Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

03/02/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau am y Rheolau Sefydlog hynny sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn, a bydd y rheini yn berthnasol i'r cyfarfod yma.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Yr eitem gyntaf, felly, ar ein hagenda'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Melding.

Ynni Adnewyddadwy

1. Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach yng Nghymru? OQ56225

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu fframwaith polisi cadarnhaol i annog cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach. Mae'r cynlluniau ynni rydym yn eu datblygu yn nodi ein hanghenion ar gyfer y dyfodol o ran pŵer, gwres a thrafnidiaeth. Mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth i gymunedau a'r sector cyhoeddus er mwyn darparu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy newydd i ddiwallu'r anghenion hynny.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae hwn yn faes a gefnogir yn drawsbleidiol rwy'n credu, ac mae hefyd yn boblogaidd iawn gyda grwpiau cymunedol. Mae ynni dŵr a solar ar raddfa fach yn enwedig yn boblogaidd, ac yn fwyfwy hyfyw gyda chapasiti storio gwell drwy fatris gwell. O ran ein targedau ar gyfer 2030 felly, tybed a ddylem fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol wrth bennu’r gyfran honno o ynni rydym am ei gweld yn cael ei chynhyrchu drwy gynlluniau ar raddfa fach.

Diolch. Cytunaf yn llwyr ynglŷn â brwdfrydedd cymunedau pan fydd ganddynt gynllun ynni adnewyddadwy ar raddfa fach yn eu hardal. Yn sicr, un o fy nyddiau hapusaf yn y portffolio hwn oedd pan agorais gynllun ynni dŵr bach iawn yng Nghorwen, yng ngogledd Cymru, lle dywedodd dynes wrthyf, yn falch iawn, ei bod yn gwybod, bob tro y byddai'n troi ei thegell ymlaen, ei bod yn cyfrannu, o'r cynllun a gafodd ei sefydlu gyda'i chymorth hi. Unwaith eto, o ran cynlluniau ynni dŵr yn enwedig, credaf ein bod wedi gweld ffermwyr, yn sicr, yn awyddus i gael un ar eu tir. Ac unwaith eto, i fyny yng ngogledd-orllewin Cymru, roedd un da iawn—yn anffodus, gan i Lywodraeth y DU ddileu'r tariff cyflenwi trydan wedyn, pan oedd yn awyddus i gael un arall, nid oedd yn teimlo bod hynny’n werth chweil. Felly, credaf fod angen inni barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariffau cyflenwi trydan hefyd. Pan osodais y targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy—y gwahanol dargedau erbyn 2030—roeddwn o’r farn eu bod yn uchelgeisiol iawn. Ond rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y tymor hwn, ac efallai y byddai'n werth ailystyried y mater i weld a allem fod yn fwy uchelgeisiol.

Rheoli'r Risg o Lifogydd

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli'r risg o lifogydd yn Rhuthun? OQ56206

Diolch. Mae'n destun cryn bryder fod 10 eiddo yn Rhuthun a phump arall mewn pentrefi cyfagos wedi cael eu heffeithio gan lifogydd yn ystod storm Christoph. Mae tri phrosiect lliniaru llifogydd yn cael eu datblygu gan Sir Ddinbych yn yr ardal, sy’n werth cyfanswm o £1.2 miliwn, gan gynnwys cynllun rheoli dalgylch afon Clwyd i fyny'r afon o Ruthun. Cwblhawyd prosiect gwerth £5.1 miliwn yn 2012.

Diolch am eich ateb. Weinidog, mewn perthynas â storm Christoph, mae llawer o etholwyr yr effeithiwyd ar eu cartrefi gan y llifogydd ychydig wythnosau yn ôl wedi cysylltu â mi yn mynegi pryderon fod yr awdurdodau i'w gweld yn ymwybodol fod diffygion yn yr amddiffynfeydd rhag llifogydd, ac mewn gwirionedd, roedd yr amddiffynfeydd rhag llifogydd ym mharc Cae Ddol wedi cael eu llenwi â bagiau tywod hyd at ychydig fisoedd cyn y llifogydd penodol hyn. Dywed llawer o’r preswylwyr hynny, pe bai’r bagiau tywod hynny wedi bod yno o hyd a heb eu symud gan Cyfoeth Naturiol Cymru, neu ba bynnag awdurdod a’u gosododd yno, efallai na fyddai eu cartrefi a’u busnesau wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd. A allwch roi sicrwydd i ni y bydd yr ymchwiliadau a fydd yn cael eu cynnal yn awr i'r llifogydd yn ystyried y materion hyn, ac os dônt i’r casgliad fod yr amddiffynfeydd yn ardal Rhuthun yn ddiffygiol mewn unrhyw ffordd, y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ar gael er mwyn gwella’r gallu i wrthsefyll llifogydd yn Rhuthun er mwyn fy etholwyr ac er mwyn y busnesau sydd wedi'u lleoli yno?

Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sylweddol yn ystod y tymor hwn. Rydym eisoes wedi cyflawni'r ymrwymiad a wnaethom ar ddechrau tymor y Llywodraeth hon y byddem yn buddsoddi yn ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd, gyda dros £390 miliwn yn mynd tuag at ein gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol dros ein dwy raglen. A chredaf ei bod yn deg dweud, oni bai am y buddsoddiad hwnnw gan Lywodraeth Cymru, y byddai'r sefyllfa'n waeth o lawer. Rydym wedi wynebu llifogydd sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf fel y bydd yr Aelodau'n gwybod. Mae'n erchyll pan fydd llifogydd yn effeithio ar eich cartref, ac rwy’n cydymdeimlo’n llwyr â’ch etholwyr yr effeithiwyd arnynt yn y ffordd hon. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yn rhaid i'r awdurdod rheoli perygl llifogydd ymchwilio yn dilyn unrhyw lifogydd. Yn yr achos hwn, Cyngor Sir Dinbych yw’r awdurdod hwnnw, a bydd yn rhaid iddynt gyflwyno adroddiadau adran 19 pan fydd hynny’n briodol. Nid wyf yn ymwybodol o'r sefyllfa y cyfeiriwch ati. Felly, nid wyf yn gwybod ai CNC oedd yr awdurdod rheoli perygl llifogydd, neu'n wir, yr awdurdod lleol, ond byddwn yn disgwyl i hynny gael ei gynnwys yn yr adroddiad.

Mae buddsoddi'n digwydd yn ardal Rhuthun, ac rwy'n ymwybodol o achos cyfiawnhad busnes Graigfechan, ac rydym wedi rhoi cyllid ar ei gyfer, gwaith cynllunio Llanbedr Dyffryn Clwyd, a gwaith rheoli llifogydd naturiol dalgylch afon Clwyd yr ydym wedi rhoi £1 miliwn ar ei gyfer. Pe bai unrhyw beth yn cael ei godi yn yr ymchwiliad hwnnw, ac rwyf eisoes wedi gofyn i bob awdurdod rheoli perygl llifogydd edrych ar beth arall y mae angen ei wneud i amddiffynfeydd, gallant wneud cais am gyllid wrth gwrs. Y llynedd yn unig, darparais gyllid grant 100 y cant ar gyfer atgyweiriadau brys i asedau llifogydd a ddifrodwyd ledled Cymru, a chredaf fod cyfanswm yr arian hwnnw oddeutu £4.6 miliwn.

13:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae tudalen flaen y Farmers Guardian yn dweud y cyfan: 'NVZ Nightmare'. Nawr, ar 8 Ebrill y llynedd, fe ddywedoch chi wrth y Senedd eich bod yn bwriadu cyflwyno'r rheoliadau hyn ar ôl i'r argyfwng ddod i ben. Fe wnaethoch ailadrodd yr addewid hwnnw chwe gwaith arall, yn fwyaf diweddar ar 14 Hydref. Canfu adroddiad diweddar gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth fod 2020 wedi cynyddu ymddiriedaeth defnyddwyr yn y gadwyn cyflenwi bwyd, fod ymddiriedaeth gref mewn ffermwyr yn parhau a bod ffermio yng Nghymru a'r DU yn cael ei ystyried yn fuddiol i'r amgylchedd. Nawr, er gwaethaf y gefnogaeth gyhoeddus gynyddol hon i'n ffermwyr a 680 achos o’r coronafeirws yn cael eu nodi yng Nghymru ar 27 Ionawr, lle dywed hynny wrthyf nad yw’r argyfwng hwn ar ben, fe wnaethoch osod y rheoliadau hyn. Pam nad ydych wedi cadw at eich gair a dangos rhywfaint o uniondeb drwy aros tan ddiwedd yr argyfwng hwn cyn lansio ymosodiad mawr Llafur Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar amaethyddiaeth Cymru?

Mae’n rhyfedd fod Janet Finch-Saunders yn brolio ei chymwysterau amgylcheddol ar un llaw ac yna'n eu rhoi i'r neilltu wrth drafod y sector amaethyddol. Pam y byddech yn esgusodi tri achos o lygredd amaethyddol bob wythnos, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn? Rwy’n ymwybodol fy mod wedi gosod y rheoliadau drafft fis Ebrill diwethaf, a gwneuthum addewid i barhau i weithio gyda’r sector amaethyddol, fel rwyf wedi gwneud dros y pum mlynedd diwethaf, i gyflwyno gwelliannau i’r digwyddiadau hynny. Fe fyddwch yn cofio imi weithio’n benodol gydag NFU Cymru i gyflwyno cynllun gwirfoddol. Mae bob amser yn llawer gwell os gallwch wneud pethau ar sail wirfoddol. Ond mae arnaf ofn fod hynny wedi methu. Felly, gosodais y rheoliadau drafft fis Ebrill diwethaf. Dywedais na fyddwn yn eu rhoi mewn grym ar unwaith, a thra byddwn yn dal i fod ynghanol y pandemig COVID-19, wrth gwrs, rydym mewn lle gwahanol. Rydym yn anelu at adferiad gwyrdd, ac mae'r sector amaethyddol yn rhan fawr o'r adferiad gwyrdd hwnnw. Maent yn dymuno bod yn rhan o'r adferiad gwyrdd hwnnw—maent yn dweud hynny wrthyf a byddaf yn gweithio gyda hwy i wneud hynny.

Roeddwn hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig aros hyd nes bod cyfnod pontio’r UE wedi dod i ben a gweld sut olwg fyddai ar bethau wrth ddod allan o Ewrop. Mae'r farchnad yn fywiog. Dyna reswm arall pam y credaf fod y sector yn gallu ymdopi â'r rheoliadau ar hyn o bryd.

Diolch, Weinidog. Ond mae'n rhaid imi ddweud, mae dweud nad yw'r cynllun gwirfoddol wedi gweithio yn sarhad ar bob un o’n ffermwyr. Nawr, mae'r Prif Weinidog hefyd wedi colli golwg arni, gan iddo ymateb ddoe drwy nodi,

'nid ydym ni wedi gweld unrhyw leihad yng nghyfradd y llygredd amaethyddol'.

Yn amlwg, felly, nid yw hyd yn oed wedi darllen eich datganiad, lle rydych yn llwyr gydnabod y bu cynnydd. Mewn gwirionedd, mae CNC wedi sôn am ddirywiad cyson mewn achosion o lygredd. Mae'r risg yn lleihau. Serch hynny, mae rheoliad 4 yn dangos nad ydych yn credu bod gallu gan ffermwyr i wybod faint o nitrogen i'w ddefnyddio ar eu daliad, ac mae rheoliad 15 yn dangos nad ydych yn credu bod ffermwyr yn gallu defnyddio offer priodol. Mae nifer o reoliadau, gan gynnwys 34 i 37, 40 i 43, yn dangos eich bod am weld ein ffermwyr at eu clustiau mewn gwaith papur. Gyda rheoliad 29, rydych yn mynnu bod ffermwyr yn darparu lle i storio’r holl slyri a gynhyrchir yn y cyfnod storio pump i chwe mis. Rydych yn honni bod y mesurau hynny'n gymesur, ac eto mae CNC wedi cyhoeddi map sy'n dangos nad oes rhannau helaeth o Gymru wedi cael unrhyw achosion o lygredd amaethyddol mewn dŵr ers 2010. Felly, Weinidog, esboniwch i mi, a'n holl ffermwyr, sut y gellir hyd yn oed ystyried bod cyfyngu mor ddifrifol ar ryddid y ffermwyr i ffermio yn gam cymesur, a hefyd, a ydych wedi gwirio a yw'r rheoliadau'n mynd yn groes i’r cod ymarfer ar gyfer rheoleiddwyr, ac yn wir, i egwyddor cymesuredd?

13:40

Rwy'n synnu bod Janet Finch-Saunders yn credu bod y dull gwirfoddol wedi gweithio. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, ar wahân i 2009, rydym wedi cael ymhell dros 100 achos o lygredd amaethyddol bob blwyddyn—ers 20 mlynedd. Nawr, rwyf bob amser yn credu nad yw pobl yn hoffi pan fo rhywun yn dweud wrthynt beth i'w wneud, ac rwyf bob amser yn meddwl bod unrhyw sector neu unrhyw ddiwydiant yn cefnogi rheoliadau neu ddeddfwriaeth, neu unrhyw weithdrefnau eraill, os ydynt yn rhan o'r ateb hwnnw, a dyna pam roeddwn yn awyddus i weithio gyda hwy i gyflwyno'r dull gwirfoddol. Fel y dywedaf, bedair blynedd yn ôl, rwy’n cofio eistedd yng nghynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn Birmingham lle dywedwyd wrthyf, 'Rhowch chwe mis i ni; fe wnawn i hyn weithio.' Ni weithiodd. Rydym yn dal i gael yr holl achosion hyn o lygredd amaethyddol un flwyddyn ar ôl y llall, ac er fy mod yn cytuno'n llwyr â chi fod yna gefnogaeth i'r sector amaethyddol, nid oes cefnogaeth i lygredd amaethyddol, ac eithrio, gallaf weld, gan Aelodau Ceidwadol a Phlaid Cymru sydd am ddirymu’r rheoliadau hyn. Felly, dros 100 achos y flwyddyn am 20 mlynedd, ac mae llywydd NFU Cymru ei hun wedi dweud bod un achos o lygredd amaethyddol yn ormod. Felly, sut ar y ddaear y gallwch gyfiawnhau dros 100 y flwyddyn? Mae hyn yn gymesur. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod gennych linell sylfaen reoleiddiol glir, fel y gall hynny alluogi'r arfer da. Ar hyn o bryd, heb y llinell sylfaen glir honno, yn anffodus, mae arfer gwael yn mynd rhagddo’n ddirwystr. Ac wrth gwrs, nid yw pob ffermwr ar fai, felly’r hyn rydym am ei wneud—. Pam y dylid cosbi'r ffermwyr sy'n cydymffurfio â'r rheolau? Mae'n ymwneud ag uchelgais. Mae gennyf gryn uchelgais ar gyfer y sector hwn, a chredaf y byddant yn gallu gwneud hyn.

Diolch, Weinidog. Yr hyn y mae eich ateb yn ei ddweud wrthyf yw nad y ffermwyr sydd wedi methu, ond 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru nad ydynt wedi gallu gweithio'n fwy buddiol ar ran y ffermwyr, gweithio gyda hwy i'w cefnogi, yn hytrach na'r cyfyngiadau erchyll hyn. Maent mor ddifrifol, yn ogystal â bod fel tag troseddol electronig i ffermwyr, cânt eu cyflwyno er bod disgwyl i gyfanswm yr incwm o ffermio yn y DU ostwng oddeutu 21 y cant. Mewn gwirionedd, mae eich asesiad effaith rheoleiddiol eich hun wedi cyfrifo y gallai'r gost cyfalaf ymlaen llaw gyrraedd £360 miliwn. Sut ar y ddaear rydych yn disgwyl i'n ffermwyr gweithgar ddod o hyd i hynny, a phan mai £261 miliwn yn unig oedd cyfanswm diweddaraf yr incwm o ffermio yng Nghymru? Felly, a wnewch chi gadarnhau mai dim ond diferyn o slyri mewn pwll mawr iawn yw'r £13 miliwn a ryddheir eleni i gynorthwyo gyda seilwaith rheoli maethynnau fferm ac ansawdd dŵr? A allwch egluro sut y credwch y gall y diwydiant fforddio buddsoddi ar y raddfa fawr hon rydych yn ei disgwyl, a pha asesiad rydych wedi'i wneud o nifer y busnesau fferm, gan gynnwys ffermwyr tenant, a fydd bellach yn cael eu gorfodi i roi’r gorau i weithredu, o bosibl, o ganlyniad i'r rheoliadau llym a digyfaddawd hyn? Diolch, Lywydd.

Byddwn yn troi'r cwestiwn ar ei ben ac yn dweud, 'Sut y gallant fforddio peidio â gwneud hyn?' Rwyf bob amser wedi dweud y byddem yn darparu cefnogaeth, yn ariannol ac yn ymarferol. Bydd y rheoliadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn raddol, ac fel y dywedais, mae llawer o'r ffermwyr eisoes yn cydymffurfio â'r rheoliadau hyn. I lawer ohonynt, ni fydd pethau’n wahanol o gwbl. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r prosiect llaeth a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ymweliadau â ffermydd llaeth i edrych i weld sut roeddent yn storio slyri ac ati, ac roeddwn bob amser yn dweud yn glir iawn na fyddem yn rhoi cyllid i ffermwyr nad oeddent yn cydymffurfio â'r rheoliadau cyfredol, ac yn anffodus, cynhaliwyd 780 o ymweliadau yn rhan o'r prosiect llaeth hwn, ac yn ôl yr adroddiadau hyd at ddiwedd y llynedd, nid yw o leiaf 50 y cant ohonynt yn cydymffurfio. Mae hynny gyda'r rheoliadau cyfredol. Felly, mae'n bwysig iawn eich bod yn deall pwysigrwydd hyn, ac rwy'n gobeithio nad ydych yn cymeradwyo lefel y digwyddiadau llygredd amaethyddol rydym yn eu gweld.

13:45

Rwyf wedi clywed sôn ichi addo saith gwaith i beidio â chyflwyno’r rheoliadau parthau perygl nitradau hyn yn ystod y pandemig. Mewn gwirionedd, rwyf wedi dod o hyd i fwy na 10 enghraifft lle rydych wedi nodi'n benodol, ar Gofnod y Cyfarfod Llawn neu i bwyllgorau'r Senedd, na fyddech yn cyflwyno'r rheoliadau hyn yn ystod y pandemig COVID. Nawr, ar yr union ddiwrnod y dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn un o sesiynau briffio’r Llywodraeth fod cryn dipyn o amser tan y byddwn wedi cefnu ar effeithiau gwaethaf y pandemig COVID, fe wnaethoch gyflwyno'r rheoliadau hyn. Felly, fe dorroch chi eich gair, Weinidog. Rydych wedi ein camarwain ac rydych wedi torri'ch addewid i ffermwyr Cymru, ac wrth gwrs, nid chi yw'r unig un sydd wedi ein camarwain. Ysgrifennais at y Prif Weinidog y bore yma gan iddo gael ei gofnodi'n dweud ddoe, ac rwy’n dyfynnu:

'Nid ydym ni wedi gweld unrhyw leihad yng nghyfradd y llygredd amaethyddol.'

Ac mae'r ystadegau rwyf wedi’u gweld yn dangos, mewn gwirionedd, fod nifer yr achosion a brofwyd o lygredd amaethyddol mewn dŵr wedi gostwng dros y tair blynedd diwethaf—gostyngiad o un flwyddyn i'r llall, yn ôl ffigurau Cyfoeth Naturiol Cymru, rhwng 2018 a 2020. Ac i'r gwrthwyneb, os caf ddweud, mae llygredd o'r diwydiant dŵr wedi cynyddu bob blwyddyn yn yr un cyfnod, ond wrth gwrs, y ffermwyr sy'n cael eu cosbi unwaith eto gan eich Llywodraeth. Nawr, onid yw hyn oll a'r holl addewidion a dorrwyd a’r ystadegau ffug hyn yn tynnu sylw at y ffordd ddryslyd, anhrefnus ac anniben rydych wedi mynd i’r afael â'r mater hwn?

Nid wyf yn cytuno â chi o gwbl, ac er inni weld llai o lygredd amaethyddol—achosion a brofwyd—y llynedd, fe fyddwch yn deall na fu modd cynnal yr ymweliadau safle yn y ffordd y’u cynhaliwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Ond af yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud: rydym yn gweld, ar gyfartaledd, tri achos o lygredd amaethyddol yr wythnos. Nid wyf yn credu am un eiliad—. Hynny yw, chi yw'r un sydd bob amser yn dweud wrthym nad ydym yn mynd yn ddigon cyflym ar yr argyfwng hinsawdd. Sut rydych yn disgwyl inni wneud hynny os ydym yn esgusodi digwyddiadau llygredd amaethyddol ar y lefel hon?

Nawr, rwyf wedi parhau i weithio gyda'r sector. Fel y dywedais ynghynt yn fy ateb i Janet Finch-Saunders, nid oes unrhyw un yn hoffi pan fo rhywun yn dweud wrthynt beth i'w wneud—rwy'n deall hynny'n llwyr—a chredaf fy mod wedi bod yn anhygoel o amyneddgar, wrth edrych am ffordd o wneud pethau'n wirfoddol. Nid fi yw'r unigolyn mwyaf amyneddgar fel y gwyddoch, ond rwyf wedi ceisio fy ngorau glas i weithio gyda'r sector, gydag undebau’r ffermwyr, i ddod o hyd i'r ffordd honno o wneud pethau'n wirfoddol. Ac mae cymal adolygu yn y rheoliadau hyn wyddoch chi, felly os oes gan bobl syniadau disglair y gallant eu cyflwyno, cyflwynwch hwy a gadewch inni weld a allwn barhau i chwilio am ffordd wahanol o weithredu. Ond mae arnaf ofn na allwn gyfiawnhau gohirio hyn mwyach. Nid wyf am barhau i dderbyn tri achos o lygredd amaethyddol bob wythnos, ac rwy'n siŵr y byddai’r Aelod yn cytuno.

Rwy'n teimlo fel pe na baech wedi bod yn gwrando ar air rwyf wedi bod yn ei ddweud am y ddwy flynedd ddiwethaf, Weinidog. Nid oes unrhyw un yn gwadu bod problem y mae angen mynd i’r afael â hi; y broblem yma yw'r ateb rydych yn ei gynnig. Nid yw'n ymarferol ac nid yw'n gymesur, ac a dweud y gwir, nid yw'n mynd i weithio. Mae tystiolaeth o fannau eraill ledled Ewrop lle cafodd dull y parthau perygl nitradau ei fabwysiadu yn dangos mai canlyniadau anghyson y mae’n eu cyflawni ar y gorau. Ddeuddeg mis yn ôl, fe wnaethoch chi gyfaddef eich hun fod gennych amheuon ynghylch cyflwyno cyfnodau gwaharddedig a dull ffermio yn ôl y calendr. Ac wrth fy ateb yn y Senedd, fe wnaethoch chi gyfaddef—ac mae pob un ohonom yn gwybod, onid ydym—nad yw'r tywydd yn dilyn y calendr, a dyna pam y gwnaethoch ailfeddwl ynglŷn â'r safbwynt hwnnw ar y pryd. A gŵyr pob un ohonom y bydd yr wythnosau cyn ac ar ôl y cyfnod gwaharddedig rydych yn ei gyflwyno nawr yn dod yn wythnosau gwasgaru slyri cenedlaethol yng Nghymru, ac mae'n digwydd mewn gwledydd eraill. Bydd afonydd yn troi’n ddu yn ystod yr wythnosau hynny, wrth i ffermwyr gael eu gorfodi i glirio eu storfeydd slyri cyn cyfnod gwaharddedig a'u gwagio wedyn pan fyddant yn gorlifo. Mae hyd yn oed Tony Juniper, un o hyrwyddwyr amgylcheddol mwyaf rhagorol y DU a chadeirydd Natural England—dywedodd nad yw cyfnodau gwaharddedig yn cyflawni'r canlyniadau amgylcheddol gorau. Pam rydych yn anghytuno ag ef?

Wel, nid wyf yn ymwybodol o'r erthygl y cyfeiriwch ati, ond credwch fi, rwyf wedi gofyn am lawer iawn o sesiynau briffio ynglŷn â hyn. Rydym wedi edrych ar lawer iawn o wahanol agweddau ar hyn, a chredaf y dylem hefyd fod yn glir iawn nad mynd i'r afael â llygredd nitradau yw unig ddiben y rheoliadau hyn. Mae llygredd amaethyddol yn cynnwys pethau eraill, fel ffosfforws ac amonia ac allyriadau nwyon tŷ gwydr, er enghraifft. Credaf y bydd yn cael ei dargedu at arferion fferm. Rydym yn gweld achosion o lygredd amaethyddol ledled Cymru, nid mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn unig. Ac os edrychwch ar yr hyn y mae gwledydd eraill y DU yn ei wneud, mae ganddynt wahanol ardaloedd dynodedig, os hoffwch—rwyf wedi cael hynny wedi’i daflu ataf hefyd—ond os edrychwch ar yr hyn y maent yn ei wneud mewn perthynas â'r holl lygredd amaethyddol, fe welwch fod pethau'n debyg iawn.

13:50

Wel, taflodd CNC hynny atoch, ac fe ddewisoch chi eu hanwybyddu am eu bod yn awgrymu bod 8 y cant o'r arwynebedd yn barthau perygl nitradau. Mae gwrando ar eu cyngor yn gyfleus ichi weithiau, ond nid dro arall, mae'n amlwg.

Edrychwch, byddwn yn dweud bod y bennod ddiweddaraf hon yn cynrychioli'r dirywiad terfynol yn y berthynas rhwng eich Llywodraeth a'r gymuned amaethyddol, oherwydd dro ar ôl tro, roedd gennych fwy o ddiddordeb mewn pwyntio bys na gweithio’n adeiladol gyda'r sector o ddifrif i gyd-gynllunio dull mwy cynaliadwy o weithredu. Ymddengys eich bod yn beio'r gymuned amaethyddol am holl wendidau cymdeithas, ac mae'n rhaid rhoi’r gorau i hynny. Efallai fod ffermwyr yn broblem i chi; rwy’n ystyried ffermwyr yn rhan fawr o'r ateb. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, os ydym am fynd i'r afael â'r broblem hon yn llwyddiannus, mae arnom angen i bawb weithio gyda'i gilydd a thynnu i'r un cyfeiriad? Ac a fyddech hefyd yn cytuno â mi fod y llanast hwn yn cynrychioli dirywiad anadferadwy yn y berthynas rhwng eich Llywodraeth a'r sector, a'r unig ffordd y gellir unioni hynny bellach yw drwy gael Llywodraeth wahanol ym mis Mai?

Ddim o gwbl. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o ddau undeb ffermwyr ers yr wythnos diwethaf, felly gallaf roi sicrwydd i chi nad yw hynny wedi digwydd o gwbl. Rwy'n credu y dylai pob Aelod o'r Senedd hon sefyll gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r broblem sylweddol hon, ni waeth pa sector neu ddiwydiant sydd dan sylw. Rwyf wedi gwneud popeth y gallaf ei wneud i gefnogi'r sector amaethyddol, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae ein ffermwyr wedi'i wneud mewn perthynas â bwydo'r genedl yn ystod y pandemig, er enghraifft, ond nid wyf yn gwybod pam y byddech chi ac Aelodau eraill eich plaid ac Aelodau eraill y Senedd hon yn esgusodi nifer mor uchel o achosion o lygredd amaethyddol. Nid wyf yn deall pam eich bod, ar y naill law, yn rhygnu ymlaen am eich cymwysterau gwyrdd, ac ar y llaw arall, yn esgusodi’r lefelau hyn o lygredd amaethyddol.

Y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r confensiwn ar amrywiaeth fiolegol? OQ56228

Diolch. Mae'r cynllun gweithredu adfer natur yn nodi ein camau allweddol i gefnogi’r gwaith o gyflawni targedau o dan y confensiwn ar amrywiaeth fiolegol. Mae'r rhain yn cynnwys buddsoddi yn y gwaith o adfer mawndiroedd a safleoedd gwarchodedig, creu fforest genedlaethol a rheoliadau llygredd amaethyddol i fynd i'r afael ag un o’r ffactorau allweddol sy’n achosi dirywiad bioamrywiaeth.

Diolch, Weinidog. Fel yr hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer corryn rafft y ffen, rwy'n ymwybodol iawn fod dirywiad syfrdanol wedi bod yng nghadernid yr ecosystem yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth, ond mae hon yn broblem gynyddol ledled y byd, ac mae angen gosod targedau cyfreithiol rwymol. Bydd y gynhadledd ar y confensiwn ar amrywiaeth fiolegol yn cael ei chynnal yn Kunming yn Tsieina yn nes ymlaen eleni. Y gobaith yw y bydd y gynhadledd hon yn cael yr un effaith ar fioamrywiaeth ag y cafodd uwchgynhadledd Paris ar y newid yn yr hinsawdd. Felly, Weinidog, pa rôl y bydd Cymru yn ei chwarae yn yr uwchgynhadledd honno, ac a fyddwch yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wthio am dargedau rhwymol a'u mabwysiadu’n gyfreithiol i hybu adferiad natur?

Ydy, mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig—oherwydd yn amlwg, Llywodraeth y DU yw'r aelod-wladwriaeth; hwy sy’n cynrychioli’r DU yn y confensiwn—i ddylanwadu ar y trafodaethau ynghylch unrhyw fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ar ôl 2020. Felly, ar sail debyg i'r ffordd rydym yn gweithio—a bydd COP26 yn gweithio mewn ffordd debyg. Fel y dywedoch chi, fe'i cynhelir yn Tsieina ym mis Mai. Gohiriwyd hynny ers—rwy’n credu—hydref y llynedd. Felly, mae'r gwaith hwn eisoes wedi dechrau, ac yn sicr, byddwn yn chwarae rhan, yn union fel y gwnawn ym mhroses COP26 hefyd.

Prynhawn da, Weinidog. Fel hyrwyddwr y Senedd ar ran misglen berlog yr afon—gwn fod Aelodau eraill yn hyrwyddwyr ar ran eu gwahanol rywogaethau eu hunain hefyd—mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y cwestiwn hwn gan Caroline Jones, ac yng nghynllun strategol y confensiwn ar gyfer amrywiaeth, a oedd yn weithredol o 2011 tan y llynedd. Mae rhywogaethau fel misglen berlog yr afon yn arbennig o agored i lygredd dŵr, ac mae eu presenoldeb parhaus yn afon Gwy yn fy etholaeth yn dibynnu ar gadw’r lefel isaf bosibl o lygredd. A yw Llywodraeth Cymru wedi archwilio effaith gwaith y confensiwn, yn enwedig mewn perthynas â safonau dŵr, a sut y credwch y gallwn ddysgu o'r hyn sy'n cael ei drafod y tu hwnt i Gymru a'r DU, ac a ydych wedi ystyried unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol i wella ansawdd dŵr?

13:55

Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dysgu oddi wrth ein gilydd, ac yn sicr, fel rhan o broses COP15, bydd hynny’n digwydd. Rydym yn chwarae rhan bwysig iawn fel Llywodraeth is-genedlaethol yn y broses honno ac yn y gwaith o weithredu a phrif ffrydio bioamrywiaeth. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod hefyd wedi llofnodi datganiad Caeredin, a oedd yn galw ar y confensiwn ar amrywiaeth fiolegol i ddechrau cymryd camau beiddgar i atal colli bioamrywiaeth. Gwyddom, wrth gwrs, fod gennym argyfwng hinsawdd, ond credaf fod gennym argyfwng bioamrywiaeth hefyd. Rwyf hefyd wedi cefnogi addewid yr arweinwyr, ac rydym yn gweithio drwy Grŵp Bioamrywiaeth y Pedair Gwlad i ddylanwadu ar y fframwaith ôl-2020 y cyfeiriais ato yn fy ateb cynharach i Caroline Jones, fel y gallwn fynd ati i lunio gofynion adrodd a monitro yn y dyfodol, yn ogystal â rhannu'r arfer gorau sydd gan bob un ohonom ar weithredu, ond wrth gwrs, gall pob un ohonom ddysgu oddi wrth ein gilydd.

Weinidog, mae'n dda gweld cymaint o Aelodau o’r Senedd yn gweithio fel hyrwyddwyr rhywogaethau ac yn gweithio gyda grwpiau bywyd gwyllt. Rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer llygoden y dŵr, ac rwy'n falch o ddweud ei bod yn ffynnu ar wastadeddau Gwent, ac mae gwastadeddau Gwent eu hunain yn ein helpu i gyflawni bioamrywiaeth. Fel y gwyddoch, Weinidog, rwy'n cadeirio gweithgor ar wastadeddau Gwent i edrych ar sut y gallwn wella a diogelu'r ardal honno’n well, ac mae'r bartneriaeth gwastadeddau byw wedi gwneud gwaith da iawn gyda chymunedau i sicrhau bod yr holl faterion lleol sy'n codi yn cael sylw. A fyddech yn cytuno â mi, os ydym am weld y math o fioamrywiaeth rydym yn dymuno’i gweld yng Nghymru, fod angen inni sicrhau bod ardaloedd fel gwastadeddau Gwent yn cael eu diogelu'n well yn y dyfodol?

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, a chredaf fod pob un ohonom yn cydnabod ein bod ar ryw fath o drobwynt, felly credaf fod angen inni fod yn wahanol, onid oes, wrth gefnu ar y pandemig COVID-19. Rydym yn sôn am adferiad gwyrdd neu adferiad glas, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod—mae’r hyn rydych newydd gyfeirio ato ynglŷn â gwell diogelwch yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei wneud. Credaf fod angen inni ymgysylltu i raddau mwy â'r gymdeithas gyfan mewn perthynas â hyn hefyd, gan gydnabod yr argyfwng bioamrywiaeth, a chredaf fod angen inni ddefnyddio ystod ehangach o adnoddau, os mynnwch, yn y dyfodol, fel y gallwn gyflawni ein nodau a'n hamcanion hinsawdd, yn ogystal â’n nodau a'n hamcanion bioamrywiaeth.

Yr Economi Wledig

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r economi wledig yn ystod y pandemig? OQ56234

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod o gamau ar waith i gefnogi’r economi gyfan, ynghyd â sicrhau bod cyllid penodol ar gael ar gyfer yr economi wledig. Yn ddiweddar, rwyf wedi diogelu'r gyllideb ar gyfer ffermwyr yn 2021, ac rwyf hefyd wedi cyhoeddi ystod o gynlluniau drwy'r rhaglen datblygu gwledig sy'n werth cyfanswm o £106 miliwn.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Un o'r diwydiannau gwledig sy'n cael eu diogelu ar hyn o bryd drwy gael caniatâd i barhau yw ffermio cŵn bach masnachol, er bod y cyhoedd yn dymuno gwahardd gwerthiannau cŵn bach gan drydydd partïon. Rydych wedi dweud sawl gwaith y byddai deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i wahardd gwerthiannau cŵn bach gan drydydd partïon cyn diwedd tymor y Senedd hon, ond nid ydych wedi rhoi ateb clir ynglŷn â pha bryd. Mae amser yn brin, Weinidog. Fel y gwyddoch, oni bai fod eich gwaharddiad arfaethedig yn cael Cydsyniad Brenhinol cyn etholiad nesaf Senedd Cymru, ni fyddai unrhyw Fil a wnaed gennych i wahardd gwerthiannau cŵn bach a gwerthiannau cathod bach yn werth y papur y byddai wedi’i ysgrifennu arno. Yn y lle hwn, yr amser cyfartalog rhwng gosod Bil a’r Bil hwnnw’n dod yn gyfraith yw naw mis, felly hyd yn oed pe bai'r Bil yn cael ei osod heddiw, nid oes naw mis gennym cyn i'r Senedd hon gael ei diddymu. Felly, Weinidog, mae gennyf gwestiwn clir y dylai fod yn hawdd rhoi ateb clir iddo: a ydych yn siŵr, fel rydych wedi addo sawl gwaith, y bydd gwerthiannau cŵn bach gan drydydd partïon yn cael eu gwahardd ac yn gosbadwy erbyn diwedd y tymor hwn?

Felly, fel y dywed yr Aelod, rwyf wedi rhoi sicrwydd iddi hi ac i Aelodau eraill y bydd hyn yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y tymor. Fy nealltwriaeth i yw y bydd dadl yn y Senedd y mis nesaf, a’r dyddiad ar gyfer rhoi rheoliadau mewn grym yw mis Medi eleni.

Storm Christoph

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith storm Christoph ym Mancot, Sandycroft a chymunedau cyfagos? OQ56207

Diolch. Yn anffodus, mae cartrefi wedi cael eu heffeithio gan lifogydd o ganlyniad i storm Christoph ledled Sir y Fflint, gydag ymchwiliadau cynnar yn nodi bod pedwar eiddo yn Sandycroft wedi cael eu heffeithio. Bydd cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yn cyfarfod eto yr wythnos hon i ddeall yr achosion a thrafod a ellir gwneud gwelliannau ar y cyd.

14:00

Weinidog, diolch am eich ateb. Nawr, cysylltodd preswylwyr mewn gofid mawr â mi yn ddiweddar i ofyn imi ddod i weld effaith y llifogydd diweddar a beth y mae hynny wedi'i wneud i'w bywydau bob dydd yn Sandycroft, Mancot a'r ardaloedd cyfagos. Nawr, ymwelais â phob ewyllys da fel eu cynrychiolydd etholedig, ac roedd yn amlwg i mi mai hynny oedd y peth lleiaf y gallwn ei wneud. Dyma'r eildro i lifogydd daro'r ardal yn y 18 mis diwethaf. Mae'n amlwg fod angen sylw a buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint, CNC a Dŵr Cymru. Nawr, a wnaiff eich swyddogion—rydych wedi dweud y byddant yn cyfarfod eto, ond a wnaiff eich swyddogion gynorthwyo i drefnu cyfarfod gyda mi a'r preswylwyr a'r rhanddeiliaid hynny i ganfod pa dechnegau atal llifogydd y gellir eu cyflwyno? Ac yn olaf, Weinidog, gan y credaf fod angen ateb hirdymor, tra bo’r preswylwyr yn aros am yr ateb hirdymor hwnnw, a fyddwch yn gallu ariannu pwmp a fyddai'n rhoi tawelwch meddwl dros dro i’r preswylwyr fel mater o frys?

Felly, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb cynharach i Darren Millar fod cyllid ar gael. Rydym eisoes wedi darparu cryn dipyn o gyllid—dros £350 miliwn—i’n cynlluniau llifogydd dros dymor y Llywodraeth hon, ac mae cyllid pellach ar gael. Yr hyn sy'n bwysig yw bod gennych y mesurau cywir ar waith. Felly, yn amlwg, ni waeth beth a ddaw o'r ymchwiliad i’r rhesymau pam y bu llifogydd yn y cartrefi, ac rwy'n siŵr fod eich etholwyr wedi croesawu a gwerthfawrogi eich ymweliad, gallwn fwrw ymlaen wedyn i weld a oes angen cynllun—a oes angen cynllun gwahanol.

Rydym hefyd wedi darparu cyllid fel y gall cartrefi unigol gael mesurau gwrthsefyll llifogydd, felly, pethau fel gatiau llifogydd. Unwaith eto, mae'r cyllid wedi mynd gan Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol i awdurdodau lleol, gan y credaf fod hynny'n bwysig, fod y mesurau cywir yn cael eu rhoi ar waith. Felly, pe baech yn rhoi'r cyllid yn uniongyrchol i breswylwyr, efallai y byddent yn prynu rhywbeth nad yw’n mynd i ddarparu diogelwch pellach i'w cartref mewn gwirionedd.

Yn sicr, byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â chi. Cyfarfûm yn ddiweddar â fy nghyd-Aelodau, Mick Antoniw a Jane Hutt, sydd ill dau, yn anffodus, wedi cael llifogydd yn eu hetholaethau, a daethom â'r holl bartneriaid ynghyd—nid o reidrwydd gyda'r preswylwyr, ond gyda'r partneriaid, i gael y trafodaethau cychwynnol hynny. Ac efallai y byddai'n werth gwneud hynny gyda mi a fy swyddogion a'r awdurdod lleol ac CNC a Dŵr Cymru i gael golwg ar rai o ganfyddiadau cychwynnol yr ymchwiliadau a chael sgwrs bellach gyda thrigolion yn nes ymlaen efallai.

Lansiodd pobl yn Sandycroft, Mancot a Pentre ddeiseb ar ôl i storm Christoph achosi llifogydd difrifol a wnaeth ddifetha eu cartrefi am yr eildro mewn 18 mis, gan achosi poen a difrod. Mae'r ddeiseb yn nodi

[nad] yw’r systemau draenio a’r ffosydd yn cael eu cynnal a'u cadw'n ddigon da ac nid ydynt yn addas at y diben, ac oherwydd hyn, mae pobl yn dioddef canlyniadau trychinebus a llifogydd yn eu cartrefi. Mae angen i Gyngor Sir y Fflint gymryd camau ar unwaith

i fynd i'r afael â hyn.

Cysylltwyd â mi hefyd ar ôl i eiddo ym Mrychdyn gael eu heffeithio’n wael, gyda phobl yn gofyn a fyddai’r llifogydd wedi bod yn llai pe bai’r ffos gyferbyn â’u heiddo wedi cael ei lledu neu ei dyfnhau gan y cyngor. Hefyd, caeodd llifogydd y ffyrdd rhwng Ffynnongroyw a Thalacre, Ffordd Llanfynydd rhwng Treuddyn a Llanfynydd, a ffordd yr A541 rhwng Wrecsam a’r Wyddgrug ym Mhontblyddyn. Pa waith ymgysylltu ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, felly, gyda chyngor Sir y Fflint i gytuno ar achosion y llifogydd hyn ledled y sir, sy’n achosion y gellir eu hosgoi, a sicrhau bod mesurau ataliol, a chosteffeithiol felly, yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y dyfodol?

Rwy’n cytuno’n llwyr, os yw eich cartref yn dioddef llifogydd, fod hynny’n dorcalonnus ac yn drawmatig iawn, ac rydym am wneud popeth y gallwn ei wneud i ddiogelu cymaint o gartrefi â phosibl. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb cynharach i Jack Sargeant fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £360 miliwn i'n cynlluniau rheoli llifogydd dros dymor y Llywodraeth hon. Felly, mae'r arian yno, mae'r cyllid yno; mae pob awdurdod lleol yn gwybod y gallant wneud cais amdano. Rydym yn dymuno cael llif o gynlluniau amddiffyn rhag llifogydd. Nid wyf am i'r arian eistedd yno heb gael ei wario, felly rydym wedi annog pob awdurdod lleol i wneud ceisiadau. Felly, ceir ymgysylltu ehangach â phob awdurdod lleol yng Nghymru mewn perthynas â hynny.

Mewn ymateb i'ch pryderon penodol ynghylch—. Nid oes angen deiseb ar y preswylwyr; mae'r cyllid yno. Yr awdurdod lleol sydd i nodi beth sydd ei angen yn eu barn hwy. Mae fy swyddogion yn awyddus iawn i weithio gyda'r holl awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod gennym y llif hwnnw o gynlluniau i wario'r cyllid sylweddol hwnnw arnynt. Hyd yn hyn, yn ôl y gwaith ymgysylltu rydym wedi'i wneud â Chyngor Sir y Fflint, effeithiwyd ar 37 eiddo yn fewnol gan lifogydd yn sgil storm Christoph. Felly, rwy'n sylweddoli nad ardal Sandycroft yn unig a ddioddefodd, ac wrth inni gael mwy o wybodaeth o'r ymchwiliadau, gallem weld bod cynnydd wedi bod yn y niferoedd yn anffodus. Rwy'n deall, yn amlwg, fod Sandycroft a Pentre wedi cael digwyddiad tebyg y llynedd, ac wrth gwrs, mae hynny bob amser yn cynyddu tensiynau, ac rwy'n deall yn iawn eu bod yn galw am gamau gweithredu, ac maent yn iawn i wneud hynny. Ond hoffwn roi sicrwydd i etholwyr Jack Sargeant ein bod ni yma i helpu, ac mae'n bwysig iawn fod cyngor Sir y Fflint yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i gynnig atebion.

14:05
Y Sector Bwyd Môr

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar y sector bwyd môr yng Nghymru? OQ56223

Diolch. Mae'r sector bwyd môr yn dioddef effaith niweidiol ac uniongyrchol ers gadael yr Undeb Ewropeaidd, gyda phroblemau allforio'n effeithio ar y gadwyn gyflenwi gyfan. Rwy'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatrys y materion hyn a digolledu'r diwydiant cyfan yn briodol. Yn ogystal, mae'n hanfodol fod pysgotwyr Cymru yn derbyn eu cyfran deg o'r cwota ychwanegol bach a ddarperir gan y cytundeb masnach a chydweithredu.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r sector bwyd môr yn rhan bwysig o economi Cymru, gan ei fod yn cyflogi llawer o bobl ac yn cyfrannu'n sylweddol at ein hallforion. Fe’i gwnaed yn glir iawn gan y diwydiant, cyn diwedd y cyfnod pontio, fod diffyg paratoi wedi bod ac y byddai'r diwydiant yn dioddef pe na bai'r paratoadau hynny'n cael eu gwneud, a gwnaethant gefnogi, a galw hefyd rwy'n meddwl, am ymestyn y cyfnod pontio i sicrhau nad oedd y sector hwnnw'n cael ei effeithio yn y ffordd honno. Gwelwyd esgeulustod dybryd gan Lywodraeth y DU yn hyn, ac mae bellach yn taro ein sector yn galed mewn dau faes, yn ôl pob golwg, Weinidog: (1) yw allforio yn gyffredinol, ond yr ail yw allforio mewn perthynas â chynnyrch sydd ar gael i'w fwyta a’i yfed, a'r broblem mewn perthynas â hynny. A gaf fi ofyn yn benodol pa gysylltiadau sydd gennych gyda diwydiant bwyd môr Cymru? Pa ymdrechion a wneir ar y cyd i geisio sicrhau bod Llywodraeth y DU nid yn unig yn datrys y broblem benodol hon, ond hefyd, fel y dywedwch, i wneud yn siŵr fod diwydiant bwyd môr Cymru yn cael ei ddigolledu'n iawn am fethiant Llywodraeth y DU?

Diolch, a chredaf ei bod yn deg dweud bod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn bendant wedi cymryd cam gwag mewn perthynas â'r sector molysgiaid dwygragennog byw. Rwyf wedi bod yn pwyso ar George Eustice, Ysgrifennydd Gwladol DEFRA, i ddigolledu'r sector cyfan. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r pysgotwyr a'r sector bwyd môr. Cyfarfûm ddiwethaf—. Credaf fy mod wedi cyfarfod â hwy dair gwaith eleni; cyfarfûm â hwy ddiwethaf ddydd Llun fel rhan o'r cyfarfod bord gron, ac maent wedi bod o gymorth hefyd yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth, Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid imi ddweud ein bod wedi gweithio'n dda iawn gyda Llywodraeth y DU a fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon fel rhan o grŵp rhyngweinidogol DEFRA i gyflwyno cynllun cymorth.

Fe fyddwch yn ymwybodol, ar ddechrau'r pandemig COVID-19, fod gennym gynllun penodol i gefnogi'r pysgotwyr, a'r hyn roeddem yn dymuno ei wneud—wel, yr hyn roedd pob un ohonom yn dymuno ei wneud—oedd cyflwyno cynllun ar gyfer y DU gyfan, math o gynllun cymorth ar gyfer y gaeaf, mewn perthynas â COVID a chyfnod pontio'r UE, ac roedd swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar hynny ychydig cyn y Nadolig. Roeddem yn paratoi achos busnes i’w gyflwyno i'r Trysorlys ac yna, yn sydyn, cyhoeddodd DEFRA gynllun gwerth £23 miliwn, sy’n digolledu'r allforwyr yn y bôn. Wel, credaf fod angen digolledu'r pysgotwyr, y sector dyframaethu a'r proseswyr hefyd, ond yn anffodus, ymddengys bod hynny wedi'i wthio naill ochr. Rwyf wedi ysgrifennu eto y bore yma a dweud y gwir at yr Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â’r molysgiaid dwygragennog byw, oherwydd, fel y dywedaf, rwy'n credu eu bod wedi cymryd cam gwag yn hyn o beth.

Nid wyf wedi gweld manylion y cynllun a gyflwynwyd. Fel y dywedais, gwnaed hyn yn unochrog. Felly, rwyf fi a fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, rwy'n credu, yn dal i wthio i weld a allwn sicrhau'r cynllun cymorth hwnnw gan y DU ar gyfer y sector, yn hytrach na'r un hwn yn unig a fydd yn digolledu'r allforwyr. Fel y dywedwch, mae'n sector pwysig iawn i Gymru, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod cryn alw am ein bwyd môr, yn enwedig yn Ewrop, mewn bwytai Sbaenaidd ac ati, ac mae angen iddo gyrraedd yn ffres. Unwaith eto—rwy'n siŵr y byddwch wedi clywed—rydym wedi cael straeon am y bwyd yn gorwedd mewn porthladdoedd ac yn wynebu oedi cyn cyrraedd Sbaen, er enghraifft. Felly, mae'n destun cryn bryder.

14:10

Yn y dyfroedd o amgylch Ynys Môn ac afon Menai, rydym yn cynhyrchu cregyn gleision ac wystrys o'r ansawdd uchaf. Mae pob un o'n cregyn gleision, bron â bod—y rhan fwyaf o gryn dipyn—yn cael eu hallforio i'r Undeb Ewropeaidd. Bûm yn siarad ag un o gynrychiolwyr y diwydiant cregyn gleision heddiw. Rydym yn gweld cryn bryder yn awr ynghylch effaith y methiant i baratoi’n briodol ar gyfer ymadael â’r UE, ac mae angen gwneud popeth posibl i sicrhau y gwneir yr amodau mor fanteisiol â phosibl i’n pysgotwyr fel y gallant weld dyfodol mwy disglair. Felly, a allai'r Gweinidog, fel un ymateb, gadarnhau a fydd yn gofyn i'r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru ymrwymo i adolygu ei dull o ddosbarthu dyfroedd pysgod cregyn, er mwyn sicrhau bod hynny’n cyd-fynd yn well â'r hyn a wneir gan Food Standards Scotland, a fyddai’n ddechrau, o leiaf?

Wel, clywsoch fy ateb i Mick Antoniw pan amlinellais y camau rwyf wedi'u rhoi ar waith. Yn sicr, byddaf yn edrych ar unrhyw beth y gallaf ei wneud i fod o gymorth. Cyfarfûm â’r sector bwyd môr, fel y dywedais, ddydd Llun yr wythnos hon, ac yn amlwg, mae goblygiadau difrifol i’r diwydiant cregyn gleision a’r diwydiant cocos. Hoffwn weithio tuag at ateb cyn gynted â phosibl, felly byddaf yn parhau i wneud popeth y gallaf. Rwy'n fwy na pharod i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd ac i weld a fyddai'r mesurau a amlinellwyd ganddo o gymorth.

Credaf fod llawer o'r problemau hyn—. Rydym wedi bod yn rhybuddio Llywodraeth y DU ers pedair blynedd—pum mlynedd, bron—y byddai'r diffyg paratoi hwn yn cael yr effaith fawr hon, ac nid yw'n bleser dweud, 'Fe ddywedom ni hyn wrthych chi'. Roeddem yn gwybod mai'r sector bwyd môr a fyddai'n cael ei effeithio gyflymaf, os mynnwch, oherwydd y tarfu rydym wedi'i weld. Hefyd, er inni gael cytundeb tenau, a gafodd ei groesawu gan bob un ohonom, rwy’n credu, ar Noswyl Nadolig, yn hytrach na dim cytundeb, roeddwn yn meddwl y byddai'n rhywbeth i adeiladu arno, ond nid yw'n ymddangos bod hynny'n digwydd mewn perthynas â'r sector bwyd môr. Felly, fel y dywedaf, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol eto y bore yma. Cyfarfûm ag ef ddwywaith, rwy'n credu, yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r mater hwn. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod pellach, oherwydd yn amlwg, mae mater y molysgiaid dwygragennog byw yn ddifrifol iawn, ac yn tyfu'n fwy difrifol bob dydd.

Niferoedd Pryfed

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu niferoedd pryfed yng Nghymru? OQ56219

Diolch. Mae mynd i'r afael ag achosion dirywiad pryfed yn ganolog i'n polisïau ar gyfer cynyddu bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno'r rheoliadau llygredd amaethyddol a'r Papur Gwyn ar Fil aer glân. Mae'r ddau’n fesurau hanfodol a fydd yn sicrhau manteision i bryfed. Mae'r cynllun gweithredu ar gyfer pryfed peillio’n nodi blaenoriaethau pellach ar gyfer cynyddu nifer y pryfed peillio.

Diolch, Weinidog, ond cefais fy nychryn wrth weld tro pedol diweddar Llywodraeth y DU ar ganiatáu i rai ffermwyr ddefnyddio plaladdwyr neonicotinoid, plaladdwr hynod niweidiol, ar gnydau betys siwgr. Yn 2018, gwrthododd Llywodraeth y DU gais tebyg i ddefnyddio plaladdwyr neonicotinoid a gwnaethant gefnogi cyfyngiadau ar y plaladdwyr hyn ledled yr Undeb Ewropeaidd, ac ar y pryd, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'r cyfyngiadau hynny'n parhau i fod ar waith oni bai fod y dystiolaeth yn newid. Wel, nid yw wedi newid. Yr unig beth sydd wedi newid yw Brexit. Mewn gwirionedd, mae'r dystiolaeth sy'n dangos pa mor niweidiol yw'r plaladdwyr hyn wedi tyfu mewn tair blynedd. Maent yn achosi niwed nid yn unig i wenyn a'r pryfed eraill, ond i'r pridd, i flodau gwyllt ac i ecosystemau'r afonydd rydym wedi treulio peth amser yn sôn amdanynt eisoes heddiw. Felly, Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o'r tro pedol hwn, a pha sicrwydd y gallwch ei roi na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud tro pedol tebyg ar blaladdwyr niweidiol, yn enwedig o ystyried y gostyngiad trychinebus yn niferoedd pryfed dros y blynyddoedd diwethaf?

Diolch. Felly, nid yw'r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU yn cael unrhyw effaith yma yng Nghymru, felly ni chynhaliwyd asesiad o'r ffaith eu bod wedi gwneud hyn, ac ni wnaed unrhyw gais i'w defnyddio yng Nghymru, felly nid oes angen unrhyw benderfyniad gennyf fi. Ond na, yn sicr, ni fyddwn yn dymuno gwneud hynny, ond fel y dywedaf, nid yw effaith penderfyniad Lloegr yn cael unrhyw effaith yma yng Nghymru. Fel y dywedwch, fe wnaethant gefnogi rheolau newydd yr UE yn ôl yn 2017, a oedd yn gwahardd y defnydd o dri phlaladdwr neonicotinoid yn yr awyr agored, a gwnaethom gefnogi safbwynt y DU yn llwyr oherwydd yr effaith ar wenyn a phryfed peillio. Felly, nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i newid hynny o gwbl.

14:15
Plaladdwyr Neonicotinoid

8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o benderfyniad Llywodraeth y DU i awdurdodi defnyddio plaladdwyr neonicotinoid? OQ56215

Nid yw'r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU yn cael unrhyw effaith yng Nghymru, felly ni wnaed unrhyw asesiad.

Diolch, Weinidog. Gwrandewais ar yr ateb blaenorol, yn amlwg, ond ychydig iawn os unrhyw beth o gwbl y mae ffiniau cenedlaethol yn ei olygu, byddwn yn dadlau, mewn perthynas â’n pryfed peillio annwyl, fy ngwenyn bach. Felly, a allwch chi ymrwymo i wahardd y defnydd o blaladdwyr neonicotinoid yng Nghymru cyhyd ag y bo modd—am byth, byddwn yn dadlau? A pha mor bryderus ydych chi ynglŷn â’r newid hwn i'r rheoliadau amgylcheddol gan Lywodraeth y DU mor fuan ar ôl gadael yr UE? Ai dim ond y cyntaf yw hwn o lawer o newidiadau posibl i reoliadau amgylcheddol, a sut y gallwn amddiffyn Cymru rhag unrhyw newidiadau pellach yn y mater hwn? Diolch.

Diolch. Gallech ddweud ei fod yn dipyn o gyd-ddigwyddiad, ond ni chredaf fod unrhyw gyd-ddigwyddiadau mewn gwleidyddiaeth. Felly, credaf ei fod yn rhywbeth y bydd angen i ni ei wylio'n agos iawn a fy mlaenoriaeth, fel bob amser, yw parhau i leihau, i'r lefel isaf sy'n bosibl, effaith y defnydd o blaladdwyr ar bobl, ar fywyd gwyllt, ar blanhigion, ac wrth gwrs, ar yr amgylchedd.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Bennett.

Gwasanaethau Cyhoeddus Lleol yng Nghanol De Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yng Nghanol De Cymru? OQ56226

Ie, rwy’n parhau i weithio’n agos gyda llywodraeth leol, gan gynnwys yn rhanbarth Canol De Cymru, a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill ar y gwersi allweddol a ddysgwyd yn ystod ein hymateb i COVID-19 a fydd yn helpu ein hadferiad strategol yn fwy hirdymor, ac yn helpu i ddiffinio normal newydd y dyfodol.

Diolch. Roeddwn yn awyddus i godi mater cladin heddiw. Mae mwy na thair blynedd wedi bod bellach ers trasiedi Tŵr Grenfell, ac mae lesddeiliaid sy'n byw mewn blociau o fflatiau yng Nghymru—rhai ohonynt yng Nghaerdydd, rhai ohonynt mewn mannau eraill—mae'r lesddeiliaid hyn sy'n cael problemau gyda chladin yn dal i aros i glywed pa gymorth y byddant yn ei gael gan Lywodraeth Cymru. Gwyddom fod £32 miliwn wedi’i neilltuo yn y gyllideb, ond nid oes cyhoeddiad wedi bod o hyd am gronfa diogelwch adeiladau a fyddai o leiaf yn helpu i leddfu pryderon y lesddeiliaid. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â rhai ohonynt, ac rwyf hefyd wedi bod mewn cysylltiad â chi ynglŷn â'r mater hwn, Weinidog. Gwn eich bod wedi dweud y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud maes o law, i ddefnyddio eich ymadrodd chi, ond mae hynny'n amwys iawn ac nid yw'n gwneud llawer i leddfu pryderon y lesddeiliaid yr effeithir arnynt. A allwch roi rhywbeth ychydig yn fwy penodol i ni heddiw, Weinidog, ac a all eich Llywodraeth roi rhyw fath o ymrwymiad ariannol pendant tuag at y broblem enfawr hon?

Ie, rwy'n fwy na pharod i ateb cwestiwn ar gladin adeiladau, er ei bod yn anodd iawn gweld beth sydd a wnelo hynny â gwasanaethau cyhoeddus lleol yng Nghanol De Cymru, mae'n rhaid dweud. Mae problem cladin adeiladau yn ymwneud i raddau helaeth â blociau o fflatiau lesddaliadol neu flociau o fflatiau sy’n cynnwys tenantiaid yn y sector preifat ledled Cymru. Rydym yn gweithio ar gronfa diogelwch adeiladau i'n galluogi i adfer yr adeiladau a chaniatáu mynediad at y cyllid hwnnw heb golli ecwiti’r lesddeiliaid dan sylw. Mae'n broblem gymhleth iawn, sy’n rhannol wedi'i datganoli ac yn rhannol heb ei datganoli, a dyna sy’n achosi’r cymhlethdod. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag unigolion ar lefel y DU, ar lefel swyddogol ac fel arall, er mwyn ceisio deall sut yn union y gallwn fynd ati i ddatrys y broblem hon.

Yn anffodus, mae nifer fawr o'r dulliau yn nwylo Llywodraeth y DU, gan gynnwys, er enghraifft, ymestyn rhwymedigaethau contractiol y bobl a gododd yr adeiladau yn y lle cyntaf, a chynorthwyo â’r gwaith o ddarganfod ble y gellir canoli’r materion cyfreithiol cymhleth. Ceir cwestiynau hefyd ynglŷn â mynediad at gyllid cyfreithiol a mynediad at ystod gymhleth o faterion cyfreithiol eraill y mae angen inni weithio drwyddynt er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cyrraedd y bobl iawn.

Yn y cyfamser, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau tân ac achub ledled Cymru i sicrhau bod pobl mor ddiogel â phosibl, ac i sicrhau bod yr amrywiol awdurdodau'n cael eu rhybuddio. Mae gwaith sylweddol a chymhleth yn mynd rhagddo. Rwyf wedi cyfarfod ag ystod o ddatblygwyr ac ystod o breswylwyr y gwahanol flociau er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ac mae'n sicr yn waith parhaus.

14:20

Weinidog, mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Canol De Cymru yn dibynnu ar gyllidebau blynyddol sydd i'w gosod, ac ar hyn o bryd—. Ac rwy'n datgan buddiant, fel aelod o awdurdod lleol, awdurdod lleol Bro Morgannwg. Ar hyn o bryd, mae cynghorau ac awdurdodau’r heddlu yn gosod cyfraddau eu cyllidebau. Gosododd y comisiynydd heddlu a throseddu gyfradd ddangosol o gynnydd o 5.5 y cant, a gosododd Cyngor Bro Morgannwg gyfradd ddangosol o gynnydd o 3.9 y cant. O ystyried bod chwyddiant yn fach iawn ar hyn o bryd, a ydych yn cytuno â'r sylwadau a wnaed gan eich arweinydd yn Llundain, Keir Starmer, fod codiadau o'r fath yn hurt, neu a ydynt yn rhan synhwyrol o’r broses o osod y gyllideb sydd ei hangen ar wasanaethau cyhoeddus?

Ydw. Safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru yw mai'r ffordd orau o wneud penderfyniadau lleol yw yn lleol i’r bobl, felly nid ydym yn gosod cap. Gallem osod cap ar godiadau’r dreth gyngor, ond nid ydym yn gosod y cap hwnnw. Credwn y dylai cynghorwyr a etholir yn lleol, fel chi, fod mewn sefyllfa i wneud y penderfyniadau gorau am yr hyn sydd angen ei wneud mewn perthynas â gwasanaethau lleol. Fodd bynnag, rwy'n falch fy mod wedi darparu ar gyfer setliad llywodraeth leol dros dro, sy'n rhoi cynnydd cyffredinol o 3.8 y cant. Felly, mae pob awdurdod yng Nghymru yn cael cynnydd, a'r cyfartaledd yw 3.8 y cant. Rydym wedi diogelu cyllidebau cynghorau drwy ddarparu cyllid ar gyfer costau ychwanegol ac incwm a gollwyd yn y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys incwm cyffredinol a gollwyd, ac yn gweithio gyda hwy i ddeall beth yw'r sefyllfa o ran y dreth gyngor a chyllid annomestig, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans. Dyma'r ail setliad rhagorol imi allu ei wneud ar gyfer llywodraeth leol, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi gwneud hynny, ond wrth gwrs, mae'n amlwg nad yw'r setliadau hyn yn gwneud iawn yn llwyr am 10 mlynedd o gyni a orfodwyd gan y Torïaid, sy’n dal i'w deimlo drwy ein gwasanaethau ar hyn o bryd.

Weinidog, yr wythnos diwethaf, cychwynnodd cyngor Rhondda Cynon Taf ail gam ei ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllideb 2021-22, gyda thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill yn cael eu gwahodd i ddweud eu barn am y cynigion penodol a amlinellwyd. Mae hyn yn cynnwys: codiad arfaethedig o 2.65 y cant yn y dreth gyngor, sef y codiad lleiaf, fwy na thebyg, yng Nghymru y flwyddyn nesaf, a llai na'r 2.85 y cant a gynigiwyd ac yr ymgynghorwyd arno'n wreiddiol; £2.2 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y gyllideb ysgolion; £4.6 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd; dim toriadau i wasanaethau; ac adnoddau ychwanegol wedi'u targedu ar draws sawl maes gwasanaeth blaenoriaethol. Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod y cynigion hyn yn brawf o ddarpariaeth arfaethedig a chynllunio rhagorol mewn cyfnod heriol iawn, ac yn dangos sut y mae llywodraeth leol, gan weithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru, yn gallu cyflawni ar ran trigolion RhCT?

Ie, Vikki. Rwy'n falch iawn, wrth gwrs, o gadarnhau bod cynghorau yng Nghymru wedi bod yn gwneud rhagdybiaethau cynllunio rhagorol drwy gydol y cyfnod hwn. Rydym wedi cydweithio'n agos iawn ar draws y pleidiau eleni yng Nghymru wrth ymateb i'r pandemig. Rydym wedi cydweithio'n agos iawn fel teulu o awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu darparu, fel y dywedais mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, er mwyn diogelu cyllidebau cynghorau eleni drwy ddarparu'r cynnydd cyffredinol o 3.8 y cant. Mewn gwirionedd, mae RhCT, y sonioch amdano’n benodol, ar y cyfartaledd hwnnw, sef 3.8 y cant. Rydym wedi gallu darparu costau ychwanegol a chyllid i wneud iawn am incwm a gollwyd, ac ni fyddem yn disgwyl i gynghorau yn unrhyw le yng Nghymru orfod gwneud toriadau i wasanaethau na dibynnu'n fawr ar gronfeydd wrth gefn er mwyn gwneud iawn am yr effaith a gafodd y pandemig arnynt, gan fod Llywodraeth Cymru wedi talu am hynny ac rwy'n hynod falch o fod wedi gallu gwneud hynny. Fel y dywedais wrth ateb holwr blaenorol, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod atebolrwydd democrataidd lleol yn berthnasol yma, ac y dylai cynghorwyr lleol sy'n cynrychioli eu hardaloedd lleol wneud y penderfyniadau gorau ynglŷn â gwasanaethau lleol, gan gynnwys ar godiadau'r dreth gyngor. Ond fel y nodoch chi'n gwbl gywir, ni ddylai awdurdod sy'n cael ei redeg yn dda, ei gynllunio'n dda ac sy'n cael ei ariannu’n dda orfod gwneud codiadau gormodol yn y dreth gyngor yng ngoleuni'r setliad hael iawn rydym wedi'i argymell yn y setliad llywodraeth leol dros dro.

Staff Awdurdodau Lleol

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o lefelau staff awdurdodau lleol sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau allweddol ledled Cymru yn ystod y pandemig COVID-19? OQ56216

Mae staff awdurdodau lleol wedi ymateb yn wych i effaith y pandemig, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu gwaith caled a'u hymdrechion. Er mai mater i’r awdurdodau unigol yw staffio wrth gwrs, rwy'n cyfarfod ag arweinwyr yn rheolaidd iawn i ddeall yr effeithiau ledled Cymru, ac mae'r mesurau adrodd sydd ar waith drwy Ganolfan Cydgysylltu Argyfyngau Cymru yn galluogi adrodd ar faterion penodol a darparu cyd-gymorth.

Diolch am hynny, Weinidog, ac rwy'n adleisio eich sylw am lwyddiannau aruthrol staff awdurdodau lleol yn ystod y pandemig hwn. Ond yn amlwg, mae gennym broblemau nad ydynt yn rhai COVID hefyd, o natur gronig, ac rwy'n siarad nawr fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar olwg, yn amlwg rydym yn cydnabod bod gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae yn parhau i ddarparu gwasanaethau cymorth, ac un o'r rolau hynny yw'r swyddogion adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg—neu ROVIs, fel y'u gelwir. Nawr, mae'n arbennig o siomedig nodi bod nifer yr awdurdodau lleol sy'n bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer nifer y swyddogion adsefydlu yn y boblogaeth wedi disgyn o 12 i wyth allan o'r 22. Yn ein hardal ni yn Abertawe, Weinidog, dim ond 0.5 ROVI cyfwerth ag amser llawn sydd gan yr awdurdod lleol, lle dylai fod ganddynt o leiaf 3.5 cyfwerth ag amser llawn, sy'n golygu mai honno yw'r ardal awdurdod lleol sy'n perfformio waethaf yng Nghymru. Felly, yn dilyn hynny oll, pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl sy'n byw gyda nam ar eu golwg eich bod yn gweithio gyda'r Gweinidog iechyd i fynd i'r afael â'r diffyg cymorth cronig hwn?

14:25

Diolch, Dai Lloyd. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau iechyd, ac fel y dywedaf, gyda nifer o awdurdodau cyhoeddus eraill ledled Cymru i sicrhau nifer o bethau. Gwyddom fod awdurdodau lleol wedi gorfod adleoli staff o’u rolau rheng flaen arferol er mwyn mynd i’r afael â phroblemau’r pandemig, ac rydym yn gweithio’n ofalus iawn gyda hwy i sicrhau bod y rolau rheng flaen hynny yn ailgychwyn eu gwaith arferol yn fuan. Rydym wedi bod yn gwneud hynny drwy ganiatáu mynediad at staff asiantaeth ac oriau ychwanegol i staff, ac yn wir, at staff ychwanegol, drwy’r ymateb COVID, a dylai hynny alluogi awdurdodau lleol i roi eu gwasanaethau arferol yn ôl ar waith. Mae llawer o'r pethau rydych yn tynnu sylw atynt, wrth gwrs, yn benderfyniadau i'r awdurdodau lleol eu hunain; rydym yn darparu’r cyllid heb ei neilltuo ar eu cyfer er mwyn darparu’r gwasanaethau hynny. Ond os hoffech ysgrifennu ataf gyda'r manylion penodol iawn rydych newydd eu hamlinellu, rwy’n fwy na pharod i fynd i'r afael â'r mater fy hun gyda’r arweinwyr yn fy nghyfarfod nesaf â hwy.

Weinidog, fel y gwyddoch, mae nifer o wasanaethau a phrosiectau a ddarperir gan awdurdodau lleol sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae'r cyngor yn cyflogi'r staff, ond mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gweithgarwch, a gallai enghraifft o hynny fod yn rhywbeth fel gwasanaeth datblygu chwaraeon cymunedol. Mae rhai awdurdodau lleol yn dweud, yn ystod y pandemig pan nad yw rhai o'r gwasanaethau hyn mor hygyrch oherwydd y cyfyngiadau, y gallai rhai o'r staff gael eu defnyddio at ddibenion gwahanol mewn canolfannau profi torfol neu yn y canolfannau brechu neu ar wasanaethau olrhain, ond nid yw'r model cyllido rwyf newydd ei ddisgrifio yn caniatáu iddynt wneud hynny. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn ichi edrych i weld a oes rhywfaint o hyblygrwydd y gallech ei ddarparu i awdurdodau lleol i ddefnyddio rhai o'r staff hyn yn wahanol, wrth i’r angen godi dros gyfnod y pandemig hwn?

Diolch, Dawn. Rwy'n gyfarwydd iawn â chymhlethdodau rhai o'r ffrydiau grant sy'n cyflogi staff yn uniongyrchol mewn ardaloedd awdurdodau lleol. Ar ddechrau'r pandemig, felly flwyddyn gyfan yn ôl bellach—er ei bod yn teimlo’n fyrrach ac yn hirach i lawer ohonom—cynghorwyd yr holl dimau grantiau fod angen iddynt gynnig hyblygrwydd lle bo modd, er enghraifft, drwy ymestyn dyddiadau cau ar gyfer cyflawni canlyniadau, neu'n wir i ganiatáu 'morffio'—credaf mai dyna’r ymadrodd—ffrydiau grant amrywiol i ganiatáu'r hyblygrwydd mwyaf. Fodd bynnag, nid oes cytundeb cyffredinol i ddosbarthu'r cyllid hwnnw gyda hyblygrwydd llwyr, oherwydd weithiau, daw'r cyllid o rywle gwahanol i Lywodraeth Cymru gydag amlenni cyllido ynghlwm wrtho. Felly, rydym wedi darparu cymaint o hyblygrwydd â phosibl drwy’r ffrydiau grant y mae gennym reolaeth gyfan gwbl drostynt, ac yna rydym wedi ystwytho ffiniau'r lleill lle bu modd gwneud hynny.

Ond os ydych am imi edrych ar achos penodol iawn, rwy'n fwy na pharod i fynd i'r afael ag ef. Mae'n anodd iawn rhoi ateb cyffredinol, gan fod set wahanol o baramedrau a rheolaethau y mae angen edrych arnynt ym mhob ffrwd grant. Ond yn gyffredinol, lle bo modd, rydym wedi ystwytho'r grantiau fel y gall awdurdodau wneud yn union fel rydych newydd ei ddweud, ac mae'n ymarfer da, wrth gwrs, sef bod modd defnyddio staff yn yr ymateb rheng flaen i'r pandemig wrth i wasanaethau arferol orfod cau neu ddod yn llawer mwy cyfyngedig. A gwn fod hynny wedi bod yn digwydd ar draws awdurdodau lleol hefyd. Felly, rwy'n fwy na pharod i ymchwilio i'r manylion penodol ar eich rhan, ond fel y dywedaf, yn gyffredinol, rydym wedi rhoi cymaint o hyblygrwydd ag y gallwn i mewn i'r system.

14:30

Weinidog, ar ddechrau'r pandemig, cynigiodd lawer o bobl wirfoddoli, naill ai yn y gymuned neu fel staff y GIG ar gyfer dyletswyddau clinigol. Clywaf gan lawer o etholwyr na chafodd eu hymholiadau eu hateb hyd yn oed, ac mae'r fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth ddychwelyd i weithlu'r GIG yn fater a gofnodwyd yn gyhoeddus. Pa wersi sydd wedi'u dysgu gan awdurdodau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf i harneisio ewyllys da trigolion yn well a sicrhau bod eu diddordeb mewn helpu eu cymunedau yn cael ei gofrestru'n effeithiol rhag ofn y bydd unrhyw argyfyngau eraill yn codi?

Rydym yn gweithio'n agos iawn yn wir, ac rwyf wedi gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Jane Hutt ar hyn, i harneisio trefniadau cyngor y gwasanaethau gwirfoddol ledled Cymru. Ac rydym wedi cyfeirio nifer fawr o bobl drwy gyngor y gwasanaethau gwirfoddol fel y mae pob ardal wedi'i sefydlu er mwyn gwella hynny. Ac mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi defnyddio gwirfoddolwyr i wneud pethau fel trefnu gwasanaethau o'u canolfannau cymunedol—felly, siopa, casglu presgripsiynau ac amryw o bethau eraill. Er enghraifft, pan oedd y cynllun bocs bwyd ar waith ar ddechrau'r pandemig, defnyddiwyd nifer fawr o wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda dosbarthu'r blychau bwyd, ac mae nifer o bobl wedi helpu gyda'u hybiau cymunedol.

Rwy'n siomedig o glywed bod rhai pobl wedi cael profiad gwael o gael eu harneisio yn y ffordd honno, ac os oes gennych fanylion rydych eisiau imi gael golwg arnynt, rwy'n hapus iawn i edrych ar y gwersi a ddysgwyd. Ond rwyf hefyd yn hapus iawn i ddweud ein bod, gyda fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, wedi gallu cynnull miloedd ar filoedd o bobl ledled Cymru i gynorthwyo gyda'r ymdrech. Hefyd, mae llawer iawn o gynghorau cymuned wedi chwarae rhan dda yma. Mae cynghorau cymuned wedi trefnu timau gwirfoddol lleol iawn i wneud pethau fel sicrhau nad yw pobl wedi’u hynysu gartref, a'u bod yn cael rhywfaint o gwmni, hyd yn oed os mai dros ffens yr ardd neu o'r ffordd y mae hynny'n digwydd. Rydym yn falch iawn o'r ffordd y mae Cymru wedi cyd-dynnu i gynorthwyo pobl a allai fod wedi'u hynysu fel arall. Ond os oes gennych achosion penodol rydych yn pryderu amdanynt, byddai'n dda iawn gennyf wybod manylion y rheini.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Prynhawn da, Weinidog. Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal fforymau busnes rheolaidd, sy'n amlwg yn ffordd wych o helpu i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf, lle i rannu pryderon a syniadau. Mynychais yr un diwethaf, a'r pryder mwyaf a nodwyd yn hwnnw, gan fusnesau, oedd bod llawer o fusnesau'n dal i ddisgyn drwy'r bylchau o ran gallu cael gafael ar grantiau a chyllid. A ydych yn cytuno ei bod yn bryd i awdurdodau lleol gael cronfa o arian i'w dosbarthu'n gyfan gwbl yn ôl eu disgresiwn eu hunain i'r mathau hyn o fusnesau, sy'n ymddiried yn eu gwybodaeth leol am y busnesau hynny ac yn gwybod beth sydd orau? Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn groesawu Laura Anne i'w rôl—mae'n braf eich gweld yn y rôl, Laura. Rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf i ni gael sesiwn gwestiynau gyda'n gilydd, felly rwy’n falch iawn o'ch gweld.

Rydym wedi gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod grantiau’n cael eu dosbarthu’n gyflym, yn enwedig y grantiau sy'n mynd allan drwy'r broses ardrethi annomestig. Ac rwy'n falch iawn o ddweud, wrth i bob ton o grantiau gael ei chyflwyno, ein bod wedi gallu cyflymu'r broses fwy a mwy, a'i hawtomeiddio. Ac rydym wedi gwneud hynny oherwydd ein bod wedi sicrhau gwaith tîm da ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Ac mae Peter Fox yn Sir Fynwy wedi bod yn rhan fawr o hynny ac wedi bod yn falch iawn o fod o gymorth gyda hynny.

Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod cronfa ddewisol ar gael eisoes wrth gwrs ar gyfer awdurdodau lleol a all gynorthwyo pobl yn eu hardal. Mater iddynt hwy yw penderfynu a yw busnesau penodol yn bodloni'r meini prawf ai peidio. Mae hynny am yr union reswm rydych newydd ei amlinellu—ein bod yn credu o ddifrif mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu busnesau lleol, ac i ddeall y manylion. Mae'n anodd iawn creu un cynllun sy'n addas i bawb heb i bobl ddisgyn drwy fylchau’r cynllun hwnnw. Felly, rydym yn bendant iawn wedi'i sefydlu yn y ffordd honno, gyda llawer o ymgynghori ag arweinwyr awdurdodau lleol, a llawer o ymgynghori yn wir â thrysoryddion awdurdodau lleol. Ac eto, rwy'n ailadrodd fy niolch i'r cannoedd ar gannoedd o swyddogion mewn awdurdodau lleol ledled Cymru sydd wedi gwneud eu gorau glas i ddarparu’r grantiau hyn i bobl mewn da bryd—drwy'r Nadolig, a thrwy wyliau cyhoeddus, a phopeth arall; maent wedi gwneud gwaith da iawn yn wir. Felly rwy'n falch iawn o ddweud bod y cynllun dewisol hwnnw ar waith, a'i fod yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol gan awdurdodau lleol ledled Cymru.

Diolch i chi, Weinidog. Efallai fod angen mwy o hyblygrwydd yn y gronfa ddewisol, oherwydd mae'r bylchau hynny yno o hyd.

Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi cynnal adolygiad o ardrethi domestig a busnes a threth stamp. Maent yn awgrymu nad yw'r system bresennol ar gyfer casglu ardrethi busnes yn addas i'r diben mwyach ac y dylid ei dileu a chael system decach yn ei lle, a fyddai wedyn yn denu mwy o fusnesau i ganol ein trefi ac yn annog y rhai sydd yno eisoes i aros. A yw Llywodraeth Cymru wedi edrych ar ffyrdd eraill o gasglu?

14:35

Mae'r dreth gyngor a'r system ardrethi annomestig yn rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod Rebecca Evans mewn gwirionedd, er bod gennyf lawer i'w wneud â hynny wrth gwrs, oherwydd llywodraeth leol yw un o'r prif fuddiolwyr. Yn ddiweddar iawn yn y Senedd, cyflwynodd ddarn o ymchwil rydym wedi'i wneud, ac rwyf wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â hi ar hwnnw, ar hynny'n union—sut i ddiwygio'r dreth gyngor a'r system ardrethi annomestig yng Nghymru ar sail gwbl wahanol. Mae adroddiad ymchwil diddorol iawn wedi'i gyflwyno o ganlyniad i'r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo, ac wrth gwrs, gwyddom fod—. Yn wir, rwyf wedi bod yn falch iawn ein bod ein dwy wedi gallu cynorthwyo awdurdodau lleol i edrych ar y diffyg yn yr arian a gasglwyd o ardrethi annomestig o ganlyniad i'r seibiant rhag talu ardrethi busnes rydym wedi gallu ei weithredu oherwydd y pandemig, ac wrth gwrs, oherwydd natur gyfnewidiol y ffordd y mae manwerthu, yn arbennig, wedi'i strwythuro yng nghanol ein dinasoedd. Felly, mae wedi gwneud gwaith ymchwil da iawn rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan ohono. Rwy'n siŵr y bydd cyfle i bwy bynnag a fydd yn Llywodraeth newydd Cymru fwrw ymlaen â rhai o'r awgrymiadau rhagorol niferus y mae'r papur ymchwil hwnnw wedi'u cynnig.

Mae hynny'n wych. Diolch am hynny, Weinidog. Mae'r Alban wedi cyhoeddi y bydd rhyddhad ardrethi busnes yn awr yn cael ei ymestyn i gynnwys pob busnes, nid dim ond y rhai sydd â gwerth ardrethol o £500,000 a llai, ac mae hynny wedi'i groesawu'n fawr. Daw hyn cyn iddynt wybod faint o arian a ddaw gan Lywodraeth y DU, i roi sicrwydd mawr ei angen i fusnesau ar hyn o bryd. Maent yn cynnwys cymorth i fanwerthwyr nwyddau heblaw bwyd sydd â gwerth ardrethol o dros £500,000. O ystyried y cyhoeddiad hwnnw, a allwn ddisgwyl rhywbeth tebyg gan Lywodraeth Cymru?

Unwaith eto, fel y dywedais, nid fy mhortffolio i yw hwn. Mae'r mater hwn wedi'i rannu  rhwng portffolio fy nghyd-Aelod, Ken Skates, a fy nghyd-Aelod Rebecca Evans mewn gwirionedd, ond yn amlwg mae gennyf ran fawr yn y sgwrs am hynny, o gofio mai awdurdodau lleol yw'r mecanwaith dosbarthu ar gyfer rhan fawr iawn o'r ardrethi. Wrth gwrs, rydym wedi bod yn edrych eto ar yr hyn y gellir ei wneud. Yn ddiweddar iawn, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod Ken Skates set arall o drefniadau cymorth busnes i'n tywys ni drwy gam nesaf y pandemig, ac rwy'n siŵr y bydd cyhoeddiadau pellach gan fy nghyd-Aelodau, Ken Skates a Rebecca Evans, maes o law.

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn eich datganiad yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi gydnabod bod ail gartrefi yn broblem gynyddol mewn rhannau o Gymru. Ond mae'r camau hyd yn hyn gan y Llywodraeth yn rhai bach iawn i fynd i'r afael â hi. Fe wnaeth BBC Cymru Fyw gyfweld yn ddiweddar ag ymgyrchydd lleol dros hawliau tai teg, sef Rhys Tudur, a dywedodd Rhys fod pobl ifanc fel fe methu prynu tai yn lleol ac aros yn eu cymunedau. Dywedodd e fod tŷ cyngor ar werth yn Abersoch am £380,000. Mae hyn ymhell o afael pobl leol, lle mae'r cyfartaledd cyflog oddeutu £21,000 y flwyddyn. Mae Plaid Cymru, fel rydych chi'n gwybod, wedi cynnig pum cam a allai gael eu cymryd, sy'n cynnwys rheoli'r defnydd o ail gartrefi drwy newid deddfwriaethol, fel yn yr Alban, a chau'r bwlch yn y gyfraith sy'n golygu bod modd optio allan o drethi domestig ac o'r premiwm treth cyngor. Weinidog, pam na wnewch chi weithredu nawr er lles trigolion a chymunedau lle mae ail dai yn broblem ddifrifol? 

Diolch am hynny, Delyth. Mae'n ddrwg gennyf, roedd y sain yn ddrwg iawn yno, ond credaf imi ddeall hanfod y cwestiwn. Maddeuwch i mi os collais unrhyw beth.

Fel y gwyddoch, mae gennym weithgor trawsbleidiol o bobl sy'n edrych ar gymhlethdod mater ail gartrefi. Rwy'n sicr yn ymwybodol fod Plaid Cymru wedi cyflwyno cynllun. Mae nifer ohonom wedi bod yn gweithio ar nifer o atebion posibl. Rwy'n falch o ddweud ein bod eisoes, wrth gwrs, wedi rhoi llawer o gamau ar waith tuag at hyn yng Nghymru, gan gynnwys, fel y gwyddoch, y gallu i gynghorau godi'r dreth gyngor ar ail gartrefi neu gartrefi gwag yn lleol fel y gwelant orau. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gyngor yng Nghymru wedi'i godi 200 y cant, er fy mod yn deall bod cyngor Abertawe'n ystyried gwneud hynny ar hyn o bryd. 

O ran y bwlch yn y gyfraith, fel rydych yn ei alw—nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno ei fod yn fwlch yn y gyfraith, ond rwy'n deall y mater rydych yn ei godi. Mae hyn ar gyfer pobl sy'n gosod ail eiddo yn eu perchnogaeth ar rent am nifer penodol o ddyddiau'r flwyddyn, ar ôl ei hysbysebu am nifer wahanol o ddyddiau'r flwyddyn. Rydym yn edrych yn ofalus iawn i weld a ddylid ymestyn y nifer o ddyddiau—70 a 140 ar hyn o bryd—i fod yn gyfnod llawer hwy; mewn geiriau eraill, mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r tŷ fel tŷ gwyliau am lawer hwy er mwyn gallu newid i gyfraddau masnachol. Ac rydym hefyd yn edrych i weld beth y gellir ei wneud ynglŷn â mynediad pobl sy'n gwneud hynny at ryddhad ardrethi i fusnesau bach, oherwydd mae hwnnw'n fater arall.

Rwy'n credu ei bod yn werth pwysleisio, serch hynny, oherwydd mae'n gamgymeriad cyffredin—nid wyf yn dweud eich bod chi wedi camgymryd, Delyth; rwy'n gwybod nad ydych—nid yw cynghorau ar eu colled yn eu cyllid pan fydd pobl yn newid i ardrethi busnes ac yn hawlio rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn gwneud iawn am y diffyg yn y cyllid hwnnw i'r awdurdod lleol, er fy mod yn deall bod mater ecwiti i bobl leol o ran pwy sy'n talu'r dreth gyngor. Felly, rwy'n deall hynny, ond roeddwn eisiau ei gwneud yn glir nad yw'r awdurdod lleol ei hun ar ei golled yn hynny o beth. Felly, rydym yn edrych ar amrywiaeth o dystiolaeth i ystyried lle sydd orau i ni osod hwnnw, a pha drefniadau y mae'n rhaid i bobl sy'n newid i ardrethi busnes eu gwneud er mwyn bod yn fusnes i allu gwneud hynny. Fe fyddwch yn gwybod eich hun fod cymhlethdod gwirioneddol ynglŷn â'r hyn rydym yn ei alw'n 'ail gartrefi' a phwy sy'n eu meddiannu. Felly, er enghraifft, gwyddom fod nifer fawr iawn o bersonél meddygol sy'n gweithio yng ngorllewin a de-orllewin Cymru yn dod o rannau eraill o Gymru ac yn byw mewn tai yng ngorllewin a de-orllewin Cymru yn ystod yr wythnos er mwyn gallu gweithio yng ngwasanaethau'r GIG, er enghraifft. Yn sicr, ni fyddem eisiau annog pobl rhag gwneud defnydd o'r fath o eiddo.

Fe fyddwch yn gwybod bod gennyf lawer o gydymdeimlad â phobl nad ydynt yn gallu prynu tai i bobl ifanc yn y pentrefi y cawsant eu magu ynddynt. Un o'r ffyrdd mawr o ddatrys hynny, wrth gwrs, yw adeiladu'r math iawn o ecwiti cymdeithasol neu ecwiti a rennir neu ecwiti cydweithredol neu—mae llawer o wahanol ffyrdd o'i wneud—tai tebyg i dai ymddiriedolaeth tir cymunedol, sy'n caniatáu cyfran gyhoeddus o ryw fath yn y tai hynny fel na ellir eu hadeiladu ac yna eu gwerthu ar y farchnad breifat am symiau anferthol. Yn anffodus, mae gennym enghreifftiau ledled Cymru lle mae tai wedi'u hadeiladu at y diben hwnnw gyda phob bwriad da ac yna mae cynlluniau wedi newid a'r tai hynny wedi'u gwerthu ar y farchnad agored am symiau gwirioneddol enfawr. Felly, mae angen inni ddod o hyd i ffordd o ddiogelu'r tai hynny i bobl leol wrth symud ymlaen, ac nid yn unig i'r rhai sy'n prynu am y tro cyntaf. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn edrych ar ystod o fesurau sy'n ein galluogi i wneud hynny. Mae enghraifft yr Alban yn un dda iawn i gadw llygad arni. Yn anffodus, pan roddwyd cynnig ar rai o'r arbrofion hynny yn St Ives yng Nghernyw, cafodd rhai ohonynt ganlyniadau anfwriadol iawn ar y farchnad dai leol drwy godi prisiau tai ail-law, neu beth bynnag yw'r gair rydych eisiau ei ddefnyddio—tai hŷn yn yr ardal—a chael effaith waeth na'r farchnad wreiddiol.  

Rydym yn awyddus iawn i weithio ar draws y pleidiau ar amrywiaeth o atebion i hyn. Gwyddom ei bod yn broblem fawr, yn enwedig yng ngorllewin Cymru, a rhai o'r rhesymau pam fod pawb ohonom yn caru Cymru, a pha mor hardd yw Cymru, yw rhai o'r rhesymau sy'n gyrru hyn. Ond rydym yn gwybod mai yng Nghaerdydd y gwelir un o'r lefelau uchaf o ail gartrefi mewn unrhyw gyngor yng Nghymru, ac wrth gwrs, y rheswm am hynny yw bod pobl yn dod i mewn i'r ddinas i weithio yn ystod yr wythnos ac yn gadael eto. Byddwn eisiau gweld beth yw effeithiau mwy o weithio o bell a gweithio gartref ar rai o'r pethau hynny hefyd. Ond rwy'n deall y broblem rydych yn ei chrybwyll, ac fe fyddwch yn gwybod ein bod yn gwneud llawer iawn o waith i ganfod beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddatrys rhai o'r problemau. 

14:40

Diolch am yr ateb yna. O ran y bwlch yn y gyfraith, efallai does dim ots am y semanteg gyda hyn, ond fel roeddech chi'n dweud, mae e'n fater o anghyfiawnder moesol bron, a dwi'n meddwl, oherwydd hynny, hyd yn oed os dyw llywodraeth leol ddim yn colli mas, mae angen gwneud yn siŵr bod hynna ddim yn digwydd, ac mae angen cau'r bwlch yna. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth bydd yn rhaid i'r Llywodraeth nesaf fynd i'r afael ag e lot mwy.

Hoffwn i droi nawr—a dwi'n gobeithio bod y sŵn yn gweithio—at bwnc gwahanol y gwnes i ei godi mewn llythyr diweddar gyda chi, sef y ffaith bod dau gyngor sir wedi derbyn setliad ariannol llawer is na'r gweddill. Mae cynghorau Ceredigion a Wrecsam ond yn cael cynnydd o 2 y cant a 2.3 y cant, sydd ymhell islaw y cyfartaledd o 3.8 y cant. Mae arweinydd cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, wedi rhybuddio y gallai hyn arwain at golli swyddi a thorri gwasanaethau. Byddai hyn yn hollol annheg, dwi'n siŵr byddech chi'n cytuno â fi, ar y gweithwyr, ac ar y cyngor, sydd wedi bod yn gwneud gwaith mor hanfodol yn cadw trigolion lleol yn ddiogel yn ystod y pandemig.

Nawr, rwy'n deall bod eich Llywodraeth yn defnyddio fformiwla er mwyn dyrannu'r arian, ac felly dydy'r penderfyniad yma ddim yn fwriadol i'w tangyllido nhw, ond yn y gorffennol, pan fo gwahaniaeth sylweddol wedi bod yn y setliad, mae'r Llywodraeth wedi gosod llawr cyllido, rhywbeth y mae'r WLGA wedi galw amdano y flwyddyn hon. Dwi'n gwybod, yn y gorffennol, Weinidog, eich bod chi wedi dweud eich bod chi ond wedi dod â'r llawr yna i mewn pan fu rhai cynghorau yn gweld rhywbeth negyddol ac y bydden nhw'n cael llai yn hytrach nag unrhyw gynnydd o gwbl, ond mae'r pandemig yn dod â ni i mewn i sefyllfa dŷn ni byth wedi bod ynddi hi o'r blaen ac mae'r galwadau ar wasanaethau wedi bod cymaint yn uwch. Byddai gweithredu hwn y nawr, gan gynyddu'r codiad i'r ddau gyngor, ond yn costio rhyw £2.4 miliwn. Rŷch chi wedi dweud wrthyf fi y byddech chi'n ystyried popeth, o ran ymateb i'r setliad, yn ofalus cyn cyhoeddi'r setliad terfynol. Felly, allwch chi ddweud wrthym heddiw, os gwelwch yn dda, a wnewch chi weithredu'r llawr cyllido? A dwi'n gobeithio bod y sŵn wedi gweithio.

14:45

Yn wir. Diolch yn fawr iawn, Delyth. Ie, felly, yn hollol, gwyddom fod y tri chyngor isaf ychydig yn is na'r cyfartaledd. Felly, mae Ceredigion, Wrecsam a Chaerffili yn is na'r cyfartaledd, ond mae gan bob un ohonynt setliadau cadarnhaol. Felly, mae gan Geredigion 2 y cant—dyna'r setliad isaf—ond 2 y cant yw'r rhagdybiaeth gynllunio roeddem wedi bod yn gweithio arni gyda'r trysoryddion drwy gydol y flwyddyn, oherwydd mae bob amser yn anodd iawn inni wybod beth fydd y setliad gan Lywodraeth y DU. Ac yn wir, mae'n rhaid imi ddweud, ar hyn o bryd, nad ydym yn gwybod beth fydd y setliad hwnnw o hyd, sy'n amlwg yn ein rhoi mewn sefyllfa anodd iawn. Mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans wrthi'n ystyried beth yw'r ffordd orau o ymdrin â hynny. 

Ac mae'r fformiwla, wrth gwrs, yn seiliedig ar yr is-grŵp cyllid ac is-grŵp dosbarthu'r awdurdod lleol a chyngor partneriaeth Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys cynrychiolwyr trysoryddion a phobl allanol ac yn y blaen. Rydym wedi'i ailadrodd droeon—ac mae'r Llywydd bron yn sicr o golli amynedd gyda mi os dechreuaf fynd drwy'r gwahanol agweddau ar fformiwla'r is-grŵp dosbarthu—ond y rhagosodiad sylfaenol yw mai'r pethau sydd wedi'u nodi yno yw'r pethau pwysicaf. Felly, maent yn seiliedig ar boblogaeth, amddifadedd, prinder a gwledigrwydd, a gwahanol bethau eraill o'r fath sydd y tu hwnt i reolaeth y cyngor. Felly, nid ydynt yn seiliedig ar benderfyniadau lleol a allai olygu newid mawr yn y ffordd y mae'r cyngor yn defnyddio ei adnoddau. Felly, byddwn yn synnu gweld unrhyw gyngor ar gynnydd o 2 y cant, er ei fod yn llai na'r cyfartaledd ledled Cymru, yn gwneud toriadau llym o unrhyw fath, oherwydd dyna'r rhagdybiaeth gynllunio roeddem yn seilio ein rhagamcanion arni tan yn ddiweddar iawn.

O ran y cyllid gwaelodol, roedd y cyllid gwaelodol bob amser yno i atal effaith negyddol ar gyngor—felly, lle roedd gennych setliad a oedd yn is na sero ac felly roeddent yn gweld gostyngiad ers y flwyddyn flaenorol. Nid oedd y cyllid gwaelodol erioed yno i sicrhau bod pawb yn cyrraedd y cyfartaledd. Felly, mae tri pheth i'w hystyried ac yn amlwg, gan ein bod ynghanol y setliad dros dro ar hyn o bryd, nid wyf mewn sefyllfa i ddweud beth fydd y setliad terfynol heddiw—mae rhai wythnosau i fynd eto ac mae nifer o bethau i weithio drwyddynt. Ond y sefyllfa ar hyn o bryd yw nad ydym yn gwybod sut olwg fydd ar ein hamlen gyllido a phe baem yn cynnwys cyllid gwaelodol, byddai'n rhaid i'r cyllid gwaelodol hwnnw ddod o'r amlen sy'n cynnwys y setliad. Felly, i bob pwrpas, yr hyn y byddech yn ei wneud yw mynd ag arian oddi wrth rai cynghorau a'i roi i gynghorau eraill. Felly, ar y sail honno, mae'n amlwg na fydd y rhai sy'n colli'r arian yn hapus iawn. Mae CLlLC wedi ysgrifennu ataf ac wedi gofyn am gyllid gwaelodol ar y sail ei fod yn cael ei ariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru, ac nid wyf mewn unrhyw sefyllfa i ddweud y byddem yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd. Ond unwaith eto, nid oes gennym y gyllideb derfynol eto ac felly, mae arnaf ofn, Delyth, nad wyf mewn sefyllfa i ddweud heddiw ble fyddai hynny. Ond byddwn yn dweud ein bod yn hapus i weithio gyda Cheredigion ynghylch pam y byddai'n dweud y byddai cynnydd o 2 y cant yn arwain at y mathau hynny o broblemau oherwydd dyna'r rhagdybiaeth gynllunio y gofynnwyd i bob cyngor weithio gyda hi.

Wel, diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr y bydd pob cyngor, gan gynnwys Caerffili, fel yr ychwanegwyd gennych, yn edrych ymlaen yn ddisgwylgar at y setliad terfynol.

Yn olaf, hoffwn droi yn awr at y dreth gyngor. Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, i roi mwy o arian i awdurdodau lleol er mwyn osgoi codiadau yn y dreth gyngor ar gyfer eleni, pan fydd llawer o deuluoedd ac unigolion eisoes yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd, ac o gofio'r ffaith—ac mae hyn yn rhywbeth y gwn y byddwch yn cydymdeimlo ag ef—mai treth atchwel yw'r dreth gyngor sy'n taro grwpiau incwm isel galetaf. Nawr, er bod budd-dal y dreth gyngor yn rhoi rhywfaint o ryddhad mawr ei angen i'r rhai sy'n gymwys i'w gael, mae nifer sylweddol o bobl o hyd nad ydynt yn gymwys i'w gael ac sydd eto'n wynebu'r baich enfawr hwn. Nid yw'n gyfrinach fod awdurdodau lleol yn parhau i wynebu heriau ariannol enfawr. Felly, oni bai eich bod yn bwriadu darparu'r arian ar gyfer rhewi'r dreth gyngor yn gyffredinol, a allwch ddweud wrthyf beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau nad yw'r heriau ariannol y mae ein cynghorau yn eu hwynebu yn cael eu trosglwyddo i rai o'r bobl dlotaf yn y gymdeithas ar ffurf codiadau yn y dreth gyngor?

14:50

Felly, unwaith eto, Delyth, diolch. Yn amlwg, rwy'n gwybod am ein sefyllfa gyda'r dreth gyngor, ond mae'r dreth gyngor ym mhortffolio fy nghyd-Aelod Rebecca Evans. Yn ddiweddar, mae wedi gallu cyhoeddi £33 miliwn arall, rwy'n credu—er y byddai'n rhaid i chi ofyn iddi gadarnhau'r ffigur gwirioneddol; rwy'n ceisio gweld a yw hi'n ysgwyd ei phen—i roi cymorth i gynghorau mewn perthynas â chyllid rhyddhad y dreth gyngor a nifer o bethau eraill, i sicrhau bod y cynllun yn cael ei ariannu ar y lefel briodol.

Rydych yn llygad eich lle: mae nifer y bobl sy'n gwneud cais am ryddhad y dreth gyngor wedi codi yn ystod y pandemig. Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi cadw rhyddhad y dreth gyngor yma yng Nghymru pan gafodd ei ddiddymu dros y ffin yn Lloegr beth amser yn ôl. Gwnaethom hynny—rydych yn llygad eich lle—oherwydd ein bod yn gwybod ei bod yn dreth atchwel, ac rydym yn derbyn yn llwyr fod pobl angen rhywfaint o gymorth gyda hi pan fo cymaint o fygythiad i'w hincwm.

Fel y clywsoch fy nghyd-Aelod Vikki yn dweud nawr, mae rhai cynghorau wedi gallu gwneud pethau da iawn o fewn amlen dreth gyngor resymol iawn, a byddem yn disgwyl i gynghorau weithio'n galed iawn i sicrhau eu bod yn gwneud hynny ac i ddeall beth yw eu seiliau cost. Felly, os ydynt yn ei chael yn anodd ymdopi â lefel y cynnydd y maent wedi'i gael—a chofiwch mai dyma'r ail setliad da iddynt ei gael yn y ddwy flynedd ddiwethaf—byddem yn falch iawn o weithio gyda hwy i ddeall pam oedd eu sail cost mor gyfnewidiol. Ond ni fyddem yn disgwyl, o ystyried y setliad hael iawn y mae'r setliad dros dro, o leiaf, yn ei nodi, y byddai llawer iawn o gynghorau angen codiadau enfawr yn y dreth gyngor er mwyn cadw eu gwasanaethau'n gadarn. Y rheswm am hynny yw ein bod, yn ystod y pandemig, wedi bod yn falch iawn, drwy'r gronfa galedi llywodraeth leol, o allu ariannu'r holl gostau ychwanegol i gynghorau drwy'r pandemig. Rwy'n falch iawn o fod wedi gallu gwneud hynny. Felly, rydym wedi gweithio'n gyfeillgar iawn mewn llywodraeth leol i ddeall y taliadau a'r costau yn gyffredinol. Rydym wedi gallu gwneud iawn am incwm a gollwyd, ar ffurf incwm cyffredinol o daliadau meysydd parcio ac yn y blaen, yn sgil cau meysydd parcio, y ffaith nad yw canol dinasoedd yn cael eu defnyddio, yr holl ffordd drwodd i'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Felly, byddwn yn synnu'n fawr pe bawn yn gweld unrhyw gyngor yn codi'r dreth yn helaeth.

Wedi dweud hynny, clywsoch fi'n dweud, mewn ymateb i nifer o gyd-Aelodau yn gynharach, nad ydym yn credu mewn capio ein cynghorau oherwydd ein bod yn credu mewn democratiaeth leol. Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a basiwyd gan y Senedd yn ddiweddar, yn ymwneud â grymuso democratiaeth leol i wneud eu penderfyniadau'n lleol. Felly, nid wyf yn credu mai lle Llywodraeth Cymru yw rhoi cap ar hynny pan fo cynghorwyr lleol, a etholwyd yn ddemocrataidd, yn meddwl yn wahanol.

Ôl-ddyledion Rhent

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r ôl-ddyledion rhent sydd wedi cronni yng Nghaerdydd ers dechrau pandemig y coronafeirws? OQ56212

Fy ffocws yw sicrhau bod pobl yng Nghymru nad ydynt yn gallu talu eu rhent oherwydd y pandemig yn gallu dod o hyd i'r cymorth a'r cyngor y maent eu hangen. Rydym wedi gweithio gyda'r sector tai cymdeithasol i wneud i hyn ddigwydd, ac rydym wedi sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gael i denantiaid yn y sector preifat ledled Cymru.

Rwy'n ddiolchgar iawn am yr adborth a gefais gan y sector tai cymdeithasol mewn perthynas â'r gwaith y maent yn ei wneud gyda thenantiaid sydd wedi mynd i drafferthion yn ystod y pandemig, gan eu galluogi i gael taliadau tai dewisol drwy Gyngor Caerdydd, os oes angen, a'u cefnogi i lunio cynlluniau cynaliadwy ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw ôl-ddyledion. Felly, credaf fod problem fwy'n ymddangos y sector rhentu preifat. Mae data Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (NRLA) Cymru a Lloegr yn datgelu cynnydd amlwg mewn ôl-ddyledion rhent, yn enwedig ymhlith pobl ifanc a'r hunangyflogedig. Mae llawer o bobl yn gorfod hawlio credyd cynhwysol am y tro cyntaf yn eu bywydau ac maent yn gorfod ymdopi â'r ffaith mai anaml y mae'r lwfans tai'n ddigon i dalu'r rhent a godir arnynt mewn gwirionedd. Mae honno'n broblem arbennig o ddifrifol os ydynt o dan 35 oed, lle na fyddant ond yn gallu hawlio am ystafell mewn tŷ a rennir. Felly, mae'r NRLA yn galw am foratoriwm 12 mis ar y gofyniad niweidiol hwnnw ac mae hefyd yn tynnu sylw at benderfyniad Llywodraeth y DU i rewi'r lwfans tai lleol, yn nhermau arian parod, yn yr adolygiad diweddar o wariant. Felly, mae'n amlwg ein bod yn wynebu cyfnod eithaf anodd i denantiaid preifat, ac roeddwn yn meddwl tybed pa ymyrraeth y gallai fod ei hangen i atal nifer fawr o bobl ifanc yn enwedig, nad ydynt fel arfer yn gymwys i gael tai cyngor, rhag cael eu troi allan ac i roi amser i lefelau rhent addasu i'r normal newydd yn y cyfnod anodd sydd o'n blaenau.

14:55

Diolch, Jenny. Yn anffodus, rydych yn llygad eich lle—mae'n debygol y bydd llawer o bobl yn cael anawsterau gwirioneddol i dalu rhent wrth i gyfnod y pandemig barhau. Mae ein swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda landlordiaid y sector preifat a'r sector cymdeithasol i fonitro'r sefyllfa ac i ddeall lle a sut y gallai fod angen mesurau lliniaru neu ymyriadau pellach a lle byddai'r rhain yn bosibl. Rydym wedi rhoi cyfres gyfan o bethau ar waith i geisio lliniaru rhai o effeithiau hyn. Rydym wedi rhoi £8 miliwn i'r cynllun benthyciad arbed tenantiaeth. Yn fwyaf arbennig, rydym wedi rhoi £1.4 miliwn o gyllid, gyda fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, i'r cynllun rhybudd cynnar ar gyfer ôl-ddyledion rhent a dyledion eraill yn y sector rhentu preifat. Cyflwynir hynny gan Cyngor ar Bopeth Cymru, sydd, gyda fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yn gweithio ochr yn ochr â'r undebau credyd i geisio sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y mathau hynny o gyngor ar ddyledion a chyllid. Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r sector tai cymdeithasol i sefydlu system rhybudd cynnar lle mae unrhyw un yn wynebu anawsterau ariannol gwirioneddol yn ystod y pandemig.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn cael adroddiadau gan y sector rhentu cymdeithasol am bobl yn profi lefelau uchel iawn o ôl-ddyledion rhent—wyddoch chi, i raddau gwaeth na'r arfer. Rydych yn gywir i ddweud ein bod wedi cael ein dychryn yn fawr gan y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhewi'r lwfans tai lleol ar gyfradd y llynedd, ar 30 y cant. Rwy'n falch o weld eu bod o leiaf wedi'i gadw ar 30 y cant fel y llynedd, er, yn amlwg, fe fyddwch yn gwybod ein bod yn credu y dylai fod yn 50 y cant. Yn amlwg, mae peidio â chael cynnydd i'r 30 y cant hwnnw o flwyddyn i flwyddyn yn gyrru pobl i'r tai cymdeithasol tlotaf. Mewn gwirionedd, mae'n fecanwaith ar gyfer sicrhau bod y bobl sydd ar fudd-daliadau yn y tai gwaethaf sy'n costio leiaf. Felly, mae'n beth atchwel iawn i'w wneud beth bynnag. Ac rwy'n poeni a yw'n awgrym o bethau i ddod, ac y byddant yn ei rewi ar 30 y cant o brisiau 2019-20 am y pum mlynedd nesaf, a fyddai'n drychinebus i'r sector.

Ac yna fe ddywedoch chi'n gywir nad yw llawer o'r pethau hyn—yr ysgogiadau macro-economaidd ar gyfer y rhain—yn ein dwylo ni. Felly, y broblem fwyaf yma yw'r ffordd echrydus y mae credyd cynhwysol yn trin costau tai ac effaith ganlyniadol hynny. Felly, yn amlwg, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i geisio cael Llywodraeth Geidwadol y DU i ddeall yr effaith wirioneddol ar bobl os nad yw eu costau tai'n cael eu talu. Yn amlwg, rydym eisiau adeiladu llawer iawn o dai cymdeithasol, a byddwn yn addo gwneud hynny yn ein maniffesto, a gwn y bydd pleidiau eraill yn y Senedd yn gwneud rhywbeth tebyg, oherwydd yr ateb go iawn yma yw cael y bobl fwyaf anghenus i mewn i'r sector tai cymdeithasol. Ond mae problem wirioneddol gyda system les nad yw'n cynorthwyo pobl i fyw mewn tai sy'n addas i'r diben.

Y peth olaf rwyf eisiau ei ddweud am hyn, wrth iddi nesáu at fod yn flwyddyn ers dechrau'r pandemig a'r cyfyngiadau symud cyntaf, yw y gwyddom na fydd sefyllfa pobl sydd mewn dyled o fwy na blwyddyn o rent byth yn gwella. Felly, pan fyddwch mewn dyled o fwy na blwyddyn o rent, mae'n gwbl amhosibl ymadfer o ddyled o'r fath. Felly, ledled y DU, bydd yn rhaid inni edrych ar bandemig sy'n golygu bod gan niferoedd enfawr o bobl ddyled na allant ei had-dalu yn ystod eu hoes. Bydd angen inni edrych ar hynny wrth symud ymlaen. Ond Jenny, nid oes gennyf unrhyw atebion hawdd i'r cwestiynau anodd hynny heddiw, dim ond eich sicrhau ein bod yn ymchwilio i bob llwybr y gallwn feddwl amdano. Ac fel y dywedaf bob amser, nid oes gennym fonopoli ar syniadau da, felly byddwn yn falch iawn o glywed gan unrhyw un sydd ag unrhyw syniadau da ynglŷn â sut y gallem fynd i'r afael â hynny.

Llety Brys

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch defnyddio llety brys i bobl ddigartref yn ystod y pandemig? OQ56229

Diolch, Huw. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol drwy gydol y pandemig, gyda dros 5,000 o bobl yn cael cymorth i ddod o hyd i lety argyfwng ers mis Mawrth 2020. Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol sylweddol ar gyfer ein dull cynhwysol sy'n seiliedig ar anghenion. Ar hyn o bryd, mae £1.6 miliwn y mis ar gyfartaledd yn cael ei hawlio ar gyfer hyn.

Weinidog, diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw, a diolch i chi hefyd am ymgysylltu â mi ynghylch ymholiadau gan fy awdurdodau lleol, y mae rhai ohonynt yn draddodiadol wedi defnyddio'r hyn rydym yn ei adnabod fel darpariaeth lloches nos mewn argyfwng, a oedd, ar un adeg, yn ffordd briodol ymlaen. Ond mewn gwirionedd, pan fyddwch yn ymdrin â phandemig, heb sôn am ddull sy'n ei gwneud yn ofynnol inni helpu pobl allan o ddigartrefedd yn ogystal â lapio gwasanaethau a chymorth o'u cwmpas, mae'n debyg nad dyna'r ffordd orau ymlaen. Ond a gaf fi ofyn i chi felly, Weinidog, pa lwyddiant y mae'r dull rydych wedi'i fabwysiadu yn awr wedi'i gael, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o'r pandemig, pan fo rhai awdurdodau lleol, rwy'n credu, wedi wynebu heriau mawr gydag adnoddau a gorfod ymateb i bobl mewn argyfwng ar y stryd heb lawer o adnoddau i ddatrys y broblem?

15:00

Diolch, Huw. Fel y gwyddoch o'r ohebiaeth a gawsom, rydym wedi gwneud ein safbwynt yn eithriadol o glir i awdurdodau lleol, y dylai pobl sy'n cysgu ar y stryd gael llety priodol ar frys ac yn hollbwysig, y dylent gael eu cartrefu gyda'r cymorth cofleidiol sydd ei angen arnynt yn ddybryd er mwyn gallu aros yn y llety hwnnw.

Rydym yn falch iawn o'r hyn y mae Cymru wedi'i gyflawni yn ystod y pandemig o ran cael pobl oddi ar y strydoedd, ac er bod rhai pobl wedi llithro'n ôl ar y strydoedd—oddeutu 100 o bobl; mae un ohonynt yn ormod—ond serch hynny, o gofio ein bod wedi cartrefu dros 5,000 o bobl, mae hwnnw'n gyflawniad eithaf da. Ac wrth gwrs, yn wahanol i'r sefyllfa ar draws y ffin, rydym yn parhau i gynnig llety i bawb sydd ei angen drwy'r pandemig.

Mae newid diwylliant mawr yma o system a gynlluniwyd i ddogni llety a throi rhai pobl i ffwrdd i system sydd wedi'i chynllunio i gynorthwyo pawb a darganfod beth yw eu hanghenion, drwy ddull sy'n canolbwyntio ar drawma, ac i fodloni'r anghenion hynny. Rydym wedi bod yn falch iawn o weithio'n galed iawn gyda gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau cymorth camddefnyddio sylweddau, er enghraifft, ac mae fy nghyd-Aelod, Eluned Morgan, wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn ddiweddar i ddod â'r pethau hynny at ei gilydd, fel rydym wedi'i wneud yr holl ffordd drwodd.

Ond mae cael awdurdodau lleol i ddeall y gallant wario eu grant cymorth tai ar gefnogi pobl sy'n dod i mewn i lety argyfwng wedi bod yn newid diwylliant mawr. Felly, mae fy swyddogion wedi dweud yn gyson, 'Nid ydym yn cefnogi'r defnydd o lochesau nos', mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir fod mannau cymunedol yn peri risg uchel o drosglwyddo COVID-19, heb sôn am unrhyw beth arall. Ond hefyd, mae llochesau nos yn ffordd o gadw pobl ar y strydoedd, a holl bwrpas hyn yw cael pobl oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety yn unol â'n model tai yn gyntaf. Ac mae honno'n sgwrs rydym wedi'i chael gyda llawer o awdurdodau ledled Cymru, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Tai Fforddiadwy

5. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn ne-ddwyrain Cymru? OQ56222

Rydym wedi gwneud y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai fforddiadwy yn nhymor y Senedd, gan effeithio'n sylweddol ar y ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Yn ystod 2019-20, gwnaethom fuddsoddi ychydig dros £33 miliwn yn rhanbarth Dwyrain De Cymru, drwy ein grant tai cymdeithasol a'n grant cyllid tai, ac roedd hynny'n cyfateb i 361 o gartrefi cymdeithasol newydd yn 2019-20, a disgwyliwn i'r ffigur hwnnw gynyddu eleni.

Diolch. Lywydd, a gaf fi ddatgan buddiant fel cynghorydd sir yn sir Fynwy? Rwyf newydd gael gwybod.

Weinidog, mae'r pandemig coronafeirws wedi arafu proses yr awdurdodau lleol i adnewyddu'r cynllun datblygu lleol. Bydd hyn yn effeithio ar y gwaith o adeiladu tai fforddiadwy hyd nes y cytunir ar gynllun newydd. A hyd yn oed wedyn, gallai gymryd tua dwy flynedd hyd nes y daw tai ar gael. Mae angen iddynt allu adeiladu tai er nad oes cynllun ar waith. Mae eich Llywodraeth wedi gosod targed o 50-50 o dai fforddiadwy i dai masnachol, targed y mae cynghorau'n ei dderbyn ond yn cydnabod na fydd yn hawdd ei gyflawni. Pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i ganiatáu pwerau brys i awdurdodau lleol ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen ar draws Dwyrain De Cymru?

Rydym yn hapus iawn i weithio gydag awdurdodau lleol. Gan ein bod bellach wedi llwyddo i gael gwared ar gap y Llywodraeth Geidwadol ar y cyfrifon refeniw tai ar draws yr holl gynghorau sy'n dal stoc dai yng Nghymru, mae cynghorau wedi bod yn gweithio'n gyflym i adeiladu tai cyngor yng Nghymru eto. Rydym hefyd wedi gweithio'n agos iawn, wrth gwrs, gyda'n holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i adeiladu tai yn gyflym. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, ein bod wedi bod yn cynorthwyo, drwy ein rhaglen dai arloesol, nifer o'r hyn a elwir yn gontractwyr dulliau modern o adeiladu ledled Cymru i adeiladu tai ffatri carbon niwtral neu oddefol hyfryd ym mhob rhan o Gymru. Ac rydym yn hapus iawn i weithio gydag unrhyw gyngor sydd â chynllun ar waith i gyflymu hynny, boed drwy ddefnyddio ei gyfrif refeniw tai ei hun neu drwy ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, neu'n wir, drwy ysgogiad trefniadau gwahanol. Felly, rydym yn hapus iawn i weithio gyda Sir Fynwy neu unrhyw gyngor arall sydd eisiau cyflwyno amrywiaeth o dai cymdeithasol.

Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad oes rhaid i hynny fod y tu mewn i ffiniau'r cynllun datblygu lleol, a'r cynllun strategol rhanbarthol yn wir. Rwy'n falch o ddweud bod fy nghyd-Aelod, Ken Skates, a minnau'n cyfarfod â'r 10 awdurdod sy'n dod at ei gilydd i greu cydbwyllgor corfforaethol y de-ddwyrain i edrych ar y cynllun datblygu strategol eto, a fyddai'n ein galluogi i leoli tai'n briodol ar draws y rhanbarth mewn ffordd gynaliadwy sy'n gwella trefniadau tai pobl, ond hefyd eu hiechyd a'u llesiant cyffredinol o fewn ystyriaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, rydym wedi bod yn falch iawn o gydweithrediad y cynghorau a'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn y cynllun hwnnw, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy yn y dyfodol.

15:05
Y Diwydiant Tai

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu’r diwydiant tai yn ystod y cyfyngiadau symud COVID-19? OQ56224

Diolch, David. Rydym wedi cyflawni ystod o gamau gweithredu i ddiogelu a chefnogi'r diwydiant tai ar draws pob math o ddeiliadaeth yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19. Mae ein camau gweithredu yn cynnwys darparu cymorth ariannol, buddsoddiad parhaus a chydweithio i ddatblygu canllawiau ar gyfer gweithio'n ddiogel ar draws y diwydiant cyfan.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n pryderu'n fawr am y sector busnesau bach a chanolig, sy'n dibynnu ar y math o waith gwella tai sy'n gallu cael ei ohirio'n hawdd yn aml, yn enwedig mewn cyfnod o ansefydlogrwydd mawr. Felly, rwy'n meddwl tybed beth rydych yn ei wneud yn nhermau darparu cymorth. A hefyd sut y mae cynlluniau penodol, fel cynllun Hunanadeiladu Cymru, sy'n ceisio annog pobl i adeiladu eu cartrefi eu hunain, yn aml gyda busnesau bach a chanolig—mewn gwirionedd, bron yn gyfan gwbl—i sicrhau bod cynlluniau fel hynny, a gyhoeddwyd, yn anffodus, ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, yn mynd rhagddynt ac y byddant yn gweithio'n dda yn y dyfodol?

Rydym wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r diwydiant drwy ein rhaglen ymgysylltu ag adeiladwyr tai a'r fforwm adeiladu a'i is-grwpiau, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod, Lee Waters, ond rwy'n eu mynychu. Drwy'r fforwm adeiladu, rydym wedi datblygu cynllun adfer—COVID yw'r eitem sefydlog ar yr agenda—i fynd i'r afael â'r problemau y mae'r diwydiant yn eu hwynebu, y gwn y bydd David Melding yn gyfarwydd iawn â hwy—felly, materion yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi, achosion o fewn systemau tracio ac olrhain y gweithlu neu drefniadau profi ar safleoedd lle mae prosiectau'n cael eu gohirio oherwydd bod angen i bobl hunanynysu ac yn y blaen. Rydym hefyd wedi parhau i gydweithio ar faterion sy'n ymwneud â chaffael a thalu cynnar. Ac rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym nifer o bethau yn yr arfaeth i sicrhau llif arian ac ymwybyddiaeth o gyfleoedd gwaith yn enwedig i fusnesau bach a chanolig yn gyffredinol. Felly, maent wedi bod yn falch iawn o weithio gyda ni i sicrhau bod y pethau hynny ar waith. Ac mae gennym hefyd nifer o ffynonellau cyllid, sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig—wedi'u targedu'n benodol atynt, mewn gwirionedd—ym mhob rhan o Gymru, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, gan gynnwys, er enghraifft, y gronfa safleoedd segur ac yn y blaen.

Y peth arall rydym wedi bod yn ei wneud gyda'r diwydiant, a gwn y bydd hyn o ddiddordeb arbennig i David Melding, yw gweithio gyda hwy i ddeall beth yw safonau gofod tai cymdeithasol i annog adeiladwyr sy'n adeiladu niferoedd bach o dai ledled Cymru—lleiniau o bum tŷ ac yn y blaen—i adeiladu yn unol â'r safonau hynny, er mwyn caniatáu, os oes anawsterau llif arian neu anawsterau yn y farchnad, i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau brynu tai oddi ar y cynllun gan yr adeiladwyr hynny, i gynorthwyo gyda llif arian ac i'w cadw'n hyfyw ac yn y farchnad ac yn y cylch caffael. Felly, rydym wedi bod yn gwneud amrywiaeth o waith gyda darparwyr bach a chanolig, fel y dywedaf, ar draws y Llywodraeth, i sicrhau bod y diwydiant cyfan yn goroesi, a gallwn gynorthwyo os oes ansefydlogrwydd yn y farchnad wrth i'r pandemig ddatblygu.

Cymorth Tai

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth tai i gymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd yn y cyfnod ar ôl COVID-19? OQ56237

Diolch, Alun. Rydym wedi parhau i ddarparu cymorth ar gyfer tai fforddiadwy gyda phob cymuned drwy gyflawni ein targed o 20,000 o dai fforddiadwy. Mae ein lefelau buddsoddi uchaf erioed wedi esgor ar fanteision i dai ym mhob ardal, gan gynnwys ym Mlaenau'r Cymoedd.

Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog; credaf fod y rhan honno o safbwynt cyffredinol y Llywodraeth wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y pum mlynedd diwethaf. Ond fe fyddwch wedi gweld yr adroddiadau, y gofynnais i'r Prif Weinidog amdanynt ddoe, sydd wedi dangos yn glir iawn y bydd ardaloedd fel Blaenau Gwent ac ardal Blaenau'r Cymoedd yn dioddef yn anghymesur o ganlyniad i'r pandemig COVID. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn deall sut y gall eich adran ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer adeiladu tai, perchentyaeth a datblygu tai mewn ardaloedd fel Blaenau Gwent, er mwyn sicrhau y gall ein cymuned gyfan ymuno yn yr adferiad o'r pandemig hwn?

Diolch, Alun. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau, er enghraifft, yn ein—. Mae gennym ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio lle byddwn, fel y gwyddoch, yn gweithio gydag amrywiaeth o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau ledled Cymru i ddeall sut y mae rhaglen ôl-osod yn edrych ar gyfer yr holl stoc dai yng Nghymru, ac rydym yn awyddus iawn i wneud hynny ar y cyd â'r Gweinidog Addysg a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. Y rheswm am hynny yw er mwyn sicrhau bod y gymysgedd sgiliau sy'n deillio o'r rhaglenni hynny'n arwain at swyddi ar lawr gwlad mewn cymunedau fel Blaenau Gwent, ar ben uchaf Blaenau'r Cymoedd, ac yn wir, drwy dasglu'r Cymoedd yr oeddech yn allweddol yn y gwaith o'i sefydlu ac sy'n dal i fod yn weithgar iawn yn y maes hwn.

Rydym hefyd yn buddsoddi arian ychwanegol mewn grant cynnal tai, £40 miliwn arall yn y grant cynnal tai, gan ddod â'r cyfanswm i £166,763,000. Dyna ffigur anodd i'w ddweud. Mae hwnnw'n esgor ar newid trawsnewidiol ym maes tai yn arbennig, ond wrth gwrs, mae'n darparu nifer fawr o swyddi yn y gwasanaethau cymorth angenrheidiol, a'r rheswm fod y swyddi hynny'n arbennig o ddiddorol yw oherwydd eu bod wedi'u gwasgaru ledled Cymru wrth gwrs, maent ym mhob cymuned yng Nghymru, ac maent yn hygyrch. Mewn partneriaeth â nifer o'n sefydliadau rhanddeiliaid, rydym yn sicrhau bod y swyddi hynny ar gael i bobl leol i gefnogi pobl yn eu tai lleol.

A'r cynllun diwethaf, mae nifer fawr o gynlluniau, ond y cynllun diwethaf yr hoffwn ei grybwyll yn arbennig yw'r £10 miliwn i gyflwyno'r cynllun grant cartrefi gwag ar draws ardal tasglu'r Cymoedd. Rydym wedi cael dros 600 o geisiadau i gyd ar draws cam 1 a cham 2, a bwriad y cynllun yw dod â nifer fawr o'r cartrefi gwag hŷn yn ôl i ddefnydd buddiol ar gyfer y cymunedau hynny. Mae dwy fantais i hynny, mae'n rhoi gwaith mawr ei angen i fusnesau adnewyddu bach a chanolig yn yr ardaloedd hynny, ac wrth gwrs, mae'n ailfywiogi cymunedau drwy gael pobl i ddychwelyd i fyw a gweithio yn yr ardal. Felly, rwy'n falch iawn o ddweud bod nifer o fentrau ar y gweill.

15:10
Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn meithrin cydnerthedd o fewn gwasanaethau diogelu'r cyhoedd ym maes llywodraeth leol? OQ56235

Diolch, Lynne. Fel y gwyddoch, mae gwasanaethau diogelu'r cyhoedd wedi bod yn rhan hanfodol o ymateb Cymru i effeithiau'r pandemig ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar i wasanaethau diogelu'r cyhoedd mewn awdurdodau lleol, yn arbennig, am ein cynorthwyo yn ystod y pandemig hwn. Hebddynt, yn sicr ni fyddem wedi cael y lefel o brofi, olrhain a diogelu, er enghraifft, a gawsom yng Nghymru, mewn cyferbyniad llwyr â'r sefyllfa ar draws y ffin. Darparwyd arian ychwanegol i awdurdodau lleol drwy'r gronfa galedi llywodraeth leol i gryfhau'r capasiti hwnnw.

Diolch, Weinidog, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch o galon i'r tîm diogelu'r cyhoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sydd wedi gweithio'n ddiflino mewn amgylchiadau sy'n newid yn gyflym i helpu i gadw pobl yn Nhorfaen yn ddiogel yn ystod y pandemig. Mae'r pandemig yn bendant wedi dangos yn fwy nag erioed o'r blaen, pa mor hanfodol yw rôl gwasanaethau diogelu iechyd yng Nghymru, ac rwy'n llwyr groesawu argymhelliad y prif swyddog meddygol y dylid cynnal adolygiad o wasanaethau diogelu iechyd a sicrhau mwy o gyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd felly, wrth symud ymlaen, mewn partneriaeth â llywodraeth leol, i weithredu argymhelliad y prif swyddog meddygol ac i sicrhau bod gennym y system gadarn ac integredig o ddiogelu iechyd sy'n angenrheidiol i ymateb i fygythiadau iechyd yn y dyfodol?

Diolch, Lynne. Rwyf innau hefyd, fel y dywedais, yn adleisio eich cefnogaeth a'ch diolch i'r tîm diogelu'r cyhoedd yn Nhorfaen, a ledled Cymru yn wir, sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd, safonau masnach a thimau trwyddedu hefyd yn arwain yr ymateb i'r pandemig mewn awdurdodau lleol. Rydym yn falch iawn o fod wedi darparu £2.5 miliwn drwy'r gronfa galedi yn benodol ar gyfer helpu awdurdodau lleol i feithrin capasiti'r timau hynny. Arferid meddwl mai timau o staff cefn swyddfa oedd y rhain nad oedd fawr o angen amdanynt o bosibl, ac mae'n dangos y ffolineb o fethu deall natur integredig llywodraeth leol. Pan fyddwch yn wynebu argyfwng fel hwn, mae'n ymddangos yn sydyn iawn mai'r staff cefn swyddfa hyn yw'r rhai sy'n ein cadw ni i gyd yn fyw, felly mae'r ffaith bod y wers hon wedi cael ei dysgu yn rhywbeth i'w groesawu.

Fel y dywedasom wrth osod y gyllideb ddrafft, rydym yn cydnabod effaith barhaus y pandemig, ac o ystyried yr ansicrwydd, rydym yn ystyried cyllid sy'n benodol i COVID fel rhan o'r gyllideb derfynol i sicrhau y gellir diogelu'r staff hynny yn eu gwaith a sicrhau y gellir darparu'r staff ychwanegol hynny yn y dyfodol hefyd. Wrth gwrs, rydym yn hapus i weithio gyda'r prif swyddog meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau ein bod yn deall yr agweddau cydnerthedd yn hynny, yr integreiddio rhwng iechyd y cyhoedd mewn awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ac yn y blaen. Mae hon yn system integredig, ac nid yw hynny erioed wedi bod yn fwy clir nag y bu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Felly, rydym yn gwbl hapus i weithio ochr yn ochr â'r prif swyddog meddygol i sicrhau bod gennym y gwasanaeth mwyaf cadarn—gwasanaeth deniadol hefyd, mewn gwirionedd—i bobl ymuno ag ef yn y dyfodol.

15:15
3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Felly, y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf, ac mae'r datganiad cyntaf gan David Rees. 

Diolch, Lywydd. Yfory, 4 Chwefror, yw Diwrnod Canser y Byd. Ar y diwrnod hwn, byddwn yn atgoffa ein hunain o'r effaith y mae canser yn ei chael ar bobl a'r egni sy'n bodoli mewn cymunedau ym mhob rhan o'r byd i wneud cynnydd yn y frwydr yn erbyn canser. Eleni, gallwn hefyd ystyried sut y mae'r frwydr yn bodoli ochr yn ochr â heriau pandemig byd-eang, ond mae'n rhaid inni gofio nad yw'r frwydr byth yn dod i ben oherwydd, fel coronafeirws, nid yw canser yn diflannu. Mae'n parhau i effeithio ar bobl, ac mae angen inni sicrhau bod y frwydr yn ei erbyn nid yn unig yn parhau ond yn cryfhau. 

Mae'r thema eleni yn canolbwyntio ar y neges, 'Rwyf fi ac fe wnaf', ac mae'n ein hannog i ymrwymo'n bersonol i leihau effaith canser. Nawr, rwy'n siŵr, fel pob Aelod, y byddaf fi, fel yr Aelod dros Aberafan a chadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ganser, yn parhau i gymryd camau cadarnhaol personol a byddaf bob amser yn galw am flaenoriaethu gwasanaethau diagnostig canser yn ystod y pandemig hwn. Nid yw'r angen brys am ddiagnosis cynnar wedi newid. Gwyddom fod y cynnydd cyflym mewn heintiau COVID-19 a'r derbyniadau i ysbytai wedi rhoi pwysau aruthrol ar wasanaethau, ac rwy'n diolch i'n staff sy'n gweithio'n galed i sicrhau y gall diagnosis a thriniaethau canser barhau'n ddiogel.

Mae trefnwyr Diwrnod Canser y Byd yn gofyn i Lywodraethau weithredu drwy gael cynlluniau rheoli canser cenedlaethol. Rwy'n falch ein bod ni yma yng Nghymru yn elwa o'r llwybr canser sengl a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, ond oherwydd y pandemig, mae'n debygol y gallai 3,500 o bobl fod wedi methu diagnosis o ganser yng Nghymru erbyn hyn. Mae llawer i'w wneud i ganfod pob diagnosis a gollwyd. Ni allwn adael i'r feirws hwn ddileu'r angen i fynychu ein meddygfeydd, boed hynny ar gyfer peswch, lwmp neu unrhyw symptom arall sy'n peri pryder. Felly, heddiw, gadewch i ni i gyd ailymrwymo i barhau â'r frwydr yn erbyn canser ac annog pobl i ofyn am gymorth os ydynt yn amau bod rhywbeth o'i le.  

Diolch, Lywydd. Hoffwn longyfarch Jonny Clayton o Bontyberem ar ennill ei deitl dartiau unigol cyntaf ar y teledu. Roedd y Cymro 46 oed ar ei hôl hi o 5-3 i ddechrau ond fe frwydrodd yn ôl i guro Mervyn King o 11-8 yn ystod rownd derfynol Meistri'r PDC yn Milton Keynes yr wythnos diwethaf. Mae'n ystyried rhoi'r gorau i weithio fel plastrwr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin i ganolbwyntio ar ei ddartiau. Yn ddiweddar, disgrifiodd Jonny Clayton ddartiau fel ei 'hobi'.

Nid wyf yn gwybod a ydw i'n mynd i roi'r gorau i weithio,

meddai ar ôl ei fuddugoliaeth enwog,

Caf weld. Nid wyf yn gwybod.

Dywedodd y byddai'n trafod y posibilrwydd o barhau i ganolbwyntio ar ddartiau'n llawnamser gyda'i wraig Elen a'i blant ar ôl iddo gyrraedd adref, ar ôl ennill y wobr werthfawr honno yn rownd derfynol Meistri'r PDC.

Ym mis Tachwedd, enillodd ef a'i gyd-Gymro, Gerwyn Price, Gwpan Dartiau'r Byd. Mae Jonny yn gobeithio y bydd llwyddiant Cymru yn parhau am y pum mlynedd neu 10 mlynedd nesaf. Ychwanegodd:

Mae'n deimlad gwych bod yn Gymro ar yr adeg hon yn y byd dartiau.

Mae cymuned Pontyberem yn falch iawn o'r dinesydd hwn o gwm Gwendraeth. Mae ei gyflawniad syfrdanol wedi ysbrydoli arweinydd y cyngor Emlyn Dole a'r bardd Aneirin Karadog i ysgrifennu limrigau a cherddi i ddathlu ei fuddugoliaeth. Nid wyf am adrodd limrig Emlyn i'r Senedd, ond mae Emlyn wedi dweud cymaint o anrhydedd yw cael pencampwr byd ar gyflogres y cyngor. Fis Tachwedd diwethaf dywedodd:

Rydym yn hynod falch o Jonny a'r cyfan y mae wedi'i gyflawni. Am gyflawniad gwych oedd iddo godi'r tlws dros ei wlad yn y gamp y mae'n ei charu. Mae Jonny yn aelod gwerthfawr o dîm cyngor Sir Gaerfyrddin, ac mae'r un mor dalentog yn plastro ag y mae yn taflu dartiau.

Ychwanegodd Emlyn:

Fel gydag unrhyw aelod o staff sy'n cynrychioli eu gwlad mewn chwaraeon elît, rydym wedi rhoi ein cefnogaeth lawn i Jonny i sicrhau y gall weithio ei swydd bob dydd yn ogystal â chael amser i hyfforddi a chystadlu.

Rwy'n tybio y bydd Emlyn yn ystyried yn awr, ar ôl y fuddugoliaeth ddiweddaraf hon, tybed a allai'r cyngor gynnig cyfnod sabothol i Jonny allu dilyn ei yrfa ddartiau'n llawnamser. 

Fel yr ysgrifennodd y bardd Aneirin Karadog:   

'Drwy’r holl wlad fe lygadai’r llwyth un dart; / aeth ar daith mor esmwyth / o dy blaid i’r dwbwl wyth, / o’i dowlu dros dy dylwyth.'

Gydag ymddiheuriadau i Aneirin am yr ynganu ofnadwy. Jonny, mae Pontyberem yn falch iawn ohonoch, a Chymru hefyd. Da iawn.

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn dalu teyrnged i Capten Syr Tom Moore, a aned ar 30 Ebrill 1920 yng Ngorllewin Swydd Efrog. Roedd ei fam a'i dad yn rhedeg cwmni adeiladu llwyddiannus. Roedd ei dad yn fyddar a bu i'r ymdeimlad o unigrwydd a deimlai ei dad yn sgil y cyflwr hwn aros gyda Syr Tom a dod yn un o'r achosion a hyrwyddodd drwy gydol ei oes. Priododd ei ail wraig Pamela ym 1968 a chawsant ddwy ferch, Lucy a Hannah. Yn anffodus, treuliodd Pamela 10 mlynedd olaf ei hoes yn brwydro yn erbyn effeithiau dementia. Unwaith eto, fe wnaeth y frwydr hon atgyfnerthu cred Syr Tom yn yr angen i ymgyrchu i helpu pobl i oresgyn effeithiau unigrwydd. Bu Capten Syr Tom ar wasanaeth gweithredol yn y dwyrain pell, fel capten yng nghatrawd Dug Efrog yn ystod yr ail ryfel byd, ac fel y gwelsom , gwisgai ei fedalau gwasanaeth gyda chymaint o falchder ac angerdd. Fodd bynnag, nid oedd yn rhamantu ynglŷn ag effeithiau ofnadwy rhyfel ar fywydau pobl a dywedodd am ei brofiad, 'Nid oeddwn yn arwr; roeddwn yn lwcus, dyna'i gyd. Rwy'n gobeithio na fydd rhagor o ryfeloedd; maent yn bethau di-fudd.'

Mae 12 mis olaf ei fywyd wedi bod yn wirioneddol rhyfeddol—gwella o gwymp a barodd iddo dorri asen, cael twll yn ei ysgyfaint a chwalu ei glun i godi bron i £40 miliwn ar gyfer elusennau amrywiol a dod yn arwr a thrysor cenedlaethol ar adeg o argyfwng cenedlaethol. Er fy mod yn siŵr fod sawl un wedi colli deigryn ar ôl clywed am farwolaeth Syr Tom, nid oedd yn ofni marwolaeth, ac rwyf am gloi gyda'i fyfyrdodau:

Ni all rhai pobl oddef y syniad o farwolaeth, ond mae'n rhoi nerth i mi... os mai yfory yw fy niwrnod olaf, os yw pawb a gerais yn aros amdanaf, bydd yr yfory hwnnw'n ddiwrnod da hefyd.

Diolch, syr. Roeddech yn fab, yn frawd, yn filwr, yn ŵr, yn dad ac yn dad-cu rhyfeddol ac yn ddyn da hyd fêr eich esgyrn.

15:20
5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Clyw fy nghân: ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw'

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Clyw fy nghân: ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw'. Galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Bethan Sayed.

Cynnig NDM7575 Bethan Sayed

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Clyw fy nghân: ymchwiliad i’r diwydiant cerddoriaeth fyw', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch am y cyflwyniad, a diolch i Helen Mary Jones a oedd yn Gadeirydd yn fy absenoldeb, ac a wnaeth lawer o waith yn ystod y pandemig i drafod yr effaith ar y diwydiant cerddoriaeth. Ac yn anffodus, effeithiodd y pandemig ar lansiad yr adroddiad hwn, a oedd i fod i ddigwydd yn ystod wythnos gyntaf y cyfyngiadau symud cyntaf, rwy'n credu. Hoffwn ddiolch i'r holl fandiau a'r holl artistiaid hefyd a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn. Nid chawsom y bobl arferol; cawsom fandiau fel Valhalla Awaits, cawsom y Joy Formidable—fy hoff fand—i mewn, cawsom ambell i DJ fel Bethan Elfyn i roi tystiolaeth, a phob un yn ein hysbrydoli i ddeall pa mor bwysig yw cerddoriaeth fyw i'n bywydau. Ond ni allwn anwybyddu'r ffaith bod y pandemig wedi dinistrio'r diwydiant cerddoriaeth yma yng Nghymru ac yn wahanol i wledydd eraill, fel yr Alban a Lloegr, lle roedd rhai pethau'n gallu agor a rhai lleoliadau cerddoriaeth yn gallu ymarfer eu crefft, ni wnaeth Cymru hynny. Mae gennyf ddyfyniad yma gan y band Buffalo Summer, ac er fy mod yn Gadeirydd annibynnol, fe ddywedaf fod y dyfyniad yn anhygoel: 'Roeddem ar daith pan ddigwyddodd y cyfyngiadau symud cyntaf a nawr nid ydym yn gallu gwneud bywoliaeth o gerddoriaeth. Gyda llanast Brexit, nid wyf yn gwybod a fyddwn ni byth yn mynd ar daith o amgylch Ewrop eto. Mae San Steffan wedi siomi ein gwlad. Yr unig ffordd allan yw annibyniaeth.' Felly, dyma sut y mae wedi effeithio ar fandiau ar hyd a lled Cymru ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran llawer o bobl eraill yn y diwydiant—nid yn unig y rhai mewn bandiau, ond y gweithwyr y tu ôl i'r llen, peirianwyr sain, cynhyrchwyr theatr, maent i gyd wedi cael eu heffeithio gan hyn.

O ran yr angen am gymorth y tu hwnt i fis Mawrth 2021, bydd gennym gronfa adferiad diwylliannol Llywodraeth Cymru hyd at fis Mawrth 2021 ac mae llawer o bobl wedi defnyddio'r cynllun penodol hwnnw, ond mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud yn ei bapur cyllideb:

Ein bwriad yw darparu cyllid adferiad ychwanegol ar gyfer 2021-22, ond nid yw ei faint a'r dull o'i weithredu wedi'u pennu eto ar y cam cynnar hwn.

Wel, byddwn yn dadlau nad ydym ar gam cynnar, gyda'r cyllid presennol yn dod i ben ym mis Mawrth, a hoffwn annog y Dirprwy Weinidog i roi rhyw syniad a fydd unrhyw gyllid yn parhau i'r rheini yn y sector, ac a yw'n ddibynnol ar arian San Steffan. Hoffem glywed hynny gennych heddiw.

Mewn perthynas â chymorth i'r hunangyflogedig, wel, mae ein hymchwiliadau i'r pandemig wedi dangos dro ar ôl tro y bu bylchau mewn cymorth cyflogaeth i'r rhai sy'n gweithio yn y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol, gyda llawer yn cael eu gadael allan o'r sefyllfa'n gyfan gwbl. Mae UK Music wedi amcangyfrif bod 72 y cant o'r sector yn hunangyflogedig a dywedodd Undeb y Cerddorion wrthym na all traean o'u haelodau gael mynediad at y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig am amryw o resymau. Nawr, gwyddom fod Llywodraeth Cymru, ynghyd â chynghorau lleol, wedi lansio'r cynllun gweithwyr llawrydd, a chredaf fod hwnnw wedi bod yn wahanol i wledydd eraill y DU, felly byddwn yn dweud bod hwnnw wedi bod yn rhywbeth cadarnhaol i'w groesawu. Ond gwyddom hefyd fod problemau wedi bod o ran gallu pobl i ddefnyddio'r cynllun hwnnw, felly os oes unrhyw gynlluniau o'r fath yn y dyfodol, rwy'n gobeithio y gallem ddatrys rhai o'r problemau cychwynnol hynny.

15:25

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

O ran yr hyn y mae'r sector ei angen ar gyfer ailgychwyn gweithgarwch yn y maes hwn, yn debyg iawn i'r hyn rydym wedi bod yn ei drafod yn y sector chwaraeon, mae'r rheini yn y diwydiannau creadigol yn gofyn yn awr am ryw fersiwn o fap trywydd tuag at allu ailagor. Nawr, rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi dweud yn ein gwaith craffu diweddar ei fod yn ei chael yn anodd gwneud hynny oherwydd ein bod mewn pandemig wrth gwrs, ac mae'n anodd iawn gwneud y penderfyniadau hynny. Rwy'n cydymdeimlo ag ef yn hynny o beth, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iddo ef a'i dîm drafod gyda'r sector beth allai fod yn bosibl o ran ailagor. Er enghraifft, mae rhai lleoliadau ar raddfa fach wedi dweud y gallent agor mewn ffordd sy'n cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol a darparu rhywfaint o gerddoriaeth. Mae tafarndai wedi bod ar agor—efallai y gallem gael band yn y gornel pan fyddwn yn ailagor, fel y gall pobl fwynhau cerddoriaeth yn ogystal â mwynhau eu peint neu eu gwydraid o ddŵr.

Wrth i ni drafod Brexit, wel, yn sicr mae effaith Brexit wedi bod yn wael iawn ar y sector, a diolch yn fawr iawn i'r cyngor celfyddydau a Chyngor Caerdydd am ymateb i'n hymchwiliad ni. Yn sicr, mae'r cyngor celfyddydau yn gywir i nodi nad yw cytundeb masnach Brexit yn caniatáu i artistiaid symud rhwng gwledydd heb rwystrau, a bydd hwn yn gwneud teithio yn Ewrop yn ddrutach ac yn fwy cymhleth o lawer. Cyhoeddwyd y cytundeb ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, a bydd hyn yn effeithio ar nifer ac ystod yr artistiaid o Ewrop sy’n gallu perfformio yma, a’r artistiaid o Gymru sy’n gallu teithio yn Ewrop.

O ran rhelyw'r adroddiad, mae'n bwysig dydyn ni ddim yn anghofio bod yna argymhellion sy’n mynd yn bellach na'r pandemig pan wnaethon ni edrych ar y mater yma yn wreiddiol. Felly, gwnaethon ni gynnig, er enghraifft, cefnogaeth i leoliadau ar lawr gwlad, gan gynnwys ailfeddwl rheolau trwyddedu; cefnogaeth i bobl, cefnogaeth i ddatblygu talent ac unigolion; hyrwyddo cerddoriaeth o Gymru yn benodol; a hefyd strategaeth ar gyfer llwyddiant. Dŷn ni i gyd yn ymwybodol bod y sector cerddoriaeth yn helpu ein heconomi i fyw yn iach, ac yn cefnogi busnesau lleol, ond hefyd dŷn ni'n cydnabod y ffaith bod angen strategaeth drosfwaol sy'n gallu ymgymryd â'r ffaith bod cerddoriaeth yn fwy na dim ond yr economi, ond mae'n datblygu creadigrwydd ac mae'n caniatáu i ni ddod at ein gilydd fel cymdeithas i gydweithredu. Yn sicr, mae angen celf arnom ni yn fwy nag erioed yn ystod y cyfnodau clo yma. Mae'n rhoi siawns i ni gael llonydd mewn amseroedd anodd. Mae'n rhoi siawns i ni wrando ar bodlediadau gwahanol neu ar raglenni radio fyddem ni ddim efallai wedi cael cyfle i wrando arnyn nhw os nad oeddem ni mewn sefyllfa o gyfnod clo. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am bwysigrwydd hynny, o shanties môr ar TikTok i gôr y gwasanaeth iechyd yn dod at ei gilydd—sut mae cerddoriaeth wedi gallu uno'r genedl yn ystod y cyfnod anodd, anodd iawn yma.

I orffen, hoffwn i ddweud ei bod yn bwysig dweud pa mor ddiwyd mae'r pwyllgor wedi gweithio yn y maes yma ar yr ymchwiliad penodol yma. Dŷn ni'n falch bod y Llywodraeth wedi gwrando, hyd yn oed yn ystod prosesau'r pwyllgor—er enghraifft, dŷn ni wedi argymell bod project Forté yn cael ei estyn i bob ardal o Gymru, a dŷch chi wedi gwrando a dŷch chi'n mynd i gonsidro gwneud hynny, yn hytrach na ei fod e jest yn rhan o ardal de Cymru. Hefyd, roeddem ni wedi argymell yn yr adroddiad penodol yma eich bod chi'n cael cronfa gyllid ar gyfer diogelu lleoliadau, ac wrth gwrs dŷch chi wedi gwneud hynny, a dŷn ni'n falch iawn eich bod chi wedi cymryd y fantol a gwneud hynny.

Felly, mae'n bwysig cydnabod pa mor effeithiol mae pwyllgorau yn gallu bod. Mae lot o artistiaid wedi diolch i ni am y gwaith yn y sector. Dŷn ni wedi cael grŵp arbenigol i'n helpu ni sicrhau bod yr argymhellion yn gallu bod mor gryf â phosib. Ond dwi'n edrych ymlaen at gyfraniadau Aelodau eraill ac at gael trafodaeth ar rywbeth sydd mor bwysig i'n bywydau ni oll.

Rwy'n credu y byddwch yn falch o glywed nad wyf am siarad am bob un o'r 31 o argymhellion. A gaf fi dynnu sylw at rai rwyf eisiau eu crybwyll yn fwyaf arbennig? Yr un cyntaf rwyf am ddechrau gydag ef yw y dylem ddathlu ein cenedl ddwyieithog yn well, o ran yr hyn a wnawn yn y byd artistig, a bod rhaniad deuol rhy bendant rhwng digwyddiadau Cymraeg a Saesneg, a dylai Cymru Greadigol annog llawer mwy o gydweithio rhwng y sectorau. Felly, hyd yn oed mewn rhaglenni Saesneg eu hiaith yn bennaf, gallech gael rhai bandiau Cymraeg hefyd. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n fewnwelediad pwysig iawn, ac rwy'n falch fod hynny wedi'i wneud i ni yn y dystiolaeth.

Credaf fod yr angen am strategaeth gerddoriaeth, fel ein bod yn hyrwyddo brand rhyngwladol Cymru gartref a thramor yn argymhelliad allweddol iawn oherwydd credaf fod gennym lawer iawn i'w gynnig. Ac os edrychwch, yn sicr, ar rai rhannau o'r byd sydd wedi dod yn boblogaidd iawn ar gyfer twristiaeth ym mhen uchaf y farchnad, yn aml eu cynnig artistig sy'n arbennig o ddeniadol. Ac rwy'n credu bod gennym dreftadaeth gyfoethog, ac mae llawer ar gael allan yno, a gallwn adeiladu ar hynny. Ac o edrych ar lefel fwy lleol, yn ogystal â strategaeth genedlaethol mae angen byrddau cerddoriaeth lleol arnom—ac rwy'n falch o ganmol Caerdydd, sydd ar y blaen yma ac sydd eisoes yn datblygu un—byrddau cerddoriaeth sy'n cynnwys y sector cyfan, ac nid dim ond ar gyfer hyrwyddo ochr greadigol cerddoriaeth, ond i edrych hefyd ar rai o'r materion anos, fel trwyddedu, sydd eisoes wedi'i grybwyll, yn ogystal â'r hyn sydd yng nghwricwlwm yr ysgol hyd yn oed, oherwydd mae cerddoriaeth yn cael ei gau allan fwyfwy. Clywais yn ddiweddar am ddileu jazz o gerddoriaeth Safon Uwch mewn rhai mannau, sy'n beth braidd yn rhyfedd i'w wneud, byddai rhywun yn meddwl. Ond dyma'r mathau o faterion y gallai'r byrddau cerddoriaeth lleol edrych arnynt.

Rwy'n pryderu nad yw'r egwyddor cyfrwng newid bob amser yn hollbwysig. Oherwydd wrth inni ddatblygu ein hardaloedd canol dinas a chanol trefi yn gwbl briodol, rwy'n teimlo y bydd mwy o angen gwneud hynny, mae'n debyg, o ganlyniad i COVID, gan fod angen inni addasu rhai o'r ardaloedd manwerthu blaenorol hyn yn enwedig at ddibenion gwahanol, ond gyda'r perygl bod datblygu mwy o dai yn yr ardaloedd hyn yn arwain at wthio lleoliadau cerddoriaeth traddodiadol allan, neu eu gorfodi i gydymffurfio â gofynion cynyddol feichus. Felly, credaf fod angen edrych ar hyn yn ofalus.

Ac yn olaf, a gaf fi ddweud, mewn perthynas â rhai pethau ar ôl COVID, er bod hwn yn waith sy'n mynd rhagddo, mae'n ymddangos y byddwn yn byw gyda COVID—gan ymdopi'n llawer gwell, gobeithio, oherwydd y brechlynnau—ond byddwn yn byw gydag ef am beth amser. Ac roeddwn yn teimlo nad oedd pob un o'n tystion, pan oeddwn yn gofyn cwestiynau iddynt, fel, 'A allech chi weld y defnydd o dystysgrifau brechu, er enghraifft, yn rhan o'r broses o agor lleoliadau cerddoriaeth eto?', nid wyf yn siŵr a yw pobl wedi dechrau meddwl am hyn yn iawn eto, ac rwy'n credu bod angen iddynt wneud hynny, ac yn wir mae angen i'r Llywodraeth a llywodraeth leol wneud hynny hefyd. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

15:30

Fe wnaf ddatgan buddiant ar sail fy aelodaeth o Undeb y Cerddorion. Yr her i ni, wrth gwrs, yw beth fydd y normal newydd mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu y bydd yn rhaid inni fod yn ystwyth ac yn hyblyg yn y ffordd rydym yn addasu ac yn annog cerddoriaeth fyw yn yr amgylchedd newidiol roedd David Melding yn cyfeirio ato. Roedd yn adroddiad eang iawn ac rwy'n credu bod rhai agweddau ar y sesiynau tystiolaeth yn agoriad llygad i lawer ohonom mewn sawl ffordd. Mae gennyf bryderon gwirioneddol ynglŷn â'r her o gael cerddoriaeth fyw'n weithredol eto mewn lleoliadau, ac rwy'n credu ei bod hi'n amlwg y bydd angen cymorth.

Mae gennyf bryderon hefyd am yr her nawr, ar ôl bron i 12 mis o COVID, i rai o'r digwyddiadau cerddoriaeth sefydledig sydd gennym yn rhan o'n diwylliant. Ac rwy'n meddwl am bethau fel y corau a'r bandiau pres, sy'n sydyn yn wynebu'r perygl o fwlch yn y llif o aelodau newydd a'r gallu i berfformio o fod wedi cael eu hamddifadu o'r arfer o berfformio a chymryd rhan. Ac mae'r rhain yn rhan mor hanesyddol a gwerthfawr o'n diwylliant fel bod rhaid inni edrych ar sut y gallwn annog a chefnogi mewn ffordd wahanol.

Fy agwedd at elfennau o'r adroddiad mewn gwirionedd yw canolbwyntio ar gerddoriaeth lawr gwlad, a'r materion cydraddoldeb a ddaeth i'r amlwg, hynny yw fod rhaid inni ddechrau edrych ar gerddoriaeth a diwylliant byw mewn ffordd wahanol sy'n llawer mwy hygyrch. Felly, roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn peth o'r dystiolaeth a gawsom, a oedd yn dechrau creu cysylltiad rhwng mater lleoliadau a digwyddiadau cerddoriaeth a theithio a thrafnidiaeth—y gallu i'w cyrraedd. A'r rheswm pam nad yw llawer o bobl o lawer o'r cymunedau tlotach, neu gymunedau dosbarth gweithiol hyd yn oed, yn gallu cael mynediad atynt yw oherwydd diffyg rhyng-gysylltiad rhwng yr hygyrchedd hwnnw. Ac efallai fod hynny'n rhywbeth y gallwn edrych arno nawr, yn enwedig gan ein bod bellach yn berchen ar ran fwy helaeth o'r rheilffyrdd a'n bod yn edrych ar fwy o gydlynu teithio.

Y broblem fawr i mi, serch hynny, pe bai'n rhaid imi nodi un, yw'r hyn a heuir ar gyfer ein dyfodol ar ffurf cerddoriaeth mewn ysgolion. Y dysgu, y cyllid cyson a'r ffaith fy mod yn argyhoeddedig fod gennym fwlch cydraddoldeb mawr yn datblygu yn ein hysgolion o ran pwy sy'n gallu fforddio offerynnau, pwy sy'n gallu manteisio ar gerddoriaeth, hyrwyddo cerddoriaeth fel rhan normal o addysg. Mae'n dysgu mathemateg, mae'n dysgu ymgysylltu cymdeithasol, mae'n dysgu cymaint o bethau sy'n bwysig i rannau eraill o'r cwricwlwm. Ac rwy'n credu o ddifrif pe bai un maes y gallem wneud gwahaniaeth enfawr ynddo ar gyfer y dyfodol, hyrwyddo, cefnogi cerddoriaeth yn ein hysgolion yw hwnnw, cynhyrchu cenedlaethau newydd cyfan sydd naill ai'n cael budd o gerddoriaeth er ei fwyn ei hun a ddaw gyda chwarae offeryn neu gymryd rhan mewn gweithgarwch cerddorol a diwylliannol, yn hytrach na'r gwahanol opsiynau gyrfa sy'n anochel yno fel rhan o'r economi honno.

Ac yn olaf, i ailadrodd y pwynt a wnaeth Bethan: rôl gweithwyr llawrydd. Union natur y diwydiant hwn, union natur yr amrywiaeth a geir ynddo, rhaid inni gydnabod nifer y bobl yn rhan o hynny sy'n hanfodol iddo ac y bydd angen cymorth arnynt am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

15:35

Diolch. Rwy'n credu efallai fy mod am dynnu sylw ar y cam hwn at y ffaith mai dadl 30 munud yw hi, ac nid wyf yn siŵr a yw'r Cadeirydd yn ymwybodol ei bod wedi gadael 10 eiliad iddi hi ei hun ar y diwedd i gloi'r ddadl. Yn dibynnu ar sut y mae eich holl siaradwyr eraill yn gwneud, efallai y caniatâf ychydig mwy na 10 eiliad i chi gloi, gan mai dyma eich tro cyntaf yn gwneud adroddiad pwyllgor, ond cyfraniad tri munud ydyw ac wyth munud i'r Cadeirydd gyflwyno a chloi. Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fel cenedl, rydym ni'n dathlu llenyddiaeth a cherddoriaeth yn ein hanthem genedlaethol ni drwy sôn am 'wlad beirdd a chantorion'. Mae gennym ni draddodiad hir o ran cerddoriaeth a cherddoriaeth fyw yn benodol. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth felly wneud yn siŵr ei bod yn gwneud bob dim o fewn ei gallu i gefnogi, cynorthwyo a hyrwyddo diwydiant cerddoriaeth fyw Cymru. Ac, fel efo llawer o sectorau eraill, mae'r pandemig wedi effeithio'n enbyd ar y sector.

Mae adroddiad y pwyllgor yn hynod gynhwysfawr gan roi'r chwyddwydr ar gyflwr y diwydiant cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Mae'n adlewyrchu'r problemau a wynebodd y sector, ac maen nhw'n dal i'w wynebu ar hyn o bryd, ac mae o hefyd yn tanlinellu'r bygythiad y mae coronafeirws yn ei beri i'r sector.

Un peth sy'n fy nharo i'n syth, wrth ddarllen y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o'r ymgynghoriad i'r ymchwiliad, ydy'r angen am strategaeth gerddoriaeth gan y Llywodraeth. Mae recordiau SAIN yn dweud fel hyn: 

'Yr wyf yn gryf o’r farn mai un o brif ddiffygion y diwydiant cerdd yng Nghymru yw’r ffaith nad oes strategaeth gynhwysfawr gan y Llywodraeth sy’n edrych ar y diwydiant cerdd yn ei gyfanrwydd.'

Ac, i'r perwyl hynny, felly, mae'n dda gweld argymhelliad 6, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r diwydiant, ddatblygu strategaeth gerddoriaeth. Ym marn Plaid Cymru, mae'n rhaid i hyn fod yn strategaeth holistaidd, gynhwysol a bod yn rhan annatod o'r strategaeth ddiwylliant newydd sydd ei hangen ar Gymru.

Mae yna ddatblygiadau positif, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at Ddydd Miwsig Cymru, a'r diwrnod hwnnw eleni yn cael ei gynnal ddydd Gwener yma—mae'n amlwg mewn ffordd hollol wahanol. Ond mae angen adeiladu ar hyn. Nid diwrnod yn unig, ond mae eisiau prosiectau lleol sy'n creu cyfleoedd 12 mis y flwyddyn i bobl ddysgu, perfformio, hyrwyddo a threfnu digwyddiadau. 

Mae'n rhaid i ni ddefnyddio cerddoriaeth i ddenu pobl ifanc at y Gymraeg, yn enwedig yn yr oed ôl-addysg, ble mae yna gwymp sylweddol yn nifer y siaradwyr. Ac, fel mae siaradwyr eraill wedi sôn, mae angen gweithredu ar argymhelliad rhif 9, sef y galw am sefydlu'r gronfa gyfalaf yma a allai helpu cadw lleoliadau fel Gwdihŵ, Caerdydd, er enghraifft, ac mi fyddai yna newidiadau yn gallu digwydd yn y system gynllunio hefyd i sicrhau bod adeiladau ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yn aros yn hyfyw.

Dwi'n croesawu'r adroddiad, ac yn ddiolchgar iawn i'r pwyllgor ac i'r holl dystion am gymryd yr amser i gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae'r argymhellion amrywiol yn eang, ac yn sicr yn rhoi llawer i'r Llywodraeth, ac i ni fel Aelodau Senedd sy'n cymryd diddordeb mewn polisi diwylliant, llawer iawn i'w ystyried.

15:40

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau ddiolch i staff y pwyllgor a'r holl dystion a roddodd dystiolaeth inni. Roedd yn waith eithaf sylweddol, ac rwy'n credu ei fod wedi cynhyrchu adroddiad pwysig a sylweddol.

Hoffwn gyfeirio at argymhelliad 6 hefyd, a'r angen am strategaeth gerddoriaeth, a fyddai, fel y dywed yr argymhelliad, yn fuddiol iawn y tu allan i Gymru, yn ogystal ag o'i mewn. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gyfarwydd, onid ydym, â Cŵl Cymru pan ddigwyddodd, ac roedd gennym lawer o fandiau roc proffil uchel o'r ansawdd uchaf yn dod i amlygrwydd tua'r un pryd. Ac rwy'n credu bod hynny wedi rhoi delwedd ryngwladol wych i Gymru, ac ni ddylem danbrisio pwysigrwydd hynny. Mae'n ymwneud â phŵer meddal, onid yw, rhywbeth y mae'r British Council a Llywodraeth y DU yn gweithio'n galed i'w sefydlu a'i ddatblygu. Mae'n bwysig tu hwnt i unrhyw genedl, ac roedd yn ddelwedd wych i ni yn fy marn i.

Yn lleol yng Nghasnewydd, roedd gennym sîn gerddoriaeth fyw lewyrchus, ac mae llawer o bobl yn siarad am TJ's, y lleoliad anhygoel gydag atgofion gwych a melys. Ac yna cawsom Le Pub, sy'n lleoliad gwych hefyd, ac yn wir rhoddodd y perchennog dystiolaeth i'r pwyllgor. Ac mae hynny wedi bod yn bwysig iawn i Gasnewydd wrth newid delwedd y ddinas, a hefyd wrth ganiatáu ansawdd bywyd da i bawb yn lleol sydd eisiau mwynhau cerddoriaeth fyw. Felly, ni ddylem danbrisio pwysigrwydd cerddoriaeth yn lleol, yn genedlaethol nac yn rhyngwladol, a chredaf y gallai strategaeth gerddoriaeth ystyried yr hyn y gellid ei wneud a'i ddatblygu'n effeithiol. 

Hoffwn gytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd Mick Antoniw, ac ystyried argymhelliad 13 mewn perthynas ag ysgolion. Fy mhrofiad fy hun, fel y dywedodd Mick, yw ei fod yn anghyfartal iawn ar hyn o bryd. Mae Cerddoriaeth Gwent yn darparu gwasanaeth gwych, ond mae llawer o'r ddarpariaeth yn dibynnu ar rieni'n talu amdano, ac yn amlwg mae hynny'n cau'r drws ar lawer iawn o deuluoedd. Felly, mae gwir angen inni fynd i'r afael â hynny. Mae gan bawb dalentau, ac mae'n ofnadwy meddwl y bydd rhai plant yn datblygu eu doniau a bydd eraill ar eu colled oherwydd amgylchiadau eu geni, ac mae gwir angen inni wneud rhywbeth am hynny. Mae'n wastraff mawr o botensial dynol, ac mae cerddoriaeth yn un agwedd ar hynny, a gobeithio y gall yr adroddiad hwn fod yn gatalydd i wneud mwy nag a wnawn ar hyn o bryd i ymgodymu â'r materion hynny.

A dim ond un mater arall. Gall elusennau fod yn bwysig iawn ar gyfer darparu cyfleoedd i'r rhai na fyddent fel arall yn eu cael i ddysgu chwarae offeryn cerddorol a chael profiad. Yng Nghasnewydd, gwnaeth elusen cerddoriaeth ddefnydd o siop wag ynghanol y dref, a gallai pobl o unrhyw oedran gerdded i mewn oddi ar y strydoedd a rhoi cynnig ar chwarae offeryn cerdd a chael hyfforddiant, dod yn ôl dro ar ôl tro, datblygu eu diddordeb a'u doniau, ac roedd ochr gymdeithasol gref iawn iddo hefyd. Ar adeg pan ydym yn chwilio am ddefnydd amgen ar gyfer ein hadeiladau canol y dref a chanol y ddinas—ac mae'n debyg y bydd hynny'n cyflymu oherwydd y pandemig a siopa ar-lein ac yn y blaen—dyna ddefnydd gwych o adeilad, adeilad gwag, ynghanol ein trefi a'n dinasoedd i ddarparu cyfleoedd i roi cynnig ar offerynnau cerdd, ac i ddatblygu a meithrin dawn.  

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth?

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch hefyd i'r pwyllgor am yr adroddiad ac am y cyfraniadau gan Aelodau eraill y prynhawn yma. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu derbyn, mas o'r argymhellion, 31 ohonyn nhw. Rydyn ni wedi derbyn y mwyafrif llethol. Y rhai dydyn ni ddim wedi'u derbyn fel Llywodraeth oedd rhai oedd ddim wedi'u cyfeirio'n benodol tuag atom ni.

Felly, a gaf esbonio yn gryno beth yw ein ffordd ni o weithredu yn y maes yma, sef drwy weithredu drwy'r corff cyhoeddus newydd sydd gyda ni yn rhan o Lywodraeth Cymru, ond sy'n gweithredu'n annibynnol, sef Cymru Greadigol? Fy nisgwyliad i ydy y bydd yna gynllun gweithredu cerddoriaeth ar gyfer Cymru gyfan ac y bydd Cymru Greadigol yn datblygu'r cynllun hwnnw yn benodol ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth fasnachol. Bydd y cynllun gweithredu rydyn ni'n gobeithio ei weld drwy Cymru Greadigol yn gweithredu ar faterion tymor byr sydd eu hangen i ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus difrifol sydd yn parhau i'n hwynebu ni, ond mae'n bwysig hefyd bod y cynllun gweithredu tymor hwy yn edrych ar y posibiliadau o rôl cerddoriaeth fyw yng Nghymru mewn marchnad fyd-eang.

Rydyn ni'n derbyn, wrth gwrs, mai cerddoriaeth fyw oedd un o’r rhai a gafodd yr ergyd galetaf yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus, ond rydyn ni wedi rhoi cymorth i dros 70 o fusnesau cerddoriaeth. Ac mae hynny'n golygu cefnogi lleoliadau, wrth gwrs—y lleoliadau, y stiwdios recordio a'r mannau ymarfer. Mae'r rhain i gyd wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol, ond rydyn ni wedi rhoi dros £4 miliwn i ddelio â'r sefyllfa yma, a hynny drwy Cymru Greadigol ac yn uniongyrchol o gronfeydd cefnogol eraill y Llywodraeth.

Ein bwriad ni ydy cadw'r busnesion cerddoriaeth yn fyw ac rydyn ni wedi rhoi pwyslais arbennig, wrth gwrs, ar y sefyllfa sydd yn wynebu'r rhai sydd yn gweithio yn llawrydd. Rydyn ni'n derbyn, yn sicr, y bydd angen am gyllid pellach ac mi fydd hwnnw'n cael ei weithredu drwy Cymru Greadigol yn ogystal â thrwy'r cronfeydd datblygu cerddoriaeth y mae sôn amdanyn nhw wedi bod yn barod. Mi fydd yna gronfa datblygu cerddoriaeth. Rydyn ni ar hyn o bryd yn ystyried yr opsiynau i roi cymorth ychwanegol i'r £8.9 miliwn a roddwyd eisoes i weithwyr llawrydd. Mae yna frys yn sicr i ymateb ac rydyn ni'n falch ein bod ni wedi gallu cael cyllid sylweddol allan yn gyflym yn yr argyfwng yma. Rydyn ni hefyd yn parhau i edrych ar y pwysigrwydd o gefnogi a chynorthwyo prosiectau datblygu talent fel Bannau a Momentwm, ac mi fydd y rhain hefyd, gobeithio, yn rhan sylfaenol o’r cynllun gweithredu cerddoriaeth.

Mae'r cymorth rydyn ni wedi'i roi i brosiect PYST, sef AM, yn llwyddiant ysgubol ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r modd y maen nhw wedi manteisio ar eu cyfle. Mi fydd ein ffordd gydweithredol ni o weithio wrth ymateb i heriau yn parhau. Dyma'r ffordd o weithio o bartneriaeth wirioneddol, sy'n rhan annatod o waith y tîm cerddoriaeth yn Cymru Greadigol, yr awdurdodau lleol a phawb arall sydd yn rhan o gynorthwyo a chefnogi'r diwydiant cerddoriaeth masnachol. Diolch yn fawr.

15:45

Diolch yn fawr iawn. Nid oes yr un Aelod wedi dweud eu bod am ymyrryd, felly galwaf yn awr ar Bethan i ymateb i'r ddadl. Bethan.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ymddiheuro am fynd dros amser. Mae'n anodd amseru yn y fath modd. Diolch i'r Dirprwy Weinidog am yr ymateb ac i bawb sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma. Yn anffodus, dwi ddim yn gallu mynd drwy eich sylwadau i gyd, ond mae popeth dŷch chi wedi'i ddweud heddiw yn bwysig i ddod â phatrwm o'r hyn sydd yn bwysig i'r dyfodol o ran cerddoriaeth fyw, p'un a yw hynny yn yr ysgol, trwy'r cwricwlwm, neu yn ein cymunedau ar lawr gwlad, p'un a ydyw ynglŷn â'r sefyllfa trafnidiaeth, lle rŷn ni'n gallu sicrhau bod cerddoriaeth fyw yn mynd yn agosach at y bobl—mae hi oll yn bwysig er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth yn gallu bod yn rhywbeth i bawb yn hytrach na dim ond i'r bobl hynny sydd yn gallu fforddio hynny.

Dwi'n clywed beth mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ddweud ynglŷn â chynllun gweithredu ar gyfer cerddoriaeth fasnachol a bydd yn dda inni allu gweld hynny fel pwyllgor—os nad y pwyllgor yma yn y Senedd yma, yna'r pwyllgor yn y Senedd nesaf—gan obeithio y bydd diwylliant a cherddoriaeth fyw yn rhan gynhenid o unrhyw bwyllgor i'r dyfodol. Dwi'n siŵr bod pob Aelod o'r Senedd yma heddiw yn colli mynd i weld cerddoriaeth fyw, yn colli mynd i gigs, ac mae'n rhaid i ni feddwl am y bobl hynny sy'n gweithio yn y sector a helpu nhw i ddod â cherddoriaeth yn fyw unwaith eto ar ôl i'r pandemig yma—efallai nad unwaith iddo fynd i ffwrdd yn gyfangwbl, ond wedi iddo wella, i bawb sy'n gweithio yn y sector. Diolch yn fawr iawn.

15:50

Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd adroddiad y pwyllgor.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogaeth i ofal lliniarol yn ystod y pandemig

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian. 

Eitem 6 ar yr agenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, sef cefnogaeth i ofal lliniarol yn ystod y pandemig. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7581 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cofnodi 37,403 o farwolaethau yng Nghymru yn 2020.

2. Yn cydnabod effaith y pandemig COVID-19 ar y rhai sy'n darparu gofal diwedd oes a'r rhai sydd â salwch angheuol a'u hanwyliaid, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau'r coronafeirws ar ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol gofal lliniarol o ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth profedigaeth o dan amgylchiadau o'r fath.

4. Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol Nyrsys Cymru o ran nyrsys yn bod yn flinedig, o dan straen a bron ac wedi'u gorweithio'n llwyr oherwydd y pandemig a'r pwysau ychwanegol o ddarparu gofal diwedd oes.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) parhau i adolygu'r canllawiau sy'n gysylltiedig ag ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal, fel bod teuluoedd a gweithredwyr yn gallu galluogi cyswllt diogel a thosturiol yn ystod gofal diwedd oes;

b) sicrhau bod y rhai sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes, yn ogystal â'u hanwyliaid, yn gallu cael gafael ar ofal a chymorth emosiynol o ansawdd uchel;

c) cynyddu'n sylweddol y cymorth ariannol ar gyfer gofal lliniarol a gwasanaethau cymorth profedigaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf i ddiwallu'r anghenion cynyddol a mwy cymhleth sy'n deillio o'r pandemig;

d) gweithredu cynllun hirdymor i gefnogi nyrsys a staff gofal i ddelio â straen wedi trawma a materion iechyd meddwl a achosir gan y gofyniad cynyddol am ofal lliniarol.

Cynigiwyd y cynnig.

Wrth ganolbwyntio ar yr angen i gefnogi gofal lliniarol yn y pandemig, mae ein cynnig yn cydnabod effaith pandemig COVID-19 ar y rhai sy'n darparu gofal diwedd oes a'r rhai sydd â salwch angheuol a'u hanwyliaid, ac yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol gofal lliniarol o ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth profedigaeth. 

Ni fu gofal lliniarol a gofal diwedd oes erioed mor bwysig ag y maent yn awr. P'un ag a ydynt yn marw o COVID-19 neu gyflyrau angheuol eraill a chyflyrau eraill sy'n byrhau bywyd, mae angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes arbenigol ar bobl. Mae'r cynnydd difrifol yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â'r pandemig wedi cynyddu'r angen am ofal hosbis a gofal lliniarol, ar ben angen sydd eisoes yn cynyddu, gyda'r rhagamcanion eisoes y bydd marwolaethau blynyddol o dan amgylchiadau arferol yn cynyddu 25 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf. Fel y dywed Marie Curie, hyd yn oed cyn y pandemig nid oedd un o bob pedwar o bobl yn cael y gofal na'r cymorth roeddent eu hangen ar ddiwedd eu hoes. Mae pobl yn byw'n hirach gyda chyflyrau lluosog, ac erbyn hyn mae ein byd yn cynnwys feirws a allai orfodi unrhyw un ohonom i wynebu ein marwolaeth ein hunain yn gynt nag y disgwyliem. 

Fel y dywed Hospice UK, yn ystod y pandemig mae Cymru wedi gweld cynnydd o 10 y cant yn nifer y marwolaethau, a gallai pob person sy'n marw o COVID-19 elwa o ofal lliniarol a gofal diwedd oes. Mae hosbisau a gwasanaethau gofal lliniarol y GIG wedi darparu dilyniant gofal i bobl â chyflyrau angheuol a chyflyrau sy'n byrhau bywyd drwy gydol y pandemig. Mewn rhai achosion, mae staff rheng flaen hosbisau wedi bod ymhlith yr unig weithwyr iechyd a gofal proffesiynol sydd mewn cysylltiad â phobl wrth iddynt nesáu at ddiwedd eu hoes. Er bod llawer o bobl am farw yn eu cartrefi eu hunain, i rai, yr hosbis yw'r lle gofal y maent yn ei ddewis, ac i lawer, efallai na fydd yn bosibl nac yn ymarferol iddynt gael cefnogaeth i allu marw yn eu cartref eu hunain, gan amlygu pwysigrwydd unedau hosbis i gleifion mewnol hefyd. Drwy gydol y pandemig, mae hosbisau wedi mynd ati'n rhagweithiol i sicrhau bod mynediad gan gymunedau at eu gwasanaethau cleifion mewnol sy'n darparu gofal diwedd oes arbenigol neu ofal mewn argyfwng os bydd eu hangen arnynt. Newidiodd Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam ei broses atgyfeirio fel y gallai pobl neu eu teuluoedd hunangyfeirio i'w gofal, yn ogystal â chadw llwybrau traddodiadol atgyfeirio proffesiynol. Yn hytrach na chau, sicrhaodd yr hosbis fod mwy o fynediad at eu gofal i bob pwrpas.

Ym mis Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hyd at £6.3 miliwn i gefnogi gofal hosbis clinigol craidd parhaus, a datblygu gofal profedigaeth hosbisau, gan gydnabod y gofal hanfodol a ddarperir gan hosbisau pan nad oes darpariaeth GIG amgen ar waith, gofal a ariennir yn bennaf drwy roddion elusennol. Yn 2019, roedd angen i hosbisau godi £33.3 miliwn yn ychwanegol at y £5.7 miliwn a gawsant o ffynonellau statudol. Er i Lywodraeth Cymru ddyrannu £6.3 miliwn i gronfa argyfwng yr hosbisau, mae hyn yn llai hael na chronfeydd cyfatebol ym mhob un o wledydd eraill y DU, ac mae'n sylweddol is na'r cyfanswm a ddyrannwyd i Lywodraeth Cymru mewn cyllid canlyniadol o gymorth Llywodraeth y DU i hosbisau yn Lloegr. 

Ni chadarnhawyd unrhyw gymorth ychwanegol i hosbisau yng Nghymru i gynnal eu gwasanaethau hanfodol yn ystod 2020-21, ac maent yn wynebu diffyg cyfunol o £4.2 miliwn erbyn mis Mawrth, sef mis nesaf. Fodd bynnag, mae hosbisau a gwasanaethau gofal lliniarol cymunedol yn dal i ddarparu gofal wyneb yn wyneb hanfodol i bobl. Mae mwy o bobl yn derbyn gofal ar ddiwedd eu hoes yn eu cartrefi eu hunain, a hyn pan nad yw teuluoedd estynedig a ffrindiau yn gallu bod gyda hwy, gan roi teuluoedd agos o dan bwysau enfawr. Mewn cyferbyniad, ychwanegodd GIG Lloegr hyd at £125 miliwn at eu pecyn ariannu gwreiddiol ar gyfer y pum mis o fis Tachwedd 2020 i fis Mawrth 2021, sy'n cyfateb i hyd at £6 miliwn ychwanegol mewn cyllid canlyniadol i Lywodraeth Cymru. Unwaith eto, nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn elwa ohono. At hynny, nid oedd unrhyw arwydd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 o gymorth parhaus i hosbisau er mwyn cynnal eu gwasanaethau hanfodol, er gwaethaf eu diffyg cyfunol amcangyfrifedig o £6.1 miliwn yn ystod 2021-22.

Cyn y pandemig, cytunodd Llywodraeth Cymru i adolygu cyllid elusennol i hosbisau, gan gydnabod nad yw'r trefniadau presennol yn adlewyrchu angen y boblogaeth am ofal lliniarol yn gywir nawr, na'r cynnydd a ragwelir yn y dyfodol. Hyd yma, nid yw'r adolygiad hwn wedi dod i law. Mae'r holl wasanaethau hosbis i gleifion mewnol sy'n darparu gofal diwedd oes arbenigol neu ofal mewn argyfwng wedi parhau drwy gydol y pandemig, fel y mae timau hosbis a chwnsela profedigaeth, gyda llawer ohonynt hefyd yn cynnig gofal iechyd meddwl a phrofedigaeth arbenigol i staff iechyd a gofal lleol drwy'r pandemig. Wrth i gynllun cyflawni presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal diwedd oes ddod i ben, mae hosbisau yng Nghymru yn galw am gynllun cenedlaethol newydd sy'n arfer dull system gyfan ac sy'n ymateb i'r newid mewn marwolaethau yn y cartref drwy gydol y pandemig. Fel y mae'r pandemig wedi dangos, dylai pob person gael mynediad at ofal diwedd oes arbenigol ac urddasol ni waeth ble maent yn marw. Diolch.

15:55

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Rhun.

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

(e) mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal diwedd oes da.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl yma. Ar lefel bersonol, dwi wedi cael boddhad o ddysgu mwy am y maes gofal diwedd oes yn y blynyddoedd diwethaf drwy weithio'n agos efo Marie Curie a Hospice UK yn benodol, ond digon prin, mewn difri, ydy'r cyfle inni gael neilltuo amser i drafod hyn yn y Senedd, felly dwi'n falch ein bod ni'n gallu gwneud hynny heddiw. Mae o'n faes mor, mor bwysig, wrth gwrs, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn faint o briefings ac ati sydd wedi cael eu hanfon ataf i ac eraill gan wahanol sefydliadau dros y dyddiau diwethaf. Dwi'n ddiolchgar am y rheini.

Mi fyddwn ni'n cefnogi'r cynnig heddiw. Mae ein gwelliant ni, yn syml iawn, yn ymwneud â thrio sicrhau ein bod ni'n cydnabod yr anghydraddoldebau sydd yn bodoli o hyd mewn mynediad at ofal diwedd bywyd. Mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi newid sut mae llawer o wasanaethau yn cael eu delifro, a dydy hynny ddim gwahanol yn y maes gofal diwedd oes. Rydyn ni'n gwybod bod rhyw 2,000 yn rhagor o bobl wedi marw gartref yn ystod y pandemig na mewn blynyddoedd diweddar, a thra ei bod hi wrth gwrs wastad wedi bod yn ddymuniad i allu cynnig i bobl allu marw gartref os mai dyna eu dymuniad nhw, dydyn ni ddim yn gwybod, wrth gwrs, os ydy safon y gofal mae'r rheini wedi'i dderbyn yn y misoedd diwethaf wedi bod yr hyn ddylai fo fod, a dwi'n amau, o bosib, na fu o o'r safon yr hoffem ni ei weld, a hynny oherwydd y pandemig. Mae'r pandemig hefyd, dwi'n meddwl, wedi amlygu'r anghydraddoldebau roeddem ni'n ymwybodol ohonyn nhw cynt, a hynny oherwydd bod y pandemig ei hun wedi dangos yn glir iawn pa mor anghyfartal ydy ein cymunedau ni, efo'i effeithiau anghymesur o ar gymunedau tlotach ac ar gymunedau lleiafrifol, er enghraifft.

Felly, sut ydyn ni'n ymateb i hynny? Yn gyntaf, rydyn ni angen cynllun newydd sy'n cymryd agwedd holistig, ac un sydd yn sicr yn sylweddoli'r gweithlu sydd ei angen er mwyn delifro gwasanaethau ym mhob rhan o Gymru. Yn ail, mae eisiau sylweddoli bod cartrefi gofal yn ddarparwyr gofal lliniarol, a sicrhau'r rheoliadau a pholisïau comisiynu sydd yn adlewyrchu hynny. Yn drydydd, mae eisiau edrych yn benodol ar faterion sy'n ymwneud â gofal lliniarol i blant a phobl ifanc, nid yn unig y gweithlu, efo rhyw 240 o nyrsys plant cymunedol yn brin yn y system ar hyn o bryd, ond hefyd drwy gynnig gwell cefnogaeth i deuluoedd ac i frodyr a chwiorydd. Ac, wrth gwrs, mewn dadl fel hon heddiw, mae'n gyfle i ni gael clywed mwy o syniadau yn cael eu rhoi gerbron.

Mi wnaf i orffen drwy ofyn ychydig o gwestiynau'n benodol i'r Gweinidog. Yn gyntaf, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn cyllido gwasanaethau nyrsio plant cymunedol mewn ffordd gynaliadwy, un ai wedi'u darparu gan yr NHS neu wasanaethau hosbis i blant yn y cartref? Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i lenwi'r gap yn y gweithlu nyrsio cymunedol efo'r sgil a'r profiad sydd ei angen i ddarparu gofal lliniarol i blant ar ddiwedd oes? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn dal byrddau iechyd lleol i gyfrif am y ffordd y maen nhw'n cynllunio a chyllido nyrsio plant cymunedol ar gyfer plant sydd ag anghenion gofal lliniarol? Diolch yn fawr.

16:00

Mae llawer o gyd-Aelodau yn y ddadl hon wedi canolbwyntio'n briodol ar effaith COVID-19 ar unigolion sydd angen gofal diwedd oes a'u teuluoedd a fyddai, mewn amgylchiadau arferol, wedi gallu eu cysuro a'u cefnogi ar yr adeg hon. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cafwyd straeon dirdynnol am gleifion yn agosáu at ddiwedd eu hoes yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal, lle na fu'r cariad a'r gefnogaeth deuluol naturiol honno'n bosibl—mater y cyfeiriodd Mark Isherwood ato'n gynharach wrth agor.

Yn araith rymus olaf y Farwnes Tessa Jowell i Dŷ'r Arglwyddi, disgrifiodd mor huawdl yr hyn y mae'n ei olygu i fyw gyda salwch sy'n byrhau bywyd, a gwnaeth ddatganiad dwfn am fywyd a marwolaeth, sy'n berthnasol i'r ddadl hon heddiw. Dywedodd,

Yn y pen draw, yr hyn sy'n rhoi ystyr i fywyd yw nid yn unig sut y caiff ei fyw, ond sut y mae'n dirwyn i ben.

Mae gofal diwedd oes nid yn unig yn bwysig i'r ffordd y mae unigolyn yn marw, ond sut y rhoddir ystyr i fywyd unigolyn; sut, yn rhannol, y caiff y bywyd hwnnw ei gofio. Mae nid yn unig yn ymwneud â gofal meddygol, ond â gofal personol hefyd. Mae cynnwys teulu a ffrindiau agos yn ganolog i hynny. Yr hyn a fu mor anodd i bobl a'u perthnasau dros y misoedd diwethaf yw absenoldeb yr hyn y byddid yn ei ddisgwyl fel arfer pan fo rhywun yn agosáu at ddiwedd eu hoes a'r trallod a fo ynghlwm wrth hynny i deuluoedd. Ac wrth gwrs, fel y clywsom, nid teuluoedd yn unig sydd wedi dioddef, mae staff wedi dioddef hefyd. Dyna pam y mae ein cynnig yn cynnwys yr effaith ar ein staff iechyd a gofal sydd wedi dangos y fath broffesiynoldeb a thrugaredd yn ystod y pandemig.

Mae angen gwasanaethau gofal lliniarol a chymorth profedigaeth o ansawdd uchel ar deuluoedd a staff, i gydnabod rhywfaint o drawma'r 10 mis diwethaf. Mae angen i ni ddeall yn well yr effaith ar ein staff a sut y mae profiadau'r pandemig hwn wedi llywio eu barn am eu rôl a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu, a beth y mae'r frwydr yn erbyn COVID yn ei olygu mewn perthynas â recriwtio staff iechyd a gofal y dyfodol.

Rydym i gyd yn gwybod bod ein staff iechyd a gofal yn gweithio mewn amgylcheddau anodd ar adegau arferol, ond ni allai neb fod wedi rhagweld rhai o'r amodau mewn wardiau ysbytai ac ystafelloedd cartrefi gofal dros y misoedd diwethaf, lle mae cynifer o bobl wedi colli eu bywydau. Mewn llawer o achosion, mae staff nid yn unig wedi bod yn gwneud eu gwaith ac yn darparu gofal lliniarol, ond maent wedi gweithredu fel teuluoedd dirprwyol lle na chaniatawyd i aelodau o'r teulu ymweld. Os ydym o ddifrif am ymateb i ganlyniadau'r pandemig hwn, mae angen inni ailystyried sut y darperir gwasanaethau profedigaeth a chymorth. Dyna pam rwy'n cefnogi ein galwad am fframwaith profedigaeth cenedlaethol a'n bod yn cydnabod bod angen digon o arian i sicrhau nad yw COVID-19 yn creu pandemig arall—pandemig salwch meddwl.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn sôn am yr heriau penodol a wynebir gan bobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor (MND) ledled Cymru—heriau y mae'r Gymdeithas MND wedi tynnu sylw atynt. Mae'r Gymdeithas MND wedi bod yn ymgyrchu i ganiatáu i gleifion MND gael budd-daliadau'n gyflymach dros gyfnod y pandemig. Ar lefel y DU, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi gorffen eu hadolygiad, a hoffwn glywed gan y Gweinidog yn nes ymlaen sut y gall Llywodraeth Cymru helpu dioddefwyr MND i gael cymorth yn gyflymach yn ystod camau olaf bywyd.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig hwn. Gadewch inni ymdrechu i helpu cleifion sydd â salwch hirdymor ac angheuol i gael y gofal sydd ei angen arnynt hwy a'u teuluoedd. Gadewch inni ymdrechu i sicrhau bod ein meddygon a'n nyrsys yn gallu manteisio ar rwydwaith cymorth priodol i'w helpu gyda'u lles emosiynol, a gadewch inni sicrhau bod pobl o bob rhan o Gymru yn gallu manteisio ar wasanaethau profedigaeth proffesiynol.

Rwy'n croesawu cynnig y Torïaid, oherwydd rwy'n credu nad ydym yn siarad digon am farwolaeth, er ei fod yn ein hwynebu ni i gyd yn y pen draw. Rwy'n credu mai un o'r pethau gwaethaf am y pandemig yw pobl yn marw yn yr ysbyty heb fod eu hanwyliaid yno i afael yn eu llaw. Felly, rwy'n llwyr ganmol ymdrechion arwrol staff nyrsio a gofal cymdeithasol sydd wedi galluogi pobl i farw gydag urddas, hyd yn oed os nad ydynt wedi gallu ffarwelio â'u hanwyliaid, heblaw drwy ryw fath o ddyfais.

Mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau marw gartref. Mae honno'n ffaith absoliwt. Rwy'n credu bod Syr Tom Moore—un o'r pethau sydd mor wych amdano yw ei fod wedi byw bywyd hollol lawn hyd y diwedd. Aeth ar wyliau olaf i Barbados ychydig cyn iddo farw, felly pob lwc iddo. Ond fe fu'n ddigon ffodus i gael byw gydag o leiaf ddwy genhedlaeth o'i deulu, a rhaid inni gydnabod, fel y mae'r gwelliant yn ei wneud, nad oes gan bawb deulu sydd â lle ar gyfer y genhedlaeth hŷn yn ogystal â'r genhedlaeth iau.

I bobl nad oes ganddynt deulu o gwbl, gall cartrefi gofal ddarparu rhwydwaith cymdeithasol amgen da iawn i bobl sy'n ei chael hi'n anodd symud o gwmpas. Felly, credaf fod staff mewn cartrefi gofal wedi gwneud gwaith eithriadol yn ymdrin â'r heriau a wynebwyd ganddynt yn ystod y pandemig. Ond wrth inni gefnu ar y pandemig, hoffwn weld cartrefi gofal yn cael eu hintegreiddio'n well yn y cymunedau lle maent, ac yn dod yn fwy democrataidd o ran eu ffordd o weithredu.

Y peth gwaethaf am gartref gofal yn fy marn i yw'r perygl o arwahanrwydd oddi wrth weddill y gymdeithas. Gwn fod mentrau ardderchog yn bodoli i alluogi plant i fynd i gartrefi gofal a chanu caneuon neu siarad â phobl hŷn, ac mae'r rheini i gyd yn ganmoladwy. Ond mae llawer iawn mwy y gallem ei wneud, fel maent yn ei wneud mewn lleoedd fel Sgandinafia a'r Iseldiroedd i wneud cartrefi gofal yn rhan o'r gymuned—mannau lle mae bwyd a baratowyd gan y staff gyda'r preswylwyr yn cael ei werthu i'r cyhoedd wedyn.

Yn olaf, hoffwn ddweud fy mod yn credu bod y cynlluniau peilot nyrsio cymdogaeth—y gwerthusiad a wnaethpwyd ohonynt yn arwydd clir o'r llwybr yr hoffwn ein gweld yn ei ddilyn er mwyn sicrhau y gall pobl aros yn eu cartref eu hunain gyda'r gofal a'r cymorth sydd ei angen arnynt, cyhyd ag y bo modd. Dyna lle mae'n well gan bobl fod yn y rhan fwyaf o amgylchiadau. Felly, credaf fod llawer mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod diwedd oes yn adeg lawer mwy urddasol a hapus. 

16:05

Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rydym yn cefnogi'r cynnig wrth gwrs. Marwolaeth yw un o'r unig bethau sy'n anochel mewn bywyd. Mae galluogi pob un ohonom i farw'n dda yn nodwedd o gymdeithas dosturiol. Yn anffodus, nid ydym bob amser wedi darparu'r gofal diwedd oes gorau, ac mae hyn wedi'i waethygu gan ddyfodiad feirws SARS-CoV-2.

Y llynedd, gwelsom fod nifer dinasyddion Cymru a gollodd eu bywydau wedi cynyddu dros 10 y cant i dros 37,000. Digwyddodd dros 6,000 o'r rheini yn sgil y clefyd ofnadwy hwn sydd wedi cyfyngu ar hyd oes anwyliaid ar draws y wlad. Cyn y pandemig, cafodd un o bob pedwar o'r rhai a oedd angen gofal lliniarol eu hamddifadu o'r lefel gywir o ofal.

Mae astudiaethau lluosog hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod gofal lliniarol digonol ac amserol yn llai hygyrch i bobl hŷn a phobl yn y gymuned ddu, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig. Bydd yr anghydraddoldebau hyn wedi cynyddu o ganlyniad i COVID-19, sydd wedi effeithio'n anghymesur ar yr henoed ac aelodau eraill o'n cymuned.

Mae llawer gormod o bobl wedi cael eu gorfodi i wynebu diwedd eu hoes heb deulu a ffrindiau o'u cwmpas. Mae llawer gormod wedi marw ar eu pen eu hunain, a byddai mwy fyth wedi gwneud hynny oni bai am ein staff nyrsio anhygoel a staff y GIG yn gyffredinol. Ond mae hyn wedi gadael ei ôl. Fel y noda'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, mae'r Pwyllgor Nyrsio Brenhinol wedi mynegi pryderon ynglŷn â nyrsys yn bod yn flinedig, o dan straen, a bron â bod wedi'u gorweithio'n llwyr oherwydd y pandemig a'r pwysau ychwanegol o ddarparu gofal diwedd oes. Mae hyn yn anghynaliadwy. Rhaid inni sicrhau bod gennym wasanaethau gofal lliniarol a phrofedigaeth ag adnoddau priodol, gwasanaethau sydd wedi'u trethu'n ddifrifol o ganlyniad i'r pandemig hwn. Ac mae'n anffodus na fu unrhyw gyllid ychwanegol yn y gyllideb sydd ar y ffordd ar gyfer hosbisau, ar gyfer gwasanaethau profedigaeth nac ar gyfer cymorth iechyd meddwl i nyrsys yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig hwn. Ac mae llawer o nyrsys a staff y GIG yn dioddef o straen oherwydd y pandemig hwn.

Ychydig cyn y Nadolig, aeth fy ngŵr i'r ysbyty gyda COVID-19, a threuliodd bum wythnos yno. Gwelodd lawer o bobl na ddaethant allan yn eu holau. Gwelodd deuluoedd mewn trallod. Clywodd nyrsys dan straen go iawn oherwydd hyn. Felly, rhaid inni wneud yn well i staff ein GIG, rhaid inni wneud yn well fel y gall ein dinasyddion farw'n dda, ac fel nad yw'r rheini sy'n helpu i leddfu'r baich yn cael eu trawmateiddio gan y profiad. Cefnogwch y cynnig hwn. Diolch yn fawr iawn.

16:10

A allwch chi fy nghlywed i nawr? Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod y ddadl y prynhawn yma yn hollbwysig. Fel y clywsom eisoes, mae effaith y pandemig ar weithwyr iechyd proffesiynol, yr unigolion y maent yn gofalu amdanynt, a phawb sydd wedi colli eu hanwyliaid—boed o COVID-19 neu o achosion eraill—wedi bod yn enfawr. Ac yn ddealladwy, mae'r risg o ledaenu'r feirws wedi arwain at newidiadau enfawr i'r ffordd y darperir gofal a chymorth ac wrth gwrs, i allu'r rhai sy'n wael ac ar ddiwedd eu hoes i gael y cyswllt personol y maent yn ysu amdano gyda'u hanwyliaid.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cyswllt personol, corfforol â'n hanwyliaid. Mae llawer o bobl sy'n ffit ac yn iach ledled Cymru yn ysu am allu cofleidio anwyliaid neu i ddal eu llaw ar hyn o bryd, a dim ond y bobl sydd gartref, yn ffit ac yn iach, yw'r rheini. Ond dychmygwch y boen o wahanu i'r rhai nad ydynt wedi gallu gwneud y pethau hyn ac sydd ar ddiwedd eu hoes. Iddynt hwy, mae'r posibilrwydd o wybod efallai mai ar ddyfais fel ffôn symudol neu iPad y byddant yn gweld eu hanwyliaid am y tro olaf yn dorcalonnus. Ac nid torcalonnus iddynt hwy yn unig, ond i'w hanwyliaid hefyd—y mamau, tadau, meibion, merched, brodyr, chwiorydd a ffrindiau agos sy'n wynebu'r trawma o beidio â gallu bod yn bresennol yn y cnawd i ffarwelio am y tro olaf ac i roi'r cysur y maent ei eisiau wrth i'w bywydau ddirwyn i ben. Ar ben hyn, cawsom gyfyngiadau ar angladdau—mae'r rheini hefyd wedi gadael eu hôl, gyda llai o bobl yn gallu bod yn bresennol i gynnig gair caredig neu i fyfyrio'n bersonol pan fydd rhywun wedi marw. Ac i lawer, rwy'n credu bod y cyfyngiadau hyn wedi dwysáu'n fawr yr ymdeimlad o golled a galar y mae pobl wedi'i brofi.

Nawr, gwyddom fod staff yn ein hysbytai, cartrefi gofal a hosbisau wedi gweithio'n eithriadol o galed, ac maent wedi dangos tosturi mawr tuag at y rhai sydd yn eu gofal a thuag at eu teuluoedd, ond er gwaethaf yr ymdrechion hyn, ni fu'n bosibl goresgyn effaith enfawr y rheolau caeth iawn sydd ar waith. Ac ar ben y pwysau eraill y mae gweithwyr allweddol wedi'i wynebu fel milwyr rheng flaen, os mynnwch, yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, mae'r profiadau hyn wedi cael effaith wirioneddol ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, fel y mae siaradwyr eraill wedi dweud. Felly, nid yw'n syndod fod adroddiadau wedi bod am weithwyr iechyd proffesiynol yn dioddef o bethau sy'n debyg i anhwylder straen wedi trawma.

Ac am yr holl resymau hyn mae mynediad at ofal bugeiliol o ansawdd uchel, caplaniaeth, cwnsela a chymorth profedigaeth yn gwbl hanfodol. Mae gwaith y grŵp trawsbleidiol ar ffydd, y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth, a'r grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol wedi tynnu sylw at lawer o'r gwasanaethau hyn yn ystod y pandemig, ac wedi ein hatgoffa ni i gyd pa mor werthfawr ydynt i'r rhai sy'n eu defnyddio. Ac er fy mod yn falch y bu rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaethau hyn yn ystod y pandemig, rwy'n credu ei bod yn gwbl glir i bawb fod angen mwy o gyllid a bod angen inni gynyddu gallu'r gwasanaethau hyn i ymdopi â'r galwadau cynyddol arnynt. Gwyddom y bydd angen y cymorth hwn yn y dyfodol. Mae'n mynd i fod yn hir i lawer o bobl—llawer mwy estynedig nag y byddai fel arall. Felly, mae angen i'r cymorth fod yn sylweddol ac yn rheolaidd yn y blynyddoedd i ddod. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn yn sgil y ddadl heddiw, ac rwy'n annog pawb i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw.

16:15

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr heddiw ac i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn a oedd gan y siaradwyr i'w ddweud. Ni fyddaf yn gallu ateb yr holl gwestiynau, ond byddaf yn dod at y rheini ar y diwedd. A dylwn ddweud ar y dechrau fy mod, ar y cyfan, yn cefnogi'r cynnig a'r gwelliant.

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw'n fwy nag erioed at y ffaith y gall gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes, gan eu helpu i fyw cystal ag sy'n bosibl, a phan ddaw'r amser, i farw gydag urddas. Gall hefyd wneud gwahaniaeth sylweddol i'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl a sut y maent yn ymdopi â'r galar o golli rhywun annwyl. Mae hefyd wedi pwysleisio'r effaith emosiynol y gall gweithio yn y sector gofal diwedd oes a/neu ofalu am rywun ar ddiwedd eu hoes ei chael.

Rydym yn parhau i fuddsoddi dros £8.4 miliwn bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol ledled Cymru. Mae llawer o'r arian hwn yn mynd i gefnogi hosbisau, sy'n ganolog i'n dull o weithredu gofal diwedd oes. Ni ellir tanbrisio'r cymorth y maent yn ei roi i gleifion, teuluoedd a gofalwyr. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r bwrdd gofal diwedd oes a'r byrddau iechyd dros y misoedd nesaf i adolygu'r cyllid a roddir i hosbisau oedolion a phlant, ac mae'n bwysig cydnabod rôl bwrpasol hosbisau plant yn yr adolygiad hwn. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dyrannu £6.3 miliwn o gyllid brys i gefnogi hosbisau drwy gydol y pandemig. Rwy'n falch o gyhoeddi y byddwn yn darparu £3 miliwn ychwanegol i gefnogi hosbisau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, gan godi cyfanswm y buddsoddiad ychwanegol i hosbisau yn ystod y pandemig i £9.3 miliwn.

Rwy'n cydnabod yr effaith y gall marwolaeth rhywun annwyl ei chael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau, yn enwedig yn sgil y cyfyngiadau a roddir arnom gan COVID-19. Mae galar yn rhan naturiol o'n hymateb i farwolaeth. Fodd bynnag, heb allu ymweld ag anwyliaid ar ddiwedd eu hoes neu gyflawni ein defodau a'n harferion cyfarwydd, gall y profiad o alar fod yn fwy cymhleth fyth. Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi cyhoeddi canllawiau i sicrhau y caniateir i gleifion ar ddiwedd eu hoes, boed yn yr ysbyty, hosbis neu gartref gofal, gael ymweliad gan eu hanwyliaid, nid yn unig yn yr eiliadau olaf, ond yn wir, yn nyddiau olaf eu hoes. Mae cydbwyso hawliau pobl a chefnogi eu lles gydag awydd i ddiogelu pobl rhag y risg o haint yn parhau i fod yn heriol iawn. Gyda'n gilydd, rhaid inni ymateb i'r her honno a gwneud popeth yn ein gallu i gynorthwyo pobl i weld eu hanwyliaid mewn ffordd mor ddiogel â phosibl.

Mae gwaith ar ddatblygu fframwaith profedigaeth cenedlaethol yn mynd rhagddo'n dda. Bydd y fframwaith yn nodi egwyddorion craidd, safonau gofynnol ac ystod o gamau gweithredu i gefnogi cynlluniau rhanbarthol a lleol. Bydd yr ymgynghori'n parhau y gwanwyn hwn ac fe'i cefnogir gan £1 filiwn o gyllid ychwanegol o fis Ebrill 2021. Rydym hefyd wedi darparu £900,000 o gymorth ychwanegol i hosbisau a darparwyr gwasanaethau profedigaeth drwy gydol y pandemig i wella eu gofal a'u cymorth profedigaeth yn benodol.

Rwyf hefyd am gydnabod y rôl hanfodol y mae nyrsys ardal yn ei chyflawni drwy ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes gartref ac mewn cartrefi gofal, a'u cymeradwyo am gynnal gwasanaethau ymweld â'r cartref drwy gydol y pandemig. Fodd bynnag, fel yr Aelodau eraill, rhaid inni gydnabod bod angen ein cefnogaeth arnynt hwy a'n holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a phartneriaid yn y trydydd sector hefyd. Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i wella'r gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru, sy'n cynnig gwasanaeth cyfrinachol ac am ddim, model haenog o gymorth iechyd meddwl sydd ar gael i bawb sy'n gweithio, yn astudio ac yn gwirfoddoli i GIG Cymru. Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael hefyd i gefnogi pawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Wrth orffen, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal diwedd oes a chymorth profedigaeth o ansawdd uchel lle bynnag y bo angen. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ystod yr wythnosau nesaf i ymateb i'r pwyntiau niferus a wnaethpwyd gan Aelodau yn y ddadl heddiw, ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ehangach ym maes gofal diwedd oes. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.


Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Fel y dywedodd Mark Isherwood ar y dechrau, nid yw erioed wedi bod mor bwysig inni drafod yr hyn rydym yn ei drafod heddiw.

Mae nifer o Aelodau wedi cyfeirio at y gobaith y byddwn i gyd yn marw'n dda, ac mae rôl gwasanaethau lliniarol yn hynny yn gwbl hanfodol. Rwy'n credu fy mod wedi nodi yn y ddadl heddiw efallai fod angen gwell integreiddio rhwng yr hosbisau yr ydym i gyd yn gyfarwydd â hwy ac yn deall eu rôl, ond gyda'r nyrsys ardal efallai, gyda'r ysbytai, fel y soniodd Jenny, ond hefyd y cartrefi gofal, y soniodd Jenny amdanynt—mae'r rhain i gyd yn rhan o'r stori o ddarparu gofal lliniarol da. Ac yn enwedig gyda chartrefi gofal, lle rydym wedi gweld 21 y cant o bobl yn marw, o'i gymharu ag 16 y cant mewn blynyddoedd blaenorol, mae arwydd yno o gryfder y rôl y mae cartrefi gofal yn ei chwarae yn helpu pobl i farw'n dda. A chredaf fod hyn yn bwysicach nag erioed o'r blaen, oherwydd fel y soniodd eraill, rydym wedi bod mewn amgylchiadau anodd iawn; ni chafwyd unrhyw gysylltiad personol â'r rhai sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes. Ac ar ben y profiadau y mae pawb ohonom wedi'u cael, ceir haen o euogrwydd nad yw pobl yn gallu treulio amser gyda'u hanwyliaid wrth iddynt gyrraedd diwedd eu hoes, a haen o euogrwydd efallai nad oeddent yn gallu eu cael gartref dros fisoedd olaf eu bywyd. Ac oherwydd hynny, os ydym yn sôn am gynllun darparu gofal newydd neu fframwaith newydd, Weinidog—ac rwy'n ddiolchgar i chi am eich sylwadau heddiw—mae angen inni fod yn fwy ymwybodol o'r ymatebion cymhleth hyn i alar a sicrhau ein bod yn cynnwys ein nyrsys, ein meddygon, ein gweithwyr cartrefi gofal ac wrth gwrs, ein gwasanaethau profedigaeth, nad ydynt wedi cael llawer o sylw heddiw. 

Ac yna i orffen gennyf fi—Weinidog, diolch yn fawr ichi am y cyhoeddiad rydych wedi'i wneud heddiw am yr arian ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau hyn cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod ychydig mwy o symiau canlyniadol yn dod gan Lywodraeth y DU ar gyfer y cyfnod hwn, ond fe sonioch chi am wasanaethau eraill sy'n ymwneud â chefnogi iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn, ac efallai fod rhywfaint o'r arian wedi mynd tuag at hynny. Rwy'n rhannu pwynt Caroline Jones nad oes sôn yn benodol am wasanaethau galar a phrofedigaeth yn y gyllideb, felly mae eich sylwadau heddiw wedi fy helpu gyda hynny. 

Rwy'n tybio fy mod am orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ddweud bod hwn yn un maes lle na ddylai fod rhaid inni graffu arno'n arbennig o drylwyr o ran cyllid a chyflawni. Mae'n faes lle dylem ragdybio bob amser a dylem fod yn dawel ein meddwl bob amser ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Ac felly, os caf orffen drwy ddiolch i aelodau'r ddau grŵp trawsbleidiol sydd wedi helpu i lywio'r ddadl heddiw ac wedi gwneud i bawb ohonom feddwl ychydig mwy am yr hyn sy'n bwysig i ni. Diolch.

16:20

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, felly mae'r cynnig—. O mae'n ddrwg gennyf. Rhun, a ydych wedi codi eich llaw, oherwydd mae ychydig oddi ar y camera? Iawn. Rwy'n gweld gwrthwynebiad. Ydw, rwy'n gweld gwrthwynebiad, felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Cyllido'r Llyfrgell Genedlaethol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 3 yn enw Mark Isherwood. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliant 2 a gyflwynwyd i’r cynnig. 

Eitem 7 ar ein hagenda yw dadl Plaid Cymru ar ariannu'r llyfrgell genedlaethol, a galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig. Siân.

Cynnig NDM7580 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei gorfodi i dorri swyddi a chwtogi'n ddifrifol ar wasanaethau heb fwy o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar frys y cyllid annigonol a ddyrannwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022 a darparu setliad ariannu cynaliadwy i'r Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn diogelu'r gweithlu presennol ac yn caniatáu i'r llyfrgell ehangu ei gwaith hanfodol ar gyfer y dyfodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn sgil y newyddion da y bydd pecyn ariannu newydd gwerth £6.2 miliwn ar gael ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yma, dwi yn gobeithio bydd ein cynnig ni yn cael ei basio yn unfrydol gan y Senedd heddiw. 

Mae datganiad y Llywodraeth yn dweud bod y cyllid ar gyfer y llyfrgell genedlaethol yn cynnwys cyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu rhai argymhellion allweddol yr adroddiad teilwredig, a hefyd i gwrdd â diffygion ariannol i ddiogelu swyddi ac i fynd i'r afael â'r camau difrifol mae angen eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd tymor hwy. Fodd bynnag, mae angen sicrwydd ynglŷn â'r codiad yn y waelodlin sydd ei angen i'r dyfodol. Mater i'r Llywodraeth nesaf fydd hynny, beryg, ac mae pobl Cymru yn gwybod yn iawn pa blaid i'w chefnogi os ydyn nhw am weld ein sefydliadau pwysig yn dod yn rhan greiddiol ac annatod o fywyd ein cenedl ni.

Dwi wedi cael fy ysbrydoli gan y gefnogaeth sydd wedi cael ei dangos i'r llyfrgell genedlaethol dros y dyddiau diwethaf—miloedd wedi arwyddo deiseb; cefnogaeth wedi dod o bob cwr o'r byd. Ond mae hi'n resyn o beth bod angen yr ymgyrch yma yn y lle cyntaf. Mi ddylai ein sefydliadau cenedlaethol fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth gwlad, nid yn destun tro pedol munud diwethaf gan Weinidogion Llafur. Mae'n rhyfedd, onid yw, mai bore yma y daeth y cyhoeddiad am yr arian, ar drothwy cynnal pleidlais yn y Senedd prynhawn yma. Nid dyma ydy'r ffordd i drin un o drysorau cenedlaethol nodedig ein cenedl ni. Ond fe ddaeth y llyfrgell genedlaethol yn symbol o'n hunaniaeth fel pobl ac fel cenedl dros y dyddiau diwethaf yma. Fe ddangoswyd dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o werth y sefydliad a gwerth y trysorau sydd ynddo. 

A gadewch inni oedi am funud a dathlu'r dreftadaeth gyfoethog, odidog sydd yn yr adeilad eiconaidd sy'n sefyll yn fawreddog uwchlaw tref Aberystwyth. Dyma gartref rhai o lawysgrifau mwyaf hynafol Ewrop, cyfreithiau Hywel Dda a Llyfr Du Caerfyrddin, 6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd, lluniau gan Kyffin Williams, Tunnicliffe a Turner, dros filiwn o fapiau, Archif Sgrin a Sain Cymru. Mae'r rhestr yn faith, y trysorau mor werthfawr i dreftadaeth cyfoethog Cymru.

Mi ddylai cynnal a datblygu'r llyfrgell genedlaethol fod yn fater o flaenoriaeth i Lywodraeth ein gwlad, ond, yn hytrach, beth welson ni oedd tro pedol gwleidyddol gan Lafur yn sgil pwysau cynyddol o bob cyfeiriad. Dyma ni'n gweld y Llywodraeth yn gorfod ildio a cholli wyneb yn sgil dicter cynyddol y cyhoedd wrth i un o'n sefydliadau cenedlaethol gael ei esgeuluso a'i ddiystyru. Fe ddylid bod wedi cyhoeddi'r arian yma yn ôl yn yr hydref yn lle rŵan, ar yr unfed awr ar ddeg. Fodd bynnag, diolch i bawb ddaru godi llais a lobio am y penderfyniad a'r tro pedol yma. 

Gaf i sôn yn gyflym am ddau benderfyniad arall y mae angen i Lafur eu newid? Bydd canolfan cymunedol a chaffi y Paddle Steamer yng Nghaerdydd yn cael ei dinistrio oherwydd penderfyniadau Llafur ar gyngor Caerdydd. Maen nhw'n bwriadu cael gwared â sefydliad hanesyddol a hwb cymunedol yn Butetown i wneud lle i ddatblygiad tai. Er i ymgyrchwyr ofyn am gael cadw lle i'r caffi ar y safle yma fel rhan o'r datblygiad, fe wrthodwyd hyn gan gyngor Caerdydd. Os ydyn ni wir am greu Cymru sy'n dathlu ein hanes a diwylliant yn eu holl amrywiaeth, mae'n rhaid cofio bod achub sefydliadau fel y Paddle Steamer yr un mor bwysig ag achub ein llyfrgell genedlaethol.

Mae Llafur hefyd yn ddigon hapus i adeiladu amgueddfa filwrol ym Mae Caerdydd, gan gael gwared ar yr unig ardal o dir gwyrdd sydd yna, er i filoedd ei wrthwynebu. Mae amgueddfa lwyddiannus yn darparu cysylltiad clir i brofiadau bywyd y trigolion lleol. Does gan Gaerdydd ddim hanes milwrol, felly mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: hanes pwy sydd yn cael ei ddweud yn yr amgueddfa filwrol yma? Yn lle amgueddfa filwrol, yr hyn sydd ei angen ydy amgueddfa genedlaethol ar gyfer hanes a threftadaeth pobl ddu a phobl o liw, a hynny yng nghanol y gymuned yn Butetown.

I gloi, dwi'n credu bod angen i'r Llywodraeth ddysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd dros y dyddiau diwethaf yma. Mewn pwyllgor o'r Senedd ddydd Gwener diwethaf, fe ddaru Llafur wrthod fy ngwelliannau i fyddai wedi sicrhau bod pob plentyn yn cael dysgu am hanes ein gwlad yn ei holl amrywiaeth. Fe gefnogwyd y gwelliannau gan y Torïaid, ac rydw i'n diolch i Suzy Davies a Laura Jones am y gefnogaeth yna. Mae yna don o gefnogaeth yn adeiladu tu ôl i'r ymgyrch dysgu hanes Cymru, ac mi fydd gwelliannau Plaid Cymru yn cael eu trafod eto gennym ni i gyd yn y Senedd yma ar 2 Mawrth. Mae angen penderfyniad rŵan gan y Llywodraeth i gefnogi'r gwelliannau. Cafwyd ymgyrch gref i sicrhau dyfodol y llyfrgell genedlaethol. Mae pobl Cymru yn teimlo yr un mor gryf am ddysgu hanes Cymru. Gair i gall, Lywodraeth Cymru.

16:25

Diolch. Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid wyf wedi dethol gwelliant 2. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.

16:30

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthi’n cynnal ymgynghoriad a bod Llywodraeth Cymru’n parhau mewn trafodaeth barhaus â nhw i asesu pob opsiwn posibl.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

Gwelliant 3—Mark Isherwood

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r dystiolaeth awdurdodol a ddarparwyd yn yr adolygiad teilwredig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nad yw'r Llyfrgell Genedlaethol yn cael y lefel o gyllid sydd ei hangen arni ar hyn o bryd i ddarparu ei gwasanaethau craidd.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig felly.

Rwy'n siarad fel un o ddefnyddwyr a chefnogwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ac a gaf fi atgoffa pawb yma hefyd fod y grŵp Ceidwadol yn y Senedd wedi adneuo ei archif yn y llyfrgell genedlaethol? Rwy'n gobeithio y bydd y pleidiau gwleidyddol eraill yn gwneud hyn hefyd, oherwydd mae cadwraeth ein hatgofion gwleidyddol yr un mor bwysig â chadwraeth agweddau eraill ar gelf enaid y genedl Gymreig, os caf ei roi felly.

Hoffwn ganmol yr egwyddor o adolygiad pwrpasol. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn, oherwydd mae'n cynnig ffocws manwl iawn. Ac rwy'n credu bod yr adolygiad hwn yn ymarfer ardderchog, yn wirioneddol fanwl, ac mae wedi caniatáu inni wneud penderfyniad pwysig iawn, ac rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am y cyhoeddiad a wnaeth ddoe. Rwy'n credu ei fod yn briodol. Rwy'n credu mai'r mater sy'n codi nawr yw bod gennym fodel cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac mae'n debyg mai dyna fydd gwaith y Senedd nesaf i'w graffu er mwyn sicrhau hynny, ond rwy'n credu y byddai'n anodd peidio â chroesawu'r cynnydd sydd wedi'i wneud, ac nid oes gennyf amheuaeth na fydd y Gweinidog yn siarad am hyn ac ymagwedd Llywodraeth Cymru. Cyd-ddigwyddiad hapus yn ôl pob tebyg yw bod y pethau hyn wedi dod at ei gilydd y prynhawn yma.

Rwyf hefyd am ganmol natur arloesol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn yr unfed ganrif ar hugain, yn oes digideiddio er enghraifft, rwy'n credu ei bod wedi arwain y ffordd yn y newid i sicrhau bod cymaint ar gael yn ddigidol, ac yna yn ei gwaith allgymorth i sicrhau bod yr adnoddau cyfoethog hyn yn hysbys i bobl a'u bod yn hysbys i gymunedau nad ydynt wedi'u defnyddio o'r blaen efallai ar y lefel yr hoffem ei gweld. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig, a gwn mai un o'r pryderon allweddol a oedd gan staff y llyfrgell am y sefyllfa ariannu ansicr oedd efallai na fyddai'r math hwn o waith yn cael ei gynllunio na'i wneud i'r graddau y byddent yn ei hoffi yn y dyfodol.

Rwy'n credu hefyd ein bod yn anghofio'n aml pa mor wych yw'r sefydliad cenedlaethol sydd gennym yng nghanol Cymru, yno yn Aberystwyth. Mae'n sefydliad angori pwysig iawn i economi canolbarth Cymru, ac yn wir i fywyd diwylliannol a deallusol yng nghanolbarth Cymru, yn enwedig i bobl y tu hwnt i'r brifysgol ond gan gynnwys y brifysgol hefyd. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod sicrhau dyfodol y llyfrgell genedlaethol yn bwysig am y rheswm hwnnw hefyd.

Ac rwyf am orffen drwy ddweud, mewn gwirionedd, mai'r hyn y mae llyfrgell genedlaethol wych yn ei wneud—ac mae gennym hanes gwych yma—yw cadw enaid y genedl. Mae'n ein hatgoffa beth ydym ni, beth oeddem ni, a thrwy hynny, yr hyn y gallem fod. A'r weledigaeth honno sy'n fy nghyffroi'n fawr, a dyna'r rheswm penodol rwy'n croesawu'r buddsoddiad a wneir nawr i—[Anghlywadwy.] Ac rwy'n gobeithio y bydd yn arwain at fodel gwirioneddol effeithiol a chynaliadwy ar sail drwyadl, sydd wrth gwrs yn gwbl briodol ar gyfer y defnydd o arian cyhoeddus, a dyna pam fod adolygiad pwrpasol yn ffordd dda o'i wneud. Diolch.

Rwy'n cytuno â'r holl deimladau a fynegwyd gan David Melding. Wrth gwrs, cawsom sesiynau tystiolaeth yn y pwyllgor diwylliant gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a buom yn archwilio gyda hwy yr heriau y maent yn eu hwynebu a hefyd y cyfleoedd aruthrol sydd ganddynt. A hoffwn ddweud, wrth gwrs, fy mod yn credu mai yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr adneuwyd archifau gwrth-apartheid Cymru, a gobeithio y bydd yr hanes hwnnw'n cael ei ysgrifennu yn y dyfodol agos. Maent hefyd yn cadw archifau Gareth Jones a bydd pobl yn gwybod am y ffilm ddiweddar, Mr Jones, sydd wedi cael cryn dipyn o ganmoliaeth ryngwladol ac sy'n adlewyrchu'n dda iawn ar Gymru.

Rwy'n croesawu'n fawr iawn—a chredaf fod David Melding yn llygad ei le y byddai'n anodd peidio â'i gydnabod—y cyllid ychwanegol y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i gyhoeddi mewn perthynas â honno a'r amgueddfa. Rwy'n croesawu hyn yn fawr iawn, oherwydd un o'r pryderon mawr a oedd gennyf oedd sefyllfa'r bobl sy'n gweithio ynddi, y sgiliau sy'n bodoli yno a'r pwysigrwydd i'r economi leol.

Rwy'n gresynu at y cywair, a throi'r mater yn rhywbeth a oedd bron yn ddarllediad gwleidyddol ar ran Plaid Cymru, ac rwy'n gresynu—a chefais rai galwadau blin braidd—ynglŷn â'r sylwadau a wnaethpwyd gan arweinydd Plaid Cymru, yn dweud ein bod ar hyn o bryd yn wynebu dim byd llai na fandaliaeth ddiwylliannol gan y Llywodraeth Lafur; fod hwn rywsut yn benderfyniad bwriadol a wnaethpwyd gan Lywodraeth Lafur i ddinistrio diwylliant Cymru. Credaf fod hynny'n wirioneddol sarhaus. Er enghraifft, pan oedd cyngor—Plaid Cymru—Ceredigion yn cau llyfrgelloedd, roeddem yn cydnabod y pwysau ar gynghorau yn sgil cyni; nid ydym yn galw hynny'n 'fandaliaeth ddiwylliannol'. Yn yr un ffordd, yma, yr hyn a wyddom yw y bu heriau ariannol mawr. Rydym wedi cael 10 mlynedd o gyni; gwyddom fod problemau rheoli difrifol wedi codi dros gyfnod eithaf hir hefyd, ac yn y blaen.

Ond gwrandewch, rwyf am symud oddi wrth hynny, oherwydd credaf fod y cywair yn anffodus iawn yn yr hyn a ddylai ymwneud â siarad am ddyfodol un o'n sefydliadau diwylliannol a threftadaeth mwyaf gwerthfawr. Mae cyfleoedd mawr ar gael i ni: archifau'r BBC, mater digideiddio. Ac a gaf fi  ddweud un peth? Wrth inni edrych ymlaen at ddatblygu cynllun cynaliadwyedd ar gyfer y sefydliadau hyn, mae un o'r cyfleoedd mawr ar gyfer y dyfodol mewn addysg, yn y rhyng-gysylltiad rhwng yr asedau hyn sydd ganddynt, sicrhau o ddifrif nad wedi'u cynnwys rhwng pedair wal y llyfrgelloedd yn unig y maent, ein bod yn eu gwneud yn hygyrch i bobl, yn hygyrch i ysgolion, yn hygyrch i bobl fel y gallant fanteisio ar yr eiconau hynny o'u hanes ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu mai dyna lle mae'r her. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid cael cynllun; rwy'n credu bod yr adolygiad pwrpasol wedi nodi llawer o'r rheini. Rwy'n falch iawn o weld y gwaith sydd wedi'i wneud gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cynllun cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n credu y bydd y cyhoeddiad am gyllid y bore yma'n cyfrannu'n sylweddol iawn at hynny. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:35

Yn ôl yn y dyddiau tywyll hynny pan doedd dim strwythur gwleidyddol cenedlaethol gan Gymru, roedd yn destun balchder inni'r Cymry ein bod ni'n gallu uniaethu a chefnogi ein timau rygbi a'n timau pêl-droed rhyngwladol, a mynd i'r amgueddfa genedlaethol ac i'r llyfrgell genedlaethol— canolbwyntiau cof ein cenedl pan nad oedd Cymru yn cael ei chydnabod fel endid gwleidyddol o gwbl efo'i Senedd ei hunan. Ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dyma drysorfa ein hanes, yn cloriannu ein hanes a'n hiaith a'n celfyddyd dros ganrifoedd lawer. Pleser ydy bod yno ac ymhyfrydu yn ein hanes cyfoethog fel cenedl, o'r doreth o lenyddiaeth sydd wedi deillio o'r Cymreictod hwnnw.

A beth sydd yna? Fel rydyn ni wedi clywed gan eraill, trysorau llenyddol a diwylliannol ein cenedl: y Beibl Cymraeg gwreiddiol o 1588, Llyfr Du Caerfyrddin o 1250, Llyfr Taliesin o 1350, Llyfr Gwyn Rhydderch o'r flwyddyn 1350 hefyd, deddfau Hywel Dda o'r flwyddyn 1300, a nifer helaeth eraill o lawysgrifau cyfoethog ein gwlad. Ein hanes urddasol fel pobl; casgliadau o bwys rhyngwladol.

Nawr roedd hyn i gyd yn y fantol tan y cyhoeddiad heddiw, ac rwyf mor falch, yn lle rhestru anghyfiawnderau yn ein herbyn ni'r Cymry ac ychwanegu'r bygythiad i'r llyfrgell genedlaethol at hynny, fel roeddwn i'n paratoi fy araith ddoe, dyma fi heddiw yn hytrach yn llongyfarch y Llywodraeth o waelod calon am y cyhoeddiad yma heddiw, am yr arian i'r llyfrgell genedlaethol ac i'r amgueddfa genedlaethol. Wrth lwc fy mod i'n gallu newid fy araith heddiw.

Dwi hefyd yn llongyfarch ac yn talu teyrnged i'r ymgyrch gref dorfol sydd wedi dod â ni i'r penderfyniad yma heddiw. Heb ddeffroad ein pobl, byddem mewn lle gwahanol iawn, a'r ddeiseb yna yn allweddol. Diolch i bawb. Edrychwn ymlaen i ffyniant ein llyfrgell genedlaethol fel un o lyfrgelloedd mawr y byd. Cefnogwch y cynnig heb ei wella.

16:40

Prin y dylai fod angen cael dadl yn galw am gyllid digonol ar gyfer llyfrgell genedlaethol. Mae'n drueni ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn, ond fel eraill hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei rôl yn sicrhau bod y pecyn ariannu a gyhoeddwyd heddiw wedi'i gyflwyno. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd. Yn wir, treuliais sawl blwyddyn wedi fy nghladdu yn ei daeargelloedd pan oeddwn yn fyfyriwr ymchwil yn Aberystwyth, a chefais fy nghloi i mewn am y nos ar fwy nag un achlysur mewn gwirionedd oherwydd fy mod wedi cael fy anghofio. Felly, mae gennyf lawer o atgofion melys o'r blynyddoedd hynny.

Mae'n wir, fel y dywedodd David Melding, fod llyfrgell yn fwy na chasgliad o lyfrau yn unig. Dywedodd ei bod yn ystorfa ar gyfer enaid y genedl. Wel, rwy'n credu hynny, ac mae'n ystorfa gyfunol o feddyliau cenedl. Ni ellir dirnad y gellid byth caniatáu iddi wywo a marw neu gael ei difrodi gan esgeulustod. Rydym wedi cael blynyddoedd o esgeulustod, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd Mick Antoniw. Efallai nad oedd yn benderfyniad ymwybodol o fod eisiau fandaleiddio'r llyfrgell, ond mae'n ffaith anghyfleus fod y llyfrgell, dros flynyddoedd lawer, wedi'i hamddifadu o gyllid digonol, ac mae hynny bellach wedi cael sylw rhannol. Rwy'n credu ei bod o fudd inni gydnabod y ddau bwynt fel ei gilydd.

Y llyfrgell genedlaethol yw conglfaen treftadaeth ddiwylliannol a materol Cymru, fel y dangosir gan y dogfennau y mae'n eu cynnwys, ac y cydnabu UNESCO eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol ac ymhlith y trysorau dogfennol pwysicaf yn y byd. Mae siaradwyr eraill wedi sôn am beth o gynnwys y casgliad, sy'n 6 miliwn o lyfrau, a hefyd, y dyddiau hyn—gadewch inni fod ychydig yn fwy modern—7 miliwn troedfedd o ffilm, 250,000 awr o fideo, a 150,000 awr o sain.

Credaf y dylem gofio pwynt na chafodd ei bwysleisio gymaint ag y gellid bod wedi'i wneud yn ystod y ddadl hon o bosibl, er bod rhai siaradwyr wedi sôn amdano, sef pwysigrwydd y llyfrgell genedlaethol fel hyrwyddwr y Gymraeg, a chanolbwynt y gwaith o amddiffyn, cadw a hyrwyddo'r Gymraeg. Sefydlwyd y llyfrgell ychydig dros 100 mlynedd yn ôl, a'r prif gasgliad sefydlu oedd un Syr John Williams, casgliad o oddeutu 23,000 o lyfrau, yn cynnwys 12 o'r 22 llyfr cyntaf a gyhoeddwyd yn y Gymraeg, gan gynnwys Yny lhyvyr hwnn, sef y llyfr cyntaf y gwyddys ei fod wedi'i gyhoeddi yn Gymraeg, ac yn wir dyna'r unig gopi sy'n bodoli. Mae hwnnw yn y casgliad.

Ceir casgliad Celtaidd sylweddol o bob un o chwe iaith y grŵp o ieithoedd Celtaidd—casgliad sylweddol iawn o lenyddiaeth Wyddeleg a llenyddiaeth Lydaweg hefyd. Mae pob llyfr, neu bron iawn bob llyfr y gwyddys iddynt gael eu cyhoeddi mewn Cernyweg a Manaweg yn y llyfrgell genedlaethol. Hyd y gwn i, dyna'r casgliad gorau yn y byd o'r llyfrau hyn. Mae'n amhosibl dirnad y gallem niweidio sefydliad sydd mor bwysig, fe ddywedwn i, i hanes diwylliannol y byd.

Edrychwn ar y ffeithiau: roedd y refeniw cymorth grant ar gyfer 2020-21 ychydig yn brin o £10 miliwn, £9.89 miliwn. Wel, 15 mlynedd yn ôl, yn 2006-07, roedd y ffigur yn £9.57 miliwn. Rydym wedi cael chwyddiant sylweddol yn y cyfamser, felly er na fu toriad erioed yn y cyllid ar gyfer y llyfrgell, y canlyniad yw bod toriad wedi'i wneud i bob pwrpas yn sgil proses chwyddiant. Felly, mae ei incwm defnyddiadwy wedi gostwng 40 y cant yn y blynyddoedd hynny.

Mae'r staff, yn yr un modd, wedi gostwng yn eu niferoedd o 290 i 224, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cefnogi'r llyfrgell genedlaethol, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi gwneud hynny am y ddwy flynedd nesaf, ond mae angen gwneud hyn yn barhaol.

Hoffwn orffen gydag arwyddair Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth, ond hefyd, i mi, Nid Byd, Byd Heb Lyfrgell Genedlaethol.

Nawr, wrth gwrs, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried deiseb ar y pwnc hwn yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror. Mae'r ddeiseb hon wedi casglu mwy na 14,000 o lofnodion ers i'r newyddion am yr heriau ariannol sy'n wynebu Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddod yn gyhoeddus. Mae'r ddeiseb yn nodi'r bygythiad presennol i 30 o swyddi yn y llyfrgell a'r risg gysylltiedig i wasanaethau, ac yn galw am gyllid teg i'r llyfrgell genedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n galw'n uniongyrchol ar y Llywodraeth i gynyddu ei chymorth ariannol i fynd i'r afael â'r heriau hyn, gan sicrhau bod y llyfrgell yn parhau i fod yn ystorfa i ddiwylliant, gwybodaeth a gwybodaeth. Llofnodwyd y ddeiseb gan nifer sylweddol o bobl ym mhob rhan o Gymru, sy'n dangos y parch mawr sydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym mhob cwr o'r byd. Rwy'n falch fod gennym gyfle i drafod y mater pwysig hwn heddiw, a bydd y Pwyllgor Deisebau'n rhoi sylw manwl i'r pwyntiau a godir pan fyddwn yn ystyried y ddeiseb yr wythnos nesaf. Yn olaf, ar ran y pwyllgor, hoffwn groesawu'r pecyn achub gwerth £2.25 miliwn i ddiogelu swyddi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Wrth symud ymlaen, gobeithio y gallwn ystyried ymateb y deisebwyr i'r pecyn ariannol hwn yn y cyfarfod yr wythnos nesaf. Diolch.

16:45

Gall sŵn ennill llyfrgell, fe ymddengys. Rwy'n falch iawn bod cyd-destun ein dadl wedi newid sut gymaint dros nos. Mae ennill y ddadl hon yn arwyddocaol nid yn unig er mwyn gwarantu swyddi ein llyfrgell genedlaethol, er bod y rhain yn amlwg yn ddifrifol bwysig, ond mae hefyd yn gam tuag at ddiogelu dyfodol ein diwylliant. Mae dyfodol y llyfrgell gen yn fater o bwys cenedlaethol. Rwyf wedi derbyn e-byst o bob cwr o'n gwlad am hyn—mae wedi cydio yng nghalonnau cymaint o bobl. Mae Cymdeithas Hanesyddol Gelligaer wedi ysgrifennu ataf gan ddyfynnu erthygl o'r Cambrian News and Merionethshire Standard o fis Ebrill 1915:

Mae'n debyg y bydd yr awdurdodau'n profi rhywfaint o anhawster ariannol yn y dyfodol agos, ond pan fydd y rhyfel anhapus hon ar ben, bydd pobl Cymru yn ddi-os yn ailadrodd y gwaith y maent wedi cynnig eu dwylo a'u calonnau mewn modd mor ganmoladwy i'w gyflawni.

Wedi'r cyfan, pan sefydlwyd y llyfrgell fe'i cefnogwyd gan filoedd o bobl dosbarth gweithiol, gan gynnwys glowyr y Cymoedd. Diolch byth bod y frwydr wedi ei hailennill yn wyneb philistiaeth y Llywodraeth, fel nad yw aberthau gwreiddiol y bobl yna yn troi'n ofer, oherwydd, Dirprwy Lywydd, nid lle'r Llywodraeth fyddai wedi bod i gondemnio'r llyfrgell; mae hi'n eiddo i bobl Cymru, a daethom mor agos at golli hynny.

Ystordy yw ein llyfrgell, lle saff i storio rhyfeddodau—cyfreithiau Hywel Dda, Llyfr Du Caerfyrddin, llyfrau Aneirin a Taliesin, ein cof casgliadol, ein sylfaen a'n goleuni. Nid ein trasiedi ni'n unig fyddai colli y fath drysorau wedi bod—colli ein cysylltiad gyda'n gorffennol, a thorri cysylltiad gyda'r cenedlaethau sydd i ddod, diffodd y golau a dinistrio llwybr yn ôl. Pa mor agos ddaethom ni at weld diffodd y golau hwnnw, canys bod llyfrgelloedd yn ganhwyllau hefyd? Pan losgwyd y llyfrgell yn Alexandria gan farbariaid, diffoddwyd goleuni am ganrifoedd. Fel dywed y bardd Emyr Lewis:

'Aeth gwybodaeth, aeth bydoedd—aeth hanes / doethineb canrifoedd / aeth y wawr, a phob gwerth oedd / i’r gwyll dilyfrgelloedd.'

Mae pobl Cymru wedi llwyddo i ennill gwobr amhrisiadwy yma. Diolchwn iddynt. Fe lwyddon nhw i ddwyn perswâd ar y Llywodraeth i gadw'r golau ymlaen. Mae'r ffwlbri wedi dangos pa mor fregus oedd y golau. Daethom mor agos at fod, fel y rhybuddiodd Huw Williams o Undod, yn wlad a gollodd ei gwerthoedd. Daethom mor agos at ddietifeddu cenedlaethau'r dyfodol oherwydd dadl fiwrocrataidd. Diolch byth bod goleuedigaeth wedi ennill y dydd. Ni ddylai Llywodraeth Cymru gymryd ein hetifeddiaeth yn ganiataol byth eto.  

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fyddwch chi ddim yn synnu na fydda i ddim yn ymateb i unrhyw rethreg nac ymosodiadau personol. Dwi wedi treulio mwy o amser yn fy mywyd yn y llyfrgell genedlaethol o bosib nag mewn unrhyw adeilad cyhoeddus arall yng Nghymru, ar wahân i'r Senedd. Dwi yn siomedig bod neb wedi fy nghloi i mewn dros nos, er fy mod i'n deall bod hynny wedi bron â digwydd i Neil Hamilton. Ond o ddifri, rŵan, gaf i jest roi y stori yn glir, gobeithio?

Mae'r Llywodraeth wedi bod yn gweithio'n agos efo’r llyfrgell genedlaethol a'r amgueddfa am gyfnod estynedig, er mwyn creu a deall darlun cyllidol clir o anghenion y sefydliadau. Rydyn ni hefyd wedi bod yn astudio'n fanwl yr adolygiad archwilio teilwredig. Mae'n bwysig i esbonio beth yw archwiliad teilwredig, oherwydd archwiliad annibynnol o safbwynt awdit ynglŷn â'r modd mae'r sefydliad yn gweithio ydy o, ac mae'r adroddiad yna wedi bod o ddefnydd mawr inni i gyrraedd ein penderfyniad. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Tachwedd. A rhag ofn bod yna unrhyw gamddealltwriaeth, fe wnaethom ni dderbyn argymhelliad yr adroddiad yna ym mis Tachwedd, ac fe wnaethom ni symud i sefyllfa lle'r oedd yna gynnydd yn y cyfalaf, yn y gyllideb gyfalafol, yn dilyn argymhelliad yr adroddiad, ac mi fydd y gwaelodlin yna yn ddiogel. Wrth gwrs, does dim modd i mi, fel Gweinidog y mae ei gyfnod yn dod i ben, glymu Llywodraeth ar ôl etholiad i wybod beth fydd yn digwydd, ond yr egwyddor ydy ein bod ni'n sicr am ofalu bod cyllideb y ddau sefydliad cenedlaethol yma, o hyn ymlaen, yn safadwy ac yn sefydlog.

Mae'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd y bore yma ar gyllid ein cyrff diwylliannol cenedlaethol yn gosod ymrwymiad y Llywodraeth Cymru hwn i'r llyfrgell ac i'r amgueddfa, ac yn dangos ein huchelgais i sicrhau eu ffyniant hirdymor. Mi fydd y cyllid ychwanegol o £6.2 miliwn dros ddwy flynedd yn gwarchod swyddi yn y ddau sefydliad ac yn sicrhau eu bod nhw'n hyfyw ac yn gallu wynebu'r heriau strategol sydd ganddyn nhw. Mae'r buddsoddiad yma yn dilyn, wrth gwrs, buddsoddiad sylweddol iawn yn Sain Ffagan, cyn imi gymryd cyfrifoldeb dros y materion yma fel rhan o'r amgueddfa genedlaethol, ac y mae o hefyd yn rhagweld buddsoddiad pellach, dwi'n gobeithio, yn y dyfodol, yn amgueddfa'r gogledd, yr amgueddfa lechi yn Llanberis. 

Dwi'n awyddus iawn i nodi fy mod i'n disgwyl gweld newidiadau sylweddol yn y llyfrgell wrth inni ddelio ag argymhellion eraill yr adolygiad teilwredig. Mae'n ddigon hawdd inni ganmol pwysigrwydd sefydliadau cenedlaethol a grëwyd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, ond mae'n allweddol bwysig bod y sefydliadau yna bellach yn addas ac yn effeithlon ac yn gymwys ar gyfer chwarter cyntaf a chanol yr unfed ganrif ar hugain, a dyna pam ein bod ni wedi buddsoddi mewn darpariaeth ddigidol fel un o'n blaenoriaethau ar gyfer y llyfrgell. Mi fydd y trafodaethau rhwng swyddogion y Llywodraeth a swyddogion y llyfrgell a staff y llyfrgell yn parhau, i sicrhau buddiannau a safle'r gweithlu presennol.

Mae'r cyllid ychwanegol a gynigir yn dod gyag amodau. Mae'r amodau yma, fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, yn golygu bod yna fwy o ymroddiad i amrywedd, i gynaliadwyedd, i drawsnewid digidol, a'r gwaith o ymestyn allan i gymunedau ar hyd a lled Cymru. Nid adeilad ar ben bryn yn Aberystwyth yw llyfrgell genedlaethol; mae llyfrgell genedlaethol i fod yn adeilad a fydd yn gwasanaethu cenedl gyfan, ac rwy'n credu y bydd yna fodd inni ddysgu o berfformiad yr amgueddfa yn y cyfeiriad yna. Mae gan y llyfrgell gyfle arbennig, dwi'n meddwl, i gyfrannu i ddod â ni mas o sefyllfa gyda'r clwy cyhoeddus dychrynllyd yma.

Dwi ddim yn ymddiheuro am ein bod ni wedi cyhoeddi'r datganiad a wnaethom ni am 9 o'r gloch y bore yma. Mae yna bwysau eithriadol ar gyllidebau pob Llywodraeth. Mae’r penderfyniad ar ariannu ychwanegol yn rhan o ddarlun ehangach o lawer. Rydyn ni'n wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus difrifol. Rydyn ni'n falch ein bod ni wedi gallu dod i sefyllfa o gytundeb llwyr yn y Llywodraeth, a dwi'n gobeithio y bydd hyn yn golygu y byddwn ni'n gallu parhau i ddibynnu ar gefnogaeth drawsbleidiol ynglŷn â dyfodol y sefydliad hwn.

Un gair bach o rybudd—nid gair o gerydd. Fe dreuliais i'r rhan fwyaf o fy mywyd gwleidyddol mewn gwrthbleidiau. Nid oedd neb yn gofyn imi flaenoriaethu dim byd, ond mi ges i un neu ddau gyfnod pan roeddwn i'n gyfrifol am gyrff cyhoeddus ac mi ddysgais i gymaint yr adeg honno. Mae'n ddigon hawdd gwneud addewidion am gynyddu gwariant a pheidio â dweud o ble mae'r arian yn dod ar gyfer y gwariant ychwanegol. Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n bod yn onest ynglŷn â hyn ar bob achlysur.

Mi fyddwn ni'n parhau i weithio gyda’r llyfrgell i ddatblygu’r cynllun gweithredu, gan ymateb i’r adolygiad teilwredig. Ac o safbwynt yr ymgynghoriad presennol, mi fyddwn ni'n parhau’r drafodaeth ynglŷn â'r camau nesaf. Dwi'n ddiolchgar i chi a gyfrannodd at y ddadl heddiw. Mae wedi bod yn un o'r dadleuon mwyaf deallus dwi wedi'u clywed yn y Senedd o ran ei chyfeiriadaeth ysgolheigaidd ac allanol. Os ydy'r hyn rydych chi'n ei ystyried yn wleidyddol i fod yn argyfwng i'r llyfrgell wedi ysbrydoli dadl ddeallus yn Senedd Cymru, mae yna ryw ddaioni wedi dod o'r sefyllfa yma. Diolch ichi am eich gwrandawiad.

16:55

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn am ddweud fy mod yn hynod o falch fod y ddadl hon yn cael ei chynnal heddiw, ac roeddwn am gofnodi fy niolch i'r llyfrgell genedlaethol am ei chefnogaeth anhygoel i frecwast gweddi seneddol Gŵyl Ddewi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, lle mae'r llyfrgell wedi dod â rhai o'r trysorau o'i harchifau, gan gynnwys rhai o'r beiblau Cymraeg cynnar—beibl Mary Jones, beibl Evan Roberts, argraffiad cyntaf o feibl William Morgan, ac wrth gwrs, yn fwy diweddar, y beibl sydd wedi bod yn dathlu ei bedwar canmlwyddiant, beibl Parry. Credaf eu bod yn bartner gwych inni ei gael fel Senedd, fel sefydliad cenedlaethol arall y dylai'r cyhoedd allu ymfalchïo ynddo. Felly, rwy'n falch o'r cyhoeddiad ynglŷn â chymorth ychwanegol. Rwy'n credu ei bod yn drueni ei bod wedi cymryd cyhyd i'r Gweinidog dynnu ei waled allan a'i roi, ac rwy'n credu ei bod hefyd yn drueni fod y cyhoeddiad wedi'i wneud i'r cyfryngau cyn iddo gael ei wneud i'r Senedd hon.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan mewn dadl ragorol at ei gilydd. Nid af i ailadrodd sylwadau fy nghyd-Aelodau yn yr amser byr sydd ar ôl i mi yn y ddadl hon, sylwadau rwy'n amlwg yn cytuno â hwy. Hoffwn ymateb i rai o'r pwyntiau y mae Aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill wedi'u gwneud.

Rhaid imi ddechrau gyda Mick Antoniw. Byddwn yn dweud wrtho fod y penderfyniadau hyn yn faterion gwleidyddol, fod y blaenoriaethau hyn—. Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud yn llwyr â blaenoriaethau. A pha bryd bynnag y bydd plaid lywodraethol yn cyhuddo gwrthblaid o chwarae gwleidyddiaeth, gallwch ddweud bod y blaid lywodraethol honno ar y droed ôl. Nawr, fel pawb ohonom mae'n siŵr, rwyf wrth fy modd gyda'r cyhoeddiadau sydd wedi'u gwneud heddiw. Ond hoffwn ddweud wrth Mick: sut y mae ef, fel rhywun sy'n gadarn ei gefnogaeth i undebau llafur, yn teimlo am y trallod y mae'r staff a'r llyfrgell wedi'i wynebu'n ddiangen gan Lywodraeth a allai fod wedi gwneud y penderfyniad hwn wythnosau, yn sicr, os nad misoedd, yn ôl? Ac nid wyf am gymryd unrhyw bregeth ganddo ef nac unrhyw Aelod arall o'r Blaid Lafur ynglŷn â sut i ymgyrchu fel gwrthblaid. Pan fydd yn rhaid i lyfrgelloedd a sefydliadau diwylliannol gael eu newid gan gynghorau sir Plaid Cymru, gallaf ei sicrhau bod Aelodau Llafur yn ymgyrchu'n frwd yn ei erbyn, fel rydym ni wedi ymgyrchu o blaid y llyfrgell—ac maent yn iawn i wneud hynny, oherwydd gwaith yr wrthblaid yw gwrthwynebu.

Hoffwn ategu llawer o'r hyn y mae David Melding wedi'i ddweud. Nid wyf am ailadrodd y cyfan. Credaf ei fod yn gywir fod proses yr adolygiad pwrpasol wedi bod yn rhagorol ac yn ddadlennol iawn, a'i ganmoliaeth i arloesedd yn y llyfrgell—ac yma rwy'n cytuno â Mick Antoniw ynglŷn â'r gallu i'r llyfrgell arloesi ymhellach eto a chyfrannu at addysg ein pobl ifanc, yn enwedig yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd. Rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedodd David Melding mai enaid y genedl yw'r llyfrgell: beth ydym ni, beth oeddem ni, a beth fyddwn ni. Wrth inni edrych ymlaen, credaf fod angen inni gofio hynny. Fe'm cyffyrddwyd gan yr hyn a ddywedodd Darren Millar am rôl y llyfrgell fel partner, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'i ganmoliaeth i'r ffordd y maent yn gwarchod ein treftadaeth, a sut y maent yn sicrhau bod y dreftadaeth honno ar gael. Gobeithio y bydd y buddsoddiad hwn yn eu galluogi i wneud mwy fyth o hynny.

Rwy'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am ei chyfraniad. Rwy'n siŵr y bydd yn cytuno bod nifer y rhai sydd wedi llofnodi'r ddeiseb honno mewn cyfnod mor fyr yn dangos pa mor bwysig yw'r llyfrgell i bobl ar hyd a lled Cymru. Nid adeilad ar fryn yn Aberystwyth yn unig yw hwn, rwy'n cytuno â'r Gweinidog ynglŷn â hynny. Dyma ran ganolog o'n diwylliant cenedlaethol; trysor i ni i gyd, ble bynnag rydym yn byw. Gwn y bydd y llyfrgell am ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt yn awr i wneud rhai o'u casgliadau'n fwy hygyrch drwy fwy o ddigideiddio a mwy o bartneriaethau gyda llyfrgelloedd lleol ac amgueddfeydd lleol.

Nid wyf am anghytuno â chyfrif y Dirprwy Weinidog o'r hyn sydd wedi digwydd, ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod adroddiad drafft yr adolygiad pwrpasol wedi bod ym meddiant y Llywodraeth ers misoedd lawer cyn iddynt ei gyhoeddi ym mis Tachwedd. Er gwaethaf y pandemig, ac nid oes neb yn gwadu'r pwysau y mae'r pandemig wedi'i roi ar y Llywodraeth—. Er gwaethaf y pandemig, cawsant ddigon o amser i wneud y penderfyniad ynglŷn â'r adnoddau ychwanegol hyn. Nid oedd angen iddi fynd yn funud olaf.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen drwy ddweud bod yr adnoddau ychwanegol hyn i'w croesawu'n fawr wrth gwrs. Maent wedi prynu lle i anadlu i'n sefydliadau cenedlaethol, ac mae hynny'n lle i anadlu y bydd angen i'r Llywodraeth nesaf ei ddefnyddio i weithio gyda'r llyfrgell a chyda'n holl sefydliadau cenedlaethol i sicrhau buddsoddiad priodol a dyfodol cynaliadwy. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu bod arnom angen strategaeth genedlaethol ar gyfer ein sefydliadau cenedlaethol, ac mae angen inni fod yn cynllunio ar gyfer eu dyfodol hirdymor. Yn hynny o beth, mewn Llywodraeth byddem yn ceisio datblygu'r math o gonsensws trawsbleidiol y credaf ein bod wedi gweld ei ddechrau yma heddiw. 

Ddirprwy Lywydd—

17:00

Brawddeg neu ddwy olaf, ac rwy'n gwerthfawrogi eich goddefgarwch. Fel y mae pawb wedi dweud, mae'r ddadl hon yn dangos pwysigrwydd hanfodol y llyfrgell genedlaethol i'n bywyd cenedlaethol, a'n holl sefydliadau cenedlaethol. Mae'r buddsoddiad i'w groesawu, ond ni ddylai'r staff fod wedi cael eu rhoi drwy hyn. Rwy'n annog y Senedd hon i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr a'n cynnig gwreiddiol, ac nid cynnig y Llywodraeth, sydd ond yn datgan yr hyn sy'n amlwg. Diolch yn fawr.

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydw, rwy'n gweld gwrthwynebiadau. Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod cyn bwrw ymlaen i'r cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:03.

17:05

Ailymgynullodd y Senedd am 17:07, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd, felly, y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gefnogaeth i ofal lliniarol yn ystod y pandemig, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 6 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 41, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf, felly, fydd y bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar gyllido'r llyfrgell genedlaethol, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig hynny a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar welliant 1. Pleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, naw yn ymatal, 16 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Eitem 7 - Gwelliant 1 - cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 28, Yn erbyn: 16, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 3 yw'r gwelliant nesaf, a'r gwelliant hynny yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant hynny wedi'i wrthod.

17:10

Eitem 7 - Gwelliant 3 - Cyflwynwyd yn enw Mark Isherwood: O blaid: 25, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7580 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthi’n cynnal ymgynghoriad a bod Llywodraeth Cymru’n parhau mewn trafodaeth barhaus â nhw i asesu pob opsiwn posibl.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, dau yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 7 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 37, Yn erbyn: 14, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Pam nad ydym yn caru ieithoedd rhyngwladol?

Un eitem o fusnes yn weddill, a'r eitem hynny yw'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Suzy Davies. Suzy Davies.

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Hoffwn roi munud yr un i Mike Hedges a Laura Jones.

Bythefnos yn ôl, roeddwn yn awyddus i ymuno â'r Gweinidog ac eraill yn arddangosiad cenhadaeth ddinesig Prifysgolion Cymru, ac rwy'n eithaf sicr, Weinidog, yn eich ymateb, y byddwch yn cytuno ei fod yn hafan o faeth a phositifrwydd pan fo cynifer ohonom wedi bod yn rhwym wrth heriau COVID. A'r uchafbwynt i mi oedd clywed am ddau brosiect mentora: un oedd y prosiect mentora ffiseg, sy'n gosod myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig hyfforddedig mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru, i fentora myfyrwyr blwyddyn 10 ac 11, hyrwyddo cymwysterau ffiseg ac ysbrydoli ffisegwyr y dyfodol; ond cynllun mentora ieithoedd tramor modern llwyddiannus, sefydledig oedd y llall, cynllun sydd wedi ennill gwobrau, ac sydd hefyd yn gydweithrediad rhwng nifer o'n prifysgolion, ac at hwnnw rwyf am dynnu sylw'r Aelodau heddiw.

Nawr, bydd rhai ohonoch yn gwybod bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod ag ymrwymiad hirsefydlog i greu Cymru dairieithog, gan gyflwyno trydedd iaith i blant yn yr ysgol gynradd ochr yn ochr â'n dwy iaith genedlaethol. Ac mae'r cynllun y byddaf yn sôn amdano y prynhawn yma yn cefnogi uchelgais yr hyn a oedd gennym mewn golwg, ond mae wedi fy helpu i ddeall yn well sut y gellid cyflawni hynny'n well. Mae hefyd yn cefnogi'r cwricwlwm newydd yn ei uchelgais i ddal sylw plant a'u denu i fyd o ryfeddodau, sef byd ieithoedd, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld sut y bydd hyn yn datblygu. Oherwydd nid oes amheuaeth yn fy meddwl fod byw mewn gwlad Saesneg bron â bod wedi diffodd chwilfrydedd yn y byd hwnnw o ryfeddodau dros y blynyddoedd, ac mae'n ein gwneud ni i gyd yn dlotach o'r herwydd. Ac fe fyddwch yn dweud, 'Rydym yn lwcus, nid dim ond Saesneg a siaradwn, rydym yn byw mewn rhan o'r DU lle mae mwy a mwy o'n plant yn ddigon ffodus i gael dwy iaith—dwy iaith genedlaethol'. Mae gan rai o'n dinasyddion fwy na dwy wrth gwrs.

Dywedir wrthym yn ddigon aml fod bod yn ddwyieithog yn eich gwneud yn well mewn ieithoedd eraill, ac rwy'n mynd i fod yn ddadleuol ac anghytuno â hynny. Ac rwy'n mynd i anghytuno am na wnaeth fy mhlant dwyieithog i erioed ymrwymo i'w gwersi Ffrangeg yn yr ysgol. Mae'n ddigon posibl y byddai'n sylw mwy cywir os ydym yn mynd ati'n weithredol i ddysgu ein hiaith genedlaethol arall, ond nid oes llawer o bobl yn astudio ieithoedd rhyngwladol ar lefel fawr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ysgolion a all gynnwys llawer o ddysgwyr o gefndiroedd di-Gymraeg hefyd wrth gwrs. Ac rwy'n anghytuno am nad ydym bellach yn archwilio ac yn dysgu sut y mae ein mamieithoedd yn gweithio, ac mae'n fy nharo ein bod yn dysgu ieithoedd eraill mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar ein dewisiadau dysgu fel unigolion, ac mae'n debyg ei fod yn gymysgedd o ddulliau i ni i gyd.

Cymraeg yw fy ail iaith, ac mae ymhell o fod yn berffaith, ond rwyf wedi'i dysgu drwy ddod i gysylltiad â hi'n eithaf aml a thrwy fod yn y Senedd hon, i raddau helaeth. Fodd bynnag, rwy'n credu fy mod wedi gallu ei dysgu fel hynny, mewn rhyw fath o ddull trochi lefel isel, am fy mod yn hyddysg mewn rheolau a strwythurau gramadeg hen ffasiwn, y math hwnnw o ddysgu, nid yn unig mewn tair iaith arall yn yr ysgol ond yn fy iaith gyntaf hefyd. A gwn fod hynny'n swnio braidd yn ddiflas, ond mewn gwirionedd, nid dim ond eistedd wrth ein desgiau'n rhestru rhediadau berfau y byddem yn ei wneud. Rwy'n dal i allu canu'r gân bop Ladin a gyfansoddwyd gennym, os ydych am i mi wneud hynny. Neu gallaf eich cyfareddu â realaeth hud fy stori am Mozart yr hipopotamws, a daflwyd at ei gilydd oherwydd bod gennyf lwyth o eirfa ar gyfer sw a dim ar gyfer bywyd y cyfansoddwr enwog.

17:15

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Nawr, yr hyn y mae siarad â Lucy Jenkins, yr arian byw sy'n arwain y prosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern, wedi'i wneud yw gwneud imi ddeall yn well beth oedd fy mhrofiad fy hun mewn gwirionedd yr holl flynyddoedd yn ôl. Ac mae'r ddwy enghraifft honno'n dangos beth oedd hynny, sef cael y ddawn i chwarae gydag ieithoedd, i weld y cysylltiadau ac i allu dyfalu beth yw ystyr rhywbeth, i gymryd peth risg a gwneud cymaint o gamgymeriadau ag y dymunwch. Ac yn wahanol i fathemateg, lle mae'r sicrwydd yn ei wneud mor foddhaol, yr anghysonderau a'r annisgwyl sy'n eich llonni gydag iaith. Ac rwy'n siŵr fod fy arholwr CBAC wedi cael andros o hwyl yn darllen fy narn byr ar hela, lle roeddwn yn drysu dro ar ôl tro rhwng yr Almaeneg am 'saethu' a'r Almaeneg am 'ysgarthu'. Ac i mi, fflyrtio hapus gydag ieithoedd Eidalig ac Almaenig yw hyn, ond gallaf ymroi i hynny oherwydd fy mhrofiad ysgol. Mae'n rhaid i ddysgwyr heddiw geisio efelychu'r creadigrwydd hwn ac archwilio drwy dechnegau lled-drochi mewn gwersi unwaith yr wythnos, neu unwaith bob pythefnos hyd yn oed, mewn ysgolion sydd, at ei gilydd, wedi bod yn ceisio codi eu sylfaen wyddoniaeth am y ddau ddegawd diwethaf. Felly, a allwn ddweud gyda'n llaw ar ein calon fod gennym naratif cenedlaethol sy'n dweud ein bod yn gweld gwerth ieithoedd rhyngwladol? A allwn wneud hynny? Ac mae'n debyg y byddwn yn ychwanegu yma, os caf, os rhywbeth, fod llawer o gywair sylfaenol ein perthynas ddiweddar â'r UE wedi cyfrannu at wneud inni eu gwerthfawrogi'n llai. 

Ac er ein bod yn tueddu i siarad am ddiffyg athrawon ffiseg—wyddoch chi, fod llai na deg ohonynt—pa mor aml y gresynwn at y prinder o athrawon ieithoedd tramor modern? Hynny yw, mae llai na deg ohonynt hwythau hefyd bron iawn. A beth a wnaethom i gyflwyno ieithoedd eraill sy'n bwysig yn fyd-eang? Adoro l'italiano ma forse dovrei pensare di piú a imparare l'arabo o il mandarino. A dyma reswm arall dros fy mrwdfrydedd ynglŷn â'r prosiect mentora hwn: maent yn sôn am ieithoedd nad ydym yn eu dysgu hefyd.

Nawr, gan weithio ar draws prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe, mae'r prosiect hwn, a ariennir drwy Dyfodol Byd-eang, yn canolbwyntio ar newid agweddau a chanfyddiadau o ieithoedd drwy hyfforddi myfyrwyr i fentora blynyddoedd wyth a naw—dysgwyr ysgol uwchradd—i weld gwerth a manteision dysgu iaith. Ac nid yng Nghymru'n unig y mae'n digwydd—mae'r tîm hwn wedi bod yn cyflwyno'r fenter hon yn Swydd Efrog ers dwy flynedd, neu fenter debyg iawn a grëwyd yn Lloegr, prosiect mentora cyfunol, yn sgil cyllid gan yr Adran Addysg. A'r model sydd wedi'i dreialu'n fwyaf llawn yw system fentora wyneb yn wyneb unwaith yr wythnos dros gyfnod o chwe wythnos, wedi'i dilyn gan seremoni wobrwyo yn y brifysgol sy'n ei chynnal. Fodd bynnag, mae ganddynt fersiwn gyfunol hefyd ac mae cynllun peilot cwbl ddigidol yn cael ei gyflwyno drwy Hwb, sydd, wrth gwrs, yn amserol iawn.

Mae'r grŵp hefyd wedi dyfeisio rhaglen adfer ôl-16 ar-lein i helpu i oresgyn effeithiau COVID. A phrif ddangosydd perfformiad allweddol y prosiect oedd cael mwy o ddysgwyr i ddewis astudio iaith dramor fodern ar lefel TGAU, a'i ddysgwyr targed yw'r rhai sy'n dweud 'annhebygol' a 'na', y dysgwyr sy'n eithaf sicr nad ydynt eisiau gwneud hynny. Nid yw hyn yn ymwneud ag enillion hawdd. Ac mae ei lwyddiant—wel, rwy'n crynhoi llawer o dystiolaeth pan ddywedaf hyn, ond mae i bob pwrpas wedi dyblu'r nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern yn yr ysgolion lle mae'r cynllun yn weithredol. Felly, yn y chwe wythnos hynny'n unig, mae wedi troi rhai o'r myfyrwyr sydd â'r lleiaf o ddiddordeb yn fyfyrwyr TGAU iaith, yn ogystal â chynnau'r tân mewn rhai nad oeddent yn siŵr o gwbl. Ac er bod hyn yn gwneud rhyfeddodau i forâl athrawon iaith yn yr ysgolion hyn, wyddoch chi beth? Yn anad dim, y dysgwyr o ardaloedd dan anfantais economaidd sydd wedi elwa fwyaf o'r cyswllt personol uniongyrchol hwn â myfyrwyr prifysgol sydd wedi cael profiad diweddar o fyw mewn gwlad dramor, ac sydd, mae'n debyg, yn ymgorffori ystod ehangach o brofiadau ac opsiynau.

Nawr, Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch am siarad am Erasmus+ yn eich ymateb i'r ddadl hon, ond rwy'n awyddus iawn i chi siarad am y cynllun hwn, sy'n cydweddu lawn cymaint â Turing ag y mae ag Erasmus+, ac mae hynny'n cyd-fynd â phrif nod Turing, sy'n ymwneud â chyrraedd yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd. A gawn ni drafod Erasmus yn erbyn Turing ar ryw ddiwrnod arall, a mwynhau llwyddiant y prosiect mentora am heddiw, gan dderbyn mai un o'r prif resymau pam y mae'r cynllun hwn mor llwyddiannus yw'r cysylltiad rhwng ein disgyblion blwyddyn wyth a naw a'n myfyrwyr prifysgol yn y wlad hon sydd wedi cael profiad diweddar o fyw dramor, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn dal i fod eisiau i hynny ddigwydd?

Ond y newyddion gwych yw nad oes prinder myfyrwyr sydd eisiau bod yn fentoriaid. Mae mwy'n ymgeisio nag sy'n cael eu derbyn. Ceir 100 o fentoriaid newydd eleni, wedi'u dewis ar ôl proses recriwtio drylwyr, gan weithio gydag wyth disgybl, ac mewn gwirionedd, mae ychydig yn fwy na hynny, pan fydd yn cynnig y gwaith ar-lein. Rhan o'u gwaith yw goresgyn yr heriau rydym yn gwybod amdanynt ac y clywsom amdanynt yn ddigon aml gan y British Council: 'Mae'r ieithoedd hyn yn anodd'; 'Mae'n ddiflas'; 'Mae dysgwyr yn dechrau'n rhy hwyr o gymharu â phynciau eraill'; 'Nid oes digon o le ar yr amserlen'; 'Agweddau rhieni'; ac fe ddywedwn i, diffyg dathlu cenedlaethol. Ac maent yn canolbwyntio ar yr hyn y dechreuais siarad amdano ychydig yn gynharach, sef athroniaeth ieithoedd, sut rydym yn cyfathrebu, iaith fel allwedd i fod yn chwilfrydig, teimlo'n gyfforddus yn chwarae gydag ieithoedd eraill a'u profi, a'r lle diogel i gael pethau'n anghywir. Ac er fy mod yn dal i ddweud bod lle i ddefnyddio ieithoedd i werthu gyrfaoedd a gwerthu Cymru, mae Cymru, wrth gwrs, yn rhan o'r DU lle gallwn ddangos nad oes arnom ofn ieithoedd gwahanol i Saesneg.

Rwy'n credu bod y prosiect hwn yn gwneud rhywbeth diddorol iawn. Mae'n gofyn i'n pobl ifanc—mae'n gofyn iddynt feddwl am bwy a beth ydynt. Felly, a ydynt yn garedig? A ydynt eisiau gwneud i bobl deimlo bod croeso iddynt drwy gynnig cyfle iddynt ddefnyddio eu hiaith eu hunain, i deimlo'n llai agored wrth geisio cyfathrebu â'i gilydd? Meddyliwch am y ffordd rydym i gyd yn teimlo pan fyddwn dramor a bod rhywun yn ddigon caredig i siarad Saesneg â ni. Mae iaith a sut rydym yn ei defnyddio yn bersonol iawn ac yn ein gwneud yn agored iawn, ac mae helpu dysgwyr i weithredu mewn byd sy'n llawer mwy na'r byd y maent yn byw ynddo yn un o ryfeddodau iaith. Ond un arall yw gallu ieithoedd i ffurfio cysylltiadau agos—bach a dynol, ond eto'n enfawr ac yn eang ar yr un pryd. Felly, Weinidog, pan fydd y ddwy ohonom wedi gadael y lle hwn, rwy'n gobeithio y caiff dyfodol y prosiect ei gadarnhau fel nodwedd barhaol o'n cynnig addysg.

Cyn i mi fynd, hoffwn sôn am ddau beth: y cyntaf yw argymell tudalen Facebook i chi. Rwy'n eich annog i edrych am Steve the vagabond and silly linguist—mae ganddo wefan hefyd. Ond os ydych chi eisiau ailddarganfod chwarae gydag ieithoedd, ewch i weld. Ac yna, yn ail, ac ar gyfer diwrnod arall—dyma un ar gyfer y chweched Senedd a Llywodraeth arall yn gyfan gwbl, gan gynnwys Llywodraeth y DU—tybed pam ei bod hi'n ymddangos na allwn ddarparu hyd yn oed un sianel iaith dramor drwy Freeview. Grazie.

17:20

A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am roi munud i mi yn y ddadl hon a hefyd am y ffordd gyffrous y mae wedi arwain y ddadl hon, dadl rwy'n sicr wedi'i mwynhau, ac rwy'n siŵr fod pobl eraill wedi'i mwynhau hefyd? Yn 2019, adroddodd y BBC fod ieithoedd tramor yn cael eu gwasgu allan o amserlenni ysgolion gan bynciau craidd fel bagloriaeth Cymru. Bu gostyngiad o 29 y cant yn nifer y cofrestriadau TGAU iaith yng Nghymru mewn pum mlynedd—gostyngiad mwy serth nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Bydd gan ddisgybl TGAU mewn ysgol yng Nghymru leiafswm o chwech ac uchafswm o wyth pwnc gorfodol y mae'n rhaid iddynt eu hastudio, gyda rhwng dau a phedwar pwnc dewisol. Ymhlith yr opsiynau hynny, yn ogystal ag ieithoedd, mae ganddynt hanes, daearyddiaeth, TGCh, drama, addysg gorfforol, addysg grefyddol, ac am mai dim ond munud sydd gennyf, ni allaf ddarllen y gweddill ohonynt. Ond mae ystod eang o opsiynau ganddynt, ac mae ganddynt uchafswm o bedwar a lleiafswm o ddau. A yw'n syndod fod ieithoedd tramor modern yn lleihau? Rydych chi'n cystadlu yn erbyn rhai o'r pynciau mwy poblogaidd nad ydynt yn orfodol eu hunain. A oes ateb i hyn? Mae'r ateb yn syml—nid wyf yn disgwyl iddo gael ei wneud, ond mae'n syml—os yw rhywun am wneud dwy iaith dramor fodern, dim ond yr opsiwn gwyddoniaeth unigol sy'n rhaid iddynt ei wneud, yn hytrach nag opsiwn gwyddoniaeth ddwbl. Byddai hynny'n golygu bod disgyblion nad ydynt yn hoffi gwyddoniaeth—a gwn sut beth yw hynny oherwydd roedd gennyf ferch nad oedd yn hoffi gwyddoniaeth o gwbl, ond a oedd yn hoffi ieithoedd—rhowch gyfle iddynt wneud dwy iaith. Nid yw'n mynd i ddigwydd fel arall. Mae gennych ddau i bedwar opsiwn—a ydych yn mynd i ddewis dwy iaith o blith y rheini? Mae'n annhebygol iawn. Os ydym am i ieithoedd tramor gael eu defnyddio, mae'n bwysig iawn nad ydym yn gwneud i bobl wneud gwyddoniaeth ddwbl hefyd.

Diolch, Suzy, am adael imi gael munud yn eich dadl. Rwyf bob amser wedi ystyried bod dysgu ieithoedd rhyngwladol yn bwysig iawn, ac mae'n destun gofid mawr fod gennym sefyllfa yng Nghymru a'r DU yn system bresennol y wladwriaeth lle nad yw ein system addysg ysgolion cynradd ond yn rhoi sylw wrth fynd heibio iddynt. Mynychais ysgol Montessori rhwng dwy a phedair oed, meithrinfa, lle roeddwn yn siarad Ffrangeg drwy'r amser. Câi popeth ei wneud yn Ffrangeg. Ac nid oedd gennyf syniad fod hynny wedi digwydd nes i mi gyrraedd yr ysgol gyfun ac yna, yn fy ngwers Ffrangeg gyntaf, roeddwn yn deall popeth a ddywedai'r athro ac nid oedd gennyf syniad sut y gwyddwn am beth roedd hi'n siarad. Mae effaith dysgu ieithoedd yn gynnar yn rhyfeddol. Dyna pryd y mae plant yn amsugno ieithoedd, a dyna pam rwy'n gwneud Ffrangeg yn y bath gyda fy mab nawr. Mae'n—. Mae'n—. Mae eu hymennydd eisiau dysgu, dysgu, dysgu, felly dyna'r adeg orau i ddysgu ieithoedd yn fy marn i. 

Rwyf bob amser wedi bod yn hynod falch o fod yn Gymraes a Phrydeiniwr y rhan fwyaf o'r amser, gan ein bod yn arweinwyr y byd yn y rhan fwyaf o bethau, ond mewn ieithoedd rydym yn llusgo ar ôl nid yn unig Ewrop ond gweddill y byd. Mae ieithoedd tramor modern fel Sbaeneg, Mandarin ac yn y blaen—nid wyf yn deall pam nad ydym yn eu dysgu, yn enwedig mewn byd sy'n newid yn barhaus, yn enwedig ar ôl Brexit, pan fyddwn yn naturiol yn sefydlu amrywiaeth o bartneriaethau rhyngwladol yn awr. Byddai o fantais fawr i'n gweithlu yn y dyfodol pe baent wedi'u harfogi gydag ychydig o ieithoedd. Mae'r Gymraeg yn wych—rwy'n gwbl gefnogol iddi—ond nid oes llawer o ddefnydd iddi ar lwyfan rhyngwladol busnes. Ie, Saesneg yw un o brif ieithoedd y byd, ond ni ddylem ddibynnu ar bawb arall i'w siarad fel nad oes rhaid inni ddysgu ieithoedd eraill. Dylem fod yn defnyddio ieithoedd modern yn gystadleuol hefyd, nid yn unig ar gyfer y rhwydweithiau rhyngwladol amlwg rydym yn eu hadeiladu nawr sy'n cynyddu'n barhaus, ond hefyd am fod ieithoedd yn addysgu pobl mewn gwirionedd i ymgysylltu'n fwy sensitif â diwylliannau eraill ac yn hwyluso gwell dealltwriaeth o wahanol fathau o dreftadaeth. 

Rwyf am—

17:25

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wel, rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau sydd wedi aros i wrando ar y ddadl fer y prynhawn yma yn cytuno â mi fod penderfyniad Suzy Davies i ymddeol o'r Senedd yn golled wirioneddol—mae'n golled wirioneddol i'n gwaith yma, a hoffwn gofnodi fy niolch i Suzy Davies am ei gwasanaeth, nid yn unig i bobl Gorllewin De Cymru ond i'r gwasanaeth i'w gwlad. Suzy, fel y dywedais, fe welir colli eich cyfraniad yn fawr. Hoffwn ddiolch i chi hefyd am gydnabod yr arddangosiad cenhadaeth ddinesig gwych a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Prifysgolion Cymru. Wrth ddod i'r swydd hon, heriais ein sefydliadau addysg uwch i ailgyfeirio'r ymdeimlad o genhadaeth ddinesig, ac rwyf mor falch eu bod wedi croesawu'r her honno, a dim ond un o'r ffyrdd y mae ein sefydliadau addysg uwch yn gwasanaethu eu myfyrwyr, ac yn ein gwasanaethu ni fel cenedl yn ogystal, yw'r prosiect rydych wedi sôn amdano y prynhawn yma. 

O ystyried mai dyma'r ddadl fer olaf y bydd Suzy Davies, a finnau yn wir, yn ei gwneud yn y Siambr rithwir hon, am unwaith yn unig, Suzy, rwyf am ildio a gadael Turing ar gyfer diwrnod arall. Ond a gaf fi ddiolch yn ddiffuant i chi am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr? Fel y dywed Suzy, mae dysgu ieithoedd nid yn unig yn rhoi cymwysterau i'n pobl ifanc, mae'n rhoi cyfle iddynt ehangu eu gorwelion, dyfnhau dealltwriaeth ddiwylliannol, a darparu sgiliau y gallant eu defnyddio yma ac ar draws y byd. Mae gennyf weledigaeth glir iawn i'n holl ddysgwyr ddod yn ddinasyddion amlieithog, byd-eang. Ac yn y byd rydym ynddo, byddai'n hawdd diystyru'r heriau y mae ieithoedd rhyngwladol yn eu hwynebu fel rhai dibwys o'u cymharu â'r rhai rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn ein hysgolion—ac y gellid neilltuo'r gostyngiad yn nifer y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd tramor modern a'r lleihad yn y ddarpariaeth fel problemau ar gyfer diwrnod arall. Fodd bynnag, fe ddown drwy'r cyfnod hynod heriol hwn, ac rwyf wedi ymrwymo i barhau â'n cymorth i ddysgwyr i ddeall y cyfoeth o gyfleoedd y mae ieithoedd rhyngwladol yn eu cynnig. 

Mae ein cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnig cyfle cyffrous i ddatblygu amgylcheddau a darpariaeth sy'n gyfoethog o ran iaith ledled Cymru, ac mae'n nodi newid diwylliant o un sy'n dweud wrth ysgolion beth i'w wneud a beth i'w addysgu i un sy'n rhoi'r cyfrifoldeb i'r ysgolion am ddatblygu cwricwlwm sy'n gweithio orau i'w holl ddysgwyr, ond o fewn fframwaith cenedlaethol. A bydd yn cyflwyno dysgu ieithoedd rhyngwladol o oedran cynnar iawn, gyda disgwyliadau clir ar gyfer cynnydd dysgwyr tra'u bod yn yr ysgol gynradd. Rwyf wedi defnyddio'r stori hon o'r blaen, rwy'n gwybod, ond mae'n un mor hyfryd, rwy'n mynd i'w defnyddio eto. Ymweliad ag ysgol pob oed yng nghymuned Aberdâr; rwy'n ymweld â'u disgyblion ieuengaf, lle roedd y plant yn darllen Y Lindysyn Llwglyd Iawn, nid yn unig yn Saesneg, ac nid yn unig yn Gymraeg, ond yn dysgu'r ffrwythau a'r eitemau roedd y lindysyn llwglyd yn eu bwyta yn Sbaeneg hefyd. Ac yn union fel y dywedodd Laura, roedd y plant hynny'n anymwybodol eu bod yn dysgu ac yn gwella eu geirfa mewn tair iaith wahanol. Iddynt hwy, cyffro geiriau newydd oedd yn bwysig, ymadroddion newydd, a'r seiniau newydd roeddent yn gwrando arnynt. A mawredd, os gallwn gyflwyno hynny ar draws ein holl ddarpariaeth cyfnod sylfaen, am waddol gwych y byddwn yn ei greu i'r plant hynny. Dylai cael gwared ar ffiniau rhwng pynciau rymuso ysgolion i gynllunio darpariaeth iaith wirioneddol gyfannol a dylai ysgolion deimlo eu bod wedi'u grymuso i fod yn greadigol ac i ddatblygu cyfleoedd dysgu ystyrlon.

Y llynedd, fel rhan o fy ymrwymiad parhaus i ieithoedd rhyngwladol, cytunais i roi cylch ariannu pellach i'r rhaglen Dyfodol Byd-eang. Mae'r cyllid hwn wedi arwain at ganolfannau rhagoriaeth lle mae ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion a phartneriaid i wella addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern ledled ein gwlad. Mae hefyd yn darparu cyllid i'r consortia rhanbarthol ar gyfer gwella eu cynigion cymorth i ieithoedd tramor modern gan ganolbwyntio'n benodol ar gynorthwyo ysgolion cynradd i ddarparu ieithoedd tramor modern. Mae cyllid Dyfodol Byd-eang yn cynorthwyo ein hathrawon ysgolion cynradd i gymryd rhan yn Athrawon yn Dysgu i Addysgu ieithoedd y Brifysgol Agored—y rhaglen TELT—mewn ysgolion cynradd, sy'n cynnig gwersi i ddechreuwyr yn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Mandarin.

Mae'r rhaglen hefyd yn rhoi arian i brosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern Prifysgol Caerdydd y canolbwyntiodd Suzy arno y prynhawn yma. Fel y dywed, mae'n rhoi israddedigion o brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth mewn ysgolion lleol yng Nghymru i fentora disgyblion blwyddyn 8 a 9 a'u cefnogi yn eu hastudiaethau a'u hannog i ystyried dewis ieithoedd tramor modern ar lefel TGAU. Y llynedd, i gydnabod yr angen i addasu yn y ffordd y maent yn cyflwyno i ysgolion, datblygwyd dull digidol o gefnogi ysgolion o bell ledled Cymru yn gyflym iawn ar yr adeg heriol hon. Mae'r prosiect yn chwarae rhan allweddol yn ehangu gorwelion a dyheadau dysgwyr. Cymerodd dros 115 o ysgolion uwchradd ran yn y prosiect dros y pum mlynedd diwethaf, ac roedd hynny'n golygu cyrraedd 10,000 o ddisgyblion unigol. Mae wedi cael cydnabyddiaeth gwbl briodol y prynhawn yma yn y Siambr, a hefyd fel enillydd Cwpan Threlford yn 2017, ac mae wedi datblygu enw rhagorol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n glod gwirioneddol i'r tîm yn y prifysgolion perthnasol, y myfyrwyr sy'n cymryd rhan fel mentoriaid, a hefyd i'r dysgwyr sy'n cymryd rhan yn eu rhaglen.

Ac mae'n rhaid i mi ddweud, ar ôl ymweld â'r prosiect fy hun mewn ysgol uwchradd yn y Barri, a gweld y mentor yn cyflwyno gwers, ac yn siarad â'r plant yn y wers honno, mae'n mynd gymaint pellach na dysgu ac annog pobl i astudio iaith dramor. Daethom ar draws unigolion nad oeddent erioed wedi ystyried gyrfa mewn addysgu, ond a oedd wedi mwynhau eu hamser gymaint yn gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion fel eu bod bellach yn bwriadu dilyn cwrs TAR i ddod yn athrawon ieithoedd tramor modern eu hunain. Ac i'r bobl ifanc hynny, gyda rhai ohonynt erioed wedi cyfarfod ag unrhyw un a oedd wedi mynychu prifysgol, roedd y cyfle i weithio ochr yn ochr â myfyriwr graddedig a gallu ymweld â phrifysgol eu hunain ar y diwedd—sefydliad roeddent wedi gyrru heibio neu deithio heibio iddo ar fws efallai, ond nad oeddent erioed wedi meddwl am groesi'r trothwy—roedd hynny wedi rhoi golwg newydd a rhagolygon newydd iddynt ar yr hyn y gallent ei gyflawni a sut y gallai prifysgol yn hawdd fod yn lle y gallent hwythau anelu at ei fynychu hefyd. Felly, mae'r manteision yn amlwg mewn amrywiaeth helaeth o ffyrdd.

Mae prifysgolion, ynghyd â'n partneriaid Dyfodol Byd-eang—sy'n cynnwys consortia addysg rhanbarthol, Estyn, sefydliadau iaith, Cymwysterau Cymru a Gyrfa Cymru—i gyd yn darparu arbenigedd a chymorth ar gyfer addysgu a dysgu iaith yn ein hysgolion. A thrwy fy ymrwymiad i genhadaeth ddinesig ein prifysgolion, mae'r dull hwn bellach yn cael ei ariannu a'i ddilyn mewn pynciau eraill, a soniodd Suzy am ein prosiect mentora ffiseg, sydd hefyd yn wirioneddol lwyddiannus ac o bosibl yn rhoi cyfle inni feddwl ble arall y gallwn gyflogi israddedigion disglair, brwd sy'n astudio yn ein prifysgolion i fod yn fodelau rôl go iawn i fyfyrwyr yn ein hysgolion uwchradd.

Wrth inni barhau i symud ymlaen, byddwn yn gweld datblygiadau i feysydd eraill o'r system addysg a luniwyd i gefnogi dysgwyr. Bydd cymwysterau ar gyfer ieithoedd rhyngwladol hefyd yn newid. Fel aelodau o grŵp llywio Dyfodol Byd-eang, mae Cymwysterau Cymru yn cyfranogi'n uniongyrchol o arbenigedd y grŵp wrth iddynt geisio datblygu cymwysterau iaith sy'n diwallu anghenion ein dysgwyr, ac rwy'n credu bod ffocws ar allu ieithyddol a'r gallu i siarad iaith, rwy'n siŵr, yn rhan bwysig iawn o'r gwaith hwnnw.

Rydym hefyd yn cyflwyno fframwaith newydd ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ysgolion sy'n galw am ddefnyddio ystod ehangach o wybodaeth wrth ystyried effeithiolrwydd ysgolion. Bydd y dull hwn yn ffordd well o ddangos cynnydd pob dysgwr a'u profiad dysgu cyfan, yn hytrach nag ystod gul o ganlyniadau arholiadau cyfnod allweddol 4. Yn bwysig, bydd y trefniadau gwerthuso a gwella newydd hyn yn cefnogi ac yn cyd-fynd â gweithredu Cwricwlwm Cymru, fel yr argymhellwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Drwy wneud hynny, byddant yn helpu i leihau'r bwlch cyrhaeddiad ac yn cefnogi'r gwaith o wireddu pedwar diben ein cwricwlwm newydd.

Caf fy nghalonogi bob amser gan gyrhaeddiad rhagorol ein myfyrwyr ieithoedd tramor modern, sy'n dyst nid yn unig i waith caled y dysgwyr, ond hefyd i'r addysgu rhagorol y maent wedi'i gael. Byddwn yn parhau i gydweithio â'n partneriaid Dyfodol Byd-eang i gefnogi ein hysgolion drwy'r cyfnod anodd hwn. Hoffwn gofnodi fy niolch unwaith eto i bawb sy'n rhan o'r gwaith o gyflawni ein prosiect mentora ieithoedd tramor modern. Os nad yw'r Aelodau'n gyfarwydd ag ef, fel y dywed Suzy, mae'n un y dylent fwrw golwg arno. Diolch yn fawr iawn. 

17:35

Daeth y cyfarfod i ben am 17:36.