Y Cyfarfod Llawn

Plenary

05/10/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn deg. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr â'r rheini sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau i'r Prif Weinidog, felly, yw'r eitem agenda gyntaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar. 

Cefnogi Busnesau

1. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gefnogi busnesau yn nhymor presennol y Senedd? OQ56948

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mewn wythnos pan fo'r cymorth i fusnesau yng Nghymru a ariannwyd gan y cynllun ffyrlo wedi ei dynnu yn ôl gan Lywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gymorth i fusnesau Cymru.

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi fod sector manwerthu sy'n ffynnu yn hanfodol i ddatblygiad economaidd pob cymuned ledled Cymru. Mae'n destun pryder i mi, fodd bynnag, fod bron i un o bob pum siop yng Nghymru yn wag bellach yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru. Un o'r prif ffactorau sy'n achosi dirywiad ein strydoedd mawr yw'r lefel uchel o ardrethi busnes yma yng Nghymru. Clywais eich ateb i fy nghyd-Aelod James Evans ynghylch hyn yr wythnos diwethaf, pan wnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu,

'Pan fydd Llywodraeth Lafur yn gallu gweithredu'r polisi hwnnw ar gyfer Lloegr, yna bydd yr arian yn llifo i Gymru i ganiatáu i ni barhau i ddatblygu'r cynllun sydd gennym ni.'

Felly, Prif Weinidog, pam ydych chi wedi gwrthod polisi eich plaid yn Lloegr i ddiddymu ardrethi busnes pan mai Cymru yw'r unig ran o'r DU lle mae Llafur mewn grym ac yn gallu gweithredu hyn mewn gwirionedd? Diolch.

Wel, mae'n rhaid bod y sawl a ofynnodd y cwestiwn yn gwybod yr ateb iddo cyn iddi ddechrau'r cwestiwn. Mae'r arian sy'n dod i Gymru yn dibynnu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU, ac yna mae'r arian hwnnw yn cael ei drosglwyddo i Gymru drwy fformiwla Barnett. Y funud y bydd eich plaid chi yn Lloegr yn diddymu ardrethi busnes, bydd arian yng Nghymru i ni wneud yr un peth. Nid ydych chi wedi gwneud unrhyw addewid o'r fath. Bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn gwneud hynny; yna bydd arian yng Nghymru i ni allu rhoi sylw i ardrethi busnes yma.

Prif Weinidog, galwodd llythyr diweddar gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru at Aelodau'r Senedd am ymyriadau allweddol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau fel Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru i gael eu diogelu a'u datblygu. Gydag ansicrwydd parhaus ynghylch cyllid ar ôl yr UE, ac ymdrechion amlwg Llywodraeth y DU i adennill arian a phwerau, a ydych chi'n cytuno bod hyn yn fygythiad i allu Llywodraeth Cymru i ddatblygu atebion wedi eu llunio yng Nghymru i gynorthwyo busnesau yng Nghymru?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd, ac mae'n un pwysig iawn o ran cymorth busnes. Rwy'n cofio'r llythyr a ysgrifennodd y Ffederasiwn Busnesau Bach at yr Aelodau yn ôl ym mis Mehefin eleni. Yr oedd yng nghyd-destun y gronfa ffyniant gyffredin, a dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach, beth bynnag fo ffurf y gronfa ffyniant gyffredin, ei bod hi'n hanfodol bod arian yn parhau i ddod i Gymru fel y gellir diogelu a datblygu seilwaith cymorth busnes craidd, gan gynnwys Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, yn y dyfodol. Nawr, y gwir amdani, ar sail yr wybodaeth bresennol sydd gennym ni gan Lywodraeth y DU, yw y bydd cyllid Banc Datblygu Cymru yn cael ei leihau. Byddwn yn colli hyd at draean o'r arian yr ydym ni'n ei wario ar brentisiaethau yng Nghymru—mae hynny yn £30 miliwn bob blwyddyn. Byddwn ni'n colli £12 miliwn yr ydym ni'n ei fuddsoddi yn Busnes Cymru.

Felly, mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn gwbl hanfodol. Er mwyn i ni allu gwneud yr hyn y gofynnodd y cwestiwn gwreiddiol i ni ei wneud, mae angen i ni weld yr arian sydd wedi dod i Gymru yn y gorffennol, sydd wedi ein caniatáu i ni wneud y buddsoddiadau hynny, yn parhau i lifo yma. Os na fydd, ni ddylai neb gredu bod rhyw storfa gyfrinachol o arian ar gael i Lywodraeth Cymru y byddem ni'n gallu ei defnyddio i wneud yn iawn am y diffygion a fyddai'n bodoli wedyn o ran cyllid gan y Deyrnas Unedig. Byddwch chi'n cofio'r addewid,—rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn cofio'r addewid—na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Wel, rydym ni eisoes yn gwybod nad yw'r addewid hwnnw wedi ei gyflawni—£137 miliwn yn waeth ei byd o ran cyllid gwledig yn unig. Os na chawn ni'r arian newydd mewn cymorth busnes, yna mae'n anochel y bydd y pethau allweddol hynny y cyfeiriodd y Ffederasiwn Busnesau Bach atyn nhw yn ei lythyr at yr Aelodau o dan fygythiad.

13:35

Prif Weinidog, y cwbl roeddwn i eisiau ei ofyn mewn gwirionedd oedd cwestiwn cryno iawn am gymorth i ganol ein trefi. Fel y byddech chi'n cytuno, rwy'n siŵr, yn ystod cyfnod COVID, mae llawer o siopau bach wedi bod yn gwbl hanfodol i'n cymunedau. Ac felly, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod sut y byddwch chi'n cynorthwyo canol ein trefi yn y dyfodol. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr i Jane Dodds am y cwestiwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynorthwyo canol trefi. Mae gan y gronfa Trawsnewid Trefi ddegau lawer o filiynau o bunnoedd ynddi yr ydym ni'n eu buddsoddi ledled Cymru i greu canol trefi'r dyfodol. Dyna'r pwynt yr wyf i bob amser yn ceisio ei wneud—os ydym ni'n credu y byddwn ni'n cynnal canol trefi ac, yn wir, y sector manwerthu dim ond trwy geisio mynd yn ôl i'r ffordd yr oedd pethau yn arfer bod, rwy'n credu bod yr ymdrech honno yn sicr o fethu. Mae dyfodol i ganol trefi, ond bydd yn dibynnu ar amrywiaeth ehangach o weithgareddau na manwerthu yn unig. Bydd yn cynnwys gweithgareddau hamdden, bydd yn cynnwys dibenion preswyl, bydd yn cynnwys pethau sy'n dod â phobl i ganol ein trefi mewn ffordd a fydd yn eu gwneud yn lleoedd bywiog y bydd pobl yn dymuno ymweld â nhw.

Nawr, mae amrywiaeth eang o bethau yr ydym ni'n eu gwneud: o un pen i'r sbectrwm, £200,000 i wneud yn siŵr y gellir gwella cysylltedd digidol mewn rhai o'n canol trefi mwyaf difreintiedig, i £15 miliwn o fuddsoddiad i ganiatáu i bob awdurdod lleol fynd i'r afael â'r adeiladau segur hynny sy'n rhy aml yn difetha canol trefi ac yn ei gwneud hi'n fwy anodd eu gwneud nhw'n lleoedd deniadol yr ydym ni'n dymuno iddyn nhw fod. Pan fyddwch chi'n rhoi hynny i gyd at ei gilydd, Llywydd, fel y dywedais i, mae'n dod i werth dros £100 miliwn o fuddsoddiad at y dibenion y mae Jane Dodds wedi tynnu sylw atyn nhw.

Cymorth Iechyd Meddwl

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56952

Diolchaf i Jack Sargeant. Llywydd, mae cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn cael ei ddarparu drwy amrywiaeth o wasanaethau, o ymyrraeth ataliol a chynnar i wasanaethau arbenigol ar gyfer pobl â salwch difrifol. Mae cynorthwyo ysgolion i wella llesiant emosiynol a meddyliol wedi bod yn bwyslais penodol i ddatblygiad polisïau a gwasanaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch chi, mae hyn yn flaenoriaeth allweddol i mi, ac i chithau hefyd fel rwy'n ei ddeall. Ac rwyf i wrth fy modd fy mod i wedi cael cyfle, ddydd Gwener, i ymweld ag Ysgol Saltney Ferry i weld yn bersonol eu gwaith y maen nhw'n ei wneud ar lesiant disgyblion yn eu hysgol. A, Prif Weinidog, dyma'r ysgol gyntaf yn sir y Fflint i ennill y wobr llesiant ar gyfer ysgolion, ac mae'n llwyddiant gwych, ac yn un sy'n cydnabod yn ffurfiol y cymorth iechyd meddwl y mae'r ysgol yn ei gynnig i'w disgyblion, i'w staff, y rhieni a'r gofalwyr, gan wneud llesiant emosiynol yn ganolog i fywyd yr ysgol. Ac rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth y gallem ni i gyd ei ddysgu mewn bywyd bob dydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod yr ysgol yn haeddu canmoliaeth wirioneddol am eu gwaith, ac a wnewch chi ymrwymo i ofyn i'ch swyddogion edrych ar yr hyn y maen nhw wedi ei wneud er mwyn sicrhau a rhannu arfer gorau ledled Cymru?

Diolchaf i Jack Sargeant, Llywydd, am dynnu sylw at y gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn ysgol Saltney Ferry, a hoffwn longyfarch pawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Fel mae'n digwydd, fe wnes i lwyddo i ddarllen adroddiad ar y wobr y maen nhw wedi ei hennill. A phan fyddwch chi'n gweld yr hyn y mae'r ysgol yn ei ddweud am sut y mae wedi mynd ati i ddiogelu iechyd a llesiant meddwl ei disgyblion, rydych chi'n gweld yn wirioneddol yr amrywiaeth drawiadol iawn o gamau y maen nhw wedi eu cymryd: polisi drws agored, lle mae unrhyw aelod o staff, unrhyw fyfyriwr, unrhyw riant neu ofalwr yn gwybod y bydd croeso iddo ddod i gael ystyriaeth o'i bryderon ac ymateb iddyn nhw, a'r llawer o ffyrdd llawn dychymyg y mae'r ysgol wedi dod o hyd iddyn nhw i ganiatáu i blant ifanc, yn enwedig, ddod o hyd i ffordd i'w llais gael ei glywed. Dywedodd pennaeth yr ysgol mai diben yr holl bethau y maen nhw'n eu gwneud yn y maes hwn yw gwneud yn siŵr bod eu pobl ifanc yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi, eu cynnwys a'u hysgogi. Ac nid yw'n syndod o gwbl, ar ôl darllen yr hyn yr oedd ganddi i'w ddweud, fod yr ysgol wedi llwyddo i ennill y wobr llesiant honno.

Mae gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed, CAMHS, sir y Fflint wedi ei leoli yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Rwy'n parhau i gael gwaith achos lle mae CAMHS sir y Fflint yn gwrthod diagnosis awtistiaeth i blant gan eu bod nhw wedi mabwysiadu strategaethau cuddio ac ymdopi effeithiol yn yr ysgol, er eu bod nhw wedyn yn strancio gartref. Yn yr achosion hyn, mae'r cyngor yn rhoi'r bai wedyn ar rianta gwael, ac mae plant yn cael eu cymryd i ofal hyd yn oed. Er bod y teuluoedd yn yr achosion hyn yn cael eu gorfodi wedyn i gael diagnosis annibynnol arbenigol, yn cadarnhau bod eu plant ar y sbectrwm awtistiaeth, mae'r cyngor yn methu â nodi a chytuno â nhw ar y cymorth sydd ei angen ar eu plant a nhw eu hunain. Sut byddwch chi, felly, yn sicrhau bod staff mewn cyrff cyhoeddus yn deall ac yn gweithredu eu dyletswyddau newydd yn briodol o dan god awtistiaeth eich Llywodraeth? Sut bydd eich Llywodraeth chi yn monitro hyn? A sut bydd eich Llywodraeth yn ymateb i'r argymhellion yn adroddiad ymchwil cymdeithasol terfynol Llywodraeth Cymru ym mis Mai, 'Gwerthusiad o Raglen Beilot Mewngymorth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS): Adroddiad Terfynol', gan gynnwys,

'Dylai Llywodraeth Cymru ystyried dichonoldeb nodi a mapio'r sgiliau a'r cymwyseddau sy'n ofynnol gan staff sy'n cyflawni rolau gwahanol mewn ysgolion'?

13:40

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Fel y bydd eraill wedi sylweddoli wrth wrando arno, mae'n faes cymhleth lle gall yr anawsterau y mae rhai pobl ifanc yn eu hwynebu ac yn cael profiad ohonyn nhw gael eu cuddio gan dechnegau ymdopi y maen nhw'n eu hunain wedi eu datblygu, a lle nad yw bob amser yn hawdd i aelodau staff nodi'r anawsterau y mae person ifanc yn eu hwynebu. Rwy'n falch iawn o gadarnhau, eto, Llywydd, fod y Llywodraeth, o ganlyniad i'r adroddiad ar y rhaglen beilot mewngymorth mewn ysgolion—y rhaglen beilot mewngymorth CAMHS—wedi dod o hyd i'r cyllid i ymestyn y rhaglen beilot honno i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Rhan o'r hyn y mae'r rhaglen beilot yn ei wneud yw ceisio gwneud yn siŵr bod staff rheng flaen nad ydyn nhw'n arbenigwyr eu hunain ym mhob agwedd ar iechyd meddwl neu ddatblygiad plentyn, ac na ellir disgwyl iddyn nhw fod, yn cael gwell hyfforddiant fel eu bod nhw'n ymwybodol o'r mathau o faterion y mae Mr Isherwood wedi eu crybwyll, a phan fyddan nhw o'r farn bod angen mathau eraill a mwy arbenigol o gymorth ar yr anghenion hynny, eu bod nhw'n gallu gwneud yn siŵr bod y mathau hynny o gymorth yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym ar gyfer y person ifanc hwnnw. Felly, rwy'n credu bod gan y cynllun mewngymorth, a gymeradwywyd yn rymus yn yr adroddiad interim hwnnw, rai o'r atebion i'r penblethau a godwyd yn y cwestiwn, wrth gydnabod y cymhlethdodau—y cymhlethdodau gwirioneddol—sy'n bodoli o ran gallu ymateb i amrywiaeth mor eang o anghenion.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau ac, ar ran y Ceidwadwyr heddiw, Paul Davies.  

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd. Ers y datganiad hwnnw, a allwch chi enwi un mesur arwyddocaol yr ydych chi wedi ei gyflwyno fel Llywodraeth i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd?

Wel, gallaf i enwi unrhyw nifer ohonyn nhw i'r Aelod, ond, os hoffai gael un yn unig, yna fe wnaf i sôn am y rhaglen ôl-osod tai yng Nghymru. Un o'r prif gyfranwyr at y newid yn yr hinsawdd yw'r ffaith bod gennym ni hen stoc dai, sy'n aneffeithlon yn y ffordd y mae'n defnyddio gwres, ac mae'r rhaglen ôl-osod fawr y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhoeddi yn ein helpu ni i fynd i'r afael ag un o'r prif bethau y gallwn ni eu gwneud i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Wel, Prif Weinidog, roeddech chi'n gwneud rhywfaint o hynna cyn hynny, beth bynnag, a'r gwirionedd yw nad oes digon wedi ei wneud ers y datganiad hwnnw i fynd i'r afael o ddifrif â'r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Nid yw'r cynnydd hyd yma wedi bod yn ddigon cyflym i sicrhau y bydd gan Gymru allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. A gadewch i mi eich atgoffa bod adroddiad gan y pwyllgor ar newid hinsawdd wedi dweud wrthym ni nad oedd Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer ei tharged blaenorol o 80 y cant, heb sôn am sero-net. Ceir trefi a dinasoedd yng Nghymru sydd wedi adrodd am lefelau anghyfreithlon a pheryglus o lygredd aer yn y blynyddoedd diwethaf, a chredir bod llygredd aer yn cyfrannu at dros 2,000 o farwolaethau cynamserol. Ond nid ydym ni eto wedi gweld Deddf aer glân, er ei bod yn un o'ch ymrwymiadau maniffesto arweinyddiaeth eich hun yn ôl yn 2018. Ac, ar ben hynny, mae un o'ch Gweinidogion eich hun wedi cyfaddef ein bod ni ymhell y tu ôl i le mae angen i ni fod o ran targedau plannu coed, ar ôl plannu dim ond 80 hectar o goetir newydd yn 2019-20—y cyfanswm isaf ers degawd.

Ac mae llifogydd yn parhau i gael effaith enfawr ar ein cymunedau. Cafodd Pentre yn Rhondda Fawr ei daro gan lifogydd ar bum achlysur ar wahân yn 2020, er enghraifft, ac adroddwyd heddiw bod gwasanaethau tân yn y de, y canolbarth a'r gorllewin wedi eu llethu gan alwadau am lifogydd. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi enwi un gymuned sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru sy'n fwy diogel erbyn hyn oherwydd ymyrraeth Llywodraeth Cymru ers eich datganiad, ac a wnewch chi ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r newid yn yr hinsawdd, o gofio bod cymunedau yn dal i wynebu effaith ddinistriol llifogydd ac o gofio bod eich Llywodraeth wedi methu â chyrraedd unrhyw dargedau arwyddocaol i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ers i chi ddatgan argyfwng hinsawdd?

13:45

Wel, mae'r Aelod yn awyddus iawn i gael ateb un enghraifft, felly Pontarddulais yw fy ateb i'w ail gwestiwn. Roeddwn i'n falch iawn o fod yno yn agoriad cynllun amddiffyn rhag llifogydd Pontarddulais, cynllun a fydd yn wir yn gwneud popeth a ofynnodd.

Yn fwy cyffredinol, edrychwch, os ydym ni'n synhwyrol am y pethau hyn, yna mae'n iawn, mae llawer mwy y mae'n rhaid i ni ei wneud er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac mae hynny'n golygu bod rhai penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid i bob un ohonom ni eu hwynebu. Go brin y byddai adeiladu ffordd liniaru'r M4, er enghraifft, wedi cyfrannu at yr hyn y mae'n rhaid i'r wlad hon ei wneud i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Yr wythnos diwethaf, roedd aelodau o'r blaid honno yn gofyn i mi pam roeddem ni'n ymchwilio i gamau pellach yr oedd eu hangen i fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen ocsid ar hyd traffyrdd. Mae'r pethau hyn i gyd yn anodd. Yr hyn na allwch chi ei wneud yw dweud wrth y Llywodraeth, 'Mae'n rhaid i chi wneud mwy o hyn,' ond bob tro y mae'r Llywodraeth yn ceisio gwneud rhywbeth yn ei gylch—parthau perygl nitradau yn y diwydiant amaeth, er enghraifft—bob tro—[Torri ar draws.] 'Cywilyddus,' rwy'n clywed yr Aelod yn galw. Mae cwestiwn newydd gael ei ofyn i mi am y newid yn yr hinsawdd a llygredd, ac eto mae eich plaid chi yn gwrthod cymryd camau i ymdrin â nhw. Rwy'n gwneud y pwynt syml i'r Aelod o ran y pwyntiau y mae'n eu gwneud ynghylch yr angen i wneud mwy a'i wneud yn gyflymach—fy mod i'n cytuno ag ef. Yr hyn y mae hynny yn ei olygu yw bod cyfrifoldeb ar bob aelod o'r Siambr hon, pan fydd camau ymarferol yn cael eu cymryd, ni allwch chi geisio dweud, 'A, ond ni allwch chi wneud hynna.'

O, dewch yn eich blaen, Prif Weinidog, os mai modurwyr sydd wedi eu dal yn nhagfeydd parhaus yr M4 yw'r polisi mwyaf ecogyfeillgar sydd gan Lywodraeth Cymru, yna rydym ni mewn trafferthion difrifol, onid ydym ni? Nawr, Prif Weinidog, nid yn unig y mae'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein cymunedau a'n pobl, ond mae hefyd yn effeithio ar ein byd naturiol a'n bywyd gwyllt hefyd. Bydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol COP15 yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang newydd, a thrwy lofnodi datganiad Caeredin, mae Llywodraeth Cymru o leiaf wedi cydnabod y bygythiad difrifol y mae colli bioamrywiaeth yn ei achosi i'n bywoliaeth a'n cymunedau. Fodd bynnag, mae angen mynd i'r afael â'r argyfwng hwn ar frys hefyd. Mae Cymru yn syrthio y tu ôl i weddill y DU o ran dynodi ardaloedd morol gwarchodedig, nid yw Cymru eto yn bodloni pedwar nod hirdymor rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a dangosodd adroddiad 'Sefyllfa Byd Natur' yr RSPB yn 2019 fod mwy na 30 y cant o rywogaethau wedi lleihau o ran dosbarthiad ers y 1970au— rhywogaethau fel gwiwerod coch a llygod y dŵr, a oedd yn gyffredin yng Nghymru ar un adeg ac sydd bellach wedi eu cyfyngu i ychydig o safleoedd ac sydd o dan fygythiad gwirioneddol o ddiflannu.

Felly, Prif Weinidog, gadewch i mi roi cynnig arall arni: a allwch chi enwi un rhywogaeth sy'n fwy diogel erbyn hyn, felly, oherwydd ymyrraeth Llywodraeth Cymru, ac o gofio mai un o nodau strategol COP26 ym mis Tachwedd yw addasu i ddiogelu cymunedau a chynefinoedd naturiol drwy ddiogelu ac adfer ecosystemau, a wnewch chi gadarnhau y bydd eich Llywodraeth bellach yn cyflwyno strategaeth frys cyn hynny i fynd i'r afael ag argyfwng natur Cymru?

Llywydd, rwy'n cytuno bod colli bioamrywiaeth yng Nghymru yn fater difrifol iawn a bod angen gwneud mwy er mwyn defnyddio'r cyfle sydd gennym ni tra'i fod dal gennym ni. Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf trawiadol a ddarllenais yn yr adroddiad RSPB hwnnw oedd, os byddwn ni'n colli'r foment sydd gennym ni, y gallai rhywfaint o'r golled honno o fioamrywiaeth fod yn anadferadwy. Dyna pam y gwnaeth y Llywodraeth yn y gyllideb yn syth cyn argyfwng y coronafeirws ysgogi buddsoddiad gwerth £130 miliwn mewn colled o fioamrywiaeth ac adfer cynefinoedd. Mae'r cynllun lleoedd lleol ar gyfer natur sydd gennym ni yn golygu y gall bioamrywiaeth fod yn fater nid yn unig ar gyfer cynlluniau ar raddfa fawr, ond ar gyfer camau bach iawn y gellir eu cymryd, hyd yn oed mewn ardaloedd trefol poblog, lle gall y camau lleol hynny helpu i atgyweirio'r golled yr ydym ni wedi ei gweld ac i roi hyder i bobl y gall gweithredu ar y cyd, lle gallan nhw chwarae eu rhan, ein helpu o hyd i atgyweirio'r difrod sydd wedi ei wneud.

Nid wyf i'n derbyn bod Cymru y tu ôl i'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill yn hyn o beth. Mae gennym ni rai cynlluniau grymus ar waith gyda rhywfaint o gyllid yr ydym ni wedi gallu dod o hyd iddo i'w cefnogi. Ac mae'n rhaid yn awr i ni gymryd o ddifrif y ffaith, oni bai ein bod ni'n barod i weithredu tra bod gennym ni'r cyfle, efallai na fydd y cyfle hwnnw yn bodoli mwyach.

13:50

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae aelodau pob un o bedwar undeb mwyaf y GIG bellach wedi pleidleisio i wrthod cynnig cyflog eich Llywodraeth o 3 y cant; a gwnaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru hynny o ganran enfawr o 94 y cant. A wnewch chi gytuno nawr i'w cais am drafodaethau cyflog ffurfiol?

Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau mewn trafodaethau gyda'r prif undebau llafur yng Nghymru ar y cynnig cyflog. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y trafodaethau parhaus hynny. Byddwn i'n eu hannog i ddychwelyd at y bwrdd, oherwydd dim ond trwy drafodaeth y byddwn ni'n gallu dod o hyd i ateb.

Wel, mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog fy mod i wedi siarad gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol y bore yma, ac nid wyf i'n credu bod y sefyllfa yr ydych chi wedi ei hamlinellu yn rhoi'r darlun gwirioneddol—o'u safbwynt nhw, yn sicr—oherwydd yr hyn y maen nhw wedi ei ddweud yw eu bod nhw eisiau siarad gyda'r Llywodraeth am gynnydd i gyflogau ar draws y bwrdd ac rydych chi wedi gwrthod ymgysylltu â nhw ar hynny. Nid ydych chi'n cynnull pwyllgor negodi cyflogau fforwm partneriaeth y GIG, ac eto chi sydd i fod y Llywodraeth o bartneriaeth gymdeithasol. Pam nad ydych chi'n ei arfer?

Nawr, y rheswm y mae hyn yn bwysig ac yn fater brys yw bod chwyddiant fel y'i mesurir gan y mynegai prisiau defnyddwyr, fel y gwyddom ni, yn 3.2 y cant ar hyn o bryd—4.8 y cant os defnyddiwch chi'r mynegai prisiau manwerthu. Mae ar fin cynyddu hyd yn oed yn fwy. A ydych chi'n derbyn barn yr undebau—pob un o'r undebau—ac, yn wir, hyd yn oed arweinydd Plaid Lafur Prydain, fod cynnig codiad cyflog o 3 y cant bellach yn cynrychioli toriad cyflog mewn termau real? Oni fyddai hyn, yn sgil yr aberth arwrol dros y 18 mis diwethaf, yn gwneud tro gwael iawn â miloedd o weithwyr gofal iechyd?

Wel, Llywydd, gadewch i mi wneud yn siŵr bod yr Aelodau yn ymwybodol o hanes hyn i gyd. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru, yn aml yn dilyn anogaeth y mudiad undebau llafur, ymrwymo ein hunain i'r broses adolygu cyflogau annibynnol. Fe wnaethom ni sylwadau iddo. Fe gyhoeddodd adroddiad, ac argymhellodd gynnydd o 3 y cant i gyflogau, a phenderfynodd Llywodraeth Cymru anrhydeddu hyn. Er mwyn ariannu'r cynnydd hwnnw o 3 y cant i gyflogau, mae gennym ni gynnydd o 1 y cant gan Lywodraeth y DU. Felly, rydym ni'n gorfod dod o hyd i'r 2 y cant arall o'r adnoddau sydd ar gael i ni at ddibenion ac eithrio cyflogau. Cost pob 1 y cant y mae'r bil cyflogau yn y GIG yn ei godi yw £50 miliwn. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i £100 miliwn, o adnoddau nad oedden nhw wedi eu hanfon atom ni at ddibenion cyflogau, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n bodloni argymhellion y corff adolygu cyflogau. Ydw i'n credu bod hynny yn ddigon? Nac ydw, dydw i ddim. Ydw i'n credu y gall Llywodraeth Cymru barhau i ddod o hyd i dalpiau o £50 miliwn er mwyn cynyddu'r dyfarniad cyflog uwchlaw a'r tu hwnt i'r hyn yr ydym ni'n cael ein hariannu i'w wneud? 'Nac ydw' yw'r ateb i hynny hefyd.

A Llywydd, gadewch i mi fod yn eglur, fel nad oes gan yr Aelodau unrhyw amheuaeth yn ei gylch: rydym ni'n parhau i fod mewn trafodaethau gyda'r undebau llafur. Cefais gyfarfod â nhw fy hun; mae'r Gweinidog iechyd yn cyfarfod â nhw yr wythnos hon. Rydym ni'n sôn am becyn o fesurau efallai y gallem ni ei roi at ei gilydd. Nid yw'r trafodaethau hynny yn hawdd, credwch chi fi, oherwydd bod yr undebau llafur, yn gwbl briodol, yn dadlau yn gryf iawn ar ran eu haelodau. Ond ni allwch chi ddod o hyd i ateb os nad ydych chi'n barod i ddod at y bwrdd a chael y trafodaethau hynny. Nid yw'r Coleg Nyrsio Brenhinol wrth y bwrdd hwnnw. Byddai'n dda gen i pe baen nhw.

Ond nid ydyn nhw wrth y bwrdd oherwydd eich bod chi wedi diystyru trafod cynnydd i gyflogau ar draws y bwrdd gyda nhw. Nawr, o ran y rhan fwyaf o weithwyr y GIG—i'r rhan fwyaf ohonyn nhw, mae'r cynnydd o 3 y cant eisoes wedi ei ganslo gan gynnydd i gyfraniadau pensiwn. Bydd yr ardoll iechyd a gofal cymdeithasol newydd y flwyddyn nesaf yn dileu bron i hanner y cynnydd y flwyddyn nesaf, ac mae hynny cyn i chi hyd yn oed ystyried yr argyfwng costau byw ac erydiad cyflogau dros yr 11 mlynedd diwethaf. Nawr, mae gwaith ymchwil—[Torri ar draws.] Anhygoel fy mod i'n cael fy heclo gan Aelodau Llafur wrth i fi ddadlau'r achos dros weithwyr y GIG. Awgrymodd gwaith ymchwil y llynedd fod traean o nyrsys yn ystyried gadael y GIG, gyda'r mwyafrif yn cyfeirio at gyflogau.

13:55

Mae 1,600 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru eisoes. Ar ôl y flwyddyn y maen nhw wedi ei chael, sut bydd cynnydd o 3 y cant i gyflogau yn argyhoeddi'r rhai sydd yn weddill i aros pan fydd hyd yn oed Llywodraeth Lafur yn gorfodi dyfarniad cyflog is na chwyddiant ar nyrsys? A allwch chi eu beio nhw mewn gwirionedd pan fo staff y GIG yn teimlo eu bod wedi cael cam, nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol a'u bod nhw'n cael eu hanwybyddu?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n anghytuno â llawer o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod ar ddechrau yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud. Yr hyn y mae'n rhaid iddo ei wynebu yw: o ble fydd yr arian hwnnw yn dod? Rwy'n gweld rhestr o gwestiynau ar y papur trefn heddiw, llawer gan Aelodau ei grŵp ei hun, a fydd yn fy annog rwy'n siŵr i wario mwy o arian ar wahanol agweddau ar y gwasanaeth iechyd—mwy o arian. Ac eto, pe bawn i'n dilyn ei gyngor ef, byddai gennym ni lai o arian i wneud y pethau y bydden nhw'n gofyn i ni eu gwneud, oherwydd bod swm penodol o arian ar gael, ac, os bydd mwy ohono yn cael ei wario ar gyflogau, bydd llai ohono i ddarparu gwasanaeth. Mae hynny yn gydbwysedd anodd iawn i'w daro; rydym ni wedi ei daro drwy ddod o hyd i £100 miliwn i anrhydeddu argymhellion y corff adolygu cyflogau. Rydym ni'n parhau i drafod gyda'r rhan fwyaf o'r undebau llafur sy'n barod i ddod o amgylch y bwrdd a pharhau â'r trafodaethau hynny.

Pe bawn i'n dilyn y cyngor gor-syml yr wyf i wedi ei gael, creu arian hud o'r awyr i dalu pobl—yr wyf i eisiau eu talu, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod, eu bod nhw'n haeddu mwy, ond mae'n rhaid dod o hyd i'r arian hwnnw o rywle a dim ond trwy leihau hyd yn oed yn fwy ddarpariaeth gwasanaethau y bydd ei Aelodau ef, rwy'n gwybod yn fy annog i y prynhawn yma y dylem ni fod yn gwneud mwy i'w cynorthwyo, a hynny yn gwbl briodol, y gellid dod o hyd iddo.

Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau iechyd sylfaenol yng Ngogledd Cymru? OQ56982

Wel, siŵr o fod dyma'r un cyntaf. Mewn sefyllfa o bwysau parhaus, mae staff gofal sylfaenol ar draws y gogledd yn gweithio'n eithriadol o galed i gynllunio a gwella mynediad at eu gwasanaethau.

Yn iawn, maen nhw'n gweithio'n eithriadol o galed ac wedi gweithio'n eithriadol o galed nid dim ond dros y 18 mis diwethaf, ond yn wyneb rhybuddion ynglŷn â diffyg capasiti yn y blynyddoedd cyn hynny. Nawr, chwe blynedd yn ôl, mi wnaeth Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu arolwg o feddygon teulu yn Wrecsam pan ddywedodd traean ohonyn nhw eu bod nhw'n bwriadu gadael y proffesiwn o fewn pum mlynedd. Chwe blynedd yn ddiweddarach, wrth gwrs, mae hynny wedi'i wireddu, felly ydych chi'n difaru ichi fethu â gweithredu'n ddigonol yr adeg honno, yn wyneb y rhybuddion ynglŷn â cholli doctoriaid yn ardal Wrecsam, a beth ŷch chi'n ei wneud nawr i wneud yn iawn am hynny?

Wel, ar y foment bresennol, Llywydd, mae 770 o feddygon teulu yn gweithio yng ngogledd Cymru ac mae wyth swydd yn wag. So, dwi jest ddim yn derbyn beth mae'r Aelod yn ei ddweud. Dros y flwyddyn i gyd, mae 29 o swyddi wedi cael eu hysbysebu yn y gogledd. Mae nifer y bobl sy'n hyfforddi yn y maes yn y gogledd wedi cynyddu dros y blynyddoedd, a'r flwyddyn nesaf bydd 42 o bobl yn dod i'r gogledd, mwy nag mewn unrhyw flwyddyn yn y gorffennol, i gael eu hyfforddi fel meddygon teulu yn y gogledd. Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud; dŷn ni eisiau ehangu'r timau gofal sylfaenol, ffisiotherapyddion, fferyllwyr, parafeddygwyr ac yn y blaen, i wneud mwy o ran helpu pobl yng ngogledd Cymru i gael y gwasanaethau maen nhw eisiau eu gweld. Ond mae'r bobl sy'n gweithio'n galed nawr yn gweithio'n galed gyda ni i baratoi am bethau sy'n mynd i fod yn helpu pobl i wneud hynny yn y dyfodol ac yng ngogledd Cymru hefyd.

Prif Weinidog, yn ôl y cyngor iechyd cymuned, mae pobl mewn rhannau o Gymru yn wynebu argyfwng o ran mynediad at feddygon teulu. Mae bwrdd iechyd Betsi yn amcangyfrif bod y galw am apwyntiadau wedi cynyddu hyd at 20 y cant yn y meddygfeydd lleol y mae'n eu rheoli, felly wrth gwrs mae hyn yn rhoi pwysau gwirioneddol erbyn hyn ar ein meddygon teulu rheng flaen, wrth iddyn nhw ymgynghori yn fwy nag erioed gan ddefnyddio'r ffôn hefyd i drin a gwasanaethu ein pobl fwyaf agored i niwed.

Yng Nghymru, fodd bynnag, mae gwreiddiau'r broblem hon mewn mannau eraill. O dan y lwfans y pen yn Lloegr, ni all meddygfeydd fod â mwy na 2,000 o gleifion i bob meddyg. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio o 65 neu hŷn, mae'r nifer hwn yn lleihau ymhellach wedyn i 1,750 o gleifion. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn caniatáu nifer diddiwedd o gleifion i bob meddyg. Nid yw eich rheoliadau yn rhoi unrhyw sylw ychwaith i nifer y cleifion dros 65 oed. Yn ôl dadansoddiad meddygfeydd mis Gorffennaf 2021 a luniwyd gan y bartneriaeth cydwasanaethau, yn un o fy meddygfeydd yn lleol, sydd â dau feddyg cofrestredig, ceir 6,072 o gleifion cofrestredig. Er mwyn mynd i'r afael ag amseroedd aros, ac yna cydnabod realiti bywyd modern yn Lloegr ar ôl etholiad Llywodraeth Geidwadol y DU yn 2015, fe wnaethon nhw ddiwygio oriau gwaith ymarfer cyffredinol i gynnwys dwy noson tan 8 p.m. yn ogystal â bore Sadwrn. Felly, nid ydych chi wedi ystyried y newidiadau hynny.

14:00

A wnewch chi ddod at eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda, Janet? Rydych chi 50 y cant dros amser.

A wnewch chi gadarnhau pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd gyda'ch Gweinidog iechyd i adolygu nifer y cleifion y gall unrhyw un feddygfa eu cynnwys ar ei chofrestr, a hefyd—

Llywydd, rydym ni'n gweithio gyda Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru, rydym ni'n cynnal trafodaethau gyda nhw ar hyn o bryd, fel y byddwn ni'n ei wneud bob blwyddyn, ynglŷn â'r ffordd orau o drefnu a darparu gwasanaethau ymarfer cyffredinol yng Nghymru. Rydym ni'n siarad â meddygon teulu yng Nghymru i gael atebion addas i Gymru i'r problemau sy'n ein hwynebu. Nid ydym ni'n treulio ein holl amser, fel y mae'r Aelodau gyferbyn yn ei wneud, yn edrych dros y ffin fel pe bai'n rhyw wlad o laeth a mêl. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw siarad â'r bobl sy'n gweithio yn y system yma yng Nghymru a gyda nhw rydym ni'n llunio'r atebion sy'n diwallu ein hanghenion ac yn cyd-fynd â'n hamgylchiadau orau.

Prif Weinidog, yn ystod a chyn y pandemig roeddech chi'n ymwelydd rheolaidd â meddygfeydd teulu yn ne Clwyd, gan gynnwys yn y Waun a Llangollen. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch yr holl staff mewn meddygfeydd teulu am y gwaith anhygoel y maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig, gan gynnwys, wrth gwrs, staff derbynfa? A wnewch chi hefyd ymuno â mi i gondemnio'r holl ymddygiad ymosodol tuag at staff iechyd gofal sylfaenol?

Rwy'n sicr yn gwneud hynny, Llywydd. Diolchaf i Ken Skates; ar ei wahoddiad ef yr es i i'r Waun, gryn amser yn ôl erbyn hyn, ond yn llawer mwy diweddar i'r feddygfa wych yn Llangollen, meddygfa yr unfed ganrif ar hugain â'r holl gyfleusterau sydd eu hangen arnoch chi i redeg gwasanaeth gofal sylfaenol modern. Gwnaeth argraff enfawr arnaf i, Llywydd, i gael clywed yn uniongyrchol gan y staff yno am y ffordd yr oedden nhw wedi trefnu eu gwasanaethau yn ystod pandemig y coronafeirws, y nifer enfawr o frechiadau yr oedden nhw'n gallu eu gwneud mewn un diwrnod oherwydd y ffordd yr oedden nhw wedi trefnu'r gwasanaethau ar gyfer y boblogaeth leol honno, a chael clywed nid yn unig gan feddygon teulu ond, fel y dywedodd Ken Skates, gan reolwr y feddygfa ac eraill sy'n darparu'r gwasanaeth hwnnw. Mae'n enghraifft wych ac yn cael ei gwerthfawrogi yn enfawr gan y boblogaeth leol honno. Rwy'n cytuno yn llwyr, fel yr wyf i'n siŵr y mae'r Aelodau ar draws y Siambr, â'r hyn a ddywedodd Ken Skates: ni ddylai'r un o'r bobl hynny gael eu cam-drin am wneud y gwaith gwych y maen nhw wedi ei wneud ar ran eu poblogaethau lleol.

Yr Argyfwng Hinsawdd a Natur

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd meddwl pobl sydd yn dioddef trawma yn sgil yr argyfwng hinsawdd a natur? OQ56977

Llywydd, i'r rhai sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng hinsawdd, nod Llywodraeth Cymru yw rhoi cyfleon i gymryd camau ar y cyd sy'n gwneud gwahaniaeth. Er enghraifft, mae ein rhaglen o ddigwyddiadau o amgylch COP26 wedi ei chynllunio i roi gobaith i'r rhai sy'n teimlo eu bod wedi'u llethu gan faint yr argyfwng.

Diolch, Prif Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr, fod llifogydd wedi bod unwaith eto dros nos gan effeithio busnesau a thai yn fy rhanbarth. Yn wir, bûm allan y bore yma yn gweld y difrod gyda fy llygaid fy hun ym Mhontypridd, Cilfynydd a Rhydyfelin. Mae'r trawma, heb sôn am y dinistr, yn amlwg, a hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny na chafodd eu heffeithio neithiwr ond a ddioddefodd y llynedd, fel Clydach Terrace yn Ynysybwl, Oxford Street yn Nantgarw, dwi'n gwybod o'r degau o negeseuon wnes i eu derbyn dros nos eu bod nhw heb gysgu o gwbl neithiwr. Fe fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i'n parhau i ymgyrchu am ymchwiliad annibynnol i lifogydd 2020. Mae neithiwr, unwaith eto, yn profi i mi'r angen am hyn, ond hyd yn oed heb hynny, beth ydych chi am ei wneud i sicrhau mwy o gefnogaeth i ddioddefwyr llifogydd o ran eu hiechyd meddwl a'r trawma amlwg maen nhw'n parhau i'w ddioddef?

14:05

Llywydd, dwi wedi gweld adborth yn ôl oddi wrth pobl sy'n gweithio yn y rheng flaen ym Mhontypridd ac yn RCT i gyd ar ôl y glaw trwm neithiwr, ac rŷm ni'n dal i aros am y manylion diweddaraf.

Yn gyffredinol, i droi at y cwestiwn, rydym ni wedi gweithredu i gryfhau gwasanaethau trawma yng Nghymru, gan gynnwys yn yr amgylchiadau mae'r Aelod wedi'u disgrifio. Mae Straen Trawmatig Cymru wedi derbyn dros £1 miliwn o gyllid y flwyddyn ariannol yma. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan weithwyr yn y gwasanaethau hynny sydd yn dod i gyswllt â phobl mewn sefyllfa trawmatig y sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ymateb yn y ffordd orau.

Yn benodol, yn clywed beth ddywedodd yr Aelod am Ynysybwl, dwi'n gwybod bod Aelod etholaeth yr ardal wedi ysgrifennu at y Gweinidog Julie James am y materion hyn ym mis Gorffennaf. Fe wnaeth yr Aelod dderbyn ateb yn esbonio camau brys sydd wedi cael eu rhoi ar waith i gefnogi'r bobl hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd, yn ogystal â'r camau mwy hirdymor sy'n cael eu rhoi ar waith gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Prif Weinidog, mae llawer o bobl, gan fy nghynnwys i, yn pryderu yn gwbl briodol am iechyd ein planed ac iechyd meddwl ein pobl ifanc. Rwy'n cofio pryd cafodd rhaglen ddogfen ei dangos i bobl o fy oedran i yn yr ysgol, ar Al Gore yn rhagweld senario dydd y farn oni bai fod newidiadau radical yn cael eu gwneud, ac y byddai'r byd fel yr oeddem ni'n ei adnabod drosodd yn 2006. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni yma o hyd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddim byd o'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei ddangos i blant ar y teledu a'r cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn. Maen nhw'n cael eu gwleidyddoli yn llawer mwy ar y pwnc na chafodd fy nghenhedlaeth i erioed. Er bod angen i'n plant fod yn ymwybodol o'r newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng hinsawdd, mae gennym ni ddyletswydd i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sensitif i ddiogelu eu hiechyd meddwl. Rwyf i eisiau i'r genhedlaeth nesaf gael neges gadarnhaol ar ba gamau y gallwn ni eu cymryd, a chael effaith gadarnhaol ar ddiogelu'r amgylchedd. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei wneud yw dychryn pobl ifanc a gwneud iddyn nhw deimlo'n ddiymadferth neu ddal dig at y genhedlaeth ddiwethaf. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod ffordd well y gallwn ni addysgu plant ifanc Cymru am y newid yn yr hinsawdd mewn ffordd fwy sensitif nad yw'n cael effaith negyddol ar iechyd meddwl pobl ifanc, ond sy'n gweithio tuag at fynd i'r afael â'r heriau yr ydym ni i gyd yn eu hwynebu o ran yr hinsawdd? Diolch, Llywydd.

Llywydd, rwy'n cytuno â'r pwynt hwn y gwnaeth yr Aelod ei godi, bod yn rhaid i bob un ohonom ni ddod o hyd i ffyrdd o helpu'r bobl hynny sydd yn teimlo eu bod wedi eu llethu gan her y newid yn yr hinsawdd i ddod o hyd i bethau y gallan nhw eu gwneud sy'n gwneud gwahaniaeth, oherwydd dyna sy'n rhoi gobaith i bobl pan fyddan nhw'n teimlo yn anobeithiol, gan deimlo bod rhywbeth y gallan nhw ei wneud, a all, drwy ei ychwanegu at bopeth arall y mae pobl eraill yn ei wneud, gael effaith wirioneddol.

Mae gennym ni reswm da dros wneud hynny yma yng Nghymru. Byddwn yn gwybod, pan ddaeth y Senedd i fodolaeth, fod gan Gymru rai o'r cyfraddau ailgylchu isaf ledled y byd. Heddiw, mae gennym ni'r cyfraddau gorau ond dau ledled y byd. Pan fyddaf i'n siarad â phobl ifanc, rwy'n dweud wrthyn nhw, 'Dyna enghraifft o'r ffordd y mae modd gwneud gwahaniaeth. Ni ddylech chi deimlo yn anobeithiol am y dyfodol. Mae'n iawn i deimlo'n bryderus, ond os byddwn ni'n gwneud pethau iawn ac os byddwn ni'n gweithredu gyda'n gilydd, yna gallwn ni wneud gwahaniaeth.'

Nawr, pan fyddwn yn cynnal ein hwythnos hinsawdd ein hunain, Wythnos Hinsawdd Cymru, ym mis Tachwedd, bydd gennym ni gyfres o weithgareddau y bydd pobl ifanc yn arbennig yn gallu cymryd rhan ynddyn nhw. Mae'r cyfan yn canolbwyntio ar y pethau hynny y mae angen i ni eu gwneud heddiw, yn y ffordd y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid, llefarydd yr wrthblaid—mae'n ddrwg gen i—ddechrau ei gwestiynau heddiw: y pethau hynny y mae angen i ni eu gwneud o ran trafnidiaeth, o ran adeiladau preswyl, o ran yr economi gylchol, o ran y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â risgiau amgylcheddol. Ac os byddwn ni'n ei wneud fel hynny, trwy ddweud wrth ein pobl ifanc, cyn belled â'n bod ni'n gwneud y pethau iawn a chyn belled â'n bod ni'n eu gwneud nhw gyda'n gilydd, mae gobaith gwirioneddol ar gyfer y dyfodol, yna rwy'n credu y gallwn ni helpu i oresgyn rhai o'r teimladau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw.

14:10
Yr Amgylchedd Dysgu mewn Ysgolion

5. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn gwella'r amgylchedd dysgu mewn ysgolion ledled Cymru? OQ56981

Llywydd, diolchaf i Buffy Williams am y cwestiwn yna. Mae ein rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain eisoes hanner ffordd drwy ei hail don. Bydd y buddsoddiad gwerth £2.3 biliwn yn creu ysgolion a cholegau newydd, yn gwella ein seilwaith colegau ac ysgolion presennol, ac yn cefnogi anghenion cymunedau lleol.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n falch iawn y bydd y rhaglen hirdymor uchelgeisiol o ddiwygio addysg yng Nghymru yn parhau yn ystod y chweched Senedd gyda chwricwlwm newydd i Gymru, Bil addysg Gymraeg, y system anghenion dysgu ychwanegol newydd, a buddsoddiad ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Ddoe, derbyniodd aelodau cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gynigion i weddnewid Ysgol Gynradd Penrhys ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r rhain yn ddatblygiadau cyffrous iawn i'r ddwy ysgol, sydd ag angen dybryd am gyfleusterau newydd sbon. A ydych chi'n cytuno â mi y byddai cyfleusterau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn gwneud byd o wahaniaeth i lesiant ac addysg disgyblion a staff? Ac a wnewch chi ymrwymo i fuddsoddiad ysgolion yr unfed ganrif ar hugain pellach i helpu i gau'r bwlch ar anghydraddoldebau addysg yng Nghymru?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig iawn yna. Ni allaf ddychmygu bod unrhyw Aelod, yn y Siambr neu ar-lein, Llywydd, nad yw wedi gweld yr effaith y mae'r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi ei chael yn yr ardal y maen nhw'n ei chynrychioli. Mae'n rhaglen ragorol ac mae'n gwneud yn union y math o wahaniaeth y cyfeiriodd Buffy Williams ato ym mhob rhan o Gymru. Mae RhCT wedi bod, fel y byddem ni'n ei ddisgwyl, yn gyngor blaengar iawn yn y maes hwn, yn uchelgeisiol iawn ar gyfer yr hyn y gall y rhaglen ei wneud: cafodd £173 miliwn ei wario yn RhCT yn unig yn ystod band A y rhaglen; bydd £252 miliwn i'w wario yn ystod band B, ac mae hynny yn cynnwys, fel y bydd yr Aelodau wedi clywed, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Newyddion da iawn i wybod bod y cyngor wedi cadarnhau hynny a'r ysgol arall ddoe.

Llywydd, yn union fel yr awgrymodd Buffy Williams, nid yw'n ymwneud â nifer yr ysgolion sy'n cael eu gwella neu eu hadeiladu o dan y cynllun yn unig—170 ym mand A, 200 ym mand B—mae'n ymwneud ag ansawdd yr adeiladau a'r agendâu eraill hynny y gall yr ysgolion a'r colegau unfed ganrif ar hugain hynny eu datblygu erbyn hyn: yr agenda teithio llesol, yr agenda hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, gan eu gwneud nhw'n ysgolion gwirioneddol gymunedol, fel eu bod nhw'n cael yr effaith honno ar anghydraddoldeb mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae'n rhaglen ardderchog ac rydym ni, wrth gwrs, wedi ymrwymo'n llwyr iddi yn ystod y tymor Senedd hwn.

Prif Weinidog, yn fy marn i mae amgylchedd dysgu yn yr ysgol yn ymestyn ei hun i ansawdd y cyfleusterau sydd ar waith, ac mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yn rhagorol. Mae'n wych. Rwyf i wedi ymweld â llawer o ysgolion fy hun. Mae fy mab yn mynychu un. Maen nhw'n dda iawn, iawn. Ond pan oeddwn i'n gyrru yn ôl i lawr o gynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion ddoe, daeth yn amlwg iawn bod y cyfleusterau chwaraeon sydd gan ysgolion, boed hynny mewn ardal ddifreintiedig neu ardal a oedd yn fwy llewyrchus, yn llawer gwell na'r hyn sydd gennym ni yng Nghymru a'r hyn yr wyf i'n ei weld yn fy rhanbarth i a ledled Cymru pan fyddaf i'n ymweld ag ysgolion.

Yn bersonol, rwy'n credu os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynghylch iechyd plant, gordewdra plant a chyfle cyfartal yn gyffredinol, ledled y DU, yna mae angen i ni gael buddsoddiad enfawr yn y cyfleusterau chwaraeon ar draws pob ysgol, nid dim ond y rhai newydd sy'n cael eu hadeiladu. Mae maint y gwaith diweddaru sydd ei angen, yn fy marn i, mor fawr fel na allwn ni ddibynnu ar y cyllid gan yr awdurdodau lleol yn unig; mae'n rhaid iddo ddod gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae angen i'r newid aruthrol hwn y mae wir ei angen ddigwydd nawr os ydym ni o ddifrif ynghylch buddsoddi yn ein plant a dyfodol ein gwlad, i sicrhau bod gan ein plant y cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw ac maen nhw'n eu haeddu. A ydych chi'n cytuno â mi fod angen i'r Llywodraeth hon fuddsoddi yn ein plant nawr?

14:15

Rwy'n sicr yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd cyfleusterau chwaraeon, ac mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn sicr yn darparu hynny, ochr yn ochr â'r adeiladau ysgol y mae'n eu cynhyrchu. Yn fy etholaeth i, lle bydd Ysgol Uwchradd Fitzalan yn elwa ar raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae'n dod gyda phwll nofio newydd, mae'n dod gyda chaeau 4G, mae'n dod gydag academi griced newydd, gan wneud yr holl fathau o bethau y mae'r Aelod yn eu disgrifio. Rydym ni wedi darparu cyllid yn y flwyddyn ariannol hon i gyngor chwaraeon Cymru allu gwella cyfleusterau at ddefnydd cymunedol mewn ysgolion nad yw rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi eu cyrraedd eto. Felly, rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd yr Aelod, ac eithrio'r ffordd eithaf anobeithiol y mae Aelodau'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn dyheu yn barhaus eu bod nhw'n byw mewn gwlad wahanol.

Y Lluoedd Arfog

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gymuned y lluoedd arfog? OQ56980

Diolchaf i'r Aelod. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i barhau ac ychwanegu at yr amrywiaeth eang o gymorth sy'n cael ei ddarparu i'n cymuned lluoedd arfog yng Nghymru. Mae ein trydydd adroddiad blynyddol ar y cyfamod lluoedd arfog, a gyhoeddwyd ar 22 Mehefin, yn tynnu sylw at y cynnydd sydd wedi ei wneud a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un o'r pethau y mae'r gymuned lluoedd arfog yng Nghymru yn ei werthfawrogi yn wirioneddol yw'r cyfle i goffáu digwyddiadau arwyddocaol mewn hanes milwrol ac i fyfyrio a chofio'r rhai hynny a fu farw yn y cyfnodau hynny o wrthdaro. Un o'r llwyddiannau yr ydym ni wedi eu gweld yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran gallu coffáu digwyddiadau fu rhaglen Cymru'n Cofio, a oedd, yn fy marn i, yn hollol wych ac a ddylai fod wedi parhau i'r dyfodol. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i ailgyflwyno rhaglen Cymru'n Cofio fel y gall gynnwys pen-blwyddi arwyddocaol yn y dyfodol, gan gynnwys, er enghraifft, deugain mlynedd ers rhyfel y Falklands y flwyddyn nesaf, lle cafodd 48 o bobl o Gymru eu lladd a 97 eu hanafu? Dyma'r mathau o ddigwyddiadau arwyddocaol yr wyf i'n credu y mae angen i ni allu cynllunio ymhell ymlaen llaw ar eu cyfer. Tybed beth allwch chi ei ddweud wrthym ni heddiw am goffáu'r digwyddiad penodol hwnnw ac a allwch chi sefydlu math arall o raglen Cymru'n Cofio ar gyfer y dyfodol.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n cytuno ag ef, wrth gwrs, ynghylch pwysigrwydd coffáu'r digwyddiadau mawr hyn. Yr wythnos nesaf, Llywydd, fel y byddwch chi'n gwybod rwy'n credu, byddaf i'n cynrychioli Cymru yn nathliad canmlwyddiant y lleng Prydeinig yn y gwasanaeth coffáu yn abaty San Steffan. Ac, yn wir, yn yr wythnos ganlynol, byddaf i'n cymryd rhan ym marics Aberhonddu mewn digwyddiad coffáu'r gweithredoedd yr oedd milwyr Cymru yn rhan ohonyn nhw yn ystod yr ail ryfel byd wrth ryddhau rhannau o'r Iseldiroedd.

Mae'r Aelod yn gofyn am y gwrthdaro a ddigwyddodd yn y Falklands; bydd yn 40 mlynedd y flwyddyn nesaf. Rwy'n gwybod y bu'r Aelod ei hun yn rhan o goffáu'r pumed pen-blwydd ar ddeg ar hugain yma yn y Senedd. Rwy'n hapus i ddweud wrtho fod trafodaethau eisoes wedi eu cynnal gyda Llywodraeth yr Alban i wneud yn siŵr ein bod ni'n ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yno, a bwriedir cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU drwy'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Byddwn ni eisiau gwneud yn siŵr bod Cymru yn cyd-fynd â pha bynnag ddigwyddiadau coffáu sydd wedi eu cynllunio ledled y DU, ond rwy'n gwybod bod digwyddiadau lleol eisoes yn cael eu hystyried. Yn Wrecsam, bydd digwyddiad yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng sefydliadau lleol a'r Gwarchodlu Cymreig, ac mae Cymdeithas Medal De'r Iwerydd, rwyf i ar ddeall, yn ystyried digwyddiad coffáu yma yng Nghaerdydd. Felly, diolchaf i'r Aelod am dynnu sylw at yr angen i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer hyn a rhoddaf y sicrwydd iddo, ym mha ddigwyddiadau cenedlaethol bynnag sy'n cael eu cynllunio ac o ran cefnogi'r digwyddiadau lleol hynny hefyd, y bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i chwarae ein rhan.

14:20

Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog; cewch gefnogaeth ar gyfer hynny i gyd ar draws y Siambr gyfan. Ond, mae hefyd yn bwysig cefnogi'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu heddiw, a sicrhau bod gennym ni ganolfannau a lleoliadau yng Nghymru sy'n gallu cefnogi a chynnal lluoedd arfog heddiw. Yn y gorffennol, rydym ni wedi cael dadleuon yn y fan yma ynghylch strategaeth canolfan sefydlog i'n galluogi i gefnogi a chynnal lleoliad ychwanegol i luoedd arfog y DU yn y sir hon, i gefnogi a chynnal y diwydiannau sy'n cefnogi ein lluoedd arfog, a hefyd i sicrhau y gallwn ni barhau i gynnig cyfleusterau hyfforddi ar gyfer y lluoedd arfog. A fyddai Llywodraeth Cymru, felly, yn barod i wneud datganiad ar sut y bydd yn bwrw ymlaen â strategaeth canolfan sefydlog fel y gallwn ni barhau i gefnogi lluoedd arfog heddiw hefyd?

Diolchaf i Alun Davies am y cwestiwn yna. Mae'n tynnu sylw at bwynt pwysig iawn. Cymru yw 5 y cant o boblogaeth y DU, ac eto rydym ni'n darparu 9 y cant o bersonél sy'n gwasanaethu, ac mae gennym ni 2.5 y cant ohonyn nhw wedi eu lleoli yma yng Nghymru. Felly, rydym ni'n cyfrannu bron i ddwywaith ein cyfran o'r boblogaeth, ac eto mae gennym ni hanner ein cyfran o'r boblogaeth o ran strategaeth trefnu canolfannau'r lluoedd arfog. Rwyf i wedi codi hyn yn uniongyrchol—rwy'n siŵr bod pobl eraill wedi gwneud hefyd—gyda Gweinidogion y DU sy'n gyfrifol am adolygiad integredig Llywodraeth y DU, y maen nhw'n ei gynnal ar hyn o bryd. Rwy'n credu eu bod nhw'n iawn i fod yn bryderus am yr adolygiad hwnnw. Nid yw dyfodol barics Aberhonddu yn sefydlog. Mae presenoldeb pwysig iawn gan y fyddin yng ngorllewin Cymru, yr ydym ni'n gwybod sydd—wel, gadewch i ni ddweud 'dan ystyriaeth' yn unig yn rhan o'r adolygiad hwnnw.

Mae Llywodraeth bresennol y DU yn sôn llawer am ei hymrwymiad i'r Deyrnas Unedig. Un o'r darnau o'r glud sy'n dal y Deyrnas Unedig gyda'i gilydd, yn fy marn i, yw bod gennym ni luoedd arfog cyffredin ar draws y DU gyfan. Mae'n ddyletswydd felly, yn fy marn i, ar Lywodraeth y DU i ddangos i bob rhan o'r Deyrnas Unedig eu bod nhw'n cael cyfran deg o effaith ymarferol y lluoedd arfog hynny yn y pedair gwlad. Nid oes gan Gymru hynny ar hyn o bryd, yn fy marn i. Rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad integredig yn helpu i unioni hynny. Gofynnodd Alun Davies am ddatganiad gan y Llywodraeth, ac rwy'n falch o ddweud y byddem ni'n barod i wneud datganiad o'r fath pan fydd canlyniadau'r adolygiad integredig yn cael eu cyhoeddi, a disgwylir hynny yr hydref hwn.

Brechlyn COVID-19

7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl i gael brechlyn y coronafeirws? OQ56978

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig iawn yna. Mae ymdrechion i roi hwb i'r nifer sy'n cael brechiad ymhlith y rhai sy'n dal i fod heb eu brechu yn erbyn COVID-19 yn parhau, gydag amrywiaeth o gamau gweithredu ar waith i alluogi mynediad rhwydd ac i feithrin ymddiriedaeth. Mae clinigau dros dro, canolfannau galw i mewn, clinigau gyrru i mewn a gwaith gweithwyr allgymorth byrddau iechyd ymysg y dulliau sy'n cael eu defnyddio i wneud hynny.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi bod y nifer sy'n manteisio ar y brechlyn ar draws pob grŵp demograffig yn parhau i fod yn eithriadol o uchel, er gwaethaf y ffaith bod pobl sy'n eu gwrthwynebu yn gwneud llawer o sŵn, ond yn dal i fod yn lleiafrif bach iawn. Ond mae angen i ni symud ymlaen. Rydym ni wedi gweld llawer o waith da, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, o ran estyn allan at fwy o gymunedau sy'n petruso ynghylch brechu. Felly, sut mae'r dysgu hwnnw yn llywio'r broses o gyflwyno'r rhaglen i bobl ifanc 12 i 15 oed erbyn hyn? Oherwydd nid yw'r neges yr un fath yn union, nac ydy? Mae angen i fenywod beichiog, er enghraifft, wybod bod COVID, yn enwedig yn y trydydd tri mis, yn cynyddu'r risg o salwch difrifol a mynd i'r ysbyty, ond i bobl ifanc, ydy, mae'n ymwneud ag amddiffyniad rhag COVID a COVID hir, ond mae hefyd yn ymwneud â cholli'r ysgol a'r tarfu a'r gofid y mae hynny'n eu hachosi.

Diolchaf i Joyce Watson. Mae'r pwyntiau hynny i gyd yn rhai pwysig iawn. Mae hi'n iawn bod y nifer sydd wedi manteisio ar y brechlyn yng Nghymru wedi bod yn uchel iawn ac mae wedi bod yn uchel iawn ar draws yr ystodau oedran. Mae bwlch rhwng cymunedau sy'n petruso ynghylch brechu a phawb arall, ond mae'r bwlch hwnnw wedi cau ychydig. Nid yw'n ddigon cyflym, ond rydym ni'n cyhoeddi'r ffigurau bob tair wythnos, a phob tair wythnos rydym ni'n gweld y bwlch hwnnw yn cael ei erydu yn araf. Ac mae hynny oherwydd yr holl gamau y gwnes i sôn amdanyn nhw yn fy ateb gwreiddiol, ynghyd â phopeth arall yr ydym ni'n ei wneud—canolfannau brechu mewn canolfannau ffydd, canolfannau diwylliannol, canolfannau cymunedol, rhannu'r neges lle mae pobl eu hunain i'w cael.

Rydym ni'n iawn i boeni am weithgareddau'r bobl sy'n gwrthwynebu'r brechlyn. Roeddwn i'n bryderus iawn o gael rhai adroddiadau dros y penwythnos o rannau o ranbarth yr Aelod ei hun lle'r oedd taflenni yn cael eu danfon a phlant yn cael eu targedu gan bobl sy'n gwrthwynebu'r brechlyn. Mae hynny yn creu amgylchedd sy'n ei gwneud yn fwy anodd argyhoeddi rhai pobl, gan eu bod nhw'n clywed yr wybodaeth hynod gamarweiniol hon, ac maen nhw'n cael yr wybodaeth honno cyn y gallwch chi eu cyrraedd gyda gwybodaeth fwy cywir a darbwyllol. I fenywod beichiog, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Joyce Watson: mae'r brechlyn yn ddiogel i fenywod beichiog drwy gydol beichiogrwydd, ac mae'r risg o COVID yn llawer uwch nag y byddai o'r brechlyn.

I bobl ifanc 12 i 15 oed, rydym ni wedi caniatáu yn fwriadol gyfnod o amser i'r sgyrsiau hynny gael eu cynnal rhwng rhieni, eu plant a'r bobl sy'n gyfrifol am y rhaglen frechu mewn gwahanol rannau o Gymru, i wneud yn siŵr bod y bobl ifanc hynny yn cael y cyfle gorau posibl i gael yr wybodaeth orau bosibl, ac yna, hyn yr ydym yn ei obeithio, penderfynu manteisio ar y cynnig o gael eu brechu.

14:25
Gwasanaethau Gofal Plant a Chwarae

8. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith i gefnogi gwasanaethau gofal plant a chwarae? OQ56961

Rydym ni wedi hir gydnabod pwysigrwydd gofal plant a gwasanaethau chwarae ledled Cymru. Hoffwn i ddiolch iddyn nhw'n arbennig am y rhan y maen nhw wedi ei chwarae wrth gefnogi plant a theuluoedd drwy gydol y pandemig, ac, yn fwyaf diweddar, yn ystod y rhaglen Haf o Hwyl.

Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o weld y datganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i wasanaethau gofal plant a chwarae i wrthsefyll effeithiau COVID-19. Rwy'n croesawu'r sylwadau ynghylch asesiadau digonolrwydd chwarae a chefnogi Chwarae Cymru yn eu gwaith i gynnal yr adolygiad gweinidogol o chwarae. Sut y bydd gwella cyfleoedd ar gyfer chwarae cynhwysol, fel y gall pob plentyn a pherson ifanc fanteisio ar gyfleoedd chwarae o safon gyda'u cyfoedion, yn cyd-fynd â'r gwaith hwn?

Diolch i'r Aelod am hynny. Rwy'n gwybod bod ganddi ddiddordeb ers tro yn hyn i gyd, ar ôl arwain dadl ar y materion hyn ar lawr y Senedd tua diwedd tymor diwethaf y Senedd. Mae'r £5.1 miliwn a gafodd ei gyhoeddi gan fy nghyd-Aelod Julie Morgan yn ddiweddar wedi ei gynllunio i wneud yr union bethau y mae Vikki Howells wedi sôn amdanyn nhw: atgyfnerthu'r ddarpariaeth chwarae mewn gwahanol rannau o Gymru, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth chwarae honno yn gynhwysol ac ar gael i bob plentyn. Yn bwysig iawn, yn rhan o'r cyllid hwnnw, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddangos sut y maen nhw wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc eu hunain wrth gynnal yr asesiadau hynny ac yna gwneud penderfyniadau ynghylch sut y mae modd defnyddio'r arian hwnnw orau.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw: mae gan y datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol deitl newydd 'Gweithredu cenedlaethol llesiant cenedlaethau'r dyfodol'. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w gweld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r gwasanaeth ambiwlans. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei gwneud yn glir y bydd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn fisol am y cyflawni o ran y cynllun cyflenwi ambiwlansys, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai modd eu cyhoeddi fel y gallai Aelodau'r Senedd gael copi o'r wybodaeth ddiweddaraf honno hefyd, fel y gallwn ni ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ynghylch y ddarpariaeth honno.

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad—datganiad brys—gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar gadwraeth gwiwerod coch? Cefais hysbysiad yr wythnos diwethaf gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn bwriadu clirio 6,500 tunnell o bren o goedwig Pentraeth, sydd, wrth gwrs, yn gadarnle i'r wiwer goch, ac yn un o'r ychydig gadarnleoedd gwiwerod coch yng Nghymru. Y broblem gyda hyn yw eu bod yn bwriadu clirio rhwng mis Hydref a mis Mawrth 2021. Cyfnod prysuraf y tymor bridio yw mis Chwefror a mis Mawrth ar gyfer gwiwerod coch. Bryd hynny, bydd y rhai ifanc yn eu nythod, ac oherwydd dwysedd y boblogaeth yn yr ardal honno, mae'n debygol y bydd llawer yn cael eu lladd. Yn amlwg, nid yw hynny'n beth da; mae angen edrych arno, a byddwn i'n gwerthfawrogi'n fawr pe gallai'r Gweinidog Newid Hinsawdd godi hyn yn uniongyrchol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod yr hyn y mae modd ei wneud er mwyn lliniaru'r mater penodol hwnnw. Diolch.

14:30

Diolch. O ran eich ail gwestiwn ynghylch effaith torri coed ar boblogaeth y wiwer goch yng Ngwynedd ac Ynys Môn, rwy'n gwybod bod CNC wedi ymgynghori â rhanddeiliaid, mae'n debyg ei fod tua 10 mlynedd yn ôl erbyn hyn, pan wnaethon nhw lunio'r cynllun datblygu coedwigoedd presennol. Felly, maen nhw wrthi, yn amlwg, yn disodli'r cynllun hwnnw gyda chynllun adnoddau coedwigoedd newydd, sef yr hyn yr ydych chi'n cyfeirio ato. Felly, unwaith eto, bydd ymgynghoriad manwl yn cael ei gynnal gyda rhanddeiliaid cyn unrhyw benderfyniadau terfynol, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys grwpiau gwiwerod coch.

O ran eich cwestiwn cyntaf ynghylch cyhoeddi'r data perfformiad misol, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol ystyried eich cais.FootnoteLink

Wrth i ni nesáu at COP26, hoffwn i gael datganiad ynghylch yr hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i ymdrin â'r pryder hinsawdd y mae nifer cynyddol o bobl ifanc yn ei deimlo. Arweiniais i ddadl ar y mater hwn ym mis Mehefin, Trefnydd, ac rwyf i'n awyddus iawn i ni weld cynnydd. Gwnaeth astudiaeth gan Brifysgol Caerfaddon ddarganfod bod 56 y cant o bobl ifanc yn credu ei bod hi ar ben ar ddynoliaeth oherwydd newid yn yr hinsawdd. Mae'r teimlad hwn o bryder yn endemig ac mae'n gwaethygu. Ac rwyf i wedi siarad â'r llysgenhadon hinsawdd ieuenctid am y mater hwn hefyd. Yr hyn sydd ei eisiau ar bobl ifanc a'r hyn sydd ei angen arnyn nhw yw teimlo eu bod wedi eu grymuso, bod pobl yn gwrando arnyn nhw, i wybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain wrth deimlo'n ofnus neu'n bryderus, ac i wybod beth sy'n cael ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng, yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i chwarae ein rhan.

Trefnydd, mae cyflawni'r cydbwysedd cywir yn allweddol o ran peidio â bychanu difrifoldeb y newid hinsawdd, ond ei ail-lunio yn y cwricwlwm, yn y canllawiau sy'n cael eu rhoi i athrawon, fel bod y pwyslais ar y prosiectau cymunedol gwych a chadarn sy'n mynd rhagddynt, camau ataliol, a'r asiantaeth sydd gennym ni i gyd. Rwy'n gwybod bod hyn wedi ei godi'n gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, Trefnydd, ond nid yw pobl ifanc  yn dymuno clywed bod eu hofnau'n ddi-sail, oherwydd dydyn nhw ddim. Mae ganddyn nhw bob hawl i fod yn ddig hefyd oherwydd y cyflwr y mae'r byd ynddo wrth i ni ei roi iddyn nhw, ond mae angen i ni weithio gyda phobl ifanc nid ar eu rhan yn unig.

Felly, a wnaiff y Llywodraeth ddatganiad cyn gynted â phosibl yn nodi sut y byddwch chi'n gweithio gyda phob un ohonom ni sy'n dymuno rhoi sylw i bryder yn yr hinsawdd a'i achosion, a rhoi llais cryfach i bobl ifanc wrth ein helpu i benderfynu sut yr ydym yn mynd i'r afael â her fwyaf y ddynoliaeth ar y cyd?

Diolch. Wel, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud, wrth ateb y cwestiwn a gafodd ei ofyn iddo, am y gwaith y byddwn ni'n ei wneud unwaith eto gyda phlant a phobl ifanc yn rhan o'n hwythnos newid hinsawdd, a fydd yn amlwg yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd. Yn sicr, yn y ddwy flynedd flaenorol pan wnaethom ni gynnal ein cynhadledd gyntaf, a oedd yn un diwrnod yn unig pan wnaethom ni ei chynnal yn 2019, rwy'n credu, ac yna fe wnaethom ni gynnal wythnos y llynedd yn 2020, roedd plant a phobl ifanc yn rhan gwbl hanfodol o'r wythnos honno, ac rydym ni'n sicr yn eu hannog i gymryd rhan hefyd. Felly, nid wyf i'n credu ein bod ni byth yn dweud bod eu pryderon yn ddi-sail, ac yr ydych chi'n hollol gywir; mae'n fater i bob un ohonom ni, nid yn unig yn y Siambr hon, ond y tu allan, ledled Cymru gyfan, i sicrhau bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud o ran y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau yn helpu i liniaru'r newid yn yr hinsawdd.

Yn gyntaf, rwy'n siŵr bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod y defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi gan gwmnïau mor wrthun â mi. Er na all Llywodraeth Cymru ei gwahardd gan nad yw cyfraith cyflogaeth wedi ei datganoli, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar sut y mae modd eithrio cwmnïau sy'n cyflawni'r arfer hwn o gontractau Llywodraeth Cymru, neu o gontractau gyda chyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a hefyd, sut y mae modd eu heithrio o gyllid grant yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn amdano yn ymwneud â pharhau i weithio gartref ac mewn canolfannau. Rwy'n credu mai dyma'r ffordd ymlaen—roedd dod â phobl i swyddfa rhwng naw a phump yn bwysig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hyd yn oed ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, ond gan fod data ar gael yn rhwydd ar-lein, mae'r rheswm dros lawer iawn o waith swyddfa wedi diflannu. Byddai hefyd yn lleihau faint o draffig sydd ar y ffordd, gan ddileu unrhyw angen am ffyrdd osgoi, a byddai'n helpu'r amgylchedd.

Diolch. O ran diswyddo ac ailgyflogi, rydym ni'n pryderu'n fawr ynghylch yr arfer o osod telerau ac amodau newydd ar weithwyr drwy'r dacteg o ddiswyddo ac ailgyflogi, ac rydym ni'n glir iawn nad yw'r math hwnnw o arfer yn cyd-fynd o gwbl â'n gwerthoedd gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol ni. Rydym ni'n annog pob cyflogwr i ddatrys materion anodd a heriol drwy bartneriaeth gymdeithasol, ond, wrth gwrs, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mater i Lywodraeth y DU ydyw—mae ganddyn nhw bwerau a gadwyd yn ôl i roi terfyn ar ddefnyddio arferion diswyddo ac ailgyflogi yn anghyfrifol, ac rydym ni'n sicr wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithredu yn hyn o beth. Yn sicr, byddem ni'n disgwyl i gwmnïau sy'n elwa ar fuddsoddiad cyhoeddus weithredu yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, ac y dylai hynny ganolbwyntio yn llwyr ar les eu gweithwyr a budd ehangach y cyhoedd. Bydd Mike Hedges yn ymwybodol o'r camau yr ydym ni'n eu cymryd i gryfhau ein dull gweithredu, drwy'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), a fydd, pan gaiff ei gyflwyno, ac os caiff ei basio, yn cyflwyno dyletswyddau newydd o ran partneriaeth gymdeithasol.

O ran parhau i weithio gartref a gweithio mewn canolfannau, cyngor Llywodraeth Cymru yw y dylech chi weithio gartref lle bynnag y bo modd. Fel y gwyddom ni, mae hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr i atal COVID-19 rhag lledaenu. Ac rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yw na fydd hen ffyrdd o weithio, mae'n debyg—wel, rwy'n credu eu bod yn annhebygol iawn o ddychwelyd yn yr un ffordd yn union, ac rydym ni'n sicr wedi gweld llawer o fusnesau a gweithwyr yn datgan awydd am batrwm gwaith newydd, sy'n galluogi pobl i weithio yn y gweithle, gartref, yn agos i gartref, neu hyd yn oed mewn canolfannau gwaith lleol. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth—. Rwy'n credu bod y math hwnnw o weithio hyblyg gan fusnesau a gan gyflogwyr, yn fy marn i, yn cryfhau cymunedau lleol hefyd a'r economi leol, ac rwy'n credu ei fod yn sicr yn rhywbeth y byddwn ni'n ei weld yn parhau.

14:35

Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofnod yn y gofrestr buddiannau. Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog Newid Hinsawdd am roi o'i hamser i ateb fy nghwestiynau ysgrifenedig ynglŷn â gwrthbwyso carbon a chyfrif allyriadau net Cymru—yr NWEA. Ac rwy'n siŵr y bydd y Trefnydd yn rhannu fy nychryn ynglŷn â'r ffaith bod busnesau rhyngwladol yn gwrthbwyso eu hallyriadau carbon eu hunain ar draul tir fferm traddodiadol Cymru—mae hi a minnau eisoes wedi trafod hyn yn fyr. Yn wir, rwy'n siŵr bod y Trefnydd a'i chyd-Weinidog, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn ymwybodol iawn nad yw gollwng credydau carbon Cymru i fusnesau y tu allan i Gymru yn gwneud dim i leihau ôl troed carbon Cymru ei hun; hefyd, mae gwerthu carbon fel hyn yn peryglu tanseilio gallu ffermydd Cymru, amaethyddiaeth Cymru, neu Gymru yn ei chyfanrwydd i fod yn garbon niwtral. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ar ba gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddiogelu tir fferm traddodiadol Cymru rhag cael ei brynu gan fusnesau tramor? A pha fesurau diogelu sy'n bodoli i sicrhau nad yw credydau carbon Cymru, sy'n cael eu prynu er mwyn gwrthbwyso allyriadau o'r tu allan i Gymru, yn cael eu cyfrif ddwywaith a'u defnyddio i wrthbwyso allyriadau Cymru ei hun? Diolch.

Diolch. Mae'n ymwneud â chydbwysedd, onid yw? Ac rwyf i wedi dweud ar lawr y Siambr o'r blaen, ni allwn ni ddweud wrth ffermwyr i bwy i werthu eu tir, ac mae'n rhywbeth sy'n amlwg yn peri pryder i ni. Rwy'n credu bod y mater yr ydych chi'n ei godi—rwyf i newydd gael trafodaeth, mewn gwirionedd, gyda Llyr Huws Gruffydd ynglŷn â'r ffordd i mewn i'r Siambr ynghylch hyn, a sicrhau ein bod ni'n osgoi cyfrif ddwywaith. Mae'n sicr yn rhywbeth y gallwn ni edrych arno yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy.

A gaf i ofyn am ddadl, yn hytrach na datganiad, ar gyfle elusennau a grwpiau cymunedol i fancio am ddim i? Yn anffodus, HSBC yw'r diweddaraf o'r banciau i gymryd yr arian a'i heglu hi, a byddan nhw'n cyflwyno taliadau i Sefydliad y Merched, grwpiau sgowtiaid a geidiaid lleol, clybiau chwaraeon lleol, ac eraill, o ddiwedd y mis hwn ymlaen. Mae'n beth pwysig iawn i rai grwpiau, sydd wedi cael amser mor anodd wrth ddod drwy'r pandemig, i ddarganfod yn awr eu bod nhw'n mynd i wynebu taliadau. Felly, mae angen i ni ddangos iddyn nhw sut y gallwn ni barhau i ddarparu gwasanaethau bancio am ddim ar eu cyfer.

A gawn ni hefyd ddatganiad mewn ymateb i lawer o etholwyr sydd wedi ysgrifennu ataf i ynglŷn â chyflwr ein hafonydd? Ac rwy'n datgan buddiant fel hyrwyddwr eogiaid y Senedd am y pum mlynedd nesaf. Ond maen nhw wedi ysgrifennu ataf i'n arbennig ynglŷn â mater afon Gwy, a'r hyn y maen nhw'n eu hystyried yw'r peryglon gwirioneddol yma yw ein bod ni'n tynnu bywyd allan o'r afon honno ar gyfer infertebratau, ar gyfer pysgod, ac ar gyfer bywyd gwyllt arall, ac ar gyfer y cynefin rhyfeddol hwnnw y mae'n ei ddarparu. Ac maen nhw'n cyfeirio'n benodol, mae'n rhaid i mi ddweud, at y ffosffad sy'n cael ei gynhyrchu erbyn hyn o Bowys, y cynhyrchydd wyau buarth mwyaf yn Ewrop gyfan a bod yn onest. Mae'n ychwanegu'r hyn sy'n cyfateb i 2,000 tunnell bellach o ffosffadau ledled y dalgylch dŵr cyfan yn afon Gwy, ac wrth gwrs mae'n effeithio ar bob etholaeth ar y ffordd i lawr. Nid dyma'r unig lygrydd, gyda llaw, yn yr ardal honno, ond mae yn cael effaith fawr wrth gwrs.

Ac i orffen, a gawn ni ddatganiad ar wefru cerbydau trydan lle nad oes parcio wrth ymyl y ffordd, lle nad oes gwefru mewn hybiau cymunedol, a lle nad oes parcio oddi ar y ffordd yn eich dreif eich hun? Mae gen i bobl sy'n byw mewn tai teras sydd yn gofyn bellach a yw'n gyfreithlon rhedeg cebl ar draws y palmant. Mewn gwirionedd, mae gan rai awdurdodau lleol bolisi 'na' cyffredinol i hyn; nid oes gan eraill unrhyw bolisi o gwbl. Byddai'n wych cael datganiad i roi eglurder. Diolch, Llywydd.

Diolch, Huw Irranca-Davies. Felly, o ran bancio am ddim i elusennau a grwpiau cymunedol, rwy'n credu ei bod yn ddiogel dweud ein bod ni'n sicr wedi gweld nifer o sefydliadau gwirfoddol, ledled Cymru, yn cael anawsterau o ran gwasanaethau bancio. Mae hynny o ran nodi cyfrif sydd am ddim, yn ogystal â bod yn agored yn y lle cyntaf, oherwydd, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld nifer sylweddol o fanciau yn cau, ynghyd â'r peiriannau codi arian am ddim hefyd. Byddwch chi’n ymwybodol o'r gwaith y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ei wneud gyda Chymorth Trydydd Sector Cymru, ac rwy'n gwybod ei bod hi ar fin penodi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i sefydlu cronfa benthyciadau cymunedol—mae'n ddrwg gen i, cronfa benthyciadau asedau cymunedol—a fydd, rwy'n siŵr, yn helpu yn y ffordd honno.

Eich ail gwestiwn ynghylch Afon Gwy—a byddwch chi'n ymwybodol o'n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol ar gyfer hamdden, er enghraifft. A'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud mewn gwirionedd yw gwella trefniadau rheoli llygredd afonydd yn y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud gyda'n traethau a gyda'n dŵr môr. Felly, mae hwn yn ddarn sylweddol o waith, ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae amrywiaeth eang o ffynonellau sy'n llygru ein hafonydd, ac mae CNC yn gweithio gyda Dŵr Cymru ar hyn o bryd i edrych ar fodelau i ddosrannu ffynonellau i lefelau llygryddion ar lefel is-ddalgylch. Rwy'n amlwg yn ymwybodol iawn o'r pryderon ynghylch ffermydd dofednod, ac mae'n drafodaeth yr wyf i wedi ei chael ynghylch materion cynllunio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am gynllunio, i weld a oes angen i ni ystyried y trothwy ar gyfer y ffermydd dofednod hyn, ac mae hynny yn ddarn parhaus o waith.

O ran eich cwestiwn ynghylch cerbydau trydan, mae'n amlwg bod gan awdurdodau priffyrdd ac awdurdodau lleol y gallu i fabwysiadu eu safbwyntiau eu hunain, ac, fel y dywedwch chi, efallai fod amrywiaeth o safbwyntiau ledled Cymru, o ran sut yr ydym ni'n gwneud hynny. Rwy'n gwybod bod rhai treialon ar y gweill yn Lloegr, ar hyn o bryd, ac rwy'n credu y byddwn ni'n eu gwylio nhw yn agos iawn, ond rwyf i'n meddwl mai mater i awdurdodau lleol ac awdurdodau priffyrdd yw mabwysiadu eu safbwyntiau eu hunain yn y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ati—gan edrych ar ddiogelwch priffyrdd—oherwydd, yn amlwg, iddyn nhw mae penderfynu yr hyn sydd orau i'r ardal leol a'r boblogaeth.

14:40

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â sicrhau bod gwasanaethau electroretinograffeg ar gael i gleifion llygaid yma yng Nghymru? Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle nad yw'r gwasanaeth hwn ar gael i gleifion llygaid, ac rwy'n clywed bod yr unig ganolfan yng Nghymru, a oedd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, wedi cau 18 mis yn ôl. Fe ofynnais i'r Gweinidog ynglŷn â hyn mewn cwestiwn ysgrifenedig, ac roedd yr ateb yn dweud bod grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i ffurfio i adolygu dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â hyn ac y byddai argymhellion y grŵp yn arwain at gamau priodol. O ystyried bod angen gweithredu ar fyrder i atal pobl rhag colli eu golwg, a gawn ni ddatganiad ynglŷn â'r amserlenni sydd dan sylw, a phryd y gallem ni ddisgwyl i'r grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw adrodd yn ôl? Diolch i chi.

Wel, nid wyf i'n gwybod pryd fydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn adrodd, ond rwy'n siŵr, pan fydd yn gwneud hynny i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fe wnaiff hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni.

Yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ddydd Llun 20 Medi, fe ofynnwyd i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â'r gwaith sy'n cael ei wneud i baratoi ar gyfer cynllun treialu incwm sylfaenol. Fwy nag unwaith, roedd hi'n hamddenol o ran bod yn fwy penodol ynghylch rhai o'r materion dan sylw, gan nodi mai'r rheswm am hynny oedd y byddai hi'n rhoi datganiad eto yn y Cyfarfod Llawn. Ar ôl gwrando ar y datganiad busnes, nid oes dim wedi cael ei drefnu, sy'n golygu mai'r cyfle cyntaf i hyn ddigwydd fyddai dydd Mawrth y 9fed o Dachwedd, tua saith wythnos ers i'r pwyllgor gyfarfod. Ni ddylid defnyddio'r addewid o ddatganiad fel esgus i Weinidog osgoi ateb cwestiynau, pan fo Rheol Sefydlog 16 yn nodi mai rhan o waith pwyllgor yw archwilio materion polisi'r Llywodraeth. Fel arall, fe allai addewid o ddatganiad, waeth pa mor bell i'r dyfodol, fynd yn amddiffyniad rheolaidd ar gyfer gwrthod rhoi manylion yn y pwyllgor lle mae'r craffu yn digwydd. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd datganiad yn cael ei wneud yma, os gwelwch chi'n dda? Diolch i chi.

Os yw'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi addo cyhoeddi datganiad, naill ai un llafar neu un ysgrifenedig, fe allaf sicrhau'r Aelod yn llwyr y caiff hwnnw ei gynnwys yn ein busnes Llywodraeth.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd nesaf ar ddiweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Y Gweinidog, Eluned Morgan, i wneud ei datganiad.  

Diolch yn fawr, Llywydd. Yn gynharach heddiw, mi wnes i gyhoeddi'r ddau adroddiad diweddaraf gan y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth. Dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am y rôl maen nhw wedi parhau i chwarae dros y flwyddyn ddiwethaf a'u hymrwymiad parhaus i'r gwaith yma. 

Mae hwn wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, ac mae'r adroddiad ar gynnydd o ran gwasanaethau mamolaeth yn tanlinellu'r effaith a gafodd y pandemig ar ei allu i gynnal cyflymder y broses o sicrhau gwelliant. Wedi dweud hynny, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cael ein calonogi wrth i'r panel gadarnhau bod y bwrdd iechyd, er gwaethaf hyn, wedi dal ati i wneud cynnydd eto o ran gwella ei wasanaethau mamolaeth, gyda phump o argymhellion eraill gan y colegau brenhinol yn cael eu cyflawni—felly, dyna 55 o 70. Yn bwysig iawn, maen nhw'n fodlon bod y gwelliannau a wnaethpwyd dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf bellach wedi ymwreiddio yn ddwfn mewn arfer, gan sicrhau newid y bydd modd ei gynnal. Rwyf i wedi fy nghalonogi yn fawr iawn o weld bod newid sylfaenol wedi digwydd yn y ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn ymgysylltu â menywod a theuluoedd.

Ond ni ellir anghofio'r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac ochr yn ochr â'r diweddariad hwn ar y cynnydd, mae'r 'Adroddiad Thematig Categori Marw-enedigaethau', sy'n manylu ar y canfyddiadau a'r gwersi o 63 achos o ofal a arweiniodd yn drasig at farw-enedigaeth, yn arbennig o ddirdynnol i'w ddarllen. Ac er bod y canfyddiadau yn cyd-fynd ag adolygiad blaenorol y colegau brenhinol ac, yn wir, adolygiadau tebyg ledled y DU, ni fydd hwn yn ei gwneud hi'n haws i'r menywod na'r teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae hi'n drueni ofnadwy y gellid bod wedi osgoi canlyniad gwael mewn un o bob tri achos o ofal, pe bai'r gofal wedi bod yn wahanol. Nodwyd mân ffactorau y gellid bod wedi eu newid nhw hefyd mewn bron i ddwy ran o dair o'r achosion o ofal a adolygwyd. Er nad oedd y rhain yn debygol o fod wedi cyfrannu at y canlyniad gwael, mae'r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at lawer o ddiffygion yn ansawdd y gofal a gafodd menywod a'r safonau yr oedd ganddyn nhw hawl i'w disgwyl. Roeddwn i'n arbennig o drist o ddarllen yr adborth gan y menywod a'r teuluoedd hynny a rannodd eu straeon nhw, a oedd yn ategu hyn ymhellach, ac mae hi'n wir ddrwg gennyf i am hynny. Er nad oes dim a ellir ei wneud i newid yr hyn a ddigwyddodd iddyn nhw, rwy'n gobeithio y bydd y gwelliannau sydd wedi digwydd o ganlyniad i hyn yn rhywfaint o gysur iddyn nhw. Ac a gaf i ddweud na allaf i ddechrau dychmygu'r boen y mae'r menywod hynny a'r teuluoedd hynny sy'n galaru am eu babanod yn ei ddioddef o hyd.

Ni allwn ni danystyried pa mor anodd fydd y canfyddiadau hyn i'r staff. Rwyf i o'r farn gref fod y mwyafrif llethol o'n staff ni'n mynd i'r gwaith bob dydd yn ein GIG i wneud gwaith da. Y system y maen nhw'n gweithio ynddi hi sy'n gallu eu hatal weithiau rhag darparu'r gofal gorau posibl. Mae ymrwymiad staff i sicrhau canolbwyntio parhaus ar wella, er gwaethaf y pwysau gweithredol a wynebwyd ganddyn nhw, yn dangos mai dyna yw'r gwirionedd.

Er i lawer gael ei gyflawni, mae'r adroddiad yn ein hatgoffa ni bod mwy i'w wneud eto, gyda'r canolbwyntio erbyn hyn ar symud tuag at ddull parhaus o wella mwy cyfannol, i'r tymor hwy. Yr hyn sy'n allweddol yn hyn o beth yw meithrin mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau newyddenedigol a mamolaeth. Mae'r Aelodau eisoes yn ymwybodol bod y panel yn canolbwyntio nawr ar y gwasanaeth newyddenedigol. Mae'r adolygiadau clinigol unigol yn y categori newyddenedigol yn mynd rhagddynt, ac mae'r panel wedi dweud wrthyf eu bod nhw'n bwriadu dechrau rhannu canfyddiadau â menywod a theuluoedd yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Dwi'n sylweddoli pa mor anodd yw hi i'r rhai sydd wedi'u heffeithio i orfod aros am ganlyniadau'r ymchwiliad, ond, yn anffodus, mae cyflymder y broses wedi'i effeithio oherwydd ymrwymiadau gweithredol cynyddol yr adolygwyr clinigol, yn ogystal â thîm y bwrdd iechyd, yn sgil effaith COVID-19 ar ddarparu gwasanaethau. Dwi'n deall bod yr adolygiadau yn y maes newyddenedigol yn fwy cymhleth, ac mae'n hanfodol eu bod nhw'n cael eu cynnal yn drylwyr. Er hynny, hoffwn sicrhau'r teuluoedd nad yw'r adolygiad manwl sydd ar y gweill i wasanaethau newyddenedigol yn Ysbyty'r Tywysog Siarl wedi tynnu'r panel oddi wrth y flaenoriaeth o gwblhau'r adolygiadau unigol hyn. Mae'r panel wedi rhoi gwybod imi fod yr adolygiad manwl o ofal newyddenedigol bron â'i gwblhau ac y bydd yn adeiladau ar y camau gwella uniongyrchol a thymor byr y mae eisoes wedi nodi bod eu hangen. Roedd yn bwysig peidio ag aros am yr adroddiad terfynol cyn cymryd y cyfle i wneud rhai gwelliannau ar unwaith. Bydd y panel yn parhau i gefnogi'r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu'n llawn ar y newidiadau angenrheidiol hyn ac y byddant yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol. Bydd fy swyddogion hefyd yn monitro hyn yn ofalus.

Yn ogystal â chanolbwyntio ar wasanaethau newyddenedigol a mamolaeth, mae'r bwrdd iechyd wedi parhau i wella ei drefniadau llywodraethu ansawdd hefyd ac mae'n ymdrechu i ddatblygu diwylliant agored a thryloyw o ddysgu. Mae hyn yn ategu argymhellion yr adolygiad llywodraethu ansawdd a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru a'u hasesiad diweddaraf nhw o gynnydd. Mae amrywiaeth o gamau gweithredu ar waith i alluogi hyn, ac mae fy swyddogion i yn gweithio'n agos gyda'r sefydliad i gefnogi a thracio cynnydd.

Nid wyf i'n bychanu maint yr heriau y mae'r sefydliad wedi eu hwynebu, heriau a oedd yn anoddach byth oherwydd effaith y pandemig. Mae'r hyn yr wyf i wedi ei ddisgrifio heddiw, a'r adroddiadau yr ydych chi wedi eu gweld, yn dangos faint o waith sydd wedi parhau er gwaethaf hyn, ac rwy'n awyddus i ddiolch i bawb a oedd wedi chwarae rhan yn y cyflawniadau hyn. Mae hon, i raddau helaeth, yn daith tuag at newid cynaliadwy ac nid cyfres o gamau gweithredu brysiog. Pan es i i gyfarfod â'r panel yr wythnos diwethaf, roedden nhw'n dweud wrthyf i fod hwn yn wasanaeth mamolaeth gwahanol iawn erbyn hyn i'r un y gwnaethon nhw ei weld ar y dechrau. Mae hi'n bwysig iawn bod unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth heddiw yn gallu bod yn siŵr o hyn hefyd.

Wrth gloi, Llywydd, hoffwn i achub ar y cyfle i ddiolch i'r cadeirydd sy'n gadael, Marcus Longley, am ei arweinyddiaeth gref yn ystod cyfnod mor anodd. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Emrys Elias am gytuno i ymgymryd â'r swydd hon dros y 18 mis nesaf. Gyda'i gefndir a'i brofiad ef, fe fydd yn sicr o ddarparu'r cyfeiriad a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar y sefydliad i gymryd y camau nesaf ar ei daith tuag at welliant. Diolch yn fawr.

14:50

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac am y gwahoddiad i sesiynau briffio technegol hefyd? Rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod chi, cymaint â minnau, wedi eich arswydo gan y ffaith y gallai un o bob tri baban a oedd yn farw-anedig yng Nghwm Taf fod wedi goroesi oni bai am gamgymeriadau difrifol a wnaed yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles rhwng 2016 a 2018. Mae hwn yn ddiwrnod torcalonnus i deuluoedd yn y de sydd wedi cael cadarnhad y bu eu baban annwyl farw yn gwbl ddiangen. Mae'r adroddiad ar warth y gwasanaeth mamolaeth yng Nghwm Taf, fel y gwnaethoch chi eich hun ddweud, Gweinidog, yn ddirdynnol i'w ddarllen, ac mae'r mamau a'r teuluoedd a aeth drwy amgylchiadau mor drist yn fy meddyliau i. Mae gan fenywod sy'n wynebu geni plentyn hawl i ddisgwyl gofal o ansawdd uchel a'r cyfle gorau i roi genedigaeth i blentyn iach, ond cawson nhw gam a'u siomi yn y pen draw.

Mae maint y gwarth hwn yn frawychus, ac mae'n parhau i godi llawer o gwestiynau heriol i Cwm Taf, ei system reoleiddio yn ogystal â'r Llywodraeth Lafur yn y fan hon, wrth gwrs. Mewn dros chwarter yr achosion hynny, nodwyd bod triniaeth annigonol neu amhriodol yn ffactor pwysig yn y canlyniad, ac mae hyn yn golygu methiant amlwg i ddarparu gofal sylfaenol da i fenywod a'u babanod ar yr adeg yn eu bywydau y maen nhw'n fwyaf agored i niwed. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i yn y pen draw, Gweinidog, yn hyn o beth yw: beth aeth o'i le?

Ac er nad yw'r panel wedi amlinellu unrhyw argymhellion penodol ac wedi dweud bod y bwrdd yn ôl ar y trywydd iawn, mae'r straeon gan y menywod dan sylw wedi bod yn anodd iawn eu darllen. Dywedodd un, ac rwy'n dyfynnu,

'Fy mhryder i yw y byddwn ni'n rhannu ein straeon ac na fydd dim yn digwydd o ganlyniad i hynny a gydag amser byddwn ni'n mynd yn angof. Mae hyn wedi agor hen glwyfau ac rydym ni'n gobeithio y bydd yn arwain at newid.'

Mae'n ymddangos bod y pryder hwn yn ddilys, gan fod pryderon mawr yn parhau o ran agweddau ar y gwasanaethau a ddarperir gan Ysbyty'r Tywysog Charles, nad ydyn nhw'n bodloni o hyd, ac rwy'n dyfynnu'r panel,

'y safonau diogelwch ac effeithiolrwydd yr oedd yn disgwyl eu gweld mewn uned newyddenedigol sy'n gweithredu ar y lefel honno o fewn system gofal iechyd y DU.'

Felly, pa systemau, Gweinidog, ydych chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob un uned famolaeth yng Nghymru yn gweithio ar y lefel honno o fewn system gofal iechyd y DU? Ac, yn y pen draw, sut byddwch chi a'r byrddau iechyd yn eu monitro nhw yn y dyfodol?

Mae fy nghyd-Aelodau a minnau o'r farn bod yna broblemau ehangach o fewn y gwasanaeth gofal iechyd ar waith yma. Tynnodd y cyn-Weinidog Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig chwe wythnos yn unig ar ôl iddo ddweud bod angen sicrwydd pellach gan y bwrdd iechyd ynglŷn â chynnydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Ond mae pryderon yn parhau o ran gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd iechyd, ac mae adroddiadau diweddar yn dangos y bu dau achos o farwolaeth claf o fewn chwe mis mewn unedau gwasanaeth iechyd meddwl yn y bwrdd. Felly, rwyf i o'r farn bod ymchwilio mewn modd priodol i gwynion staff yn parhau i fod yn destun pryder i'r bwrdd. Ac, yn Nhawel Fan, nodwyd bod triniaeth gan staff yn un o brif bryderon teuluoedd y cleifion yno, a wnaeth ddisgrifio staff nad oedd hi'n ymddangos bod ganddyn nhw yr un ots neu nad oedden nhw'n poeni dim am yr hyn a oedd yn digwydd, nac yn ceisio cuddio eu gweithredoedd nhw ychwaith.

Ac rydym ni wedi darllen dyfyniadau dirdynnol iawn heddiw. Dywedodd un o'r menywod niferus a gollodd eu plant yn drist iawn:

'Fe daflodd lun o'r sgan ataf i'n ddi-deimlad gan ddweud "Dyma'r llun olaf o'ch baban."'

Hefyd,

'"Mae'r baban wedi marw, a ydych chi'n dymuno ei weld e'?',

ac,

'Fe fyddai hi'n well i chi ei weld e' nawr tra'i fod e' ar ei orau"'.

Wrth gwrs nid yw'n ymwneud dim ond â'r geiriau a gafodd eu dweud; mae hyn yn ymwneud â'r ffordd y cawson nhw eu dweud a'r ffordd y cawson nhw eu mynegi. Ond, o gofio'r modd y tynnwyd Betsi o fesurau arbennig ar fyr rybudd, Gweinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r Siambr heddiw y bydd gwasanaethau mamolaeth bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg yn aros o fewn y lefel hon yn y tymor canolig? A sut ydych chi am sicrhau y bydd y staff sy'n gyfrifol am y digwyddiadau ofnadwy hyn yn destun ymchwiliad priodol? Diolch, Llywydd.

14:55

Diolch, Russell. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall yn iawn nad hwn oedd penllanw gyrfa gwasanaethau mamolaeth ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Ac roeddwn i, fel chithau, wedi fy syfrdanu'n fawr gan rai o'r dyfyniadau hynny gan y menywod a oedd wedi dioddef fel hyn, ac maen nhw'n gwneud argraff ddofn arnoch chi yn wirioneddol. Ac rydych chi'n llygad eich lle, ac rwy'n credu bod y dyfyniad y gwnaethoch chi ei roi yn un yr oeddwn innau hefyd yn teimlo bod angen i ni ei ystyried yn llawn, sef,

'byddwn ni'n rhannu ein straeon ac na fydd dim yn digwydd'.

Rydych chi'n meddwl am y trawma o orfod rhannu'r stori honno dro ar ôl tro gyda'r bobl hyn sy'n dod ac yn gofyn i chi ac yn ymchwilio i'r hyn a aeth o'i le. Mae'n rhaid iddyn nhw wybod y bydd rhywbeth yn newid. Ac fe allaf i roi'r sicrwydd hwnnw iddyn nhw yn yr ystyr ein bod ni yn rhoi systemau ar waith. Cawsom ni, yn gyntaf, yr adolygiad annibynnol hwnnw gan y colegau brenhinol, a nododd nid yn unig yr hyn a aeth o'i le ond sut i unioni pethau. Ac mae gennym ni'r rhestrau hynny o bethau, ac rwy'n falch ein bod ni ymhell ar ein ffordd ar y daith honno i sicrhau gwelliant. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i honno fod y deyrnged barhaol yr ydym ni'n ei rhoi i'r menywod hyn, nad oedden nhw wedi cael y parch a oedd yn ddyledus iddyn nhw.

Un sicrwydd a roddwyd i mi, wrth siarad â chynrychiolwyr y panel trosolwg ar wasanaethau mamolaeth, y gwnes i gyfarfod â nhw yn gynharach yr wythnos hon, oedd eu bod nhw, mewn gwirionedd, o ran cyfathrebu, yn ffyddiog bod y bwrdd mewn sefyllfa wahanol erbyn hyn. Ac rwyf i yn credu, yn aml iawn, fod cyfathrebu yn beth cwbl allweddol. Yn y pen draw, serch hynny, bod â pharch sy'n bwysig. Mae'n rhaid i ni barchu pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau iechyd, ac yn sicr byddwn ni'n parhau yn Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar feysydd y mae angen yr ymyriadau hynny arnyn nhw, y mesurau arbennig hynny i sicrhau y gallwn ni osgoi unrhyw broblemau fel hyn yn y dyfodol.

Dwi'n meddwl ei bod yn dweud y cyfan pa mor fud yw'r Siambr y prynhawn yma yn gwrando ar hyn. Mae'r straeon a'r adroddiad yn anodd iawn i'w clywed, i'w darllen, a dwi'n gwybod bod nifer ohonoch chi hefyd wedi cyfarfod nifer o'r rhieni yma a'u teuluoedd a chlywed ganddyn nhw, a pha mor emosiynol ydy o. Efallai y dylwn i hefyd ddatgan ar y dechrau fod fy mab fy hun wedi ei eni yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a fy mod i wedi derbyn ymddiheuriad yn sgil y profiad echrydus dderbyniodd y ddau ohonon ni. Mi oedd hyn yn 2013, ac mae gweld bod y gwersi, efallai, heb eu dysgu o'r gŵyn honno yn rhywbeth sy'n aros efo finnau hefyd. Wrth lwc, mae o bellach yn wyth oed, ond mae pawb yn darllen yr adroddiad hwn a meddwl sut y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol, a dwi ddim yn meddwl byddai unrhyw un yn gallu peidio â chael eu heffeithio gan straeon y rhieni hynny.

Unwaith eto, rydyn ni wedi clywed am fethiannau difrifol o ran y gofal a dderbyniwyd yn Cwm Taf Morgannwg. Mae'n ddiwrnod anodd i'r rhieni gafodd eu heffeithio gan y methiannau hyn ac mae'n iawn bod y Gweinidog wedi ymddiheuro am hyn, ond mae'n rhaid pwysleisio, fel dywedoch chi, does yna ddim geiriau all ddod â'r rhai a gollwyd yn ôl na lleihau'r golled. O ddechrau'r sgandal hon, mae Plaid Cymru wedi galw am adolygiadau eang i'r hyn sydd wedi digwydd, ac rydym yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad arall yma heddiw. Rydyn ni bob amser wedi pwysleisio ei bod yn bwysig bod yr adolygiad yn ymchwilio pam fod cymaint o fabanod wedi marw mewn cyfnod mor fyr. Mae'r adroddiad newydd sydd wedi'i gyhoeddi heddiw, fel sydd wedi cael ei ddweud, yn dangos bod un o bob tri o fabanod gafodd eu geni'n farw, buasen nhw wedi gallu goroesi heblaw am gamgymeriadau difrifol yn eu gofal, ac mae hyn yn frawychus dros ben. Ac i mi hefyd, nid dim ond yr ystadegyn hwnnw o ran y traean o blant a allai fod yn dal efo ni rŵan, ond y ffaith, mewn 37 achos pellach, fod yr adolygiad yn awgrymu y gallai un neu ragor o gamgymeriadau bach fod wedi digwydd, er y mae'n annhebygol y gallai'r rhain fod wedi arwain at ganlyniad gwahanol—ond annhebygol, nid yn bendant—a dim ond mewn pedwar achos y daeth yr arbenigwyr i'r casgliad na ddylid wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol.

Er bod y bwrdd iechyd a'r Llywodraeth yn croesawu'r casgliadau, mae'n amlwg bod mwy sydd angen ei wneud. Ydy, mae hwn yn bwnc emosiynol i nifer o bobl. Mae'r newyddion wedi ailagor nifer o greithiau emosiynol i rieni; nid yw'n bosibl gorbwysleisio'r boen, y brifo, y niwed a'r gofid sydd wedi'i achosi i bob un o'r teuluoedd y mae'r sgandal hon wedi effeithio arnynt ac mae hynny'n parhau.

Nid rhywbeth sydd wedi digwydd yn y gorffennol ydy hyn; mae pobl yn mynd i fod yn byw efo fo am weddill eu bywydau. Y canlyniad gorau posib fyddai i'r Llywodraeth a'r bwrdd iechyd weithredu'r argymhellion o'r adroddiadau hyn er mwyn sicrhau na fydd y methiannau byth yn digwydd eto. Ac mae yna nifer o gwestiynau, dwi'n tybio, o ran atebolrwydd sydd yn dal i fod angen eu hateb, hyd yn oed gyda chyhoeddi'r adroddiad hwn. Mi roddodd yr adroddiad a'r datganiad lawer o bwyslais ar y gwelliannau a'r dysgu sydd wedi digwydd, ond mae'n rhaid hefyd cael atebolrwydd. Ac a all y Gweinidog ddweud â'i llaw ar ei chalon fod atebolrwydd wedi bod o ran y sgandal hon, o ystyried bod nifer o'r arweinyddion blaenorol o ran y bwrdd iechyd wedi cael taliadau mawr wrth adael a'u bod nhw'n parhau i weithio yn y maes iechyd rŵan, efallai mewn bwrdd iechyd gwahanol, tra bod y rhai sydd wedi dioddef profedigaeth wedi cael eu gadael heb ddim? Ble mae'r atebolrwydd, Weinidog?

15:00

Wel, diolch yn fawr iawn i'r Aelod ac mae'n ddrwg iawn gen i glywed am eich profiad personol chi yng Nghwm Taf ac, yn sicr, rŷch chi'n un o nifer sydd wedi dioddef yn ystod y cyfnod caled yna pan oedd pethau mewn cyflwr go ddrwg. Dwi'n meddwl bod y cyhoeddiad yma yn ateb rhai o'r cwestiynau—a'r adroddiad yn ateb y cwestiwn hwnnw roeddech chi'n ei ofyn, 'Pam oedd cymaint wedi marw?', ac mae atebion yma ynglŷn â pham roedd rhai wedi marw; mae hwnna'n adeiladu ar y gwaith a wnaethpwyd eisoes gan y coleg brenhinol.

Dwi yn meddwl ei bod hi'n rili bwysig ein bod ni'n glir nad yw'r stori yma drosodd, chwaith, bod mwy i fynd; mae mwy sydd ei angen ei wneud. Ac wrth gwrs, mae yna adroddiad arall i ddod, yr adroddiad neonatal, sydd hefyd, mae arnaf i ofn, yn mynd i fod yn ddarllen sydd yn mynd i fod yn anodd.

Gallaf gadarnhau i chi ein bod ni yn mynd i gadw golwg o ran sicrhau ein bod ni'n gweithredu'r argymhellion, ein bod ni yn sicrhau bod y bwrdd yn cadw i fynd, a bod y tîm sydd yna ar hyn o bryd yn sicrhau eu bod yn cadw ati. Dwi'n meddwl bod y pwynt ynglŷn ag atebolrwydd yn bwysig, ac un o'r pethau dwi'n awyddus i weld yw gweld newid diwylliant yn y bwrdd iechyd. Mae angen iddyn nhw fod yn lot mwy agored ynglŷn â beth sy'n mynd ymlaen. Un o'r problemau oedd bod cymaint wedi cael ei guddio am gymaint o amser. Felly, mae yn bwysig dyw pobl ddim yn teimlo ofn i ddweud beth sy'n mynd ymlaen, a'u bod nhw'n gallu dod ymlaen, fel ein bod ni'n gallu gwella'r sefyllfa ynghynt, a'u bod ni ddim yn gweld cymaint o'r trasiedïau yma yn digwydd.

15:05

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Unwaith eto, hoffwn i fynegi ar goedd fy mod i'n meddwl am yr holl deuluoedd hynny y mae'r gwarth hwn wedi effeithio arnyn nhw, yn enwedig yn sgil data o'r Adroddiad Thematig y Categori Marw-enedigaethau yn awgrymu y gellid bod wedi osgoi un o bob tri achos o farw-enedigaeth pe bai'r gofal wedi bod yn wahanol. Mae'r niferoedd hyn yn ddigon brawychus, ond maen nhw'n cynrychioli teuluoedd gwirioneddol sydd wedi eu chwalu gan alar, teuluoedd yr wyf i ac Aelodau eraill y Senedd wedi eu cefnogi dros y blynyddoedd diwethaf.

Fy nghwestiynau i heddiw: rydym ni'n gwybod bod y pandemig parhaus wedi cael effaith aruthrol ar staff rheng flaen y GIG, y mae'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw'n gweithio yn galed iawn i roi gofal priodol, ac mewn llawer o achosion yn mynd y tu hwnt i'r disgwyl dros eu cleifion. Sut mae'r pwysau hwn yn cael ei reoli yng nghyd-destun cyflawni'r newid diwylliannol hirdymor sydd wedi ei nodi? Yn ail, mae'r pandemig wedi achosi pwysau ychwanegol ar famau sy'n disgwyl a'u teuluoedd, yn arbennig felly, er enghraifft, cyfyngiadau o ran partneriaid yn cael bod yn bresennol mewn apwyntiadau. Sut mae'r rhain yn cael eu rheoli i roi sicrwydd i deuluoedd fel hyn? Ac yn drydydd, pwynt yn yr adroddiad thematig y gwnaeth eich datganiad ysgrifenedig sôn amdano hefyd, yw sylwadau'r panel ynghylch gweithredu'n fwy effeithiol i leihau effaith andwyol ysmygu a phwysedd gwaed uwch yn ystod beichiogrwydd, ill dau yn gallu lleihau'r risg o farw-enedigaeth. Felly, sut ydych chi'n gweithio i sefydlu hyn, nid yn unig ar draws Cwm Taf Morgannwg, ond ledled y GIG cyfan yng Nghymru?

Diolch, Vikki. Rwy'n gwybod faint o waith yr ydych chi wedi ei wneud ar ran llawer iawn o'r bobl hynny sydd wedi dod ymlaen i esbonio sut mae hyn wedi effeithio arnyn nhw. Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar staff Cwm Taf eisoes. Mae staff ledled y GIG cyfan dan bwysau aruthrol, a dywedir wrthyf i fod ymchwydd yng nghyfradd genedigaethau yn sgil COVID hefyd, felly mae'r pwysau hyd yn oed yn fwy nag y mae fel arfer.

O ran y newid diwylliannol hirdymor, mae yn rhoi rhywfaint o gysur i mi feddwl, er gwaethaf pwysau COVID, eu bod nhw wedi llwyddo, mewn gwirionedd, i gyflawni a newid 55 o'r 70 o argymhellion hynny, ac, ar ben hynny, i'w sefydlu nhw. Nawr, mae llawer i'w wneud eto. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn gwbl glir yn hynny o beth. Rydym ni ymhell o fod yn y sefyllfa y dylem ni fod ynddi o ran gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, ond rwy'n cytuno â chi, yn sicr, o ran effeithiau andwyol ysmygu a phwysedd gwaed, fod yna fwy y gallwn ni ei wneud yn yr ystyr ehangach o ran iechyd mamolaeth, lle mae angen i ni annog pobl i ystyried y pethau hynny, ac un o'r materion allweddol, yn sicr, yr wyf i'n ymwneud â nhw ar hyn o bryd yw nifer y menywod beichiog nad ydyn nhw wedi eu brechu. Mae nifer y menywod beichiog sydd yn yr ysbyty oherwydd nad ydyn nhw wedi eu brechu yn peri pryder enfawr, a byddwn i'n annog yr holl fenywod hynny sy'n feichiog yng Nghymru ar hyn o bryd i sicrhau eu bod nhw'n cael y brechlyn. Ni wnaiff unrhyw niwed i chi nac i'ch babi.

Yn sicr, o ran partneriaid yn cael ymweld, rydym ni wedi ei gwneud hi'n glir, ar gyfer yr enedigaeth ei hun, y caiff y partner fod yn bresennol, ond mae'r sefyllfa o ran ymweld fel arall yn dibynnu ar y sefyllfa leol o ran cyfraddau COVID.

Hoffwn i roi teyrnged i'r holl staff sy'n gweithio i gynnal gwasanaethau yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, nid y staff meddygol yn unig, sydd wedi arddangos cymaint o gadernid yn ystod y 18 mis diwethaf, ond y rhai hynny sy'n arwain y sefydliad mewn cyfnod heriol fel hwn. Rydym ni i gyd yn gwybod bod y bwrdd yn wynebu heriau sylweddol cyn dechrau'r pandemig, a bod COVID-19 wedi dwyn llawer o'r gwendidau yn ein gwasanaethau iechyd ni i'r amlwg. Mae elwa ar wasanaethau newyddenedigol a mamolaeth o ansawdd uwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r gymuned leol, ac rwy'n gobeithio bod y bwrdd yn canolbwyntio ar hyn.

Fy nghwestiynau i yw, Gweinidog: yn eich datganiad ysgrifenedig chi'n gynharach heddiw, fe wnaethoch chi ddweud bod momentwm wedi ei golli oherwydd COVID, ond bod y rhaglen ar y trywydd iawn i gyflawni gwelliannau hirdymor a chynaliadwy. Oni bai bod rhywbeth mawr wedi ei wneud i adennill y momentwm a gollwyd, sut mae'r rhaglen ar y trywydd iawn?

Rhif 2: mae adroddiad thematig categori marw-enedigaethau y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth yn cyfleu darlun tywyll. Dylem ni fod yn gweld gwerth yn yr hyn sydd gan fenywod i'w ddweud am y gwasanaethau hyn, ac nid yw hynny wedi digwydd. Beth mae angen i'r bwrdd iechyd hwn ac eraill ei wneud er mwyn gwrando ar farn menywod sydd wedi eu hesgeuluso a'u hanwybyddu? Fy nghwestiwn olaf i, Gweinidog: mae goruchwylio'r bwrdd yn hollbwysig. Mewn meysydd eraill, byddai pobl wedi eu diswyddo, a byddai cymhwysedd y bwrdd yn cael ei adolygu. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y bwrdd hwn yn addas i'r diben? Diolch yn fawr iawn i chi.

15:10

Diolch yn fawr iawn, Altaf. Yn sicr, rwy'n credu ei bod hi'n deg i ni ddweud bod dealltwriaeth, wrth gwrs, fod gwasanaethau mamolaeth yn flaenoriaeth nid yn unig i'r gymuned leol, ond i'r bwrdd iechyd hefyd. Dyma un o'r meysydd allweddol y mae'r GIG yn gyfrifol amdanyn nhw—sef sicrhau y caiff babanod eu geni mewn modd diogel. Wrth gwrs, fel gwasanaethau eraill, mae momentwm wedi ei golli o ganlyniad i COVID. Ni fyddech chi'n disgwyl iddi fod fel arall. Felly, mae wedi gwyro oddi ar y trywydd iawn i ryw raddau, ond rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth sydd yn ein gallu i weld pethau ar y trywydd iawn unwaith eto, ac nad ydym ni'n newid yr angen i fynd i'r afael â diwylliant yn y sefydliad ei hun. Ac rwy'n cytuno â chi mai darlun tywyll sy'n cael ei gyfleu yn yr adroddiad, a'i bod hi'n hanfodol i ni wrando ar farn y menywod yr effeithiwyd arnyn nhw gan y gwasanaethau a gawsant.

Ond rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt teg iawn ynglŷn â'r angen i fwrdd Cwm Taf Morgannwg fod â diddordeb gwirioneddol yn hyn, a bod eu swyddogaeth nhw o ran goruchwylio yn gwbl hanfodol. A dyna pam rwy'n falch iawn bod Emrys Elias wedi cymryd hyn o ddifrif. Rwy'n gwybod ei fod yn deall yr angen i ganolbwyntio ar y mater hwn yn wirioneddol, ac nid ar y mater hwn yn unig, ond hefyd y materion llywodraethu ehangach y mae angen gwirioneddol i fynd i'r afael â nhw, yn enwedig yn y bwrdd iechyd hwn.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:13.

15:20

Ailymgynullodd y Senedd am 15:21, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Rhoi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar Waith yn Genedlaethol

Croeso i'r eitem nesaf, felly, a'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yw hwnnw, ar roi llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar waith yn genedlaethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i wneud ei datganiad. Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae datblygu cynaliadwy wedi bod wrth wraidd datganoli yng Nghymru o'r cychwyn cyntaf. Yn 2015, gwnaeth y Senedd hon benderfyniad hanesyddol i newid cwrs Cymru a'i rhoi ar lwybr mwy cynaliadwy drwy basio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd hyn yn adlewyrchu'r ymdrech ddiflino gan bobl o bob cwr o Gymru i gryfhau'r ffordd y caiff dyfodol Cymru ei lunio. Mae'n parhau i fod yn ymrwymiad cymdeithas Cymru i ansawdd bywyd gwell ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Ar gyfer pobl, ar gyfer y blaned, nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Fis diwethaf, gwelsom y Cenhedloedd Unedig, am y tro cyntaf erioed, yn ymrwymo i sefydlu ystod o ddulliau sefydliadol i wella undod â chenedlaethau'r dyfodol. Roedd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cynrychioli cenedlaethau'r dyfodol yn rhan o ddull gweithredu unrhyw wlad i wella bywydau dinasyddion a bod â chyfrifoldeb dros y blaned. Mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer datganiad ar genedlaethau'r dyfodol, cennad arbennig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a dulliau rheolaidd i ystyried tueddiadau yn y dyfodol. Mae ein profiad yng Nghymru wedi annog gwledydd eraill i wneud yr un peth, ac mae'r newidiadau hyn yn gymeradwyaeth gref i benderfyniadau beiddgar y Senedd i ddeddfu ar gyfer y dyfodol.

Mae datganiad Agenda 2030, a ffurfiodd nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, yn cydnabod yn benodol swyddogaeth hanfodol seneddau cenedlaethol drwy ddeddfu deddfwriaeth a mabwysiadu cyllidebau a'u swyddogaeth o ran sicrhau atebolrwydd am weithredu effeithiol. Felly, mae'r Senedd yn elfen bwysig a chydnabyddedig o bensaernïaeth atebolrwydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. I gydnabod hyn, roeddwn i eisiau gwneud datganiad cynnar yn nhymor y Senedd hon wrth i ni ddechrau'r cylch nesaf o wneud cynaliadwyedd yn rhan annatod o'r ffordd y mae Cymru'n gweithio.

Mae Cymru'n parhau i ddangos ei harweinyddiaeth ryngwladol ar yr agenda datblygu cynaliadwy. Mae'r adroddiad annibynnol a lansiwyd yr wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn dangos bod sylfaen ymchwil Cymru yn gwneud cyfraniad sylweddol i nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Rwy'n falch o weld y cyfraniad y mae ein cymuned wyddonol yn ei wneud at faterion byd-eang.

Mae ein camau gweithredu a'n harweinyddiaeth ar agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cyflymu yn nhymor y Llywodraeth hon. Mae ein rhaglen lywodraethu, gyda'r amcanion llesiant wrth ei gwraidd, yn dangos swyddogaeth ganolog dull llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn llunio polisïau. Rydym wedi dod â chyrff cyhoeddus at ei gilydd i drafod sut yr ydym yn bwrw ymlaen â'n huchelgeisiau datblygu cynaliadwy ar gyfer Cymru drwy fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n bwriadu cwrdd ag aelodau'r fforwm yn fuan i drafod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi arweiniad wrth roi'r Ddeddf ar waith yn genedlaethol, a sut y gallwn fwrw ymlaen â chamau gweithredu penodol mewn cydweithrediad â'r fforwm a dwyn ynghyd y camau hyn mewn cynllun ar gyfer tymor y llywodraeth hon.

Y mis diwethaf, lansiais ymgynghoriad ar gerrig milltir cenedlaethol i Gymru, a fydd yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol tuag at gyflawni'r nodau llesiant a rennir. Ddiwedd eleni, bydd gennym y gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol o fewn y Ddeddf, byddwn wedi diweddaru ein dangosyddion llesiant cenedlaethol i adlewyrchu effaith y pandemig hyd yn hyn, ac wedi diweddaru ein hadroddiad ar dueddiadau yn y dyfodol sy'n debygol o effeithio ar Gymru. Mae'r gwaith hwn yn rhoi cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth, yr wyf yn gwybod bod y fforwm cenedlaethol yn awyddus i weithio gyda ni arni hi.

Byddwn ni hefyd yn adolygu'r rhestr o gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf, gan ein bod yn cydnabod bod gwerth mewn ymestyn y dyletswyddau hyn i gyrff cyhoeddus eraill, a bod llawer o gyrff eisoes yn mabwysiadu'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn wirfoddol. Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu â'n cymheiriaid rhyngwladol drwy ein haelodaeth barhaus o 'Regions4 sustainable development' a Rhwydwaith Llywodraethau'r Economi Llesiant, ochr yn ochr â'r Alban, Gwlad yr Iâ, y Ffindir a Seland Newydd.

Ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd, gwelsom dri adroddiad arwyddocaol yn canolbwyntio ar gyhoeddi'r Ddeddf. Roedd 'Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol' yn darparu asesiadau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o welliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud i weithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy; adroddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ganlyniadau ei archwiliadau o'r holl gyrff cyhoeddus; ac edrychodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y pumed Senedd ar y rhwystrau rhag gweithredu. Rwyf wedi croesawu'r adroddiadau hyn gan eu bod yn rhoi cyfle i bwyso a mesur ym mhob tymor Senedd sut y mae'r Ddeddf yn galluogi'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus i weithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Mae ein hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bellach wedi'i gyhoeddi, a byddwn hefyd yn cyhoeddi ein hymatebion i adroddiadau'r archwilydd cyffredinol a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol cyn bo hir. Bydd angen amser ar aelodau a'r pwyllgorau perthnasol i ystyried canfyddiadau'r adroddiadau hyn yn ogystal â'r ymatebion gan y Llywodraeth, y comisiynydd, yr archwilydd cyffredinol a'r cyrff cyhoeddus sy'n gyfrifol am gyflawni datblygu cynaliadwy.

Rwy'n deall y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystyried yr ymatebion i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yfory, ac rwy'n gobeithio y bydd ein hymateb i'r argymhellion yn ddefnyddiol yn eu trafodaethau. Ond rwy'n sylweddoli hefyd y bydd angen amser ar aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ac, wrth gwrs, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y Ddeddf, i ystyried ein hymateb, a byddwn yn hapus i ymateb i unrhyw bwyntiau eraill sy'n deillio o'r trafodaethau hyn.

I gydnabod hyn, mae'r datganiad heddiw yn canolbwyntio ar ein camau gweithredu parhaus ar agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru a sut y gall y ddeddfwriaeth ysgogi gwell penderfyniadau ar gyfer y cenedlaethau presennol a rhai'r dyfodol. Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn parhau i lywio'r hyn a wnawn, sut yr ydym yn gweithio, a sut yr ydym yn gweithio gydag eraill. Byddwn yn arwain y neges ar sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru, a'r newidiadau i'r ffordd yr ydym yn gweithio, fel bod datblygu cynaliadwy yn cael ei atgyfnerthu fel egwyddor drefniadol ganolog y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.

15:25

Rwy'n dychmygu y cafodd y Gweinidog brofiad amhleserus wrth ddarllen adroddiad 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol' o gofio'r nifer llethol o feirniadaethau a osodwyd wrth ei drws a pha mor wael y cafodd y ddeddfwriaeth hon ei gweithredu.

Mae'r comisiynydd ei hun wedi mynegi pryder mawr fod ei swyddfa'n cael ei thanariannu'n aruthrol i weithredu polisi cenedlaethau'r dyfodol blaenllaw Llywodraeth Cymru yn llawn, ac er y dangoswyd bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn cyflawni mewn rhai achosion dethol, mae llawer o achosion a gofnodwyd lle mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi teimlo'n gwbl ddi-gefnogaeth. Yn wir,

'Yn ôl rhai, "cyfyngedig" oedd y cyfathrebu a'r ohebiaeth, a "gweddol ysbeidiol" yw presenoldeb'

y comisiynydd mewn cyfarfodydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Mae Conffederasiwn GIG Cymru yn mynd gam ymhellach, gan dynnu sylw at y ffaith eu bod yn ansicr ynghylch pa lefel o gymorth y gallan nhw ei ddisgwyl mewn gwirionedd ac nad yw gweithredu'r Ddeddf bob amser yn glir, ac y bydden nhw mewn gwirionedd yn croesawu cymorth mwy ymarferol gan swyddfa'r comisiynydd. O gael ei holi am hyn, teimlai comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol nad oedd ganddi'r adnoddau i gyflawni'r rhaglen waith hon gan mai ganddi hi y mae'r gyllideb isaf o'i chymharu â chyllideb unrhyw gomisiynydd yng Nghymru. Hefyd, tynnodd y comisiynydd sylw at y ffaith bod 43 y cant o'i hamser swyddfa yn cael ei ddefnyddio mewn gwirionedd i

'gefnogi, cynghori a lobïo Llywodraeth Cymru'

i weithredu'r Ddeddf o fewn ei sefydliad ei hun. Mae'n anghredadwy, ond eto nid yw'n syndod, o ystyried anallu cyffredinol y Llywodraeth hon i hyd yn oed roi ei deddfwriaeth ei hun ar waith yn ei sefydliad ei hun, ac mae ei chomisiynydd wedi syrffedu fel ei bod yn barod i ddweud nad ei gwaith hi yw lobïo Llywodraeth Cymru.

Gweinidog, pam mae comisiwn cenedlaethau'r dyfodol yn treulio amser anghymesur yn ceisio cael y sefydliad hwn i weithio o fewn cyfyngiadau Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, pan ddylai fod yn ceisio cynyddu ei broffil a chefnogi sefydliadau allanol? O gofio nad yw 87 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru, ac, yn fwy syfrdanol, 8 y cant o gyrff cyhoeddus Cymru, erioed wedi clywed am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a wnaiff y Gweinidog gytuno â mi fod Llywodraeth Cymru, ar ôl pum mlynedd, wedi methu â chyflawni ei pholisi blaenllaw? Ac a wnaiff y Gweinidog gytuno â'r myfyrwyr a fu'n ymwneud â'r ymchwiliad mai bai'r blaid lywodraethol ydyw os nad yw pethau'n iawn yn y pen draw?

Mae dadansoddiad pellach o'r adroddiad yn dangos nad yw'n ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad o gwbl ynghylch sut i weithredu'r ddeddfwriaeth hon, ffaith a amlygwyd gan WWF Cymru, y daeth ei hymchwiliad i'r casgliad nad oes dull systematig a chydlynol gan Lywodraeth Cymru i weithredu'r Ddeddf ac ychydig o dystiolaeth a geir hyd yma bod fframwaith y Ddeddf yn ysgogi unrhyw ddatblygiad polisi. Yn wir, clywodd yr ymchwiliad hefyd gan gyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill fod gan Lywodraeth Cymru feddylfryd ynysig wrth weithio, bod diffyg cysondeb yn y ffordd y defnyddir y Ddeddf, a bod diwylliant o newid araf o fewn y sefydliad. Cafwyd beirniadaeth fwy negyddol gan yr archwilydd cyffredinol, a ddywedodd:

'nad yw’r penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru yn hollol gyson ag ysbryd y Ddeddf yn aml.'

Mae prif weithredwr a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dadlau,

'Mae’n anodd gweld sut mae polisi’r Llywodraeth mewn perthynas â diwylliant a Chymraeg yn ffynnu yn cyd-fynd â gofynion y Ddeddf ar hyn o bryd.'

Cafwyd beirniadaeth ddamniol bellach gan y comisiynydd, a gytunodd eu bod,

wedi dechrau’n eithaf araf ar ddechrau’r broses o gyflwyno’r Ddeddf. Nid oedd wir yn gweld yr arweinyddiaeth wleidyddol glir iawn honno o amgylch y Ddeddf, ac felly dywedodd nad oedd yn "llifo i lawr" i’r gwasanaeth sifil ac ati.

Aeth y comisiynydd ymlaen ymhellach i ddweud, yn ddi-flewyn-ar-dafod, yn yr adroddiad:

'pan fyddwch yn dechrau cael tameidiau o ganllawiau a pholisi gan Lywodraeth Cymru, nad ydyn nhw'n cysylltu â'r peth y maen nhw wedi'i greu mewn statud yma, mae hynny'n mynd â ni i gyfeiriad gwahanol, dyna lle mae'r holl beth yn dechrau cael ei danseilio.'

Yn anffodus, mae llawer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn rhannu'r farn hon, sef nad yw'n ymddangos bod gan y Ddeddf, er ei bod i'w gweld yn gyson ym mhrif negeseuon a bwriad polisi'r Llywodraeth, unrhyw neges gydlynol o ran y ffordd y mae hyn yn troi'n weithredu; bod y Ddeddf hon yn rhy gymhleth, yn rhy anghyson ac, i aralleirio comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, mae'n cymhlethu tirwedd sydd eisoes yn gymhleth. 

Yn olaf, wrth gloi, o ddarllen yr adroddiad, mae'n amlwg bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn credu mai ychydig iawn o arweiniad gwleidyddol a ddangosodd Llywodraeth Cymru wrth weithredu'r ddeddfwriaeth hon, bod angen lobïo'n gyson i weithredu ei deddfwriaeth ei hun, ac ychydig iawn o dystiolaeth sydd bod y Ddeddf yn hybu unrhyw ddatblygiad polisi neu ei bod yn ddull cydlynol. Rwy'n deall y bydd y Gweinidog yn gwneud popeth i arbed ei hunan-barch yn sgil yr adroddiad damniol hwn, ond, yn y termau symlaf posibl, a wnaiff y Gweinidog egluro a fyddan nhw'n cymryd y feirniadaeth hon o ddifrif ac yn ymateb yn unol â hynny, neu a fyddan nhw'n ei gwadu ac yn parhau beth bynnag? Mae gwefan cenedlaethau'r dyfodol yn datgan mai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yw'r unig ddeddfwriaeth o'i math yn y byd o hyd ac mae'n cael ei hystyried gan y Cenhedloedd Unedig fel esiampl i wledydd eraill ei dilyn. Os yw hyn yn wir, yna dylai'r Llywodraeth hon fod â chywilydd gwirioneddol. Diolch. 

15:30

Cyfres siomedig iawn o gwestiynau a sylwadau ar adroddiadau—adroddiadau sydd, yn fy marn i yn adlewyrchu barn wahanol iawn am roi Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar waith. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni edrych ar yr adroddiadau—yr adroddiad, yn gyntaf oll, yn bwysicaf oll, gan ein Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ein hunain, a gyflwynodd adroddiad, wrth gwrs, cyn diwedd y sesiwn ddiwethaf, yr ydym yn ymateb iddo heddiw. Rwy'n deall bod y pwyllgor yn cyfarfod yfory, ac rwy'n credu y bydd yn ddefnyddiol iawn gweld beth yw eu hymateb nhw i ymateb ein Llywodraeth ni i'w hargymhellion nhw. Roeddwn i'n credu bod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn adeiladol dros ben, yn hynod o ddefnyddiol, ac, wrth gwrs, mae gennym Aelodau yma sydd wedi eistedd ar y pwyllgor hwnnw ac a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hwnnw. Ond, hefyd, rwy'n edrych ymlaen at glywed ganddyn nhw yn llawn.

Ond gadewch i ni gydnabod bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol dros y 18 mis diwethaf wedi bod yn destun cryn graffu ar ei heffeithiolrwydd fel fframwaith deddfwriaethol i wella cynaliadwyedd Cymru, a dyna pam y mae'r adroddiadau hyn mor bwysig. Mae angen i ni edrych ar y tri ohonyn nhw o ran ymateb. Rwy'n credu bod yr adroddiadau gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'r archwilydd cyffredinol yn darparu ystod eang o ganfyddiadau a syniadau ynghylch sut y gall y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ymgorffori datblygu cynaliadwy yn y ffordd y maen nhw'n gweithio, a hybu gweithredu fframwaith llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar waith yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r adroddiadau hyn yn fawr, gan eu bod yn parhau i fod yn rhan annatod o gylch y Ddeddf. Byddai wedi bod yn dda clywed rhai cwestiynau a sylwadau ar ein hymatebion i'r argymhellion a ddaeth drwy'r adroddiadau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi arweiniad ar agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rydym yn cydnabod ein swyddogaeth yn geidwaid y ddeddfwriaeth, ac rydym eisiau defnyddio'r ddeddfwriaeth, fel y gwnaeth eisoes, i ysgogi gwelliannau cadarnhaol yn y ffordd yr ydym yn gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Rwyf wedi sôn am y fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol newydd sydd wedi'i sefydlu, a'r digwyddiadau cyfnewid i rannu arfer gorau. A hefyd, byddwn yn gobeithio bod gennych rywfaint o ddiddordeb yn yr ymgynghoriad ar gerrig milltir cenedlaethol a'r dangosyddion cenedlaethol. Gobeithio y byddwch yn ymateb i'r rhain o ran yr ymgynghoriad a nodwyd gennym. Mae hyn yn ymwneud â cherrig milltir cenedlaethol, y saith nod llesiant ar gyfer Cymru, i roi disgrifiad o'r ffyrdd yr ydym ni eisiau sicrhau Cymru economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol gyfiawn.

Rwyf eisiau gorffen, o ran ymateb i'ch pwyntiau heddiw, drwy roi rhai enghreifftiau o'r gwahaniaeth y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi'i wneud. Mae'n ddiddorol; yn fy mhortffolio fy hun, mae'r rhaglen cyfleusterau cymunedol yn darparu grantiau ar gyfer prosiectau a arweinir gan y gymuned. Fe'u defnyddir i wella cynaliadwyedd amgylcheddol ac ariannol cyfleusterau cymunedol; maen nhw'n cael eu hysgogi'n fawr gan y pum nod—y Gymru fwy cyfartal, fwy cydnerth a mwy cynaliadwy—ond hefyd y ffordd yr ydym yn gweithio ar y rheini. Mae'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, yr wyf i'n ei gadeirio, hefyd yn ystyried y ffyrdd y gallwn ymgysylltu'n amlach â llais pobl anabl, er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed, a hefyd yn ein llywio ni o ran y ffordd yr ydym yn gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Y tu allan i fy mhortffolio i, mae 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021' yn weledigaeth hirdymor, sy'n un o nodau allweddol llesiant cenedlaethau'r dyfodol—yr hyn sy'n fuddiol i bobl, i'r amgylchedd, ac i Gymru, sef cael system drafnidiaeth hygyrch a chynaliadwy. A hefyd, y strategaeth 'Tu Hwnt i Ailgylchu', sy'n bwriadu cefnogi'r adferiad gwyrdd, drwy gymryd camau sy'n cefnogi sero wastraff, carbon sero-net yng Nghymru. Maen nhw i gyd wedi defnyddio ffyrdd llesiant cenedlaethau'r dyfodol o weithio a saith nod allweddol i'w gyrru ymlaen.

15:35

Dwi'n ddiolchgar i gael ymateb i'r datganiad heddiw.

Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi'i chanmol yn rhyngwladol, ac yn gwbl briodol felly. Mae'n ddarn arloesol o ddeddfwriaeth sydd â'r potensial i drawsnewid ein gwlad er gwell. Pwy allai ddadlau â deddfwriaeth sy'n ymgorffori saith nod llesiant trawsbynciol o ffyniant, cydnerthedd, iechyd, cydraddoldeb, cymunedau cydlynol, diwylliant bywiog gydag iaith Gymraeg ffyniannus, ac yn olaf Cymru fyd-eang, gyfrifol? O ran rhestr ddymuniadau i Gymru, mae'n anodd gweld bai arni. Rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig i ddatganoli fod gennym enghraifft o wahaniaeth sy'n dangos y gallwn ni wneud pethau'n wahanol ac yn well yma yng Nghymru. Mae'r Ddeddf hon, ar bapur o leiaf, yn sicr yn gwneud hynny.

Fodd bynnag, fel sy'n digwydd yn aml gyda deddfwriaeth, mae'r bwriadau gorau'n aml yn cael eu siomi gan y gweithredu. Yn anffodus, dyna'r hyn a welsom ni gyda Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Canfu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, a adroddodd ym mis Mawrth eleni, nad yw uchelgeisiau radical y Ddeddf wedi'u cyflawni gan y newid diwylliant angenrheidiol ar draws cyrff cyhoeddus. Hefyd, nid yw'r cyrff cyhoeddus hyn wedi gwneud digon i feithrin ymwybyddiaeth o'r newid i ddatblygu cynaliadwy ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

Mae darn mor uchelgeisiol o ddeddfwriaeth hefyd yn gofyn am gyllid uchelgeisiol, ond nid yw hynny wedi digwydd. Mae cylchoedd ariannu byr a chyhoeddiadau ariannu hwyr wedi ei gwneud yn anodd i gyrff cyhoeddus gynllunio, cydweithio, a manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ganddyn nhw. Nid yw cyllideb comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ychwaith wedi bod yn ddigonol i ganiatáu i'w swyddfa ddarparu digon o'r cymorth ymarferol sydd ei angen ar gyrff cyhoeddus i weithredu'r Ddeddf. Rwy'n cydnabod bod Brexit wedi gwneud pethau'n waeth o ran gweithredu'r Ddeddf gan ei bod wedi ei gwneud yn anoddach i gyrff cyhoeddus gynllunio ar gyfer dyfodol ansicr.

Rwy'n falch o weld bod nifer o fesurau wedi'u cymryd i gael pethau'n ôl ar y trywydd iawn yn y datganiad heddiw. Rwy'n croesawu dod â chyrff cyhoeddus at ei gilydd i drafod datblygu cynaliadwy ac allyriadau drwy fforwm cenedlaethol. Mae'r bwriad i lunio'r gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol o fewn y Ddeddf erbyn diwedd y flwyddyn hefyd i'w ganmol. Mae ceisio ehangu cwmpas y Ddeddf i gynnwys mwy o gyrff cyhoeddus hefyd yn gam cadarnhaol. Rwy'n gobeithio, gyda'ch gilydd, y bydd eich mesurau'n mynd i'r afael â rhai o'r diffygion a nodwyd fel rhai sy'n atal y ddeddfwriaeth rhag cyflawni ei photensial llawn.

Os ydym ni am gyflawni'r saith nod, bydd angen inni weld mwy o weithredu ar amrywiaeth o feysydd polisi. Hyd nes y gwelwn gynnydd pellach o ran mynd i'r afael â materion fel yr argyfwng tai, dinistrio ein hamgylchedd a'r gyfradd ofnadwy o dlodi plant, ni fydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn dod yn fyw. Diolch.

15:40

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Peredur. Diolch, hefyd, am gydnabod pwysigrwydd y ddeddfwriaeth arloesol hon—Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol—sy'n cael ei chanmol nid yn unig o ran y rhai sy'n ymgysylltu â hi yn rhagweithiol, ond ar draws y byd hefyd. Ond yn amlwg, dyma'r pum mlynedd cyntaf, ac mae'n rhaid inni ddysgu a mynd i'r afael â'r materion sydd, yn bwysicaf oll, wedi ymddangos yn adeiladol iawn, rwy'n credu, yn yr adroddiadau a gawsom gan ein cyn-Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a chan yr archwilydd cyffredinol hefyd, ac, yn wir, gan y comisiynydd llesiant a chenedlaethau'r dyfodol ei hun, o ran ei hadroddiad.

Fel y dywedais yn fy natganiad, rwy'n ysgrifennu'n fuan at gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i sicrhau ein bod yn cwblhau ein hymateb i adroddiad cenedlaethau'r dyfodol 2020, a oedd yn ddogfen drawiadol a dwfn ac eang iawn o ran ei huchelgeisiau polisi, ei blaenoriaethau a hefyd yn myfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd, ond, hefyd, gan gydnabod, fel y gwnaeth hi—. Roedd adroddiad cenedlaethau'r dyfodol yn cydnabod llawer o'r camau yr ydym wedi'u cymryd i arwain Cymru i lawr llwybr mwy cynaliadwy, sef yr hyn, yn amlwg a phriodol, yr oeddech chi'n ei ofyn i mi. Beth fu'r effeithiau a'r canlyniadau? Datgan ein hargyfwng hinsawdd, newidiadau i'n polisi cynllunio cenedlaethol, gwaith i gefnogi camau gweithredu ar lefel gymunedol drwy'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a chanolfannau cymunedol, a hefyd gwella proses ein cyllideb—i gyd yn cael eu cydnabod yn ei hadroddiad.

Rwyf yn credu ei bod yn bwysig adrodd fel y gwneuthum yn fy ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, fod cyllid y comisiynydd wedi cynyddu eleni i ddarparu cydraddoldeb o'i gymharu â'r comisiynydd plant. Yr hyn sy'n bwysig, yn ei hymateb cadarnhaol i hyn, yw y caiff hyn ei ddefnyddio i fodloni'r gofynion statudol arni—gofynion gwaith statudol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon ac i'r nesaf. Wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig cydnabod y lefel enfawr o alw y mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei gael o ran ceisio arweiniad. Felly, rydym yn sicr yn gweithio gyda'r comisiynydd i helpu i leddfu'r pwysau hyn. 

Ond rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn, unwaith eto, Peredur, eich bod wedi amlinellu pwysigrwydd y ffordd ymlaen o ran y cerrig milltir cenedlaethol a'r dangosyddion llesiant yr ydym yn ymgynghori arnyn nhw, oherwydd dyma'r hyn y mae pobl eisiau clywed amdano, a sut yr ydym am ysgogi ein blaenoriaethau. Mae'n cynnwys ôl troed ecolegol Cymru, canran y bobl mewn cyflogaeth, cydraddoldeb cyflog ar gyfer rhyw, ethnigrwydd ac anabledd, allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg. Ymgynghorir ar yr holl faterion hyn nawr yn y dangosyddion llesiant cenedlaethol, sy'n hanfodol mewn gwirionedd i ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'r hyn y bydd yn ei gyflawni.

Felly, rwy'n ddiolchgar am eich ymateb. Mae llawer i'w ddysgu o ganlyniad i'r adroddiadau hyn. Rwyf wedi derbyn mewn egwyddor neu, os nad wyf, rwyf wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn llawn, i sicrhau y gallwn symud ymlaen o ran cydnabod y cyrff cyhoeddus hynny y mae angen inni eu dwyn i mewn i gwmpas deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol, er mwyn sicrhau y gall pawb elwa. Ac rwy'n credu mai un o'r datblygiadau pwysig—rwyf wedi sôn am y fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol—yw'r rhan y gall y trydydd sector ei chwarae, yn enwedig y trydydd sector yn y sector amgylcheddol, a all hefyd helpu i gyflawni gweithredu i'r Ddeddf hon yn genedlaethol.

15:45

Wel, os nad yw'r Aelodau'n ymwybodol, rwy'n ymateb fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn hytrach nag fel aelod plaid.

Wel, a minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, sydd bellach wedi'i dalfyrru'n PAPAC, mae'n rhaid i mi atgoffa'r Aelodau mai swyddogaeth y pwyllgor hwn yw craffu ar ddefnydd a gweinyddiaeth effeithlon ac effeithiol o adnoddau cyhoeddus, sy'n croesi holl feysydd busnes Llywodraeth Cymru. Mae'n arfer i Gadeiryddion pwyllgorau gael ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau pwyllgorau yn ysgrifenedig, gan alluogi'r pwyllgor i ystyried yn fanwl. Ond dim ond dydd Mercher diwethaf y cawsom ymateb ysgrifenedig, ac nid yw'r pwyllgor yn cyfarfod tan yfory. Hefyd, nid yw adroddiadau PAPAC, ac ymatebion gweinidogol iddyn nhw, fel arfer yn cael eu trafod drwy ddatganiad gan y Gweinidog. Felly, ystyrir bod y dull a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn anghwrtais, fel y mae datganiad generig a gyflwynwyd ddoe yn unig i gymryd lle datganiad a gyflwynwyd â theitl, a oedd yn cynnwys ein hadroddiad—y datganiad sy'n cael ei drafod nawr.

Gweinidog, a ydych chi'n cydnabod nad dyma'r ffordd arferol i ymateb i adroddiad pwyllgor, ac nad yw hyn yn caniatáu dadl na thrafodaeth ddigonol ar y mater trawsbleidiol pwysig iawn hwn? Rwy'n cynghori'r Gweinidog y bydd y pwyllgor yn ystyried cyflwyno dadl arall yn y Cyfarfod Llawn ar hyn pan fu dadl flaenorol yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mawrth yn rhagflaenu ymateb Llywodraeth Cymru.

Mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at y tri adroddiad a gyhoeddwyd yn ymwneud â'r Ddeddf, sef adroddiad blaenorol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ac adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Fodd bynnag, nid yw'r ymatebion i'r ddau olaf wedi'u rhannu eto gan Lywodraeth Cymru. Rhoddodd pumed fforwm Cadeiryddion y Senedd y dasg i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y pryd i gynnal ymchwiliad i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys pwyllgorau eraill yn ei waith. Roedd yr adroddiad dilynol yn cydnabod, yn argymhellion 13 a 14, y dylai Pwyllgor Busnes y chweched Senedd ystyried sut y dylid bwrw ymlaen â'r gwaith o graffu ar y Ddeddf. Mae gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gylch gwaith ar gyfer y Ddeddf erbyn hyn, ond, wrth ymateb i'r argymhellion hyn, dywedodd y Pwyllgor Busnes y bydd gwneud un pwyllgor yn gyfrifol am graffu ar weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar waith, gobeithio, yn sicrhau ei fod yn destun gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol penodol, ond nid oes angen gwneud hyn ar wahân i waith pwyllgorau eraill. A ydych chi felly'n cydnabod y pwynt pwysig yma, bod yn rhaid gwneud unrhyw waith craffu ar y Ddeddf hon ar y cyd, ac y bydd PAPAC yn cynnal swyddogaeth allweddol yn y gwaith hwn?

Gweinidog, fel y gwyddoch chi, dim ond ddydd Mercher diwethaf y cefais ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, gan dderbyn mewn egwyddor yn unig y rhan fwyaf o argymhellion yr adroddiad a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cymru. Esboniodd Llywodraeth Cymru fod y dull hwn wedi'i fabwysiadu pan oedd yn cytuno â'r argymhellion eu hunain ond nid eu hamserlen ar gyfer cyflawni na'r modd o gyflawni'r argymhelliad. Pam, pan roddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ymrwymiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn flaenorol, ym mis Ionawr 2018, i ddod â'r arfer i ben, yn sgil pryderon yr Aelodau nad oedd derbyn mewn egwyddor yn ymateb digonol i bob un ond un o'ch ymatebion, derbyn mewn egwyddor yn unig? Hefyd, a ydych chi'n cydnabod nad yw'n glir sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â'r argymhellion, hyd yn oed mewn egwyddor? Er bod llawer o ymatebion Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod gweithgaredd arall yn digwydd, a ydych yn derbyn bod gweithredu deddfwriaeth yn gofyn am fonitro, gwerthuso ac amserlen glir, nid yn unig ar gyfer yr argymhellion yr ydych wedi cytuno iddyn nhw mewn egwyddor, ond hefyd ar gyfer gweithredu'r Ddeddf? Mae'n destun gofid—[Torri ar draws.]

Rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i'r Aelod, gan ei fod yn Gadeirydd, ond mae wedi mynd dros yr amser hwnnw yn awr.

Mae'n destun gofid nad oes gennyf ddigon o amser i'ch holi am argymhellion ein hadroddiad eu hunain.

15:50

Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Llongyfarchiadau ar eich rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus—PAPAC, fel y'i gelwir nawr. Yn amlwg, rydych chi'n ymateb i—yn bwrw ymlaen â'r adroddiad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol, ac rwyf eisoes wedi ysgrifennu atoch, fel yr ydych wedi amlinellu, gyda'n hymateb i'ch adroddiad, ac roeddwn i eisiau sicrhau eich bod wedi cael yr ymateb hwnnw mewn pryd ar gyfer y datganiad hwn heddiw, gan wybod hefyd y byddwch yn trafod hyn yfory.

Wel, mae'n bwysig fy mod yn ymateb i'r pwynt ynghylch sut yr ydym ni'n rheoli ac yn ymateb i hyn, a beth yw swyddogaeth craffu ar y Senedd o ran Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Fel y dywedais yn fy natganiad, roeddwn i eisiau edrych ar y darlun cyfan o'r holl adroddiadau sy'n dod ger ein bron ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, o gofio mai dyma'r pum mlynedd cyntaf. Dyma'r tro cyntaf inni gael yr holl adroddiadau, ac mae angen i ni roi amser i'r Aelodau ystyried canfyddiadau'r adroddiadau, nid, yn amlwg, dim ond ein hymateb i'ch adroddiad chi, ond hefyd, wrth i ni ymateb, fel y dywedais yn fy natganiad, i adroddiad yr archwilydd cyffredinol ac adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Ac rwy'n hapus iawn i ddod yn ôl i ymateb i drafodaethau pellach a chanlyniad eich ystyriaeth yfory.

O ran pam yr wyf yn ymateb heddiw, mae'r argymhellion yn yr adroddiad wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru. Gweinidogion Cymru sy'n penderfynu ar y rheini sy'n cael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru, ac maen nhw'n ymdrin â phenderfyniadau allweddol, fel adolygu'r rhestr o gyrff sy'n ddarostyngedig i hynny—Gweinidogion Cymru sydd i ystyried hynny; cylchoedd ariannu hefyd—mae'r rheini i Weinidogion arwain arnyn nhw. A natur Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a hynny'n briodol, yw ei bod yn croesi ar draws holl gyfrifoldebau Gweinidogion Cymru, yn ogystal â gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. Felly, rwy'n edrych ymlaen at—. Fe wnaf i ymateb i bwyntiau sy'n deillio o'ch trafodaeth yfory.

O ran gwaith craffu ar y Ddeddf gan y Senedd, mae'n amlwg, fel yr ydym ni wedi dweud, mae'r Senedd yn rhan bwysig o bensaernïaeth atebolrwydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n credu bod y dull a gymerwyd yn dangos na all un pwyllgor yn unig ystyried y ddeddfwriaeth, ac nid cyfrifoldeb un o Weinidogion Cymru ydyw ychwaith. Mae'n gyfrifoldeb a dyletswydd ar y cyd i hybu a chyflawni datblygu cynaliadwy yn yr hyn a wnawn, ac rwy'n deall bod y Llywydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes wedi ymateb i'r ddau argymhelliad o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch craffu ar y Ddeddf. Gobeithio y gwelwch mai'r hyn sy'n bwysig iawn, o ran fy ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yw'r ffaith fy mod wedi derbyn eich argymhellion—fy mod wedi derbyn, o fewn y cylch gwaith a'r rhagolygon sydd gennym o ran amseru, yr holl argymhellion.

Gan edrych ar sicrwydd ariannol i gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf hon—y sicrwydd ariannol tymor hirach—mae hynny'n argymhelliad hollbwysig a ddeilliodd o'ch pwyllgor. Wrth gwrs, gwyddoch mai ein dyhead o hyd, fel Llywodraeth Cymru, yw darparu cyllidebau tymor hirach, ac rwyf eisiau gwneud sylwadau ar hyn heddiw, oherwydd nid dim ond ni, ond ein partneriaid a'n rhanddeiliaid sydd i roi'r sicrwydd hwnnw. Ond mae problem yma o ran—ac fe'i cydnabuwyd gan y pwyllgor—diffyg ffigurau ariannu ymlaen llaw gan Lywodraeth y DU. Mae wedi bod yn broblem i ni. Mae wedi golygu nad ydym ni wedi gallu rhoi setliadau ariannu aml-flwyddyn fel Llywodraeth Cymru, ac rydym ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi setliadau aml-flwyddyn. Byddwn, felly, gobeithio, yn gweld, gyda'r adolygiad gwariant arfaethedig a chyllideb y DU ar 24 Hydref, y cam hwn i—y gallem ni, gobeithio, ddisgwyl setliad tair blynedd. Felly, gallai hyn ein helpu ni i symud ymlaen, oherwydd rydym ni eisiau rhoi syniad o gyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod, pan fo hynny'n bosibl, i'n cyrff cyhoeddus, ac os cawn y setliad aml-flwyddyn hwn gan Lywodraeth y DU, dylai ein galluogi ni i ddarparu cyllidebau dangosol tymor hirach o lawer i gyrff. Felly, dyna'r rheswm pam y mae'n rhaid inni dderbyn mewn egwyddor, ond mae'n amlwg yn cynnwys cydnabyddiaeth bod gan Lywodraeth y DU ran i'w chwarae yn hyn hefyd.

Ac yn olaf, rydym ni'n edrych yn ofalus iawn ar y materion eraill yr wyf wedi'u crybwyll, y cerrig milltir, a'r ffordd yr ydym yn symud ymlaen ar hynny, ond hefyd yr adolygiad o gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf. Ac mae hynny'n hollbwysig, ein bod yn cynnal adolygiad o'r cyrff sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf, a bydd y pedwar prawf hynny a ddefnyddir wrth benderfynu pa gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf sy'n cael eu datblygu, yn sail i'r gwaith hwnnw. Felly, mae hwn yn ymateb cadarnhaol i argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rwyf wedi sôn am o leiaf dri eisoes. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:55

Rwy'n cytuno â Mark Isherwood, yn enwedig bod angen dadl lawn arnom yn amser y Llywodraeth ar y materion pwysig hyn, oherwydd ni allwn fforddio peidio â defnyddio'r Ddeddf i sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn cydweithio i gyflawni nodau a chanlyniadau gofynnol Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yn bennaf oherwydd y toriadau mewn cyllid gan Lywodraeth y DU, felly mae gennym lai o arian i'w wario, ond hefyd oherwydd yr heriau gwirioneddol bwysicaf sy'n ein hwynebu o ganlyniad i COVID, Brexit a phob math o bethau eraill.

Er fy mod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, nid ydym wedi trafod hyn o gwbl, felly rwy'n siarad fel rhywun a oedd yn rhan o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y mae'r Gweinidog yn ymateb iddo. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn rhannu tristwch Mark Isherwood mai dim ond mewn egwyddor y derbyniwyd cynifer o'r argymhellion, oherwydd nid wyf i'n credu mai dyna'r ffordd y dylai'r Llywodraeth fod yn gweithio. Naill ai yr ydych chi'n eu gwrthod, neu—

—yr ydych chi'n eu derbyn. Felly, y cwestiwn mewn gwirionedd yw—nid wyf yn deall pam nad ydych chi wedi derbyn argymhelliad 2 yn llawn, eich bod yn edrych ar y ffordd y caiff y byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu hariannu, dim ond oherwydd—. Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi llwyth o arian iddyn nhw fel eu bod yn mynd i'r cylchdro o geisiadau am grantiau; mae'n ymwneud â sicrhau y gallan nhw gael gafael ar gronfeydd ariannol wedi'u cyfuno fel nad ydyn nhw'n meddwl am bwy sy'n mynd i fod yn talu am logi'r lleiafswm o ystafelloedd ar gyfer cyfarfod â'i gilydd—

Mae'n amlwg bod yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu harian ar y cyd i wneud beth bynnag yn eu barn nhw yw'r blaenoriaethau ar gyfer eu meysydd, ond rwy'n credu bod rhywbeth y gall y Llywodraeth ei wneud i'w gwneud yn haws iddyn nhw. Felly, mae hynny'n sicr yn un, ac mae gennyf ddigon i'w ddweud, ond gallaf weld nad yw'r Dirprwy Lywydd yn mynd i adael imi barhau.

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Rwy'n cydnabod eich swyddogaethau yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a hefyd wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol, ac rydych yn llygad eich lle, ni allwn fforddio peidio â defnyddio'r Ddeddf hon o ran effaith COVID-19 yn enwedig, sydd wedi cael effaith ar sut yr ydym wedi gallu ymateb i'r ddeddfwriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ar ddiwedd y pum mlynedd cyntaf o'r Ddeddf a hefyd y degawd o gyni ac, yn wir, roedd y pwyllgor hyd yn oed yn edrych ar effaith Brexit yn ogystal yn ei ystyriaethau.

Ond fe wnaf i ymateb i'r argymhelliad allweddol hwnnw. Mae derbyn mewn egwyddor neu'n llawn yn ymwneud â chael rheolaeth lawn dros ddweud 'ie' i rai pethau, felly o ran cyllid byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ein polisi ni yw mai mater i'r byrddau eu hunain yw penderfynu sut y maen nhw'n rhoi adnoddau i'w gwaith ar y cyd, gan gynnwys cyfuno cyllid, ac mae rhai enghreifftiau da o sut y mae byrddau wedi bwrw ymlaen â hyn. Ond, bu graddau amrywiol o lwyddiant, ac mae'n cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad, ynghylch cyfuno cyllid neu ddefnyddio arian y tu allan i gyllideb y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus penodol hynny. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw gweithio gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, i ddysgu gwersi o'r gwaith yn y gorffennol ac o'r gwaith presennol i gyfuno adnoddau i gael rhywfaint o arfer cyffredin ar gyfuno cyllid yn effeithiol rhwng aelodau, ond hefyd edrych ar sut y gallwn ni godi ymwybyddiaeth o'r ystod o ffynonellau ariannu eraill sydd ar gael a sut y gallan nhw gael gafael arnyn nhw, ac yna hefyd—ac mae hyn yn hollbwysig o ran ymateb Llywodraeth Cymru—ystyried yn flynyddol y pecyn ariannu a chymorth y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei ddarparu'n uniongyrchol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Felly, roedd llawer o elfennau yn yr argymhelliad da iawn hwnnw yr wyf i'n ymateb iddo lle gallwn ni ymateb iddo mewn egwyddor ac yna'n llawn. Felly, ein nod yw cwblhau'r gwaith ariannu yn barod iddyn nhw gyflawni eu cynlluniau llesiant nesaf o fis Mai 2023, oherwydd mae'n hollbwysig—mae'n rhaid inni eu cynorthwyo i gyflawni eu hasesiadau lleol o lesiant.

16:00

Mae gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol y cyfle i herio pob un ohonom ni a'r ffordd yr ydym ni'n gweithio i sicrhau dyfodol gwell. Hoffwn longyfarch y comisiynydd presennol a'r comisiynydd cyntaf ar sefydlu'r swyddogaeth, datblygu ei phroffil a'i pherthynas â chyrff cyhoeddus, gan weithio gyda nhw i ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn eu gwaith. Rwyf hefyd eisiau cydnabod y sefydliadau nad ydyn nhw o fewn cwmpas y Ddeddf sydd hefyd wedi gweithio i ddeall potensial y ddeddfwriaeth yn y ffordd y maen nhw'n darparu gwasanaethau.

Gweinidog, fy nghwestiynau i yw: yn gynyddol, bydd cyrff cyhoeddus yn troi at swyddfa'r comisiynydd am gymorth i ddefnyddio'r nodau llesiant. Ar y naill law, croesewir eu hymgysylltiad, ond mae'n codi mater o adnoddau. Pa ystyriaeth ydych chi yn ei rhoi i adnoddau swyddfa'r comisiynydd i sicrhau eu bod yn gallu cefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan gyrff cyhoeddus? Hefyd, yn eich datganiad fe wnaethoch chi ddweud bod y rhaglen lywodraethu yn dangos swyddogaeth ganolog dull llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn eich ffordd o feddwl ac wrth lunio polisïau. A wnewch chi fod yn fwy penodol yn y ffordd y mae adrannau'r Llywodraeth wedi newid i adlewyrchu hyn, ac ar ba dystiolaeth y gallwch chi ddibynnu arni? Yr olaf yw—

Diolch yn fawr, a diolch yn fawr iawn i'r Aelod. Mae'n hollbwysig ein bod yn gallu defnyddio deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'n bwysig bod gennym y cyfle i herio sut y caiff hon ei defnyddio. Rwyf eisoes wedi ateb y cwestiwn ynghylch sut yr ydym wedi cynyddu cyllid y comisiynydd, ond rydym hefyd wedi rhoi rhai enghreifftiau o sut yr ydym wedi defnyddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i gyflawni'r newidiadau. Rwyf eisoes wedi sôn am rai, ond rwy'n credu yr hoffwn hefyd, er enghraifft, sôn nid yn unig—. Rwyf eisoes wedi sôn mai Senedd Cymru oedd y cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, ein bod yn cynnal ein polisi o wrthwynebu echdynnu tanwydd ffosil yng Nghymru, ond rydym hefyd wedi nodi ein bwriad i oedi pob cynllun ffordd newydd yn erbyn cefndir ein targed wedi'i rwymo mewn cyfraith o gyrraedd sero-net erbyn 2050.

Hefyd rhai enghreifftiau eraill o ran y ffyrdd o weithio, o ran cynnwys ac ymgysylltu, yw'r ffaith bod yr amgueddfa genedlaethol wedi bod yn cynnwys pobl ifanc ym mhob agwedd ar waith amgueddfa Cymru a hefyd, yn wir, cyngor y celfyddydau a chydffederasiwn GIG Cymru. Mae'r rhain yn gyrff sydd wedi sicrhau y gallan nhw ddefnyddio'r nodau llesiant a'r ffyrdd o weithio i gyflawni.

Ond yn olaf, rwyf eisiau dweud y ceir argymhelliad pwysig iawn o ran llythyrau cylch gwaith. Mae'r llythyrau cylch gwaith bellach yn cynnwys gofyniad i fodloni'n llawn y dyletswyddau llesiant a nodir yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Ac mae hynny'n argymhelliad pwysig iawn gan y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus yr wyf yn falch iawn o'i dderbyn.

Gweinidog, mae'n dda iawn bod gennym y ddeddfwriaeth hon a gydnabyddir yn rhyngwladol yma yng Nghymru i'n helpu i'n harwain, a byddwn i'n dweud, comisiynydd cryf iawn i helpu i sbarduno cynnydd. Ac rwy'n falch eich bod wedi gallu dod o hyd i rywfaint o arian ychwanegol ar gyfer y swyddogaeth. Fe wnaethoch chi sôn am y pandemig, Gweinidog, a'r prosesau newydd sy'n cael eu rhoi ar waith. Yn sicr, rwyf wedi clywed, ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill wedi clywed am gydweithio da iawn, cydweithio integredig, yn ystod y pandemig rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a sefydliadau gwirfoddol, y gwasanaeth iechyd a phartneriaid allweddol, er enghraifft. Felly, a wnewch chi ddweud ychydig mwy ynghylch sut y bydd y broses honno'n cydnabod y gwaith newydd hwn sy'n debyg iawn i'r hyn y mae'r Ddeddf yn gofyn amdano a helpu i'w ddatblygu a'i ymgorffori ar gyfer y dyfodol? A hefyd y cyd-bwyllgorau corfforaethol a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus—mae'r ddau ohonyn nhw'n bwysig iawn. Maen nhw ar yr un trywydd, mewn gwirionedd. Sut y bydd y Ddeddf yn sicrhau eu bod yn rhan allweddol o gyflawni'r cynnydd angenrheidiol, drwy gydweithio?

Wel, diolch yn fawr iawn, John Griffiths, am y rhan allweddol yr ydych chi wedi'i chwarae yn y Senedd hon ac mewn Llywodraeth o ran dod â ni i'r pwynt hwn lle mae gennym ddeddfwriaeth arloesol o'r fath gyda Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Yn 'Llunio Dyfodol Cymru', sef y cyhoeddiad ar gyfer ein hymgynghoriad ar ein cerrig milltir cenedlaethol, mae mor bwysig—mae'n dweud bod gennym gyfraith yng Nghymru sy'n ein helpu ni i gyd i gydweithio i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a'n diwylliant, a dyna'r holl nodau llesiant sydd eisoes wedi'u nodi heddiw. Mae'r ffaith bod y ffyrdd o weithio, sy'n cynnwys cydweithio, integreiddio, cymryd rhan, atal hirdymor, wedi llywio'r gwaith yr ydym wedi'i wneud yn ystod y pandemig, rwy'n credu, o ran y ffyrdd o weithio nid yn unig gyda llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, ond hefyd gyda'n holl bartneriaid eraill yn y trydydd sector, yn amlwg y gwasanaeth iechyd, ond mae plismona hefyd yn dyst i'r ffaith bod y cyrff cyhoeddus hynny wedi ymrwymo i egwyddorion deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Ac rwy'n credu bod gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus ran allweddol i'w chwarae, ac mae'n debyg eich bod yn ymwybodol, rwy'n siŵr, gan mai chi yw'r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, o'r gwaith sydd wedi'i wneud yng Ngwent, lle mae'r holl fyrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi dod at ei gilydd i sicrhau y gallan nhw wneud y gorau o'r gwaith partneriaeth integredig hwnnw ar y lefel is-ranbarthol honno.

Rwy'n credu y bydd yn bwysig iawn edrych ar eu hasesiadau—asesiadau'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus—o lesiant. Maen nhw'n cael eu cynnal erbyn y gwanwyn nesaf, ond byddwn i hefyd yn annog Aelodau i edrych ar ein hadroddiad 'Llesiant yng Nghymru', a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn ogystal ag edrych ar adroddiad tueddiadau'r dyfodol, a fydd yn cael ei gyflwyno yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

16:05
5. Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021

Yr eitem nesaf yw eitem 5, Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig—Jeremy Miles.

Cynnig NDM7788 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Medi 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i ni barhau gyda'r gwaith o baratoi'r tir ar gyfer cyflwyno'r system anghenion dysgu ychwanegol yn llawn, mae wedi dod i'n sylw bod yna groesgyfeiriad anghywir yn rheoliad 17(2) o Reoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021. Mae rheoliad 17(2) yn amlinellu'r amserlen y mae'n rhaid i unigolyn sydd am ddod â hawliad sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 gyflwyno datganiad achos o'i mewn. Mae'r diwygiad yr ydym am ei wneud heddiw yn cywiro'r camgymeriad hwn ac yn disodli'r croesgyfeiriad anghywir i 13(2)(c) gyda'r cyfeiriad a fwriedir i reoliad 13(1)(b). Os cymeradwyir y diwygiad, bydd rheoliad 17(2) yn gwneud darpariaeth bod cyfnod y datganiad achos ar gyfer yr hawlydd yn dechrau o'r dyddiad y bydd yr hawlydd yn cael hysbysiad gan y tribiwnlys, sef y bwriad polisi gwreiddiol. Os na wnawn y diwygiad hwn, bydd Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 yn ddiffygiol. Rwyf am ddiolch i'r Aelodau am eu hamser a hyderaf y gallwn wneud y cywiriad angenrheidiol hwn heddiw.

Nid oes siaradwr ar gyfer yr eitem hon. Weinidog, ydych chi am ddweud unrhyw beth arall? Na. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol

Eitem 6, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau  Proffesiynol. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig—Jeremy Miles.

Cynnig NDM7787 Lesley Griffiths

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cymwysterau Proffesiynol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle yma i egluro cefndir y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac i egluro pam rwy'n awgrymu nad yw'r Senedd yn caniatáu’r Bil Cymwysterau Proffesiynol. Rwy'n ddiolchgar i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac am gynhyrchu'r adroddiad. Rwyf wedi ymateb i'r cwestiynau a godwyd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaethau a'u hadroddiad. Mae'r pwyllgor wedi codi nifer o awgrymiadau, a byddaf yn ymateb iddynt yn y dyfodol agos, ond gallaf gadarnhau heddiw y byddaf yn derbyn holl argymhellion y pwyllgor, a lle mae adroddiad y  pwyllgor yn gofyn am wybodaeth bellach, ceisiaf ei darparu ar lafar cyn ysgrifennu at y pwyllgor. Yn enwedig, rwy'n nodi'r casgliad yn yr adroddiad, sydd yn cyd-fynd â fy ngofid am bwerau cyd-amserol sydd yn y Bil. Rwy'n gwasgu ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am welliannau i'r Bil, ond, tan i ni gael y sicrwydd sydd yn ein bodloni, nid wyf yn medru newid fy awgrymiad ar y Bil. Gallaf hefyd gadarnhau ein bod ni'n dal i aros am ganllawiau ar ddiffiniadau, sef un o'r cwestiynau a gofynnwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Fel y gwyddoch chi, fy nghyngor i'r Senedd yw na ddylem ni roi cymeradwyaeth i'r Bil yn ei ffurf bresennol. Cafodd y Bil ei ddatblygu'n gyflym gan Lywodraeth y DU, a digwyddodd y rhan fwyaf o'r gweithgarwch hwn yn ystod ein cyfnod cyn yr etholiad, a oedd yn atal Gweinidogion rhag cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r Bil. Yn gyflym, trodd hyn y gwaith o ddatblygu fframwaith cyffredin anneddfwriaethol, sef ein yr opsiwn yr ydym ni'n ei ffafrio ar gyfer rheoli trefn cydnabod cymwysterau proffesiynol ar y cyd, yn Fil Cymwysterau Proffesiynol wedi ei ruthro i'w gyflwyno i Dŷ'r Arglwyddi heb fawr o gyfle i Weinidogion Cymru wneud sylwadau. Rwyf i yn gweld, mae modd dadlau, fod angen cymal 5 fel ffordd ddefnyddiol o addasu deddfwriaeth o ganlyniad i ymadael â'r UE, ond ni adawodd y broses lawer o amser i gyrff rheoleiddio, gan gynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg a Gofal Cymdeithasol Cymru, ystyried yn briodol oblygiadau'r Bil ar eu swyddogaethau rheoleiddio. Mae hynt y Bil hyd yma yn Nhŷ'r Arglwyddi wedi nodi bod gan lawer o gyrff rheoleiddio eraill ledled y DU bryderon ynghylch y Bil hefyd a'r effaith y bydd yn ei chael ar eu hymreolaeth a'u trefniadau presennol i hwyluso cydnabyddiaeth o gymwysterau.

Fodd bynnag, fy mhrif bryder ynglŷn â'r Bil hwn yw cynnwys pwerau cydredol. Mae'r pwerau hyn wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth heb unrhyw esboniad ystyrlon gan Lywodraeth y DU ynghylch pam eu bod yn angenrheidiol ym maes proffesiynau wedi eu rheoleiddio, gan arwain i'r casgliad, mae arnaf i ofn dweud, fod hwn yn gam arall gan Lywodraeth y DU i weithredu mewn meysydd sydd yn amlwg wedi eu datganoli. O ystyried y math o bwerau cydredol sydd wedi eu cynnwys yn y Bil, yn ogystal â pha mor gyflym y cafodd y Bil ei ddatblygu gan Lywodraeth y DU, cafodd dadl gynnar ei chyflwyno i'r Senedd i nodi'n glir ein safbwynt ni yn erbyn unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i fygwth y setliad datganoli. Ein man cychwyn yw na ddylai swyddogaethau cydredol gael eu creu. Fodd bynnag, os yw Llywodraeth y DU yn benderfynol o'u creu, fel y gall fod yn wir yn yr achos hwn, yna byddem ni o leiaf yn disgwyl darpariaeth gydsyniad. Casgliad Llywodraeth Cymru yw bod darpariaethau 1 i 10 a 12 i 19 yn y Bil yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Ni ddylid caniatáu i'r Bil symud yn ei flaen fel y mae ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni weld y gwelliannau yr ydym ni wedi eu ceisio. Felly, cynigiaf y cynnig, ac anogaf bob Aelod o'r Senedd i wrthod y cynnig a gwrthod ein caniatâd i'r Bil.

16:10

Galwaf ar Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Paul Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y dywedoch chi, dwi'n codi i gyfrannu at y ddadl hon fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Bu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn trafod y memorandwm hwn ar 16 Medi eleni, a'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad oedd dydd Iau diwethaf. Dwi'n nodi bod adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y memorandwm hwn yn cynnwys naw argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â phwerau a chwmpas—wrth gwrs, roedd gwaith craffu a sgrwtineiddio ein pwyllgor ni wedi'i gyfyngu i faterion polisi yn unig.

Nawr, yn ein hadroddiad, fe wnaethon ni ofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg roi rhagor o wybodaeth i'r holl Aelodau cyn y ddadl heddiw. Gan fod amser yn brin, fe wnaethon ni, fel dywedodd y Gweinidog yn gynharach, ysgrifennu ato fe ddydd Mawrth diwethaf i dynnu ei sylw at y cais hwn. Yn benodol, gofynnon ni am asesiad o effaith y Bil ar broffesiynau rheoleiddiedig yng Nghymru; fe ofynnon ni am amlinelliad o'r effaith ar gymwysterau proffesiynol rheoleiddiedig yng Nghymru er mwyn gweld beth yw lefel y galw am rai proffesiynau penodol; fe ofynnon ni am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â'r cais am eglurhad ynghylch cwmpas y Bil a sut y bydd yn cael ei gymhwyso mewn sectorau penodol, fel addysg bellach; fe ofynnon ni am fanylion am unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch unrhyw newidiadau i'r Bil y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdanynt; fe ofynnon ni am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru â'r rheoleiddwyr yng Nghymru y bydd y Bil yn effeithio arnyn nhw, gan gynnwys cyrff sector cyhoeddus; a fe ofynnon ni am ddisgrifiad o'r cysylltiad rhwng y Bil â threfniadau perthnasol eraill yn y Deyrnas Unedig, fel Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, y system newydd ar gyfer mewnfudwyr a chytundebau rhyngwladol yn y dyfodol, ac effaith gyfunol y rhain.

Nawr, mae adroddiad y pwyllgor yn nodi ein bod ni ddim mewn sefyllfa, cyn cael yr wybodaeth honno, i wneud argymhelliad i'r Senedd ynghylch a ddylid cymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron ni heddiw ai peidio. Gallaf gadarnhau bod y Gweinidog wedi danfon ymateb i'r pwyntiau mae'r pwyllgor wedi eu gwneud, a dwi'n ddiolchgar am ei lythyr ataf a ddaeth i law prynhawn ddoe. Dosbarthwyd yr wybodaeth yma i aelodau'r pwyllgor, ond fel y bydd Aelodau yn cydnabod, dwi'n siŵr, dydyn ni ddim wedi cael amser i ystyried gwybodaeth y Gweinidog a datblygu ymateb fel pwyllgor. Felly, er fy mod yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ddarparu'r wybodaeth ychwanegol yma i'r pwyllgor, o gofio ein bod ni ddim wedi cael cyfle i ystyried yr wybodaeth fel pwyllgor, dydyn ni ddim felly mewn sefyllfa i gymeradwyo na gwrthod yr LCM ger ein bron ni heddiw. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:15

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, siaradais am adroddiad ein pwyllgor yn ystod y ddadl ynghylch a ddylai’r Senedd hon roi cydsyniad i Fil yr Amgylchedd. Yr wythnos hon, rydym yn trafod cydsyniad ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a gyda’ch gwahoddiad chi, Dirprwy Lywydd a'r Llywydd hefyd, mae’n debyg y byddwch yn fy ngweld yn eithaf rheolaidd o ystyried nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol yr ydym ni, a’r Senedd yn ei chyfanrwydd, yn eu hystyried ar y funud.

Yn ein hadroddiad ar femorandwm cydsyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol, rydym ni wedi nodi tueddiadau sydd, yn anffodus, eisoes yn dod i'r amlwg yn eithaf cynnar yn y Senedd hon, ac rydym ni wedi gwneud naw argymhelliad i'r Gweinidog, ac mae ein hadroddiad hefyd yn nodi nifer o gasgliadau i adlewyrchu ein hystyriaeth gyffredinol o'r memorandwm cydsyniad ar gyfer y Bil.

Yn anffodus, nid oedd y Gweinidog yn gallu ymateb yn ffurfiol i'n hadroddiad ymlaen llaw y prynhawn yma. Mae'n debyg ei bod yn sefyllfa brin, os nad unigryw, sy'n achosi rhai materion amlwg o ran craffu, er ein bod ni'n gwerthfawrogi ymddiheuriad y Gweinidog yn seiliedig ar yr amserlen, a phwysau'r amserlen ar y pen arall yw hyn i raddau hefyd. Mae'r Gweinidog wedi egluro, fodd bynnag, y bydd Llywodraeth Cymru, rydym ni ar ddeall, yn derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad, ac rydym ni'n gobeithio yn llawn, wrth gwrs, ac fe wnaeth amlygu yn ei sylwadau heddiw, yn benodol, bryderon ynghylch pwerau cydredol yn y Bil, yr ydym ni'n tynnu sylw atyn nhw hefyd.

Felly, gadewch i mi fynd trwy rai o'r meysydd yr ydym ni'n pryderu yn eu cylch. Yn yr un modd â Bil yr Amgylchedd, mae'r Bil Cymwysterau Proffesiynol hefyd yn cynnwys y pwerau cydredol hynny, y gall yr Ysgrifennydd Gwladol yng Nghymru eu harfer ar faterion datganoledig. Er ein bod ni'n cydnabod bod y Gweinidog yn ceisio newidiadau i'r Bil i ymdrin â phryderon Llywodraeth Cymru ynghylch y pwerau hyn, nid ydym ni'n siŵr bod ateb y Gweinidog yn cynnig rhan i'r Senedd ar hyn o bryd. Felly, rydym ni'n cwestiynu pam mae'r Senedd, yn ogystal â chael ei hamddifadu rhag chwarae rhan sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fanylion deddfwriaeth sylfaenol ar fater sydd wedi ei ddatganoli a fydd yn dod i rym yng Nghymru, nid oes rhan iddi ychwaith wedyn yn y craffu ar yr is-ddeddfwriaeth a fydd hefyd yn dod yn gyfraith yng Nghymru. Felly, rydym ni'n credu bod hyn yn amhriodol yn gyfansoddiadol.

Ac mae mater ehangach, sy'n ehangach na'r penderfyniad cydsyniad hwn sydd ger ein bron heddiw. Dyma'r ail o 14 o Filiau'r DU sy'n destun memoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ac rwy'n atgoffa Llywodraeth Cymru ar y cyd ac Aelodau'r Senedd yn garedig i ystyried yr effaith gronnol. Mae craffu ar yr holl femoranda hyn sydd wedi eu gosod gerbron y Senedd, er yn dasg drwm, yn rhoi fy mhwyllgor mewn sefyllfa wych i fonitro'n agos effaith gyffredinol Senedd y DU yn deddfu ar ran y Senedd, p'un a yw cydsyniad wedi ei roi ai peidio. Ac yn barchus, rwyf i'n gosod y marc hwnnw heddiw ar gyfer Llywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU.

Mae ein hadroddiad hefyd yn tynnu sylw at faterion eraill sydd o arwyddocâd cyfansoddiadol pwysig. Mae'r cyfuniad o swyddogaethau cydredol a phwerau Harri VIII yn y Bil yn golygu y gallai'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Arglwydd Ganghellor arfer eu pwerau i wneud rheoliadau i ddiwygio Deddfau'r Senedd a rheoliadau sydd wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru. Nid ydym ni o'r farn bod hyn yn dderbyniol.

At hynny, nid oes dim yn y Bil a fydd yn atal Llywodraeth y DU, pa liw bynnag yw Llywodraeth y DU honno, rhag gwneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ein prif statud datganoli. Fel mater o egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol, ni ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd gael ei addasu drwy reoliadau wedi eu gwneud gan Weinidogion y DU, Dirprwy Lywydd. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys pŵer sydd i bob pwrpas yn ychwanegu cyfyngiadau wedi eu nodi yn Neddf 2006 sy'n berthnasol i wneud deddfwriaeth sylfaenol gan y Senedd hon at broses gwneud rheoliadau Gweinidogion Cymru. Nawr, byddem ni'n dweud bod hwn yn bŵer anarferol ac annymunol. Mae'r ffaith bod anghytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch pa ddarpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â materion wedi eu datganoli, ac nad yw cwmpas y Bil yn fwy cyffredinol wedi ei egluro eto, hefyd yn peri pryder.

Fel fy sylw olaf, rwy'n tynnu sylw at y ffaith bod ein hystyriaeth o'r memorandwm wedi rhoi enghraifft o gymhlethdodau'r oes ar ôl ymadael â'r UE. Mae gweithredu'r Bil, os caiff ei ddeddfu ac ar ôl i hynny ddigwydd, yn caniatáu cyflwyno nifer o drefniadau domestig a rhyngwladol o ganlyniad uniongyrchol i'r DU yn ymadael â'r UE. Er mwyn rhoi rhai enghreifftiau, mae darpariaethau'r Bil yn cyd-fynd â fframweithiau cyffredin a chytuniadau rhyngwladol, ac maen nhw'n gweithredu ochr yn ochr â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a system fewnfudo newydd y DU. Ac nid datganiad gwleidyddol yw hwn; mae'n ddatganiad ffeithiol. Felly, byddem ni'n dadlau:

Mae'n hanfodol bod y Senedd yn rhoi sylw manwl i'w heffaith gyfunol ac yn gallu parhau i chwarae rhan lawn o ran diogelu buddiannau gorau Cymru yn sgil y trefniadau newydd hyn. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

16:20

Hoffem ni groesawu cyflwyniad Bil Cymwysterau Proffesiynol Llywodraeth y DU, a fydd yn hwyluso'r broses o drosglwyddo i ddinasyddion yr UE sydd â chymwysterau proffesiynol gael cydnabyddiaeth o'u cymwysterau a chaniatâd i weithio yn y DU. Bydd y cynigion hyn yn ei gwneud yn haws i weithwyr proffesiynol a busnesau lywio tirwedd reoleiddio y DU drwy symleiddio'r broses. Bydd y Bil yn rhoi'r pŵer i weinyddiaethau datganoledig roi'r gallu i'w rheoleiddwyr ymrwymo i drefniadau â phartneriaid rhyngwladol. Bydd yn caniatáu i'r cyfreithiau newydd helpu i fodloni gofynion proffesiynau unigol ledled y wlad. Bydd y cynigion hyn yn creu dull cydgysylltiedig o ymdrin â'r rheolau sy'n ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol ac yn sicrhau bod gan y DU y gallu parhaus i ddefnyddio'r bobl ddawnus orau a disgleiriaf ledled y byd, a fydd yn helpu i ymdrin â'r bwlch sgiliau yr ydym ni'n ei wynebu yng Nghymru. Rydym ni'n nodi bod Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ac rydym ni'n nodi eu pryderon hefyd, ond ar hyn o bryd byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru a'r Aelodau eraill i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.

Diolch yn fawr iawn i'r ddau bwyllgor am eich gwaith trwyadl yn edrych ar hyn i gyd. Mae'r gwaith mae eich pwyllgor chi yn ei wneud, nid yn unig efo'r Bil yma ond efo'r holl ddeddfwriaeth sydd yn dod lawr atom ni yn sydyn iawn, yn hollbwysig. Fedrwn ni ddim gadael i'r materion yma fynd o dan y radar. Mae'n hollbwysig eu craffu nhw yn ofalus, a dwi'n gweld eich bod chi yn gwneud hynny.

Mae'n egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol na ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon gael ei ddiwygio drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion y Deyrnas Unedig. Mae'r Mesur Cymwysterau Proffesiynol yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol neu’r Arglwydd Ganghellor i wneud rheoliad sydd yn diwygio Deddfau'r Senedd. Mae pwerau yn y Bil a allai addasu Deddf Llywodraeth Cymru 2006 hefyd. Ac felly, am y rhesymau yna, mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn yr LCM ac yn gobeithio y bydd pawb yn pleidleisio yn ei erbyn o ac yn cydnabod y peryglon cyfansoddiadol sydd yn dod yn ei sgil.

Dwi'n falch iawn o glywed fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi cael ei argyhoeddi bod angen y mwyafrif o'r mesurau yn y Bil, ac mae'r Llywodraeth o'r farn bod y pwerau cydredol a geir yn y Bil yn tanseilio pwerau hir sefydlog y Senedd a Gweinidogion Cymru i reoleiddio mewn perthynas â materion sydd o fewn cymhwysedd datganoledig. Mae gan Weinidogion Cymru a rheoleiddwyr sydd wedi'u datganoli eisoes y pwerau sydd eu hangen er mwyn gweithredu'r polisi a'r rheoliadau cyfredol ac arfaethedig sydd o fewn y meysydd cymwysedig datganoledig, gan gynnwys pwerau i gydnabod pob cymhwyster tramor fesul achos.

Mi rydym ni, fel y Llywodraeth, yn bryderus ynglŷn â chwmpas y Bil, ac yn ansicr hefyd ydy addysg bellach yn cael ei chynnwys o fewn y Bil. Felly, ar sail yr hyn rydym ni wedi ei glywed ac oherwydd y pryderon mawr a'r perygl i'r egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol sydd dan sylw yn y fan hyn, dwi'n erfyn arnoch chi i bleidleisio yn erbyn, a dwi'n edrych ymlaen at weld y bleidlais honno'n un cadarnhaol yma y prynhawn yma.

16:25

Jest gair byr ar hyn os yw hynny'n iawn. Dwi'n cytuno'n hollol efo'r Gweinidog ac yn ddiolchgar iawn i chi am beth rydych chi wedi'i ddweud.

Rwyf i wedi fy siomi, ond nid wyf i'n synnu clywed am fethiant Llywodraeth y DU eto—unwaith eto—i ymgysylltu â Gweinidogion Cymru ar fater sydd yn amlwg wedi ei ddatganoli i ni yma yng Nghymru. Mae rhuthro'r Bil hwn trwy Dŷ'r Cyffredin yn nodweddiadol o ddirmyg Llywodraeth y DU at y gwledydd datganoledig.

Mae Cymru'n cychwyn ar y gyfres fwyaf o ddiwygiadau addysgol ers yr ail ryfel byd ac mae mor bwysig bod trefniadau cymwysterau ledled y DU yn y dyfodol yn adlewyrchu ein dull gwahanol ac unigryw o ymdrin ag addysg yma yng Nghymru. Mae gan y Bil hwn y potensial i danseilio rheoleiddwyr Cymru a sectorau allweddol ein heconomi ni ac ni ddylem ni gefnogi hyn. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i bob cyfrannwr yn y ddadl heddiw a chydnabod yr hyn a wnaeth Paul Davies ei ddweud ynglŷn â gwaith y pwyllgor, a diolch iddo a'r pwyllgor am eu gwaith yn hyn o beth?

A gaf i ddiolch hefyd i Huw Irranca-Davies a'r pwyllgor am eu gwaith, fel y gwnes i sôn ar y dechrau, ac am ei amynedd o ran y cwestiwn ynghylch ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad? Gallaf i ei sicrhau y byddwn ni yn derbyn yr argymhellion yn llawn. Yn rhannol, mae'n fater o amseru, sy'n amlygu'r darlun ehangach, ac rwy'n gwybod bod ei bwyllgor wedi bod yn pryderu am hyn yn eu hadroddiad.

Y dyfarniad yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth yma yw cyflwyno dadl gynnar fel bod modd clywed llais y Senedd yn uchel a'i fod yn rhoi'r cyfle gorau iddo gael ei ystyried. Rwyf i yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried cryfder y teimlad sydd wedi ei ddisgrifio heddiw gan bob siaradwr, rwy'n credu, ar wahân i un. A byddwn i'n dweud wrth Laura Anne Jones nad dadl yw hon ynghylch a ydym ni'n credu y dylai cymwysterau gael eu cydnabod neu y dylai cynnal pethau ar sail drefnus, gydweithredol ledled y DU; mae'n ymwneud â lle mae'r pwerau hynny yn gorwedd ac a yw Llywodraeth y DU yn parchu'r ffin ddatganoli a'r setliad datganoli. Dyna sydd wrth wraidd y drafodaeth heddiw, nid y gred na ddylem ni fod yn cydnabod cymwysterau rhyngwladol. Mae'r pwerau hynny eisoes yn bodoli; maen nhw'n bodoli yma.

Hoffwn i adleisio un pwynt a wnaeth Huw Irranca-Davies am yr effaith gronnus yma. Rwyf i yn credu ei bod yn bwysig iawn gweld y darlun mawr, oherwydd gallwn ni ganfod tueddiadau gofidus iawn yn y ffordd y mae ef wedi ei disgrifio. Mae'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn adleisio, rwy'n credu, nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelodau wedi eu gwneud heddiw. Rydym ni yn gweld yma, yn ogystal â'r cwestiwn ynghylch pwerau cydredol y gwnes i eu crybwyll ar y dechrau, bwerau Harri VIII, ac mae effaith gyfunol y pwerau hynny ynghyd â phwerau cydredol yn ergyd niweidiol iawn, rwy'n credu, i'r setliad datganoli, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn myfyrio ar hynny yn y ddadl heddiw ac yn pleidleisio i atal cydsyniad.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ocê, rwy'n credu roedd hwnna'n wrthwynebiad, felly, ac fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar hynny tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dwi'n mynd i awgrymu ein bod ni'n cymryd toriad byr nawr tra ein bod ni'n disgwyl i ambell i Aelod ddod i'r Siambr ar gyfer yr eitem nesaf. Felly, rŷn ni'n cymryd toriad byr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:29.

16:30

Ailymgynullodd y Senedd am 16:32, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021

Yr eitem nesaf yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Eluned Morgan.

Cynnig NDM7789 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf y cynnig sydd ger ein bron. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn rhoi'r fframwaith deddfwriaethol ar waith ar gyfer y lefelau rhybuddio a ddisgrifir yng nghynllun rheoli'r coronafeirws. Mae swyddogion yn gweithio'n galed i ddiweddaru'r cynllun rheoli presennol ar gyfer cyfnod yr hydref a'r gaeaf. Ledled Cymru rydym ni wedi gweld cynnydd i gyfradd trosglwyddo COVID-19 yn ddiweddar, yn ogystal â chanran y bobl sy'n profi'n gadarnhaol. Er bod tystiolaeth yn parhau i ddangos bod y cysylltiad rhwng achosion a derbyniadau i'r ysbyty wedi gwanhau o ganlyniad i'r rhaglen frechu, nid yw wedi ei dorri. Mae pwysau ar ysbytai wedi bod yn cynyddu'n gyson ac mae pwysau ehangach yn parhau i effeithio ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol.

Roedd y Prif Weinidog yn glir yn ei gyhoeddiad ar 17 Medi, er ein bod ni'n gallu aros ar lefel rhybudd 0, fod angen cymryd camau cynnar i osgoi niwed tymor hwy. Ar 27 Medi, cafodd rheoliadau diwygiedig drafft eu cyflwyno a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ddangos pàs COVID y GIG a fydd yn profi eu bod wedi cael eu brechu ddwywaith neu'n dangos y gallan nhw gyflwyno prawf llif ochrol negyddol yn ystod y 48 awr ddiwethaf. Bydd angen iddyn nhw gyflwyno hyn os ydyn nhw'n dymuno cael mynediad i'r lleoliadau a'r digwyddiadau canlynol o 11 Hydref ymlaen: clybiau nos a lleoliadau tebyg; digwyddiadau dan do, heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl, lle mae pobl yn cymysgu'n agos am gyfnodau hir; digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl, lle bydd pobl yn cymysgu'n agos am gyfnodau hir; ac unrhyw ddigwyddiad o unrhyw natur sydd â mwy na 10,000 o bobl yn bresennol. Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn barod i weithredu'r systemau yr wythnos nesaf, ac rydym ni wedi paratoi canllawiau i helpu'r cyhoedd i ddeall pam a sut y bydd y system yn gweithio.

Llywydd, gadewch i mi fod yn glir: mae'r pàs COVID eisoes wedi ei ddefnyddio yng Nghymru ar gyfer rhai digwyddiadau dros yr haf, ac mae rhai safleoedd eisoes yn mynnu bod y pàs yn cael ei ddangos fel amod mynediad. Nid pasbort brechlyn yw hwn, a bydd gan bobl gyfle i ddangos eu bod wedi eu brechu'n llawn neu gallan nhw ddarparu tystiolaeth o brawf llif ochrol negyddol 48 awr cyn digwyddiad. Rwy'n ymwybodol bod y pàs COVID yn datgan 'yn ddilys yn Lloegr' ar hyn o bryd. Mae hyn yn anffodus ac yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni'n rhannu'r seilwaith â Llywodraeth y DU. Bydd y geiriad hwn yn newid cyn i'r system fod yn orfodol yng Nghymru. Rydym yn datblygu ap GIG Cymru a fydd yn cynnwys ein pàs COVID GIG ein hunain yn rhan o'r gwasanaethau digidol i gleifion a'r cyhoedd sy'n cael eu darparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Bydd hwn ar gael yn gynnar yn 2022, a bydd hwn ar gael yn Gymraeg hefyd.

Bydd derbyniadau priodas, partneriaeth sifil ac amgen, ynghyd â the angladdau, wedi eu heithrio o ofynion pàs COVID, ynghyd â phrotestiadau a digwyddiadau cyfranogiad torfol. Rwy'n ymwybodol y bu rhai problemau cychwynnol gyda'r system yn yr Alban. Yma yng Nghymru, mae'r pàs COVID eisoes yn cael ei ddefnyddio'n helaeth, ac yn Lloegr yn yr un modd. Mae pàs COVID y GIG wedi ei ddefnyddio yng Nghymru ers pedwar mis yn barod, ac mae wedi ei lawrlwytho a'i ddefnyddio gan filoedd o bobl eisoes i gael mynediad i ddigwyddiadau ac i deithio dramor. Mae gennym ni gyfarwyddiadau clir eisoes ar llyw.cymru ar sut i gael gafael ar y pàs, a byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r defnydd o'r pàs mewn cyfathrebiadau yn y dyfodol.

A gaf i fod yn glir? Nid ydym ni wedi penderfynu cyflwyno mesurau o'r fath yn ysgafn. Er ein bod ni'n gwybod bod y cyfraddau ymhlith y rhai dan 25 oed tua 1,000 fesul 100,000 o bobl, ac mai'r grŵp oedran hwn yw'r mwyaf tebygol o fynychu rhai o'r lleoliadau hyn, yn enwedig clybiau nos, rydym yn cymryd y camau hyn i gefnogi lleoliadau i aros ar agor a galluogi digwyddiadau i barhau trwy hydref a gaeaf a all fod yn anodd a heriol iawn. Nid yw cadw'r lleoliadau hyn ar agor yn benderfyniad hawdd yng ngoleuni cyfraddau COVID mor uchel.

Wrth i ni nesáu at y gaeaf, mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gadw Cymru'n ddiogel. Rwy'n falch ein bod ni wedi cael y cyfle i drafod y cynnig hwn heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau. Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig i gadw Cymru'n ddiogel yn ystod yr hydref a'r gaeaf hwn. Diolch.

16:35

Yn gynharach eleni, dywedodd y Prif Weinidog, ac eto yn y Siambr y prynhawn yma hefyd, nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad na chynlluniau i gyflwyno pasbortau brechlyn ar gyfer lleoliadau yma yng Nghymru. Rydym ni bellach mewn sefyllfa gadarnhaol lle mae 70 y cant o boblogaeth gyfan Cymru bellach wedi eu brechu'n llawn. Rwyf i'n teimlo'n eithaf cryf am hyn, ond nid wyf i'n credu y dylem ni fod yn gymdeithas reolfa drwy gyflwyno pasbort brechlyn. [Torri ar draws.]

Mae ystod eang o oblygiadau moesegol, cydraddoldeb, preifatrwydd, cyfreithiol a gweithredol yn gysylltiedig â phasbortau COVID. [Torri ar draws.] Rwy'n clywed rhai o'r Aelodau Llafur yn grwgnach yn y cefndir, ond y Prif Weinidog ei hun—a'r Gweinidog ei hun—sydd wedi dweud bod y rhain yn benderfyniadau cytbwys iawn. [Torri ar draws.] Felly, ystyriwch hynny. Nid oes ots gen i gymryd ymyriad.

Amlinellodd yr Ysgrifennydd Cartref, wrth siarad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr heddiw, gynlluniau i atal pobl rhag symud yn rhydd o amgylch y Deyrnas Unedig os mai eu bwriad yw cymryd rhan mewn protest. Os nad ydych chi'n credu mewn cymdeithas reolfa, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â ni i wrthwynebu cyfraith mor ddidostur.

Rwy'n falch bod yr Aelod Llafur yn cefnogi'r ffaith mai cymdeithas reolfa yw'r dull anghywir, felly edrychaf ymlaen ato'n pleidleisio yn erbyn y rheoliadau y prynhawn yma.

Mae perygl gwirioneddol yma y gallai gweithredu pasys COVID fod yn drychineb llwyr. Yn yr Alban, rydym ni wedi gweld y bu'r cyflwyno yn drychineb yno—nid wyf i'n defnyddio'r gair hwnnw'n ysgafn; bu'n drychineb yno—ac roedd cynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton yn frith o broblemau; rydym ni'n gwybod hynny hefyd. Llywodraeth Cymru—byddwn i'n ei hannog yn daer i ailystyried cyn cyflwyno'r rheoliadau hyn.

Mae cyflwyno'r rhaglen frechu wedi bod yn llwyddiant ledled y DU ac yma yng Nghymru, ac mae hynny er clod i'n gweithwyr allweddol ledled y DU. Mae mwyafrif poblogaeth y DU wedi eu brechu erbyn hyn. Felly, mae'r holl ymdrech ryfeddol hon, yn fy marn i, yn negyddu'r angen am basys COVID, sy'n effeithio cymaint ar ryddid pobl. Mae'n rhaid i mi ddweud, hefyd, fod grwpiau wedi cysylltu â mi yr wythnos hon, y rhai hynny sy'n cynrychioli grwpiau anabledd, y rhai hynny ag anableddau a'r rhai hynny nad ydyn nhw'n gallu cael y brechiad, am y canlyniadau i'r bobl hynny hefyd. Mae'n rhaid i ni beidio â dod yn gymdeithas ddwy haen, a dyma—[Torri ar draws.] Ydw, yn wir, Joyce Watson. Ydw, rwyf i yn credu y byddwn yn dod yn gymdeithas ddwy haen, a dyma beth yw'r mater hwn, Joyce. Mae angen i chi wrando ar y ddadl hon y prynhawn yma. Mae cyflwyno'r polisi hwn yn rhoi Cymru mewn perygl gwirioneddol o ddod yn union hynny, ac mae'n tanseilio'r rhyddid i ddewis. Nid wyf i'n credu bod hwn yn fater plaid wleidyddol hefyd; rwy'n credu bod safbwyntiau ar draws hyn yn croesi llinellau pleidiol.

Fe wnes i wrando ar yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol am y grŵp oedran penodol hwnnw hefyd, y rhai dan 25 oed, ond rwy'n sylwi bod cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru ei hun yn cynghori yn erbyn defnyddio pasbortau brechlyn, gan ddweud bod yr astudiaethau wedi dangos y gallai eu defnyddio gael effaith groes i'w bwriad. Gwnaeth yr astudiaeth lawer o bwyntiau ynghylch pam mae pasbortau brechlyn yn syniad gwael. Dyma gell cyngor technegol Llywodraeth Cymru ei hun. Daethon nhw i'r casgliad eu bod wedi cael effaith andwyol ar gymhelliant a pharodrwydd pobl i gael y brechiad. Ac mae'n bwysig nodi bod yr astudiaeth hefyd wedi dweud y bydd pasbortau brechlyn yn cael effaith ar berthynas pobl â llywodraeth leol ac awdurdodau iechyd hefyd. Nid ydym ni eisiau i bobl golli'r ymddiriedaeth honno yn swyddogion y Llywodraeth na'n byrddau iechyd a'n gweithwyr iechyd a gofal. Nid ydym ni eisiau i hynny ddigwydd, ac nid ydym ni eisiau cymdeithas reolfa.

Rwy'n credu yn wirioneddol y bydd y rheoliadau hyn yn rhwystr i gynifer o grwpiau o bobl, ac rwy'n credu bod perygl gwirioneddol yma os cytunir arnyn nhw y prynhawn yma, a dyna pam yr wyf i'n annog yr Aelodau yn gryf i bleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw. Diolch yn fawr.

16:40

Fy nghamgymeriad i oedd peidio â galw Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i gyfrannu cyn cynrychiolwyr y pleidiau. Felly, dwi'n galw'r Cadeirydd nawr, ac fe ddof i at Blaid Cymru nesaf. Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe wnaethom drafod y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe, a gosod ein hadroddiad yn union wedi hynny er mwyn llywio'r drafodaeth y prynhawn yma. Diolch i gynghorwyr cyfreithiol y pwyllgor am wneud eu dadansoddiad mor gyflym—yn gyflym iawn.

Rwyf i hefyd yn diolch i fy nghyd-Aelodau yn y pwyllgor am eu gwaith craffu diwyd. Rydym ni wedi nodi yr hyn a fydd yn bwyntiau cyfarwydd erbyn hyn mewn cysylltiad ag ymyrraeth bosibl yr offeryn ar hawliau dynol a'r diffyg ymgynghori ffurfiol. Fe wnaethom ni sylwi hefyd nad oedd asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau, a chydnabod y sail resymegol dros hyn, fel y nodir yn y memorandwm esboniadol. Rwy'n cydnabod yr wybodaeth bellach am y materion hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei darparu erbyn hyn yn ei hymateb i'n hadroddiad.

Yn ogystal â'n pwyntiau adrodd mwy cyffredin, fe wnaethom ni nodi bod y memorandwm esboniadol yn cyfeirio at ystyried cyngor gwyddonol ac, yn benodol, cyngor gan SAGE ar bwysigrwydd gweithredu'n gynnar. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom ni dynnu sylw at y ffaith nad yw'r memorandwm esboniadol, fodd bynnag, yn cynnwys unrhyw gyfeiriad penodol at y dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu arni wrth wneud darpariaeth o dan yr offeryn hwn. Felly, fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru nodi dau beth ychwanegol. Yn gyntaf, fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru nodi'r dystiolaeth sy'n dangos y bydd ei gwneud yn ofynnol i rai lleoliadau wirio tystiolaeth o frechu, haint coronafeirws blaenorol neu ganlyniad prawf negyddol diweddar yn

'arafu epidemig sy'n tyfu'.

Yn ail, fe wnaethom ni ofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd ei gwneud yn ofynnol i rai lleoliadau gynnal y gwiriadau hyn.

Rwyf yn nodi ac yn croesawu'r ymateb yr ydym bellach wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru i'r pwyntiau hyn. Er ein bod yn gwerthfawrogi’r cyd-destun cyffredinol y mae’r newidiadau hyn yn y gyfraith wedi’u drafftio ynddynt, rwy’n atgoffa Llywodraeth Cymru, yn barchus, y dylai’r wybodaeth a ddarparwyd i fy mhwyllgor, yn ôl y cais, fod wedi cael ei chynnwys yn y memorandwm esboniadol gwreiddiol, er budd holl Aelodau’r Senedd a’r cyhoedd. Felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru fyfyrio ar hyn i wella lefel yr wybodaeth ym mhob memorandwm esboniadol yn y dyfodol. Diolch yn fawr, Llywydd.

16:45

Ychydig o eiriau ar faterion o egwyddor, yn gyntaf, mewn egwyddor, ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi ei ddangos dro ar ôl tro yn ystod y pandemig, rydym ni wedi bod yn barod i gefnogi cyflwyniad ystod o fesurau i reoli a chyfyngu ar drosglwyddo'r feirws. Yn wir, rydym ni wedi bod yn annog gweithredu mesurau o'r fath, ac mae wedi bod yn wir mewn sefyllfaoedd lle mae cyfyngiadau eithaf llym wedi eu gosod ar ein rhyddid weithiau. Mae'r math hwnnw o gwtogi ar ryddid yn rhywbeth i beidio â'i benderfynu yn ysgafn, a'n gwaith ni fel deddfwyr fydd sicrhau bod y rhyddid hwnnw yn cael ei adfer cyn gynted â phosibl.

Pan fyddwn ni wedi cefnogi cyfyngiadau, bu hynny pan (a) rydym ni wedi ein hargyhoeddi bod y dystiolaeth yn glir am yr effaith gadarnhaol y byddai'r mesurau hynny yn ei chael a (b) y gellir eu gweithredu yn ymarferol. Yr egwyddor, felly, yw: yn ôl yr hyn sy'n gweithio. Felly, yr egwyddor yn yr achos hwn yw: a oes dadl dros gyflwyno mesur o dan rai amgylchiadau sy'n dangos bod unigolyn yn debygol o fod yn llai heintus? Fy ymateb i i'r cwestiwn yna yw, 'Oes, mae.' Yn wir, mae Llywodraeth yr Alban wrthi'n cyflwyno system lle mae'n rhaid i unigolion ddangos prawf o frechu; mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ystyried cynllun o'r fath mewn cynllun B ar gyfer cyfnod y gaeaf; mae Ffrainc ac Israel ymysg llawer o wledydd sydd naill ai wedi cyflwyno eisoes neu sy'n gweithio ar ryw fath o gynllun pasbort COVID. Mae hefyd yn rhywbeth sydd wedi dod i'r amlwg mewn rhai sectorau penodol, ar gyfer teithio rhyngwladol, er enghraifft. Mae llawer o drefnwyr digwyddiadau ledled y DU wedi cyflwyno cynlluniau gwirfoddol. Felly, er nad yw pawb yn ei chefnogi, mae'r egwyddor honno, byddwn i'n dadlau, yn rhywbeth sydd wedi ei hen sefydlu.

Ond heddiw, nid ydym yn cael cais i bleidleisio ar egwyddor, rydym yn pleidleisio ar gyfres benodol o reoliadau, ac mae arnaf i ofn bod y rheoliadau hynny, ar hyn o bryd, fel y maen nhw, yn codi mwy o gwestiynau nag y maen nhw'n rhoi atebion. Rwy'n edrych ar nifer o elfennau. Mae rhai gwledydd, fel y soniais, eisoes wedi dilyn trywydd y pasbortau COVID/pasbortau brechlyn; yr hyn sydd gennym ni yma yw cynllun hybrid lle nad yw prawf o frechu ond yn rhan o'r hyn y gellir ei gynnig fel tystiolaeth bod unigolyn yn llai heintus. Gallan nhw hefyd ddangos eu bod wedi cael COVID yn ystod y misoedd diwethaf neu wedi cofrestru canlyniad prawf llif ochrol. Nawr, mae profion llif ochrol yn ddefnyddiol iawn, iawn fel profion cyflym, hunan-weinyddu a all roi syniad da o b'un a all rhywun fod yn heintus, ond oherwydd materion adnabyddus iawn ynghylch eu cywirdeb fel profion, ynghyd â'r ffaith nad oes unrhyw reolaeth o gwbl ar gywirdeb cofrestru'r canlyniadau, rwy'n credu bod cwestiynau gwirioneddol yn y fan yma ynghylch eu dilysrwydd at y diben penodol hwn. Mae hynny wedyn yn codi cwestiynau ynghylch creu ymdeimlad ffug o ddiogelwch i bobl sy'n mynychu digwyddiadau, ac, oes, mae cyfraith newydd yn cael ei chynnig yma sy'n gwneud ffugio canlyniadau yn drosedd, ond nid wyf i wedi fy argyhoeddi ynghylch plismona hynny, a beth am rywfaint o'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg sy'n awgrymu y gallai caniatáu'r opsiwn prawf llif ochrol fod yn anghymhelliad i bobl, pobl ifanc efallai, i gael eu brechu?

Nawr, fel y dywedais i'n gynharach ac fel y pwysleisiodd Cadeirydd y pwyllgor craffu ar ddeddfwriaeth, mae'n debyg mai'r mater allweddol i'w ystyried wrth edrych ar gynigion o'r math hwn yw tystiolaeth o'u heffeithiolrwydd tebygol. Nawr, o ganlyniad i dimau o wyddonwyr sy'n cynghori'r Llywodraeth neu dimau eraill o ymchwilwyr yn uniongyrchol, llu ohonyn nhw ledled y byd, rydym ni wedi dod i arfer, yn ystod y pandemig hwn, â gallu edrych ar dystiolaeth gadarn a'i hasesu'n fanwl, gan fodelu effeithiau tebygol. Rwy'n ddiolchgar iawn i swyddogion y Llywodraeth am fod yn barod i ateb rhai cwestiynau wrth i ni geisio eglurder ar y sail dystiolaeth honno, ond y tro hwn ni fu'r math o dystiolaeth yr ydym ni wedi dod i arfer â'i hastudio ar gael. Yn wir, dywedodd un gwyddonydd wrthym nad oedd yn gallu cwblhau papur ar effaith debygol y cynigion o'n blaenau heddiw yn union am nad oedd ganddynt y dystiolaeth o'u blaenau ac na fyddent yn ei chael tan yn ddiweddarach y mis hwn. Rwy'n cydnabod yn llwyr y ddadl a gyflwynwyd i ni nad yw absenoldeb tystiolaeth yn gyfystyr â thystiolaeth o absenoldeb, ond serch hynny, rwy'n credu yn yr achos hwn nad yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno'r ddadl yn y ffordd, a bod yn deg, y mae wedi bod yn ei wneud o'n blaenau ni a'r cyhoedd yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn.

Nawr, fe allem ni, pe baem yn dewis gwneud hynny, benderfynu rhoi cynnig arni. Efallai y bydd yn helpu, felly dim niwed wrth geisio—dadl a fyddai, yn wir, yn gryf iawn pe bai effaith yr hyn yr ydym yn ei drafod yn gyfyngedig, ond rydym yn sôn am oblygiadau eithaf sylweddol o ran gweithredu ar gyfer cyrff cyhoeddus, plismona a gorfodi'r rheoliadau, ac ar yr unigolion y maen nhw'n effeithio arnyn nhw. Felly, mae angen sicrwydd gwirioneddol arnom ynglŷn â hynny.

Rydym ni wedi gofyn am lywodraeth leol a'u cyfrifoldebau gorfodi ar adeg pan fyddan nhw wedi eu hymestyn fel y mae gyda dyletswyddau COVID eraill, ar oblygiadau i'r heddlu. Pwy fydd yn cael y gair olaf ynghylch pryd i orfodi'n gaeth a phryd i fabwysiadu dull ysgafnach? Mae canllawiau yn cael eu llunio, rydym ni wedi clywed, ond nid ydyn nhw ger ein bron heddiw, cyn y bleidlais. Ac nid oes gennym ni ddim syniad gwirioneddol am oblygiadau o ran adnoddau. Beth am yr heriau penodol sy'n ymwneud â gorfodi hyn ar gyfer torfeydd chwaraeon o ddegau o filoedd o bobl, er enghraifft? Unwaith eto, mae cynlluniau yn cael eu llunio ond nid ydym ni wedi eu gweld cyn y bleidlais hon. Rwy'n clywed bod hyd yn oed sôn am orsafoedd profi llif ochrol y tu allan i stadia fel cynllun wrth gefn, rhag ofn y bydd problemau gyda phasys COVID. Sut y byddai hynny'n gweithio yn ymarferol?

Rydym ni wedi gofyn llawer o gwestiynau ac nid ydym wedi cael y sicrwydd yr ydym ni wedi gofyn amdano. A dyna pam rydym ni o'r farn na allwn ni gefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Ac wrth bleidleisio yn erbyn, hoffwn i bwysleisio, unwaith eto, nad yw hyn oherwydd materion o egwyddor. Fe wnaethom ni ofyn i Lywodraeth Cymru dynnu'r cynnig hwn yn ôl a'i gwneud yn eglur y byddem ni'n cyfrannu at drafodaethau ynglŷn â sut y gellid cyflwyno rhywbeth mwy cadarn, mewn gwirionedd, gyda gwell tystiolaeth ac eglurder o ran goblygiadau. Ac mae'r cynnig hwnnw yn dal i fod yn wirioneddol agored.

Llywydd, rydyn ni wedi rhoi i'r rheoliadau yma yr ystyriaeth ddwys a gofalus maen nhw'n ei haeddu ac, wrth ddod i'r casgliad bod rhaid eu gwrthod nhw fel ag y maen nhw, dwi'n pwysleisio ein bod ni yn dal yn barod i edrych ar y dystiolaeth, i ddarllen y cynlluniau a chanllawiau gweithredu manwl. Ond, a ninnau heb y rheini o'n blaenau ni rŵan, rydyn ni'n pleidleisio yn y ffordd rydyn ni'n credu sy'n iawn, ac yn y gobaith y gall cynllun mwy cadarn wedi ei seilio ar dystiolaeth gael ei roi yn ei le. 

16:50

Rwy'n credu bod gennym ni ddigon o dystiolaeth o'r angen i gymryd y mesur hwn. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yr holl dystiolaeth y gallai fod ei hangen arnoch gan bobl a aeth i wyliau cerddoriaeth dros yr haf a'r niferoedd a ddychwelodd gyda COVID. Rydym ni'n gwybod, pan fydd pobl ifanc yn ymgynnull gyda'i gilydd, mai dyna pryd y mae'r haint yn lledaenu. Ac un o'r pethau sy'n peri pryder gwirioneddol yw, er bod gennym ni 564 fesul 100,000 wedi eu heintio yng Nghaerdydd yn y boblogaeth gyffredinol, fod gan bobl ifanc gyfraddau heintio sydd ddwywaith hynny. A dyfalwch bwy sy'n mynd i glybiau nos; pobl ifanc, ar y cyfan. Felly, os wyf i eisiau dal COVID, nid oes prinder cyfleoedd. Mae gen i filoedd o fyfyrwyr yn mynd o gwmpas, yn mynd i'r tri champws prifysgol hyn ac yn partio bob nos, ac mae'n siŵr eu bod nhw'n lledaenu COVID wrth i ni siarad.

Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw bod yn realistig ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i annog pobl ifanc i gymryd hyn o ddifrif. Roedd rhywun 15 oed yr wythnos diwethaf, yn Portsmouth, a fu farw o COVID bedwar diwrnod ar ôl iddi ei gael, ac roedd hi'n fenyw ifanc iach a oedd yn gwneud llawer o chwaraeon. Felly, rwy'n gwybod ei fod yn ddigwyddiad mwy prin nag yn y boblogaeth hŷn, ond mae COVID yn glefyd cas iawn ac ni allwch chi ddweud na fyddwch chi'n cael canlyniad gwael. Felly, gadewch i ni geisio atal pobl rhag ei ddal yn y lle cyntaf.

Nid wyf i'n deall pam na fyddai clwb nos yn dymuno sgrinio eu cwsmeriaid, er mwyn sicrhau nad yw eu lleoliad yn cael ei ddefnyddio fel digwyddiad lledaenu enfawr, a fyddai'n peri iddyn nhw orfod cau wrth iddyn nhw wneud gwaith glanhau dwfn.

Diolch, Jenny. Rwy'n credu mai'r hyn y byddai'r diwydiant clybiau nos yn ei ddweud yw ei bod yn ymwneud â'r amser y mae'n ei gymryd i brosesu pobl. A bu enghreifftiau lle, erbyn i bobl gael eu prosesu i fynd drwodd, yna mae'n ddiwedd y noson. Nid wyf i'n rhywun sy'n mynychu clybiau nos yn aml iawn y dyddiau hyn, ond dyna y mae'r diwydiant yn ei ddweud yn hynny o beth, Jenny, a dyna'r hyn yr ydym ni wedi ei weld o ran y materion yn yr Alban.

16:55

Diolch, Russell. Nid wyf i'n cytuno â'r ddadl yna, oherwydd bydd yn rhaid iddyn nhw sgrinio'r bobl ifanc hyn i sicrhau eu bod nhw'n hŷn na'r oedran ar gyfer yfed alcohol beth bynnag; fel arall, ni fyddan nhw'n cydymffurfio â'r gyfraith mewn ffyrdd eraill. Felly, bydd yn rhaid iddyn nhw wneud eu gwiriadau beth bynnag, a gallan nhw wneud y cyfan yr un pryd gyda'r pàs COVID, sy'n dangos i chi beth yw'r dyddiad geni, ac felly, nid yw'n cynyddu'r weithdrefn sydd ei hangen mewn gwirionedd, mae'n ei symleiddio.

Felly, rwy'n credu hefyd fod yn rhaid i ni ddeall yn iawn faint yn union o bwysau sydd ar ein gwasanaethau brys, gan fod y galw am wasanaethau brys yn ôl i'r man lle yr oedd cyn COVID erbyn hyn, ac ar ben hynny, mae gennym ni'r holl feddygon a nyrsys sydd wedi blino'n lân ar ôl 18 mis o orfod ymdrin â phandemig digynsail, ac maen nhw'n gorfod sgrinio pawb sy'n troi i fyny mewn argyfwng, i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n dod â COVID i mewn i'r ysbyty, felly maen nhw o dan bwysau aruthrol. Pam na fyddem ni eisiau bod yn gyfrifol am geisio sicrhau nad ydym ni'n rhoi tasg hyd yn oed yn fwy iddyn nhw nag sydd ganddyn nhw eisoes?

Rwy'n credu yn llwyr ei bod yn rhywbeth y mae angen i ni ei wneud, ac nid wyf i mewn gwirionedd yn cytuno â dadl Plaid nad ydym ni'n gwybod digon. Rwy'n credu yn wirioneddol y gallai fod rhai tyllau yn y ffordd y bydd y profion llif ochrol yn cael eu cynnal, ac efallai y byddai profion PCR yn fwy diogel, ond nid yw hynny'n rheswm dros beidio â dweud bod angen i ni gael pasys COVID cyn i ni fynd i'r digwyddiadau hyn.

Diolch i chi am gymryd ymyriad. Hoffwn i ddweud yn yr ymyriad hwn: rwy'n cytuno â phopeth yr ydych chi wedi ei ddweud fwy neu lai. A dyna lle mae hyn yn methu; nid ydym yn sôn am egwyddorion yr hyn yr ydych chi wedi bod yn eu cyfleu. Mae gen i blant fy hun yn y brifysgol; rwyf i'n awyddus i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ddiogel. Ein dadl ni heddiw yw nad y rheoliadau penodol hyn a'r cynnig gan Lywodraeth Cymru yn y ffordd benodol hon o'i wneud, yn ein barn ni, yw'r ffordd o'i wneud o ran y dystiolaeth sydd o'n blaenau.

Wel, rwy'n synnu'n fawr nad yw Plaid yn dilyn y dull gweithredu rhagofalus, oherwydd nid oes dim yn ein hatal rhag pasio'r gweithdrefnau heddiw ac yna eu diwygio os byddwn yn credu y bydd y rheoliadau'n cael eu cam-ddefnyddio yn eang. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fynd amdani yn awr, oherwydd mae'r prifysgolion i gyd yn dechrau, a dyma un o'r mannau lle y bydd yn creu problem waeth. Rydym ni'n gwybod bod COVID yn hoffi'r gaeaf, ac mae'r gaeaf bron arnom.

Nid wyf i'n credu bod hyn yn ymwneud â chreu cymdeithas ddwy haen; Nid wyf i'n credu bod unrhyw dystiolaeth o hynny. Mae pawb dros 40 oed ac yn y grwpiau agored i niwed fwy neu lai i gyd wedi eu brechu. Rydym yn sôn am gyfraddau yn yr 80au uchel, os nad y 90au; pobl ifanc sy'n meddwl eu bod, rywsut, yn mynd i allu anwybyddu cael eu brechu oherwydd nad nhw yw'r rhai sy'n mynd i farw ohono. Wel, nid yw hynny'n wir o reidrwydd.

Ac yn olaf, hoffwn i ddweud yn Ffrainc, ein cymydog agos yn Ffrainc, ni allwch chi hyd yn oed fynd am baned o goffi ar y palmant oni bai eich bod yn dangos eich pàs COVID, ac a dweud y gwir, nid wyf i'n credu bod cymdeithas wedi sefyll yn ei unfan o ganlyniad i hynny.

Ni allai neb fod wedi rhagweld y pandemig COVID-19 a darodd y byd 18 mis yn ôl. Mae ei effaith wedi newid bywydau pob un ohonom ni, wedi troi'r economi ar ei phen, ac wedi newid y berthynas rhwng y rhai sydd mewn swyddi â phŵer a phobl y wlad arbennig hon am byth. Nid yw'r sgyrsiau ynghylch cyfyngiadau COVID-19 yn syml. Maen nhw'n gymhleth, maen nhw'n ddryslyd, ac mae gan y cyhoedd farn eang ar y cyfyngiadau symud, y cyfyngiadau a'r pasbortau brechlyn, neu'r pàs brechlyn fel y'i gelwir.

Heddiw, rydym ni'n trafod y cynnig am y pàs brechlyn yng Nghymru a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yma yng Nghymru. Rwyf i'n gwrthwynebu'n llwyr gyflwyno unrhyw fath o basbort neu bàs mewnol i unrhyw un orfod ei ddefnyddio i allu byw ei fywyd yn y wlad hon. Mae rhyddid a democratiaeth wedi eu hennill yn galed, ac ni allaf gefnogi unrhyw beth sy'n erydu rhyddid personol. Mae amryw o resymau dros fy ngwrthwynebiad i basys neu basbortau brechlyn domestig; mae rhai yn economaidd, mae rhai yn feddygol, mae rhai yn gyfreithiol, ond mae llawer ohonyn nhw'n foesol ac wedi eu seilio ar sylfeini cymdeithas ryddfrydol rydd. Mae'r ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn dymuno tywys pobl Cymru ar ei hyd yn llethr llithrig dros ben; bydd creu system lle mai dim ond y rhai sydd wedi eu brechu sy'n gallu cael mynediad i leoliadau a digwyddiadau penodol, yn fy marn i, yn creu cymdeithas ddwy haen lle mae'r rhai nad ydyn nhw'n dymuno cael y brechlyn am resymau meddygol neu eraill yn cael eu gwahardd rhag cymryd rhan yn ein cymdeithas. Nid yw hanes y byd yn cyflwyno darlun da pan fyddwch yn dechrau gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd un mater. Rwyf i'n ystyried bod hyn yn bosibilrwydd ofnadwy, ac nid yw'n un y byddai unrhyw un sy'n dymuno byw mewn democratiaeth ryddfrydol yn yr unfed ganrif ar hugain yn ei gefnogi.

Fodd bynnag, mae'r llethr llithrig yn un sy'n peri pryder mawr i mi. Wrth gwrs, bydd y Llywodraeth yn dweud mai dim ond cyhyd ag y bydd COVID gyda ni y bydd y system hon yn cael ei gweithredu, ond mae llywodraethau o bob lliw a phob argyhoeddiad gwleidyddol yn newid eu meddyliau, ac, ar ôl eu cyflwyno, anaml iawn y caiff y rheoliadau eu diddymu.

Ond o ble mae'r tro pedol hwn gan Lywodraeth Cymru wedi dod? Ychydig fisoedd yn ôl, yr oedd y Prif Weinidog ei hun yn gwrthwynebu pasbortau brechlyn domestig, ac erbyn hyn mae'n dymuno eu cyflwyno yma yng Nghymru. Pam gosod system lle mai dim ond y rhai sydd wedi cael y brechlyn sy'n gallu mynychu digwyddiadau? Mae data gwyddonol yn dangos y gall y rhai sydd wedi cael y brechlyn barhau i ledaenu COVID-19 gymaint â'r rhai sydd â COVID-19. Nid yw ond yn lleihau'r risg o gael eu derbyn i'r ysbyty yn ddifrifol.

Mae gennym ni yn y gorllewin un peth nad oes gan lawer o wledydd ledled y byd—hynny yw, rhyddid. Mae'n rhaid amddiffyn y rhyddid hwn ar bob cyfrif. I gloi, hoffwn i ddyfynnu'r Arlywydd o America Ronald Reagan.

'Mae rhyddid yn beth bregus ac nid yw byth yn fwy nag un genhedlaeth i ffwrdd o ddiflannu. Nid ein hetifeddiaeth ni yw hyn; mae'n rhaid i bob cenhedlaeth frwydro drosto a'i amddiffyn yn gyson'.

Anogaf fy nghyd-Aelodau i gyd o bob plaid i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn a diogelu ein rhyddid a'n hawliau sifil yma yng Nghymru. Diolch, Llywydd.

17:00

Diolch, Llywydd. Cyfres o gwestiynau ffeithiol sydd gen i yn unig fan hyn, Llywydd, nid araith. Dydy'r pwyllgor heb drafod y mater hwn ymhlith ein gilydd, a buaswn i eisiau pwysleisio hynny.

Mae hyn yn faes, yn amlwg, fydd o ddiddordeb mawr i nifer o sefydliadau diwylliannol a chwaraeon. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog pan fydd yn ymateb i'r ddadl yma i amlinellu'r cymhelliant dros gyflwyno'r pasys, os gwelwch yn dda—hynny ydy, ydy'r Llywodraeth eisiau gwneud hyn er mwyn cynyddu cyfraddau brechu neu reoli lledaeniad y feirws? Buaswn i'n hoffi clywed pa gymorth ychwanegol byddai'n cael ei ddarparu i fusnesau a fydd yn cael eu heffeithio gan yr ymgais yma i gyflawni amcan iechyd cyhoeddus. Buaswn i o blaid hefyd clywed pa drefniadau fydd yn cael eu gwneud i sicrhau na fydd problemau gyda chyflwyno'r pasys fel sydd wedi bod yn yr Alban. Ac yn olaf, hoffwn i glywed, pan fydd yn ymateb i'r ddadl, plîs, beth sydd wedi cael ei ddysgu o'r digwyddiadau prawf yn gynharach yn y flwyddyn, gan nad oes sôn am hynny yn y cyngor TAC na'r memorandwm esboniadol?

Ond jest cyfres o gwestiynau, nid safbwynt, yn amlwg, ydy hyn o ran y pwyllgor.

Dylwn i ddweud nad yw ein pwyllgor ni wedi trafod y materion hyn, felly nid wyf i'n deall sut y gall y Cadeirydd siarad fel Cadeirydd y pwyllgor. Ond mae'r ddadl yr ydym ni'n ei chael heddiw yn mynd at wraidd yr hyn yw democratiaeth a swyddogaeth Senedd wrth drafod y materion hyn. Byddai yn dda gen i pe byddem ni, fel Senedd, wedi cael mwy o amser y prynhawn yma i drafod y mater hwn. Rwy'n credu bod hwn yn fater sy'n gofyn am fwy o amser a sylw nag sydd ar gael i ni.

A gaf i gadarnhau fy mod i'n berffaith hapus i ymestyn yr amser sydd ar gael i'r Aelodau os bydd mwy o Aelodau yn dymuno siarad?

Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd, am hynny.

Pan fyddaf i'n edrych ar y materion hyn rwy'n gofyn i fy hun, 'A yw hyn yn ymateb cymesur i'r heriau iechyd y cyhoedd yr ydym ni'n eu hwynebu?' Rydym ni i gyd wedi ymgodymu â'r heriau hyn yn ystod y 18 mis diwethaf. Rydym ni i gyd wedi gofyn i'n hunain, 'A yw hyn yn iawn neu a yw'n briodol bod y Llywodraeth yn ceisio'r pwerau hyn i ymyrryd yn y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau?' I mi fy hun, rwy'n cytuno yn fawr iawn â llawer o'r hyn a ddywedodd Russell George wrth agor ei gyfraniad, oherwydd rwy'n credu bod rhyddid yn rhywbeth y dylem ni ei werthfawrogi, ac rwy'n credu na ddylai rhyddid fod yn rhywbeth sy'n cael ei dynnu oddi wrthym ni heblaw am y rhesymau gorau y gall y Llywodraeth eu hel at ei gilydd.

Gwraidd y ddadl hon i mi yw: a yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno ei hachos yn yr achos hwn? Ac rwy'n credu ei bod yn amlwg bod y Llywodraeth wedi cyflwyno ei hachos yma, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig. Byddai fy nadl i'n debyg iawn i un Rhun ap Iorwerth, mewn gwirionedd—rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth fynd ymhellach a chynnig pasbort brechlynnau a fyddai'n dangos statws brechu yn hytrach na phrawf yn unig; rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth fynd ymhellach arni. Ond, o ran ble'r ydym ni nawr, sut mae hynny'n effeithio ar ein rhyddid a'n hawliau? John Stuart Mill ddywedodd, wrth gwrs—. Ac fe wnaeth y rhai hynny ohonom ni o oes benodol wedi treulio cryn amser yn darllen On Liberty; rwy'n credu iddo gael ei gyhoeddi yn y 1850au. Ac yn yr hyn a ddywedodd ef yno, yr oedd yn glir iawn, iawn mai dim ond os yw er budd hawliau'r mwyafrif ac i ddiogelu'r mwyafrif rhag niwed y mae modd dileu rhyddid—rhyddid unigolyn. Ac ef oedd tad rhyddfrydiaeth, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n cytuno'n fawr iawn ag ef arni, oherwydd bod cyfrifoldeb arnom ni i atal niwed i eraill. Ac ni allwn ni ddweud bod ein rhyddid ni—fy rhyddid i i fynd i glwb nos—yn bwysicach na'ch rhyddid chi i fyw heb fod ofn niwed neu salwch, ac i ddiogelu eich lles.

Ac nid yw hyn yn unigryw. Gadewch i mi ddweud, nid yn aml ydw i'n dyfynnu Margaret Thatcher, ond pan siaradodd hi, dywedodd hi, 'Nid oes y fath beth â chymdeithas', wrth gwrs, ond aeth ymlaen—byddai wedi bod yn dda gan lawer o aelodau'r Blaid Lafur pe na bai wedi gwneud hynny—ond aeth ymlaen i ddweud, 'Ond mae cyfrifoldeb', ac mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb, meddai—meddai Margaret Thatcher—i'n teuluoedd ac am les ein cymdogion. Ac mae gennym ni'r cyfrifoldeb hwnnw, a Tony Blair, mewn gwirionedd, a ddysgodd y Blaid Lafur, a siaradodd ddigon am hawliau—ac mae'r Blaid Lafur yn sôn yn gyson am hawliau—ond Tony Blair a wnaeth ein hatgoffa ni fod cyfrifoldebau yn dod yn sgil hawliau, ac rwy'n credu bod gennym ni gyfrifoldebau i'n gilydd, ac rwy'n credu bod gennym ni gyfrifoldebau am les y rhai eraill mewn cymdeithas: pobl sy'n wan, pobl sy'n agored i niwed, pobl sydd ag anghenion iechyd penodol.

Ac nid yw rhyddid neb—rhyddid neb—yn bwysicach nag iechyd rhywun arall. Pa fath o gymdeithas ydym ni erbyn hyn lle byddai Margaret Thatcher yn cael ei hystyried yn rhyddfrydwr peryglus? Pa fath o gymdeithas ydym ni erbyn hyn lle'r ydym ni'n dweud, 'Mae fy hawl i i wneud yr hyn yr wyf i'n dewis ei wneud yn bwysicach na'ch hawl chi i fywyd'? Pa fath o gymdeithas ydym ni? Os ydym ni am fod yn unrhyw beth, mae'n rhaid i ni fod yn well na hynny. Mae'r Llywodraeth yn cael rhai pethau'n iawn ac mae Llywodraethau'n cael rhai pethau'n anghywir. Wrth gwrs eu bod nhw. Mae pob Llywodraeth yn gwneud hynny. Ac rwy'n deall awydd Rhun am sail dystiolaeth gryfach, ond rwy'n credu ei bod ar gael. Rwy'n credu, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, neu'r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ein bod ni wedi gweld digon o dystiolaeth o'r niwed y mae'n bosibl ei wneud i bobl os byddwn ni'n byw ein bywydau heb ystyried eraill.

Ac felly mae angen i ni gyflwyno'r materion hyn. Ac rwy'n cytuno â James Evans mewn gwirionedd; rwy'n gobeithio y byddan nhw'n cael eu dileu pan nad oes angen y rheoliadau hyn, oherwydd nid ydym ni eisiau byw yn y gymdeithas honno. A'r pwynt y gwnes i i Russell George oedd bod ei Ysgrifennydd Cartref ei hun wedi dweud wrth gynhadledd y Ceidwadwyr y bore yma na ddylai pobl fod â'r rhyddid i fynd o un rhan o wlad i'r llall i gymryd rhan mewn protest gyfreithlon. Pa fath o gymdeithas yw hynny, sy'n dweud wrthym ni nad ydym ni'n cael gyrru i lawr y ffordd er mwyn protestio yn erbyn rhywbeth nad ydym ni'n ei hoffi? Dyna sydd wrth wraidd rhyddid. Mae wrth wraidd rhyddid. Mae wrth wraidd pwy ydym ni fel cymdeithas rydd. Ac mae'r hawliau hynny yn cael eu tynnu oddi wrthym ni. Mae baich yn cael ei rhoi arnom ni er mwyn diogelu rhyddid mwyaf a lles gorau pobl yn y gymdeithas hon. Ac rwy'n credu bod achos y Llywodraeth wedi ei wneud—bod yn rhaid i ni ddiogelu iechyd a lles y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, a dyna'r peth gorau y gallwn ni ei wneud y prynhawn yma. Diolch. 

17:05

Waw, dilynwch hynny, Janet. Gweinidog, ni allaf i gefnogi defnydd gorfodol pasys na phasbortau brechlyn domestig, ac mae hyn yn bennaf oherwydd y goblygiadau moesegol, cydraddoldeb, economaidd, preifatrwydd, cyfreithiol a gweithredol eang a ddaw yn sgil rheoleiddio o'r fath. Amlygodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y syniad o ardystiad statws COVID y materion moesegol a chydraddoldeb pwysig y byddai angen eu hystyried cyn y byddai modd gweithredu unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath. Yn benodol, fel sydd wedi ei nodi ym mharagraffau 13 i 15 o ateb y comisiwn, mae'r pryderon hyn yn dod o fewn y meysydd canlynol: 13, bod

'pryderon ynghylch y posibilrwydd o wahaniaethu neu o dorri hawliau sifil wrth ddefnyddio statws ardystio i deithio, mynd i'r gwaith, mwynhau gweithgareddau cymdeithasol a manteisio ar wasanaethau hanfodol, a chreu cymdeithas ddwy haen'—

a dywedodd Russell George hynny—

'lle mai dim ond rhai grwpiau sy'n gallu mwynhau eu hawliau yn llawn. Mae'n rhaid ystyried yr ystyriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol hyn'—

ac mae'n rhaid iddo gael ei brofi'n fanwl gan y Llywodraeth hon yn y fan yma—

'gan gymryd camau clir i fynd i'r afael ag unrhyw effeithiau negyddol sy'n cael eu rhagweld.'

Felly, gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi egluro a yw Llywodraeth Cymru o'r farn bod pàs COVID yn wahaniaethol ac yn amharu ar ryddid sifil? O ystyried statws gwarchodedig gwybodaeth feddygol unigolyn, gan gynnwys statws brechu, a wnewch chi hefyd amlinellu pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i oblygiadau diogelu data deiliaid sy'n gofyn am statws brechu unigolion wrth fynd i mewn i adeiladau?

Nawr, mae sgyrsiau diweddar yr ydym ni wedi eu cael â Chymdeithas Diwydiannau'r Nos Cymru wedi ei gwneud yn glir bod modd cynnal nosweithiau a sioeau clwb mewn unrhyw fariau a lleoliadau aml-leoliad, yn ogystal â chlybiau nos gwirioneddol. Yn yr un modd, mae gan lawer o dafarndai a bariau ddarpariaeth debyg iawn yn hwyr yn y nos i glybiau nos. Felly, Gweinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn diffinio clwb nos o dan ei rheoliadau pasbort COVID? Yn benodol, ar ba bwynt mae tafarn a bar yn dod yn glwb nos sy'n gofyn am fynediad pasbort?

Byddai pasbortau brechlyn yn ei gwneud yn ofynnol i glybiau nos newid rhan allweddol o'u model gweithredu, ar ôl buddsoddi mewn ailagor heb y gofyniad hwn. Mae clybiau nos eisoes ymysg rhai o'r busnesau sydd wedi dioddef fwyaf yn ystod y pandemig, gyda nifer o fusnesau erbyn hyn yn dioddef o ddyled ddifrifol ac ôl-ddyledion rhent. Ac, a bod yn onest, nid oes unrhyw gymorth wedi ei grybwyll ar gyfer y buddsoddiad cyfalaf ychwanegol y bydd ei angen arnyn nhw. O ystyried hyn, Gweinidog, pa asesiad effaith ydych chi wedi ei gynnal cyn gweithredu'r rheoliadau hyn, a pha gymorth ariannol fydd ar gael i helpu i weithredu a gorfodi'r pasbortau hyn? Felly, gallwch chi ddeall y—

17:10

Dim ond eisiau i chi egluro ydw i: beth yw'r buddsoddiad cyfalaf hwn y byddai angen i bobl ei wneud? Y cyfan y gallai fod ei angen arnyn nhw yw person ychwanegol wrth y drws. Nid wyf i'n ystyried hynny yn fuddsoddiad cyfalaf.

Ond ble mae gennych chi unrhyw dystiolaeth bod angen un person ychwanegol wrth y drws? Mae hyn i gyd yn amwys iawn. Yn y pen draw, rydym ni i gyd yn gwybod nad yw'n ddiogel cadw pobl yn ciwio yn agos iawn at ei gilydd, felly bydd angen buddsoddiad cyfalaf.

Mae pryderon dilys gan ein busnesau y gallai'r rheoliadau hyn arwain yn uniongyrchol at wrthdaro posibl rhwng staff diogelwch a staff eraill lleoliadau. Mae ein clybiau nos eisoes yn dioddef o brinder staff diogelwch ac yn ofni efallai na fyddan nhw'n gallu dod o hyd i'r staff ychwanegol sydd eu hangen i weinyddu'r system pasbortau brechlyn yn ddiogel, gan godi pryderon pellach ynghylch gweithredu'r broses o eithrio a diogelu staff. Gweinidog, gydag un dyn busnes blaenllaw yng ngogledd Cymru yn galw am gyfraith newydd i amddiffyn gweithwyr manwerthu a lletygarwch rhag cwsmeriaid sy'n eu cam-drin, pa gamau ydych chi'n eu cymryd? Ydych chi'n deall yn iawn yr hyn yr ydych chi'n disgwyl i'n busnesau baratoi ar ei gyfer nawr? Byddwn i'n gofyn i bob Aelod, ac yn sicr yr Aelod, beidio â chefnogi hyn i symud ymlaen. Rwyf i wir yn credu bod hwn yn gam yn rhy bell. Diolch.

Rydym ni wedi cefnogi'r dull gofalus y mae'r Prif Weinidog wedi ei gymryd hyd yma, ac rwy'n falch fy mod i'n byw yng Nghymru, oherwydd bod ymagwedd y Llywodraeth hon at y coronafeirws yn teimlo gymaint yn fwy diogel nag ymagwedd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Rwyf i hefyd eisiau bod yn glir bod y cyfrifoldeb y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei dderbyn o ran gwisgo masgiau, cadw eu pellter, bod yn glir bod yn rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod yn cadw at Brofi, Olrhain, Diogelu, yno yn wirioneddol. Ac felly rwy'n credu mewn gwirionedd bod y cyhoedd yng Nghymru yn gyfrifol yn y sefyllfa hon. Hoffwn i hefyd gondemnio yn uchel y bobl sy'n gwrthwynebu'r brechiadau sydd, rwy'n credu, y tu allan i'r Senedd ar hyn o bryd. Maen nhw'n beryglus ac maen nhw'n risg i bawb, ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn eu condemnio.

Nid yw hyn—[Torri ar draws.] Byddaf, diolch; byddaf i'n derbyn yr ymyriad.

Diolch yn fawr iawn, Jane. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi o ran y bobl sy'n gwrthwynebu'r brechiadau sydd y tu allan i'r Senedd heddiw, ond sylwais i fod rhai pobl fwy synhwyrol y tu allan i'r Senedd heddiw sy'n cefnogi'r safbwynt yn erbyn y rheoliadau hyn, ac i ryw raddau rwy'n credu efallai bod eu niferoedd nhw yn fwy erbyn hyn, efallai, gan y digwyddiadau eraill. Ond dim ond i gofnodi hynny yw hynny. Diolch, Jane.

Diolch. Wel, fe wnaethoch chi fentro allan yno, a da iawn chi.

Rwyf i hefyd yn ddiolchgar i'ch swyddogion chi, Gweinidog, am anfon gwybodaeth ataf i a hefyd am gyfarfod â mi y bore yma.

Yn olaf, rwyf i wedi fy syfrdanu gan safbwynt y Ceidwadwyr ar hyn yng Nghymru, oherwydd rwyf i yn deall bod Boris Johnson yn awyddus i ystyried cyflwyno hyn ledled Lloegr. Felly, mae'r sefyllfa yno'n fy nhrysu i rywfaint. Ond rwyf i eisiau bod yn glir yma na allaf i gefnogi hyn, ac mae chwe rheswm, ac yn gyflym iawn, Llywydd, hoffwn i eu hamlinellu, mewn gwirionedd.

Ni fydd pasbortau COVID yn lleihau'r niwed. Yr hyn sy'n cael ei gynnig yma yw naill ai—gadewch i ni fod yn gwbl glir—eich bod chi'n cyflwyno rhywbeth i ddangos eich bod chi wedi eich brechu ddwywaith, neu brawf llif unffordd o fewn y 48 awr ddiwethaf. O ran y prawf llif unffordd, gallech chi gwrdd yn rhwydd â rhywun yn y 48 awr hynny cyn i chi fynd i mewn i'r lleoliad hwnnw, ac felly gallech chi ddal COVID. Gallai'r ciwio am basys, hefyd, fel y gwnaethom ni ei glywed, olygu bod hynny'n cael ei drosglwyddo o un person i'r llall. Ac yn olaf, rwy'n deall o'r briff a gafodd ei ddarparu gan eich swyddogion y bore yma fod disgresiwn mewn lleoliadau i beidio â gwirio pawb mewn gwirionedd. Mae'r lleoliadau mwy, rwyf i ar ddeall, yn cael gwirio ar hap. Felly, mae hyn ar unwaith, i mi, yn chwalu'r ddadl hon. Mae hyn yn ymwneud â'i wneud yn gywir neu beidio â'i wneud o gwbl.

Fy ail reswm yw hyn: os yw wedi ei gynllunio i annog pobl i gael eu brechu, nid yw'r dystiolaeth yn ei gefnogi. Unwaith eto, clywais i gan eich swyddogion y bore yma—ac rwy'n ddiolchgar am hyn, diolch yn fawr iawn—fel y dyfynnodd Russell George, mae tystiolaeth yma, ar y dudalen gyntaf mewn gwirionedd yn nodi'n glir iawn nad yw'r dystiolaeth yn ei gefnogi, bod ardystio yn un o'r ffactorau a allai annog pobl i beidio â chael eu brechu—hynny yw, nad yw mynd i leoliad a bod gofyn am frechlyn yn annog pobl i geisio'r brechlyn hwnnw.

Yn drydydd, mae hyn yn ymwneud â bod yn gymesur, a fy mhryder i yw y bydd yn gwahaniaethu yn erbyn pobl. Mae pryderon wedi eu codi gyda mi gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol fod eu haelodau'n bryderus iawn ac, yn wir, wedi drysu ynghylch hyn.

Fy mhedwerydd pwynt yw bod hyn yn ymwneud â deddfu gwael. Mae'r diwygiadau hyn yn cynrychioli'r ail gyfres ar bymtheg o welliannau i'r pumed gyfres o reoliadau COVID ac nid oes dyddiad dod i ben ar gyfer eu defnyddio. Mae'n ddeddfu gwael, yn fy marn i, a allai osod cynsail beryglus.

Yn bumed, bydd yn ddrwg i fusnes ac yn ddrwg i weithwyr. Rwyf wedi drysu'n fawr pam mae'n rhaid i bobl sy'n mynd i leoliadau gael y pàs COVID hwn, ond mewn gwirionedd nid fydd yn rhaid i'r bobl sy'n gweithio yn y lleoliadau neu sy'n gwirfoddoli yn y lleoliadau gael pàs COVID. Felly, ar unwaith, mae gennych chi bobl yn wynebu risg oherwydd nad oes rhaid iddyn nhw gael y pàs COVID hwnnw. Os yw'r Llywodraeth yn sicr o effeithiolrwydd a'r angen am basbortau COVID, yna pam y byddech chi'n gadael gweithwyr mewn perygl trosglwyddo?

Yn chweched ac yn olaf, yn y bôn, mae pasbortau COVID yn amharu ar ein rhyddid, ac mae'n wych clywed cynifer o bobl yma yn sôn am ryddid. Gallwch chi ymuno â'n plaid ni, y Democratiaid Rhyddfrydol, os ydych chi'n teimlo mor gryf am ryddfrydiaeth ac am ryddid. Ond un o egwyddorion sylfaenol hawliau dynol yw'r prawf angenrheidrwydd: a yw'r camau sydd wedi eu cymryd yn drech na'r rhyddid a'r hawliau hynny yr ydym ni wedi brwydro drostyn nhw ar hyd yr holl ganrifoedd?

Yn olaf—rwyf i yn gorffen gyda hyn—rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y cynigion hyn heddiw. Gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn yr ydym ni'n ei wybod sy'n gweithio a'r hyn yr ydym ni'n gwybod bod y mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru eisoes yn ei wneud: masgiau, brechlynnau, brechlynnau atgyfnerthu, profi, olrhain a diogelu, cadw ein pellter. Dyna'r hyn yr ydym ni'n gwybod sy'n gweithio. Mae hyn yn tynnu sylw oddi ar hynny mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater anodd; mae wedi bod yn un anodd i mi ei ystyried ac rwy'n gwybod bod llinellau plaid i'w cynnal, ond os gwelwch yn dda, ystyriwch yr hyn yr ydych chi'n pleidleisio drosto y prynhawn yma ac am y llwybr y mae hyn yn ein gosod ni arno. Diolch. Diolch yn fawr iawn.

17:15

Byddaf i'n pleidleisio i gefnogi cyflwyno'r pàs COVID, ac rwyf i eisiau ailadrodd hynny: pàs COVID ydyw. Nid yw'n dystysgrif frechlynnau, nid yw'n unrhyw un o'r enwau cymhleth hyn sydd wedi ei roi iddo heddiw, ac mae bron fel, rhywsut, ein bod ni wedi bod yn sôn am rywbeth nad yw'n bodoli a dyna'r gwir. Fodd bynnag, nid wyf i'n diystyru'r anesmwythyd y mae rhai pobl yn ei deimlo ynghylch y ddadl ar ryddid sifil, ond rwy'n fodlon bod cynnwys canlyniad y prawf llif unffordd yn ymdrin â hynny.

Ac os ydym ni'n sôn am hawliau—ac rydym ni wedi clywed llawer am hawliau heddiw—nid oes gennym ni hawl awtomatig i fynd i glwb nos mewn gwirionedd. Nid wyf i byth yn cofio hynny wedi ei ysgrifennu yn y ddeddfwriaeth hawliau dynol, bod gennych chi hawl ddynol i fynd i glwb nos. Ond mae gennym ni, ac mae wedi ei ddyfynnu yn y fan yma—ac mae'n well gen i fersiwn Tony Blair i Thatcher, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi—mae gennym ni rywfaint o gyfrifoldeb fel unigolion i bobl eraill.

Rwyf i wedi clywed y ddadl ynghylch angen aelod ychwanegol o staff a gafodd ei chyflwyno gan Janet Finch-Saunders. Os nad ydym ni'n gwirio'r bobl sy'n dod i mewn i leoliadau—ac rydym ni yn gwybod bod digon o dystiolaeth sy'n dweud wrthym ni y gall y rhain fod yn archledaenwyr—gallaf eich sicrhau am un peth, Janet, bydd gennych chi lai o staff yr wythnos nesaf oherwydd byddan nhw wedi dal COVID, felly byddan nhw'n brin o staff, ac rydym ni wedi gweld hynny'n digwydd lle mae pobl wedi agor yn barod. Mae digon o dystiolaeth yno eisoes sy'n dweud wrthych chi fod pobl yn cael eu heintio yn eu gweithle. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw diogelu'r gweithwyr hynny mewn gwirionedd ac rydym ni hefyd yn ceisio amddiffyn pobl.

Os ydych chi eisiau tystiolaeth o ymddygiad pobl ar ôl iddyn nhw hyrddio allan o glwb nos neu tuag ato, dewch gyda mi ar nos Iau, nos Wener, nos Sadwrn neu nos Sul i Hwlffordd pan fyddaf i'n mynd â rhywun i'r gwaith am 11 o'r gloch. Mae'n ymddangos bod pobl yn meddwl eu bod yn dod nhw'n uwchddynol, maen nhw'n hongian oddi ar ei gilydd, ac rwy'n siŵr eu bod nhw'n siarad yn agos iawn, a gallaf i warantu nad ydyn nhw'n cofio'r diwrnod nesaf â phwy y maen nhw wedi bod yn siarad. Ni fydd rhai ohonyn nhw hyd yn oed yn cofio i ble roedden nhw'n mynd neu o ble roedden nhw'n dod. Mae fy mhrofiad i yn y fasnach drwyddedig yn dweud wrthyf y bydd hynny'n wir.

Felly, gadewch i ni fod yn glir nad tystysgrif frechlynnau yw hon, ac rwy'n credu fy mod i'n mynd i barhau i ailadrodd hynny gynifer o weithiau ag yr oedd wedi ei ailadrodd eisoes. Nid wyf i'n derbyn y ddadl ychwaith yr wyf i wedi ei chlywed mai blaen y gyllell yw'r mesur hwn, na'i fod yn Llywodraeth reolfa. Gadewch i ni fod yn glir, mae'r rhain yn eiriau gwirion iawn i'w defnyddio yn y ddadl hon. Rydym ni i gyd wedi gwneud aberth a chyfaddawdau eithriadol. Rydym ni wedi cadw at y rheolau ac wedi dilyn cyngor er mwyn cadw'n ddiogel a gofalu am ein gilydd, ac rydym ni i gyd yn gwybod bod pobl wedi gwneud aberth enfawr, a dyna mewn gwirionedd sut yr ydym ni wedi llwyddo i ddod drwy hyn gyda'n gilydd fel cymuned.

Ond nid yw ei gwneud yn ofynnol i bobl brofi eu bod yn rhydd rhag COVID neu eu bod wedi eu brechu neu'r ddau i fynychu digwyddiadau cymdeithasol y peth mwyaf yr ydym ni wedi ei ofyn gan bobl hyd yn hyn, ac rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig i'w wneud yma nawr. Nid dyma'r peth mwyaf sydd wedi ei ofyn. Nid yw'r bobl sy'n mynd i glybiau nos yn fwyafrif. Felly, gadewch i ni gadw persbectif yn hyn i gyd. Hyd y gwn i, nid yw'r rhan fwyaf o fy etholwyr i yn mynd i glybiau nos, ac eto gallaf i ddilyn y dystiolaeth yr wyf i eisoes wedi ei rhoi. Ond, gadewch i ni hefyd fod yn glir bod llawer eisoes wedi gofyn am basys COVID, ac yn y Dyn Gwyrdd a ddigwyddodd yn fy rhanbarth i, gwnaethon nhw ofyn am bàs, ac mae miloedd mwy wedi defnyddio pasys COVID i deithio dramor yr haf hwn. Yn wir, ni allen nhw aros i'w cael nhw i gael mynd allan o'r wlad a dod yn ôl fel y gallen nhw gael gwyliau. Nid oedd yn atal y bobl hynny.

17:20

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn. A yw'n wir ei bod yn ofynnol i'r holl weithwyr a'r holl wirfoddolwyr ddangos prawf o frechu yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd hefyd?

Nid oes gen i unrhyw syniad. Ond yr hyn rwyf i yn ei wybod yw, er mwyn i'r digwyddiad fynd yn ei flaen, roedd yn rhaid i'r bobl a oedd yn dymuno cymryd rhan ynddi gael pàs COVID. Dyna yr wyf i'n ei wybod, a dyna'r pwynt sy'n cael ei wneud yma. Mae'r pwynt hwnnw yn amherthnasol mewn gwirionedd, hyd y gwelaf i.

Felly, gadewch i ni fod yn glir yma: mae hyn yn gymesur, mae'n synhwyrol ac mae'n rhagofal teg, ac rwyf i'n annog pawb i archwilio eu cydwybod yma heddiw, i wneud y peth iawn a chefnogi hyn.

Dwi'n galw nawr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb. Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwyf i eisiau bod yn glir nid ar chwarae bach y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi awgrymu cyflwyno'r mesur hwn; mae wedi bod yn heriol i ni, oherwydd ein bod ni eisiau ystyried yn ofalus iawn beth oedd y goblygiadau ymarferol, cyfreithiol, a moesegol ynghlwm wrth gyflwyno pàs o'r math hwn. Ond rydym ni'n deall ein cyfrifoldebau iechyd cyhoeddus, ac rydym ni'n deall ein bod ni'n wynebu rhai o'r cyfraddau COVID uchaf yr ydym ni wedi eu gweld ers dechrau'r pandemig, yn enwedig ymhlith pobl ifanc—dros 1,000 o achosion fesul 100,000. Ac rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth i atal lledaeniad ffyrnig y feirws yn y mannau hyn lle mae llawer o bobl yn ymgynnull. Ac rydych chi eisiau tystiolaeth i ddangos bod hynny'n digwydd: wel, rydym ni'n gwybod faint o bobl ifanc o Gymru a ddaeth yn ôl o Gernyw, o Ŵyl Boardmasters, gan ledaenu'r feirws yma; rydym ni'n gwybod faint a ddaeth yn ôl o Reading gan ledaenu'r feirws yma. Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon.

A gadewch i mi atgoffa'r Torïaid—[Torri ar draws.] Gadewch i mi atgoffa'r Torïaid—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, ond rwyf i yn ymateb i'r ddadl. Gadewch i mi atgoffa'r Torïaid bod y pàs COVID yn parhau i fod yn adnodd sydd ar gael i Lywodraeth y DU yn eu cynllun gaeaf eu hunain, ac mae'n ddigon posibl y byddwn ni'n gweld y mesur hwn yn cael ei gyflwyno yn y Deyrnas Unedig. Ac mae Plaid wedi gofyn i ni gefnogi'r hyn sy'n gweithio. Wel, mae'r system hon wedi bod yn gweithio ers pedwar mis. Rydym ni'n gwybod bod llawer o leoliadau wedi bod yn ei ddefnyddio eisoes ledled Cymru. Rwy'n gwybod, oherwydd es i i gyngerdd Nile Rodgers, ac fe weithiodd yn eithriadol o dda o dan yr amgylchiadau hynny. Nid oes neb yn cael ei orfodi i gael ei frechu. Gadewch i ni fod yn gwbl glir ynglŷn â hynny. Mae gan bobl ddewis i gael prawf llif unffordd i ddangos nad oes ganddyn nhw'r feirws.

Ac rydych chi'n dweud wrthym ni am wrando ar yr hyn y mae'r gwyddonwyr yn ei ddweud wrthym ni. Wel, byddaf i'n dweud wrthych chi yr hyn y mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau yn ei ddweud wrthym ni. Maen nhw'n dweud wrthym ni, 'Gweithredwch yn gynnar; gweithredwch nawr.' A phob dydd, bob dydd yr ydym ni'n petruso, mae'r cyfraddau hynny yn codi. A phob dydd yr ydym ni'n petruso, bydd y cyfraddau hynny yn rhoi mwy o bwysau ar ein gwasanaethau GIG. A gadewch i ni fod yn glir: mae peidio â derbyn hyn yn awgrymu eich bod chi'n hapus i wneud dim yn ystod yr wythnosau nesaf. Nid oes neb yn awgrymu y dylai unrhyw gyfleuster gadw data. Rydym ni'n deall yn iawn bod busnesau yn dymuno aros ar agor a bydd y mesur hwn yn ein helpu ni i wneud hynny drwy gydol y gaeaf. A gadewch i mi fod yn glir: bydd peidio â chefnogi'r mesur hwn heddiw yn weithred anghyfrifol ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru. A bydd y mesur hwn yn caniatáu i'r cyfleusterau aros ar agor yn wyneb un o'r gaeafau mwyaf heriol yr ydym ni eto i'w wynebu. Mae'r cyhoedd ar ein hochr ni ynglŷn â hyn, ac maen nhw'n eich gwylio chi yn y Siambr hon heddiw, ac rwyf i'n eich annog chi i gefnogi'r mesur hwn.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl: Datganoli Pwerau Trethu Newydd

Mae yna ddadl nawr ar ddatganoli pwerau trethu newydd, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7786 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod posibilrwydd cyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru er mwyn cyfrannu at gynyddu’r cyflenwad o dai a sicrhau defnydd cynhyrchiol o dir nad yw’n cael ei ddefnyddio.

2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â’r cynnig hwn, a hynny’n unol â darpariaethau Deddf Cymru 2014.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod proses effeithiol ar gyfer datganoli cymhwysedd deddfwriaethol dros drethi newydd i’r Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Gwnaethom drafod yr achos dros drethi newydd am y tro cyntaf yn 2017, gan ddechrau trafodaeth genedlaethol ar sut y gallai pwerau trethu newydd ddarparu cyfleoedd i'n helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru. Dros bedair blynedd yn ddiweddarach, nid yw'r cyfleoedd hynny ar gael i ni o hyd.

Mae Deddf Cymru 2014 yn caniatáu datganoli trethi newydd a phresennol y DU, ond nid yw'n rhoi llawer o fanylion am sut y byddai'r broses honno'n gweithio. Gweithiodd Llywodraethau Cymru a'r DU gyda'i gilydd i gynllunio yn ofalus proses a fyddai'n galluogi cyflwyno trethi datganoledig newydd, gan barchu buddiannau'r ddwy Lywodraeth. Mae dau gam penodol i'r broses. Y cam cyntaf yw datganoli'r pwerau. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynnig gael ei ddatblygu, ac ymgynghori arno, cyn ei gyflwyno i Senedd y DU a'r Senedd hon er mwyn cytuno i ddatganoli a derbyn y pwerau. Yr ail gam yw i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r cynigion polisi a deddfwriaethol manwl i'r Senedd hon i gyflwyno'r dreth newydd.

Nodwyd treth ar dir gwag gennym fel y dreth newydd gyntaf y byddem ni'n ceisio cymhwysedd i ddefnyddio'r broses rynglywodraethol y cytunwyd arni. Fe wnaethom ddewis treth ar dir gwag oherwydd gall chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i ddarparu mwy o dai, a chefnogi adfywio ein trefi a'n cymunedau. Fe wnaethom ddewis treth ar dir gwag hefyd oherwydd ein bod yn credu bod yr achos dros ddatganoli yn glir ac yn syml, ac y byddai hyn yn caniatáu i ni brofi a mireinio'r broses ar gyfer datganoli trethi eraill.

Mae tai diogel a fforddiadwy o ansawdd uchel yn gonglfaen i well iechyd, gwell canlyniadau addysgol a gwell lles. Gwyddom o amcangyfrifon angen tai y bydd arnom angen 7,400 o gartrefi ychwanegol y flwyddyn am y pum mlynedd nesaf, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu anghenion tai Cymru. Ond, gyda phwerau treth newydd i gymell datblygwyr i fwrw ymlaen â datblygiadau sydd wedi'u gohirio, gallem ni wneud mwy. Nid yw treth ar dir gwag yn unig yn ateb i'r argyfwng tai, wrth gwrs, ond mae'n ymyriad y gallwn ni ei wneud i gyflwyno datblygiad amserol. Fel y mae, mae perchnogion tir yn elwa ar gynnydd yng ngwerth eu tir pan gaiff ei nodi yn y broses gynllunio ar gyfer datblygu. Pan fo'r tir wedyn yn cael ei ddatblygu, gan ddarparu cartrefi y mae mawr eu hangen, mae'r system hon yn gweithio. Ond, pan fo'r perchnogion tir yn dal y tir hwnnw ac nad yw/n cael ei ddatblygu, mae enillion preifat, ond ar gost gyhoeddus. Drwy gynyddu'r gost o ddal gafael ar dir sydd wedi'i nodi i'w ddatblygu, gallai treth ar dir gwag helpu i annog datblygiad ac ail-gydbwyso pwy sy'n ysgwyddo'r gost pan na fydd datblygiad yn digwydd. Gallai treth ar dir gwag hefyd helpu i gyfrannu at adfywio, mynd i'r afael â golwg wael safleoedd segur a'u heffaith ar les y rhai sy'n byw gerllaw.

Er mwyn dechrau archwilio'n briodol cyfleoedd y dreth ar dir gwag i Gymru, mae angen y pwerau arnom yn gyntaf. Rydym bob amser wedi bod yn glir, wrth geisio pwerau newydd am y tro cyntaf, y byddwn yn profi dull Deddf Cymru 2014, ac nid ydym erioed wedi tanamcangyfrif yr her o lywio'r broses hon. Aeth dwy flynedd o waith i sicrhau bod gan Lywodraeth y DU yr wybodaeth yr oedd ei hangen arni i ystyried yr achos dros ddatganoli, cyn i ni wneud cais ffurfiol am drosglwyddo pwerau. Cefais drafodaeth adeiladol gydag Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys mewn cyfarfod Cydbwyllgor y Trysorlys. Cytunwyd mai Mater i Lywodraeth Cymru oedd gwneud penderfyniadau polisi ynghylch sut y byddai unrhyw dreth ddatganoledig newydd yn gweithredu, ac i'r Senedd hon benderfynu a ddylid trosglwyddo unrhyw dreth newydd i gyfraith. Swyddogaeth Llywodraeth a Senedd y DU yw penderfynu datganoli pwerau treth newydd. Fodd bynnag, pan wnes i'r cais ffurfiol ym mis Mawrth 2020, eu hymateb oedd gofyn am ragor o wybodaeth eto am weithrediad y dreth. Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU yn ddidwyll i benderfynu a darparu'r wybodaeth y bydd ei hangen arnynt, ond nid yw'n briodol i Lywodraeth y DU gymryd rhan mewn materion sydd, yn briodol, i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon.

Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn galw arnom i gydnabod bod nifer o resymau pam y gallai fod oedi mewn datblygiadau. Wel, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni bob amser wedi'i gydnabod. Gwnaethom gomisiynu ymchwil i'r rhesymau a'u mynychder ledled Cymru. Rydym bob amser wedi bod yn glir iawn nad ydym yn ceisio cosbi'r rhai sy'n mynd ati i ddatblygu o fewn amserlenni proses arferol, na'r rhai sy'n cael eu hatal rhag cael eu datblygu gan resymau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth.

Er mwyn cyflawni ein hamcanion polisi, gwyddom y bydd angen i ni ystyried yn ofalus sut y byddai treth o'r fath yn cael ei phennu a'i strwythuro, a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynllunio dull sy'n datgymell yr ymddygiadau nad ydym eu heisiau, heb greu canlyniadau anfwriadol. Ond, mae'n rhaid i'r pwerau ddod cyn y gellir ymgymryd â'r dyluniad polisi manwl. Mae'r diffyg cynnydd parhaus o ran datganoli pwerau newydd nid yn unig yn gwadu ysgogiad sylweddol i ni o ran diwallu'r angen am dai a chefnogi adfywio, mae'n awgrymu nad yw'r broses yn ymarferol. Ac eto, yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'i chynlluniau i gyflwyno treth datblygu eiddo preswyl ledled y DU, a fydd yn cynnwys, o fewn ei chwmpas, trethu'r elw sy'n deillio o ddal gafael ar dir a nodwyd i'w ddatblygu. 

Mae treth ar dir gwag yn dreth gul wedi'i thargedu. Mae'n cyd-fynd yn agos â chyfrifoldebau datganoledig, ac ni fyddai ganddi fawr o ryngweithio â meysydd nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Byddai'n berthnasol i dir yng Nghymru yn unig, ac ni fyddai disgwyl yn rhesymol iddi gael effaith sylweddol y tu allan i Gymru. Os na allwn sicrhau pwerau ar gyfer treth o'r fath, mae'n anodd credu y gallem ni sicrhau pwerau ar gyfer unrhyw dreth newydd o dan y broses bresennol. Pe bai Llywodraeth y DU yn cytuno i fwrw ymlaen â'n cais yn ysbryd yr hyn yr ydym ni wedi cytuno arno, gallem ni heddiw fod yn trafod a ddylid derbyn trosglwyddo pwerau, yn hytrach na pharhau i edifarhau am y diffyg cynnydd. Yn hytrach, mewn proses lle y gall Llywodraeth y DU ofyn am ragor o wybodaeth, mae'n rhaid i ni gwestiynu a yw'r broses honno'n addas i'r diben. Diolch.

17:35

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Peter Fox i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Peter Fox.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch cynigion i gyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru.

2. Yn cydnabod bod nifer o resymau pam y gallai datblygiadau newydd arafu, ac yn nodi pryderon y gallai treth ar dir gwag arwain at ganlyniadau anfwriadol o ran argaeledd a fforddiadwyedd tir i'w ddatblygu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei chynigion ar gyfer treth ar dir gwag, gan gynnwys asesiad llawn o'r effaith ar y sector tai.

4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gydweithio ag adeiladwyr tai, ac i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael ar hyn o bryd i adeiladu'r cartrefi fforddiadwy o ansawdd sydd eu hangen ar Gymru i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.  

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am y datganiad, ond rwy'n cwestiynu pam mae'r Llywodraeth wedi defnyddio ei hamser seneddol i gyflwyno dadl ar ddatganoli trethi ymhellach ac i achosi rhaniad arall, mae'n debyg, rhwng Cymru a Llywodraeth y DU. Unwaith eto, mae'n ymddangos ein bod yn sôn am ddatganoli, yn hytrach na sôn am y materion mawr sy'n wynebu pobl Cymru, gan edrych o'r tu allan ar ein hunain, bod ag obsesiwn ynghylch proses, yn hytrach na'r canlyniadau polisi a fydd yn sicrhau newid gwirioneddol i deuluoedd ledled y wlad.

Rydym ar adeg anodd yn adferiad Cymru o'r pandemig, ac rwy'n credu yn gryf y dylai adnoddau Llywodraeth Cymru ganolbwyntio'n llwyr ar gyflawni blaenoriaethau'r bobl: swyddi a chodi gwastad yr economi, y GIG a chynorthwyo pobl ifanc i ddal i fyny â'u haddysg. Fe wnaethoch chi gydnabod heddiw, Gweinidog, fod Llywodraeth y DU—eich bod wedi bod mewn sgyrsiau â nhw. Rwy'n falch eich bod wedi cydnabod hynny. Fel y gwyddom, mae eich adroddiad polisi treth eich hun yn 2021-22, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn cydnabod cytundeb, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn awr, yng Nghydbwyllgor y Trysorlys yn 2021 y gellid symud cynigion ar gyfer y dreth ar dir gwag ymlaen i'r cam nesaf. Ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi gofyn am fwy o wybodaeth ers hynny ac mae hynny wedi gohirio'r broses hon, ac rwy'n cydnabod eich rhwystredigaeth yn yr oedi hwn heddiw, Gweinidog.

Yr hyn yr wyf i'n ei ddweud mewn ymateb yw ei bod yn gwbl gywir bod pob ochr yn craffu'n llawn ar y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu hamcanion ac nad ydyn nhw'n cael effaith negyddol ar farchnad fewnol y DU yn ogystal â'r sector adeiladu tai ac adeiladu ehangach. I ddefnyddio cyfatebiaeth adeiladu tŷ, Llywydd, ni fyddech yn symud i gartref newydd heb wirio ei fod wedi'i adeiladu'n briodol yn gyntaf a bod y strwythur yn ddiogel; rydych yn gofyn i syrfëwr chwilio am broblemau, yn gofyn i syrfëwr sicrhau bod y gosodiadau a'r ffitiadau fel y dylen nhw fod. Dyma y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, a dylid croesawu'r haenau ychwanegol o graffu ac ni ddylid eu hystyried yn rhwystr. Dyma'r peth, Gweinidog: rydych yn gofyn i Senedd Cymru gefnogi datganoli treth ar dir gwag yn y pen draw heb ddweud beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd. Aelodau, mae'r Gweinidog yn ceisio gwerthu tŷ i ni heb ganiatáu i ni edrych ar y cynlluniau yn gyntaf.

Felly, Gweinidog, sut olwg fyddai ar dreth ar dir gwag yng Nghymru, ac a ydych chi'n gwybod pa effaith y byddai hyn yn ei chael ar adeiladwyr tai a'r diwydiant adeiladu ehangach? Llywydd, rwy'n deall yn fras yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn anelu at ei gyflawni drwy gyflwyno treth dir wag, fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod bod nifer o resymau, fel y mae'r Gweinidog wedi cyfeirio, ynghylch pam y gallai datblygiadau newydd arafu. Canfu ymchwil, o'r holl ddatblygiadau sydd wedi'u gohirio yng Nghymru, fod 13 y cant yn oedi oherwydd materion sy'n benodol i'r safle, fel amodau tir, materion ecolegol a llifogydd ac addasrwydd y tir ei hun, mae 6 y cant wedi'u hoedi oherwydd trafodaethau cynllunio, mae 6 y cant arall wedi'u hoedi oherwydd diffyg cyllid. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod 47 y cant o safleoedd dibreswyl wedi'u hoedi wedi dod i ben oherwydd trafodaethau cynllunio, ac mae'r rhain yn faterion na fyddai'n cael eu datrys gan dreth ar dir gwag.

Bu rhai datblygiadau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r materion hyn yng Nghymru, er enghraifft, cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru y gronfa safleoedd segur, a byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog amlinellu pa mor llwyddiannus fu'r gronfa hon ac a fydd mentrau o'r fath yn cael eu hymestyn. Hefyd, mae prifddinas-ranbarth Caerdydd, yn y cyfamser, wedi cyhoeddi cronfa o £45 miliwn i roi hwb i adeiladu tai yn yr ardal ar ôl iddi ganfod bod 55 y cant o safleoedd wedi'u gohirio yn cael eu hoedi gan bethau fel cost adfer a chael gwared ar lygryddion o'r tir. Mae ystod eang o faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw yma, Gweinidog, ac felly byddwn yn croesawu mwy o fanylion am sut yr ydych yn cydweithio ag adeiladwyr tai i'w helpu i oresgyn heriau a brofwyd yn ystod y broses ddatblygu, yn hytrach na'u llesteirio ymhellach drwy osod treth newydd ar ddatblygu. Hefyd, sut mae Llywodraeth Cymru yn diwygio'r broses gynllunio fel ei bod yn fwy hyblyg ac ymatebol i anghenion lleol?

Ac yn olaf, gan droi at thema gyffredinol y ddadl heddiw, datganoli trethi, hoffwn ailddatgan safbwynt polisi maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig sef dim trethi newydd. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru eisoes y pwerau i godi'r gwastad ledled y wlad ac i fynd i'r afael â materion hirsefydlog yng Nghymru o'r diwedd. Ac eto, o ran cyflawni, yn aml nid yw Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi cael fawr ddim i'w ddangos am eu hymdrechion. Mae cynigion ar gyfer treth ar dir gwag yn anwybyddu'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru lawer o'r dulliau sydd eu hangen eisoes i ddarparu'r tai sydd eu hangen ar deuluoedd Cymru. Gweinidog, pam ddylai pobl Cymru gredu mai Llywodraeth yw hon a fydd yn un sy'n gweithredu ac nid yn un o ddiffyg gweithredu? Nid wyf yn argyhoeddedig o hyd ynghylch yr angen am dreth ar dir gwag yng Nghymru, yn enwedig o ystyried yr ystod eang o faterion sy'n llesteirio adeiladu tai na fyddai treth ar dir gwag yn ei datrys. Gyda hyn mewn golwg, Llywydd, rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod cynnig y Llywodraeth a chefnogi ein gwelliant ni. Diolch yn fawr. 

17:40

Mae yna ddau ran i'r cynnig yma sydd ger ein bron ni: yn gyntaf, potensial y dreth ar dir gwag, ac yn ail, wedyn, diffygion y protocol. Ar yr elfen gyntaf, dwi'n meddwl bod yna ddadleuon cryf o blaid ystyried cyflwyno treth ar dir gwag. Mi fyddai fe, wrth gwrs, yn helpu i daclo sefyllfaoedd lle mae datblygwyr mawr yn camddefnyddio'r system er mwyn chwyddo elw ar draul cymunedau. Mi ddywedodd Peter Fox bod angen canolbwyntio ar wella bywydau pobl ac nid obsesiynu gyda phroses. Wel, os felly, rhowch y grymoedd i Lywodraeth Cymru i gael bwrw ymlaen â'r gwaith yna, oherwydd mae'r arfer yma o fancio tir yn anfoesol ac yn anghywir, ac mae'n berffaith iawn bod y Senedd yma yn gofyn am hawliau i fedru mynd i'r afael â hynny'n effeithiol. Mae yna dreth debyg eisoes yn bodoli yng Ngweriniaeth Iwerddon, sef ardoll ar safleoedd gwag. Ac mae angen pŵer tebyg fan hyn er mwyn helpu yn yr ymdrech i fynd i'r afael â'r crisis tai yng Nghymru. 

Wedi dweud hynny, mae yna gwestiynau wrth gwrs o hyd sydd angen eu hateb cyn y byddai treth o'r fath yn cael ei chyflwyno. Mae angen sicrhau bod y dreth yn targedu datblygiadau sydd wedi eu gohirio'n fwriadol, ac nid, wrth gwrs, yn effeithio ar rai sydd wedi methu â symud ymlaen am resymau cwbl ddilys. Mae yna pros ac mae yna cons, ond mater i'r Senedd yma yw trafod a mireinio'r dadleuon hynny, oherwydd materion gweithredol yw'r rheini—ystyriaethau sy'n dod ar ôl y drafodaeth lefel uwch, rhynglywodraethol ar yr egwyddor o ddatganoli neu beidio â datganoli. A dyma ni'n dod at ail ran y cynnig. 

Mae methiant y protocol presennol yn amlwg i bawb ei weld. Mae wedi'i gymharu nifer o weithiau, on'd yw e, â'r hen Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, a oedd yn bla ar y Senedd yn ôl ar ddiwedd y 2000au. Fe'u disodlwyd yn gyflym iawn oherwydd pryderon ynghylch cymhlethdod y trafodaethau sy'n gysylltiedig â'r rheini, a dylid ymdrin â'r trefniant hwn hefyd mewn ffordd debyg. Mae'r protocolau wedi methu ar y rhwystr cyntaf, yn fy marn i. Dyma'r tro cyntaf i'r rhain gael eu profi, a dangoswyd eu bod yn ddiffygiol a'u bod yn methu. Ac, a dweud y gwir, mae'r Trysorlys yn ceisio mynd yn rhy ddwfn i faterion gweithredol yn hytrach na'r egwyddorion lefel uwch o ble y dylai'r pwerau hyn fod. Wrth gwrs, maen nhw'n fwriadol yn gwneud y broses yn ddiangen o gymhleth ac yn rhy hir, oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod beth yw barn y Llywodraeth bresennol hon yn San Steffan am ddatganoli unrhyw bwerau neu gyfrifoldebau pellach i Gymru. 

Yn ystod fy nghyfnod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, gwelais sut yr aeth Llywodraeth Cymru i drafferthion sylweddol i nodi'r rhesymeg dros y dreth ar dir gwag, ond mae ond yn achos arall o Gymru yn cyflawni ei rhan hi o'r fargen a San Steffan yn methu â chyflawni eu un nhw. Ac mae'r Gweinidog yn gywir; nid yw'r broses hon yn addas i'r diben, a chraidd y broblem, wrth gwrs, yw mai Llywodraeth y DU yw canolwr terfynol ei phenderfyniadau ei hun. Rhoddodd yr Athro Gerry Holtham dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, a dywedodd

'mae'r barnwr a'r rheithgor a'r tystion i gyd yn un person, ac felly mae ychydig yn aneglur sut i fwrw ymlaen. Os yw Llywodraeth Prydain yn dweud "na", beth ydych chi'n ei wneud bryd hynny, hyd yn oed os yw eich cais yn gwbl resymol? Felly, rwy'n  credu ei fod yn rhywbeth, fel llawer o bethau yng nghyfansoddiad Prydain, a fyddai'n elwa ar ychydig mwy o eglurder ac efallai ychydig mwy o godeiddio'.

Mae'r Gweinidog wedi dweud bod achos dros ryw fath o asesiad trydydd parti o'r wybodaeth, rhyw fath o farn annibynnol a goruchwyliaeth ohono. Wel, os ydym ni eisiau cadw at y protocol hwn, yna mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynnu arno, oherwydd mae'r cydbwysedd o blaid Llywodraeth y DU fel y mae pethau. Nawr, mae ychydig fel fy groser lleol yn dweud wrthyf na wnaiff e werthu wyau i mi oni bai fy mod yn dweud wrtho a ydw i'n mynd i'w berwi, eu sgramblo neu'n eu potsio. Mae'n eithaf rhyfedd, on'd yw e, mewn gwirionedd?

Yn y bôn, mae hwn yn fater o gymhwysedd, nid yn fater polisi. Gwelsom yn y Senedd ddiwethaf na wnaeth Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ymgysylltu â'r Pwyllgor Cyllid, gan wrthod ymddangos o'i flaen ac rwy'n gwybod bod y teimladau hynny'n dal yno. Y gwir yw, nid oes gan Lywodraeth San Steffan unrhyw fwriad o gwbl o ddatganoli unrhyw bwerau eraill yn y maes hwn nac unrhyw faes arall i Gymru. Yn wir, mae bwriad Llywodraeth y DU yn eithaf clir, on'd yw e? Maen nhw'n cymryd popeth yn ôl drwy ddeddfwriaeth, Deddf y farchnad fewnol, rydym wedi cael cyfeiriadau at y llu o memoranda cydsyniad deddfwriaethol sydd bellach yn dod ger ein bron ar gyfradd ddigynsail. Mae eironi yma, wrth gwrs: Llafur sy'n cyflwyno'r cynnig hwn, pan wrth gwrs y Gweinidog Llafur, Mark Drakeford, y Gweinidog cyllid ar y pryd, a gytunodd ar y protocol hwn gyda Llywodraeth y DU. Felly, gobeithio nawr eich bod yn sylweddoli nad yw San Steffan eisiau i'r protocol hwn weithio. Mae'n llanast; mae'n ddull, nid i hwyluso cynnydd, ond i rwystro cynnydd, ac wrth gwrs mae'n gweithio. Felly, gorau po gyntaf y cawn ein rhyddhau o gefynnau San Steffan sy'n dal Cymru yn ôl.

17:45

Mae trethiant yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Mae gormod o bobl yn credu y gallwn ni gael yr un ansawdd o wasanaethau cyhoeddus â Sgandinafia pan fo ein system drethu yn debycach i'r un yn UDA. Mae'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu cynyddu unrhyw drethi neu gyflwyno trethi newydd. Mae angen dadl ar ba wasanaethau cyhoeddus sydd gennym a sut i dalu amdanyn nhw. Pan edrychwch chi ar gost addysg breifat a gofal iechyd preifat, mae'n rhoi mewn persbectif y gwerth am arian a gawn o'n system drethu. Nid ar hap neu serendipedd y mae gan y gwledydd hynny sydd â'r lefelau treth uchaf y gwasanaethau cyhoeddus gorau a'r rhai sydd â'r lefelau treth isaf y gwaethaf. Y rheswm am hynny yw bod angen trethiant i godi'r arian i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus y mae eu hangen arnom ni i gyd, gwasanaethau fel y ffyrdd yr ydym ni'n teithio arnyn nhw, diogelwch pobl yn y gwaith, diogelwch bwyd, addysg a'r gwasanaeth iechyd—y mae pob un ohonom yn dibynnu arnyn nhw—plismona ein strydoedd; trethiant sy'n talu am bob un o'r rhain. Os yw pobl eisiau gwasanaethau cyhoeddus o safon, yna mae angen trethi i dalu amdanyn nhw.

Er nad oes unrhyw un yn hoffi talu trethi, mae rhai unigolion cyfoethog a chwmnïau rhyngwladol yn arbenigwyr ar leihau eu taliadau treth. I gwmni rhyngwladol, mae treth gorfforaethol yn daliad dewisol y gellir lleihau ei werth gan bethau fel taliadau o fewn y cwmni, talu am hawliau eiddo deallusol, trosglwyddo taliadau am nwyddau a gwasanaethau, neu symud y pwynt gwerthu y tu allan i Brydain. Mae pob un yn sicrhau bod elw busnes yn digwydd mewn gwlad dreth isel neu ddim treth. Mae darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon yn golygu, os nad yw rhai pobl yn talu treth neu eu cyfran deg o dreth, yna naill ai mae gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef, neu bydd yn rhaid i eraill fel ni dalu mwy.

Bob tro y gwneir toriadau treth, dangosir nhw fel rhai sy'n fuddiol—mae'n ymddangos eu bod yn fuddiol i'r rhai hynny sy'n talu llai o dreth ac sydd â mwy o arian yn eu poced. Mae'r effaith y mae cyflwyno toriadau treth incwm y Llywodraeth yn ei gael ar wariant cyhoeddus, ar wasanaethau fel iechyd, llywodraeth leol ac addysg yn cael ei hanwybyddu'n llwyr nes bod y toriadau'n dechrau effeithio ar bobl. Y mwyaf anodd yw'r dreth i'w hosgoi, y mwyaf amhoblogaidd ydyw gyda'r cyfoethog a'r pwerus. Y trethi anoddaf i'w hosgoi o bell ffordd yw'r trethi eiddo, ardrethi annomestig a'r dreth gyngor. Mae treth ar werth tir yn dreth fel y rheini. Nid oes unrhyw driciau fel trafodiadau cwmni mewnol neu fod â statws byw tu allan i'r wlad er mwyn osgoi talu'r dreth; nid oes modd symud y tir, ac mae'r dreth yn dod yn rhwymedig a rhaid ei thalu.

Mae sawl ffordd o godi trethi, ac er bod treth gwariant fel TAW, mae'r hyn yr wyf i'n ei dalu ar eitem yr un fath ag unrhyw un arall sy'n byw ym Mhrydain Fawr, nid yw hyn yn wir am dreth ar incwm, er enghraifft. Cymerwch rywun sy'n ennill £30,000 y flwyddyn, yna os ydyn nhw o dan oedran ymddeol, maen nhw'n talu treth incwm ac yswiriant gwladol. Pan fydd y person hwnnw'n cyrraedd oedran ymddeol, ni fydd yn talu yswiriant gwladol. Mae myfyriwr newydd raddio ar yr un incwm yn talu benthyciad myfyriwr yn ôl yn ogystal â threth incwm ac yswiriant gwladol. Bydd rhywun sy'n derbyn ei incwm drwy ddifidend yn talu cyfradd dreth o 7.5 y cant ar incwm dros £2,000. Mae hyn i mi yn ymddangos yn annheg iawn.

Yr hyn sydd angen i dreth fod yw teg ac anodd ei hosgoi. Mae treth ar dir gwag yn bodloni'r gofyniad hwn. Rwy'n credu hefyd fod y Llywodraeth yn cydnabod y potensial i dreth ar dir gwag yng Nghymru gyfrannu at gynyddu'r cyflenwad tai a dod â thir segur yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol. Mae gormod o dir y gellid ei ddefnyddio yn cael ei fancio ar gyfer y dyfodol. Bydd treth ar dir gwag yn berthnasol i dir sydd wedi cael yr holl ganiatâd cynllunio angenrheidiol, a chaniatâd arall i'w ddatblygu, ond lle na fu unrhyw ddatblygiad. Bydd y dreth yn berthnasol i bob perchennog tir o ddatblygiad eiddo masnachol a phreswyl, datblygwyr preifat, ond hefyd awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac ie, Llywodraeth Cymru ei hun. Os oes rhesymau dilys dros y diffyg datblygiad sydd y tu allan i reolaeth y perchennog tir, ni fyddai'r dreth yn berthnasol. Mae treth ar werth tir wedi'i disgrifio fel y dreth berffaith, ac mae effeithlonrwydd economaidd treth ar werth tir wedi bod yn hysbys ers y ddeunawfed ganrif. Mae'n ddigon posibl y bydd un o'r prif Geidwadwyr, Jacob Rees-Mogg, sy'n credu ein bod yn dal i fod yn y ddeunawfed ganrif, yn derbyn hynny fel rhywbeth sy'n ddefnyddiol. Mae treth ar werth tir yn dreth flaengar gan fod y baich treth yn disgyn ar ddeiliad y teitl yn gymesur â gwerth y lleoliad, ac mae cysylltiad mawr rhwng perchnogaeth y rhain a chyfoeth ac incwm cyffredinol.

Ni fyddai hyn yn unigryw i Gymru. Rwy'n credu weithiau fod Llywodraeth Cymru yn dweud yn aml, 'Dyma Gymru yn arwain y ffordd', ac mae'r Ceidwadwyr yn dweud, 'Mae'n arbrofol'. Byddai'r ddau yn anghywir. Byddai tir—[Torri ar draws.]. Mae'n ddrwg gen i, fe wnaf i ildio, Peter.

17:50

Diolch. Rydych chi yn llygad eich lle. Nid rhywbeth y mae Cymru yn unig wedi'i ystyried yw hyn. Edrychodd Trysorlys Seland Newydd ar hyn a daeth i'r casgliad bod y dreth yn afresymol o gymhleth i'w chynllunio, ac fe wnaethon nhw ddweud bod y comisiwn wedi awgrymu'n flaenorol y gallai treth ar dir gwag leihau'r cyflenwad tai yn y tymor hirach, a bod y dreth yn cymell perchnogion tir i adeiladu anheddau yn gynharach nag y bydden nhw fel arall. Mae wedi dangos nad yw'r dreth tir yn gweithio mewn rhai gwledydd ac nid ydym ni eisiau ailadrodd hynny yma, Mike.

Diolch, Peter Fox. Rydych wedi crybwyll un wlad—a gaf i daflu rhai eraill yn ôl atoch chi? Denmarc, Estonia, Lithwania, Rwsia, Singapore a Taiwan, rhai rhanbarthau o Awstralia, Mecsico, taleithiau unigol Unol Daleithiau America. Mae treth ar werth tir yn dileu'r cymhelliad ariannol i ddal gafael ar dir na chaiff ei ddefnyddio er mwyn iddo godi mewn gwerth yn unig. Nid yw pris gwerthu nwyddau pan fyddan nhw'n sefydlog o ran cyflenwad, fel tir, yn newid os caiff ei drethu. Nid yw'n costio unrhyw beth i storio tir, nid yw'n mynd i unrhyw le, a bydd bron yn sicr yn cynyddu mewn gwerth gydag amser. Rwyf yn llwyr gefnogi cyflwyno treth ar werth tir yng Nghymru. Mae'n ffordd dda o godi arian er budd pobl Cymru.

Wythnos arall yn y Senedd ac unwaith eto'r un hen Llafur Cymru—mwy o ddadleuon am bwerau ac eisiau mwy o ddatganoli i godi trethi, a fydd yn y pen draw yn brifo pobl Cymru sy'n gweithio'n galed. Un peth yr wyf i wedi'i ddysgu ers dod yn Aelod o'r Senedd yw nad yw Llywodraeth Cymru wir eisiau mynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu ein gwlad, ac maen nhw eisiau defnyddio'r amser gwerthfawr hwn i drafod materion cyfansoddiadol. Nid yw pobl Cymru yn ffyliaid. Maen nhw'n gweld eich bod chi'n cael trafferth datrys y problemau enfawr y mae Cymru'n eu hwynebu, ond maen nhw eisiau i chi fod yn onest a chymryd cyfrifoldeb a mynd i'r afael â nhw. Economi Cymru—mae Cymru wedi bod â'r cynnyrch domestig gros isaf o holl wledydd Prydain Fawr yn gyson. GIG Cymru—un o bob pump o bobl ar restr aros. Ac a wyddoch chi, rydych chi'n methu â chyrraedd targedau tai ar hyn o bryd, ac ni fydd treth ar dir gwag yn gweithio, fel y mae fy nghyd-Aelod Peter Fox wedi sôn. Mae'n gymhleth iawn ac yn anodd iawn ei gyflwyno.

Dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain o'r ffordd y mae'r weinyddiaeth Lafur hon yn methu, ond yr hyn yr ydym ni eisiau eich gweld chi yn ei wneud yw bwrw ymlaen â phethau. Nid yw'r holl sgwrsio cyfansoddiadol hwn yn helpu'r wlad hon. Yr hyn sy'n amlwg yw bod y Llywodraeth wedi rhedeg allan o syniadau. Rydych chi'n rhedeg i ffwrdd o'r materion mawr, ac os na allwch chi ddangos yr arweinyddiaeth sydd ei hangen ar y wlad, rwy'n awgrymu eich bod yn camu o'r neilltu ac yn gadael i eraill roi cynnig arni. Mae angen mwy o dai arnom ni yng Nghymru, ond yn hytrach na galw am fwy o bwerau codi trethi o San Steffan, adeiladwch mwy o gartrefi gyda'r pwerau sydd ar gael i chi ar hyn o bryd. Rydych chi'n ei chael hi'n anodd mynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Rydym wedi cael dros 15 o ddadleuon a datganiadau gan y Llywodraeth ar faterion cyfansoddiadol. Rydych yn osgoi'r materion gwirioneddol sy'n wynebu Cymru. Mae meddwl am y Llywodraeth hon â mwy o bŵer dros drethi yn gyrru ias i lawr fy nghefn ac allan o'm hesgidiau. Ni allwch redeg Cymru gyda'r pwerau sydd gennych ar hyn o bryd, ac nid ydych yn adeiladu'r tai sydd eu hangen arnom ni ar hyn o bryd i ateb y galw. Ar yr un pryd, nid yw pethau'n gwella, maen nhw'n gwaethygu, ac os na allwch chi gymryd y camau gwirioneddol sydd eu hangen i gael ein gwlad yn ôl yn llwyddiannus, awgrymaf fod Llafur yn camu o'r neilltu ac yn gadael i'r Ceidwadwyr Cymreig roi cynnig ar redeg ein gwlad.

Diolch, Llywydd. Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid.

Mae pwerau codi treth, gan gynnwys y gallu i greu trethi newydd, yn arfau hanfodol i lywodraethau eu defnyddio fel ffordd o godi refeniw i gefnogi gwariant ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac i ddylanwadu ar newid ymddygiad. Mae Deddf Cymru 2014 wedi datganoli pwerau cyllidol i'r Senedd am y tro cyntaf, gan gynnwys rhoi pwerau trethu i gymryd lle treth dir y dreth stamp, treth tirlenwi, yn ogystal â'r gallu i amrywio cyfraddau treth incwm Cymru. Mae'r pwerau cyllidol ychwanegol hyn yn golygu bod tua 20 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru bellach yn cael ei hariannu o refeniw treth. Mae hyn yn ei dro wedi cynyddu atebolrwydd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru—yn amlwg, datblygiad i'w groesawu.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd Gweinidog Cymru wrth y pwyllgor ei bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau datganoli treth ar dir gwag, ond bod y broses wedi bod yn cymryd llawer o amser ac maen nhw'n rhwystredig, gyda thrafodaethau eisoes wedi cymryd dros ddwy flynedd. Mae'r Gweinidog wedi tynnu sylw at yr heriau gan Drysorlys EM yn gofyn am ragor o wybodaeth yn barhaus ac mae wedi dweud o'r blaen mai Llywodraeth y DU yw'r canolwr terfynol o ran a oes digon o wybodaeth wedi'i darparu i gefnogi cynnig.

Mae'r Gweinidog wedi sôn am fynd ar drywydd datrys anghydfodau annibynnol ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu'r wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â'r dreth ar dir gwag ai peidio, fel y nodir yn Neddf Cymru 2014. Dyma'r ymgais gyntaf i geisio cymhwysedd ar gyfer treth newydd ac, o ganlyniad, mae'n rhesymol disgwyl problemau cychwynnol wrth i'r broses gael ei datrys. Fodd bynnag, mae'n annhebygol mai'r bwriad yn Neddf Cymru oedd y byddai'r broses hon yn cymryd cyhyd, ac yn bwrw amheuaeth ynghylch a yw'r dull ar gyfer datganoli trethi yn addas i'r diben. Fel y bydd aelodau o'r drydedd Senedd yn cofio, rwy'n siŵr, mae ganddo adleisiau anffodus o'r system gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arteithiol o ddatganoli cymhwysedd deddfwriaethol yn dameidiog, a oedd yn ychwanegu lefel ychwanegol o gymhlethdod a biwrocratiaeth at broses sydd eisoes yn hirfaith. Dydw i ddim yn dychmygu y byddai unrhyw un yn hoffi dychwelyd i'r dyddiau hynny.

Yn y Senedd flaenorol, roedd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd yn amharod i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014. Fodd bynnag, roedd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn bresennol a phan ofynnwyd iddo am y dull ar gyfer datganoli trethi newydd dywedodd

'pe byddai pryder dilys yn cael ei godi ynghylch cyflymder cynnydd neu'r dull o ymgysylltu',

byddai'n hapus iawn i drafod y mater gyda'r Trysorlys. Rydym yn croesawu'r dull gweithredu yn fawr, ac yn gobeithio y bydd y Prif Ysgrifennydd newydd yn fwy parod na'i ragflaenydd i fwrw ymlaen â datganoli'r dreth hon gyda'r Gweinidog. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn fwy parod i ymgysylltu â ni fel pwyllgor, a chymryd rhan yn y gwaith o graffu ar bwerau sy'n dod o fewn cylch gwaith Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ddatganoli pwerau treth a materion cyllidol eraill.

Mae'r pwyllgor yn cefnogi'r Gweinidog i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod proses effeithiol ar gyfer datganoli meysydd treth newydd i'r Senedd hon. Yr hyn y mae ar bawb ei eisiau yw proses llyfn a thryloyw, a dim ond os yw'r strwythurau i'w gefnogi yn glir, yn gadarn ac yn gydnerth y gellir cyflawni hynny. Diolch.

17:55

Dros y 10 mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweld bancio tir a chefnu ar safleoedd tir llwyd sydd â defnyddiau diwydiannol blaenorol ar gyfer tir gwyrdd haws ei ddatblygu. Mae'r safleoedd tir llwyd yn achosi problemau wedyn i'r gymuned leol. Mae gan rai adeiladau peryglus, coed anniben a ffensys wrth ymyl y priffyrdd ac eiddo preifat. Mae dŵr ffo a halogiad i ddraeniau priffyrdd yn gwneud i gymuned ymddangos nad yw'n cael ei gofalu amdani. Maen nhw'n safleoedd delfrydol ar gyfer datblygu tai, a fyddai'n gwella hyfywedd, cynaliadwyedd a lles cymunedau.

Os yw safle tir llwyd neu safle maes glas wedi'i gynnwys mewn cynllun datblygu, mae'n cynyddu ei werth. Pan fydd ganddo ganiatâd cynllunio, gall wedyn gynyddu bedair neu bum gwaith cost wreiddiol y tir hwnnw. Byddai cyflwyno treth ar dir gwag i'r rhai sydd â safleoedd sydd wedi'u dyrannu a/neu ganiatâd cynllunio, ac sydd wedi oedi, yn helpu i ysgogi eu datblygu, ac yn eu gwneud yn fwy o flaenoriaeth. Yna gellid defnyddio'r dreth i dalu am weinyddu a hyfforddi mewn awdurdodau cynllunio sydd â gormod o lwyth gwaith. Gallai fod yn rhan o becyn o fesurau eraill, fel lleihau neu hepgor cyfraniadau 106, os yw'n safle tir llwyd.

Ac mae'n bryd, rwy'n meddwl, ein bod ni'n symud ymlaen gyda hyn ac yn dechrau defnyddio'r holl safleoedd tir llwyd a ddyrannwyd. Diolch.

Galwaf nawr ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl, Rebecca Evans. 

Hoffwn ddiolch i'r holl gyd-Aelodau am yr hyn sydd, yn fy marn i, wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn, ac fe wnaf ddechrau drwy ddweud fy mod yn cydnabod yn llawn bwysigrwydd swyddogaeth Trysorlys EM wrth asesu a chraffu ar ein cais, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw gynnig ar gyfer trethi datganoledig newydd yn cael effeithiau anfwriadol neu annymunol ar gydlyniant system dreth y DU yn gyffredinol.

A dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud yn llawn ac yn agored â swyddogion Trysorlys EM dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan roi nifer o ddogfennau i Lywodraeth y DU sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf a nodir yn y papur gorchymyn, gan gynnwys y senarios lle mae treth yn debygol o fod yn gymwys a pheidio â bod yn gymwys, pwy fyddai'r targed a fwriedir ar gyfer unrhyw dreth, rhyngweithiadau posibl â threthi datganoledig a threthi a gadwyd yn ôl, seiliau treth a refeniw treth, ac effeithiau ar system dreth y DU ar gyfer datganoli'r pŵer hwn. Arweiniodd y gwaith hwn at bapur ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a swyddogion Trysorlys EM, gan argymell bod y deunydd a ddarparwyd hyd yma yn sail i Lywodraeth Cymru ysgrifennu'r cais ffurfiol hwnnw i Lywodraeth y DU.

Felly, pan gyfarfûm ag Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ar y pryd, yn ôl ym mis Chwefror, yr oedd ar y ddealltwriaeth bod digon o wybodaeth wedi'i darparu gan Lywodraeth Cymru a bod Trysorlys EM yn fodlon i'n cynnig fynd ymlaen i gam nesaf y broses, a fyddai wedi'i gytuno rhwng ein dwy Lywodraeth i ddatganoli'r pwerau newydd. Ac ni wnaeth Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ar y pryd nodi ei fod o'r farn nad oedd y cynigion wedi'u datblygu'n ddigonol i symud ymlaen, ac nid wyf yn glir o hyd pa bryderon penodol sydd wedi codi rhwng mis Chwefror a nawr a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddychwelyd i ddechrau'r broses. Paratowyd Gorchymyn drafft y Cyfrin Gyngor, yn ogystal â memorandwm esboniadol, a oedd yn dangos sut y byddai'r wybodaeth a ddarparwyd yn cefnogi hynt y Gorchymyn drafft drwy Senedd y DU a'r Senedd hon. A fy ngobaith i yw y bydd Ysgrifennydd Ariannol newydd y Trysorlys yn cael ei gysuro gan lefel y manylion yr ydym ni eisoes wedi'u darparu, ac yn cydnabod ein bod, drwy gydol y broses hon, wedi bod yn fwy na pharod i ddarparu cymaint o fanylion ag y gallem ni.

Ac, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud gan Lywodraeth Cymru ar sut y byddai unrhyw dreth ar dir y nodwyd ei bod yn addas i'w datblygu yn y dyfodol yn gymwys yng Nghymru. Ac, fel yr ydym wedi'i amlinellu droeon, bydd y gwaith polisi manwl hwn yn digwydd ar ôl i'r dreth gael ei ddatganoli i Gymru a bydd yn dilyn proses briodol drwyadl yma yng Nghymru. Ac mae llawer o'r cyfraniadau o feinciau'r Ceidwadwyr heddiw wedi bod yn ymwneud â phriodoldeb y dreth, a dymunoldeb y dreth, ac mae'n gwbl briodol bod y trafodaethau hynny'n cael eu cynnal yma a bod y gwaith craffu'n cael ei wneud yma yn y lle hwn, ac mae hynny, rwy'n credu, yn greiddiol i bwynt y ddadl hon heddiw. Os gallwn ni symud ymlaen i gam nesaf y broses ac mae ymgynghoriad yn y DU yn tynnu sylw at unrhyw senarios neu faterion allweddol nad ymdrinnir â nhw yn yr wybodaeth yr ydym ni eisoes wedi'i darparu, yna wrth gwrs mae fy swyddogion a minnau wedi ymrwymo i weithio gyda Thrysorlys EM i sicrhau bod gan Lywodraeth y DU ddigon o fanylion i lywio asesiad ystyriol. Ond, mewn gwirionedd, heb unrhyw symudiad brys, mae gwir angen adolygiad o'r broses.

Felly, gan siarad yn fwy cyffredinol, rwy'n credu bod y Llywodraeth Llafur Cymru hon wedi profi y gellir ymddiried ynddi ar dreth. Mae ein penderfyniadau'n seiliedig ar set gref o egwyddorion treth, sef y dylai ein trethi ni yma yng Nghymru godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl, cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, ac yn enwedig cefnogi swyddi a thwf, bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml, cael eu datblygu drwy gydweithio ac ymglymiad, ac wrth gwrs cyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal. Ac mae'r egwyddorion hynny wedi'u hamgylchynu gan ein fframwaith polisi treth, a ddatblygir ar y cyd â rhanddeiliaid, ac mae llawer o waith yn mynd rhagddo i ddatblygu hynny drwy gydol y flwyddyn drwy wahanol fathau o ymgysylltu â phobl sydd â buddiant. A hefyd, mae gennym 20 mlynedd o brofiad yma o ran gwneud trethiant lleol. Rydym wedi gweithio i wneud y dreth gyngor yn decach ac rydym wedi gwneud cynnydd da iawn o ran hynny—dileu'r bobl ifanc sy'n gadael gofal o faich y dreth gyngor er enghraifft, a sicrhau ein bod yn dileu'r gosb o garchar i bobl nad ydynt yn talu, nad ydynt yn gallu talu, eu treth gyngor, oherwydd, wrth gwrs, ni ddylid ystyried ei fod yn drosedd. O ran cyfraddau treth incwm Cymru, gwnaethom gadw ein haddewid drwy gydol y Senedd ddiwethaf. Ni wnaethom godi cyfraddau treth incwm Cymru. Ac rydym wedi addo yn y Senedd hon i beidio â chynyddu baich cyfraddau treth incwm Cymru ar deuluoedd a phobl yma yng Nghymru cyhyd ag y teimlir effeithiau economaidd y pandemig, a byddwn yn cadw'r addewid hwnnw. Cymharwch a gwrthgyferbynnwch hynny â'r dull gweithredu dros y ffin, wrth gwrs, gyda'r cynnydd diweddar mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, a wnaed heb unrhyw ddealltwriaeth wirioneddol o'r effaith amrywiol y byddai'n ei chael, felly ni allaf gymryd unrhyw wersi gan y Ceidwadwyr ar y mater hwnnw y prynhawn yma.

O ran treth trafodiadau tir, rydym wedi gwneud penderfyniadau gwahanol yma yng Nghymru ac rydym wedi gwneud y penderfyniadau sy'n iawn i Gymru. Felly, yng Nghymru, cawsom y rhyddhad i brynwyr tro cyntaf ac yn hytrach darparwyd rhyddhad ar gyfer pob prif eiddo preswyl hyd at £180,000, ac mae hynny'n agos at bris cyfartalog tai yma yng Nghymru, sy'n golygu bod gennym system lawer mwy priodol yma ar gyfer ein marchnad dai a hefyd un sy'n fwy blaengar. Ac ym mis Rhagfyr, byddwch yn cofio i ni gyhoeddi gostyngiad o 1 pwynt canran yn y cyfraddau treth trafodiadau tir dibreswyl i helpu busnesau drwy'r pandemig a hefyd, ychwanegwyd 1 pwynt canran ychwanegol at gyfraddau uwch treth trafodiadau tir. Ac, wrth gwrs, nid oeddem yn cynnwys landlordiaid prynu i osod na phrynu ail gartref yn ein gwyliau treth yn ystod y pandemig a ni oedd yr unig ran o'r DU i wneud y penderfyniad hwnnw.

Ac yna, o ran treth gwarediadau tirlenwi, rydym wedi gweld cyfleoedd penodol i ni yng Nghymru a ni oedd y cyntaf i gyflwyno'r band gwastraff anawdurdodedig ac, wrth gwrs, mae rhannau eraill o'r DU bellach yn dilyn hynny. Ac yna, hoffwn bwysleisio fy mod yn wirioneddol falch o Awdurdod Cyllid Cymru a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud o ran casglu ein trethi Cymreig. Unwaith eto, mae hyn yn destun balchder arbennig i ni o ran ansawdd y gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu a'r berthynas wahanol yr ydym yn ei sefydlu yma yng Nghymru gyda threthdalwyr.

Felly, i gloi, Llywydd, mae gennym yr egwyddorion, mae gennym y fframwaith, mae gennym yr ymgysylltiad â rhanddeiliaid, mae gennym y profiad ac mae gennym hanes profedig ym maes trethi, sy'n dangos y gellir ymddiried yn y Llywodraeth Llafur Cymru hon ar dreth.

18:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]

Do, fe wnes i roi dipyn o amser i chi yn y fan yna [Chwerthin.]

Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:07.

18:15

Ailymgynullodd y Senedd am 18:19, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio am heno. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. 

Ond fe wnawn ni yn awr agor y bleidlais ar eitem 6, a dyma'r

cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol.

Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Agor y bleidlais.

Caewch y bleidlais. O blaid 14, ymatal 0, yn erbyn 40. Felly, nid oes cydsyniad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

18:20

Eitem 6 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Ac ar gyfer y bleidlais nesaf, Rhys ab Owen, os nad ydych chi'n gallu pleidleisio o hyd, yna rwy'n gofyn am bleidlais lafar.

A, Llywydd, mae gennym ni Aelod o hyd sy'n ceisio mynd i mewn i Zoom ac nid yw'n gallu mynd i mewn i Zoom.

Na, na, na, na. Darren Millar, rydym ni'n cynnal y bleidlais, os gwelwch yn dda, ac rydym wedi rhoi pob cyfle posibl i'r Aelod a enwir hwnnw ddod i mewn, gan gynnwys rhannu fy rhif ffôn personol, fel y gallai e' ffonio—[Anghlywadwy.]

Nawr, eitem 7 o'r diwedd—Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae'r rheoliadau wedi eu cymeradwyo.

Eitem 7 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021: O blaid: 28, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar ddatganoli trethi newydd, a dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 41 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Eitem 8 - Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 1 (cyflwynwyd yn enw Darren Millar): O blaid: 14, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Dwi'n galw nawr am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. [Anghlywadwy.]—i'w bwrw. Mae'n bosibl bod yna broblem, felly gwnaf i alw amdanyn nhw'n llafar. Delyth Jewell, sut ydych chi'n pleidleisio? 

18:25

Felly, cau'r bleidlais. Canlyniad y bleidlais yw 40 o blaid, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 8 - Dadl y Llywodraeth: Datganoli Pwerau Trethu Newydd - Cynnig : O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:26.