Pwy yng Nghomisiwn y Senedd sy'n gyfrifol am ganllawiau ynghylch y menopos yn y gwaith?
Joyce Watson ar ran Comisiwn y Senedd:
Mae Gwasanaeth Adnoddau Dynol Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am y canllawiau ar y menopos ar y cyd â Rhwydwaith y Comisiwn dros Gydraddoldeb yn y Gweithle i fenywod, sef Rhwydwaith Inspire.
Amcangyfrifir bod 75-80% o fenywod sy’n mynd drwy’r menopos yn dal i weithio. Yn ôl ymchwil, mae mwyafrif y menywod sy'n mynd drwy'r menopos yn amharod i drafod eu pryderon ynghylch y menopos â'u rheolwr llinell, neu i ofyn am unrhyw addasiadau.
Mae’r canllawiau y mae’r Comisiwn wedi’u paratoi yn egluro sut i gynorthwyo menywod sy’n mynd drwy’r newid hwn tra byddant yn y gweithle.
Mae’r canllawiau’n ymdrin â phrofiadau gwahanol o’r menopos, gan gynnwys profiadau pobl anabl, pobl o leiafrifoedd ethnig, yr effaith ar ddynion/partneriaid y rhai sy’n mynd drwy’r menopos, a phobl draws.
Cynhaliodd y tîm Datblygu a Dysgu Sefydliadol ddwy sesiwn fis Hydref diwethaf fel rhan o’n Mis Cynhwysiant Rhyngseneddol a bydd yn cynnig yr un sesiynau eto ym mis Hydref 2023. Byddant yn agored i holl staff Comisiwn y Senedd ac yn cynnwys profiadau personol a chanllawiau i reolwyr llinell.
Rydym hefyd yn bwriadu cynnal sesiwn debyg fel rhan o'r Wythnos Dysgu yn y Gwaith Ryngseneddol ym mis Mai. Cynigir y sesiwn hon hefyd i holl staff Comisiwn y Senedd ond bydd yn canolbwyntio ar reoli effeithiau’r menopos.
Yn yr un modd, mae canllawiau ar gael i Aelodau a’u staff ar fewnrwyd yr Aelodau a gall y Tîm Dysgu ac Ymgysylltu ag Aelodau drefnu sesiynau ymwybyddiaeth ‘Menopos yn y Gwaith’. Mae hyn ar ben ein pecyn ‘Llesiant yn y Gwaith’ sy’n cynnwys sesiynau sy’n gefnogol i’r rhai sy’n profi menopos.
Mae Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle’r Comisiwn ar gael i Aelodau’r Senedd, Staff Cymorth yr Aelodau, staff y Comisiwn a gweithwyr ein contractwyr ar y safle.