WQ88417 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/06/2023

Ymhellach i WQ88015, pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn yn ei rhoi i fabwysiadu canllawiau newydd Sefydliad Safonau Prydain ar y mislif, iechyd mislif a'r menopos yn y gweithle?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 28/06/2023

Fel y nodwyd yn y cwestiwn ysgrifenedig blaenorol (WQ88015), mae gan Gomisiwn y Senedd ganllawiau menopos ar waith sy’n nodi sut i gefnogi menywod sy’n profi’r cyfnod pontio hwn, tra yn y gweithle. Mae’r canllawiau’n ymdrin â gwahanol brofiadau o’r menopos, gan gynnwys pobl anabl, pobl o gefndir ethnig lleiafrifol, yr effaith ar ddynion/partneriaid y rheini sy’n mynd drwy’r menopos, a phobl draws. 

Yn dilyn cyflwyno canllawiau newydd y Sefydliad Safonau Prydeinig ar y mislif, iechyd y mislif a’r menopos yn y gweithle, bydd Gwasanaeth Adnoddau Dynol y Comisiwn yn adolygu canllawiau presennol y Comisiwn ar y menopos, yn erbyn canllawiau newydd y Sefydliad Safonau Prydeinig. Gwneir hyn ar y cyd â chydweithwyr o Ochr yr Undebau Llafur a’n rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle, gan gynnwys Inspire, sef y rhwydwaith y Comisiwn ar gyfer cydraddoldeb yn y gweithle i fenywod.

Mae rhwydweithiau’r Comisiwn ar gyfer cydraddoldeb yn y gweithle ar gael i Aelodau o’r Senedd, Staff Cymorth yr Aelodau, staff y Comisiwn a gweithwyr ein contractwyr ar y safle.

Mae canllawiau ar gael i Aelodau a'u staff ar Fewnrwyd yr Aelodau, a gall y tîm Dysgu ac Ymgysylltu ag Aelodau drefnu sesiynau ymwybyddiaeth ‘Menopos yn y Gwaith’. Mae hyn yn atodol i’n pecyn 'llesiant yn y gwaith' sy'n cynnwys sesiynau a fyddai'n gefnogol i'r rheini sy'n profi menopos.

Bydd y ddarpariaeth dysgu a datblygu bresennol sy’n ymwneud â’r menopos – sydd wedi’i chynllunio ar gyfer Aelodau o’r Senedd, eu staff a staff y Comisiwn –  hefyd yn cael ei haddasu i gyd-fynd â chanllawiau newydd y Sefydliad Safonau Prydeinig, ac i gwmpasu ystyriaethau o ran y mislif ac iechyd mislif yn y gweithle.