Y Cyfarfod Llawn

Plenary

08/12/2021

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Dirprwy Lywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, hoffwn nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw. Nodir y rhain ar yr agenda. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn gyntaf gan Samuel Kurtz.

Ansawdd Dŵr Mewndirol

1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd dŵr mewndirol yng Nghymru? OQ57333

Mae buddsoddiad, sbardunau deddfwriaethol a fframwaith rheoleiddio cadarn wedi arwain at 42 y cant o'n dyfroedd mewndirol yn cyflawni statws ecolegol da. Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd dŵr ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae angen inni ddefnyddio dull dalgylch integredig, gan ganolbwyntio ar gydweithredu amlsectoraidd ac atebion ar sail natur.

Diolch yn fawr, Weinidog, a phrynhawn da. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r gwelliannau diweddar a fabwysiadwyd ym Mil Amgylchedd y DU i wella ansawdd dŵr mewndirol yn Lloegr, yn enwedig y ddyletswydd gyfreithiol a osodir ar gwmnïau dŵr i leihau'n gynyddol effaith gollyngiadau a ganiateir ac nas caniateir o orlifoedd carthffosiaeth cyfunol, a elwir hefyd yn CSOs. Pe bawn i wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy newis ym mhleidlais cynnig deddfwriaethol yr Aelodau, roeddwn yn bwriadu cyflwyno Bil dyfrffyrdd mewndirol—deddfwriaeth ddrafft sy'n ymdrechu i gael afonydd, moroedd a llynnoedd glanach yma yng Nghymru. Gyda hynny mewn golwg, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i osod dyletswydd ar gwmnïau dŵr i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw carthffosiaeth yn cael ei gollwng i'n nentydd a'n hafonydd ac i gynyddu nifer y dyfroedd ymdrochi mewndirol yng Nghymru sy'n cyflawni statws 'da' neu 'ragorol'?

Wel, credaf fod un neu ddau o gamdybiaethau yn y fan honno. Y gyntaf yw drysu Lloegr a Chymru, sy'n broblem gyffredin iawn ar y meinciau gyferbyn. Mae Llywodraeth y DU wedi deddfu i osod targedau i gwmnïau dŵr yn Lloegr leihau gollyngiadau carthffosiaeth ac ansawdd dŵr. Nid yw'r dystiolaeth yn cynnal y rhagdybiaeth a'r canfyddiad cyffredin ar y meinciau gyferbyn mai dyna yw prif achos ansawdd dŵr gwael yng Nghymru.

Rydym wedi gwneud cyfres o ddarnau o waith, gan gynnwys yr asesiadau o gydymffurfiaeth â thargedau ffosffadau, y sylwaf fod yr Aelod wedi'i wrthwynebu, ac yn wir, fe gyhuddodd Blaid Cymru o fradychu ffermwyr Cymru drwy roi'r gorau i'w gwrthwynebiad iddynt. Felly, mae ei ddiddordeb sydyn mewn ansawdd dŵr mewndirol yn eithaf diddorol. Credaf y byddai'n well iddo pe bai'n edrych o ddifrif ar yr hyn a wnawn i wella ansawdd dŵr y dalgylch cyfan i sicrhau ein bod yn deall achosion y llygredd a'n bod yn gallu eu hatal yn y ffynhonnell yn hytrach na gwneud sylwadau cyffredinol nad ydynt o unrhyw gymorth.

Un o'r problemau mawr mewn perthynas ag ansawdd dŵr mewndirol yw gollyngiadau i afonydd, sydd wedyn yn mynd i mewn i lynnoedd. Pryder difrifol a godwyd gyda mi gan fy etholwyr yw gollyngiadau Dŵr Cymru i mewn i afon Tawe yng ngwaith trin dŵr gwastraff Trebannws yn etholaeth Castell-nedd, sy'n effeithio ar ddŵr yn fy etholaeth innau, gan fod y dŵr o Drebannws yn llifo i lawr ac i mewn i'r môr yn eich etholaeth chi, Weinidog. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Dŵr Cymru ynghylch gollyngiadau i afonydd?

Ie, diolch, Mike Hedges. Fel y gŵyr Mike Hedges, mae gennym gynllun gorlifiant da iawn, sy'n ateb naturiol yn ei etholaeth ef, rwy'n credu, ar y pen uchaf, sydd o fudd i fy etholaeth innau. Ac mae honno'n enghraifft dda iawn o ddulliau dalgylch, gan fod yr afon, yn amlwg, yn llifo drwy nifer fawr o wahanol ardaloedd yng Nghymru. Mae'n bwysig iawn sicrhau felly fod gennym atebion cynaliadwy ar sail natur i ddargyfeirio, fel y dywed, cymaint o ddŵr wyneb â phosibl o'r systemau carthffosiaeth yn y lle cyntaf er mwyn osgoi'r gorlifo y mae'n sôn amdano.

Rydym wedi rhoi nifer o gamau i fynd i'r afael â gollyngiadau o ganlyniad i orlifiant. Mae hyn yn cynnwys gwneud systemau draenio cynaliadwy, neu SuDS, yn orfodol ar bron i bob datblygiad adeiladu newydd. Diben hyn yw lleddfu pwysau ar y rhwydwaith drwy ddargyfeirio ac arafu pa mor gyflym y mae dŵr wyneb o'r fath yn mynd i mewn i'r system garthffosiaeth a bydd yn helpu i sicrhau bod ein systemau gorlifiant stormydd yn cael eu defnyddio fel dewis olaf yn unig.

Wrth inni siarad, mae'r cwmnïau dŵr yn paratoi cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar y flwyddyn nesaf. Bydd y cynlluniau'n darparu mecanwaith i gwmnïau dŵr, awdurdodau lleol a pherchnogion tir weithio gyda'i gilydd i ddatblygu rhwydwaith dŵr gwastraff gwydn a fforddiadwy i nodi blaenoriaethau ar sail tystiolaeth gyfer buddsoddi.

Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda Dŵr Cymru. Deallaf eu bod wedi ymchwilio i orlifiant cyfunol sy'n gollwng yn sylweddol i Afon Tawe fel rhan o'u hymchwiliadau i'r fframwaith asesu gorlifiant stormydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r cwmnïau dŵr i sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei dargedu'n briodol. Maent hefyd yn sicrhau bod atebion ar sail natur, a fydd yn lleihau gollyngiadau o ganlyniad i orlifiant ac yn sicrhau buddion amgylcheddol a chymdeithasol ehangach, yn cael eu hystyried wrth gynllunio'r rhwydwaith.

13:35
Tyrbinau Gwynt

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw ar gyfer tyrbinau gwynt yng Nghymru? OQ57313

Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn nodi 10 ardal sydd wedi'u rhag-asesu ar gyfer datblygiadau ynni gwynt o arwyddocâd cenedlaethol. Ar hyn o bryd, mae 10 datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol ar y gweill o fewn neu'n rhannol o fewn yr ardaloedd a rag-aseswyd. Mae wyth ar y cam cyn ymgeisio, mae un ar y cam hysbysu, ac mae un ar y cam adrodd.

Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, mae adroddiad dadansoddi gan RenewableUK Cymru wedi nodi, pan fo cyfyngiadau gofodol yn cael eu cymhwyso, megis agosrwydd at dai, ardaloedd hyfforddi’r Weinyddiaeth Amddiffyn, prif goridorau afonydd, a hyd yn oed agosrwydd at ddatblygiadau ffermydd gwynt eraill, a fyddai’n cael eu cymhwyso yn ystod unrhyw broses cais cynllunio, mae'r tir y gellir ei ddefnyddio sydd ar gael ar gyfer datblygiadau ffermydd gwynt yn yr ardaloedd hyn a rag-aseswyd yn gostwng yn sylweddol i 5 y cant yn unig, gan leihau'r capasiti i gynhyrchu trydan o wynt i 20 y cant yn unig o'r hyn a ragwelir. Mae hyn, i bob pwrpas, yn ddiffyg mawr yn eich strategaeth gynhyrchu ynni adnewyddadwy, ac o gofio mai targed Llywodraeth Cymru yw cynhyrchu 70 y cant o ynni adnewyddadwy erbyn 2030, nid oes amheuaeth y bydd yn llesteirio'r gallu i gyrraedd y targed hwnnw. Gyda hyn mewn golwg, a all y Gweinidog gadarnhau a yw'n gwybod am y cyfyngiadau hyn ai peidio, ac a fydd angen ailwerthuso'r ardaloedd a rag-aseswyd o ganlyniad? Diolch.

Wel, nodais yn fy ymateb cychwynnol i chi fod gennym 10 datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol ar y gweill, sy'n newyddion da iawn, o ystyried pa mor hir y mae 'Cymru'r Dyfodol' wedi bod ar waith. Felly, rwy'n deall y pwynt a wnewch, ond nid yw'n cael ei adlewyrchu yn nifer y ceisiadau sydd gennym yn y system ar hyn o bryd. Hoffwn nodi hefyd nad yr ardaloedd a rag-aseswyd yw'r unig le o reidrwydd y gallwch adeiladu fferm wynt, neu unrhyw fath arall o ynni adnewyddadwy yng Nghymru; mae rhagdybiaethau cynllunio ychydig yn wahanol yn yr ardaloedd hynny, dyna'i gyd. Felly, nid oes unrhyw beth i atal unrhyw un rhag cyflwyno ateb mewn man arall yng Nghymru, ond wrth gwrs, bydd yn rhaid iddynt fynd drwy'r broses.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Janet Finch-Saunders.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Nawr, mewn cyfarfod bord gron rhithwir diweddar a gynhaliais gyda Propertymark, rhagwelwyd cynnydd enfawr yn nifer y bobl a fydd yn chwilio am eiddo rhent. A hoffwn gyfeirio'r Aelodau ac aelodau'r cyhoedd at fy nghofrestr buddiannau fy hun. Mae hyn yn achosi pwysau aruthrol ar staff rheng flaen yn y sector gwerthu a gosod, gan mai ychydig iawn o eiddo sydd ar gael i'w rentu neu brynu. Mae Holmans yn argymell bod angen adeiladu hyd at 12,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru erbyn 2031, ond roedd y ffigurau ar gyfer anheddau a gwblhawyd yn 2018-19 30.6 y cant yn is nag ar ddechrau datganoli. Nawr, mae hyn yn ddirywiad. Fodd bynnag, yn eich llythyr at yr arweinwyr a’r prif weithredwyr, at awdurdodau lleol, ar 17 Tachwedd, fe ddywedoch chi,

'Ymddengys ein bod eisoes yn adeiladu'r nifer o gartrefi ar gyfer y farchnad sydd eu hangen arnom'.

Felly, sut y gall hyn fod yn wir, er mai 5,138 yn unig o gartrefi newydd a gychwynnwyd yn 2019? A chyda hyn mewn golwg, Weinidog, a ydych yn derbyn mai'r ffordd briodol o ymateb i'r argyfwng eiddo yng Nghymru fyddai drwy rymuso busnesau presennol i adeiladu cartrefi newydd ar gyfer y farchnad, yn hytrach na gwastraffu amser ac adnoddau ar greu eich cwmni adeiladu cenedlaethol eich hun?

Wel, mae cyfosodiad y ddau beth hynny ar y diwedd yn eithaf syfrdanol, felly rwyf am ymdrin â hynny yn gyntaf. Mae'r syniad y byddai cwmni adeiladu cenedlaethol rywsut yn atal y gwaith o adeiladu cartrefi newydd yn eithaf rhyfeddol. Nid ydym wedi archwilio eto, fel rhan o'r cytundeb cydweithio gyda'n partneriaid ym Mhlaid Cymru, sut yn union y byddwn yn defnyddio'r cwmni adeiladu. Ond rydym wedi cael nifer fawr o sgyrsiau gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cynghorau ynglŷn â phrinder llafur medrus, anhawster i gael prentisiaid da, a phrinder cyngor da iawn ynghylch cyflwyno datblygiadau mewn da bryd. Felly, byddwn yn cael sgwrs gynhyrchiol iawn gyda Phlaid Cymru ynglŷn â sut i lenwi bylchau lle bu methiant yn y farchnad, a materion eraill lle gallwn wneud cynnydd ym maes tai mewn ffordd briodol.

Mae'r dystiolaeth yn ddiddorol iawn, a dweud y gwir, gan y Llywodraeth Lafur ar ôl yr ail ryfel byd, a etholwyd gan y milwyr a ddaeth yn eu holau, fod y cynnydd aruthrol mewn adeiladu tai cymdeithasol wedi ysgogi'r farchnad breifat, yn hytrach nag amharu arni mewn unrhyw ffordd. Mae'r graffiau'n ddiddorol iawn, ac rydym yn hollol sicr y byddwn yn gwneud yr un peth gyda'n rhaglen uchelgeisiol ar gyfer 20,000 o gartrefi cymdeithasol.

13:40

Diolch. Weinidog, ar y naill law, rydych yn credu y gallwch gystadlu gyda rhai o'n hadeiladwyr gorau gan ddefnyddio arian trethdalwyr, ond ar y llaw arall, rydych yn gwrthod dweud faint o gartrefi y mae modd i ni eu hadeiladu o ganlyniad i'ch canllawiau eich hun, neu CNC, ar ffosffadau. Nododd mynychwyr y grŵp rhanddeiliaid ar ffosffadau rwy'n ei gadeirio fod CNC, i bob pwrpas, yn rhwystro cymaint â 10,000 o gartrefi newydd ledled Cymru, gan gynnwys 1,700 o'r cartrefi fforddiadwy hynny. Mae'r aelod o'r cabinet ar gyfer cynllunio yng Nghyngor Sir Penfro wedi nodi y bydd nifer y ceisiadau a wrthodir oherwydd canllawiau CNC yn codi'n sylweddol dros yr ychydig fisoedd nesaf. Y mis diwethaf, fe ddywedoch chi wrth y Senedd hon, ac rwy'n dyfynnu,

'Does gen i ddim problem o gwbl gyda chanllawiau CNC—'

[Torri ar draws.] Rwy'n siarad â'r Gweinidog, nid y Dirprwy.

—'gyda chanllawiau CNC ar y pwnc.'

Felly, a wnewch chi dynnu’r datganiad hwnnw yn ôl, a rhwystro, neu ddadflocio’r rhwystr, datgloi’r rhwystr—[Chwerthin.]—rhag codi miloedd o gartrefi newydd, drwy awdurdodi eithriadau i’r canllaw hwn, a galluogi awdurdodau cynllunio i dderbyn technoleg tynnu ffosffad mewn asedau trin dŵr gwastraff fel atebion rhesymol?

Wel, Janet, nid wyf yn gwybod ble i ddechrau. Yn gyntaf, fe ddechreuoch chi gydag asesiad o'r cwmni adeiladu cenedlaethol, sy'n dangos yn glir nad oeddech yn gwrando ar yr ateb roeddwn newydd ei roi i chi. Yn sicr, ni ddywedais unrhyw beth am sefydlu cwmni i gystadlu ag unrhyw un o'n hadeiladwyr bach a chanolig y mae gennym berthynas dda iawn â hwy, ac y mae gennyf fforwm ymgynghorol gyda hwy, fforwm a fynychais yn ddiweddar iawn i drafod y peth gyda hwy. Felly, dyna ateb hynny. Nid oes unrhyw awgrym o unrhyw fath y bydd unrhyw gwmni cyhoeddus yn cael ei sefydlu i gystadlu â'n busnesau bach a chanolig yn y farchnad adeiladu. Felly, credaf y dylech fod wedi gwrando ar hynny, a chael rhywfaint o sicrwydd nad yw hynny'n wir. Yr hyn a ddywedais yn gadarn iawn oedd bod nifer o fethiannau yn y farchnad, bylchau sgiliau, a phethau sydd wedi'u dwyn i'n sylw gan adeiladwyr tai cyngor a thai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chan y fforwm cwmnïau adeiladu bach a chanolig, lle mae'n fuddiol cael sgwrs am gwmni adeiladu cenedlaethol i lenwi'r bylchau. Mae'n sgwrs nad ydym wedi'i chael eto gyda Phlaid Cymru, yn dilyn y cytundeb cydweithio, a byddaf yn siŵr, Ddirprwy Lywydd, o gyflwyno'r mater i'r Senedd pan fyddwn yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd.

Ar y pwynt arall, mae Janet Finch-Saunders wedi dweud yn aml ei bod o blaid datgan argyfwng hinsawdd a’r atebion a gyflwynir i fynd i'r afael ag ef, ond mae’n atal pob ateb a gyflwynir ar bob cyfle. Rwyf am adael i'r cyhoedd yng Nghymru ddod i'w casgliadau eu hunain am ei diffuantrwydd ar y pwynt hwn.

Weinidog, mae'n amlwg iawn o'ch ymatebion eich bod, yn ogystal â methu hwyluso cynnydd mawr ei angen yn y nifer o dai a adeiladir yng Nghymru, yn cefnogi canllawiau sy'n llesteirio'r sector. Mae'r angen brys i ddarparu mwy o gartrefi newydd yn glir wrth ystyried twll du ariannol yr argyfwng cartrefi dros dro sy'n wynebu ein hawdurdodau lleol. Rwyf wedi ysgrifennu at 22 awdurdod lleol—ceisiadau rhyddid gwybodaeth. Ac mae'r ffigurau—ac mae gennyf fwy i ddod ar hyn—yn sgandal, ac maent yn frawychus. Er enghraifft, mae gwariant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar lety dros dro wedi cynyddu o £174,000 yn 2018-19 i ychydig dros £1.2 miliwn yn 2020-21, ac nid dyna'r unig enghraifft. Yn yr un modd, mae gwariant Gwynedd ar lety dros dro wedi cynyddu 265 y cant rhwng 2018-19 a 2020-21, gan gyrraedd bron i £1.7 miliwn. Weinidog, o gofio bod eich datganiad ar ddigartrefedd yr wythnos diwethaf wedi dweud eich bod am gryfhau cysylltiadau rhwng awdurdodau lleol a’r sector preifat, a wnewch chi ymrwymo i fynd at wraidd y mater gydag awdurdodau lleol i adolygu sut i ddarparu cartrefi hirdymor yn fwy effeithiol i’n preswylwyr sydd cymaint o'u hangen? Diolch.

Felly, unwaith eto, Janet, rwyf bron yn edmygu eich gallu i roi dwy ffaith at ei gilydd a gwneud tair ffaith hollol wahanol, heb unrhyw berthynas â'r ddwy ffaith wreiddiol. Felly, mae gennym raglen adeiladu cartrefi cymdeithasol uchelgeisiol ar gyfer 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel yn nhymor nesaf y Senedd. Mae hyn yn bosibl bellach oherwydd, ar ôl 40 mlynedd o atal cynghorau rhag adeiladu tai, daeth y Llywodraeth Dorïaidd at ei choed yn y pen draw a chael gwared ar y capiau ar gyfrifon refeniw tai. Felly, rwy’n eich canmol am ddod at eich coed ar ôl cwta 40 mlynedd yn yr un rhigol.

Y peth nesaf y mae'n rhaid i chi ei weld yw mai'r rhaglen cartrefi cymdeithasol a'r rhaglen cartrefi di-garbon yw'r peth sy'n ysgogi'r farchnad dai, a bod angen inni adeiladu'r tai cywir o'r safon gywir yn y lle cywir, yn hytrach na chodi unrhyw hen nonsens ledled cefn gwlad, fel sy'n cael ei gynnig dros y ffin. Rwy’n canmol yr holl asiantaethau sy’n gweithio yma, gan gynnwys ein hadeiladwyr bach a chanolig, sydd wedi bod yn gweithio’n galed iawn gyda ni i gyflwyno’r rhaglen honno. Mae fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, wedi lansio piblinell ar gyfer adeiladu ledled Cymru, sydd wedi caniatáu iddynt fynd i'r afael â'r problemau llif arian sydd ganddynt, ac mae gennym berthynas dda iawn â hwy.

O ran digartrefedd, rydym yn darparu £1.8 miliwn y mis i gynghorau yng Nghymru allu mynd i'r afael â digartrefedd a achoswyd gan y pandemig COVID. Hoffwn weld ei Llywodraeth dros y ffin yn gwneud rhywbeth o'r fath a datrys y sgandal gysgu allan echrydus a gewch o dan Lywodraeth Geidwadol.

13:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd pennaeth Trafnidiaeth Cymru fod teithio ar eu trenau yn sylfaenol ddiogel. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi bod angen cadw at y mesurau canlynol i sicrhau diogelwch COVID: cadw pellter oddi wrth bobl eraill, osgoi lleoedd gorlawn, awyru da pan fyddwch yn agos at eraill, a gwisgo gorchuddion wyneb. Felly, a yw'r mesurau hyn yn cael eu dilyn ar drenau? Gofynnais i gymudwyr am eu profiadau dros y cyfryngau cymdeithasol, a dyma rai o'r ymatebion a gefais: 'Cerbydau gorlawn, neb yn gwisgo masgiau'; 'Pobl wedi eu gwasgu fel sardîns'; 'Amhosibl sicrhau diogelwch COVID'; 'Fel trol wartheg a fawr neb yn gwisgo masgiau'; '90 y cant ddim yn gwisgo masgiau ar linell Rhymni'; a 'Ffenestri ar gau heb unrhyw awyru'. Dywedodd un unigolyn eu bod yn credu eu bod wedi dal COVID ar drên Trafnidiaeth Cymru gorlawn rhwng Caer a Bangor ychydig wythnosau yn ôl. Dywedodd un arall iddi gael pwl o banig ar y trên ar ddiwrnod y gêm rygbi ddiwethaf am fod cymaint o bobl yn sefyll ac wedi'u gwasgu i mewn i'r trên. Anfonwyd lluniau ataf hefyd, Weinidog, o gerbydau gorlawn a fawr neb yn gwisgo masgiau. Felly, Weinidog, a ydych yn cytuno â phennaeth Trafnidiaeth Cymru fod teithio ar drenau yng Nghymru yn sylfaenol ddiogel?

Diolch. Credaf fod y dyfyniad llawn, a bod yn deg, yn cydnabod bod heriau sylweddol gyda gorlenwi, a bod rhai teithwyr yn gwrthod gwisgo masgiau er gwaethaf y canllawiau clir iawn, ond fod y trenau'n sylfaenol ddiogel, o ystyried y cyfundrefnau glanhau sydd ar waith, ac o ystyried yr holl bethau eraill y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu gwneud i ddilyn y canllawiau. Maent yn gwneud ymdrechion eithriadol, ond nid oes amheuaeth fod heriau i'w cael, ac mae nifer o resymau dros hynny.

Fe sonioch chi am y gemau rygbi a gynhaliwyd gan Undeb Rygbi Cymru yn hwyr yn y nos pan oeddent yn gwybod yn iawn mai cyfyngedig fyddai'r gwasanaethau trên yn dilyn y gêm, a fyddai’n creu pwysau ar y system, yn amlwg. Mae problemau eraill hefyd yn taro'r diwydiant rheilffyrdd ar hyn o bryd, lle mae trenau’n cael eu canslo a cherbydau’n cael eu difrodi oherwydd y stormydd ac oherwydd y tywydd. Mewn gwirionedd, pan oeddwn ar y trên i Glasgow, tynnwyd un allan o wasanaeth gan iddo daro ffesant ar y rheilffordd. Nawr, nid bai Trafnidiaeth Cymru yw hynny. Mae her hefyd mewn perthynas ag absenoldebau staff oherwydd hunanynysu, felly nid oes unrhyw amheuaeth fod y system drafnidiaeth gyhoeddus dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd.

Yn y pen draw, mater o gyfrifoldeb personol yw gwisgo masgiau. Mae rhai pobl yn honni eu bod wedi'u heithrio rhag gwisgo masgiau pan nad yw hynny'n wir, yn amlwg. Ond mae bron yn amhosibl profi hynny. Gan weithio gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, mae gennym fesurau ar waith i orfodi mesurau gwisgo masgiau, ac mae nifer o bobl wedi cael eu tynnu oddi ar drenau ar ôl iddynt gael eu herio a methu darparu esgus dilys. Credaf fod nifer o amodau'n dod ynghyd i wneud pethau'n heriol iawn, ond mae trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn ddull teithio diogel. Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod gwasanaethau'n orlawn weithiau yn ystod y dydd.

Weinidog, cytunaf yn llwyr fod angen inni fod yn ymwybodol o'r heriau amrywiol y mae'r sector trafnidiaeth yn eu hwynebu. Ni waeth pwy sydd ar fai am y risgiau hyn, rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut y gellir dweud bod trenau'n sylfaenol ddiogel, ond efallai nad ydynt yn ddiogel ar rai adegau o'r dydd. Gwelais neithiwr fod rhywun yn dyfynnu George Orwell ar Twitter, ond mewn perthynas â thaerineb Rhif 10 na ddigwyddodd y parti COVID drwgenwog hwnnw. Dywedodd Orwell:

'Dywedodd y blaid wrthych am wrthod tystiolaeth eich llygaid a'ch clustiau. Hwn oedd eu gorchymyn olaf, mwyaf hanfodol.'

Gwn fod angen inni symud ymlaen, Weinidog, ond os yw'r Gweinidog iechyd yn y Siambr, hoffwn ei hannog i edrych ar hyn hefyd, gan y credaf fod mynydd o dystiolaeth y gall mynd ar drên yng Nghymru arwain at risg sylweddol o ddal COVID.

Ond i symud ymlaen, Weinidog, mae'n amlwg mai'r hyn sydd wrth wraidd cyflwr ofnadwy ein gwasanaethau trên yw'r tanwariant parhaus ar reilffyrdd Cymru. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cyfrifo bod y tanwariant oddeutu £500 miliwn dros y 10 mlynedd diwethaf. Ond ymddengys hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi tangyflawni ar ei haddewidion, neu efallai ar addewidion Llywodraethau blaenorol Cymru. Pan ddyfarnwyd y fasnachfraint i KeolisAmey yn 2018, dywedasant na fyddech yn adnabod y rheilffordd ymhen pum mlynedd, diolch i weledigaeth Llywodraeth Cymru. Felly, Weinidog, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni sut y bydd y rheilffordd yn edrych ymhen dwy flynedd, gan ei bod bellach mewn perchnogaeth gyhoeddus? A ydym o ddifrif yn mynd i weld gwelliannau trawsnewidiol? Ac a allwch roi eich barn ar faint o reolaeth sydd gan y Llywodraeth dros reilffyrdd mewn gwirionedd a faint sydd allan o'i dwylo gan nad yw'n rheoli'r cyllid?

13:50

Yn sicr, mae newidiadau sylweddol yn digwydd er gwell. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom ddatgelu fflyd newydd o drenau i gymryd lle'r Pacers, a phan gewch chi gyfle i fynd arnynt eich hun, fe welwch ei fod yn brofiad trawsnewidiol i deithwyr. Rydym hefyd yn datblygu rhaglen metro de Cymru, sy'n brosiect peirianneg sifil enfawr—y prosiect seilwaith mwyaf y bydd de Cymru wedi'i weld ers degawdau lawer. Felly, nid oes amheuaeth fod newid sylweddol yn digwydd dan law Llywodraeth Cymru. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd fod COVID wedi tarfu ar gynlluniau o ran cwymp y fasnachfraint—ac yn sicr, nid masnachfraint Cymru oedd yr unig fasnachfraint i gwympo o ganlyniad i bwysau llai o arian a chostau cynyddol—ac mae hynny wedi cael effaith ar y llinell amser a oedd gennym ar gyfer ychwanegu at yr amserlen a chyflwyno gwasanaethau newydd. Felly, mae honno'n ffaith anochel y mae'n ddrwg iawn gennym amdani, ond mae hynny allan o'n dwylo.

O ran tanfuddsoddi, mae'r Aelod yn gwneud pwynt gwych. Mae Llywodraeth y DU wedi tanfuddsoddi’n gyson, ac yn y rhaglen gyllido nesaf, rydym yn cael oddeutu £5 biliwn yn llai na'r hyn y dylem ei gael. Fel y soniodd y Prif Weinidog yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog eto ddoe, mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod dosbarthu HS2 fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig, er nad oes yr un filltir o drac yng Nghymru, yn amlwg yn cael effaith enfawr ar ein gallu i fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd. A byddwn yn dweud wrth yr Aelodau Ceidwadol yn y Siambr fy mod yn cofio'r gynghrair a ffurfiwyd yn y Siambr hon ar drydaneiddio oddeutu 10 mlynedd yn ôl, pan gafwyd ymdrech drawsbleidiol wirioneddol i ddadlau'r achos dros Gymru. Cymerais ran yn y ddirprwyaeth cyn dod yn Aelod o'r Senedd gydag Aelodau o'r Blaid Geidwadol i gyflwyno'r achos hwnnw i Weinidogion y DU. Roedd yn effeithiol, ac rydym ar ein cryfaf pan ydym yn unedig. Hoffwn weld cynghrair debyg i ddadlau, ar sail tegwch, fod angen trin Cymru'n wahanol wrth gategoreiddio rheilffyrdd cyflym. Fel arall, ni fydd modd inni gyflawni'r uchelgeisiau a rannwn i gyflawni sero net erbyn 2050.

Weinidog, ar yr union bwynt hwnnw, gallai Cymru fod £5 biliwn ar ei cholled heb swm canlyniadol Barnett yn sgil y gwariant ar HS2. Fel y gwyddoch yn amlwg, mae hynny oddeutu 5 y cant o gyfanswm gwariant y prosiect. Gallai fod yn llawer uwch, wrth gwrs, pe bai'r costau'n cynyddu, sy'n debygol. Yng ngeiriau Will Hayward o'r Western Mail,

'Mae'r penderfyniad i gyfrif HS2, buddsoddiad unwaith mewn canrif, fel gwariant Cymru a Lloegr wedi condemnio Cymru i ganrif arall o rwydwaith rheilffyrdd ail ddosbarth.'

Er bod y penderfyniad i eithrio Cymru o'r cyllid hwn, fel y nodwyd gennych, Weinidog, wedi'i wneud gan Lywodraeth Geidwadol y DU, mae Llywodraethau Llafur y gorffennol yng Nghymru hefyd wedi cyfrannu at y llanastr hwn. Cafwyd penderfyniad yn 2005 i wrthod datganoli rheilffyrdd, a ddisgrifiwyd fel y penderfyniad gwaethaf yn hanes datganoli. A'r anallu, yn y gorffennol, i ddeall dadl Plaid Cymru ar HS2 ddegawd yn ddiweddarach, gyda Carwyn Jones yn mynnu bod Cymru’n cael ei swm canlyniadol yn sgil HS2, er y byddai gosod ffactor cymharedd HS2 i Gymru ar 0 y cant yn golygu y byddai ein ffactor cymharedd ar gyfer gwariant yr Adran Drafnidiaeth yn plymio yn y dyfodol, sef yr hyn a welwn yn awr. Rwy'n siŵr fod Llywodraeth Lafur bresennol Cymru yn awyddus i—

A allwch gadarnhau, Weinidog, fod Llywodraeth Cymru wedi cael cadarnhad gan Keir Starmer y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol yn darparu'r swm canlyniadol Barnett llawn i Gymru yn sgil gwariant HS2, wedi'i ôl-ddyddio i'r bunt gyntaf a wariwyd?

Yn sicr, yn bersonol, rwyf wedi dadlau y dylai fformiwla Barnett adlewyrchu'r gwariant yn Lloegr ac yng Nghymru. Mewn gwirionedd, arweiniais gynghrair o sefydliadau i sefydlu comisiwn Holtham, gan ddefnyddio hyn fel un o'r enghreifftiau. A phan oeddwn yn gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, bûm yn dadlau'r achos yn gyson, felly nid wyf am wrando ar wersi gan yr Aelod ar hynny. Ond mae’n llygad ei lle nad yw Llywodraethau gwahanol bleidiau yn San Steffan wedi cydnabod bod Cymru’n haeddu mwy o fuddsoddiad, a dyna pam fy mod yn ailadrodd fy ngalwad ar y Ceidwadwyr i bawb yn y Siambr hon ddod ynghyd i weld a allwn gytuno ar alwad drawsbleidiol ar Lywodraeth y DU i feddwl eto am y ffordd y mae Cymru'n cael ei thrin mewn perthynas â buddsoddi mewn rheilffyrdd.

13:55
Erydiad a Achosir gan Lifogydd

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau i fynd i'r afael â chanlyniadau erydiad a achosir gan lifogydd? OQ57318

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu awdurdodau lleol i leihau'r perygl y mae erydu arfordirol yn ei beri i gymunedau. Fodd bynnag, cyfrifoldeb perchnogion glannau afonydd y mae eu heiddo'n ffinio â neu'n cynnwys y cwrs dŵr yw mynd i'r afael â chanlyniadau erydiad afonydd. Mae hon yn egwyddor sydd wedi'i hen sefydlu mewn cyfraith gyffredin.

Ysgrifennais atoch ar 7 Hydref, Weinidog, yn gofyn am gyfarfod i drafod problem preswylwyr yng Nghaerffili sy'n wynebu difrod posibl i'w cartrefi oherwydd erydiad afonydd. Er gwaethaf eich ateb, hoffwn drafod y senario gyda chi a gofyn am ymateb. Mae un grŵp o breswylwyr ar Celyn Avenue yng Nghaerffili wedi dioddef cynnydd mewn digwyddiadau erydu a llifogydd dilynol yn eu gerddi, sy'n cefnu ar lannau Nant yr Aber. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud wrth y preswylwyr na allant gael unrhyw gyllid na chymorth llifogydd am mai eu gerddi, yn hytrach na'u cartrefi, sy'n cael eu heffeithio, felly ni roddir blaenoriaeth uchel i'r eiddo hyn yn ôl y model rheoli perygl llifogydd. Fodd bynnag, mae preswylwyr yn poeni y bydd llifogydd yn effeithio ar eu cartrefi yn y pen draw, gan fod Nant yr Aber yn codi a'i glannau'n erydu, nid yn unig ar eu heiddo ond o dan eu heiddo, nad yw'n rhan o'u heiddo, oherwydd y newid hinsawdd a chynnydd mewn glawiad. Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru na allant wario arian cyhoeddus yn gyfreithiol ar liniaru ac atal erydiad afonydd, dim ond ar lifogydd, ac nad oes ganddynt bwerau statudol i wneud hynny ac mai dim ond o fewn y cylch gwaith a bennwyd ar eu cyfer gan Lywodraeth Cymru y gallant weithio. Mater allweddol yma yw bod cost atgyweirio ac adfer yr eiddo hynny ar Celyn Avenue yn uwch—yn llawer uwch—na'r hyn y gall y preswylwyr sy'n byw yno ei fforddio. Maent yn breswylwyr oedrannus, nid oes ganddynt arian—

—i dalu amdano. Felly, byddwn yn croesawu cyfarfod â chi, Weinidog, i drafod y mater hwn, yn enwedig mewn perthynas ag erydiad hirdymor a chanlyniadau hynny i eiddo. Mae'n broblem nad oedd gennym beth amser yn ôl.

Wel, Hefin David, mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am yr effaith y mae erydiad afonydd yn ei chael ar eich etholwyr. Rwy'n deall bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfarfod â chi a'r preswylwyr yr effeithiwyd arnynt, ac rydych newydd amlinellu'r cyngor. Yn anffodus, rydych yn llygad eich lle; perchennog glannau'r afon sy'n gyfrifol. Perchennog glannau'r afon yw'r unigolyn y mae eu heiddo'n cynnwys y cwrs dŵr, neu y mae eu heiddo'n ffinio â'r cwrs dŵr neu uwchlaw'r cwrs dŵr. Mae honno wedi bod yn egwyddor sefydledig mewn cyfraith gyffredin yng Nghymru a Lloegr ers dros 200 mlynedd, felly nid yw hon yn gyfraith newydd mewn unrhyw ffordd. Mae canllaw wedi'i gyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru, o'r enw 'Canllaw i’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau fel perchennog glannau afon yng Nghymru'. Rydym yn buddsoddi arian i liniaru perygl llifogydd o afonydd, ond perygl llifogydd i eiddo yw hynny—rydych yn iawn—ac nid i erddi. Felly, rydych yn llygad eich lle. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi i drafod y mater, ond mae arnaf ofn fod eich rhagdybiaeth yn gywir. Bydd yn rhaid i'ch etholwyr ofyn am gyngor i weld a all eu hyswiriant neu eu benthycwyr eu cynorthwyo. Fel arall, mae arnaf ofn nad ydym yn siŵr sut i'w helpu, ond rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi ac i archwilio a oes rhywbeth y gellid ei wneud.

Hoffwn ddechrau drwy ddatgan buddiant, gan fy mod yn gynghorydd yn sir Ddinbych tan fis Mai 2022. Mae arnaf ofn y byddaf yn parhau i rygnu ymlaen am hyn ac yn swnio fel record wedi torri gan fy mod wedi crybwyll y cwestiwn hwn unwaith neu ddwy yn barod. Mae cymunedau Trefnant a Thremeirchion yn dal i ymdrin â chanlyniadau'r llifogydd ofnadwy yn sgil storm Christoph ar ddechrau'r flwyddyn. Cafodd y cysylltiad hanfodol rhwng y ddwy gymuned yn fy etholaeth ei erydu a'i olchi ymaith. Ni fydd pont hanesyddol Llannerch yn cael ei hailgodi am flynyddoedd, a dim ond os gall Cyngor Sir Dinbych sicrhau'r miliynau o bunnoedd sydd ei angen i ariannu'r gwaith ailadeiladu. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i ddarparu'r cyllid a gweithio gyda'r cyngor i ail-greu'r cyswllt cymunedol allweddol a'r llwybr teithio llesol hanfodol hwn cyn gynted â phosibl?

Nid wyf yn hollol sicr sut y mae hynny'n gysylltiedig ag erydiad cyrsiau dŵr ar lannau afonydd, ond os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf eto a gofyn am gyfarfod, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.

Mae nifer o gymunedau ar lannau Llŷn wedi gweld tirlithriadau sylweddol dros y ddwy flynedd diwethaf. Y mwyaf amlwg oedd y tirlithriad mawr yn Nefyn yn ôl ym mis Ebrill, ond mae eraill wedi bod yno ac ar draws yr arfordir ers hynny. Yn wir, mae'r British Geological Survey wedi clustnodi Nefyn fel parth perygl tirlithriad. Mae'r tirlithriadau yma yn bygwth bywydau ac eiddo, ac yn achos poen meddwl sylweddol i drigolion cymunedau glan morol. Pa sicrwydd felly fedrwch chi ei roi i drigolion Nefyn a'r glannau yno sydd o dan fygythiad o dirlithriadau fod y Llywodraeth a'r cyrff perthnasol yn ymgymryd â gwaith angenrheidiol i ddiogelu eiddo a bywyd yn y mannau o dan fygythiad fel Nefyn a chymunedau eraill Llŷn? Diolch.

14:00

Diolch am y cwestiwn.

Mae hwn yn faes cyfreithiol cymhleth iawn. Felly, weithiau, mae cwrs afon yn eiddo i rywun, weithiau mae cwrs yr afon gyfan yn eiddo iddo. Mae'n un o ffeithiau cyfraith gyffredin, serch hynny, fod glannau afon yn eiddo i'r adeiladau sydd wrth ymyl ac yn cynnwys y cwrs dŵr ei hun, oni bai ei bod yn bosibl dangos bod y cwrs dŵr cyfan yn eiddo i rywun. Felly, mae'n dibynnu ar y sefyllfa o ran perchnogaeth a sut beth yw'r seilwaith uwch eu pennau. Mae gennym risgiau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer eiddo ac ar gyfer seilwaith, ond nid ar gyfer gerddi a mathau eraill o dir, yn anffodus. Felly, mae arnaf ofn ei fod yn gwestiwn mwy cymhleth na hynny. Byddwn yn hapus i archwilio gyda'r Aelod beth yn union rydym yn edrych arno.

Yn anffodus, mae hwn yn ganlyniad i'r argyfwng newid hinsawdd rydym i gyd yn edrych arno. Rydym i gyd yn profi mwy o lawiad, gwyntoedd cryfach, problemau mawr iawn gyda stormydd. Felly, unwaith eto, rwy'n cydymdeimlo â'r bobl sy'n dioddef hyn. Mae ein system bresennol o amddiffyn rhag llifogydd, fel y dywedaf, yn cynnwys llifogydd i eiddo a seilwaith o'r fath, ond nid i'r math o erydiad y mae etholaethau Hefin David yn ei brofi. Byddwn yn hapus iawn i archwilio ymhellach gyda chi beth y gellir ei wneud mewn rhai amgylchiadau, ond mae arnaf ofn ei fod yn ddibynnol iawn ar batrymau perchnogaeth a materion eraill yn yr ardal.FootnoteLink

Trawsnewid Canol Trefi

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trawsnewidiad canol trefi yng Nghanol De Cymru? OQ57335

Diolch am y cwestiwn.

Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor canol ein trefi a'n dinasoedd drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a'u gwneud yn lleoedd deniadol i fod ynddynt. Mae canol trefi a dinasoedd ar draws rhanbarth Canol De Cymru wedi elwa o £13.8 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi ers mis Ionawr 2020.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ddydd Sadwrn diwethaf, cyfarfûm â dau o lysgenhadon hinsawdd ieuenctid Cymru, Leo ac Alfred, sy'n byw yn ardal Pontypridd. Ymhlith y materion a drafodwyd gennym oedd canol trefi a sut y mae'n ymddangos bod rhai datblygiadau cyfredol ac arfaethedig yn colli cyfleoedd i wneud canol ein trefi'n wyrddach a chwarae mwy o ran yn ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur, yn ogystal â gwella ansawdd aer. Roeddent yn cyfeirio at rai enghreifftiau rhyngwladol arloesol megis gerddi fertigol, sy'n mynd y tu hwnt i blannu coed a photiau blodau, ac yn gofyn pam nad yw Cymru'n gwneud mwy yn hyn o beth. Roeddent yn cyfeirio nid yn unig at y manteision ond hefyd at sut y gall cymunedau lunio a chymryd perchnogaeth ar brosiectau o'r fath i ysbrydoli trigolion a gweithgarwch. Rwy'n ymwybodol eich bod wedi lansio grŵp gweithredu gweinidogol ar ganol trefi ac is-grwpiau, rhywbeth sydd i'w groesawu wrth gwrs i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu canol trefi, ond sut y byddwch yn sicrhau bod ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur yn ganolog i waith y grŵp hwn a bod awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi a'u hannog yn weithredol i fod yn arloesol ac yn wyrdd yn eu datblygiadau canol trefi?

Rwy'n sicr yn cytuno â'r her—ac roeddwn yn meddwl bod yr Aelod wedi ymdrin yn wych â'r heclo y tu ôl iddi ac mae'n haeddu pwyntiau am hynny. [Chwerthin.]

Yn sicr, credaf fod enghreifftiau mewn prosiectau adfywio o dai bioffilig, yn sicr mae yna un yn Abertawe sy'n edrych yn addawol iawn, ac rwy'n sicr yn credu bod gan y llysgenhadon hinsawdd ifanc y mae wedi cyfarfod â hwy ddadl gref iawn, a byddwn yn awyddus i drafod gyda hwy a chyda hi beth arall y gellir ei wneud. Rydym wedi sefydlu tasglu gweinidogol ar gyfer canol trefi ac rwyf wedi gofyn i hwnnw fwrw ymlaen â'r adroddiad gan yr Athro Karel Williams a chan Archwilio Cymru i adfywio canol trefi, a byddwn yn hapus iawn i ofyn iddynt edrych yn benodol ar y pwyntiau y mae'n eu gwneud a sut y gallant blethu'r rheini i mewn i'w gwaith a'u hargymhellion.

Ddirprwy Weinidog, pa gymorth rydych yn ei roi i bartneriaid i geisio cael mannau gwefru ynni yng nghanol trefi? Oherwydd os ewch i ganolfannau siopa y tu allan i'r dref, mae llawer o'r cwmnïau preifat sy'n meddiannu'r canolfannau siopa hynny yn gosod mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan. Gwyddom fod Cymru ar ei hôl hi, yn anffodus, mewn perthynas â gosod y mannau gwefru hyn o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Bydd angen dull cydgysylltiedig; felly, bydd angen i'r Llywodraeth weithio gydag awdurdodau lleol neu bartneriaid busnes eraill i sicrhau bod gan ganol trefi y mannau gwefru hyn fel eu bod yn ddeniadol i bobl sydd â cheir trydan, gan y gwyddom y bydd mwyfwy o ddefnydd arnynt yn y dyfodol. Pa gamau rydych yn eu cymryd i ymgysylltu â phartneriaid i sicrhau bod mwy o fannau gwefru yng nghanol trefi ledled Canol De Cymru?

14:05

Wel, credaf ein bod eisoes yn gwneud hynny. Rydym wedi lansio ein cynllun gweithredu ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn ddiweddar, ac ar hyn o bryd mae gennym raglen, y flwyddyn ariannol hon, o fuddsoddiad mewn mannau gwefru yng nghanol trefi. Ac ymhell o fod ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr, fel yr awgrymwch, o ran cyfran y ceir trydan sydd gennym yng Nghymru, mae gennym gyfran debyg o fannau gwefru ar gael ar gyfer y ceir sydd gennym. Er hynny, yn amlwg, wrth i nifer y ceir trydan gynyddu, fel rydym i gyd yn dymuno ei weld, mae angen inni gadw i fyny â hynny a chynyddu'r buddsoddiad. Rwy'n cytuno â'r pwynt y mae'n ei wneud, ond rwy'n credu ein bod yn gwneud cynnydd rhesymol.

Gwasanaethau Rheilffyrdd

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ansawdd gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru? OQ57338

Diolch. Mae Trafnidiaeth Cymru yn monitro boddhad cwsmeriaid â'u gwasanaethau yn fisol fel yr holl weithredwyr trenau eraill. Ar hyn o bryd mae Trafnidiaeth Cymru ar ganol y tabl ac yn ymdrechu'n barhaus i wella gwasanaethau i deithwyr yn ystod cyfnod heriol gyda COVID a thywydd garw.

Diolch ichi am eich ateb. Dwi’n ddefnyddiwr pybyr iawn o wasanaethau trên. Yn fy 10 mlynedd i fan hyn yn y Senedd, dwi wedi gyrru i lawr efallai rhyw ddwywaith y flwyddyn. Dwi’n defnyddio’r trên bron yn ddieithriad os medra i, a dwi wedi defnyddio’r trên dair gwaith yn y tair wythnos diwethaf. Tair wythnos yn ôl, mi oeddwn i ddwy awr yn hwyr yn cyrraedd yn ôl i’r gogledd. Pythefnos yn ôl, mi ges i fy nal i fyny yn nhrafferthion a shambles, os caf i ddweud, gwasanaethau trên penwythnos rygbi—roeddwn i dros awr yn hwyr yn cyrraedd adre. Ac yr wythnos diwethaf hefyd, mi oeddwn i awr yn hwyr yn cyrraedd Caerdydd. Nawr, dwi’n rhywun sydd eisiau defnyddio trenau, ond mae’n rhaid i mi ddweud, dwi yn colli ffydd yn y gwasanaeth ac yng ngallu Trafnidiaeth Cymru i redeg y gwasanaeth. Felly, rydych chi’n addo gwelliant ers blynyddoedd, fel rŷn ni wedi clywed yn barod y prynhawn yma, ond pa mor amyneddgar ydych chi’n disgwyl i bobl fod, oherwydd erbyn ichi gael y gwasanaeth lan i lle rŷn ni i gyd eisiau ei weld, mi fydd y rhan fwyaf o bobl wedi rhoi lan?

Mae'n ddrwg gennyf glywed yr hyn a ddywedodd Llyr Gruffydd am ei brofiad yn teithio ar y trên, a sut y mae'n ysgwyd ei hyder. Yn amlwg, os yw hynny'n dechrau digwydd, mae gennym broblemau sylweddol. Credaf fod angen inni ddeall yr ystod o wahanol bwysau sy'n wynebu'r system drenau yng Nghymru, ac ar draws y DU ar hyn o bryd. Nid wyf yn credu bod Trafnidiaeth Cymru yn arbennig o wahanol gyda rhai o'r pethau y mae'n rhaid iddynt ymdopi â hwy. Mae difrod wedi cael ei wneud i nifer o drenau, sydd wedi lleihau nifer y cerbydau sydd ar gael, ac mae'r ffaith nad yw Avanti West Coast yn adfer gwasanaethau ar draws gogledd Cymru hefyd wedi cael effaith ac wedi creu rhywfaint o orlenwi. Rwy'n credu bod Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol iawn o hynny ac yn gweithio'n galed arno. Fel y soniodd Llyr Gruffydd yn deg yn ei gwestiwn, ni allwn osgoi effaith hirdymor y tanfuddsoddiad a gawsom, ac mae hynny'n amlygu ei hun yn awr. Ond nid oes amheuaeth fod pwysau arbennig o drwm ar rai gwasanaethau ar hyn o bryd ac mae Trafnidiaeth Cymru'n gweithio'n galed i'w datrys.

Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi a chroesawu'r newyddion am ailgyflwyno gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol o Crosskeys i Gasnewydd, o ddydd Sul, 12 Rhagfyr, mewn pryd ar gyfer y Nadolig? Nid camp fach mo hon a dyma fydd y gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol cyntaf i deithwyr o gymunedau Islwyn i Gasnewydd mewn bron i 60 mlynedd. Ers fy ethol, rwyf wedi ymgyrchu dros ailgysylltu gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn i Gasnewydd—dinas falch Gwent—ac rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni'r addewid hwnnw a wnaeth i bobl Islwyn. Weinidog, pa gamau y bydd Llafur Cymru yn eu cymryd i gyflawni ein haddewid o sicrhau gwasanaeth trenau newydd i deithwyr o Lynebwy i Gasnewydd, er mwyn sicrhau y gellir ailgysylltu dinasyddion Trecelyn yn uniongyrchol â Chasnewydd, lleihau'r tagfeydd ar ein ffyrdd, gwyrddu ein cymoedd ymhellach, a glanhau ein hawyr?

Wel, nid yn unig y byddaf yn ymuno â chi i groesawu gwasanaeth Crosskeys, ond mewn gwirionedd, rwy'n codi am 6 o'r gloch fore Llun er mwyn dal gwasanaeth rheilffordd Crosskeys a'i weld yn dod i mewn i Gasnewydd, felly nid wyf yn credu y gall unrhyw un yn y Siambr gwestiynu fy ymrwymiad. Mae'n enghraifft berffaith o'r hyn rydym wedi gallu ei wneud, er nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli i Gymru—i gamu i'r adwy lle mae Llywodraeth y DU wedi methu sicrhau bod pobl ein cymunedau yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu.

Rydym wedi gallu sicrhau bod swm sylweddol o arian ar gael eleni i fuddsoddi yn yr estyniad tuag at Lynebwy. Mae angen camau gweithredu gan Lywodraeth y DU a Network Rail, ac rydym yn siarad â hwy ynglŷn â chyflymu'r gwaith hwnnw. Roeddwn yn falch iawn o ddarllen argymhelliad Syr Peter Hendy yn ei adroddiad yn yr 'Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb' yr wythnos o'r blaen: mae Llywodraeth y DU yn gwneud mwy i wella gwasanaethau rheilffyrdd i mewn i Gymru ac yng Nghymru. Roedd hefyd yn llwyr groesawu argymhellion adolygiad Burns, i ymdrin â thagfeydd o amgylch Casnewydd, ac mae rhan o hynny'n golygu buddsoddi yng nghyswllt rheilffordd Glynebwy, a gwrthododd awgrym y Prif Weinidog y dylai Llywodraeth y DU adeiladu M4 a diystyru datganoli, gan anwybyddu ewyllys ddemocrataidd y bobl yn llwyr, a dywedodd yn benodol mai'r ateb i drafnidiaeth gyhoeddus a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, drwy Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, oedd y ffordd gywir ymlaen. Felly, credaf y dylai'r Ceidwadwyr Cymreig ddangos ychydig o wyleidd-dra wrth gydnabod bod adroddiad eu Llywodraeth eu hunain wedi gwrthod galwad y maent wedi bod yn ei gwneud yn y Siambr hon, ac rwy'n gobeithio, gyda'n gilydd, y gallwn symud ymlaen a chanolbwyntio ar fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a disgwyl i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan yn hynny.

14:10

Dros y penwythnos, cysylltodd etholwr â mi a ddywedodd, 'Euthum ar y trên o Gaerdydd tua 3.23 a chyrhaeddais Gaer ar ôl hanner nos ar drên a ddylai fod wedi cyrraedd am 6.23 p.m. Mae teithwyr eraill a minnau'n credu bod Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol o'r broblem cyn inni adael gorsaf Caerdydd Canolog. Digwyddodd hyn ar 17 Tachwedd.'

Ddydd Llun diwethaf, fel Llyr, ar y nawfed ar hugain, archebais fy nhocyn o Wrecsam i lawr yma, ond gwyddwn fod yna broblemau. Ffoniais Trafnidiaeth Cymru, ac fe wnaethant gadarnhau bod fy nhrên wedi'i ganslo ond dywedasant fod yr un nesaf ar amser. Pan gyrhaeddais, roedd yr arwyddion uwchben, hyd at yr amser cyrraedd, yn dangos i mi a'r teithwyr eraill fod y trên ar amser. Ond yr eiliad roedd y trên i fod i gyrraedd, dywedodd yr uchelseinydd fod 'y trên wedi'i ganslo'. Bu'n rhaid inni aros awr a hanner arall am y trên nesaf mewn tywydd rhewllyd, gyda'r ystafell aros dan glo am fod Trafnidiaeth Cymru bellach yn cloi ystafell aros Wrecsam am 6 p.m. Y broblem yma yw—rwy'n deall yn amlwg fod problemau'n digwydd gyda'r trac, ac mae'n rhaid ymdrin â hwy, ond cafwyd methiant o ran gofal teithwyr, methiant o ran darparu gwybodaeth i deithwyr, a allai fod wedi atal pobl rhag gorfod aros ar y platfform cyhyd mewn amgylchiadau mor arw. Felly, sut rydych yn cynnig mynd i'r afael â'r broblem wybodaeth honno, fel bod teithwyr yn cael eu diogelu rhag sefyllfaoedd tebyg?

Wel, mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am y profiad a gafodd yr Aelod a'i gyd-deithwyr, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n ddigon da. Mae Trafnidiaeth Cymru yn wynebu heriau gweithredol difrifol ar hyn o bryd, a chredaf fod angen iddynt ystyried ei brofiad, a gofynnaf iddynt ymchwilio i'r amgylchiadau penodol hyn ac ystyried y pwynt a wnaeth, a'r ddealltwriaeth y mae wedi'i dangos pan fo anawsterau'n digwydd, fod cyfathrebu'n bwysicach nag ar unrhyw adeg arall. Felly, credaf fod gwersi i'w dysgu o hynny, a byddaf yn siarad â hwy ac yn ysgrifennu ato yn ei gylch.

Adfywio Canol Trefi

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio canol trefi? OQ57321

Diolch. Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn parhau i gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer canol trefi, sy'n cynnwys addasu adeiladau gwag at ddibenion gwahanol, gwella amrywiaeth gwasanaethau, cynyddu mannau gwaith a byw hyblyg, a chreu mwy o fannau gwyrdd cymunedol. Mae'r rhaglen wedi darparu £136 miliwn ledled Cymru yn benodol ar gyfer adfywio canol trefi.

Ddirprwy Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fy mod wedi ymuno â'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ddiweddar ar gyfer agoriad swyddogol y Cynon Linc newydd yn Aberdâr. Wedi'i reoli gan Age Connects Morgannwg, a'i ariannu drwy gronfa gofal integredig Llywodraeth Cymru, mae hwn wedi troi adeilad cymunedol blinedig yn gyfleuster modern, addas i'r diben yng nghanol y gymuned, ac mewn lleoliad amlwg yng nghanol y dref. Felly, ym mha ffordd arall y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus, yn benodol, a rhanddeiliaid eraill, i gyflwyno cynlluniau i adfywio canol ein trefi?

Diolch. Ie, a gwn fod y Gweinidog wedi mwynhau ymweld â'r Cynon Linc a chafodd y prosiect a'r gwaith roeddent wedi'i wneud yno i ddod â gwasanaethau at ei gilydd argraff fawr arni. A chredaf fod hynny'n enghraifft o'r ffordd y mae angen inni ailystyried canol trefi—nid fel mannau siopa yn unig, oherwydd mae natur manwerthu wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, gyda datblygiadau y tu allan i'r dref, gyda thwf archfarchnadoedd a chyda'r newid i siopa ar-lein. Mae angen inni feddwl am ganol trefi o'r newydd fel mannau lle mae pobl yn cyfarfod a lle darperir gwasanaethau.

Mae gennym bolisi 'canol trefi yn gyntaf' yn awr ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus, ac rydym yn annog pob darparwr gwasanaeth i edrych yn gyntaf a ellir darparu lleoliad yng nghanol y dref ai peidio, a chredaf mai dyna'r ffordd ymlaen. Fel y soniais yn gynharach, rydym wedi cyhoeddi adroddiadau ym mis Gorffennaf eleni, gan yr Athro Karel Williams, i ddyfodol canol trefi, ac ym mis Medi, cyhoeddodd Archwilio Cymru eu hadroddiad eu hunain a oedd yn adleisio llawer o'r argymhellion, ac rydym wedi gofyn yn benodol i'r tasglu gweinidogol ar ganol trefi edrych ar y ddau adroddiad. Ac un o'r pethau rwy'n gofyn iddynt edrych arnynt yw annog y sector cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau i feddwl am ganol trefi fel mannau lle maent yn cyflawni eu gwaith.

14:15
Mannau Gwyrdd

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella mannau gwyrdd? OQ57320

Rydym wrthi'n gweithio gyda phob awdurdod lleol ledled Cymru i wella mannau gwyrdd drwy nifer o fentrau, megis ein grant creu lleoedd Trawsnewid Trefi, cefnogi parc rhanbarthol y Cymoedd, ariannu partneriaethau natur lleol a'n 'Adeiladu Lleoedd Gwell', sy'n anogaeth bellach i greu mannau gwyrdd hygyrch.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidogion am eu hymrwymiad i wella mannau gwyrdd ledled Cymru. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, mae etholwyr o bob oed a chefndir yn mynegi'r angen am fwy o fannau gwyrdd yn eu cymunedau ac i ddiogelu a gwella'r mannau presennol. Yn ddiweddar, cefais syniadau gan ddisgyblion yn Ysgol Gynradd West Park, Ysgol Gynradd Porthcawl ac Ysgol Gynradd Nottage ynglŷn â'u parc delfrydol. Cyfuniad o natur a llesiant oedd y themâu pwysicaf i gynifer o'r disgyblion, gyda syniadau'n cynnwys blodau gwyllt ar gyfer bioamrywiaeth, gerddi therapi a phlannu coed. Felly, rwyf hefyd yn croesawu'r grant o £580,000 gan Lywodraeth Cymru a gafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer prosiect rhwydwaith natur Cwm Taf, a fydd yn gweld cynifer o leoedd yn cael eu gwella. Ac yng ngoleuni syniadau'r myfyrwyr, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog sicrhau y bydd llesiant meddyliol a chorfforol yn rhan o'r strategaethau parhaus i wella ein mannau gwyrdd?

Yn sicr. Mae egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn rhoi nifer o fanteision, yn enwedig llesiant meddyliol a chorfforol, wrth wraidd unrhyw gynllun strategol i greu neu wella mannau gwyrdd yng Nghymru. Yn wir, fel y gwyddoch, Sarah, mae prosiect rhwydwaith Cwm Taf y sonioch chi amdano yn datblygu arferion newydd ar gyfer rheoli mannau gwyrdd yn rhanbarth bwrdd iechyd Cwm Taf, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan ddefnyddio cynllun llesiant y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—felly, cynllun integredig iawn sy'n cyfateb yn dda i'r parc delfrydol a gaiff ei wireddu o ganlyniad, gobeithio. Mae'r cynllun yn nodi rhwydwaith cysylltiedig o 20 o fannau gwyrdd i'w rheoli fel ateb ar sail natur ar gyfer gwella iechyd a llesiant trigolion lleol. Mae uchafbwyntiau'r prosiect yn cynnwys cynyddu mynediad i rieni â phlant blynyddoedd cynnar, cynyddu mynediad i bobl hŷn, cynyddu mynediad i bobl sy'n rhannol ddall a darparu mannau ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar.

Rydym hefyd yn cyflawni amcanion iechyd a llesiant tebyg drwy'r cynllun galluogi adnoddau naturiol a lles sydd ar y gweill neu ar fin dechrau ledled Cymru, ac rwy'n falch iawn o glywed am frwdfrydedd a dyfeisgarwch y disgyblion yno. Un o bleserau gwirioneddol y swyddi hyn—mae llawer o anfanteision, ond un o'r pleserau gwirioneddol—yw cyfarfod â phobl ifanc, gwrando ar eu gobeithion a'u breuddwydion a gwybod bod gennych allu i roi rhai o'r rheini, o leiaf, ar waith. Felly, rwy'n ei groesawu'n fawr, ac rwy'n falch iawn y byddwn yn gallu gwireddu'r parc delfrydol hwnnw'n fuan iawn.

Busnesau a Chynaliadwyedd Amgylcheddol

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch cefnogi busnesau i ddod yn amgylcheddol gynaliadwy? OQ57310

Diolch. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Gweinidog yr economi ar sut y gall Busnes Cymru adlewyrchu'r angen i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Y bore yma, cyfarfûm ag ef i drafod canlyniadau'r astudiaeth fanwl, a gyhoeddwyd gennym yn gynharach y prynhawn yma, o sut y gallwn sicrhau mwy o ynni adnewyddadwy a'r cyfleoedd economaidd sy'n deillio o hynny, ar gyfer y gadwyn gyflenwi, ond hefyd i grynhoi mwy o gyfoeth yng Nghymru fel y gellir cadw ffyniant o'n hadnoddau naturiol yma yn ein cymunedau.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig arolwg o fentrau bach a chanolig yng Nghymru ar eu cynlluniau i wneud eu hunain yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Dywedodd perchnogion busnesau bach mai'r prif beth sy'n rhwystro busnesau rhag gwneud eu gweithrediadau'n fwy cynaliadwy oedd diffyg amser ac adnoddau i weithredu strategaethau amgylcheddol. Tynnodd penaethiaid cwmnïau sylw hefyd at eu diffyg arbenigedd eu hunain ar ble i ddechrau gyda chynlluniau cynaliadwyedd, tra'n adrodd am heriau wrth gael y gefnogaeth ariannol gywir o ffynonellau traddodiadol. Ddirprwy Weinidog, yng ngoleuni'r canfyddiadau hyn, a wnewch chi ymrwymo i drafod, gyda Gweinidog yr Economi, ffyrdd o ddarparu'r arweiniad ymarferol a'r cyllid y mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru eu hangen i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn? Diolch.

Wel, rwy'n sicr yn cydnabod yr heriau y mae busnesau bach a chanolig eu maint yn eu hwynebu wrth edrych y tu hwnt i bwysau tymor byr rhedeg busnes prysur mewn cyfnod heriol, ac wrth gwrs, maent wedi cael cyfnod arbennig o heriol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Wrth gwrs, nid yn unig ei bod hi'n briodol ymdrin â chynaliadwyedd amgylcheddol, mae'n gwneud lles yn y tymor byr i'r busnesau eu hunain hefyd o ran lleihau costau eu hallbwn ynni, yn ogystal â bod mewn cytgord â'u cwsmeriaid a'r pryder cynyddol mewn perthynas â newid hinsawdd. Dros y misoedd nesaf, bydd Busnes Cymru yn cryfhau eu gwaith allgymorth gyda'r gymuned micro a BBaCh i helpu i wireddu manteision gweithredu'n wahanol, a byddant yn canolbwyntio ar gamau allweddol yr addewid twf gwyrdd i sicrhau eu bod yn ymwybodol o newidiadau rheoleiddiol, arferion da o ran dylunio cynnyrch a gwasanaethau ac wedi'u cysylltu â'r cymorth sydd ar gael i fwrw ymlaen â'u huchelgeisiau gwyrdd.

14:20
Ystadau Tai

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod adeiladwyr yn cwblhau ystadau tai i safon foddhaol? OQ57327

Mae adeiladwyr yn gyfrifol am sicrhau bod cartrefi newydd yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu. Bydd y Bil Diogelwch Adeiladau yn nodi cyfrifoldebau clir dros gydymffurfio ac yn darparu ffordd o wneud iawn pan fo pethau'n mynd o chwith.

Diolch, Weinidog. Mae wedi dod i'r amlwg i mi nad oes mesurau digonol mewn lle i fynd i'r afael â'r broblem enfawr sy'n bodoli wrth i rai adeiladwyr fethu â chwblhau ystadau tai i safon foddhaol. Mae nifer o achosion ble mae rhywun yn prynu tŷ dan yr argraff gamarweiniol y bydd isadeiledd fel lonydd, palmentydd, goleuadau stryd ac yn y blaen yn cael eu cwblhau unwaith y bydd yr holl dai yn yr ystad yn cael eu gwerthu cyn cael eu gadael ar ôl i fyw mewn amodau byw peryglus am flynyddoedd os nad am byth. Mae awdurdodau lleol yn dweud nad oes ganddyn nhw'r grymoedd i weithredu ar hyn, tra bod Llywodraeth Cymru yn honni mai mater i'r awdurdodau cynllunio lleol ydyw, ac mae'r anghyfiawnder hwn hyd yn oed yn waeth mewn achosion ble mae rheolaeth dros adeiladu wedi ei allanoli i gwmnïau preifat. Yn yr achosion hyn, nid yw'r awdurdodau cynllunio lleol yn gwneud unrhyw waith ymchwilio na gorfodi pan fo gwaith diffygiol clir. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad i mewn i hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn gorfod byw mewn amodau anniogel? Diolch.

Diolch, dyna gymysgedd o un neu ddau o bethau. Mae fy nghyd-Aelod, Hefin David, wedi bod yn sôn ers cryn dipyn o amser am gysylltu ystadau a'r taliadau rheoli ystadau sydd weithiau'n cael eu gadael gyda pherchnogion cartrefi yn sgil hynny. Mae hon yn parhau i fod yn broblem wirioneddol, oherwydd mae'n rhywbeth a negodwyd rhwng y datblygwr a'r awdurdod lleol, naill ai drwy gytundeb priffyrdd, adran—rwy'n anghofio; 328, rwy'n credu, ond peidiwch â'm dyfynnu—un o adrannau Deddf Priffyrdd 1980 sy'n cysylltu'r briffordd, neu'n wir, cytundeb cynllunio adran 106, sy'n rhoi rhwymedigaethau ar y datblygwyr. Yna, mae awdurdodau lleol yn aml yn mabwysiadu'r ffyrdd hynny ac yn cymryd rheolaeth drostynt fel rhan o'u rhwydwaith statudol, ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny, ac mae'n fater o negodi rhwng yr awdurdod lleol a'r datblygwr ynghylch pa gysylltiad, os o gwbl, a wneir i'r ystâd honno.

Rydym eisoes wedi cynnal nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen ar ffyrdd heb eu mabwysiadu ac ystadau heb eu cwblhau, ac rydym wedi cael golwg ar rai o ganlyniadau'r rheini. Maent yn hynod gymhleth. Mae ffyrdd heb eu mabwysiadu o bob siâp a maint ledled Cymru. Mae llawer o berchnogion tai yn byw ar ffordd heb ei mabwysiadu. Dylwn ddatgan buddiant, Ddirprwy Lywydd, a dweud fy mod yn byw ar un fy hun ac yn hapus iawn i wneud hynny. Nid wyf eisiau i'r ffordd gael ei mabwysiadu gan neb ac nid yw'n achosi problem. Mae deiliaid tai eraill yn byw ar ffyrdd ac ystadau heb eu mabwysiadu lle mae'n rhaid iddynt dalu ffi reoli am hynny ac mae yna delerau ac amodau didostur iawn pan fyddant yn prynu'r tai hynny ar gyfer yr hyn sy'n digwydd os nad ydych yn talu'r ffioedd. Fel y dywedais, mae Hefin David wedi tynnu fy sylw at hyn droeon.

Rydym yn gweithio'n galed iawn fel rhan o'n Bil Diogelwch Adeiladau i roi cyfres o rwymedigaethau penodol iawn ar adeiladwyr, datblygwyr a chwmnïau rheoli ar gyfer pwy fydd yn gyfrifol am beth wrth fwrw ymlaen. Nid yw hynny'n datrys y broblem ar hyn o bryd. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn negodi'r 106 o gytundebau fel bod y cyfrifoldeb yn trosglwyddo a bod y datblygwr yn rhoi'r math cywir o'r hyn a elwir yn swm gohiriedig i'r gronfa i dalu am waith cynnal a chadw parhaus, ond nid oes amheuaeth ei bod yn broblem, ac mae'n un barhaus. Rydym yn gweithio'n galed iawn, ac rwy'n hapus iawn i drafod y problemau gyda hyn gydag unrhyw Aelod. Fel y dywedais, rwyf wedi eu trafod droeon gyda Hefin David. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda Llywodraeth y DU ar hyn o bryd ar y Bil diwygio cyfraith lesddaliad, ond mae'r tai hyn yn y canol rhyngddynt, felly maent yn dai rhydd-ddaliad, ond mae ganddynt ddarpariaethau tebyg i dai lesddaliad bron o ran rheolaeth yr ystâd. Felly, rydym yn gobeithio y bydd hynny'n rhan o'r diwygiadau a gyflwynwn; os nad ydyw, byddwn yn deddfu yma yng Nghymru i wneud hynny.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Colli Amser Ysgol

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r amser ysgol a gaiff ei golli yn ystod pandemig COVID-19 yng Ngogledd Cymru? OQ57329

Rwyf wedi cyflwyno'r fframwaith rheoli heintiau lleol a'r pecyn cymorth ategol i gynorthwyo ysgolion i gyflwyno mesurau ychwanegol yn seiliedig ar drosglwyddiad cymunedol lleol; er enghraifft, yng Ngwynedd, rydym wedi cynyddu'r cynnig o brofi yn ddiweddar am gyfnod cyfyngedig mewn ymateb i angen lleol. Rydym yn trafod yn gyson â chyfarwyddwyr addysg ledled Cymru ynglŷn ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys, ar hyn o bryd, trefniadau diwedd tymor. Oherwydd ein hymrwymiad i gynnal gallu plant i ddysgu yn yr ysgol, mae pob awdurdod lleol ledled Cymru yn blaenoriaethu cadw eu hysgolion ar agor tan ddiwedd y tymor a chynllunio ar y sail honno.

14:25

Diolch ichi, Weinidog. Mae'n braf clywed yr ymgysylltiad rydych yn ei gael gydag ysgolion a chyda'r cyfarwyddwyr addysg mewn awdurdodau lleol hefyd oherwydd, wrth gwrs, mae disgyblion yng Nghymru, yn anffodus, wedi cael llai o amser wyneb yn wyneb mewn ysgolion na chymheiriaid ar draws y Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig. Ac rwy'n siŵr y byddech yn cydnabod bod dysgu ar-lein—er bod ganddo ei le, nid oes dim byd tebyg i ddisgyblion yn dod at ei gilydd a'r manteision sy'n deillio o ddysgu wyneb yn wyneb, gan ganiatáu i athrawon ddarparu arsylwi a chymorth priodol. Ac wrth gwrs, mae'r rhyngweithio wyneb yn wyneb hwn yn caniatáu i ysgolion gefnogi llawer o'n dysgwyr iau, yn enwedig, gyda datblygiadau pwysig, ac mae lleferydd yn un o'r rheini. A nodais eich datganiad yn y Siambr fis diwethaf ar lafaredd a darllen plant, a'ch sylwadau fod sgiliau siarad, gwrando a darllen, wrth gwrs, yn hanfodol i bob agwedd ar ein bywydau, ac roeddwn yn croesawu clywed y pethau hynny'n cael eu dweud. Ond hoffwn fynd gam ymhellach ar hyn—ac efallai fod angen imi ddatgan buddiant, gyda thri phlentyn yn yr ysgol gynradd. Ond Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o effeithiau colli amser yn yr ysgol ar leferydd plant? Pa sgyrsiau a gawsoch gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wella'r sefyllfa a sicrhau bod mynediad ar gael at rai a allai fod angen y cymorth ychwanegol hwnnw?

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Wrth gwrs, mae'n gywir i ddweud bod plant yn dysgu orau pan fyddant mewn ystafell ddosbarth gyda'u cyfoedion a chyda'u hathrawon yn dysgu wyneb yn wyneb. Wrth gwrs, cafwyd adegau pan na fu hynny'n bosibl ac wrth gwrs, mewn rhai rhannau o Gymru mae hynny'n parhau i fod yn heriol o wythnos i wythnos ar hyn o bryd. Ond mae'n fwriad gan bawb ar draws y system addysg gyfan yng Nghymru i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i blant fod yn dysgu'n ddiogel mewn ystafelloedd dosbarth gyda'u cyfoedion, fel y dywedaf. Credaf ei bod yn wir dweud ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn yr amgylchiadau anodd dros y 18 mis diwethaf ar ddatblygu'r cynnig dysgu o bell a dysgu cyfunol yn sylweddol iawn o gymharu â'n sefyllfa ar ddechrau'r pandemig, yn naturiol, ond prin fod angen dweud mae'n debyg nad yw hynny mor foddhaol â bod yn yr ysgol.

Soniodd am y datganiad a wneuthum nifer o wythnosau'n ôl. Rwyf mewn trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog iechyd mewn perthynas â'r mater hwnnw. Roedd yn seiliedig ar ein dealltwriaeth fod heriau wedi bod i ddisgyblion iau yn enwedig o ran llafaredd a'r camau datblygiadol cynnar, a dyna a ysgogodd y datganiad hwnnw. Ac fe welwch ddatblygiadau pellach yn y maes hwnnw dros yr wythnosau nesaf, a gobeithio y gallwch eu croesawu.

Mi ddylai popeth, wrth gwrs, gael ei wneud i atal colli mwy o ysgol, ond, efo nifer yr achosion mor uchel, mae yna broblemau ymarferol mewn ysgolion o sicrhau bod yna ddigon o staff ar gael i gadw dosbarthiadau ar agor ac, wrth gwrs, mae yna bryder go iawn a dealladwy iawn am drosglwyddiad o fewn ysgolion gan staff a rhieni sy'n cysylltu efo fi, yn cynnwys pryderon am effaith posib hynny ar allu teuluoedd i ddod at ei gilydd yn ddiogel dros y Nadolig. Felly, o gofio bod risg yr amrywiolyn omicron newydd yn dal i gael ei asesu, beth ydy neges y Gweinidog i'r rheini sy'n bryderus iawn ac y byddai'n ffafrio symud i ddysgu arlein, efallai dim ond am ychydig ddyddiau'n ychwanegol, yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig?

Wel, mae'r Aelod yn iawn i ddweud, wrth gwrs, fod amgylchiadau omicron yn golygu ein bod ni'n gorfod cadw golwg gofalus iawn ar ddatblygiadau. Mae'r Cabinet wedi cwrdd heddiw a bydd yn cwrdd eto yfory. Mae'r peth o dan drosolwg dyddiol ar hyn o bryd oherwydd bod y darlun yn newid ac mae mwy o ddata'n cael eu cyflwyno a'r dystiolaeth yn dod yn amlycach fesul diwrnod. Felly, mae wir yn bwysig yn y cyfnod hwn nawr ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau ein bod ni'n glynu wrth y rheoliadau sydd wedi bod mor bwysig i'n cadw ni'n ddiogel. Gwnes i ddatganiad ar ddechrau'r mis i sicrhau bod gennym ni approach cenedlaethol ar gyfer gwisgo mygydau mewn dosbarthiadau, ynghyd â mewn ardaloedd eraill yn ein hysgolion ni, oherwydd dydyn ni ddim eto yn gwybod yn union beth yw impact omicron, felly, dŷn ni eisiau sicrhau ein bod ni'n ofalus, yn sicr dros dro. 

O ran y galwadau oddi wrth rai i edrych ar ddiwrnodau olaf y tymor, mae rhai awdurdodau'n gorffen, wrth gwrs, ddiwedd wythnos nesaf, ac mae rhyw naw neu 10 yn gorffen yn agosach at y Nadolig. Rydyn ni wedi bod yn trafod hyn gyda swyddogion yn fewnol, wrth gwrs, a chydag awdurdodau lleol ledled Cymru, yn cynnwys y rheini sy'n mynd yn hwyrach tuag at y Nadolig. Fel rwy'n ei ddweud, mae awydd gan bawb ar hyn o bryd i sicrhau bod ein plant ni'n gallu bod yn eu hystafelloedd dosbarth. Fe gawn ni weld beth ddaw yn sgil omicron, fel rwy'n ei ddweud. Dyw'r sefyllfa ddim cweit mor straightforward efallai â jest dweud gan fod plant ddim yn yr ystafell ddosbarth bod hynny'n rhywbeth sydd yn diogelu o ran trosglwyddiad. Mae impact yn gallu dod ar wasanaethau cyhoeddus eraill ac yn ehangach na hynny. Mae, wrth gwrs, impact ar ddysgu a hefyd dyw e efallai ddim yn cymryd mewn i ystyriaeth bod cyfle i blant gymysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth beth bynnag. Felly, mae plant wedi colli cymaint o ddysgu dros y flwyddyn i 18 mis diwethaf, rŷn ni am sicrhau eu bod nhw'n cael pob cyfle posibl yn cynnwys yn ystod y diwrnodau hynny. Dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd, ond fel rwy'n ei ddweud, rŷn ni'n cadw'r pethau yma o dan drosolwg cyson.

14:30
Cyfraddau Presenoldeb

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu ysgolion i gynyddu cyfraddau presenoldeb ymhlith y disgyblion mwyaf difreintiedig yn dilyn cyhoeddi adroddiad diweddaraf Estyn? OQ57323

Mae'n bwysig fod gennym ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad ar draws pob carfan o ddysgwyr. Mae adolygiad o batrymau presenoldeb ar y gweill ac rwy'n disgwyl canfyddiadau interim yn fuan, gyda'r adroddiad ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, a bydd canfyddiadau'r adolygiad hwnnw yn ein helpu i lywio datblygiad yr ymyriadau polisi wedi'u targedu.

Diolch, Weinidog. Un o'r datganiadau mwyaf arwyddocaol yn adroddiad blynyddol Estyn oedd bod bron bob arweinydd ysgol wedi rhoi blaenoriaeth i les eu staff a'u disgyblion yn hytrach na'u lles eu hunain. A deallaf yn iawn fod penaethiaid a staff sydd â chyfrifoldebau diogelu yn ysgwyddo baich trwm iawn mewn perthynas â lles disgyblion, yn enwedig y rhai nad ydynt eto wedi dychwelyd i'r ysgol yn dilyn y cyfyngiadau symud. Ac mewn rhai ffyrdd, mae ysgolion yn teimlo mai hwy yw'r pedwerydd gwasanaeth brys, oherwydd er bod ganddynt blant agored i niwed o'u blaenau neu ar flaen eu meddyliau, mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau cymorth eraill y gall ysgolion droi atynt fel arfer yn dal i weithredu ar-lein ac o adref. Felly, mae athrawon yn gorfod ymdrin â sefyllfaoedd heriol iawn. Credaf fod hyn yn arbennig o wir am fyfyrwyr nad ydynt wedi dychwelyd i'r ysgol eto. Nid plant sy'n hunanynysu'n briodol yw'r rhain; plant yw'r rhain nad ydynt wedi dod i'r ysgol ac er gwaethaf ymdrechion gorau ysgolion, maent yn dal i fod yn absennol. A gwyddom—

—gan yr heddlu fod cynnydd enfawr wedi bod mewn achosion o drais yn y cartref, cynnydd enfawr yn nifer y plant sy'n cael eu tynnu i mewn i linellau cyffuriau neu fathau eraill o gamfanteisio, a waethygwyd gan y cyfyngiadau symud. Felly, a ydych yn cytuno â mi, er eu bod yn fach o ran eu nifer, fod pob absenoldeb heb esboniad o'r ysgol, yn enwedig os nad ydynt wedi bod yn yr ysgol ers y cyfyngiadau symud, yn peri pryder mawr ynglŷn â lles pob disgybl, a bod yn rhaid i'r holl asiantaethau dan sylw roi blaenoriaeth i'w cael yn ôl i'r ysgol?

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod ar y pwynt cyntaf a wnaeth, sef bod staff addysgu a staff ysgol yn aml iawn wedi rhoi lles eu dysgwyr o flaen eu lles eu hunain. A hoffwn gofnodi eto heddiw fy niolch i'r holl weithlu addysg am yr ymdrechion anhygoel y maent wedi'u gwneud dros y 18 mis diwethaf, ond gan gydnabod yn benodol, rwy'n credu, pa mor heriol y mae'r tymor diwethaf wedi bod yn ein hysgolion.

A'r pwynt arall a wnaeth rwy'n awyddus i'w danlinellu yw mai unigolion yw'r rhain ac nid mater o rifau'n unig, fel y gwnaethoch chi gydnabod yn eich cwestiwn—mae pob achos unigol yn bwysig. Dyna pam, yn ogystal ag edrych ar batrymau presenoldeb ac absenoldeb, rwyf am gomisiynu gwaith i ddeall beth sy'n digwydd ar lawr gwlad a chael safbwyntiau arweinwyr ysgolion ynglŷn â pham y mae hyn yn digwydd yn benodol.

Ac felly, rwy'n gobeithio gallu cyhoeddi cymorth penodol, cyn diwedd y tymor hwn, i ddisgyblion sydd wedi dangos patrwm o absenoldeb ac i gynorthwyo ysgolion i ymgysylltu mwy â'r teuluoedd hynny. Ceir problem benodol mewn perthynas â rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Tueddai'r cyfraddau presenoldeb i fod yn is ymhlith y disgyblion hynny. Ac mae problem hefyd gyda disgyblion blwyddyn 11, sydd wedi tueddu i fod yn llai tebygol o fod yn bresennol. Felly, dyna ddwy o'r carfanau, ond hefyd y rhai y soniodd amdanynt yn ei chwestiwn. Mae'n bwysig iawn inni ddeall amgylchiadau unigol a gweithio gyda'r teuluoedd a'r dysgwyr hynny.

Weinidog, mae fy etholaeth yn gartref i un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac efallai yn y DU gyfan hyd yn oed. Yn anffodus, mae tlodi mor aml yn gysylltiedig â chyflawniad addysgol gwael, a gall fod yn gylch dieflig, gyda phlant rhieni sydd heb gael addysg dda yn llai tebygol o gael addysg dda. Fel y mae adroddiad Estyn yn ei nodi, bydd hyn wedi'i waethygu gan y pandemig, gan y bydd addysg gartref wedi bod yn heriol iawn i'r aelwydydd hynny. Er bod gan y Rhyl ddarpariaeth band eang dda, diolch byth, efallai na fydd aelwydydd tlotach yn gallu fforddio band eang na'r dyfeisiau sydd eu hangen i gael mynediad at ddysgu ar-lein. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu Great British Tech Appeal Vodafone, sy'n gofyn inni gyfrannu ein hen ddyfeisiau, megis ffonau clyfar, cyfrifiaduron llechen a gliniaduron, iddynt hwy allu eu hadnewyddu a'u darparu i deuluoedd anghenus, ynghyd â data, galwadau a negeseuon testun am ddim? Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda rhai fel Vodafone i sicrhau bod y cynllun o fudd i deuluoedd yn Nyffryn Clwyd ac ar draws Cymru?

14:35

Rwy'n sicr yn cytuno ag ef fod angen inni sicrhau bod y teuluoedd sy'n lleiaf abl i fforddio mynediad at fand eang a'r math o offer cyfrifiadurol y bydd llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol yn gallu cael gafael arnynt er mwyn i'r cyfleoedd hynny fod ar gael i ddysgwyr, ni waeth beth fo'u hamgylchiadau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu gwerth tua £150 miliwn o gyfarpar a chysylltedd hefyd i gefnogi'r mathau hynny o ddysgwyr, er mwyn manteisio'n llawn ar y cyfleoedd dysgu cyfunol a dysgu o bell, y bu'n rhaid inni allu eu darparu dros y 18 mis diwethaf, yn anffodus. Credaf fod hynny'n rhoi llwyfan da iawn i ni yn y dyfodol mewn gwirionedd i alluogi'r dechnoleg honno i ddod yn fwy prif ffrwd efallai yn y ffordd rydym yn datblygu dysgu yn ein hysgolion, gan gynnwys yn y cwricwlwm newydd, er budd ein holl ddysgwyr, ni waeth beth fo'u hamgylchiadau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r achos ofnadwy a ddigwyddodd yn Solihull yng ngorllewin canolbarth Lloegr, lle bu farw Arthur Hughes, a oedd yn chwech oed, ar ôl cael ei gam-drin yn greulon a ffiaidd. Er i bryderon gael eu lleisio, collodd Arthur ei fywyd oherwydd methiannau sylweddol a chyffredinol. O safbwynt addysgol, Weinidog, rydym yn ymwybodol iawn yn awr o'r profiad a gawsom yn ystod y pandemig fod yr ysgol ar gyfer plant yn llawer mwy nag ar gyfer addysg yn unig—mae'n darparu rôl gymdeithasol bwysig, ehangach, gyda lle diogel i blant, gan sicrhau eu bod yn cael bwyd a chymorth. Mae hefyd yn rhywle y gellir nodi patrymau ymddygiad a chamdriniaeth gorfforol. Ac fel y gwelsom o achos dirdynnol Arthur, pe bai wedi bod yn yr ysgol, mae'n bosibl y gellid bod wedi sylwi ar y gamdriniaeth yn gynt.

Mae'n ddealladwy fod rhieni'n pryderu am yr achos dirdynnol hwn, Weinidog, ac yn gofyn am sicrwydd gennych chi a'r Llywodraeth yn awr fod cadernid gweithdrefnau diogelu mewn ysgolion, a'r safonau ar gyfer diogelu plant sy'n agored i niwed ledled Cymru, wedi eu sicrhau. Weinidog, mae angen inni hefyd sicrhau bod gennym—

—hyfforddiant ychwanegol i athrawon allu nodi arwyddion posibl o gamdriniaeth. Felly, a allwch ein sicrhau heddiw, Weinidog, y bydd gwersi'n cael eu dysgu o'r achos hwn, gan gynnwys yr effaith ddifrifol y mae'r cyfyngiadau symud a dim ysgol yn ei chael ar ein plant, yn enwedig plant sy'n agored i niwed?

Wel, a gaf fi ategu ei sylwadau ynglŷn ag achos trasig Arthur Labinjo-Hughes, y cyfeiriodd ato ar ddechrau ei chwestiwn, sy'n wers drist a sobreiddiol iawn i bob rhan o'r DU yn fy marn i? Mae gan bob lleoliad addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod plant yn cael mynediad at amgylchedd dysgu diogel, ac rwy'n disgwyl ac yn deall, wrth gwrs, ar draws y system, fod ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i'r cyfrifoldebau hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol, 'Cadw dysgwyr yn ddiogel', i gynorthwyo ysgolion i greu a chynnal amgylchedd dysgu diogel i blant. Rhaid i bob ysgol nodi person diogelu dynodedig, a fydd yn sicrhau bod staff, dysgwyr a rhieni yn teimlo'n hyderus y gallant godi materion neu bryderon am ddiogelwch neu les dysgwyr, ac y byddant yn cael ystyriaeth ddifrifol. A rhaid i unrhyw un mewn lleoliad addysg, a gyflogir gan yr awdurdod lleol, adrodd wrth yr awdurdod lle mae achos rhesymol dros gredu bod plentyn mewn perygl o fod yn cael ei gam-drin, ei esgeuluso neu unrhyw fath arall o niwed. Mae gan bob awdurdod yng Nghymru swyddog arweiniol dynodedig ar gyfer diogelu mewn addysg, ac mae'r Hwb yn cynnal cyfres o fodiwlau e-ddysgu, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, i gynorthwyo staff mewn lleoliadau addysg i ddeall y cyfrifoldebau diogelu hynny a'r ffordd orau o'u gweithredu.

Diolch. Weinidog, mae adroddiad Estyn a ryddhawyd yn gynharach yr wythnos hon yn eithaf damniol, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno. Roedd yn ddigon anodd pan oeddem ni yn yr ysgol, yn gymdeithasol, ond yn awr i bobl ifanc mae ganddynt lawer mwy i ymdopi ag ef, gyda phwysau ychwanegol ffonau a chyfryngau cymdeithasol, ac mae'n fy ngwneud yn falch nad wyf fi yn yr ysgol mwyach, ond fel rhiant, mae'n fy mhoeni'n ddyddiol.

Mae adroddiad Estyn sydd newydd gael ei ryddhau yn peri gofid mawr ac mae wedi tynnu sylw at y sefyllfa drasig y mae myfyrwyr ynddi gyda chymaint o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion yn digwydd mewn ysgolion. Gydag adroddiadau fod plant mor ifanc ag 11 oed dan bwysau i ddarparu lluniau amhriodol, a nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion yn codi, a'r cynnydd yn nifer y bobl nad ydynt yn rhoi gwybod am yr achosion hyn yn codi, rhaid gofyn cwestiynau difrifol, Weinidog, ac ynglŷn â methiant truenus y Llywodraeth hon i fynd i'r afael â hyn. Nid yw'r canfyddiadau hyn yn newydd, ond maent yn gwaethygu. Felly, pam nad yw pobl ifanc yn teimlo y gallant roi gwybod ynglŷn â hyn? Mae angen rhoi mesurau rhagweithiol ar waith, Weinidog, ar draws pob ysgol yng Nghymru i sicrhau yr ymdrinnir ag achosion fel y rhain gyda pharch, ac y gall ein pobl ifanc deimlo eu bod yn cael eu clywed, yn ogystal â chael gwared ar yr ymddygiadau hyn mewn ysgolion drwy ein cwricwlwm newydd yn y dyfodol. Pa gamau brys rydych yn eu rhoi ar waith yn awr i fynd i'r afael â hyn, Weinidog, fel bod pobl ifanc sy'n cael eu cam-drin yn y ffordd hon yr eiliad hon yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt?

14:40

Rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â difrifoldeb y mater, a chytunaf â hi fod adroddiad Estyn yn peri gofid mawr, ac rwyf am ddiolch i bob plentyn a pherson ifanc a gymerodd ran yn yr adroddiad hwnnw. Ni fydd wedi bod yn beth hawdd iddynt ei wneud, ond maent wedi bod yn ddewr, ac yn y sgyrsiau gonest hynny, maent wedi ein galluogi i ddeall yn well beth yw'r sefyllfa yn llawer o'n hysgolion. Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ac mae tri ohonynt wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru, a byddwn yn derbyn pob un o'r argymhellion. Roeddwn yn falch o fod wedi comisiynu'r adroddiad hwn, am fy mod yn cydnabod bod angen inni ddeall y sefyllfa ar lawr gwlad yn well. Ni fyddwn yn cytuno â'i disgrifiad o safbwynt y Llywodraeth; credaf fod y Llywodraeth wedi gweithredu'n gyflym ac mewn ffordd drylwyr iawn. A bydd yn cofio'r drafodaeth a gawsom ar y pwynt pan gomisiynais yr adroddiad, a oedd yn rhestru'r gwaith a oedd eisoes ar y gweill ar y pryd, gyda'n hysgolion, gyda'n hawdurdodau addysg lleol, a darparu adnoddau ychwanegol i gefnogi ein hysgolion. 

Mae un o'r prif ganfyddiadau yn adroddiad Estyn mewn perthynas â chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd, ac yn annog y Llywodraeth i roi ystyriaeth lawn i adroddiad Estyn wrth gynllunio a dyfeisio'r cod hwnnw, a gallaf gadarnhau ein bod wedi gwneud hynny. Bydd y Siambr yn cael cyfle i'w ystyried yr wythnos nesaf wrth gwrs. Ond un o'r pwyntiau rwyf am ei wneud yn gwbl glir yw na allwn ddibynnu'n unig ar y cwricwlwm newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno dros flynyddoedd lawer, i fod yn ateb yma. Rwyf am sicrhau bod y meddylfryd a'r dysgu a'r adnoddau, sydd ar gael fel rhan o'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd, hefyd yn ein helpu yn y cwricwlwm presennol, gan y bydd hwnnw gyda ni am beth amser. Felly, mae gwaith eisoes ar y gweill yn y gofod hwnnw. 

Yn olaf, mewn perthynas â'r argymhelliad ynghylch casglu data am fwlio ac aflonyddu mewn ysgolion, rydym eisoes yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i ddiwygio ein canllawiau gwrth-fwlio ac aflonyddu i ystyried yr hyn y mae Estyn yn ei argymell heddiw. 

Diolch, Weinidog. Gofynnwyd cwestiynau eisoes am hyn heddiw, ond hoffwn bwyso arnoch ymhellach, os caf, ynglŷn ag a fydd ysgolion yn cau'n gynnar ar gyfer gwyliau'r Nadolig. Mae rhai ysgolion yn paratoi drwy gael eu gweithgareddau Nadolig yr wythnos hon yn hytrach na'r wythnos nesaf; mae rhai ysgolion wedi dweud eu bod yn mynd i gau; mae rhai ysgolion wedi dweud eu bod yn bendant na fyddant yn cau. Mae'n wahanol ledled Cymru. Onid oes angen dull Cymru gyfan o ymdrin â hyn, Weinidog? Ac mae angen rhyw fath o eglurder arnom heddiw, oherwydd mae angen i rieni baratoi gofal plant, mae angen i athrawon baratoi gwersi. Mae'n gwbl hanfodol eich bod yn rhoi cyfarwyddyd cyn gynted â phosibl ar yr hyn sy'n digwydd. Deallaf fod hyn yn gymhleth iawn, ac mae'n benderfyniad anodd i'w wneud, ond rhaid i hyn ddod i ben yn awr, Weinidog. Mae angen inni wybod heddiw neu erbyn dydd Gwener beth sy'n digwydd fel y gall pobl baratoi. A wnewch chi amlinellu'r hyn rydych chi'n ei wneud heddiw?

Wel, nid wyf yn credu bod clywed yr Aelod yn honni bod yna ddiffyg eglurder a minnau wedi nodi'r sefyllfa ychydig funudau'n ôl yn arbennig o ddefnyddiol, os caf ei roi felly. Fel y dywedais—[Torri ar draws.] Fel y dywedais, o ganlyniad i'r amrywiolyn, rydym i gyd yn edrych ar draws y Llywodraeth ar ba gamau y mae angen eu cymryd yn ddyddiol. Gwn ei bod yn cytuno bod angen sicrhau y gall plant aros yn yr ysgol cyn belled ag y bo modd, cyn hired ag y bo modd ac mor ddiogel â phosibl. Gwn ei bod yn rhannu'r farn honno. Canlyniad hynny ar draws y 10 awdurdod a fydd yn mynd y tu hwnt i'r wythnos nesaf, yw mai amser a gynlluniwyd ar gyfer addysgu i wneud iawn am yr amser addysgu a gollwyd hyd yma yw hwnnw. Felly, mae'r awdurdodau hynny, awdurdodau ledled Cymru, a Llywodraeth Cymru, yn rhannu uchelgais i sicrhau y gall pobl ifanc aros yn y dosbarth i wneud hynny. Ac ar y sail honno rydym yn cynllunio yn awr.

14:45

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ddoe, bues i'n cwrdd â phwyllgor Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, sydd ers blynyddoedd bellach wedi bod yn ymgyrchu dros gael swyddog i'r Gymraeg llawn amser yn yr undeb. Mae gan brifysgolion Aberystwyth, Abertawe a Bangor swyddog tebyg ers blynyddoedd. Ond, yma yng Nghaerdydd, lle mae dros 3,000 o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yr iaith—y nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg yn unrhyw un o'n prifysgolion ni—does yna ddim swyddog sabothol gyda nhw. Yn ôl llywydd undeb y myfyrwyr Cymraeg, byddai swyddog o'r fath yn gallu darparu gwasanaethau pwysig i fyfyrwyr yn y Gymraeg, trefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o'r iaith, sicrhau bod llais i siaradwyr Cymraeg yng ngweithredoedd yr undeb, a rhoi gofod i bobl ifanc, wrth gwrs, i ddod at ei gilydd i ddefnyddio'r iaith yn gymdeithasol. Hefyd, mae'n sicrhau bod democratiaeth yn cael ei pharchu gan fod y myfyrwyr wedi pleidleisio fwy nag unwaith yn y gorffennol o blaid y math hwn o gynnig. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod hi'n hen bryd i fyfyrwyr Cymraeg gael chwarae teg yma yn y brifysgol yn ein prifddinas ni, ac a fyddai fe'n fodlon ysgrifennu at fwrdd yr ymddiriedolwyr, sy'n cwrdd ddydd Iau nesaf mae'n debyg, er mwyn cefnogi ymgyrch y myfyrwyr Cymraeg?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Mewn prifysgol sydd â'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg o holl brifysgolion Cymru, mae'n briodol bod gan myfyrwyr gynrychiolaeth gyflogedig yn eu hundeb. Byddai hyn yn cyfateb i'r gynrychiolaeth rŷn ni'n gweld mewn undebau ym mhrifysgolion eraill Cymru, fel gwnaeth yr Aelod grybwyll yn ei gwestiwn. Mater, wrth gwrs, i fwrdd ymddiriedolwyr yr undeb ei hunan yw hyn. Fodd bynnag, os yw'r cynnig i sefydlu swydd lawn amser i'r Gymraeg wedi ei basio yn unfrydol, fel rwy'n deall ei fod e wedi, byddai'n rhesymol i ddisgwyl bod y penderfyniad hwn yn cael ei wireddu. 

Diolch yn fawr iawn. Gyda chwricwlwm newydd ar y ffordd, a'r targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a'r Bil addysg Gymraeg ar y gorwel, mae'n amlwg bod newidiadau mawr ar droed i'r sector addysg o ran darpariaeth y Gymraeg. Fel rŷn ni eisoes wedi'ch clywed chi'n sôn yn y Siambr, Weinidog, mae plant wedi colli llawer o'u haddysg yn ystod y pandemig, ac mae rhieni wedi gorfod chwarae rhan fwy canolog yn eu haddysg o ganlyniad. Er mwyn hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn ystod y pandemig, sydd, yn anffodus, yn parhau, ac ymlaen felly i 2050, bydd angen sicrhau, wrth gwrs, fod gan rhieni y sgiliau cywir i sicrhau bod plant yn gallu gwneud y defnydd gorau o'r iaith Gymraeg ar yr aelwyd. Felly, hoffwn i ofyn i chi pa gymorth penodol fydd yn cael ei ddarparu i rieni i'w galluogi i chwarae rhan wrth gefnogi addysg Gymraeg a hybu defnydd o'r Gymraeg gartref?

Wel, mae'r cwestiwn hwn yn un pwysig iawn, ac, mewn amryw ffyrdd, mae'r Llywodraeth eisoes yn darparu cefnogaeth. Un o'r blaenoriaethau sydd gyda ni yw sicrhau bod trosglwyddiad y Gymraeg yn digwydd ar yr aelwyd. Mae hynny, efallai, yn fwy o her na byddwn i'n gobeithio ac yn disgwyl ei bod hi. Felly, mae cefnogaeth benodol ar gael yn y cyd-destun hwnnw. Hefyd, fel rŷch chi'n gwybod, o ran y blynyddoedd cynnar, mae amryw gynlluniau eisoes gyda ni sydd yn cefnogi rhieni i siarad yn Gymraeg â'u plant a, phan fydd gyda ni rieni sydd ddim yn siarad Cymraeg, i sicrhau eu bod nhw'n cael mynediad a chyfle i ymwneud a chael profiad o gylchoedd meithrin ac ati yn y Gymraeg. Felly, mae amryw o'r pethau yna eisoes ar y gweill.

Ond, hefyd, beth rŷn ni wedi gweld yw mynediad ar draws Cymru at gyrsiau ar-lein y ganolfan dysgu genedlaethol. Mae'r ffigurau hynny wedi cynyddu'n sylweddol, a'r ddarpariaeth wedi'i hehangu hefyd yn sgil hynny. Felly, rwy'n credu, fel mae byrdwn y cwestiwn yn awgrymu, fod gwersi gyda ni y gallwn ni eu dysgu ar gyfer y dyfodol o'r hyn rŷn ni wedi gweld dros y flwyddyn, 18 mis diwethaf, i weld sut y gellir ehangu'r ddarpariaeth hynny ymhellach. 

Iawn, diolch yn fawr iawn. Dros yr haf, bu'r pwyllgor diwylliant presennol, sy'n gyfrifol am y Gymraeg, ymhlith pethau eraill, yn ymgynghori ynghylch beth ddylai ei flaenoriaethau fod ar gyfer y chweched Senedd yma. Un o'r blaenoriaethau oedd cydnabod bod plant ysgol yn ystod y pandemig wedi wynebu cyfnodau estynedig i ffwrdd o'r ysgol, fel rôn i'n sôn amdano yn y cwestiwn blaenorol, ac, oherwydd hynny, mae eu haddysg nhw wedi dioddef. Prin, oherwydd y broblem o safbwynt y Gymraeg yn benodol, y bu'r rhyngweithio rhwng plant a'u rhieni o safbwynt defnydd y Gymraeg, yn arbennig plant, wrth gwrs, sy'n dod o gartrefi di-Gymraeg. Felly, yn dilyn galwadau am ragor o fuddsoddiad yn y ddarpariaeth drochi hwyr yn y Gymraeg, cafwyd cyhoeddiad gan y Llywodraeth ynghylch cynnig o £2.2 miliwn i ehangu'r ddarpariaeth, ac fe gafodd hynny groeso mawr, gennym ni yn sicr yma ym Mhlaid Cymru. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog sut mae'r cyllid hwn wedi cael ei ddefnyddio a pha effaith mae'r cyllid wedi'i chael ar adfer addysg, yn bennaf addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, wrth feddwl am y dyfodol, pa gynlluniau pellach sydd gan y Gweinidog i gefnogi'r Gymraeg trwy gynlluniau adfer addysg?

14:50

O ran buddsoddi i gefnogi’r rheini oedd wedi colli'r cyfle i ddefnyddio’u Cymraeg, efallai lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar yr aelwyd, mae'r arian o ran adnewyddu a diwygio y gwnaethom ni ei ddatgan ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae elfen o hynny wedi’i flaenoriaethu ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg er mwyn sicrhau bod cefnogaeth bellach iddyn nhw allu ailfeithrin ac ailgydio, efallai, mewn rhai enghreifftiau, yn eu Cymraeg. Felly, mae'r ffynhonnell arian honno eisoes ar waith yn sicrhau cefnogaeth bellach i ddisgyblion.

O ran yr arian trochi, cawsom ni gynigion o bob rhan o Gymru ar gyfer y gyllideb honno, ac mae'n cael ei defnyddio mewn ardaloedd newydd i greu darpariaeth sydd ddim wedi bod yno o'r blaen, neu ddim wedi bod yno am flynyddoedd. Mewn mannau eraill yng Nghymru, mae'n estyn yr hyn sydd eisoes yn cael ei ddarparu, ac mewn awdurdodau lle efallai dŷn nhw ddim cweit eto wedi cyrraedd y pwynt ar eu siwrnai ieithyddol lle mae darparu trochi efallai yn gweithio o'u safbwynt nhw, maen nhw'n bwriadu defnyddio'r arian hynny i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd er mwyn gallu symud ymhellach ar y siwrnai. Rwy'n angerddol iawn dros beth allwn ni ei wneud trwy drochi i sicrhau mynediad i bob plentyn sydd eisiau hynny ar draws Cymru, ac rwy'n gobeithio cael perswâd ar y Gweinidog cyllid i sicrhau bod buddsoddiad yn gallu parhau yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Targedau Carbon Sero Net

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y targedau carbon sero net ar gyfer adeiladau ysgolion a cholegau newydd yng Nghymru? OQ57312

Rwyf wedi mandadu carbon sero net o dan faner newydd 'cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu' ar gyfer rhaglen fuddsoddi ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain o 1 Ionawr y flwyddyn nesaf. Bydd angen i bob prosiect adeiladu o'r newydd, adnewyddu mawr ac ymestyn ddangos bod carbon sero net yn cael ei gyflawni yn y gwaith ynghyd â gostyngiad o 20 y cant yn y carbon a gaiff ei allyrru wrth gynhyrchu deunyddiau adeiladu.

Diolch, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei ymrwymiad i sicrhau bod sero net yn flaenoriaeth i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae'n ymrwymiad datblygu hollol wych. Fel y dywedodd ein Gweinidog newid hinsawdd yn gynharach, mae gallu siarad â disgyblion o bob oed ar draws ein hetholaethau yn rhan wych o'n swyddi, a chaf fy ysbrydoli'n gyson gan eu hawydd i ddiogelu ein hamgylchedd ac maent mor ymrwymedig i wneud hynny. Enghraifft wych o hyn yw bod Ysgol Gynradd Llidiard, yn fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi gosod paneli solar eleni er mwyn dod yn fwy effeithlon a defnyddio llai o ynni, ac mae disgyblion a staff ar eu heco-bwyllgor wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith o reoli'r mesurau arbed ynni. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a fyddech yn gallu ymweld ag Ysgol Gynradd Llidiard a'r eco-bwyllgor fel y cânt ofyn i chi ynglŷn â syniadau eraill sydd ganddynt, a dangos i chi beth y maent wedi bod yn ei wneud a siarad ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru eu cefnogi ymhellach yn eu hymdrechion i gyflawni eu dyheadau uchelgeisiol fel arweinwyr amgylcheddol?

Byddwn yn sicr yn fodlon gwneud hynny a diolch i'r Aelod am ddod â'r pwynt pwysig hwnnw i'r Siambr. Roeddwn yn gwrando ar ei chwestiwn i'r Gweinidog newid hinsawdd yn gynharach, ac wrth edrych ar faint rhai o'r heriau sy'n ein hwynebu, credaf fod gweld pa mor bell y mae llawer o'n disgyblion iau wedi mynd yn wirioneddol ysbrydoledig, ymhellach efallai na hyd yn oed rhai ohonom sydd wedi myfyrio am gyfnodau hirach ar y cwestiynau hyn o safbwynt polisi, os caf ei roi felly.

Credaf fod cyfle yma i ni sicrhau hefyd, yn y cwricwlwm newydd, gyda'i bwyslais ar wneud yn siŵr fod ein plant a'n pobl ifanc yn ddinasyddion sy'n wybodus yn foesegol, gyda'r ffocws ar gynaliadwyedd, ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wrando ar eu lleisiau yn y ffordd rydym yn cynllunio'r cwricwlwm a hefyd y seilwaith addysg y cyflwynir y cwricwlwm drwyddo. Cofiaf hefyd yr ymweliad gwych a gefais gyda hi ag ysgol gynradd Nottage yn ei hetholaeth, ac roedd gweld cyffro'r plant ifanc yno ynglŷn â'r materion hyn yn ysbrydoli'n fawr hefyd.

14:55

Weinidog, gan y byddwch ym Mhen-y-bont ar Ogwr, byddwn yn argymell eich bod hefyd yn gweld ysgol yn fy ward, Pen-y-fai. Weinidog, mae gosod targedau ar gyfer ein hadeiladau ysgol a cholegau newydd yn gymharol syml, ac nid yw sicrhau eu bod yn cyfrannu at ein targed carbon sero net yn rhywbeth a ddylai achosi llawer o broblemau. Yr her fwy yw bod llawer o'n hadeiladau ysgol wedi'u codi ar ddiwedd oes Fictoria a dechrau'r cyfnod Edwardaidd—adeiladau brics coch trawiadol, solet sy'n debygol o fod yn fwy problemus wrth inni newid o wresogi nwy. Pa asesiad y mae wedi'i wneud o'r gyllideb y bydd angen ei dyrannu ar gyfer yr ysgolion hyn i gyflawni ein rhwymedigaeth? Diolch.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Credaf fod maint yr her sydd o'n blaenau, ac rydym i gyd yn ymwybodol ohoni, rwy'n credu, yn golygu bod angen inni wneud pob cyfraniad y gallwn ei wneud. Felly, credaf y bydd y rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn y dyfodol yn gwneud cyfraniad sylweddol, yn sicr ym maes prosiectau adeiladu o'r newydd, adnewyddu mawr ac ymestyn, a bydd y meini prawf ar gyfer y don gyntaf yn mynd yn fwyfwy heriol, os caf ei roi felly, wrth i dargedau Llywodraeth Cymru ei hun ddod yn fwy llym yn y blynyddoedd i ddod, gan fynd â ni ar ein llwybr tuag at Gymru sero net. Ond mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, fod angen inni sicrhau bod ein holl ystâd gyhoeddus yn gwneud cyfraniad tuag at y targed hwnnw hefyd. Pan wnaeth y Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd eu cyhoeddiadau yn yr wythnos cyn y COP, mae'n debyg y bydd wedi nodi mai rhan o'r amcan yw deall y sefyllfa'n well a beth yw cyflwr y stoc addysg ledled Cymru, a deall yn fanwl yr hyn sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau, cyn belled ag y gallwn, eu bod yn gwneud eu cyfraniad hefyd tuag at ein targedau sero net. Nid yw'n syml, yn sicr ni ellir ei wneud yn y tymor byr, a bydd her ariannu sylweddol ynghlwm wrtho, oherwydd mae llawer o'r technolegau newydd yn galw nid yn unig am osod pwmp gwres ffynhonnell aer, er enghraifft, ond heriau inswleiddio sylweddol, a heriau dosbarthu hefyd. Felly, bydd y gwaith hwnnw'n dechrau gyda'n partneriaid, ac yna bydd gennym well dealltwriaeth o'r hyn y mae angen inni ei wneud er mwyn bwrw ymlaen â'n huchelgais ar draws y stoc addysg.

Canllawiau COVID-19

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau COVID-19 diweddaraf ar gyfer ysgolion? OQ57324

Mae'r fframwaith penderfyniadau rheoli heintiau lleol yn nodi'r camau y dylai ysgolion eu cymryd i leihau trosglwyddiad COVID-19. Tra byddwn yn dysgu mwy am omicron, dylai staff ym mhob lleoliad addysg a dysgwyr oedran uwchradd ac uwch wisgo gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth ac mewn mannau cymunedol yn awr.

Weinidog, gyda chymaint o staff addysgu yn hunanynysu, mae'n frwydr wirioneddol i gynnal hyd yn oed y status quo mewn ysgolion, heb sôn am sicrhau'r ddarpariaeth well i'r rhai sydd wedi cael eu gadael ar ôl yn ystod y pandemig. Gyda chanlyniadau PISA mor isel ag y maent—yr isaf yn y DU, ac ar yr un lefel â gwledydd a arferai fod yn y bloc Sofietaidd—mae wedi dod yn amlwg iawn na all ein plant golli rhagor o addysg. Felly, mae cyflenwad parod o athrawon a chynorthwywyr addysgu yn gwbl angenrheidiol i fynd i'r afael â'r pwysau y mae COVID yn eu hachosi. Weinidog, beth a wnewch i helpu ysgolion i liniaru'r prinder athrawon cyflenwi yng Nghymru, ac a ydych yn credu bod angen ailwampio'r system athrawon cyflenwi? Sut rydych chi'n annog mwy o bobl i ymuno â'r proffesiwn, ac yn defnyddio'r cynorthwywyr addysgu i leddfu'r pwysau?

Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn ein bod yn credu bod angen diwygio'r system athrawon cyflenwi, oherwydd roedd yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu y cawsom ein hethol arni, a hefyd mae'n ymddangos yn y cytundeb sydd gennym gyda Phlaid Cymru, i edrych eto ar y model cyflenwi er mwyn dod â gwaith teg a chynaliadwyedd i mewn iddo. Mae'r gwaith hwnnw wedi bod yn mynd rhagddo a bydd yn mynd rhagddo ymhellach gyda Phlaid Cymru. Rwy'n gyffrous iawn i weld beth y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd mewn perthynas â hynny. 

Ar yr heriau eraill, mae hi'n gywir i ddweud nad cwestiwn ariannu yn unig ydyw; mae'n gwestiwn ynghylch argaeledd staff cyflenwi. Mae hynny wedi bod yn her sylweddol mewn nifer o'n hysgolion. Mae'r darlun yn amrywio ledled Cymru, ond mae'n sicr yn her mewn llawer o ysgolion. Un o'r ffynonellau o athrawon cyflenwi bob blwyddyn yw athrawon newydd gymhwyso. Eleni, oherwydd ein bod wedi sicrhau bod 400, rwy'n credu, o athrawon newydd gymhwyso wedi cael lleoliadau mewn ysgolion, mae hynny wedi golygu nad yw'r rheini ar gael i'r gronfa o athrawon cyflenwi posibl. Ond mae wedi golygu eu bod yn addysgu yn ein hysgolion. Felly, rwy'n credu ei fod yn ddarlun ychydig yn fwy cymhleth nag y mae ei chwestiwn yn ei awgrymu efallai.

Yn sicr, lle mae'n her ariannu, ac mae hynny'n amlwg yn dal i fod yn gwestiwn i ysgolion, rydym wedi ymrwymo fel Llywodraeth i sicrhau y gall ysgolion hawlio o'r gronfa caledi llywodraeth leol hyd nes y daw'r angen i ben, os caf ei roi felly, fel y gellir eu cynorthwyo i gael mynediad at ddarpariaeth gyflenwi pan fydd ei hangen arnynt a'u bod yn gallu dod o hyd iddi. Ac rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau addysg lleol i weld beth y gallwn ei wneud gyda chynlluniau mwy hirdymor i roi dealltwriaeth ychydig yn well i ni o'r anghenion yn y dyfodol, a allai helpu hefyd i sicrhau bod digon o athrawon cyflenwi ar gael. Ac mewn rhai rhannau o Gymru, darparwyd cymhellion lle ceir prinder arbennig o ddifrifol i annog pobl yn ôl i addysg gyflenwi, i weld a allwn fynd i'r afael â rhai o'r anghenion drwy'r llwybr hwnnw hefyd.

15:00
Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae ysgolion ym Mhowys yn elwa o raglen ysgolion yr 21ain ganrif? OQ57319

Mae Powys wedi elwa o fuddsoddiad o £79.5 miliwn yn nhon gyntaf rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, ac mae £113.5 miliwn arall wedi'i gynllunio yn y don fuddsoddi gyfredol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru fel Powys, er bod cyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi cael ei ddefnyddio i adeiladu ysgolion newydd, mae llawer o adeiladau ysgolion hŷn yn cael eu cadw oherwydd eu daearyddiaeth neu am resymau sy'n ymwneud â'u natur wledig. Clywais yr ymatebion i'r cwestiynau cynharach heddiw, Weinidog, ond a gaf fi ofyn sut rydych yn rhagweld cyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn cefnogi'n benodol y gwaith o godi estyniadau ysgolion neu adnewyddu adeiladau ysgol presennol i gynorthwyo ysgolion i ddod yn garbon niwtral, yn enwedig yng nghyd-destun yr heriau i fodloni safonau dull asesu amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu? Ymddengys eich bod mewn hwyliau hael heddiw, Weinidog, felly rwyf finnau am eich gwahodd hefyd i ymweld ag ysgol ym Mhowys gyda'r aelod o'r cabinet a swyddogion i drafod y mater penodol hwn yn fwy manwl.

Un o bleserau'r rôl yw'r cyfle i ymweld ag ysgolion ym mhob rhan o Gymru, felly rwy'n amlwg yn fwy na pharod i wneud hynny. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt ynghylch argaeledd rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain ar gyfer adeiladau nad ydynt yn rhai newydd, os caf ei roi felly. Mae ar gael, wrth gwrs, ar gyfer prosiectau adnewyddu mawr ac estyniadau, ac mewn gwirionedd, bydd angen i'r prosiectau hynny fod yn sero net o 1 Ionawr 2022. Ond mae'n wir hefyd nad y rhaglen honno yw'r unig fodd o adnewyddu adeiladau ysgol a buddsoddi cyfalaf yn ein hystâd ysgolion; mae hefyd ar gael drwy gyllid llywodraeth leol yn fwy uniongyrchol ar gyfer gwaith ar raddfa lai. Rwy'n siŵr y bydd ganddo ddiddordeb mewn gwybod bod dros 450 o ysgolion wedi elwa o'r grant ysgolion bach a gwledig hyd yn hyn, ac yn ychwanegol at hynny, mae nifer o ysgolion bach a gwledig wedi derbyn cyllid cyfalaf o'r grant lleihau maint dosbarthiadau babanod, ac yn wir, o raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain hefyd.

Addysg Gymraeg

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ddarpariaeth addysg Gymraeg? OQ57328

Mae dadansoddiad cyfrifiad ysgolion blynyddol lefel dysgwyr ynghyd â chynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn rhoi darlun cynhwysfawr i ni o'r ddarpariaeth addysg Gymraeg ar draws Cymru, a gyda'i gilydd yn cyfrannu at benderfyniadau polisi a chyllido sy'n ein symud yn agosach at ein targed 'Cymraeg 2050'.

Diolch, Weinidog. Mae'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i sicrhau bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael cyllid ychwanegol i gynyddu cyfran y prentisiaethau ac addysg bellach cyfrwng Cymraeg, a chynnig darpariaeth dysgu Cymraeg am ddim i bobl ifanc o 16 i 25 oed. Mae'r ymrwymiad hwn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru, ynghyd â Chymdeithas yr Iaith ac ymgyrchwyr iaith eraill, wedi bod yn galw amdano er amser, ac fe fydd, os yw'n cael ei weithredu'n effeithiol, yn gam ymlaen pwysig at wireddu hawl sylfaenol pawb yng Nghymru, gan gynnwys ein plant a'n pobl ifanc, i dderbyn addysg Gymraeg ac i fod â'r gallu i siarad yr iaith yn hyderus ac yn rhugl. A all y Gweinidog ddatgelu faint o arian yw'r cyllid ychwanegol hwn, ac a wnaiff y Gweinidog yn ogystal amlinellu'r camau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i weithredu'r polisi, a darparu amserlen o ran ei gyflawni? Diolch.

15:05

Rwy'n cytuno'n llwyr pa mor bwysig yw darparu gwersi am ddim i'r rhai o dan 25, a hefyd ehangu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r ganolfan ddysgu. Roedd rheini hefyd yn rhan o'r rhaglen waith 'Cymraeg 2050' wnes i ddatgan dros yr haf, felly rydyn ni'n cytuno pa mor bwysig yw hynny. O ran y cyllid pellach, wrth gwrs, mae'r coleg cenedlaethol eisoes eleni wedi cael cynnydd yn ei gyllideb er mwyn ehangu'r union math o bethau mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw yn ei chwestiwn. Mae wir yn bwysig ein bod ni'n cynyddu'r ddarpariaeth ôl 16 yn y Gymraeg. Mae'r Bil sydd yn mynd trwy'r Senedd ar hyn o bryd yn creu'r cyd-destun i hwnnw, ond mae angen hefyd y buddsoddiad i sicrhau bod hynny'n digwydd ar lawr gwlad. Felly, rŷm ni'n gytûn, yn sicr, am hynny. Beth yn union fydd y symiau, bydd yn rhaid ni aros i weld beth fydd yn natganiad y Gweinidog cyllid ymhen rhyw wythnos neu 10 diwrnod.   

Ti a Fi

7. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r Mudiad Meithrin i ddarparu gwasanaethau Ti a Fi? OQ57307

Drwy gymorth grant Llywodraeth Cymru, mae'r Mudiad Meithrin yn cynnal ac yn cefnogi darpariaeth Ti a Fi ledled Cymru. Yn ogystal, drwy ein rhaglen i ymestyn y ddarpariaeth, mae cylchoedd Ti a Fi yn cael eu sefydlu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cylchoedd meithrin newydd.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb? Os ydym am gyflawni'r bwriad o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, sicrhau bod mwy o blant yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yw'r ffordd orau a hawsaf o wneud hynny. A yw'r Gweinidog yn derbyn mai Ti a Fi yw'r cam cyntaf i ddysgu Cymraeg i lawer o blant, yn enwedig y rheini sy'n dod o gefndiroedd Saesneg eu hiaith? Pa gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i Ti a Fi a Mudiad Meithrin? A chan fod pawb arall yn rhoi gwahoddiadau, a gaf fi eich gwahodd i ymweld â Ti a Fi a Mudiad Meithrin yn Nwyrain Abertawe?

Byddwn wrth fy modd yn gwneud hynny. Credaf fy mod yn mynd i'w chael hi'n anodd dod o hyd i amser ar gyfer unrhyw beth arall ar ddiwedd y sesiwn hon heddiw, ond byddaf yn sicr o ddod.

Rwy'n cytuno gyda'r Aelod. Mae cylchoedd Ti a Fi yn gam pwysig iawn ar y daith i addysg cyfrwng Cymraeg. Maen nhw'n darparu cyfle i blant ifanc gymdeithasu a chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd yn rhoi cyfle i rieni gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn amgylchedd Cymraeg. Yn Abertawe, ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ddiwethaf, roedd 208 o blant wedi cofrestru mewn cylchoedd meithrin, a bron i hanner o'r rheini wedi bod mewn cylchoedd Ti a Fi cyn hynny, a rhyw 77 y cant o blant yn symud o'r cylchoedd meithrin hynny i addysg Gymraeg. Felly, mae'n amlwg bod hyn yn rhan bwysig iawn o gynyddu darpariaeth, a hefyd cynyddu'r galw, sydd yn elfen bwysig yn hyn. Mae'n fwy na jest diwallu'r galw; mae'n rhan hefyd o ysgogi mwy o alw. Mae darpariaeth Ti a Fi, yn anffodus, wedi cael ei effeithio'n ddifrifol yng nghyd-destun COVID-19, ond eleni mae Mudiad Meithrin yn rhoi ffocws arbennig ar ailddechrau darpariaeth Ti a Fi, gan gyflogi rhagor o swyddogion teithiol i hwyluso hyn. A thrwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Mudiad Meithrin wedi gosod targed i ailagor dros 300 o gylchoedd Ti a Fi er mwyn cyrraedd lefelau darpariaeth oedd yn bodoli cyn y pandemig.  

Ysgolion Gwledig

Mae dros 460 o ysgolion wedi elwa o'r grant ysgolion bach a gwledig, gyda chyllid o dros £10 miliwn yn nhymor blaenorol y Senedd a £2.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Yn ogystal, mae nifer o ysgolion bach a gwledig wedi derbyn cyllid cyfalaf drwy'r grant lleihau maint dosbarthiadau babanod a rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain.

Diolch. Weinidog, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi symiau enfawr o arian ychwanegol i Gymru dros yr 20 mis diwethaf drwy gydol y pandemig COVID. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £2.5 biliwn arall, i lawr yr M4 o San Steffan i Fae Caerdydd. Ar yr un pryd, mae fy nghyngor ym Mhowys yn ad-drefnu ac yn cau ysgolion gwledig am na allant fforddio eu cadw ar agor. Felly, Weinidog, a wnewch chi sicrhau yn y gyllideb fod gan ysgolion gwledig arian ychwanegol i sicrhau y gall yr ysgolion gwledig yn fy etholaeth ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed aros ar agor? Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Nid wyf yn derbyn rhagosodiad y cwestiwn fod Cymru wedi cael yr arian hwn gan Lywodraeth y DU. Mae trethdalwyr yng Nghymru wedi cyfrannu at yr adnodd hwnnw hefyd, ac mae gennym berffaith hawl i'n cyfran o gronfa gyffredinol y DU. Ar y pwynt a wnaeth am gronfeydd ysgolion bach a gwledig yn benodol, fe fydd yn gwybod, wrth gwrs, mai awdurdodau lleol sy'n dyrannu cyllid ysgolion unigol yn y pen draw, ond rwy'n ei sicrhau fy mod yn gwneud popeth a allaf, fel rwyf wedi'i wneud bob amser, i sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn cael yr holl arian sydd ei angen arnynt i barhau i ddarparu'r addysg ragorol y maent yn ei darparu i'n dysgwyr.

15:10
Y Cwricwlwm Newydd

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu'r cwricwlwm newydd yng Nghymru? OQ57316

Bydd y Cwricwlwm i Gymru'n cael ei gyflwyno o fis Medi 2022. Mae ysgolion a lleoliadau ledled Cymru yn parhau i wneud cynnydd yn unol â disgwyliadau cenedlaethol, gan fanteisio ar ddysgu proffesiynol a chymorth cenedlaethol a rhanbarthol. Ategir hyn gan £7.24 miliwn i gefnogi datblygu'r cwricwlwm yn yr ysgolion yn y flwyddyn ariannol hon.

Diolch am eich ymateb. Weinidog, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, rwy’n angerddol iawn am yr angen i gryfhau’r system fwyd yng Nghymru ac i ddatgloi'r buddion economaidd-gymdeithasol y gall mynediad at ddeiet da eu cynnig. Rhan bwysig o'r ymgyrch hon yw sicrhau bod gan bobl y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i leihau'r ddibyniaeth ar bethau fel bwyd brys ac i helpu pobl i ddefnyddio cynnyrch lleol o ansawdd da. Roedd yr hen gwricwlwm yn cyflwyno rhai o'r pethau hyn i ddysgwyr, a bu Llywodraethau blaenorol Cymru yn darparu arweiniad ar sut y dylid dysgu am fwyd ac iechyd, ond roedd canfyddiad hefyd y gellid cryfhau addysg bwyd yn ein hysgolion a'i hintegreiddio drwy wahanol feysydd dysgu. Felly, Weinidog, pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i rhoi i sicrhau bod addysg bwyd yn rhan gadarn o'r cwricwlwm newydd, yn enwedig drwy faes dysgu a phrofiad iechyd a lles, a sut y byddwch yn cynorthwyo ysgolion i roi hyn ar waith? Diolch.

Mae'n gywir fod lle canolog i hyn yn y cwricwlwm newydd, ac rwy'n siŵr ei fod, wrth ymweld â'i ysgolion lleol, fel y gwnaf finnau mewn ysgolion ledled Cymru, yn gweld y potensial sydd gan ddysgu am fwyd—o ble y daw, sut i'w baratoi, sut i fwyta'n iach—i fodloni nifer o amcanion y cwricwlwm newydd. Rwy'n aml yn synnu, wrth fynd i ysgolion lle mae bwyd yn rhan fawr o fywyd yr ysgol, pa mor greadigol y defnyddir hynny ar gyfer pob agwedd ar y cwricwlwm. Byddwn yn parhau i gefnogi hynny yn y cwricwlwm newydd ac yn manteisio ar y cyfleoedd estynedig a mwy helaeth i sicrhau bod ein dysgwyr yn deall pwysigrwydd bwyta'n iach a'r cyfraniad y mae bwyd yn ei wneud i hynny. Byddwn yn cynnwys hynny yn yr adnoddau rydym yn helpu i'w datblygu dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

3. Cwestiynau Amserol

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am ganiatáu imi ofyn y cwestiwn yma heddiw.

Ddoe, codais achos hynod drist Arthur Labinjo-Hughes, a fu farw yn Solihull—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf.

Diogelu Plant

1. Pa adnoddau a chanllawiau y mae Llywodraeth Cymru'n eu darparu i awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol eraill i nodi pryderon posibl ynghylch diogelu plant, yn dilyn marwolaeth Arthur Labinjo-Hughes yn Solihull? TQ586

A gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â heriau recriwtio mewn gwasanaethau amddiffyn plant ac i sicrhau bod gan asiantaethau partner adnoddau priodol i nodi problemau posibl o ran diogelu? A gaf fi wedyn roi'r cefndir—

Diolch yn fawr iawn. O safbwynt y gweithlu, rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol fod hyfforddiant helaeth yn cael ei ddarparu i'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drefniadau diogelu cryfach a chadarn i Gymru. Sefydlodd fwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol, a byrddau diogelu plant rhanbarthol, i gefnogi ymarfer diogelu ar sail tystiolaeth ar draws asiantaethau a ledled Cymru. Mae'r trefniadau hyn bellach wedi'u hen sefydlu. Cyhoeddwyd canllawiau statudol o dan y Ddeddf, ac mae gennym arferion diogelu cyson ar sail tystiolaeth ar draws asiantaethau a ledled Cymru, gyda chyfleoedd i ymarferwyr ddiweddaru eu sgiliau.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddoe, codais achos trist iawn Arthur Labinjo-Hughes, bachgen wyth oed yn Solihull, a gafodd ei gam-drin yn gorfforol am fisoedd gan ei dad a'i bartner. Fel y dywedais ddoe, mae'n rhaid inni beidio ag anghofio mai hwy oedd y bobl a'i lladdodd. Ac mae gwasanaethau, fel y gwyddom, yn cael eu hadolygu ac nid ydym yn siŵr o ganlyniadau hynny.

Ond mae amddiffyn a diogelu plant wedi bod yn arbennig o heriol yn ystod COVID-19, yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau symud cynnar. Fel y gwyddoch, Ddirprwy Weinidog, mae nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant sy'n derbyn cymorth ar gyrion gofal a phlant sy'n derbyn gofal wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, ar adeg pan fo awdurdodau lleol yn wynebu heriau sylweddol o ran staffio. Rwy'n ymwybodol fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ymarfer newydd ar gyfer Cymru ym mis Gorffennaf 2020 i bob ymarferydd sy'n gweithio gyda phlant o dan 18 oed.

Felly, a gaf fi orffen hefyd—wrth feddwl am unrhyw gyfyngiadau COVID posibl yn y dyfodol a rhai o'r cyfyngiadau cyfredol wrth fynd i mewn i gartrefi pobl, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau y gellir cynnal mwy o gyswllt wyneb yn wyneb â'r plant a'r teuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol? Ac a gaf fi ofyn hefyd a yw Llywodraeth Cymru yn gwybod faint o swyddi amddiffyn plant ar y rheng flaen sy'n wag ledled Cymru? Diolch yn fawr iawn.

15:15

Diolch. Diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau y ceir cyswllt wyneb yn wyneb â phlant a theuluoedd yn ystod unrhyw gyfyngiadau symud posibl pellach. Yn ystod y cyfyngiadau symud blaenorol, rydym yn ymwybodol na chafwyd cyswllt wyneb yn wyneb â llawer o deuluoedd, er iddo barhau gyda rhai teuluoedd. Yn anffodus, y sefyllfa mewn gwirionedd yw na allwn fyth fod yn sicr ynglŷn â—. Mae'n annhebygol y byddwn ni byth yn rhoi diwedd ar gam-drin plant gan y rheini sy'n gofalu amdanynt ac yn eu cadw'n ddiogel, ond gallwn wneud popeth a allwn i sicrhau bod ymarferwyr yn gallu nodi'r plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a deall eu dyletswydd i roi gwybod am blant sydd mewn perygl a bod ganddynt sgiliau a gwybodaeth i ymchwilio ac i ymateb i bryderon fod plentyn mewn perygl o niwed. Ac mewn cyfnodau fel y cyfyngiadau symud, credaf ein bod yn dibynnu hyd yn oed yn fwy ar glustiau a lleisiau pobl yn y gymuned, oherwydd, yn anochel, nid yw rhai o'r mesurau diogelwch fel mynd i'r ysgol ar gael.

Felly, mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i blant a'u teuluoedd. Mae'r Llywodraeth wedi gwneud popeth a all i helpu; rydym yn sicr wedi rhoi arian ychwanegol i'r awdurdodau lleol. Yn ychwanegol at y grant cynnal refeniw, rydym wedi rhoi cyllid hael o'r gronfa galedi i lywodraeth leol i helpu i gefnogi gofal cymdeithasol, ac yn ddiweddar, rydym hefyd wedi rhoi £40 miliwn o gyllid adfer a £42 miliwn yn ychwanegol ar gyfer pwysau'r gaeaf ar y system a phwysau eraill, unwaith eto, ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol. Rydym hefyd wedi darparu arian ar gyfer y gronfa ymyrraeth deuluol i gefnogi llesiant plant a theuluoedd drwy gymysgedd o gymorth ymarferol ac uniongyrchol. Felly, rydym yn darparu arian ac mae'r cymorth i weithwyr cymdeithasol yn parhau. Ond yn amlwg, mewn unrhyw gyfyngiadau symud, mae hwn yn gyfnod anodd iawn i bob teulu.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hatebion. Un o'r materion sydd wedi bod yn fy mhoeni ers peth amser, wrth inni ddod drwy'r pandemig, yw plant yn diflannu o addysg, a'r cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy'n derbyn eu haddysg gartref. O drychinebau yn y gorffennol, gwyddom y gallwn golli cysylltiad â phlant sy'n cael eu haddysg gartref ac y gall pethau ofnadwy ddigwydd i blant yn yr amgylchiadau hynny, ac mae hynny wedi digwydd. A fyddai'r Llywodraeth, yr adran gwasanaethau cymdeithasol a'r adran addysg, yn ystyried ymchwiliad i'r cynnydd mewn addysg ddewisol yn y cartref, ac yn ystyried sut y gellir cynnal cyswllt gyda phlant sy'n derbyn eu haddysg gartref, yn ogystal ag adolygu'r gyfraith sy'n llywodraethu addysg yn y cartref? Rwy'n pryderu'n fawr fod y cynnydd mewn addysg yn y cartref yn mynd i arwain at gynnydd mewn cam-drin plant a'r perygl y gwelir trychinebau pellach yn y dyfodol.

15:20

Diolch i Alun Davies am ei gwestiwn pwysig iawn, ac mae hwn yn fater rwyf wedi gweithio'n agos arno—ac yn dal i weithio'n agos arno—gyda'r Gweinidog addysg, oherwydd yn amlwg, mae'n fater sy'n ymwneud â'r ddwy adran. Rydym yn datblygu cynigion a fydd yn cryfhau'r fframwaith presennol ymhellach mewn perthynas ag addysg ddewisol yn y cartref i helpu i sicrhau bod plant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref yn cael addysg addas i ddechrau a bod eu hanghenion llesiant yn cael eu diwallu. Felly, rydym yn datblygu fframwaith, ac mae'r cynigion sydd gennym yn cynnwys canllawiau statudol newydd ar gyfer awdurdodau lleol a phecyn ehangach o gymorth i blant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref i wella'r profiad dysgu a'r cyfleoedd datblygu, yn ogystal â llawlyfr a fydd yn helpu ac yn rhoi gwybodaeth i bobl sy'n darparu addysg yn y cartref.

Eleni, rydym wedi darparu £1.7 miliwn o gyllid i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda chostau gweinyddol sy'n ymwneud ag addysg yn y cartref, yn ogystal ag ariannu adnoddau a gweithgareddau addysg ar gyfer dysgwyr sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref. Mae hon yn gronfa unigryw i Gymru, a chredaf fod hynny'n ateb ei gwestiynau ynghylch cael cyswllt â phlant sy'n cael eu haddysg yn y cartref ac sy'n dymuno cysylltu'n ehangach y tu allan i'r cartref. Felly, bydd y Gweinidog addysg yn bwrw ymlaen â'r cynigion ar gyfer y canllawiau statudol newydd maes o law, ond mae'n fater rwy'n gweithio'n agos iawn arno gydag ef.

Sylwaf yn adroddiad blynyddol Estyn fod Ceredigion wedi gwneud gwaith allgymorth diddorol iawn gyda myfyrwyr sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref, gwaith sydd wedi galluogi llawer o'r plant hynny i gael eu hailintegreiddio mewn ysgolion.

Rwy'n falch iawn eich bod yn rhoi arian ychwanegol i wasanaethau cymorth i deuluoedd ar gyfer y mater anodd hwn, ond roeddwn am dynnu sylw hefyd at y ffaith nad oedd Arthur Labinjo-Hughes yn yr ysgol o gwbl, ac ar y diwrnod cyn iddo gael ei ladd, aethpwyd ag ef i'r siop trin gwallt gan y ddynes a'i lladdodd, lle gwnaed iddo sefyll gyda'i wyneb at y wal am hyd at saith awr. Felly, rwy'n cytuno: mater i glustiau a llygaid y gymuned yw nodi a rhoi gwybod pan fydd creulondeb tuag at blant yn amlwg yn digwydd, megis yn y sefyllfa honno, oherwydd, yn y pen draw, ni all gwasanaethau cymorth i deuluoedd, oni fyddech yn cytuno, fod ym mhobman drwy'r amser? Mae'n ddyletswydd ar bawb i godi llais dros hawliau plant.

Yn sicr, mae'n rhaid i'r gymuned fod yn llygaid a chlustiau, gan nad yw'n bosibl i swyddogion ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol fod yno a gweld popeth. Felly, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i weithredu ar unrhyw beth a welwn sy'n peri pryder i ni.

Yn amlwg, bydd yr adolygiad a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU yn cyflwyno cynigion, rwy’n siŵr, a byddwn yn edrych yn agos iawn ar beth yw’r cynigion hynny ac yn gweld sut y byddant yn ein helpu yng Nghymru. Mae'n adolygiad eang iawn, ac er gwybodaeth i'r Aelod, caiff ei arwain ar y cyd gan y Swyddfa Safonau mewn Addysg; y Comisiwn Ansawdd Gofal; Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a'r Gwasanaethau Tân ac Achub; ac Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi. Felly, mae'n edrych ar yr ystod eang hon o asiantaethau. Byddwn yn edrych yn agos iawn ar y canlyniad, ond ydy, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i gadw llygad am unrhyw bryderon a gweithredu ar unrhyw bryderon sydd gennym.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad. Dim ond un datganiad sydd y prynhawn yma, a galwaf ar Mabon ap Gwynfor.

Diolch yn fawr iawn i chi, Dirprwy Lywydd. Dwi am dalu teyrnged y prynhawn yma, os gwelwch yn dda, yn arbennig iawn i holl staff meddygfeydd Dwyfor Meirionnydd a thu hwnt am eu gwaith diflino yn rhoi'r brechlyn ym mraich cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru. Y staff meddygol ymroddedig yma sydd yn cadw ni oll yn ddiogel, ac mae'n dyled ni yn fawr iddyn nhw.

Dwi am longyfarch yn benodol un o'r meddygfeydd lleol yn Nwyfor Meirionnydd; yn benodol, felly, camp arwrol a wnaed dros y penwythnos diwethaf yn Nhŷ Doctor Nefyn. Tŷ Doctor oedd y feddygfa gyntaf i frechu Pfizer, a oedd yn golygu bod pobl mewn cymunedau gwledig yn medru cael y pigiad arbennig yma. A llwyddodd meddygfa Tŷ Doctor i ddosbarthu bron i 4,000 o frechlynnau dros ddeuddydd y penwythnos diwethaf, sy’n golygu bod nhw bellach wedi brechu hyd at 20,000 o bobl ers dechrau’r flwyddyn. Mae'r feddygfa yma ym Mhen Llŷn wedi arwain y ffordd wrth frechu pobl leol ers y dechrau cyntaf un—o’r meddygon, y nyrsys, y staff a’r byddin o wirfoddolwyr—pob un yn ymgymryd yn ei rôl yn llawen bob tro.

Yn ôl Dr Eilir Hughes, daeth bobl o bob cwrdd o ogledd Cymru i gael eu brechu yn Nhŷ Doctor, Nefyn. Roedd rhai yn dod am y tro cyntaf, rhai yn dod am ail ddos, a sawl un yno i gael yr hwblyn. Ond yr hyn sy’n galonogol ydy bod llawer iawn o’r rhai ddaeth i’r feddygfa dros y penwythnos yn bobl ifanc.

Y brechlyn ydy’r arf orau sydd gennym ni i fedru mynd i’r afael â’r haint erchyll yma sydd wedi lladd cynifer o’n hanwyliaid. Diolch o galon, felly, i holl feddygon a staff meddygfeydd Dwyfor Meirionnydd a Chymru gyfan am eu hymdrechion heb eu hail wrth ddosbarthu’r brechlyn yma yn effeithiol yn ein cymunedau a’n cadw ni oll yn ddiogel.

15:25

Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:26.

15:30

Ailymgynullodd y Senedd am 15:33, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

5. Dadl ar ddeiseb P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth

Eitem 5 yw'r eitem nesaf. Yr eitem yma yw'r ddadl ar y ddeiseb ar ddeddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth. Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant, i wneud y cynnig. Jack Sargeant.

Cynnig NDM7860 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1208 'Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth’ a gasglodd 10,553 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon.

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Craig Shuttleworth ym mis Mehefin ac fe gafodd 10,000 o lofnodion cyn diwedd mis Gorffennaf. Lywydd, mae hynny'n dweud wrthyf fod llawer o bobl yng Nghymru, ac ar draws y byd, yn hoff iawn o wiwerod coch. Ac er nad yw'n ganolbwynt i'r ddadl heddiw, hoffwn sôn am ddeiseb P-06-1225, 'Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir'. Mae'r ddeiseb hon yn codi materion ehangach ynghylch sut y gallwn ddiogelu cynefinoedd coetir ar gyfer yr holl greaduriaid sy'n byw yno.

Roedd y wiwer goch yn gyffredin ledled y DU ar un adeg, ond maent wedi diflannu o sawl ardal. Fodd bynnag, gallwch eu gweld o hyd mewn tair prif ardal yng Nghymru: ar Ynys Môn, yng Nghoedwig Clocaenog yng ngogledd Cymru, ac yng Nghlywedog yng nghanolbarth Cymru. Yn ôl yr Ymddiriedolaethau Natur, mewn tua 150 mlynedd mae niferoedd gwiwerod coch wedi gostwng o tua 3.5 miliwn i 140,000 yn y DU. Mae'r prif fygythiad i'r rhywogaeth wedi deillio o gyflwyno'r wiwer lwyd, a ddygwyd drosodd o Ogledd America yn y 1870au. Maent yn wiwerod mwy o faint, sy'n bridio'n gyflymach, ac maent yn cystadlu am ffynonellau bwyd, gan wneud bywyd yn anos i'r wiwer goch. Gallant hefyd gario feirws brech y wiwer, a elwir hefyd yn parapox, nad yw'n gwneud niwed i wiwerod llwyd, ond sy'n angheuol i wiwerod coch. Lywydd, mae cathod a chŵn domestig, ffyrdd, colli a darnio cynefin hefyd yn fygythiad i'r wiwer goch. Yn 2020, rhyddhaodd Cymdeithas y Mamaliaid restr goch swyddogol o famaliaid Prydain, a dynnai sylw at y rhywogaethau sy'n wynebu'r perygl mwyaf. Mae'r wiwer goch yn cael ei dosbarthu fel rhywogaeth 'mewn perygl' ac mae'n un o'r 19 rhywogaeth yr ystyrir eu bod mewn perygl o ddiflannu ym Mhrydain. Ar lefel ryngwladol, mae ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o rywogaethau dan fygythiad.

Mae gwiwerod coch yn rhywogaeth â blaenoriaeth o dan fframwaith bioamrywiaeth ôl-2010 y DU. Fe'u diogelir o dan Atodlenni 5 a 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, fel y'i diwygiwyd. O dan y Ddeddf, mae'n drosedd lladd, anafu neu gymryd gwiwerod coch, neu ddifrodi, dinistrio neu rwystro mynediad at nyth neu unrhyw strwythur neu le arall y mae gwiwerod coch yn ei ddefnyddio ar gyfer cysgod neu ddiogelwch. Mae hefyd yn drosedd tarfu ar wiwer goch pan fydd yn defnyddio strwythur neu le ar gyfer diogelwch. Nid yw'r amddiffyniad hwn yn berthnasol i fannau lle mae gwiwerod coch ond yn bwyta'n unig. Gellir trwyddedu gweithgareddau a all effeithio ar wiwerod coch am resymau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Mae'r ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw yn galw ar y Llywodraeth i fynd gam ymhellach na'r amddiffyniad sydd eisoes yn bodoli. Mae'n gofyn i'r Senedd hon wneud mwy i ddiogelu gwiwerod coch. Yn benodol, mae'n gofyn am gynnwys colli cynefin wrth ystyried trwyddedau cwympo coed, ac y dylai coedwigoedd sy'n eiddo i'r wladwriaeth, nad oes angen trwydded arnynt, orfod asesu effaith gronnol cwympo coed ar boblogaeth y wiwer goch yn flynyddol. Gwyddom fod y Llywodraeth hon yn rhoi newid hinsawdd a natur wrth wraidd ei phenderfyniadau. Yn gynharach eleni, ym mis Mehefin 2021, fe wnaeth y Senedd hon ddatgan argyfwng natur. Felly, mae'r cwestiwn heddiw yn ymwneud â'r argyfwng natur hwnnw: sut y gallwn ddiogelu'r poblogaethau sydd gennym o wiwerod coch? Ond yn fwy na hynny hyd yn oed, sut y gallwn wrthdroi'r dirywiad hanesyddol?

Lywydd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymateb y Gweinidog y prynhawn yma. Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau ar draws y Siambr, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfraniad wiwer goch y Senedd ei hun—ein Darren Millar sionc fel y wiwer. Diolch yn fawr.

15:35

Diolch, Lywydd. Ac fel hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yn y Senedd, rwy'n falch iawn o weld bod y ddadl hon wedi'i chyflwyno gan y Pwyllgor Deisebau. A chyn i mi fynd ymhellach, mae'n rhaid imi ddatgan buddiant yn y ddadl hon fel aelod anrhydeddus o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru ac yn wir fel aelod o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog hefyd. A hoffwn dalu teyrnged i waith anhygoel y prif ddeisebydd, Dr Craig Shuttleworth, am drefnu'r ddeiseb, a'r gwaith anhygoel y mae'n ei wneud, o ddydd i ddydd, yn arwain ymdrechion cadwraeth gwiwerod coch ledled y wlad. Nid ef yw'r unig un, wrth gwrs—mae'r Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, Sŵ Mynydd Cymru a byddin gyfan o bobl eraill, gan gynnwys llawer o wirfoddolwyr, yn rhoi eu hamser, eu hymdrech a'u hadnoddau i frwydro dros y 'super furry animals' hyn.

Ers cael fy mhenodi'n hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yn ôl yn 2016, mae wedi bod yn wefr cael dysgu mwy am y rhywogaeth unigryw ac eiconig hon ac ymweld â llawer o'r prosiectau ledled Cymru a dysgu am yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i hybu ffyniant poblogaeth y wiwer goch a'i adfywio. Ers dros 10,000 o flynyddoedd, poblogaeth y wiwer goch oedd y boblogaeth fwyaf o wiwerod yma yng Nghymru. Ac nid yn unig hynny, roedd yn poblogi'r mwyafrif llethol o Ynysoedd Prydain. Ond gwyddom o'r hyn sydd eisoes wedi'i rannu heddiw fod y boblogaeth honno wedi lleihau'n sylweddol, ac mor ddiweddar â'r 1990au dim ond ychydig gannoedd o wiwerod coch oedd wedi'u gwasgaru ledled Cymru mewn pocedi poblogaeth bach, a oedd mewn perygl. Ond dyna'r adeg, cyn troad y mileniwm, y dechreuodd yr ymdrechion cadwraeth arwrol i adfywio'r rhywogaeth. A diolch i'r ymdrechion hyn, rwy'n falch o ddweud bod gan goedwig Clocaenog yn fy etholaeth i boblogaeth fach gynaliadwy, ond cynyddol o wiwerod coch. Yng nghanolbarth Cymru, rhyddhaodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent belaod, ysglyfaethwr wiwerod llwyd, ac mae'r prosiect hwnnw, hyd yma, wedi llwyddo i roi hwb i niferoedd y boblogaeth yno.

Ond yn fy marn i, o'r holl ymdrechion cadwraethol ar gyfer unrhyw anifail yng Nghymru, ar ynys Môn y gwelwyd y fuddugoliaeth fwyaf. Oherwydd, diolch i'w statws fel ynys, cafodd cynllun uchelgeisiol i gael gwared ar wiwerod llwyd ei greu, ac erbyn 2015, cyhoeddwyd bod Ynys Môn yn barth heb wiwerod llwyd. Ond mae'r holl ymdrechion hyn wedi'u tanseilio, a chawsant eu tanseilio oherwydd deddfwriaeth goedwigaeth hen ffasiwn, nad yw'n rhoi unrhyw ystyriaeth i boblogaethau bywyd gwyllt sydd mewn perygl. Sut y gall fod, er ei bod yn anghyfreithlon lladd neu anafu gwiwer goch neu darfu ar wiwer goch yn ei nyth—sut y gall fod nad yw coedwig sy'n eu cynnwys wedi'i gwarchod ac y gellir ei thorri? Ac eto, yn anffodus, dyna'r sefyllfa bresennol, o safbwynt y gyfraith, yma yng Nghymru. Oherwydd er bod angen trwydded gwympo coed i gynaeafu coed neu gwympo coed mewn coetir preifat yng Nghymru, mae'n sgandal na ellir gwrthod trwyddedau o'r fath os ydynt yn arwain at golli cynefin a dirywiad ym mhoblogaeth y wiwer goch. Ac wrth gwrs, nid oes angen trwydded ar goedwigoedd sy'n eiddo i'r Llywodraeth, ond cânt eu rheoli o dan gynlluniau 10 mlynedd. Yn anffodus, nid oes unrhyw rwymedigaeth o gwbl i ddiweddaru neu adnewyddu'r cynlluniau hynny i ystyried poblogaeth gwiwerod ar sail flynyddol a nodi lle maent yn nythu o fewn y coedwigoedd hynny. Ac o ganlyniad i hynny, rydym yn awr yn wynebu her anhygoel o weld coed mewn rhannau o Gymru yn cael eu torri, neu ceir bwriad i'w torri, a allai arwain at wrthdroi'r ymdrechion cadwraethol enfawr a welsom.

A gadewch i mi roi enghraifft i chi o sut y mae'r trefniadau presennol yn methu yn hynny o beth: coedwig Pentraeth ar Ynys Môn. A gwn y bydd Rhun ap Iorwerth yn gyfarwydd â'r her hon. Mae'n gadarnle i'r wiwer goch—un o'r ychydig gadarnleoedd yng Nghymru. Ac eto, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi caniatâd i waith cwympo coed a fydd yn seiliedig ar ddata hen ffasiwn ar boblogaeth gwiwerod yn lleol, sydd dros 10 mlwydd oed, ac yn waeth byth, bydd yn caniatáu i'r gwaith cwympo coed ddigwydd yn ystod tymor bridio'r wiwer goch. Felly, er bod cenhedlaeth newydd o'r rhywogaethau hyn sydd mewn perygl yn setlo yn eu nythod, bydd y coed, sy'n dal y nythod hynny, yn cael eu torri. Ac nid ardal fechan o goetir sy'n cael ei chwalu; mae'n 17 erw—gwerth 6,500 tunnell bren o gynefin o'r radd flaenaf i wiwerod coch sy'n mynd i gael ei ddinistrio. Ac mae'n rhaid inni gofio bod hyn yn digwydd ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, yn feirniadol o ddatgoedwigo byd-eang ac yn annog pob cartref yng Nghymru i blannu coeden. Felly, ni allwn ganiatáu i'r sefyllfa hon barhau. Mae'n rhaid inni weithredu yn awr os ydym eisiau gweld niferoedd y rhywogaeth hon yn parhau i wella.

Oes, mae angen inni fynd i'r afael â diffygion Deddf Coedwigaeth 1967. Mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi'i wneud yn yr Alban, felly mae gennym dempled y gallwn ei ddefnyddio a'i gymhwyso yma yng Nghymru. Mae arnom angen amserlen glir ar gyfer cyflawni'r gwaith hwnnw. Ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dechrau'r gwaith o gynllunio ar gyfer newid y ddeddfwriaeth honno. Ond mae angen gwneud gwaith hefyd i sicrhau bod y cynlluniau 10 mlynedd hyn yn cael eu diweddaru'n amlach o lawer fel y gallwn ddiogelu poblogaethau bywyd gwyllt—nid y wiwer goch yn unig, ond rhywogaethau bywyd gwyllt pwysig eraill hefyd—mewn coedwigoedd sy'n eiddo i'r wladwriaeth ac sy'n cael eu cynnal gan y wladwriaeth ledled y wlad.

Felly, ar ran yr anifail bach, y 'super furry animal' hwn, rwyf am annog pawb i gefnogi'r ddeiseb sydd wedi galw am wneud y newidiadau hyn heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pellach. 

15:40

Roedd yr unig wiwer goch a welais erioed ar Ynys Môn, ac felly galwaf ar Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi wnaf innau ddatgan fy mod innau yn aelod anrhydeddus o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, a dwi'n falch iawn o fod yn Aelod sy'n cynrychioli ynys sydd, yn ei chyfanrwydd, yn bencampwyr y creadur arbennig yma. Ryw flwyddyn yn ôl oedd hi pan oeddwn i'n rhedeg efo fy ngwraig lai na milltir o'm cartref i ac mi neidiodd wiwer goch fach o'r clawdd a dechrau sgrialu lawr y ffordd o'n blaenau ni—y fflach fach yma o gynffon goch yn bowndio lawr y ffordd. Ac mi redodd o'n blaenau ni am ryw hanner canllath dda, rhedeg efo ni cyn diflannu mewn i'r gwrych. Ac roedden ni wedi gwirioni, achos er i mi weld nifer o wiwerod dros y blynyddoedd, dyma'r tro cyntaf i fi weld y wiwer ar fy ngharreg drws fy hun. A dwi'n cofio fel hogyn bach yn tyfu i fyny ar yr ynys y balchder mawr oedd yna fod y creadur bach bendigedig yma wedi dewis ymgartrefu ym Môn.

Ond mi oedd o dan fygythiad, dan fygythiad gan y wiwer lwyd, fel rydyn ni wedi ei glywed, ac erbyn canol y 1990au mi oedd o bron â diflannu yn llwyr. A phan ddechreuodd y gwaith wedyn o achub y wiwer, o dyfu ei phoblogaeth eto, mi dyfodd ein balchder ni ymhellach. Mae'n dod â balchder economaidd erbyn hyn hefyd, wrth gwrs. Dwi'n gwybod am gydweithwyr o'r Senedd yma sydd wedi teithio i Ynys Môn yn unswydd er mwyn gweld y wiwer goch. Ond mae'r gwerth pwysicaf, dwi'n siŵr y gallwn ni gytuno, yn y gwerth cadwraethol ei hun, fel y clywon ni gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a chyfraniad poblogaeth wiwer goch iach at fioamrywiaeth yr ynys a bioamrywiaeth Cymru. A, rŵan, mae dwy ran o dair o wiwerod coch Cymru ym Môn unwaith eto.

Ond nid ar ddamwain ddigwyddodd hynny, mae'n bwysig, bwysig cofio, ac mae yna ddiolch rhyfeddol i'w dalu am waith diflino cadwraethwyr a gwirfoddolwyr lleol. Rydyn ni wedi clywed enw Craig Shuttleworth; mi allwn i enwi Raj Jones, a'r holl waith mae hi wedi'i wneud dros y blynyddoedd, yn sicrhau yr arwyddion yma a wnaeth ymddangos ar draws yr ynys—coedwig wiwer goch—yn datgan fel arwydd llythrennol fod y creadur bach yn ei ôl. A diolch byth, mae'r wiwer goch yn cael ei gwarchod gan ddeddfwriaeth. Mae'n drosedd i ddinistrio ei nythod hi, ond does yna ddim gwarchodaeth i'r coed a'r coedwigoedd maen nhw yn byw ynddyn nhw. Mae'r wiwer yn cael ei gwarchod, ond dydy ei chynefin hi ddim. A dyna mae'r ddeiseb yma yn galw am ei wneud.

A dwi'n croesawu'r ddeiseb a'r hyn mae'r deisebwyr yn galw amdano fo—dros 10,000 ohonyn nhw; 1,700 ohonyn nhw o fy etholaeth i—sef maen nhw am newid y system drwyddedu fyddai'n ein galluogi ni i osod amodau cyn caniatáu torri coed, er enghraifft, amodau i beidio â thorri yn ystod tymor bridio. Ar hyn o bryd, mae torri coed yn gallu digwydd hyd yn oed heb arolwg o faint o nythod wiwerod sydd yna. Rydyn ni'n gweld hynny yn digwydd yn rhy aml yn fy etholaeth i. Pam, ar ôl yr holl waith i adfer y boblogaeth, fydden ni am i'w chynefin hi ddod dan fygythiad? Dwi wedi cael etholwyr yn cysylltu efo fi am gynlluniau gan Cyfoeth Naturiol Cymru i glirio, neu i ganiatáu clirio coedwigaeth, ar sawl safle ar Ynys Môn—Niwbwrch, Pentraeth, fel rydyn ni wedi'i glywed, Mynydd Bodafon, cynefinoedd rydyn ni'n gwybod sydd yn drysorau o ran y wiwer goch. Mae pobl yn poeni am ddyfodol Penrhos yng Nghaergybi, hefyd yn poeni bod dim digon o sylw yn cael ei roi i warchod y cynefin hwnnw.

Mae'r Alban eisoes wedi newid deddfwriaeth. Gwnaeth Deddf Cadwraeth Natur (Yr Alban) 2004 roi cymal mewn yn Neddf Coedwigaeth 1967 sy'n caniatáu yn benodol gwrthod trwydded torri coed neu roi amodau ynghlwm wrthi—

'at ddiben gwarchod neu wella fflora, ffawna neu nodweddion daearegol neu ffisiograffigol, neu harddwch naturiol neu amwynder, unrhyw dir.'

Does yna ddim cymal o'r fath wedi'i ychwanegu at ddeddfwriaeth Cymru, ac mae'n amser i ni i'w weld o. A thu hwnt i ddeddfwriaeth, mae'n rhaid dweud, mae'n wir bryder i fi bod yna ddiffyg deialog gadarn rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff gwarchodaeth. Mae'n rhywbeth dwi wedi'i godi dro ar ôl tro. Mae partneriaeth yn gorfod bod yn rhan o'r ateb i warchod y wiwer. 

I gloi, dwi'n edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog, ei hymateb i'r ddadl yma. Dwi'n dal yn disgwyl am ateb i ohebiaeth i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pwnc yma o fis Gorffennaf a mis Hydref eleni. Mi fuaswn i a'r 10,000 a mwy o bobl sydd wedi arwyddo'r ddeiseb yn falch o glywed os ydy hithau yr un mor frwd â ni dros warchod yr anifail prin a hyfryd, hyfryd yma.

15:50

Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddeiseb bwysig hon heddiw, a diolch i Jack Sargeant am agor y ddadl. Mae'r ddeiseb wedi tynnu sylw at gyfle pwysig i ni yma yng Nghymru i weithredu i ddiogelu ein bywyd gwyllt. Rydym yn wynebu argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd, ac mae'n rhaid inni roi ystyriaeth ddifrifol i'r bioamrywiaeth a gollir os na roddir camau ar waith i ddiogelu rhywogaethau natur fel y wiwer goch.

Fel y nododd Jack, un o'r bygythiadau mwyaf i wiwerod coch yw colli a darnio cynefin, a gall Llywodraeth Cymru weithredu yn hyn o beth. Yn yr Alban, gellir gwrthod trwyddedau cwympo coed neu eu rhoi i wella neu warchod bywyd gwyllt, diolch i newid yn y gyfraith, gan ddangos ymrwymiad i ddiogelu rhywogaethau. Yn anffodus, nid oes unrhyw amddiffyniadau o'r fath yn bodoli yma yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae trigolion Ynys Môn hefyd wedi cysylltu â mi i leisio pryder ynglŷn â'r datblygiad arfaethedig ym Mhenrhos. Mae'r warchodfa natur yn gynefin pwysig i wiwerod coch, yn ogystal â gwerddon i drigolion lleol ei mwynhau. Bydd y datblygiad yn golygu bod 27 erw o goed yn cael eu torri, a bydd hynny'n cael effaith ddifrifol ar gynefin y gwiwerod, gan gael gwared ar lawer o'u nythod a'u rhedfeydd. Credaf yn gryf y dylid ystyried yr effaith y bydd prosiect yn ei chael ar fywyd gwyllt lleol wrth ei gymeradwyo, boed hynny'n gwympo coed fel rhan o reoli coetiroedd neu ailddatblygiad fel yr un ym Mhenrhos. Felly, rwy'n croesawu'r ddeiseb hon a gyflwynwyd gan Craig Shuttleworth, ac yn gobeithio y bydd rheoliadau yn cael eu rhoi ar waith yn y dyfodol fel y caiff bioamrywiaeth a diogelu rhywogaethau eu trin fel blaenoriaeth ledled Cymru.

Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cyflwyno'r ddeiseb hon, ac rwyf eisiau cofnodi fy niolch, mewn gwirionedd, i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, sydd wedi bod yn hyrwyddwr rhagorol i'r gwiwerod coch. Mae'n bwysig ein bod ni, fel hyrwyddwyr—gwn fod Mark Isherwood wedi cael ei gydnabod yn ddiweddar am y gwaith y mae'n ei wneud ar y gylfinir—mae'n bwysig ein bod o ddifrif ynglŷn â'n rôl ac fel bod pawb yn gwybod, fi yw hyrwyddwr y llamhidydd yng Nghymru.

Yn ôl adroddiad 'Cyflwr Mamaliaid yng Nghymru', er y bu gostyngiad amlwg yn nosbarthiad gwiwerod coch ers adolygiad 1995, mae'n ymddangos bod y boblogaeth yng Nghymru yn sefydlog ar hyn o bryd, a gall fod yn ehangu'n lleol hyd yn oed. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn wir y gallai'r rhagolygon fod yn wael. Mae'r boblogaeth o 9,200 yn gostwng. Mae pedair ardal benodol yng Nghymru lle gellir dod o hyd i'r cymeriadau annwyl hyn: Ynys Môn, rhwng Powys a Cheredigion, a choedwig Clocaenog. Mae etholwyr yn nyffryn Conwy yn fy etholaeth yn cofio gweld gwiwerod coch yno rai degawdau'n ôl; heddiw, byddai'n rhaid iddynt deithio dros 20 milltir am gyfle i weld un arall yn y gwyllt. Felly, oni fyddai'n wych pe gallai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun gweithredu i gysylltu'r poblogaethau rhwng Clocaenog ac Ynys Môn? 

Byddwn yn falch o glywed a yw'r adolygiadau cyfnodol o brif safleoedd wedi'u cynnal ers yr ymrwymiad yn y 'Cynllun Cadwraeth ar gyfer Gwiwerod Coch yng Nghymru' 2018, ond mae'n dal i fod yn wir fod yna oddeutu 300,000 o wiwerod llwyd—dros 30 gwaith yn fwy na'r cochion. Ac fel rhywun sy'n mwynhau bwydo adar, rhaid imi gyfaddef fod gennyf dair gwiwer ddrwg sy'n dod ac yn gwneud yn eithaf da o'r byrddau adar yn fy nghartref. Gydag amcangyfrif fod cost dileu gwiwerod llwyd yng Nghymru yn gymaint â £76 miliwn, gallai'r dasg ymddangos yn anghyraeddadwy. Fodd bynnag, mae 'Cynllun Gweithredu Cymru i Reoli'r Wiwer Lwyd' yn cyfeirio at opsiynau rheoli angheuol heb greulondeb. Byddwn yn falch pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am hynny.

Mae'r ddeiseb hefyd yn iawn i ganolbwyntio ein sylw ar reoli coedwigoedd. Yn wir, mae'r 'Cynllun Cadwraeth ar gyfer Gwiwerod Coch yng Nghymru' yn nodi bod

'angen i gamau cadwraeth i ddiogelu gwiwerod coch ar safleoedd tir mawr ganolbwyntio ar sicrhau bod cynefin addas ar gael'.

Yn 2018, nodwyd bod system cynllunio coedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfyngiad. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i rwystro cynnydd. Mae'n rhaid i'r sefydliad hwn egluro pam nad yw wedi gwario ar fonitro gwiwerod coch mewn 10 mlynedd. Gallai'r Senedd hon gynnal adolygiad o'r gofynion ar gyfer trwydded gwympo coed, er mwyn sicrhau bod ystyriaeth deg yn cael ei rhoi i bioamrywiaeth a cholli cynefin. Weinidog, gallech fynd ati'n syth i gywiro'r ffaith na chynhelir asesiadau blynyddol o effaith gronnol cwympo coed ar gyfer coedwigoedd sy'n eiddo i'r wladwriaeth. Diolch. 

15:55

O ffrind y Gruffalo i Squirrel Nutkin Beatrix Potter, mae'r wiwer goch, unig rywogaeth wiwer frodorol y DU, wedi bod yn rhan annwyl iawn o gefn gwlad y DU ers miloedd o flynyddoedd. Yn anffodus, mae eu niferoedd wedi lleihau dros y degawdau diwethaf am sawl rheswm, a'r prif reswm oedd cyflwyno'r wiwer lwyd anfrodorol. Yn anffodus, mae llawer mwy o wiwerod llwyd nag o wiwerod coch yn y Rhondda ac ardal ehangach de Cymru. Mewn gwirionedd, rwy'n cael problemau gyda gwiwerod llwyd yn fy ngardd, sydd fel pe baent yn meddwl ei bod yn ddoniol dwyn nid yn unig bwyd yr adar, ond y cyfarpar bwydo ei hun hefyd. Ond o ddifrif, gwn pa mor bwysig yw hi ein bod nid yn unig yn cynnal niferoedd y gwiwerod coch yng nghanolbarth a gogledd Cymru, ond ein bod yn sicrhau ein bod yn gweld y niferoedd yn dechrau codi eto. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu gyda chynllun cadwraeth y gwiwerod coch a'r cynllun gweithredu i reoli'r wiwer lwyd, ond gallai'r rhain fod yn ofer os na wneir newidiadau i feini prawf y drwydded gwympo coed, fel y nodwyd yn briodol gan y deisebydd.

I mi, mae'r ddadl heddiw'n tynnu sylw at ddau fater pwysig iawn, a'r cyntaf yw canlyniadau anfwriadol cwympo coed. Cawsom lifogydd dinistriol yn Rhondda y llynedd, yn dilyn y cwympo coed uwchben Pentre. Bu'n rhaid torri'r coed oherwydd eu bod wedi'u heintio, ond dioddefodd cannoedd o gartrefi a busnesau lifogydd o ganlyniad. Yn debyg iawn i'r hyn a ddywedir yn y ddeiseb,

'Er bod angen trwydded torri coed er mwyn cwympo coetir, ni ellir gwrthod y trwyddedau hyn hyd yn oed os ydyn nhw’n arwain at golli cynefin a dirywiad ym mhoblogaeth y wiwerod coch.'

Mae'n rhaid inni sicrhau, yn y dyfodol, nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn digwydd o ganlyniad i gwympo coed, ac mae'n rhaid i hyn olygu ystyriaeth o golli cynefin a bioamrywiaeth gan arwain at ddirywiad yn y boblogaeth.

Yr ail fater yw colli rhywogaethau sydd mewn perygl ac sydd dan fygythiad. Gwn fod llawer o bobl yn dadlau y dylem adael i natur ddilyn ei chwrs, ond gyda phob parch, rwy'n anghytuno, yn enwedig mewn perthynas â rhywogaethau sydd â delwedd gyhoeddus wych fel y wiwer goch. Bydd tynnu sylw at eu brwydr yn arwain at ddiddordeb ehangach a dealltwriaeth o sut y mae bioamrywiaeth a cholli poblogaeth yn effeithio ar bob un ohonom. Os gallwn gamu i'r adwy i ddiogelu'r rhywogaethau hyn, dylem wneud hynny. Diolch i'r deisebydd am godi'r mater eithriadol o bwysig hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf finnau'n ddiolchgar iawn i'r deisebydd a hefyd i Jack Sargeant, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, am gyflwyno'r mater pwysig hwn, sydd, fel y dywedodd ef a llawer o rai eraill, nid yn unig yn diogelu gwiwerod coch, ond sydd hefyd yn diogelu mathau eraill o fywyd gwyllt yn ystod gwaith cwympo coed. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn rhoi camau ar waith i gynnal a gwella rhywogaethau pwysig iawn, ac nid yw hwn ond yn un o nifer o gamau gweithredu a nodwyd yn 'Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru 2020-21' i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru. 

Rwy'n ymwybodol iawn o gyfyngiadau'r Ddeddf Goedwigaeth a natur yr amodau y gall Cyfoeth Naturiol Cymru eu cymhwyso o dan drwydded gwympo coed. Gall y cyfyngiadau hyn, fel y nodwyd gan lawer o'r Aelodau, arwain at ddatgysylltiad rhwng y Ddeddf Goedwigaeth a deddfwriaeth amgylcheddol arall, gan arwain at fylchau o ran diogelu bywyd gwyllt. Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd camau i fynd i'r afael â hyn drwy lythyrau cynghori neu gynlluniau rheoli coedwigaeth hirdymor ar gyfer perchnogion tir, yn sicr nid yw'r rhain yn mynd i'r afael â'r mater yn llawn, fel y nododd nifer o'r Aelodau.

Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i gynnwys darpariaethau yn y Bil amaethyddiaeth sy'n diwygio'r Ddeddf Goedwigaeth er mwyn caniatáu ar gyfer ychwanegu amodau at drwyddedau cwympo coed. Byddwn hefyd yn cynnwys darpariaethau i ddiwygio, atal neu ddirymu trwyddedau cwympo coed ar ôl iddynt gael eu rhoi. Bydd y diwygiadau hyn yn helpu i ddarparu gwell amddiffyniad i fywyd gwyllt, er enghraifft, mewn perthynas â'r eithriad o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac yn darparu gwell cydgysylltiad rhwng rheoliadau coedwigaeth a rheoliadau amgylcheddol eraill. Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol i ddiwygio'r Ddeddf Goedwigaeth yn cael ei chyflwyno'n fuan iawn.

Mae 'Safon Coedwigaeth y DU' yn nodi y dylid

'rheoli coetiroedd mewn ffordd sy'n gwarchod neu'n gwella bioamrywiaeth'

ac y dylid adlewyrchu hynny mewn cynlluniau rheoli coedwigoedd. Mae gan bob rhan o ystâd goetir Llywodraeth Cymru gynllun adnoddau coedwig 10 mlynedd, sy'n ofynnol ar gyfer ardystio coedwigoedd, ac mae cynlluniau'n cynnwys manylion unrhyw rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd y gallai gweithrediadau rheoli effeithio arnynt, a chynhelir arolygon safle gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ddatblygu'r cynlluniau, ac mae mesurau i liniaru effeithiau wedi'u cynnwys, er enghraifft, drwy gadw ardaloedd o gynefin. Rhoddir ystyriaeth hefyd i anghenion cynefin rhywogaethau ar lefel y dirwedd. Mae'r broses honno'n cynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid allanol, megis y grwpiau gwiwerod coch. Mae cynlluniau hefyd yn cael eu rhoi ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru i alluogi sylwadau pellach—

16:00

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am amlinellu sut y caiff y cynlluniau eu llunio, ac rydych wedi dweud bod ymgynghori ac ymgysylltu'n digwydd â rhanddeiliaid ar ddatblygu'r cynlluniau hynny, ond oherwydd mai bob 10 mlynedd y mae hynny'n digwydd, ni roddir ystyriaeth i'r newid yn y boblogaeth a'r effaith ar fannau eraill. Sylwais hefyd eich bod wedi dweud eich bod yn mynd i gyflwyno newid deddfwriaethol, ac mae'n amlwg fy mod yn croesawu hynny'n fawr, ond ni wnaethoch bennu amserlen, fe ddywedoch chi 'yn fuan', dim mwy na hynny. Pa mor fuan yw 'yn fuan'?

Rwy'n dod at y pwynt ynglŷn â 10 mlynedd. Nid wyf yn mynd i ddweud mwy nag 'yn fuan', oherwydd rydym yn trafod amser ar ei gyfer yn y Cyfarfod Llawn, ond yn fuan iawn—rydym yn ymwybodol o'r brys.

Felly, fel roeddwn yn dweud, er nad oes ei angen yn gyfreithiol, mae CNC yn gofyn am gymeradwyaeth gan eu tîm trwyddedu cwympo coed i sicrhau bod eu cynlluniau'n cydymffurfio â safon coedwigaeth y DU. Cynhelir arolygon pellach o safleoedd cyn i weithrediadau cwympo coed ddechrau ac os oes angen, gellir rhoi mesurau lliniaru pellach i'r contractwr. 

Ar y pwynt hwn, roeddwn am ddweud ein bod wedi cael nifer o sgyrsiau gydag CNC ers i ni ddod i rym ym mis Mai, fy nghyd-Aelod, Lee Waters, a minnau. Nid wyf yn ymwybodol, Rhun, o lythyrau sydd i ddod i chi, felly os hoffech dynnu fy sylw'n ôl atynt, byddwn yn ddiolchgar, oherwydd hyd y gwn i, nid oes gennyf ôl-groniad. Mae rhywbeth wedi mynd o'i le yno, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallwch dynnu fy sylw atynt. 

Un o'r ystyriaethau rydym yn eu trafod yw pa mor agos at y gwaith cwympo ei hun y dylid cael ail adolygiad o'r safle ar gyfer amodau cynefin gwahanol o'r arolwg gwreiddiol, a pha ffactorau y mae'n rhaid iddynt eu hystyried er mwyn rhoi hynny ar waith. Ni fyddech am wneud hynny ar gyfer pob un, ond bydd ffactorau i'w hystyried. Felly, dim ond dweud ein bod yn cael sgyrsiau ar faterion o'r fath.

Un o'r pethau a ddysgwyd gennym o COP26 oedd sgwrs â'r hyn a elwir yn wladwriaethau is-genedlaethol eraill y Cenhedloedd Unedig megis Quebec ar newidiadau i arferion coedwigaeth lle nad yw cwympo clir yn digwydd mwyach a lle cedwir gorchudd canopi bob amser, hyd yn oed mewn coedwigoedd pren cynaliadwy cynhyrchiol. Rydym yn awyddus iawn i CNC symud at y dull cynhyrchu hwnnw mor gyflym ag y gallwn. Nid oes modd gwneud hynny dros nos. Ni allaf wneud i hynny ddigwydd bore yfory. Ac mae llawer o amodau eraill sy'n berthnasol i goetiroedd Cymru, gan gynnwys yr angen i roi camau ar waith i atal lledaeniad clefydau. Mae'n dal i fod gennym goedwigoedd pinwydd ungnwd ac yn y blaen. Felly, ni fydd yn digwydd dros nos, ond rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i wneud hynny. Yn wir, rydym yn ymrwymedig iawn i'r ymdrech fyd-eang i gael gorchudd canopi parhaus ar gyfer diogelu cynefinoedd, gan gynnal diwydiant pren cynhyrchiol ar yr un pryd. Felly, rydym yn sicr yn awyddus i wneud hynny. 

Rydym hefyd yn ystyried effaith gronnol cwympo coed ar gynefinoedd fel rhan o drefn y drwydded gwympo coed. Rydym yn gwneud mwy nag ystyried beth sy'n digwydd pe baem yn cwympo'r clwstwr hwn o goed heb ystyried beth fydd yn digwydd i roi pwysau ar y clwstwr o goed draw acw, a allai fod yno o hyd ond a fydd yn dod yn gyrchle i fywyd gwyllt wedi'i ddadleoli. Yn ystod lansiad cynllun cadwraeth y gylfinir, roeddwn yn awyddus iawn i ymgysylltu â phobl sy'n awyddus i warchod glaswelltir ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd i ymylon glaswelltiroedd gyda choedwigoedd ynddynt os bydd cwympo'n digwydd mewn mannau eraill yn y cynefin a'r mathau o ysglyfaethwyr sy'n cael eu symud ar eu traws ac yna'n ysglyfaethu ar y glaswelltir.

Mae pawb ohonom yn gwybod hyn, Ddirprwy Lywydd, ond mae'r ecosystem rydym yn siarad amdani'n gymhleth iawn. Mae'n fwy na'r darn hwn o dir, mae'r cyfan yn rhyngweithio. Felly, rydym yn awyddus iawn i CNC ystyried yr effeithiau cronnol hynny ac ystyried anghenion rhywogaethau mewn perthynas â cheisiadau presennol a newydd am drwyddedau cwympo coed, yn ogystal â'u cynlluniau adnoddau coedwigoedd mewnol eu hunain. Er mwyn cynorthwyo gyda'r broses honno, mae gennym bellach gytundeb rhannu data ffurfiol gyda chanolfannau cofnodion lleol ledled Cymru i ddiweddaru eu cronfa ddata system gwybodaeth ddaearyddol eu hunain gyda data arolwg newydd. Rydym hefyd wedi cyhoeddi contract i fonitro ac asesu poblogaethau o wiwerod coch ar Ynys Môn, a fydd yn cael ei gwblhau yng ngwanwyn 2022. Mae gwiwerod coch eisoes yn cael eu monitro yn y ddau safle canolog arall y mae'r Aelodau wedi sôn amdanynt, yng Nghlocaenog ac yng nghanolbarth Cymru.

Os ydym am elwa'n llawn o'r cyfraniad y gall ein coetiroedd ei wneud i natur ac argyfyngau hinsawdd, mae angen inni blannu a rheoli mwy o goed. Bydd angen inni sicrhau'r cydbwysedd cywir wrth wneud hyn er mwyn gallu rheoli a phlannu coetiroedd yn effeithiol i ddiwallu ein hangen i wella cynefinoedd a bioamrywiaeth, yn ogystal â darparu pren ar gyfer tai carbon isel, er enghraifft. 

Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, rydym yn llwyr gydnabod yr angen am ganllawiau clir ar sut a phryd y defnyddir y pwerau newydd sy'n deillio o welliannau i'r Ddeddf Coedwigaeth. Bydd CNC yn cyhoeddi canllawiau drafft cyn y ddeddfwriaeth yn fuan iawn. Diolch.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Craig Shuttleworth a holl lofnodwyr y ddeiseb hon am roi'r pwnc hwn ar yr agenda heddiw. Credaf ei bod yn glir o'r cyfraniadau a wnaed gan yr holl Aelodau, ac o ymateb y Gweinidog, fod consensws trawsbleidiol clir, nid yn unig ar y rheswm pam y mae angen inni weithredu i ddiogelu gwiwerod coch, ond hefyd ar y camau sydd angen eu rhoi ar waith. Clywsom gan Aelodau ar draws y Siambr, gan gynnwys fy nghyd-Aelod, Carolyn Thomas, fy nghyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, a hefyd fy nghyd-Aelod a fy 'super furry animal' o Orllewin Clwyd, am ddeddfwriaeth a newidiadau i ddeddfwriaeth. Rwy'n croesawu ymateb y Gweinidog i'r pwyntiau hynny a'r ymdeimlad o frys a'r gydnabyddiaeth fod yna frys, ac mai nawr yw'r amser i weithredu. Felly, byddwn yn cadw llygad barcud ar y gwelliannau i ddeddfwriaeth a'r hyn a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru. Ond fel y mae llawer o bobl wedi dweud hefyd, rydym eisiau diolch i'r holl wirfoddolwyr sydd allan yno ledled Cymru yn gweithio i ddiogelu'r rhywogaethau eisoes—Partneriaeth Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru i enwi dim ond un neu ddau. Ond diolch i bawb arall allan yno hefyd. 

Ddirprwy Lywydd, wrth i Gymru ddechrau ar gynllun i blannu mwy o goed a chreu coedwig genedlaethol i Gymru, rwy'n credu bod rhesymau dros fod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol. Cyn bo hir, bydd y Senedd yn cau ei drysau i gael ei gaeafgwsg byr, felly rwy'n gobeithio heddiw fod y ddadl hon wedi cynnig cyflenwad digonol o syniadau ac wedi arddangos angerdd Aelodau ar draws Siambr y Senedd, o bob lliw gwleidyddol, fel y gallwn ddychwelyd yn y flwyddyn newydd yn ymrwymedig i wneud Cymru'n wlad lle gall y wiwer goch oroesi a chryfhau ei niferoedd fel na fyddwn bellach yn ystyried y wiwer goch yn rhywogaeth sydd mewn perygl yng Nghymru. Ac unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, wrth gloi'r ddadl hon, am ei hymdeimlad o frys ac am gydnabod y gwaith sydd angen ei wneud. Diolch yn fawr iawn. 

16:05

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau iechyd meddwl

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. 

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig sydd nesaf: gwasanaethau iechyd meddwl. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7861 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canfyddiadau adroddiad Holden ar fethiannau yn uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd.

2. Yn gresynu at:

a) y ffaith ei bod wedi cymryd bron i wyth mlynedd a chyfarwyddyd gan y comisiynydd gwybodaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi'r adroddiad;

b) yr oedi rhwng cyhoeddi'r adroddiad a gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig;

c) methiant y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad;

d) diffyg atebolrwydd am berfformiad gwael gwasanaethau iechyd meddwl ledled Gogledd Cymru;

e) effaith ddinistriol y methiannau hyn ar staff, cleifion a'u hanwyliaid.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymddiheuro i staff, cleifion a theuluoedd y rhai yr effeithiodd y methiannau yn uned Hergest yn andwyol arnynt;

b) ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd gyhoeddi adroddiadau fel mater o drefn ac mewn modd amserol yn y dyfodol; 

c) cyflawni gwelliannau radical yn y modd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru; 

d) cynnal adolygiad sylfaenol o wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru gyda chleifion, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid eraill;

e) cyhoeddi gwybodaeth ystyrlon am berfformiad ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru, gan gynnwys amseroedd aros ar gyfer asesiadau iechyd meddwl a thriniaeth, fel therapïau siarad;

f) sefydlu rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl galw i mewn 24 awr ar gyfer pobl sy'n profi argyfwng iechyd meddwl;

g) gweithio ar sail drawsbleidiol i gyflawni Deddf iechyd meddwl newydd i Gymru. 

Cynigiwyd y cynnig.

Gwrthodwyd fy ngalwad ddiweddar am ddadl yn y Senedd yn amser Llywodraeth Cymru ar adroddiad Holden a gyhoeddwyd y mis diwethaf, ac a ddogfennai fethiannau yn uned iechyd meddwl Hergest ym Mangor. Felly, rydym wedi cyflwyno'r ddadl hon gan y gwrthbleidiau ar fater y mae Llywodraeth Cymru wedi bod ynghlwm wrtho ers tro byd.

Yn 2012, ysgrifennodd y dirprwy grwner at y bwrdd iechyd yn amlinellu ei phryder wedi i ddynes farw yn uned Hergest. Ar ôl i'r Athro David Healy o adran seiciatreg uned Hergest fynegi pryderon ynglŷn â datblygiadau yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, rhoddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog iechyd ar y pryd, ateb i Darren Millar yn 2012 yn datgan y byddai adolygiad annibynnol yn dechrau cyn bo hir. Ar ôl i mi godi'r un pryderon gyda phrif weithredwr y bwrdd iechyd ar y pryd, cefais ateb ganddi yn 2012 ei bod wedi cychwyn ymchwiliad. Ond ni chafodd y bwrdd ei roi mewn mesurau arbennig tan fis Mehefin 2015, wedi i ymchwiliad allanol ddatgelu bod cleifion wedi dioddef camdriniaeth sefydliadol yn uned Ablett, uned iechyd meddwl acíwt Ysbyty Glan Clwyd. Dywedodd y bwrdd iechyd ei fod wedi cael gwybod am bryderon difrifol ynglŷn â gofal cleifion ar ward Tawel Fan yn uned Ablett ym mis Rhagfyr 2013, ond roedd y pryderon am y ward hon yn mynd yn ôl lawer ymhellach. Er enghraifft, yn 2009, tynnais sylw Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd at bryderon gan etholwr a ddywedodd fod y driniaeth a gafodd ei gŵr yn uned Ablett bron â bod wedi'i ladd, fod tri chlaf arall a gafodd eu derbyn tua'r un adeg â'i gŵr wedi cael profiadau tebyg, a'i bod bellach yn poeni am y driniaeth y gallai eraill ei chael yn yr uned hon.

Cyn cyhoeddi adroddiad Holden, roeddwn yn un o bum Aelod i dderbyn gohebiaeth gan swyddog gweithredol GIG wedi ymddeol ar ôl iddo weld yr adroddiad a'r atodiad. Dywedodd fod y bwrdd iechyd, hyd hynny, wedi protestio bod yn rhaid i brif destun adroddiad Holden a'i atodiad, a gwblhawyd ym mis Rhagfyr 2013 ac a oedd yn cynnwys darnau o ddatganiadau damniol 40 o chwythwyr chwiban, barhau ynghudd o olwg y cyhoedd er mwyn diogelu cyfrinachedd y chwythwyr chwiban, a bod y penderfyniad i atal tystiolaeth o esgeulustod ar sail mor annilys yn un bwriadol. Roedd y bwrdd iechyd, meddai, wedi rhoi'r gorau i'r esgus hwn o'r diwedd drwy dderbyn dyfarniad y comisiynydd gwybodaeth, a wnaed yn gyntaf dros 16 mis yn ôl, y dylid cyhoeddi'r adroddiad yn llawn. Mae'n gwbl glir bellach fod y prif gorff o dystiolaeth a ddarparwyd gan y chwythwyr chwiban—pob un ohonynt yn aelodau allweddol o staff yn uned Hergest—wedi'i gadw ynghudd yn fwriadol. Nid i ddiogelu chyfrinachedd y chwythwyr chwiban y gwnaed hyn ond yn hytrach i guddio gweithredoedd ac esgeulustod eu huwch reolwyr a oedd yn achosi i staff gael eu bwlio a chleifion i gael eu hesgeuluso.

Gwnaeth y bwrdd iechyd grynodeb byr, meddai, o'r adroddiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Tachwedd 2015, ond mae cyhoeddi'r adroddiad yn llawn yn datgelu bellach faint o fanylion a guddiwyd rhag y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y pryd. Fel y gofynnodd ef, sut felly roedd hi'n bosibl, yn 2014, fod yr uchaf ei statws o'r rheolwyr hyn wedi cael caniatâd i wneud adroddiadau i'r bwrdd iechyd a'i bwyllgor ansawdd a oedd yn cuddio ei ran ei hun ym mhroses Holden, ac a yw'r bwrdd iechyd bellach yn fodlon fod yr uwch swyddogion a oedd yn gyfrifol am y llanastr hwn ac am ei gadw ynghudd am gymaint o amser bellach i gyd wedi'u symud o unrhyw gyfrifoldeb am ofal cleifion iechyd meddwl sy'n agored i niwed?

Wrth siarad yma ym mis Medi, dywedodd y Gweinidog iechyd ei bod yn bwysig nodi bod adroddiad cryno wedi'i gyhoeddi yn 2015, yn cynnwys argymhellion Holden. Ond dyma'r adroddiad cryno byr iawn y cyfeirir ato uchod, nad oedd yn disgrifio'r 31 o bryderon a restrwyd gan staff. Drwy gydol fy amser fel Aelod o'r Senedd, ers 2003, rwyf wedi cefnogi rhes o chwythwyr chwiban egwyddorol sydd wedi cael eu bygwth, eu bwlio, eu difrïo neu eu niweidio am fentro dweud y gwir yng Nghymru. Mewn digwyddiad a arweiniodd yn uniongyrchol at Holden cafodd dau uwch aelod o staff nyrsio a oedd wedi mynegi pryderon ynglŷn â diogelwch eu tywys allan o'r adeilad ar sail ffug. Yn achos Tawel Fan, rhoddwyd dau aelod o'r staff meddygol ar ddyletswyddau cyfyngedig a'u cyfeirio at y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Roedd un ohonynt wedi mynegi pryderon ynglŷn â diogelwch wrth y rheolwyr, ond dywedwyd wrtho fod gwneud hynny'n dangos nad oedd yn gallu gweithio mewn tîm.

Nododd llythyr a gefais gan yr Athro Healy yn 2019, 'Mae nifer o fy nghleifion wedi marw, yn rhannol oherwydd anawsterau i'w cael i mewn. Ysgrifennais at y bwrdd iechyd am un claf—sydd bellach wedi marw—a oedd yn cael mwy o gydgysylltu gofal gan heddlu gogledd Cymru na chan y gwasanaethau iechyd meddwl, ond ni chaf gydnabyddiaeth fod fy llythyrau'n cael eu derbyn hyd yn oed.' Gwnaed honiadau ffug yn ei erbyn; fe'i cafwyd yn ddieuog bob tro, ac yn y pen draw derbyniodd gynnig swydd yng Nghanada. Fodd bynnag, mae llythyr a ddaeth ganddo yr wythnos hon yn datgan, 'Mae uno byrddau iechyd ar draws gogledd Cymru wedi rhoi staff sy'n gweithio yn Wrecsam yng ngofal y gwasanaeth cyfan. Daeth bwlio, ymosodiadau, diswyddiadau diannod yn seiliedig ar gyhuddiadau ffug, honiadau ffug o gam-drin rhywiol yn ddigwyddiadau cyffredin; dywedwyd wrth staff a fynegodd bryderon ynglŷn â diogelwch nad oeddent yn gallu gweithio mewn tîm a chawsant eu diswyddo. Mae rhai gwleidyddion o leiaf yn cydnabod eu bod wedi derbyn llythyrau gan uwch staff yn tynnu eu sylw at y materion hyn. Ni wnaeth Mr Drakeford gydnabod hynny erioed. Mae ei sylwadau diweddar ar yr hyn a ddigwyddodd wedi bod yn syfrdanol o anghywir.'

Wrth ymateb yma i ddatganiad 2018 gan yr Ysgrifennydd iechyd ar y pryd, Vaughan Gething, ar adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ward Tawel Fan, dywedais:

'yn 2015, derbyniodd Llywodraeth Cymru, y bwrdd iechyd ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ganfyddiadau adroddiad Donna Ockenden a gyhoeddwyd y flwyddyn honno.'

Felly, yn awr, pan fo llawer o honiadau difrifol yn britho adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, pam ei fod wedi dod i'r casgliad rhyfedd fod y gofal yn dda ac na ddigwyddodd unrhyw cam-drin sefydliadol? Canfu adolygiad Ockenden yn 2018 fod y systemau, y strwythurau a'r prosesau llywodraethu, y drefn reoli a'r arweinyddiaeth a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd o 2009 ymlaen yn gwbl amhriodol ac yn ddiffygiol iawn. Ym mis Ionawr 2019, datgelodd Donna Ockenden fod staff wedi dweud wrthi fod gwasanaethau'n mynd tuag yn ôl. Mae dau glaf yn unedau iechyd meddwl gogledd Cymru wedi marw drwy grogi ac ymgais i grogi dros y flwyddyn ddiwethaf. Y mis diwethaf, datgelodd adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod y bwrdd iechyd wedi ymddiheuro'n annidwyll i fab dynes a oedd wedi cael triniaeth ar ward Hergest, David Graves, am y methiannau a nodwyd a'r anghyfiawnder a achoswyd iddo ef a'i deulu. Mewn llythyr at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, dywedodd cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth y bwrdd iechyd fod Mr Graves wedi bod yn ymosodol ar lafar ar brydiau ac wedi gwneud datganiadau sydd wedi gorfodi'r bwrdd iechyd i ystyried diogelwch yr unigolyn. Mewn ymateb, ysgrifennodd Donna Ockenden, 'Rwyf bob amser wedi eich ystyried chi, Mr Graves, yn gwrtais ac yn foesgar.'

Ddoe, ysgrifennodd prif swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ataf cyn y ddadl hon, i ddweud, pan ddaw'n fater o weithredu argymhellion adroddiadau heriol, fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn araf i weithredu, a gallai rhai ddweud, yn amharod i weithredu. Felly, mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymddiheuro i staff, cleifion a theuluoedd y rhai yr effeithiwyd arnynt yn andwyol ac i gynnal adolygiad sylfaenol o wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru gyda chleifion, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid eraill. Mae'r holl hanes hwn wedi bod yn warthus, ac yn staen ar enw da'r sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru.

16:15

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, i gynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2, Yn nodi’r cynnydd a wnaed i wella ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i’w gwneud yn fwy diogel, ers cyhoeddi argymhellion Holden yn 2015.

3. Yn cydnabod yr heriau mawr sy’n parhau yn y gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r gwelliannau sydd eu hangen i fynd i’r afael â nhw.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i drafod adroddiad Holden ac adeiladu ar y drafodaeth a gawsom fel rhan o'r ddadl fer dan arweiniad Llyr Gruffydd ychydig wythnosau'n ôl. Er bod ychydig wythnosau wedi mynd heibio bellach ers rhyddhau'r adroddiad damniol hwn o'r diwedd, mae'n werth nodi bod y Llywodraeth yn dal i fod heb ddefnyddio ei hamser Senedd ei hun i ganiatáu i'r Senedd drafod yr adroddiad a chraffu ar ymateb y Llywodraeth.

Gan fod yr adroddiad wedi'i gyhoeddi o'r diwedd, mae'n rhaid i waith ddechrau ar adfer ymddiriedaeth pobl gogledd Cymru, ac mae hynny'n dechrau gyda'r angen i'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru gyfaddef pa mor fawr yw'r hyn y mae'r adroddiad hwnnw'n ei ddatgelu, cydnabod bod ymddiriedaeth yn y system wedi erydu'n helaeth iawn, ac ymrwymo i ddysgu pob gwers anodd sy'n deillio o hyn. Rhaid inni beidio ag anghofio mai'r adroddiad hwn oedd un o'r ffactorau a arweiniodd at osod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig yn y lle cyntaf, ac roedd gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb uniongyrchol dros y bwrdd iechyd hyd at y llynedd, a hyd yn oed ar ôl iddo ddod allan o fesurau arbennig, roedd cleifion yn dal i farw, ac mae cwestiynau'n parhau yn fy meddwl i ac ym meddyliau llawer o bobl eraill sut y gellid bod wedi gwneud y penderfyniad i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig pan oedd cynifer o gwestiynau heb eu hateb.

Ond mae hyn yn awr yn ymwneud â llawer mwy na rhyddhau adroddiad hirddisgwyliedig; mae'n ymwneud ag atebolrwydd pawb sy'n gyfrifol am y bwrdd iechyd, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, yn awr ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dros y cyfnod mwyaf ofnadwy hwn. Byddwn yn cefnogi'r cynnig fel y mae ac yn gwrthod gwelliant y Llywodraeth, gan fod y Llywodraeth yn gwrthod cydnabod yr angen am fwy o dryloywder a'r angen am ddyrannu gwell adnoddau i fynd i'r afael â'r problemau a godwyd yma. Bydd yn destun pryder dwfn, rwy'n gwybod, ac yn siom i lawer o aelodau o staff a chleifion a'u teuluoedd fod Llywodraeth Cymru yma yn dewis dileu o'r cynnig gwreiddiol yr angen i bawb sydd ynghlwm wrth y mater resynu at y diffyg atebolrwydd, ac i resynu at effaith ddinistriol y methiannau a welsom ar staff a chleifion a'u hanwyliaid. Cânt eu cythruddo gan y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod y galwadau am ymddiheuriad, am gynhyrchu adroddiadau mewn modd amserol yn y dyfodol, am gyflawni gwelliannau radical yn y modd y darperir gwasanaethau, am adolygiad sylfaenol o wasanaethau iechyd meddwl. Am sefydlu rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl galw i mewn—mae Plaid Cymru wedi gofyn am fesurau o'r fath ers pedair blynedd. Rwyf wedi trafod gyda'r Dirprwy Weinidog y cynlluniau sydd ganddi hithau hefyd i roi mesurau ar waith, ond mae angen inni weld y mesurau hynny'n cael eu rhoi ar waith fel rhan o newidiadau eang i ddarpariaeth iechyd meddwl ledled Cymru.

Ond yma gyda Hergest a'r hyn a ddigwyddodd yno, mae gennym ddigwyddiadau trychinebus a arweiniodd at golli bywydau ac at ddioddefaint i lawer iawn o aelodau teuluol sydd wedi bod yn galaru yn sgil colli anwyliaid. Bydd cleifion, teuluoedd a llawer o staff y cefais sgyrsiau dwfn a thrallodus gyda llawer ohonynt dros y blynyddoedd yn gwrando'n astud ar yr hyn y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ddweud heddiw, oherwydd ni ddylid ystyried cyhoeddi'r adroddiad ei hun yn ddiwedd ar ymgyrch dros gyhoeddi'r adroddiad. Rhaid ei weld fel dechrau pennod newydd, a rhaid iddo ddangos ei fod yn ddechrau pennod newydd ar ôl yr hanes diflas iawn a welsom yn Hergest ac yn y gwasanaeth iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. 

16:20

Diolch i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon yma heddiw. Fel yr amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, wrth agor y ddadl heddiw, mae canfyddiadau adroddiad Holden yn peri pryder mawr. Yn wir, maent yn gwbl frawychus ac yn anodd iawn i'r trigolion rwy'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru eu darllen. Fel yr amlinellodd Mr Isherwood, datgelodd yr adroddiad hirddisgwyliedig, a gafodd ei atal rhag cael ei gyhoeddi am flynyddoedd, ddiwylliant o fwlio a morâl isel ymhlith staff ar ward Hergest, ward y dywedir ei bod wedi bod mewn trafferthion difrifol yn ôl yr adroddiad. Ac roedd y berthynas rhwng staff a rheolwyr ar lefel matron ac uwch wedi chwalu i'r fath raddau fel bod gofal cleifion yn ddi-os yn cael ei effeithio. Ac mae'n ddinistriol clywed bod cleifion wedi cael niwed ac wedi cael eu hesgeuluso oherwydd y problemau hyn. Gyda'r methiannau eithafol hyn wrth gwrs, mae staff, cleifion a theuluoedd wedi gorfod dioddef yn sgil y digwyddiadau dinistriol hyn.

Fel y gwyddom i gyd—mae eisoes wedi'i nodi—Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod â throsolwg dros y bwrdd iechyd hwn a'i fethiannau, a'r Prif Weinidog, Mr Drakeford a fu'n arwain y trosolwg hwn am ran helaeth o'r amser, pan oedd ar y pryd yn Weinidog iechyd. Fel yr amlinellodd y Prif Weinidog wrthyf mewn cwestiynau yr wythnos diwethaf, a dyfynnaf,  

'rwy'n cytuno ei bod hi'n bwysig gwneud yn siŵr bod ymddiriedaeth briodol rhwng pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'r ddarpariaeth o'r gwasanaethau hynny yn y gogledd'.

Ac mae gan y Llywodraeth hon lawer iawn o waith i'w wneud, Ddirprwy Lywydd, gan nad yw llawer o fy nhrigolion ledled gogledd Cymru ar hyn o bryd yn teimlo'r ymddiriedaeth honno yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn fy rhanbarth. 

Fel y dywed ein cynnig, yn gyntaf oll mae angen i Lywodraeth Cymru ymddiheuro'n syml i staff, cleifion a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Nid wyf yn meddwl bod hynny'n beth anodd i ofyn amdano. Ar wahân i eiriau, yr hyn y mae fy nhrigolion hefyd am ei weld yw gwelliannau radical yn y modd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl ar draws rhanbarth Gogledd Cymru, gan gynnwys sefydlu canolfan iechyd meddwl galw i mewn 24 awr, a chyhoeddi gwybodaeth ystyrlon am berfformiad ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl y maent yn eu defnyddio ledled Cymru. Ac eto, er gwaethaf hyn, mae'r bwrdd yn dal i gael anawsterau gyda'r ddarpariaeth iechyd meddwl. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai gan y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru y mae rhai o'r amseroedd aros gwaethaf yng Nghymru, a beth y gwelwyd y Llywodraeth Lafur yma yn ei wneud? Byddai rhai'n galw tynnu'r bwrdd iechyd hwn sy'n methu allan o fesurau arbennig ychydig fisoedd cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai yn benderfyniad gwleidyddol, rwy'n siŵr.

Felly, ar wahân i rai o'r camau gweithredu neu'r diffyg gweithredu a welsom gan y Llywodraeth yn y mater hwn yn awr, yn y cynnig a gyflwynwyd gennym heddiw, gwelsom welliannau Llywodraeth Cymru i ddileu rhannau o'n cynnig sy'n cyfeirio at resynu at y trychinebau, a dileu ein cynigion ar gyfer atebion ymarferol a chadarn i ddatrys rhai o'r problemau a brofir, i sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth orau bosibl a cheisio adennill eu hymddiriedaeth, sy'n bwysig iawn, fel y dywedais yn gynharach.

Roeddwn yn falch iawn o glywed cyfraniad Plaid Cymru yn cefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio. Mae'n bwysig iawn ein bod yn anfon y neges gywir at bawb sydd wedi dioddef. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae adroddiad Holden a'i ganfyddiadau yn peri gofid mawr, yn darlunio sefyllfa drist iawn, ac mae'n fethiant arall mewn dau ddegawd o benderfyniadau gwael a rheolaeth wael gan y gwasanaeth iechyd dan Lafur yng ngogledd Cymru, a'r tu ôl i'r methiannau hyn, yn anffodus, mae pobl yn dioddef yn ddiangen. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru ddysgu o'u camgymeriadau a rhoi cleifion yn gyntaf. Rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi'r cynnig pwysig hwn. Diolch yn fawr iawn. 

Roeddwn am siarad yn y ddadl hon fel Aelod o dde Cymru nad oes ganddo wybodaeth fanwl ynglŷn â sut y mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gweithio, ond sydd wedi cael etholwyr yn cysylltu â mi gyda phroblemau iechyd meddwl yn fy etholaeth sy'n chwilio am gymorth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a byrddau iechyd cysylltiedig yn fy nghymuned. Felly, rwy'n cymryd y geiriau o sicrwydd a gawsom gan y Gweinidog iechyd fel rhai didwyll, a hoffwn glywed mwy gan y Dirprwy Weinidog heddiw ynglŷn â sut yr ymatebwyd i adroddiad Holden, a'r materion a gaiff eu nodi gan Lywodraeth Cymru fel cyfres o welliannau a wneir o ganlyniad iddo. Felly, credaf fod hynny'n bwysig er mwyn cael fy nghefnogaeth i welliant Llywodraeth Cymru—i'r Gweinidog wneud hynny'n glir yn ei hymateb. Ond mae pwynt clir rhan 3(d) o'r cynnig ymlaen yn nodi pethau y gellir eu gwneud ledled Cymru. Nawr, ni allaf weld yn uniongyrchol ble—. Mae'n naid go fawr o adroddiad Holden i Gymru gyfan, yw'r pwynt rwy'n ceisio ei wneud yma, ac ni allaf weld lle gellir gwneud y naid honno. Felly, byddwn yn dweud, o bwynt (d) ymlaen, i gynnal adolygiad sylfaenol o wasanaethau iechyd meddwl, cyhoeddi gwybodaeth ystyrlon am berfformiad ac ansawdd gwasanaethau iechyd ledled Cymru, sefydlu'r canolfannau galw i mewn, a chyflawni Deddf iechyd meddwl newydd, credaf fod hwnnw'n waith mwy helaeth y mae angen i ymchwiliad pwyllgor ei gyflawni yn hytrach na dim ond pleidleisio o'i blaid yn y Siambr hon heddiw, oherwydd mae'n ymddangos bod yna gryn dipyn o allosod o adroddiad Holden ei hun.

Wedi dweud hynny, ymatebodd y Prif Weinidog ddoe—roeddwn yn gwrando ar y cwestiynau i'r Prif Weinidog—am wasanaethau iechyd meddwl, a dywedodd fod llywio gofal yn bwysig iawn i leihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd meddwl. Y broblem gyda llywio gofal yw ei fod yn creu tagfa, ac mae'r tagfeydd yn digwydd ar y pwynt rydych yn mynd at ofal sylfaenol. A phan fyddwch yn mynd at ofal sylfaenol, gall fod yn anodd iawn cyrraedd y gwasanaeth iechyd meddwl cywir. Rwyf wedi ysgrifennu—. Mae gennyf lawer o gydymdeimlad â rhai o'r diwygiadau a awgrymir, gan gynnwys adolygiad sylfaenol o wasanaethau iechyd meddwl, oherwydd ysgrifennais at y Gweinidog iechyd i ofyn am adolygiad dan arweiniad arbenigwyr i lywio gofal. Ni chefais ymateb cadarnhaol, ond cefais esboniad o'r gwaith sydd wedi'i wneud gyda gwasanaethau meddygon teulu i wella mynediad at lywio gofal, sydd wedi'i gyflwyno, ac a ddylai arwain at ostyngiad yn y ciwiau am 8 a.m. a'r math o beth sy'n digwydd ar y ffôn, y peth cyntaf ar fore Llun neu fore Mawrth. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith mewn perthynas â hynny. Er hynny, daw'r prawf ynghylch hynny yn y dystiolaeth sy'n digwydd ar ôl cyflwyno'r mesurau. Felly, mae tagfeydd i ofal yn bwysig, a'r hyn sy'n digwydd yn aml gyda phobl sy'n chwilio am gymorth iechyd meddwl yw bod y rhestr aros am wasanaethau fel therapi siarad mor hir fel eu bod yn mynd am feddyginiaeth yn lle hynny. Ac ni ddylai meddyginiaeth fod yn opsiwn cyntaf ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Dylai fod yn therapi siarad, ymarfer corff, newid ffordd o fyw. Gall yr holl bethau hyn gefnogi'n well nag opsiwn uniongyrchol i gyffuriau a'r math hwnnw o ateb. Felly, nid yw'r tagfeydd hyn yn helpu, a chredaf fod Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â hynny.

Yn olaf, hoffwn nodi materion penodol a dynnwyd i fy sylw yn fy etholaeth. Cysylltodd un o fy etholwyr sydd ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd a syndrom Tourette â mi. Daeth ataf fel rhan o ymgyrch a drefnwyd gan gymdeithas syndrom Tourette yn ne Cymru, ac yn benodol nid oes llwybr clinigol ar gyfer syndrom Tourette yng Nghymru, sy'n golygu anawsterau i sicrhau diagnosis a dod o hyd i gymorth pellach. Bydd y rheini ohonoch sydd wedi bod yn y Siambr hon ers peth amser yn gwybod bod gennyf ferch sy'n awtistig iawn, a gallaf weld llwybr iddi hi, a'r driniaeth y mae hi ei hangen. Ond nid oes gan y rhai sydd â syndrom Tourette ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd lwybr tebyg ac nid oes ganddynt fynediad tebyg at wasanaethau iechyd meddwl. A gwn fod y Dirprwy Weinidog yn gwybod y manylion am hyn ac mae'n gweithio ar hyn. Mewn ymateb i stori gan BBC Wales ar y mater, dywedodd Llywodraeth Cymru,

'Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cyflwyno fframwaith newydd i wella'r mynediad at y cymorth cywir'

a'i bod,

'yn adolygu'r holl wasanaethau niwroddatblygiadol i blant ac oedolion, i nodi lle mae bylchau yn y ddarpariaeth a'r galw, y capasiti a chynllun gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion'

er mwyn eu gwella. A all y Gweinidog gadarnhau felly p'un a yw'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny wedi cwblhau'r broses o gyflwyno'r fframwaith newydd hwn ai peidio? Ac a all gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn dal ar y trywydd iawn i gwblhau ei hadolygiad o wasanaethau niwroddatblygiadol plant ac oedolion erbyn mis Mawrth fel y bwriadwyd, a fyddai'n mynd beth o'r ffordd tuag at ateb rhai o'r cwestiynau yn y cynnig?

Yn olaf, gan ein bod yn sôn am iechyd meddwl, byddwn ar fai'n peidio â chroesawu Andrew R.T. Davies yn ôl i'r Siambr. Roeddwn yn credu bod ei gyfraniad ddoe yn gyfraniad rhywun sydd wedi cymryd hoe o'r byd gwleidyddol, oherwydd roedd yn rhesymol iawn, yn bwyllog iawn, a chredaf fod gwers i ni yn awr dros y Nadolig i gymryd cam yn ôl, a dychwelyd yn y flwyddyn newydd, mae'n debyg, mewn ysbryd o garedigrwydd a chyd-gefnogaeth.

16:30

Dylai tystiolaeth dorcalonnus staff rheng flaen sydd wedi'u gorlethu â gwaith yn yr adroddiad hwn a pheth o'r cynnwys gwarthus wneud i bob swyddog a Gweinidog y Llywodraeth feddwl yn ofalus. Mae'n amlwg yn annerbyniol fod adroddiad mor bwysig â hwn, sy'n cynnwys 700 tudalen o dystiolaeth gan 45 aelod o staff, wedi'i gadw rhag y cyhoedd am amser mor hir.

Nawr, mewn cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd yr wythnos diwethaf, lleisiais fy mhryderon mewn perthynas â'r adroddiad penodol hwn, a chefais sicrwydd y bydd adroddiadau yn y dyfodol lle canfyddir bod pethau wedi mynd o chwith yn ddifrifol yn cael eu hysgrifennu gyda'r bwriad o'u cyhoeddi. A bod yn deg, credaf fod y bwrdd iechyd wedi cydnabod na ddylid oedi yn y fath fodd gydag adroddiadau fel hyn, a gadael i deuluoedd boeni am amser maith wrth aros i'w gweld. Fodd bynnag, o gofio bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr bellach ar ail gam adroddiad pwysig ar wasanaethau fasgwlaidd, a'r adran wroleg, bydd y rhain hefyd yn destun adolygiad. Weinidog, rwy'n gobeithio y byddwch yn defnyddio'ch ateb i gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio'i gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd gyhoeddi adroddiadau fel mater o drefn ac mewn modd amserol er mwyn gwella tryloywder ac ymddiriedaeth cleifion.

Mae canfyddiadau adroddiad Holden, sy'n cynnwys nodiadau helaeth ar brinder staff ar wardiau i'r graddau fod gofal corfforol sylfaenol a sylw i hylendid personol wedi cael eu hesgeuluso, yn ogystal â phryderon ynghylch strwythurau rheoli gwallus, yn adlewyrchu problemau yn y bwrdd iechyd. Yn wir, canfu adolygiad Ockenden fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ers dechrau 2013, yn cael clywed nad oedd eu rheolaeth a’u hymdrechion i ymchwilio i bryderon, gan gynnwys digwyddiadau difrifol a digwyddiadau 'byth', yn addas at y diben. Yn ychwanegol at hynny, mae staff rheng flaen ym maes gwasanaethau iechyd meddwl pobl hŷn wedi adrodd yn gyson am bryderon sylweddol ynghylch lefelau staffio a diffyg ymgysylltiad â'r uwch dimau rheoli iechyd meddwl. At ei gilydd, mae'r canfyddiadau hyn yn cefnogi'r cyfiawnhad dros ymchwiliad pellach i waith a rheolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Er gwaethaf adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y pumed Senedd ym mis Mai 2019, a oedd yn nodi amheuon ynglŷn ag a fyddai’r bwrdd yn gallu dod allan o fesurau arbennig o fewn 12 mis, ar ôl bron i bum mlynedd a hanner mewn mesurau arbennig, ym mis Tachwedd 2020, cymerodd y cyn-Weinidog iechyd y cam annisgwyl i ddod â'r bwrdd allan o fesurau arbennig, ac fel y dywedodd Sam Rowlands, fy nghyd-Aelod, roedd hyn ychydig cyn etholiad Senedd. Felly, mae'n hanfodol fod unrhyw ymholiadau yn archwilio a yw'r penderfyniad gwleidyddol hwn wedi cael effaith negyddol ar y bwrdd iechyd, yn enwedig gan ei fod yn dal i ddioddef yn sgil prinder staff, ac wedi gwario £180 miliwn ar staff asiantaeth dros y pum mlynedd diwethaf, a'r ffaith bod oddeutu 40,242 o gleifion yn aros yn hwy na blwyddyn am eu triniaeth.

Gan ddychwelyd at fater gwasanaethau iechyd meddwl, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai gan y bwrdd hwn y mae'r amseroedd aros gwaethaf ond un yng Nghymru, gyda 56.3 y cant yn unig yn aros llai na 28 diwrnod am asesiad ym mis Medi 2021. Mewn ysbryd adeiladol, ynghyd â strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd newydd, rwy’n sefyll gyda fy nghyd-Aelodau o blith y Ceidwadwyr Cymreig i alw am Ddeddf iechyd meddwl newydd, a fyddai’n diweddaru'r ddeddfwriaeth ac yn cynnwys y syniadau diweddaraf ynghylch y ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru. Fy ngobaith yw y bydd Deddf o'r fath yn helpu i sefydlu rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl galw i mewn 24 awr ar gyfer pobl mewn argyfwng iechyd meddwl, yn ogystal â chefnogi cael nyrsys hyfforddedig yn ôl i feddygfeydd teulu.

Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y bydd eich ateb yn ymrwymo i weithio ar sail drawsbleidiol i gyflwyno Deddf iechyd meddwl newydd fel y gallwn ddatblygu gwelliannau radical ar frys i'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl ym mwrdd Betsi Cadwaladr a ledled Cymru. Ac nid wyf yn dymuno codi i siarad yn y Senedd hon byth eto i drafod canfyddiadau mor ddifrifol ag y canfu'r adroddiad hwn. Ac rwy'n—. Y pwyntiau a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, heddiw: fel Aelodau sydd wedi bod yma ers mwy nag un tymor, mae'n debyg dyma'r diwrnod tristaf i mi orfod codi yn y Senedd hon. Diolch.

16:35

Diolch am y cyfle unwaith eto i gael trafod y mater yma. Rŷn ni wedi cael sawl cyfle dros yr wythnosau a'r misoedd, yn wir y blynyddoedd, diwethaf i drafod sgandal yr uned Hergest a'r sgandal, wrth gwrs, o beidio â chyhoeddi adroddiad Holden yn llawn. A bob tro dwi'n codi i drafod y mater yma, dwi'n dal i fethu â chredu bod y bwrdd wedi trio osgoi atebolrwydd yn y modd y gwnaethon nhw—trio gwrthod bod yn dryloyw ar y mater yma—ac, wrth gwrs, sut dŷn ni'n dal heb weld pobl yn cael eu dal i gyfrif am y methiannau difrifol sydd wedi'u gweld mewn perthynas â'r achos yma.

Os ŷch chi'n nyrs neu'n ddoctor a rŷch chi'n methu yn eich dyletswydd, yna rŷch chi'n cael eich taro oddi ar y gofrestr; rŷch chi'n cael eich gwahardd rhag gweithredu o fewn eich proffesiwn. Os ŷch chi'n rheolwr yn y gwasanaeth iechyd, sydd yn methu, yna rŷch chi'n cael cario ymlaen ac, yn aml iawn, rŷch chi jest yn symud ymlaen i swydd wahanol debyg yn rhywle arall. Mae'n rhaid i hynny stopio, ac mae yna gyfrifoldeb ar y Llywodraeth i sicrhau dyw hynny ddim yn gallu cario ymlaen i ddigwydd yn y dyfodol.

Arweiniodd y diwylliant o wrthwynebiad i graffu, i newid a her, wrth gwrs, at hierarchaeth bwrdd Betsi Cadwaladr yn gwrthod rhyddhau'r adroddiad hwn, er gwaethaf ceisiadau'r comisiynydd gwybodaeth, hyd yn oed. Bu'n rhaid i berthnasau mewn galar aros yn ddiangen oherwydd biwrocratiaeth nad oedd yn rhoi pobl yn gyntaf—rhoi ei fuddiannau ei hun a'i enw da ei hun yn gyntaf a wnaeth, ac wrth gwrs, wrth wneud hynny, roedd yn maeddu'r enw da hwnnw ymhellach fyth. Ac mae'n ymwneud â mwy na pherthnasau'n galaru am ddioddefwyr yn Hergest yn unig, wrth gwrs—meddyliwch am sgandal Tawel Fan a'r nifer fawr o deuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn y fan honno. Seiniwyd y larwm yn Hergest, a phe byddai'r bwrdd iechyd wedi talu sylw iddo drwy gyhoeddi adroddiad Holden yn amserol, efallai na fyddem wedi cael digwyddiadau Tawel Fan.

Nawr, rwy'n falch o weld rheolwyr bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn derbyn dros y misoedd diwethaf fod yn rhaid i bethau newid—mae hwnnw'n gam cadarnhaol iawn, ac wrth gwrs, mae i'w groesawu. Ond nid wyf yn naïf. Rydym wedi bod yma o'r blaen; rydym wedi cael y gwawriau ffug hyn yn y gorffennol—addo dysgu gwersi ac i fod yn fwy agored. Ond ni all bwrdd Betsi Cadwaladr fforddio gwneud mwy o addewidion a pheidio â chadw atynt. Felly, wrth ei flas y bydd profi'r pwdin, gan fod pob un ohonom yn derbyn ei bod yn anodd rhedeg y bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru, gyda demograffeg mor heriol, ac mae gofal iechyd meddwl yn arbennig yn her barhaus ar draws pob bwrdd iechyd, fel y clywsom yn gynharach, ac mae arnaf ofn fod yr heriau hynny'n cynyddu wrth gwrs.

Ni allaf dderbyn y gwelliant a gynigiwyd gan y Llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth hon gyfrifoldeb uniongyrchol am y methiannau ym mwrdd Betsi Cadwaladr oherwydd yr amser a dreuliodd, fel y clywsom, mewn mesurau arbennig. Byddai'n well pe bai'r Llywodraeth yn ystyried y rhan a chwaraeodd yn y problemau sydd wedi amharu ar y bwrdd iechyd dros y degawd diwethaf. Ble roedd arweinyddiaeth y Llywodraeth pan oedd y bwrdd o dan ei rheolaeth uniongyrchol? Pam na wnaethoch chi gael gwared ar y diwylliant o gelu a llusgo'r bwrdd iechyd allan o'r llanastr hwn? Felly, rydym bellach yn symud ymlaen, ac mae angen llawer mwy o dryloywder ac atebolrwydd gan y rhai sy'n gyfrifol am redeg ein gwasanaethau cyhoeddus.

Nawr, hoffwn sôn yn benodol am wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Gwyddom am yr ôl-groniadau cwbl annerbyniol wrth ymdrin ag achosion acíwt o salwch meddwl mewn plant, a gwn fod y Dirprwy Weinidog yn boenus o ymwybodol o hynny, ac maent yn broblemau sydd wedi cael effeithiau trawmatig ar bobl ifanc, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach. Ac mae'r pandemig, fel y gwyddom, wedi dwysáu'r problemau hyn, felly mae'n rhaid inni ystyried dwysáu'r cymorth hefyd. A dyna pam fy mod yn falch fod cytundeb cydweithio Plaid Cymru gyda’r Llywodraeth yn ymrwymo i edrych ar sut y gallwn brofi cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys y trydydd sector yn arbennig, i geisio datblygu’r llwybrau atgyfeirio clir at wasanaethau’r GIG a all helpu i gefnogi pobl ifanc mewn argyfwng, neu'r rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl brys neu broblemau lles emosiynol.

Ni ddylai'r methiannau yn Hergest fod wedi digwydd, ac yn sicr, ni ddylai'r holl ffars o beidio â chyhoeddi adroddiad Holden yn llawn fod wedi digwydd. Felly, gadewch inni obeithio yn awr fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi dysgu ei wers o'r diwedd ac y bydd yn dechrau mynd i'r afael â'r methiannau difrifol mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Nawr, byddai hynny'n waddol hwyr ond yn un cadarnhaol a pharhaol, gobeithio, i bawb a gafodd gam mewn modd mor drasig.

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, gan fy mod wedi gweithio ym mwrdd Betsi Cadwaladr am 11 mlynedd, a bûm yn gweithio am bedair blynedd ym maes iechyd meddwl fel gweithiwr cymorth, felly hoffwn feddwl bod y pwnc trafod hwn yn weddol agos at fy nghalon. Er bod adroddiad Holden yn canolbwyntio ar fethiannau uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, mae ganddo oblygiadau i gleifion ledled gogledd Cymru, ac mae'n atgoffa llawer o fy etholwyr yn rhy glir o'r methiannau yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl.

Mae 11 mlynedd wedi bod ers yr arolygiadau cyntaf ar ward Glan Traeth yn Ysbyty Brenhinol Alexandra, a saith mlynedd ers cyhoeddi adolygiad Ockenden, a gynhaliwyd o ganlyniad i fethiannau difrifol yn uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, ond mae llawer o fy etholwyr yn teimlo, er gwaethaf cyfres o adolygiadau a blynyddoedd mewn mesurau arbennig, fod rheolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn esgeuluso cleifion a staff sy'n gweithio i'r bwrdd iechyd.

Ychydig cyn y pandemig, nododd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd broblemau staffio yn y bwrdd iechyd. Fe wnaethant dynnu sylw at y diffyg cynnydd ar weithredu argymhellion adolygiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adolygiad Ockenden. Fe wnaeth y pwyllgor fwrw amheuon hefyd ar y gallu i ddod â'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig. Fodd bynnag, ar anterth y pandemig, ac ychydig fisoedd cyn etholiadau’r Senedd, daethpwyd â'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig, fel y nododd Janet Finch-Saunders a Sam Rowlands, er mawr syndod i gleifion a staff ledled gogledd Cymru—felly, darllenwch rhwng y llinellau ar hynny.

Mae pryderon difrifol yn parhau ynghylch y ddarpariaeth iechyd meddwl ar draws y bwrdd iechyd. Mae tri chwarter y plant a'r bobl ifanc ledled y rhanbarth yn aros yn hwy na'r 28 diwrnod a argymhellir am asesiad. Gwyddom yn rhy dda fod y pandemig wedi cael effaith aruthrol ar iechyd meddwl pobl ifanc ledled Cymru, ond er hynny, mae'r rheini sy'n byw yn fy etholaeth yn parhau i gael eu gwasanaethu gan wasanaeth sy'n methu, un y bu sôn amdano ers degawdau ond sy'n parhau i wneud tro gwael â'r rheini y mae'n eu gwasanaethu er gwaethaf ymdrechion gorau staff anhygoel y GIG, sy'n mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau bob dydd—staff sy'n parhau i gael eu gorlethu â gwaith gan uwch reolwyr nad ydynt yn eu gwerthfawrogi'n llawn, ac yn anffodus, nid gwasanaethau iechyd meddwl yn unig sy'n dioddef yng ngogledd Cymru. Mae prinder staff yn parhau i roi diogelwch cleifion mewn perygl—i'r graddau fod meddygon yn Ysbyty Glan Clwyd wedi teimlo rheidrwydd i ysgrifennu at y bwrdd iechyd i rybuddio am orlenwi a chleifion yn aros drwy'r dydd i gael eu gweld. Rhybuddiodd meddygon fod adrannau brys mor orlawn fel bod ymyriadau brys ar gyfer sepsis, strôc, gofal y galon, trawma mawr a dadebru yn cael eu peryglu.

Mae fy etholwyr yn bryderus iawn ynglŷn â sut y mae'r GIG yn cael ei redeg yng ngogledd Cymru, a hynny'n briodol. Rhan fach o'r broblem yw'r methiannau difrifol yn yr uned iechyd meddwl, yn anffodus. Mae angen diwygio gofal iechyd meddwl ar frys ar draws bwrdd Betsi Cadwaladr, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig, ond rwy'n gofyn hefyd y prynhawn yma i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r argyfwng cynyddol yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Diolch.

16:40

Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd, roeddwn o dan yr argraff nad oeddwn yn y ddadl hon; rwy'n ymddiheuro.

Na, mae'n ddrwg gennyf, fy nealltwriaeth i oedd ei fod wedi'i dynnu'n ôl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon ac i gofnodi fy nghydnabyddiaeth o ymrwymiad bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i barhau i wella gwasanaethau iechyd meddwl. Hoffwn gydnabod ymroddiad y staff ar lawr gwlad yng ngogledd Cymru, sy'n gweithio'n galed i ddarparu gofal tosturiol o ansawdd uchel i gleifion sydd angen cymorth iechyd meddwl.

Bydd yr Aelodau’n cofio inni drafod y pwnc hwn ar 29 Medi, cyn cwblhau’r broses gyfreithiol ynghylch y cais rhyddid gwybodaeth am adroddiad Holden yn llawn. Roedd hefyd yn destun nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog yn ystod yr wythnosau diwethaf, ar ôl i'r bwrdd iechyd ryddhau'r adroddiad llawn. Ond dyma ni eto, yn trafod cynnig sy'n ceisio taflu bai am bethau a ddigwyddodd wyth mlynedd yn ôl ac nad yw'n gwneud llawer i gydnabod, er nad oes amheuaeth fod heriau sylweddol o hyd, fod y bwrdd iechyd wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r materion a amlygwyd yn adroddiad Holden, a methiannau eraill yn wir yn eu gwasanaethau iechyd meddwl.

Ar adroddiad Holden ei hun, mae'n bwysig cofio bod yr adroddiad cryno a gyhoeddwyd gan y bwrdd iechyd yn 2015 yn cynnwys yr holl argymhellion a wnaed gan Robin Holden. Rhoddodd y bwrdd iechyd gamau ar waith bryd hynny i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd, a chomisiynodd waith i sicrhau bod argymhellion Holden wedi'u gweithredu. Rhoddwyd adroddiad am y gwaith hwn wrth bwyllgor ansawdd, diogelwch a phrofiad y bwrdd iechyd ym mis Ionawr eleni, ac mae ar gael i'r cyhoedd. Roedd yn darparu sicrwydd fod camau wedi'u cymryd ar bob un o argymhellion yr adroddiad. Mae'r prif weithredwr wedi cydnabod bod rhai materion, gan gynnwys y ffaith bod pobl hŷn â salwch meddwl gweithredol yn derbyn gofal yn yr un amgylchedd â gwasanaethau iechyd meddwl acíwt i oedolion, wedi bod yn gymhleth i'w datrys oherwydd dyluniad a chynllun llawr uned Hergest a'r adnoddau staffio sydd ynghlwm wrth hynny. Nid yw hyn yn golygu nad yw'r materion hyn yn cael sylw. Mae anghenion pob claf yn cael eu hystyried, a chânt eu rheoli yn ôl yr angen. Rydym yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar opsiynau ar gyfer ateb mwy hirdymor.

Mae rhai'n awgrymu y bu rhyw fath o oedi rhwng cynhyrchu'r adroddiad a rhoi'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig. Fodd bynnag, fel y gwyddom, roedd adroddiad Holden yn un o nifer o adolygiadau annibynnol a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd mewn ymateb i bryderon ynghylch ansawdd gofal iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, a arweiniodd at ei roi mewn mesurau arbennig yn 2015. Ni fu unrhyw oedi. Mewn gwirionedd, gofynnodd y Gweinidog iechyd ar y pryd i'r grŵp teirochrog o swyddogion Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru adolygu statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Mehefin 2015. Ar ôl cael gwybod nad oedd y bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd digonol wrth fynd i'r afael â phryderon hirsefydlog ynghylch llywodraethiant, arweinyddiaeth a chynnydd, penderfynodd roi'r bwrdd mewn mesurau arbennig ar unwaith, a chyhoeddwyd hynny yn y Siambr hon lai na 24 awr yn ddiweddarach.

Ers adeg adroddiad Holden, mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd. Canfu adborth gan Archwilio Cymru, AGIC, a swyddogion Llywodraeth Cymru yn dilyn y cyfarfod bord gron diweddaraf ar iechyd meddwl, a gynhaliwyd mor ddiweddar â 22 Medi, y bu gwelliant sylweddol yn nidwylledd a thryloywder y bwrdd iechyd ynglŷn â'i wasanaethau iechyd meddwl. Penodwyd prif weithredwr newydd i lywio'r bwrdd iechyd ar ei daith wella. Cryfhawyd trefniadau llywodraethu i ddarparu mwy o oruchwyliaeth a chraffu ar wasanaethau iechyd meddwl ar lefel y bwrdd, ynghyd â ffyrdd systematig o nodi a rhoi gwybod am faterion wrth iddynt godi. Mae llawer mwy o sefydlogrwydd ar y lefel reoli yn y gwasanaethau iechyd meddwl, a mwy o hyder yn y gwasanaeth i ddarparu.

Er y gwyddom, fel gyda nifer o fyrddau iechyd ledled Cymru ar hyn o bryd, fod rhai materion perfformiad wedi'u gwaethygu gan COVID, mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed a gwasanaethau oedolion bwrdd Betsi Cadwaladr wedi'u halinio'n well i ddarparu gwasanaeth mwy integredig. Bu gwelliannau mawr hefyd yn y ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol a'r trydydd sector i gefnogi'r rhan o'r agenda iechyd meddwl sy'n ymwneud ag atal ac ymyrraeth gynnar. Mae'n amlwg, o fy nghyfarfodydd fy hun gyda'r bwrdd iechyd, a chyfarfodydd fy swyddogion, ei fod yn defnyddio goruchwyliaeth a her sylweddol Llywodraeth Cymru mewn ffordd gadarnhaol, ac yn unol â'i ddyhead i fod yn sefydliad sy'n dysgu.

Mae'r fframwaith ymyrraeth wedi'i thargedu yn cael ei ddefnyddio gan y bwrdd iechyd, ac mae pedwar matrics aeddfedrwydd wedi'u datblygu gyda staff i ysgogi gwelliannau. Y bwrdd iechyd sy'n berchen ar y matricsau, a chawsant eu datblygu gyda'r staff ar lawr gwlad sydd wedi dangos gwir ddealltwriaeth o'r anawsterau sy'n eu hwynebu a'r heriau sydd o'u blaenau. Elfen allweddol o'r matricsau yw eu bod yn eglur ynglŷn â'r angen i'r bwrdd iechyd ddangos ei fod yn ymateb i argymhellion adolygiadau allanol, ac yn gweithredu ffyrdd newydd o weithio mewn ymateb i'r argymhellion hyn. Mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â'r bwrdd iechyd i adolygu cynnydd yn erbyn y matricsau, ac rwy'n croesawu'r tryloywder a'r didwylledd a ddangoswyd gan y bwrdd iechyd fel rhan o'r broses hon. Rwyf wedi cael cyfle fy hun i drafod y matrics iechyd meddwl yn uniongyrchol gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr, yn ogystal â'r unigolyn sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl. Yn ei hunanasesiad ei hun, mae'r bwrdd wedi cydnabod bod llawer o waith i'w wneud. Er fy mod yn cydnabod bod y sgoriau sylfaenol yn isel, maent yn adlewyrchu arfarniad gonest o sefyllfa'r bwrdd iechyd. Mae'n bwysig nodi nad yw'r sgoriau hyn yn adlewyrchu'r maes cyfan, dim ond y meysydd sy'n destun ymyrraeth wedi'i thargedu, ac maent yn gosod llinell sylfaen y gallwn olrhain cynnydd yn ei herbyn drwy'r matricsau.

Bydd adfer a thrawsnewid yn cymryd amser, ond rydym wedi dweud wrth y bwrdd iechyd yn gyson ac yn glir fod gallu dangos tystiolaeth o welliannau yn y gwasanaeth yn allweddol i wneud cynnydd ar draws y matricsau gyda'r bwriad o isgyfeirio ymhellach. Nid wyf yn celu rhag y ffaith bod llawer mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn cyrraedd safon y mae pobl yn ei disgwyl ac yn ei haeddu. O fy nhrafodaethau gyda chadeirydd a phrif weithredwr bwrdd Betsi Cadwaladr, mae hyn yn rhywbeth sy'n amlwg iawn i staff y bwrdd iechyd. Fodd bynnag, mae angen inni gydnabod bod cynnydd wedi'i wneud ac yn parhau i gael ei wneud. Ceir ymdeimlad cynyddol o hyder, fod y blociau adeiladu yn eu lle i alluogi'r bwrdd iechyd i symud ymlaen o'r sefyllfa hon a mynd i'r afael â'r materion sydd heb eu datrys. Yn bwysig, cawn ymdeimlad fod y staff eu hunain yn credu bod y sefydliad wedi ymrwymo i ddysgu a thyfu. Mae'r ymdeimlad hwn o sefydliad y gallant fod yn falch o fod yn rhan ohono yn hanfodol ar gyfer denu a chadw staff ar bob lefel, ac mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi'r bwrdd iechyd mewn mesurau i godi ysbryd staff yn hytrach nag ymosod arnynt o hyd.

Gan droi at yr hyn y mae'r cynnig yn galw amdano, hoffwn nodi bod y bwrdd iechyd eisoes wedi ymddiheuro. Mae'n ddrwg gennym fod pobl wedi cael y profiadau gwael hyn, ac maent eisoes wedi ymddiheuro. Mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi ymrwymo i gyhoeddi pob adroddiad y mae'n ei gomisiynu. Roedd staff wedi cael gwybod y gallent siarad â Holden yn gyfrinachol, ac roedd y bwrdd iechyd yn pryderu y byddai enwau unigolion yn cael eu datgelu heb y golygiadau priodol, ac y byddai gwneud hynny'n tanseilio hyder staff wrth godi pryderon yn y dyfodol. Mae'r bwrdd iechyd, serch hynny, wedi dysgu o'r broses hon, ac erbyn hyn, mae ganddo bolisi ar waith ar gyfer adroddiadau sylweddol a fydd yn cael eu comisiynu gyda'r bwriad o'u cyhoeddi i atal materion o'r fath rhag codi yn y dyfodol. Gofynnir inni gyflawni gwelliannau radical yn y modd y darperir wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Rydym eisoes yn gwneud hyn.

Gan droi at ganolfannau argyfwng iechyd meddwl 24 awr, fel rwyf wedi'i ddweud sawl tro yn y Senedd hon, ein dull o wella iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc yw sicrhau bod cymorth iechyd meddwl wedi'i ymgorffori ar draws y lleoliadau lle maent yn byw eu bywydau, gan gynnwys ysgolion, colegau a chymunedau. Bydd cyflwyno ein fframwaith NYTH yn rhan allweddol o'r dull hwn, a bydd ein dysgu yn llywio ein gwaith ar ddatblygu fframwaith NYTH i oedolion. Rwy'n gobeithio y bydd ein gwaith atal yn rhwystro problemau rhag gwaethygu'n argyfyngau, ond gwyddom fod angen gwella mynediad at gymorth mewn argyfwng i blant ac oedolion. Mae hyn yn cynnwys darparu un pwynt cyswllt iechyd meddwl ar gyfer pob oedran drwy wasanaeth 111, a datblygu mwy o ddewisiadau yn lle derbyn i'r ysbyty. Fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, rydym hefyd wedi ymrwymo i brofi darpariaeth noddfa i bobl ifanc fel rhan o'r llwybr ehangach hwn i wella—

16:50

—yr ymateb i argyfwng. Fodd bynnag, nid oes angen cymorth iechyd meddwl arbenigol ar y rhan fwyaf o bobl mewn trallod emosiynol. Yn aml, cymorth ar gyfer anghenion cymdeithasol a lles ehangach sydd ei angen arnynt, ac rwyf wedi ymrwymo i arwain dull amlasiantaethol a thrawslywodraethol o wneud hyn.

Mae'r cynnig hwn yn gofyn inni sicrhau Deddf iechyd meddwl newydd i Gymru. Rydym wedi cytuno i ddiwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a hoffwn atgoffa'r Aelodau fod y rhain yn deillio o adolygiad manwl helaeth gan Syr Simon Wessely, a gafodd ei groesawu gan weithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid fel ei gilydd. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y diwygiadau hyn ac mae wedi addo sicrhau bod y diwygiadau'n gweithio i Gymru. Nid oes gennyf unrhyw reswm i amau’r addewid hwnnw, hyd yn oed os oes rhesymau gan bobl eraill, yn amlwg, dros wneud hynny.

Nid yw'r cynnig hwn yn cydnabod y gwaith a wnaed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond yn hytrach, mae'n ceisio taflu bai. Nid yw'n cefnogi'r sefydliad. Nid yw'n cefnogi'r staff gweithgar a phenderfynol ar lawr gwlad—y staff y buom yn eu cymeradwyo ar garreg y drws heb fod mor bell yn ôl â hynny. Nid yw'n cydnabod y gwelliannau a wnaed yn y gwasanaethau yn y blynyddoedd ers adroddiad Holden. Yn bennaf, nid yw'n cydnabod ymdrechion enfawr y staff dirifedi sy'n mynd y tu hwnt i'r galw i wneud eu gorau bob dydd. Am y rhesymau hynny, ni allwn ei gefnogi, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant y Llywodraeth.

Mae staff gweithgar a gofalgar bwrdd Betsi Cadwaladr yn haeddu ein cefnogaeth yn y Siambr hon, ac nid ydym yn gwneud unrhyw gymwynas â phobl gogledd Cymru drwy barhau i geisio rhyw fath o helfa ôl-weithredol i weld pwy y gellir eu beio am ddigwyddiadau'r gorffennol. Ein dyletswydd i bobl gogledd Cymru yw cefnogi'r bwrdd iechyd a'i reolwyr newydd wrth iddo symud ymlaen, a'i helpu i gyflawni ar eu rhan.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gresynu at gywair ymateb y Dirprwy Weinidog i’r ddadl hon heddiw. Mae'r rhain yn faterion difrifol gerbron y Senedd. Nid yw'n iawn ein bod yn feirniadol o staff. Mewn gwirionedd, rydym wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yn wir, ar Lywodraeth Cymru, i ymddiheuro i staff am beidio â mynd i’r afael â’r methiannau. Credaf fod hynny'n dangos cryn dipyn o gefnogaeth a chydymdeimlad â'r staff ar y rheng flaen sydd wedi bod yn gweithio'n galed i geisio cyflawni gwelliannau.

Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod adroddiad Holden wedi datgelu methiannau difrifol, mor bell yn ôl â 2013, ym maes gofal iechyd meddwl yng ngogledd Cymru: diwylliant o fwlio a bygwth, prinder staff, cleifion yn cael eu hesgeuluso, a rhai'n cael eu niweidio. Ac mae'n ffaith ei bod wedyn wedi cymryd mwy o amser, tan fis Mehefin 2015, er gwaethaf honiadau’r Gweinidog fod camau wedi'u rhoi ar waith yn gyflym, i roi'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, pan oedd adroddiad arall yn dweud, i bob pwrpas, fod yr un pethau'n digwydd ar ward Tawel Fan, i lawr y ffordd yn Ysbyty Glan Clwyd, pethau a oedd hefyd yn broblemus a lle cafwyd methiannau difrifol ac esgeulustod sefydliadol.

Ni chredaf fod gweithredu wedi digwydd yn ddigon cyflym. Ac yn y cyfamser, mae arnaf ofn, Ddirprwy Weinidog, fod eich Llywodraeth wedi caniatáu i gleifion pellach gael eu niweidio, eu hesgeuluso a wynebu'r gamdriniaeth sefydliadol honno. Mae hynny'n ffaith, p'un a ydych yn ei hoffi ai peidio. Ac am hynny, byddwn wedi meddwl y byddai wedi bod yn ddigon gweddus heddiw i'r Llywodraeth ymddiheuro i'r cleifion yr effeithiwyd arnynt, y mae rhai ohonynt wedi marw bellach, eu hanwyliaid, ac yn wir, y staff y gwnaed cam difrifol â hwy gan arweinyddiaeth bwrdd Betsi Cadwaladr, a Llywodraeth Cymru yn wir, a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru ar yr adeg honno.

Pan osodwyd y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, dywedwyd wrthym, gyda chryn dipyn o ffanffer, y byddai gwelliannau sylweddol o fewn 100 diwrnod yn y bwrdd iechyd hwnnw mewn perthynas â gofal iechyd meddwl yn y rhanbarth. Ond ni ddigwyddodd hynny. Bum mlynedd a hanner yn ddiweddarach, cafodd y bwrdd iechyd ei dynnu o fesurau arbennig, er bod heriau enfawr heb gael eu datrys ym maes gofal iechyd meddwl, a llawer o'r methiannau a nodwyd yn Holden, a nodwyd yn Ockenden, a nodwyd yn adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol—er gwaethaf eu casgliad gwarthus yn eu hadroddiad na fu unrhyw gam-drin sefydliadol—heb gael sylw. Datganiadau a ffeithiau yw'r rhain.

Felly, mae claddu eich pen yn y tywod a dweud bod popeth yn gwella—fe ddywedoch chi fod rhai 'gwelliannau mawr' wedi bod—a ninnau wedi cael dwy farwolaeth ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn yr unedau iechyd meddwl hyn dros y 12 mis diwethaf, marwolaethau y gellid bod wedi eu hatal pe bai rhywfaint o'r camau a addawyd wedi'u cymryd, yn ffiaidd a dweud y gwir. A dweud y gwir, mae'n ffiaidd. Ac mae methu deall realiti'r sefyllfa a chydnabod pan fo gwasanaeth yn methu ac angen gwella yn annerbyniol.

Pryd y byddwn yn gweld y gwelliannau hyn a addawyd? Mae'r heriau enfawr hyn yn dal i fodoli chwe blynedd yn ddiweddarach ar ôl rhoi'r bwrdd mewn mesurau arbennig oherwydd ei wasanaethau iechyd meddwl. Rydych yn gwneud cam â phobl gogledd Cymru. Rydych yn gwneud cam â'r cleifion iechyd meddwl. Rydych yn gwneud cam â'r bobl fregus hyn sydd angen ein cymorth yn enbyd. A chredaf fod awgrymu bod popeth yn ardderchog, fod popeth wedi gwella'n sylweddol, yn gwbl warthus. Bu oedi sylweddol cyn i Lywodraeth Cymru weithredu.

Fe sonioch chi am drafodaethau â rhanddeiliaid. Beth am yr adborth gan gleifion? Beth am yr adborth gan deuluoedd? Ni chlywais unrhyw gyfeiriad gennych atynt yn eich ymateb. Oherwydd gallaf ddweud wrthych o fy ngwaith achos fy hun nad yw pobl yn hapus. Nid yw'r sefyllfa'n dda. Mae angen i'r sefyllfa wella'n sylweddol o hyd, ac oni bai fod gennym Weinidog a all gydnabod hynny, ni fydd gennym unrhyw un yn mynd i'r afael â'r heriau hyn.

Nawr, rwyf am ddweud hyn: mae gennyf lawer o ffydd yn y prif weithredwr newydd ac yng nghadeirydd y bwrdd iechyd, a chredaf eu bod yn wirioneddol benderfynol o fynd i'r afael â'r mater hwn unwaith ac am byth. Rwy’n mawr obeithio y byddwch yn rhan o’r tîm i wella'r sefyllfa, ond mae arnaf ofn, gyda’ch agwedd a’r ymateb gwleidyddol gelyniaethus diangen a roesoch heddiw—ac nid wyf yn bod yn wleidyddol yma; y pwynt rwy'n ei wneud yw bod angen Llywodraeth arnom sy'n cydnabod bod y rhain yn heriau—ac oni bai eich bod yn barod i'w hwynebu, i fuddsoddi, er mwyn sicrhau bod y sefyllfa hon yn gwella, rydym yn mynd i gael mwy o farwolaethau, mwy o esgeulustod a mwy o bobl yn cael eu niweidio o ganlyniad i'r sefyllfa. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.

16:55

Rwy'n falch iawn o glywed bod gennych ffydd yn y prif weithredwr newydd a'r cadeirydd, ond tybed a fyddech yn ystyried a yw'n ddefnyddiol iddynt hwy ai peidio, i wella'r gwasanaethau y mae angen eu gwella yng ngogledd Cymru, eich clywed yn gweiddi am bethau a ddigwyddodd yn rhywle rhwng chwech ac wyth mlynedd yn ôl, pan nad oes gennyf unrhyw amheuaeth fod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda’r bwrdd iechyd i unioni’r materion hyn. Ond bob tro y byddwch yn codi ar eich traed ac yn ailadrodd y pethau trallodus a ddigwyddodd yn y gorffennol, rydych yn ei gwneud yn anos iddynt ddenu recriwtiaid newydd i'r gwasanaethau hyn.

17:00

Mae arnaf ofn, Jenny Rathbone, ein bod wedi croesawu'r ffaith bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi'i roi mewn mesurau arbennig yn ôl ym mis Mehefin 2015. Gallwch wirio'r cofnod. Fi oedd Gweinidog iechyd yr wrthblaid ar y pryd ac roeddwn yn canmol Mark Drakeford am wneud y penderfyniad dewr hwnnw, oherwydd roeddwn yn credu'n ddiffuant y byddai'n gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad fel roedd angen inni ei weld. Ni wnaeth hynny. Ni wnaeth wahaniaeth. Dyna pam y mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dal i wynebu heriau enfawr gyda darparu gofal iechyd meddwl, hyd yn oed heddiw.

Datgan ffeithiau a wnaf yma. Ni chafwyd ymddiheuriad gan Lywodraeth Cymru am ei methiant i ymateb i adroddiad Holden yn ôl yn 2013 pan ddaeth ar gael yn wreiddiol. Ni chafwyd unrhyw esboniad o gwbl pam y bu cymaint o oedi rhwng cyhoeddi'r adroddiad hwnnw a gosod y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig. Yn y bôn, roedd yr un pethau'n digwydd ar Hergest ag a ddigwyddodd ar ward Tawel Fan. Pe bai'r bwrdd iechyd wedi cael ei roi mewn mesurau arbennig ar yr adeg roedd adroddiad Holden ar gael i Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2013, gellid bod wedi atal rhai o'r pethau a ddigwyddodd ar ward Tawel Fan. Mae hynny'n rhywbeth y credaf y dylai Llywodraeth Cymru ymddiheuro amdano, oherwydd pe baem wedi atal niwed i bobl, credaf ei bod yn annerbyniol inni gerdded yn ein blaenau a dweud bod pethau wedi gwella a pheidio â chydnabod y niwed a achoswyd. Ac mae arnaf ofn mai dyna'r sefyllfa rydym ynddi heddiw yn y Siambr hon.

Rwy'n gobeithio'n fawr—[Torri ar draws.] Rwy'n gobeithio'n fawr, Ddirprwy Weinidog, y byddwch yn gallu ystyried hynny, eich anallu i ymddiheuro i'r cleifion hynny a'u hanwyliaid am yr hyn sydd wedi digwydd, ac y byddwch yn parhau, gobeithio, i weithio gydag arweinyddiaeth y bwrdd iechyd i allu gwella'r sefyllfa annerbyniol hon, sydd wedi parhau'n rhy hir o lawer, fel y gallwn gael gwasanaeth gofal iechyd y gallwn fod yn falch ohono i gleifion iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Rwyf eisiau bod yn falch ohono. Rwyf eisiau iddo fod y gorau yn y byd, ond y gwir amdani yw nad felly y mae pethau.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cynnig pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi bwyd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Darren Millar. 

Yr eitem nesaf heddiw yw dadl Plaid Cymru ar dlodi bwyd. Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7862 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd hon:

1. Yn nodi bod bron i chwarter y bobl yng Nghymru mewn tlodi.

2. Yn nodi ymhellach yr oedd y defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu cyn pandemig COVID-19, ei fod wedi dyblu i bob pwrpas yn ystod y pandemig a'r holl arwyddion yw y bydd y sefyllfa hon yn parhau i waethygu.

3. Yn cydnabod ganlyniadau dwys, dinistriol a pharhaus ansicrwydd bwyd ar iechyd, lles a bywoliaeth pobl.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch hawl i fwyd, sy'n arbennig o feirniadol o ystyried yr argyfwng costau byw a wynebir gan gynifer ledled Cymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio pob opsiwn er mwyn sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan annatod o sut yr ymdrinir â thlodi o fewn polisi ar sail trawslywodraethol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto, mae gennym ddadl arall wedi'i chyflwyno ar dlodi, problem hirsefydlog i'r Senedd hon, ac mae cysylltiadau hysbys na ellir eu gwadu rhwng tlodi ac ansicrwydd bwyd. O gofio bod bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, nid yw'n syndod bod ansicrwydd bwyd yn broblem fawr sy'n wynebu llawer o aelwydydd yng Nghymru. Wrth gwrs, ceir camau cadarnhaol ar y gorwel: prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, er enghraifft, rhywbeth rwyf fi, fel rhywun a arferai gael prydau ysgol am ddim, yn hynod falch ohono. Mae gwybod y bydd pob disgybl ysgol gynradd, cyn bo hir, yn cael prydau ysgol am ddim a bod fy mhlaid i a'r Llywodraeth wedi dod at ei gilydd, er gwaethaf ein gwahaniaethau, yn gwneud i mi deimlo'n emosiynol iawn. A phan fydd yn digwydd, mae'n siŵr y bydd yn un o adegau mwyaf balch fy ngyrfa wleidyddol.

Ond rwy'n siŵr na fydd yn syndod i'r Aelodau glywed fy mod yn credu bod angen inni fynd ymhellach eto. Ni ddaeth prydau ysgol am ddim i ben i mi yn yr ysgol gynradd, ond rydym wedi cymryd y cam cyntaf tuag at gynnwys bwyd a mynediad at fwyd yn rhannau hanfodol o'r profiad addysg, ac wrth gwrs, ar ei lefel sylfaenol, dyna rydym yn ceisio'i gyflawni gyda'n cynnig. Dylai'r hawl i fwyd fod yn hawl ddiymwad i bob dinesydd, nid yn unig yng Nghymru, ond yn fyd-eang. Ni allwn oroesi na ffynnu hebddo. Dyna pam y dylid ymgorffori'r hawl i fwyd ym mhob polisi sy'n ymwneud â thlodi.

Tlodi yw un o'r ffactorau cliriaf a mwyaf sy'n cyfrannu at ansicrwydd bwyd, ac mae tlodi wedi bod ar gynnydd yng Nghymru yn dilyn blynyddoedd o gyni, twf economaidd wedi'i lesteirio yn sgil COVID-19 a Brexit, a phrisiau cynyddol. Rydym yn gweld argyfwng tlodi bwyd yn deillio o'r dewisiadau gwleidyddol a'r methiannau systemig a grëwyd dros y pedwar degawd diwethaf gan ddod â ni at ymyl y dibyn mewn cynifer o'n cymunedau. A hyn, wrth gwrs, er bod Cymru'n rhan o'r DU, un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd.

Yn 2017 a 2018, profodd bron i un o bob 10 o bobl yng Nghymru lefel isel o ddiogelwch bwyd, ac aeth 14 y cant o bobl yn brin o fwyd cyn y gallent fforddio prynu mwy. Canfu cynghrair tlodi bwyd de Cymru y byddai angen i aelwydydd ag incwm yn yr 20 y cant isaf yng Nghymru wario 36 y cant o'u hincwm i fodloni canllaw Bwyta'n Iach Llywodraeth y DU. Mae'n rhaid i fwy o bobl yng Nghymru newid eu harferion bwyta a phrynu am resymau ariannol na'r cyfartaledd yn y DU, ac mae lefelau ansicrwydd bwyd ymylol hefyd yn uwch yng Nghymru nag unrhyw wlad arall yn y DU. Mae ein system les, ein system ddiogelwch cymdeithasol, yn amlwg yn methu diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas drwy fethu darparu digon ar gyfer bwyd angenrheidiol i'r rhai sydd ei angen. Er mwyn mynd i'r afael yn iawn â thlodi bwyd, rhaid cael newid systemig. Nid yw cynyddu taliadau lles neu gymorth i fanciau bwyd yn mynd i'r afael ag achos sylfaenol y broblem nac yn rhoi'r urddas y mae ganddynt hawl iddo i bobl. 

Os caf droi'n fyr at welliannau'r Ceidwadwyr am eiliad, ni fydd cael mwy o bobl mewn gwaith yn datrys y broblem os nad yw'r gwaith hwnnw'n dda neu'n deg. Mae mwy nag un rhan o bump o weithwyr Cymru yn ennill llai na'r cyflog byw go iawn, ac mewn rhai ardaloedd yn ne Cymru mae hyn yn codi i chwarter neu hyd yn oed i draean. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru mewn gwaith ar hyn o bryd, ac roedd un o bob chwech o bobl a gafodd eu cyfeirio at fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yn y DU mewn gwaith, sy'n dangos nad yw cyflogaeth yn gallu gwarantu ffordd allan o dlodi. Mae'r gwelliant hefyd yn sôn am gynllun Kickstart Llywodraeth y DU ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed sydd ar gredyd cynhwysol. Mae'n darparu cyllid i gyflogwyr i dalu'r isafswm cyflog cenedlaethol am chwe mis, ond yr isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc 18 i 20 oed yw £6.56 yr awr. Sut y mae hyn i fod i helpu rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft, i ddechrau byw ar eu pen eu hunain a pheidio â phoeni o ble y daw eu pryd nesaf? Nid yw'n agos digon. 

Ar fater plant a phobl ifanc, roeddwn am godi mater tlodi plant ac effaith tlodi bwyd ar blant. Bydd aelwydydd yng Nghymru sydd â phlant yn profi mwy o bwysau ariannol o gostau bwyd cynyddol a thlodi na'r rhai heb blant. Amcangyfrifodd y Sefydliad Bwyd fod deiet iach yn fwyfwy anfforddiadwy yn achos oddeutu 160,000 o blant yng Nghymru. Dair wythnos yn ôl, ar 17 Tachwedd, codais fater tlodi plant Cymru yn y Siambr hon, lle nodais fod 54,000 o barseli banciau bwyd wedi mynd i blant yng Nghymru dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, o'i gymharu â dim ond 35,000 yn ystod 2017 a 2018. Ar yr un gyfradd, o heddiw ymlaen, byddai mwy na 3,000 o barseli bwyd wedi mynd i blant yng Nghymru ers imi wneud y datganiad hwnnw. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhagdybio nad yw'r sefyllfa wedi gwaethygu, ac mae llawer o ddangosyddion yn awgrymu y bydd yn parhau i wneud hynny. 

Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio bod fy sylwadau wedi'u cymryd gan feinciau'r Ceidwadwyr fel rhai adeiladol ac nid fel rhai pleidiol, a dywedaf hyn oherwydd credaf fod hwn yn fater sy'n trosgynnu gwleidyddiaeth plaid. Yn wir, mae'n fater trawsbleidiol. Dylai pawb gael mynediad diogel at fwyd maethlon o safon. Credaf fod hynny'n rhywbeth y gall pob un ohonom gytuno arno, ni waeth beth fo'n credoau gwleidyddol. Dyna'n bendant yw athroniaeth Baobab Bach ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, ac athroniaeth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n darparu brecwast am ddim mewn ysgolion i'w myfyrwyr, a dyna yw athroniaeth sefydliadau cymunedol eraill sy'n gweithio ar dlodi bwyd ledled Cymru, ac mae pawb ohonom wedi ymweld â sawl un ohonynt ac wedi eu crybwyll cyn hyn yn y Siambr hon.

I gloi, rwyf am ddangos pwysigrwydd yr ymgyrch Hawl i Fwyd a'i natur drawsbleidiol, a thalu teyrnged i'r gwaith sydd eisoes ar y gweill yn San Steffan gan Beth Winter AS ac Ian Byrne AS, y cyfarfûm ag ef yn rhithwir mewn panel Cynulliad y Bobl ar yr union fater hwn. Mae'r ddau wedi bod yn gweithio ar draws y pleidiau i gael hyn ar yr agenda yn San Steffan, gan ennill cefnogaeth ASau Plaid Cymru, ASau'r SNP, ASau Llafur, ASau Ceidwadol, ASau'r Democratiaid Rhyddfrydol—ac rwy'n rhoi'r gorau iddi yn y fan honno gan fy mod yn credu bod yr Aelodau'n deall. Rwy'n gobeithio y gellir efelychu hynny yma yn y Senedd wrth gwrs. Y gwir amdani yw bod arnom ddyletswydd i'n holl etholwyr sy'n byw mewn tlodi bwyd bob dydd o'u bywydau i ddod at ein gilydd yma i ddatrys y broblem. Diolch. 

17:05

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. 

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod gan bob person hawl i gyflenwad bwyd maethlon a digonol.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi cynyddu'r cyflog byw ac yn gwario dros £111 biliwn ar gymorth lles i bobl o oedran gweithio yn 2021/22.  

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni ei chynllun swyddi gan gynnwys y rhaglen kickstart, gyda'r nod o greu swyddi llawn amser i leihau'r risg o dlodi.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Rwy'n cynnig gwelliannau 1, 2 a 3. Fel y dywed ein gwelliant 1, mae gan bob person hawl i gyflenwad bwyd maethlon a digonol. Bob dydd, mae pobl yng Nghymru yn mynd yn llwglyd am eu bod mewn argyfwng. Mae llawer o resymau dros hyn, gan gynnwys incwm isel, dyled, mynediad at fudd-daliadau, camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl.

Fel y mae rhwydwaith banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yn datgan, yn aml ni fydd sefydliadau statudol yn gallu ymateb yn ddigon cyflym i'r anghenion hyn, ac eto gall argyfwng tymor byr waethygu'n hawdd i fod yn broblemau hirdymor anodd a chostus fel colli tai neu weithgaredd troseddol. Ar ôl cael gwybod am broblem newyn cudd gan fam leol, lansiodd sylfaenwyr yr ymddiriedolaeth, Paddy a Carol Henderson, fanc bwyd cyntaf Ymddiriedolaeth Trussell o'u sied yn yr ardd yn 2000. Aethant ymlaen i ddatblygu'r egwyddorion sy'n dal i fod yn gadarn heddiw: dylai'r holl fwyd fod wedi'i roi, a dylai gwirfoddolwyr fod â hawl i weinyddu'r bwyd a darparu cymorth emosiynol anfeirniadol. Lansiwyd y banc bwyd cysylltiedig cyntaf yng Nghaerloyw yn 2004.

Pan gyfarfûm ag Ymddiriedolaeth Trussell am y tro cyntaf, ymhell dros ddegawd yn ôl, roeddent yn dweud wrthyf mai eu nod oedd agor banciau bwyd newydd ym mhob tref yn y DU. Mynychais agoriad banc bwyd sir y Fflint yn yr Wyddgrug, banc bwyd cyntaf Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru, bron i ddegawd yn ôl. Yn 2014, lansiodd Ymddiriedolaeth Trussell raglen newydd hanfodol, More Than Food, sy'n dod â gwasanaethau cymorth eraill i mewn i fanciau bwyd, gan weithio mewn partneriaeth ag elusennau a gwasanaethau eraill i gynnig cyngor ar fudd-daliadau, tai, cyllidebu, a chyngor cyfreithiol hyd yn oed. Ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Trussell, mae'r Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol yn cynnwys dros 500 o fanciau bwyd annibynnol y DU, sydd wedi ymrwymo i ddyfodol lle mae bwyd da yn hygyrch i bawb. Gan ddod â'r sectorau elusennol, cyhoeddus a busnes ynghyd â chymunedau, mae banciau bwyd yn cynnig ateb cydgynhyrchiol i broblem barhaus.

Ymhen pum mis, bydd Llafur wedi bod yn rhedeg Cymru ers chwarter canrif. Nododd adroddiad Joseph Rowntree ar dlodi yn y DU a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018 mai Cymru yw'r wlad sydd â'r gyfradd tlodi uchaf o bedair gwlad y DU a hynny'n gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fis Tachwedd diwethaf, nododd adroddiad 'Tlodi yng Nghymru' Sefydliad Joseph Rowntree fod

'cyflogau Cymru'n is i bobl ym mhob sector o'u cymharu gyda gweddill y DU'

a

'Hyd yn oed cyn y coronafeirws, roedd bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi.'

Canfu ymchwil a wnaed ar ran cynghrair Dileu Tlodi Plant y DU ym mis Mai mai Cymru sydd â'r gyfradd tlodi plant waethaf o holl wledydd y DU. Mae Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi methu cau'r bwlch rhwng y rhannau cyfoethocaf a thlotaf o Gymru a rhwng Cymru a gweddill y DU, er iddynt wario biliynau a roddwyd iddynt i fynd i'r afael â hyn ar raglenni o'r brig i lawr na lwyddodd i wneud hynny. Pe baent wedi gwneud hynny, wrth gwrs, byddent wedi anghymhwyso eu hunain rhag cael cyllid pellach.

Yn 2014, ar ôl cyfarfod arall gydag Ymddiriedolaeth Trussell, dywedais yma fod yr ymddiriedolaeth wedi dweud wrthyf

'fod banciau bwyd yn fynegiant o rywbeth sydd wedi bod yn digwydd yn yr eglwysi erioed, sef bwydo’r newynog.'

Ond mae tlodi bwyd wedi bod gyda ni erioed. Roedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd, gan anghofio unrhyw wahaniaethau gwleidyddol a allai fod gennym, i ganolbwyntio ar y rhai mewn angen. Roeddent yn dweud wrthyf y byddent yn rhoi'r neges hon i bob plaid a phob asiant. Fe addawais eu cefnogi a dywedais wrth y Gweinidog ar y pryd, 'Rwy'n eich annog chi i wneud yr un peth.'

Mae mesurau Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yn cynnwys cynyddu'r cyflog byw, gwario dros £111 biliwn ar gymorth lles i bobl oedran gweithio yn y flwyddyn ariannol hon a chyflawni ei chynllun swyddi, gan gynnwys y rhaglen Kickstart sy'n anelu at greu swyddi llawnamser i leihau'r risg o dlodi. Mae ein gwelliant 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni hyn yng Nghymru. Yn ogystal, mae Ymchwil ac Arloesi yn y DU, a noddir gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU, wedi comisiynu prosiect ymchwil ar gydgynhyrchu systemau bwyd iach a chynaliadwy ar gyfer cymunedau difreintiedig, dan arweiniad Prifysgol Reading. Gan gydweithio â chymunedau difreintiedig, bydd hyn yn sefydlu dulliau effeithiol o gyd-greu polisïau, cynhyrchion a chadwyni cyflenwi y gellir eu gweithredu ledled gwledydd y DU. O ganlyniad, bydd gan bob dinesydd botensial i wneud penderfyniadau am eu bwyd a bydd ganddynt fynediad at ddeiet sy'n fforddiadwy, yn ddeniadol, yn iach ac yn amgylcheddol gynaliadwy. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan annatod o ddulliau trawslywodraethol o fynd i'r afael â thlodi. Diolch.

17:10

Mae hon yn ddadl ofnadwy o amserol gan ein bod yng nghrafangau gaeaf anodd eisoes. Mae ffigurau Cyngor ar Bopeth yn dangos bod un o bob pump o bobl eisoes wedi torri'n ôl ar eu siopa bwyd yn ystod y tri mis diwethaf i arbed arian. Mae un o bob 10 yn rhagweld y bydd yn rhaid cael cymorth argyfwng y gaeaf hwn, fel banciau bwyd neu dalebau tanwydd. Cymorth argyfwng, hynny yw, i'w helpu i gael pethau y maent eu hangen i aros yn fyw, oherwydd nid moethusrwydd yw bwyd, ond anghenraid sylfaenol.

Hoffwn ganolbwyntio ychydig ar yr effaith a gaiff newyn bwyd ar iechyd meddwl, oherwydd nid yn gorfforol yn unig y mae newyn yn effeithio ar bobl, nid yn unig drwy gyfyngu ar dwf pobl neu drwy stumog wag; mae newyn yn llwgu pobl o hapusrwydd, mae'n crebachu eu hunan-barch ac mae'n erydu eu potensial. Mae newyn yn caethiwo pobl mewn panig a gofid wrth i'r pryder cyson ynglŷn ag o ble y daw'r pryd nesaf bwyso ar gyflwr meddwl person. Mae'n creithio pobl yn seicolegol a gall sbarduno blinder, embaras, euogrwydd a chywilydd.

Dyma'r realiti sy'n wynebu niferoedd brawychus o bobl yng Nghymru. Dangosodd adroddiad 'Food Security in Wales' fod un rhan o bump o'n poblogaeth yn poeni ynglŷn â rhedeg allan o fwyd. Yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd 14 y cant o'n poblogaeth wedi rhedeg allan o fwyd cyn y gallent fforddio prynu mwy. Nawr, mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar yr hawl i fwyd, ac ynghyd â bwyd, byddwn yn cynnwys yr hawl i urddas a bywyd heb bryder am fwyd. Fel y dywedodd Susan Lloyd-Selby o Ymddiriedolaeth Trussell, ni ddylai neb wynebu'r diffyg urddas a ddaw yn sgil bod angen bwyd argyfwng. Ond yn rhy aml yn ein cymdeithas, yn lle hynny, mae tlodi'n cael ei ddarlunio bron fel cosb.

Gadewch inni atgoffa ein hunain am y llynedd, pan oedd y ddadl gymdeithasol ynghylch prydau ysgol am ddim yn Lloegr yn y penawdau, a rhannwyd lluniau o'r dognau tila a roddwyd i blant mewn rhai awdurdodau lleol ar y cyfryngau cymdeithasol. Gwelsom bupurau wedi'u torri yn hanner mewn cling ffilm, dyrnaid o diwna neu basta mewn bagiau plastig bach pitw. Roedd yn ymddangos i'r byd i gyd fel pe bai'r bobl a roddai'r pecynnau at ei gilydd wedi cael cyfarwyddyd i gyfyngu ar unrhyw obaith y gallai pobl eraill yng nheulu'r plentyn elwa o'r pecynnau hynny. Pa reswm arall dros roi rhan o lysieuyn, neu agor tun o diwna a thynnu dim ond ei hanner allan? Byddai wedi galw am ymdrech i fod mor greulon â hynny. Byddai wedi cymryd amser i fesur yn drefnus union faint o dosturi a chymorth a gâi pob plentyn gyda'r parseli hynny, gan gyfyngu ar bopeth, cadw cap ar y caredigrwydd hwnnw. A pha neges a roddai hynny? Oherwydd nid mater o faeth yn unig yw prydau ysgol a bwyd am ddim fel y cyfryw. Er mor bwysig yw hynny, dylai hefyd ymwneud ag ymdeimlad o ddigon, o beidio crafu byw a chael dim ond digon i allu ymdopi'n unig. Dylai ymwneud â chael mwynhad o fwyd—nid gorfwyta na thrachwant, ond cael digon, teimlo'n gyflawn.

Mae ein perthynas â bwyd yn gymhleth. Mae'n gallu bod yn gysur pan fydd digon, ond gall fod yn fygythiad ac yn artaith pan nad oes digon. Mae'r ymchwiliad i fwyd plant yn y dyfodol yn dyfynnu Siobhan Clifford, pennaeth, sy'n dweud bod plant yn dweud wrthych am

'boenau yn eu stumog... am fynd i'r gwely'n teimlo'n llwglyd... cur pen... blinder... a'r berthynas wyrdroëdig â bwyd y mae hynny'n ei greu'.

Mae rhai plant yn dwyn bwyd o finiau y mae plant eraill wedi taflu bwyd iddynt. Ni ddylid cael llinell sy'n rhannu rhwng pobl sy'n gallu cael mwy o fwyd nag sydd ei angen arnynt tra bod eraill yn ei chael hi'n anodd cael digon i'w cynnal. Yn amgylcheddol, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn foesol nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr. Mae'n arwain yn wrthnysig at wastraff bwyd ac at brinder bwyd direswm. Y plant hynny sy'n dwyn o finiau.

Ddirprwy Lywydd, mae angen inni edrych ar ein cadwyni cyflenwi, creu system fwyd fforddiadwy a chynaliadwy sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, cefnogi marchnadoedd lleol, cwmnïau cydweithredol, manwerthwyr cymunedol, proseswyr, dosbarthwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau safonau bwyd o ansawdd uchel. Ond tra byddwn yn datblygu'r cadwyni cyflenwi hynny, gadewch inni edrych hefyd ar y cysylltiadau sy'n ein rhwymo, y sylw a roddwn i urddas. Ni ddylai neb fynd i'r gwely'n llwglyd na chael eu gyrru i anobaith drwy boeni o ble y daw eu prydau bwyd. Yng Nghymru, neu mewn unrhyw wlad yn yr unfed ganrif ar hugain, mae'n falltod na ddylai fodoli.

17:15

Mae tlodi bwyd yn bodoli. Mae'n sicr yn bodoli yn nwyrain Abertawe. Yr hyn sydd wedi fy synnu yw banciau bwyd yn dechrau yn yr hyn roeddwn i bob amser yn meddwl amdanynt fel maestrefi cyfoethog gorllewin Abertawe. O'r wyth ward yn Nwyrain Abertawe, mae gan chwech ohonynt fanciau bwyd. Mae'r ddwy sydd heb rai yn agos iawn at fanciau bwyd yn yr ardaloedd cyfagos. Roedd y defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu cyn y pandemig COVID-19, mae wedi dyblu i bob pwrpas yn ystod y pandemig, ac mae'r holl arwyddion yn awgrymu y bydd y sefyllfa hon yn parhau i waethygu. Mae banciau bwyd yn Abertawe yn bethau diweddar; hynny yw, ar ôl 2010 yn bennaf. Mae'r rhan fwyaf yn cael eu rhedeg gan sefydliadau crefyddol—eglwysi, capeli a'r mosg—ac mae eraill yn cael eu rhedeg gan bobl yn y gymuned sy'n gofalu am y bobl o'u cwmpas. Eu hunig gymhelliad yw ceisio helpu'r rhai sy'n llai ffodus na hwy eu hunain.

Ers 2010, bu twf enfawr yn nifer y banciau bwyd a'r niferoedd sy'n eu mynychu. Caiff peth o hyn ei yrru gan yr economi gìg ac oriau afreolaidd. Pan fyddwch chi'n gweithio 30 a 40 awr yr wythnos a'ch bod chi'n llwyddo i ymdopi o drwch blewyn, pan ewch i lawr i saith awr yr wythnos ni fyddwch yn llwyddo i ymdopi. Wrth gwrs, ni chaniateir i chi fod yn sâl. Dyna pam y mae cynifer o bobl wedi bod yn amharod i hunanynysu yn ystod COVID. Byddai eu plant yn mynd yn llwglyd pe baent yn hunanynysu, ac mae hynny wedi bod yn broblem nad yw wedi cael sylw. 

Pe bawn i, 40 mlynedd yn ôl, wedi dweud wrthyf fy hun yn 21 oed y byddai pobl yn mynd yn llwglyd yng Nghymru, a bod banciau bwyd yn dod fel y ceginau cawl newydd, ni fyddwn wedi credu y gallai hynny ddigwydd. Byddwn wedi dweud, 'O ddifrif, nid 2021 rydych chi'n ei feddwl—1821 rydych chi'n ei feddwl'. Pobl yn mynd yn llwglyd; cofiwch y rhai ar y dde a ddywedodd, 'Nid oedd gennym dlodi yn y wlad hon, roedd popeth yn iawn, nid oes neb yn mynd yn llwglyd'. Wel, mae hynny wedi newid, onid yw? Mae pobl bellach yn llwglyd o eisiau bwyd. Mae'r toriad creulon yn y credyd cynhwysol wedi gwneud pethau'n llawer gwaeth i lawer o deuluoedd. Fe gofnodaf rai enghreifftiau o dlodi bwyd. Y fam nad oedd wedi bwyta ers tridiau fel y gallai ei phlant fwyta, a ddechreuodd agor a bwyta tun o ffa pob ar unwaith wedi iddi ei gael mewn banc bwyd. Y fenyw a ddywedodd wrthyf mai un ffordd o gadw'ch stumog yn llawn oedd bwyta papur toiled, neu bapur arall, a fyddai wedyn yn eich llenwi. Neu rywun yn gofyn yn y banc bwyd am fwyd nad oedd angen ei gynhesu am na allent fforddio ei gynhesu. Croeso i Gymru'r unfed ganrif ar hugain. 

Gallai fod wedi bod yn wahanol pe bai'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi penderfynu ochri gyda Llafur ac nid y Ceidwadwyr yn 2010, a chyflwyno degawd o gyni. Ac mae 'cyni' yn air mor niwtral. Yr hyn y mae wedi'i olygu yw llawer o bobl yn oer ac yn llwglyd. Dyna pam y mae llawer ohonom wedi bod yn gofyn am ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim dros wyliau'r haf. Dyna pam y mae llawer ohonom wedi bod yn gofyn am ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol gynradd, ac eithrio'r rhai mewn ysgolion sy'n talu ffioedd.

Yn olaf, rwy'n rhoi ac yn casglu i'r banciau bwyd lleol, ac rwy'n diolch i'r South Wales Evening Post am gyhoeddi fy ngheisiadau, ac a gaf fi ddiolch hefyd i'r holl bobl sy'n rhoi er mwyn helpu eraill? Fodd bynnag, edrychaf ymlaen at gymdeithas lle nad oes angen banciau bwyd, lle nad oes neb yn mynd yn llwglyd. Dywedwyd wrthyf mai iwtopia newydd rhyfedd yw hynny. Rwyf wedi dweud nad yw hynny'n wir—dyma sut oedd hi yng Nghymru'r 1960au a'r 1970au y cefais fy magu ynddynt, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn symud yn ôl at hynny cyn gynted â phosibl.

17:20

Mae'n sefyllfa enbyd lle mae mynediad at fwyd allan o gyrraedd llawer o bobl yn un o wledydd cyfoethocaf y byd. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i brydau ysgol am ddim yn y cytundeb cydweithio. Rwyf hefyd yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i incwm sylfaenol cyffredinol. Canfu adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn gostwng cyfraddau tlodi cyffredinol yng Nghymru 50 y cant, a byddai tlodi plant yn gostwng 64 y cant, gan ddod â'r gyfradd islaw 10 y cant, i lawr o'i lefel bresennol, sef 28 y cant.

Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, dysgais am anialwch bwyd, sy'n disgrifio un o bob pum cymuned yng Nghymru mewn gwirionedd. Os ydych chi'n byw mewn anialwch bwyd, byddwch yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar fwyd fforddiadwy, ffres. Gallai hynny fod oherwydd eich bod yn ddibynnol ar siopau llai sy'n lleol, y gwyddys eu bod yn codi mwy am yr un cynhyrchion wrth gwrs, a hynny am na allwch gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy. Ac mae hynny yr un fath mewn ardaloedd gwledig fel sir Benfro neu Geredigion ag yng Nghaerdydd ddinesig.

A bydd tlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn waeth byth oherwydd Brexit. Mae ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr bwyd wedi ymrwymo i gynhyrchu bwyd o ansawdd da, ond maent angen cefnogaeth, nid cytundebau ag Awstralia, a fydd yn arwain at fwyd o ansawdd gwael. Nid yw'r sefyllfa'n ymwneud â thlodi bwyd yn unig. Mae hefyd yn gyfuniad o Brexit, COVID a newid hinsawdd, ac anghydraddoldebau cymdeithasol dwfn, ansicrwydd rhanbarthol, a chyni economaidd a dirwasgiad. Mae hyn i gyd yn golygu mai'r teuluoedd sydd eisoes yn wynebu pwysau ariannol enfawr, teuluoedd sy'n dibynnu ar fanciau bwyd, heb fynediad at fwyd ffres, sy'n talu mwy mewn siopau bach lleol, a fydd yn cael eu taro galetaf gan gytundeb Brexit gwael y Ceidwadwyr. Mae'n mynd i olygu trafferthion i deuluoedd sy'n wynebu argyfwng costau byw yn barod; i'n systemau bwyd, mae'n golygu eu bod yn cael eu tanseilio; i'n manwerthwyr, sydd wedi gorfod cael eu galwadau am adeiladu mwy o sefydlogrwydd wedi'u hanwybyddu gan San Steffan. Felly, fel yr wythnos diwethaf, rwy'n mynd i annog Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach ac yn gyflymach ar syniadau fel incwm sylfaenol cyffredinol a choelcerth dyledion, er mwyn lleddfu'r pwysau uniongyrchol ar deuluoedd, yn ogystal ag edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i adeiladu diogelwch bwyd a mynediad at fwyd i mewn i bolisïau a chynlluniau yn fwy hirdymor. Rwy'n croesawu'r dull o weithredu polisi trawslywodraethol, yn y cynnig hwn, ar dlodi bwyd, a byddwn hefyd yn croesawu dull trawsbleidiol o weithredu. Ymadrodd Ymddiriedolaeth Trussell yw,

'Rydym yn mynd i greu DU lle nad oes angen banciau bwyd'.

A dyna y dylem i gyd anelu ato. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Clywch clywch, Jane Dodds. Cytunaf yn llwyr â'ch safbwynt terfynol yno. Fel rydym i gyd yn gwybod o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain, roedd y defnydd o fanciau bwyd wedi bod yn cynyddu ers blynyddoedd cyn y pandemig, gydag Ymddiriedolaeth Trussell yn dweud bod y galw am fanciau bwyd yn eu rhwydwaith wedi cynyddu 128 y cant rhwng 2015 a 2020. Yn ystod y pandemig, mae hyn wedi cynyddu'n gyflym ac yn sylweddol, gydag Ymddiriedolaeth Trussell yn nodi cynnydd o 11 y cant yn y galw rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Yng Nghymru, dosbarthodd Ymddiriedolaeth Trussell dros 145,828 o barseli bwyd argyfwng tri diwrnod i aelwydydd yng Nghymru dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Gadewch i'r ffigur hwnnw suddo i mewn: 145,828 o barseli bwyd argyfwng tri diwrnod mewn un flwyddyn yma yng Nghymru.

Yn fy rhanbarth i yng Nghanol De Cymru, hoffwn roi rhai enghreifftiau. Rhannodd banc bwyd Taf-Elái yn ddiweddar eu bod wedi rhoi 1,163 o barseli banc bwyd allan, a bod 397 o'r rhain ar gyfer plant. Ym mis Hydref, nododd banc bwyd y Fro ei fod wedi bod ar agor ers 10 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd wedi darparu 36,000 o barseli bwyd i bobl leol mewn argyfwng. A nodwch y gair 'nodi', yn hytrach na 'dathlu' cyrraedd y garreg filltir hon, gan nad oes dim i'w ddathlu yn y ffaith bod banciau bwyd wedi gorfod dod mor gyffredin ledled Cymru. Byddwn yn gobeithio ein bod i gyd yn unedig yn y farn na ddylai banciau bwyd, o dan unrhyw amgylchiadau, ddod yn rhan sefydliadol o gymdeithas Cymru.

Nid yw'r ffigurau hyn ar eu pen eu hunain yn egluro maint y defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru yn llawn, gan fod y ffigurau ond yn ymwneud â banciau bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell, ac nid y cannoedd o ddarparwyr cymorth bwyd annibynnol a grwpiau cymunedol sydd hefyd yn darparu cymorth, megis Rhondda Foodshare a'r pantri cymunedol yng Nghilfynydd. Ac er bod 200,000 o blant a'u teuluoedd yn mynd yn llwglyd yng Nghymru, onid yw'n greulon o eironig fod gennym broblem enfawr ar yr un pryd gyda gwastraff bwyd, gyda thua 500,000 tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yma yng Nghymru bob blwyddyn? Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod hyn yn 1.3 biliwn tunnell o fwyd sy'n cael ei wastraffu neu ei golli bob blwyddyn—traean o gyfanswm y bwyd a gynhyrchir ar gyfer pobl. Roeddwn yn arswydo wrth ddarllen mewn erthygl ddiweddar yn The National gan Leanne Wood fod Tesco, mewn cyfarfod diweddar a gynhaliwyd rhwng Gweinidogion Llywodraeth y DU ac archfarchnadoedd mawr, wedi cyfaddef bod 50 tunnell o fwyd bwytadwy yn cael ei daflu bob wythnos oherwydd prinder gyrwyr.

Er bod mentrau blaenorol Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i helpu i leihau gwastraff bwyd, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno bod mwy i'w wneud, ac mae mesurau y gallai Llywodraeth Cymru eu harchwilio i fynd i'r afael â'r broblem yn cynnwys annog pob busnes yng Nghymru i ymrwymo i dargedu, mesur a gweithredu ar wastraff bwyd; annog busnesau yng Nghymru i ddangos eu cyfrifoldeb cymdeithasol drwy lofnodi ymrwymiad Courtauld 2024 i fynd i'r afael â gwastraff bwyd a chefnogi ailddosbarthu; a hefyd, gallem gynnwys gwastraff bwyd fel ffactor yng nghontract economaidd Llywodraeth Cymru.

Hoffwn gloi fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ystyried pam rwy'n cefnogi'r cynnig heddiw. Er y gall gollwng ychydig o roddion i fanc bwyd—rhywbeth y mae pob un ohonom wedi'i wneud yn ddi-os—fod yn arwydd gweladwy o gefnogaeth i fynd i'r afael ag ansicrwydd a newyn bwyd, fel gwleidyddion nid yw hyn yn ddigon. Mae'r cynnig heddiw yn ymrwymo pob un ohonom i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd maethlon i'w fwyta. Ni ddylai neb fod yn llwglyd yng Nghymru yn 2021. Ni ddylai cymorth bwyd ychwaith ddisodli'r urddas a'r dewis a roddir i'r rhai ar incwm uwch, fel ni ein hunain. Wrth ddiolch i fanciau bwyd a'u gwirfoddolwyr am bopeth a wnânt, gadewch inni ymrwymo heddiw hefyd i weithio i sicrhau nad oes angen iddynt fodoli. Bydd honno'n adeg i ddathlu.

17:30

Rwy'n siarad i gefnogi'r prif gynnig, sy'n cefnogi'r hawl i fwyd. Nodwyd yr hawl i fwyd yng nghyfamod rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a gadarnhawyd gan Lywodraeth y DU yn ôl yn 1976, ac mae'n dweud: 

'Gwireddir yr hawl i fwyd digonol pan fydd gan bob dyn, menyw a phlentyn, ar ei ben ei hun neu yn y gymuned gydag eraill, fynediad ffisegol ac economaidd bob amser at fwyd digonol neu fodd o'i gaffael'.

Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod sicrhau diogelwch bwyd i bawb felly yn rhagofyniad ar gyfer gwireddu'r hawl ddynol hon. Ar y diffiniad hwn—y diffiniad cyfreithiol hwn—rydym yn methu yn y dyletswyddau o dan gyfamod y Cenhedloedd Unedig ar yr hawl i fwyd, fel y mae'r cynnydd yn nifer y banciau bwyd yn tystio.

Yn ôl yn 2010, pan oeddwn yn AS, pan oedd Llafur mewn grym, roedd un banc bwyd yn gweithredu yn fy etholaeth i, sef Ogwr—un. Roedd wedi'i leoli yn Eglwys y Bedyddwyr Bethel ym Mhont-y-clun. Erbyn hyn mae gennym fanciau bwyd ym mhob cymuned. Mae ystadegau o rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yn tynnu sylw at y galw cynyddol am fanciau bwyd ers 2010 ac oes cyni. A thros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae wedi dyfnhau ymhellach yn sgil effaith y pandemig. Bydd rhai'n dweud, fel y clywsom yma heddiw, fod y cynnydd mewn banciau bwyd yn Ogwr ac ar draws y DU yn wir, yn dyst i haelioni gwirfoddolwyr a rhoddion gan y cyhoedd. Yn sicr. Ond gadewch i ni beidio â chuddio rhag y ffaith bod hyn hefyd yn arwydd erchyll o ddegawd o gyni cosbol a pholisïau lles sy'n gorfodi'r rhai sy'n agored i niwed, gan gynnwys teuluoedd sy'n gweithio, i ddibynnu ar fanciau bwyd. Ac mae'n fethiant parhaus, a wnaed yn waeth yn ystod y pandemig. Bydd unrhyw un sy'n gwirfoddoli mewn banc bwyd yn dweud, 'Mae'n arwydd o fethiant arweinwyr gwleidyddol eu bod yn bodoli o gwbl.' Rhaid iddynt fod yno; nid ydynt eisiau bod yno.

Y llynedd, darparodd Ymddiriedolaeth Trussell ei hadroddiad diweddaraf, fel y nodwyd. Dangosodd effaith gynyddol y pandemig ar y rhai a oedd eisoes wedi'u dinistrio gan ddegawd o gyni a thoriadau i nawdd cymdeithasol a llai o gymorth i'r rhai ar gyflogau isel. Roedd yn ddigon drwg drwy'r 2010au, ond mae banciau bwyd bellach yn darparu 130 y cant yn fwy o barseli bwyd argyfwng na'r hyn a wnaent bum mlynedd yn ôl. Gwelwyd cynnydd o draean yn nifer y parseli bwyd argyfwng a ddosbarthwyd ers y flwyddyn flaenorol yn unig, gyda 2.5 miliwn o barseli bwyd argyfwng yn yr unfed ganrif ar hugain wedi'u dosbarthu i bobl mewn argyfwng dros y flwyddyn. Yng Nghymru, mae'r cynnydd wedi codi o bron i 88,000 bum mlynedd yn ôl i 146,000 o barseli bwyd argyfwng yng Nghymru eleni. Mae'n gyfartaledd o ddau barsel y funud yn cael eu dosbarthu i deuluoedd â phlant—cynnydd o 36 y cant o un flwyddyn i'r llall. Yng Nghymru, rhoddwyd un parsel i deulu bob 10 munud. Mae hyn yn warthus. A rhan fach iawn o'r darlun truenus yw hyn. Fel y soniwyd, ni chafodd dros 500 o ddarparwyr cymorth bwyd annibynnol ychwanegol a gefnogir drwy'r Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol mo'u cynnwys, na'r amrywiaeth o ddarparwyr bwyd cymunedol sydd hefyd yn gweld patrymau tebyg. Nawr, nid oes gennym yr holl ysgogiadau at ein defnydd yn Llywodraeth Cymru i ddatrys y broblem gynyddol hon, ond mae gennym arfau pwerus a all helpu i lenwi'r bwlch newyn a adawyd gan bolisïau'r DU. 

Y £52 miliwn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod disgyblion cymwys yn cael darpariaeth yn lle eu prydau ysgol am ddim arferol tra byddant yn methu mynychu'r ysgol yn ystod y pandemig—fe helpodd hynny'n fawr, a gwelais hynny ar lawr gwlad yn fy etholaeth i. Y £5 miliwn ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol hefyd—rwyf wedi ymweld â'r cynlluniau hynny yn fy ardal i; rwyf wedi'u gweld yn gweithio ac rwyf wedi gweld y lles a wnânt. Yn ddiweddar ymwelais â Big Bocs Bwyd—prosiect BBB—yn ardal tasglu'r Cymoedd. Mae'n helpu plant i ddatblygu dealltwriaeth gynnar o ddewisiadau bwyd iach, tra'n darparu bwyd am bris fforddiadwy i deuluoedd mewn cymunedau sydd angen cymorth. Gallwn weld hyn mewn mannau fel ysgol Garth yng nghwm Llynfi yn fy etholaeth; mae'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn barod.

Wrth gwrs, fel y crybwyllwyd, rydym yn croesawu'r cyhoeddiad yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i roi trefniadau ar waith dros y blynyddoedd nesaf i ddarparu pryd ysgol maethlon am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru—pob un ohonynt—fel na ddylai unrhyw blentyn byth fod yn yr ysgol yn llwglyd, a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i fenter pantri bwyd anhygoel yn fy ardal i a rhannau eraill o'r Cymoedd, sy'n darparu miloedd o fagiau o fwyd fforddiadwy i drigolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae angen i Lywodraeth y DU chwarae eu rhan; fel arall, rydym bob amser yn nofio yn erbyn llanw sy'n ysgubo'r rhai agored i niwed a'r rhai ar gyflogau isel ymaith. Ond nid oes amheuaeth y gallwn hefyd wneud llawer ein hunain drwy Lywodraeth Cymru weithredol, sy'n canolbwyntio ar dlodi bwyd yn ogystal â thlodi cyffredinol, a chefnogaeth y Senedd hon. Gadewch inni wneud yr hawl i fwyd yn real i bawb.

17:35

Diolch i Blaid Cymru a Luke Fletcher am gyflwyno'r ddadl heddiw. Os caf, hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad i ehangu cwmpas y cynnig gwreiddiol i ffwrdd o effaith costau byw ar dlodi bwyd yn unig. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried yr ystod eang o ffactorau economaidd-gymdeithasol a all ddylanwadu ar allu person i gael gafael ar fwyd a pha fwyd y gallant ei gael, a'r pwynt olaf un a wneuthum yw'r un yr hoffwn ganolbwyntio arno'n benodol. Mae'n rhywbeth sydd wedi'i drafod fel rhan o fy nghynnig ar gyfer Bil bwyd, a drafodwyd yma heb fod yn rhy hir yn ôl, ac rwy'n falch fod yr Aelodau wedi ei gefnogi.

Gwn ein bod i gyd yn cytuno bod tlodi bwyd yn gwbl annerbyniol ac nad oes angen iddo fodoli. Mae angen inni weld gweithredu gan bob Llywodraeth i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i bawb, nid yn unig yma yng Nghymru ond yn y DU gyfan. Ond yng Nghymru gallwn wneud mwy. Mae angen inni wneud mwy—ac nid wyf am geisio dod o hyd i lawer o bobl i'w beio—oherwydd mae'r pethau hyn yn bethau y mae gennym bwerau i'w gwneud. Fel pobl yn y lle hwn, mae gallu gennym i wneud gwahaniaeth ac i wneud pethau. Mae geiriau cynnes yn iawn, ond gweithredoedd yw'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn, ac mae gennym bŵer i wneud y pethau hyn.

Yn ôl yn 2016, dadleuodd adroddiad gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae'r cynnydd mewn tlodi bwyd, efallai'n fwy nag unrhyw faes polisi bwyd arall, yn dangos natur aml-ddimensiwn bwyd a'r heriau y mae hyn yn eu creu i lunwyr polisi.'

Credaf mai dyma pam y mae arnom angen strategaeth fwyd gyfannol, drosfwaol i Gymru—un sy'n dwyn ynghyd y dulliau gweithredu amrywiol. Mae llawer o sefydliadau trydydd sector ledled y wlad yn gwneud gwaith gwych, ond gallem ddod â hwy at ei gilydd mewn dull unedig sy'n ymdrin â'r problemau strwythurol yn ogystal â'r rhai economaidd-gymdeithasol. Oherwydd daw tlodi bwyd ar sawl ffurf; nid yw'n ymwneud â'r gallu i brynu bwyd yn unig, ond pa fwyd y gall person ei gael. Mae gwahaniaeth amlwg rhwng y gallu i brynu bwyd brys a phrydau parod, er enghraifft, a'r gallu i brynu a defnyddio bwyd maethlon o ansawdd da. Dyma lle mae angen inni ystyried sut y gall pethau fel ysgolion a cholegau wella addysg bwyd, fel bod pobl yn gwybod sut i ddefnyddio bwyd mewn ffordd fuddiol, fel y trafodais yn gynharach y prynhawn yma gyda'r Gweinidog addysg.

Mae angen inni hefyd ystyried sut y gall cynhyrchwyr bwyd ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros sicrhau bod eu cynnyrch yn bodloni'r nodau llesiant, yn ogystal â sut yr awn â'r cynnyrch lleol, iach hwn i stondinau marchnad a silffoedd archfarchnadoedd. Dyma lle gall pethau fel cynlluniau bwyd lleol chwarae rhan. Ac oes, mae angen inni ystyried sut y gwnawn y bwyd yn fwy fforddiadwy a deniadol i bobl, yn ogystal â sicrhau bod pobl yn gallu prynu'r bwyd yn y lle cyntaf.

I gloi, Lywydd, rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi teimlo bod fy sylwadau'n adeiladol. Yn y pen draw, mae gan bob person hawl i gyflenwad bwyd maethlon a digonol, fel y nododd Mark Isherwood wrth ddechrau, ond mae achosion tlodi bwyd yn gymhleth ac yn gysylltiedig yn anorfod â ffurf a swyddogaeth y diwydiant bwyd ei hun. Os ydym yn mynd i drechu tlodi bwyd o'r diwedd, dyna lle credaf fod angen inni ddechrau. Diolch.

17:40

Wrth i ni nesáu at y Nadolig, mae’r ddadl hon yn un amserol, ac rydym ni wedi clywed y geiriau yna lot heno. Ond mae’n ein hatgoffa ni o'r rhai fydd yn mynd heb ddim dros gyfnod yr ŵyl. I’r bobl yma, fydd dim anrhegion, fydd dim gwledda—fydd dim hyd yn oed partïon cudd iddyn nhw gael eu gwadu. Y gorau y gall llawer obeithio amdano ydy to uwch eu pennau, digon o wres i’w cadw nhw’n gynnes, a digon o fwyd yn eu boliau i leddfu rhywfaint ar y boen o fod yn llwglyd. Fel y noda’r ddadl hon, mae bron i chwarter o bobl Cymru mewn tlodi. Mae hynny’n gyhuddiad brawychus o’r status quo yn y wlad yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae hefyd yn gymhelliant cryf inni alw am newid, ac annibyniaeth yn y pen draw, oherwydd gallwn ni wneud cymaint yn well na hyn. Mae pobl Cymru yn haeddu gwell na hyn.

Mae'r cynnydd diflas a meteorig yn nifer y banciau bwyd yn atgoffa dyn o nofelau Dickens. Mae'n fy mhoeni bod cymaint o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac nad yw cynifer ohonynt yn gallu gwneud unrhyw beth yn ei gylch. Mae hyn yn wir am bobl hŷn sydd ar incwm sefydlog a heb gyfle i'w gynyddu. Mae banciau bwyd wedi bod yn rhwyd ddiogelwch bwysig i bobl ar y llinell dlodi neu oddi tani, ond mae pobl hŷn yn ei chael hi'n anos cyrraedd banciau bwyd oherwydd problemau symudedd a hygyrchedd. Mae newyn ymysg pobl sydd ar eu pensiwn yn peri pryder arbennig i'n gwasanaeth iechyd, oherwydd bod diffyg maeth yn un o brif achosion dirywiad yng ngweithredoedd y corff a marwolaethau ymhlith pobl hŷn. Gall diffyg maeth mewn pobl hŷn arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth, cwympiadau a thorri esgyrn, oedi wrth wella o salwch, a chyfnodau hirach yn yr ysbyty i enwi ond ychydig.

Nid yw'n syndod, felly, fod derbyniadau i ysbytai gyda diagnosis o ddiffyg maeth wedi mwy na dyblu yn y saith mlynedd i 2017, gyda chyfraddau uchel mewn pobl hŷn rhwng 60 a 69 mlwydd oed. Ers cyhoeddi’r ffigurau hynny, rydym wedi cael pedair blynedd arall o Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Mae eu diwygiadau yn y wladwriaeth les wedi arwain at doriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus, gofal cymdeithasol i bobl hŷn, ac ar wasanaethau cymunedol. Mae hyn yn cael canlyniad gwariant uniongyrchol yma yng Nghymru. Unwaith eto, dyma enghraifft o’r Torïaid yn San Steffan yn dangos eu bod yn gwybod pris popeth a gwneud dim. Fel y gwelsom yn ystod y dyddiau diwethaf, dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gwybod gwerth bod yn agored ac yn dryloyw chwaith.

I ddychwelyd at fanciau bwyd, un o'r agweddau mwyaf gofidus ar y gwaith hwn yw'r parseli bwyd sy'n barod i'w bwyta ar unwaith. Pam, gallech ofyn, y mae hyn yn peri gofid neu hyd yn oed yn angenrheidiol? Y rheswm amdano yw nad oes gan rai pobl fynediad at gyfleusterau coginio, neu ni allant fforddio cynnau'r trydan neu'r nwy i goginio'r bwyd. Faint o bensiynwyr fydd yn wynebu'r broblem hon y gaeaf hwn oherwydd costau tanwydd rhy uchel sydd i godi eto eleni? Dylem wneud yn well na hyn. Fe allwn wneud yn well na hyn. Rhaid inni wneud yn well na hyn. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr iawn am sôn am y bobl hyn nad ydynt yn gallu rhoi'r cwcer ymlaen, oherwydd roedd hynny'n rhywbeth y dywedwyd wrthyf amdano pan ymwelais â phrosiect yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn Trowbridge a Llaneirwg yn ddiweddar—fod rhai pobl yn gorfod gwario cymaint o arian ar wresogi eu cartrefi llaith fel nad oes ganddynt ddigon o arian i dalu am y cwcer. Rwy'n poeni'n fawr am hynny, ond rwyf hefyd eisiau gwybod llawer mwy, oherwydd er bod y ffwrn yn ddrud iawn, nid yw rhoi'r cwcer ymlaen yn defnyddio cymaint â hynny o nwy neu drydan, ac rwy'n awyddus iawn i edrych ar y broblem hon, oherwydd nid yw pobl yn bwydo eu hunain yn iawn ym misoedd y gaeaf os na allant goginio a bwyta pryd poeth.

Mae'n fater pwysig tu hwnt, ac yn un y teimlaf fod gwir angen inni edrych arno, oherwydd mae bwyd brys yn ddrud iawn pan ystyriwch ei werth maethol gwael. Ac mae'n rhaid i chi gymharu—. Mae'n rhoi boddhad ar unwaith, ond nid yw'n rhoi maeth i bobl. Felly, credaf fod llawer o gymhlethdod yn perthyn i'r broblem hon, a chredaf fod Peter Fox wedi cydnabod hynny. Mae'n fwy na'r toriad gwarthus yn y budd-daliadau a pholisïau bwriadol Llywodraeth y DU i gadw budd-daliadau ar gyfradd lawer is na'r cynnydd yng nghostau byw, ond credaf ei fod yn ymwneud â newid ein perthynas â bwyd mewn gwirionedd.

Mae gennyf etholwr sy'n gweithio'n ddiflino gyda phobl ifanc, ac sydd wedi gwneud hynny ers tua 30 mlynedd, ar eu cael i wneud chwaraeon. Mae'n un o deulu o 12, ac fe ddywedodd, 'Wel, roeddem bob amser yn dlawd, ond roeddem yn hapus adeg y Nadolig cyn belled â'n bod yn cael ychydig o afalau a thanjerîns.' Ac yn y dyddiau hynny, roedd tanjerîns yn brin, nid yn bethau gydol y flwyddyn; roeddent yn drêt. Un o'r problemau yma yw ein bod yn byw mewn cymdeithas lle mae cymaint o ddigonedd ym mhobman, a chaiff ei ddisgrifio i ni ar ein sgriniau teledu bob nos a gall pawb ei weld. Mae pawb yn gwylio'r teledu, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu fforddio rhoi'r cwcer ymlaen. Mae hynny'n rhan o'r broblem.

Mae traean o'n holl fwyd yn y wlad hon yn cael ei wastraffu. Ni allwn ddweud ein bod yn byw yn yr un math o anialwch bwyd ag y maent yn byw ynddo yn Eritrea neu leoedd eraill yr effeithir arnynt gan newid hinsawdd; mae'r broblem hon yn llawer mwy cymhleth na hynny. Nid yw hynny'n golygu nad yw'r manteision wedi'u gosod yn rhy isel yn fwriadol, a bod pobl yn y contractau tymor byr hyn, contractau dim oriau sy'n ei gwneud yn wirioneddol anodd i bobl gyllidebu, ac mae'n anochel eu bod yn mynd i ddyled. Dyna un o'r rhesymau pam y mae'n rhaid iddynt droi at fanciau bwyd, oherwydd maent wedi gorfod defnyddio unrhyw gyflogau y maent wedi'u cael yr wythnos honno er mwyn ad-dalu'r dyledion y maent wedi mynd iddynt pan nad oeddent mewn gwaith. Dyna un o'r problemau gyda chredyd cynhwysol: mae'n mynd i fyny ac i lawr fel io-io, ac mae cyn lleied o sicrwydd ynghlwm wrtho.

Rwyf am edrych ychydig yn fanylach ar y gwelliant gan y Ceidwadwyr, oherwydd rydych wedi gofyn am ddileu ail baragraff y cynnig, sy'n sôn am y cynnydd yn nifer y banciau bwyd. Tybed pam nad ydych yn barod i dderbyn y cynnydd a fu yn nifer y banciau bwyd, oherwydd gallwn i gyd gynhyrchu llawer iawn o dystiolaeth i ddweud bod hynny wedi digwydd. Credaf hefyd ei fod yn ymwneud â rhywbeth yr heriais Gareth yn ei gylch ddoe, ynglŷn ag a yw Llywodraeth y DU yn gwneud asesiadau o'r effaith ar hawliau plant. Rwy'n siŵr nad ydynt yn gwneud hynny, yn syml am mai dim ond edrych ar y ffordd y maent wedi lleihau gwerth budd-dal plant sy'n rhaid i chi ei wneud, sef y peth olaf y gall pob mam ddibynnu arno, hyd yn oed pan fydd popeth arall wedi diflannu, pan fydd eu perthynas wedi chwalu a'u bod wedi gorfod dianc o aelwyd dreisgar. Ym mis Ebrill 2010, roedd yn £20.30 ar gyfer y plentyn cyntaf a £13.40 ar gyfer unrhyw blentyn arall; nawr, mae'n £21.15 ar gyfer y plentyn cyntaf a £14 ar gyfer plant eraill. Felly, dyna gynnydd o 85c mewn 11 mlynedd ar gyfer y plentyn cyntaf, a 60c ar gyfer plant eraill. A bydd unrhyw un sy'n mynd i siopa yn gwybod bod prisiau bwyd wedi codi'n aruthrol—yn aruthrol—yn ystod y misoedd diwethaf yn unig o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn bennaf, ac eto—. Dyna un o brif ffynonellau tlodi.

17:45

Fe ddof â fy nghyfraniad i ben. Mae hon yn broblem gymhleth ac mae llawer mwy y mae angen inni ei wneud, ond o leiaf mae bwydo plant mewn ysgolion—pob plentyn—yn mynd i sicrhau bod pob plentyn yn cael ei fwydo'n briodol o leiaf.

Ychydig wythnosau'n ôl, cefais y fraint o gyfarfod â'r gwirfoddolwyr ym manc bwyd Kings Storehouse yn y Rhyl. Banc bwyd annibynnol yw Kings Storehouse sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr o Ganolfan Gristnogol Wellspring. Fe'i sefydlwyd yn 2012 pan welodd yr eglwys bobl yn lleol a oedd yn mynd drwy gyfnod anodd, a llawer ohonynt heb fod unrhyw fai arnynt hwy, a daeth aelodau'r eglwys i'r adwy i geisio cynorthwyo. Câi ei gefnogi'n wreiddiol gan aelodau o eglwys Wellspring, a fyddai, bob tro y byddent yn mynd i siopa, yn prynu eitemau ychwanegol o fwyd neu hanfodion ac yn dod â hwy i'r eglwys bob dydd Sul. Mae ganddynt droli yn Sainsbury's yn y Rhyl hefyd, lle gall siopwyr fanteisio ar y cyfle i lenwi'r troli a rhoddir yr hyn a gesglir i'r banc bwyd. Mae hefyd yn cael cefnogaeth wych gan fusnesau, sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd yn lleol.

Yr awgrym yng nghynnig Plaid Cymru a'r canfyddiad ymysg y cyhoedd yn ehangach yw na ddylai banciau bwyd fodoli, neu eu bod yn ffenomenon newydd. Mae hyn yn anwybyddu'r hanes, oherwydd mae eglwysi ac elusennau bob amser wedi cefnogi pobl mewn angen yn eu cymunedau. O sefydlu'r ffydd Gristnogol ar y glannau hyn, roedd helpu pobl mewn angen yn ganolog i'r ffydd. Sefydlwyd abaty Glyn y Groes yn sir Ddinbych gan fynachod Sistersaidd a dyfai fwyd i'w roi i'r tlodion. Roedd y rhai a oedd yn dewis byw'r bywyd mynachaidd yn ildio eu heiddo bydol er mwyn byw'n unol â'u llw o dlodi, a defnyddid unrhyw gyfoeth a gesglid i helpu pobl mewn angen. Mae'r egwyddorion hyn wedi goroesi ar hyd yr oesoedd—

17:50

Diolch. A ydych yn credu mai gwaith eglwysi a mudiadau gwirfoddol yn unig yw darparu'r rhwyd ddiogelwch, fel y dywedwch, i'r rhai sydd â'r angen mwyaf?

Wel, os gwnaiff yr Aelod wrando ar weddill fy nghyfraniad, fe welwch sut y daw'n ôl yn naturiol i ateb eich ymholiad. [Chwerthin.] Felly, rhaid bod yn amyneddgar, fel y maent yn ei ddweud. [Chwerthin.]

Daw'r banciau bwyd heddiw ar sawl ffurf. Mewn byd delfrydol, ni fyddai gennym dlodi, ond nid ydym yn byw mewn byd delfrydol. Yn anffodus, mae teuluoedd yn wynebu caledi ariannol heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, a diolch byth, mae banciau bwyd yn bodoli ar gyfer yr adegau hynny. Ond mae'r ffaith fod y sefydliadau hyn yn bodoli wedi cael ei ddefnyddio er budd gwleidyddol. Ceir canfyddiad ymhlith y cyhoedd na ddylai fod angen banciau bwyd yn y gymdeithas heddiw a'u bod yn bodoli o ganlyniad i fethiannau gwleidyddol. Mae canfyddiad a stigma o'r fath yn bychanu gwaith caled banciau bwyd fel y Kings Storehouse ac yn atal—[Torri ar draws.] Rwy'n dod, rwy'n dod at hynny. Ac yn atal pobl mewn angen rhag defnyddio'r gwasanaethau. Ac ni ddylid difrïo banciau bwyd.

Hyd yn oed pe na bai chwarter ein poblogaeth yn byw mewn tlodi, byddai adegau o hyd pan fyddai angen help llaw ar bobl. Dyma a ddysgodd y Parchedig Mark Jones o eglwys Wellspring i mi ar fy ymweliad â'r cyfleuster yn y Rhyl, dywedodd fod arwyddair y banc bwyd yn sôn am weithred o gymorth yn hytrach na rhoi elusen, gan ein bod yn deall y gall unrhyw un fynd drwy gyfnod o argyfwng sy'n galw am ymyrraeth yn y tymor byr, ac ni ddylai neb fod â chywilydd o dderbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.

A wnewch chi egluro i mi, sydd wedi gweld y cynnydd yn nifer y banciau bwyd—? Ac rwy'n bendant yn cymeradwyo'r gwirfoddolwyr a'r bobl sy'n cyfrannu atynt. Ond a allech egluro i mi a fy etholwyr pam y mae'r adegau hynny o argyfwng wedi cynyddu y tu hwnt i bob rheswm ers 2010?

Yn amlwg gallaf weld angerdd yr Aelod a'r achosion yn ei etholaeth, ac mae gennyf yr un peth yn union yn fy etholaeth i. Y Rhyl yw un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad, yng Nghymru a'r rhan fwyaf o'r DU, felly nid wyf yn mynd i gymryd unrhyw wersi gan Aelodau o dde Cymru ar broblemau yn fy etholaeth. Felly, mae gan yr Aelod wyneb yn dweud wrthyf, 'O, wel'—a phregethu am broblemau yn y Rhyl gan Aelodau yn y Cymoedd. Felly—[Aelodau o'r Senedd: 'O.']

Mae banciau bwyd yn bodoli i helpu pobl ar adegau o argyfwng, ac rwy'n ailadrodd nad hwy yw'r gelyn. Tlodi ydyw—tlodi yw'r gelyn—ac yn anffodus, nid yw Llywodraeth Cymru, wedi'i chefnogi gan Blaid Cymru ar y meinciau hynny, dros y ddau ddegawd diwethaf, wedi gwneud dim i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. Cafodd cronfeydd gwrth-dlodi'r UE eu gwastraffu, cafodd llafur tramor rhad flaenoriaeth dros greu swyddi â chyflogau uchel i bobl sy'n byw yng Nghymru, a phe baent yn treulio llai o amser ar faterion cyfansoddiadol a'u hoff brosiectau a mwy a mwy ar drawsnewid ein heconomi, efallai na fyddai un o bob pedwar o'n dinasyddion yng Nghymru yn byw o dan y llinell dlodi fel y maent yn ei wneud heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, sydd, wrth gwrs, yn gynnig y byddwn yn ei gefnogi, gan ein bod yn wynebu sefyllfa ddifrifol pan fo elusennau fel Ymddiriedolaeth Trussell wedi rhybuddio y bydd llawer o aelwydydd incwm isel yn wynebu dewisiadau llwm iawn iddynt eu hunain a'u teuluoedd y gaeaf hwn. Ac mae hynny wedi cael ei adlewyrchu'n helaeth yn y ddadl rymus hon.

Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun i ddileu'r cynnydd o £20 yn y credyd cynhwysol, rhaid imi ddweud mai Ymddiriedolaeth Trussell a ddarparodd ymchwil, gan arolygu pobl y byddai'r toriad arfaethedig hwnnw'n effeithio arnynt, ac fe wnaed y toriad wedyn. Dywedodd un o bob pedwar o bobl y byddai'n debygol iawn y byddai angen iddynt fynd heb brydau bwyd pe bai'r toriad i'r credyd cynhwysol yn mynd yn ei flaen, ac fe wnaed y toriad er gwaethaf dadleuon cryf a wnaed yn y Siambr hon gan Lywodraeth Lafur Cymru, ledled y DU, lleisiau trawsbleidiol o blith y Torïaid hefyd, a chan yr elusennau sy'n flaenllaw ym maes trechu tlodi plant. Ac mae'r galw am ddarpariaeth bwyd argyfwng wedi cynyddu'n sylweddol ac yn parhau i dyfu wrth i aelwydydd sy'n agored i niwed brofi'r dirywiad economaidd yn sgil y pandemig—rydym yn cydnabod hynny ar draws y Siambr—lefelau cynyddol o ddyled, cynnydd yng nghostau byw, mae pob un ohonynt wedi cael effaith andwyol. Ond yn y ddadl rymus hon ar fynd i'r afael â thlodi bwyd, mae angen inni ystyried yr achosion yn ogystal â'r cyfrifoldebau dros roi camau priodol ar waith. 

Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau ar gyfer lleihau lefelau tlodi yng Nghymru, pwerau dros y system drethiant a'r system nawdd. Serch hynny, mae llawer y gallwn ei wneud fel Llywodraeth Cymru i atal tlodi, lleihau ei effaith a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n deillio o fyw mewn tlodi. Ac mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i ddiogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n agored i niwed a gwella canlyniadau i aelwydydd incwm isel. Mae ein cefnogaeth i'r cyflog cymdeithasol, drwy fentrau fel y cynnig gofal plant, ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, darparu prydau ysgol am ddim—ac fe af ymlaen at hynny—wedi golygu bod mwy o arian ar ôl ym mhocedi dinasyddion Cymru.

Ac rwy'n ymuno â Luke Fletcher, a agorodd y ddadl hon mor rymus, ac Aelodau ar draws y Siambr, ar yr ochr hon, i groesawu'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru, gyda chefnogaeth Jane Dodds i'r ymrwymiad i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd dros oes y cytundeb. Ac mae hyn yn weithredu trawsnewidiol. Bydd yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn yr ysgol gynradd yn cael ei adael yn llwglyd. Bydd yn allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant, gan leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Bydd darparu pryd iach fel rhan o'r diwrnod ysgol yn helpu i annog arferion ac agweddau bwyta'n iach, ac mae'n ddysgu ymarferol a gaiff ei atgyfnerthu gan y cwricwlwm newydd i Gymru, maes iechyd a lles dysgu a phrofiad, i helpu dysgwyr i ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd a lles corfforol, gan gynnwys ymddygiadau hybu iechyd, megis maeth a deiet cytbwys.

Yn ystod yr haf, cyfarfûm â'r rhai sy'n gweithredu cynllun chwarae gwyliau'r haf Wrecsam ym Mharc Caia ac yn etholaeth Mike Hedges, ymwelais â'r prosiect Ffydd mewn Teuluoedd yn y ganolfan deuluol ym Môn-y-maen. Ac roedd hi'n bwysig siarad â'r rhieni a oedd yn cymryd rhan lawn yn y prosiect hwnnw ac a oedd wedi cael hunan-barch ac anogaeth i allu cefnogi eu teuluoedd ac edrych ar gyfleoedd ar gyfer eu hyfforddiant, eu haddysg bellach a'u cyflogaeth eu hunain. Roeddwn yn gallu deall y gwaith hanfodol a wnaed yn y cymunedau hynny, ac mae llawer ohonoch wedi tynnu sylw atynt o brosiectau rydych yn eu cefnogi ar draws y Siambr hon.

Nid oes amheuaeth y bydd cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd yn lleddfu peth o'r pwysau ariannol sydd ar lawer o'r teuluoedd y maent yn eu cefnogi. Ond hefyd, yn bwysig, bydd yr ymrwymiad i brydau ysgol am ddim yn ein galluogi i ddefnyddio ein hysgogiadau i sbarduno caffael cyhoeddus a chynyddu cynhyrchiant bwyd lleol—rwy'n siŵr y bydd Peter Fox yn cael ei annog gan hynny—a dosbarthu. Yn ei dro, bydd o fudd i economïau, ecolegau a chymunedau lleol. A bydd yn digwydd ochr yn ochr â datblygu'r strategaeth bwyd cymunedol, gyda bwyd yn ffactor cyffredin. Mae ganddo'r potensial i wella iechyd meddwl a chorfforol dinasyddion Cymru, a chododd Delyth Jewell y pwynt pwysig hwn. Gall hefyd sicrhau'r manteision hynny i gymdeithas—manteision economaidd, amgylcheddol a chynaliadwy i helpu i adfywio ein cymunedau.

Ac am y drydedd flwyddyn yn olynol, rydym wedi dyrannu £2 filiwn i sefydliadau bwyd cymunedol i helpu i drechu tlodi bwyd a mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd. Rydym wedi cynyddu ein cyllid i FareShare i £500,000 eleni a dros y degawd diwethaf, maent wedi dosbarthu'r hyn sy'n cyfateb i 11 miliwn o brydau bwyd i bobl a oedd eu hangen, ac ar hyn o bryd maent yn darparu bwyd dros ben o ansawdd i tua 180 o sefydliadau cymunedol ac elusennau yng Nghymru, ac mae llawer o'r rheini'n gadarnhaol iawn yn y ffordd y maent yn ymgysylltu â'u cymunedau i ddarparu bwyd hygyrch. Rwy'n falch iawn fod Huw Irranca-Davies wedi crybwyll Big Bocs Bwyd, sydd eisoes wedi ennill gwobr yn sgil ei ddechrau yn ysgolion cynradd y Barri, gan gyflwyno'r prosiect i fwy nag 20 o ysgolion yn ardal parc rhanbarthol y Cymoedd. Ac wrth gwrs, ceir dealltwriaeth hefyd fod bwyd ac ymgysylltiad dychmygus FareShare, sef yr hyn y maent yn ei ddefnyddio, yn darparu bwyd fforddiadwy i deuluoedd, ond mae'n meithrin gwerthfawrogiad ehangach o'r cysylltiadau rhwng bwyd, natur a'r economi. Ond hefyd, yn rhan o'r gronfa £51 miliwn o gymorth i aelwydydd y mis diwethaf, bydd £1.1 miliwn yn mynd tuag at drechu tlodi bwyd, gan helpu'r banciau bwyd rydych i gyd yn eu cefnogi ledled Cymru gyda'r pwysau uniongyrchol y maent yn ei wynebu.

Gwyddom mai bod heb ddigon o arian yw prif achos tlodi bwyd, felly mae hyn yn bwysig os byddwn yn ei gysylltu â'r ymgyrch genedlaethol i annog defnydd o fudd-daliadau, gan godi ymwybyddiaeth pobl o'r cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, a'u hannog i ffonio Advicelink Cymru am gymorth a chyngor am ddim, a chynyddu incwm, a bydd ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn gweld £38 miliwn yn mynd tuag at gefnogi aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau lles oedran gweithio ar sail prawf modd i leddfu'r pwysau uniongyrchol ar gostau byw y gaeaf hwn. Yn wir, fe wnaethom drafod hynny yr wythnos diwethaf yn y ddadl ar dlodi tanwydd. Ac mae gennym ein cronfa cymorth dewisol. Dyma'r holl ysgogiadau, y ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru ddewis blaenoriaethu'r ffordd y gwariwn ein hadnoddau. Mae ein cronfa cymorth dewisol yn hanfodol i helpu pobl mewn argyfwng ariannol i ymateb i rai o'r heriau ariannol a wynebant, gan gynnwys talu costau bwyd a thanwydd. Ac ym mis Mawrth, cyhoeddwyd £10.5 miliwn arall gennym i barhau'r gefnogaeth ddigynsail i'r rhai sydd angen y gronfa cymorth dewisol ac sydd angen yr hyblygrwydd, ac rydym yn parhau'r hyblygrwydd hwnnw o ganlyniad i effaith andwyol y pandemig.

Rydym hefyd yn cymryd camau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar dalebau Cychwyn Iach—ac mewn gwirionedd, rwy'n cyfarfod â Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles—gan wybod y gall y rhain hefyd ddarparu £4.25 i deuluoedd ifanc ar incwm isel bob wythnos i brynu llaeth, fitaminau a bwydydd sy'n gwella maeth plant. Rydym yn glir ynglŷn â'n hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi. Mae'n thema drawsbynciol ym mhroses gynllunio'r gyllideb. Bydd yn helpu i sicrhau bod tlodi yn ganolog i bolisi a darparu gwasanaethau, ond rhaid i mi ddweud bod hon yn adeg heddiw pan fo'n rhaid inni edrych ar bwy sy'n gyfrifol, beth yw'r achosion, a gwnaed penderfyniadau niweidiol gan Lywodraeth y DU, megis toriadau i gymorth lles a mwy nag 11 mlynedd o gyni sydd wedi gwthio mwy o aelwydydd agored i niwed yng Nghymru i mewn i dlodi.

Byddwn yn ysgwyddo ein cyfrifoldeb fel Llywodraeth Cymru, a gobeithio y bydd Llywodraeth y DU a'r blaid, a'r Ceidwadwyr Cymreig, yn ysgwyddo'u cyfrifoldebau hefyd. Mae gennym y dystiolaeth: Trussell Trust, Plant yng Nghymru, Sefydliad Bevan, Sefydliad Joseph Rowntree. Os chwaraewn ein rhan gyda'n pwerau a'n hadnoddau ni, rhaid i Lywodraeth y DU chwarae eu rhan lawer mwy hwythau. Rwy'n croesawu ac yn cefnogi'r cynnig a'r ddadl hon. Diolch.

18:00

Diolch, Llywydd, a hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl y prynhawn yma a'ch annog chi i gefnogi'r cynnig. A da clywed gan y Gweinidog y bydd y Llywodraeth yn cefnogi ein cynnig, achos hanfod y cynnig yma yw y dylen ni anelu nid yn unig at greu system fwyd decach a mwy cynaliadwy i'n pobl, ond y dylai hyn gael ei sefydlu fel hawl ddynol, a'i ymgorffori o fewn polisïau a gweithgarwch llywodraethol. Beth, wedi'r cyfan, allai fod yn fwy o ddyletswydd sylfaenol Llywodraeth tuag at ei phobl na sicrhau'r hawl nid yn unig i gyflenwad bwyd cynaliadwy, maethlon a digonol, ond hefyd yr hawl i iechyd, a does dim byd yn fwy sylfaenol i iechyd na chyflenwad digonol o fwyd iachus. Fe glywsom gan Luke Fletcher am y pwysigrwydd o sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan annatod o'r system addysg, a bod tlodi a thlodi bwyd yn effeithio ar blant yn arbennig. Fe wnaeth Heledd Fychan sôn am sut y gallai Llywodraeth Cymru, er enghraifft, wneud mwy i daclo gwastraff bwyd drwy, er enghraifft, gynnwys amodau i atal hyn mewn cytundebau economaidd. Ac fe gawson ni ein hatgoffa yn rymus iawn gan Delyth Jewell fod hon yn ddadl ofnadwy o amserol. Mae'n gyfnod o argyfwng, fel rŷn ni wedi clywed gan sawl Aelod yma'r prynhawn yma, a bod mynd heb fwyd nid yn unig yn effeithio ar y corff, ond ar y meddwl ac ar yr enaid.

Fe soniodd Heledd Fychan a Mike Hedges hefyd am y defnydd o fanciau bwyd yn ehangu. Roedd Mike Hedges yn sôn bod hyn yn digwydd mewn ardaloedd sy'n cael eu hystyried fel rhai cymharol gefnog erbyn hyn. Roedd enghreifftiau torcalonnus o bobl yn mynd heb hanfodion bwyd. Roeddwn i'n hynod, hynod o bryderus i glywed Gareth Davies yn methu pwynt y ddadl yma yn gyfan gwbl yn ei gyfraniad e, drwy ddweud ei fod e am weld banciau bwyd, ac felly'r achosion o dlodi, yr angen sy'n gwneud banciau bwyd yn hanfodol, yn parhau. Meddai,

'Mewn byd delfrydol', ni fyddai angen banciau bwyd arnom. Diffyg ewyllys wleidyddol yw'r rheswm pam nad ydym yn byw mewn byd delfrydol.

Fe soniodd Jane Dodds am yr ardaloedd o ddiffeithwch bwyd, yr ardaloedd yma lle mae e'n amhosib cael gafael ar fwyd maethlon, fforddiadwy. Mae hyn yn bwysig, ac mae pethau fel polisïau trafnidiaeth gyhoeddus, wrth gwrs, yn cyfrannu at y darlun yma a phroblemau'r cymunedau hyn. Roeddwn i'n falch iawn—. Sori, Mike.

18:05

Fe ddywedoch chi 'mewn byd delfrydol'. Mae rhai ohonom yn ei adnabod fel y 1950au, y 1960au a'r 1970au.

Nid bob amser i fenywod, ond dyna ni.

Roedd Peter Fox yn sôn yn rymus iawn am gael cynlluniau bwyd lleol. Rwy'n croesawu'r syniad yna yn fawr iawn. Fe soniodd Peredur Owen Griffiths a Jenny Rathbone am, ac fe wnaethon nhw dynnu sylw at, y broblem yma o bobl yn methu fforddio tanwydd, wrth gwrs, i goginio eu bwyd, a phwysigrwydd newid ein perthynas â bwyd. Mae'n anodd credu, onid yw e, â'r Deyrnas Gyfunol yn un o wledydd cyfoethocaf y byd—y byd—fod llawer o bobl yn cael hi'n anodd fforddio bwyd, ac mae eu hiechyd wedyn yn dioddef.

Dwi'n wyres i löwr, ac roedden nhw ar streic ym 1926, a dwi wedi clywed am yr hanesion, am y caledu a'r prinder bwyd bryd hynny gan fy mam-gu. Mae'n anodd credu ein bod ni—ac mae llawer wedi sôn am hyn—bron ganrif yn ddiweddarach yn sôn am lefel o angen sydd wedi gweld atgyfodi'r angen am y cydweithredu cymunedol yna a gadwodd teuluoedd ein gweithwyr rhag llwgu yn y 1920au a'r 1930au.

Rwy'n gwirfoddoli gyda fy manc bwyd lleol i, Y Pantri ym Mhontardawe. Mae'r modd y mae'r gymuned yn dod at ei gilydd i geisio sicrhau bod gan bobl ddigon i'w fwyta yn ysbrydoledig. Dydyn ni ddim yn taflu unrhyw fath o sen ar y banciau bwyd, ond mewn gwirionedd mae eu bodolaeth nhw yn yr oes sydd ohoni yn gwbl droëdig.

Mae ein cynnig ni yn sôn am yr hawl i fwyd, ac fe soniodd Huw Irranca-Davies yn rymus am hyn, a phwysigrwydd y ffaith taw hawl yw e, a sut mae llywodraethau ac arweinwyr gwleidyddol wedi methu yn eu dyletswydd i gynnal yr hawl yma. Ers datganoli mae Cymru yn aml wedi ymfalchïo yn y camau blaengar y mae wedi'u cymryd ym meysydd hawliau, fel hawliau plant, er enghraifft, y clywsom ni sôn amdano yn y Siambr yma ddoe. Un o nodau datblygu cynaliadwy byd-eang y Cenhedloedd Unedig yw dileu newyn erbyn 2030, nod sy'n cael ei gydnabod gan y Llywodraeth yma yn ei hadroddiad atodol i adolygiad cenedlaethol gwirfoddol y Deyrnas Gyfunol o gynnydd tuag at y nodau hyn, ac mae'r datganiad ein bod ni yng Nghymru yn gwneud pethau yn wahanol yn cael ei frolio yn yr adroddiad hwnnw. Mae'r rhagymadrodd, yn enw Mark Drakeford a Jane Hutt, yn nodi bod nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn gosod agenda uchelgeisiol er mwyn trawsnewid y byd i'r bobl ac i'r blaned er mwyn iddynt ffynnu.

'Rydym ni’n rhannu’r uchelgais hon yng Nghymru, ac rydym wedi ymroi i gyfrannu at y nodau',

medd ein Prif Weinidog a'n Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a chydraddoldeb. O gofio'r ymrwymiad hwnnw, felly, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan elfennol o'r polisïau ar draws y Llywodraeth sy'n mynd i'r afael â thlodi ac anfantais economaidd.

Rwyf am eich atgoffa chi unwaith eto pam mae hyn mor allweddol, drwy ailadrodd yr hyn yr ydym yn nodi yn ein cynnig, sef bod chwarter pobl Cymru mewn tlodi a'r defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu, a bod ansicrwydd bwyd yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles ein pobl. Ac ydy, mae ansicrwydd bwyd yn fater o ddiogelu iechyd cyhoeddus. Rydym ni wedi clywed gan Peredur Owen Griffiths sut y gall ansicrwydd bwyd gael effaith ddifrifol ar iechyd pobl hŷn, bod y rhai sy'n profi ansicrwydd bwyd yn fwy tebygol o gadw bwyd yn hirach a bwyta bwyd y tu hwnt i'r dyddiad mae'n ddiogel i'w fwyta. Mae hyn, ynghyd â mynd heb fwyd neu fwyta deiet anghytbwys, yn gallu deillio, wrth gwrs, o dlodi, ac mae'n rhoi pobl mewn perygl o ddiffyg maeth, gwenwyn bwyd, afiechyd. Sawl tro dros y misoedd diwethaf rŷm ni wedi clywed cyfeiriadau yn y Siambr hon at y storm berffaith o incwm yn gostwng a chostau byw yn cynyddu, o tswnami o angen sydd yn raddol godi ac ar fin taro gormod o'n haelwydydd? Mae'r cysylltiad rhwng prisiau bwyd yn codi wrth i incwm pobl ostwng yn gwbl amlwg, ac mae'r modd y mae bwyd yn rhan o'r hafaliad pryderus yma yn ganolog i'n dadl ni y prynhawn yma. Mae'n hysbys bod maeth mewn deiet yn gostwng wrth i'r ffactorau yma ddod ynghyd, ac wrth i hynny ddigwydd, mae'r tebygolrwydd o afiechyd a salwch yn cynyddu, ynghyd ag effaith negyddol, wrth gwrs, ar gyflyrau iechyd sydd eisoes yn bodoli, fel dywedodd Peredur.

Wrth gloi, felly, fe erfyniaf arnoch i gefnogi ein galwad ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Cymru i ymrwymo i gyflawni eu dyletswydd fwyaf gwaelodol: bwydo eu pobl a rhoi taclo tlodi ar ben pob agenda. Does dim modd gwadu bod rhywbeth mawr o'i le ar ein cymdeithas. Rhaid sicrhau nad oes yna rwystr i bobl fwynhau y mwyaf sylfaenol o'u hawliau dynol—yr hawl i fwyd. Diolch. 

18:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fe gymerwn ni egwyl fer cyn hynny i baratoi yn dechnegol ar gyfer y bleidlais. Egwyl. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:12.

18:15

Ailymgynullodd y Senedd am 18:16, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio am heddiw. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar wasanaethau iechyd meddwl, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, canlyniad y bleidlais yw bod 28 o blaid, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaethau Iechyd Meddwl - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, fe fyddaf i'n defnyddio'r bleidlais fwrw, ac fe fyddaf i'n defnyddio'r bleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 28, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Dwi'n galw nawr am bleidlais ar y cynnig—. Ond does dim angen pleidlais bellach ar y cynnig, achos does yna ddim diwygio wedi digwydd. Ocê. Reit.

Fe awn ni ymlaen i'r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar dlodi bwyd, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, yn ymatal neb, ac 15 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn, sy'n golygu nad oes pleidleisiau ar y gwelliannau, a dyna'r bleidlais olaf am heddiw.

18:20

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Tlodi bwyd - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 41, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

9. Dadl Fer: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Cenfigen y byd?

Y ddadl fer fydd nawr nesaf. Fe wnaf i adael rhyw gymaint o amser i basio i Aelodau fedru gadael y cyfarfod os ydyn nhw'n dymuno, ac i wneud hynny'n dawel. Mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Rhys ab Owen.

Ydych chi am i fi ddechrau nawr? Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi wedi cytuno i roi munud i fy nghyfaill Mabon ap Gwynfor.

Pasiwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y Siambr hon chwe blynedd yn ôl. Ei nod oedd ymgorffori yn ein cyfraith, yn ein cyrff cyhoeddus, a'n diwylliant, saith nod llesiant a phum egwyddor datblygu cynaliadwy. Roedd y pum egwyddor hyn i fod i gael eu rhoi wrth wraidd pob penderfyniad gan gorff cyhoeddus—pob nod a phob gweithgaredd hefyd. Roedd egwyddorion o feddwl hirdymor, o integreiddio, o atal niwed, o gydweithredu a chyfranogi yno i'n cynorthwyo ni fel cenedl i gyrraedd amcanion cynaliadwy.

Nid yw'n syndod bod y Ddeddf uchelgeisiol a phellgyrhaeddol hon yn cael ei hystyried yn destun cenfigen y byd gan y Llywodraeth a llawer o rai eraill ar y pryd ac wedi hynny. Dyna pam y cafodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, ei galw gan y Cenhedloedd Unedig i'w helpu i gynllunio ar gyfer rôl comisiynydd tebyg a fodelwyd ar Gymru. Dyna pam y canmolodd yr Arglwydd John Bird, cyd-sylfaenydd The Big Issue, fodel Cymru am arwain y ffordd wrth iddo gyflwyno Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi. Dyna pam y dywedodd Gweinidog tramor Iwerddon fod y Ddeddf yn ysbrydoledig pan ymwelodd â ni fis diwethaf. Mae'n amlwg, Lywydd, nad creu crychiadau'n unig y mae Cymru, mae'n creu tonnau yn y byd.

Mae'r Ddeddf yn cyd-daro ag angen gwirioneddol am feddylfryd hirdymor, sydd, yn briodol ac o'r diwedd, wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Mae'r pandemig COVID a'r argyfwng hinsawdd wedi tynnu sylw at yr angen am feddwl hirdymor i liniaru ein hagwedd fyrdymor ddinistriol—yr angen i flaengynllunio ein strategaeth amgylcheddol i ddiwallu anghenion y dyfodol, i flaengynllunio polisïau tai i ddiogelu ein cymunedau ac i gefnogi ein pobl ifanc ac i flaengynllunio er mwyn sicrhau bod gennym ni yma yng Nghymru ddemocratiaeth sy'n gryf, yn gadarn ac sy'n adlewyrchu'r gymdeithas Gymreig. Mae'r rhain i gyd a mwy yn bethau y dylai cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru eu hetifeddu gennym—Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru o gymunedau cydlynol a diwylliannau bywiog.

Dyma'r hyn yr oedd Deddf cenedlaethau'r dyfodol i fod i'w gyflawni. Ond, ar ôl chwe blynedd, a nifer o achosion llys yn ddiweddarach, rydyn ni'n wedi gweld nad oes gan y Ddeddf hon y pwerau angenrheidiol i gyflawni ei hamcanion clodwiw. Rwy'n cyfaddef bod y Ddeddf, i raddau, wedi newid y ffordd rŷn ni'n meddwl. Mae rhai cynghorau wedi datgan argyfwng natur ac mae rhai cyrff cyhoeddus wedi cymryd camau cadarnhaol i fod yn fwy gwyrdd. Ond dyw hyn ddim yn mynd yn ddigon pell. Ofer yw datganiadau a'r bwriadau gorau os nad yw gweithredoedd pendant yn eu dilyn. Ofer yw cydnabod amcanion os bod modd eu hosgoi pan fyddan nhw'n anghyfleus. Ofer yw hyd yn oed y Ddeddf mwyaf uchelgeisiol os nad oes modd dal cyrff cyhoeddus i gyfrif pan fyddan nhw'n torri'r Ddeddf yna.

Yn astudiaeth yr archwilydd cyffredinol i Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, daeth i'r casgliad fod cyrff cyhoeddus yn canolbwyntio llawer mwy ar wella lles economaidd a chymdeithasol nag ar amcanion amgylcheddol a diwylliannol. Ni ddylai fod angen ein hatgoffa, Lywydd, fod COP26 unwaith eto wedi pwysleisio pwysigrwydd cynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol yn ein meddylfryd a'n cynlluniau o ddydd i ddydd. Nid oes llawer o ddiben cynllunio a meddwl yn strategol am unrhyw beth arall oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac rwyf mor falch fod y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn edrych ar y posibilrwydd o gyrraedd sero net erbyn 2035. Ac eto, er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i gynaliadwyedd amgylcheddol fod yn gwbl ganolog i bob agwedd ar ein bywydau, o'r Llywodraeth i gymdeithas sifil, a gweld lle gallwn wneud yn well.

Yr egwyddorion yma oedd gwreiddiau y Ddeddf, ond mae'r Ddeddf eto i flodeuo, oherwydd dyw'r Ddeddf heb gael y cyfle i gyflawni ei gwir botensial.

Rwy'n ofni bod y Ddeddf wedi dod yn rhyw fath o ymarfer ticio blychau. Bydd llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus yn dweud eu bod wedi ei hystyried, eu bod wedi ystyried y dyfodol, ac yna'n symud ymlaen â'u cynlluniau presennol beth bynnag. Os gofynnir iddynt, byddant yn gallu dangos eu bod wedi ystyried y Ddeddf wrth wneud penderfyniadau, ond nid wyf yn argyhoeddedig y byddant yn gallu dangos bod y Ddeddf wedi dylanwadu ar eu penderfyniad. Ymddengys nad oes unrhyw ddealltwriaeth glir gan gyrff cyhoeddus o'r hyn y mae'r Ddeddf yn gofyn iddynt ei wneud. Yn amlwg, ni fu newid diwylliannol go iawn, newid meddylfryd, newid yn yr hyn a wneir. Roeddwn yn hapus i glywed, mewn datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, eu bod yn ailddyblu eu hymdrechion i gywiro hyn a chyflymu'r newid sydd ei angen i helpu i ailffocysu cyrff cyhoeddus. Fodd bynnag, mae angen i'r newid gwirioneddol hwn yn ein cymunedau gryfhau cymunedau. Un ffordd o wneud hynny fyddai rhoi pwerau gorfodi i'r Ddeddf. Beth yw pwynt Deddf os na allwn gosbi unrhyw un am ei thorri? Gall cyrff cyhoeddus ddiystyru'r Ddeddf hon yn llwyr heb orfod wynebu unrhyw ganlyniadau go iawn. Dylai Deddfau Seneddol fod yn orfodadwy ac nid yn uchelgeisiol yn unig.

Yn wahanol i Gomisiynydd y Gymraeg, does gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ddim unrhyw bŵer i gosbi cyrff cyhoeddus sydd wedi torri eu dyletswyddau. Does gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ddim unrhyw bŵer i atal pethau rhag digwydd neu i orfodi pethau i ddigwydd. Ar sawl achlysur, a dwi'n siŵr bod hwn yn wir i Aelodau eraill, mae ymgyrchwyr lleol wedi cysylltu gyda fi yn feirniadol iawn o'r comisiynydd—ei bod hi heb wneud digon, ei bod hi heb eu cefnogi—ond y gwir yw does dim bai ar y comisiynydd, does dim y pŵer ganddi i wneud y gwahaniaeth angenrheidiol.

Mae llawer o bobl, yn y Siambr hon a'r tu allan iddi, wedi beirniadu'r Ddeddf hon am ei diffyg gorfodadwyedd. Pan ddadleuodd Aelod Llafur o'r meinciau cefn, ein Cwnsler Cyffredinol ein hunain, fod y Ddeddf yn llawer rhy llac ac yn rhy niwlog pan oedd yn ei thrafod yn ystod ei darlleniad cyntaf, a allwn ni ddweud wrthym ein hunain yma yn awr, a allwn ni ddweud wrth bobl Cymru mewn gwirionedd, ei bod wedi dod yn llai niwlog ers hynny? Ni allwn wneud hynny. Roedd yn wir bryd hynny ac mae gwrandawiadau llys dilynol wedi dangos ei fod yn wir yn awr. Y gobaith oedd y gallai cymunedau lleol ddefnyddio'r Ddeddf mewn gwrandawiadau adolygiadau barnwrol, ac eto nid yw hynny wedi digwydd.

A allwn ni ddweud wrth ddisgyblion Ysgol Gyfun Cymer Afan fod Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn dal dŵr ac yn diogelu eu cymuned gydlynus? Pan geisiodd rhieni disgyblion yn yr ysgol weithredu'r Ddeddf yn erbyn cynlluniau i gau eu hysgol yn ôl ym mis Mawrth 2019, fe fethodd; methodd ar y rhwystr cyntaf. Dadleuodd barnwr yr Uchel Lys, Mrs Ustus Lambert, na allai'r Ddeddf sbarduno adolygiad barnwrol. Aeth gam ymhellach, a dywedodd yn ei phenderfyniad fod y Ddeddf yn

'yn fwriadol amwys, cyffredinol a dyheadol ac yn berthnasol i ddosbarth yn hytrach nag unigolion.'

O'r herwydd, dywedodd:

'nid adolygiad barnwrol yw'r ffordd briodol o orfodi dyletswyddau o'r fath.'

Nawr, nid wyf yn dweud y byddai'r achosion hyn wedi llwyddo yng ngheisiadau'r adolygiad barnwrol, ond dylent fod wedi cael cyfle i gyflwyno'r ddadl honno, i ddefnyddio'r Ddeddf i gyflwyno eu dadl ymhellach. Ond ni allent wneud hynny—cafodd ei thaflu allan ar y rhwystr cyntaf ar bob achlysur. Mae gan y Ddeddf hon fwy o gyfarthiad na brathiad, mwy o rethreg na realiti, ac mae'n fwy dyheadol na gorfodadwy.

Sut fedrwn ni eistedd fan hyn—a dwi wedi clywed hyn yn y chwech mis dwi wedi bod yn y Siambr—sut fedrwn ni eistedd fan hyn yn braf yn canmol y Ddeddf, yn dweud ei bod hi’n radical, yn dweud ei bod hi’n genfigen y byd, pan nad yw hi hyd yn oed yn rhoi hawliau sylfaenol i'n dinasyddion ni i ddiogelu eu hasedau lleol ac i ddwyn eu cyrff cyhoeddus a'u llywodraeth leol i gyfrif? Dydy’r ffaith bod pobl yn adrodd geiriau fel 'cenfigen y byd' yn aml ddim yn meddwl bod hynny yn wir; dyw e ddim yn meddwl bod y Ddeddf yn berffaith. Dylem ni, fel Senedd, fel deddfwrfa, fod yn ddigon aeddfed i gydnabod pan dyw Deddf ddim yn ddigon da, ac wedyn bod yn barod i’w newid.

Pan ddywedodd y cyn Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, nad oedd y Ddeddf yn ddigon penodol nac yn ddigon tynn; pan ddisgrifiodd un o brif fargyfreithwyr Cymru, Cwnsler y Frenhines, Rhodri Williams, ei bod 'bron yn ddiwerth'; pan ddywedodd yr academydd blaenllaw ym maes cyfraith gyhoeddus, Dr Sarah Nason o Brifysgol Bangor, nad oedd yn rhoi hawliau cyfreithiol, gorfodadwy i unigolion, roeddent i gyd yn tynnu sylw at yr un broblem—anallu'r Ddeddf i ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif yn briodol, ac anallu'r Ddeddf i rymuso pobl a chymunedau lleol yn briodol.

Sut gallwn ni obeithio newid y ffordd o feddwl yng Nghymru ac ymgorffori datblygu cynaliadwy yn ein bywydau pan na all dinasyddion hyd yn oed ddibynnu ar y Ddeddf i wneud yr hyn y bwriadwyd iddi wneud? Dim ond pan y gall pobl Cymru ddefnyddio'r Ddeddf hon i amddiffyn eu hasedau lleol, ac i ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif, y bydd y Ddeddf hon yn cyrraedd ei gwir photensial.

Os mai bwriad y Ddeddf hon oedd bod yn gyfres wan o egwyddorion, gadewch i ni fod yn onest am hynny. Ac os yw hynny’n wir, wel dwi’n dweud ein bod ni wedi gor-ddweud, ein bod wedi gorwerthu y Ddeddf hon yn y Siambr yma. Heb ei bod hi'n cael y pwerau grym angenrheidiol, mae’r Ddeddf hon yn ddi-rym ac, yn bwysicach na hynny, ar y cyfan, yn ddiwerth.

Dyna pam y mae angen i'r Siambr hon graffu'n ôl-ddeddfwriaethol ar y Ddeddf hon. Mae angen inni ei diwygio. Mae angen inni roi dannedd iddi. Mae angen inni ei gwneud yn orfodol. Rhowch gyfle iddi wneud newid gwirioneddol i bobl Cymru, fel y gallwn ddefnyddio'r Ddeddf hon i wella ein hunain, i wella ein cymunedau, ac i wella ein hamgylchedd.

Rhaid i hwn ddod yn ganolbwynt ar gyfer trwsio Deddf cenedlaethau'r dyfodol a'i gwneud yn deilwng o'r ganmoliaeth hael y mae wedi'i chael. Dyma gyfle, cyfle go iawn i ni yma yng Nghymru ddylanwadu ar ein dyfodol, a dyfodol ein byd. Gallwn arwain y ffordd. Gallwn ddangos i genhedloedd eraill sut i ddiogelu ein cymunedau, ein hamgylchedd, a sut i wneud datblygu cynaliadwy yn gonglfaen i'n trefniadau llywodraethu. A gobeithio bod awydd i wneud hyn, i roi dannedd i'r Ddeddf, i'w galluogi i flodeuo i'w llawn botensial.

Pan holais y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, yn ddiweddar yma yn y Cyfarfod Llawn ynglŷn â'r Ddeddf, dywedodd y geiriau hyn:

'Gyda'r holl ddeddfwriaeth, pan fydd wedi bod mewn grym am gyfnod, rwy'n credu bod angen ei hadolygu.'

Wel, mae hyn yn sicr yn wir am Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, ac mae angen i'r adolygiad hwnnw ddigwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mae angen iddo rymuso'r Ddeddf. Mae angen iddo sicrhau nid yn unig y gallwn gynnwys ein meddylfryd ar gyfer y dyfodol ym mhob penderfyniad a wneir gan gyrff cyhoeddus, ond y gallwn hefyd ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif pan fyddant yn methu gwneud hynny. Diolch yn fawr.

18:30

Diolch yn fawr, Rhys, am gyflwyno'r ddadl yma. Mae'r ddeddfwriaeth yma'n cael ei dal i fyny, fel rydyn ni wedi clywed, fel peth blaengar sy'n torri tir newydd, ac, i raddau helaeth, mae hynny'n gywir. Os caf i gychwyn trwy gydnabod llwyddiant y ddeddfwriaeth. Pan oeddwn i'n gynghorydd sir, roedd pob adroddiad oedd yn dod gerbron y cyngor gan y swyddogion yn gorfod cynnwys dadansoddiad o effaith unrhyw benderfyniad ar genedlaethau'r dyfodol. Felly, mae hynna yn ei hun yn arwydd o ryw fath o lwyddiant; mater arall, wrth gwrs, ydy sut oedd y swyddogion wedi dod i'r casgliadau hynny. Roedd rhai ohonyn nhw'n amheus iawn, a dweud y lleiaf, ond o leiaf roedd yna ystyriaeth yn cael ei rhoi i genedlaethau'r dyfodol ar bapur. Ond fy mhryder ydy, er bod y syniadau'n dda ar bapur, nad ydy o'n bosib i weithredu go iawn, fel mae Rhys wedi esbonio'n huawdl iawn.

Ystyriwch yr argyfwng tai—mae ymgyrchwyr yma wedi cael cyngor cyfreithiol ynghylch yr argyfwng tai, a methiant pobl yn eu cymunedau i gael mynediad i'r farchnad, boed i brynu neu rentu. Ddaru nhw fynd i gael cyngor cyfreithiol, a dyma'r cyngor yn dod nôl a dweud bod y ddeddfwriaeth hon yn uchelgeisiol—aspirational—heb ddannedd go iawn, ac felly, nad oedd modd na phwrpas ei defnyddio mewn llys barn. Felly, er bod y ddeddfwriaeth yn ein gwneud ni i deimlo'n gynnes, er ei bod hi'n edrych yn dda, mae'r gweithredu felly yn ein gadael ni i lawr. Hoffwn i glywed, felly, gan y Gweinidog pa effaith go iawn mae hi'n credu bod y ddeddfwriaeth yma wedi ei chael, a sut y gall ein cymunedau gael budd go iawn o'r ddeddfwriaeth. Diolch yn fawr iawn.

18:35

Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i Rhys am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n croesawu parhad y sgwrs rydym wedi bod yn ei chael yn y Senedd am y Ddeddf ar ddechrau'r tymor hwn.

Ac roeddwn eisiau eich atgoffa, yn ystod seremoni agoriadol y chweched Senedd, ein bod wedi cael darlleniad o gerdd a gomisiynwyd yn arbennig, 'Ein Llais - Our Voice', cerdd a grëwyd gyda chymorth bardd preswyl comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. A geiriau olaf y gerdd honno—a gwn i ni i gyd gael ein cyffwrdd yn fawr ganddi:

'Rydym am osod esiampl i weddill y byd.'

Felly, credaf y gallwn fod yn falch fod gwledydd eraill a sefydliadau rhyngwladol yn troi at Gymru am ysbrydoliaeth ar sut i ddeddfu ar gyfer y dyfodol, a gwn eich bod wedi cydnabod hynny, Rhys, yn eich cyfraniad heno. Ond ni allwn danbrisio'r ffaith bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn dangos ffordd unigryw Gymreig o fynd i'r afael â'r heriau hirdymor sy'n ein hwynebu, gyda'i ffocws ar rymuso a thrawsnewid y ffordd y mae'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn gweithio. Ac mae'n gwneud hyn drwy alluogi cyrff i weithio mewn ffordd ataliol, gydweithredol ac integredig, ffordd sy'n cynnwys dinasyddion ac sy'n edrych ar y tymor hir. Mae wedi cael ei chydnabod yn rhyngwladol, fel rydych wedi'i nodi. Mae'n ysbrydoli sefydliadau a llywodraethau ar draws y byd. Ac fe wnaethom benderfyniad beiddgar i ddeddfu fel hyn—y rheini ohonom a oedd yma ar y pryd, ac a lywiodd y ddeddfwriaeth drwy'r lle hwn. Mae'n wahanol, a cheir llawer o safbwyntiau ynglŷn â beth yw'r Ddeddf a beth y dylai fod yn y dyfodol. Fe'i disgrifiwyd fel un ryfeddol o ran ei hehangder, ei chwmpas a'i huchelgais, ac yn rhyngwladol, rydym wedi gweld sawl esiampl lle mae'r dull Cymreig wedi'i fabwysiadu neu wedi dylanwadu ar syniadau.

Yn yr Alban, maent wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Yn Senedd y DU, fel rydych eisoes wedi sôn, mae'r Arglwydd John Bird a Simon Fell AS yn cyd-noddi Bil llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sydd wedi'i fodelu ar ein deddfwriaeth ni. Ym mis Tachwedd, dywedodd Gweinidog tramor Iwerddon, Simon Coveney, wrth Weinidogion Cymru fod y Ddeddf yn ysbrydoledig ac y byddai Llywodraeth Iwerddon yn awyddus i'w hefelychu. Diwygiodd Seland Newydd eu Deddf cyllid cyhoeddus, fel bod eu Llywodraeth wedi nodi'r amcanion llesiant a fydd yn llywio penderfyniadau cyllidebol y Llywodraeth ac yn cefnogi llesiant hirdymor.

Yn 2019, deddfodd Llywodraeth Jersey i'w gwneud yn ofynnol i'w Cyngor Gweinidogion ystyried llesiant cynaliadwy cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Ac yn gynharach eleni, gwnaeth y Cenhedloedd Unedig ymrwymiadau sylweddol i gynnwys dull cenedlaethau'r dyfodol yn system y Cenhedloedd Unedig. Mae Sefydliad Iechyd y Byd, Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, yn cydnabod gwerth y Ddeddf i iechyd, gan ddweud bod

'y Ddeddf yn cyd-fynd yn wirioneddol â'r nodau datblygu cynaliadwy a chyda gwerthoedd ac egwyddorion Iechyd 2020, fframwaith polisi Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer iechyd a llesiant.'

A'r wythnos nesaf, rwy'n siarad yn y ddegfed gynhadledd fyd-eang ar hybu iechyd, gan ganolbwyntio ar degwch llesiant a datblygu cynaliadwy. Rydym ni yng Nghymru yn denu diddordeb rhyngwladol oherwydd bod ein dull o weithredu'n wahanol.

Gadewch inni edrych ar nodweddion allweddol y Ddeddf: sefydlu comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol annibynnol i Gymru, pwerus o annibynnol a llais mor gryf, gan ddangos yr arweiniad roedd y Ddeddf honno ei angen gan ein comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i'n symud ymlaen i flynyddoedd cyntaf y Ddeddf, gyda'r dasg benodol o hyrwyddo'r egwyddor datblygu cynaliadwy a gweithredu fel gwarcheidwad gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Mae'r comisiynydd a'i thîm wedi arwain y neges i ledaenu'r dull Cymreig ar draws y byd, ac wedi cefnogi a chynghori cyrff yng Nghymru ar sut i weithio mewn ffordd gynaliadwy. Un o fentrau'r comisiynydd, y maent wedi bod yn falch iawn o ymgysylltu â hi, yw datblygu Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae honno'n cefnogi ein hystod amrywiol o bobl ifanc i ddatblygu eu harweinyddiaeth ar agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n gwybod bod pob un o'r 35 aelod o'r garfan newydd wedi cyfarfod fis diwethaf. Byddant yn arwydd o newid, nid yn unig mewn perthynas â Llywodraeth, y sector cyhoeddus, y sector busnes a'r sector cymunedol—daethant o'r mannau hynny, ac mae aelodau o wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru yn rhan o hynny.

Mae diwylliant hefyd yn un o nodweddion neilltuol y dull Cymreig. Cafwyd teimlad cryf fod angen inni sicrhau mai llesiant diwylliannol oedd pedwaredd nodwedd ddiffiniol datblygu cynaliadwy, ochr yn ochr â'r economi, yr amgylchedd a chymdeithas. Wrth edrych i'r dyfodol, mae ein cytundeb cydweithio'n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd a sicrhau bod pob adran o'r Llywodraeth yn gweithio'n strategol tuag at y chweched nod llesiant: Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Credaf fod y ffordd o weithio drwy gynnwys ac ymgysylltu â dinasyddion yn arbennig o neilltuol. Mae'n ceisio trawsnewid y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn cynnwys pobl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, ac mae rôl dinasyddion yn llunio dyfodol Cymru yn hanfodol os ydym am gyflawni'r nodau llesiant. Felly, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sicrhau bod pobl yn ganolog i'r ffordd y maent yn gweithio. Nid yw cyrff cyhoeddus i gyd wedi arfer â—. Nid oes gan bob un ohonynt draddodiad a dealltwriaeth o sut y mae hynny'n digwydd, ond mae wedi bod yn gwneud gwahaniaeth—y dull hwnnw.

Ac rwyf eisiau sôn am y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru wrth-hiliol, a luniwyd ar y cyd â chymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig. Mae'n seiliedig ar y gydnabyddiaeth o'r angen am newid sylfaenol, yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wrando ar ein pobl, ein cymunedau a'n rhwydweithiau lleiafrifol ethnig, ac i gymryd camau i wneud newidiadau mewn ffyrdd sy'n ddiriaethol i'w cymunedau, yn seiliedig ar eu profiadau bywyd, hwy'n dod i Lywodraeth Cymru, i fentora'r gweision sifil, ac ariannu grwpiau mewn cymunedau i ddylanwadu ar y cynllun. Ond rwy'n cytuno â'r teimladau sy'n sail i safbwyntiau'r Aelod ynglŷn â chynnwys dinasyddion yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae'n amlwg iawn fod yn rhaid i hynny ymwneud ag amrywiaeth Cymru—un o greiddiau'r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Nawr, symudwn ymlaen at graidd eich dadl heddiw ynglŷn â'r ffaith nad yw'r Ddeddf—y pwyntiau roeddech eisiau eu codi yn y ddadl hon—rhoi hawliau unigol i ddinasyddion. Ni chafodd ei llunio i wneud hyn, ac rydym yn rhybuddio yn erbyn gosod disgwyliadau ar y Ddeddf na chafodd ei llunio i'w cyflawni. Ond rydym yn gallu ac mae'n rhaid inni gael y ddadl ynglŷn ag a oes angen i'r Ddeddf newid, a byddaf yn gweithio gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a'r Aelodau ar faterion sy'n ymwneud ag unrhyw adolygiad ôl-ddeddfwriaethol. Rwy'n siŵr mai dyna roeddech eisiau ei glywed heno.

Mae'n rhaid inni gydnabod, mewn perthynas â'r mathau hynny o benderfyniadau unigol fel y'u gelwir—nid wyf am drafod pob un o'r rhai rydych wedi'u codi—nad yw dyletswydd corff cyhoeddus i weithredu'n unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn pennu'r penderfyniad y mae'n rhaid iddynt ei wneud mewn unrhyw sefyllfa benodol. Ni chafodd y Ddeddf ei chynllunio i ddarparu'r atebion cywir. Nid yw'n dileu'r penderfyniadau anodd y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus eu gwneud, ond mae'n nodi ffactorau y mae'n rhaid iddynt eu hystyried yn gydwybodol cyn gwneud penderfyniad y mae'r ddyletswydd llesiant yn berthnasol iddo, a thynnodd Mabon sylw mewn gwirionedd, fel cynghorydd awdurdod lleol, at sut y cafodd ei hystyried mewn perthynas â phenderfyniadau anodd a oedd yn cael eu gwneud.

Gallaf roi llawer o enghreifftiau i chi o sut rydym yn teimlo bod y Ddeddf yn parhau i fod yn gyfredol, yn berthnasol i Gymru yn awr ac yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio mai dyna rydych chi'n ei deimlo, oherwydd mae'n arf mor bwerus.

Yr wythnos nesaf, byddaf yn gwneud datganiad ar y cerrig milltir cenedlaethol a'r diweddariad o'r dangosyddion cenedlaethol—byddwn yn ei gyflwyno yr wythnos nesaf—yn rhoi esboniad pellach o'r hyn y mae'r nodau llesiant yn ei olygu'n ymarferol, yn diweddaru ein dangosyddion hefyd, ac yn edrych yn arbennig ar y materion hynny sy'n allweddol o ran sut y gall y Ddeddf gadw i fyny â Chymru heddiw.

Credaf ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod bod adroddiad cenedlaethau'r dyfodol a'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dangos bod y Ddeddf yn newid sgyrsiau a'r ffyrdd y mae cyrff cyhoeddus yn gweithio, a dywedodd y comisiynydd fod y Ddeddf yn creu arloesedd rhagorol ac mae'n sylwi ar newid cynyddol, gyda phobl yn mentro cyflawni'n wahanol—Iechyd Cyhoeddus Cymru, ein hyb cynaliadwyedd iechyd; Rhondda Cynon Taf, platfform i gymryd rhan mewn gwybodaeth am newid hinsawdd; Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru; Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, gan edrych ar gydweithio ac integreiddio; ac Amgueddfa Cymru, gan edrych ar amcan llesiant ar ddatblygu sgiliau ar gyfer cyflogi pobl ifanc. Gallaf fynd ymlaen, ond gallaf weld bod ein hamser ar ben, Lywydd.

Felly, i gloi, hoffwn ddweud bod ein cytundeb cydweithio yn rhoi cyfleoedd i ni, onid yw, yn enwedig, fel rydych wedi'i ddweud, mewn perthynas â'r argyfyngau hinsawdd a natur, y bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein byd, ond gallwn gydweithio i fynd i'r afael â'r argyfyngau hyn. Rydym yn cymryd y camau beiddgar hynny tuag at Gymru sero net ac yn mynd i'r afael â cholli natur, gwella amrywiaeth a phlannu mwy o goed, a bydd ein maes polisi a rennir ar wasanaethau cyhoeddus cynaliadwy yn ein helpu i ddeall anghenion gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y dyfodol. Felly, mae'r ymrwymiadau hyn yn adeiladu ar ein gwerthoedd cyffredin o undod cymdeithasol, planed gynaliadwy a democratiaeth fywiog. Felly, lle rydym yn symud ymlaen, mae'n rhaid iddo fod ar sail cryfder ein cred yn y Ddeddf hon, cred ynddi hi ac yn y ffordd y caiff ei chyflawni. Rydym ar gychwyn taith—roeddwn yn ymwybodol iawn o'r geiriau yn y llyfr bach hwn, y byddwch chi, rwy'n siŵr, yn gwybod amdano, 'Futuregen: Lessons from a small country', a gyd-ysgrifennwyd gan Jane Davidson, a'n helpodd ar y cychwyn fel cyn Weinidog, am gydnabyddiaeth Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Cenhedloedd Unedig:

'Yr hyn y mae Cymru yn ei wneud heddiw, bydd y byd yn ei wneud yfory.'

Felly, gadewch inni fod yn falch o'r Ddeddf, a gadewch inni wneud iddi weithio. Diolch yn fawr.

18:45

Daeth y cyfarfod i ben am 18:48.