. Prif Weinidog, rwyf wedi gweld honiadau gan Weinidogion Llywodraeth Cymru sydd, i bob golwg, yn awgrymu y byddai unrhyw elw o dreth dwristiaeth yn cael ei neilltuo mewn rhyw ffordd fel y gall cynghorau gynyddu gwariant ar dwristiaeth. Nid wyf yn siŵr iawn sut y gall Gweinidogion wneud yr honiad hwnnw, oherwydd y diffyg amlwg ar hyn o bryd yw, er y gallai Llywodraeth Cymru sicrhau y gellid neilltuo unrhyw arian a godir, nid yw'n ymddangos y gall Llywodraeth Cymru wneud unrhyw beth i ddiogelu cyllidebau twristiaeth presennol cynghorau. Oni bai bod y diogelwch hwnnw yn cael ei gyflwyno, gallem weld cyfres o drethi ychwanegol yn cael eu cyflwyno ledled y wlad nad ydynt yn gadael unrhyw effaith amlwg ar faint o arian sy'n cael ei wario ar dwristiaeth. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog egluro a oes gan y Llywodraeth y pŵer i orfodi cynghorau i beidio â lleihau'r gwariant presennol ar dwristiaeth wrth gyflwyno treth dwristiaeth, ac os felly, a fydden nhw yn ei ddefnyddio?
Os yw'r Aelod yn dymuno gwneud hynny, gall gyfrannu'r safbwyntiau hynny yn yr ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo ochr yn ochr â'n cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru, oherwydd mae codi ardoll twristiaeth yn rhan o'r cytundeb cydweithredu rhyngom. Byddwn yn sicr yn archwilio yn yr ymgynghoriad y posibilrwydd o glustnodi arian a godir drwy ardoll twristiaeth leol er mwyn cefnogi'r gwasanaethau y mae cymunedau lleol yn eu darparu ac sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiannus yn y lle cyntaf. Os polisi'r Blaid Geidwadol yw y dylid gosod cyllidebau pob cyngor lleol yma yn y Senedd ac y dylem weithredu i atal awdurdodau lleol—a etholwyd, gyda llaw, gan bobl yn eu hardaloedd eu hunain—rhag amrywio'r buddsoddiadau a wnânt mewn gwahanol rannau o'u cyfrifoldebau, wel, mae hynny'n newyddion i mi. Nid oeddwn yn ymwybodol mai polisi'r Blaid Geidwadol ydoedd, ond os dyna yw ei pholisi, bydd cyfle i chi wneud hynny'n glir yn yr ymgynghoriad.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae tri newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad llafar heddiw ar ddatblygu cynllun allyriadau masnachol y DU yn gyson â sero net wedi'i dynnu'n ôl. Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno'r datganiad llafar ar rhaglen fuddsoddi 2022-23 mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Ac mae'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yfory wedi'u gostwng i 30 munud. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog iechyd ar ddarpariaeth a pherfformiad gwasanaethau ambiwlans ledled Cymru? Ac rwy'n falch bod y Gweinidog iechyd yn ei lle i glywed y cais hwn. Fel y gwyddoch chi, mae'n siŵr, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi bod yn cynnal adolygiad o'i restrau dyletswyddau gwasanaeth ambiwlans brys, ac mae'r adolygiad hwnnw nawr wedi dod i ben. Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod y gwasanaeth ambiwlans yn darparu rhestrau dyletswyddau gwasanaeth sy'n cyfateb i'r galw, ond, yn anffodus, yn sir Benfro, rwyf i'n dal i dderbyn gohebiaeth gan etholwyr gofidus a rhwystredig sydd wedi gorfod aros yn eithriadol o hir am ambiwlans. Mewn un achos penodol, arhosodd etholwr dros wyth awr am ambiwlans ar gyfer ei gŵr a oedd wedi syrthio, ac, yn y pen draw, rhoddodd ei gŵr yng nghefn fan a chafodd ei yrru i'r ysbyty. Ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi bod hynny'n gwbl annerbyniol. Nawr, mae hon yn un enghraifft, ond yn anffodus mae mwy. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn os gallech chi ofyn i'r Gweinidog iechyd gyflwyno datganiad brys am wasanaethau ambiwlans ledled Cymru, fel y gall Aelodau ddeall mwy am ddarparu gwasanaethau yn ein hardaloedd lleol yng ngoleuni'r adolygiad hwn o'r rhestrau dyletswyddau, fel y gallwn ni godi pryderon a gofyn cwestiynau am y gwasanaethau y mae ein hetholwyr yn eu cael.
Diolch. Wrth gwrs, rydym ni'n cytuno'n llwyr nad yw wyth awr yn gyfnod derbyniol o amser, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wrth gwrs, yn cymryd digwyddiadau o'r fath o ddifrif. Fel rydych chi'n ei ddweud, bu ymgynghoriad o fewn y gwasanaeth ambiwlans ynghylch y rhestrau dyletswyddau, sydd nawr wedi'i gwblhau. A gwn i, yn bersonol fel AS, fy mod i wedi cael gohebiaeth â phrif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ynghylch hynny, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ei fonitro'n fanwl.
Drefnydd, wythnos diwethaf, cyhoeddodd bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg y byddant wythnos yma yn cau dwy ganolfan frechu—un yn y Rhondda ac un yng Nghwm Cynon. Bydd disgwyl i bawb bregus fydd yn cael booster yn y gwanwyn deithio i Ben-y-bont, Llantrisant neu Ferthyr Tudfil. Mae hyn yn golygu, os nad oes gennych gar neu ffordd o gael lifft, fod rhaid gwneud taith o ddwy awr, gan ddal tri bws, i gyrraedd y ganolfan agosaf.
O ystyried bod nifer y marwolaethau COVID yn Rhondda Cynon Taf wedi bod ymhlith yr uchaf ym Mhrydain, oes modd cael datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog iechyd o ran pa gefnogaeth fydd yn cael ei darparu i sicrhau bod pobl fregus sydd heb fynediad i gar yn medru derbyn eu brechlynnau yn lleol heb orfod gwneud teithiau hirfaith?
Wel, byddwch chi'n ymwybodol, drwy gydol y pandemig, ac yn sicr pan ddaeth y brechlyn ar gael, y bu llawer o ganolfannau brechu ledled Cymru. Ac wrth i ni fynd i mewn i'r gwanwyn, ac yn gweld pa bigiadau atgyfnerthu fydd eu hangen, ac, yn wir, a fydd angen rhagor o frechlynnau, bydd hyn yn rhywbeth a gaiff ei ystyried.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Yr un cyntaf yw datganiad ar gladin a'r wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Mae hwn yn fater pwysig i fy etholwyr sy'n byw yn Copper Quarter yn SA1. Rwy'n derbyn ceisiadau am yr wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys amserlen o ran pryd y bydd yr adolygiad cladin wedi'i orffen a phasbortau diogelwch yn cael eu cyhoeddi fel y bydd modd cwblhau gwerthiannau.
Yr ail eitem yr wyf yn gwneud cais amdani yw datganiad gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi na fydd Llywodraeth Cymru, na'r cyrff sy’n cael eu noddi ganddi, yn defnyddio diswyddo ac ailapwyntio a chontractau allanol, ac y bydd y llythyrau cylch gwaith i gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn dweud yn benodol na fydd diswyddo ac ailapwyntio ac na fydd unrhyw gontractau allanol.
Diolch. Byddwch chi'n ymwybodol y gwnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd gyhoeddi datganiad ysgrifenedig—rwy'n credu mai diwedd mis diwethaf oedd hi—yn cadarnhau penodi syrfewyr ac arbenigwyr technegol i ymgymryd â gwaith arolygu o ran y 248 o ddatganiad o ddiddordeb a dderbyniwyd o dan gronfa diogelwch adeiladau Cymru. Mae'r gwaith hwnnw ar y gweill. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar 29 Mawrth o ran y mater a godwyd gennych chi yn eich cwestiwn cyntaf.
O ran diswyddo ac ailapwyntio, rydym ni wedi bod yn glir iawn fel Llywodraeth nad yw arferion diswyddo ac ailapwyntio yn gyson â'n gwerthoedd gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol. Ac mae defnyddio bygythiad diswyddo i leihau telerau ac amodau cyflogaeth y cytunir arnyn nhw yn ddidwyll yn gam-drin pŵer cyflogwyr yn llwyr. Felly, rydym ni'n disgwyl i gyflogwyr sy'n elwa ar fuddsoddiad cyhoeddus weithredu yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, i ganolbwyntio ar les eu gweithwyr ac, wrth gwrs, er budd ehangach y cyhoedd. Byddwch chi'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog yn mynd â'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus ar ei hynt. Bydd hwnnw'n cyflwyno dyletswyddau caffael newydd sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus. Gall Llywodraeth y DU, ac rwyf i'n credu y dylai hi, ddefnyddio ei phwerau sydd wedi eu cadw yn ôl dros hawliau cyflogaeth i ddarparu mwy o ddiogelwch, sicrwydd ac amddiffyniadau rhag diswyddo ac ailapwyntio. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod diswyddo ac ailapwyntio yn annerbyniol, ond rwy'n credu, fel y gwyddom ni i gyd, mai gweithredu nid geiriau sydd ei angen.
Arweinydd y tŷ, a oes modd cael datganiad gan Weinidog yr economi o ran prifddinas-ranbarth Caerdydd? Rydym ni i gyd yn gobeithio y bydd prifddinas-ranbarth Caerdydd yn llwyddo yn ei huchelgais i gynyddu gwerth ychwanegol gros a chynyddu nifer y swyddi o safon yn ei dalgylch. Yn ddiweddar, gwnaethon nhw gyhoeddi prynu hen safle gorsaf bŵer glo Aberddawan, gyda buddsoddiad sylweddol ar waith adfer—tua £36 miliwn yn mynd i mewn ar gyfer y gwaith adfer hwnnw—a'r uchelgais i'w droi'n esiampl o ynni gwyrdd, teimladau yr ydym i ni i gyd yn eu cefnogi. Ond mae gwir ddiffyg, byddwn i'n ei awgrymu, o ran atebolrwydd a chraffu ar y penderfyniadau a'r camau sy'n cael eu cymryd. A byddai o ddiddordeb i mi ddeall, gan fod Llywodraeth Cymru yn un o'r sefydliadau partner, beth yw disgwyliad Llywodraeth Cymru, wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol, ar y mater penodol hwn? Rwy'n ddiolchgar iawn bod y brifddinas-ranbarth wedi ymgysylltu â chynghorwyr lleol, ac rwy'n datgan buddiant fel cynghorydd, ar gyfer ward y Rhws, yng Nghyngor Bro Morgannwg. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i ei fod wedi cynhyrfu'r Gweinidog, ond mae'n rhaid i mi ei gofnodi'n awr.
Na, rwy'n falch eich bod chi wedi gwneud hynny—ni wnaethoch chi hynny'r wythnos diwethaf.
Ond mae'n bwysig deall—. Wel, mae yn fy natganiad i o fuddiannau. Felly, mae'n bwysig deall beth yw'r trothwyon atebolrwydd a'r trothwyon craffu gwirioneddol. Ac yn bwysig, rwy'n credu, mae angen i'r Senedd ystyried sut y gall craffu ar y gwariant y mae'r prifddinas-ranbarth yn ei wneud, ac, yn bwysig, y nodau y mae'n eu gosod ei hun. Ond rwyf i eisiau ceisio deall beth yw rhan Llywodraeth Cymru o ran sicrhau, yn amlwg, y bydd y nodau yn cael eu cyrraedd, a bod y 5,000 o swyddi sydd wedi'u nodi, a'r cynnydd mewn gwerth ychwanegol gros yn cael eu cyflawni.
Diolch. Wel, mae Gweinidog yr Economi'n gweithio'n agos iawn, yn amlwg, gyda'r holl ranbarthau ar y ceisiadau yr ydych chi'n eu disgrifio. Nid wyf i'n credu ei bod yn bosibl cyflwyno datganiad yn ystod yr wythnosau nesaf, ond yn sicr, fe wnaf edrych i weld a oes unrhyw beth y mae angen i ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau amdano yn y tymor nesaf.
Gaf i ddechrau drwy ddatgan diddordeb fel cynghorydd sir, am yr ychydig wythnosau nesaf, achos ei fod e'n berthnasol i'r cwestiwn dwi'n mynd i'w ofyn?
Drefnydd, dwi'n siŵr eich bod chi, fel fi, wedi croesawu'r datganiad yr wythnos diwethaf gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a chynllun pensiwn llywodraeth leol Cymru, yng ngoleuni'r digwyddiadau ofnadwy yn Wcráin, fod y cronfeydd pensiwn wedi penderfynu dad-fuddsoddi o gwmnïau o Rwsia cyn gynted ag sydd yn ymarferol bosibl. Roedd hon yn enghraifft wych o weithredu clir a diamwys gan y bartneriaeth bensiynau, a'r hyn sydd yn bosibl wrth i bobl gymryd safiad ar bwynt o egwyddor.
Yn anffodus, ar fater newid hinsawdd a dargyfeirio oddi wrth danwydd ffosil, nid yw penderfyniadau gan gronfeydd pensiwn wedi bod mor bendant a sydyn. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar ag ymgyrchwyr yn fy rhanbarth i i drafod y mater hwn, ac mae rhwystredigaeth glir o ran y diffyg cynnydd sydd wedi bod. Dŷn ni'n gwybod bod gan gronfeydd pensiwn Cymru dros £500 miliwn wedi ei fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil o hyd. Ac ar ôl datgan argyfwng hinsawdd a natur yn y lle hwn, rwy'n credu'n gryf fod angen i'r Senedd chwarae rôl flaengar gyda'r agenda hon.
Rwy'n ddiolchgar i Jack Sargeant am gyflwyno datganiad barn yn ddiweddar ar y mater, sy'n galw ar y Llywodraeth i weithredu. Tybed, felly, Drefnydd, a fyddech chi nawr yn barod i gyflwyno datganiad neu ddadl yn amser y Llywodraeth a fyddai'n nodi safbwynt a chamau gweithredu'r Llywodraeth ar y mater hwn, gan roi cyfle i ni amlinellu cyfleoedd a chamau i gefnogi cronfeydd pensiwn i gyflawni targedau dad-fuddsoddi clir dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Byddwn i'n ddiolchgar, felly, ichi, Drefnydd, pe baech yn ystyried fy nghais i neilltuo amser y Llywodraeth i drafod y mater hynod bwysig hwn.
Diolch, ac rwy'n credu ei fod yn fater pwysig iawn, a byddwch chi'n ymwybodol bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi gweithredu'n gyflym iawn i gynnal trafodaethau gyda llywodraeth leol ynghylch cronfeydd pensiwn, yn y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ati. Mae'n amlwg hefyd bod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ddiddordeb mawr yn y pwnc hwn. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi egluro'n glir iawn ein huchelgeisiau i symud oddi wrth danwydd ffosil. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw beth sydd wedi dod i i law y byddai modd i ni ddarparu datganiad arno yn y dyfodol agos, a gallai fod yn well pe baech chi'n ysgrifennu at y Gweinidog yn uniongyrchol.
Gweinidog, rwyf i wedi gofyn o'r blaen am ddatganiad ar y gallu i fanteisio ar ddeintyddiaeth. Hoffwn i ailadrodd y cais hwnnw y prynhawn yma, a gofyn hefyd am ddadl ar ddyfodol gwasanaethau deintyddol. Rwy'n falch bod y Gweinidog iechyd yn y Siambr yn ei lle ar gyfer y sesiwn hon. Rwyf i wedi cael gohebiaeth gan ddeintyddion yn fy etholaeth i fy hun sy'n pryderu'n eithriadol am y mater o gontract newydd. Maen nhw'n credu bod y contract wedi'i feirniadu'n eang, ac maen nhw wedi dweud wrthyf i fod morâl wedi cyrraedd y gwaelod yn y gwasanaeth, a'u bod yn pryderu o ddifrif am allu deintyddion ledled Cymru i allu parhau i ddarparu gwasanaethau. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol os gallem ni gael dadl ar y materion hyn yn amser y Llywodraeth, ac yn sicr datganiad ar fyrder.
Diolch. Wel, gwn i fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd, fel y dywedwch chi, yn y Siambr ac wedi clywed eich cais, yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud eich bod chi wedi rhoi cyllid ychwanegol sylweddol i mewn ac mae'n amlwg yn gweithio drwy'r contractau deintyddol newydd.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog cyllid am ba gymorth sydd ar gael i bobl sy'n ei chael hi'n anodd prynu olew gwresogi ar hyn o bryd? Yr wythnos diwethaf, gwnaeth pris cyfartalog olew gwresogi fesul litr gyrraedd £1.55, i fyny o 67c sydd eisoes yn uchel, ychydig wythnosau'n ôl, ac mae hynny tua phedair gwaith yn uwch na'r pris fis Mawrth diwethaf, a hyd yn oed os gallwch chi ei fforddio, byddwch chi'n lwcus os gallwch chi gael gafael arno. Ni chewch chi bris, ac mae'n rhaid i bobl ymrwymo i isafswm o 500 litr a thaliad ymlaen llaw. Ac mae fy mathemateg i yn iawn, rwy'n siŵr, sef £1.80 lluosi â 500—mae hynny'n daliad ymlaen llaw o £830. Cysylltodd etholwr â mi yr wythnos hon, ddoe, i ddweud bod ganddyn nhw ddigon o olew yn eu tanc am 16 diwrnod, ac ar ôl hynny ni fydd ganddyn nhw wres, ni fydd ganddyn nhw ddŵr poeth—teulu o bedwar o bobl, gan gynnwys dau blentyn ifanc. Mae pobl yn poeni'n fawr, ac maen nhw'n byw, wrth gwrs, y byddwch chi'n deall, yn rhai o'r tai oeraf yng Nghymru. Gallaf i gyfeirio pobl at gymorth Llywodraeth Cymru, fel y gronfa cymorth dewisol, ond yr hyn a fyddai'n ddefnyddiol iawn i'w gael, Gweinidog, yw esboniad gan Lywodraeth Cymru o'r holl gymorth a chyngor a chefnogaeth, a mynd ychydig ymhellach, gan edrych ar gynllun a fydd yn helpu'r bobl hynny nad ydyn nhw'n cael y cyfle i dalu bob yn dipyn.
Diolch. Mae Joyce Watson yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonom ni y Siambr, a minnau yn eu plith, wedi cael gohebiaeth gan etholwyr ynghylch y mater pwysig iawn hwn. Nid yn unig nad oes modd i chi gael pris, ni allwch chi gael dyddiad dosbarthu, ac mae'n fath o gylch dieflig. Ac fel y gwnaethom ni ei glywed yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, rydym ni mewn gwirionedd yn wynebu argyfwng costau-byw heb gynsail, ac, wrth gwrs, mae prisiau o ddydd i ddydd yn codi wrth i chwyddiant godi, a gwyddom ni y bydd yr argyfwng yn gwaethygu ym mis Ebrill, pan fydd y cap ar brisiau ynni yn cynyddu mwy na 50 y cant a bydd y cynnydd treth mwyaf mewn bron i 30 mlynedd yn dod i rym gan Lywodraeth y DU.
Fis diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol becyn gwerth £330 miliwn o fesurau i helpu i fynd i'r afael â chostau byw cynyddol. Mae'r materion hyn wedi'u cadw yn ôl i Lywodraeth y DU, ond rydym ni wedi cymryd camau gan ddefnyddio ein hadnoddau cyfyngedig i gefnogi aelwydydd sydd fwyaf mewn perygl, ac rydych chi'n iawn i gyfeirio eich etholwyr at y cynllun cymorth tanwydd gaeaf a gafodd ei gynnal rhwng mis Hydref a diwedd mis Mawrth ac a gynigiodd daliad o £200 i aelwydydd cymwys. Bydd y pecyn a gyhoeddodd y Gweinidog fis diwethaf yn sicrhau bod modd ymestyn ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf i weithredu eto y gaeaf nesaf i gyrraedd mwy o aelwydydd, ac mae'r pecyn o fesurau hefyd yn cynnwys taliad costau byw o £150 i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau'r dreth gyngor A i D a phob aelwyd sy'n cael cymorth gan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Dylwn i dynnu sylw at y pwynt bod gennym ni hefyd y gronfa cymorth dewisol. Felly, i gwsmeriaid oddi ar y grid sy'n profi anawsterau ariannol, mae'r gronfa honno wedi'i chynyddu i helpu i gefnogi cyflwyno cymorth gaeaf i gleientiaid tanwydd oddi ar y grid.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y rhaglen fuddsoddi ar gyfer 2022-23 ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad yma—Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn. Yn dilyn cymeradwyaeth y Senedd i gyllideb Llywodraeth Cymru, rwy'n cadarnhau heddiw y rhaglen lifogydd ar gyfer eleni. Fe fydd y pecyn ariannu yn golygu'r cynnydd mwyaf a fu erioed yn y buddsoddiad ar gyfer rheoli a lliniaru peryglon o lifogydd ac erydu arfordirol yn 2022-23 ac, yn ystod tymor y Senedd hon, fe fydd hynny'n cyflawni ein hymrwymiad ni fel caiff ei nodi yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Fe ddaw hyn ar ben cyfradd o gyllid yn y flwyddyn gyfredol a oedd eisoes ar ei fwyaf hael yn ystod cyfnod datganoli, ac rydym ni'n ei ymestyn ymhellach. Fe fydd y flwyddyn sydd ar ddod yn gweld y gyfradd uchaf o gyllid a ddarparwyd erioed ar gyfer rheoli peryglon llifogydd ac erydu arfordirol.
Ni fu buddsoddi yn y maes hwn cyn bwysiced erioed. Fis diwethaf, fe gawsom ni ein hatgoffa o hynny pan drawodd tair storm fawr ledled Cymru ar ôl ei gilydd, gan effeithio ar lawer o gymunedau. Yn ffodus, ni fu'r difrod na'r amharu ar seilwaith cymaint ag y gallasai fod neu gyn waethed ag yr oeddem ni wedi ofni. Ond, fe welwyd llifogydd mewn 65 eiddo, ac roedd hwnnw'n brofiad dirdynnol a gofidus iawn i'r unigolion a'r teuluoedd dan sylw. Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad enfawr staff mewn awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, cwmnïau dŵr, gwasanaethau brys, a wardeiniaid llifogydd cymunedol, sy'n chwarae eu rhan yn amddiffyn ein cymunedau ni gan ymateb a gweithredu mesurau i leihau'r perygl o lifogydd. Rwy'n falch fod ein buddsoddiad ni wedi helpu i leihau'r perygl o lifogydd ar gyfer dros 950 o gartrefi a busnesau ledled Cymru, gyda 3,600 arall yn elwa ar welliannau i gynlluniau presennol yn ogystal â gwaith cynnal a chadw.
Gan edrych ymlaen at 2022-23, rwy'n falch ein bod ni'n gallu cyhoeddi ein rhaglen lifogydd fwyaf erioed, sef cyfanswm o dros £71 miliwn y flwyddyn nesaf. Fe fydd y dyraniad dros dair blynedd, sy'n ymrwymiad pwysig, o dros £214 miliwn yn helpu i ddatblygu cyfres fwy pendant o gynlluniau i'r dyfodol ar gyfer amddiffyn yn erbyn llifogydd ac fe fydd hynny'n caniatáu rhag-gynllunio mwy cadarn, sy'n hollbwysig. Rydym ni wedi gofyn i awdurdodau rheoli risg barhau i weithio gyda ni i gyflymu'r broses gyflawni i sicrhau a chodi cyfradd yr amddiffyn yn erbyn llifogydd ledled Cymru.
Yn rhan o'n hymrwymiad i ni gynyddu cyllid, fe fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £24 miliwn ychwanegol yn y cyllid refeniw dros y tair blynedd nesaf hefyd. Fe fydd hyn yn caniatáu dyblu, hyd at £225,000 fesul awdurdod, o gyllid refeniw i lywodraeth leol yn y flwyddyn ariannol sydd ar ddod. Ar yr un pryd, rydym ni'n rhoi £1.5 miliwn yn ychwanegol yng nghyllideb refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru, ac fe fyddwn ni'n gwneud rhagor o waith gyda'n partneriaid cyflawni ni i ddeall anghenion ariannu yn y dyfodol. Mae'r cyllid ychwanegol yn adlewyrchu'r gweithgareddau sydd ar waith eisoes yn unol â'n strategaeth genedlaethol ni, ein rhaglen lywodraethu ni ac ymrwymiadau yn y cytundeb cydweithredu.
Rwyf i wedi ymestyn y rhaglen genedlaethol ar gyfer rheoli risg arfordirol am un flwyddyn arall i orffen. Mae hi'n hanfodol erbyn hyn, Llywydd, fod yr awdurdodau lleol yn manteisio ar yr estyniad olaf hwn i gwblhau gwaith ar ddyluniad y cynlluniau sydd ar ôl a sicrhau bod y gwaith adeiladu yn dechrau, er enghraifft, yn Aberaeron, yng nghanol Prestatyn a bae Hirael ym Mangor cyn diwedd mis Mawrth 2023. Y rhaglen hon yw'r prif fecanwaith ar gyfer mynd i'r afael â'n hamcanion ni o ran rheoli erydu arfordirol, ar gyfer mynd i'r afael â'r heriau a nodir yn y cynlluniau rheoli traethlin, ac ar gyfer buddsoddi i sicrhau bod cymunedau arfordirol ni'n parhau i fod yn gryf yn y tymor hwy. Yn gynharach y mis hwn, fe gadarnhaodd Cyngor Sir Ddinbych fod cynllun arfordirol dwyrain y Rhyl gwerth £27 miliwn wedi cael ei gwblhau yn sir Ddinbych, ac fe ariannwyd hynny gan ein rhaglen ni, sydd wedi bod o fudd i tua 1,650 eiddo. A ddoe, fe ymwelodd fy nghyd-Aelod Julie James â chynllun arfordirol Aberafan, ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ymlaen at ymweld â chynlluniau ledled Cymru dros y flwyddyn i ddod wrth iddyn nhw gael eu cyflawni.
Gan droi at gyllid cyfalaf, fe allwn ni edrych ymlaen at raglen fuddsoddi gref o gyfanswm o £34 miliwn. Heddiw, rydym ni wedi cyhoeddi manylion y cynlluniau i gyd, ynghyd â map rhyngweithiol i'r cyhoedd ac Aelodau allu edrych ar y manylion cysylltiedig. Fe ddarparwyd cyllid ar gyfer gwaith i gynllunio a datblygu cynlluniau'r dyfodol yn ogystal ag adeiladu asedau newydd. Mae rhai o'r cynlluniau yn y rhaglen adeiladu yn cynnwys gwaith yn Nhreorci, Dinas Powys, a Glyn-nedd. Drwy ein buddsoddiad cyffredinol ni, gan gynnwys y rhaglen lifogydd, fe fyddwn ni'n gwneud gwelliannau i o leiaf 14,600 eiddo eleni. Ond, nid yw cyllid cyfalaf yn ymwneud ag adeiladu asedau newydd yn unig ; mae'n cynnwys gweithgareddau i gynnal asedau presennol hefyd, a datblygu cynlluniau newydd, yn ogystal â mapio a modelu prosiectau er mwyn deall a mynegi'r perygl o lifogydd yn well. Fe fydd ein cyllid ni'n cefnogi gwaith datblygu ar 86 o gynlluniau eraill a fydd yn cyfrannu at raglenni'r dyfodol.
Y flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni'n cynnig grantiau o 100 y cant ar gyfer yr holl waith paratoi ar gyfer cynlluniau newydd. Dim ond ar y cam adeiladu y bydd angen 15 y cant o arian cyfatebol gan yr awdurdodau lleol ac ar gyfer helpu i leihau'r arian cyfatebol hwn. Felly, rwy'n eu hannog nhw i geisio cyfraniadau oddi wrth gronfeydd partneriaethau pryd caiff manteision ehangach eu nodi.
Fe fyddwn ni hefyd yn parhau â'r grant gwaith ar raddfa fach poblogaidd ac rydym ni wedi cynyddu trothwy prosiectau unigol o dan y grant hwn i £200,000, ac rydym ni wedi dyrannu £3.8 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer cefnogi cynlluniau ledled Cymru, a fydd o fudd i dros 2,100 o eiddo.
Yn olaf, Llywydd, mae'r rhaglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn parhau ac yn ei blwyddyn olaf. Fe fydd y rhaglen hon yn ein helpu ni i ddeall rheolaeth naturiol o lifogydd a'r ffordd orau o gyflawni'r mathau hyn o gynlluniau ar gyfer cyfrannu at ein hymrwymiad ni i reoli llifogydd mewn ffyrdd naturiol. Mae'r rhaglen hon sydd o werth £3 miliwn yn cynnwys 15 o brosiectau a fydd o fudd i dros 1,100 eiddo, gan ddarparu manteision ehangach, fel gwella ansawdd y dŵr a bioamrywiaeth.
Mae ein strategaeth llifogydd genedlaethol ni'n nodi sut yr ydym ni'n gwella'r ffordd yr ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i leihau risg ac yn dynodi cyfeiriad clir ar gyfer cyflawni ein hamcanion hirdymor ni. Ac mae'r cyfraddau uchaf erioed o fuddsoddiad yr ydym ni'n eu cyhoeddi heddiw yn adlewyrchu pwysigrwydd rheoli peryglon llifogydd yng ngolwg y Llywodraeth hon, wrth i ni wynebu'r heriau newid hinsawdd a gweithio gyda'n gilydd i addasu a pharatoi cymunedau i'r dyfodol. Diolch.
Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog. Mae hwn, yn fy marn i, yn ddatganiad cadarnhaol. Mae croeso i'r newyddion y caiff £214 miliwn ei fuddsoddi mewn cynlluniau atal llifogydd ac erydu arfordirol dros y tair blynedd nesaf, gyda £71 miliwn i'w fuddsoddi yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Er eich bod chi wedi crybwyll mai rhan o'ch cytundeb cydweithredu yw hon, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am gyllid ychwanegol a gwell rheolaeth o ran llifogydd ac amddiffynfeydd arfordirol ers 2016. Rydych chi wedi rhoi gwybod i ni y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu i wella rhag-gynllunio, a dyna, yn fy marn i, oedd y ddau air allweddol yn eich datganiad chi. Oherwydd, yn rhy aml, mae arnaf i ofn fod y dull gweithredu gan Lywodraeth Cymru wedi bod ar sail adweithiol yn hytrach na rhagweithiol. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith yn fawr eich bod chi'n edrych ymlaen nawr at weithio gydag awdurdodau rheoli risg ar gyfer cyflymu'r broses o ddarparu a chefnogi pobl Cymru.
Yn ystod yr ymchwiliad a gynhaliwyd gennym ni i ymateb Llywodraeth Cymru i'r llifogydd ym mis Chwefror 2020, roedd adroddiad y pwyllgor yn dangos bod cyfradd y cyllid refeniw yn golygu bod yr awdurdodau ymhell iawn o fod yn gwbl barod a chydnerth. Fe dderbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ychydig o dan 5 y cant o'r cyllid refeniw cenedlaethol, er ei fod yn amcangyfrif bod 21 y cant o'r perygl cenedlaethol oherwydd llifogydd dŵr wyneb ganddo i'w reoli.
Nawr, wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi egluro bod dyrannu refeniw'r blynyddoedd i ddod, ar sail y perygl oherwydd llifogydd ac erydu arfordirol nawr ac yn y dyfodol, yn rhywbeth y byddech chi'n ei ystyried. Felly, mae gennyf i ychydig o gwestiynau, ond rwyf i am ddweud wrthych chi fy mod i'n croesawu eich cyhoeddiad eich bod chi am ymweld â rhai o'r cynlluniau, oherwydd mae gennym ni dri chynllun yma yn fy etholaeth i: Llanfairfechan, sydd wedi gweld difrod aruthrol i'r cob oherwydd stormydd; Bae Penrhyn, y mae cynllun newydd yno i amddiffyn rhag effeithiau'r môr; ac, yn olaf, Llandudno, pryd y rhoddodd eich Llywodraeth chi, mewn ffordd braidd yn esgeulus yn 2014, gynllun amddiffyn y môr i ni a oedd yn sylfaenol annigonol, a chael gwared ar ein tywod ni, a dodi miloedd o dunelli o glogfeini ar y traeth. Roeddech chi yno dros y penwythnos, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno—. Mae cais ger eich bron chi, ac mae pobl Llandudno, y gwleidyddion i gyd, a'r hyn yr ydym ni'n ei ddymuno yw gweld tywod ar y traeth unwaith eto. Felly, rwy'n edrych ymlaen at eich gweld chi'n ymweld â rhai cynlluniau yn yr etholaeth yma yn Aberconwy.
Fy nghwestiwn cyntaf i yw: o gofio nad oedd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gallu ateb fy nghwestiwn i'r wythnos diwethaf, a wnewch chi egluro i'r Senedd pam nad yw dyrannu refeniw yn rhoi ystyriaeth i'r perygl o lifogydd o hyd, er gwaethaf argymhelliad eglur y pwyllgor? Cwestiwn 2: a wnewch chi egluro a fydd y dyraniadau refeniw o ran llifogydd o £222,000 a gafodd ei gadarnhau ar gyfer awdurdodau lleol yn cael eu rhannu yn gyfartal rhwng pob awdurdod? Mae eich datganiad chi i'r wasg yn tynnu sylw at y rhaglen lywodraethu fel tystiolaeth eich bod chi am ganolbwyntio ar ganlyniadau sy'n helpu i wella cydnerthedd ein cymunedau ni. Felly, yn y bôn, pam mae Llywodraeth Cymru yn parhau i anghytuno â thua 6,000 o bobl a lofnododd ddeiseb yn annog Llywodraeth Cymru i gychwyn ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus i lifogydd cartrefi a busnesau yn Rhondda Cynon Taf yn 2020?
Rwy'n credu eich bod chi'n ymwybodol, Dirprwy Weinidog, ynghyd â'r Gweinidog, am fy mhryderon i o ran yr amser y mae hi'n ei gymryd ar gyfer adroddiadau adran 19, a nhw mewn gwirionedd yw'r unig bethau sydd ar gael i gymunedau pan fyddan nhw'n cael llifogydd mawr. Mae rhai wedi gorfod aros—mae awdurdodau lleol wedi gorfod aros—wyth mis am yr adroddiad, ac yn sicr, yma yn Llanrwst a Phentref, 17 mis. Mae hwnnw'n amser maith ar ôl i bobl sydd wedi gweld dinistrio eu cartrefi nhw a'u cymunedau nhw gan lifogydd. A wnewch chi ymrwymo, a hynny ar fyrder, i fynd i'r afael â'r oedi o ran llunio a chyhoeddi adroddiadau adran 19 fel bydd mesurau i liniaru effaith llifogydd yn cael eu nodi ar fwy o gyflymder? Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ynglŷn â'r gwaith da sydd wedi bod ar ein hucheldiroedd ni—. Yn sicr, yma yn Aberconwy rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru i gael trefn ar y mawndiroedd fel bod mwy o ddŵr yn cael ei ddal a'i gadw yno yn ein hucheldiroedd ni er mwyn osgoi llifogydd difrifol mewn pentrefi fel Llanrwst.
Yn olaf, rwy'n nodi eich bod chi'n sôn am roi cynnydd o £1.5 miliwn yng nghyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru, ac eto mae CNC eu hunain wedi amcangyfrif y bydd angen ymhell dros 200 o staff ychwanegol i orfodi'r parthau perygl nitradau neu'r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Sut ydych chi am ystyried ailstrwythuro Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o hynny, oherwydd rwy'n credu y byddech chi'n cytuno â mi, Dirprwy Weinidog, nad yw'n ymwneud ag arian yn unig? Rwy'n credu fy mod i wedi gofyn digon o gwestiynau i chi nawr, ac fe fyddwn i'n gwerthfawrogi eich cydnabyddiaeth o'r materion hyn a'ch ymatebion chi iddyn nhw, a diolch eto i chi am eich datganiad. Diolch, Llywydd.
Wel, Llywydd, dangosed y cofnod fod Janet Finch-Saunders, am 14:53 ar 15 Mawrth 2022, wedi croesawu camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru a diolchodd i ni am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Mae'n ddiwrnod pwysfawr a fydd yn nodedig yn llyfrau'r cofnodion am amser maith i ddod, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth honno.
Fe gafodd llawer o'r cwestiynau a gododd hi eu hateb gan fy natganiad, rwy'n credu, ond fe hoffwn i ymdrin ag un neu ddau o'r gweddill. Yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd sy'n gyfrifol am ddatblygu cynlluniau—eu swyddogaeth statudol nhw yw honno. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynigion ar sail y dadansoddiad arbenigol, ac mae hynny ar sail sut y maen nhw'n hwyluso rheoli llifogydd, ac rwy'n siŵr fod gan Janet Finch-Saunders, sy'n landlord yn Llandudno, ddiddordeb mawr mewn gweld tywod ar y traeth yn y fan honno, ond nid honno yw'r brif ystyriaeth o ran cynllunio ar gyfer lliniaru effeithiau llifogydd, ac nid ydym ni'n dibynnu ar ddewisiadau gwleidyddol, ond ar asesiad arbenigol o'r hyn a fydd yn lleihau'r perygl o lifogydd, a dyna sut y caiff cynlluniau eu barnu. Rydym ni'n awyddus i weld mwy o awdurdodau yn cyflwyno cynlluniau y gallwn ni farnu arnyn nhw a'u rhoi ar y gweill wedyn a'u cyflawni nhw. Mae'r pwynt a wnaeth hi ynglŷn ag ymchwiliadau adran 19 yn rhywbeth, fel mae hi'n gwybod, sy'n cael ei gynnwys yn ein cytundeb partneriaeth ni â Phlaid Cymru a'n bod ni'n trafod gyda'r Aelod dynodedig ac fe fyddwn ni'n gwneud cyhoeddiad ynghylch pryd y bydd cytundeb gennym ni ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â hynny. Ond rydym ni wedi ymrwymo i wneud hynny.
Rwy'n credu mai'r pwynt i'w wneud am y sylwadau ehangach yw bod gennym ni raglen waith sylweddol yn y cynllun hwn i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol y gwyddom ni fod newid hinsawdd yn ei chyflwyno i ni, ac mae hi'n sôn am y cynllun yn ei hetholaeth hi, sy'n ardal dan fygythiad ar yr arfordir, fel cymaint o dirwedd Cymru. A'r angen i ni uno'r dotiau yma—. Fe ddywedaf i wrth Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr, sôn yr ydym ni am ymdrin ag effaith newid hinsawdd yma, ond mae'n rhaid i ni ymdrin ag achosion newid hinsawdd hefyd. Ni ddaw unrhyw les o ddod i'r Siambr gyda rhestr o ganlyniadau newid hinsawdd heb fod yn fodlon, yn ogystal â hynny, i ewyllysio peidio â gwaethygu'r sefyllfa o ran newid hinsawdd, ac rwy'n credu bod angen iddyn nhw ystyried rhywfaint o gydgysylltu yn eu meddylfryd nhw o ran polisi.
Fe hoffwn i groesawu'r buddsoddiadau arfaethedig, Gweinidog, ym maes rheoli perygl llifogydd, a diolch yn fawr i chi am y datganiad. Fe fydd y gyllideb gyfalaf tair blynedd yn sicr yn cefnogi cymunedau drwy ddarparu amddiffynfeydd llifogydd hanfodol y mae wir eu hangen nhw, ac, wrth gwrs, fe ddaw'r cyllid ochr yn ochr â chyllideb refeniw hanfodol, fel y nodwyd yn barod. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y gwaith cydweithredol rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, ac, fel dywedwyd eisoes yn ystod y datganiad hwn a'r trafodaethau eisoes, mae'r cytundeb cydweithredu wedi golygu ein bod ni wedi llwyddo hefyd i sicrhau ymrwymiadau i gomisiynu adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 a CNC ynglŷn â llifogydd eithriadol yn ystod gaeaf 2020-21, ac, wrth gwrs, i weithredu yn ôl yr argymhellion hynny. Felly, fe wyddom ni fod hyn yn rhan o brosiect gwaith parhaus yma.
Nawr, gadewch i ni edrych tua'r dyfodol, Gweinidog. Yn ystod y gaeaf, fe ddisgwylir i'r glaw gynyddu tua 6 y cant erbyn y 2050au a rhwng 7 y cant a 13 y cant erbyn y 2080au o linell sylfaen 1981 i 2000. Yn amlwg, mae llawer o hynny'n dibynnu ar ymdrechion byd-eang i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac fe wn i, pan soniwn ni am bethau yn 2050 a 2080, ei bod hi'n ymddangos yn bell iawn i ffwrdd, ond rydym ni'n sôn am bethau a fydd yn digwydd yn ein hoes ni, a bydd newid hinsawdd yn gwaethygu yn yr oes honno—yn sicr, hefyd, yn oes cynifer o bobl yng Nghymru a phobl sydd eto i'w geni. Bydd llifogydd gwaeth yn effeithio mwy ar fwy o ardaloedd; bydd pobl yn dechrau poeni pan fydd yn dechrau glawio—poeni am eu cartrefi, eu busnesau, eu cymunedau a allai gael eu dinistrio gan ddŵr llifogydd. Fe hoffwn i wybod, os gwelwch yn dda, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd yr ardaloedd y rhagwelir y bydd llifogydd yn effeithio fwyaf arnyn nhw yn cael eu rhagrybuddio pan fydd llifogydd yn digwydd. A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud o ran yr angen i gynyddu systemau rhybuddio cynnar ar gyfer cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd, yn enwedig peidio ag ystyried glaw yn unig ond risgiau cysylltiedig, fel tomenni glo a llithriadau glo?
O edrych ar y buddsoddiad cyfalaf arfaethedig, er bod amddiffynfeydd llifogydd caled fel waliau amddiffyn rhag llifogydd, wrth gwrs, yn gwbl angenrheidiol, nid yn unig i ddiogelu eiddo ond ar gyfer gymunedau, mae hyn wedi codi eisoes, Gweinidog, sef nad oes digon o bwyslais, efallai, ar adfer natur. Fe wn i fod Janet Finch-Saunders wedi codi hyn hefyd, ac rwy'n cydnabod eich bod eisoes wedi cydnabod hyn, ond os ydym ni'n sôn am fawndiroedd, morfeydd heli, plannu coed, ailgyflwyno afancod, cynyddu mannau gwyrdd, storio dŵr mewn ardaloedd trefol, a oes unrhyw beth pellach yr hoffech ei ddweud, Gweinidog, o ran cynlluniau i gynyddu faint o reoli llifogydd naturiol sy'n digwydd, o ystyried y manteision a fyddai'n deillio o'r dulliau naturiol hyn?
Yn olaf, mae Llywodraeth Cymru yn gwario'r symiau uchaf erioed, wrth gwrs, ar amddiffynfeydd rhag llifogydd, ond mae angen gwneud mwy hefyd i helpu aelwydydd sy'n agored i niwed, sydd mewn perygl, i wneud eu cartrefi nhw'n fwy cydnerth o ran llifogydd a sicrhau bod ganddyn nhw yswiriant digonol i ddod i drefn ar ôl unrhyw lifogydd. Y gwir amdani yw bod aelwydydd tlotach yn llai abl i fuddsoddi yn eu heiddo, i'w galluogi i wrthsefyll llifogydd ac o ran cydnerthedd rhag llifogydd hefyd, pan fyddwn yn sôn am lifddorau neu'n eu gwneud hi'n haws i'w glanhau a'u clirio a'u sychu. Mae rhai yn llai abl i ymateb pan fydd llifogydd yn digwydd oherwydd, efallai, eu bod nhw'n anabl neu eu bod nhw'n agored i niwed oherwydd oedran mawr neu salwch, ac nid yw llawer ohonyn nhw'n gallu codi ar eu traed wedyn ar ôl iddyn nhw gael eu taro gan lifogydd. Mae ffigurau'r DU gyfan yn awgrymu efallai nad oes gan tua 50 y cant o'r holl rentwyr yswiriant cynnwys cartref. Mae hynny'n codi i 61 y cant ymhlith rhentwyr incwm isel. Felly, Gweinidog, fe hoffwn i wybod ychydig mwy o fanylion, os gwelwch yn dda, am y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod mwy o gartrefi, yn enwedig cartrefi incwm isel mewn ardaloedd lle ceir risg uchel o lifogydd, yn gallu gwrthsefyll llifogydd a bod yn gydnerth a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau baich cost yswiriant ar yr aelwydydd hynny, os gwelwch chi'n dda.
Diolch. Roedd nifer o gwestiynau yn y fan yna ac, yn fy natganiad, fe wnes i gydnabod y rhan a chwaraeodd y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru yn y cyhoeddiad heddiw. Fel gwyddoch chi, roedd dau faes yn y cytundeb yn ymwneud â llifogydd. Yn gyntaf i gyd, adolygiad o lifogydd, y soniais i amdano yn fy ateb blaenorol a'n bod ni'n gwneud cynnydd yn ei gylch. A'r ail oedd buddsoddi cyfalaf mewn amddiffyn yn erbyn llifogydd a chydnerthedd cenedlaethol, gan fuddsoddi mwy mewn rheoli a lliniaru effeithiau llifogydd a chynllunio i ymateb i'r perygl cynyddol o lifogydd, ac yna yn ail i ofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru asesu sut y gellir lleihau'r tebygolrwydd o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith yn genedlaethol erbyn 2050, ac mae hynny ar y gweill hefyd. Rydym ni'n ail-lunio'r comisiwn seilwaith cenedlaethol. Fel gŵyr yr Aelodau, rwy'n credu, rydym ni wedi penodi cadeirydd newydd sef Gareth Clubb. Rydym ni'n adnewyddu'r aelodaeth ac rydym ni'n canolbwyntio ymdrechion y cylch gorchwyl ar ei waith ef o ran cynllunio sero net. Ac yn rhan o hynny, rydym ni'n gofyn iddyn nhw edrych, fel y cytunwyd yn y cytundeb cydweithredu, ar liniaru effeithiau a chyfyngu ar lifogydd. Felly, rwy'n falch o gadarnhau hynny, a diolch i Blaid Cymru am eu cydweithrediad nhw yn hynny o beth. Rwyf i o'r farn fod hwnnw'n ddarn pwysig o waith ar y cyd. Pan ydym ni'n unfryd, mae hi'n gwneud synnwyr ein bod yn gweithredu gyda'n gilydd, ac rwyf i'n bersonol yn croesawu hynny'n fawr.
O ran systemau rhybuddio cynnar, rwy'n credu bod systemau rhybudd cynnar digidol yn hanfodol, ac mae hyn yn wir yn gyffredinol. Roeddwn i yn y Sioe Amaethyddiaeth Carbon Isel yn Stoneleigh yr wythnos diwethaf gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac roeddem ni'n edrych ar ystod eang o ymyriadau amaethyddol manwl a all ein helpu ni i ymdrin â pheryglon newid hinsawdd yn ogystal â gwella cynhyrchiant a systemau rhybuddio ar ffermydd, ac mae mwy o ddefnydd o amaeth-dechnoleg yn benderfyniad amlwg, a dweud y gwir.
A hefyd, o ran y pwynt penodol am ddiogelwch tomenni glo, yna mae defnyddio systemau rhybudd cynnar digidol yn rhan o'r tasglu a sefydlodd y Prif Weinidog. Ac yn yr un modd, mae'r pwynt ynglŷn â rheoli llifogydd yn naturiol ar y gweill eisoes. Mae cyhoeddiad heddiw yn cynnwys £3 miliwn ar gyfer hynny. Ond mae gennym ni gynlluniau eraill hefyd, fel y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a'r fenter plannu coed a grybwyllwyd hefyd. Yn gywir, fe all y goeden iawn yn y lle iawn fod o gymorth o ran lliniaru llifogydd lleol, boed hynny ar raddfa fferm neu ar strydoedd mewn cymunedau, ac rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o'n dull ni o blannu coed, a phrif ffrydio rheoli llifogydd naturiol ym mhopeth a wnawn ni.
Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ymdrin â'r prif bwyntiau yn y fan yna. Diolch i chi.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
A gaf i, yn gyntaf i gyd, Dirprwy Weinidog, ddiolch i chi am eich datganiad heddiw? Fe ddioddefodd gogledd Powys, yn fy etholaeth i, lifogydd sylweddol, wrth gwrs. Y mis diwethaf, mewn tri diwrnod rwy'n credu, fe lawiodd 150mm o ddŵr—50 y cant ar un diwrnod yn unig, dydd Sul 20 Chwefror—ar dir a oedd eisoes yn wlyb iawn, felly roedd yr afonydd wedi codi hyd eu huchaf erioed, yn anffodus, ac fe ddioddefodd llawer o gymunedau, wrth gwrs, yn Llandinam, Cei'r Pwll a Llandrinio. I lawer, roedd llifogydd fel hyn wedi digwydd ddwywaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly mae'r holl ofid, wrth gwrs, yn dod gyda hynny i'r rhai y mae eu cartrefi nhw wedi profi llifogydd.
Pan wyf i'n amlinellu—. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi amlinellu'r cyllid ychwanegol heddiw, ond fe fyddwn yn cwestiynu sut caiff CNC ei strwythuro a'i strwythuro yn briodol ar gyfer cyflawni. Mae arnaf i ofn fy mod wedi cael rhai ymatebion annigonol iawn, fel hefyd cynghorwyr sir fy etholaeth i fy hun, oddi wrth CNC. Fe godwyd materion, yn enwedig yn Llandrinio a Llandinam, ers blynyddoedd, ac fe gafwyd ymrwymiadau gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n sylweddoli nad oes gennyf i amser i fanylu—rwy'n hapus i ysgrifennu atoch chi—ond fe wneir ymrwymiadau, a blynyddoedd yn ddiweddarach mae llifogydd yn taro eto, a beth sy'n digwydd? Mae CNC yn dweud y byddan nhw'n dod i wneud arolwg. Nid oes angen arolwg arnom ni ac arolygon wedi bod o'r blaen, ac fe geir rhwystredigaeth enfawr. Rwy'n ceisio cael asesiad yma gennych chi, Gweinidog, ai prinder adnoddau yw achos hynny neu a yw CNC yn amddifad o strwythur digonol ar gyfer cyflawni.
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr.
Iawn, ac os caf i ofyn—. Yn olaf, felly, Gweinidog, os caf i ofyn i chi, o ran y rhwystredigaethau hynny mewn cymunedau—. A gaf i ofyn i chi edrych yn benodol ar rybuddion llifogydd hefyd? Gan nad yw hi'n ymddangos bod gwefan CNC yn gweithio yn iawn. Yn fy marn i, yn ôl eu cyfaddefiad nhw eu hunain, nid yw'r mesuryddion yn gweithio yn iawn. Un o'u prif swyddogaethau nhw wrth gwrs yw rhybuddio cymunedau am lifogydd, ac mae hi'n ymddangos bod manteision eraill yr ochr arall i'r ffin yn Swydd Amwythig, lle mae gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio yn llawer mwy effeithlon, mae hi'n ymddangos, na gwefan CNC, lle nad yw llawer o fesuryddion yn gweithio yn iawn, ac wrth gwrs dyna un o'u prif swyddogaethau nhw. Felly, a fydd adnoddau ychwanegol yn mynd i'r mecanweithiau rhybuddio hefyd fel rhan o swyddogaethau CNC?
Wel, rwy'n credu mai dim ond bod yn onest yw cyfaddef bod adnoddau, yn amlwg, yn brin. Ni allwn ni wneud y pethau yr ydym ni'n dymuno eu gwneud i gyd, ac mewn rhai achosion mae angen i ni eu gwneud nhw, ar draws y Llywodraeth. Dyna yw natur bod yn y Llywodraeth, ac nid yw'r setliadau ariannu a gawsom ni yr hyn yr hoffem ni iddyn nhw fod. Nid yw'r cyllid ar gyfer Llywodraeth Cymru wedi dal i fyny â thwf yr economi. Mae hwnnw'n bwynt a wnaethom ni dro ar ôl tro, ac ni all y Ceidwadwyr ddiystyru effaith cyni. Dyma amlygiad ymarferol y cyllid a ataliwyd dros fwy na degawd, ac rwyf i o'r farn mai dim ond tegwch yw tynnu sylw at hynny.
Nawr, o ran CNC yn benodol, rydym ni yn gofyn i CNC gyflawni llawer, ac rwy'n credu ei fod wedi gwneud gwaith rhagorol yn ystod y llifogydd diweddar, ac mae wedi ymateb yn eithriadol o dda mewn argyfwng pob amser. O ran eu swyddogaethau o ddydd i ddydd, mae llawer ganddyn nhw ei wneud, ac nid yw'r adnoddau ar gael iddyn nhw bob amser i wneud popeth y maen nhw'n dymuno ei wneud hyd eithaf eu gallu. Mae hynny o ganlyniad i'r setliad ariannu cyffredinol. Rydym ni wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer CNC yn y cyhoeddiad heddiw, ac fe fyddwn i'n hapus iawn i edrych yn fanwl eto ar y pwyntiau a nododd Russell George. Mae hi'n wir weithiau, fel gwnaethom ni ei ddarganfod ynglŷn â phlannu coed, er enghraifft, i ddefnyddio hynny'n enghraifft o'r pwynt ehangach—. Yn yr astudiaeth ddofn a wnaethom ni yn yr haf y llynedd, fe edrychwyd ar y ffordd y defnyddiodd CNC ei adnoddau, ac yn yr achos hwnnw roedd tua 82 aelod o staff a oedd fel rhan o'u gwaith nhw'n edrych ar asesu cynlluniau plannu coed. Felly, nid oedd yr adnoddau ganddyn nhw, ond fe'u cyfarwyddwyd nhw, yn fy marn i, yn y ffordd anghywir—fe'u cyfarwyddwyd i godi rhwystrau yn hytrach na thynnu rhwystrau i lawr. Felly, weithiau mae hi'n fater o edrych ar yr adnodd sydd ar gael a bod yn eglur ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud. Rydym ni'n cynnal deialog lawn ac iach iawn gydag arweinyddiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, gan adolygu nifer o feysydd perfformiad allweddol, i sicrhau addasrwydd y systemau ar gyfer y gwaith dan sylw. Ond, o ran y pwyntiau penodol, fe fyddwn i'n hapus iawn i'w hateb nhw mewn gohebiaeth.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu yn fawr gyhoeddiad heddiw, sy’n deillio o’r cytundeb rhwng ein pleidiau. Tan i chi weld effaith llifogydd ar gartrefi a chymunedau, dwi'n meddwl ei bod yn amhosibl dirnad yr effaith nid yn unig yn syth wedi llifogydd, ond hefyd o ran y rhai sydd wedi eu heffeithio am flynyddoedd a degawdau wedi hynny. Mae'r trawma yn un parhaus, ac mae pobl yn dal i grio efo fi bob tro dwi'n eu cyfarfod nhw wrth ddisgrifio'r hyn maen nhw wedi bod trwyddo fo.
Yn y datganiad, fe wnaethoch gyfeirio, Dirprwy Weinidog, at yr arian ychwanegol i gyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru, yn benodol o ran refeniw. Allwch chi gadarnhau, os gwelwch yn dda, os yw hyn wedi ei neilltuo yn llwyr ar gyfer ymdrin â llifogydd, ac i ba raddau y bydd hyn yn gwella’r sefyllfa o ran nifer y staff sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymdrin â llifogydd? Wedi’r cyfan, nododd adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru i lifogydd 2020 y canlynol:
'Amcangyfrifir y bydd angen oddeutu 60-70 o aelodau staff ychwanegol dros y tymor hir i gynnal y gwasanaeth yn gyffredinol ac i fynd i'r afael â'r camau gweithredu a nodir yn ein hadolygiad llifogydd.'
Fydd hyn, felly, yn cael ei unioni yn sgil y datganiad heddiw?
Wel, fel rydym ni wedi dweud, rydym ni wedi cynyddu cyfradd y cyllid ar gyfer CNC, a mater iddyn nhw yw manylion sut y caiff ei wario a mater i'w drafod gyda ni. Ni allaf i ddweud mwy na hynny heddiw, ond mae hi'n amlwg ei fod yn gwestiwn allweddol, ac rwy'n cydnabod hynny. Rwy'n llwyr gydnabod ei phwynt hi am y gofid a'r trueni a achosir gan lifogydd. Fe welais i rywfaint o hynny fy hunan ym Mhontypridd ddwy flynedd yn ôl erbyn hyn, gan gyfarfod â llawer o'r bobl yr effeithiwyd arnyn nhw ac fe allwn i weld y gofid gwirioneddol a achoswyd yno, a'r straen hefyd. Ac rydym ni'n awyddus i rwystro hynny. Fe wyddom ni oddi wrth y gwyddonwyr y bydd hyn yn dod yn ddigwyddiad mwy rheolaidd. Fe fydd ein gaeafau ni'n fwy stormus a gwlyb, fe fyddwn ni'n cael mwy o law, ac mae hynny o ganlyniad i'r allyriadau yn yr hinsawdd, yr allyriadau carbon a ollyngwyd eisoes i'r atmosffer. Mae'r llong wedi hwylio yn hynny o beth, ac mae'n rhaid i ni addasu ein seilwaith a'n systemau ni i ymdrin â hynny, ac mae'n rhaid i bobl mewn ardaloedd risg uchel ddysgu byw gyda'r risg a rheoli'r risg. Allwn ni ddim gwneud iddo ddiflannu gyda hud. Ond yr un mor bwysig yw ein bod yn ei atal rhag gwaethygu, ac mae angen i ni ymrwymo o'r newydd i sero net ac atgoffa pobl, oherwydd mae lleisiau yn ystod yr argyfwng hwn sy'n dweud bod angen i ni roi llawer o'r pethau yr ydym ni wedi ymrwymo i'w gwneud o ran ynni adnewyddadwy neu, yn wir, ynglŷn â phlannu coed, o'r neilltu. Maen nhw'n dweud y dylem ni ymateb i'r argyfwng mewn dull byrdymor, mewn ffordd anystyriol, gan ddychwelyd at y pethau yr ydym ni'n eu gwneud. Yn sicr, fe geir lleisiau ar y dde yn galw arnom ni i groesawu ffracio, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio mai trafod effaith newid hinsawdd yr ydym ni yma heddiw. Nid aiff hynny i ffwrdd, fe fydd yn gwaethygu, ac mae'n rhaid i ni beidio â cholli ein plwc mewn sefyllfa anodd iawn a chofio ein bod ni'n wynebu argyfyngau lluosog, ac mae'n rhaid ymdrin â'r argyfwng hinsawdd hefyd.
Fel gŵyr y Dirprwy Weinidog, mae gennyf i brofiad personol o lifogydd, ar ôl byw drwy lifogydd Tywyn yr holl flynyddoedd hynny'n ôl, ac maen nhw'n dod â dinistr llwyr. Mae'n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn ni i atal cartrefi pobl rhag effeithiau llifogydd. Roeddwn i'n falch iawn o weld llawer o gyfeiriadau at ardaloedd yn fy etholaeth i yn y rhestr o ymrwymiadau ariannol, yn cynnwys ardal Tywyn a Bae Cinmel. Un o'r pryderon a godwyd gyda mi gan drigolion lleol yn y gymuned honno yw'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gohirio ei gofynion nodyn cyngor technegol 15 newydd, a fyddai'n sicrhau y byddai unrhyw amddiffynfeydd newydd a gaiff eu hadeiladu yn Nhywyn a Bae Cinmel yn fwy cadarn na'r rhai sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd gan yr awdurdod lleol. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'm hetholwyr i y bydd unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn digoni cyfraddau amddiffyn newydd TAN 15 ac nid yr hen rai, nad ydyn nhw'n ddigon da, a dweud y gwir?
Wel, rydym ni wedi ymrwymo i weithredu TAN 15, dim ond i fod yn eglur ynglŷn â hynny. Rydym ni wedi cytuno i oedi am 18 mis cyn iddyn nhw a'r map llifogydd ar gyfer cynllunio fod yn weithredol oherwydd pryderon am weithrediad ymarferol yr awdurdodau lleol. A'r peth hollbwysig yn hyn yw gwneud hynny'n briodol, ac mae hynny'n golygu newid sylweddol iawn i lawer o'r tybiaethau a wnaeth yr awdurdodau lleol a'r awdurdodau cynllunio ynghylch pa ddatblygiadau sy'n bosibl a'r hyn sy'n ymarferol, ac mae hynny'n peryglu nifer o gynlluniau sy'n bwysig ar gyfer blaenoriaethau eraill. A dyma'r tyndra sydd gennym ni: sut mae cyplysu'r pwysau gwahanol hyn? Felly, dyna'r broses yr ydym ni'n mynd drwyddi hi nawr, gan weithio gydag awdurdodau lleol, ac fe allaf i sicrhau eich etholwyr chi ein bod ni wedi gohirio hynny, am resymau polisi cyhoeddus synhwyrol yn fy marn i, ond nid ydym ni'n osgoi'r her sy'n cael ei hwynebu. Ac mae'r canlyniadau sy'n dilyn ar ôl hynny'n bethau y bydd hi'n rhaid i bob un ohonom ni ddod i arfer â nhw, oherwydd mae hynny'n golygu gwneud pethau mewn ffordd arall, ac nid yw hi'n mynd i fod yn hawdd.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y cyhoeddiad. Mae'r buddsoddiad ychwanegol yn sicr i'w groesawu yn fawr iawn, a dwi'n edrych ymlaen at weld y gwaith yn y Bermo, yn Ro-wen, neu Fairbourne, Morfa Nefyn a Phencaenewydd. Dwi am dynnu un peth arall at sylw'r Dirprwy Weinidog, os caf i. Mae Cyngor Cymuned Arthog, sy'n cwmpasu ardal y Ro-wen—Fairbourne—wedi derbyn adroddiad annibynnol gan Dr Graham Hall, sy'n arbenigo yn y maes llifogydd, a gafodd ei adolygu'n annibynnol gan Dr Veronica Edmonds-Brown o Brifysgol Hertfordshire. Mae'n nodi bod y cynllun rheoli glannau gorllewin Cymru—y west of Wales shoreline management plan—yn seiliedig ar waith a wnaed 10 mlynedd yn ôl bellach. Ers hynny, wrth gwrs, mae yna lawer o waith wedi cael ei wneud ar amddiffynfeydd yr arfordir sydd yn newid y rhagolygon ar gyfer cymunedau megis cymuned y Ro-wen, neu Fairbourne, ond dydy'r cynlluniau ddim wedi newid i adlewyrchu'r gwaith yma. Yn ogystal â hyn, mae'n nodi mai dŵr o'r mynyddoedd sy'n fwyaf tebygol o effeithio ar y gymuned honno, nid cynnydd yn lefel y môr, ar ben y ffaith bod lle i amau modelu Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn seiliedig ar ddata annigonol ac hen feddalwedd. A wnewch chi ofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru adolygu cynllun amddiffyn glannau'r gorllewin er mwyn cymryd adroddiad Graham Hall ac adolygiad Veronica Edmonds-Brown i mewn i ystyriaeth, os gwelwch yn dda?
Diolch i chi. Gwnawn, ac rydym ni'n ymwybodol o'r adroddiad. Rydym ni wedi gweld yr adroddiad ac mae ein tîm technegol ni wedi bod yn ei ddadansoddi. Mater i'r awdurdod lleol, sef y corff cyfrifol yn hyn o beth, yw hwnnw, ac rwy'n deall bod Gwynedd yn ystyried yr adroddiad hefyd, neu wedi cael golwg arno, ac rwy'n credu bod angen iddyn nhw drafod hynny gyda'r awduron i ddechrau i sicrhau bod dealltwriaeth gyffredin ar sail y dystiolaeth. Ac wedyn, pe byddai goblygiadau i hynny, fe fyddem yn eu hystyried nhw, yn amlwg.
Ac yn olaf, Samuel Kurtz.
Diolch, Dirpwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog hefyd am y datganiad.
Diolch, Dirprwy Weinidog, ond byddwch chi'n ymwybodol bod sawl lleoliad yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn gweld llawer o erydu, ar yr arfordir ac oherwydd llifogydd, ac rwyf i wedi mynegi fy rhwystredigaethau o'r blaen am ei bod hi'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn taflu'r cyfrifoldeb yn ôl a blaen o ran pwy sy'n gyfrifol am ddatblygu cynllun atal llifogydd i ddiogelu busnesau ar hyd cei afon Tywi yng Nghaerfyrddin. Ac er ei bod hi'n iawn ein bod ni'n diogelu cartrefi pobl, mae busnesau yn hanfodol i'r economi leol ac ni ddylai'r Llywodraeth anghofio amdanyn nhw. Felly, o ystyried y cynnydd yn y cyllid sydd ar gael nawr i asiantaethau Llywodraeth Cymru, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi, Dirprwy Weinidog, yn egluro pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i amddiffyn busnesau lleol, fel y rhai sydd ar bwys cei Caerfyrddin, yn ogystal â chartrefi pobl. Diolch.
O ran y dryswch ynglŷn â chyfrifoldebau, rwy'n credu bod problem yn y fan hon oherwydd bod rhai cyfrifoldebau yn gorgyffwrdd ac nad oes yna eglurder bob amser, a dyna un o'r pethau y bydd yr adolygiad adran 19 y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithredu yn edrych arno, oherwydd roedd honno'n sicr yn agwedd ar yr hyn a ddigwyddodd yn Rhondda Cynon Taf. Ac rwy'n credu mai drwy ddadansoddi'r gwahanol adroddiadau adran 19 a CNC i gyd y gallwn ni ystyried a yw hwnnw'n fater y mae angen i'w archwilio ymhellach ai peidio. Felly, rwy'n credu y bydd hwnnw'n ganlyniad defnyddiol iawn i'r broses honno.
O ran mater penodol cei Caerfyrddin, rydym ni wedi cael ceisiadau i ddiogelu busnesau, ond mae ein canllawiau ariannu yn glir iawn mai diogelu cartrefi ddylai ein blaenoriaeth ni fod. A lle ceir nifer o fanteision i gynlluniau, mae hi'n amlwg bod hwnnw'n fonws, ond mae yna angen i ni flaenoriaethu ac mae angen i'r awdurdodau lleol weithio gyda ni i ddylunio cynlluniau sy'n gallu cyflawni cymaint o amcanion â phosibl.
Diolch, Dirprwy Weinidog.
Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth ddigidol. A galwaf y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad. Lee Waters.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac yn awr dyma rywbeth hollol wahanol. [Chwerthin.]
Flwyddyn yn ôl, fe wnaethom ni gyhoeddi strategaeth ddigidol newydd i Gymru, strategaeth sy'n nodi sut yr ydym ni'n dymuno defnyddio technoleg ddigidol a data mewn ffyrdd amgen i wella bywydau pobl a helpu busnesau a chymunedau i ffynnu, ac rydym ni newydd fod yn trafod y defnydd o dechnolegau digidol a data wrth fapio llifogydd a monitro tomenni glo fel enghraifft ymarferol o sut y gall hynny wella'r dull o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Rwy'n awyddus i dynnu sylw heddiw at rywfaint o'r cynnydd a wnaethom ni ers cyhoeddiad y strategaeth y llynedd. Y pwynt allweddol sy'n werth ei ailadrodd yw nad gwir ystyr technolegau digidol yw'r offer a ddefnyddir; ond diwylliant pobl sy'n eu defnyddio nhw. Maen nhw'n ein galluogi ni i edrych ar hen broblemau mewn ffyrdd newydd, a bod yn agored, a'r egwyddorion digidol allweddol o iteriad, gwaith ar y cyd ac, yn allweddol, ddyluniad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae'r strategaeth wedi ennyn cyffro ynghylch yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru a sut y gall ein dull gweithredu ni wneud gwahaniaeth i wasanaethau cyhoeddus.
Rydym ni wedi sefydlu ecosystem arweinyddiaeth ddigidol, a allai swnio braidd yn ddiflas ac yn rhy dechnegol ond sy'n hollbwysig mewn gwirionedd, ac roedd hwnnw'n fwlch allweddol i'w lenwi wrth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac eraill edrych ar nifer o enghreifftiau, ac rydym ni wedi cael trefn ar hynny. Felly, mae yna ganolfan newydd gennym ni erbyn hyn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus digidol a phrif swyddogion digidol ar gyfer llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a phrif swyddog deintyddol y gwasanaeth iechyd a gaiff ei benodi cyn bo hir. Ein nod ni nawr yw gweld hynny'n aeddfedu ac yn ehangu drwy'r sector cyhoeddus i gyd.
Mae'r ganolfan ddigidol eisoes yn grymuso sefydliadau'r sector cyhoeddus i fabwysiadu dull digidol o weithio. Mae hyn yn cynnwys cefnogi Chwaraeon Cymru i ehangu cyrhaeddiad eu grantiau nhw, a datblygu gwasanaeth negeseuon testun wrth weithio gyda gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac archwilio gwasanaeth gwastraff peryglus newydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ddefnyddio'r dull hwn o iteru a dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae'r ganolfan hefyd yn casglu mewnwelediadau ynglŷn â dulliau pobl o gael gofal sylfaenol fel rhan o wasanaethau digidol GIG Cymru i gleifion a'r rhaglen gyhoeddus.
Dirprwy Lywydd, fe fydd diogelwch seibr a chydnerthedd effeithiol yn allweddol i ddarpariaeth lwyddiannus y gwasanaethau hyn. Mae'r ganolfan hefyd yn arwain adolygiad o dirwedd gwasanaethau cyhoeddus—gan roi ystyriaeth fanwl i aeddfedrwydd digidol a thechnolegol y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Fe fydd hyn yn bwysig iawn—yn hollbwysig—i'n helpu ni i flaenoriaethu gwaith dros y blynyddoedd nesaf.
Rydym ni'n canolbwyntio nawr ar atgyfnerthu digidol yn y ffordd yr ydym ni'n gweithio. Nid oes y ffasiwn beth â sment digidol eto, serch hynny, mae hi'n werth ei atgyfnerthu. Rydym ni—unwaith eto, wedi dysgu o adroddiadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—cyfres o safonau gwasanaeth digidol sy'n caniatáu i unrhyw un ddatblygu cyfres o wasanaethau mewn ffordd iteraidd, ystwyth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr—unwaith eto, yr egwyddorion digidol allweddol. Ac rwy'n awyddus i'r rhain gael eu mabwysiadu, gan ganolbwyntio digyfaddawd ar anghenion y defnyddwyr i gefnogi canlyniadau gwell i bawb, a hefyd, yn hollbwysig, gynnig cyfle i ganolbwyntio gwasanaethau cyhoeddus ar eu defnyddwyr nhw unwaith eto. Dyna hanfod hyn yn y pen draw.
Wrth wireddu ein huchelgeisiau ni, mae angen i ni gydnabod y rhwystrau. Mae Cymru yn wynebu'r her fyd-eang o ran prinder sgiliau, ac mae cyrff y sector cyhoeddus yn chwilio am ddoniau mewn marchnad lafur hynod gystadleuol. Fe all prentisiaethau helpu, yn ogystal ag uwchsgilio a meithrin y doniau sydd gennym ni eisoes mewn swyddi digidol, data a thechnoleg.
I'r bobl hynny nad yw'r sgiliau na'r hyder digidol ganddyn nhw, rydym ni'n ystyried safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol genedlaethol. Fe gaiff honno ei datblygu drwy ymgysylltu â phobl sydd wedi'u cynnwys neu wedi'u hallgáu’n ddigidol ledled Cymru, er mwyn nodi'r hyn y mae ei wir angen ar bobl i fod yn rhan o'r byd digidol modern.
Mae meithrin diwylliant digidol yn cynnwys cydnabod pwysigrwydd y data a gweithio mewn partneriaeth. Rydym ni newydd drafod y stormydd diweddar, Dirprwy Lywydd, lle gwelsom ni Fap Data Cymru yn cael ei ddefnyddio fel llwyfan geo-ofodol yn y sector cyhoeddus i nodi lle yr oedd pobl agored i niwed yn byw, lle i dargedu ein cefnogaeth ni, a sut mae gwneud penderfyniadau yn gyflym ac yn effeithiol yn achub bywydau. Datblygiad digidol ac arloesedd ar waith yw hynny yn y ffordd yr ydym ni'n rhedeg gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Rydym ni hefyd yn buddsoddi mewn prosiect Cyflymydd Cenedl Ddata i Gymru. Fe ysbrydolwyd honno gan argymhelliad yn adolygiad Brown ar gyfer arloesi digidol, ac mae honno'n bartneriaeth rhwng prifysgolion Cymru, sy'n cyflwyno nifer o brosiectau cyffrous gyda diwydiant, er enghraifft, a defnyddio deallusrwydd artiffisial i reoli tir yn y ffordd orau a lleihau'r perygl o lifogydd.
Cysylltedd digidol yw sail y strategaeth ddigidol. Yn ysbryd bod yn agored, Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â darpariaeth band eang yng Nghymru. Fel gŵyr yr Aelodau, er na chafodd telathrebu ei ddatganoli i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddod i'r adwy pan na ddarparodd y farchnad na Llywodraeth y DU fand eang cyflym a dibynadwy.
Rydym ni wedi darparu band eang gigabit sy'n addas ar gyfer y dyfodol i bron i 26,000 o safleoedd drwy gyflwyno ffibr llawn ein hunain gydag Openreach. Rydym ni hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i ychwanegu at gynllun talebau band eang gigabit Llywodraeth y DU. Mae hyn wedi dyblu'r swm sydd ar gael i gartrefi a busnesau lle mae cyllid y DU wedi methu ag adlewyrchu gwir gost ei gyflwyno yn nhirwedd Cymru. Mae'r cynnig atodol gan Lywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 1,300 o gartrefi a busnesau wrth gysylltu ag ef.
Fodd bynnag, yn wyneb y pwysau parhaus sydd ar y gyllideb, ni allwn ni ddal ati i warantu Llywodraeth y DU sydd â'r cyfrifoldeb dros y maes hwn. Felly, fe fydd y gwaith atodol yn dod i ben ar 31 o fis Mawrth 2022. Mae maint yr arian a ddarperir yn sgil y swm atodol ledled y DU yn awgrymu y dylai Llywodraeth y DU adolygu trothwy cost uchaf y cynllun i adlewyrchu'r gost o ddefnyddio band eang gigabit mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell. Rwyf i wedi ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, ac wedi cyfarfod â hi, i bwysleisio'r pwynt hwn.
Roedd oedi i fod ymhen ychydig amser yng Nghymru ynglŷn â'r cynllun hwn wrth i'r caffaeliadau ar gyfer Prosiect Gigabit ddechrau, ond fe fydd ceisiadau am dalebau a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau sy'n bodloni meini prawf y cynllun yn parhau i fod yn gymwys am gyllid atodol. O ran Prosiect Gigabit, rydym ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau y rhoddir cyfran deg i Gymru o'r £5 biliwn o fuddsoddiad ar gyfer anghenion cartrefi a busnesau yng Nghymru. Mae trafodaethau yn mynd rhagddyn nhw ynghylch sut y caiff ei gyflawni a swyddogaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r dirwedd seilwaith digidol wedi newid ers Brexit. Nid ydym ni'n gallu cael gafael ar gyllid gan yr UE erbyn hyn ac, oherwydd na chafodd hyn ei ddatganoli, rydym ni'n llwyr ddibynnu ar gyllid gan Lywodraeth y DU nawr i wella gwasanaethau band eang yng Nghymru. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru a mynegi achos cryf dros barhau i fuddsoddi ar gyfer cyrraedd y cymunedau sydd fwyaf anghysbell, i wneud yn siŵr nad anghofir amdanyn nhw. Rwy'n falch o ddweud bod gennym ni berthynas dda â swyddogion a Gweinidogion, ond mae angen edifeirwch arnom ni o ran methiannau'r farchnad a swyddogaeth y Llywodraeth.
I gloi, Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi dechrau arni'n dda o ran cyflawni'r strategaeth ddigidol i Gymru, ond mae hi'n amlwg bod gennym ni ffordd bell i fynd eto. I gynnal y momentwm, fe fyddaf i'n cyhoeddi fersiwn newydd gyda hyn o'r cynllun cyflawni digidol i fanylu ar y camau nesaf ar ein taith ni tuag at sicrhau bod Cymru yn mynd yn wirioneddol ddigidol. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Nawr, credir bod angen sgiliau digidol ar gyfer 82 y cant o holl swyddi'r DU, ac mae ennill sgiliau digidol yn mynd yn gynyddol angenrheidiol ar gyfer galluogi pobl i fod â rhan lawn yn y gymdeithas sy'n dibynnu fwyfwy ar dechnolegau digidol. Felly, rwy'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog heddiw, a'r camau a gymerwyd ers i'r strategaeth gael ei lansio y llynedd. Wrth gwrs, mae mynd i'r afael â'r ymraniad digidol yn hanfodol o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd a chodi'r gwastad ym mhob cymuned yng Nghymru. Ceir cysylltiad annatod rhwng allgáu digidol ac anghydraddoldebau ehangach yn y gymdeithas, ac mae hi'n fwy tebygol mai rhai ar incwm isel, pobl dros 65 oed a phobl anabl a fydd yn eu hwynebu nhw. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru am fonitro effeithiolrwydd y strategaeth hon i sicrhau bod allgáu digidol yn cael sylw, ac a wnaiff roi rhai enghreifftiau penodol lle mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd o ganlyniad i'r strategaeth ddigidol hon i ni allu dysgu oddi wrth arfer gorau?
Mae datganiad heddiw yn cyfeirio at safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol genedlaethol, a gaiff ei datblygu drwy ymgysylltu â phobl sydd wedi'u cynnwys neu sydd wedi'u hallgáu yn ddigidol ledled Cymru er mwyn i ni allu nodi'r hyn sydd ei angen ar bobl i fod yn rhan o fyd digidol modern. Rwy'n credu bod hwn yn gam pwysig iawn ymlaen, ond efallai y gwnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am y gwaith a wnaethpwyd yn y maes hwn hyd yn hyn, a phryd y bydd yn debygol y caiff y safon ei chyhoeddi. Mae datganiad heddiw yn cadarnhau bod y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn arwain adolygiad o dirwedd y gwasanaethau cyhoeddus i roi cipolwg ar aeddfedrwydd digidol a thechnolegol y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n cytuno â'r Dirprwy Weinidog y bydd hwnnw'n bwysig iawn i helpu i flaenoriaethu gwaith dros y blynyddoedd nesaf. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni beth yw'r rhagolygon o ran amser sy'n gysylltiedig â'r adolygiad hwn, a phryd y cawn ni weld yr hyn a ddaw ohono?
Mae datganiad heddiw yn iawn i fynegi bod cysylltedd digidol yn sail i'r strategaeth ddigidol. A minnau'n un sy'n cynrychioli ardal wledig, fe wn i pa mor bwysig yw bod â band eang sy'n ddigonol ar gyfer eich defnydd chi ohono. Gyda'r newid tuag at weithio o gartref a gweithio hybrid, mae trigolion a busnesau mewn ardaloedd fel Powys neu sir Benfro, er enghraifft, yn wynebu anfantais arbennig, nid yn unig o ran cyfleoedd yn y farchnad lafur, ond hefyd o ran gallu rhedeg busnes yn gystadleuol. Felly, efallai y gwnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni sut y mae'n ymgysylltu â sectorau fel y sector ffermio, a'u cadwyni cyflenwi nhw, i sicrhau bod yr offer a'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw ar gael er mwyn bod mor gystadleuol â phosibl yn y dyfodol.
Mae'r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at Brosiect Gigabit, ac rwy'n cytuno ei bod hi'n hanfodol i Gymru fod â'i chyfran deg o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU. Rwy'n sylweddoli na chafodd telathrebu ei ddatganoli i Gymru, ond rwy'n falch bod trafodaethau'n digwydd ynghylch sut y caiff buddsoddiad ei roi yn y dyfodol, a swyddogaeth Llywodraeth Cymru o ran cyflawniadau'r buddsoddiad hwnnw. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymuno â mi i groesawu'r hwb ariannol diweddar o £11.5 miliwn i wella band eang ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn y gogledd, y de-ddwyrain, sir Benfro ac ardaloedd gwledig Cymru. Mae'r cyllid hwnnw eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefydliadau fel Canolfan Gweithgareddau Cymdeithasol Ancorage, canolfan ddydd yn Noc Penfro sy'n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu neu ddementia, a llyfrgell Aberdaugleddau, yn wir, yn fy etholaeth i. Mae hi'n hanfodol bod cysylltiadau rhynglywodraethol yn effeithiol, a bod adrannau yn cydweithio i sicrhau na chaiff Cymru ei gadael ar ôl. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Dirprwy Weinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau arbennig hynny a sut y maen nhw'n datblygu.
Rwy'n falch fod datganiad heddiw yn cydnabod yr her sy'n wynebu Cymru o ran prinder sgiliau, ac rwy'n deall fod cyrff y sector cyhoeddus yn chwilio am sgiliau mewn marchnad lafur hynod gystadleuol. Mae sgiliau digidol wedi mynd yn gynyddol bwysig o ran cael gwaith o ansawdd uchel. Fe wyddom ni fod y rhai sy'n chwilio am waith sydd â sgiliau digidol yn ennill cyflogau uwch a bod swyddi sy'n gofyn am sgiliau digidol yn talu 29 y cant yn fwy na'r swyddi nad ydyn nhw'n gwneud hynny. Felly, fe fydd mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau digidol yn hanfodol ar gyfer caniatáu pobl i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer gweithio mewn byd digidol, a sicrhau y gall pawb elwa ar y cyfleoedd y gall arloesi digidol a buddsoddi mewn seilwaith eu cynnig.
Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Gweinidog yr Economi gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, ac nid oedd unrhyw sôn am y strategaeth ddigidol. Felly, efallai y gwnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni sut y mae'r strategaeth hon yn gweithio ochr yn ochr â strategaethau ehangach Llywodraeth Cymru ynghylch cyflogadwyedd a sgiliau. Efallai y gwnaiff ddweud wrthym ni faint o gyllid sy'n cael ei ddyrannu i ddarparwyr sgiliau ledled Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau digidol. Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ni fanteisio yn llawn ar botensial cyfan yr agenda ddigidol drwy fynd i'r afael â'r cyfraddau o allgáu digidol, a sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar y cyfleoedd a'r gwasanaethau a ddarperir gan dechnolegau digidol. Felly, rwy'n croesawu diweddariad Llywodraeth Cymru, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Dirprwy Weinidog i sicrhau bod cymunedau yn profi'r canlyniadau hynny ym mhob rhan o Gymru.
Roedd y rheini'n set ardderchog a theg o gwestiynau, ond nid robot ydw i, felly nid oes unrhyw ffordd y gallaf i ateb yr holl fanylion yn yr amser sydd ar gael i mi. Byddwn i'n hapus iawn i anfon ateb cynhwysfawr i'r Aelod, i weithio drwy'r cwestiynau teg a heriol iawn hynny, ac rwyf i'n croesawu'r ysbryd y cawson nhw eu gofyn ynddo. Rwy'n credu eu bod nhw i gyd yn heriau da, ac rydym ni'n gwneud gwaith ar bob un ohonyn nhw. Os gallaf i wneud sylwadau ar un neu ddau yn unig, i ymateb yn yr amser sydd ar gael.
O ran y berthynas â Llywodraeth y DU, fel y dywedais i, cefais i gyfarfod da a gwresog iawn gyda'r Gweinidog Gwladol a'i huwch swyddogion yr wythnos diwethaf, a gyda'i rhagflaenydd a Gweinidogion eraill yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, mae hwn yn un maes lle nad yw'n fater o drydan statig; rwy'n credu ei fod yn fyd-olwg gwirioneddol wahanol. Rydym ni'n credu na fydd y farchnad ar ei phen ei hun yn cyflawni ar y raddfa a'r cyflymder sy'n ofynnol ar gyfer cymunedau fel ei un ef, sy'n anoddach eu cyrraedd ac yn ddrutach i'w cyrraedd. Bydd y farchnad yn gwneud yr hyn y mae'r farchnad yn ei wneud yn dda—bydd yn cael ei henillion cyflymaf a mwyaf ar gyfer y cyfalaf a gaiff ei fuddsoddi. Caiff hynny ei wneud mewn ardaloedd trefol, ardaloedd lle'r ydym ni eisoes wedi ymdrin â methiant y farchnad drwy osod cysylltiad cyflym iawn. A'r tebygolrwydd yw, gyda model y farchnad, yw y byddan nhw'n eu gwasanaethu nhw'n fwy—byddan nhw'n darparu gwasanaethau cyflymach, gwell iddyn nhw, ac yn codi tâl arnyn nhw amdano, fel y gallan nhw gael elw cyflymach. Mae buddsoddi mewn ardaloedd gwledig—ac nid problem wledig yn unig ydyw, ond gadewch i ni eu galw nhw, ar gyfer heddiw, er mwyn bod yn gryno, yn 'ardaloedd anoddach eu cyrraedd'—yn arafach ac yn ddrutach ac yn dod ag elw arafach ar gyfalaf. Mae hynny'n rhesymegol o safbwynt y farchnad—dyna y mae cwmnïau preifat yn ei wneud. Ond nid yw hynny'n ddigon da i'r ardal hon. Nid yw hwn yn wasanaeth braf i'w gael, mae'n wasanaeth angenrheidiol, ac mae dibynnu ar y farchnad i'w wneud yn ddull diffygiol, yn ein barn ni.
Nid yw Llywodraeth y DU yn derbyn hynny, ac, i'r graddau y mae hi yn ei dderbyn, mae hi wedi rhoi mesurau ar waith, ond mesurau sy'n gweithredu'n rhy araf, a, hyd yn oed ar ôl iddyn nhw gael eu gorffen, bydd yn dal i adael rhannau sylweddol o Gymru heb wasanaeth digonol neu heb wasanaethu o gwbl. Dyna hanfod ein gwrthdaro â Llywodraeth y DU ar hyn. Rydym ni'n credu y dylai hyn gael ei drin fel gwasanaeth cyfleustodau craidd. Rydym ni'n ei gwneud yn ofynnol i Swyddfa'r Post—cwmni preifat—ddosbarthu llythyrau i bob fferm a phob eiddo, beth bynnag yw'r gost iddyn nhw. Nid ydym ni'n ymestyn y rhesymeg honno i ddarparwyr seilwaith digidol, ac, yn ein barn ni, dylem ni wneud hynny. Os ydych chi eisiau darparu seilwaith digidol yn y wlad hon, a chael contractau, dylech chi orfod darparu ar gyfer pob eiddo. Dyna'r gwahaniaeth sylfaenol ynghylch rhan y farchnad a rhan y wladwriaeth sydd gennym ni gyda Llywodraeth y DU. Er ei bod yn hyfryd clywed am £11 miliwn o gyllid yn llyfrgell Aberdaugleddau, nid yw hynny'n ateb. Mae'r mathau o symiau yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw'n sylweddol uwch. Mae gwaith da'n cael ei wneud gennym ni, gan Lywodraeth y DU, gan y dinas-ranbarthau, ac yn y blaen, ond mae bwlch sylfaenol yma y mae angen ei wynebu ac y mae angen ymdrin ag ef.
Mae ei her ar sgiliau digidol yn un deg. Rwy'n credu bod sgiliau digidol yn anodd. Rwy'n falch o weld yn y cwricwlwm newydd fod gennym ni wasanaeth digidol fel un o'r cymwyseddau craidd, ond mae mater o hyder athrawon a sgiliau athrawon. Nid oes digon o ysgolion yn addysgu TGCh, nid oes digon o ddisgyblion yn gwneud TGAU, Safon Uwch, medrau uwch mewn cyfrifiadureg. Dyma'r sgiliau y mae angen i ni eu cael i sicrhau ein bod ni'n manteisio ar y cyfleoedd gwaith enfawr sydd ar gael—a soniodd yr Aelod am y cyflogau sydd ar gael. Mae prinder sgiliau enfawr. Rwy'n derbyn ei bwynt ef am y strategaeth cyflogadwyedd a sgiliau. Gwnaeth Gweinidog yr Economi a minnau sesiwn ar y cyd â swyddogion o bob rhan o'r Llywodraeth ryw fis yn ôl, gan edrych ar yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud a sut yr oeddem ni'n cyflawni yn erbyn y strategaeth ddigidol, ac rwy'n credu ein bod ni'n derbyn bod mwy i'w wneud. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei wneud gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, gyda'r sector addysg bellach, gyda'r sector ysgolion, i ni wneud yn well.
Yn olaf, o ran y pwynt am ymgysylltu â sectorau fel ffermio, fel y gwnes i sôn, mae wedi bod yn chwe blynedd ers i mi roi araith yn y Senedd am amaethyddiaeth fanwl. Rydym ni nawr wedi cyhoeddi map llwybr, archwiliad, o agritech a'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Mae'n faes cyffrous iawn, gyda llawer o gyfleoedd economaidd, yn ogystal â manteision gwirioneddol i ffermwyr sy'n cael trafferth yn wyneb grymoedd economaidd i wella cynhyrchiant a lleihau eu heffaith ar fioamrywiaeth drwy ddefnyddio llai o wrtaith a llai o gemegion. Cefais i sgyrsiau da gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar y penwythnos, yn Llandudno, am y pwnc hefyd. Mae llawer mwy y mae angen i ni ei wneud—mae angen i ni gyflymu'r broses mewn gwirionedd. Mae llawer o ffermwyr yn ei gael; roedd yr NFU yn dangos eu apiau i mi ar eu ffonau, gyda phwysau eu gwartheg, gyda balchder mawr. Felly, mae lefel yno'n barod, ond mae cyfle o'r fath i wneud mwy, ac nid yw heb ei heriau. Gadewch i ni obeithio y gallwn ni fynd ar y daith honno gyda'n gilydd. Rwy'n croesawu'r sylwadau a'r cwestiynau y mae wedi'u gofyn.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, diolch eto am ddatganiad gwahanol nawr.
Mae gwasanaeth digidol yn cynnig cymaint o botensial, onid yw, o ran gwella bywydau pobl, cryfhau'r cysylltiadau rhwng pobl a phobl a gwasanaethau, a helpu busnesau i addasu, ond gall moderneiddio fel hyn hefyd olygu bod rhai pobl yn cael eu gadael ymhellach ac ymhellach ar ôl. Rwy'n gwybod mai un o'r prif ffactorau sy'n sbarduno'r strategaeth yw lleihau anghydraddoldeb—mae hynny eisoes yn cynnig yr hyn yr oedd Paul Davies yn ei ofyn—a gwyddom ni fod argaeledd band eang cyflym iawn a gwasanaethau symudol yng Nghymru, fel yr ydych chi eisoes newydd gydnabod, yn is na chyfartaledd y DU; ni all bron i 8,000 o safleoedd yng Nghymru gael gwasanaeth band eang boddhaol na chael gwasanaeth 4G dan do. Mae Ofcom wedi darganfod bod gormod o bobl nad ydynt yn ymwybodol o'r dewisiadau ar gyfer cysylltedd a allai fod ar gael iddyn nhw. Felly, a allwch chi amlinellu, os gwelwch yn dda, sut yr hoffech chi godi ymwybyddiaeth pobl o'r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, ond nad ydyn nhw, am ba reswm bynnag, yn eu defnyddio?
A allwch chi hefyd, os gwelwch yn dda, egluro sut y mae'r Llywodraeth yn cefnogi—mae hyn eisoes wedi codi yn yr hyn yr ydych chi wedi bod yn sôn amdano gyda Paul—pobl a allai fod yn fwy ymylol am lawer o resymau gwahanol dros ennill y sgiliau digidol hyn? Unwaith eto, gwn i fod hyn yn rhywbeth sydd eisoes wedi'i drafod yn gynharach. Rwy'n meddwl nid yn unig am gymunedau penodol—pobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl nad oes ganddyn nhw hyder i ddefnyddio'r gwasanaethau ar-lein—oherwydd mae'n ymddangos bod y ddeuoliaeth hon bron yn wrthnysig y bydd pobl sy'n byw eu bywydau wedi'u hamgylchynu gan y posibiliadau hyn. Nid ydym ni'n sôn efallai am y bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig lle mae'r posibiliadau wir y tu hwnt i'w cyrraedd, ond pobl a fyddai'n gallu manteisio ar dalu am bethau ar-lein, prynu tocynnau ar-lein, cadarnhau amseroedd bysiau ar-lein, gwneud bancio ar-lein, yr holl bethau gwahanol hyn, ond, am gyfuniad o wahanol resymau, nid ydyn nhw'n manteisio ar y cynnig hwnnw, ac felly mae'r gymuned o'u cwmpas yn cael mwy a mwy o gysylltiad, ond maen nhw, yn y canol, yn ymgysylltu yn llai ac yn llai. Rwy'n gwybod ei fod wir yn benbleth, ond, wrth i bethau fynd yn eu blaenau fwy a mwy, sut y byddech chi'n meddwl y gallwn ni sicrhau, i'r bobl sy'n cael eu gadael ar ôl, nad yw'r bwlch hwnnw'n mynd yn fwy byth?
Gweinidog, hoffwn i glywed eich barn hefyd am sut y byddai modd cryfhau'r rhyng-gysylltiad rhwng cymunedau yng Nghymru hefyd drwy hyn. Mae rhaniad digidol diamheuol rhwng cymunedau a Chaerdydd. Mewn dinasoedd eraill, rwy'n credu bod rhywbeth yn debyg i 93 y cant o ddarpariaeth llais ffôn symudol, ac mae hynny'n cymharu â dim ond 52 y cant mewn rhai ardaloedd gwledig. A ydych chi'n cytuno na ddylai mynediad i seilwaith digidol fod yn foethusrwydd, dylai fod yn anghenraid mewn bywyd modern? Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn yr oeddech chi'n ei arddel o ran sut yr ydych chi'n ystyried y dylai safbwynt y wladwriaeth fod o ran cysylltu pobl yn ddigidol, fel y gwnawn ni gyda'r gwasanaeth post, oherwydd, fel yr hyn yr oeddwn i'n tynnu sylw ato o ran unigolion, mae'r un peth yn wir am gymunedau hefyd. Sut y mae modd defnyddio'r strategaeth i sicrhau bod y bwlch hwn yn mynd yn llai nid yn ehangach?
Yn olaf, hoffwn i wybod mwy am sut y byddai modd defnyddio'r strategaeth hon fel offeryn i ymdrin ag unigrwydd ac ynysigrwydd, gan ddatblygu'r hyn sydd eisoes wedi'i ddweud. Mae cynifer o astudiaethau wedi dangos y gall unigrwydd arwain at drallod, straen emosiynol, ond hefyd salwch corfforol, fel clefyd y galon a gordewdra a phwysedd gwaed uchel. Mae cysylltedd digidol nid yn unig yn helpu pobl i gysylltu â gwasanaethau, fel gwasanaethau iechyd, wrth gwrs, ond hefyd â rhwydweithiau cymorth. Felly, sut y gallwn ni sicrhau y bydd y bobl sydd ei angen fwyaf yn gallu elwa ar yr hyn sydd ar gael?
Rwy'n cytuno â hynny. Mae'r gagendor digidol yn wirioneddol. Gwnaethom ni ei weld yn ystod y pandemig ac mae'n gagendor cymhleth. Mae'n ymwneud â thlodi, mae'n ymwneud â chyfle i fanteisio ar offer, mae'n ymwneud â'r gallu i fforddio cysylltiad band eang, mae'n ymwneud â thlodi digidol a data. Nid yw hynny'n wahanol i unrhyw anghydraddoldeb arall sydd gennym ni yn ein cymdeithas. Mae'r patrwm yn debyg ac mae'n dal pobl yn ôl. Rwy'n credu i ni wneud pethau gwych yn ystod y pandemig, a gwnaeth ysgolion bethau gwych i sicrhau bod disgyblion yn cael offer, a'u bod wedi'u cysylltu a'u harneisio. Ond nid yw'n rhoi cyfle teg i bawb, a gwnaethom ni wario symiau sylweddol o arian ac ymdrech fawr i geisio lleddfu effaith yr anghydraddoldeb hwn. Rydym yn cael rhywfaint o effaith, ond ni allwn ni addasu'r hanfodion, mae'n ymddangos. Rydym ni wedi parhau i ariannu prosiect Cymunedau Digidol Cymru, sy'n cael ei gynnal gan Ganolfan Gydweithredol Cymru, ac, fel y gwnes i sôn amdani, mae'r ganolfan gwasanaethau cyhoeddus ddigidol yn comisiynu ymchwil i safonau byw ddigidol ofynnol i Gymru, sy'n sylfaen dystiolaeth hanfodol, rwy'n meddwl, er mwyn deall, unwaith eto, yn seiliedig ar ymchwil defnyddwyr ac anghenion defnyddwyr, sut y gallwn ni wneud yn well.
O ran y cwestiwn am bobl yn cael cyfle i fanteisio ar wasanaethau ac yn cael eu gadael ar ôl a defnydd, dyna pam mae'r egwyddor o anghenion defnyddwyr mor hanfodol. Os ydym ni'n cynllunio gwasanaeth o amgylch anghenion defnyddwyr, ein problem ni yw'r ffaith efallai nad yw defnyddiwr ar-lein nid eu problem nhw, oherwydd bydd gwasanaeth sydd wedi'i gynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr hefyd yn dyfeisio ffordd o gyrraedd y bobl hynny. Ni fydd yn cymryd yn ganiataol eu bod yn ddigidol. Felly, gwyddoch chi, nid yw polisi digidol yn ymwneud â hynny—. Fel y dywedais i, nid yw'n ymwneud â chyfarpar, mae'n ymwneud â diwylliant. Felly, bydd gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u cynllunio'n briodol o amgylch anghenion defnyddwyr yn dod o hyd i ffordd o gyrraedd pobl nad ydyn wedi'u cysylltu, yn ogystal â rhoi gwasanaeth greddfol o un pen i'r llall, i'r rhai sydd wedi eu cysylltu. Mae'n ddull system gyfan, a dyna pam mae'n hanfodol, yn y safonau gwasanaeth digidol a gafodd eu gosod gennym ni ac yn yr hyfforddiant arweinyddiaeth yr ydym ni'n ei gynnig, fod arweinwyr a phawb yn y system yn deall bod gwasanaethau wedi'u cynllunio ar gyfer defnyddwyr—nid ydyn nhw wedi'u cynllunio er hwylustod y system. A dyna sy'n gyffrous yn fy marn i am yr agenda diwygio digidol—mae'n caniatáu i ni herio'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ac yn cael eu cynllunio a'u gweithredu, gan ddefnyddio gwasanaethau digidol i'w hailganolbwyntio ar y person yn y rheng flaen y maen nhw ar ei gyfer. A bydd y person yn y rheng flaen y maen nhw ar ei gyfer yn wahanol. Felly, dylai'r ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau fod yn wahanol ac yn bwrpasol.
Rwy'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw gan y Dirprwy Weinidog. Mae digon y gallwn ni i siarad amdano y prynhawn yma, ond wnaf i ddim profi amynedd y Llywydd, a gobeithio y gall y Gweinidog a minnau gydweithio yn y maes hwn yn adeiladol yn y dyfodol. Ond os caf i, os gallaf i godi un pwynt penodol yn eich datganiad heddiw, ac mae hynny'n ymwneud â seiberddiogelwch, oherwydd mae'n wir bod arbenigwyr yn rhybuddio bod risg uwch nawr o ymosodiadau seiber yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ac mae'n bosibl y bydd y troseddwr rhyfel, Putin, a'i gyfundrefn yn cyfeirio ymosodiadau seiber tuag at y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill NATO. Ond mae hefyd yn wir y gallai'r ymosodiadau seiber sy'n cael eu cynnal ar Wcráin ar hyn o bryd ledaenu canlyniadau niweidiol y tu hwnt i'w ffiniau. Felly, a gaf i ofyn i chi, Gweinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog nid yn unig busnesau ond cyrff y sector cyhoeddus ledled Cymru i sicrhau eu bod yn gwbl barod i wrthsefyll y bygythiad presennol a difrifol iawn hwn?
Diolch. Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn amserol iawn. Nid oes amheuaeth nad ydym ni'n gweld mwy o weithgarwch ar y ffrynt seiber-ymosodiad. Yn sicr, fel gweithredwyr y wladwriaeth, mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU—ac rydym ni yn gweithio'n agos gyda nhw—yn ei gymryd o ddifrif ac yn gwneud llawer iawn yn ei gylch. Ac fel y gallwch chi ddychmygu, mae'n well ganddyn nhw ei gadw'n gyfrinachol yr union beth y maen nhw'n ei wneud, ond mae hwn yn fater difrifol iawn ar lefel y wladwriaeth.
O ran gwasanaethau cyhoeddus a lefel busnes yng Nghymru, nid wyf i'n credu bod digon o ymwybyddiaeth ymhlith sefydliadau o'r bygythiad o aflonyddwch a niwed i'w sefydliad a'u defnyddwyr y mae'r bygythiad seiber yn ei achosi. Felly, yn ôl at yr hyn yr oeddem ni'n ei drafod yn gynharach—lefel y ddealltwriaeth o beth yw gwasanaeth digidol a'r hyn y gallan nhw fod yn ei wneud yn ei gylch—mae nawr yn risg allweddol i bob sefydliad, a dylai gael ei arwain ar lefel uwch. Felly, mae angen i bob prif weithredwr neu reolwr gyfarwyddwr fod yn gofyn y cwestiwn iddyn nhw a'u systemau, 'A oes gennym ni'r pethau sylfaenol yn iawn? A ydym ni'n gwneud y gwiriadau syml i gadarnhau? A oes gennym ni ddiogelwch cyfrinair ar waith?' Ac mae llu o adnoddau ar gael. Mae gan y ganolfan seibrddiogelwch sy'n cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU ar ei gwefan amrywiaeth eang o offer digidol am ddim i fynd atyn nhw y gall busnesau a sefydliadau wneud i gynnal prawf cadarnhau syml arnyn nhw. Felly, mae angen iddyn nhw sicrhau bod ganddyn nhw'r hawl sylfaenol, bod ganddyn nhw'r prosesau rheoli digwyddiadau ar waith, a bod y rheolaethau sylfaenol hynny'n cael eu hystyried a'u gweithredu. Rydym ni mewn oes newydd. Mae llawer o ddata'n cael ei rannu a'i ledaenu. Mae llawer o'n systemau yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw'n sylfaenol ar gyfer yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac maen nhw i gyd yn agored i chwalfa ac ymosodiad. Mae angen i ni ei gymryd o ddifrif. Rwy'n credu bod hwn yn un o'r pethau yr ydym ni'n codi ymwybyddiaeth ohono—yr agenda hon—busnes arferol yw hyn nawr, mae hyn yn brif ffrwd, ac mae angen i bob arweinydd ei gymryd o ddifrif.
Ac yn olaf, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar yr agenda ddigidol yng Nghymru, dwi'n croesawu'r diweddariad yma gan y Gweinidog heddiw yma. Dwi'n edrych ymlaen hefyd i glywed y diweddariad y mae'n bwriadu ei gyhoeddi yn fuan ar y cynllun delifro ar gyfer digidol. Dwi'n ddiolchgar, a dweud y gwir, ac mae'n bwysig rhoi hyn ar y cofnod, am arweiniad y Gweinidog yn y maes yma. Mae o'n faes dwi'n gwybod y mae ganddo fo wir ddiddordeb personol yn ei yrru ymlaen, ac yn hynny o beth dwi'n gwybod y bydd yntau'n rhwystredig, fel finnau, efo'r ffaith bod hwn yn faes mae Llywodraethau dros y blynyddoedd wedi llusgo eu traed arno fo.
Mae'n iawn, dwi'n meddwl, i sôn am yr angen am newid diwylliant yn fan hyn. Mae'n sicr yn wir o fewn y Llywodraeth hefyd. Mi oedd hi'n ffres iawn clywed y Gweinidog iechyd yn cyfaddef yn reit agored yn fan hyn wrthyf i, wrth i fi bwyso am gyflymu'r broses o gyflwyno presgripsiynau electronig, ei bod hi wedi dychryn o sylweddoli pa mor araf oedd pethau wedi symud hyd at ei phenodiad hi yn y maes yma.
Felly, oes, mae angen creu y cyffro yna o fewn ac ar draws y Llywodraeth, yn ogystal ag o fewn y cyrff newydd sydd wedi cael eu sefydlu er mwyn gyrru'r agenda yma yn ei blaen, yn benodol, felly. Ond os oes yna un peth dŷn ni wedi'i ddysgu o fewn y grŵp trawsbleidiol, y diffyg sgiliau ydy hynny. Mae hynny wedi cael ei gyfeirio ato fo gan y Gweinidog. Mae ffigurau a rannwyd efo fi ynglŷn â nifer yr athrawon gychwynnodd gwrs ymarfer dysgu uwchradd yn canolbwyntio ar IT ar gyfer y flwyddyn addysg ddiwethaf yn dweud wrthym ni mai'r cyfanswm oedd 10, ac mae hynny yn dangos inni beth ydy maint y broblem.
Felly, fy nghwestiwn i, yn syml iawn: er bod y Gweinidog wedi cyfeirio at y ffaith, ydy, mae hon yn agenda bwysig a'i fod o eisiau gwthio pethau yn eu blaen, gaf i flas o'r hyn mae'r Llywodraeth yn trio gwneud i 'fast-track-io', rŵan, y cynnydd yma yn yr athrawon sydd yn gallu plannu'r hadyn digidol yna yn ein disgyblion ni, er mwyn iddyn nhw, mewn niferoedd llawer, lawer mwy, fynd ymlaen i yrfaoedd yn y maes digidol?
Wel, diolch i chi am y sylwadau, ac rwy'n diolch iddo ef am ymgymryd â'r swyddogaeth gyda'r grŵp trawsbleidiol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yna grŵp trawsbleidiol, ac mae'n parhau i ddwyn i gyfrif.
Un o'r problemau gyda'r agenda hon yw ei fod yn cael ei ystyried yn agenda dechnegol. Soniodd ef am fy niddordeb personol i ynddo. Nid wyf i'n gwybod dim am bethau digidol. Nid wyf i'n gwybod dim am dechnoleg. Nid wyf i'n dod at hyn o safbwynt cyfrifiadurol. Rwy’n dod at hyn o safbwynt methiant polisi cyhoeddus. Mae hi wedi bod yn gwbl glir i mi ers amser maith nad ydym ni'n perfformio ar y lefel y mae angen i ni fod arni, yn gyffredinol ar yr agenda hon, ac mae ganddo ganlyniadau i fywydau pobl. Ac mae cyfleoedd yr ydym ni'n eu colli ar gyfer sgiliau a ffyniant o'i wneud hefyd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig i Aelodau, nad ydyn nhw efallai'n ystyried pethau digidol yn rhywbeth sy'n fusnes iddyn nhw, i ailystyried, oherwydd eu busnes nhw ydyw, ac nid oes angen iddo ymwneud â deall manylion technegol y peth, hyd yn oed os mai dim ond deall y cyfleoedd a gofyn rhai cwestiynau ydyw. Felly, rwy'n credu bod y rhan—. Rwy'n awyddus iawn i weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol mewn ffordd agored iawn, i fod yn onest am ein diffygion, a derbyn yr her o symud yn gyflymach. Ac rwy'n credu, fel y dywedais i yn yr ymateb i'r datganiad, fod sgiliau digidol yn faes lle'r ydym ni'n gwneud rhai pethau da yn ei gylch, ac mae gennym ni gynlluniau ar gyfer mwy, ond mae'r sgil a'r cyflymder yn her i ni, ac mae hi yn ôl at y pwynt diwylliannol hwnnw ynghylch dealltwriaeth cymdeithas gyfan o sut yr ydym ni'n symud gyda'n gilydd yn gyflym ar y daith hon.
Soniodd ef am enghraifft y presgripsiwn electronig a cofnodion cleifion. Mae'n un o'r pethau hynny lle mae pobl yn cael sioc pan fyddan nhw'n darganfod nad oes un. Maen nhw'n credu, oherwydd y ffordd y maen nhw'n defnyddio gwasanaethau preifat—. Wyddoch chi, rydych chi'n mynd ar Amazon ac rydych chi'n cael profiad digidol o un pen i'r llall ac mae'n hynod effeithlon ac yn gyflym iawn, ac yna rydych chi'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, yn adnewyddu eich cerdyn llyfrgell neu'n archebu'ch gwersi nofio, ac mae'n brofiad gwahanol iawn. Ac rwy'n credu mai dyna pam mae Rebecca Evans a minnau—roeddwn i'n falch o'i gweld hi yn ei lle hi—wedi gwneud llawer o waith gyda'n gilydd i sicrhau bod y ganolfan ddigidol hon ar waith—Rebecca yn ei swydd fel Gweinidog cyllid ond hefyd yn flaenorol fel arweinydd digidol hefyd. Mae hyn wedi bod yn dipyn o weithio gyda'n gilydd o ran cyrraedd y sefyllfa hon heddiw, oherwydd rydym ni'n cydnabod yr angen i wneud hynny. Felly mae'r,—. Rwy'n credu—. Maddeuwch i mi, rwyf i'n ceisio cofio gweddill y cwestiwn—
Cyflymu sgiliau.
Ie, rwy'n credu ei fod yn faes y mae angen i ni wneud yn well ynddo. Nid oes gen i’r atebion heddiw. Mae'n faes sy'n agored i niwed. Fel y dywedais i, cynhaliodd Vaughan Gething a minnau sesiwn ar y cyd â swyddogion arno nid mis yn ôl. Byddwn i'n hapus i ysgrifennu ato ef a'r grŵp trawsbleidiol, yn nodi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac rwy'n hapus i gael sgwrs agored gyda nhw am rai syniadau ymarferol ynghylch sut y gallem ni ei wneud yn well.
Un o egwyddorion allweddol dylunio gwasanaethau digidol yw bod yn agored a chyhoeddi fersiynau, ac mae hynny'n golygu cyhoeddi rhywbeth cystal ag y gallwn ni ei gael, nid aros am y perffaith, ei dreialu mewn bywyd bob dydd, cymryd adborth byw gan ddefnyddwyr, a bod yn barod i'w newid yn gyflym a mynd ymlaen at y lefel nesaf. Ac rwy'n credu pe bai gennym ni ychydig mwy o ddefnydd o fersiynau a'r agwedd agored honno mewn polisi cyhoeddus fel yr ydym ni'n ei ddisgwyl o ddyluniad gwasanaethau digidol, rwy'n credu y byddem ni i gyd mewn sefyllfa llawer gwell oherwydd hynny.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Rwyf wedi derbyn cais gan Janet Finch-Saunders i wneud pwynt o drefn, a galwaf ar Janet Finch-Saunders.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn fy nghyfraniad diwethaf ar y datganiad a gafodd ei gyflwyno gan Lee Waters AS, mewn ymateb i un o fy nghwestiynau i am ddychwelyd tywod i draeth Llandudno, yr ymateb gan y Gweinidog yn y bôn oedd, fel landlord yn Llandudno, mai dyna un o'r rhesymau yr oeddwn i'n gofyn y cwestiwn. Pwynt 1 yw fy mod i wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru am wyth mlynedd ers hynny, gyda gohebiaeth reolaidd, ond y prif fater yma yw ei fod yn ffeithiol anghywir, felly mae'r Siambr wedi'i chamarwain. Nid wyf i'n landlord yn Llandudno, felly hoffwn i iddo dynnu'r datganiad hwnnw'n ôl a hoffwn i hefyd bod Cofnod y Trafodion yn cael ei gywiro. Diolch.
Ydych chi'n dymuno gwneud unrhyw sylwadau, Dirprwy Weinidog?
Wel, byddai angen i mi archwilio'r gofrestr buddiannau i weld beth yw'r gofrestr berthnasol, ac rwy'n dal i aros am ymddiheuriad gan Janet Finch-Saunders am gamarwain y Siambr amdanaf i. Ond os wyf i wedi camarwain, byddwn i'n hapus i wneud hynny. Mae hi'n edrych wedi drysu; rwyf i wedi ysgrifennu ati am y peth, ac nid yw hi wedi ymateb. Ond y pwynt roeddwn i'n ei wneud oedd pwynt ynghylch polisi cyhoeddus. Fe wnaeth hi bwynt am dywod ar y traeth, ac roeddwn i'n gwneud y pwynt nad yw'r tywod ar y traeth yr ystyriaeth fwyaf amlwg pan ddaw'n fater o reoli perygl llifogydd. Rydym yn edrych ar gadernid amddiffyn rhag llifogydd.
Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd yn adolygu'r Cofnod ac mae wedi dweud, os yw wedi camarwain y Siambr, y bydd yn ymddiheuro am yr achlysur hwnnw. A, Janet, rydych chi wedi cofnodi eich gwybodaeth ar gyfer y Senedd, iawn? Diolch yn fawr.
Mae'r eitem nesaf ar yr agenda wedi ei thynnu yn ôl.
Felly, symudwn ymlaen at eitem 6: dadl y Llywodraeth ar ail gyllideb atodol 2021-22. A galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7926 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 15 Chwefror 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Mae'r gyllideb atodol hon yn cyflwyno cynlluniau gwariant terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae'n dangos cynnydd o dros £1.1 biliwn i adnoddau cyffredinol Cymru, cynnydd pellach o 4.4 y cant ar y sefyllfa a nodwyd yn y gyllideb atodol gyntaf a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021. Yn y gyllideb hon, mae ein cynlluniau gwariant cyllidol wedi gweld cynnydd o gyfanswm o £2.409 biliwn. Mae dros 150 o ddyraniadau unigol gwerth bron i £2 biliwn wedi eu cymeradwyo o'r gronfa wrth gefn i gefnogi cyllidebau adrannol a sicrhau'r gwariant mwyaf posibl. Mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, ac i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus, rydym ni wedi gweithredu'n gyflym ac wedi defnyddio'r gyllideb atodol hon i ddyrannu £152 miliwn i helpu pobl â chymorth hanfodol yn wyneb yr argyfwng costau byw a £25 miliwn arall fel cronfa ddewisol i awdurdodau lleol ddefnyddio eu gwybodaeth leol i helpu aelwydydd a allai fod yn ei chael hi'n anodd.
Yn ogystal, rydym ni wedi gwneud dyraniadau sylweddol i ariannu ystod o fesurau sydd nid yn unig yn cefnogi adferiad Cymru yn dilyn y pandemig, ond hefyd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu. Mae'r rhain yn cynnwys: £70 miliwn i gefnogi costau rhaglenni cyfalaf awdurdodau lleol; dros £65 miliwn ar gyfer bargeinion dinesig a thwf; £50 miliwn wedi ei ddarparu i helpu ysgolion i wneud gwaith atgyweirio a gwella cyfalaf; a dros £19 miliwn i helpu i dalu costau ymdrin ag adfer yn dilyn effeithiau'r llifogydd ym mis Chwefror 2020.
Wrth gwrs, rydym ni wedi dyrannu cymorth i barhau â'n hymateb i'r pandemig ac i liniaru ei effaith—mae £1.4 biliwn wedi ei ddyrannu yn y gyllideb hon. Ers dechrau'r pandemig, rydym ni wedi dyrannu dros £8.4 biliwn. Rydym ni wedi darparu £551 miliwn ychwanegol ar gyfer pecyn o fesurau i helpu'r GIG nid yn unig gyda chostau ymdrin â'r pandemig a chynyddu capasiti yn ein hysbytai, ond hefyd i helpu i symud ymlaen. Rydym ni wedi dyrannu dros £135 miliwn i'r gronfa galedi llywodraeth leol, fel cymorth ar gyfer costau ychwanegol a cholli incwm sydd wedi ei achosi gan effaith y cyfyngiadau ychwanegol a roddwyd ar waith o ganlyniad i'r amrywiolyn omicron. Ar gyfer economi Cymru, rydym ni wedi dyrannu £125 miliwn ar gyfer pecyn cymorth brys, a £14.75 miliwn i gefnogi'r gwaith o redeg cylch arall o'r gronfa adfer diwylliannol. Rydym ni wedi dyrannu £8 miliwn o refeniw a £4 miliwn o gyfalaf i gefnogi cyfres o gamau gweithredu fel bod y rhan fwyaf o fusnesau a rhwydweithiau'r gadwyn gyflenwi yn y sector bwyd a diod yn ddigon cadarn i oroesi.
Rydym yn cydnabod y tryblith y mae'r pandemig wedi parhau i'w gael ar ddysgwyr, ac rydym yn cefnogi'r sector addysg drwy ddyrannu dros £45 miliwn i helpu i reoli ei effeithiau, a £33 miliwn ar gyfer parhau â'r rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau, i gefnogi adferiad dysgwyr a buddsoddi mewn adnoddau i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd.
Mae cyfyngiadau a roddwyd ar waith i liniaru effeithiau'r pandemig yn parhau i gael effaith ar y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a refeniw teithwyr. Ac rydym yn dyrannu dros £53 miliwn i gefnogi gwasanaethau rheilffyrdd a £22 miliwn ar gyfer y diwydiant bysiau.
Unwaith eto, mae diffyg eglurder Llywodraeth y DU ar benderfyniadau ariannu, y tro hwn ynghylch y gefnogaeth ar gyfer yr argyfwng costau byw, yn arwain at oblygiadau enfawr i Gymru, ac rydym ni wedi gorfod newid ein rhagdybiaethau ar gyfer y flwyddyn yn sylweddol. Mae'r diffyg hyblygrwydd parhaus i reoli gwariant dros nifer o flynyddoedd ariannol yn golygu ein bod unwaith eto o dan anfantais wrth gynllunio a rheoli ein cyllideb o ganlyniad i hynny.
Hoffwn gloi drwy ddiolch i'r pwyllgor am ystyried y gyllideb hon a chyhoeddi ei adroddiad, a byddaf yn rhoi ymateb manwl maes o law, ond rwyf yn bwriadu derbyn pob un o'i 11 o argymhellion. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid, a diolch i fy nghyd-Aelodau am eu gwaith ar y pwyllgor. Cynhaliodd y pwyllgor waith craffu ar yr ail gyllideb atodol ar 2 Mawrth, a diolch i'r Gweinidog am fod yn bresennol.
Mae'r pwyllgor yn croesawu'r cynnydd i'r dyraniadau a ddarperir gan y gyllideb atodol hon, yn ogystal â'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i liniaru effeithiau'r heriau economaidd anodd yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Cafodd adroddiad y pwyllgor ei ddwyn gerbron y Senedd ddoe, ac, fel y clywsom gan y Gweinidog yn awr, fe wnaethom 11 o argymhellion.
Hoffwn ddechrau drwy gefnogi ymdrechion y Gweinidog. Mae'r pwyllgor yn credu'n gryf mai dim ond pan roddir gwybodaeth gywir i Lywodraeth Cymru am y cyllid y mae'n ei gael gan y Trysorlys y gellir rheoli cyllidebau'n dda. Yn anffodus, mae hon yn broblem sy'n codi dro ar ôl tro, felly rydym ni wedi ein siomi bod y mater hwn yn parhau ac nad oes unrhyw welliannau wedi eu gwneud. Felly, rydym yn rhannu barn y Gweinidog bod angen mwy o eglurder gan y Trysorlys am faint o arian a gafwyd o fewn blynyddoedd ariannol, yn ogystal ag amseriad trosglwyddiadau o'r fath. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn derbyn nad yw'n ddigon pwyntio bys at Lywodraeth y DU yn unig; gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy yn y maes hwn hefyd. Dyna pam mae'r pwyllgor yn ailadrodd galwadau ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei chyfrifiadau ei hun ar symiau canlyniadol yn ystod y flwyddyn a throsglwyddiadau y mae'n disgwyl eu cael gan Lywodraeth y DU. Byddai hyn yn sicrhau bod unrhyw drosglwyddiadau cyllid yn cael eu cyfrifo yn unol â'r fethodoleg y cytunwyd arni, ac mae'n arbennig o bwysig pan fydd ffigurau gwahanol yn cael eu dyfynnu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar.
Mae rheoli'r gyllideb yn effeithiol ar draws blynyddoedd ariannol hefyd yn gofyn am hyblygrwydd. Yn flaenorol, mae'r Trysorlys wedi rhoi blwyddyn lawn i Lywodraeth Cymru wario unrhyw arian a dderbyniwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol. Roedd y pwyllgor felly wedi ei siomi na chafodd hyn ei ganiatáu eleni, ac mae'n cefnogi galwadau i hyn gael ei ddarparu fel mater o drefn, fel y gall Llywodraeth Cymru ddyrannu cyllidebau'n strategol heb fod ofn colli cyllid.
Gan droi at y materion penodol, mae'r Gweinidog, a hynny'n gwbl briodol, wedi blaenoriaethu ymdrechion i gefnogi'r rhai hynny y mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio arnyn nhw drwy'r gyllideb atodol hon. Fel Cadeirydd, rwyf i wedi pwysleisio o'r blaen yn y Siambr hon fod datblygu polisi 'dim drws anghywir' yn hanfodol, fel bod cymorth ariannol yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf. Nid oes angen atgoffa'r Aelodau bod aelwydydd yn ei chael hi’n fwyfwy anodd cael dau ben llinyn ynghyd, ac y bydd galw cynyddol, yn anffodus, am gymorth dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Felly, mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi proffiliau grantiau a chynlluniau sydd wedi eu llunio i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ac mae'n ailadrodd ei alwad am ddatblygu system integredig o gymorth mewn ymateb i'r pwysau ariannol y mae llawer o aelwydydd yn ei ddioddef.
Wrth i ni barhau i adfer yn dilyn y pandemig, mae'r pwyllgor yn croesawu'n fawr yr arian ychwanegol sy’n cael ei ddyrannu i'r gwasanaeth iechyd drwy'r gyllideb atodol hon. Er ei bod yn galonogol clywed gan y Gweinidog bod yr arian ychwanegol hwn eisoes yn cael effaith, yn enwedig ar amseroedd aros, roedd manylion gwirioneddol yn brin. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi ei thargedau ar gyfer lleihau amseroedd aros yn ei dogfennau cyllideb o hyn ymlaen, gan gynnwys y canlyniadau a'r effeithiau a ddisgwylir o'r cyllid ychwanegol i’r GIG.
Yng nghanol y pandemig, mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu pwysau na welwyd eu tebyg o'r blaen, a bod angen rhagor o fesurau i gydnabod gwaith gwych ein gweithlu gofal cymdeithasol a chymryd camau i wneud y proffesiwn yn fwy deniadol. Mae'r pwyllgor yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i wobrwyo gweithwyr gofal yn ariannol, fodd bynnag, rydym yn credu y gellir gwneud mwy i hyrwyddo'r cymorth ariannol sydd ar gael i bob gofalwr, ond yn enwedig gofalwyr di-dâl a'r rhai sy'n gweithio mewn hosbisau.
O ran trafnidiaeth, mae'r pwyllgor yn nodi bod colli refeniw a achoswyd gan y pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar wasanaethau bysiau a threnau ac mae'n croesawu'r cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i gefnogi parhad y gwasanaethau allweddol hyn. Fodd bynnag, nid oedd y pwyllgor wedi ei argyhoeddi bod y £22 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd ar gyfer gwasanaethau bysiau yn ddigonol, ac mae'n gofyn i'r Gweinidog roi rhagor o wybodaeth am sut y penderfynwyd ar y swm hwn, yn ogystal â'r amcanion a'r canlyniadau disgwyliedig ar gyfer y cyllid hwn.
Yn olaf, clywodd y pwyllgor y bydd cyllideb staff Llywodraeth Cymru yn cynyddu £20 miliwn ar sail reolaidd o eleni ymlaen. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ac, o ganlyniad, mae'r pwyllgor yn gofyn am ragor o fanylion ynghylch sut mae'r arian hwnnw'n cael ei wario, ac a fydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud i fodel gweithredu Llywodraeth Cymru o ganlyniad iddo.
Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o fod wedi cael siarad yn y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Fel y crybwyllwyd ar ddechrau'r cyfraniad hwn, rydym yn wynebu cyfnod economaidd cynyddol anodd. Felly, rydym yn annog y Gweinidog i weithredu ar ein hargymhellion ac i sicrhau bod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ei sylwadau ar y gyllideb? Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y cynnig sydd ger ein bron. Wrth gwrs, mae'n diwygio cyllideb 2021-22, yr ydym ni wedi nodi ein safbwynt arni o'r blaen.
Cafodd llawer o'r dyraniadau a nodir yn y gyllideb atodol hon eu gwneud yng nghyd-destun ein hymateb parhaus yn erbyn pandemig COVID-19 ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y dyraniadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru—rhyw £2.1 biliwn ychwanegol—o'i gymharu â'r gyllideb wreiddiol. Fodd bynnag, rwyf i’n gwneud y pwynt bod yr ymateb hwn, i raddau helaeth, o ganlyniad i'r adnoddau sylweddol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.
Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ofyn i ni'n hunain: beth mae dyraniadau Llywodraeth Cymru wedi ei gyflawni? Er enghraifft, mae dros £550 miliwn wedi ei ddyrannu i gefnogi adferiad y gwasanaeth iechyd, ond gyda channoedd o filoedd o bobl yn dal i aros am driniaeth a sefyllfaoedd gwarthus yn cael eu cofnodi am bobl yn aros mewn ambiwlansys am oriau lawer, fel y nodwyd yn gynharach heddiw gan Paul Davies, a'r sefyllfa ofnadwy o ran deintyddiaeth, fel y codwyd gan Alun Davies yn gynharach, mae angen mwy o fanylion yn wirioneddol am yr hyn y bydd y cyllid hwn yn ei gyflawni, gyda thargedau caled yn cael eu gosod i leihau amseroedd aros. Yn y cyfamser, mae dros £80 miliwn wedi ei ddyrannu i fynd i'r afael â phwysau gofal cymdeithasol, ond rydym yn gwybod bod y sector yn dal i'w chael yn anodd o dan bwysau'r galw, sy'n achosi tagfeydd yn y system iechyd ehangach, yn amlwg. Unwaith eto, Dirprwy Lywydd, rwy’n awyddus iawn i wthio Gweinidogion ar gyflawni; mae'n ddigon hawdd dyrannu symiau trawiadol i wasanaethau, ond mae angen iddo gyflawni ei amcanion.
Dirprwy Lywydd, mae rhai dyraniadau wedi eu nodi yn y gyllideb atodol yr hoffwn i holi'r Gweinidog yn fyr yn eu cylch. Mae gwladoli Trafnidiaeth Cymru yn parhau i sugno arian oddi wrth wasanaethau cyhoeddus eraill—mae £53 miliwn arall wedi ei ddyrannu yn y gyllideb hon, ar ben dros £70 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb atodol gyntaf. Pa mor hir y mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd y Llywodraeth yn cynnal Trafnidiaeth Cymru a phryd y bydd Gweinidogion yn cyhoeddi cynllun i roi Trafnidiaeth Cymru yn ôl ar sail gynaliadwy fel nad oes angen cymorthdaliadau cyhoeddus arno mwyach i'w gadw ar ei draed?
Fel y soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, mae cynnydd o £20 miliwn yng nghostau staffio Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys talu am 20 o uwch weision sifil newydd. Rwy’n pwysleisio dadl y Pwyllgor Cyllid bod y gost o gefnogi'r swyddi hyn yn sylweddol. Felly, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pam roedd angen y swyddi hyn ac a fydd canlyniadau adolygiad yr Ysgrifennydd Parhaol newydd o fodel gweithredu Llywodraeth Cymru ac effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol ar gael i'r Senedd i graffu arnyn nhw?
Yn olaf, mae £1.1 miliwn wedi ei ddyrannu i waith paratoi ymchwiliad COVID-19. Ar gyfer beth yn union y mae'r arian hwn wedi ei ddefnyddio ac oni fyddai'n well gwario'r arian hwnnw ar ymchwiliad sy'n benodol i Gymru, fel y mae'r teuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru yn galw amdano? Diolch, Dirprwy Lywydd.
Dwi, wrth gwrs, yn awyddus i groesawu unrhyw ddyraniadau ychwanegol sydd yn y gyllideb atodol, er fy mod i'n rhannu rhai o'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan y siaradwr blaenorol, a hefyd gan Gadeirydd y pwyllgor, yn enwedig sicrhau bod modd dangos y gwerth mae'r buddsoddiadau yna'n dod â nhw, o safbwynt, efallai, targedau neu'r impact maen nhw'n eu cael ar y gwahanol feysydd lle mae'r buddsoddiad yn digwydd. Ond dwi jest eisiau defnyddio fy amser i, os caf i, jest i wneud dau pwynt mwy eang, efallai, ynglŷn â'r gyllideb atodol, oherwydd mae'r gyllideb yma, i fi, yn tanlinellu sut mae'r cyfyngiadau ar allu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio dyraniadau ychwanegol o gyllid canlyniadol yn cael effaith ar ei gallu, mewn gwirionedd, i ddefnyddio y pres yna yn effeithiol.
Rŷn ni'n gwybod bod cyllideb wanwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fin digwydd. Dwi'n tybio bod y Gweinidog yn dal heb gael unrhyw sicrwydd ynglŷn ag efallai'r flwyddyn ychwanegol yma i wario unrhyw gyllid canlyniadol. Ac rŷn ni'n gwybod bod maint y Wales reserve yn cyfyngu ar hyblygrwydd Llywodraeth Cymru, ac mae hyn, wrth gwrs, jest yn amlygu unwaith eto, onid yw e, sut mae'r gyfundrefn bresennol a'r trefniadaeth gyllido rhwng y ddwy Lywodraeth, sut mae e'n milwrio yn erbyn gwneud y defnydd gorau o gyllid canlyniadol, ac yn milwrio yn erbyn cael y gwerth gorau am arian o ddyraniadau ychwanegol fel hyn. Ac mae angen tynnu'r hualau yna er mwyn gwneud i bres trethdalwyr Cymru weithio'n galetach ac er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael yr impact mwyaf posib allan o bres y trethdalwyr.
Rwyf i hefyd yn dymuno ailadrodd pwynt y pwyllgor am dryloywder gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n siarâd rheolaidd, onid yw, gan Lywodraeth y DU yn bennaf, pan fyddan nhw'n cyhoeddi cyllid ychwanegol, maen nhw'n rhoi mwy o arian, ond, fel y gwyddom ni, maen nhw hefyd yn cymryd gyda'r llaw arall yn aml iawn. Ond mae'r dryswch cyson hwn yr ydym yn ei wynebu ynghylch p'un a yw arian yn arian newydd neu p'un a yw'n arian ychwanegol ai peidio, mae'n arwain at gecru diddiwedd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n ddiraddiol, ac nid yw'n edrych yn dda ar y naill Lywodraeth na'r llall, a bod yn onest. Mae'n drysu'r cyhoedd, mae'n ein drysu ni wleidyddion yn aml iawn, ac mae angen mynd i'r afael ag ef unwaith ac am byth.
Pan oeddwn i'n cadeirio'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, fe wnaethom ni geisio bwrw pennau gyda'i gilydd ynghylch hyn, ond heb ddim lwc, yn anffodus, ac felly rwyf i'n awyddus i bwysleisio fy nghefnogaeth i alwadau'r pwyllgor presennol am fwy o eglurder ynghylch y cyhoeddiadau hyn—fel y dywedais i, i ddechrau ac yn bennaf gan Lywodraeth y DU, ond hefyd gan Lywodraeth Cymru—lle mae anghytundeb. Mae angen i'r ddwy ddangos eu gwaith cyfrifo i ni, fel bod gennym ni dryloywder gwirioneddol ac eglurder llawer gwell ynghylch p'un a yw'r symiau canlyniadol hyn a'r dyraniadau hyn yn ychwanegol ai peidio.
Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a chroesawu'r ail gyllideb atodol? Hoffwn i wneud dau bwynt byr iawn, a'r ddau yn dilyn pethau sydd wedi eu dweud yn gynharach. Ar 3 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fesurau i helpu gyda chostau byw yng ngoleuni'r cynnydd yn y terfyn uchaf ar brisiau ynni. Roedd hyn yn cynnwys ad-daliad treth gyngor o £150 o fis Ebrill 2022 ymlaen ar gyfer aelwydydd yn Lloegr sydd ym mandiau cyngor A i D. Nododd cyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddai Llywodraeth Cymru yn cael £175 miliwn o gyllid canlyniadol o ganlyniad i'r penderfyniad hwn, gan nodi y byddai'r weinyddiaeth ddatganoledig yn gallu dewis gwario'r arian hwn eleni neu'r flwyddyn nesaf. Ar 9 Chwefror, dywedodd y Prif Weinidog na fyddai Cymru'n cael unrhyw arian ychwanegol o ganlyniad i'r penderfyniad hwn. Mewn ymateb, adroddodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys nad oedd hyn yn wir ac y byddai Llywodraeth Cymru yn cael £180 miliwn o symiau canlyniadol Barnett o ganlyniad i ad-daliad y dreth gyngor.
Mae angen tryloywder o ran y symiau yr ydym yn eu cael gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys a ydyn nhw’n ymwneud ag arian newydd ai peidio. Mae'r materion sy'n ymwneud â'r cyllid canlyniadol a gafodd Llywodraeth Cymru yng ngoleuni'r ad-daliad treth gyngor a gyhoeddwyd yn Lloegr yn enghraifft dda iawn. Yr hyn sy'n gyffredin i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yw amharodrwydd i ddangos eu gwaith cyfrifo. Heb y gwaith cyfrifo, nid yw'n bosibl i'r Pwyllgor Cyllid na'r Senedd wybod pwy sy'n gywir. Er y byddaf i’n credu Llywodraeth Cymru, ac y bydd eraill yn y lle hwn yn credu Llywodraeth San Steffan, nid oes gan neb y ffeithiau i'w cefnogi. Rwy'n siŵr fy mod i’n eich diflasu wrth ddweud hyn wrth Weinidogion Llywodraeth Cymru, fel yr oeddwn i’n ei wneud yn fy swydd flaenorol i fy myfyrwyr: 'Dangoswch eich gwaith cyfrifo; dangoswch sut yr ydych yn cyrraedd y ffigurau hyn.'
Rwy'n rhannu siom y pwyllgor bod y Gweinidog yn parhau i wynebu anawsterau o ran cael gwybodaeth amserol a chywir gan y Trysorlys am newidiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru, a gall y Gweinidog wynebu anhawster arbennig tua diwedd y flwyddyn ariannol. Er gwaethaf dros 20 mlynedd o ddatganoli, mae'n ymddangos bod y Trysorlys yn dal i drin y Llywodraeth ddatganoledig fel adran arall o wariant San Steffan, ac rwy’n credu bod diffyg parch anhygoel gan y Trysorlys ynghylch hyn.
Mae'r ail bwynt yr hoffwn i ei godi yn gysylltiedig â'r cyntaf. Nid ydym yn cael swm canlyniadol Barnett ar HS2, gan nad yw'r rheilffyrdd wedi eu datganoli, ac nid yw hynny'n arwain at swm canlyniadol i gyllideb Cymru. Fodd bynnag, pe bai'n cael ei drin fel trafnidiaeth, byddem yn cael swm canlyniadol, gan fod trafnidiaeth wedi ei datganoli'n rhannol. Mae hyn yn arwain at fy mhryder mawr: symud arian yn ystod y flwyddyn rhwng adrannau'r Llywodraeth, er enghraifft o feysydd nad ydyn nhw wedi eu datganoli i feysydd sydd wedi eu datganoli, e.e. materion tramor i iechyd, er mwyn cydbwyso'r gyllideb; sut ydym ni’n gwybod ein bod ni’n cael yr hyn y dylem ni fod yn ei gael? Rwy’n deall bod gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru yn credu bod y Trysorlys, sy'n ailddyrannu arian, yn sicrhau bod y Llywodraethau datganoledig yn cael eu cyfran gywir. Yn anffodus, mae gen i lai o ymddiriedaeth ynddyn nhw; hoffwn i weld y ffigurau—gan ddychwelyd eto at fy mhwynt, 'Dangoswch eich gwaith cyfrifo.'
Yn olaf, pan gaiff arian ei ddileu, fel gorwariant byrddau iechyd yn Lloegr o gyllideb iechyd Lloegr, hoffwn i weld sut y gwnaeth yr arian hwnnw gyrraedd cyllideb iechyd Lloegr. Oherwydd y sefyllfa a oedd gennym ni mewn gwirionedd oedd bod cyllideb iechyd Lloegr o dan bwysau enfawr, roedd ganddyn nhw’r holl orwariant hwn, ac, yn sydyn, un flwyddyn, pan nad oedd hi’n ymddangos ein bod ni wedi cael cynnydd mawr iawn, roedd yn ymddangos fel bod digon o arian wedi ei roi iddyn nhw er mwyn dileu gwerth sawl blwyddyn o orwariant, ac felly hoffwn i weld y gwaith cyfrifo. Nid wyf i'n dweud bod pobl yn anghywir, ond rwy’n credu bod ychydig o anhryloywder yn hyn o beth, ac rwy’n credu y byddai o fudd i bawb, yn enwedig Aelodau'r Senedd ac Aelodau Seneddol, weld y rhifau gwirioneddol, ac yna gallem ni gael dadl fwy gwybodus.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl fer hon, a byddaf yn cadw fy sylwadau'n gymharol gryno. I ailadrodd y ffaith y byddaf i a grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y cynnig heddiw. Fe wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a'r Aelod dros ddwyrain y de sôn mai gair allweddol yw 'natur weladwy', ac mae'n rhaid i unrhyw benderfyniad cyllidebol sy'n cael ei wneud gael effaith ar reng flaen y sectorau, ac mae wedi ei grybwyll yn y gyllideb atodol am hyfforddiant a gweithlu'r GIG, felly a fyddai'r Gweinidog yn gallu ateb pa hyfforddiant penodol sy'n cael ei gynnig i weithlu'r GIG? Oherwydd, yn eithaf aml, mae llawer o sectorau yn y proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n torri eu boliau i wybod y manylion, ac rwy'n credu bod y byrddau iechyd yn haeddu gwybod a chael cyfeiriad penodol ynghylch ble maen nhw'n mynd i hyfforddi'r gweithluoedd hyn, oherwydd bod llawer o weithwyr proffesiynol yn teimlo'n siomedig weithiau gyda'r diffyg hyfforddiant, ac yn aml gall hynny fod yn rhan allweddol o ddatblygiad gyrfa a hefyd i ehangu gwybodaeth gweithiwr proffesiynol.
A hefyd, cyllid Gofal Cymdeithasol Cymru a CAFCASS, a beth fydd hyn yn ei wneud i gefnogi llif cleifion iach a'u rhyddhau i leoliadau gofal cymdeithasol yn benodol, oherwydd rydym yn aml yn gweld achosion o flocio gwelyau, amseroedd aros ambiwlansys oherwydd y gwir amdani yw na all pobl sy'n cael eu rhyddhau o ochr arall y sector gael eu rhyddhau i rywle diogel yn y sector gofal cymdeithasol. Felly, beth yn benodol fydd yr arian hwnnw'n ei wneud i gefnogi'r mater hwn?
Yn olaf, o ran cefnogi plant, rydych chi wedi dweud o'r blaen eich bod chi wedi dymuno diddymu'r ddarpariaeth gofal plant preifat sydd, mewn gwirionedd, yn ffurfio 80 y cant o'r sector. Felly, a yw'r gronfa honno tuag at blant yn cefnogi gwaith o wireddu'r fendeta ideolegol yn erbyn y darparwyr gofal plant preifat, neu a yw hynny'n ei herio mewn gwirionedd, Gweinidog? Hoffwn i chi ateb y cwestiynau penodol hynny pan fyddwch chi'n cau'r ddadl yn nes ymlaen. Diolch.
Byddaf i'n hynod o gryno. Gweinidog, gyda'r £100 miliwn ychwanegol sy'n mynd tuag at fyrddau iechyd i helpu gydag amseroedd rhestrau aros, a allwn ni gael rhywfaint o sicrwydd y bydd yr arian hwnnw yn mynd yn wirioneddol i'r rheng flaen i sicrhau ein bod ni yn mynd i'r afael ag ôl-groniadau rhestrau aros y GIG mewn gwirionedd ac nad yw'n cael ei amsugno mewn biwrocratiaeth o fewn byrddau iechyd, lle mae arian yn mynd fel arfer mewn gwirionedd? A hoffwn i gael rhywfaint o sicrwydd gennych chi o sut y mae'r adran gyllid yn mynd i sicrhau bod arian yn cael ei wario yn y ffordd orau. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl y prynhawn yma. Rwyf i'n cytuno â'r hyn mae cyd-Aelodau wedi ei ddweud o ran na ellir rheoli cyllidebau yn dda oni chawn ni wybodaeth gywir gan y Trysorlys, ac rwy'n gwybod bod nifer o'r Aelodau wedi ailadrodd hynny yn y sgwrs yr ydym ni wedi ei chael y prynhawn yma. Rwyf i'n cytuno bod yn rhaid i ni gael mwy o dryloywder, ac yn aml mae'n wir bod yn rhaid i chi aros tan ddiwedd oll y flwyddyn ariannol, yn yr amcangyfrifon atodol ddiwedd mis Chwefror, cyn i chi gael y darlun llawn, ac nid yw hynny'n gadael fawr o amser bryd hynny i ddeall yn iawn beth yw eich opsiynau ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol. Felly, gall hynny fod yn anodd, yn enwedig pan fydd symudiadau sylweddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol nad ydym ni wedi cael gwybod amdanyn nhw ac nad ydym ni wedi gallu cynllunio ar eu cyfer, ac rydym ni wedi cael y profiadau hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, rwy'n gwerthfawrogi ac yn cytuno â'r alwad honno i ddangos eich gwaith cyfrifo, ond dim ond yn hwyr iawn yn y flwyddyn y gallwn ni wneud hynny, yn yr ystyr y byddai gennym ni hafaliad gyda rhannau ar goll ohono. Felly, mae'n anodd iawn darparu'r darlun llawn hwnnw nes i ni gael y tablau tryloywder hynny gan Drysorlys EM, ac yna ar y pwynt hwnnw, pan fydd gennym ni'r holl wybodaeth, y gallwn ni rannu hynny i gyd.
Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym ni wedi ei chael y prynhawn yma o ran hyblygrwydd. Ailadroddodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid gefnogaeth y Pwyllgor Cyllid i'n cais i gael blwyddyn galendr lawn i ymdrin â dyraniadau hwyr, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei gael yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond am ryw reswm mae Llywodraeth y DU wedi atal hynny rhag digwydd, ac, unwaith eto, mae i hynny oblygiadau difrifol, yn fy marn, i'n gallu ni i gynllunio a gwario cystal ag y gallwn. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn dweud y dylem ni gael yr hyblygrwydd hwnnw fel mater o drefn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Mae gennym ni gyfarfod rhwng y pedwar Gweinidog cyllid, neu drefniant newydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yr wythnos nesaf, ac mae Cymru'n cyflwyno papur yn y cyfarfod hwnnw sy'n ymwneud yn benodol â'r hyblygrwydd ariannol sydd ei angen arnom er mwyn rheoli ein cyllideb yn briodol. Felly, byddaf i’n glir iawn i adlewyrchu'r sgyrsiau yr ydym ni wedi eu cael y prynhawn yma a'r cyfraniadau o ran hyblygrwydd, fel bod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ymwybodol bod hyn yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd yn ei gefnogi'n fawr hefyd.
O ran rhai o'r meysydd penodol a godwyd yn y ddadl, cafwyd nifer o sylwadau ynglŷn ag iechyd, ac mae hwn yn faes lle rwyf i’n cytuno unwaith eto, rwy’n credu, â'r holl heriau a gyflwynwyd gan gyd-Aelodau yn ystod y ddadl, yn yr ystyr y gallwn ni wneud dyraniadau, ond mewn gwirionedd yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw beth mae'n ei gyflawni i bobl yng Nghymru. Felly, fe welwch chi’r arian ychwanegol mewn cysylltiad ag iechyd—felly, mae hynny'n £411 miliwn o refeniw i gefnogi cynlluniau cenedlaethol a lleol mewn cysylltiad â'r pandemig. Mae'r cyllid yno hefyd ar gyfer sefydlogi'r GIG yn dilyn y pandemig, olrhain COVID parhaus, costau brechu, cyfarpar diogelu personol a gwaith arall i ymateb i COVID. Felly, mae hynny'n fuddsoddiad pwysig iawn yn y GIG. Ac yna, mae £100 miliwn hefyd wedi ei ddyrannu ar gyfer mesurau adfer, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ychwanegol at y £100 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb atodol gyntaf, a bydd hynny, unwaith eto, yn cefnogi gwaith y GIG.
O ran y dyraniad cyfalaf, y nod yno yw gwella llif cleifion, gwella systemau awyru a mynd i'r afael â rhai o'r rhestrau aros drwy'r theatr orthopedig ychwanegol, a fydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, a chanolfan ddydd offthalmoleg newydd yn Singleton. Felly, byddwn yn gwneud y buddsoddiadau penodol hynny i wella'r sefyllfa o fewn y GIG ac ymdrin â rhai o'r ôl-groniadau hynny. Rydym ni wedi cael amcangyfrifon am nifer y bobl a fyddai wedi bod ar y rhestr aros pe na byddem ni wedi cael y buddsoddiad ychwanegol hwnnw. Gohiriwyd pethau rywfaint oherwydd yr amrywiolyn omicron—fe wnaeth hynny dynnu pethau yn ôl rhywfaint o ran y cynnydd yr oeddem ni’n ei wneud—ond roeddwn i’n gallu rhannu â'r Pwyllgor Cyllid, wrth graffu, rai enghreifftiau o'r ffyrdd yr ydym yn gwybod bod y buddsoddiad yr ydym yn ei wneud yn gweithio.
Roedd llawer o ddiddordeb eto yn ein buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol. Mae gennym ni becyn gwerth £42.7 miliwn ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol, sy'n helpu i fynd i'r afael â rhywfaint o bwysau'r system, a'r meysydd penodol lle bydd hynny’n cael ei fuddsoddi yw'r meysydd y nododd ein pwyllgor gweithredu gofal lle gallwn ni wneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae hynny'n cynnwys £20 miliwn i ariannu gwasanaethau cymorth i blant; mae cyllid ychwanegol o £3.8 miliwn i gefnogi camau ymyrryd ac atal cynnar, ac mae hynny wedi ei ddyrannu i sefydliadau'r trydydd sector; ac £1 miliwn i gefnogi ceiswyr lloches ar eu pen eu hunain, ynghyd ag amrywiaeth o fuddsoddiadau eraill hefyd.
Roedd rhywfaint o ddiddordeb eto yn y gefnogaeth yr ydym yn ei rhoi i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r gyllideb yn darparu £53.1 miliwn ychwanegol mewn cysylltiad â'r rheilffyrdd, a'r rheswm pam rydym ni wedi gorfod rhoi cymaint o arian ychwanegol i drafnidiaeth gyhoeddus, rheilffyrdd a bysiau, yn y gyllideb atodol hon ac yn ystod y pandemig, yw oherwydd yr effaith a gafodd y pandemig ar y blwch tocynnau. Pan fyddwn ni’n meddwl yn ôl i'r cyfnod clo, arweiniodd hynny at ostyngiad o 95 y cant i'r defnydd o fysiau a threnau, ac wrth i'r cyfyngiadau lacio, rydym ni wedi gweld adferiad araf ond nid ydym yn ôl i'r ffigurau blaenorol o hyd. Felly, mae'n wir bod angen cymorth Llywodraeth Cymru ar y sectorau hynny o hyd.
Felly, rwy’n credu fy mod i wedi ymateb i amrywiaeth o'r materion hynny a gyflwynwyd y prynhawn yma, ond rwyf i yn awyddus i ddweud ac ailadrodd y byddaf yn derbyn holl argymhellion y Pwyllgor Cyllid, a byddaf yn darparu ymateb manylach i bob un o'r argymhellion hynny ar ffurf ysgrifenedig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Clywais wrthwynebiad, felly gohirir y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar ddiwygiad i setliad llywodraeth leol 2021-22, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM7952 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo’r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2021-22 (Setliad Terfynol—Cynghorau) diwygiedig. Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd ei chymeradwyo welliant i setliad llywodraeth leol y flwyddyn gyfredol. Ar ôl ymgynghori â llywodraeth leol, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rwy'n cynnig cynnydd pellach o £60 miliwn i gyllid refeniw llywodraeth leol drwy gynyddu'r grant cynnal refeniw, a ddarperir drwy setliad llywodraeth leol diwygiedig ar gyfer 2021-22. Mae'r adroddiad cyllid llywodraeth leol diwygiedig yn adlewyrchu cynnydd o £50 miliwn mewn cyllid, a gyhoeddwyd yn yr ail gyllideb atodol, yn ogystal â £10 miliwn arall yr wyf i wedi ei ddarparu drwy ail-flaenoriaethu cyllid Llywodraeth Cymru yn ofalus. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn cyfateb i gynnydd o 1.3 y cant ar lefel Cymru o'i gymharu â'r hyn a gyhoeddwyd gan fy rhagflaenydd fis Mawrth diwethaf, gyda phob awdurdod yn ennill o leiaf £1.1 miliwn yn ychwanegol.
Gan nad yw'r cyllid hwn yn rheolaidd, ni fydd unrhyw addasiad i'r sylfaen ar gyfer cyfrifo setliad 2022-23 yng ngoleuni hynny. Bydd yr arian hwn yn helpu awdurdodau lleol i reoli eu cyllidebau'n fwy effeithiol dros y cyfnod 2021-25 yng nghyd-destun pwysau chwyddiant a gwasanaethau a diwedd y gronfa caledi llywodraeth leol. Bydd hefyd yn eu helpu i barhau i ddatgarboneiddio gwasanaethau ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur.
Er nad yw'r cyllid hwn wedi ei neilltuo, bwriedir galluogi llywodraeth leol hefyd i ymateb i'w huchelgeisiau i gynyddu gallu gwasanaethau cymorth cartref drwy ariannu gwersi gyrru a darparu mynediad i gerbydau trydan, ac mae hyn yn enghraifft o sut y mae awdurdodau'n gweithio i ddatgarboneiddio gwasanaethau ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Felly, rwy'n gofyn i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn heddiw.
A gaf i ddiolch unwaith eto i'r Gweinidog am y datganiad hwn? A hoffwn i ddweud y bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig ar yr agenda. Rydw i'n croesawu'n gyffredinol y cyhoeddiad y bydd cynghorau'n cael £60 miliwn yn ychwanegol yn eu grant cynnal refeniw ar gyfer 2021-22. Fel y dywedodd y Gweinidog yn ei llythyr at arweinwyr cynghorau, mae cynghorau'n wynebu pwysau cyllidebol lluosog, er enghraifft, diwedd y gronfa caledi lleol, pwysau chwyddiant, a'r galw uchel parhaus ar wasanaethau cyhoeddus, wrth i ni ddod allan o'r pandemig gobeithio. Dylai'r arian hwn, felly, helpu i leddfu rhywfaint ar y baich y mae gwasanaethau lleol yn ei wynebu.
Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, hoffwn i ofyn i'r Gweinidog am eglurhad ynghylch rhai gwahaniaethau yn y ffigurau a ddarparwyd rhwng y setliad llywodraeth leol diwygiedig a'r ail gyllideb atodol yr ydym ni newydd glywed amdani. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r setliad llywodraeth leol diwygiedig yn amlinellu £60 miliwn ychwanegol i gynghorau, ac eto mae'r gyllideb atodol yn disgrifio'r dyraniad hwn fel £50 miliwn ychwanegol o gyllid refeniw ychwanegol. Gweinidog, a gaf i ofyn pam, o fy narlleniad i o leiaf, fod gwahaniaeth o £10 miliwn rhwng y ffigurau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n siŵr bod yr ateb yn syml.
Rwy'n sylwi hefyd o'ch llythyr, ac fel yr ydych chi newydd ei grybwyll, er nad yw'r cyllid hwn wedi ei neilltuo, ac rwyf i'n croesawu hynny, awgrymir y gallai cynghorau ddymuno defnyddio'r refeniw ychwanegol i ariannu pethau fel gwersi gyrru ar gyfer gofal cartref neu gynyddu mynediad i gerbydau trydan fel y gall cynghorau barhau i weithio tuag at ddatgarboneiddio gwasanaethau. A gaf i ofyn pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda chynghorau am yr awgrymiadau hyn? Ydyn nhw'n bethau y mae awdurdodau lleol wedi tynnu sylw atyn nhw fel blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi, neu yr hyn y mae'r Llywodraeth yn credu y dylid gwario arian arno? Mewn geiriau eraill, a all y Gweinidog roi sicrwydd y bydd gan gynghorau hyblygrwydd llawn i wario'r arian ar eu blaenoriaethau eu hunain? Diolch, Dirprwy Lywydd.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn i Peter Fox am ei gyfraniad a hefyd am gadarnhau cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r cynnig hwn heddiw. Felly, rwy'n hapus i ymateb i'r cwestiynau penodol hynny. Felly, ydy, mae'r adroddiad cyllid llywodraeth leol diwygiedig yn adlewyrchu'r cynnydd o £50 miliwn mewn cyllid, ac roedd hynny, fel y dywedodd Peter Fox, wedi ei gyhoeddi wrth gyhoeddi'r ail gyllideb atodol. Ac mae'n £10 miliwn ychwanegol y gallaf i ddweud sydd ar gael heddiw, gan ystyried ble rydym ni ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac edrych ar yr adnoddau sydd ar gael i ni. Roedd y £50 miliwn ar adeg gosod yr ail gyllideb atodol, ond rwy'n gallu darparu'r £10 miliwn ychwanegol yn awr, ac mae hynny, fel y dywedais i, yn adlewyrchu'r ffordd y mae'r gyllideb sydd gennym ni ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn cael ei rheoli.
O ran sut yr ydym ni wedi cyrraedd y ffigur hwn a sut yr ydym ni wedi cyrraedd yr hyn y gallai awdurdod lleol fod yn dymuno ei wario hyn arno, unwaith eto mae hynny wedi bod drwy drafodaeth gyda llywodraeth leol. Byddwch chi'n cofio'n ddiweddar i mi gyhoeddi £70 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf; wel, digwyddodd hynny yn dilyn rhai sylwadau cryf yr oedd llywodraeth leol wedi eu cyflwyno i mi o ran atgyweirio ffyrdd yn lleol, er enghraifft. Felly, er mai mater i awdurdodau lleol yw penderfynu sut i wario'r arian hwnnw—mae ganddyn nhw hyblygrwydd llwyr—mae dealltwriaeth hefyd ei fod wedi ei seilio ar yr hyn y gwnaethon nhw ddweud wrthyf i y mae angen y cyllid arnyn nhw ar ei gyfer. Mae ganddyn nhw'r hyblygrwydd hwnnw, ond eto mae gennym ni ddealltwriaeth yn hynny o beth hefyd, ac mae'r un peth yn wir yma, oherwydd bod hon yn ffordd arall, rwy'n credu, lle gall awdurdodau lleol ddangos eu hymrwymiad clir iawn, ac rwy'n meddwl, cryf iawn i ddatgarboneiddio a hefyd eu hymrwymiad i ofal cymdeithasol a cheisio recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol.
Dyma rai enghreifftiau o'r ffyrdd y mae llywodraeth leol wedi cynnig syniadau ar gyfer ffyrdd y gallan nhw ddefnyddio'r cyllid ychwanegol hwn. Wrth gwrs, mae'n rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i awdurdodau lleol yn y dyfodol hefyd, pe byddan nhw'n penderfynu gwario'r arian hwn mewn camau, oherwydd fel yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, blynyddoedd 2 a 3 o'r adolygiad hwn o wariant sy'n anoddach i awdurdodau lleol. Bydd angen iddyn nhw ystyried hyn wrth iddyn nhw benderfynu sut i wario'r arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 sydd nesaf, dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig—Jeremy Miles.
Cynnig NDM7950 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11, yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) ac i symud y cynnig, ac ar y penderfyniad ariannol. Rwy'n ddiolchgar i Jayne Bryant, i Peredur Owen Griffiths, i Huw Irranca-Davies ac i aelodau eu pwyllgorau am eu hagwedd drylwyr ac adeiladol at graffu ar y Bil, a'u hadroddiadau cynhwysfawr a darbwyllol. Hoffwn i hefyd ddiolch i'r rhanddeiliaid niferus sydd wedi cymryd rhan weithredol wrth ddatblygu a chraffu ar Bil, gan gynnig eu harbenigedd, eu her a'u persbectif, sy'n parhau i lywio ein gwaith ni. Efallai, Ddirprwy Lywydd, na fydd hi'n bosibl i fynd i'r afael â phob achos lle mae'r pwyllgorau wedi gofyn am ragor o wybodaeth heddiw, ond byddaf i'n ysgrifennu at y pwyllgorau cyn bo hir mewn ymateb i'w hadroddiadau, a byddaf i'n darparu'r wybodaeth ofynnol bryd hynny.
Mae'n bleser gen i nodi'r croeso gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am ein dull strategol, ein harloesedd wrth gyflwyno dyletswyddau strategol newydd, a'r fframwaith ehangach ar gyfer y diwygiadau a wnaed yng Nghymru. Rwyf hefyd yn croesawu ac yn nodi argymhellion argyhoeddiadol y pwyllgor mewn perthynas â rôl y comisiwn o ran hyrwyddo addysg ac ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n ystyried sut y gellid diwygio'r Bil i adlewyrchu'r amcan cyffredin hwn. Rwy'n rhannu cefnogaeth y pwyllgor i waith rhagorol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn derbyn y byddai'r Bil yn manteisio o gyfeiriad cryfach at sut y bydd y comisiwn a'r coleg yn cydweithio.
Gan droi, Dirprwy Lywydd, at y mater pwysig hwnnw o lais y dysgwr, mae cyflwyno cod ymgysylltu â dysgwyr yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr fynd i'r afael â sut y byddan nhw'n cynnwys dysgwyr mewn penderfyniadau ar bob agwedd sy'n ymwneud â'u dysgu ac â'u diddordebau a'u pryderon. Mae'r pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi gwneud pwynt cryf ynghylch sut y gallem ni fynd gam ymhellach o ran cynnwys pwysigrwydd barn dysgwyr yn ein dyletswyddau strategol, a byddaf yn cyflwyno gwelliant i'r perwyl hwn.
Bydd fy nghyd-Aelodau'n gwybod am fy ymrwymiad personol ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Rydym ni i gyd yn elwa ar gydweithio fel Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr i sicrhau gwell canlyniadau mewn addysg, yn y gweithle ac fel cymdeithas. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cyflwyno Bil yn ddiweddarach eleni, ac rwy'n dymuno cadarnhau y bydd dyletswydd y bartneriaeth gymdeithasol, fel sydd wedi ei nodi yn y Bil drafft hwnnw, yn berthnasol i'r comisiwn gan y bydd yn gorff sy'n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy’n cytuno â'r bwriad y tu ôl i argymhelliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar bartneriaeth gymdeithasol, ac yn archwilio'r mater hwn ymhellach wrth hefyd ystyried darpariaethau disgwyliedig y Bil partneriaeth gymdeithasol sydd ar y gweill.
Mae amrywiaeth o argymhellion mewn cysylltiad ag ymchwil. Rwyf i eisoes wedi nodi fy mwriad i gyflwyno gwelliannau i gynyddu amlygrwydd ymchwil ar wyneb y Bil, gan gynnwys drwy welliannau i'r dyletswyddau strategol. O ran y datganiad o flaenoriaethau a chynllun strategol y comisiwn, mae arnaf i ofn nad wyf i’n derbyn yr argymhelliad i wneud y gwaith o ddatblygu'r datganiad o flaenoriaethau yn destun dyletswydd ymgynghori statudol, ac mae hynny am y rheswm hwn: bydd y blaenoriaethau yr ydym yn bwriadu i gael eu nodi yn y datganiad sydd i'w gyhoeddi o dan adran 11 yn rhai lefel uchel a strategol, ac ni fyddan nhw, yn fy marn i, yn addas ar gyfer ymgynghori. Fodd bynnag, rwyf i yn ystyried yr argymhelliad o ran gallu Gweinidogion Cymru i addasu cynllun strategol y comisiwn, a byddaf yn ystyried a ddylid cyflwyno gwelliant.
O ran yr argymhellion ar aelodaeth a swyddogaethau'r bwrdd, rwy’n gwerthfawrogi'r achos sy'n cael ei wneud. Fodd bynnag, yn fy marn i, nid yw'n rhoi digon o bwys ar y mater o osgoi gwrthdaro buddiannau posibl, gwahanu gweithgareddau a chynnal annibyniaeth undebau llafur, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a chyrff sy'n cynrychioli dysgwyr. Wrth sefydlu aelodaeth gref o'r bwrdd cynghori, rydym yn mynd ymhellach na llawer o'r strwythurau presennol. Er ein bod, wrth gwrs, wedi gwrando ar y cyfeiriadau a wnaed at strwythurau llywodraethu darparwyr unigol, nid wyf i'n credu y dylai hyn fod yn dempled ar gyfer bwrdd comisiwn rheoleiddio ac ariannu cenedlaethol, gan fod ganddo gylch gwaith sylfaenol wahanol. Fel y gŵyr fy nghyd-Aelodau, mae materion pwysig ymreolaeth sefydliadol a rhyddid academaidd yn cael eu trafod, yn ddealladwy, pryd bynnag y bydd deddfwriaeth addysg drydyddol yn cael ei chyflwyno. Mae'r Bil yn cynnwys nifer o ddarpariaethau sy'n cydnabod ymreolaeth sefydledig sefydliadau. Fodd bynnag, rwy’n nodi barn y pwyllgor a'r rhanddeiliaid, ac yn archwilio opsiynau ar gyfer hyd yn oed mwy o ddarpariaeth yn y maes hwn.
Gan symud ymlaen i gofrestru, ac mewn ymateb i'r ymholiad a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, mae cofrestru'n hollbwysig o ran darparwyr addysg uwch gan mai dim ond cyfran fach o'u cyllid maen nhw’n ei chael bellach ar ffurf grantiau rheolaidd y gellid cymhwyso telerau ac amodau iddyn nhw. Daw'r rhan fwyaf o'u cyllid cyhoeddus o gymorth i fyfyrwyr. Pe bai'r gofrestr yn cael ei dileu, ni fyddai'r comisiwn yn gallu rheoleiddio'r darparwyr hyn yn effeithiol oherwydd y ddibyniaeth bennaf hon ar gymorth i fyfyrwyr yn hytrach na grantiau comisiwn. Byddai'r Bil wedyn yn methu â chyflawni nifer o'i amcanion allweddol. O ran argymhellion y pwyllgorau ynghylch cynyddu tryloywder yn ymwneud â phenderfyniadau ariannu'r comisiwn, rwyf i eisoes yn ystyried sut y gellir mireinio'r Bil ymhellach yn y maes hwn.
Gan droi at argymhelliad 29 y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc mewn cysylltiad â'r chweched dosbarth, hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod y Bil eisoes yn ychwanegu amddiffyniadau ychwanegol pellach drwy'r ddyletswydd strategol a osodir ar y comisiwn i hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yn berthnasol i'r comisiwn wrth gyflawni ei swyddogaethau ar draws y sector ôl-16, gan gynnwys unrhyw ystyriaethau mewn cysylltiad â darpariaeth chweched dosbarth ysgolion a gynhelir. Yn ogystal, mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r cod statudol ar gyfer trefniadaeth ysgolion hefyd yn cynnwys amddiffyniadau a mesurau diogelu perthnasol i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg a darpariaeth gan ysgolion ffydd yn cael eu hystyried yn briodol mewn unrhyw gynigion a gyflwynir ar gyfer ad-drefnu. Hefyd, mae pwerau ymyrryd gweinidogol presennol yn parhau i fod ar waith. Felly, nid wyf i o'r farn bod angen gwelliannau pellach i'r Bil, ac rwyf i o'r farn bod y darpariaethau presennol yn darparu ar gyfer yr amddiffyniadau y mae'r pwyllgor yn gofyn amdanyn nhw yn yr argymhelliad hwn.
O ran yr argymhellion mewn cysylltiad â'r pŵer i ddiddymu corfforaethau addysg uwch, rwyf i wedi nodi cryfder teimladau rhanddeiliaid a byddaf yn cyflwyno gwelliannau i'r darpariaethau hyn i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Rwy’n nodi’r argymhellion mewn cysylltiad ag adran 105 o'r Bil, sy'n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chydsyniad i gyrff sy'n cydweithio. Rwyf i eisoes yn archwilio opsiynau ar gyfer gwelliannau i wella'r darpariaethau hyn. Mae'r pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gwneud amrywiaeth o argymhellion ynghylch gweithdrefnau arfaethedig y Senedd ar gyfer arfer pwerau dirprwyedig yn y Bil. Er na fu'n bosibl i mi dderbyn holl argymhellion y pwyllgor yn llawn, byddaf yn cyflwyno gwelliannau mewn ymateb i argymhellion 12, 13 a 15.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, gan droi at y Pwyllgor Cyllid, bydd yr asesiad o effaith rheoleiddiol yn cael ei ddiweddaru yn unol â'r weithdrefn safonol ar ôl Cyfnod 2 gyda'r wybodaeth ddiweddaraf, ac yng ngoleuni argymhellion y pwyllgor. Nid wyf yn rhagweld unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffigurau cyffredinol yn yr Asesiad o Effaith Rheoleiddiol, gan nad yw niferoedd staff disgwyliedig y comisiwn, prif sbardun y gost gyffredinol, wedi newid ers mis Tachwedd. Rwy’n cydnabod awydd y pwyllgor i archwilio'r asesiad o effaith rheoleiddiol wedi ei ddiweddaru. Felly, byddaf yn rhannu copi â'r pwyllgor cyn gynted â phosibl ar ôl Cyfnod 2, i roi cyfle i'r pwyllgor ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf a gofyn unrhyw gwestiynau dilynol cyn Cyfnod 3. Er fy mod i'n cydnabod y bwriad y tu ôl i argymhelliad y pwyllgor o ran costau i gyrff eraill, mae arnaf i ofn na allaf dderbyn yr argymhelliad hwn. Ni fu'n bosibl mesur unrhyw gostau ychwanegol posibl i gyrff eraill, gan y bydd hyn yn dibynnu ar benderfyniadau a wnaed gan y comisiwn ar ôl iddo gaiff ei sefydlu. Byddai unrhyw ragdybiaethau neu amcangyfrifon a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn achub y blaen ar y penderfyniadau hyn ac ni fydden nhw'n darparu ar gyfer amcangyfrifon cywir o unrhyw gostau posibl.
I gloi, Dirprwy Lywydd, mae'r Bil hwn yn sefydlu'r comisiwn fel y stiward cenedlaethol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil, a fydd yn gyfrifol am ei ariannu, ei oruchwylio a'i ansawdd. Bydd y comisiwn yn edrych ar y system gyfan, gan gefnogi dysgwyr drwy gydol eu hoes i ddysgu'r wybodaeth a'r sgiliau i lwyddo a sicrhau darparwyr sy'n gryf, yn annibynnol ac yn amrywiol, ac sy'n gwneud cyfraniadau sylweddol i les a ffyniant cenedlaethol. Rwy’n annog yr Aelodau i gytuno ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil heddiw.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—Jayne Bryant.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich sylwadau agoriadol. Rwyf yn falch o weld rhai o'r ymrwymiadau yr ydych wedi'u gwneud heddiw. Hoffwn agor drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith craffu ar y Bil hwn. Gwyddom fod yr amserlen ar gyfer craffu deddfwriaethol yn aml yn golygu mai ychydig iawn o amser sydd gan randdeiliaid i ymateb yn ysgrifenedig, neu i baratoi ar gyfer tystiolaeth lafar. Gall hyn fod yn arbennig o heriol ar gyfer Biliau sy'n hir, yn gymhleth ac yn bwysig—popeth y mae'r Bil hwn. Mae ein gwaith craffu'n seiliedig ar y dystiolaeth a gawsom, a chawsom dystiolaeth fanwl—tystiolaeth feddylgar ac ystyriol—gan yr holl randdeiliaid a gyfrannodd. Felly, diolch i chi i gyd. Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor am eu diwydrwydd a'u gofal wrth fynd ati i graffu ar y Bil. Hwn oedd ein darn sylweddol cyntaf o waith fel pwyllgor, a bu'n rhaid i ni symud yn gyflym gyda darn technegol a hirfaith o ddeddfwriaeth. Rwyf hefyd yn croesawu'r dull agored y mae'r Gweinidog wedi'i ddefnyddio i graffu ar y Bil. Roedd yn glir o'r cychwyn cyntaf ei fod yn agored i farn rhanddeiliaid a'r Senedd. Rwy'n croesawu yr ymateb cadarnhaol cyffredinol a gawsom heddiw i'r argymhellion yn ein hadroddiad.
Mae'r sector addysg ôl-16 yn hollbwysig. Mae'n addysgu, mae'n cyflogi, ac mae'n gwella bywydau pob un ohonom ni yng Nghymru. Fel sector, mae'n newid bywydau, o ran y myfyrwyr unigol neu'r dysgwyr sy'n datblygu sgiliau neu wybodaeth, neu drwy'r ymchwil, datblygu ac arloesi sy'n nodwedd allweddol o'r sector. Hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sy'n gweithio yn y sector ôl-16, ar draws ehangder y ddarpariaeth, am eu holl waith caled, yn enwedig dros ddwy flynedd heriol diwethaf y pandemig. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl fyfyrwyr a dysgwyr, sydd, wrth gynyddu eu gwybodaeth a'u sgiliau, yn aml yn gwneud hyn ochr yn ochr ag ymrwymiadau cyflogaeth a theulu. Mae'r sector yn cwmpasu ystod eang o ddarpariaethau, rhai ohonyn nhw'n wahanol iawn o ran cynnwys, cyflawniad a chanlyniad. Y wobr y mae'r Bil hwn yn ceisio'i chipio yw sector cryfach a chadarnach sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac sy'n gadarn—rhywbeth y ceir cytundeb a chonsensws arno.
Gan symud ymlaen at ganfyddiadau'r pwyllgor, gwnaethom 37 o argymhellion, ac yn amlwg, nid oes gennyf amser i ymdrin â phob un ohonyn nhw heddiw, felly fe wnaf ganolbwyntio ar argymhelliad 1, ac yna'r rhai sy'n edrych ar aelodaeth y comisiwn, dyletswyddau strategol y comisiwn, a'r pwerau i wneud rheoliadau. Ein hargymhelliad cyntaf yw bod y Senedd yn cymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae hyn yn unol â'r dystiolaeth a glywsom gan randdeiliaid, a oedd yn cefnogi'r Bil yn gyffredinol a'r angen am ddeddfwriaeth. Mae ein 36 o argymhelliad dilynol yn ceisio cryfhau a gwella'r Bil.
Buom yn archwilio cyfansoddiad y comisiwn yn fanwl, fel y nodir yn Atodlen 1 i'r Bil. Clywsom dystiolaeth glir fod angen sicrhau bod y comisiwn yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru gyfan, ac yn fwy penodol, ehangder y ddarpariaeth a'r ymchwil yn y sector ôl-16. Er i'r Gweinidog ddweud wrthym y byddai'r broses penodiadau cyhoeddus yn ceisio sicrhau bod penodiadau'n cael eu tynnu o'r gronfa fwyaf eang o bobl, gwyddom y gall hyn fod yn anodd ei gyflawni'n ymarferol. Mae cyfansoddiad y bwrdd mor hanfodol, a dyna pam yr ydym ni eisiau gweld rhan o'r Bil yn cael ei chryfhau wrth wneud argymhelliad 6. Mae hyn yn galw am i welliannau ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i sicrhau bod y comisiwn yn cynrychioli ehangder a darpariaeth y sector, ac amrywiaeth ehangach Cymru. Gwnaethom argymhellion hefyd o ran dysgwyr ac aelodau cyswllt gweithwyr. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer o leiaf dau weithiwr ac o leiaf un cynrychiolydd dysgwyr. Er mai dyma'r isafswm, ac nid y lefel uchaf, credwn y dylai'r Bil fod yn fwy uchelgeisiol.
Bydd gwaith y comisiwn yn sbarduno newid ar draws y sector, ac mae'n hanfodol bod llais y dysgwr a'r gweithiwr yn cael ei glywed ac yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau ar lefel uchaf y comisiwn. Yn argymhelliad 7, rydym yn galw am gynnydd yng nghynrychiolaeth y dysgwr a'r gweithiwr. Dylai'r Llywodraeth roi arweiniad clir ar sicrhau bod llais y dysgwr a'r gweithiwr wrth wraidd y comisiwn. Bydd gwell cynrychiolaeth yn arwain at wneud penderfyniadau gwell. Nid oedd y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn gweld hyn fel gwrthdaro buddiannau.
Ar hyn o bryd, mae gan gynrychiolwyr y dysgwyr a'r gweithwyr statws cyswllt heb unrhyw hawliau pleidleisio. Rydym ni'n credu y dylen nhw fod yn aelodau llawn sydd â hawliau pleidleisio, fel y nodir yn argymhelliad 8. Wrth gasglu tystiolaeth, clywsom sut, ar draws y sector, y mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn eistedd ar gyrff llywodraethu sydd â hawliau pleidleisio llawn ar hyn o bryd. O leiaf, dylai'r comisiwn fod yn cyfateb i'r arferion da presennol, neu yn wir yn mynd ymhellach. Credwn fod rhoi hawliau pleidleisio i gynrychiolwyr dysgwyr a gweithwyr yn helpu i wneud hyn.
Un o'r newidiadau mawr i'r Bil yr ydym yn ei drafod heddiw, o'i gymharu â'r Bil drafft, fu cyflwyno'r dyletswyddau strategol yn Rhan 1. Croesawyd y rhain yn gyffredinol gan randdeiliaid, ond clywsom safbwyntiau gwahanol ar sut y gellid ehangu a gwella'r rhain. Cawsom ein hargyhoeddi gan rywfaint o'r dystiolaeth hon, a arweiniodd at wneud argymhelliad 10, hyd at 19, ar y dyletswyddau strategol. Fe wnaf yn awr yn tynnu sylw'n fanylach at rai o'r argymhellion hynny.
O ran y ddyletswydd strategol ar hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg, roeddem yn teimlo y gallai'r Bil fod yn fwy beiddgar ac yn fwy unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru yn 2050 o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Bydd y sector ôl-16 yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r gwaith o gyflawni'r nod hwnnw. Rydym ni eisiau gweld y comisiwn yn chwarae rhan yn y gwaith o gynhyrchu galw ac nid dim ond ateb galw rhesymol. Mae'r sector eisoes yn dechrau o waelodlin isel o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a gyda chynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector cyn-16 gorfodol, mae angen i ni sicrhau bod digon o gapasiti i helpu dysgwyr i barhau ag addysg yn eu dewis iaith. Felly, rydym yn gwneud argymhelliad 15, yn galw am welliannau i gryfhau'r ddyletswydd ar y comisiwn i hyrwyddo addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg.
Mae'r Gweinidog wedi pwysleisio i ni bwysigrwydd sicrhau bod y sector yn canolbwyntio ar y dysgwr, a gyda hyn mewn golwg, rwy'n croesawu heddiw ymrwymiad y Gweinidog i welliannau i gyflwyno hynny i hybu llais y dysgwr. Mae argymhelliad 18 yn galw am ychwanegu'r ddyletswydd strategol hon at y Bil. Bydd hyn yn unol â bwriadau polisi'r Bil a bydd yn arwydd clir o bwysigrwydd y dysgwr yn y sector.
Gan symud ymlaen at y pwerau i wneud rheoliadau yn y Bil, mae gan y Bil dros 40 o'r rhain a bydd llawer o'r manylion ynghylch sut y bydd y Bil yn gweithredu'n ymarferol yn y rheoliadau. Yn fras, rydym ni'n credu bod hyn yn briodol a byddwn yn galluogi gwneud newidiadau yn y dyfodol, pan fo angen. Ond roeddem yn siomedig na fyddwn yn gweld unrhyw reoliadau drafft tan ar ôl i'n gwaith craffu ddod i ben. O ystyried yr amser y mae wedi'i gymryd i ddatblygu'r Bil, rydym ni'n credu y dylai rhai rheoliadau allweddol fod wedi'u cyhoeddi ar ffurf ddrafft fel rhan o waith craffu Cyfnod 1. Rydym yn rhestru'r rheini yn argymhelliad 36. Os na all y Gweinidog ddarparu rheoliadau drafft cyn diwedd y camau diwygio, byddem o leiaf yn gofyn am ragor o wybodaeth am syniadau presennol y Llywodraeth ar gynnwys tebygol y rheoliadau. Bydd hyn yn helpu i lywio'r broses o gyflwyno gwelliannau i Aelodau ac yn gwella'r broses o graffu ar y Bil. Rwy'n sylwi bod hwn yn fater y mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad hefyd wedi'i nodi yn ei adroddiad.
Fel y dywedais i, nid oes gennyf amser i ymdrin â'n holl argymhellion—fe wnaf roi blas i chi o'r meysydd eraill yr ydym ni'n ymdrin â nhw. Rydym yn galw am welliannau ar gryfhau annibyniaeth y comisiwn, pwerau ariannu a dyletswyddau, y chweched dosbarth, cynlluniau amddiffyn dysgwyr, rhannu gwybodaeth a phwerau o ran corfforaeth uwch. Mae ein hadroddiad yn eithaf manwl a hirfaith; mae'n manylu'n fanwl iawn yn y maes hwn. Anogaf bob Aelod ar draws y Senedd i ddarllen yr adroddiad cyn y camau diwygio.
I gloi, Dirprwy Lywydd, mae hwn yn Fil pwysig ac arwyddocaol a fydd, gobeithio, yn helpu i gryfhau a grymuso'r sector addysg ôl-16. Edrychaf ymlaen at symud at y camau diwygio a mynd ar drywydd gweithredu'r Bil yn nhymor nesaf y Senedd. Diolch.
Galwaf ar Alun Davies ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Rwyf yn ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd am y cyflwyniad a roddodd y prynhawn yma ac am ymddangos o flaen ein pwyllgor fis Rhagfyr diwethaf. Yn ogystal â'i ymddangosiad ym mis Rhagfyr, mae wedi ymateb i nifer o ymholiadau ychwanegol drwy ohebiaeth ac rydym hefyd yn ddiolchgar iddo am hynny.
Y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd, rwy'n cyfrannu at y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Mae'r Gweinidog wedi ymateb yn ffurfiol i'r argymhellion yn ein hadroddiad brynhawn ddoe. Dirprwy Lywydd, rydym yn cyhoeddi'r ohebiaeth honno i helpu i lywio'r ddadl y prynhawn yma.
Mae ein hadroddiad ar y Bil yn cynnwys 22 o argymhellion. Bydd yr Aelodau'n falch o glywed nad wyf yn bwriadu ymdrin â phob un o'r 22 yn y cyfraniad hwn y prynhawn yma, ond byddaf yn tynnu sylw yn hytrach at y themâu sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod ein gwaith craffu. Mae'r Bil yn cynnwys 56 o bwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, Gorchmynion, codau, rhestrau a chyfarwyddiadau, ac yn ogystal â hynny i gyhoeddi canllawiau.
Mae nifer o'n hargymhellion yn ymwneud â'n cred bod angen i'r gweithdrefnau craffu sy'n gysylltiedig â rhai o'r pwerau dirprwyedig fod yn fwy cadarn. Ar hyn o bryd, nid ydym yn credu eu bod yn rhoi digon o bwerau a chyfleoedd i Aelodau'r Senedd graffu. Er enghraifft, yn argymhelliad 12, rydym yn argymell bod angen i reoliadau a wneir o dan adrannau 39 a 41 o'r Bil fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol yn hytrach na dim gweithdrefn o gwbl. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn rhoi sylw llawn i'r argymhellion hyn pan fydd yn rhoi ymateb pellach i adroddiad ein pwyllgor, ond rwyf yn croesawu'n fawr naws yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol.
Dirprwy Lywydd, roedd pum argymhelliad yn ein hadroddiad yn gofyn i'r Gweinidog egluro rhai materion. Er enghraifft, roedd argymhelliad 11 yn gofyn i'r Gweinidog egluro a rhoi rhesymau pellach ynghylch pam nad yw'r pwerau i wneud rheoliadau yn adran 30 yn cyd-fynd â dyletswydd i ymgynghori cyn i'r pwerau gael eu defnyddio. Mae'r ymateb a gawsom ddoe gan y Gweinidog yn nodi y bydd yn ystyried ymhellach a fyddai'r pwerau hyn yn elwa o ddyletswydd ymgynghori statudol. Rwy'n croesawu yr ymrwymiad hwnnw ac edrychaf ymlaen at weld y Gweinidog yn parhau i ystyried hynny a dod i gasgliad hapus.
Mae dau argymhelliad yn ein hadroddiad, argymhellion 9 a 10, yn ymwneud ag adran 23 o'r Bil. Gofynnwyd i'r Gweinidog gadarnhau pam mae angen darpariaeth gyfreithiol ar gyfer cofrestru, yn enwedig gan ei bod yn ymddangos yn bosibl rheoleiddio darparwyr addysg drydyddol eraill drwy delerau ac amodau'r cyllid. Os oes angen darpariaeth yn y gyfraith, rydym yn argymell bod y categorïau y cyfeiriodd y Gweinidog atynt yn ystod cyfnod 1 y pwyllgorau yn ystyried y Bil yn cael eu nodi ar wyneb y Bil, gyda darpariaeth ategol sy'n galluogi ychwanegiadau a/neu addasiadau i gael eu gwneud drwy reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Unwaith eto, rwyf yn hyderus y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â'r argymhellion hyn yn llawn pan gawn ymateb pellach i adroddiad ein pwyllgor, ond, unwaith eto, hoffwn groesawu naws sylwadau agoriadol y Gweinidog.
Dirprwy Lywydd, cyn cloi, gadewch i mi roi sylwadau byr ar ddau argymhelliad yn ein hadroddiad sy'n ymwneud ag amcan ehangach ein pwyllgor o helpu i sicrhau bod y Senedd hon yn gwneud cyfraith dda. Yn gyntaf, bydd Aelodau'n gwybod mai un o'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i Fil fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yw bod yn rhaid i bob darpariaeth gydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Ddiogelu Hawliau Dynol Sylfaenol a Rhyddid. Roeddem yn siomedig fel pwyllgor gyda'r ymateb anwybodus a ddarparwyd gan y Gweinidog pan ofynnwyd sut y mae'r hawliau mynediad ac arolygu y darperir ar eu cyfer yn adrannau 62 a 72 o'r Bil yn cydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998.
Roedd ein hargymhelliad 2 yn gofyn i'r Gweinidog roi manylion llawn i'r Senedd am yr asesiadau o'r effaith ar hawliau dynol a gynhaliwyd ynglŷn â'r Bil, gan gynnwys sut y mae adrannau 62 a 72 o'r Bil yn cydymffurfio â deddfwriaeth 1998. Gweinidog, rwyf yn cydnabod eich bod wedi mynd i'r afael â'r argymhelliad hwn yn y llythyr a gawsom brynhawn ddoe, ac rydych wedi cadarnhau bod goblygiadau hawliau dynol wedi'u hystyried yn llawn a'ch bod yn fodlon bod y Bil, ac yn benodol y ddwy adran hyn, yn gydnaws â hawliau'r confensiwn. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor o'r farn nad yw hyn yr un fath â rhoi manylion llawn i'r Senedd am yr asesiadau, y dadansoddiadau a'r cyhoeddi o'r asesiadau sy'n cael eu cynnal. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod ein pwyllgor yn rhoi sylw manwl i rwymedigaethau Llywodraeth Cymru o ran hawliau dynol ac asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb.
Yn ail, mae nifer o bwerau dirprwyedig yn y Bil y mae'r Gweinidog wedi'u cynnwys am resymau hyblygrwydd ac ar gyfer y dyfodol. Fel mater o gyfraith dda, nid ydym o'r farn ei bod yn briodol i lywodraeth gymryd pwerau Gweithredol mewn Bil pan nad oes gan y llywodraeth honno unrhyw fwriad i ddefnyddio'r pwerau hynny. Rydym yn llwyr sylweddoli ei fod, i'r Llywodraeth, yn rhywbeth sy'n rhoi hyblygrwydd iddyn nhw ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, mae'n iawn ac yn briodol, wrth oruchwylio arfer pwerau Gweithredol yn ddemocrataidd gywir, mai dim ond y pwerau hynny i Weinidogion sy'n angenrheidiol i gyflawni'r ddeddfwriaeth fel y'i hysgrifennwyd y mae'r lle hwn yn eu darparu.
Roedd argymhelliad 4 yn ein hadroddiad yn gofyn i'r Gweinidog roi rhagor o fanylion ac eglurder ynghylch y pwerau mewn wyth adran o'r Bil a sut y bwriedir i Lywodraeth bresennol Cymru eu defnyddio. Rwy'n croesawu'r wybodaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ni mewn atodiad i'r llythyr a gawsom ddoe, a byddwn yn parhau i ysgrifennu at Aelodau yn darparu dadansoddiad, myfyrdodau a sylwadau pellach ar y materion hyn.
Gweinidog, pan fydd ein pwyllgor wedi ystyried eich ymateb llawn i'n hadroddiad yn ffurfiol, mae'n ddigon posibl y bydden yn dod yn ôl atoch ar rai materion. Ond ar hyn o bryd, Dirprwy Lywydd, mae hynny'n dod â barn y pwyllgor i ben.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid nawr—Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rwy’n falch o gael cyfrannu yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Rydym wedi gwneud 10 argymhelliad ac, o ystyried yr amser sydd gennyf, byddaf i'n canolbwyntio ar ein prif bryderon.
Hwn yw'r Bil cyntaf i gael ei gyflwyno yn y Senedd hon, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig cyfleu barn y Pwyllgor Cyllid y dylai'r asesiad effaith rheoleiddiol sy'n cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth fod yn arf allweddol i Lywodraeth Cymru asesu'n feirniadol amrywiaeth o ddulliau a darparu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi. Os, yn ystod ein gwaith craffu, y byddwn ni'n nodi bod angen rhagor o wybodaeth ariannol sy'n achosi newidiadau sylweddol i gostau mewn Biliau, byddwn yn gofyn i Weinidogion ymddangos gerbron y pwyllgor eto i drafod y newidiadau hynny'n llawn. Fel pwyllgor, rydym yn bwriadu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar y materion hyn, a gellir gweld y farn hon yn ein hargymhelliad cyntaf.
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn rheoleiddio ac yn darparu cyllid ar gyfer addysg uwch, tra bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny ar gyfer y sectorau addysg drydyddol eraill. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y bydd y comisiwn newydd a grëwyd gan y ddeddfwriaeth yn cyfuno'r gweithgareddau hyn yn un corff i geisio sicrhau llwybr dysgu cydlynol, a gobeithiwn y bydd hyn yn sicrhau gwell canlyniadau addysg i ddysgwyr. Fodd bynnag, rydym yn siomedig nad yw arbedion a manteision y Bil wedi'u meintioli yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, yn enwedig gan y bwriedir i'r gwaith hwn gael ei wneud yn y chwech i naw mis nesaf. Nid yw'n glir pam na wnaeth y Gweinidog y gwaith hwn cyn i'r Bil gael ei gyflwyno. Rydym yn argymell y dylid darparu esboniad llawnach o fanteision y ddeddfwriaeth hon a phryd y disgwylir i'r manteision hyn gael eu cyflawni. Clywsom yr hyn a ddywedodd y Gweinidog heddiw a bydd y pwyllgor yn adolygu unrhyw wybodaeth y bydd yn ei gyflwyno i ni.
Bydd y comisiwn newydd yn gorff hyd braich sydd â phwerau eang, gyda chyllideb sylweddol o fwy na £500 miliwn y flwyddyn. Mae costau sefydlu'r comisiwn yn seiliedig ar gyfnod o 10 mlynedd, gyda'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn datgan mai manteision y Bil sydd fwyaf tebygol o gael eu gwireddu yn y tymor canolig i'r hirdymor. Yn ystod y broses graffu, nododd y pwyllgor y tair risg ariannol fwyaf sy'n gysylltiedig â'r Bil hwn, sef lleoliad y comisiwn, nifer staff y comisiwn, a'r costau TG. Mae'n destun pryder mawr bod ffigur amrywiant o 30 y cant neu lai wedi'i ganiatáu ar gyfer costau yn y Bil, a allai olygu gwahaniaeth o £60 miliwn, o £198.5 miliwn i hyd at £258 miliwn, dros y cyfnod o 10 mlynedd. Rydym ni o'r farn bod yr amrywiant hwn yn gwbl annerbyniol. Er i'r Gweinidog ddweud nad yw'r ystod o 30 y cant yn berthnasol i bob eitem o gost, ni wnaed unrhyw ymdrech i wahaniaethu lle mae'r ystod hon yn berthnasol, felly mae'n anodd inni ddeall ble mae'r risgiau allweddol mewn gwirionedd.
Mae'r Gweinidog wedi cadarnhau y bydd grŵp strategaeth a gweithredu gyda rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector yn cael ei sefydlu i weithio drwy rhai o'r materion hyn, ond mae'n siomedig nad yw'r elfen gostau wedi'i datblygu ymhellach. Rydym yn argymell bod y Gweinidog yn gwneud rhagor o waith ar y costau ac yn diweddaru'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol i ddangos, er eglurder, pa gostau y mae'r amrywiant plws neu minws 30 y cant yn berthnasol iddynt.
O ran lleoliad y comisiwn, rydym yn cydnabod bod y pandemig wedi creu amgylchedd anos i ddewis lleoliad addas, o ystyried yr ansicrwydd yn y dyfodol mewn ffyrdd o weithio ar ôl y pandemig, yn ogystal ag anwadalrwydd y farchnad eiddo a pha safleoedd addas sydd ar gael. Fodd bynnag, o ystyried ei gyd-ddibyniaeth â chostau eraill, mae'r pwyllgor yn argymell y dylid gwneud rhagor o waith ar strategaeth lleoliad a'i heffaith ariannol fel mater o flaenoriaeth.
Costau staff yw'r gost fwyaf i'r comisiwn newydd, sy'n gyfanswm o ychydig o dan £13 miliwn y flwyddyn o 2023-24. O'r £13 miliwn hwnnw, cadarnhaodd y Gweinidog fod £3.3 miliwn yn gost newydd, tra bod y £9.7 miliwn sy'n weddill yn ymwneud â staffio presennol CCAUC a Llywodraeth Cymru. Yn dilyn hynny, rhoddodd y Gweinidog ddadansoddiad pellach o'r costau, a diolchaf iddo am hynny, ond dylai'r wybodaeth hon fod wedi bod ar gael yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol pan gafodd ei chyflwyno. Mae'r pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog yn darparu gwybodaeth am ystyriaeth y strategaeth a'r grŵp gweithredu o leoliad a niferoedd staffio'r comisiwn, gan gynnwys manylion unrhyw effeithiau ariannol sy'n deillio o waith y grŵp.
Elfen fwyaf y costau trosiannol yw £4.9 miliwn ar gyfer TG. Mae hyn yn seiliedig ar y dybiaeth, rhwng mis Ebrill eleni a mis Medi y flwyddyn nesaf, y bydd wyth ymgynghorydd TG yn cael eu cyflogi, ar gost o £900 y dydd, i helpu i drosglwyddo systemau a data CCAUC i'r comisiwn newydd. Nodwn farn y Gweinidog y byddai rhai costau TG yn cael eu hysgwyddo waeth beth fo'r diwygiad, ar gyfer uwchraddio'r systemau presennol. Felly, rydym yn argymell bod y Gweinidog yn darparu rhagor o wybodaeth am effaith ariannol defnyddio ymgynghorwyr TG.
Yn ogystal, nid yw’r asesiad effaith rheoleiddiol yn amlinellu’r costau i gyrff eraill sy’n deillio o’r Bil. Mae’n nodi eu bod yn 'anhysbys ar hyn o bryd.' Fodd bynnag, mae’r Bil yn debygol o’i gwneud yn ofynnol i’r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol newid eu gweithgarwch mewn rhai meysydd. Mae’n hanfodol bod asesiad effaith rheoleiddiol yn asesu effaith deddfwriaeth ar Lywodraeth Cymru ac ar gyrff eraill. Mae’n siomedig nad yw hyn wedi cael ei gynnwys ac, i unioni’r sefyllfa, rydym yn argymell y dylai’r Gweinidog ailasesu’r costau sy’n gysylltiedig â chyrff eraill, a hynny mewn ymgynghoriad â’r rhanddeiliaid y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw.
Llywydd, er rydym yn cydnabod y ffaith y bydd ymgynghoriad parhaus â rhanddeiliaid yn ystod taith Biliau, fel y soniais ar y dechrau, mae'r pwyllgor yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod asesiadau o gostau Biliau yn gyflawn erbyn iddyn nhw gael eu cyflwyno, nid yn unig i sicrhau bod y Senedd hon yn gallu gwneud gwaith craffu priodol, ond hefyd i sicrhau bod rhanddeiliaid y bydd y Bil yn effeithio arnyn nhw yn deall yn llawn y goblygiadau o ran adnoddau. Dylai’r costau i randdeiliaid fod yn ystyriaeth allweddol yn arfarniad Llywodraeth Cymru o’r opsiynau. Mae'n siom na chafodd mwy o waith ei wneud yn y maes hwn cyn i’r Bil gael ei gyflwyno. Gobeithio na fydd yr arfer hwn yn parhau mewn Biliau yn y dyfodol. Diolch yn fawr.
Yn amlwg, hoffem hefyd ymuno â'r Gweinidog a Chadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac wedi chwarae eu rhan i gael y Bil i'r pwynt hwn heddiw. Mae addysg yng Nghymru ar adeg dyngedfennol, ac mae'r Bil addysg ac ymchwil trydyddol, yr ydym yn gyffredinol yn cefnogi yr egwyddorion, ynghyd â'r cwricwlwm newydd a pherthnasoedd ac addysg rhywioldeb, yn newidiadau seismig a byddan nhw yn awr yn darparu'r sylfeini ar gyfer y genhedlaeth nesaf o addysg yng Nghymru. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn y tro cyntaf. Mae hon yn broses hir a chymhleth, a hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Jayne Bryant, am y ffordd y mae hi wedi cynnal trafodion yn y pwyllgor hyd yn hyn, a hefyd y Cadeiryddion eraill sydd wedi cyfrannu heddiw, a'r pwyllgorau. A hefyd y Gweinidog am ateb ein cwestiynau mor onest. Felly, diolch. Mae hyn i gyd, rwy'n falch o ddweud—wedi bod—. Rwyf yn falch o weld ei fod wedi'i ddwyn i'r Siambr heddiw i sicrhau bod y Bil ar y trywydd iawn. A hoffwn ddiolch i chi eisoes, Gweinidog, am y gwelliannau yr ydych eisoes wedi'u hamlinellu yr ydych wedi ymrwymo i'w newid. Er fy mod wedi bod yn pryderu am y cyflymder, yn amlwg, y mae hyn wedi'i gyflwyno, rwy'n credu bod angen i'r flaenoriaeth bellach fod, fel y dywedwyd, ar ei gwneud yn ddeddfwriaeth dda. Felly, hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth, ac, i raddau helaeth, fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn gynharach, mae wedi bod yn gefnogol o'r Bil yn gyffredinol, er bod rhywfaint o feirniadaeth adeiladol i'w chroesawu ar hyd y ffordd.
Fel y gwyddoch chi, mae hwn yn newid enfawr. Am y tro cyntaf yn neddfwriaeth Cymru, bydd y Bil yn sicrhau bod y canlynol i gyd mewn un lle: addysg uwch ac addysg bellach Cymru, chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, prentisiaethau, dysgu oedolion yn y gymuned, yn ogystal â'r cyfrifoldeb am ymchwil ac arloesi. Bydd y Bil yn creu ac yn rhoi pwerau comisiynu newydd i lunio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, ac yn helpu i adeiladu economi gryfach yn y dyfodol a darparu mwy o gydlyniant ar draws y sector, yr ydym ni i gyd, rwy'n siŵr, eisiau ei weld, a rhwng addysg orfodol ac ôl-orfodol mewn ysgolion, sy'n ffactor ychwanegol yr ydym ni'n ei groesawu.
Mae'r comisiwn yn debygol o fod yn sefydliad mawr a chymhleth, gyda chylch gwaith sy'n cwmpasu sector eang, felly, Gweinidog, mae'n ymddangos yn hanfodol i mi ein bod yn sicrhau bod llywodraethu'r comisiwn yn adlewyrchu ehangder y ddarpariaeth addysg ac ymchwil ac amrywiaeth Cymru, a gydnabuwyd gennych yn gynharach. Er enghraifft, cynyddu cynrychiolaeth y gweithiwr a'r dysgwr ar y comisiwn, fel yr amlinellodd Jayne Bryant yn gynharach—gobeithio, gallwch chi ein sicrhau ni heddiw fod hynny'n rhywbeth yr ydych yn bwriadu ei wneud.
Ac nid dyna'r cyfan, Gweinidog. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi ddiffinio'r hyn y mae'r Bil yn ei olygu gan 'barch cyfartal', gydag argymhellion penodol—dyna fy ngair na allaf ei wneud—i'r Bil gynnwys dyletswydd ariannu gytbwys, er mwyn sicrhau na chollir rhai rhannau o'r sectorau ôl-16. Ochr yn ochr â hyn, mae angen i ni sicrhau bod y Bil hwn yn diogelu lles dysgwyr a myfyrwyr, gan roi llais dysgwyr a myfyrwyr wrth wraidd penderfyniadau'r comisiwn, fel yr amlinellodd Jayne Bryant, unwaith eto, yn gynharach, a chynnwys dyletswydd strategol i ddarparu cydweithrediad a chystadleurwydd mewn ymchwil ac arloesi. Felly, Gweinidog, sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod lleisiau dysgwyr a myfyrwyr yn cael eu rhoi wrth wraidd y comisiwn yn y Bil hwn?
Yn ystod Cyfnod Pwyllgor y Bil, daeth yn amlwg i mi a llawer o rai eraill fod angen i chi roi mesurau diogelu ar waith ynghylch annibyniaeth y comisiwn oddi wrth y Llywodraeth, er enghraifft, drwy welliannau i sicrhau na all y Gweinidog newid cynllun strategol y comisiwn heb gytundeb y comisiwn. Gweinidog, i fod yn wirioneddol lwyddiannus, mae angen i hwn fod yn gorff hyd braich. Mae'r Bil yn dal i adael cryn dipyn o reolaeth i Weinidogion Cymru—diolch i chi am gydnabod hynny'n gynharach, Gweinidog—er enghraifft, yr opsiwn o gymeradwyo cynllun strategol y comisiwn gydag addasiadau. Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r comisiwn cyn iddynt addasu ei gynllun, ond nid oes gorfodaeth ar y ddwy ochr i gytuno. Er mwyn i'r comisiwn fod yn gredadwy, mae angen iddo fod yn annibynnol i ymddiried ynddo. Diolch am gydnabod y pryderon hyn yn gynharach, ond nid wyf yn credu eu bod yn mynd yn ddigon pell o hyd.
Rydych wedi crybwyll hyn heddiw, ond er mwyn helpu rhanddeiliaid i ddeall yn well diben y pwerau a gedwir yn ôl gan Lywodraeth Cymru, byddai'n fuddiol, Gweinidog, naill ai wrth graffu yn y dyfodol neu drwy'r Cyfarfod Llawn pe gallech nodi'r gwahaniaeth rhwng swyddogaeth Gweinidogion Cymru a swyddogaeth y comisiwn ac, yn bwysig, sut y gellir datrys unrhyw wahaniaeth barn. Felly, Gweinidog, sut ydych chi'n mynd i sicrhau'r annibyniaeth honno a lleddfu'r ofnau hynny, os gwelwch yn dda?
Mae gennyf bryderon hefyd ynghylch gweithredu'r Bil. Mae tystiolaeth gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, neu CCAUC fel yr ydym yn ei nabod, yn tynnu sylw at risg amlwg i weithredu darpariaeth y Bil heb gynlluniau clir ar waith ar gyfer ystod eang o faterion gweithredol sydd eu hangen i sicrhau llwyddiant y comisiwn. Gweinidog, nid oes llawer o fanylion am sut y bydd y Bil yn gweithio gyda'r rheoliadau. Mae angen gwybodaeth am y rheoliadau hyn cyn i drafodion Cyfnod 2 ddechrau. A fydd y wybodaeth hon yn cael ei darparu ac a fydd hynny cyn Cyfnod 2?
Gweinidog, fel y gwyddoch chi, bydd llawer iawn o lwyddiant y ddeddfwriaeth hon yn dibynnu ar ei weithredu. Ar hyn o bryd, disgwylir i'r comisiwn gael ei sefydlu yn 2023. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae'n disgwyl iddo fod ar waith bryd hynny a pha gamau sydd wedi'u cymryd i baratoi ar gyfer eu gweithredu? Edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan i ddod â'r Bil hwn a sicrhau mai dyma'r gorau y gall fod i'n dysgwyr yng Nghymru. Diolch i chi a byddwn ni'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Rwy'n falch o gyfrannu i'r ddadl ar ran Plaid Cymru a hefyd fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac rwy'n falch o nodi bod Plaid Cymru a rhanddeiliaid yn gefnogol ar y cyfan i'r Bil hwn, er y nododd pawb a oedd yn gysylltiedig â'r broses graffu feysydd i'w diwygio. Ond hoffwn adleisio'r diolch i'r Gweinidog am y modd agored y mae e wedi cydweithio ac ymateb i'r adborth a'r argymhellion.
Hoffwn ffocysu, fodd bynnag, ar rai meysydd penodol yma ble mae Plaid Cymru yn credu bod angen diwygio pellach. Y cyntaf yw'r dyletswydd strategol i hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rwy'n falch o glywed gan y Gweinidog y prynhawn yma ei fod yn cydnabod bod argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â'r ddyletswydd strategol i hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg yn argyhoeddiadol, a'i fod am ymateb i'r pryderon a godwyd gan randdeiliaid.
Croesawyd y ddyletswydd, wrth reswm, ond roedd pryderon dilys ynghylch geiriad y ddyletswydd a'r defnydd o'r term 'galw rhesymol' mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Codwyd cwestiynau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r diweddar Gomisiynydd y Gymraeg am fod y term yn wan, wedi dyddio a bod angen ei gryfhau, ac y byddai'r cysyniad o alw rhesymol yn arwain at ddiffyg cynnydd. Er bod y Gweinidog wedi dweud ei fod am i'r comisiwn ymateb i alw rhesymol, sy'n mynd y tu hwnt i gwrdd â'r galw yn unig, a sôn ei fod am wthio lefel y ddarpariaeth, edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach yn ystod Cyfnod 2 ar fanylder adlewyrchu hyn mewn termau ymarferol yn y Bil, er mwyn sicrhau geiriad sy'n gydnaws â llythyren ac ysbryd uchelgais 'Cymraeg 2050'.
Un o'r agweddau ar y Bil fel y mae sydd efallai wedi achosi'r pryder mwyaf ymysg rhanddeiliaid yw'r un sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech. Bydd y comisiwn yn gallu rhoi cyfarwyddyd mewn rai amgylchiadau fod chweched dosbarth mewn ysgolion yn cael eu sefydlu neu eu terfynu. Roedd llawer o randdeiliaid yn pryderu y gallai'r cyfrifoldebau hyn arwain at ddileu atebolrwydd lleol am yr elfen unigryw hon o'r ddarpariaeth addysg, gan danseilio rôl awdurdodau lleol a'u hysgolion fel darparwyr addysg drydyddol.
At hynny, dywedodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eraill mai chweched dosbarth mewn llawer o ardaloedd yw'r unig le y gall dysgwyr ôl-16 gael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg cyflawn. Galwyd am sicrhau o fewn y Bil fod ystyriaeth o'r effaith ar yr iaith yn lleol ac effaith ar gyflawni strategaeth 'Cymraeg 2050', bod hynny o fewn y Bil. Rwy'n clywed yr hyn sy'n cael ei ddweud am ddibynnu ar ddarpariaethau presennol o fewn a thu hwnt i'r Bil i warchod yr elfen ganolog hon o addysg Gymraeg a strategaeth y Gymraeg. Fodd bynnag, ble mae'n dod at fater y Gymraeg, mae angen yr amddiffyniad mwyaf clir, y strwythur deddfwriaethol mwyaf cadarn, y cynsail mwyaf amlwg, y nod mwyaf digamsyniol. O dderbyn yr egwyddorion cyffredinol heddiw, bydd cyfle pellach yn ystod Cyfnod 2 i roi sylw manylach i'r angen am welliannau pellach i'r Bil i'r cyfeiriad yma, gobeithio.
Gan symud ymlaen wedyn at berthynas y comisiwn â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae'r coleg wedi nodi dyletswyddau'r comisiwn mewn perthynas â'r Gymraeg a dweud bod y rhan fwyaf o'r dyletswyddau hynny o fewn cylch gwaith y coleg a bod angen mwy o eglurder ar y meysydd lle byddai cydgyfrifoldeb, gan awgrymu y byddai'n fuddiol cael mwy o gyfranogiad uniongyrchol gan y coleg mewn prosesau cynllunio a bod cyfrifoldebau ariannu wedi'u datganoli i'r coleg. Rwy'n croesawu, felly, fod y Gweinidog am gynnig mwy o eglurder yn hyn o beth, ac edrychaf ymlaen at glywed y manylion ganddo am sut y bydd y berthynas bwysig hon yn cael ei hadlewyrchu'n fwy cadarn yn y Bil.
Mae undebau llafur wedi galw am ychwanegu dyletswydd strategol ar bartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg at y Bil, o gofio y byddai'n cyd-fynd â holl amcanion y Bil. Gwnaethon nhw hi'n glir i ni yn y pwyllgor ei bod yn bwysig cyfeirio'n benodol at y Bil hwn, yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) disgwyliedig, gan y byddai'n atgyfnerthu bod partneriaethau cymdeithasol yn gymwys ar draws y sector addysg drydyddol. Rwy'n falch, felly, o glywed y Gweinidog yn ailadrodd heddiw yr hyn a ddywedodd wrth y pwyllgor, y byddai'r comisiwn yn ddarostyngedig i'r ystod lawn o ddyletswyddau partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg a gaiff eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth honno, ac y bydd yn archwilio'r argymhelliad ar bartneriaeth gymdeithasol ymhellach. Yn unol â sefyllfa'r undebau a'r pwyllgor, byddai Plaid Cymru yn annog y Gweinidog i warantu hyn drwy ychwanegu'r ddyletswydd strategol ychwanegol hon at y Bil.
Ac, yn olaf, dros yr wythnosau diwethaf, bydd y Gweinidog yn ymwybodol y bu nifer o gynigion polisi o du San Steffan a oedd yn cynnwys cynnig i gyfyngu ar gymhwyster ar gyfer cyllid myfyrwyr mewn modd a fyddai'n effeithio ar fynediad at gyfleon addysgol drydyddol. Hoffwn wybod, felly, beth sy'n cael ei gynllunio gan y Gweinidog i sicrhau na fydd unrhyw newidiadau yn Lloegr yn cael effaith ar y cynlluniau ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru. Yn benodol, sut y bydd cyfleon i bobl, beth bynnag eu cefndir, yn cael eu hamddiffyn? Diolch.
Mae hon yn ddadl ddiddorol iawn ar bwnc pwysig iawn. Mae gan fy etholaeth i dair prifysgol ynddi, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn iawn, nid yn unig i ardaloedd unigol ond hefyd i Gymru gyfan, oherwydd mae'n amlwg bod angen i ni sicrhau bod gennym y sector trydyddol gorau posibl i'n symud ymlaen yn yr amgylchiadau heriol iawn hyn.
Mae gan Brifysgol Rhydychen, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Gatholig Louvain yng Ngwlad Belg, Prifysgol Helsinki yn y Ffindir a Phrifysgol Mondragon yn Sbaen i gyd un peth yn gyffredin: mae gan bob un ohonyn nhw lywodraethu democrataidd. Maen nhw i gyd yn bodloni pum prawf Tony Benn o atebolrwydd democrataidd i'r rheini sydd yn swyddi uchaf eu prifysgolion: pa bŵer sydd gennych, o ble y gwnaethoch ei gael, er budd pwy ydych chi'n ei arfer, i bwy yr ydych yn atebol, ac, yn bwysicaf oll, sut y gallwn ni gael gwared arnoch chi. Felly, mae'n amlwg yn bwysig gofyn sut mae'r Bil hwn yn mynd i'r afael â llywodraethu a chryfhau llywodraethu ein prifysgolion, o ystyried rhai o'r problemau eithaf amlwg a gafwyd mewn llawer o'n prifysgolion, a sicrhau bod prifysgolion yn cael yr arweinyddiaeth orau gyda'r ystod ehangaf o arbenigedd i fynd gyda hynny.
Dros y penwythnos, cadeiriais gyfarfod yn Llandudno a oedd yn ymwneud â gweithio o bell. Cafwyd cyflwyniad rhagorol gan yr Athro Alan Felstead o Brifysgol Caerdydd, a oedd yn nodi cymhlethdod y penderfyniadau y mae'n rhaid i unrhyw brifysgol eu gwneud yn ein byd ar ôl y pandemig, ac y mae gennym argyfwng hinsawdd ar y gorwel ar ben hynny. Felly, er enghraifft, a yw'n iawn mynd ati i adeiladu llawer mwy o adeiladau pan fydd llawer o fyfyrwyr yn gweithio o bell o gartref ar gyfer llawer o'u gwaith, fel y mae'r tiwtoriaid? Felly, sut ydym ni'n ein hatal rhag adeiladu adeiladau diangen pan nad ydym yn gwbl sicr am y ffordd y byddwn ni'n astudio ac yn gweithio yn y dyfodol?
Mae angen i ni sicrhau bod gennym y llywodraethu gorau posibl ac nad ydym yn gwneud penderfyniadau a all, o bosibl, effeithio'n andwyol ar brifysgolion. Er enghraifft, gwnaeth Prifysgol Aberystwyth fuddsoddiadau eithaf trychinebus mewn campws ym Mauritius, a gostiodd tua £1 miliwn iddyn nhw, yn seiliedig ar ragdybiaeth y byddai nifer fawr iawn o fyfyrwyr eisiau cofrestru. A phan na ddigwyddodd hynny, gallai fod wedi bod yn ddifrifol iawn ar gyfer dyfodol y brifysgol. Yn ffodus, maen nhw wedi adfer, ond yn ymarferol mae pob prifysgol y gallwch chi feddwl amdano wedi bod â rhai problemau heriol iawn i'w hwynebu yn y gorffennol.
Felly, rwyf eisiau deall sut y mae'r Bil hwn yn cyd-fynd â'r Bil partneriaethau cymdeithasol a chaffael y byddwn ni'n craffu arnyn nhw maes o law, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei olygu gan 'reoleiddio gydag ymreolaeth'. Rwy'n ei chael yn anodd gweld i ble'r ydym yn mynd yn y memorandwm esboniadol. Mae gennym gryn dipyn o wybodaeth am lywodraethu'r comisiwn ar gyfer addysg drydyddol, ond nid wyf yn glir o gwbl sut y gallai hyn wella llywodraethu ein prifysgolion yn ystyr y cyfaill beirniadol hwnnw y mae angen i bob sefydliad democrataidd ei gael, er mwyn sicrhau bod yr ystod lawn o safbwyntiau sy'n ystyried buddiannau staff yn cael eu hystyried, myfyrwyr a'r gymuned ehangach. Felly, sut y mae'r Bil hwn yn mynd i sicrhau bod prifysgolion yn cael y llywodraethu gorau? A beth yw'r swyddogaeth y credwch y bydd y comisiwn yn ei chael? Mae'n amlwg eich bod eisiau i'r comisiwn wella ein sefydliadau ymchwil a'u henw da, ond nid yw'n glir o gwbl sut y byddan nhw'n gwneud hynny os nad ydym yn mynd i'r afael â llywodraethu prifysgolion.
Yn groes i rai o sylwadau agoriadol Sioned Williams, nid wyf i'n credu bod unrhyw beth yn agos at unfrydedd yn y sector, ymhlith rhanddeiliaid, ynglŷn â'r angen am y Bil hwn, ac fe ddes i ar draws, drwy drafodaeth, lawer o randdeiliaid a ddywedodd wrthyf nad oes gwir angen Bil i gyflawni'r hyn yr ydych chi eisiau ei gyflawni. Ond yna, rydych chi naill ai'n comisiynu adroddiad gan Ellen Hazelkorn ac yn gwrando arno, neu nid ydych yn gwneud hynny. Roedd adroddiad Hazelkorn, a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2016, yn glir iawn y byddai angen deddfwriaeth er mwyn darparu sector addysg di-dor yn barod ar gyfer 2030, ac rwy'n credu bod y Llywodraeth, a hynny'n briodol, wedi penderfynu gwrando ar argymhellion yr adroddiad hwnnw wrth greu'r Bil hwn. Ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, y byddai'r Bil hwn wedi cael ei gyflwyno'n llawer cynt yn y Senedd flaenorol oni bai am Diamond, Donaldson a'r pandemig. Byddem ni wedi gweld y Bil hwn yn cael ei gyflwyno, efallai ar ffurf ychydig yn wahanol, gan Aelod gwahanol o blaid wleidyddol wahanol, ond byddai wedi digwydd, oni bai am y pethau hynny.
Felly, rwy'n credu bod y Gweinidog, gan ymgymryd â'r her hon, wedi wir wynebu her, ac mae'n glod i'w allu rhesymegol i wrando, ymgysylltu, a chysylltu â rhanddeiliaid bod yr anfodlonrwydd a allai fod wedi bod allan yno wedi'i leihau rhywfaint ac yn awr rydym yn gweld ymgysylltiad ymarferol gan y sector â'r Bil hwn. Ac a gaf i ddweud, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion, fod y Gweinidog wedi mynychu sesiwn holi ac ateb drylwyr, awr o hyd gyda rhanddeiliaid, ac atebodd bob un cwestiwn a ofynnwyd iddo, ac roedd llawer ohonyn nhw. Gwnaeth y manylion a ddarparodd yr atebion hynny argraff arnaf, a gallaf weld, yn yr ymateb a roddodd yn ei ddatganiad agoriadol heddiw, fod llawer o'r cwestiynau hynny wedi cael eu hateb ganddo, ac mae hynny'n beth cadarnhaol iawn i'w weld.
Felly, yn gyntaf oll, o ran ymchwil ac arloesi, dywedodd yn ei sylwadau agoriadol y byddai gwelliannau'n cael eu cyflwyno i gryfhau'r ddyletswydd ymchwil ac arloesi yn y Bil. Dywedodd y byddai gwelliannau i gryfhau ymreolaeth sefydliadol. Byddai'n ddiddorol clywed a fyddai hynny'n ddyletswydd gyffredinol neu a fyddai hynny'n welliannau penodol, ac rwy'n credu bod angen i ni weld beth fyddai'r gwelliannau hynny.
Ac rwy'n credu fy mod yn deall na fyddai'r pŵer i ddiddymu mathau penodol o sefydliadau, y corfforaethau addysg uwch hynny, yn rhan o'r Bil. Felly, a gaf i rhywfaint o eglurhad yn y fan yna? Oherwydd yr hyn y gallech chi ei wneud yn y pen draw yw y gellid diddymu corfforaethau addysg uwch heb gydsyniad y sefydliadau hynny, tra na fyddai mathau eraill o sefydliadau yn ddarostyngedig i hynny. Felly, a yw'n mynd i ddileu'r pŵer hwnnw o'r Bil, neu a oes ffordd arall o'i ddiwygio?
Unwaith eto, fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol, mae cwestiynau o hyd am y system gofrestru hon, sydd eisoes wedi'u codi, yn enwedig gan Gadeiryddion y pwyllgorau. Yn benodol, ai'r bwriad yw i'r comisiwn allu pennu amodau cofrestru gwahanol ar gyfer darparwyr unigol? Ac a oes unrhyw risg y gallai hyn arwain at drin sefydliadau'n wahanol neu'n annheg? Felly, mae hwnnw'n gwestiwn allweddol yr hoffwn i'r Gweinidog ei ateb yn ei ymateb.
Yn olaf, rwy'n dod at sylwadau Jenny Rathbone. Fe wnes i gyfarfod â chynrychiolwyr Undeb y Prifysgolion a'r Colegau, a gododd y mater hwnnw o ddemocrateiddio sefydliadau unigol hefyd. Tybed a allai fod gan y Gweinidog ddiddordeb mewn cyfarfod â chynrychiolwyr yr undeb i siarad am hynny, ac efallai y byddaf i a Jenny Rathbone eisiau cael cyfarfod ag ef i siarad am y mater hwn o ddemocrateiddio. Mae'n un diddorol, yn enwedig pumed prawf Tony Benn: sut mae cael gwared arnoch chi? Byddai'n beth diddorol gweld is-gangellorion yn meddwl tybed a fyddai eu cyrff llywodraethu yn gofyn y cwestiwn hwnnw, 'Sut mae cael gwared arnoch chi?' Ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylai unrhyw un sydd mewn grym ofni'r union gwestiwn hwnnw, fel y gwnawn ni i gyd, ac rydym newydd ei wneud mewn etholiad a wynebwyd gennym y llynedd.
Felly, dyma rai cwestiynau allweddol y mae'r Gweinidog wedi gwneud rhywfaint i'w hateb. Unwaith eto, diolch iddo am ei agwedd gadarnhaol, a hefyd am yr holl waith y mae'r pwyllgorau wedi'i wneud wrth ymchwilio i'r gwelliannau hynny. Ond yr hyn y gallaf i ei weld ar draws y Siambr yw ymagwedd gadarnhaol gyffredinol at y Bil hwn, sydd i bob golwg yn ennyn cefnogaeth, ac rwy'n credu bod hynny'n glod i'r Gweinidog.
Y Gweinidog nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am eu sylwadau adeiladol a meddylgar heddiw. Byddaf yn ymdrechu i ymateb i gynifer o bwyntiau ag y gallaf, ond nid wyf yn siŵr a fyddaf yn gallu ailadrodd natur gynhwysfawr yr ymatebion y cyfeiriodd Hefin David atyn nhw yn garedig yn ei gyfraniad.
Siaradodd Jayne Bryant am yr angen am sector cryfach a mwy cadarn, y mae'r Bil hwn yn cyfrannu ato, a'r angen am ddeddfwriaeth er mwyn gwneud hynny. Rwy'n ddiolchgar iddi am y sylw hwnnw ac am ei chroeso i'r Bil. O ran y pwynt a wnaeth ynglŷn â chyfansoddiad, mae hwn yn fater sy'n bwysig i mi, a bydd yn gwybod bod darpariaeth yn y Bil i sicrhau y bydd yr ystod o sgiliau a phrofiad sy'n ymddangos ar draws pob rhan o'r sector yn ofyniad i Weinidogion ymgysylltu â nhw wrth wneud penodiadau. O ran yr uchelgais a ddisgrifiodd ynghylch aelodaeth gyswllt, fe wnaf edrych ar gyd-destun y memorandwm esboniadol ynghylch sut y gallwn ni egluro ein disgwyliadau a'n huchelgeisiau fel Llywodraeth yn y maes hwnnw.
Gwnaeth rai pwyntiau ynglŷn â dyletswyddau strategol. Adleisiwyd rhai ohonyn nhw gan Laura Jones a Sioned Williams hefyd, ac rwy'n gobeithio y bydd yr ymatebion a roddais ar y dechrau yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i bob un o'r tair Aelod hynny.
Diolch i Sioned Williams am gydnabod bod geiriad y dyletswydd o ran y Gymraeg, yn fy marn i o leiaf, yn annog y comisiwn i fod yn uchelgeisiol, ond wrth gwrs rŷn ni'n derbyn bod cyfle i edrych eto ar hwnnw.
O ran y cwestiwn ynghylch darparu rheoliadau wrth graffu ar y Bil, mae'n ofynnol yma, rwy'n credu, i sicrhau bod y rheoliadau'n rhoi cyfle i randdeiliaid ymgysylltu'n llawn â'r hyn a gynigir, a hefyd i'r rheoliadau adlewyrchu'r gwelliannau a wneir i'r ddeddfwriaeth wrth iddi gael ei phasio drwy'r Siambr hon. Felly, bydd hynny'n gyd-destun, rwy'n credu, ar gyfer yr ymateb yr ydym ni wedi'i roi ynglŷn â'r pwynt hwnnw.
Gwnaeth Alun Davies nifer o bwyntiau ar y trefniadau craffu ar gyfer y Senedd o ran y Bil. Rhai o'r argymhellion, byddaf i'n gallu eu derbyn, rhai ohonynt rwyf yn eu hystyried ar hyn o bryd, a byddwn ni'n gallu ysgrifennu'n llawnach at y pwyllgor ar hynny maes o law. O ran rheoleiddio drwy gofrestru, rwy'n gobeithio bod y pwyntiau y gwnes i yn fy araith agoriadol wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â hynny. Mae'r datganiad o fwriad polisi yn nodi polisi'r Llywodraeth o ran hynny, ac rwy'n gobeithio eto bod hynny'n rhoi rhywfaint o gyd-destun ar gyfer yr ymateb i'r argymhelliad. Gallaf roi sicrwydd iddo y byddaf yn diweddaru'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb y cyfeiriodd ato yn ei sylwadau.
Peredur Owen Griffiths, ynglŷn â phryderon y Pwyllgor Cyllid, byddaf yn diweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol ar ôl Cyfnod 2. Roedd yn ddigon da i gyfeirio at fy nhystiolaeth ynglŷn â'r amrywiant, a bydd yn cofio fy mod wedi gwneud pwynt am ddoethineb darparu'r costau mwyaf posibl o ran yr eitemau hynny. Gallaf gadarnhau bod y grŵp strategaeth a gweithredu eisoes wedi'u sefydlu a'i fod eisoes wedi cyfarfod, ond ni fydd yn edrych ar y pwyntiau gweithredol manwl yr oedd yn eu gwneud yn ei gyfraniad, am y rheswm syml mai penderfyniadau y bydd angen i'r comisiwn ei hun eu gwneud yw'r rhai hynny ac y mae ganddyn nhw hawl i'w gwneud maes o law.
O ran y cyfraniadau eraill, hoffwn ddweud ynglŷn â'r pwyntiau yr oedd Laura Jones yn eu gwneud ynghylch gweithredu y byddwn ni'n rhoi rhagor o wybodaeth i'r pwyllgor am gynlluniau gweithredu. Fel y gŵyr hi, fy mwriad yw sefydlu'r comisiwn yn 2023 ond i'r cyfrifoldebau gael eu caffael yn ystod y flwyddyn honno, 2024 ac efallai hyd yn oed hyd at ddechrau 2025. Ond byddwn ni'n gallu darparu mwy o wybodaeth ar hynny.
Gwnaeth Sioned Williams bwyntiau pwysig iawn ynglŷn â'r chweched dosbarth, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a phartneriaeth gymdeithasol, a gobeithio bod y pwyntiau y gwnes i yn fy araith agoriadol wedi mynd beth o'r ffordd, o leiaf, i'w sicrhau ar y pwyntiau hynny.
Gwnaeth Jenny Rathbone a Hefin David bwyntiau ar lywodraethu. Gallaf sicrhau Jenny Rathbone y bydd sicrwydd ynghylch llywodraethu yn rhan bwysig o'r drefn gofrestru. O ran y pwynt a wnaeth Hefin David am feini prawf cofrestru gwahaniaethol, rwy'n credu bod hynny'n bodoli er mwyn rhoi hyblygrwydd i'r comisiwn sicrhau canlyniadau cyfartal, hyd yn oed pan fydd y rheini'n gofyn am ffyrdd gwahanol o ymateb i amgylchiadau unigol.
Gobeithio y bu hynny o gymorth i'r Aelodau, a gobeithio y bydd yr Aelodau o'r farn y gallan nhw gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) sydd nesaf. Felly, dwi'n galw ar y Gweinidog unwaith eto i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7951 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Does gyda fi ddim siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig yma o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r cynnig? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yna hefyd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Rŷn ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Felly, byddwn ni'n cymryd toriad byr tra'n bod ni'n paratoi ar gyfer y bleidlais yn dechnegol.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:32.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:36, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, y ddadl ar yr ail gyllideb atodol 2021-22. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 27, 25 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.
Eitem 6. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2021 i 2022: O blaid: 27, Yn erbyn: 0, Ymatal: 25
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, sef y ddadl ar ddiwygiad i setliad llywodraeth leol 2021-22. Dwi'n galw am bleidlais nawr ar y cynnig gan Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, 12 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi'i dderbyn. A dyna ni ddiwedd ar y pleidleisiau y prynhawn yma.
Eitem 7. Dadl: Diwygiad i Setliad Llywodraeth Leol 2021-22: O blaid: 40, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig
A dyna ni ddiwedd ar y pleidleisiau y prynhawn yma.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:37.
Eleni, ym mlwyddyn fy Jiwbilî Platinwm, mae wedi rhoi pleser o’r mwyaf i mi adnewyddu'r addewid a wnaed gennyf ym 1947, sef y byddaf yn ymroi fy mywyd mewn gwasanaeth.
Heddiw, mae’n bleser gweld Cymanwlad fodern, fywiog a chysylltiedig sy’n cyfuno cyfoeth o hanes a thraddodiad â datblygiadau cymdeithasol, diwylliannol a thechnolegol mawr ein hoes. Mae'r ffaith bod y Gymanwlad yn sefyll yn dalach fyth yn glod i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â hi.
Cawn ein maethu a’n cynnal gan ein perthnasoedd a, thrwy gydol fy mywyd, rwyf wedi mwynhau’r fraint o glywed beth mae’r perthnasoedd a ffurfiwyd ledled y Gymanwlad, yn ei holl amrywiaeth, wedi’u golygu i bobl a chymunedau.
Mae ein teulu o genhedloedd yn parhau i fod yn bwynt o gysylltiad, cydweithrediad a chyfeillgarwch. Mae'n lle i ddod at ei gilydd i fynd ar drywydd nodau cyffredin a llesiant cyffredin, gan roi cyfle i bawb wasanaethu a chael budd. Yn y cyfnod anodd hwn, fy ngobaith yw y gallwch gael nerth ac ysbrydoliaeth o’r hyn rydym yn ei rannu, wrth inni weithio gyda’n gilydd tuag at ddyfodol iach, cynaliadwy a llewyrchus i bawb.
Ac ar y diwrnod arbennig hwn i'n teulu—yn ystod blwyddyn a fydd yn cynnwys Cyfarfod Penaethiaid Llywodraethau'r Gymanwlad a Gemau'r Gymanwlad—rwy'n gobeithio y gallwn gadarnhau eto ein penderfyniad i gefnogi a gwasanaethu ein gilydd, ac ymdrechu i sicrhau bod y Gymanwlad yn parhau i fod yn rym dylanwadol er daioni yn ein byd am genedlaethau lawer i ddod.