Y Cyfarfod Llawn

Plenary

02/11/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf ar ein hagenda ni, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant. 

Y Cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur? OQ57125

Llywydd, mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn enghraifft wych o'r Llywodraeth a grwpiau cymunedol yn cydweithio i greu a gwella mannau gwyrdd, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn agos at ble mae pobl yn byw. Mae cannoedd o gynlluniau lleol eisoes wedi'u cwblhau, ac mae llawer mwy i ddod.

Diolch, Prif Weinidog. Ymwelais yn ddiweddar â Choetir Cymunedol Rabbit Hill yn fy etholaeth i a'r gwirfoddolwyr gwych sy'n gweithio ar y prosiect. Mae'r goedwig wrth ymyl ystad Dyffryn ac yn anffodus yr oedd wedi mynd yn segur yn dilyn blynyddoedd o esgeulustod. Fodd bynnag, yn 2017 cafodd gyllid gan yr ymgyrch Crëwch Eich Man, a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae'r effaith y mae'r gronfa hon yn ei chael yn ddwys, ac mae mor braf gweld y goedwig yn dychwelyd i fod yn lle y gall y gymuned ei fwynhau a bod yn falch ohono. Mae ymgyrchoedd fel Crëwch Eich Man a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn hynod werthfawr, ond gellir gwneud mwy bob amser i wella ein hamgylchedd naturiol. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu ar y cynlluniau hyn i sicrhau y gall pawb yng Nghymru fwynhau manteision mannau gwyrdd?

Wel, Llywydd, diolch i Jayne Bryant am yr hyn a ddywedodd am y cynlluniau presennol ac am yr enghraifft wych o'i hetholaeth ei hun. Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, cynllun y bwriadwyd iddo ddod â natur i garreg drws pobl, sefydlwyd 82 o berllannau cymunedol newydd, agorwyd 520 o erddi newydd, a phlannwyd dros 73,000 o fylbiau. A dim ond un rhan o'r hyn y mae'r cynllun hwn wedi'i ddarparu yw hynny, ac rydym ni wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â'r cynllun, gan weithio gyda'n partneriaid, yn Cadwch Gymru'n Daclus er enghraifft, i barhau i wneud y gwahaniaeth hwnnw yn agos at le mae pobl yn byw.

Mae'r pwyllgor argyfwng hinsawdd, Llywydd, yn dweud wrthym y bydd 60 y cant o'r newidiadau y mae angen eu gwneud i leihau allyriadau carbon yn dibynnu ar unigolion yn dewis ymddwyn yn wahanol. Mae'r cynllun hwn wedi'i gynllunio i ddod â'r gwahaniaeth hwnnw yn agos at ble mae pobl yn byw, ac ochr yn ochr â COP26, wrth gwrs, bydd gennym ni COP Cymru yma yng Nghymru. Bob wythnos, bydd digwyddiad yn dod â llawer iawn o bobl at ei gilydd, gan edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud. Bydd yr un cyntaf, i'w gynnal ar 6 Tachwedd, yn ddiweddarach yr wythnos hon, yn y canolbarth, yn canolbwyntio ar atebion sy'n seiliedig ar natur, a bydd hynny yn caniatáu i ni wneud yn union yr hyn a ofynnodd Jayne Bryant, sef dod o hyd i hyd yn oed mwy o ffyrdd y gallwn ni wneud i'r cynllun hwn ailgysylltu pobl ag atebion sy'n seiliedig ar natur yn eu hardaloedd eu hunain, gan gyfrannu at ymdrech Cymru ar y daith newid hinsawdd fawr honno yr ydym ni i gyd wedi cychwyn arni.

Prif Weinidog, rwy'n croesawu'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac yn edrych ymlaen at gynyddu mynediad at natur a'n hardaloedd gwledig a mwynhad ohonyn nhw i gynulleidfa ehangach yng Nghymru. Rwy'n cofio fel plentyn y cod cefn gwlad yn cael ei addysgu i mi yn yr ysgol, fel yr wyf i'n siŵr y cawsoch chi, a llawer o bobl eraill yn y Siambr hon. Rhoddodd gyngor ar sut i wneud yn siŵr nad oedd ein mwynhad o gefn gwlad yn effeithio ar fywyd gwyllt a da byw, a helpodd i addysgu pobl i barchu, gwarchod a mwynhau tirweddau gwledig. Ym mis Gorffennaf eleni, lansiodd y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad ei phecyn addysgol cod cefn gwlad, a ddaeth â dull newydd o addysgu'r cod. Prif Weinidog, gyda'r cynnydd i nifer yr ymwelwyr â'n cefn gwlad, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i weithio gyda sefydliadau fel y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad i ddiweddaru ac ail-lansio'r cod cefn gwlad hynod boblogaidd i genhedlaeth newydd? Diolch.

Rwy'n credu efallai ein bod ni wedi colli'r cysylltiad â'r Prif Weinidog. Rwy'n mynd i alw am seibiant technegol byr, i weld—. [Torri ar draws.] Prif Weinidog, a allwch chi ein clywed ni yn glir? Rwy'n credu mai'r ateb i hynna yw 'na'. Felly, cymerwn ni seibiant technegol byr a gweld a allwn ni ailddechrau'r cysylltiad yn eithaf cyflym.

13:35

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:35.

Ailymgynullodd y Senedd am 13:37, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Iawn, rydym ni'n ailddechrau. A gaf i gadarnhau gyda'r Prif Weinidog a oedd yn gallu clywed y cwestiwn gan Samuel Kurtz, neu a oes angen ei ailadrodd?

Llywydd, clywais y rhan fwyaf o gwestiwn Mr Kurtz—digon, gobeithio, i allu cytuno ag ef fod y niferoedd cynyddol o ymwelwyr â chefn gwlad Cymru yn dod â rhwymedigaeth wahanol ar bobl i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n parchu'r hyn sy'n ofynnol ganddyn nhw. Rwy'n diolch i'r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad am y gwaith y mae wedi ei wneud i adnewyddu'r cod cefn gwlad. Mae addysgu'r pethau hyn yn ein hysgolion yn bwysig iawn, ac, fel y gwyddom, mae gennym ni gynulleidfa dderbyngar iawn yn wir ymhlith poblogaeth ein hysgolion.

Llywydd, ochr yn ochr â'r cynllun sero-net a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi dogfen ategol, sy'n dangos dros 100 o gamau y mae gwahanol unigolion a sefydliadau wedi ymrwymo iddyn nhw. Cefais fy nharo yn arbennig gan yr hyn a ddywedodd disgyblion Ysgol Mynyddygarreg. Yn eu haddewid nhw, fe wnaethon nhw ddweud,

'Byddwn yn newid ein harferion bach gyda'n gilydd.'

Ac mewn cwestiwn sy'n ymwneud â'r pethau bach y gallwn ni eu gwneud, y pethau lleol y gallwn ni eu gwneud, rwy'n credu bod hynny yn dweud wrthym ni fod gennym ni boblogaeth wirioneddol dderbyngar ymhlith ein pobl ifanc i'r mathau o bwyntiau yr oedd yr Aelod yn eu gwneud.

Cymru Sero-net

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau Cymru sero-net? OQ57124

Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn yna. Llywydd, mae ein camau gweithredu wedi eu nodi yn y cynllun Cymru Sero Net, a gyhoeddwyd gennym ni yr wythnos diwethaf. Mae'r cynllun yn dangos yr amrywiaeth o faterion y mae'r Senedd hon yn gyfrifol amdanyn nhw, gan nodi camau ym meysydd trafnidiaeth, tai, yr economi wledig ac ynni adnewyddadwy ymysg eraill.

Diolch, Prif Weinidog. Mae adeiladau yn gyfrifol am ychydig yn llai na chwarter o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn deillio o wresogi tanwydd ffosil. Felly, mae mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn dechrau yn y cartref yn wirioneddol. Mae eich Llywodraeth yn arwain y ffordd, gyda'r cyhoeddiad heddiw o gyllid ar gyfer cartrefi cymdeithasol gwyrddach, a'r safon newydd ar gyfer chwalu tanwydd ffosil y bydd 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yn cael eu hadeiladu i'w rhentu dros y pum mlynedd nesaf. Mae hynny i gyd yn newyddion hollol wych. Ond a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am eich sefyllfa yng nghyswllt datblygwyr preifat o ran eu cael nhw i fabwysiadu'r un safonau yn union?

13:40

Wel, Llywydd, diolch i Joyce Watson am hynna, ac am y croeso a roddodd i'r buddsoddiad ychwanegol gwerth £150 miliwn, y mae fy nghyd-Weinidog Lee Waters wedi gallu ei gyhoeddi heddiw, i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi cymdeithasol presennol yng Nghymru. Ond mae Joyce Watson yn iawn bod yn rhaid i ni, hefyd, argyhoeddi eiddo rhent preifat a pherchnogion cartrefi i gymryd y camau, y mae angen i bob un ohonom ni eu cymryd yn ein bywydau ein hunain, os ydym ni am gyrraedd y nod o Gymru sero-net erbyn 2050. Bydd rhai o'r penderfyniadau hynny yn benderfyniadau anodd a heriol, ond, yn ôl ym mis Medi, fe wnaethom nodi'r safonau newydd a fydd yn ofynnol gan unrhyw adeilad tŷ preifat sydd ag unrhyw elfen o grant Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig ag ef. Ar yr un pryd, fe wnaethom ni gymryd camau i wneud yn siŵr na ellir adeiladu tai preifat newydd, yn ogystal â thai cyhoeddus, yn y dyfodol yng Nghymru ar dir sy'n agored i lifogydd. Ac rwy'n gwybod bod y rhain yn bethau heriol yr ydym ni'n eu gofyn gan y sector, ond oni bai ein bod ni'n barod i wneud y penderfyniadau heriol hynny nawr, ni fyddwn ar y llwybr i'r dyfodol y mae angen i ni fod arno, a dyna y bwriedir i'r cynllun yr wythnos diwethaf ei wneud. Bwriedir iddo wneud yn siŵr ein bod ni, yma yng Nghymru, yn gallu cyrraedd y targedau hynny yr ydym ni wedi eu gosod i ni ein hunain, i wneud y cyfraniadau yn yr holl ystod o feysydd yn ein bywydau ein hunain. Mae tai yn sicr yn un ohonyn nhw. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn rhan o hynny. Mae'n rhaid i'r heriau y gwnaethom eu pennu ar gyfer perchentyaeth breifat fod yn rhan o'r un darlun.

Prif Weinidog, yn 'Gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd sero net: cynllun Cymru gyfan 2021-25' datgelwyd mai dim ond 118 o addewidion gan y sector cyhoeddus y mae eich ymgyrch addewidion wedi eu sicrhau yn ystod y 23 mis diwethaf. Felly, er i'ch Llywodraeth Cymru ddatgan yr argyfwng hinsawdd hwn yn 2019, dim ond 16 o awdurdodau lleol sydd wedi dilyn yr esiampl, a dim ond naw awdurdod lleol sydd wedi eu cynnwys ar y rhestr o ymatebwyr i'r ymgyrch addewidion. Nawr, rydym ni i gyd yn gwybod bod ymgysylltu yn arwain at weithredu, ac mae'n sicr nad yw'r ymgyrch addewidion hon wedi llwyddo hyd yma. Nawr, cyn y toriad, roeddwn i'n falch iawn, ynghyd ag Aelodau eraill yma, o fynd i ddigwyddiad Hinsawdd Cymru ar risiau'r Senedd i glywed gan rai o'r 10,000 o leisiau amrywiol yng Nghymru sy'n dymuno gweld camau gan eich Llywodraeth Cymru chi a'n cyrff cyhoeddus ledled Cymru. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi gydnabod y lleisiau hyn drwy ymrwymo i ddwyn y dyddiad terfyn ar gyfer y cynllun ymgysylltu newydd ymlaen fel y gellir gweld bod methiant yr ymgyrch bresennol yn ysgogi rhywfaint o weithredu bellach, ac y gellir mynd i'r afael ag unrhyw fethiannau nawr, yn fuan yn hytrach na llawer yn hwyrach? Diolch.

Llywydd, mae arnaf i ofn fod cyfraniad yr Aelod nid yn unig yn grintachlyd, ond mae'n hurt i raddau helaeth hefyd. Rwyf i wedi cael cyfle—tybed a yw hi—i ddarllen y ddogfen y mae'n cyfeirio ati. Mae'n ddogfen galonogol dros ben, Llywydd, mewn gwirionedd. Mae'n nodi addewidion o bob rhan o Gymru, o unigolion i'n sefydliadau mwyaf yn y sector cyhoeddus ac ym maes busnes hefyd. Mae'n rhoi synnwyr gwirioneddol i chi o'r ymrwymiad sydd yma yng Nghymru i'r agenda heriol iawn ond cwbl angenrheidiol hon. Rwy'n cymeradwyo gweithredoedd ein hawdurdodau lleol yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol o bob argyhoeddiad gwleidyddol yn cymryd camau i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu chwarae eu rhan. Ceir disgrifiad cymhellol iawn yn y cynllun gan sir Gaerfyrddin, er enghraifft, yn dathlu'r camau y maen nhw eisoes wedi eu cymryd ac yn dangos beth arall y byddan nhw'n ymrwymo i'w wneud yn ystod gweddill y degawd hwn. Mae cynllun Caerdydd Un Blaned yng nghyngor dinas Caerdydd yn ymgynghoriad ar sut y gall y cyngor fod yn garbon niwtral erbyn 2030 mewn dinas werdd a chynaliadwy. Yn hytrach nag achwyn o'r ymylon, byddai'n well o lawer i'r Aelod ddathlu'r camau y mae pobl ym mhob rhan o Gymru yn eu cymryd, gan gynnwys ein hawdurdodau lleol; maen nhw'n gwneud ymdrechion gwirioneddol i'n tywys ni i ble mae angen i ni ei fod. Y cwbl y mae hi'n ei wneud yw eistedd ar yr ymylon a beirniadu pobl eraill.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddoe, fe wnaethoch chi ddweud bod angen gobaith i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a bod angen hyder ac ymddiriedaeth ar bobl i wneud newidiadau yn eu bywydau eu hunain, ac eto mae'r ddadl hon yn gyffredinol yn ysgogi'r casgliad arferol o felinau trafod, enwogion, gwleidyddion a grwpiau pwyso. Wrth gwrs, mewn gwirionedd, bydd llawer o'r hyn sydd ei angen yn dibynnu ar bobl a theuluoedd yn newid eu hymddygiad—sut maen nhw'n teithio, beth maen nhw'n ei fwyta a defnydd ac effeithlonrwydd ynni eu cartrefi. Ni allwn ni sicrhau'r newid diwylliant hwnnw trwy ddull o'r brig i lawr yn unig; mae angen i ni gael sgwrs genedlaethol sy'n cydnabod bod angen atebion lleol ac unigol ar y broblem hon. Y pwynt yr wyf i'n ei wneud yw bod angen i ni fynd â phobl gyda ni ar y daith hon, felly a wnewch chi ddweud wrthym ni sut rydych chi'n bwriadu ymgysylltu yn uniongyrchol â phobl ar y mater hwn? Pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu gydag unrhyw gostau y gallai teuluoedd eu hwynebu wrth fabwysiadu camau mwy ystyriol o'r hinsawdd?

Diolch i arweinydd yr wrthblaid am y pwynt yna. Mae'n bwynt yr wyf i'n cytuno arno. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud wrth ateb cwestiwn cynharach bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dweud wrthym ni na fydd tua 60 y cant o'r camau sydd eu hangen i gyrraedd sero net yng Nghymru erbyn 2050 yn dibynnu ar y pethau y mae Llywodraethau yn eu gwneud, na hyd yn oed ar yr hyn y mae corfforaethau mawr yn ei wneud, ond yn hytrach ar yr hyn y mae pob un ohonom ni'n ei wneud yn ein bywydau unigol. Bydd COP Cymru yn gyfle gwirioneddol i gael y math o sgwrs y mae'n cyfeirio ati, a bydd Wythnos newid hinsawdd yng Nghymru ddiwedd y mis hwn yn gyfle arall i ni ddod â'r lleisiau hynny o bob cwr o Gymru sy'n benderfynol iawn o wneud eu cyfraniad o amgylch y rhith-fwrdd hwnnw gyda'i gilydd.

Mae'n iawn; ni all hyn fod yn gyfres o gamau gweithredu o'r brig i lawr yn unig, nac, yn wir, yn sgwrs sy'n cael ei harwain o'r brig i lawr. Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn sgyrsiau sy'n cael eu harwain ym mhob rhan o Gymru gan bob math o sefydliadau sy'n barod i chwarae rhan ynddo. Dyfynnais eiliad yn ôl, Llywydd, y newidiadau 'arferion bach gyda'n gilydd' y soniodd plant ym Mynydd-y-Garreg amdanyn nhw; yn yr un ddogfen, mae Sefydliad Merched Llansaint yn ymrwymo i fod yn rhyfelwyr ailgylchu yn eu cymuned eu hunain. Dylem ni ymgalonogi rhywfaint, Llywydd, yn fy marn i; mae'r rhain yn heriau enfawr ac mae'n hawdd i bobl deimlo bod y cyfan yn drech na nhw ac nad oes dim y gallan nhw eu hunain ei wneud, ond rwy'n credu bod ein targedau ailgylchu yng Nghymru a'r llwyddiant yr ydym ni wedi ei gael gyda'n gilydd, drwy gamau grwpiau lleol ac awdurdodau lleol, yn dweud wrthym ni, pan fyddwn ni'n cymryd y camau hynny, bod y pethau bach y gallwn ni eu gwneud yn unigol yn ychwanegu at y pethau y gall ein ffrindiau neu ein cymdogion ac eraill yn ein cymunedau eu gwneud, a gyda'n gilydd, gallwn ni wir wneud y gwahaniaeth hwnnw.

Yn wir, Prif Weinidog, ac wrth i genhedloedd ddod at ei gilydd yn COP26, mae gennym ni gyfle hollbwysig i wneud rhywfaint o gynnydd gwirioneddol o ran mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Wrth gwrs, mae'n gofyn i wledydd gydweithio, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a phob Llywodraeth ledled y DU yn gwneud yn union hynny—yn meithrin consensws ac yn ceisio gweithio gyda phartneriaid yn rhyngwladol i wneud y cynnydd sydd ei angen i ddechrau mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Mae'r neges yn glir: mae angen i ni sicrhau sero net byd-eang erbyn canol y ganrif ac mae angen i ni leihau allyriadau erbyn 2030 i gadw cynhesu o 1.5 gradd o fewn cyrraedd.

Ymysg pethau eraill, yfory yn yr uwchgynhadledd, ceir pwyslais ar gyllid a sut i ysgogi llifau cyllid cyhoeddus a phreifat ar raddfa ar gyfer lliniaru ac addasu. Prif Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym ni faint o gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi ei glustnodi ar hyn o bryd ar gyfer datblygu'r seilwaith sydd ei angen i drosglwyddo i economi wyrddach a all wrthsefyll yr hinsawdd yn well? Ac a wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud hyd yma i ddod o hyd i gyllid preifat i helpu i ariannu technoleg ac arloesi yn hyn o beth?

Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno eto â'r hyn a ddywedodd Paul Davies am bwysigrwydd gwledydd yn cydweithio. Dechreuodd fy niwrnod i yn y gynhadledd hon drwy rannu llwyfan â Phrif Weinidog y DU, â Phrif Weinidog yr Alban, a Phrif Weinidog a dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Roedd hwnnw yn benderfyniad bwriadol rhyngom ni i gyd i ymddangos gyda'n gilydd i bwysleisio nid yn unig y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yng nghydrannau unigol y Deyrnas Unedig ond y ffordd y mae'r camau hynny yn ychwanegu at wneud rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lefel y DU.

Yn y gynulleidfa yn y digwyddiad hwnnw roedd arweinwyr y byd o hyd at 40 o wledydd eraill ledled y byd, ac roedd yn gyfle i gyfarfod â nifer o'r arweinwyr hynny ond hefyd, drwy rannu llwyfan â'n gilydd, i ddangos iddyn nhw fod y camau lleol yr ydym ni'n eu cymryd yng Nghymru, sy'n cyfrannu at y camau y gall y Deyrnas Unedig eu cymryd, yn cysylltu ymlaen wedyn â'r camau sydd eu hangen ledled y byd.

Mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid i'r Aelod aros tan fydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gosod y mis nesaf i weld sut y byddwn yn bwriadu buddsoddi yn y seilwaith angenrheidiol i helpu'r camau sydd eu hangen ym maes trafnidiaeth, ym maes ynni adnewyddadwy, ym maes tai ac yn y blaen ledled Cymru. Byddwn yn cyflwyno'r olynydd i raglen buddsoddi mewn seilwaith Cymru, y rhaglen fuddsoddi 10 mlynedd yr ydym ni ar fin ei dirwyn i ben. Bydd gennym ni ddegawd arall o'n blaenau, a byddwn yn cyflwyno honno ochr yn ochr â'r gyllideb ym mis Rhagfyr.

Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Paul Davies am bwysigrwydd buddsoddiad preifat yn hyn i gyd. Yn wir, bydd buddsoddiad preifat yn enfawr o'i gymharu â'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud gan awdurdodau cyhoeddus. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yng Nghymru yw defnyddio buddsoddiad cyhoeddus i lwytho'r buddsoddiad a fydd yn dod gan fuddsoddwyr preifat. Rydym ni'n sicr yn gwneud hynny yng Nghymru, er enghraifft ym maes ynni adnewyddadwy, lle mae'r camau yr ydym ni'n eu cymryd fel Llywodraeth Cymru—o ran gwneud yn siŵr bod trefn gynllunio briodol, trefn gydsynio, ein bod ni'n chwarae ein rhan yn y seilwaith angenrheidiol—yn dod â'r buddsoddiad i Gymru sy'n dod wedyn gan gwmnïau preifat sy'n buddsoddi yng Nghymru i greu ynni adnewyddadwy y dyfodol. Ac mae'r llwyddiant yr ydym ni wedi ei gael yn y maes hwnnw, yn fy marn i, yn dangos ein bod ni yma yng Nghymru yn defnyddio ein hadnoddau cyhoeddus i greu amodau yng Nghymru, yr amodau sy'n caniatáu'r buddsoddiad ychwanegol a llawer mwy helaeth hwnnw y bydd yn rhaid i gwmnïau preifat ei ddarparu os ydym ni am gyrraedd y nodau yr ydym ni wedi eu gosod i ni ein hunain.

13:50

Prif Weinidog, yn gynharach eleni, dywedodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd nad oedd y cynlluniau presennol yng Nghymru yn ddigonol. Yn wir, o'r 61 o risgiau a nodwyd gan y pwyllgor yn ei asesiad risg o effaith y newid yn yr hinsawdd yn y DU, roedd yn destun pryder gweld bod 26 o'r risgiau wedi cynyddu o ran brys ers yr adroddiad diwethaf yn ôl yn 2016. Dim ond un yng Nghymru, dim ond un, sydd wedi gostwng o ran ei sgôr brys ers yr asesiad blaenorol. Yr wythnos hon, wrth i chi ymgynnull ag arweinwyr eraill y byd yn COP26 yn Glasgow, rwy'n gobeithio y gwnewch chi fanteisio ar y cyfle i ddysgu gan wledydd eraill ac ymgorffori syniadau newydd ym mholisïau eich Llywodraeth. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi esbonio i ni heddiw pa gamau sydd wedi eu cymryd ers yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd ym mis Mehefin? O ystyried yr angen i gyflymu cynnydd a sicrhau bod pobl Cymru yn gallu fforddio newid i gamau mwy ystyriol o'r hinsawdd, pa wersi ydych chi eisoes wedi eu dysgu o COP26 o ran sut y gallwn ni fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn yma yng Nghymru? Pa effaith fydd COP26 yn ei chael ar bolisïau eich Llywodraeth yn y dyfodol?

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i ymchwiliadau'r pwyllgor wedi eu nodi, wrth gwrs, yn ein cynllun sero net a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Am eiliad, mae'n bwysig, oherwydd, yn y ffordd y dywedodd Paul Davies, rwyf i eisiau dod o COP gan roi hyder a gobaith i bobl yng Nghymru nad yw'r broblem hon yn drech na ni os byddwn yn gweithredu gyda'n gilydd. A'r hyn y mae'r cynllun yn ei ddangos yw ein bod ni'n hyderus nawr y byddwn ni wedi cyrraedd ein targed yn y cylch cyllideb carbon cyntaf hyd at 2020, ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni neu i gyflawni'n well na'r targed yr ydym ni wedi ei osod ar gyfer 2025, ond bod yn rhaid i'r pum mlynedd nesaf, blynyddoedd tymor y Senedd hon, fod yn flynyddoedd lle'r ydym ni'n cymryd y camau ychwanegol hynny a fydd yn ein rhoi ni ar y trywydd iawn ar gyfer y targed yr ydym ni wedi ei osod ar gyfer 2030. Mae Paul Davies yn iawn, Llywydd; mae mwy i'w wneud a mwy o gamau brys y mae angen eu cymryd. Rydym ni wedi cymryd rhai o'r camau haws yn barod, a'r llathenni mwy heriol sydd o'n blaenau.

Wrth gwrs, mae bod yn COP yn gyfle i ddysgu gan bobl eraill, a dyna'n union yr wyf i'n ceisio ei wneud yma. Rwyf i wedi cael sgyrsiau heddiw, er enghraifft, ag arweinwyr o Fangladesh ac o Tanzania. I'r ddwy wlad hynny, nid yw'r newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth y maen nhw'n poeni amdano ar gyfer y dyfodol; mae'n digwydd yno nawr. Mae cynnydd i lefelau'r môr yn golygu bod rhannau o'u cymunedau yn gweld heddiw effaith y newid yn yr hinsawdd ar eu bywydau bob dydd. Rhan o fy mhresenoldeb i yma, a rhan o'r hyn y byddwn ni'n ei gael drwy Weinidogion eraill Cymru, ond hefyd y trydydd sector a sefydliadau eraill yng Nghymru sydd wedi dod i Glasgow, fydd cyfres ehangach o syniadau, gan edrych ar bethau y rhoddwyd cynnig arnyn nhw mewn rhannau eraill o'r byd, gan ddysgu weithiau am bethau y mae angen eu gwneud yn wahanol ac weithiau'n dysgu am y llwyddiannau hynny. Mae bod yma yn gyfle enfawr nid yn unig i ni ddweud wrth bobl eraill am bethau yr ydym ni'n eu gwneud yng Nghymru, ond i ddysgu ganddyn nhw fel bod gennym ni'r gyfres ehangach honno o gamau y gallwn ni eu cymryd yng Nghymru i ganiatáu i ni gyflawni'r nodau yr ydym ni wedi eu gosod i ni ein hunain, nid yn unig yn ystod tymor y Senedd hon ond ar y llwybr sydd y tu hwnt iddo.

13:55

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, COP26 yw cyfle olaf arweinwyr y byd i weithredu er mwyn amddiffyn dyfodol ein planed. Gan San Steffan y mae nifer o'r grymoedd i wneud gwahaniaeth, ond does dim yn rhwystro Llywodraeth Cymru rhag gweithredu nawr a mynnu bod grymoedd llawn dros yr economi ac ynni yn dod adref i Gymru. Mae gan Liz Saville Roberts Fil gerbron Senedd San Steffan ar hyn o bryd a fyddai'n arwain at ddatganoli Ystad y Goron i Gymru. Yn y Senedd yma mae Plaid Cymru hefyd wedi galw sawl gwaith am y grymoedd hynny, a rŷch chi hefyd ar y record yn ddiweddar yn cefnogi'r alwad honno. Felly, yn ystod eich cyfnod yn Glasgow, a fyddwch chi'n codi gyda Boris Johnson yr angen am becyn o bwerau newydd i ddod i Gymru ar fyrder? A allwch chi ddweud mwy am eich asesiad chi o hyd a lled y pecyn o bwerau ychwanegol sydd ei angen arnom?

Diolch yn fawr i Adam Price, Llywydd, am y cwestiwn yna. Dwi yn gefnogol o bwrpas y Bil y mae Liz Saville Roberts wedi ei gyhoeddi i roi mwy o ddewisiadau yn ein dwylo ni i ddelio gyda'r pethau sy'n digwydd yma yng Nghymru. Mi oedd y pwyllgor—y CCC—yn dweud bod oddeutu 40 y cant o bethau sy'n cyfri at ein hamcanion yn 2050 yn dal i fod yn ein dwylo ni fan hyn yng Nghymru a 60 y cant yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig. 

Yng nghyd-destun y gynhadledd yma yn Glasgow, rŷn ni wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau sy'n dangos y pethau rŷn ni eisiau eu cael i'n helpu ni i wneud mwy i gyfrannu at yr ymdrech dros y Deyrnas Unedig i gyd. Bydd cyfle i adeiladu ar y gynhadledd ar ôl y gynhadledd am y pethau mwy rŷn ni eisiau eu gwneud, nid jest ar ein pennau ein hunain ond gyda phobl eraill. Dyna rywbeth dwi wedi dysgu'n barod mewn llai nag un diwrnod lan yn Glasgow: y posibiliadau sy'n dod pan ydych chi'n rhannu gwybodaeth ac yn rhannu syniadau gyda gwledydd eraill y tu fewn i'r Deyrnas Unedig ond tu fas hefyd. 

Diolch i'n cyfoeth o adnoddau naturiol, mae gan Gymru gyfle i fod ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol gwyrdd ac i fod yn arweinydd byd-eang yn yr ymateb i ynni'r hinsawdd. Roedd yn galonogol gweld, rwy'n credu, y bu gostyngiad o 20 y cant i allyriadau yn y tair blynedd hyd at 2018, ond rhwng 2018 a 2019 roedd yn destun pryder gweld bod y gostyngiad hwnnw wedi arafu. Rhoddodd y pwyllgor newid hinsawdd, yn ei asesiad diweddaraf o gynnydd yng Nghymru, yr asesiad llwm bod y diffyg strategaeth gydlynol ar draws yr economi gyfan ar gyfer 2050, ar lefelau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn golygu nad yw Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyrraedd y targed o 80 y cant, heb sôn am sero net. Pa mor hyderus ydych chi, Prif Weinidog, y bydd y cynllun Cymru Sero Net newydd y gwnaethoch chi gyfeirio ato, yn asesiad nesaf y pwyllgor, yn gyfystyr â'r strategaeth gydlynol na welwyd hyd yma?

14:00

Wel, Llywydd, a gaf i ddweud ein bod ni'n hyderus y byddwn ni'n cyrraedd targed 2020? Rydym ni'n mesur y pethau hyn dros bum mlynedd gan fod y targed yn agored iawn i ystumiadau un flwyddyn. Mae arweinydd Plaid Cymru yn iawn y cafwyd cynnydd cyflym yn rhan gyntaf y rhaglen bum mlynedd gyntaf, llai felly yn yr ail hanner. Ond dyna, rwy'n credu, yw natur y ffordd y mae'r pwnc penodol hwn yn gweithredu. Rydym ni ar y trywydd iawn, yn ein barn ni, i fodloni a rhagori ar yr ail gyllideb garbon—y gyllideb a fydd yn cael ei datgan ar ôl diwedd tymor y Senedd hon. Ond fel y dywedais mewn ateb cynharach, mae yna fwy y mae'n rhaid i ni ei wneud yn y pum mlynedd hyn i wneud yn siŵr y gall y bobl sy'n eistedd yn y Senedd ar ôl y cyfnod hwn o bum mlynedd fod yr un mor hyderus o gyrraedd targed yr ydym ni wedi ei osod ar gyfer 2030. Oni bai ein bod ni'n barod i wneud mwy yn nhymor y Senedd hon, ni fyddwn ar y trywydd iawn i wneud hynny, a dyna pam mae ein cynllun yn ein hymrwymo i'r camau ymarferol hynny.

Ac fel y dywedais mewn ateb cynharach, Llywydd, mae'r pethau hyn yn heriol, ac maen nhw'n heriol i bob Aelod o'r Senedd, oherwydd er y gallwn ni gytuno, mewn egwyddor ac mewn gobaith, bod yn rhaid i ni wneud mwy i berswadio pobl, er enghraifft, i beidio â defnyddio eu ceir, pan ddaw'n fater o enghreifftiau penodol mewn etholaethau penodol, bydd yr Aelodau o dan bwysau i gymryd gwahanol safbwynt ar hynny. Bydd yn rhaid i ni, bob un ohonom ni, fod yn barod i fynd i'r afael â'r penderfyniadau anodd hynny ym mhob agwedd ar ein bywydau, a gyda'n gilydd, i wneud y pethau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth hwnnw. Rydym ni'n credu bod ein cynllun yn ein rhoi ni ar y trywydd hwnnw. Ond heb y penderfyniad hwnnw, nid yn unig mewn Llywodraeth, ond ar draws y sbectrwm gwleidyddol a'r tu hwnt i hynny hefyd, yna bydd y daith honno yn anodd dros ben i'w chyflawni.

Un enghraifft o le mae gan Gymru botensial enfawr yw cynhyrchu hydrogen gwyrdd drwy ddefnyddio ein hynni llanw enfawr—capasiti ynni llanw cudd i raddau helaeth, ond yn sylweddol iawn, iawn ar raddfa Ewrop ac yn wir ar raddfa fyd-eang—oddi ar ein harfordiroedd gogleddol a deheuol. Wrth fanteisio ar y cyfle hwnnw, ai polisi Llywodraeth Cymru yw gwrthod hydrogen glas neu lwyd, sy'n defnyddio tanwydd ffosil i gynhyrchu'r nwy, a chanolbwyntio ar hydrogen gwyrdd yn unig, gan ddefnyddio 100 y cant o ynni adnewyddadwy? Oni ddylem ni wrthod yr ymgais gan y diwydiant tanwydd ffosil i wyrddgalchu ei effaith yn yr un modd ag y gwnaethom ni gyda ffracio hefyd?

Wel, diolch i Adam Price am y cwestiwn olaf yna, Llywydd. Mae'n iawn i ddisgrifio ynni'r llanw fel technoleg gychwynnol. Roedd yn siomedig iawn i mi yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant na chlywsom ni ddim gan Lywodraeth y DU ynghylch sut y mae'n mynd i helpu i ddatrys yr un rhwystr mwyaf i ryddhau'r cyfraniad y gall ynni'r llanw ei wneud drwy greu llwybr at fanteisio masnachol. Yma yng Nghymru, rydym ni'n gwneud buddsoddiadau sylweddol yn ochr ddatblygiadol y technolegau newydd hynny. Ond, yn anochel, mae'r ynni y maen nhw'n ei gynhyrchu ar y camau cynnar yn ddrytach na thechnolegau mwy aeddfed. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i lwybr i'r farchnad ar gyfer ynni'r llanw, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan yn hynny drwy gefnogi pris y trydan hwnnw yn ystod y cyfnod y mae'n datblygu'r llwybr hwnnw. Ni chlywsom ni ddim am hynny, ac nid yw hynny yn ein helpu o gwbl i wneud y diwydiant cychwynnol hwnnw yn ddiwydiant gwirioneddol yma yng Nghymru.

I ateb cwestiwn yr Aelod am hydrogen, ychydig iawn sydd i'w ddweud o blaid hydrogen llwyd. Mae gan Lywodraeth y DU ddull deuol o ymdrin â hydrogen glas a gwyrdd. Nid ydym ni yn cytuno â hynny. Mae ein cynllun  ni yn eglur: mai'r hyn yr ydym ni ei eisiau yw dibynnu ar hydrogen gwyrdd yn unig, yn sicr erbyn 2050. Rwy'n credu bod dadl wahanol ynghylch a oes rhyw ran yn y tymor byr y gall hydrogen glas ei chwarae, cyn belled â'i bod yn amlwg ei fod ar lwybr i hydrogen gwyrdd yn unig, ac rwy'n credu ein bod ni o leiaf yn agored i'r ddadl honno. Ond mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn wahanol i safbwynt Llywodraeth y DU ar hyn. Nid yw'n ddull deuol; mae'n ddull sy'n arwain at ddefnyddio hydrogen gwyrdd yn unig.

Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt olaf a wnaeth Adam Price: ni allwn ganiatáu i'r diwydiant tanwydd ffosil wyrddgalchu ei weithredoedd. Bydd tanwydd ffosil yn dod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol yn ystod oes llawer o Aelodau'r Senedd hon. Mae'r daith honno yn anochel ac mae angen i ni ymrwymo yn llwyr iddi.

14:05
Adferiad Trefi Gwledig

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog adferiad trefi gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57126

Wel, diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiwn, Llywydd. I adfer trefi yn y canolbarth a’r gorllewin, mae Llywodraeth Cymru yn dilyn dull sydd wedi ei seilio ar gryfderau. Gan weithio gyda'r awdurdodau lleol, cyrff y trydydd sector ac eraill, ein nod yw siapio dyfodol sydd wedi ei seilio ar yr asedau niferus sydd gan y cymunedau hyn yn barod. 

Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog, am yr ateb, a dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod effaith COVID-19 a Brexit wedi cael effaith niweidiol iawn ar ein trefi gwledig ni. Beth rŷn ni'n gweld yw darlun o ddirywiad yn ein prif trefi marchnad ni ar draws y rhanbarth: siopau, banciau, tafarndai a swyddfeydd post yn cau; canol ein trefi yn wag, footfall yn mynd yn llai; gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cwtogi, a nifer o fannau'n cael trafferth recriwtio meddygon teulu a deintyddion. Gyda'r pwyslais arnom ni i ddefnyddio llai o geir, mae'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus mewn a mas o'r trefi hyn yn fwy o loteri nag yw e o wasanaeth. Mae ein pobl ifanc ni yn gadael ein hardaloedd gwledig ni, ac arolwg diweddar yn dweud eu bod nhw'n besimistaidd iawn am gael swyddi yn eu hardaloedd lleol. Felly, yn draddodiadol, mae ein trefi cefn gwlad ni wedi gwneud cyfraniad pwysig o ran creu swyddi, darparu gwasanaethau ac yn ganolfannau busnes, yn gyrchfannau siopa ac yn y blaen. Ac mae'r Bil ffosffetiau hefyd—yr adolygiad hefyd—yn achosi problemau mawr. Beth felly yw cynlluniau'r Llywodraeth o ran adfywio'n trefi cefn gwlad ni, ac ydych chi'n fodlon rhoi blaenoriaeth i hyn yn ystod y blynyddoedd nesaf? Diolch.

Wel, Llywydd, rŷn ni yn rhoi blaenoriaeth i helpu trefi yng nghefn gwlad i ddod dros yr effaith o coronafeirws ac i wynebu'r heriau sydd i ddod. Rŷn ni'n defnyddio nifer o'r pwerau sydd gyda ni yn barod. Mae arian ar gael trwy y rhaglen LEADER. Mae hwn yn buddsoddi mewn trefi yng nghefn gwlad—Llanybydder yw'r un olaf sydd wedi defnyddio'r arian sydd ar gael trwy y rhaglen LEADER. Trwy'r RDP, mae £10 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn economi cefn gwlad hefyd. Mae nifer fawr o bosibiliadau sy'n dod o'r rhaglen Trawsnewid Trefi. Rŷn ni'n cydweithio, er enghraifft, gyda Chyngor Sir Gâr. Dwi'n gwybod bod yr Aelod yn ymwybodol o bopeth sy'n mynd ymlaen yng Nghaerfyrddin gyda'r 10 Towns initiative. Mae'r arian rŷn ni'n rhoi mewn i'r rhaglen wedi helpu yng Ngheredigion, yn Llandeilo, er enghraifft, i greu posibiliadau newydd yng nghanol y trefi yna, i dynnu busnes i mewn, i roi mwy o bosibiliadau i bobl i siopa ac yn y blaen. Ac mae'r rheini jest yn enghreifftiau o'r pethau rŷn ni eisiau eu gwneud: cydweithio gyda phartneriaid a phobl eraill yng nghefn gwlad. At ei gilydd, dwi'n hyderus y bydd dyfodol llwyddiannus ar gael mewn trefi sydd mor bwysig i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd.

14:10
Ynni Adnewyddadwy

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio ynni adnewyddadwy? OQ57086

Llywydd, mae'n rhaid i ni roi terfyn ar ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a symud i ynni glân, adnewyddadwy os ydym ni am gyflawni ein nodau newid hinsawdd. Mae Cymru Sero Net yn nodi'r camau y byddwn ni'n eu cymryd dros y pum mlynedd nesaf i gyflymu'r broses o drosglwyddo ynni yma yng Nghymru.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb, a manteisio ar y cyfle i sôn am y prosiect Blue Eden newydd a gynigiwyd ar gyfer bae Abertawe gan y cwmni DST Innovations ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Fel byddwch chi'n gwybod, Prif Weinidog, mae gan y prosiect hwn y potensial i fod yn gyffrous iawn i bobl Abertawe, gan ddarparu ynni morol glân a gwyrdd, a rhoi hwb i'r economi leol hefyd. Yn hollbwysig, yn wahanol i'r cynnig diwethaf o gynllun gwyrdd yn Abertawe, bydd hwn yn cael ei ariannu yn breifat yn bennaf hefyd, ac felly mae'n debygol o fod yn well gwerth am arian i'r trethdalwr hefyd. Rydym ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i ddyfodol ein planed bod Cymru yn trosglwyddo i'r ynni glanach a gwyrddach hwn. Felly, a gaf i ofyn pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod prosiectau fel hyn yn dwyn ffrwyth?

Wel, Llywydd, rwyf innau hefyd yn croesawu menter DST i adfywio'r syniad o ynni morol yn Abertawe. Cefnodd y Blaid Geidwadol ar forlyn llanw gwreiddiol bae Abertawe, er iddo gael ei gymeradwyo yn frwd gan y cyn-Aelod Cabinet a sefydlwyd gan y Blaid Geidwadol i'w chynghori ar hynny, ac nid oedd dim o gwbl yng nghyllideb yr wythnos diwethaf i roi unrhyw synnwyr i ni fod y Llywodraeth yn barod unwaith eto i gefnogi cynlluniau mor arloesol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol o'r math y mae Abertawe wedi bod eisiau bwrw ymlaen â nhw erioed. Rwy'n croesawu’r fenter ddiweddaraf; rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi ei datblygiad.

Rydym ni'n parhau, fodd bynnag, Llywydd, i gefnogi ystod eang o bosibiliadau eraill, gan gynnwys clwstwr HyNet North West a fydd yn helpu i gynhyrchu hydrogen yn y ffordd y gofynnodd Adam Price yn y gogledd, a'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud drwy fargen ddinesig Abertawe ym marina Doc Penfro, y buddsoddiadau seilwaith yn Noc Penfro ei hun, y Ganolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol a'r ardal profi ynni morol a fydd gennym ni drwy barth arddangos sir Benfro. Mae'r buddsoddiadau hynny yn rhai gwirioneddol sy'n cael eu gwneud ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn yr achos hwnnw. Mae ganddyn nhw'r potensial gwirioneddol i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran cynhyrchu ynni o'r môr. Rydym ni'n benderfynol o chwarae ein rhan ynddo; mae ein hawdurdodau lleol yn gwneud yr un fath. I ddychwelyd at bwynt a wnes i'n gynharach, Llywydd, ni fydd dim o hyn yn llwyddo oni bai fod Llywodraeth y DU yn barod i weithio gyda ni ar y llwybr at fasnacheiddio gwirioneddol y cynlluniau arloesol hyn, fel y bydd Cymru yn y dyfodol yn gallu arwain y ffordd at ddarparu'r ynni adnewyddadwy sydd ei angen nid yn unig yma yng Nghymru, ond ar draws y byd i gyd.

Cymru Carbon-niwtral

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfraniad y bydd angen i drafnidiaeth ei wneud i sicrhau Cymru carbon-niwtral? OQ57112

Diolch i Alun Davies am hynna, Llywydd. Bydd yn rhaid i'r ffordd yr ydym ni'n teithio newid os ydym ni'n mynd i sicrhau Cymru carbon niwtral. Bydd angen gostyngiadau sylweddol i allyriadau nwyon tŷ gwydr o drafnidiaeth, drwy leihau'r galw ac annog newid modd, gan gefnogi'r newid i dechnolegau carbon isel a thrwy fesurau effeithlonrwydd ynni.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Ac mae'n rhaid i mi ddweud ei bod hi'n wych gweld y Prif Weinidog yn Glasgow heddiw, gan sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli yn COP26, a bod y cyfraniad y gall Cymru ei wneud mewn dyfodol carbon niwtral yn rhan o'r trafodaethau byd-eang hyn, a gallwn ninnau hefyd ddysgu gan eraill, wrth gwrs. Mae'n wych gweld arweinyddiaeth y Prif Weinidog ar hynny, ond a yw'n cytuno â mi, i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i drafnidiaeth, fod angen i ni weld buddsoddiad yn y seilwaith ac yna integreiddio'r holl wasanaethau yn well? Felly, a yw hefyd yn cytuno â mi y bydd hyn yn cael ei gyflawni dim ond pan fydd gwasanaethau bysiau yn cael eu rheoleiddio yn ôl angen y cyhoedd ac nid trachwant preifat, a phan fydd seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli yn llawn i ddarparu'r adnoddau i ddatblygu gwasanaethau newydd, ac nid y sefyllfa bresennol, lle mae diffyg buddsoddiad yn seilwaith rheilffyrdd Cymru yn bolisi cadarnhaol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig?

14:15

Wel, Llywydd, diolch i Alun Davies. Mae'n fraint fawr cael bod yma yn Glasgow a gallu cyfrannu persbectif Cymru at y dadleuon yma ac i ddysgu oddi wrth eraill. Rwyf i wedi gweld llawer ynghylch trafnidiaeth y dyfodol ers i mi fod yma. Rwy'n falch iawn o weld y bydd 16 o fysiau trydan newydd yng Nghasnewydd, 36 o fysiau trydan newydd yng Nghaerdydd, a chefais i'r fraint unwaith eto, yn ddiweddar, o gael mynd ar un o'r bysiau newydd y bydd Bws Caerdydd yn gallu eu defnyddio.

Ond rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Alun Davies, Llywydd. Rhaid i ni gael gwasanaeth bysiau sy'n cael ei reoleiddio er budd y cyhoedd. Dyna pam y byddwn ni'n cyflwyno deddfwriaeth yn ystod y tymor Senedd hwn er mwyn ail-fynnu budd y cyhoedd. Mae'r cyhoedd yn buddsoddi swm enfawr o arian i roi cymhorthdal i drafnidiaeth bysiau yma yng Nghymru. A ydym ni'n cael canlyniad priodol am y buddsoddiad a wnaethom ni? Dydw i ddim yn credu ein bod ni. Byddwn ni'n troi nôl y newidiadau a wnaeth Llywodraeth Thatcher yn y 1980au gan gredu y bydd y farchnad bob amser yn darparu'r ateb gorau. Rydym ni'n gwybod nad yw hynny'n wir. Byddwn ni'n gweithredu yma yng Nghymru.

Roedd cyllideb yr wythnos diwethaf hefyd yn siomedig iawn o ran gwrthod cydnabod yr angen am fuddsoddi mewn seilwaith yn y diwydiant rheilffyrdd, nid yn unig yn y cyfrifoldebau uniongyrchol sydd gan Lywodraeth y DU, y mae'n parhau i'w hesgeuluso'n gywilyddus, o ran Cymru, ond o ran yr arian a fydd gennym ni ein hunain. Ar ddiwedd cyfnod yr adolygiad o wariant, bydd gennym ni 11 y cant yn llai i'w wario ar fuddsoddiad cyfalaf yng Nghymru nag sydd gennym ni yn y flwyddyn ariannol bresennol. Beth ddigwyddodd, Llywydd, i adferiad wedi'i arwain gan fuddsoddi?

Ymdrechion Gwrth-Hiliaeth

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion gwrth-hiliaeth y Llywodraeth yng Ngorllewin De Cymru? OQ57100

A gaf i ddiolch i'r Aelod am hynny, Llywydd? Mae ymdrechion gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru wedi'u nodi yn ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Cafodd dros 330 o ymatebion eu derbyn pan ddaeth ymgynghoriad ar y cynllun i ben yn yr haf. Mae'r ymatebion hyn yn cael eu dadansoddi'n annibynnol ar hyn o bryd a bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio i wneud y cynllun yn gryfach byth.

Diolch, Prif Weinidog. Bythefnos yn ôl, cyd-gyflwynais gynnig gwrth-hiliaeth yma yn y Senedd a gwnes i ddadlau bod angen i'n holl sefydliadau, gan gynnwys yr heddlu, fod yn rhagweithiol yn eu hymdrechion gwrth-hiliaeth. Fodd bynnag, daeth i'r amlwg yn ddiweddar fod Heddlu De Cymru wedi ceisio recriwtio Lowri Davies, myfyriwr o Brifysgol Abertawe ac ymgyrchydd Mae Bywydau Du o Bwys, fel hysbysydd, drwy alw arni hi, yn fygythiol, yn gwbl annisgwyl, a'i gyrru hi o amgylch Abertawe y diwrnod canlynol am 90 munud, yn ôl pob golwg er mwyn cael gwybodaeth am BLM a grwpiau gwrth-hiliol ac adain chwith eraill. Disgrifiodd y dull fel

'fy mharatoi er mwyn fy nenu i fod yn hysbysydd'.

Mae'r rhyddid i brotestio'n heddychlon yn hawl ddemocrataidd sylfaenol, ac rydym ni'n ddyledus am yr holl hawliau yr ydym ni'n eu mwynhau heddiw—economaidd, cymdeithasol ac fel arall—i grwpiau sy'n ymgyrchu yn erbyn hiliaeth ac ar gyfer cydraddoldeb, yn y gorffennol a'r presennol. A yw'r Prif Weinidog felly'n cytuno â mi fod y math hwn o ymddygiad gan yr heddlu yn annerbyniol mewn democratiaeth, ac a wnaiff ef ysgrifennu at Heddlu De Cymru a Llywodraeth y DU yn mynegi'r pryderon hyn? Diolch.

Diolch yn fawr, Llywydd. Darllenais i gyfraniad pwerus yr Aelod i'r ddadl bythefnos yn ôl, ac, wrth gwrs, rwyf i'n ymwybodol o'r adroddiadau pryderus iawn ynghylch yr hyn a ddigwyddodd yn achos Lowri Davies. Gallaf i sicrhau'r Aelod bod y pwyntiau hyn eisoes wedi'u codi'n uniongyrchol gyda Heddlu De Cymru. Rwyf i wedi cael sicrwydd bod ymchwiliad ar y gweill i'r hyn y dywedir ei fod wedi digwydd. Am y tro, rwy'n credu mai'r peth iawn i mi ei wneud yw aros am ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw, ac yna meddwl ynghylch pa gamau bynnag eraill y gallai fod eu hangen pan fyddwn ni'n gallu gweld drosom ni ein hunain beth mae'r ymchwiliad hwnnw'n ei ddatgelu.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Ac felly, rŷn ni'n symud ymlaen i'r eitem nesaf, a'r eitem honno yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon: mae trefn y datganiadau gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a Gweinidog yr Economi wedi'i cyfnewid, ac rwyf i wedi trefnu dadl ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar Fil yr Amgylchedd, yn amodol ar i'r Senedd gytuno ar atal y Rheolau Sefydlog. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

14:20

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y trothwy ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus i achosion sy'n ymwneud â'r gofal a'r driniaeth y mae byrddau iechyd yn eu cynnig yng Nghymru? Rwy'n gwybod mai'r ateb, mae'n debyg, fydd, 'Ewch i chwilio ar Google, Natasha', ond mae'r rheswm pam yn rhywbeth gwahanol. Rwyf i wedi bod yn gohebu â'r Gweinidog iechyd a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan ynghylch un o fy etholwyr, a'i henw yw Celia Jones, ar amgylchiadau marwolaeth ei phartner, a fu farw yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn 2017. Roedd Celia Jones yn anfodlon ac yn dal yn anfodlon ac yn ofidus ynghylch y ffordd yr ymchwiliodd y bwrdd iechyd i'w phryderon difrifol am y driniaeth yr oedd Mr Boulton wedi'i ei chael ar y pryd. Gwnaeth hi gŵyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, fel y byddai unrhyw un wedi'i wneud, a chadarnhaodd ef y mwyafrif helaeth o'i phryderon a gwnaeth gyfres o argymhellion. Mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn dweud eu bod wedi gweithredu'r argymhellion hyn, ond mae fy nghais i am fanylion ynghylch pa gamau sydd wir wedi'u cymryd wedi wynebu gwrthodiad llwyr i gynnal unrhyw drafodaeth arall gan eu bod yn ystyried y mater yn achos wedi'i gau. Dim ond ymchwiliad cyhoeddus i'r amgylchiadau sydd wedi'u cysylltu â marwolaeth Brian fydd yn bodloni Celia, ond mae'r Gweinidog yn dweud bod y trothwy yn uchel ac nad yw wedi'i fodloni. A gawn ni ddatganiad felly gan y Gweinidog ynghylch pam ddylai hyn fod yn wir, pan fydd methiannau difrifol mewn gofal a thriniaeth fel hyn wedi arwain at ganlyniadau mor drasig? Diolch yn fawr, Gweinidog.

Diolch. Wel, mae'n amlwg eich bod chi wedi bod yn gohebu â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddwn i'n credu ei bod yn fwy priodol i chi barhau i wneud hynny yn hytrach na chael datganiad.

Byddwch chi, Llywydd, yn ymwybodol iawn o ymgyrch brwdfrydig Plaid Cymru yng Ngheredigion a gwaith arbennig Ben Lake yn San Steffan yn sefyll lan dros hawliau menywod a anwyd yn y 1950au, sydd wedi cael eu hawliau pensiynau wedi eu cymryd oddi wrthyn nhw. Trefnydd, byddwch chi hefyd yn ymwybodol, o'r holl ohebiaeth rydych chi wedi ei dderbyn a hefyd mewn cymorthfeydd, gymaint o bobl sy'n cael eu heffeithio. Rydyn ni i gyd yn y Siambr yma yn adnabod rhyw fenyw sydd wedi cael ei heffeithio gan benderfyniadau gwarthus yr Adran Gwaith a Phensiynau. Nôl ym mis Medi, gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol ddatgan cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r menywod hyn yn glir. Mae yna brotest ddydd Gwener ar risiau'r Senedd gyda'r menywod WASPI. Byddan nhw'n falch iawn o dderbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru a datganiad clir oddi wrth Lywodraeth Cymru ar sut mae modd i Lywodraeth Cymru eu cynorthwyo nhw. Pa gymorth ymarferol sydd ar gael i'r menywod yma sy'n dioddef? Ac mae nifer ohonynt, Trefnydd, wedi marw yn barod heb dderbyn ceiniog o'r arian sy'n ddyladwy. Diolch yn fawr.

Diolch. Rydych chi yn llygad eich lle; rwyf i wedi cael sawl etholwr yn cysylltu â mi ynglŷn â'r mater hwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn gweithio gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn deall pryderon Llywodraeth Cymru. Byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a all hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, os oes unrhyw beth i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni amdano, cyn y brotest ddydd Gwener.

A gaf i ofyn am ddwy ddadl, os gwelwch yn dda, yn amser y Llywodraeth? Yn gyntaf oll, dadl ar Fil yr Amgylchedd. Mae eich datganiad yn amlinellu bod darpariaeth ar gyfer memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol y prynhawn yma. Mae nifer o faterion gwahanol y mae'r ddeddfwriaeth hon yn eu cynnwys, ac nid yw'r Senedd hon wedi cael cyfle i drafod llawer neu unrhyw un ohonyn nhw. Rydym ni wedi trafod y memoranda cydsyniad deddfwriaethol a'r broses, ond yr hyn nad ydym ni wedi'i drafod yw'r materion eu hunain. Mae memoranda cydsyniad deddfwriaethol, wrth gwrs, yn ffordd o gyflwyno rhai newidiadau i'n llyfr statud, ond dydw i ddim yn credu bod memoradna cydsyniad deddfwriaethol wedi'u cynllunio ar gyfer pwysau'r deddfwriaeth sydd nawr yn cael ei deddfu heb unrhyw gyfle i'r Senedd hon graffu arni.

Mae'r ail ddadl yr hoffwn i ofyn amdani ar gyllideb Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, ac yn benodol y cronfeydd codi'r gwastad, sydd wedi dangos gwleidyddiaeth bleidiol ar ei gwaethaf, yn agos at dwyll ac yn agos at lygriad. Yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yw Gweinidogion Torïaidd yn defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi a chynnal etholaethau Torïaidd, a'r hyn nad ydym ni'n ei weld yw unrhyw ddefnydd o'r egwyddor o'r angen i ddyrannu arian. Mae'n debygol mai dyma un o'r penderfyniadau mwyaf gwarthus yr wyf i wedi'i weld yn ystod fy amser yma yn y Senedd hon, ac rwy'n credu y dylai'r Senedd hon fod yn trafod y materion hyn.

14:25

Diolch. O ran eich galwad gyntaf, am ddatganiad ar Fil Amgylchedd Llywodraeth y DU, fel y dywedwch chi, mae gennym memorandwm pellach—wel, mae hwn yn memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol—y prynhawn yma. Mae hyn yn ymwneud â gwelliant yr oeddem wedi gofyn amdano; dywedodd Llywodraeth y DU wrthym nad oedd yn bosibl, ac yna, ar y funud olaf, maen nhw bellach wedi cyflwyno'r gwelliant hwnnw.

O ran eich ail bwynt, yn sicr, ar ôl edrych ar y gronfa codi'r gwastad fy hun, mae'n ymddangos mai etholaethau Torïaidd sy'n sicr yn elwa; rwy'n credu ei fod tua 60 y cant. P'un a yw hynny ar bwrpas ai peidio, rwy'n credu y bydd angen inni aros i weld, ond rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle, yn sicr mae angen inni gael dadl yn y Siambr hon ynghylch hynny, ac fe wnaf ofyn, yn sicr, i'r Gweinidog cyllid wneud hynny.

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad gennych chi eich hun, os gwelwch yn dda, fel y Gweinidog materion gwledig? Yn gyntaf, mae'r wythnos hon yn nodi dechrau COP26, ac rwy'n nodi absenoldeb datganiad gennych chi'ch hun ynghylch y rhan gadarnhaol y gall amaethyddiaeth ei chwarae yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â mi mai ein cymunedau amaethyddol yw ceidwaid naturiol ein hamgylchedd, ac felly mae cefnogaeth a chyfranogiad cynaliadwy hirdymor y diwydiant yn hanfodol wrth ymdrin â newid hinsawdd. Felly, a gyda hyn mewn golwg, a gaf i ofyn i chi wneud datganiad ar y camau yr ydych chi'n eu cymryd i gefnogi'r gymuned amaethyddol yn eu hymdrechion eu hunain i ddiogelu ac adfer y blaned drwy gynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynlluniau amaeth-amgylcheddol?

Ac, yn ail, o ystyried yr achosion o ffliw adar H5N1 mewn dofednod ac adar gwyllt yng Nghymru, a allwch chi roi datganiad ar yr achosion a pha gamau yr ydych chi'n eu cymryd i gefnogi'r diwydiant dofednod ac adar gwyllt yng Nghymru? Rwy'n sylwi bod Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, wedi cyhoeddi parthau rheoli clefydau dros dro o 3 km a 10 km o amgylch y fferm ddofednod sydd wedi ei heintio yn Wrecsam, ond rwy'n credu y byddai'r Siambr hon, ffermwyr dofednod Cymru a phobl sy'n frwd dros adar gwyllt yn gwerthfawrogi datganiad gennych chi eich hun ar yr achosion a pha waith arall sy'n cael ei wneud i ddiogelu a chefnogi adar gwyllt a dofednod yma yng Nghymru. Diolch.

Diolch. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi—byddai'r sector amaethyddol, ac yn sicr ffermwyr eu hunain, yn dweud eu bod yn rhan o'r ateb i'r argyfwng hinsawdd ac yn cyfrannu swm sylweddol at sicrhau bod hynny'n digwydd. Byddwch chi'n ymwybodol i mi wneud datganiad yn ddiweddar ynghylch ein cynllun fferm gynaliadwy arfaethedig, a byddaf i'n sicr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar yr adeg fwyaf priodol.

O ran yr achosion o AI yn etholaeth De Clwyd, efallai eich bod chi wedi clywed y prif swyddog milfeddygol y bore yma ar y radio yn amlinellu'r camau yr ydym ni'n eu cymryd. Mae hyn yn rhywbeth, yn anffodus, yr ydym ni'n ei wynebu bob gaeaf; rwy'n credu ei fod ychydig yn gynharach nag yr oeddem ni'n ei ragweld y tro hwn. Mae parthau rheoli ac atal clefydau dros dro yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd. Yr hyn yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth yw ein bod ni'n sicrhau ein bod ni'n cysylltu â phawb sy'n cadw adar a dofednod yng Nghymru. Mae gennym ni gofrestr, a byddwn ni'n annog unrhyw un, hyd yn oed os mai dim ond un aderyn, dau aderyn, tri aderyn, sydd ganddyn nhw i wneud yn siŵr eu bod wedi'u cofrestru, oherwydd mae'n hawdd iawn i ni anfon gwybodaeth ar e-bost. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn sicrhau bod ein hetholwyr wedi'u cofrestru ar y gofrestr cadw dofednod honno.

A wnewch chi fel Gweinidog amaeth, neu hyd yn oed Gweinidog yr Economi, ddod â chyhoeddiad ger ein bron ynghylch y camau dŷch'n eu cymryd i fynd i’r afael â’r arferiad cynyddol yma o gwmnïau mawr rhyngwladol yn prynu tir amaethyddol yng Nghymru er mwyn ei ddefnyddio fel tir tyfu coed ac 'offset-io' allyriadau carbon eu cwmnïau nhw er mwyn iddyn nhw fedru parhau ag arferion llygredig eu cwmnïau? Mae'r Swistir wedi gosod rheolau gwarchod clir ar dir amaethyddol yno ers y 1950au sy'n golygu mai dim ond at ddibenion amaeth y dylid defnyddio tir sydd wedi ei glustnodi am dir amaethyddol yn y Swistir. Mae angen sicrhau bod tir amaethyddol Cymru yn parhau i fod yn dir i gynhyrchu bwyd, a bod ffermydd teuluol Cymru yn parhau fel ffermydd sy'n cefnogi'r economi sylfaenol a'r economi gylchol. Diolch.

Diolch. Mater i'r Gweinidog Newid Hinsawdd fyddai hynny mewn gwirionedd, pe bai datganiad o'r fath yn cael ei gyflwyno. Mae darn o waith yn cael ei wneud, fel y gwyddoch chi, gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch plannu coed, ac mae'n amlwg bod hwn yn fater sydd wedi'i godi fel rhan o'r adolygiad hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn dweud wrth bobl pwy y maen nhw'n cael gwerthu eu tir fferm iddyn nhw, ac yn sicr y trafodaethau yr wyf i wedi'u cael gyda ffermwyr ynghylch hyn yw nad ydyn nhw eisiau i rywun ddweud wrthyn nhw i bwy y maen nhw'n cael gwerthu eu tir, a byddwn i'n cytuno'n llwyr. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn—. A byddwch chi'n ymwybodol o'r cynllun ffermio cynaliadwy yr ydym ni'n ei gyflwyno—mae hynny'n ymwneud â gwobrwyo ffermwyr gweithgar, ac rwy'n credu bod y drafodaeth honno i'w chael rhwng ein ffermwyr a'n rheolwyr tir, ac yn sicr ffermwyr tenantiaid, sy'n—nhw yw'r ffermwyr gweithgar, onid ydyn nhw? Felly, mae darn o waith yn cael ei wneud. Nid wyf i'n credu y byddai'n briodol ar hyn o bryd i gael datganiad, ond rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd neu, yn wir, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni.

14:30

Rwy'n gofyn am un datganiad ac un ddadl gan y Llywodraeth. Rwy'n gofyn am ddatganiad ar gaffael i gynyddu'r hyn sy'n cael ei brynu oddi wrth gwmnïau lleol. Mae Llywodraeth Cymru, a'r sector cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn brif brynwyr nwyddau a gwasanaethau. Os ydych chi'n ychwanegu prifysgolion, y trydydd sector a landlordiaid cymdeithasol, mae'n dod yn brynwr mawr iawn. Rwy'n gofyn am ddatganiad i gynnwys strategaeth gaffael gyffredinol, gan gynnwys gwaith gyda chyrff eraill, a chynnydd o ran lleihau maint contractau. Mae gormod o gontractau o'r fath faint fel na all cwmnïau lleol ymgeisio amdanyn nhw.

Rwy'n gofyn am ddadl dan arweiniad Llywodraeth Cymru ar strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru. Ers sefydlu Awdurdod Datblygu Cymru, mae strategaeth wedi bod o ddenu mewnfuddsoddiad. Rwyf i wedi clywed Gweinidogion yn dweud ein bod ni'n cynnig mwy nag unrhyw le arall. Os oes rhaid i chi wneud hynny, nid ydyn nhw eisiau dod ac maen nhw'n dueddol o adael gydag ond ychydig yn darparu nifer y swyddi a addawyd i ddechrau. Hoffwn i weld dadl ar strategaeth economaidd yn seiliedig ar ddatblygu syniadau a chwmnïau lleol, wedi'i chrynhoi fel 'Mwy o gwmnïau fel yswiriant Admiral a llai fel LG a Bosch'.

Diolch am y ddau gais hynny. O ran caffael lleol, mae gwariant caffael sector cyhoeddus Cymru yn cyfrif am £6.7 biliwn, ac mae tua 52 y cant ohono'n cael ei wario'n uniongyrchol gyda busnesau yng Nghymru. Ac er ein bod ni wedi gweld cynnydd yn yr wyth, naw mlynedd diwethaf—cynnydd sylweddol—rwy'n credu y gallwn ni wneud yn well, ac yn sicr ar draws y Llywodraeth rydym ni'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i gefnogi busnesau Cymru o ran caffael. Mae gennym ni ddatganiad polisi caffael i Gymru, a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Mawrth 2021, ac mae gennym ni grŵp gweinidogol sy'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i gynyddu hynny.

O ran strategaeth economaidd Cymru i annog busnesau newydd, byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth helaeth i fusnesau newydd. Mae gennym ni Busnes Cymru, sef ein gwasanaeth cymorth busnes dwyieithog, ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys mentrau cymdeithasol. Rydym ni'n gweld nifer gadarnhaol iawn o fusnesau newydd, hyd yn oed yn yr amser anodd hwn ar hyn o bryd. Byddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi cynnal Blas Cymru, Taste Wales yr wythnos diwethaf, yn y Celtic Manor, ac roedd yn bleser mawr gallu lansio dros 200 o gynnyrch newydd, cynnyrch bwyd a diod o bob rhan o Gymru, dros y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd llawer ohonyn nhw'n dod o gwmnïau a oedd yn fusnesau newydd. Felly, mae llawer o gefnogaeth ar gael eisoes, a byddwn i'n annog unrhyw fusnes neu entrepreneur i sicrhau eu bod yn cysylltu â Busnes Cymru yn y lle cyntaf.

Trefnydd, byddwn i'n croesawu datganiad gan Lywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i ymdrin â'r hyn sy'n ymddangos yn brinder sgiliau cynyddol yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, cefais i'r pleser o gwrdd â nifer o fusnesau bach o bob rhan o ogledd Cymru gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach, a dau o'r rheini oedd Cwmni Fifth Wheel yn Rhuallt a hefyd gwesty a sba The White House, y byddwn i'n eu hargymell yn fawr.

Thema gyffredin wrth gwrdd â'r busnesau a'r cyflogwyr hyn yw eu bod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i bobl sydd â'r sgiliau cywir i'w cyflogi, ac mae hyn er bod eu swyddi'n cael eu talu'n dda a bod potensial am yrfa hir a llwyddiannus yn y swyddi hynny. Rwyf i wedi nodi datganiad Llywodraeth Cymru ar ymrwymiad COVID i gyflogadwyedd a sgiliau, ond gan fod hwn yn ddatganiad ym mis Gorffennaf y llynedd, yr oedd ymhell dros flwyddyn yn ôl ac, wrth gwrs, mae'r byd wedi symud ymlaen cryn dipyn ers hynny. Felly, rwy'n credu y byddai'r amser yn iawn ar gyfer datganiad yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau, a'r hyn y bydden nhw'n yn ei wneud i annog datblygu sgiliau yn gyflym ledled y wlad. Diolch.

Diolch. Rwy'n ymwybodol o bryderon cryn dipyn o sectorau ynghylch prinder sgiliau mewn meysydd penodol, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod ein sefydliadau addysg bellach, yn sicr, yn sicrhau eu bod yn gallu rhoi modiwlau mewn i wahanol gyrsiau ar wahanol adegau, ac yn gyflym iawn. Felly, er enghraifft, rwy'n cofio pan oeddwn i'n Weinidog sgiliau ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni drydanwyr a oedd yn gallu gosod paneli solar. Mae'r byd wedi symud ymlaen yn llwyr ers hynny, felly gwn i fod hyn yn rhywbeth y mae'n amlwg bod gan y Gweinidog ddiddordeb mawr ynddo, ac mae'n sicrhau bod trafodaethau ynghylch sgiliau—.Yr wythnos diwethaf, fel y soniais mewn ateb cynharach i Mike Hedges, cawsom ni Blas Cymru. Felly, siaradais i â llawer o fusnesau lletygarwch, llawer o fusnesau bwyd a diod, sydd, unwaith eto, eisiau sgiliau mewn meysydd penodol iawn. Felly, mae'n bwysig iawn bod y Gweinidog yn gweithio'n agos iawn gyda'n sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch i sicrhau bod gennym ni'r sgiliau hynny ar gael ar gyfer ein holl sectorau yng Nghymru.

14:35

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan eich cyd-Aelod, y Gweinidog iechyd, am ddefnyddio pasys COVID yng Nghymru? Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi ynglŷn â phroblemau y maen nhw wedi'u hwynebu wrth geisio cael gafael ar basys papur. Yn benodol, dydyn nhw ddim wedi gallu siarad â chynghorydd i ofyn am bàs, gan nad yw'r rhif ffôn sydd wedi'i restru ar wefan Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio. Yn wir, ceisiodd fy swyddfa i alw'r llinell gymorth ddoe a chael trafferth siarad â rhywun, a chawson nhw eu dadgysylltu o'r alwad. Yn amlwg, mae hwn yn fater pwysig, gan y gallai atal rhai pobl rhag gallu cael y cyfle i fanteisio ar weithgareddau cymdeithasol a gwasanaethau lletygarwch. Ac felly, byddai clywed yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog cyn gynted â phosibl am y mater hwn yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr.

Ac yn olaf, a gaf i ofyn am ddatganiad brys ynghylch amseroedd ymateb Llywodraeth Cymru i ohebiaeth gan Aelodau meinciau cefn? Er fy mod yn sylweddoli bod swyddogion wedi wynebu llwyth gwaith mawr yn ddiweddar, rwy'n gweld ei bod yn cymryd amser hir i gael ymatebion ar faterion pwysig sydd wedi'u codi gyda mi gan etholwyr. Mae hyn yn cyfyngu ar allu Aelodau i ymateb i faterion mewn modd amserol, ac mae'n achosi rhwystredigaeth ymhlith etholwyr sydd angen help. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai pob Aelod mynd yn uniongyrchol at adrannau, i gael atebion i faterion mwy cyffredin, fel materion traffig ar gefnffyrdd, er enghraifft. A gaf i ofyn i chi weithio gyda swyddogion y Llywodraeth i ymchwilio i ffyrdd o foderneiddio'r prosesau yma, fel y gall Aelodau gyflawni eu dyletswyddau'n fwy effeithlon? Diolch.

Diolch. O ran eich cais cyntaf, ar basys COVID, rydych chi'n codi pwynt penodol iawn ac, mae'n rhaid i mi ddweud, yr wyf i wedi cysylltu â'r llinell gymorth honno fy hun ac nid wyf i wedi dod ar draws unrhyw broblemau. Felly, nid wyf i'n credu ei bod yn briodol cael datganiad, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen edrych arno ar unwaith, felly yn sicr, byddaf i'n sicrhau bod swyddogion y Gweinidog yn edrych ar hynny heddiw.

O ran eich ail bwynt, rhaid i mi ddweud, fel Gweinidog, ei fod yn achosi rhwystredigaeth i mi, ac rwy'n ymwybodol o'r llwyth gwaith enfawr sydd gan swyddogion o ran gohebiaeth. Ond rwy'n hapus iawn i weithio gyda'r swyddfa ganolog yn Llywodraeth Cymru i weld a allwn ni gadw at, amser cyflawni o 17 diwrnod, rwy'n credu. Ond byddwch chi'n gwerthfawrogi—ac fe wnaethoch chi ddweud eich hun—fod yr adran iechyd, yn enwedig, wedi cael cynnydd enfawr yn yr ohebiaeth y mae'r Gweinidog a'r ddau Ddirprwy Weinidog wedi'i chael. Felly, rwyf i'n cydymdeimlo, ond rwyf i'n gwerthfawrogi'r rhwystredigaeth hefyd, ond byddaf i'n sicr yn gweld yr hyn y mae modd ei wneud.

Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn un gyffrous i blant ac oedolion fel ei gilydd. Er nad yw golwg a sŵn tân gwyllt ym mis Tachwedd yn rhywbeth newydd yn union, mae'r cyfnod y mae tân gwyllt yn cael eu cynnau wedi ymestyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r hyn a arferai fod yn un noson o bryder i bobl ac anifeiliaid sy'n ofni synau uchel wedi mynd yn llawer hirach. Gydag arddangosfeydd cyhoeddus hefyd wedi'u cyfyngu oherwydd COVID, mae'n ymddangos y gallai fod mwy o arddangosfeydd mewn garddi preifat eleni—yn fwy nag erioed. Gwnaeth papur briffio'r RSPCA yn gynharach yr wythnos hon, fel rhan o'u hymgyrch Bang Out of Order, ei gwneud yn glir yr effaith ddinistriol y gall hyn ei chael ar anifeiliaid. Rydym ni hefyd yn ymwybodol, y gall clepiau uchel, un ar ôl y llall, achosi trawma i rai pobl, yn enwedig y rhai a wnaeth wasanaethu yn y lluoedd arfog. Mater a gadwyd yn ôl yw'r mater i raddau helaeth—am y tro o leiaf—ac mae'r Llywodraeth Dorïaidd wedi bod yn oddefol fel arfer, er gwaethaf tystiolaeth gref ar gyfer gweithredu rhagweithiol gan Bwyllgor Deisebau San Steffan. Fodd bynnag, mae mwy y gallwn ni ei wneud yng Nghymru. A wnaiff y Llywodraeth hon ymgymryd ag argymhellion yr RSPCA ac annog manwerthwyr i stocio tân gwyllt tawelach neu dawel, gorfodi arddangosfeydd cyhoeddus i gael eu hysbysebu ymhell ymlaen llaw, fel y gall pobl gymryd rhagofalon i liniaru risgiau iddyn nhw a'u hanifeiliaid, yn ogystal â lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd am effaith niweidiol tân gwyllt? Diolch.

Diolch. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth a gaiff ei godi'n flynyddol. Rwyf i wedi bod yn falch iawn o weld nad yw rhai archfarchnadoedd yn gwerthu tân gwyllt eleni— rwy'n credu oherwydd y pryderon yr ydych chi wedi'u codi yn eich cwestiwn chi. Rwy'n credu, yn anffodus, y byddwn ni'n gweld gostyngiad yn nifer y digwyddiadau tân gwyllt swyddogol, felly mae'n ddiddorol gweld bod rhai o'r siopau manwerthu wedi gwneud y penderfyniad hwnnw. Rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith y mae'r RSPCA wedi bod yn ei wneud, ac rwy'n llwyr gefnogol i hynny, ac yn sicr gwn i, pan oeddwn i y Gweinidog â chyfrifoldeb am hyn, cefais lawer o drafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU i weld beth y byddai modd ei wneud, a gwn i fod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn parhau i gael y trafodaethau hynny. Yn sicr, gwnaethom ni edrych ar yr hyn y gallem ni ei gael o ran tân gwyllt tawel, ac er fy mod i'n gwerthfawrogi, fel y dywedwch chi, ei fod yn gyfnod cyffrous, ac fel mam i blentyn sydd â phen-blwydd ar adeg y goelcerth, rwy'n ymwybodol iawn o hynny, ond rwy'n credu bod angen i ni feddwl am anifeiliaid anwes ac anifeiliaid yn arbennig. Ac i'r rheini ohonom ni sydd â chŵn sy'n crynu drwy'r amser, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle mae angen i ni wneud rhywfaint o gynnydd.

14:40

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad ynglŷn â chefnogaeth i'r sector lletygarwch yn ystod misoedd y gaeaf? Mae tafarndai yn ganolbwynt diwylliannol i'n cymunedau ni, yn darparu bwyd cartref da, cwrw lleol da ac yn estyn croeso cynnes i Gymru pan fydd ymwelwyr yn dod i'n tafarndai ni. Ond gyda'r Prif Weinidog yn gwyntyllu'r syniad o ehangu'r defnydd o basys brechlynnau i'r sector lletygarwch os na ddaw cyfraddau COVID i lawr yn ystod y tair wythnos nesaf, mae llawer o'r busnesau hynny'n bryderus iawn ynglŷn â cholli busnes yn ystod misoedd y gaeaf. Felly, a gawn ni ddatganiad i amlinellu pa gymorth a roddir i'r busnesau hynny os bydd y pàs brechlynnau yn cael ei ddefnyddio yn y sector lletygarwch? Diolch, Llywydd.

Rydym ni wedi rhoi llawer iawn o gefnogaeth i'r sector lletygarwch, yn arbennig felly yn ystod pandemig COVID-19. Bydd pleidlais yr wythnos nesaf ar gam nesaf y rheoliadau.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y diweddariad ar COVID-19, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Eluned Morgan. Dyna chi, Weinidog.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am y cyfle i ddweud wrth Aelodau beth sy'n digwydd ynglŷn â'r sefyllfa gyda COVID.

Diolch i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am sefyllfa COVID, yn ystod tymor yr hydref sydd wedi bod yn heriol iawn yn barod. Nawr, yn fy niweddariad diwethaf i, roeddwn i'n gallu adrodd am ostyngiad yn nifer yr achosion a'u bod nhw'n cyrraedd man gwastad, a oedd yn awgrymu ein bod ni, o bosibl, wedi mynd heibio i frig y don hon. Yn ystod y tair wythnos diwethaf, mae'r sefyllfa yng Nghymru wedi gwaethygu, ac fe nodwyd ein cyfraddau uchaf ni erioed o achosion yn ystod mis Hydref—dros 700 o achosion fesul 100,000. Fe wyddom ni fod camgymeriadau mewn labordy preifat yn Lloegr wedi arwain at roi canlyniadau negyddol i brofion i filoedd o bobl, a hynny ar gam, ac fe allai'r ffaith honno fod wedi cyfrannu at y cynnydd hwn. Rydym ni wedi nodi tua 2,000 o achosion o amrywiolyn newydd yng Nghymru hefyd, ac rydym ni'n monitro hynny'n ofalus.

Mae hi'n amlwg nad yw'r pandemig yn agos at fod wedi gorffen ac mae'n rhaid i ni barhau â'n hymdrechion ni i ddilyn y mesurau a wnaethom ni eu rhoi nhw ar waith i'n cadw ni ein hunain, a'n teuluoedd ni, a'n cymunedau ni'n ddiogel. Nid y cynnydd yn nifer yr achosion yn unig yw'r broblem; ond y pwysau y mae hynny'n ei roi ar ein GIG ni a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol ni. Rydym ni'n gweld pwysau oherwydd achosion brys sy'n gysylltiedig â materion nad ydyn nhw'n ymwneud â COVID sy'n debyg iawn i'r hyn y byddwn ni'n ei weld fel arfer yn nyfnder y gaeaf, ac mae'r nifer cynyddol o achosion COVID-19 yn arwain at fwy o ddefnydd o welyau mewn ysbytai ac unedau gofal dwys. Mae pob un o'n byrddau iechyd ni'n wynebu'r galw cynyddol hwn am wasanaethau.

Rydym ni wedi bod yn cynllunio, ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid iechyd a gofal, i ddatblygu ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer gaeaf 2021-22, a gyhoeddwyd ar 21 o fis Hydref. Wrth hanfod y cynllun hwn y mae canolbwyntio ar ddiogelwch a lles y cleifion. Drwy weithgareddau ataliol i geisio cadw pobl yn iach, rydym ni'n awyddus i leihau'r angen am ofal brys ac mewn argyfwng, ac fe fydd hynny yn ei dro yn ysgafnhau'r pwysau ar y GIG. Mae'r cynllun yn galw ar bob rhanbarth i ddatblygu cynllun iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer y gaeaf drwy fecanweithiau'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae hyn yn cefnogi dull cydgysylltiedig o gynllunio ar gyfer yr gaeaf, sy'n cwmpasu'r hyn a ddarperir gan awdurdodau lleol a'r hyn a ddarperir gan fyrddau iechyd. Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gweithio nawr ar fynd i'r afael â'r saith blaenoriaeth yn y cynllun ar gyfer y gaeaf. Yr amcan yw diogelu'r rhai sydd â'r angen mwyaf yn ogystal ag amddiffyn y gwasanaethau hanfodol, ein gweithlu ymroddedig ni, a'r cyhoedd. Rwy'n disgwyl gweld y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn datblygu'r cynlluniau hyn yn ddiweddarach yn ystod y mis hwn, ac fe fyddwn ni'n eu hadolygu nhw i wneud yn siŵr eu bod nhw'n rhai cadarn.

Dyrannwyd cant a phedwar deg o filiynau o bunnoedd i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG drwy'r gronfa adfer i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau diogel dros weddill y flwyddyn, a fydd yn cynnwys cyfnod anodd iawn y gaeaf, ar gyfer ymdrin â'r gwaith sydd wedi pentyrru o ran triniaethau i gleifion dros y 18 mis diwethaf. Mae hyn ar ben y £100 miliwn a ddyrannwyd gennym ni ym mis Mai. Dyrannwyd £48 miliwn arall i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dosbarthwyd cyfanswm o £9.8 miliwn ar draws y byrddau partneriaeth rhanbarthol i gyd i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynllun ar gyfer y gaeaf.

Nawr, fe hoffwn i symud ymlaen at ganlyniad yr adolygiad 21 diwrnod, a gyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Rydym ni'n ymwybodol iawn o'r niwed a allai gael ei achosi gan y cyfyngiadau COVID y bu'n rhaid i ni eu rhoi nhw ar waith cyn hyn, ac nid oes neb ohonom ni'n dymuno mynd yn ôl at y mesurau hynny. Eto i gyd, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa yr ydym ni ynddi hi, roedd hi'n rhaid i ni ystyried yn ofalus iawn yr angen i fynd yn ôl at rai mesurau mwy llym.

Rŷn ni wedi cytuno mai’r opsiwn gorau nawr yw cryfhau rhai o’r mesurau presennol sydd eisoes ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys brechu, ac yn benodol bwrw ati’n gyflymach i gyflwyno brechlynnau atgyfnerthu, a brechlynnau i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed. Rŷn ni eisoes wedi cynnig brechlynnau atgyfnerthu i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal sy’n gymwys. Fel bob amser, hoffwn i ddiolch i bawb sy’n rhan o’n rhaglen frechu anhygoel am yr holl waith y maen nhw wedi bod yn ei wneud. Brechu a brechlynnau atgyfnerthu yw’r amddiffyniad gorau yn erbyn y feirws o hyd. Heb y rhaglen hon, byddai’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn waeth o lawer. Mae brechlynnau wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng haint a salwch difrifol, ac maen nhw’n parhau i wneud hynny.

Rŷn ni’n gwybod mai cyfraddau uchel o’r haint ymhlith pobl ifanc sy’n gyfrifol am ran o’r cynnydd yn y niferoedd. Yr wythnos hon, rŷn ni’n cyhoeddi pecyn cymorth i helpu penaethiaid i ymdrin â nifer uchel yr achosion yn eu hysgolion ac i gyflwyno mesurau amddiffyn eraill yn gyflym. Rŷn ni hefyd yn cynyddu ein hymdrechion i annog staff a myfyrwyr ysgolion uwchradd i fachu ar y cyfle i gael prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos. Bydd profi’n rheolaidd, ynghyd â’r mesurau amddiffyn, yn helpu i gadw’r coronafeirws allan o’n hysgolion ni.

Yn fy niweddariad diwethaf, fe wnes i egluro’r rhesymeg y tu ôl i gyflwyno pàs COVID. Mae'r pàs wedi bod ar waith ers tair wythnos nawr, a byddwn ni yn awr yn mynd ati i geisio estyn ei ddefnydd i theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd. Mae’r rhain yn lleoliadau lle mae nifer fawr o bobl yn ymgynnull o dan do am gyfnodau hir ac yn aml heb orchuddion wyneb.

Yn olaf, rŷn ni’n ailgyflwyno’r gofyniad i bobl hunanynysu os bydd rhywun ar eu haelwyd yn dangos symptomau neu’n cael prawf positif ar gyfer COVID-19, waeth beth fo’u statws brechu. Mae hyn oherwydd bod heintiau rhwng cysylltiadau agos hefyd wedi bod yn rhannol gyfrifol am y cynnydd mawr mewn achosion. Bellach, bydd angen i gysylltiadau aelwydydd hunanynysu tan y byddant yn cael prawf PCR negatif. Mae’r system hon ar waith yn yr Alban, lle’r oedd cyfraddau achosion ar eu hanterth ym mis Medi ac maen nhw bellach yn llawer is nag yng Nghymru.

Llywydd, mae pob un ohonon ni am ddiogelu Cymru a’i chadw ar agor, ond os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn dirywio, yn yr adolygiad nesaf byddwn yn ystyried codi’r lefel rhybudd yn uwch ac yn ystyried ailgyflwyno cyfyngiadau. Mae’r tair wythnos nesaf, felly, yn allweddol. Dwi'n galw ar bawb i ddilyn y mesurau sydd ar waith, yn ogystal â chofio’r egwyddorion sylfaenol hynny a all eich amddiffyn chi ac eraill—golchi dwylo, cadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb a dilyn y drefn brofi. Yn bwysicach na dim, ac allaf i ddim pwysleisio hyn ddigon, ewch i gael eich brechlyn a’ch brechlyn atgyfnerthu pan gewch chi’r alwad. Mae'n achub bywydau. Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn symud yn gyflym, ac, yn yr un modd ag y dirywiodd yn gyflym, gallwn hefyd wyrdroi hyn a gwella ein sefyllfa yma yng Nghymru. Mae pawb yn gweithio’n galed i amddiffyn eu hunain a'r rhai sy’n annwyl iddyn nhw. Gadewch inni ddal ati i wneud hynny gyda’n gilydd. Diolch.

14:50

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am y diweddariad yr ydych wedi ei roi i ni ar COVID-19 heddiw? Nawr, rydych chi'n dweud yn eich datganiad, Gweinidog, fod nifer cynyddol o achosion o COVID yn arwain at fwy o ddefnydd o welyau ysbyty ac Unedau Gofal Dwys, ac fe fyddwn i'n cytuno â chi fod hynny'n peri pryder. Gwnaeth y Llywodraeth ddileu 224 o welyau'r GIG yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, ac felly fe fyddwn i'n awgrymu bod angen cynyddu nifer y gwelyau nid eu gostwng. Felly, os ydych chi'n cytuno â'r asesiad hwnnw, a wnewch chi roi gwybod i'r Siambr heddiw beth rydych chi'n ei wneud i wrthdroi'r gostyngiad hwn a chynyddu nifer y gwelyau?

Rydych chi'n dweud yn eich datganiad hefyd mai brechlynnau sy'n parhau i fod yr amddiffyniad gorau yn erbyn y feirws. Rwy'n cytuno yn fawr â chi yn hynny o beth, ac rwy'n credu ei fod yn newyddion i'w groesawu, onid yw e, bod y rhaglen frechu wedi bod yn llwyddiant mawr ledled y DU ac yn wir yma yng Nghymru. Rwy'n credu y dylem ni ddiolch, unwaith eto, i'n holl weithwyr allweddol sydd wedi gweithio'n ddiflino i gyflwyno'r brechlyn hwn sy'n achub bywydau, neu frechlynnau, fe ddylwn i ei ddweud. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn gymwys i gael trydydd pigiad erbyn hyn, ond mae angen rhywfaint o sicrwydd arnyn nhw ynglŷn â hynny. Mae'r canllawiau yng Nghymru yn dweud y bydd y bwrdd iechyd yn cysylltu â chi pan fyddwch chi'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu, ond mae tystiolaeth yn dangos o wahanol rannau o Gymru nad yw hynny'n wir ac nad yw byrddau iechyd—nid un yn unig, ond nifer o fyrddau iechyd—yn cysylltu â phobl sy'n gymwys eto. Nawr, os ydych chi yn Lloegr, fe allwch chi gael eich dogn atgyfnerthu o safle galw i mewn os yw hi wedi bod yn chwe mis o leiaf ers i chi gael eich ail ddogn a'ch bod chi dros 50 oed neu dros 16 oed ac â chyflwr iechyd sy'n eich rhoi chi mewn mwy o berygl oherwydd COVID-19. Felly, a gaf i ofyn, a fydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r un dull ac os felly, pryd fydd hynny? Yn sicr, fe fyddwn i'n awgrymu y dylai'r Llywodraeth fabwysiadu'r dull hwnnw hefyd yn ddiymdroi.

Nawr, mae tystiolaeth yn awgrymu hefyd bod mwy o bobl yn anwybyddu'r cyfyngiadau. Rwy'n credu bod hynny'n peri pryder. Rwyf i o'r farn, os ydych chi'n cytuno â'r cyfyngiadau neu beidio, y dylech chi gydymffurfio â'r cyfyngiadau. Felly, nid hwnnw yw fy nghwestiwn i yn hyn o beth, ond rwy'n credu bod pryder yma. Roedd arolwg CoMix yr wythnos diwethaf yn dangos bod gwisgo mygydau yng Nghymru wedi gostwng yn sydyn dros y mis diwethaf o'i gymharu â Lloegr a'r Alban. Felly, sut bydd cyfyngiadau fel gwisgo mygydau a gweithio o gartref yn cael eu gorfodi pe byddai'r dystiolaeth yn awgrymu bod pobl yn anwybyddu'r cyfyngiadau? Felly, fe fyddai hi'n dda gennyf i gael gwybod rhywfaint am eich sgyrsiau chi yn y Cabinet ynghylch hyn. Yn amlwg, pan fyddwch chi'n ystyried ehangu'r cyfyngiadau, mae'n rhaid i chi gael trafodaeth am awydd y cyhoedd yng Nghymru i gydymffurfio â'r cyfyngiadau. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n rhoi rhagor o fanylion i ni ynglŷn â hynny hefyd.

Nawr, yn amlwg, os ydych chi'n gofyn i bobl ynysu, mae angen rhywfaint o eglurder arnom ni hefyd. Yn eich datganiad chi heddiw roeddech chi'n cyfeirio at brofion PCR. A gaf i ofyn, Gweinidog, a oes yn rhaid i aelwyd barhau i gymryd profion PCR rheolaidd nes bod yr unigolyn heintiedig wedi gwella ac wedi cael prawf negyddol? Y rheswm yr wyf i'n gofyn y cwestiwn hwn yw ar gyfer deall y rhesymeg. Rwy'n sylweddoli eich bod chi wedi dweud bod hynny'n cael ei wneud yn yr Alban, ac felly rwy'n siŵr y gallech chi egluro'r rhesymeg. Ond, os bydd rhywun yn cael prawf cadarnhaol ac yna mae'n rhaid i'w aelwyd gael prawf PCR, os daw'r canlyniad hwnnw'n ei ôl mewn diwrnod neu ddau fe all yr unigolyn hwnnw fynd allan unwaith eto wedyn a gadael yr aelwyd, ac, yn amlwg, mae'r unigolyn hwnnw'n dal i fod yn heintus ar yr aelwyd. Felly, tybed a wnewch chi esbonio'r rhesymeg yn hyn o beth.

A wnewch chi roi gwybod i ni hefyd a yw hwn yn fater o gyfraith neu'n ddim ond canllaw i'w ddefnyddio? Rwy'n credu bod hynny'n dra phwysig. Mae pobl wedi gofyn y cwestiwn penodol hwn i mi. Ac yn hyn o beth hefyd, fe fyddai hi o fudd pe byddech chi'n hysbysu'r Siambr am yr holl ofynion ychwanegol a gyhoeddwyd ddydd Gwener. A wnewch chi egluro ai canllawiau yw'r rhain neu ofynion yn ôl y gyfraith? Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, os wnewch chi roi gwybod am hynny.

Rwy'n credu bod angen mwy o eglurder ar y pàs COVID, Gweinidog, o gofio y bydd gofyn i ni bleidleisio ar estyn hwnnw'r wythnos nesaf. Nid wyf i am ailadrodd y dadleuon o'm safbwynt i; cafodd y rhain eu trafod eisoes. Ond i gael ein hystyried mewn cyflwr o fod wedi ein brechu'n llawn yma yn y DU, mae angen i ni gael dau bigiad. Yn Israel, mae angen prawf o ddau frechiad arnoch chi ynghyd ag un atgyfnerthu ar ôl chwe mis wedi cael eich ail ddogn neu nid ydych chi'n cael eich ystyried fel un wedi cael ei lawn frechu. A oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i ddiweddaru'r system i gynnwys prawf o frechlyn atgyfnerthu yn y gyfundrefn pasys brechlynnau?

Bu rhai mewn cysylltiad â mi hefyd ynglŷn â defnyddio'r pàs COVID. Mae rhai wedi disgrifio'r broses fel rhywbeth dryslyd ac maen nhw'n teimlo bod angen canllawiau gam wrth gam. Rwy'n sylweddoli y bydd pobl o bob oed a gallu yn awyddus i gael pàs COVID. A gaf i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth i wella ymarferoldeb y gyfundrefn pasys COVID, yn enwedig felly i helpu'r henoed a'r rhai sy'n agored i niwed gael gafael ar basys COVID? Ac rwy'n dweud hynny o ran peth o'r wybodaeth sy'n ofynnol, fel manylion pasbort, manylion trwyddedau gyrru, ffôn symudol, oherwydd mae yna rai grwpiau o bobl nad oes ganddyn nhw unrhyw un o'r eitemau hynny, ac mae hi'n amlwg y ceir mater amlwg o wahaniaethu yn hynny o beth. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar i chi pe byddech chi'n amlinellu, efallai, yr hyn yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw pobl nad oes ganddyn nhw unrhyw un o'r dogfennau arbennig hynny yn profi unrhyw wahaniaethu anfwriadol.  

14:55

Diolch yn fawr iawn i chi, Russell, am lawer iawn o gwestiynau yn y fan yna. Nid wyf i'n siŵr y gallaf i fynd drwyddyn nhw i gyd ond fe roddaf gynnig ar eu hateb nhw. Yn gyntaf un, o ran y gwelyau yng Nghymru, a nifer y gwelyau mewn ysbytai, rwy'n deall nad oedd nifer y gwelyau a ddyfynnwyd yn cynnwys, er enghraifft, y gwelyau mewn ysbytai maes ac, wrth gwrs, nid yw hynny'n ystyried y ffaith bod y sefyllfa yn wahanol o'i chymharu â'r gorffennol, oherwydd mae'n rhaid i ni ystyried y pellter cymdeithasol y mae angen ei ystyried oherwydd COVID. Ar ben hynny, mae angen i chi ddeall bod hyd cyfartalog yr arhosiad wedi gostwng yn sylweddol o'i gymharu â'r hyn sydd wedi bod yn y gorffennol, a bod yn rhaid cau wardiau yn eu tro at ddibenion glanhau. Felly, mae'r holl bethau hynny'n golygu bod y sefyllfa yn un wahanol o'i chymharu â'r gorffennol. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gofio, mewn gwirionedd, mai cadw pobl allan o'r ysbyty yw'r hyn a ddylai fod yn brif amcan i ni, a'u cael nhw allan o'r ysbyty cyn gynted ag y gallwn ni oherwydd y math o heintiau y gallwch chi eu dal yn yr ysbyty, ac oherwydd, i fod yn gwbl onest, eich bod chi'n fwy tebygol o gael y math o adsefydlu sydd ei angen arnoch chi yn eich cymuned.

O ran brechiadau atgyfnerthu, rwy'n falch o ddweud ein bod ni'n gwneud yn dda iawn yng Nghymru, ac rydym ni'n mynd o'i chwmpas hi yn ôl yr un blaenoriaethau ag a oedd gennym ni yn y rownd gyntaf, ac mae hynny'n sicrhau ein bod ni'n gwneud hynny yn ôl pa mor agored i niwed yw pobl, mewn gwirionedd. Felly, mae gennym ni bobl dros 50 oed o fewn y categorïau hynny o un i naw, ond rydym ni'n gweithio drwyddyn nhw mewn ffordd systematig iawn fel bod preswylwyr cartrefi gofal, yn amlwg, ymhlith y rhai cyntaf i gael eu cynnig nhw. Rwy'n falch o ddweud bod tua 68 y cant o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu pigiadau atgyfnerthu eisoes, ac mae tua 54 y cant o weithwyr cartrefi gofal a gweithwyr y GIG wedi eu cael nhw. Felly, dyma'r categorïau cyntaf i gael sylw gennym ni. Nid ydym ni'n mynd i wneud hyn yn agored i bawb fel maen nhw'n gwneud yn Lloegr. Rydym ni am fod yn fwy systematig na hynny, gan ddilyn y math o gyngor a roddodd y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio yn y rownd gyntaf.

O ran gorchuddion wyneb, rwy'n siomedig iawn o weld nad yw pobl yn cymryd hyn o ddifrif. Yn sicr, nid yw hon yn sefyllfa gyffredin ledled Cymru. Rwy'n credu bod y mwyafrif yn cadw at ein cyfreithiau ni o hyd. A gadewch i ni danlinellu hynny—fe geir gorchymyn cyfreithiol mewn gwirionedd i wisgo gorchudd wyneb mewn rhai mannau cyhoeddus yng Nghymru, ac fe gawsom ni, wrth gwrs, lawer o drafodaethau manwl o fewn y Cabinet ynghylch hyn, yn enwedig ynghylch sut yr ydym yn ymdrin â'r gorfodi. Ac rwy'n falch o ddweud bod y Gweinidogion Lesley Griffiths a Vaughan Gething wedi bod yn cyfarfod ag archfarchnadoedd i siarad â nhw am eu cyfrifoldeb nhw i orfodi gwisgo gorchuddion wyneb. Mae hwn yn orchymyn cyfreithiol ac rydym ni'n disgwyl iddyn nhw ei orfodi.

O ran aelwydydd yn ynysu, mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni'n cynghori pobl yn gryf nawr i gadw ato. Os oes COVID ar rywun yn eich tŷ chi, yna rydym ni'n gofyn i chi hunanynysu. Ac os yw plant, er enghraifft, yn cael prawf PCR ac mae'n dod yn ei ôl yn negyddol, mae'r disgwyliad iddyn nhw gymryd prawf llif unffordd am saith diwrnod yn parhau, fel ein bod ni'n sicrhau ein bod ni'n lleihau'r perygl o'i ddatblygu yn ddiweddarach, fel ein bod ni'n fwy eglur ynglŷn â cheisio cadw'r haint draw o'n hysgolion ni.

O ran y pasys COVID, mae'n rhaid i mi ddweud mai'r hyn a welwn ni yw eu bod nhw wedi bod yn eithaf llwyddiannus. Yn sicr, o ran y rygbi dros y penwythnos, roedd hi'n ymddangos bod y math o hapwiriadau a welsom ni yno'n gwneud eu gwaith yn dra effeithiol. Fe gyrhaeddodd pobl y stadiwm tua hanner awr cyn y bydden nhw wedi gwneud fel arfer. Felly, roedd Undeb Rygbi Cymru yn sicr yn ymddangos yn fodlon iawn ar y ffordd yr oedd pethau wedi gweithio yn y fan honno.

15:00

Mae'r sefyllfa yn dal yn hynod, hynod ddifrifol yng Nghymru. Mae yna bryder difrifol allan yna o hyd. Ydy, mae pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir, dwi'n gobeithio, ond rydyn ni'n symud yno o bwynt brawychus o uchel o ran nifer yr achosion. Ac rydyn ni'n dal—waeth i ni fod yn agored—ymhlith y gwaethaf yn y byd o ran nifer yr achosion. Mae cymaint yn cysylltu efo fi yn bryderus bod y pethau sylfaenol ddim yn cael eu gwneud yn iawn bellach. Mi glywsom ni'r Gweinidog yn dweud yn y fanna ei bod hi'n hyderus bod y rhan fwyaf o bobl yn dal yn glynu at y gofynion i wisgo mygydau, ond nid dyna'r profiad mae llawer o bobl yn ei gael. Yn y dyddiau diwethaf dwi wedi cael pobl sy'n gweithio mewn fferyllfeydd, mewn siopau, mewn bwytai, pobl sydd yn bryderus am beth maen nhw'n ei weld yn eu bywydau bod dydd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen gwneud rhywbeth gwahanol rŵan er mwyn atgyfnerthu'r neges yna a sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu, achos mae'n amlwg bod y Ddeddf yn ei hun ddim yn ddigon. Felly, mi fuaswn i'n ddiolchgar i gael deall gan y Gweinidog beth ydy'r math o feddwl arloesol sydd yn mynd ymlaen o gwmpas y cyfathrebu yna. Mewn cyfathrebu mae fy nghefndir proffesiynol i; mae'n bosib bod gen i fwy o ddiddordeb yn hynny na llawer, ond mae o yn gwbl, gwbl allweddol. Mi ofynnais i i'r pedwar a oedd ar y trên yn agos ataf i y bore yma, jest o ran diddordeb:

'Pam wnaethoch chi benderfynu peidio â gwisgo mwgwd heddiw?' 'O, wn i ddim, does 'na ddim llawer o bobl ar y trên hwn.'

Dyna meddai un.

'Fe wisga' i un os hoffech chi i mi wneud hynny.'

Wel, nid dyna sy'n bwysig. Mae'r neges wedi cael ei cholli. Roedd hi wedi'i cholli efo'r pedwar yna ac efo gymaint o bobl eraill.

Rydyn ni yn gytûn, yn sicr, ar bwysigrwydd brechu. Dwi'n ddiolchgar tu hwnt i'r holl dimau sy'n gweithredu y rhaglen frechu atgyfnerthu. Dwi yn bryderus bod yna bobl sydd wedi gorfod aros dros chwe mis ers y brechiad diwethaf rŵan ac yn dal nid yn unig ddim wedi cael y brechiad atgyfnerthu, ond ddim wedi clywed unrhyw beth. Eto, mae angen cael y cyfathrebu yn glir o gwmpas hyn. Gobeithio eich bod chi'n iawn ein bod ni ar y blaen o ran y rhaglen frechu atgyfnerthu yma yng Nghymru, ond mae'n rhaid i bobl gael gwybod lle maen nhw arni hi er mwyn cael hyder eu bod nhw'n mynd i gael eu gwarchod pan ddaw yr amser hwnnw. Ac mae'r un peth yn wir hefyd am blant rhwng 12 a 15 oed. Rydyn ni ar ei hôl hi o ran yr oed hwnnw, ac mae rhieni yn chwilio am sicrwydd bod pethau yn mynd i fod yn cyflymu. Ac un cwestiwn, a dweud y gwir, o ran cyflymder pethau. Mi wnaethoch chi gyfaddef yn y datganiad bod angen bwrw ymlaen yn gyflymach efo'r rhaglen atgyfnerthu. Mi fyddai manylion ar beth ydy'r cynlluniau ar gyfer cyflymu pethau yn ddefnyddiol tu hwnt.

O ran pasys COVID, y tro diwethaf inni drafod hyn, mi wnes i a Phlaid Cymru rhoi'r achos am fesurau cryfach—pasportau brechu, efallai. Nid dyna a gefnogwyd gan y Senedd, a wnaeth setlo am y pasys COVID yn y pen draw—rhywbeth roedd y Prif Weinidog yn cyfaddef ar y pryd oedd yn gyfaddawd. Ond yn y fanna rydyn ni erbyn hyn. Dyna'r drefn sydd gennym ni mewn lle yng Nghymru, felly yn y cyd-destun hwnnw dwi'n siŵr byddaf i a'r grŵp yn cefnogi ymestyn y pasys, achos mae'n berffaith amlwg bod angen gwneud mwy. Dwi'n sicr ddim eisiau gweld lockdown arall; dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un eisiau gweld lockdown arall. Felly, mae'n rhaid rhoi mesurau mewn lle i gadw pobl yn ddiogel wrth fynd o gwmpas ein bywydau bob dydd mewn ffordd mor normal â phosibl. Ac wrth ystyried lle i ymestyn y pasys COVID ymhellach, mae'n werth stopio a meddwl am y ffaith bod pasys wedi cael eu gweithredu yn y stadiwm ddydd Sadwrn, ond nid mewn tafarndai o gwmpas y stadiwm, a oedd yn llawn dop o bobl ddim yn gwisgo mygydau a ddim wedi gorfod dangos unrhyw brawf o'u diogelwch i fod yno.

Gaf i apelio, plis, ar y Llywodraeth i gyfathrebu'n glir iawn sut y byddan nhw'n cefnogi unrhyw sefydliadau neu fusnesau fydd yn gorfod gweithredu pasys? A gaf i ofyn yn benodol heddiw hefyd pa waith sydd wedi cael ei wneud i chwilio am ffyrdd newydd o osgoi'r problemau a all ddeillio o'r ffaith bod lateral flow tests yn cael eu gweithredu a'u cofrestru gan unigolion? Mi ddywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i gwestiwn gan Adam Price rai wythnosau'n ôl erbyn hyn:

'os bydd yn bosibl, drwy dechnoleg, i symud dyfeisiau llif ochrol y tu hwnt i hunanardystio'—

a dyna oedd ein pryder mawr ni—

'yna rwy'n cytuno y byddai hynny yn sicr yn gam pwysig ymlaen.

Oes yna ddiweddariad ar hynny? Mae'n iawn i ddweud ein bod ni ar ryw gyffordd erbyn hyn; mae pobl dechrau mynd yn bryderus am Nadolig COVID arall a rŵan ydy'r amser i weld y Llywodraeth yn gwneud pethau i gadw pethau'n dynn—nid er mwyn y Nadolig uwchlaw popeth arall, ond mae o'n rhyw abwyd i ni i'n hatgoffa ni o'r angen i weithredu.

15:05

Diolch yn fawr, Rhun. Rŷn ni yn gwneud eithaf lot nawr i geisio atgyfnerthu'r system—dyna beth oedd ein trafodaeth ni yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn arbennig gyda Trafnidiaeth Cymru. Mae'r trafodaethau hynny wedi mynd ymlaen gyda Trafnidiaeth Cymru i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ei gweld hi fel rhan o'u cyfrifoldeb nhw i blismona hyn. Fel dwi'n ei ddweud, rŷn ni hefyd wedi estyn allan i rai o'r siopau, yn arbennig y siopau mawr. Ond, y ffaith yw, mae'n rhaid inni gael y cyhoedd i ddod gyda ni ac mae'n rhaid inni gael y cyhoedd i ddeall bod hwn yn gyfrifoldeb arnyn nhw; mae'n ddeddfwriaeth. Ac, wrth gwrs, felly, mae yna raglen gyfathrebu, sy'n eang dros ben, sydd eisoes ar waith. Wrth gwrs, mi wnawn ni'n gorau i wneud yn siŵr bod pobl yn clywed y negeseuon hynny.

O ran y brechlyn a'r booster, fel yr eglurais, beth rŷn ni'n ceisio'i wneud yw sicrhau bod pobl yn derbyn yr alwad i gael eu booster mewn trefn. Rŷn ni'n deall bod hynny, ambell waith, yn hirach na chwe mis ar ôl yr un diwethaf. Yn anffodus, roedden ni'n barod i roi'r booster yn gyflymach nag y cawson ni'r cyfle i ddechrau'r broses, achos roedd yn rhaid inni aros am y JCVI—dyna pam rŷn ni yn y sefyllfa lle'r oedden ni'n barod. Ond, wrth gwrs, mae capasiti yn rhywbeth mae'n rhaid inni weithio arno, ac mae'n rhaid inni gofio bod yna dal pobl yn ein cymunedau ni sydd ddim wedi cael y brechlyn cyntaf a dŷn ni ddim eisiau gadael neb ar ôl. Mae'r system o ran brechu ar hyn o bryd yn eithaf cymhleth, ac felly, mae'r negeseuon yn fwy cymhleth, ond dwi yn derbyn beth rŷch chi'n ei ddweud o ran beth mae pobl angen yw gwybod pryd maen nhw'n debygol o'i chael hi. Mae angen rhyw expectation management; mae hwnna'n bwysig hefyd.

O ran plant 12 i 15 oed, dwi'n meddwl bod tua 45 y cant erbyn hyn wedi cael y brechlyn. Mae yna rywfaint o gyfyngiadau o ran y rheswm pam nad ŷm ni wedi gallu mynd ymhellach gyda hynny, yn rhannol achos bod lot fawr o blant wedi dioddef o COVID a dŷn nhw ddim yn gallu cael y brechlyn o fewn 28 diwrnod o gael COVID. Felly, mae'n rhaid inni adael rhywfaint o amser. Mi fyddwn ni'n atgyfnerthu'r negeseuon hynny.

O ran y pasys COVID, mi wnaethon ni'n glir mai cyfaddawd oedd hi; mae'n rhaid inni gael y balans yma'n iawn. Dyw hon ddim yn wyddoniaeth berffaith a dwi'n falch i glywed y byddwch chi yn ein cefnogi ni o ran gobeithio mynd ymhellach gyda'r pàs COVID. O ran mynd ymhellach i lefydd eraill—er enghraifft, y tafarndai—pan welais i'r torfeydd yng nghanol Caerdydd ar y penwythnos, mi oeddwn innau hefyd yn poeni am beth fyddai'r tafarndai yn edrych fel. Beth rydyn ni wedi'i ddweud yw, os na fydd y sefyllfa'n gwella, mi fydd angen i ni ystyried pasys yn ein tafarndai ac ati, ond mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'r sector i wneud yn siŵr bod beth bynnag rŷn ni yn ei gyflwyno yn ymarferol.

O ran y dechnoleg, dwi ddim yn ymwybodol bod y dechnoleg wedi gwella eto, ond dwi yn poeni yn arw am beth fydd y Nadolig yn edrych fel os byddwn ni'n gweld y math o olygfeydd a welon ni ar y penwythnos yng Nghaerdydd dros bob man yng Nghymru, o ran pobl yn cymysgu pan fo COVID yn dal ar ei anterth. 

15:10

Yn gyntaf i gyd, a gaf i ofyn i'r Gweinidog ddiolch i Trafnidiaeth Cymru a'r heddlu trafnidiaeth yn y de ar fy rhan i am eu hymateb effeithiol iawn nhw i'm pryderon ynghylch lleihau'r defnydd o fygydau wyneb ar deithiau lleol ar y trên o Ogwr i Gaerdydd? Maen nhw wedi rhoi cyfres o fesurau ar waith ac maen nhw'n gwneud rhywfaint o gynnydd nawr, mewn gwirionedd, ymysg defnyddwyr trafnidiaeth, ond fe fyddwn ni'n cadw llygad barcud ar hyn wrth i'r wythnosau fynd heibio.

Mae symlrwydd ac eglurder y neges yn allweddol, fel y gwyddom ni drwy holl gyfnod y pandemig hwn. Felly, ar y sail honno, Gweinidog, a gaf i ofyn rhywbeth i chi nawr a ofynnodd fy etholwyr i? Mae'n adeiladu ar yr hyn y mae Rhun newydd ei ddweud. A ydych chi'n rhoi ystyriaeth ar hyn o bryd, os oes angen hynny, i ehangu'r defnydd o basys COVID i leoliadau lletygarwch a thrwyddedig eraill, a siopau manwerthu, ond hefyd i ehangu unwaith eto, fel roedd gennym ni o'r blaen, y defnydd o fygydau wyneb mewn lleoliadau dan do pan fo cyswllt agos?

Y rheswm y mae pobl fusnes wedi gofyn hyn i mi yn ogystal ag etholwyr—trigolion lleol—yw am eu bod nhw'n teimlo y byddai hynny'n helpu gydag eglurder i bobl. Nid yw hi'n amhosibl rheoli hyn nac yn afresymol, a, wyddoch chi, os yw hynny'n rhoi rhywfaint o obaith o Nadolig go lew i ni, nid yn unig ar gyfer cymdeithasu ond i weithwyr yn ein lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd, yna mae hi'n werth ystyried hynny.

Diolch yn fawr, Huw. Fe wnaf i geisio gwneud yn siŵr fy mod yn diolch i Trafnidiaeth Cymru ar eich rhan chi, a diolch i chi am godi hyn gyda nhw'n uniongyrchol. Rydym ni'n parhau â'r sgyrsiau hynny gyda Trafnidiaeth Cymru, ond, yn amlwg iawn, mae hi'n gwneud gwahaniaeth pan fydd pobl yn codi'r materion hyn gyda nhw.

Rydych chi yn llygad eich lle ynglŷn ag eglurder y neges. Mae hi'n anodd cynnal yr eglurder hwnnw wrth i'r sefyllfa newid drwy'r amser, ac mae pobl yn anghofio: 'Nawr, ym mha gyfnod ydym ni erbyn hyn? Pa lefel ydym ni arni hi nawr?'—popeth felly. Mae hi'n mynd yn gymhleth iawn, felly rydym ni'n ymwybodol iawn bod angen i ni geisio cadw'r negeseuon hyn mor syml â phosibl, a dyna pam mae'r neges gyffredinol yn aros yr un fath ac wedi aros yr un fath drwy'r amser, sef, 'Cadwch eich pellter, golchwch eich dwylo a cheisiwch aros yn yr awyr agored'—yr holl bethau y gwyddom ni eu bod nhw'n llesol. Felly, dyna'r mathau o negeseuon bras y mae'n rhaid i ni barhau gyda nhw.

Ynglŷn ag ehangu ymhellach, rydym ni wedi dweud yn eglur iawn, os bydd y cyfraddau yn parhau i godi, fe fydd yn rhaid i ni gyflwyno hyn mewn lletygarwch. Yn amlwg, rydym ni'n gobeithio na fydd hynny'n digwydd, oherwydd mae'r cyfraddau yn dechrau gostwng, ond rydym ni wedi cael ein siomi dro ar ôl tro yn hyn o beth. Yr hyn yr wyf i'n amharod iawn i'w wneud yw mynd i mewn i gyfnod y Nadolig gyda chyfraddau mor uchel heb unrhyw fath o flaengynllun. Dyna pam roeddem ni o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i ni roi rhagrybudd o'r fath i letygarwch, rhag ofn i ni fod mewn sefyllfa lle mae'n rhaid i ni gyflwyno'r pasys hyn ar fyrder.

O ran mygydau wyneb pan fo cyswllt agos, wel, rwyf i o'r farn y dylai hynny fod ar waith yn barod i ryw raddau, Huw, felly, yn amlwg, mae angen i ni fod â negeseua gwell o ran cyswllt agos. Fe wnaf i edrych ar hynny eto.

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma, yn ogystal â chaniatáu i Dr Atherton friffio aelodau'r pwyllgor iechyd amser cinio heddiw, ac rydym ni'n ddiolchgar iawn am hynny. Gweinidog, mae hi'n gwbl eglur na fyddwn ni fyth yn gallu atal ymlediad COVID yn llwyr. Wedi'r cwbl, gennym ni y mae'r mesurau rheoli caethaf yn y DU, ond gennym ni y mae'r cyfraddau uchaf o ran heintio a marwolaeth hefyd. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ni ar ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed. Gyda hynny mewn golwg, Gweinidog, pa amddiffyniadau ychwanegol ydych chi'n eu cyflwyno i ddiogelu'r rhai yn y sector gofal? A ydych chi'n bwriadu diweddaru'r canllawiau ar gyfer cartrefi gofal, ac a ydych chi'n cytuno â mi mai'r ffordd orau o ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed yw sicrhau bod pob aelod o staff a phob un o'r preswylwyr mewn cartrefi gofal yn cael eu brechiadau yn llawn? Gan hynny, sut ydych chi'n bwriadu cymell staff i dderbyn brechlynnau COVID a'r ffliw? Ac, yn olaf, a wnewch chi ateb cwestiwn fy nghyd-Aelod Russell George o bosibl ynghylch ai canllawiau neu ofynion cyfreithiol mewn gwirionedd yw'r newidiadau a gyhoeddwyd ddydd Gwener o ran y newidiadau i'r profion PCR? Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i'r Senedd hon ac i'r cyhoedd yng Nghymru gael gwybod hynny. Diolch i chi.

15:15

Diolch yn fawr iawn, Gareth. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn, yn amlwg, ynghylch amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed ar hyn o bryd. Y ffordd orau o ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed yw sicrhau eu bod nhw wedi cael eu brechu, a dyna pam rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n blaenoriaethu'r brechiad atgyfnerthu i'r bobl hynny sy'n agored i niwed, i'r bobl hynny sydd mewn cartrefi gofal ac, fel y dywedais i, rydym ni'n gwneud yn rhyfeddol o dda gyda'n targedau ni ar hynny—eisoes, mae 68 y cant wedi cael eu brechiadau nhw.

Rwyf i wedi bod yn gwrando ar lawer o bodlediadau yn ddiweddar ar bynciau iechyd a'r hyn y gallwn ni ei ddysgu am y feirws a'r hyn y gwnaethom ni ei ddysgu yn rhyngwladol. Un o'r pethau yr ydym wedi'u dysgu yn rhyngwladol yw na allwch chi selio cartrefi gofal a chredu eu bod nhw'n gweithio heb ddibyniaeth ar y gymdeithas o'u cwmpas. Maen nhw'n rhan o'r gymdeithas. Mae ganddyn nhw bobl yn mynd i mewn ac allan ohonyn nhw yn rhan o gymdeithas. Mae'r gweithwyr gofal yn rhan o gymdeithas. Felly, allwch chi ddim eu selio nhw, a dyna yw'r profiad rhyngwladol. Ac, felly, yr hyn a wnaethom ni oedd sicrhau bod ein canllawiau ni'n eglur iawn ynglŷn â'r angen i bobl gymryd profion llif unffordd os ydyn nhw'n mynd i ymweld â phobl mewn cartrefi gofal.

O ran staff gofal, mewn gwirionedd, mae cyfraddau staff gofal yn eithriadol o uchel—maen nhw yn y 90au—ac mae'r niferoedd bychain sydd ar ôl, efallai, yn newydd i'r sector hwn neu ar fin gadael y sector. Mae llawer o symud o fewn y sector hwn, ac fe fyddai hynny'n egluro i ryw raddau pam mae rhai pobl—. Ac, wrth gwrs, mae rhai nad ydyn nhw, yn glinigol, yn gallu gwneud hynny. Felly, rydym ni wedi cael ymgyrchoedd gweithgar iawn i sicrhau y gallwn ni frechu cymaint o bobl mewn cartrefi gofal â phosibl.

O ran y cwestiwn ynglŷn â phrofion PCR a beth sy'n digwydd os bydd rhywun yn eich cartref chi—. Canllawiau fyddai'r rhain yn hytrach na gorchymyn cyfreithiol.

Mae yna nifer o bobl yn byw yn rhanbarth Canol De Cymru wedi cysylltu â fi sydd gydag aelodau o’r teulu sydd gydag awtistiaeth ac sydd yn gwrthod cael brechlyn am bob math o resymau, gan gynnwys dod yn rhy bryderus i gael brechlyn tra maen nhw mewn canolfan frechu oherwydd staff dibrofiad ddim yn delio’n sensitif gyda’u hanghenion. Mae nifer hefyd yn methu neu’n gwrthod cymryd prawf llif unffordd. Ac maen nhw’n pryderu am effaith ehangu'r pàs COVID i gynnwys mwy o leoliadau. Yn Lloegr, mae’n bosibl i bobl sydd gydag awtistiaeth ddal i gael pàs COVID ar sail eithriad meddygol. Allwch chi gadarnhau os yw hyn hefyd yn wir yng Nghymru, oherwydd dydy’r canllawiau o ran hyn ddim yn glir ar wefan Llywodraeth Cymru o ran y pàsys COVID? Byddai cadarnhau hyn yn rhyddhad mawr i bobl sydd gydag awtistiaeth, a’u teuluoedd.

Diolch am y cwestiwn yna. Dwi’n fodlon edrych i mewn i hynny i weld oes yna rhywbeth y gallwn ni ei wneud yn y maes yma.

Diolch, Weinidog. Wel, dwi’n lleisio barn fy etholwyr yn fan hyn, a nifer o bobl eraill hefyd, wrth ddweud eu bod nhw wedi colli trywydd yn llwyr ar eich strategaeth chi wrth ddelio efo coronafeirws, mae’n flin gyda fi ddweud. Mi ddaru chi gyflwyno COVID pass, onid o, ac, yn y ddadl oedd fan hyn rhai wythnosau yn ôl, roedd y drafodaeth i gyd yn sôn am yr angen am COVID pass oherwydd clybiau nos, a bod pobl ifainc yn mynd i glybiau nos. Ond ar y pryd hynny roedd y dystiolaeth yn dangos bod yr haint yn lledaenu yn ein hysgolion ni, ac mae’r haint wedi bod yn rhemp yn ein hysgolion ni ers dros ddau fis. Mae wedi cymryd dau fis a hanner ichi ddod i’r Siambr yma a dweud eich bod chi'n mynd i weithredu yn yr ysgolion. Felly, dwi yn ddiolchgar am eich cyfraniad chi'n sôn am yr ysgolion heddiw, ond mae pobl wedi colli'r hyder, ac felly mae o'n hollbwysig eich bod chi'n cyfathrebu'n glir i'r rhieni beth ydy'r disgwyliadau arnyn nhw pan fo plant yn cael eu canfod efo'r haint yma, neu i'r athrawon a'r staff yn yr ysgolion hefyd.

Yna, roeddech chi'n sôn bod y WRU yn hapus efo'r pàsys yma. Hwyrach bod hynny'n wir, ond ddaru degau o filoedd o bobl ddod oddi ar y bysus a'r trenau, mynd mewn i'r tafarndai, canu a bloeddio ac yn y blaen, yr un ohonyn nhw yn gwisgo face mask. Roeddwn i yma yng Nghaerdydd a gwelais i yr un ohonyn nhw yn gwisgo mwgwd. Felly, mae hynna'n awgrymu eich bod chi hwyrach ddim wedi dysgu'r gwersi ers y chwe gwlad y flwyddyn ddiwethaf, ac yn dangos, felly, pam bod angen ymchwil annibynnol arnom ni i COVID yma yng Nghymru. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ledaenu y pàsys i fod yn basbort sydd yn ystyrlon?

A hefyd, ddaru chi sôn am hunanynysu—un cwestiwn olaf: pan fyddwch chi'n disgwyl i bobl hunanynysu, pa gymorth ariannol y byddwch chi yn ei roi iddyn nhw a'u teuluoedd wrth eu bod nhw'n gorfod stopio gweithio am hwyrach hyd at ddwy wythnos? Diolch.

15:20

Diolch yn fawr, Mabon. Jest o ran yr haint yn ysgolion: mae fframwaith haint eisoes wedi bod mewn lle ers tipyn o amser. Roedd y graddau roedd pobl yn defnyddio hynny yn ddibynnol ar y gyfradd o'r tu mewn i gymunedau. Wrth gwrs, rŷn ni wedi tynhau ein safbwynt ni nawr o ran ceisio cael pobl sydd yn yr un teuluoedd i gael prawf os ydy rhywun arall yn y teulu yn dioddef o COVID. Un o'r rhesymau roeddwn i'n awyddus i gadw plant mewn ysgolion, wrth gwrs, yw eu bod nhw wedi colli cymaint o ysgol yn barod, ac maen nhw'n talu pris uchel dros ben, y plant yma. Ond, yn amlwg, pan fo'r lefelau mor uchel â hyn, roedd angen inni dynhau.

O ran lledaenu hwn i basbort: dwi'n meddwl bod rhaid inni gael balans fan hyn, ac mae'n rhaid inni ystyried y balans. Mae e'n alwad gwleidyddol, hwn. Felly, y cwestiwn diwethaf, roedd y cwestiwn diwethaf yn gofyn i fi ynglŷn â phobl awstistig. Nawr, fyddan nhw ddim yn gallu cael pasbort. Felly, mae'n rhaid ichi fod yn rili ofalus am beth dŷch chi'n gofyn fan hyn os ŷch chi'n mynd lawr y trywydd o basborts yn unig.

Ac o ran—rŷn ni eisoes wedi sôn am yr angen i dynhau y rheolau ar ein trenau ac ati, a gwneud yn siŵr bod pobl yn ymyrryd pan nad yw pobl yn gwisgo mygydau ac ati.

Diolch i'r Gweinidog am hynny, a dyna ddiwedd ar yr eitem yna. Ac felly, byddwn ni'n cymryd toriad byr nawr er mwyn gwneud rhai newidiadau yn y Siambr. Toriad byr, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:23.

15:30

Ailymgynullodd y Senedd am 15:33, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Strategaeth Sero-net

Croeso nôl. Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, strategaeth sero-net. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr her a gyflwynir i Gymru gan yr argyfwng hinsawdd yw nid yn unig dileu allyriadau nwyon tŷ gwydr a diogelu cymunedau rhag effaith tywydd mwy dwys, er mor sylweddol yw'r heriau hyn. Yr her yw gwneud y cyfnod trosglwyddo i sero-net yn gyfres o gyfleoedd i wneud Cymru'n gryfach, yn wyrddach ac yn decach. Rhwng 2018 a 2021, dygwyd ein targedau cyfreithiol ar gyfer datgarboneiddio, y cytunwyd arnyn nhw gan y Senedd, ymlaen dros ddegawd. Mae hyn yn golygu bod angen inni gyflawni llawer mwy o ostyngiadau allyriadau yn ystod y 10 mlynedd nesaf nag y gwnaethom yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

Er ei bod yn hawdd cytuno ar yr angen i wneud penderfyniadau, mae rhwystrau ymarferol o hyd ac, mewn rhai achosion, gwrthwynebiad llwyr i rai o'r camau penodol sydd eu hangen i symud ein heconomi i lwybr sero-net. Yr achos y mae'n rhaid inni ei wneud yw, er bod heriau tymor byr i ganolig, y bydd y manteision i Gymru yn sgil y trosglwyddiad yn llawer mwy nag unrhyw anfanteision a geir ar hyd y ffordd.

Ni fydd trosglwyddo o'r fath yn cael ei gyflawni drwy ddibynnu'n llwyr ar dechnoleg a marchnadoedd rhydd i ddarparu'r holl atebion i ni. Mae ein cynllun sero-net ar gyfer cyllideb garbon 2 wedi'i gynllunio i helpu i ysgogi gweithredu ar y cyd a chyflawni dull gweithredu wedi'i gynllunio sy'n adlewyrchu ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015—trosglwyddiad teg, lle mae gweithwyr yn cael eu cefnogi i ennill y sgiliau a'r cyfleoedd i chwarae rhan flaenllaw, gan flaenoriaethu atebion sy'n seiliedig ar natur i wneud ecosystemau'n fwy cydnerth, datblygu cadwyni cyflenwi byrrach a mwy cylchol sy'n lleihau ein defnydd o adnoddau naturiol, gan osgoi gwastraff a chadw mwy o werth mewn economïau lleol.

Mae'r cynllun yn cwmpasu allyriadau tiriogaethol Cymru, ac felly mae angen gweithredu gan Lywodraeth y DU yn yr ardaloedd hynny y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw. Rydym yn gresynu at y diffyg ymgysylltu a gawsom gan Lywodraeth y DU wrth ddatblygu eu cynllun sero-net a'r diffyg mesurau yn yr adolygiad o wariant yr wythnos diwethaf i gefnogi gweithredu ar yr hinsawdd. Drwy nodi'n glir ein disgwyliadau o ran gweithredu Llywodraeth y DU yn ein cynllun, credwn ein bod yn cynnig her adeiladol, y gobeithiaf y bydd y Senedd yn ei chymeradwyo.

Mae'r cynllun sero-net a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf yn deillio o ymgysylltu ac ymgynghori sydd wedi digwydd dros y tair blynedd diwethaf, o ymgynghoriadau polisi ffurfiol a chraffu gan y Senedd i fentrau fel cynulliad hinsawdd Blaenau Gwent. Mae'r dystiolaeth a gasglwyd i lywio cyfrifiannell 2050 Cymru yn dangos y bydd cyflawni ein huchelgais yn sicrhau gostyngiad o 44 y cant mewn allyriadau erbyn 2025, gan berfformio'n well na'r targed o 37 y cant a argymhellwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, nid y cynllun yw'r gair olaf. Bydd angen rhagor o syniadau a chamau gweithredu i leihau allyriadau ymhellach, yn nhymor y Senedd hon ac i osod y sylfeini ar gyfer cyflawni targed Cymru ar gyfer 2030. Yn fyd-eang, mae allyriadau'n dal i godi, a bydd pob gostyngiad ychwanegol mewn allyriadau y gallwn ni eu cyflawni yn gwneud gwahaniaeth.

Mae ein cynllun yn fwy na chyfres o fuddsoddiadau a rheoliadau arfaethedig. Mae'n nodi'r ffyrdd y byddwn yn gweithio ar y cyd â diwydiant, gyda chyrff cyhoeddus eraill a chymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau a'u cryfhau ymhellach. Gellir dangos y dull hwn drwy'r dull yr ydym yn ei gymryd ar gyfer dwy o'r heriau mwyaf arwyddocaol o ran darparu sero net yng Nghymru.

Y cyntaf yw'r dull yr ydym yn ei fabwysiadu i ddileu allyriadau o gartrefi Cymru. Gallem weld nad oedd y farchnad yn darparu'r technolegau cywir ar y raddfa angenrheidiol i ymateb i her datgarboneiddio tai ac addasu'r hinsawdd yng Nghymru. Ein dull o weithredu oedd defnyddio buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn tai cymdeithasol fel modd o symud y farchnad dai ehangach drwy ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Mae £50 miliwn arall o fuddsoddiad yn y cynllun hwn ar gael eleni, yn ogystal â'r £20 miliwn a gyhoeddais y gaeaf diwethaf, i brofi ffyrdd o ddatgarboneiddio cartrefi cymdeithasol presennol, gan ddatblygu prawf o gysyniadau y gellir eu cyflwyno y tu hwnt i dai cymdeithasol.

Heddiw, gallaf gyhoeddi y bydd £50 miliwn o'r cyllid blynyddol hwn yn cael ei ymestyn dros y tair blynedd nesaf, gan adlewyrchu ymrwymiad cadarn Llywodraeth Cymru i'r mater hwn a rhoi'r sicrwydd i'r diwydiant a fydd yn ei alluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ddatblygu'r sgiliau a'r cadwyni cyflenwi a fydd yn galluogi datgarboneiddio cartrefi Cymru yn llwyddiannus. Daw llwyddiant y cynllun hwn yn rhannol o fuddsoddiad y Llywodraeth, ond, yn allweddol, mae hefyd yn deillio o ymrwymiad landlordiaid cymdeithasol, busnesau bach a chanolig eu maint a sefydliadau'r trydydd sector, sy'n llunio ein cynlluniau ac yn cyflawni ar lawr gwlad. Drwy weithio gyda'r partneriaid hynny a defnyddio eu harbenigedd gallwn ddatblygu'r dulliau cywir ar gyfer yr ystod amrywiol o fathau o dai yng Nghymru.

Bydd y cyllid y byddwn yn ei ddarparu yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos sut y maen nhw wedi mabwysiadu dull Cymru yn gyntaf o sefydlu cadwyn gyflenwi a'i thwf. Mae hyn yn cynnwys defnyddio pren o Gymru i gefnogi ein nod o dyfu diwydiant pren cynaliadwy, gwerth uchel, medrus. Rydym yn bwriadu cefnogi cartrefi sy'n gadarnhaol o ran ynni, lle mae cartrefi tenantiaid yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer eu hanghenion eu hunain ac ynni dros ben i'w werthu i'r grid, gan roi hwb i incwm aelwydydd a rhoi arian yn uniongyrchol ym mhocedi tenantiaid. Mae'r dull hwn yn dangos, pan fo'r Llywodraeth yn gweithio ar y cyd â busnesau, cyrff cyhoeddus a chymunedau eraill, y gellir mynd i'r afael â hyd yn oed yr heriau datgarboneiddio mwyaf cymhleth mewn ffordd sy'n sicrhau manteision i gyfiawnder cymdeithasol a manteision economaidd lleol, yn ogystal â lleihau allyriadau.

Ail her y polisi yw'r angen i ddileu tanwydd ffosil o'r broses o gynhyrchu ynni bron yn gyfan gwbl. Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth yn y DU, ac un o'r unig Lywodraethau yn y byd, i sefydlu safbwynt polisi i wrthwynebu echdynnu tanwydd ffosil. Rydym wedi ymrwymo i beidio â chaniatáu unrhyw drwyddedau petrolewm newydd ar gyfer archwilio neu gynhyrchu yng Nghymru. Mae ein polisi glo yn datgan ein bwriad i ddod â'r gwaith o gloddio glo yng Nghymru i ben cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gwrthwynebu gorsafoedd pŵer newydd sy'n defnyddio tanwydd ffosil yng Nghymru ac unrhyw waith pŵer newydd arall sy'n gollwng nwyon tŷ gwydr yn sgil ei weithrediadau. Mae'r safiad cadarn hwn mewn polisi a rheoleiddio yn gyfraniad pwysig gan Lywodraeth Cymru at symud oddi wrth ddefnyddio tanwydd ffosil yn ein system ynni, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraethau eraill yn y DU a ledled y byd ymwroli yn sgil arweiniad Cymru.

Mae ein cynllun sero-net yn cynnwys ein nod o sefydlu cynlluniau ynni lleol manwl ledled Cymru gyfan, a bod y wlad gyntaf i fod â dull cwbl gydgysylltiedig ac integredig o ddatblygu rhwydweithiau ynni a thechnoleg nad ydynt yn dibynnu ar danwydd ffosil. Mae ein dull gweithredu arfaethedig wedi'i gynllunio i ddwyn ynghyd cyrff cyhoeddus, rheoleiddwyr, gweithredwyr seilwaith, busnesau a sefydliadau'r trydydd sector o amgylch agenda a rennir y gallwn ei chyflawni gyda'n gilydd. Yn ogystal â helpu i sicrhau bod buddsoddiadau yn ein seilwaith ynni yn effeithlon ac yn sicrhau'r budd lleol mwyaf posibl, mae'r broses o gynhyrchu'r cynlluniau hyn yn cyflawni llawer mwy nag y gallai Llywodraeth Cymru ei gyflawni drwy reoleiddio yn unig.

Wrth i ni groesawu arweinwyr y byd i'r DU ar gyfer COP26, gallwn fod yn ffyddiog bod gan Gymru'r penderfyniad a'r dyfeisgarwch i sicrhau newid sydd o fudd nid yn unig i'r byd naturiol, ond hefyd i sicrhau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Byddaf yn teithio i COP26 yn ddiweddarach yr wythnos hon i arddangos y dull gweithredu ar gyfer yr hinsawdd yng Nghymru ac i ddysgu oddi wrth eraill hefyd. Gobeithio y bydd y datganiad hwn heddiw yn rhoi cyfle i'r Senedd groesawu'r mesurau yr ydym wedi ymrwymo i'w cymryd, i'n hannog i fynd ymhellach ac yn gyflymach pan fo cyfleoedd i wneud hynny, ac i ymuno â ni i alw ar bob corff cyhoeddus, busnes a chymuned yng Nghymru i ymuno â ni i ddarparu cyfiawnder cymdeithasol drwy ein trosglwyddiad i Gymru sero-net. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

15:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn sicr, roedd gan y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, ein Prif Weinidog y DU, ei fys ar y pỳls pan ddywedodd, a dyfynnaf:

'Mae'r ddynoliaeth wedi gwastraffu amser o ran newid hinsawdd. Mae hi'n un funud i ganol nos ar y cloc...hwnnw ac mae angen i ni weithredu nawr.'

Nawr, mae'r neges honno hefyd yn berthnasol i'r Llywodraeth hon, yn enwedig yng ngoleuni rhai o bryderon a methiannau, mewn gwirionedd, cyllideb garbon sero-net Cymru 2021-25. Nawr, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad mewn cysylltiad â'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r budd a ddaw yn sgil hyn i dai cymdeithasol. Ond mae'n rhaid i mi ofyn i chi, Gweinidog: beth am y 900,000 o gartrefi perchen-feddianwyr yng Nghymru? Disgwylir i'ch dull cyflawni allweddol, y rhaglen Cartrefi Cynnes, rhwng 2011 a 2023 gyrraedd 79,000 o gartrefi yn unig. Felly, a fyddech yn adolygu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Arbed a Nyth er mwyn helpu hyd yn oed mwy o gartrefi i fod yn fwy effeithlon fyth o ran ynni?

Nawr, rydych yn llygad eich lle'n tynnu sylw at yr angen i weithredu ar gynhyrchu ynni. Felly, i fod yn glir, mae Llywodraeth y DU wedi dwyn ymlaen ei hymrwymiad i gael gwared ar lo heb systemau rheoli carbon o gymysgedd ynni'r DU flwyddyn gyfan hyd at 2024. Felly, er fy mod yn croesawu'r moratoriwm parhaus ar unrhyw ddatblygiadau troi gwastraff yn ynni ar raddfa fawr yn y dyfodol, rwy'n gofyn, mewn gwirionedd, pam nad yw polisi 19 yn atal cynlluniau ar raddfa fach hefyd, ac eithrio gwastraff peryglus? Nod Polisi 22 yw cynyddu datblygiadau ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy ein cyfeirio at 'Gymru'r Dyfodol'. Mae gan y ddogfen honno 10 ardal a aseswyd ymlaen llaw ar gyfer ynni gwynt, lle mae rhagdybiaeth o blaid datblygu ynni gwynt ar raddfa fawr. Felly, pam na wnaethoch chi, fel Llywodraeth Cymru ac fel y Gweinidog, asesu ymlaen llaw rai meysydd ar gyfer ynni dŵr? Ac a wnewch chi egluro sut y bydd y prosiectau hyn yn cysylltu â'r grid, os cânt eu dilyn? Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod am y problemau sydd gennym yma yng Nghymru gyda'r grid.

Pam ydych chi'n gwneud i Gymru aros tan ddiwedd 2022 cyn i chi nodi cynllun ar gyfer arloesi mewn technoleg ynni adnewyddadwy newydd? Ac mae'n deg dweud ei bod yn eithaf gwael, ddwy flynedd ers cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol Cymru, nad ydych eto wedi gosod targed ym mholisi 24 i nodi meysydd adnoddau strategol posibl ar gyfer ynni adnewyddadwy morol erbyn 2023.

Pam y mae wedi cymryd pedair blynedd i greu meysydd adnoddau strategol? Ac a fyddwch yn ymrwymo i greu cynllun datblygu morol, a fyddai, fel y mae'r RSPB wedi galw amdano, ers cryn amser bellach, yn ddogfen statudol sy'n llywio datblygiadau i leoliadau penodol? Nawr, yn ôl polisi 27, eich nod yw sicrhau'r budd mwyaf posibl i Gymru o brosiectau seilwaith a weithredir yn fasnachol yng Nghymru. Felly, os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch ynni niwclear, sut felly  mae eich cwmni datblygu eich hun, Cwmni Egino, a gyhoeddwyd dros flwyddyn yn ôl—gobeithio fy mod wedi ynganu hynny'n iawn—ac wedi dyrannu £2.5 miliwn, yn dal heb gynllun busnes ffurfiol hyd yn hyn?

Mae polisi 30 yn ailadrodd eich uchelgais hirdymor i alluogi tua 30 y cant o weithwyr Cymru i weithio o bell. Nawr, os yw hynny'n darged gwirioneddol i Gymru, pam y mae £100,000 o'r £500,000 sy'n cael ei fuddsoddi o hyd mewn chwe safle gweithio hyblyg erbyn 2025 yn mynd i leoliadau yn y Cymoedd yn unig?

Felly, wrth symud ymlaen, rwy'n cefnogi nod polisi 31 i gynyddu cyfran dull taith teithio llesol, ac er fy mod yn gweld bod nod i greu llwybr beicio i gymudwyr rhwng Caerdydd a Chasnewydd, pam na allwn ni fod yn dechrau cynlluniau yn y gogledd a'r canolbarth hefyd? Yn Aberconwy, gallem fod â llwybr teithio llesol yn ymestyn o Gyffordd Llandudno i Fetws-y-coed. Fodd bynnag, ar ôl dau ddegawd o waith, dim ond yng ngham 2 canllawiau gwerthuso trafnidiaeth Cymru yr ydym o hyd ar gyfer rhan fawr o hyn. Felly, pam nad ydych chi'n gweithio yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog i symleiddio'r hunllef sy'n cyrraedd y pwynt o weld cynlluniau teithio llesol sy'n barod i'w datblygu ond yn dal i ddisgwyl y cyllid?

Ac yn olaf, rydym yn croesawu nod polisi 32, fel y dywedais i, i gynyddu cyfran y modd o deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, a wnewch chi egluro pam mai dim ond £50 miliwn a ddyrennir i fetro'r gogledd, tra bydd y de yn cael £1 biliwn? Gyda'n gilydd, mae angen i bob un ohonom weithio i weld pob sector ac ardal yng Nghymru yn symud yn gyflymach o ran newid hinsawdd, ond, Gweinidog, byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn ateb y sylwadau a'r cwestiynau yna. Diolch.

15:45

Diolch, Janet. Rwy'n edmygu, Janet, eich ymgais i glodfori datganiad Prif Weinidog y DU ar wyrddu'r byd. O na fyddai'n rhoi ei arian ar ei air. Gwyddom, yn y gyllideb ddiwethaf, na wnaeth y Canghellor hyd yn oed yn sôn am y gair 'hinsawdd'. Gwyddom eu bod wedi lleihau gallu pobl i fynd ar y rheilffyrdd, gan gynyddu gallu pobl i fynd ar awyrennau, a gwyddom ei fod ef ei hun wedi gadael Glasgow i fynd yn ôl i Lundain ar awyren. Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud â'ch gweithredoedd, yn ogystal â'r hyn a ddywedwch ar goedd. Nid wyf yn credu bod Boris Johnson, yn anffodus, yn gwneud Prydain yn falch o gwbl ar hyn o bryd o ran yr hyn y mae'n ei gynnig i'r byd.

Mae'n rhaid imi ddweud hefyd fod gwrthod rhoi moratoriwm ar lo a gwrthod ymgysylltu â ni i newid cylch gwaith yr Awdurdod Glo, fel nad oes dyletswydd mwyach ganddo i hybu cloddio am lo yn y Deyrnas Unedig, a hyd yn oed yng Nghymru, lle yr ydym wedi bod yn gofyn iddyn nhw wneud hynny ers amser maith, nid yw'n arwydd o'r math o gamau yr hoffem eu gweld mewn gwirionedd. Fodd bynnag, nid oeddwn eisiau taro nodyn o'r math yna o anghytgord.

Yr hyn yr ydym yn ei ddweud yma yn ein cynllun sero-net yw y gallwn ni, gyda'n gilydd, ledled Cymru, ddwyn pethau at ei gilydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, rwy'n credu bod Janet wedi sôn am nifer o bethau yr hoffwn dynnu sylw atynt yn hynny o beth. Felly, o ran glo, mae'n amlwg bod gennym bolisi yma o ddim rhagor o gloddio am lo ledled Cymru. Soniodd am ynni o wastraff—'troi gwastraff yn ynni', fel yr arferai gael ei alw pan oeddwn i yn y diwydiant. Rydym yn llwyr wrthwynebu llosgyddion newydd ac ati; fodd bynnag, bydd angen llosgi rhywfaint o wastraff—soniodd am rai mathau o wastraff clinigol ac ati. Felly, mae'n bwysig sicrhau ein bod yn cael y math cywir o losgi a'n bod yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy lle mae angen llosgi gwastraff ar gyfer mathau penodol.

Fodd bynnag, fe wnaf godi yn awr y sylwadau a wnaeth Boris Johnson am ailgylchu, pryd yr oedd yn ymddangos ei fod yn wfftio'r syniad bod ailgylchu yn beth da. Yr hyn nad oedd yn gallu ei weld fel rhan o hynny, wrth gwrs, nid yw'n ymwneud â gwahanu a chasglu deunydd ailgylchu yn unig; mae'n ymwneud â'r hyn yr ydych chi'n ei wneud gyda'r deunydd ailgylchu. Holl bwynt ailgylchu yw eich bod yn ei droi yn ôl i'r cynnyrch a wnaed yn y lle cyntaf. Mae gennym ddigon o blastig eisoes yn y byd i'n cadw i fynd mewn cynhyrchion plastig mor bell i'r dyfodol ag y gall dynolryw ei ragweld. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw bod yn dda iawn wrth ailgylchu a chael yr ailbroseswyr yma yng Nghymru i'w ailgylchu i gynhyrchion y gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro, oherwydd yng Nghymru gwyddom fod pobl eisiau dod ar y daith honno gyda ni, pryd yr ydych yn ailddefnyddio, wrth gwrs, yn gyntaf, ac yna'n ailgylchu. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig sicrhau nad ydym yn bychanu ymdrechion unigol i wneud y peth iawn drwy wneud datganiadau annoeth, am rai o'r pethau y mae angen inni eu gwneud yn y byd.

Mae gennym rai pethau mawr i'w gwneud hefyd. Roedd hi'n iawn i dynnu sylw at ynni gwynt a'r problemau gyda'r grid. Unwaith eto, credaf y gallai Llywodraeth y DU elwa ar sgwrs briodol gyda ni a Llywodraeth yr Alban am y ffordd y mae'r grid cenedlaethol yn gweithredu ar hyn o bryd, oherwydd nid grid cenedlaethol yw e', mae'n grid sy'n cael ei redeg gan bedwar cynhyrchydd mawr ac nid yw wedi'i wneud yn y ffordd yr hoffem ni weld e'n digwydd sef ei ddiogelu at y dyfodol, mae'n cael ei wneud ar sail trefniadau cytundebol. Rydym wedi cael sgyrsiau defnyddiol iawn gyda chynhyrchwyr grid a gydag Ofgem hyd yn hyn, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu cael y grid i sefyllfa dda lle gallwn ni gynllunio ar gyfer y dyfodol, fel y gall cymunedau ledled Cymru, er enghraifft, gael y math o bwyntiau gwefru cerbyd trydan yr hoffem ni eu gweld ac, a dweud y gwir, yr ôl-drosglwyddo band eang yr hoffem ni ei weld hefyd, oherwydd mae'r grid yn addas i'r diben, a hefyd mae angen ei uwchraddio yn y gogledd a'r de. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.

O ran y gwaith o weithio o gartref, mae gennym dargedau ar gyfer hynny wrth gwrs. Mae fy nghyd-Aelod Lee Waters wedi pwysleisio droeon nad yw hyn yn golygu bod pawb yn gweithio gartref drwy'r amser, ond eich bod yn gweithio gartref pan allwch chi neu eich bod yn gweithio'n lleol, os nad yw eich cartref yn addas, mewn canolfannau bach lleol. Ond, wrth gwrs, yr hyn a fydd yn bwysig iawn i hynny yw band eang. Fel y dywed fy nghyd-Aelod Lee Waters, nid yw band eang wedi'i ddatganoli i Gymru ond rydym wedi camu i'r adwy a greodd Llywodraeth y DU pan fethodd â rhoi cwmpas y signal daearyddol fel rhan o'i darpariaeth ar gyfer band eang ledled Cymru, tra bod Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy o ran hynny.

Felly, yr hyn yr ydym wedi'i wneud yw cyfres o fesurau yn y cynllun hwn sy'n nodi lle yr ydym ni yn awr, sy'n nodi ein cynigion ar gyfer y dyfodol ac yn nodi'r hyn yr hoffem i'n cymunedau ei wneud. Mae ôl-osod er mwyn optimeiddio yn enghraifft dda iawn o hynny. Esgusodwch fi, rwy'n cael trafferth gyda'r peswch hwn, mae gen i ofn, Dirprwy Lywydd. Mae'r ôl-osod gorau yn enghraifft dda iawn o hynny. Felly, yn hytrach na chyhoeddi bod pawb i gael pympiau gwres ffynhonnell aer, gwyddom y bydd pob tŷ yn wahanol. Bydd rhai tai yn addas ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer, a bydd gennym gynlluniau er mwyn caniatáu i'r tai hynny drosglwyddo i hynny. Ond yr hyn yr ydym yn ei wneud yw cynnal rhaglen i nodi'r hyn sydd ei angen ar bob math o dŷ yng Nghymru i'w godi i'r sgôr tystysgrif perfformiad ynni uchaf posibl y gall ei chyflawni. Nid yw'n un ateb sy'n addas i bawb, nid yw'n ddatganiad rhad, ond gwaith caled ochr yn ochr â'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a phartneriaid y cyngor i nodi'r hyn sy'n gweithio ac yna datrys sut y gallwn ni wneud i bobl drosglwyddo i hynny. Ac wrth gwrs, bryd hynny, byddwn ni wedyn yn gallu rhoi cynlluniau grant ar waith sy'n caniatáu i'n landlordiaid sector preifat a'n tenantiaethau perchen-feddianwyr ddod ar hyd y daith honno gyda ni. Ond, yn hytrach na chyhoeddi cynllun grant yn unig na fydd yn gweithio, rydym yn ymlafnio'n galed gyda'n partneriaid i sicrhau, i Gymru, y bydd gennym gynllun sero-net sy'n gadarn mewn gwirionedd ac a fydd yn sicrhau'r manteision yr ydym eu heisiau.

15:50

Gweinidog, os ydych yn cael trafferth gyda'ch peswch a'ch bod yn ei chael hi'n anodd siarad oherwydd hynny weithiau, mae croeso i chi fod yn gryno iawn yn eich atebion. [Chwerthin.]

Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog; dwi rili'n gobeithio bod eich gwddf yn ocê.

Rydyn ni’n byw mewn adeg o crisis, ac mae’r sialens sydd yn ein hwynebu ni yn hysbys i ni i gyd. Rwy’n croesawu’r strategaeth yma heddiw fel dechreuad, fel roedd y datganiad o argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur; roedden nhw yn ddechreuad, yn cynnig cyfle i osod seilwaith. Ond, fel gyda’r datganiadau blaenorol rwyf wedi sôn amdanynt, mae yna feysydd lle buaswn i’n hoffi gweld mwy o eglurder.

Mae rhai wedi cynnig bod diffyg uchelgais wrth galon y strategaeth yma neu fod diffyg arloesedd. A all y Gweinidog plis ddatgan faint o’r polisïau yn y cynllun sydd yn newydd, a faint sydd wedi’u cario drosodd o gynlluniau blaenorol? Mae angen hefyd i bobl ddeall cynlluniau er mwyn gweithredu, ond mae yna ymchwil diweddar sydd wedi dangos mai dim ond 24 y cant o fusnesau sy’n dweud eu bod nhw’n gallu deall digon am bolisïau amgylcheddol y Llywodraeth. Felly, sut bydd y Llywodraeth yn gwella’r sefyllfa yna plis?

Yn ail, buaswn i’n hoffi gweld mwy o eglurder am sut bydd mesur cynnydd. Mae oedi, neu mae time lag, o ryw ddwy flynedd gyda’r data allyriadau, felly dyw e ddim wastad yn hollol glir pa effaith mae'r polisïau gwahanol o’r cynllun carbon isel cyntaf wedi’u cael. Felly, gaf i ofyn, yn absenoldeb data dibynadwy, neu up to date, fath o beth, sut bydd y Llywodraeth yn mesur os ydyn nhw’n cadw at y targedau pwysig yma? Sut mae'r ystyriaeth hon wedi effeithio ar y cynllun sydd o’n blaenau ni heddiw? Oni ddylem ni fod yn anelu at wella’r systemau monitro sydd gennym ni i roi darlun cliriach o ran sut y mae’r cynllun yn datblygu?

Gweinidog, hoffwn ofyn hefyd ynghylch Llywodraeth y DU. Rydych wedi dweud o'r blaen na chafodd eich adran lawer o rybudd cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi'r cynllun sero-net. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mater o oriau yn unig ydoedd. A wnewch chi ddweud wrthym sut y mae hyn wedi effeithio ar y ffordd y bydd y strategaeth yn cyd-fynd â strategaeth y DU? Efallai y byddai'n ddefnyddiol inni wybod eich asesiad chi o'r graddau y mae llwyddiant eich strategaeth yn dibynnu ar gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU.

Ac yn olaf, Gweinidog, hoffwn ofyn am Ystad y Goron. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau yn y Siambr ac ar-lein yn cytuno, os ydym am sicrhau'r cyfleoedd gorau i gyrraedd sero-net, bydd yn rhaid inni gael ein hadnoddau ein hunain o dan ein rheolaeth ni. Mae'r ffaith bod Ystad y Goron yn rheoli gwely'r môr a darnau mawr o'n tir hefyd yn golygu na all Cymru oruchwylio'r adnoddau hynny. Mae rhai amcangyfrifon yn dangos y gallai Llywodraeth y DU godi hyd at £9 biliwn dros y degawd nesaf drwy arwerthu lleiniau gwely'r môr i ddatblygwyr ffermydd gwynt. Mae pwerau dros Ystad y Goron wedi'u datganoli i'r Alban, ond mae'r miliynau o bunnau o refeniw a ddaw i'r ystad yng Nghymru yn mynd i'r Trysorlys a'r frenhines. Ni all hynny fod yn iawn, Gweinidog. Felly, gwn fod y Prif Weinidog heddiw wedi mynegi ei fod yn agored i'r syniad o geisio datganoli'r pwerau hyn, felly a wnewch chi, Gweinidog, ddweud wrthym faint o flaenoriaeth fydd hyn i'r Llywodraeth? Ac os nad yw'n mynd i fod yn flaenoriaeth, i ba raddau yn eich barn chi fydd y cynlluniau hyn yn cael eu llesteirio o ganlyniad? 195

Gobeithio fy mod wedi rhoi digon o seibiant i chi a'ch gwddf. [Chwerthin.]

15:55

Diolch, Delyth. Felly, o ran faint sy'n newydd a faint sydd ddim, mae'r cynllun yn giplun mewn amser sy'n cyflawni gofyniad statudol. Disgwyliwn i bolisïau a chynigion presennol gael eu diweddaru i gynyddu eu heffaith, ac rydym yn disgwyl i syniadau newydd ddod i'r amlwg wrth i'n dealltwriaeth o'r dystiolaeth wella. Felly, nid yr holl hanfod a diben yw hwn y byddwn yn profi popeth yn ei erbyn; mae'n ddogfen fyw sy'n anadlu, ac rydym yn mynd allan ar ôl COP—. Rydyn ni'n mynd i COP i gael llawer o syniadau newydd, gobeithio. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn mynd i COP drwy ddulliau rhithiol, yn ogystal ag yn bersonol, i gael y syniadau newydd hynny, a bydd gennym Wythnos Hinsawdd Cymru ddiwedd mis Tachwedd i geisio tynnu'r holl syniadau hynny at ei gilydd a chael bywiogrwydd COP, ond yna bydd gennym gyfres gyfan o ddigwyddiadau y flwyddyn nesaf, pan fyddwn ni'n mynd allan i ymgysylltu o'r newydd a phrofi rhai o'r pethau y mae'n rhaid i ni eu dweud. Felly, nid yw hyn i fod yn rhywbeth yr ydym yn mesur yn ei erbyn; mae hon yn rhaglen dreigl, ailadroddol o bethau yr ydym ni'n mynd i'w gwneud. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig deall hynny.

Felly, ni fydd y cynllun llawn yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd; byddwn yn diweddaru darnau ohono wrth i ni fynd ymlaen. Felly, byddech yn disgwyl gweld y rhan ar gludiant yn cael ei diweddaru pan fydd datblygiad newydd mewn bysiau trydan, er enghraifft; byddech yn disgwyl gweld y rhan ar dai'n cael ei diweddaru os bydd ffordd flaengar newydd o wneud systemau ffotofoltäig yng Nghymru, ac rwy'n mawr obeithio y bydd, gan i mi weld rhywbeth cyffrous iawn pan lansiwyd y cynllun ddydd Iau diwethaf y byddwn yn gallu buddsoddi ynddo gobeithio. Felly, byddwch yn gweld rhywfaint ohono yn rhuthro ymlaen wrth i ni ddeall hynny. A rhan o hynny fydd ymgysylltu. Un o'r rhaglenni mawr sydd gennym ar gyfer yr wythnos nesaf yw newid ymddygiad ac ymgysylltu, ac rydym yn disgwyl gweld y cynllun yn esblygu wrth i ni ymgysylltu â'n cymunedau ac rydym yn datblygu ffyrdd newydd o gynnwys pobl yn yr hyn y mae angen i ni ei wneud. Ac nid wyf yn golygu unigolion yn unig yn y fan yna; rwy'n golygu clystyrau diwydiannol, clystyrau busnes, cymunedau o ddiddordeb, cymunedau daearyddol, ac ati. Felly, mae cynllun ymgysylltu cyfan i fynd gyda honno.

O ran data, rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau y bydd y data y gorau y gallwn ei gael, ein bod yn deall sut y mae'n edrych. Byddwn yn uwchraddio hwnnw'n llwyr bob pum mlynedd, fel y mae'n ofynnol i ni ei wneud, ond byddwn yn gwneud hynny mor aml ac mor ailadroddol ag y gallwn, o ystyried ble yr ydym ni gyda'r broses o gasglu data. Ac rydych chi'n iawn, mae yna oedi ynddo, felly mae angen i ni ddatblygu cymaint o ffyrdd da o sicrhau bod gennym y data gorau y gallwn ni ei gael. Nid ydym eisiau llongyfarch ein hunain am ein bod wedi gwneud yn dda yn sgil data nad yw'n dweud hynny wrthym. Nid dyna yw diben hyn. Felly, rydym am wneud hynny'n llwyr.

Ac yna'r peth olaf rwy'n credu y gwnaeth chi ei ddweud oedd y peth am Ystad y Goron. Rwy'n cytuno, hoffem yn fawr iddi gael ei datganoli. Rydym yn sicr yn mynd i siarad â nhw am hynny. Ond, yn y cyfamser, rwyf wedi ymgysylltu ag Ystad y Goron. Rwyf wedi cael cwpl o gyfarfodydd gyda nhw'n barod. Maen nhw'n awyddus iawn i siarad â ni, ac rydym ni'n ymgysylltu â nhw i sicrhau eu bod yn rhan o hyn nawr. Rydym yn deall yr hyn y mae angen i ni ei wneud i ymrwymo i drefniadau gydag Ystad y Goron er mwyn gallu rhoi tyrbinau gwynt sy'n arnofio, er enghraifft, a llif y llanw a phethau amrywiol eraill allan ar dir sy'n eiddo i Ystad y Goron o amgylch Cymru ar hyn o bryd, ac i gysylltu â nhw, gyda'r grid a gydag Ofgem i sicrhau bod gennym gysylltiadau â Chymru. Oherwydd y peth arall nad ydym ni eisiau ei weld o gwbl yw canfod bod dyfroedd Cymru'n cynnal tyrbinau gwynt sy'n arnofio, er enghraifft, ond bod y cysylltiadau'n mynd ar draws i Ddyfnaint gan nad yw'r cysylltiad â'r grid yma yn ddigon da. A bod yn deg, rwyf wedi cael cyfres dda iawn o gyfarfodydd gydag Ystad y Goron, felly hefyd fy swyddogion, yn ymgysylltu ar sut i wneud hynny. Felly, rydym yn gwneud y peth is-optimaidd tra byddwn yn gweithio ar y peth gorau posibl yr wyf yn cytuno'n llwyr â chi yn ei gylch.

A ydw i wedi synnu'r Dirprwy Lywydd wrth fod mor gryno?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch a phrynhawn da, Gweinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw'n llwyr, yn enwedig ar ôl lansio strategaeth sero-net Cymru. Fel yr ydych wedi dweud, mae'n ddogfen fyw, ond mae'n dangos lefel uchel iawn o uchelgais, a bydd yn sbarduno newidiadau gwirioneddol ddifrifol yn y ffordd yr ydym yn byw, yn gweithio ac yn teithio. Mae'n effeithio ar bob un ohonom, ond maen nhw'n bethau y gellir eu cyflawni'n ymarferol os oes gennym ewyllys i wneud hynny ac rydym yn deall difrifoldeb yr hyn sy'n digwydd yn COP ar hyn o bryd a'r her sydd o'n blaenau. A gaf i ofyn un cwestiwn syml, Gweinidog? Mae hwn wedi dod oddi wrth un o'm hetholwyr ifanc. Mae'r newidiadau hyn sydd eu hangen arnom yn enfawr ac maen nhw'n rhai brys, ac mae angen i bob un ohonom ni fod yn rhan o'r newid hwnnw. Wrth i Brif Weinidog Cymru ymuno â COP26 heddiw i ddangos uchelgais Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd, pa newidiadau y bydd Llywodraeth Cymru a'i hasiantaethau yn eu gorfodi ar eu hunain i ddangos yr ymrwymiad a'r arweiniad lefel uchel gwirioneddol hwn i gyflawni sero-net?

16:00

Diolch, Huw. Mae hwnna'n gwestiwn ardderchog, ac mae bob amser yn wir fod y bobl ifanc yn gofyn y cwestiynau anoddaf i ni. Mae arnaf ofn nad oes ateb syml iawn, ond gallaf roi rhyw fath o ateb cyfunol i chi, a dyma fe: i herio ein hunain bob tro y byddwn yn gwneud penderfyniad ar draws holl ystad Cymru, holl weithredoedd Llywodraeth Cymru: 'A yw'r peth hwn yr ydym yn ei wneud nid yn unig ddim yn mynd i niweidio ein hamgylchedd, ond a yw'n mynd i wella ein hamgylchedd a lleihau ein hallyriadau?' Felly, y ffordd yr ydym yn gofyn i'n hasiantaethau—Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, a'r ffordd y maen nhw'n rheoli ein hystad goetir: 'A yw hynny'n optimaidd? A oes ffordd well o'i wneud?'

Rydym ni eisoes wedi dechrau ar hynny. Rydym eisoes wedi asesu ac archwilio maes coed yn fanwl, rydym eisoes wedi dechrau adolygu ein polisi ar goedwigaeth a'r ffordd yr ydym yn plannu ac yn cynaeafu ein hadnodd adnewyddadwy sef coed, a'r ffordd yr ydym yn cynllunio ein coedwig genedlaethol, er enghraifft. Enghraifft arall yw ein bod eisoes wedi newid y ffordd yr ydym yn berchen tir, ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, ac yn ei reoli, felly nid ydym bellach yn rheoli'r tir er mwyn cael ei werth ariannol mwyaf; rydym yn ei reoli er mwyn sicrhau ei werth cyhoeddus mwyaf posibl. Mae'r rhain yn bethau yr ydym yn eu lledaenu ar draws ein holl drefniadau caffael ar draws ystad Cymru.

Efallai bod y pethau hynny'n swnio braidd yn sych, ond nhw yw'r pethau sy'n ysgogi'r gwahaniaeth yn y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau. Er enghraifft, os ydym yn cyflwyno darn o dir datblygu ac mae ganddo goed sydd wedi tyfu arno oherwydd nad yw wedi'i ddatblygu ers peth amser, yna disgwyliwn i'r datblygiad blannu coed yn lle'r coed hynny—os nad ar y safle, yna ar dir addas arall yng Nghymru. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud hyn ar sail gyfatebol sef sicrhau tir arall yn lle'r un a ddatblygir.

Byddwch yn gwybod, er enghraifft bod canlyniad cyntaf yr adolygiad ffyrdd wedi digwydd dros nos. Rydym yn mynd i weithio gyda chymunedau yng Ngwynedd i sicrhau ein bod yn cyflwyno cynlluniau datblygu economaidd nad ydynt yn seiliedig ar darmacio rhan helaeth o gefn gwlad, ond sy'n seiliedig ar swyddi gwyrdd, datblygu gwyrdd a seilwaith gwyrdd. Mae'n anodd gwneud y pethau hyn, maen nhw'n gwylltio pobl ar y cychwyn, ond mae'n rhaid i ni eu gwneud yn llwyr os ydym ni am gael yr effaith ar yr hinsawdd yr ydym eisiau ei chael.

Diolch ichi, Gweinidog. Diolch yn fawr iawn am yr holl waith yr ydych chi wedi'i wneud. Hoffwn dalu teyrnged i chi a Llywodraeth Cymru am eich gwaith ac wrth gyhoeddi eich ail gyllideb garbon yn yr wythnosau yn arwain at uwchgynhadledd COP yn Glasgow. Hoffwn ddweud hefyd y byddaf i'n eich cefnogi chi pan fyddwch yn bwrw ymlaen â'r agenda werdd uchelgeisiol hon, ond hefyd yn eich dwyn i gyfrif hefyd os teimlaf eich bod yn symud yn rhy araf. Mae'n wirioneddol hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd yma, nad ydym yn beirniadu ein gilydd, ein bod yn edrych ar sut y gallwn ddysgu—fel yr ydych wedi dweud—o wledydd eraill a chynlluniau eraill er mwyn symud yr agenda hon yn ei blaen cyn gynted â phosibl. Rwyf hefyd eisiau dweud fy mod yn cytuno â'r dull hwn o beidio ag adeiladu mwy o ffyrdd. Rwy'n cefnogi'r dull hwn o beidio ag adeiladu ffyrdd, oherwydd yn y bôn, os ydym o ddifrif ynghylch cyflawni Cymru sero-net, yna mae'n rhaid inni ddechrau symud pobl oddi ar y ffyrdd a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, mae'n gymaint o drueni, onid yw e, bod Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn benderfynol o fwrw ymlaen—

Rwyf eisiau gofyn i'r Gweinidog ynghylch prosiectau micro-hydro. Rydym wedi colli'r cyllid ar gyfer y rhain yng Nghymru, tybed a fyddech chi'n ystyried ailgychwyn y cynllun grant ynni dŵr fel y gallwn sicrhau bod Cymru'n cyflawni ei hymrwymiadau i gyrraedd sero-net. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Jane. Rwy'n gwerthfawrogi'r teimladau, ac rwyf eisiau gweithio ochr yn ochr â phawb yn y Senedd, ond rwyf hefyd eisiau i ni fod o dan bwysau; mae angen inni symud mor gyflym ag y gallwn, ac mae'n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn cael ei hannog i fynd yn gyflymach pan fo hynny'n briodol. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chi gyda'r gyfres yna o feini prawf mewn golwg.

O ran micro-hydro, cefais gyfarfod da iawn gyda grŵp hydro yng Nghymru yn ddiweddar iawn. Rydym wedi eu gwahodd i un o gyfarfodydd bord gron y mae fy nghyd-Aelod Lee Waters yn eu cynnal fel rhan o'i waith asesu ac archwilio ynni adnewyddadwy'n fanwl, a rhan o ganlyniad yr archwilio manwl hwn fydd edrych ar sut yr ydym yn rhoi grantiau ar waith ar gyfer prosiectau cymunedol a micro ledled Cymru. Felly, disgwyliaf i hynny fod yn rhan o ganlyniad yr archwilio manwl, ac rydym yn sicrhau bod hydro yn rhan fawr o hynny.

16:05

Rwyf i hefyd yn diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Yn gyntaf, a gaf i ofyn am eglurhad o ran y wyddoniaeth? Sero-net yw hi yn hytrach na sero oherwydd ein bod yn anadlu carbon deuocsid. Mae carbon yn cael ei ocsideiddio i ffurfio carbon deuocsid. Gwyddom fod carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr oherwydd, er ei bod yn bellach o lawer o'r haul na'r blaned Mercher, mae'r blaned Gwener yn boethach. Y gwahaniaeth yw bod gan y blaned Gwener atmosffer sy'n cynnwys carbon deuocsid yn bennaf. Mae gennyf bedwar cam gweithredu yr wyf yn gofyn amdanyn nhw: lleihau teithio Gweinidogion Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio ymweliadau a chyfarfodydd rhithwir i osod esiampl; gwahardd cloddio a defnyddio mawn yng Nghymru; gosod targedau plannu coed net blynyddol ar lefel awdurdod lleol; a gosod disgwyliad bod y rhai mewn swyddi gweinyddol mewn cyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn gweithio gartref neu mewn canolfan leol dros hanner yr amser, gan eithrio adroddiadau a gynhyrchir ar gyfer Llywodraeth Cymru. Yn olaf, rwy'n gobeithio y bydd cyfarfod nesaf COP yn gyfarfod rhithwir heb unrhyw deithio.

Diolch, Mike. Gallaf fynd drwy'r rheina yn gryno iawn. Rwy'n hapus iawn i ddweud ein bod yn gweithio ar leihau teithio gan Lywodraeth Cymru a chynnal cyfarfodydd rhithwir pan fo hynny'n bosibl. Weithiau mae'n gwbl angenrheidiol gweld rhywbeth o'ch blaen, ond mae'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd a wnawn yn rhai rhithwir.

O ran adfer mawn, mae gennym gynllun ar gyfer hynny. Mae cynllun bioamrywiaeth ar gyfer hynny, ac rwy'n gobeithio cyflwyno eitem benodol ar adfer mawn a mawndiroedd i'r Senedd. Bydd yn y flwyddyn newydd nawr, rwy'n credu. Rwy'n edrych ymlaen at weithio ar hynny.

O ran plannu coed, bydd rhan o ganlyniadau'r gwaith archwilio manwl ym maes coed yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Senedd cyn bo hir, ac rwy'n awyddus iawn i edrych ar wahanol ffyrdd o sicrhau bod gennym dargedau ar draws y maes. Yn benodol, Mike, gwn y bydd gennych ddiddordeb yn ein gwaith yn sicrhau bod gennym y mathau cywir o seilwaith gwyrdd ar gyfer prosiectau datblygu, ac yn arbennig ar gyfer prosiectau tai a datblygu diwydiannol yng Nghymru i gynnwys y mathau cywir o seilwaith gwyrdd—coed lle bo hynny'n briodol, ond mewn gwirionedd planhigion glaswelltir a phryfed peillio, er enghraifft, ar hyd ymylon priffyrdd a mannau eraill lle mae hynny'n briodol hefyd, o gofio eu bod yn dal carbon hefyd.

O ran gweithio gartref, mae fy nghyd-Aelod Lee Waters wedi bod yn gweithio ar y strategaeth gweithio gartref ers peth amser. Rwy'n siŵr ei fod yn gwrando ar y targed o 50 y cant. Rydym wrthi'n ystyried sut y gallwn annog mwy o weithwyr yn y sector cyhoeddus o bob rhan o Gymru—ac yn wir y sector preifat hefyd, ond y sector cyhoeddus yw lle y cawn ddylanwad mwy uniongyrchol—i weithio gartref am y rhan fwyaf o'r amser.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n croesawu cynllun sero-net Llywodraeth Cymru'n fras a hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth i'r uchelgais barhaus i gyflawni sero-net yng Nghymru a'r DU erbyn 2050. Un o'r ffactorau allweddol wrth gyflawni'r cynllun hwn, fel y bydd y Gweinidog, rwy'n siŵr, yn cytuno ag ef, yw sut y caiff y nodau a geir ynddo eu hariannu. Mae hwn yn bwynt arbennig o bwysig o gofio mai amcangyfrif gorau'r Llywodraeth yw y bydd cyflawni sero-net yn arwain at gostau ychwanegol o rhwng £10 biliwn ac £16 biliwn i gyd dros y cyfnod hyd at 2050. Nid wyf yn ceisio sgorio unrhyw bwyntiau gwleidyddol hawdd yma, Gweinidog, a gobeithio y byddwch yn ymateb mewn modd tebyg, ond byddai gennyf ddiddordeb mewn deall sut mae eich adran newid hinsawdd yn gweithio gyda Thrysorlys Cymru yn ogystal â Thrysorlys y DU i ddeall yn well oblygiadau ariannol cyflawni sero-net, a sut i'w ariannu.

Yn ail, mae'r cynllun yn nodi y bydd cynghorau yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig wrth leihau allyriadau. Gan nodi fy mod yn dal i fod yn gynghorydd sy'n eistedd yn sir Fynwy, byddwn yn gwerthfawrogi rhagor o wybodaeth ynghylch pa gymorth hirdymor ychwanegol y gellir ei ddarparu i gynghorau i'w helpu i gyflawni hyn.

Y pwynt olaf yr hoffwn ei godi, Gweinidog, yw sut y gall Cymru ddenu mwy o fuddsoddiad preifat i sicrhau sero-net. Rwy'n deall o'r hyn a adroddwyd na fydd angen arian trethdalwyr ar brosiect arfaethedig Blue Eden yn Abertawe, a fydd yn cynnwys y morlyn llanw, a dyma'r mathau o brosiectau arloesol y dylem fod yn eu hannog. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddenu buddsoddiad y sector preifat i fentrau gwyrdd yng Nghymru? Ac rwy'n gobeithio y byddwch yn teimlo'n well yn fuan, Gweinidog. Diolch.

16:10

Diolch, Peter. Rwyf i'n gobeithio y byddaf i'n teimlo'n well yn fuan hefyd. Diolch ichi am hynna. Rydych chi wedi taro'r hoelen ar ei phen, wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio cyllid y sector cyhoeddus fel dull dylanwadu i sicrhau cyllid y sector preifat ledled Cymru. Fe wnaethoch chi gyfeirio at brosiect Abertawe; dyna enghraifft dda iawn. Hyd yn hyn, rwy'n credu ei bod yn deg dweud nad oes angen unrhyw arian cyhoeddus ar brosiect Abertawe. Fodd bynnag, rydym yn trafod gydag Abertawe a nifer o awdurdodau lleol eraill y gallai fod angen cymhorthdal cyhoeddus ar rannau o'r prosiectau yn wir. Er enghraifft, yn dibynnu ar sut y mae'r broses cynhyrchu ynni'n edrych, rwy'n siŵr y byddan nhw yn chwilio am gontract gwahaniaeth gan Lywodraeth y DU. Gwyddom eisoes y bydd angen rhywfaint o wariant cyhoeddus ychwanegol arnyn nhw ar gyfer cost seilwaith. Fodd bynnag, mae'r prosiect yn un da. Mae'n cael ei ariannu'n bennaf gan fuddsoddwyr preifat hyd yma. Byddai'n wych ei weld yn dwyn ffrwyth yn etholaeth fy nghyd-Aelod Mike Hedges—credaf ei fod wedi'i leoli yno'n bennaf. Mae'n dibynnu ar gwmni sy'n credu y gall gynhyrchu rhywbeth sy'n fforddiadwy ac yn gredadwy o ran cynhyrchu pŵer drwy system solar, yn ôl yr hyn a ddeallaf, a storio batris ar dir. Mae'n gynghrair dda o gwmnïau sector preifat gyda'r cyngor fel partner—felly, y partner sector cyhoeddus sy'n sail iddo—ac mae'n sicr yn rhywbeth yr ydym yn cadw llygad arno wrth iddo fynd yn ei flaen.

Mae gennym nifer o drefniadau eraill o'r fath. Er enghraifft, mae'r rhaglen dai arloesol yn un dda iawn. Un o'r pethau a wnawn gyda'r rhaglen dai arloesol yw annog datblygwyr a buddsoddwyr y sector preifat i ddod ymlaen, gydag arian cyhoeddus sy'n dadrisgio masnacheiddio prosiect yn y lle cyntaf. Maen nhw'n gwneud prawf o gysyniad sydd wedyn yn caniatáu iddyn nhw ei gynyddu a denu buddsoddiad preifat. Felly, un o'r pethau yr oeddwn i'n falch iawn o allu ei wneud drwy'r prosiect tai arloesol, er enghraifft, oedd gwneud y prawf o gysyniad sydd gennym yn etholaeth fy nghyd-Aelod Rebecca Evans o adeiladu tŷ cyfan o bren yng Nghymru. Mae hi a minnau wedi ymweld â'r prosiect nifer o weithiau. Os nad ydych wedi ymweld, byddwn yn eich argymell i wneud hynny, dim ond i brofi'r ffaith y gallech adeiladu tŷ cyfan allan o bren yng  Nghymru. Gan fod gan y cwmni hwnnw brawf o gysyniad ac, wrth gwrs, gall ddechrau chwilio am fuddsoddwyr yn y sector preifat i ddatblygu'r cysyniad ymhellach. Felly, yn hollol, defnyddio arian cyhoeddus dadrisgio i ysgogi cyllid y sector preifat yw'r llwybr y mae angen i ni ei ddilyn, oherwydd rydych yn llygad eich lle wrth nodi bod hon yn agenda na allwn ei gwneud ar gyllid cyhoeddus yn unig; mae'n rhaid i ni gael pob cymuned yng Nghymru, gan gynnwys cyllidwyr y sector preifat, i'w hystyried.  

Hoffwn ddatgan fy mod i'n gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf cyn gofyn y cwestiwn hwn. Yn sgil y datganiad, eisiau gofyn oeddwn ynghylch deuoli yr A4119 o Goed-elái i Ynysmaerdy, prosiect gafodd ei gyhoeddi wythnos diwethaf fel un o’r prosiectau sydd am dderbyn £11.4 miliwn drwy levelling-up fund Llywodraeth Prydain. Yn amlwg, mae hwn yn deillio o gais a gafodd ei wneud gan gyngor sydd yn cael ei reoli gan y Blaid Lafur, ac yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu at ddatblygu’r prosiect yn y gorffennol drwy’r gronfa trafnidiaeth leol. Sut mae hyn yn cyd-fynd gydag adolygiad Llywodraeth Cymru o ran buddsoddi mewn ffyrdd newydd? Yn wir, a yw’r cynllun hwn yn rhan o’r adolygiad? Os nad ydy o, pam ddim? Ac os ydy o, beth yw barn y Gweinidog o ran y ffaith bod polisi Llywodraeth Cymru yn cael ei danseilio gan Lywodraeth Prydain yn y fath fodd?

Diolch yn fawr am y cwestiwn yna Heledd. Nid wyf yn gwbl sicr sut y mae'n cyd-fynd â'r cynllun sero-net, ond credaf mai'r ateb i'ch cwestiwn yw bod gan yr adolygiad o ffyrdd o fewn ei olygon yr holl brosiectau a ariennir gan grantiau trafnidiaeth leol a chyllid cyhoeddus yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd yr adolygiad o'r ffyrdd yn ceisio gweld a yw ffordd wedi datblygu cymaint fel na ellir ei chyflwyno'n ddefnyddiol i'r adolygiad oherwydd bod contractau eisoes yn cael eu gweithredu a chloddwyr yn y ddaear, neu beth bynnag yw'r ymadrodd ar lafar a ddefnyddir—bod eu gwaith eisoes yn mynd rhagddo ac nad oes diben eu hadolygu. Mater i'r adolygiad ei hun ac nid i Weinidogion Llywodraeth Cymru yw hynny. Maen nhw'n annibynnol yn hynny o beth, ac rwy'n siŵr, pan fyddan nhw'n cyhoeddi'r gyfres o ffyrdd y maen nhw wedi'u hadolygu, y byddan nhw'n gallu dweud pa ffyrdd sydd i mewn a pha ffyrdd sydd allan.

O ran ariannu meysydd datganoledig yng Nghymru, mae'r gronfa codi'r gwastad, mae arnaf ofn, yn ddwndwr llwyr o gyllid Llywodraeth y DU ar draws meysydd datganoledig am resymau nad ydym yn gwbl sicr ohonyn nhw. Yr hyn yr ydym yn sicr ohono—a bydd fy nghyd-Aelod Rebecca Evans, fe wn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am hyn yn ystod trafodaethau'r gyllideb—yw nad ydym yn cael dim byd tebyg i'r swm o arian y byddem wedi'i gael pe bai'r addewid 'dim ceiniog yn llai na chyllid yr UE' wedi'i anrhydeddu. Rydym yn cael llawer llai, ac nid yw Llywodraeth y DU ychwaith yn defnyddio ein trefniadau buddsoddi rhanbarthol datblygedig. Gweithiodd fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies yn galed iawn yn y Senedd ddiwethaf i gael barn gyffredin ledled Cymru ynghylch pa ddatblygiadau rhanbarthol yr oedd angen eu cynnal, ac mae'r gronfa codi'r gwastad honedig hon wedi dinistrio hynny'n llwyr oherwydd yr hyn sydd, fel y galwodd fy nghyfaill Alun Davies ef yn gynharach yn y trafodion heddiw, yn wleidyddiaeth bleidiol, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr ag ef.

16:15

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn gan y Gweinidog, felly diolch i'r Gweinidog am hynna. Mae'n gwbl gywir bod ein meddyliau'n canolbwyntio ar y newidiadau y mae'n rhaid i bob un ohonom eu gwneud i gyrraedd sero-net, ond rwy'n credu y bydd rhaid cymryd penderfyniadau beiddgar a chaled i gyrraedd y gwir sero-net, a hoffwn i hyn gael ei adlewyrchu ym mhopeth a wnawn fel Llywodraethau a phopeth a wnawn mewn cymdeithas. Un o'r meysydd allweddol a welaf yw buddsoddiadau pensiwn y sector cyhoeddus, a byddwn yn awyddus iawn i annog y Gweinidog, ei swyddogion, ac Aelodau o bob rhan o'r Siambr i ddarllen y darn a ysgrifennais ar gyfer Ffabiaid Cymru, sydd wedi'i gyhoeddi heddiw. Nawr, Gweinidog, rwy'n cydnabod nad oes gennym y cymhwysedd i wneud hyn, ond rwy'n credu bod ffyrdd eraill o gyflawni hyn. Er enghraifft, gallem ni gynnwys buddsoddiadau cronfa bensiwn y sector cyhoeddus yn ein targedau sector cyhoeddus carbon niwtral yn 2030. Nawr, byddai hyn yn rhoi, yn fy marn i, yr ysgogiad i'r ymgyrch ac yn rhoi arwyddion i gronfeydd buddsoddi'r sector cyhoeddus i greu cynhyrchion nad ydyn nhw yn buddsoddi mewn olew a nwy. Felly, a gaf i eich cefnogaeth, Gweinidog, a dylanwad eich gweinyddiaeth ar gyfer newid hinsawdd—gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer newid hinsawdd—i helpu i gryfhau'r ymgyrch hon wrth inni fwrw ymlaen â hi?

Diolch, Jack. Rwy'n credu mai'r ateb syml iawn i hynny yw 'cewch'. Credaf fod angen inni sicrhau bod y sector cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys ei gronfeydd pensiwn, yn dadfuddsoddi o ddatgoedwigo ac archwilio olew a nwy cyn gynted â phosibl. Nid wyf eto'n ymwybodol o fanylion llawn y cyhoeddiadau datgoedwigo a wnaed o COP26, ond rwy'n gobeithio'n fawr eu bod yn cynnwys pethau fel buddsoddi arian pensiwn o'r sector cyhoeddus ac yn y blaen, a byddaf yn sicr yn gweithio ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn buddsoddi cronfeydd pensiwn y DU yn y ffordd gywir. Rydych yn llygad eich lle wrth nodi ei fod y tu allan i'n cymhwysedd ni, ond serch hynny rydym yn fodlon dylanwadu yn hynny o beth.

Dwi'n croesawu'r uchelgais sydd wedi cael ei gyfeirio ato yma y prynhawn yma. Gadewch i ni obeithio na fydd e'n dioddef yr un ffawd â'r uchelgais oedd gan eich Llywodraeth chi o waredu tlodi plant yng Nghymru. Amser a ddengys, wrth gwrs. Maddeuwch fy sinigiaeth; bob tro dwi'n clywed y Llywodraeth yma yn cyhoeddi pethau ynghylch newid hinsawdd ac yn sôn am benderfyniadau anodd a'r angen i bawb dynnu eu pwysau, yr hyn dwi'n ei glywed ydy galw ar ffermwyr drwy'r amser i dorri allyriadau, i wneud mwy, a galw ar gymunedau gwledig i wneud mwy, tra eich bod chi ddim yn cyffwrdd o gwbl ar y bobl ariannog, y miliwnyddion, a'r busnesau mawr trymion sydd yn gwneud y difrod mwyaf i'n hinsawdd ni. Felly, hoffwn i glywed mwy am y pwysau rydych chi'n ei ddwyn ar y cwmnïau mawr a'r bobl ariannog i dynnu pwysau.

Oes, mae yna benderfyniadau anodd iawn i'w gwneud. Sut, felly, ydych chi'n cysoni eich datganiad ddoe ar ffordd gyswllt Llanbedr efo'ch cynllun chi i ddeuoli'r A465 ar flaenau'r Cymoedd? Dwi'n nodi bod y gwaith yma wedi dechau gwta fis cyn y moratoriwm, felly yn eich galluogi chi i barhau a deuoli'r ffordd anferthol yma a fydd yn galluogi cerbydau i deithio 70 milltir yr awr. Oes, mae yna benderfyniadau anodd i'w gwneud. Ydych chi'n fodlon cymryd y penderfyniad yna i atal y gwaith yna a sicrhau nad ydy hwnna'n datblygu, er lles dyfodol cymunedau Cymru?

Y cwestiwn olaf, felly. Os rydyn ni am weld lliniaru ar newid hinsawdd a bod rhywbeth go iawn yn digwydd i'n cymunedau gwledig ni, yna mae'n rhaid i hynny fynd law yn llaw efo buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ein cymunedau, ac, yn fwy na hynny, mewn gwasanaethau cyhoeddus ein cymunedau. Mae'n iawn i chi ofyn i ryw octogenarian yn Llanbedr i reidio beic pedwar milltir i'r syrjeri agosaf yn Harlech, ond dydy hynny ddim yn ateb y broblem sylfaenol fod yna ddim gwasanaethau felly yn y cymunedau. Felly, a wnewch chi gydweithio efo Gweinidog yr Economi a sicrhau fod gwasanaethau cymunedol yn cael eu darparu yn ein cymunedau gwledig? Diolch.

Diolch, Mabon. Nid wyf yn rhannu eich sinigiaeth, mae arnaf ofn, ac mae'n ddrwg iawn gennyf eich clywed yn ei fynegi yn y ffordd yna. Deallaf siom y bobl yng Ngwynedd ynghylch ffordd osgoi Llanbedr. Cawsom gyfarfod teilwng gyda Chyngor Gwynedd ddoe a byddwn ni yn sicr yn gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda nhw ochr yn ochr â'm cyd-Aelodau, Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog llywodraeth leol, i sicrhau nad yw hyn yn ymwneud ag arbed costau, mae hyn yn ymwneud â chyflawni datblygu economaidd mewn ffordd werdd, dod â swyddi gwyrdd i'r ardal a sicrhau—yn union fel y dywedwch chi—fod gwasanaethau cyhoeddus a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu hariannu, yn hytrach na'r ffordd. Byddai'r ffordd wedi costio sawl miliwn o bunnau. Rydym yn hapus iawn i weithio gyda Chyngor Gwynedd i weld sut y gallwn fuddsoddi'r arian hwnnw mewn gwasanaethau gwyrdd lleol i sicrhau bod gennym seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gweithio i bobl Gwynedd.

Mae'r syniad ein bod rywsut yn hepgor y miliwnyddion a'r allyrwyr uchel, wel rwy'n gwrthod hynny'n gyfan gwbl. Wrth gwrs, rydym yn disgwyl i bobl wneud yr hyn sy'n angenrheidiol; mae'n ddibwrpas imi ddweud wrth y mwyafrif llethol o bobl sy'n byw yng Nghymoedd Cymru y dylen nhw roi'r gorau i fynd ar eu hawyrennau preifat i Glasgow, er enghraifft, gan fy mod yn eithaf sicr nad oes yr un ohonyn nhw erioed wedi bod ar awyren breifat i Glasgow, felly nid yw hynny'n mynd i leihau eu hallyriadau'n fawr iawn. Mae'n fater o addasu'r dull i'r diben. Wrth gwrs, os ydych yn hedfan yn aml, dylech ystyried o ddifrif peidio â hedfan neu beidio hedfan mor aml, ond i'r mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru, nid ydyn nhw'n hedfan yn aml, nac yn hedfan o gwbl yn achos rhai. Mae llawer iawn o bobl nad ydyn nhw hyd yn oed yn berchen ar gar. Felly, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gennym y llwyfannau cywir ar waith i bawb allu chwarae eu rhan, a'r polisïau cywir ar waith i sicrhau bod gennym y trosglwyddiad cyfiawn yr wyf yn gwybod, Mabon, yr ydych eisiau ei weld, yn ogystal â minnau. Felly, rwy'n hapus iawn i addo gweithio gyda chi ar gynllun i sicrhau ein bod yn dod â gwasanaethau cyhoeddus a thrafnidiaeth gyhoeddus well i holl bobl Cymru, gan gynnwys yn ein cymunedau gwledig, wrth gwrs.

16:20

Diolch. Yn wahanol i Delyth Jewell, roeddwn i'n credu bod y cynllun sero-net yn llawn i'r ymylon o ffeithiau, dadansoddiadau ac ymrwymiadau cadarn newydd, felly diolch yn fawr iawn i chi am drylwyredd y gwaith sydd wedi mynd i mewn i'r adroddiad mawr iawn yna.

Rwy'n croesawu'r cyfle i roi pwysau ar y Llywodraeth, yn ogystal â bod yn agored i syniadau a chamau gweithredu newydd. Rwyf i yn credu ein bod ni'n gadael i'r sector preifat ddianc yn hawdd wrth sôn am ddatgarboneiddio ein tai. Roedd yn annifyr i mi ddarllen nid yn unig bod Rhentu Doeth Cymru yn adrodd bod 109,000 o gartrefi rhentu yn y sector preifat sy'n is na sgôr ynni C, ac yn sicr mae llawer ohonyn nhw yn fy etholaeth i. Ond nid yn unig hynny, darllenais yn eich adroddiad fod 60,000 o gartrefi rhentu preifat heb unrhyw dystysgrif perfformiad ynni o gwbl, felly tybed a wnewch chi ddweud wrthym beth y mae Rhentu Doeth Cymru yn ei wneud i unioni'r anghysondeb hwnnw yn y system, oherwydd mae'n amlwg bod angen i ni wybod a ydyn nhw hyd yn oed yn cydymffurfio â'r sgôr ynni E.

Yn ail—

—hoffwn i droi at ran L, sef bod yr Arglwydd Deben yn teimlo'n gryf iawn, iawn ynghylch hyn pan siaradodd â'r pwyllgor newid hinsawdd ym mis Medi. Dywedodd ei fod yn teimlo'n gryf iawn ynghylch yr angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r pwerau sydd ganddi ar hyn, sef ein bod ni, drwy beidio â symud yn gyflymach tuag at rwymedigaethau sero-net mewn cartrefi newydd, yn gadael i adeiladwyr tai ddianc yn hawdd. Gan eu bod nhw, fel y dywed, yn rhoi'r bil i brynwr y cartrefi newydd hyn yn hytrach na gwneud y gwaith eu hunain yn y lle cyntaf am bris llawer is, ac nid oes angen i hynny gynyddu cost y tŷ ei hun—

Felly, beth ydym ni'n ei wneud i godi'r bar yn uwch mewn cysylltiad â thai newydd, oherwydd bod yn rhaid ôl-osod pob tŷ newydd nad yw'n ddi-garbon? Ac fel yr ydych chi'n ei egluro yn glir iawn yn y cynllun sero-net, mae hwnnw'n fusnes cymhleth iawn.

Ie, diolch, Jenny. Ynghylch rhan L, byddwn yn cyflwyno gwelliannau rheoliadau rhan L yn y flwyddyn newydd. Eu holl ddiben wrth gwrs, fydd sicrhau bod tai'r sector preifat yn cyrraedd y safonau y mae tai cymdeithasol newydd yn eu mwynhau, ac edrychaf ymlaen at drafod y gyfres honno o reoliadau drwy'r Senedd. Rwy'n siŵr bod pawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw yn teimlo'n gryf iawn, fel yr ydych chi, am yr hyn y dylai'r rheoliadau hynny ei ddweud a sut y dylai tai'r sector preifat yng Nghymru edrych. Felly, byddwn yn gwneud hynny yn y flwyddyn newydd, rwy'n eich sicrhau chi. Rwyf hefyd wedi cael sgwrs debyg fy hun gyda'r Arglwydd Deben.

O ran y sector rhentu preifat, mae hon yn broblem lawer anoddach oherwydd bod yn rhaid i ni negodi i sicrhau nad yw tai pobl yn cael eu tynnu o'r sector rhentu preifat a'u colli. Mae'n cynnig cartref i rai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Mae llawer o dai'r sector rhentu preifat sydd mewn cyflwr gwael iawn i'w cael yng nghanol dinasoedd—yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Wrecsam ac ati—ac mae tuedd i'r tai mwy o faint fod yn gartref i deuluoedd sawl cenhedlaeth. Felly, yr hyn y byddwn ni eisiau ei wneud yw rhoi cynllun grantiau ar waith sy'n caniatáu ac yn annog y landlordiaid hynny i roi'r eiddo hynny i'r cyngor lleol, os byddan nhw'n gynghorau sy'n cadw stoc, neu i'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig lleol yn gyfnewid am y lwfans tai lleol a'r cyflenwad rhent, fel y gall y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig godi'r tŷ i'r safon ofynnol. Fel arall, mae arnom ni ofn, os rhoddwn y rhwymedigaeth ar landlordiaid y sector rhentu preifat eu hunain, y byddan nhw'n tynnu eu hunain o'r sector, felly bydd gennym  ni ganlyniad anfwriadol.

Felly, byddwn yn gweithio'n ofalus iawn gyda'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol i ddeall sut y gallai hynny edrych, a deall sut olwg sydd ar y cymhellion hynny, i sicrhau ein bod ni'n codi'r tai i'r safon ofynnol ac yn eu cadw yn y sector rhentu preifat, sydd, wedi'r cyfan, yn sector pwysig iawn i bobl sydd ym mhen mwyaf agored i niwed y farchnad dai.

16:25
5. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi wyrddach

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: economi wyrddach. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fis diwethaf, cyflwynais ddatganiad llafar ar sut yr ydym yn bwriadu symud economi Cymru ymlaen. Nodais y camau y byddwn yn eu cymryd i adeiladu economi gryfach, decach a gwyrddach i Gymru. Mae'r holl faterion y gwnaethom eu trafod y diwrnod hwnnw yn dibynnu ar ein llwyddiant wrth wynebu'r bygythiad gwirioneddol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei gynrychioli. Yn union fel y mae cyrhaeddiad y bygythiad yn enfawr, felly hefyd yw'r cyfle i greu dyfodol mwy disglair i Gymru gyda'r sicrwydd economaidd a ddaw drwy weithredu ar frys heddiw.

Mae'r cynllun sero-net Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos sut y bydd gweithredu pellgyrhaeddol ar draws y Llywodraeth yn creu Cymru sy'n rhoi mwy i'n planed nag yr ydym ni’n ei gymryd. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi bod yn glir y gall Cymru gyflawni ei huchelgais ar gyfer sero-net erbyn 2050, os bydd pawb yn chwarae eu rhan. Mae pennod diwydiant a busnes ein cynllun yn amlinellu gweledigaeth sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gwaith teg a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.

Mae'r cynllun yn ei gwneud yn glir ein bod ni, erbyn 2025, yn disgwyl gweld gostyngiad o 4 y cant yn y defnydd o ynni mewn diwydiant o ganlyniad i arbedion effeithlonrwydd ynni. Erbyn yr un dyddiad, rydym ni hefyd yn dymuno gweld cynnydd o 3 y cant ar gyfartaledd i drydaneiddio mewn prosesau diwydiannol, yn ogystal â thwf  o 3 y cant ar gyfartaledd i ddefnydd hydrogen fel tanwydd.

Rydym ni'n gwybod bod llawer yn y fantol yng Nghymru, gan ein bod ni wedi byw drwy dalcen caled dad-ddiwydiannu. Mae ein daearyddiaeth, ein topograffeg a'n seilwaith carbon trwm wedi eu hystyried yn nodweddion bregus ers tro byd. Fodd bynnag, mae gennym ni gyfle yn awr i droi'r her hon ar ei phen drwy hyrwyddo Cymru fel cartref a mainc arbrofi ar gyfer adnewyddu'r economi.

Fis diwethaf, roeddwn i'n falch iawn o gyhoeddi buddsoddiad sy'n rhoi'r addewid hwn ar waith, wrth i'r cwmni ynni clyfar, Thermify, gadarnhau ei gyfleuster newydd ym Mhencoed. Mae hyn yn fewnfuddsoddiad sydd wedi ei ddenu gan arloesedd blaenllaw yng Nghymru a gefnogir gan y Llywodraeth hon. Mae Thermify yn defnyddio proseswyr Raspberry Pi a gynhyrchir ym Mhencoed a bydd yn cydweithio'n agos â'r ganolfan SPECIFIC—sef prif ganolfan ymchwil technoleg ynni Prifysgol Abertawe.

Mae hyn yn gwneud Cymru yn gartref i system wresogi carbon isel arloesol sydd wedi ei chynllunio i ddarparu gwres a dŵr poeth fforddiadwy i gartrefi. O ymchwil i gymhwyso, mae ein cymorth wedi dwyn ynghyd arloesedd Cymru a byd-eang i ddarparu'r diwydiant uwch-dechnoleg a charbon isel a fydd yn helpu i lunio'r dyfodol. Dyma beth yw arloesedd Cymru gydag effaith fyd-eang, ac rwyf i'n awyddus i weld mwy o ymatebion cartref i heriau byd-eang a rennir.

Gall Llywodraeth y DU helpu i ddatgloi cyfle brys arall drwy ddarparu'r cyllid sydd ei angen i wneud ein tomenni glo yn ddiogel. Byddai rhaglen 10 mlynedd ar y cyd wedi ei hariannu yn llawn yn ein galluogi i weithio ar y swyddi, y dechnoleg, y beirianneg a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud Cymru yn arweinydd ym maes adfer diwydiannol.

Mae'r Unol Daleithiau eisoes wedi dechrau defnyddio'r dull hwn o lanhau ei hetifeddiaeth ddiwydiannol beryglus mewn taleithiau fel West Virginia. Mae eu cynlluniau i adfywio cymunedau diwydiannol yn golygu bod cyllid ffederal newydd yn cael ei gyfeirio i greu swyddi a phrosiectau, mewn model y mae Llywodraeth y DU, hyd yma, yn gwrthod ei drafod hyd yn oed ar gyfer cymunedau cymoedd Cymru.

Dirprwy Lywydd, eglurodd adroddiad cynnydd Pwyllgor Newid Hinsawdd Cymru fod angen strategaeth ddiwydiannol gydlynol yn y DU i ganiatáu i ddiwydiant a busnesau Cymru gyfrannu gymaint â phosibl at y nod sero-net. Mae ein cynllun yn cynnwys gofynion pwysig i Lywodraeth y DU, gan atgyfnerthu'r angen am bolisi hirdymor a chyson, cymorth ar gyfer arloesi, ac arweinyddiaeth fyd-eang ar waith. O eglurder i fusnesau ar reoleiddio a chyllid i weithredu ar newid tanwydd a phrisio carbon, rydym yn galw am fframwaith cydlynol y gall pob un ohonom ei ddefnyddio wrth gynllunio. Gyda'r fframwaith cywir, byddai gan fusnes a diwydiant yng Nghymru y sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw i gyflymu eu huchelgais eu hunain o'r diwedd. Er enghraifft, gallai cyllid wedi'i neilltuo yn y DU ar gyfer prosiectau morol cyfnod cynnar roi diwedd ar yr ansicrwydd treigl sy'n gadael prosiectau ar y silff gan nad oes gan fuddsoddwyr yr hyder sydd ei angen i symud yn gyflym.

Yn yr un modd, mae angen i Gymru gael ei chyfran deg o'r refeniw a godir gan y cynllun masnachu allyriadau, gan adlewyrchu'r dasg fwy y mae ein heconomi yn ei hwynebu, o ystyried ein dibyniaeth ar ddiwydiannau sy'n defnyddio ynni'n ddwys. Dylai Gweinidogion y DU hefyd weithio gydag Ofgem i sicrhau bod buddsoddiadau rhwydwaith yn targedu cymunedau mwy difreintiedig i hybu datblygiad economaidd lleol yma yng Nghymru.

Yn ystod fy natganiad llafar ar 19 Hydref, eglurais fod yn rhaid i Lywodraeth y DU weithredu ar frys i gyflwyno ei chytundeb i gefnogi trawsnewid teg i'n sector dur. Byddwn yn gweithio gyda'r holl bartneriaid i archwilio'r dull gweithredu gorau posibl ar y cyd, ond dim ond ochr yn ochr â chytundeb a gynigir gan Lywodraeth y DU ac y cytunwyd arno y gall hynny ddigwydd.

Mae gan ein rhaglen lywodraethu ymrwymiadau ar waith teg, yr economi sylfaenol a chymorth i gwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru, ac mae hynny hefyd yn ategu ein huchelgeisiau sero-net. Pan fyddwn yn cynyddu nifer y cynrychiolwyr gwyrdd yn y gwaith a’r cymorth ar eu cyfer, gall mwy o fusnesau fanteisio ar arbenigedd y gweithlu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o leihau allyriadau. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer yr economi sylfaenol yn ymwneud yn ei hanfod â defnyddio gweithgarwch economaidd presennol a newydd i gwtogi cadwyni cyflenwi a thrwy hynny helpu i leihau allyriadau.

Dirprwy Lywydd, mae Cymru'n arweinydd byd-eang ym maes ailgylchu—cyflawniad y dylem ni i gyd fod yn falch ohono a chyflawniad y gallwn ni adeiladu arno i gyflymu ein trawsnewid i economi gylchol. Mae'r pandemig a Brexit wedi herio cadernid ein cadwyni cyflenwi, ond mae ein system ailgylchu o'r radd flaenaf yn rhoi cyfle i ni greu hyd yn oed mwy o werth o'r adnoddau yr ydym ni’n eu casglu. Mae hefyd yn golygu y gallwn ni ddefnyddio deunydd wedi ei ailgylchu yn lle prosesau carbon-ddwys ac echdynnu deunyddiau crai. Felly byddwn yn cyflwyno rheoliadau ailgylchu busnes newydd i leihau allyriadau carbon yn fwy ac i sicrhau deunydd o ansawdd uchel i droi'n gynhyrchion newydd. Byddwn ni hefyd yn ehangu ein cymorth i weithgynhyrchwyr i ddefnyddio cynnwys wedi ei ailgylchu. Mae Capital Valley Plastics yn Nhorfaen yn enghraifft dda—maen nhw’n trawsnewid haenau plastig yn haenau sy’n gwrthsefyll lleithder newydd i'w defnyddio mewn adeiladau, gan ddangos sut y gall busnesau Cymru arwain y ffordd wrth ail-weithgynhyrchu'r ailgylchu a gesglir yma yng Nghymru.

Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda'n gilydd i ddeall anghenion cyflogwyr mewn cysylltiad â sgiliau sero-net ac i ddeall sut y gallwn ni gefnogi gweithwyr i fanteisio ar y newidiadau hyn. Bydd ein strategaeth cyflogadwyedd a sgiliau, a gyhoeddir yn gynnar yn 2022, yn sicrhau bod ein system yn addas i'r diben wrth fodloni'r sgiliau sydd eu hangen ar sero-net yn y dyfodol.

Bydd angen i gymuned fusnes Cymru, gan gynnwys ein busnesau bach a chanolig, ymgorffori effeithlonrwydd ynni ac adnoddau ochr yn ochr â thechnoleg newydd a ffyrdd newydd o weithio er mwyn parhau i fod yn gystadleuol. Felly, byddwn yn cryfhau dull Busnes Cymru gyda gwell gwybodaeth a chymorth wedi eu cynllunio i helpu busnesau i ymateb i'r heriau hyn. A byddwn ni hefyd yn defnyddio ein contract economaidd newydd i gryfhau ein dull rhywbeth-am-rywbeth, gan herio'r rhai yr ydym yn eu cefnogi i sicrhau bod arian cyhoeddus Cymru yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at ein taith i sero-net. Byddwn yn dyfnhau'r gofynion gyda dangosyddion clir a safonau gofynnol y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn cyflawni contract.

Dyma gipolwg ar y cynlluniau ehangach yn y cynllun Cymru Sero-Net, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda phob un ohonoch ar draws y Siambr hon i gyflawni ein huchelgais ar y cyd i weithredu ar yr argyfwng hwn sy'n diffinio'r cyfnod hwn.

16:35

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, rwyf i'n rhannu ymrwymiad y Gweinidog i ddatblygu economi wyrddach, a bydd e' wedi fy nghlywed i'n galw am weithredu yn hyn o beth ar sawl achlysur. Mae angen i ni adeiladu momentwm o lawr gwlad i fyny i gyflawni'r newid ymddygiadol a diwylliannol sydd ei angen i ddatblygu economi werdd, ac wrth wraidd hynny mae angen deall, cynllunio a datblygu ein sylfaen sgiliau yn well, ac rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cydnabod hynny yn union. Nawr, bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod i wedi galw am gynnal archwiliad o sgiliau sero-net fel y gallwn ni nodi'r bylchau mewn sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau, ac felly efallai y bydd y Gweinidog yn cadarnhau heddiw fod archwiliad sgiliau sero-net ar y gweill ac yn dweud mwy wrthym am gynnydd yr archwiliad hwnnw a chynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym y sgiliau sydd eu hangen arnom yn ein gweithlu i ddatblygu economi werdd ar gyfer y dyfodol.

Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at gymorth i fusnesau ledled Cymru, ac rwy'n awyddus i ddeall mwy am sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn manteisio ar gyllid preifat i gefnogi twf glân a chadarn yng Nghymru, ac felly efallai y gall y Gweinidog gadarnhau sut yn union mae hynny'n digwydd. Rwyf i wedi cael llawer o drafodaethau gyda busnesau a sefydliadau busnes ynghylch datblygu economi wyrddach, ac maen nhw wedi ei gwneud yn glir i mi y gall cyfeiriad teithio Llywodraeth Cymru ymddangos yn anymarferol i fusnesau, oherwydd ychydig iawn o adnoddau arbenigol sydd gan lawer ohonyn nhw. Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn datblygu cymorth busnes arbenigol yn y maes hwn ac yn esbonio i fusnesau, yn enwedig busnesau bach, beth yn union y gallan nhw ei wneud a sut y gallan nhw wneud hynny. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn manteisio ar y cyfle heddiw i ddweud wrthym sut yn union y bydd yn cefnogi busnesau i ddatblygu arferion gwyrddach, sut y bydd yn ymgysylltu'n llawer mwy uniongyrchol â busnesau ar yr agenda hon, a hefyd sut y bydd yn helpu i wneud economi wyrddach yn rhywbeth llawer mwy perthnasol a phosibl i'n busnesau llai.

Nawr, rwyf wedi siomi o weld nad oes sôn am yr angen i ddarparu gwell seilwaith gwyrdd ledled Cymru. Mae angen gwneud llawer mwy i ymgysylltu â busnesau mewn cysylltiad â cherbydau trydan, er enghraifft. Dim ond 3.8 y cant o gyfanswm pwyntiau gwefru'r DU sydd gan Gymru, gan roi Cymru yn y degfed safle o 12 gwlad a rhanbarth y DU, ac mae busnesau wedi ei gwneud yn glir i mi fod diffyg gwybodaeth am opsiynau cerbydau masnachol, pryderon ynghylch yr amrywiaeth o gerbydau, ac, yn anad dim, pryderon gwirioneddol nad oes seilwaith gwefru addas ar waith yma yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno, hyd nes y bydd y materion hynny yn cael sylw, fod busnesau'n llai tebygol o wneud newid sylweddol, ac eto rydym yn gwybod bod cynlluniau eisoes ar waith i gael gwared ar beiriannau diesel a phetrol o fewn y degawd nesaf. Felly, efallai wrth ymateb i'r datganiad hwn, bydd y Gweinidog yn dweud mwy wrthym am sut y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu'r ddarpariaeth o seilwaith cerbydau trydan yma yng Nghymru.

Nawr, mae'r datganiad yn cyfeirio at gadernid ein cadwyni cyflenwi, ond mae'n bwysig bod hyn yn cael ei gefnogi gan ymgysylltiad gwirioneddol â busnesau, â banciau, ag awdurdodau lleol ac, yn wir, â chynrychiolwyr y diwydiant. Felly, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym ba drafodaethau y mae wedi eu cael gyda'r sector bancio ac awdurdodau lleol ynghylch y ffyrdd y gallan nhw helpu i gefnogi busnesau ledled Cymru a helpu i ddarparu cadwyni cyflenwi gwyrddach a mwy cynaliadwy.

Dirprwy Lywydd, hoffwn i ofyn i'r Gweinidog am y camau sydd wedi eu cymryd i newid ymddygiad defnyddwyr a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd, neu y mae eisoes yn eu cymryd, yn y maes hwn. Gallwn ddysgu llawer o wledydd eraill ledled y byd. Er enghraifft, mae gan Sweden strategaeth ar gyfer defnydd cynaliadwy sy'n ceisio helpu pobl i wneud dewisiadau sy'n ddoeth o ran yr hinsawdd. Mae'n hanfodol bod Cymru yn dysgu o wledydd eraill ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu dweud wrthym ba strategaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i newid ymddygiad defnyddwyr a pha wersi sy'n cael eu dysgu o wledydd eraill ar y mater penodol hwn.

Mae'n sicr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r twf mewn e-fasnach yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae ôl-troed carbon i hynny hefyd, gan fod mwy o gerbydau ar y ffordd yn danfon nwyddau ac mae mwy o gardfwrdd yn cael ei ddefnyddio. Efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro ôl-troed carbon e-fasnach yng Nghymru a dweud wrthym ba drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda'r diwydiant dosbarthu ynghylch sut y gall gefnogi ymdrechion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Nawr, mae'r datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at ddatgarboneiddio ein sector dur, ac rwy'n falch o weld Llywodraeth y DU yn ymrwymo i'r agenda hon drwy ddarparu £315 miliwn i'r gronfa trawsnewid ynni diwydiannol a £250 miliwn i'r gronfa dur glân. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru hefyd y gallu i helpu i gefnogi'r sector, ac rydym wedi sôn o'r blaen am fuddsoddi mewn atebion arloesol. Felly, efallai y bydd y Gweinidog yn cadarnhau faint y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu ar gyfer ymchwil ac arloesi i'r sector i archwilio technolegau arloesol a allai helpu'r sector i gynhyrchu dur mewn ffordd llawer mwy carbon niwtral.

Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, ac eto ymrwymo i weithio'n adeiladol gydag ef ar yr agenda hon i wneud ein heconomi'n fwy cynaliadwy a chadarn ac yn wyrddach ar gyfer y dyfodol? Diolch.

16:40

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Byddaf yn gwneud fy ngorau i beidio â gwthio amynedd y Dirprwy Lywydd drwy roi atebion hir i'r nifer sylweddol o gwestiynau; byddaf yn ceisio bod mor gryno â phosibl. Flwyddyn nesaf, rwy'n disgwyl, pan fyddwn yn cyhoeddi'r hyn yr ydym yn ei wneud o ran sgiliau, bydd gennych chi adran sylweddol ar beth fydd y cynllun sgiliau sero-net. Cefais i gyfle i gwrdd â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol heddiw, ac mae'n rhan o'r hyn yr ydym yn chwilio amdano, ond, mewn gwirionedd, mae angen i ni gael mwy o eglurder—neu bydd yn rhaid i ni ddychwelyd at hyn dro ar ôl tro, mae arnaf i ofn—ynghylch sut y mae'r dirwedd cyllid yn edrych yn y dyfodol ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau, oherwydd y cyllid yn lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd—. Nid oedd y gyllideb yn glir ynghylch beth fydd yn digwydd gyda chronfeydd codi'r gwastad ehangach, oherwydd roedd y cronfeydd hynny, wrth gwrs, yn ariannu tua thraean o'n rhaglenni prentisiaeth, felly mae angen deall y cyllid sydd ar gael. Ond rydym ni wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â busnesau, yn ogystal â darparwyr, i ddeall yr hyn y bydd angen i ni ei wneud. Felly, mae hynny'n golygu edrych ar y ddarpariaeth bresennol, edrych ar ble mae bylchau yn bodoli, ond hefyd ble mae cyfleoedd yn bodoli hefyd.

O ran eich pwynt ynglŷn â chyllid preifat, mae gennym eisoes fynediad at gyllid preifat a sut y mae hwnnw’n cael ei ddefnyddio. Nawr, nid oes gan lawer o'r ddarpariaeth cyllid preifat ddiddordeb arbennig mewn effeithiau amgylcheddol buddsoddi; mae ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn twf ac elw. Ond rydym ni yn gwybod bod yna bobl sydd â mwy o ddiddordeb mewn gwneud hynny. Rydym ni hefyd yn gwybod bod Banc Busnes Prydain wedi cyhoeddi cronfa ecwiti benodol yn ddiweddar yn rhan o'r gyllideb. Roedd hynny'n syndod, rwy'n credu, iddyn nhw ac i ni. Roeddem ni wedi galw am rywbeth tebyg, felly mae'n gam ymlaen i'w groesawu yng nghyhoeddiad y Canghellor, a hoffem ni weld y gronfa honno yn cael ei defnyddio ar y cyd â'r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud gyda Banc Datblygu Cymru, a fydd yn sicr yn ceisio darparu buddsoddiad i helpu busnesau i ddatgarboneiddio, ond hefyd i fanteisio ar gyfleoedd yn y ffordd y mae'r byd gwaith yn newid. Ac rydym ni eisoes yn gofyn am gyfarfod adeiladol rhyngom ni a'r Llywodraeth a'r banc datblygu a Banc Busnes Prydain i geisio bwrw ymlaen â hynny mewn ffordd mor adeiladol â phosibl.

Fe wnaethoch chi ofyn nifer o gwestiynau sydd, rwy'n credu, yn dod at ei gilydd i ymwneud â chaffael, cadwyni cyflenwi a hefyd y ffordd yr ydym yn ceisio cael Busnes Cymru i gefnogi busnesau bach a chanolig yn benodol. Rydym yn sicr yn bwriadu gwneud mwy o hynny. Unwaith eto, mae cyllid Busnes Cymru yn rhannol ddibynnol ar y cyllid yn lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, rydych chi wedi fy nghlywed i'n gwneud y pwynt hwnnw o'r blaen, ond mae'n ffaith syml. Rydym yn edrych, fel rhan o hynny, i feddwl nid yn unig am sut yr ydym yn eu helpu i feddwl am gyfleoedd, ond hefyd, i'r busnesau hynny sydd yn dymuno cael contract economaidd neu sydd eisoes ag un—ac mae amrywiaeth yn y sector bach a chanolig sy'n gwneud hynny—rydym yn glir iawn, yn y contract presennol, bod y daith at ddatgarboneiddio yn rhan ohono; mae'n un o'r pedwar piler. Ac wrth gryfhau'r contract, byddech yn disgwyl gweld mwy o bwyslais ar hynny hefyd. Mae'n rhan o'r gwaith nid yn unig ar y contract economaidd, ond rhan o hynny hefyd yw'r cyfleoedd i gwtogi cadwyni cyflenwi, y gwnes i gyfeirio ato yn y datganiad. Ac fe wnes i sôn hefyd, wrth gwrs, am swyddogaeth Busnes Cymru.

Rydym yn edrych, mewn gwirionedd, ar beth yw dealltwriaeth busnesau o'r rheidrwydd gan ddefnyddwyr hefyd, a gan eu cwsmeriaid. Mae llawer ohonyn nhw bellach yn disgwyl gweld y ffordd y maen nhw’n cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ac nid dim ond yn y sector e-fasnach y gwnaethoch chi gyfeirio ato, lle mae hynny eisoes yn ddisgwyliad clir bod amrywiaeth o'r darparwyr hynny'n edrych ar beth yw eu hôl troed eu hunain, mae mewn amrywiaeth o sectorau nwyddau a gwasanaethau mwy ffisegol hefyd.

Ac o ran trafnidiaeth, mae sgyrsiau y byddwn yn eu cael â chydweithwyr yn y weinyddiaeth newid hinsawdd am y seilwaith gwefru. Mae hefyd yn faes lle gallem ni elwa ar fod â chynllun ar y cyd ledled y DU ar gyfer sut y bydd seilwaith gwefru yn edrych, ac mae'n un o'r siomedigaethau yr wyf i'n siŵr y bydd yr Aelod yn eu rhannu, nad oedd buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith yn yr adolygiad diweddar o'r gyllideb a'r gwariant i helpu gyda'r daith at ddatgarboneiddio. Fe wnaethoch chi glywed Julie James yn dweud nad oedd sôn am yr hinsawdd unwaith yn y gyllideb, ond, yn fwy na hynny, mae'r gyllideb gyfalaf sydd gan y Llywodraeth Cymru hon ac y bydd gan y lle hwn y cyfle i graffu arni a helpu i’w chyfarwyddo, yn mynd i ostwng mewn termau real dros gyfnod yr adolygiad gwariant. Ac i bob un ohonom ni, ar bob ochr i'r Siambr hon, ni all hynny fod yn ddatganiad cadarnhaol sy'n helpu Cymru i wneud cyfraniad cyflymach at greu'r seilwaith i'n helpu i ddatgarboneiddio'r ffordd yr ydym yn byw yma yng Nghymru.

Byddaf yn ceisio gorffen nawr ar y pwyntiau ynglŷn â dur, Dirprwy Lywydd. Mae rhai camau cadarnhaol mae Llywodraeth y DU wedi eu cymryd i geisio helpu ac ysgogi symud ymlaen. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw, ond hefyd y buddsoddiad yr ydym ni wedi helpu i'w greu, ynghyd â'r cyllid y mae Abertawe'n ei gael ar gyfer dyfodol metelau. Ond, mewn gwirionedd, mae'r heriau mwy o ran datgarboneiddio dur yn ymwneud â'i gystadleurwydd—ac mae problem yno o ran prisiau ynni yn y wlad hon o'u cymharu â chystadleuwyr Ewropeaidd—ac, yn benodol, buddsoddi—ac mae'r rhain yn ddewisiadau mae angen i ni eu gwneud, ond yn bennaf y mae angen i Lywodraeth y DU eu gwneud—o ran hydrogen a hefyd y potensial ar gyfer dal carbon. Nid yw dal a storio carbon yn dechnoleg aeddfed, felly nid yw'n mynd i helpu yn y fan a'r lle, ond mae'n bosibilrwydd ar gyfer y dyfodol. Mae angen buddsoddi yn awr i weld a yw hynny'n bosibl. Mae hydrogen yn llawer agosach at fod yn aeddfed, felly mae cynyddu'r buddsoddiad mewn cynhyrchu a seilwaith hydrogen yn bwysig iawn yn gyffredinol, ond yn hollbwysig os ydym ni am ddatgarboneiddio'r sector dur a chael newid cyfiawn wrth wneud hynny. Rydym yn cydnabod ei fod yn sector gwerth uchel, ond hefyd yn sector allyrru uchel o'r economi, felly mae'n un o'r pwyntiau yr wyf i wedi ei godi'n rheolaidd ac y byddaf i'n parhau i'w godi gyda Llywodraeth y DU, yn ogystal â'r cyfleoedd i gyflawni datgarboneiddio pellach mewn mathau eraill o gynhyrchu. Felly, rwyf i'n credu nad oes angen i brisiau ynni olygu bod yn rhaid i ddur fod yn sector allyrru uchel. Rydym ni'n credu bod y sector hwn yn cymryd camau breision ymlaen o ran dymuno datgarboneiddio, ond i wneud hynny mewn ffordd nad oes cost sylweddol iddi o ran swyddi a chyflogaeth.

16:45

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Os gallaf i ddweud, fel boi Pen-coed, dwi'n edrych ymlaen at weld beth fydd y bartneriaeth rhwng Thermify a Phrifysgol Abertawe yn ei gynhyrchu. Mae'n hollbwysig ein bod yn trafod beth all Llywodraeth Cymru ei wneud, yn enwedig yn ystod COP26, ac fel rhan o beth all y Llywodraeth ei wneud, mae'r economi yn hanfodol.

Mae pryder mawr mai siop siarad arall fydd COP26, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n un o'r rhai sy'n pryderu, ac rwy'n siŵr nad yw hynny'n syndod i'r Aelodau yr wyf i wedi gweithio gyda nhw ers cael fy ethol. Mae fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian yn dweud wrthyf yn rheolaidd fy mod i'n llawer rhy sinigaidd am fy oedran, ond mae'n ymddangos bod amharodrwydd i gymryd camau heriol yn erbyn cwmnïau rhyngwladol, er enghraifft, sy'n gosod barusrwydd a gwneud elw o flaen yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol.

Canfu'r Prosiect Datgelu Carbon yn 2017 y gallai 100 o gwmnïau yn unig gyfrif am 71 y cant o allyriadau byd-eang ers 1988. Bydd unrhyw ymdrechion lleol i gefnogi mentrau gwyrdd yng Nghymru yn cael eu colli os na fyddwn yn mynd i'r afael â materion y llygrwyr rhyngwladol hyn. Er enghraifft, mae cwmnïau buddsoddi mawr wedi bod yn prynu tir fferm yng Nghymru er mwyn iddyn nhw allu gwrthbwyso eu hallyriadau carbon. Mae o leiaf 12 o ffermydd wedi eu gwerthu'n ddiweddar yng nghanolbarth Cymru i gwmnïau y tu allan i Gymru. Yn ogystal â bod yn niweidiol i ddiwylliant Cymru ac economi Cymru, nid yw'n mynd i'r afael â'r broblem ychwaith. Mae'r cwmnïau mawr hyn yn gallu gwyrddgalchu wrth barhau i bwmpio meintiau enfawr i'r atmosffer yn y pen draw. Byddai gen i ddiddordeb mewn dysgu gan Weinidog yr economi ba sancsiynau y gallai Llywodraeth Cymru eu hystyried yn erbyn cwmnïau rhyngwladol sy'n parhau i lygru ar ôl COP26 ac a yw'r Gweinidog yn credu bod prynu ffermydd yng Nghymru gan y cwmnïau rhyngwladol hyn yn arfer cynaliadwy o fewn economi Cymru.

Wrth gwrs, tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith mai un rhan addawol o economi werdd Cymru yw hydrogen. Amlygodd adroddiad sylfaenol datblygu hydrogen yng Nghymru fentrau yn y dyfodol a allai harneisio'r defnydd o bŵer hydrogen. Nid yw'r Llywodraeth wedi ymateb eto i'r ymgynghoriad datblygu sector ynni hydrogen yng Nghymru, y mae'r adroddiad sylfaenol yn rhan ohono, neu o leiaf rwyf i'n cael fy arwain i gredu hynny gan wefan Llywodraeth Cymru. Pryd y gallwn ni ddisgwyl ymateb a pha fentrau eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi eu nodi a allai ddefnyddio pŵer hydrogen, yn benodol hydrogen gwyrdd? Os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynghylch atal newid yn yr hinsawdd, mae'n rhaid iddi weithredu yn awr ac mae'n rhaid iddi fuddsoddi yn sector hydrogen yr economi a fydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad ac yn rhoi mantais glir i ni wrth i wledydd eraill symud i economïau gwyrddach.

At hynny, mae seilwaith trafnidiaeth effeithlon yn hanfodol i fusnesau ac i economi Cymru. Canfu'r Ffederasiwn Busnesau Bach fod cost cerbydau allyriadau-sero, ynghyd â diffyg darpariaeth pwyntiau gwefru, yn rhwystr i newid ymddygiad i fusnesau. Mae Paul Davies wedi sôn am hyn eisoes, ond a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth fydd ar gael i fusnesau sy'n dymuno trosglwyddo i ddewisiadau amgen gwyrddach? Ac a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried nodi ei strategaeth hirdymor ar gyfer trosglwyddo i drydan a hydrogen i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru?

Wrth gwrs, bydd y newid i economi sero-net yng Nghymru heb gynllunio a chyllid priodol gan y Llywodraeth yn fwy heriol i Gymru na gwledydd eraill yn y DU. Mae gan Gymru gyfran uwch o allyriadau anoddach eu lleihau, fel y nododd y Gweinidog yn gywir. Mae gennym ni fwy o ddiwydiannau ynni-ddwys, mwy o gartrefi oddi ar y grid a ffermydd ar raddfa fach, a llai o safleoedd addas ar gyfer dal a storio carbon. Mae un o bob pump o weithwyr yng Nghymru mewn sectorau hinsawdd-gritigol a fyddai'n teimlo effaith y newid i sero net, ac os nad yw Llywodraeth Cymru yn paratoi'n briodol ar gyfer trosglwyddo cyfiawn, bydd canlyniadau economaidd a chymdeithasol enfawr. Nid ydym ni eisiau ailadrodd y gorffennol. Ond fe wnaf i ailadrodd, wrth gwrs, fy ngalwadau blaenorol a gofyn a wnaiff Llywodraeth Cymru sefydlu comisiwn trosglwyddo cyfiawn, yn debyg i'r Alban, a fydd yn monitro penderfyniadau'r Llywodraeth ynghylch trosglwyddo'r economi i un wyrddach a thecach.

Ac o ran dur, os caf fi, pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i gwmnïau cydweithredol dur a'r rhan y gallen nhw ei chwarae mewn economi wyrddach a thecach, yn debyg i'r hyn yr ydym wedi ei weld yng Ngwlad y Basg?

Yn olaf, mae'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol beth yw fy safbwynt i o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. I mi, mae'n rhaid i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy drosglwyddo i economi werdd fynd law yn llaw hefyd â mynd i'r afael â thlodi. Y gwir amdani yw nad yw'r ffordd bresennol o fesur llwyddiant economaidd yn addas i'r diben, os ydym ni'n dymuno mesur effaith polisi economaidd Llywodraeth Cymru ar bobl yng Nghymru a'r amgylchedd. Ers degawdau, mae perfformiad economaidd a chynnydd cymdeithasol cenhedloedd wedi defnyddio llinell sylfaen cynnyrch domestig gros. Mae ei annigonolrwydd o ran mesur bywydau, lles ac amgylchedd pobl wedi ei gydnabod fwyfwy. Yng ngoleuni hyn, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau sydd wedi digwydd yn yr adran ynghylch sut y gallwn ni symud oddi wrth fesurau traddodiadol, fel cynnyrch domestig gros, i ddewisiadau amgen a mesurau blaengar?

16:50

Diolch am y gyfres o gwestiynau a sylwadau. O ran eich pwynt ynglŷn â defnydd tir, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn eithaf clir ein bod ni'n disgwyl i ddefnydd tir yng Nghymru fod yn gynaliadwy ac yn fuddiol i boblogaethau lleol a'r economi. Felly, rydym yn edrych ar sut y gallwn gymell pobl i wneud defnydd priodol o'r tir sydd ar gael, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n bodloni'r profion y byddem yn eu gosod. Felly, yn sicr, nid ydym yn annog cwmnïau i geisio prynu tir yma yng Nghymru i geisio osgoi a gwrthbwyso eu gweithgareddau mewn rhannau eraill o'r DU neu weddill y byd.

O ran eich pwynt ynglŷn â hydrogen, hoffwn i ailadrodd, wrth gwrs, fod y Prif Weinidog wedi ei gwneud yn glir iawn mewn cwestiynau heddiw fod y Llywodraeth hon yn glir iawn y dylem ni fod yn buddsoddi mewn hydrogen gwyrdd, a dyna rydym ni am ei weld. Ac mae cyfleoedd gwirioneddol o fewn hynny, nid yn unig o fewn y buddsoddiad—ac mae'n fuddsoddiad i'w groesawu yn y broses HyNet ar draws gogledd-orllewin Lloegr drwy ogledd Cymru, ond mae hefyd yn gyfle i weld beth sydd hefyd yn deillio o'r potensial ar gyfer cynhyrchu ynni ar y môr hefyd a'r hyn y gallai hynny ei olygu o ran cynyddu ein gallu i gynhyrchu hydrogen gwyrdd yn wirioneddol. Nawr, mae hynny'n gofyn am rai o'r pwyntiau a wnes i yn fy natganiad: eglurder ynglŷn â'r fframwaith buddsoddi, y gallu i'w ddefnyddio i fuddsoddi, a dewisiadau Llywodraeth y DU yn ogystal â pharodrwydd y Llywodraeth hon i helpu pobl i fuddsoddi mewn diwydiannau cynnar. Y perygl fel arall yw mai'r hyn a fydd yn digwydd yw y byddwn yn gweld yr hyn a ddigwyddodd gyda gwynt ar y tir, lle llwyddodd Denmarc yn arbennig i fuddsoddi'n gynnar ac yna allforio technoleg, a oedd yn golygu bod llawer o'r enillion wedi eu gwneud yn Nenmarc. Nawr, mae hynny wedi golygu bod gennym ni ffyrdd effeithlon o gynhyrchu ynni gwynt ar y tir, ond mewn gwirionedd byddai'n llawer gwell gen i weld cyfle i fod yn symudwyr cynnar mewn diwydiant lle rydym ni eisoes yn gweld rhywfaint o hyn yn digwydd mewn rhannau eraill o Ewrop hefyd. Felly, mae'r buddsoddiad mewn hydrogen hyd yma i'w groesawu, ond hoffwn i weld mwy o hynny'n digwydd. Mae hefyd yn fater hollbwysig i goridor de Cymru, yn ogystal â mynd ar draws gogledd Cymru hefyd.

O ran eich pwyntiau ynglŷn â'r her o sut yr ydym yn defnyddio'r contract economaidd a'r gallu ynddo, mae hyn yn bwysig i fusnesau bach, canolig a mwy. Ni allwch chi gael contract economaidd oni bai eich bod yn barod i ymrwymo i'r galwadau a fydd yn newid. Felly, ni fyddwch chi'n gweld cwmnïau mawr sy'n tynnu i ffwrdd yng Nghymru yn cael contractau economaidd; bydd angen iddyn nhw ymrwymo i'r ffyrdd o weithio a rhoi yn ôl i sicrhau ei fod yn wirioneddol rywbeth am rywbeth, os ydyn nhw eisiau'r cymorth y gall y Llywodraeth hon ei ddarparu ac y mae'n fodlon i'w wneud, i weld swyddi'n cael eu cadw yng Nghymru yn ogystal â buddsoddiad i greu swyddi newydd yng Nghymru. A dyna un o'r pethau cadarnhaol y gallai dyn ifanc sinigaidd fel chi ddymuno ei ystyried yn gadarnhaol, bod cyfle i greu swyddi newydd ar gyfer y dyfodol a fydd yn swyddi da, swyddi â chyflog da a all fodoli mewn gwahanol rannau o Gymru. Nid oes angen i ni weld cyflogaeth â chyflog uchel yn cael ei dynnu'n ôl i’w ddisodli gan gyflogaeth gradd is o lawer â chyflogau llai hefyd. Ac mae'n un o'r pethau lle rydym ni'n awyddus iawn i fanteisio ar y cyfle wrth i ni edrych i'n dyfodol cyffredin.

Rwy'n credu fy mod i wedi sôn am y pwyntiau ynghylch gweithio gyda Gweinidogion newid yn yr hinsawdd ar wella'r seilwaith gwefru. Mae'n her yr ydym wedi ei chydnabod, ac unwaith eto mae dewisiadau y gallem ni eu gwneud yn fwy effeithlon pe gallem ni weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i wneud hynny. Byddai hynny'n gofyn am rannu dull gweithredu.

Hoffwn i wneud y pwynt eto ynghylch defnyddio tir a'ch pwynt ynglŷn â newid yn yr hinsawdd, a rhai o'r heriau yr ydym yn eu gweld. Dyna pam y soniais i am adfer tomenni glo yn y datganiad, oherwydd rydych chi’n gweld Llywodraeth sy'n benderfynol o fuddsoddi yn hynny yn yr Unol Daleithiau. Unwaith eto, mae rhannau o'r Unol Daleithiau sydd wedi eu creithio ac yn teimlo effaith eu hetifeddiaeth ddiwydiannol eu hunain hefyd. Maen nhw’n buddsoddi yn hynny. Mae Llywodraeth ffederal yn buddsoddi yn hynny, gan weithio gyda Llywodraeth y dalaith. Gallech chi weld hynny yma hefyd, pe bai Llywodraeth y DU yn barod i edrych ar ei chyfrifoldeb a'r etifeddiaeth nad yw wedi ei datganoli i weithio gyda ni i gael cynllun priodol i ymdrin â difrod ac effaith amgylcheddol yr etifeddiaeth honno, ond hefyd i weld swyddi ac eto sgiliau y gellid eu hallforio, oherwydd ein bod ni'n credu ei bod yn anochel y bydd yn rhaid i rannau eraill o'r byd fynd drwy'r un broses o adfer tomenni glo a chloddio dros y degawdau nesaf.

Ac o ran eich pwynt ynglŷn â chwmnïau cydweithredol dur, rydym ni mewn gwirionedd yn edrych ychydig yn fwy ar y ffordd y mae dur yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd a'n gallu i weithio ochr yn ochr â'r cwmnïau sydd yma eisoes. Mae gennym ni gwmnïau yng Nghymru a ledled y DU. Os oes cyfleoedd ar gyfer cwmnïau cydweithredol, yn sicr ni fyddwn yn eu gwrthod, ond nid wyf i'n credu bod hynny'n ateb realistig i'r ffordd y mae diwydiant y DU wedi ei strwythuro ar hyn o bryd. Ein pryder mwy yw sicrhau nad yw cyflogaeth sy'n talu'n dda yn diflannu; nad ydym yn gweld newid datgarboneiddio ar draul llawer o swyddi mewn ffordd y gellir ei hosgoi os gallwn ni weld y mathau cywir o ddewisiadau buddsoddi a gweithredu o ran prisio ynni hefyd.

Ac o ran eich pwynt ehangach ynglŷn â dangosyddion yn ogystal â chynnyrch domestig gros, yna, ydw, rwyf i yn agored i sgyrsiau a thrafodaethau. Rydym ni wedi cael rhai ohonyn nhw gyda chi a rhai o'ch cyd-Aelodau ynglŷn â beth yw economi llesiant a sut yr ydym yn mesur llwyddiant, ond wrth gwrs mae gennym ni amrywiaeth ohonyn nhw eisoes a sut maen nhw’n edrych gyda'n Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sut yr ydym yn ceisio deall, dyma ôl troed yr hyn yr ydym ni'n credu y dylai weithio, sut y dylem brisio buddsoddiad, a sut y byddwn ni wedyn yn mesur ein gallu i gymryd camau ymlaen ar gael economi llesiant wirioneddol yma yng Nghymru yn y dyfodol.

16:55

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwy’n cytuno ag ef ynghylch pwysigrwydd y diwydiant dur; os ydym am symud tuag at economi werdd, mae'n rhaid i hynny gynnwys cynhyrchu dur lleol. Rwy'n siŵr, Gweinidog, eich bod chi wedi darllen yr adroddiad dros nos am fargen fasnach rhwng yr UE a'r Unol Daleithiau ar gyfer dur, ac mae'n gwbl hanfodol bod gan ddur y DU yr un gallu i fanteisio ar y fargen honno. Felly, byddai gen i ddiddordeb mawr, Gweinidog, yn eich barn chi, a beth mae hyn yn ei olygu i'r sector dur yng Nghymru.

Ac yn ail ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'r Gweinidog unwaith eto yn sôn yn fawr am sgiliau yn ei ddatganiad heddiw, ac os ydym am ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o dechnoleg a chynhyrchion gwyrdd yma yng Nghymru, mae'n amlwg bod angen y sgiliau cywir arnom. Felly, efallai y gallech chi ddweud wrthym ba mor hyderus ydych chi eich bod yn hyfforddi ac yn gwella sgiliau y bobl iawn i gyflawni'r angen hwn. Ac a wnewch chi gadarnhau i'r Siambr heddiw nad gyda chyflogwyr yn unig y mae'r sgyrsiau, ond eu bod gyda chyrff proffesiynol, fel y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, a hefyd ein partneriaid undebau llafur ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig?

Iawn, bydd yn rhaid i mi ymdrin â'ch ail gwestiwn yn gyntaf, oherwydd dyna yw natur y sgyrsiau yr ydym ni'n eu cael. Rydym yn edrych ar ble mae cymorth arall ar gael, oherwydd bod rhannau o Lywodraeth y DU mewn cymorth cyflogadwyedd ehangach mewn lle gwahanol i le'r oedd ychydig flynyddoedd yn ôl. O ran y cyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli'n glir ynghylch sgiliau, ydym, rydym yn gweithio gyda chyrff proffesiynol yn ogystal â chyflogwyr ar yr angen i ddeall y mathau o sgiliau yr ydym ni'n credu y bydd eu hangen arnom yn nyfodol yr economi. Dyna pam yr oeddwn yn falch iawn o gwrdd â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol heddiw i edrych ar y gwaith maen nhw eisoes yn ei wneud, i ddeall hynny o safbwynt rhanbarthol yn ogystal â gyda sectorau a'r lens cenedlaethol sydd gennym ni hefyd. A byddwn, wrth gwrs, byddwn yn parhau i ymgysylltu ag undebau llafur ar sut y gallwn ni ddarparu rhai o'r sgiliau hynny, oherwydd wrth gwrs, un o'r pethau yr oeddwn i'n fwyaf balch ohono yn fy nghyfnod yn TUC Cymru, pan gefais i gyfle i fod yn llywydd ac is-lywydd, oedd y gwaith a wnaethom drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru i annog pobl i feithrin sgiliau am oes, ond hefyd sgiliau ar gyfer gwaith. Roedd yr undeb llafur yn aml yn borth pwysig iawn i gael pobl i gydnabod bod ganddyn nhw ddiffygion sgiliau yr oedden nhw eisiau mynd i'r afael â nhw, pethau yr oedden nhw eisiau eu gwneud, o lythrennedd a rhifedd sylfaenol i fynd ymlaen i ddarparu sgiliau uwch, a'r mynediad y mae hynny'n ei roi i gyfleoedd i gael nid yn unig mwy o fwynhad yn y gwaith, ond mynediad at waith o ansawdd gwell gyda chyflog gwell hefyd.

O ran eich pwynt ynghylch y fargen ddur, clywais y cyhoeddiad hefyd gyda diddordeb, ac nid yw'r manylion yn gwbl glir ac maen nhw’n dod i'r amlwg, ond rwy'n credu mai'r man cychwyn cyntaf yw bod dileu o leiaf rhai, os nad pob un, o'r tariffau a osodwyd gan gyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau yn newyddion da. Rwy'n credu y gwnaeth hynny gychwyn mesurau ad-daliadol annefnyddiol rhwng Ewrop a'r Unol Daleithiau. Mae angen i ni ddeall beth mae hynny'n ei olygu i'r DU. Mae'r DU y tu allan i'r fargen ar hyn o bryd. Yn nhermau datgarboneiddio eang, mae'n newyddion da bod economïau mawr yn dweud, 'Rydym ni eisiau blaenoriaethu a manteisio ar ddur sy'n cael ei gynhyrchu mewn ffordd lanach a gwyrddach ac atal dur budr rhag cael ei fewnforio'—yr ymadrodd a ddefnyddiodd yr Arlywydd Biden—'ac atal taflu dur'. Maen nhw yn sicr yn bethau y mae'r sector dur yma yng Nghymru yn pryderu amdanyn nhw o ran y DU. Rwyf i'n awyddus iawn i weld y trafodaethau masnach a ddylai ddigwydd gyda'r Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd i adlewyrchu'r telerau hynny sydd ar gael i gynhyrchu dur yn y DU cyn gynted â phosibl. Oherwydd rwy'n credu bod gennym ni stori debyg i'w hadrodd o ran cynhyrchu dur yn yr Unol Daleithiau a'r UE, ac yn sicr nid wyf i eisiau i'r sector fod o dan anfantais yma. Ond os gallwn ni gael y mynediad cynnar hwnnw i'r un telerau, rwy'n credu ei fod yn newyddion da i'r sector dur yma yn y DU, ac i swyddi yng Nghymru, wrth gwrs.

17:00

Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Rwyf i'n sicr yn croesawu'r uchelgais i adeiladu economi gryfach a gwyrddach yma yng Nghymru. Rhan allweddol o sicrhau a gweld llwyddiant yr economi werdd honno yw'r rhan y gall awdurdodau lleol ei chwarae wrth gyflawni hyn. Yng ngoleuni hyn, roeddwn i wedi siomi o weld nad oedd sôn am awdurdodau lleol a chynghorau yn eich datganiad heddiw, felly efallai yr hoffech chi sôn amdanyn nhw mewn ymateb i fy mhwyntiau. Yn wir, clywais i chi'n sôn am rai o'r cyfleoedd hydrogen yn y gogledd, ac rwy'n nodi heddiw y cyhoeddiad rhagorol gan Gynghrair Mersi Dyfrdwy eu bod wedi cael cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer seilwaith dal a storio carbon tanddaearol. Dyfynnaf o'r datganiad:

'Bydd rhoi CCUS ar waith o 2025 yn diogelu dyfodol miloedd o swyddi gweithgynhyrchu gwerth uchel yn Mersi Dyfrdwy ac ardaloedd economaidd cysylltiedig yng Ngogledd Cymru'.

Maen nhw’n mynd ymlaen i ddweud y bydd yn creu tua 6,000 o swyddi newydd oherwydd y buddsoddiad hwn mewn seilwaith hydrogen. Rwy'n credu ei bod yn enghraifft wych o bedwar cyngor yn cydweithio â sefydliadau eraill i helpu i sicrhau economi wyrddach a ffyniannus yng ngogledd Cymru. Felly, Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gydag awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag economi wyrddach, a pha ran ydych chi'n credu y gallen nhw ei chwarae wrth gyflawni hyn? Diolch.

Diolch i chi am y cwestiwn a'r pwyntiau. Rwyf i wedi sôn sawl gwaith, yn ystod nid y datganiad yn unig ond  yn y cwestiynau hefyd, y croeso i'r buddsoddiad pellach yn y prosiect HyNet y maen nhw am ei gyflawni ar draws gogledd-orllewin Lloegr a thrwy ogledd Cymru. Rwyf i wedi cael sgyrsiau rheolaidd ag awdurdodau Lloegr yn ogystal ag awdurdodau Cymru sy'n rhan o Gynghrair Mersi Dyfrdwy, ac rwy'n falch bod hynny'n ymddangos yn rhywbeth ychwanegol yn hytrach nag yn gystadleuol â'r gwaith ehangach y mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ei wneud, lle mae'r chwe awdurdod lleol wedi cytuno ar amrywiaeth o flaenoriaethau i helpu i gefnogi a thyfu economi Cymru ar draws gogledd Cymru. Mae gen i berthynas dda iawn ag awdurdodau lleol. Rwy'n eu hystyried yn rhan annatod o'n huchelgeisiau ar gyfer yr economi, gan gynnwys gwneud yr economi yn wyrdd, ac mae hynny'n rhan o'r gwaith gyda phob un o'r partneriaethau rhanbarthol sy'n bodoli.

Mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a phob un o'r bargeinion twf, a'r cyd-bwyllgorau corfforaethol newydd sy'n bodoli, yn fy marn i, yn fynegiant ymarferol o'n parodrwydd a'n hawydd i barhau i weithio'n rhanbarthol. Mae awdurdodau lleol yn bartneriaid hanfodol wrth wneud hynny. Dyna pam yr wyf i wedi comisiynu'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, fel un o fy nghamau cynnar yn y swydd, i barhau i weithio ar ddyfodol datblygu economaidd rhanbarthol, ac rwy'n sicr yn credu y byddwn yn gweld mwy i ddod yn y bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Wrth gwrs, byddai'n well pe baem yn gallu cael mwy o sicrwydd yn y fframwaith o ran sut y gallwn gydweithio heb fod yr arian wedi ei egluro eto gan Lywodraeth y DU—y cronfeydd codi'r gwastad. Ond rwy'n siŵr y cawn ni lawer o gyfleoedd i siarad amdanyn nhw yn y dyfodol.

Roeddwn i eisiau cyfeirio, Gweinidog, at eich pwynt ynghylch tomenni glo, ac roeddwn i eisiau gofyn a wyf i ar ddeall o'ch sylwadau a'r datganiadau fod trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf felly wedi methu â dod i gytundeb ynghylch pwy fyddai'n talu am y gwaith hwn. Onid yw'n bryd felly i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r gwaith am yr union reswm y gwnaethoch chi ei amlinellu yn eich datganiad, heb sôn am resymau diogelwch ar gyfer y cymunedau sy'n byw yn eu cysgodion?

Roeddwn i hefyd eisiau gofyn am y diwydiant arfau yma yng Nghymru, diwydiant sy'n parhau i gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, a diwydiant sydd, yn ôl Gwyddonwyr dros Gyfrifoldeb Byd-eang, yn un o'r allyrwyr nwyon tŷ gwydr allweddol yn y DU, gydag ôl troed carbon yn bychanu llawer o wledydd llai y blaned. Un cwestiwn amlwg sy'n dod i'r meddwl felly yw pam mae'r sector awyrofod ac amddiffyn yng Nghymru yn parhau i dderbyn cymorth ariannol uniongyrchol ac anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyllid drwy sawl ardal fenter sy'n gweithredu fel canolfannau ar gyfer y sector. A wnaiff y Gweinidog felly amlinellu a oes cynlluniau i dynnu arian yn ôl oddi wrth ddiwydiannau yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn rhan o'r broblem yr ydym ni i gyd yn ceisio mynd i'r afael â hi fel cymdeithas, a buddsoddi yn lle hynny mewn diwydiannau sy'n rhan o'r ateb?

17:05

O ran tomenni glo, nid ydym yn fodlon â'r sefyllfa bresennol gyda Llywodraeth y DU, sydd hyd yma wedi gwrthod cyflawni eu rhwymedigaeth o ran y gyfran o gyfrifoldeb sy'n amlwg nad yw wedi ei datganoli ar gyfer tomenni glo a realiti'r her maen nhw’n ei chyflwyno, yn ogystal â gwrthod cydnabod bod cyfle economaidd yma mewn gwirionedd. Bellach, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd drwy ei chyllideb ei hun. Byddwch chi ac Aelodau eraill, wrth gwrs, yn craffu arnom o ran hynny dros y misoedd nesaf, ond byddan nhw yn ddewisiadau anodd iawn i ni. Mae her bob amser, onid oes, pan na chyflawnir cyfrifoldebau nad ydyn nhw yn amlwg wedi eu datganoli, o ran a ydym yn gwneud dewis i geisio gwneud iawn am hynny, fel yr ydym ni wedi ei wneud yn y gorffennol, er enghraifft, o ran band eang, lle nad yw wedi ei ddatganoli ond mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfrifoldeb am lenwi rhai o'r bylchau. Y realiti yw bod cost wirioneddol i hyn, ac ni ellir gwario arian yr ydym ni’n ei wario yn y meysydd hynny mewn meysydd eraill. Gallaf i ddweud wrthych yn onest, ers dechrau'r cyni ariannol hyd heddiw, y bu llawer iawn o ddewisiadau anodd y bu'n rhaid i Weinidogion eu gwneud wrth gydbwyso ein cyfrifoldebau â'r gyllideb gyfyngedig sydd gennym, ac mae'n ymddangos bod tomenni glo yn un ystyriaeth o'r fath ar gyfer y dyfodol.

O ran eich pwynt ynglŷn â meysydd gweithgynhyrchu uwch lle gellir defnyddio rhai o ran diwydiannau amddiffyn, rwy'n credu bod y ffordd yr ydych chi wedi mynegi eich cwestiwn braidd yn ddifrïol. Nid wyf i'n credu y byddai'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiant awyrofod ac eraill yn croesawu'r ffordd y cafodd ei eirio na'i fynegi. Rwy'n credu bod pwynt teg o fewn hynny ynghylch sut yr ydym ni yn gweld datgarboneiddio yn y sector hwn. Mewn gwirionedd, ar fy ymweliad â'r ganolfan gweithgynhyrchu uwch yn y gogledd ac Airbus, ac yn ystod fy sgyrsiau yno, maen nhw eisoes yn meddwl yn awr ac yn gweithredu ac yn buddsoddi mewn datgarboneiddio'r ffordd y mae'r sector hwnnw yn gweithio. Rwy'n credu bod hynny yn dangos bod busnesau sy'n cydnabod bod ganddyn nhw ran mewn datgarboneiddio ac mewn sicrhau bod y diwydiant yn goroesi, ac mae gennym ni ran yn y gwaith o'u cefnogi yn y trawsnewid hwnnw. Rwy'n gobeithio, efallai yn y dyfodol, y gallem ni gael sgwrs wahanol ac efallai ffordd lai difrïol o ddisgrifio'r hyn sy'n her wirioneddol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, er ein bod ni i gyd yn gwybod bod angen i ni wneud mwy i drawsnewid economi Cymru yn un wyrddach ar gyfer dyfodol ein planed, bydd gan lawer o fy etholwyr i ym Mhort Talbot ofnau dilys ynghylch yr hyn y gallai hynny ei olygu ar gyfer dyfodol y diwydiant dur a'r gymuned gyfagos. Rwy'n gwybod er bod llawer o Aelodau eraill wedi sôn am y diwydiant dur, ei bod hefyd yn bwysig cofio y gall y diwydiant chwarae rhan allweddol yn y gwaith o leihau ein hôl troed carbon hefyd drwy gynhyrchu pethau fel tyrbinau gwynt a cherbydau gwyrddach. Mae Tata ei hun wedi cymryd camau dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod ei systemau cynhyrchu dur yn fwy gwyrdd, ond bydd angen i bron pob diwydiant wneud mwy yn y blynyddoedd i ddod os ydym ni am gyrraedd ein targedau. A gaf i ofyn pa gamau y byddwch chi’n eu cymryd i sicrhau bod y diwydiant dur ym Mhort Talbot yn parhau i fod yn gystadleuol yn economaidd ar raddfa fyd-eang ac yn diogelu'r economi leol, wrth sicrhau ei bod yn chwarae ei rhan mewn newid i economi wyrddach hefyd?

Cefais i gyfle i ymweld â'r gwaith dur ym Mhort Talbot gyda'r Aelod etholaeth sydd yn y Gadair ar hyn o bryd yn y sesiwn benodol hon. Rwyf i wedi cael sgyrsiau nid yn unig â'r cwmni hwnnw ond â'r cynhyrchwyr dur mawr eraill yng Nghymru yn uniongyrchol am yr hyn y maen nhw am ei wneud, oherwydd eu bod nhw'n cydnabod bod rheidrwydd i ddatgarboneiddio'r ffordd y mae dur yn cael ei gynhyrchu. Mae her a chyfle a dyna pam rwy'n dal ati i siarad am drawsnewid cyfiawn. Oherwydd gallech chi ddatgarboneiddio'r ffordd y mae dur yn cael ei gynhyrchu a gallech chi wneud hynny mewn ffordd nad yw ar draul llawer o swyddi, neu gallech chi ddatgarboneiddio'r sector dur a gallech chi weld colled cyflogaeth sylweddol. Ond mae pob cwmni yn edrych ar sut mae'n edrych eto ar ei brosesau, sut y mae'n edrych ar yr hyn y mae'n ei ystyried yn gystadleuaeth annheg, sef pam rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth Jack Sargeant am y fargen rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd yn bwysig. Pan fyddwch chi'n clywed yr Arlywydd Biden yn sôn am fod eisiau gwneud rhywbeth am ddur a dur budr yn cael ei ollwng, mae hynny'n rhywbeth y bydd gweithwyr dur a phobl sy'n rhedeg y busnesau dur hynny yn ei gydnabod, ac mae her allweddol yno i sicrhau bod gennym ni gystadleuaeth sydd ar lefel wastad sydd ag uchelgais a rennir i weld datgarboneiddio yn y sector hwnnw ond nad yw'n caniatáu i gynhyrchion dur eraill sydd ag ôl troed carbon uwch gael eu defnyddio yn y sector yma hefyd. Gan fy mod i'n cydnabod bod dur yn bwysig ar gyfer y dyfodol, nid yn unig o ran sut yr ydym yn cynhyrchu ffynonellau pŵer yn y dyfodol, ond mewn adeiladu ac ystod eang o feysydd eraill hefyd. Felly, rwy'n glir iawn bod yn rhaid i ddur gael dyfodol sylweddol yn economi Cymru a'r DU yn ehangach.

17:10
6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithredu carbon sero-net a’r rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog addysg ar weithredu carbon sero net a'r rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Galwaf ar Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Drwy ein rhaglen flaenllaw ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £1 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf er mwyn helpu i gyflawni 180 o brosiectau i wella ysgolion a cholegau neu adeiladu rhai newydd. Mae'r llwyddiannau hyn yn adlewyrchu ein partneriaeth gydweithredol gref gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, colegau, ColegauCymru ac awdurdodau esgobaethol. Mae wedi caniatáu i benderfyniadau strategol gael eu gwneud yn lleol ar flaenoriaethau buddsoddi mewn addysg ledled Cymru. Fel un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd a'n bwriad i fod yn genedl carbon isel, rydyn ni nawr wedi cyrraedd man allweddol o ran ein buddsoddiad yn ein hystâd addysg.

Rydyn ni’n adeiladu ar sylfaen gadarn. Mae'r rhaglen wedi dangos lefel uchel o ymrwymiad at gynaliadwyedd a datgarboneiddio, gan dargedu sgôr 'rhagorol' o dan BREEAM, dull asesu amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu ar gyfer adeiladau newydd. Rwy'n falch o ddweud nad prosiectau adeiladu newydd yw'r unig rai ag ymrwymiad at gynaliadwyedd, gan fod angen i bob prosiect cyweirio ac ymestyn hefyd gael sgôr ynni A. Ar ben hynny, roedd gofyn i bob prosiect o dan fandiau A a B gael o leiaf 15 y cant o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.

Drwy weithredu mewn ffordd gyson, drawsbynciol, mae'r rhaglen wedi darparu llwyfan i ymgorffori'r Gymraeg yn ogystal â meysydd polisi eraill, fel teithio llesol, bioamrywiaeth, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, y gymuned a'r cwricwlwm, i enwi dim ond rhai. Mae'r rhaglen wedi gweithredu fel cyfrwng i sicrhau'r gwerth mwyaf posib o fuddsoddiadau ar draws ein hystad addysg yng Nghymru, ac, wrth wneud hynny, mae wedi darparu model cynaliadwyedd i eraill ei ddilyn. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd da hwn, mae dyletswydd arnom ni i wneud mwy—llawer mwy—os ydyn ni am fynd i'r afael ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar ein planed, ac ar genedlaethau'r dyfodol.

Gydag wythnos gyntaf Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig dan ei sang yn Glasgow, mae'n bleser gen i ddweud bod ein huchelgais i ddatblygu adeiladau addysg carbon sero net hefyd yn dod ymlaen yn dda. Drwy ein rhaglen rydyn ni eisoes yn darparu'r ysgolion carbon sero net cyntaf yng Nghymru. Fe ymwelais â'r cyntaf o'r rhain, Ysgol Gynradd Llancarfan, ddoe. 

Er mwyn adeiladu ar hyn, rwy'n cyhoeddi heddiw, o 1 Ionawr 2022, y bydd yn ofynnol i bob prosiect adeiladu, adnewyddu ac ymestyn mawr sy'n gofyn am gymorth ariannol drwy'r rhaglen, ddangos sut y mae'n cyflawni carbon sero-net, ynghyd â gostyngiad o 20 y cant ar faint o garbon a ymgorfforir—hynny yw, y carbon a allyrrir drwy ddeunyddiau adeiladu a'r broses adeiladu. Hefyd, er mwyn manteisio i'r eithaf ar ysgolion a cholegau carbon sero-net, bydd gan bob cynnig gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer bioamrywiaeth, teithio llesol a chyfleusterau gwefru cerbydau trydan. Rydym yn gweithio gyda'r bwrdd teithio llesol i sefydlu gofynion sylfaenol ar gyfer ysgolion a cholegau newydd i gefnogi 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021'.

I fod yn glir, bydd y gofyniad carbon sero-net yn berthnasol i bob cynnig achos busnes nad yw wedi cael ei gymeradwyo yn ystod y cam achos busnes amlinellol erbyn 1 Ionawr 2022. Rwy'n deall, wrth gwrs, y gallai cyflawni'r nod hwn effeithio ar gost gyffredinol prosiectau. Fodd bynnag, mae'r gost o beidio â chymryd unrhyw gamau yn debygol o fod yn llawer mwy. Felly, rwyf eisiau anfon neges glir at ein dysgwyr ifanc ein bod yn gwrando, ac ein bod yn gweithredu. I'r perwyl hwn, rwyf yn ehangu'r cynllun treialu carbon sero-net, a fydd yn parhau i ariannu 100 y cant o'r costau ychwanegol i gyflawni'r ymrwymiad carbon sero-net o dan y don bresennol hon o fuddsoddiad.

Mae angen i ni sicrhau bod ymrwymiadau cynaliadwyedd a datgarboneiddio yn rhan annatod o'n bywyd bob dydd. Mae hyn yn arbennig o wir am aelodau iau ein cenedl. Mae angen i ni ddarparu ffordd effeithiol iddyn nhw ddysgu am yr amgylchedd o'u cwmpas, gan gynnwys yr adeiladau y maen nhw'n dysgu ynddyn nhw. Gwelais enghreifftiau o hyn yn ystod yr ymweliad ddoe. Mae tîm y prosiect wedi datblygu adnoddau addysgu a fydd yn rhoi cipolwg ar garbon sero-net, sydd yn gysylltiedig â'n cwricwlwm ac sy'n darparu cyswllt pendant rhwng y dechnoleg yn eu hysgol newydd a sut mae hyn yn effeithio ar yr amgylchedd o'u cwmpas. Mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli nad yw'r ymrwymiadau hyn yn ymwneud â buddsoddi mewn adeiladau yn unig, maen nhw hefyd yn ymwneud â buddsoddi yn y bobl sy'n gweithio ac yn dysgu ynddyn nhw.

Wrth symud ymlaen, byddaf yn disgwyl i awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach, ynghyd â'u timau dylunio a darparu, weithio'n agos gyda'n plant, ein pobl ifanc a'n staff fel eu bod yn cael y cyfle i helpu i gynllunio eu hamgylchedd dysgu. Dyna pam yr wyf hefyd yn cyhoeddi heddiw y byddwn yn sicrhau bod cronfa her ysgolion cynaliadwy ar gael i ysbrydoli'r gwaith o gyflwyno nifer o ysgolion cynradd arloesol a chynaliadwy sydd mewn cytgord â'u hamgylchoedd naturiol. Dyma gyfle clir i adeiladu ar gwricwla ysgolion, gan gydnabod mai un o bedwar diben Cwricwlwm Cymru yw galluogi dinasyddion gwybodus a moesegol. Mae cynaliadwyedd yn orfodol o fewn Cwricwlwm newydd Cymru a bydd yn rhan o addysg pob dysgwr drwy gydol ei daith ddysgu. Bydd ysgolion sy'n elwa ar y gronfa yn cynnwys dysgwyr wrth ddatblygu neu weithredu atebion cynaliadwy ac amgylcheddol fel rhan o'u dysgu. Byddaf yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y gronfa her gyffrous hon cyn bo hir.

Yn olaf, er bod rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain wedi mabwysiadu ymagwedd organig tuag at gynaliadwyedd a datgarboneiddio, teimlaf mai dyma'r amser iawn i ystyried newid ein brand fel ei fod yn gwneud datganiad clir am ein hymrwymiadau ar gyfer yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol. Gyda hynny mewn golwg, bydd 1 Ionawr 2022 yn gweld enw newydd ar gyfer y rhaglen, sef 'cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu'.

17:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Gweinidog. Rydym yn llwyr gefnogi eich datganiad o'r meinciau hyn, gan ein bod yn rhannu eich teimladau, eich nodau a'ch amcanion yr ydych wedi'u hamlinellu yn eich datganiad. Mae angen i ostwng yr effaith ar yr amgylchedd ac ymladd newid hinsawdd fod wrth wraidd popeth a wnawn nawr. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i chwarae ein rhan i adael y byd yn y cyflwr gorau posibl ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, felly'r nod o wneud amgylcheddau ysgol ein plant a'n pobl ifanc yn sero-net yw'r peth iawn i'w wneud, felly hefyd cynyddu eu mewnbwn yn eu datblygiadau. Fodd bynnag, mae'r costau ychwanegol yn sylweddol, ac er mwyn dod yn ysgolion sero-net, bydd angen 10 neu 15 y cant yn ychwanegol arnoch ar ben cost adeiladu'r ysgol beth bynnag.

Rydym wedi gweld ymrwymiadau gwirioneddol wych i'r nod o sero-net gan ein hawdurdodau lleol, ac fel cynghorydd presennol yng Nghyngor Sir Fynwy, dylwn ddatgan hynny, ond gwn fod Cyngor Sir Fynwy wedi dangos ei ymrwymiad llwyr i sicrhau sero-net drwy ymrwymo i ysgol garbon sero-net yn y Fenni. Ond mae'n amlwg ei fod yn mynd i wynebu brwydr, yn yr hinsawdd bresennol, i fforddio'r uchelgais hwn. A ydych yn credu, Gweinidog, y dylai awdurdodau lleol orfod wynebu trafferthion pan fydd eu hymrwymiad i'n hamcan cyffredin yn glir?

Os yw'r Llywodraeth hon wedi gwir ymrwymo i'r amcanion a'r dymuniadau a nodir yn y datganiad hwn, onid Llywodraeth Cymru ddylai dalu'r holl gostau i hybu adeiladau newydd sero-net ac i alluogi ysgolion i addasu i gyflawni'r un nod? Dywedwch yn eich datganiad eich bod yn deall y gallai cyflawni'r nod hwn effeithio ar gostau cyffredinol prosiectau, gyda'r costau sylweddol a ddaw yn sgil cyflawni sero-net, credaf fod hyn, efallai, yn danddatganiad, Gweinidog.

Er bod eich cynlluniau'n uchelgeisiol, maen nhw hefyd yn ddymunol, ond byddan nhw'n methu, Gweinidog, os na sicrheir bod cyllid ychwanegol ar gael i ysgolion ac awdurdodau lleol ar gyfer y prosiectau bioamrywiaeth a'r cyfleusterau gwefru cerbydau trydan ymhlith y llu o newidiadau eraill yr ydych yn disgwyl eu gwneud mewn unrhyw gynlluniau newydd. Ar ben y costau ychwanegol i gael ysgolion yn sero-net, bydd sefydlu gofynion sylfaenol newydd o 2022 ymlaen i gyd yn dod gyda chost ynghlwm. Pwy sy'n mynd i dalu am hyn? Dywedwch eich bod yn ehangu'r cynllun treialu carbon sero-net, ond am ba hyd? Dim ond am y ddwy flynedd nesaf a'r don bresennol hon o dan fand B, neu a fydd hyn yn parhau drwy fand C ar 100 y cant? Ac a fydd band C? Rwy'n credu bod arnom angen ychydig mwy o eglurder ynglŷn â hynny, Gweinidog, os gwelwch yn dda. A phryd y byddwch mewn sefyllfa i nodi beth fydd eich cynlluniau ar gyfer y band C hwnnw os yw am barhau fel y gall awdurdodau lleol baratoi?

Cyhoeddwyd Band B o ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, wrth gwrs, yn 2017. Cyflwynodd awdurdodau lleol eu cynlluniau amlinellol strategol ar gyfer yr ysgolion yr oeddent eisiau eu hadeiladu neu eu hadnewyddu rhwng 2019-24. Nid oedd sero-net hyd yn oed bryd hynny ymhlith y telerau ac amodau, ac mae llawer o'r ysgolion hyn bellach wedi'u cwblhau. Ac er fy mod yn cytuno â chi y dylai'r rhai sy'n cael eu datblygu fod yn sero-net erbyn hyn, y realiti yw y bydd hyn yn ychwanegu 10 i 15 y cant yn ychwanegol ar ben y gost, fel yr wyf wedi dweud, sy'n gost eithaf swmpus. Felly, a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, a fydd Llywodraeth Cymru yn talu'r costau ychwanegol hynny?

Rydych chi hefyd wedi cyhoeddi y bydd ysgolion newydd yn sero-net erbyn y mis ar ôl nesaf. Beth am ysgolion sydd eisoes yn cael eu hadeiladu? Mae'r ysgolion hyn wedi bod yn cael eu datblygu ers blynyddoedd. Ni all eu cynlluniau newid ar fyr rybudd, ni waeth pa mor deilwng o sylw yw datganiad o'r fath heddiw, datganiad sydd i'w groesawu. Er bod rhai ysgolion yn elwa ar raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae canran yr ystad gyffredinol yn fach iawn o hyd. Felly, Gweinidog, er mwyn cyflawni ein nodau ar y cyd, mae angen addasiadau ac arian ar bob ysgol i ddod yn sero-net. Felly, sut y mae'r Gweinidog yn rhagweld rhaglen i helpu mwy o ysgolion i fod yn effeithlon o ran ynni, ôl-osod hen foeleri, gosod goleuadau LED a gosod ffynonellau ynni?

Mae gweithio gyda'n plant a'n pobl ifanc ar y prosiectau hyn yn gwbl sylfaenol i lwyddiant, fel yr ydych wedi'i amlinellu, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar hynny, ac mae'n wych bod cynaliadwyedd yn rhan annatod o'n cwricwlwm newydd. Byddwn yn croesawu'r syniad am gronfa her ysgolion cynaliadwy yr ydych newydd ei chyhoeddi a'i bwriadau, ond faint o arian fydd yn y gronfa hon, Gweinidog? Yn fras faint o ysgolion fydd yn gallu manteisio ar y gronfa, oherwydd onid yw hyn yn rhywbeth yr ydych eisiau i bob ysgol ei gyflawni, nid dim ond yr ychydig a fydd, efallai, yn elwa ar ei gyflawni? Er bod hyn yn swnio'n wych, mae arnom angen mwy o fanylion, ac edrychaf ymlaen at y manylion hynny, wrth symud ymlaen.

Mae rhai o'r ysgolion sydd wedi deillio o'r cydweithio hwn gydag awdurdodau lleol, CLlLC, ysgolion a cholegau ledled Cymru wedi cynhyrchu rhai ysgolion anhygoel. Ymwelais â Threfynwy, ag Ysgol Gyfun Cil-y-coed, yn etholaeth fy nghyd-Aelod Peter Fox yn ddiweddar, ac maen nhw'n wirioneddol drawiadol. A fydd cyllid ychwanegol iddyn nhw ddatblygu ymhellach i gael y statws sero-net hwnnw? Nid yw'n deg cyhoeddi cyfarwyddebau gan Lywodraeth Cymru unwaith eto yn ystod y cyfnod hwyr hwn yn y cynllun a rhoi beichiau ariannol newydd ar awdurdodau lleol ac ysgolion. Felly, rwy'n gobeithio y gallwch gadarnhau yn awr i mi, Gweinidog, y bydd eich amcanion a nodir yn y datganiad hwn mewn gwirionedd, er nad ydych wedi'i ddatgan, yn cael eu hategu gan arian i dalu'r holl gostau i dalu am bob nod ac amcan. Diolch.

17:20

Rwy'n credu bod yr Aelod wedi gofyn pedwar cwestiwn, a siarad yn fras—atebwyd dau ohonyn nhw yn y datganiad, ac ni atebwyd y ddau arall. Felly, dim ond i gadarnhau, fel yr eglurais yn y datganiad, fod cydnabyddiaeth glir o gostau ychwanegol manyleb carbon sero-net, ac rwy'n cydnabod y ffigurau a nododd yn ei chwestiwn. Yn union yn yr un ffordd yr ydym wedi talu'r costau hynny fel costau ychwanegol yn y cynlluniau treialu sero-net yr ydym wedi bod yn eu cynnal mewn gwahanol rannau o Gymru, fel y nodais yn fy natganiad, byddwn yn parhau i dalu'r costau hynny o ran ysgolion sy'n cyflwyno'u hunain o dan y fanyleb newydd o fewn y don bresennol hon o fuddsoddiad. Y pwynt yw, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol, pan fydd manyleb unrhyw waith adeiladu, yn wir—ond yn y cyd-destun hwn, ysgolion—yn newid, mae goblygiad cost i hynny i ddechrau, am resymau y byddwch yn eu deall, ond mae'r gost honno, yn y pen draw, yn lleihau ac yn dod yn rhan o'r fanyleb safonol, a disgwyliwn y bydd hynny'n digwydd yn yr achos hwn hefyd. Ond yn y tymor byr, wrth i'r farchnad addasu i'r fanyleb ac wrth i'r gadwyn gyflenwi addasu iddi, rydym yn cydnabod yr angen i gefnogi'r buddsoddiad hwnnw, a dyna pam y gwneuthum yn glir yn fy natganiad y byddem yn parhau i ariannu 100 y cant o gostau ychwanegol yr ymrwymiad carbon sero-net o dan y don bresennol hon.

O ran ysgolion sydd yn y system ar hyn o bryd, sef ei hail gwestiwn, eglurais yn fy natganiad y bydd y gofyniad yn berthnasol i bob cynnig achos busnes nad yw wedi cael ei gymeradwyo ar gam achos busnes amlinellol erbyn 1 Ionawr 2022. Felly, os yw'r ysgol eisoes yn cael ei hadeiladu, drwy ddiffiniad, mae eisoes wedi pasio'r cam hwnnw. Felly, gobeithiaf fod hynny'n egluro'r pwynt hwnnw i'r Aelod.

O ran y ddau bwynt arall a gododd, y mae'r ddau ohonyn nhw yn bwyntiau pwysig iawn yn fy marn i, mae'n wir dweud, yn amlwg, fod rhannau helaeth o ystad ysgolion Cymru yn adeiladau hŷn, ac felly mae'n gwneud pwynt pwysig ynghylch sut y gallwn sicrhau bod yr ysgolion hynny hefyd yn gallu chwarae eu rhan yn y daith yr ydym arni tuag at Gymru sero-net. Mae'r cynllun a gyhoeddodd y Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yr wythnos diwethaf yn ei gwneud yn glir bod gwaith i'w wneud i fapio ystad ysgolion Cymru i ddeall, mewn gwirionedd fesul ysgol, beth yw'r anghenion, ac a fydd wedyn yn darparu llwyfan ar gyfer rhaglen ôl-osod, yn effeithiol. Ond mae hynny'n uchelgais tymor hwy, a dweud y gwir, ac mae'n uchelgais llawer mwy cymhleth.

Roeddwn yn siarad â phobl yn yr ysgol yn Llancarfan ddoe am yr heriau, os ydych yn mynd i gyflwyno pwmp gwres ffynhonnell aer mewn ysgol hŷn, nid yw'n fater o osod y pwmp yn unig; mae'n ymwneud â'r system ddosbarthu, mae'n ymwneud ag insiwleiddio yn yr ysgol, felly mae'n brosiect llawer mwy cymhleth. Ond amlinellir y gwaith hwnnw yn y cynllun a gyhoeddodd y Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yr wythnos diwethaf.

O ran y gronfa her ysgolion cynaliadwy, byddaf yn sicrhau bod mwy o fanylion ar gael yn amlwg am hyn yn y modd y mae'n gofyn yn y cwestiwn. Mae'r cwestiynau y mae'n eu codi yn gwestiynau cwbl ddilys, yn amlwg. Mae'n gwneud y pwynt sef oni ddylai pob ysgol fod yn y categori hwn. Mae'n debyg mai fy safbwynt i yma yw y byddem yn disgwyl i'r ysgolion hyn fod yn arbennig o arloesol wrth ddefnyddio'r cynhyrchion, er enghraifft. Felly, efallai y byddwch yn dychmygu adeiladu â phren a mathau eraill o ffyrdd eithaf arloesol o adeiladu, a dylunio, yn cael ei wneud ar y cyd â defnyddwyr yr ysgol. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym eisiau ei wneud yw deall sut y gall y cysyniad hwnnw weithio'n ymarferol ac yna cymryd y rhannau ohono sy'n gweithio a'u gweithredu'n ehangach. Felly, dyna'r meddylfryd y tu ôl iddo, a gobeithio, pan gaiff y cynllun ei lansio yn y pen draw, y bydd diddordeb ym mhob cwr o Gymru. Rwy'n sicr yn gobeithio y gwelaf i hynny.

17:25

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y datganiad. Fel rydyn ni'n gwybod, ac fel rydych chi wedi sôn eisoes, mae hi'n wych gallu codi adeiladau newydd sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, ond mae angen inni fod yn ôl-ffitio ein stoc bresennol ni o adeiladau er mwyn lleihau allyriadau mewn ffordd ystyrlon, fel rhan o'r ymdrech i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. A fedraf i ddim pwysleisio'r pwynt yma ddigon heddiw yma: mae adroddiad gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, er enghraifft, yn nodi y gallai 40 y cant o gyfanswm yr allyriadau ddod o waith adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys ysgolion, colegau, nifer fawr o adeiladau sydd yn perthyn i'r sector addysg. Ac mae'r bwrdd yn dweud bod rhaid i'r rhan fwyaf o'r ymdrech i ddatgarboneiddio ganolbwyntio ar ôl-ffitio effeithlonrwydd ynni ar adeiladau sy'n bodoli eisoes yn hytrach nag ar yr adeiladu o'r newydd. Felly, buaswn i'n licio gwybod lle ydych chi'n gosod y balans yna. Mae rhywun yn gwybod bod yna fendithion mawr i gael o adeiladau newydd, ond ar y llaw arall, os ydyn ni'n derbyn tystiolaeth Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, a ddylid rhoi cymaint o bwyslais ar yr agwedd yna, ynteu ydy'r agwedd yma o ddatgarboneiddio'r ystâd bresennol angen bod ar flaen ein meddyliau ni yn ogystal? Ac rydych chi'n sôn eich bod chi yn mapio'r gwaith sydd angen ei wneud o safbwynt hynny, ac yn mynd i fod yn creu cynllun datgarboneiddio'r stoc bresennol, ond mae yna frys, onid oes? Felly, beth ydy'r amserlen ar gyfer hynny, a beth fydd y cerrig milltir ar y daith yna? Sut fyddwch chi'n mynd ati i flaenoriaethu'r prosiectau angenrheidiol yna?

A mater arall sydd angen sylw brys ydy sgiliau'r gweithlu, wrth gwrs. Ac mae'n debyg bod yna adroddiadau di-rif erbyn hyn sydd yn sôn am y nifer o weithwyr newydd ychwanegol rydyn eu hangen yng Nghymru dim ond i ateb y galw presennol o safbwynt 'retrofit-io' ac yn y blaen. A dwi'n cyfeirio eto at y Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, ac maen nhw, mewn adroddiad cafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth eleni, yn dangos y bydd angen 12,000 o rolau ychwanegol ym maes adeiladu Cymru erbyn 2028, sydd ddim yn bell i ffwrdd, i ddarparu net sero, gan ganolbwyntio ar ôl-ffitio domestig, ac mae hynny yn gynnydd o 12 y cant yn y gweithlu. Ac felly, hoffwn i wybod beth ydy eich blaenoriaethau chi yn y maes yma. Sut ydych chi fel Gweinidog addysg yn bwriadu gweithio tuag at gynyddu'r gweithlu yma? Clywsom ni Weinidog yr Economi'n sôn am yr angen i weithio hefo'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ond mae angen mwy na hynny, mae'n debyg, onid oes? Felly, buasai'n dda clywed pa gynlluniau sydd gennych chi yn arbennig ar gyfer cynyddu'r gweithlu, a fydd, yn eu tro, yn ein helpu ni i ddatgarboneiddio nid yn unig yn y sector addysg, ond ar draws ein hystad sector cyhoeddus ni?

Ac yn olaf, dwi hefyd eisiau gwybod mwy am y gronfa her ysgolion cynaliadwy. Rydych chi'n dweud mai ei phwrpas hi ydy sbarduno nifer o ysgolion cynradd arloesol a chynaliadwy sydd yn rhan o'u hamgylchedd naturiol. Rydych chi'n cyfyngu'r gronfa yma i'r cynradd yn unig, dwi'n credu. A gawn ni ddeall pam, felly, nad ydych chi am gynnwys yr ysgolion uwchradd a'r colegau ac yn y blaen? Rydych chi'n dweud hefyd y bydd yr ysgolion sy'n manteisio ar y gronfa yn cynnwys dysgwyr wrth ddatblygu neu weithredu systemau cynaliadwy ac amgylcheddol fel rhan o'u dysgu, sydd yn werth chweil, wrth gwrs, ac rydyn ni'n croesawu hynny, ond ydych chi'n sôn yn fan hyn, jest i gael eglurder, am gronfa ar gyfer addasu adeiladu? Ydyn ni'n sôn am gronfa ar gyfer creu cynlluniau ar gyfer ysgolion newydd ar y cyd â dysgwyr, neu ydyn ni'n sôn am rywbeth mwy na hynny? Ydyn ni'n sôn am gael cynlluniau a syniadau arloesol o ran materion fel cadwyni bwyd lleol fel rhan o'r pecyn bwyd sydd ar gael mewn ysgolion? Ydyn ni'n sôn am deithio cynaliadwy i'r ysgol a'r math yna o beth? Achos dwi'n siŵr bod gan ein pobl ifanc ni lawer iawn o syniadau arloesol ac mae angen gwrando arnyn nhw, a gobeithio bydd y gronfa yn gallu sbarduno rhywfaint o hynny hefyd. Diolch yn fawr.

17:30

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau hynny. O ran y cwestiwn ynglŷn ag adeiladau newydd sbon neu'r ystad hynaf, mae gwahaniaeth, wrth gwrs, yn yr approach tuag at y ddau. Jest i fod yn glir, mae'r polisi rwy'n ei ddatgan heddiw hefyd yn cynnwys adnewyddiadau eang mewn ysgolion o unrhyw oedran fel petai, felly dyw e ddim yn gyfyngedig cweit yn y ffordd honno, ond mae'r pwynt cyffredinol mae'r Aelod yn ei wneud, wrth gwrs, yn bwynt teg.

O ran amserlenni'r gwaith retrofit ac ati, mae'r cynllun a gyhoeddwyd wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn sôn am ddatblygu cynllun strategol i ddatgarboneiddio adeiladau erbyn diwedd 2023, bod pob adeilad cyhoeddus â ffynhonnell wres carbon isel erbyn 2030 ac, os gallan nhw, yn creu eu hynni eu hunain hefyd. Felly, mae'r amserlen yn un hwy, ond am y rheswm mae'r Aelod efallai'n cydnabod yn y cwestiwn, sef bod lot mawr o'r ystad yn hŷn. Felly, mae angen mapio'r gwaith cyn ein bod ni'n gallu mynd ati i wneud hynny, ond mae'n elfen bwysig, wrth gwrs, o'r siwrnai rŷn ni arni tuag at fod yn genedl sero-net.

O ran sgiliau'r gweithlu, fe wnaf i gyfeirio'r Aelod at yr hyn wnaeth Gweinidog yr Economi ei ddweud, ond hefyd mae'n sicr yn rhan o'r agenda addysg bellach yma yng Nghymru. Ynghyd â'r datganiad hwn, yr wythnos hon, mae'r Bil yn cael ei gyflwyno ar gyfer diwygiadau ôl-16, ac un o'r cyfleoedd a'r sialensau mae hynny'n mynd i ganiatáu i fynd i'r afael ag e'n fwy effeithiol yw rhai o'r anghenion newydd yma yn ein heconomi ni, fel ein bod ni'n gallu ymateb mewn ffordd lot mwy hyblyg i'r galw am sgiliau newydd, fel petai, yn yr economi. Felly, mae hynny'n cyfrannu tuag at hynny.

O ran y gronfa her, y rheswm am ei chyfyngu yn y cam cyntaf i ysgolion cynradd yw bod y prosiectau efallai'n haws eu delifro a bod hynny'n dysgu gwersi inni ar gyfer prosiectau ehangach na hynny. Fe fues i'r wythnos diwethaf yn ysgol gynradd Nottage yn etholaeth Sarah Murphy i gwrdd â phlant fanna a oedd wedi cyfrannu at ddylunio ac adeiladu rhan o'u maes chwarae. Mae'n enghraifft fach—rŷn ni'n sôn am rywbeth lot fwy uchelgeisiol fan hyn—ond roedd e'n gwbl glir, o ran y cwestiwn olaf a wnaeth yr Aelod ddweud, fod y broses o ddysgu'r sgiliau a mynd i'r afael â'r adeiladu wedi dangos talentau a chreadigrwydd ymhlith y disgyblion, a oedd yn arloesol iawn. Felly, y bwriad yma yw cynllun cychwynnol sydd â ffocws ar ysgolion cynradd er mwyn dangos y cysyniad ehangach a dysgu o hynny fel ein bod ni'n gallu, gobethio, ehangu ar hynny.

17:35

Rwy'n anghytuno y bydd cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn costio mwy yn y tymor hir, oherwydd efallai y bydd cost tymor byr, wrth i adeiladwyr ymgyfarwyddo â'r holl ffyrdd newydd o adeiladu yr ydym eisoes wedi dangos eu bod yn gallu gweithio mewn tai cymdeithasol, ond, yn y tymor hwy, cytunaf yn llwyr â'r Gweinidog—ni allwn fforddio gwneud dim byd, oherwydd bydd ysgolion yn cael biliau ynni a biliau dŵr enfawr pryd y gallen nhw fel arall fod yn gwario'r arian ar lyfrau a dysgu. Felly, yr wyf yn croesawu'n llwyr y datganiad gan y Gweinidog.

Mae llawer iawn y bydd angen i ni ei wneud, ond mae llawer iawn o ysgolion sydd â darnau o dir sylweddol ynghlwm wrthyn nhw sydd ag amgylcheddau dysgu awyr agored diflas iawn, a gallan nhw wneud mwy ynghylch hynny heb symiau enfawr o arian, mae'n rhaid iddyn nhw feddwl ychydig amdano. A meddyliwch, yn hytrach na gorfod gwario £600 y flwyddyn ar fws ysgol, y gallech wario £600—mae'n ddrwg gennyf, £400 y flwyddyn—ar brynu beic. Mae'r manteision hirdymor i'r unigolyn ac i'r teulu hwnnw yn enfawr. Credaf fod angen rhoi sylw arbennig i ysgolion canol dinas Fictoraidd neu Edwardaidd, oherwydd bydd ôl-osod yn gymhleth iawn ac, yn ogystal â hynny, nid oes ganddyn nhw'r capasiti i ehangu, oherwydd maen nhw wedi'u hamgylchynu gan adeiladau eraill, felly mae creu'r amgylchedd dysgu sydd ei angen arnom i sicrhau bod pob person ifanc yn sylweddoli heriau a chyfleoedd y Gymru sero-net yn llawer mwy heriol.

Felly, am wn i hoffwn wybod sut yr ydych yn mynd i ddefnyddio'r holl fenter ragorol hon i sicrhau nad yw swyddi gwyrdd newydd ar gyfer y rhai sy'n llai abl yn academaidd yn unig, ond i bawb, mai dyma'r dyfodol os ydym mewn gwirionedd yn mynd i wneud gwahaniaeth i'n cymdeithas: dylunio da, adeiladau da, cymunedau da. Felly, mae llawer iawn o waith y mae angen ei wneud mewn ysgolion.

Oes, ac rwy'n credu bod hyn yn gyfle, nid yn unig o safbwynt y cyfraniad y mae'r adeilad ei hun yn ei wneud i'n targedau mwy, ond mae cyfle pwysig iawn hefyd i ni ddeall yma y gallwn ddefnyddio'r datblygiad ei hun fel offeryn addysgu, os mynnwch. Roedd fy ymweliad ddoe ag ysgol gynradd Llancarfan yn enghraifft dda iawn o hyn. Yn anffodus, yn amlwg, oherwydd COVID, nid oedden nhw fel ysgol wedi gallu ymweld â'r safle, yn y ffordd yr oedden nhw wedi dymuno, ond yr oedden nhw'n disgrifio wrthyf y byddan nhw—. Pan fydd yr ysgol wedi'i chwblhau'n gynnar y flwyddyn nesaf, bydd codau QR wedi'u gosod mewn gwahanol fannau yn yr ysgol lle byddant yn gymorth addysgu, i bob pwrpas, i esbonio i ddisgyblion pam y mae'r adeilad wedi'i adeiladu yn y ffordd arbennig hon, beth yw canlyniadau hynny a bydd yn esbonio wrthyn nhw effaith amgylcheddol ehangach y dewisiadau a wnaed. Rwy'n credu bod hynny'n ffordd ysbrydoledig iawn o ymdrin â hyn, mewn gwirionedd, a chredaf fod llawer o botensial i ni geisio gwneud mwy a mwy o hynny.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt hynod o ddilys am y cyfyngiadau, efallai, ar rai o'n hysgolion hŷn oherwydd lle maen nhw wedi'u lleoli, ac nid oes capasiti i ehangu a datblygu yn y ffordd yr hoffem ni ei weld. Credaf mai dyna un o'r heriau yr wyf wedi bod yn ceisio'i hamlinellu o ran yr uchelgeisiau ôl-osod tymor hwy sydd gennym, ond mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud hynny fel rhan o'n nod ehangach o fod yn genedl sero-net.

Cyflawnir sero-net drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae effeithlonrwydd ynni adeiladau, fel y gŵyr y Gweinidog, yn un llwybr yn unig tuag at y targed hwnnw, ac mae ffactorau eraill hefyd yn bwysig, soniwyd am rai ganddo, megis bod teithio llesol a diogel i'r ysgol yn bosibl ac na ddylai rhaglen ysgolion newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain gynyddu'r defnydd o geir nac achosi mwy o dagfeydd na bod yn niweidiol i ansawdd aer, ac na ddylid adeiladu ar fannau cymunedol gwyrdd, megis caeau chwarae, nac ar ardaloedd lle mae perygl o lifogydd. O ystyried hyn, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau na fydd y Llywodraeth, felly, yn ariannu cynlluniau Cyngor Castell-nedd Port Talbot i adeiladu ysgol gynradd wych yng nghanol Pontardawe yng nghwm Tawe o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a fydd yn gwneud yr holl bethau hyn? Yn wir, nododd ymateb y swyddogion i bryderon ynghylch cynyddu'r defnydd o geir a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y cynlluniau hyn:

'Mae'r cynnig hwn yn cydnabod na fydd yn bosibl i rai plant gerdded neu feicio i'r ysgol.... Fodd bynnag, bydd cyfleoedd yn dal i fodoli trwy drefniadau cwricwlaidd ac allgyrsiol i ddisgyblion ddysgu am bwysigrwydd ffordd iach o fyw'.

Nid yw hynny'n ddigon da, nad yw? O, ond dywedoch fod hyn dim ond yn berthnasol i gynigion a gymeradwyir ôl mis Ionawr nesaf, Gweinidog, pan nad yw rhawiau yn y ddaear eto a chontractau heb eu llofnodi eto, fel sy'n wir am y cynllun hwn ym Mhontardawe, a allech chi ddweud wrthym pam mai dyna yw'r sefyllfa?

17:40

Nid wyf yn siŵr fy mod yn deall y cwestiwn olaf, ond, ar y pwynt ehangach yr oedd yr Aelod yn ei wneud, gwn ei bod wedi ysgrifennu ataf yn ddiweddar ynglŷn â hyn. Bydd hefyd yn gwybod, oherwydd y ffaith bod yr ysgol y mae'n cyfeirio ati yn ysgol yn fy etholaeth i, ychydig lathenni o fy swyddfa, gwn ei bod yn deall, am resymau cod gweinidogol, na allaf ateb y cwestiwn yna, ond bydd yn cael ymateb i'r llythyr y mae wedi'i anfon ataf gan Weinidog arall o ganlyniad i hynny.

Rwy'n gobeithio y byddai hi'n cefnogi'r uchelgais a ddisgrifir yn y datganiad heddiw. Rwy'n credu ei fod yn gyfraniad arwyddocaol iawn at sut y gall prosiectau yn y dyfodol gyfrannu at ein nodau uchelgeisiol iawn o fod yn Gymru sero-net.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n sicr yn croesawu'r cyhoeddiad hwn heddiw. Rwy'n credu eich bod yn iawn i roi addysg ar frig y rhestr o ran cynaliadwyedd amgylcheddol, oherwydd mae'n newid cenedliadol sydd ei angen. Ceir enghreifftiau o blant yn cymryd rhan fawr yn y prosiect GlawLif yn ysgolion Llanelli, ac mae'r plant wedi'u cyfareddu ganddo ac maen nhw'n dysgu mathemateg yn ei sgil a llawer am eu hamgylchedd. Ac mae hynny'n ymwneud â dŵr wyneb.

Gan fod gennyf amser byr iawn, mae rhai pethau yr wyf eisiau eu codi o ran yr adeilad addysg carbon sero-net. Wrth gwrs, bu'n rhaid i ni gael y gweithlu, yna bu'n rhaid i ni gael y deunyddiau, ac mae'n rhaid i'r deunyddiau hynny fod yn lleol fel y gallwn gyflawni'r prosiectau. Ond mae edrych ar y safleoedd yr un mor bwysig. Ni ddylen nhw fod yn safleoedd tir glas, a dylen nhw fod yn safleoedd sy'n hygyrch i'r gymuned, mewn ffordd y mae Jenny eisoes wedi sôn amdani, lle gall pobl naill ai gerdded neu feicio. A dwi'n gwybod bod hynny'n rhan o'r hyn yr ydych yn ei ystyried. Ond ni allwn guddio rhag y ffaith mai'r sector cyhoeddus, mae'n debyg, yw'r cyfle mwyaf sydd gennym i sbarduno newid yn y diwydiant adeiladu yma yng Nghymru, ac rwy'n ei groesawu'n fawr.

Diolch i Joyce Watson am ei chroeso i'r datganiad yn gyffredinol, a chredaf ei fod yn dangos ei hymrwymiad hirdymor i'r agenda hon hefyd. Rwyf yn rhannu pwysigrwydd y pwynt y mae'n ei wneud ynghylch galluogi datblygiad ein hysgolion yn y dyfodol i sicrhau'r cyfleoedd gorau i rieni a dysgwyr ddefnyddio llwybrau eraill i'r ysgol sy'n ecogyfeillgar, ac fe'm calonogir gan y gwaith yr ydym yn ei wneud gyda'r bwrdd teithio llesol i sicrhau'r manteision gorau, mewn cysylltiad â'n hystad ysgol bresennol ond hefyd mewn cysylltiad â manyleb sylfaenol newydd ar gyfer ysgolion newydd i'r dyfodol, a fydd yn adlewyrchu'r egwyddorion yn y strategaeth drafnidiaeth 'Llwybr Newydd'. Ond, fel yr oedd Jenny Rathbone hefyd yn dweud, mae cyfle o ran y cwricwlwm yma hefyd, mi gredaf, sef defnyddio'r datblygiadau hyn yn y dyfodol fel ffordd o alluogi ein dysgwyr ifanc i gael dealltwriaeth lawn o ba mor bwysig yw hi i wneud y cyfraniadau teithio llesol hynny at eu dysgu.

Diolch, Weinidog.

Cyn i ni symud ymlaen at eitem 7, hoffwn atgoffa'r Aelodau fy mod yn gwybod ei bod yn anodd i aelodau meinciau cefn allu gofyn cwestiynau mewn munud, oherwydd yr wyf wedi bod yno, a gwn am yr anhawster o ran amseru, ond a gaf i atgoffa'r Aelodau, os defnyddiwch eich dyraniad llawn ar gyfer eich cyd-destun, rydych yn defnyddio dyraniad rhywun arall i ofyn eich cwestiwn? Heddiw, rydym wedi cael y cwestiynau yn yr amser a roddwyd, ond rydym wedi bod mewn sefyllfaoedd lle nad ydym wedi gallu gwneud hynny oherwydd bod nifer yr Aelodau sy'n dymuno siarad yn fwy. Os ewch chi dros eich amser fe fyddwch chi'n cymryd amser rhywun arall yn y sefyllfaoedd hynny. A wnewch chi felly gadw eich cyfraniadau o fewn yr amser a ddyrannwyd fel y gallwn gael cynifer o bobl sydd eisiau siarad â phosibl, os gwelwch yn dda? Ac mae wedi digwydd yn y ddau ddatganiad y prynhawn yma.

A gaf i godi pwynt o drefn? Roedd yr amser a neilltuwyd ar gyfer hwn hyd at 6.10 p.m., felly rwy'n poeni na chaniatawyd i Aelodau eraill siarad a hwythau wedi nodi eu bod yn dymuno gwneud hynny.

Nid oes unrhyw Aelodau eraill na chawsant siarad. Dywedais ein bod wedi bod yn y sefyllfa honno o'r blaen, nid y tro hwn. Dywedais hefyd nad oedd angen hwnnw arnom y tro hwn, ond gallem fod mewn sefyllfa pryd bydd angen hwnnw. Ac nid yr amser a ddyrennir ar eich dalen, gyda llaw, oedd yr amser y cadwyd ato o reidrwydd; roeddem yn gwylio'r amser mewn amser real, mewn un ystyr.

17:45
7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y rhaglen ddatgarboneiddio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Eitem 7, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: diweddariad ar y rhaglen ddatgarboneiddio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fel y mae'r Aelodau'n ymwybodol, cafodd cynllun Cymru Sero Net Llywodraeth Cymru ei lansio'r wythnos diwethaf, 28 Hydref, a hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ran hanfodol iechyd a gofal cymdeithasol wrth gyfrannu at uchelgais gyfunol sector cyhoeddus Cymru i gyrraedd sero net erbyn 2030. Rydym ni'n gwybod bod angen gweithredu, nid yn unig oherwydd mai GIG Cymru yw'r allyrrydd sector cyhoeddus mwyaf, gan gyfrannu hyd at 40 y cant o allyriadau carbon y sector cyhoeddus, ond hefyd oherwydd bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol ar flaen y gad o ran ymateb i effaith yr argyfwng hinsawdd ar ganlyniadau iechyd.

Mewn ymateb i'r her hon, ym mis Mawrth eleni, cafodd 'Cynllun Cyflenwi Strategol ar gyfer Datgarboneiddio GIG Cymru' ei gyhoeddi; mandad clir ac uchelgeisiol ar gyfer gweithredu sy'n nodi ymrwymiadau allweddol ar gyfer cyflawni ledled ein hardaloedd allyriadau uchaf. Mae gan iechyd a gofal cymdeithasol ran arweiniol hanfodol ar y cyd o ran ysgogi a gwreiddio sero net ar draws popeth yr ydym ni'n ei wneud, ac wrth ddod â chymunedau Cymru gyda ni, oherwydd bod gan bob un ohonom ni ein rhan i'w chwarae. Rydym ni'n ymwybodol pa mor ddiflino y mae ein sector iechyd a gofal cymdeithasol wedi gweithio drwy gydol pandemig COVID-19, a bod pwysau ychwanegol y gaeaf o'n blaenau. Fodd bynnag, nid yw'r argyfwng hinsawdd wedi diflannu ac ni fydd yn diflannu ac mae'n rhaid ymateb iddo gyda'r un brys y mae'r pandemig wedi ei ofyn o'n sector.

Mae'r her eisoes wedi ei chroesawu ar draws y sector iechyd, ac mae'r ymroddiad sydd wedi ei ddangos gan grwpiau o feddygon, nyrsys, fferyllwyr a staff anghlinigol ledled Cymru sydd eisoes yn bwrw ymlaen â'r agenda hon ac yn datblygu eu grwpiau gwyrdd eu hunain i helpu eu lleoliadau gofal iechyd i weithredu'n fwy cynaliadwy wedi gwneud argraff arnaf i. Mae'r tîm yn Ysbyty Gwynedd, er enghraifft, wedi cychwyn treialon cyfarpar diogelu personol y mae modd ei ailddefnyddio; maen nhw wedi newid i nwyon anaesthetig sy'n achosi llai o lygredd ac wedi plannu coed a blodau gwyllt, gan gydnabod bod lleihau allyriadau a chynyddu mannau gwyrdd, yn ogystal â helpu i atal clefydau, mae ganddyn nhw fanteision lles sylweddol hefyd. Mae newid y nwy meddygol yn yr ysbyty hwn yn unig, wedi arbed tua'r hyn sy'n cyfateb i yrru 27,500 milltir y mis. Nid yw gwaith o'r fath yn unigryw, mae cynnydd rhagorol yn cael ei gyflawni ar draws ein sector iechyd. Mae data Cymru gyfan yn dangos y bu gostyngiad o 67 y cant yn ôl troed carbon nwyon anaesthetig ledled Cymru ers mis Mehefin 2019, ac mae gan bwyllgor rhwydwaith anaestheteg amgylcheddol Cymru y nod o gyrraedd 80 y cant bellach.

Mae gweithgarwch arall ar y gweill hefyd i gryfhau dull Cymru o ymdrin â gofal iechyd cynaliadwy ac i gefnogi datgarboneiddio mewn gofal sylfaenol ehangach. Bydd ein polisi o ofal iechyd darbodus, gyda'r nod o roi'r gofal cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir i gleifion, yn lleihau teithio a chysylltu'n ddiangen â chleifion lluosog.

Mae ein model gofal cyfunol, sy'n seiliedig ar frysbennu clinigol, yn darparu apwyntiadau dros y ffôn neu drwy fideo yn ogystal ag wyneb yn wyneb lle bo hynny'n briodol yn glinigol. Mae'r model cyfunol hwn yn fwy cyfleus i gleifion; mae'n helpu i atal y perygl o ledu clefydau ac yn lleihau teithiau diangen i gleifion. Mae hyn wedi ei alluogi gan fuddsoddiad mewn seilwaith a meddalwedd digidol, gan roi dewis i gleifion o ffyrdd mwy priodol a gwyrddach o gael gafael ar ofal a chyngor, ac mae eisoes wedi arwain at ostyngiad o dros 7 miliwn o filltiroedd teithio a dros 1.7 miliwn kg o allyriadau carbon. Mae hynny'n cyfateb i 289 o deithiau ledled y byd.

Rhan bwysig arall o'r ymdrech i helpu Cymru i gyrraedd sero net fydd lleihau a chael gwared ar allyriadau o drafnidiaeth sector cyhoeddus a'i fflyd. I'r perwyl hwnnw, mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi cael eu cyflwyno ar draws ystâd y gwasanaeth iechyd, ac fe fydd pwyntiau gwefru yn cael eu hystyried ym mhob project yn y dyfodol. Fe fydd adeiladau'r gwasanaeth iechyd yn cael eu diweddaru i fod yn fwy effeithlon o ran ynni, gyda chynlluniau trydan adnewyddadwy mawr ar waith ac ambiwlansys allyriadau isel neu drydan wedi'u caffael. 

Mae cyrff y sector cyhoeddus wedi ymrwymo gyda'i gilydd i fod yn fwy effeithlon o ran sut mae adeiladau a lleoliadau sector cyhoeddus yn cael eu defnyddio. Mae'r gwasanaeth iechyd yn arwain y ffordd fan hyn. Mae gwaith arloesol yn digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, lle mae'r tir y maen nhw wedi'i sicrhau ac wedi prynu yn mynd i greu fferm solar o 4 MW. Mae gan y fferm solar 10,000 o baneli ar 14 hectar o dir. Mae'n darparu pŵer i Ysbyty Treforys trwy gysylltiad gwifren preifat. Ysbyty Treforys yw'r ysbyty cyntaf yng Nghymru i wneud hyn, ac yn wir credir mai hwn yw'r cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatblygu ei fferm solar ar raddfa lawn ei hun. Fe fydd yn torri'r galw am drydan o dua £0.5 miliwn y flwyddyn gan leihau'r allyriadau carbon yn sylweddol ac ar ei anterth fe allai hefyd gyflenwi'r galw am drydan ar gyfer yr ysbyty cyfan.

Er bod cynnydd yn cael ei wneud, dim ond y dechrau yw'r 'Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru'. Mae'r sector gofal cymdeithasol hefyd wedi cychwyn ar ei daith datgarboneiddio, gyda gwaith wedi hen ddechrau i ganfod ei ôl troed carbon ac i lunio cynllun datgarboneiddio ar gyfer y sector erbyn mis Mawrth 2022. Mae arferion da eisoes yn cael eu nodi ar draws gofal cymdeithasol. Mae llawer o adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn symud i alwadau cartref ar sail clystyrau i leihau'r allyriadau, ac mae ôl troed carbon yn elfen allweddol o'r broses gaffael.

Yn Wrecsam, mae dull ffabrig yn gyntaf wedi ei fabwysiadu i wella perfformiad amgylcheddol ac effeithlonrwydd ynni adeiladau gofal cymdeithasol. Mae awdurdodau lleol eraill, fel Casnewydd a sir y Fflint, wedi gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi trwy osod paneli trydan solar arnyn nhw. Mae’r sector gofal cymdeithasol wedi’i gynrychioli’n dda ac yn gweithio'n galed wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mae wedi ymrwymo i’w ymdrechion cyfunol o fewn uchelgais y sector cyhoeddus i gyrraedd sero net erbyn 2030.

Mae'r pandemig wedi ein hatgoffa ni fod angen i'n gwasanaethau fod yn hyblyg ac yn barod ar gyfer heriau'r dyfodol. Rŷn ni hefyd wedi ymrwymo i baratoi Cymru ar gyfer tywydd poethach a gwlypach yn y dyfodol. Mae gwaith wedi'i gomisiynu i ddiweddaru cyngor a chanllawiau iechyd y cyhoedd ar risgiau newid hinsawdd, ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf o'r effaith ar iechyd y cyhoedd yn sgil gwres, oerfel a llifogydd eithafol, a chlefydau sy'n cael eu cludo gan fectorau. Yn ogystal, bydd prosesau ar gyfer rhoi cyngor iechyd y cyhoedd am amodau tywydd eithafol difrifol yn cael eu diweddaru i gynnwys gwasanaethau rhybudd newydd y Swyddfa Dywydd i roi'r wybodaeth orau posibl i'r cyhoedd. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

17:50

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, wrth i'r byd ganolbwyntio ar ein hargyfwng hinsawdd—a dyna beth ydyw—rwy'n credu ei bod yn iawn i ni drafod hyn yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, yn hynny o beth, rwy'n croesawu'r datganiad heddiw.

Ar ddechrau eich datganiad, Gweinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at GIG Cymru fel yr allyrrydd sector cyhoeddus mwyaf, gan gyfrannu hyd at oddeutu 40 y cant o allyriadau carbon y sector cyhoeddus. Roeddwn i'n edrych ar rywfaint o ymchwil ddiweddar gan Ipsos MORI, a'r hyn yr oedd yr ymchwil honno wedi ei ddarganfod oedd, i raddau helaeth—ac mae hyn ledled y DU, nid yn unig o ran GIG Cymru—bod yr uchelgais net-sero ar gyfer y GIG yn cael ei chroesawu ledled y DU, ond bod diffyg ymwybyddiaeth gan y cyhoedd. Felly, ar ôl esbonio iddyn nhw beth yw uchelgeisiau'r GIG, yna mae wedi cael llawer iawn o gefnogaeth gyhoeddus a phrin iawn y bu'r gwrthwynebiad. Yr hyn a oedd yn arbennig o berthnasol i'r ymchwil hon, mae'n debyg, oedd bod ymdrin â newid hinsawdd yn isel ar restr flaenoriaethau'r cyhoedd ar gyfer y GIG. Felly, nid yw hyn yn wir mewn meysydd eraill, ond mae hi yn y maes arbennig hwn. Felly, tybed, Gweinidog, beth allwch chi ei wneud a beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i amlygu a phwysleisio'r agenda gynaliadwyedd yng nghyd-destun GIG Cymru.

Gweinidog, mor aml rwy'n gweld datganiadau a thrafodaethau yn y Siambr hon ynghylch y meysydd hyn sy'n canolbwyntio'n fawr ar adeiladau newydd, ac rwy'n ymwybodol iawn o stoc ac adeiladau presennol y GIG hefyd. Rwy'n gallu gweld y bu ymgynghorydd yn Ysbyty Gwynedd yn sôn yn ddiweddar am dymheredd yn cyrraedd 30 gradd mewn rhai rhannau o'r ysbyty. Cyfeiriodd at hen ffenestri gwydr sengl heb eu hinsiwleiddio a gafodd eu gosod yn y 1980au. Felly, ie, y pwynt y mae'n ei wneud yw'r tymheredd uchel hynny ac mae'n debyg y gost, onid yw, ar gyfer y systemau aerdymheru, ac yna ym misoedd oerach y gaeaf, gost colli'r ynni hwnnw allan o ffenestri anaddas. Rwy'n meddwl am ysbytai yn fy etholaeth fy hun fel y Drenewydd. Cafodd yr adeilad hwnnw ei godi cyn i'r GIG gael ei greu hyd yn oed, felly tybed yn hynny o beth a allech chi efallai ehangu eich syniadau o ran ymateb i'r angen i ddiweddaru adeiladau a stoc bresennol y GIG yng nghyd-destun yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud.

Ac yna, y mater olaf y byddaf i'n ei godi hefyd yw teithio ar gyfer apwyntiadau. Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am apwyntiadau digidol neu apwyntiadau ffôn. Yn dda i gyd, wrth gwrs; mae hynny'n briodol iawn, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig Cymru, ond yna rydych chi hefyd yn mynd ymlaen i ddweud, 'lle y bo'n briodol', oherwydd weithiau mae angen yr apwyntiad wyneb yn wyneb hwnnw ar bobl. Ond, wrth gwrs, yn rhannau gwledig Cymru, efallai y bydd yn rhaid i bobl fynd ar daith gylch dair awr. Mewn gwirionedd, os ydych chi'n teithio o ganol Cymru, efallai y bydd yn rhaid i chi deithio i Telford ar gyfer apwyntiad; ni ellir ei wneud wyneb yn wyneb. Ond byddai modd gwneud yr apwyntiad hwnnw yn lleol os yw ar gyfer triniaeth arbenigol ac, wrth gwrs, ni allwch chi—mae'n rhaid i chi deithio am driniaeth arbenigol—ond mor aml, mae llawer o fy etholwyr i, er enghraifft, yn mynd ar daith gylch dair awr, yn gorfod gwneud hynny mewn car oherwydd nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael ar gyfer apwyntiad y byddai modd ei wneud yn lleol mewn gwirionedd gan nad yw'n fath arbenigol o driniaeth. Mor aml ym meddwl y Llywodraeth, mae prawfesur ar gyfer ardaloedd gwledig yn isel ar yr agenda. Mae'n agwedd 'Cyflwynwch bolisi ac yna gadewch i ni weld nawr sut y gallwn ni ei brawfesur mewn cyd-destun gwledig', ond byddwn i'n awgrymu bod angen prawfesur ar gyfer anghenion mewn ardaloedd gwledig fod wrth wraidd meddwl y Llywodraeth o'r cychwyn cyntaf. Felly, efallai y gwnewch chi roi eich barn i ni ar y syniad hwnnw hefyd, Gweinidog.

17:55

Diolch yn fawr iawn, Russell, ac rwy'n falch o weld eich bod chi'n cytuno â'n huchelgais sero-net. Rwy'n credu mai un o fanteision heddiw yw ein bod ni, mewn gwirionedd, yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, rydym yn dweud wrth bobl fod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid iddo ddigwydd ym mhob sector o'n meysydd polisi. Er, o ran y GIG, efallai nad hwn yw'r peth y mae pobl yn ei ystyried fel y mater pwysicaf oll iddyn nhw, mae'n amlwg yn rhywbeth y mae angen i ni ei gymryd o ddifrif ym mhob agwedd ar ein bywydau, a bydd y GIG yn ganolog i hynny hefyd. A'r ffaith yw bod y GIG yn allyrru tua 1 miliwn tunnell o garbon deuocsid—yn sicr, roedd hynny'n wir yn 2018-19—felly mae gennym ni daith hir i fynd arni. Rydych chi'n sôn am y stoc bresennol, ac rydych chi'n hollol gywir—mae rhai hen adeiladau yn y GIG, ac mae rhai adeiladau newydd, ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid caffael unrhyw adeilad newydd a bydd yn rhaid iddo gydymffurfio â'n huchelgeisiau sero-net. Ond, erbyn 2026, rydym ni wedi ei gwneud yn glir yn ein cynllun cyflenwi strategol datgarboneiddio y bydd pob adeilad rhwng 2026 a 2030 wedi ei uwchraddio i fod yn effeithlon o ran ynni, a bydd gwres carbon isel yn cael ei ddefnyddio a bydd ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu ar y safle. Felly, rydym ni'n gwbl glir ynglŷn â ble yr ydym ni'n mynd yn hyn o beth.

Fel chi, rwyf i'n cynrychioli ardal wledig iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r sensitifrwydd sy'n ymwneud â natur  wledig a chyfle i fanteisio ar iechyd y cyhoedd. Ond yr hyn yr wyf i wedi ei ganfod, mewn gwirionedd, yw y bu'n eithaf trawsnewidiol, holl brofiad y pandemig, a'n bod ni i gyd wedi dysgu defnyddio technoleg mewn ffordd nad oeddem ni'n ymwybodol y gallem ni ei wneud o'r blaen, ac mae'r GIG wedi ei chroesawu. Mae hi wedi bod yn wych siarad â chleifion a oedd gynt yn gorfod teithio milltiroedd ar filltiroedd i fynd i weld arbenigwr, a bellach mae modd iddyn nhw gael ymgynghoriad o bell. Felly, rwyf i'n credu bod hynny wedi bod o fudd enfawr, nid yn unig o ran newid hinsawdd, ond hefyd i'r cleifion eu hunain, wrth gwrs. Ond wrth gwrs bydd adegau pan fydd yn rhaid i bobl fynd i gwrdd â'r arbenigwr wyneb yn wyneb, yn enwedig os oes angen llawdriniaeth. Felly, mae hyn yn ymwneud â chydbwysedd, ac mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn gywir, ond yn sicr o ran prawfesur ar gyfer ardaloedd gwledig, rwyf i'n credu eich bod chi'n llygad eich lle. Mae angen i ni feddwl am hyn ar ddechrau'r broses. Un o'r pethau yr wyf i wedi bod yn sôn amdanyn nhw heddiw yw'r mater o ran y math o gymorth sy'n cael ei roi gan gynifer o bobl sy'n mynd â chleifion i'r ysbyty yn wirfoddol a'r angen i ni eu gwerthfawrogi ychydig yn fwy. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd ar fy agenda hefyd.

18:00

Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'r argyfwng hinsawdd, fel y clywsom ni gan y Gweinidog, yn argyfwng iechyd, wrth gwrs. Mae meddygon yn gweld effaith llygredd awyr. Mae eithafion tywydd yn fygythiad i iechyd, yn fygythiad i fywyd. Mae'r problemau yn mynd i fynd yn waeth oni bai bod gweithredu yn digwydd, ac mae ein llygaid ni i gyd ar COP26 yn y gobaith o weld arwyddion bod hynny ar ddigwydd. Y gwir ydy, wrth gwrs, fod y gwasanaeth iechyd a gofal ei hun yn gyfrannwr trwm iawn tuag at yr allyriadau a'r problemau eraill sydd yn arwain at newid hinsawdd, ac mae angen mynd i'r afael â hynny.

Mae'n drueni na chawsom ni gyfle i drafod yn llawn y rhaglen strategol, y rhaglen gyflawni a gafodd ei chyhoeddi, os dwi'n cofio'n iawn, ryw ddiwrnod cyn diddymu'r Senedd ddiwethaf. Ond mae'n braf ein bod ni'n cael y diweddariad yma rŵan, ac mae hi'n addas iawn, wrth gwrs, fod hynny yn digwydd yn ystod cynhadledd COP26. Mae'n galonogol i glywed nifer o elfennau o'r hyn a ddywedodd y Gweinidog heddiw—bod pethau'n dechrau symud i'r cyfeiriad iawn, bod yr NHS yn dangos arwyddion o allu dod yn fwy cynaliadwy, ond mae yna gymaint o ffordd i fynd, o'r defnydd o nwyon anesthetig, fel y clywsom ni'r Gweinidog yn cyfeirio atyn nhw, i'r gorddefnydd o blastig mewn pharmaceuticals. Mae pympiau asthma wedi bod yn broblem fawr, er enghraifft, a sut mae'r ystâd iechyd ei hun wedi cael ei chynllunio. Dŷn ni'n gwybod, onid ydym, fod yna feirniadu wedi bod o ran y cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i ysbyty'r Grange, ysbyty cyffredinol mwyaf newydd Cymru. Roeddwn i'n darllen adroddiad o ryw flwyddyn yn ôl yn y Caerphilly Observer, yn dweud, 

'Er bod pryderon wedi'u codi ynghylch mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus...mae'r bwrdd iechyd yn honni y bydd y rhan fwyaf o gleifion yn cael eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.'

Wel, beth sydd gennym ni yn fanna ydy enghraifft o anwybyddu'n llwyr y broblem amgylcheddol sy'n cael ei chreu wrth fethu meddwl yn ddigon amgylcheddol wrth gynllunio gwasanaethau. Bydd, mi fydd cleifion sydd yn sâl iawn yn cael eu cludo yno mewn ambiwlans, ond beth am y staff? Beth am yr ymwelwyr? Beth am y cyflenwyr a'r holl gleifion dydd sydd angen cael eu hannog i adael y car gartref, nid gweld rhwystrau yn cael eu codi o'u blaenau nhw drwy ddiffyg cynllunio? Gobeithio na fydd hynny'n digwydd efo datblygiadau yn y dyfodol.

Mae yna gymaint o gwestiynau y gallwn ni fynd ar eu hôl. Mi wna i godi jest rhyw dri neu bedwar yn fan hyn. Beth mae'r Gweinidog yn mynd i wneud i adeiladu'r capasiti i gynyddu'r momentwm dros fentrau gwyrdd? Mi glywsom ni sôn yn benodol am Ysbyty Gwynedd—y gwaith da sy'n cael ei wneud yn fanna. Yn wir, mae yna waith da iawn yn mynd ymlaen ar gynlluniau gwyrdd yno. Ond, mae staff yn aml iawn wedi gorfod gweithio ar y rhaglenni gwyrdd yno yn wirfoddol ar ddiwedd sifft yn ystod cyfnod y pandemig. Felly, oes yna gynlluniau i greu'r capasiti yna, i greu swyddi arbenigol i hybu cynaliadwyedd o fewn byrddau iechyd ac ati? A pha drafodaethau, wrth gwrs, sydd wedi bod efo'r Gweinidog cyllid i helpu gwasanaethau iechyd a gofal i drio mynd ymhellach hyd yn oed na'r hyn sy'n cael ei amlinellu yn y cynllun cyflenwi strategol?

Ac yn olaf, dydyn ni ddim yn gorfod gweithredu ar ein pen ein hunain fan hyn. Nid yw Cymru'n gweithredu mewn vacuum; rydyn ni'n rhan o ymdrech ryngwladol i drio mynd i'r afael â'r broblem o arferion amgylcheddol amhriodol, ddywedwn ni, a'r angen i newid arferion o fewn gwasanaethau iechyd. Dwi wedi bod yn edrych heddiw yma ar raglen Race to Zero y Cenhedloedd Unedig, ac yn arbennig o dan y pennawd 'Health Care Without Harm'. Mae yna fyrddau iechyd, sefydliadau iechyd ar draws y byd yno sydd wedi ymrwymo i gefnogi'r rhaglen benodol honno. Mi ydych chi, mewn ffordd, yn cefnogi yr egwyddor sydd yn Race to Zero. A gaf i ofyn a wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaeth iechyd Cymru, yr NHS yng Nghymru, a'n gwasanaethau gofal ni hefyd yn cael eu hychwanegu at y rhestr yna o sefydliadau sydd am fod yn rhan ganolog o'r ras tuag at sero net?

18:05

Diolch yn fawr, Rhun. Yn gyntaf, a gaf i gytuno gyda chi? Mae yna lot o bethau mae'n rhaid i ni eu hystyried yn y maes yma. Un ohonyn nhw, wrth gwrs, y gwnaethoch chi sôn amdano, yw effaith llygredd aer ar iechyd. Rŷn ni'n gwybod bod yna gysylltiad rhwng llygredd awyr a cardiac arrest, gyda strôc, gyda heart disease, gyda lung cancer, gydag obesity, gyda cardiovascular disease, asthma, dementia—mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig gyda llygredd aer. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid i ni gymryd hwn o ddifrif. Dyw e ddim yn rhywbeth sydd yn sefyll ar wahân.

Rydych chi'n eithaf reit, pan fyddwn ni'n datblygu syniadau ar gyfer ysbytai newydd neu ddatblygiadau newydd, fod yn rhaid i ni ystyried trafnidiaeth gyhoeddus. Dwi eisiau canmol Hefin David am y gwaith y mae e wedi bod yn ei wneud gyda chwmnïau bysys i geisio cael gwell cysylltiadau i ysbyty'r Grange. Felly, mae hwnna wedi bod yn help aruthrol.

O ran cynyddu capasiti, mae yna grŵp newydd wedi'i ffurfio, grŵp climate change, ac mae yna fwrdd datgarboneiddio, ac mae'n rhaid i bob bwrdd iechyd nawr ddatblygu cynlluniau, action plans. Beth sy'n bwysig yw eu bod nhw'n deall, pan fydd hi'n dod i gaffael, pan fydd hi'n dod i procurement, fanna yw lle mae lot fawr o'r problemau yn dod ohono o ran carbon.

Felly, mae yna bedwar ardal, rili, y mae'n rhaid i ni ffocysu arnyn nhw: un yw'r adeiladau; yr ail yw egni; y trydydd yw caffael, neu procurement; a'r pedwerydd yw teithio. Ac felly, o'r rheini i gyd, dwi'n meddwl mai ym maes procurement mae sgôp gyda ni i wneud lot fawr o wahaniaeth. 

A diolch am ddenu fy sylw i at yr UN Race to Zero. Dwi ddim wedi gweld hwnna eto, ond fe wna i edrych mewn i hynny i weld os yw hwnna'n rhywbeth y gallwn ni ei arwyddo hefyd. Beth dwi yn gwybod yw bod y World Health Organization wedi dweud y bydd climate change yn arwain at 250,000 o farwolaethau ychwanegol erbyn 2030. Felly, mae yna gyfrifoldeb arnon ni i gyd. Mae'n plant ni yn edrych arnon ni, ac mae'n rhaid i ni ymateb. 

18:10

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y datganiad heno, Gweinidog. Rwyf i eisiau datgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd sir yn sir Ddinbych ac rwy'n mynd i sôn am awdurdodau lleol. Felly, ar hyn o bryd mae gofal cymdeithasol yn cael ei gynnal a'i weithredu gan ein 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Beth yw'r ysgogiad i ddatgarboneiddio'r sector gofal cymdeithasol pan nad yw pob cyngor wedi datgan argyfwng hinsawdd? Roedd fy awdurdod lleol fy hun, Cyngor Sir Ddinbych, ymysg y rhai cyntaf i'w ddatgan, ond beth am sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful neu Gastell-nedd Port Talbot a'u tebyg? Gweinidog, a ydych chi'n siŵr y bydd y cynghorau hyn yn cymryd y camau angenrheidiol i gyfyngu ar allyriadau o'r sector gofal? Ac mae'n sector sy'n dibynnu ar drafnidiaeth, boed hynny i gael gofalwyr i gartrefi pobl, darparu prydau poeth neu symud preswylwyr cartrefi gofal i apwyntiadau iechyd. Mae rhan fwyaf y rhai hynny sy'n ddibynnol ar ofal cymdeithasol yn ddibynnol ar y car modur. Nid yw teithio llesol yn opsiwn i'r rhai y mae eu symudedd wedi ei gyfyngu. Felly, Gweinidog, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r sector i symud oddi wrth gerbydau petrol a diesel, a chymell awdurdodau lleol i ddewis y cerbyd trydan neu ddulliau gwyrddach o deithio? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, Gareth, a byddwch chi'n ymwybodol o'r datganiad yr wyf i newydd ei gyhoeddi ein bod ni yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol. Yn y datganiad hwnnw, tynnais i sylw at lawer o'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn gofal, yn enwedig yn y gogledd, a soniais am Wrecsam a'r ffordd y maen nhw'n defnyddio ffabrig newydd i sicrhau eu bod yn gwella effeithlonrwydd eu hadeiladau, ond hefyd bod lleoedd fel sir y Fflint yn sicrhau eu bod yn gwella effeithlonrwydd eu cartrefi gofal drwy osod paneli solar. Felly, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod llawer o'r cynghorau hyn yn cymryd y camau hyn o ddifrif. Rwy'n falch i chi dynnu sylw at hyn oherwydd ein bod ni'n ymwybodol iawn bod hwn yn faes y mae angen canolbwyntio arno rhywfaint, ond rwy'n cael fy sicrhau bod y sector hwn yn frwdfrydig iawn ynghylch bod yn rhan o'r chwyldro hwn y mae angen i bob un ohonom ni ymgymryd ag ef

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Felly, yr eitem nesaf fydd y cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Dwi'n galw ar Julie James i wneud y cynnig yn ffurfiol. [Torri ar draws.]

Julie James, a ydych chi'n cynnig y cynnig yn ffurfiol? [Torri ar draws.] Gadewch i mi ofyn a oes unrhyw un yn cynnig y cynnig yn ffurfiol? Rwy'n gweld y Gweinidog yn cynnig y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NNDM7816 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7817 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth, 2 Tachwedd 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw, felly, i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? 

Unrhyw wrthwynebiad? Na, nid oes unrhyw wrthwynebiad.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd

Felly, fe awn ni ymlaen i'r eitem ei hunan, eitem 8, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar Fil yr Amgylchedd. Dwi'n galw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig—Julie James. 

Cynnig NNDM7817 Julie James

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd sy'n ymwneud â deunydd untro, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig.

Daw'r ddadl heddiw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol i Fil Amgylchedd y DU heb rybudd, ac rwy'n diolch i'r Aelodau am eu hamser heddiw. Bydd yr Aelodau'n cofio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Amgylchedd y DU a gafodd ei basio ar 28 Medi. Fy mwriad i heddiw yw peidio ag ailagor dadl ar y darpariaethau sy'n ymestyn i Gymru, ond i roi gwybod i'r Aelodau am welliant i'r Bil sydd, yn fy marn i, yn gwella ein gallu ni i fynd i'r afael ag eitemau defnydd untro sy'n aml yn cael eu taflu fel sbwriel.

Ar 20 Hydref, cefais i wybod am welliant arall gan y Llywodraeth i gymal 56 ac Atodlen 9—taliadau ar gyfer plastigau untro. Bydd y gwelliant yn rhoi pwerau i Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig godi tâl am eitemau untro y tu hwnt i blastigau i gynnwys unrhyw ddeunyddiau. Rwyf i wedi gofyn, ac mae Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi cytuno, i gyflwyno gwelliant o fewn y broses ddeddfwriaethol bresennol i gymal 56 ac Atodlen 9. Bydd ymestyn y pŵer hwn i Weinidogion Cymru yn sicrhau bod gennym ni'r un pwerau â'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau ynghylch taliadau am bob eitem untro ni waeth beth fo'u deunydd. Bydd y rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd am y tro cyntaf pan fydd y tâl am gynnyrch newydd yn cael ei gyflwyno, ac yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol wedi hynny.

Mae lleihau'r eitemau defnydd untro diangen sydd ar gael a'r defnydd ohonyn nhw a'r effeithiau negyddol maen nhw'n eu cael ar ein hamgylchedd yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Gan nad yw sbwriel a gwastraff yn cydnabod ffiniau rhwng gwledydd, siroedd a chyfandiroedd, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod gan bob un ohonom ni'r arfau cywir i gymell symud i ffwrdd o eitemau defnydd untro tuag at ddewisiadau eraill sy'n fwy cynaliadwy ac y mae modd eu hailddefnyddio yn fwy. Yn wir, dyma pam rydym ni wedi ymrwymo yn 'Y Tu Hwnt i Ailgylchu', ein strategaeth economi gylchol, i ddiddymu, yn raddol, eitemau defnydd untro diangen yng Nghymru at yr union ddiben hwn.

Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi cefnogi pwerau ehangach, ac, fel y nodwyd yn ein hymateb i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ym mis Mai 2020, byddai'n rhaid ystyried diwygio Bil Amgylchedd y DU pe na bai'r cyfle wedi codi. Mae pŵer codi tâl ehangach yn darparu anghymhelliad cryf rhag cynhyrchu cynhyrchion defnydd untro, ac rwyf i'n argymell i Aelodau'r Senedd ei dderbyn. Diolch.

18:15

Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Fel y mae'r Gweinidog wedi ei amlinellu, mae'r ddadl hon yn dilyn penderfyniad y Senedd ddiwedd mis Rhagfyr i gydsynio i Fil Amgylchedd Llywodraeth y DU. Fe wnaethom ni ystyried y memorandwm atodol a'r ohebiaeth sy'n gysylltiedig ag ef yn ein cyfarfod ddoe, ond bydd y Senedd yn deall nad ydym ni wedi cael amser i adrodd yn ffurfiol. Ond a gaf i ddweud o'r cychwyn cyntaf ein bod ni yn croesawu'r penderfyniad i gyflwyno'r memorandwm atodol ac i gynnal y ddadl hon heddiw, pan awgrymodd y darn cyntaf o ohebiaeth a gafodd ei anfon atom gan y Gweinidog ar 25 Hydref na allai'r naill na'r llall ddigwydd oherwydd pwysau amser? Mae cynnal y ddadl hon heddiw yn gynsail ddefnyddiol, yn ein barn ni, a dylid ei ddilyn petai amgylchiadau tebyg yn codi yn y dyfodol.

Rwyf i yn dymuno tynnu sylw at rai o'r pwyntiau a wnaeth y Gweinidog yn ei hail lythyr atom ar 28 Hydref 2021. Yn y llythyr hwnnw, dywedodd y Gweinidog wrthym, oherwydd hwyrni cyflwyno gwelliant gwreiddiol y Bil a oedd yn berthnasol i Loegr yn unig gan Lywodraeth y DU, y gallai pŵer Cymru, heb y gwelliant sydd wedi ei nodi yn y memorandwm atodol sy'n cael ei drafod heddiw, fod wedi ei gyfyngu o hyd i gynnwys eitemau defnydd untro plastig yn unig, ac wedi cyfyngu ar allu Gweinidogion Cymru i weithredu mewn maes mor bwysig o'i chymharu â Lloegr. Mae hi wedi crybwyll hynny yn ei sylwadau hi yn awr hefyd.

Fodd bynnag, wrth fynd yn ôl ychydig o gamau, mae'n amlwg na fyddai'r sefyllfa hon ei hun wedi codi pe bai Llywodraeth Cymru wedi dewis deddfu ei hun ar y materion hyn drwy Fil amgylchedd Cymru. Yn wir, gallai Bil amgylchedd Cymru fod wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynnig deddfwriaeth a oedd yn diwallu ei hanghenion yn uniongyrchol, a rhai dinasyddion Cymru, o bosibl, wrth gwrs, mewn ffyrdd mwy uchelgeisiol nag sy'n bodoli ym Mil y DU. Mae hwn yn bwynt arbennig o bwysig, fel y dywedodd y Gweinidog wrthym ni eto sut y mae'r maes polisi hwn yn wir yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Yng ngoleuni'r ddadl heddiw, mae hwn yn amser da i'r pwyllgor dynnu sylw'r Senedd at egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfu drwy Filiau Llywodraeth y DU. Cawson nhw eu darparu i ni yn ddiweddar gan y Cwnsler Cyffredinol. Yn ein barn ni, mae'n ymddangos eu bod yn cynnwys rhai anghysondebau, a byddwn ni'n archwilio 'r rhain mewn sesiynau tystiolaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol yn y dyfodol. Ond, yn gyffredinol, wrth ystyried yr egwyddorion, ochr yn ochr â rhywfaint o'r ohebiaeth yr ydym ni wedi ei chael mewn ymateb i gwestiynau penodol ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol unigol, rydym ni'n pryderu fel pwyllgor ynghylch y cyfeiriad y mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ei gymryd bellach—boed hynny allan o'i gwirfodd ei hun neu o angenrheidrwydd.

Ymddengys mai'r sefyllfa ddiofyn sydd wedi ei mabwysiadu bellach yw bod Llywodraeth Cymru yn fwyfwy hapus gyda Llywodraeth y DU yn deddfu nid yn unig ar ffiniau datganoli, ac nid yn anaml chwaith, ond wrth wraidd datganoli. Wrth wneud hynny, mae'n defnyddio gwaith rhynglywodraethol i gyflawni rhai o'i hamcanion deddfwriaethol, gan nodi ar yr un pryd ddiffyg adnoddau ar gyfer deddfu yn y Senedd. Yn gyffredinol, mae'r pwyllgor yn teimlo bod y rhain yn ddatblygiadau sy'n peri pryder, a ddylai fod yn destun pryder i bob un ohonom ni yma yn y Senedd, oherwydd bod peryg y byddan nhw'n osgoi ac yn tanseilio swyddogaeth y Senedd fel deddfwrfa, ac yn wir ein swyddogaeth fel Aelodau'r Senedd ynddi. Felly, byddwn yn parhau i bwyso'n gryf ar y materion hyn.

Fel y nododd y Cwnsler Cyffredinol yn ddiweddar, mae ein swyddogaeth ni fel pwyllgor yn un bwysig yn y Senedd, yn enwedig o ystyried natur unsiambrog ein Senedd. Felly, ynghyd â phwyllgorau eraill, rydym yn gweithio i geisio diogelu uniondeb datganoli a thrwy hynny sefyll dros ddemocratiaeth seneddol Cymru drwy gofnodi'r pwyntiau hyn. Diolch, Llywydd.

18:20

A gaf i ddweud ar y dechrau fy mod i'n cytuno â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad? Rhan o'r gwaith yr wyf i wedi ei fwynhau fwyaf yw gwaith y pwyllgor pan fyddwn ni'n edrych ar y dystiolaeth, pan fyddwn yn clywed gan yr arbenigwr, a gall consensws trawsbleidiol ddatblygu. Ac mae hyn yn wir yma. Mae craffu seneddol yn mynd at wraidd unrhyw wlad ddemocrataidd wirioneddol. Mae'n gwella polisïau'r Llywodraeth, mae'n gwella deddfwriaeth, a thrwy hynny, mae'n gwella gwasanaethau cyhoeddus a bywydau'r bobl y mae'r Senedd yn eu gwasanaethu. Os caiff gwelliannau eu hawgrymu, mae craffu'n helpu i sicrhau eu bod yn addas i'w diben a bod cyfiawnhad drostyn nhw. Heddiw, rydym yn gweld swyddogaeth y Senedd hon yn cael ei chyfyngu—nid gan Lywodraeth San Steffan. Nid gan Lywodraeth San Steffan y mae'r cyfyngu. Nid gwaith undebaeth gyhyrol y Prif Weinidog yw hyn; gwaith Llywodraeth Cymru yw hyn. Mae'r Prif Weinidog yn hapus i drosglwyddo pwerau amgylcheddol yn ôl ar adeg dyngedfennol i Lywodraeth Boris Johnson. Cofiwch, dim ond yr wythnos diwethaf, galwodd Prif Weinidog Cymru Brif Weinidog y DU yn 'waelod y gasgen'.

Dywedir wrthym fod diffyg adnoddau ac amser yn ffactor ar gyfer defnyddio Biliau San Steffan. Wel, os yw adnoddau yn broblem, yna mae angen dod o hyd i fwy o adnoddau ar gyfer gwaith mor bwysig—gwaith allweddol i unrhyw Senedd. Ac nid wyf i'n derbyn bod amser yn broblem. Ar ôl chwe mis o'r chweched Senedd, nid ydym ni wedi cael un Bil o'n blaenau ni o hyd. Mewn llythyr diweddar i'r pwyllgor, nododd y Gweinidog nad oedd y gwelliant sy'n cael ei drafod wedi ei gynnwys yn y Bil yn wreiddiol oherwydd diffyg tystiolaeth ehangach. Yna, yn sydyn iawn, mae'r gwelliannau hyn yn ymddangos, ac eto nid oes unrhyw arwydd gan y Gweinidog sut y mae'r gwelliannau hynny wedi digwydd. Ble mae'r dystiolaeth y mae modd cyflwyno'r gwelliannau hynny yn awr, heb sôn am y dystiolaeth y bu ymgynghori â rhanddeiliaid yma yng Nghymru? Mae'r rhain yn faterion y gallen nhw fod wedi eu profi ac y dylen nhw fod wedi eu profi gyda rhanddeiliaid yma yng Nghymru mewn pwyllgor wrth graffu ar Fil Cymru ar wahân.

Dyna'r ffordd i sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl Cymru. Dyna beth yw craffu go iawn. Dyna beth yw ein rôl ni. Does neb yn anghytuno gyda'r Gweinidog bod angen inni gael gwared â phlastig untro. Mae'r Gweinidog yn dweud, ac yn parhau i ddweud, bod hwn yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a bod angen y pwerau ar Weinidogion Cymru, ond dyma'r pwynt a dyma sydd yn mynd i wraidd ein setliad datganoledig ni: ein rôl ni yma yn Senedd Cymru yw dirprwyo’r pwerau yna i Weinidogion Cymru, nid rôl San Steffan.

Ar ddiwedd ei llythyr, mae'r Gweinidog yn mynegi ei hymrwymiad i gonfensiwn Sewel a rhoi cyfle i'r Senedd graffu ar unrhyw ddarpariaethau newydd mewn Bil yn y DU a phleidleisio arnyn nhw. Gweinidog, nid yw pleidlais derbyn neu wrthod braidd heb unrhyw rybudd na chraffu yn ddigon da. Nid yw dadl chwarter awr mewn sifft hwyr ar nos Fawrth yn ddigon da. Fel y dywedodd pwyllgor y cyfansoddiad mewn adroddiad yn gynharach eleni, dylai Aelodau'r Senedd allu clywed tystiolaeth arbenigol, gwrando ar farn rhanddeiliaid yng Nghymru, a thrwy hynny, ein hunain, cyflwyno gwelliannau i brofi, herio a chraffu ar Weinidogion Cymru. Nid yw hyn wedi digwydd. Dyna hanfod craffu, ac nid yw hynny wedi digwydd gyda'r Bil hwn. Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

Mae'n rhaid i'r Gweinidog, o nawr ymlaen, ymrwymo i ddod â phob Bil amgylcheddol gerbron y Senedd yma er mwyn i graffu go iawn ddigwydd yma, gan Aelodau y lle yma a rhanddeiliaid yng Nghymru. Dyma ein rôl, a dyma ein dyletswydd ni i bobl Cymru. Diolch yn fawr.

18:25

Mewn sawl ffordd, bydd y cyfraniad y byddaf i'n ei wneud i'r ddadl fer hon yn adleisio cyfraniad y siaradwr blaenorol a Chadeirydd y pwyllgor. Rydym ni wedi cael y sgwrs hon fel pwyllgor, ac mae'n bwysig. Fel rhywun sydd wedi eistedd yn y lle hwn am nifer o flynyddoedd erbyn hyn, rydym ni wedi gweld memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn mynd a dod, ac maen nhw fel arfer yn bodoli er mwyn darparu dull ar gyfer newid ymylol mewn polisi neu i alluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau lefel o barhad ar ddwy ochr y ffin, lle bo hynny'n angenrheidiol.

Mae'r Cwnsler Cyffredinol presennol a'r Cwnsler Cyffredinol blaenorol wedi bod yn glir na ddylai swyddogaeth cynigion cydsyniad deddfwriaethol gael ei ehangu er mwyn cyflawni amcanion polisi'r Llywodraeth gyfan, ac rwyf i'n teimlo mai dyna'r hyn yr ydym ni'n ei weld—twf cynyddol mewn cynigion cydsyniad deddfwriaethol i osgoi democratiaeth yma yng Nghaerdydd. Mae hyn yn achosi problemau gwirioneddol, sylweddol i mi, oherwydd yr hyn sydd gennym ni yma—. Rwy'n cydymdeimlo â'r Gweinidog. Pe bai hi'n cyflwyno ei chynnig, o ran polisi, o'n blaenau ni, fi fyddai'r cyntaf yn y rhes i bleidleisio drosto. Rwy'n credu bod amcan y polisi yn gwbl gywir. Ond yr hyn y mae hi'n ei wneud yw ceisio cydsyniad Senedd San Steffan i roi pwerau i Weinidogion Cymru, ac nid yw hi'n ceisio cydsyniad y Senedd hon ar gyfer y pwerau hynny. Mae hi'n dweud y bydd hi'n mynd drwy'r weithdrefn gadarnhaol pan gaiff y pwerau hynny eu rhoi, ac rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n falch ei bod hi'n gwneud hynny. Fodd bynnag, mae hyn yn gwbl anghywir. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei gwneud yn glir iawn, iawn, ac mae Gweinidogion blaenorol wedi ei gwneud yn glir iawn hefyd, fod yn rhaid diogelu ein democratiaeth a'n prosesau deddfwriaethol.

Yn wahanol i'r siaradwr blaenorol, byddaf i'n pleidleisio gyda'r Llywodraeth y prynhawn yma, ond byddaf i'n dweud hefyd wrth y Llywodraeth nad yw hynny'n rhoi rhwydd hynt i gyflwyno cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn osgoi ein democratiaeth, osgoi ein gwaith craffu ac osgoi ein deddfwrfa. Rwy'n amau bod angen dadl lawnach arnom ni ar y materion hyn. Llywydd, efallai fod hyn yn fater i chi eich hun yn y Gadair. Codais i'r mater hwn, fel y gwyddoch chi, yn ystod  y cwestiynau busnes yn gynharach heddiw, ac roedd y Gweinidog wrth ateb, yn glir iawn: 'Mae angen y pwerau hyn arnom ni', dywedodd hi. Wel, pan ddywedodd hi 'ni', wrth gwrs, nid oedd hi'n golygu ni; nid y 'ni' ar y cyd yn y Siambr hon ydoedd. Llywodraeth Cymru oedd yn dymuno cael y pwerau hynny, ac mae Llywodraeth Cymru yn atebol i'r lle hwn. Byddwn i'n awgrymu, er y gallem ni dderbyn hyn y tro hwn, ein bod ni'n cael dadl ehangach a mwy dwys ynghylch lle cynigion cydsyniad deddfwriaethol, oherwydd rwyf i wedi gweld, ac rydym ni i gyd wedi gweld, Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyrddio drwy ein democratiaeth. Maen nhw wedi sathru ein pwerau dan draed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl gywir wrth sefyll dros ddemocratiaeth Cymru. Mae gweinidogion yn gwybod fy mod i wedi eu cefnogi 100 y cant ar hynny, ond am yr un rheswm, ni allaf ganiatáu iddyn nhw wneud yr un peth.

Diolch, Llywydd. Hoffwn i fynegi fy niolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu. Rwy'n deall eu rhwystredigaeth yn llwyr. Rydym ni ein hunain yn teimlo rhwystredigaeth gyda'r diffyg ymgysylltu ar lefel y DU. I ailadrodd y pwynt fy mod i'n llwyr fwriadu cyflwyno Bil plastigau defnydd untro i'r Senedd. Fodd bynnag, rydym ni wedi ein cynnwys mewn problemau penodol sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a'r trefniadau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â hi. Rwyf i, fel y gwnaethoch chi ei weld yn fy sylwadau agoriadol, wedi ymrwymo i'r rheoliadau fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd, oherwydd fy mod i'n gwbl awyddus i'r Senedd graffu'n llawn ar unrhyw reoliadau a gaiff eu cyflwyno drwy ddefnyddio'r pwerau hyn. Rwy'n derbyn yn llwyr y byddai'n well pe bai'r Senedd yn deddfu ei hun, a dyna pam y byddwn ni'n cyflwyno Deddf i Gymru maes o law. Fodd bynnag, nid oeddwn i o'r farn y byddai'n briodol o gwbl i Gymru fod ar ei hôl hi o ran ei gallu i symud yn gyflym ar fater plastigau defnydd untro a deunyddiau eraill sy'n cael effaith negyddol ar ein bioamrywiaeth yma yng Nghymru. Wedi'r cyfan, rydym ni mewn argyfwng hinsawdd a natur, ac felly, mae'r mesurau hyn, yn fy marn i, yn angenrheidiol i sicrhau y gall Cymru aros ar flaen y gad yn y frwydr dros ein hinsawdd a'n byd naturiol. Felly, ar y sail honno, Llywydd, argymhellaf y cynnig cydsyniad deddfwriaethol i'r Senedd.

18:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae yna wrthwynebiad, a dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac felly mi fydd yna doriad byr iawn, gobeithio, i baratoi ar gyfer y bleidlais hynny yn dechnegol. Felly, toriad nawr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:30.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:34, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 8, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar Fil yr Amgylchedd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig hynny, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig hynny wedi'i dderbyn.

18:35

Eitem 8: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd: O blaid: 42, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

A dyna ni. Dyna ddiwedd ein gwaith ni am y dydd heddiw. Diolch yn fawr i chi i gyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:35.