Y Cyfarfod Llawn
Plenary
18/01/2022Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau'r cyfarfod yma o'r Senedd, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.
Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joel James.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o unrhyw sgil-effeithiau negyddol o weithredu'r cynllun gweithredu teithio llesol i Gymru? OQ57458
Llywydd, yn ein hasesiad ni, mae enillion cadarnhaol y cynllun gweithredu teithio llesol yn llawer mwy nag unrhyw sgil-effeithiau negyddol. Mae'n un o ofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ei fod yn cael ei adolygu erbyn diwedd 2022. Bydd yr adolygiad hwnnw yn nodi unrhyw faterion gweithredu y mae angen mynd i'r afael â nhw.
Diolch, Prif Weinidog. Yn ddiweddar, mae nifer o grwpiau wedi cysylltu â mi yn pryderu yn fawr am y cynllun teithio llesol a'r effaith y mae ei gweithredu yn ei chael lle mae'n achosi problemau diogelwch ac anawsterau i bobl o ran eu hiechyd a'u llesiant. Un mater penodol sydd wedi ei godi yw bod lonydd beicio dynodedig naill ai'n cael eu hymgorffori yn y palmant, neu wrth ymyl y palmant ac ar yr un lefel ag ef. I'r rhai sydd â phroblemau golwg neu sydd wedi eu cofrestru yn ddall, gall hon fod yn sefyllfa frawychus, yn enwedig i bobl sy'n defnyddio ffyn gwyn neu'n defnyddio cŵn tywys i'w helpu. Pan fydd y cwrb wedi ei ddileu, nid yw cŵn tywys yn gallu gwahaniaethu rhwng yr hyn sy'n ffordd, yn lôn feicio neu'n balmant. Un enghraifft nodedig a lleol yw'r safle bws ar hyd Plas Dumfries yng Nghaerdydd. Pan fyddwch chi'n camu oddi ar y bws, rydych chi'n camu yn syth ar lôn feicio las ddynodedig ac nid palmant, ac mae pobl â nam ar eu golwg mewn perygl o fod mewn gwrthdrawiad â beicwyr. Yn ogystal â hyn, nid oes ganddyn nhw unrhyw ffordd o benderfynu ble mae'r ffordd neu'r palmant yn dechrau chwaith, sydd wedi arwain at achosion o'r rhai sy'n dioddef colled i'w golwg yn cerdded yn syth i'r ffordd. I rywun sydd â phroblemau golwg, mae hwn yn brofiad dryslyd a brawychus iawn.
Ceir problemau hefyd y mae marchogion ceffylau yn eu hwynebu. Er enghraifft, mae llwybrau ceffylau wedi eu hisraddio i lwybrau troed a lonydd beicio ar gyfer y cynllun teithio llesol, gan orfodi marchogion i fynd ar y ffyrdd er mwyn cael mynediad at lwybrau marchogaeth addas, sydd yn ei dro yn dod â nhw i gysylltiad â thraffig ffyrdd trwm, weithiau gyda chanlyniadau marwol a pheryglus, fel y gwrthdrawiad diweddar rhwng fan a cheffyl a marchog yn Nhonyrefail, sydd wedi arwain at y marchog yn cael ei dderbyn i'r ysbyty gydag anafiadau lluosog.
Rwy'n siŵr y byddwch chi mor bryderus â minnau am rai o'r canlyniadau negyddol hyn, a gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi bod Llywodraeth Cymru wedi asesu anghenion pawb yn ddigonol yng nghyswllt y cynllun teithio llesol, oherwydd, yn amlwg, ceir grwpiau nad ydyn nhw wedi eu hystyried? Diolch.
Llywydd, rwy'n diolch i Joel James am nodi mater pwysig, ond mater sy'n adnabyddus iawn i Lywodraeth Cymru. Mae rhannu lle ar y briffordd, ar y palmant, yn fater sydd wedi ei godi a'i drafod yn ein hymgysylltiad ein hunain â grwpiau sy'n cynrychioli pobl anabl, gan gynnwys y rhai sydd â phroblemau golwg. Mae'r gwaith penodol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, wrth gwrs, yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol, nid yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n darparu'r cynllun a'r canllawiau, ac yna mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau sydd weithiau'n gymhleth, pan fo lle yn brin, o ran y ffordd orau o'i ddefnyddio. Ac weithiau mae hynny yn golygu bod yn rhaid rhannu'r defnydd o le. Mae hynny yn wir am farchogion ceffylau hefyd.
Bydd fersiwn newydd o reolau'r ffordd fawr yn cael ei chyhoeddi ym mis Chwefror Llywydd. Mae honno, wrth gwrs, yn ddogfen i'r DU gyfan, ac mae'n rhoi sylw uniongyrchol bellach i'r materion hyn ac yn nodi hierarchaeth o ddefnyddwyr mewn mannau a rennir, er mwyn i bobl sy'n sefyll eu profion gyrru ac yn dod yn ddefnyddwyr newydd o'r ffordd fod â chanllawiau newydd i wneud yn siŵr, pan fo angen mwy nag un defnydd o unrhyw le ar y briffordd, ar y palmant, fod hierarchaeth eglur o anghenion pwy y mae'n rhaid eu diwallu yn gyntaf. Ac mae'r egwyddor sydd wedi ei defnyddio wrth ailddrafftio rheolau'r ffordd fawr yn ymddangos yn un synhwyrol i mi gan ei bod yn rhoi anghenion y defnyddwyr mwyaf agored i niwed ar frig yr hierarchaeth honno. Nawr, bydd yr adolygiad y cyfeiriais ato yn fy ateb cyntaf, Llywydd, yn gyfle i edrych ar y materion hyn eto. A gallaf i sicrhau'r Aelod y byddwn yn gofyn barn y bobl hynny sydd wedi nodi'r problemau gweithredu hynny ac yn ceisio mynd i'r afael â nhw eto yn rhan o'r adolygiad hwnnw.
Prif Weinidog, rwy'n falch o weld y cwestiwn hwn, ac, yn sicr, mae'r grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol wedi sefydlu panel arbenigol i helpu i hysbysu'r Llywodraeth am safbwyntiau rhanddeiliaid o ran yr adolygiad hefyd. Ond a gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am ei hymgysylltiad ar yr agenda hon? Maen nhw wedi ei gwthio i fyny'r agenda yn wirioneddol. Mae'r buddsoddiad wedi cynyddu yn sylweddol, ac mae llawer o awdurdodau lleol yn manteisio i'r eithaf ar hyn drwy geisiadau llwyddiannus am gyllid teithio llesol a chyllid llwybrau mwy diogel ar gyfer cynlluniau yn eu hardaloedd. Yn fy ardal i, Pen-y-bont ar Ogwr i Bencoed—[Anghlywadwy.]—Betws i barc gwledig Bryngarw, ac mae hyn yn ychwanegu at sawl blwyddyn o geisiadau llwyddiannus. Ond dyma fy mhwynt, Prif Weinidog: beth allwn ni ei wneud fel Llywodraeth i helpu'r awdurdodau lleol hynny, y mae newydd gyfeirio atyn nhw, efallai nad oes ganddyn nhw'r arbenigedd mewnol, efallai nad oes ganddyn nhw'r hanes o geisiadau llwyddiannus am lwybrau mwy diogel neu am rwydweithiau a mapiau teithio llesol, i'w helpu i gael ceisiadau llwyddiannus hefyd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n lledaenu'r manteision ar draws ardaloedd trefol a gwledig hefyd, a hefyd, yn olaf, cynnal y buddsoddiad hwnnw mewn llwybrau troed, palmentydd, a hefyd y rhwydwaith ffyrdd, sydd hefyd yn allweddol i gerdded a beicio? Diolch yn fawr.
Llywydd, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiynau.
Rwy'n credu mai un o'r ffyrdd y mae'r arian yr ydym ni'n ei ddarparu i awdurdodau lleol wedi ei ddatblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw ein bod ni bellach yn darparu dyraniad craidd i awdurdodau lleol, yn ogystal â'r arian prosiect y gallan nhw wneud cais amdano. Ac oherwydd y bu cynnydd mor barhaus i fuddsoddiad mewn teithio llesol, mae darparu dyraniad craidd yn helpu awdurdodau lleol i ddatblygu'r capasiti a'r arbenigedd mewnol i'w caniatáu i gael rhagor o gyllid canolog ar gyfer y cynllun o'r ansawdd gorau. Nawr, rwy'n cydnabod y pwynt pwysig hwn y mae Huw Irranca-Davies yn ei wneud—bod sgiliau arbenigol sydd eu hangen weithiau y tu hwnt i gwmpas awdurdod unigol. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i weld sut y gallan nhw sicrhau bod rhywfaint o'u harbenigedd ar gael i awdurdodau lleol, ond gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd, rhag ofn y bydd cyfle i gael rhywfaint o arbenigedd cyffredin, ar draws ffiniau awdurdodau lleol, y gall awdurdodau lleol eu defnyddio pan fyddan nhw'n bwriadu datblygu cynlluniau sydd angen y sgiliau ychwanegol hynny.
Llywydd, a gaf i ddiolch i'r grŵp trawsbleidiol am y gwaith maen nhw'n ei wneud, ac yn arbennig am yr hyn y dywedodd ei Gadeirydd y bydden nhw'n ei wneud i helpu i wneud yn siŵr bod yr adolygiad o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn cael ei hysbysu cystal â phosibl gan safbwyntiau pobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn? Rwy'n eithaf sicr y byddan nhw'n sôn am y teithiau bob dydd hynny sy'n cael eu gwneud mewn ardaloedd gwledig yn ogystal ag mewn ardaloedd trefol, a phwysigrwydd llwybrau troed, palmentydd, ac yn y blaen. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu £7.8 miliwn yn rhagor o gyllid i awdurdodau lleol yr haf diwethaf, yn benodol ar gyfer gwelliannau cyflym y gellid eu gwneud i amodau ar gyfer cerdded a beicio diogel. Ac rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â'n cynllun i fynd i'r afael â pharcio ar balmentydd—mater arall y mae'r grwpiau y mae Joel James yn cyfeirio atyn nhw yn aml, rwy'n gwybod, gydag Aelodau'r Senedd. Os ydych chi'n rhannol ddall, os ydych chi'n ceisio cerdded gyda bygi, os ydych chi mewn cadair olwyn, yna mae parcio ar y palmant yn un arall o'r rhwystrau teithio llesol hynny y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw. Ac rwy'n siŵr y bydd y materion hyn yn flaenllaw yn y gwaith ymgysylltu y mae'r grŵp trawsbleidiol wedi ymrwymo i'w arwain.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithrediad y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? OQ57472
Rwy'n diolch i Ken Skates, Llywydd, am y cwestiwn yna. Rydym yn croesawu cytundeb terfynol yr adolygiad rhynglywodraethol ym mhedwaredd flwyddyn galendr y broses honno. Nawr mae angen Llywodraeth y DU arnom sy'n gallu cyflawni ei chyfrifoldebau yn hytrach nag un sydd wedi ei pharlysu gan argyfyngau sy'n datblygu mewn Downing Street gwbl gamweithredol.
Diolch, Prif Weinidog. Fel chithau, rwy'n croesawu'r cytundebau ar ganlyniad terfynol yr adolygiad rhynglywodraethol, unwaith eto, o'r diwedd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud. Ond wrth gwrs, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, dim ond os ydyn nhw'n sefydlog ac yn canolbwyntio yn llwyr ar wasanaethu lles y cyhoedd y gall llywodraethau weithredu yn effeithiol. Mae wedi peri pryder darllen am y partïon, yr achosion o dorri cyfraith y cyfyngiadau symud, a sefyllfa arweinyddiaeth ansicr y Prif Weinidog, a'r cyfan, mae arnaf i ofn, yn creu'r perygl, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, o barlysu Llywodraeth y DU ac felly'n tanseilio'r cysylltiadau rhynglywodraethol tan y bydd arweinydd newydd. Prif Weinidog, a allwch chi gynnig unrhyw sicrwydd i ni fod Llywodraeth y DU yn gallu cyflawni ei swyddogaethau yn gyfrifol o gofio popeth sydd wedi digwydd yn Downing Street yn ystod y pandemig?
Llywydd, mae arnaf i ofn nad wyf i'n credu y gallaf i gynnig sicrwydd o'r fath. Mae'n ymddangos i mi fod Llywodraeth y DU wedi ei dal yng ngolau llachar y digwyddiadau y mae wedi eu hachosi ei hun drwy ei diystyriaeth lwyr o'r rheolau y mae'r gweddill ohonom ni wedi ein rhwymo ganddyn nhw. Ac mewn ymgais nawr i ddianc o'r penblethau y mae wedi eu creu ei hun, mae popeth y mae'n ei wneud yn cael ei weld drwy'r lens hwnnw. Nid yw pob datganiad sy'n cael ei wneud, unrhyw fenter bolisi sy'n cael ei chyflwyno wedi eu hysgogi gan anghenion y wlad na phwysigrwydd mynd i'r afael â'r heriau allweddol sy'n ein hwynebu; mae pob un ohonyn nhw yn cael ei weld drwy lens sut y gall y Llywodraeth hon ddianc y trafferthion y mae wedi plymio ei hun iddyn nhw. Ac o dan yr amgylchiadau hynny, mae arnaf i ofn, ar y pethau y cyfeiriodd Ken Skates atyn nhw—yr angen am sefydlogrwydd, yr angen am lywodraeth sy'n canolbwyntio ar wasanaethu lles y cyhoedd—ni allaf gynnig unrhyw sicrwydd bod cyflwr presennol Llywodraeth y DU yn ffafriol i'r mathau hynny o rinweddau.
Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU, Prif Weinidog, wedi darparu rhaglen frechu sy'n well nag unrhyw un arall yn y byd sydd wedi bod o fudd mawr i bobl ledled Cymru, ac mae hefyd wedi rhyddhau adnoddau sylweddol ledled y wlad i helpu busnesau ac unigolion oresgyn heriau'r pandemig. Ac er gwaethaf eich haeriad nad yw'n gallu gweithredu yn iawn, hi wnaeth gyhoeddi yr adroddiad ar yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol yr wythnos diwethaf. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich ateb cychwynnol i'r Aelod dros Dde Clwyd, fe wnaethoch chi groesawu cyhoeddiad yr adroddiad hwnnw yn gynnes, oherwydd wrth gwrs y bydd yn newid y trefniadau gweithio rhwng llywodraethau ledled y DU a'r gobaith yw y bydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol i bobl sy'n byw ac yn gweithio ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Un o'r pethau na wnaeth yr adolygiad rhynglywodraethol gyffwrdd arno oedd y fframwaith atebolrwydd y gallai'r system newydd o gydweithio gael ei seilio arno. A fyddech chi'n cytuno â mi bod angen i ni edrych bellach ar gorff rhyngseneddol er mwyn dwyn y gwahanol Lywodraethau i gyfrif am y trefniadau gweithio newydd i wneud yn siŵr eu bod nhw yn gwireddu'r dyheadau a nodir yn yr adolygiad yn wirioneddol?
Llywydd, fe wnes i groesawu canlyniad yr adolygiad rhynglywodraethol. Roeddwn i yno yn 2018 pan gafodd ei sefydlu gan Theresa May a'r Prif Weinidogion eraill ar y pryd, ac mae Llywodraeth Cymru a gweision sifil Cymru yn arbennig wedi rhoi oriau lawer iawn i geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y ddogfen honno cystal ag y gall fod. Mae rhai mesurau atebolrwydd ynddi. Mae yn arwain llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig i gyflwyno dogfennau ac adroddiadau amrywiol o flaen y pedair Senedd. Rwy'n gwbl agored i'r pwynt y mae Mr Millar yn ei wneud am gyrff seneddol yn cydweithio i wella atebolrwydd, ond mater iddyn nhw fyddai hynny, wrth gwrs, yn hytrach nag i unrhyw lywodraeth ei arwain. Rwyf i wedi croesawu yn rheolaidd iawn yr arian y mae Llywodraeth y DU wedi ei fuddsoddi i gynnal yr economi yn ystod argyfwng COVID. Rwyf i wedi credu erioed y bu'n well i'r gallu i sicrhau brechlynnau i'w defnyddio ledled y Deyrnas Unedig gael ei wneud ar sail y DU, er bod gweithredu'r brechiadau ac, wrth gwrs, y rhaglen sydd wedi gwneud defnydd ohonyn nhw wedi bod yn nwylo gwahanol lywodraethau'r Deyrnas Unedig. Nid wyf i'n cael unrhyw anhawster yn cydnabod yr holl bethau hynny. Rwy'n tybio, ym mhreifatrwydd ei ystafelloedd pwyllgora ei hun, y byddai'r Aelod ei hun yn cydnabod nad yw hwn yn gyfnod da i Lywodraeth y DU, ac mae'n anochel bod ei gallu i gyflawni uchelgeisiau'r adolygiad rhynglywodraethol yn cael ei beryglu gan ddigwyddiadau'r cyfnod diweddar a'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi troi i mewn arni hi ei hun i geisio dod o hyd i ffordd drwy'r llanastr y mae wedi ei greu ei hun.
Prif Weinidog, roeddwn innau hefyd yn falch, fel Mr Skates a chithau, o ddarllen yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol yr wythnos diwethaf, a sefydlu trefn datrys anghydfodau annibynnol. Fel y gwyddom ni, mae angen proses o'r fath i fynd i'r afael yn effeithiol â Llywodraeth San Steffan sy'n deddfu dro ar ôl tro mewn meysydd datganoledig, ond sydd hefyd yn cyfyngu ar hawliau pobl Cymru i brotestio, i bleidleisio, i ddefnyddio adolygiad barnwrol ac i ddefnyddio'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol i ddiddymu is-ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, fy mhryder i, Prif Weinidog, yw na fydd sail statudol i'r system newydd hon ac na fydd yn rhwymo'r Llywodraeth. Gyda Llywodraeth yn San Steffan sydd wedi anwybyddu confensiwn Sewel yn llwyr—mae confensiwn Sewel wedi mynd allan drwy'r ffenestr gyda'r Llywodraeth hon—pa mor hyderus ydych chi y bydd y system newydd hon yn arwain at barch tuag at y Senedd hon, ond yn bwysicach byth, at barchu hawliau pobl Cymru? Diolch yn fawr.
Wel, diolch yn fawr, Llywydd. Maen nhw i gyd yn bwyntiau pwysig. Mae'r Llywodraeth hon yn gwrthwynebu proses Llywodraeth y DU o fewnforio technegau o'r Unol Daleithiau i atal pleidleisio ymhlith poblogaethau y mae'n credu nad fyddan nhw efallai yn cefnogi eu plaid wleidyddol. Fe wnaethom ni wrthwynebu'r cyfyngiadau ar adolygiad barnwrol, ond rwy'n gweld bod Llywodraeth y DU wedi eu hadfywio eto, ac rydym yn gwrthwynebu'r mesurau y maen nhw'n bwriadu eu cyflwyno i gyfyngu ar allu pobl i gynnal protest ddilys. Felly, rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau a wnaeth yr Aelod yn y fan yna.
Nid yw'r adolygiad rhynglywodraethol yn berffaith, ond mae'n gam ymlaen sylweddol o'r sefyllfa yr ydym ni wedi bod ynddi tan nawr. Un o'r datblygiadau mwyaf arwyddocaol, a dyma oedd un o'r meysydd y gwnaeth Llywodraeth Cymru a gweision sifil Cymru arwain arno, yn rhan o'r adolygiad, yw cyflwyno'r dull osgoi, ac yna datrys, anghydfod annibynnol hwnnw. Mae wedi bod yn gwbl anfoddhaol, pan geisiodd llywodraeth ddatganoledig godi anghydfod o fewn trefniadau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, mai Llywodraeth y DU yn unig a allai, yn gyntaf, benderfynu a oedd yr anghydfod yn dderbyniadwy—felly, ymdriniodd â rhai anghydfodau drwy ddweud nad oedd yn cydnabod bod anghydfod—ac yna, hyd yn oed os oedd yn dderbyniadwy, hi oedd y barnwr a'r rheithgor a'r llys apêl a'r holl bethau eraill y byddech chi'n eu disgwyl o ran anghydfod. Mae hynny ar sail wahanol iawn erbyn hyn. Nid, fel y dywedodd yr Aelod, wedi ei ymwreiddio mewn statud, ond yno i bawb ei weld, a gyda chosb wleidyddol sylweddol iawn i lywodraeth a fyddai'n ceisio, ar ôl ymrwymo i'r cytundeb, ei anwybyddu yn llwyr wedyn. Felly, mae pleidiau o argyhoeddiad gwleidyddol gwahanol iawn—y Blaid Geidwadol yn Llundain, yr SNP yn yr Alban, Sinn Fein a'r DUP yng Ngogledd Iwerddon, a'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru—rydym ni i gyd wedi ymrwymo i'r adolygiad, a byddwn yn sicr yn mynd ati yn yr ysbryd o wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn cyd-fynd yn awr â'r ffyrdd newydd y mae'r adolygiad hwnnw wedi cytuno arnyn nhw.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gyntaf, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi honni yr wythnos diwethaf nad camau eich Llywodraeth chi oedd yn gyfrifol am effaith y cyfyngiadau ar fusnesau Cymru dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd. A allwch chi ddweud wrthyf pwy oedd yn gyfrifol am y cyfyngiadau hyn, oherwydd y tro diwethaf i mi edrych, chi oedd y Prif Weinidog? Neu ai rhyw rym allfydol nad yw'r un ohonom ni'n ymwybodol ohono oedd hwn?
Llywydd, coronafeirws wnaeth achosi'r effaith ar fusnesau Cymru. Dyna'r pwynt yr oeddwn i'n ei wneud, fel yr wyf i'n eithaf sicr y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei wybod. Roedd busnesau yng Nghymru yn gweld effaith yr amrywiolyn omicron ymhell cyn bod unrhyw newid i'r mesurau lefel rhybudd yng Nghymru. Dyna pam nad yw'r £120 miliwn yr ydym ni wedi ei ddarparu i fusnesau Cymru yn dechrau ar 27 Rhagfyr pan newidiodd y rheolau, ond mae'n dyddio o 13 Rhagfyr, gan ein bod ni wedi cydnabod bod dinasyddion Cymru eisoes yn gwneud dewisiadau eu hunain gan eu bod nhw'n cydnabod y risgiau newydd yr oedd yr amrywiolyn omicron yn eu peri. Dyna sydd wrth wraidd yr anawsterau y mae busnesau Cymru wedi eu hwynebu: y ffaith eu bod nhw'n ymdrin ag amrywiolyn coronafeirws newydd a'r effaith yr oedd hwnnw yn ei chael ar ymddygiad pobl.
Wel, yn anffodus, Prif Weinidog, mae'n ffaith bod gennych chi ddewisiadau o ran y math o gyfyngiadau y gallech chi fod wedi eu cyflwyno, yn union fel y mae gennych chi'r dewis i gomisiynu ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru i'r penderfyniadau hynny yr holl ffordd drwy'r pandemig, nad ydych chi wedi ei gomisiynu hyd yma yn anffodus.
Os cymerwn ni gam yn ôl i'r byd go iawn, dangosodd adroddiadau yr wythnos diwethaf fod tafarndai yng Nghymru wedi colli £16,000 yr un ar gyfartaledd oherwydd cyfyngiadau'r Llywodraeth. Roedd hyn oherwydd y rheolau a gaeodd rai sefydliadau ac a wnaeth busnesau lletygarwch eraill yn anhyfyw. A wnewch chi ymddiheuro am effaith y cyfyngiadau hynny ar y busnesau a oedd yn anhyfyw oherwydd y cyfyngiadau hynny, ac a wnewch chi, fel arwydd o ewyllys da, gynyddu lefel y cyllid sydd ar gael i fusnesau fel y gallan nhw barhau i symud ymlaen, gan greu cyfleoedd cyflogaeth a chreu busnesau deinamig ar hyd a lled Cymru?
Wel, nid oes gen i ddim byd o gwbl i ymddiheuro amdano, Llywydd. Mae gan y Blaid Geidwadol yng Nghymru lawer iawn i ymddiheuro amdano yn y ffordd y mae wedi ceisio atal pobl yng Nghymru a busnesau yng Nghymru, dro ar ôl tro, rhag cael yr amddiffyniadau sydd eu hangen o bandemig byd-eang. Fe wnaethom ni gyflwyno mesurau a oedd â'r bwriad o wneud yn siŵr bod bywydau yn cael eu hachub yng Nghymru ac y gallai busnesau barhau i fasnachu, ac nid oes dim byd o gwbl i ymddiheuro amdano wrth wneud hynny, gan fod y mesurau hynny yn angenrheidiol ac mae'r mesurau hynny wedi bod yn effeithiol. Oherwydd y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, gallai tafarn a gollodd £16,000 yng Nghymru, os gall gadarnhau bod hynny yn wir, adennill hynny i gyd o'r cymorth yr ydym ni wedi ei roi ar y bwrdd bellach drwy'r elfen ardrethi annomestig a thrwy'r gronfa cadernid economaidd. Yn Lloegr, £4,000 yw'r uchafswm y byddai unrhyw fusnes o'r fath yn ei gael. Ac na, nid wyf i'n mynd i gynnig siec wag wrth ddweud y byddem ni'n mynd y tu hwnt i hynny. Mae arian cyhoeddus yn y fantol yma. I dafarn sy'n gallu dangos ei fod wedi colli £16,000 yng Nghymru, mae'r potensial yno iddi dderbyn hynny i gyd yn ôl gan Lywodraeth Cymru. Nid wyf i'n credu y byddai'n gam gweithredu synhwyrol na chyfiawn i ddweud y byddai'r pwrs cyhoeddus yn mynd y tu hwnt i'r colledion yr oedd busnes wedi eu dioddef.
Mae'n ffaith, Prif Weinidog, na fydd llawer o fusnesau ledled Cymru yn gallu adennill lefel y colledion y maen nhw wedi eu dioddef oherwydd y cyfyngiadau yr ydych chi a'ch Llywodraeth chi wedi eu rhoi ar waith. Ddoe, dywedodd eich prif swyddog meddygol, Dr Frank Atherton, ei fod yn bwyllog ond gobeithiol bod diwedd y pandemig i'w weld. Mae hynny yn newyddion gwych, a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig a phwysau'r cyhoedd, mae gennym ni fap ffordd o'r diwedd i lefel rhybudd 0. Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf i wedi bod yn ceisio cael metrigau gan eich Gweinidogion ynghylch pryd y bydd Llywodraeth Cymru o'r farn na fydd angen cyfyngiadau fel pasbortau brechlyn neu fasgiau yma yng Nghymru mwyach. Pryd ydych chi'n credu, Prif Weinidog, y bydd Cymru yn rhydd o'r holl gyfyngiadau? Fe wnaiff amcangyfrif y tro. Ac a allwch chi ddarparu rhai metrigau neu amserlenni o ran pryd rydych chi'n credu na fydd angen cyfyngiadau fel pasbortau brechlyn yma yng Nghymru mwyach?
Wel, Llywydd, cyflwynais ddydd Gwener yr wythnos diwethaf amserlen sy'n ymestyn i ganol mis nesaf ar gyfer gwneud penderfyniadau, ar yr amod y byddai sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn golygu y byddai'n ddiogel diddymu amddiffyniadau pellach. Mae pobl yn gyfarwydd iawn â'r amserlen honno. Bydd yn arwain, ddydd Gwener yr wythnos hon, gobeithio, at ddychwelyd i lefel rhybudd 0 ar gyfer gweithgareddau yn yr awyr agored; ar 28 Ionawr, at ddychwelyd i lefel rhybudd 0 ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau dan do; ac yna adolygiad tair wythnos erbyn 10 Chwefror o'r mesurau sy'n weddill. Nawr, byddwn yn cymryd cyngor y prif swyddog meddygol, Syr Frank Atherton, ac eraill ar hyd y llwybr hwnnw, a chyn gynted ag y bydd hi'n ddiogel gwneud hynny, o safbwynt iechyd y cyhoedd, yna byddwn yn gwneud y newidiadau i adlewyrchu sefyllfa well. Ond mae llawer o ddefnydd o'r gair 'os' yn yr ateb yna, Llywydd. Yr un mwyaf oll yw i ba raddau y gallwn ni barhau i weld y gwelliannau yr ydym ni wedi eu gweld yn effaith omicron ac amrywiolion coronafeirws eraill yng Nghymru, yn ein cymdeithas, yn ein hysbytai ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n credu bod pobl yng Nghymru yn deall bod ganddyn nhw Lywodraeth sy'n gwneud penderfyniadau mewn ffordd sy'n ymateb i dystiolaeth, nid i bwysau gwleidyddol, sy'n gwneud penderfyniadau mewn ffordd y gellir ei chyfleu yn rhesymegol iddyn nhw, ac mae'r gefnogaeth yr ydym ni wedi ei chael gan bobl yng Nghymru drwy gydol y pandemig cyfan yn dibynnu ar y ffordd yr ydym ni wedi helpu, yn ofalus, yn bwyllog ac yn unol â'r wyddoniaeth, i gadw Cymru yn ddiogel. A dyna'n union sut y byddwn ni'n parhau.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a yw'r cynnig i ddadariannu'r BBC yn unrhyw beth arall ond sgiweru â chymhelliad gwleidyddol gyda'r nod o daflu cig coch i fand llai a llai o gefnogwyr Prif Weinidog y DU, a chosbi darlledwr gwasanaeth cyhoeddus am wneud gwaith rhy dda o ddatgelu Boris Johnson i fod y celwyddgi ydyw?
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod gan y cyhoeddiad brysiog ar Twitter am dynged y BBC wedi ei gymell yn yr union ffordd y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei ddweud. Mae'n rhan o strategaeth 'cig marw' y mae'r Llywodraeth hon wedi cychwyn arni. Os oes unrhyw un yn meddwl bod meddwl difrifol yn sail i'r hyn a gyhoeddwyd, yna mae arnaf i ofn y byddan nhw'n cael eu siomi yn fawr. Yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yn sicr bellach, ar adeg pan fo chwyddiant, oherwydd camreolaeth Llywodraeth y DU o'r economi, yn debygol o fod yn 6 neu 7 y cant ym mis Ebrill, bydd cyllideb y BBC yn cael ei thorri'n sylweddol mewn termau real, a'r angen mwyaf brys, rwy'n credu, yw am glymblaid o gefnogaeth i amddiffyn cyllid cyhoeddus ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.
Oni fyddai troi'r BBC mewn i ryw fersiwn Brydeinig o PBS ac NPR yn yr Unol Daleithiau, lle mae gwariant y pen ar ddarlledu cyhoeddus yn ddim ond 4 y cant o'r hyn rŷn ni'n ei wario fan hyn, â goblygiadau arbennig o dywyll i ni yng Nghymru, a hynny o ran ein democratiaeth, o ran ein diwylliant, o ran ein cenedl ac o ran ein hiaith? Ac nid yn unig o ran S4C, ond o ran Radio Cymru hefyd. Doedd Nadine Dorries ddim i weld hyd yn oed yn gwybod am fodolaeth Radio Cymru tan ddoe, ond pa syndod sydd yna pan nad oedd y Ceidwadwyr hyd yn oed yn gwybod pwy oedd arweinydd eu plaid nhw yng Nghymru? Dyna'r dirmyg rŷn ni'n delio â fe. Onid yw hyd, os oedd angen pellach, yn atgyfnerthu'r achos dros ddatganoli darlledu i Gymru? Ac onid nawr yw'r amser i ni fynnu ein llais ei hunain, yn ein gwlad ein hunain, mewn darlledu fel yn ein democratiaeth?
Wel, yr absenoldeb o barch i Gymru, mae hyn yn amlwg yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dwi'n siŵr, fel dywedodd Adam Price, doedd Nadine Dorries ddim wedi meddwl am un eiliad am effaith beth mae hi wedi'i gyhoeddi ar yr iaith yma yng Nghymru. Gwelais i beth ddywedodd yr Athro Richard Wyn Jones y bore yma am ddyfodol yr iaith yn y maes darlledu a phwysigrwydd S4C, wrth gwrs, ond hefyd Radio Cymru, sy'n ganolog i ddefnydd yr iaith yma yng Nghymru, a dyfodol yr iaith hefyd. Yn y cytundeb rhyngom ni a Phlaid Cymru, rŷn ni wedi cytuno yn barod i gryfhau'r achos i ddarlledu gael ei ddatganoli, ac i sefydlu awdurdod i'n helpu ni, gyda phobl eraill, ar y daith yna. Pan rŷn ni'n gweld y Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn gwneud pethau fel y maen nhw wedi eu gwneud, mewn hast, ac am resymau gwleidyddol yn unig, wrth gwrs mae'n cryfhau'r achos rŷn ni wedi'i roi mas yn barod.
Prif Weinidog, a oes cyd-destun llawer dyfnach a mwy tywyll yma, gyda'r ddeddfwriaeth i gyfyngu ar yr hawl i brotestio'n heddychlon yn cael ei threchu neithiwr yn Nhŷ'r Arglwyddi, y cynigion i wanhau'r Ddeddf Hawliau Dynol, yr ymosodiadau ar farnwriaeth annibynnol, y newidiadau i fanylion adnabod pleidleiswyr, defnyddio pwrs y wlad i ddyfarnu grantiau a ffrindgarwch wrth ddyfarnu contractau, rhagderfynu'r Senedd yn anghyfreithlon, ac yn olaf, ond yn sicr nid leiaf, Prif Weinidog y DU sy'n dweud celwydd yn ddi-gosb? Onid yw'n wir mai'r ymosodiad ar gyfryngau teg, annibynnol a chytbwys—sef yr hyn y mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn eu hanfod yn ei sicrhau—yw'r elfen ddiweddaraf mewn ymdrech ymwybodol i erydu sylfeini sylfaenol ein democratiaeth? Os dydych chi ddim yn poeni, dydych chi ddim yn cymryd sylw, yn ôl y dywediad. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno bod y frwydr dros ddyfodol darlledu yn frwydr mewn gwirionedd dros ddyfodol democratiaeth ei hun?
Mae'n rhestr gyhuddiadau rymus iawn y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei chyflwyno yn y fan yna, a bydd unrhyw un sy'n eu gweld yn cael eu cyflwyno gyda'i gilydd yn y modd hwnnw yn sicr yn gweld mai'r hyn sydd y tu ôl iddo yw Llywodraeth sy'n gwbl fyrbwyll am ddull seiliedig ar reolau o ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus, ond hefyd am ddyfodol ein democratiaeth. Ac ni ddylai neb synnu at hynny, Llywydd, yn sgil y datgeliadau gwarthus o'r ffordd, ar adeg pan oedd y wlad gyfan yn cael ei hannog i gadw at rai o'r gostyngiadau mwyaf arwyddocaol ar eu gallu i wneud dewisiadau yn eu bywydau eu hunain, wrth wraidd Llywodraeth y DU, roedd diystyriaeth lwyr o hynny yn eu bywydau eu hunain. Mewn rhai ffyrdd, rwy'n credu bod hynny yn ganolog i'r rhestr faith yna a luniwyd gan Adam Price—y synnwyr hwnnw bod un rheol i'r gweddill ohonom ni, a gwahanol reol i'r rhai sy'n ystyried eu hunain yn uwch a thu hwnt i'r rheolau y disgwylir i bobl eraill eu dilyn. Ac rwy'n credu y gallwch chi weld hynny yn rhedeg drwy'r rhestr faith honno o bethau a luniwyd gan Adam Price. Os nad ydych chi'n hoffi'r ffordd y mae barnwyr yn gweithredu, yna rydych chi'n ymosod ar farnwyr. Os nad ydych chi'n hoffi'r ffordd y mae democratiaeth yn gweithredu, rydych chi'n ceisio newid y rheolau ar gyfer pleidleisio. Os nad ydych chi'n hoffi'r ffordd y mae hawliau dynol yn cael eu harsylwi yn y wlad hon, rydych chi'n ceisio tanseilio sail hynny hefyd. Darlledu yw enghraifft yr wythnos hon o restr llawer hirach, rhyfel diwylliant bwriadol y mae'r Llywodraeth hon wedi ei gychwyn. Maen nhw'n credu ei fod yn apelio i leiafrif o bobl yn y wlad hon, y lleiafrif hwnnw sy'n crebachu sy'n eu cefnogi, ac maen nhw'n barod i aberthu pethau sydd wedi cael eu hadeiladu dros ganrifoedd, mewn rhai achosion, ac ym maes darlledu cyhoeddus, ers 100 mlynedd eleni.
Mae cwestiwn 3 [OQ57486] wedi'i dynnu nôl.
4. A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r sector manwerthu yng Nghwm Cynon? OQ57456
Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer y sector manwerthu yng Nghwm Cynon, fel mewn mannau eraill, yn cynnwys ymrwymiad eglur i bolisïau gwaith teg a chynnydd gyrfaol er mwyn denu'r gweithlu y bydd ei angen yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwasanaethau manwerthu lleol sydd wedi'u gwreiddio yn y cymunedau lleol hynny a'r economi sylfaenol.
Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Cyhoeddodd y Gymdeithas Siopau Cyfleustra eu hadroddiad siopau lleol Cymru 2022 yr wythnos diwethaf, ac roedd hwn yn tynnu sylw at y swyddogaeth bwysig sydd gan y bron i 3,000 o siopau cyfleustra yng Nghymru yn eu cymunedau lleol, yn economi Cymru, ac fel darparwyr dros 25,000 o swyddi. Rydym ni'n gwybod bod llawer o'r siopau hyn wedi chwarae rhan hollbwysig yn ystod y pandemig, felly beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector hwn yn benodol a'i alluogi i chwarae rhan lawn yn rhan o'r economi sylfaenol?
Diolch i Vikki Howells am hynna. Rwyf i wedi cael cyfle fy hun i edrych ar adroddiad y Gymdeithas Siopau Cyfleustra ac mae'n ddiddorol iawn, fel y dywedodd Vikki Howells. Mae gan Gymru fwy o siopau y pen o'r boblogaeth nag unrhyw wlad arall yn y DU, a byddwch chi'n gweld yn yr adroddiad hwnnw bod 70 y cant o weithwyr yn y siopau lleol hynny yn fenywod. A dyna pam, yn fy ateb gwreiddiol, y rhoddais i bwyslais ar yr agenda gwaith teg, oherwydd mae honno yn bwysig iawn yn y fan yna. Mae oriau agor dyddiol hir y siopau hynny—pan fo'n dweud 'siopau cyfleustra', maen nhw'n siopau cyfleustra; maen nhw yn y cymunedau lleol hynny ac mae eu pwysigrwydd yn y pandemig wedi bod yn amlwg i bawb, gan fod pobl wedi dibynnu mwy arnyn nhw. Ac mae cymaint ohonyn nhw yn darparu gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gallech chi feddwl amdano fel y cynnig manwerthu sylfaenol. Mae tri deg y cant ohonyn nhw yn darparu gwasanaethau swyddfa bost ochr yn ochr â phopeth arall y maen nhw'n ei wneud, mae bron i hanner ohonyn nhw yn cynnig peiriannau ATM am ddim, gan wneud yn siŵr y gall pobl gael gafael ar arian parod mewn cymunedau lle mae arian parod yn dal i fod yn rhan bwysig iawn o'r ffordd y mae'r economi yn gweithredu. A dyna'r hyn yr wyf i'n ei olygu wrth fod yn rhan o'r economi sylfaenol. Maen nhw yno yn y cymunedau, yn yr ardaloedd lleol, lle mae angen y gwasanaethau hynny arnoch chi ar y stryd fawr neu yn y pentref i ganiatáu i bobl barhau i gael mynediad at rannau eraill o fywyd beunyddiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn llwyr i chwarae ein rhan. Byddwn yn cyhoeddi strategaeth fanwerthu newydd ym mis Mawrth eleni, a bydd siopa lleol a chyfraniad y gymdeithas, ochr yn ochr ag eraill, yn cael eu cynrychioli yn rymus yn y strategaeth y byddwn ni'n ei chyflwyno.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at dargedau adeiladu tai Llywodraeth Cymru? OQ57447
Mae'r rhaglen lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn gymdeithasol yn nhymor y Senedd hon. Dyrannwyd swm uchaf erioed o £250 miliwn i'r grant tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon, gan ddyblu cyllideb 2020-21. Disgwylir i'r cyhoeddiad ystadegol cyntaf yn dangos cynnydd tuag at y targed hwn gael ei gyhoeddi ym mis Hydref eleni.
Diolch. Diolch, Prif Weinidog. Mae cynllun eich Llywodraeth i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn darged uchelgeisiol. Fodd bynnag, mae'r gwaith o adeiladu cartrefi yn fy etholaeth i ar stop oherwydd targedau llygredd. Nid wyf i'n amau'r angen i fynd i'r afael â llygredd yn ein hafonydd, ond ni all yr ateb fod mor syml ag atal yr holl waith adeiladu tai. Mae o leiaf 10,000 o gartrefi, y mae 1,700 ohonyn nhw yn rhai fforddiadwy a chymdeithasol, i gyd yn mynd yn angof ac ni ellir bwrw ymlaen â nhw oherwydd canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar ffosfforws. Mae'n dechrau cael effaith ar swyddi a'r farchnad dai, oherwydd nid oes gan bobl sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu unrhyw sicrwydd hirdymor o ran eu swyddi, ac mae pobl ifanc leol yn cael eu gorfodi allan o'r farchnad dai gan renti sy'n cynyddu'n aruthrol a'r diffyg cartrefi cymdeithasol. Prif Weinidog, mae hwn yn fater brys iawn, ond mae'r grŵp goruchwylio presennol sy'n edrych ar ffosffadau yn cyfarfod yn llawer rhy anaml rwy'n credu, ac rwy'n deall eu bod nhw'n cael trafferth gyda maint y broblem. Prif Weinidog, a wnewch chi geisio sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, fel y gellir mynd i'r afael â'r mater hwn gyda rhywfaint o frys, i ddod o hyd i ateb i'r broblem ac i gyrraedd targedau tai eich Llywodraeth? Diolch, Llywydd.
Rwy'n deall brys y mater. Dyna pam y bydd Llywodraeth Cymru yn talu am hyfforddiant awdurdodau lleol ar y broses asesu rheoliadau cynefinoedd, gan gynnwys elfen benodol ar faterion ffosfforws. Ond, mae dwy agwedd ar y brys: ceir brys o ran yr angen am dai cymdeithasol, ac rydym ni'n canolbwyntio yn fawr ar hynny fel Llywodraeth, oherwydd mae 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel yn uchelgeisiol, ac rydym ni eisiau gallu bwrw ymlaen a hynny. Ond y brys arall yw ymdrin â'r broblem ffosffad, sy'n gwbl real, ac nid yw adeiladu tai heb fynd i'r afael â'r broblem ffosffad yn ateb ar gyfer yr hirdymor.
Bydd yr Aelod, yn fwy na'r rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd does bosib, yn ymwybodol o'r problemau sylweddol iawn yn Afon Gwy yn ei etholaeth ei hun, problemau a amlygwyd yr wythnos diwethaf yn adroddiad Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol Tŷ'r Cyffredin—pwyllgor a gadeirir gan y Ceidwadwyr, pwyllgor â mwyafrif Ceidwadol arno. Mae ei astudiaeth achos o effaith ffosffad ar Afon Gwy yn gwbl gymhellol. Mae effaith ffosffad ar Afon Gwy yn cael ei hachosi yn bennaf gan lygredd amaethyddol, ond nid yn unig o bell ffordd. Mae hefyd yn cael ei achosi gan wastraff dynol, gan ddŵr ffo oddi ar ffyrdd, gan weithgarwch diwydiannol. Nid yw adeiladu tai mewn ffordd sy'n ychwanegu at y problemau, yn hytrach na helpu gyda'r angen dybryd i'w lliniaru, yn ateb y bydd y Llywodraeth hon yn gallu ei gefnogi. Felly, rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â'r brys. Mae'r brys ar yr ochr dai, ond mae ar yr ochr amgylcheddol hefyd, ac ni allwch chi ddatrys un ar draul y llall.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi cyngor ar ynni i aelwydydd sy'n agored i niwed? OQ57465
Mae cyngor o'r fath ar gael i bob aelwyd yng Nghymru drwy ein cynllun Nyth rhaglen Cartrefi Cynnes. Cynigir cyngor a chymorth ychwanegol i aelwydydd agored i niwed mewn ardaloedd sydd yn y perygl mwyaf o dlodi tanwydd drwy ein cynllun treialu gwasanaethau cynghori ar ynni. Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys Gwynedd ac Ynys Mȏn, y ddwy yn rhanbarth yr Aelod ei hun.
Diolch, Prif Weinidog. Mae etholwyr sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd oherwydd tai sydd wedi eu hinswleiddio yn wael a phrisiau ynni sy'n cynyddu yn aruthrol wedi cysylltu â mi. Mewn ymateb, yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i glywed mwy am y swyddogaeth bwysig y maen nhw'n ei chyflawni yn rhoi cyngor i lawer o deuluoedd sy'n cael trafferth gyda biliau'r cartref, wrth i doriadau credyd cynhwysol a chynnydd enfawr i brisiau ynni gael eu rhoi ar waith. Amlygodd ein trafodaeth pa mor hanfodol yw cynllun cymorth tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru fel achubiaeth i gynifer o deuluoedd, ac mae croeso mawr iawn iddo. Ond a fyddai'n bosibl i'r cynllun ariannu hwn gael ei ddarparu ochr yn ochr â chyngor a fydd yn cynorthwyo aelwydydd yn y tymor hwy, fel mynediad at gynlluniau ôl-osod, canllawiau effeithlonrwydd ynni a chymorth grant pellach a allai fod ar gael? Gwn eu bod nhw'n gwneud hynny, ond roedden nhw eisiau sicrhau bod cyrff cyflawni eraill yn gwneud yr un fath hefyd, oherwydd mae mor bwysig. Diolch.
Diolch i Carolyn Thomas am y dystiolaeth honno o reng flaen yr argyfwng costau byw. Yr wythnos diwethaf, rwy'n cofio i ni sôn am adroddiad y Resolution Foundation ar y drychineb costau byw. Ers hynny, rydym ni wedi gweld adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol ar y wasgfa costau byw, ac adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree heddiw ar y ffordd y bydd biliau ynni cynyddol yn drychineb, fel y dywed yr adroddiad, i'r teuluoedd tlotaf. Mae'r holl bwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn bwysig iawn. Ysgrifennodd fy nghyd-Weinidogion Julie James a Jane Hutt ar y cyd at Lywodraeth y DU ar 11 Ionawr yn nodi pum ffordd wahanol y gallai Llywodraeth y DU weithredu a fyddai'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r teuluoedd hynny ym maes tlodi tanwydd yn unig.
Y newyddion da, Llywydd, yw bod y £100 y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar gael drwy'r cynllun taliadau tanwydd gaeaf nid yn unig wedi cael ei groesawu gan sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth, ond mae aelwydydd unigol wedi'i manteisio arno ar raddfa enfawr hefyd. Ar 31 Rhagfyr, yn sgil datganiadau gan 20 o'r 22 awdurdod lleol, roedd dros 100,000 o geisiadau eisoes wedi eu derbyn gan awdurdodau lleol, ac mae'n deyrnged i'r awdurdodau lleol hynny bod mwy na 33,500 o'r ceisiadau hynny eisoes wedi cael eu talu. Nawr, rwy'n gobeithio, erbyn heddiw, y bydd y nifer honno hyd yn oed yn uwch, o ran ceisiadau a thaliadau. Pan fydd y taliadau hynny yn cael eu gwneud, Llywydd, yr hyn yr wyf i eisiau ei weld yw manteisio ar y cyfle i wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod am y gyfres ehangach o gymorth sydd ar gael iddyn nhw, drwy gyngor ar ynni a thrwy gyngor ar fudd-daliadau hefyd. Mae angen i ni fanteisio ar bob cyfle, yn enwedig pan fyddwn ni mewn cysylltiad â miloedd ar filoedd o ddinasyddion Cymru, i wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio ar y cyfle hwnnw i wneud yn siŵr bod ffynonellau eraill o gymorth y gallwn ni eu cynnig iddyn nhw a'u bod nhw'n dod i wybod amdanyn nhw.
Diolch i Carolyn am godi'r cwestiwn yma. Dwi wir yn cefnogi'r cynnig yma gan Carolyn. Mae angen i systemau a chynlluniau gwahanol weithio fel un i sicrhau bod cymorth yn y tymor byr, fel y cynllun cymorth tanwydd gaeaf, yn helpu unigolion yn y tymor hir drwy fesurau arbed ynni. Mae angen i fesurau tymor byr fynd law yn llaw â mesurau mwy hirdymor.
Un o'r mesurau tymor byr y gall y Ceidwadwyr yn San Steffan gymryd nawr yw torri treth ar werth ar ynni, gan arbed hyd at £100 y flwyddyn i deuluoedd—llawer mwy na cheiniogau, fel y mae Aelodau Senedd y Ceidwadwyr wedi honni yn yr wythnos ddiwethaf. Brif Weinidog, beth yw eich barn chi ar dorri treth ar werth ar ynni? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Llywydd, i Jane Dodds, ac wrth gwrs, dwi'n cytuno. Y pethau rŷn ni'n gallu eu gwneud yn y tymor byr—ac rŷn ni wedi gweithio'n galed gydag awdurdodau lleol i greu'r cynllun dwi wedi cyfeirio ato yn yr ateb i Carolyn Thomas—. Mae hi'n bwysig bod hynny'n mynd law yn llaw gyda'r pethau rŷn ni'n gallu eu gwneud yn y tymor hir, ac mae'r rhan fwyaf o'r rheini yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dywedais i, yn y llythyr oddi wrth Julie James a Jane Hutt, fod nifer o bethau ymarferol yr oedden ni wedi eu hawgrymu i Lywodraeth San Steffan—pethau y maen nhw'n gallu eu gwneud i helpu teuluoedd gyda'r problemau sydd wedi codi o dan eu Llywodraeth nhw. Mae torri treth ar werth ar ynni yn un o'r pethau yn y llythyr hwnnw, gyda phethau eraill. Mae rhai o'r pethau mor tymor hir—. Yn fy marn i, dydy hi ddim yn rhesymol yn y tymor hir i godi arian ar bethau sy'n bwysig ym maes ynni drwy dalu'r biliau y mae pobl yn eu gweld yn dod drwy'r drws. Mae hi lot yn well talu am bethau amgylcheddol a chymdeithasol drwy'r system gyffredinol o drethi. Mae hynny lot yn fwy teg a lot yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir hefyd.
7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal gyda Gweinidogion cyfatebol Llywodraeth y DU ynghylch mesurau i leihau cyfraddau heintio COVID-19? OQ57487
Llywydd, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidogion Llywodraeth y DU ac arweinwyr y Llywodraethau datganoledig eraill i drafod yr ymateb i COVID-19. Pan fyddan nhw'n digwydd, rwy'n mynychu cyfarfodydd COBRA penaethiaid Llywodraethau, ac rwyf i wedi ysgrifennu heddiw at Brif Weinidog y DU, gan herio dull ei Lywodraeth o ymdrin â theithio rhyngwladol a'i effaith ar gyfraddau heintio.
Diolch, Prif Weinidog. Fel y trafodwyd eisoes, mae'r gyfres o straeon sy'n dod allan o San Steffan yr wythnos diwethaf am bartïon yn Rhif 10 Downing Street, o ddiwylliant ymddangosiadol yng nghanol Llywodraeth y DU sydd, i bob golwg, wedi bod yn benderfynol o anwybyddu cyfreithiau a chanllawiau COVID—. Bydd y straeon hynny wedi cael effaith barhaol ar gydymffurfiad y cyhoedd, cefnogaeth y cyhoedd ac ysbryd. Bydd pobl yn teimlo wedi eu twyllo—eu twyllo allan o brofiadau y gallen nhw fod wedi eu cael pe baen nhw hefyd wedi dewis ymddwyn gyda'r fath anghyfrifoldeb ymddangosiadol. Oherwydd mae aberth a dioddefaint eithafol wedi bod yn nodweddiadol o 2020 a 2021 i gynifer o bobl, a bydd y gwrthgyferbyniad llwyr hwnnw rhwng profiadau'r gweddill ohonom ni—y galar a'r golled—wedi'i gyfosod â phartïon a gwamalrwydd, yn anodd ei lyncu. Rwy'n cydnabod, Prif Weinidog, efallai y bydd Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar 'Ymgyrch Achub y Ci Mawr', ar y cig coch y maen nhw'n ei daflu o gwmpas, a does bosib y bydd hynny yn golygu bod diffyg canolbwynt yn y trafodaethau rhynglywodraethol ar leihau haint COVID. Felly, o ystyried faint y bydd ei weithredoedd honedig ei hun wedi tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd yn ystod pandemig, Prif Weinidog, a ydych chi'n credu y dylai Boris Johnson ymddiswyddo?
Wel, Llywydd, rwy'n siŵr bod Delyth Jewell yn iawn am y dicter sy'n cael ei deimlo gan bobl. Byddwn i gyd wedi darllen y straeon torcalonnus hynny am bobl a oedd, ar y diwrnod yr oedd partïon yn cael eu trefnu yn Downing Street, pan roedd disgos yn cael eu trefnu ar yr islawr, yn ymdopi â'r digwyddiadau mwyaf ofnadwy yn eu bywydau eu hunain. Ac nid yn unig fel y dywedodd Delyth Jewell, ei fod wedi cael effaith ar hyder y cyhoedd—wrth gwrs ei fod—ond mae dicter amrwd tuag at y ffordd y gwnaeth y bobl hynny, sy'n ystyried eu hunain rywsut yn uwch na'r gyfraith y gofynnwyd i bawb arall gadw ati, ymddwyn wrth wraidd y Llywodraeth. Mae Syr Keir Starmer, ar ran fy mhlaid i, wedi nodi ein barn yn awdurdodol ar ddyfodol Prif Weinidog y DU, ac nid oes angen i mi ychwanegu at hynny. Nid tynged unigolyn yw fy ofn, y peth sy'n fy mhoeni, ond y ffaith bod yn rhaid i ni ddelio â Llywodraeth nad yw'n gallu gwneud y penderfyniadau sy'n angenrheidiol i ddiogelu poblogaethau yng nghyd-destun COVID, ac sydd bellach wedi cychwyn ar y gyfres hir o fesurau a nodwyd gan Adam Price, nad ydyn nhw'n ymwneud â dyfodol y wlad—mae'n ymwneud ag achub croen unigolyn, ac mae hynny, yn fy marn i, yn eithriadol o ddi-chwaeth.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu cyllid i fusnesau lletygarwch yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau COVID-19 diweddar Llywodraeth Cymru? OQ57448
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud lefelau digynsail o gyllid ar gael i fusnesau Cymru drwy'r pandemig, gan gynnwys y gronfa cadernid economaidd ddiweddaraf o £120 miliwn a phecynnau ardrethi annomestig. Agorwyd cofrestriadau ar gyfer y cymorth ardrethi annomestig yr wythnos diwethaf, ac mae busnesau yng Nghymru eisoes yn derbyn taliadau.
Diolch, Prif Weinidog. Nawr, mae'n debyg eich bod chi'n ymwybodol fy mod i'n sicr mewn cysylltiad â'm busnesau lletygarwch yma yn Aberconwy, ac rwy'n derbyn cymaint o straeon torcalonnus. Maen nhw'n ei chael hi'n anodd iawn o ganlyniad i'r cyfyngiadau rydych chi wedi eu rhoi ar waith. Mae gen i un busnes sydd wedi cofnodi colled o £60,000; un arall wedi colli £36,000. Dim ond ers Gŵyl San Steffan mae hyn, neu, wel, pan gyflwynwyd y rheoliadau. Yr wythnos diwethaf, bu'n rhaid i un o fy musnesau ddiswyddo wyth aelod o staff, ac, fel y gallwch chi ddychmygu, nid yw hyn yn gynaliadwy. Felly, mae'r dystiolaeth o Aberconwy yn unig yn profi bod eich cymorth grant bellach yn rhy ychydig ac yn llawer rhy hwyr. Yn wir, mae nifer o fusnesau lleol yn cael eu heithrio. Nid wyf i'n siŵr a ydych chi'n ymwybodol, Prif Weinidog, ond mae nifer o berchnogion llety hunanarlwyo wedi cysylltu â mi mewn anobaith gan nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar unrhyw gymorth ariannol ac maen nhw wedi colli gwerth miloedd o bunnoedd o archebion. Mae rheol hurt bod yn rhaid i eiddo hunanarlwyo ddarparu ar gyfer 30 o bobl neu fwy. Felly, a wnewch chi ymchwilio i hyn, Prif Weinidog, o ran newid y rheolau cymhwysedd ar gyfer perchnogion llety hunanarlwyo? Maen nhw'n endid gwerthfawr o ran ein diwydiant twristiaeth yma. Ac a wnewch chi ystyried gwneud yn union fel y gofynnodd ein harweinydd—Andrew Davies—heddiw, a chynyddu rhywfaint o'r cyllid sydd ar gael, dim ond i helpu i achub y sector penodol hwn, ac yn wir llawer o swyddi? Diolch.
Llywydd, rwy'n hapus, wrth gwrs, i ymchwilio i fater penodol llety hunanarlwyo. Fe wnaf ysgrifennu at yr Aelod pan fyddaf wedi cael cyfle i wneud hynny. Gadewch i mi ailadrodd: nid Llywodraeth Cymru sydd wedi achosi'r anawsterau i fusnesau. Yr hyn sydd wedi eu hachosi yw'r ffaith ein bod ni wedi bod yn delio â thon o coronafeirws sydd wedi sgubo ar draws y wlad, gan achosi i filoedd ar filoedd o bobl fynd yn sâl, i fethu â bod ar gael yn y gweithle, ac i fethu â bod â'r hyder i fynd allan i fanteisio ar yr hyn sydd i'w gynnig gan y diwydiant lletygarwch. Dyna wraidd y broblem y mae busnesau wedi ei hwynebu, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi symiau sylweddol o arian, miliynau ar filiynau o bunnoedd, ar y bwrdd o'r cychwyn. Nid wyf i'n gwybod sut mae'r Aelod yn credu y gall gyfiawnhau'r syniad bod y cymorth yn rhy hwyr. Newidiodd y rheolau yng Nghymru ar 27 Rhagfyr, yng nghanol gwyliau banc ar gyfer y Nadolig a'r flwyddyn newydd, ac mae busnesau eisoes yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru.
Rydym ni wedi gallu, diolch i'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd, cwtogi effaith y don omicron yng Nghymru, ac wedi cyflwyno amserlen ar gyfer dychwelyd i lefel rhybudd 0. Rydym ni'n bwriadu gwneud hynny erbyn 28 Ionawr. Roedd gan y cymorth a gyhoeddwyd gennym ni ddiwedd y llynedd amserlen a oedd yn ymestyn i 14 Chwefror, ac rwyf i wedi trafod y mater hwn gyda Gweinidog yr economi, ac er gwaethaf y ffaith y bydd busnesau yn ôl yn masnachu ar delerau lefel 0 bythefnos cyn i'r cymorth hwnnw ddod i ben, rydym ni wedi penderfynu peidio â thynnu unrhyw arian a neilltuwyd i helpu busnesau yn ôl. Felly, bydd busnesau yn ôl yn masnachu yn gynharach nag a ragwelwyd gennym ni yn wreiddiol, ond byddwn yn cynnal y £120 miliwn llawn a gyhoeddwyd gennym ni yn wreiddiol er mwyn parhau i ddarparu'r lefel fwyaf hael o gymorth sydd ar gael i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
9. Pa uchelgeisiau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu prentisiaethau? OQ57483
Diolch i Jenny Rathbone am hynna, Llywydd. Rydym ni wedi ymrwymo i ehangu prentisiaethau yng Nghymru yn erbyn ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i greu 125,000 dros dymor y Senedd hon. Byddwn yn canolbwyntio ar brentisiaethau o ansawdd, cefnogi twf swyddi, datgarboneiddio, buddsoddi mewn prosiectau seilwaith, symudedd cymdeithasol a chynyddu sgiliau mewn meysydd galwedigaethol technegol.
Diolch, Prif Weinidog. Mae cant a phum mil ar hugain yn darged rhagorol iawn. Roeddwn i'n meddwl tybed a oeddech chi'n gallu dweud faint sydd yna heddiw, dim ond fel ein bod ni'n deall faint o ffordd y mae'n rhaid i ni ei theithio, ac yn eich barn chi, a fydd hyn yn ddigonol i ymateb i'r holl heriau y mae Cymru yn eu hwynebu yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn ogystal â hynny, y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio wirioneddol bwysig, sydd ei hangen mor ddybryd i wneud ein holl gartrefi yn gynnes ac yn garbon niwtral?
Diolch i Jenny Rathbone am hynna, Llywydd. Oherwydd y math o oedi yn y ffordd y caiff ystadegau eu cynhyrchu, byddwn ni'n gweld y diweddariad cyntaf ar gynnydd tuag at y targed o 125,000 ym mis Chwefror eleni, pan fydd data ar gyfer pedwerydd chwarter blwyddyn academaidd 2020-21 ar gael. Mae ein hyder i allu cyrraedd y nifer hwnnw yn dibynnu ar y ffaith ein bod ni wedi llwyddo i gyrraedd ein targed o 100,000 yn ystod tymor diwethaf y Senedd. Mae'n rhaid i mi ddweud, a gwn y bydd yr Aelod dros Ganol Caerdydd yn sicr yn deall hynny, bod y llethr y mae'n rhaid i ni ei ddringo i gyrraedd 125,000 wedi cael ei wneud yn fwy serth gan ddiddymiad cyllid Ewropeaidd, a wnaeth gymaint yn nhymor diwethaf y Senedd i ganiatáu i ni fuddsoddi yn y sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer dyfodol economi Cymru, a heb y cymorth hwnnw, a gyda Llywodraeth y DU yn troi ei chefn yn llwyr ar sicrwydd na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd, mae ein gallu i gyflawni'r rhaglen brentisiaeth honno bellach yn fwy anodd. Ond byddwn yn parhau i'w chyflawni, gan ein bod ni'n gwybod bod hwnnw yn fuddsoddiad allweddol yn y sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc ac eraill, a'r sgiliau y bydd eu hangen ar economi Cymru, ac mae'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn gyfle enfawr i gyflogwyr ac i ddysgwyr. Rydym ni'n canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod ein colegau addysg bellach yn gallu addysgu'r sgiliau y bydd eu hangen yn y rhaglen honno ac eraill ar gyfer y dyfodol.
Cefais y fraint o ymweld ag un o'n colegau addysg bellach yn y gogledd-ddwyrain yn eithaf diweddar, a gwelais drosof fy hun y ffordd yr oedd y sgiliau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, yn cael eu rhoi ar waith eisoes yn y cwricwlwm newydd, a'r ffyrdd newydd yr oedd y sgiliau hynny yn cael eu darparu. Dyna sy'n rhoi'r hyder i ni, er gwaethaf uchelgais y targed, a'r rhwystrau newydd sy'n ein hwynebu o ran ei gyflawni, bod yr ymdrech yn cael ei gwneud ledled Cymru a fydd yn ein rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Ac felly, yr eitem nesaf o fusnes yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae gen i un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn y man i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am COVID-19. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar gyfnodau hunanynysu COVID-19 i gleifion ysbyty? Byddwch chi'n ymwybodol, Gweinidog, fod straeon wedi dod i'r amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf am effaith y cyfnod hunanynysu 14 diwrnod ar fenyw ifanc, Catherine Hughes, yn Ysbyty Maelor Wrecsam, sy'n glaf iechyd meddwl yn uned Heddfan. Mae hi wedi bygwth cymryd ei bywyd ei hun o ganlyniad i fod yn hunanynysu, ac mae pryderon wedi bod yn dod i'r amlwg gan ei rhieni ynghylch ei diogelwch. Rwyf i yn credu ei bod hi'n bryd i ni edrych ar y cyfnod penodol hwn o 14 diwrnod, yn enwedig o ystyried bellach mai dim ond am saith diwrnod y mae'n rhaid i staff hunanynysu, ar yr amod bod ganddyn nhw ddau brawf llif unffordd clir. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddoeth yn awr i gael adolygiad o'r cyfnod hwnnw o 14 diwrnod.
Yn ogystal â hynny, Trefnydd, rwy'n sylwi, ar y datganiad busnes ar gyfer yr wythnos nesaf, y bydd datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar achlysur Diwrnod Cofio'r Holocost, sydd, wrth gwrs, hefyd yn digwydd yn fuan iawn. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol o'r pryderon sydd wedi eu codi ynghylch penodiad diweddar y comisiynydd plant yma yng Nghymru, a chysylltiadau posibl â gwrthsemitiaid a phresenoldeb mewn ralïau gwrth-semitig. Rwyf i yn credu bod angen rhywfaint o sicrwydd arnom ni gan Lywodraeth Cymru ynghylch penodiad penodol Rocio Cifuentes, ac rwy'n credu bod datganiad yr wythnos nesaf ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost yn rhoi cyfle i wneud hynny. Diolch.
O ran eich cais cyntaf, rwy'n gwybod bod y cyfnod hunanynysu yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlwg yn ei adolygu'n rheolaidd wrth i ni gael mwy o gyngor iechyd cyhoeddus a gwyddonol.
O ran eich ail bwynt, nid oeddwn i'n ymwybodol o unrhyw bryderon, ac, yn amlwg, cafodd datganiad ysgrifenedig ei wneud gan y Prif Weinidog o ran y penodiad hwnnw, ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi clywed eich sylwadau.
Ar 7 Ionawr, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ysgrifenedig mewn cysylltiad â chyllid ychwanegol ar gyfer darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, y mae ei angen yn fawr, wrth gwrs, ac a gaiff ei groesawu yn fawr. Fodd bynnag, yn gysylltiedig â hyn hefyd mae'r cyllid ychwanegol sydd ei angen ar gyfer asesiadau niwrolegol ar gyfer plant a phobl ifanc, er mwyn gallu nodi bod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arnyn nhw, rhywbeth sy'n cael ei ariannu drwy iechyd, wrth gwrs. A gaf i ofyn am ddatganiad felly gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am y cymorth a fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i sicrhau asesiadau niwrolegol amserol, gan ei fod yn fater y mae nifer o etholwyr wedi ei godi'n bryder gyda mi?
Byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig ar y mater hwnnw.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Y cyntaf yw i'r Gweinidog cyllid roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol, ac i'r wybodaeth ddiweddaraf gynnwys faint sydd wedi dod i law, ble y mae wedi ei wario, faint sydd wedi ei dalu'n ôl i Lywodraeth Cymru, a chymhwystra cwmnïau cydweithredol i allu manteisio arno.
Mae'r ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn amdano yn ymwneud â Llywodraeth San Steffan yn mynnu bod gweision sifil mewn adrannau fel yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, a allai weithio gartref yn rhwydd, fynd i mewn i'r swyddfa. Mae hyn yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru o weithio gartref os yw'n bosibl. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi datganiad ynghylch sut y maen nhw am ymgysylltu â Llywodraeth San Steffan yn hyn o beth, a rhoi diwedd arno, gobeithio?
Diolch. Wel, mae'n amlwg y dylai unrhyw adran ac asiantaeth Llywodraeth y DU sydd â swyddfa yng Nghymru ddilyn y rheoliadau a'r canllawiau COVID sy'n berthnasol i Gymru. Felly, yn ystod y pandemig, fel Llywodraeth, rydym ni wedi codi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU ar sawl achlysur, mewn gohebiaeth ac mewn cyfarfodydd hefyd. Rydym ni wedi ei gwneud yn glir iawn bod angen i unrhyw sefydliad sy'n gweithredu yng Nghymru sicrhau ei fod yn gweithredu mewn modd sy'n amlwg yn gyson â'n rheoliadau a'n canllawiau ni. A byddwn yn sicr yn parhau i godi pryderon penodol, os byddan nhw'n cael eu dwyn i'n sylw, gyda Llywodraeth y DU, neu unrhyw awdurdod neu sefydliad arall, yn hynny o beth.
O ran eich pwynt cyntaf, ynghylch y cyfalaf trafodiadau ariannol, bydd y Gweinidog cyllid yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ysgrifenedig am gwestiwn yr Aelod i gyd-fynd â chyhoeddi ein cyllideb derfynol, a fydd yn cynnwys penderfyniadau ar ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol.
Rwy'n gofyn am ddatganiad, Gweinidog busnes, gan y Gweinidog addysg, os gwelwch yn dda. Wrth i amser ddirwyn i ben o ran un o'r newidiadau seismig mwyaf mewn addysg ers cenhedlaeth, rwy'n pryderu ynghylch yr hyn rwy'n ei glywed ar lawr gwlad ymhlith staff addysgu—cyn lleied y maen nhw’n teimlo eu bod yn barod ar hyn o bryd oherwydd y tarfu mynych yn sgil y cyfyngiadau, a phryderon am y diffyg cefnogaeth neu gyfeiriad amlwg yn y camau terfynol hyn o baratoadau'r cwricwlwm newydd yn awr, yn ystod y misoedd allweddol diwethaf cyn iddo ddechrau. Yn syml iawn, mae rhai athrawon bellach yn plygu o dan y pwysau y maen nhw'n eu hwynebu. Felly, a gawn ni ddatganiad llafar gan y Gweinidog addysg i fynd i'r afael â'r pryderon hyn, ac a gaf i ofyn am eglurder ynghylch y cam paratoi olaf hwn yn awr, gan ganolbwyntio, os yw'n bosibl, ar i ba raddau y mae modd ymestyn sybsidiaredd—y sylfaen y mae ein cwricwlwm newydd wedi ei hadeiladu arni—ar lefel yr ysgol, y diweddaraf am beth fydd y cynnig dysgu proffesiynol, ac am eglurder ynghylch sut y bydd cymwysterau yn edrych yn y dyfodol? Llawer o ddiolch.
Diolch. Wel, drwy gydol y pandemig, mae ein blaenoriaeth ni wedi bod yn llwyr i sicrhau dysgu gymaint â phosibl a lleihau'r tarfu ar ein pobl ifanc gymaint â phosibl. Ond, yn amlwg, yn ystod y bron i ddwy flynedd ddiwethaf erbyn hyn, rydym ni wedi gweld rhywfaint o darfu, ond mae gwaith i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd wedi parhau. Mae'r Gweinidog wedi sicrhau bod cyllid ar gael, ac, yn amlwg, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, rydym ni'n dechrau ar y cyfnod olaf bellach cyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Ac os oes gan y Gweinidog addysg unrhyw wybodaeth newydd, byddaf i'n gofyn iddo gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Gweinidog, bydd fy natganiad busnes mewn dwy ran heddiw, os yw hynny'n iawn, bydd y gyntaf yn ymwneud â'r oedi wrth gyhoeddi cyfrifon Llywodraeth Cymru. Er fy mod i'n mwynhau eistedd ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus gyda chyd-Aelodau o wahanol bleidiau, yn ogystal â gyda'n clercod a'n hymchwilwyr gwych, mae'n amlwg bod yr oedi hwn yn llesteirio gwaith y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus wrth graffu ar Lywodraeth Cymru a'i dwyn i gyfrif. Rwy'n deall mai'r rheswm dros yr oedi hwn yw'r angen i gwblhau un eitem unigol, ac rwyf i'n pryderu, os na chaiff hynny ei wneud yn gyflym, y gallai achosi ôl-groniad o waith ac ychwanegu at feichiau staff y pwyllgor. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad ar hyn cyn gynted â phosibl.
Yn ail, Gweinidog, mae'r Senedd yn trafod yr wythnos hon gynnydd i'r gost byw, ac un ffactor allweddol yn hyn o beth yw costau ynni, y mae llawer o fy nghyd-Aelodau wedi sôn amdanyn nhw yn eu cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae cynllun Nyth Llywodraeth Cymru yn cynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref i leihau biliau ynni. Ac fel yr wyf i wedi sôn, cyfeiriodd y Prif Weinidog at hynny'n gynharach. Fodd bynnag, Gweinidog, nid oes unrhyw grantiau penodol ar gyfer paneli solar yng Nghymru. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i gynllun i ddarparu grantiau i baneli solar gael eu gosod ar eiddo domestig yng Nghymru i helpu pobl gyda'u biliau tanwydd? Diolch yn fawr iawn.
Wel, mater i'r Ysgrifennydd Parhaol yw'r mater cyntaf y gwnaethoch ei godi, ac nid unrhyw Weinidog. Felly, mae arnaf i ofn na fydd datganiad yn cael ei gyflwyno mewn cysylltiad â hynny.
Rydych chi'n hollol gywir; rwy'n credu mai cynllun Nyth yw un o'r cynlluniau gorau sydd gan Lywodraeth Cymru. O ran eich cais penodol ynghylch paneli solar—yn sicr, wrth siarad fel Gweinidog ynni blaenorol, yn amlwg, gyda Llywodraeth y DU yn dileu'r tariff, rwy'n gwybod bod llawer o awdurdodau lleol a oedd yn ceisio cyflwyno paneli solar wedi newid eu barn oherwydd hynny. Felly, nid wyf i'n credu y byddai hynny'n briodol ar gyfer datganiad chwaith.
Gweinidog, fis diwethaf, roeddwn i'n falch iawn o roi tri diffibriliwr—dau i ysgolion cynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac un i ganolfan adsefydlu Brynawel. A dyma dynnu sylw, mewn gwirionedd, unwaith eto at bwysigrwydd datblygu ein rhwydwaith Cymru gyfan a nifer y diffibrilwyr yn y frwydr i achub bywydau. A all y Llywodraeth, yn rhan o'r ymgyrch barhaus hon, ymrwymo hefyd i adolygu cynnydd o fewn y 12 mis nesaf er mwyn sicrhau ein bod ni'n cadw pwyslais cenedlaethol ar hyn a threfnu amser yn y Senedd hefyd i ystyried pa gamau eraill y mae angen eu cymryd? Diolch, Gweinidog.
Diolch, ac rwy'n cymeradwyo'r Aelod—gwelais ar ei gyfrif Twitter y gwaith y mae wedi ei wneud o ran darparu diffibrilwyr. Rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol bod cynyddu nifer y diffibrilwyr yn y gymuned yn elfen allweddol o waith y bartneriaeth Achub Bywyd Cymru. Ar 15 Medi, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi £0.5 miliwn arall wedi ei ddyrannu i wasanaeth ambiwlans Cymru i brynu bron i 500 yn fwy o ddiffibrilwyr, ac rwy'n gwybod bod grwpiau a sefydliadau cymunedol wedi gallu gwneud cais am y cyllid hwnnw. Ond rwy'n credu—. Fe wnaethoch chi gyfeirio at beth pwysig iawn, ac mae'n bwysig ein bod ni'n datblygu'r rhwydwaith hwnnw o ddiffibrilwyr.
Yn olaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar gamau i hybu adeiladu tai yng Nghymru? Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gostyngodd nifer yr anheddau newydd 31 y cant i 4,314. Gostyngodd nifer y cartrefi a gafodd eu cwblhau 24 y cant i 4,616. Mae nifer y cartrefi newydd sy'n dod i'r farchnad ar duedd tuag i lawr i gryn dipyn yn llai na'r targed o 12,000 y dylem ni fod yn eu hadeiladu yng Nghymru bob blwyddyn. Yr wythnos hon, mae Rightmove wedi datgelu mai dim ond 12 o eiddo oedd ar gael i'w gwerthu fesul cangen asiantaeth dai a bod yr amser cyfartalog i ddod o hyd i brynwr bythefnos yn fyrrach ym mis Rhagfyr 2021 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fel y mae Rightmove wedi ei rybuddio, bydd prisiau tai yn parhau i godi nes y bydd mwy o ddewis ar gael ar y farchnad, felly mae angen gwirioneddol i ni atal yr oedi o ran adeiladau newydd yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Gweinidog Newid Hinsawdd roi datganiad llafar ar y mater hwn? Gan fy mod i'n gwybod bod fy nghyd-Aelod James Evans wedi codi'r mater yn gynharach am y ffosffadau a'r tagfeydd sydd gennym ni bellach yn y cartrefi newydd sy'n cael eu cyflwyno. Felly, os byddai modd i ni gael datganiad ar hynny, rwy'n credu y byddai er budd y Senedd. Diolch.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu sy'n ymwneud ag adeiladu tai. Er fy mod i yn sylweddoli ein bod ni wedi gweld gostyngiad, mae'n amlwg y bydd pandemig COVID wedi cael effaith ar hynny, felly rydym ni yn gobeithio, pan fyddwn ni'n dod allan o'r cyfyngiadau ac yn y blaen, y byddwn ni'n gweld mwy o dai yn cael eu hadeiladu, oherwydd yn amlwg bod hynny wedi cael effaith. Roedd y mater y cododd James Evans â'r Prif Weinidog yn benodol iawn a byddwch chi wedi clywed ateb y Prif Weinidog i'w gwestiwn.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar COVID-19. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am y cyfle.
Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau unwaith eto yr wythnos hon am yr hyn sy'n amlwg iawn yn sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n symud yn gyflym iawn. Yr wythnos diwethaf, adroddais fod posibilrwydd y gallai achosion barhau i gyrraedd uchafbwynt yn ystod y saith i 10 diwrnod nesaf, ac ers hynny rydym ni wedi bod yn monitro'r sefyllfa yn ofalus iawn. Yn ystod yr wythnos diwethaf, rydym ni wedi gweld rhai arwyddion clir iawn o welliant mewn gwirionedd, sy'n awgrymu bod y mesurau yr ydym ni wedi eu cymryd yn gweithio. Ond rwy'n dweud hyn â phwyll. Yn ystod y chwe wythnos diwethaf, rydym ni wedi gweld sut y gall pethau newid yn gyflym iawn, ond rydym ni wedi bod yn glir drwy'r amser na fyddem ni'n gorfodi cyfyngiadau ar bobl Cymru am fwy o amser nag sydd ei angen, ac felly rydym ni'n gweithredu ar y dystiolaeth sydd o'n blaenau ni.
Yr wythnos hon, yn gyffredinol mae nifer yr achosion wedi gostwng i 572 ym mhob 100,000, gyda phrofion positif wythnosol yn 35.8 y cant. Fel y dywedais i yr wythnos diwethaf, ac yn gorfod ei ailadrodd, mae newidiadau i'r drefn brofi wedi effeithio ar niferoedd achosion, ynghyd â'r ffaith nad ydym yn ei gwneud yn ofynnol mwyach i'r rhai sy'n profi'n bositif ar brawf llif unffordd gael prawf PCR i gadarnhau. Ond dechreuodd y gostyngiad mewn achosion yr ydym ni'n ei weld ychydig ddyddiau cyn y newid hwn i'r drefn brofi ac mae'r gyfradd o brofion positif yn gostwng hefyd. Mae'n rhaid i ni bellach ddibynnu ar amrywiaeth ehangach o fesurau i barhau i ddeall y don hon. Felly, mae'n bwysicach byth i bobl adrodd canlyniad pob prawf llif unffordd y maen nhw'n ei wneud, a hunanynysu cyn gynted ag y byddan nhw’n profi'n bositif.
Yn seiliedig ar adroddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n cymharu dechrau mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn profion llif unffordd yn cael eu hadrodd ar gov.uk, gyda bron i 200,000 o brofion ychwanegol yn cael eu hadrodd yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar 9 Ionawr. Mae hwn yn arwydd cadarnhaol bod pobl Cymru yn gwrando ar y cyngor, yn gwneud y profion yn fwy rheolaidd ac yn adrodd y canlyniadau.
Cyfanswm y bobl yn yr ysbyty â COVID-19 yw ychydig dros 1,100, ac mae rhai arwyddion cynnar bod cyfanswm y cleifion COVID-19 yn yr ysbyty yn gostwng a bod cyfradd y derbyniadau yn dechrau arafu. Yn seiliedig ar ein data diweddaraf, mae nifer yr heintiau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle y cafodd mesurau mwy amddiffynnol eu rhoi ar waith, yn is nag yn Lloegr, ac mae arwyddion bellach fod y twf mewn heintiau yng Nghymru yn arafu. Am y rhesymau hyn, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddydd Gwener fod y Cabinet bellach wedi cytuno ar fap ffyrdd i'n tywys ni yn ôl i lefel rhybudd 0, cyn belled â'n bod ni'n parhau i weld gwelliannau yn sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddwn yn gwneud hyn yn ofalus ac mewn ffordd raddol er mwyn ein galluogi i sicrhau bod yr arwyddion cynnar o welliant yn parhau cyn i ni wneud newidiadau eraill.
Ein newid cyntaf oedd bod nifer y bobl a all fod yn bresennol mewn digwyddiadau awyr agored wedi cynyddu o 50 i 500 o ddydd Sadwrn ymlaen.
Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i wella, o ddydd Gwener yma, 21 Ionawr ymlaen, bydd pob gweithgaredd awyr agored yn cael ei symud i lefel rhybudd 0. Mae hyn yn golygu na fydd cyfyngiadau ar y niferoedd all gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored. Gall torfeydd ddychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored, bydd mannau lletygarwch awyr agored yn gallu gweithredu heb fesurau ychwanegol, ond fe fydd angen pàs COVID cyn cael mynediad i ddigwyddiadau awyr agored mawr. Yna, o ddydd Gwener 28 Ionawr ymlaen, ein bwriad yw symud i lefel rhybudd 0 ar gyfer pob gweithgaredd dan do. Mae hyn yn golygu y gall clybiau nos ailagor ac ni fydd hi'n ofyniad cyfreithiol i weithio o gartref, er y byddwn ni'n parhau i argymell hynny. Yn yr un modd â digwyddiadau awyr agored mawr, bydd yn dal i fod angen pàs COVID cyn cael mynediad i ddigwyddiadau mawr, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.
Rŷn ni nawr yn cymryd ein camau cyntaf yn ôl at lefel rhybudd 0. Rŷn ni'n gallu gwneud hyn gan fod pobl Cymru wedi gwneud yr hyn rŷn ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud i sicrhau eu diogelwch nhw a'u hanwyliaid. Mae hefyd yn bwysig yn cydnabod bod ein rhaglen frechu wych yn allweddol i'n galluogi ni i symud ymlaen. Mae mwy na 1.7 miliwn o unigolion yng Nghymru wedi cael dos o'r brechlyn atgyfnerthu. Heb amheuaeth, mae'r ymdrech aruthrol hon wedi rhoi amddiffyniad ychwanegol i bob un ohonom ni yn erbyn yr omicron. Hoffwn bwysleisio unwaith eto nad yw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu. Dwi am ei gwneud hi'n glir y byddwn ni'n parhau i annog pawb sy'n gymwys i gael eu brechiad a'u brechiad atgyfnerthu. Mae hyn yn achub bywydau, yn cadw'r pandemig dan reolaeth ac yn diogelu ein gwasanaeth iechyd.
Llywydd, er bod y neges heddiw yn eithaf cadarnhaol ac yn optimistaidd, mae'n rhaid imi bwysleisio nad yw hyn yn golygu bod y pandemig drosodd. Mae omicron yn dal i fod gyda ni ac mae'n rhaid inni barhau i fonitro'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd wrth i'r cyfyngiadau hyn ddechrau llacio. Ond, hoffwn ddiolch unwaith eto i bobl Cymru, ein gwasanaeth iechyd, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a phawb sydd wedi gweithio mor galed i'n diogelu ni. Heb ddealltwriaeth a chydweithrediad pawb yng Nghymru, ni fyddem ni'n gallu symud ymlaen yn y ffordd rŷn ni nawr yn bwriadu ac yn gobeithio gwneud dros yr wythnosau nesaf. Diolch yn fawr, Llywydd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei sesiwn friffio yn gynharach i mi a fy nghyd-Aelodau? Roedd hynny wedi ei werthfawrogi, Gweinidog. Ac, wrth gwrs, diolch i chi am eich datganiad heddiw, yr oedd llawer ohono yn hysbys i ni, wrth gwrs, o'r gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener diwethaf gan y Prif Weinidog.
A gaf i ofyn am y cyfnod ynysu yn gyntaf, Gweinidog? Roeddwn i wedi fy siomi braidd nad oedd gennym ni ddim ar hynny yn y datganiad heddiw. Rydym ni'n gwybod bod Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi canfod nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn heintus ar ôl pum diwrnod ac rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi lleihau'r cyfnod o saith i bum diwrnod, er bod yn rhaid i chi gael prawf negatif ar y pumed diwrnod. Yn amlwg, mae manteision enfawr o leihau'r cyfnod hwnnw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau iechyd sydd o dan bwysau aruthrol, fel y maen nhw yn fawr iawn yma yng Nghymru. Felly, a allwch chi roi syniad i ni pryd y byddwch chi'n gwneud cyhoeddiad ar leihau'r cyfnod ynysu hwnnw a'ch ystyriaethau ynghylch hynny? Yn amlwg, ar ryw adeg, ni fydd unrhyw gyfnod ynysu. Nid ydym ni yno eto, ond byddwn ni yn cyrraedd y pwynt hwnnw rywbryd.
O ystyried bod yr amrywiolyn omicron wedi cilio mor gyflym, fe wnaethoch chi ddweud yn eich datganiad heddiw ei fod yn newyddion i'w groesawu, ac rwy'n cytuno ei fod yn newyddion i'w groesawu'n fawr, wrth gwrs, yn hynny o beth. Ond rydym ni wedi gweld cyfraddau achosion yn plymio mor gyflym ag y gwnaethon nhw gyrraedd, sydd yn newyddion da, ond, yn hynny o beth, rwy'n gofyn, a byddech chi'n disgwyl i mi ofyn, am amseriad y Llywodraeth ar godi cyfyngiadau, sy'n niweidiol yn economaidd—ac rydym ni'n gwybod, wrth gwrs—ac rwy'n awgrymu, bod cael cyfyngiadau yn ddiangen yn glinigol, yn enwedig ar ddigwyddiadau lletygarwch a chwaraeon. A gaf i ofyn i chi pam na wnaethoch chi ddod â'r cyfyngiadau i ben ar yr un pryd? Cawson nhw eu cyflwyno ar yr un pryd, felly pam na chawson nhw eu dileu ar yr un pryd, o gofio bod y cyfraddau achosion wedi plymio mor gyflym ag y daethon nhw? A byddech chi'n disgwyl i mi ofyn y cwestiwn hwn, Gweinidog, ond a ydych chi'n credu bod y cyfyngiadau a gafodd eu rhoi ar waith yn orymateb? Rwy'n tybio eich bod chi wedi disgwyl i mi ofyn y cwestiwn hwnnw.
Rwy'n pryderu, Gweinidog, ynghylch rhai o'r negeseuon y mae'r Senedd a'r cyhoedd yng Nghymru yn eu cael. Ddydd Mawrth diwethaf, ac rwy'n eich dyfynnu chi yn y fan yma, fe wnaethoch chi ddweud hyn:
'Rydym ni yng nghanol y storm ar hyn o bryd; nid nawr yw'r amser i siarad am ddod i ben â'r mesurau amddiffyn yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith.'
Dim ond dydd Mawrth diwethaf oedd hynny. Felly, nid oeddem ni'n cael siarad amdanyn nhw hyd yn oed ddydd Mawrth diwethaf, ac yna, ddeuddydd yn ddiweddarach, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai rhai o'r cyfyngiadau'n dod i ben. Rydym ni'n gwybod hefyd fod cyfraddau derbyniadau i'r ysbyty bron i draean o'r amrywiolyn delta yr adeg hon y llynedd, a bod cyfraddau marwolaeth yn un rhan mewn pedair ar bymtheg, o'i gymharu â'r un cyfnod o amser. Felly, dyma pam yr wyf i'n gofyn y cwestiwn am y gorymateb a'ch geiriau chi yn hyn o beth.
Dywedodd y Prif Weinidog fis diwethaf, ym mis Ionawr, y gallai hanner poblogaeth y DU fod yn sâl â COVID. Wrth gwrs, nid yw hynny wedi digwydd ac nid ydym ni wedi dod i ddiwedd mis Ionawr eto, ond nid oes neb yn awgrymu bod hynny'n wir bellach. Ond, wrth gwrs, dywedodd y Prif Weinidog hynny ar sail y data a oedd wedi eu cyflwyno iddo ef ac ar sail y modelu, felly rwy'n deall hynny. Ond a gaf i ofyn, y pwysau yr ydych chi'n ei roi ar fodelu wrth wneud penderfyniadau, yn enwedig modelu'r senarios gwaethaf, pa ddadansoddiad y mae'r Llywodraeth yn ei gynnal o'r modelu ar ôl y digwyddiad o ran cadarnhau cywirdeb o'i gymharu â'r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd? Ac a ydych chi'n credu ei bod yn bryd cael adolygiad ehangach o sut y mae modelu yn cael ei gynnal ac, yn bwysicach, y pwysau sydd ynghlwm wrtho o'i gymharu â'r ystyriaethau eraill y mae'n rhaid eu cydbwyso hefyd?
Edrychais yn ôl ar eich sylwadau yr wythnos diwethaf, Gweinidog, pan ofynnais i chi am eich cynlluniau o ran byw â COVID yn y dyfodol, ac roeddech chi wedi synnu braidd fy mod i'n gofyn y cwestiynau hynny ac yn awgrymu nad dyma'r amser i siarad am y pethau hyn. Ond, wrth gwrs, rwy'n gwybod bod Plaid Lafur y DU wedi trafod byw â COVID hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y caf i ofyn y cwestiwn hwn i chi mewn ffordd sy'n cael ateb cliriach yr wythnos hon: beth yw eich cynlluniau o ran byw â COVID? Nid yw'r cyhoedd yn dymuno bod dan fygythiad cyfyngiadau o un gaeaf i'r nesaf, ac ni fyddwch chi'n dymuno hynny chwaith, Gweinidog, felly a gawn ni ychydig mwy o wybodaeth am eich cynlluniau ar gyfer byw â COVID?
Ac yn olaf, Gweinidog, mae'r cwestiwn olaf y byddaf i'n ei ofyn i chi yn ymwneud â'r ffordd gyflymaf o gael tystysgrif brechu. Fe wnaethoch chi ddweud mai gwasanaeth pàs COVID digidol y GIG yw'r ffordd gyflymaf o hyd o gael prawf o ardystiad brechlyn. Nid yw hynny'n wir i lawer o bobl. Ni all tri o fy etholwr i—un yng Nghaeredin—gael y pàs, gael tystysgrif 'wedi'i frechu'n llawn', oherwydd cafodd un brechiad yn y Drenewydd, ac un yng Nghaeredin, ac mae sefyllfa debyg i rywun yn Ffrainc. Ac nid oedd etholwr yr wythnos diwethaf yn gallu cael ei ardystio oherwydd ei fod yn mynd â'i blentyn ifanc, am resymau iechyd, ar gyfer triniaeth iechyd brys, i ran arall o Ewrop, a'r peth olaf yr oedd ei angen ar y teulu oedd eu bod yn methu â chael eu hardystiad brechu oherwydd nad yw apiau yn gweithio ar y cyd â gwledydd eraill. Felly, a gaf i ofyn i chi, yn hynny o beth, pam ydym ni ar ei hôl hi o ran ap GIG Cymru, a phryd y gallwn ni ddisgwyl bod mewn sefyllfa lle caiff y materion hyn eu datrys? A allwch chi roi dyddiad i ni ar y mater penodol hwnnw a phryd y byddwn ni'n gweld yr ap yn gweithio fel y dylai fod, Gweinidog?
Diolch yn fawr iawn, Russell. Yn gyntaf, o ran y cyfnod ynysu, byddwch chi'n ymwybodol, Russell, ein bod ni eisoes wedi lleihau hynny o 10 i saith diwrnod, ac roedd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, yn ddigon diddorol, roedd ei thystiolaeth yn gadarn iawn yn flaenorol ar y ffaith ei bod yn dymuno cadw at saith. Nawr, rwyf i ar ddeall nad yw'r dystiolaeth sylfaenol ar hyn wedi newid. Nid wyf i wedi gweld o hyd y dadansoddiad y cafodd y penderfyniad hwnnw ei seilio arno, felly rwy'n aros am gyngor ar hynny. Rydych chi'n dweud, Russell, fod y rhan fwyaf wedi mynd ar ôl pum niwrnod. Mae hynny'n wir, ond mae 30 y cant o bobl dal i gario'r haint ar ôl pum diwrnod. Felly, mae hynny'n gryn dipyn o bobl. Felly, os ydych chi'n awyddus i fod yn anfon pobl yn ôl i weithleoedd ar ôl pum diwrnod a bod 30 y cant ohonyn nhw yn y sefyllfa honno, yna rwyf i yn credu bod angen i ni ystyried hynny yn eithaf difrifol. Byddwn yn ystyried y dystiolaeth ar hyn. Fy nadansoddiad i, o wylio'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr yw bod hwn, mewn gwirionedd, yn alwad wleidyddol ac mae'n alwad barn nad ydyn nhw'n ei gwneud ar sail gwyddoniaeth a thystiolaeth, nid ar sail gwyddoniaeth a thystiolaeth sydd wedi newid, ond ar sail y pwysau sydd ar y GIG a gwasanaethau eraill ar hyn o bryd. Felly, mae'n fwy o farn wleidyddol. Nawr, mae'n rhaid i ni asesu'r risgiau. Efallai ein bod ni mewn sefyllfa wahanol o ran risg, ond gadewch i ni fod yn gwbl glir: mae perygl os ydym yn anfon pobl yn ôl i weithleoedd a gallai 30 y cant ohonyn nhw fod yn cario'r feirws. Mae hynny'n risg arall y mae'n rhaid i chi ei hystyried. Nawr, byddwn yn ystyried y data hynny yn ystod y dyddiau nesaf ac yn gwneud dyfarniad ar hynny erbyn diwedd yr wythnos hon.
Rydych chi'n hollol gywir bod cyfraddau achosion yn plymio, sy'n wych. Ac roedd yn ddiddorol iawn i chi ofyn am godi cyfyngiadau a pham nad ydym yn eu codi'n gynharach. Wel, y rheswm yw ein bod gennym ni gyfraddau uchel iawn o hyd. Nawr, maen nhw'n llawer gwell nag yr oedden nhw wythnos yn ôl, ond mae gennym ni 572 o achosion ym mhob 100,000 o hyd. Nawr, pe baem ni yn y sefyllfa honno ganol mis Awst y llynedd, byddem ni wedi bod yn taflu ein dwylo i fyny yn yr awyr, gan ddweud, 'Duw, mae'r rhain yn gyfraddau uchel'. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol nad ydym ni allan o berygl eto. Mae'r rhain yn gyfraddau uchel iawn o hyd; ond nid ydyn nhw mor uchel ag yr oedden nhw wythnos yn ôl. Ac rwyf i yn credu, o ran gofyn a wnaethom ni orymateb, fod yn rhaid i mi ddweud wrthych chi fod ein dadansoddiad cychwynnol, a dadansoddiad cychwynnol ydyw yn wir, yn awgrymu, er bod tua 170,000 o bobl yng Nghymru wedi cael COVID ar un adeg—mae hynny'n ddigon o bobl i lenwi stadiwm y mileniwm tua dwywaith a chwarter—pe na fyddem ni wedi cyflwyno cyfyngiadau, y byddem ni wedi cael 69,000 o bobl ychwanegol â COVID. Felly, mae hynny'n ddigon i lenwi stadiwm y mileniwm eto bron, pe byddem ni wedi dilyn yr hyn a ddigwyddodd yn Llundain a'r math o gyfraddau y gwnaethon nhw eu cyrraedd pan na wnaethon nhw roi unrhyw gyfyngiadau ar waith. Felly, dyna ein dadansoddiad cychwynnol. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud ychydig mwy o ddadansoddi o amgylch hynny. Ac, yn amlwg, mae yn briodol i ni ddadansoddi ar ôl y digwyddiad—rydych chi'n hollol gywir. Rydym yn awyddus iawn i ddysgu—rydym ni i gyd yn dysgu yma. Amrywiolyn newydd yw hwn; nid oedd neb wedi clywed am omicron mis a hanner yn ôl. Ac felly, yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud, roeddem ni'n dibynnu ar fodelu a oedd yn defnyddio data amherffaith i fynd i'r afael ag ef ac i benderfynu sut yr oedd y modelu hwnnw yn edrych. Felly, fe wnaethom ni gyrraedd uchafbwynt yn gynharach na'r disgwyl, ni wnaethom ni wedi gweld cynifer o dderbyniadau i'r ysbytai ag yr oeddem ni wedi ei ofni, felly nid oedd rhywfaint o'r modelu hwnnw, efallai, yn y man yr oeddem yn meddwl y gallai fod, ond mewn ffordd dda, ond hefyd, yr hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd yw pe byddem ni wedi dilyn rhai o'r dyfarniadau yr oedd pobl yn gofyn i ni eu hystyried, sef cyflwyno cyfyngiadau llymach, efallai y byddai hynny wedi bod yn orymateb. Ond rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud pethau'n iawn fwy neu lai, ac yn amlwg amser a ddengys a oeddem ni wedi ei gael yn iawn fwy neu lai. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi, Russell, yw bod pobl Cymru o'r farn mai Prif Weinidog Cymru, yn hawdd, yw'r arweinydd mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae ei farn ef yn sicr yn rhywbeth y mae pobl Cymru yn ei gwerthfawrogi. Roedd Boris Johnson ar oddeutu 39 y cant—mae sut ddiawl y cafodd 39 y cant y tu hwnt i mi—ond roedd Mark Drakeford ymhell o'i flaen ef a Nicola Sturgeon hyd yn oed ar 57 y cant, felly rydym yn falch iawn o weld hynny.
Roedd y pwyntiau eraill y gwnaethoch chi yn ymwneud â byw â COVID. Ar ryw bwynt, bydd, rydych chi'n llygad eich lle, bydd yn rhaid i ni fyw â COVID, ond rwy'n credu bod rhai materion y mae angen i ni eu hystyried. Un yw brechiadau'n gwanhau, sy'n rhywbeth nad ydym ni'n hollol glir yn ei gylch o ran omicron ar hyn o bryd. Felly, nid ydym ni wedi gweld i ba raddau y bydd y brechlyn atgyfnerthu hwnnw yn ein hamddiffyn ni yn y dyfodol a'r peth arall, o bosibl, yw ton arall a fydd yn dod. Mae ton arall wedi dilyn y rhan fwyaf o'r tonnau yr ydym ni wedi eu cael, felly, pwy a ŵyr, a fydd ton arall? Felly, mae'n rhaid i ni fyw ag ef, ond mae sut yr ydym yn byw ag ef, i ba raddau yr ydym yn byw ag ef, pwy yr ydym yn eu diogelu a sut yr ydym yn eu diogelu, mae'r holl bethau hynny'n bethau sydd, yn amlwg, yn cael eu trafod yn gyson.
O ran yr ardystiad digidol, mae'r systemau rhwng Cymru a Lloegr yn siarad â'i gilydd yn eithaf da; nid yw'r systemau rhwng Cymru a'r Alban yn gwneud hynny. Felly, mae gwaith cyson yn cael ei wneud ar hynny: mae'n anodd. Yr apiau—. Nid peth Cymru yw hyn, nid yw apiau Lloegr yn siarad â nhw chwaith ac, mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith digidol hwnnw yn cael ei wneud ar ein rhan ni gan Lywodraeth y DU, felly efallai, Russell, y gallech chi ofyn iddyn nhw ein helpu ni ar hynny hefyd. Ond, yn sicr, rydym ni yn gobeithio y gallwn ni gael gwell sefyllfa o ran hynny. Mae'r brechlyn atgyfnerthu yn dangos ar yr ap COVID, ond nid yw'n dangos ar y cod QR hyd yn hyn, ond rwy'n credu bod disgwyl i hynny i newid tua 6 Chwefror.
Does dim llawer iawn o sylwadau gen i i'w gwneud heddiw, mewn difrif. Wythnos yn ôl, roeddwn i'n galw ar y Gweinidog i roi tipyn mwy o sylw i'r arwyddion positif oedd, roeddwn i'n sicr yn credu, yn dechrau dod i'r amlwg yn ôl yr ystadegau. Mi oedd hi braidd yn gyndyn i wneud hynny bryd hynny, a dwi'n deall, wrth gwrs, mai bod yn bwyllog oedd hi, ond mi oedd pethau yn dechrau edrych yn well ac, yn wir, mae pethau'n edrych yn llawer gwell erbyn hyn, a dwi'n ddiolchgar am y briff a gefais i efo cyd-aelodau'r pwyllgor iechyd amser cinio heddiw yn cadarnhau bod y prif fesuryddion i gyd yn edrych yn sylweddol well a bod pethau'n cyflymu hefyd o ran y broses wella.
Erbyn wythnos i ddydd Gwener, rŵan, mi fyddwn ni mewn sefyllfa lle bydd y rheoliadau diweddaraf wedi cael eu codi, a dwi yn croesawu hynny, ond mi hoffwn innau ofyn pa ystyriaeth fydd yn cael ei rhoi i symud ynghynt na hynny, hyd yn oed. Oes yna le i dynnu newidiadau ymlaen? Achos yr argraff dwi'n ei chael ydy bod pethau yn cyflymu a chyflymu o ran dod allan o'r don yma, felly mi fyddai hyd yn oed ychydig o ddyddiau yn gallu gwneud gwahaniaeth. Dwi'n meddwl am y sector lletygarwch, er enghraifft, sydd wedi cael ei tharo yn drwm, a dwi wrth gwrs yn apelio arnoch chi i weithio efo Gweinidog yr Economi—dwi'n ei weld yntau yn y Senedd rithiol yma y prynhawn yma—i sicrhau bod pob cymorth posib i'w gyfeirio at y sector honno, ac unrhyw sectorau eraill sy'n dioddef, yn eu cyrraedd nhw mor fuan â phosib.
Rydw innau hefyd eisiau jest gofyn am sylw pellach eto, os caf i, ar y gwaith sy'n cael ei wneud i asesu'r amser hunanynysu presennol. Mi fydd y Gweinidog, fel minnau, dwi'n gwybod, yn edrych ymlaen nid yn unig i'w gael i lawr i bum diwrnod o saith, ond i'w gael lawr i ddim, fel bod dim angen hunanynysu o gwbl, ond yn bwyllog rydyn ni'n gorfod gwneud hyn. Mae'n bwysig, dwi'n meddwl, ein bod ni'n deall beth ydy'r balans o ystyriaethau, o ran tystiolaeth feddygol bur o ran pa mor heintus ydy pobl a phryd ac ystyriaethau eraill, economaidd ac ati. Dwi'n nodi, serch hynny, fod Sefydliad Iechyd y Byd yn nerfus iawn ynglŷn â lleihau'r amser ynysu ar hyn o bryd. Mater o falans ydy o.
Rydw innau hefyd eisiau apelio am dynhau a chyflymu'r broses tuag at gael ap NHS Cymru sydd yn gweithio'n iawn efo'r holl elfennau o frechiadau booster arnyn nhw. Roeddwn i'n siarad neu wedi cael e-bost gan riant y diwrnod o'r blaen a oedd yn methu cael gafael ar unrhyw wybodaeth am ba booster a gafodd ei blentyn er mwyn gallu defnyddio'r wybodaeth yna er mwyn teithio a chael COVID pàs ac ati. Mae yna waith mawr i'w wneud o hyd, dwi'n meddwl, ar dynhau ein prosesau digidol ni a sicrhau bod gennym ni'r twls sy'n angenrheidiol erbyn hyn i'n cael ni gyd drwy'r pandemig yma.
Diolch yn fawr, Rhun. Jest i ymateb yn glou i Russ—.
Mae'n ddrwg gen i, Russ, fe wnes i awgrymu y byddai cod QR pàs COVID yn barod ar 6 Chwefror; 8 Chwefror oedd hi. Dim ond er mwyn i mi fod wedi cywiro hynny'n barod.
Rhun, a ydy e'n bosibl i symud yn gynt na hynny? Dwi'n gyndyn i ddweud 'ydy' achos un o'r pethau rŷn ni'n poeni amdanynt yw dydyn ni ddim cweit wedi gweld beth sy'n digwydd gyda'r ysgolion eto. Mae yna arwyddion mewn rhai llefydd eraill ein bod ni'n gweld cynnydd yn y niferoedd yn yr ysgolion, yn mynd i fyny, felly'r gofid yw a ydy hwnna'n mynd i ddechrau wedyn mynd i mewn i'r oedolion a'r bobl hŷn. So, ni jest eisiau cadw golwg ar hynny cyn ein bod ni'n edrych ar hynny, ond yn amlwg y pwynt oedd dangos i bobl beth yw'r cyfeiriad—i roi route-map—a dwi'n meddwl bod hwnna wedi bod yn bwysig. Mae pobl yn gwybod ble mae'r diwedd. Felly, wrth gwrs rŷn ni'n ymwybodol bod pob diwrnod gyda'r cyfyngiadau'n gostus i fusnesau, a dyna pam rŷn ni wedi rhoi'r help yna mewn lle yr oedd y Prif Weinidog yn cyfeirio ato'n gynharach.
O ran asesu'r amser ar gyfer hunanynysu, rŷch chi'n iawn, mae yna ochr iechyd y mae'n rhaid i ni ei hystyried, ac yn sicr o beth dwi wedi'i weld am y dystiolaeth yn y gorffennol, roedd yr UK Health Security Agency yn eithaf clir y byddai yna risg i anfon pobl, yn arbennig mewn i lefydd fel cartrefi gofal ac ysbytai, pe byddech chi'n dweud, 'Reit, pum diwrnod ac wedyn os ydych chi'n rhydd ohono fe ar lateral flow, byddech chi'n cael mynd nôl.' Felly, roedden nhw'n gyndyn i wneud hwnna o'r blaen a dwi eisiau gwybod beth sydd wedi newid. Os mai judgment gwleidyddol yw e, wedyn yn amlwg mae'n rhaid i chi ystyried y ffactorau economaidd, a dyna beth fyddwn ni'n ei wneud yn ystod y diwrnodau nesaf yma. Ond dwi'n awyddus i wneud yn siŵr ein bod ni'n diogelu'r llefydd mwyaf bregus yna fel ein cartrefi gofal a'n hysbytai ac ati. So, mae jest eisiau i ni ystyried y pethau yna yn ystod y dyddiau nesaf. Nid jest y WHO sy'n dweud na ddylech chi fynd yn llai na saith diwrnod, ond hefyd y rhan fwyaf o wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd.
O ran ap NHS Cymru, oh my gosh, Rhun, dwi jest mor awyddus â ti. Un o'r problemau sydd gyda ni o ran problemau digidol yw does jest ddim digon o bobl gyda'r doniau digidol gyda ni yn ein systemau ni. Mae pob un ar ôl yr un bobl a dyna pam mae'n cymryd cymaint o amser. Felly, gallwch chi ddim jest switsio'r bobl yma ymlaen dros nos, ond yn amlwg mae gennym ni gynllun i ddod â'r ap yma ymlaen. Mi ddown ni â'r ap ymlaen cyn gynted ag sy'n bosibl. Ni jest wastad yn rhoi pwysau arnyn nhw. Ti'n gwybod fy mod i mor awyddus â ti i weld e-prescribing. Dyna beth sy'n stopio fe yw nid ein bod ni ddim yn awyddus, ond y bobl yna, does dim digon ohonyn nhw ar gael, ac mae pob un, cofiwch, yn y sector preifat ar ôl yr un bobl hefyd. So, yn amlwg, rŷn ni eisiau gwella ein prosesau digidol ni.
Dyna ni, Gweinidog. Dim ond dau gyfraniad y prynhawn yma. Felly, diolch ichi.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar economïau rhanbarthol cryfach. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch heddiw o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaeth y Llywodraeth hon ynghyd â'i phartneriaid i helpu i adeiladu economïau rhanbarthol cryfach ledled Cymru. Yn ystod fy natganiad i, fe fyddaf i'n myfyrio ar yr heriau a wynebwn ni o hyd, yn enwedig yng ngoleuni effaith ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a diffyg cynlluniau gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn ar gyfer cyllid yn lle'r cyllid oddi wrth yr UE a lleihau anghydraddoldebau ledled y DU.
Fis diwethaf fe gyhoeddais i'r fframweithiau economaidd rhanbarthol ar gyfer pob un o bedwar rhanbarth Cymru. Mae'r rhain yn rhan annatod o'n hymrwymiad ni i fodel datblygu economaidd yn seiliedig ar leoedd sy'n golygu ein bod ni'n adeiladu ar gryfderau unigryw ein rhanbarthau ni ac yn gweithio gyda nhw. Lluniwyd y fframweithiau hyn gyda phartneriaid ym mhob un o'r rhanbarthau, gan gynnwys yr awdurdodau lleol a chyrff rhanbarthol. Maen nhw'n seiliedig ar dystiolaeth a chytundeb, gyda blaenoriaethau clir sy'n cyd-fynd â'n fframwaith ni ar gyfer buddsoddiadau rhanbarthol, y genhadaeth economaidd ac, wrth gwrs, y rhaglen lywodraethu. Mae'r dull aeddfed hwn yn hanfodol i lunio gweledigaeth a rennir gydag amcanion cyffredin i sicrhau Cymru sy'n decach, gwyrddach a mwy llewyrchus. Serch hynny, mae'r gwaith hwn yn parhau i fod yn ddiffygiol iawn ar lefel y DU. Rydym ni'n dal i bryderu nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu dull ystyrlon hyd yn hyn o ran sut, ble a pham y caiff arian i olynu cronfeydd yr UE ei ddefnyddio.
Mae ein bargeinion dinesig a thwf ni'n ganolog i gyflawni blaenoriaethau'r fframweithiau yn effeithiol—y cytundebau buddsoddi tair ffordd rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol a gynlluniwyd i sicrhau twf economaidd rhanbarthol sy'n parhau. Mae'r pedwar cytundeb rhanbarthol ar y gweill erbyn hyn. Roeddwn i'n falch o gymryd rhan yn y gwaith o arwyddo cytundeb terfynol y fargen ar gyfer y canolbarth ar y cyd â Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol Ceredigion a Phowys. Rwy'n arbennig o falch fod y cytundebau hyn yn golygu bod gwaith mewn partneriaeth agos yn digwydd ym mhob rhan o lywodraeth, ac fe ddylen nhw helpu i wella gwasanaethau, hybu sgiliau, a chreu cyfleoedd cyflogaeth sy'n talu'n dda.
Mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn y gogledd hefyd yn dangos sut mae cydweithio gwirioneddol yn bosibl ar sail drawsffiniol, gan ddod ag awdurdodau yng ngogledd Cymru ynghyd â phartneriaid y tu draw i'r ffin. Mae hynny'n dangos y gall partneriaeth lwyddiannus gefnogi twf economaidd strategol hefyd. Fe ddylai Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy allu ategu ac ychwanegu at y gwaith sy'n cael ei wneud gan bob un o'r chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn hytrach na chystadlu a dyblygu'r gwaith sy'n cael ei wneud ganddyn nhw.
Mae fy swyddogion i'n parhau i gefnogi'r cyd-bwyllgorau corfforaethol wrth i ni gwmpasu eu swyddogaethau nhw o ran cyflawni llesiant economaidd, gan gryfhau ymhellach ein model beiddgar ni sy'n seiliedig ar leoedd. Mae gwaith gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar y gweill hefyd, ac fe fydd hwnnw'n rhoi cyngor pellach i ni wrth i ni ddatblygu ein strwythurau llywodraethu aml-lefel ar gyfer datblygu economaidd cenedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru.
Mae hi'n dwy flynedd erbyn hyn ers i'r DU ymadael â'r UE, ac eto nid yw Llywodraeth y DU wedi anrhydeddu ei haml addewidion hi na fyddai Cymru'r un geiniog ar ei cholled, ac, yn fwriadol, fe ddiystyriwyd datganoli yng Nghymru y pleidleisiodd pobl Cymru amdano ddwywaith mewn refferenda. Nid ydym ni ddim callach o hyd o ran sut mae Llywodraeth y DU yn bwriadu lleihau anghydraddoldebau rhanbarthol ledled y DU, a sut y caiff y symiau llai o arian yn lle'r arian oddi wrth yr UE ei rhannu, a beth fydd swyddogaeth y Llywodraethau datganoledig.
Mae colli cannoedd o filiynau o bunnau o gyllid a ddeuai o'r UE yn flaenorol drwy weithrediad y cynlluniau gan Lywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant a rennir yn golygu torri addewidion mewn ffordd uniongyrchol a diamwys. Roedd gan Lywodraeth y DU addewid plaen yn y maniffesto yn etholiad 2019 i roi rhywbeth yn lle a oedd yn cyfateb, o leiaf, i gyfanswm y cyllid oddi wrth yr UE ym mhob gwlad yn y DU. Nid yw'r cynlluniau i wario £2.6 biliwn ledled y DU dros y tair blynedd ariannol nesaf yn cyfateb i'r £375 miliwn a fyddai wedi dod i Gymru bob blwyddyn pe cedwid yr addewidion hynny.
Mae effaith bod â llai o reolaeth dros lai o arian yn dechrau dod i'r amlwg yng Nghymru. Mae llawer o bartneriaid, gan gynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru, Prifysgolion Cymru a Cholegau Cymru, yn mynegi eu pryderon nhw o ran diffyg eglurder oddi wrth Lywodraeth y DU a'r bylchau mewn cyllido y maen nhw'n eu hwynebu nawr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd, wrth gwrs, yn wynebu toriadau ariannol sy'n fygythiad gwirioneddol i gynlluniau ledled Cymru gan gynnwys Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, arloesi busnes SMARTCymru a phrentisiaethau.
Er bod yr holl bartneriaid yn parhau i fod yn y tywyllwch o ran manylion yr olynydd-gronfa, mae hi'n amlwg o hyd bod Llywodraeth y DU yn parhau i gau Llywodraeth Cymru allan wrth wneud penderfyniadau ar faterion a ddatganolwyd yn bendant ers dros ddau ddegawd. Rydym ni'n dal i bryderu y byddwn ni'n gweld symiau bach o arian yn cael eu dyrannu unwaith eto i brosiectau bach, lleol, gan arwain at ddyblygu a chynnig gwerth gwael am arian. Fe fydd hyn yn golygu hefyd y bydd Llywodraeth y DU yn cipio darnau o'r gronfa hon i gefnogi'r mentrau ehangach a ddewiswyd yn ôl ei mympwy, megis y cynllun rhifedd ar gyfer oedolion, Multiply. Ymgais annoeth, ddryslyd a bwriadol arall i danseilio datganoli yng Nghymru oedd cyhoeddiad y cynllun hwn y llynedd heb unrhyw fewnbwn gennym ni.
Fe fydd gorfodi cynghorau i gystadlu â'i gilydd yn hytrach na defnyddio cyllid sy'n seiliedig ar anghenion yn golygu hefyd y bydd mwy o bobl ar eu colled nag ar eu hennill yng Nghymru, fel dangosodd rownd gyntaf y gronfa codi'r gwastad eisoes. Nid ydym ni'n gwybod cynnwys y meini prawf gwrthrychol yn y cyfnod treialu, os oedd yna rai o gwbl. Chwe awdurdod lleol yn unig a oedd yn llwyddiannus, gyda'r rhan fwyaf o'r cyllid—er syndod, o ystyried yr anghenion a gafodd eu cydnabod yng Nghymru—yn mynd i etholaethau a ddelir gan y Ceidwadwyr.
Nid ydym ni wedi cael bwrw golwg dros Bapur Gwyn drafft Llywodraeth y DU ar godi'r gwastad, heb sôn am gael cyfle i gyfrannu. Fe allai'r papur hwn fod yn fan cychwyn ar gyfer deialog, o leiaf, ac rydym ni'n gobeithio mai felly y bydd hi. Fe ddylai'r Papur Gwyn hwn sicrhau'r cyfleoedd gorau ar gyfer buddsoddi strategol, nid buddsoddiadau ar raddfa fechan a fyddai'n ddiffygiol o ran lleihau anghydraddoldebau rhanbarthol ledled y DU, ac yn wir yma yng Nghymru. Fel mae llawer o Aelodau yma'n gwybod heddiw, yng Nghymru rydym ni wedi symud oddi wrth fuddsoddiadau tameidiog ymhell dros ddegawd yn ôl, ar ôl gwrando ar dystiolaeth ddiamwys gan bartneriaid ac arbenigwyr, gan gynnwys, wrth gwrs, bwyllgorau'r Cynulliad, y cadeiriwyd nifer ohonyn nhw gan aelodau o'r wrthblaid swyddogol.
Mae'r Senedd hon a'n partneriaid ni'n iawn i bryderu am y defnydd o'r pwerau cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 drwy'r cronfeydd hyn a'r bygythiadau cysylltiedig y maen nhw'n eu hachosi i gyllid a datganoli yng Nghymru. Nid yw pobl Cymru wedi rhoi mandad i Lywodraeth y DU herwgipio arian ac amddifadu Cymru o'i gallu i wneud penderfyniadau. Fe fyddai sicrwydd o ran ariannu yn ein galluogi ni i gefnogi'r gwaith o ailadeiladu economi Cymru, a theilwra'r cymorth hwnnw i anghenion Cymru. Mae cynlluniau Llywodraeth y DU hyd yn hyn yn fygythiad uniongyrchol i'r gwaith hwnnw.
Rwy'n gobeithio y bydd Michael Gove, yn rhinwedd ei swydd newydd yn Ysgrifennydd Gwladol dros godi'r gwastad, yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa ac yn trafod y pryderon hyn gyda ni mewn ffordd ystyrlon. Mae'r cydweithio cadarnhaol a welwn ni ynglŷn â bargeinion dinesig a thwf yn dangos bod hynny'n gwbl bosibl, ond mae angen dull gonest ac adeiladol o gydweithio. Os na fydd Llywodraeth y DU yn newid cwrs, fe gaiff cyfleoedd economaidd gwirioneddol i'n rhanbarthau ni eu peryglu, yn ogystal â miloedd o swyddi a sgiliau.
Rydym ni wedi mynegi yn eglur iawn fod ymagwedd Llywodraeth Cymru at lesiant economaidd yn seiliedig ar yr egwyddor bod pobl a lleoedd yn bwysig. Rydym ni'n eiddgar i wireddu ein huchelgais ni o ddarparu gwell swyddi yn nes adref a sicrhau bod manteision twf economaidd yn cael eu profi gyda thegwch ym mhob rhan o Gymru. Rydym ni'n cyd-ddylunio â'n partneriaid ni, ac fe fyddwn ni'n gweithio i gefnogi cryfderau unigryw ein rhanbarthau ni wrth gefnogi twf economaidd sy'n gynhwysol a chynaliadwy. Rydym ni'n parhau i wneud cynnydd o ran creu'r amodau lle bydd mwy o bobl, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais, a'n pobl ifanc ni, yn teimlo mwy o hyder o ran cynllunio eu dyfodol nhw yng Nghymru. Mae rhanbarthau cryfach a deinamig wrth hanfod ein hymrwymiad ni i greu economi Gymreig gryfach, decach a gwyrddach. Diolch i chi.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Mae gennyf i naw Aelod sy'n dymuno siarad, ac felly gyda'ch help chi, a chyda gallu tra hysbys y Gweinidog i roi atebion cryno, rwy'n gobeithio galw arnoch chi i gyd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n croesawu'r cyfle i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cryfhau economïau rhanbarthol, ond rwy'n siomedig bod y datganiad heddiw yn brin iawn o fanylion. Nid yw'n dweud unrhyw beth newydd wrthym ni. Ac os yw'r Gweinidog yn credu ei fod ef yn dweud rhywbeth newydd wrthym, yna efallai y byddai'n ddigon caredig i'n cyfeirio ni at y rhan honno o'r datganiad.
Wrth gwrs, mae'r datganiad yn cyfeirio at greu fframweithiau economaidd rhanbarthol, a gyhoeddwyd fis diwethaf, sy'n bwysig o ran hybu cydweithio pellach â rhanddeiliaid ac atgyfnerthu perthynas waith glòs ag awdurdodau lleol i ddatblygu dulliau seiliedig ar leoedd o ddatblygiad economaidd. Er bod yr ymgysylltu hwnnw i'w groesawu'n fawr, mae angen i ni weld gwelliannau gwirioneddol, ac efallai y bydd y Gweinidog, felly, yn cadarnhau'r dangosyddion neu'r meini prawf perfformiad allweddol a ddefnyddir i fesur pa mor effeithiol y bu'r cydweithio hwn yn ymarferol. A yw'r Gweinidog yn gwybod, ar gyfer pob economi ranbarthol, faint o fusnesau newydd a ddatblygwyd o ganlyniad i'r ymgysylltu newydd hwn a faint o swyddi a ddarparwyd o ganlyniad i ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â datblygu economaidd rhanbarthol? Mae cwestiynau fel y rhain ac ati yn cynnig ffordd i ni allu penderfynu pa mor effeithiol yw cynlluniau Llywodraeth Cymru.
Mae hi'n hanfodol bod pob un o'r rhanbarthau yn cael y gyfradd briodol o gyllid a bod y gwariant hwnnw'n cael ei ddyrannu gyda thegwch fel gall pob rhan o Gymru elwa ar gynlluniau datblygu economaidd rhanbarthol Llywodraeth Cymru. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog amlinellu sut y caiff y cyllidebau eu pennu ar gyfer pob rhanbarth a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob rhanbarth yn cael digon o arian. Mae cynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru yn sôn am ddatblygu dulliau rhanbarthol, fel manteision cymunedol, i helpu i wella cydnerthedd busnesau lleol a sicrhau bod manteision economaidd ein gwariant caffael ni yn y sector cyhoeddus yn parhau yma yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni am gynnydd datblygu offer rhanbarthol, fel manteision cymunedol, a sut mae'n monitro effeithiolrwydd yr offer a ddatblygwyd eisoes?
Rhan bwysig o ddatblygu economaidd rhanbarthol, wrth gwrs, yw sgiliau, ac mae hi'n siomedig gweld nad oes unrhyw sôn o gwbl am hynny yn natganiad y Gweinidog heddiw. Fe ddylai Llywodraeth Cymru fod nid yn unig yn archwilio'r ddarpariaeth o sgiliau ym mhob rhanbarth yn barhaus, mae angen iddi sicrhau hefyd fod y ddarpariaeth honno'n diwallu anghenion y gymuned fusnes yn y rhanbarthau hynny a bod gan fusnesau lais gwirioneddol yn natblygiad y dirwedd sgiliau. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni felly sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn dadansoddi'r ddarpariaeth sgiliau ym mhob rhanbarth, sut y mae hi'n sicrhau bod y ddarpariaeth yn berthnasol, a sut y mae hi'n diwallu anghenion y cymunedau lleol ym mhob rhanbarth?
Wrth greu fframweithiau economaidd rhanbarthol, fe eglurodd y Gweinidog blaenorol yn glir y bydden nhw'n mynd i'r afael â'n heriau strwythurol cynhenid ni ond yn gwneud hynny drwy eu troi nhw'n gyfleoedd ar gyfer rhanbarthau sy'n ddeinamig a phenodol ac yn dangos twf economaidd cynhwysol, teg a chynaliadwy drwy ddylunio atebion i'r dyfodol. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa atebion newydd a ddatblygwyd o ganlyniad uniongyrchol i fframweithiau economaidd rhanbarthol a sut y mae'r atebion hynny am fynd i'r afael â heriau strwythurol cynhenid, fel tlodi cyflogaeth ac ansicrwydd o ran gwaith. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos sut y mae ei chynlluniau economaidd rhanbarthol hi nid yn unig yn gwella ffyniant ym mhob rhanbarth, ond sut y mae hi hefyd am fynd i'r afael â'r materion dwys, strwythurol hynny sydd wedi llesteirio rhai cymunedau am lawer gormod o amser.
Wrth gwrs, wrth symud ymlaen, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a'r prif swyddogion rhanbarthol sicrhau bod eu cynlluniau nhw i gryfhau economïau rhanbarthol yn flaengar ac yn paratoi ein cymunedau ni am y dyfodol. Mae datganiad heddiw yn mynegi bod ymagwedd Llywodraeth Cymru at lesiant economaidd yn seiliedig ar yr egwyddor bod pobl a lleoedd yn bwysig, ond nid oes unrhyw fanylion yn y datganiad hwn i gyfiawnhau hynny. Mae meithrin cydnerthedd yn hollbwysig wrth i ni gefnu ar y pandemig, ac mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn llygad ei lle i ddweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos sut y gwnaiff ei rhaglen hi baratoi Cymru am ergydion i ddod a heriau hirdymor, ac yn manteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol. Er enghraifft, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut yn union y mae cynlluniau economaidd rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd ac yn helpu i fynd i'r afael â chanlyniadau'r pandemig o ran cyfiawnder economaidd a chymdeithasol?
Ni fyddai'r un datganiad gan Lywodraeth Cymru yn gyflawn heb ymosod ar Lywodraeth y DU, ac wrth gwrs nid yw'r datganiad heddiw yn eithriad i hynny. Mae'r cydweithio adeiladol wedi dod i'r amlwg drwy'r cynnydd a fu o ran cytundebau dinesig a thwf, ac rwy'n cytuno â'r Gweinidog fod angen dull gonest ac adeiladol o gydweithio wrth symud ymlaen, ac nid ceisio ennill pwyntiau o ran gwleidyddiaeth y pleidiau. Da o beth fyddai i'r Gweinidog gofio hynny.
Dirprwy Lywydd, wrth i ni ddod i'r lan wedi pandemig COVID-19, mae gennym ni gyfle i wneud pethau mewn ffordd amgen, ac mae cryfhau'r economïau rhanbarthol yn un ffordd ymlaen, ar yr amod bod y cynigion hyn mewn gwirionedd yn darparu gwelliant yn hytrach na chreu mwy o fiwrocratiaeth. Felly, wrth gloi, rwy'n gofyn i'r Gweinidog ymrwymo i roi diweddariadau rheolaidd i'r Aelodau ynglŷn â'r canlyniadau a gyflawnwyd yn sgil pob un o'r fframweithiau rhanbarthol ac iddo roi gwarantau cwbl gadarn y bydd cymunedau ledled Cymru yn cael budd oherwydd y camau a amlinellir yn y datganiad heddiw. Diolch i chi.
Diolch i chi am y gyfres o sylwadau a'r cwestiynau yn eu mysg nhw. Rwyf i am gadw'r hyn a ofynnodd y Dirprwy Lywydd mewn cof.
O ran yr hyn y mae'r Aelod wedi bod yn ei ddweud, rwy'n credu bod ychydig o gamddealltwriaeth wedi bod ynghylch y fframweithiau economaidd rhanbarthol. Mae'r rhain yn ein helpu ni i ddiffinio gweledigaeth i ddyfodol pob rhanbarth, gyda chyfres gyffredin o flaenoriaethau ar gyfer datblygu economaidd. Maen nhw'n mynd law yn llaw â'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn sgil y bargeinion twf yr ydym ni wedi ymrwymo symiau o arian iddyn nhw. Rhoddodd Llywodraeth y DU yr un arian i mewn â Llywodraeth Cymru, a'n partneriaid ni yn y sector cyhoeddus wedyn, dan arweiniad awdurdodau lleol, sy'n allweddol i ddatblygu economaidd rhanbarthol. Mae hyn wedyn yn ymwneud â'r gallu i ddenu buddsoddiad a swyddi ychwanegol. Mae'n ymwneud, mewn gwirionedd, â cheisio deall, ym mhob rhanbarth, lle mae'r cyfleoedd ar gyfer twf, a'r ffaith y bydd pob rhanbarth yn wahanol. Yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau ar ran y rhanbarthau hynny ynglŷn â dyluniad eu cynlluniau nhw, holl ddiben hyn yw gweithio ochr yn ochr â nhw fel partneriaid gwirioneddol er mwyn cynhyrchu'r fframweithiau hynny. Mae hi'n bwysig iawn i'r holl bethau sy'n symud gyda'i gilydd yn yr un man fod â gweledigaeth gyffredin. Dyna pam y mae hi mor siomedig fod gennym ni Lywodraeth y DU sy'n barod i anwybyddu'r holl waith hwnnw sy'n mynd rhagddo.
Pan fyddwn ni'n sôn am y bartneriaeth adeiladol a allai fodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, peth nodweddiadol iawn, wrth gwrs, yw bod gwleidyddion Ceidwadol yn mynnu nad oes yna unrhyw feirniadaeth ar Lywodraeth y DU. Nid wyf i erioed wedi clywed y Ceidwadwr Cymreig yn mynegi unrhyw bryder am y toriadau yn ein cyllidebau ni nac am y gostyngiad mewn arian o'r gronfa ffyniant a rennir. Nid wyf i erioed wedi clywed unrhyw fynegiant o bryder naill ai yn y lle hwn neu'r tu allan iddo, ac mae hynny'n syfrdanol. Pan fyddwn ni'n sôn am sgiliau ac yn ceisio gwrando ar fusnesau a gweithio gyda nhw, mae gennym ni'r bensaernïaeth i wneud hynny eisoes. Mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol sy'n bodoli erbyn hyn ym mhob rhan o Gymru y mae rhai Aelodau yn y lle hwn wedi bod â rhan wrth helpu i'w llunio nhw ac yn awyddus i'w gweld—maen nhw'n dweud wrthym ni lle rydym ni am geisio buddsoddi mwy mewn sgiliau i gefnogi pob rhan o'r economi, sydd hyd yn oed yn bwysicach nawr gyda marchnad lafur sy'n crebachu gyda phobl wedi ymadael ar un pen iddi, yn ogystal â'r bobl hynny sydd wedi dychwelyd i wledydd Ewrop ac sy'n annhebygol o ddychwelyd i'r DU.
Fodd bynnag, mae torri'r addewid maniffesto i sefydlu cronfeydd yn lle cronfeydd strwythurol yr UE yn effeithio yn uniongyrchol ar ein gallu ni i fuddsoddi mewn sgiliau. Rydym ni'n sôn am gannoedd o filiynau o bunnau, Paul. Dyna'r gwir diymwad. Ar ôl iddyn nhw sugno hwnnw allan o'r arian y gallem ni fod yn ei ddefnyddio i gefnogi'r economi a buddsoddi mewn sgiliau, nid yw hi'n ddigon da i wleidyddion Ceidwadol honni eu bod nhw'n pryderu llawer iawn am bopeth ar wahân i'r niwed y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud.
Fe fydd gennym ni fwy i'w ddweud wrth i ni symud ymlaen, nid yn unig ynghylch ein hynt ni gyda fframweithiau economaidd rhanbarthol a'r gwaith y byddwn ni'n ei wneud ochr yn ochr â rhanbarthau wrth gyd-gynhyrchu'r blaenoriaethau buddsoddi hynny, ond y gwaith yr ydym wedi cael y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i'w wneud hefyd i sicrhau ein bod ni'n parhau i ystyried sut rydym ni am wella datblygu economaidd rhanbarthol ymhellach. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi'r gwaith a gawn ni gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r cynllun gweithredu y byddwn ni'n ceisio ei ddatblygu ochr yn ochr â'n partneriaid rhanbarthol ni. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â gwaith arall sydd gennym ni ar y gweill hefyd. Rwy'n disgwyl dod yn ôl yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf i siarad am strategaeth cyflogadwyedd Cymru yn y dyfodol, sy'n faes yr ydym ni, unwaith eto, wedi gallu gweithio ynddo'n adeiladol ynghyd â rhai rhannau o'r Adran Gwaith a Phensiynau, gan eu bod nhw'n fwy gweithgar mewn rhai rhannau o gymorth cyflogadwyedd. Mae angen i ni sicrhau bod ein cefnogaeth ni wedi cael ei theilwra mewn ffordd addas i bobl sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, sy'n faes y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn canolbwyntio leiaf arno.
Ystyr hyn yw mireinio ein sefyllfa ni i sicrhau ein bod ni'n teithio, cyn belled ag y bo modd gwneud hynny, i'r un cyfeiriad. Fe all ewyllys da ar y ddwy ochr, rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ganiatáu i ni wneud llawer, llawer mwy ond nid wyf i am ymddiheuro o gwbl am sefyll i fyny a dweud yn blaen fod methiant i fabwysiadu dull cymharol adeiladol hyd yn oed gan rai rhannau o Lywodraeth y DU yn effeithio ar ein gallu ni i wneud hynny. Fe fydd gwrthod rhoi rhywbeth yn lle hen gronfeydd yr UE yn parhau i fod yn heriol i ddyfodol economi Cymru, os bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i fod yn dawedog ynglŷn â'r mater neu beidio.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n rhannu pryderon y Gweinidog ynghylch Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau gwariant mewn meysydd datganoledig, yn enwedig y ffaith ei bod hi'n ymddangos bod y gwariant yn digwydd mewn seddau arbennig a ddelir gan blaid arbennig. Dyma enghraifft arall i ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol bod undeboliaeth ffyrnig Llywodraeth y DU yn bygwth ymreolaeth y Senedd.
Gan symud at y datganiad, fe wyddom ni fod yna broblem barhaus yng Nghymru o ran cadw pobl yn ein cymunedau ni—draen dawn, fel y cyfeirir at hynny. Wrth gwrs, nid mater o bobl ifanc yn symud o Gymru i Loegr neu i wledydd eraill yn unig mo hwn; mae hon yn broblem ar lefel ranbarthol hefyd, er enghraifft yr ymfudo o gefn gwlad i'r trefi. Mae'r draen dawn yn amlwg iawn yn ei gwneud hi'n frwydr i gael gwelliant economaidd i ardaloedd. Mae hyn hefyd yn bygwth y mynediad sydd gan y rhanbarthau i sgiliau a thalentau i gyflawni'r cynlluniau o fewn y fframwaith economaidd rhanbarthol. Gan ddefnyddio'r canolbarth yn enghraifft, mae pryderon ynghylch newidiadau demograffig yn y rhanbarth, yn ymwneud yn benodol â phoblogaeth sy'n heneiddio, draen dawn a mudo net. Fe wyddom ni i ostyngiad rhagamcanol yn y boblogaeth o oedran gweithio o tua 16 y cant ddigwydd rhwng 2018 a 2019, ac, ar yr un pryd, fe ddisgwylir y bydd gostyngiad o 3.45 y cant yn yr economi yn y rhanbarth o'i gymharu â chynnydd o 7.4 y cant yn economi'r DU yn ei chyfanrwydd. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd partneriaethau economaidd rhanbarthol a phrosiectau rhanbarthol yn gweithio ochr yn ochr â'r Warant i Bobl Ifanc, a phrosiectau eraill, i fynd i'r afael â draen dawn? Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno y bydd cyfleoedd i ennill sgiliau ar gyfer y rhanbarthau hynny yng Nghymru y mae'r draen dawn wedi effeithio arnyn nhw'n hanfodol i'w ffyniant economaidd hirdymor.
Os caf i dynnu sylw'r Gweinidog at ynni, at sero net a thlodi tanwydd yn benodol. Er bod yr holl fframweithiau economaidd rhanbarthol yn codi materion yn ymwneud â newid hinsawdd, ynni gwyrdd, a sero net, nid oes ymrwymiad na sicrwydd gwirioneddol ynddyn nhw y bydd datblygu economaidd sy'n deillio o bartneriaethau rhanbarthol yn helpu i gyrraedd nod sero net Llywodraeth Cymru. Sut mae'r Gweinidog am fonitro datblygiadau yn y rhanbarth yn y dyfodol, tybed, i sicrhau y bydd hyn yn cefnogi twf economaidd gwyrdd, ac yn atal twf economaidd rhag niweidio'r amgylchedd fel gwnaeth cyhyd, a sicrhau bod prosiectau yn y rhanbarthau yn gweithio tuag at ein nodau newid hinsawdd ni.
Rwy'n awyddus i godi mater anghydbwysedd rhwng prosiectau ynni gwyrdd o fewn y rhanbarthau hefyd. Er enghraifft, fframwaith economaidd y gogledd—fe geir pwyslais enfawr ar brosiectau gwyrdd a allai helpu i hybu datblygiad yn y rhanbarth, a hynny'n gwbl briodol. Eto i gyd, gan ddychwelyd at enghraifft y canolbarth, er bod fframwaith y canolbarth, adroddiad ymledol y canolbarth, a chytundeb y fargen derfynol yn nodi bod adnoddau naturiol yn y canolbarth mewn sefyllfa dda i gynhyrchu mathau adnewyddadwy gwyrdd o ynni, nid yw'r fargen dwf yn y canolbarth wedi nodi unrhyw brosiectau ynni yn y rhanbarth ar hyn o bryd, ac nid yw nodau sero net yn ymddangos yn yr amcanion buddsoddi.
Peth mwy digalon hefyd yw clywed na chafodd unrhyw brosiectau ynni eu nodi yn y rhanbarth yng ngoleuni'r argyfwng costau byw a'r tlodi tanwydd cyffredin sy'n bodoli yn rhanbarth y canolbarth. Mae 17 y cant o aelwydydd yng Ngheredigion a 14 y cant ym Mhowys yn byw mewn tlodi tanwydd. Yn y cyfamser, yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru, fe amcangyfrifir bod 8 y cant yn byw mewn tlodi tanwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 10 y cant yn Abertawe, ac 11 y cant yng Nghastell-nedd Port Talbot. Fe wyddom ni fod y cynnydd mewn prisiau ynni a ddisgwylir ym mis Ebrill 2022 eleni, yn ogystal â chynnydd blaenorol, yn effeithio yn anghymesur ar rai rhanbarthau yng Nghymru, fel ardaloedd gwledig, llai cysylltiedig yn fwy nag ardaloedd eraill. O ystyried hyn, fe hoffwn i gael gwybod gan y Gweinidog: sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau y gall pob rhanbarth yng Nghymru elwa ar ddatblygiadau prosiectau ynni gwyrdd gyda'r nod o fod â biliau ynni mwy rhesymol, yn enwedig wrth i ni wynebu argyfwng costau byw, y mae tlodi tanwydd yn rhan ysgogol o'r argyfwng hwnnw?
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. O ran eich man cychwyn chi, rwyf i o'r farn y gellir dadlau achos grymus a blaengar ar gyfer dyfodol yr undeb, ond ni chaiff hynny ei gyflawni drwy gyfrwng y math o ymdrechion sydd wedi bod i ganoli a herwgipio pwerau ac arian oddi wrth Lywodraethau cenedlaethol datganoledig y mae pobl wedi pleidleisio drostyn nhw mewn mwy nag un refferendwm yng Nghymru, yr Alban ac mewn mannau eraill. Wrth gwrs, fe all yr Aelod anghytuno â'r pwynt arbennig hwnnw.
O ran yr heriau yr oeddech chi'n sôn amdanyn nhw ynglŷn â phobl ifanc, o ran y Warant i Bobl Ifanc, fe gafodd honno ei chynllunio yn fwriadol i geisio sicrhau bod gan bobl ifanc ddyfodol y gallan nhw gynllunio ar ei gyfer yng nghefn gwlad Cymru ac yn yr ardaloedd trefol yma. Felly, rydym ni'n edrych ar weithrediad y prentisiaethau, ond hefyd ar y cyngor a'r gefnogaeth yr ydym ni'n ystyried eu rhoi ynglŷn â phobl ifanc i sicrhau eu bod nhw'n cael mynediad i fyd gwaith mewn ffordd ystyrlon yn y dyfodol. A dyna pam y mae'r gallu i fuddsoddi mewn sgiliau a dilyniant mor bwysig â hynny. Felly, nid dadl academaidd sych neu ymaflyd gwleidyddol rhwng gwahanol bleidiau yn unig yw mater cyllid codi'r gwastad neu gyllid yn lle cyllid oddi wrth yr UE; mae'n bwysig iawn o ran ein gallu i gyflawni ein hamcanion ni. Ac fe fyddwn i'n dweud, mewn gwirionedd, y byddai pob plaid yn y Senedd yn cytuno ein bod ni'n dymuno rhoi mwy o fuddsoddiad mewn sgiliau i'r dyfodol, i sicrhau bod gan ein pobl ifanc ni ddewisiadau gwirioneddol i'w gwneud o fewn eu heconomïau lleol nhw.
Fe fyddaf i'n rhoi diweddariadau pellach ar y gwaith y mae'r Warant i Bobl Ifanc yn ei wneud, ac rwy'n credu bod gennym ni gyfle gwirioneddol i gyflawni tu hwnt i'r rhethreg a sicrhau nad ydym ni'n gweld cenhedlaeth goll yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, mae'r heriau yn y farchnad lafur yn wahanol i'r hyn a fuasem ni'n ei ddisgwyl ychydig flynyddoedd yn ôl, wedi'r pandemig. Nid ydym ni wedi gweld cyfraddau uchel iawn o ddiweithdra. Rydym ni'n gweld marchnad lafur dynn iawn, ac yn ffigurau diweithdra heddiw, mae diweithdra cyfartalog y DU ar 4.1 y cant; ar 3.4 y cant yng Nghymru. Ond mae gennym ni her barhaus gyda'r anweithgarwch economaidd yng Nghymru sy'n uwch na chyfartaledd y DU, ac rydym ni wedi gweld, er bod rhai pobl wedi ymadael â'r farchnad lafur yn gyfan gwbl, mai un o'r heriau mawr yw nad yw gweithwyr hŷn sydd wedi ymadael yn debygol o ddychwelyd. Nawr, her o ran profiad yw honno. Ond mae hyn yn golygu, rwy'n credu, fod mwy fyth o reidrwydd i fuddsoddi yn y gweithlu sydd gennym ni, ac yng ngweithlu'r dyfodol hefyd, yn gyfochrog â'r pwyntiau a wnewch chi, sydd i'w gweld hefyd yn y diweddariad ar y genhadaeth economaidd a gyhoeddais i ym mis Hydref, ynglŷn â'r angen i ystyried gostyngiad yn y boblogaeth o oedran gweithio, a'r ffaith y bydd angen i ni fod yn fwy cynhyrchiol os ydym ni am allu cael economi gref sy'n gweithio yn effeithiol i'r dyfodol.
O ran eich pwynt chi am sero net a datblygiad economaidd rhanbarthol, a her datgarboneiddio, mae cynhyrchu ynni'n her, ond mae'r her yn llawer mwy cyffredinol ar gyfer gweithgarwch economaidd. Ac mewn gwirionedd, rwyf i o'r farn fod y pwynt a wnewch chi am y gwahaniaeth rhwng fframwaith economaidd y gogledd a'r fargen dwf y cytunwyd arni hi, gan ganolbwyntio yn wirioneddol ar ynni gwyrddach, sydd, yn fy marn i, yn achos llawer o glod i bob un o'r chwe awdurdod lleol yn y gogledd—y ffaith eu bod nhw wedi gallu cydweithio. Ac rwy'n gweld bod gennym gyn-arweinydd yn y gogledd yn y Siambr rithwir heddiw. Ond rhywbeth gwirioneddol glodwiw yw bod chwe gwahanol awdurdod, chwe gwahanol arweinydd—. Maen nhw wedi cytuno i gyd ar weledigaeth eang ar gyfer y gogledd a'u potensial tryloyw nhw ar gyfer gallu cynhyrchu mwy o ynni a budd economaidd i gymunedau ledled y gogledd o ganlyniad i hynny. A dyna un o'n heriau mawr ni—sef sicrhau nad ydym ni'n cynhyrchu dim ond ynni gwyrddach yn unig, ond ein bod ni, mewn gwirionedd, yn gweld y difidend swyddi a ddylai ddod gyda hynny. Nid oes sicrwydd y byddwn ni'n gweld hynny.
Nid yw prif fargen twf y canolbarth mor ddatblygedig â'r bargeinion eraill ledled y wlad. Ac yn ddiddorol, roedd gan Ellen ap Gwynn, yn arbennig, ddiddordeb mawr yn y potensial ar gyfer mwy o fuddsoddiad ynni gwyrdd a denu swyddi yn eu holau, ond maen nhw'n gwybod eu bod nhw'n parhau i nodi dull mwy thematig ar hyn o bryd—nid oes ganddyn nhw'r portffolio o feysydd â'r un lefel o fanylder ag sydd gan y bargeinion twf eraill. A dyna un o'r pethau y mae angen i ni ei dderbyn—o ran i ni fod â'r pŵer i'w rannu â rhanbarthau, a'r rhanbarthau yn gwneud llawer o'u dewisiadau eu hunain ar eu cyfer nhw, fe fyddan nhw'n symud ar gyflymder sy'n amrywio ychydig mewn gwahanol fannau, fe fydd eu blaenoriaethau nhw ychydig yn wahanol. Ond mewn gwirionedd, rwy'n ffyddiog y gwelwn ni gyfleoedd priodol ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd a datblygu economaidd rhanbarthol i fynd law yn llaw yn y canolbarth, yn union fel yng ngweddill Cymru. Ac roedd honno'n rhan o'r drafodaeth a gawsom ni wrth arwyddo dogfennau terfynol y fargen dwf. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o gysur i'r Aelod nad dull ehangach yn unig mo hwn, heb weithio trwy'r manylion, ond fe ddaw hynny ar wahanol gyflymder mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru.
Ac yn olaf, o ran eich pwynt chi ynglŷn â biliau a'r cyfnod pontio a'r argyfwng costau byw, un o'm pryderon mawr i yw ein bod ni'n gwybod y gallai budd economaidd gwirioneddol fodoli o ran symud tuag at economi carbon is a fydd wedi datgarboneiddio yn y dyfodol a'n llwybr ni at sero net. Yr her yw y gallai'r newid daro pobl yn y cyfamser. Felly, fe fydd angen i ni ymdrin â'r newid i gyrraedd y fan yn y cynllun sero net a amlinellwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, gyda phennod sylweddol ar y datgarboneiddio diwydiannol y mae angen ei wireddu. Ac rwy'n credu y byddwn ni, yn y pen draw, yn gallu elwa ar hynny. Yr her, wrth gwrs, yw na fydd hynny'n digwydd am ein bod ni'n dweud hynny'n unig; mae'n rhaid i ni weld gwaith rhwng partneriaid, gan gynnwys y sector preifat, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n gyfrifol am y weledigaeth ehangach.
Ac yn olaf un, Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i anfon fy nymuniadau da at yr unigolyn ifanc arbennig hwn, Mr Fletcher, sy'n cynllunio ei ddyfodol yng Nghymru a'i seremoni briodas ef sydd i ddod yn ddiweddarach eleni. Rwy'n anfon fy nymuniadau gorau i chi, ac fe allaf i ddweud wrthych i gyd am yr 11 mlynedd cyntaf o lawenydd a brofais i.
Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn. Mae pedwar rhanbarth Cymru, yn ogystal â bod yn debyg i'r teyrnasoedd hynafol, yn cael cyfle i ddatblygu polisi rhanbarthol yng Nghymru. Rwy'n cefnogi blaenoriaethau'r fframwaith a'r bargeinion dinesig a thwf, y cytundebau buddsoddi tair ffordd, a gynlluniwyd i sicrhau twf economaidd rhanbarthol parhaol, gan gynnwys y rhanbarth yr wyf i'n byw ynddo. Rwy'n llwyr gefnogi'r broses o greu rhanbarthau cryfach a deinamig i fod wrth hanfod creu economi sy'n gryfach, yn decach a gwyrddach yng Nghymru. Rwy'n falch iawn fod y pedair bargen ddinesig a rhanbarthol ar y gweill erbyn hyn.
Mae'r Gweinidog a minnau wedi cymryd rhan yn ddiweddar mewn gohebiaeth ynghylch gwyddorau bywyd. Mae gennyf i dri chwestiwn. Sut mae troi'r ymchwil gwyddor bywyd o'r radd flaenaf sydd i'w weld ym mhrifysgolion Cymru yn fwy o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth o ansawdd uchel? Nid yw rhai sectorau economaidd, fel technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a gemau cyfrifiadurol, yn cael eu cyfyngu gan ddaearyddiaeth. Sut mae datblygu'r rhain ymhellach? A'r trydydd yw: sut y gall y prifysgolion ym mhob rhanbarth helpu i ysgogi ffyniant economaidd yn eu rhanbarthau nhw?
Iawn, rwyf i am ddechrau gyda'r cwestiwn olaf a gweithio yn f'ôl. O ran addysg uwch, mewn gwirionedd, un o'n heriau ni yw, ac mae honno wedi bod yn her erioed, fyth oddi ar i mi fod yn Aelod—fe fyddwn i'n hoffi meddwl bod addysg uwch wedi gwella yn hyn o beth hefyd—ynglŷn â'r ymchwil a'r rhagoriaeth y maen nhw'n eu cynhyrchu a sut caiff y rhain eu cymhwyso i'r economi. Felly, y gwahaniaeth rhwng ymchwil, datblygu, arloesi, a chymhwyso i wella busnesau hefyd. Fe wyddom ni fod honno'n ffactor allweddol. Ac mewn gwirionedd, a bod yn deg â—. Edrychwch, er yr holl wahaniaethau sydd rhyngom ni a Llywodraeth y DU yr ydym ni'n sôn yn rheolaidd amdanyn nhw, mae'r brif addewid i roi mwy o arian mewn ymchwil, datblygu, ac arloesi yn beth da iawn ac fe fyddem ni'n dymuno gweld honno'n cael ei gwireddu. Yr her yw sicrhau bod yr arian yn mynd ar gerdded ac nad yw'n mynd yn y diwedd i'r triongl aur rhwng Rhydychen, Caergrawnt, a Llundain. Y perygl yn hynny o beth yw y byddai hwn yn beth drwg i Loegr, heb sôn am weddill y DU. Ac mewn gwirionedd, fel y dangosodd ein prif gynghorydd gwyddonol ni, mae ansawdd ymchwil Cymru a'n sylfaen ni o wyddoniaeth yn dda dros ben, mewn gwirionedd. Felly, nid ydym ni'n gallu dweud hyd yn oed y byddai hwnnw'n fuddsoddiad sy'n cael ei ysgogi gan ddim ond yr ansawdd. Felly, mae yna wir angen i sicrhau, mewn cronfeydd sy'n arian i'r DU gyfan, fod cyfran weddus o'r rhain yn dod i Gymru hefyd, yn ogystal â'r hyn y mae angen i ni ei wneud gyda'n sector addysg uwch ni a'r her gyson sydd gennym ni o ran sicrhau, heb ystyried gweithgaredd y DU, ein bod ni'n mynnu ac yn disgwyl mwy oddi wrth ein sectorau addysg uwch ni. Ac mewn gwirionedd, o ran Abertawe, yn fy marn i, fe geir enghreifftiau da iawn o brifysgol sydd, dros amser, wedi symud ei chenhadaeth yn bendant tuag at greu mwy o allbwn. Os ydych chi'n edrych ar y sector dur, maen nhw'n falch iawn o'r gwaith y maen nhw'n ei wneud â Phrifysgol Abertawe a'i hymchwil ddatblygedig ym maes metelau hefyd.
Rwy'n credu'r un peth am Dechnoleg Gwybodaeth ac, yn fwy cyffredinol, am ddulliau digidol o weithio. Mae gennym ni lawer o gyfleoedd i fod o fudd i bob rhanbarth yng Nghymru. Nid hyn yn ymwneud â galluogi pobl i weithio mewn gwahanol ffyrdd yn unig, mae hyn yn ymwneud ag ailgynllunio systemau yn llwyr. Ac rwy'n cytuno gyda chi, mae gennym ni gryfderau arbennig yng Nghymru. Fe gefais i gyfarfod diddorol iawn ynglŷn â chyfleoedd o amgylch Casnewydd a'r hyn y gallai hynny ei olygu ac ynglŷn â chanolfannau data a gweithgaredd arall a allai arwain at fwy fyth o gyfle i weld datblygu economaidd. Felly, rwyf i o'r farn bendant fod hynny'n rhywbeth y byddech chi'n disgwyl ei weld ym mhob rhanbarth, fel y byddwn ni'n deall wedyn ymhle y mae ein cyfleoedd mwyaf ni yng Nghymru.
Ac yn olaf, o ran gwyddorau bywyd, rwy'n credu ein bod ni'n gwneud yn well na'r disgwyl yng Nghymru o ran gwyddorau bywyd, pan edrychwch chi ar yr ymchwil sy'n digwydd, yn ogystal â'r swyddi a'r gweithgaredd. Sector yw hwn lle mae'r rhan fwyaf o'r swyddi yn swyddi â chyflogau da, gyda thelerau ac amodau da. A'r ganolfan gwyddorau bywyd sydd gennym ger adeilad y Senedd—. Rwy'n gobeithio, pan fydd hi'n gyfnod mwy normal unwaith eto, y bydd pobl yn cael cyfleoedd i fynd i mewn i weld a chwrdd â'r bobl yno. Mewn gwirionedd, rwy'n credu mai dyma un o'r dewisiadau buddsoddi doethaf a wnaethom ni, wrth ddylunio a dod â phobl ynghyd, ac mae hynny wedi golygu canolbwyntio gwirioneddol ar yr hyn y gall gwyddorau bywyd ei gyflawni. Nid yn unig wrth ddatblygu gwell cynnyrch ar gyfer defnydd ledled meysydd iechyd a gofal, ond gyda'r enillion economaidd gwirioneddol sy'n dod yn sgil hynny. Ac fe ddylwn i, dim ond gyda golwg yn ôl—. Mae'r ffordd y mae'r ganolfan gwyddorau bywyd wedi gweithredu, wrth fod yn borth i ni fynd drwyddo ar gyfer technolegau newydd a ffyrdd newydd o weithio drwy'r pandemig, wedi atgyfnerthu gwerth yr hyn a luniwyd gennym ni yno. Pan gawsom ni gyfarfod â Gweinidogion o Weriniaeth Iwerddon, roedd ganddyn nhw ddiddordeb arbennig yn yr hyn yr oeddem ni wedi dewis ei wneud a'r gwerth a ddaeth o hynny. Felly, efallai nad ydym ni'n sylweddoli hynny ein hunain yng Nghymru, ond mae gennym ni rywbeth y gallwn ni fod yn falch iawn ohono, yn fy marn i, ac rwy'n edrych ymlaen at ddisgwyl mwy yn y dyfodol.
Fe ddylwn i ddweud, Dirprwy Lywydd, nad oeddwn i'n mor ymwybodol fod ein rhanbarthau ni'n cyfateb mor daclus i'r teyrnasoedd hynafol. Ni oedd hynny yn fy nodiadau gweinidogol i wrth siarad, ond rwy'n ddiolchgar i Mr Hedges am dynnu sylw at hynny.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad.
A gaf innau hefyd ddiolch i Luke am dynnu sylw at faterion sy'n ymwneud â'r rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru? Rydych chi wedi tynnu sylw at rai pwyntiau pwysig iawn. Diolch yn fawr iawn.
Yn gryno iawn, mae gennyf i dri mater i'w codi. Yn gyntaf, rwy'n cael fy nghalonogi o weld datblygiadau fel Banc Cambria yn dwyn ffrwyth. Fel dywedais i yn ystod eich datganiad diweddar ar Fanc Cambria, mae holl faes y gwasanaethau lleol—banciau, swyddfeydd post, cymdeithasau adeiladu, seilwaith digidol a chorfforol—i gyd yn hanfodol wrth gefnogi economïau lleol, economïau gwledig yn arbennig lle mae'r gwasanaethau hanfodol hynny wedi cael eu torri'n ôl dros y blynyddoedd. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog am rywfaint o ddealltwriaeth o sefyllfa eich datganiad chi heddiw o ran cynlluniau ehangach y Llywodraeth i gefnogi ffyniant trefi a phentrefi mewn ardaloedd gwledig?
Yn ail, a wnewch chi ddweud gair ynglŷn â'n dull traddodiadol ni o fesur twf a pherfformiad economaidd a pha gamau sy'n cael eu cymryd i brofi sut y gallwn fabwysiadu mesurau newydd o berfformiad economaidd fel y rhai a gyflwynwyd yn Seland Newydd? Rwy'n gofyn hyn am i mi gyfarfod yr wythnos hon â chymdeithas tai Barcud, ac fe glywais i am eu cynlluniau nhw a'u huchelgeisiau nhw ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys eu cynlluniau nhw i fuddsoddi £60 miliwn mewn adeiladu tai a sefydlu academi hyfforddi. Fe geir mantais economaidd enfawr yn hynny o beth, ond fe geir budd cymdeithasol enfawr hefyd, fel byddech chi'n cytuno, rwy'n siŵr. Fe hoffwn i glywed eich barn chi.
Yn olaf, Gweinidog, er fy mod i'n croesawu'r cytundeb twf yn y canolbarth y cytunwyd arno'n ddiweddar, mae gennyf i bryderon ynglŷn â'r amser maith a gymerodd hwnnw. Megis dechrau'r gwaith yw hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y nodau a amlinellir yn parhau ar gyflymder. A gaf i ofyn i chi pa wersi a ddysgwyd o'r broses honno i sicrhau bod unrhyw fentrau posibl yn y dyfodol yn cael eu gwireddu mewn llai o amser, er mwyn y cymunedau lleol? Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau. O ran eich pwynt cyntaf chi am wasanaethau lleol a'r hyn y maen nhw'n ei olygu i economïau gwledig, rwy'n cydnabod dilysrwydd eich pwynt chi, yn y ddadl flaenorol ynghylch Banc Cambria yn ogystal â'ch diddordeb cyson chi yn y maes hwn. Rwyf i o'r farn, mewn gwirionedd, fod ein bargeinion twf ni'n dangos bod cyfleoedd gwirioneddol i'w cael i ddatblygu economi lwyddiannus yn y canolbarth yn y dyfodol.
Rydym ni'n sôn yn rheolaidd am bethau sy'n dod o'r ddaear, ond nid yw hyn yn ymwneud â'r cyfleoedd sy'n bodoli yn nyfodol gweithgynhyrchu a chynhyrchu bwyd yn unig; mewn gwirionedd, fe geir llawer o bobl sy'n dewis byw mewn rhannau gwledig o Gymru a gweddill y DU, ac fe geir cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer swyddi, a swyddi da, a byw mewn ffordd nad oes angen cymudo dyddiol i ganolfan boblogaeth fawr. Mae hwnnw ynddo'i hun yn gyfle i'r canolbarth o bosibl hefyd.
Fe geir heriau o ran sicrhau bod hanfodion bywyd llwyddiannus gennych chi bob amser y byddai eu hangen nhw i fodoli—ac rwy'n dweud hyn fel un a fagwyd mewn pentref yng nghefn gwlad hefyd—ac o ran cael gwasanaethau sy'n gwneud synnwyr, mae hynny'n golygu bod rhywfaint o fwrlwm gwirioneddol yn y pentref neu'r dref fechan yr ydych chi'n byw ynddi hi. Ond bod â chyfleoedd i bobl o wahanol fracedi cyflog a gwahanol gyfleoedd gwaith i fyw a gweithio yn yr ardal honno, gyda'r ansawdd o fywyd y gallwch chi ei gael wrth fyw yng nghefn gwlad Cymru, rwy'n credu bod hwnnw'n parhau i fod yn gyfle nad ydym ni wedi cyffwrdd ag ef.
Ynglŷn â'ch pwynt chi am fesurau newydd a sut y byddwn ni'n mesur twf traddodiadol, rydym ni wedi cydnabod ers tro nad yw GDP o reidrwydd yn adrodd y stori gyfan. Fe geir sgwrs ar hyn o bryd ynglŷn â sut y gallem ni gael ystod amgen o fesurau i geisio deall sut olwg fyddai ar economi lwyddiannus a sut fyddwch chi'n mesur hynny mewn ffordd ystyrlon.
Mae gennyf i ddiddordeb mawr yn rhywfaint o'r gwaith a wnaeth pobl eraill ac maen nhw'n parhau i'w wneud—gan gynnwys fy rhagflaenydd i, Ken Skates, wrth feddwl am sgyrsiau a gawsom ni o'r blaen—o ran sut mae economi llesiant yn edrych a sut allech chi fesur hynny mewn ffordd ystyrlon. Felly, mae gennym ni ddiddordeb mewn datblygiadau ar hyd y llinellau hynny, nid yn unig yn Seland Newydd ond ymhellach i ffwrdd mewn rhannau eraill o'r byd.
Yn sicr, rydym ni am ystyried—. Fe wn i chi sôn am dai, ac nid dim ond y ffaith y gallwch chi adeiladu tai o ansawdd da, ond y mathau o swyddi sy'n deillio o hynny a'r hyn y mae hynny'n ei olygu o ran diwydiant sy'n gynaliadwy. Mae hwnnw'n bwnc trafod rhwng Julie James a minnau'n rheolaidd.
Yn olaf, o ran eich pwynt chi am fargen dwf y canolbarth a'r amser a gymerodd hynny, rwy'n credu y byddai pob un o'n hardaloedd bargen dinesig a thwf ni wedi bod yn falch o gyrraedd pen eu taith nawr yn gyflymach nag y gwnaethon nhw. Ond nid yw'r amser y mae hi'n ei gymryd i fuddsoddi mewn ymddiriedaeth yn ein gilydd ac yn ein partneriaid yn rhywbeth, yn fy marn i, y gellir ei frysio.
Yr hyn yr ydym ni'n ei weld, serch hynny, yw bod bargen twf y canolbarth bellach yn cael ei chwblhau. Nid oes gennym ni fap gorffenedig ledled Cymru eto, ond rwy'n credu y ceir rhywfaint o uchelgais gwirioneddol i ysgogi pethau a dal i fyny mewn ffordd y mae bod â chystadleuydd weithiau o gymorth wrth annog rhanbarthau i ddangos eu bod nhw'n gwneud cynnydd gwirioneddol a diriaethol. Rwy'n credu ei bod hi'n arbennig o ddefnyddiol i ni fod â hwnnw yn ei le ac ar waith cyn i awdurdodau lleol encilio a bod posibilrwydd o rewi'r cynnydd a fyddai'n digwydd fel arall. Felly, mae hyn yn golygu y gall y ddau awdurdod lleol weithio'n unigol, a chyda'i gilydd, yn unol â'r hyn a gytunwyd ganddyn nhw yn y fargen dwf, heb egwyl hwy eto, hyd yn oed.
Felly, newyddion da iawn yw hyn yn fy marn i, ac fe allaf i ddweud yn onest nad yw gwleidyddiaeth wahanol un o Weinidogion y DU, un o Weinidogion Cymru a dau arweinydd cyngor wedi tarfu ar y ffordd yr ydym ni'n gwneud y peth priodol, ac mae hynny'n dangos y gall cydweithio fod yn bosibl mewn gwirionedd os byddwn ni i gyd yn barod i wneud y peth priodol.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw. Roeddech chi'n sôn am 11 mlynedd o briodas. Rwyf i wedi bod yn briod am 13, ac rwy'n siŵr nad yw arwyddocâd y rhif hwnnw mor anlwcus ag y mae rhai'n ei awgrymu.
Ond, i fynd yn ôl at eich datganiad chi, roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed chi'n cyfeirio at Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy. Ni fu amser gwell erioed, yn fy marn i, i Lywodraeth Cymru gydweithio â Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol er budd pobl Cymru a chreu'r economïau cryfach fel hyn yn y rhanbarthau, mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn enghraifft dda iawn o'r cydweithio hwn.
Fel yr oeddech chi'n sôn, Gweinidog—ac rwy'n cytuno gyda chi—enghraifft arall ardderchog o hyn yw'r cydweithio yn y fargen twf yn y gogledd, sydd, wrth gwrs, yn rhan o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, unwaith eto, sy'n gweithio ar draws y llywodraeth i sicrhau manteision cadarnhaol i bobl y gogledd, gan gynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol, creu swyddi fel hyn a chaniatáu i fusnesau ffynnu.
Ac fel roeddech chi'n sôn, Gweinidog, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno, mae gan awdurdodau lleol swyddogaeth enfawr o ran cefnogi economïau rhanbarthol sy'n fwy cydnerth. Yn eich datganiad, roeddech chi'n cyfeirio at swyddogaeth cyd-bwyllgorau corfforaethol o ran rhoi mwy o allu i gydweithredu rhanbarthol. Fel rwyf i'n ei gweld hi, ac yng ngolwg llawer o gynghorwyr ac arweinwyr y cynghorau, mae hi'n ymddangos bod cyd-bwyllgorau corfforaethol yn dwyn pwerau oddi wrth gynghorau a etholwyd yn lleol, ac nid yn eu cryfhau nhw, fel yr ydych chi'n ei awgrymu. Felly, pa asesiad a wnaethoch chi o'r swyddogaeth a fydd gan yr awdurdodau lleol yn y dyfodol o ran cefnogi'r economïau rhanbarthol cryfach hyn? A pha drafodaethau a gawsoch chi gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch y risgiau negyddol posibl a allai'r cyd-bwyllgorau corfforedig hyn beri i awdurdodau lleol sy'n cefnogi economïau rhanbarthol cryf? Diolch.
Rwyf i wedi cael nifer o sgyrsiau adeiladol iawn gyda fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans am waith datblygu economaidd rhanbarthol a chyd-bwyllgorau corfforedig i sicrhau bod y ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd yn ystod y tymor diwethaf yn cael ei gwireddu.
Rwyf i o'r farn fod yna berygl gwirioneddol y byddwn ni'n parhau i ddadlau am y gorffennol yn hytrach na cheisio llunio'r dyfodol o'r newydd, ac rwy'n credu bod ymdeimlad gwirioneddol o bragmatiaeth gadarnhaol wedi bodoli ymysg yr awdurdodau lleol am drefniadau rhanbarthol, i fod yn awyddus iddyn nhw lwyddo. Oherwydd fe fydd gan bob arweinydd awdurdod lleol, o ba gefndir bynnag, ryw gymaint o sylwadau am yr hyn a fyddai'n ddelfrydol yn ei sefyllfa unigol. Ond, o ystyried y strwythur sy'n bodoli eisoes, ein her ni ar hyn o bryd yw gwneud i hyn weithio ar ei orau, ac rwy'n credu bod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn enghraifft dda iawn o'r ffordd y mae pobl wedi gwneud hynny'n ymarferol iawn, fel dywedais i. Rydych chi'n ymwybodol o hyn, yn gyn-arweinydd awdurdod yn y gogledd. Nid yw'r amrywiadau gwleidyddol rhwng y chwe arweinydd wedi bod yn rhwystr, o reidrwydd, i gyrraedd cytundeb ar weledigaeth ar gyfer economi lawer gwell a chryfach yn y gogledd, gyda gwell swyddi ynddi hi.
Rydym ni'n parhau i weld awdurdodau lleol yn bartneriaid allweddol ym maes datblygiad economaidd. Dyna pam rydym ni'n awyddus, fel dywedais i yn fy natganiad ac mewn rhai cwestiynau cynharach, i sicrhau bod y pwerau yn cael eu rhannu er mwyn i'r sefydliadau sy'n cael eu harwain gan yr awdurdodau lleol allu gwneud eu penderfyniadau eu hunain yn lleol, o fewn rheswm. Fe fydd yna feysydd eraill lle caiff penderfyniadau eu gwneud ar y cyd â Llywodraeth Cymru, ac eraill hefyd lle gall Llywodraeth Cymru wneud y penderfyniadau. Ond ystyr hyn mewn gwirionedd yw rhoi mwy o bŵer a mwy o ddylanwad i awdurdodau lleol ar gyfer dylanwadu ar economïau rhanbarthol ehangach a'u cyfarwyddo nhw, ac rwyf i o'r farn ei bod hi'n amser priodol iawn i wneud hyn a'i ddatblygu, gyda'r ymddiriedaeth y gwnaethom ni ei buddsoddi ynom ein gilydd.
Rwy'n cytuno, Gweinidog, nad ydym ni'n dymuno edrych i'r gorffennol na byw ynddo, ond rwy'n gobeithio y byddwn ni'n dysgu o'r gorffennol. Rwyf i wedi bod yn Aelod mewn pedair Senedd, ac rwyf i wedi gweld pedair Llywodraeth wahanol yn mabwysiadu pedwar dull gwahanol o ymdrin â'r materion hyn, ac ni chefais i fy argyhoeddi eto bod unrhyw un ohonyn nhw wedi llwyddo. Pan rwy'n edrych ar rai o'r mentrau corfforaethol ar y cyd yr wyf i'n clywed y disgrifiad ohonyn nhw yn y sgwrs y prynhawn yma, rwyf i'n gwrando ar ddadleuon a glywais i ddegawd yn ôl, os wyf i'n gwbl onest â chi, ac mae fy etholwyr i'n aros o hyd i weld manteision y sgyrsiau hynny. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi, Gweinidog: beth yw lle Blaenau'r Cymoedd yn hyn o beth? Gan mai ychydig iawn o ganolbwyntio a gawsom ni ar y Cymoedd, y rhan fwyaf difreintiedig o'n cenedl ni, 20 mlynedd ar ôl datganoli, ac nid ydym ni wedi gweld y canolbwyntio y byddwn i wedi hoffi ei weld oddi ar i'r Llywodraeth hon gael ei hailethol ym mis Mai.
Fe hoffwn i wybod sut yr ydych chi'n disgwyl cyflawni eich polisïau chi. Ble mae'r mecanweithiau cyflawni? Oherwydd os bu yna un edefyn o fethiant, a bod yn onest, a welais i'n rhedeg drwy gydol fy amser yn Aelod yma, diffyg cyflawni fu hwnnw. Rydym ni wedi cael strategaethau yn dod allan o'n clustiau, ond yr hyn na chawsom ni yw cyflawni ar lawr gwlad. Pam ydych chi'n wahanol? Pam mae eich strategaeth chi'n wahanol? A sut fyddwch chi'n gwybod pan fyddwch chi wedi cyflawni eich amcanion? Beth yw eich amcanion chi ar gyfer Blaenau'r Cymoedd? Beth oeddech chi'n dymuno ei gyflawni? Pan oeddwn i'n un o'r gyfres drist hon o Weinidogion, beth amser yn ôl, yn nodi fy uchelgeisiau i ar gyfer y Cymoedd, fe nodais i rai pwyntiau ac amcanion eglur iawn—
Alun, mae angen i chi orffen siarad, oherwydd mae angen yr amser arnom ni.
Fe hoffwn weld adroddiad gan y Llywodraeth ar ba mor bell yr aethon nhw o ran cyflawni'r amcanion hynny a'r nodau hynny ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf. Felly, beth sydd am fod yn wahanol y tro hwn, Gweinidog?
Yr hyn a fydd yn wahanol y tro hwn yn fy marn i yw y byddwn ni'n awyddus, rwy'n credu, i ddod yn ôl i dynnu sylw at y gwelliant yn yr economi ranbarthol a'r hyn y mae hynny'n ei olygu nid yn unig ar gyfer swyddi, ond o ran cyflog ac amodau hefyd, oherwydd rydym ni'n ystyried gweld newid gwirioneddol yn digwydd. Ac rwy'n credu'n wirioneddol y bydd yna ganolbwyntio ar Flaenau'r Cymoedd, nid yn unig oherwydd y gwaith sy'n cael ei gwblhau o ran rhywfaint o'r seilwaith ffisegol sydd yno, ond, mewn gwirionedd, rydym ni wedi estyn allan ac rydym ni'n cael sgyrsiau gyda'r pum awdurdod lleol yn yr ardal honno, yn rhan o'r ddinas-ranbarth o amgylch y brifddinas, ar gyfer deall sut i ganolbwyntio'n fwriadol ar ardal Blaenau'r Cymoedd ei hun. Ac mae dewisiadau hefyd ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio rhai o'r ysgogiadau a'r dylanwad sydd gennym ni hefyd, oherwydd rwy'n cydnabod nad ydym wedi gallu gweld, ar draws Blaenau'r Cymoedd, newid blaengar sylweddol yn rhagolygon economaidd cymunedau ar draws yr ardal honno. Felly, dyma rywbeth yr ydym ni wedi dewis mynd allan o'n ffordd i fod yn eiddgar i'w wneud. Ac mewn gwirionedd, unwaith eto, mae hyn yn adeiladu ychydig ar y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud gyda Sam Rowlands, ac, mewn gwirionedd, mae awdurdodau lleol wedi bod yn arweinwyr adeiladol iawn erbyn hyn, ac nid yn unig yn bartneriaid, yn y maes hwn yn ystod y misoedd diwethaf, o ran ceisio nodi cyfres o amcanion lle gallai awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru a'r rhanbarth cyfalaf weithio gyda'i gilydd. Am fy mod i'n awyddus i sicrhau pethau ymarferol iawn, lle gallwch ddangos bod swyddi a chyfleoedd yn cael eu creu lle mae eu hangen nhw, yn hytrach na—i ddefnyddio eich ymadrodd chi—mwy o strategaeth. Mae gennyf i lawer mwy o ddiddordeb mewn cyflawni ymarferol gyda'r adnoddau sydd gennym ni.
Ac rwy'n cydnabod, Dirprwy Lywydd, bod arnaf i sgwrs fanylach ynglŷn â hyn i'r Aelod. Mae ef wedi gofyn am un; rwy'n hapus iawn i gael y sgwrs honno gydag ef, oherwydd rwy'n cydnabod y bydd ef yn parhau i ofyn yr un math o gwestiynau, ac rwyf i o'r farn fod hawl ganddo ef i wneud hynny, oherwydd mae angen Llywodraeth weithredol ar yr etholaeth y mae ef yn ei chynrychioli sydd o'i hochr hi ar lefelau Llywodraeth Cymru, a'r DU, ac yn wir ei awdurdod lleol ef hefyd.
Rydym ni wedi cyrraedd diwedd ein dyraniad amser, ond mae gen i dri siaradwr ar ôl. Rwyf i eisiau eu galw nhw i gyd, felly, os gwelwch yn dda, a wnaiff pawb sydd ar ôl sicrhau bod eu cyfraniadau yn gryno? Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn ei lyfr, An Inquiry into the Nature and Causes of the Wealth of Nations, dywedodd Adam Smith bod economi lwyddiannus yn ddibynnol ar:
'codi a chynnal a chadw'r gwaith cyhoeddus sy'n hwyluso masnach unrhyw wlad, megis ffyrdd da, pontydd, camlesi mordwyadwy, harbyrau ac ati.'
Hynny ydy, mae'r twf economaidd yn ddibynnol ar fuddsoddiad mewn isadeiledd. Mae isadeiledd yn luosogydd economaidd, wedi'r cyfan. Yn ôl yn 2015, dywedodd yr OECD bod yna anghydbwysedd mawr rhanbarthol yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae arnaf i ofn bod yna berig i wendidau'r Deyrnas Gyfunol gael eu hadlewyrchu yma yng Nghymru. Er enghraifft, mae ardaloedd gwledig yn parhau i ddioddef o ddiffyg darpariaeth o fand eang a rhwydwaith ffonau symudol, yn ogystal â gwendidau isadeiledd eraill. Ydy'r Gweinidog felly'n cytuno bod angen sicrhau bod yna fuddsoddiad sylweddol yn ein hisadeiledd er mwyn gweld twf economaidd cytbwys ym mhob rhanbarth o Gymru? Ac yn olaf, ydy'r Gweinidog yn cytuno y dylid cefnogi datblygu mentrau cydweithredol a pherchnogaeth cymunedol ar adnoddau lleol er mwyn cloi pres i mewn i'r economi leol ac atal yr economi echdynnol, gan sicrhau swyddi yn lleol? Diolch.
I ateb mor fyr â phosibl, yn unol â chyfarwyddyd y Dirprwy Lywydd: ydw, rwyf i yn credu bod angen i ni barhau i fuddsoddi mewn seilwaith, gan gynnwys seilwaith digidol, i alluogi'r hyn nad ydyn nhw o reidrwydd yn ffyrdd newydd o weithio, ond yn ffyrdd safonol o weithio sydd eisoes yn bodoli mewn rhannau helaeth o Gymru, i sicrhau bod ffyrdd o fanteisio ar y cyfleoedd hynny yn cael eu darparu yn ymarferol mewn cymunedau ledled y wlad, ac—. Mae'n ddrwg gen i, rwyf i wedi anghofio eich ail gwestiwn.
Mentrau cydweithredol o dan berchnogaeth lleol.
Ie, mae'n ddrwg gen i, ie. Ac mewn gwirionedd, rwy'n disgwyl cyflawni'r uchelgeisiau y gwnaethom eu pennu i ddyblu maint yr economi gydweithredol yng Nghymru. Nid yw'r sgyrsiau yr ymrwymais i'w cael gyda Huw Irranca-Davies yn dilyn dadl flaenorol ag ef yn dilyn cynnig deddfwriaethol wedi eu cwblhau. Fe wnaethom ni drefnu amser ond bu'n rhaid ei ohirio am resymau COVID. Ond, ydw, rwy'n llwyr fwriadu cyflawni'r ymrwymiadau yr wyf i wedi eu gwneud—fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, o gofio fy mod i'n Aelod Llafur Cymru a Chydweithredol o'r Senedd.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae gen i ddau gwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf, yn ei adroddiad diweddar, 'Beyond the Pandemic', darparodd yr Industrial Communities Alliance rywfaint o ddadansoddiad craff o'r hyn sydd ei angen i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd economaidd yn ein his-ranbarthau diwydiannol hŷn, fel Cymoedd y de. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â'r canfyddiadau hyn mai'r hyn sydd ei angen ar y Cymoedd yw mwy o swyddi gwell, ac a allwch chi amlinellu pa strategaethau yr ydych chi'n bwriadu eu gweithredu er mwyn cyflawni hyn?
Yn ail, yn ystod y pumed Senedd, gwelsom ni ddull is-ranbarthol cyfannol uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru drwy dasglu'r Cymoedd, ac rwyf i ar ddeall bod nifer o brosiectau etifeddiaeth sy'n gysylltiedig â hyn yn parhau o dan bortffolios gweinidogol amrywiol yn y chweched tymor y Senedd. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am sut y caiff cynnydd y cynlluniau hyn ei dracio a'i fonitro, ac a fydd adroddiadau ar y cynnydd hwn yn cael eu rhannu â'r Senedd maes o law, fel y gall Aelodau graffu ar y cynnydd hwn?
Ydw, o ran eich ail bwynt am gynnydd, ydw, rwyf i yn disgwyl gallu rhannu adroddiadau â'r Senedd a gyda phwyllgorau ar y math o gynnydd yr ydym yn ei wneud. O ran eich pwynt cyntaf, ynghylch yr Industrial Communities Alliance, mwy o swyddi gwell yn nes at adref, dyna yn sicr ble yr wyf i'n awyddus i ni fod, ac mae'n treiddio rhywfaint i'r cwestiwn a ofynnodd Alun Davies, ac, o gofio ble mae Cwm Cynon, rwyf i yn disgwyl nid yn unig cael sgwrs â chynrychiolwyr y Cymoedd o amgylch Blaenau'r Cymoedd yn unig, ond i allu nodi mewn gwirionedd yr hyn yr ydym ni'n gobeithio ei wneud ochr yn ochr â phartneriaid mewn awdurdodau lleol ac mewn busnesau hefyd, a sut y byddwn yn defnyddio'r ysgogiadau sydd gennym. Felly, nid yw hynny'n ymwneud â'n cyfrifoldebau am sgiliau yn unig, ond sut yr ydym yn llenwi rhai o'r diffygion mewn cyllid blaenorol. Oherwydd nid wyf i'n credu y gallwn ni ddweud, 'Rydym yn mynd i ddadfuddsoddi mewn buddsoddiad sgiliau yn ardal Blaenau'r Cymoedd', oherwydd bod hynny'n golygu na fyddwn yn gweld y math o gynnydd a wnaethom. Drwy fuddsoddi mewn pobl a lleoedd, mae'n rhaid i ni geisio gwneud hynny'n real, hyd yn oed gyda'r heriau sydd gennym yn sgil setliad y gyllideb a realiti'r cyllid codi'r gwastad nad yw'n llifo i'r man lle mae ei angen fwyaf. Yr hyn yr wyf i yn ei ddisgwyl yw nid yn unig cael sgwrs gyda chi a'ch cyd-gynrychiolwyr, ond i allu nodi'n fanylach yr hyn yr ydym yn mynd i geisio ei wneud mewn gwirionedd, ac yna gallu nodi sut yr ydym yn disgwyl mesur y cynnydd hwnnw mewn termau real.
Ac yn olaf, James Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, byddai wedi bod yn braf clywed rhywfaint o bositifrwydd drwy gydol eich araith, ond fe wnaethoch chi fy ngholli i ar ôl i chi barhau i feirniadu Llywodraeth y DU am fuddsoddi mewn rhannau o Gymru y mae eich Llywodraeth chi wedi anghofio amdanyn nhw ers blynyddoedd. A gyda phob parch, nid oes llawer i'w ddathlu yn record wael Llafur Cymru o ran yr economi, wedi ei gynorthwyo a'i annog ar un adeg gan Blaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol. Gallwn i fynd ymlaen, ond ar nodyn cadarnhaol, yr oedd yn gadarnhaol iawn gweld bod cytundeb twf canolbarth Cymru yn cael ei lofnodi a dod â'r arian hanfodol hwnnw i Gymru wledig. Ond, Gweinidog, mae seilwaith yn hanfodol ar gyfer twf economaidd, felly hoffwn i wybod pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'r Dirprwy Weinidog am ei adolygiad o'r ffyrdd a phwysigrwydd y rhwydwaith ffyrdd mewn twf economaidd rhanbarthol. Ac yn olaf, Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch yr angen i fynd i'r afael â'r prinder tai yn fy etholaeth i a ledled canolbarth Cymru, oherwydd os nad oes tai i bobl sy'n gweithio fyw ynddyn nhw, bydd yr ardal yn troi yn gartref ymddeol gyda chyfleoedd prin i ddatblygu twf economaidd? Diolch, Dirprwy Lywydd.
Wel, o ran yr adolygiad o'r ffyrdd, fel y gwyddoch chi, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn fwy na pharod i ateb cwestiynau am y polisi y mae'n ei arwain ar ran y Llywodraeth. Hefyd, o ran tai, rwy'n credu bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn glir iawn ynghylch yr angen i adeiladu mwy o dai a mwy o dai yn y rhychwant fforddiadwy, sy'n her wirioneddol i ni, i bobl gael tŷ yn effeithiol, ond hefyd ar gyfer y manteision economaidd yn sgil creu mwy o dai a'r sgiliau y mae angen i ni allu buddsoddi ynddyn nhw. Ac wrth sôn am naws lle mae pethau, rydym yn bod yn ddi-flewyn-ar-dafod am yr hyn sydd wedi digwydd. Rydym yn bod yn onest am yr heriau sy'n ein hwynebu. Ac rwy'n gwybod nad yw'r Aelod bob amser yn cytuno, ond dyna'r her a geir mewn democratiaeth, onid yw? Rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi mynd ymlaen i gyhoeddi honiad nad yw'n teimlo ei fod yn byw mewn democratiaeth yng Nghymru mwyach, ond dyma'r Llywodraeth etholedig ar gyfer pobl Cymru, sy'n gwneud dewisiadau ac yn cael ei dwyn i gyfrif yn Senedd Cymru. Mae'n bleser siarad â chi bob amser, Dirprwy Lywydd; edrychaf ymlaen at fy nghyfle nesaf i wneud hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf y prynhawn nesaf yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn dilyn cyhoeddi 'Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru'. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ceisio cyflawni'r nod o Gymru fwy cyfartal yn ymwneud â gwireddu potensial ein holl bobl—[Anghlywadwy] Mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd.
Fe wnaethom eich colli chi am eiliad.
Do, roeddem yn cael ychydig o anawsterau technegol yn y fan yno.
Ydych chi eisiau dechrau eto?
Byddaf i'n dechrau eto. Newydd ddechrau oeddwn i.
Mae ceisio cyflawni'r nod o Gymru fwy cyfartal yn ymwneud â gwireddu potensial ein holl bobl a'u galluogi i gymryd rhan mewn cymdeithas sifil ar delerau cyfartal. Rydym yn gwybod bod hwn yn llwybr at gymunedau mwy cydlynus a chymdeithas fwy llewyrchus. Mae hefyd yn sicrhau bywiogrwydd ein diwylliant a'n treftadaeth, sy'n cael eu cyfoethogi gan gyfranogiad ac ymgysylltiad ac a ddylai fod yn ddathliad o'n hamrywiaeth. Ond mae'r ffordd yr ydym yn adnabod ac yn hyrwyddo ein treftadaeth hefyd yn cael effaith ar ein lles fel cymdeithas. Ar y naill law, gall eithrio pobl o'n stori genedlaethol, ond ar y llaw arall, gall hefyd fod yn rym cadarnhaol sy'n helpu i lunio'r Gymru yr ydym yn ei dymuno. Mae ganddi'r potensial i feithrin yr ymgysylltiad a'r cyfranogiad hwnnw, sef sylfaen cymunedau cydlynus ac economi ffyniannus.
Mae treftadaeth yn agwedd bwysig ar sut y mae pobl yn uniaethu â ble maen nhw. Mae'n helpu i roi ymdeimlad o le ac o berthyn. Rydym yn awyddus i bawb deimlo bod rhan o'u stori dreftadaeth yma yng Nghymru. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fod yn agored i adrodd straeon newydd a dod o hyd i ffigyrau newydd i'w dathlu. Ond mae angen i ni edrych yn feirniadol hefyd ar yr hyn yr ydym ni eisoes wedi ei nodi fel treftadaeth, a bod yn agored i'w dehongli o'r newydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle ceir pethau sy'n atgoffa o anghyfiawnderau hanesyddol. Mae gennym ni gyfrifoldeb i osod y naratif hanesyddol, ac annog perthynas onest a gwybodus â'n hanes. Dim ond drwy wneud hyn y gallwn ni feithrin yr ymgysylltiad creadigol sy'n cynnal ein treftadaeth ac sy'n cyfrannu at fywiogrwydd cymdeithas sifil.
Roedd yr archwiliad o goffáu, dan arweiniad Gaynor Legall, yn gam cyntaf pwysig mewn proses o edrych yn onest ar yr hyn yr ydym wedi ei etifeddu, ac o gydnabod yr angen i fod â chofnod di-duedd o'r gorffennol. Bwriad yr archwiliad bob amser oedd bod yn gam cyntaf, ac rwyf yn falch o ddweud ein bod yn cymryd camau pellach ar hyd y ffordd tuag at y cofnod di-duedd a dilys hwnnw o'r gorffennol sydd mor bwysig os ydym am sicrhau treftadaeth sy'n cael ei rhannu'n wirioneddol. Y prif ymateb i archwiliad Legall fydd datblygu polisi a chanllawiau clir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus wrth fynd i'r afael â gweithredoedd coffáu cyhoeddus.
Rydym eisoes wedi ymateb i adroddiad yr hen Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd, 'Ar Gof a Chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus', a wnaeth alwadau tebyg am ganllawiau clir a fydd yn cyflwyno map llwybr ar gyfer gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â gweithredoedd coffa hanesyddol ac yn y dyfodol. Bydd y canllawiau hyn yn defnyddio arferion da o fannau eraill i nodi'r mathau o ymyriadau cadarnhaol a allai fod ar gael. Er enghraifft, a oes angen i gofebion presennol gael naratif pellach, sy'n esbonio'r cyd-destun ehangach, neu a oes angen ystyried opsiynau mwy radical a allai gynnwys adleoli cofeb? Pa feini prawf y dylid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau o'r fath, a sut y gellir ymgysylltu yn wirioneddol â chymunedau?
Mae penderfyniadau fel yr hyn a wnaed gan Gyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu dehongliad ochr yn ochr â heneb Picton, neu gan Gyngor Caerdydd i dynnu cerflun Picton o Neuadd y Ddinas, yn ein hatgoffa o ba mor anodd y gall hyn fod ac amlygu'r angen am arweiniad. Hefyd, wrth gwrs, mae cydnabod cyn lleied o gofebion sydd i bobl dduon, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, neu fenywod nodedig hyd yn oed, yn fan cychwyn ar gyfer deialog ynghylch pwy yr ydym yn ei goffáu yn y dyfodol. Bydd datblygiad y canllawiau ei hun yn adlewyrchu ymrwymiad i gynhwysiant. Bydd cyfres o weithdai wedi eu hwyluso sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol yn ganolbwynt iddo. Mae swyddogion Cadw wedi dechrau'r ymchwil gefndirol a fydd yn llywio'r canllawiau eisoes, a'r bwriad yw cynnal y gweithdai yn gynnar eleni. Caiff y canllawiau eu drafftio yn ystod y gwanwyn, ac yna bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn.
Yn y cyfamser, rydym ni eisoes wedi cymryd rhai camau. Rydym ni wedi cyhoeddi argraffiad diwygiedig o archwiliad Legall, gan wneud mân ddiwygiadau mewn ymateb i adborth a gwybodaeth newydd sydd wedi dod i'r amlwg ers ei gyhoeddi gyntaf flwyddyn yn ôl, ac mae hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar gyfer cofebion sydd â gwarchodaeth gyfreithiol, fel strwythurau rhestredig, mae Cadw wedi diwygio'r holl ddisgrifiadau sy'n croesgyfeirio i ffigyrau a nodwyd yn yr archwiliad o goffáu. Mae'r disgrifiadau rhestr newydd hyn ar gael i'r cyhoedd bellach drwy fapiau Cof Cymru ar-lein Cadw. Mae Cadw hefyd yn gweithio i ddefnyddio ei wefan i gyhoeddi naratif cyfoethog ac amrywiol am hanes Cymru. Mae cam cyntaf wedi cynnwys adolygu cynnwys presennol a'i gasglu gyda'i gilydd i'w rannu ar y wefan. Mae'r ail gam yn cynnwys comisiynu cynnwys amlgyfrwng allanol, gan gynnwys fideo a sain. Bydd y cynnwys hwn yn cael ei gynnal ar ardal bwrpasol sydd newydd ei datblygu ar wefan Cadw. Bydd hwn yn fan sydd ar gael i bawb yn y pen draw lle gellir dathlu a rhannu llawer o agweddau ar amrywiaeth ein treftadaeth.
Mae'r camau hyn yn cyfrannu at un o nodau'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol sy'n cael ei ddatblygu, sy'n galw arnom i weithio gyda chyrff cyhoeddus i gydnabod yn llawn eu cyfrifoldeb am bennu'r naratif hanesyddol, hyrwyddo a chyflwyno cofnod di-duedd, dilys, heb fod yn drefedigaethol o'r gorffennol. Mae'r camau hyn yn mynd i'r afael â rhai blaenoriaethau pwysig: cael gwybodaeth sy'n ddi-duedd, codi ymwybyddiaeth, rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth, a sefydlu fframwaith sy'n cefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau ar y cyd ar gyfer gweithredoedd coffáu. Rwyf i'n credu eu bod, gyda'i gilydd, yn ymateb addas i'r materion a gafodd eu codi yn archwiliad Legall a'r camau nesaf pwysig ar ein taith tuag at Gymru wrth-hiliol. Diolch yn fawr.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch. Wel, ledled y byd, mae caethwasiaeth wedi bod yn realiti enbyd a drwg drwy gydol y rhan fwyaf o hanes dynol. Roedd caethwasiaeth ledled Prydain ei hun ymhell cyn dyddiau'r Rhufeiniaid ac fe wnaeth barhau dros ganrifoedd lawer wedyn. Roedd y Prydeinwyr, h.y. y Celtiaid neu'r Cymry, a'r Eingl-Sacsoniaid yn aml yn cadw caethweision, fel y gwnaeth y Llychlynwyr gorchfygol, wrth i'r buddugwr gaethiwo neu werthu'r rhai a gafodd eu gorchfygu. Hanes erchyll a rennir hefyd gan lawer o lwythau a theyrnasoedd yn Affrica ac mewn mannau eraill.
Erbyn yr ymosodiad Normanaidd yn 1066, roedd 10 y cant o boblogaeth Prydain yn gaethweision. Yn y ddeunawfed ganrif, roedd cannoedd o gwmnïau yn ymwneud â'r fasnach gaethweision drawsatlantig, gan gludo Affricanwyr i drefedigaethau Caribïaidd. Mae ein perthynas â chaethwasiaeth yn un hir, gymhleth ac astrus, a bydd cyndeidiau y rhan fwyaf o bobl sy'n byw yn y DU heddiw wedi cael rhyw fath o gysylltiad â hyn. A yw'r Gweinidog yn rhannu fy marn i fod yn rhaid i ni ddysgu o'r gorffennol os nad ydym am ailadrodd ei gamgymeriadau, ei bod yn hanfodol diogelu diwylliant a threftadaeth Cymru, ac y dylem ni dynnu sylw at hanes nid ei ddileu?
Sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i gyfeiriad yr adroddiad at blaciau a'i ganfyddiad bod llawer o goffadwriaethau, boed yn henebion cyhoeddus, cerfluniau, portreadau cyhoeddus neu enwau adeiladau cyhoeddus, lleoedd a strydoedd, yn aml heb unrhyw ddehongliad cysylltiedig? A yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai placiau sy'n cynnwys esboniad â chyd-destun llawn gael eu hatodi i henebion hanesyddol, fel y gall ymwelwyr neu bobl sy'n pasio lunio eu harfarniadau eu hunain? Gall unigolion a gafodd eu cofio fod yn gymhleth, ac rydym yn falch o weld cydnabyddiaeth yn yr adroddiad,
'Roedd gan lawer ohonynt hanes personol cymhleth a oedd yn ymgnawdoli newidiadau sylweddol mewn amgylchiadau neu safbwyntiau ar hyd eu hoes.'
A yw'r Gweinidog yn cytuno, ac os felly, sut y bydd hi'n sicrhau bod yr agwedd hon yn cael ei chymhwyso'n gyson a'i bod yn parhau i'r dyfodol? Er enghraifft, mae'r adroddiad yn sôn am Mahatma Gandhi, ffigwr hynod ddylanwadol yn yr ymgyrch dros annibyniaeth India. Mae cerflun ym Mae Caerdydd, nepell o'r Senedd. Er i Gandhi weddnewid ei hun a rhoi'r gorau i hiliaeth yn ddiweddarach, mae dyfyniadau o'i ysgrifiadau a'i ddatganiadau wrth weithio fel atwrnai yn Ne Affrica cyn iddo ddychwelyd i India ym 1915, yn cynnwys dyfyniadau hiliol lle, er enghraifft, galwodd Indiaid yn 'anfeidrol gwell' nag Affricanwyr du. Yn 2018, tynnodd Prifysgol Ghana gerflun o Gandhi i lawr ar y sail hon.
Sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i ymchwiliad yr adroddiad i ffigyrau fel Christopher Columbus, nad oedd ganddo unrhyw gysylltiad â Chymru na Phrydain, oherwydd bod ymgyrchwyr wedi tynnu sylw ato gan ddweud bod angen ei archwilio? Fel y dywed yr adroddiad:
'Mae cyfraniad llawer o'r unigolion hyn at gaethwasiaeth neu fathau eraill o gamdriniaeth yn agored i drafodaeth a dehongliad. Fe newidiodd sawl un ei farn yn sylweddol wrth ystyried materion yn fanwl neu wrth i agweddau newid o'i gwmpas.'
Er bod yr adroddiad yn nodi bod cerfluniau William Gladstone wedi eu beirniadu gan ymgyrchwyr ar y sail bod ei dad wedi elwa ar weithwyr planhigfeydd wedi eu caethiwo, mae'n ychwanegu,
'Ymddengys nad yw wedi cyfrannu at gaethwasiaeth yn bersonol a daeth yn un o brif ddiwygwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg.'
Sut felly ydych chi'n ymateb i alwadau i ddileu cerfluniau o ffigyrau fel Gladstone, pan oedd Gladstone yn wladweinydd Rhyddfrydol a wasanaethodd yn Brif Weinidog Prydain bedair gwaith ac a alwodd gaethwasiaeth,
'y drosedd fileiniaf o bell ffordd sy'n pardduo hanes dynolryw'?
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi:
'Pardduwyd enw H.M. Stanley gan ei weithredoedd honedig a chanlyniadau ei weithredoedd hysbys yn Affrica, ond mae ei euogrwydd personol yn destun dadl o hyd.'
Er i'w enw da gael ei ddifrodi gan ei ran mewn sefydlu Gwladwriaeth Rydd y Congo ar gyfer Leopold II o Wlad Belg, mae tystiolaeth yn dangos nad oedd Stanley yn ymwybodol o wir fwriadau Leopold ac nad oedd erioed yn gysylltiedig â'r erchyllterau a gyflawnwyd yn erbyn y bobl frodorol. At hynny, mae ei lythyrau a'i ddyddiaduron o'r adeg hon yn cofio ei atgasedd tuag at gaethwasiaeth a'r fasnach gaethweision. Yn wir, pan oeddwn i'n westai yn seremoni dadorchuddio ei gerflun yn Ninbych yn 2011, clywais yn uniongyrchol gan ddirprwyaeth o'r Congo a anfonwyd draw ar gyfer y dadorchuddio, a ddywedodd wrthyf am eu cariad a'u gwerthfawrogiad tuag ato. Sut felly ydych chi'n ymateb i bleidlais y cyhoedd yn Ninbych a arweiniodd at gadw'r cerflun o 471 i 171? A ydych chi'n cytuno bod gwneud penderfyniadau democrataidd lleol fel hyn yn well nag unrhyw benderfyniadau a orfodir o'r brig i lawr ym Mae Caerdydd?
Yn olaf, wrth i ni gydnabod cymhlethdod hanes, a yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn bwysig cofio'r safbwynt gwrth-gaethwasiaeth a gymerodd Prydain, er enghraifft pan ddiddymodd y Ddeddf masnach gaethweision ym 1807 y fasnach gaethweision, ac, yn dilyn hyn, defnyddiodd Llywodraeth y DU y Llynges Frenhinol a chytuniadau i ddwyn perswâd ar wledydd eraill i roi terfyn ar eu hymwneud nhw â chaethwasiaeth?
Diolch i Mark Isherwood am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwy'n credu fy mod i'n cytuno llwyr â llawer o'r hyn y mae'n ei ddweud. Mae gan yr ynysoedd hyn hanes hir o gaethwasiaeth ac nid yw ein rhan ni yn yr hanes hwnnw wedi bod yn destun gogoniant i ni bob amser. Ond mae'n rhaid i ni edrych arno yng nghyd-destun yr hyn a oedd yn digwydd ar y pryd. Roedd hynny'n rhan o holl broses yr archwiliad Legall: nodi pobl yr oeddem yn eu hystyried, bryd hynny mewn hanes, yn bobl a oedd yn ddyngarwyr, a gyfrannodd at ein cymdeithas, a oedd yn grewyr cyfoeth, ac yn y blaen, ac a roddodd pethau da i'n cymdeithas, ond y gwnaethon nhw hefyd, wrth gwrs, niwed gydol oes i'r genedl o ran atgofion cymunedau, heb fod mor bell yn ôl â hynny. Mae'n gwbl iawn a phriodol ein bod yn edrych ar hynny i gyd drwy gyd-destun yr unfed ganrif ar hugain—ein bod yn edrych ar y bobl hyn, a'n bod yn dweud y gwnaethon nhw yr hyn y gwnaethon nhw bryd hynny yn ystod hynt eu hoes ar yr adeg honno, ond na ddylid anwybyddu'r effaith y cafodd hynny ar genedlaethau a ddaeth ar eu holau.
Cyflawnodd pobl a oedd yn ymwneud â'r fasnach gaethweision erchyllterau ofnadwy ac anghyfiawnderau ofnadwy, ac mae angen cydnabod hynny i gyd ochr yn ochr ag unrhyw bethau da a wnaeth y bobl hynny. Byddaf i'n rhoi enghraifft i chi. Bydd cydweithwyr yn y Siambr yn gwybod, wrth gwrs, y cefais i fy ngeni a fy magu yn ninas Bryste, dinas yr oedd ei heconomi gyfan wedi ei seilio bryd hynny—. Roedd cerflun Edward Colston yn symbol o hynny. Roedd Edward Colston yn ddyngarwr mawr yn y ddinas. Adeiladodd ysgolion, adeiladodd ysbytai, rhoddodd ei enw i bob math o bethau o amgylch y ddinas, a rhoddodd lawer o arian i'r ddinas honno. Ond nid yw hynny'n golygu nad yw pobl bellach yn cydnabod bod yn rhaid cydnabod y niwed a wnaeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Cafodd archwiliad Legall ei gynnal o ganlyniad i rai o'r pethau a welsom tua'r adeg honno, yn dilyn y mudiad Black Lives Matter a chwympo cerflun Colston, ac, yn wir, cwympo cerfluniau fel yr ydym ni wedi ei weld mewn mannau eraill. Roedd yn rhan o'r rheswm pam yr edrychodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ar sail hynny ac yn sgil hynny i gyd, ar sut yr ydym yn coffáu'r bobl hyn o'r gorffennol. Felly, rwy'n credu ei fod yn fwy o fater o beidio â thaflu'r llo a chadw’r brych, a'n bod yn edrych ar yr hyn a wnaeth y ffigyrau hanesyddol hyn. Gallwn ni goffáu'r pethau da y gwnaethon nhw, ond rydym yn cydnabod yr anghyfiawnderau hanesyddol hefyd, ac rydym yn eu gosod yn y cyd-destun.
Nid yw'n fater o Lywodraeth Cymru yn datgan oddi fry pa rai o'r bobl hyn y dylid ac na ddylid eu coffáu. Ein rhan ni yw cyhoeddi canllawiau ar sut y mae awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus yn eu gosod yn y cyd-destun. A dyna'r hyn a ddigwyddodd gyda cherflun Stanley yn Ninbych. Ymatebodd Dinbych o ganlyniad i ddeiseb yn y dref honno. Cawson nhw refferendwm lleol, a phenderfynodd y refferendwm lleol hwnnw gadw Stanley. Nid bwriad Llywodraeth Cymru yw gweithredu'n groes i ddymuniadau trigolion lleol o ran y ffigyrau hanesyddol y gallan nhw uniaethu â nhw yn eu trefi, ond mae'n rhywbeth y byddwn yn ei ddweud yn y canllawiau—y dylid ei osod o bosibl yn y cyd-destun hanesyddol er mwyn, fel yr ydych chi eisoes wedi dweud, Mark Isherwood, ei osod yn y cyd-destun hwnnw gyda naratif a gyda disgrifiad sy'n nodi'n hanesyddol sut y mae'r bobl hyn yn rhan o'n hanes. Bydd y canllawiau a gaiff eu cyhoeddi yn cael eu llunio ar y cyd â nifer o randdeiliaid allweddol, fel yr wyf i wedi ei ddweud, a byddan nhw'n cynnwys pobl o'r cymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod, pobl sydd â gwybodaeth hanesyddol. Mae'n amlwg y bydd arbenigwyr o Lywodraeth Cymru.
Bydd hefyd yn edrych ar sut yr ydym yn coffáu pobl wrth symud ymlaen ac i'r dyfodol. Oherwydd un o'r pethau y nododd yr archwiliad eisoes, ac yr wyf i wedi ei nodi yn fy natganiad, yw bod gennym ni brinder coffáu yn ymwneud â menywod, yn ymwneud â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Yn sicr, nid yw'n ymddangos bod y gymuned LGBTQ+ yn cael ei chynrychioli mewn llawer o'n coffadwriaethau. Bydd yr holl bethau hynny'n cael eu cynnwys yn y canllawiau. Yn allweddol i'r cyfan yw bod pobl yn cael eu coffáu a'u cydnabod yng nghyd-destun eu hamser a'r cyd-destun yr ydym yn byw ynddo yn awr, gan edrych yn ôl ar eu bywydau. Nid yw'n ymwneud ag ailysgrifennu hanes, mae'n ymwneud â'i osod yn ei gyd-destun priodol.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Dirprwy Weinidog, am y diweddariad heddiw.
Rwy'n ymwybodol iawn fy mod i'n ymateb i'r datganiad hwn heddiw fel person gwyn gyda'r holl fraint sy'n gysylltiedig â chael fy ngeni'n wyn. Er fy mod i'n gallu teimlo empathi â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru fel cynghreiriad, nid wyf i'n gallu deall yn iawn faint o boen y mae ein hunanfodlonrwydd ni fel cymdeithas wedi ei greu drwy beidio â dechrau mynd i'r afael â'r mater hwn cyn i George Floyd gael ei ladd yn annynol gan ysgogi'r mudiad Black Lives Matter a'n gorfodi i wynebu gwirioneddau anghyfforddus am hanes, treftadaeth a choffadwriaeth yng Nghymru, yn ogystal â'n cyfrifoldeb ni, yn bersonol ac fel Senedd, nid yn unig i fod yn wrth-hiliol, ond i chwarae ein rhan mewn creu Cymru gyfartal ac adnabod hiliaeth. Nid yw hyn yn ymwneud â dileu hanes, mae'n ymwneud â gosod cerfluniau fel y rhain yn eu cyd-destun hanesyddol a'u defnyddio i ysgogi sgyrsiau anodd er mwyn i ni allu cyflawni'r newid hwnnw.
Gadewch i ni beidio â thanbrisio faint o her y bydd hyn, a bod yn glir nad yw geiriau cynnes yn ddigon i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb a'r hiliaeth ddofn sy'n parhau yng Nghymru heddiw. A gadewch i ni beidio â meddwl ychwaith y bydd troi'r archwiliad hwn yn gamau gweithredu yn hawdd. Fel y cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog yn ei datganiad, mae hyn wedi bod yn amlwg yn yr ymatebion hiliol yr ydym ni wedi eu gweld yn anffodus i rai camau sydd wedi eu cymryd eisoes mewn cysylltiad â Thomas Picton gan Gyngor Sir Caerfyrddin, cyngor dinas Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. I eraill nad ydyn nhw wedi dechrau ar y daith hon eto, rwy'n siŵr y bydd croeso i'r ffaith y bydd gwaith yn dechrau bellach ar ddatblygu canllawiau, ond byddwn i'n ddiolchgar, Dirprwy Weinidog, pe gallech chi ymhelaethu ymhellach ar y broses hon a phryd yr ydych yn disgwyl i'r broses hon gael ei chwblhau. At hynny, a fydd cyllid yn cael ei ddarparu hefyd i gefnogi awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus i ymgymryd â'r gwaith pwysig hwn yn ogystal â'r canllawiau?
Hefyd, fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith y bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Ydych chi'n gwybod eto ar ba ffurf y bydd hwn a phwy fydd yn arwain y gwaith hwn? At hynny, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog fynd i'r afael hefyd â pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i'r ffordd orau o leddfu a chefnogi tensiynau mewn cymunedau lle mae'r coffadwriaethau hyn yn parhau tra bod y canllawiau'n cael eu datblygu? Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd yn eich datganiad ac yn eich ymateb blaenorol y bydd y canllawiau hefyd yn ystyried coffadwriaethau yn y dyfodol a'r ffordd orau o sicrhau bod esiamplau da mwy gweladwy sy'n cynrychioli amrywiaeth Cymru. Yn sicr, mae dadorchuddio cerflun Betty Campbell yng Nghaerdydd wedi dangos grym coffadwriaethau o'r fath. Rwy'n siŵr yr oeddem ni i gyd wrth ein bodd yn gweld y lluniau o blant ysgol o amgylch y cerflun hwnnw ac yn cael eu hysbrydoli ganddo. Pa gynlluniau, felly, sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o gomisiynu rhagor o goffadwriaethau cyhoeddus sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru ac yn caniatáu i genedlaethau'r dyfodol weld eu hunain yn cael eu cynrychioli'n gadarnhaol mewn celf gyhoeddus, diwylliant a hanes yng Nghymru?
Nid yw'n hawdd unioni camweddau'r gorffennol, gan ei fod yn ein gorfodi i wynebu gwirioneddau anodd ac anghyfforddus, ond ni allwn osgoi'r materion hyn mwyach, ac rwy'n falch o weld heddiw rywfaint o gynnydd ar yr archwiliad hwn. Ond ni allwn fod yn hunanfodlon, ac edrychaf ymlaen at gael diweddariadau pellach yn y dyfodol wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Diolch, Heledd, am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwy'n cytuno yn llwyr â phopeth y gwnaethoch ei ddweud—eich cwestiynau a'r cyd-destun y gwnaethoch chi osod y cwestiynau hynny ynddo. Rydym ni i gyd wedi gorfod wynebu, yn gwbl briodol, wirioneddau anghyfforddus iawn, iawn wrth i ni fynd i'r afael â chanlyniadau llofruddiaeth George Floyd a'r hyn a ddaeth ar ôl hynny. Ac rydych chi'n llygad eich lle ei bod yn drasiedi y bu'n rhaid i ni aros am ddigwyddiad fel hwnnw cyn i ni weithredu yn y ffordd a wnaethom mewn ymateb i hynny. Ond rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud hynny yng Nghymru a'n bod ni wedi gwneud hynny yn gyflym. Fe wnaethom dynnu ynghyd y bwrdd, y grŵp a weithiodd gyda Gaynor Legall i lunio'r archwiliad a llunio'r rhestr a wnaeth, gan arwain at yr argymhellion y byddwn yn eu datblygu ac y gwnes i eu hamlinellu yn fy natganiad heddiw.
Ni allaf roi amser pendant i chi eto o ran pryd y bydd hyn yn cael ei gwblhau. Rydym yn gobeithio y byddwn yn cael y grŵp rhanddeiliaid at ei gilydd yn weddol gyflym, ond nid ydym ni eisiau rhuthro hyn. Rydym ni eisiau ei wneud yn iawn. Rydym yn dwyn ynghyd grŵp rhanddeiliaid a fydd yn drafftio'r argymhellion, ac, fel y dywedais i, rwy'n awyddus i'r grŵp rhanddeiliaid hwnnw fod mor gynhwysol ag y gall fod fel bod gennym ni bobl sydd â gwybodaeth hanesyddol ond bod gennym ni bobl hefyd sydd â gwybodaeth am gyfle cyfartal a chydraddoldeb, y mae angen i ni edrych arnyn nhw ar gyfer y dyfodol yn ogystal â nodi ac argymell sut y mae cyrff a sefydliadau cyhoeddus yn nodi'r bobl y byddwn yn eu coffáu yn y dyfodol.
Roedd gennym ni'r cynllun plac porffor, wrth gwrs, yng Nghymru, sef yr unig genedl yn y DU, rwy'n credu, a oedd â chynllun penodol a phwrpasol yn edrych ar sut yr ydym yn coffáu menywod hynod yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod un o'r placiau porffor hynny yn fy etholaeth i, yn coffáu Ursula Masson, a sefydlodd archif menywod Cymru. Roedd yn un o'r pethau rwy'n ei gofio pan gefais fy ethol am y tro cyntaf. Mae'r etholaeth yr wyf i'n ei chynrychioli yn etholaeth ryfeddol sydd â hanes anhygoel, ond ychydig iawn o fenywod, os o gwbl, sy'n cael eu coffáu ynddi. Un o'r pethau cyntaf y gwnes i pan gefais fy ethol oedd llunio pamffled am fenywod hynod Merthyr Tudful a Rhymni, oherwydd bod cynifer o'r menywod hynny yn rhan annatod ac yn hanfodol o ffyniant yr etholaeth honno. Nhw oedd y grym a'r gefnogaeth y tu ôl i wrthryfel Merthyr, er enghraifft. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar bob maes cydraddoldeb. Mae'n rhaid i ni edrych ar y menywod hynny, y bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig hynny yn ein cymunedau, a chymunedau LGBTQ, sydd wedi gwneud cyfraniadau enfawr i'n cymdeithas, a rhan o'r canllawiau fydd edrych ar hynny o ran y mathau o bobl y byddem yn eu coffáu. Ond byddwn i'n disgwyl a byddwn i'n gobeithio y byddai'r coffadwriaethau hynny a'r argymhellion a gaiff eu cyflwyno yn cael eu hysgogi o'r gwaelod i fyny, felly cymunedau lleol eu hunain fyddai'n nodi pobl y maen nhw'n dymuno'u coffáu.
O ran yr ymgynghoriad cyhoeddus, byddwn i'n disgwyl yn fawr iawn i'r grŵp rhanddeiliaid fod yn nodi ei argymhellion ynghylch sut y dylid cynnal yr ymgynghoriad hwnnw. Ond hoffwn i'r ymgynghoriad hwnnw fod mor drylwyr ag y gall fod, i fod mor llawn ag y gall fod, i fod mor hawdd ymateb iddo ag y gall fod, felly mae'n rhaid i ni edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i ni i alluogi hynny i ddigwydd. Mae'n rhaid i mi ddweud, y cefais fy nghalonogi yn fawr gan y ffaith, pan gafodd yr archwiliad Legall ei gyhoeddi yn wreiddiol, fod yr ymatebion a gawsom iddo yn gadarnhaol iawn ar y cyfan o ran yr hyn yr oeddem yn ceisio'i wneud. Ie, rwyt ti'n iawn, Heledd, roedd rhywfaint o ymateb yn ei erbyn, fel y bydd bob amser pan fyddwn yn gwneud unrhyw beth fel hyn, fel y cafwyd pan wnaethom ni ddatgan Cymru yn genedl noddfa ac yn y blaen. Ond rwy'n cymryd o hynny'r pethau cadarnhaol. Roedd yr ymatebion cadarnhaol a gawsom o hynny yn llawer mwy na'r rhai negyddol.
O ran cymorth ariannol, mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor, rydym ni wedi gwario cryn dipyn, yn amlwg, ar gyrraedd y pwynt yr ydym ni arno ar hyn o bryd. Rydym ni wedi ariannu hynny, fe wnaethom ariannu'r archwiliad, fe wnaethom ni ariannu'r fersiwn ddiwygiedig ac yn y blaen, a byddwn, yn amlwg, yn ariannu'r ymgysylltu â rhanddeiliaid, a byddwn yn ariannu'r ymgynghoriad cyhoeddus. Yr hyn nad ydym ni wedi gallu ymrwymo iddo—ac nid wyf i'n dweud na fyddwn yn ailystyried hyn yn y dyfodol o gwbl—nid ydym ni wedi gallu ymrwymo i'r effaith y gallai cael gwared ar henebion neu gael gwared ar baentiadau, ailgysegru, ail-ddehongli ac yn y blaen ei chael, oherwydd ei bod yn anodd gwybod eto faint fyddai hynny a beth fyddai maint hynny. Felly, fe wnaethom ni gytuno mewn egwyddor â'r pwyllgor, ac rwy'n cadw at hynny. Nid ydym yn dweud na fyddem yn helpu i gefnogi ac ariannu hynny, ond ni allem roi ffigur arno ar hyn o bryd, ac ni allwn ymrwymo i hynny heb wybod beth fyddai maint hynny.
O ran yr hyn yr ydym yn ei wneud o fewn ein cymunedau, Heledd, rwy'n credu bod rhan o'n cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn ymwneud ag edrych ar hynny a sut yr ydym yn symud tuag at Gymru wrth-hiliol. Mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt yn gwneud gwaith anhygoel gyda'i thîm ar hynny, a byddwn yn clywed adroddiadau pellach ganddi am y gwaith y byddwn yn ei wneud ac yn parhau i'w wneud yn ein cymunedau i ddatblygu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol hwnnw.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan fy etholaeth i y pleser a'r anrhydedd o fod yn gartref i'r cerflun o Betty Campbell, ac oherwydd ei fod wedi ei greu tra bod Betty yn atgof byw yn wirioneddol, roedd hi'n gallu defnyddio'r dystiolaeth gan bobl a oedd wedi gweithio a hyfforddi gyda Betty, a oedd wedi ymgyrchu gyda Betty, neu a oedd wedi byw gyda Betty, a'r holl waith a wnaeth i ysgogi ei hangerdd dros addysgu'r genhedlaeth nesaf ymlaen, a hefyd ei phenderfyniad bod yn rhaid i'n hanes a'n diwylliant fod yn berthnasol i bawb yng Nghymru, nid y dosbarth rheoli dominyddol yn unig, ac nad yw hanes pobl dduon yn bwnc ar gyfer mis Hydref yn unig, ond drwy gydol y flwyddyn, sy'n sail i'n cwricwlwm modern i Gymru. Mae hefyd yn dechrau unioni absenoldeb gwarthus unrhyw gerflun o unrhyw fenywod go iawn yn unrhyw le yng Nghymru. Sut digwyddodd hynny? Wel, rydym ni fenywod i gyd yn gwybod sut y digwyddodd hynny. Ond, beth bynnag, dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni frwydro yn ei erbyn.
Mae rhai cerfluniau sydd dros bob man yn ein tirwedd yn coffáu urddasolion nad yw pobl heddiw erioed wedi clywed amdanyn nhw neu, wrth ymchwilio, yn adlewyrchu rhannau o'n gorffennol nad oes gennym ni fawr ddim i ymfalchïo ynddyn nhw. Rwy'n credu bod hynny'n llai gwir yng Nghymru nag ydyw, dyweder, yn Llundain, ond hoffwn i archwilio gyda chi sut y bydd yr archwiliad Legall yn caniatáu i ni fynd i'r afael ag anwybodaeth am y cyfraniad pwysig a wnaed gan arwyr ac arwresau yn y gorffennol, boed hynny o bwysigrwydd lleol neu genedlaethol, neu sut y byddwn yn cael gwared yn drefnus ar bobl nad ydym eisiau eu dathlu mwyach neu eu hail-werthuso.
Diolch am y cwestiynau yna, Jenny, ac rwy'n credu eu bod nhw'n bwyntiau pwysig iawn, bod gennym ni goffadwriaethau i bobl o'r gorffennol—. Rwy'n cyfeirio yn ôl at fy atebion i bwyntiau Mark Isherwood—mae gennym ni bobl yr ydym ni wedi eu coffáu yn y gorffennol na fyddem yn eu coffáu heddiw, am yr holl resymau yr ydym yn eu gwybod. Ac rwy'n credu bod pwysigrwydd nodi'r bobl hyn, sef yr hyn a wnaeth yr archwiliad, a'u gosod yn ôl o fewn cyd-destun hanesyddol llawn, nid yn unig bod y rhain yn bobl wych, ond mai pobl oedd y rhain a wnaeth yr hyn a'r llall, ac mae angen i ni ddehongli hynny—. A dyna'n union yw hanfod y canllawiau, sut yr ydym yn ail-ddehongli—nid ailysgrifennu hanes, ond ail-ddehongli, yn y cyd-destun, briodoldeb yr hyn a wnaeth pobl a'r bywydau yr oedden nhw'n eu byw a'u harweiniodd i gael eu coffáu yn y lle cyntaf.
Felly, rwy'n gobeithio yn fawr mai dyna'n union y bydd y canllawiau yn ei wneud, ac y bydd yn rhoi'r arweiniad hwnnw i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, yn yr un modd, fel y dywedais i, yr wyf i'n gobeithio y bydd y canllawiau hefyd yn llywio awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus i nodi sut y gallwn goffáu pobl yn awr. Felly, mae enghraifft Betty Campbell yn glasur—y ffaith bod gennym ni'r fenyw ddu hon, o'ch etholaeth chi, Jenny, a oedd yn chwedl yn ei hoes ei hun. Roedd hi'n gynrychiolydd etholedig, roedd ei disgyblion a'r bobl a oedd yn gysylltiedig â hi yn ei chymuned yn ei charu'n fawr, ac o ganlyniad i hynny, y math hwnnw o fenter gan y gymuned leol honno i goffáu Betty yn union yw'r hyn yr wyf i'n awyddus i'w weld ar gyfer y dyfodol—bod ein cymunedau lleol yn ysgogi'r coffáu yn y dyfodol, pobl sy'n rhoi yn ôl i'w cymunedau, sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl yn eu cymunedau. Ac rwy'n gobeithio yn fawr iawn y gwelwn ni fwy o fenywod, y gwelwn ni fwy o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac y gwelwn ni, efallai, am y tro cyntaf, rywun o'r gymuned LGBTQ+ yn cael ei goffáu mewn cerflun yn ein prifddinas neu rywle arall yng Nghymru. Dyna fy ngobaith i, ac yn sicr dyna ddiben y canllawiau hyn.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Eitem 6 sydd nesaf—datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: BlasCymru/TasteWales: hyrwyddo bwyd a diod o Gymru i'r byd. Galwaf ar Lesley Griffiths i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am drydydd digwyddiad BlasCymru/TasteWales a gynhaliwyd ar 27/28 Hydref 2021 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd. BlasCymru yw ein digwyddiad nodedig i hyrwyddo'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Rydyn ni i gyd wedi teimlo effaith y pandemig coronafeirws ac nid yw hyn wedi bod yn fwy amlwg yn unman nag ym maes iechyd, teithio a'r diwydiant bwyd a diod. Felly, dangosodd BlasCymru 2021 hefyd sut y gallwn barhau i gefnogi ein diwydiant yn ystod cyfnod mor anodd, fel rhan o'n cynllun adfer wedi COVID.
Roedd BlasCymru yn ddigwyddiad nodedig wedi’i redeg o dan brotocol COVID-19. Fe wnaethom roi ystod o fesurau ar waith i gadw’r sawl oedd yn mynychu yn ddiogel. Fe wnaeth y digwyddiad groesawu partneriaid allweddol yn y diwydiant, noddwyr ac urddasolion rhyngwladol yn y DU o farchnadoedd blaenoriaeth, fel yr Undeb Ewropeaidd, y Dwyrain Canol, Cymdeithas Gwledydd De-ddwyrain Asia a rhanbarth Indo-Pasiffig. Roedd hwn yn gyfle gwych i arddangos bwyd a diod o Gymru ar raddfa fyd-eang a chreu diddordeb pellach gan noddwyr a phrynwyr.
Mae BlasCymru yn ddigwyddiad masnach. Fe wnaeth yr arddangosfa cynnyrch newydd a broceriaeth ddenu ddiddordeb sylweddol gan gynhyrchwyr a phrynwyr. Hoffwn amlinellu rhai o'n hallbynnau a'n data cychwynnol a ddarparwyd gan ein partneriaid cyflawni. Mae'r rhain yn cynnwys 200 o brynwyr masnach oedd yn bresennol, ac roedd y rhain yn cynnwys y rhan fwyaf o'r prif fanwerthwyr a phartneriaid allweddol ym maes gwasanaeth bwyd a lletygarwch; cynhaliwyd 1,695 o gyfarfodydd diogel o ran COVID fel rhan o gyfleoedd ‘cwrdd â'r prynwr', rhwng prynwyr masnach a busnesau bwyd a diod o Gymru; cafodd 285 o gynhyrchion newydd eu cyflwyno a'u lansio o fewn y 12 mis diwethaf ac yn ystod y cyfnod clo; cymerodd 102 o fusnesau bwyd a diod o Gymru ran, gan gynnwys 21 o sêr newydd—busnesau newydd a sefydlwyd yng Nghymru o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Cynhaliwyd dros 600 o ymweliadau unigol allweddol dros ddau ddiwrnod, gyda rhai ymwelwyr yn mynychu bob dydd. Mae gwerth y cyfleoedd a nodwyd yn fwy na £14 miliwn hyd yma.
Y sector bwyd a diod yw ein diwydiant mwyaf yng Nghymru. Mae'n rhychwantu busnesau o fentrau micro i gwmnïau rhyngwladol sydd wedi gwneud Cymru yn gartref. Rhwng 2014 a 2019, rydym ni wedi gweld twf o draean yn y sector blaenoriaeth bwyd a ffermio. Aeth hyn y tu hwnt i darged penodol o £6 biliwn a chyrraedd gwerth gwerthiant anhygoel o £7.6 biliwn.
Prif elfen y llwyddiant hwn oedd ein hamrywiaeth o fentrau strategol, gan sbarduno arloesedd technolegol drwy Brosiect HELIX, cefnogi busnesau newydd a microfusnesau drwy Cywain, hyfforddi a gwella sgiliau drwy Sgiliau Bwyd Cymru a chysylltu busnesau a mentrau drwy ein rhaglen clystyrau busnes enwog. Mae hyn wedi cefnogi'r gwaith o ddatblygu busnesau, wrth agor llwybrau masnach rhyngwladol newydd—partneriaeth wirioneddol rhwng busnes, y byd academaidd, Llywodraeth a llywodraeth leol.
Yn ogystal â'r pandemig, rydym ni hefyd yn delio â'r argyfwng hinsawdd, ac mae ein taith gynaliadwy bellach yn bwysicach nag erioed. Yng Nghymru, rydym ni wedi croesawu egwyddorion cynaliadwyedd a thegwch i'n hamgylchedd, ein heconomi a'n cymdeithas gyfan. Cynaliadwyedd a bwyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol oedd thema allweddol cynhadledd BlasCymru, lle croesawyd ystod o siaradwyr, gan gynnwys yr Athro Mike Berners-Lee, awdur ac arbenigwr blaenllaw ym maes cynaliadwyedd ac ôl-troed carbon, ac Adam Henson, ffermwr a chyflwynydd BBC Countryfile.
Nid yw'n ymwneud â thwf economaidd mwyach, cynhyrchu mwy a gwerthu mwy. Mae'n ymwneud â chynhyrchu'n well. Mae'n ymwneud â busnesau cyfrifol a datblygu llwyddiant er budd pobl a chymdeithas drwy ddarparu gwaith teg, drwy gynhyrchu cynnyrch o ansawdd rhagorol a gweld arfer cynaliadwy fel ffordd o redeg busnes yn fwy effeithlon. Mae llai o ddeunydd pacio yn golygu arbedion. Mae ail-bwrpasu bwyd dros ben yn ei gwneud yn fforddiadwy i'r tlotaf mewn cymdeithas. Mae logisteg symlach yn golygu cyrhaeddiad hirach ar gyfer allforion a mewnforio gyda mwy o hyblygrwydd o bosibl. Mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio adnoddau'n effeithlon drwy leihau gwastraff a'n hôl-troed carbon a hefyd cymryd cyfrifoldeb am safonau uwch yn ein cadwyni cyflenwi, p'un a ydyn nhw’n tarddu gartref neu dramor. Mae Cymru fel cenedl fwyd yn ceisio hyrwyddo gwreiddioldeb a natur unigryw cynnyrch bwyd a diod Cymru drwy adeiladu ar ein henw da am gadwyni bwyd cynaliadwy.
Cafodd ein blaenoriaethau allweddol eu harddangos yn y neuadd arddangos ac roedden nhw’n cynnwys gweithgynhyrchu uwch i ddatblygu a gweithredu technolegau newydd a chyfleoedd posibl ar gyfer cynhyrchu bwyd a diod, i fynd i'r afael â phwysau'r gweithlu a llafur, a helpu i leihau'r defnydd o adnoddau. Cafodd cynaliadwyedd, lle mae dull newydd o fynd i'r afael â heriau cynaliadwyedd a'r hyn mae’n ei olygu i fusnesau ei amlinellu. Roedd yn ystyried ddosbarthiad bwyd dros ben, technoleg amaethyddol ar gyfer cynhyrchu bwyd yn y dyfodol, ac fe'i hadeiladwyd ar lwyfan Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Y ddeddfwriaeth hon yw sylfaen ein gweledigaeth newydd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, yn seiliedig ar ddull gyda sawl maen prawf o ymdrin â chynaliadwyedd y system fwyd. Arloesi a sgiliau: nid oes un ateb i faterion presennol y gweithlu. Mae’n rhaid i ni wella'r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael a sicrhau gwaith teg a datblygu sgiliau. Bydd arloesi ac awtomeiddio yn cyflymu'r broses o gynhyrchu bwyd sy'n gynyddol gynaliadwy ac yn mynd i'r afael â'r her cynhyrchiant.
Dangosodd y rhaglen clystyrau pa mor amrywiol yw ein diwydiant bwyd a diod mewn gwirionedd. Mae'r rhaglen flaenllaw hon yn darparu sylfaen bwysig ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth, dysgu a datblygu. Mae wedi cyfrannu at drosglwyddo technoleg, dyfodol bwydydd iach, yr economi gylchol a datblygu technoleg werdd i leihau'r defnydd o ynni ac adnoddau naturiol.
Roeddwn i’n falch o lansio ein grŵp cynghori newydd ar allforio, i ddatblygu ein hallforion ymhellach ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Mae hyn yn hanfodol wrth i ni ddatblygu ein taith gynaliadwy a gweithio gyda'n partneriaid allforio i ddatblygu'r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Mae gan Gymru nifer o enwau bwyd gwarchodedig. Mae gan y teulu ardystiedig hwn o gynhyrchion frandio gwahaniaethol ac mae’n rhoi'r hyder i brynwyr a defnyddwyr yng ngwerth Cymreictod a dilysrwydd yr hyn sy’n cael ei gynnig. I Gymru hefyd y cafodd yr arwyddion daearyddol cyntaf eu dynode o dan gynllun newydd y DU.
Rwy’n credu y gallwn i gyd gytuno bod BlasCymru/TasteWales 2021 yn ddigwyddiad pwysig yn wyneb heriau digynsail, ac yn garreg filltir bwysig i ddiwydiant bwyd a diod arloesol a chadarn. Mae BlasCymru yn elfen hanfodol o'n cynlluniau adfer wedi COVID, gan bwysleisio ein hymrwymiad i gefnogi'r diwydiant ehangach drwy'r cyfnod anodd hwn.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog am weld y datganiad hwn yn gynnar, ac rwy’n falch o weld a chroesawu'r gwerth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ein diwydiant bwyd a diod gwych yng Nghymru. Rwy’n deall fod gan y sector yng Nghymru ffrwd refeniw o tua £7.5 biliwn y flwyddyn, ond dim ond 10 y cant o'r refeniw hwn a gafwyd o allforion i wledydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Fe wnaethon ni i gyd groesawu'n fawr benderfyniad yr Unol Daleithiau i godi'r gwaharddiad mewnforio ar gig eidion o Brydain yn 2020 ac ar gig oen o Brydain ddiwedd y llynedd, ac er bod y cyfleoedd allforio newydd hyn megis dechrau, ein cam nesaf yw sicrhau bod ein cynnyrch o'r radd flaenaf, o ran ei gynaliadwyedd, ei ansawdd a'i elfennau amgylcheddol, yn ennill tir ym mhob marchnad sydd ar gael.
Wrth gyfeirio at ddigwyddiad arddangos diweddaraf BlasCymru/TasteWales, rwy’n croesawu’r ffigurau a ddarparwyd gan y Gweinidog mewn perthynas â nifer y prynwyr oedd yn bresennol a nifer y digwyddiadau cwrdd â'r prynwr. Fodd bynnag, byddai gen i ddiddordeb mewn dysgu mwy am y budd economaidd gwirioneddol a gafwyd o'r digwyddiad hwn, a pha dargedau neu ddangosyddion perfformiad allweddol, os o gwbl, sydd ar waith i gynyddu nifer y cynhyrchion fydd yn cael eu hallforio dros y blynyddoedd nesaf, neu i bennu ei lwyddiant.
Un maes domestig mae'r sector bwyd a diod yn cyd-fynd ag ef yn agos iawn yw ein sector twristiaeth. Gyda COVID-19 yn cynyddu nifer yr ymwelwyr domestig â Chymru, allwch chi amlinellu pa gamau penodol mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y ddau sector yn gallu elwa ar y naill a’r llall? Oni fyddai'n wych cysylltu treftadaeth a hanes Cymru â'r bwyd rydyn ni’n ei gynhyrchu a'r cynnyrch rydyn ni’n ei allforio, gan greu marchnad newydd gyfan o fewn ein diwydiant twristiaeth sydd nid yn unig yn gweld ein cynnyrch gwych yn cael ei hyrwyddo, ond ein treftadaeth falch hefyd?
Mae dyhead enfawr i greu cyfleoedd busnes gwell, mwy cyfrifol a chynaliadwy o fewn llu o sectorau, a thrwy alinio'r sector bwyd a diod â'r diwydiant twristiaeth gallwn geisio datblygu cyfleoedd cyflogaeth sy'n dod i'r amlwg a chynnal gwelliannau sylfaenol i'r gadwyn gyflenwi. Y llynedd, gwelsom pa mor agored i niwed y gall ein cadwyn gyflenwi fod. Dim ond drwy dyfu'r sector a datblygu partneriaethau gwirioneddol ar draws y gadwyn gyflenwi rhwng ein ffermwyr, proseswyr bwyd a diod, manwerthwyr a chwmnïau gwasanaethau bwyd y gallwn geisio cryfhau diogelwch bwyd Cymru.
Yr wythnos diwethaf, ysgrifennais at Asda ynghylch pa mor bwysig yw'r pwynt hwn. Ar ôl i'r archfarchnad wneud datganiad i'w groesawu i ffermwyr Prydain ddiwedd y llynedd, maen nhw wedi gadael i’w hymrwymiad i ffermwyr Prydain fynd ers hynny drwy stocio cig o’r tu allan i Brydain. Mae'r cam hwn yn ôl ar ei addewid o 100 y cant o gig eidion Prydain yn mynd yn groes i'r ymrwymiadau a welwyd ac y mae archfarchnadoedd eraill, fel Aldi, Lidl a Morrisons, yn glynu atynt. O ystyried hyn, rwy’n falch o weld y Gweinidog yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu'n well, a ddylai, yn erbyn cefndir COP26, weld pwyslais pellach ar effaith amgylcheddol yr hyn rydyn ni’n ei fwyta a'i yfed. Un ffordd y gallwn ni gyflawni hyn yng Nghymru yw drwy ychwanegu gwerth at y cynnyrch crai sy’n cael ei dyfu a’i fagu yma yng Nghymru. Mae Puffin Produce Blas y Tir yn sir Benfro yn enghraifft o hyn, ond rhaid i bolisi Llywodraeth Cymru gyd-fynd o ran caniatáu ychwanegu gwerth at gynnyrch crai o Gymru.
Yn olaf, Gweinidog, roeddwn i’n hynod falch o weld Aelodau'r Senedd o bob lliw gwleidyddol yn cefnogi Bil bwyd fy nghyd-Aelod Peter Fox, darn pwysig o ddeddfwriaeth ddrafft sy'n ceisio sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy, cryfhau ein diogelwch bwyd, gwella lles economaidd-gymdeithasol Cymru a gwella dewis defnyddwyr. Rwy'n mynd i ddefnyddio'r cyfle hwn i'ch annog chi a Llywodraeth Cymru i ailystyried eich gwrthwynebiadau i'r Bil hwn, i weithio gyda Peter a'r rhanddeiliaid niferus sydd eisoes wedi ymrwymo eu cefnogaeth i'r Bil hwn. Mae'n gyflawnadwy, yn gyraeddadwy a byddai'n gwneud gwahaniaeth parhaol i dirwedd fwyd Cymru.
Rwy’n rhannu eich uchelgeisiau ar gyfer BlasCymru a'r diwydiant bwyd a diod ehangach. Gallai weithredu fel ffordd arall o hyrwyddo Cymru i'r byd ehangach. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni ei lawn botensial, ni all sefyll ar ei ben ei hun ac mae angen iddo gael ei gefnogi ar draws portffolios y Llywodraeth. Wrth i ni ddod allan o COVID ac wrth i’r byd ailagor, rhaid i ni wneud popeth o fewn ein pwerau i sicrhau llwyddiant ein diwydiant. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr Samuel am eich cyfraniad cadarnhaol i'r datganiad, ac rwyf am ddweud ar unwaith nad yw hyn yn ymwneud â fy mhortffolio i yn unig, mae'n ymwneud yn fawr iawn â'r Llywodraeth gyfan, ac fe wnes i sôn am y parthau a oedd gennym ni yn BlasCymru—y parth arloesi, y parth clwstwr, y parth buddsoddwr. Roedd hi’n bwysig iawn i ni gael y gefnogaeth honno os ydym am edrych ar y daith gynaliadwyedd yn y ffordd rwyf i’n sicr am ei gwneud. Felly, nid digwyddiad ar ei ben ei hun i mi’n unig yw hwn, ac mae'n cyd-fynd â llawer o'n portffolios traws-lywodraeth.
Rydych chi’n llygad eich lle; y diwydiant bwyd a diod, o'r cynllun gweithredu bwyd blaenorol—. Fe wnaethom gyrraedd y targed hwnnw, fel y soniais yn fy natganiad agoriadol, o £6 biliwn, gan ragori arno i £7.5 biliwn. Fe wnaeth y weledigaeth bwyd a diod y gwnes i ei lansio yn y ffair aeaf osod y targed o £8.56 biliwn, ac rydyn ni’n gobeithio ei gyrraedd gyda'n sector bwyd a diod erbyn 2025. Un ffordd y byddwn ni’n gwneud hynny, rydych chi’n llygad eich lle, yw allforion. Dyna pam ei bod hi’n bwysig iawn i mi lansio'r grŵp allforio fel rhan o fwrdd y diwydiant bwyd a diod, sy'n fy nghynghori i a Llywodraeth Cymru. Roeddem ni o'r farn bod ei angen yn fawr oherwydd natur gymhleth y ffyrdd presennol rydyn ni’n allforio. Felly, roeddwn i’n falch o wneud hynny, i sefydlu'r is-grŵp hwnnw. Rwy’n credu mai'r hyn fydd hynny'n ei wneud yw galluogi neilltuo mwy o amser i feysydd allforio penodol.
Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas ag allforion, ac roedd yn bwysig bod gennym ni swyddogion Llywodraeth y DU yn BlasCymru, oherwydd mae angen i ni weithio ledled y DU. Yn amlwg, mae'r rhwydwaith hwnnw rydyn ni wedi'i adeiladu—. Fe wnaethoch chi sôn am ddiogelwch bwyd a chyflenwadau bwyd, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni’n gweithio ar sail y DU integredig honno.
Rwy'n credu eich bod chi’n llygad eich lle am dwristiaeth. Ers i mi fod mewn portffolio, mae'n faes rydyn ni wedi edrych arno oherwydd, yn amlwg, mae pobl yn hoffi clywed straeon am eu bwyd; maen nhw am wybod o ble y daw eu bwyd. Rwy’n credu bod tarddiad ein busnesau bwyd a diod yn rhywbeth maen nhw’n ei ddweud wrthyf i fod gan bobl fwy a mwy o ddiddordeb ynddo. Felly, rwy’n credu bod hynny'n bwysig.
Felly, os edrychwch chi ar yr hyn rydyn ni wedi'i wneud gyda gwinllannoedd Cymru, er enghraifft—. Efallai na fyddai pobl yn meddwl am Gymru fel rhywle lle bydden nhw fel arfer yn prynu gwin, ond mae cysylltiad nawr rhwng y gwinllannoedd. Mae hynny oherwydd ein gwaith clwstwr, rwy'n credu, lle rydym wedi gweld busnesau'n dod at ei gilydd. Maen nhw’n rhannu eu harbenigedd. Maen nhw’n rhannu gwybodaeth am eu hardaloedd. Rwy'n gefnogwr enfawr o waith clwstwr, ac rwy'n credu bod y sector bwyd a diod wir wedi arwain y ffordd yn hynny o beth.
Rwy'n credu mai un o'r pethau eraill yw'r enwau bwyd gwarchodedig y gwnes i gyfeirio atyn nhw. Rwy’n credu bod hynny'n helpu ein twristiaeth yn fawr iawn. Roedd hi’n wych i ni gael, rwy’n credu, y ddau gynllun arwyddion daearyddol newydd cyntaf yn y DU, ac rwy’n credu bod gennym ni lawer mwy ar y gweill. Rwy’n credu bod dau sydd wedi mynd yn bell, os mynnwch chi, ac rydyn ni’n gweithio gyda thua phedwar arall i gael y statws hwnnw. Oherwydd maen nhw’n sicr yn dweud wrthyf i ei fod yn helpu gyda thwristiaeth. Felly, rwy’n credu bod hwnnw'n faes arall lle gallwn ni eu cefnogi.
Fe wnaethoch chi sôn am archfarchnadoedd, a rhaid i mi ddweud bod yr holl brif fanwerthwyr, rwy’n credu, yn BlasCymru, ac roedden nhw’n awyddus iawn i gael cynnyrch bwyd a diod newydd o Gymru ar eu silffoedd. Yn sicr, ar ddechrau'r pandemig, pan oeddem ni yn y cyfnod clo ac roeddwn i’n cyfarfod yn rheolaidd iawn, iawn â'r archfarchnadoedd i wneud yn siŵr ein bod yn datrys unrhyw anhawster y gallai fod o gwmpas y cyflenwad bwyd, un o'r manteision i ni ill dau oedd bod ganddyn nhw fwy o gynnyrch Cymreig ar eu silffoedd, ac yn sicr mae'n ymddangos bod hynny wedi parhau. Ond rwy'n credu ei fod yn faes lle rydyn ni’n parhau i weithio'n agos iawn.
Yn sicr, mae BlasCymru yn dod â'r prynwyr i mewn, gan gyfarfod â'r busnesau bwyd a diod—. Mae ychydig fel caru cyflym, mae'n debyg, lle mae gennym ni bobl yn eistedd i lawr ac maen nhw’n symud o gwmpas bob 10 munud yn gyson. Felly, nifer y busnesau a'r cyfarfodydd a gynhaliwyd—. Fyddech chi ddim yn cael hynny mewn unrhyw le arall. Mae'n dda iawn dod â Chymru i'r byd.
Fe wnaethoch chi sôn am fod eisiau gwybod am y budd economaidd. Mae'n debyg ei bod hi ychydig yn rhy gynnar. Fe wnes i sôn yn fy natganiad agoriadol ein bod yn meddwl, o bosibl, fod tua £14 miliwn o fusnes newydd a fydd wedi digwydd yn BlasCymru. Ond, yn amlwg, wrth i'r misoedd fynd heibio, byddwn yn gallu rhoi'r ffigur hwnnw i chi'n ddiweddarach.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ddod â'r datganiad yma ger ein bron ni y prynhawn yma. Mae pawb, wrth gwrs, yn ymwybodol bod cynhyrchwyr bwyd Cymru yn darparu cynnyrch o'r ansawdd gorau, ac mae'n dda gweld bod hyn yn cael ei arddangos drwy BlasCymru.
Ond mae yna heriau o flaen y sector bwyd. Os ydyn ni am barhau i weld y cynnyrch o'r ansawdd uchaf yma, yna mae angen mynd i'r afael â'r ansicrwydd lu sy'n wynebu y gwahanol haenau oddi fewn y sector bwyd, o’r pridd neu o'r porth i'r plât. Rhaid edrych felly yn agosach at lygad y ffynnon, mynd at wraidd y gadwyn gynhyrchu, os am sicrhau hyfywedd y sector yn ei chyfanrwydd, ac mae hyn, wrth gwrs, yn golygu rhoi'r gefnogaeth gywir i'n ffermwyr a'n pysgotwyr. Rwy'n falch bod y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru am sicrhau taliadau i ffermwyr yn y tymhorau canol a hir, ond, yn y tymor byr, a wnaiff y Gweinidog amlinellu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran taliadau sylfaenol, fel amlinellwyd yn y gyllideb ddrafft, a pha sicrwydd fedrith hi ei roi yn wyneb toriadau cyllid amaethyddol o du San Steffan? Yn yr un modd, mae gennym ni gyfle euraidd i dyfu'r sector fwyd môr. Yn wyneb diffyg strategaeth benodol gan y Llywodraeth, a wnaiff y Gweinidog wrando ar y sector a chyhoeddi cynllun er mwyn sicrhau twf y sector fwyd môr, am fod bwyd môr yn chwarae rhan ganolog yn ein darpariaeth o gynnyrch bwyd Cymreig?
Rŵan, dwi am fynd ymlaen i sôn am ddynodiad ein cynnyrch; rydych chi, Weinidog, wedi cyfeirio tipyn ato eisoes. Rydyn ni'n gwybod bod y rhelyw o bobl sy'n gweld cynnyrch wedi ei frandio fel un a wnaed yng Nghymru yn ystyried cynnyrch o'r fath o'r safon uchaf. Mae'r Llywodraeth ar ben arall yr M4 wedi dechrau ar ei dynodiadau ei hun yn dilyn Brexit. Hoffwn i wybod pa waith mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i fesur gwerth y dynodiad newydd yma, a faint o ymgynghoriad sydd wedi bod rhwng y ddwy Lywodraeth ar y dynodiad newydd.
Wrth gwrs, er mwyn bod yn driw i ddynodiadau, dylai gymaint o'r broses o ddatblygu cynnyrch â phosib aros yng Nghymru, ond mae yna wendid sylfaenol yma, sef y diffyg capasiti i brosesu bwyd. Nid yn unig bod ffatrïoedd laeth wedi cau, lladd-dai o dan straen, a physgod yn mynd allan o Gymru i gael eu paratoi ar gyfer y farchnad, ond mae llawer o'r camau terfynol wrth baratoi hefyd y tu allan i'n cymunedau ni yma. Mae yna nifer fawr o gwmnïau meicro, bwrdd cegin, er enghraifft, yn gweithio'n ddiwyd i baratoi bwydydd a diodydd gwych, a rhaid cydnabod gwaith Cywain yma. Ond erys y ffaith bod angen cymorth sylweddol o hyd er mwyn datblygu ein gallu prosesu bwyd yma, a galluogi gymaint o'r broses â phosib i aros yma yng Nghymru a dod â budd economaidd i'n cymunedau ni. Pa gamau, felly, mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod cyfleoedd gwaith yn cael eu creu fel rhan o unrhyw strategaeth i ddatblygu'r sector fwyd a diod ac i hyrwyddo ein cynnyrch ni ar gyfer pobl ifanc sydd eisiau dod i mewn i'r sector yma?
Ac, mi wnaethoch chi, Weinidog, sôn am weithio traws-adrannol. Oes yna unrhyw drafodaethau wedi bod ar draws adrannau'r Llywodraeth, er enghraifft efo Gweinidog yr economi, i weld sut gall hyn blethu i mewn gyda chynlluniau eraill, megis y warant pobl ifanc? Diolch yn fawr iawn ichi.
Diolch am y cwestiynau hynny. Rydych chi yn llygad eich lle; ystyrir bod bwyd a diod o Gymru o'r safon uchaf, ac fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd at ffermio, ac yn amlwg mae ein safonau iechyd anifeiliaid a'n safonau amgylcheddol yn uchel iawn. Un o fy mhryderon pan wnaethom adael yr Undeb Ewropeaidd oedd y byddem ni yn cymryd gostyngiad yn y safonau hynny, ond rydyn ni wedi'i gwneud yn glir iawn ei bod yn bwysig iawn gwneud hynny. Ac yn amlwg, rydyn ni’n cydnabod, os ydyn ni am werthu ein bwyd i'r byd, fod angen i ni gynnal y safonau hynny. Mae heriau. Yn amlwg, mae COVID wedi cyflwyno her enfawr i'r diwydiant bwyd a diod, ac mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi hefyd, a dyna pam ei bod hi mor bwysig gweithio ar yr allforion. Ac fel rydych chi’n ei ddweud, mae llawer iawn o ansicrwydd, ac un o'r rhesymau y gwnes i gyhoeddi y byddwn i’n cadw'r cynllun talu sylfaenol am ddwy flynedd oedd er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'n ffermwyr. Mae'n amlwg yn destun pryder mawr bod Llywodraeth y DU yn mynd yn ôl ar eu gair ynghylch na fyddem ni’n geiniog yn llai ar ein colled pe byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Ond, fel y dywedais i, rwyf i wedi ymrwymo i Gynllun y Taliad Sylfaenol.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at fwyd môr, ac roedd cynrychiolaeth dda i fwyd môr yn BlasCymru. Mae gennym glwstwr bwyd môr. Fe wnes i sôn am y gwaith clwstwr sy'n cael ei wneud yn y sector bwyd a diod, ac mae gennym glwstwr bwyd môr. Maen nhw’n arddangos eu bwyd môr yn BlasCymru. Roedd gennym ni bysgod dŵr croyw, roedd gennym ni bysgod môr, roedd gennym ni bysgod cregyn—cynnyrch eiconig iawn o'n dyfroedd arfordirol a mewndirol yng Nghymru. Fe wnaethoch chi gyfeirio at ddiffyg strategaeth, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig—. Gall strategaethau eistedd ar silffoedd weithiau; yr hyn sy'n bwysig iawn yw bod allan yno'n gwerthu ein bwyd môr, ac unwaith eto rydyn ni wedi cael rhai problemau go iawn ers i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, y byddwch chi’n ymwybodol ohonyn nhw, ac o ran hynny rwy’n ceisio helpu Llywodraeth y DU i’w datrys, oherwydd roedden ni wir ar ymyl clogwyn o ran allforio ein bwyd môr.
Fe wnaethoch chi sôn am y diffyg cyfleusterau prosesu, ac unwaith eto rwyf wedi gweithio'n agos iawn gyda'r sector. Rydyn ni wedi rhoi cyllid i unedau prosesu cynnyrch llaeth. Roedd gennym ni’r ffatri prosesu wnaeth gau yn y gogledd-ddwyrain ac rydyn ni wedi gweithio i geisio dod o hyd i brynwyr ar gyfer y fan honno. Roedd gennym ni laeth yn mynd allan i Loegr i'w brosesu, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Felly, mae'n bwysig iawn, os gallwn ni, ein bod yn cynyddu'r cyfleusterau prosesu sydd gennym ni yng Nghymru.
Mae rhywun arall wedi sôn wrthyf i am bryderon lladd-dai. Dydw i heb glywed dim am y pryderon hynny, ac fe wnes i ofyn i swyddogion ymchwilio iddo, ond ar hyn o bryd, rwy’n credu bod ein lladd-dai yn gallu prosesu'r cig yma yng Nghymru y gofynnir iddyn nhw ei wneud.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at enwau bwyd gwarchodedig a chynlluniau dynodiad daearyddol, GI, newydd y DU, a pha ymgynghori a ddigwyddodd gyda Llywodraeth y DU. Mae hyn yn rhywbeth mae'r pedwar Gweinidog amaethyddol, yng nghyfarfodydd grŵp rhyng-weinidogol adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, wedi'i drafod, mae'n debyg, ers tua phedair blynedd, felly mae llawer iawn o waith wedi bod. Fe wnes i sôn mai ni oedd yr un cyntaf yng Nghymru; fe gawsom ni gig oen morfa heli Gŵyr Cymru, ac yn sicr, fe es i lansiad hwnnw, ac maen nhw’n credu y bydd yn dod â llawer iawn o fusnes, bod yn rhan o'r cynllun GI hwnnw yn y DU. Ac wrth gwrs, ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, roedd yn rhaid i ni gael ein cynllun ein hunain yn y DU, ac rwy’n falch iawn, fel y dywedais i, mai ni a gafodd yr un cyntaf, rwy’n credu mai ni a gafodd yr ail un, ac mae gennym ni rai eraill ar y gweill, oherwydd mae'r busnesau'n dweud wrthyf i, oherwydd bod pobl yn gwybod yn union o ble mae’r cig hwnnw’n dod a sut y mae wedi digwydd, eu bod yn rhoi gwerth mawr ar hynny.
Rwy'n credu y dylid canmol Cywain mewn gwirionedd. Roedd yn wych gweld y sêr newydd yno, y cynhyrchion newydd. Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn credu ein bod wedi cael 200 o gynhyrchion bwyd a diod newydd o Gymru yn ystod y pandemig, ar adeg pan oedd hi’n anodd iawn gwneud y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn eithaf aml gyda'r sector, felly roedd hi’n wych gweld y sêr newydd hynny yno. Ac mae'n rhaid i mi ddweud mai Menter a Busnes yw'r sefydliad sy'n rhedeg y prosiect ac maen nhw’n cefnogi datblygiad y math hwnnw o fusnesau sy'n canolbwyntio ar dwf. Mae gennym ni 950 o fusnesau yn y prosiect hwnnw, felly gallwch weld pwysigrwydd y gwaith mae Cywain yn ei wneud.
Dydw i heb gael trafodaeth benodol gyda Gweinidog yr economi am warant y bobl ifanc, ond rwy’n sicr wedi'i thrafod o safbwynt sgiliau, oherwydd mae'n bwysig iawn bod gennym y sgiliau hynny sydd eu hangen ar y sector bwyd a diod. Fe wnes i sôn yn fy natganiad gwreiddiol heddiw mai un o'r pethau rwy’n credu sydd angen i ni ei wneud yw gwerthu'r sector bwyd a diod mewn ffordd llawer gwell nag rydyn ni yn ei wneud ar hyn o bryd. Mae'n debyg ei bod hi tua phedair blynedd ers i ni gael cwpl o gynadleddau a drefnwyd gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, lle'r oedd gennym ni ryw fath o byramid, os mynnwch chi, o'r holl sgiliau, ac efallai bod sgiliau na fyddai pobl yn cydnabod eu bod yn ofynnol gan y diwydiant bwyd a diod, ond pan fyddwch chi’n dod i lawr y pyramid hwnnw, gallwch weld eu bod nhw yno i raddau helaeth. Ac fel y dywedais i, dyma'r sector mwyaf sydd gennym ni yng Nghymru. Os ydych chi’n meddwl am y sector cyfan, rwy’n credu ei fod yn cyflogi tua 0.25 miliwn o bobl, felly mae'n eithriadol o bwysig i'n gwlad.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiadau. Mae'n amlwg iawn eich bod chi'n hynod frwdfrydig am yr hyn mae BlasCymru yn ei wneud. Mae'n mynd o nerth i nerth ac mae'n gyfle pwysig iawn i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru i'r byd ar adeg pan fo Brexit a COVID wedi rhoi pwysau enfawr ar gynhyrchwyr ac allforwyr, ac roeddwn i eisiau rhannu pryderon am effaith Brexit ar fwyd a diod o Gymru yn fyr.
Ar ôl cyfarfod â'r Ffederasiwn Busnesau Bach, mae tua un rhan o bump o'r aelodau wedi nodi eu bod wedi rhoi'r gorau i allforio i'r UE, gan nodi pryderon ynghylch TAW a rheolau tarddiad, a baich prosesau a gwaith papur ychwanegol ac effaith Brexit ar y gweithlu. Ac roeddwn i wir eisiau gofyn i chi pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r allforwyr hynny, gan greu capasiti ychwanegol ymhlith allforwyr Cymru i reoli cadwyni cyflenwi.
Roeddwn i hefyd eisiau sôn fy mod i'n edrych ymlaen at y Bil amaethyddiaeth sydd i ddod, ac at weld y manylion ym Mil Bwyd Peter Fox. Gallai'r ddau ohonyn nhw roi cyfle i'r Senedd a Llywodraeth Cymru roi sefydlogrwydd a gweledigaeth y mae mawr eu hangen i ddyfodol y diwydiant bwyd a diod yn erbyn cefndir o ansicrwydd. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Jane, am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Rydw i newydd sylweddoli na wnes i ateb cwestiwn Samuel ynghylch Bil Peter Fox, a dim ond dweud: nid fy mod i'n ei wrthwynebu; rwy'n credu ein bod yn gwneud llawer o'r hyn roedd Peter wedi'i gynnig, ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weithio gyda Peter o amgylch y strategaeth bwyd cymunedol. Rwy'n credu y gellir rhoi llawer o'r hyn mae am ei gyflawni yn y Bil yno ac, fel yr wyf wedi'i addo iddo, byddaf yn sicr yn gweithio gydag ef ar hynny. Rwy'n credu eich bod yn iawn: rwy'n credu bod cyfleoedd gwych yn y Bil amaethyddiaeth. Ar hyn o bryd rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i gyflwyno hwnnw cyn egwyl yr haf ac, yn amlwg, bydd mwy o wybodaeth yn dod allan dros y misoedd nesaf.
Mae'n hawdd iawn bod yn frwdfrydig am fwyd a diod o Gymru. Rydw i bob amser yn dweud, 'Beth sydd i beidio ei hoffi am fod yn Weinidog sy'n gyfrifol am fwyd a diod Cymru?' Mae'n hawdd iawn ei werthu. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn, cyn COVID, roeddwn i'n gallu mynd i wledydd eraill i'w hyrwyddo. Ac, wrth gwrs, mae hynny wedi dod i ben, a dyna pam ei bod hi mor bwysig cael y trydydd BlasCymru hwnnw. Yn amlwg, roedd wedi'i ohirio o fis Mawrth y llynedd—rydyn ni'n ei gael bob dwy flynedd—ond roeddwn i'n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n bwrw ymlaen ag ef. Roedd hi'n bwysig iawn ei wneud mewn ffordd oedd yn ddiogel rhag COVID i wneud i bobl deimlo'n gyfforddus. Dyma ein cyfle i ddod â'r byd i Gymru i weld beth sydd gennym ni i'w gynnig. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, i fynychu digwyddiadau, fel Anuga, a gynhelir yn Cologne bob yn ail flwyddyn, a SIAL, a gynhelir ym Mharis bob yn ail flwyddyn. Ac, unwaith eto, cafodd Anuga ei ohirio. Rwy'n credu ei fod yn mynd yn ei flaen ym mis Ebrill eleni, ac yna bydd Paris ym mis Hydref. Ac, unwaith eto, rydyn ni bob amser yn mynd â chwmnïau bwyd a diod i'r digwyddiadau bwyd hyn; mae gennym ni bresenoldeb mawr o Lywodraeth Cymru yno bob amser. Bydd Gulfood yn dod i fyny yn Dubai fis nesaf ac, unwaith eto, bydd presenoldeb o Lywodraeth Cymru. Ac rydyn ni wedi parhau i wneud hynny'n rhithwir, oherwydd mae mor bwysig bod pobl yn ymwybodol o'n busnesau bwyd a diod.
Rwyf eisoes wedi sôn am y grŵp allforio sydd gennym ni'n awr fel rhan o fwrdd y diwydiant bwyd a diod i helpu i weithio gyda'n busnesau, oherwydd yn sicr rydyn ni'n cael—a dydw i ddim yn credu ei fod yn anecdotaidd—tystiolaeth o'r anawsterau mae cwmnïau'n eu cael i barhau i wneud yr hyn roedden nhw wedi bod yn ei wneud o'r blaen i allforio i'r UE—y tâp coch, yr anawsterau gyda logisteg, ac yn y blaen. Felly, rydyn ni'n parhau i weithio gyda'n cwmnïau bwyd a diod.
Fe wnes i sôn am y sêr newydd yn gynharach, a Cywain, yn fy ateb i Mabon ap Gwynfor. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n eu meithrin yn y ffordd mae Menter a Busnes wedi gwneud. Roeddech chi yn y ffair aeaf—mewn gwirionedd, rwy'n credu i mi gwrdd â chi yn y neuadd fwyd—lle mae gennym ni rai o'r cwmnïau bwyd a diod newydd ar stondin Cywain bob amser. Felly, byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n holl gwmnïau bwyd a diod dros y misoedd nesaf.
Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad. Rwy'n cytuno â chi a'r siaradwyr blaenorol am ansawdd y cynnyrch sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac rydyn ni i gyd yn falch o'r cynhyrchion sy'n cael eu cynhyrchu yn ein hetholaethau. Gweinidog, mae gen i dri chwestiwn i chi. Ydych chi'n credu bod cynhadledd BlasCymru wedi cyflawni'r hyn yr oedd yn bwriadu ei gyflawni, ac ydyn ni wedi gweld unrhyw fanteision net eto i'r sector bwyd a diod ers y gynhadledd o ran contractau ac allforion? Yn ail, o ran cynaliadwyedd, pryd ydych chi'n meddwl y bydd adeg pan fyddwn yn gwahardd plastigau untro ar draws y sectorau bwyd a diod, fel mae gwledydd eraill wedi'i wneud, i'n helpu i leihau ein dibyniaeth ar blastig untro? Rwy'n credu bydd hynny'n helpu i roi hwb i'n nodweddion amgylcheddol. Ac yn olaf, fe wnaethoch chi sôn eich hun am hyrwyddo bwyd ac am y cyrff ardollau diwydiant sydd gennym ni, fel Hybu Cig Cymru. Ydych chi'n credu bod mwy y gallen nhw ei wneud i hyrwyddo ein cynnyrch y tu allan i farchnadoedd traddodiadol, a'u bod mewn gwirionedd yn werth da i dalwyr yr ardoll sy'n talu i mewn i gadw'r cyrff hynny i fynd? Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny. Fe wnes i sôn mewn ateb cynharach ein bod yn meddwl o bosibl mai'r budd fydd tua £14 miliwn o fusnes a chynhyrchion newydd. Ac yn sicr, pan es i o gwmpas yr ardal lle'r oedd pobl yn cwrdd â phrynwyr, roedd hi'n amlwg iawn gweld bod llawer o gontractau newydd yn cael eu creu gyda rhai o'n brandiau adnabyddus ac enwog yng Nghymru. Fe wnes i sôn—na, wnes i ddim sôn yn gynharach —am Radnor Preserves. Rwy'n credu ei bod nhw yn eich etholaeth chi, mae'n debyg. Roedden nhw yno ac roedd hi'n dda siarad â Joanna am y busnes newydd yr oedd hi'n gobeithio ei gael. Felly, mae hi ychydig yn gynnar gallu rhoi ffigurau pendant i chi, ond yn sicr, wrth edrych yn ôl ar ddwy gynhadledd flaenorol BlasCymru, yn sicr bu manteision economaidd sylweddol.
O ran cynaliadwyedd, rydych chi'n gofyn am wahardd plastigau untro ac mae hwnnw'n amlwg yn ddarn o waith sy'n cael ei wneud gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd. Ni allaf roi'r union ddyddiad i chi, er fy mod i'n ymwybodol bod hyn yn rhywbeth mae'n amlwg bod y Gweinidog yn awyddus iawn i'w gyflwyno cyn gynted â phosibl. Ond rwy'n siŵr, os byddwch chi'n ysgrifennu ati, y bydd hi'n gallu rhoi dyddiad llawer mwy pendant i chi.
Rwy'n credu bod Hybu Cig Cymru yn gwneud gwaith rhagorol ac rwy'n gwybod y byddan nhw allan yn Anuga a SIAL yn sicrhau bod pawb yn deall yr hyn sydd gennym ni yma yng Nghymru, ein cig coch gwych—ein cig eidion a'n cig oen. Felly, rwy'n credu eu bod nhw'n gwneud gwaith rhagorol i ni. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r cadeirydd a'r prif weithredwr i sicrhau fy mod yn gwybod ble maen nhw a'r gwaith maen nhw'n ei wneud i hyrwyddo ein cig coch, ond rwy'n sicr yn credu eu bod yn werth da iawn am arian.
Yn olaf, Gareth Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Mae'n wych gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynhyrchwyr bwyd a diod gwych o bob cwr o Gymru. Yn naturiol, hoffwn ganolbwyntio ar y cynhyrchwyr a'r manwerthwyr anhygoel sydd gennym ni yma yn Nyffryn Clwyd. Mae BlasCymru eisoes yn hyrwyddo un o drysorau fy etholaeth i, sef eirin Dinbych, ond mae Dyffryn Clwyd yn gartref i amrywiaeth eang o gynnyrch a chynhyrchwyr gwych. Felly, sut fydd eich Llywodraeth yn helpu i hyrwyddo'r cynhyrchion hyn i gynulleidfa ehangach?
Un cynhyrchydd gwych yn Nyffryn Clwyd yw Lizzy Jones o Fodfari, sy'n troi ffrwythau sy'n cael eu tyfu ar fferm y teulu yn ddetholiad anhygoel o wirodydd a jins ffrwythau. Cafodd gymorth gan Menter a Busnes a'u cynllun Cywain i helpu i ddatblygu Shlizzy yn fusnes rhyngwladol. Sut gall BlasCymru helpu Shlizzy i gyrraedd apêl ehangach? A, Gweinidog, ydych chi'n cytuno nad yw'n fater o hyrwyddo ein cynnyrch i'w werthu dramor yn unig, ond mae angen i ni annog ymwelwyr tramor i ddod i leoedd fel Dinbych neu Fodfari i fwynhau'r blas lleol? Ydych chi'n cytuno i weithio gyda grwpiau fel grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd i helpu i hyrwyddo nid yn unig ein cynhyrchwyr bwyd a diod gwych, ond hefyd y siopau fferm, y bwytai a'r ystafelloedd te sy'n stocio'r cynnyrch anhygoel sydd gan Ddyffryn Clwyd i'w gynnig? Diolch.
Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr: mae busnesau bwyd a diod gwych ym mhob etholaeth. Ond, wrth gwrs, rwy'n ymwybodol iawn o eirin Dinbych, ac mae Peter Plum, y masgot, fel arfer yn rhan o lawer o'r digwyddiadau rydyn ni'n eu cynnal. Fe wnes i siarad yn fanwl yn gynharach am Cywain ac mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n helpu pobl fel Lizzy Jones. Mae'r cyfnod dwys iawn hwn, ac, fel y dywedais i, mae gennym ni stondin Cywain yn y ffair aeaf bob amser, yn y Sioe Frenhinol, ac yn sicr yn y Sioe Frenhinol mae'n debyg bod gennym ni bump neu chwe busnes bach, newydd gwahanol bob dydd, fel y gallwn ni eu helpu yn y ffordd rydych chi'n awgrymu. Dydw i ddim yn siŵr ydy Lizzy wedi bod yn un o'r rheini, ond yn sicr dyna beth rydyn ni wedi'i wneud, ac rydyn ni wedi gweithio gyda Bryniau Clwyd i sicrhau eu bod yn gallu hyrwyddo eu cynnyrch bwyd a diod.
Cawsom ddigwyddiad yn y Senedd, wedi'i drefnu gan Hannah Blythyn—cyn i chi ddod i'r Senedd—lle cafwyd amrywiaeth wych o gynhyrchion bwyd a diod o'i hetholaeth. Ac efallai, unwaith y byddwn ni allan o'r cyfyngiadau COVID, y gallai fod yn rhywbeth y gallwn ni geisio ei wneud eto yn y Senedd.
Diolch i'r Gweinidog.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 7, datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar gymorth cyfreithiol a mynediad at gyfiawnder. Galwaf ar Mick Antoniw i wneud y datganiad.
Diolch, Llywydd. Mae eleni yn nodi 10 mlynedd ers cyfres o doriadau llym ac annheg i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y Ceidwadwyr a Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd y toriadau eu gwneud drwy Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012. Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog cyfiawnder, Jonathan Djanogly, y byddai'r Ddeddf yn gwneud costau cyfreithiol yn fwy teg. Ond, erbyn hyn, mae'n amlwg bod y toriadau wedi gwneud y gwrthwyneb yn llwyr.
Llywydd, yn ôl canfyddiadau Cymdeithas y Gyfraith, nid yw cymorth cyfreithiol ar gael mwyach i lawer sydd ei angen. Mae'r rhai sy'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol yn ei chael hi'n anodd cael gafael arno, nid yw bylchau eang mewn darpariaethau'n cael sylw, ac mae'r Ddeddf wedi cael effaith negyddol ar y wladwriaeth ac ar gymdeithas. Mae wedi arwain at greu system gyfiawnder ddwy haen, gyda diffyg cyfiawnder i gymaint o bobl yng Nghymru. Mae'r toriadau i gymorth cyfreithiol, sef yr hyn ydyn nhw, hyd yn oed wedi arwain at anfon pobl ddiniwed i'r carchar am nad ydyn nhw'n gallu sicrhau'r cymorth cyfreithiol sydd ei angen i ddiogelu eu rhyddid.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae'r canlyniadau gwrthnysig hyn yn gwbl groes i'r weledigaeth sy'n sail i greu system cymorth cyfreithiol y wladwriaeth gan y Llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel, ac maen nhw’n groes i weledigaeth a chredoau'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Y weledigaeth oedd
‘beth bynnag fo'r anawsterau o ran tlodi, ni ddylai unrhyw ddinesydd fethu â chael y cymorth cyfreithiol na'r cyngor sydd mor angenrheidiol i sefydlu ei hawliau llawn.'
Dywedwyd bod hyn yn
'ddiwygiad hanfodol mewn gwir ddemocratiaeth'.
Llywydd, rwyf i’n mynd ymhellach, i ddweud bod hon yn hawl ddynol sylfaenol sydd nawr yn cael ei gwrthod.
Mae cymorth cyfreithiol yn fwy na phroses ar gyfer ariannu cyfreithwyr mewn achosion cyfreithiol yn unig. Pan gafodd ei sefydlu yn 1949, roedden nhw’n creu GIG ar gyfer y gyfraith, a chydnabod bod sicrhau cyfiawnder, yr hawl i gyngor, cynrychiolaeth a chymorth, yn hawl ddynol sylfaenol. Nid yw'n ymwneud â'r llysoedd yn unig, mae'n ymwneud â grymuso pobl, mae'n ymwneud â sicrhau bod gan bawb hawliau gwirioneddol mewn cymdeithas. Ydy hi’n syndod, felly, bod gymaint o bobl yn ymddieithrio oddi wrth gymdeithas ddinesig pan nad ydyn nhw’n teimlo'n rhan ohoni, pad nad oes neb yn gwrando arnyn nhw a phan maen nhw’n ddi-rym?
Bydd Aelodau'r Senedd hon yn ymwybodol fy mod i a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn cyhoeddi datganiadau ysgrifenedig ar y cyd ynghylch y materion cyfiawnder hyn fwyfwy, a'r rheswm am hyn yw ein bod yn cydnabod bod y cysylltiad rhwng cyfiawnder, sicrhau cyfiawnder a'n gwasanaethau cyhoeddus craidd yn allweddol i fynd i'r afael â thlodi, anfantais gymdeithasol ac anghydraddoldeb. Dyna pam mae datganoli cyfiawnder yn fater mor bwysig i'r Llywodraeth hon, oherwydd mae'n cyd-gysylltu â chymaint o'r cyfrifoldebau datganoledig ac mae'n elfen angenrheidiol o'n strategaeth i fynd i'r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol.
Fe wnaeth Syr Christopher Bellamy ganfod, yn ei adolygiad annibynnol diweddar o gymorth cyfreithiol troseddol, fod 'blynyddoedd o esgeulustod' wedi bod o'r system cymorth cyfreithiol. Mae'n mynegi pryderon difrifol am effaith toriadau cyllid ar 'gydraddoldeb arfau' rhwng erlyn ac amddiffyn, sydd nid yn unig yn ymddangos yn annheg ond yn achosi annhegwch dwfn. Mae unigolion sy'n wynebu erlyniad troseddol a charcharu yn ofni y gallai costau ariannol amddiffyn eu hunain achosi methdaliad hyd yn oed os ydyn nhw’n llwyddiannus, ac mae hyn yn golygu mai'r unig opsiwn y gallan nhw ei ddewis yn rhesymegol yw pledio'n euog i drosedd nad ydyn nhw wedi'i chyflawni, fel bod eu cartref ac asedau eraill yn cael eu diogelu er budd eu teulu.
Yn fwyaf diweddar, mae hyn wedi cael ei weld yn yr hyn sydd wedi’i ddisgrifio fel camweinyddiad cyfiawnder mwyaf y cyfnod modern. Cafwyd cannoedd o is-reolwyr swyddfeydd post ledled Cymru a Lloegr yn euog ar gam yn sgandal Horizon Swyddfa'r Post. Roedd llawer yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ddewis pledio'n euog am droseddau nad oedden nhw wedi'u cyflawni, dim ond am nad oedd cymorth cyfreithiol yn ddigonol iddyn nhw sicrhau cyfiawnder yn erbyn grym ariannol erlyniadau preifat a ddygwyd gan Swyddfa'r Post. Nid mater mewn cyfiawnder troseddol yn unig yw hwn. Mae'r frwydr 27 mlynedd dros gyfiawnder dros Hillsborough yn enghraifft arall. Unwaith eto, nid oedd cymorth cyfreithiol i gefnogi teuluoedd y dioddefwyr i sicrhau cyfiawnder, gan arwain at alwadau am gyfraith Hillsborough.
Mae'r cyfreithwyr, y paragyfreithwyr a'r cynghorwyr hynny, a'r rhai yn y trydydd sector, sy'n gweithio'n ddiflino ar gymorth cyfreithiol neu am ddim yn arwyr cymunedol. Nid nhw yw'r cyfreithwyr blonegog, fel maen nhw’n cael eu galw, mae'r wasg mor hoff o adrodd amdanyn nhw; maen nhw ar ben digydnabyddiaeth, nad yw’n cael ei werthfawrogi o un o'r gwasanaethau pwysicaf mewn cymdeithas sifil—gwasanaeth mae ar lawer o'r bobl fwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymunedau ei angen ac yn dibynnu arno, ac mae'n sector sy'n marw'n araf. Nid yw'n syndod bod elfen cymorth cyfreithiol y proffesiwn cyfreithiol mor ddigalon. Mae swyddfeydd wedi cau, gan fod dechreuwyr yn y proffesiwn yn cael eu rhwystro gan gyfraddau cyflog sydd weithiau 50 y cant yn is nag oedd yn bodoli ar ddiwedd y 1990au, i'r fath raddau fel bod aelodau'r bar yn ystyried cymryd camau cyfreithiol a gweithredu diwydiannol. Mae llawer o'n cymunedau gwledig a chymunedau’r Cymoedd bellach wedi dod yn anialwch o ran llysoedd a chyngor cyfreithiol. I lawer, nid oes cyfiawnder mwyach, dim ond proses gyfreithiol a gweinyddol lle maen nhw’n dod yn ddioddefwyr goddefol.
Mae Syr Christopher Bellamy yn dweud bod gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd gyfyng-gyngor moesegol wrth gynghori myfyrwyr ar yrfa mewn cymorth cyfreithiol troseddol:
'Naill ai maen nhw’n annog eu myfyrwyr i fynd i broffesiwn heb lawer o gyfleoedd ar gyfer symudedd a dilyniant cymdeithasol, neu maen nhw’n cynghori yn erbyn hynny, ac os felly "heb waed newydd" mae'r proffesiwn yn sicr yn mynd i ddarfod ymhen 10-15 mlynedd os nad llai.'
Mae cyfyng-gyngor tebyg yn ymddangos mewn meysydd eraill o'r gyfraith. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i wneud iawn am fethiannau'r system bresennol ac i gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf am gyngor lles cymdeithasol. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae dros £10 miliwn o arian grant ar gael i wasanaethau cronfa cyngor sengl yng Nghymru. Rydyn ni’n ariannu gwasanaethau sy'n cyrraedd yn ddwfn mewn cymunedau lleol, gan helpu pobl i ddatrys problemau lles cymdeithasol lluosog, sydd wedi hen ymwreiddio’n aml, gan gynnwys cynrychiolaeth gerbron llysoedd a thribiwnlysoedd. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf yng Nghymru, fe wnaeth gwasanaethau'r gronfa cyngor sengl helpu 127,813 o bobl. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn ariannu cynlluniau treialu llysoedd cyffuriau ac alcohol Caerdydd a llawer o fentrau eraill. Ac eto, mae problem sylfaenol o hyd. Rydyn ni’n cytuno’n llwyr ag argymhelliad canolog Syr Christopher fod angen o leiaf £135 miliwn o gyllid ychwanegol—o leiaf—bob blwyddyn dim ond i gefnogi cymorth cyfreithiol troseddol. Ac rydyn ni’n dadlau nad yw cymorth cyfreithiol sifil yn cael ei ariannu'n ddigonol yn yr un modd.
Mae llawer o bethau eraill yn adroddiad Bellamy y dylai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ei ddatblygu. Ac eto, mae'n ymddangos bod yr Ysgrifennydd cyfiawnder presennol yn rhoi mwy o bwys ar gael gwared ar amddiffyniadau hawliau dynol i ddinasyddion cyffredin na datrys y problemau mae ei blaid ef yn y Llywodraeth wedi helpu i'w creu. Mae'n warthus bod y Llywodraeth, yn yr adolygiad o hawliau dynol sydd i ddod, wedi gwrthod rhoi unrhyw ystyriaeth i gyflwyno hawliau cymdeithasol ac economaidd, a bod rhan o bwyslais yr adolygiad ar 'chwyddiant hawliau' fel mae’n cael ei alw, gan fod gennym ni ormod o hawliau, mae'n debyg. Mae hwn yn fater mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau'n bwriadu mynd i'r afael ag ef yn ein hymateb i'r adolygiad.
Mae'n hawdd, wrth gwrs, galw am fwy o wariant. Felly, gadewch i mi atgoffa Aelodau o’r hyn wnaeth comisiwn Thomas ei ganfod, yn seiliedig ar ystadegau a ddarparwyd gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, mai £11.50 yw’r gwariant y pen ar gymorth cyfreithiol troseddol yng Nghymru o'i gymharu â £15 yn Lloegr. Felly, yn syml, pe byddai wedi'i ddatganoli a'n bod ni’n cael ein cyfran deg o gyllid, byddem ni’n gallu ariannu cymorth cyfreithiol yn well. Byddem yn gallu creu ein gwasanaeth cymorth cyfreithiol a chyngor Cymreig ein hunain, un sydd wedi'i gynllunio'n ddiffuant i wasanaethu pobl Cymru a sicrhau’r cyfiawnder rydyn ni gyd yn credu ynddo.
Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r diwygiadau radical sydd eu hangen i sicrhau cyfle cyfartal am gyfiawnder i'n dinasyddion, yn ogystal â chyfyngu ar y posibilrwydd o gam-drin pŵer y wladwriaeth. Dywedodd Is-iarll Simon yn 1948
'Mae'n gamgyhuddiad anghywir i ddweud bod un gyfraith i'r cyfoethog ac un arall i'r tlawd',
eto dyma lle yr ydyn ni a dyma'r hyn y mae'n rhaid i ni ei newid. Diolch, Llywydd.
Bwriedir i gymorth cyfreithiol helpu i dalu costau cyngor cyfreithiol, cyfryngu teuluol ac am gynrychiolaeth mewn llys neu dribiwnlys. Mae'r rheolau ynghylch pwy sy'n gymwys wedi'u nodi yn Neddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 a rheoliadau y cyfeirir atyn nhw gan y Cwnsler Cyffredinol. Bydd p'un a ydych yn gymwys ai peidio yn dibynnu ar y math o achos a'ch amgylchiadau ariannol.
A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cydnabod bod Llywodraeth y DU, y llynedd, wedi gwario dros £1.7 biliwn ar gymorth cyfreithiol; eu bod wedi cyhoeddi £51 miliwn yn fwy ar gyfer y sector cymorth cyfreithiol y llynedd, gan gefnogi gweithwyr cyfreithiol proffesiynol; eu bod wedi buddsoddi £0.25 biliwn i gadw cyfiawnder ar waith a chefnogi adferiad yn ystod y pandemig yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan gynnwys dros £50 miliwn yn fwy ar gyfer dioddefwyr a gwasanaethau cymorth; a bod adolygiad gwariant y Canghellor hefyd yn darparu £477 miliwn yn ychwanegol i'r system cyfiawnder troseddol i ateb y galw cynyddol gan swyddogion heddlu ychwanegol ac i adfer perfformiad yn dilyn y pandemig?
Fel pwynt o ffaith, a yw'r Cwnsler Cyffredinol hefyd yn cydnabod bod ôl-groniad y llys yn is o dan Lywodraeth bresennol y DU ychydig cyn dechrau'r pandemig nag yr oedd ym mlwyddyn olaf Llywodraeth Lafur y DU, gan helpu felly i wneud cyfiawnder yn fwy hygyrch? A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ymuno â mi i groesawu estyniad Llywodraeth y DU o 32 o Lysoedd Nightingale y Goron, gan gynnwys un yn Abertawe, tan fis Ebrill 2022, i gynnal cymaint o wrandawiadau â phosibl mewn ymateb i'r coronafeirws, a'i bod yn agor ail 'super courtroom' yr wythnos hon, gan gynyddu capasiti ymhellach ar gyfer achosion mawr? A yw'n cytuno bod Llywodraeth y DU yn iawn i wneud yr ystadau'n ddiogel drwy osod sgriniau plexiglass mewn dros 450 o lysoedd ac mewn ystafelloedd trafod y rheithgor ac ad-drefnu tua 70 o ystafelloedd llys i gynnal achosion mawr o hyd at 10 diffynnydd?
O ran mynediad at gyfiawnder, a yw'n croesawu'r gostyngiad o tua 80,000 yn nifer yr achosion sy'n weddill mewn llysoedd ynadon ers ei anterth ym mis Gorffennaf 2020, bod lefelau achosion sy'n weddill yn Llysoedd y Goron yn sefydlogi a bod miloedd o achosion yn cael eu rhestru bob wythnos? Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'r Bil Adolygiad Barnwrol a Llysoedd y DU presennol i roi mwy o bwerau i Lys y Goron ddychwelyd achosion i'r ynadon, lleihau'r galw yn Llys y Goron a rhyddhau hyd at 400 diwrnod eistedd y flwyddyn? Pa ystyriaeth y mae wedi'i rhoi i'r cymorth a ddarperir gan Gyngor Cyfreithiol Sifil, neu CLA, gan ddarparu cyngor cyfrinachol am ddim yn rhan o gymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr?
Fis Gorffennaf diwethaf, nododd adroddiad Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin ar ddyfodol cymorth cyfreithiol fod gwir angen cynllun mwy hyblyg sy'n caniatáu i unrhyw un â phroblem gyfreithiol na all fforddio cyfreithiwr gael cyngor cyfreithiol cynnar. Roedd Llywodraeth y DU i fod i ymateb i'r adroddiad hwn ac adolygiadau cysylltiedig eraill, gan gynnwys ei hadolygiad o'r prawf modd cymorth cyfreithiol, fel rhan o'i chynllun gweithredu cymorth cyfreithiol ehangach erbyn diwedd 2021. Fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol hepgor unrhyw gyfeiriad at hyn. Pa ymgysylltu, felly, y mae wedi'i gael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y materion hyn a'r ymgynghoriad a fydd yn dilyn? Pa ystyriaeth y mae wedi'i rhoi i'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ddoe am gyllid ychwanegol i'r cynllun cyfryngu teuluol i helpu miloedd yn fwy o deuluoedd i osgoi'r llys? Pa ran y mae'n ei hystyried y gall neu y dylai sefydliadau partner cronfa gynghori sengl Llywodraeth Cymru ei chwarae wrth gyrraedd pobl cyn i'w problemau fynd allan o reolaeth, a sut y gallai gael gafael ar y gwasanaethau cynghori hynny sy'n darparu cymorth allweddol nad yw'r gronfa'n eu cefnogi?
Mae'r galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru yn methu â chydnabod nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol na rhanbarthol, nac ychwaith bod dros 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru—48 y cant o'r cyfanswm—yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr, a 2.7 miliwn—90 y cant o'r cyfanswm—o fewn 50 milltir i'r ffin. Felly, nid ydym yn mynd i gytuno ar faterion sy'n ymwneud â datganoli cyfiawnder. Fodd bynnag, wrth fy ateb fis Tachwedd diwethaf, dywedodd hefyd ei fod yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU a gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y meysydd hynny lle gallen nhw gydweithredu a lle y gallen nhw wneud cyfraniad i wella'r trefniadau sydd eisoes ar y gweill. Felly, yn olaf, sut mae hyn yn mynd rhagddo yng nghyd-destun y datganiad heddiw?
Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna ac am y gwahanol gwestiynau, y rhan fwyaf ohonyn nhw, er hynny, ddim mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â rhan sylfaenol y datganiad yr wyf wedi'i gyhoeddi, sy'n ymwneud â gallu dinasyddion a phobl i gael gafael ar gymorth cyfreithiol a'r problemau sy'n bodoli ynghylch hynny.
Gadewch i mi ymdrin ag ychydig o'r materion a godwyd gennych. Sonioch chi am ariannu swyddogion heddlu ychwanegol. Wrth gwrs, rydym yn croesawu hynny a'r cynnydd, er nad ydym eto wedi ei weld yn cyrraedd lefel y plismona a etifeddwyd gan y Llywodraeth Dorïaidd yn 2010. Mae gennym lai o swyddogion heddlu o hyd nag yr oedd gennym ni ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r system gyfiawnder, bellach yn ariannu 600 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn ein cymunedau oherwydd diffyg cyllid y DU.
O ran llysoedd Nightingale a threfniadau arbenigol oherwydd COVID, nid wyf yn gweld problem gyda rhai o'r trefniadau hynny. Nid wyf eto wedi gweld manylion rhai ohonyn nhw a sut y gallen nhw weithio'n ymarferol, ond nid yw'n mynd i'r afael â'r broblem ynghylch pobl yn cael gwasanaeth cyfreithwyr a chael gafael ar gyngor ac ati. Yr hyn y mae'r Aelod yn methu â'i gydnabod yw mai'r hyn a ddigwyddodd yn 2012 oedd bod y Llywodraeth Geidwadol wedi torri mynediad at gyfiawnder yn aruthrol ac wedi eithrio meysydd cyfan o fynediad at gyfraith les cymdeithasol i bobl. Roedd y gyllideb cymorth cyfreithiol yn 2012, pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth gennych, yn £2.2 biliwn. Ar un ergyd fe wnaethoch chi dorri £751 miliwn o'r gyllideb honno. Ar ben hynny rydych wedi cau llysoedd, sy'n golygu na all llawer o bobl hyd yn oed gyrraedd y llysoedd. Mae pobl—ac adroddir hyn yn adroddiad Bellamy—na allan nhw fforddio cyrraedd y llys, felly maen nhw'n aros i wŷs gael eu cyhoeddi fel y gellir eu harestio a bydd yr heddlu wedyn yn dod â nhw i'r llys. Dyma'r union gyflwr yr ydym ni ynddo. Ac mae gennym ni bobl nawr, o ran ar-lein, nad oes ganddyn nhw fodd i gael gafael ar y dechnoleg, weithiau, i fod yn rhan o achosion ar-lein, sy'n rhoi tystiolaeth dros ffôn symudol. Mae hynny'n hollol annerbyniol. Yr hyn a ddigwyddodd yn 2011 oedd bod 91,000 o ddinasyddion ledled y DU wedi cael cyngor ar faterion lles, a gostyngodd hynny, o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU, 99 y cant, ar un ergyd. Ac ers hynny, mae'r materion o ran materion lles cymdeithasol, tai a materion teuluol wedi cynyddu, mewn gwirionedd, yn sylweddol.
Rydych yn codi'r mater ynghylch cyflwyno mesurau diogelwch mewn llysoedd ac, wrth gwrs, rwy'n croesawu hynny—mae mesurau diogelwch wedi'u cyflwyno yn y rhan fwyaf o weithleoedd a mannau cyhoeddus. Ond mae gennym system o hyd lle nad oes gennym fuddsoddiad priodol yn y ganolfan cyfiawnder sifil—llys priodol a boddhaol ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd—rydym wedi bod yn pwyso amdano ers peth amser. Cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder ydyw, ac eto nid yw'n ymddangos ein bod yn cael cyfleusterau llys sy'n addas i gyfreithwyr, i'r rhai sy'n cymryd rhan yn yr achosion, ac er diogelwch y farnwriaeth eu hunain.
O ran y Bil Adolygiad Barnwrol a Llysoedd, bydd hynny'n fater o drafodaeth fanwl iawn rywbryd, oherwydd, yn y bôn, mae'r Bil adolygu barnwrol yn ymwneud mwy â galluogi'r Llywodraeth i basio deddfwriaeth heb unrhyw graffu gan y llysoedd lle mae Deddfau'r Llywodraeth yn anghyfreithlon.
Nawr, o ran llysoedd cyffuriau ac alcohol ac ati, wel, wrth gwrs, mae gennym y cynllun treialu cyntaf yng Nghaerdydd, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn. Ond, wrth gwrs, er nad ein cyfrifoldeb ni ydyw, mae'n cael ei ariannu gan gannoedd o filoedd o bunnau o arian Llywodraeth Cymru.
Nawr, o ran ymgysylltu â Llywodraeth y DU, rwyf wedi cyfarfod, fel y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol hefyd, gyda'r Arglwydd Wolfson. Rydym wedi bod yn trafod y materion hyn. Rydym yn edrych ar y materion hynny lle y gallwn gydweithio ar faterion cyfiawnder, ac rydym hefyd yn edrych, o ran y meysydd hynny, lle mae arnom angen newid a diwygio mewn gwirionedd o ran y ffordd y caiff cyfiawnder ei gyflawni, a dyma lle yr ydym yn dod at bwysigrwydd datganoli cyfiawnder. Rydych chi, yn amlwg, wedi rhoi safbwynt Stryd Downing, o ran datganoli cyfiawnder. Yr hyn y byddwn i'n ei obeithio yw y byddwn ni'n cyflwyno, mewn gwirionedd, y ffordd y gallwn ni ddangos y gellir darparu cyfiawnder yn well. Ond yr hyn y gwnaf i ei ddweud i gloi fy ateb i'ch sylwadau yw mai'r hyn yr ydych chi wedi'i wneud, yn llwyr, yw cilgamu. Y mater sylfaenol yw bod gennym anialwch o ran cyngor yng Nghymru ac mae gennym lawer, miloedd lawer o'n hetholwyr, ledled Cymru heb fynediad at gyfiawnder o gwbl, a bod gennym system gyfiawnder ddwy haen. Mae'n drist iawn na wnaethoch chi fynd i'r afael â hynny yn eich cwestiynau i mi.
Llywydd, dwi'n ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am y datganiad pwysig yma mewn ardal sydd ddim wedi cael ei datganoli i Gymru, ond yn dangos pa mor o ddifri mae'r Llywodraeth i ddelio gyda'r problemau enfawr mae pobl ein gwlad ni yn eu dioddef ar hyn o bryd. Dyw e ddim yn ormodedd i ddweud bod pobl Cymru wedi cael eu taro'n greulon gan bolisi llymder, didrugaredd y Llywodraeth Dorïaidd a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd nôl yn 2011 i dorri y cymorth cyfreithiol.
Gadewch inni edrych ar ychydig o ffeithiau fan hyn, a bydd yn dda i'r Torïaid fan hyn wrando ar ffeithiau oddi wrth y Legal Aid Agency. Yn Lloegr syrthiodd gwariant cymorth cyfreithiol o 2012 i 2019 gan 28 y cant; yng Nghymru fe wnaeth e syrthio gan 37 y cant. Yn Lloegr syrthiodd nifer y ffyrmiau sy'n cynnig cymorth cyfreithiol gan 20 y cant; yng Nghymru 29 y cant. Yn Lloegr syrthiodd cymorth cyfreithiol yn ardaloedd sifil a theulu gan 31 y cant; yng Nghymru 40 y cant.
Gallaf i fynd ymlaen ac ymlaen. Gallaf i roi enghreifftiau di-ri tebyg i hynny. Maen nhw yna, ffeithiau gan y Legal Aid Agency yn dangos sut mae'r toriadau yma wedi effeithio ar Gymru. Fel barnwr tribiwnlys, fe welais i gannoedd ar gannoedd o bobl—pobl yn dioddef o iechyd meddwl, o iechyd corfforol gwael, anghenion dysgu—yn gorfod wynebu sefyllfa gymhleth, cyfraith anodd, heb unrhyw gymorth proffesiynol. Roedd pobl yn ymddangos o fy mlaen i yn eu dagrau, ar ben eu tennyn. Fe wnaeth dwy weddw ymddangos o fy mlaen i oherwydd bod eu gwŷr wedi lladd eu hunain cyn yr apêl. Doedd dim cymorth yna.
Fel bargyfreithiwr, welais i filoedd o bobl yn methu sicrhau mynediad i gyfiawnder oherwydd eu sefyllfa ariannol. Yn llythrennol, drws cyfiawnder yng Nghymru wedi'i gau yn glep i'r cannoedd a miloedd o bobl sy'n byw yn ein gwlad ni sy'n byw mewn tlodi. Dyna sefyllfa cyfiawnder yng Nghymru. Ond mae modd bod yn wahanol. Yn yr Alban, er enghraifft, lle mae cyfiawnder wedi'i ddatganoli, mae 70 y cant o'r boblogaeth yno yn gymwys i gymorth cyfreithiol.
Cwnsler Cyffredinol, mae'r ddau ohonom ni'n gwybod o'n gyrfaoedd cyfreithiol am y cysylltiad agos rhwng cyfiawnder cymdeithasol a'r system gyfiawnder, felly rwy'n falch o weld y datganiad ar y cyd rhyngoch chi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Mae ffactorau fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd ac anfantais gymdeithasol yn chwarae rhan enfawr ym mherthynas rhywun â'r system gyfiawnder. A ydych chi'n cytuno, felly, fod angen mynd ar drywydd datganoli cyfiawnder, cydraddoldebau a hyd yn oed lles fel pecyn yma? Er gwaethaf yr holl dystiolaeth ddiamheuol i'r gwrthwyneb, mae'r Torïaid yng Nghymru—a gwelsom hynny eto y prynhawn yma—mae'r Torïaid yng Nghymru a'r Torïaid yn San Steffan yn parhau â'r un ddadl flinedig bod awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn gwasanaethu pobl Cymru'n dda. Wel, dydy hi ddim. Yn hytrach na llenwi bylchau clir o fewn ein system gyfiawnder, mae Llywodraeth San Steffan yn benderfynol o gyfyngu ar hawliau ychwanegol—yr hawl i adolygiad barnwrol, yr hawl i ddibynnu ar y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, yr hawl i ddileu is-ddeddfwriaeth anghyfreithlon. Gofynnaf i'r Torïaid yma heddiw: pam, yn eich barn chi, y mae Llywodraeth Cymru yn gwario £10 miliwn ar y gronfa gynghori sengl, maes a gadwyd yn ôl. Maen nhw'n gwneud hynny oherwydd hebddon ni fydd 128,000 o bobl—mwy na phoblogaeth Wrecsam a Phen-y-bont ar Ogwr—yn cael cyngor cyfreithiol fel arall. Fe ofynnaf i eto i'r Torïaid sy'n bresennol yma: pam ydych chi'n credu bod Llywodraeth Cymru yn ariannu cynllun treialu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y llys teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghaerdydd? Yr ateb yw na fyddai'r teuluoedd hyn yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw fel arall. Ac fe ofynnaf i'r Cwnsler Cyffredinol: pa gyfran y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwario ar y prosiect pwysig iawn hwn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder?
Fel yr amlygodd y Cwnsler Cyffredinol, gwelwn yng Nghymru arc enfawr rhwng Abertawe a Wrecsam heb fawr ddim gwasanaethau cyfreithiol na llysoedd a thribiwnlysoedd. Er enghraifft, byddai gan unigolyn sydd angen teithio i Ganolfan Gyfiawnder Aberystwyth o Aberteifi daith ddwy awr wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Nid oes llysoedd ym Môn. Byddai teithio o Ynys Môn ar drafnidiaeth gyhoeddus i Gaernarfon yn golygu taith 90 munud ar ddau fws. Mewn llawer o ardaloedd gwledig, fel y sonia James Evans, yr Aelod Ceidwadol, yn aml iawn, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus foddhaol o gwbl. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod canolfannau llys a thribiwnlysoedd wedi'u cysylltu gan drafnidiaeth gyhoeddus dda. Mae gwrandawiadau o bell wedi gweithio'n dda ar y cyfan yn ystod pandemig COVID. Nid yw'n addas i bawb, rwy'n cyfaddef, ond a fydd gwrandawiadau rhithwir yn parhau yn nhribiwnlysoedd Cymru yn y dyfodol?
Os yw Mark Isherwood yn credu bod Llywodraeth San Steffan wedi parhau i gadw cyfiawnder ar waith yn ystod pandemig COVID, yna mae'n amlwg nad yw wedi siarad â'r proffesiynau cyfreithiol. Erbyn hyn mae oedi hirach nag erioed. Ie, yn rhannol oherwydd COVID, ond roedd yr oedi hir yn bodoli ymhell cyn y pandemig. Roedden nhw'n bodoli oherwydd toriadau, toriad systematig, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i'r system gyfiawnder. Ac ni allwch anwybyddu hynny.
Gallaf dystio i sylwadau Syr Christopher Bellamy am ymarferwyr cyfraith trosedd. Mae llawer o'm cyfoeswyr a ddechreuodd ymarfer mewn cyfraith trosedd bellach wedi symud i feysydd eraill neu wedi gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl. Yn y canolbarth a'r gorllewin, mae 60 y cant o gyfreithwyr cyfraith trosedd dros 50 mlwydd oed. Ond rwy'n sylwi, Cwnsler Cyffredinol, ar gyfer Llywodraeth Cymru fod y rhan fwyaf o'r bargyfreithwyr y maen nhw'n eu cyfarwyddo yn dal i fod wedi'u lleoli yn Lloegr. A ydych chi'n cytuno â mi y gall Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru yn gyffredinol—awdurdodau lleol, byrddau iechyd—wneud llawer mwy i gefnogi proffesiwn cyfreithiol Cymru? Llywydd, rydym ni'n gweld erydu hawliau yn y DU. Rydym yn gweld hawliau'n cael eu tynnu oddi wrth y cyhoedd yng Nghymru. Mae arnom angen system gyfiawnder gref. Mae arnom angen mynediad at gyfiawnder nawr yn fwy nag erioed o'r blaen. Diolch yn fawr.
Wel, diolch i'r Aelod am y sylwadau yna ac am y ffigurau manwl yna, y mae pob un ohonyn nhw'n rhai yr wyf yn ymwybodol ohonyn nhw ac yn gwbl berthnasol i realiti'r sefyllfa hon. Mae'n debyg mai'r gwahaniaeth rhyngoch chi a fi ac, mae'n debyg, y Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, yw ein bod ni'n dau wedi ymarfer yn y llysoedd hynny. Rydym ni wedi cael y profiad uniongyrchol mewn gwirionedd. Ac mewn sawl ffordd, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad ac i ba raddau y mae'r sefyllfa'n dirywio. Mae ystadegau'r Llywodraeth ei hun mewn gwirionedd yn cadarnhau maint y dirywiad hwnnw, ac rwy'n credu y byddech yn cytuno â mi nid yn unig y mae cyfiawnder wedi'i leihau fwyfwy dros y degawd diwethaf, ond mae mynediad wedi'i dorri'n llym.
Rydych yn gwneud y pwynt am y cysylltiad rhwng cyfiawnder cymdeithasol ac, mae'n debyg, y system farnwrol, ac rydych yn llygad eich lle, oherwydd mae'r cysylltiad rhwng tai, rhwng tlodi, rhwng gwasanaethau cymdeithasol, materion teuluol, trais a cham-drin domestig a'r tlodi sy'n ymwneud â hynny i gyd yn ffactorau sy'n cyfrannu at ddod â phobl i mewn i'r llysoedd. Ac ni all fod yn iawn nad oes gan bobl y modd i gael cyngor priodol pan fydd ei angen mewn gwirionedd ac, o bosibl, gallai hyd yn oed helpu i'w cadw o'r llysoedd neu, hyd yn oed pe bai'n rhaid iddyn nhw gymryd rhan yn y llysoedd, ni fyddan nhw'n gorfod siarad yn bersonol.
Ac wrth gwrs mae meysydd eraill o ran y materion sy'n ymwneud â datganoli cyfiawnder. Nid ydym yn dadlau hyn oherwydd rhyw fath o frwydr pŵer ynghylch p'un a ddylai San Steffan ei reoli neu a ddylem ni, credaf ei bod yn amlwg nawr fod cysylltu holl gyfrifoldebau'r Senedd hon, y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw, i gyd yn rhan annatod o'r un jig-so cyfiawnder. Ac mae peidio â bod ag un arf yn yr arfdy yn tanseilio'r gallu i sicrhau gwell cyfiawnder. Gallem ddarparu gwell cyfiawnder i bobl Cymru nag y gall y system sydd ar gael i ni ar hyn o bryd, a dyna ein dadl—nid pwy sy'n ei rheoli, ond oherwydd y gallwn ni ac y gallem ni wneud cymaint yn well. Mae cymaint o gynnydd wedi'i wneud o ran y cydweithio â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond mae hynny'n gwbl ddibynnol ar ewyllys da Llywodraeth y DU, ewyllys da dros dro a all fodoli ar unrhyw adeg ac nad yw'n sail ar gyfer cynllunio a datblygu strategol.
Fe wnaethoch chi godi mater y tribiwnlysoedd rhithwir, yn enwedig o fewn ein system tribiwnlysoedd, ac maen nhw wrth gwrs, wedi bod yn effeithiol yn ystod COVID. Mae'r tribiwnlysoedd hynny, efallai, yn fwy addas i wrandawiadau ar-lein, ond mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus iawn nad ydym ni, wrth ddefnyddio manteision technoleg, mewn gwirionedd yn atal mynediad i'r rhai nad oes ganddyn nhw'r sgiliau digidol hynny na mynediad at hynny. Ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio yn y maes penodol hwnnw hefyd.
Fe wnaethoch chi godi pwynt olaf ar fater cyfarwyddo bargyfreithwyr, datblygu'r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru. Mae'n rhywbeth sy'n bwysig iawn. Wrth gwrs, mae'n agored i fargyfreithwyr a chyfreithwyr o bob rhan o'r DU fynd ar y rhestr gymeradwy i gytuno ar y telerau ac amodau y mae aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol yn ymwneud â gwaith yng Nghymru yn gweithio o danyn nhw. Felly, mae hynny'n waith sydd ar y gweill; mae'n weithgarwch parhaus. Ac, wrth gwrs, rydych chi'n iawn, wrth i gyfraith Cymru ddod yn fwy a mwy helaeth, fod angen sicrhau bod gennym y sgiliau yng Nghymru, ond hefyd ein bod yn adeiladu'r economi gyfreithiol yng Nghymru—felly, edrych ar fater datblygu cyfraith gorfforaethol a chyfraith cystadleuaeth yng Nghymru a gwneud Cymru'n ganolfan o weithgarwch economaidd o'r fath. Ond, er mwyn gwneud hynny, mae arnom angen llysoedd boddhaol mewn gwirionedd i alluogi hynny i ddigwydd.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Cwnsler Cyffredinol, am y datganiad yna. Mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wrando ar lefarydd y Ceidwadwyr y prynhawn yma, fy mod yn credu y collodd Herod amddiffyniad o'r radd flaenaf yn y fan yna. Mae'n ymddangos nad oes bron unrhyw bolisi yn dod gan Lywodraeth y DU na fyddai'r Ceidwadwyr yn y fan yma yn ceisio'i amddiffyn. A dyma, rwy'n credu, un o'r dulliau mwyaf niweidiol yr ydym ni wedi'i weld gan Lywodraeth y DU, pryd y gwelsom ni, dros y degawd diwethaf, bobl dlotach yn cael eu hamddifadu o'u hawl sylfaenol i gyfiawnder, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n gwbl annerbyniol ac a ddylai fod yn annerbyniol mewn unrhyw gymdeithas waraidd. Ac rwy'n synnu y byddai unrhyw un yn ceisio amddiffyn hynny.
O ran ein dull gweithredu, Cwnsler Cyffredinol, roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y datganiad ac yna eich ymateb i Rhys ab Owen, oherwydd rwy'n credu i chi ddweud rhai pethau pwysig iawn yn y fan yna. Mae gennyf ddiddordeb mewn deall sut y mae Llywodraeth Cymru yn dwyn ynghyd yr ymateb yr ydych yn ei wneud ar ochr gyfreithiol, wleidyddol pethau a'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar wasanaethau cynghori, oherwydd rwy'n credu bod cyfle yn y fan yna i roi rhywfaint o gefnogaeth i bobl sydd ei angen. Mae gennyf ddiddordeb hefyd yn y ffordd y gallwn weithio gyda'r prifysgolion ac ysgolion y gyfraith ledled y wlad i wella'r seilwaith cyfreithiol ac i ddarparu mwy o gyfleoedd i roi cymorth i bobl.
A hefyd, o ran tribiwnlysoedd—ac rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaethpwyd dro ar ôl tro gan Blaid Cymru ar y mater hwn yn bwysig iawn—roeddwn bob amser yn pryderu'n fawr am y diffyg cyfranogiad mewn tribiwnlysoedd o gymunedau tlotach a mwy difreintiedig, ac rwy'n credu y bydd y materion yr ydym ni'n eu trafod y prynhawn yma yn ychwanegu at hynny. Ond sut y gallwn ni sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal i'r system dribiwnlysoedd, oherwydd nid wyf yn argyhoeddedig ein bod yn y sefyllfa honno heddiw?
Ac yn olaf, Llywydd, a oes enghreifftiau y gwyddoch chi amdanyn nhw Cwnsler Cyffredinol, o awdurdodaethau cyfreithiol eraill, y gallwn ni eu defnyddio er mwyn sicrhau bod gennym fynediad i system gynghori a gwasanaeth o'r radd flaenaf, a hefyd i gymorth cyfreithiol i ddarparu'r cymorth er mwyn i bobl sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar gyfiawnder yn gyfartal?
Diolch i chi am y cwestiynau yna. O ran ymgysylltu, wel, wrth gwrs, mae llawer o ymgysylltu wedi bod yn digwydd i gael trafodaethau ynghylch llawer o'r materion hyn gyda'r farnwriaeth. Wrth gwrs, ni all y farnwriaeth gymryd rhan yn yr agweddau gwleidyddol, ond mae'n bwysig cymryd rhan yn y meysydd hynny lle gallwn roi cymorth i faterion cydweithredol, yn union fel yr ydym wedi'i wneud gyda'r llysoedd cyffuriau ac alcohol.
O ran gwasanaethau cynghori, wel, wrth gwrs, y gwasanaethau cynghori yr ydym yn eu hariannu ac yn eu sefydlu, sydd, yn fy marn i, wedi ymdrin â rhywbeth tebyg—. Wel, mae bron i 300,000 o faterion wedi'u datrys ar gyfer 130,000 o bobl. Mae hynny'n arwyddocaol, er nad yw'n ateb hirdymor i ddiwygiad mwy sylfaenol sydd ei angen. A dyna pam yr wyf i'n credu bod datganoli cymorth cyfreithiol wedi'i gydnabod gan gomisiwn Thomas, oherwydd yr oedd yn cydnabod integreiddio'r holl wasanaethau hynny, sut y daethant i gyd at ei gilydd er mwyn cael system gyfiawnder gydlynol a system gymorth. Wrth gwrs, nid oes gennym lawer o'r ysgogiadau penodol hynny, felly rydym yn gwneud y mewnbwn y gallwn ni o'n hadnoddau ein hunain mewn maes nad yw wedi'i ddatganoli, ac mae'n bwysig. Ond rydych yn cydnabod—. Dyma'r union bwynt a wnaethoch chi yn ddiweddarach, mewn gwirionedd, gyda'r tribiwnlysoedd, o ran y ffaith, yn sicr ymhlith cymunedau tlotach, y bydd llai o fynediad at yr hawliau hynny, mae'n debyg. Roedd yn ddiddorol iawn nodi yn adroddiad Bellamy, wrth gwrs, nad yw rhywbeth fel 53 y cant o bobl sydd â hawl i gael cymorth cyfreithiol troseddol mewn gorsafoedd heddlu yn ei gael mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod rhywfaint o waith y mae angen ei wneud i edrych ar pam y mae hynny'n bod—p'un a allan nhw gael gafael ar gyfreithiwr mewn gwirionedd, neu a yw'n wir nad yw pobl yn dal i fod yn ymwybodol o'u hawliau neu'n cael gwybod am eu hawliau pan fyddan nhw yn y sefyllfa benodol honno.
O ran prifysgolion ac ysgolion y gyfraith, ydy, mae hynny'n bwysig iawn. Dyna pam yr oeddwn mor falch bod fy rhagflaenydd, Jeremy Miles, wedi dechrau'r broses hon. Unwaith eto, roedd yn un o argymhellion comisiwn Thomas, ac roeddwn yn falch o allu lansio'r cyfarfod cyntaf ohono a pharhau i'w gefnogi. Mae wedi cael ei gyfarfod cyntaf. A dyna Gyngor Cyfraith Cymru, sydd, yn fy marn i, yn fenter bwysig iawn.
O ran y tribiwnlysoedd, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad oes gennym—. Nid wyf yn credu mai dyma ydyn nhw, ond rwy'n credu y gallwn ni symud ymhellach ynghylch y mater o ddiffyg gwrthwyneboldeb, pan mai swyddogaeth y panel tribiwnlys yno yw rhoi'r cymorth i sicrhau canlyniad cyfiawn, yn hytrach na'i bod yn frwydr wrthwynebol rhwng dwy ochr wahanol, pryd yn aml y gallai'r ddwy ochr fod ag adnoddau gwahanol.
O ran systemau eraill, pan oeddwn i yn yr Alban, cyfarfûm â llywydd Llys y Sesiwn yno. Wrth gwrs, mae'r llysoedd a'r tribiwnlysoedd wedi'u datganoli yno. Rwy'n credu bod rhai ffyrdd diddorol iawn y maen nhw'n eu defnyddio i ymdrin â chyfiawnder, oherwydd bod cyfiawnder wedi'i ddatganoli yno. Pe bai gennym ni yr un raddfa o ddatganoli cyfiawnder ag sydd gan yr Alban, mae mentrau y gallem fod yn ei mabwysiadu nawr y mae'r Alban wedi'u mabwysiadu mewn cysylltiad â chymorth cyfreithiol, o ran mynediad, mewn cysylltiad â'r ffordd y mae'r gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn gweithredu, i ddarparu gwell gwasanaeth. Felly, rwy'n credu bod dadl a thrafodaeth ddiddorol y gellid eu cynnal yna, oherwydd mae'r Alban, mewn sawl ffordd, yn dangos sut y gellid gwneud y pethau hyn yn well.
Nid mater i Gymru a'r Alban yn unig yw hwn. Mae rhannau o Loegr lle byddai datganoli cyfiawnder mewn ardaloedd yn Lloegr o fudd, lle yr ydych yn cyd-dynnu—. Mae'r un ddadl yn berthnasol o ran cydgysylltu'r gwasanaethau hynny â'r system gyfiawnder. Felly, nid ydym yn cyflwyno achos sy'n ymwneud â Chymru yn unig yn hynny o beth, ond o ran sut y gallwn sicrhau cyfiawnder yn well mewn gwirionedd. Dyna'r achos, rwy'n credu, y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau'n gweithio arno i'w gyflawni.
Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r Cwnsler Cyffredinol, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn croesawu'r datganiad heddiw. Mae mewn maes polisi pwysig iawn. Mae'n bleser hefyd dilyn sylwadau fy nghyd-Aelodau yn y pwyllgor, Rhys ab Owen ac Alun Davies, sy'n wybodus iawn ac, yn achos Rhys, â gwybodaeth broffesiynol hefyd. Mae'n faes y mae'n gwybod ein bod yn cymryd diddordeb brwd ynddo.
Rydym eisoes wedi archwilio mynediad at gyfiawnder yn ystod sesiynau tystiolaeth gyda llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, yr Arglwydd Thomas, mewn cysylltiad â gwaith ei gomisiwn, ac wrth gwrs gyda'r Cwnsler Cyffredinol ei hun ddoe. Yn y sesiwn honno ddoe, buom yn archwilio llawer o'r materion y cyfeiriwyd atyn nhw yn ei ddatganiad heddiw. Felly, Cwnsler Cyffredinol, roeddem yn falch o ddarparu ymarfer i chi ar gyfer y prif ddigwyddiad heddiw.
Nawr, nodwn o ddatganiad y Cwnsler Cyffredinol heddiw eich bod yn cyfeirio at ganfyddiadau Cymdeithas y Gyfraith ar effeithiau Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, a'r adolygiad annibynnol o gymorth troseddol, dan arweiniad Syr Christopher Bellamy, a'r casgliadau sy'n peri pryder yno ar gyflwr y system cymorth cyfreithiol, gan gynnwys yr anialwch cymorth cyfreithiol fel y'i gelwir mewn rhannau o Gymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol. Byddai'r pwyllgor yn ddiolchgar am unrhyw ddadansoddiad cyfredol pellach o hyn y gallech ei rannu gyda ni naill ai heddiw neu'n ddiweddarach, a gyda chyd-Aelodau yn y Senedd.
Nodwn hefyd eich bod yn cyfeirio, fel yr archwiliwyd gennym yn ein sesiwn bwyllgor gyda chi ddoe, at y pryderon a adroddwyd yn eang ynghylch hyder cyflogaeth, neu ei ddiffyg, recriwtio a hyfforddiant ar gyfer y sector cymorth cyfreithiol troseddol, a chynaliadwyedd tymor hwy y sector hwnnw, wrth wynebu ansicrwydd parhaus. Nodwn hefyd eich myfyrdodau llawn pryder ar gymorth cyfreithiol sifil hefyd, pan gyfeiriwch ato yn eich datganiad fel sector sy'n marw'n araf. Mae hynny'n peri pryder mawr.
Nawr, mae'r datganiad yn cyfeirio at y gwaith y mae ef a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ei wneud o ran mynediad at gyfiawnder. Yn eich datganiad, rydych chi'n cyfeirio at y cysylltiad rhwng cyfiawnder, mynediad at gyfiawnder, a'n gwasanaethau cyhoeddus craidd fel allwedd i fynd i'r afael â thlodi, anfantais gymdeithasol ac anghydraddoldeb. A thrwy hynny mae'n arwain Llywodraeth Cymru i barhau i geisio datganoli cyfiawnder i Gymru a chael uchelgais i greu gwasanaeth cymorth a chyngor cyfreithiol Cymreig, os caiff ei ddatganoli gyda chyllid priodol. Felly, a gaf i ofyn i chi, Cwnsler Cyffredinol: sut ydych chi'n bwriadu bwrw ymlaen â'r uchelgeisiau hyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datganoli pellach, a pha ymgysylltu y mae wedi'i gael gyda Llywodraeth y DU hyd yma a pha ymateb? A nodwn ymhellach eich cyfeiriad at y cymorth ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau sy'n gyfrifol am ddarparu cyngor lles cymdeithasol, gan gynnwys drwy'r gronfa gynghori sengl a mentrau angenrheidiol eraill. Byddem yn croesawu, unwaith eto, unrhyw ddiweddariad, yn ysgrifenedig neu heddiw, ar barhad y cyllid hwnnw, fel y nodir yn y gyllideb ddiweddar.
Nawr, Cwnsler Cyffredinol, rydym yn gobeithio ymgymryd â gwaith manylach yn y maes hwn, er bod yn rhaid i mi ddweud, mae ein rhaglen waith, a'r amser sydd ar gael i'n pwyllgor, wedi'u cyfyngu braidd gan yr hyn y gwn ei fod yn ei gydnabod fel mynydd o gynigion cydsyniad deddfwriaethol ac offerynnau a rheoliadau statudol a mwy, sy'n cyrraedd y Senedd hon ac yn wir Llywodraeth Cymru. Ond oherwydd pwysigrwydd y materion hyn, yn y cefndir rydym, drwy ein tîm cyfathrebu, wedi dechrau defnyddio grwpiau ffocws ar-lein i wella ein dealltwriaeth gyffredinol o'r heriau a'r profiadau ar lawr gwlad o ran cael mynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Ac edrychwn ymlaen at gyfrannu ymhellach at y dadansoddiad o gymorth cyfreithiol a mynediad at gyfiawnder yn ystod y misoedd nesaf, ac ar hyn o bryd byddem yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol gadarnhau ei barodrwydd, a pharodrwydd ei swyddogion, i barhau i ymgysylltu â'n pwyllgor ar y maes gwaith hanfodol hwn, sydd, ymhell o fod yn gyfrin neu'n bwnc academaidd, yn hanfodol i hawliau pobl yng Nghymru ac i'w gallu i gael mynediad cyfartal at y gyfraith ac at gyfiawnder. Diolch yn fawr iawn.
Wel, diolch am y sylwadau yna ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwahoddiadau i'ch pwyllgor, oherwydd mae'n gyfle i siarad am y gwaith sy'n digwydd, i gael syniadau ynghylch meysydd y gallem ni fod yn canolbwyntio arnyn nhw, ac mae'n rhan bwysig o'r broses seneddol. A gaf i ddweud, ar fater ymgysylltu â'r pwyllgor, wrth gwrs, fy mod yn awyddus iawn i ymgysylltu mor llawn â phosibl? O ran y mater sylfaenol yr ydych yn ei godi, sy'n ymwneud â mynediad, mae hyn yn ymwneud yn y pen draw â rheolaeth y gyfraith. Dyma'r hyn yr ydym ni'n sefyll drosto yng Nghymru. Dywedodd yr Arglwydd Bingham, yn ei lyfr enwog iawn ar reolaeth y gyfraith, mai
'gwarafun gwarchodaeth gyfreithiol i'r ymgyfreithiwr tlawd na all fforddio talu yw un gelyn rheolaeth y gyfraith'
ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddychwelyd at egwyddorion sylfaenol a chydnabod bod mater mynediad at gyfiawnder a chymorth cyfreithiol yn ymwneud â grymuso pobl—grymuso pawb, ni waeth faint o arian neu faint o gyfoeth sydd ganddyn nhw mewn gwirionedd.
Cyfeirioch chi at rai pwyntiau pwysig—. Gwn fod cynifer o feysydd yma y gallem ni eu datblygu a siarad amdanyn nhw am amser maith; gwn na fydd y Llywydd yn caniatáu hynny. Ond, o ran mynediad at ddata, y ffaith mai data Cymru a Lloegr yw llawer o'r data o ran y system llysoedd ac nid yw wedi ei wahanu—. Ac mae'r rheini'n drafodaethau yr wyf wedi'u cael ac mae'r Prif Weinidog wedi'u cael, ac eraill wedi'u cael, y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi'u cael, gyda'r Arglwydd Brif Ustus. Roedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau, wedi ceisio cael cyfarfod gyda'r Arglwydd Ganghellor newydd, Dominic Raab. Trefnwyd yn lle hynny y byddem yn cyfarfod â'r Arglwydd Wolfson. Wel, rydym wedi cyfarfod â'r Arglwydd Wolfson, ac mae gennym feysydd cydweithredu sy'n mynd rhagddynt, ond rydym wedi gwneud yr union bwyntiau hynny am ddata, ac rwy'n credu eu bod yn cael eu cydnabod. Y cwestiwn yw, bod â systemau sy'n newid ac yn cyflawni mewn gwirionedd, i'n galluogi ni i werthuso'n briodol sut y gallwn ni wneud pethau'n well. Wrth gwrs, mae gennym ni rai datblygiadau—y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, ac ati—a fydd yn darparu rhagor o wybodaeth, ond rydym yn dal i fod ymhell o gael y math o wybodaeth y byddai ei hangen arnom o ran cydgysylltu'r holl feysydd hynny y mae gennym ni gyfrifoldeb amdanyn nhw, ar y cyd â'r system gyfiawnder.
Mae'n debyg bod hynna wedi ymdrin â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaethoch chi. Os oes rhai'n weddill, rwy'n siŵr y byddan nhw'n cael eu harchwilio yn fy sesiwn nesaf yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw gan y Cwnsler Cyffredinol a'r gwaith y tu ôl i'r datganiad hwn, gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Rwy'n credu y dylai Aelodau'r Senedd hon, ni waeth pa gartref gwleidyddol yr ydym yn ein cael ein hunain ynddo, gydnabod a chroesawu Llywodraeth sy'n ceisio ail-droi mantol cyfiawnder tuag at bobl gyffredin, ac mae hyn yn sicr yn rhywbeth sy'n cael ei adleisio yn y datganiad heddiw, a tybed a oes gan y Cwnsler Cyffredinol unrhyw gyngor ei hun i grŵp y Ceidwadwyr Cymreig o ran hwythau yn myfyrio ynghylch eu safbwynt nhw.
Cwnsler Cyffredinol, gwelwn enghraifft ar ôl enghraifft o'r cuddio pwerus y tu ôl i system sydd wedi'i rigio o'u plaid: Grenfell, sgandal Horizon Swyddfa'r Post, ac wrth gwrs Hillsborough, i enwi dim ond ychydig ohonyn nhw. Yn aml, gall y rhai sydd â phocedi dwfn fforddio cael gafael ar dimau cyfreithiol enfawr, ac yna mae pobl gyffredin yn aml yn cael eu gadael wedi'u brawychu gan hyn, a dweud y gwir, hyd yn oed pan fyddan nhw'n cael rhyw lefel o gymorth cyfreithiol, mae diffyg cydraddoldeb parch yn aml: timau o fargyfreithwyr a ariennir gan y wladwriaeth neu sefydliadau a chwmnïau mawr yn erbyn pobl sy'n poeni'n gyson ynghylch sut y byddan nhw'n ariannu eu tîm cyfreithiol eu hunain a pha mor hir y mae'r achosion hyn am bara. Dro ar ôl tro, mae'r rhai pwerus yn defnyddio oedi i wasgu ar wrthwynebwyr oherwydd eu bod yn gallu fforddio gwneud hynny. Mae'n dacteg; dim ond tacteg i osgoi cyfiawnder, ac mae hynny'n anghywir ar bob un lefel.
Cwnsler Cyffredinol, diolch byth, mae rhai cwmnïau cyfreithiol ar gael, fel Cyfreithwyr Hudgell, a fydd yn cefnogi'r gwan, ond ni ddylai'r system ddibynnu ar eu hewyllys da nhw. A gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol sut y dechreuwn y daith honno o ail-droi mantol cyfiawnder o ran datganoli rhagor o bwerau i fynd i'r afael â'r problemau hyn, ac, unwaith eto, a oes ganddo unrhyw gyngor i Aelodau grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ynghylch y mater hwn fel y gallan nhw fyfyrio ac ail-droi eu barn eu hunain ar fantol cyfiawnder? Diolch yn fawr.
Diolch am hynna, a diolch i chi am y ffordd gyson yr ydych yn codi'r mater hwn o fynediad at gyfiawnder, oherwydd mae'n bwysig i bawb yng Nghymru, mewn meysydd datganoledig a rhai nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Rydych yn codi materion Grenfell a Hillsborough. Hoffwn ychwanegu at hynny'r mater hirsefydlog o ran llysoedd y crwner a sut y dylai hynny fod yn rhywbeth sydd wedi'i ddatganoli, wedi'r cyfan, caiff ei ariannu gan yr awdurdodau lleol. Mae'r ddarpariaeth lawn yno yn cael ei gwneud gan awdurdodau lleol; mae'n cael ei dalu o arian sy'n dod yn y pen draw gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae rhesymeg yno i rai o'r newidiadau penodol hyn.
Rwy'n cytuno â chi'n gryf iawn ynghylch y pwynt a wnaethoch ac rwy'n credu bod eraill wedi'i wneud, a dyna'r anghydbwysedd sy'n bodoli o fewn ein system gyfiawnder, a dyna pam y mae gennym y dadleuon sylfaenol hyn dros ddiwygio, oherwydd, fel y dywedais i, ni ddylai hyn fod yn fater gwleidyddol pleidiol; mae hyn yn ymwneud â democratiaeth sylfaenol, materion sylfaenol sy'n ymwneud â rheolaeth y gyfraith.
A gaf i ddweud, o ran y pwynt olaf y gwnaethoch fy nhemtio i wneud sylwadau arno, na fyddwn i fel arfer, ond y tro hwn, fe wnaf, sef cymaint yr wyf yn edmygu Ceidwadwyr yr Alban am o leiaf wneud safiad mewn cysylltiad â'u diddordeb gwleidyddol o ran yr Alban? A pha mor siomedig ydyw ar fater lle, beth bynnag fo'u perswâd gwleidyddol, y dylai pobl fod yn gwneud safiad dros rywbeth sy'n amlwg yn bwysig i bobl Cymru, yn hytrach na rhyw fath o waseidd-dra di-lewyrch i San Steffan, ni waeth beth fo'r rhesymeg a rhinweddau'r dadleuon yr ydym ni wedi bod yn eu trafod heddiw. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n newid, oherwydd gallem ni wneud cymaint mwy o gynnydd o ran diwygio a datganoli cyfiawnder pe bai gennym y Ceidwadwyr Cymreig mewn gwirionedd yn sôn am yr hyn yr wyf yn amau eu bod yn gwybod ei fod yn iawn ond nad ydyn nhw'n ddigon dewr i fabwysiadu'r safbwynt penodol hwnnw. Felly, dyna'r newid penodol yr wyf i eisiau ei weld.
Ond o ran y cynnydd cyffredinol, mae tair elfen iddo, rwy'n credu. Un ohonyn nhw yw y byddwn ni'n cydweithio fwyfwy â Llywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y meysydd hynny nad ydyn nhw wedi'u datganoli ond lle y gallwn weithio er budd pobl Cymru. Yn ail, byddwn yn cyflwyno'r achos fwyfwy ynghylch sut y gallwn ni wneud cyfiawnder yn well yng Nghymru a'r pethau yr ydym ni eisiau eu gweld yn newid. Yn drydydd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddechrau paratoi ar gyfer strwythur yr hyn y byddai ffurf system cyfiawnder newydd i Gymru, oherwydd rwy'n cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd yr Arglwydd Thomas—nid yw'n fater o os, ond pryd, ac mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer hynny. Wrth gwrs, mae'n ddigon posibl mai un o'r ffactorau allweddol sy'n sbarduno yw'r camau o ran diwygio'r rhan honno o'r system gyfiawnder yr ydym ni eisoes yn gyfrifol amdani, a dyna'r gwasanaeth tribiwnlysoedd. Diolch am eich cwestiwn.
Dyna ddiwedd ar y datganiad yma.
Felly, eitem 8 sydd nesaf, a honno yw'r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig yma—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7884 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2021.
Cynigiwyd y cynnig.
Croesawaf y cyfle i gyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn heddiw. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn diwygio rheoliadau cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor 2013. Mae'r cynllun yn rhoi cymorth uniongyrchol i aelwydydd ledled Cymru drwy leihau eu biliau treth gyngor, ac mae'r diwygiadau hyn yn sicrhau y gall pobl hawlio o hyd yr hyn sy'n ddyledus iddynt.
Diddymodd Llywodraeth y DU fudd-dal y dreth gyngor ar 31 Mawrth 2013 a throsglwyddodd y cyfrifoldeb dros ddatblygu trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Daeth penderfyniad Llywodraeth y DU gyda thoriad o 10 y cant i'r cyllid ar gyfer y cynllun. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy gau'r bwlch cyllido i sicrhau y gallai pobl hawlio cymorth o hyd yn 2013, ac rydym ni wedi parhau i wneud hynny bob blwyddyn ers hynny. Rydym ni hefyd wedi darparu £11 miliwn ychwanegol yn 2021 i fynd i'r afael â'r ceisiadau cynyddol o ganlyniad i'r pandemig. Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn cefnogi tua 280,000 o'r aelwydydd tlotaf yng Nghymru.
Mae angen diwygio deddfwriaeth bob blwyddyn i sicrhau bod y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl pob cartref i ostyngiad yn cael eu cynyddu er mwyn ystyried cynnydd yng nghost byw. Mae rheoliadau 2022 yn gwneud yr addasiadau hyn yn cynyddu ac yn cynnal hawliau presennol i gael cymorth. Mae'r ffigurau ariannol ar gyfer 2022-23 sy'n ymwneud â phobl o oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr, yn cynyddu yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr, sef 3.1 y cant. Mae'r ffigurau sy'n ymwneud ag aelwydydd pensiynwyr yn parhau i gael eu cynyddu yn unol â gwarant isafswm safonol Llywodraeth y DU ac yn adlewyrchu'r cynnydd mewn budd-dal tai.
Rwyf hefyd wedi manteisio ar y cyfle i wneud mân newidiadau technegol ac i wneud diwygiadau ychwanegol i adlewyrchu newidiadau eraill i fudd-daliadau cysylltiedig. Er enghraifft, rwyf yn diwygio'r rheoliadau i sicrhau y bydd pobl sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i'r argyfwng dyngarol yn Afghanistan yn gallu cael mynediad i'r cynllun hwn heb ei gwneud hi'n ofynnol iddynt basio prawf preswylio. Mae gwelliant pellach hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer sut mae iawndaliadau gan Weinidogion yr Alban ar gyfer achosion o gam-drin plant hanesyddol i'w hystyried wrth benderfynu a ydyn nhw'n gymwys i gael gostyngiad. Bydd hyn yn sicrhau nad fydd effaith negyddol ar unrhyw ymgeisydd sy'n byw yng Nghymru am eu bod wedi cael iawndal. Yn olaf, rydym wedi dileu cyfeiriadau diangen at bobl o dan 65 oed mewn perthynas â lwfans personol pensiynwyr. Bydd hyn yn ymestyn y gyfradd uwch o lwfans personol i bob pensiynwr yng Nghymru.
Mae'r rheoliadau hyn yn sicrhau y gall aelwydydd yng Nghymru o hyd fod yn gymwys am ostyngiadau mewn biliau'r dreth gyngor. O ganlyniad i'r cynllun hwn, ni fydd yr aelwydydd tlotaf sy'n derbyn gostyngiadau'r dreth gyngor yn parhau i dalu unrhyw dreth gyngor yn 2022-23. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.
Nid oes gennyf unrhyw Aelod sydd wedi mynegi diddordeb mewn siarad yn y ddadl hon, ac felly rwy'n tybio nad yw'r Gweinidog am ymateb iddi hi ei hun. Os nad oes gan y Gweinidog ddim arall i'w ddweud, yna gofynnaf a ddylid derbyn y cynnig ac a oes unrhyw un yn gwrthwynebu hynny. A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Felly, eitem 9 a 10 sydd nesaf ar y cynigion ar gydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd. Ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod yna Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10 yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân.
Felly, os nad oes neb yn gwrthwynebu'r grwpio hynny, fe fyddaf nawr yn galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gynnig y ddau gynnig—9 a 10. Jane Hutt.
Cynnig NDM7882 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sef 'Adroddiad cyfamod yr Heddlu', 'Cynyddu’r gosb am ymosod ar weithiwr brys', Rhan 2, Pennod 1 'Swyddogaethau sy'n ymwneud â thrais difrifol' (gan gynnwys 'Swyddogaethau sy'n ymwneud â thrais difrifol', 'Arfer swyddogaethau', 'Diwygiadau i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 etc', a 'Cyffredinol'), Rhan 2, Pennod 2 'Adolygiadau o laddiadau ag arfau tramgwyddus', 'Echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig: ymchwiliadau i droseddau etc, 'Cymhwyso adran 36 i blant ac oedolion heb alluedd', 'Gofynion ar gyfer darparu’n wirfoddol a chytuno', 'Cod ymarfer ynghylch echdynnu gwybodaeth', 'Rheoliadau ynghylch echdynnu gwybodaeth gyfrinachol', 'Personau awdurdodedig', 'Cynnydd yn y gosb am droseddau sy'n ymwneud â helwriaeth etc’, ac 'achosi niwsans cyhoeddus yn fwriadol neu'n ddi-hid', i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Cynnig NDM7883 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sef 'Difrod troseddol i gofebau: dull treial', 'Gosod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar gynulliadau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar brotestiadau un person', 'Trosedd yn ymwneud â byw ar dir heb ganiatâd mewn cerbyd neu gyda cherbyd', ‘Diwygiadau i bwerau sy’n bodoli', a 'Canllawiau ar arfer pwerau'r heddlu mewn perthynas â thresmasu ar dir etc', i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno dau gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd y DU i chi eu hystyried. Mae Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn ddarn cymhleth a dadleuol o ddeddfwriaeth. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfuno'r hyn oedd yn dri Bil ar wahân wedi arwain at ddogfen sy'n cynnwys dros 179 o gymalau, 20 Atodlen a chyfanswm o 304 o dudalennau, ac roedd angen dadansoddi pob un ohonyn nhw yn fanwl. Rwyf wedi edrych ar y Bil yn ei gyfanrwydd ac mae rhai darpariaethau sy'n dod o fewn cymhwysedd y Senedd, sy'n gwneud newidiadau a fydd o fantais i Gymru. Fodd bynnag, mae darpariaethau hefyd yn y Bil o fewn cymhwysedd na ddylem eu derbyn, y mae rhai ohonynt yn achosion eithriadol o wastrodi hawliau pobl.
Rwyf wedi cyflwyno pedwar memorandwm ar wahân yn ystod y chweched Senedd mewn perthynas â'r Bil, ac roedd y rhain yn ymwneud â gwelliannau Llywodraeth y DU a gyflwynwyd yn ystod gwahanol gamau diwygio yn Senedd y DU. Y cymalau y cyfeiriaf atyn nhw heddiw yw rhifau'r cymalau fel y maen nhw'n ymddangos yn y Bil, a gyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2021. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith craffu ar y memoranda, a sylwaf fod y pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad arall ddoe. Daeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'r casgliad y dylwn i ofyn am gydsyniad y Senedd i gymalau 1 a 2, cymalau 7 i 22, cymalau 23 i 35, cymalau 36 i 38 a 40 i 42, a chymal 46, yn ogystal â'r gwelliant a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ar 4 Ionawr i gynyddu cosbau am ymlid ysgyfarnogod o fewn y Bil lle bernir bod y darpariaethau hynny o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Nid oedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn cytuno â barn Llywodraeth Cymru bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer cymalau 56 a 57 a chymalau 61 i 65. Fodd bynnag, am y rhesymau a nodir yng nghynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 4, credaf fod angen cydsyniad y Senedd ar y cymalau hyn. Mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ym mharagraff 9 yn cyfeirio at gymalau 54 i 55 a 59 i 63, ac mae hyn yn seiliedig ar fersiwn a gyhoeddwyd yn gynharach o'r Bil ac maen nhw yn anghywir. Rhifau'r cymalau cywir yw'r rhai yr wyf wedi cyfeirio atyn nhw ac a gyfeirir atyn nhw hefyd ym mharagraffau 34, 35, 39 a 41 o'r adroddiad.
Felly, Llywydd, trof at gynnig Rhif 1, sy'n ymwneud â chymalau yr wyf yn eu hargymell y mae'r Senedd yn cydsynio iddynt. Mae cymal 1 yn rhoi dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gyfamod yr heddlu a chyflwyno hyn i Senedd San Steffan. Mae cymal 2 yn cynyddu'r gosb o 12 mis i ddwy flynedd am ymosodiadau ar weithwyr brys, sy'n wrthun. Mae cymalau 7 i 22 ar y ddyletswydd trais difrifol sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau gydweithio i atal a lleihau trais difrifol, sydd bellach yn cynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol a ychwanegwyd o ganlyniad i welliant i'r Bil, a gefnogwyd gennyf yn llwyr. Ac rwyf yn cefnogi'r holl ddarpariaethau sy'n ymwneud â'r ddyletswydd trais difrifol, gan y byddant yn hwyluso ymateb lleol i helpu i atal a lleihau'r troseddau mwyaf difrifol a chyfrannu at ein darpariaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
A hoffwn ddweud fy mod i'n falch bod Llywodraeth y DU wedi ystyried pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch cymal 17. Yn dilyn trafodaethau rhyng-lywodraethol llwyddiannus, cyflwynwyd gwelliant y cytunwyd arno ynghylch ddrafftio cymal 17, gan ei gwneud hi'n ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn rhoi cyfarwyddyd i awdurdod datganoledig yng Nghymru. Yn flaenorol, dim ond cyn defnyddio pŵer i wneud cyfarwyddyd y bu'n ofynnol ymgynghori â Gweinidogion Cymru. Felly, roedd cael eu caniatâd yn welliant i'w groesawu.
Os symudaf ymlaen i gymalau 23 i 35, bydd adolygiadau o ddynladdiad drwy arfau tramgwyddus yn dwyn partneriaid diogelu ynghyd i gynnal adolygiadau ffurfiol ac yna gwersi i atal marwolaethau yn y dyfodol sy'n ymwneud ag arfau tramgwyddus, ac rwy'n falch y bydd Cymru'n gweithredu fel ardal arbrofol. Mae cymalau 36, 37, 38, 41, 42 a 43 yn gysylltiedig â thynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig, sy'n cyd-fynd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae gwelliant newydd i gynyddu cosbau am droseddau sy'n ymwneud ag anifeiliaid hela, ac ati, er mwyn diogelu ysgyfarnogod drwy atal potsio, a wnaed ar 4 Ionawr 2022, nad oes ganddo gymal penodedig, hefyd yn gymal yr wyf yn awgrymu ein bod yn cydsynio iddo.
Ac yn olaf, mae cymal 61 yn ymwneud â niwsans cyhoeddus ac yn amddiffyn unigolion rhag niwsans cyhoeddus pan fo niwsans yn creu risg o, neu'n achosi niwed difrifol i berson, gan gynnwys marwolaeth neu anaf personol. Felly, rwy'n cyflwyno cynnig Rhif 1 i'r Siambr ac yn gofyn i'r Aelodau gydsynio i'r cymalau hyn.
Cyn imi droi at yr ail gynnig, hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod darpariaethau yn y Bil yr ydym yn eu cefnogi, ond sydd y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Er enghraifft, y newidiadau yn y gyfraith i gyflwyno'r drosedd voyeuriaeth bwydo ar y fron. Mae troseddau voyeuriaeth a throseddau eraill yn aflonyddu, yn tanseilio urddas, hawliau a rhyddid person, ac mae'n iawn bod y gyfraith yn gwahardd ymddygiad o'r fath.
A, Llywydd, neithiwr, cytunwyd ar welliant yn Nhŷ'r Arglwyddi i ychwanegu cymal newydd at y Bil yn ymwneud â chasineb at fenywod fel trosedd casineb. Roedd hyn yn hwyr neithiwr, a byddaf yn cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach mewn perthynas â'r gwelliant hwn maes o law. Ond mae'r Bil hefyd yn gwneud newidiadau i orchmynion adsefydlu ieuenctid, sydd â'r potensial i sicrhau bod y broses gyfiawnder yn gweddu orau i anghenion unigol y plentyn, gan eu hatal rhag mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol a rhoi canlyniadau cadarnhaol, sy'n ddull sy'n cyd-fynd â'n glasbrint cyfiawnder ieuenctid.
Felly, trof yn awr at gynnig Rhif 2, sy'n ymwneud â chymalau yr wyf yn argymell nad yw'r Senedd yn cydsynio iddynt ac yn argymell bod Aelodau'r Senedd yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn, sef Rhif 2.
Cymal 47: er bod dedfrydu mewn llysoedd yn fater a gadwyd yn ôl, mae henebion, cofebau a diwylliant wedi'u datganoli. Bydd y newidiadau y mae'r Bil yn eu cyflwyno yn ei gwneud hi'n bosib i berson gael ei roi ar brawf yn Llys y Goron a chael ei garcharu am hyd at 10 mlynedd ac, mewn rhai achosion, am oes, dim ond am achosi difrod troseddol i gofeb gyda gwerth o lai na £5,000. Yn fy marn i, mae'r dull hwn yn annheg ac yn anghymesur.
Mae cymalau 56, 57 a 62 yn caniatáu i'r heddlu, mewn rhai amgylchiadau, osod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus, cynulliadau cyhoeddus a phrotestiadau un person. O'u hystyried yn ei gyfanrwydd, mae'r cyfyngiadau didostur y mae'r Bil yn eu gosod ar yr hawl i brotestio yn atgas, a gadewch imi fod yn glir: mae'r ffordd y mae'r Bil yn ystyried protestio yn gyfystyr â rheolaeth y wladwriaeth ac yn diddymu'r hawl sylfaenol i brotestio. Rydym yn parhau i ddweud wrth Lywodraeth y DU na ellir ac na ddylid goddef y mesurau y maen nhw yn eu cynnig mewn perthynas â phrotest. A chefais fy nghalonogi o weld yr wrthblaid yn Nhŷ'r Arglwyddi ddoe ac yn croesawu trechu'r cymalau sy'n rhoi pwerau newydd i gyfyngu ar brotest a'r rhai sydd wedi'u hanelu at grwpiau, fel, er enghraifft, Insulate Britain. Galwaf ar Lywodraeth y DU i gymryd y pryderon hyn o ddifrif a meddwl eto.
Symudwn ymlaen i gymalau 63 i 65. Nid yw dull Llywodraeth Cymru o reoli gwersylloedd diawdurdod wedi newid. Rydym yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau a buddsoddi ar gyfer darparu safleoedd awdurdodedig yn ddigonol ar gyfer ein cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, gan alluogi awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion llety cymunedau Sipsiwn a Theithwyr - yn rhai preswyl ac yn rhai teithiol. Mae'r maes gwaith hwn yn cael ei flaenoriaethu eto yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, sy'n cynnwys nod penodol ar fynd i'r afael yn well ag anghenion llety'r cymunedau hyn. Mae'r cymalau arfaethedig a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn canolbwyntio ar orfodi a throi pobl yn droseddwyr, sy'n tanseilio ac yn peryglu ffordd lled-nomadaidd o fyw Sipsiwn a Theithwyr. Rwyf wedi codi'r pryderon mawr hyn gyda Llywodraeth y DU ac wedi gofyn iddynt ailystyried y dull gweithredu yn y Bil i wersylloedd diawdurdod, gan fy mod yn disgrifio hyn fel dull dros ben llestri a fydd yn effeithio'n anghymesur ar aelodau o'n cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.
Felly, i gloi, Llywydd, rwyf felly'n cyflwyno cynnig Rhif 2 i'r Siambr, gan ofyn i'r Aelodau beidio â chydsynio i'r cymalau hyn.
Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i gyfrannu. Huw Irranca-Davies.
Diolch eto, Llywydd. Rydym wedi cyhoeddi tri adroddiad ar y pedwar memorandwm a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Hoffwn agor fy sylwadau drwy wneud rhai sylwadau cyffredinol iawn am ein profiadau o adrodd ar y memoranda hyn mewn perthynas â chylch gwaith ein pwyllgor. Bu'r Gweinidog yn myfyrio yn ei sylwadau agoriadol ar gymhlethdod y broses o gyflwyno Bil y DU hwn. Cytunwn â hynny. Nodwn hefyd o sylwadau'r Gweinidog y gellid gwneud mwy o welliannau mewn rhai meysydd, gan ychwanegu ymhellach at gymhlethdod craffu yn y Senedd hon. Ac eto, mae'r Bil hwn hefyd yn cyffwrdd â ffiniau datganoli, sy'n ychwanegu cymhlethdod pellach at y broses gydsynio. Felly, roeddem yn disgwyl i femorandwm cyntaf Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r cymhlethdod hwn yng nghyd-destun y caniatâd a geisir ac, yn unol â hynny, esbonio'n glir pam a'r amgylchiadau y gofynnwyd am gydsyniad ar eu cyfer. Ond, yn anffodus, nid oedd y memorandwm yn cynnwys yr wybodaeth honno; nid oedd yn rhoi digon o eglurder. Felly, roeddem wedi gofyn am yr wybodaeth yr oedd ei hangen arnom i ymgymryd â'n gwaith craffu drwy ohebiaeth.
Tynnodd ein hadroddiad cyntaf ym mis Hydref 2021 sylw at y materion hyn, a thynnodd ein hail adroddiad sylw at rai materion pellach gyda chywirdeb yr wybodaeth a gynhwysir ym memorandwm Rhif 2, ac roedd anawsterau amlwg hefyd o ran manylder gyda memorandwm Rhif 3, yr ymdriniwyd â nhw ym memorandwm Rhif 4. Felly, am y rheswm hwnnw, yn ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 4, a gyflwynwyd neithiwr, daethom i gasgliad a ystyrir, gobeithio, yn nodyn atgoffa parchus a thyner i'r Llywodraeth. Rydym wedi dweud o'r blaen fod darparu gwybodaeth amserol a chywir o fewn memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn gwbl sylfaenol i alluogi'r Senedd a'i phwyllgorau i graffu ar Lywodraeth Cymru a'i dwyn i gyfrif am ei defnydd o Filiau'r DU i wneud darpariaeth ddeddfwriaethol mewn maes datganoledig yn benodol.
Felly, cyn troi at sylwedd y darpariaethau sy'n destun cydsyniad, a gaf i ddim ond dweud, Gweinidog, rydym ni'n croesawu'n fawr y tabl a gynhwysir, yn llythyr y Gweinidog atom ar 7 Ionawr, sy'n nodi rhifo'r cymalau yn y Bil fel y'u cyflwynwyd ac yna fel y'u diwygiwyd? Gwelsom fod hyn yn ddefnyddiol iawn yn wir, fel y mae yn aml, oherwydd y cymhlethdod, y rhifau cymalau anodd eu dilyn wrth iddynt newid, wrth i Fil basio rhwng dau Dŷ Senedd y DU. Nawr, gan wybod bod Gweinidogion eraill yn gwrando'n frwd ar y sylwadau hyn, ac yn wir mae'r Cwnsler Cyffredinol, sydd yma heddiw, hefyd yn cymryd diddordeb brwd yn hyn hefyd, dim ond gobeithio y gall hyn ddod yn rhan reolaidd o femoranda atodol a gyflwynwyd gerbron y Senedd o ganlyniad i welliannau i Filiau'r DU. Byddai'n help mawr, felly diolch am hynny.
Nawr, gan droi at y ddau gynnig sydd ger ein bron, cytunwn fod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig 1, ac eithrio cymal 61 sy'n ymwneud â throsedd cyfraith gyffredin niwsans cyhoeddus. Ein barn ni fel pwyllgor, yn seiliedig ar ein cyngor cyfreithiol, yw nad oes angen cydsyniad y Senedd, gan ein bod o'r farn bod y ddarpariaeth y tu allan i'r prawf pwrpas datganoledig yn Rheol Sefydlog 29.1. Y rheswm am hyn yw mai prif ddiben y ddarpariaeth yw cynnal trefn gyhoeddus a lleihau aflonyddwch i aelodau'r cyhoedd yn y cyffiniau, ac mae trefn gyhoeddus yn fater a gadwyd yn ôl o dan Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Gan droi at gynnig Rhif 2, mewn perthynas â chymal 47 ynghylch difrod troseddol i gofebion a'r dull treialu, cytunwn fod angen cydsyniad y Senedd. Mae cymalau 56 a 57 o'r Bil yn diwygio adrannau o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 drwy ehangu'r amgylchiadau lle mae gan swyddogion yr heddlu'r pŵer i osod amodau ar orymdeithiau a chynulliadau cyhoeddus. Mae cymal 62 hefyd yn diwygio Deddf 1986 ac yn ymwneud â gosod amodau mewn perthynas â phrotestiadau un person. Mae'r rhain yn feysydd sydd, mewn cyd-destun polisi, yn ddadleuol iawn, ond ein cylch gwaith fel pwyllgor yw troi at eu priodoldeb cyfreithiol technegol. Ein barn ni yw nad oes angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymalau hyn, gan ein bod unwaith eto o'r farn bod y darpariaethau y tu allan i'r prawf diben datganoledig yn Rheol Sefydlog 29.1. Er bod y darpariaethau'n ymwneud â rheoli lefelau sŵn gormodol, prif ddiben y darpariaethau yw cynnal trefn gyhoeddus a lleihau aflonyddwch i aelodau'r cyhoedd yn y cyffiniau, ac fel y nodais, mater a gadwyd yn ôl yw trefn gyhoeddus o dan Atodlen 7A i Ddeddf 2006. Mae cymalau 63 i 65 yn ymwneud â gwersylloedd diawdurdod. Nid ydym o'r farn bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymalau hyn chwaith, oherwydd unwaith eto diben y darpariaethau hyn, waeth beth fo'r materion polisi, yw cynnal trefn gyhoeddus. Yn ein hisel swyddogaeth fel craffwyr cyfansoddiadol a chyfreithiol, mae gwahaniaeth barn cwrtais ond cyson rhyngom ni ar y mater hwn.
Nawr, yn olaf, gwnaeth ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 4 ddau argymhelliad. Roedd y cyntaf yn gofyn am eglurhad ar wybodaeth a gynhwysir ym memorandwm Rhif 3 yn ymwneud â nifer y gwelliannau y mae angen caniatâd arnynt. Rydym yn ddiolchgar am ymateb y Gweinidog i'r pwynt yma. Diolch. A sylwaf fod camgymeriad wedi digwydd wrth ddrafftio memorandwm Rhif 3, a ddylai fod wedi cyfeirio at 18 cymal sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd yn hytrach na'r 15 a nodwyd.
Roedd ein hail argymhelliad yn ymwneud â goblygiadau ariannol y Bil. Mae'r memorandwm cyntaf a memorandwm Rhif 2 yn nodi nad oes unrhyw oblygiadau ariannol i Gymru mewn perthynas â'r Bil. Fodd bynnag, mae memorandwm Rhif 3 a memorandwm Rhif 4 yn nodi
'y gall fod goblygiadau ariannol ond ni fydd hyn yn glir hyd nes y gweithredir y mesurau yn y Bil'.
Felly, fe wnaethom ofyn, fel pwyllgor, i'r Gweinidog egluro pam mae'r sefyllfa o ran goblygiadau ariannol wedi newid ac, er mwyn y Senedd eto, dywedaf ar goedd ein bod yn ddiolchgar am ymateb y Gweinidog ar y pwynt hwn. Sylwaf y dylai'r wybodaeth ynglŷn â'r ffaith y gallai fod 'goblygiadau ariannol' fod wedi'i chynnwys ym mhob un o'r memoranda a gyflwynwyd mewn perthynas â'r Bil.
A dyna natur gyflawn ein sylwadau mewn perthynas â hyn, Llywydd. Diolch yn fawr iawn.
Er y byddwn yn pleidleisio o blaid y ddau gynnig cydsyniad deddfwriaethol hyn ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd, rydym yn ymwybodol o'r sensitifrwydd dan sylw. Wrth wneud hynny, rydym yn cydnabod y datganiad yn adroddiad Rhif 2 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y Bil hwn bod Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod bellach yn fodlon bod y Bil yn darparu amddiffyniad a mesurau diogelu priodol o ran y rhyngweithio ag awdurdodau datganoledig Cymru a materion datganoledig eraill. Rydym hefyd yn cydnabod y datganiad yn adroddiad memorandwm Rhif 3 a 4 y pwyllgor ar y Bil hwn nad oedd y pwyllgor yn cytuno â Llywodraeth Cymru bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer nifer o gymalau a nodwyd oherwydd, yn eu barn nhw, maen nhw y tu allan i'r prawf diben datganoledig a nodir yn y Rheolau Sefydlog.
Yn eu sesiwn friffio ar gyfer y Bil hwn, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â throseddau difrifol a hyrwyddo system cyfiawnder teg, ac yn falch o weld mesurau yn y Bil sydd â'r nod o leihau'r defnydd cynyddol o gadw plant yn y ddalfa yn ogystal â mesurau i hyrwyddo cyfiawnder agored a darparu ar gyfer presenoldeb cyfieithydd iaith arwyddion yn ystod trafodaethau rheithgor. Fodd bynnag, nodwyd pedwar maes sy'n peri pryder ynghylch cydraddoldeb a hawliau dynol: cysylltiadau byw mewn achosion troseddol; protest a threfn gyhoeddus; gwersylloedd diawdurdod; a thynnu gwybodaeth ddigidol o ddyfeisiau symudol.
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi mynegi pryder y bydd y ddeddfwriaeth hon yn gwahaniaethu yn erbyn Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a ddiogelir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, tra hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswydd statudol i ddarparu safleoedd preswyl digonol, safleoedd teithio o ansawdd a mannau aros, neu i gosbi awdurdodau lleol lle na chyrhaeddir dyletswyddau statudol. Yn yr un modd, mae etholwyr wedi ysgrifennu yn datgan y bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn arwain at droi ein cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn droseddwyr ar y naill law gan eu cosbi ddwywaith am nad yw awdurdodau lleol Cymru wedi bodloni gofynion Deddf Tai (Cymru) 2014 eto ac wedi adeiladu digon o safleoedd ac wedi darparu rhwydwaith o safleoedd teithio a mannau aros. Mae'r cyfrifoldeb felly ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn.
Yn wahanol i'r Senedd hon yng Nghymru, ein Senedd ni, mae gan Senedd y DU brosesau craffu deuaidd aml-haenog cadarn, fel y gwelwyd yn y gyfres o bleidleisiau neithiwr yn Nhŷ'r Arglwyddi yn erbyn mesurau yn y Bil, a oedd yn cynnwys mesurau na fyddant yn cael eu hanfon yn ôl i Dŷ'r Cyffredin a phleidlais o blaid gwelliant dan arweiniad y Farwnes Newlove, aelod Ceidwadol, y cyfeiriwyd ati gan y Gweinidog—y Farwnes yw cyn Gomisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr—i wneud casineb yn erbyn merched yn drosedd casineb yng Nghymru a Lloegr. Felly, rhaid inni ymddiried yn ein cyd-aelodau yn Senedd y DU i wneud eu gwaith, yn union fel y disgwyliwn i bobl ymddiried ynom ni i wneud ein gwaith ni.
Mae eithafiaeth beryglus Llywodraeth bresennol y Torïaid yn San Steffan yn amlwg pan fydd yn annog Tŷ'r Arglwyddi i weithredu gyda'r penderfyniad a ddangosodd neithiwr, yn trafod hyd oriau mân y bore gan drechu cymal ar ôl cymal o'r hyn a ystyriwyd yn gynigion gormesol a chywilyddus y Llywodraeth, sy'n bygwth tanseilio hawliau sifil cyffredinol a hawliau sylfaenol. Llywydd, mae'n rhaid inni anfon neges yr un mor rymus o'r fan yma na fydd gennym ni unrhyw ran yn hynt Bil sy'n cynnwys mesurau didostur sydd, mewn llawer o achosion, yn hiliol, yn awdurdodol ac yn anghymesur, gan danseilio cydlyniant ein cymdeithas a'r gwerthoedd sy'n annwyl i ni, y mae ein democratiaeth yn dibynnu arnynt.
Am gynnig 1, mae Plaid Cymru unwaith eto am nodi ar y cofnod ein safbwynt mai Senedd Cymru ddylai ddeddfu mewn meysydd polisïau datganoledig, yn enwedig yn wyneb awydd digynsail Llywodraeth San Steffan i danseilio ein hawdurdod datganoledig, ein hunaniaeth fel cenedl, a'n hawl democrataidd i benderfynu yr hyn sydd o fudd i'n cymunedau ein hunain. Ni ddylwn gydsynio i hynny ar unrhyw achlysur. Ac o ran y Bil gwarthus hwn, rhaid inni wneud popeth posib i'w atal wrth iddo ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin.
Mae'n anwybyddu pwerau datganoledig, bydd yn ymyrryd yn ddifrifol ar bolisïau a gwasanaethau yng Nghymru, ac efallai'n creu costau ychwanegol mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, fel addysg carcharorion, gwasanaethau iechyd meddwl, mesurau i daclo camddefnydd cyffuriau, a fframwaith Llywodraeth Cymru i geisio gostwng nifer y rhai sy'n ymuno â'r system cyfiawnder troseddol. Rydym ni felly yn gwrthwynebu y ddau gynnig sydd ger ein bron, ond hoffwn fanylu ar ein gwrthwynebiad penodol i rai o'r cymalau yng nghynnig 2.
Fel nifer ohonoch chi, rwyf wedi mynychu gorymdeithiau yn galw am hawliau cyfartal, neu am newid i'r drefn, ac fel nifer ohonoch chi, rwy'n cofio bod yn rhan o'r protestiadau oedd yn galw am ddemocratiaeth i Gymru a sefydlu Senedd i Gymru. Mae'n draddodiad ac yn hawl sy'n atseinio drwy ein hanes, ac mae nifer a erlynwyd yn y gorffennol am eu rhan mewn ymgyrchoedd bellach yn cael eu clodfori fel penseiri ein hawliau a'n sefydliadau. Ac fel nifer ohonoch, rwy'n gwybod fy hanes, ac yn deall grym symbolaidd a dylanwad ymarferol protest yn y broses o greu cyfiawnder cymdeithasol a newid democrataidd yng Nghymru, Prydain a'r byd.
Roedd hi'n ddiwrnod Dr Martin Luther King ddoe. Ystyriwch am eiliad hanes heb Selma, heb y march on Washington. Ni allwn glodfori Dr King neu Nelson Mandela, neu'r syffrajéts, a chaniatáu mesurau a fyddai'n mygu hawl ein pobl ein hunain i alw am newid. Mae ymgais y Bil i dawelu yn llythrennol llais gwrthwynebiad nid yn unig yn groes i'n hawliau dynol sylfaenol, ond hefyd yn gam tuag at awtocratiaeth.
Fe hoffwn i droi'n awr at y ffordd y mae Rhan 4 o'r Bil yn targedu pobl Roma, Sipsiwn a Theithwyr yn fwriadol. Mae darpariaeth yn y Bil sy'n troi tresmasu o fod yn drosedd sifil i fod yn drosedd, gan ganiatáu i'r heddlu arestio pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac atafaelu eu cartrefi, eu cerbydau, os ydynt yn stopio mewn mannau nad ydynt wedi'u dynodi ar eu cyfer. O ystyried na all safleoedd awdurdodedig a mannau aros letya'r bobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr sydd eu hangen, mae hon yn weithred ffiaidd ac yn ymosodiad ffiaidd ar leiafrif sy'n agored i niwed. Gyda'u cartrefi wedi'u hatafaelu a'u rhieni'n cael eu harestio, mae plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn debygol o gael eu cymryd i ofal. Mae clymblaid o gynrychiolwyr ac eiriolwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru ac sy'n gysylltiedig â nhw wedi datgan bod y Bil yn cynrychioli un o'r bygythiadau mwyaf difrifol i hawliau sifil yn hanes diweddar, gan roi pwerau newydd ysgubol i danseilio ffordd nomadaidd o fyw Sipsiwn a Theithwyr.
Gofynnaf inni wrando ar y lleisiau hyn. Ein dyletswydd ni fel cynrychiolwyr pobl Cymru yw gwneud hynny. Bydd hyn nid yn unig yn tanseilio deddfwriaeth a pholisi presennol Cymru; nid yw'n cael ei gefnogi gan y rhan fwyaf o'r heddlu chwaith. Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a Chymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi dweud mai'r diffyg llety digonol a phriodol i Sipsiwn a Theithwyr yw prif achos achosion o wersylla anawdurdodedig a datblygiad anawdurdodedig gan y grwpiau hyn. Nid yw'r mesurau yn y Bil hwn yn ymdrin â'r prif fater hwnnw, sef diffyg safleoedd teithio a phreswyl priodol. Fel y clywsom gan Mark Isherwood, gellir a dylid gwneud mwy i sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru yn cyflawni eu dyletswydd statudol i ddarparu safleoedd a mannau aros digonol, yn hytrach na throi teuluoedd nomadaidd yng Nghymru yn droseddwyr, sy'n cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosib.
Gallwn fynd ymlaen i fanylu ar ein gwrthwynebiad i nifer o gymalau eraill y Bil maith hwn, sy'n mynd i effeithio'n andwyol ac yn anghymesur ar leiafrifoedd, ar fenywod, ar blant, ar ein hawliau sifil, ac a fydd yn sicr o waethygu'r anghydraddoldebau presennol yn ein system cyfiawnder troseddol. Ond fe wnaf i gloi drwy ddatgan bod y Bil yn enghraifft arall o pam mae angen i ni ddatganoli cyfiawnder i Gymru. Mae datganoli pwerau dros gyfiawnder yn hanfodol er mwyn darparu system gyfiawnder decach, mwy dyngarol a mwy atebol, a fydd ag anghenion, gwerthoedd a budd pobl Cymru wrth ei chalon. Diolch.
Rwy'n cytuno yn llwyr â'r sylw olaf y mae Sioned Williams newydd ei wneud yn y fan yna. Mae Mark Isherwood yn anghywir pan yw'n sôn am natur ddeuaidd Senedd y DU. Wrth gwrs, mae'n ddeuaidd o ran ei natur, ond nid yw o ran deddfu, pan wneir amrywiaeth eang o welliannau ar ôl i Dŷ'r Cyffredin eisoes ystyried y Bil. Mae hynny'n gam-drin proses, a'r unig reswm y bydd Aelodau Seneddol yn cael pleidlais ar rai o'r cymalau hyn yn awr yw oherwydd i'r Arglwyddi eu gwrthod neithiwr. Nid rhannu deddfwrfa yn ddwy siambr yw hynny ar ei orau, mae'n gam-drin Gweithredol ar ei waethaf, ac rwy'n credu y dylem ni fod yn gwbl glir am hynny.
Mae hwn yn Fil gwael. Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud, a byddaf yn pleidleisio dros y cynnig cyntaf ar y mater hwn heno, oherwydd mae pethau da mewn unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth. Ond mae'n gyfraith wael—mae'n ddrwg mewn egwyddor, mae'n ddrwg yn ymarferol, mae'n ddrwg mewn proses, mae'n ddrwg mewn gwleidyddiaeth, ac mae'n ddrwg mewn termau athronyddol. Ni ddylem ni fod yn ymdrin â hyn. A chan Lywodraeth Geidwadol, gadewch imi ddweud, dyma'r darn mwyaf angheidwadol o ddeddfwriaeth y gallaf ei chofio.
Rydym ni wedi clywed, Llywydd—ac rydych chi wedi bod yn eithriadol o amyneddgar dros y misoedd diwethaf wrth wrando arnynt—Aelod Ceidwadol ar ôl Aelod Ceidwadol yn sgrechian am osod cyfyngiadau, weithiau rhai eithaf bach eu natur, ar adegau eraill yn fwy ymwthiol, wedi'u rhoi ar waith dros dro i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Rydym wedi clywed Aelod Ceidwadol ar ôl Aelod Ceidwadol yn dod yma i siarad am osod y cyfyngiadau hyn. Ac ar drawiad y cloc, am hanner nos, heb unrhyw ddadl yn y Siambr etholedig, mae arnyn nhw eisiau tynnu hawliau dynol sylfaenol oddi ar bawb yn y wlad hon, ac maen arnyn nhw eisiau gwneud hynny'n barhaol, heb unrhyw apêl, heb unrhyw awdurdodaeth, a heb unrhyw ymgais i adolygu'r math hwnnw o ddeddfu. Mae'n anghywir o ran proses, mae'n anghywir mewn egwyddor, ac mae'n anghywir yn y bôn. Nid dyna sut y dylid llywodraethu'r wlad hon. Mae hwn yn ymosodiad ar ein hawl ddemocrataidd i brotestio yn erbyn polisi Llywodraeth yr ydym yn anghytuno ag ef.
Soniais am y Llywydd o'r blaen; mae hi a minnau wedi treulio peth amser yn eistedd ar strydoedd a ffyrdd gyda'n gilydd yn y gorffennol. Roeddem yn creu anghyfleustra enfawr, ac, rwy'n awgrymu, roeddem ni'n swnllyd. Mae protest yn anghyfleus, mae protest yn swnllyd, ac mae protest yn ddemocratiaeth ar waith. A gadewch imi ddweud wrthych chi, rwyf wedi dioddef anghyfleustra noson yn y celloedd ar sawl achlysur o ganlyniad i'm safiad yn erbyn Llywodraeth awtocrataidd, yn fy marn i. Mae gennyf hawl i wneud hynny, ac rwy'n derbyn canlyniadau hynny. Allwch chi ddim cael Senedd heb brotest, ac ni allwch gael gwleidyddiaeth heb brotest. Mae protest yn gymaint rhan o'n system wleidyddol â phan fyddwn yn pleidleisio ymhen ychydig funudau.
Mae'r gyfraith hon yn anghywir. Mae'n anghywir yn ymarferol ac mae'n anghywir mewn egwyddor. Mae'n ymosodiad ar ein hawliau sylfaenol. Nid yw'n ddarn o ddeddfwriaeth Brydeinig, nid yw'n ddarn o ddeddfwriaeth Geidwadol. Mae'n ymosodiad ar ryddid sylfaenol. Byddaf yn pleidleisio dros gynnig 1, cyn i'n chwipiaid fy ffonio. Ond gadewch imi ddweud hyn: mae gen i galon drom iawn ar y mater hwn. Dylem fod yn unedig fel gwleidyddion, yn unedig ar draws pleidiau gwleidyddol, gan ddweud bod hawl pobl i wneud ein bywydau'n anghyfforddus yn bwysicach na'n hawl i gadw pobl yn dawel, ac i wneud hynny yn heddwch hanner nos. Nid yw hynny'n ffordd o ddeddfu. Nid yw'n ffordd o lunio deddfwriaeth ac nid dyna'r gyfraith y dylem ni fod yn ei gweithredu.
Mae torri'r gyfraith yn rhan bwysig o brotest, os yw'r mater yn ei haeddu. Ac mae llawer o'r bobl sy'n torri'r gyfraith yn achos cyfiawnder cymdeithasol yn dod yn brif weinidogion neu lywyddion yn y pen draw, felly mae angen inni feddwl am hynny'n ofalus iawn. Diolch i Lywodraeth Cymru am ganiatáu i'r memorandwm gael ei rannu'n ddwy bleidlais ar wahân. Rwy'n fodlon cydsynio i rai cynigion cwbl ddi-nod sy'n diogelu cymunedau.
Mae Rhan 4, ar y llaw arall, sy'n effeithio ar y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn ffiaidd, oherwydd mae'n bwriadu gwneud tresmasu gyda'r bwriad o breswylio'n drosedd, gan fynd ati'n fwriadol i wahaniaethu yn erbyn Sipsiwn, Roma a Theithwyr, grwpiau ethnig sydd neu a ddylai gael eu diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn hytrach, bwriad Rhan 4 o'r Bil yw eu herlyn am eu ffordd o fyw. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, byddai'n golygu bod teuluoedd heb unrhyw le cyfreithiol ar gael i barcio eu cerbydau yn cael eu cartrefi wedi eu hatelfaelu, gan eu amddifadu o'u dillad gwely, eu cyfleusterau coginio a'r modd i'w cadw'n gynnes, yn ogystal â'u cludiant a'u hoffer, a fyddai'n eu hatal rhag ennill eu bywoliaeth. Rwy'n gobeithio na fydd Aelodau'r Senedd yn cydsynio i'r rhan warthus hon o'r Bil heddlu hwn, ond nid oes gennyf fawr o obaith y bydd Llywodraeth bresennol y DU yn gwrando o gwbl ar y pryderon hyn. Mae'n debygol iawn y byddant yn cyflwyno'r cynigion hyn drwy Dŷ'r Cyffredin fel rhan o'u hymgyrch 'achub ci mawr' i dynnu sylw o'u harferion celwyddog, afreolus.
Mae hefyd yn ysgytwad i Lywodraeth Cymru. Mae Rhan 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol a dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i asesu angen a darparu darpariaeth breswyl a theithio ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal. Roeddwn yn ymwneud â chraffu ar y ddeddfwriaeth hon, felly cofiaf yn glir y sicrwydd gan y Gweinidog ar y pryd, Carl Sargeant, y gwneid Rhan 3 o'r Ddeddf yn rhywbeth parhaol. Felly, Gweinidog, pa awdurdodau lleol sy'n darparu digon o safleoedd preswyl, gyda mynediad i ysgolion, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill, heb sôn am ddigon o leoedd aros, er mwyn i gymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma allu byw eu bywydau yn gyfreithlon?
Wyth mlynedd ar ôl Deddf tai 2014, rwy'n credu bod tri awdurdod lleol o hyd sydd eto i ddarparu unrhyw safleoedd preswyl o gwbl, ac mae'n rhaid i hynny newid. Yr esgusodion llipa a glywsom y llynedd gan yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd, sy'n dal i fod yn gynghorydd yn sir Ddinbych, nad oes unman yn sir Ddinbych gyfan sy'n addas naill ai ar gyfer aros neu ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr parhaol—nid yw hynny'n gredadwy. Mae'n fethiant gwarthus o ran arweinyddiaeth. A hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw unrhyw ymdeimlad o ddyletswydd gyhoeddus, efallai y byddan nhw'n cael eu hysbrydoli gan y sylweddoliad, os bydd Sipsiwn a Theithwyr yn mynd yn anghenus, lle'r awdurdodau lleol fydd gofalu am eu plant gyda'r holl ofid a chostau a ddaw yn sgil hynny.
Gwyddom nad yw'r heddlu'n awyddus i weithredu mesur o'r fath. Roedd pedwar o bob pum heddlu ym Mhrydain yn gwrthwynebu'r cynigion hyn yn yr ymgynghoriad yn 2018, gan ddweud bod y gyfraith bresennol yn gymesur ac yn ddigonol i ddelio â gwersylloedd diawdurdod sy'n achosi niwsans. Maen nhw'n gwrthwynebu troseddoli'r gymuned hon ac felly y dylem ninnau. Nid bai'r cymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma yw nad oes unrhyw le cyfreithiol i barcio; methiant awdurdodau lleol—yn lleol ac yn genedlaethol—yw gweithredu. Hoffwn wybod sut fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn erbyn awdurdodau lleol Cymru sy'n parhau i anwybyddu eu rhwymedigaethau lleol wrth inni bleidleisio yn erbyn y mesur gwarthus hwn.
Diolch, Weinidog a diolch hefyd i Huw Irranca-Davies am ei waith a gwaith ei bwyllgor hefyd.
Mae hwn yn gyfraniad byr iawn, oherwydd cytunaf yn llwyr â'r ddau gyfraniad diwethaf. Fe hoffwn gytuno'n arbennig â chyfraniad Alun Davies. Mae'r Bil hwn yn niweidiol ac yn tanseilio ein hawl i brotestio. Mae rhannau helaeth o'r Bil 300 tudalen yn ddinistriol ac yn ddidostur ac yn tanseilio cyfreithiau sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu pobl y mae angen mesurau diogelu arnynt, er enghraifft o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, a Deddf Trefn Gyhoeddus 1986. Mae'r hawl i ymgynnull a phrotestio'n heddychlon yn hawl ddynol sylfaenol ac mae bob amser wedi bod yn rhan hanfodol o'n cymdeithas ddemocrataidd. Bygwth gwanhau gallu pobl i herio'r Llywodraeth, unrhyw Lywodraeth, yw gweithred unbeniaid a gormeswyr, nid democratiaid. Sefydlwyd y Senedd hon ar sail tryloywder, atebolrwydd, cydraddoldeb a chyfranogiad i bawb mewn cymdeithas. Mae'r Bil hwn wrth wraidd yr egwyddorion hynny, a chredaf y dylai'r Senedd hon wrthod cydsyniad ar gyfer y Bil peryglus hwn. Diolch.
Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ei hagwedd at y materion hyn, y gwaith y mae hi wedi'i wneud ar y Bil hwn, o ran sut y byddai'n effeithio ar Gymru a chymunedau yng Nghymru, ac yn gwahanu ein hystyriaeth heddiw i'r ddau gynnig. Hoffwn gefnogi atal cydsyniad o ran cynnig 2 ac am lawer o'r rhesymau yr ydym ni eisoes wedi'u clywed, Llywydd.
Ac o ran Rhan 4, hoffwn, fel y soniodd Jenny Rathbone, ac fel y mae eraill wedi sôn, ganolbwyntio ar yr effaith ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, oherwydd byddai'n effaith ddifrifol iawn yn wir. Gwyddom eisoes fod ffordd o fyw'r bobl hyn, dros nifer o flynyddoedd, wedi'i gwneud yn anodd ac wedi'i herydu gan drefoli graddol, diffyg mannau aros, a diffyg darpariaeth safleoedd angenrheidiol fel y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato'n gynharach, unwaith eto. Mae'n brawf o gymdeithas a gwladwriaeth a gwlad, rwy'n meddwl, Llywydd, na ddylem oddef ond annog a hwyluso gwahanol ffyrdd o fyw. Mae gan bobl hawl i fyw'n wahanol, yn wahanol i'r mwyafrif, yn wahanol i'r norm. Dylid parchu a deall hynny a'i hwyluso. Ac nid yw hynny'n wir yng Nghymru ar hyn o bryd, a gwyddom fod gennym ni rywfaint o waith i'w wneud i roi trefn ar ein tŷ ein hunain o ran darparu safleoedd, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol.
Ond gwyddom hefyd y byddai'r ddeddfwriaeth hon, fel y'i cynigiwyd, yn gwneud y sefyllfa honno'n llawer gwaeth. Byddai'n troi pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn droseddwyr pan fyddan nhw'n stopio yn rhywle heb ddewis cyfreithiol arall i'w defnyddio yn yr ardal honno, a byddai'n caniatáu i awdurdodau lleol atafaelu eu cartrefi ac atafaelu cerbydau. Felly, byddai hynny'n atal teuluoedd rhag byw fel y maen nhw'n byw ar hyn o bryd a chael to uwch eu pen ar adeg benodol, a byddai'n eu hatal rhag cael y modd i arfer eu bywoliaeth ar adeg benodol. Ac eisoes mae'r teuluoedd hyn yn dioddef cryn anfantais o ran darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, yn economaidd ac yn gymdeithasol, a byddai hynny'n cael ei wneud yn llawer gwaeth gan y mesurau didostur hyn, a fyddai, ar amrantiad, yn caniatáu atafaelu cartrefi a'r modd o ennill bywoliaeth.
Mewn gwirionedd, byddai cyfres ddifrifol iawn o ganlyniadau yn dilyn os caniateir i'r ddeddfwriaeth hon ddod i rym yng Nghymru. A byddai'n mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru dros flynyddoedd lawer a deddfwriaeth yr ydym ni wedi'i deddfu yma yng Nghymru drwy'r Cynulliad a'r Senedd. Ac er bod diffygion, fel y dywedais i eisoes, o ran darparu safleoedd, gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n fawr i weithio gydag awdurdodau lleol i unioni'r diffygion hynny, ac y byddai hynny, unwaith eto, yn cael ei wneud yn llawer anoddach pe bai'r deddfiadau hyn yn dod i rym yng Nghymru. Felly, rwy'n llwyr gefnogi safbwynt y Gweinidog a'r rhai sydd wedi gwrthwynebu cynnig 2 yn y ddadl hon heddiw, Llywydd, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n pleidleisio yn unol â hynny.
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl nawr—Jane Hutt.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau grymus iawn i'r ddadl hon? A gaf i ddechrau, serch hynny, drwy ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eich adroddiadau ac ystyriaeth eich aelodau o'r darn cymhleth hwn o ddeddfwriaeth, a'ch cyfraniad y prynhawn yma? Rydw i, fel y dywedodd y Cadeirydd—Huw Irranca-Davies—wedi ymateb i bryderon a godwyd yn sylwadau agoriadol Huw Irranca-Davies, ac rwy'n ddiolchgar am gydnabod nid yn unig gymhlethdod y Bil, ond hefyd y ffyrdd yr ydym ni efallai wedi ymateb mewn modd fydd o gymorth, er enghraifft gyda'r tabl a gyflwynwyd ar 7 Ionawr. Mae'n ddefnyddiol dysgu o anogaeth ac ymateb y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y materion cymhleth iawn hyn.
Ond heddiw rydym yn ystyried y cymalau hynny sydd wedi'u hasesu gan Lywodraeth Cymru fel rhai sy'n effeithio ar faterion datganoledig, ac mae'n effaith ar faterion datganoledig sydd, yn ein barn ni, o fewn cymhwysedd y Senedd. Rydym yn cydnabod, gyda llawer ohonyn nhw, y rhan fwyaf o'r cymalau hyn, fy mod yn argymell bod y Senedd yn cydsynio, gan eu bod yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau, a dyna'r mater o ran yr effaith ar ddatganoli, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yng Nghymru. Ond rwyf hefyd wedi bod yn glir iawn heddiw, Llywydd, fod rhannau o'r Bil sydd o fewn cymhwysedd sy'n llechwraidd, ac sy'n effeithio'n negyddol ar hawliau pobl. Mae clywed gan Aelodau heddiw wedi bod yn bwysig cydnabod a chymeradwyo'r safbwynt yr wyf wedi'i arddel.
Felly, croesawaf yn fawr drechu'r cymalau sy'n ymwneud â chyfyngu ar brotest yn Nhŷ'r Arglwyddi ddoe, ac rwy'n diolch i Sioned Williams am eich cyfraniadau grymus i'r perwyl hwnnw. Byddaf yn parhau i bwysleisio i Lywodraeth y DU na ellir ac na ddylid goddef y mesurau y maent yn eu cynnig mewn perthynas â phrotest. Fel y mae Aelodau wedi dweud heddiw, rhaid inni roi'r hawl i bobl leisio eu barn mewn protest heddychlon mewn ffordd sy'n cadw at y gyfraith. Fel y mae Aelodau hefyd wedi dweud heddiw, rydym ni, cymaint ohonom ni, wedi gweld hynny fel bywyd ein gwleidyddiaeth, o'n lleisiau, a'r ffordd y gallwn alluogi pobl i fynegi hynny sy'n allweddol i fywyd ein democratiaeth, fel y gwelwn ar risiau ein Senedd, fel y gwelwn yn y gorymdeithiau, y protestiadau, y martsio, y gwyddom eu bod yn ymwneud â chryfder y safbwyntiau yr ydym ni wedyn am ymateb iddynt.
Ond hefyd, byddwn yn dweud 'diolch' eto wrth Jenny Rathbone, Jane Dodds, wrth Sioned Williams ac wrth John Griffiths am y safbwyntiau, y pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud, am y ffyrdd y mae'r Llywodraeth yn ceisio, fel y dywedais i, yn mynd dros ben llestri gyda gwersylloedd diawdurdod. Rydym yn gwrthwynebu'n sylfaenol troi cymunedau Sipsiwn/Teithwyr/Roma yn droseddwyr. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae'n groes i bob agwedd ar ein strategaeth 'Teithio Ymlaen', ac rwy'n diolch i chi, Jenny, wrth gwrs, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma. Mae hyn yn ymwneud â sut y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol weithredu a chyflawni'r Ddeddf, ac wrth gwrs, yn Neddf Tai 1985 mae'n ddyletswydd gyfreithiol i asesu angen, yn breswyl ac yn deithiol. Gwn fod arfer da ledled Cymru ymhlith ein hawdurdodau lleol, a'r arfer da hwnnw y mae'n rhaid ei gyflawni ym mhob cymuned ar gyfer ein cymunedau Teithwyr/Sipsiwn/Roma. Felly, diolch eto am roi'r cyfle imi fynegi hynny.
Hoffwn ddiolch hefyd i Alun Davies am ei gyfraniad heddiw. Rydych chi eto, Alun, wedi amlygu diffygion dwfn y ddeddfwriaeth hon. Mae Jane Dodds yn ei alw'n 'niweidiol'. Dyna pam y collodd y Llywodraeth 14 pleidlais yn Nhŷ'r Arglwyddi ar fanylion y Bil hwn, gan ychwanegu at bum gorchfygiad blaenorol mewn dadleuon cynharach, a chawsant eu trechu neithiwr o 261 i 166 o bleidleisiau.
Felly, mae'n ddeddfwriaeth gymhleth. Rydym wedi ymdrin â hi mewn ffordd benodol y prynhawn yma. Gobeithio y byddwch yn awr yn cefnogi cynnig Rhif 1, sy'n cynnwys cymalau rwy'n argymell cydsynio iddynt, ac fe'ch anogaf i wrthod cynnig Rhif 2, sy'n cynnwys y cymalau yr wyf yn argymell peidio â chydsynio iddynt. Ac rwy'n annog y Ceidwadwyr Cymreig i ymuno â ni i atal cydsyniad, gan gydnabod yn arbennig y sylwadau y mae Mark Isherwood wedi'u gwneud am yr effaith andwyol y gallai'r cymal 4 penodol hwn ei chael mewn perthynas â'n cymunedau Sipsiwn/Teithwyr/Roma yma yng Nghymru. Diolch yn fawr, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly byddwn ni'n gohirio'r eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn nesaf, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A chyn inni symud ymlaen i'r bleidlais honno, rwyf am alw ar Janet Finch-Saunders i wneud datganiad o fuddiant ôl-weithredol.
Diolch, Llywydd. Yn ystod fy nghwestiwn, fy nghwestiwn atodol, i'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw, ac wrth fyfyrio am y peth, rwy'n credu y byddai wedi bod yn briodol imi gyfeirio Aelodau at fy natganiad o fuddiant. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i wneud hynny'n awr, a diolch yn fawr iawn i chi.
Diolch, Janet Finch-Saunders. A, gan mai dyma'r ail wythnos y mae angen i mi wneud hyn a galw am ddatganiadau o fuddiant ôl-weithredol—nid chi yr wythnos diwethaf, Janet, rhywun arall oedd wrthi bryd hynny—mae angen imi atgoffa'r holl Aelodau, os ydych chi'n gynghorydd neu os ydych chi'n berchen ar fusnes ac os yw eich cwestiynau neu'ch datganiadau yn cyfeirio mewn unrhyw ffordd at y materion hynny, yna cofiwch eich datganiad o fuddiant—cofiwch eich bod yn gynghorydd neu eich bod yn berchen ar fusnes—a gwnewch y datganiadau hynny yn ystod eich cyfraniad. Nid wyf am ddatblygu arfer o ganiatáu eitem ar ddatganiadau o fuddiant ôl-weithredol ar ddiwedd pob Cyfarfod Llawn. Felly, gobeithio mai chi fydd yr olaf y bydd angen i mi ei alw ar y sail honno, Janet.
Iawn, nawr fe symudwn ni ymlaen a chymryd seibiant byr cyn i ni gynnal y bleidlais.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:57.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:59, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 9, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, cynnig 1. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig hwnnw a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.
Eitem 9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 42, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 10 sydd nesaf, a'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, cynnig 2, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.
Eitem 10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 2, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Dyna ddiwedd ar y pleidleisio felly, a diwedd ar ein gwaith am y dydd heddiw. Prynhawn da i chi i gyd.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:01.