Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
15/12/2020Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr â'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.
Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Reckless.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lefel y gefnogaeth ar gyfer ei chyfyngiadau coronafeirws? OQ56070
Llywydd, mae profion o farn y cyhoedd yn parhau i ddangos cefnogaeth fwyafrifol gref i'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i gadw Cymru yn ddiogel.
Wel, Prif Weinidog, dangosodd arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd y bore yma bod y gefnogaeth wedi gostwng o 66 y cant i 45 y cant, gyda 47 y cant bellach yn gwrthwynebu. Ac rwy'n meddwl tybed a allech chi ddod o hyd i fwy o gefnogaeth i'ch polisi pe byddech chi'n gweithio gyda'r wrthblaid yn hytrach na'u galw yn warthus, ac yn croesawu ymweliad brenhinol i ddiolch i weithwyr allweddol yn hytrach na'u galw yn rhwygol. Yn hytrach, rydych chi, a dyfynnaf o'ch datganiad:
yn nodi sut a phryd y bydd Cymru yn symud rhwng lefelau rhybudd gyda mesurau Cymru gyfan. Mae'n rhaid i ni wneud yr un fath yn Abertawe ag yn Ynys Môn cyn belled â'i fod yn wahanol i Loegr.
Prif Weinidog, oni fyddai'n well i ni fod â dull unedig y DU?
Llywydd, hyd y gwn i, nid yw Abertawe nac Ynys Môn yn Lloegr. Rwyf i wedi edrych ar yr arolwg y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Gofynnwyd i bleidleiswyr yng Nghymru pa un a oedd yn well ganddyn nhw'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru neu'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Lloegr. Dywedodd 53 y cant o bobl eu bod nhw'n ffafrio'r dull a fabwysiadwyd yng Nghymru, roedd yn well gan 15 y cant y dull y mae'r Aelod yn ei gefnogi yn barhaus yn y fan yma.
Prif Weinidog, un o'r penderfyniadau mawr a wnaed yn yr wythnosau diwethaf yn amlwg yw newid y cyfyngiadau dros gyfnod y Nadolig gan bedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae'r sefyllfa yma yng Nghymru wedi symud ymlaen ers gwneud y penderfyniad hwnnw, ac rwy'n parchu'r sefyllfa y gwnaed y penderfyniad hwnnw ynddi gennych chi fel y Prif Weinidog. Beth ydych chi'n feddwl yw ymateb y cyhoedd i'r newidiadau hynny a fydd yn digwydd dros y Nadolig, a'u tybiaeth ohonyn nhw, o gofio'r amgylchiadau y mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn amlinellu bod Cymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd, yn ei gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru, ond hefyd y cyfraddau trosglwyddo cymunedol?
Diolchaf i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn yna, Llywydd. Bydd ef yn gwybod bod y cytundeb pedair gwlad ynghylch y Nadolig wedi cael ei negodi yn fanwl dros bedwar gwahanol gyfarfod rhwng y pedair gwlad. Roedd yn gytundeb y gweithiwyd yn galed i'w sicrhau; nid wyf i'n mynd i'w roi o'r neilltu ar chwarae bach. Mae gen i gyfarfod yn ddiweddarach heddiw gyda Phrif Weinidog yr Alban, Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidogion Gogledd Iwerddon, a Michael Gove, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am Swyddfa'r Cabinet, ac mae'n siŵr y bydd y mater hwn yn cael ei drafod unwaith eto yn y fan honno. Mae'r dewis yn un difrifol, Llywydd, onid yw? Rwyf i wedi darllen yn fy nghyfrif e-bost fy hun dros yr ychydig ddyddiau diwethaf pledio torcalonnus gan bobl i beidio â gwrthdroi'r hyn yr ydym ni wedi ei gytuno arno ar gyfer y Nadolig—pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain yn llwyr ac sydd wedi gwneud eu trefniadau i fod gyda phobl am y tro cyntaf ers misoedd lawer, ac sy'n dweud wrthyf i mai dyma'r unig beth y maen nhw wedi gallu edrych ymlaen ato yn yr wythnosau diwethaf. Ac eto, rydym ni'n gwybod os na fydd pobl yn defnyddio'r rhyddid ychwanegol cymedrol sydd ar gael iddyn nhw dros gyfnod y Nadolig yn gyfrifol, yna byddwn ni'n gweld effaith hynny ar ein gwasanaeth iechyd sydd eisoes o dan bwysau aruthrol.
Felly, rwy'n credu bod y dewis yn un anodd dros ben. Ar hyn o bryd, mae gennym ni gytundeb pedair gwlad. Byddaf yn trafod hynny yn ddiweddarach heddiw. Byddwn yn edrych ar y ffigurau unwaith eto gyda'n gilydd. Rwy'n dal i gredu bod y dadleuon dros gael dull seiliedig ar reolau ar gyfer y Nadolig, cynnydd cymedrol i ryddid pobl, ond lle maen nhw'n gwybod beth yw'r rheolau, yn well na sefyllfa pawb drostynt eu hunain lle mae gennym ni sefyllfa pan nad yw pobl yn barod i gyd-fynd â'r hyn sy'n cael ei gynnig ac felly'n gwneud y rheolau drostynt eu hunain. Felly, fel y dywedais, Llywydd, ym mha ffordd bynnag y bydd Llywodraethau'r Deyrnas Unedig yn datrys y mater hwn, bydd yn gyfres o ddyfarniadau wedi'u pwyso a'u mesur yn ofalus dros ben rhwng gwahanol fathau o niwed a achosir, pa gamau bynnag y byddwch chi'n eu cymryd.
Prif Weinidog, rwy'n gweld ar y newyddion 1 o'r gloch heddiw y bydd Michael Gove yn ysgrifennu atoch chi yn fuan, i weld a fydd unrhyw ddatblygiad o'r dull pedair gwlad ar gyfer y Nadolig. Ar yr un pryd, rydym ni'n gweld ledled y DU a ledled Ewrop, ac mewn rhannau eraill o'r byd yn wir, gamau sylweddol yn cael eu cymryd gan Lywodraethau yno, sy'n cael eu heffeithio yn yr un ffordd yn union ag yr ydym ni'n cael ein heffeithio nawr, gyda chyfraddau heintio sy'n cynyddu, ond hefyd y pryder cynyddol sy'n bodoli ymhlith y cyhoedd. Rwy'n meddwl tybed, Prif Weinidog, beth allech chi fod yn ei ddweud wrth Michael Gove o ran sut y gallem ni gydweithredu, ond hefyd pa wersi sydd yna y gallwn ni eu dysgu o'r hyn sy'n digwydd yng ngweddill y byd ar hyn o bryd, lle maen nhw'n wynebu sefyllfa debyg iawn, bron yn union yr un fath â ninnau.
Wel, y wers, Lywydd, yr wyf i'n ei chymryd gan weddill y byd yw'r union bwynt a wnaeth Mick Antoniw, fod Llywodraethau ledled Ewrop ac yn ehangach yn gorfod gweithredu yn wyneb ton newydd o'r feirws hwn yn ystod amodau'r gaeaf, gyda ffyrnigrwydd na ragwelwyd yn y modelu a wnaed mewn sawl rhan o'r byd. Ac, wrth gwrs, roeddem ni'n gwylio yn ofalus iawn yr hyn a ddigwyddodd ddoe yn yr Almaen, yn yr Iseldiroedd, yn yr Eidal. A byddaf yn trafod gyda Michael Gove, yn uniongyrchol, yn ddiweddarach heddiw pa un a yw'r cytundeb pedair gwlad a sicrhawyd gennym ni yn dal i fod ag ychydig mwy o fanteision nag anfanteision, neu a oes gwahanol gydbwysedd y dylem ni ei daro. I'r naill gyfeiriad neu'r llall, Llywydd, bydd niwed yn cael ei wneud. Bydd niwed yn cael ei wneud pa un a yw pobl yn dod at ei gilydd dros y Nadolig mewn ffordd nad yw'n gyfrifol ac nad yw'n cadw at yr holl gyngor yr ydym ni wedi ei roi i bobl, neu, os byddwn ni'n ceisio atal pobl rhag cyfarfod dros y Nadolig, bydd gwahanol fath o niwed yn cael ei wneud—i synnwyr pobl o iechyd meddwl, i synnwyr pobl o sut y gallan nhw ymdopi drwy'r flwyddyn arbennig o anodd hon gyda'i gilydd. Nid yw'n ddewis llwyr rhwng un cam gweithredu sydd â'r holl fanteision yn amlwg a dim o'r anfanteision, a thrywydd arall lle gellir canfod yr holl anfanteision. I unrhyw gyfeiriad, mae'n gydbwysedd gofalus ac anodd iawn, â manteision ac anfanteision ar ddwy ochr y fantol.
2. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu'r cyngor y mae wedi'i gael ynghylch mynd i'r afael â phandemig y coronafeirws? OQ56051
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Mae'r gell cyngor technegol yn cydgysylltu'r cyngor gwyddonol a thechnegol diweddaraf i gynorthwyo penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys adolygiadau rheolaidd o'r dystiolaeth, dadansoddiad a chyngor gan Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau ac amrywiaeth eang o ffynonellau cenedlaethol a rhyngwladol eraill.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Drwy gydol y pandemig, rydych chi wedi dilyn y cyngor a roddwyd i chi gan y gell cyngor technegol, ac eto mae'r pandemig yn ymledu'n ffyrnig ac allan o reolaeth yn llwyr yng Nghymru. Felly, mae llawer o bobl yn dod i'r casgliad bod problem naill ai gyda'r cyngor neu gyda'i weithrediad. A gan na allwn ni weld y cyngor a roddir i Weinidogion, dim ond crynodebau, yr unig gasgliad y gallwn ni ddod iddo yw y gallai'r cyngor sy'n cael ei roi fod yn amheus. Prif Weinidog, nid yw gwyddoniaeth yn gweithredu yn gyfrinachol, mae'n dibynnu ar adolygiad trylwyr gan gymheiriaid. Felly, a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi'n llawn yr holl gyngor gwyddonol a roddir i Weinidogion, a sefydlu bwrdd adolygu gwyddonol i gynnal efelychiad tîm coch o'r holl fesurau rheoli COVID-19 cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno? Diolch.
Wel, Llywydd, nid y cyngor na'i weithrediad yw'r broblem. Y feirws yw'r broblem. Os oedd y cyngor yn anghywir yn unigryw yma yng Nghymru, yna sut gallai fod yn wir, fel y clywsom ni yn y cwestiwn diwethaf, bod Llywodraethau mewn rhannau eraill o'r byd yn wynebu'r un cyfyng-gyngor yn union? Rydym ni'n ymdrin â feirws nad yw'n ymddwyn yn y ffordd y mae modelau bob amser yn ei rhagweld, nad yw'n ymateb i rai o'r mesurau y disgwyliwyd iddyn nhw fod yn effeithiol, lle gwelsom ni dystiolaeth ddoe o amrywiolyn newydd yn dod i'r amlwg, a fydd o bosibl yn creu heriau newydd i ni. Nid y cyngor yw'r broblem; mae'r cyngor gystal cyngor ag y gallwch chi ei gael. Y broblem yw ymdrin â feirws sy'n llawn bethau annisgwyl ac anodd, a lle nad oes un dull syml i'w ganfod yn unman yn y byd y gellir ei godi o un rhan o'r byd a'i ollwng mewn un arall gyda sicrwydd o lwyddiant.
Prif Weinidog, mae gohebiaeth ddiweddar gan fy etholwyr yn dangos bod y cyfnod hwn, yn ddealladwy, wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl y rhai mwyaf agored i niwed yn y boblogaeth. Mae'r ohebiaeth hon, wrth gwrs, yn arwydd o broblem ar raddfa fwy ac uniongyrchol sy'n wynebu'r cyhoedd yng Nghymru yn gyffredinol. Yn wir, datgelodd canlyniadau arolwg diweddar gan brifysgolion Abertawe a Chaerdydd bod tua hanner y 13,000 o bobl a gymerodd ran wedi nodi gofid seicolegol clinigol sylweddol, a dywedodd tua 20 y cant eu bod nhw'n dioddef effeithiau difrifol. Fodd bynnag, ychydig iawn o sôn na chydnabyddiaeth a geir ym mhapurau briffio'r gell cyngor technegol. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol nawr, gan ein bod ni'n symud tuag at fesurau llymach, bod y Llywodraeth Cymru hon yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod mynediad at grwpiau cymorth unigrwydd a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl yn cael ei sicrhau. Felly, a yw hi'n bosibl, pan fyddwch chi'n gweithio gyda'ch cynghorwyr gwyddonol ac yn cyhoeddi papurau briffio'r gell cyngor technegol, y gallech chi gydnabod y rhai sy'n dioddef o'r effeithiau iechyd meddwl i sicrhau bod y papurau briffio hyn yn ystyried yr effaith—a'r effaith ddifrifol, dylwn i ddweud—cyfyngiadau ar unigrwydd, ynysu cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl? Diolch.
Llywydd, wel, rwy'n credu bod y grŵp cynghori technegol yn rhoi cyngor i ni, yn rheolaidd iawn, ar y niweidiau ehangach. O'r cychwyn cyntaf, mae ein prif swyddog meddygol wedi tynnu sylw at y pedwar gwahanol fath o niwed sy'n deillio o goronafeirws, ac mae'r effaith ar synnwyr pobl o iechyd meddwl a llesiant meddwl yn sicr yn rhan o'r hyn yr ydym ni bob amser yn ei bwyso a'i fesur. Roeddwn i'n ceisio gwneud hynny yn fy ateb i gwestiwn Andrew R.T. Davies—y cyngor yr ydym ni'n ei weld heddiw gan bobl ynglŷn â chymryd camau llymach dros y Nadolig i leihau gallu pobl i ddod at ei gilydd. Ond bydd hynny yn cael effaith ar yr holl faterion y mae Janet Finch-Saunders newydd eu codi gyda mi. Dyna'r negeseuon e-bost yr oeddwn i'n cyfeirio atyn nhw, gan bobl yn pledio y dylem ni ganiatáu iddyn nhw gael dod at ei gilydd dros y Nadolig oherwydd yr effaith ar eu hiechyd a'u llesiant meddwl.
Cymerais ran fy hun, ddoe, Llywydd, mewn menter sy'n gofyn yn syml i bobl ffonio rhywun arall dros y Nadolig sy'n byw ar ei ben ei hun, a chefais sgwrs drawiadol iawn gyda rhywun sy'n byw yn ardal Rhondda Cynon Taf, sydd wedi bod heb allu gweld neb arall ers tri mis oherwydd ei iechyd ei hun a'r effaith y mae hynny yn ei chael ar bobl eraill. Ac mae cyfnod y Nadolig yn bwysig iawn i bobl, onid yw? Felly, hoffwn ddweud wrth yr Aelod ein bod ni, wrth gwrs, yn pwyso a mesur y pethau hynny, ac, wrth gwrs, rydym ni'n ceisio gwneud penderfyniadau sy'n rhoi sylw i'r effaith ar iechyd corfforol pobl ac ar ein gwasanaethau, ar y sefyllfa bresennol o ran y coronafeirws, heb fyth golli golwg ar y ffaith, pan gyflwynir cyfyngiadau ar allu pobl i gyfarfod â phobl eraill, a all fod yn gwbl angenrheidiol i reoli'r feirws, bod effeithiau eraill y mae'n rhaid i ni eu pwyso a'u mesur a cheisio eu lliniaru.
Prif Weinidog, a gaf i ofyn pa ymdrechion yr ydych chi wedi eu gwneud i gysylltu gydag arweinyddion y prif bleidiau er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am y cyngor meddygol a gwyddonol a'r data a'r dewisiadau anodd sydd i'w gwneud? Ar yr adeg hon o argyfwng cenedlaethol parhaus, gan wynebu pandemig parhaus, byddai pobl Cymru yn gobeithio y byddai pob arweinydd a llefarydd gwleidyddol yn ceisio manteisio ar bob cyfle i fod yn wybodus a bydden nhw hefyd yn disgwyl i'r Prif Weinidog sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael i'r wrthblaid. Felly, a gaf i ofyn, a ydych chi wedi cael yr ymgysylltiad da ac amserol hwnnw gydag arweinyddion y prif wrthbleidiau fel y gallan nhw eu hunain gymryd rhan mor llawn â phosibl yn yr heriau sy'n ein hwynebu ni yng Nghymru, ac fel y gall eu datganiadau cyhoeddus fod yn wybodus a hyrwyddo'r neges hon o achub bywydau, diogelu ein GIG gwerthfawr a'r bobl sydd ar yr union adeg hon yn gweithio ar y rheng flaen o dan amgylchiadau peryglus ac anodd?
Llywydd, diolchaf i Huw Irranca-Davies am hynna. Ers misoedd bellach, rydym ni wedi cael patrwm ar fore Mercher o gyfarfod sy'n cynnwys arweinydd yr wrthblaid ac arweinydd Plaid Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu rhannu gyda nhw, weithiau ar sail weddol gyfrinachol—anghenrheidiol gyfrinachol—y cyngor sy'n dod i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r ddau ohonyn nhw am yr amser y maen nhw wedi ei roi a'r ymdrechion y maen nhw wedi eu gwneud i fod ar gael ac i gymryd rhan yn y cyfarfodydd hynny. Nid wyf i'n credu bod arweinydd Plaid Cymru wedi colli yr un ohonyn nhw. Ac rwyf i wedi gwneud fy ngorau, pan fyddwn ni'n dod at benderfyniadau mawr a chyhoeddiadau mawr, i wneud galwad ffôn i arweinyddion y Blaid Geidwadol a Phlaid Cymru ymlaen llaw, fel eu bod nhw o leiaf yn ymwybodol o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies, mai'r mwyaf o'r cyfleoedd hynny a gymerir, y gorau y byddwn ni'n gallu ceisio, lle gallwn ni wneud hynny, anfon negeseuon cyffredin i bobl yng Nghymru am natur yr argyfwng iechyd cyhoeddus yr ydym ni'n dal yn ei afael a'r camau y gallwn ni eu cymryd yn ein bywydau ein hunain yn ogystal â'r camau y gall y Llywodraeth eu cymryd i wneud gwahaniaeth i hynny.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac felly yn gyntaf arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fel y gwyddoch, yn anffodus, Cymru sydd â'r gyfradd heintio COVID-19 uchaf yn y DU, ac mae wyth o'r 10 ardal fwyaf heintiedig yn y DU yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr i gyd yn y tri uchaf. Yn naturiol, ceir dyfalu o hyd ynghylch pa un a fydd mesurau pellach yn cael eu cyflwyno a sut y gallai'r cyfyngiadau hynny effeithio ar fywydau a bywoliaeth pobl. Prif Weinidog, gydag achosion mor niferus yng Nghymru, a allwch chi ddweud wrthym ni pryd yr ydych chi'n bwriadu gwneud penderfyniad am unrhyw gyfyngiadau pellach yng Nghymru? Ac o gofio bod cynllun rheoli coronafeirws Llywodraeth Cymru ei hun yn cadarnhau bod cyfradd achos o fwy na 300 o achosion fesul 100,000 o bobl o dan lefel rhybudd 4, a allwch chi ddweud wrthym ni pa un a ydych chi'n bwriadu symud Cymru i fyny i'r lefel nesaf erbyn hyn?
Llywydd, diolchaf i Paul Davies am y cwestiwn yna. Byddwn yn edrych bob un dydd yr wythnos hon ar y ffordd y mae'r ffigurau yng Nghymru yn symud. Dywedais yn fy nghynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, oni bai ein bod ni'n gweld arwyddion bod y cynnydd presennol yn cael ei atal a'i wrthdroi, yna mae'n anochel y bydd angen mesurau pellach. Nawr, cyflwynwyd cyfres bwysig o fesurau wythnos i ddydd Gwener diwethaf o ran atyniadau a lletygarwch. Cymerwyd mesurau pellach gennym ni yr wythnos diwethaf o ran ysgolion ac atyniadau awyr agored. Mae'n rhaid i ni allu rhoi cyfle i'r ymyraethau hynny weithio. Os na fyddwn ni'n eu gweld nhw'n gweithio, fel y dywedais ddydd Gwener, yna rwy'n credu ei bod hi'n anochel y bydd angen cymryd camau pellach i atal llif y coronafeirws fel y'i gwelwn yng Nghymru heddiw. A byddaf yn gwneud hynny bob dydd yr wythnos hon.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb yna, Prif Weinidog, a gwn fod y Gweinidog iechyd wedi cadarnhau ddoe nad oes dim, wrth gwrs, oddi ar y bwrdd o ran mwy o gyfyngiadau COVID dros y Nadolig, ac rwy'n derbyn ac yn deall hynny yn llwyr, ac rwy'n sylweddoli y byddwch chi'n cael trafodaethau pellach gyda Llywodraethau eraill y DU yn ddiweddarach y prynhawn yma am gyfyngiadau'r Nadolig hefyd.
Nawr, wrth gwrs, mae gan Gymru fwy na dwywaith cymaint o achosion COVID-19 o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU, ac mae dau fwrdd iechyd wedi cadarnhau erbyn hyn y byddan nhw'n gohirio rhywfaint o driniaeth nad yw'n driniaeth frys, ac felly rydym ni hefyd yn edrych ar argyfwng a fydd yn digwydd yn y flwyddyn newydd hefyd efallai. Byddwch wedi gweld pryderon Cymdeithas Gofal Dwys Cymru, sydd wedi rhybuddio na fydd gwasanaethau gofal critigol yn gallu ymdopi dros gyfnod y gaeaf heb ymyrraeth ar y lefel uchaf, ac yn sgil llacio rheolau am ychydig ddyddiau dros y Nadolig bydd hyd yn oed mwy o bwysau, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, ar wasanaethau'r GIG yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwy'n falch bod Llywodraeth y DU heddiw wedi cynnig trin cleifion nad ydyn nhw'n gleifion COVID yn Lloegr i helpu i leddfu'r pwysau ar ysbytai Cymru ac i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu.
O ystyried difrifoldeb y mater, a allwch chi ddweud wrthym ni pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r cynnydd i nifer yr achosion o ran capasiti ysbytai ledled Cymru? Yn ail, yng ngoleuni'r galwadau am ymyrraeth gan rai yn y proffesiwn meddygol, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'r byrddau iechyd lleol am eu cynlluniau ar gyfer darparu llawdriniaeth ddewisol a gofal rheolaidd dros yr wythnosau nesaf? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa un a fyddwch chi'n manteisio ar gynnig Llywodraeth y DU i alluogi cleifion nad ydynt yn gleifion COVID i gael eu trin mewn ysbytai yn Lloegr os oes angen?
Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n deg i mi dynnu sylw at y ffaith fod Cymru, fel y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud, ar y lefel uchaf o goronafeirws yn y Deyrnas Unedig heddiw. Ar wahanol adegau, mae pob un o'r pedair gwlad wedi bod yn y sefyllfa honno. Roedd Lloegr ynddi yn gynharach yn yr haf, roedd Gogledd Iwerddon yn y sefyllfa honno ychydig wythnosau yn ôl, mae'r Alban wedi cael yr un profiad o ran stribed y canolbarth. Felly, mae hwn yn batrwm sy'n esblygu lle mae cynnydd sydyn i nifer yr achosion yn digwydd mewn gwahanol leoedd.
O ran capasiti yn y gwasanaeth iechyd, ceir dau fath o gapasiti yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw. Ceir capasiti ffisegol o ran nifer y gwelyau: mae 16 y cant o welyau acíwt yn GIG Cymru nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio heddiw. Felly, mae capasiti ffisegol yn cael ei ymestyn, ond nid yw'n cael ei ymestyn i'r pwynt o dorri. Y capasiti arall yr ydym ni'n sôn amdano yw staff, a dyna lle mae'r anawsterau presennol ar eu mwyaf difrifol yn fy marn i. Mae gennym ni'r nifer uchaf o staff ar unrhyw adeg yn ystod eleni sy'n hunanynysu ac am resymau eraill ddim ar gael i fod yn y gwaith; 1,500 yn fwy o bobl yr wythnos diwethaf nag oedd yn wir ym mis Medi. A'r broblem a wynebwyd mewn rhai rhannau o'r GIG, a'r rheswm pam mae rhai triniaethau nad ydynt yn rhai brys yn cael eu gohirio, yw oherwydd nad oes gennym ni staff ar gael i barhau â phopeth y mae'r gwasanaeth iechyd eisiau ei wneud, ac rydym ni'n gorfod canolbwyntio'r adnoddau staff sydd gennym ni ar y pethau mwyaf brys hynny, gan gynnwys darparu ar gyfer y nifer gynyddol o bobl sy'n dioddef o goronafeirws. Felly, rydym ni'n dibynnu ar ymgysylltiad rheolaidd â'n holl fyrddau iechyd, i edrych ar allu'r system i barhau i wneud pethau heblaw coronafeirws, ac mae hynny yn amrywio o un bwrdd iechyd i'r llall ar hyn o bryd, ond mae'n ymgysylltiad dyddiol sydd gennym ni gyda nhw i wneud yn siŵr, cyn belled â phosibl, bod y gwasanaeth iechyd yn gwneud yr holl bethau y byddem ni i gyd eisiau iddo eu gwneud.
O ran y llythyr ar gyd-gymorth, wrth gwrs, byddaf yn ymateb iddo, gan gymeradwyo eto yr egwyddor o gyd-gymorth sydd wedi bod yno drwy'r coronafeirws. Mae Cymru wedi cyflenwi 11 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol i GIG Lloegr yn ystod yr argyfwng hwn yn rhan o'n cyd-gymorth, ac mae'r llythyr a gefais heddiw yn ailddatgan hynny, ac rwy'n hapus iawn i'w gymeradwyo unwaith eto.
Prif Weinidog, er bod pandemig COVID yn parhau i waethygu yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru, ceir rhai pryderon dilys o hyd gan lawer ledled y wlad am ganlyniadau negyddol cyfyngiadau pellach, yn enwedig, fel y dywedasoch yn gynharach, yr effaith ar iechyd meddwl pobl. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Aberconwy yn gynharach, fis diwethaf, aeth Mind Cymru ati gydag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe i siarad â mwy na 13,000 o bobl am effaith y pandemig ar iechyd meddwl yng Nghymru, a dangosodd eu gwaith ymchwil bod tua hanner y rhai a gymerodd ran yn dangos gofid seicolegol clinigol sylweddol, gyda thua 20 y cant yn adrodd effeithiau difrifol. Felly, allwn ni ddim twyllo ein hunain na allai cyfyngiadau pellach wneud bywyd yn anodd i lawer o bobl, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at gymorth ac yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn hygyrch i'r rhai sydd eu hangen mewn gwirionedd.
Wrth i Lywodraeth Cymru wneud ei phenderfyniad ar y camau nesaf i Gymru, a allwch chi ddweud wrthym ni pa asesiad o'r effaith ar iechyd meddwl sydd wedi cael ei gynnal o ran unrhyw gyfyngiadau pellach? A allech chi ddweud wrthym ni pa gymorth ychwanegol a fydd ar gael i bobl sydd ei angen, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio gwasanaethau ac yn annog pobl i ofyn am gymorth os ydyn nhw'n teimlo bod eu hiechyd meddwl yn dioddef o ganlyniad i unrhyw gyfyngiadau pellach?
Wel, diolchaf i'r Aelod. Mae'n faes hollol bwysig, wrth gwrs. Mae'n codi yn yr holl sgyrsiau yr wyf i'n eu cael pan fyddaf yn siarad â phobl y tu hwnt i'r Senedd. Mae'n codi mewn sgyrsiau gyda'n gweithwyr iechyd, sydd wedi bod trwy flwyddyn ofnadwy nid yn unig o ran straen corfforol y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ond y traul emosiynol sy'n cael ei achosi o weld pobl a fyddai fel arall yn heini ac iach yn dioddef o'r clefyd ofnadwy hwn. Mae'n codi yn rheolaidd iawn yn y trafodaethau yr wyf i'n eu cael gyda phobl ifanc, sy'n effro iawn i'r effaith y bydd eleni wedi ei chael ar eu synnwyr o wydnwch ac edrych i'r dyfodol.
Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu drwy'r llu o wahanol asesiadau effaith yr ydym ni wedi eu cynnal yw bod yn rhaid darparu gwasanaethau iechyd meddwl mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, oherwydd bydd y math o gymorth y gallai unrhyw berson unigol ddymuno ei gael amrywio o'r ffordd y bydd pobl eraill yn dymuno cael gafael arno. Dyna pam mae gennym ni'r amrywiaeth o wasanaethau sydd gennym ni: llinell gymorth 24 awr, saith diwrnod yr wythnos i bobl sydd eisiau siarad â rhywun nad ydyn nhw angen ei gyfarfod eto, ac i rai pobl dyna'r ffordd orau o ymdrin ag ef. Dydyn nhw ddim eisiau cael sgwrs yn barhaus; maen nhw eisiau gallu siarad gyda rhywun gan wybod bod y person hwnnw yn fedrus ac yn gallu eu helpu, a chan wybod, pan fyddan nhw'n rhoi'r ffôn i lawr, mai dyna ddiwedd y sgwrs. Mae ein pobl ifanc yn aml yn tueddu i ffafrio mathau o gymorth ar-lein gyda phroblemau iechyd a llesiant meddwl. Maen nhw'n hoffi defnyddio'r ymarferion a'r cymorth sydd ar gael yn y ffordd honno, a byddai'n well gan bobl eraill eistedd wyneb yn wyneb â rhywun a gwybod, os bydd angen siarad â'r person hwnnw eto yr wythnos nesaf, y bydd y person hwnnw ar gael iddyn nhw. Rydym ni wedi cryfhau'r holl feysydd hynny yn yr ymateb yr ydym ni wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf, i geisio ymateb i'r effaith ar synnwyr pobl o lesiant.
Mae cyfeirio at y gwasanaethau hynny yn dibynnu nid yn unig ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ond ar ein partneriaid yn y trydydd sector, fel Mind Cymru, ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Wrth i ni gychwyn y flwyddyn nesaf, pryd yr ydym ni'n gobeithio yn fawr iawn y bydd mwy o resymau dros fod yn obeithiol y bydd y profiad hwn yn dod i ben, bydd angen i ni roi sylw o hyd nid yn unig i effeithiau uniongyrchol y feirws, ond yr effaith hirdymor y gall coronafeirws ei chael ar lesiant corfforol pobl, ond hefyd eu llesiant meddyliol.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae Prif Weinidog y DU wedi rhoi'r bêl yn ei rwyd ei hun dro ar ôl tro drwy ddim ond rhoi sylw rhannol a hwyr i alwad Marcus Rashford i ddarparu prydau ysgol am ddim yn Lloegr. Er bod gan y Llywodraeth Geidwadol wrthwynebiad ideolegol i helpu'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, yng Nghymru, mae gennym ni rwymedigaeth foesol. Darparu prydau ysgol am ddim yw un o'r ffyrdd gorau o liniaru effeithiau gwaethaf ail don o gyni cyllidol y Torïaid, a fydd yn taro'r tlotaf galetaf, fel y mae adolygiad Marmot, a gyhoeddwyd heddiw, wedi ei ddangos. Yn ei adroddiad ei hun ym mis Mehefin y llynedd, canfu Sefydliad Bevan nifer o ddiffygion gyda'r system prydau ysgol am ddim bresennol yng Nghymru. Nid yw'r gwerth o'r cymorth, dywedant, yn ddigonol i godi digon o blant allan o dlodi bwyd. Gyda 180,000 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru, a ydych chi'n difaru cael gwared ar y targed hirsefydlog i ddileu tlodi plant erbyn eleni, ac a yw hynny yn rhoi mwy o gyfrifoldeb arnoch chi erbyn hyn i weithredu?
Llywydd, rwy'n credu y bydd hanes Llywodraeth Cymru o ran prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig hwn yn gwrthsefyll archwiliad gofalus iawn. Ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i sicrhau prydau ysgol am ddim yn ystod rhan gynnar y pandemig, a ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i sicrhau y byddem ni'n parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim drwy'r hydref a hyd at wanwyn y flwyddyn nesaf. Mae'r lwfans yr ydym ni'n ei ddarparu ar gyfer prydau ysgol am ddim fesul disgybl yn uwch nag yn Lloegr, yn uwch nag yn yr Alban—yr uchaf yn y Deyrnas Unedig, mewn gwirionedd.
Wrth gwrs, mae tlodi plant yn bwysig iawn i ni, ac mae mwy o bethau yr hoffem ni eu gwneud. Dyna pam, yn ystod y tymor hwn, yr ydym ni wedi dyblu ac yna dyblu eto nifer yr adegau yn ystod gyrfa ysgol plentyn y caiff fanteisio ar yr hyn a elwid ar un adeg yn grant gwisg ysgol. O'r flwyddyn galendr nesaf ymlaen, byddwn yn dechrau cyflwyno swm ychwanegol o arian sydd ar gael i ddisgyblion ym mlwyddyn 7, blwyddyn gyntaf yr ysgol uwchradd—swm ychwanegol o arian i'w lwfans prydau ysgol am ddim bob dydd i wneud yn siŵr nad oes yn rhaid i'r plant hynny ddewis rhwng bwyta brecwast neu fwyta cinio.
Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo yn ddiweddar i brydau ysgol am ddim cyffredinol i bob plentyn ysgol gynradd. Ym 1943, cyflwynodd y Ffindir gyfraith yn ei gwneud yn gwbl ofynnol i brydau ysgol am ddim gael eu gweini i bob plentyn, polisi sy'n dal i fod ar waith heddiw. Ac fel y mae profiad y Ffindir wedi ei ddangos—rydym ni wedi modelu llawer o'n system addysg arnyn nhw, ac mewn gwirionedd mae'r ymrwymiad hwn yn gwbl ganolog i'r model, gan ei fod yn addysg fwyd mewn ysgolion, mae'n arf cyfannol y maen nhw'n ei ddefnyddio i sicrhau manteision pellgyrhaeddol y tu hwnt i ffreutur yr ysgol. Mae ffigurau gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn dangos bod dros 70,000 o blant sy'n byw islaw'r llinell dlodi yng Nghymru nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd. I unioni'r cam hwn, byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn codi'r trothwy cymhwysedd fel y byddai plant ym mhob cartref sy'n cael credyd cynhwysol yn cael prydau ysgol am ddim, a byddem ni'n cyflwyno amserlen eglur i ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i bob disgybl, ar sail model y Ffindir, gan ddechrau gyda phrydau ysgol am ddim i fabanod. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cefnogi'r ymdrech hon?
Byddaf eisiau gweld manylion yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei gynnig. Yn arbennig, Llywydd, byddaf eisiau gweld o ble y bydd yr arian yn cael ei gymryd er mwyn talu am ymrwymiad o'r fath, oherwydd pan eich bod chi mewn Llywodraeth, dyna'r dewis yr ydych chi'n ei wynebu—na ellir gwario arian sy'n cael ei wario ar un diben ar rywbeth arall. Rydym ni'n gwario ein cyllideb bob blwyddyn hyd at yr uchafswm, ac eleni a'r flwyddyn nesaf byddwn yn tynnu arian ychwanegol allan o gronfeydd wrth gefn er mwyn gallu parhau i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Felly, byddaf yn edrych ar fanylion yr hyn y mae'r Aelod yn ei gynnig, nid dim ond y pennawd y mae wedi ei gynnig i ni y prynhawn yma, ond faint y bydd hyn yn ei gostio ac o ble y mae'n credu y bydd yr arian yn dod i dalu amdano. Ac os caf weld manylion hynny, byddaf yn hapus i'w ystyried.
Gadewch i mi gytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price, serch hynny, ar y cychwyn, oherwydd, wrth gwrs, mae pryd o fwyd yn yr ysgol yn llawer mwy na bwyd yn unig. Lansiwyd yr ymgyrch dros brydau ysgol am ddim yma yng Nghaerdydd yn 1906 yn Neuadd y Ddinas yma yng Nghaerdydd, lle cyhoeddodd Cymdeithas Fabian bamffled sydd ag un o fy hoff deitlau o bob pamffled wleidyddol, oherwydd teitl y pamffled oedd, 'And they shall have flowers on the table'. Mae'n deitl hyfryd a'r hyn y mae'n ei ddweud wrthych chi yw nad bwydo plant yn unig oedd y ddadl dros brydau ysgol am ddim, ond gwerthfawrogi plant. Roedd yn fater o ddweud wrth blant a oedd yn dod i'r ysgol eu bod nhw'n bobl yr oedd eu cymdeithas yn buddsoddi ynddyn nhw ac eisiau gwneud eu gorau drostyn nhw—'They shall have flowers on the table'. Ac yn ystyr arbrawf y Ffindir a'r pethau a ddywedodd Adam Price, rwy'n rhannu yn llwyr y farn bod darparu pryd o fwyd i blentyn yn yr ysgol yn fwy na dim ond rhoi bwyd yn eu stumogau; mae'n ymwneud â'r gwerth yr ydym ni'n ei neilltuo i'r plentyn hwnnw, a'r arwydd eglur yr ydym ni'n ei roi iddo am fuddsoddiad y mae cymdeithas yn ei wneud yn ei ddyfodol.
Nid oes angen i mi ddweud wrthych chi am werth cyffredinoliaeth gynyddol; diben cyffredinoliaeth yw eich bod chi'n sicrhau bryd hynny bod pawb sydd ei angen yn ei gael. O ran eich pwynt am adnoddau cyfyngedig, mae angen i ni fod yn ddeallus, felly mae angen polisïau sy'n cyflawni mwy nag un amcan arnom ni. Ac felly gallwch weld, gyda phrydau ysgol am ddim i bawb, os byddwch chi'n ei gysylltu, er enghraifft, â'r economi sylfaenol—pryd sylweddol wedi'i gynhyrchu o fewn y filltir sgwâr, y cyfnod sylfaen a'r economi sylfaenol, gan sicrhau caffael lleol, plant yn dysgu o ble y daw eu bwyd ar yr un pryd â helpu'r busnesau cynhyrchu bwyd lleol a gafodd eu taro'n galed iawn gan y pandemig a, phwy a ŵyr, efallai gan Brexit 'dim cytundeb'—siawns mai dyna'r math o bolisi deallus sydd ei angen arnom ni, Prif Weinidog, sy'n darparu i fodel ataliol arbedion hyd yn oed o safbwynt ariannol oherwydd y canlyniadau iechyd ac addysgol gwell i'r plant dan sylw ac, yn wir, eu cyfleoedd bywyd economaidd, ond sydd hefyd yn ei wneud mewn ffordd gyfannol i'r economi, i gael gwell amgylchedd, i gael gwell iechyd ar yr un pryd.
Llywydd, roedd yr holl ddadleuon hynny yn ddadleuon a arweiniodd at Lywodraeth Lafur yn cyflwyno prydau am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd, oherwydd mae gennym ni frecwastau am ddim mewn ysgolion cynradd sydd am ddim i bob plentyn. A dyna'r union fath o amcan lluosog a arweiniodd at i'r Cabinet ar y pryd ddod o hyd i'r arian i fuddsoddi ynddo. Mae brecwast am ddim yn darparu bwyd i blant y bydden nhw fel arall yn mynd hebddo, mae'n gwneud eu dysgu yn fwy effeithiol oherwydd bod ganddyn nhw fwyd yn eu stumogau ac yn gallu canolbwyntio ar eu dysgu, mae'n darparu yn arbennig ar gyfer y teuluoedd hynny sydd ar gyrion gweithio, oherwydd os nad oes rhaid i chi dalu am ofal i'r plentyn neu am i'r plentyn gael ei fwydo, yna mae eich gallu i gymryd swydd neu i wneud mwy o oriau yn y gwaith hwnnw yn cael ei wella hefyd. Felly, dod ag amcanion lluosog at ei gilydd yn ddeallus yw'r union beth y byddai unrhyw Lywodraeth yn dymuno ei wneud ac, fel y dywedais, gallwch ei weld bob dydd yn y gwasanaeth blaengar a chyffredinol hwnnw y mae brecwastau am ddim yn ein hysgolion cynradd yn ei gynrychioli.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o'r capasiti sydd ar gael i ddarparu brechiadau COVID-19? OQ56032
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Yn syth ar ôl i frechlyn Pfizer/BioNTech gael ei gymeradwyo yn rheoleiddiol, dosbarthodd GIG Cymru dros 4,000 o ddosau a'u rhoi i bobl o fewn y 48 awr cyntaf iddo fod ar gael. Mae gwaith modelu gweithlu manwl ar y gweill, cyn i frechlynnau dilynol gael eu cymeradwyo yn rheoleiddiol. Mae GIG Cymru wedi paratoi ac yn barod ar gyfer y dasg sydd o'n blaenau.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n falch o glywed bod cynnydd yn cael ei wneud, hyd yn oed ar y cam cynnar hwn, o ran cyflwyno'r brechlyn. Rwy'n deall bod byrddau iechyd wedi bod yn gofyn i rai gyn-nyrsys ddychwelyd i'r gwaith i helpu i ddarparu'r brechlyn. Tybed a allech chi gadarnhau mai dyna'r sefyllfa, a hefyd, a oes unrhyw gapasiti mewn sefydliadau eraill ledled Cymru a allai helpu gyda'r rhaglen frechu honno? Rwy'n credu mai'r gorau po gyntaf y gall hynny ddigwydd.
A hefyd, a gaf i ychwanegu, o ran y mater capasiti ehangach, gwn y bu rhai pryderon yn y newyddion yn ddiweddar am nifer yr achosion o COVID-19 yn Ysbyty Athrofaol newydd y Faenor yng Nghwmbrân, sy'n amlwg yn cael ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer hynny. Ond ceir pryderon ynglŷn â hynny, ar ôl i gleifion eraill gael cyfarwyddyd i gadw draw. Tybed a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau am unrhyw adnoddau ychwanegol y gellid eu darparu i fwrdd iechyd Aneurin Bevan ar hyn o bryd, i wneud yn siŵr bod yr ysbyty hwnnw, yn ystod y cyfnod cynefino, yn ei ddyddiau cynnar, yn gallu ymdopi â nifer yr achosion yno.
Wel, Llywydd, gallaf roi sicrwydd i Nick Ramsay ar y pwynt olaf yna bod trafodaethau, wrth gwrs, yn parhau gydag Aneurin Bevan ynghylch unrhyw gymorth cydfuddiannol y gellir ei ddarparu neu unrhyw fesurau pellach y gellir eu cymryd i gynorthwyo'r ysbytai yn y rhan honno o Gymru, sydd o dan y straen mwyaf, o gofio nifer y bobl yn y rhan honno o Gymru sy'n dioddef o'r coronafeirws.
O ran brechu, dywedaf wrth Nick Ramsay mai'r dull yr ydym ni wedi ei ddefnyddio yng Nghymru yw cysylltu â phob un o'r pedwar proffesiwn contractwyr—felly, nid meddygon teulu yn unig, ond hefyd fferyllwyr, optometryddion a deintyddion—i weld pa gyfraniad y gallan nhw ei wneud at raglen frechu torfol, oherwydd mae'r rheini i gyd yn broffesiynau lle mae pobl yn rhoi pigiadau a mathau eraill o ymyrraeth glinigol bob dydd. Cefais fy nghalonogi yn fawr ddoe o weld yr ymatebion cadarnhaol iawn yr ydym ni wedi eu cael gan bob un o'r pedwar proffesiwn hynny—pob un ohonyn nhw'n cynnig bod yn rhan o raglen frechu torfol. Rwy'n credu y bydd hynny yn rhoi cydnerthedd ychwanegol i ni yma yng Nghymru, yn ogystal â gallu tynnu amrywiaeth ehangach o weithwyr clinigol proffesiynol profiadol i mewn sy'n gallu rhoi'r brechiad yn ddiogel. Bydd hynny weithiau'n golygu gofyn i bobl sydd wedi ymddeol yn ddiweddar ddod yn ôl a bod yn rhan o'r ymdrech honno, ac rwy'n credu bod hynny'n synhwyrol iawn hefyd. Ond rwy'n credu, yng Nghymru, ein bod ni'n manteisio ar yr amrywiaeth o weithwyr gofal sylfaenol proffesiynol sydd gennym ni sy'n barod i wneud cyfraniad. Rydym ni'n gwybod bod fferyllwyr yn rhoi brechiadau rhag y ffliw mewn niferoedd cynyddol bob blwyddyn yng Nghymru, ac mae gan optometryddion a deintyddion sgiliau, profiadau a galluoedd y maent hwythau hefyd yn barod i'w cyfrannu at yr ymdrech honno, a dyna sut yr ydym ni'n cynllunio dyfodol ein rhaglen frechu yng Nghymru.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo treftadaeth canolbarth Cymru? OQ56034
Mae Llywodraeth Cymru, drwy Croeso Cymru a Cadw, yn hyrwyddo cymeriad a gwerth unigryw ein treftadaeth i bobl Cymru a'r byd, ac mae hynny yn cynnwys, wrth gwrs, treftadaeth gyfoethog canolbarth Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Yn wir, mae treftadaeth gyfoethog yn y canolbarth. Rydym ni yma yn y Senedd y prynhawn yma, ond wrth gwrs credir mai ym Machynlleth, yn fy etholaeth i, oedd y Senedd gyntaf yng Nghymru. Rwy'n awyddus i ni gael dyfodol cyffrous ac ystyrlon i'r Senedd-dy ym Machynlleth. Yn sicr, hoffwn weld Canolfan Owain Glyndŵr yn cael ei defnyddio gan y Senedd hon a Llywodraeth Cymru, efallai i raddau helaethach nag y'i defnyddiwyd ers datganoli. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, ymrwymo i drafod â'ch swyddogion i archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r Senedd-dy ym Machynlleth, yn enwedig pan fydd yn cynnal digwyddiadau ac yn hyrwyddo Cymru ledled y byd i bwysleisio'r dreftadaeth a'r diwylliant sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac wrth wneud hynny, estyn allan at ymddiriedolwyr y ganolfan i'w cynorthwyo yn eu huchelgeisiau ar gyfer y Senedd-dy?
Diolchaf i Russell George am hynna. Wrth gwrs, mae gan Fachynlleth le arbennig iawn yn hanes Cymru a bydd y Llywydd wedi clywed yr hyn a ddywedodd Russell George am y Senedd ei hun yn gwneud defnydd o'r lleoliad hanesyddol hwnnw. Pan fydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i groesawu ymwelwyr i Gymru, rydym ni'n aml yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cynnal y cyfarfodydd hynny mewn rhannau o Gymru sy'n arddangos popeth sydd gan Gymru i'w gynnig, ac mae hynny'n sicr yn cynnwys y canolbarth, Llywydd. Pan welais y cwestiwn hwn dros y penwythnos, fe'm hatgoffwyd ei bod flwyddyn yn ôl bron yn union—bydd yn flwyddyn i'r wythnos nesaf—pan oeddwn i'n mynd ar daith i'r gogledd, dim ond yn bersonol, a manteisiais ar y cyfle i alw yn nau o safleoedd treftadaeth pwysig y canolbarth, sef Abaty Cwm Hir, yr oeddwn i'n ymweld ag ef, mae gen i gywilydd dweud, am y tro cyntaf erioed, a Gregynog, yr wyf i wedi bod yno droeon, a dim ond dwy enghraifft yw'r rheini o'r hyn sydd gennym ni yn y canolbarth.
Gwn y bydd gan Russell George ddiddordeb mewn gwybod, oherwydd mae wedi bod yn gefnogwr brwd o gamlas Maldwyn, bod Llywodraeth Cymru newydd ddyfarnu £250,000 i Glandŵr Cymru i ganiatáu i'r gwaith ardderchog hwnnw sy'n cael ei wneud i adfer y gamlas barhau. A, Llywydd, wythnos yn ôl, cymerais ran mewn digwyddiad prin y dyddiau hyn y tu allan i adeiladau'r Senedd a'r Llywodraeth yn amgueddfa Sain Ffagan yng Nghaerdydd, ynghyd â llysgennad Japan, gan blannu coed ceirios yno i nodi'r cyfeillgarwch rhwng Japan a Chymru. Bydd gan y canolbarth gyfran sylweddol iawn o'r 1,000 o goed ceirios a fydd yn cael eu plannu eleni i nodi'r cyfeillgarwch hwnnw. Felly, yn union fel yr ydym ni'n dathlu ac yn nodi'r hanes maith sydd gennym ni, felly hefyd yr ydym ni'n gwneud hanes ein hunain bob dydd. Bydd y coed ceirios hynny, a fydd yn cael eu plannu yn y canolbarth ac ym mhob rhan arall o Gymru eleni, yno ymhell ar ôl i lawer ohonom ni fod yno i'w gweld, mae'n debyg, a byddan nhw'n dod yn rhan o dreftadaeth gyfoethog Cymru ar gyfer y dyfodol.
5. Pa gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i fusnesau yng Nghanol De Cymru yn ystod pandemig COVID-19? OQ56071
Mae cymorth busnes i'r rhanbarth yn cynnwys £137.6 miliwn i dros 10,000 o fusnesau drwy gynllun grant ardrethi busnes annomestig COVID-19 a thros £66 miliwn trwy dri cham cyntaf y gronfa cadernid economaidd.
Diolch am yr ymateb yna. Mae amrywiaeth o etholwyr sy'n fferyllwyr cymunedol wedi cysylltu â mi ac rwy'n gofyn pa bwynt y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyrraedd yn ei thrafodaethau â Fferylliaeth Gymunedol Cymru—trafodaethau sydd wedi bod yn cael eu cynnal am rai misoedd bellach—ynghylch digolledu'r sector hwn am y costau ariannol yr aeth iddyn nhw pan fu'n rhaid i fferyllwyr dalu am eu cyfarpar diogelu personol eu hunain ar ddechrau'r pandemig. Mae'r fferyllwyr cymunedol yng Nghymru wedi bod yn glod i ni o ran y ffordd maen nhw wedi ymateb i'r pandemig hwn a ni yw'r unig ranbarth yn y DU erbyn hyn lle nad yw'r sector hwn wedi cael ei ddigolledu am y costau yr aeth iddyn nhw. Addawyd datganiad i ni ar hyn gan y Trefnydd cyn gynted ag y byddai'r canlyniad yn hysbys, felly dim ond gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ydw i.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Mae e'n iawn bod trafodaethau gyda fferylliaeth gymunedol wedi bod yn mynd rhagddynt dros y misoedd diwethaf. Gwnaed cynnig pellach gan Lywodraeth Cymru rai wythnosau yn ôl. Mae'r Gweinidog iechyd yn cael cyfarfod â Fferylliaeth Gymunedol Cymru ddydd Iau yr wythnos hon, pryd y bydd y trafodaethau hynny yn parhau.
Prif Weinidog, diben cynllun grant rhwystrau Busnes Cymru yw blaenoriaethu'r rhai y mae COVID-19 yn effeithio fwyaf arnyn nhw, fel menywod, pobl anabl, pobl o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant, ac i roi rhywfaint o gymorth ariannol i'r bobl hynny a fydd eisiau sefydlu busnes yn ystod y misoedd nesaf. Tybed pryd y bydd y cynllun hwn yn cael ei werthuso, oherwydd rwy'n credu bod hyrwyddo menter mewn grwpiau sydd, efallai, wedi ei chael hi'n anodd cael mynediad yn draddodiadol yn fenter wirioneddol deilwng.
Diolchaf i David Melding am y ffordd y disgrifiodd y fenter, a'i diben yw gwneud yn union yr hyn y mae ef wedi ei ddisgrifio. Ei diben yw ceisio gwneud yn siŵr nad yw'r ddawn, yr ymrwymiad a'r synnwyr o fentergarwch sy'n sicr i'w canfod yn y cymunedau hynny, ac ymhlith y bobl ifanc hynny, yn cael eu rhwystro gan effaith y feirws. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni weithio yn galetach i wneud yn siŵr bod y cymorth ar gael iddyn nhw—cymorth o ran y cyngor sydd ei angen arnyn nhw a'r mentora y gallai fod ei angen arnyn nhw, ond weithiau mewn arian sychion sydd ei angen arnyn nhw er mwyn gallu symud eu syniadau ar gyfer busnesau newydd ymlaen.
Rwy'n credu y bydd yn bwysig caniatáu i'r cynllun fynd rhagddo ac i werthuso yn rhannol wrth i ni fynd ymlaen, ond nid atal yr uchelgeisiau sydd gennym ni ohono trwy geisio ei oedi yn rhy fuan er mwyn asesu ei effeithiolrwydd. O dan yr amgylchiadau eithriadol presennol, roeddwn i eisiau gweld y cynllun hwnnw yn bwrw ymlaen. Roeddwn i eisiau cymryd ychydig o risgiau hyd yn oed, mewn ffordd y mae Llywodraethau yn ei chael hi'n anodd weithiau. Oherwydd os ydych chi'n ymdrin â phobl sydd â syniadau newydd ac sydd eisiau rhoi cynnig ar rywbeth na roddwyd cynnig arno o'r blaen, os nad ydych chi'n barod weithiau i gefnogi person ifanc neu gefnogi rhywun sydd wedi cael y syniad hwnnw, gan gydnabod na fydd yr holl syniadau hynny yn llwyddo, yna ni fydd y cynllun yn cael ei roi ar waith. Dyna'r ysbryd yr hoffwn i'r cynllun gael ei ddatblygu ynddo.
Prif Weinidog, mae busnesau yn fy etholaeth i yn ddiolchgar iawn bod Llywodraeth Cymru wedi eu cefnogi drwy gydol pandemig y coronafeirws, gyda'r pecyn mwyaf hael o gymorth busnes yn unrhyw le yn y DU, gan gynnwys y cyfraniad diweddaraf o £340 miliwn i gynorthwyo busnesau lletygarwch, twristiaeth a busnesau eraill y mae'r cyfyngiadau diweddaraf wedi effeithio arnyn nhw. Pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o sut y mae'r cymorth busnes yng Nghymru yn cymharu â'r hyn a gynigir mewn rhannau eraill o'r DU?
Llywydd, diolchaf i Vikki Howells am hynna. Mae hi'n iawn i ddweud mai ein cynllun cymorth busnes yng Nghymru, yn ein barn ni, yw'r mwyaf hael sydd ar gael i unrhyw fusnes mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n falch o adrodd y prynhawn yma, Llywydd, yn dilyn cwestiynau ar y llawr dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, bod y cymorth yr ydym ni'n ei gynnig i fusnesau lletygarwch sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau y bu'n rhaid eu cyflwyno tua 10 diwrnod yn ôl—bod yr arian hwnnw wedi dechrau mynd i bocedi'r busnesau hynny erbyn hyn.
Mae cannoedd o fusnesau wedi cael y cymorth hwnnw erbyn hyn. Mae miliynau o bunnoedd wedi eu talu iddyn nhw. Mae hynny ar adeg pan nad yw 14 o'n 22 awdurdod lleol wedi gwneud datganiadau ar y cymorth a ddarparwyd eto. Felly, nid yn unig y mae'r cymorth yn hael, ond mae'r cymorth yn cyrraedd y mannau lle'r oeddem ni angen iddo fynd. Cyfeiriodd Vikki Howells at y £340 miliwn yr ydym ni'n ei ddarparu i gynorthwyo'r busnesau hynny, ac ni allaf ond ei gyferbynnu â'r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi darparu £40 miliwn i holl dafarndai gwlyb Lloegr yr effeithiwyd arnyn nhw gan y cyfyngiadau y bu'n rhaid iddyn nhw eu cyflwyno yno.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y coronafeirws ar economi Dwyrain De Cymru? OQ56047
Llywydd, mae dadansoddiad gan Fanc Lloegr a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos effaith niweidiol coronafeirws ar ein heconomi, gan gynnwys y de-ddwyrain. Mae'r ddau gorff yn awgrymu adferiad cymharol gyflym yn ail chwarter 2021, cyn belled nad yw hynny'n cael ei ddadwneud gan drychineb Brexit 'dim cytundeb'.
Diolchaf i'r Gweinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, bu Llywodraeth Cymru yn hynod lwyddiannus o ran dod â'r cwmni gweithgynhyrchu trenau o Sbaen, CAF, i Ddwyrain De Cymru, gyda'r potensial i ddod â 300 a mwy o swyddi peirianneg medrus i'r ardal. Sicrhaodd CAF gontract i gyflenwi 77 o unedau lluosog diesel o'r radd flaenaf i Trafnidiaeth Cymru. Bwriadwyd iddynt gael eu darparu ar gyfer 2022. A allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch pa un a yw'r argyfwng COVID wedi oedi cyflenwad yr unedau hyn?
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, gadewch i mi ddweud fy mod i'n credu bod y ffaith bod CAF bellach yn gweithredu o'r de-ddwyrain yn fantais enfawr i Gymru. Roeddwn i'n ddigon ffodus i allu cyfarfod â bwrdd cyfan CAF pan wnaethon nhw ymweld â Chymru. Roedden nhw wedi dod o ymweliad ag un o'u buddsoddiadau yn Unol Daleithiau America, a dywedasant wrthyf mai'r peth a wnaeth eu taro fwyaf, wrth ymweld â Chymru, oedd y synnwyr cryf o ymlyniad i'r cwmni a ddangoswyd gan y gweithlu yma yn ystod eu hymweliad. Y synnwyr hwnnw o weithlu teyrngar, ymroddedig, hynod fedrus, ac roedden nhw'n llawn canmoliaeth iddo.
Mae coronafeirws wedi cael effaith enfawr ar y sector rheilffyrdd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £100 miliwn dim ond i gynnal y rhan honno o'n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y dyddiau eithriadol o anodd hyn. Edrychwn ymlaen at yr adeg pan fydd y ddarpariaeth o gerbydau newydd i Gymru yn caniatáu i ni ddychwelyd at y cynllun yr oeddem ni wedi ei gyflwyno yn wreiddiol, sef, fel y mae'r Aelod yn gwybod, gwella gwasanaethau, creu system metro newydd yma yn y de a rhoi'r math o brofiad y maen nhw ei eisiau ac yn ei haeddu i'r cyhoedd sy'n teithio. Mae pa un a ellir gweithredu'r cynlluniau yn unol â'r amserlen wreiddiol yn rhywbeth yr ydym ni'n parhau i'w drafod yn rheolaidd iawn gyda Trafnidiaeth Cymru. Cefais gyfarfod â nhw fy hun dim ond yr wythnos hon, a gall hynny gael ei benderfynu yn derfynol mewn gwirionedd dim ond pan fyddwn ni'n gweld, fel y gobeithiwn y byddwn, adferiad yn yr economi y flwyddyn nesaf, gan ganiatáu i deithwyr ddychwelyd i'r rheilffyrdd yn ddiogel a'r refeniw a ddaw gyda nhw i lifo i'r diwydiant.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau Ynys Môn yn ystod y pandemig? OQ56065
Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn, Llywydd. Mae busnesau yn Ynys Môn wedi derbyn gwerth bron i £30 miliwn o grantiau cymorth gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, heb gynnwys cam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd. Bydd difrod economaidd Brexit heb gytundeb lawer yn waeth na'r anawsterau y mae busnesau ar yr ynys yn eu hwynebu yn sgil COVID-19.
Dwi'n cyd-fynd, yn sicr, ar y rhagolygon hynny, yn anffodus. O ran COVID, un sector sydd wedi dioddef yn drwm iawn ydy'r sector lletygarwch a thwristiaeth sy'n cael eu taro'n galed eto gan y cyfyngiadau diweddaraf, wrth gwrs. Mae llawer wedi penderfynu cau yn gyfan gwbl. Yn gyntaf, a all y Prif Weinidog ddweud wrthon ni pa bryd y gallan nhw ddechrau derbyn y taliadau grant diweddaraf? Achos er bod y cwsmeriaid yn gorfod cadw draw, mae'r biliau, wrth gwrs, yn dal angen eu talu.
Mae yna fusnesau eraill sydd ddim wedi gallu gweithredu o gwbl, mwy neu lai, ers mis Mawrth, a dim syniad pryd fyddan nhw'n gallu dechrau chwaith—busnesau mewn digwyddiadau, priodasau, canolfannau awyr agored; mae eraill yn gorfod mynd i gysgu rŵan am y gaeaf. Cwmni cychod cyflym ar y Fenai, er enghraifft, oedd wedi gwerthu nifer dda o docynnau ar gyfer y Nadolig rŵan yn gorfod talu'r arian hwnnw yn ôl. Pa ystyriaeth arbennig sy'n cael ei roi i fusnesau felly sydd mwy neu lai yn mynd i aeafgwsg, neu hibernation, rŵan, hyd y gallwn ni ei rhagweld?
Ac a gaf i hefyd wneud apêl ar ran y busnesau hynny sy'n dal yn disgyn rhwng y craciau am gymorth ariannol? Mae peidio â thalu cyflogau drwy PAYE neu ddim bod wedi cofrestru ar gyfer treth ar werth yn dal yn broblem i lawer. Un arall wedi methu dangos maint ei golledion o, er bod incwm wedi 'collapse-io' yn llwyr, mwy neu lai, eleni—cwmni tripiau cychod ydy hwnnw. A gaf i ofyn sut mae'r Llywodraeth wedi, neu yn mynd i, wneud mwy i adnabod y bylchau mae busnesau'n dal i ddisgyn trwyddyn nhw, a sut gallwn ni fel Aelodau'r Senedd helpu i basio gwybodaeth am y trafferthion mae busnesau yn eu hwynebu o hyd?
Wel, Llywydd, diolch i Rhun ap Iorwerth am y nifer o gwestiynau ychwanegol yna. Wel, jest i ddweud, i ddechrau, bod cymorth dan y cynllun diweddaraf wedi dechrau mynd mas o ddwylo'r awdurdodau lleol a syth i fusnesau. Fel y dywedais i mewn ateb i gwestiynau eraill y prynhawn yma: mae cannoedd o fusnesau wedi cael y cymorth yna yn barod, ac mae'r miloedd o bunnoedd yna wedi mynd yn syth atyn nhw, a'r gobaith yw y bydd y nifer yn cynyddu a'r swm yn cynyddu dros yr wythnos hon.
Ac, wrth gwrs, rydyn ni yn ymwybodol am yr amser heriol y mae'r sector lletygarwch a thwristiaeth wedi'i wynebu, ac rydyn ni'n dal i siarad gyda nhw; mae'r Gweinidog gyda'r cyfrifoldeb yn siarad â nhw bob wythnos i dreial cynllunio ymlaen at y dyfodol ac at y flwyddyn newydd. A'r gobaith yw, os allwn ni—dydyn ni ddim yn y sefyllfa yna heddiw, fel dŷn ni wedi bod yn trafod—ond yn y dyfodol, y gobaith yw, wrth gwrs, i ailagor y sectorau yna ac i'w helpu nhw i weithio fel maen nhw eisiau gweithio—nid yn dibynnu ar grantiau o'r Llywodraeth, ond i godi arian drwy'r busnesau maen nhw'n gwneud.
Ac ar y pwynt olaf, rŷn ni wedi treial yn barod i fod yn fwy hyblyg yn y ffordd rŷn ni'n cymryd tystiolaeth a gwybodaeth oddi wrth fusnesau i roi help iddyn nhw. Ar ddiwedd y dydd, Llywydd, yr arian yw arian y cyhoedd, ac mae'n rhaid i ni fel Llywodraeth fod yn siŵr, pan rŷn ni am roi cymorth a phan rŷn ni am roi help mas i'r busnesau, eu bod nhw'n fusnesau go iawn. Dyna pam, ambell waith, rŷn ni'n gofyn am bethau maen nhw'n gallu rhoi i ni i ddangos eu bod nhw pwy maen nhw'n dweud ydyn nhw, ac yn gallu rhoi arian iddyn nhw gyda'r hyder ein bod ni'n gallu esbonio i bobl, a siŵr a fod pwyllgorau yma yn y Senedd hefyd yn y dyfodol, ein bod ni wedi'i wneud e mewn ffordd sy'n ofalus ar un ochr, ond hyblyg ar yr ochr arall.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Hefin David.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran rheoli achosion COVID-19 yng Nghaerffili? OQ56069
Lywydd, a gaf i ddiolch i Hefin David? Atgyfnerthwyd y cynnydd o ran rheoli achosion yng Nghaerffili gan gamau Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig ag atyniadau dan do, lletygarwch, addysg, y gwasanaeth iechyd ac, o ddoe ymlaen, cau atyniadau awyr agored hefyd. Diolchaf, fel arfer, Llywydd, i drigolion Caerffili am bopeth y maen nhw'n ei wneud i helpu i reoli'r feirws marwol hwn.
Gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan alwad ddigynsail i ddinasyddion Caerffili a thu hwnt yn eu hardal i beidio â mynd i wasanaethau iechyd pan nad oes angen iddyn nhw wneud hynny, ac i gydnabod bod angen iddyn nhw wneud y dewisiadau cywir. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod pobl Caerffili sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi, ar y cyfan—bron yr holl bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi drwy fy nhudalen Facebook, sesiynau byw Facebook—wedi bod yn gefnogol ac wedi cydnabod yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud. Fodd bynnag, ac rwyf i bron yn amharod i wneud hyn, ceir nifer fach o bobl sydd wedi dweud rhai pethau anhygoel. Rhoddaf enghraifft i chi: dywedodd un person wrthyf yr wythnos diwethaf, 'Nid yw hyn yn wahanol, y gaeaf hwn, i unrhyw un arall.' Dywedodd rhywun arall: 'Mae'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n marw o COVID yn oedrannus neu'n agored i niwed, ac mae'n debyg y bydden nhw wedi marw o annwyd, ffliw neu niwmonia yn hytrach.' Dyma rai o'r datganiadau a wnaed yr wythnos diwethaf gan leiafrif bach iawn o bobl, ond, serch hynny, mae'r bobl hynny yn cael effaith enfawr. A wnaiff y Prif Weinidog esbonio, unwaith eto, sut y mae hwn yn argyfwng na welwyd ei debyg o'r blaen, sut y mae'n cael effaith enfawr ar ein GIG, ac mai'r rheolau sydd ar waith yw'r mwyaf un y dylai pobl ei wneud, ac na ddylen nhw fod yn wahoddiad i wneud dim ychwanegol? Mae angen i ni gymryd hyn o ddifrif.
Wel, Llywydd, allwn i ddim cytuno'n fwy â hynny. Rydym ni wedi byw trwy gyfnod na welwyd ei debyg o'r blaen eleni, ac mae'r effaith ar ein bywydau i gyd a'n holl wasanaethau cyhoeddus yn gwbl ddybryd. Mae'r bobl hynny sydd rywsut wedi cael eu hargyhoeddi neu wedi argyhoeddi eu hunain mai sefyllfa gwbl ddychmygus yw hyn i gyd, ac nad oes dim y mae angen iddyn nhw boeni amdano, mae gen i ofn nad yw coronafeirws yn eu parchu hwythau ychwaith. Bydd pob un ohonom ni wedi gweld sylwadau gan bobl a oedd yn credu, rywsut, bod coronafeirws yn salwch ysgafn nad oedd yn cael unrhyw effaith, dim ond i ganfod, pan wnaethon nhw eu hunain ei ddal, neu rywun sy'n annwyl iddyn nhw ei ddal, ei bod hi'n sefyllfa wahanol iawn yn wir. Dyna pam yr ydym ni'n gwneud yr apêl yr ydym ni'n ei gwneud i bobl yng Nghymru i beidio â phwyso ar y rheolau, i beidio â cheisio dod o hyd i ffyrdd o ymestyn y rheolau, ond i feddwl ym mhob un o'n bywydau beunyddiol yr hyn y dylem ni ei wneud, yn hytrach na'r hyn y gallwn ni ei wneud. Ac os byddwn ni'n gwneud yr hyn y dylem ni ei wneud, yna byddwn yn osgoi cyswllt â phobl eraill pan nad oes ei angen arnom ni, byddwn yn teithio dim ond pan fydd yn rhaid i ni, byddwn yn gweithio gartref pryd bynnag y bo hynny'n bosibl, a byddwn yn sicr yn dilyn y cyngor a ddaw gan y gwasanaeth iechyd ynghylch sut mai'r rhai y mae angen iddyn nhw fod mewn ysbyty yw'r unig rai a ddylai fod mewn ysbyty. A bydd y cyngor hwnnw y mae pobl yng Nghaerffili ac ardal Gwent wedi ei gael gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan, rwy'n siŵr, fel y dywedodd Hefin David, yn cael ei ddilyn yn ofalus gan y mwyafrif llethol o bobl. Y peth trist am goronafeirws, Llywydd, yw mai dim ond lleiafrif bach sydd eu hangen i gredu eu bod nhw rywsut y tu hwnt i'r rheolau i gael effaith anghymesur iawn ar ledaeniad y feirws i bawb arall.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.
1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i lochesi i fenywod yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19? OQ56035
Eleni, rydym ni wedi buddsoddi dros £4 miliwn o gyllid ychwanegol yn y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn cynnwys £1.3 miliwn o arian newydd ar gyfer llety cymunedol a alldalwyd, a fydd yn rhyddhau lleoedd lloches. Ac yn ystod y pandemig, rwyf i wedi ailgyfeirio cyllid i gynorthwyo llochesi ac wedi cyhoeddi canllawiau i ddarparwyr.
Diolch, Dirprwy Weinidog, ac rwy'n cydnabod y cymorth hwnnw ac yn ei groesawu'n fawr. Rwyf i wedi siarad yn ddiweddar gyda Cymorth i Fenywod Rhondda Cynon Taf, sy'n dweud wrthyf na allan nhw gael profion COVID-19 ar y safle i staff na phreswylwyr llochesi, sy'n achosi problemau iddyn nhw ac yn effeithio ar eu gallu i helpu pobl mewn angen. A allwch chi godi hyn gyda chyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru, fel y gellir trin llochesi i fenywod yn yr un modd â chartrefi gofal efallai, at ddibenion profion COVID?
Diolchaf i Vikki Howells am y cwestiwn pwysig yna, ac rwyf i wedi codi hyn gyda'r grŵp strategol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hwnnw yn cyfarfod yn rheolaidd gyda'r holl ddarparwyr gwasanaeth, a gwahoddwyd y swyddogion profi, olrhain a diogelu ganddyn nhw i ddod i'r cyfarfod i drafod hyn gyda'r grŵp strategol, i ateb cwestiynau a mynd i'r afael â phryderon. Felly, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried mynediad at brofion ar gyfer grwpiau asymptomatig nad ydyn nhw wedi'u cynrychioli yn ddigonol. Byddai hyn yn cynnwys gweithwyr a chleientiaid mewn ysbytai, yn ogystal â llochesi, oherwydd maen nhw'n cael eu hystyried yn rhan o'r gwaith hwn. Ac rwy'n credu y byddai protocolau profi, olrhain a diogelu yn berthnasol, wrth gwrs. Os gall unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio mewn lloches gael profion, mae'n amlwg bod yn rhaid iddyn nhw ddangos symptomau coronafeirws. Ond, o ran y rhai mewn llochesi sy'n agored i niwed ac yn derbyn gwasanaethau cymorth, mae angen i ni sicrhau y gallwn ni gael mynediad at hyn, ac rwy'n credu y bydd y trafodaethau sy'n parhau gyda'r darparwyr, a Cymorth i Fenywod, wrth gwrs, yn ein harwain at y canlyniad iawn.
Dirprwy Weinidog, canfu adroddiad gan y Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol y llynedd, a amlygwyd gan Cymorth i Fenywod Cymru, i ddioddefwyr trais domestig mewn ardaloedd gwledig, ac rwy'n mynd i ddyfynnu'n uniongyrchol yn y fan yma, bod 'rhwystrau i weithredu' yn
llawer mwy cymhleth a llesteiriol
mewn ardaloedd gwledig nag mewn ardaloedd trefol;
mae'n ymddangos yn debygol mewn ardaloedd gwledig nad yw dioddefwyr yn gwybod ble i fynd i gael y math o gymorth sydd ei angen; mae'n fwy anodd ei gydgysylltu neu gael gafael arno ac mae'r ofn y bydd unrhyw gysylltiad yn cael ei ddarganfod yn uwch.
O gofio bod llai o oroeswyr mewn lleoliadau gwledig yn datgelu, mae'n amlwg y bydd angen i wasanaethau fod yn seiliedig ar angen yn hytrach na galw, ac mae'n gofyn am strategaeth fwriadol i sicrhau nad yw ymchwil, data a dadansoddi yn cael eu hystumio tuag at y gofynion trefol a'u bod nhw'n gwbl gynhwysol o'n cymunedau gwledig. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed, Dirprwy Weinidog, a allech chi amlinellu pa gamau y mae eich Llywodraeth wedi eu cymryd i unioni'r duedd drefol hon, ac i sicrhau bod anghenion dioddefwyr trais domestig gwledig yn cael sylw llawn hefyd.
Diolch i Angela Burns am y cwestiwn pwysig yna. Ac mae materion gwledigrwydd yn cael sylw. Yn wir, diolchaf i Joyce Watson, a gynullodd ac a gynhaliodd gyfarfod ar Wythnos y Rhuban Gwyn a oedd yn canolbwyntio yn benodol, gyda Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, ar faterion trais domestig mewn ardaloedd gwledig. A materion—. Er enghraifft, mae'r ffyrdd y gallwn ni gefnogi a helpu wedi eu rhoi ar gael. Mae gennym ni chwe ystafell fideo-gynadledda ar draws Dyfed-Powys, yn eich rhanbarth chi, i'w gwneud yn haws cynnal y cynadleddau achos traws-sector hollbwysig hynny, y cynadleddau asesu risg amlasiantaeth. Rydym ni wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer llety cymunedol a alldalwyd, wedi darparu cyllid i alluogi tystion i roi tystiolaeth o bell, gyda chymorth gan ddarparwyr gwasanaeth. Ac yn wir, o ran yr arian ychwanegol hwnnw ar gyfer llety cymunedol, dyrannwyd £427,543 yn uniongyrchol i Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Ond mae hyfforddiant yn hanfodol bwysig—hyfforddwyd tua 30,000 o weithwyr proffesiynol drwy ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru y llynedd. Felly, mae'n rhaid iddo fod yn ymateb Cymru gyfan. Ond mae gwledigrwydd, gallaf sicrhau'r Aelod, yn hanfodol o ran estyn allan a darparu'r cymorth hwnnw.
2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella cydlyniant cymunedol yng Ngogledd Cymru? OQ56038
Rydym ni wedi buddsoddi £1.52 miliwn yn ychwanegol ers mis Ebrill yn ein rhaglen cydlyniant cymunedol. Mae'r timau cydlyniant rhanbarthol yn y gogledd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys llywodraeth leol, yr heddlu, y trydydd sector, gan feithrin cymunedau cydlynol, darparu cymorth a gwybodaeth, a monitro a lliniaru tensiynau cymunedol.
Diolch, Gweinidog. Darllenais adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen o dan arweiniad Gaynor Legall gyda diddordeb. Gan fod henebion perthnasol wedi eu nodi erbyn hyn, mae gen i ddiddordeb mewn clywed eich cynlluniau ar gyfer y camau nesaf, a'ch asesiad o sut y bydd y camau hynny yn effeithio ar gydlyniant cymunedol yn fy rhanbarth i, ac yng ngweddill Cymru yn wir. Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ac rwy'n siŵr y byddai wedi croesawu'r archwiliad a gynhaliwyd, o dan arweiniad Gaynor Legall, yn edrych ar yr henebion hynny a hefyd enwau strydoedd, ac yn cydnabod hefyd nid yn unig bod yn rhaid i ni roi sylw i'r materion hyn, ond hefyd mae'n rhaid i ni edrych ar sut y gallwn ni ddathlu'r rhai sydd wedi chwarae rhan mor bwysig—yn enwedig o ran pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y gymuned, ac yn wir o ran safbwyntiau hanesyddol. Ond rwyf i hefyd yn falch iawn y bydd ein pwyllgor diwylliant ein hunain yn cynnal ei ymchwiliad ei hun ac yn gwneud gwaith dilynol ar yr adolygiad hwnnw.
Dirprwy Weinidog, mae'r pandemig wedi cael effaith ddofn ar y ffordd y mae ein hetholwyr yn cyfarfod â'u hanwyliaid, eu rhwydweithiau cymorth, ac yn wir sut y maen nhw'n cyflawni eu busnes yn ddyddiol. Mae cysylltiad band eang digidol sefydlog yn bwysicach nag erioed erbyn hyn, fel y gall pobl deimlo'n rhan o gymuned gynhwysol a chydlynol. Byddwch yn ymwybodol o adroddiad diweddar y Groes Goch, yn galw am fuddsoddiad strategol i fynd i'r afael ag ynysigrwydd digidol, fel y gall pobl gadw mewn cysylltiad drwy gydol cyfyngiadau'r dyfodol. Ac yn ôl diweddariad diweddar gan Openreach Cymru, bydd 39,000 o'r eiddo anoddaf eu cyrraedd yn cael eu cysylltu o dan y cynllun cyflwyno ffibr erbyn mis Mehefin 2022. Nawr, rydym ni wedi clywed hyn o'r blaen, ac mae rhai o'r uchelgeisiau hynny nad ydyn nhw erioed wedi eu cyflawni. Fodd bynnag, os byddan nhw, i lawer, mae hynny'n dal yn rhy hir i aros. Felly, a allwch chi esbonio pa un a ydych chi fel Llywodraeth, ac fel Dirprwy Weinidog—a ydych chi'n mynd i edrych ar darged mwy uchelgeisiol i'w weithredu, yng ngoleuni'r angen i fwy o bobl weithio gartref nawr, a hefyd amlinellu sut yr eir ati'n strategol i fynd i'r afael ag allgáu digidol o'r fath? Diolch.
Mae mynd i'r afael ag allgáu digidol yn hanfodol o ran gwella a chynorthwyo cydlyniant cymunedol, ond yn enwedig estyn allan i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, fel y dywedwch, Janet Finch-Saunders, sy'n cael eu heffeithio gan goronafeirws. Ac rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni wedi gallu ei wneud dros y naw mis diwethaf—ac yn sicr drwy fy nghyllideb i, trwy gyllideb y trydydd sector a chydraddoldeb—yw ail-bwrpasu rhywfaint o'n cyllid i sicrhau y gallwn ni ddarparu nid yn unig offer, ond hyfforddiant a chymorth i lawer o'r rhai sydd wedi cael eu hallgáu a'u rhoi o dan anfantais gan nad ydyn nhw wedi cael y mynediad hwnnw. Ac yn wir, mae hon yn sicr yn fenter draws-Lywodraeth, o dan arweiniad Dirprwy Weinidog yr economi a thrafnidiaeth, o ran nid yn unig mynd i'r afael ag allgáu digidol, ond canolbwyntio mewn gwirionedd ar sut y gallwn ni gynnwys y cymunedau hynny wrth i ni symud tuag at fwy o weithio o bell, ond hefyd nid mynd i'r afael â'r materion hynny lle nad oes gan bobl fynediad mewn ffordd ddigidol yn unig.
3. Sut y mae'r Dirprwy Weinidog yn ymgysylltu â phobl ifanc yng Nghymru mewn perthynas â materion cydraddoldeb a hawliau dynol? OQ56030
Yn ystod y cyfnod anodd hwn, rwyf i wedi ymgysylltu mor eang â phosibl ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys cyfarfodydd ar-lein gyda phobl ifanc i glywed eu profiadau byw a pha newidiadau y maen nhw eisiau eu gweld, ond, yn arbennig, byddwn i'n dweud, yn ddiweddar, o ran estyn allan at bobl ifanc, i helpu i lywio ein cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol newydd i Gymru.
Dirprwy Weinidog, mae'n braf iawn clywed hynny, ac a gaf i dynnu sylw at ein Cyngor Ieuenctid lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd â rhai cynrychiolwyr rhagorol, gan gynnwys y maer ieuenctid, Megan Stone, a etholwyd yn ddiweddar, a'r dirprwy faer ieuenctid, Tino Kaseke, sydd â'r tair prif flaenoriaeth ar gyfer y tymor hwn eleni o ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ieuenctid a chynorthwyo ysgolion, rhoi terfyn ar hiliaeth ac anghyfiawnder drwy addysg, a chefnogi hawliau LGBTQ+? Ac, wrth gwrs, ceir y swyddogion cydraddoldeb, Cameron Richards a Megan Lambert, hefyd. Felly, mae'n amlwg bod cyfatebiaeth o ran eich cyfrifoldebau fel Dirprwy Weinidog. Felly, a gaf i ofyn sut yr ydych chi'n ymgysylltu â'r bobl ifanc hyn ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol, sy'n bwysig iddyn nhw, ac, yn benodol, pa un a all hi ymgysylltu ag aelodau Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr ar y blaenoriaethau cyffredin hyn?
Diolchaf i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn pwysig yna, oherwydd mae'r pandemig wedi arwain at lefel ddigynsail o ymgysylltu â'n holl randdeiliaid, gan gynnwys estyn allan at bobl ifanc, ond hefyd at lawer o'n fforymau a grwpiau cydraddoldeb. Soniais am y cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol, ac mae hwnnw wedi caniatáu i my gyfarfod â llawer o bobl ifanc drwy'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Race Council Cymru a'r Privilege Cafe ardderchog. Rwy'n credu bod angen i ni gysylltu aelodau Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr â llawer o'r fforymau hynny i ganiatáu iddyn nhw gael dweud eu dweud.
Rwyf i wedi cyfarfod â phobl ifanc o Ben-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar, ac maen nhw'n ddygn dros ben o ran eu hymrwymiad, yn enwedig o ran y materion hynny sy'n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau LGBTQI+. Felly, rwy'n gobeithio y byddan nhw hefyd yn gallu llywio'r gwaith ymchwil ac ymgynghori yr ydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol, ond hefyd y cynllun gweithredu LGBT+, a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud i gryfhau cydraddoldeb a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru, lle'r ydym ni, yn amlwg, yn symud ymlaen nid yn unig gydag ymchwil, ond yn edrych ar fodelau deddfwriaethol, y byddwn yn gobeithio y gallen nhw ymgysylltu â nhw. Ond hoffwn yn fawr gyfarfod â Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr.
Laura Anne Jones.
Mae'n ddrwg gen i, nid oes gen i—.
4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r trydydd sector yng Nghymru, mewn ymateb i bandemig COVID-19? OQ56024
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £24 miliwn i gynorthwyo'r trydydd sector yng Nghymru drwy'r pandemig. Roedd hyn yn cydnabod y rhan hanfodol y mae'r sector wedi ei chwarae yn yr ymateb i COVID-19. Ac rwyf i bellach yn darparu £2.5 miliwn yn ychwanegol i sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau hyd at ddiwedd mis Mawrth.
Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am yr ymateb yna. Nawr, fel y gwyddoch, mae pandemig COVID-19 wedi taro llawer o elusennau ledled Cymru yn galed iawn, iawn ac wedi cael effaith enfawr ar eu ffrydiau ariannu. Nawr, mae hyn yn arbennig o bwysig i elusennau ymchwil meddygol, ac mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu y gallai'r pandemig roi ymchwil feddygol yn ôl gymaint â 10 mlynedd. A allwch chi ddweud wrthym ni beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith COVID-19 ar elusennau meddygol yn arbennig? A pha gymorth pellach allwch chi ei gynnig i'r sector i sicrhau y bydd gwaith ymchwil meddygol sy'n achub bywydau yn parhau i gael ei ariannu yma yng Nghymru?
Diolchaf i Paul Davies am y cwestiwn pwysig yna, ac, wrth gwrs, mae colli cyllid wedi taro'r elusennau meddygol hynny yn arbennig, yn wir, mae'n rhaid i ni ddweud pob elusen, ond y rhai lle cafwyd ymateb hollbwysig efallai—Marie Curie. Rydym ni'n meddwl am gynifer o'r elusennau meddygol hynny sy'n aml yn dod yma er mwyn lansio, er enghraifft, yr ymgyrch cennin Pedr. Mae'r gronfa frys, wrth gwrs, wedi darparu bron i £7 miliwn, gan alluogi 156 o sefydliadau i gynorthwyo gwirfoddolwyr a buddiolwyr, a disodlwyd honno erbyn hyn, wrth gwrs, gan y gronfa adfer gwasanaethau gwirfoddol, oherwydd mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n cynnal y sefydliadau hynny, hyd yn oed gyda'u colled incwm. Ond byddaf hefyd yn edrych ar yr effaith benodol ar elusennau meddygol ac yn adrodd yn ôl i'r Senedd ar y sector penodol hwnnw yn ein trydydd sector a sefydliadau elusennol.FootnoteLink
5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fynd i'r afael â thrais domestig yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56052
Eleni, mae'r sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi cael dros £4 miliwn o arian newydd, lawer ohono i ymateb i'r heriau sydd wedi codi yn sgil y pandemig. Cafodd partneriaeth ranbarthol canolbarth a gorllewin Cymru dros £685,000 eleni.
Diolch am hynny, a diolch am y gefnogaeth yr ydych chi'n ei rhoi i ddioddefwyr trais domestig. Rwy'n gwybod bod hwn yn achos eithriadol o agos at eich calon, ac rwy'n ddiolchgar am bopeth yr ydych chi'n ei wneud. Yn y bôn, roeddwn i eisiau gwybod a fyddech chi'n fy helpu i gydnabod y Post Brenhinol, oherwydd yn ddiweddar maen nhw wedi lansio porth lle diogel ar-lein, ac, fel y gwyddom ni, oherwydd argyfwng COVID, mae cymaint o bobl yn methu mynd allan a chael help, mae cymaint o bobl wedi'u caethiwo yn eu cartrefi eu hunain, heb allu dianc rhag partner sy'n cam-drin neu'n rheoli drwy orfodaeth, ond gallwch gyrraedd y porth lle diogel hwn o unrhyw wefan. Nid oes cofnod o hanes olrhain y rhyngrwyd, ac mae'n helpu ac yn gallu helpu pobl. Cafodd ei ddatblygu ar y cyd â Hestia. Yn gyntaf oll, Dirprwy Weinidog, a fyddech chi hefyd yn croesawu'r fenter ryfeddol hon? Yn ail, efallai y gallech chi amlinellu ffyrdd eraill y gallai Llywodraeth Cymru weithio gyda sefydliadau fel y Post Brenhinol i estyn at eraill a rhoi'r achubiaeth honno i bobl sy'n teimlo'n gwbl, gwbl gaeth ar hyn o bryd.
Diolch i Angela Burns am y cwestiwn hwnnw ac am ei chwestiynau cynharach y prynhawn yma. Yn sicr, rwy'n cymeradwyo ac yn croesawu menter y Post Brenhinol gyda'u porth newydd. Yn wir, mae'r ffyrdd y mae sefydliadau'n ymateb i'r angen hwn wedi creu argraff fawr arnaf i, ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Nid mater i'r sector cyhoeddus yn unig yw hyn; yn wir, mae ar gyfer yr holl sefydliadau hynny sydd â rhan i'w chwarae ac sydd mewn cysylltiad â phobl bob dydd.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni hefyd yn rhannu heddiw, wrth inni symud tuag at gyfnod y Nadolig, gan gydnabod nad yw hynny'n gyfnod hawdd i lawer gan nad yw'r cartref bob amser yn lle diogel, ein bod ni'n lansio cyfnod arall o'r ymgyrch 'Ddylai neb deimlo'n ofnus gartre' yn ystod y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Bydd yn ymddangos ar y teledu, ar y radio ac ar lwyfannau digidol i gyrraedd y rhai mwyaf agored i niwed fel y bydd dioddefwyr yn gwybod am y gwasanaethau sy'n gweithredu, ac mae'n annog gwylwyr ac eraill pryderus i gael gafael ar gymorth a gwybodaeth drwy alw 999 a 555, lle y gallwch, wrth gwrs, gael cymorth gan yr heddlu hefyd. Felly, rwy'n diolch yn fawr iawn i'r Aelod am godi hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod ledled y Siambr hon yn ymateb i'n galwad ni o ran gwneud yn siŵr bod llinell gymorth Byw Heb Ofn yn cael ei deall a'i hadnabod yn eang ledled Cymru.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf i sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Yn union ar ôl y datganiad busnes hwn, byddaf i'n ceisio atal y Rheolau Sefydlog er mwyn inni drafod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020, Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Safleoedd Ysgolion ac Adeiladau Sefydliadau Addysg Bellach) (Cymru) 2020, a'r cyfyngiadau coronafeirws newydd. Rwyf i hefyd wedi ychwanegu datganiad llafar ar ddiwedd y cyfnod pontio. Er mwyn darparu ar gyfer yr ychwanegiadau hyn, mae'r datganiad ar gyhoeddi'r polisi cenedlaethol ar drosglwyddo a defnyddio'r Gymraeg mewn teuluoedd wedi'i ohirio. Yn olaf, mae'r cynnig i gytuno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach hefyd wedi'i ohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Ar 3 Rhagfyr, cyhoeddodd yr arbenigwr troseddau a chyfiawnder Crest Advisory adroddiad ar linellau cyffuriau a phlant sy'n derbyn gofal. Yn seiliedig ar yr adroddiad hwnnw, galwais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i blant sy'n derbyn gofal yng ngogledd Cymru. Gan ddefnyddio data'r heddlu a chyfweliadau rhanddeiliaid yng ngogledd Cymru a Glannau Mersi a gafodd eu dewis i adlewyrchu camfanteisio ar ddau ben llinell gyffuriau, darganfuwyd bod bron pob gweithgaredd llinell gyffuriau hysbys yn y gogledd yn dechrau yng Nglannau Mersi, bod y llinellau'n teithio i ogledd Cymru, yn gyntaf dros ffin Cymru i awdurdodau lleol Sir y Fflint a Wrecsam, ac yn ail i drefi arfordirol, gan gynnwys y Rhyl, Bae Colwyn, Abergele, Llandudno a Bangor; ac er bod plant sy'n derbyn gofal yn cael eu cymryd i ofal awdurdod lleol i wella eu lles, mae yna orgynrychiolaeth o'r plant hynny sy'n cael eu hecsbloetio ar linellau cyffuriau troseddol, ac felly maen nhw ymhell o gael eu diogelu'n effeithiol; ac mae plant sy'n cael eu rhoi mewn cartrefi gofal preswyl a lleoliadau heb eu rheoleiddio mewn mwy o berygl o fynd ar goll, gyda 31 y cant o ddigwyddiadau pobl yn mynd ar goll yn y gogledd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn cael eu hadrodd o wasanaethau gofal; ac er bod plant sy'n derbyn gofal yn cael eu cynrychioli'n anghymesur mewn rhwydweithiau llinellau cyffuriau, nid ydynt yn cael eu hadnabod yn systematig gan yr heddlu nac awdurdodau lleol. Rwy'n credu bod hwn yn fater brys, yn fater pwysig, ac yn un na ddylid ei anwybyddu oherwydd COVID, ac rwy'n galw am ddatganiad brys yn unol â hynny.
Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am godi'r hyn sy'n fater gwirioneddol bwysig. Mae unrhyw awgrym o gamfanteisio ar blant sy'n derbyn gofal yn amlwg yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei gymryd o ddifrif, ac mae mater llinellau cyffuriau'n un sy'n peri pryder enfawr ac sy'n her wirioneddol, i'r gwasanaethau cymdeithasol yn lleol ac i'r heddlu. Rwy'n gwybod y bydd Mark Isherwood yn codi'r mater hwn gyda Heddlu Gogledd Cymru, ond rwy'n gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo hefyd o ran yr hyn y gall gwasanaethau cymdeithasol ei wneud i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal sydd yn eu gofal yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl a'u bod yn cael eu haddysgu ynghylch peryglon llinellau cyffuriau a'u hamddiffyn rhag unigolion a fyddai'n ceisio manteisio arnyn nhw. Felly, byddwn i'n hapus iawn i ddod o hyd i gyfle iddo gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hynny.
Hoffwn i ddweud fy mod i'n rhannu pryderon Mark Isherwood, ac nid plant sy'n derbyn gofal yn unig sy'n cael eu targedu gan linellau cyffuriau. Rwy'n ofni bod hynny'n wir am lawer o bobl ifanc eraill sy'n agored i niwed hefyd. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad gan y Llywodraeth ar y mater hwnnw.
Roeddwn i eisiau codi mater arall, sef bod pobl Cymru yn hael iawn yn rhoi i elusennau drwy gydol y flwyddyn, ond maen nhw'n arbennig o hael adeg y Nadolig. Ac mae angen imi godi'r ffaith ei fod, yn anffodus, hefyd yn denu sylw troseddwyr, sydd naill ai'n esgus bod yn cynrychioli elusen neu'n sefydlu eu hunain fel ffug elusennau. Collwyd £350,000 yn ystod y cyfnod Nadolig diwethaf i droseddwyr. Hoffwn dynnu sylw at y ffaith ei bod yn bwysig iawn nad yw pobl yn rhoi eu manylion personol i unrhyw alwadau digymell dros y ffôn, yn enwedig eu manylion ariannol, a bod angen iddyn nhw chwilio am rif yr elusen ar bob elusen gofrestredig ddilys ac, os ydyn nhw'n casglu ar y stryd, ble mae'r bathodyn sy'n dangos eu bod yn wirioneddol gasglu dros yr elusen honno. O ystyried bod hyd yn oed symiau bach iawn sy'n mynd ar goll yn achosi trallod enfawr i'r unigolion sy'n rhoi, hyd yn oed os mai ychydig iawn o arian sydd ganddyn nhw, tybed beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i dynnu sylw at y broblem hon yn ogystal â chefnogi'r camau gan y Comisiwn Elusennau i chwalu'r drosedd erchyll, erchyll hon.
Mae'n wir yn dymor ewyllys da ac, fel y mae Jenny Rathbone yn ei ddweud, mae pobl Cymru yn grŵp anhygoel o bobl o ran yr haelioni y maen nhw'n ei ddangos i'w cymdogion ac i ddieithriaid, ac rydym ni wedi gweld cymaint o hynny drwy'r pandemig coronafeirws. Ar hyn o bryd mae'r Comisiwn Elusennau yn cynnal ymgyrch bwysig iawn sy'n rhoi cyngor i bobl ar sut y gallan nhw roi yn ddiogel y Nadolig hwn ac i sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu hecsbloetio gan bobl a fyddai'n dymuno cymryd eu manylion ariannol, ac yn y blaen, neu i'w hannog i roi i elusen nad yw'n elusen ddilys. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, un o'r pethau hawsaf y gall pobl ei wneud yw edrych ar rif cofrestredig yr elusen i sicrhau bod y lle maen nhw'n darparu eu cymorth elusennol yn un sy'n ddilys ac na fydd yn camfanteisio ar eu natur hael. Felly, diolch i Jenny Rathbone am gynnig y cyfle i dynnu sylw at yr ymgyrch arbennig o bwysig honno gan y Comisiwn Elusennau.
O ystyried yr anghytundeb llwyr mewn tri maes allweddol yn nhrafodaethau Brexit, a gawn ni ddatganiad am y cyfaddawdau y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i'w gwneud i osgoi sefyllfa 'heb gytundeb'? A fyddai'n cyfaddawdu o ran ein pysgodfeydd—sydd, gyda llaw, ar hyn o bryd yn cael eu dihysbyddu gan longau enfawr yn tynnu rhwydi hyd at 250 tunnell o bysgod y dydd, â chanlyniadau amgylcheddol trychinebus—neu a fyddai'n cyfaddawdu ar y cae chwarae gwastad honedig, fel y'i gelwir, sy'n golygu, wrth gwrs, y byddai Llywodraeth y DU, ymhlith ymyriadau economaidd hanfodol eraill, yn parhau i fod yn gyfyngedig iawn oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol, gan ein rhwystro ni rhag helpu ein diwydiannau dur yn y ffordd y byddem yn ei dymuno? Neu a fyddai'n cyfaddawdu drwy gadw at oruchafiaeth Llys Cyfiawnder Ewrop dros gyfraith y DU, sef rhywbeth yr oedd y bobl a bleidleisiodd o blaid Brexit yn ei wrthwynebu?
[Anhyglyw.]—Llywodraeth y DU a'r UE i ddod i'r cytundeb hwnnw ymysg ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn drwy'r amser am y math o Brexit y byddem ni wedi hoffi ei weld—un a fyddai wedi rhoi'r cyfle gorau posibl i ddiogelu swyddi pobl a'u bywoliaeth. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd llwybr gwahanol iawn ac wedi rhoi ffordd anodd iawn o'n blaenau. Felly, mae'n amlwg bod y rheini'n gwestiynau y bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU eu hateb wrth iddyn nhw geisio symud ymlaen, ac rydym ni'n gobeithio'n fawr eu bod yn taro bargen ac nad ydym ni'n wynebu Brexit 'dim cytundeb' ddiwedd y mis hwn, a fydd, fel yr ydym ni i gyd yn sylweddoli, yn drychinebus.
Rwy'n gobeithio'n fawr y cawn ni ryw fath o gytundeb ar ddiwedd hyn, er gwaethaf yr unfed awr ar ddeg, felly byddai unrhyw fewnbwn y gall Llywodraeth Cymru ei gael i'r broses honno, rwy'n siŵr, yn fuddiol.
Os caf i godi dau fater gyda chi, Trefnydd, yn gyntaf, y mater y codais i gyda'r Prif Weinidog yn gynharach: a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar fynd i'r afael â materion capasiti yn y GIG, o gofio'r nifer cynyddol o achosion sydd bellach yn ymwneud â COVID-19? Rwy'n cyfeirio'r Gweinidog iechyd at y sefyllfa yn Ysbyty Athrofaol newydd y Faenor yn y de-ddwyrain. Rwy'n credu bod hwnnw eisoes yn llawn o ran achosion COVID, ac mae cleifion yn cael gwybod i beidio â mynd yno oni bai bod gwir angen iddyn nhw wneud hynny â chyflyrau eraill. Mae hynny'n amlwg yn peri pryder, felly a allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran yr hyn y mae modd ei wneud i geisio lliniaru'r sefyllfa yno?
Yn ail ac yn olaf mae'r mater a gafodd ei godi gan Jenny Rathbone a fy nghyd-Aelod Mark Isherwood ar blant sydd â phrofiad o ofal, a'r mater penodol a gododd ef yn y gogledd. Cefais i fy atgoffa fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o'r gwaith a wnaethom ni'n gynharach yn nhymor y Cynulliad hwn ar blant â phrofiad o ofal. Cymerwyd llawer iawn o dystiolaeth gan y bobl ifanc eu hunain a oedd wedi bod drwy'r system ofal, a chafodd materion eu codi, yn arbennig ynghylch lleoliadau. Tybed, wrth i amser fynd heibio ers rhan gyntaf yr ymchwiliad hwnnw, a allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am yr hyn sydd wedi'i wneud i weithredu'r argymhellion a gyflwynwyd gennym bryd hynny. Diolch.
Diolch am godi'r ddau fater hynny. Rwy'n credu bod y Gweinidog iechyd wedi darparu datganiad ysgrifenedig sy'n nodi rhai o'r camau y bydd sefydliadau'r GIG yn eu cymryd yn ystod y gaeaf i ryddhau rhywfaint o'r capasiti hwnnw er mwyn ymateb i heriau pandemig COVID—er enghraifft, peidio â pharhau â chymaint o lawdriniaeth ddewisol, ac yn y blaen. Dewisiadau anodd wrth gwrs i'r GIG, oherwydd mae'n anochel y byddan nhw'n cael effaith ganlyniadol ar unigolion. A dyna pam mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i ddilyn y rheolau ac i wneud cymaint ag y gallwn i atal lledaeniad y coronafeirws.
Ac o ran plant sy'n derbyn gofal, gallaf weld bod diddordeb mawr ar draws y pleidiau am ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i blant sy'n derbyn gofal, felly fe fyddaf yn siarad â'r Gweinidog i archwilio a oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf sy'n mynd y tu hwnt i fater llinellau cyffuriau yn unig ac sy'n edrych yn ehangach ar y materion sy'n effeithio ar blant sy'n derbyn gofal.
A gaf i ofyn am ddadl gan y Llywodraeth ar bolisi rhanbarthol yng Nghymru? Ac er na all undebwyr Cymru nodi anghenion y gwahanol rannau o Gymru, hoffwn gael dadl i drafod sut y gallwn ni wella'r economi yng ngwahanol ranbarthau Cymru, sydd wedi'u nodi gan y pedwar cytundeb economaidd yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. A gaf i ofyn am y datganiadau canlynol, y gallai fod angen eu hysgrifennu oherwydd diffyg amser: un ar y cynnydd i gyfraith Lucy y mae Llywodraeth Cymru wedi addo ei chyflawni y tymor hwn, ac un ar ddefnydd gwell o borthladd Abertawe ar gyfer masnach ag Iwerddon, gan gysylltu â Cork?
Diolch i Mike Hedges am godi'r materion hynny. Rwy'n gwybod bod gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gwestiynau yfory, ac mae nifer o gyfleoedd yno i godi cwestiynau ynglŷn â lles anifeiliaid, felly gallai hynny fod yn gyfle i gael diweddariad cyflym iawn ar y dull o ymdrin â chyfraith Lucy.
O ran datblygu economaidd rhanbarthol a dull rhanbarthol o gefnogi economïau lleol, rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn frwd iawn dros y dull gweithredu hwnnw, ac rwy'n gwybod y bydd yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr am ei syniadau ynghylch hynny maes o law hefyd. Yna, roedd y materion eraill, rwy'n credu, yn ymwneud â'r porthladdoedd, a byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi yn ysgrifenedig o ran y mater penodol hwnnw hefyd.
Gweinidog, a gaf i ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar nifer o faterion sy'n ymwneud â llifogydd? Yn gyntaf, yn amlwg, rwy'n falch iawn o'ch llwyddiant yn sicrhau £31 miliwn gan Lywodraeth y DU, sydd yn sicr yn daliad rhannol tuag at beth o'r arian a gafodd ei addo ar gyfer y difrod llifogydd eithriadol sydd gennym. Wrth gwrs, roedd hyn yn dilyn ymgyrch gref gan Aelodau Llafur y Senedd yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr, ychydig yn ehangach, ac Aelodau Seneddol lleol hefyd. Bu'n rhaid inni lusgo Llywodraeth y DU yn erbyn ei hewyllys i wneud y taliad cyntaf hwn. A gawn ni ddatganiad i ymdrin â'r trafodaethau eraill y bydd angen eu cynnal nawr ar weddill yr arian difrod llifogydd a gafodd ei addo, ac ar y gwaith sydd ei angen o ran tipiau glo? Yn ail, a wnaiff y datganiad hwnnw hefyd ymdrin â'r mater o gefnogi mesurau atal llifogydd domestig yn ardal Rhondda Cynon Taf, yn enwedig yn ardal Pontypridd, Taf Elái, yr wyf yn deall bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei drafod ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru?
Diolch i Mick Antoniw am y cwestiwn hwnnw. Roeddwn i'n falch iawn o allu sicrhau £31 miliwn yn ystod y flwyddyn o gronfa wrth gefn Llywodraeth y DU er mwyn ein helpu i ymateb i effeithiau llifogydd yn etholaeth Mick Antoniw ac eraill. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i'r Aelodau Seneddol a hefyd i Aelodau'r Senedd, gan gynnwys Mick Antoniw, sydd wedi cymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o ymgyrchu dros gyflwyno'r arian ychwanegol hwnnw i'w hetholaethau. Yn anffodus, nid oedd yr ymateb ar gyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gadarnhaol, sy'n golygu bod gan Lywodraeth Cymru rai penderfyniadau anodd eu gwneud o ran dyrannu cyllid yno.
Ond o ran mater ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru a'r prosiectau cadernid llifogydd i eiddo, rwy'n deall eu bod yn debygol o gael eu cyflawni y flwyddyn nesaf ac rydym ni'n aros am gais nawr gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y prosiectau hyn, yn dilyn ceisiadau llwyddiannus gan awdurdodau lleol. Eleni, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi darparu cyllid grant o 100 y cant ar gyfer atgyweiriadau brys i asedau llifogydd wedi'u difrodi ledled Cymru, sef cyfanswm o £5 miliwn. Mae'r Gweinidog hefyd wedi hyrwyddo'r defnydd o gadernid llifogydd i eiddo, megis llifddorau, er enghraifft, i helpu cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd. Mae eisoes wedi darparu dros £1 miliwn o gymorth ar gyfer mesurau o'r fath, a fydd o fudd i hyd at 594 o wahanol gartrefi.
Gweinidog, a fyddai'n bosibl cael datganiad ynghylch effaith penderfyniad ofnadwy Llywodraeth y DU i atal tariffau ar fewnforion awyrofod yr Unol Daleithiau ym mis Ionawr 2021? Mae'r penderfyniad hwn yn ei hanfod yn gwahaniaethu yn erbyn Airbus a phob busnes unigol yn eu cadwyn gyflenwi, ac mae yn erbyn adenydd Cymru ac o blaid adenydd sydd wedi'u cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau. A allwch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr, Gweinidog, ynghylch unrhyw sgyrsiau yr ydych chi wedi'u cael yn eich swydd fel Gweinidog cyllid â Thrysorlys y DU ar y diwydiant awyrofod yng Nghymru? A fyddech chi'n ymrwymo i gyfarfod â mi ac Airbus i helpu i gynorthwyo'r sgyrsiau hyn yn y dyfodol?
Diolch i Jack Sargeant am godi'r mater hwn. O ran anghydfod Airbus-Boeing, ein dealltwriaeth ni yw y bydd Llywodraeth y DU, ar ôl diwedd y cyfnod pontio, yn atal ein tariffau ad-daliadol yn erbyn yr Unol Daleithiau, a gafodd eu gosod ym mis Tachwedd fel rhan o sefyllfa'r UE gyfan. Cafodd y tariffau hyn eu gosod ym mis Tachwedd fel rhan o'r dyfarniad a roddodd Sefydliad Masnach y Byd i'r UE. Rydym yn pryderu bod Llywodraeth y DU wedi gwneud y cynnig hwn heb gael unrhyw gynnig tebyg gan yr Unol Daleithiau i ostwng ei thariffau yn ein herbyn ni, ac rydym yn rhannu uchelgais Llywodraeth y DU i gyrraedd setliad wedi'i negodi cyn gynted ag y bo modd ar yr anghydfod hirdymor hwn, ond byddwn yn gofyn am rywfaint o eglurhad nawr ar y dull hwn. Ac yn amlwg, fel y mae Jack Sargeant wedi dweud droeon, bydd Brexit 'dim cytundeb' yn niweidiol iawn i ddiwydiant awyrofod y DU ac i'w etholwyr ef sy'n cael eu cyflogi yn y sector hwnnw. Felly, mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn sicrhau'r cytundeb masnach cynhwysfawr hwnnw gyda'r UE, gyda mynediad di-dariff i farchnadoedd yr UE. Wrth gwrs, byddwn i'n hapus iawn i gwrdd â Jack Sargeant i drafod hyn ymhellach.
Trefnydd, tybed a gawn ni ddatganiad—a byddai datganiad ysgrifenedig yn gwneud y tro—yn egluro pa drefniadau ar ôl cyfnod y Nadolig fydd ar gyfer slotiau blaenoriaeth i bobl a oedd gynt yn gwarchod, sydd wedi cael blaenoriaeth gan fanwerthwyr, a yw'r rheini'n mynd i barhau neu beidio. Nawr, y rheswm rwy'n gofyn hyn yw fy mod yn gwybod bod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn cyfarfod yn rheolaidd â Chonsortiwm Manwerthu Cymru ac â'r archfarchnadoedd mawr, ac rwyf wedi cael rhai galwadau ffôn pryderus gan etholwyr lle mae'r manwerthwyr wedi dweud wrthyn nhw y bydd y slotiau blaenoriaeth hynny'n diflannu o 2 Ionawr ymlaen, ac nad oes eu hangen mwyach. Wel, mewn gwirionedd, os ydym ni'n mynd i gael mesurau llymach o bosibl ar ôl y Nadolig, fel rhywun y mae un etholwr, sydd â diabetes ac asthma, ac sy'n poeni'n fawr am fynd allan yn gorfforol i siopa, wedi sgwennu ataf eisiau gwybod sut y gall ef fod yn flaenoriaeth o hyd wrth siopa. Mae e'n talu am y siopa hwn; ac mae eisiau gwneud yn siŵr fod ganddo flaenoriaeth fel cwsmer sy'n agored i niwed. Felly, a gawn ni ddatganiad ar hynny cyn gynted ag y bo modd, gobeithio cyn toriad y Nadolig?
Diolch i Huw Irranca-Davies am godi'r mater pwysig hwn, ac rwy'n credu y dylem gofnodi ein diolch i'r holl fanwerthwyr sydd wedi bod yn cynnal slotiau blaenoriaeth ar gyfer pobl sy'n gwarchod ar adeg anodd iawn ac, wrth gwrs, mae llawer o bwysau ar y slotiau cyflenwi hynny yr adeg hon o'r flwyddyn. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y slotiau hynny'n dal i gael eu blaenoriaethu ar gyfer pobl sy'n gwarchod a phobl sy'n agored i niwed. Mae'r Gweinidog, fel y dywed Huw Irranca-Davies, yn cyfarfod yn rheolaidd â Chonsortiwm Manwerthu Cymru a hefyd â'r archfarchnadoedd. Rwy'n gwybod bod trafodaeth wedi bod gydag un o'r archfarchnadoedd mawr y bore yma, ac nid oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i roi terfyn ar y slotiau blaenoriaeth i'r bobl hynny sydd wedi cael eu cynghori i warchod, neu sydd fel arall yn agored i niwed. Felly, rwy'n credu bod hynny'n arwydd cadarnhaol a byddwn i'n gobeithio y byddai'r holl archfarchnadoedd eraill yn dilyn eu harweiniad nhw.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf felly yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro, a gwneud hynny i alluogi dadleuon ar eitemau 7, 8 a 9. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig hwnnw.
Cynnig NDM7527 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7522, NNDM7525, NNDM7526 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Ydw, yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid atal Rheolau Sefydlog dros dro i alluogi dadleuon ar eitemau 7, 8 a 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Na, dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, ac felly mae'r cynnig yn cael ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ac yn ail felly, cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i alluogi dadl ar eitem 17. Galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig hwnnw'n ffurfiol.
Cynnig NDM7524 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7523 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn galluogi dadl ar eitem 17? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu i hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae eitem 3 wedi ei ohirio ac felly fe fyddwn ni'n cymryd egwyl fer nawr tra bod yna newidiadau yn cael eu caniatáu yn y Siambr. Egwyl fer, felly.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:09.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:19, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Rydym ni am ailddechrau'r cyfarfod llawn gydag eitem 4 ar ein hagenda, sef datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd. Rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y datganiad—Jeremy Miles.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddydd Sul, pasiwyd carreg milltir arall fyth yn y trafodaethau ar berthynas y Deyrnas Unedig gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, eto heb ddod i gytundeb. Roeddwn i'n disgwyl gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi heddiw ar union natur ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Roeddwn i'n disgwyl gallu crybwyll y camau allweddol y bydd nawr angen i fusnesau, dinasyddion a gwasanaethau cyhoeddus eu cymryd i baratoi ar gyfer y newidiadau sydd o'n blaenau ni mewn dim ond 16 diwrnod. Mae'n amlwg nad ydw i mewn sefyllfa i wneud hynny, sy'n gwbl annerbyniol. Sut y gall busnesau baratoi'n effeithiol heb wybod ar gyfer beth y maen nhw'n paratoi, a heb wybod a fydd yna dariffau neu fiwrocratiaeth ychwanegol? Sut y gall yr heddlu a'r gwasanaethau diogelwch ein diogelu ni fis nesaf heb wybod a fydd ganddyn nhw fynediad at systemau a data hanfodol? Sut gall unrhyw un sydd angen teithio gynllunio pan nad ydym yn gwybod pa wasanaethau hedfan fydd yn gweithredu?
Fe ddywedwyd wrthym ar ddechrau'r trafodaethau fod cytundeb parod i'r ffwrn gan y Prif Weinidog. Wel, ble mae hwnnw? Ac fe ddywedwyd wrthym gan Lywodraeth y DU y byddai mynnu, yn groes i bob rheswm, fwrw ymlaen â'r dyddiad cau o 31 Rhagfyr ar gyfer diweddu'r cyfnod pontio, er gwaethaf pandemig COVID, yn dod â'r ansicrwydd a fu'n rhemp yn y DU am y pedair blynedd diwethaf i ben. Wel, gwahanol iawn yw'r realiti. Mae 16 diwrnod arall ar ôl cyn diwedd y cyfnod pontio, ac nid ydym damaid callach o ran gwybod a fyddwn ni'n gadael gyda chytundeb neu beidio.
Dirprwy Lywydd, mae'n amlwg ei bod yn bwysig i Lywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd gytuno i ddal ati i drafod. Y brif flaenoriaeth yw osgoi sefyllfa o adael y cyfnod pontio heb gytundeb. Pe bai hynny'n digwydd, fe fyddem ni'n gweld anhrefn yn y tymor byr a difrod yn yr hirdymor: tarfu ar ein ffiniau, gan achosi risgiau i gyflenwad o nwyddau hanfodol; costau uwch o ran bwyd a hanfodion eraill; llai o allforio a mwy o fiwrocratiaeth i fusnesau, gan arwain at lai o fuddsoddiad ac yn y pen draw at golli swyddi a chyflogau is. A hynny heb sôn am y risgiau cynyddol i ddiogelwch ein dinasyddion ni, sef dyletswydd gyntaf honedig Llywodraeth, rhag terfysgwyr a throseddau cyfundrefnol.
Mae ein safbwynt ni wedi bod yn eglur ers y refferendwm. Ar bob cam o'r trafodaethau, pa mor bell bynnag y mae Llywodraeth y DU wedi ein cymryd ni oddi wrth ein canlyniad dewisol, rydym wedi dadlau o blaid cadw'r berthynas agosaf bosibl â'r Undeb Ewropeaidd. O blith y dewisiadau eraill sy'n ein hwynebu ni heddiw, cytundeb yw'r ffordd orau o wneud hynny, ni waeth pa mor gyfyng fo hynny. Felly, rwy'n galw heddiw eto ar Lywodraeth y DU ac ar yr UE i ddangos yr hyblygrwydd a'r cyfaddawd sydd eu hangen i ddod o hyd i gytundeb. Rydym ni'n byw mewn byd o gyd-ddibyniaeth, nid annibyniaeth. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU dderbyn y ffaith bod cytuno ar unrhyw fargen fasnach o reidrwydd yn cyfyngu ar sofraniaeth. Dyma'r realiti ar gyfer diogelu'r mynediad llawnaf i farchnadoedd i nwyddau domestig ac i wasanaethau, ac er mwyn osgoi prisiau uwch i'n defnyddwyr. A'r Undeb Ewropeaidd yw ein marchnad fwyaf ni o bell ffordd.
Mae'r materion sydd heb eu datrys hyd yn hyn yn bwysig, ond nid ydynt yn bwysicach na'r miliynau o swyddi ledled y Deyrnas Unedig sy'n dibynnu ar fasnach gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac nid ydynt yn bwysicach na diogelwch ein dinasyddion ni. Er bod datblygiadau diweddar yn rhoi rhywfaint o obaith, gan ein bod yn Llywodraeth gyfrifol, rydym ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer y sefyllfa waethaf o fod 'heb gytundeb', ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Dros yr wythnosau nesaf, ein blaenoriaethau ni, fel y nodwyd gennym yn ein cynllun pontio a gyhoeddwyd dros fis yn ôl, yw: lliniaru'r tarfu a fyddai'n digwydd ar y cyflenwad o nwyddau hanfodol; annog a chefnogi busnesau i wneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer y newid chwyldroadol o adael y farchnad sengl a'r undeb tollau; a gwneud beth bynnag a allwn ni i gryfhau cydnerthedd ein dinasyddion a'n gwasanaethau cyhoeddus ni.
Nid ydym yn gallu aros am yr eglurder sydd ei angen arnom ni. Dyna pam rydym eisoes yn defnyddio ein gallu presennol i gadw nwyddau traul a dyfeisiau meddygol mewn ystordai sydd gennym ni'n barod. Rydym ni wedi contractio cynghorwyr masnach rhyngwladol i gefnogi busnesau i baratoi ar gyfer y newidiadau o ran trefniadau masnachu. Ac rydym ni'n adleoli adnoddau i ategu ein hymateb i argyfyngau sifil posibl. Nid oes dianc rhag yr heriau enfawr sydd o'n blaenau ni, a'r gwir amdani yw mai ychydig iawn o amser sydd yna i baratoi. Ond, rydym yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid ac mae ein neges yn eglur: rydym ni yma i'ch cefnogi chi. Yng nghamau olaf tyngedfennol y trafodaethau, fe fyddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddiystyru athrawiaeth sofraniaeth er lles swyddi a bywoliaeth pobl yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, gyda dim ond 16 diwrnod i fynd, fe fyddai cytundeb—hyd yn oed mor gyfyng ag y gallai hwnnw fod—yn well na dim cytundeb o gwbl. Ni ddylid ystyried y cytundeb sydd ar y bwrdd yn llwyddiant. Nid oes uchelgais ar ei gyfyl ac mae ymhell o fod yn gytundeb sy'n ddymunol i ni. Eto i gyd, fe fyddai hwn yn osgoi rhai o'r effeithiau gwaethaf ar ddiwedd cyfnod pontio 'heb gytundeb' anniben ac fe fyddai'n rhoi rhywbeth inni adeiladu arno i'r dyfodol. Fe fyddai'n cadw ein perthynas ni â'r Undeb Ewropeaidd rhag chwalu'n llwyr ac yn cadw'r posibilrwydd o adeiladu cyfres o drefniadau yn y dyfodol a allai ddiogelu swyddi a'r economi a sicrhau diogelwch a lles ein dinasyddion ni.
Fe fyddai gadael y cyfnod pontio heb gytundeb yn fethiant hanesyddol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig—methiant a fyddai'n deillio o dactegau negodi gwael ac o ganlyniad i ddyrchafu delwedd wleidyddol uwchlaw swyddi pobl. Mae dewisiadau anodd o flaen Llywodraeth y DU: rhoi'r flaenoriaeth i'r llinellau cochion a'r geiriau slic neu roi blaenoriaeth i'r swyddi sy'n cynnig y fywoliaeth y mae dinasyddion y DU yn ddibynnol arni.
A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit am y copi o'i ddatganiad ef, a ddosbarthwyd ymlaen llaw? Er bod yn rhaid imi ddweud, mae'n amlwg o hyd nad yw Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi dod i delerau â chanlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016. Mae'n ymddangos yn glir iawn i mi, wrth inni agosáu at ddiwedd y cyfnod pontio hwn, fod Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau'r cytundeb gorau posibl i'r Deyrnas Unedig gyfan, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys pob rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru. A'r gwir amdani yw na chewch chi byth gytundeb da heb fod yn barod i gerdded i ffwrdd heb yr un. Nid wyf i'n dymuno gweld y DU, a Chymru fel rhan gyfansoddol o'r DU, ynghlwm â chytundeb bythol sy'n gytundeb gwael i Gymru.
Siomedig iawn, Gweinidog, yw clywed safbwynt Llywodraeth Cymru, a fynegwyd unwaith eto, eu bod nhw'n barod i dderbyn unrhyw fargen o gwbl a allai fod ar y bwrdd, hyd yn oed pe byddai honno'n fargen erchyll sy'n llesteiriol i fusnesau yng Nghymru ac yn llesteiriol i bobl Cymru. Rwy'n digwydd credu, ynghyd â'r Ceidwadwyr Cymreig i gyd, y bydd Cymru'n ffynnu y tu allan i'r UE, hyd yn oed heb gytundeb. Fe fyddai'n llawer gwell, wrth gwrs, inni adael gyda chytundeb, a dyna'r hyn yr wyf i'n gobeithio'n fawr y caiff ei sicrhau yn y dyddiau nesaf. Ond os na chawn ni un, bydded felly.
Fe wnaethoch chi gyfeirio, yn eich datganiad, at gytundeb parod i'r ffwrn: eich cri yw 'Ble mae ef?' Wel, wrth gwrs, fe wyddoch chi gystal â minnau mai'r cytundeb parod y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato yng nghyfnod yr etholiad cyffredinol yn 2019 oedd y cytundeb ymadael, a oedd yn barod i'w goginio ac yn barod i fynd, ac a gafodd, yn wir, ei gyflwyno. Y cytundeb ymadael hwnnw yw'r fargen a wnaed, honno oedd ar y bwrdd, ac roedd gan bobl gyfle i fynegi eu cefnogaeth nhw iddi, neu beidio, yn yr etholiad cyffredinol. Ac, wrth gwrs, fe wnaeth niferoedd sylweddol iawn roi eu cefnogaeth i'r fargen honno. A gaf i ofyn i chi: a ydych chi'n derbyn bod cytundeb gwael yn well na bod heb gytundeb o gwbl? Oherwydd rwyf i o'r farn y byddai'n beth da inni gael rhywfaint o eglurder ar hynny gan Lywodraeth Cymru. Os ydych chi'n credu mai cael cytundeb gwael yw'r peth priodol i'w wneud—ar unrhyw gost, mae angen cytundeb—yna da o beth fyddai mynegiant clir iawn o hynny.
Rydych yn cyfeirio at y ffaith y dylai Llywodraeth y DU geisio rhoi ei sail ideolegol a'i chysylltiad â sofraniaeth o'r neilltu. Ond i ba bwrpas? Pam ddylai hi roi ei hymlyniad i sofraniaeth o'r neilltu? Ni wnaeth Canada roi ei sofraniaeth hi o'r neilltu ar gyfer ymrwymo i gytundeb masnach yr UE. Nid yw Japan wedi rhoi ei sofraniaeth hithau o'r neilltu ar gyfer ymrwymo i gytundeb masnach gyda'r UE. Ac, mewn gwirionedd, nid yw'r cytundebau a lofnodwyd nawr, sy'n barod i fynd o 1 Ionawr, gyda Chanada a Japan a llu o wledydd eraill, wedi rhoi i'r naill ochr unrhyw fath o sofraniaeth er mwyn eu cwblhau Felly, pam ddylai Llywodraeth y DU ildio unrhyw gyfran o'i sofraniaeth i'r UE ar gyfer cael cytundeb? Efallai y gallwch egluro i mi pam ddylai hynny ddigwydd.
Mae'n ymddangos eich bod yn awgrymu hefyd bod gennych chi rywfaint o fewnwelediad i sut un fydd y cytundeb. Roeddech chi'n dweud, rwy'n credu, 'Ar hyn o bryd, gyda dim ond 16 diwrnod i fynd, fe fyddai cytundeb—hyd yn oed mor gyfyng ag y gallai hwnnw fod—yn well na dim cytundeb o gwbl'. Wel, sut ydych chi'n gwybod? Nid ydych chi wedi gweld y cytundeb. Nid ydych chi wedi gweld y fargen a drafodir. Roeddech chi'n dweud na ddylid ystyried bod y fargen sydd ar y bwrdd yn llwyddiant. Nid ydych wedi gweld y fargen ar y bwrdd, oherwydd ni chyhoeddwyd yr un hyd yn hyn. Nawr, rydych naill ai'n meddu ar y gallu i weld i'r dyfodol neu rydych yn defnyddio rhethreg yma oherwydd eich bod chi'n siomedig am fod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud.
Testun balchder i mi oedd clywed yr adroddiadau yn y cyfryngau dros y 24 awr ddiwethaf sydd fel pe bydden nhw'n awgrymu bod rhywfaint o symud wedi bod ar y ddwy ochr. Rwy'n derbyn y bydd angen cyfaddawdu rhywfaint gan Lywodraeth y DU ar ran pobl Cymru a gweddill y DU, ac o du'r UE hefyd. Rwyf innau'n awyddus i weld cytundeb, ond nid wyf i'n credu y dylai'r un ohonom ni sydd yn y Senedd hon feiddio a diystyru dyheadau, na meiddio ceisio rhwystro dyheadau pobl Cymru wrth adael yr UE, i gymryd rheolaeth o'n dyfroedd ni ein hunain, ein ffiniau ni, ein cyfreithiau ni a'n harian ni, a dyna'r sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd.
Nawr, fe wnaethoch chi gyfeirio at rai o'r paratoadau yr ydych chi yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgymryd â nhw. Rwy'n credu mai peth call yw paratoi ar gyfer pob posibilrwydd; rwyf wedi dweud hynny yn y Siambr hon yn y gorffennol, ac rwy'n ailadrodd hynny eto heddiw. Rwy'n credu ei bod yn iawn eich bod chi'n paratoi ar gyfer senario 'heb gytundeb', rhag ofn mai i hynny y bydd hi'n dod. A wnewch chi ddweud wrthym pa fath o fuddsoddiad y bu'n rhaid ichi ei wneud yn Llywodraeth Cymru ar gyfer y paratoadau a wnaed gennych hyd yn hyn? Yn amlwg, rydym wedi cael digon o amser i wneud y paratoadau hynny; a oes unrhyw rai yr ydych chi'n pryderu yn eu cylch nhw o ran ble y gallai pethau orffen? A wnewch chi ddweud wrthym hefyd pa gyfleoedd yr ydych chi'n eu rhagweld yn Llywodraeth Cymru o ran cyfleoedd masnach o'r cytundebau masnach, sydd wedi eu sefydlu ac yn barod i gychwyn o 1 Ionawr? A sut ydych chi'n rhagweld y gallai pobl fanteisio ar y cyfleoedd hynny, yn enwedig pobl yn y gymuned fusnes a'r allforwyr a allai elwa ar hyn? Ac a ydych chi'n derbyn hefyd—
A wnewch chi roi pen ar y mwdl, os gwelwch chi'n dda?
Fe wnaf i. Ac a ydych chi'n derbyn hefyd fod yna lu o bwerau? Fe wnaethoch chi ofyn imi yr wythnos ddiwethaf am gopi o'r rhestr o bwerau. Mae gennyf gopi yn fy llaw, ac fe fyddaf i'n hapus i'w roi ichi y tu allan i'r Siambr. Ond mae ugeiniau o bwerau newydd—trosglwyddiad mawr o bwerau—yn dod i Gymru o ganlyniad i'n hymadawiad â'r UE, ac fe fyddwn i'n gobeithio'n fawr y byddech chi'n eu croesawu nhw. A rhag ofn ichi—. Dyma'r un peth nad yw'n ymddangos bod gennych unrhyw wybodaeth ohono, ond mae gennyf gopi yma. Fe fyddwn i'n hapus i'w trosglwyddo nhw i chi y tu allan i'r Siambr yn nes ymlaen. Diolch.
A gawn ni egluro un neu ddau o bethau ar gofnod, felly? Nid yw'r fargen barod i'r ffwrn yn ddim byd tebyg i'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio, ac rwy'n siŵr y bydd Prif Weinidog y DU yn hynod ddiolchgar iddo am ddarllen allan mor ffyddlon y sbwriel sydd, yn amlwg, wedi cael ei ddosbarthu yn San Steffan i geisio newid y ddirnadaeth o ran hynny. Ac o ran y rhestr o bwerau y mae ef yn ei chwifio yn ei law, ni fu unrhyw ddadl o gwbl mai o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd y caiff pwerau eu dychwelyd i'r fan hon. Mae e'n gwybod yn iawn fod y pwynt yr oedd yn ei wneud yn y ddadl pan ddaethom wyneb yn wyneb y tro diwethaf ar draws y Siambr yn ymwneud â Bil y farchnad fewnol, ac fe ofynnais iddo fy nghyfeirio i at yr adran yn y Bil hwnnw sy'n rhoi unrhyw bwerau newydd i Gymru, ac rwy'n nodi o'i gyfraniad diwethaf na fanteisiodd ef ar y cyfle i wneud hynny.
Fe ofynnodd imi a oedd yn well gennyf i'r cytundeb sydd, i bob golwg, yn cael ei negodi, neu fod heb gytundeb; rwyf i o'r farn fod fy natganiad i yn ei gyfanrwydd yn rhoi'r ateb iddo i'r cwestiwn hwnnw. Mae'n gywir i ddweud na allwn ragweld y cytundeb sydd ar y bwrdd eto; rwy'n siŵr y byddai ef yn cytuno â mi y dylem gael golwg arno, fel Llywodraeth a gaiff ei heffeithio yn sylweddol, ar ran pobl Cymru. Ond mae'n iawn i ddweud nad yw'r manylion gennym. Rydym wedi bod yn eglur iawn: trafodaethau gan Lywodraeth y DU fu'r rhain, ac nid yw'r Llywodraethau datganoledig wedi cael rhan ynddynt yr wyf i'n siŵr y byddai Aelodau'r Senedd hon, yn gyffredinol, yn teimlo eu bod yn ei theilyngu. Mae fy nisgrifiad i o hwn fel cytundeb cyfyng yn seiliedig ar yr uchelgais mwyaf sydd gan Lywodraeth y DU i'r berthynas. Hyd yn oed pe bai hwnnw'n cael ei gyflawni yn ei gyfanrwydd ar y cam hwn, cytundeb cyfyng fyddai. Felly, fe allwn ni gymryd hynny'n ganiataol, rwy'n credu.
Mae ef, yn ei gwestiwn, yn ymhél â mater sofraniaeth. Mae'n gwestiwn pwysig, ond yn ei hanfod mae hynny'n rhithiol yng nghyd-destun trafodaethau masnach rhyngwladol, oherwydd er mwyn cael mantais mae'n rhaid i rywun ildio rhywbeth er mwyn sicrhau unrhyw fath o gytundeb—dyna yw natur negodi. Felly, mae disgrifio hon yn frwydr am sofraniaeth yn hollol gyfeiliornus. Mae'n sôn am Ganada, ac yn sôn am amryw o wledydd eraill; os yw'n dymuno bod gennym ni yr un lefel o fasnach gyda'r UE â'r hyn sydd gan y gwledydd hynny, fe fyddai hynny'n golygu lleihad sylweddol yn ein gallu ni i fasnachu â'r Undeb Ewropeaidd—fe fyddai'n ostyngiad sylweddol.
Fe ofynnodd imi am gyfleoedd, ac eto i gyd fe ofynnodd imi ddilyn yr egwyddorion fel y gwnaeth Canada a gwledydd eraill. Mae'r ddau bwynt hynny'n gwbl groes i'w gilydd, ac rwy'n credu bod yn rhaid bod yr Aelod yn ymwybodol o hynny. O ran cyfleoedd o gytundebau eraill, mae yna gyfleoedd, ac rydym yn dilyn eu trywydd. Ond hyd yn oed ar eu mwyaf uchelgeisiol, cyfran fechan o'r effaith ar ein CMC ni yw'r cyfleoedd hynny, o'u cymharu â pherthynas fasnachu dda â'r Undeb Ewropeaidd, a dyna pam rydym ni wedi rhoi hynny ar frig ein rhestr ni o flaenoriaethau.
Yn olaf, mae e'n dweud, 'A fyddwn ni'n ffynnu y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd?' Bydd y Llywodraeth hon yn awyddus i Gymru allu ffynnu ym mha berthynas bynnag sydd gennym ni ag unrhyw ran o'r byd, ond mae'n rhaid ystyried y dystiolaeth a pheidio â herio sefyllfa wirioneddol ein trefniadau presennol ni, ac ystyried sut y gallwn ni adeiladu ar y rhain, ac nid eu tanseilio nhw. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yn y Llywodraeth yn y fan hon, a dyna'r hyn yr ydym ni'n dymuno i Lywodraeth y DU ei wneud ar ein rhan ni.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad. Fel rydyn ni'n gwybod, gyda dyddiau yn unig i fynd, mae'r trafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn parhau. Os oes cytundeb yn cael ei gyflwyno gerbron Senedd San Steffan, bydd Plaid Cymru'n ystyried yr addewidion a gafodd eu rhoi yn 2016 a 2019. Fe wnaeth Boris Johnson addo na fydd Cymru'n derbyn ceiniog yn llai, y byddwn yn derbyn yr un buddion, ac y bydd ein ffermwyr yn gallu gwerthu i'r Undeb Ewropeaidd fel o'r blaen. A fydd y cytundeb yn cyflawni? Bydd angen i ni weld manylion y cytundeb, ond mae Plaid Cymru yn glir ein bod ni'n methu â chefnogi cytundeb sydd yn niweidiol i bobl a busnesau Cymru. 'Ffwrn-barod'—oven-ready—a'r 'cytundeb rhwyddaf yn y byd', dyna beth a oedd wedi cael ei addo, ond nid dyna beth sydd wedi digwydd. Cytundeb neu ddim cytundeb—does dim digon o amser ar ôl i alluogi busnesau Cymru, a hyd yn oed Llywodraeth Cymru, i baratoi yn llawn ar gyfer pa bynnag amgylchiadau y byddwn yn ffeindio ein hunain ynddynt ar 1 Ionawr. Mae llinellau coch Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers 2017 o adael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn golygu bod tarfu yn anochel, beth bynnag a ddaw o'r cytundeb.
Felly, allaf i ofyn: beth ydi rôl Llywodraeth Cymru wedi bod yn hyn i gyd, yntau ydych chi fel Llywodraeth wedi cael eich anwybyddu unwaith eto gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig? Allwch chi gadarnhau beth ydy'r sefyllfa ddiweddaraf gyda storio cyffuriau yn sgil COVID a Brexit? Ac ydych chi fel Llywodraeth yn disgwyl oedi i feddyginiaethau—hynny yw, delays—yn ein porthladdoedd, sydd angen dod o Ewrop ar just-in-time basis? Dwi'n gwybod beth ydych chi'n ei ddweud ynglŷn â stocpeilio, ond nid yw'n bosib stocpeilio rhai meddyginiaethau achos maen nhw dim ond yn para rhai oriau. Felly, ydych chi'n pryderu ynglŷn ag oedi rhai meddyginiaethau allweddol, fel radioisotopes i'n gwlad? Ydych chi, ymhellach, Weinidog, yn pryderu hyd yn oed os oes cytundeb y bydd cyfnod o amser ble, i bob pwrpas, y byddwn ni mewn sefyllfa o ddim cytundeb oherwydd natur hwyr y trafodaethau? Ac i gloi, dwi'n cydnabod bod pobl yn gweithio rownd y cloc ar y trefniadau posib, a hyn i gyd yng nghanol pandemig angeuol—mae'r sefyllfa yn heriol tu hwnt. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Gaf i gytuno gyda'r pwynt diwethaf yna, i ategu sylwadau Dai Lloyd ynglŷn â'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar draws Cymru i baratoi ar gyfer hyn, yn Llywodraeth Cymru, ond gyda'n partneriaid ni hefyd ac mewn sectorau lu, ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, sydd ddim ond 16 diwrnod i fynd? Felly, mae Dai Lloyd yn iawn i ddweud bod tarfu o ryw fath yn anochel yn y ddwy senario sydd o'n blaenau ni ar hyn o bryd, oherwydd yr ansicrwydd sydd wedi bod a'r tâp coch newydd y mae Llywodraeth San Steffan yn ei gyflwyno ar fusnesau ac allforion yma yng Nghymru.
Fe wnaeth yr Aelod ofyn tri chwestiwn. Yn gyntaf, beth oedd rôl Llywodraeth Cymru yn y negodiadau? Wel, mae rôl gyda ni wedi bod, wrth gwrs, yn y fframweithiau cyffredin, ac yn paratoi'r ddeddfwriaeth, ac yn y broses o baratoi. Ond fel y mae e'n gwybod o'n trafodaethau ni yn y gorffennol, dyw rôl y Llywodraethau datganoledig ddim wedi bod beth y dylai e fod yn y broses o negodi. Felly, negodiadau Llywodraeth San Steffan yw'r rhain—er gwell neu er gwaeth. Mae blaenoriaethau pobl Cymru, trwy Lywodraeth Cymru, ddim wedi cael y lle iawn yn y broses o gytuno safbwynt ar draws Llywodraethau'r Deyrnas Gyfunol, ac wedyn cael dylanwad felly ar y negodiadau. Mae elfennau o ddylanwad wedi bod, ond ddim strwythur y byddai'r Senedd hon yn ei mynnu ar ran pobl Cymru.
O ran yr ail gwestiwn, meddyginiaethau, mae trefniadau ar waith ar draws y Deyrnas Unedig. Rôl a phŵer Llywodraeth San Steffan yw mewnforio meddyginiaethau o dramor i Brydain, wrth gwrs, ond mae trefniadau ar waith i sicrhau bod hynny'n gallu digwydd yn y cyd-destun mae e'n disgrifio, hynny yw, pan mae meddyginiaethau ddim yn gallu cael eu storio, bod rhaid iddyn nhw gael eu cludo ar fyrder. Pe buasai tarfu yn y porthladdoedd, mae systemau ar waith i'w hedfan nhw i mewn er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu cyrraedd mewn da bryd. Mae trefniadau wedi eu cytuno rhwng y pedair Llywodraeth, fel bod rhannu hafal o'r rheini'n digwydd ar draws y pedair cenedl, gyda dylanwad clinigol y chief medical officers yn bwysig yn hynny i sicrhau bod y dosbarthu'n digwydd o safbwynt hafal.
Ac yn y cwestiwn diwethaf gwnaeth e ofyn ynglŷn â'r cytundeb ac ati, rwy'n cytuno gyda beth mae Dai Lloyd yn ei ddweud. Dyw'r cytundeb hwn ddim yn adlewyrchu beth fyddem ni moyn gweld ar ran pobl Cymru. Dyw e ddim yn rhoi digon o sicrwydd i'n heconomi ni, i'n hallforwyr ni ac i'n cyflogwyr ni. Ond mae cytundeb o'r math hwn yn mynd i fod yn gytundeb sy'n well na dim cytundeb. Ac mae gyda ni senario, o bosib, yn y flwyddyn newydd, ac mae Dai Lloyd yn cydnabod, bod efallai cytundeb wedi ei gyrraedd ond bod e ddim mewn grym eto, neu efallai ei fod e wrthi'n cael ei negodi, neu efallai ei fod wedi cael ei negodi ond heb gael ei arwyddo. Felly, mae pob un o'r senarios hynny'n bosib, ac, wrth gwrs, ni'n gweithio i edrych ar beth gall ddigwydd yn y senarios hynny. Fel bydd e'n gwybod, mae'r trefniadau ni wedi bod yn eu gwneud, hyd yn hyn, ar sail gadael heb unrhyw fath o gytundeb. Felly, mae gyda ni'r worst-case senario hynny fel rhan o'n cynllunio ni hefyd.
Diolch am y datganiad, Cwnsler Cyffredinol. Fe ddywedwyd wrth wrandawiad o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn gynharach y mis hwn fod 61 y cant o allforion Cymru yn mynd i'r UE, o'i gymharu â 43 y cant o holl allforion y DU. Mae gan Gymru gyfran uchel o ddiwydiannau hefyd y disgwylir iddyn nhw fod yn wynebu tariffau uchel os na chawn gytundeb, gan enwi rhai yn unig: modurol, llaeth, cig ac awyrofod. Roedd y fargen parod i'r ffwrn a'r cytundebau hawdd yn ffantasïol, fel y gwyddom ni i gyd nawr. Tua'r un mor barod i'w goginio â thwrci Nadolig wedi ei rewi'n gorn. Felly, mae diogelwch a sicrwydd yn faes allweddol i'w ddatrys hefyd, ac, felly, rwy'n croesawu'r paratoadau cynllunio sifil wrth gefn a'r meddyginiaethau sydd ar gael i ni yng Nghymru. Nid yw hynny'n ymwneud â sofraniaeth afreal.
Felly, Cwnsler Cyffredinol, mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi datgan yn hyglyw fod cytundeb Brexit rhwng y DU a'r UE yn hanfodol. Mae'r CBI yn glir, fel y mae'r Llywodraeth hon, nad oes neb wedi pleidleisio o blaid llai o ddiogelwch, na dinistr 'heb gytundeb' ar ein masnach a'n heconomi ni, na phrisiau bwyd uwch, na mwy o brinder y meddyginiaethau sydd ar gael, na thagfeydd mewn porthladdoedd ar y ffiniau yn y DU a'r hyn y byddai hynny'n ei olygu. Cwnsler Cyffredinol, felly, beth yw canlyniadau dim cytundeb ar economi Cymru a'r berthynas rhwng Cymru ac Ewrop yn 2021? Ac, yn hollbwysig, beth fyddai hyn yn ei olygu i bobl Cymru, os ydych yn dymuno gadael neu aros?
Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn yna. Mae hi'n iawn i ddweud bod gan Gymru ganran fwy o allforion i'r Undeb Ewropeaidd nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. I gefnogi ein hallforwyr ni yn y misoedd sydd i ddod, mae Llywodraeth Cymru wedi contractio gwasanaethau carfan o gynghorwyr masnach rhyngwladol, a fydd ar gael i gefnogi allforwyr i lywio'r fiwrocratiaeth newydd, y bydd safbwynt negodi'r Deyrnas Unedig yn ei rhoi ar ein busnesau ni, i bob pwrpas.
Fe fydd llawer o allforwyr, wrth gwrs, eisoes wedi ystyried y ffaith eu bod yn wynebu llu o ofynion dogfennau allforio newydd sy'n gysylltiedig â'r tollau, a fydd yn amlwg yn golygu llwyth o gostau ychwanegol sylweddol i'w busnesau. Ond ni fyddant hyd yn hyn wedi gallu meintioli mater y tariffau na sut y caiff y cynhyrchion y maent yn eu hallforio eu trin, sut y caiff cydrannau'r cynhyrchion hynny eu hystyried, sut y caiff safonau eu cydnabod dros y Sianel. Felly, mae pob un o'r rhain yn gwestiynau o bwys mawr ym meddyliau llawer o fusnesau sy'n allforio, ar hyn o bryd, ac rwy'n dweud eto mai 16 diwrnod sydd gennym ni ar ôl o'r cyfnod pontio. Felly, dyna pam mae mor bwysig, hyd yn oed ar yr unfed awr ar ddeg fel hyn, roi'r eglurder sydd ei angen ar fusnesau yng Nghymru i gefnogi eu ffyniant a chefnogi'r bobl sy'n dibynnu arnyn nhw am fywoliaeth.
Rwy'n credu ei bod yn iawn dweud bod y CBI a sefydliadau busnes eraill yn eglur bod cytundeb yn fanteisiol i economi'r DU ac economi Cymru. Mae ein dadansoddiadau academaidd diweddaraf ni o effaith hirdymor senario 'heb gytundeb' ar economi Cymru a'r DU gyfan yn dangos economi sydd tua 8 y cant yn llai nag y byddai wedi bod dros gyfnod o 10 mlynedd. Nawr, mae hynny ar yr un pryd ag y mae busnesau yn dioddef yn sgil effeithiau COVID ac mae'n amlwg y bydd yn cymryd cyfnod sylweddol o amser i wella o hynny. Rydym ni o'r farn nad oes unrhyw reswm o fath yn y byd i ychwanegu at ddinistr diofyn COVID gyda dinistr gwirfoddol o adael y cyfnod pontio heb gytundeb.
A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad? Rwy'n cymeradwyo gwaith paratoi Llywodraeth Cymru ar gyfer nifer o senarios Brexit. Mae hynny'n rhywbeth darbodus a synhwyrol. Ond, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n parhau i alaru'r ffaith eich bod chi, ar ôl pedair blynedd, wedi cyrraedd y dyddiau olaf, ond faint o hynny sy'n deillio o safbwynt y rhai nad oedd yn dymuno Brexit o gwbl, gan eich cynnwys chi a Llywodraeth Cymru, drwy geisio tanseilio'n barhaus benderfyniad democrataidd y bobl ym mis Mehefin 2016 yn barhaus? Mae'n anochel bod y safiad hwn wedi tanseilio ymdrechion negodwyr y DU i gael yr UE i dderbyn cytundeb Brexit rhesymol a derbyniol.
Fe ddywedir bod tri maes hollbwysig yn brif rwystrau i gytundeb. Felly, yn gynharach heddiw, fe alwais i am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pha gyfaddawdau y byddai'n rhaid eu gwneud i osgoi sefyllfa 'heb gytundeb' gyda'r Undeb Ewropeaidd. O ystyried na chefais i ateb gwirioneddol i'm cwestiynau, nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd y cwestiynau hynny nawr: pa gyfaddawdau y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i'w gwneud i osgoi sefyllfa 'heb gytundeb'? A fyddai hynny'n golygu cyfaddawdu o ran ein pysgodfeydd—sydd, gyda llaw, ar hyn o bryd yn cael eu dihysbyddu gan longau enfawr o Ffrainc, yr Iseldiroedd a Sbaen, gan dynnu rhwydi hyd at 250 tunnell o bysgod y dydd, â chanlyniadau amgylcheddol trychinebus—neu a fyddai'n cyfaddawdu ar y maes chwarae gwastad fel y'i gelwir, sy'n golygu, wrth gwrs, y byddai Llywodraeth y DU, ymhlith ymyriadau economaidd hanfodol eraill, yn parhau i fod yn gyfyngedig iawn oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol, gan ein rhwystro ni rhag helpu ein diwydiannau dur yn y ffordd y byddem yn ei dymuno, neu a fyddai'n cyfaddawdu drwy gadw at oruchafiaeth Llys Cyfiawnder Ewrop dros gyfraith y DU, sef rhywbeth yr oedd y bobl a bleidleisiodd o blaid Brexit yn ei wrthwynebu? A fyddech chi, Cwnsler Cyffredinol, gystal â rhoi ateb syml i'r cwestiynau, heb unrhyw ddryswch.
[Anhyglyw.]—tri llythyr ynglŷn â physgodfeydd, maes chwarae teg a llywodraethu, a anfonais i at Michael Gove nifer o wythnosau yn ôl, a oedd yn nodi ein safbwynt dewisol ni o ran pob un o'r meysydd hynny sydd ar ôl. Rwyf wedi gofyn am gyfle, mewn mwy nag un o gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE), i fod â rhan yn y trafodaethau strategol y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried yn yr wythnosau diwethaf hyn, ac nid ydym wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y rhain. Felly, yn absenoldeb hynny—. Ac rwy'n ei gyfeirio at y llythyrau, ac rwy'n siŵr ei fod wedi eu darllen nhw, sy'n nodi safbwynt Llywodraeth Cymru yn gywir iawn o ran sut y dylid trafod hyn. Trafodaethau Llywodraeth y DU yw'r rhain, nid trafodaethau Llywodraeth Cymru, ac nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol ein bod ni 16 diwrnod oddi wrth ddiwedd y cyfnod pontio heb gytundeb; Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am hynny.
Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn dryloyw iawn. Nid oedd ef erioed wedi dymuno Brexit, mae wedi gwneud popeth o fewn ei allu yn y pedair blynedd a hanner diwethaf i'w danseilio, ac fe fethodd â rhoi ateb i gwestiwn David Rowlands. Mae'n gwbl amlwg o'i ddatganiad mai ei syniad ef o drafodaeth yw ein bod yn derbyn yn syml pa ofynion bynnag a wnaiff Monsieur Barnier, waeth pa mor hurt neu afresymol ydynt—y math o drafodaethau a gynhaliwyd gan Marshal Pétain gyda Hitler ym 1940.
Yn ei ddatganiad, fe ddywedodd hyn, y dylai Llywodraeth y DU a'r UE
'ddangos yr hyblygrwydd a'r cyfaddawd sydd eu hangen i ddod o hyd i gytundeb.'
A wnaiff ef ddweud wrthyf i nawr beth fydd yr UE yn ei gyfaddawdu ar gyfer dod i gytundeb â Llywodraeth y DU? A yw hynny'n gyfaddawdu o ran eu galw nhw y dylen nhw barhau i ddeddfu ar ein rhan ni, er nad oes gennym ni lais na phleidlais mwyach yng nghynghorau’r UE? A ddylem ni barhau i ganiatáu i wledydd Ewrop gael rhwydd hynt i bysgota cymaint o bysgod a phosibl o ddyfroedd Prydain? Beth yn union yw'r cyfaddawdau y mae ef yn credu y dylai'r UE fod yn eu gwneud nawr i gael cytundeb?
Wel, rwy'n credu mai'r un yw'r ateb i gwestiwn Neil Hamilton ag a roddais i gwestiwn David Rowlands.
Diolch yn fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol.
Rydym yn symud ymlaen nawr. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y tri chynnig o dan eitemau 5, 6 a 7 ar ein hagenda ni, y rheoliadau diogelu iechyd (cyfyngiadau coronafeirws) 2020, yn cael eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidlais ar wahân. Nid wyf i'n gweld unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig hwnnw.
Felly, fe symudwn ni ymlaen ac rwyf i am alw ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cynnig NDM7512 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2020.
Cynnig NDM7516 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2020.
Cynnig NNDM7526 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr2020.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gyfres o gynigion sydd gerbron.
Yr wythnos diwethaf, fe welsom ni ddechrau rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru. Mae hynny'n amlwg yn newyddion calonogol a gobeithiol iawn. Er hynny, fe fydd y broses frechu yn cymryd amser, felly mae'n rhaid inni barhau i ganolbwyntio ein hymdrechion ni ledled Cymru ar helpu i reoli ymlediad coronafeirws. Ac yn anffodus, mae'r coronafeirws yn carlamu unwaith eto ledled Cymru. Mae'r enillion gwirioneddol a wnaed ar gost enfawr yn ystod y cyfnod atal byr wedi eu herydu. Mae cyfradd dreigl saith diwrnod coronafeirws ledled Cymru wedi codi i ymhell dros 400 o achosion fesul 100,000 o bobl. Ar hyn o bryd mae ymhell dros 2,000 o bobl yn ysbytai'r GIG yng Nghymru yn cael eu trin am y coronafeirws, ac fe welwn ni gynnydd parhaus yn nifer yr achosion coronafeirws a gadarnhawyd. Erbyn hyn mae yna fwy na 500 o bobl ychwanegol yng ngwelyau'r GIG yng Nghymru yn cael eu trin oherwydd coronafeirws nag yn y penllanw a gafwyd ym mis Ebrill.
Fel y nodais o'r blaen, y cyngor gan ein prif swyddog meddygol yw bod angen inni gymryd camau i'n helpu i ddechrau ar gyfnod y gwyliau gyda chyfradd heintio mor isel â phosibl. Heddiw, mae tri rheoliad diweddar yn cael eu trafod, sydd wedi cyfrannu at ein hymateb ni i'r pandemig.
Yn gyntaf, fe fydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Prif Weinidog, ar 30 Tachwedd, wedi nodi cyfyngiadau ychwanegol ar gyfer Cymru gyfan o ran y sector lletygarwch. Fe ddarperir ar gyfer y mesurau pellach hyn gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020. Gan ddod i rym ddydd Gwener, 4 Rhagfyr, fe'u targedir at atal trosglwyddiad lle mae pobl yn cyfarfod dan do. Fe gawsom ni ddadl ar y materion hyn yr wythnos diwethaf. Felly, mae'n rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis ledled Cymru gau erbyn 6 p.m. ac ni chaniateir iddyn nhw weini alcohol. Ar ôl 6 p.m., dim ond gwasanaethau cludo allan y byddan nhw'n gallu eu cynnig. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol cau lleoliadau adloniant dan do ac atyniadau ymwelwyr dan do. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r bobl a'r busnesau y mae'r cyfyngiadau hyn yn effeithio arnynt. Rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwaith caled a wnaeth y busnesau hyn i geisio sicrhau bod eu busnesau nhw'n ddiogel rhag COVID. I liniaru'r effaith ariannol a chefnogi'r sectorau lletygarwch, hamdden a manwerthu, mae gennym becyn cymorth gwerth £340 miliwn. Mae hwnnw'n cynnwys cronfa arbennig o £180 miliwn ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden. Fe geir tystiolaeth wyddonol ac arsylwi cynyddol sy'n dangos peryglon lletygarwch o ran trosglwyddo clefydau. Yn unol â chyngor clir a pharhaus SAGE ar yr hyn sydd wedi gweithio mewn rhannau eraill o'r DU, mae arnaf i ofn bod angen y cyfyngiadau hyn i helpu i gyfyngu ar y trosglwyddiad.
Yn ail, mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol cau pob atyniad awyr agored, gan gynnwys ffeiriau. Mae'r rhain hefyd yn ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid cau parciau trampolîn a pharciau sglefrio dan do. Fe ddaeth y mesurau pellach hyn i rym ddoe, ar 14 Rhagfyr.
Yn olaf, fe osodwyd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio a Chyfyngiadau Rhyngwladol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ar 8 Rhagfyr. Mae'r rhain yn darparu bod yn rhaid i unigolyn y mae'n ofynnol iddo ynysu o ganlyniad i fod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am goronafeirws bellach orfod ynysu am 10 diwrnod, yn hytrach na'r cyfnod o 14 diwrnod a oedd mewn grym yn flaenorol. Mae hyn yn dilyn cyngor y prif swyddog meddygol a SAGE, a rhoddwyd cyngor tebyg i weinyddiaethau eraill yn y DU, sydd i gyd yn dilyn y patrwm wrth newid yr amserlen ar gyfer hunanynysu yn eu Seneddau nhw eu hunain. Mae'r cyfyngiadau teithio rhyngwladol sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bobl fod mewn cwarantin wrth ddod i Gymru o wledydd arbennig wedi gostwng i 10 diwrnod yn yr un modd. Mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu hefyd i blentyn y mae'n ofynnol iddo ynysu allu symud i aelwyd arall yn ystod y cyfnod ynysu os yw hyn yn unol â'r trefniadau presennol sy'n ymwneud â gofal a chyswllt â rhieni'r plentyn hwnnw.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ddiolchgar iawn i bobl a busnesau ledled Cymru am gadw at y cyfyngiadau hyn sy'n heriol iawn yn aml. Er hynny, maen nhw'n parhau i fod yn hanfodol ar gyfer diogelu ein GIG ac achub bywydau. Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun rheoli COVID a ddiweddarwyd, gan gynnwys cyfres newydd o bedair lefel o rybudd. Mae'r cynllun yn disgrifio'r mesurau a fydd yn cael eu rhoi ar waith yn ôl cyfraddau'r feirws a lefel y risg. Rydym wedi trefnu i drafod cynnig sy'n ymwneud â'r cynllun hwn yn nes ymlaen yn ystod busnes heddiw. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd gerbron a'r tair set o reoliadau. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch i chi. Rwy'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Aelodau yn gwybod mai Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 yw'r prif reoliadau o ran coronafeirws yng Nghymru, ac, fel y dywedodd y Gweinidog, mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau a Swyddogaethau Coronafeirws Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020 yn diwygio'r prif reoliadau ac yn gwneud diwygiadau technegol hefyd i reoliadau presennol ar gyfyngiadau coronafeirws a swyddogaethau awdurdodau lleol.
Yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, rydym ni wedi cael cyfle i graffu ar y rheoliadau hyn, ac fe nododd ein hadroddiad yn y rheoliadau hyn bedwar pwynt o ran rhinweddau. Yn ein pwynt cyntaf, rydym ni'n nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Mae ein hail bwynt o ran rhinweddau yn tynnu sylw at yr effaith economaidd uniongyrchol sylweddol y bydd y rheoliadau'n ei chael ar fusnesau, yn enwedig o fewn y sector lletygarwch, neu ar y rhai sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau i'r sector hwnnw. O ganlyniad i hyn, mae ein hadroddiad ni'n gofyn am wybodaeth ynglŷn â'r cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau. Mae ein trydydd pwynt o ran rhinweddau yn nodi rhai gwallau teipograffyddol yn y nodyn esboniadol i'r rheoliadau hyn, ac mae ein pedwerydd pwynt yn tynnu sylw at y ffaith nad oes yna asesiad effaith rheoleiddiol wedi cael ei baratoi ar gyfer y rheoliadau. Eto i gyd, rydym ni wedi gofyn am eglurhad ynghylch pryd mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi ei hasesiad integredig cryno o effaith.
Rwyf i am droi nawr at yr ail gyfres o reoliadau, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio a Chyfyngiadau Rhyngwladol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020, a ddaeth i rym, fel y dywedodd y Gweinidog, ar 10 Rhagfyr. Maen nhw hefyd yn diwygio'r prif reoliadau yn ogystal â'r rheoliadau teithio rhyngwladol. Mae ein tri phwynt adrodd ni'n cwmpasu tir cyfarwydd, gan nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, na fu yna ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau ac, yn olaf, nad oes asesiad o effaith y rheoliadau hyn ar gydraddoldeb.
Gan droi nawr at Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020, sydd unwaith eto yn diwygio'r prif reoliadau hefyd ac a ddaeth i rym ddoe, mae'r cyntaf o'n dau bwynt adrodd yn nodi sylwadau Llywodraeth Cymru yn y memorandwm esboniadol ynghylch effaith y rheoliadau hyn ar hawliau dynol. Serch hynny, rydym ni wedi nodi bod y sylwadau yn y memorandwm esboniadol yn gyfystyr yn unig â'r datganiad bod cyfiawnhad a chymesuroldeb i'r rheoliadau. Nid oes dadansoddiad o sut y daethpwyd i'r casgliad hwnnw. Fe nododd ein hail bwynt adrodd ni'r diffyg ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau, er ei fod yn cydnabod amgylchiadau cyflwyno'r rheoliadau hyn. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch i'r Gweinidog am gynnig y rheoliadau'r prynhawn yma. I'r rhai sy'n gwylio ein trafodion ni'r prynhawn yma, efallai y byddan nhw'n ei gweld hi'n rhyfedd braidd—ac mae hon yn ddadl a gawsom ni sawl gwaith yn y Siambr hon—ein bod ni'n pleidleisio i roi gorfodaeth, neu roi grym, i'r rheoliadau sydd wedi bodoli ers bron pythefnos erbyn hyn, ac a gaiff eu hadolygu ddydd Gwener, yn ôl yr hyn a ddeallaf, o dan weithdrefnau arferol Llywodraeth Cymru.
Mae ein safbwynt hirsefydlog ni ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig yn golygu y byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn eitem 5, sy'n effeithio ar y sector lletygarwch. Rydym ni'n nodi bod y cyfyngiadau teithio y mae Llywodraeth Cymru wedi eu haddasu yn ystod y cyfnod yn caniatáu teithio i Loegr i ardaloedd haen 2 a haen 1, lle gallai trigolion Cymru fwynhau lletygarwch ac yna deithio'n ôl i Gymru—rhywbeth na fyddwn i'n ei argymell, ond mae'n cael ei ganiatáu yn yr argymhellion. Ac rydym ni'n anghytuno bod y cyfyngiadau hyn yn cwmpasu Cymru gyfan, o ystyried y gwahanol gyfraddau o'r feirws ledled y wlad, yn enwedig yn y gogledd-orllewin, lle byddai rhai o'r lleoliadau lletygarwch hyn yn gallu parhau i fasnachu pe byddai'r rheolau'n caniatáu hynny. Felly, fe fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn hynny. Rydym ni'n nodi hefyd bod llawer o'r lletygarwch y mae pobl yn ei fwynhau mewn safleoedd trwyddedig wedi symud i leoliadau preifat, ac mae tystiolaeth gynharach wedi dangos bod y lleoliadau preifat hynny'n golygu bod pobl yn osgoi'r rheolau ac mae cyfraddau uwch o drosglwyddiad.
Eitem 6: rydym ni o'r farn fod hwn yn fesur synhwyrol a rhagofalus, gan ostwng y cyfnod ynysu o 14 diwrnod i 10 diwrnod, ac rydym ni'n credu bod y dystiolaeth yn cefnogi hyn. Serch hynny, mae problem wirioneddol o ran pobl yn cadw at y rheolau ynysu. Mewn rhai achosion, dim ond 20 y cant o'r boblogaeth mewn gwirionedd sy'n cytuno i hunanynysu, ac fe fyddai'n dda iawn gennyf glywed ymateb y Gweinidog ynghylch pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eu defnyddio wrth gyfathrebu i sicrhau bod mwy o bobl yn cadw at wrth reolau hunanynysu. Rwy'n nodi'r stori sy'n cylchredeg heddiw am Drafnidiaeth Cymru, sef busnes sy'n eiddo i'r Llywodraeth, yn dweud wrth rai aelodau o'i staff i ddiffodd yr ap profi, olrhain a diogelu fel y gall y busnes barhau i weithredu. Felly, fe fyddwn i'n croesawu clywed y Gweinidog yn dweud rhywbeth am y cyfarwyddyd penodol hwnnw gan un o gwmnïau Llywodraeth Cymru i'w weithwyr ei hun.
Fe fyddwn ni'n atal pleidlais ar eitem 7. Er y gallwn ni ddeall y teimladau y tu ôl i rai o'r cyfarwyddiadau hyn ar eitem 7, credwn, unwaith eto, gan ei fod yn ddull sy'n cwmpasu Cymru gyfan, fod rhywfaint o'r dystiolaeth yn dangos y gallai rhai ardaloedd ganiatáu i rai o'r atyniadau hyn barhau i ddarparu cyfleusterau lletygarwch mewn digwyddiadau awyr agored, parciau sglefrio a thrampolinau lle mae cyfraddau'r feirws yn isel. Yn hytrach na dull ar gyfer Cymru gyfan, credwn y byddai'n llawer gwell cael dull mwy lleol o ymdrin â'r agwedd benodol hon, a dyna pam y byddwn yn ymatal, oherwydd mae'n amlwg bod y digwyddiadau hyn a drefnwyd yn cynnal asesiadau risg. A bydd pobl yn amlwg yn parhau i deithio i rai ardaloedd o Gymru, ac os gellir eu lletya mewn amgylchedd diogel, rydym ni o'r farn y gallai fod yn synhwyrol caniatáu i rai o'r atyniadau hyn barhau. Felly dyna pam, fel Ceidwadwyr Cymreig, y byddwn ni'n ymatal ar eitem 7.
Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn sôn am amrywiolyn newydd y feirws, yr N501, nad yw'r cyfyngiadau hyn yn dylanwadu arno, ond fe allai effeithio ar gyfyngiadau a gaiff eu cyflwyno eto. Rwy'n nodi nad ydym wedi rhoi sylw ar lawr y Siambr i'r amrywiolyn newydd hwn o'r feirws, sydd yn y pen draw wedi cael effaith ar ein dealltwriaeth o'r feirws ledled y DU. Nid mater i Gymru yn unig yw hwn, ac felly da o beth fyddai iddo roi rhywfaint o wybodaeth inni, ar ddiwedd ei grynhoad ef o'r cyfyngiadau hyn, am sut y bydd yn rhaid addasu'r cyfyngiadau o bosibl i ddarparu ar gyfer yr amrywiolyn newydd, sydd, yn ôl yr hyn a ddeallwn ni, yn amlwg yn helpu i gyflymu'r broses o ymledu'r feirws mewn cymunedau, nid yng Nghymru yn unig, ond mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Gwnaf ddelio efo'r rheoliadau yn eu tro. Eitem 5 yn gyntaf, yr eitem sydd wedi bod yn destun y mwyaf o drafod, mae'n siŵr. Yn wir, roedd hi'n destun dadl yma yn y Senedd yr wythnos diwethaf, ac oherwydd hynny mi gadwaf fy sylwadau i'n fyr. Mae fy safbwynt i a Phlaid Cymru ar y record yn barod ar hwn, ac mi wnaf siarad yn ehangach am ein safbwynt ni ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran y pandemig yn y ddadl ar gyfyngiadau coronafeirws newydd o dan eitem 17 y prynhawn yma.
Dydy ein safbwynt ni ddim wedi newid ar y rheoliadau cyntaf yma. Mi wnaethom ni ymatal wythnos yn ôl, nid oherwydd ein bod ni'n gwrthwynebu cyfyngiadau—rydyn ni'n gallu gweld difrifoldeb yr achosion mewn rhannau sylweddol o Gymru, ac mi wnes i hi'n glir ein bod ni'n gefnogol i gymryd camau dwys i ymateb i hynny ac i geisio atal lledaeniad pellach—ond diffyg lojic rhai elfennau a oedd yn ein pryderu ni bryd hynny, y gwaharddiad llwyr ar alcohol a'r ffaith bod llefydd fel bwytai yn gorfod cau yn gynnar iawn gyda'r nos, lle mae'r dystiolaeth am rôl llefydd felly yn lledaeniad y feirws yn ddigon prin. Ein consyrn ni, yn syml iawn—ac mae hyn yn berthnasol i bob un rheoliad yr ydym ni yn ei drafod—os ydy pobl yn methu gweld rhesymeg y camau sy'n cael eu cymryd, bydd hynny'n tanseilio ymddiriedaeth yn y Llywodraeth a'r gallu wedyn i ddelio efo'r pandemig. Ac mae'r rhesymeg, wrth gwrs, yn cael ei chwestiynu fwyaf mewn ardaloedd sydd â niferoedd cymharol isel o achosion. Ni all yr un ardal ystyried ei bod hi'n ddiogel, wrth reswm, ond mae'n ychwanegu at y ddadl hefyd am amrywio'r ymateb o ardal i ardal. Mi gawn ni drafod mwy ar hynny yn nes ymlaen heddiw hefyd.
At eitem 6, mi gefnogwn ni honno. Mae'r dystiolaeth i'w gweld yn ddigon cryf i ni ar gyfiawnhad gostwng y cyfnod hunanynysu ar ôl teithio dramor o 14 i 10 diwrnod. Mae yna gyfiawnhad amlwg hefyd dros ganiatáu i blentyn sy'n hunanynysu symud rhwng cartrefi dau riant, er enghraifft.
At eitem 7, mi gefnogwn ni—a dwi'n nodi bod y Ceidwadwyr wedi dweud y byddan nhw'n ymatal—mi gefnogwn ni hyn oherwydd mae angen y rheoliadau yma er mwyn cyflwyno newidiadau sydd yn berffaith resymol i fi: yr angen, er bod neb eisiau bod yn y sefyllfa yma, i gau atyniadau dan do, sinemâu ac ati, galerïau, amgueddfeydd ac yn y blaen.
Mae gen i gonsyrn ynglŷn â rhai atyniadau awyr agored lle dwi'n meddwl bod y dystiolaeth dros awyr iach a'i rôl o yn ymateb i'r pandemig yma yn gryf iawn erbyn hyn. Mae gen i e-bost, yn digwydd bod mae o'm hetholaeth i, ond mae'n gynrychioladol o beth sy'n digwydd mewn etholaethau eraill hefyd, dwi'n gwybod. Busnes sydd yn rhedeg tripiau cwch yn Ynys Môn oedd wedi gwerthu nifer uchel o docynnau, fel mae'n digwydd, ar gyfer tripiau dros y Nadolig. Maen nhw bellach yn gorfod talu'r arian hwnnw yn ôl. Maen nhw'n dweud, 'Ydyn, rydym ni'n chwarae'n rhan', ac maen nhw'n sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa, fel mae pob un ohonom ni, ond unwaith eto yn gwneud y pwynt bod angen cefnogaeth uwch, mwy dwys yn ariannol i fusnesau, bod angen mwy o rybudd, mwy o wybodaeth ynglŷn â'r hyn sydd yn digwydd. Mae'r perchennog busnes yma yn dweud bod yna lawer o fusnesau mae o'n siarad â nhw sydd yn dal ddim yn gwybod bod yna orchymyn arnyn nhw i gau. Felly, mae'r neges yma sydd yn codi dro ar ôl tro drwy gyfnod y pandemig: 'Mae yna ddiffyg eglurder yn yr achos yma. Pam bod angen i ni gau? Siawns ein bod ni wedi gwneud popeth, ond rydym ni'n derbyn bod yn rhaid; plîs wnewch chi wneud yn siŵr bod y cyfathrebu yn well ar bob cyfle?'
Fel dwi'n dweud, mae yna rannau o'r rheoliadau, wrth gwrs, sydd yn bwysig, felly mi fyddwn ni'n cefnogi ond efo'r apêl yna unwaith eto ar Lywodraeth: mae'n rhaid cael y cyfathrebu'n eglur ar hyn.
Diolch. Ni fynegodd unrhyw Aelod ei fod yn dymuno ymyrryd, felly rwyf am alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei sylwadau a'i bwyntiau adeiladol fel arfer inni ymateb iddynt, nid yn unig heddiw. Ond rwy'n credu mai'r peth gorau fydddai pe bawn i'n ysgrifennu at y pwyllgor i ymdrin â'r holl sylwadau a wnaeth ef er mwyn parchu'r lefel o fanylder sydd ganddo.. Ac rydym ni'n awyddus i sicrhau, gan fod angen inni barhau i weithredu, ac fe fydd yna angen inni barhau i weithredu am rai misoedd eto o leiaf, ein bod ni'n ystyried y pwyntiau defnyddiol a wnaeth wrth graffu ar y modd yr ydym ni'n gweithredu'r rheoliadau priodol o ran eu hystyr gyfreithiol nhw, a hefyd yn ymdrin â'r pwyntiau o ran cyfathrebu y gwnaeth Rhun ap Iorwerth sôn amdanyn nhw ar ddiwedd ei gyfraniad ef.
Wrth gwrs, y gwir amdani yw ein bod ni'n gweithredu'r rheoliadau hyn yn unol â rheolau'r sefydliad hwn. Fe wneir honno'n ddeddfwriaeth gadarnhaol, yn union fel y gwnaethom drwy gydol yr argyfwng hwn, ac rwy'n teimlo nad yw'r pwyntiau a wna Andrew R.T. Davies yn rhoi ystyriaeth i'r ffaith inni weld misoedd ar fisoedd o ddeddfu yn y modd hwn. Nid wyf i o'r farn fod yna unrhyw beth anarferol yn hynny; y gwir amdani yw bod yn rhaid inni gymryd camau eithriadol ar gyfer yr ymateb, a defnyddio'r gweithdrefnau eithriadol sydd gan y Senedd hon ar waith i wneud hynny. Rydym ni ynghanol ton gyflymach o'r coronafeirws. Pe byddem yn dweud nad oes gan y Llywodraeth yr hawl i weithredu, na fyddai'r Llywodraeth yn gallu gweithredu i amddiffyn pobl ledled Cymru wrth i'r sefyllfa newid heb inni wneud penderfyniad cadarnhaol ymlaen llaw, yna fe fyddem ni, yn ddiamau, yn gwneud sefyllfa pobl Cymru yn llai diogel, ac fe fyddai'r Llywodraeth hon yn llai galluog i gadw ein pobl ni'n ddiogel. Nid wyf i'n bychanu difrifoldeb y sefyllfa wirioneddol enbyd o'r Llywodraeth yn deddfu yn gyntaf ac yna'n gofyn am gymeradwyaeth wedi hynny, ond dyna, rwy'n ofni, yw difrifoldeb gwirioneddol y sefyllfa. Mae hyn hefyd, wrth gwrs, o ran y bwlch, yn caniatáu i'r pwyllgor a gadeirir gan Mick Antoniw ddarparu ei adroddiadau craffu i'r Aelodau eu hystyried.
Rwy'n croesawu'r gefnogaeth a nododd llefarydd y Ceidwadwyr o blaid symud i 10 diwrnod o hunanynysu, o ran gwella'r cyfathrebu. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ymdrechu'n barhaus i'w wneud bob amser. Rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn eglur iawn am y negeseuon sydd gennym ni. Mae gwybodaeth newydd ar gael gan Lywodraeth Cymru heddiw o ran y genadwri ehangach am y coronafeirws a'r Nadolig, a gofyn i bobl wneud y peth iawn. Rwy'n credu y dylai'r Aelodau ar draws y pleidiau roi ystyriaeth i hynny a'i gyfathrebu ac annog etholwyr ledled y wlad ac o unrhyw duedd wleidyddol i ailfeddwl am yr holl ddewisiadau a wnawn ni. Fe fyddwch chi'n clywed Gweinidogion o bob un o'r pedair Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn gofyn i bobl ledled y DU wneud hynny.
Ac o ran yr ap, nid wyf i wedi clywed y stori am Drafnidiaeth Cymru y cyfeiriwyd ati, ond rwyf i'n dweud yn eglur iawn y dylid parhau i ddefnyddio'r ap ac fe fyddaf i'n annog cynifer o bobl â phosibl i'w lawrlwytho. Nid wyf yn credu y dylai unrhyw fusnes fod yn gofyn i unrhyw un ddileu'r ap gan y byddai'n effeithio ar weithrediad eu busnes nhw. Mae'r ap yno i helpu i gadw pobl yn ddiogel, gan gynnwys y bobl y byddech chi'n gweithio yn eu hymyl mewn busnes, pe byddech chi'n cael eich cynghori i hunanynysu oherwydd y risg i chi a'ch cydweithwyr chi o bosibl, ac nid wyf i'n credu y gallwn fod yn gliriach ynglŷn â hynny.
O ran eich cais parhaus chi am ddull cyfyngedig o weithredu wedi'i dargedu, ni fu'n glir erioed beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Ond mae wedi bod yn wir bob amser, ers ichi ddechrau galw am y dull penodol hwnnw o weithredu pan wnaethoch ddychwelyd i'r swydd hon ar fainc flaen y Ceidwadwyr, ein bod ni wedi cael cyngor clir iawn gan y grŵp cynghori technegol bod mesurau Cymru gyfan ar hyn o bryd yn gymwys, yn symlach ac yn haws i'r cyhoedd eu deall a'u dilyn—yn symlach ac yn haws i bob un ohonom allu gweithio gyda'n gilydd i helpu i ddiogelu Cymru. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli bod ganddo ef farn wahanol, ond mae cyngor clir iawn gennym ni yn cael ei gyhoeddi—a'i gyhoeddi'n rheolaidd—sy'n tanlinellu safbwynt y Llywodraeth.
O ran yr amrywiolyn newydd, ydw, rwy'n ymwybodol bod gennym ni lond het o achosion yng Nghymru eisoes. Rwy'n disgwyl rhagor o wybodaeth yn y dyddiau nesaf wrth inni wneud mwy o ddilyniannu genomig o ganlyniadau profion yma yng Nghymru, ac fe fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi mwy o wybodaeth pan fydd hynny ar gael. Nid yw'n eglur a yw'r amrywiolyn newydd yn un sy'n lledaenu'n gyflymach, ond, beth bynnag am hynny, fe wyddom fod y coronafeirws yn ymledu'n gyflym gyda'r amrywiolion y buom ni'n ymwybodol ohonyn nhw eisoes. Y newyddion cadarnhaol yw nad ydym yn credu y byddai'r amrywiolyn penodol hwn yn effeithio ar effeithiolrwydd brechlyn, sef y prif bryder am yr amrywiolyn yn y mincod o Ddenmarc a achosodd i fesurau eithriadol gael eu cymryd yn hwyr iawn yn y nos dros benwythnos, fel y gŵyr swyddogion Llywodraeth Cymru a minnau, cyn inni ddod i'r Senedd hon i ofyn am gymeradwyaeth.
O ran eich pwynt ehangach chi ynglŷn â gwrthwynebu amrywiaeth o gyfyngiadau, rwy'n credu'n wir ei bod hi'n beth rhyfedd iawn eich bod chi'n parhau i wrthwynebu cyfyngiadau, o ystyried y sefyllfa barhaus a'r enbydrwydd sydd yn ein gwlad ni. Ar y gorau, rwy'n credu ei bod yn anystyriol iawn mynnu gwelliannau ac ar yr un pryd wrthwynebu mesurau i gyflawni gwelliannau y mae adolygiad o dystiolaeth nid yn unig gan ein grŵp cynghori technegol ni, ond hefyd SAGE, yn tystiolaethu iddyn nhw dro ar ôl tro. Rwy'n credu y dylai pobl yng Nghymru gael cysur yn y ffaith ein bod ni'n cael ein cyngor o ran iechyd y cyhoedd gan SAGE, gan y Grŵp Cyngor Technegol, gan ein prif swyddog meddygol ni ein hunain, ac, wrth wneud hynny, rydym yn cael ein cefnogi i gymryd y mesurau hynny drwy ddilyn dull eang pob un prif swyddog meddygol ledled y Deyrnas Unedig wrth wneud felly. Ac rwy'n credu mai dyna fydd fy mhrif ffynhonnell i o'r cyngor rwy'n ei gymryd o ran iechyd y cyhoedd, yn hytrach na barn unigol Mr Davies.
O ran pwynt Rhun ap Iorwerth am y rhesymeg, y dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio ledled y DU yw'r rhesymeg wrth wraidd cyflwyno'r cyfyngiadau hyn, ac eto, yr un dystiolaeth oddi wrth SAGE a'r Grŵp Cyngor Technegol—tystiolaeth gadarn o'r hyn sy'n gweithio. Felly, dyna pam rydym ni wedi cyflwyno'r cyfyngiadau hyn. O ran eich pwynt ehangach chi am gyfathrebu, rydym yn edrych yn gyson ar sut yr ydym yn ceisio cyflwyno neges glir a syml, yng nghanol yr holl sŵn sydd o gwmpas, gyda'r holl amgylcheddau mwy cystadleuol eu naws, o fewn yr awyrgylch gwleidyddol, ond o fewn ystod o gyfryngau cymdeithasol a sianelau eraill hefyd. Ac rydym yn ceisio sicrhau, os oes modd, ddull mwy cyson gan y pedair gwlad o ran y genadwri i'r cyhoedd.
Mae'n ymwneud â sut rydym ni'n helpu pobl i wneud dewisiadau, ond yn y pen draw mae gan y Llywodraeth gyfrifoldebau y mae angen inni eu cymryd, ac yna mae gan bob un ohonom ni, pob unigolyn yn ein gwlad ni, gyfrifoldebau i ystyried yr hyn y dylem ni ei wneud i gadw ni ein hunain a'n gilydd yn ddiogel. Rydym ni'n parhau i fod ynghanol pandemig enbydus ac anorffenedig a fydd yn hawlio bywydau llawer mwy o ddinasyddion Cymru cyn iddo ddod i ben. Mae hynny'n helpu i danlinellu pam mae'r mesurau hyn yn parhau i fod yn bwysig a pham maen nhw'n ymateb cymesur i lefel y bygythiad yr ydym ni i gyd yn ei wynebu. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau heddiw.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 5. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Julie James.
Cynnig NNDM7522 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 wedi'u llunio i ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy sicrhau nad yw tenantiaid yn cael eu troi allan a'u gwneud yn ddigartref dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Yn y cyfnod cyn y Nadolig a'r cyfnod yn syth wedi hynny, mae'r rhai sy'n wynebu cael eu troi allan mewn llawer mwy o berygl o gael eu gwneud yn ddigartref. Mae hi'n aml yn llawer anoddach cael gafael ar wasanaethau, cyngor a chymorth. Yn yr un modd, mae'r llety amgen sydd ar gael yn debygol o fod yn gyfyngedig yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae rhywun sy'n ddigartref yn cael ei roi mewn mwy o berygl o ddal COVID-19 a'i drosglwyddo i eraill. Felly, ni allwn ni ganiatáu sefyllfa lle mae troi allan yn arwain at ddigartrefedd, sydd, yn ei dro, yn cynyddu'r risg i bobl ddigartref ac iechyd y cyhoedd yn ehangach. O ystyried y sefyllfa yr ydym ni yn ei hwynebu ar hyn o bryd yng nghyswllt y feirws, mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu'n gyflym i atal hyn.
Mae'r rheoliadau hyn yn atal, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, swyddogion gorfodi'r Uchel Lys neu feilïaid rhag mynd i dŷ annedd at ddibenion gweithredu gwrit neu warant o feddiant, gweithredu gwrit neu warant adfer, neu gyflwyno hysbysiad troi allan. Mae'r amgylchiadau penodol yn cynnwys, er enghraifft, pan wneir cais yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol. Daw'r rheoliadau i ben ar 11 Ionawr 2021. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn flaenorol drwy ganllawiau ei bod yn bwriadu atal troi allan ledled Cymru a Lloegr rhwng 11 Rhagfyr ac 11 Ionawr. Mae'r rheoliadau hyn yn darparu sail statudol i'r canllawiau hynny mewn cysylltiad â Chymru.
Yn ddelfrydol, byddwn wedi hoffi i'm swyddogion fod wedi cael cyfle i ymgysylltu â rhanddeiliaid cyn gwneud y rheoliadau, fodd bynnag, ni hysbysodd Llywodraeth y DU ni o'r ffaith eu bod wedi llunio rheoliadau tebyg oedd yn berthnasol i Loegr tan ar ôl iddyn nhw ddod i rym ar 17 Tachwedd. Felly, bu'n rhaid inni wneud y rheoliadau mewn cysylltiad â Chymru ar gryn dipyn o frys. Fodd bynnag, hysbyswyd rhanddeiliaid o'r cyhoeddiad cynharach gan Lywodraeth y DU y cai troi allan ei atal o 11 Rhagfyr i 11 Ionawr. Cymeradwyaf y cynnig cymeradwyo i'r Aelodau.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n gwybod y cyflwynwyd y rheoliadau hyn ddydd Iau diwethaf ac y daethant i rym ddydd Gwener. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau yn ein cyfarfod fore ddoe ac mae ein hadroddiad wedi'i gyflwyno gerbron y Senedd i fod yn sail i ddadl y prynhawn yma. Mae ein hadroddiad yn cynnwys un pwynt technegol a thri phwynt o ran rhinweddau. Mae'r pwynt adrodd technegol yn amlygu'r hyn a ystyriwn yn ddarpariaeth ddiangen yn y rheoliadau yn rheoliad 3(2). Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru egluro pam y mae angen y ddarpariaeth arbed hon.
Mae ein pwynt cyntaf o ran rhinweddau yn ymwneud â materion hawliau dynol. Mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys hawliau landlord o dan erthygl 1, protocol 1 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Er bod y memorandwm esboniadol yn nodi y caiff y rheoliadau hyn eu llunio mewn ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus, nid yw'n cyfeirio'n benodol at y ffaith bod y rheoliadau hyn yn ymwneud â hawliau dynol a sut y maen nhw'n barnu bod y darpariaethau yn gyfiawn ac yn gymesur yng nghyd-destun hawliau dynol tenantiaid a landlordiaid. Rydym ni wedi gofyn i'r Llywodraeth roi'r cyfiawnhad hwn.
Mae ein hail bwynt o ran rhinweddau yn nodi na fu ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau. Er ein bod yn derbyn nad oes gofyniad statudol i ymgynghori, rydym ni wedi gofyn i'r Llywodraeth gadarnhau a fu iddi allu ymgysylltu mewn unrhyw fodd â rhanddeiliaid perthnasol cyn gwneud y rheoliadau hyn. Mae ein trydydd pwynt o ran rhinweddau yn nodi nad yw'r Llywodraeth wedi paratoi asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y rheoliadau hyn. Ond rydym ni wedi cydnabod bod y memorandwm esboniadol yn rhoi crynodeb o effaith bosibl y rheoliadau hyn, sy'n darparu asesiad ansoddol o'u heffaith. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Dim ond rhai sylwadau byr sydd gen i.
O dan y rheoliadau, Gweinidog, dim ond tan 11 Ionawr y caiff troi allan ei atal, fel yr ydych chi wedi ei nodi. Wrth gwrs, mae hyn i'w groesawu, ond fe wyddom ni i gyd hefyd, erbyn canol mis Ionawr, y gallem ni fod mewn sefyllfa waeth fyth gyda'r pandemig nag yr ydym ni nawr. Ac yn realistig, ni fydd effaith brechu i'w gweld tan ymhell i'r gwanwyn yn y sefyllfa orau. Felly, does dim dwywaith, ni allwn ni weld troi allan am resymau iechyd y cyhoedd am gyfnod llawer hirach. Felly, byddwn ni ym Mhlaid Cymru yn pleidleisio o blaid y rheoliadau hyn heno, ond a gaf i ofyn i'r Gweinidog pam nad yw'r Llywodraeth ond yn parhau i gynyddu'r cyfnod sy'n amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag cael eu troi allan fesul ychydig wythnosau'n raddol, yn hytrach na gwarantu'r gefnogaeth honno gyhyd ag y bo angen? Oes rheswm technegol pam mai fel hyn y mae hi? Siawns nad yw troi unrhyw un allan yn ystod pandemig yn ddigydwybod. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi o ran y sylw yna, felly byddwn yn croesawu ei sylwadau dim ond ynglŷn â hynny, os gwelwch yn dda. Diolch.
Diolch. Nid oes gennyf Unrhyw Aelodau eraill sydd wedi gofyn a gânt wneud unrhyw ymyriad. Felly, galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl—Julie James.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r ddau Aelod sydd wedi siarad yn ystod y ddadl. Nid wyf yn ymddiheuro am gyflwyno deddfwriaeth ar unrhyw adeg sy'n ceisio gwarchod pobl rhag dod yn ddigartref. Ond, mae'n hollbwysig, ar sail iechyd y cyhoedd, ein bod yn atal digartrefedd yn ystod y cyfnod hwn o'r pandemig sy'n arbennig o allweddol. Dros gyfnod y Nadolig, bydd y rheoliadau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni'r nod hwnnw.
Sylweddolaf iddyn nhw gael eu llunio, ac y daethant i rym, ar fyr rybudd, gan ddefnyddio gweithdrefn frys, a bod hynny wedi cyfyngu ar y gwaith o graffu arnynt. Ond, mae hyn, wrth gwrs, oherwydd eu bod yn ymateb i sefyllfa frys. Pe na baen nhw wedi dod i rym bron ar unwaith, ni fydden nhw wedi cael yr effaith a ddymunir. Rwy'n derbyn y sylw y mae Delyth Jewell yn ei wneud hefyd. Rydym ni yn adolygu'r rheoliadau'n gyson. Byddwn, wrth gwrs, yn ceisio eu hadnewyddu os oes angen hynny, os cyfyngir ymhellach ar fynediad at wasanaethau digartrefedd ac yn y blaen ar ôl 11 Ionawr. Felly, anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig.
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9 ar yr agenda yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg Bellach) (Cymru) 2020. Galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig y cynnig—Kirsty Williams.
Cynnig NNDM7525 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg Bellach) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol ar y papur trefn. Fel y nodais yr wythnos diwethaf, yn dilyn cyngor gan y prif swyddog meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, argymhellwyd bod ysgolion uwchradd yn dechrau dysgu o bell o 14 Rhagfyr tan ddiwedd y tymor. Fel y gŵyr pawb yn y Siambr hon yn dda, mae cyfraddau trosglwyddo yn cynyddu ar hyn o bryd, ac yn anffodus rydym ni ar y trywydd iawn i gael 2,500 o bobl yn yr ysbyty erbyn Dydd Nadolig yn dioddef o'r coronafeirws.
Er fy mod i wrth fy modd gyda'r cynnig yr oeddem yn gallu ei wneud ddoe ynglŷn â phrofi'r rhai asymptomatig mewn ysgolion, a'r cyhoeddiad am raglen frechu a ddechreuodd yr wythnos diwethaf, bydd yr ymyriadau hyn a'r prosesau hyn yn cymryd amser i ddod i rym. Mae angen inni barhau i roi'r cyfyngiadau angenrheidiol ar waith i ddiogelu'r GIG ac i achub bywydau.
Rydym ni yn cydnabod, fel y gwnaethom ni yn ystod y cyfnod atal byr, ei bod hi'n llawer anoddach i blant oedran ysgol gynradd a'r rhai sydd mewn ysgolion arbennig, ddysgu ar eu cymhelliant eu hunain. Dyna pam yr ydym ni wedi annog ysgolion cynradd ac arbennig i barhau i aros ar agor, oni bai, wrth gwrs, fod rhesymau cadarn a chlir dros iechyd a diogelwch y cyhoedd iddyn nhw beidio â gallu gwneud hynny. Ar ôl siarad ag arweinwyr addysg lleol, rydym ni yn fwyfwy hyderus bod gan ysgolion a cholegau y dulliau dysgu ar-lein ar waith i barhau i sicrhau bod ein pobl ifanc yn parhau i ddysgu.
Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, mae'n bwysig iawn imi ddatgan hyn: nid gwyliau Nadolig cynnar yw hwn. Yn hollbwysig, dylai ein disgyblion uwchradd ac addysg bellach fod yn dysgu gartref ar hyn o bryd. Mae angen i bob un ohonom ni wneud yr hyn y gallwn ni ei wneud i leihau cyswllt ag eraill, ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i hynt y feirws hwn ac, yn y pen draw, i achub bywydau. Byddwn yn apelio ar bobl ifanc Cymru sydd wedi gweld tarfu ar eu haddysg yn yr ysgol unwaith eto i ddilyn y cyngor hwn.
Rwyf hefyd eisiau bod yn glir bod ysgolion yn lleoliadau sy'n cael eu rheoleiddio a'u rheoli, ac nid oes tystiolaeth newydd i awgrymu nad yw ysgolion yn ddiogel mwyach. Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r trosglwyddo yn parhau i fod drwy gysylltiadau a gweithgareddau cymunedol cysylltiedig â'r ysgol, yn hytrach nag amgylchedd yr ysgol ei hun. Wrth i ni ddechrau brechu, gallwn fod yn gadarnhaol iawn ar gyfer gwell 2021. Ond, ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus, ac mae'n rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i gadw Cymru'n ddiogel ac i sicrhau fod ein pobl ifanc yn parhau i ddysgu.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfu, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch eto, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n gwybod y cafodd y rheoliadau hyn eu cyflwyno yn hwyr gyda'r nos ddydd Gwener diwethaf, a daethant i rym ddydd Llun. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau yn ein cyfarfod fore ddoe, ac rydym ni yn ddiolchgar am waith swyddogion yn paratoi'r rheoliadau a'r papurau angenrheidiol. Unwaith eto, mae ein hadroddiad wedi'i gyflwyno gerbron y Senedd i lywio'r ddadl y prynhawn yma. Mae ein hadroddiad yn cynnwys un pwynt technegol, sy'n nodi ei bod hi'n ymddangos bod anghysondeb rhwng testunau Cymraeg a Saesneg y rheoliadau y defnyddir pwerau galluogi mewn cysylltiad â nhw. Mae ein hadroddiad hefyd yn cynnwys pum pwynt o ran rhinweddau, ac fe wnaf i eu crynhoi'n fyr.
Mae pwyntiau o ran rhinweddau un a dau yn nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosib â hawliau dynol, ac na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau hyn. Mae ein trydydd pwynt o ran rhinweddau yn cydnabod y lluniwyd y rheoliadau hyn mewn ymateb i argyfwng iechyd y cyhoedd. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, roi mwy o fanylion am bwy yr ymgynghorodd â nhw a phryd, cyn gwneud y rheoliadau hyn, ac rydym ni wedi gofyn i'r Llywodraeth ddarparu'r wybodaeth hon. Rydym ni hefyd wedi nodi nad oedd asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau. Yn y pedwerydd pwynt o ran rhinweddau, rydym ni wedi gofyn i'r Llywodraeth egluro pa drefniadau y mae wedi'u gwneud i gyhoeddi adroddiadau ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Yn olaf, yn ein pumed pwynt o ran rhinweddau, rydym ni wedi nodi nad oedd asesiad o'r effaith ar blant ar gyfer y rheoliadau hyn, ac rydym ni wedi gwahodd Llywodraeth Cymru i amlinellu'r hyn a wnaeth i asesu effaith benodol y rheoliadau hyn ar blant. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Yr wythnos diwethaf dywedodd y Prif Weinidog:
'yr wyf i eisiau cymeradwyo yn gryf iawn heddiw y datganiad ar y cyd a wnaed rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n annog ysgolion i aros ar agor tan ddiwrnod olaf y tymor, gan gydnabod y bydd cyfresi unigol o amgylchiadau lle na fydd hynny'n bosibl.... Y broblem wirioneddol yw nad oes gennym ni ffydd, o'r dystiolaeth ymddygiadol, os nad yw plant yn yr ysgol, y bydden nhw'n cael eu cadw gartref a'u cadw i ffwrdd o'r cysylltiadau a fyddai fel arall yn creu mwy o risg. Yr ofn yw y bydd plant nad ydyn nhw yn yr ysgol mewn amgylcheddau mwy peryglus fyth.'
'Pe byddwn i'n meddwl y byddai'r bobl ifanc hynny wir yn aros gartref, wir yn hunanynysu, wir yn creu'r cyfnod hwnnw cyn y Nadolig i'w cadw'n ddiogel, byddwn i'n cael fy nenu at y syniad. Rwy'n ofni mai'r risgiau yw na fyddai hynny yn digwydd, y byddai'r plant hynny yn gwneud pethau mwy peryglus nag y bydden nhw yn yr ysgol. Mae'n well iddyn nhw fod yn yr ysgol.'
Wrth ddweud hyn, mae'r Prif Weinidog a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cefnogi'r hyn a fu yn farn y comisiynydd plant ac, yn wir, y Senedd hon, ers cryn amser—gwell iddyn nhw fod yn yr ysgol. Hyd yn oed yn y cyfnod atal byr, roedd ysgolion ar agor i blant hyd at flwyddyn 8. Nawr, rwy'n cydnabod bod cyfraddau achosion a throsglwyddo mewn rhannau o Gymru yn peri pryder mawr a bod ffigurau sy'n gysylltiedig â rhai ysgolion uwchradd hefyd yn peri pryder. Ond mae 'cysylltiedig â' a 'chyfrifol am' yn bethau gwahanol, ac nid ydym ni eto wedi gweld tystiolaeth gyhoeddedig sy'n dweud eu bod yr un peth. Nid wyf eto wedi gweld y dystiolaeth sy'n dweud bod y risg o fewn—ac rwyf yn golygu o fewn—terfynau ysgolion uwchradd yn cyfiawnhau eu cau i gyd. Yn wir, rydym ni wedi gweld cyflwyno gorchuddion wyneb gorfodol ym mhob rhan o'r ysgol, ac eithrio ystafelloedd dosbarth, i leihau'r risg honno ymhellach. Mae briffiau'r byrddau iechyd yn cyfeirio at ymddygiad y tu allan i giât yr ysgol, ac, fel y clywsom ni yn y Siambr hon, ac, yn wir, yn sylwadau agoriadol y Gweinidog, mai trosglwyddo rhwng aelwydydd sy'n cyflwyno mwy o broblem.
A nawr bydd disgyblion uwchradd yn wynebu mwy o demtasiwn, fel y dywedodd y Prif Weinidog, i wneud y pethau mwy peryglus hynny na fydden nhw wedi eu gwneud yn yr ysgol, yn bennaf oherwydd y bydd llawer ohonyn nhw yn ddigon hen i fod heb oruchwyliaeth gartref. Ond, i'r disgyblion ysgol uwchradd iau hynny na ddylen nhw fod gartref ar eu pennau eu hunain, mae'r posibilrwydd na fydd eu rhieni sy'n gweithio yn gallu cymryd amser o'u gwaith i ddarparu'r gofal hwnnw'n un gwirioneddol, gan na chânt bellach eu hystyried yn weithwyr allweddol, a byddwn yn awyddus i ddeall, gan y Gweinidog, pam y mae hynny'n wir.
Rwyf hefyd yn anhapus ynglŷn â'r rheoliadau hyn oherwydd nad ydyn nhw'n cymell ysgolion cynradd i aros ar agor. Deallaf mai'r sefyllfa ddiofyn gyfreithiol, os mynnwch chi, yw y dylen nhw aros ar agor beth bynnag, ond mae'r rheoliadau'n eithaf clir o ran canlyniadau ysgolion uwchradd yn anufuddhau i'r gyfraith. Felly, pam nad yw'r un peth yn wir ar gyfer rheoliadau ysgolion cynradd? Oherwydd yn lle hynny, mae gennym ni awdurdodau lleol sy'n diystyru, unwaith eto, awdurdod y Gweinidog addysg. Nawr, rwy'n deall yn llwyr yr angen i undebau'r athrawon ystyried diogelwch ac amodau gwaith eu haelodau—wrth gwrs fy mod i—ond gobeithiaf eu bod yn deall eu bod wedi mynd yn rhy bell yn hyn o beth.
Mae angen dal sylw ar yr awdurdodau lleol eu hunain hefyd, oherwydd ble mae eu hasgwrn cefn yn hyn o beth? Yn diystyru'r Gweinidog eto, beth yn eu barn nhw y mae hyn yn ei wneud i'w hawdurdod, yn enwedig pan yr oedden nhw, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wythnos yn ôl, yn annog y gwrthwyneb i'r hyn y maen nhw yn ei wneud nawr? Gweinidog, mae gennym ni safbwyntiau gwahanol ar lawer o bethau, ond dylai'r diffyg parch hwn i'ch swyddogaeth beri pryder i bob un ohonom ni, oherwydd mae hyn bellach wedi digwydd ddwywaith ar fater cau ysgolion, ac mae bron fel petai'r awdurdodau lleol yn ein pryfocio i ddileu eu cyfrifoldeb dros addysg.
Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch yn fawr i ddisgyblion, rhieni a staff yr ysgol am eu gwaith caled parhaus yn yr holl ddryswch hwn, a dymuno Nadolig llawen a, gobeithio, heddychlon iddyn nhw. Diolch.
Fe fydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid y rheoliadau yma. Dwi'n credu y gellid bod wedi cymryd y penderfyniad i gau'r ysgolion uwchradd yn gynt, oherwydd yr hyn oedd wedi cael ei amlinellu gan y gell cyngor technegol ar 3 Rhagfyr, ond yn hytrach, mi wnaeth y Gweinidog ddisgwyl tan i'r prif swyddog meddygol orchymyn, mwy neu lai, fod angen i hyn ddigwydd, ac mae hynny wedi creu problemau.
Dwi'n credu y dylid bod wedi creu darpariaeth ar safle'r ysgol ar gyfer plant o deuluoedd sydd yn methu, neu'n methu fforddio trefnu gofal plant, hynny yw ar gyfer y plant iau yn yr ysgol uwchradd, yn enwedig efo cyn lleied o rybudd i deuluoedd bod yr ysgolion yn cau. Mae'r penderfyniad hwyr yn y dydd wedi creu llu o broblemau, ac mewn sawl achos, nain a thaid sy'n gorfod helpu, ac felly maen nhw eu hunain yn rhoi eu hunain mewn sefyllfa beryglus o ddal y feirws o bosibl. I lawer o bobl, does yna ddim dewis ond cario ymlaen i weithio a dibynnu ar deulu oedrannus i helpu, neu adael y plant eu hunain ac, yn glir, dydy hynny ddim yn sefyllfa dderbyniol. Felly, mi fyddai darpariaeth ar eu cyfer nhw, ar gyfer y teuluoedd hynny sydd yn methu trefnu gofal plant wythnos yma, wedi bod yn gam i'r cyfeiriad cywir, dwi'n credu.
Dwi'n parhau i fod yn bryderus iawn am y bwlch digidol. Fel mae'r BBC a Chomisiynydd Plant Cymru wedi'i ganfod, mae yna blant yn parhau i fod heb liniaduron; maen nhw yn ceisio cael mynediad at eu haddysg drwy beiriannau gemau, drwy Xboxes neu drwy ffonau symudol. Mae yna blant sy'n disgyn drwy'r rhwyd, ac er bod y Gweinidog yn teimlo bod y sefyllfa dan reolaeth, ddim dyna'r darlun sydd yn dod drwodd i mi drwy'r gwaith sydd yn cael ei gyfeirio ataf fi drwy waith achos ac yn y blaen. Ac felly, dyna pam mae Plaid Cymru yn galw am sefydlu cofrestr genedlaethol ar gyfer cadw trac o bwy sydd â chyfarpar digidol a phwy sydd efo'r cysylltedd band-eang, er mwyn wedyn medru darparu'r adnoddau ychwanegol rheini fel bod angen.
Yn olaf, yn sgil yr holl amharu ar addysg sydd wedi bod yn digwydd rŵan ers mis Mawrth, dwi yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi eu cynlluniau addysgol ôl-COVID yn fuan yn y flwyddyn newydd, a chyhoeddi sut maen nhw'n mynd i'w gweithredu nhw, a pha adnoddau ychwanegol fydd ar gael i ysgolion. Mi fydd angen ymdrech enfawr i gefnogi'n plant a'n pobl ifanc ni efo'u haddysg a'u lles meddyliol; mae angen hynny rŵan, ond mi fydd angen hynny am fisoedd, os nad blynyddoedd, i ddod, a gorau po gynted y cawn ni weld cynlluniau ar gyfer y cyfnod nesaf, a chraffu arnyn nhw yn adeiladol o'r meinciau cefn. Dwi'n awyddus iawn i gefnogi'r broses honno. Diolch.
Diolch. Nid oes yr un Aelod wedi gofyn am gael gwneud rhagor o ymyriadau, felly galwaf ar y Gweinidog Addysg i ymateb i'r ddadl. Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma? O ran y sylwadau a wnaed gan Mick Antoniw, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod anghysondeb rhwng y pwerau galluogi a nodwyd yn y testun Cymraeg a'r testun Saesneg—cyfeirir atynt yn adran 45(3)(c) yn y testun Cymraeg, ac yn 45(3) yn y testun Saesneg. Gwall teipograffyddol yw hwn yn y testun Saesneg, nad yw'n effeithio ar ddilysrwydd y rheoliadau.
O ran ymgynghori, mae'n wir nad oedd unrhyw ymgynghoriad ffurfiol yn bosib, o ystyried y sefyllfa frys y cawsom ein hunain ynddi, er ein bod, o fewn awr i gael y cyngor gan y prif swyddog meddygol, wedi gallu cyfarfod â swyddogion o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac wedyn gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru i drafod y sefyllfa yr oeddem ni ynddi, ac nid oedd gwrthwynebiad gan y naill na'r llall. Rydym ni wedi trafod o'r blaen, o'r hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu o'r cyfnod atal byr, rhai o'r materion y mae angen inni fod yn ymwybodol ohonyn nhw, gan roi sylw arbennig i addysg dysgwyr sy'n agored i niwed, ac rydym ni wedi ceisio rhoi hyblygrwydd i sicrhau y gellir darparu ar gyfer y dysgwyr hynny sy'n agored i niwed yn eu hysgol uwchradd neu golegau addysg bellach yn ystod yr wythnos hon.
Gan droi at y sylwadau a wnaeth Suzy Davies. Rydych chi yn llygad eich lle: mae cydbwysedd o agweddau negyddol a chadarnhaol y mae'n rhaid eu harchwilio yn ystod yr adegau hyn, ac mae gweithgarwch dadleoli plant y tu allan i leoliad a reoleiddir yn destun pryder i mi, ond mae'r cydbwysedd risgiau hynny'n newid, ac maen nhw'n newid yn gyflym. Roedd hi'n ofid mawr imi gael y cyngor gan y prif swyddog meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond, ar ôl cael cyngor o'r fath, mae'n ddyletswydd arnaf weithredu arno. Fel y dywedais, gwnaethpwyd y cyhoeddiad o fewn oriau i gael y cyngor hwnnw. Ni allem ni fod wedi gweithredu yn gyflymach. Sylweddolaf y digwyddodd hynny ar fyrder, ond fy mlaenoriaeth drwy gydol hyn fu ceisio sicrhau bod plant yn dysgu wyneb yn wyneb cyhyd ag y gallwn ni wneud hynny. Ac, yn amlwg, oherwydd yr effaith ar hawliau plant, rhaid cael angen dybryd o ran iechyd y cyhoedd i warafun iddyn nhw eu hawl i ddysgu wyneb yn wyneb, ac, yn absenoldeb cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, nid wyf ar fin gwadu'r hawliau hynny iddyn nhw, oni bai ein bod mewn sefyllfa frys, ac ni fyddwn wedi cael y cyngor hwnnw cyn hynny. Ond mae'n golygu y gwneir penderfyniadau, yn wir, ar fyrder
Cododd Siân Gwenllian a Suzy Davies fater gofal plant. A gaf i fod yn gwbl glir, nid ydym ni wedi gofyn i ysgolion nac addysg ddarparu gofal plant ers hanner tymor y Sulgwyn. Ni wnaethom ni ofyn i ysgolion ddarparu gofal plant yn ystod gwyliau'r haf nac yn ystod y gwyliau hanner tymor. Ond, yn amlwg, un o'r materion y mae addysgwyr yn teimlo fwyaf balch yn ei gylch yw, wrth iddyn nhw barhau i ddysgu wyneb yn wyneb, mae hynny'n caniatáu i'n gweithwyr allweddol, gan gynnwys aelodau o'n staff iechyd a gofal cymdeithasol, fwrw ymlaen â'u swyddi. Ac fe wn i fod llawer o athrawon yn teimlo'n falch iawn o'u swyddogaeth ar flaen y gad i ganiatáu i weithwyr rheng flaen eraill barhau i ofalu am bob un ohonom ni a'n diogelu. Ond gadewch i ni fod yn gwbl glir: nid ydym ni yn gofyn iddyn nhw ddarparu gofal plant; rydym ni'n gofyn iddyn nhw ddarparu addysg briodol. Ond, yn amlwg, mae hyn yn effeithio ar deuluoedd, ac rwy'n gresynu at hynny. Rwyf wirioneddol yn gresynu.
Soniodd Siân Gwenllian hefyd am fater rhaniad digidol. Rydym ni wedi gwneud cynnydd sylweddol. Mae llwyddiant Llywodraeth Cymru yn hyn o beth wedi'i nodi gan felinau trafod addysgol annibynnol y tu allan i Gymru. Ond, yn amlwg, mae angen i ni wneud mwy bob amser. Dyna pam yr ydym ni wedi sefydlu grŵp gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru i ddeall beth sy'n ein rhwystro o hyd rhag cefnogi dull dysgu o bell, digidol a chyfunol.
Rwy'n cwrdd â phenaethiaid bob wythnos. Heddiw, cyfarfûm â phennaeth dros dro ysgol gynradd Illtyd Sant ym Mlaenau Gwent, ac roedd hi'n fodlon cadarnhau wrthyf fod pob un teulu a oedd wedi gofyn am gymorth TG, boed hynny gyda chysylltedd neu gyda dyfais ddigidol, wedi cael y gefnogaeth honno sy'n angenrheidiol. Ac rydym ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau addysg lleol i nodi ysgolion nad ydyn nhw wedi bod yn y sefyllfa ffodus honno.
Gallaf gadarnhau bod offer a dyfeisiau TG newydd yn cael eu hanfon i ysgolion yn rheolaidd ac, erbyn mis Chwefror, rhagwelwn y byddwn wedi darparu 133,000 o ddarnau newydd o offer i ysgolion Cymru i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Yn anffodus, mae pawb yn ddiwahân yn ceisio cael gafael ar offer TG ar hyn o bryd, ac rwy'n cydnabod y bu rhywfaint o oedi wrth ddarparu archebion rhai ysgolion, ond rydym ni yn gweithio, cyn gynted ag y gallwn ni, i fynd i'r afael â hynny, ac, fel y dywedais, erbyn mis Chwefror, rwy'n ffyddiog y byddwn ni wedi gallu dod o hyd i 133,000 o ddyfeisiau ychwanegol i ysgolion i sicrhau, lle mae'n rhaid i ni, yn anffodus, wneud y penderfyniadau hyn, y gall disgyblion barhau i ddysgu.
A gaf i ofyn i'r Gweinidog ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Wrth gwrs. O ran ysgolion cynradd, mae'n rhaid i ni gydnabod—mae'n rhaid i mi gydnabod—mai cyrff llywodraethu unigol sy'n gyfrifol am ysgolion cynradd, wedi'u cynghori gan eu hawdurdodau lleol. Mae cyngor Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y dylai addysg gynradd barhau hyd at ddiwedd y tymor, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl athrawon sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y tymor academaidd hwn. Mae wedi bod yn affwysol o heriol ac yn anodd, ac rwy'n ddiolchgar am eu hymdrechion. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn bleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 10 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg i gynnig y cynnig, Eluned Morgan.
Cynnig NDM7509 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau cyflwyno'r cynnig. Mae'r rheoliadau hyn ŷn ni'n trafod heddiw yn gwneud newidiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth ddomestig sy'n berthnasol yng Nghymru ar hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a hefyd ar safonau, cyfansoddiad a labeli bwyd. Mae yna dri prif bwrpas i'r newidiadau hyn: yn gyntaf, sicrhau bod ystod o ddarpariaethau yn neddfwriaeth ddomestig Cymru yn adlewyrchu protocol Gogledd Iwerddon; yn ail, cywiro diffygion sy'n weddill sy'n deillio o'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd; ac yn drydydd, cyfrif am unrhyw newidiadau diweddar a wnaed i gyfraith yr Undeb Ewropeaidd ŷn ni eisiau cadw.
Bydd hyn yn sicrhau bod rhwymedigaethau Cymru o dan brotocol Gogledd Iwerddon yn cael eu cyflawni, a hefyd bod deddfwriaeth Cymru sy'n gweithredu nawr a'r gyfraith uniongyrchol o'r Undeb Ewropeaidd ŷn ni eisiau ei chadw yn parhau i weithio'n effeithiol yn dilyn diwedd y cyfnod pontio. Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw cynnal safonau uchel o ran diogelwch bwyd a diogelu defnyddwyr, a ni'n mwynhau yn y wlad yma safonau uchel iawn. Felly, dwi eisiau bod yn glir, dyw'r offeryn hwn ŷn ni'n ei gyflwyno heddiw ddim am lacio ar y drefn gyfreithiol gadarn bresennol sydd gyda ni yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r newidiadau a gynigir gan y rheoliadau hyn yn angenrheidiol i sicrhau gweithrediad parhaus i'r llyfr statud yng Nghymru yn dilyn diwedd y cyfnod pontio ac yn darparu cyfnod pontio esmwyth i fusnesau.
Yn olaf, os cymeradwyir y rheoliadau hyn, bydd Rhan 1 a Rhan 2 y rheoliadau hyn yn dod i rym ar unwaith, cyn diwedd y cyfnod pontio, a bydd Rhannau 3 a 4 yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod pontio. Bydd y rheoliadau hyn yn cefnogi cyfnod pontio esmwyth i fusnesau, a byddant yn sicrhau bod y safonau uchel o ran bwyd a bwyd anifeiliaid a diogelu defnyddwyr rŷn ni'n eu mwynhau ar hyn o bryd yn cael eu cynnal i'r dyfodol. Diolch.
Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr yn y ddadl hon. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 11 ar ein hagenda yw Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig, Julie Morgan.
Cynnig NDM7508 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r offeryn yn gwneud diwygiadau pellach ac addasiadau trosiannol ychwanegol i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 er mwyn ystyried y cytundebau a wnaed rhwng y Deyrnas Unedig a chydffederasiwn y Swistir a gwledydd yr AAE-EFTA ar hawliau dinasyddion, ar ôl i'r DU ymadael â'r UE i'r graddau y mae'r cytundebau hynny'n ymwneud â chydnabyddiaeth gilyddol o gymwysterau proffesiynol a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol dros dro ac achlysurol yng Nghymru.
Mae angen y rheoliadau i ddiwygio Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 OS 2019/761 (Cy. 144), y prif reoliadau, cyn iddyn nhw ddod i rym ar ddiwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu i wneud darpariaeth drosiannol ychwanegol sy'n ofynnol o ganlyniad i gytundeb y Deyrnas Unedig â'r Swistir a gwledydd yr AEE-EFTA.
Mae'r diwygiadau a wneir gan y rheoliadau hyn yn adlewyrchu effaith newidiadau Llywodraeth y DU i'w deddfwriaeth gyfatebol. Maen nhw'n ychwanegu darpariaeth drosiannol ychwanegol at y prif reoliadau sy'n deillio o'r ddau gytundeb, y mae rhai ohonyn nhw'n effeithio ar bob un o bedair gwladwriaeth yr EFTA, megis cydweithredu gorfodol sy'n ofynnol gan reoleiddwyr.
Mae'r ddarpariaeth drosiannol ychwanegol sy'n deillio o gytundeb y Swistir yn cynnwys cyfnod estynedig i wneud cais am benderfyniad cydnabod o dan y rheolau cyn ymadael a chyfnod estynedig lle gall gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol barhau i ddibynnu ar y gydnabyddiaeth sydd i drefniadau cymwysterau proffesiynol yn y cyfnod cyn ymadael er mwyn darparu gwasanaethau dros dro ac achlysurol yng Nghymru. Mae'r rheoliadau hefyd yn cywiro mân wallau teipograffyddol yn y prif reoliadau. Diolch yn fawr.
Diolch. Unwaith eto, nid oes siaradwyr. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 12 yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7507 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r rheoliadau diwygio hyn yn effeithio ar dri darn o ddeddfwriaeth Cymru: Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018, Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organebau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, a Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019.
Mae Rhan 2 yn unioni diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a fyddai'n atal Gweinidogion Cymru rhag gallu cyflawni deddfwriaeth ymarferol ar iechyd planhigion. Os cânt eu cymeradwyo, llunnir y rheoliadau drwy arfer pwerau o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 i gywiro'r diffygion hyn. Mae'r diwygiadau o ran gweithredu a gynhwysir yn y rheoliadau hyn yn cyfrannu at greu un farchnad, sy'n cwmpasu Prydain Fawr a thiriogaethau dibynnol ar y Goron. Bydd yr UE yn dod yn drydedd wlad ac, o ganlyniad, yn destun rheolaethau mewnforio trydedd wlad. Bydd y polisi presennol o reolaethau iechyd planhigion sy'n seiliedig ar risg sy'n berthnasol o dan ddeddfwriaeth yr UE yn parhau. Fodd bynnag, bydd y gyfundrefn nawr yn canolbwyntio ar risgiau i Brydain Fawr yn hytrach na risgiau i'r UE. Bydd rheolaethau iechyd planhigion ar ddeunydd a fewnforir o drydydd gwledydd eraill yn parhau i gael eu defnyddio. Bydd rheolaethau mewnol hefyd yn parhau i fod yn berthnasol i symud nwyddau o fewn marchnad fewnol Prydain Fawr.
Mae Rhan 3 yn dirymu Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019, y mae elfennau ohonynt yn cywiro deddfwriaeth sydd wedi'i dirymu ers hynny. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfu, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn ac adrodd arnynt ddoe. Canfu ein hadroddiad ddau bwynt o ran rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3. Nododd ein pwynt cyntaf yr ymgynghorwyd â'r Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â'r rheoliadau hyn. Mae angen ymgynghori o'r fath o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ar gyfer rheoliadau ymadael â'r UE a ddaw i rym cyn diwedd y cyfnod gweithredu.
Nododd ein hail bwynt fod y rheoliadau'n amlinellu ac yn diwygio rheolau cymhleth ac astrus ar iechyd planhigion. Nid oeddem yn glir ynglŷn â'r rhesymeg y tu ôl i rai o'r newidiadau, yn enwedig newidiadau i ffioedd amrywiol. Croesawn ymateb defnyddiol y Gweinidog i'r pwynt adrodd hwn, sy'n nodi cefndir y newidiadau yn fanylach. Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried cynnwys y graddau hyn o fanylder mewn memoranda esboniadol yn y dyfodol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch i'r Cadeirydd, a hoffwn ddweud fy mod yn falch bod fy ymateb wedi helpu'r Aelodau gyda'r rheoliadau hyn, ac rwy'n cydnabod y sylw am y memorandwm esboniadol. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitem 13 ar ein hagenda ac eitem 14—eitem 13 yw'r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020, ac 14, Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020—eu cyfuno i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes.
Felly, galwaf ar Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Cynnig NDM7511 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.
Cynnig NDM7510 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2020.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynigion.
Mae dwy gyfres o reoliadau wedi'u hamserlennu i'w trafod. Y cyntaf yw Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020. Mae Rhan 2 o'r rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) 2011 i sicrhau eu bod yn gweithredu'n effeithiol unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE. Mae'r rheoliadau'n diwygio cyfeiriadau diangen at gyfreithiau a systemau'r UE na fyddant bellach yn berthnasol ar ddiwedd y cyfnod gweithredu. Mae angen y diwygiadau hyn er mwyn sicrhau system sy'n gweithio ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw, cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid, is-gynhyrchion anifeiliaid a phlasm cenhedlu gan gynnal bioddiogelwch, diogelu iechyd anifeiliaid a phobl a safonau lles anifeiliaid. Mae'r diwygiadau arfaethedig yn cynnal y drefn fewnforio bresennol ar ddiwedd y cyfnod gweithredu. Mae'r rheoliadau hefyd yn cyflwyno trefniadau trosiannol ar gyfer tiriogaethau penodedig drwy fewnosod Atodlen 5 newydd i reoliadau 2011 i gyflwyno rheolaethau swyddogol ar fewnforion o'r gwledydd hynny y mae mesurau trosiannol arbennig yn berthnasol iddynt. Mae Rhan 3 o'r offeryn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i offerynnau statudol eraill yn dilyn y diwygiadau a gynigir yn Rhan 2.
Gan droi at Reoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol ac ati) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020, mae Rhannau 2 i 5 yn diwygio deddfwriaeth yr UE a ddargedwir, deddfwriaeth Cymru a domestig y DU, i sicrhau bod y cynllun taliadau sylfaenol yng Nghymru yn parhau ar gyfer blwyddyn hawlio 2021 a thu hwnt, cyn cyflwyno cymorth amaethyddol newydd yn seiliedig ar reoli tir yn gynaliadwy.
Mae'r darpariaethau'n sefydlu fframwaith deddfwriaethol symlach yn seiliedig ar gyfraith yr UE a ddargedwir. Bydd y newidiadau hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru barhau i gefnogi cystadleurwydd ffermio a chynhyrchu bwyd, wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd, gan wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth a sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid a diogelu adnoddau naturiol. Ymhlith diwygiadau eraill, mae'r rheoliadau'n caniatáu gweithredu arferion gwyrddu drwy drawsgydymffurfio, gyda'r terfyn gwyrddu uchaf yn cael ei ychwanegu at gyfanswm terfyn uchaf y cynllun taliad sylfaenol. Mae'r rheoliadau'n diwygio'r broses o bennu terfynau ariannol y cynllun taliad sylfaenol, a bydd Gweinidogion Cymru yn pennu ac yn cyhoeddi'r uchafswm bob blwyddyn. Mae'r rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau gweinyddol i'r cynllun taliad sylfaenol er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol ac yn effeithlon.
Mae Rhan 6 yn cywiro mân wallau yng nghytundebau ymadael statudol presennol yr UE er mwyn sicrhau bod y darpariaethau'n dod i rym fel y rhagwelwyd. Ers cyflwyno'r rheoliadau, rydym ni wedi dod yn ymwybodol bod angen mân newid i droednodyn na fydd yn cael unrhyw effaith ar y rheoliadau eu hunain, a, chan dybio y caiff y rheoliadau eu pasio, gwneir y newid hwn cyn gwneud y rheoliadau. Diolch.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfu, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch ichi eto, Dirprwy Lywydd. Cawsom y pleser o ystyried y ddwy gyfres o reoliadau yn ein cyfarfod fore ddoe, ac mae ein hadroddiadau wedi'u cyflwyno gerbron y Senedd i gynorthwyo'r ddadl heddiw. Os caf i, fe wnaf i ymdrin â'r fasnach mewn anifeiliaid a rheoliadau cynhyrchion cysylltiedig yn gyntaf oll. Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys un pwynt adrodd technegol, a dau bwynt adrodd o ran rhinweddau. O ran y pwynt adrodd technegol, gofynnwyd am esboniad pellach gan y Llywodraeth ynghylch pam, yn ein barn ni, mae gwelliant diangen yn cael ei wneud i Reoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) 2011. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â ni fod y gwelliant yn ddiangen. Mae hi'n nodi y bydd yn cymryd camau i gywiro hyn ar y cyfle addas nesaf.
Mae ein pwynt cyntaf o ran rhinweddau yn ymwneud â Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â Llywodraeth y DU ynghylch anghysondeb posib â rheolau'r UE o ran lles anifeiliaid, er nad oes fframwaith cytunedig rhwng Llywodraeth y DU a'r holl weinyddiaethau datganoledig. Nododd ein hail bwynt o ran rhinweddau yr ymgynghorwyd â'r Ysgrifennydd Gwladol yn unol â'r gofyniad ym mharagraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Gan droi'n awr at y rheoliadau ynghylch materion gwledig a thaliadau uniongyrchol i ffermwyr, roedd ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys dau bwynt adrodd technegol ac un pwynt o ran rhinweddau. O ran y pwynt adrodd technegol cyntaf, mae'r rheoliadau'n gwneud nifer o ddiwygiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir, gan gynnwys hepgor darpariaethau a gynhwysir yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i'r graddau y maent yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol. Er bod darpariaethau penodol wedi'u hepgor, mae cyfeiriad at rai o'r darpariaethau hynny a hepgorwyd yn parhau yng nghyfraith yr UE a ddargedwir. Mae Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i'n hadroddiad, yn nodi y caiff y camgymeriad ei gywiro.
Nododd ein hail bwynt technegol, y pwynt adrodd, ei bod hi'n ymddangos bod y drafftio'n ddiffygiol gan fod y rheoliadau i bob golwg yn hepgor erthygl o reoliad UE sydd eisoes wedi'i ddileu gan reoliadau cynharach. Yn ei hymateb i'n hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â'n hasesiad ac wedi cadarnhau nad oes unrhyw effaith gyfreithiol i'r hepgoriad gwallus. Pe cai offeryn addas ei ddatblygu, byddai Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle i ddiwygio'r rheoliadau hyn.
Mae ein hunig bwynt o ran rhinweddau yn ymwneud â'r cod ymarfer ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol. Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi:
'nad yw’r diwygiadau hyn yn gwneud newidiadau sylfaenol i’r trefniadau cyllid presennol ar gyfer cymorth amaethyddol ac na fyddant yn cael effaith sylweddol ar y sector cyhoeddus
na’r sector preifat, ar elusennau na sectorau gwirfoddol.'
Fodd bynnag, mae'r memorandwm esboniadol hefyd yn esbonio bod y rheoliadau hyn
'symleiddio dull gweinyddu’r cynllun',
'dileu neu leihau’r beichiau ar bersonau sy’n gwneud cais am daliadau uniongyrchol o dan y cynllun',
'gwella’r ffordd y mae’r cynllun yn gweithredu'
a
'sicrhau bod sancsiynau a chosbau a osodir o dan y cynllun yn briodol a chymesur'.
Er y byddai'n ymddangos bod eithriad mewn cysylltiad â diwygiadau technegol neu ffeithiol o dan y cod ymarfer yn berthnasol i rai o'r diwygiadau a wnaed gan y rheoliadau hyn, mae'n ymddangos bod darpariaethau eraill yn cyfrif mwy na diwygiadau rheolaidd neu ffeithiol. Felly, mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod o'r farn bod y newidiadau yn ddiwygiadau technegol rheolaidd i weithrediad y cynllun.
Dyna ddiwedd yr adroddiad, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr eraill, felly galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Unwaith eto, diolchaf i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am eu hystyriaeth a'u sylwadau, a chadarnhaf y gwneir y newidiadau angenrheidiol i ymdrin â'r pwyntiau technegol a amlygwyd ar y cyfle addas nesaf. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 13. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Unwaith eto, y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 14. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 15 ar ein hagenda y prynhawn yma yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig y cynnig—Jeremy Miles.
Cynnig NDM7506 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru eisiau cymryd pob cam i sicrhau y bydd etholiadau'r Senedd yn cymryd lle ym mis Mai flwyddyn nesaf, er gwaethaf y sialensau parhaol sy'n codi yn sgil y pandemig COVID. Dyna pam rŷn ni'n mynd yn ein blaenau i gyflwyno deddfwriaeth alluogi ar gyfer yr etholiad hwnnw.
Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) yw'r cam nesaf yn y broses honno. Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 yn nodi rheolau manwl ar gyfer cynnal etholiadau i'r Senedd, ac mae'n cynnwys darpariaeth ar gyfer her gyfreithiol. Cyn pob etholiad yn y Senedd, caiff y Gorchymyn cynnal etholiadau ei adolygu a'i ddiwygio i ystyried unrhyw newid polisi neu ddeddfwriaethol ers yr etholiad diwethaf. Mae Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 yn amlinellu diwygiadau i Orchymyn 2007 yn barod ar gyfer etholiad cyffredinol y Senedd y flwyddyn nesaf.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfu, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y Gorchymyn hwn, ac am eu hadroddiad dilynol. Cafodd y Gorchymyn ei dynnu'n ôl a'i ailgyflwyno mewn ymateb i'r pwyntiau technegol a amlygwyd gan y pwyllgor. Rwy'n ddiolchgar am eu hystyriaeth brydlon, a oedd yn caniatáu i ni barhau i fodloni ein hamserlen.
Roedd y diwygiadau i'r Gorchymyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos, ac rydym ni wedi gweithio'n agos arnynt gyda'r Comisiwn Etholiadol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Medi eleni. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, gweithredu newidiadau sy'n codi o ganlyniad i newid enw'r ddeddfwrfa ac ymestyn y darpariaethau yn ymwneud ag ehangu'r etholfraint ac anghymhwyso a gyflwynwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Roedd hefyd yn cynnig rhoi'r dewis i ymgeiswyr beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref yn etholiadau'r Senedd. Yn ogystal â'r darpariaethau hyn, fe wnaethom ni newidiadau pellach yn dilyn yr ymgynghoriad. Roedd y rhain yn caniatáu i bleidiau gwleidyddol ddefnyddio'r term 'Cymreig' neu 'Cymru' ar bapurau enwebu a phleidlais, gan ddisodli ffioedd personol ar gyfer swyddogion canlyniadau gyda thaliadau i dimau gweinyddu etholiadol, a sicrhau y diogelir gwybodaeth am y rheini sy'n cyrraedd 14 a 15 oed. Cymeradwyaf y Gorchymyn i'r Senedd.
Diolch. Nid oes gennyf Aelodau sy'n dymuno siarad yn y ddadl hon. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad, felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Byddwn nawr yn atal trafodion ar gyfer newid yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon ac fe gaiff y gloch ei chanu ddwy funud cyn ailgychwyn y trafodion. Diolch.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:00.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:13, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 3 a 4 yn enwau Gareth Bennett a Mark Reckless, gwelliant 6 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 7 a 9 yn enw Siân Gwenllian. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1, 2, 5 ac 8 a gyflwynwyd i’r cynnig.
Rydym yn ailymgynnull ar eitem 17, sy'n ddadl ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NNDM7523 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2020 ynghylch lefelau newydd o gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Wrth i ni, fel Senedd, baratoi i ymadael am y Nadolig, rydyn ni'n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn o ran lledaeniad coronafeirws yng Nghymru.
Wythnos yn ôl, roeddem ni'n trafod a ddylai'r Llywodraeth osod cyfyngiadau ar fusnesau lletygarwch yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion. Erbyn hyn, mae'r twf wedi cynyddu'n helaeth. Rydym wedi cymryd camau pellach, gan gynnwys cyhoeddi’r cynllun rheoli newydd sydd gerbron y Senedd heddiw. Rydym hefyd yn wynebu straen newydd o’r feirws, sydd wedi ymddangos yng Nghymru. Byddwn yn cadw llygaid gofalus ar hyn yn y dyddiau i ddod ac yn diweddaru’r Senedd pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.
Dirprwy Lywydd, mae'r ffigurau'n ddeunydd darllen llwm yr wythnos Nadolig hon. Cadarnhawyd dros 30,000 o achosion yn ystod y saith diwrnod diwethaf, ac roedd un o bob pum prawf a gynhaliwyd yng Nghymru yn gadarnhaol. Mewn rhai rhannau o'r de, rydym yn gweld cyfraddau sylweddol iawn o'r haint—sy'n fwy nag unrhyw beth yr ydym ni wedi'i brofi eleni.
Rydym ni wedi pasio dwy garreg filltir ddigalon arall yn ein pandemig yn y dyddiau diwethaf. Mae dros 100,000 o bobl bellach wedi profi'n bositif am y coronafeirws yng Nghymru eleni. Ddydd Gwener, roedd mwy na 2,000 o bobl yn ein hysbytai oherwydd y coronafeirws. Heddiw, mae hynny wedi codi hyd yn oed yn uwch, i fwy na 2,100, ac erbyn hyn, mae gennym ni fwy na 90 o bobl â'r coronafeirws arnyn nhw mewn gofal dwys—y nifer mwyaf yr ydym ni wedi'i weld yn yr ail don hon. Mae'r coronafeirws yn gyffredin ac wedi ymwreiddio yn ein cymunedau. Mae'n effeithio ar y ffordd arferol o redeg llawer o'r gwasanaethau yr ydym ni yn eu cymryd yn ganiataol, wrth i fwy o bobl fynd yn sâl neu hunanynysu sydd felly yn golygu nad ydyn nhw ar gael i ymgymryd â'u dyletswyddau. Mae hynny i gyd, fel y gwyddoch chi, yn rhoi straen enfawr ar wasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol rheng flaen.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gymryd camau pellach i ddiogelu iechyd pobl ac i gefnogi ein gwasanaeth iechyd. Mae myfyrwyr ysgol uwchradd a choleg yn cael eu haddysgu o bell yn ystod yr wythnos olaf hon o'r tymor. Os bydd yn rhaid i ysgolion cynradd gau am unrhyw reswm yr wythnos hon, bydd darpariaeth ar gael i blant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol. Mae atyniadau awyr agored wedi'u cau, ac mae'r GIG bellach yn gorfod gohirio rhai apwyntiadau llawdriniaeth ac apwyntiadau cleifion allanol er mwyn ysgafnhau'r pwysau ac ymateb i brinder staff.
Nid yw Cymru'n unigryw wrth wynebu ymchwydd cynyddol o'r haint. Rydym yn gweld patrymau tebyg ledled y byd. Mae'r Almaen a'r Iseldiroedd wedi cyflwyno cyfyngiadau symud newydd ledled y wlad wrth i'r coronafeirws ymchwyddo yn y gwledydd hynny. Ddoe, rhoddodd Llywodraeth y DU Lundain a rhannau helaeth o dde-ddwyrain Lloegr yn yr haen uchaf o gyfyngiadau. Yng Ngogledd Iwerddon, mae Gweinidogion yn rhybuddio am drydydd cyfnod o gyfyngiadau symud ar ôl y Nadolig.
Ddoe, yma yng Nghymru, cyhoeddwyd ein cynllun rheoli'r coronafeirws wedi'i ddiweddaru. Mae hwn yn diweddaru ein cynllun goleuadau traffig gwreiddiol, a gyhoeddwyd ym mis Mai, ac roedd hwnnw wrth gwrs, yn gyfnod mwy cadarnhaol, pan roeddem yn dod allan o'r cyfyngiadau symud. Roedd achosion o'r coronafeirws yn lleihau, ac roeddem yn gallu llacio ein cyfyngiadau—yn raddol. Mae'r cynllun newydd yn diweddaru'r fframwaith ar gyfer cyfyngiadau lleol, a gyhoeddwyd yn yr haf gan ein harwain ni drwy'r rhan gyntaf o'r hydref. Mae'r cynllun yn nodi pedair lefel rhybudd, sy'n cyd-fynd â lefel y risg ac sy'n amlinellu'r mesurau sydd eu hangen ar bob lefel i reoli lledaeniad y feirws ac i ddiogelu iechyd pobl.
Bydd cyhoeddi'r cynllun hwn nawr yn rhoi eglurder i bobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau ynglŷn â sut yr ydym ni'n symud drwy'r lefelau rhybudd, ac yn eu helpu i gynllunio wrth i ni symud i'r flwyddyn newydd a thrwy rai wythnosau anodd i ddod. Rydym ni, yn ôl yr arfer, wedi tynnu ar arbenigedd Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau, ac ar ein grŵp cynghori technegol ein hunain. Drwy eu gwaith nhw rydym ni wedi nodi'r ymyraethau sy'n gweithio, gan fanteisio ar yr hyn yr ydym ni i gyd wedi'i ddysgu yn ystod y pandemig. Mae ein grŵp cynghori technegol wedi dweud wrthym ni mai dull cenedlaethol o ymdrin â chyfyngiadau sydd fwyaf tebygol o gael ei ddeall, ac felly bod yn effeithiol. Ond, os oes tystiolaeth glir o amrywiad parhaus rhwng rhai rhannau o Gymru a rhannau eraill, mae'r cynllun rheoli yn caniatáu i'r lefelau rhybudd a'r lefelau cyfatebol gael eu cymhwyso'n rhanbarthol.
Heddiw, ledled Cymru, rydym ni ar lefel rhybudd 3. Mae'r golau traffig yn goch. Mae'r risg yn uchel iawn. Dirprwy Lywydd, dywedais yr wythnos diwethaf, pe na bai pethau'n gwella, byddai symud i gyfyngiadau lefel 4 yn anochel. Ers hynny, ymhell o wella, mae'r sefyllfa wedi dirywio, ac mae'r pwysau ar ein GIG a'n gofal cymdeithasol wedi cynyddu. O ddifrif, dywedaf wrth yr Aelodau na ellir gohirio penderfyniad ar gyfyngiadau pellach am lawer mwy o amser. Nawr, byddwn yn adolygu'r rheoliadau'n fanwl yr wythnos hon. Yn rhan o hynny, byddwn yn edrych ar yr amcanestyniadau ar gyfer cyfnod y Nadolig a'r hyn y mae angen i ni ei wneud i sicrhau y gallwn ni gadw Cymru'n ddiogel.
Gan droi'n fyr at y gwelliannau, Dirprwy Lywydd, bydd y ddau welliant gan Gareth Bennett yn cael eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi nodi'r prynhawn yma, ac yn gynharach yn y Senedd, pam mae'r lefelau rhybudd yn gwbl gymesur. Ni fydd Llywodraeth Cymru ychwaith yn gallu cefnogi'r gwelliant yn enw Siân Gwenllian mewn cysylltiad â chymorth ynysu. Mae angen inni ystyried yn ofalus beth fyddai ffurf system o wahanol gyfyngiadau ar gyfer rhanbarthau Cymru. Ond byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru sy'n ymdrin ag ailagor yn ddiogel. Mae fy swyddogion yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn sgyrsiau manwl gyda'r sectorau hyn. Ac yn olaf, mae'r gwelliant gan y Ceidwadwyr Cymreig yn gyson â'r cynllun gweithredu COVID wedi'i ddiweddaru, felly bydd hefyd yn cael ei gefnogi y prynhawn yma gan y Llywodraeth.
Dirprwy Lywydd, rwyf wedi dweud droeon fod y pandemig wedi troi ein bywydau ni i gyd wyneb i waered. Dyma fu un o'r blynyddoedd anoddaf i ni i gyd. Mae'r addewid o flwyddyn well o'n blaenau ar y gorwel, wrth i'r brechlyn fod ar gael yn ehangach yn raddol. Yn ystod yr wythnos gyntaf yn unig, mae dros 6,000 o bobl ledled Cymru wedi cael eu dos cyntaf, ac yfory, bydd preswylwyr cyntaf cartrefi gofal yng Nghymru yn cael y brechiad. Ond er bod hynny i gyd yn digwydd, rhaid inni fyw drwy rai wythnosau anodd iawn sydd o'n blaenau, a dim ond os byddwn yn gweithio gyda'n gilydd y gallwn ni wneud hynny. Mae gwahaniaeth yn cael ei wneud wrth gronni'r holl newidiadau bach hynny y mae angen i bob un ohonom ni eu gwneud yn ein bywyd bob dydd. Llywodraeth yw hon sy'n benderfynol o gadw Cymru'n ddiogel. Gyda'n gilydd gallwn newid cwrs y feirws ofnadwy hwn, diogelu ein gwasanaeth iechyd ac achub bywydau pobl. Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol pum gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Gareth Bennett i gynnig gwelliannau 3 a 4, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.
Gwelliant 3—Gareth Bennett, Mark Reckless
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod lefelau newydd y cyfyngiadau’n anghymesur ac yn niweidiol i fusnesau a bywoliaethau ar draws Cymru.
Gwelliant 4—Gareth Bennett, Mark Reckless
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn strategaeth COVID-19 wahanol i un Llywodraeth y DU.
Cynigiwyd gwelliannau 3 a 4.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Prif Weinidog am gyflwyno dadl heddiw. Rwyf mewn gwirionedd yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r teimladau y mae newydd eu mynegi.
Credaf fod pawb yn y Siambr hon yn gwerthfawrogi ein bod yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus ac nad oes neb eisiau bychanu'r sefyllfa honno. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi bod Llywodraethau gwledydd ledled y byd, yn ystod yr argyfwng hwn, yn ei chael hi'n anodd ymdrin â'r pandemig ac yn rheoli'r sefyllfa gyda gwahanol raddau o lwyddiant. Ac, gan fod bywyd dynol yn y fantol, rydym ni i gyd eisiau gweld cefn yr argyfwng cyn gynted â phosib, gyda chyn lleied o golli bywydau â phosib, er bod yn rhaid inni gydbwyso'r canlyniadau economaidd hirdymor hefyd, oherwydd gallant hefyd fod yn niweidiol i fywyd neu fe allant newid bywyd.
Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog, a wnaeth ei sylwadau agoriadol yn gwrtais iawn, mi gredaf, a oedd yn addo, gobeithio, ddadl dda—a gaf i ofyn iddo fod yn rhesymol wrth iddo ymdrin â'r wrthblaid yn y cyfnod hwn? Rhaid inni gael fforwm democrataidd i drafod mesurau ei Lywodraeth yn gadarn, ac nid ydym eisiau cael ein galw'n 'warthus' na dim byd o'r fath, dim ond oherwydd nad ydym ni bob amser yn cytuno â'i fesurau. Felly, rwy'n diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl heddiw, ond gan eu bod bellach wedi'i chyflwyno, gobeithio y gallant chwarae yn ôl y rheolau a derbyn nad oes rhaid inni gytuno â nhw drwy'r amser. Sylwaf hefyd, pan ofynnodd Caroline Jones, yn gynharach heddiw, i'r Prif Weinidog am rannu'r cyngor gwyddonol, ei fod wedi osgoi ateb y rhan honno o'i chwestiwn. Mae'n ymddangos i mi fod y Prif Weinidog eisiau bod yn bwerus a holl wybodus, gan wrthod rhannu'r holl gyngor technegol y mae wedi'i gael, ond ar yr un pryd yn dweud wrth bawb arall na allwn ni gwestiynu'r hyn y mae'n ei wneud gan nad ydym ni'n gwybod beth yw'r holl bethau y mae'n eu gwneud.
Nawr, soniais am ganlyniadau economaidd hirdymor—rhaid eu cadw mewn cof—ac rydym ni ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru o'r farn bod y penderfyniad i atal tafarndai a bwytai rhag gweini alcohol yn anghymesur ac y gallai olygu'r diwedd i lawer o fusnesau. Felly, gallai pobl yng Nghymru fod yn dioddef canlyniadau penderfyniadau Llywodraeth Cymru ymhell ar ôl i'r pandemig hwn ddod i ben. Rydym ni eisoes yn gweld effeithiau yng Nghymru o ran diweithdra cynyddol, ond nid yn unig y mae Cymru eisoes wedi dioddef y cynnydd mwyaf mewn diweithdra, rydym ni hefyd yn profi'r cynnydd mwyaf mewn cyfraddau heintio. Felly, mae'n ymddangos i mi ein bod yn cael y gwaethaf o bob byd yma yng Nghymru ddatganoledig: mae gennym ni'r mesurau cyfyngiadau symud llymaf, ond mae gennym ni hefyd argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n ymddangos fel pe bai'n gwaethygu. Nid yw'n syndod bod ffydd y cyhoedd yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r argyfwng yn plymio, gyda gostyngiad o tua 20 pwynt canran.
Rydym ni yn y Blaid Ddiddymu wedi dweud o'r cychwyn cyntaf fod angen ateb arnom ni gan y DU yn ei chyfanrwydd i'r pandemig, dan arweiniad Llywodraeth y DU. Dywedais yn y ddadl yr wythnos diwethaf fod llawer o bobl wedi dweud wrthyf eu bod yn credu bod Prif Weinidog Cymru wedi defnyddio'r argyfwng hwn, yn rhannol, i geisio amlygu'r gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae ef yn ei wneud, a'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, mewn ymgais i ennill mwy o sylw a chefnogaeth gan y cyhoedd i ddatganoli. Credaf y bu hon yn strategaeth ffôl, a bydd mwy o broblemau yn ein hwynebu o'r herwydd. Rydym yn dal i gael problemau, yn union felly oherwydd ei benderfyniad i gael ymagwedd unigryw Gymreig tuag at y feirws. Waeth beth y mae'n ei ddweud am y lefelau rhybudd, mae gan Loegr wahanol ardaloedd mewn gwahanol haenau, sy'n gwneud rhywfaint o synnwyr. Fel y dywedais, er gwaethaf y lefelau rhybudd, yma yng Nghymru, mae'r Prif Weinidog eisiau trin Cymru gyfan fel un uned o hyd, felly os bydd rhaid i un rhan o Gymru gael cyfyngiadau symud, yna felly hefyd Cymru gyfan. Mae'n amlwg nad yw hyn yn gwneud fawr o synnwyr mewn lleoedd fel Gwynedd ac Ynys Môn lle mae'r cyfraddau heintio yn gymharol isel, ond oherwydd eu bod yng Nghymru, mae'n rhaid eu trin yr un fath â phob rhan arall o Gymru. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddim mwy na nonsens gwleidyddol, a bron dim byd i wneud ag iechyd y cyhoedd.
Felly, rydym yn gwrthwynebu cynnig y Llywodraeth heddiw. Credwn fod y lefelau newydd o gyfyngiadau yn anghymesur ac yn rhy niweidiol i fusnesau ac i fywoliaeth pobl ledled Cymru, ac rydym yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn dal i arddel safbwynt gwahanol i Lywodraeth y DU. Yr hyn yr ydym ni eisiau yw ymateb unedig yn y DU gyda mwy o gydweithredu â Llywodraeth y DU. Rydym ni hefyd yn cefnogi gwelliannau 7 a 9 y Blaid heddiw. Anogaf yr Aelodau heddiw i gefnogi'r gwelliannau hyn, a chynigiaf drwy hyn y ddau gynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 6, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 6—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru sy'n caniatáu ar gyfer rhoi cyfyngiadau ar waith ar lefel ranbarthol a lleol mewn ymateb i'r dystiolaeth wyddonol a'r gwahaniaethau o ran lefelau heintio coronafeirws mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Cynigiwyd gwelliant 6.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Rwy'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein gwelliant y prynhawn yma.
Mae'n destun pryder mawr gweld bod achosion yng Nghymru yn parhau i gynyddu, ac felly rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r ddadl hon ac wedi cyhoeddi cynllun rheoli ar gyfer y coronafeirws, fel y gall cymunedau a busnesau ddeall y mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn croesawu cynigion Llywodraeth Cymru i ddefnyddio lefelau fel meincnod i sicrhau diogelwch cyhoeddus Cymru, a chroesawaf y ffaith fod y Prif Weinidog wedi cadarnhau, pan fo'n briodol, y gellid amrywio'r lefelau rhybudd hyn mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru wrth fabwysiadu dull gweithredu wedi'i dargedu'n well, yn hytrach na dim ond dull gweithredu sy'n addas i bawb.
Dirprwy Lywydd, mae hefyd yn bwysig bod gan bobl Cymru ffydd yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â phandemig y coronafeirws wrth fwrw ymlaen, ac felly mae cyhoeddi'r ddogfen hon i'w groesawu'n fawr gan ei bod yn egluro prosesau gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru i'r cyhoedd. Nawr, wrth gwrs, dangosodd arolwg barn diweddar gan YouGov fod gan lai o bobl ffydd yn strategaeth gyffredinol y Llywodraeth wrth reoli'r pandemig, ac mae'n hanfodol bod gan y cyhoedd ffydd yn y penderfyniadau a wneir ar eu rhan. Mae'r arolwg barn hwn yn dangos pwysigrwydd ymgysylltu â phobl Cymru a chyfathrebu'n glir, er mwyn i bobl deall yn union pam y mae'n rhaid gweithredu.
Nawr, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y ffaith bod yna frechlyn, ac mae'n gam cadarnhaol iawn i weld byrddau iechyd yng Nghymru yn rhoi brechlynnau i grwpiau blaenoriaeth fel gweithwyr rheng flaen y GIG. Mae darparu'r brechlyn hwnnw a brechu pobl yn gwbl hanfodol i ddileu COVID-19 o'n cymunedau, ac wrth i ni weld mwy a mwy o bobl ledled Cymru yn cael eu brechu, bydd hynny hefyd yn effeithio ar ffydd pobl ac ar lefel y mesurau a allai fod ar waith. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, mae'r ffigurau presennol yn llwm. Cymru sydd â'r gyfradd heintio uchaf yn y DU, ac mae wyth o'r 10 ardal heintiedig waethaf yn y DU yma yng Nghymru, a'r tair ardal uchaf yw Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Felly, rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle mae'n rhaid i ni gydnabod nad yw'r ymyrraeth bresennol yn rhwystro trosglwyddiad y feirws.
Wrth gwrs, wrth i nifer yr achosion gynyddu, mae'r pwysau ar gapasiti ac adnoddau'r GIG hefyd yn cynyddu, ac, fel y gwelsom ni, mae byrddau iechyd mewn rhai rhannau o Gymru o dan bwysau sylweddol ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Fel y cyfeiriwyd ato'n gynharach, gwyddom fod dros 2,000 o welyau yng Nghymru yn cael eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19, ac mae un o bob 10 aelod o staff y GIG yn sâl neu'n hunanynysu ar hyn o bryd, sydd hefyd yn effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi gweld dau fwrdd iechyd yn atal gwasanaethau a thriniaethau nad ydyn nhw'n rhai brys yn dilyn y cynnydd yn lledaeniad COVID-19 a'r galw arferol yn y gaeaf am ofal brys. Ac ar ben hynny i gyd, mae'r gyfradd achosion a gadarnhawyd yn sylweddol fwy na 300 o achosion fesul 100,000 o bobl. Felly, yng ngoleuni'r holl weithgarwch hwn a phwysau ar wasanaethau'r GIG, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym ni nawr pryd y mae'n bwriadu gwneud penderfyniadau pellach ynglŷn â'r camau nesaf y mae angen iddi eu cymryd i ymladd y feirws hwn. Yr hyn sydd ei angen ar unigolion, teuluoedd a busnesau nawr yw sicrwydd wrth symud ymlaen, felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ynghylch y camau nesaf i atal y feirws cyn gynted â phosib, oherwydd mae angen i bobl, busnesau a'n gweithwyr rheng flaen wybod beth sy'n digwydd cyn gynted â phosib fel y gallant gynllunio at y dyfodol.
Dirprwy Lywydd, nid ein gwasanaethau iechyd ni yn unig sy'n wynebu trafferthion, mae ein busnesau ni hefyd. Mae ffigurau heddiw wedi cadarnhau mai Cymru a brofodd y cynnydd mwyaf serth mewn diweithdra rhwng mis Awst a mis Hydref o unrhyw genedl neu ranbarth yn y DU, ac mae hynny wir yn dangos sut y mae'r pandemig wedi effeithio ar fywoliaeth. Ni fydd y ffigur hwnnw ond yn tyfu os cyflwynir cyfyngiadau pellach, ac nid ydym yn gweld y darlun cyfan yn llwyr gan fod cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU wedi parhau i gadw pobl ar y gyflogres, ac felly dim ond ychydig fisoedd ar ôl i'r cynllun hwnnw ddod i ben y byddwn ni'n gallu gweld, yn anffodus, faint o swyddi a gollwyd ledled Cymru. Yn y cyfamser, mae busnesau'n ei chael hi'n anodd goroesi, ac mae'n gwbl hanfodol eu bod yn gallu cael gafael ar gyllid cyn mis Ionawr, gan fod yr wythnosau rhwng nawr a hynny heb gymorth yn amser rhy hir i fusnesau aros.
Nawr, rwy'n croesawu'r newyddion y bydd y lluosydd ardrethi annomestig yn cael ei rewi ar gyfer 2021-22, ond gadewch inni gofio bod gan Gymru'r gyfradd uchaf o ardrethi busnes ym Mhrydain Fawr o hyd, felly nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru nid yn unig i rewi ardrethi busnes, ond i fynd ymhellach a gwneud mwy i gefnogi busnesau sy'n parhau i frwydro yn erbyn cefndir pandemig COVID. Wrth gwrs, yn sail i'r cynllun hwn i reoli'r coronafeirws mae'r angen am becyn cymorth ariannol cryf, fel y gall y cyhoedd, pan fydd Cymru'n symud rhwng lefelau rhybudd yn y cynllun, fod yn ffyddiog bod gan Lywodraeth Cymru gyllid ar gael i gefnogi'r bobl a'r busnesau hynny sydd ei angen. Mae hyn yn gwbl hanfodol.
Dirprwy Lywydd, rydym ni i gyd eisiau gweld cefn y feirws ofnadwy hwn, a defnyddio'r brechlyn yw dechrau'r daith honno, ond mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd. Bydd fy nghydweithwyr a minnau'n gwneud yr hyn a allwn ni i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru lle y gallwn ni, a lle mae angen gofyn cwestiynau a lle mae angen rhagor o dystiolaeth, byddwn yn parhau i holi. Nawr yw'r amser ar gyfer gweithio trawsbleidiol gwirioneddol i achub bywydau a diogelu bywoliaethau, felly, croesawaf gyhoeddi cynllun rheoli'r coronafeirws, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn dweud yn glir wrth bobl Cymru pryd a sut yn union y mae'n bwriadu atal nifer yr achosion yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o'r manylion hynny yn y dyddiau nesaf ac yn yr wythnosau nesaf. Diolch.
Diolch. Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliannau 7 a 9, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 7—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am sicrhau bod cyfyngiadau a chymorth ynysu yn adlewyrchu, cymaint â phosibl, y gwahanol lefelau parhaus o haint mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru.
Gwelliant 9—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.
Cynigiwyd gwelliannau 7 a 9.
Diolch. Rwy'n falch o gynnig y gwelliannau hynny ac ymateb i'r ddadl. Rwy'n credu bod croeso i'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu'r cynllun hwn. Fe wnaethom ni alw am gynllun gaeaf, ac mae'n bwysig ei fod yn cael ei ddeall yn glir, ac, wrth gwrs, mae angen ei addasu, oherwydd natur ddeinamig barhaus y pandemig. Yn ogystal â chael y strategaeth dymor canolig honno, sy'n gwbl hanfodol o ran ffydd y cyhoedd, credaf mai'r cwestiwn allweddol nawr yw: beth ydym ni'n mynd i'w wneud y foment hon? Clywsom y Prif Weinidog yn cyfeirio at y darlun presennol fel un llwm, sydd, yn fy marn i, yn asesiad cywir, a chyfeiriodd at yr angen i ystyried gweithredu heb oedi pellach.
Y cwestiwn, mae'n debyg, sydd flaenau ym meddyliau llawer ohonom ni, meddyliau ein dinasyddion, mewn gwirionedd, yw: a allwn ni fforddio aros tan yr wythfed ar hugain pan ddaw'r system haenau newydd hon i rym? Oherwydd mae'r sefyllfa bresennol yn gwaethygu'n gyflym. Mae edrych ar rywfaint o'r data ar gyfer heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu, yn amlwg, bod yr haint yn cynyddu. Rydym ni wedi gweld y ffigurau, rydym ni ar ben anghywir y tabl cynghrair o ran 15 o'r 20 ardal awdurdod lleol uchaf yn y DU o ran achosion dyddiol. Cyfradd y canlyniadau cadarnhaol yw'r un hollbwysig, ond mae hynny wedi bod yn cynyddu nawr ers 24 Tachwedd, a'r ffigur tristaf oll, wrth gwrs, yw bod marwolaethau ychwanegol yn fwy nag y buont dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae rhai meysydd o ansicrwydd, yn amlwg. Nid ydym yn gwybod beth fu effaith y mesurau a gyflwynwyd yn fwy diweddar, bydd hi'n beth amser cyn y gwyddom ni ganlyniad y rheini. Mae'r GIG wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith cynnal a chadw ar ei systemau TG, felly mae rhywfaint o ddiffyg eglurder ynglŷn â'r ffigurau achosion dyddiol. Mae'n debyg bod gan Lywodraeth Cymru well mynediad at y data nag sydd gennym ni, ond rwy'n credu ei bod yn sicr yn wir fod gennym ni gymaint o rannau o Gymru sy'n uwch na'r holl feini prawf ar gyfer y lefel uchaf, y meini prawf risg uchel iawn yn y cynllun, ac yn sicr y cwestiwn yw: pam na wnawn ni felly gyflwyno'r mesurau hynny'n gynharach? Oherwydd y mantra a glywid, o Sefydliad Iechyd y Byd i'ch grŵp cynghori technegol eich hun, onid e, Prif Weinidog, yw eich bod yn tarro'n gynnar ac yn tarro'n galed? Nid oes neb eisiau gweld rhagor o gyfyngiadau oherwydd yr holl niwed sy'n gysylltiedig â hynny, ond mae rhai amgylchiadau lle, yn anffodus, y mae'n gwbl angenrheidiol, ac onid ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto mewn sawl rhan o Gymru?
Ac yn yr un modd, wrth gwrs, beth bynnag sy'n digwydd o ran sefyllfa a allai wella o ganlyniad i'r cyfyngiadau diweddar, mae gennym ni gwestiwn y Nadolig, y cyfeirioch chi ato'n gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, ac wrth gwrs rydym ni wedi clywed côr o leisiau—dau gyfnodolyn meddygol blaenllaw, amrywiaeth o gyrff meddygol yn galw am adolygiad; mae gennych chi gyfarfod COBRA—ond byddem yn eich annog, beth bynnag yw consensws y pedair gwlad, mae Cymru bellach mewn lle gwahanol, a chredaf fod yn rhaid ichi gadw'r hawl, ac yn wir mae yna gyfrifoldeb, i wneud penderfyniad gwahanol, os oes angen. Os yw'r cyngor meddygol a'r cyngor gwyddonol yn amlwg yn awgrymu adolygu'r trefniadau Nadolig hynny, yna mae'n rhaid ichi wneud hynny. Ac mae'n bwysig eich bod yn cael cefnogaeth pobl Cymru, a dyna un o'r materion nad ydym ni wedi cytuno arno dros yr wythnosau diwethaf. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud hyn fel cenedl gyfan. Mae'n benderfyniad anodd i unrhyw arweinydd ei wneud ar ran y wlad, fel y dywedwyd. Credaf mai un ffordd y gallem ni adeiladu'r consensws hwnnw, ac rwyf wedi ysgrifennu atoch y prynhawn yma, Prif Weinidog, yw cael arweinwyr y prif bleidiau at ei gilydd i geisio gweld a allwn ni ddod o hyd i gonsensws ar draws y pleidiau, y gallwn ni, gobeithio, gael cefnogaeth y mwyafrif iddo ledled Cymru gyfan.
Credaf mai'r neges yw, er mor anodd yw hi, efallai y bydd angen inni swatio ychydig mwy dros gyfnod y gwyliau er mwyn adennill rheolaeth, er mwyn gwella ac ailagor, yn gynharach gobeithio yn y flwyddyn newydd, credaf fod honno'n neges a fyddai'n cael cefnogaeth eang mewn gwirionedd, cyn belled â'n bod yn sicrhau bod unrhyw gyfyngiadau'n cael eu cyfuno â chymorth ychwanegol, o ran cymorth ariannol i bobl sy'n ynysu, yn enwedig y rheini ar incwm isel, o ran materion gofal plant sy'n aml yn dod yn sgil cyfyngiadau, ac o ran datrys ein prosesau profi ac olrhain. Rwyf wedi bod yn edrych ar y niferoedd, Prif Weinidog, ac unwaith eto rydym yn mynd i'r cyfeiriad anghywir o ran y cysylltiadau, cyfran y cysylltiadau sy'n cael eu holrhain o fewn 24 awr. Mae'n rhaid i ni ddatrys hynny yn ogystal ag, os oes angen, yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol, yn anffodus, yn ogystal ag edrych eto ar drefniadau'r Nadolig ac, yn wir, mynd i haen 4 yn gynharach nag yr oeddech chi wedi'i gynllunio.
Diolch. Mae gennyf 10 siaradwr. Os byddwch i gyd yn cymryd tair munud, gallaf eich cynnwys i gyd; os ewch chi dros y tair munud, yna mae arnaf ofn na fydd y rheini ohonoch chi ar waelod y rhestr yn cael eu galw. Felly, gofynnaf hynny ichi. Gofynnais yr wythnos diwethaf, ni wnaeth lawer iawn o wahaniaeth, ond fe ofynnaf eto yr wythnos hon. Felly, os byddwch i gyd yn cymryd oddeutu tair munud, byddwn yn iawn; os na fyddwch, yna, fel y dywedais, efallai na fydd y rheini ar waelod y rhestr yn cael eu galw. Dawn Bowden.
Yn anffodus, rydym yn dod i ddiwedd 2020 yn wynebu pennod anodd arall yn stori'r frwydr ddi-baid yn erbyn y feirws ofnadwy hwn. Mae gan y coronafeirws afael gref ar ein cymunedau, ac mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael trafferth oherwydd maint y pandemig. Rydym yn dal i weld nifer fawr o bobl yn mynd yn sâl ac, yn anffodus, llawer o farwolaethau. A phwy a ŵyr beth ddaw yn sgil y math newydd hwn o'r feirws. Mae'n argyfwng ymarferol, economaidd ac emosiynol, ac rwy'n cydymdeimlo â'r holl deuluoedd hynny sydd wedi colli anwyliaid, â'r busnesau sy'n ei chael hi'n anodd cadw eu drysau ar agor, â'r bobl sydd wedi colli eu swyddi, ac â'r bobl sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl yn y dyddiau anodd iawn hyn. Hoffwn hefyd ddiolch ar goedd i'r holl weithwyr hynny ar y rheng flaen y gallaf ond dychmygu yr her y maen nhw'n ei hwynebu bob dydd wrth fynd i'r afael â'r pwysau cynyddol.
Ond a gaf i ddiolch hefyd i chi a'ch Cabinet, Prif Weinidog, am y penderfyniadau anodd yr ydych chi wedi'u hwynebu a'u gwneud eleni, yn aml yn wyneb beirniadaeth gas, annheg a phersonol? Fel y gwyddoch chi, rwy'n dilyn pêl-droed, ac fel cefnogwr ar y terasau, rwy'n gwybod pa mor hawdd yw gweiddi beirniadaeth o'r fan honno, ond nid yw byth mor hawdd sicrhau llwyddiant ar y cae chwarae ei hun. Ond mae'r camau yr ydych chi wedi'u cymryd wedi'u cymryd i geisio achub bywydau ac amddiffyn pobl Cymru gystal ag y gallwch chi, ac rwy'n diolch ichi am hynny.
Fel eraill yn y Siambr hon, rwyf wedi bod yn bresennol mewn nifer o sesiynau briffio dros yr wythnosau diwethaf gyda'r byrddau iechyd, cynghorau a gwasanaethau'r heddlu sy'n gweithredu yn fy etholaeth i. Mae'r sesiynau briffio'n llwm ac mae'r sefyllfa sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd yn ddifrifol. Y briff diweddaraf y bûm i ynddo ddydd Gwener yr wythnos diwethaf oedd un bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Nid yn unig yr oedd e'n sobreiddio rhywun; roedd yn peri gofid. Roedd cael sefyllfa mor enbyd wedi'i hamlinellu mor glir o ran yr hyn sy'n digwydd yn fy nghymuned yn rhywbeth na feddyliais erioed y byddai'n rhaid imi wrando arno. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, Dirprwy Lywydd, ond pan sefais i yn etholiad 2016, roedd oherwydd fy mod eisiau helpu i wella bywydau'r bobl ym Merthyr Tudful a Thredelerch. Ac eto, heddiw, rwy'n wynebu'r realiti o 170 o achosion COVID fesul 100,000 o'r boblogaeth, a chyfradd profion positif o bron i 30 y cant ym Merthyr Tudful yn unig, a nifer y cleifion COVID mewn unedau gofal dwys yr wythnos diwethaf yn fwy na nifer y gwelyau gofal dwys sydd ar gael yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ar gyfer COVID. Felly, yr hyn sy'n amlwg yw bod ein GIG yn cyrraedd y pwynt hwnnw yr oeddem ni, mewn gwirionedd, wedi gobeithio ei osgoi, felly mae'n rhaid i ni weithredu; nid yw gwneud dim yn ddewis. Mae un o'r ddau fwrdd iechyd yn fy etholaeth i eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn gorfod atal rhai gwasanaethau nad ydynt yn rhai arferol, ac nid wyf yn amau na fydd y bwrdd iechyd arall yn dilyn ei esiampl. Bydd hynny ynddo'i hun yn dod â phroblemau pellach yn y dyfodol, ond pa ddewis sydd ganddyn nhw? Mae'r lleisiau ar y rheng flaen yn dweud wrthym eu bod ar fin diffygio.
Dirprwy Lywydd, yn fy etholaeth i, mae'n ymddangos bod y cynllun profi torfol yn awgrymu y gallai dros 3.5 y cant o'r boblogaeth fod yn gludwyr asymptomatig o'r feirws. O ganlyniad, mae'r partneriaid sy'n cyflwyno'r cynllun profi hwn wedi penderfynu ymestyn y rhaglen brofi am wythnos arall, a chroesawaf y penderfyniad hwnnw. Rwy'n sicr yn gobeithio y gallwn wneud mwy o'r profion hyn, ac mae'n sicr yn arf pwysig i nodi achosion a chael gwell cyfle i leihau lledaeniad y feirws a nodi'r hyn sy'n digwydd yn ein cymunedau hyd nes inni weld manteision y brechiad.
Felly, beth yw fy nghasgliad o hyn i gyd? Wel, rwyf o'r farn, mewn argyfwng pandemig, mai'r ffordd orau y gallaf ddiwallu anghenion fy etholwyr yw cefnogi'r holl gamau gweithredu a all leihau'r cyfraddau heintio. Drwy wneud hynny, efallai y byddwn yn adfer y sefyllfa ryw gymaint mewn modd sy'n caniatáu i bobl a'n systemau ymdopi. Dim ond drwy ostwng y cyfraddau heintio hynny y bydd pobl yn gallu gweld normalrwydd yn dychwelyd i'w bywydau. Dim ond drwy ostwng y cyfraddau heintio hynny y bydd llawer o'r busnesau bach hynny sydd wedi bod yn cael trafferthion mor ofnadwy—yn enwedig yn y sectorau lletygarwch a thwristiaeth—yn cael y cyfle i wella.
Ni fydd yr hyn y mae angen inni ei wneud yn boblogaidd ymhlith pawb. Yn aml, nid y penderfyniadau poblogaidd yw'r penderfyniadau cywir, ond nawr yn fwy nag erioed, rhaid gwneud y penderfyniadau cywir hynny. Dyna pam rydym ni wedi gweld Llywodraethau cyfrifol ledled y byd yn gwneud penderfyniadau anodd iawn i ymdrin â hyn. Mewn llawer o'r gwledydd hynny, mae'r cyfyngiadau symud wedi bod yn llym ac yn ddi-oed oherwydd eu bod nhw, fel Llywodraeth Cymru, yn deall pa mor ddifrifol yw hyn.
Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd, yn sicr nid wyf yn rhan o hyn er mwyn bod yn boblogaidd. Byddaf yn gwneud yr hyn y mae'n rhaid i mi ei wneud i helpu Llywodraeth Cymru ac eraill i achub bywydau. Felly, mae fy neges i Lywodraeth Cymru yn glir: cymerwch yr holl gamau angenrheidiol a allwch chi i helpu ein gweithwyr rheng flaen i ymdopi â'r misoedd i ddod. Cymerwch yr holl gamau angenrheidiol a allwch chi i helpu ein cymunedau i wella o'r feirws hwn, a chymerwch yr holl gamau angenrheidiol a allwch chi i helpu ein busnesau i wella, fel bod gan bobl swyddi a bywoliaeth i ddychwelyd atynt pan fydd hyn i gyd ar ben. Ac ar gyfer y camau hynny, Prif Weinidog, cewch fy nghefnogaeth lawn.
Diolch. Rydych chi wedi cael eich pum munud. Diolch. David Melding.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn y de, rydym yn debygol yn ystod y dyddiau nesaf o weld lefelau heintio o 1,000 fesul 100,000 o'r boblogaeth, ac erbyn y Nadolig, gallen nhw godi hyd yn oed yn uwch a chyrraedd y lefelau uchaf erioed a welwyd yn ardal Walloon yng Ngwlad Belg ddechrau'r hydref. Dyna faint yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Ac mae siawns go iawn, fel y dywedodd y Prif Weinidog, y bydd y GIG yn cael ei gyfyngu fwy neu lai i wasanaethau COVID yn unig, gyda'r holl oblygiadau i iechyd cyffredinol.
Mae'r difrod economaidd a achosir gan y cyfyngiadau yn real ac mae angen lliniaru gweithredol, ond bydd y difrod economaidd a achosir gan y feirws yn fwy difrifol fyth, yn enwedig os yw'n parhau i fod allan o reolaeth. Ac eto, mae gennym ni, Dirprwy Lywydd, yr addewid o waredigaeth, oherwydd canfuwyd brechlyn, neu nifer o frechlynnau. Efallai na fyddem ni wedi bod yn y sefyllfa hon. Mae'n beth gwych ein bod ni, a bod gobaith gwirioneddol, erbyn y Pasg fan bellaf, y bydd pawb dros 70 oed a phawb sydd â gwendidau a chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes wedi cael eu brechu, a disgwylir i hynny ar ei ben ei hun leihau'r gyfradd marwolaethau tua 80 y cant, gan alluogi ein staff rheng flaen a'r GIG i ymdopi. Fodd bynnag, os bydd y feirws yn ymledu'n wyllt, byddwn dan fygythiad sylweddol wrth gyflwyno'r brechlyn o bosib. Felly, dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio—dyna pam ei bod hi'n hanfodol nawr i edrych o'r newydd ar y sefyllfa yr ydym ni ynddi.
Mae'n amlwg i mi, Dirprwy Lywydd, fod rheoliadau Llywodraeth Cymru ers dechrau mis Tachwedd wedi'u cyfiawnhau. Mae cwestiwn nawr, fodd bynnag, yn y de, sef a ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell. Sylweddolaf fod yn rhaid cael cydbwysedd anodd, a deallaf o adroddiad newyddion y BBC am 5 o'r gloch ei bod hi'n debygol y bydd newid i'r rheoliadau—neu'r cyngor, yn hytrach—dros gyfnod y Nadolig, a chredaf fod hynny'n briodol.
Croesawaf y naws fwy adeiladol sydd wedi nodweddu'r ddadl heddiw. Rwy'n credu bod hynny'n arwydd o aeddfedrwydd ynglŷn â ble'r ydym ni fel Senedd a sefyllfa'r mae'r genedl yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Rwyf hefyd yn croesawu datblygu dull gweithredu Llywodraeth Cymru, fel y gall rhannau o Gymru adael y rheoliadau mwyaf eang y gallai fod eu hangen nawr dros ran helaeth o Gymru, a mabwysiadu rhywbeth sy'n agosáu at ddull rhanbarthol, haenog. Byddaf yn cefnogi rheoliadau Llywodraeth Cymru a drafodwyd yn gynharach. Byddaf yn cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru sydd ger ein bron, yn ogystal â gwelliannau'r grŵp Ceidwadol. Pe bai Llywodraeth Cymru yn dod i'r casgliad yn ddiweddarach yr wythnos hon fod angen cyfnod atal byr, i'w weithredu ar unwaith yn ne Cymru, ac yn amlwg cyn y Nadolig, byddwn i hefyd yn cefnogi'r mesur hwnnw.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Dyma ni unwaith eto yn ymateb i sefyllfa sy'n gwaethygu, ac, o le bynnag rydym ni'n edrych yng Nghymru, mi ddylai pawb, dwi'n gobeithio, allu cydnabod bod hwn yn argyfwng, p'un ai rydym ni ein hunain yn byw mewn ardal lle mae nifer yr achosion yn isel, neu yn yr ardaloedd eang iawn hynny sydd wedi gweld cynnydd brawychus yn nifer yr achosion o COVID-19 yn yr wythnosau diwethaf. Wnaf i ddim treulio amser heddiw ar beth ddigwyddodd yn dod allan yn rhy sydyn o'r firebreak, a heb strategaeth gynaliadwy, efallai, yn ei lle, achos trafod cynllun newydd rydym ni, a'r angen eto am newid cyfeiriad.
Mewn egwyddor, dwi'n meddwl bod y system o gael lefelau fel hyn, o wyrdd drwodd at ddu, yn syniad da, ond mae penderfynu, wrth gwrs, pa lefel y dylem ni fod ynddi, yn genedlaethol ac mewn gwahanol rannau o Gymru, yn gwbl, gwbl allweddol rŵan, a dydy'r penderfyniadau ddim yn hawdd.
O ran y gweithredu rhanbarthol, yna mi fyddwn ni'n cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr heddiw. Mae ein gwelliant cyntaf ni hefyd yn cyfeirio at yr un peth, ond yn cyfeirio hefyd at beth all gweithredu ei olygu. Mae yna ddwy agwedd i gamau gweithredu'r Llywodraeth sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw yn y gwelliant yna—cyfyngiadau a chefnogaeth—ac mae yna werth, heb os, i gael lefel sylfaenol o reolau cenedlaethol. Does yna un ardal yn imiwn i'r feirws yma, ond, lle mae achosion ar eu huchaf, mae'n gwneud perffaith synnwyr i fi fod yna le i weithredu'n wahanol. Gall, mi all hynny olygu cyfyngiadau, ond, ochr yn ochr â hynny, mae'n rhaid i'r Llywodraeth allu cynnig lefel uwch o gefnogaeth hefyd.
Mae yna lawer o wledydd, llawer o ardaloedd, dinasoedd ac ati wedi profi llwyddiant yn rheoli'r feirws wrth wneud yn siŵr bod gan bobl y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i hunanynysu. Dydy Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi bod yn effeithiol yn y maes yma, ac mae astudiaethau yn dangos mai lleiafrif sydd yn gwneud beth sydd ei angen i hunanynysu yn llwyddiannus. Felly, rhowch gefnogaeth ariannol mwy, fel bod pobl yn gwneud y dewis iawn i aros gartref. Rhowch gefnogaeth ymarferol—mynd â gwasanaethau hanfodol at ddrws rhywun yn hytrach na eu bod nhw'n cael eu temtio i adael cartref i chwilio am y gwasanaethau hynny. Rhowch bobl mewn gwesty, fel mae llawer o wledydd wedi'i wneud, fel bod eu teuluoedd nhw yn ddiogel, a rhowch gefnogaeth emosiynol hefyd.
Yr ail welliant sydd gyda ni, gwnaf i adael i Helen Mary Jones ymhelaethu ar hynny. Sôn am gyfathrebu a thrafod yn effeithiol efo busnesau a sefydliadau eraill wrth baratoi am y dydd pan gawn ni ddechrau ailagor rydym ni yn y gwelliant hwnnw, ac rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at y dydd hwnnw. Ond mae rhoi'r camau gweithredu cywir ar waith rŵan yn mynd i ddylanwadu'n drwm, wrth gwrs, ar bryd ddaw y dydd hwnnw. Dwi'n caru cyfnod y Nadolig, ond dwi'n gobeithio gwnaiff y Llywodraeth dderbyn ein cynnig ni i gymryd rhan mewn trafodaethau amlbleidiol ar beth i'w wneud o gwmpas cyfnod yr wŷl, sut i gryfhau rheolau ar un llaw, y negeseuon ar y llaw arall, yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig ac, ie, yn y pum diwrnod yna o gwmpas y Nadolig ei hun. Mae hyn yn effeithio ar bawb ohonom ni.
Os caf i gloi drwy gyfeirio eto at y cynllun gyhoeddwyd ddoe, dydy dweud yn syml, fel y mae o, mai ymddygiad pobl ar ôl y firebreak oedd ar fai—hynny ydy, doedd yr ymddygiad ddim yn rhoi'r canlyniadau roeddem ni eu heisiau inni—dydy hynny ddim yn ddigon da. Oes, mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i ymddwyn mewn ffordd sydd yn cadw'n hunain, y bobl o'n cwmpas ni a'n cymunedau ni yn saff, ond mae'r ymddygiad yna yn digwydd o fewn cyd-destun sy'n cael ei osod gan y Llywodraeth. Ac mae camau sy'n cael eu cymryd gan y Llywodraeth a negeseuon y Llywodraeth, ac ati, yn dylanwadu'n drwm iawn ar yr ymddygiad hwnnw, a gadewch inni gofio hynny.
Diolch i'r Prif Weinidog am roi copi i ni o gynllun rheoli coronafeirws diweddaraf Llywodraeth Cymru. Prif Weinidog, Cymru bellach sydd â'r cyfraddau heintio gwaethaf yn y DU, a thros y saith diwrnod diwethaf, y gyfradd heintio dreigl fesul 100,000 oedd 450.4. Ledled Cymru, roedd cyfradd profion cadarnhaol bron 20 y cant, ac mae hyn er bod Cymru o dan y cyfyngiadau lefel 3 a amlinellwyd yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru, ac er gwaethaf y ffaith i ni ddod allan o gyfyngiadau symud cenedlaethol ychydig wythnosau'n ôl, y credem y byddai wedi helpu i gadw'r feirws dan reolaeth. Fodd bynnag, parhaodd heintiau i gynyddu er gwaethaf mesurau rheoli.
Felly, rhaid inni ofyn i ni'n hunain pam nad yw mesurau rheoli yn rheoli'r feirws. Ac nid oes dim byd newydd yn y cynlluniau, oherwydd gofynnir i ni gefnogi'r un trywydd ag y buom ni yn ei ddilyn dros y naw mis diwethaf: gwahanol gamau o'r cyfyngiadau symud, yr un peth ag y buom ni yn ei wneud ers yr haf heb fawr o lwyddiant mae'n ymddangos; cynlluniau sydd wedi'u rhoi ar brawf ac wedi methu mewn mannau eraill—yr un cynlluniau ond enwau gwahanol, oherwydd lle mae gan Loegr haenau a'r Alban lefelau amddiffyn, bydd gan Gymru lefelau rhybudd nawr. Rwy'n teimlo y bydd hyn yn ychwanegu dryswch i'r cyhoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd deall y gwahanol reolau a rheoliadau sydd ar waith mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig.
Fel y noda Llywodraeth Cymru yn ei dogfen, mae un dull cenedlaethol yn fwy tebygol o gael ei ddeall ac yn fwy effeithiol, felly pam nad oes gennym ni un dull o ymdrin â'r feirws hwn ledled y DU? Mae pob rhan o'r DU yn ceisio torri eu cwys eu hunain, a'r hyn a gyflawnwyd yw dryswch ymhlith y cyhoedd. Mae rhai pobl nad ydyn nhw'n gwybod beth yw'r rheolau o hyd, ac, o ganlyniad, rydym yn gweld llai o lynu wrth y rheolau hynny. Ni fyddwn yn rheoli'r pandemig hwn heb ymgysylltiad a chefnogaeth y cyhoedd, sydd, ar hyn o bryd, yn rhwystredig.
Y cyfan yr ydym ni wedi'i weld yw cau busnesau, colli swyddi, dyled enfawr gan y Llywodraeth a fydd yn cymryd cenedlaethau i'w had-dalu. Mae'r ardrethi busnes yn dal i aros yr un fath, mewn llawer o achosion. Dylem fod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar gael system brofi ac olrhain o'r radd flaenaf, ar brofion ar lefel y boblogaeth i ddod o hyd i'r rhai sydd wedi'u heintio ac yn heintus, ac ar sicrhau bod y bobl hynny'n ynysu ac yn methu â heintio neb arall. Mae angen inni sicrhau ein bod yn olrhain yn ôl yn llwyr, nid dim ond dod o hyd i'r rheini y mae unigolyn heintiedig eisoes wedi bod mewn cysylltiad â nhw, ond canfod lle cawsant eu heintio yn y lle cyntaf. Gwyddom eich bod yn fwy tebygol o ddal COVID mewn digwyddiad lle mae'r feirws yn lledaenu'n rhemp, ac mae angen i ni ganfod y digwyddiadau hyn a phawb a oedd yn bresennol. Rwy'n teimlo mai dyma'r unig ffordd y gallwn ni reoli'r feirws. Rydym yn torri'r gadwyn heintio drwy sicrhau nad yw'r rhai heintus yn cael cyswllt â'r rhai nad ydyn nhw'n heintus, nid drwy sefydlu cyfyngiadau symud a gweddïo y bydd pobl yn cadw at y rheolau. Rhaid inni gadw'r cyhoedd ar ein hochr ni. Diolch.
Mae'r sefyllfa sy'n ein hwynebu nawr yng Nghymru yn ddifrifol, ac rydym yn gweld twf eithriadol y coronafeirws. Pan siaradais yr wythnos diwethaf, tynnais sylw at y pwysau enfawr oedd ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol yng Ngwent. Ers hynny, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu. Ddydd Gwener, bwrdd iechyd Aneurin Bevan oedd y cyntaf yng Nghymru i atal yr holl driniaeth nad yw'n driniaeth frys oherwydd y pwysau aruthrol sydd ar wasanaethau. Rwyf wedi siarad â staff gofal cymdeithasol sydd wedi disgrifio i mi y pwysau gofidus sydd arnyn nhw gan fod y nifer cynyddol o achosion mewn cartrefi gofal yn gwneud rhyddhau pobl o'r ysbyty yn heriol iawn neu hyd yn oed yn amhosibl. Felly, rwy'n croesawu'r cynllun coronafeirws a gyhoeddwyd ddoe, ond, o ystyried y cynnydd dychrynllyd mewn achosion rydym yn eu gweld, nid wyf yn credu y gallwn ni aros tan ar ôl y Nadolig i gymryd camau pellach i atal lledaeniad y feirws hwn. Credaf fod angen mesurau pellach nawr, fel yr ydym wedi eu gweld mewn lleoedd fel yr Almaen.
Rwyf hefyd eisiau dweud fy mod yn dal yn bryderus ynglŷn â'r trefniadau ar gyfer pobl yn cymysgu dros y Nadolig. Gwn fod pawb wedi cael blwyddyn anodd iawn a'n bod i gyd eisiau rhywfaint o seibiant o'r feirws ofnadwy hwn, ond ofnaf, os bydd y cynlluniau'n mynd rhagddynt fel y maen nhw ar hyn o bryd, yna'r gost fydd mwy o bobl yn mynd i'r ysbyty a marwolaethau pellach, ac nid wyf yn credu bod hynny'n bris sy'n werth ei dalu pan fo gennym ni lygedyn o obaith ar ffurf brechlyn yn y cyfnod tywyll hwn. Yr wythnos diwethaf, talais deyrnged i'r staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n barod iawn i wneud hynny eto heddiw, ond nid oes angen inni dalu teyrnged iddyn nhw. Mae angen i'r rheini ohonom ni sy'n eistedd yn gyfforddus yn y Siambr hon wneud chwarae teg â nhw, i wneud y penderfyniadau anodd, i gydweithio i atal lledaeniad y feirws hwn, ac i'w cadw nhw a phawb arall yng Nghymru'n ddiogel.
Rwy'n ddiolchgar am gael cymryd rhan yn y ddadl hon, a byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau yn bennaf ar welliant 9 o'n heiddo, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth. Rydym yn ddiolchgar bod y Llywodraeth wedi derbyn y gwelliant hwnnw. Mae hwn, wrth gwrs, yn gyfnod eithriadol o anodd. Mae cyfyngiadau'n anochel i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Efallai y bydd angen, fel y mae Lynne Neagle newydd ei ddweud, i ni hyd yn oed gyfyngu ymhellach dros y Nadolig, efallai i ddwy aelwyd a chynnwys y rhai hynny sy'n byw ar eu pennau eu hunain am resymau tosturiol. Mae bywydau pobl yn holl bwysig.
Ond mae angen i ni edrych ymlaen. Mae dechrau'r rhaglen frechu, wrth gwrs, yn rhoi pob rheswm inni obeithio. Byddwn, fel cenedl, fel cymuned o gymunedau, yn goroesi'r argyfwng ofnadwy hwn, a byddwn yn gwneud hynny orau, mae'r cyfle gorau gennym ni i adeiladu'n ôl nid yn unig yn well ond yn dda iawn, os byddwn yn gweithio gyda'n gilydd gymaint ag y gallwn ni. Mae'r Llywodraeth yn canolbwyntio'n briodol ar hyn o bryd ar yr argyfwng iechyd cyhoeddus sydd gennym ni nawr ac, a bod yn deg, ar geisio lliniaru'r effaith ddifrifol anochel ar swyddi a busnesau. Mae ein gwelliant yn galw arnyn nhw i weithio'n agosach, yn enwedig gyda'r sectorau hynny sydd wedi'u taro galetaf—lletygarwch, lleoliadau chwaraeon a sefydliadau diwylliannol—i ddatblygu canllawiau manylach sy'n nodi'r camau y bydd angen eu cymryd i alluogi'r sectorau hynny i agor yn ddiogel pan fydd yr amser yn iawn. Rhaid imi bwysleisio eto, Llywydd, nad wyf yn sôn am nawr; rwy'n edrych yma ar y tymor canolig. Dywed y Llywodraeth eu bod yn cynnal trafodaethau cyson â'r sectorau hyn, ond nid dyna a ddywed y busnesau a'r sefydliadau hyn wrthym. Gall ddibynnu, wrth gwrs, gyda phwy mewn gwahanol sectorau y mae'r Llywodraeth yn ymgynghori â nhw ar hyn o bryd. Yn naturiol, nid yw'n bosibl i'r Llywodraeth siarad â phob busnes, lleoliad cerddoriaeth neu glwb chwaraeon unigol, ond byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych o'r newydd i sicrhau bod eu hymgynghoriadau, gan edrych ymlaen at y tymor canolig, mor eang ac mor gynhwysfawr â phosibl. Fel y dywedodd Adam Price a Rhun ap Iorwerth, croesawn y cynllun newydd hwn, ond, o ran edrych ymlaen at y tymor canolig, mae angen gwneud rhagor o waith.
Mae ein gwelliannau'n awgrymu bod y Llywodraeth yn hwyluso ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol y Llywodraeth. Y cynghorwyr gwyddonol, wrth gwrs, sydd yn y sefyllfa orau i roi cyngor ar y peryglon i iechyd. Y sectorau sy'n gwybod orau sut maen nhw'n gweithredu, ac maen nhw wedi hen arfer â gweithio mewn amgylcheddau rheoleiddio cymhleth o ran iechyd a diogelwch. Siawns nad yw'n gwneud synnwyr i ganiatáu cyfathrebu uniongyrchol i wella dealltwriaeth y sector o'r risgiau a dealltwriaeth y gwyddonwyr o'r agweddau ymarferol. O gofio bod y Llywodraeth yn derbyn y gwelliant hwn, sydd i'w groesawu, edrychaf ymlaen, yn y flwyddyn newydd, at yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau uniongyrchol rhwng cynghorwyr gwyddonol o dan yr adrannau yr wyf wedi sôn amdanyn nhw.
Llywydd, ni fuom ni erioed ym Mhlaid Cymru mor awyddus i Lywodraeth Cymru lwyddo fel y gellir diogelu bywydau a bywoliaethau. Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n adeiladol—craffu, gwneud awgrymiadau adeiladol, cefnogi lle y gallwn ni, gan wrthwynebu lle mae'n rhaid inni. Credaf mai dyma y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl gennym ni. Cymeradwyaf welliannau Plaid Cymru i'r Senedd hon.
Rydym ni yng nghanol argyfwng rhyngwladol. Mae pob Llywodraeth ledled y byd yn gwneud yr hyn a allant, y gorau y gallan nhw i ymdrin â'r feirws, na welwyd ei debyg ers dros 100 mlynedd yn Ewrop a thu hwnt. Mae cyfraddau marwolaethau a heintiau'n codi ac yn gostwng—hyd yn oed yn y DU, ychydig yn ôl, gogledd Iwerddon oedd ar y brig, yna rhannau o Loegr a nawr Cymru. Nid ras yw hon, serch hynny, Llywydd, oherwydd mae'r gwleidyddion i gyd, mi gredaf, yn ceisio gwneud y gorau gallant o dan yr amgylchiadau.
Cafwyd beirniadaeth yr wythnos diwethaf mai dim ond wythnos o rybudd oedd wedi'i roi i dafarndai yng Nghymru cyn y byddai'n rhaid iddyn nhw gau. Yn Llundain yr wythnos hon, rhoddwyd 48 awr o rybudd. Nawr, gallwn ddweud yn hawdd, 'Wel, onid yw hynny'n dangos rhywfaint o safonau dwbl?' Ond nid wyf yn mynd i wneud hynny oherwydd dyma pa mor anodd yw gwneud rhagfynegiadau. Dyma pa mor anodd yw hi i Lywodraethau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a thu hwnt wneud penderfyniadau i amddiffyn pobl pan fydd y feirws yn newid ei ymddygiad mor gyflym. Mae'n anodd i fusnesau; does dim dwywaith am hynny. Mae yna fusnesau sy'n meddwl, 'A fyddaf yn goroesi? A fyddaf yn dal yma y flwyddyn nesaf?' Mae busnesau a fydd, er gwaethaf y gefnogaeth gan y Llywodraeth, yn meddwl tybed a oes ganddyn nhw ddyfodol. Ond twyllo ein hunain fyddai credu y gallwn ni fynd yn ôl i normalrwydd ac anwybyddu'r ffaith bod y feirws yma. Ac rwyf wedi clywed y ddadl honno.
Mae rhai wedi defnyddio enghraifft Sweden. Dydyn nhw ddim yn gwneud hynny nawr, nac ydyn, Llywydd? Mae rhai yn sôn am imiwnedd torfol. Gadewch imi ddweud wrthyn nhw beth yw ystyr 'imiwnedd torfol': mae'n golygu naill ai (a) eich bod yn brechu pawb, neu (b) eich bod yn caniatáu i'r feirws redeg yn wyllt drwy'r gymuned, gan lorio'r gwan, yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed nes i chi gael yr imiwnedd hwnnw. Nid dyngarwch yw hynny, yn fy marn i, Llywydd. Ni allwn ni esgus nad yw'r feirws hwn yn bodoli.
Clywais Gareth Bennett, a ddywedodd yn y bôn fod ymdrechion Llywodraeth Cymru yn gynllwyn crypto-genedlaetholgar. Dyna a ddywedodd, i bob pwrpas, ac yna dywedodd ei fod yn mynnu parch gan Siambr nad yw'n dymuno ei gweld yma yn y lle cyntaf. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth. Nid yw hyn yn ymwneud â 'gwnaeth Lloegr hyn, gwnaeth Cymru'r llall. Gadewch i ni gystadlu â'n gilydd, gadewch i ni feirniadu ein gilydd.' Nid dyma sydd dan sylw. Mae pob rhan o'r DU yn gwneud y gorau o dan yr amgylchiadau i amddiffyn ei phobl. Rwy'n cefnogi Llywodraeth Cymru yn yr hyn y mae'n ei wneud. Rwy'n cefnogi Llywodraeth y DU yn yr hyn y mae'n ei wneud yn Lloegr, oherwydd rwy'n gwybod eu bod yn gwneud y gorau gallant.
Clywais Caroline Jones yn siarad. Roedd yn ymddangos ei bod yn dweud na ddylem ni gael dull gweithredu rhanbarthol, ond y dylem ni gael un dull gweithredu ledled y DU gyfan. Un gyfres o reolau ar draws y DU gyfan, waeth ble yr ydych chi, p'un a ydych yn Warrenpoint ar y ffin â Gweriniaeth Iwerddon, neu yn yr Hebrides Allanol neu, yn wir, yn Llundain. Dyna'r argraff a gawsom ni o'r ddadl. Nid dyna realiti'r sefyllfa.
Rydym ni yng Nghymru yn wynebu'r argyfwng hwn gyda'n gilydd. Gwelwn olau ym mhen draw'r twnnel, gwyddom ble mae'r daith yn dod i ben: mae yna frechlyn. Y cwestiwn yw faint yn rhagor o bobl ydym ni'n barod i'w colli ar y ffordd. Wyth deg mlynedd yn ôl, Llywydd, yn Ewrop gyfan ac yn y wlad hon, fe wynebodd cenhedlaeth lefel o amddifadedd am chwe blynedd mewn rhyfel na allwn ei ddychmygu o gwbl. Nid oedden nhw'n gwybod beth oedd y dyfodol. Roedden nhw'n dioddef dogni, ond roedden nhw'n dyfalbarhau er gwaethaf popeth. A ydym yn dweud, am ychydig fisoedd, nes i'r brechlyn gyrraedd, na allwn ni ymdopi ag ychydig o gyfyngiadau? Oherwydd os ydym yn dweud hynny, yna nid ydym yn gymwys i ddilyn ôl eu traed.
Mae yna bobl sy'n credu bod y feirws hwn yn dwyll. Mae yna bobl sydd wedi cael profion cadarnhaol sydd wedyn yn mynd i'r gwaith a heintio pobl eraill. Y cwestiwn i ni fel cymdeithas yw hyn: bydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych yn ôl arnom ni a byddant yn dweud, 'Pa mor effeithiol oedd y bobl hyn wrth ymdrin â'r feirws hwn?' Mae angen inni allu edrych ym myw eu llygaid. Nid yw'r feirws yn poeni am wleidyddiaeth, nid yw'n poeni am Brexit, nid yw'n poeni ble yn y DU y mae, nid yw'n poeni am yr UE, ac mae'n rhaid i ni gofio bod cydweithredu'n allweddol i sicrhau bod mwy o bobl yn byw, bod dyfodol i fwy o bobl, a bod mwy o fywydau'n cael eu hachub. Ac ar y sail honno, Llywydd, rhoddaf fy nghefnogaeth i Lywodraeth Cymru, rhoddaf fy nghefnogaeth i Lywodraeth y DU, ac i bob llywodraeth ledled y byd sy'n ceisio sicrhau bod eu poblogaethau'n cael eu diogelu yn y dyfodol. Ni waeth beth yw ein gwleidyddiaeth, ni waeth beth yw ein pleidiau, dyna'n sicr yw ein hegwyddor arweiniol.
Rydym yn trafod cynllun rheoli y prynhawn yma. Wel, mae'n sicr yn gynllun, ond yr hyn sy'n ansicr yw a fydd gennym ni mewn gwirionedd fawr o reolaeth dros unrhyw beth. Gwelsom gyda'r cyfnod atal byr, fel y rhagwelais yn wir pan gafodd ei drafod, y gallai'r niferoedd ostwng am gyfnod byr ond, cyn gynted ag y byddai'r cyfyngiadau'n cael eu codi, y bydden nhw'n dechrau cynyddu eto. Felly, oni bai ein bod yn barod, fel yr ymddangosai fod y cyn-Brif Weinidog yn ei ddweud eiliad yn ôl, y dylem ni gael cyfyngiadau symud sy'n amhenodol ac a fydd yn ymestyn ymhell i'r flwyddyn nesaf, credaf nad yw'r hyn yr ydym yn ei wneud heddiw yn gymesur â'r amgylchiadau yr ydym ni ynddyn nhw. Yr un gair amlwg sydd wedi bod ar goll yn y ddadl y prynhawn yma yw'r gair 'gaeaf', a rhagwelwyd ar ddechrau'r pandemig hwn, ar ôl i ni gyrraedd y gaeaf, y byddai achosion yn sicr o godi, gan fod achosion anadlol yn cynyddu yn y gaeaf, er mai'r hyn sy'n ddiddorol am y ffigurau ar gyfer eleni—ac mae gennyf siart o'm blaen sy'n cymharu 2020 â'r pum mlynedd blaenorol—yw sut y mae'r ffigurau marwolaeth ar gyfer pob clefyd anadlol yn llawer is eleni nag yn unrhyw un o'r pedair blynedd blaenorol. Nid yw hynny'n lleihau, wrth gwrs, bwysigrwydd unrhyw farwolaeth y gellir ei hosgoi. Ond y cwestiwn yw a fydd y mesurau hyn, sy'n mynd i wneud niwed mor aruthrol i'r economi, fel y mae pawb yn derbyn, yn cael eu cydweddu â rhyw fudd sy'n gwrthbwyso hynny o ran nifer y bobl sydd yn yr ysbyty ac sy'n marw yn y pen draw.
Ac, yn hynny o beth, credaf mai'r hyn a esgeuluswyd ei drafod yn y ddadl hon yw'r cwestiwn o ostyngeiddrwydd ar ran y Llywodraeth. Weithiau mae'n anodd—bob amser yn anodd, efallai—cyfaddef nad oes gennych y pŵer eithaf i reoli digwyddiadau, ac mae llywodraethau'n aml yn cael eu hunain yn yr amgylchiadau hyn. Yr hyn sy'n amlwg am y profiad rhyngwladol, y cyfeiriwyd ato gan y Prif Weinidog a'i ragflaenydd y prynhawn yma, yw, er gwaethaf yr amrywiadau eang iawn yn y ffordd y mae llywodraethau wedi ymateb i'r pandemig, nid yw'r clefyd wedi'i atal yn y fan a'r lle yn unman, mewn gwirionedd, i'r gwrthwyneb. Nawr, cyhoeddodd y Prif Weinidog her yn ei araith, gan ddweud nad yw'r rhai a arferai feddwl yn fawr o Sweden yn sôn amdani mwyach. Wel, rwy'n mynd i sôn amdani y prynhawn yma, oherwydd mae profiad Sweden yn ddiddorol iawn. Y gyfradd marwolaethau fesul miliwn yn Sweden yw 757. Yn y Deyrnas Unedig, mae'n 946. Felly, mae gan Sweden gyfradd farwolaethau is o lawer nag sydd gennym ni, ac mae ffigurau Sweden yn cynnwys ffigurau dwysach o'r cyfnod cynnar i raddau helaeth am eu bod wedi methu ag amddiffyn pobl yn eu cartrefi gofal yn y gwanwyn, ac felly mae'r rhan fwyaf o'r marwolaethau yn Sweden yn ymwneud â'r methiant polisi hwnnw ar ran Llywodraeth Sweden. Os edrychwn ni ar y ffigurau mwy diweddar, nifer y marwolaethau yn Sweden oherwydd COVID oedd tri ar 21 Hydref. Cododd i 69 ar 25 Tachwedd, ac maen nhw wedi gostwng yn gyson o'r dyddiad hwnnw, o 25 Tachwedd, tan ddoe, 14 Rhagfyr, roedden nhw wedi gostwng i gyn ised â 17. Mae Sweden wedi cyflwyno un mesur newydd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf i gyfyngu ar symudiadau yn Sweden, a hynny yw gosod uchafswm o wyth ar gynulliadau cyhoeddus, er os ydych chi yn griw o 16 o bobl yn mynd allan i fwyty gyda'ch gilydd, gallwch gael dau fwrdd o wyth wrth ymyl ei gilydd cyn belled â'ch bod yn cadw pellter cymdeithasol ac yn cadw 1m neu 2m ar wahân. Ac felly, nid yw cyfradd marwolaethau Sweden yn waeth, ac yn aml maen nhw'n well yn gyson, na gwledydd datblygedig eraill hemisffer y gogledd.
Felly, y broblem sydd gennym ni yn y fan yma yw bod gennym ni ffawd sy'n annymunol iawn ynghylch pa lywodraethau sy'n methu gwneud dim byd yn ôl bob golwg, ar wahân i gyflwyno camau gweithredu dros dro sy'n effeithio ar y clefyd, sydd fel arall yn cynyddu'n ddi-baid. Efallai y bydd y brechlynnau'n ein rhyddhau o'r byd ofnadwy hwn yr ydym ni yn byw ynddo nawr. Ond mae perfformiad yr economi yn mynd i gael effeithiau hir, hirdymor ar bobl, ac nid effeithiau economaidd yn unig ydyn nhw, maen nhw hefyd yn ymwneud ag iechyd a lles. Mae'r rhain i gyd yn bwyntiau sydd wedi cael eu gwneud yn dda gan hyd yn oed y rhai sy'n cefnogi'r Llywodraeth yn yr hyn y mae'n ceisio'i wneud. Mae gennyf bob cydymdeimlad â'r Prif Weinidog a'i gydweithwyr yn y sefyllfa anodd y maen nhw ynddi, ond credaf fod y mesurau hyn yn anghymesur, a'i bod yn amlwg, lle mae cyfraddau heintio'n isel mewn rhai rhannau o Gymru, y bydd y cyfyngiadau'n gosod cost ddiangen. Mae'n wir hefyd, mewn rhannau eraill o Gymru—ardaloedd trefol yn arbennig—nad ydym ni wedi gwneud y cyfyngiadau'n ddigon llym. Felly, dywedaf un peth yn unig wrth y Llywodraeth, 'Os gwelwch yn dda, gwnewch eich rheoliadau'n gymesur.'
Diolch i chi, Prif Weinidog. Rwy'n credu ein bod ni wedi cael dadl dda iawn ar y cyfan yn y fan yma heddiw, ac rwy'n croesawu'r ffaith ein bod ni'n canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd—mae hynny'n braf iawn nid yn unig yn y fan yma, ond rwy'n siŵr i'r bobl y tu allan hefyd. Ac rydym yn cerdded llwybr cul iawn yn y fan yma, ond mae gennym ni, fel y mae llawer o bobl wedi dweud, frechlyn—neu frechlynnau yn hytrach—ar y gweill, ac mae golau ar ddiwedd y twnnel. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael ein harwain gan ddau beth allweddol, a'r rheini yw ymdrech ar y cyd, yr ydym yn ei weld yma heddiw, a chyfrifoldeb personol. Ac rwy'n credu mai yn yr ysbryd hwnnw y gallwn ni i gyd roi neges gyfunol i bobl Cymru a chefnogi neges heddiw.
Mae gennym ni strategaeth genedlaethol, ac rydym yn ei symud ymlaen, a bydd lefelau rhybudd newydd o fewn y system honno a fydd yn glir ac yn gyson, ac a fydd yn tanlinellu'r ymdrech gyfunol sy'n hollbwysig i'r strategaeth honno. Felly, ni fydd ots a ydych chi'n byw yng Nghaerdydd neu yng Nghrymych neu Gricieth neu Garno, bydd y neges a'r rheolau yr un fath. Ac mae gennym ni, heb os nac onibai, gyfrifoldeb personol i gadw atynt, i atal y feirws ac atal ein gwasanaeth iechyd gwladol rhag cael ei llethu. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, rwy'n nerfus iawn am bobl yn symud o gwmpas, i mewn ac allan o'r wlad yr wythnos nesaf. Ac rwy'n rhannu pryderon Lynne Neagle am y feirws yn symud rhwng teuluoedd, yn symud rhwng ffrindiau, dros y Nadolig. Gwn na fu unrhyw benderfyniadau hyd yn hyn ynglŷn â beth fydd dyluniad olaf y cyfluniadau hynny o fewn aelwydydd, ond credaf fod y neges yn glir—y bydd yn rhaid i ni ailedrych ar hynny, ac mae'n siŵr gen i mai dyna sy'n digwydd.
Ond 'does dim ond rhaid i chi edrych ar stori'r pandemig yn ein rhanbarth ni i ddeall pa mor ansefydlog yw'r sefyllfa. A dim ond un digwyddiad a gymerodd yn Aberteifi—ac mewn mannau eraill—lle'r oedd gennym ni sefyllfa archledaenwr, lle'r oedd yn rhaid cau ysgolion, lle yr amharwyd yn llwyr ar fusnesau, ac effeithiwyd ar bopeth arall hefyd. Un digwyddiad oedd hwnnw. Tan i'r digwyddiad hwnnw ddigwydd, roedd y feirws dan reolaeth. Felly, mae pethau'n symud yn gyflym iawn. Mae'n hawdd iawn dweud, 'Rydym ni'n iawn yn y fan yma', ond nid yw'n wir fod y pethau hyn yn aros fel y maen nhw. Gwyddom yn awr, yn ardal ein bwrdd iechyd lleol, Hywel Dda, fod 930 o staff y bwrdd iechyd naill ai'n absennol neu'n sâl neu'n ynysu. Felly, mae'n ymwneud nid dim ond â nifer y bobl sy'n canfod eu hunain yn yr ysbyty yn anffodus, ond hefyd y bobl sy'n gallu ac sydd ar gael i drin y bobl hynny. Ac rwyf wedi clywed y ddadl am, 'Niferoedd bach o haint, felly gadewch i ni fod'. Ond maen nhw mewn gwirionedd yn cael eu gwasanaethu gan ysbytai bach, gyda niferoedd bach o staff hefyd.
Felly, mae'r diwedd mewn golwg. Rwy'n falch iawn bod y ddadl heddiw wedi ei chynnal mewn llawer gwell naws yn fy marn i. Rwy'n croesawu hynny. A chredaf fod arnom ni i gyd ddyletswydd i'n staff iechyd a gweithwyr rheng flaen eraill, a hynny yw ceisio rhoi rhywfaint o obaith iddyn nhw ar gyfer y flwyddyn newydd, fel nad ydym yn eu llethu. Diolch.
Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd, fel y mae llawer wedi dweud, ac mae Llywodraethau ledled y byd wedi cyflwyno cyfyngiadau na fydden nhw byth wedi dymuno eu cyflwyno. Mae pobl wedi aberthu'n aruthrol yn eu bywydau bob dydd, ond, yn anffodus, mae pobl wedi marw, ac rwy'n credu ei bod yn iawn i'r Llywodraeth roi iechyd y cyhoedd ac anghenion ein trigolion ar flaen eu meddyliau.
Llywydd, rwyf bob amser yn onest yn y Senedd hon, ac rwyf bob amser yn siarad dros fy nghymuned, ac yn yr ysbryd hwnnw heddiw rwy'n cefnogi camau Llywodraeth Cymru a'r camau y maen nhw wedi'u cymryd, ond rwyf hefyd eisiau mabwysiadu dull gweithredu rhanbarthol Cymreig cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Dylai'r ffeithiau ar lawr gwlad yn y gogledd a'r de fod o'r pwys mwyaf a, phan fo'r ffeithiau hynny'n cefnogi dull amrywiol, dylem ni ganiatáu hynny.
Llywydd, ni wnaf gymryd gormod o amser, oherwydd rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau eraill yn dymuno siarad yn y ddadl bwysig iawn hon heddiw, a dyma'r cyfle olaf y byddaf yn ei gael i annerch y Senedd eleni, oherwydd yfory byddaf yn mynd i angladd fy nhaid annwyl. Felly, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn, os gaf i, Llywydd, i ddweud diolch i drigolion Alyn a Glannau Dyfrdwy. Rydych chi wedi bod yn hollol wych, ac mae'r camau rydych chi wedi'u cymryd i arafu lledaeniad y feirws wedi achub bywydau. Felly, gennyf fi, arhoswch gyda ni wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol gwell. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw. Rwy'n sylwi bod tôn mwyafrif llethol y cyfranwyr yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa sy'n ein hwynebu.
Roedd yn anffodus i'r ddadl ddechrau gydag ymateb gan Gareth Bennett yn galw am chwarae teg a pharch, cyn mynd ymlaen i wneud cyfres o sylwadau diangen, personol ac anwir. Nid yw'r Llywodraeth hon erioed wedi gweithredu i ddilyn llwybr o nonsens am resymau gwleidyddol. Mae'r pandemig yr ydym ni wedi'i wynebu dros y 10 mis diwethaf wedi bod yn her i bob un ohonom ni. Efallai y bydd pobl yn anghytuno â'r dewisiadau yr ydym ni wedi'u gwneud. Rwyf i'n parchu hawliau'r Aelodau i anghytuno, gan gynnwys gwneud hynny mewn ffordd angerddol. Ond mae'r dewisiadau y mae'r Prif Weinidog wedi'u gwneud, y dewisiadau rwyf i wedi'u gwneud, y dewisiadau y mae pob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud, i gyd wedi'u hysgogi gan y modd yr ydym ni'n achub bywydau a bywoliaethau, a bydd hynny'n parhau i fod yn sail i'n dull o weithredu ar gyfer y ffordd anodd sydd o'n blaenau.
Rwy'n croesawu y ffaith bod Paul Davies ac Adam Price, a llawer o Aelodau, wedi croesawu'n gyffredinol cyhoeddi'r cynllun rheoli coronafeirws wedi'i ddiweddaru gyda'r lefelau rhybudd wedi'u diweddaru. Nododd Paul Davies fod angen ffydd y cyhoedd yn y camau yr ydym ni'n eu cymryd, ac, wrth gwrs, mae hynny'n sail i'r rheswm pam yr ydym bob amser wedi cyhoeddi, ers y dyddiau cynnar iawn, grynodeb rheolaidd o'r cyngor gwyddonol yr ydym ni wedi'i gael.
Rwy'n credu y gallwn ni gael ein calonogi gan y ffaith bod yr arolwg diweddar a wnaed gan Ipsos MORI wedi dangos tua 61 y cant o gefnogaeth i'r mesurau y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd. Ac, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, wrth gwrs, clywsom y gymhariaeth rhwng barn y cyhoedd ar fesurau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a marc cadarnhaol o blaid Llywodraeth Cymru. Ond nid yw hynny'n fater o hunanfodlonrwydd ac, mewn gwirionedd, gostyngodd sgoriau Llywodraeth Cymru, oherwydd cafodd y dystiolaeth ddiweddar ei chynnal dros gyfnod yr anawsterau o ran y mesurau lletygarwch a gyflwynwyd gennym. Felly, yn sicr nid ydym yn cymryd cefnogaeth a ffydd parhaus pobl Cymru yn ganiataol. Ac, wrth wneud hynny, mae'n rhaid i ni gydnabod yr effaith ar ein staff, a'r ffaith y bydd hynny'n effeithio ar y dewisiadau y mae'r cyhoedd yn eu gwneud a'u barn ar y mesurau y mae'r Llywodraeth hon yn barod i'w cymryd.
Gwnaeth Paul Davies gydnabod, fel y gwnaeth Lynne Neagle ac eraill, fod dau fwrdd iechyd eisoes yn lleihau gweithgarwch y GIG. Bydd hynny'n effeithio ar niwed yn y dyfodol, ac mae arnaf ofn y bydd mwy o fyrddau iechyd yn dilyn dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf hyn, wrth i'r pwysau gynyddu.
Nawr, o ran y cyfle i barhau i rannu gwybodaeth, byddwn ni'n parhau i gynnig briffiau gan y Llywodraeth hon yn uniongyrchol i arweinwyr Ceidwadwyr Cymru a Phlaid Cymru, wrth i ni nesáu at unrhyw ymyriadau arwyddocaol. Bydd y cwrteisi hwnnw yn parhau: y sesiynau briffio rheolaidd a hefyd y sesiynau briffio wrth i ni nesáu at benderfyniadau penodol.
Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol ac rydym eisiau cydnabod y ffordd y maen nhw wedi llwyddo i brosesu taliadau ar gyfer cymorth busnes. Mae gennym y pecyn mwyaf hael o gymorth busnes yn y DU, ond mae hynny ond yn cyrraedd llawer o fusnesau oherwydd y gwaith y mae ein staff llywodraeth leol wedi'i wneud. Ac rwy'n gwybod bod od y Gweinidog llywodraeth leol a Gweinidog yr economi yn ddiolchgar iawn i staff llywodraeth leol am ein galluogi i wneud hynny.
Rwyf yn cydnabod y sylwadau a wnaeth Adam Price ynghylch a allwn ni aros tan 28 Rhagfyr. Mae Gweinidogion yn ystyried bob dydd y dewisiadau a wnawn a phryd y mae angen i ni eu gwneud. Gwnaeth Adam Price, a nifer o aelodau eraill, sylwadau am y niwed sydd eisoes wedi'i achosi. Mae'n realiti na ellir ei gwadu bod cyfraddau marwolaethau ychwanegol yng Nghymru, yn fwy diweddar, wedi bod yn uwch nag yn Lloegr ac mae hynny'n wahanol i gwrs y pandemig, oherwydd dros y pandemig cyfan, o ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd hyd yma, cafwyd 13 y cant o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru—mae hynny dros 3,000 o farwolaethau ychwanegol yn uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru—o'i gymharu â 19 y cant o farwolaethau ychwanegol yn Lloegr. O ran y naill gyfrifiad neu'r llall, mae hynny'n swm sylweddol o niwed a achoswyd eisoes, ac mae'n sail i'r rheswm pam y mae'r Llywodraeth yn parhau i orfod ystyried camau eithriadol yn y dyfodol i gadw pobl Cymru'n ddiogel. Nid wyf wedi gweld y llythyr y mae Adam Price yn dweud iddo ei anfon at y Prif Weinidog, ond bydd unrhyw ddulliau adeiladol ynghylch sut y gallem ni gyrraedd setliad yn y dyfodol i'w croesawu a byddan nhw'n cael eu trafod.
Nawr, o ran profi, olrhain a diogelu, dylwn i dynnu sylw at y ffaith y bu traean yn fwy o staff profi, olrhain a diogelu yn ystod y cyfnod atal byr. Rydym wedi llwyddo i gynnal perfformiad effeithiol hyd yma a'r hyn sy'n peryglu ein perfformiad nawr ac yn y dyfodol yw'r don barhaus o alw sy'n parhau i godi bob wythnos. Yn ystod yr wythnos diwethaf, yr oeddem ni'n dal i gyrraedd 81 y cant o gysylltiadau, ond ein pryder yw pa mor gyflym y gallwn ni gyrraedd y cysylltiadau hynny, am ba hyd y gallwn ni barhau i berfformio ar y lefel uchel honno, ac mae'r galw'n adlewyrchu realiti trosglwyddo ar draws ein cymuned. Ni allwn fynnu bod profi, olrhain a diogelu yn parhau i insiwleiddio pobl rhag canlyniadau lledaeniad cyflym y feirws drwy ein cymunedau.
Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden ac eraill am eu cydnabyddiaeth o'r dewisiadau anodd y mae Gweinidogion yn eu hwynebu. O ran y pwynt am brofion torfol, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod â'r dadansoddiad y mae Dawn Bowden eisoes wedi gofyn amdano am effaith profion torfol ym Merthyr Tudful. Rwy'n edrych ymlaen at weld hynny'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach i helpu i benderfynu ar ddewisiadau eraill y gallwn ni eu cymryd. Rwyf yn cydnabod ei phwynt, a'r pwynt a wnaethpwyd gan Joyce Watson hefyd, ynghylch y gweithredu ar y cyd y mae angen i ni ei gymryd i wella ein hiechyd a'n dyfodol economaidd, ac mae hynny'n cyd-fynd â chyfrifoldeb personol.
Roeddwn i'n ddiolchgar i David Melding am ei ymateb pwyllog a chefnogol o ran cydnabod yr angen i weithredu gyda'r rheoliadau yr ydym ni wedi'u cyflwyno, ac yn yr un modd dangos ei fod ef ac eraill yn dweud y bydden nhw'n ystyried cefnogi gweithredu cyn y Nadolig yn ogystal ag ar ôl. A hefyd y posibilrwydd o newidiadau rhanbarthol yn y dyfodol a nododd Jack Sargeant, unwaith eto, y byddai'n dymuno eu gweld, os a phryd y mae'n ddiogel gwneud hynny, ac rydym ni'n nodi hynny fel bwriad a phosibilrwydd gwirioneddol yn y cynllun rheoli COVID wedi'i ddiweddaru yr ydym ni wedi'i gyhoeddi.
Nawr, gan droi at Rhun ap Iorwerth, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y cyfnod atal byr wedi gweithio: fe wnaeth leihau heintiau'n sylweddol. Yr hyn na weithiodd oedd y cytundeb newydd ar newid ymddygiad ar ôl i'r cyfnod atal byr ddod i ben. Gyda'n gilydd, fe wnaethom ni ddychwelyd at batrymau ymddygiad mwy arferol cyn y cyfnod atal byr a dyna sy'n ein harwain ni at y sefyllfa sy'n ein hwynebu heddiw.
Rwyf yn cydnabod yr alwad am fwy o gymorth, gan gynnwys cymorth i bobl sy'n ynysu. A'n her gyson yw'r hyn a wnawn am roi negeseuon am y gefnogaeth yr ydym ni eisoes wedi'i darparu, ond hefyd y realiti bod yn rhaid i bob darn ychwanegol o gymorth yr ydym yn ei ddarparu yn dod o rywle, a'n her yn y gyllideb, y pwysau ychwanegol y mae iechyd yn ei wynebu, y pwysau ychwanegol y mae busnesau'n ei wynebu, a'n gallu wedyn i gael mwy o arian i gefnogi unigolion i wneud y peth iawn iddyn nhw, eu teulu, eu cymuned ac, wrth gwrs, y wlad. Ond rwy'n cydnabod bod gan y Llywodraeth ran i'w chwarae o ran arwain a llywio'r drafodaeth ac wrth ddylanwadu ar ymddygiad, ond ni allwn bennu dewisiadau ymddygiadol ar gyfer pob aelod o'r cyhoedd. Dyna pam rwy'n croesawu'r pwyntiau a wnaed gan Aelodau ar draws y rhaniad gwleidyddol yn y Siambr am gyfrifoldeb personol.
Yn barchus, nid oeddwn yn cytuno â llawer o'r hyn a oedd gan Caroline Jones i'w ddweud. Nid wyf yn derbyn mai'r rheswm pam nad oes gennym ni un dull gweithredu ledled y DU yw oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cydweithredu â Llywodraethau eraill—mae hynny'n ymhell o fod yn wir. Rydym ni wedi galw'n rheolaidd am fwy o gydweithredu rhwng Llywodraethau'r DU i ddeall y cyd-destun yr ydym ni i gyd yn gweithredu ynddo, i gael cymaint o gyffredinedd ag sy'n bosibl, a dyna lle'r ydym ni fel Llywodraeth o hyd. Rydym ni eisiau gweld dulliau mwy cyffredin o helpu'r cyhoedd i ddeall yr hyn y gofynnwn iddyn nhw ei wneud a pham, a dyma'r dull a ddefnyddiwn o hyd wrth ymgysylltu â phob un o'r Llywodraethau yn y Deyrnas Unedig.
Diolch i Lynne Neagle am ei disgrifiad byw o'r pwysau ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwent. Mae Aelodau ym Mae Abertawe, Aelodau Cwm Taf Morgannwg yn eu hwynebu hefyd, ac, yn wir, byddai Aelodau Caerdydd a'r Fro hefyd yn cydnabod y pwysau hynny. Ac mae arnaf ofn y bydd Aelodau Hywel Dda, gan feddwl eto am sylwadau Joyce Watson, yn gweld y rheini fel pwysau cynyddol yng ngorllewin Cymru hefyd. Ac rydym ni'n gweld achosion o'r coronafeirws yn cynyddu yn y gogledd. Mae hon yn frwydr genedlaethol wirioneddol sy'n ein hwynebu yn erbyn y feirws ac nid yn un lleol neu ranbarthol, ac mae angen i bob un ohonom ni chwarae ein rhan.
Gobeithio bod Helen Mary Jones yn fodlon â'r ffaith ein bod ni'n cydnabod bod angen i gynghorwyr gwyddonol ymgysylltu â gwahanol sectorau busnes. Yn wir, mae hynny eisoes wedi digwydd gyda chynrychiolwyr y sector yr ydym ni wedi'u trafod—nid ydyn nhw wedi siarad â Gweinidogion yn unig, maen nhw wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr o adran y prif swyddog meddygol neu'r prif gynghorydd gwyddonol ar adran iechyd i geisio egluro'r dystiolaeth sy'n sail i bob un o'r dewisiadau y gwnaethom ni. Ond rydym yn hapus i gadarnhau mai dyna'r dull y byddwn ni'n parhau i'w gymryd gan fod yn rhaid i ni wneud dewisiadau anodd.
Diolch i Carwyn Jones am ei sylwadau hefyd, ac, fel arfer, roedd gwahaniaeth rhwng y sylwadau a wnaeth Carwyn Jones am Sweden fel model na ddylid ei ddilyn a Neil Hamilton, sy'n parhau i fod eisiau i ni wneud hynny. Fel arfer, bu methiant i gymharu Sweden â realiti'r hyn sydd wedi digwydd yn y Ffindir, Norwy a Denmarc—gwledydd sy'n cymharu'n llawer mwy taclus â'r ffordd y mae'r poblogaethau hynny'n ymateb i'w Llywodraeth a'r sefyllfa ymarferol ynddynt. Nid wyf yn credu bod Sweden yn fodel i Gymru nac i unrhyw ran o'r DU ei ddilyn. Rwy'n credu, serch hynny, pan soniwn ni am imiwnedd torfol, ei bod yn bwysig cydnabod y gall imiwnedd torfol ddod o amddiffyniad gan frechlyn, a phan wnaeth Carwyn Jones ei sylwadau, rwy'n glir iawn ei fod yn dweud na ddylai hynny ddod o oroesiad y rhai mwyaf heini, na chwaith adael ein trigolion mwyaf agored i niwed i'w tynged. Ni fu hynny erioed yn ymagwedd y Llywodraeth hon, ac ni fydd byth. Rwyf eisiau i'n pobl gael eu hamddiffyn gan y brechlyn.
A dyna lle rwy'n credu bod angen i ni orffen, Llywydd. Mae'r cynllun gweithredu yn ymateb i'r argyfwng sy'n ein hwynebu, y realiti y bydd angen i'r Llywodraeth a phob un ohonom ni, yn ein teuluoedd a'n cymunedau, gymryd mwy o gamau yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Mae'r brechlyn yn cynnig gobaith, ond er mwyn cyrraedd yno, mae angen i bob un ohonom ni wynebu'r argyfwng gyda'n gilydd a theithio'r ffordd honno gyda'n gilydd, ac mae angen i bob un ohonom ni weithredu fel nad ydym yn colli pobl ar y ffordd. Efallai fod gennym ddigwyddiadau bywyd eraill i'w dathlu gyda'n gilydd, ond ni allwn ddisodli'r rheini sy'n cael eu colli, y rhai sy'n cael eu colli'n ddiangen.
Bydd y pandemig yn dod i ben. Byddwn ni'n cyrraedd sefyllfa lle byddwn ni'n amddiffyn ein pobl drwy roi sylw effeithiol i frechlyn, ond bydd y camau a gymerwn, ym mhob cartref, ym mhob teulu, yn pennu faint ohonom ni sy'n gorffen y daith hon gyda'n gilydd i helpu i ailadeiladu ein gwlad. Mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae i gadw Cymru'n ddiogel, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n teimlo y gallan nhw gefnogi'r Llywodraeth gyda gwelliannau i'r cynnig heddiw, ond yn fwy na hynny, i gefnogi pob rhan o'n gwlad yn y misoedd anodd sydd o'n blaenau. Diolch, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly mae yna wrthwynebiad ac fe fydd yr holl bleidleisio felly yn digwydd ar yr eitem yma yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Nawr, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 18 ac 19 sy'n ymwneud â'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Oes gwrthwynebiad i'r grwpio ar gyfer dadl? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny. Da iawn. Ac felly, fe wnaf i alw ar y Gweinidog Addysg i wneud y cynigion. Kirsty Williams.
Cynnig NDM7513 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Cynnig NDM7514 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ar y papur trefn, ac rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil, ar ôl ei gyflwyno i'r Senedd ym mis Gorffennaf. Bydd yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol i gefnogi ein cwricwlwm newydd a'n trefniadau asesu.
Bydd y Cwricwlwm i Gymru, gyda chefnogaeth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac wrth wraidd ein cenhadaeth i ddiwygio addysg, yn helpu i godi safonau addysgol i bawb ac yn cau'r bwlch cyrhaeddiad. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau perthnasol am eu hymagwedd drylwyr ac adeiladol tuag at graffu, a'u hadroddiad a'u hargymhellion dilynol. Yn anffodus, nid oes gennyf amser heddiw i fynd i'r afael â phob un o'r bron i 90 o argymhellion, ond byddaf, wrth gwrs, yn myfyrio ar sylwadau'r Aelodau wrth i ni symud tuag at Gyfnod 2. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi darparu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i'r pwyllgorau, yn ystod cyfnod heriol iawn i bob sefydliad, wrth gwrs. O ran yr holl argymhellion, rwy'n bwriadu derbyn 57 ohonynt, derbyn 10 mewn egwyddor, a byddaf yn gwrthwynebu 19.
Yn gynharach eleni, ymrwymais i ymgysylltu â'r ddadl ar sefyllfa'r Saesneg yn y Bil, yng nghyd-destun ein huchelgeisiau ar gyfer system wirioneddol ddwyieithog. Roedd yr ymateb i'r arolwg ar ddiwygio'r Bil er mwyn i'r Saesneg ddod yn elfen orfodol yn saith oed yn gefnogol iawn, ac felly rwy'n bwriadu gosod gwelliant yng Nghyfnod 2 i'r perwyl hwnnw. Nodaf sylwadau'r pwyllgor am god Cymraeg, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid a Chomisiynydd y Gymraeg i ddatblygu'r continwwm Cymraeg clir ar gyfer pob dysgwr cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn cymryd amser a meddwl, ac nid yw llawer o'r heriau sy'n ein hwynebu yn ddeddfwriaethol, ond maen nhw'n ymwneud â'r ffyrdd o weithio, diwylliant a meddylfryd. Nid wyf yn credu y bydd gwneud cod yn ofyniad yn ein helpu ni yn hyn o beth.
Mae'r Gymraeg yn orfodol o dair blwydd oed ar wyneb y Bil, ac mae hynny'n rhoi arwydd clir iawn o'r flaenoriaeth yr ydym yn ei rhoi i hyn. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol ein bod wedi lansio ymgynghoriad ar y canllawiau anstatudol drafft ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rwyf yn cydymdeimlo'n fawr â'r galwadau i wneud hyn yn statudol. Fodd bynnag, mae hynny y tu hwnt i gwmpas Bil cwricwlwm ac asesu, a bydd angen deddfwriaeth ar wahân. Rwy'n gobeithio yn fawr y bydd y Llywodraeth nesaf yn dewis gweithredu yn y ffordd honno.
Nawr, yn fwy nag erioed, mae iechyd meddwl ein dysgwyr mor bwysig. Yng Nghyfnod 2, rwy'n bwriadu cyflwyno dyletswydd i roi sylw i iechyd meddwl a lles emosiynol disgyblion. Bydd y ddyletswydd hon yn rhoi iechyd meddwl mewn sefyllfa unigryw, a bydd yn ystyriaeth ar draws y system i lywio pob penderfyniad y mae ysgol yn ei wneud am gwricwlwm. Mae addysgu iechyd meddwl a lles eisoes wedi'i sicrhau drwy'r cod 'yr hyn sy'n bwysig' arfaethedig, a bydd y gwelliant yn sicrhau y bydd angen i bob penderfyniad lleol sy'n ymwneud â chwricwlwm ystyried effaith iechyd meddwl a lles emosiynol.
Gan droi at grefydd, gwerthoedd a moeseg, hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys Dyneiddwyr Cymru a'r Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol, am eu cyfraniadau, yn ogystal â'n partneriaid darparu addysg, gan gynnwys yr Eglwys yng Nghymru a'r Gwasanaeth Addysg Gatholig. Bydd y gwelliannau rwy'n bwriadu eu cyflwyno yng Nghyfnod 2 yn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd. Bydd y Bil yn sicrhau bod crefydd, gwerthoedd a moeseg plwraliaethol ar gael i bob dysgwr, tra hefyd yn sicrhau y gall ysgolion o natur grefyddol barhau i weithredu yn unol â'u gweithredoedd ymddiriedolaeth.
Rwyf hefyd yn derbyn argymhelliad 50 y pwyllgor plant a phobl ifanc o ran adran 58 o'r Bil. Mae'r Llywodraeth yn fodlon gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth ar drefniadau asesu mewn rheoliadau. Rwy'n ffyddiog bod yr Aelodau'n gwybod bod fy mhrofiad yn y Senedd ar yr ochr arall yn golygu fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i graffu'n briodol ar is-ddeddfwriaeth, ac i gydnabod hyn, rydym ni wedi cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol i bwerau a dyletswyddau pan fo hynny'n briodol, yn gymesur a'i bod yn ymarferol i wneud hynny.
Rwyf wedi derbyn dau o'r argymhellion i gymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft a wnaed gan y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a’r cyfansoddiad. Yn gyntaf, byddaf yn cyflwyno gwelliannau'r Llywodraeth a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cod crefydd, gwerthoedd a moeseg ac unrhyw ddiwygiadau dilynol fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, gan fy mod yn cydnabod bod hwn yn faes sydd o ddiddordeb ehangach i'r cyhoedd. Yn ail, gan fod gan y pŵer o dan adran 50 swyddogaeth gyffredinol, rwy'n cytuno y byddaf yn cyflwyno gwelliannau fel bod unrhyw reoliadau ar eithriadau pellach i'r cwricwlwm hefyd yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.
Bydd y newidiadau i'r cwricwlwm ym mis Medi 2022 yn sylweddol, a byddaf yn cyhoeddi ein cynllun gweithredu cwricwlwm a rhaglen ymchwil a gwerthuso amlinellol yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Bydd y rhain yn nodi sut y byddwn ni'n dysgu mwy am gynnydd a chost diwygio'r cwricwlwm, i adrodd ar y rhain yn y Senedd nesaf. Yn fy llythyrau at y pwyllgor plant a phobl ifanc a'r Pwyllgor Cyllid yn yr hydref, ymrwymais i ddiweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol i adlewyrchu gwybodaeth a ddarparwyd gan ein rhanddeiliaid allweddol. Rwyf yn cydnabod pwysigrwydd bod â chymaint o eglurder ag sy'n bosibl ar y mater pwysig hwn.
Ni fyddaf yn derbyn y gwelliannau sy'n ymwneud â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn syml iawn, mae hynny wedi'i anelu at wladwriaethau, ac nid yw wedi'i anelu at ddarparwyr gwasanaethau rheng flaen. Drwy'r Bil hwn, bydd yn ofynnol i benaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion gynllunio, mabwysiadu a gweithredu cwricwlwm sy'n cynnwys dysgu ar hawliau plant a'r CCUHP. Mae'r cwricwlwm arfaethedig yn darparu canllawiau clir ar ddysgu ac addysgu ar hawliau dynol, gan gynnwys cyfeiriad penodol at hawliau plant a'r CCUHP. Fodd bynnag, mae'n ddyletswyddau penodol ac ymarferol ar gyrff cyhoeddus a fydd yn arwain at well canlyniadau, a dyma'r dull y byddwn yn ei ddilyn.
Mae'r cod dilyniant a'r cod 'yr hyn sy'n bwysig' yn ddogfennau proffesiynol technegol sydd wedi'u cyd-ddatblygu ag ymarferwyr. Mae'r weithdrefn negyddol yn golygu ein bod yn cydnabod pwysigrwydd canolog barn broffesiynol ymarferwyr ac yn rhoi'r hyblygrwydd i newidiadau gael eu gwneud yn ôl yr angen, ac mae arnaf ofn y byddai agor y rhain i'r weithdrefn gadarnhaol yn cwestiynu dilysrwydd a'r ffydd sydd gan ein proses yn ein gweithwyr proffesiynol.
I gloi, Llywydd, mae hwn yn gam pwysig ar ein taith i gwricwlwm i Gymru, ac yn foment nodedig arall i'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau pawb. Fel y dywedais, rwy'n ddiolchgar am waith y pwyllgorau hyd yma ar y materion hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddadl ymysg fy nghyd-Aelodau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Leanne—na, nid Leanne—Lynne Neagle.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon i amlinellu prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gysylltiedig â'r Bil cwricwlwm ac asesu. Rwyf eisiau dechrau drwy ddweud bod ein pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn.
Roedd y dystiolaeth a gawsom yn ei gwneud yn glir bod angen gwelliannau i'r cwricwlwm i alluogi ein plant i fyw bywydau hapus, llwyddiannus a chyfoethog, ac i'w helpu i wneud cyfraniad llawn i gymdeithas Cymru a thu hwnt. Mae'r alwad am newid gan blant a phobl ifanc eu hunain wedi gwneud argraff arbennig arnom ni. Maen nhw eisiau gweld cwricwlwm newydd sy'n eu galluogi i ddatblygu'r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw i ddechrau eu taith i fod yn oedolion. Felly, rydym ni'n croesawu'r pwyslais ar sgiliau bywyd a pharatoi ar gyfer bod yn oedolyn sy'n rhedeg drwy'r cwricwlwm newydd i Gymru. At hynny, rydym yn cytuno â Llywodraeth Cymru nad yw'r cwricwlwm presennol yn addas ar gyfer Cymru fodern. Mae'r cyfle y mae'r Bil hwn yn ei gynnig i ysgolion lunio eu cwricwlwm eu hunain, yn seiliedig ar anghenion disgyblion, yn feiddgar ac yn uchelgeisiol. Mae ganddo'r potensial i wneud gwahaniaeth sylweddol os caiff ei weithredu'n llwyddiannus.
Serch hynny, bydd Aelodau sydd wedi gweld ein hadroddiad manwl a'n 66 argymhelliad yn gwybod bod gennyf fwy i'w ddweud am y Bil hwn a'r fframwaith deddfwriaethol y mae'n bwriadu ei greu. Fel pwyllgor, rydym ni'n glir, er ein bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, fod materion i fynd i'r afael â nhw o hyd. Mae ein pryderon ynghylch ymarferoldeb sut y caiff y cwricwlwm hwn ei gyflwyno'n effeithiol, a oes digon o amser i hyfforddi staff i'w gyflawni, yn enwedig yng nghyd-destun COVID-19, ac a yw Llywodraeth Cymru yn ddigon clir ynghylch sut y bydd yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cyfrannu at godi safonau yn ogystal â darparu'r un cyfleoedd a phrofiadau o'u haddysg.
Gyda dim ond wyth munud, ni allaf drafod pob elfen o'n hadroddiad, felly fe wnaf roi amlinelliad byr o'r prif faterion a rhai o'r atebion yr hoffem ni eu gweld. Ond cyn i mi fanylu ar hynny, hoffwn oedi i ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith craffu. Dyma'r Cyfnod 1 cyntaf i gael ei gynnal mewn cyd-destun cwbl rithiol. Yn bwysicach na hynny, dyma'r Cyfnod 1 cyntaf i gael ei gynnal mewn pandemig byd-eang. Rydym ni'n hynod ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu barn a'u harbenigedd gyda ni yn ystod y misoedd diwethaf. Gwyddom fod cynifer ohonyn nhw wedi bod ar y rheng flaen, yn rheoli effaith y coronafeirws, ac yn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn parhau i dderbyn gofal, cymorth ac addysg yng Nghymru. Felly, hoffwn ddiolch o galon iddyn nhw am ein helpu i sicrhau, er gwaethaf heriau'r pandemig, fod ein gwaith craffu wedi bod mor gadarn ac mor gynhwysfawr ag y mae unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth sylfaenol yn gofyn amdano.
Hoffwn ddiolch hefyd i'n clerc, Llinos Madeley, ein hymchwilydd, Michael Dauncey, yn ogystal â Lisa Salkeld a Rhiannon Lewis o'r tîm cyfreithiol am eu holl waith caled ar y Cyfnod 1 hwn. Rwyf wedi dweud o'r blaen fod y pwyllgor yn lwcus i fod â thîm mor wych yn ein cefnogi, ac mae'r adroddiad hwn yn dystiolaeth bellach o hynny.
Rwy'n troi yn awr at y prif faterion yr ydym ni o'r farn bod angen gwaith pellach arnyn nhw rhwng nawr a phasio'r Bil. Yn gyntaf, rydym ni'n credu bod angen mwy o sicrwydd ynglŷn â'r cydbwysedd a gaiff ei daro rhwng hyblygrwydd lleol a chysondeb cenedlaethol. Rydym ni'n cefnogi'r nod o rymuso athrawon i gynllunio cwricwlwm sy'n diwallu anghenion disgyblion. Rydym ni hefyd yn cydnabod na fydd y cwricwlwm newydd yn unffurf ar draws pob ysgol. Ond rydym ni'n credu ei bod hi'n hanfodol bod plant yng Nghymru yn cael cyfleoedd a phrofiadau cyson o'u haddysg. Ar y sail honno, rydym ni wedi gofyn am eglurder pellach ar y rhwystrau a'r gwrthbwysau y bydd y Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i fonitro a chynnal y cydbwysedd cywir hwnnw. Wedi'i gysylltu'n agos â hyn, rydym wedi galw ar y Llywodraeth i fonitro'n agos unrhyw amrywiad yn y cwricwlwm a gynigir ac unrhyw effaith y bydd hynny'n ei chael ar grwpiau penodol o ddisgyblion. Mae hyn yn hanfodol os ydym ni yn mynd i osgoi ymwreiddio anfantais sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Mae ein hadroddiad yn cydnabod y gobaith sylweddol sydd gan randdeiliaid y bydd y cwricwlwm newydd yn cael effaith gadarnhaol ar safonau a gwella ysgolion. Er ein bod yn cytuno â'r Gweinidog nad yw'r sefyllfa bresennol yn cyflawni'n llawn yn hyn o beth, ni ddangoswyd tystiolaeth amlwg i ni y bydd y cwricwlwm newydd yn arwain at safonau uwch. O ystyried hyn, rydym ni'n galw ar y Llywodraeth i fonitro'n ofalus ac yn dryloyw yr effaith y mae diwygio'r cwricwlwm yn ei chael ar safonau. Mae'n hanfodol sicrhau ei fod yn ategu'r ymdrechion ehangach i wella ysgolion sydd ar y gweill.
Rydym yn symud yn awr at fanylion ar wyneb y Bil. Mae hyn wedi bod yn fater o rywfaint o drafodaeth yn ystod Cyfnod 1. Roedd rhai rhanddeiliaid yn cytuno â'r Gweinidog y byddai cynnwys manylion a chyfarwyddeb sylweddol ar wyneb y Bil yn tanseilio'r nod cyffredinol o ganiatáu hyblygrwydd i ysgolion gynllunio cwricwlwm wedi'i deilwra i anghenion eu plant a'u pobl ifanc. Roedd eraill yn pryderu bod angen mwy o fanylion ar wyneb y Bil i sicrhau bod gan feysydd pwysig nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar hyn o bryd le diogel o fewn y cwricwlwm newydd. Rydym yn derbyn mai'r hiraf yw'r rhestr o ofynion ar wyneb y Bil, y mwyaf cul yw'r cyfleoedd i wireddu'r hyblygrwydd y mae'n ceisio'i gyflawni. Serch hynny, mae'n rhaid i'r rhesymu a gymhwysir at benderfyniadau ynghylch yr hyn a osodir ar wyneb Bil a'r hyn sydd mewn is-ddeddfwriaeth fod yn glir. Rydym ni'n credu bod angen gwneud mwy o waith yma, felly rydym ni wedi galw ar y Llywodraeth i nodi'r egwyddorion sydd wedi llywio penderfyniadau ynghylch pa agweddau ar addysgu a dysgu sy'n cael eu cynnwys ar wyneb y Bil fel elfennau gorfodol.
Wedi'i gysylltu'n agos â hyn, er ein bod yn cydnabod awydd y Llywodraeth i osgoi gorlenwi'r Bil, rydym yn credu bod angen cyfeiriad penodol at iechyd meddwl a lles yn wir ar wyneb y ddeddfwriaeth hon. Fel pwyllgor, mae ein hymrwymiad i sicrhau parch cydradd tuag at iechyd meddwl yn glir, ac rydym yn credu bod hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth sy'n gwarantu dull gweithredu gofalus. Felly, rydym ni wedi galw am welliant yn y maes hwn yn ystod Cyfnod 2, ac edrychwn ymlaen at glywed mwy o fanylion gan y Gweinidog am y gwelliannau y mae'n eu hawgrymu.
Gyda'r amser sy'n weddill, byddaf yn sôn yn fyr am rai argymhellion pwysig eraill. Yn gyntaf, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r Bil i ddatrys pryderon am yr effaith ar drochi yn y Gymraeg hyd at 7 oed. Rydym yn croesawu bwriad y Gweinidog i gyflwyno gwelliant sy'n dileu'r Saesneg fel elfen orfodol ar gyfer y grŵp oedran hwn. Yn fwy cyffredinol, os yw'r Llywodraeth yn mynd i gyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ni ellir gorbwysleisio cymaint o drawsnewid sydd ei angen i addysgu a dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Roedd y graddau y mae Comisiynydd y Gymraeg yn pryderu am hyn yn glir, felly rydym wedi galw ar y Llywodraeth i weithio gyda'r comisiynydd i gryfhau'r sail o fewn y Bil a fframwaith ehangach y cwricwlwm ar gyfer y continwwm Cymraeg sengl.
Gan symud yn awr at grefydd, gwerthoedd a moeseg ac addysg cydberthynas a rhywioldeb Fel pwyllgor, rydym ni'n cefnogi'n unfrydol y darpariaethau yn y Bil i wneud y rhain yn elfennau gorfodol o'r cwricwlwm. Rydym ni hefyd yn cefnogi'r ffaith nad yw'r Bil yn cynnwys yr hawl i dynnu'n ôl o'r naill bwnc na'r llall. Mae ein hadroddiad yn glir bod y cymorth hwn yn seiliedig ar y ffaith bod y ddarpariaeth yn wrthrychol, yn blwraliaethol ac yn feirniadol. Rydym yn gwneud nifer o argymhellion yn hynny o beth, ac wedi gofyn i'r Gweinidog egluro rhai pwyntiau penodol yn ystod y ddadl heddiw. Rydym ni o'r farn bod addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n briodol i gyfnod datblygiad y plentyn yn hanfodol er mwyn creu'r amodau angenrheidiol i alluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael addysg gynhwysfawr o ansawdd uchel ar gydberthynas a rhywioldeb sy'n addas i wlad fodern, oddefol a chynhwysol. Mae hefyd yn ddull hanfodol o helpu plant a phobl ifanc i ddeall a pharchu eu hawliau eu hunain a hawliau pobl eraill o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac yn fwy cyffredinol, o dan y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Mae ein hadroddiad yn nodi ein pryder mawr ynghylch dosbarthu gwybodaeth anghywir am ddarpariaethau addysg cydberthynas a rhywioldeb y Bil. Hoffwn gofnodi i'r pwyllgor ei bod yn gwbl glir mai bwriad addysg cydberthynas a rhywioldeb yw addysgu ac amddiffyn plant a phobl ifanc, yn hytrach na'u gwneud yn agored i gynnwys amhriodol mewn unrhyw ffordd.
Yn olaf, roedd rhwystrau i weithrediad effeithiol y Bil yn rhan allweddol o'n gwaith craffu. Mae gwneud amser i alluogi digon o ddysgu a datblygiad proffesiynol i'r gweithlu yn hanfodol i lwyddiant y Bil hwn, yn enwedig o ystyried cefndir COVID, a bydd hyn yn heriol. Nid ydym ni'n credu y dylai hyn atal y Bil rhag mynd drwy'r Senedd, ond rydym ni'n credu bod angen gwneud mwy o waith i'n sicrhau ni, y sector, a rhieni a gofalwyr bod popeth y mae angen iddo fod ar waith ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd ar waith.
I gloi, Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog a'i swyddogion am eu hymgysylltiad cadarnhaol â'n Cyfnod 1. Rydym ni wedi ymgymryd â'n gwaith craffu yn yr ysbryd o oruchwylio'r newid mwyaf i addysg ers dechrau datganoli yn ein barn ni. Rydym ni'n annog y Senedd i gefnogi'r Bil hwn, ac edrychwn ymlaen at weld ein hargymhellion yn cael eu cyflawni yn ystod camau nesaf y broses ddeddfwriaethol. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl yma, fel dŷch chi'n dweud, fel Cadeirydd y Pwyllgor. Dŷn ni wedi gwneud naw argymhelliad. O ystyried yr amser sydd ar gael, mi wnaf i efallai ganolbwyntio ar rai o'n prif bryderon ni yn y ddadl yma y prynhawn yma.
Fe glywodd y pwyllgor gan y Gweinidog fod y Bil yn darparu'r sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a'r gyfundrefn asesu drwyddi draw yng Nghymru, ond dim ond dau opsiwn, neu dau ddewis, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn ei roi, sef gwneud dim byd, neu ddeddfu. Nawr, rŷn ni'n credu y dylai'r asesiad effaith rheoleiddiol fod yn ffordd bwysig o asesu ystod o ddulliau yn feirniadol, ac wedyn cynnig dull o wneud penderfyniadau polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'r pwyllgor yn pryderu nad yw asesiadau effaith rheoleiddiol deallus, cynhwysfawr yn gyrru'r broses benderfynu fan hyn. Er bod y pwyllgor yn derbyn y gallai effaith y pandemig fod wedi creu amgylchedd anoddach ar gyfer paratoi'r Bil, rŷn ni'n pryderu bod Llywodraeth Cymru wedi disodli'r memorandwm esboniadol dim ond dau fis ar ôl i'r gwreiddiol gael ei osod. Er nad oedd y newidiadau yn arbennig o berthnasol i ystyried agweddau ariannol y Bil, mae'r cynsail gafodd ei osod yn hynny o beth yn rhywbeth sydd yn peri pryder i ni.
Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn nodi y bydd y cwricwlwm yn cael ei benderfynu ar lefel ysgol, gyda phob ysgol yn cymhwyso gofynion y cwricwlwm yn eu cyd-destunau nhw eu hunain. Felly, does dim jest un sail y gellid ei ddefnyddio i asesu costau'r ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, amcangyfrifir mai ysgolion fydd yn ysgwyddo cyfran sylweddol o'r costau, sef rhwng £146 miliwn a £438 miliwn, neu rhwng 45 y cant a 71 y cant o gyfanswm y costau.
Roedd y fethodoleg a ddefnyddiwyd i amcangyfrif y costau i ysgolion yn seiliedig yn bennaf ar arolwg o 15 ysgol arloesi, gyda'r asesiad effaith rheoleiddiol yn darparu ystod o plws neu minws 50 y cant ar yr amcangyfrif o'r costau. Ond mae'n siomedig na ddefnyddiwyd sampl fwy cynrychioliadol o'r boblogaeth ysgolion ehangach, ac na wnaed gwaith manylach o'r costau i ysgolion ledled Cymru. Mae'n ail argymhelliad yn argymell y dylid felly ymgymryd â'r gwaith yma ac y dylid ei gynnwys mewn asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig.
Mae'r dyletswyddau a osodir ar unedau cyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol yn wahanol i'r rhai a osodir ar ysgolion. Fe gynhaliodd Llywodraeth Cymru ymchwil ar raddfa fach gyda'r rhanddeiliaid hyn. Fodd bynnag, chafodd y costau trosglwyddo na'r costau parhaus ddim o'u cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, gan na ystyriwyd eu bod yn ddigon cadarn i'w cyfuno i lefel Cymru gyfan. Fe gadarnhaodd y Gweinidog y byddai'r Bil yn darparu fframwaith i ddysgwyr mewn addysg heblaw yn yr ysgol, gan roi hawl iddyn nhw gael mynediad at y trefniadau cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, fe ddywedodd, o ystyried yr ystod eang o wahanol anghenion dysgu yn y sector hwnnw, ei bod yn anodd meintioli costau, oherwydd y dilynir dull sy'n seiliedig ar anghenion, ac felly ni chafodd y costau eu cynnwys. Rŷn ni'n argymell yn ein trydydd argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru wneud gwaith pellach i ddiffinio ac amcangyfrif y costau ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid.
Mi fydd £126.8 miliwn yn cael ei ddarparu i ysgolion ar gyfer dysgu proffesiynol. Fe gadarnhaodd y Gweinidog fod y cyllid a ddyrennir i ysgolion yn cael ei bennu gan fformiwla ariannu. Fe glywsom ni hefyd gan y Gweinidog y rhoddir cyfrif am elfennau eraill o ddysgu proffesiynol mewn gwahanol ffyrdd a bod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cael ei hariannu trwy grant blynyddol.
Er mwyn cynorthwyo tryloywder, mae'r pwyllgor yn argymell y dylid cyhoeddi manylion y fformiwla ar sail athrawon a ddefnyddir i ariannu ysgolion yn ogystal â gwybodaeth am y ffyrdd eraill y mae ysgolion yn cael cyllid.
Fe glywsom ni y bu’n rhaid atal yr ymgysylltu â nifer o randdeiliaid allweddol mewn ymateb i bandemig COVID-19, ac fel y soniais ar ddechrau fy nghyfraniad, mae'r pwyllgor yn cydnabod effaith y pandemig hwnnw, wrth gwrs. Fodd bynnag, mae'n siomedig nad oedd y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi symud ymlaen ymhellach ar ôl cyflwyno'r Bil. Mae hyn yn arwain at nifer o bryderon ynghylch y dystiolaeth a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i wneud y penderfyniadau a amlinellwyd yn y memorandwm esboniadol.
Rŷn ni'n ddiolchgar i'r Gweinidog am roi'r ddiweddariad am ymgysylltu â rhanddeiliaid, a bod hwnnw'n nodi bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o'r sector addysg bellach i drafod yr effaith bosibl ar y system addysg ôl-16, a hynny'n cynnwys goblygiadau ariannol ar gyfer hyfforddiant. Rŷn ni'n argymell y dylai manylion trafodaethau Llywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid ynghylch y costau posibl i'r system addysg ôl-16, ynghyd ag unrhyw fanylion am y goblygiadau ariannol, gael eu cyhoeddi.
Dyna amlinelliad byr o rai o'r prif argymhellion, ond wrth gwrs, mae'r ystod llawn o argymhellion i'w gweld yn adroddiad y pwyllgor. Diolch.
Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Mae ein hadroddiad yn cynnwys 11 o argymhellion, ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am roi sylw i'n hadroddiad a rhai o'r argymhellion hynny yn ei sylwadau agoriadol, ac yn benodol yr ymrwymiad i gymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol i rannau penodol o'r Bil mewn cysylltiad â'r argymhellion y mae ein pwyllgor ni wedi'u gwneud.
Bydd fy sylwadau agoriadol yn canolbwyntio ar ein hystyriaeth o'r materion hawliau dynol. Rydym ni wedi cydnabod bod y Gweinidog wedi rhoi llawer o ystyriaeth i faterion hawliau dynol wrth ddatblygu'r Bil, ac rydym yn croesawu hynny. Mae'n hanfodol bod y cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gynllunio a'i gyflwyno mewn ffordd sy'n wrthrychol, yn feirniadol, yn blwraliaethol ac sy'n cydymffurfio'n gyfan gwbl â chonfensiwn hawliau plant a rhieni.
Yn hyn o beth, rydym ni o'r farn bod y codau a wneir o dan adrannau 6 i 8 o'r Bil o bwys sylfaenol. Felly, nid ydym wedi ein hargyhoeddi gan resymeg y Gweinidog ynghylch pam y dylai'r codau hyn fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol yn y Senedd. Er ein bod yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i gynnwys y proffesiynau perthnasol wrth ddatblygu'r codau, ni allem weld pam y dylai cyd-ddatblygu o'r fath ddylanwadu ar ba weithdrefn graffu fyddai'n cael ei defnyddio. Ein barn ni oedd y dylai gweithdrefn gadarnhaol uwch fod yn berthnasol i'r broses o wneud y codau. Felly, ein hargymhelliad cyntaf oedd diwygio'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i'r codau a wneir o dan adrannau 6 i 8 o'r Bil fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, gan gadw'r ddarpariaeth ymgynghorol yn adran 72(2)(a).
Gan symud ymlaen yn gyflym at adran 25 o'r Bil, bydd yr Aelodau'n gwybod bod adran 25 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau a allai osod gofynion cwricwlwm pellach o ran disgyblion 14 i 16 oed mewn ysgol a gynhelir. Mae'r Gweinidog o'r farn bod angen hyblygrwydd i weld sut mae arfer ysgolion yn datblygu. Fodd bynnag, mae gennym bryderon bod hwn yn bŵer eang heb ddigon o fanylion, a'n trydydd argymhelliad yw diwygio adran 25 i gynnwys rhestr gynhwysfawr ond cynhwysfawr o'r amgylchiadau lle gellir defnyddio'r pwerau i wneud rheoliadau yn adran 25(1). At hynny, mae argymhelliad 4 yn dweud y dylid diwygio'r Bil fel bod rheoliadau a wneir o dan adran 25(1) yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.
Mae adran 40 o'r Bil hefyd yn cynnwys pŵer sylweddol i Weinidogion Cymru. Yn argymhelliad 6 ein hadroddiad, gofynnwyd i'r Gweinidog ddefnyddio'r ddadl heddiw i egluro pam mae angen y pŵer yn adran 40 yn ogystal â'r pŵer yn adran 50. Gofynnwyd hefyd i'r Gweinidog egluro sut y gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r pŵer cyfarwyddo yn adran 40. O ystyried natur y pŵer yn adran 40 o'r Bil, a'r ffaith nad yw'n ddarostyngedig i weithdrefn y Senedd, mae argymhelliad 7 yn gofyn bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu Aelodau'r Senedd drwy ddatganiad ysgrifenedig bob tro y defnyddir y pŵer cyfarwyddo.
Gan symud ymlaen yn gyflym eto i adran 47 o'r Bil, dywedodd y Gweinidog wrthym ei bod eisoes wedi asesu'r angen i ddefnyddio'r pwerau yn adran 47 ar y dechrau i bennu terfynau amser yn gysylltiedig ag apeliadau am eithriadau dros dro i ddisgyblion unigol. Yn ein barn ni, dylid gosod y terfynau amser hyn ar wyneb y Bil. Er mwyn darparu hyblygrwydd, gellid cynnwys darpariaeth sy'n caniatáu i'r terfynau amser gael eu diwygio gan reoliadau. Fodd bynnag, rhaid i bŵer Harri VIII o'r fath fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Mae ein hargymhelliad 8 yn ymdrin â'r materion hyn.
Pe bai'r Gweinidog yn gwrthod argymhelliad 8, ein nawfed argymhelliad yw bod y Gweinidog yn diwygio adran 47(8) fel bod Gweinidogion Cymru yn cael eu rhoi o dan ddyletswydd i wneud rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth bellach ynghylch y terfynau amser ar gyfer apeliadau o dan yr adran, yn hytrach na rhoi pŵer cyffredinol i'r Gweinidog.
Mae fy sylw olaf yn ymwneud ag adran 50 o'r Bil, y bu'r Gweinidog yn rhoi sylw iddo. Roedd hi ei hun yn cydnabod bod datgymhwyso neu addasu'r cwricwlwm ar gyfer unrhyw ddisgybl yn gam difrifol. Nid oes unrhyw amodau ynghlwm ychwaith wrth arfer y pŵer yn adran 50. Am y rhesymau hyn, nid oeddem o'r farn bod y weithdrefn negyddol yn briodol, a'n degfed argymhelliad oedd y dylid diwygio'r Bil fel bod rheoliadau a wneir o dan adran 50 yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Ac, wrth gwrs, rwy'n croesawu—. Rwy'n credu mai cadarnhad y Gweinidog oedd y byddai'r weithdrefn gadarnhaol yn cael ei defnyddio; gobeithio i mi glywed hynny'n gywir gan y Gweinidog, ond diolch i chi am hynny. Diolch, Llywydd.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i gyd-aelodau'r pwyllgor a'n clercod a'n hymchwilwyr sydd dan bwysau, y Gweinidog a'i swyddogion ac, wrth gwrs, i'n tystion? A gaf i annog pawb i ddarllen yr adroddiad hwn yn llawn i weld pa mor drylwyr yr ydym ni wedi archwilio hyn, nid dim ond ailwampio'r system ond y pwysau amser newydd a achoswyd gan COVID, a'r elfennau gorfodol dadleuol yn y cwricwlwm newydd? Mae'n grynhoad o lawer iawn o dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gafwyd drwy ymgynghoriad a hysbysebwyd yn dda, gan gynnwys gyda phlant a phobl ifanc.
Ac rwyf i eisiau pwysleisio'r pwynt olaf hwnnw: ymrwymodd y Senedd Cymru hon mewn deddfwriaeth a gyflwynwyd dros ddegawd yn ôl i roi sylw dyledus i hawliau plant yn y broses o ddeddfu neu lunio polisïau, ac mae cydbwyso'r rhain gyda hawliau rhieni wedi bod yn her i'n pwyllgor mewn gwirionedd, yn ogystal â'r pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad, yn amlwg.
Mae'r dystiolaeth, wrth gwrs, wedi bod ymhell o fod yn un ffordd, ond yr hyn sydd wedi bod yn gwbl amlwg yw y gallai ein cwricwlwm presennol fod cymaint yn well o ran helpu athrawon a rhieni i arwain ein plant i fod yn oedolion mewn byd modern gyda heriau newydd a hefyd hen rai, ac efallai eu paratoi ar ei gyfer mewn modd na wnaeth y rhan fwyaf ohonom ni yn ei brofi.
Nawr, er fy mod i'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, rwy'n dal i fod yn amheus ynglŷn â pha un a all gyflawni'r nodau fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd. Fy nghŵyn oesol i am Filiau Caws o'r Swistir—mae cymaint yn cael ei adael i ganllawiau neu godau a, hebddynt, mae'r Gweinidog yn gofyn i ni am lawer o ymddiriedaeth, ac nid yw fy nghefnogaeth yn y Cyfnod hwn yn gwarantu fy nghefnogaeth ymhellach ymlaen, oherwydd fy mod i'n rhannu rhai o bryderon Lynne ynghylch cyflwyno'r agweddau ymarferol. Ond yn y Cyfnod hwn, rwy'n sicr yn cefnogi'r Bil.
Rwy'n ddiolchgar bod y Gweinidog eisoes wedi cytuno i fynd i'r afael â'r mater o addysgu Saesneg o dan saith oed ac iechyd meddwl, ac rwy'n awyddus i glywed ychydig mwy, mewn gwirionedd, am yr ymateb i'n pryderon ynghylch addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Bydd yn ofynnol i ysgolion eraill, fel y gwyddoch chi efallai, ystyried y cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg y cytunwyd arno'n lleol, tra bod yn rhaid i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir addysgu yn unol â'r cwricwlwm hwnnw, rhwymedigaeth lawer cryfach, neu ddarparu'r cwricwlwm hwnnw ar wahân ar gais. Rwy'n credu bod honno'n rhwymedigaeth sy'n gwahaniaethu yn erbyn ysgolion ffydd.
Dylai pob ysgol fod yn ddarostyngedig i'r gofyniad i 'roi sylw', a dylid dileu'r hawl i ofyn am gwricwlwm cyfochrog fel un diangen neu o leiaf gyfyngedig. Ni welais unrhyw dystiolaeth ddarbwyllol bod y cwricwlwm addysg grefyddol presennol y cytunwyd arno'n lleol yn cael ei addysgu mewn ffordd nad yw'n blwraliaethol, ac felly rwyf hefyd yn gwrthod y ddadl bod y cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg newydd yn sicr o fod yn groes i weithredoedd ymddiriedolaeth neu ddaliadau crefyddol ysgol ffydd. Mae'r ysgolion hynny eisoes yn diwallu anghenion plant o bob math o grefyddau a dim un, ond fe wnaf y pwynt hwn: ysgolion ffydd, rydych chi wedi dweud wrthym ni y gallwch fod yn eang ac yn gytbwys, y gallwch chi wneud hynny. Byddwch chi'n dal i fod yn rhan o'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg lleol. Ni fydd feto risg seciwlar. Os oes gennych chi yr un gofyniad cydymffurfio i 'roi sylw' â phob ysgol arall, yna ni ddylai fod angen i chi edrych y tu ôl i'ch gweithredoedd. Dylech chi allu cyflwyno cwricwlwm enwadol sy'n ystyried cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg lleol.
Gweinidog, mae arnaf i ofn y byddaf yn dal i chwilio am welliant, neu yn cyflwyno fy un fy hun, i ganiatáu i'r dyddiad dechrau ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm gael ei gyflwyno bob yn dipyn. Rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod yn poeni y bydd rhai ysgolion yn gadael pethau tan y funud olaf, waeth pryd y bydd y funud olaf honno, ond rwy'n poeni'n wirioneddol am athrawon na fydd yn barod, oherwydd COVID neu ddiffyg arweiniad, ond sydd wir eisiau gwneud hyn yn dda.
Rwy'n gwerthfawrogi'r cadarnhad y cawn ni fel Aelodau rywfaint o oruchwyliaeth o'r codau addysg cydberthynas a rhywioldeb, rhywfaint o ganllawiau o bosibl—yn sicr mwy nag y mae'r Bil yn ei awgrymu ar hyn o bryd—ond nid ydym ni'n eu gweld nhw ar hyn o bryd. Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb yn arbennig rai elfennau dadleuol, ac mae athrawon yn gobeithio cael cyfarwyddyd clir iawn. Ac nid wyf yn synnu, oherwydd, er gwaethaf y ffaith fod plant hŷn wedi bod yn eithaf pendant eu bod eisiau i hyn fod ar y cwricwlwm, mae rhai pryderon dealladwy iawn ar ran rhieni ynglŷn â beth yn union a addysgir i blant pan fyddan nhw'n iau, ac ar ran athrawon nad ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi'u hyfforddi'n ddigon da ar hyn o bryd i addysgu ac ymateb i blant. Bydd rhiant-lywodraethwyr yn unigolion allweddol wrth gymeradwyo cwricwlwm ysgol; gadewch i ni gofio'r swyddogaeth hollbwysig hon. Ond mae arnaf ofn nad yw Llywodraeth Cymru wedi helpu i reoli'r pryderon hyn yn arbennig o dda wrth ddatblygu'r Bil hwn.
Mae gan fy ngrŵp i bleidlais rydd ar hyn, gyda llaw, ond fy mhrofiad i yw gweithio ym maes trais domestig a chyfraith teulu cyn dod yn Aelod o'r Senedd hon. Ceir enghreifftiau pan fo amddiffyn plant wedi methu'n llwyr sy'n fy ngwneud i'n sicr bod angen hyn arnom ni yn y Bil, ond mae gwybodaeth wedi bod yn lledaenu ac yn newid, gan adael rhieni ddim yn gwybod beth i'w gredu, a gellid bod wedi osgoi llawer o hynny pe byddai gennym ni god addysg cydberthynas a rhywioldeb drafft, ar ôl bron i bum mlynedd o baratoi, i'w ystyried ochr yn ochr â'r Bil, ac felly mae angen gweithredu ar frys ar argymhelliad 24. Mae llawer mwy i'w ddweud, Llywydd, ond rwy'n sylweddoli bod fy amser ar ben. Diolch.
O'i weithredu a'i gefnogi'n iawn, fe allai'r cwricwlwm newydd roi'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae gwaith y pwyllgor wedi bod yn hollbwysig wrth geisio adnabod unrhyw rwystrau ac unrhyw ganlyniadau anfwriadol allai ddeillio o'r Bil, ac mae'r ffaith ein bod ni wedi llunio 66 o argymhellion yn dangos bod ein craffu wedi datgelu nifer o faterion sy'n codi consérn, a hoffwn innau ddiolch i bawb sydd wedi bod yn ein helpu ni efo'r broses hon.
Un o'r ystyriaethau pwysig sydd angen i'r Llywodraeth a'r Senedd eu hystyried ydy sut i sicrhau cwricwlwm cenedlaethol cyson ledled Cymru. Mae yna awydd cyffredinol ymhlith pobl ifanc i ddysgu am yr un pethau. Mae angen manylion am sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod cwricwla ysgolion unigol yn briodol, yn gytbwys, ac yn arwain at gysondeb. Mae hefyd angen bod yn hollol glir na fydd y cwricwlwm newydd yn arwain at waethygu anfantais ac anghydraddoldeb.
Dwi'n parhau i ddadlau bod y Bil ei hun yn anghyson o ran yr hyn sy'n cael ei gynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd ddim yn cael ei gynnwys. Dwi'n cytuno efo'r elfennau mandadol sydd yna. Maen nhw'n bwysig. Ond, yn fy marn i, mae yna ddau faes arall cyn bwysiced, a dwi'n cytuno'n llwyr efo'r pwyllgor y dylid cynnwys iechyd meddwl a lles fel cyfeiriad penodol ar wyneb y Bil, ac yn edrych ymlaen i weld beth sydd gan y Gweinidog i'w gynnig.
Dwi'n credu hefyd y dylid rhoi'r un statws i stori Cymru, sef hanes a storïau Cymru yn eu holl amrywiaeth, yn cynnwys hanes pobl ddu a phobl o liw. Fe ddylid cyfeirio yn benodol at stori Cymru ar wyneb y Bil hefyd, am yr un rhesymau yn union ag y mae'r lleill yn cael eu cynnwys: er mwyn rhoi amlygrwydd i'r maes a'r angen i'w dysgu; er mwyn sicrhau ei bwysigrwydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol; er mwyn peidio ag osgoi materion allai gael eu hystyried yn anodd neu yn rhai nad oes gan athrawon ddigon o wybodaeth yn eu cylch.
Dwi am oedi mymryn efo stori Cymru a'r angen i hyn fod yn fandadol. Mae'r pwyslais ar Cynefin, sef hanes lleol, yn wych o beth, ond mae angen i'r stori genedlaethol gael statws hefyd, a'r unig ffordd i wneud hynny ydy ei chynnwys ar wyneb y Bil. Mae yna adnoddau newydd ar gyfer hanes Cymru a hanes BAME ar eu ffordd, sydd yn wych o beth, ond mae'n rhaid cael y mandad. A cham gwag anferth, yn fy marn i, oedd peidio â chynnwys un uned benodol ar stori Cymru fel rhan o'r dyniaethau, a'r unig ffordd, bellach, i wneud iawn am hynny ydy cynnwys cyfeiriad penodol ar wyneb y Bil.
Pa wlad fyddai'n hepgor ei stori ei hun o'i chwricwlwm addysg? Mae'n rhaid iddi fod ar wyneb y Bil, neu mae perig y bydd rhai o ddinasyddion y dyfodol yn cael eu hamddifadu o wybodaeth am eu gorffennol. Mae dysgu am Gymru a'i phobl yn ganolog i'r broses o helpu dysgwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o'u hunaniaeth genedlaethol eu hunain, ond hefyd am hunaniaethau eraill—y rhai sydd yn cyffwrdd â'i gilydd ac yn lluosog ac yn perthyn i'w gilydd. Mae hyn yn allweddol i annog empathi, ymwybyddiaeth gymdeithasol a hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol gan ddysgwyr, dinasyddiaeth sydd yn feddwl agored ac sydd yn sensitif yn gymdeithasol a diwylliannol. Dwi yn gobeithio y byddaf i'n gallu'ch perswadio chi am hyn wrth i'r Bil yma fynd ar ei daith.
I droi, rŵan, at ran o'r Bil sy'n delio â'r Gymraeg a'r Saesneg, dwi'n falch bod y Gweinidog yn dod â gwelliant yng Nghyfnod 2 i ddelio â'r problemau sydd yn codi efo'r polisi trochi yn y Gymraeg. Ond dwi yn credu bod yna gyfle i gryfhau agweddau eraill—er enghraifft, categorïau iaith ysgolion a'r broses o weithredu'r continwwm ar gyfer dysgu Cymraeg. A dwi yn credu bod angen diwygio'r Bil i'w gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod statudol ar gyfer addysgu a dysgu'r Gymraeg o dan y cwricwlwm. Dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog wedi'i ddweud heddiw, ond mi fyddaf i'n parhau efo'r neges honno.
Mae yna eraill wedi, yn barod, canolbwyntio ar agweddau eraill o'r Bil. Mae'n siomedig nad ydy'r canllawiau ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg ar gael inni graffu arnyn nhw a thawelu ofnau. Mae'r pwyllgor yn nodi hefyd fod angen lansio ymgyrch i chwalu'r mythiau sydd am addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond mi oedd y pwyllgor yn unfrydol dros gynnwys yr agwedd yma—addysg cydberthynas a rhywioldeb—fel rhan orfodol o'r Bil.
I gloi, mae yna lawer o bryderon am weithredu'r cwricwlwm newydd. Mae'n rhaid cael y cyllid a'r hyfforddiant sydd eu hangen i gefnogi'r broses. Heb hynny, ac o gofio heriau COVID, fe allai'r cwbwl fynd o chwith a does yna neb ohonom ni am weld hynny'n digwydd. Ac, wrth i'r Bil fynd ar ei daith, rŵan, drwy'r Senedd, mae angen meddwl am y gweithredu yn ogystal â'r hyn sydd yn y Bil.
Fel y mae'n sefyll, ni allwn gefnogi'r Bil cwricwlwm. Os bydd y Bil yn parhau i ddileu hawliau rhieni fel prif addysgwyr, ni allaf, â chydwybod clir, bleidleisio i gefnogi ei gyflwyno, ni waeth beth fo'r gwelliannau eraill a ddaw yn ei sgil i addysg yng Nghymru.
Mae gorfodi addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg yn ddirmygus ac mae wedi'i wrthod gan y cyhoedd nid mewn un, ond mewn dau ymgynghoriad cyhoeddus. Ac eto, er gwaethaf y diffyg cefnogaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi dileu hawliau rhieni i dynnu eu plant o wersi cydberthynas a rhyw a chrefydd, gwerthoedd a moeseg, ac maen nhw, i bob pwrpas, yn dweud wrth rieni bod y wladwriaeth yn adnabod eu plant yn well nag y maen nhw eu hunain. Ond, yn ôl dyfarniad Tŷ'r Arglwyddi yn Regina v. yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth, nid plentyn y wladwriaeth yw'r plentyn ac mae'n bwysig, mewn cymdeithas rydd, y dylid caniatáu llawer iawn o ymreolaeth i rieni yn y ffordd y maen nhw'n cyflawni eu cyfrifoldebau fel rhieni. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn barod i anwybyddu'r dyfarniad hwnnw, yn union fel y maen nhw yn barod i fynd yn groes i farn y rhieni sydd wedi gwrthod dileu'r gallu i rieni optio allan ddwywaith.
Mae hwn yn bwnc y mae rhieni ar hyd a lled y wlad hon yn teimlo'n gryf iawn yn ei gylch, ac rwyf i wedi cael mwy o ohebiaeth yn fy annog i wrthod y Bil hwn nag yr wyf i wedi'i gael am unrhyw ddarn arall o ddeddfwriaeth. Ac mae rhai rhieni a neiniau a theidiau wedi siarad â mi ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei addysgu i'w plant ar hyn o bryd, ac mae rhai ohonyn nhw'n credu nad yw cynnwys y wers ar gyfer plentyn wyth oed, fel y dywedwyd wrthyf i, yn briodol o gwbl. Felly, pam mae rhieni'n teimlo mor gryf am hyn?
Pam mae grwpiau crefyddol a grwpiau seciwlar yn rhannu'r un farn ar gynnal y gallu i optio allan? Oherwydd, mae rhai'n dweud, maen nhw wedi dweud, eu bod nhw wedi gweld y mathau o wersi a fydd yn cael eu haddysgu o dan y cwricwlwm newydd.
Na, dydyn nhw ddim.
Ac mae rhieni erbyn hyn—
Os yw'n cael ei gyflwyno, os yw'n cael ei gyflwyno'n genedlaethol, maen nhw wedi gweld—
—pethau sy'n gallu dod.
Caniatewch i Caroline Jones barhau. Caiff y Gweinidog ymateb ar y diwedd ac egluro.
Mae ganddi hawl i arddangos ei hanwybodaeth.
Mae athrawon wedi—. Diolch, Mike.
Ewch ymlaen. Ewch ymlaen, Caroline Jones.
Mae hynny wedi'i gofnodi.
Mae athrawon wedi dweud yn gyfrinachol wrthyf i nad ydyn nhw wedi cael hyfforddiant yn y pwnc hwn, a byddai'n well gan rai bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn addysgu'r pwnc, gan nad ydyn nhw'n teimlo'n ddigon cymwys i'w addysgu. Ac rwy'n credu'n angerddol y dylid caniatáu i blant fod yn blant ac nad oes angen datblygiadol i addysgu rhywioldeb a chydberthynas i blant ifanc, ac yn enwedig, fel y maen nhw wedi dweud, y mathau o ddeunyddiau y mae rhieni, athrawon a seicolegwyr wedi dweud eu bod nhw'n credu sy'n dod i mewn i'r cwricwlwm.
Cyn y gallwn ni gytuno ar y Bil hwn, mae angen i'r Senedd hon a rhieni yng Nghymru weld cynlluniau gwersi pendant ar gyfer addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb a chrefydd, gwerthoedd a moeseg. A'r ffordd orau o fynd ati fyddai i Lywodraeth Cymru ddileu y ddau o Fil y cwricwlwm a symud yr elfennau hyn i'w Bil ei hun. Byddai hyn yn caniatáu i ddiwygio ehangach ar y cwricwlwm fynd yn ei flaen, a byddai'n caniatáu mwy o gyfraniad gan rieni i addysg cydberthynas a rhywioldeb a chrefydd, gwerthoedd a moeseg. Ac oni bai bod y gallu i optio allan yn cael ei adfer a bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu panel rhieni i adolygu holl gynlluniau a deunyddiau gwersi cydberthynas a rhywioldeb a chrefydd, gwerthoedd a moeseg, ni allaf gefnogi'r ddeddfwriaeth. Diolch.
Cefais fy synnu—. Na, ni chefais fy synnu gan yr hyn oedd gan Caroline i'w ddweud, oherwydd dywedodd rywbeth yr wythnos diwethaf a oedd yr un mor warthus yn fy marn i. Ni allaf ddeall pam y mae'n ddirmygus nad oes gan blentyn unrhyw ddealltwriaeth o'r hyn sy'n mynd i ddigwydd pan fydd yn naw oed ac yn dechrau'r mislif. Mae tua 30 y cant o'r holl blant nad ydyn nhw'n gwybod beth sy'n digwydd y tro cyntaf iddyn nhw gael y mislif, ac mae hynny oherwydd bod rhieni'n teimlo'n rhy anghyfforddus i siarad â nhw amdano. Mae gennym ni'r gwaethaf o bob byd yn ein diwylliant, yma ac yn yr Unol Daleithiau. Rydym ni'n defnyddio cyrff menywod i werthu pob math o gynnyrch, o geir i bersawr i siocled, ond nid ydym ni eisiau siarad am yr hyn y mae ein cyrff yn ei wneud a sut y gallwn ni gadw ein hunain yn ddiogel oddi wrtho. Felly, yn y cydbwysedd rhwng hawliau plant o'u cymharu â hawliau rhieni, rwyf i'n gadarn o blaid hawl y plentyn i wybod beth yw diben ei gorff, y ffaith ei fod yn perthyn iddo ef, nad oes gan neb arall yr hawl i ymwthio i'r lle hwn, ac na ddylid gwneud dim iddo nad yw'n fodlon arno. Dyna sy'n ein wynebu ni, Caroline, ac, yn y byd lle mae'r rhyngrwyd ym mhobman, mae'n gwbl sicr bod yn rhaid i ni roi'r wybodaeth i blant i'w cadw'n ddiogel, ac rydym ni yn gyfan gwbl yn erbyn popeth y mae angen i ni ei wneud i'w cadw'n ddiogel os nad ydym ni'n eu haddysgu am sut bod gennym berthynas dda, perthynas barchus, parchu gwahaniaeth a sicrhau nad ydym yn dechrau perthynas lle ceir cam-drin oherwydd ein bod mor awyddus i blesio rhywun.
Felly, mae'r rhain yn faterion gwirioneddol bwysig, ac, yn anad dim, gwyddom am yr holl ymchwil sydd wedi'i wneud ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod—os yw plant yn profi trais domestig, mae'n rhaid iddyn nhw o leiaf fod â'r wybodaeth i ddeall nad yw hyn yn normal, oherwydd fel arall byddan nhw'n mynd ymlaen i fod naill ai'n rhywun sy'n cam-drin ei hun neu'n rhywun sy'n cael ei gam-drin, gan dechrau perthynas lle ceir cam-drin. Mae hyn mor bwysig. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob plentyn gael addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y cod yn cynnwys addysg orfodol ar y mislif, oherwydd mae angen i, nid merched yn unig, ond bechgyn hefyd, ddeall bod hyn yn rhywbeth i'w ddathlu, nid i'w ystyried yn felltith, oherwydd os na chawn ni'r mislif ni fydd gennym ni'r ddynol ryw. Felly, mae mor syml â hynny.
Rwy'n credu bod y cwricwlwm cyfan yn hollol wych ac rwy'n credu bod gan y Gweinidog addysg lawer i ymfalchïo ynddo. Gan droi at fater ychydig yn fwy dadleuol sef crefydd, gwerthoedd a moeseg, rwy'n credu bod arweinyddion Catholig a'r Eglwys yng Nghymru, i ryw raddau, wedi dehongli hyn fel ceffyl Trojan i danseilio cymeriad enwadol eu hysgolion. Rwy'n credu bod y rhwymedigaeth i ddarparu addysg blwraliaethol dan arweiniad enwad a hefyd, caniatáu i rieni optio allan a mynnu math arall o addysg grefyddol yn ymddangos yn gwbl feichus ar ysgolion unigol. Sut y byddem ni'n rheoli hynny?
Rwy'n credu os yw rhieni'n dewis ysgol o natur grefyddol, eu bod nhw'n gwybod beth maen nhw'n ymrwymo iddo. Maen nhw'n mynd i gael rhywbeth sydd ychydig yn wahanol i'r ysgol sirol y maen nhw wedi dewis peidio â mynd iddi. Felly, roedd yn ddiddorol clywed Suzy Davies yn sôn am yr argymhelliad i fynnu bod angen i bob addysg grefyddol fod o natur blwraliaethol gan roi sylw dyledus i'r teimladau crefyddol lluosog a dim teimlad crefyddol y gymuned gyfan. Felly, rwy'n credu bod hyn yn wahaniaeth pwysig, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni hefyd wneud gwahaniaeth llwyr rhwng addysg grefyddol a gweithred o addoli, oherwydd maen nhw'n ddau beth hollol wahanol. Ar ôl 30 mlynedd o wrthdaro crefyddol yng Ngogledd Iwerddon sy'n dal i fod yn ffres yn ein meddyliau ac, yn anffodus, gallai hynny ddod yn ôl, o ganlyniad i drafodaethau sy'n digwydd mewn mannau eraill ym Mrwsel, mae'n bendant bod angen i ni sicrhau bod pob disgybl yn parchu pobl o bob crefydd a phobl heb grefydd. Felly, rwy'n credu bod hwn yn fater mor bwysig, ond rwy'n edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad gan y pwyllgor pobl ifanc, oherwydd rwy'n credu bod hyn yn rhan mor bwysig o waith y Senedd.
Hoffwn innau hefyd ddiolch i bawb dan sylw: y Gweinidog, y Cadeirydd, holl aelodau ein pwyllgor, y clercod a phawb sydd wedi cyfrannu mor feddylgar ac angerddol wrth ddarparu tystiolaeth i'n pwyllgor.
Mae Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn nodi'r gwaith cyntaf o ddatblygu cwricwlwm penodol ar gyfer Cymru. Mae'n rhaid cyfaddef fy mod i, ar y dechrau, yn amheus iawn o'r cwricwlwm hwn ac yn negyddol iawn yn ei gylch. Fodd bynnag, wrth eistedd ar y pwyllgor addysg a gwrando ar dystiolaeth, rwy'n teimlo erbyn hyn fy mod i'n dawel fy meddwl ynghylch fy mhryderon, er bod un neu ddau yn dal ar ôl. Ond o ran egwyddorion cyffredinol y Bil cwricwlwm ac asesu, rwy'n teimlo'n wirioneddol gyffrous dros ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru eu bod yn cael y cyfle i ymwneud â chwricwlwm a fydd, yn fy marn i erbyn hyn, yn eu paratoi'n well o lawer ar gyfer y byd go iawn.
Bydd llai o ragnodi i raddau o'r hyn y mae'n rhaid i ysgolion ei addysgu, heb unrhyw raglenni astudio, ac rwy'n croesawu'r hyblygrwydd hwn, ond ar yr un pryd, mae angen lefel o gysondeb ar draws ysgolion, ac fe amlinellais hyn a'i drafod yn y pwyllgor, i sicrhau bod lefelau y mae'n rhaid eu cyrraedd a'u haddysgu ar draws ysgolion, fel bod, fel y dywedodd Lynne Neagle yn gynharach, tegwch a chydraddoldeb mewn addysg ar draws ein hysgolion. Y peth olaf yr ydym ni eisiau ei wneud yw tynnu sylw at yr anghydraddoldebau ymddangosiadol sydd eisoes yn bodoli ar hyn o bryd. Ac, fel y dywedodd Lynne Neagle, mae'n gwbl angenrheidiol ein bod ni'n monitro'r safonau hynny a chynnwys yr hyn sy'n cael ei addysgu, yn enwedig yn ystod y cyfnod ymsefydlu, pan gyrhaeddwn ni'r pwynt hwnnw, ac mae hynny'n rhan hanfodol ohono.
Yn ogystal â'r pedwar diben a chwe maes dysgu a phrofiad, mae'r Bil yn sefydlu tri sgil trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd plant bellach yn ymgymryd â phrosiectau fel dechrau eu busnes eu hunain, a fydd yn addysgu mathemateg, Saesneg a phynciau eraill iddyn nhw yn gyffredinol ac yn adeiladol, gyda phobl yn gweld sut i ddefnyddio egwyddorion sylfaenol y pynciau hyn yn y byd go iawn.
Mae hefyd yn gwneud addysg cydberthynas a rhywioldeb, a chrefydd, gwerthoedd a moeseg, yn elfennau gorfodol yn ogystal â'r Gymraeg a'r Saesneg. Mynegwyd pryderon ynglŷn â'r ddau fater hyn. Mae fy mab yn mynychu ysgol yr Eglwys yng Nghymru, a oedd drwy ddewis, gan fy mod i'n credu'n gryf fod y gwerthoedd sy'n dod allan o'r ysgol honno, sy'n digwydd bod yn ysgol yr es innau iddi, mor, mor dda ac mae'n dysgu—. Mae'n fachgen bach mor ddeallus ac mae wedi dod yn ôl gyda dealltwriaeth a pharch at bob crefydd, ac rwyf mor falch ohono am hynny ac rwy'n falch o'r ysgol am ddarparu'r math hwnnw o addysg iddo. Felly, rwy'n credu bod y cwricwlwm presennol, o ran addysg grefyddol, yn cyflawni ar hyn o bryd yn fy marn i ac yn fy mhrofiad i. Rwyf yn gweld yr holl ddadleuon heddiw, ac nid wyf yn mynd i fynd drostyn nhw oherwydd byddan nhw'n cael eu trafod yn helaeth heddiw gan bobl sy'n gwybod llawer mwy na mi mewn gwirionedd. Ond rwy'n pryderu bod y Bil yn nodi nad oes hawl i neilltuo o addysg crefydd, gwerthodd a moeseg. Mae'n rhywbeth rwy'n dal i fod yn anghyfforddus yn ei gylch, yn fy mrwydr gyson yn fy mhen rhwng hawliau'r rhiant a hawliau'r plentyn, a pha un ddylai fod flaenaf, mewn gwirionedd. Nid yw'n ddu a gwyn, ond mae mor bwysig ein bod yn cael hynny'n iawn a bod pawb yn ei gefnogi.
Bwriedir i addysg cydberthynas a rhywioldeb gael ei haddysgu ar draws y cwricwlwm i gefnogi iechyd a lles corfforol, meddyliol ac emosiynol. Dyma oedd fy mhryder mwyaf i yn ei gylch, pan oeddwn i'n wynebu'r cwricwlwm hwn i ddechrau. Roeddwn i'n amheus iawn ar y dechrau ac yn anghyfforddus â'r syniad bod fy mab 10 oed yn cael ei addysgu am gydberthynas a rhywioldeb ar y math hwnnw o lefel. Ond ar ôl clywed y dystiolaeth a gwrando ar bobl drwy gydol proses y pwyllgor o graffu ar hyn, rwyf bellach yn gyfforddus â'r hyn y byddai fy mab o bosibl yn cael ei addysgu yn ei gylch. Mae'n cael ei gyfeirio at ba oedran yr ydych chi. Ac mae mor bwysig bod ein plant hefyd yn dysgu am yr hyn sy'n iawn a'r hyn sy'n amhriodol mewn cydberthynas a phethau felly, a'r effaith enfawr y bydd hynny'n ei chael ar gam-drin plant a phethau o'r fath, wrth symud ymlaen. Rwy'n credu mai dyma'r rhan orau o'r Bil mewn gwirionedd—rwy'n credu ei fod yn wirioneddol bwysig. Felly, rwyf wedi newid fy marn yn llwyr ar hynny ac rwy'n credu pe byddai pobl eraill yn rhoi o'u hamser i wrando ar bobl a gyfrannodd at ein pwyllgor, y byddent hwythau hefyd yn newid eu meddyliau ac yn sylweddoli ei bod yn briodol i oedran, a'i bod yn briodol i gael eich addysgu am y pethau hynny. Gwrandewais ar yr Aelod draw fan hyn am gael eich addysgu am y cylch mislif. Ni chefais i fy nysgu amdano erioed. Felly, bu'n rhaid i mi ddarganfod, a dylid addysgu'r math hwnnw o beth mewn ysgolion ac ni ddylai fod yn syndod fel yr oedd i mi. Mae'n gyfnod brawychus a phryderus iawn, a dylid ymgorffori'r math hwnnw o beth. Rwy'n gwybod bod gan rieni gyfrifoldeb, ond nid yw pob rhiant yn gwneud hynny—nid am eu bod yn anghyfrifol; nid yw fy rhieni i'n anghyfrifol, ond nid oedd siarad amdano yn rhywbeth y dylid ei wneud. Dyma'r math o rwystrau y mae angen i ni eu chwalu ac mae hyn yn ffordd o wneud hynny.
O ran y paratoi, roeddwn i eisiau sôn am rai pethau eraill. Yn gyntaf, o ran paratoi'r Bil newydd yng ngoleuni'r tarfu a achoswyd gan y pandemig hwn, mae angen ystyried yr alwad ymarferol gan Suzy bod angen ei ohirio neu ei gyflwyno bob yn dipyn i roi mwy o amser i'n hathrawon a'n hysgolion baratoi, gan gydnabod y tarfu y mae COVID-19 wedi ei achosi. Canfu arolwg diweddar a gynhaliwyd gennym fod 76 y cant o ysgolion wedi ymateb yn nodi bod y pandemig yn cael effaith negyddol ar eu paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd, a bod gwaith a oedd wedi'i gynllunio ar gyfer yr haf wedi'i ganslo. Hefyd, canfu adolygiad addysg diweddar yr OECD fod nifer fawr o randdeiliaid a gyfwelwyd, gan gynnwys arbenigwyr mewn arferion addysgu cwricwlwm, yn awgrymu bod angen mwy o amser a dysgu proffesiynol wedi'i dargedu'n well er mwyn i athrawon yng Nghymru fod yn barod ar gyfer y gweithredu—
Bydd yn rhaid i chi ddod â'ch cyfraniad i ben nawr. Rwyf i wedi bod yn hael iawn.
Mae'n ddrwg gen i, ie. Mae perygl ein bod ni, drwy ruthro i weithredu'r cwricwlwm newydd, yn lleihau gallu athrawon i gyflawni ei nodau. Mae'n newid enfawr, y cwricwlwm hwn, ac rwyf wirioneddol yn dymuno pob llwyddiant iddo, ond mae'n bwysig iawn heddiw eich bod yn gwrando ar ein pryderon ni a'n bod ni'n datrys yr holl bryderon hyn. Diolch.
Diolch, Llywydd, am adael i Laura Anne Jones barhau. Roeddwn i'n mwynhau ei chyfraniad. Yn wir, rwyf wedi bod yn mwynhau'r ddadl yn gyffredinol. Diolch, Jenny, am eich cyfraniad chi.
Mae fy marn i ar hyn yn un sydd, ar y cyfan—rwy'n credu y bydd yn mynd yn groes i'r rhan fwyaf o bobl yn y fan yma, ond, ar y cyfan, rwyf wedi penderfynu pleidleisio yn erbyn egwyddorion cyffredinol y Bil. Ond, i mi, mae'n benderfyniad eithaf anodd ac nid yw'n cael ei wneud gyda llawer iawn o hyder. Rwy'n siarad â gwyleidd-dra; dydw i ddim yn siŵr fy mod i'n gywir. Rwy'n siarad yn betrus o ran yr hyn yr wyf i'n ei ddweud. Rwyf hefyd yn cydnabod rhai o gyflawniadau y system addysg yng Nghymru dan arweiniad Kirsty Williams yn ystod y pumed Cynulliad. Rwyf wedi siarad o'r blaen yn arbennig am y cynllun Seren a nifer y plant sy'n cyrraedd y prifysgolion gorau, mwyaf blaenllaw a'r cynnydd yn hynny o beth, a'r cynnydd mewn cyrhaeddiad ar y graddau Safon Uwch uchaf. Rwy'n credu bod y ddau beth hynny'n ganmoladwy. Hefyd, pan gawsom ni ganlyniadau PISA—a chefais fy nharo yn fawr gan ba mor ganolog yw canlyniadau PISA i'r ffordd yr ydym ni'n sôn am addysg yng Nghymru a sut y maen nhw'n llywio'r ddadl honno—roeddwn i'n meddwl ei bod yn bwysig—a dydw i ddim yn credu bod y rhai hynny ar y meinciau i'm chwith wedi gwneud hyn yn y ddadl—cydnabod y bu gwelliant, ac roedd yn welliant sylweddol. Ac er fy mod i'n credu ei bod yn dal yn deg cyflwyno'r achos bod y canlyniadau'n llai da nag yr oedden nhw ar gyfer gwledydd eraill yn y DU, roedden nhw'n well na'r canlyniadau gwael iawn a fu yn y cylch tair blynedd blaenorol.
Mae hwn yn gwricwlwm newydd beiddgar ac uchelgeisiol, rwy'n credu i Lynne Neagle ddweud, a dywedodd y Gweinidog mai'r bwriad oedd codi safonau addysgol i bawb a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad. Gobeithio y bydd yn gwneud hynny, ond rwy'n ofni na fydd yn gwneud hynny, o bosibl, a hynny oherwydd ei fod mor fentrus ac uchelgeisiol a pha mor radical ydyw, bod mwy o bosibiliadau o bethau'n mynd o chwith ac efallai'n mynd o chwith mewn modd difrifol, a byddwn i'n gofyn i eraill fod yn effro i'r rheini. Mae'r Gweinidog yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro sut mae'n cael ei weithredu, ac wrth gwrs mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny. Dywedodd Siân Gwenllian, os caiff ei weithredu a'i gefnogi'n iawn, ond mae hwnnw'n 'os' mawr iawn, oherwydd rydych chi'n rhoi mwy o ddisgresiwn i ysgolion ac i athrawon nag sydd gennym ni yn y system bresennol. Rwy'n gwerthfawrogi'r ddadl pam y gall hynny fod yn beth da. Weithiau mae pobl yn cyfeirio at y system yn y Ffindir, lle mae parch anhygoel o uchel at addysgu. Mae'n faes cystadleuol iawn i fynd iddo, ac mae athrawon yn cael eu talu llawer mwy yno nag y maen nhw yma. Ac yn y system honno, nid oes gen i unrhyw amheuaeth na fydd mwy o ddisgresiwn a barn broffesiynol yn gweithio. Ond rwy'n pryderu pa un a fydd yn gweithio i'r graddau y mae'r Gweinidog ac eraill yn ei obeithio o fewn ein system ni, lle yr ydym wedi cael cyfnod hir o gyni a lle nad yw athrawon yn cael eu talu'n dda o'u cymharu â llawer o broffesiynau eraill ac nad yw mor gystadleuol i ymuno â'r system. Rwy'n credu os oes gennych chi fwy o ddisgresiwn, bydd mwy o wasgariad o ddulliau gweithredu ac, o bosibl, canlyniadau, a gallai arwain at gynnydd mewn bylchau cyrhaeddiad. I mi, yr hyn a fyddai'n fy ngwneud i'n gyfforddus am hynny yw mai nid Llywodraeth Cymru yn unig a fyddai yn ei fonitro ond bod rhieni'n gallu ei fonitro'n well drwy gael canlyniadau yn gyson ac a oedd yn cael eu cyhoeddi i ganiatáu i rieni asesu ysgolion ac athrawon yn ogystal â bod hwythau yn asesu plant.
Rwy'n credu hefyd y dylai fod rhwystr eithaf uchel cyn i ni symud i gyfeiriad annibynnol iawn ynglŷn â sut y dylai addysg ddatblygu yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl nad ydyn nhw'n hoffi i mi wneud y gymhariaeth honno, ond mae cyflogau'n sylweddol uwch, ar gyfartaledd, yn Lloegr, yn enwedig yn Llundain, ac os, drwy fod â system addysg wahanol iawn yn mynd i gyfeiriad gwahanol iawn, mae'n ei gwneud yn anos i bobl o'r system honno gael y swyddi mwyaf cystadleuol sy'n talu'n dda ac i brifysgolion yn y system honno—nid wyf yn dweud y bydd; rwy'n dweud fy mod i'n ofni y gallai, dim mwy na hynny—rwy'n gofyn i hynny gael ei ystyried.
Nid wyf ychwaith yn cefnogi triniaeth anghyfartal ein dwy iaith, a'r Gymraeg yn orfodol o pan fydd plant yn dair oed, ond Saesneg dim ond o saith oed, er fy mod yn deall y rhesymau—mae pobl eraill yn dadlau dros hynny.
Yn olaf, yr hyn sy'n digwydd ym maes addysg cydberthynas a rhywioldeb a chrefydd, gwerthoedd a moeseg, rwy'n clywed y dadleuon a wnaethpwyd ar y ddwy ochr, ac roeddwn i'n credu bod Jenny Rathbone wedi siarad mewn modd cymhellol iawn yn hynny, ond roeddwn yn bryderus ynghylch pa mor gryf y gwnaeth pobl wfftio'r hyn a ddywedodd Caroline Jones a'r hyn a waeddwyd ar draws y Siambr i'w chyfeiriad, oherwydd rwy'n credu ei bod yn siarad dros lawer o rieni. Ac rydym wedi cael cyfaddawd Prydeinig iawn o Ddeddf Butler 1944, a sut mae honno wedi esblygu dros amser, ac mae symud i gyfeiriad radical iawn i ffwrdd o hynny yn rhywbeth y byddwn i yn argymell bod yn ofalus yn ei gylch. Nid wyf i wedi fy argyhoeddi y bydd y Bil hwn yn arwain at yr hyn y mae ei gefnogwyr yn credu y bydd, ac rwy'n ofni efallai na fydd yn llwyddiant, a dyna pam rwy'n pleidleisio yn ei erbyn, ond rwy'n gwneud hynny gyda gwyleidd-dra yn hytrach na hyder.
Byddaf i'n cefnogi'r Bil, ac rwy'n mynd i ganolbwyntio'n benodol ar agweddau ar y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb. Rwy'n mynd i groesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi dileu'r hawl i dynnu'n ôl a'i bod yn cadw at addysg cydberthynas a rhywioldeb a pherthnasoedd iach, a bod Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud hynny'n orfodol, ac rwy'n falch iawn iawn bod hynny'n digwydd.
Bydd llawer ohonoch chi yma yn gwybod fy mod i wedi ymgyrchu ers blynyddoedd ynglŷn â sut beth yw perthynas iach. Rwyf i wedi cysylltu ag ysgolion ledled Cymru i ymuno â mi, a hyd yn oed wedi darparu deunyddiau o ymgyrch y Rhuban Gwyn, ac rwyf i wedi cael rhywfaint o lwyddiant lle mae ysgolion wedi gwneud hynny, ond dim llawer. A'r rheswm yw ceisio dod o hyd i'r amser hwnnw yn y flwyddyn ysgol honno—nid oherwydd nad yw'r athrawon na'r ysgolion eu hunain eisiau gwneud hynny, ond nid ydyn nhw dan fandad chwaith. Rwyf i wedi eistedd mewn ysgolion, mewn ystafelloedd dosbarth lle mae plant ifanc wedi siarad am berthnasoedd iach ym mhob grŵp oedran, ac yn deall yr hyn ydyw, a'r hyn nad ydyw, ar ôl eu harwain drwy addysgu sy'n briodol i'w hoedran. Yr hyn y mae hynny'n ei wneud, i mi, yw dysgu parch i'r plant hynny, yn gyntaf tuag atyn nhw eu hunain, ac yn ail tuag at bobl eraill. Ac maen nhw'n tyfu i fyny gyda'r parch hwnnw. Gan ein bod ni i gyd yn gwybod bod nifer yr achosion a niferoedd cam-drin domestig yr un fath ag yr oedden nhw 30 mlynedd yn ôl, a'r unig gyfle sydd gennym ni i wneud unrhyw beth o gwbl ynghylch rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a phlant yw dechrau llawer yn gynt; dechrau gyda phobl ifanc a dysgu parch iddyn nhw. Ac maen nhw'n ei ddeall; maen nhw'n ei ddeall yn llwyr ar ôl i chi eu cynnwys yn y sgyrsiau hynny.
Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i'r parch hwnnw fod yn ehangach; mae'n rhaid iddo ymwneud â pharch at wahanol agweddau crefyddol ac, fel y dywedodd Jenny Rathbone yn gwbl briodol, mae hyn yn ymwneud ag addysg. A dyna'r hyn yr ydym ni'n ei addysgu: safbwyntiau ehangach. Mae hefyd yn ymwneud â chydnabod bod pobl yn wahanol, a bod perthnasoedd yn wahanol hefyd. Rwy'n falch iawn, unwaith eto, drwy addysg sy'n briodol i'w hoedran, y bydd plant, wrth symud ymlaen, yn cael y cyfleoedd i gael yr addysg honno.
Ac rwyf i, unwaith eto, yn dymuno cefnogi'r syniad y mae Jenny wedi'i godi o ran lles y mislif. Oherwydd oni bai bod pobl yn gwybod beth yw mislif da, sut beth yw mislif arferol, a'u bod nhw wedyn yn gallu siarad drostyn nhw eu hunain a chael sgwrs gartref, mae pethau fel endometrosis yn mynd heb gael diagnosis. Ac mae gen i ddau aelod o'r teulu sydd wedi dioddef canlyniadau hynny, ac yn wir, gallan nhw fod yn ddifrifol a newid bywydau. Felly, yr wyf i wir eisiau i hynny fod yno.
Rwy'n credu bod gennym ni heddiw, gyfle i wneud rhywfaint o adeiladu pontydd, i roi naratif gwirioneddol o oddefgarwch a gwahaniaeth, ac i ganiatáu i bobl ifanc gael y profiad hwnnw a'i rannu a'i ddathlu, ond, yn anad dim, i'w dderbyn. A dyna'n union beth fydd yn digwydd mewn ysgolion drwy ganiatáu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a pheidio â chaniatáu i'r rhieni dynnu eu plant yn ôl, boed hynny drwy ofn neu gamddealltwriaeth, fel y mae hi'n aml iawn.
Byddaf i'n cefnogi hyn yn llwyr, ond rwyf i eisiau anghytuno â'r syniad hwn ei fod yn rhy radical ac na all ddigwydd mewn ysgolion y wladwriaeth, yn ôl y siaradwr blaenorol. Ac eto, mae'n amlwg yn iawn sôn am bethau radical a gwahaniaeth a rhyddid yn yr ysgolion bonedd, o fewn ysgolion rhydd ac unrhyw ysgol arall, ar yr amod nad yw'n ysgol sy'n cael ei chynnal gan yr awdurdod lleol—dyna'r eithriad sydd gen i.
Er bod llawer iawn o bethau da yn y Bil hwn yr wyf i wir yn ei groesawu, yn anffodus mae arnaf i ofn na allaf i bleidleisio drosto heddiw. Mae'n debyg na fydd hynny'n syndod i'r Gweinidog, ond mae arnaf i ofn, yn anffodus, fod agweddau ar y Bil yr wyf i'n anghytuno â nhw'n sylfaenol.
Mae ein system addysg yng Nghymru wedi'i seilio ar yr egwyddor mai rhieni, nid y wladwriaeth, yw prif addysgwyr eu plant, a bod ysgolion yn gofalu am blant, nid ar eu telerau eu hunain, ond ar ran rhieni, yn lle rhieni a gyda chaniatâd rhieni. Mae'n cydnabod yr egwyddor bwysig iawn hon bod rhieni wedi bod â'r hawl ers tro byd i dynnu eu plant yn ôl o'r ddau bwnc sy'n trafod cwestiynau ynghylch safbwyntiau teuluoedd ar y byd, sef addysg rhyw ac addysg grefyddol. Mae darparu'r hawl i dynnu yn ôl o ran y ddau bwnc hyn hefyd wedi darparu modd i ni ddangos bod y wladwriaeth yn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Cyfeiria Erthygl 2 o brotocol 1 at hawl addysg ac mae'n nodi, ac rwy'n dyfynnu,
bydd y Wladwriaeth yn parchu hawl rhieni i sicrhau bod addysg ac addysgu o'r fath yn cydymffurfio â'u hargyhoeddiadau crefyddol ac athronyddol eu hunain.
Nawr, mae'n rhaid i mi bwysleisio nad yw pwysigrwydd yr hawl i dynnu yn ôl yn amlwg yn ei ddefnydd aml, ond yn hytrach ei ddefnydd posibl. Mae bodolaeth yr hawl i dynnu yn ôl yn atgoffa ysgolion eu bod yn gweithredu yn lle rhieni. Pan fydd plant yn mynd adref ar ddiwedd y dydd, nid ydyn nhw'n derbyn gofal gan rieni sy'n gwasanaethu'r wladwriaeth yn ei lle. Mae'n hanfodol bod rhieni mewn cymdeithas rydd yn cael ymreolaeth sylweddol yn y ffordd y maen nhw'n cyflawni eu cyfrifoldebau fel rhieni i addysgu a magu eu plant.
Mantais arall y defnydd posibl o'r hawl i dynnu yn ôl yw ei fod yn gymhelliant i ysgolion geisio ymgysylltu'n rhagweithiol â rhieni, oherwydd ei fod yn ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr ysgolion eistedd a gwrando ar bryderon rhieni er mwyn lleihau'r achosion o dynnu yn ôl. Nawr, wrth gwrs, nid yw'n golygu na allwch chi gymryd rhan yn y math o addysg y mae Jenny ac eraill yn y Siambr hon wedi'i hyrwyddo heddiw ynghylch amddiffyn plant rhag niwed, siarad â nhw ynghylch y ffordd y mae eu cyrff yn gweithio ac o ran yr hyn sy'n breifat ar eu corff a'r hyn nad yw a sut y dylai perthynas weithio. Ond rwy'n credu bod yr egwyddor sylfaenol hon o ysgolion yn gweithredu yn lle rhieni yn gwbl hanfodol.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig atgoffa'r holl Aelodau yn y ddadl hon heddiw fod mwyafrif sylweddol, nid mwyafrif bach yn unig—mwyafrif sylweddol—o ymatebwyr i'r ddau ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal ynghylch cynnydd y Bil hwn yn gwrthwynebu dileu'r hawl i dynnu yn ôl o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Roedd 88.7 y cant syfrdanol o'r ymatebwyr i 'Ein Cenhadaeth Genedlaethol: Cwricwlwm Trawsnewidiol' yn dymuno cadw'r hawl i dynnu yn ôl, ac roedd 60 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r ddogfen ymgynghori 'Sicrhau mynediad i'r cwricwlwm llawn' hefyd yn dymuno cadw'r hawl honno i dynnu yn ôl. Ac mae hynny er gwaethaf y ffaith nad oedd yr ail ymgynghoriad, mewn gwirionedd, yn gofyn cwestiwn ynghylch y pwnc yn benodol. Roedd pobl yn dal i ysgrifennu gan ddweud pa mor bwysig ydoedd iddyn nhw. Nawr, cofiwch, rwy'n derbyn nad yw canlyniadau unrhyw ymgynghoriad o reidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoedd, ond gadewch i ni fod yn glir ynglŷn â hyn, trwy ddileu yn llwyr yr hawl i dynnu yn ôl, mae'r Gweinidog addysg yn ceisio newid yn sylfaenol y cydbwysedd rhwng hawliau rhieni a hawliau'r wladwriaeth, rhywbeth nad oes gan yr un blaid yn y Senedd hon yng Nghymru fandad ar ei gyfer.
Ac nid dim ond yr hawl i dynnu hynny yn ôl sy'n broblem. Bydd y Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ffydd ddarparu dwy set o gwricwla crefydd, gwerthoedd a moeseg, fel y mae Suzy Davies ac eraill wedi'i ddweud eisoes: y cwricwlwm enwadol a'r cwricwlwm y cytunwyd arno gan y cynghorau ymgynghorol sefydlog sirol lleol, pe gofynnir amdano. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod rhieni, fel y dywedodd Jenny Rathbone, yn gwbl briodol, eisoes yn dewis anfon eu plant i ysgolion eglwysig gan wybod y cwricwlwm crefyddol sy'n cael ei gynnig. Nid yw'r Bil yn gosod unrhyw ofyniad tebyg ar ysgolion nad ydyn nhw'n rhai ffydd, hyd yn oed os nad oes gan rieni ddewis ysgol ffydd leol a'u bod yn dymuno i'w plant fanteisio ar gwricwlwm enwadol. Mae'n ymddangos i mi ei bod yn annheg iawn disgwyl rhywbeth gan ysgol ffydd, pan nad oes yr un disgwyliad i'r cyfeiriad arall hefyd, ac rwyf i yn credu y bydd hynny'n faich enfawr ar ysgolion eglwysig, i ysgolion Catholig ledled y wlad.
Ac yna, yn olaf, mae mater y cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg a gaiff ei gytuno'n lleol. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'r cwricwlwm addysg grefyddol yn cael ei ddatblygu mewn ardaloedd lleol gan gynghorau ymgynghorol sefydlog ar addysg grefyddol, neu CYSAGau, fel y maen nhw'n cael eu galw ar hyn o bryd, ac mae eu haelodaeth yn cael ei phennu'n lleol. Ond mae Bil Llywodraeth Cymru yn ceisio rhoi'r pwerau i newid CYSAGau drwy ganiatáu i grwpiau anghrefyddol neu hyd yn oed grwpiau gwrth-grefyddol ymuno â'r pwyllgorau hynny. Mae hynny'n galluogi'r potensial i ymgorffori gwerthoedd gwrth-grefyddol mewn cwricwla lleol a'u haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru. Bydd hyn yn lleihau llais cymunedau ffydd ledled Cymru ac, yn anffodus, nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf i'n fodlon ei wneud. A dyna pam y byddaf i'n pleidleisio yn erbyn cynnydd y Bil hwn heddiw. Mae ein system eisoes yn gweithio'n dda, ac rwy'n credu y dylai hynny gael ei chynnal.
Y Gweinidog Addysg i ymateb i'r ddadl—Kirsty Williams.
Diolch yn fawr, Llywydd. Sawl gwaith heddiw, mae'r Bil cwricwlwm ac asesu wedi ei ddisgrifio yn un 'beiddgar, mawr ac uchelgeisiol', ac mae'n rhaid i mi gyfaddef am 19:40 heno, nad wyf i'n teimlo dim o'r pethau hynny, ond byddaf i'n rhoi fy nghynnig gorau arni wrth geisio ymateb i'r pwyntiau sydd wedi eu codi.
Yn gyntaf, a gaf i ailadrodd fy niolch i'r holl bwyllgorau dan sylw? Rwy'n credu y dylai'r pwyllgor plant a phobl ifanc gael ei gydnabod yn arbennig, gan fy mod i'n credu bod yr adroddiad y maen nhw wedi'i lunio—nid wyf i'n cytuno â'r cyfan, ond rwy'n credu bod safon yr adroddiad hwnnw yn dangos pwysigrwydd craffu yn y Senedd benodol hon, yn y Senedd hon, ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl waith sydd wedi ei wneud.
Nawr, mae llawer o'r ddadl heddiw wedi ymwneud â chodi safonau a chau'r bwlch cyrhaeddiad. Gadewch i mi fod yn gwbl glir: mae cwricwlwm newydd wrth wraidd hynny, ond ni all cwricwlwm ar ei ben ei hun wneud yr holl waith trwm, a dyna pam mae'r cwricwlwm yn rhan o gyfres ehangach o ddiwygiadau addysg Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar wella addysgeg, sy'n canolbwyntio ar raglen ddiwygiedig o addysg gychwynnol i athrawon—y buddsoddiad unigol mwyaf mewn dysgu proffesiynol yr ydym ni erioed wedi ei weld yn hanes y Senedd hon; cyfundrefn ddiwygiedig o atebolrwydd sy'n ysgogi'r math cywir o ymddygiad yn ein hysgolion. Felly, ydy, yn hollol, mae'r cwricwlwm yn bwysig, ond peidiwch â meddwl y gall y cwricwlwm yn unig gyflawni'r nodau hyn; mae'n rhan o raglen ddiwygio ehangach.
Rwyf i wedi sôn am sut yr ydym ni'n bwriadu mynd i'r afael ag iechyd meddwl, ond rwyf i yn credu y bydd bod â dyletswydd i roi sylw i iechyd meddwl a lles wrth gynllunio eich cwricwlwm, ochr yn ochr â'r rheidrwydd llwyr—y rheidrwydd cyfreithiol—i addysgu iechyd meddwl a gwydnwch yn ein hysgolion, rwy'n credu yn mynd â ni gam enfawr ymlaen.
Soniodd Mick Antoniw am y gwaith aruthrol sydd wedi ei wneud i edrych ar y mater hawliau. Ac mae Darren Millar newydd ddisgrifio'r Bil hwn fel gwrthdaro rhwng hawliau rhieni a hawliau'r wladwriaeth. Wel, dywedaf wrthych chi, Darren, mae hyn yn ymwneud â symud hawliau ac mae'n ymwneud â symud at hawliau plant, a rhoi'r pwyslais yn llwyr ar hawliau plant yn y ffordd yr ydym yn eu haddysgu. Ac ni fyddaf yn ymddiheuro am hynny.
Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Suzy Davies, ac mae hi ac Aelodau eraill wedi codi'r mater o ran sut, ar hyn o bryd, y caiff ysgolion o natur grefyddol eu trin o fewn y ddeddfwriaeth. Mae yna anghysondeb sydd yn gosod beichiau ychwanegol ac rwyf i, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, yn bwriadu cyflwyno gwelliant a fydd yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw.
Soniodd Suzy hefyd am lywodraethwyr, ac unwaith eto rydym ni wedi clywed llawer gan Darren Millar am rieni. Mae'n rhaid cytuno ar y cwricwlwm lleol mewn ysgol: yn gyntaf, mae'n rhaid ymgynghori arno gyda rhieni, ac mae'n rhaid i gorff llywodraethu gytuno arno. A'r tro diwethaf i mi edrych, roedd gennym ni gynrychiolaeth sylweddol gan rieni ar ein cyrff llywodraethu. Nid achos yw hwn lle na fydd rhieni yn cael y cyfle—yn wir, bydd gan rieni fwy o gyfle i siarad am yr hyn sy'n cael ei drafod a'i addysgu yn eu hysgol nag sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd o dan y system lle mae Llywodraethau blaenorol wedi pennu'r hyn sydd i'w ddysgu. Felly, byddwn i'n dadlau bod gan rieni fwy o ran a mwy o lais mewn cwricwla lleol nag sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd.
A gaf i sôn am addysg cydberthynas a rhywioldeb a mynd i'r afael â'r materion a gododd Caroline Jones? Ni fyddaf i'n ildio ar fy safbwynt ein bod ni o'r diwedd yn cael gwared ar yr anghysondeb bod modd atal plant rhag mynychu rhai pynciau yn eu hysgolion. Mae'n rhaid i blant—mae'n rhaid iddyn nhw—gael y cyfle i fanteisio ar wybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed ac sy'n caniatáu iddyn nhw lywio'r byd yr ydym yn byw ynddo. Yn y cwricwlwm newydd, bydd gan bob plentyn yr hawl i gael yr wybodaeth sy'n eu cadw'n wybodus o ran y materion hanfodol hyn, i gadw'n ddiogel ar-lein, i wybod beth sy'n iawn ac yn anghywir, er mwyn iddyn nhw allu codi materion sy'n peri pryder gydag oedolion cyfrifol ac amddiffyn eu hunain os oes angen. Nawr, efallai fod yr Aelod yn codi'r materion hyn gyda'r hyn y mae hi'n ei ystyried yn fwriadau da. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi, Caroline, rwy'n synnu bod eich etholwyr yn cyflwyno deunydd a fydd yn cael ei addysgu yn y cwricwlwm hwn, oherwydd rwyf i newydd gael fy nghyhuddo gan Aelodau eraill yn dweud nad wyf i wedi gwneud digon o waith ac nad yw'r pethau'n barod eto. Felly, ni all y ddau beth fod yn wir. Nid yw'r cwricwlwm yn bodoli tan 2022, ac nid pwyslais ein cwricwlwm newydd yw'r hyn sydd wedi ei ddangos i chi. Na—yn bendant. Ac os oeddech chi'n poeni gymaint yn eu cylch, yna byddwn i wedi gobeithio y byddech chi wedi ysgrifennu ataf i fel y Gweinidog i ddatgelu'r hyn yr ydych chi'n credu sy'n cael ei ddysgu yn ysgolion Cymru ar hyn o bryd.
Gadewch i mi fod yn gwbl glir i'r Aelodau yn y Siambr hon: rwy'n ymwybodol o ddewis y cyd-deithwyr y mae Caroline Jones wedi dewis cysylltu ei hun â nhw ar hyn o bryd. Wyddoch chi, mae'n gymysgedd peryglus o ddylanwadau niweidiol, rhagfarn ddi-sail a chynllwynio pedoffeil. Ac mae'r ffordd y mae rhai o fy nghyd-Aelodau yma yn y Siambr hon wedi eu cyfarch gan yr unigolion hynny, ac rydych chi'n gwybod am beth rwy'n sôn, yn warthus—yn warthus. Rwyf i'n fodlon ei ddioddef fel y Gweinidog, ond nid wyf i'n credu y dylai Aelodau eraill o'r Siambr hon hefyd fod yn destun y math hwnnw o gam-drin, a dylech chi ymbellhau oddi wrtho—[Torri ar draws.] Dylech chi ymbellhau oddi wrtho—[Torri ar draws.] Dylech chi ymbellhau oddi wrtho.
Y gwirionedd yw, Laura, nad yw eich profiad yn anarferol. Ar y gorau, cefais i fy addysg rhyw o ddarllen llyfr Judy Blume; ar y gwaethaf, roedd yn gopi treuliedig iawn o nofel Jackie Collins a gafodd ei basio o amgylch yr ystafell ddosbarth. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi nawr, Llywydd, fod dylanwadau llawer mwy maleisus ar gael i'n plant fynd atyn nhw nawr. Mae'r pethau y gallan nhw eu gweld wrth glicio botwm yn beryglus iawn ac yn niweidiol i'w lles, ac mae angen i ni eu diogelu, ac mae angen i ni roi'r wybodaeth iddyn nhw nad yw'r hyn y maen nhw'n ei weld ar y sgrin honno yn adlewyrchu beth yw perthynas iach, nac yn amlygu beth yw perthynas rywiol iach. Mae angen i ni weithredu. Mae angen i ni weithredu, oherwydd bod plant Cymru yn dibynnu arnom ni i weithredu, a dibynnu arnom ni i fod yn ddigon dewr i herio'r gamwybodaeth.
Siân Gwenllian, hoffwn eich sicrhau fy mod i'n cymryd argymhellion y pwyllgor o ddifrif ynglŷn â'r ymgyrch gwybodaeth i'r cyhoedd, gan fy mod i'n cydnabod bod yna rieni sydd yn wir wedi drysu a chael braw oherwydd y gamwybodaeth sy'n cael ei lledaenu. Mae angen i ni fod yn glir iawn ynglŷn â sut olwg fydd ar addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghymru, ac efallai'n bwysicach, yr hyn na fydd yn ei gynnwys. Rwyf i'n ymrwymo i'r ffaith y bydd y gwaith hwnnw'n dechrau yn y flwyddyn newydd, fel y gallwn ni symud ymlaen yn hyderus.
Llywydd, am y tro cyntaf yn hanes ein cenedl, mae gennym ni gyfle i greu cwricwlwm sydd wedi ei greu yng Nghymru gan ein hymarferwyr, i'w gyflwyno gan ein hymarferwyr i'n plant. Siân Gwenllian, ni fydd unrhyw ffordd i blant yng Nghymru ddianc rhag hanes a straeon Cymru. Nid oes unrhyw ffordd, oherwydd ein bod ni wedi rhoi cyfrif am hynny yn ein meysydd dysgu a phrofiad a'n datganiadau o 'yr hyn sy'n bwysig'. Ond dyma gyfle i'n plant gael y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiadau a fydd yn sicrhau, pan fyddan nhw'n gadael ein system addysg, y gallan nhw fod yn unigolion llwyddiannus, hapus, iach a hyderus a fydd yn dwyn ein cenedl yn ei blaen, oherwydd pan fyddwn yn newid ein cwricwlwm byddwn, yn wir, yn newid ein plant. Byddwn yn newid eu dyfodol, ac wrth wneud hynny, rydym yn newid ffawd y wlad hon.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 18? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Felly, rŷn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n—[Torri ar draws.] A hefyd y cwestiwn yw a ddylid—. Ie, wrth gwrs. Dwi'n deall beth dwi'n gwneud nawr, sori. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 19 hefyd? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio. Nawr, fe gymrwn ni egwyl o bum munud i baratoi ar gyfer y bleidlais. Egwyl, felly.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:49.
Ailymgynullodd y Senedd am 19:58, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, 9 yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020: O blaid: 30, Yn erbyn: 13, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig
Y cynnig nesaf yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, wyth yn ymatal, pump yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020: O blaid: 39, Yn erbyn: 5, Ymatal: 8
Derbyniwyd y cynnig
Y bleidlais nesaf yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg bellach) (Cymru) 2020. Galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg bellach) (Cymru) 2020: O blaid: 40, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020. Galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, naw yn ymatal, pump yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020: O blaid: 38, Yn erbyn: 5, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r pleidleisiau nesaf ar y ddadl ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd. Gwelliant 3 yw'r bleidlais gyntaf, a dwi'n galw am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, un yn ymatal, 45 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 3 (cyflwynwyd yn enwau Gareth Bennett a Mark Reckless): O blaid: 5, Yn erbyn: 46, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 4 yw'r gwelliant nesaf, y gwelliant hwnnw yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pedwar, un yn ymatal, 47 yn erbyn. Mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 4 (cyflwynwyd yn enwau Gareth Bennett a Mark Reckless): O blaid: 4, Yn erbyn: 47, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 6 yw'r gwelliant nesaf, a'r gwelliant hwnnw yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, naw yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 6 (cyflwynwyd yn enw Darren Millar): O blaid: 43, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 7 yw'r un nesaf, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 32 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 7 wedi ei wrthod.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 7 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 20, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 9 yw'r gwelliant nesaf, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant yna—gwelliant 9—wedi ei gymeradwyo.
Dadl y Llywodraeth - Gwelliant 9 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 51, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Dwi'n galw nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Cynnig NNDM7523 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2020 ynghylch lefelau newydd o gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws yng Nghymru.
2. Yn croesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru sy'n caniatáu ar gyfer rhoi cyfyngiadau ar waith ar lefel ranbarthol a lleol mewn ymateb i'r dystiolaeth wyddonol a'r gwahaniaethau o ran lefelau heintio coronafeirws mewn gwahanol rannau o'r wlad.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, un yn ymatal, pump yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Dadl y Llywodraeth - Cynnig (fel y'i diwygiwyd): O blaid: 46, Yn erbyn: 5, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Mae'r bleidlais nesaf ar yr egwyddorion cyffredinol ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, un yn ymatal, 10 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): O blaid: 41, Yn erbyn: 10, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, wyth yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.
Y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): O blaid: 38, Yn erbyn: 6, Ymatal: 8
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni ddiwedd ar ein gwaith ni am y dydd heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 20:07.