Y Cyfarfod Llawn

Plenary

03/11/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.

13:30
1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.

Diwydiannau Technoleg

1. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran datblygu polisïau i greu swyddi cynaliadwy â chyflogau da mewn diwydiannau technoleg yn ne-ddwyrain Cymru? OQ57091

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn gwneud popeth y gallwn i gadw a chreu swyddi medrus iawn sy'n talu'n dda ledled Cymru. Ar 21 Hydref, cynhaliais uwchgynhadledd economaidd i drafod gyda rhanddeiliaid sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau polisi economaidd blaengar sy'n canolbwyntio ar swyddi gwell, lleihau'r bwlch sgiliau a threchu tlodi.

Weinidog, credaf ei bod yn deg dweud bod y dystiolaeth ledled y byd yn dangos bod trosglwyddo o economi a nodweddir gan ddiwydiannau trwm i un sy'n fedrus iawn ac sy'n talu'n dda mewn technolegau newydd a chyfleoedd newydd yn anodd iawn ac yn broses hir. Ond diolch byth, yn ne-ddwyrain Cymru, credaf fod gennym lawer o enghreifftiau yn awr o'r diwydiannau newydd hynny, boed yn seiberddiogelwch neu'r diwydiant microsglodion neu'n fwy cyffredinol. Ac roeddwn yn falch iawn o ymweld gyda chi yn ddiweddar ag Indigo Telecom Group ym Magwyr, lle credaf inni weld enghraifft o gwmni sydd wedi tyfu’n sylweddol o ran y swyddi newydd hynny a chanddo gynlluniau uchelgeisiol i ehangu ymhellach.

Yn ddiweddar, ymwelais â marchnad Casnewydd, sy'n cael ei hadnewyddu'n llwyr i greu swyddfeydd, hyb gwaith, yn ogystal ag ardal fwyd a diod, ac mae ganddynt denantiaid seiberddiogelwch ar gyfer eu swyddfeydd newydd a'u hyb gwaith yn ogystal â diwydiannau newydd eraill. Felly, credaf ein bod yn gweld arwyddion calonogol iawn, Weinidog, a tybed a allech roi sicrwydd, fel y gwnewch, rwy'n siŵr, y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r diwydiannau newydd hyn gyda'r holl help a chymorth sydd ei angen i'w sefydlu, eu datblygu a'u tyfu, a sicrhau eu bod yn darparu'r cyfleoedd rhagorol hyn i bobl leol.

Ie, credaf fod hwn yn faes lle mae lle i optimistiaeth wybodus. Wrth gwrs, ar 18 Hydref, nodais y dull newydd o fwrw ymlaen â'r genhadaeth. Ar 21 Hydref, ymwelais ag Indigo gyda chi. Ac mae Indigo Telecom yn enghraifft dda o'r math hwnnw o fusnes. Ond rydych yn iawn i dynnu sylw at sefydlu'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn ne-ddwyrain Cymru hefyd. Rydych hefyd yn iawn i dynnu sylw at y gwaith ym marchnad Casnewydd—ailddatblygiad sylweddol. A chefais gyfle i ymweld â'r farchnad gyda’r ddwy Jane—Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, a’ch cymydog, Jayne Bryant, hefyd—i weld sut yn union rydym yn gwneud hynny ac yn bwrw ymlaen â'r gwaith. Mae'n enghraifft dda o gydweithio ag awdurdodau lleol fel partneriaid allweddol mewn datblygu economaidd, ynghyd ag addysg uwch, sy'n ymwneud â'r diwydiant cyfan rydym newydd fod yn sôn amdano, ac wrth gwrs, addysg bellach a phwysigrwydd yr agenda sgiliau. Felly, gallwch ddisgwyl ein gweld yn gwneud popeth y gallwn ei wneud gyda'r cyllidebau sydd gennym i wella sgiliau pobl er mwyn sicrhau nid yn unig fod y swyddi hynny'n dod yma, ond eu bod yn aros ac yn tyfu yng Nghymru hefyd.

Weinidog, hoffwn adleisio'r hyn y mae fy nghyd-Aelod anrhydeddus, John Griffiths, newydd ei ddweud, sef bod gan dde-ddwyrain Cymru gryn dipyn o botensial, yn enwedig ym maes technoleg. Yn ddiweddar, ymwelais â Forth yng Nghas-gwent, sy'n blatfform olrhain biofarcwyr arloesol, ac sy'n cynorthwyo pobl i wella eu hiechyd. Mae'r cwmni hwn yn un o nifer o fusnesau technoleg—mae Creo Medical yn un arall—sydd wedi'u lleoli yn ne-ddwyrain Cymru, ac sydd wedi cael eu denu i'r ardal gan yr amgylchedd dymunol a chysylltiadau traffordd a rheilffordd da â chanolbarth a de-orllewin Lloegr. Gŵyr pob un ohonom fod Silicon Valley yng Nghaliffornia yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi technolegol ac yn un o'r ardaloedd cyfoethocaf yn y byd. Pa ystyriaeth y byddech chi, Weinidog, ar ôl ymweld â Dwyrain Casnewydd, ar draws y rhanbarth, a sawl rhan o Gymru, rwy'n siŵr, o ystyried y sefyllfa bresennol—? Sut y byddech yn teimlo ynglŷn â chreu canolbwynt technoleg yn ne-ddwyrain Cymru, y gellir ei farchnata fel canolfan ar gyfer arloesi a sgiliau, gan ddarparu cymuned fywiog ar gyfer menter, a helpu yn y pen draw i drawsnewid economi Cymru?

Wel, wrth gwrs, mae gennym glystyrau uwch-dechnoleg a gweithgynhyrchu uwch mewn gwahanol rannau o Gymru, ac yn y de-ddwyrain, mae gennym eisoes glwstwr sy'n seiliedig ar led-ddargludyddion cyfansawdd, a soniais am hynny wrth ymateb i John Griffiths. Mae gennym hefyd glwstwr technoleg ariannol yn datblygu yn rhan ddeheuol Cymru hefyd, a gydnabyddir gan Lywodraeth y DU hefyd fel maes twf sylweddol posibl. Ac mae'n dynodi'r hyn y gallwn ei wneud os yw Llywodraeth Cymru'n cydweithio gyda busnesau, fel rydym wedi'i wneud, ac yn cydweithio gydag addysg bellach ac addysg uwch, i ddarparu'r sgiliau y bydd eu hangen ar bobl hefyd. Ac mae gwyddor bywyd, unwaith eto, yn faes arall lle rydym yn gweld twf sylweddol—fe sonioch chi am enghreifftiau yn eich cyfraniad. Mae hynny'n rhannol am fod cyfle gwych ar gael yn y DU, ond yn enwedig yng Nghymru, mae cynllun ein system gofal iechyd yn rhywbeth sy'n ddeniadol iawn, gan fod gennym sefydliadau iechyd cyffredinol, gofal sylfaenol ac eilaidd, yn yr un sefydliad. Mae hynny wedi bod yn ffactor pwysig iawn wrth i bobl ddewis buddsoddi yma, ynghyd â'r ffordd y mae gennym benderfyniadau cynllunio sy'n dod â phartneriaid at ei gilydd i gydweithredu a chydweithio yn bennaf yn hytrach na chystadlu. Felly, edrychaf ymlaen at weld hynny'n cael ei wireddu yn y ffordd rydym wedi adeiladu system yn fwriadol i fanteisio ar hynny, gyda pholisïau cyson dros yr 20 mlynedd diwethaf.

13:35
Cyfleoedd Cyflogaeth i Bobl Ifanc

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57096

Diolch am eich cwestiwn. Rydym wedi ymestyn ein cynllun cymhellion i gyflogwyr i gynorthwyo busnesau i recriwtio prentisiaid hyd at ddiwedd mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Bydd y cynllun hwn yn parhau ochr yn ochr â'n gwarant uchelgeisiol i bobl ifanc, a byddaf yn rhoi diweddariad i'r Siambr ar y cynnydd gyda'r warant i bobl ifanc mewn datganiad llafar a drefnwyd ar gyfer 16 Tachwedd.

Diolch am eich ateb, Weinidog.

Dros y degawd diwethaf, mae rhaglen Twf Swyddi Cymru wedi helpu mwy na 19,000 o bobl ifanc i gamu i fyd gwaith, i gael swydd dda ac i ddechrau adeiladu dyfodol. Ac yn awr, bydd Twf Swyddi Cymru + Mwy yn creu'r cyfleoedd hynny i newid bywydau pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. A dim ond y rhan gyntaf o warant Llafur Cymru i bobl ifanc yw hynny, wrth gwrs—ein haddewid a'n hymrwymiad i bob unigolyn ifanc yng Nghymru. Felly, cyn ei chyflwyno y flwyddyn nesaf, Weinidog, pa gymorth sydd ar gael i helpu darparwyr i addasu prentisiaethau a hyfforddeiaethau presennol er mwyn cyflawni'r rhaglen newydd honno?

Diolch am eich cwestiwn. Mae'n bwynt pwysig ynglŷn â chydnabod y bydd rhaglen newydd Twf Swyddi Cymru + Mwy yn dechrau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen flaenorol, Twf Swyddi Cymru, ynghyd â ReAct + Mwy, gan gryfhau'r cynnig sydd gennym ar gael eisoes. Felly, rydym yn gweithio gyda darparwyr, fel y byddant yn deall yr hyn rydym yn gobeithio'i wneud, ac mewn gwirionedd, mae darparwyr addysg bellach yn enwedig yn frwdfrydig ynglŷn â chydweithio gyda ni. Ein her fwyaf mewn sawl ffordd yw nid yn unig sicrhau bod gennym un pwynt mynediad i helpu pobl i ddefnyddio'r system, ond hefyd y lefel o sicrwydd y gallwn ei chael ynghylch cyllid a strategaeth. A dyna pam fod yr adolygiad cyflogadwyedd rydym yn ei gynnal mor bwysig, a bydd hwnnw'n cael ei lansio yn y gwanwyn i baratoi ar gyfer dechrau cyflwyno Twf Swyddi Cymru + Mwy, a mynd ati o ddifrif gyda'r cynnig rydym wedi'i wneud i bobl ifanc yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod cyfle gwirioneddol iddynt gael swyddi, addysg, neu yn wir, hunangyflogaeth a gwaith yn y dyfodol.

Weinidog, ymwelais â Hafren yn ddiweddar, lleoliad adloniant a theatr yn y Drenewydd, ac fe wnaethant amlinellu mater penodol y mae eu diwydiant yn ei wynebu ar hyn o bryd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd yn y diwydiant creadigol—o ran llwyfannu theatr a thechnegwyr yn benodol. A’r hyn roeddent yn ei ddweud wrthyf oedd bod llawer o dechnegwyr theatr wedi mynd i weithio ym maes cynhyrchu ffilm a theledu pan oedd y diwydiant theatr byw ar gau yn ystod y cyfyngiadau symud, ac arweiniodd hynny, wrth gwrs, at fwlch yn y diwydiant theatr, gyda phrinder talent ifanc yn ymwneud â theatr fyw. Felly, tybed a gaf fi ofyn ichi ystyried, Weinidog, sut y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi'r bwlch hwn yn y diwydiant, a beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau dyfodol y diwydiant hwn?

Rydych yn iawn i nodi y bu twf sylweddol ym maes cynhyrchu ffilm a theledu ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio. Mae Cymru'n cael ei chydnabod fel man lle mae amgylchedd da i wneud hynny, nid yn unig ein hamgylchedd naturiol, ond cymorth y Llywodraeth yn gweithio ochr yn ochr â'r diwydiant, ac mae'r rheini'n ffactorau pwysig. Rwyf hefyd yn cydnabod rhai o'r heriau sydd ynghlwm wrth yr hyn y mae hynny wedi'i wneud o ran prinder llafur ar gyfer y galw sy'n bodoli ar draws ystod o sectorau, gan gynnwys ar y llwyfan. Mae'n faes y mae'r Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden, yn arwain arno, o ran y diwydiannau creadigol, ac rydym yn siarad yn rheolaidd am yr heriau a sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithlu'r dyfodol yn y sector creadigol yn rhai y gallwn gynllunio'n briodol ar eu cyfer a darparu'r sgiliau, yr hyfforddiant a'r cyfleoedd i bobl gamu i ddiwydiant sydd eisoes wedi tyfu'n sylweddol yng Nghymru, ac rydym yn hyderus bod ganddo ddyfodol disglair a chadarnhaol. Gallwch ddisgwyl clywed mwy ynglŷn â hyn gennyf fi neu'r Dirprwy Weinidog wrth inni barhau i weithio drwy heriau setliad cyllideb y DU a'n setliad cyllideb ein hunain yma yng Nghymru.

13:40

Prynhawn da, Weinidog. Gan ehangu ar yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelodau uchel eu parch yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, hoffwn ganolbwyntio ar gysylltu pobl ifanc â swyddi gwyrdd. Credaf fod pob un ohonom yn poeni am y cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Felly, yng Nghanada, er enghraifft, mae'r Llywodraeth yn cefnogi interniaethau gwyddoniaeth a thechnoleg yn y diwydiannau gwyrdd i gynorthwyo pobl ifanc i gael y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwyrdd y dyfodol. Ac yn agosach at adref, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, yn Nhalgarth, mae Coleg y Mynyddoedd Duon wedi lansio NVQ galwedigaethol gyda'r nod o baratoi pobl ifanc ar gyfer swyddi gwyrdd y dyfodol. Felly, tybed a gaf fi ofyn i chi pa syniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o'r mentrau swyddi hynny dramor a sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda cholegau, fel Coleg y Mynyddoedd Duon, i ehangu'r ddarpariaeth addysg a sgiliau i fynd i'r afael â heriau'r argyfwng hinsawdd ac i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc. Diolch.

Diolch am eich cwestiwn. Ac yn ddiddorol, mae gennym berthynas dda â Chanada, yr enghraifft a nodoch chi—yn rhyngwladol—ac rydym yn edrych yn rheolaidd i weld pa arferion effeithiol sy'n bodoli yn y DU, Ewrop a thu hwnt, wrth ddatblygu polisi a rhaglenni, ac yn benodol yn y maes hwn, lle mae her wirioneddol i ni, ond cyfle gwirioneddol hefyd, fel y mae'r Aelod wedi'i gydnabod. Ac mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â cholegau, gan gynnwys cynrychiolwyr o Goleg y Mynyddoedd Duon, i archwilio'r cyfleoedd hynny, a chredaf ein bod mewn sefyllfa dda yng Nghymru yn y ffordd rydym wedi gallu gweithio gyda'n gilydd. Y rhwystr mwyaf i ni rhag gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny yw sicrwydd ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru. Golyga hynny sicrwydd cyllidebol a'r sicrwydd polisi y gallwn ei roi, ac ymbellhau oddi wrth ddeialog ddiangen o gystadleuol a di-fudd â Llywodraeth y DU, a chael mwy o sicrwydd ynghylch yr hyn y mae'r ddwy Lywodraeth yn mynd i'w wneud mewn perthynas â'r setliad datganoli, a gwneud cynnydd gwirioneddol, gan fod cyfleoedd i'w cael i sicrhau budd gwirioneddol i fyfyrwyr a dinasyddion yma yng Nghymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr i ddechrau—Tom Giffard. Mae'r cwestiynau i'w hateb gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon. Tom Giffard. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, hoffwn ddechrau drwy ofyn cwestiynau am y rhannau o'ch portffolio sydd wedi'u heffeithio waethaf, o bosibl, yn ystod y pandemig COVID, sef sectorau twristiaeth a lletygarwch. Mae'r diwydiannau hyn wedi gorfod cau am amser maith, wedi gorfod rhoi mwy o fesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, ac wedi gorfod gweithredu ar gapasiti llai, ac o ganlyniad, wedi colli mwy o refeniw na'u sectorau cyfatebol mewn rhannau eraill o'r DU. Diolch byth, mae sefyllfa well iechyd y cyhoedd, diolch i'r broses o gyflwyno'r brechlyn ledled y DU, wedi golygu bod nifer o'r cyfyngiadau hyn wedi'u codi ers hynny. Ond ar ôl datganiad y Gweinidog iechyd ddoe, a ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu ehangu'r defnydd o basys COVID ymhellach i gynnwys lleoliadau lletygarwch megis sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd, dangosodd hyn i ni ei bod yn debygol y bydd mwy gan y rhan hon o’r diwydiant i ymdopi ag ef yn y dyfodol. Ond efallai y bydd mwy gan y diwydiant ehangach i boeni amdano hefyd. Cyfeiriodd y Prif Weinidog ddydd Gwener diwethaf at y syniad fod cyfyngiadau pellach ar y ffordd a fyddai'n effeithio mwy fyth ar fusnesau lletygarwch a thwristiaeth, ond ni ddywedodd beth fyddai'r cyfyngiadau hynny. Felly, er mai'r disgwyliad yw bod y busnesau hyn yn paratoi ar gyfer hynny, sut y gallant baratoi os nad ydynt yn gwybod beth fydd y cyfyngiadau? Felly, a gaf fi eich gwahodd, Ddirprwy Weinidog, i nodi hynny'n glir yn awr, fel y gall y busnesau hyn wneud hynny'n briodol? Ac a wnewch chi gadarnhau y bydd y cymorth ariannol y bydd ei angen ar fusnesau lletygarwch a thwristiaeth yn cael ei roi ochr yn ochr ag unrhyw gyfyngiadau neu newid yn y rheolau a fydd yn effeithio arnynt?

A gaf fi ddiolch i Tom Giffard am ei sylwadau? Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn dal i wynebu sefyllfa heriol iawn mewn perthynas â COVID. Rydym yn dal i weld lefelau sylweddol o heintiau, a gwyddom fod nifer o adeiladau, digwyddiadau, sefydliadau lletygarwch a lleoliadau yn lleoliadau risg uchel iawn, gan eu bod yn tueddu i fod dan do ar y cyfan. Nawr, dywedodd y Prif Weinidog yn yr adolygiad COVID diwethaf, os nad yw'r sefyllfa'n gwella—ac mae hynny'n golygu'r sefyllfa yn gyffredinol; nid yw'n ymwneud â nifer yr achosion yn unig, ond yr effaith ar y GIG ac ar gymunedau yn gyffredinol—byddai'n rhaid iddo ystyried a fyddem yn ehangu'r defnydd o basys COVID i gynnwys mannau eraill. Mae wedi cyhoeddi eisoes y bydd y defnydd o'r pàs COVID yn cael ei ehangu i gynnwys theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd.

Ar y pwynt penodol ynglŷn â lletygarwch, credaf ei bod yn bwysig deall mai nod ehangu'r defnydd o unrhyw basys COVID i gynnwys y mannau hynny fyddai sicrhau y gall y lleoliadau hynny aros ar agor. Fe fydd yn cofio inni wynebu gaeaf anodd iawn y llynedd, ac ar fyr rybudd, caewyd lletygarwch yn gyfan gwbl—tafarndai, bwytai a lleoliadau lletygarwch—am nifer sylweddol o wythnosau, a dyna rydym yn awyddus i'w osgoi eleni. Felly, mae angen ystyried y syniad o ehangu'r defnydd o basys COVID yn y cyd-destun hwnnw, ac mae angen ei ystyried yn rhywbeth a fydd yn cynorthwyo i gadw'r lleoliadau hynny ar agor yn hytrach na'i weld fel cyfyngiad ar weithrediad y lleoliadau hynny.

Y peth arall y byddwn yn ei ddweud am gymorth parhaus yw fy mod yn parhau i gael trafodaethau rheolaidd gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ynglŷn â pha gymorth perthnasol y gellir ei roi ar waith os bydd y sefyllfa hon yn parhau, ac os bydd y cyfyngiadau'n parhau, ac os bydd yr effaith ar y busnesau hynny'n parhau am gyfnod amhenodol, neu'n sicr, hyd y gellir rhagweld. Felly, mae'r trafodaethau hynny'n parhau, ac rydym yn parhau i adolygu'r sefyllfa yn gyson.

13:45

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Hoffwn droi at chwaraeon a digwyddiadau mawr. Yn ystod ein trafodaeth flaenorol yn y Siambr oddeutu pedwar mis yn ôl, codais bryderon ynglŷn â'r dryswch ynghylch y ddeddfwriaeth ar rai o'r cynlluniau peilot mewn chwaraeon a digwyddiadau mawr ar y pryd, lle roedd rheolau gwahanol ar gyfer gwahanol leoliadau. Ac yn eich ateb, fe honnoch chi fod y canllawiau'n glir ac mai'r lleoliadau a'r busnesau unigol oedd yn gyfrifol am y dryswch ynghylch y rheoliadau.

Ers hynny, mae adroddiad Llywodraeth Cymru 'Digwyddiadau Peilot: Adroddiad ar y Canfyddiadau' wedi'i gyhoeddi, a nododd broblemau mawr gyda dryswch ynghylch y rheolau, ynglŷn ag a oedd gwahanol reolau'n bodoli ar gyfer gwahanol leoliadau mewn perthynas â chydymffurfiaeth â mesurau cadw pellter cymdeithasol a chydymffurfiaeth â gwisgo masgiau. Ond hyd yn oed yn awr a'r cyfyngiadau hyn wedi'u llacio, mae'n amlwg fod llawer o'r problemau'n dal i fodoli. Felly, dangosodd digwyddiadau chwaraeon diweddar, fel y gêm rhwng Cymru a Seland Newydd yr wythnos diwethaf, mai anghyson ar y gorau oedd cydymffurfiaeth y gwylwyr â rheolau gwisgo masgiau, a dywedodd llawer o etholwyr sydd wedi cysylltu â mi mai ychydig iawn o orfodaeth a welwyd yn hynny o beth.

Felly, mae gorfodi'r rheolau hefyd wedi bod yn broblemus ar y gorau. Roedd pasys COVID yn ofynnol ar gyfer y gêm hon, ond dywedodd llawer o bobl a aeth i'w gweld wrthyf na ofynnwyd iddynt am eu pàs o gwbl. Nawr, deallaf mai drwy hapwiriadau y byddai hynny'n digwydd, ond pa ganran o'r gwylwyr roeddech yn disgwyl y byddai gofyn iddynt ddangos eu pàs, ac a wnaeth y gêm y penwythnos diwethaf gyrraedd y targedau hynny? Mae'r modd gwael rydych yn parhau i orfodi eich rheolau eich hun yn fy arwain i ofyn hefyd: pa wersi a ddysgwyd o'r cynllun peilot cychwynnol, a pham fod y materion hyn yn dal i godi heddiw? Weinidog, yn hytrach na chyflwyno cyfres o reolau newydd yn yr adolygiad nesaf, onid ydych yn cytuno mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw gorfodi'r rhai presennol yn well?

Ar gêm Seland Newydd a Chymru ddydd Sadwrn diwethaf, rydych yn llygad eich lle, defnyddiwyd pasys COVID, ac a dweud y gwir, yr adborth a gawsom yw bod y gwaith o weithredu'r pasys yn y gêm honno wedi bod yn rhyfeddol o dda, a bod y cefnogwyr yn cydymffurfio'n hynod o dda, gydag oddeutu 90 y cant o'r gynulleidfa yn y stadiwm o leiaf 30 munud cyn i'r gêm gychwyn.

Nawr, fel y nodoch chi'n gwbl gywir, nid oedd erioed yn fwriad i 100 y cant o'r mynychwyr ddefnyddio, neu y byddai eu pasys COVID yn cael eu gwirio, gan y byddai wedi bod yn amhosibl ei weithredu'n ddiogel o ystyried maint y dorf a ragwelwyd, a'r lle cyfyngedig yn y stadiwm. Ond gwnaed cymaint o wiriadau â phosibl, a barnwyd fod y digwyddiad wedi bod yn gymharol lwyddiannus.

Nawr, ar orchuddion wyneb, wrth gwrs, mae'n ddigwyddiad awyr agored, felly nid oedd angen gorchuddion wyneb, er y gofynnwyd i gefnogwyr wisgo gorchuddion wyneb yn y cynteddau ac wrth fynd drwy'r gatiau tro ac ati. A chydymffurfiwyd â hynny at ei gilydd hefyd. Ond gan ei fod yn ddigwyddiad awyr agored i raddau helaeth, nid oedd hynny'n ofyniad. A'r hyn y byddwn yn ei ddweud yw hyn: gyda'n holl ddigwyddiadau—[Anghlywadwy.]—rydym yn adolygu'n barhaus sut y caiff y mesurau eu gweithredu, a sut y cânt eu monitro, a sut y cânt eu gorfodi. Mewn llawer o ddigwyddiadau, y lleoliad ei hun sy'n gyfrifol am orfodaeth. Mewn lleoliadau eraill, yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am orfodaeth.

Ond fel y dywedaf, yn gyffredinol, rydym wedi cael adborth cadarnhaol o'r profiad hwnnw, ac mae'n rhywbeth rydym yn bwriadu parhau i'w fonitro wrth inni symud ymlaen.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae diddordeb gennyf, serch hynny, fe sonioch am basys COVID yn cael eu gorfodi drwy hapwiriadau. Gofynnais am ganran y gwylwyr a aeth i'r gêm honno y byddai disgwyl i'w pasys COVID gael eu gwirio, ac nid wyf yn credu imi gael ateb. Felly, yn ôl pob tebyg, os ydych yn mynd i gyflwyno rheol o'r fath, byddai gennych ddisgwyliad o ran faint o bobl yn y digwyddiad hwnnw y byddai eu pasys yn cael eu gwirio. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi sylw i hynny yn eich ateb nesaf.

Ond i mi, mae'n amlwg fod y diwydiant chwaraeon a digwyddiadau mawr yn ogystal â'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth yn eich portffolio wedi gorfod cystadlu â chyfyngiadau ar eu gweithrediadau dydd i ddydd dros y 18 mis diwethaf, ac maent wedi wynebu llawer o drafferthion o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae'r maes lletygarwch wedi gorfod ymdopi â bod ar gau am gyfnod hirach na rhannau eraill o'r DU. Roedd y rheol 2m ar waith, er enghraifft, am gyfnod hirach yng Nghymru, ac mae gofynion hunanynysu hefyd wedi effeithio ar brinder staff, ac mae hynny wedi bod yn wahanol hefyd. Mae'r diwydiant chwaraeon a digwyddiadau mawr wedi ymdopi â'i gyfyngiadau ei hun fel pasys COVID, fel rydym wedi'i drafod, gwisgo masgiau wrth eistedd a gorfod cau eu lleoliadau am gyfnod hirach. Roedd y rhain i gyd unwaith eto yn mynd ymhellach na rhannau eraill o'r DU. Felly, mae'n amlwg eich bod wedi dilyn llwybr gwahanol iawn yng Nghymru i rannau eraill o'r DU, a'r diwydiannau hyn yn eich portffolio sydd wedi gorfod ymdopi â'r effaith fwyaf o ganlyniad i'r penderfyniadau hyn.

Fel y byddech yn cytuno, rwy'n siŵr, Ddirprwy Weinidog, byddai'n gwbl amhriodol cynnwys yr holl benderfyniadau hyn ac felly yr atebolrwydd mewn ymchwiliad cyhoeddus gyda Lloegr. Felly, Ddirprwy Weinidog, yng ngoleuni'r effaith ar eich portffolio chi yn benodol, a ydych yn cytuno â mi ei bod yn bryd cynnal ymchwiliad COVID yng Nghymru?

13:50

Diolch, Llywydd. Dros hanner tymor, bu amgueddfeydd ledled Cymru yn cymryd rhan yng ngŵyl amgueddfeydd Cymru. Mae'r ŵyl yn gyfle i ddathlu y rôl hanfodol mae amgueddfeydd o bob maint a math yn eu chwarae a'r effaith gadarnhaol maent yn eu cael mewn cymaint o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys ar ein heconomi. Serch hynny, fel dengys adroddiad diweddar gan gymdeithas amgueddfeydd Prydain, y Museums Association, dros y ddegawd diwethaf, mae gwariant awdurdodau lleol ar amgueddfeydd ac orielau yng Nghymru wedi gostwng 31 y cant, gan adlewyrchu faint y mae cyllidebau awdurdodau lleol wedi crebachu o ran yr hyn maent yn medru ei fuddsoddi mewn gwasanaethau nad ydynt yn statudol.

Os bydd y duedd hon yn parhau, yna mae posibilrwydd cryf y bydd amgueddfeydd yng Nghymru yn cau ac y bydd rhaid lleihau ymhellach gwasanaethau neu oriau agor gan gael effaith negyddol ar yr economi leol, ein cynnig i dwristiaid, ynghyd ag iechyd a lles defnyddwyr a'r holl brosiectau gwych a phellgyrhaeddol maent yn eu cyflawni fel sector. Pa gamau sydd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu amgueddfeydd lleol ar ôl degawd o lymder?

Diolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn, a chredaf fod ei phwynt olaf yn un perthnasol iawn. Yr hyn a welsom yn y sector amgueddfeydd, fel mewn sectorau eraill yn fy mhortffolio, yw effaith 10 mlynedd o gyni Torïaidd, sydd wedi bwydo drwodd i awdurdodau lleol a'r sefydliadau y mae'n rhaid iddynt eu hariannu.

Fodd bynnag, yr hyn rwy'n cytuno â hi yn ei gylch hefyd yw'r ffaith bod ein hamgueddfeydd yn hynod bwysig i'n cymunedau, maent yn bwysig i'n gwasanaeth addysg, maent yn bwysig i iechyd meddwl a lles pobl, a'r holl agweddau eraill ar y rhaglen lywodraethu rydym wedi'i chyhoeddi. Mae gwaith amgueddfeydd yn bwydo i mewn i hynny oll. Felly, mae'n amlwg ein bod yn awyddus i sicrhau eu bod yn parhau a'u bod yn ffynnu a'u bod yn darparu'r gwasanaeth y maent wedi'i ddarparu ers blynyddoedd. Un o'r pethau rydym yn eu hystyried yw eu cynorthwyo i ddatblygu eu cynnig digidol, er enghraifft, sy'n gwneud amgueddfeydd yn llawer mwy hygyrch i fwy o bobl nag o'r blaen. Roedd hynny'n rhywbeth y gwnaethom ei nodi drwy'r pandemig.

Ond yr hyn y byddwch hefyd yn ymwybodol ohono, wrth gwrs, yw ein bod ar hyn o bryd yn y broses o asesu beth a olygai'r adolygiad cynhwysfawr o wariant yng nghyllideb y DU i Gymru a sut y bydd yn effeithio ar bob un o'r cyrff y mae'n rhaid inni eu hariannu o gyllideb Cymru. A bydd y trafodaethau hynny'n parhau gyda'r amgueddfeydd cenedlaethol a'r undebau llafur yn y sector i sicrhau bod y cyrff hynny'n cael eu hariannu'n ddigonol i wneud yr holl bethau rydym wedi'u nodi yn ein rhaglen lywodraethu.

Diolch, Dirprwy Weinidog. Ond, nid peth newydd mo'r heriau sy'n wynebu amgueddfeydd lleol, ac ers nifer o flynyddoedd rŵan rydyn ni wedi clywed geiriau gan Weinidogion ond ddim wedi gweld gweithredu. Yn wir, wedi'r cyfan, oherwydd pryderon am y sector, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o amgueddfeydd lleol yn 2015. Nododd yr adolygiad nad oedd gan amgueddfeydd lleol adnoddau na chapasiti, ac ymrwymodd y Gweinidog ar y pryd, Ken Skates, y byddai ei swyddogion yn archwilio'r cyfleoedd a gyflwynir gan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol ar gyfer cefnogi a datblygu amgueddfeydd. Pam nad yw Llywodraeth Cymru, felly, dal heb, eto, weithredu argymhellion eu hadolygiad eu hunain yn llawn? A allwch chi ddarparu amserlen o ran pryd y cânt eu gweithredu neu ymhelaethu o ran pam y penderfynwyd peidio eu gweithredu? 

13:55

Roedd yr adolygiad pwrpasol y soniwch amdano, wrth gwrs, yn cynnwys nifer o argymhellion, a chryn dipyn o arian a chymorth gan Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â hynny. Rydym yn parhau i gael y trafodaethau hynny gyda'r amgueddfa, a chyda'r undebau llafur yn yr amgueddfa, ynglŷn â sicrhau bod argymhellion yr adolygiad pwrpasol yn cael eu gweithredu'n llawn.

Mae wedi bod yn broblemus oherwydd rhai o'r materion yn yr amgueddfa y byddwch yn ymwybodol ohonynt. Ni fu gennym lywydd yn yr amgueddfa ers peth amser. Rydym bellach wedi bod yn hysbysebu am—mae'n ddrwg gennyf, nid llywydd yn yr amgueddfa; yn y llyfrgell oedd hynny, felly rwy'n ymddiheuro am hynny. Mae materion wedi codi o'r adolygiad pwrpasol a defnyddiwyd cyllid i fynd i'r afael â hwy, ac rydym wedi cael trafodaethau parhaus gyda'r amgueddfa ynglŷn â sut y gweithredir yr agweddau hynny ar yr adolygiad.

Rwy'n sôn yn benodol, Weinidog, am amgueddfeydd lleol a'r adolygiad a gynhaliwyd yn 2015, yn hytrach nag adolygiad Simon Thurley o Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae 10 argymhelliad yn yr adolygiad o amgueddfeydd lleol nad ydynt wedi cael eu gweithredu eto, er bod y sector wedi ysgrifennu ar sawl achlysur, ac er yr apeliadau gan sefydliadau fel Cymdeithas yr Amgueddfeydd ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, sy'n awyddus iawn i gefnogi'r sector.

Yn 2010, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyhoeddi strategaeth ar gyfer amgueddfeydd yn eu cyfanrwydd, strategaeth a gafodd ei chroesawu gan y sector. Daeth hon i ben yn 2015, ac er bod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar y strategaeth newydd ers 2018, does gan Gymru ddim strategaeth ar gyfer amgueddfeydd erbyn hyn. Pryd bydd y strategaeth hon yn cael ei chwblhau a pha adnoddau fydd ar gael i alluogi'r sector i gyd i chwarae ei ran yn llawn o ran saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys cyfraniad economaidd y sector? 

Fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn cynharach, Heledd, nid wyf mewn sefyllfa eto i ddweud wrthych am gyllid gan mai dyma ein sefyllfa ar hyn o bryd, o ran edrych ar sut y mae pob un o'n sefydliadau yn cael eu hariannu a pha gyllid sydd i'w ddyrannu i bob un o'r sectorau hynny.

Mewn perthynas â'r adolygiad o amgueddfeydd, rwy'n awyddus i adolygu ble rydym arni bellach gyda hynny, gan ein bod wedi siarad o'r blaen am y strategaeth ddiwylliannol ehangach, a chredaf y bydd y cyfan yn rhan o hynny hefyd, ond rwy'n derbyn y pwynt fod gwaith pwrpasol wedi'i wneud. Mae angen imi adolygu ble rydym arni gyda hynny, a byddaf yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf pan fyddaf yn adolygu hynny ac yn edrych ar hynny yn dilyn y drafodaeth hon heddiw.

Llwythi a Gludir gan Drenau

3. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o gyfraniad llwythi a gludir gan drenau i economi Cymru? OQ57116

Diolch am eich cwestiwn. Mae cludo nwyddau ar reilffyrdd yn rhan hanfodol o system drafnidiaeth a chadwyn gyflenwi Cymru. Byddwn yn parhau i annog cludo mwy o nwyddau ar reilffyrdd ac yn cefnogi ymyriadau sy'n symud nwyddau oddi ar y ffyrdd ac ar y rheilffyrdd, ynghyd ag arloesi yn y dyfodol i helpu i wneud y sector yn fwy cynaliadwy. Mae hwn yn faes sy'n cael ei arwain gan seilwaith trafnidiaeth ac mae hynny'n rhan o'r portffolio a arweinir gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Diolch, Weinidog. Mae'r rhan fwyaf o nwyddau yn gorfod cael eu cario gan lorïau a faniau ar hyd ein ffyrdd yng ngogledd Cymru ac, yn wir, yng Nghymru wledig. Does nemor ddim freight yn cael ei gario ar draciau gogledd, gorllewin a chanolbarth Cymru. Os ydyn ni am weld llai o allyriadau o gerbydau, yna mae'n rhaid i ni, fel rydych chi wedi sôn, gario mwy o nwyddau ar drên.

Roedd strategaeth freight Llywodraeth Cymru yn ôl yn 2008 yn argymell y dylid buddsoddi mewn rhagor o gyfnewidfeydd inter-modal, ond eto does yna ddim un wedi cael ei ddatblygu ar hyd rheilffyrdd gogledd a chanolbarth Cymru. Byddai cael cyfnewidfa inter-modal ar hyd llinell y gogledd a'r canolbarth yn helpu'r amgylchedd a'r economi yng Ngwynedd, Môn, Powys a Cheredigion. A wnewch chi, felly, ystyried buddsoddi mewn datblygiad o'r fath mor fuan â phosibl?

Wel, fel y dywedais, mae hwn yn faes sy'n cael ei arwain gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Er nad yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli i raddau helaeth, rydym wedi sicrhau, fodd bynnag, fod grantiau cyfleusterau rheilffordd ar gael i helpu i ddatblygu rhai rhannau o'r seilwaith rheilffyrdd. Rwy’n siŵr y bydd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ddiddordeb brwd yn eich pwynt, ac y bydd yn fwy na pharod i ysgrifennu atoch os oes materion pellach i’w hychwanegu at yr ateb rwyf eisoes wedi'i roi.

14:00

Diolch i'r Aelod am gyflwyno cwestiwn pwysig iawn mewn perthynas â chludo nwyddau ar reilffyrdd ac economi Cymru. Weinidog, mae rheilffordd dyffryn Conwy yn fy rhanbarth yn mynd o Llandudno i lawr i Flaenau Ffestiniog, yn etholaeth yr Aelod, mewn gwirionedd, ac mae'n parhau i fod yn llwybr trafnidiaeth pwysig iawn i lawer o bobl. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld Network Rail yn buddsoddi miliynau yn y rheilffordd dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau ei dyfodol, a allai, wrth gwrs, gynnig cyfle i gludo nwyddau yn y dyfodol. Yn wir, cefais nifer o gyfarfodydd gyda Breedon Aggregates yn ddiweddar, sydd eu hunain wedi buddsoddi mewn prosiect sylweddol yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer man llwytho newydd ar y rheilffordd i wella’r gallu i gludo nwyddau sydd, fel y gwnaethoch gydnabod, yn sicr yn cefnogi twf economaidd gan helpu ein planed ar yr un pryd drwy leihau allyriadau ar y ffyrdd.

Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch, Weinidog, o ran yr ochr drafnidiaeth yn y portffolios gweinidogol, ond o ran cefnogi cwmnïau a busnesau yng Nghymru, pa gefnogaeth y bwriadwch ei roi i gwmnïau fel Breedon yn eu hymdrechion i wneud gwell defnydd o'r cyfleoedd y mae cludo nwyddau yn eu cynnig?

Wel, o edrych ar y cyfleoedd datblygu economaidd a ddaw yn sgil hynny, yna oes, mae gennym ddiddordeb bob amser mewn gweithio gyda chwmnïau a phartneriaid eraill. Ond rwy'n falch ichi grybwyll Network Rail yn eich ateb, oherwydd y tu hwnt i rwydwaith llinellau craidd y Cymoedd, nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, a mater i Network Rail a Llywodraeth y DU yw buddsoddi yn hwnnw, ac yn amlwg nid ydynt wedi gwneud hynny dros gyfnod sylweddol o amser. Mae pwynt ehangach yma—yn hytrach na dadlau dros feysydd sy’n amlwg wedi'u datganoli, byddem yn llawer gwell ein byd pe bai Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn meysydd y mae'n llwyr gyfrifol amdanynt. Byddem yn hapus i weithio gyda hwy i wneud hynny ac i sicrhau ein bod wedyn yn gwireddu'r cyfleoedd datblygu economaidd a ddaw yn sgil hynny.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Diolch, Weinidog. Mae'n dda eich gweld chi ar ôl chwe blynedd, a dweud y gwir. Fy nghwestiwn yw—[Chwerthin.] Y bedwaredd Senedd oedd hi, a hon yw'r chweched Senedd. [Chwerthin.]

Economi Gorllewin De Cymru

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu economi Gorllewin De Cymru? OQ57085

Diolch am y cwestiwn, ac mae'n dda eich gweld, ar ôl absenoldeb gorfodol a dychweliad i'r lle hwn. Rydym yn cymryd camau eang i fuddsoddi mewn busnes. Nodais ddull wedi'i ddiweddaru o symud economi Cymru yn ei blaen yn y datganiad a roddais i'r Siambr ar 19 Hydref. Rydym eisiau buddsoddi mewn pobl a seilwaith a chefnogi economi decach, mwy gwyrdd a mwy llewyrchus yng Ngorllewin De Cymru a ledled y wlad wrth gwrs, gan weithio gyda'n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Weinidog, os ydym eisiau i bobl De Orllewin Cymru brofi manteision economi sy’n tyfu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, rwy'n sicr fod angen inni weld strategaeth sy’n canolbwyntio nid yn unig ar greu swyddi, ond swyddi ar gyflogau uwch, gan wobrwyo sgiliau ac ymrwymiad y bobl leol. A all y Gweinidog nodi faint o swyddi newydd y mae'n bwriadu eu cefnogi dros y pedair blynedd nesaf? A pha gyfran fydd ar gyflogau gwell? Diolch.

Wel, rydych yn iawn i ganolbwyntio nid yn unig ar wella nifer y bobl mewn gwaith, ond ansawdd gwaith pobl, gan gynnwys eu cyflog. Ac fel y bydd yr Aelod yn gwybod, un o'r ffactorau allweddol yn hynny yw buddsoddi yn sgiliau'r gweithlu, buddsoddi yn ein pobl, a dyna un o'r heriau mawr sy'n ein hwynebu yma, ac mae'n un o’r pethau rhwystredig iawn ynghylch y diffyg dull parchus a chydgysylltiedig o weithredu gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Roedd y cyhoeddiadau diweddar a wnaed ar gyllid codi’r gwastad—roedd y cyhoeddiad a wnaed cyn y cyhoeddiad heddiw oddeutu £120 miliwn mewn 10 prosiect, gyda’r mwyafrif o'r prosiectau wedi'u lleoli yn etholaethau seneddol Ceidwadol y DU nad ydynt mewn gwirionedd yn ateb unrhyw ddiffiniad o gyllid codi’r gwastad, cyllid nad yw'n cyfateb i'r addewidion blaenorol a wnaed mewn gwirionedd. Mae'n golygu bod Cymru £0.25 biliwn yn brin yn y flwyddyn gyntaf hon o leiaf, a dyna arian a fyddai fel arall wedi cael ei wario ar arloesi i gefnogi addysg uwch, a fyddai fel arall wedi cael ei wario ar gefnogi ein hagenda sgiliau, a fyddai fel arall wedi cael ei wario ar gefnogi'r economi. A dyna'r her yma. Credaf y dylid trin y lle hwn a'n gwlad â llawer mwy o barch. Ac mae'r addewidion a wnaed ynglŷn â pheidio â cholli un geiniog wedi'u torri'n glir iawn yn natganiad y Canghellor yn ddiweddar—hoffwn glywed rhai o'r Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll dros Gymru ac yn dweud, 'Rydym eisiau ein harian yn ôl'.

14:05
Economi Canolbarth Cymru

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi canolbarth Cymru i adfer yn dilyn y pandemig? OQ57089

Mae ein cenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu'r economi yn nodi ein dull ar gyfer yr economi, gan gynorthwyo unigolion, busnesau a chymunedau i lwyddo a ffynnu. Mae'r prif swyddogion rhanbarthol a'u timau wedi'u sefydlu ac mae ganddynt fwy o ffocws ac ymgysylltiad â model rhanbarthol o ddatblygu economaidd. Rydym hefyd, wrth gwrs, yn gweithio gyda phartneriaid ar fargen dwf canolbarth Cymru.

Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, gobeithio eich bod chi, fel fi, yn croesawu’r newyddion am £15.5 miliwn i adfer camlas Trefaldwyn, a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf. Bydd hyn o fudd enfawr i bobl canolbarth Cymru gyda miloedd yn ychwanegol o—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, ni allaf glywed.

Diolch. Weinidog, gobeithio eich bod yn cytuno y bydd hwn yn gyfle enfawr i ganolbarth Cymru wrth i filoedd o gychod camlas ychwanegol ddod i ganolbarth Cymru, a miloedd o ymwelwyr ychwanegol yn ymweld â'r Trallwng, a hefyd gyda'r nod terfynol o adfer y gamlas i'r Drenewydd hefyd. Rwy’n mawr obeithio, Weinidog, drwy fargen dwf canolbarth Cymru, y gellir denu cyllid ychwanegol hefyd. Rwy'n gwybod y bydd hwn yn brosiect allweddol o fewn bargen dwf canolbarth Cymru, sy’n bartneriaeth rhyngoch chi a Llywodraeth y DU, ond rwy'n croesawu’n fawr—. Bydd buddsoddiad preifat ychwanegol, heb os, ond hoffwn gael eich cefnogaeth mewn egwyddor, Weinidog, i gymorth ychwanegol drwy fargen dwf canolbarth Cymru i gefnogi'r elfennau olaf hynny ym mhrosiect camlas canolbarth Cymru, a fydd, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno, o fudd mawr iawn i ganolbarth Cymru.

Wel, gallaf weld pam fod prosiect y gamlas a gefnogwyd yng nghyhoeddiad cyllideb Llywodraeth y DU yn newyddion da i bobl sy'n byw yn yr ardal honno, ac rydym yn gweithio'n adeiladol gyda'r ddau awdurdod lleol—Ceredigion a Phowys—a Llywodraeth y DU ar fargen dwf canolbarth Cymru. Ond nid yw hynny’n tynnu oddi wrth y realiti fod y £120 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer 10 prosiect yn gwyro tuag at etholaethau Ceidwadol y DU. Nid yw'n cyd-fynd ag unrhyw ddiffiniad realistig o angen a chodi’r gwastad. Ac nid yw’r arian—[Torri ar draws.] Nid yw’r arian y cyfeirioch chi ato mewn un prosiect penodol—[Torri ar draws.]—gymaint â’r arian a addawyd inni. Mae'r £375 miliwn roedd Cymru i fod i'w gael—hyd yn oed os yw'r holl arian hwnnw'n cael ei wario o fewn y flwyddyn hon, y £120 miliwn, mae dros £0.25 biliwn yn brin. Ac rwy'n gwybod bod yr Aelod eisiau imi groesawu'r toriad o £0.25 biliwn y mae ei Lywodraeth wedi'i wneud mewn gwirionedd, a mwy o doriadau i ddod mewn blynyddoedd i ddod, ond credaf y dylid trin Cymru â mwy o barch. Rwy'n credu y dylai'r Ceidwadwyr yn y lle hwn benderfynu a ydynt am sefyll dros Gymru, a ydynt am sefyll dros yr arian a gollwyd, a gymerwyd gan eu Canghellor, neu a ydynt yn bwriadu gweithredu fel asiantaeth hysbysebu ar ran Llywodraeth y DU tra'i bod yn mynd ag arian gan Gymru?

Yr Economi Werdd yn Nwyrain De Cymru

6. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r economi werdd yn Nwyrain De Cymru? OQ57088

Yn fy natganiad i’r Siambr ddoe, amlinellais weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi werdd a chadarnheais ei rôl sylfaenol yng nghynnydd ein cenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu'r economi.

Diolch yn fawr. Yn ystod dadl Plaid Cymru fis diwethaf ar y sector ynni a’r argyfwng hinsawdd, cafwyd ymateb gan eich Llywodraeth a oedd yn awgrymu newid cadarnhaol o ran sicrhau bod y cyfoeth a gynhyrchir gan ynni adnewyddadwy yn cael ei gadw yng nghymunedau Cymru. Cyfeiriwyd at, ac rwy'n dyfynnu, 'astudiaeth ddofn' y diwrnod canlynol, i weld pa rwystrau y gellir eu goresgyn i gynyddu capasiti ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol ledled Cymru. Mae gwir angen inni weld cynnydd mewn perthynas â pherchnogaeth gymunedol, oherwydd dangoswyd bod hyn yn allweddol mewn nifer o enghreifftiau rhyngwladol wrth newid agweddau'r cyhoedd tuag at gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Dair wythnos wedi’r ‘astudiaeth ddofn’ fel y'i galwyd, pa ddiweddariad y gallwch ei roi ar yr ymdrechion i sicrhau bod elw a buddion prosiectau ynni yng Nghymru yn aros yng Nghymru?

Wel, mae hwnnw’n waith y byddaf yn ei wneud gyda'r Gweinidogion yn yr adran newid hinsawdd. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae gennym ddiddordeb mawr mewn sicrhau bod ein rhwymedigaethau i ddyfodol y blaned yn cael eu cyflawni, ond mae elw economaidd gwirioneddol i'w gynhyrchu o hyn hefyd. Ac rwy'n ystyried pwynt yr Aelod ynghylch ymgysylltu â'r gymuned a pherchnogaeth ar rai o'r prosiectau ynni wrth symud ymlaen. Felly, ni fyddaf yn gallu rhoi ateb ichi heddiw, ond gallaf ddweud y byddaf yn parhau i weithio gyda Gweinidogion yn yr adran newid hinsawdd, nid yn unig i ddarparu ffordd well o gynhyrchu pŵer sy'n adnewyddadwy ac nad yw'n peryglu dyfodol y blaned, ond sydd hefyd yn gallu sicrhau difidend economaidd go iawn i gymunedau lleol.

14:10

Hyrwyddo'r agenda werdd yw un o'r tasgau mwyaf i bob Llywodraeth yn y ganrif hon. Dyna pam yr hoffwn gofnodi hanes trawiadol Cyngor Sir Fynwy, a oedd yn un o'r awdurdodau lleol cyntaf i gefnogir datganiad ar newid hinsawdd. Ond wrth hyrwyddo'r agenda werdd, mae'n hanfodol nad yw'r economi werdd, a busnesau a phrosiectau lleol yn arbennig, yn cael eu hesgeuluso, Weinidog. Rydym wedi gweld, yn sir Fynwy, y buddion aruthrol y gellir eu hennill yn y maes hwn, yn arbennig mewn perthynas ag adeiladu ein fferm solar ein hunain ar dir y cyngor. Gan gadw hynny mewn cof, a allwch chi amlinellu’r camau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo'r economi werdd yn sir Fynwy? Diolch.

Wel, ni allaf rannu'r camau rydym yn eu cymryd i hyrwyddo'r economi werdd yn sir Fynwy gan nad oes gennyf y manylion wrth law ar hyn o bryd, ond rwy'n hapus i ysgrifennu atoch, ac rwy'n siŵr y bydd cyn arweinydd Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o’ch clywed yn canmol eu gwaith yn y gorffennol. Ond gallaf ddweud, o ran hyrwyddo ffynonellau ynni adnewyddadwy a'r buddion economaidd, fod ganddo ystod sylweddol o ffactorau cadarnhaol, ac nid yn unig yn sir Fynwy, wrth gwrs—heddiw, byddwch wedi gweld yr adroddiadau am y fferm solar sy'n helpu i bweru adnoddau sylweddol ar gyfer Ysbyty Treforys hefyd. Felly, mae Llywodraeth Cymru, mewn amryw o ardaloedd, yn mynd ati'n ymarferol i hyrwyddo ffynonellau ynni adnewyddadwy ac enillion economaidd, a byddwn yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo, fel rwy'n siŵr y bydd yn ymwybodol, am brosiectau o’r fath yn etholaeth sir Fynwy.FootnoteLink

Cyllideb Llywodraeth y DU

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllideb Llywodraeth y DU yn ei chael ar ei rhaglen economaidd ym Mlaenau Gwent? OQ57118

Diolch am y cwestiwn. Byddwn yn parhau i ddadansoddi'r cyhoeddiad diweddar a wnaed a thrafod beth y mae datganiadau’r Canghellor yn ei olygu yn fwy manwl. Fodd bynnag, ni ellir anwybyddu’r ffaith nad yw’r gyllideb yn mynd i’r afael â'r heriau enfawr sy'n ein hwynebu wrth inni barhau â'n hadferiad economaidd o'r pandemig.

Rwy'n ddiolchgar ichi am hynny, Weinidog. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru gyhoeddi dadansoddiad chwarterol o wariant y DU yng Nghymru ar rai o'r materion hyn, oherwydd mae'n amlwg i mi mai'r buddsoddiad mwyaf a wneir yn y wlad hon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r buddsoddiad mewn datganiadau i'r wasg, gwahanol fathau o gysylltiadau cyhoeddus a marchnata, yn hytrach na chefnogaeth go iawn i bobl mewn angen. Yr hyn a welsom yr wythnos diwethaf oedd yr achos mwyaf llygredig o wleidyddiaeth 'casgen borc’ a welodd y wlad hon ers degawdau. Yr hyn a welsom oedd arian yn cael ei gymryd oddi ar rannau tlotaf y wlad hon a'i arllwys i mewn i etholaethau Torïaidd er mwyn prynu pleidleisiau. Nid dyna’r ffordd rydym wedi gwneud pethau yn y lle hwn—a byddwch yn dysgu hynny. Nid dyna’r ffordd rydym wedi gwneud pethau yn y lle hwn. Yr hyn rydym wedi'i wneud bob amser yw sicrhau ein bod yn diwallu angen ar sail angen, a'r hyn nad ydym yn ei wneud yw diwallu trachwant ar sail pleidleisiau.

Wel, y rheswm pam ein bod yn clywed cymaint o rwgnach o seddi’r Ceidwadwyr yn y lle hwn yw oherwydd bod Aelod wedi nodi’n gywir y wleidyddiaeth 'casgen borc’ a oedd yn llifo drwy’r cyhoeddiadau yn natganiad y Canghellor. Ac nid oes ond angen ichi edrych ar y ffeithiau. Mae'n ffaith nad yw Cymru wedi cael y £375 miliwn y byddai wedi'i gael fel arall, er gwaethaf eu holl addewidion. Mae Aelodau Ceidwadol yma eisiau sefyll dros Lywodraeth y DU a pheidio â sefyll dros Gymru. Mae Cymru wedi'i hamddifadu o symiau anferth o arian. Ac mewn gwirionedd, pan edrychwch ar y rhagolwg a roddwyd ar gyfer y cronfeydd ffyniant cyffredin, mae’n dweud, y flwyddyn nesaf, y bydd £400 miliwn ar draws y DU. Pe bai Cymru yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ac yn dal i allu defnyddio'r cronfeydd hynny, byddai £375 miliwn ar gael i Gymru yn unig. Rydym wedi cael ein camarwain, rydym ar ein colled, ac mae angen i'r Torïaid benderfynu a ydych chi am sefyll dros Gymru neu a ydych chi yma i geisio amddiffyn yr anghyfiawnadwy gan Lywodraeth y DU.

Rwy'n croesawu cyllideb Llywodraeth y DU, sydd wedi rhoi'r cynnydd mwyaf erioed mewn cyllid i Gymru ers dechrau datganoli. Mae'n dangos bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i bobl Cymru, ac mae'n dangos ei bod wedi ymrwymo i ddatblygiad ein cenedl. O gronfa codi’r gwastad i'r gronfa perchnogaeth gymunedol, lle mae neuadd ddawns y Frenhines yn Nhredegar, Blaenau Gwent, wedi derbyn £90,000. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod dros Flaenau Gwent a'r Gweinidog yn ymuno â mi i gydnabod gwaith da Llywodraeth y DU yn ei chyllideb hynod o hael a buddsoddi yng Nghymru unwaith eto.

Weinidog, a allwch chi amlinellu pa gynlluniau sydd gennych i ategu'r cyllid codi’r gwastad ledled Cymru i wneud y gorau o fuddsoddiad Llywodraeth y DU yn y pecyn ariannol mawr y mae wedi'i ddarparu i Gymru? Diolch.

14:15

Mae hynny'n rhyfeddol, yn gwbl ryfeddol, ac roedd yn ffeithiol anghywir i ddweud bod hwn yn setliad hael. Yr hyn a welsom yw toriadau i Gymru o'r cyllid codi'r gwastad. Nid oes modd gwadu hynny. Mae arian yn cael ei dorri, ond mae'r Ceidwadwyr yma eisiau dathlu hynny. Mae hynny'n rhyfeddol, ac yn fwy na hynny, y realiti yw nad yw'r gyllideb ddiweddar yn rhoi arian yn ôl yn lle'r arian a gafodd ei dorri yn ystod y cyni ariannol. Mewn termau real, ni fyddwn yn gwneud llawer mwy na chadw'r refeniw ar y lefel sylfaenol, ond o ran cyfalaf, rydym wedi gweld toriad mewn termau real dros y cyfnod diwethaf yn yr adolygiad o wariant. Dyna y mae Laura Jones a'r Ceidwadwyr eisiau ei ddathlu. Mae'n warthus, ac rwy'n dweud wrth y Ceidwadwyr yn y lle hwn: ar ba ochr ydych chi? A ydych chi ar ochr pobl Cymru sy'n cael arian wedi'i gymryd oddi arnynt, oddi ar y busnesau na fyddant yn cael y cymorth y byddent wedi'i gael fel arall? A ydych chi ar ochr y bobl sydd angen hyfforddiant, y sgiliau, y prentisiaethau, yr arian a oedd yn eu cefnogi o'r blaen? A ydych chi ar ochr arloesedd ac ymchwil, sydd wedi'u torri oherwydd y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ymgysylltu â ni a'r toriadau i'r cyllid a fyddai ar gael fel arall? Ar hyn o bryd, rydych chi ar yr ochr hollol anghywir. Gwnewch eich gwaith a sefwch dros Gymru.

Y Diwydiant Adeiladu

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r diwydiant adeiladu am y sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer ei weithlu yn y dyfodol? OQ57095

Cynhaliais gyfarfod rhagarweiniol gyda Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu ym mis Mehefin. Byddaf yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda hwy, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, i drafod pob agwedd ar ofynion hyfforddiant a sgiliau'r diwydiant.

Gan eich bod wedi cyfarfod â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu ym mis Mehefin, fe fyddwch yn gwbl ymwybodol o'r diffyg sgiliau a amlygwyd ganddynt yn eu hadroddiad ym mis Mawrth, am y mathau o sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer yr adeiladau cyhoeddus y byddwn yn eu hadeiladu yn y dyfodol, felly pobl fel aseswyr ynni, cydlynwyr ôl-osod, a phobl sy'n inswleiddio a gosod pympiau gwres. Mae'r tri phrif gwmni adeiladu sy'n ymwneud â gwaith yn fy etholaeth ar hyn o bryd, Bouygues, Willmott Dixon ac ISG, yn awyddus i ddweud wrthyf faint o weithwyr a chyflenwyr lleol sydd ganddynt yn gweithio ar eu prosiectau. Ond gan fod y rhan fwyaf o'r is-gontractwyr naill ai'n unig fasnachwyr neu'n gwmnïau bach gyda dwsin o weithwyr efallai, sut y gallwn sicrhau eu bod yn addas i ymgymryd â'r gwaith y byddwn yn gofyn i bob cwmni adeiladu sy'n cyflawni unrhyw waith adeiladu drwy arian cyhoeddus ei wneud ac na fydd galw am weithwyr o'r tu allan?

Mae yna her allweddol ynglŷn â phwynt ehangach, nid yn unig mewn adeiladu, ond mae'n enghraifft dda o sut y gallwn, gyda'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a gyhoeddwyd gan yr adran newid hinsawdd yma, gymryd cam ymlaen sydd i'w groesawu'n fawr er mwyn sicrhau bod gwerth hynny'n cael ei gadw cyn belled ag y bo modd, a hynny mor lleol â phosibl. Dyna pam y mae'n bwysig fy mod yn parhau i weithio gyda'r Gweinidogion newid hinsawdd ac deall, pan fyddwn yn gosod y contractau hynny, y telerau y gallwn eu mynnu er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cael budd lleol o hynny, ac i sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant yn cael eu darparu. Dyna pam rwy'n falch iawn o'r sgwrs ddiweddar a gefais gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol, a'r sgwrs y byddwn yn ei chael gyda'r sector ei hun. Mae gennyf ddyddiad arall yn y dyddiadur yn ystod y misoedd nesaf gyda'r diwydiant adeiladu ei hun i geisio sicrhau ein bod yn bendant yn mynd i'r cyfeiriad cywir, a sicrhau eu bod yn deall yr hyn rydym ei eisiau a'r hyn rydym yn ei ddisgwyl o'r arian cyhoeddus y byddem yn ei fuddsoddi, ond hefyd eu bod yn buddsoddi'n ôl yn eu busnesau eu hunain ac mewn cymunedau lleol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Cyfraddau COVID-19 yn Nwyrain De Cymru

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyfraddau COVID-19 yn Nwyrain De Cymru? OQ57110

Diolch yn fawr. Mae cyfraddau presennol COVID-19 yn Nwyrain De Cymru yn achosi pryder, gyda nifer uchel iawn o achosion. Rydyn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos ac yn dilyn yr holl fesurau priodol. Mae parhau i gael cefnogaeth gan y cyhoedd yn hanfodol os yw’n hymderchion yn mynd i lwyddo.

Diolch am hwnna, Gweinidog.

Mae cyfraddau COVID-19, fel rydych wedi bod yn ei ddweud, yn y de-ddwyrain wedi bod yn bryderus o uchel yn ddiweddar. Un o'r rhesymau tebygol am hyn yw nifer y canlyniadau anghywir a roddwyd i drigolion gan labordy yn Wolverhampton. Amcangyfrifwyd bod 4,000 o drigolion Cymru wedi'u heffeithio, ac roedd y mwyafrif yng Ngwent a Chwm Taf. Weinidog, fel y gwyddoch, roedd hyn yn ddifrifol, oherwydd os dywedwyd wrth bobl eu bod wedi cael canlyniad negyddol ond bod y feirws arnynt mewn gwirionedd, byddent wedi dal ati gyda'u bywydau fel arfer, yn heintio pobl eraill heb sylweddoli hynny. Fe ddywedoch chi mewn datganiad ar 15 Hydref, Weinidog, y byddech yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU a chynllun profi ac olrhain y GIG ar unrhyw gamau y byddai eu hymchwiliadau i'r digwyddiad yn tynnu sylw atynt. Ond ers hynny, ni chafwyd diweddariad pellach i'r Aelodau. Felly, rwyf am ofyn i chi, a all Llywodraeth Cymru roi mwy o fanylion ynglŷn â faint o'r trigolion yr effeithiwyd arnynt a oedd yn byw naill ai yng Ngwent neu yng Nghymoedd y de-ddwyrain mewn gwirionedd, beth yw'r asesiad diweddaraf o sut y mae'r dryswch anferthol hwn wedi effeithio ar fodelu ac amcanestyniadau o gyfraddau COVID yng Nghymru. Ac yn olaf, Weinidog, pryd y caiff asesiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r sefyllfa ddiweddaraf ei gwblhau a'i gyhoeddi, os gwelwch yn dda?

14:20

Diolch yn fawr, Delyth. Rydych yn llygad eich lle ein bod yn credu bod y digwyddiad yn labordy Immensa a'r ffaith bod cynifer o brofion wedi dod o Gymru—. Amcangyfrifwn fod tua 4,000 o bobl yng Nghymru wedi cael gwybod yn anghywir fod eu profion yn negyddol. Os ydych yn allosod o hynny ac yn edrych arno—dychmygwch, mae 4,000 o bobl yn crwydro o gwmpas yn meddwl eu bod yn glir pan allent fod yn heintio pobl eraill—yn amlwg roedd hynny'n sicr o gael effaith ar ein cyfraddau. A chredwn mai dyna un o'r rhesymau dros y cyfraddau hynod o uchel hyn mewn rhannau o ddwyrain Cymru.

Rydym yn dal i aros am yr adroddiad gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn dal i ofyn amdano oherwydd mae angen inni wybod beth aeth o'i le fel y gallwn ddysgu a sicrhau nad yw'n digwydd eto. Ac wrth gwrs, mae gennym ein labordy ein hunain yma yng Nghymru, ac mae angen inni gadw llygad ar hwnnw. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o brofion Cymru yn mynd i'r labordy hwnnw yng Nghasnewydd, ond ar adegau pan fo lefelau uchel iawn o geisiadau am brofion, caiff rhai o'r rheini eu dargyfeirio, a dyna'n union a ddigwyddodd mewn perthynas â labordy Immensa ger Wolverhampton. Felly, cysylltwyd â'r holl bobl yr effeithiwyd arnynt, y 4,000 o achosion os oeddent o fewn cyfnod penodol o amser—cyn hynny byddent wedi bod y tu allan i'r cyfnod y byddai'n ofynnol iddynt ynysu—a gofynnwyd iddynt gael ail brawf. Felly, credwn fod y sefyllfa bellach dan reolaeth, ond yn amlwg rydym yn parhau i dalu am y canlyniadau.

Weinidog, mae dadansoddiad o broffil oedran pobl â'r coronafeirws yn dangos bod 39 y cant o achosion o dan 19 oed a bod 27 y cant rhwng 10 a 19 oed. Mae etholwr wedi cysylltu â mi sydd ag aelod o'r teulu'n mynychu Ysgol Uwchradd Crughywel ac Ysgol Gyfun Trefynwy hefyd. Mae'r gofyniad i wisgo masgiau wyneb wedi'i gadw yn yr ystafelloedd dosbarth a'r coridorau yn Ysgol Uwchradd Crughywel, ond nid oes eu hangen yn Ysgol Gyfun Trefynwy. Mae fy etholwr yn gwneud y pwynt fod yr achosion o COVID bron ddwywaith cymaint yn Ysgol Gyfun Trefynwy na'r hyn ydynt yn Ysgol Uwchradd Crughywel. A ydych chi, Weinidog, wedi cynnal unrhyw astudiaethau o'r gwahaniaeth mewn cyfraddau COVID rhwng gwahanol ysgolion mewn ardaloedd cyfagos, a pha ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i wneud gwisgo masgiau wyneb yn orfodol mewn ysgolion uwchradd? Diolch.

Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Rydych yn llygad eich lle bod y cyfraddau ymhlith pobl iau yn arbennig o uchel. Mae'r cyfraddau yng Ngwent, er enghraifft, yn y grŵp oedran 10-19, oddeutu 2,300 fesul 100,000. Rydych yn meddwl am y lefelau yno, ac roedd hynny yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 17 Hydref. Felly, yn amlwg, roeddem yn eithaf balch o weld hanner tymor yn nesáu, a gobeithio bod hynny wedi rhoi rhywfaint o ryddhad i ni. Yn amlwg, mae'r Gweinidog addysg yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa yn ein hysgolion. Dyna pam ein bod, yn yr adolygiad 21 diwrnod diwethaf, wedi tynhau'r canllawiau a darparu pecyn cymorth newydd i ysgolion. Yr hyn y ceisiwn ei wneud yw bod yn gymesur. Ac wrth gwrs, ceir enghreifftiau lle dylai rhai ysgolion fod yn tynhau o bosibl ond nad ydynt yn gwneud hynny, ond mae'n rhaid ichi gofio bod Comisiynydd Plant Cymru, er enghraifft, yn glir iawn nad yw gwisgo masg o reidrwydd o fudd i'r plant. Felly, mae'n rhaid inni gael y cydbwysedd yn iawn yma. Felly, os yw nifer yr achosion yn isel, ac mae yna rai ysgolion lle mae nifer yr achosion yn isel, efallai y byddai ychydig dros ben llestri i ofyn iddynt wisgo masgiau wyneb. Ond dylai'r pecyn cymorth roi ychydig mwy o syniad i bobl pryd y dylent fod yn gofyn i ddisgyblion wisgo'r gorchuddion wyneb hynny.

Rhyddhau Cleifion o'r Ysbyty

2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella pa mor gyflym y caiff cleifion eu rhyddfau o'r ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ57087

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol sylweddol i gefnogi prosesau rhyddhau cleifion a llif cleifion gwell, gan gynnwys yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Rydym hefyd yn gweithio i fynd i'r afael â phroblemau gweithlu a chapasiti cyfredol ym maes gofal cymdeithasol i gynorthwyo’r broses o ryddhau cleifion yn gyflymach, gan gynnwys drwy'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal.

14:25

Weinidog, diolch am yr ateb hwnnw, a gallech ailadrodd y cwestiwn rwy'n ei ofyn am ardal fy mwrdd iechyd fy hun ar gyfer Cymru gyfan, lle nad oes un ateb, ond mae'n fater o gael yr adnoddau cywir ar draws yr ystod honno o ffactorau a fydd yn helpu i gyflymu’r broses o ryddhau cleifion. Ac wrth gwrs, mae hyn yn bwysig i gleifion yn yr ysbyty ac yn bwysig o ran rhyddhau gwelyau, ond hefyd o ran cael pobl adref, fel y gellir eu cefnogi i fyw'n annibynnol yn y lle y maent eisiau bod mor gyflym â phosibl. A allwch chi roi sicrwydd imi y byddwch yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â'r bwrdd iechyd i sicrhau bod yr adnoddau yn y lle iawn ar yr adeg iawn, a bod y gefnogaeth yno hefyd ar gyfer y sector gwirfoddol, fel Gofal a Thrwsio Cymru ac eraill, a'r timau cymorth cartref sy'n gwneud gwaith rhyngddisgyblaethol mor wych?

Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod hwn yn gyfnod anodd i iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn gwybod pa mor niweidiol yw hi i bobl aros yn yr ysbyty am gyfnodau hirach nag sydd angen. Felly, rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda phartneriaid iechyd a gofal i gefnogi prosesau rhyddhau effeithiol ac rydym wedi darparu cyllid ychwanegol sylweddol. Mae'r gronfa gofal integredig a'r gronfa drawsnewid wedi cynorthwyo byrddau partneriaeth rhanbarthol i ddatblygu ffyrdd integredig newydd o weithio. Ym mwrdd Cwm Taf Morgannwg, er enghraifft, mae'r prosiect 'cadw'n iach gartref' wedi parhau i ddatblygu, gan atal derbyn pobl i'r ysbyty yn ddiangen a sicrhau bod y bobl sydd angen eu derbyn i'r ysbyty yn cael eu rhyddhau'n amserol. Mae'r gronfa gofal integredig hefyd yn ariannu cydgysylltwyr rhyddhau iechyd a gofal cymdeithasol ym mwrdd Cwm Taf Morgannwg, sydd hefyd yn helpu gyda rhyddhau amserol. Yn ogystal, soniodd yr Aelod am Gofal a Thrwsio Cymru; fe wnaethom ddarparu dros £0.5 miliwn yn 2021-2022 i Gofal a Thrwsio Cymru i ddarparu'r gwasanaeth 'ysbyty i gartref iachach’ sy'n hwyluso'r broses o ryddhau cleifion hŷn agored i niwed o'r ysbyty yn fwy diogel ac yn gyflymach. Ac yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, darperir y gwasanaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Tywysog Siarl. Felly, rwy'n cytuno â'r Aelod ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol a chyda'r bwrdd iechyd yn y cyfnod anodd hwn er mwyn i'r gwasanaethau sicrhau’r integreiddiad mwyaf posibl.

Weinidog, pe bai eich Llywodraeth wedi darparu system iechyd a gofal cymdeithasol fwy integredig dros yr 20 mlynedd diwethaf, efallai y byddai cynlluniau rhyddhau cleifion o'r ysbyty wedi bod yn fwy effeithlon ac yn well ar gyfer gofal cleifion. Rydym yn gwybod bod rhai cleifion yn aros yn hwy yn yr ysbyty oherwydd yr amser y gall ei gymryd i asesu eu hanghenion. A yw'r Gweinidog wedi ystyried defnyddio gweithwyr proffesiynol eraill fel therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion yn y gymuned yn ychwanegol at y gweithlu gofal cymdeithasol, a beth am asesiadau cartref cyn llawdriniaeth ar gyfer y cleifion hyn? Os hoffai'r Gweinidog wybod mwy amdano, rwy’n hapus i'w drafod â hi. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, a diolch am y cynnig i'w drafod ymhellach; byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Hoffwn wneud y pwynt, yn y bôn, fod y broblem hon sydd gennym yng Nghymru gydag oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty a'r system gofal cymdeithasol yn broblem sydd i’w gweld ledled y DU. Clywais ar Radio 4 y bore yma am y problemau mawr y maent yn eu cael yn Lloegr, felly nid yw hyn yn unigryw i Gymru. Yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw ceisio dod o hyd i ateb iddo, ac rydym yn gweithio’n galed iawn i geisio gwneud hynny. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau yn cyfarfod yn wythnosol â chynrychiolwyr o'r byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol i geisio dod o hyd i ffordd i fynd i'r afael â'r oedi niweidiol hwn cyn rhyddhau o'r ysbyty. Ac felly, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu, ond mae'n broblem ledled y DU.

Dirprwy Weinidog, mae fy nghwestiwn i yn ddilyniant mewn gwirionedd i gwestiwn Mr Hussain, ac rŷn ni'n ffodus iawn o'i arbenigedd e yn y Senedd yma. Mae fy nghwestiwn i ynglŷn ag wythnos nesaf, bydd y grwp trawsbleidiol ar ddementia yn cyhoeddi adroddiad ynglŷn â gofal ysbyty, ac un argymhelliad yw slotiau penodol i adael i bobl sy'n dioddef o ddementia adael yr ysbyty. Y rheswm am y slotiau penodol hynny yw i sicrhau bod cartrefi gofal, gofalwyr a theuluoedd yn cael cyfle i drafod y rhyddhau o'r ysbyty ac i gyfrannu at hynny. Argymhelliad arall yw sicrhau bod yna dimoedd i adael i bobl adael yr ysbyty a bod y timoedd yna'n sicrhau wedyn bod y gwaith papur, y meddyginiaeth a'r drafnidiaeth yn eu lle yn barod pan fydd y person yn gadael yr ysbyty. Fel rŷch chi'n gwybod, mae'n hanfodol cael y cydweithio agos yma rhwng y sector iechyd a'r sector gofal cymdeithasol. A wnewch chi, a hefyd y Gweinidog iechyd a'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl, edrych yn fanwl ar yr adroddiad yma a'r argymhellion a gweithredu arnyn nhw? Diolch yn fawr.

14:30

Diolch yn fawr iawn am y wybodaeth am yr adroddiad hwn. Mae'n swnio'n adroddiad hynod ddiddorol a chredaf y byddai pob un ohonom yn falch o'i ddarllen a gweld a allem fynd ar drywydd unrhyw rai o'r awgrymiadau. Cytunaf yn llwyr fod angen i bobl â dementia, pan fyddant yn gadael yr ysbyty neu ar unrhyw adeg mewn gwirionedd, gael lle ac amser a'r tîm integredig i gynllunio'n ofalus ar eu cyfer. Felly, diolch yn fawr iawn am y gwaith a wnaethoch ar yr adroddiad hwn. Edrychaf ymlaen yn fawr at ei ddarllen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Gareth Davies.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Mae gennym argyfwng ym maes gofal cymdeithasol, onid oes, a chredaf fod hynny'n ffaith—argyfwng a achoswyd gan ddiffyg staff. Ni allwn recriwtio digon o bobl i weithio yn y sector gofal, oherwydd, a dweud y gwir, nid yw'r cyflog a'r amodau'n ddeniadol. Ddirprwy Weinidog, fe wyddoch fy marn am gyflog gweithwyr gofal a'r ffaith y dylem fwrw ymlaen i godi cyflogau. Fodd bynnag, mae pethau wedi newid ers y tro diwethaf inni drafod hyn. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r gronfa gofal cymdeithasol a bydd cyllideb yr wythnos diwethaf yn golygu biliynau o bunnoedd yn ychwanegol i Gymru bob blwyddyn. Pryd y bydd gweithwyr cartrefi gofal yn gweld cyflog byw go iawn, Ddirprwy Weinidog? Gwn eich bod wedi sôn o'r blaen ei fod yn £9.50, ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi bod yn galw am isafswm cyflog o £10 i weithwyr cartrefi gofal a staff gofal cymdeithasol. Felly, a oes unrhyw gynnydd tuag at weld hynny'n dwyn ffrwyth?

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Rydym yn derbyn bod problemau gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol ac mae'n anodd iawn recriwtio ar hyn o bryd. Y rheswm y mae mor anodd recriwtio yw bod swyddi mwy deniadol wedi dod ar gael yn ddiweddar yn y sector manwerthu neu yn y sector lletygarwch i rai gweithwyr gofal. Mae'n anodd iawn denu pobl i'r maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Ond rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r cyflog byw go iawn. Cyhoeddir y diweddariad i'r cyflog byw go iawn ar 15 Tachwedd, er fy mod yn credu bod angen inni aros i weld faint yn union y bydd. Rydym am i hyn gael ei gyflwyno cyn gynted ag y gellir yn y tymor hwn. Rydym yn edrych tuag at gyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, pan fyddwn yn gallu gwneud rhagor o gyhoeddiadau ynglŷn â sut y byddwn yn symud ymlaen, yn enwedig yn dilyn cyhoeddi'r cynlluniau ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr.

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Bydd unrhyw oedi cyn gwella cyflog ac amodau staff yn parhau i gael effaith ar recriwtio. Teimlir yr effaith hon gan ein GIG a'n byrddau iechyd lleol, sy'n cymryd sylw ac yn gweithredu'n briodol. Mae rhai byrddau iechyd bellach yn ystyried cyflogi staff gofal yn uniongyrchol. Fodd bynnag, yn hytrach na helpu i fynd i'r afael â'r broblem, mae'r sector gofal o'r farn fod hyn yn arwain at ddwyn staff gan y GIG, sy'n cynnig gwell cyflogau ac amodau. Ddirprwy Weinidog, rydym i fod i integreiddio iechyd a gofal, nid gwneud iddynt gystadlu â'i gilydd. Sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau nad yw'r cynlluniau peilot hyn gan fyrddau iechyd lleol yn creu prinder yn y sector gofal? Diolch.

Mae hyn yn amlwg yn berygl a all ddigwydd. Fel y gwyddoch, rydym wedi sefydlu'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sydd wedi cynhyrchu eu hadroddiad yn ddiweddar ynghylch sut y byddwn yn cyflawni'r cyflog byw go iawn ac mae hwnnw'n cael ei ystyried gan swyddogion ar hyn o bryd. Gobeithio y byddwn yn gallu cyhoeddi rhywbeth ar hynny'n fuan. Felly, mae hynny ar fin digwydd. Ond wrth gwrs, mae'n fwy na chyflog yn unig, mae'n ymwneud â thelerau ac amodau a'r holl bethau eraill. Fel y dywedwch, mae amodau staff y GIG yn llawer gwell nag amodau staff gofal cymdeithasol. Felly, credaf fod yn rhaid inni wneud pob ymdrech i roi hwb i'r proffesiwn gofal cymdeithasol. Drwy'r pandemig, o leiaf, credaf fod pobl bellach yn ymwybodol o beth yw gofal cymdeithasol, a chredaf fod gwerthfawrogiad o'r hyn y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ei wneud, ac rydym yn benderfynol o gynnal statws y proffesiwn. Un o'r pethau a wnaethom yw cofrestru'r proffesiwn; mae pob gweithiwr gofal cartref bellach wedi'i gofrestru, sy'n gwella statws y proffesiwn, ac rydym yn symud ymlaen at weithwyr gofal preswyl yn awr, i wneud yr un peth yno. Credaf mai'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw gwella statws y proffesiwn, dangos ein bod yn gwerthfawrogi gwaith y gweithwyr gofal cymdeithasol. Gwnaethom ddau daliad iddynt yn ystod cyfnod y pandemig, a gwn eu bod yn ddiolchgar iawn am y gydnabyddiaeth i'r hyn y maent yn ei gyfrannu. Rwy'n credu mai dyna sy'n rhaid inni ei wneud.

14:35

Diolch eto am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. I newid cyfeiriad ychydig, ac ehangu ychydig mwy ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, wrth gwrs, y ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion hyn fyddai cwblhau'r broses o integreiddio iechyd a gofal. Roedd creu prif swyddog gofal cymdeithasol i Gymru i fod i gyflymu'r ymdrechion integreiddio, fel y sonioch chi yn y pwyllgor iechyd yn ddiweddar. Mae Mr Heaney wedi bod yn ei swydd ers cyn yr haf. Wrth inni fynd i mewn i fisoedd y gaeaf, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr hon ynglŷn â sut y mae'r rôl yn helpu ymdrechion i ddod â gofal cymdeithasol a'n GIG at ei gilydd mewn un gwasanaeth iechyd a gofal integredig? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Hyd yma, rwy'n credu ei fod wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae Mr Heaney wedi bod yn gwneud ymarfer gwrando. Mae wedi bod yn ymwneud â sawl agwedd wahanol ar y system gofal cymdeithasol, mae wedi gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei deimlo am eu hamodau gwaith, am yr hyn y maent am ei wneud, am integreiddio ag iechyd, sut y gall y ddau gydweithio. A thrwy ei gael yn y swydd hon, credaf fod pobl yn teimlo bod gofal cymdeithasol yn cael ei gydnabod. Mae gennym brif swyddog meddygol, ac yn awr mae gennym brif swyddog gofal cymdeithasol. Mae'r prif swyddog gofal cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda'r prif swyddog meddygol, a chredaf fod cael prif swyddog gofal cymdeithasol yn ddechrau addawol iawn. Felly, byddwn yn dweud bod llawer o gynnydd wedi'i wneud ers iddo ddechrau yn ei swydd.

Diolch, Lywydd. Oni bai bod eich pen wedi'i gladdu yn y tywod, fe fyddwch yn ymwybodol fod COP26 ar y gweill yn Glasgow yr wythnos hon. Mae llygredd aer yn agwedd bwysig ar yr argyfwng hinsawdd yma yng Nghymru, oherwydd dyna sydd i'w gyfrif am 1,400 o farwolaethau ac mae'n costio £1 biliwn y flwyddyn i GIG Cymru. O fewn fy rhanbarth i, wrth inni siarad mae rhes o dai newydd gael ei dymchwel am nad ydynt yn addas i bobl fyw ynddynt mwyach, oherwydd llygredd aer. Mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at aer glân fel maes roedd yn gobeithio gweithio arno gyda phleidiau eraill, ac y byddai hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Er hynny, pan gyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol ei raglen ddeddfwriaethol, nid oedd wedi'i gynnwys. I Lywodraeth sy'n brolio ei chymwysterau gwyrdd, yn yr achos hwn mae gennym ddull strategol o weithredu ond heb fod unrhyw frys i wneud hynny. A yw'r Gweinidog yn poeni, fel minnau, y bydd unrhyw oedi pellach gyda'r Bil aer glân yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles miloedd o bobl yng Nghymru? Yn ystod wythnos COP26, a ydych yn cytuno ei bod yn bryd gweld gweithredoedd nid geiriau, a sicrhau yn benodol fod digon o fuddsoddiad i helpu'r rhai sy'n dioddef o ganlyniadau llygredd aer?

Diolch yn fawr, Peredur. Gallaf eich sicrhau fy mod ar adegau yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ysu am gael claddu fy mhen yn y tywod, ond nid yw hynny'n wir. Ar fater llygredd aer, rydym yn sicr yn ymwybodol iawn—a byddwch wedi fy nghlywed yn ymateb yn y ddadl ddoe ar newid hinsawdd—o'r modd y mae llygredd aer yn rhywbeth rydym yn ei ystyried yn gysylltiedig â newid hinsawdd. Felly, mae'n bwysig inni fynd i'r afael â'r broblem. Rhaid inni ddeall, mewn perthynas â'r GIG, fod newid hinsawdd yn galw am fwy na newid y ffordd yr adeiladwn ein hysbytai ac yr adnewyddwn ein hysbytai, sicrhau eu bod wedi'u hinswleiddio, gosod bylbiau golau LED newydd, a'r holl bethau eraill hynny y bwriadwn eu gwneud. Rhaid inni gydnabod hefyd fod newid hinsawdd yn arwain at ganlyniad, canlyniad i iechyd, ac rydych yn iawn i ddweud bod llygredd aer yn un o'r canlyniadau hynny. Gallaf eich sicrhau, ar fater Bil aer glân, fod hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru o ddifrif yn ei gylch. Rydym wrthi'n penderfynu ar hyn o bryd pa Filiau sy'n cael blaenoriaeth, ac rwy'n siŵr y bydd cyhoeddiad ar hynny yn y dyfodol agos iawn.

14:40

Diolch yn fawr am yr ateb. 

Ar fater COP26, nodais eich trydariad am Brif Weinidog y DU yn eistedd wrth ymyl Syr David Attenborough heb fasg wyneb ac yn ymddangos fel pe bai'n cysgu. Y geiriau a ddefnyddioch chi i ddisgrifio Johnson yn eich trydariad oedd, ac rwy'n dyfynnu, 'gwarth cenedlaethol'. Nid wyf yn dadlau ynglŷn â hynny, ond yr hyn y mae gennyf broblem ag ef yw ffydd eich Llywodraeth y bydd San Steffan yn cyflwyno ymchwiliad COVID amhleidiol, hollgynhwysol, ar gyfer y DU, pan fo'r dyn sy'n gyfrifol amdano, yn eich geiriau chi, yn 'warth cenedlaethol'. Neu a yw eich ffydd yn y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan ond yn bodoli pan fydd yn gyfleus?

Diolch yn fawr. Fe fyddwch yn ymwybodol mai cyd-destun y llun hwnnw oedd bod Boris Johnson yn eistedd wrth ochr ein trysor cenedlaethol, David Attenborough, a oedd yn effro ac yn talu sylw, yn wahanol i'n Prif Weinidog, a oedd yn cysgu. Credaf ei bod yn bwysig inni ddeall wrth gwrs fod yna adegau pan fydd angen inni weithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU, ac mewn gwirionedd, mae newid hinsawdd yn enghraifft dda o ble mae angen inni ddeall ein bod i gyd wedi ein cydgysylltu, nid yn unig â'r Deyrnas Unedig ond â gweddill y blaned. Yn sicr, o ran COVID, mae angen inni ddeall na allwn dynnu llinell o amgylch Cymru a meddwl ei fod yn ymwneud â sut y llwyddasom i reoli'r feirws neu beidio o fewn ein ffin yng Nghymru. Gwyddom, er enghraifft, fod yr amrywiolyn delta wedi'i gyflwyno o India. Hyd yn oed pe baem am gau'r ffiniau ag India, ni fyddem wedi gallu gwneud hynny, a dyna'r amrywiolyn amlycaf yng Nghymru. Felly, mae meddwl y gallem gael ein hymchwiliad annibynnol ein hunain—byddai'n anodd iawn inni beidio ag edrych ar y mathau hynny o faterion a deall y rhyng-gysylltedd, a dyna pam y mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud yn gwbl glir mai ei ddewis ef yw cael ymchwiliad y DU gyda mandad clir iawn o'i fewn ar gyfer Cymru. Fe'i clywais yn gofyn i Brif Weinidog y DU am hynny yn bersonol ar fwy nag un achlysur, ac mae'n bwysig iawn fod y Prif Weinidog yn awr, Boris Johnson, yn bwrw ymlaen â hynny ac yn ymrwymo i gyflawni'r math o ymrwymiadau roedd Prif Weinidog Cymru yn gofyn iddo eu cyflawni mewn perthynas â'r ymchwiliad hwnnw.

Diolch. Cyfarfûm yn ddiweddar â Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, a chyfarfûm â hwy eto heddiw; maent yn y Senedd heddiw, ac mae ganddynt lawer o gwestiynau heb eu hateb. Nid oes ganddynt fawr o ffydd y bydd ymchwiliad ledled y DU yn rhoi'r holl atebion y maent yn ysu amdanynt er mwyn rhoi tawelwch meddwl iddynt ar ôl marwolaeth perthynas agos. Mae un o'r prif gwestiynau sydd ganddynt yn ymwneud â marwolaethau o COVID-19 a ddaliwyd yn yr ysbyty. Dywedodd un ymgyrchydd wrthyf fod ei thad wedi marw o COVID ar ôl cael ei anfon adref o'r ysbyty yn dilyn triniaeth am haint ar goden y bustl. Yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty, daeth i gysylltiad â 13 o gleifion, tri yn yr un ystafell, a 14 o staff ar ei ward. Ac eto, cafodd ei anfon adref heb gael ail brawf ac ni chafodd y teulu wybod am ei gysylltiad a'i risg bosibl o ddal COVID-19. Oni chredwch fod gwersi i'w dysgu o ymchwiliad cyhoeddus llawn i ddull Cymru o fynd i'r afael â'r coronafeirws, ac oni chredwch ei bod yn bwysig inni ddysgu gwersi o hyn? Oni ddylech fod yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Vaughan Gething ychydig funudau'n ôl—ei bod yn bryd gwneud eich gwaith a sefyll dros Gymru?

Wel, a dweud y gwir, nid wyf yn siŵr a allwn weithio'n galetach yn fy swydd nag a wnaf ar hyn o bryd, ond gallaf ddweud wrthych ein bod yn gwybod bod gennym wersi i'w dysgu mewn perthynas â COVID a'r ffordd y mae'r pandemig wedi creu llanast yn ein cymunedau. Wrth gwrs bod gennym wersi i'w dysgu, oherwydd mae hwn yn feirws newydd; nid oedd neb yn gwybod amdano. Rydym yn dal i ddysgu amdano. Ceir is-amrywiolyn newydd o delta, yr AY4.2. Rydym yn dal i ddysgu. Mae'n dal i newid. Wrth gwrs bod gennym bethau i'w dysgu. Byddwn yn dysgu'r gwersi hynny, ac rydym yn dysgu'r gwersi hynny. Ar ôl pob marwolaeth COVID yn yr ysbyty ceir asesiad i weld beth y gallem fod wedi'i ddysgu o hynny. Ond nid ydym yn aros i'r ymchwiliad i hynny ddigwydd; mae ymchwiliadau'n digwydd yn gyson fel ein bod yn dysgu wrth inni fynd yn ein blaenau. Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn sensitif i'r ffaith bod miloedd o bobl yn llythrennol bellach yn galaru yng Nghymru am anwyliaid a ddaliodd y feirws, ac mae'n arbennig o drist os mai yn yr ysbyty y gwnaethant ddal y feirws.

Rwyf wedi bod yn gwrando ar lawer o bodlediadau dros hanner tymor, podlediadau rhyngwladol a soniai am y posibilrwydd o ynysu pobl agored i niwed, ac yn enwedig mewn cartrefi gofal, er enghraifft, a'r hyn a ddywedai'r podlediadau oedd nad oedd neb, mewn gwirionedd, wedi llwyddo i wneud hynny. Ni allech ynysu pobl agored i niwed am eu bod yn rhan o gymdeithas, ac mae pobl yn gweithio mewn ysbytai, mae yna fynd a dod, ac mae'n anodd iawn ynysu pobl oddi wrth bobl sy'n gweithio mewn ysbytai sydd angen mynd adref yn y nos at eu hanwyliaid hwythau hefyd. Felly, wrth gwrs ei bod hi'n anodd, ac wrth gwrs bod raid inni hefyd fod yn sensitif i'r ffaith fod yna bobl sydd am fynd i ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty. Mae cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn yn wirioneddol anodd, ac wrth gwrs y bydd gwersi i'w dysgu, ac rydym yn dysgu'r gwersi hynny, ond mae'n debygol y bydd gennym fwy o wersi i'w dysgu wrth inni fwrw yn ein blaenau gan nad yw'r pandemig hwn ar ben.

14:45
Cyfraddau COVID-19

Diolch, Llywydd. Byddwch chi'n falch o glywed fy mod i'n barod y tro yma. Yn dilyn ymlaen o gwestiwn fy nghyfaill Delyth Jewell ynghynt—

Diolch yn fawr. Mae cyfraddau COVID-19 ar draws Cymru ymhlith yr uchaf yn y Deyrnas Unedig. Rŷn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos ac yn dilyn yr holl fesurau priodol. Mae parhau i gael cefnogaeth gan y cyhoedd yn hanfodol os yw’n hymdrechion yn mynd i lwyddo.

Diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog. Wel, mae nifer fawr iawn o bobl wedi cysylltu efo'r swyddfa dros yr wythnos neu ddwy diwethaf yn bryderus nad ydyn nhw'n medru cael mynediad at y brechiad ychwanegol, y booster jab. Mae ganddyn nhw bellteroedd mawr iawn i deithio er mwyn cyrraedd meddygfa sy'n cynnig y booster jab, a nifer fawr o bobl yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Wrth gwrs, byddwch chi'n deall eu bod nhw felly yn gyndyn o fynd ar fws oherwydd y risgiau ynghlwm â hynny, ac felly yr hyn sy'n digwydd ydy eu bod nhw'n osgoi mynd o gwbl ac yn methu cael y brechiad ychwanegol yma, ac felly, wrth gwrs, yn agored i'r haint. A wnewch chi, felly, sicrhau bod y byrddau iechyd yn gwneud yn siŵr bod y brechiad ychwanegol, y booster jab, o fewn cyrraedd ein cymunedau cyfan, ac yn enwedig y rhai mwyaf gwledig? Diolch.

Diolch yn fawr am hynny. Mae'n bwysig ofnadwy bod pobl sydd yn cael y gwahoddiad i fynd am y brechiad ychwanegol yn cymryd y cyfle i wneud hynny. Dwi'n falch o ddweud bod ein cyfraddau ni ymhlith yr uchaf yn y Deyrnas Unedig o ran y boosters ar hyn o bryd, ond mae ffordd bell iawn gyda ni i fynd, wrth gwrs.

Rŷn ni'n ymwybodol iawn bod y sefyllfa'n wahanol i'r tro cyntaf achos, gyda'r brechlyn cyntaf, roedden ni'n defnyddio AstraZeneca, ac roedd hwnna'n haws i ymdrin ag e yn y cymunedau lleol. Gyda Pfizer, rŷn ni wedi mynd am y canolfannau sydd yn fwy o faint, ac yn amlwg mae hwnna'n golygu, mewn ambell le gwledig, ei bod hi'n anoddach i bobl gyrraedd. Dyna pam dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod yna gyfle i bobl gyrraedd. Dwi'n gwybod, yn ardal Hywel Dda er enghraifft, fod yna gyfle i bobl ffonio i gael trafnidiaeth i fynd i'r canolfannau yna. Felly, dwi'n meddwl ei bod hi'n werth edrych i weld os yw'r gwasanaeth yna ar gael yn Betsi Cadwaladr, a dwi'n eithaf hapus i ofyn iddyn nhw, os nad ydyn nhw'n cynnig hynny, i ystyried hynny. Ond gan ei bod hi'n ardal lle mae angen i chi gael lot o bobl i fynd i ganolfan fawr, dwi'n meddwl y bydd angen teithio ymhellach y tro yma, mae arnaf i ofn.

Weinidog, er bod cyfraddau COVID-19 yn parhau'n uchel, mae data diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod y cyfartaledd saith diwrnod diweddaraf yn gostwng i 546 o achosion fesul 100,000 o bobl mewn gwirionedd. Dywedodd y Prif Weinidog yn ei gynhadledd i'r wasg yn ddiweddar y byddai'r syniad o gyfyngiadau pellach yn dilyn pe bai nifer yr achosion yn parhau'n uchel. Felly, rwy'n chwilfrydig i ddeall yn union pa mor uchel y byddai angen i'r rhain fod i weld cyfyngiadau pellach yn yr adolygiad tair wythnos sydd ar y ffordd. Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau, os mynnwch—cyfyngiadau symud lleol yn sgil 50 o achosion fesul 100,000, a chyfyngiadau cenedlaethol yn sgil 500 o achosion fesul 100,000. Sylweddolaf fod llwyddiant cyflwyno'r brechlyn ledled y DU wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng nifer yr achosion a'r nifer sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty a marwolaethau, felly nid nifer yr achosion fyddai'r ffigur hwnnw o bosibl ond gallai fod yn seiliedig ar y nifer a gaiff eu derbyn i'r ysbyty, nifer y marwolaethau, neu rywbeth arall yn gyfan gwbl. Ond os yw Llywodraeth Cymru yn dilyn y wyddoniaeth, rhaid cael nifer lle byddai'r cyfyngiadau pellach hyn yn dod yn weithredol. Felly, a yw'r Gweinidog yn gallu datgelu'r ffigur hwnnw i ni yn y Siambr heddiw, lle byddai cyfyngiadau pellach yn cael eu gosod?

14:50

Diolch. Credaf y gwelwch mai'r hyn y buom yn ei wneud yw defnyddio'r perygl y bydd y GIG yn cael ei llethu fel mesur ar gyfer penderfynu beth a wnawn o ran gosod cyfyngiadau symud ai peidio. Dyna yw ein ffon fesur wedi bod. Yn amlwg, yn y don gyntaf, pan nad oedd gennym frechlynnau at ein defnydd, gwelsom nifer uwch o bobl yn mynd i'r ysbyty. Nid ydym yn y sefyllfa honno mwyach diolch i'n rhaglen frechu wych. Felly, o'r diwedd rydym mewn sefyllfa, diolch byth, lle mae'n ymddangos bod ein cyfraddau'n gostwng. Ni wyddom beth sydd rownd y gornel. Gwyddom fod yr amrywiolyn newydd hwn, yr AY.4.2, ychydig yn fwy heintus, mae'n debyg, hyd yn oed na'r delta, felly nid ydym eto wedi dysgu i ba raddau y mae hwnnw'n mynd i ledaenu, ac efallai nad ydym wedi gweld y lledaeniad hwnnw yn ein hysgolion eto. Mae'n rhaid inni weld a yw gwanhau effaith y brechiad yn digwydd yn gynt na'n gallu i gael y brechiad atgyfnerthu i mewn i freichiau pobl. Mae'r holl bethau hyn yn ffactorau y bydd angen inni eu cynnwys. Felly, ni fydd byth yn union ffigur lle rydym yn penderfynu. Yr hyn a ddywedasom yn yr adolygiad 21 diwrnod yw, os bydd nifer yr achosion yn parhau i gynyddu, bydd yn rhaid inni edrych ar weithio ein ffordd i fyny'r lefelau hynny. Gobeithio na fyddwn yn y sefyllfa honno, a gobeithio y bydd y ffigurau hynny'n gostwng.

Clefydau Awto-imiwn

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sydd â chlefydau awto-imiwn? OQ57098

Diolch yn fawr iawn. Ceir dros 100 o glefydau awto-imiwn ac mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r cyflyrau hyn wedi'i nodi mewn amrywiaeth o gynlluniau cyflawni, strategaethau a thrwy ddatblygu datganiadau ansawdd.

Diolch. Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Lwpws y mis diwethaf, cyhoeddodd y Gynghrair Clefydau Rhiwmatig Awto-imiwn Anghyffredin brofiad unigolyn a gafodd ddiagnosis o lwpws yn ystod plentyndod, a ddywedodd, yn Lloegr, fod 'Monitro rheolaidd a chyfathrebu agored' wedi cadw ei lwpws a'i straen ei hun ynglŷn â'i hiechyd o dan reolaeth yn dda. Dywedodd hefyd, fodd bynnag, pan symudodd i Gymru, na allai ddod o hyd i dîm arbenigol lwpws ac nad oedd yn cael aros dan ofal y tîm yn Lloegr. Ychwanegodd bod ei neffritis wedi dychwelyd, fod cael ei hatgyfeirio at neffrolegydd yn anodd er bod ganddi niwed i'r arennau, ac nid oes ganddi linell gyngor dros y ffôn na nyrs lwpws i gysylltu â hwy am broblemau sy'n codi ar fyr rybudd. Cyhoeddodd Triniaeth Deg i Fenywod Cymru adroddiad newydd yr wythnos diwethaf hefyd, sy'n datgan,

'nid oes Canolfannau Rhagoriaeth Lwpws arbenigol yng Nghymru, a gwrthodir y rhan fwyaf o geisiadau gan gleifion i gael eu hatgyfeirio at ganolfannau yn Lloegr.'

Sut rydych yn ymateb felly i'w galwadau ar Lywodraeth Cymru i wella gofal i gleifion sy'n byw gyda lwpws a chyflyrau rhiwmatig awto-imiwn anghyffredin, ac i alwad y Gynghrair Clefydau Rhiwmatig Awto-imiwn Anghyffredin am ganolfan arbenigol wedi'i chomisiynu'n briodol ar gyfer afiechydon rhiwmatig awto-imiwn anghyffredin yng Nghymru i gynorthwyo ysbytai lleol i ddarparu gwell gofal?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol fod llawer o bobl sy'n dioddef o glefydau awto-imiwn yn dioddef poen aruthrol hefyd, ac felly mae'n bwysig ein bod yn rhoi sylw i hyn. Fodd bynnag, rydym wedi ymgysylltu â'r gymuned feddygol broffesiynol ac maent wedi dweud yn gyson nad oes gofyn cael canolfannau rhagoriaeth lwpws. Ond yr hyn a wnaethom ac rydym wrthi'n ei wneud yw recriwtio rolau arweiniol clinigol cenedlaethol ar gyfer datblygu fframwaith cyhyrysgerbydol a datblygu gwasanaethau poen, ac rydym wedi penodi arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer clefyd llid y coluddyn, a byddant yn arwain y newid i wasanaethau. Felly, rwy'n gobeithio, pan fydd yr arweinwyr clinigol hynny'n cael eu penodi, y byddant yn ymgysylltu â'r trydydd sector a chydag ymgyrch Triniaeth Deg i Fenywod Cymru a lwpws.

Cyflog Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

5. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw go iawn? OQ57108

Rydym wedi gofyn i'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol am ei gyngor wrth gyflawni ein hymrwymiad i gyflwyno'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol. Cefais gyngor y fforwm yr wythnos diwethaf a byddaf yn ystyried y cyngor hwn yn ofalus cyn imi roi diweddariad pellach.

14:55

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Y mis diwethaf, cyhoeddodd cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf y byddent yn gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol annibynnol i'w helpu i gael gafael ar gyllid o dan gronfa adfer gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a hynny er mwyn iddynt allu darparu'r cyflog byw go iawn i'r staff gofal cymdeithasol y maent yn eu cyflogi. Wrth edrych ymlaen at gyhoeddiadau pellach ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl staff gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw go iawn, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda phartneriaid llywodraeth leol yn y cyfamser i'w hannog i roi camau rhagweithiol tebyg ar waith a sicrhau bod ein staff gofal cymdeithasol amhrisiadwy yn cael y cyflogau teg y maent yn eu haeddu?

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, a hoffwn longyfarch RhCT ar y camau y maent yn eu cymryd, a'r awdurdodau lleol eraill sy'n cymryd camau tebyg. Ond mae'r cynnydd ledled Cymru yn dameidiog, a dyna pam ein bod yn mabwysiadu safbwynt cenedlaethol. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol mewn perthynas â chyflawni'r cyflog byw go iawn. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau'n cyfarfod bob wythnos yn y pwyllgor gweithredu gofal gyda chynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r maes iechyd ac eraill. Mae arweinydd CLlLC, Andrew Morgan, a'r arweinydd gwasanaethau cymdeithasol, Huw David, yno, yn ogystal â swyddogion CLlLC. Hefyd, mae CLlLC a'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn aelodau o'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sydd newydd ddarparu'r cyngor hwn. Felly, gallaf eich sicrhau ein bod mewn cysylltiad agos gyda'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen yn fawr at yr adeg pan fydd gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael y cyflog byw go iawn fan lleiaf, fel y maent yn ei haeddu.

A gaf fi ddatgan buddiant fel aelod o Gyngor Sir Fynwy? Roeddwn ar fai na wneuthum hynny yn fy nghyfraniad diwethaf. A gaf fi ddiolch i Vikki Howells am gyflwyno'r cwestiwn hwn? Ddirprwy Weinidog, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i dalu'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol, sydd wedi gweithio'n ddiwyd y tu hwnt i'r disgwyl drwy gydol y pandemig. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am hyn fel isafswm absoliwt ers nifer o flynyddoedd bellach, ac rwy'n falch iawn o ddweud, o dan arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, fod Cyngor Sir Fynwy wedi dechrau talu'r cyflog byw go iawn yn 2014 ac wedi parhau i wneud hynny byth ers hynny. Yn ôl amcangyfrifon diweddar, byddai sicrhau'r cyflog byw go iawn yn costio tua £19 miliwn yn y flwyddyn gyntaf. Yn anffodus, mae hanes blaenorol Llywodraeth Cymru wedi dangos bod ymrwymiadau polisi at ei gilydd yn arwain at eu trosglwyddo i awdurdodau lleol er mwyn iddynt hwy ysgwyddo'r gost. Felly, Weinidog, a fydd Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo'r gost, neu a fydd disgwyl i awdurdodau lleol wneud hynny? Diolch.

Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Rydym wedi ymrwymo yn ein rhaglen lywodraethu i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw go iawn, a bydd hwnnw'n ymarfer drud. Os oes angen arian er mwyn iddo gael ei gyflawni, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r arian hwnnw, ond nid oes gennym amcangyfrif eto o faint fydd hynny, oherwydd rydym yn astudio'r hyn y mae'r fforwm gwaith gofal cymdeithasol yn mynd i'w ddweud. Ac mae materion cymhleth iawn i'w hystyried, megis sut y diffiniwch weithiwr gofal cymdeithasol, sut i ymdrin â gwahaniaethau. Felly, mae'n sefyllfa gymhleth, ond diolch i'r Aelod am ei gefnogaeth i'r polisi hwn.

Deintyddion y GIG

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at ddeintyddion y GIG yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ57114

Rydym yn parhau i weithredu'r broses o ailsefydlu gwasanaethau deintyddol y GIG yn ddiogel ac yn raddol yn sgil y pandemig. Mae practisau'n blaenoriaethu gofal yn ôl angen ac yn trin achosion brys a phobl sy'n cael problemau yn gyntaf. Yn ogystal, mae camau ar waith i sicrhau bod practisau deintyddol sy'n darparu gofal GIG yn gweld cleifion newydd bob wythnos.

Diolch, Weinidog. Mae mynediad at ddeintyddiaeth y GIG wedi bod yn broblem barhaus, ac mae'r 18 mis diwethaf wedi gwaethygu'r broblem oherwydd COVID. Fel llawer o gyd-Aelodau, mae'n fater y caf lawer o waith achos rheolaidd yn ei gylch, ac mae'n fater sy'n achosi llawer iawn o rwystredigaeth a phryder i lawer o fy etholwyr. Fel gyda phopeth, er mwyn deall yn well sut i fynd i'r afael â phroblem, mae angen inni gael gwell dealltwriaeth ohoni. Felly, roeddwn yn bryderus o glywed nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddull cyfredol o ganfod faint yn union o bobl sydd angen triniaeth ddeintyddol. Heb y wybodaeth fanwl hon ynghylch pa fath o apwyntiadau sydd eu hangen, mae'n anodd iawn gwneud darpariaethau digonol ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem. A wnewch chi nodi pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i olrhain anghenion cleifion deintyddol yn well ledled Cymru, a pha ddarpariaethau sydd gennych ar waith i recriwtio mwy o ddeintyddion? Diolch.

15:00

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o ddweud ein bod yn gwneud cynnydd graddol mewn perthynas ag adfer gwasanaethau deintyddol, ond mae'n anodd, gan nad ydym ond wedi cyrraedd oddeutu 40 i 50 y cant o'r lefelau cyn y pandemig o hyd, sy'n nifer isel iawn. Mae rhesymau da am hynny, mae arnaf ofn, sef fod angen inni roi mesurau rheoli heintiau ar waith, yn amlwg. Mae angen mesurau cadw pellter corfforol. Mae angen cyfarpar diogelu personol gwell. Ac yn amlwg, mae hynny'n golygu y gellir gweld llai o gleifion ym mhob sesiwn glinigol. Wedi dweud hynny, mae dros 30,000 o bobl yn cael eu gweld bob wythnos, a'r hyn rydym yn gofyn i fyrddau iechyd ei wneud yn awr yw blaenoriaethu pobl sydd angen gofal yn gynt, o bosibl. Ar fater recriwtio, rydych yn llygad eich lle fod anhawster i recriwtio deintyddion. Rydym wedi edrych ar astudiaeth Prifysgol Bangor. Un o'r pethau y maent yn eu hawgrymu yw y gall technegwyr deintyddol, er enghraifft, wneud llawer o'r gwaith y gall deintyddion ei wneud, ac rydym yn ystyried cael math newydd o gontract i edrych ar sut y byddwn yn newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau deintyddol yng Nghymru. Y broblem yw bod hon yn flwyddyn anodd i gyflwyno hynny—yr ailosod a'r adferiad yr hoffem ei weld. Ond gofal iechyd darbodus, defnyddio dull tîm cyfan, felly nid defnyddio deintyddion drwy'r amser o reidrwydd; sicrhau ein bod yn edrych ar atal—dyna'r mathau o bethau sydd gennym mewn golwg ac y mae gennym raglen yn barod i'w rhedeg. Ond mae'n anodd iawn, iawn cyflwyno'r rhaglen honno ar hyn o bryd yn ystod y pandemig.

Gofal Iechyd yn Nwyrain De Cymru

7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o argaeledd gofal iechyd yn Nwyrain De Cymru? OQ57099

Fel pob rhan o'r GIG yng Nghymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan dan bwysau eithafol ar hyn o bryd wrth iddynt ymdopi â'r nifer uchaf erioed o achosion o COVID. Er gwaethaf y cyd-destun presennol, maent hefyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol, a lle bo modd, yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad sydd wedi tyfu yn ystod y pandemig.

Diolch, Weinidog. Yn ysbyty blaenllaw Llywodraeth Cymru, ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân, cafwyd yr amseroedd aros gwaethaf mewn adran damweiniau ac achosion brys ym mis Medi, wrth i ddim ond 38 y cant o gleifion gael eu gweld o fewn pedair awr y mis diwethaf, pan oedd y targed yn 95 y cant. Yn yr un wythnos, canfu adroddiadau fod staff yn ofni mynd i'r gwaith yn ysbyty newydd sbon y Faenor. Ddoe, Weinidog iechyd, fe wnaethoch chi gyfaddef nad oedd y gwaith recriwtio y dylid bod wedi'i wneud pan agorodd eich rhagflaenydd, Vaughan Gething, yr ysbyty bedwar mis yn gynnar yn wyneb pryderon gan y clinigwyr wedi digwydd mewn pryd o bosibl, gan arwain at y prinder staff dybryd a welwn bellach. Felly, Weinidog, a wnewch chi amlinellu'r mesurau y byddwch yn eu rhoi ar waith i gynyddu cyfraddau recriwtio staff yn ysbyty'r Faenor; pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynyddu'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd cymunedol yn y gymuned leol; ac amserlen ar gyfer pryd y gallwn ddisgwyl gweld y newidiadau hyn? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Wel, cefais adroddiad cychwynnol gan Goleg Brenhinol y Meddygon yn gynharach o lawer yn yr haf. Roeddwn yn bryderus iawn am y sefyllfa. Er tegwch i fwrdd Aneurin Bevan, credaf i'r ymweliadau gael eu cynnal yn fuan ar ôl agor ysbyty'r Faenor, pan oedd y sefydliad yn dal i ddod i arfer â'r amgylcheddau newydd hynny. Rwy'n falch o ddweud bod y bwrdd iechyd wedi rhoi cynllun ar waith ar unwaith, felly mae'r broses recriwtio roeddem yn awyddus iawn i'w gweld eisoes wedi dechrau. Cynhelir adolygiad o staff meddygol. Bydd eu bwrdd yn canolbwyntio ar les staff ac ymgysylltiad â staff, ac yn amlwg, mae angen gwella llif cleifion yn ysbyty'r Faenor er mwyn mynd i'r afael â'r problemau yn yr adran damweiniau ac achosion brys a welwch wrth y drws blaen. Felly, rwy'n hyderus fod mesurau'n cael eu rhoi ar waith. Gellir gwneud peth ohono'n gynt na phethau eraill, ond rwy'n falch o weld bod y bwrdd iechyd o ddifrif ynglŷn â hyn.

Sgrinio am Ganser y Coluddyn

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru? OQ57097

Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn cynnig gwasanaethau sgrinio bob dwy flynedd i ddynion a menywod rhwng 60 a 74 oed. O fis Hydref ymlaen, ymestynnwyd yr ystod oedran i gynnwys pobl 58 a 59 oed. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd yr ystod oedran yn ymestyn i lawr i gynnwys pobl 50 oed, a bydd sensitifrwydd y prawf yn cynyddu.

Diolch, Weinidog. Yn gyntaf, cyn sôn am ganser y coluddyn, hoffwn achub ar y cyfle i gofio ein cydweithwyr sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau oherwydd yr afiechyd erchyll hwn dros y blynyddoedd diwethaf. Canser y coluddyn yw'r canser sy'n lladd y nifer fwyaf o bobl ond un yng Nghymru, ac mae hynny er gwaethaf y ffaith bod modd ei drin yn dda os caiff ei ganfod a'i drin yn gynnar. Mae naw o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod a'i drin yn gynnar. A chan eich bod eisoes wedi achub y blaen ar yr hyn roeddwn ar fin ei ddweud nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi symud i gyfnod newydd o optimeiddio rhaglen sgrinio'r coluddyn gan nodi'r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol, a gwahodd dynion a menywod rhwng 58 a 59 oed i ymgymryd â'r gwasanaethau sgrinio hynny, a symud ymhellach i'r cam nesaf o gynnig y gwasanaeth i bobl 50 oed.

Mae sgrinio am ganser y coluddyn yn rhan hanfodol o'r dull ataliol hwnnw a dod o hyd i'r rheini a allai fod mewn perygl o ddatblygu canser y coluddyn. Weinidog, a ydych yn cytuno ei bod yn hynod bwysig fod pobl yn mynd i gael eu sgrinio os a phan gânt eu gwahodd i wneud hynny?

15:05

Cytunaf yn llwyr â chi a chredaf fod hwn yn fath creulon iawn o ganser, wrth gwrs, a chredaf y dylem gofio’r bobl a gollodd eu bywydau oherwydd y canser creulon iawn hwn.

Rwy’n falch o ddweud ein bod yn rhagori'n gyson ar y targedau roeddem wedi’u gosod o ran nifer y bobl sy'n derbyn y gwahoddiad i gael eu sgrinio ar gyfer y canser hwnnw. Felly, mae oddeutu 65 y cant, er mai oddeutu 60 y cant oedd ein targed, felly rwy'n falch o weld hynny'n digwydd; mae bob amser yn dda gweld cynnydd y tu hwnt i hynny, ond credaf fod angen inni bwysleisio bod sgrinio'n rhan hanfodol o'r diagnosis cynnar hwnnw, a gorau po gyntaf y byddwch yn canfod canser, gan y gallwn ei drin yn gyflymach.

3. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyflwyno'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) i'r Senedd ei ystyried. Rwy’n gwneud hynny ar ran y Llywodraeth hon ac ar ran y cyfranwyr niferus sydd wedi helpu i’w ddatblygu drwy ymgynghoriad a thrafodaethau helaeth.

Mae'r Bil yn sefydlu comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil newydd ac yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Fel y stiward cenedlaethol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil, bydd y comisiwn yn gyfrifol am ei gyllid, ei oruchwyliaeth a'i ansawdd. Bydd y comisiwn yn edrych ar y system gyfan, gan gefnogi dysgwyr drwy gydol eu bywydau i gael y wybodaeth a'r sgiliau i lwyddo, a sicrhau darparwyr cadarn, annibynnol ac amrywiol sy'n cyfrannu’n sylweddol at les a ffyniant cenedlaethol.

Am y tro cyntaf yn neddfwriaeth Cymru, byddwn yn dwyn y sectorau canlynol ynghyd mewn un man: addysg uwch ac addysg bellach Cymru, chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, prentisiaethau, dysgu oedolion yn y gymuned, yn ogystal â chyfrifoldeb am ymchwil ac arloesi. Yn y Bil, rydyn ni'n nodi naw dyletswydd strategol ar gyfer y comisiwn. Gyda'i gilydd, maen nhw’n darparu fframwaith cynllunio strategol, hirdymor ar gyfer yr hyn y mae angen i'r sector gwerthfawr ac amrywiol hwn ei gyflawni, wrth i ni adfer, adnewyddu a diwygio.

Mae'r Bil yn gosod dyletswyddau ar y comisiwn i: hyrwyddo dysgu gydol oes; hyrwyddo cyfle cyfartal; sicrhau gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol ac ymchwil; annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol; cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol; hyrwyddo cydweithredu a chydlyniant mewn addysg drydyddol ac ymchwil; hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg; hyrwyddo cenhadaeth ddinesig a meddylfryd byd-eang.

Nawr, nid wyf yn honni bod radicaliaeth newydd yn perthyn i ddiben y naw dyletswydd; i'r gwrthwyneb, maent wedi'u dylanwadu gan ein hanes cyfoethog o ehangu mynediad at addysg o safon, rhyngwladoliaeth a chenhadaeth ddinesig Gymreig. Fodd bynnag, mae rhoi diben iddynt yn y gyfraith yn radical, fel nod i'r comisiwn newydd ac i'n sector addysg drydyddol yn gyffredinol. Maent yn darparu eglurder o ran pwrpas, gan sicrhau ffocws di-baid ar lwyddiant a llesiant dysgwyr o bob oed, ar draws pob lleoliad ac ym mhob cymuned.

Bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi datganiad i nodi'r blaenoriaethau strategol cenedlaethol ar gyfer addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi a fydd, ynghyd â'r dyletswyddau strategol, yn llywio cynllun strategol y comisiwn ei hun a sut y mae'n gweithredu ac yn dyrannu cyllid. Yna, bydd y comisiwn, gan weithio gyda'r sector, yn llunio'r system drwy fuddsoddiad, drwy gysylltu darparwyr a rhannu gwybodaeth, gan ei alluogi i fabwysiadu safbwynt strategol a sicrhau bod dysgwyr yn tyfu fel dinasyddion Cymreig brwd, mentrus a dysgedig.

Mae'r Bil yn gosod trefniadau llywodraethu'r comisiwn. Yn allweddol, bydd y bwrdd yn cynnwys cynrychiolaeth o ddysgwyr, ond hefyd y gweithlu addysg drydyddol a staff y comisiwn ei hun fel aelodau cyswllt, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol.

Mae llawer o'r ddeddfwriaeth sylfaenol mewn perthynas ag addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru mewn grym ers degawdau; mae'n rhagflaenu datganoli democrataidd, ehangu addysg uwch, newidiadau diweddar sylweddol mewn patrymau economaidd a gyrfaol a'r chwyldro technolegol sy'n parhau i ddylanwadu ar y ffordd rydym yn dysgu, byw a gweithio, ac wrth gwrs, cyn inni allu dychmygu'r math o heriau sydd wedi deillio o COVID-19.

Lywydd, mae'n bryd achub ar y cyfle i newid. Os ydym o ddifrif, fel y mae'r Llywodraeth hon, ynghylch lleihau anghydraddoldebau addysgol, ehangu cyfleoedd a chodi safonau, mae'n rhaid inni chwalu rhwystrau, sicrhau llwybrau haws i ddysgwyr a pharhau i fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesi.

Os ydym yn ystyried prentisiaethau fel enghraifft, caiff ein huchelgais ar gyfer system sy'n ymateb i anghenion dysgwyr, yr economi a chyflogwyr ei llesteirio gan y ddeddfwriaeth gyfredol. A dweud y gwir, rydym yn rhy ddibynnol ar ddeddfwriaeth San Steffan ers dros ddegawd yn ôl, nad yw'n darparu ar gyfer anghenion penodol ein heconomi neu ein cymdeithas. Felly, am y tro cyntaf yng Nghymru, mae'r Bil hwn yn darparu pŵer annibynnol i'r comisiwn ariannu prentisiaethau yn yr un modd ag addysg drydyddol arall. Mae'r Bil yn diwygio'r broses ar gyfer cynllunio a goruchwylio ein fframweithiau prentisiaethau, gan greu cyfle i gael system fwy ymatebol a chydweithredol.

Gan droi at lywodraethu, mae ein sefydliadau wedi dadlau dros fwy o hyblygrwydd a llai o fiwrocratiaeth; mae'n gais rhesymol. Yn ei dro, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn greu model cofrestru newydd ar gyfer addysg drydyddol. Bydd y model newydd yn fecanwaith hyblyg ar gyfer goruchwylio'r sector yn atebol ond yn gymesur. Ni fydd dim o'r hyn rydym yn ei werthfawrogi fwyaf yn ein sefydliadau uchel eu parch yn cael ei golli, ond bydd llawer o'r fiwrocratiaeth yn diflannu.

Mae'r Bil yn galluogi'r comisiwn i ariannu darparwyr cofrestredig i ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ac arloesi, yn ogystal â sefydliadau eraill sy'n cydweithredu â hwy. Byddwn yn symud i system gynllunio ac ariannu cwbl integredig ar gyfer y sector cyfan, gan dargedu adnoddau'n fwy effeithiol. Caiff hyn ei alluogi gan system glir, gydgysylltiedig a chydlynol.

Mae'r Bil yn galluogi'r comisiwn i sicrhau bod addysg drydyddol yng Nghymru yn parhau i fod o'r safon uchaf, ac i greu dull cyson o weithredu sy'n seiliedig ar ansawdd drwy rannu egwyddorion a chydweithredu.

Mae angen inni sicrhau buddsoddiad parhaus hefyd yn natblygiad proffesiynol y gweithlu. Am y rheswm hwn, rydym yn rhoi pŵer i'r comisiwn roi cyngor a chymorth i ddarparwyr ynghylch gwella ansawdd, gan gynnwys dysgu a datblygu'r gweithlu.

Mae'r cod ymgysylltu â dysgwyr yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr nodi sut y byddant yn cynnwys dysgwyr mewn penderfyniadau ynglŷn â phob agwedd sy'n gysylltiedig â'u dysgu, eu buddiannau a'u pryderon. Yn ychwanegol at hynny, drwy gynnwys cynrychiolwyr ar ran y dysgwyr ar ei fwrdd, bydd y comisiwn yn gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud.

Am y tro cyntaf, bydd sefydlu'r comisiwn yn rhoi stiward cenedlaethol i Gymru i oruchwylio'r sector addysg drydyddol cyfan. Bydd y trefniadau rydym yn eu rhoi ar waith drwy'r Bil hwn yn helpu i lunio sector amrywiol a deinamig sy'n cefnogi dysgwyr drwy gydol eu hoes, gan gyflawni ar gyfer cymunedau, cyflogwyr a'r genedl gyfan. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau Aelodau o'r Senedd a'u hymdrechion cyfunol wrth fynd â'r Bil arwyddocaol hwn ar ei daith seneddol.

15:10

Weinidog, diolch am eich datganiad ac am gyflwyno'r Bil hwn yn ffurfiol. Mae'r Bil yn rhoi cyfle i ni yng Nghymru lunio addysg drydyddol fel ei bod yn cyd-fynd â'r anghenion penodol yma yng Nghymru, ac i sicrhau bod ein dysgwyr yng Nghymru yn derbyn addysg drydyddol o'r ansawdd y maent yn ei haeddu a'r cymorth sydd ei angen arnynt ar eu teithiau addysgol.

Mae'n wych gweld y byddwn, am y tro cyntaf yn neddfwriaeth Cymru, yn dod ag addysg uwch, addysg bellach, dosbarth chwech ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned at ei gilydd mewn un man yng Nghymru, yn ogystal â chyfrifoldeb am ymchwil ac arloesi, ac rydym yn croesawu hynny ar y meinciau hyn.

Ond mae'r sector addysg drydyddol yn dal i ymadfer—mae'n ddrwg gennyf, mae fy llwnc yn mynd—ar ôl 18 mis o darfu difrifol. Mae darparwyr addysg wedi blino'n lân wrth iddynt geisio cadw ysgolion a cholegau ar agor oherwydd lefelau uchel o absenoldeb staff. Felly, mae'n rhaid imi gwestiynu'r amseru ar gyfer hyn, a gofyn efallai, 'Pam nawr?'—pam, a ninnau ar bwynt tyngedfennol yn y pandemig hwn ac ar gychwyn cwricwlwm newydd? A byddwn yn gwerthfawrogi sicrwydd y Gweinidog ar hynny.

Yn y gorffennol, mae ColegauCymru wedi codi sawl pryder ynghylch cyflwyno'r Bil addysg drydyddol ac ymchwil, gyda phwyslais ar ddiffyg cynlluniau diogelu dysgwyr a chod ymgysylltu â dysgwyr. Felly, rwy'n falch o weld bod y rhain bellach wedi'u cynnwys yn y Bil.

Byddai hefyd yn wych clywed mwy am y penodiadau i'r bwrdd—y profiad a'r niwtraliaeth a phethau felly—y gofynion er mwyn bod yn aelod ohono. Rydym yn croesawu cyflwyno cynrychiolwyr dysgwyr ar y bwrdd wrth gwrs, a chredaf fod hwnnw'n syniad gwych. Tybed sut olwg fydd ar hyn yn ymarferol? A fydd yr aelodau hyn yn cael eu penodi, eu hethol, eu cyflogi? A fydd y rhain yn swyddi am dâl, lle bydd disgwyl iddynt fynychu pob cyfarfod? Bydd lefelau atebolrwydd yr unigolion hyn yn sylweddol wrth gwrs, o ystyried eu swydd a chyfrifoldeb ariannol y bwrdd hwn. Felly, byddai mwy o wybodaeth am hynny'n wych.

Nid yw meddu ar sgil allweddol neu gymwysterau penodol yn sicr o arwain at swydd bellach, ond mewn perthynas â darpariaethau addysg bellach 16-19 oed, mae cyllid a sicrhau ansawdd yn dibynnu ar un dull gweithredu, sy'n seiliedig ar gynnydd y dysgwr a'u canlyniadau, wrth wraidd y Bil hwn. Nid diogelu'r ddarpariaeth bresennol yw'r her, ond yn hytrach, creu llwybrau effeithiol ar gyfer gwneud cynnydd. Un ffordd y credwn y gallwn fynd i'r afael â'r broblem hon fyddai cynllunio'r cwricwlwm yn well ar gyfer y grŵp oedran 14-19 a datblygu llwybrau cyfannol ar gyfer cynnydd dysgwyr. Weinidog, os gwelwch yn dda, a wnewch chi nodi a ydych wedi archwilio'r pryderon hyn a sut y bwriadwch weithio i greu dull mwy cydgysylltiedig ar gyfer pontio rhwng yr ysgol ac addysg bellach? Diolch.

Yn ogystal, er ein bod yn croesawu cynnwys colegau chweched dosbarth yn y Bil, mae'n dal i fod yn aneglur yn y Bil sut y bydd y diwygiadau arfaethedig i addysg ôl-16 yn ategu ac yn gwella'r cwricwlwm newydd ac yn sicrhau parhad ac ymgysylltiad rhwng darparwyr addysg cyn-16 ac ôl-16, yn enwedig o gofio'r rhwystrau y mae darparwyr addysg wedi'u hwynebu yn ystod y pandemig hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Weinidog, pe gallech amlinellu pa fesurau y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau'r cysylltiad di-dor hwnnw rhwng y ddau.

Bydd COVID hefyd yn cael effaith barhaol ar fywydau dysgwyr ledled Cymru am flynyddoedd lawer. Tri ffactor y teimlaf fod angen mynd i'r afael â hwy yw'r effaith ar bobl ifanc sydd heb allu cael cyflogaeth uniongyrchol a phrofiad gwaith; gwell dealltwriaeth o sut y mae pobl yng ngharfan 2020-21 wedi pontio o'r ysgol i bob math o addysg ôl-16; a sut y darperir cymorth i bobl â chyrhaeddiad addysgol canolig ac is sydd wedi wynebu mwy o anawsterau wrth gamu ymlaen i addysg bellach. Felly, Weinidog, a allech amlinellu pa gynlluniau y bwriadwch eu rhoi ar waith i gefnogi'r bobl yn y grwpiau hyn?

Amlygodd adroddiad diweddar gan y Ganolfan Gwybodaeth a Chydlynu Tystiolaeth ar gyfer Polisi ac Ymarfer, yr EPPI, bryderon ynghylch chwyddo graddau yn 2020 a 2021, sydd wedi arwain at fwy o gystadleuaeth am leoedd mewn prifysgolion, tra bo lefelau cyfranogiad mewn dysgu galwedigaethol wedi gostwng.

Ac yn olaf, rydym yn croesawu'r newidiadau i brentisiaethau wrth gwrs, a chredaf fod angen mwy o reolaeth yma. Mae angen inni ganolbwyntio mwy o lawer ar brentisiaethau mewn gwirionedd, a'r potensial sydd ganddynt i ddarparu swyddi'r dyfodol, gan gynnwys swyddi gwyrdd a swyddi medrus iawn. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y sector yn amrywiol er mwyn gwella cyfleoedd a chyflwyno targedau mwy trylwyr i ehangu'r rhaglen brentisiaeth i fwy o bobl, gan ei gwneud yn fwy ymatebol i anghenion ein cymunedau lleol, ein busnesau a'n heconomi. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu pa ddarpariaethau a ystyriwyd ar gyfer y grŵp oedran 14-16, gan fod rhai colegau'n gweithio gyda hwy ar fentrau fel y prentisiaethau iau.

Weinidog, ni allwn orbwysleisio pwysigrwydd dysgu gydol oes yn yr oes sydd ohoni. Mae dysgu gydol oes yn rhan bwysig o addysg ôl-16 ac addysg i oedolion, ac mae angen pwysleisio hyn er mwyn tynnu sylw at ei bwysigrwydd yn y dyfodol.

Yn olaf, mae'r heriau y mae pobl wedi'u hwynebu drwy gydol y pandemig wedi ysgogi llawer o bobl i ddysgu sgiliau newydd a chael cymwysterau newydd, sydd wedi arwain at ragolygon cyflogaeth gwell. Felly, mae'n amlwg fod yr awydd yno. Mae hefyd yn ymwneud â chyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol wrth i'r farchnad gyflogaeth addasu a newid o'n cwmpas. Ond mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud cyfleoedd dysgu gydol oes ac ailhyfforddi yn hygyrch, yn ymarferol ac yn gosteffeithiol i bobl allu manteisio arnynt, a'u bod yn darparu cyfle cyfartal. Mae angen iddynt gydweddu â bywydau bob dydd pobl. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r sector addysg bellach a'r sector addysg uwch i ganfod sut y gellid cyflawni hyn ac mewn ffordd hygyrch? Diolch.

15:15

Wel, diolch i'r Aelod am ei chwestiynau a'r ffordd adeiladol y mae'n ymgysylltu â'r ystod o faterion, a chredaf fod yr ystod o gwestiynau y mae'n eu gofyn yn dangos ehangder y Bil a maint yr her a'r cyfle rydym yn ceisio sicrhau bod ein sectorau yn y sefyllfa orau i ymgysylltu â hwy.

Ar y cwestiwn pwysig ynghylch amseru, rwy'n deall yn iawn y cyd-destun ar gyfer y cwestiwn y mae'r Aelod yn ei ofyn, ond credaf fod y cydlifiad a'r cyd-destun rydym ynddo'n gwneud yr angen am y Bil yn fwy dybryd, mewn gwirionedd—felly, yn amlwg, soniodd am COVID, sy'n bwysig, ond dyma wythnos y COP, ac rydym yn deall yr effaith drawsnewidiol y mae newid hinsawdd yn ei chael ar ein cymdeithas, ar ein heconomi; ein perthynas newydd â'r Undeb Ewropeaidd; yr angen y cyfeiriodd ato yn ei chwestiwn i wella darpariaeth dysgu gydol oes wrth i bobl aros mewn gwaith am gyfnod hirach, ond efallai y bydd angen iddynt addasu eu sgiliau yn amlach yn ystod eu bywyd gwaith ac ymdopi â chyfnodau pan fyddant allan o waith; a'r her ddigidol hefyd. Mae pob un o'r rheini'n dod ynghyd ar yr un pryd. Mae unrhyw un ohonynt yn her sylweddol. Felly, credaf fod cydlifiad y pethau hynny'n cynnig cyfleoedd yn ogystal â heriau, sydd, yn fy marn i, yn gwneud yr amseru'n gwbl briodol ar gyfer y Bil hwn.

Mae'n codi pwynt pwysig am gyfansoddiad y bwrdd. Bydd y broses o benodi pobl yn aelodau o'r bwrdd yn dilyn y llwybr penodiadau cyhoeddus yn y ffordd arferol, a bydd angen ystod o sgiliau ar y bwrdd o ystod o gefndiroedd, o addysg ond hefyd o ddiwydiant a thu hwnt. Felly, bydd y penodiadau cychwynnol yn cynnwys y cadeirydd, y dirprwy gadeirydd, y prif weithredwr ar gyfer y penodiad cyntaf, a'r bwrdd, gan Lywodraeth Cymru drwy'r broses benodiadau cyhoeddus, a gobeithiaf y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd iddi. O ran yr aelodau cyswllt, sef y rhai y cyfeiriais atynt yn fy araith, mater i'r comisiwn ei hun fydd hynny.

Credaf iddi godi set bwysig o bwyntiau ynglŷn â'r berthynas rhwng ysgolion a'r sector ôl-16, ac wrth gwrs, mae'r chweched dosbarth yng nghanol y diagram Venn hwnnw mewn sawl ffordd. A chredaf mai dyna pam ei bod yn bwysig fod y Bil yn dod â'r chweched dosbarth o fewn cwmpas y comisiwn, er yn anuniongyrchol ar ryw ystyr, gan y credaf y bydd hynny'n arwain at set fwy cydlynol o drefniadau. A chredaf ei bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â sicrhau bod addysg cyn-16 ac ôl-16 yn fath o daith ddi-dor yn yr ystyr hwnnw, a chredaf mai nod y Bil hwn yw darparu rhywfaint o gydlyniant. Credaf fod y berthynas â'r chweched dosbarth yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau'r parhad a'r continwwm dysgu yn y ffordd y mae'n disgrifio.

Gwnaeth nifer o bwyntiau mewn perthynas ag effaith COVID, fel y credaf—. Rydym yn monitro cynnydd y carfannau yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf uniongyrchol mewn ffordd gyfnodol iawn, ac rydym wedi cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth eisoes am gyrhaeddiad, am gyrsiau y mae pobl yn mynd i'w dilyn, y perfformiad ac ati, gan ein bod yn cydnabod, fel hithau, rwy'n gwybod, yr effaith benodol ar y garfan honno. A chredaf y bydd y wybodaeth honno'n ased yn y gwaith y gall y comisiwn ei wneud.

Soniodd am bwysigrwydd sicrhau bod gan bawb fynediad at y cyfleoedd y bydd y Bil yn eu gwella, a chan gynnwys y rheini yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf uniongyrchol gan COVID, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Un o ddyletswyddau allweddol y comisiwn yw'r ddyletswydd cyfle cyfartal, gyda'r nod o sicrhau bod pob dysgwr, ni waeth beth fo'u cefndir, yn gallu ffynnu hyd eithaf eu gallu ym mhob rhan o'r sector trydyddol, a gwn y bydd yn rhannu'r uchelgais honno.

Mewn perthynas â phrentisiaethau, credaf y bydd y Bil hwn yn trawsnewid gallu ein system brentisiaethau i fod yn ymatebol yn y ffordd y mae ei chwestiwn yn ei hannog i fod. Mae rhaglen fuddsoddi sylweddol iawn gennym fel Llywodraeth mewn perthynas â phrentisiaethau, a chredaf fod bod yn hyblyg, a gallu ymateb i anghenion yr economi mewn ffordd uniongyrchol yn ganolog i hynny, a bydd y Bil yn cefnogi hynny.

Yn olaf, mae'n nodi set o bwyntiau pwysig mewn perthynas â dysgu gydol oes. Unwaith eto, un o ddyletswyddau allweddol y comisiwn yw hyrwyddo hynny. Rydym yn disgwyl derbyn gwaith cyn bo hir gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a fydd yn ein cynorthwyo i ddeall yn well beth yw'r cyfleoedd mewn perthynas â dysgu gydol oes, a bydd wedi gweld yn y Bil fod y mecanwaith cyllido ar gyfer addysg bellach yn cynnwys mecanwaith sy'n galluogi i hynny gael ei ehangu'n gynyddol i wireddu'r ddarpariaeth gydol oes honno.

15:20

Diolch, Weinidog, am y datganiad.

Mae llawer am y Bil yma rŷn ni'n ei groesawu, ond fe godwyd nifer o bryderon gan randdeiliaid ynghylch y Bil, sy'n amrywio o ansicrwydd ynghylch y comisiwn newydd a'i berthynas â'r Llywodraeth a darparwyr dysgu, cynllunio a chyllido, lles a llais dysgwyr, sicrhau ansawdd a rhyddid academaidd. O ystyried nifer ac amrywiaeth y pryderon yma a drosglwyddwyd gan randdeiliaid, byddai'n berthnasol efallai gofyn rhai cwestiynau ynghylch y broses ymgynghori. Mae NUS Cymru, er enghraifft, o'r farn bod cyfle gwirioneddol wedi'i golli fan hyn i ymgorffori partneriaeth wirioneddol â dysgwyr ar draws y sector ôl-16, a bod hyn wedi'i adlewyrchu yng ngeiriad fframwaith strategol y Bil, lle mae yna absenoldeb—does yna ddim lot o gyfeirio at lais y dysgwyr—ac, er enghraifft, mae diffyg cydnabyddiaeth o'r ffordd mae yna amrywiaeth o ran mynediad at gynrychiolaeth ac eiriolaeth rhwng y sector addysg uwch a'r sector addysg bellach. Byddai cyfle wedi bod fan hyn, er enghraifft, i roi sail gyfreithiol i hynny, a bod cydnabyddiaeth a chefnogaeth i hynny yn amod o fod yn gorff cofrestredig. Felly, ydy'r Gweinidog yn credu bod y Bil, fel y mae, yn rhoi ystyriaeth ddigonol i lais dysgwyr?

Rwy'n siŵr y gallwn ni gyd gytuno bod rhyddid academaidd yn hollol hanfodol i addysg uwch yn y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol. Mae rhyddid academaidd yn egwyddor bwysig y dylen ni ei groesawu, ei gefnogi, ei ariannu a'i hyrwyddo yma yng Nghymru. Mae canlyniadau peidio â diogelu rhyddid o'r fath yn eang eu cwmpas. Mae rhyddid academaidd yn effeithio ar y buddsoddiad y gall prifysgolion ei sicrhau i Gymru drwy eu gweithgareddau. Gallai gyfyngu ar eu gallu i ffurfio partneriaethau, yn ddomestig ac yn rhyngwladol, a gall rhoi Cymru, felly, dan anfantais. Mae angen gwell gydnabyddiaeth a diogelwch i ymreolaeth sefydliadol a rhyddid academaidd yn y Bil, ond mae rhanddeiliaid wedi cyfeirio at feysydd lle mae diffyg amddiffyniadau angenrheidiol. Mae'r rhain yn cynnwys bylchau anfwriadol wrth drosglwyddo amddiffyniadau presennol yn y ddeddfwriaeth ariannu, y pwerau sydd gan Weinidogion Cymru, yn hytrach na chomisiwn, a'r nifer o bwerau rheoleiddio a phwerau eraill newydd sydd yn y Bil. Yn hyn o beth, hoffwn i i'r Gweinidog amlinellu sut mae'r Bil sydd ger ein bron ni heddiw, mewn gwirionedd, yn diogelu rhyddid academaidd, gallu sefydliadau academaidd i ffurfio'r partneriaethau allweddol yma, a beth mae hyn yn ei olygu i fyfyrwyr Cymru ar lefel domestig ac yn fyd-eang.

Mae nodau datganedig y ddeddfwriaeth hon yn cynnwys parchu rhyddid i sefydliadau addysgol, tra'n dod â rheoleiddio a chyllid o dan y comisiwn newydd ar addysg drydyddol ac ymchwil. Fodd bynnag, nid yw'r Bil yn dileu pwerau Llywodraeth Cymru i ddiddymu corfforaethau addysg uwch yn erbyn eu hewyllys, ac mae'n ymestyn pwerau i newid eu gofynion statudol. Nid ydym ni o reidrwydd yn erbyn yr agweddau hyn o'r Bil, oherwydd mae'n rhaid i brifysgolion ymddwyn mewn modd sy'n ymateb i anghenion ein heconomi, nid fel busnesau. Ond, gan gofio bod y sefydliadau sy'n cael eu heffeithio gan y Bil yn derbyn arian cyhoeddus, a allaf i ofyn i'r Gweinidog sut mae'r Bil yn mynd ati i sicrhau bod ein prifysgolion yn ymateb yn strategol i anghenion sgiliau, economi ac ymchwil Cymru, yn hytrach nag ymddwyn fel endidau masnachol sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd?

O ran y Gymraeg, eglurwyd yn ystod y broses ymgynghori bod rhanddeiliaid yn cytuno y dylai'r comisiwn newydd gael ei roi o dan ddyletswydd benodol i roi sylw i'r Gymraeg wrth arfer ei swyddogaethau, a dylai fod yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg. Yn hyn o beth, nodwyd y byddai'r comisiwn yn delio â nifer o feysydd a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar allu'r sector PCET i ddatblygu a gwella gallu'r dysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog, a fydd yn mynd gryn ffordd tuag at gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn hanesyddol, mae'r cynnig o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog o fewn PCET wedi bod yn gyfyngedig ac yn dameidiog oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys argaeledd cyfyngedig cymwysterau, argaeledd cyfyngedig yr adnoddau o ran adnoddau ffisegol a staff sy'n gallu addysgu ac asesu yn Gymraeg, a diffyg galw canfyddedig gan gyflogwyr a dysgwyr. A allai'r Gweinidog, felly, amlinellu sut mae'n credu bod y Bil yn ymateb i'r materion hyn, ac, yn benodol, sut y bydd y Bil yn ymateb i'r prinder cymwysterau ac adnoddau cyfyngedig sydd ar gael, o ran yr adnoddau ffisegol a staff sy'n gallu addysgu ac asesu yn Gymraeg? Felly, hoffwn glywed mwy am y manylion ar sut y bydd y Bil yn ein helpu ni ar y ffordd i'r targed yna o filiwn o siaradwyr. Diolch yn fawr.

15:30

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau ac am y croeso y mae hi wedi ei roi i'r Bil, a'r cwestiynau sydd yn delio â meysydd tra phwysig, a llawer ohonyn nhw wedi eu codi, fel y gwnaeth hi sôn, gan randdeiliaid yn y broses—proses estynedig, efallai, o ymgynghori ers cyflwyno'r Bil drafft.

O ran llais y dysgwr, rwy'n credu bod pwyslais newydd yn y Bil ar hynny yn sgil beth ŷn ni wedi'i glywed gan randdeiliaid. Felly, o'm safbwynt i, mae siwrnai'r dysgwr, a sicrhau bod hynny'n un esmwyth drwy’r system, yn gwbl greiddiol i hyn, ac mae'r ffocws ar y dysgwr—dyna brif ffocws y comisiwn yn y ffordd y mae'r Bil wedi ei strwythuro. Mae hynny wir yn bwysig, rwy'n credu. Mae'r engagement code, mae'r learner protection code, mae'r ddwy elfen honno'n bwysig iawn o ran rhoi llais ar un llaw, ond hefyd rhoi diogelwch i'r dysgwr mewn amgylchiadau lle efallai bod cwrs yn dod i ben, neu bod y dysgwr eisiau symud rhwng cyrsiau, ac mae'r manylder sydd yn gallu dod yn y codau hynny yn mynd i roi lot o gefnogaeth a lot o ddiogelwch i ddysgwyr yn y cyd-destun hwnnw. Rŷn ni wedi edrych ar beth sy'n digwydd dros y ffin, ac mae'r cod sydd gyda ni mewn golwg fan hyn yn llawer amgen yn y cyd-destun hwnnw. Ac rwyf hefyd yn credu bod y gynrychiolaeth ar fwrdd y comisiwn yn bwysig o ran llais y dysgwr, wrth galon y system newydd. Ond mae'r Bil wedi cael ei gyflwyno, bydd cyfnod estynedig nawr o graffu a siarad ymhellach â rhanddeiliaid, ac rwy'n hapus iawn i glywed ymhellach os oes gan ddysgwyr a'u cynrychiolwyr syniadau am sut y gallwn ni gryfhau yn y ffordd y mae'r Aelod yn ei godi heddiw.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r cwestiwn o ryddid academaidd. Mae hynny'n awr ar wyneb y Bil, fel bod hynny'n ofyniad. Mae hefyd gyfyngiadau ar beth y gall y Llywodraeth ei wneud o ran gofynion wrth y comisiwn; wrth eu gwraidd nhw mae'r syniad o ryddid academaidd hefyd. Felly, mae mwy nag un enghraifft yn y Bil lle mae hynny ar wyneb y Bil.

Roedd yr Aelod yn gofyn am sut y gwnaiff y Bil ehangu rhyddid sefydliadau i allu gweithio gyda'i gilydd, sydd efallai yn fersiwn gwahanol o ryddid academaidd, hynny yw. Rwy'n credu bod y Bil yn caniatáu hynny wrth ei wraidd. Hynny yw, ar hyn o bryd, mae gennym ni system o ariannu sy'n dibynnu ar ffiniau. Hynny yw, mae addysg uwch yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth—addysg bellach gan y Llywodraeth, addysg uwch gan HEFCW, ac wedyn mae hynny'n creu anghysondebau yn y system, sydd, a dweud y gwir, ddim yn strategol a ddim yn caniatáu’r cysylltiadau a'r cydweithredu rwy'n gwybod bod yr Aelod eisiau eu gweld. Felly, wrth symud oddi wrth hynny, i gael system dryloyw o ariannu, sy'n seiliedig ar strategaeth, rwy'n credu bod hynny'n mynd i ganiatáu i'n sefydliadau ni i gydweithio mewn amryw ffyrdd creadigol iawn.

Fe wnaeth yr Aelod godi pwynt pwysig ynglŷn â chorfforaethau addysg uwch. Fe wnaethom ni feddwl, wrth ein bod ni'n dylunio'r rhan yma yn y Bil, pa ffordd i fynd â'r cwestiwn hwn—a dweud y gwir, roedd trafodaeth ynglŷn â beth oedd y ffordd iawn i fynd. Yn y pen draw, fe wnaethom ni gadw at yr hyn sydd yn y gyfraith eisoes. Mae newidiadau technegol mân ar yr ymylon, sydd yn deillio o'r ffaith bod comisiwn, bod corff newydd, ond dyw sylwedd y peth ddim wedi newid. Y rheswm am hynny yw bod angen rhyw fath o backstop mewn rhai amgylchiadau—mewn rhyw fath o senario argyfyngus y byddai e'n codi, wrth gwrs. Ond mae risg, os nad yw'r pwerau'n bodoli, efallai'r na fyddai'r sefydliad mewn sefyllfa i ofyn i'r Llywodraeth ymyrryd, ond hefyd bod angen Deddf seneddol er mwyn newid y sefyllfa. Felly, jest cwestiwn ymarferol yw e. Ond eto, rwy'n hapus i glywed os ydy pobl yn credu bod angen cryfhau hynny, cryfhau'r ffyrdd o sicrhau hynny. Mae cyfraith gyhoeddus, wrth gwrs, yn berthnasol fan hyn, felly byddai cyfyngiadau sylweddol iawn yn codi yn y cyd-destun hwnnw beth bynnag. Ond fel rwy'n ei ddweud, rwy'n hapus i glywed am awgrymiadau pellach.

O ran y Gymraeg, mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn hollbwysig. Mae'n drafodaeth rwyf wedi ei chael gyda ColegauCymru, colegau addysg uwch a'n prifysgolion ni, ac mae cyfle pwysig gyda ni, rwy'n credu, er mwyn sicrhau cyfraniad y sector tuag at y nod rŷn ni i gyd yn ei rannu. Mae perthynas wahanol gan bobl gyda'r Gymraeg ar ôl gadael ysgol, rwy'n credu. Mae'r dynamics efallai ychydig yn wahanol, felly mae cyfle gyda ni, ac mewn amryw o ffyrdd rwy'n credu bod y Bil yn cyfrannu tuag at hwnnw. Ar wyneb y Bil, mae'n ddyletswydd gan y comisiwn i yrru'r galw am addysg ôl-16 yn Gymraeg, ond hefyd mae amryw o ffyrdd mae hynny'n gallu digwydd. Y memorandwm esboniadol, mae eithaf rhan o hwnna yn esbonio pa fathau o bethau byddai'r comisiwn yn gallu eu gwneud, ond byddwn yn hapus i drafod hwnna mewn manylder gyda'r pwyllgor, er enghraifft, os ydy hynny o ddiddordeb, achos rwy'n credu bod lot gallwn ni ei wneud yn y rhan hon.

O ran cymwysterau, mae Cymwysterau Cymru, wrth gwrs, wrthi yn edrych ar beth gallwn ni ei wneud yn amgen o ran cymwysterau galwedigaethol, er enghraifft, yn y Gymraeg. Mae diffyg mawr yn hynny o beth. Mae rhai eisoes wedi eu creu sydd yn 'made in Wales' fel petai, ond mae gwaith pellach gyda ni i'w wneud yn hynny o beth, rwy'n credu, gyda Cymwysterau Cymru.

15:35

Hoffwn eich llongyfarch yn arbennig ar y pwyslais rydych wedi'i roi ar y pwerau annibynnol i ariannu prentisiaethau yn yr un modd ag unrhyw ran arall o addysg drydyddol, oherwydd credaf fod hwn yn gam pwysig ymlaen o ran y parch cydradd sydd angen inni ei gael rhwng sgiliau technegol cymhwysol a sgiliau academaidd a deallusol fel y'u gelwir, er ei bod hi'n amlwg fod llawer o'r rhain yn gymysg mewn gwirionedd. Ond mae angen i ni sicrhau bod cymwysterau BTEC a chymwysterau Safon Uwch yn cael yr un statws yn union, a bod sgiliau galwedigaethol ac academaidd yn cael parch cydradd.

Roeddwn eisiau holi sut rydych yn credu y bydd y Bil hwn yn gwella atebolrwydd a goruchwyliaeth gymesur o addysg drydyddol heb rywfaint o fiwrocratiaeth, oherwydd yn draddodiadol mae'r trefniadau llywodraethu academaidd wedi'u cyflawni gan y Senedd, ac mae tensiwn wedi bod bob amser rhwng rhyddid academaidd a'r ffaith bod angen iddynt fod yn fusnesau cynaliadwy. Ond yn yr un modd, nid yw'r rheolaeth ariannol effeithlon ac effeithiol gan gyngor y brifysgol cystal ag y gallai fod o reidrwydd mewn rhai achosion. Sut y bydd y Bil hwn, a'r pwerau a fydd gan Lywodraeth Cymru i ymyrryd os nad ydynt yn credu bod cyrff llywodraethu'n gwneud y gwaith yn effeithiol, sut y bydd hynny'n cael ei wella gan y trefniadau newydd hyn, oherwydd, yn amlwg, mae'n fater pwysig iawn i sector sy'n hynod o bwysig i'n heconomi a'n llesiant?

Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Credaf fod gwahaniaeth yn y dull o ymdrin ag addysg uwch ac addysg bellach am resymau y gwn y bydd yn eu deall. A chredaf fod hynny'n amlygu pwynt mwy, sef, er ein bod eisiau cael un sector, fod amrywiaeth o chwaraewyr o fewn y sector hwnnw, a chredaf mai'r cydbwysedd hwnnw yw'r cydbwysedd cywir i'w daro.

Cyfeiriaf at y pwynt am ryddid academaidd a wnaeth Sioned Williams, ond mae mecanwaith, wrth gwrs, ar gyfer cofrestru yn y Bil, ac mae amrywiaeth o ffyrdd y gall y comisiwn ymgysylltu â sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio â'u hamodau cofrestru. Ac mae'n rhyw fath o gyfres gynyddol o ymyriadau mewn gwirionedd ynglŷn â chyngor ac ymgysylltiad, ac yna mae posibilrwydd o gyfarwyddyd a gweithgaredd gorfodi llymach wedyn ar gyfer y senario fwyaf dybryd a mwyaf annhebygol, fel y byddai rhywun yn ei obeithio ac yn ei ddisgwyl. Felly, mae'r Bil yn nodi rhyw fath o ystod gynyddol o ymyriadau y gallai'r comisiwn eu defnyddio yn y sefyllfaoedd gwaethaf. Ond y gofrestr yw'r mecanwaith ar gyfer darparu'r oruchwyliaeth honno.

Diolch, Lywydd. Ac mewn ymateb i'r cwestiwn, 'Pryd y dylid gwneud hyn, pam nawr?', wel, cyhoeddwyd adroddiad yr Athro Ellen Hazelkorn ym mis Mawrth 2016. Felly, os nad nawr, pam nad ddoe, cyn hynny? Ond wrth gwrs, mae pandemig byd-eang wedi bod yn y cyfamser, a chredaf y gellid bod wedi gwneud hyn yn gynharach.

Roeddwn yn gwrando ar eich ymateb i Sioned Williams, ac nid oes gennyf fy offer cyfieithu, felly rwy'n gobeithio bod fy nealltwriaeth o'r Gymraeg yn ddigonol. Ond fe sonioch chi am anghysondeb, rwy'n credu, y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am addysg bellach a CCAUC yn gyfrifol am addysg uwch. Ond yr hyn a fydd yn digwydd gyda'r corff newydd yw y bydd ystod enfawr o alwadau am gymorth ariannol a chymorth arall gan amrywiaeth o gyrff sy'n gwneud pethau tebyg ar wahanol lefelau, ac a allai fod yn cystadlu â'i gilydd. Sut y gellir datrys hynny o fewn un corff? Sut y darperir tryloywder a sut y gwneir gwaith craffu arno er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg yn y pot newydd?

15:40

Diolch i Hefin David am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae'r ddamcaniaeth sylfaenol sy'n sail i'r Bil hwn yn awgrymu y bydd yn arwain at fwy o dryloywder i bob pwrpas yn y ffordd hon. A chredaf ein bod wedi cael ein hysbrydoli rywfaint gan y profiad yn Seland Newydd pan sefydlasant eu comisiwn cyfatebol, ac mae'n gweithredu ar sail debyg yn yr ystyr fod y Llywodraeth yn pennu'r strategaeth gyffredinol a bod gan y comisiwn ei gynllun strategol ei hun sy'n adlewyrchu'r gofynion hynny ac yn y blaen.

Mae CCAUC eisoes yn gweithredu ar sail sy'n dryloyw yn y ffordd y mae'n dyrannu cyllid. Mae ar gael i'r cyhoedd, mae'r meini prawf wedi'u sefydlu ac mae'r symiau wedi'u dosbarthu mewn ffordd sy'n gyhoeddus iawn, a chredaf fod hynny'n rhywbeth sy'n haws ei gyflawni yn y math hwnnw o amgylchedd hyd braich. Felly, credaf mewn gwirionedd y bydd dwyn ynghyd y ffrydiau ariannu addysg bellach, dysgu oedolion a phrentisiaethau yn y ffordd hyd braich honno yn gwella tryloywder yn y ffordd y mae CCAUC, efallai, yn ei wneud ar gyfer addysg uwch ar hyn o bryd. Y fantais allweddol a ddaw yn sgil y cynigion yn y Bil yw bod yr arian yn cael ei ddyrannu ar sail y strategaeth gyhoeddus honno, os mynnwch, felly mae yna strategaeth wedi'i dyfeisio, sy'n destun ymgynghoriad ac yn dryloyw, ac nid y ffiniau rhwng sefydliadau, os mynnwch—neu'r ffiniau hanesyddol ar y pwynt hwnnw rhwng y ffynonellau cyllid—sy'n penderfynu sut y dyrennir yr arian hwnnw. Felly, credaf y bydd y ddau lwybr hwnnw'n gwella'r tryloywder ar draws y sector ôl-16 yn sylweddol.

4. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiwn amserol, ac mae'r cwestiwn heddiw i'w ofyn gan Mabon ap Gwynfor a'i ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Felly, Mabon ap Gwynfor.

Ffordd Gyswllt Llanbedr

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ganlso ffordd gyswllt Llanbedr yng Ngwynedd? TQ576

Ydy'r Gweinidog yn barod i ateb?

A yw'r Dirprwy Weinidog yn barod i ateb y cwestiwn a ofynnwyd? Lee Waters, mae'n ymddangos eich bod ar y ffôn gyda rhywun arall, ond rydych yma yn y Siambr hefyd. A ydych ar gael i ateb y cwestiwn a ofynnwyd yn awr gan Mabon ap Gwynfor? Mae ar y papur trefn.

Ymddiheuriadau. Lywydd, rwyf eisoes wedi darparu datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau gyda'r penderfyniad ar ffordd fynediad Llanbedr. Cafodd adroddiad y cadeirydd ei gynnwys ac roedd yn nodi'r argymhellion. Rwyf wedi'u derbyn, ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw waith pellach ar gynllun ffordd fynediad cyfredol Llanbedr.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Wel, roedd tasglu'r Cymoedd, a oedd yn cael ei gadeirio gennych chi rai blynyddoedd yn ôl, yn hyrwyddo deuoli'r A465 ar Flaenau'r Cymoedd, project a fydd, yn ei chyfanrwydd, wedi costio dros £1 biliwn, gan alluogi degau o filoedd o geir i wibio ar hyd y ffordd ar 70 mya bob blwyddyn. Ymhlith y gwahanol ddadleuon a gafodd eu rhoi gerbron am y deuoli yma oedd y ffaith bod posib cysylltu efo traffyrdd yng nghanolbarth Lloegr, gan achosi mwy o drafnidiaeth ceir. Trwy gyd-ddigwyddiad, dechreuodd y gwaith i ddeuoli Dowlais Top i Hirwaun fis cyn ichi gyhoeddi’r moratoriwm ar ffyrdd, oedd, wrth gwrs, yn golygu na fyddai'r cynllun drudfawr yma yn dod o dan gylch gorchwyl y moratoriwm.

Felly, mae gennym ni un cynllun fan hyn, cynllun Llanbedr, sy'n costio £14 miliwn, efo hanner ohono fo wedi cael ei dalu gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer 1 milltir o ffordd i wasanaethau poblogaeth Llanbedr ac arfordir Meirionydd, ac mae yna gynllun arall, yn costio £0.5 biliwn, sef yr un Dowlais Top i Hirwaun, wedi cael ei dalu drwy gynllun PFI newydd ar gyfer 11 milltir o ffordd ym Mlaenau'r Cymoedd. Pa gynllun ydych chi'n meddwl fydd y mwyaf niweidiol i'r amgylchedd?

Ac yn olaf, os ydyn ni am dderbyn yn yr adroddiad argymhelliad Rhif 10, sef adeiladu ffordd gyswllt wahanol efo uchafswm cyflymder llawer yn llai, sydd, yn ôl yr adroddiad, am fod yn ddrudfawr iawn, sut gaiff honno ei hariannu, ac a fyddwch chi'n digolledu'r cyngor ac yn ariannu'r gost efo'r golled o £7.5 miliwn Ewropeaidd sydd ddim yn mynd i ddod i'r fei oherwydd hyn? Diolch.

15:45

Gallaf weld nad yw amser wedi gwneud Mabon ap Gwynfor yn fwy parod i wrando ar y dadleuon a gyflwynwyd gan y panel annibynnol. Deallaf ei siom, oherwydd ceir ymlyniad lleol cryf i'r cynlluniau hyn yn aml. Clywais bobl yn dweud ddoe fod hwn yn gynllun sydd wedi bod yn uchelgais yn lleol ers 70 mlynedd. Rydym yn aml yn gweld hyn yn digwydd lle mae awdurdodau lleol, wrth wynebu heriau trafnidiaeth, yn troi at gynlluniau sydd wedi bod yn barod i fynd ganddynt ers cenedlaethau.

Ond rydym mewn argyfwng hinsawdd, ac rwy'n teimlo ychydig yn ofidus, wrth wrando ar y newyddion bob nos gyda chryfder y wyddoniaeth, cryfder y rhwystredigaeth ynglŷn â'r trafodaethau yn Glasgow, cydnabyddiaeth gan bob plaid fod angen inni wneud pethau'n wahanol, a datganiadau yn y Senedd hon, datganiadau gan Mabon ap Gwynfor a'r Aelod Seneddol lleol ei hun, sy'n cydnabod maint yr argyfwng hinsawdd ac uchelgais ei blaid inni gael targed sero-net erbyn 2030 yn hytrach na 2050. Nid yw'r pethau hyn yn gydnaws â pharhau i adeiladu mwy o gapasiti ffyrdd. Nid yw'n gydnaws. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn dweud yn glir, er mwyn cyrraedd y targed sero-net erbyn 2050, fod yn rhaid inni leihau nifer y teithiau ceir. Nid ydym yn gwybod sut i gyflawni'r targed sero-net 20 mlynedd cyn hynny, er bod Plaid Cymru yn dweud y dylem, ac yn sicr nid yw'n gydnaws â'r modd y mae ef yn pwyso arnom i adeiladu cynlluniau ffyrdd. 

Rydym wedi sefydlu adolygiad annibynnol. Mae'n drueni bod Llanbedr wedi cael ei ystyried ar ei ben ei hun, oherwydd pe bai wedi cael ei ystyried yn ei gyfanrwydd, credaf y byddai newid ein gwariant ffyrdd i waith cynnal a chadw a dewisiadau amgen yn cael ei ystyried yn ei gyfanrwydd, yn hytrach nag un cynllun yn unig sy'n caniatáu i bobl leol ddweud bod Llanbedr wedi'i dargedu'n annheg, ac nid yw hynny'n wir. Gwnaethom hynny ar gais yr awdurdod lleol oherwydd terfynau amser y cyllid Ewropeaidd, a dyma adroddiad y panel annibynnol. Nid fy argymhelliad i ydyw, eu hargymhelliad hwy ydyw, ac rwyf wedi'i dderbyn.

Roedd ei bwyntiau ychydig yn anffodus yn fy marn i, ynglŷn â deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd. Cymeradwywyd ffordd Blaenau'r Cymoedd, os cofiaf yn iawn, gan Ieuan Wyn Jones pan oedd yn Weinidog trafnidiaeth, ac rydym hefyd wedi gwneud eithriad ar gyfer cynllun ar gyfer ffordd osgoi yn Llandeilo, a oedd unwaith eto'n gais gan Blaid Cymru. Yn sicr, nid ydym yn pigo ar gefn gwlad Cymru. Rydym wedi canslo ffordd osgoi'r M4 o amgylch Casnewydd. Felly, yn sicr, nid ydym yn arddel safbwynt sy'n rhagfarnllyd yn ddaearyddol rywsut neu'i gilydd, rydym yn ceisio gwneud y gwaith anodd iawn o newid y ffordd rydym yn ymdrin â gwariant ar drafnidiaeth. 

Mae'n amlwg fod gan Lanbedr broblemau gyda thagfeydd, yn enwedig ar rai adegau o'r flwyddyn, ac mae mater ar wahân yn codi ynglŷn â mynediad at yr unedau busnes newydd a'r dyhead i gael maes rocedi. Mae'r adroddiad gan Lynn Sloman yn gynhwysfawr iawn ac yn ymdrin â'r ddau fater, ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r cyfraniad roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i'r prosiect hwn i weithio gyda'r awdurdod lleol er mwyn gwneud arfarniad arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru dilys nad yw'n dechrau gyda'r dybiaeth ein bod yn adeiladu ffordd, sef yr hyn sydd wedi digwydd yn yr achos hwn, ac sydd wedi digwydd mewn achosion eraill hefyd yn wir, ond yn hytrach edrych ar sail niwtral o ran dull teithio i weld pa fesurau cynaliadwy y gallem eu rhoi ar waith. Mae hwnnw'n ymrwymiad diffuant, a thrafodais hynny gydag arweinydd yr awdurdod lleol. 

Ar y mater arall wedyn o agor y tir i'w ddatblygu, unwaith eto, mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir eu bod yn credu bod y ffyrdd presennol yn galluogi rhywfaint o hynny i ddigwydd ac os oes angen mwy, mae hynny'n rhywbeth y gellir ei nodi drwy'r gwaith ar y cyd y byddwn yn ei wneud gyda'r awdurdod lleol. Felly, deallaf rwystredigaeth yr Aelod; ni allaf ei gysoni'n iawn â'r hyn y mae hefyd yn dweud bod angen inni ei wneud ar sero-net. Mae yntau a'r Aelod Seneddol yn anghywir i awgrymu ein bod yn pigo ar y Gymru wledig neu ar Wynedd yn arbennig yma. Mae hwn yn ddull o weithredu y byddwn yn ei fabwysiadu ledled Cymru oherwydd mae'r wyddoniaeth yn mynnu ein bod yn gwneud hynny, ac mae'r argyfwng hinsawdd y mae ef a minnau, a Chyngor Gwynedd, wedi'i ddatgan hefyd yn mynnu ein bod yn ei wneud.

Ddirprwy Weinidog, mae'r penderfyniad i ganslo cynllun ffordd fynediad Llanbedr wedi siomi trigolion yr ardal. Nid yw'n gyfrinach; gwn fod fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru newydd ddweud yr un peth. Cysylltodd un o drigolion yr ardal â mi cyn imi ddod i'r Siambr, ac roeddent yn dweud pa mor ffiaidd oedd y penderfyniad a'u bod wedi'u tristáu'n arw ganddo. Ni roddwyd sêl bendith i'r penderfyniad diweddaraf i wneud hyn tan fis Mawrth. Mae wedi gadael pobl yn ofidus am brosiectau ffyrdd eraill a fyddai wedi bod o fudd enfawr i fywydau pobl a'n heconomi. Mae'r ffaith na fyddant yn dwyn ffrwyth yn peri pryder i bobl.

Rwy'n deall bod yr hinsawdd yn peri pryder mawr i chi. Fodd bynnag, mae traffig yn yr ardal hon yn hunllef llwyr i gynifer o bobl, ac roeddent yn gweld y ffordd fynediad hon fel ffordd allan o'r dioddefaint hwnnw. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n deall bod yr hinsawdd yn fater y mae pob plaid yn poeni yn ei gylch. Rydych yn dweud bob wythnos, dro ar ôl tro, mai dyma yw eich ffocws pennaf ar hyn o bryd. Felly, hoffwn wybod beth yn union yw'r pecyn amgen o fesurau y byddwch yn eu cyflwyno i fynd i'r afael â thraffig yn yr ardal yn awr. Rydych eisoes wedi gwneud tro pedol ar ffordd osgoi Llandeilo, a fyddwch yn ailystyried eich penderfyniad yn Llanbedr hefyd? Diolch.

15:50

Lywydd, mae Natasha Asghar yn dweud ei bod yn deall bod yr hinsawdd yn destun pryder i mi. Roeddwn yn meddwl ei fod yn destun pryder iddi hithau hefyd, oherwydd rwyf wedi clywed areithiau y bu'n eu gwneud wythnos ar ôl wythnos yn dweud wrthyf nad ydym yn ddigon beiddgar nac yn ddigon cyflym, a Janet Finch-Saunders hefyd yn sicr. Clywais Janet Finch-Saunders yn dweud yn y brotest gyda'r cerflun rhew cyn mynd i COP nad oedd rheswm dros ohirio unrhyw gamau gan fod cefnogaeth drawsbleidiol i wneud yr hyn a oedd yn angenrheidiol i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Wel, dyma ni, yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ac rydym yn cael gwrthwynebiad ar ôl gwrthwynebiad gan bleidiau sydd wedi ymrwymo i'r datganiad o argyfwng hinsawdd. Trafnidiaeth sy'n gyfrifol am 17 y cant o'n holl allyriadau carbon. Felly, ni all trafnidiaeth fod yn rhydd rhag camau i leihau allyriadau. Mae hynny'n golygu rhoi'r gorau i wneud yr hyn rydym bob amser wedi bod yn ei wneud a gwneud pethau'n wahanol. Os ydym am roi dewisiadau amgen realistig i bobl yn lle'r car, rhaid inni fuddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Mae buddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu buddsoddi llai yn y dull y buom yn ei weithredu—y dull rhagweld a darparu. Mae rhagolygon trafnidiaeth yn dweud y bydd mwy o bobl yn gyrru, felly rydym yn adeiladu ffyrdd. Dyna'r hyn y buom yn ei wneud ers 70 mlynedd, a dro ar ôl tro mae'n arwain at fwy o bobl yn dal i adeiladu mwy o ffyrdd, ac felly mae'r rhesymeg yn parhau. 

Efallai nad yw hi'n fodlon wynebu'r gwrth-ddweud deallusol yn ei dadl ei hun, ond ni allaf fi wneud hynny, a minnau mewn swydd gyfrifol. Os ydym am gyflawni'r cynllun sero-net a gyhoeddwyd gennym, mae'n rhaid inni dorri 10 y cant oddi ar y milltiroedd ceir a deithir yn ystod y pum mlynedd nesaf. Ni allwn wneud hynny os na roddwn ddewisiadau amgen i bobl gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Ni allwn roi dewisiadau eraill ar waith os ydym yn parhau i wario arian ar ffyrdd, sy'n cynhyrchu mwy o draffig.

O ran yr hyn sydd yn y pecyn amgen o gamau, mae hwnnw'n rhywbeth y bydd angen inni ei drafod gyda'r awdurdod lleol. Mae Lynn Sloman, yn ei hadroddiad—nid wyf yn siŵr a yw Natasha Asghar wedi cael y cyfle i'w ddarllen eto, ond byddwn yn ei argymell—yn nodi cyfres o opsiynau sy'n bosibl, ond mae'r rhain yn bethau rydym eisiau eu gwneud gyda'r awdurdod lleol.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Fe fyddwn ni'n cymryd egwyl fer nawr er mwyn caniatáu ambell i newid yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:52.

16:00

Ailymgynullodd y Senedd am 16:02, gyda Joyce Watson yn y Gadair.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Hoffwn alw ar Tom Giffard, sy'n mynd i wneud datganiad 90 eiliad ar y Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Trais a Bwlio yn yr Ysgol, gan gynnwys seiberfwlio.

Diolch, Gadeirydd. Bob blwyddyn, y dydd Iau cyntaf ym mis Tachwedd yw'r Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Trais a Bwlio yn yr Ysgol, gan gynnwys seiberfwlio. Mae tua 20 y cant o fyfyrwyr yn dweud eu bod yn cael eu bwlio, ond dim ond eu hanner sydd wedi rhoi gwybod i oedolyn am ddigwyddiadau. Fe allai ac fe ddylai addysg ffurfiol chwarae rhan allweddol yn rhoi gwybodaeth a sgiliau i blant a phobl ifanc nodi trais ar-lein ac amddiffyn eu hunain rhag ei ffurfiau gwahanol, boed wedi'i gyflawni gan gyfoedion neu oedolion.

Erbyn heddiw, mae trais yn mynd y tu hwnt i waliau'r ysgol ac mae hefyd yn digwydd ar sgriniau, lle mae pobl ifanc yn eu harddegau yn treulio saith awr y dydd ar gyfartaledd yn sgwrsio ac yn postio ar y cyfryngau cymdeithasol, ond maent yn fwy agored nag erioed ar-lein. Mae trais ar-lein, gan gynnwys seiberfwlio, yn cael effaith negyddol ar gyflawniad academaidd, iechyd meddwl ac ansawdd bywyd myfyrwyr. Mae plant sy'n cael eu bwlio'n aml ddwywaith mor debygol o golli ysgol, ac maent yn fwy tueddol o adael addysg ffurfiol ar ôl gorffen yn yr ysgol uwchradd.

Mae'r diwrnod hwn yn galw am ymwybyddiaeth fyd-eang o broblem trais ar-lein a seiberfwlio, ei ganlyniadau a'r angen i roi diwedd arno. Mae'n galw am sylw myfyrwyr, rhieni, aelodau o'r gymuned addysgol, awdurdodau addysg, ac amrywiaeth o sectorau a phartneriaid, gan gynnwys y diwydiant technoleg, er mwyn annog pawb i gymryd rhan yn y gwaith o atal trais ar-lein er diogelwch a lles plant.

Hoffwn yn awr alw ar y Llywydd, Elin Jones, i roi datganiad 90 eiliad ar ben-blwydd Cyngor Llyfrau Cymru yn drigain oed.

Yr wythnos hon, dathlwn ben blwydd Cyngor Llyfrau Cymru yn 60 oed. Mae’n destun rhyfeddod sut y datblygodd y corff bychan, eiddil a sefydlwyd yn 1961 i fod yn sefydliad grymus gyda chyfrifoldebau eang dros faes cyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg. Oherwydd ystod eang ei gyfrifoldebau, does dim un corff tebyg iddo yng ngwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol. Mae’n hyrwyddo darllen, yn cefnogi awduron, ac yn gyfrifol am gynnal a datblygu’r diwydiant cyhoeddi.

Mae hefyd yn dosbarthu grantiau i gyhoeddwyr sy’n sicrhau amrywiaeth o lyfrau a chylchgronau o safon. Mae ei ganolfan ddosbarthu yn cyflenwi llyfrau’n ddyddiol i lyfrwerthwyr ac mae gwales.com yn golygu bod modd cyrraedd darllenwyr a phrynwyr llyfrau ar draws y byd.

Croniclir hanes y 60 mlynedd mewn dwy gyfrol sydd newydd ymddangos: O Hedyn i Ddalen a Two Rivers from a Common Spring.

Cafodd y corff ei arwain yn gadarn ar hyd yr amser a daeth sefydlogrwydd pellach pan wnaeth y Cynulliad Cenedlaethol yma, yn ei dymor cyntaf, y penderfyniad pellgyrhaeddol i ariannu’r cyngor llyfrau'n uniongyrchol a disodli cyfundrefn ariannu oedd yn simsan a chymhleth.

Aberystwyth yw cartref y cyngor llyfrau, ond mae ei ddylanwad a’i werth i’w deimlo rhwng y cloriau sydd yn nwylo plant a phobol ar hyd a lled Cymru wrth iddyn nhw ddysgu a rhyfeddu, tra’n darllen llyfrau am Gymru ac o Gymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Heb arweiniad a gweithgaredd y cyngor llyfrau dros 60 o flynyddoedd, mi fyddai cyfoeth llyfrau ein cenedl llawer, llawer tlotach.

16:05

Hoffwn yn awr alw ar Peter Fox, sy'n mynd i wneud datganiad 90 eiliad ar ymgyrch Bang Out of Order yr RSPCA ar effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid.

Diolch, Gadeirydd. Mae'n noson tân gwyllt nos Wener, adeg pan fydd pobl yn dod at ei gilydd i ddathlu, mynychu arddangosiadau tân gwyllt, neu gynnal eu digwyddiadau preifat eu hunain gyda theulu a ffrindiau. Ar ôl 18 mis mor anodd, bydd y digwyddiadau eleni yn fwy arwyddocaol nag arfer. Fodd bynnag, mae tân gwyllt a choelcerthi yn creu nifer o risgiau, a gallant fod yn arbennig o beryglus i anifeiliaid a bywyd gwyllt, a dyma pam fy mod am dynnu sylw at ymgyrch Bang Out of Order yr RSPCA.

Dengys ystadegau'r RSPCA fod 62 y cant o berchnogion cŵn a 54 y cant o berchnogion cathod yn dweud bod eu hanifeiliaid anwes yn mynd yn ofidus yn ystod y tymor tân gwyllt, gyda'r RSPCA yn derbyn tua 400 o alwadau y flwyddyn mewn perthynas â hyn. Nid anifeiliaid anwes yw'r unig rai yr effeithir arnynt—gall da byw, ceffylau a bywyd gwyllt gael braw neu gael eu dychryn gan dân gwyllt, ac rwyf wedi gweld hyn ar fy fferm fy hun droeon, ac mae'n peri gofid mawr. O'r herwydd, mae'r RSPCA yn galw am roi nifer o gamau ar waith i helpu i leddfu rhai o'r pethau hyn. Gall cynghorau wneud pobl yn fwy ymwybodol o arddangosiadau sy'n cael eu cynnal yn lleol, ac annog pobl i ddefnyddio tân gwyllt tawelach. Gall pobl wneud cymdogion yn fwy ymwybodol o ddigwyddiadau preifat, a gweithio i ystyried anghenion pobl sy'n byw gerllaw. Ceir awgrymiadau hefyd y gellid tynhau rheolau sy'n gysylltiedig â phrynu tân gwyllt er mwyn lleihau eu defnydd ehangach. Wrth gwrs, mae rhai o'r mesurau y gellid eu cymryd yn ymwneud â phwerau a gedwir gan Lywodraeth y DU, a byddwn yn gobeithio bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio ar hyn.

Gadeirydd, rwy'n dymuno noson tân gwyllt hapus a diogel i bawb, ac unwaith eto rwy'n annog pawb i fod yn ystyriol o eraill wrth gynnal neu fynychu digwyddiadau. Diolch.

Galwaf yn awr ar Jayne Bryant, a fydd yn gwneud datganiad 90 eiliad i nodi 35 mlynedd o Childline.

Yr wythnos hon, mae Childline yn nodi ei ben-blwydd yn 35 oed. Ers ei sefydlu yn 1986, mae Childline wedi darparu gwasanaeth cwnsela i oddeutu 5.5 miliwn o blant yn y DU. Heddiw, mae plentyn yn cysylltu â Childline bob 25 eiliad ar gyfartaledd. Mae hyn yn golygu, yn ystod y datganiad 90 eiliad hwn, y bydd pedwar plentyn yn debygol o fod wedi bod mewn cysylltiad â Childline mewn rhyw ffordd.

Yn ystod blwyddyn gyntaf COVID, darparodd Childline 17,000 o sesiynau cwnsela y mis ar gyfartaledd. Mae'r ffaith bod cynifer wedi gofyn am help yn ein hatgoffa'n glir o effaith y pandemig hwn ar blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, tystiolaeth ragorol o waith Childline yw ei fod wedi darparu cymaint o gymorth yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn.

Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae Childline wedi esblygu dros amser i barhau i fod mor hygyrch â phosibl. Yn wreiddiol, câi'r holl sesiynau cwnsela eu darparu dros y ffôn. Nawr, gall plant gysylltu â Childline drwy neges destun, e-bost neu sgwrs ar-lein hefyd. Nid yw'n syndod fod hyn i gyd yn costio. Nid yw'r cymorth hollbwysig y mae Childline yn ei ddarparu yn rhad. Mae'n costio £4 i wirfoddolwr hyfforddedig ateb cais am help. Daw 90 y cant o incwm yr NSPCC, y mudiad y mae Childline yn rhan ohono, o weithgarwch codi arian. Mae'r gwirfoddolwyr ymroddedig, sydd wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi plant a phobl ifanc drwy gydol y cyfnod hwn, yn rhyfeddol. Diolch enfawr iddynt am eu gwaith amhrisiadwy. Mae gan bob unigolyn ifanc y maent yn siarad â hwy eu stori eu hunain.

Ac yn olaf, os ydych chi'n blentyn neu'n unigolyn ifanc sydd angen help, gallwch gysylltu â Childline ynglŷn â phryderon neu broblemau rydych chi'n eu cael. Gallwch ffonio 0800 1111 unrhyw bryd, ddydd neu nos.

16:10
6. Dadl ar ddeiseb P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl

Yr eitem nesaf yw eitem 6, y ddadl ar y ddeiseb P-05-912, 'Cynorthwyo teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac annisgwyl'. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i gyflwyno'r cynnig. Jack Sargeant.

Cynnig NDM7814 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-05-912 'Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl’ a gasglodd 5,682 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, acting Llywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Dyma'r ddadl gyntaf i gael ei chyflwyno gan y pwyllgor yn y chweched Senedd, a'r ddadl gyntaf i mi fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

Aelodau, fel pwyllgor a Chadeirydd newydd—a dywedaf gyda balchder fy mod yn credu mai dyma'r Cadeirydd pwyllgor ieuengaf yn hanes ein Senedd—bûm yn myfyrio ar y cyfle y mae ein proses ddeisebau yn ei gynnig. Mae deisebu'r Senedd yn ffordd i bobl Cymru godi eu llais a dweud eu barn. Mae'n ffordd o dynnu sylw at faterion pwysig a heriol, chwilio am atebion a dod o hyd i atebion. Mae'n ffordd o wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Ac mae dadleuon fel hon heddiw yn sicrhau bod y deisebau sydd wedi dal dychymyg miloedd o bobl ledled Cymru yn cael eu clywed a'u trafod ar lawr eu Senedd. Dyma'r ffordd yr ystyriwn ni fel Aelodau etholedig gryfder eu syniadau, eu rhinweddau, a'r rhwystrau i'w gweithredu.

Roedd y ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw, 'Cynorthwyo teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl', i fod i gael ei thrafod yn wreiddiol ym mis Mawrth 2020 a'i harwain gan ein Cadeirydd blaenorol gwych, Janet Finch-Saunders, ond yn anffodus, fe'i gohiriwyd oherwydd y pandemig. Lywydd, cyflwynwyd y ddeiseb gan Rhian Mannings. Yn ei deiseb, mae Rhian yn galw ar Lywodraeth Cymru

'i helpu i ddarparu gwasanaeth... i sicrhau bod teuluoedd sy'n colli plant neu bobl ifanc 25 oed neu iau yn annisgwyl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.'

Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i Rhian, sydd yma heddiw, am ei harweiniad ysbrydoledig a'r ymrwymiad i wella'r gefnogaeth i bobl a theuluoedd sy'n wynebu colli plentyn neu unigolyn ifanc. Yn dilyn yr amgylchiadau mwyaf trasig y gellir eu dychmygu, mae Rhian wedi ymroi i wella'r cymorth a roddir i eraill. Rwy'n siŵr y bydd y teimladau hyn yn adleisio drwy gydol y ddadl yn ein Siambr heddiw. 

Yn ystod ein cyfarfod ychydig wythnosau'n ôl, cyfarfûm â Nadine, a drodd at 2 Wish Upon A Star am help. Nawr, dywedodd Nadine rywbeth am golled ac ymdopi â hi a waeth argraff rymus arnaf. Roedd yn gignoeth, ond roedd yn sefyllfa sy'n gyfarwydd iawn i mi, ac rwy'n siŵr y bydd yn gyfarwydd i lawer ohonom, yn anffodus. Lywydd dros dro, fe ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu: 'Mae gan fy nheulu gachomedr, sy'n dangos bod pob diwrnod yn gachu. Mae rhai dyddiau'n fwy cachu na'i gilydd pan ddaw'r sbardunau un ar ôl y llall. Nid y dyddiadau arwyddocaol ar y calendr yw'r rhain o reidrwydd.' Lywydd dros dro, bydd yn bedair blynedd y dydd Sul hwn ers imi golli fy nhad mewn digwyddiad trasig sydyn ac annisgwyl, a gallaf ddweud bod dyddiadau arwyddocaol yn anodd ac rwy'n cael mwy o drafferth nag erioed o bosibl. Fodd bynnag, nid oes raid mai dyddiau arwyddocaol yw'r sbardun. Gall fod yn unrhyw beth, yn unrhyw ddiwrnod, a gallai fod oherwydd unrhyw beth. 

Bydd llawer ohonom yn gwybod bod Rhian wedi colli ei mab, George, a'i gŵr, Paul, yn drasig o fewn pum niwrnod i'w gilydd yn 2012. Yn y ddau achos, mae'n sôn am ddiffyg cymorth i'w chefnogi hi a'i theulu gyda'r amgylchiadau hynod ddirdynnol hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n amhosibl i'r rhan fwyaf ohonom ddeall yn iawn sut beth yw wynebu sefyllfa fel hon. Yn drasig, mae llawer o bobl a theuluoedd eraill sy'n gwylio heddiw, yma yn y Senedd a thu hwnt, ar Senedd.tv ar-lein, wedi profi colled a galar ar lefel na fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl ei hwynebu byth.

Fodd bynnag, o'r amgylchiadau hyn, sefydlodd Rhian elusen 2 Wish Upon a Star—elusen sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth hanfodol i eraill. Mae 2 Wish yn cefnogi teuluoedd a staff drwy'r profiad o golli plentyn neu oedolyn ifanc yn annisgwyl drwy ddarparu blychau atgofion, cwnsela a nifer o wasanaethau cymorth uniongyrchol. Gall cymorth mwy hirdymor gynnwys therapi cyflenwol, therapi chwarae, grwpiau cymorth ffocws, penwythnosau preswyl a digwyddiadau misol. Gwneir y cynnig o gymorth gan weithwyr gofal iechyd rheng flaen ar adeg neu yn yr oriau yn dilyn marwolaeth drasig. Pan fydd y teulu wedi rhoi cydsyniad ar lafar, bydd y gweithiwr gofal iechyd yn cysylltu â 2 Wish gyda gwybodaeth am y farwolaeth a'r teulu. Bydd 2 Wish yn cysylltu am y tro cyntaf o fewn y 24 i 48 awr gyntaf ar ôl gwneud yr atgyfeiriad. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw pob teulu'n cael cynnig cymorth ar unwaith neu'n uniongyrchol, ac mae Rhian yn ceisio sicrhau bod yn rhaid i lwybr ar gyfer teuluoedd mewn galar sicrhau bod cynnig rhagweithiol o gymorth yn cael ei wneud. Lywydd dros dro, rhaid gofyn i deuluoedd, ac wrth gwrs, gallant wrthod y cynnig hwnnw.

Heb gael cynnig cymorth, mae teuluoedd sydd newydd golli plentyn yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain i ymdopi. Rhoddir taflenni gwybodaeth i rai ynglŷn â gwasanaethau, sy'n rhoi'r cyfrifoldeb ar deuluoedd i estyn allan a dod o hyd i'r cymorth sydd ar gael a'r cymorth priodol sydd ar gael ar gyfer eu hangen. Maent yn wynebu negeseuon peiriant ateb, amseroedd aros hir a'r posibilrwydd na fydd y sefydliadau a restrir ar y darnau hynny o bapur yn gallu eu cefnogi. Mae Rhian ei hun yn disgrifio sut y mae hyn yn achosi i bobl deimlo'n ynysig, yn unig ac yn ddiwerth. Mae 2 Wish yn gweithio gyda phob ysbyty, corffdy, swyddfa crwner a heddlu yng Nghymru. Mae ganddynt berthynas gref ag Ambiwlans Awyr Cymru, timau rhoi organau, ac maent yn rhan o'r adolygiad o farwolaethau plant gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn anffodus, gwneir atgyfeiriadau gan y sefydliadau hyn bob dydd. Mae'n rhoi cymorth i staff sy'n ymdrin â cholli pobl ifanc yn sydyn, ac mae'n darparu hyfforddiant ar y cynnig o gymorth a sut i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli rhywun yn sydyn. Mae hefyd yn cynnig cymorth uniongyrchol a pharhaus i weithwyr proffesiynol sy'n ei chael yn anodd yn sgil marwolaeth plentyn. Mae aelodau'r Pwyllgor Deisebau wedi derbyn tystiolaeth o'u gwaith gan bob heddlu yng Nghymru. Mae'r deisebau hyn yn mynegi'n glir pa mor ddibynnol ydynt ar y gwasanaethau, i gefnogi aelodau o'r cyhoedd, ac yn bwysig, i gefnogi eu swyddogion eu hunain. Dywedodd fy heddlu lleol, Heddlu Gogledd Cymru, wrth y pwyllgor fod cefnogaeth 2 Wish wedi eu galluogi i adfywiogi a symleiddio'r cymorth a ddarperir mewn ymateb i ddigwyddiadau trasig.

Pan ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb hon am y tro cyntaf, roedd Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor cymorth profedigaeth i helpu i ddatblygu a darparu trefniadau cymorth gwell. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae tair elfen i gymorth profedigaeth yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal: darparu gwybodaeth a chyfeirio; cyfleoedd ffurfiol i fyfyrio ar alar, mewn sesiynau unigol neu grŵp; ac ymyriadau arbenigol, gan gynnwys cymorth seicolegol a chwnsela o bosibl. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi comisiynu astudiaeth o wasanaethau profedigaeth. Mae wedi tynnu sylw at y ffaith bod sawl sefydliad wedi nodi heriau wrth ateb y galw am eu gwasanaethau. Mae hon yn broblem amlwg, o ystyried pa mor hanfodol bwysig yw hi i wasanaethau allu ymateb yn gyflym i gynorthwyo'r bobl ar yr adeg y maent angen hynny.

Mae gwasanaethau fel y rhai a ddarperir gan 2 Wish eisoes yn rhoi cymorth i nifer sylweddol o deuluoedd bob blwyddyn yng Nghymru. Mae nifer yr atgyfeiriadau at y gwasanaethau wedi cynyddu bob blwyddyn ers sefydlu'r elusen yn 2014. Cynhyrchwyd yr atgyfeiriadau hyn drwy eu hymroddiad eu hunain a gweithio'n ymroddedig gyda'r GIG, heddluoedd, meddygon teulu a gwasanaethau iechyd meddwl. Fodd bynnag, maent yn nodi enghreifftiau o nifer sylweddol o deuluoedd nad ydynt yn cael eu cyfeirio at eu cymorth. Mae'r ddeiseb yn galw am gynnig cymorth i bob teulu sy'n wynebu'r amgylchiadau mwyaf anodd hyn. Ni ddylid gadael unrhyw deulu, gweithiwr proffesiynol nac unigolyn i ymdopi ar eu pen eu hunain. Fel y mae'r ddeiseb yn esbonio:

'Mae angen cymorth ar unwaith ar deuluoedd sy'n wynebu colled o'r fath. Mae angen iddynt wybod y gallant gysylltu â rhywun i ofyn cwestiynau a chael clust i wrando. Mae colli plentyn yn effeithio arnoch am byth, ac mae angen i deuluoedd wybod bod cymorth hirdymor ar gael i'w helpu drwy'r broses o alaru.'

Darperir cynifer o wasanaethau profedigaeth gan elusennau, gan gynnwys rhai 2 Wish, ac mae'r pwyllgor wedi clywed pryderon ynglŷn â diffyg cyllid gan y sector cyhoeddus ar gyfer y gwasanaethau y mae'r sefydliadau hyn yn eu darparu. Er eu bod yn cyfeirio pobl at y gwasanaethau, nid oes unrhyw fyrddau iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd yn darparu unrhyw arian i 2 Wish. Credwn fel pwyllgor fod hyn yn rhywbeth y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru fynd i'r afael ag ef. Mae cwestiwn yn codi ynghylch cynaliadwyedd hirdymor pan ydym yn dibynnu ar godi arian a rhoddion elusennol yn unig i dalu am wasanaethau mor hanfodol.

I gloi, mae'r pwyllgor yn cydnabod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i sefydlu'r gweithgor cymorth profedigaeth a'r astudiaeth gysylltiedig o wasanaethau sy'n bodoli eisoes. Nodwn y gwaith o ddatblygu ac ymgynghori ar y fframwaith cenedlaethol drafft ar gyfer gofal profedigaeth. Gobeithiwn y bydd y rhain yn sicrhau gwelliannau parhaol i'r cymorth sydd ar gael i bawb yr effeithir arnynt yn sgil colli plentyn neu unigolyn ifanc.

Fodd bynnag, drwy'r ddadl hon heddiw, rydym yn gofyn am ymrwymiadau pellach ynghylch dull Llywodraeth Cymru o weithredu wrth symud ymlaen. A yw'r Llywodraeth yn bwriadu gweithio tuag at sicrhau bod pob gweithiwr proffesiynol yn dilyn llwybr cymorth ar unwaith ar adeg y farwolaeth? Mae'r deisebydd wedi cynnig y dylid gwneud hyn mewn ffordd sy'n cymryd cyfrifoldeb oddi wrth y teulu neu'r unigolyn mewn profedigaeth ac yn ei roi ar y sefydliad i gynnig a threfnu'r cymorth hwnnw'n rhagweithiol. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog—y gwn ei bod yn awyddus iawn i gefnogi'r elusen hon, ac rwy'n canmol y Gweinidog am y gwaith a wnaeth cyn iddi ddod i'w swydd ac yn ei swydd hyd yma—yn gallu cyfeirio at hyn yn ei hymateb i'r ddadl heddiw.

Mae'r deisebydd hefyd wedi galw am well hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd y gallai fod angen iddynt gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth ac i'r gweithwyr proffesiynol hynny fel bod ganddynt hwy eu hunain rywle i droi iddo am gymorth. 

Yn olaf, Lywydd, pa ddull o weithredu y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei fabwysiadu i sicrhau bod y gwasanaethau cymorth allweddol hyn ar gael i bawb sydd eu hangen a'u bod yn cael eu hariannu'n ddigonol at y diben hwn? A allwn barhau â sefyllfa lle mae cymorth y cyfeirir pobl ato gan y GIG, gan bob heddlu yng Nghymru ac eraill yn cael ei ddarparu i raddau helaeth drwy gyllid elusennol? Mae rhoi cymorth i bobl sy'n ymdopi â phrofedigaeth sydyn yn rhywbeth y dylem i gyd anelu ato. Lywydd dros dro, mae hwn yn faes lle gall Cymru osod esiampl i wledydd eraill, ac rwyf am i bob un ohonom heddiw, fel Aelodau o'r Senedd, oleuo cannwyll, cannwyll a fydd yn rhoi gwres a golau i bobl yn yr amgylchiadau tywyllaf ac oeraf.

Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed cyfraniadau'r Aelodau yma yn y Siambr, ac ymateb y Dirprwy Weinidog wrth gwrs. Diolch yn fawr iawn. 

16:20

Diolch, Gadeirydd. Hoffwn ddechrau drwy ychwanegu fy nghefnogaeth i'r sylwadau y mae fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, wedi'u gwneud wrth agor y ddadl hon a diolch hefyd i'r holl unigolion a theuluoedd sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino dros y blynyddoedd i ddod â'r mater hwn i'r amlwg a rhoi'r sylw angenrheidiol iddo. 

Drwy gydol y broses o ddod â'r ddeiseb hon i ddadl, mae llawer o bobl wedi rhannu eu profiadau personol a phoenus eu hunain, ac er y bydd hyn wedi bod yn anodd iawn iddynt, maent wedi gwneud hynny yn y gobaith y gellir dysgu gwersi ac y gall teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir. Nid oes gennyf amheuaeth na allwn i gyd gytuno bod galar yn effeithio ar bawb yn wahanol ac y gall weithiau fod yn fisoedd neu hyd yn oed yn flynyddoedd cyn i wir effaith a chanlyniadau profiad rhywun daro gartref mewn gwirionedd.

Gall galar hefyd fod yn ddechrau ar gylch o ymddygiad a all arwain at batrymau ymddygiad llawer mwy dinistriol, ac nid yw'n anghyffredin i deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth drawmatig a sydyn chwalu, gan arwain at ganlyniadau pellach, yn anffodus. Gyda hyn mewn golwg, mae cymorth uniongyrchol yn hanfodol i helpu teuluoedd i oresgyn yr adegau cyntaf o alar, yn enwedig yn sgil colli plant a phobl ifanc, pan fydd y golled yn ymddangos mor annheg. Ond hyd yn oed os yw'r cymorth yn y dyddiau a'r wythnosau cynnar ar gael ac yn dda, rhaid inni gofio bod angen gwneud digon o waith dilynol i sicrhau nad yw pobl yn dilyn y llwybr anghywir yn y pen draw.

Mae Rhian Mannings ac eraill wedi gwneud gwaith gwirioneddol anhygoel ar sefydlu elusen 2 Wish, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau roeddent ynddynt, fel y mae fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, eisoes wedi nodi. Mae gallu cynnig cymorth ar unwaith o fewn oriau i farwolaeth sydyn a chynnig gwasanaeth cofleidiol wedyn sy'n addas i anghenion pawb yn unigryw ac yn rhywbeth y dylem fod yn falch o'i gefnogi. Mae llawer o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig yn ceisio cael gwasanaeth fel yr un a gynigir gan 2 Wish, a byddai cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i allu ei ffurfioli ac ariannu'r gwasanaeth yn gam enfawr i helpu teuluoedd sy'n galaru.

Yr hyn y mae'r ddeiseb a gyflwynwyd, a'r ddadl hon yn y pen draw, yn ei gynrychioli yw newid diwylliannol o fewn y gwasanaeth iechyd i gydnabod yr angen am gymorth cyson i deuluoedd ac i staff gael hyfforddiant priodol i ymateb yn fwy greddfol i anghenion teuluoedd ar ôl marwolaeth sydyn plentyn neu rywun annwyl.

Yn anffodus, gwyddom nad yw arferion da yn gyson ar draws sefydliadau, ond mae angen inni anelu at sicrhau eu bod yn gyson. Yn rhy aml, gall pobl brofi salwch seiciatrig neu broblemau iechyd meddwl ar ôl profedigaeth am nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae i hyn oblygiadau mwy yn nes ymlaen wrth gwrs, pan fydd angen iddynt ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl sydd eisoes o dan bwysau sylweddol.

Credaf fod angen inni hefyd gydnabod manteision diwylliant o ddysgu, fel bod dadansoddiad priodol yn cael ei wneud pan fydd pethau'n mynd o chwith, er mwyn inni ddeall sut y gallwn ei atal rhag digwydd eto. Heb os, mae elusennau fel 2 Wish wedi profi ein bod yn gallu gwneud pethau'n well, ond rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon. Mae angen inni werthfawrogi manteision cynorthwyo teuluoedd, rhieni a hyd yn oed ffrindiau'r rhai sydd wedi dioddef yn sgil colli plant a phobl ifanc yn sydyn, ac i gydnabod lle hynny'n ffurfiol o fewn y gwasanaeth iechyd drwy sicrhau ei fod yn cael ei gyllido'n briodol ac yn hirdymor. Nid yw ond yn iawn fod y ddadl bwysig hon yn digwydd, ac rwy'n datgan fy nghefnogaeth lwyr iddi. Diolch.  

16:25

Diolch, Lywydd dros dro, a diolch i Jack am eich cyfraniad wrth agor y ddadl heddiw. Fel Aelod newydd o'r Senedd ac aelod newydd o'r Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddechrau drwy ddweud pa mor bwysig yw deisebau, nid yn unig i ni fel Aelodau o'r Senedd, ond i drigolion sy'n byw ym mhob rhan o Gymru. Rydym—. Mae'n ddrwg gennyf, nid yn unig i ni fel Aelodau o'r Senedd, ond i drigolion sy'n byw ym mhob rhan o Gymru. Rydym yn siarad â'n hetholwyr ac yn eu cefnogi bob dydd, ond i mi deisebau yw'r ffordd orau o wybod beth sydd bwysicaf i'r bobl a gynrychiolwn yn y Siambr hon.

Denodd y ddeiseb dan sylw heddiw, 'Cynorthwyo teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl', dros 5,500 o lofnodion, sy'n dangos cryfder aruthrol y teimlad, ac mae'n dyst i'r gwaith anhygoel a ddarparir gan yr elusen 2 Wish Upon A Star. 

Hoffwn adleisio geiriau Jack Sargeant wrth dalu teyrnged i'r deisebydd, Rhian Mannings. Roeddwn yn ddigon ffodus i gyfarfod â Rhian pan ymwelodd â'r Senedd i drafod y ddeiseb. Roedd stori Rhian yn dorcalonnus. Mae cerdded allan i dywyllwch y nos heb gael cynnig cymorth yn deimlad na ddylai unrhyw deulu sydd newydd golli eu plentyn neu oedolyn ifanc orfod dioddef. Roedd ei chryfder a'i phenderfyniad yn gwneud imi deimlo'n ostyngedig iawn.

A hithau'n galaru, creodd Rhian yr elusen 2 Wish Upon A Star gyda'r nod o roi cymorth i unrhyw un yr effeithir arnynt gan farwolaeth sydyn ac annisgwyl plant a phobl ifanc 25 oed neu iau. Mae'n cymryd dewrder gwirioneddol i ddod o hyd i oleuni mewn tywyllwch o'r fath. Bu 2 Wish yn oleuni i Rhian, a diolch i'w gwaith diflino 2 Wish bellach yw'r goleuni i gymaint o deuluoedd eraill sydd wedi colli anwyliaid.

Rydym yn defnyddio'r gair 'cymorth' yn aml, a chredaf ein bod weithiau'n anghofio beth yn union yw cymorth a sut y mae'n teimlo, a'r effaith y mae'n ei chael ar y rhai sy'n ei dderbyn. Mae cymorth gan 2 Wish Upon A Star yn dechrau gyda'r cynnig uniongyrchol o flwch atgofion. Ac ar ôl cael cydsyniad y rhai sydd mewn galar, bydd 2 Wish yn eistedd gyda'r teuluoedd neu unigolion yn eu hystafell fyw, a bydd yn cadw mewn cysylltiad wythnosol nes y daw adeg pan na fydd angen y cymorth mwyach.

Gall yr elusen ddarparu'r pecyn cymorth amhrisiadwy hwn drwy weithio mewn partneriaeth â'r holl fyrddau iechyd, ysbytai, heddluoedd, crwneriaid a thimau iechyd meddwl ledled Cymru. Mae'n gwbl dorcalonnus fod rhai teuluoedd yn cael eu hamddifadu o'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd; nid yw'n deg. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw'r ddarpariaeth y mae 2 Wish yn ei chynnig, a'r gwahaniaeth y byddai nodau ac amcanion yr elusen, a amlinellir yn y llyfryn hwn, yn ei wneud i deuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru.

Ar ôl creu fy elusen fy hun, rwy'n deall pa mor anodd y gall fod i gael arian grant. Weithiau gall y pryder cyson o geisio dod o hyd i gyllid grant dynnu oddi wrth y ddarpariaeth rydych yn ceisio'i rhoi. Mae angen y cyllid y mae'n ei haeddu ar ddarpariaeth mor bwysig â'r un a gynigir gan 2 Wish, ac rwy'n annog y Gweinidog i roi ystyriaeth ddifrifol i gais y ddeiseb.

16:30

Dim ond ychydig o eiriau sydd gen i i groesawu a chefnogi'r ddeiseb bwysig yma. Mae'r alwad yn ddigon syml, onid ydy hi: i sicrhau bod teuluoedd sy'n colli eu plant neu bobl ifanc yn annisgwyl yn cael y cymorth mae arnyn nhw ei angen. Ac mae hi'n alwad daer ac yn alwad o'r galon. A dwi eisiau diolch i Rhian Mannings am ei holl waith ymgyrchu ar y mater pwysig yma, yn deillio wrth gwrs o'i phrofiad hi, ac efo dros 5,500, dwi'n meddwl, o lofnodion, mae'n amlwg ei fod o'n fater sydd wedi cyffwrdd â llawer iawn, iawn o bobl.

Mae marwolaeth plentyn yn brofiad y gallaf i brin ei ddychmygu. Mae o'n mynd i fod y mwyaf trawmatig o brofiadau yn effeithio yn sylweddol ar deuluoedd cyfan: ar rieni, ar frodyr a chwiorydd, ar deuluoedd ehangach ac ar gymunedau cyfan hyd yn oed. Ac mae profedigaeth yn gallu effeithio ar iechyd corfforol yn ogystal ag iechyd meddwl. Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy'n galaru am blentyn yn wynebu mwy o beryg—y cwbl annisgwyl, y methiant i dderbyn neu ymresymu efallai yn fwy tebyg o arwain at anhwylder galar hir. Ac mi oedd hi'n dorcalonnus i glywed felly am brofiad Rhian a'i theulu, eu bod nhw heb gael cynnig unrhyw gymorth ar ôl gadael yr ysbyty ar ôl marwolaeth ei mab, George. A does gen i ddim ond edmygedd at Rhian am ei holl waith ers hynny yn ymgyrchu i drio gwneud yn siŵr bod teuluoedd eraill ddim yn wynebu'r un sefyllfa.

Dwi'n meddwl bod yr adborth y mae 2 Wish—yr elusen y mae Rhian wedi'i sefydlu—wedi ei gael yn brawf o mor werthfawr ydy'r gefnogaeth maen nhw yn ei rhoi. Mi allaf i ddyfynnu gan un fam a oedd ar eu gwefan nhw:

'Maent wedi helpu ein teulu i aros gyda'n gilydd pan oeddem yn rhy wan i afael yn ein gilydd. Roedd y sesiynau cwnsela unigol yn darparu hafan ddiogel i siarad; neu beidio â siarad. Mae'r sesiynau grŵp a ddarperir nid yn unig ar gyfer rhieni, ond ar gyfer neiniau a theidiau hefyd, wedi ein helpu i rannu'r baich.'

Rŵan, mae 2 Wish yn gwneud cyswllt cyntaf efo teulu o fewn 24 neu 48 awr i bobl yn cael eu cyfeirio atyn nhw, ond wrth gwrs maen nhw'n poeni bod pawb ddim yn gallu cael y math yna o gefnogaeth. Felly, dyna maen nhw'n gofyn amdano fo drwy'r ddeiseb yma: fod staff meddygol yn gorfod rhoi'r cynnig yna o gymorth i deuluoedd hyd yn oed os nad ydy'r teulu yn teimlo eu bod nhw eisiau cymryd mantais ohono fo. Fel y mae Natalie Edwards, a gollodd ei mab, Griff, pan oedd o'n wyth mis oed, yn ei ddweud, hefyd ar wefan 2 Wish:

'Roedd yn gymorth roeddem yn gobeithio na fyddai byth mo'i angen arnom. Ond mae ei angen arnom. Ac rydym mor ddiolchgar ei fod yno.'

Gadewch inni wneud yn siŵr fod y gefnogaeth yna ar gael i bob teulu sy'n wynebu'r hunllef yma.

Fel cadeirydd y grwpiau trawsbleidiol ar ofal lliniarol a hosbisau ac ar angladdau a phrofedigaeth yn y Senedd hon a'r Senedd ddiwethaf, rwyf wedi gweithio gyda'n haelod o'r grŵp, Rhian Mannings, a gyflwynodd y ddeiseb hon ac a sefydlodd yr elusen 2 Wish Upon a Star yng Nghymru, sy'n darparu cymorth profedigaeth hanfodol i deuluoedd sydd wedi colli plant a phobl ifanc o dan 25 oed yn sydyn neu'n drawmatig o ganlyniad i hunanladdiad neu drwy ddamwain neu salwch.

Dywedodd wrthyf mai marwolaeth sydyn yw'r farwolaeth sy’n cael ei hanghofio yng Nghymru, ac er bod yr elusen wedi dod yn wasanaeth statudol i bob pwrpas yng Nghymru, gan weithio gyda phob bwrdd iechyd a phob heddlu, nid ydynt yn cael unrhyw gymorth statudol ac mae’n rhaid iddynt godi pob ceiniog eu hunain, er eu bod yn lleihau'r pwysau ar dimau iechyd meddwl wrth helpu i fynd i'r afael â thrawma marwolaeth annisgwyl a cholled na ellid bod wedi'u rhagweld.

Dechreuodd ei brwydr, fel y clywsom, ar ôl iddi golli ei gŵr a’i mab yn sydyn. Dim paratoi, dim rhybudd ac yna dim byd, meddai, a dywed fod y diffyg cymorth a gawsant wedi arwain yn uniongyrchol at hunanladdiad ei gŵr. Yn wir, ei phenderfyniad i ddarparu'r cymorth y byddai wedi dymuno ei gael yn sgil marwolaeth ei mab a'i gŵr yw'r rheswm pam ein bod yn trafod y mater hollbwysig hwn heddiw.

Ar hyn o bryd, nid oes cymorth profedigaeth swyddogol i deuluoedd yng Nghymru. Fe'i darperir gan sefydliadau fel 2 Wish Upon A Star neu hosbisau fel hosbis plant Tŷ Gobaith ger Conwy, lle mae gwasanaethau'n cynnwys eu hystafell plu eira—ystafell arbennig y rheolir ei thymheredd lle gall teuluoedd a ffrindiau dreulio amser yn ffarwelio, yn eu hamser ac yn eu ffordd eu hunain, â phlant sydd wedi marw.

Mae'r grwpiau trawsbleidiol yn croesawu'r fframwaith cenedlaethol drafft ar gyfer darparu gofal profedigaeth a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Cyfrannodd aelodau'r grŵp yn sylweddol at ei ddatblygiad, ac mae ein rhaglenni gwaith yn cynnwys ffocws ar lawer o'r pynciau sydd wedi'u cynnwys yn y fframwaith. Mae uchelgais y fframwaith i sicrhau bod pobl Cymru'n gallu cael gofal a chymorth profedigaeth amserol o ansawdd yn greiddiol i'r ddadl heddiw. Ni ddylai unrhyw deulu fod ar eu pennau eu hunain ac wedi'u hynysu ar ôl colli plentyn.

Mewn cyfarfodydd grŵp trawsbleidiol, rydym hefyd wedi trafod enghreifftiau o ddiffyg dealltwriaeth gan gyrff y sector cyhoeddus o anghenion penodol teuluoedd du ac ethnig leiafrifol yng Nghymru mewn perthynas â phrofedigaethau. Yn wir, argymhellodd ymchwiliad Cymru Garedig a'r grŵp trawsbleidiol ar ofal lliniarol a hosbisau wasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion penodol cymunedau ar sail hil, gan gynnwys pobl o gymunedau amrywiol i gydgynhyrchu gwasanaethau.

Mae'r ddeiseb heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, i gefnogi gwasanaeth yma yng Nghymru i sicrhau bod teuluoedd sy’n colli plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed ac iau yn annisgwyl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Gadewch inni wrando ar yr uwch dditectif o Heddlu Gogledd Cymru a ddywedodd wrthyf, 'Mae angen mawr am y gwasanaethau a ddarperir gan 2 Wish Upon A Star i'r teuluoedd ledled Cymru sydd wedi dioddef profiad mor drasig, ac mae'n rhywbeth sy'n amlwg wedi bod ar goll yng ngogledd Cymru yn fy mhrofiad proffesiynol personol. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn bendant wedi gweld budd y gwasanaethau y mae 2 Wish Upon A Star yn eu darparu, nid yn unig wrth ddarparu amgylchedd addas mewn ysbyty i'r teuluoedd drafod yr amgylchiadau gyda gweithwyr proffesiynol, ond rhywle hefyd lle gallant ddechrau dygymod â'u colled. Yn ychwanegol at hynny', dywedant, 'mae 2 Wish Upon A Star yn darparu mecanweithiau cymorth proffesiynol parhaus hanfodol i rwydwaith y teulu wedi hynny.' Ac yn ogystal â chynorthwyo teuluoedd, mae 2 Wish Upon A Star wedi cefnogi hyfforddiant i swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, sydd wedi cael effaith sylweddol ar sut y maent yn ymdrin â marwolaeth unrhyw blentyn. 'Heb os, maent wedi ein cynorthwyo ni', dywedant, 'drwy broffesiynoli ein dull o weithredu.'

Rwyf am adael y gair olaf i uwch aelod o staff Heddlu Gogledd Cymru, a anfonodd e-bost, 'Roeddwn yn ymwybodol o 2 Wish Upon A Star o drafodaethau yn y gweithle gyda fy nghydweithwyr. Yn anffodus, bûm mewn sefyllfa wedi hynny lle gwelais â'm llygaid fy hun y budd y gall 2 Wish Upon A Star ei roi i'r rheini sy'n dioddef y galar aruthrol nad oes dim ond colli plentyn yn gallu ei greu. Yn fy achos i, digwyddodd hynny ar ôl marwolaeth fy nai wyth wythnos oed. Gallaf ddweud yn hyderus fod y budd a roddodd 2 Wish Upon A Star i'w rieni wedi bod yn anfesuradwy ac yn barhaus.' 'Heb gymorth cynlluniau fel hyn', meddai, 'byddai'n gymaint anoddach ymdopi â'r tywyllwch a all amgylchynu'r rheini sy'n cael profedigaeth sydyn a thrawmatig. Rwy'n eich annog', meddai, 'i roi eich cefnogaeth lawn i'r ddadl hon.' Diolch.

16:35

Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddeiseb a'r ddadl bwysig hon heddiw. Dyma fy nadl gyntaf ar ddeiseb ers dod yn Aelod o’r Senedd, ac yn gyntaf oll, hoffwn longyfarch Mr Sargeant ar gadeirio’r pwyllgor a chyflwyno’r eitem hon heddiw, ac ar yr hyn a oedd, i mi, yn gyfraniad teimladwy gennych chi, Jack. Mae'n sicr yn rhoi'r ddeiseb o'n blaenau yma heddiw mewn persbectif. Er gwaethaf natur drist llawer o ddeisebau a gyflwynir i'r Senedd, i adleisio geiriau Buffy yn gynharach, credaf ei bod yn wych gweld democratiaeth ar waith ac aelodau cyffredin o'r cyhoedd yn gallu cyflwyno unrhyw ddeiseb a ddymunant, a'n bod ni yn y Senedd genedlaethol hon yn gallu ymchwilio iddynt a thrafod y deisebau hynny.

Wrth edrych ar y ddeiseb o'n blaenau yma heddiw, 'Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl,' mae'n hanfodol bwysig, wrth gwrs, ein bod yn archwilio hyn ac yn darparu'r cymorth gorau posibl. Rwy'n siŵr fod Aelodau yn y Siambr yma heddiw a fydd efallai wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc, neu efallai fod aelodau agos o'u teulu neu ffrindiau wedi colli plentyn yn sydyn—ac rwy'n meddwl am fy nheulu fy hun ar yr adeg hon hefyd gyda'r ddeiseb benodol hon. Ac fel y mae'r ddeiseb yn nodi, mae gwir angen inni sicrhau bod y teuluoedd hynny, rhai o'n teuluoedd ein hunain yma efallai, sy'n colli plentyn yn annisgwyl, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fynd drwy'r profiad. Mae'n warthus fod rhai teuluoedd yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain heb gael unrhyw gymorth na chyswllt gan weithwyr proffesiynol.

Serch hynny, hoffwn gymryd ychydig funudau i ganolbwyntio ar rai o'r sefydliadau sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn y maes hwn. Dros yr haf, cefais y pleser o gyfarfod â Tŷ Gobaith, y cyfeiriodd Mr Isherwood ato eiliad yn ôl, un o'r unig ddau hosbis plant yng Nghymru, gyda Tŷ Hafan. Mae hosbisau fel y rhain yn adnabyddus, yn briodol iawn, am y cymorth y maent yn ei roi i deuluoedd y mae eu plant yn dioddef o afiechydon sy'n cyfyngu ar fywyd. Ond maent hefyd yn darparu cymorth ardderchog i deuluoedd unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc sydd wedi marw'n sydyn, ni waeth a ydynt wedi cael cyswllt blaenorol â'r hosbis ai peidio. A châi'r teulu fynediad at yr ystod lawn o wasanaethau cymorth a oedd yn cynnig arweiniad, gofal, ac mewn sawl achos, gweithredai fel clust i wrando neu ysgwydd i grio arni. Pan ymwelais â Tŷ Gobaith, cefais fy synnu gan eu hystafell plu eira, y cyfeiriodd Mr Isherwood ati ychydig funudau yn ôl. Mae'r ystafell hon yn caniatáu i aelodau'r teulu fod gyda'u plentyn am gyfnod hirach ar ôl iddynt farw. Mae'n amser mor bwysig i deuluoedd ei dreulio gyda'u hanwyliaid, ac mae'n darparu cyfleoedd i eraill ym mywyd y plentyn ffarwelio yn eu ffordd eu hunain. A chredaf ei bod yn bwysig iawn cofio bod llawer o deuluoedd a phobl yn galaru mewn sawl ffordd wahanol, sy'n golygu bod angen i wahanol agweddau ar gymorth fod ar gael, ac fel y mae'r ddeiseb yn gofyn amdano yma heddiw, eu bod yn cael eu cynnig, o leiaf, i deuluoedd sy'n galaru.

Rydym wedi clywed heddiw am y gwaith da, y gwaith rhagorol, gan 2 Wish Upon a Star, sy'n darparu cymorth profedigaeth ar unwaith a pharhaus i'r rheini sy'n colli plentyn neu oedolyn ifanc yn sydyn a thrawmatig, gyda'r nod o helpu'r rheini sy'n wynebu'r annirnadwy i fyw eto, i wenu eto ac i beidio â rhoi’r gorau i obeithio. Felly, mae'r rhain yn enghreifftiau gwych o ble mae cymorth ar gael, ac mae'n helpu teuluoedd ledled Cymru. Ond credaf mai un o'r pethau a amlygir drwy'r ddeiseb hon yn sicr yw diffyg cysondeb a diffyg sicrwydd y bydd cymorth ar gael i bob teulu sy'n dioddef profedigaeth. A dyna pam fy mod i, yn sicr, yn fwy na pharod i gefnogi'r ddeiseb hon, fel ein bod yn cael y cysondeb, y sicrwydd y bydd unrhyw deulu sy'n dioddef profedigaeth yn cael cynnig y cymorth hwnnw.

Felly, i gloi, Gadeirydd, hoffwn ddiolch eto i'r Pwyllgor Deisebau am yr holl waith gwych y maent wedi'i wneud yn nhymor y Senedd hon—a chyda Ms Finch-Saunders yn cadeirio'r Pwyllgor Deisebau o'r blaen, y gwaith a wnaed yn flaenorol hefyd—ac wrth gwrs, mae'n rhaid imi ddweud, mae'r cyfraniadau gan yr Aelodau yn y Siambr heddiw yn deimladwy ac yn galonogol, wrth inni geisio sicrhau'r gorau i bobl Cymru. Rwy’n siŵr y gall pob Aelod gefnogi’r ddeiseb a sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n darparu’r cymorth cywir sydd ei angen ar bob teulu a ffrind yn eu horiau tywyllaf. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Nid wyf yn dymuno ailadrodd cyfraniadau gan eraill heddiw, ond hoffwn adleisio teimladau eraill a thalu teyrnged i Rhian ac eraill sydd wedi dioddef y profiadau gwaethaf ond sydd wedi dod o hyd i nerth i gynorthwyo cymaint o bobl eraill. Rydym yn unedig heddiw yn ein cefnogaeth, ac yn briodol felly. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn gobeithio na fydd yn rhaid inni ei brofi byth, ond yn anffodus, mae'n digwydd, ac ni waeth beth a roddwn ar waith, ni allwn roi diwedd ar farwolaethau sydyn neu annisgwyl plant ac oedolion ifanc, ond gallwn gymryd camau i'w lleihau. Ond mae gallu sicrhau bod y gwasanaethau yno pan fydd y peth gwaethaf yn digwydd yn rhywbeth sydd o fewn ein rheolaeth.

Wrth edrych ar y ddeiseb, ac yn enwedig ar ymateb Rhian i’r pwyllgor, hoffwn annog y Gweinidog—ac rwy’n siŵr eich bod wedi gwneud hynny—i edrych yn ofalus ar argymhellion Rhian, oherwydd yn amlwg, mae ganddi brofiad o hyn ac mae'n cynrychioli cymaint o bobl. Yn ei gohebiaeth â'r Pwyllgor Deisebau, soniodd Rhian am yr arolwg o wasanaethau profedigaeth yng Nghymru yn 2020, ac fel y nododd Sam yn gwbl gywir, y diffyg cysondeb. Ac er bod gennym grynodeb o'r ymatebion hynny, nid yw'n glir beth yw'r gwasanaethau hynny, pwy sy'n eu darparu na pha fath o gymorth sy'n cael ei ddarparu. Yn yr arolwg, mae hefyd yn nodi bod 42 y cant o wasanaethau'n darparu cymorth ar unwaith, ond nid yw hynny'n cael ei fesur chwaith. Nid yw'n glir beth y mae'r cymorth hwnnw'n ei gynnwys. Dywed Rhian, yn gwbl gywir, fod angen inni ddeall yn well, er bod yr arolwg hwn wedi'i gwblhau, beth yw'r sefyllfa bresennol, oherwydd fy mhrofiad eisoes fel Aelod newydd yw ei bod yn anodd iawn darganfod pa wasanaethau sydd ar gael yn lleol, yn enwedig i gynrychioli ardal megis Canol De Cymru, sydd, yn amlwg, yn cynnwys dau fwrdd iechyd gwahanol ac yn y blaen. Mae'n anodd iawn dweud wrth bobl beth yn union yw'r gwasanaethau.

Fel y clywsom yn y ddadl hon, mae'r ffaith mai elusennau fel 2 Wish sy'n darparu'r cymorth hanfodol hwn yn golygu nad yw'n orfodol ar hyn o bryd. Yn anad dim, credaf mai dyna yr hoffwn ei weld yn deillio o'r ddeiseb hon: cawn eiriau cynnes o gefnogaeth, gwyddom werth y gwasanaethau a ddarperir, rydym yn cydnabod effaith sefydliadau fel 2 Wish—mae gennym hefyd sefydliadau fel Grief Support Cymru yn fy rhanbarth i—ond ar yr adegau gwaethaf, mae angen inni sicrhau bod staff sy'n ymdrin â rhieni a pherthnasau sy'n galaru ac ati yn gwybod ble i'w cyfeirio ar unwaith, oherwydd yn anffodus, fel y gwelodd Rhian mor drychinebus ei hun, mae'r effaith honno'n ddinistriol ar rieni, a gall arwain at golled a galar pellach.

Byddwn yn annog y Llywodraeth i ystyried syniadau ac argymhellion meddylgar ac ystyrlon Rhian, fel eu bod yn cael sylw llawn. Gyda'r deisebau, nid wyf yn hoffi ein bod ond yn eu nodi. Gwn mai dyna'r drefn yn y Senedd, ac mae hynny'n rhyfedd iawn yn fy marn i, gan fod hyn yn ymwneud â mwy na nodi, onid yw? Mae'n ymwneud â rhoi cefnogaeth lwyr i'r teimlad a'r ymdrech sy'n sail i hyn, ac mae'n ymwneud â sicrhau'r cais syml fod cymorth ar unwaith yn orfodol. Os gallwn gyflawni hynny, credaf y byddwn mewn lle gwell i gefnogi pobl ar yr adegau gwaethaf.

16:45

Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle.

Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant a’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddeiseb bwysig hon ar lawr y Senedd heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Yn anad dim, serch hynny, hoffwn ddiolch i Rhian Mannings, prif weithredwr a sylfaenydd 2 Wish, am gyflwyno'r ddeiseb hon, ac am weithio mor galed, dros fisoedd lawer, sydd wedi cynnwys pandemig byd-eang, i'w hyrwyddo. Gwn ein bod wedi clywed stori Rhian heddiw fod 2 Wish wedi'i sefydlu ganddi yn dilyn marwolaeth sydyn ei mab bach, George, trasiedi a ddilynwyd, bum niwrnod yn ddiweddarach, gan hunanladdiad ei gŵr, Paul. Mae'n anodd i'r rhan fwyaf ohonom ddychmygu effaith colli ei mab bach a'i gŵr ar Rhian. Yn bersonol, rwy'n synnu at y dewrder sydd wedi'i galluogi i oroesi trasiedi mor aruthrol ac i weithio mor benderfynol i atal teuluoedd eraill rhag mynd drwy'r hyn yr aeth hi drwyddo.

Rwy'n croesawu'r ddeiseb hon rydym yn ei thrafod heddiw yn fawr. Credaf fod cymorth i deuluoedd sy'n colli plentyn neu oedolyn ifanc yn annisgwyl yn hanfodol. Mae ymdopi â marwolaeth rhywun agos yn anodd i unrhyw un, ond mae effaith colli plentyn neu unigolyn ifanc yn enbyd o ddinistriol. Gwn pa mor bwysig y bu'r math o gymorth a ddarperir gan 2 Wish i gynifer o deuluoedd. Mae eu blychau atgofion mewn ysbytai yn rhoi rhywfaint o gysur i deuluoedd ar yr adeg dywyllaf eu bywydau—adeg nad yw'r rhan fwyaf o bobl wedi cael cyfle i baratoi ar ei chyfer. Mae'r gallu i gynnig cymorth yn fuan ar ôl y brofedigaeth neu pryd bynnag y mae angen y cymorth hwnnw, boed ymhen chwe mis, dwy flynedd neu fwy, yn achubiaeth i deuluoedd. Mae galar yn beth personol iawn, nid yw'n llinellol, ac mae angen i unrhyw gymorth adlewyrchu hynny. Fel y dywed y ddeiseb,

'Mae colli plentyn yn effeithio arnoch am byth, ac mae angen i deuluoedd wybod bod cymorth hirdymor ar gael i'w helpu drwy'r broses o alaru.'

Mae'r gallu i roi cymorth i holl aelodau'r teulu, gan gynnwys plant sydd wedi cael profedigaeth, yn hanfodol. Mae mor bwysig cydnabod hefyd, fel y mae 2 Wish yn ei wneud, fod yr angen am gymorth yn cynnwys aelodau o staff sy'n gweithio gyda theuluoedd, gan fod llawer ohonynt yn wynebu trallod a thrawma ar ôl bod yno ar adeg mor dorcalonnus i deuluoedd.

Roeddwn yn falch iawn ym mis Medi, ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, o gael ymweld â phencadlys 2 Wish yn Llantrisant i drafod eu prosiect peilot profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Ngwent, un o dri phrosiect peilot profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Nghymru. Fel y gŵyr rhai o'r Aelodau yma eisoes, mae atal hunanladdiad, ac yn enwedig atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc, yn arbennig o bwysig i mi. Gwyddom fod pobl sydd mewn profedigaeth yn sgil hunanladdiad mewn llawer mwy o berygl o farw drwy hunanladdiad, felly mae cymorth profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn flaenoriaeth allweddol i mi. Mae cymorth profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn atal hunanladdiad ac yn achub bywydau. Mae 2 Wish wedi gweithio'n agos gyda Heddlu Gwent i gynnig cymorth ar unwaith i unrhyw un sy'n cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Ngwent, ac mae hynny'n ychwanegol at eu gwaith yn cefnogi teuluoedd ledled Cymru sydd wedi colli unigolyn ifanc yn sgil hunanladdiad. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch i 2 Wish a Heddlu Gwent am eu gwaith hanfodol yn y maes hwn.

Rwyf am i bawb yng Nghymru sydd mewn profedigaeth wybod bod cymorth ar gael iddynt. Gyda hynny mewn golwg, ddydd Iau diwethaf, roeddwn yn falch o gyhoeddi lansiad y fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth yng Nghymru. Rwy'n cymeradwyo'r fframwaith hwn i'r Aelodau. Mae'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru garedig lle mae gan bawb fynediad at ofal a chymorth profedigaeth o safon uchel i ddiwallu eu hanghenion yn effeithiol pan fydd ei angen arnynt. Rwy'n ddiolchgar i'r ystod eang o bartneriaid statudol a gwirfoddol sy'n gysylltiedig â'r gwaith o'i ddatblygu, gan gynnwys y rheini sydd wedi dioddef profedigaeth eu hunain.

Roedd y fframwaith drafft yn destun ymgynghoriad wyth wythnos yn gynharach eleni, ac amlinellodd rhai o'r ymatebwyr eu profiadau personol o brofedigaeth yn gyffredinol a phrofedigaeth yn ystod y pandemig. Hoffwn ddiolch i'r holl ymatebwyr am rannu eu profiadau gyda ni fel y gellir cynorthwyo eraill. Mae'r fframwaith yn gosod cyfrifoldebau ar fyrddau iechyd i gomisiynu gofal profedigaeth er mwyn diwallu anghenion eu poblogaethau. Yn benodol, mae'n nodi'r gofynion ar gyfer sefydlu safonau sylfaenol ac yn disgrifio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r safonau hyn, a gofynnir i gomisiynwyr adrodd ar eu perfformiad yn rheolaidd.

Gan droi yn awr at yr hyn y mae'r ddeiseb rydym yn ei hystyried heddiw yn gofyn amdano, rwy’n llwyr gydnabod yr angen i sicrhau bod llwybr atgyfeirio cyson a chlir ar gael ar unwaith i deuluoedd sy’n colli plentyn neu unigolyn ifanc ni waeth ble y maent yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo, fel Dirprwy Weinidog, i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn cyflawni hynny. Felly, rwy'n ymrwymo i weithio gyda Rhian, ei sefydliad ac eraill ar y grŵp llywio cenedlaethol i roi safon ar waith sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddarparu cymorth o'r fath. Bydd Rhian ac aelodau eraill o brofiad y grŵp yn hanfodol wrth ein cynorthwyo i lunio'r safon hon fel ei bod yn ddigon cadarn i nodi a yw byrddau iechyd yn cynnig y cymorth hwnnw'n rhagweithiol mewn ffordd gyson ledled Cymru. Rwy'n ymrwymo i'r Senedd heddiw hefyd y byddaf, fel Gweinidog, yn sicrhau bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo ar fyrder. Rwy'n gobeithio bod Rhian, y bûm yn gweithio gyda hi ar y ddeiseb cyn iddi gyrraedd y Llywodraeth, yn fy adnabod yn ddigon da i wybod y byddaf yn cadw at fy ngair ar hyn.

Er mwyn cefnogi'r fframwaith profedigaeth newydd, byddwn hefyd yn sicrhau bod £420,000 ychwanegol ar gael i fyrddau iechyd yn 2022-23 a 2023-24 i helpu gyda chydgysylltu gwaith profedigaeth a gweithredu'r safonau profedigaeth. Byddwn yn monitro gweithrediad y safonau drwy fframwaith rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru, a byddwn yn herio byrddau iechyd lle mae'n amlwg nad ydynt yn bodloni'r safonau. Yn amlwg, mae'n rhaid inni ddangos bod sefydliadau sy'n cynnig cymorth yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael yr adnoddau priodol, ac ochr yn ochr â'r fframwaith, cyhoeddais grant cymorth profedigaeth o £1 filiwn i'n partneriaid yn y trydydd sector ar gyfer y tair blynedd nesaf. Rwyf wedi gofyn i'r meini prawf ar gyfer y grant annog cynigion gan y sefydliadau sy'n gallu cynnig y cymorth ar unwaith y mae'r ddeiseb yn galw amdano. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ymestyn a dyfnhau'r cymorth hwnnw ledled Cymru, ac yn helpu i lenwi'r bylchau sy'n bodoli yn y ddarpariaeth bresennol.

Mae cefnogi'r aelodau o'n cymuned sydd mewn profedigaeth yn gyfrifoldeb i bob un ohonom mewn sawl ffordd, a hoffwn dalu teyrnged i bawb sy'n ymwneud â chynorthwyo a gofalu am yr holl bobl mewn profedigaeth yng Nghymru. Hoffwn roi sicrwydd i chi hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw un yng Nghymru sydd angen mynediad at ofal a chymorth profedigaeth o ansawdd yn ei gael. Hoffwn gloi heddiw drwy ddiolch eto i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon a thrwy ddiolch o galon i Rhian ac i 2 Wish am bopeth y maent yn parhau i'w wneud i gynorthwyo teuluoedd sy'n wynebu'r golled annirnadwy o golli plentyn neu unigolyn ifanc yn eu bywydau. Diolch yn fawr.

16:55

Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Wrth gloi’r ddadl heddiw, hoffwn dalu teyrnged unwaith eto i Rhian Mannings, i 2 Wish, i bawb sydd yma yn ein gwylio heddiw ac i’r rheini yn y gymuned ehangach a gefnogodd y ddeiseb hon. Fel arfer, wrth gloi dadleuon y Senedd, rydych yn cynnig crynodeb o'r cyfraniadau, ac rwyf am geisio gwneud hynny'n gryno, ond ni fydd yn gwneud cyfiawnder â'r hyn y mae aelodau'r grŵp trawsbleidiol wedi'i ddweud yma yn y Siambr. Felly, diolch i'r holl Aelodau, ac mae hynny'n cynnwys y Dirprwy Weinidog am ei chyfraniad diffuant. Roedd yn hyfryd clywed y Dirprwy Weinidog yn croesawu'r ddeiseb ac yn cydnabod bod angen y cymorth a'i fod yn hanfodol. Ac mae'r galar hwnnw'n bersonol iawn. Gwn fod fy nghyd-Aelod ar y pwyllgor, Joel James, wedi dweud y gall galar fod yn fap tuag at ofid. Rwy'n deall hynny'n llwyr. Fel y mae Aelodau ar draws y Siambr wedi'i ddweud, mae angen cysondeb, ac unwaith eto, cyfeiriodd y Gweinidog at hynny yn ei hymateb.

Roedd yn wych clywed y cyhoeddiad am gyllid, oherwydd fel y mae Buffy Williams yn ei gydnabod yn briodol o’i gwaith ysbrydoledig ei hun yn rhedeg elusennau, mae yna bryder yn gyson, ac mae angen inni gael gwared ar y pryder hwnnw i'r rheini sydd wedi dod allan o’r tywyllwch ac i mewn i’r golau fel y gallant ganolbwyntio ar ddarparu'r cymorth na chawsant hwy mohono. Ac fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, mae'n gymorth nad oeddem yn gwybod y byddai ei angen arnom, ond diolch i Dduw ei fod yno.

Wrth gloi, oherwydd fel y dywedais, nid yw’r crynodeb o'r cyfraniadau'n gwneud cyfiawnder â'r hyn y mae'r Aelodau wedi'i ddweud, nid yw’n gwneud cyfiawnder â'r ddeiseb, hoffwn ddiolch eto i’r Dirprwy Weinidog am gydnabod yn llwyr fod angen y llwybr cymorth ar unwaith, a'i hymrwymiad i weithio gyda Rhian Mannings, gyda 2 Wish a chyda'r rheini ar y gweithgor cymorth profedigaeth i roi hyn ar waith, gan mai dyna sydd ei angen arnom yma yng Nghymru. Gyda'r gefnogaeth drawsbleidiol sydd gennym yma, credaf y gallwn gyflawni'r hyn roedd y ddeiseb yn gobeithio ei gyflawni. Fel y dywedais wrth agor y ddadl hon, gall Cymru arwain y ffordd i wledydd eraill, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond ledled y byd.

Lywydd dros dro, drwy'r broses ddeisebau, down i gysylltiad â phobl wirioneddol ysbrydoledig weithiau, pobl sy'n ceisio newid y byd er gwell. Ac yn aml, maent wedi wynebu anhawster eithafol yn eu bywydau eu hunain. Mae Rhian yn esiampl i bob un ohonom, a hoffwn ddiolch iddi am bopeth y mae wedi'i gyflawni ac y bydd yn parhau i'w gyflawni. Rwyf am ei hatgoffa, gan fod hyn wedi'i drafod heddiw—fod cefnogaeth drawsbleidiol yr Aelodau o'r Senedd yn parhau a byddwn yn parhau i weithio gyda chi.

Ar ran y pwyllgor, hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog a'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Diolch yn fawr iawn. 

A diolch i Rhian Mannings a 2 Wish.

Y cynnig yw nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adferiad gwyrdd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griifths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Symudaf ymlaen yn awr at eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adferiad gwyrdd. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM7815 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo adferiad gwyrdd yn ystod chweched tymor Senedd Cymru.

2. Yn nodi ymhellach gynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd.

3. Yn croesawu penodiad Gweinidog a Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

4. Er mwyn helpu i adfer yn wyrdd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda Llywodraeth y DU a nodi cynllun i ddarparu miloedd o swyddi coler werdd ar gyfer economi werddach;

b) cyflwyno addewidion allweddol ar frys fel Bil aer glân, gwahardd plastigau untro at ddefnydd anfeddygol, a chynllun dychwelyd ernes;

c) creu swyddfa annibynnol ar gyfer diogelu'r amgylchedd a newid hinsawdd i Gymru, a fydd yn dwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd;

d) darparu buddsoddiad pellach mewn ynni gwynt morol ac alltraeth; a

e) diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol a'r rheolau cynllunio i bennu targedau a cherrig milltir hirdymor ar gyfer adfer natur yn ogystal â mandadu enillion net bioamrywiaeth ar ddatblygiadau newydd. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd dros dro. Gyda COP26, mae'r Deyrnas Unedig yn cadarnhau ei lle fel arweinydd byd-eang drwy sefydlu polisi cyhoeddus fel ffordd o fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Gwyddom fod angen i'r byd haneru ei allyriadau dros y degawd nesaf, a chyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn canol y ganrif, os ydym yn mynd i gyfyngu'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang a ragwelir i 1.5 gradd. Yn 2019, y DU oedd yr economi fawr gyntaf yn y byd i osod targed cyfreithiol rwymol i gyrraedd allyriadau sero-net erbyn 2050. Gyda chynllun 10 pwynt ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi nodi cynlluniau ar gyfer sut y gellir cyflawni hyn ochr yn ochr â thwf economaidd. Bydd y cynllun yn ceisio cynhyrchu digon o ynni gwynt ar y môr i bweru pob cartref, gan gynnal hyd at 60,000 o swyddi. Bydd yn buddsoddi mewn technoleg dal carbon, gyda tharged i gael gwared ar 10 megatunnell o garbon deuocsid erbyn 2030; darparu ynni niwclear glanach, gan gefnogi 10,000 o swyddi; a gosod 600,000 o bympiau gwres bob blwyddyn erbyn 2028. Ac mae'r arweinyddiaeth gref hon yn talu ar ei chanfed.

Wrth i COP26 ddechrau, mae tua 70 y cant o economi'r byd bellach wedi ymrwymo i dargedau sero-net, i fyny o lai na 30 y cant pan ymgymerodd y DU â'r gwaith o lywyddu'r gynhadledd hon. Mae Llywodraeth Cymru, er gwaethaf eu datganiadau i'r gwrthwyneb, yn cymryd sylw. Fodd bynnag, fel gwlad ddatganoledig, mae bellach yn ddyletswydd ar y Llywodraeth hon i gefnogi nodau ac uchelgeisiau ar ddatgarboneiddio a hybu cynhyrchiant ynni glân. Dyna pam fy mod yn falch iawn o gyflwyno'r cynnig heddiw i'w drafod, fel y gallwn ailffocysu ymdrechion yma yng Nghymru, yn enwedig gan fod cyllideb garbon 2 yr wythnos diwethaf wedi datgelu rhai gwendidau yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at fynd i'r afael â'r broblem sy'n diffinio ein hoes. Yn wir, er y tynnwyd sylw at ddatblygiadau ynni sy'n eiddo lleol i sicrhau elw economaidd i Gymru, mewn gwirionedd, rydych wedi cymryd cam mawr tuag yn ôl drwy dorri rhyddhad ardrethi busnes ar gynlluniau ynni dŵr sy'n eiddo preifat. Dylem fod yn grymuso ein ceidwaid tir a'n ffermwyr i helpu gyda'n hadferiad gwyrdd. Pam, felly, na chafwyd datganiad gan y Gweinidog materion gwledig yr wythnos hon?

Mae'n amlwg fod angen i Lywodraeth Cymru sefydlu cronfa fuddsoddi mewn ynni morol i Gymru gyfan i brynu ecwiti mewn prosiectau ynni morol, gan gynnwys ynni dŵr ar raddfa fach, i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Bum mis ar ôl cau'r ymgynghoriad ar gynllun dychwelyd ernes, sylwaf fod Llywodraeth Cymru yn dal i adolygu'r ymatebion a ddaeth i law, a'n bod yn dal i fod ar y cam ymgynghori ar gyfer gwahardd naw yn unig o eitemau plastig untro.

Am y tro cyntaf o fewn cof, gallaf ddweud yn onest fy mod yn cytuno ag AS Llafur. Chwarae teg i Fleur Anderson am ddal i fyny gyda'r Ceidwadwyr Cymreig a'n galwadau am weithredu ar hancesi gwlyb, yn enwedig y rhai sy'n cynnwys plastig. Yn ogystal â chreu llanast ar welyau afonydd, mae Dŵr Cymru'n dweud eu bod yn ymdrin â thua 2,000 o garthffosydd wedi'u blocio bob mis yng Nghymru. Y prif achosion yw ffyn cotwm a hancesi gwlyb sy'n cynnwys plastig. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando nid yn unig arnom ni ar y meinciau hyn, ond ar eu Haelodau Seneddol Llafur eu hunain, ac yn gweithredu, yma yng Nghymru.

Roedd lefelau cyfranogiad mewn cynllun dychwelyd ernes ar garreg y drws a gynhaliwyd yng Nghonwy rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf yn 97 y cant. Felly, dengys hyn fod y cyhoedd yn awyddus i weithredu. Ac ni allaf anwybyddu addewid arweinyddiaeth personol y Prif Weinidog i basio Deddf aer glân yn y pumed Senedd. Felly, dyma ni yn y chweched Senedd bellach, ac mae'r Aelodau'n dal i ofyn ac yn galw am gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno.

Fel y mae ein cynnig yn dweud yn glir, er mwyn helpu ein hadferiad gwyrdd, mae angen inni adolygu rheolau cynllunio a diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol. Roedd tystiolaeth gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru yn nodi'n glir fod cyfanswm y gwariant ar wasanaethau cynllunio wedi gostwng 50 y cant yng Nghymru ers 2009. Mae hyn yn cael effaith fawr, yn enwedig ar feysydd arbenigol o amodau cynllunio, megis draenio cynaliadwy—rwy'n siŵr fod fy nghynghorwyr yn gwybod beth yw SuDS—ond mae bellach yn drychineb pur i rai awdurdodau lleol, o ystyried y pwyslais a roddir arnynt gan y Llywodraeth hon.

Rhaid rhoi ystyriaeth gynllunio deg hefyd i gynorthwyo rhwydwaith trafnidiaeth werdd. Ar 1,002 o bwyntiau gwefru, dim ond 3.8 y cant o gyfanswm pwyntiau gwefru'r DU sydd gan Gymru. Yr wythnos hon, siaradais â'n gweithredwyr tacsis, sydd bellach yn gofyn a fydd unrhyw gymorth Llywodraeth Cymru iddynt tuag at gerbydau trydan neu gerbydau dim allyriadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed y dylai pob bws, yn ogystal â thacsis a cherbydau hurio preifat, fod yn gerbydau dim allyriadau erbyn 2028. Er fy mod yn ymwybodol fod £50 miliwn wedi'i neilltuo gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r newid hwn, os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei thargedau a diogelu swyddi, eglurodd rhanddeiliaid wrth ein Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith fod yn rhaid gweithredu ar gyllid yn awr. Er mwyn cydnabod y sgiliau sydd eu hangen i fwrw ymlaen â'r agenda werdd, dylai Llywodraeth Cymru weithredu eto—yn awr—i uwchsgilio gweithlu Cymru drwy wireddu addewid y Ceidwadwyr Cymreig i ddarparu 150,000 o brentisiaethau newydd, gan roi sylw i gyngor ColegauCymru y dylid arallgyfeirio'r gweithlu gwyrdd.

Rydym yn awyddus iawn hefyd i weld ymdrechion i greu swyddi morol newydd, gan na fanteisiwyd ar y potensial. Mae ardal cynllun morol Cymru yn cynnwys tua 32,000 km o fôr, ond dim ond 20,779 km o dir sydd gan Gymru, ac rwy'n cydnabod ac yn cymeradwyo fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, oherwydd roedd Joyce ar y pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith cyn i mi ddod yn aelod ohono, ac fe wnaethoch chi hyrwyddo hyn hefyd, yn briodol, a'r potensial i gael swyddi a gweithredu drwy sefydlu prosiectau ymchwil megis plannu dolydd morwellt, y gwyddys eu bod yn dal carbon hyd at 35 gwaith yn gyflymach na fforestydd glaw trofannol. Felly, mae'n amlwg yn syniad da.

Daw hyn â mi at yr angen i weithredu targedau bioamrywiaeth sy'n gyfreithiol rwymol yn awr, gan gynnwys gosod y fenter 30x30 ar sail statudol.

Mae'r RSPB, y Gymdeithas Cadwraeth Forol a sefydliadau eraill i gyd wedi rhoi o'u hamser fel tystion i'n pwyllgor i egluro'r angen i weithredu cyn i drafodaethau cam 2 y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol COP15 ddod i ben yn 2022. Eglurodd adroddiad Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd 3 gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU fod angen cymhellol am well monitro a gwyliadwriaeth. Mae angen eglurhad ar y Senedd hon a'i Haelodau o'r camau rydych yn eu cymryd i gynyddu'r gwaith o fonitro data ar bethau fel iechyd a gwytnwch pridd a'i effaith ar fioamrywiaeth, rhywogaethau a'u cynefinoedd. A chydag arian yn cael ei fuddsoddi yn y gwaith hwn, pa swyddi cadwraeth hirdymor a gaiff eu creu o ganlyniad?

Ddirprwy Lywydd, fel y bydd y ddadl heddiw'n dangos, mae momentwm trawsbleidiol o blaid gweithredu ar aer glân, plastigau untro, bioamrywiaeth, cadwraeth a llawer o bethau eraill. Felly, pam ein bod yn aros? Pam yr oedi gan y Gweinidog a Llywodraeth Cymru? Mae arnaf ofn na all y byd, ein cymdeithas a'r hinsawdd fforddio rhoi mwy o amser i Lywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog ar hyn. Dim mwy o aer poeth: gadewch inni fwrw ymlaen, a gadewch inni weld gweithredu'n digwydd, os gwelwch yn dda. Diolch.

17:05

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:

Yn gresynu at y gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn mewn termau arian parod o'r cyllid cyfalaf sydd ar gael o ganlyniad i fethiant adolygiad o wariant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng brys yn yr hinsawdd a natur, gan leihau cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru 11 y cant mewn termau real erbyn 2024-25 o'i chymharu ag eleni.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) lunio cynllun gweithredu sgiliau net sero sy'n hyrwyddo gwaith teg i gefnogi newid teg;

b) cyflwyno Bil aer glân i sefydlu fframwaith gosod targedau ansawdd aer, a fydd yn ystyried canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.;

c) sefydlu corff goruchwylio amgylcheddol i Gymru a chyflwyno targedau statudol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i:

a) gydnabod uchelgais Cymru i wahardd plastigau untro drwy wneud rheoliadau i beidio eu cynnwys o fewn cwmpas Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020;

b) diwygio Deddf y Diwydiant Glo 1994 i alluogi gweithredu polisi Llywodraeth Cymru i osgoi echdynnu tanwydd ffosil;

c) disodli, yn llawn, arian a dderbyniwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd i alluogi buddsoddi yn natblygiad y diwydiant ynni morol yng Nghymru;

d) cefnogi trydaneiddio rheilffyrdd prif reilffordd Gogledd Cymru a phrif reilffordd De Cymru fel cam sylweddol tuag at system drafnidiaeth gyhoeddus net sero.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Delyth Jewell i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 4:

datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni drwy arwain lleoliad datblygiadau adnewyddadwy i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf ecolegol sensitif;

manteisio i'r eithaf ar botensial Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy a datblygu economaidd drwy geisio datganoli rheolaeth Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn llawn i Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â datganoli pwerau ynni yn llawn;

buddsoddi mewn ymchwil datgarboneiddio, yn enwedig ar gyfer sectorau diwydiannol allweddol fel dur, i leoli Cymru fel arweinydd byd-eang mewn cryfderau Cymreig sy'n dod i'r amlwg fel hydrogen ac ynni morol;

cyflwyno targedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau Cymru ar frys, gyda'r nod craidd o wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030 a gweld adferiad sylweddol mewn bioamrywiaeth erbyn 2050;

buddsoddi'n sylweddol mewn atebion sy'n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd a dirywiad mewn bioamrywiaeth, mewn amgylcheddau daearol a morol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Gadeirydd. Rwy'n cynnig gwelliant Plaid Cymru. Mae hon yn sicr yn ddadl amserol. Mae COP26 yn foment pan fydd y ddynoliaeth naill ai'n unioni ei cham neu'n parhau i esgusodi gwastraff a dinistr, moment pan ydym yn sefyll ar ymyl y dibyn i ganiatáu i'r dyfodol fod neu beidio—dyna sydd yn y fantol yn Glasgow.

Rwy'n falch ein bod yn sôn am adferiad—mae'n air addas, oherwydd mae adfer yn golygu adennill meddiant ar rywbeth a gollwyd neu a gafodd ei ddwyn. Pan soniwn am yr amgylchedd, am fynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd, adfer bioamrywiaeth, rydym yn sôn am adennill tir, ceisio unioni camweddau degawdau blaenorol, y glo a'r lludw a llygredd sydd wedi tagu ein plant. Ond rydym hefyd yn ceisio adennill tir ar gyfer y dyfodol, i adfeddiannu cyfle i genedlaethau sydd eto i ddod. Yr ymdeimlad hwnnw o ddiogelu lle, o gadw rhywbeth sydd eisoes wedi'i ddwyn gan y dyfodol y gallwn ei gipio'n ôl o'r dibyn, dylai adferiad ymwneud â hynny hefyd.

Mae llawer yn y cynnig hwn rydym yn cytuno ag ef. Mae ein gwelliant yn ceisio ei wthio ymhellach, i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun datblygu morol, i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni a sicrhau nad yw datblygiadau ynni adnewyddadwy wedi'u gosod mewn ardaloedd sy'n sensitif yn ecolegol. Hynny yw, er mwyn sicrhau nad yw'r argyfyngau hinsawdd a natur yn gweithio'n groes i'w gilydd.

Rydym yn galw am fuddsoddi mewn ymchwil datgarboneiddio, yn enwedig mewn sectorau allweddol fel dur, i sicrhau nad yw cymunedau a gweithluoedd yn cael eu gadael ar ôl gan yr adferiad hwn, ond eu bod yn cael eu grymuso ganddo—y gall gweithlu Cymru arwain ail chwyldro diwydiannol, ond y tro hwn, diwydiant gwyrdd, mewn hydrogen ac ynni morol. Rydym yn galw am dargedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol fel bod ein cynefinoedd a'n rhywogaethau'n cael eu hadfer eto, er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld mwy fyth o rywogaethau'n cael eu dwyn ac yn diflannu o'n glannau a'n tirweddau.

Gadeirydd, rydym yn galw am ddatganoli Ystad y Goron, i sicrhau bod y miliynau o bunnoedd o elw sy'n deillio o'n hadnoddau naturiol ein hunain yn cael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru, ac nad ydynt yn cael eu cloi ymaith gan y Trysorlys. Gwn fod y Prif Weinidog wedi dangos ei fod yn agored i'r syniad hwn.

Mae cynhadledd y partïon, COP, lle mae meddyliau a meddylfryd yn cyfarfod yn Glasgow yn gosod y ffrâm ar gyfer popeth rydym yn sôn amdano heddiw, oherwydd bydd y penderfyniadau a wneir yno am dargedau a fframiau amser yn pennu faint o ofod sydd yna ar gyfer adferiad, faint o bwysau a fydd ar y llywodraeth, faint o amser sydd yna ar gyfer gobaith cyn anobaith. Gallai'r gofod, y bwlch rhwng yr hyn y mae angen iddo ddigwydd a'r hyn y mae realpolitik yn ei ystyried yn dderbyniol ac caniatáu'n amharod iddo gael ei oddef, fod yn sylweddol. Y bwlch rhwng 1.5 gradd celsius a 2 radd, neu 2.7 gradd—dyna'r terfynau sy'n cynnwys trychineb. Mae'r bwlch rhwng 2035 a 2050, dyddiadau sy'n ymddangos mor bell yn y dyfodol—bydd y bwlch hwnnw'n cau ac yn ein tagu cyn inni gael amser i dynnu anadl. Rhaid rhoi'r adferiad y soniwn amdano ar waith, ac ar frys, oherwydd gellid colli cymaint o hyd.

Gadeirydd, rydym mewn sefyllfa lle mae argyfyngau amrywiol sy'n cystadlu yn digwydd ar yr un pryd—hinsawdd, natur, tlodi, anghydraddoldeb. Maent i gyd yn drychinebau a wnaed gan bobl ac sy'n cael eu gyrru gan bobl. Ni allwn adael iddynt ein tagu. Rhaid i'r adferiad o COVID, o argyfwng yr hinsawdd, fod yn gyfiawn. Rhaid diogelu a buddsoddi mewn cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd ac ofnau ynghylch tomenni glo. Rhaid cynorthwyo teuluoedd tlotach sy'n cael trafferth gyda biliau gwresogi cynyddol, a rhoi cymorth iddynt gydag insiwleiddio. Rhaid gwrando ar gymunedau sydd heb gael llais yn hanesyddol, a rhaid caniatáu cyfle i weithluoedd feithrin sgiliau newydd, i fod yn rhan o'r diwydiannau gwyrdd newydd a chyffrous. Rhaid i'r adferiad fod yn eiddo i bobl Cymru a chael ei yrru ganddynt. Gellir achub y gofod hwnnw eto. Mae amser o hyd. 

17:10

Nid wyf yn mynd i ailadrodd llawer o'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud am faint enfawr yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae fy etholwyr eisoes yn byw gyda chanlyniadau allyriadau carbon gormodol—mae llifogydd 1-mewn-100 neu hyd yn oed 1-mewn-1,000 o flynyddoedd bellach yn digwydd bob ychydig flynyddoedd. Nid yw digwyddiadau tywydd eithafol mor anghyffredin erbyn hyn; maent wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol bron. Mae trigolion Trefnant a Thremeirchion yn Nyffryn Clwyd yn wynebu blynyddoedd o darfu ar ôl un digwyddiad o'r fath. Dinistriodd Storm Christoph bont hanesyddol Llannerch. Dim ond ychydig ddyddiau a gymerodd hi i'r dyfroedd gilio, ond teimlir eu heffeithiau am lawer hirach, ac rwy'n mawr obeithio y bydd COP26 yn arwain at weithredu yn hytrach na geiriau'n unig, oherwydd, oni chymerir camau brys, bydd y dyfodol yn llwm iawn i fy etholwyr.

Bydd llawer o'r prif ganolfannau poblogaeth yn fy etholaeth dan ddŵr mewn ychydig ddegawdau oni allwn atal y cynnydd yn y tymheredd byd-eang. Hyd yn oed heddiw, mae gan Ddyffryn Clwyd fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd na Chasnewydd, Caerdydd ac Abertawe gyda'i gilydd. Ac eto, er gwaethaf yr holl sôn am argyfwng hinsawdd, nid ydym yn gweld y math o gamau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r trychineb hinsawdd sydd ar y ffordd. Rydym i gyd yn cael ein hannog i wneud ein rhan, fel y dylem ei wneud yn wir, ond ni ddylai ein rhan olygu bod yn rhaid inni roi'r gorau i'n ffordd o fyw. Byddai rhai o'r safbwyntiau mwyaf eithafol ar weithredu ar yr hinsawdd yn mynd â ni'n ôl i'r oesoedd tywyll—dim ceir, dim cig, dim gwyliau tramor na theithio'n bell a dim mewnforion—ond nid oes raid inni newid ein ffordd o fyw, dim ond gwneud newidiadau i'n ffordd o fyw. Gall technoleg ein helpu naill ai i ddileu allyriadau carbon deuocsid yn llwyr neu sicrhau nad yw allyriadau o'r fath yn niweidio ein hecosystem fregus. Do, fe arweiniodd y chwyldro diwydiannol at y pwynt hwn, ond heb y chwyldro diwydiannol ni fyddem yn mwynhau'r manteision, megis meddygaeth fodern.

Yn ôl yn yr oes gyn-ddiwydiannol, byddai ein hanner yn y Siambr hon yn lwcus i fod yn fyw. Nid ailosod sydd ei angen arnom, ond chwyldro newydd, chwyldro diwydiannol gwyrdd. Rhaid inni fuddsoddi'n helaeth mewn pŵer gwyrdd a thrafnidiaeth werdd, mewn dur gwyrdd a hydrogen gwyrdd. Ymchwil a datblygu yw'r ateb, nid encilio a dirywio. Mae angen inni fuddsoddi mewn datblygu technoleg storio ynni newydd fel batris cyflwr solet, ac mae'n ffaith ddiddorol ein bod ni, neithiwr, wedi cynhyrchu mwy o drydan o lo nag y gwnaethom o wynt. Felly, nid yw gwynt a solar yn ffynonellau cyson, felly oni bai ein bod yn ceisio storio cynhyrchiant dros ben, rydym yn gaeth i ddibynnu ar danwydd ffosil, oherwydd mae'r asgell chwith wedi bwrw sen ar bŵer niwclear. Y bore yma, daeth 58 y cant o ynni'r DU o dyrbinau nwy, 16 y cant o ynni niwclear—ar hyn o bryd yr unig gynhyrchiant ynni cyson nad yw'n allyrru carbon—a dim ond 6 y cant a ddaeth o wynt. Ac ni ddylai datgarboneiddio ein bywydau olygu newid ein ffyrdd o fyw, ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraethau weithio law yn llaw â'r byd academaidd a mentrau preifat i gyflawni'r newid hwn. Mae ar Gymru angen ei chwyldro diwydiannol gwyrdd er mwyn achub ein planed ac achub ein ffordd o fyw. Diolch yn fawr iawn.

17:15

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi arwain y ffordd yn gyson wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Hi oedd y gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd ac mae wedi arwain y ffordd fel mai ein gwlad yw'r drydedd orau yn y byd am ailgylchu, ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu bioamrywiaeth, a chodi ymwybyddiaeth o'r argyfwng natur yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd. Gwelwyd yr ymroddiad hwn i wneud newid gwirioneddol drwy ddarnau lluosog o ddeddfwriaeth nodedig i ddiogelu ein hamgylchedd lleol a byd-eang, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddfau amgylchedd olynol. 

Fodd bynnag, gwyddom na all Cymru sefyll ar ei phen ei hun. Wrth gwrs, bydd angen cydweithredu rhynglywodraethol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ond dylem fod yn hynod o ofalus wrth geisio gweithio gyda Llywodraeth Geidwadol y DU. Nid yw cynllun 10 pwynt y Torïaid yn gwneud fawr ddim i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac mae'n canolbwyntio yn hytrach ar barhau i wneud elw o'n hadnoddau mewn ffordd fwy effeithlon. Nid yw'r cynllun yn canolbwyntio chwaith ar y trachwant cydweithredol rhyngwladol sydd wedi caniatáu a hyrwyddo pethau fel prynwriaeth dorfol, gwastraff plastig a'r trychineb anochel sy'n ein hwynebu. Nid yw'r gwariant ychwanegol arfaethedig o £4 biliwn yn agos at yr hyn sydd ei angen i gael effaith wirioneddol ar yr argyfwng hinsawdd. Hefyd, mae Llywodraeth y DU yn parhau i wneud cam â fy rhanbarth drwy wrthod buddsoddi i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, cam allweddol yn ôl o ran system drafnidiaeth gyhoeddus sero-net.

Mae angen inni annog pobl i barhau i ailgylchu yng Nghymru, a pheidio â gwrando ar Brif Weinidog y DU, a allai fod wedi mynd â ni'n ôl flynyddoedd, a byddai holl waith Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru wedi cymryd cam yn ôl. Mae cynnyrch ailgylchu glân wedi'i ddidoli wrth ymyl y ffordd yn nwydd gwerthfawr, a'r gwir amdani yw bod cyfraddau ailgylchu yn Lloegr mor isel â 45 y cant oherwydd cymysgu gwastraff, sy'n arwain at gynnyrch wedi'i halogi na ellir ei ailgylchu.

Gall cynlluniau dychwelyd ernes weithio pan fyddant yn gysylltiedig â'r cynhyrchydd, ond ni ddylent gymryd lle ailgylchu wedi'i ddidoli wrth ymyl y ffordd, a gall ychwanegu prosesau ychwanegol fel arall, fel y gwelir gyda'r peilot yng Nghonwy. Nid yw ailgylchu'n ateb i brynwriaeth chwaith. Mae bob amser yn well lleihau, ailddefnyddio ac yna ailgylchu. Mae angen inni symud ymlaen gyda deddfwriaeth cyfrifoldeb cynhyrchwyr ar draws holl wledydd y DU a gweithio i leihau'r defnydd o blastig untro. Lywydd dros dro, gweithredu, nid geiriau, sy'n cyfrif, a thra bod y Blaid Geidwadol mewn Llywodraeth yn parhau i gymeradwyo prosiectau olew a glo sy'n dinistrio'r hinsawdd ac yn torri trethi, sy'n hyrwyddo'n uniongyrchol y defnydd o deithiau hedfan domestig diangen, gan symud incwm oddi wrth ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, ni chredaf y gallwn fod o ddifrif ynghylch eu syniad hwy o adferiad gwyrdd. 

Ni ddylai Cymru gael ei dal yn ôl gan Weinidogion yn Lloegr ar fater yr argyfwng hinsawdd a'n dyfodol. Y Blaid Lafur sydd bob amser wedi bod o ddifrif ynghylch y fargen newydd werdd, a'r Llywodraeth Lafur sy'n mynd i sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru. Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn croesawu cynlluniau gan goleg yn fy etholaeth i, Grŵp Llandrillo Menai, ar gampws y Rhyl, i adeiladu canolfan rhagoriaeth peirianneg a fydd yn hyfforddi myfyrwyr mewn sgiliau technegol ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy, ac yn enwedig y ffermydd gwynt oddi ar arfordir gogledd Cymru. Mae ganddi'r potensial i fod yn ganolfan genedlaethol i'r diwydiant, gan hyfforddi pobl o bob rhan o'r wlad, gan gynnwys yn Lloegr. Bydd yn uwchsgilio ein gweithlu lleol a bydd yn hwb gwirioneddol i economi'r rhanbarth, tra'n hyrwyddo ein hymdrechion i fod yn garbon niwtral. Rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â chyfleoedd fel y rhain yn y Rhyl os ydym am gael adferiad gwyrdd sydd o fudd i bobl Cymru, ac sydd hefyd yn diogelu ein hamgylchedd, ac yn lliniaru'r argyfwng hinsawdd a wynebwn. Diolch.

17:20

Diolch, Llywydd dros dro, a diolch, wrth gwrs, i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw.

Mae'n debyg fy mod am ddechrau fy nghyfraniad drwy wyntyllu fy rhwystredigaethau fy hun ynglŷn â'r ffordd rydym yn sôn am yr argyfwng hinsawdd a'r economi werdd. Rhaid imi ddweud, rydym wedi cael dadleuon dirifedi ar yr amgylchedd a'r economi werdd yn nhymor y Senedd hon yn unig, ac nid wyf hyd yn oed yn meddwl—Duw a ŵyr faint o ddadleuon a gafwyd yn fyd-eang ar yr amgylchedd, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y COP yn cyflawni. Ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod braidd yn siomedig gyda'r awgrym a wnaed gan Gareth Davies yn ei gyfraniad y gallwn chwarae o gwmpas yr ymylon, nad oes rhaid inni wneud y newidiadau enfawr hyn yn ein ffordd o fyw. Rydym wedi bod yn chwarae o gwmpas yr ymylon ers degawdau, ac nid oes dim wedi newid. Y realiti yw bod angen newid systemig arnom, oherwydd caf hi'n anodd gweld sut y gall y system bresennol rydym yn byw ynddi ymdopi â'r dasg sydd o'n blaenau. Mae cymdeithas fel y mae, er enghraifft, yn rhoi'r unigolyn yn hytrach na'r lliaws ar bedestal. Gwelwn hynny gyda'r ffordd rydym yn addoli biliwnyddion, sut, yn ystod y COP, y mae pobl wedi mynd i berlewyg wrth feddwl bod y biliwnyddion hyn yn rhoi eu dwylo yn eu pocedi ac yn taflu ambell biliwn atom. Nawr, rwy'n ceisio peidio â bod yn wamal yma, oherwydd mae'n sicr yn £1 biliwn yn fwy nag y byddaf fi byth yn gallu cyfrannu fy hun, ond i rai o bobl fwyaf cyfoethog y byd, mae cwpl o biliynau yn ddiferyn yn y môr, yn enwedig pan fydd gan rai o'r biliwnyddion hyn gyfoeth sy'n cyfateb i'r holl arian sydd gan rai o wledydd dwyrain Ewrop. Ar ba bwynt—? Ac mae hwn yn gwestiwn difrifol. Ar ba bwynt, pan fyddwn yn wynebu—

Rwy'n gweld trywydd eich dadl, ond gyda phob parch i'r biliwnyddion hyn, a ydych chi erioed wedi cyfrif faint o swyddi y maent yn eu darparu? Faint o bobl sy'n bwydo oddi ar y gadwyn fwyd gan biliwnyddion? Nid yw mor syml â, 'O, y biliwnyddion cyfoethog hyn.' Mae unrhyw un yn gwybod, os edrychwch arno go iawn, fod y biliwnyddion hyn, fel rydych chi'n eu disgrifio fel—. Edrychwch ar faint o swyddi y maent yn eu darparu mewn gwirionedd.

Wel, fe daflaf hyn yn ôl atoch, Janet—a diolch am yr ymyriad hefyd—a ydych chi erioed wedi edrych ar faint o weithwyr sydd wedi dioddef amodau gwaith gwael er mwyn gwneud eu biliynau i'r biliwnyddion hynny? Dyna'r realiti yma. Mae llawer o dalu'n ôl i'w wneud, rwy'n meddwl. Ac ar ba bwynt, pan fyddwn yn wynebu trychineb sy'n bygwth dileu'r ddynoliaeth, pan welwn gymaint o dlodi, pan wyddom fod ffoaduriaid hinsawdd yn realiti—ar ba bwynt rydym ni fel cymdeithas yn dweud bod crynhoi'r fath gyfoeth yn anfoesol? Rhaid inni newid ein diwylliant fel cymdeithas yn awr er mwyn rhoi'r lliaws o flaen yr unigolyn, neu fel arall, mae'r gêm ar ben.

O ran y ddadl sydd ger ein bron heddiw ac yng nghyd-destun economi Cymru, mae adferiad gwyrdd yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd. Rhaid inni sicrhau fod y cyfnod hwn o drawsnewid ein heconomi yn un cyfiawn. Mae un o bob pump o weithwyr Cymru yn gweithio mewn sectorau sy'n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Rhaid peidio â gadael y rhai a gaiff eu taro gan y newid i sero-net ar ôl, a rhaid dod o hyd i le iddynt yn yr economi newydd, wyrddach hon. Rhaid i'r broses o ailsgilio gweithwyr sydd mewn diwydiannau carbon uchel ar gyfer diwydiannau'r dyfodol ddigwydd yn awr a rhaid inni fanteisio ar bwerau a'r pwerau sydd eu hangen arnom i sicrhau adferiad gwyrdd i Gymru. Mae Cyngres yr Undebau Llafur wedi awgrymu y gellid creu 60,000 o swyddi gwyrdd yng Nghymru os ydym yn buddsoddi'n iawn, ond mewn arolwg gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, credai dros 78 y cant o gyflogwyr a ymatebodd fod prinder sgiliau i ddatgarboneiddio yn eu maes hwy. Mae hynny'n golygu bod angen strategaethau sgiliau, hyfforddiant a swyddi clir i gyrraedd targedau sero-net. Er mwyn gwireddu ein huchelgeisiau gwyrdd a sicrhau adferiad economaidd gwyrdd go iawn, mae angen inni fuddsoddi yn y gweithlu gwyrdd i gyflawni ar gyfer yr hinsawdd a natur. Mae angen inni uwchsgilio ein gweithlu ynni, ein gweithlu tai, ein gweithlu trafnidiaeth a thu hwnt i ddarparu swyddi gwyrdd er mwyn sicrhau canlyniadau gwyrdd.

Llywydd dros dro, dwi am ailbwysleisio'r ffaith bod yn rhaid i fesurau sydd yn taclo'r argyfwng hinsawdd hefyd taclo tlodi. Oni bai bod pawb gyda'r un modd i wneud y newidiadau sydd eu hangen, fe fyddwn ni byth yn symud ymlaen, ac mae hyn yn gysylltiedig â fy mhwynt ar ddechrau'r ddadl ynglŷn â sicrhau bod cymdeithas nawr yn newid ei diwylliant i un sydd yn pwysleisio budd y gymuned.

Dwi wedi sôn am sawl enghraifft yn y gorffennol o ran pam nad ydy pobl sydd yn byw mewn tlodi'n medru gwneud y newidiadau gwyrdd, ond man arall dwi heb sôn amdano eto yw ynni trydanol. Mae cwsmeriaid yn sicr yn wynebu costau ychwanegol wrth geisio bod yn fwy eco-gyfeillgar. Er enghraifft, os ewch i MoneySavingExpert.com i chwilio am dariff ynni adnewyddadwy llawn, dim ond un cyflenwr, Green Energy (UK), sydd ar gael. Bydd y gost bron â bod yn £500 y flwyddyn yn fwy na'r cap ar brisiau ynni a thariffau safonol dros y 12 mis nesaf. Ymhellach, yn ôl yr Express, fe all siopwyr sy'n ceisio newid i ddewisiadau gwyrdd ar gyfer eitemau cartref bob dydd wario tua £2,000 y flwyddyn yn ychwanegol yn y pen draw. Er bod yr opsiwn o roi cymorthdal ar gyfer ynni gwyrdd a dewisiadau gwyrdd yn gallu helpu, mae hyn ond yn cyffwrdd ar wyneb y mater, a dyna pam mae'n hollbwysig delio â thlodi yn y cychwyn cyntaf.

I gloi, Lywydd dros dro, mae Delyth Jewell wedi cyfeirio sawl gwaith yn y gorffennol at bryder hinsawdd. Rwy'n bendant yn ei chael hi'n anodd cael gwared ar y teimlad ei bod hi ar ben arnom wrth ystyried cyflwr y blaned, ac yn ei chael hi'n gynyddol anodd bod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol. Mae fy nyweddi a minnau—a gobeithio nad oes ots ganddi fy mod yn dweud hyn, ond rwy'n tybio y caf wybod heno—mae fy nyweddi a minnau wedi cael sgyrsiau dirifedi ynglŷn â chael plant. Nawr, pa fath o fyd y byddant yn tyfu i fyny ynddo? A ydym yn credu ei bod hi'n iawn i ddod â bywyd i mewn i fyd a allai fod yn marw? Dyma'r mathau o sgyrsiau sy'n digwydd ar draws y byd ar hyn o bryd. Mae'r pandemig wedi rhoi cyfle inni newid y ffordd y mae ein heconomi'n gweithio, ac o ystyried yr argyfwng hinsawdd, rhaid i'n hadferiad fod yn wyrdd; mae maint yr her yn mynnu hynny. Ond rhaid i bob un ohonom fod yn barod i aberthu a rhoi ideoleg o'r neilltu a sylweddoli bod angen gweithredu radical cyfunol arnom, yn awr yn fwy nag erioed.

17:25

Unwaith eto, mae angen imi ddatgan buddiant fel cynghorydd, oherwydd byddaf yn sôn am Gyngor Sir Fynwy, ond hoffwn ddiolch yn gyntaf i fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, am gyflwyno'r ddadl amserol hon.

Mae newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar y byd; rydym i gyd yn gwybod hynny ac rydym i gyd yn gweld hynny. Yn ôl ym mis Awst, rhybuddiodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd fod gwyddonwyr yn sylwi ar newidiadau yn hinsawdd y Ddaear ym mhob rhanbarth, gyda thrychinebau naturiol yn mynd yn amlach ac yn taro cymunedau'n galetach. O'i roi'n syml, nid yw'n fater o a oes angen inni weithredu na pha bryd y bydd angen inni weithredu, oherwydd nawr yw'r amser.

Wrth siarad cyn agor COP26 ychydig ddyddiau'n ôl, dywedodd Ei Mawrhydi y Frenhines, y wraig a oedd yn y Siambr hon ychydig wythnosau yn ôl, fod angen i Lywodraethau

'godi uwchlaw gwleidyddiaeth y dydd'

a gweithredu dros y 'plant a phlant ein plant'. Gwelsom hynny yn ein dadl flaenorol, ond yn anffodus, ni welsom hynny o reidrwydd yn gynharach heddiw yn y Siambr hon. Rwy'n siomedig fod gwelliant Llywodraeth Cymru yn ymosod ar Lywodraeth y DU mewn stỳnt wleidyddol amlwg, yn hytrach na chefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn yr ysbryd adeiladol a oedd yn sail iddo.

Lywydd dros dro, mae'r pandemig wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru adeiladu nôl yn wyrddach ac yn decach, a chodi'r gwastad i gymunedau sydd wedi cael eu taro'n galed gan ansicrwydd economaidd y 18 mis diwethaf. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn gweld yr adferiad economaidd a chreu cymdeithas wyrddach fel dwy ochr i'r un geiniog, yn hytrach na fel pethau ar wahân.

Gyda hyn mewn golwg, mae ein cynnig yn rhestru nifer o gamau ymarferol y gall y Llywodraeth eu cymryd yn ystod tymor y Senedd hon. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad pellach mewn ynni gwynt morol ac alltraeth, gan ddefnyddio ein sector ymchwil a datblygu o'r radd flaenaf yn ogystal â gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cynllun go iawn i ddatblygu swyddi gwyrdd medrus iawn.

Mae'r cynnig hefyd yn cyfeirio at bethau y dylai Llywodraethau blaenorol Cymru fod wedi'u rhoi ar waith eisoes, megis Deddf aer glân a swyddfa annibynnol ar gyfer diogelu'r amgylchedd. Wrth ddweud hyn, rwy'n cydnabod bod peth cynnydd da wedi'i wneud yng Nghymru, ac mewn ysbryd adeiladol, hoffwn ganolbwyntio'n fyr ar rai o'r rheini. Yn fwyaf arbennig, rwyf am ddefnyddio fy nghyfraniad yn y ddadl heddiw i dynnu sylw at y gwaith gwych y mae ein cymunedau lleol yn ei arwain.

Yn fy rhanbarth i, mae Cyngor Sir Fynwy wedi arwain y ffordd gyda chynllunio ar gyfer dyfodol glanach a gwyrddach ers iddo ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019. Er enghraifft, cyhoeddodd y cyngor strategaeth argyfwng hinsawdd yn fuan ar ôl y datganiad, ac ar hyn o bryd mae wrthi'n diweddaru ei gynllun gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Mae tîm seilwaith gwyrdd y cyngor yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, megis y prosiect cysylltiadau gwyrdd, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae cynghorau yn Nwyrain De Cymru o bob lliw yn wleidyddol wedi dod at ei gilydd gyda rhanddeiliaid fel Cyfoeth Naturiol Cymru i lansio partneriaeth grid gwyrdd Gwent. Prosiect newydd, arloesol yw hwn sy'n anelu at wella a datblygu seilwaith gwyrdd, yn ogystal â chreu swyddi newydd i bobl leol. 

Gwn y bydd enghreifftiau eraill ledled Cymru o gymunedau, sefydliadau a chynghorau lleol sy'n cydweithio i weithredu yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Credaf o ddifrif fod angen ffrwd ariannu annibynnol, hygyrch a hirdymor i gynghorau a chymunedau fanteisio arni er mwyn gyrru'r mathau hyn o brosiectau yn eu blaen. Hefyd, mae angen inni ddwyn ynghyd y gwahanol ffrydiau ariannu presennol fel bod pobl yn gliriach ynghylch pa gymorth sydd ar gael.

Credaf hefyd fod angen inni edrych ar ffyrdd o gryfhau rolau cynghorau i gyflawni'r agenda werdd, yn ogystal â gosod y gwaith paratoi ar gyfer prosiectau cenedlaethol y mae Llywodraethau'r DU a Chymru yn arwain arnynt. Dim ond drwy ddod â gwahanol haenau o lywodraeth at ei gilydd y gallwn ddarparu cymdeithas sero-net go iawn.

Fy nghwestiwn i'r Gweinidog, yn ogystal â'r Aelodau, yw hwn: beth arall y gallwn ei wneud i hyrwyddo arloesedd lleol ac annog mwy o weithio mewn partneriaeth rhwng pob haen o lywodraeth a chymdeithas, fel y gallwn wneud mwy o'r camau bach a fydd yn y pen draw yn gwneud gwahaniaeth mawr i ymladd newid hinsawdd a hybu ffyniant yn ein cymunedau? Lywydd dros dro, rwy'n annog pawb yma heddiw i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.

17:30

Mae'r byd yn sefyll ar groesffordd, lle gall gwledydd ledled y byd barhau'n ddifeddwl ar eu llwybr presennol, gan ddefnyddio tanwydd ffosil y byd ar gyfradd frawychus, dinistrio ardaloedd enfawr o gynefin naturiol a thorri coed i fwydo ein hawydd am olew palmwydd ac afocados, mewnforio llawer iawn o nwyddau a bwydydd nad ydynt yn dymhorol a pharhau i lygru ein cefnforoedd a'n hamgylchedd naturiol â môr diddiwedd o blastig a gwastraff.

Gallwn ddewis llwybr brafiach, llwybr i ddyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy, lle gallwn fod yn warcheidwaid ein byd a gwrthdroi'r difrod i'n hecosystemau ac i'n hamgylchedd. Bydd angen i bob un ohonom gydweithio—gwledydd, llywodraethau, busnesau a phobl. Fel llywodraethau, dylem fod yn annog plannu coed mewn mannau priodol, yn annog cymhellion i 'brynu'n lleol' a bwyta bwydydd tymhorol. Gallai deddfwriaeth gyfyngu ar y defnydd o blastigau untro ac fel seneddwyr, mae gennym ddyletswydd foesol i wneud yr hyn a allwn, ac rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo adferiad gwyrdd yn ystod y chweched tymor seneddol.

Ond rhaid inni gofio am bobl Cymru—y bywydau y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt—ac mae angen inni sicrhau bod unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud mewn ffordd synhwyrol a chynaliadwy, ffordd sy'n cynnal bywoliaeth, yn creu swyddi ac nad yw'n achosi niwed nac yn gwthio baich y gost ar eu hysgwyddau hwy. Rhaid inni ddarparu'r seilwaith sydd ei angen i ganiatáu i'n busnesau fabwysiadu cymhellion gwyrdd. Mae angen inni gydweithio gyda diwydiannau, yn enwedig y sector amaethyddol, sydd o dan y lach yn rhy aml o lawer, pan ddylid eu cydnabod fel rhan bwysig o'r ateb i'n problemau, wrth iddynt gynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel ar lefel leol, tra'n gwella'r ecosystemau ac yn diogelu bioamrywiaeth.

Ni allwn ddefnyddio'r hinsawdd fel pêl-droed wleidyddol. Mae amser yn brin. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn croesawu penodiad Gweinidog a Dirprwy Weinidog newid hinsawdd. Fodd bynnag, mae angen i'r adran hon weithredu a chyflawni er mwyn ymateb i'r heriau rydym i gyd yn eu hwynebu, a byddwn yn gwylio ar yr ochr hon i'r Siambr. Drwy gydweithio ar draws y Deyrnas Unedig, gallwn wneud gwahaniaeth. Bydd cynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd yn newid dyfodol ein gwlad yn sylfaenol drwy gael adferiad gwyrdd, gan hyrwyddo a datblygu mwy o bŵer gwynt ar y môr a hydrogen i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil ac i greu swyddi. Byddant yn diogelu'r amgylchedd naturiol drwy blannu 30,000 hectar o goed bob blwyddyn.

Mae gennym ni ym Mhrydain hanes balch o leihau allyriadau carbon. Gostyngodd ein hallyriadau yn y wlad hon 44 y cant rhwng 1990 a 2019. Dylid dathlu hyn, ei addysgu mewn ysgolion, a'i bregethu o'r toeau fel enghraifft fyd-eang o'r hyn y gall y wlad hon ei wneud pan fyddwn yn dod at ein gilydd. Mae'n rhy hawdd i negeseuon gwae barhau, ond rhaid i bob un ohonom gael gobaith. Mae'r ddynoliaeth drwy'r oesoedd wedi profi sut y gallwn fod yn ddychmygus er mwyn goresgyn problemau a rhwystrau. Mae angen inni rymuso ein dinasyddion a'n busnesau i wneud y newidiadau y mae angen iddynt eu gwneud a dod o hyd i atebion technolegol i roi dyfodol brafiach i ni i gyd.

Os yw'r Llywodraeth am gael ei chredu ar y mater hwn, mae angen inni fynd i'r afael â newid hinsawdd yn gyffredinol. Rhaid iddynt fod yn onest gyda'r cyhoedd oherwydd mae angen iddynt wybod cost sero-net a'r effaith ar eu bywydau, gan fod llawer o ddefnyddwyr am wneud penderfyniadau moesegol gwell a dewisiadau gwell yn eu bywydau, ac mae hynny'n hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu yn awr, oherwydd mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau, ac er mwyn helpu adferiad gwyrdd, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, a pheidio â pharhau i chwarae gwleidyddiaeth bleidiol a beio San Steffan am holl anawsterau Llywodraeth Lafur Cymru.

Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi cynllun i ddarparu cannoedd o swyddi coler werdd ar gyfer economi werdd a mwy cynaliadwy. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno'r Ddeddf aer glân ar frys, gwahardd plastigau untro at ddefnydd anfeddygol, glanhau ein cefnforoedd, a gwneud yr hyn rydych yn ei bregethu a chael Cyfoeth Naturiol Cymru i gyrraedd eu targedau ailblannu coed, sy'n cael eu methu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gallech fod yn feiddgar a darparu buddsoddiad pellach mewn ynni gwynt ar y môr, a pheidio ag anharddu ein cefn gwlad â thyrbinau gwynt a pheilonau, a gallech hefyd osod targedau cyraeddadwy, hirdymor ar gyfer adfer natur a bioamrywiaeth.

Mae'n bryd gweithredu yn awr. Mae'r amser i feio eraill ar ben. Dim ond drwy fod pob gwlad a phob dinesydd ar draws y byd yn gweithio gyda'i gilydd y gallwn wneud ein byd yn lanach ac yn wyrddach. Diolch.

17:35

Da iawn chi ar eich amseru. [Chwerthin.] Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Wel, cefais fy nghyffwrdd gan eiriau James Evans yno. Ar y diwedd dywedodd wrthym am wneud yr hyn rydym yn ei bregethu. Fe'n hatgoffodd fod gennym rwymedigaeth foesol i wneud yr hyn a allwn. Dechreuodd Janet Finch-Saunders y ddadl drwy ddweud bod angen inni wynebu mater diffiniol ein hoes. A heno, hoffwn ddyfarnu gwobr haerllugrwydd y flwyddyn i'r Ceidwadwyr. Mae'r rhagrith syfrdanol rhwng yr hyn rydym newydd ei glywed gan gyfres o Aelodau, a'r safbwyntiau y maent yn eu harddel dro ar ôl tro, y tu hwnt i eiriau, Lywydd dros dro. Nid oes dwy awr ers imi glywed araith gan Natasha Asghar yn ein beirniadu am atal cynllun ffordd, a byddwn yn dweud bod honno'n weithred sy'n dweud mwy na geiriau. A dyma ni'n cael y litani hon o ragrith oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr, yn ein beirniadu am y camau rydym yn eu cymryd.

Dywedodd Janet Finch-Saunders fod angen inni weithredu drwy ariannu'r agenda werdd, sgiliau a datgarboneiddio bysiau, ond Lywydd dros dro, yr wythnos diwethaf mewn cyllideb pan na chrybwyllwyd yr ymadrodd 'newid hinsawdd' unwaith, gwelsom ein cyllideb gyfalaf yn cael ei thorri. Ar ddiwedd tymor y Senedd hon, fe fydd 11 y cant yn is nag ydyw heddiw; £3 biliwn yn llai i economi Cymru na phe bai'r Ceidwadwyr, ers iddynt gael eu hethol, wedi cadw gwariant yn unol â'r twf yn yr economi. Ni allwn fuddsoddi arian os nad yw'r arian hwnnw gennym. Mae'r arian rydym yn ei wario ar brentisiaethau a chymorth adeiladu ar hyn o bryd yn cael ei gyllido gan yr UE. Dywedodd y Llywodraeth hon wrthym na fyddem geiniog ar ein colled drwy adael yr UE. Eleni, pe baem yn dal o fewn yr Undeb Ewropeaidd, byddem yn disgwyl £375 miliwn, ac mae'r Llywodraeth Geidwadol hon wedi rhoi rhan fach iawn o hynny inni. Felly, nid wyf yn deall sut y mae'r Ceidwadwyr yn disgwyl i ni ariannu'r pethau y maent yn mynnu ein bod yn eu gwneud gan dorri ein harian ar yr un pryd.

Dywedodd Janet Finch-Saunders unwaith eto nad ydym yn gweithredu ar wahardd plastigau untro, ond gan fod y Llywodraeth hon wedi pasio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, nid ydym yn glir pa bwerau sydd gennym i weithredu. Felly, unwaith eto, maent yn ein beirniadu am beidio â gweithredu, ond mae eu Llywodraeth eu hunain yn rhoi camau ar waith sy'n ein hatal rhag gweithredu.

Cafwyd rhagrith pellach gan y Ceidwadwyr ar danwydd ffosil. Clywsom Brif Weinidog y DU yn dweud yn y COP yn Glasgow fod angen i'r Cenhedloedd Unedig gefnu ar lo, ond dyna'r gwrthwyneb i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Polisi presennol y Llywodraeth yw bod dyletswydd ar yr Awdurdod Glo i gefnogi parhau i gloddio am danwydd ffosil. Nid dyna'r hyn rydym am ei wneud yng Nghymru; mae gennym bolisi clir iawn i roi'r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil. Oni bai bod Llywodraeth y DU yn cytuno i'n cais i ganslo trwydded a roddwyd yn 1996 yn Aberpergwm, caiff tua 40 miliwn tunnell o lo ei godi o'r pwll glo hwn erbyn 2039—100 miliwn tunnell o garbon deuocsid. Rydym am gadw'r glo yn y ddaear, ond mae Llywodraeth y DU, oherwydd y pwerau sydd ar waith, yn bygwth gadael i'r glo gael ei godi yn groes i'n dymuniadau ni. Nawr, dywedodd yr Awdurdod Glo wrthym eu bod yn bwriadu cytuno i'n cais—i 'ddadamodi' y drwydded hon, fel y'i gelwir—ac rydym wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ofyn iddo ymyrryd. Felly, os yw'r Ceidwadwyr yn y Siambr hon yn gwbl ddiffuant ynglŷn â'r angen i weithredu, efallai y gallent ein cefnogi drwy ysgrifennu at Kwasi Kwarteng, i ofyn iddo atal y glo hwn rhag cael ei gloddio o bridd Cymru, oherwydd nid ydym am iddo ddigwydd, a'r unig reswm y gallai ddigwydd yw oherwydd eu diffyg gweithredu a'u polisïau hwy.

Felly, dyna ddigon o'r rhagrith hwn. Rydym am gydweithio â'n cydweithwyr yn rhannau eraill y DU, ac rydym yn ymdrechu'n galed iawn i wneud hynny. Rydym wedi cyfarfod drwy gydol yr haf â Gweinidogion a swyddogion y DU, wrth inni lunio ein cynllun sero-net ochr yn ochr â'u cynllun sero-net hwythau. Yn wir, dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU wrthym y byddent yn rhannu eu cynlluniau gyda ni ymlaen llaw fel y gallem gydweithio. A wnaethant eu rhannu? Naddo, siŵr iawn. Ni welsom eu cynllun tan hanner nos ar y diwrnod y cafodd ei gyhoeddi. Nawr, sut y mae hynny'n gydweithio? Nid yw'n gydweithio; geiriau gwag ydyw.

Serch hynny, rydym yn gwneud ein gorau i gydweithio ar y cynllun dychwelyd ernes, ac er i Janet Finch-Saunders ddweud nad oedd unrhyw weithredu, rydym yn bwriadu ac yn gobeithio cyflwyno rheoliadau ar gyfer y cynllun, i weithredu'r cynllun, yn ystod haf 2022. Soniodd Janet Finch-Saunders am gynllun yng Nghonwy—cynllun rhagorol. Methodd sôn ei fod yn gynllun mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac wedi'i ariannu gennym. Ac ymwelais â'r cwmni technoleg Polytag yng Nglannau Dyfrdwy y mis diwethaf a gweld y gwaith eithriadol y maent wedi bod yn ei wneud gyda Chonwy ar gynllun dychwelyd ernes ddigidol. Credaf fod potensial gwirioneddol i hynny, ac rwy'n canmol Conwy am eu gwaith gyda ni a Polytag ar hynny.

Rydym yn cyflawni ein cynllun aer glân, sy'n cynnwys datblygu Bil aer glân, a fydd yn sefydlu cyfundrefn fwy rhagweithiol ar gyfer gwella ansawdd aer gan ystyried canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar bennu targedau. Newydd gael eu cyhoeddi y mae'r rhain, Lywydd dros dro, ac mae'n cymryd amser i ni a'n swyddogion eu hasesu a'u cynnwys yn y cynllun rydym yn ei ddatblygu. Ond wrth gwrs, nid ydym yn aros am Fil cyn gweithredu, rydym yn gweithredu yn awr. Ar ddechrau tymor diwethaf y Senedd, roedd Cymru'n gwario £5 miliwn y flwyddyn ar gynlluniau teithio llesol—cynlluniau i gael pobl allan o geir, a defnyddio trafnidiaeth lân ar gyfer teithiau lleol. Ar hyn o bryd, rydym yn gwario £75 miliwn bob blwyddyn ar gynlluniau. Gwyddom fod 10 y cant o deithiau ceir o dan filltir o bellter, a bod hanner y teithiau ceir o dan bum milltir o bellter. Gellid cael teithio llesol yn lle llawer o'r rhain. Rydym yn buddsoddi. Nid ydym yn aros am Ddeddf aer glân, rydym yn gweithredu yn awr.

Datblygir ein cynllun gweithredu sgiliau Cymru Sero Net i gynorthwyo gweithwyr i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i chwarae rhan yn y gwaith o gyflawni newid teg sy'n lleihau allyriadau tra'n hyrwyddo swyddi sy'n talu'n dda. Fel rhan o'n hymrwymiad i ynni adnewyddadwy, rydym yn gweithio i sefydlu Cymru fel canolfan ar gyfer technolegau ynni morol sy'n datblygu, ac rydym wedi sefydlu rhaglen ynni morol i gyflawni'r ymrwymiad hwn. Ond er mwyn parhau i gefnogi'r diwydiant ar y lefel y credaf y byddai pawb yn y Senedd am ei gweld, rhaid i Lywodraeth y DU roi'r arian y byddai'r UE wedi ei roi yn y gorffennol yn llawn, arian sydd wedi bod mor allweddol i sicrhau'r cynnydd a wnaethom hyd yma. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant ar astudiaeth ddofn o rwystrau i ynni adnewyddadwy. Cyfarfûm eto y bore yma, cyfarfûm â diwydiant yn gynharach yr wythnos hon, ac rydym yn gwneud cynnydd da ar nodi'r camau y gallwn eu cymryd yn y tymor byr i wneud cynnydd. 

Lywydd dros dro, mae newid hinsawdd yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau a phob cwr o Gymru. Mae hwn yn gyfnod heriol ac mae dewisiadau anodd o'n blaenau, ond mae gobaith, ac fel y dywedodd Delyth Jewell, mae gennym amser o hyd. Rydym yn rhoi camau ymarferol ar waith gyda'n gilydd, a gallwn wneud hynny eto, i sicrhau bod yr adferiad gwyrdd a newid i Gymru sero-net yn newid teg—un nad yw'n gadael neb ar ôl, gan sicrhau nad yw cost newid yn disgyn ar ysgwyddau'r tlotaf mewn cymdeithas. Ac mae ein cynllun Sero Net Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi 123 o bolisïau ac argymhellion a fydd yn cyflawni, yn ystod y pum mlynedd nesaf, ein targedau newid hinsawdd i'n rhoi ar y trywydd y mae angen inni fod arno i gyrraedd sero-net erbyn 2050. Mae angen i bob un ohonom wneud yn well, chwarae ein rhan ac arwain y ffordd tuag at Gymru werddach a chryfach. Ond ni wnaiff geiriau hynny, Ddirprwy Lywydd. Rhaid inni eu dilyn â gweithredoedd, ac mae arnaf ofn ein bod wedi clywed llwyth o ragrith pur nad yw o fudd i neb gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma.

17:45

Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ond rwy'n teimlo braidd yn rhwystredig, fel y mae'r Aelod dros Fynwy, o gofio'r angen am gydweithrediad, partneriaeth a gwaith tîm i fynd i'r afael â newid a sicrhau economi werdd, fod y cynnig a gyflwynwn, sy'n ceisio gwneud yr holl bethau hynny gyda Llywodraeth Cymru er lles ein gwlad, yn cael ei ddiystyru a'i ddisodli gan gyfle arall eto i ladd ar Lywodraeth y DU. Gwnaeth Carolyn Thomas waith rhagorol o hynny yn ei chyfraniad y prynhawn yma. Yn yr ychydig fisoedd y bûm yn y Siambr hon, mae wedi bod yn gwbl amlwg, pan ddywed Llywodraeth Cymru, 'Nid oes monopoli ar syniadau da', yr hyn y maent yn ei olygu mewn gwirionedd yw, 'Byddwn yn anwybyddu'r syniadau nad ydynt yn syniadau gennym ni.'

Rydym ni ar y meinciau hyn yn ceisio gweithio i wella'r sefyllfa. Rwy'n edrych drwy'r cynnig yn enw Darren Millar o Orllewin Clwyd—afresymol? Nac ydy, nid oes dim yma sy'n afresymol. Yn wir, credaf ei fod yn gynnig cwbl synhwyrol sy'n ceisio meithrin consensws ar un o faterion pwysicaf ein hoes. Felly, pam na allwn geisio gweithio gyda'n gilydd? Rwy'n credu bod y ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn dweud ein bod yn haerllug yn gwbl anadeiladol yn y math o ddadl a thrafodaeth y ceisiwn ei chael ar fater mor bwysig y prynhawn yma.

Diolch byth, mae cydweithredu eisoes yn digwydd ledled Cymru fodd bynnag, ac mae gennym enghreifftiau o elusennau, sefydliadau, busnesau a phrifysgolion yn dod at ei gilydd i wneud yr hyn a allant gydag atebion arloesol. Rydym wedi clywed am rai o'r enghreifftiau yn barod. Soniodd Janet Finch-Saunders am un yn gynharach, a thynnaf eich sylw ati eto. Adfer morwellt a'r manteision amgylcheddol enfawr y gallai hyn eu cynnig. Mae Sky Ocean Rescue, WWF a Phrifysgol Abertawe yn arwain y Prosiect Morwellt, gydag ardaloedd o arfordir sir Benfro yn berffaith ar gyfer ailblannu, ac mae peth o'r gwaith eisoes wedi'i gwblhau. Collwyd cymaint â 92 y cant o forwellt y DU, ond bydd adfer y dolydd tanddwr hyn nid yn unig yn cefnogi bioamrywiaeth, mae morwellt yn storio carbon 30 gwaith yn gyflymach nag unrhyw goedwig naturiol ar y blaned.

Bydd y rhai ohonoch sy'n adnabod fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn gwybod bod ganddi hanes hir a dwfn o gysylltiad â'r diwydiant hydrocarbon. Ers nifer o flynyddoedd, mae'r cyflogwyr hyn wedi darparu swyddi medrus iawn ar gyflogau da yng ngorllewin Cymru. Er ein bod yn gwybod bod yn rhaid inni leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw ein bod yn trosglwyddo'n llwyddiannus o'n dibyniaeth ar danwydd ffosil tuag at danwydd adnewyddadwy gwyrdd. Os na wnawn hynny, a bod y tir yn cael ei dynnu o dan ein traed, bydd gennym argyfwng diweithdra a fydd yn achosi poen sylweddol i unigolion a theuluoedd. Fel y dywedodd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yn gywir, drwy newid o'r hen i'r newydd yn synhwyrol, gallwn ddefnyddio'r sgiliau hynny, y cwmnïau hynny a'r bobl hynny i ddatblygu'r ynni gwyrdd ac adnewyddadwy sydd ei angen arnom.

Rwy'n falch fod y Prif Weinidog ddoe, tra'i fod i fyny yn y COP, wedi tynnu sylw at brosiect Pembroke Dock Marine, a fydd yn darparu'r cyfleusterau, y gwasanaethau a'r gofod sydd eu hangen i sefydlu canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer peirianneg forol. Er y bydd iddo gymhwysedd ar draws y diwydiant, mae ei ffocws uniongyrchol ar y sector ynni carbon isel. Gydag Offshore Renewable Energy Catapult, Porthladd Aberdaugleddau, Ynni Morol Cymru a Celtic Sea Power i gyd yn rhan ohono, unwaith eto mae'n dangos pŵer partneriaeth a chydweithio i hyrwyddo adferiad gwyrdd.

Gadewch i fentrau fel hyn sicrhau newid sylfaenol. Gadewch i'r prosiectau arloesol hyn weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud y cynnydd a welodd y DU yn lleihau ei hallyriadau ymhellach ac yn gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y G7. Felly, rwy'n anghytuno'n llwyr â Delyth Jewell pan ddywed fod yn rhaid inni unioni'r camgymeriadau blaenorol; rydym eisoes yn gwneud hynny. Mae Luke Fletcher yn dweud nad oes dim wedi newid, ond yn ffodus, mae pethau wedi newid, rydym yn gwella. Rhaid imi ddweud bod gennych ychydig o wyneb yn dweud, 'Gadewch inni roi ideoleg o'r neilltu' a siarad wedyn am ddiddymu cyfalafiaeth. Mae angen i'r busnesau hyn helpu i wthio'r newidiadau er mwyn gwella pethau i bawb yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Yr hyn sy'n bwysig yw bod y cynnig hwn sydd gerbron y Siambr y prynhawn yma yn gydsyniol ac yn canmol llawer o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Mae fy nghyd-Aelodau i gyd ar yr ochr hon i'r Siambr heddiw wedi canmol Llywodraeth Cymru a llawer o'r effeithiau y maent eisoes wedi'u sicrhau, oherwydd rydym am gyflawni economi werddach a mwy ecogyfeillgar. Ond yn ôl y ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn dileu pwynt 4 o'n cynnig, mae'n ymddangos bod awydd i greu rhaniadau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn hytrach na dod o hyd i dir cyffredin a llwybrau ymlaen.

Ar adeg pan fo Llywodraethau'r byd yn cyfarfod i ddod o hyd i ganlyniadau cyraeddadwy i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a'r Prif Weinidog yn Glasgow yn canmol y rhinweddau hynny, dylem fod yn adlewyrchu hyn yn ein gweithredoedd i ddangos gwerth ein geiriau. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn fel y'i cyflwynwyd. Gadewch inni ddangos i bobl Cymru ein bod ni yma gyda'n gilydd yn gweithio ar y cyd tuag at wneud ein heconomi yn fwy gwyrdd ac yn fwy cynaliadwy. Diolch yn fawr, Lywydd.

17:50

Y cynnig yw i dderbyn y cynnig heb ei wella. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly fe wnawn ni ohirio'r eitem yna tan y cyfnod pledleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Nawr fe wnawn ni gymryd toriad byr i baratoi ar gyfer y cyfnod pledleisio hwnnw.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:54.

18:00

Ailymgynullodd y Senedd am 18:00, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf heddiw ar gynnig yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adferiad gwyrdd, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. 

Dyna ni. Cau'r bleidlais.

O blaid 13, neb yn ymatal, 37 yn erbyn, ac felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cynnig heb e'i ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 sydd nesaf, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 7: Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1 , cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM7815 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo adferiad gwyrdd yn ystod chweched tymor Senedd Cymru.

2. Yn nodi ymhellach gynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd.

3. Yn croesawu penodiad Gweinidog a Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

4. Yn gresynu at y gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn mewn termau arian parod o'r cyllid cyfalaf sydd ar gael o ganlyniad i fethiant adolygiad o wariant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng brys yn yr hinsawdd a natur, gan leihau cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru 11 y cant mewn termau real erbyn 2024-25 o'i chymharu ag eleni.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) lunio cynllun gweithredu sgiliau net sero sy'n hyrwyddo gwaith teg i gefnogi newid teg;

b) cyflwyno Bil aer glân i sefydlu fframwaith gosod targedau ansawdd aer, a fydd yn ystyried canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd;

c) sefydlu corff goruchwylio amgylcheddol i Gymru a chyflwyno targedau statudol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:

a) gydnabod uchelgais Cymru i wahardd plastigau untro drwy wneud rheoliadau i beidio eu cynnwys o fewn cwmpas Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020;

b) diwygio Deddf y Diwydiant Glo 1994 i alluogi gweithredu polisi Llywodraeth Cymru i osgoi echdynnu tanwydd ffosil;

c) disodli, yn llawn, arian a dderbyniwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd i alluogi buddsoddi yn natblygiad y diwydiant ynni morol yng Nghymru;

d) cefnogi trydaneiddio rheilffyrdd prif reilffordd Gogledd Cymru a phrif reilffordd De Cymru fel cam sylweddol tuag at system drafnidiaeth gyhoeddus net sero.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 7: Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 37, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: 'Gwrandewch arnom ni. Cefnogwch ni.': Yr angen i sicrhau mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc

Felly, yr eitem nesaf fydd y ddadl fer, ac os wnaiff pawb sy'n gadael y Siambr adael y Siambr yn dawel, ac wedyn fe wnaf i ofyn i Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r ddadl yn ei enw ef. Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r ddadl fer yma yn deillio o sgwrs ges i efo etholwr ifanc ychydig wythnosau yn ôl. Mi wnaeth o fy ysgogi i i chwilio am ffyrdd newydd o annog trafodaeth am iechyd meddwl, ac yn benodol am sut a lle mae pobl ifanc yn gallu troi am help, a dwi'n falch bod nifer o Aelodau wedi cael eu hysgogi i fod eisiau cyfrannu heddiw, a dwi'n cytuno i roi amser i glywed cyfraniadau gan Mabon ap Gwynfor, gan Peredur Owen Griffiths a gan Jack Sargeant.

Ond nôl at y sgwrs yna ges i yn ddiweddar; efo Gareth rôn i yn siarad. Mab fferm o Ynys Môn ydy Gareth, myfyriwr sy'n astudio'r gyfraith; dyn ifanc galluog, huawdl, hyderus; dyfodol disglair o'i flaen o, does gen i ddim amheuaeth am hynny. Ond fel cymaint o'i gyfoedion o, mae Gareth wedi profi heriau efo'i iechyd meddwl. Nid profiad gwael personol sydd gan Gareth o fynd i chwilio am help; nid dyna sydd yn ei yrru fo. Mi gafodd o gefnogaeth ragorol, meddai fo, gan ei feddyg teulu, ond mae o'n gwybod am eraill sydd ddim wedi bod mor ffodus i gael yr un lefel o gefnogaeth. Ac fel dwi'n dweud, mae Gareth yn ddyn ifanc hyderus, digon hyderus i e-bostio ei Aelod o'r Senedd i gael sgwrs a'i lobïo fo, a dwi mor falch ei fod o wedi gwneud. Ond prin efallai ydy'r bobl sy'n ddigon hyderus i wneud hynny, ac yn allweddol, o bosib, prin fyddai pobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl fyddai yn barod i wneud hynny pan fyddan nhw'n teimlo'n fregus.

Dwi'n credu ein bod mewn lle gwell y dyddiau yma o ran parodrwydd i gydnabod problemau iechyd meddwl. Doedd iechyd meddwl ddim yn rhywbeth roedden ni'n siarad amdano fo; roedd o'n dabŵ, bron iawn. Dioddef yn dawel oedd cymaint o bobl yn ei wneud, a dwi yn credu bod pobl—yn cynnwys pobl ifanc—yn fwy parod i gyfaddef rŵan bod yna rywbeth o'i le. Mi fydd rhai yn dioddef problemau dwys, wrth gwrs, problemau acíwt; mi fues i yn dyst i hynny ymhlith pobl a oedd yn agos iawn ataf i pan oeddwn i'n ddyn ifanc—fy nghyflwyniad i i realiti iechyd meddwl oedd hynny. I'r rhan fwyaf, mae'r broblem yn dechrau yn fach, efallai. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd, bob un ohonon ni, yn gallu dweud weithiau ein bod ni'n teimlo straen, neu'n teimlo'n isel, neu'n teimlo pryder, a dwi'n siŵr bod llawer ohonon ni yn gallu troi at ein coping mechanisms ein hunain—ffyrdd i ymateb ein hunain pan dydy pethau ddim cweit yn iawn.

Ond mi fydd llawer iawn o bobl angen ychydig bach o help—llawer o bobl ifanc angen rhywun i'w cefnogi nhw, help a all, o'i gynnig yn ddigon buan, yn y lle iawn, atal problem rhag tyfu yn fwy, ac atal problem iechyd meddwl rhag cael effaith dros gyfnod hir ar fywyd a pherson ifanc.

Pwrpas y ddadl yma heddiw ydy gofyn i bobl ifanc ein helpu ni fel Senedd, a thrwy hynny helpu Llywodraeth Cymru i ddeall eu profiadau nhw. Ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i, dwi'n rhannu holiadur i bobl ifanc, i'w gwahodd nhw i rannu eu profiad o drio cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl. Dwi'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yma yn barod i wneud hefyd, ac mi wnawn ni rannu'r linc i'r holiadur efo chi i gyd, wrth gwrs. Mi ydw i wedi bod mewn cysylltiad efo nifer o fudiadau sy'n gweithio yn y maes iechyd meddwl, ac mi fyddwn ni'n rhannu'r holiadur mor eang ag y gallwn ni drwyddyn nhw, ac efo nhw, drwy fudiadau sy'n cynrychioli pobl ifanc yng Nghymru.

18:05

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Mae’n rhaid inni fod yn barod fel seneddwyr i wrando, bob amser, ac rydym eisiau gwrando. Dyna pam ein bod ni yma. Ac mae angen inni edrych am ffyrdd o roi llais i bobl, a fy ngobaith gyda'r alwad hon i bobl ifanc rannu eu profiadau personol yw y gallwn estyn allan at rai nad ydynt wedi dweud eu dweud o'r blaen o bosibl. Rwyf eisiau i bobl ifanc rannu eu profiadau yn enwedig ynghylch pa mor hawdd neu anodd oedd dod o hyd i gymorth gyda'u hiechyd meddwl—cymorth cynnar, cefnogaeth amserol. Mae fy mhrofiad i o siarad â phobl ifanc yn awgrymu bod diffyg cyfeirio, efallai, diffyg anogaeth i ofyn am gefnogaeth gynnar ac i helpu pobl ifanc i ddeall bod ymyrraeth gynnar mor bwysig. Pan ganiateir i broblemau dyfu, mae'n fwy tebygol y bydd angen ymyrraeth fwy dwys. Edrychwch ar yr amseroedd aros am gymorth arbenigol y gwasanaeth iechyd meddwl plant—mae'r ffigurau diweddaraf, rwy'n credu, gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod amseroedd aros am wasanaethau CAMHS arbenigol yn uwch nag erioed, gyda dros 70 y cant o atgyfeiriadau yn aros mwy na phedair wythnos am eu hapwyntiad cyntaf.

Dwi ddim y cyntaf i ofyn cwestiynau fel hyn, wrth gwrs, ond mae hi'n bwysig ein bod ni'n chwilio am ffyrdd newydd o estyn allan at bobl, ac i wneud hynny'n gyson, hefyd. Mi wnaeth Senedd Ieuenctid Cymru waith rhagorol yn y maes yma, rhaid dweud, flwyddyn yn ôl yn eu hadroddiad nhw, 'Gadewch i ni siarad am iechyd meddwl'. Dim ond hanner y rhieni neu'r gwarcheidwaid a wnaeth ymateb ddywedodd eu bod nhw'n hyderus at bwy i gyfeirio plentyn, neu berson ifanc. Mi oedd 37 o bobl ifanc yn dweud eu bod nhw wedi gorfod aros rhwng mis a blwyddyn i gael help. Mi wnaeth elusen Mind hefyd gyhoeddi adroddiad pwysig iawn, hynny ar ôl misoedd cyntaf y pandemig, nôl ym mis Mehefin y llynedd, os dwi'n cofio'n iawn, yn edrych ar sut roedd y pandemig yn effeithio ar iechyd meddwl, a hwnnw'n canfod bod dwy ran o dair o bobl ifanc yn dweud bod eu hiechyd meddwl nhw wedi gwaethygu yn ystod y pandemig—ystadegyn sydd ddim yn dod fel syndod i ni o gwbl. Rydyn ni'n gwybod faint o straen mae'r pandemig wedi rhoi ar bobl.

Dywed adroddiad Mind Cymru fod 29 y cant o’r bobl ifanc a holwyd wedi ceisio cael gafael ar gymorth iechyd meddwl yn ystod y cyfyngiadau symud, ac aiff ymlaen i ddweud bod mwy nag 1 o bob 3 o bobl ifanc yng Nghymru, 39 y cant, wedi methu cael y cymorth roeddent yn ei geisio, sy’n uwch na'r ffigur cyfatebol ar gyfer Lloegr, a oedd oddeutu 23 y cant. Mae hynny’n ategu'r hyn rwy'n ceisio ei wneud gyda'r ymarfer penodol hwn. Rwyf wedi annog Gweinidogion blaenorol, a’r Gweinidog presennol, i sicrhau bod y gefnogaeth ar gael, ac rwy’n gwneud hynny eto heddiw. Mae'n rhaid i ni fuddsoddi, wrth gwrs, mewn gwasanaethau a ddarperir gan y GIG yn uniongyrchol, gwasanaethau cymorth—rhai gwasanaethau rhagorol a ddarperir gan elusennau a'r trydydd sector—gan sicrhau bod y capasiti yno i ymdopi â'r hyn sydd heb os yn broblem gynyddol, ond mae'n rhaid inni hefyd sicrhau bod y llwybrau at y cymorth sydd ei angen ar bobl ifanc wedi eu dynodi’n briodol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hannog i geisio'r cymorth hwnnw, eu bod yn cael eu tywys ar daith fer iawn, gobeithio, tuag at ymyrraeth gynnar. Ac wrth gwrs, dyma lle mae mater capasiti’n codi. Mae'n rhaid inni roi hyder iddynt, pan fyddant yn curo ar y drws hwnnw, y bydd yn cael ei ateb ac yn cael ei ateb yn gyflym.

Daw problemau iechyd meddwl ar sawl ffurf. Siaradais â Jo Whitfield o’r elusen anhwylderau bwyta, Beat, y bore yma, a dywedodd ein bod yn gwybod bod gofyn am help gydag anhwylder bwyta yn galw am lawer o ddewrder. Rydym hefyd yn gwybod, po gyntaf y caiff rhywun driniaeth ar gyfer anhwylder bwyta, y gorau yw eu gobaith o wella, a phan fo rhywun yn cymryd y cam dewr o ofyn am help, mae'n hanfodol fod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn deall sut i'w cefnogi, ac maent eisiau gweld buddsoddiad mewn hyfforddiant i staff addysg hefyd yn ogystal â hyfforddiant i staff gofal iechyd. Felly, mae angen annog pobl ifanc sydd angen cymorth i geisio'r cymorth hwnnw yn y lle cyntaf.

Dwi am gloi efo geiriau'r dyn ifanc yna wnaeth ysgogi'r ddadl heddiw, ac ysgogi'r holiadur yma sy'n cael ei lansio gen i heddiw. Dyma chi eiriau Gareth: 'Mi roedd fy mhrofiad i o dderbyn cymorth gan fy meddyg teulu yn arbennig o dda ond, yn anffodus, dydy hyn ddim yr un fath i bawb drwy Gymru gyfan. Mae yna achosion lle mae pobl wedi cael eu troi i ffwrdd o dderbyn cymorth, a dydy hynny ddim yn dderbyniol pan fo rhywun wedi magu'r hyder a chyfaddef eu bod nhw angen cymorth.'

'Mae'n hanfodol bwysig i mi', meddai Gareth, 'i weld Cymru agored lle mae cymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen, a hynny drwy sicrhau mynediad cynnar at arbenigwyr a chreu safle saff i rywun allu siarad yn agored heb ofn'. Mewn geiriau, mewn fideo, drwy ddarn o gelf, drwy gân, neu’n syml iawn, drwy lenwi holiadur, mi gaiff pobl ymateb i hyn mewn unrhyw ffordd leician nhw, ond dwi yn gobeithio y gallwn ni drwy hyn helpu'r Llywodraeth i allu clywed eu llais nhw.

Mae'r holiadur ar fy mhlatfformau Instagram a Facebook a Twitter i—y llwyfannau arferol. Dwi'n gobeithio bydd nifer o fy nghyd-Aelodau fi yn fan hyn yn barod i'w rannu o hefyd, ynghyd â nifer o sefydliadau sy'n gweithio ym maes iechyd meddwl ac efo pobl ifanc. A dwi'n hyderus y bydd y Gweinidog yn gwrando, a helpu'r Llywodraeth ydy'r nod yn fan hyn. Wedi'r cyfan, mae helpu ein pobl ifanc ni i ffeindio eu llais a'u helpu nhw i wynebu heriau iechyd meddwl yn fenter y dylem ni i gyd allu bod yn gwbl gytûn arni hi. 

18:10

Diolch, Llywydd dros dro. Diolch yn fawr iawn i Rhun am ddod â'r pwnc hynod o bwysig yma ymlaen heddiw yma. Mae geiriau Gareth yn cael eu hatseinio gan bobl ifanc yn Nwyfor Meirionnydd, dwi'n gallu dweud hynny wrtho fo. Mae wedi bod yn fraint i fi gael ymweld â sefydliadau a chanolfannau, a siarad gyda phobl ar hyd a lled Dwyfor Meirionnydd ers cael fy ethol. Ond, wrth siarad efo elusennau digartrefedd, er enghraifft, sefydliadau canfod swyddi a chyrff cyhoeddus eraill, mae yna ddwy thema benodol wedi codi fyny dro ar ôl tro, a'r ddwy honno yn cydblethu, sef iechyd meddwl pobl ifanc a mynediad i drafnidiaeth a gwasanaethau. 

Yn ôl adborth pobl ifanc i ymgynghoriadau yng Ngwynedd, maen nhw'n dweud yn glir mai diffyg argaeledd gwasanaethau mewn cymunedau gwledig, a diffyg mynediad at y gwasanaethau sydd ar gael oherwydd problem trafnidiaeth, ydy'r heriau mwyaf sydd yn eu hwynebu nhw. Mae'r diffyg yma felly'n golygu fod nifer fawr o bobl ifanc yn gweld eu hiechyd meddwl felly yn gwaethygu. Hoffwn felly yn eich ymateb, Weinidog, glywed sut fyddwch chi yn cydweithio efo Gweinidogion eraill yn eich Llywodraeth er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar gael yn lleol ac yn agos i bobl yn eu cymunedau, a bod yna well cysylltedd rhwng cymunedau er mwyn sicrhau bod pobl yn medru teithio at y gwasanaethau sydd gennym ni yn barod. Diolch yn fawr iawn i chi.   

18:15

Diolch, Llywydd dros dro. Diolch am gael siarad heno, a diolch iti, Rhun, am ddod â'r pwnc yma gerbron. Dwi wedi cael trafodaeth yn ddiweddar gyda Tom Davies o'r Children's Society, ac yn ystod y cyfarfod fe esboniodd o ychydig am y gwaith da maen nhw'n ei wneud a'r gwaith da sy'n cael ei wneud yn y maes yma, a'r gwaith sy'n cael ei wneud i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Roedd hefyd yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried rhai argymhellion.

Un o'r rhain yw bod Cymdeithas y Plant yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys gwaith mewngymorth gan wasanaethau iechyd i ategu ei chynllun ar gyfer gwell cefnogaeth iechyd meddwl mewn ysgolion, gyda chynnig cryf a chyson yn y gymuned i bobl ifanc, hyd at 25 oed, y gallai fod yn well ganddynt gael cefnogaeth y tu allan i addysg. Gellir darparu cefnogaeth yn y gymuned drwy hybiau mynediad agored, wedi'u cynllunio i gynnig cefnogaeth galw heibio, hawdd ei chyrchu ar sail hunanatgyfeirio i bobl ifanc sydd ag anghenion iechyd emosiynol a llesiant.

Nid wyf am ragdybio beth fydd ymatebion y bobl ifanc yn yr arolwg newydd, cyffrous hwn mae Rhun yn ei gychwyn heno, ond byddwn yn annog pobl ifanc i gymryd rhan. Fodd bynnag, hoffwn wybod a fydd y Llywodraeth yn ystyried argymhelliad Cymdeithas y Plant fel un rhan o'r ffordd y gallwn helpu i wrando ar bobl ifanc a'u cefnogi.

Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Rhun am roi'r cyfle hwn imi siarad heno, ond yn bwysicach, credaf y dylem ddiolch i Gareth, yr unigolyn ifanc sydd wedi rhannu hyn gyda chi, oherwydd yn sicr mae angen canmol dewrder Gareth am gyflwyno'r pwnc hwn i chi ac i’n Senedd.

Bydd yr Aelodau'n gwybod bod gennyf bryderon nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol yn cyrraedd y safon y dylent ei chyrraedd. Rwy'n credu y dywedir yn aml y dylai gwasanaethau iechyd meddwl fod yn gydradd â'r gwasanaethau iechyd corfforol, ond rwyf eisiau inni ddechrau gweithredu’r meddylfryd hwnnw yn awr. Nawr, os yw gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc yn mynd i wella, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd eisoes heno, byddwn yn gwneud un sylw: mae'n rhaid inni glywed mwy gan ddarparwyr rheng flaen, gan bobl ifanc eu hunain, y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau a'r rhai nad ydynt wedi'u defnyddio hyd yma o bosibl, ac na fydd angen iddynt wneud hynny byth efallai. Rwy'n credu bod angen inni glywed ganddynt hwy hefyd, ac mae a wnelo hynny â'r Llywodraeth, ni fel Aelodau unigol, a'n cyd-Aelodau yn y pwyllgor iechyd efallai, ac roedd yn wych gweld Jayne Bryant yn dangos diddordeb yn y ddadl heddiw fel Cadeirydd y pwyllgor plant a phobl ifanc. Yn fy marn i, y darparwyr rheng flaen, ac yn bwysig iawn, y bobl ifanc a allai fod angen y gwasanaethau hynny—dyna pwy y mae angen inni wrando arnynt. Edrychaf ymlaen at rannu arolygon Rhun, gyda chymorth Gareth gyda hynny, a hoffwn annog y Gweinidog i fyfyrio ar hynny, a’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i wrando ar y lleisiau hynny hefyd. Diolch.

Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl, Lynne Neagle.

Diolch, Lywydd dros dro, ac a gaf fi ddiolch i Rhun am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am rannu safbwyntiau ei etholwr, Gareth, gyda ni? Rwy'n croesawu hynny'n fawr, ac rwy'n siŵr fod Gareth yn falch iawn eich bod wedi gallu rhoi sylw i'w bryderon yn y Senedd. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau eraill sydd wedi siarad heddiw.

Nid oes dim yn fwy o flaenoriaeth i mi na diogelu, gwella a chefnogi iechyd emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc, ac mae fy ffocws mewn tri maes allweddol: atal, ymyrraeth gynnar a chryfhau gwasanaethau arbenigol i bobl ifanc sydd angen y lefel honno o gymorth. Ond i wneud hyn yn effeithiol, yn sicr mae angen dull trawslywodraethol ac amlasiantaethol o weithredu, ac rwy'n benderfynol o chwarae fy rhan yn gyrru'r agenda hon yn ei blaen, ac yn wir rwyf eisoes yn cael trafodaethau cadarnhaol iawn gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth ynglŷn â sut y gallant gyfrannu at yr agenda hon.

Mae Rhun yn llygad ei le. Mae gwrando ar bobl ifanc sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl yn hollbwysig, ac mae gennym fecanweithiau cadarn ar waith i gefnogi hyn. Maent yn cynnwys ein grŵp rhanddeiliaid ifanc cenedlaethol, sy'n sicrhau bod gwaith ein rhaglen dull system gyfan yn cael ei lywio gan leisiau plant a phobl ifanc. Manteisiaf ar bob cyfle a gaf i wrando ar leisiau plant a phobl ifanc, yn union fel y gwneuthum pan oeddwn yn Gadeirydd y pwyllgor, a byddaf yn parhau i wneud hynny, gan gynnwys pan fydd ein Senedd Ieuenctid newydd wedi ei hethol. Mae gan fyrddau iechyd drefniadau ar waith hefyd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfle i lywio a siapio gwasanaethau a chymorth.

Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chanolfan Wolfson ym Mhrifysgol Caerdydd. Tîm amlddisgyblaethol yw hwn sy'n ceisio deall achosion problemau iechyd meddwl y glasoed a llywio ffyrdd newydd o gefnogi ein pobl ifanc. Rwy'n falch iawn fod y ganolfan wedi recriwtio pobl ifanc sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl i ymuno â'i grŵp cynghori newydd ac rwy'n gweld hwn yn gyfle enfawr i sicrhau bod cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn cael ei lywio gan ymchwil o'r radd flaenaf. Rwyf hefyd yn croesawu'r holiadur y mae Rhun wedi'i roi ar ei gyfryngau cymdeithasol, a phan fydd wedi'i gwblhau, byddwn yn ddiolchgar pe gallai rannu'r canfyddiadau â mi. Rwy'n cyfarfod â Beat yfory mewn gwirionedd i siarad am eu gwasanaethau ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r buddsoddiad yn Beat yn sylweddol iawn i gydnabod y cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n dioddef o anhwylderau bwyta, a pha mor ddwys yw'r anhwylderau hynny. 

Yn ogystal â hyn, mae sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth ffurfiol ar gael i blant a phobl ifanc hefyd yn hanfodol, ac mae gan bob bwrdd iechyd ei drefniadau ei hun ar waith i'w cynnig. Yn ogystal, fel y dywedais, mae byrddau iechyd unigol wedi bod yn gweithio mewn amryw o ffyrdd i gefnogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys cynnal grwpiau pobl ifanc a chynhyrchu siarter pobl ifanc sy'n gyson â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy o waith i gryfhau gwasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc, oherwydd mae'r pandemig wedi effeithio ar y gwaith hwnnw, a hoffwn ailadrodd fy ymrwymiad i yrru'r gwaith hwnnw yn ei flaen.

Cyfeiriodd Peredur at argymhellion Cymdeithas y Plant, felly roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol tynnu sylw at y gwaith rydym eisoes yn ei wneud i sicrhau bod cefnogaeth i blant a phobl ifanc ar gael cyn gynted â phosibl. Mae ein dull presennol o weithredu yn Llywodraeth Cymru wedi'i lywio gan nifer o ddarnau allweddol o waith, gan gynnwys yr adroddiad 'Cadernid Meddwl', yr ymchwiliad y bûm yn ei gadeirio ac yn ei yrru ymlaen fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r grŵp gorchwyl a gorffen ar y dull system gyfan. Mae hefyd wedi'i lywio gan y grŵp rhanddeiliaid ifanc cenedlaethol. Mae'r gwaith hwn wedi cefnogi dull system gyfan, gan sicrhau bod y cymorth hwn ar gael ar draws sawl math o leoliad i wella mynediad, ac yn hanfodol, mae'r rheini'n lleoliadau lle mae plant a phobl ifanc yn byw eu bywydau—mewn ysgolion, mewn colegau ac mewn gwasanaethau ieuenctid.

Ar hyn o bryd mae byrddau iechyd yn sefydlu mannau cyswllt unigol, a fydd yn helpu i nodi'r bobl ifanc nad oes angen cymorth iechyd meddwl arbenigol arnynt, ond sy'n eu cysylltu â chymorth priodol yn y gymuned. Rydym hefyd yn cwblhau cynlluniau i dreialu dewisiadau amgen yn lle ysbyty i bobl ifanc mewn argyfwng. Mae darparu'r cymorth cywir yn yr amgylchedd cywir yn hanfodol, a dyna pam, ym mis Mawrth eleni, y gwnaethom gyhoeddi fframwaith statudol newydd i ymgorffori dull ysgol gyfan o gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc ledled Cymru. I gefnogi'r gwaith o weithredu'r fframwaith, rydym wedi cytuno ar gyllid o £360,000 yn 2021-22 i benodi cydgysylltwyr gweithredu i weithio gydag ysgolion a phartneriaid, gan eu cynorthwyo i asesu a mynd i'r afael â'u hanghenion llesiant.

Fel rhan o'n dull system gyfan, rydym wedi buddsoddi mewn cynlluniau peilot mewngymorth ysgolion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Dangosodd y gwerthusiad terfynol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, ganlyniadau addawol, ac yn arbennig, y cymorth a ddarperir gan ymarferwyr iechyd meddwl penodedig i feithrin capasiti mewn ysgolion i gefnogi iechyd meddwl a llesiant disgyblion. Ac rwy'n falch o ddweud, Peredur, ein bod, ar sail y profiad cadarnhaol hwn, yn cyflwyno'r gwasanaeth ledled Cymru gyfan bellach, ac yn gynharach yn yr haf, dyfarnwyd bron i £4 miliwn yn y flwyddyn gyfredol i gefnogi'r gwaith o'i gyflwyno'n genedlaethol. Rydym yn gweld y gwasanaeth mewngymorth fel agwedd allweddol ar gymorth o dan ein dull ysgol gyfan a'r fframwaith statudol a gyhoeddwyd gennym ar 15 Mawrth. Dros dair blynedd gyllidebol rhwng 2019-20 a 2021-22, rydym wedi sicrhau cynnydd o 360 y cant yn y gyllideb i gefnogi ein gwaith dull system gyfan, gan ddangos ein hymrwymiad yn y maes hwn. Neilltuwyd £9 miliwn i gefnogi'r rhaglen hon yn 2021-22. Mae hyn yn cynnwys cyllid i ymestyn a gwella darpariaeth cwnsela mewn ysgolion, cymorth i ddarparu ymyrraeth gyffredinol ac wedi'i thargedu ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion, ac i gefnogi hyfforddiant athrawon ac aelodau eraill o staff ysgolion mewn perthynas â'u llesiant eu hunain a llesiant plant. 

Yn gynharach eleni, gwnaethom gyhoeddi fframwaith NYTH y GIG—sef rhoi nerth, ymddiried, tyfu'n ddiogel a hybu—ac mae'r fframwaith hwn yn darparu offeryn cynllunio i fyrddau cynllunio rhanbarthol allu gweithredu dull system gyfan o ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl, llesiant a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Rydym yn cynorthwyo byrddau cynllunio rhanbarthol i weithredu fframwaith NYTH mewn ffordd systematig ac integredig ledled Cymru ac rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda byrddau iechyd a byddaf yn ymweld â byrddau partneriaeth rhanbarthol unigol ledled Cymru i ysgogi cynnydd. Yn hollbwysig, bydd hyn yn helpu i ddarparu cymorth iechyd meddwl emosiynol priodol i'r rhai nad oes angen cymorth neu ymyrraeth glinigol arnynt. Yn hollbwysig hefyd, caiff ei gydgynhyrchu gyda phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd. 

Rydym yn gwneud cynnydd da hefyd ar gyflawni camau gweithredu i wella iechyd meddwl mewn gwaith ieuenctid. Rydym wedi cyflwyno hyblygrwydd ychwanegol o fewn y grant cymorth ieuenctid a'r grant cyrff ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol. Mae hyn wedi galluogi awdurdodau lleol yn y sector gwirfoddol i ymateb mewn ffordd fwy ystwyth i anghenion pobl ifanc i helpu i gefnogi eu hanghenion llesiant emosiynol ac iechyd meddwl drwy gydol y pandemig. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau ar-lein, cadw mewn cysylltiad a chyswllt wyneb yn wyneb ar gyfer y bobl ifanc fwyaf agored i niwed.

Wrth gwrs, rwy'n cydnabod yr angen i sicrhau bod gwasanaethau arbenigol ar gael i'r plant sydd angen y lefel honno o gymorth. Gan adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol eleni, rydym wedi ymrwymo £5.4 miliwn ychwanegol i wella cymorth CAMHS yn y gymuned ac yn ein hunedau CAMHS arbenigol yng Nghymru. Rydym hefyd wedi buddsoddi yng ngwasanaethau argyfwng y GIG ac rydym ar y trywydd cywir i gael un man cyswllt 24 awr i bob oedran ar gyfer argyfyngau iechyd meddwl ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd y cymorth hwn yn hanfodol er mwyn darparu mynediad cyflym at ymarferydd iechyd meddwl i gynghori a chefnogi unigolion a'u hatgyfeirio at gymorth arall os oes angen.

Felly, i gloi, Lywydd dros dro, rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu dangos heddiw a rhoi rhywfaint o sicrwydd fod y mater hwn yn parhau i fod ar frig fy agenda wleidyddol a fy mod yn gwbl benderfynol o barhau i yrru'r gwaith hwn yn ei flaen. Nid oes unrhyw beth yn bwysicach nag ateb anghenion iechyd meddwl a chymorth emosiynol ein plant a'n pobl ifanc. Diolch yn fawr. 

18:25

Daeth y cyfarfod i ben am 18:28.