Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
04/02/2020Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein agenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Carwyn Jones.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diwygiadau i gymorth i fyfyrwyr mewn prifysgolion? OAQ55044
Llywydd, mae gan Gymru y system cymorth i fyfyrwyr decaf, fwyaf blaengar a chynaliadwy mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys cydraddoldeb i fyfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig. Mae targed Llywodraeth Cymru o gynnydd o 10 y cant i nifer myfyrwyr ôl-raddedig Cymru erbyn diwedd tymor y Senedd hon eisoes wedi'i gyflawni.
Diolch, Prif Weinidog. A gaf i longyfarch y Llywodraeth ar lwyddiant y pecynnau cymorth diwygiedig ar gyfer addysg uwch? Yn arbennig, wrth gwrs, rydym ni'n gweld cynnydd o fwy na 1,500 o fyfyrwyr sy'n astudio ar lefel ôl-raddedig erbyn hyn, ac mae hynny'n dangos ein bod ni'n parhau yng Nghymru i gynhyrchu graddedigion o'r radd flaenaf, ac wrth gwrs, maen nhw'n cyfrannu cymaint at y ffaith bod gennym ni economi sgiliau uchel. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod y cynnydd hwn i nifer y myfyrwyr ôl-raddedig yn arwydd o lwyddiant y Llywodraeth o ran ceisio adeiladu'r biblinell sgiliau sydd ei hangen arnom i greu economi o ansawdd uchel â chyflogau uchel?
Diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn atodol yna. Mae yn llygad ei le, Llywydd, i wneud y cysylltiad rhwng y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn y sector addysg uwch a llwyddiant economi Cymru yn y dyfodol. Mae'r ffigurau y mae'n cyfeirio atyn nhw yn rhyfeddol. Maen nhw'n dangos cynnydd o 7 y cant i nifer y myfyrwyr rhan-amser o ganlyniad i'r polisïau a ddilynwyd gan y Llywodraeth hon. Maen nhw'n dangos cynnydd o 9 y cant i nifer y myfyrwyr ôl-raddedig. Ac maen nhw wir yn fuddsoddiad, fel y mae Carwyn Jones wedi ei ddweud, yn y math o sgiliau y bydd eu hangen arnom ni yn economi Cymru yn y dyfodol. Ac mae'n dod o'r wybodaeth allweddol hon o adolygiad Diamond mai costau byw ar hyn o bryd, nid ffioedd dysgu, oedd y rhwystr mwyaf i bobl ddod i mewn i addysg uwch, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.
A gwn y bydd yr Aelod yn arbennig o falch, oherwydd y diddordeb mawr y mae wedi ei ddangos yn hyn erioed, gyda'r penderfyniad i ddileu profion modd yn gyfan gwbl i'r rhai sy'n gadael gofal tan eu bod yn 25 oed, a'r ffaith ein bod ni'n ymgynghori ar hyn o bryd ar newidiadau posibl i gymorth i fyfyrwyr anabl, i wneud yn siŵr eu bod hwythau hefyd yn cael mynediad mor lawn a dilyffethair at ein system addysg uwch ag y gallwn ni ei lunio ar eu cyfer.
Mae hyn yn fy atgoffa i ryw raddau o ganlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, sy'n ddiwedd i'w groesawu ar duedd gyson ar i lawr, ond mae tipyn o ffordd i fynd o hyd o'r fan lle'r oeddem ni chwe blynedd yn ôl. Os edrychwch chi ar israddedigion—yn amlwg, rydym ni i gyd yn mynd i groesawu unrhyw dwf i nifer yr israddedigion, er bod hwnnw'n llai na'r twf i nifer yr ôl-raddedigion—a allwch chi ddweud rhywbeth wrthym ni ynghylch pa un a ydyn nhw'n dewis mynd i brifysgolion Cymru? Oherwydd, yn amlwg, mae gwella diogelwch cyllid prifysgolion Cymru i fod yn rhan o ddifidend Diamond, yn ogystal â gwella'r cyfleoedd i fyfyrwyr Cymru. Rwy'n chwilfrydig i wybod pa un ai'r difidend Diamond yr oeddech chi'n ei ddisgwyl yw'r hyn yr ydym ni'n ei weld mewn gwirionedd yn y ffigurau diweddaraf.
Wel, Llywydd, mae difidend Diamond yno i unrhyw un ei weld yn y gyllideb ddrafft a osodwyd gennym ni gerbron y Cynulliad ar 16 Rhagfyr, lle'r ydym ni'n ail-fuddsoddi difidend Diamond mewn addysg uwch yn yr union ffordd yr awgrymodd yr adroddiad gwreiddiol. Rwyf i eisiau i bobl ifanc Cymru deimlo'n hyderus i astudio ble bynnag y maen nhw'n credu y byddai eu dyfodol yn cael ei wella orau. A gall hynny fod ym mhrifysgolion Cymru, wrth gwrs, gyda llawer iawn o adrannau a phosibiliadau gwych; ond rwyf i eisiau i bobl ifanc Cymru allu astudio mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd. Ac nid wyf i'n credu ei fod yn fesur o lwyddiant na methiant y system fod myfyrwyr yn penderfynu astudio yng Nghymru neu yn rhywle arall. Rwyf i eisiau iddyn nhw fod mewn addysg uwch; rwyf i eisiau iddyn nhw fod lle maen nhw'n credu y bydd eu dyfodol yn cael ei sicrhau orau.
Mae cam 1 diwygiadau Diamond, sef y diwygiadau sy'n wynebu myfyrwyr, yn cael eu gweithredu ac wedi cael eu gweithredu; ond rydym ni'n sôn yn y fan yma am gam 2, yn ymwneud â'r diwygiadau sefydliadol. Rwy'n croesawu'r cynnydd i nifer y myfyrwyr rhan-amser, ac rwy'n myfyrio ar y ffaith bod hyn yn gwella yng Nghymru. Ond rwyf i wedi siarad â rhai sefydliadau addysg uwch sy'n dweud, yn unol â'r cynnydd i nifer y myfyrwyr rhan-amser, y bydd gan lawer ohonyn nhw anghenion mwy cymhleth a bydd angen mwy o fuddsoddiad arnyn nhw o safbwynt sefydliadol. Felly, beth ydych chi'n ei wneud yn hynny o beth i sicrhau bod sefydliadau addysg uwch yn gadarn ac yn gydnerth ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac am ei chydnabyddiaeth o'r ffordd y mae diwygiadau Diamond wedi cynorthwyo myfyrwyr rhan-amser. Rwy'n gwybod ei fod yn fater y mae hi wedi ei godi o'r blaen ar lawr y Cynulliad, ac rwy'n siŵr ei bod hi'n iawn y bydd gan bobl sy'n dod yn ôl i addysg uwch drwy'r llwybr rhan-amser lawer o bethau eraill yn eu bywydau y maen nhw yn eu jyglo, llawer o ofynion eraill y mae'n rhaid iddyn nhw eu bodloni. Ac mae gan sefydliadau addysg uwch gyfrifoldeb i ymateb i'r anghenion hynny. Dyna pam y tynnir sylw arbennig at hynny yn y llythyr cylch gwaith y mae'r Gweinidog Addysg wedi ei ddarparu i'r sector addysg uwch yng Nghymru eleni. Rydym ni'n buddsoddi yn y sefydliadau addysg uwch hynny, maen nhw'n gweld difidend Diamond. Mae'n rhaid iddyn nhw chwarae eu rhan hefyd i sicrhau bod y cymorth y maen nhw'n ei roi i fyfyrwyr o gefndiroedd anghonfensiynol sy'n dod i addysg uwch yn ddigon da i wneud yn siŵr y gall y bobl hynny lwyddo.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi plant sydd mewn tlodi yng Nghymru? OAQ55025
Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn yna. Llywodraeth y DU sy'n dal i fod yn gwbl gyfrifol am y prif ddulliau o fynd i'r afael â thlodi plant. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ddefnyddio pwerau datganoledig i adael mwy o arian ym mhocedi teuluoedd sydd â phlant, yn enwedig y plant hynny sy'n byw mewn tlodi.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Rwy'n croesawu'n fawr iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyllid ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, sydd wedi helpu unigolion a'u teuluoedd yn ystod cyfnodau o argyfwng ac, a bod yn onest, amddifadedd. Er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor y gronfa, bydd angen cyllid ychwanegol. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei gynigion ar gyfer y gronfa yn y blynyddoedd i ddod?
Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn atodol yna. Mae yn llygad ei le i dynnu sylw at lwyddiant y penderfyniad a wnaed yma yn y Cynulliad Cenedlaethol i gael cynllun cenedlaethol. Pan gefnodd Llywodraeth y DU ar y gronfa gymdeithasol, fe wnaethom ni benderfynu yma yng Nghymru y byddai gennym ni gronfa a fyddai'n cael ei rhedeg ar sail Cymru gyfan heb unrhyw loteri leol ynddi. Yn Lloegr, rydym ni'n gwybod bod llawer o awdurdodau lleol wedi cymryd yr arian a roddwyd iddyn nhw pan gafwyd gwared ar y gronfa gymdeithasol heb ddarparu unrhyw wasanaeth ar gyfer pobl dlawd gydag ef o gwbl.
Yma, rydym ni wedi helpu 280,000 o geisiadau i'r gronfa ers ei sefydlu. Mae'r gyllideb wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Roedd yn £7 miliwn ym mlwyddyn gyntaf y tymor Cynulliad hwn; Mae'n £11.2 miliwn yn y flwyddyn hon. Aeth i fyny £2 filiwn yn y flwyddyn ariannol hon; bydd yn mynd i fyny £1 filiwn arall yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae nifer y ceisiadau wedi codi'n rhyfeddol o gyflym mewn oes o gyni cyllidol: 65,000 o geisiadau ym mlwyddyn gyntaf tymor y Cynulliad hwn; 160,000 yn y flwyddyn ariannol hon, hyd at ddiwedd Rhagfyr; felly mae'n mynd i fod yn fwy na 100,000 o ymgeiswyr ychwanegol i'r gronfa.
Ac nid yn unig yr ydym ni wedi ei chynnal, Llywydd, trwy roi mwy o arian i gadw'r gronfa ar gael i bobl, ond rydym ni wedi ehangu ei chwmpas hefyd. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr ei bod yn gallu ymateb i anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches yma yng Nghymru. Rydym ni wedi sicrhau ei bod ar gael i bobl sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar heb unrhyw eiddo o gwbl. Byddai'n dda gennyf pe na byddai angen cronfa cymorth dewisol. Hoffwn pe byddai'r system nawdd cymdeithasol yn rhoi digon i bobl allu diwallu eu hanghenion heb y rhwyd diogelwch olaf hwn y wladwriaeth les. Ond tra bod ei hangen, yma yng Nghymru rydym ni'n parhau i fuddsoddi ynddi ac mewn gwneud yn siŵr bod gan y rhai eu anghenion yr anoddaf un yn ein cymdeithas, rywle yng Nghymru y gallan nhw fynd yno.
Prif Weinidog, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU lle bu cynnydd mewn tlodi plant yn 2017-18. Ac wrth gwrs, ystyrir bod tlodi yn ffactor sy'n cyfrannu at blant yn gorfod bod mewn gofal yn y pen draw. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd ganlyniadau arolwg o fyfyrwyr ysgol 11 i 16 oed. Maen nhw'n dangos: mai pobl ifanc mewn gofal preswyl oedd â'r sgôr llesiant meddyliol isaf; bod 56 y cant yn agored i gael eu bwlio; bod alcohol wedi cael effaith wael ar dros draean yn ystod y 30 diwrnod blaenorol; a bod bron i draean wedi defnyddio canabis yn ystod y mis diwethaf. Mae'n ymddangos bod eich Llywodraeth yn siomi ein pobl ifanc fwyaf agored i niwed: plant mewn gofal. Felly, pa gyfrifoldeb wnewch chi ei gymryd a pha gamau brys wnewch chi eu cymryd i sicrhau bod mwy o gymorth yn cael ei ddarparu i helpu i wella bywydau ein plant yn ein system ofal?
Llywydd, mae'n cymryd gallu anghyffredin i ystumio'r ffeithiau i ddarparu cwestiwn o'r math yna. Oherwydd penderfyniadau Llywodraeth yr Aelod yn San Steffan, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid—[Torri ar draws.] Rwy'n gweld bod yr wrthblaid yn credu mai'r ateb yw cymylu'r dyfroedd drwy fwmian y funud y cyflwynir ffeithiau go iawn i chi. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud wrthym ni, oherwydd gweithredoedd Llywodraethau Ceidwadol ers 2010, y bydd 50,000 yn fwy o blant mewn tlodi yng Nghymru yn 2020 nag a oedd yn 2010.
Onid oes gennych chi gywilydd? Onid oes gennych chi gywilydd gwirioneddol a dwys o'r ffaith bod canlyniad uniongyrchol toriadau i fudd-daliadau i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi gan eich Llywodraeth yn cynhyrchu 50,000 o blant, sydd â dim ond un plentyndod i'w fyw, yn gorfod byw'r plentyndod hwnnw yng Nghymru mewn tlodi? Os ydych chi'n blentyn yng Nghymru yn cael ei fagu mewn teulu un rhiant, mae canlyniadau uniongyrchol y penderfyniadau y mae eich Llywodraeth chi wedi eu gwneud yn golygu bod gan y teulu hwnnw £3,720 yn llai i fyw arno, i ddarparu ar gyfer y plentyn hwnnw y dyfodol y mae'r plentyn hwnnw'n ei haeddu. Dyna wirionedd y mater sydd y tu ôl i'r cwestiwn y mae'r Aelod yn ei godi.
Byddai'n dda gen i pe byddai llai o blant mewn gofal yng Nghymru. Rwyf i eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau nifer y plant y mae'n rhaid mynd â nhw oddi wrth eu teuluoedd. Ond a oes unrhyw ryfedd bod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd ac na allan nhw wneud yr hyn y maen nhw eisiau ei wneud dros eu plant, pan fo ganddyn nhw ddegau ar ddegau o bunnoedd yn llai i fyw arnyn nhw bob wythnos, oherwydd y camau y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi eu cymryd yn fwriadol ac yn ddidrugaredd
Mae'r Prif Weinidog yn llygad ei le, wrth gwrs, wrth ddweud mai Llywodraeth San Steffan sy'n gyfrifol am lawer o'r dulliau o fynd i'r afael â thlodi plant ar hyn o bryd, ac roeddwn i'n falch o glywed yr hyn a ddywedodd am y gronfa cymorth dewisol yn ei ymateb i Mike Hedges. Ond tybed a wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi mai'r ffordd fwyaf effeithiol o ymdrin â phlant sy'n cael eu magu mewn tlodi yw rhoi arian ym mhocedi eu rhieni—a phocedi eu mamau yn arbennig. Rwy’n cymryd hynny o'r hyn y mae ef newydd ei ddweud wrth Janet Finch-Saunders.
Tybed a fyddai'n cytuno â mi, nawr ein bod ni'n wynebu pum mlynedd arall o Lywodraeth dan arweiniad Boris Johnson, na allwn ddisgwyl—[Torri ar draws.] Wel, rwy'n falch iawn bod Janet Finch-Saunders yn credu bod hynny'n syniad da, oherwydd gallaf ddweud wrthych chi na fyddai'r mamau sengl yn y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli, ar y cyfan, yn cytuno â hi. Ond gan mai dyna yw'r gwirionedd, Llywydd, tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai dyma'r amser i ystyried gwneud cynnydd brys ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i geisio datganoli pellach o'r system fudd-daliadau i Gymru, fel y gallwn ni ddefnyddio ein disgresiwn. Mae gennym ni'r dystiolaeth sy'n awgrymu y gallai datganoli'r system fudd-daliadau, mewn gwirionedd, dynnu pwysau oddi ar gyllideb Cymru am rai o'r rhesymau y mae ef newydd eu disgrifio yn ei ymateb i Janet Finch-Saunders.
Felly, tybed a fyddai'n barod i ymrwymo heddiw i geisio gwneud cynnydd brys o ran ceisio datganoli rhai o'r dulliau allweddol hynny nad ydyn nhw yn nwylo'r lle hwn ar hyn o bryd, fel y gallwn ni roi arian ym mhocedi rhieni—a mamau yn arbennig—a chodi mwy o'n plant allan o dlodi. Oherwydd yn sicr, ni allwn, fel y mae ef newydd ei ddweud ei hun, ddibynnu ar ben arall coridor yr M4 i wneud hynny drosom ni.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n cytuno â'r pwynt cyntaf y mae hi'n ei wneud mai rhoi arian ym mhocedi pobl sy'n byw mewn tlodi yw'r ateb gorau i'r tlodi y maen nhw'n ei ddioddef. Dyna pam mae £90 miliwn yn ychwanegol yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer teuluoedd sy'n byw o dan yr amgylchiadau hynny, ar ben yr holl bethau y mae'r Llywodraeth hon eisoes yn eu gwneud: o'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, i Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg.
Rwyf i bob amser, Llywydd, wedi gwahaniaethu rhwng y broses o weinyddu'r system fudd-daliadau a'i datganoli. Rwy'n credu y dylai'r system fudd-daliadau fod yn rhan o lud sy'n dal y Deyrnas Unedig at ei gilydd a'i bod yn ffordd y mae'r rhai mwy cefnog yn gwneud eu cyfraniadau fel bod y rhai llai cefnog yn gallu o'u cael yn eu bywydau.
Mae'r broses o weinyddu'r system fudd-daliadau wedi bod yn destun gwaith yn y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rydym ni wedi comisiynu gwaith gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Ac, o gofio'r ffaith o bum mlynedd arall o Lywodraeth Geidwadol, rwy'n cytuno bod brys newydd o ran gweithio ar yr agenda honno.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Prif Weinidog, fe'i gwnaed yn eglur gan gyd-Aelod o'ch plaid ac AS Wigan, Lisa Nandy, ei bod hi'n credu nad yw pobl yng ngogledd Cymru yn teimlo bod datganoli'n gweithio iddyn nhw. Prif Weinidog, ydi hi'n iawn?
Wel, Llywydd, roedd gen i fantais dros yr Aelod sef fy mod i yn yr ystafell pan atebwyd y cwestiwn hwnnw. Pe byddai ef wedi dymuno bod yno, rwy'n siŵr y byddem ni wedi dod o hyd i docyn iddo, cyn belled â'i fod yn fodlon talu amdano.
Yr hyn yr oedd Lisa Nandy, yr AS dros Wigan, yn ei ddweud oedd hyn: y gall pobl ledled y Deyrnas Unedig, pan eu bod yn byw ar bellter daearyddol o'r man lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud, deimlo'n ddatgysylltiedig oddi wrth y penderfyniad hwnnw. Roedd hi'n cyfeirio at bobl sy'n byw yn Wigan o'u cymharu â phenderfyniadau yn cael eu gwneud yn Llundain, ac roedd hi'n dweud y gall pobl sy'n byw mewn rhannau eraill o Gymru deimlo'n ddatgysylltiedig oddi wrth penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y fan yma. Ac nid wyf i'n anghytuno â hi; rwy'n credu bod daearyddiaeth yn bwysig. Rwy'n credu pan fydd pobl yn byw ymhellach i ffwrdd oddi wrth penderfyniadau, mae'n anoddach iddyn nhw deimlo cysylltiad â nhw. Rwy'n credu bod hynny'n wir yn unman yn y Deyrnas Unedig, ac yn unrhyw fan lle mae pellter yn berthnasol. Ac yn yr hustyngau arweinyddiaeth hynny, cefais fy nghalonogi'n fawr o glywed amrywiaeth eang o syniadau ynghylch sut y gallwn ni ailgysylltu dinasyddion â'r penderfyniadau pwysig sy'n cael eu gwneud yn eu bywydau—syniadau y gallwn ni eu defnyddio yma yng Nghymru; syniadau y dylai Llywodraethau mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig fod yn rhoi sylw iddyn nhw hefyd.
Wel, efallai fod Lisa Nandy o'r farn nad yw datganoli'n gweithio, Prif Weinidog, ond rydym ni i gyd yn gwybod nad datganoli yw'r broblem, ond y blaid sy'n rhedeg Llywodraeth Cymru yw'r broblem mewn gwirionedd, a dyna pam mae angen newid arnom ni. Nawr, Prif Weinidog, mae pobl y gogledd yn teimlo, a hynny'n briodol, eu bod wedi cael eu siomi gan eich Llywodraeth ac yn teimlo'n rhwystredig ynglŷn â'r diffyg cynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf iddyn nhw, yn enwedig o safbwynt gwasanaethau iechyd. Dylai fod yn destun cywilydd a phryder mawr mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf o ran amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mai dim ond 66.8 y cant o gleifion sy'n cael eu gweld o fewn y cyfnod critigol o bedair awr.
Yn wir, dywedodd Dr Mark Payne, cyfarwyddwr clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wrth staff mewn e-bost mai 20 Ionawr oedd y dechrau gwaethaf i ddiwrnod yr oedd wedi ei weld mewn 13 mlynedd o weithio yn Ysbyty Gwynedd. Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn bod amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn destun pryder? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau brys y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd erbyn hyn i weddnewid y perfformiad gwael hwn, o gofio mai chi sy'n gyfrifol am y bwrdd iechyd hwn yn uniongyrchol?
Wel, Llywydd, mae adrannau damweiniau ac achosion brys ledled y Deyrnas Unedig wedi bod o dan bwysau dros y gaeaf hwn, ac mae Betsi Cadwaladr yn perfformio'n well o lawer na llawer o adrannau damweiniau ac achosion brys o dan reolaeth ei blaid ef dros y ffin yn Lloegr—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod nad ydyn nhw'n ei hoffi pan eich bod chi'n dweud wrthyn nhw am ffeithiau'r mater, ond dyna'r ffaith. Rydych chi'n dyfynnu ffigurau Betsi Cadwaladr i mi fel pe byddai cysylltiad uniongyrchol rhwng plaid wleidyddol a'r canlyniadau hynny. Os yw hynny'n wir, pam mae canlyniadau yn llawer gwaeth mewn nifer o leoedd lle mae ei blaid ef mewn grym?
Mae'r system o dan bwysau; mae hi dan bwysau ym mhobman. Mae pethau yn Betsi Cadwaladr wedi bod yn gadarn dros y gaeaf hwn i'r pwysau hynny. Ceir diwrnodau pan fydd y pwysau yn fwy nag y bu erioed, ac mae hynny'n wir yn Betsi Cadwaladr fel mewn rhannau eraill o'r wlad. Yr hyn sy'n rhyfeddol yn fy marn i yw cadernid y staff i hynny; cadernid y staff hynny i'r beirniadaethau y maen nhw'n eu clywed yn gyson gan ei blaid ef. Ond maen nhw'n parhau i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw i gleifion ledled y gogledd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, mewn gofal dewisol, mewn gofal sylfaenol ac yng ngwaith y gwasanaeth ambiwlans. Ydy, mae'r pwysau'n bodoli; mae'r ymateb iddo'n bodoli hefyd.
Rwy'n gwybod, Prif Weinidog, nad ydych chi eisiau siarad am eich methiannau eich hun, ond rydych chi'n uniongyrchol gyfrifol am redeg y gwasanaeth iechyd yn y gogledd, ac rydych chi'n amlwg yn methu â gwneud hynny. Nawr, yr wythnos diwethaf, dywedasoch ein bod ni eisiau diwylliant yn y GIG yng Nghymru lle mae pobl, pan fydd pethau'n mynd o chwith, yn teimlo bod ganddyn nhw'r grym i leisio eu barn. Ond eto, pryd bynnag y bydd unrhyw un yn sôn am broblem neu'n craffu ar eich hanes, fel heddiw, rydych chi'n dweud wrthym ni ein bod ni'n llusgo'r GIG drwy'r mwd. A gadewch i mi eich atgoffa o'r adroddiad diweddar 'Adolygiad o Therapïau Seicolegol yng Ngogledd Cymru' a ddangosodd amrywiad sylweddol na ellir ei gyfiawnhau o ran darpariaeth, mynediad, arferion gwaith tîm a diwylliant ymhlith y gweithlu amlddisgyblaeth ar bob lefel; amseroedd aros annerbyniol o hir mewn rhai ardaloedd; a diffyg eglurder a goruchwyliaeth strategol ar lefelau bwrdd iechyd ac is-adrannol. Ni all fod yn fwy damniol na hynny, Prif Weinidog.
Nawr, rydym ni'n gwybod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn bwriadu cyhoeddi diffyg o £35 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hynny yn £10 miliwn yn uwch na'r targed a osodwyd gan eich Llywodraeth chi eich hun, ac mae hynny er gwaethaf bron i £83 miliwn a wariwyd eisoes ar ymyrraeth a chymorth i wella. Prif Weinidog, o gofio bod y bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig ers mis Mehefin 2015 a'i fod o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi, sut yn union y byddwch chi'n mynd ati nawr i wrthdroi'r amseroedd aros annerbyniol o uchel ar gyfer gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn y gogledd? Sut gwnewch chi fynd i'r afael â'r diffyg gwelliant i iechyd meddwl yn dilyn y diffygion difrifol a ganfuwyd yn yr adolygiad o therapïau seicolegol? A pha gamau brys y byddwch chi'n eu cymryd nawr i roi sylw i'r arweinyddiaeth bresennol a'r trefniadau mesurau arbennig parhaus er mwyn darparu'r gwelliannau i wasanaethau y mae pobl y gogledd yn eu haeddu mewn gwirionedd?
Llywydd, rwy'n ymwybodol o'r adroddiad therapïau seicolegol, gan ei fod yn adroddiad a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd. Pan ddywedais yr wythnos diwethaf fy mod i eisiau gweld diwylliant yn y GIG lle mae pobl yn teimlo'n fodlon i leisio eu barn ac yn fodlon siarad yn agored am yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu, mae trefnu'r adroddiad hwnnw gan y bwrdd ei hun yn enghraifft o'r hyn yr oeddwn i'n sôn amdano. Dyma'r bwrdd ei hun yn cydnabod bod her, dyma'r bwrdd yn comisiynu adroddiad, dyma'r bwrdd yn dysgu gan ei staff am bethau y mae angen iddyn nhw fod yn well ar gyfer y dyfodol. Ac rwy'n credu bod hynny'n arwydd da bod y bwrdd yn barod i weithio gyda'i staff i ddysgu ganddyn nhw ac i ddod o hyd i gynllun i wneud gwelliannau, ynghyd â gwelliannau eraill ym maes iechyd meddwl.
Ni roddodd yr Aelod unrhyw sylw o gwbl i'r gwaith sydd wedi ei wneud yn Betsi Cadwaladr i wella gwasanaethau iechyd meddwl, sydd wedi cael eu gwella mewn llawer o wahanol agweddau. Mae therapïau seicolegol yn un agwedd. Rydych chi'n dewis un agwedd ac nid oes gennych chi fyth air da i'w ddweud amdano pan y bu cyfle i chi wneud hynny, pan allech chi fod wedi cydnabod y gwaith sydd wedi ei wneud gan glinigwyr i wella agweddau ar wasanaethau iechyd meddwl. Does gennych chi fyth air hael i'w ddweud am bopeth y maen nhw'n ei wneud a phopeth sy'n cael ei wneud i gleifion. A Llywydd, rhoddaf y sicrwydd hwn i gleifion yn y gogledd: tra bod ei blaid ef yn ein beirniadu'n barhaus am ddarparu'r cyllid i'r bwrdd iechyd hwnnw i barhau i ddarparu gwasanaethau i gleifion yn y gogledd, tra'r ydym ni'n disgwyl a thra ein bod ni'n gweithio gyda'r bwrdd iechyd i roi sylw i'r diffyg y mae wedi mynd iddo, ac er ein bod ni'n siomedig nad yw wedi llwyddo i wneud yr holl gynnydd yr oeddem ni eisiau ei weld eleni, mae'r Llywodraeth hon bob amser yn cymryd camau i wneud yn siŵr nad yw effaith hynny'n cael ei theimlo gan gleifion; nad ydyn nhw'n cael eu rhoi o dan anfantais gan hynny. Rydym ni'n dod o hyd i'r arian—rydym ni'n dod o hyd i'r arian o'n cyllideb yn y fan yma. Byddwn ni'n gwneud hynny eto eleni, ac mae hynny'n arwydd o'n penderfyniad i barhau i ddarparu gwasanaeth i gleifion yn y gogledd.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Pwy sy'n gyfrifol am wneud y gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn anniogel?
Y bwrdd iechyd lleol sy'n gyfrifol am wasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a'r bwrdd iechyd lleol sy'n cymryd camau gyda'i boblogaeth leol, gyda'r bobl hynny sy'n cynrychioli pobl yn yr ardal honno—[Torri ar draws.]
Darren Millar, mae'n ddrwg gen i eich enwi chi, ond mae'n ymddangos mai chi yw'r person mwyaf uchel eich cloch yn y Siambr y prynhawn yma. Gadewch i'r Prif Weinidog ymateb i Blaid Cymru. Fe wnes i ganiatáu i chi barhau gyda'ch sylwadau yn ystod cwestiynau gan eich arweinydd eich hun, ond ni wnaf i ganiatáu iddo barhau yn ystod cwestiynau gan arweinydd plaid arall. Adam Price—mae'n ddrwg gen i, roedd y Prif Weinidog yn ateb.
Fe wnaf i orffen y frawddeg, Llywydd. Y bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am y gwasanaethau hynny. Mae'n rhaid iddo weithio gyda'i wleidyddion lleol, ei boblogaeth leol a'i glinigwyr lleol i lunio cynllun ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol.
Mae cyfrifoldebau'r Gweinidog iechyd wedi eu rhestru ar wefan eich Llywodraeth eich hun fel 'goruchwylio darpariaeth a pherfformiad yn y GIG'. Felly, ni all fod unrhyw amheuaeth pwy sy'n gyfrifol am ganiatáu i'r sefyllfa yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddirywio. Mae lefelau staffio ym mhob un o dair uned damweiniau ac achosion brys Cwm Taf Morgannwg yn llawer is na'r safonau ar gyfer y DU gyfan. 7,000 o bobl i bob un meddyg ymgynghorol yw cyfartaledd y DU—mae'n 15,000 i bob un ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn argymell y dylai fod tua 10 meddyg ymgynghorol mewn ysbyty sydd oddeutu maint Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Pam ydych chi wedi caniatáu iddo gyrraedd y sefyllfa hon? Yn ystod yr etholiad cyffredinol diweddar, tynnodd Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid Lafur, Jonathan Ashworth, sylw at y perygl 'eithafol' a 'thrychinebus' o ganlyniad i golli rhai gwasanaethau 24 awr yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Ei ateb:
Rydym ni'n addo y byddwn ni'n mynd i'r afael â hyn yn ystod 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Lafur.
Rydych chi wedi bod yn gyfrifol yng Nghymru nid am 100 diwrnod, ond am 20 mlynedd. Ble ydych chi wedi bod?
Llywydd, mae'r ffigurau a ddyfynnwyd gan yr Aelod ar ddechrau ei gwestiwn atodol yn gwbl anghywir. Mae e'n rhannu'r peth anghywir gan y peth anghywir. Mewn ffordd, nid dyma'r mater dan sylw, ond credaf y dylai edrych yn ofalus, fel ei fod ceisio cael ffigurau'n gywir pan fydd yn eu dyfynnu, oherwydd mae'n anghywir iawn o ran yr hyn y mae wedi ei ddweud.
Y broblem wirioneddol, fodd bynnag, yw hyn: mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwasanaeth iechyd gwladol ar lefel uwch nag erioed, mae gennym ni fwy o feddygon ymgynghorol yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru nag erioed o'r blaen, mae gennym ni fwy o feddygon damweiniau ac achosion brys ymgynghorol yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd nag erioed o'r blaen ac mae gennym ni biblinell o feddygon ymgynghorol y dyfodol yn cael eu cynhyrchu yn y GIG yng Nghymru gyda'r systemau hyfforddi sydd gennym ni. Ceir prinder meddygon ymgynghorol i weithio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio bob dydd i geisio unioni hynny yma yng Nghymru.
Wrth greu'r GIG ym 1948, enillodd Aneurin Bevan ddadl o amgylch bwrdd y Cabinet, yn erbyn rhai fel Herbert Morrison, bod yn rhaid i fyrddau rhanbarthol yn y GIG fod yn atebol i Weinidog iechyd, a gweithio o dan ei gyfarwyddyd, neu fel arall ni fyddai'n wasanaeth iechyd gwladol, a dyna pam y cafwyd y dyfyniad enwog apocryffaidd am bedyll gwelyau yn cael eu gollwng yn Nhredegar yn atseinio yng nghoridorau Whitehall.
Mae eich dadl ddoe bod y penderfyniad ynghylch pa un a ddylid israddio gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn fater i glinigwyr yn bennaf ac nid gwleidyddion yn mynd yn groes i egwyddorion sylfaenol y GIG, mae'n mynd yn groes i egwyddorion sylfaenol y Senedd hon ac mae hyd yn oed yn mynd yn groes i werthoedd craidd eich plaid eich hun, a dyna pam y mae cynifer o'ch Aelodau eich hun yn ymuno â Phlaid Cymru ac eraill i anwybyddu eich cyngor i brotestio yn erbyn y newidiadau hyn. Onid oes gan bobl y Rhondda, y Cymoedd canolog ac, yn wir, gweddill Cymru yr hawl i ddisgwyl cael Prif Weinidog a fydd yn ymyrryd ar eu rhan, yn hytrach na dim ond dweud, 'Dim byd i'w wneud â mi'?
Wel, yn sicr mae gan bobl y Rhondda a'r bobl sy'n defnyddio Ysbyty Brenhinol Morgannwg yr hawl i wneud yn siŵr bod eu barn yn hysbys; eu bod, drwy eu cynrychiolwyr lleol, yn ymgysylltu â'r bwrdd iechyd a'u bod yn gwneud yn siŵr bod y bwrdd iechyd yn darparu gwybodaeth iddyn nhw; a'u bod nhw'n cynnig syniadau i'r bwrdd iechyd. Wrth gwrs, maen nhw'n iawn i gael y berthynas ymgysylltiol honno â'r broses o wneud penderfyniadau.
Y pwynt a wneuthum ddoe, ac fe'i gwnaf eto y prynhawn yma, yw pan fo'n rhaid gwneud penderfyniad ynghylch pa un a yw gwasanaeth yn ddiogel, pa un a yw o'r ansawdd priodol a pha un a yw'n gynaliadwy i'r dyfodol, yna'r bobl iawn i'w holi am hynny pan fydd hi'n amser gwneud penderfyniad, nid tra bydd y penderfyniad wrthi'n cael ei baratoi, yw'r bobl sy'n arbenigwyr yn y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu. Rwy'n credu bod honno'n egwyddor wirioneddol bwysig—sef os ydych chi eisiau gwybod pa un a yw gwasanaeth cardiaidd yn ddiogel ac yn gynaliadwy, yna byddai'n well i chi gael eich cyngor gan bobl sy'n arbenigwyr ym maes llawfeddygaeth gardiaidd.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Nawr ein bod ni wedi gadael yr UE, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, sut y dylid ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar gytundebau masnach yn y dyfodol a beth yw eich blaenoriaethau? Wrth gwrs, pe byddai Llywodraeth y DU wedi gwrando arnoch chi o'r blaen, pan ddywedasoch y byddai tariffau'n dinistrio diwydiant ceir y DU drwy beri iddo adleoli i'r UE, efallai y bydden nhw'n synnu o glywed y newyddion yr wythnos hon. Dywedodd Groupe PSA, sy'n gwneud ceir Peugeot, Citroën a Vauxhall, y bydden nhw'n ymateb i dariffau yn yr UE trwy gynyddu presenoldeb y cwmni yn y DU yn Ellesmere Port, lle, wrth gwrs, mae llawer o bobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn gweithio. Yn y cyfamser, mae Nissan yn bwriadu cau gweithfeydd yn yr UE ac adleoli'r gwaith cynhyrchu i'r DU, gyda'r nod o gynyddu eu cyfran o'r farchnad bum gwaith o 4 y cant i 20 y cant, gan ddisodli mewnforion o'r UE. Er gwaethaf hyn, a ydych chi fel Prif Weinidog yn dweud y dylai fod yn rhaid i Lywodraeth y DU gytuno ar ei pholisi masnach gyda chi—feto, i bob pwrpas?
Llywydd, gadawsom yr Undeb Ewropeaidd ddydd Gwener yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu ei bod hi braidd yn gynnar erbyn dydd Mawrth yr wythnos hon i fod wedi penderfynu eisoes beth fydd effeithiau hynny, yn enwedig gan nad oes tariffau ac nad oes unrhyw rwystrau heblaw am dariffau ar hyn o bryd, gan ein bod ni'n dal i fod yn y cyfnod pontio. Felly, rwy'n credu y bydd yn rhaid iddo adael i ychydig mwy o amser fynd heibio cyn y gall ddweud pa un a fydd ei safbwynt obeithiol o'r dyfodol yn cael ei wireddu.
Yn fy marn i, y berthynas iawn rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig ar draws y Deyrnas Unedig yw, pan ddaw Llywodraeth y DU i lunio ei mandad negodi a'i safbwynt negodi gyda gwledydd eraill, boed hynny yr UE neu gyda gwledydd eraill, trydydd gwledydd, byddai Llywodraeth y DU yn gryfach pe gallai ddweud wrth y rhai y mae'n negodi â nhw bod yr hyn y mae'n ei ddweud yn cynrychioli nid yn unig safbwyntiau Llywodraeth y DU, ond safbwyntiau Llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig, ac felly y dylid rhoi strwythurau ar waith i ganiatáu ymgais ar hynny, ac y dylai'r ymgais gael ei gwneud yn onest ac yn ddiffuant gan yr holl bartïon dan sylw. Rwy'n credu mai dyna fydd yn iawn i Gymru; rwy'n credu y bydd yn iawn i'r Deyrnas Unedig hefyd.
Diolch. Wrth gwrs, nid fi sy'n dweud y pethau hyn, ond y cwmnïau ceir, fel yr adroddwyd yn y Financial Times. Ond ni ddylai fod yn syndod, pan fo'r UE yn gwerthu gwerth £265 biliwn o nwyddau i ni, a'n bod ni ddim ond yn gwerthu gwerth £170 biliwn o nwyddau iddyn nhw, os byddwch chi'n gwneud masnach yn ddrytach trwy dariffau, y byddai'r broses gynhyrchu yn adleoli ar sail net o'r UE i'r DU yng ngoleuni'r tariffau hynny. Byddai'n well gen i weld masnach rydd a byddwn hefyd yn cefnogi'n fras, rwy'n credu, yr hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud; rwy'n credu y bu awgrymiadau yn flaenorol o Lywodraeth y DU yn gorfod cytuno ar ei dull o weithredu, ond i'r graddau yr oedd y Prif Weinidog yn sôn amdanyn nhw nawr— ymgynghori—rwy'n ei gefnogi yn hynny o beth, ac yn cytuno y byddai sefyllfa Llywodraeth y DU yn cryfhau pe byddai cefnogaeth eang i'w safbwynt negodi.
Fodd bynnag, byddwn yn rhybuddio'r Prif Weinidog rhag tybio y byddai'n cael cefnogaeth yng Nghymru i wrthwynebu Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Rydym ni'n cael ein hatgoffa heddiw bod cefnogaeth i ddiddymu'r lle hwn yn fwy na'r gefnogaeth i annibyniaeth, ac eto mae eich Gweinidog, Ken Skates, newydd ysgrifennu at Aelodau Seneddol i ddweud wrthyn nhw am newid datganoli rheilffyrdd—ac rwy'n dyfynnu—i
fynd i'r afael â phryderon sy'n cael eu codi gan y mudiadau annibyniaeth sy'n tyfu yng Nghymru ac yn yr Alban.
Prif Weinidog, siawns ei bod hi'n afresymol i roi pwysau ar Lywodraeth y DU fel pe byddech chi'n Nicola Sturgeon Caerdydd.
Wel, Llywydd, nid oes gen i unrhyw bolisi o wrthdaro â Llywodraeth y DU, na chyda Llywodraethau'r Alban na Gogledd Iwerddon ychwaith. Daw Llywodraeth Cymru i'r drws ym mhob un o'r trafodaethau yr ydym ni'n eu cael gyda'r nod o fod yn aelod cyfrannol cadarnhaol o'r trafodaethau rhynglywodraethol hynny. Fodd bynnag, yr hyn yr wyf i'n anghytuno ag ef yn ei gylch yw hyn: pan fo'n buddiannau ni'n wahanol i rai Llywodraeth y DU, wrth gwrs, byddwn i bob amser yn siarad o'u plaid ac ni fydd dim yn ein hatal rhag gwneud yn siŵr, pan fyddwn ni'n credu bod rhywbeth er lles Cymru, boed hynny'n weithgynhyrchu ceir, boed hynny yn y ffordd y caiff cyllid rheilffyrdd ei drefnu ar draws y Deyrnas Unedig, yna byddwn yn gwneud ein gwaith. Byddwn yn cyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw ac ni fyddwn byth yn eu gadael mewn unrhyw amheuaeth—nid am ein bod ni'n chwilio am ddadl, ond am fod gennym ni waith i'w wneud sy'n golygu bod y Senedd hon yma i gynrychioli safbwyntiau pobl yng Nghymru, ac mae'n rhaid i ni wneud hynny heb ofni unrhyw wrthddywediad gan eraill.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adfywio trefi yng Nghymru? OAQ55028
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Nododd cyhoeddiad trawsnewid trefi y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yr wythnos diwethaf y buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i adfywio trefi ledled Cymru. Rydym ni bellach yn bwriadu mabwysiadu a hyrwyddo dull canol trefi yn gyntaf o ymdrin â datblygiadau newydd.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o glywed am y pecyn o fesurau a ddygwyd ynghyd o dan yr agenda trawsnewid trefi, ac maen nhw'n dangos, rwy'n credu, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drefi fel Aberpennar ac Aberdâr yn fy etholaeth i.
Nawr, gyda fy niddordeb mewn treth ar dir gwag, ni fydd yn syndod i chi fy mod i'n croesawu'n arbennig y cyllid ychwanegol o £13.6 miliwn i fynd i'r afael ag adeiladau a thir gwag sydd wedi dadfeilio. A all y Prif Weinidog ddweud ychydig mwy am hyn, yn enwedig yng nghyd-destun yr ymgynghoriad diweddar ar orchmynion prynu gorfodol, a fydd yn rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol fwrw ymlaen â hyn a mynd i'r afael â malltod trefol?
Diolchaf i Vikki Howells am hynna. Diolchaf iddi am gydnabod y pecyn trawsnewid trefi a'r ffordd y bydd yn cyrraedd trefi yn ei hetholaeth hi. Mae diddordeb yr Aelod mewn treth ar dir gwag yn hysbys iawn, ar ôl iddi arwain dadleuon ar y pwnc yn y fan yma ar lawr y Cynulliad.
Llywydd, fy marn i yw y gellir datrys y rhan fwyaf o eiddo gwag a safleoedd nad ydynt wedi ei datblygu yng Nghymru trwy gamau gweithredu a gaiff eu cytuno rhwng perchenogion, datblygwyr ac awdurdodau cyhoeddus. Dyna pam yr ydym ni'n cyfrannu £10 miliwn at ddod â chartrefi gwag yng Nghymru yn ôl i ddefnydd buddiol; dyna pam mae ein cronfa safleoedd segur gwerth £40 miliwn yn gweithio gyda datblygwyr a pherchnogion i allu buddsoddi yn y safleoedd hynny fel bod ganddyn nhw werth masnachol newydd. Ond, ledled Cymru, mae gennym ni adeiladau sy'n sefyll yn ystyfnig o wag, lle mae eu perchnogion yn aml wedi diflannu, lle nad oes unrhyw ateb i ymdrechion awdurdodau cyhoeddus i gysylltu â nhw fel bod modd unioni'r malltod a achosir gan yr eiddo gwag hwnnw. Dyna pam mae gennym ni gronfa o £13.6 miliwn i fynd i'r afael ag adeiladau a thiroedd gwag ac adfeiliedig, a dyna pam yr ydym ni angen gorchmynion prynu gorfodol cryfach i roi'r grym i awdurdodau lleol sydd ei angen arnyn nhw pan fydd perswâd wedi methu, pan fydd yr holl ymdrechion y mae awdurdodau cyhoeddus yn eu gwneud i geisio sicrhau gwelliant ar sail y cytunwyd arni—lle mae'r adeiladau hynny a'r darnau gwag hynny o dir yn falltod ar gymunedau, yn atal adfywiad canol trefi, mae awdurdodau cyhoeddus angen yr arian yr ydym ni'n ei roi iddyn nhw a'r pwerau y byddwn ni'n eu cyflenwi iddyn nhw i gymryd camau pendant.
Un cam hanfodol tuag at adfywio canol trefi yw cymryd camau pendant i ymdrin â malltod erchyll digartrefedd sy'n achosi cymaint o ddioddefaint mawr i bobl agored i niwed ac sy'n cael effaith amlwg iawn ar ganol trefi a chanol dinasoedd. Nawr, mae ffigurau newydd ar ddigartrefedd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn dangos cynnydd i'r niferoedd sy'n cysgu ar y stryd. Rwy'n gwybod mai dim ond cipolwg yw hwn, ond maen nhw'n awgrymu cynnydd o tua 20 y cant yn ystod cyfnod o bythefnos ym mis Hydref 2019 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac rwy'n sylwi bod Casnewydd a Chaerffili yn gwneud yn arbennig o wael.
Nawr, Prif Weinidog, nid gwneud pobl ddigartref agored i niwed yn droseddwyr yw'r ateb, does bosib, a chymryd eu heiddo prin oddi arnyn nhw, fel y mae rhai cynghorau yn ei wneud, ond siawns mai'r ateb yw ariannu gwasanaethau digartrefedd yn briodol a gweithredu cynlluniau cadarn, fel yr un a gynigiwyd gan y sefydliad Crisis. Felly, a allech chi ddweud wrthyf i, os gwelwch yn dda, pa gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i ymdrin â'r broblem gynyddol anobeithiol hon o ddigartrefedd ar strydoedd Cymru?
Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi, wrth gwrs, nad troseddoli yw'r ateb i ddigartrefedd a chysgu ar y stryd. Diolchaf i'r Aelod hefyd am dynnu sylw at y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw. Bydd rhai Aelodau yn y fan yma yn cofio'r ddadl a gawsom y llynedd pan aeth y ffigurau i lawr, pryd yr oedd teimlad cyffredinol, o brofiad personol pobl o weld cynnydd mewn digartrefedd ar y stryd, ei bod yn anodd cysoni ffigur is gyda'r hyn yr ydym ni'n ei weld. Ac, o ganlyniad i'r trafodaethau a gawsom ni yn y fan yma, mae'r fethodoleg ar gyfer eleni wedi cael ei diwygio a'i gwella, ac rwy'n credu y gallwch chi weld rhywfaint o hynny yn y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw. Maen nhw'n dangos, fel bob amser, darlun cymysg: gostyngiad i nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd mewn pum awdurdod lleol, gan gynnwys Gwynedd, Wrecsam a Chaerdydd, lle cafwyd gostyngiadau sylweddol, ac yna cynnydd mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed mewn ymateb i ddigartrefedd. Mae gennym ni ffyrdd newydd yr ydym ni'n rhoi cynnig arnyn nhw i ymateb i gysgu ar y stryd drwy'r fenter Tai yn Gyntaf, sydd eisoes yn helpu dros 60 o bobl dros y gaeaf hwn i fynd yn syth i lety. Rydym ni'n gwneud hynny yn nannedd tymestl cyni cyllidol, sef yr hyn sydd wrth wraidd pobl yn colli eu cartrefi, yn colli eu bywoliaeth, ac yn canfod eu hunain yn y sefyllfa enbyd hon. Byddwn yn defnyddio'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw i weithio gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol, yn y trydydd sector, i weld beth arall y gellir ei wneud, gan ddefnyddio'r adroddiad a gomisiynwyd gan Julie James ar gyfer y gaeaf hwn, dan gadeiryddiaeth prif weithredwr Crisis, fel y gallwn ddysgu gwersi o fannau eraill hefyd.
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyfforddi a recriwtio ymgynghorwyr meddygol ar gyfer ysbytai? OAQ55057
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Trwy fuddsoddiad ychwanegol yn ein gweithlu, mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru yn cyflogi mwy o feddygon ymgynghorol GIG nag ar unrhyw adeg o'r blaen. Mae'r gweithlu meddygon ymgynghorol cyffredinol mewn ysbytai wedi tyfu gan fwy na 10 y cant dros y pum mlynedd diwethaf.
Rydym ni i gyd yn gwybod am y prinder meddygon ymgynghorol, ond mae'r gymhareb leol yn lleol o 15,000 o bobl i un meddyg ymgynghorol yn fwy na dwywaith mor wael â chyfartaledd y DU o 7,000, a, Prif Weinidog, nid yw'r ffigurau hynny'n anghywir, oherwydd roedd y ffigurau hynny'n cael eu dyfynnu neithiwr ddiwethaf mewn cyfarfod cyhoeddus gan swyddogion byrddau iechyd. Mae hyn yn mynd at wraidd y cwestiwn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sy'n edrych fel pe byddai ar fin colli gwasanaethau 24 awr dan arweiniad meddygon ymgynghorol. Felly, mewn cyfarfod gorlawn a drefnwyd gan Blaid Cymru yn y Porth neithiwr, roedd dicter a rhwystredigaeth pobl yn amlwg. Rhoddwyd sicrwydd ffug yn y gorffennol ynghylch gwasanaethau ysbyty. Cwta wyth mis yn ôl, ym mis Mehefin y llynedd, gofynnais i chi roi sicrwydd ynghylch dyfodol yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a recriwtio i swyddi heb eu llenwi, ac, mewn ymateb i mi, dywedasoch, ac rwy'n dyfynnu,
'A phan fydd pobl yn symud ymlaen, a phobl yn cael swyddi newydd ac yn mynd ymhellach yn eu gyrfaoedd, bydd swyddi eraill yn cymryd eu lle, swyddi parhaol, gobeithio, ac mae nifer o ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer swyddi gwag yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg eisoes wedi'u derbyn ac yn cael eu hystyried gan y bwrdd iechyd. Os bydd yn rhaid i ni lenwi'r swyddi hynny dros dro drwy benodi meddygon locwm, dyna a wnawn ni. Dyna'r dyfodol i'r adran achosion brys honno, ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle i gofnodi hynny yn y fan yma y prynhawn yma.'
A allwch chi, Prif Weinidog, ddweud wrth y bobl yn y Rhondda beth sydd wedi newid ers mis Mehefin diwethaf? A allwch chi ddweud wrthyf i pam yr oeddech chi'n barod i roi'r sicrwydd hwnnw bryd hynny, ond eich bod chi'n cynghori gwleidyddion lleol i beidio â chymryd rhan yn y drafodaeth am ddyfodol adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg erbyn hyn?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach: fy nghyngor i wleidyddion lleol yw y dylen nhw chwarae rhan weithredol ac ymgysylltiol yn y ddadl a fydd yn cael ei chynnal nawr gan y bwrdd iechyd lleol. Gwn fod fy nghyd-Aelod Mick Antoniw ac eraill wedi bod yn cynnal cyfarfodydd gyda'u hetholwyr, a dyna'r union ran y dylai gwleidyddion lleol ei chwarae—gwneud yn siŵr bod y safbwyntiau, y posibiliadau, y byddai pobl efallai'n gallu eu cyfrannu at y drafodaeth, bod hynny i gyd yn hysbys ac yn cael ei drafod yn briodol.
Pan siaradais i ym mis Mehefin y llynedd, dywedais yr hyn a ddywedais gan mai dyna oedd y sefyllfa ar y pryd pan oedd y bwrdd iechyd lleol yn ceisio recriwtio'n sylweddol i swyddi gwag; os nad oedden nhw'n gallu recriwtio'n sylweddol, y bydden nhw'n ceisio recriwtio meddygon ymgynghorol locwm yn hytrach. Dyna'r oedd y bwrdd iechyd yn ei wneud bryd hynny; dyna mae'r bwrdd iechyd wedi ei wneud yn y cyfamser. Daw adeg pan fydd clinigwyr lleol yn credu nad yw parhau â'r gwasanaeth presennol yn ddichonadwy, na fyddai'n ddiogel i gleifion, ac roedden nhw eisiau trafod dewisiadau eraill gyda'u poblogaeth leol. Rwy'n gobeithio y bydd y bwrdd iechyd yn cymryd pob cam i wneud yn siŵr ei fod yn ymgysylltu'n uniongyrchol â chynrychiolwyr lleol a chleifion lleol yn rhan o hynny. Ond, o gofio mai dyna'r casgliad y maen nhw wedi dod iddo, siawns eu bod nhw'n iawn i gael y sgwrs honno.
Mae'r Aelod dros y Rhondda yn iawn i godi nifer, neu niferoedd, y cleifion y mae'n rhaid i bob meddyg ymgynghorol ymdrin â nhw, ond, wrth gwrs, mae mater arall yn ymwneud â gwasgariad meddygon ymgynghorol ar draws arbenigeddau. Os ydym ni eisiau bod yn effeithiol o ran canlyniadau ac yn effeithiol o ran defnyddio arian, un o'r pethau y mae'n rhaid i ni ei sicrhau, pan ddaw claf i'r ysbyty, yw na fydd wedyn yn ildio i'r syndrom drws troi, lle mae'n gadael oherwydd bod rhywbeth wedi ei drwsio, ond mewn gwirionedd, roedd ganddo nifer o bethau o'i le, nifer o gyflyrau, neu broblem iechyd meddwl, ac yna, dim ond mis yn ddiweddarach, neu ychydig fisoedd yn ddiweddarach, mae'n cael ei aildderbyn unwaith eto o dan wahanol feddyg ymgynghorol. Mae hyn yn digwydd yn rhannol oherwydd y ffaith bod cymaint o feddygon ymgynghorol yn cael eu hysgogi gan arbenigedd.
Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf i beth y gallai AaGIC fod yn ei wneud i sicrhau ein bod ni'n edrych ar gleifion mewn ffordd fwy cyfannol, trwy gyflogi mwy o feddygon ymgynghorol cyffredinol yn yr ysbyty a mwy o orthogeriatregwyr, er enghraifft? Pobl oedrannus, maen nhw'n mynd i mewn oherwydd eu bod nhw wedi torri clun, ond maen nhw'n datblygu niwmonia, neu mae ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl, neu ddementia nad yw'n cael ei ganfod—bang, maen nhw'n ôl i mewn unwaith eto. Nid yw'n helpu'r GIG; nid yw'n helpu'r person i aros gartref. Pe byddem ni, tra eu bod nhw yno gennym ni, yn ymdrin â nhw mewn ffordd effeithiol yn hytrach na chanolbwyntio ar un broblem yn unig, rwy'n credu y gallem ni weddnewid rhai elfennau o'n gwasanaethau mewn ysbytai. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed eich barn.
Diolch. Llywydd, roeddwn i wedi gobeithio peidio â chymryd amser yn rhoi hyn ar y cofnod, ond dyma'r trydydd tro y soniwyd am y ffigurau hyn, felly rwy'n teimlo bod yn rhaid i mi. Mae'r gymhareb o feddygon ymgynghorol i gleifion yn Lloegr yn deillio o rannu nifer y bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys mawr gyda nifer y meddygon ymgynghorol. Mae'r ffigur a ddyfynnir ar gyfer Cymru yn deillio o rannu nifer y meddygon ymgynghorol gyda'r bobl sy'n mynd i'r holl adrannau damweiniau ac achosion brys ac unedau mân anafiadau hefyd, ac o gofio bod miloedd ar filoedd o bobl yn mynd i unedau mân anafiadau, nid yw'n syndod, os byddwch chi'n rhannu meddygon ymgynghorol i wahanol fath o gyfanswm, y byddwch chi'n cael gwahanol fath o ganlyniad.
Felly, doeddwn i ddim eisiau gorfod mynd i mewn i hynny i gyd, ond dyna pam y dywedais wrth ateb Adam Price na ddylid dibynnu ar y ffigur a ddyfynnodd, gan ei fod yn achos o gymharu afalau a gellyg. Fel y dywedais, nid oedd ar fy nghyfer i, pwynt canolog yr hyn a ddywedodd, ond o ystyried ei fod wedi cael ei ailadrodd ddwywaith ers hynny, rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn deall sail y ffigurau sydd wedi eu dyfynnu a pham nad ydyn nhw'n gymhariaeth ddibynadwy mewn unrhyw ffordd.
O ran y prif bwynt y mae Angela Burns yn ei wneud, sy'n un pwysig iawn yn fy marn i, pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, gweithiais gyda Gweinidogion iechyd y DU ar adroddiad yr oedd Gweinidog y DU wedi ei gomisiynu gan is-ganghellor prifysgol Sheffield, os cofiaf yn iawn, a oedd yn cynnig carfan newydd o feddygon ymgynghorol cyffredinol yn gweithio gyda phobl hŷn. Nawr, mewn llawer o rannau o'r hyn y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud, mae'r duedd dros yr 20 mlynedd diwethaf i gael mwy fyth o is-arbenigedd er budd cleifion. Os ydych chi'n mynd i gael llawdriniaeth orthopedig, byddai'n well gennych chi ei gael gan rywun sy'n arbenigo yn y driniaeth benodol yn hytrach na rhywun sy'n rhoi cynnig ar bopeth.
Ond o ran pobl hŷn, yn y ffordd y dywedodd Angela Burns, mae pobl yn dod gydag amrywiaeth eang o wahanol gyflyrau sy'n cael effaith ar ei gilydd, a'r hyn nad ydych chi ei eisiau, rwy'n credu, yw bod y claf hwnnw'n cael ei drosglwyddo o un darn o arbenigedd i'r llall. Rydych chi angen meddyg sydd wedi ei hyfforddi yn rhan o'r garfan newydd honno o gyffredinolwyr.
Rwy'n credu mai'r gwir amdani yw na chafodd yr ymdrech honno—yr wyf i'n dweud bod gan ei Llywodraeth hi ran flaenllaw yn ei chreu—yr effaith yr oeddem ni wedi ei obeithio, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd bod ymdrechion colegau cyffredinol i'r cyfeiriad arall. Mae'n rhaid i ni wneud mwy i berswadio'r proffesiwn hefyd bod natur meddygaeth i bobl hŷn angen gwahanol fath o ymateb i'r hyn a fu'r tuedd blaenllaw am bron i 20 mlynedd.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu'r gronfa gofal integredig? OAQ55058
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Ledled Cymru gyfan, mae'r gronfa gofal integredig £124 miliwn yn dod â gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai ynghyd, yn cefnogi gwaith amlddisgyblaethol, yn canolbwyntio ar arloesi, atal ac ymyrraeth gynnar, ac yn helpu pobl i fyw eu bywydau yn eu ffordd eu hunain.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'r buddsoddiad yn y gronfa gofal integredig a'r cynnydd y mae wedi ei gyflawni yn rhan allweddol, rwy'n credu, o'r dull system gyfan sydd ei angen ar Gymru i fodloni'r gofyniad ar wasanaethau ysbyty a gofal. Rwyf i wedi gweld enghreifftiau yn fy etholaeth fy hun o'r gronfa yn cefnogi trosglwyddiad mwy di-dor rhwng iechyd a gofal ac yn chwalu rhai o'r rhwystrau a all fod yn faich ar gleifion a'u teuluoedd. Ond fel y mae'r adroddiad blynyddol ar gyfer 2018-19 yn ei gwneud yn eglur, mae'n rhaid i'r gwersi sy'n codi a'r arfer gorau sy'n cael ei ddarparu gael eu mabwysiadu'n gyflym. Felly, pa gamau pellach y gall eich Llywodraeth eu cymryd i sicrhau bod gwersi'r gronfa gofal integredig yn cael eu darparu ar draws amrywiaeth ehangach o wasanaethau?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Diolch am gydnabod y gwaith y mae'r gronfa gofal integredig wedi ei wneud yn etholaeth yr Aelod ei hun. Rwy'n siŵr ei bod hi'n gyfarwydd â'r gwasanaeth cadw'n iach gartref sy'n gweithredu ym Merthyr Tudful a'r gwaith sy'n cael ei wneud yng nghwm Rhymni, drwy'r gronfa, i wella gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu.
Ceir amrywiaeth o bethau, Llywydd, y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i sicrhau bod gwersi'r gronfa yn cael eu rhannu ledled Cymru. Rydym ni wedi cryfhau aelodaeth y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy sicrhau bod maes tai yn cael ei gynrychioli'n uniongyrchol ar y bwrdd, gan fod cynifer o'r gwersi yn wersi sy'n cael eu gweithredu orau ar y cyd â gwasanaethau tai. Rydym ni'n cynnal digwyddiad blynyddol lle mae pobl o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n rhannu'r hyn a ddysgwyd o'r gronfa yn ystod y flwyddyn flaenorol ac, fel mae'n digwydd, bydd y digwyddiad blynyddol hwnnw'n cael ei gynnal ddydd Mercher yr wythnos nesaf.
Ac rydym ni'n cadw swm bach o gyllid refeniw'r gronfa gofal integredig yn ôl bob blwyddyn i hyrwyddo'n genedlaethol y prosiectau hynny a fu'n fwyaf eithriadol o lwyddiannus ar lefel leol, a phan ein ni'n sicr bod y syniad hwnnw, y fenter newydd honno, yn haeddu cael ei darparu ledled Cymru gyfan.
Prif Weinidog, y llynedd, sylwais fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi canfod bod effaith y gronfa gofal integredig o ran gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth yn dal yn aneglur ac mai prin oedd y dystiolaeth o brosiectau llwyddiannus yn cael eu prif ffrydio i gyllidebau craidd. Felly, a gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r argymhellion a wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru, a pha waith sydd wedi ei wneud i gysoni'n benodol y defnydd o gyllid cyfalaf a refeniw'r gronfa gofal integredig i ddarparu pecynnau gofal a fydd yn gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth?
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod hwnna'n ddarlleniad detholus braidd o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a oedd â llawer o bethau cadarnhaol i'w dweud am y gronfa a'r effaith y mae wedi'i chael ar Gymru. Wrth gwrs, mae'n cynnig argymhellion ar sut y gellir gwneud pethau'n well, ac rydym ni'n cymryd hynny o ddifrif. Byddai'n dda gennym pe byddai gennym ni gyllideb tair blynedd gan Lywodraeth y DU fel y gallem ni roi'r math o sicrwydd i ddarparwyr gwasanaeth ar lawr gwlad a gynigiwyd i ni gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.
Ar y mater penodol o gysoni dibenion cyfalaf a refeniw'r gronfa, dim ond i roi un enghraifft i'r Aelod: yn ardal Gwent, mae'r arian cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cartref seibiant pum gwely newydd i blant ag anghenion iechyd meddwl a chorfforol dwys. Mae'n gwneud hynny gan fod sail y gronfa wedi ei hehangu yn y blynyddoedd diweddar. Fel y bydd yr Aelodau hynny a oedd yn rhan o'r broses o'i sefydlu yn cofio, dechreuodd yn benodol iawn fel menter i atal pobl hŷn rhag cael eu derbyn i'r ysbyty neu i gyflymu'r broses o'u rhyddhau. Rydym ni'n ei defnyddio at amrywiaeth ehangach o ddibenion erbyn hyn, gan gynnwys anghenion plant ag anghenion iechyd difrifol iawn.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ar gyfer damweiniau ac achosion brys yng Nghanol De Cymru? OAQ55023
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Bu cynnydd sylweddol i'r galw mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yng Nghanol De Cymru, yn ystod y tymor gaeaf hwn. Er bod y system yn dal i fod yn brysur, mae'n parhau i ymateb bob dydd i anghenion cleifion.
Rwy'n sylweddoli eich bod chi wedi ateb y cwestiwn hwn ar sawl achlysur hyd yn hyn y prynhawn yma, ond gallwch werthfawrogi mai dyma'r brif broblem yn fy rhanbarth i ar hyn o bryd: y ddarpariaeth o wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Yr wythnos diwethaf, yn y cwestiwn amserol a ofynnwyd i'r Gweinidog iechyd, gwneuthum y pwynt fod cyfeiriad strategol y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog iechyd; y bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am ei redeg o ddydd i ddydd, sef Cwm Taf yn yr achos penodol hwn. Gallech chi roi terfyn ar gau'r ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a rhoi cyfarwyddyd i'r bwrdd iechyd hwnnw lunio cynllun hirdymor i gynnal y gwasanaethau yno. Y rheswm pam nad yw'r meddygon ymgynghorol wedi mynd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yw oherwydd bod ganddo hysbysiad cau yn gysylltiedig ag ef ers cychwyn rhaglen de Cymru yn ôl yn 2014.
A wnewch chi gyflawni eich cyfrifoldeb fel Llywodraeth Cymru nawr a chymryd gafael ar y sefyllfa hon? Oherwydd y pwysigrwydd strategol yn y fan yma yw cynnal y ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Neu a wnewch chi droi eich cefn ar y bobl sy'n dibynnu ar y ddarpariaeth honno yn yr ysbyty hwnnw a dweud 'na' a chaniatáu i'r ddarpariaeth honno gael ei chymryd i ffwrdd, yn groes i ddymuniadau eich cyd-Aelodau ar eich mainc gefn a chyd-Aelodau ar draws y Siambr hon sydd wedi ymgyrchu'n egnïol gyda chymunedau lleol i gynnal y gwasanaeth hwnnw?
Wel, Llywydd, rwy'n hapus i ateb cwestiwn arall ar y mater hwn, a byddaf yn ceisio canolbwyntio ar y pwynt difrifol yr wyf yn credu oedd yno yng nghwestiwn yr Aelod. Y cyfeiriad strategol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yw bod yn rhaid i'r gwasanaethau a ddarperir fod yn ddiogel, mae'n rhaid iddyn nhw fod o ansawdd digonol, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gynaliadwy.
Rwy'n cytuno â phwynt yr Aelod fod rhaglen de Cymru wedi darparu'r cyd-destun cwmpasol ar gyfer gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac rwy'n cytuno, os mai dyma'r pwynt yr oedd yn ei wneud, pan ddaw'r bwrdd iechyd lleol i ystyried dyfodol y gwasanaethau hynny yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg y bydd angen iddyn nhw ailedrych ar y cyd-destun chwe blynedd ymlaen o raglen de Cymru, er mwyn gwneud yn siŵr bod y penderfyniadau'n cael eu gwneud gyda'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael iddyn nhw.
Ond mae'r bobl ar lawr gwlad sydd agosaf at y gwasanaethau hynny, ac sy'n arbenigo yn y gwaith clinigol y mae'n rhaid i adran damweiniau ac achosion brys ei wneud, yn gorfod bod y bobl sydd, yn y pen draw, yn gwneud penderfyniadau ar sail y cyfeiriad strategol y mae'r Llywodraeth yn ei osod ar eu cyfer—ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r gwasanaethau hynny fod yn ddiogel, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gynaliadwy, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod o ansawdd digonol. Ac rwyf yn gobeithio y byddwn ni'n gwrando ar yr hyn a ddywed y clinigwyr wrthym ni am hyn i gyd, ar ôl iddyn nhw gael eu hysbysu gan yr holl safbwyntiau y mae Aelodau lleol o bob ochr i'r Siambr hon yn eu cyfleu i'r bwrdd ar ran y poblogaethau y maen nhw'n eu cynrychioli.
Prif Weinidog, mae'n ffaith fod prinder cenedlaethol o feddygon ymgynghorol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru a Lloegr, ond rwyf yn credu'n gryf, mewn amgylchiadau mor heriol, bod yn rhaid i fyrddau iechyd—ac yn enwedig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf—fynd ati i recriwtio'n strategol os ydyn nhw am fod yn llwyddiannus. Er enghraifft, hysbysebu ar gyfer swyddi parhaol, nid swyddi dros dro, a llunio contractau sy'n golygu nad yw meddygon ymgynghorol ynghlwm wrth un ysbyty, ond y gellir mynnu yn unol â'u contract, eu bod yn symud rhwng dau neu fwy o safleoedd i helpu i ateb gofynion cyfnewidiol. A ydych chi, Prif Weinidog, yn cytuno â mi ar hynny?
Llywydd, rwy'n cytuno â'r pwynt olaf y mae'r Aelod wedi ei wneud bod angen i ni edrych ar y contract. Rwy'n gobeithio y bydd Cymdeithas Feddygol Prydain yn fodlon cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y contract meddygon ymgynghorol mewn ysbytai yma yng Nghymru i weld a oes hyblygrwydd newydd y gellir ei drafod gyda'r gweithlu. Mae hwn yn weithlu sydd yn drefnus, sydd ag undebau sy'n siarad ar eu rhan, sydd â chontract y mae pobl wedi ymrwymo iddo. Cytunaf â'r hyn y mae Vikki Howells wedi ei ddweud, y gallai'r contract gael ei ailystyried, y gallem ei gael y trafodaethau hynny gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ynghylch hyblygrwydd newydd, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n fodlon dod at y bwrdd i gynnal y trafodaethau hynny.
Prif Weinidog, mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn fy etholaeth i. Yn ardal Taf Elái, bu cynnydd aruthrol i nifer y tai, ac yn ystod y degawd nesaf fwy neu lai, mae'n debygol y bydd 20,000 o gartrefi newydd ychwanegol. Mae'r ddemograffeg wedi newid yn sylweddol iawn ers rhaglen wreiddiol De Cymru. A ydych chi'n cytuno â mi y dylai unrhyw adolygiad clinigol o ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys ystyried newidiadau mor sylweddol o ran demograffeg?
Diolchaf i'r Aelod am hynna, a rhoddaf yr un ateb a roddais yn gynharach yn y cwestiwn hwn, sef ei bod yn bwysig, wrth wneud penderfyniadau chwe blynedd ymlaen o raglen de Cymru, bod y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud yn y gyfres fwyaf cyfredol o ddirnadaeth am y cyd-destun presennol. Bydd pethau wedi newid yn ystod y chwe blynedd hynny, bydd tueddiadau demograffig wedi newid, bydd adeiladu tai wedi newid. Disgwyliaf i'r bwrdd iechyd ystyried yr holl bethau hynny wrth iddo wneud penderfyniadau, fel bod ei benderfyniadau yn cael eu gwneud, yn union fel y dywedodd Mick Antoniw, yng ngoleuni amgylchiadau cyfredol.
7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch statws cyfansoddiadol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig? OAQ55041
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau ar gryfhau'r Deyrnas Unedig, a lle Cymru oddi mewn iddi. Mae parchu datganoli, fel y'i cefnogwyd gan bobl Cymru mewn refferenda olynol, yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad yr undeb.
Onid yw hi'n glir o'r cwestiynau yr ydym ni wedi eu cael heddiw, o bob rhan o'r Tŷ, bod datganoli yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf o Lywodraeth Lafur wedi methu'n llwyr, a bod hon yn neges sydd wedi treiddio drwodd at bobl Cymru, oherwydd bu cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth yn y pôl piniwn YouGov diweddaraf, ar gyfer annibyniaeth lawn ar y naill law, a hefyd, ar gyfer diddymu'r Cynulliad ar y llaw arall?
Dros 20 mlynedd, rydym ni wedi gweld Cymru yn suddo i waelod y domen o ran incwm yn y Deyrnas Unedig ymhlith y gwledydd cartref; Rydym ni wedi clywed y rhestr faith o fethiannau yn y GIG, y mae'r Prif Weinidog yn awyddus i'w priodoli i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nad oes ganddi unrhyw gyfrifoldeb dros redeg y gwasanaeth iechyd o ddydd i ddydd. Ond mae'n rhoi cyfle cyfleus iddo roi bai ar rywun arall, ac felly, osgoi cymryd cyfrifoldeb. Y system addysg—rydym ni'n gyson ar waelod tablau cynghrair y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr.
Roedd e'n hyrwyddwr brwd o bleidlais y bobl yn ystod ymgyrch y refferendwm ar yr UE, a bu'n rhaid i ni aros 40 mlynedd am refferendwm ar ôl 1975 i ailystyried penderfyniad pobl Prydain bryd hynny. Onid yw hi'n bryd nawr, ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, i bobl Cymru roi eu barn i ni ar ba un a yw ef wedi llwyddo neu wedi methu?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn dod i'n plith, fel arfer, yn ei bersonoliaeth proffwyd tranc. Rwyf yn anghytuno'n llwyr ag ef ar y rhan fwyaf o bethau y mae wedi eu dweud. Rwyf wedi colli cyfrif o sawl gwaith y mae wedi fy annog i barchu canlyniadau refferendwm; awgrymaf iddo y gallai yntau fod yn dymuno gwneud yr un peth.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Delyth Jewell.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau meddygon teulu yn Nwyrain De Cymru? OAQ55063
Diolchaf i'r Aelod. Darperir gwasanaethau gofal sylfaenol yn Nwyrain De Cymru, fel mewn mannau eraill, gan dimau clinigol amlddisgyblaethol, wedi eu dwyn ynghyd mewn clystyrau i ddatblygu ac amrywio gwasanaethau ar gyfer poblogaethau lleol.
Diolch, Prif Weinidog. Rwyf yn pryderu am y posibilrwydd y bydd nifer o feddygfeydd yn fy rhanbarth i yn cau. Yr wythnos diwethaf, ysgrifennais at y bwrdd iechyd i ofyn am sicrwydd y bydd meddygfeydd Parc Lansbury a Penyrheol yn cael eu cadw ar agor, yn dilyn y newyddion bod y meddyg teulu yno yn mynd i ymddeol a neb arall wedi ei benodi yn ei le hyd yma, ac rwy'n aros am ymateb. Rwy'n bryderus, fodd bynnag, am y darlun cyffredinol ar gyfer meddygfeydd yn y de-ddwyrain, o gofio bod map lliwiau Cymdeithas Feddygol Prydain o bractisau meddygon teulu yn awgrymu y gallai oddeutu 32 o feddygfeydd fod mewn perygl yn rhanbarth bwrdd iechyd Aneurin Bevan. A darganfu arolwg diweddar a gynhaliwyd ganddyn nhw fod 82 y cant o feddygon teulu yng Nghymru yn pryderu am gynaliadwyedd eu practisau. Nawr, dywed BMA Cymru fod gwraidd y broblem o ganlyniad i ddiffyg buddsoddiad ynghyd â llwyth gwaith cynyddol i feddygon teulu, ac maen nhw'n galw am gynllun gan Lywodraeth Cymru i hyfforddi mwy o feddygon teulu yng Nghymru, sy'n bolisi y mae Plaid Cymru wedi bod yn dadlau o'i blaid am gryn amser.
Felly, a allwch chi ddweud wrthyf i, Prif Weinidog, pa asesiad y byddech chi'n ei wneud o'r sefyllfa o ran hyfforddi a recriwtio meddygon teulu yn rhanbarth y de-ddwyrain, a pha gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau darpariaeth a recriwtio digonol o ran meddygon teulu ar gyfer y dyfodol?
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Llywydd, rwy'n ymwybodol o'r datblygiadau ym meddygfa Parc Lansbury, ac yn ddiolchgar i'm cyd-Aelod, Hefin David, am adrodd i mi am y cyfarfod a gynhaliodd yr wythnos diwethaf gyda chynrychiolwyr o fwrdd iechyd Aneurin Bevan ar y mater hwnnw. Felly, rwy'n ymwybodol o'r camau y mae'r bwrdd iechyd yn eu cymryd i hysbysebu ar gyfer y swydd wag honno, yn lleol ac yn genedlaethol, a'u bwriad i lenwi'r swydd honno.
Cytunaf â'r Aelod ynghylch pwysigrwydd lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu yma yng Nghymru, a bydd yn falch, rwy'n gwybod, o glywed y bu cynnydd o 50 y cant yn nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu yng Ngwent y llynedd, gan fynd o 16 i 24 o leoedd, gan ddarparu'r sylfaen ar gyfer y meddygon teulu arweiniol yn ardal Gwent yn y dyfodol.
Ond, mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn fwy na meddygon teulu, ac mae'r clystyrau yng Nghaerffili, y tri chlwstwr yng Nghaerffili, yn fy marn i, yn enghreifftiau da iawn o ddatblygiadau sy'n denu'r ystod ehangach honno o glinigwyr gofal sylfaenol, sy'n gallu darparu gwasanaethau wyneb yn wyneb ac uniongyrchol. Felly, mae'r gwasanaeth ffisiotherapi cyswllt cyntaf sydd ar gael drwy glystyrau Caerffili yn golygu nad oes yn rhaid i glaf sydd â chyflwr cyhyrysgerbydol aros i weld meddyg yng Nghaerffili, caiff fynd yn syth at y ffisiotherapydd, a fydd yn rhoi'r cyngor clinigol cywir iddo. Ac rwy'n credu bod honno'n enghraifft dda iawn o sut orau y gallwn gynnal gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fyddai wedi bod y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ond ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau yr wythnos yma.
Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwy'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad. Rebecca Evans.
Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Gan nad oedd cwestiynau i'w hateb wedi'u cyflwyno gan y Cwnsler Cyffredinol yr wythnos hon, rwyf wedi diwygio agenda heddiw yn unol â hynny. Yn ogystal â hynny, mae dadl y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi'i thynnu'n ôl o agenda yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw—y cyntaf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn cysylltiad â'r system gwneud iawn am gamweddau'r GIG? Mae cael ymatebion, mewn modd amserol, i bryderon yr wyf yn eu codi ar ran fy etholwyr yn y gogledd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn achosi problemau cynyddol i mi. Mae gen i achos trasig iawn ar hyn o bryd, o fenyw, a fu farw y llynedd, yn anffodus. Cafodd pryderon eu codi gyda'r bwrdd iechyd ym mis Gorffennaf, ac rwy'n dal i aros am ymateb sylweddol. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno nad yw'n foddhaol i deulu orfod aros cyhyd am ateb o sylwedd. Ac rwy'n gwybod nad dyna yw uchelgais y Llywodraeth hon o ran y ffordd y caiff y mathau hyn o bethau eu trin. Ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol deall sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y system iawndal yn gweithio'n effeithiol i gleifion ar draws y gogledd, ac yn wir y wlad gyfan. Ac rwy'n siŵr bod rhai dangosyddion perfformiad y byddai modd, o bosibl, eu cymhwyso'n ddefnyddiol.
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar system ddiogelwch y rhwydwaith rheilffyrdd? Fe fyddwch yn gwybod bod gan Network Rail raglen i ddileu croesfannau rheilffyrdd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Ac, yn anffodus, mae gennym groesfannau rheilffyrdd yma yng Nghymru, rai ohonyn nhw'n beryglus iawn, iawn. Bu trasiedi yn fy etholaeth i y llynedd, pan gafodd athrawes—Stephanie Brettle, o Ysgol Emrys ap Iwan, fy hen ysgol i—ei lladd, yn anffodus, pan gafodd ei tharo gan drên ar groesfan rheilffordd Tŷ Gwyn yn Nhywyn, ar arfordir y gogledd. O fewn ychydig fisoedd i'r digwyddiad trasig hwnnw, cafodd menyw arall ei lladd ar yr un groesfan honno. Nawr, rwy'n sylweddoli nad yw Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd, nac yn gyfrifol wella'r croesfannau hynny, ond credaf y dylai cronfa ddiogelwch rheilffyrdd Cymru gael ei sefydlu, efallai, er mwyn cael mwy o flaenoriaeth i'r croesfannau hyn yng Nghymru, lle gwyddom fod y mathau hyn o ddigwyddiadau trasig wedi bod. A byddwn i'n croesawu datganiad am beth bynnag y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, er mwyn gwella gwaith Network Rail i ddileu croesfannau rheilffyrdd yng Nghymru dros gyfnod. Diolch.
Diolch i Darren Millar am godi'r ddau fater hynny. Roedd y Gweinidog iechyd yma i wrando ar eich pryderon ynghylch yr oedi yn yr ymateb i'r sylwadau hynny yr ydych chi wedi'u gwneud ar ran eich etholwr i'r bwrdd iechyd lleol. Ac, yn amlwg, mae'r oedi hwnnw'n siomedig. Felly mae'r Gweinidog Iechyd wedi nodi hynny, ac os ysgrifennwch ato gyda'r manylion, yna bydd yn sicr o'i godi'n uniongyrchol gyda'r bwrdd iechyd ar eich rhan.
A byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth yn clywed eich pryder am y llu o ddigwyddiadau trasig yr ydym ni'n eu gweld ledled y rheilffyrdd yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod Network Rail wedi ysgrifennu'n ddiweddar at holl Aelodau'r Cynulliad ar y mater penodol hwn hefyd. Ac efallai y bydd y Gweinidog yn gallu ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae ef a Thrafnidiaeth Cymru yn eu cael yn hynny o beth.
Mae ffigurau wedi deillio o gais rhyddid gwybodaeth a gafodd ei gyflwyno gan fy swyddfa i ar gyfraddau gwahardd o ysgolion yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r data a gafodd eu darparu yn dangos bod cynnydd amlwg wedi bod yn nifer y gwaharddiadau cyfnod penodol yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael yn dangos cynnydd o bron 60 y cant ar ffigurau'r llynedd. Rwy'n deall bod y cyngor bellach wedi anfon adroddiad i'w bwyllgor craffu phlant a phobl ifanc ar y mater hwn. Ond mae eto i'w sefydlu a yw'r mater hwn yn RhCT yn gysylltiedig ag awtistiaeth, a'r diffyg cefnogaeth i ddisgyblion a rhieni, ond yn sicr mae'n rhywbeth sy'n haeddu ymchwiliad pellach.
Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn ymchwilio i brofiadau pobl yn y Rhondda sy'n ceisio cael gafael ar gymorth a gwasanaethau i blant ag awtistiaeth, ac mae'n deg dweud bod modd crynhoi profiadau'r rhieni yn rhai sy'n rhwystredig, yn gythruddol ac yn dorcalonnus. Y teimlad cyffredinol yw bod disgyblion ag awtistiaeth, ar y cyfan, yn cael eu siomi ac yn y bôn, nid yw'n ddigon da. Felly, a wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad yn dangos sut yr ydych chi'n bwriadu gwella'r cymorth i bobl ag awtistiaeth, gyda phwyslais penodol ar ddarparu'r hyn sydd ei angen i ganiatáu i ddisgyblion ysgol sy'n niwrowahanol ffynnu, yn hytrach na'r hyn sydd yn digwydd ar hyn o bryd, lle mae gwahaniaethu yn erbyn cynifer ohonyn nhw a'u bod ar eu colled?
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i gefnogi pobl ag awtistiaeth, gan gynnwys plant a phobl ifanc ag awtistiaeth, drwy ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig, drwy'r gwasanaeth cenedlaethol yr ydym ni yn y broses o'i weithredu ar hyn o bryd hefyd. Ond byddaf i'n gwneud yn siŵr bod y Gweinidog wedi clywed eich cais o ran y datganiad hwnnw, ac yn benodol am eich pryder ynghylch yr effaith y gallai ei chael ar bobl ifanc a phlant yn eu gallu i aros yn yr ysgol. Felly, byddaf yn sicrhau ein bod yn defnyddio'r dull cydgysylltiedig hwnnw ar draws y Llywodraeth a hefyd yn cysylltu â'm cydweithiwr sy'n gyfrifol am addysg i sicrhau bod pobl ifanc a phlant ag awtistiaeth yn cael y cymorth gorau yn yr ysgol i'w galluogi i barhau i gael eu haddysgu yn yr ysgol. Felly, byddaf yn sicrhau bod diweddariad ar gael ichi mewn un ffordd neu'r llall.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Ddoe, cynhaliais ddigwyddiad ar blant a diabetes math 1, a daeth y Dirprwy Weinidog i siarad ynddo. Roedd yn gyfle i ddathlu enghreifftiau o gryfder, penderfyniad a llwyddiant pobl gyda diabetes math 1. Roedd yn dda croesawu gymaint o bobl ifanc ysbrydoledig i'r Senedd a lledaenu'r neges y gallwch chi barhau i ffynnu gyda'r cyflwr.
Enghraifft amlwg yw stori gan un o'm hetholwyr i o Gasnewydd, Hugo Thompson, sydd, ynghyd â'i ffrindiau, wedi rhwyfo ar draws cefnfor yr Iwerydd. Mae gan Hugo diabetes math 1, ond nid oedd yn ei rwystro rhag bod y cyntaf â'r cyflwr i rwyfo 3,000 milltir ar draws cefnfor yr Iwerydd mewn ras sy'n enwog am fod yn un o'r rhai mwyaf heriol. Ond nid oes raid i gyflawniadau mawr ymwneud â dringo mynyddoedd na hwylio cefnforoedd. Weithiau, mae'n ymwneud â chael y dewrder i beidio â gadael i unrhyw beth eich rhwystro. Felly, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ynghylch pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod plant sydd â diabetes math 1 yng Nghymru yn cael diagnosis yn gyflym a diogel ac yn gallu mynd ymlaen i fyw bywydau hapus ac iach?
Yn ail, hoffwn i ofyn am ddatganiad ar strwythurau prisiau corfforaethol i fusnesau gan Trafnidiaeth Cymru. Fis diwethaf, roedd etholwr sy'n gweithio i Brifysgol De Cymru wedi cysylltu â mi i esbonio bod y gostyngiad gweithle yr oeddent yn arfer ei gael gan Drenau Arriva Cymru yn disgyn o 34 y cant i 5 y cant o dan Trafnidiaeth Cymru. Rwyf wedi siarad â Trafnidiaeth Cymru am hyn ac rwy'n deall mai ymgais ydyw i sicrhau bod cyrff addysgol yn cyd-fynd â busnesau eraill drwy safoni'r gostyngiadau. Er fy mod yn gwerthfawrogi manteision safoni, bydd y gostyngiad o 29 y cant yn golygu costau ychwanegol sylweddol i staff ac mae'n ymddangos ei fod yn mynd yn groes i'n hangen i annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, a fyddai modd inni gael datganiad ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda chwmnïau a gweithluoedd mwy, yn enwedig y rheini yn y sector cyhoeddus, i sicrhau bod prisiau tocynnau trên mor fforddiadwy â phosibl?
Diolch i Jayne Bryant, yn y lle cyntaf, am rannu stori ysbrydoledig Hugo gyda ni y prynhawn yma. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gallu bod yn bresennol yn y digwyddiad gyda'r nos ddoe i ddathlu llwyddiant Hugo a phobl ifanc eraill yng Nghymru sy'n byw gyda diabetes math 1—a llongyfarchiadau i chi ac i Diabetes UK Cymru ar ddigwyddiad ardderchog.
Credaf y byddem ni i gyd eisiau talu teyrnged i gyflawniadau pobl ifanc sydd wedi gorfod rheoli cyflwr anodd, yn ogystal â'u teuluoedd a'r tîm clinigol sy'n eu cefnogi. Rydym yn amlwg wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal a'r cymorth gorau posibl i bawb sydd â diabetes yng Nghymru, ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda'r GIG ac, unwaith eto, gyda Diabetes UK Cymru ar weithredu'r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yng Nghymru. Mae Diabetes UK Cymru yn bartner allweddol yn hynny.
Mae'r ail fater a godwyd gennych ynglŷn â phrisiau cludiant yn un sy'n fater i Trafnidiaeth Cymru yn bennaf. Ond ar ôl gwrando ar eich pryderon, byddaf i'n sicrhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cysylltu'n uniongyrchol â Trafnidiaeth Cymru ar hynny ac yn rhoi ymateb ysgrifenedig i chi o'r pryderon yr ydych chi wedi'u codi y prynhawn yma.
A gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog ynghylch lansio strategaeth genedlaethol gyntaf erioed Llywodraeth Cymru ar gyfer y genedl, sydd, wrth gwrs, yn codi'r cwestiwn pam ei bod hi wedi cymryd dros 20 mlynedd i ddarparu dogfen mor gyffredinol a pham mae ei hangen ar yr adeg benodol hon? Efallai y gallai'r Gweinidog egluro hefyd pam, unwaith eto, nad oes llinell amser na chyfeiriadau yn y strategaeth hon, sydd, wrth gwrs, yn osgoi'r posibilrwydd o graffu ar dargedau sy'n cael eu methu. Er enghraifft, un nod a nodwyd yn y strategaeth yw cynyddu allforion 5 y cant, a fyddai, o ystyried lefel ein hallforion ar hyn o bryd, yn dangos cynnydd o tua £900 miliwn. Felly, a wnaiff y Gweinidog nodi hefyd sut y bydd hyn yn cael ei feirniadu, o gofio bod Tata Steel ac Airbus yn cyfrannu cymaint at ein ffigurau allforio, nad oes gan Lywodraeth Cymru fawr ddim rheolaeth drostyn nhw?
Unwaith eto, a all y Gweinidog egluro pam na roddir amserlen ar gyfer y cynnydd mewn allforion? A yw'n flwyddyn, pum mlynedd, 10 mlynedd neu byth? A wnaiff y Gweinidog sylw hefyd am y ffaith ryfeddol nad oes fawr o bwyslais ar weithgynhyrchu yn y ddogfen, o gofio pwysigrwydd y sector i allforion o Gymru? Ac efallai y gallai egluro mai dim ond un o bob 10 busnes bach neu ganolig sy'n ymwneud ag allforio ac eto nid oes sôn yn y strategaeth hon am sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu naill ai annog neu gefnogi busnesau o'r fath yn eu hymdrechion allforio.
Wel, fe ymgynghorodd y Gweinidog â chyfrifoldeb dros y Gymraeg a chysylltiadau rhyngwladol yn eang ar lunio'r strategaeth ryngwladol honno, ac, wrth gwrs, cawsom gyfle i'w thrafod yma yn y Siambr yn ddiweddar. Ond, os hoffech ysgrifennu at y Gweinidog gyda'r cwestiynau penodol iawn hynny, rwy'n gwybod y bydd hi'n hapus iawn i ymateb.
Gweinidog, yr wythnos diwethaf cafodd y grŵp trawsbleidiol ar atal hunanladdiad, yr wyf i'n ei gadeirio, gyflwyniad gan yr Athro Ann John ar yr adolygiad thematig o farwolaethau drwy hunanladdiad a hunanladdiad tebygol mewn plant 2013-14. Mae'r adolygiad yn archwilio marwolaethau 33 o blant a fu farw drwy hunanladdiad a hunanladdiad tebygol ac yn ceisio nodi cyfleoedd i atal hunanladdiadau pellach. Rwyf wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon fy mod o'r farn mai'r adolygiad yw'r peth agosaf sydd gennym ni at glywed lleisiau'r plant a'r bobl ifanc hynny a fu farw. Hoffwn i felly ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar yr adolygiad hynod bwysig hwn er mwyn i bob aelod allu canolbwyntio arno a rhoi iddo'r ystyriaeth y credaf ei fod yn ei haeddu.
Rwy'n ddiolchgar i Lynne Neagle am godi'r mater hwn y prynhawn yma ac am y ffordd y mae wedi hyrwyddo'r mater arbennig o bwysig hwn dros gyfnod hir yn y Cynulliad. A chawsom ni gyfle i gael dadl ragorol, er nad yn amser y Llywodraeth, yn ddiweddar, ac wrth gwrs mae'r Gweinidog Iechyd wedi bod yma i glywed y cais hwnnw am ddadl ar yr adroddiad penodol hwnnw yn y dyfodol.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am lefelau llygredd aer yng Nghasnewydd? Yn ddiweddar, canfu sefydliad ymchwil Centre for Cities fod marwolaethau 113 o bobl yng Nghasnewydd yn 2017 yn gysylltiedig â llygredd aer. Mae'r ymchwil hon yn dilyn cyhoeddiad y British Heart Fundation am ymgyrch newydd i dynnu sylw at beryglon llygredd aer a'r rhybuddion y gallai cannoedd yn fwy o bobl yng Nghymru farw o drawiad ar y galon sy'n gysylltiedig â llygredd a strociau yn ystod y degawd nesaf. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn dweud nad oes ganddo gynlluniau i gyflwyno parthau aer glân yn y ddinas, felly a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i wella ansawdd aer yng Nghasnewydd ac mewn trefi a dinasoedd eraill ledled Cymru? Diolch.
Wel, mae'r Gweinidog ar hyn o bryd yn arwain gwaith ar ddatblygu cynllun aer glân i Gymru, felly rwy'n gwybod ei bod wedi clywed eich pryderon penodol am ardal Casnewydd. Ond, petaech yn ysgrifennu at y Gweinidog gyda'ch myfyrdodau ar y materion penodol yr ydych chi wedi'u disgrifio yn ardal Casnewydd, yna gwn y bydd yn ystyried y rheini wrth ddatblygu'r cynllun hwnnw.
Trefnydd, mae pryder sylweddol yn fy etholaeth i, ac ar draws cymunedau ehangach y Cymoedd, ynglŷn ag adolygiad arfaethedig Bwrdd Iechyd Cwm Taf o'r gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae'r adolygiad yn seiliedig ar ddogfen rhaglen de Cymru, sydd bellach yn chwe blwydd oed. Nid yw'r ddogfen honno'n adlewyrchu pwysau heddiw ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys ac nid yw ychwaith yn ystyried yr heriau sy'n ymwneud â recriwtio ymgynghorwyr meddygol a meddygon.
Yr un mor bwysig, nid yw rhaglen de Cymru yn ystyried y twf enfawr yn y boblogaeth yn yr ardal gyfagos, nac yn wir yn ystyried y cynnydd sylweddol mewn tai sydd ar y gweill. Trefnydd, a gawn ni ddadl frys ar ddyfodol rhaglen de Cymru i weld a yw'n parhau i fod yn addas at y diben ac i sicrhau bod pryderon y cannoedd o etholwyr sydd wedi cysylltu â mi ar y mater hwn yn cael eu harchwilio'n llawn?
Rwy'n ddiolchgar i Mick Antoniw am godi'r mater hwn y prynhawn yma, a gwn i iddo gael y cyfle yn gynharach i fynegi pryderon ei etholwyr yn uniongyrchol i'r Prif Weinidog. Atebodd y Gweinidog Iechyd gyfres o gwestiynau yr wythnos diwethaf yn y Siambr ac mae ganddo ef gwestiynau yr wythnos nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd yn falch o ofyn rhagor o gwestiynau ar y mater penodol hwn, ond, unwaith eto, mae wedi bod yma i glywed y cais.
Dau ddatganiad, os caf i. Yn gyntaf, a gaf i gymeradwyo'r alwad gan Leanne Wood ynghylch plant a phobl ifanc awtistig? Cyfeiriodd hi at y sefyllfa yn y Rhondda. Gallaf i gadarnhau, er gwaethaf y gwasanaeth awtistiaeth integredig, fod y sefyllfa yn y gogledd yn aros yr un fath ag yn y Rhondda. Cysylltir â mi, neu cysylltir â fy swyddfa, yn ddyddiol. Mae gwaharddiadau ysgol a hunan-waharddiadau yn dal i ddigwydd. Cysylltodd clinigwr â mi bythefnos yn ôl o un o'r gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn y gogledd. Roedd yn pryderu'n fawr am nifer yr achosion a oedd yn eu hwynebu, gyda gwaharddiadau o goleg, coleg addysg bellach, yn eu hardal, methiannau diogelu, yn enwedig yn ymwneud â phlant a phobl ifanc a oedd wedi dioddef camdriniaeth rywiol ac ymosodiad, ac, yn fwy na dim, yr elusennau sy'n darparu'r cymorth allweddol i bobl awtistig a'u teuluoedd nad ydyn nhw'n cael unrhyw gymorth statudol o gwbl. Ym mhob achos unigol, mae'r bobl awtistig yn cael eu trin fel y broblem gan swyddogion y sector cyhoeddus ar lefelau uwch, sydd wedi methu â sefydlu eu hanghenion cyfathrebu a phrosesu synhwyraidd, ac sy'n parhau i'w hymladd yn hytrach na chydnabod mai nhw oedd achos y rhwystrau yr oeddent yn eu hwynebu a nhw yw'r ateb i'w dileu. Yn anffodus, mae hyn yn dal i fod yn broblem yn y gogledd a'r de.
Yn ail, ac yn olaf, heddiw yw Diwrnod Canser y Byd. Mae cynllun cyflawni canser cyfredol Llywodraeth Cymru yn dod i ben. Galwaf am ddatganiad ar gynnydd y cynllun cyflawni nesaf ar gyfer canser i wella gwasanaethau a chanlyniadau canser. Diolch i waith ymchwil, mae dau o bob pedwar person yng Nghymru yn goroesi eu canser am 10 mlynedd neu fwy, ond mae gennym dipyn o ffordd i fynd o hyd. Uchelgais Cancer Research UK yw cyflymu'r cynnydd a gweld tri o bob pedwar yn goroesi'r clefyd erbyn 2034. Fel y dywedodd etholwyr wrthyf, rydym mor agos at gamau breision ymlaen o ran gwella ac atal canser. Fodd bynnag, bydd angen yr hwb olaf hwn arnom ni yn ystod y blynyddoedd nesaf er mwyn cyrraedd yno. Fel y dywedodd Cancer Research UK wrth yr Aelodau yn eu digwyddiad i fyny'r grisiau yn gynharach, maen nhw'n galw am ymrwymiad i fynd i'r afael â'r bylchau yn y gweithlu diagnostig er mwyn caniatáu mwy o brofion a gwell canlyniadau i gleifion yng Nghymru, ac maen nhw'n galw am sicrwydd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i strategaeth ganser newydd ac uchelgeisiol yng Nghymru.
Diolch i Mark Isherwood am ychwanegu ei lais at y pryderon yr oedd Leanne Wood wedi'u mynegi'n gynharach yn ystod y sesiwn hon. O ran yr ail fater, rwy'n falch iawn o allu ymateb yn gadarnhaol, oherwydd bydd y Gweinidog iechyd yn gwneud datganiad ar y cynnydd o ran y diweddariad ar yr un llwybr canser ar y pumed ar hugain o'r mis hwn.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad—cais am ddatganiad—gan Lywodraeth Cymru i ddiweddaru'r Cynulliad ar ymgyrch Jasmine, yn benodol y cynnydd sydd wed'i wneud ynghylch argymhellion adroddiad Flynn yn 2015? Fel y gwyddoch chi efallai, roedd Operation Jasmine yn ymchwiliad mawr gan Heddlu Gwent, a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2005, ac amcangyfrifir ei fod wedi costio tua £15 miliwn. Mae'n ymwneud â 63 o farwolaethau, a oedd yn destun pryder, mewn cartrefi gofal a chartrefi nyrsio i bobl hŷn yn y de-ddwyrain. Dywedodd adroddiad diweddar fod Dr Das, un o berchnogion y cartrefi gofal yr effeithiwyd arnyn nhw, wedi marw erbyn hyn, ac rwy'n gwybod bod absenoldeb dyfarniad neu benderfyniad cyfreithiol yn cymhlethu galar y teulu a'r ymdeimlad o anfodd, ac mae hynny'n cynnwys yr oedi a fu wrth drefnu gwrandawiadau'r crwner i'r marwolaethau. Rwy'n deall bod crwner newydd wedi'i benodi ar gyfer Gwent erbyn hyn ac y gallem ni weld y cwestau'n digwydd o'r diwedd, ond, yn adroddiad 2015 Flynn, gwnaed cyfres o argymhellion ynghylch atebolrwydd yn y sector gofal, ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn elwa ar ddatganiad gan y Llywodraeth am y cynnydd sydd wedi bod, y newidiadau sydd wedi'u cyflwyno, ac unrhyw faterion sy'n weddill ynghylch adroddiad Flynn ar ymgyrch Jasmine.
Diolch i Dawn Bowden am godi'r hyn sy'n fater hynod bwysig; rwy'n ei gofio o fy nyddiau ym mhortffolio'r gwasanaethau cymdeithasol. Rwy'n gwybod eich bod yn cynrychioli pryderon penodol etholwyr, felly gofynnaf i'r Gweinidog, sef y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol presennol, roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi o ran cynnydd ac, yn amlwg, bydd hi wedi clywed y cais am y datganiad ehangach hwnnw hefyd.FootnoteLink
Heb gael digon o ymarfer. Trefnydd, ni fyddai'n ddatganiad busnes oni bai fy mod yn dod â rhai o fy hoff achosion arferol, fel yr wyf i wedi'i wneud o'r blaen, a'r cyntaf o'r rheini yw'r achos parhaus a dybryd ar gyfer ffordd osgoi yng Nghas-gwent. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog trafnidiaeth ynghylch unrhyw drafodaethau a allai fod wedi digwydd gyda Llywodraeth y DU yn ystod y misoedd diwethaf i ddatblygu'r cynllun hwn? Wrth gwrs, mae'n dibynnu ar bartneriaeth drawsffiniol. Nawr bod yr etholiad cyffredinol wedi digwydd a bod gennym ni Lywodraeth y DU ar waith yn San Steffan, efallai y gallem ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a oes unrhyw drafodaethau wedi'u cynnal gyda'r bobl newydd yn eu lle. Mae'r tagfeydd yng Nghas-gwent yn gwaethygu bob dydd ac mae pobl Cas-gwent yn disgwyl bod Llywodraeth Cymru—ac, yn wir, yn disgwyl bod Llywodraeth y DU—yn ceisio datrys hyn. Felly, byddai'n dda cael diweddariad.
Yn ail, ac yn dal ar ffyrdd, yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Ceunant Clydach yr A465 ym Mlaenau'r Cymoedd, sydd wedi bod ar y gweill nawr ers cryn amser—mae wedi dioddef llithriant mawr o ran cyllid ac o ran amseriad y prosiect hwnnw. Rwy'n credu bod oedi arall wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar dros gyfnod y Nadolig. Felly, byddai'n dda cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Trafnidiaeth ynghylch y prosiect hwnnw hefyd, a pha wersi sy'n cael eu dysgu o hynny i sicrhau, yn y dyfodol, nad yw prosiectau ffyrdd a seilwaith yn dioddef yr un problemau.
Yn drydydd, ac yn olaf, y mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i goedwig genedlaethol, y gwnes i ofyn i'r Prif Weinidog amdani cyn y Nadolig—roeddwn i wedi siarad yn ddiweddar â ffermwyr sy'n credu, o ran datblygu'r goedwig honno, bod ganddyn nhw gyfraniad gwerthfawr i'w wneud yno ac, yn amlwg, mae llawer o ffermwyr yn rheoli cyfran fawr o dir ledled Cymru. Pe bai ffermwyr yn cynnig o bosibl 5 y cant o'u tir ar gyfer coed, byddech yn gweld y byddai llawer iawn o dir ledled Cymru yn sail wych ar gyfer y goedwig honno. Nid wyf yn credu mai dyna fyddai diwedd y peth, ond rwy'n credu y gallech chi—drwy gysylltu â'r ffermwyr, y gellid cyflawni hynny. Rydym yn siarad gyda nhw am arallgyfeirio drwy'r amser; efallai y byddai deialog gyda'r ffermwyr yn helpu. Felly, a allai'r Gweinidog dros faterion gwledig ystyried gwneud hynny, gan ein bod ni bellach yma yn y flwyddyn newydd?
Gwych. Iawn. Felly, diolch am godi dau o'ch hoff faterion ac un newydd, felly mae croeso mawr i hynny. O ran y ddau fater cyntaf, byddwn yn gofyn ichi ysgrifennu'n uniongyrchol at Weinidog yr economi a thrafnidiaeth i weld pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal ers y diweddariad diwethaf yr oedd yn bosibl iddo ei ddarparu. Ar yr ail fater, rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad cyffrous iawn yn fuan iawn o ran y goedwig genedlaethol, ond rwy'n cydnabod, fel y gwn ei bod hi, y rhan bwysig y gall ffermwyr ei chwarae o ran cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer coedwig genedlaethol. Rwy'n gwybod y bydd y trafodaethau hynny'n parhau gyda ffermwyr a'u cyrff cynrychioliadol i archwilio sut y gallan nhw wneud y mwyaf o'u cyfraniad i'r hyn sy'n ddarn o waith cyffrous iawn.
A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddiogelu dyfodol twrnamaint rygbi'r chwe gwlad ar sianeli gwylio am ddim? Mae'r gystadleuaeth anhygoel hon, perl rygbi rhyngwladol, yn wynebu'r bygythiad gwirioneddol o ddiflannu y tu ôl i wal dalu. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi dosbarthu'r chwe gwlad fel digwyddiad o bwys cenedlaethol ar yr ail haen. Bydd modd ei ddarparu y tu ôl i wal dalu gan ddarparwr masnachol talu i wylio, ac yna efallai y bydd yn cael ei gynnig i ddarparwyr eilaidd, efallai diwrnod ar ôl y gêm, efallai mewn rhaglen uchafbwyntiau ar ôl hanner nos, ganol yr wythnos, neu efallai dim o gwbl. Nid yw hyn yn ddigon da. Yn wyneb amharodrwydd Llywodraeth y DU i roi gwarant bendant o dwrnamaint arwyddocâd cenedlaethol grŵp 1, mae Kevin Brennan a chyd-ASau Llafur o Gymru wedi ysgrifennu at Undeb Rygbi Cymru i'w hannog i wneud popeth o fewn eu gallu i ddylanwadu ar y trafodaethau sydd ar y gweill. Nawr, rwyf fi ac Aelodau Llafur y Senedd hefyd wedi ysgrifennu at Undeb Rygbi Cymru oherwydd gwyddom, o hanes diweddar, mai'r effaith a gafwyd o roi, er enghraifft, criced y tu ôl i wal dalu Sky, oedd gweld y cyfraddau cyfranogi mewn criced yn plymio yn y degawd dilynol. A phan gymerwyd Fformiwla 1 y tu ôl i wal dalu Sky, chwalodd ffigurau'r gynulleidfa yn y DU.
Nid ydym eisiau gweld y cyfranogi mewn rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru yn cael ei ddinistrio neu fod cynulleidfaoedd gemau'r bêl hirgron yn cael eu dinistrio gan ymgais gibddall i wneud arian cyflym drwy godi tâl am weld Cymru'n chwarae rygbi yn y chwe gwlad. I lawer ohonom ni yng Nghymru, mae rygbi'n rhan o'n genedigaeth-fraint. Ni chawsom ein geni â llwy arian yn ein cegau, ond gyda phêl hirgron yn y crud nesaf atom a chrys coch yn aros inni dyfu i mewn iddo, yn fechgyn a merched fel ei gilydd.
Felly, Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am ei safbwynt ar ddiogelu hawl pobl Cymru i weld, yn rhad ac am ddim, ein harwyr rygbi yn y chwe gwlad, a pha sylwadau y gallwch chi eu gwneud i ddylanwadu ar y trafodaethau contract sydd i ddod ? A gyda llaw, ein dymuniadau gorau i Gymru wrth chwarae Iwerddon yn Nulyn yr wythnos nesaf ar ôl dechrau gwych yn erbyn yr Eidal.
Da iawn. Wel, diolch yn fawr i Huw Irranca-Davies am y ffordd y mae wedi mynegi'r ddadl arbennig hon y prynhawn yma, ac am y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud hefyd i gynnull cefnogaeth Aelodau'r Cynulliad i gael llais ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno ei bod hi'n hanfodol fod pencampwriaeth y chwe gwlad yn parhau i gael ei dangos ar deledu daearol ac y gall mwyafrif poblogaeth Cymru wylio pencampwriaeth mor bwysig â hon. Pan ymgynghorodd Llywodraeth ddiwethaf y DU ar y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn 2009, roedd Llywodraeth Cymru yn eglur iawn, hyd yn oed bryd hynny, y dylai pencampwriaeth y chwe gwlad barhau i fod yn rhad ac am ddim i'w gwylio ar y teledu. Ein barn ni oedd y byddai'r gwyliwr cyffredin yng Nghymru yn argymell symud y bencampwriaeth o grŵp B i grŵp A, fel yr ydych chi wedi ei ddisgrifio, ar y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon a gaiff eu gwarchod a sicrhau felly y byddai'n parhau i gael ei dangos ar deledu daearol.
Rwyf i o'r farn ei bod hi'n hawdd iawn inni danbrisio'r manteision a geir o wneud yn siŵr bod y prif ddigwyddiadau chwaraeon hyn ar gael i'r nifer ehangaf o bobl. Mae'r enghraifft a roddodd Huw o ran yr effaith a gafodd ar bobl yn cymryd rhan mewn criced yn enghraifft berffaith o'r mater dan sylw.
Diolch yn fawr iawn, Trefnydd.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol. Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—Vaughan Gething.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am waith y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol.
Mae pryder cyffredinol ynghylch ansawdd a chynaliadwyedd gofal cymdeithasol yma yng Nghymru a thrwy'r Deyrnas Unedig yn fwy eang hefyd. Os ydym ni'n bwriadu cael trafodaeth ystyrlon am ddyfodol gofal cymdeithasol, yna fe fydd yn rhaid inni roi ystyriaeth ddifrifol i ansawdd a chyrhaeddiad gofal cymdeithasol, ynghyd â'r cyllid sydd ei angen arno, a sut y byddwn yn mynd ati i'w godi. Mae gofal cymdeithasol yn achosi pwysau sylweddol ar y gyllideb i lywodraeth leol. Er gwaethaf degawd o galedi gwirioneddol, mae cyllidebau wedi parhau i godi tua 5.5 y cant yn flynyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar draws pob ardal yng Nghymru, gyda phob arweinyddiaeth wleidyddol wahanol, mae llywodraeth leol yn cydnabod maint yr her.
Mae'r Llywodraeth hon wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol drwy ei gwneud hi'n un o'r chwe blaenoriaeth yn ein strategaeth genedlaethol ni, 'Ffyniant i Bawb'. Rydym wedi cyflawni'r ymrwymiad yn ein maniffesto i godi'r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl i £50,000. Yng Nghymru, rydym yn cynnig y lwfans mwyaf hael yn y DU o ran y cynilion a'r cyfalaf arall y gall unigolion eu cadw heb eu defnyddio i ariannu'r gofal a gânt. Ond credwn fod angen inni fynd ymhellach. A dyna mae'r Grŵp Rhyng-Weinidogol wedi bod yn ei ystyried.
Mae pwysau gwirioneddol iawn ar ofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Rydym wedi ystyried cynigion Athro Holtham ar gyfer ardoll gofal cymdeithasol a luniwyd i fodloni anghenion demograffeg sy'n heneiddio. Er hynny, mae pwysau'n bodoli ar draws grwpiau demograffig eraill, gan gynnwys oedolion o oedran gweithio a phobl hŷn. Mae ymchwil ddiweddar LE Wales a gomisiynwyd gan y grŵp rhyng-weinidogol yn tynnu sylw at ansicrwydd wrth ragamcanu anghenion gwariant i'r dyfodol ar gyfer gofal cymdeithasol.
Gan ddefnyddio pum senario eglurhaol, mae LE Wales yn amcangyfrif y gallai'r angen am arian ychwanegol dros y tair blynedd nesaf amrywio o £35 miliwn y flwyddyn ar gyfer 2020 i 2023 hyd at £327 miliwn ychwanegol y flwyddyn erbyn diwedd yr un cyfnod. Ac amcangyfrifir y bydd angen y symiau hyn er mwyn cynnal, nid ymestyn, y ddarpariaeth gyfredol.
Fel y dywedais i, rydym yn dymuno mynd ymhellach. Ein huchelgais ni ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yw cyd-fynd ag anghenion a disgwyliadau pobl. Mae'n anorfod y bydd hyn yn gofyn am adnoddau a buddsoddiad ychwanegol.
Mewn dadleuon blaenorol, rydym ni i gyd wedi cydnabod y gwaith campus y mae staff gofal cymdeithasol yn ei wneud ar hyd a lled y wlad, gan ddarparu gofal hanfodol yn ein cymunedau. Rydym wedi trafod yr angen i wella ansawdd y gofal a'i swyddogaeth hanfodol wrth helpu pobl i fyw bywyd o ansawdd da, yn annibynnol, mewn lleoliadau sy'n ateb eu hanghenion a'u disgwyliadau nhw.
Mae gofal cymdeithasol rhad ac am ddim pan fydd ei angen yn ddyhead y mae llawer ohonom ni'n ei rannu. Eto i gyd, rydym ni'n amcangyfrif ar hyn o bryd bod darparu gofal personol a llety yn rhad ac am ddim mewn cartref gofal yn debygol o gostio dros £700 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol. Yn ein barn ni fe fyddai hyn ymhell y tu hwnt i'n gallu ni i'w ddarparu, ac ni fyddai, ar sail y ffigurau hyn, yn mynd i'r afael â thelerau ac amodau'r staff. Felly, rydym wedi canolbwyntio ar ddatblygu dewisiadau a ariennir sy'n gynaliadwy ac yn darparu gofal o safon well.
Gyda hyn mewn golwg, mae'r grŵp rhyng-weinidogol wedi ystyried nifer o feysydd lle gallai buddsoddiad gael yr effaith fwyaf, gan geisio adeiladu ar fentrau a pholisïau sy'n bodoli eisoes. Mae hyn yn cynnwys: archwilio modelau newydd o ofal; gwrthbwyso elfennau o dalu am ofal cymdeithasol o bosibl; ac ystyried sut i sicrhau gwelliannau i ansawdd gwasanaethau yn sgil buddsoddiad yn y gweithlu gofal cymdeithasol.
Ceir ymwybyddiaeth gyffredinol o bwysigrwydd swyddogaeth ein gweithlu ni o ran ansawdd ac effeithiolrwydd gofal cymdeithasol. Er hynny, nid yw cyflogau na thelerau cyflogaeth yn adlewyrchu hyn. Canlyniad hyn yw trosiant blynyddol o 30 y cant, yn ôl yr amcangyfrif, yn y gweithlu gofal cartref. Yn fy marn i, mae'n bwysig ein bod ni, fel mater o flaenoriaeth yn nodi'r hyn y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael â chadw staff a gwella dilyniant ac ansawdd y gofal. Fe ddylai hyn gefnogi ein dull ni o weithredu'r economi sylfaen a gwaith teg.
Rydym eisoes yn ysgogi nifer o fodelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol integredig drwy'r gronfa weddnewid a gyhoeddais yn rhan o 'Cymru Iachach', ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Fe fyddwn ni'n manteisio ar yr hyn a gafodd ei ddysgu o brosiectau'r gronfa gweddnewid.
Mae'r grŵp yn awyddus i ehangu manteision ein cronfa gofal integredig, lle mae'r rhaglen gyfalaf wedi cryfhau'r cysylltiad rhwng tai o ansawdd da a chanlyniadau da o ran iechyd a lles. Rydym ni'n ystyried datblygu modelau newydd o ofal sy'n gysylltiedig â thai gyda'r nod o gadw mwy o bobl yn annibynnol ac allan o ofal preswyl a gofal acíwt am gymaint o amser â phosibl.
Fel y dywedais i, rydym eisoes yn darparu fframwaith hael ar gyfer codi tâl yng Nghymru, ond rydym yn cydnabod yr angen i barhau i wella'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig. Mae'r grŵp rhyng-weinidogol yn ystyried y dewisiadau sy'n ymwneud â: chyflwyno gofal dibreswyl a ariennir; cyfraniad tuag at gost gofal preswyl i'r rheini sy'n talu fwyaf; a darparu gofal personol a ariennir ar gyfer unrhyw un sy'n gymwys.
Fe fydd gweithredu ar unrhyw un neu'r cyfan o'r dewisiadau yr wyf i newydd eu hamlinellu yn gofyn am fuddsoddiad ar ben yr adnoddau sydd eu hangen i gynnal y lefelau presennol o wasanaeth. Rydym eisoes wedi trafod y posibilrwydd o godi trethi yng Nghymru i greu'r adnoddau ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae angen inni fod yn hyderus y gallwn ni sicrhau datrysiad cynaliadwy o ran ariannu sy'n effeithiol i Gymru.
Felly, nid yw'r grŵp wedi rhoi cyfyngiadau ar ei feddylfryd. Rydym wedi ystyried y gwaith ar y cyd ar ariannu gofal cymdeithasol a wnaed gan y pwyllgor dethol ar iechyd a gofal cymdeithasol a'r pwyllgor dethol ar gymunedau a llywodraeth leol yn ystod Senedd ddiwethaf y DU. Rydym wedi adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael o fodelau rhyngwladol hefyd. Mae'r rhain yn amlygu'r heriau sydd i sefydlu model ariannu newydd ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae gan wledydd fel yr Almaen a Siapan fodelau sefydledig o ariannu gofal cymdeithasol, neu fodelau yswiriant gofal hirdymor, sy'n seiliedig ar gydnabyddiaeth glir o'r angen am gyfraniadau gan unigolion ar gyfer yswiriant gofal cymdeithasol.
Rydym yn parchu ac yn gefnogol iawn i'n gwasanaeth iechyd gwladol ac rydym yn parhau i amddiffyn egwyddor gofal iechyd sydd ar gael yn rhad ac am ddim pan fydd ei angen. Mae angen newidiadau i'r modelau rhyngwladol a adolygwyd er mwyn iddynt allu parhau i fod yn hyfyw, gyda buddion cyfyngedig i ofal cymdeithasol neu gyfraniadau ariannol uwch. Fe fyddai hyn yn awgrymu, pe baem ni'n codi trethi i ariannu gwelliant mewn gofal cymdeithasol, yna byddai angen inni alinio'n agos â'r canlyniadau penodol yr ydym yn dymuno eu cyflawni er mwyn cael datrysiad sy'n ddigon hyblyg a chynaliadwy.
Mae dewisiadau gwirioneddol i'r genedl yma. Bydd dod i gytundeb ynghylch yr angen am newid a natur y cytundeb hwnnw yn hanfodol ar gyfer diwygio i'r dyfodol. Rwy'n awyddus i barhau â'r drafodaeth hon heddiw a thu hwnt gydag Aelodau, gyda phwyllgorau a rhanddeiliaid ehangach i helpu i lywio cyfeiriad y daith a llunio darlun o'n gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yr ydym ni'n dymuno eu gweld yn y dyfodol yng Nghymru.
Yn y cyfnod a oedd yn arwain at yr etholiad cyffredinol, Gweinidog, fe ddywedodd arweinydd eich Plaid Lafur chi, Jeremy Corbyn, yn ei gais etholiadol ef y byddai Llafur yn datblygu system o ofal cymdeithasol rhad ac am ddim yng Nghymru. Mae bellach yn amlwg, fodd bynnag, o'r datganiad hwn eich bod chi wedi gwneud tro pedol ynglŷn â hyn yn barod, a'ch ateb chi yw cyflwyno treth yma yng Nghymru.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gydnabod bod ansicrwydd wrth ragamcanu anghenion gwariant y dyfodol ar gyfer gofal cymdeithasol. Ni ellir gwadu hyn. Rhagwelir y bydd y gost yn cynyddu rhwng £35 miliwn a £327 miliwn y flwyddyn erbyn 2022-23, sy'n amrywiad aruthrol, ac fe wna hynny hi'n anodd iawn nodi'r ffigur sydd wirioneddol ei angen sut i'w ariannu wrth symud ymlaen.
Fe hoffwn i rannu neges bwysig yr wyf i'n ei chlywed gan y rhai sy'n darparu ac yn derbyn gofal cymdeithasol, ac maen nhw'n dweud hyn: mae angen inni fuddsoddi mwy mewn atal ac ymyrryd yn gynnar. Yn rhy aml, fe ganiateir i bethau—. Mae diffyg mynediad at y gwasanaethau sydd ar gael, ac yn rhy aml mae arian yn mynd i mewn o'r gyllideb iechyd a'r gyllideb gofal cymdeithasol ar lefel uchel iawn pan fydd pethau wedi datblygu i fod yn argyfwng. Mewn gwirionedd, pe ceid modelau atal gwell, pe ceid modelau ymyrryd gwell, a phe bai arian yn mynd i mewn ar y lefel is honno, fe allech chi gynorthwyo a chefnogi mwy o bobl am gost fwy rhesymol, gan atal y gost uchel hon sy'n codi yn y pen draw pan fo pobl mewn argyfwng.
Yn ôl yr adroddiad 'Y "Drws Blaen" i ofal cymdeithasol i oedolion' gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae awdurdodau lleol yn atal y galw am ofal cymdeithasol, ond nid yw gwybodaeth, cyngor a chymorth—IAA—yn gyson effeithiol. Maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi darganfod loteri cod post o ran gwasanaethau cymunedol ataliol. Maen nhw'n dweud hefyd nad oes gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol yr ymrwymiad na'r ymroddiad priodol gan ein gwasanaeth iechyd, yn y rhan fwyaf o achosion, er gwaethaf y ffaith bod ein hawdurdodau lleol yn gweithio'n galed iawn mewn adrannau gofal cymdeithasol ar gyllidebau cyfyng iawn na chaniateir iddynt fynd i ddyled ynddynt. Maen nhw'n canfod nad yw'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, mewn rhai achosion, yn ddim byd ond siop siarad. Mae hyn, i mi, yn swnio'n debyg i system aneffeithiol, felly pa ystyriaeth a fyddwch chi'n ei rhoi i wneud y system sydd gennym ni ar hyn o bryd yn fwy effeithlon drwy roi'r flaenoriaeth i fesurau cryf i atal ac ymyrryd?
Atal, wrth gwrs, yw un o egwyddorion sylfaenol y gronfa gofal integredig. Mae eich datganiad chi'n nodi bod y grŵp yn awyddus i ymestyn manteision y gronfa gofal integredig. Felly pam, dywedwch wrthyf i, o'r 493 o brosiectau a gefnogwyd gan y gronfa gofal integredig yn 2018-19, y peidiodd tua 60 y cant o'r rhain â pharhau i dderbyn cyllid yn 2019-20? Yn wraig fusnes, mae hynny'n gwneud i mi amau na ddylid bod wedi dechrau'r prosiect yn y lle cyntaf, neu fod yna brosiectau ardderchog na wnaethoch chi barhau i'w hariannu nhw. Nid yw honno'n ffordd dda o symud ymlaen. Mae hwn yn bwynt pwysig oherwydd, er bod y gyllideb ddrafft yn darparu £130 miliwn i'r gronfa gofal integredig i helpu byrddau partneriaeth rhanbarthol, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi dweud ei hunan mai prin yw'r dystiolaeth bod prosiectau llwyddiannus yn cael eu prif-ffrydio i'r cyllidebau craidd.
Felly, cwestiwn 2: sut y gallwn ni fod yn siŵr na fyddai'n well gwario'r £130 miliwn drwy ddosbarthu'r arian hwnnw'n deg rhwng 22 awdurdod lleol Cymru, gan ganiatáu iddyn nhw arwain o ran atal ac integreiddio a thorri allan y fiwrocratiaeth chwerthinllyd, gostus hon a'r diffyg cyfrifoldeb ariannol, oherwydd bod yr arian hwn wedi'i glustnodi i'r fath raddau ac wedi ei glymu i'r byrddau hyn?
Cyn ystyried ardoll neu drethiant ar ein pobl ni yng Nghymru, rwyf i o'r farn fod angen inni gydnabod y bydd £1.9 biliwn ychwanegol yn dod i Lywodraeth Cymru ar ôl i Lywodraeth y DU gynyddu gwariant ar iechyd yn Lloegr.
Hefyd, yn rhan o'm swyddogaeth i yn llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, rwyf wedi bod yn falch o weithio gyda pherchnogion cartrefi gofal ledled y gogledd, ac rwyf wedi herio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn ymgais i sicrhau ffioedd cyngor iechyd cymuned sy'n fwy teg. Felly, gyda hynny, a fydd y grŵp rhyng-weinidogol yn ymchwilio i'r manteision posibl o GIG Cymru yn sicrhau bod mwy o arian i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol?
Rwy'n teimlo bod pobl wedi cael llond bol. Maen nhw wedi cael llond bol ar gyllidebau mewn byrddau iechyd yn cael eu caniatáu i dyfu a chynyddu yn eu dyledion a'u diffygion ariannol, ond eto mae awdurdodau lleol wedi eu rhwymo i ddarparu cyllideb sy'n gytbwys. Yn aml iawn, o ganlyniad i bobl yn gorwedd yng ngwelyau y gwasanaeth iechyd, pan ddylent mewn gwirionedd fod yn eu cartrefi eu hunain neu yn yr amgylchedd gofal priodol sydd ei angen arnyn nhw, yn rhy aml o lawer mae'r arian y dylai'r bwrdd iechyd fod yn ei wario yn cael ei wario gan ein hawdurdodau lleol sydd eisoes yn brin o arian.
A ydych chi'n tynnu tua'r terfyn, os gwelwch chi'n dda?
Ydw, iawn.
Yn olaf, o ddarllen eich datganiad chi, mae'n ymddangos, er y gallech chi fod yn hwylio tuag at drethiant, rwy'n croesawu'r ffaith bod eich grŵp chi wedi edrych ar fodelau newydd o ofal. Os yw hynny'n wir, fe fyddwn i'n gofyn ichi fod yn ddigon caredig i roi mwy o bwyslais ar ddewisiadau eraill fel model Buurtzorg. Mae hwn wedi chwyldroi gofal cymunedol yn yr Iseldiroedd ac wedi gweld costau gorbenion yn gostwng 25 y cant. A fyddech chi o leiaf, Gweinidog—? Nid ydych yn cytuno â mi ar bethau yn aml iawn, ond a wnewch chi gytuno â mi ei bod hi'n werth i'ch Llywodraeth chi ystyried y model hwnnw? Gadewch inni edrych ar fodel sydd, mewn gwirionedd, yn fwy effeithiol ac yn fwy buddiol i'r rhai sydd ei angen, ac sy'n haws ei reoli, a pheidio gorfod cyflwyno treth a fyddai'n feichus i bobl Cymru. Diolch.
Diolch am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. Nid wyf i'n dymuno bod yn rhy angharedig, ond mae nifer o ffeithiau y gellir eu herio yn y datganiadau a wnaed gan lefarydd y Ceidwadwyr. Mae'n wir, wrth gwrs, nad Jeremy Corbyn yw'r Prif Weinidog. Ni enillodd Llafur yr etholiad diwethaf. Fe gawsom ni grasfa yn yr etholiad diwethaf; Llywodraeth Geidwadol sydd gennym ni bellach yn y DU. Mae'r syniad ein bod ni'n mynd i orfod cadw at faniffesto'r etholiad diwethaf yn y DU, pan na allwn ddylanwadu arno o gwbl, y tu hwnt i bob rheswm. Mae datganiad dechreuol Janet Finch-Saunders yn codi cywilydd.
Mae'n werth nodi hefyd y gallaf i weld Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn y fan hon, ac yn ddiweddar fe gawsom ni ddadl am nyrsio ardal a chymunedol, a roddodd ystyriaeth i fodel Buurtzorg a'r gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud eisoes. Roedd cytundeb yn ystod tymor y Cynulliad hwn ar fuddsoddiad pellach mewn nyrsio ardal, gan edrych ar egwyddorion o fodel Buurtzorg a sut y gellid eu defnyddio yng Nghymru. Felly, rydym ni'n cynyddu ein buddsoddiad ni'n fwriadol mewn nyrsio rhanbarthol a chymunedol. Felly, ymhell o fod yn fater newydd, mae hwn mewn gwirionedd yn rhywbeth y byddwch chi, drwy gydol y tymor hwn, wedi ei glywed yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor ac yn yr adroddiad. A bod yn deg, efallai nad oeddech chi yn y Siambr ar y pryd, ond rydym wedi siarad droeon am hynny ac rwy'n falch o helpu i ddod â'r newyddion diweddaraf ichi am hynny.
O ran y pwysau o ran cost, mae'r ystod o bwysau cost a amlinellais i, Dirprwy Lywydd, pan edrychwch chi ar yr hyn y mae'r 5.5 y cant dros y saith mlynedd diwethaf neu fwy sy'n mynd—y swm y maen nhw'n ei roi i ofal cymdeithasol ar draws awdurdodau lleol, wel mae hynny mewn gwirionedd yn nes at ben uchaf yr ystod o tua £30 i £300 miliwn. Fe geir pwysau mawr iawn o ran cost ac, er gwaethaf cyni, mae arweinyddiaeth wleidyddol o bob lliw yn ymateb iddo. Y cynghorau dan arweinyddiaeth annibynnol, y cynghorau dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig—felly, eich cyd-Aelodau chi, Sam Rowlands a Peter Fox, maen nhw'n gwneud y dewisiadau hynny hefyd— ynghyd â chynghorau Plaid Cymru a'r cynghorau dan arweiniad Llafur Cymru, maen nhw i gyd yn ymateb i realiti'r cynnydd o ran pwysau.
Fe allem ni wneud yn fras yr hyn a ddywedwch chi a dweud, 'Gwnewch hyn yn fwy effeithlon, ceisiwch ddatblygu modelau newydd a pharhau i wneud hynny.' Ac mae hwnnw yn ddewis. Mae'n ddewis y gallem ni ei wneud fel cenedl. Ond os gwnawn ni hynny, fodd bynnag, mae'n rhaid inni dderbyn, os ydym ni'n dymuno cael dadl onest ac aeddfed, fod hynny'n golygu y bydd pwysau ychwanegol ar gyllidebau eraill ac fe fyddai bron yn sicr o arwain at doriadau mewn meysydd eraill o wariant. Nawr, mae hwnnw'n ddewis gonest y gallai pob un ohonom ni ei wneud, ond dyna'r dewis y byddem ni'n ei wneud. Os ydym ni'n dymuno gweld gwelliant gwirioneddol, mae'n rhaid inni ystyried faint o arian sy'n mynd i mewn i hynny. Yn etholiad diwethaf y DU, roedd y Ceidwadwyr yn addo rhoi £1 biliwn yn ychwanegol i ofal cymdeithasol, ond mewn gwirionedd, dyna'r arian yr oedden nhw wedi ei gyhoeddi eisoes. Felly, nid oes arian newydd i ddod, yn cyrraedd o fis Mai ymlaen; mae'n debyg ein bod eisoes wedi ei gael. Fe gafodd ei drosglwyddo i gyllidebau llywodraeth leol drwy'r grant cynnal refeniw i lywodraeth leol. Ac nid yw hynny ond prin yn ein cadw ni lle'r ydym ni. A dweud y gwir, fe ddywedodd Cydffederasiwn y GIG yn Lloegr fod yr addewid honno o gyllid yn brin o'r hyn a oedd yn ofynnol—nid gwleidyddion Llafur, ond pobl sy'n darparu iechyd a gofal cymdeithasol dros y ffin.
Rydym ni'n awyddus i weld mwy o effeithlonrwydd mewn gwasanaethau, ac felly rydym ni'n awyddus i weld trawsnewid, rydym ni'n awyddus i weld diwygio ac atal yn dylanwadu ar y modd y byddwn ni'n edrych ar ddyfodol gofal cymdeithasol, ond mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â mater cyllid hefyd. Os ydym ni'n dymuno gwella ansawdd a chyrhaeddiad a diogelu urddas gofal cymdeithasol, yna mae'n rhaid inni gael y sgwrs ddifrifol ac onest hon ynglŷn â chyllid. Ac rydym yn barod i wneud hynny.
Nid wyf i'n dymuno gadael materion am y gronfa gofal integredig heb eu hateb. Rhan o'r rheswm pam nad yw rhai prosiectau o'r gronfa gofal integredig yn mynd rhagddyn nhw yw eu bod nhw'n treialu ac yn cynnig ffyrdd newydd o weithio. A phan fyddwn ni'n cael y dadleuon hyn yn aml yn y fan hon, mae eich cyd-Aelod, Angela Burns, yn dweud wrthyf i'n rheolaidd, 'Mae'n rhaid ichi fod yn barod i gynnal prosiectau nad ydyn nhw'n llwyddo bob amser. Os gwrthodwch gymryd unrhyw risg, nid ydych yn rhoi cynnig ar unrhyw beth newydd.' Ac ni allwch chi wedyn ddweud ar y llaw arall ei bod hi'n warthus nad yw pob un o'r prosiectau hynny wedi parhau. Fe fydd yna wahanol resymau pam mae partneriaid ar lawr gwlad wedi ystyried a phenderfynu bwrw ymlaen neu beidio. Ac mewn gwirionedd, ar draws llywodraeth leol, mae cefnogaeth eang i'r gronfa gofal integredig a'r ffordd y mae hi wedi gweithio, y ffordd y mae hi wedi dod â gwahanol bartneriaethau at ei gilydd, gan gynnwys iechyd, ynghyd â gwahanol rannau o lywodraeth leol, y trydydd sector, a darparwyr.
Ac ni allwch chi ei chael hi bob ffordd o ran cyllid pan ddaw'n fater o gyllid canlyniadol iechyd. Mae eich plaid chi wedi dweud yn rheolaidd, 'Fe ddylai holl gyllid canlyniadol iechyd fynd yn uniongyrchol i'r gwasanaeth iechyd—peidiwch â'u cyfeirio na'u trosglwyddo nhw i unman arall o gwbl.' Mewn gwirionedd, rydym ni wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny, ac mae'r Llywodraeth hon, gydol y tymor hwn, wedi rhoi llawer mwy i mewn i'r gwasanaeth iechyd na'r cyllid canlyniadol uniongyrchol a gawsom ni o setliadau'r DU. Os ydych chi'n dweud wedyn eich bod chi'n dymuno inni roi mwy o arian i mewn i ofal cymdeithasol, wel, gwyddom y byddwn yn cael dadl wahanol am yr arian nad aeth i'r gwasanaeth iechyd. Ac ni allwch chi ei chael hi bob ffordd.
Rydym ni—rwyf i—wedi gwneud y dewis i roi £30 miliwn, o'r gyllideb iechyd y llynedd, i ofal cymdeithasol. Eleni, fe wneuthum i'r dewis i'w godi o £30 miliwn i £40 miliwn o'r gyllideb iechyd i ofal cymdeithasol, oherwydd rydym ni'n cydnabod y pwysau. Felly, rydym ni'n gwneud y peth cyfrifol a'r peth priodol eisoes, ond fe ddylai'r ddadl am y dyfodol fod yn un onest ac aeddfed, a dyna'r hyn yr wyf i'n awyddus iawn i'w weld; nid ceisio ei chael hi bob ffordd, ond bod yn onest o ran yr hyn sydd ar gael. A phan fyddwn ni'n mynd ati i ymgynghori ymhellach gyda mwy o fodelau, fe fyddwn ni'n agored i hynny a sail y cwestiynau cyllido ar eu cyfer nhw, ac felly fe all pobl yn y Siambr hon a thu hwnt edrych yn onest ar yr hyn sy'n bosibl. Nid oes gennym ni farn bendant yn y Llywodraeth ynghylch beth yn hollol y dylai modelau gofal cymdeithasol fod yn y dyfodol, nac yn wir sut y dylid eu hariannu nhw, ond rwy'n gobeithio, dros y misoedd nesaf, y cawn ni lawer mwy o aeddfedrwydd na'r hyn a glywsom yn y Siambr heddiw hyd yma, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gan y pleidiau eraill i'w ddweud.
Nid wyf i'n hollol siŵr beth yr ydych chi wedi ei gyhoeddi heddiw, a dweud y gwir. Efallai y gwnewch chi roi ychydig mwy o wybodaeth inni am y drafodaeth hon yr ydych chi'n awyddus i'w dechrau heddiw ac ar ba ffurf y gallai'r drafodaeth honno fod. Mae cyfeiriadau yn eich datganiad chi at bob math o fodelau rhyngwladol ar gyfer talu am ofal. Fe ddarllenais i eich bod chi'n awyddus i gael rhyw fath o drafodaeth, fel y dywedais i, am godi treth neu ardoll efallai i dalu am ofal cymdeithasol, ond o ystyried y cyfnod arweiniol hir cyn i Lywodraeth y DU gytuno i ddatganoli unrhyw drethi newydd, yn fy marn i, efallai, rydych chi'n ddigon hapus i ohirio'r mater penodol hwn am gyfnod hwy eto.
Rydych chi yn llygad eich lle wrth ddweud, wrth gwrs, fod yna bryder am gynaliadwyedd gofal yn ei gyfanrwydd—y gofal y bydd angen inni ei ddarparu yn y dyfodol ar gyfer y boblogaeth sy'n heneiddio. A wyddoch chi beth? O ystyried y naratif sy'n ymwneud â'r pryder am gost darparu gofal cymdeithasol yn benodol, gallaf ddeall pam y byddai'n ymddangos ei bod hi'n gwneud synnwyr i feddwl am ryw fath o gronfa, efallai, i'w sefydlu i dalu am hynny yn y dyfodol, ond credaf fod rhai diffygion gwirioneddol yn hynny o beth. Fe allwn ni gael trafodaeth am hyn, fel yr ydych chi'n dweud. Ond rydym ni o'r farn nad yw'r cwestiwn hwn yn ymwneud â dod o hyd i arian ar gyfer gofal cymdeithasol; mae'r cwestiwn hwn yn ymwneud â thalu am wasanaethau iechyd a gofal yng nghyd-destun poblogaeth sy'n gynyddol hŷn yn y dyfodol. Mae hynny'n golygu cyllid i'r GIG ac arian ar gyfer gofal cymdeithasol ac ariannu ar gyfer tai da a goresgyn tlodi ac yn y blaen, ymhlith llu o wasanaethau cyhoeddus eraill y mae eu hangen nhw. Yn fy marn i, nid y bwlch amlwg o ran ariannu yw gofal cymdeithasol, ynddo'i hun, na'r GIG, na'r gwasanaethau eraill ar wahân; y diffyg buddsoddiad mewn gwasanaethau sy'n atal pobl rhag afiechyd yn y lle cyntaf, a bod ag angen am y GIG a gofal cymdeithasol. Os ydym yn dymuno crynhoi cyllid—ac rwy'n credu bod angen meddwl mewn ffordd wahanol am fodelau i'r dyfodol—rwy'n credu efallai y dylem fod yn meddwl am ddatblygu cronfa weddnewid i'n harwain ni at y gwasanaeth gofal hwnnw sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt, yn wir.
Mewn ymateb i rai o'r sylwadau a wnaeth llefarydd y Ceidwadwyr, nid wyf yn credu y gallwn adeiladu dyfodol cyllid iechyd Cymru ar sail yr hyn y gobeithiwn y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu ei wario ar iechyd yn Lloegr mewn blynyddoedd i ddod. Rwyf i o'r farn, yn seiliedig ar hanes y Llywodraethau Ceidwadol olynol, fod eu parodrwydd nhw i dorri gwasanaethau yn fy ngwneud i'n anesmwyth iawn o ran aros yno yn ymbilio wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau ynglŷn â'r GIG yn Lloegr.
Fe af i yn fy mlaen at ychydig o gwestiynau. Rwy'n cydymdeimlo â barn y Gweinidog fod angen trafodaeth onest arnom ynglŷn â lefel y trethi a delir. Rwy'n credu ei bod hi'n fater o egwyddor mai'r ffordd orau o ariannu gofal, yn y GIG ac yn gymdeithasol, yw o drethiant cyffredinol. Ond fe fyddwn i'n dadlau'n gryf hefyd, os yw'r Llywodraeth yn bwriadu codi trethi i ariannu gwasanaethau iechyd a gofal, na chewch chi gefnogaeth i hynny oni bai, yn gyfnewid, na chodir costau eraill ar bobl sydd angen y gwasanaethau hynny. Er enghraifft, na fyddai'n rhaid iddyn nhw werthu eu cartrefi hefyd.
Roedd yna un neu ddau o honiadau yn eich datganiad chi. Mae'r datganiad yn honni y gallai gofal personol a llety mewn cartrefi gofal yn rhad ac am ddim gostio £700 miliwn y flwyddyn. Ond mae'r cyfrifon ar gyfer awdurdodau lleol—cyfrifon diweddar—yn dangos mai dim ond £163 miliwn y maen nhw wedi ei godi o ffioedd am ofal cymdeithasol i rai dros 65 oed. Wrth gwrs, fe fyddai'n rhaid ichi roi cyfrif hefyd o newid ymddygiad, gyda hunan-arianwyr yn symud i mewn i'r cyllid, ond mae'r bwlch yn parhau i fod yn eithaf sylweddol. Amcangyfrifodd comisiwn Barker mai cost darparu gofal cymdeithasol yn rhad ac am ddim i'r rhai ag anghenion cymedrol a chritigol ar gyfer Lloegr fyddai £5 biliwn. Byddai hynny'n trosi i tua £250 miliwn yng Nghymru. Mewn gwirionedd, fe amcangyfrifodd ymchwil LE Wales ei hun y gost hon yn 2014, a oedd yn cynnwys pobl dan 65 oed hefyd, i fod tua £350 miliwn. Felly, a wnewch chi egluro pam mae'r ffigur a ddefnyddiwch chi mor sylweddol wahanol i amcangyfrifon eraill? Fe fyddai sinig yn awgrymu eich bod chi'n ceisio tanseilio'r achos dros ofal cymdeithasol rhad ac am ddim pan fyddai angen hynny, ac ar yr un gwynt yn honni eich bod chi'n ymgyrraedd at hynny. Yn gysylltiedig â hyn, rydych chi wedi nodi bod yr ymchwil a wnaeth LE Wales ar yr anghenion ariannu ychwanegol sy'n ofynnol i gynnal y gwasanaethau presennol erbyn 2022-23, buan y daw hynny, yn amrywio o rhwng £35 miliwn a £327 miliwn. Mae honno'n ymddangos yn ystod eithriadol o eang i mi, ac felly efallai y gallech chi egluro'r bwlch eang hwnnw'n fanylach.
Fe fyddaf i'n ymdrin â'r pwynt olaf yn gyntaf. Bydd yr ymchwil a wnaethom ni, fe fyddwn yn ei chyhoeddi yn ei chyfanrwydd cyn y Pasg ac yna byddwn yn disgwyl y rownd derfynol o gyfathrebu rhwng gweision sifil a LE Wales i'n galluogi ni i wneud hynny. Fe fydd yn dangos yr amrywiaeth o wahanol ragdybiaethau sydd gennych chi, o'r mwyaf optimistaidd am y cynnydd lleiaf posibl, ac o'r fan honno y daw'r £35 miliwn, at y sefyllfa eithafol, os mynnwch chi, o ran effaith y twf. Ceir nifer o senarios amrywiol, ond wrth olrhain yr hyn sydd wedi digwydd yn y saith mlynedd diwethaf, mae cynnydd o 5.5 y cant yn llawer nes at y senario ar y pen uchaf. Felly nid wyf i o'r farn mai'r £35 miliwn yw'r sefyllfa fwyaf optimistaidd; nid wyf i'n credu eich bod chi am weld hynny'n cael ei wireddu mewn gwirionedd, yn sicr nid yng nghwmpas yr hyn sydd wedi digwydd yn y saith mlynedd diwethaf.
O ran yr amcangyfrifon yr ydym ni'n eu rhoi ar gyfer yr hyn y gallai'r gwahanol senarios ei gynhyrchu, er enghraifft, y ffigur o £700 miliwn o ran ariannu costau gofal personol a llety yn llawn, fe fyddwn ni, unwaith eto, yn cyhoeddi'r holl resymau am hynny. Felly nid yw hyn yn ymwneud ag anelu at rywbeth anfforddiadwy ac anghyraeddadwy, ond dweud 'Ar hyn o bryd, a oes modd cyflawni hyn ai peidio?' Ac mae hynny oherwydd y manteision sydd gennym ni o ran cael gweision sifil ac eraill i wneud y gwaith hwnnw. Felly fe fyddwn ni'n dadlau'n agored ac fe fydd yn cael ei droi allan i'r maes, oherwydd yn amlwg nid oes gennym farn bendant yn y Llywodraeth am yr hyn fydd yr union fodel gofal cymdeithasol y dyfodol, nac, yn wir, yr union fecanwaith cyllido i geisio denu mwy o adnoddau i mewn i'n system ni. A dyna lle byddwn ni'n wirioneddol yn ceisio cael trafodaeth agored o'r Pasg ymlaen, a dyna pam rydym ni wedi cynnig sesiynau briffio technegol i'r Pwyllgor Cyllid a'r ddau bwyllgor, ac rwy'n credu bod y ddau Gadeirydd yn yr ystafell—bydd gan y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg ddiddordeb, ynghyd â'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, rwy'n siŵr—a darparu sesiwn friffio gan y gweision sifil sy'n gwneud y gwaith hwn i fynegi, 'Dyma sut yr ydym ni'n cyrraedd y ffigurau hyn, dyma'r gwahanol ragdybiaethau, a dyma fynd ati i ofyn cwestiynau agored i'r cyhoedd am yr hyn y maen nhw'n ei ddymuno a sut maen nhw'n gwerthfawrogi hyn.' Mae'n ymwneud â chydbwyso'r gwelliant i ofal cymdeithasol ac ymestyn yr hyn sydd gennym ni, neu gadw'r hyn sydd gennym ni, y dewisiadau y bydd hynny'n ei olygu, ac yna beth mae hynny'n ei olygu o ran yr hyn y maen nhw'n barod i'w dalu neu nad ydyn nhw 'n barod i'w dalu.
Y buddsoddi mwyaf hael fyddai pe byddai gennym ni oll yr arian angenrheidiol heb orfod ystyried hynny, ond nid wyf i'n disgwyl gweld Papur Gwyrdd ymhen dim o dro; cafwyd addewid o Bapur Gwyrdd am y rhan fwyaf o'r degawd diwethaf ar lefel Llywodraeth y DU. Ond mae cwestiynau gwirioneddol i'w hystyried ynglŷn â'r effaith, ynghyd â gweddill system y DU, oherwydd yr hyn na fyddwn i'n dymuno ei weld yw ein bod ni'n ceisio darparu budd i bobl yng Nghymru a bod hwnnw'n cael ei adfachu mewn ffordd arall drwy'r system fudd-daliadau. Felly, mae angen inni feddwl yn ofalus ynglŷn â sut i gynllunio rhywbeth a fyddai'n gwneud synnwyr ac yn sicrhau gwelliant i bobl mewn gofal. Ac, rwy'n credu, o ran hynny, nid oes llawer o wahaniaeth rhyngom ni, ond mae'n ymwneud â sut y gallwn gyrraedd y sefyllfa honno.
Rydym hefyd wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r hwnt hwn. Pe byddem ni'n dilyn y trywydd o awgrymu y gellid cael codiad yn y dreth, byddai'n rhaid inni feddwl am sut y gellid cysylltu hynny'n uniongyrchol â gwelliant yn y gofal y mae pobl yn ei gael, a gallu nodi'n glir beth fyddai'r cynnig pe bai incwm pellach yn cael ei godi drwy drethiant o unrhyw fath. Nawr, rwy'n dweud 'pe' oherwydd, fel yr wyf i'n dweud, nid oes gan y Llywodraeth farn bendant. Ond byddai'n bwysig gallu deall nid yn unig farn y cyhoedd ar hynny, ond sut rydych chi am gysylltu'r ddau gyda'i gilydd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig o ran pobl yn derbyn bod rhywbeth yn cael ei roi yn gyfnewid am rywbeth arall, yn hytrach na bod hyn yn ffordd arall i wleidyddion gymryd eu harian oddi wrthyn nhw heb unrhyw fudd penodol i hynny.
O ran gwariant ar iechyd, rwy'n falch o'r ffaith fod gennym Lywodraeth sydd wedi buddsoddi, er gwaethaf cyni, fwy na'r hyn a gawsom ni o ran cyllid canlyniadol. Y bwlch nawr yw ein bod ni, ar gyfartaledd, yn gwario 9 y cant yn fwy na chyfartaledd y DU ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac rydym ni'n cymryd camau i ddarparu arian i gydgysylltu'r system yn well, ar gyfer cael modelau integredig o iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd. Ond caiff y systemau eu hariannu mewn ffordd wahanol. Mae gofal cymdeithasol yn seiliedig ar brawf modd, ac mae llawer o bobl yn arswydo pan fyddan nhw'n cael gwybod am hynny ac yn gwylltio gyda'r system. Felly, mae'n system wahanol, ac felly mae angen inni edrych ar yr arian sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol fel mater ar wahân i ofal iechyd. Nawr, pe byddai ffordd unffurf o ariannu'r cyfan, wel, fe allem edrych eto wedyn ar sut y caiff hynny ei drefnu mewn ffordd arall, ond nid wyf i o'r farn mai ad-drefnu yw'r ateb i bob un o'r heriau sy'n ein hwynebu ni.
Ac rwy'n awyddus i egluro bod canolbwyntio ar atal yno—o'r adolygiad seneddol, i ymateb 'Cymru Iachach', i'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda'r gronfa weddnewid, mae atal yn ganolog i'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud wrth ddiwygio a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol—ac yn rhoi sicrwydd hefyd ein bod ni wedi cadw mewn cysylltiad â theulu llywodraeth leol, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny ar draws y pleidiau. Felly, fe fydd y Dirprwy Weinidog a minnau'n briffio aelodau cabinet llywodraeth leol yn agored pan fyddan nhw'n cyfarfod yn eu grŵp polisi gwasanaethau cymdeithasol. Fe fyddwn ni'n cwrdd â nhw yn y gwanwyn a thros yr haf, ac rwy'n bendant am glywed y gwirionedd ganddyn nhw o ran gorfod gwneud rhai o'r dewisiadau gwirioneddol hyn mewn llywodraeth leol, ynghyd â'r mathau o atebion o ran ansawdd, cyrhaeddiad a chyllid y maen nhw'n barod i'w cefnogi.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a chymeradwyo'r dull o gynnal trafodaeth? Er hynny fe fyddwn i'n annog rhyw gymaint o frys yn y drafodaeth, gan ein bod ni wedi bod yn trafod y pethau hyn ers dros 20 mlynedd erbyn hyn? Rwy'n cofio comisiwn ar gyfer gofal hirdymor i'r henoed yn adrodd yn y flwyddyn 2000 am wahanol bethau yr ydym ni'n eu trafod o hyd, ac nid oes unrhyw waith wedi digwydd yn y cyfamser. Felly, er fy mod i'n cymeradwyo'r dull, rwy'n credu bod angen dangos rhywfaint o frys a chwimder. Aneurin Bevan waredodd y bobl rhag yr ofn o dalu am ofal iechyd yn unigol drwy wneud i bawb dalu amdano. Nid oes gwahaniaeth beth yw eich risg chi, nid oes gwahaniaeth beth yw eich statws iechyd chi, na beth yw eich defnydd personol chi o'r system gofal iechyd, mae pawb yn talu drwy drethiant cyffredinol: y genedl yn cyfuno ei risg gyfunol i ryddhau'r unigolyn rhag talu am y risg honno'n unigol—mewn geiriau eraill, nid oes raid iddo werthu ei gartref i dalu am ofal iechyd o ganlyniad i hynny.
Rydym wedi derbyn yr egwyddor honno ar gyfer gofal iechyd, ac ni fyddai pobl yn disgwyl, wrth gael sgwrs gyda'u meddyg teulu, y byddai'n rhaid imi gydbwyso'r gost ynglŷn â pham y dylen nhw werthu eu cartref. Nid ydym yn cael y drafodaeth honno ym maes iechyd; ond rydym ni'n ei chael hi ar gyfer gofal cymdeithasol, serch hynny, oherwydd, mewn cyferbyniad, mae pobl yn talu'n unigol am ofal cymdeithasol. Fe all costau aruthrol godi. Mae eich cartref chi mewn perygl, ac mae pobl wedi gorfod gwerthu eu cartrefi i ariannu eu gofal cymdeithasol hirdymor, oherwydd mae'r risg yn cael ei hysgwyddo gan unigolion, ac, felly, mae'r costau'n cael eu talu gan unigolion, nid gan y genedl gyfan yn dorfol.
Dyna pam rwy'n credu bod angen gwasanaeth gofal cenedlaethol arnom ni, wedi cael ei ariannu gan drethiant cyffredinol, yn union fel y GIG, a chyda thelerau ac amodau cenedlaethol ar gyfer staff sy'n cael eu cyflogi'n llawn hefyd. Gadewch inni ystyried gofal yn union fel yr ydym ni'n ystyried iechyd, oherwydd, wedi'r cyfan, mae arian cyhoeddus yn talu am 80 y cant o gostau gofal cymdeithasol nawr. Maent yn cael eu hariannu'n gyhoeddus nawr—fe gaiff 80 y cant o gostau gofal cymdeithasol eu hariannu'n gyhoeddus nawr. Felly, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau y bydd unrhyw fath o ardoll gofal cymdeithasol yn trosglwyddo'r risg ariannol oddi wrth yr unigolyn ac i'r genedl? Ac onid yw eich cartref chi'n parhau i fod mewn perygl gydag unrhyw fath o ardoll neu gyllid a gaiff ei anelu at grŵp o unigolion, yn hytrach nag at bawb? Onid yw eich cartref chi'n parhau i fod mewn perygl wrth dalu ardoll gofal cymdeithasol?
Wedi'r cyfan, wrth gloi, roedd buddugoliaeth Aneurin Bevan yn groes i bob disgwyl, gan gynnwys gwrthwynebiad meddygol a buddiannau breintiedig enfawr yn dweud bod hynny'n rhy gymhleth, yn rhy anodd, ac yn rhy ddrud, yn union fel yr ydym ni'n ei ddweud am ofal cymdeithasol nawr—dyna oedd Aneurin Bevan wedi ei wrthsefyll ar y pryd, trwy rym ewyllys gwleidyddol, a dyna pam yr wyf i'n gymaint o edmygwr ohono. Ei fuddugoliaeth ef oedd dileu'r ofn yr oedd gorfod talu am eich gofal iechyd yn unigol yn ei olygu. Rydym ni'n wynebu'r un her wrth dalu am ofal cymdeithasol yn unigol heddiw—rai ohonom yn gynharach nag eraill yn ein plith. Diolch.
Wel, ie'n wir. Ac mae rhai o'r ysgogiadau yn y drafodaeth wedi ymwneud â'r rhagdybiaethau ar ddemograffeg y boblogaeth, y gwnaethom ni sôn amdanyn nhw ar ddechrau datganoli. Ac rwy'n cydnabod bod nifer o'r Aelodau gwreiddiol yn yr ystafell nawr, ond mae'n bwnc sydd wedi bod yn digwydd, sgwrs am yr hyn y mae hynny'n ei olygu o ran gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn gweld y pwysau hwnnw yn y gwasanaeth iechyd; fe welwn ni'r pwysau mewn gofal cymdeithasol hefyd. Dyna pam yr amcangyfrifodd y sefydliad iechyd ddwy flynedd yn ôl y byddai'r gost ar gyfartaledd yn 4.1 y cant. A dweud y gwir, fel y dywedais, mae llywodraeth leol yn rhoi mwy na 4.1 y cant o'i chyllideb i ofal cymdeithasol yn barod. Felly, mae yna bwysau gwirioneddol a her wirioneddol.
Ond mae'n anodd, oherwydd mae'n rhaid ichi ystyried sut y byddwch chi'n codi'r arian, beth rydych chi'n ei gael yn gyfnewid amdano, a beth mae hynny'n ei olygu—nid yn unig ar gyfer y system fudd-daliadau, ond ceir heriau ynghylch unrhyw ffordd o godi incwm ychwanegol. Ceir heriau ynghylch tegwch rhwng y cenedlaethau, ar y naill law. Os ydych chi'n nesáu at oedran ymddeol, neu'n disgwyl derbyn gofal cymdeithasol oherwydd eich oedran chi, yn wahanol i blant, unigolyn ifanc, neu oedolyn o oedran gweithio sydd ag angen gofal cymdeithasol parhaus, yna mae'n ddigon posibl y byddech chi'n dweud, 'Rwyf wedi talu i mewn i'r system gydol fy oes, a dyma'r hyn yr wyf yn disgwyl ei dderbyn yn ôl'. Ond, pe byddech chi yn eich 20au, ar ddechrau eich bywyd gwaith, efallai y byddech chi'n dweud, 'Nid wyf i'n disgwyl gweld unrhyw fudd yn dod o hyn am amser maith i ddod'. Ac mae yma her wirioneddol am yr hyn sy'n golygu tegwch rhwng cenedlaethau, yn ogystal â rhwng pobl sy'n talu trethi a phobl sy'n derbyn gofal. Ac mae her ynglŷn ag amgylchedd y prawf modd cyfredol a sefyllfa wirionedd gofal cymdeithasol.
Felly, rydym wedi capio rhai o'r costau hynny y byddai pobl yn eu talu am gostau gofal cartref; fe wnaethom ni ddewis gwneud hynny. Ac mae hynny wedi cael gwared ar rai o'r ofnau sydd gan rai pobl ynglŷn â thalu am eu gofal. Ond mae gennym ni rai heriau o hyd. Rydym yn awyddus i wneud mwy. Mae'n golygu mwy na dim ond gofyn a oes gennym ni'r weledigaeth o weld gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu fel y caiff y gwasanaeth iechyd gwladol, ond hefyd a oes gennym y capasiti i wneud hynny. Ac mae honno'n drafodaeth onest y dylem ni ei chael. A phan fyddwn ni'n darparu mwy o wybodaeth yn y sesiynau briffio technegol a'r sgyrsiau o'r gwanwyn/Pasg ymlaen, rwy'n credu y byddwn ni'n gallu cael y drafodaeth honno gyda mwy o ffeithiau yn y maes i bawb ohonom allu edrych arnyn nhw. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n beth da.
Ond o ran gwella telerau ac amodau staff—gallem wario llawer o arian ar wneud hynny, ac fe allai hynny wella ansawdd gofal, fe allai leihau'r nifer sy'n gadael y gweithlu, ond ni fyddai ynddo'i hun yn ymestyn cyrhaeddiad gofal cymdeithasol hefyd. Felly, mae'r rhain i gyd yn ddewisiadau y bydd angen inni eu gwneud, a bod yn graff wrth eu gwneud nhw.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Diolch.
Eitem 5 ar yr agenda yw Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2020. Ac rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7258 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n rhaid imi ddechrau drwy ymddiheuro. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo Gorchymyn bron yn union yr un fath â hwn o'r blaen. Er hynny, roedd y Gorchymyn a drafodwyd ar 26 Tachwedd y llynedd yn cynnwys camgymeriad, ac fe'i rhwystrwyd rhag dod i rym. Dim ond ar ôl y ddadl y darganfuwyd hyn. Fe gysylltodd fy swyddogion i â swyddogion y Cynulliad i weld a ellid cychwyn drwy ryw ddull arall. Serch hynny, y casgliad y daeth pawb iddo oedd bod y gwall wedi atal yr offeryn yn gyfan gwbl rhag gallu dod i rym. O ganlyniad, yn anffodus, nid oes unrhyw ateb ar gael ar wahân i ailosod yr offeryn. Ysgrifennais at y Llywydd ar 11 Rhagfyr, yn ei hysbysu am y sefyllfa a datgan fy mwriad i osod Gorchymyn diwygiedig, fel y gwnaethom ni nawr. Yn ffodus, nid yw'r newid cyfreithiol yr ydym ni'n ceisio ei gyflwyno yn y Gorchymyn yn dyngedfennol o ran ei amseriad.
Er y bydd yr Aelodau'n gwerthfawrogi bod amgylchiadau'r achos hwn yn anarferol iawn, rwy'n ymwybodol o'r angen i osgoi gwall fel hyn rhag digwydd eto mewn offeryn statudol arall. Gan hynny, rydym wedi cyflwyno gwiriad ychwanegol, gweithdrefn sicrwydd, i'n prosesau mewnol ni, ac rydym wedi rhoi gwybod i'r timau perthnasol sy'n gweithio ar baratoi is-ddeddfwriaeth.
Mae'r Gorchymyn diwygiedig yn cynnwys darpariaeth newydd ar gyfer ei gychwyn. Ym mhob ystyr arall, mae hwn yn hollol yr un fath â'r Gorchymyn a gymeradwywyd gan y Cynulliad fis Tachwedd diwethaf, ar wahân i'r flwyddyn yn y teitl. I grynhoi unwaith eto, mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â systemau draenio cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd, a gyflwynwyd yng Nghymru o 7 Ionawr y llynedd. Bydd SDCau, fel y'u gelwir yn fwy cyffredin, yn cynnig sawl budd o ran lleihau perygl llifogydd, amwynder, a bioamrywiaeth. Fe wnaethpwyd y Gorchymyn Gorfodi gwreiddiol i weithredu'r darpariaethau SDCau yn Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. O dan y Ddeddf, mae angen cymeradwyaeth cyn y gall adeiladu systemau draenio ddechrau ar safleoedd newydd. Mae'r Gorchymyn yn gymwys pan nad oes cymeradwyaeth wedi ei rhoi.
Fodd bynnag, mae angen mân ddiwygiad i erthygl 21 o'r Gorchymyn gorfodi i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth orfodi arall. Mae erthygl 21 yn cyfyngu ar y dirwyon y gellir eu pasio mewn achos diannod i uchafswm o £20,000. Fe gafodd y Gorchymyn ei ddrafftio cyn i adran 85 (1) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 gychwyn. Roedd Deddf 2012 yn dileu'r terfyn uchaf ar y dirwyon y gallai llysoedd ynadon eu pasio ar gyfer bron pob trosedd. I sicrhau cysondeb â throseddau tebyg, rydym yn cynnig newid y terfyn o £20,000 i ddirwy yn unig. Fe fyddai hyn yn galluogi llysoedd ynadon i basio dirwy ddiderfyn, sy'n gyson â diwygiadau i ddeddfwriaeth arall a wnaethpwyd gan Ddeddf 2012. Nid yw'r diwygiad arfaethedig yn golygu y bydd unigolion a ddyfarnwyd yn euog o dan y ddeddfwriaeth SDCau yn fwy agored i atebolrwydd, gan fod dirwyon diderfyn wedi bodoli erioed am y drosedd hon yn Llys y Goron. Ond fe fydd hyn yn lleihau'r oedi a'r gost i ddiffynyddion a'r cyhoedd. Rwy'n cymeradwyo'r Gorchymyn i'r Cynulliad.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y Gorchymyn hwn yn ein cyfarfod ar 27 Ionawr 2020, ac yn dilyn hynny adroddwyd un pwynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.3. Nododd y pwynt adrodd hwnnw fod y Gorchymyn hwn wedi ei gymeradwyo'n wreiddiol gan y Cynulliad yn y cyfarfod llawn ar 26 Tachwedd 2019, er hynny, ni ellid ei wneud gan nad oedd yn cynnwys darpariaeth gychwyn, fel yr adroddodd y Gweinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Gorchymyn yn nodi'r Gorchymyn blaenorol ac yn nodi pam na ellid ei wneud. Mae'r esboniad yn cynnig eglurder defnyddiol ar gyfer y cofnod. Diolch.
Roeddwn i yn credu ein bod ni wedi bod yma o'r blaen, ond diolchaf i'r Gweinidog, sydd wedi ymddiheuro'n ormodol ac efallai, rwy'n credu, wedi mynd ymhellach na'r angen o ran derbyn neu ymddiheuro am gamgymeriad. Ac rwy'n credu y byddwn i'n dweud hefyd fy mod i'n credu mai mater i ni fel Cynulliad yw hwn. Buom yn trafod hyn o'r blaen, siaradais i ac ni sylwais i fy hun ar y gwall hwn na thynnu sylw'r Gweinidog ato ac ni wnaeth yr un aelod arall ychwaith. Felly, rwy'n credu ei fod yn fater ar y cyd, ac rwy'n credu bod y Gweinidog wedi gweithredu'n gywir drwy ei ailgyflwyno yn y modd y mae hi wedi ei wneud.
Mae hi wedi ail-bwysleisio mai'r ynadon, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, a fydd yn gosod y ddirwy hon. Ac mae gennyf rywfaint o bryder ynghylch y cysyniad hwn o ddirwy ddiderfyn, ond pan fydd yn gymwys yn gyffredinol mewn cynifer o feysydd eraill a'i fod yno am yr un drosedd yn Llys y Goron, ni allaf wrthwynebu hynny o ran egwyddor.
Mae'n sôn bod manteision mawr i'r gosodiadau SDCau hyn. Rwy'n poeni o hyd eu bod hefyd yn gostau sylweddol iawn ac mae'n rhwystr ychwanegol y mae angen i gwmnïau adeiladu yng Nghymru ei oresgyn, ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau annog adeiladu a chodi tai a chredaf y dylid cael cydbwysedd bob amser yn y dulliau gweithredu hyn. Ond nid ydym yn bwriadu gwrthwynebu'r offeryn statudol heddiw.
Diolch. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r ddau aelod am eu cyfraniadau. Hoffwn ddweud, wrth ateb pwynt diwethaf Mark Reckless, gan i hwn gael ei roi ar bapur y gorchymyn, cyflwynodd Cymdeithas Yswirwyr Prydain ddatganiad cefnogol mewn gwirionedd, yn benodol ar y pwynt y gwnaethoch ei godi, sef eu bod yn croesawu'n fawr y cynlluniau ar gyfer hybu'r cyflenwad o gartrefi newydd a chredwn y gall SDCau chwarae rhan ganolog o ran sicrhau bod yr eiddo newydd hyn yn cael eu hadeiladu mewn modd sy'n helpu i reoli perygl llifogydd dŵr wyneb ar lefel leol. Gan fy mod wedi gweld bod rhai pryderon wedi bod. Ac rwy'n gwybod ei fod yn fater cymharol dechnegol—y Gorchymyn hwn—ond roeddwn yn credu ei bod hi'n bwysig dangos, pan fydd pobl yn mynegi eu bod yn credu y bydd yn faich ychwanegol ar y datblygwyr, mai dyma'r hyn y mae Cymdeithas Yswirwyr Prydain yn ei ddweud. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 6, sy'n ddadl ar gyllideb ddrafft 2020-21, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7259 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 16 Rhagfyr 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rwy'n falch o gael agor y ddadl y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Mae hyn yn datblygu'r ddadl adeiladol a gawsom yn ystod wythnos gyntaf y sesiwn hon. Ers hynny, mae'r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Cynulliad wedi craffu ar ein cynlluniau gwariant a nodwyd yn y gyllideb ddrafft. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r pwyllgorau eraill am wneud hynny, ac am gyhoeddi eu hadroddiadau yn yr amserlen fyrrach nag arfer fel y cytunwyd cyn y Nadolig.
Mae dadl heddiw yn gyfle i mi ddarparu rhai myfyrdodau cynnar ar yr argymhellion a'r themâu cyffredinol sy'n codi wrth graffu, gan ganolbwyntio'n benodol ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Cyn i mi wneud hynny, Llywydd, rwyf eisiau cydnabod y cyd-destun ehangach y datblygwyd y gyllideb hon oddi mewn iddo a'r heriau sy'n parhau, cyn atgoffa'r Aelodau sut y mae'r gyllideb hon yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Fel yr wyf wedi sôn droeon, mae methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei hadolygiad cynhwysfawr o wariant amlflwydd y llynedd yn golygu fy mod i mewn sefyllfa i osod cyllideb refeniw a chyfalaf am un flwyddyn yn unig. Er gwaethaf yr honiadau bod cyni wedi dod i ben, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-21 bron yn £300 miliwn yn is mewn termau real o'i chymharu â 2010-11.
O fewn wythnosau i gadarnhau y bydd cyllideb hir ddisgwyliedig y DU yn cael ei chynnal ar 11 Mawrth, mae Llywodraeth y DU unwaith eto wedi amlygu ei dull gweithredu anhrefnus o reoli arian cyhoeddus. Ychydig dros wythnos cyn i ni gyhoeddi ail gyllideb atodol heddiw, cadarnhaodd Llywodraeth y DU addasiadau cadarnhaol a negyddol i'n cyllideb ar gyfer 2019-20. Roedd y rhan fwyaf o'r symiau canlyniadol cadarnhaol wedi eu cadarnhau gan y Trysorlys yn gynharach yn y flwyddyn, ond nid felly'r gostyngiadau.
O'i gymharu â'r tybiaethau cynllunio yr ydym wedi seilio ein cynlluniau arnynt, canlyniad net y newidiadau hyn yw cynnydd bach mewn refeniw, gyda gostyngiad ar yr un pryd o ychydig dros £100 miliwn o gyllid trafodion ariannol a bron i £100 miliwn o gyfalaf cyffredinol. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ar yr adeg hon yn y flwyddyn ariannol heb unrhyw rybudd ymlaen llaw, ac nid dyma'r enghraifft gyntaf, o bell ffordd, o Lywodraeth y DU yn anwybyddu'r egwyddorion a nodir yn y datganiad o bolisi ariannu.
Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Ysgrifennydd yn gwrthwynebu'n gryf yr egwyddor o wneud y newidiadau hyn mor hwyr yn y dydd. Nid ydym yn eu derbyn, ac rydym wedi pwyso am ragor o eglurder ynglŷn â'r newidiadau ar lefel y DU sy'n arwain at ostyngiadau canlyniadol.
Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, rydym wedi cytuno y byddwn ni'n ysgwyddo'r gostyngiadau trafodion ariannol eleni, sy'n rheolaeth ariannol ddarbodus o dan yr amgylchiadau. Rwyf hefyd wedi sicrhau'r hyblygrwydd mwyaf posibl gan y Trysorlys i reoli'r addasiadau eraill wrth i ni symud drwy'r flwyddyn nesaf. Nid yw ein penderfyniad i weithredu fel hyn yn rhagfarnu'r drafodaeth bellach ar y sefyllfa ehangach a'r modd yr ymdriniwyd â'r gostyngiadau a ddygwyd ymlaen.
Ar hyn o bryd, credaf ei bod hefyd yn ddoeth i beidio ag addasu'r cynlluniau gwariant ar gyfer 2020-21 yr wyf wedi eu cyflwyno gerbron y Cynulliad, o ystyried y tebygolrwydd cryf y bydd ein setliad ar gyfer y flwyddyn nesaf yn newid eto ar 11 Mawrth. Fodd bynnag, mae'n atgyfnerthu ein hachos dros hyblygrwydd cyllid ychwanegol a swyddogaeth fwy ffurfiol i'r Gweinidogion cyllid yn y cyfarfod pedairochrog i adolygu'r datganiad o bolisi ariannu—thema a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid.
Yn ogystal â newidiadau posibl i'n setliad, gallai cyllideb y DU hefyd gynnwys newidiadau i bolisi treth, a allai effeithio ar benderfyniadau ynghylch y trethi datganoledig yng Nghymru. Yn ogystal ag ystyried cynigion i gyflwyno cyllideb atodol gynnar, rwyf wedi ymrwymo i roi diweddariad cynnar ar effaith cyllideb y DU, gan gynnwys yr effeithiau ar ragolygon treth Cymru.
Llywydd, hoffwn droi at y blaenoriaethau gwario a nodir yn y gyllideb hon. Rwy'n falch o bopeth yr ydym ni wedi ei gyflawni fel Llywodraeth, er gwaethaf yr ansicrwydd a'r cyd-destun heriol yr ydym wedi eu hwynebu. Mae pedwaredd gyllideb y Cynulliad hwn, sy'n darparu ar gyfer blwyddyn lawn derfynol y tymor hwn, yn cyflawni'r addewidion gwariant allweddol a wnaethom ni i bobl Cymru yn 2016 ynghylch prentisiaethau pob oed, gwella ysgolion, gofal plant, cymorth i fusnesau bach, sicrhau bod triniaethau newydd ar gael yn gyflym, tai fforddiadwy, a llawer mwy.
Bydd cyfanswm ein buddsoddiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy na £8.7 biliwn yn 2020-21, gyda chynnydd uwch na chwyddiant o fwy na £400 miliwn; sy'n darparu cynnydd mewn termau real i bob awdurdod lleol drwy £200 miliwn ychwanegol drwy setliad refeniw a chyfalaf y flwyddyn nesaf, a fydd yn gwneud cyfanswm y cyllid bron yn £4.5 biliwn; ac rydym ni'n cefnogi system addysg o'r radd flaenaf drwy'r setliad Llywodraeth Leol a thrwy ein cyllideb addysg £1.8 biliwn.
Mae atal wedi bod wrth wraidd y gyllideb hon, ac fe'i hategir wrth i ni ganolbwyntio ar wyth o flaenoriaethau trawsbynciol, sef: y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, cyflogadwyedd a sgiliau, gwell iechyd meddwl, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth. Rydym ni'n buddsoddi yn y meysydd lle gallwn ni gael yr effaith fwyaf dros y tymor hir, ac mae hyn yn cynnwys £175 miliwn o gyfalaf ychwanegol y flwyddyn nesaf, gan ddod â'n buddsoddiad i fwy na £2 biliwn mewn tai fforddiadwy yn ystod y tymor Cynulliad hwn; a £19 miliwn ychwanegol i helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n byw mewn tlodi yn ein cymunedau, gan adeiladu ar y gweithredu presennol sy'n gyfanswm o fwy na £1 biliwn; a mwy o fuddsoddi mewn iechyd meddwl gwell a'r blynyddoedd cynnar drwy'r cyllid ychwanegol ar gyfer y dull gweithredu ysgol gyfan a Dechrau'n Deg.
Mae hon yn gyllideb sy'n cyflawni lefel newydd o uchelgais yn y frwydr i ddiogelu dyfodol ein planed, gan adeiladu ar yr ystod eang o fuddsoddiadau yr ydym eisoes yn eu gwneud. Dyna pam, yn y gyllideb gyntaf ers ein datganiad ar argyfwng hinsawdd, yr ydym yn dyrannu pecyn cyfalaf newydd gwerth £140 miliwn i gefnogi ein huchelgais ar gyfer datgarboneiddio ac i amddiffyn ein hamgylchedd gwych.
Llywydd, hoffwn hefyd achub ar y cyfle heddiw i gyflwyno rhai myfyrdodau cynnar ar y themâu allweddol sy'n codi o'r broses graffu. Oherwydd bod y broses o adael yr UE ar waith erbyn hyn, mae pwysigrwydd sicrhau newid didrafferth i fframwaith ariannu ôl-UE y DU sy'n cyflawni ar gyfer pob rhan o'r undeb, yn hanfodol. Croesawaf argymhelliad y pwyllgor sy'n cydnabod yr angen i adolygu'r datganiad o bolisi ariannu, a fydd yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun trefniadau gadael yr UE. Rwyf hefyd yn derbyn argymhelliad y Pwyllgor Cyllid y dylem ni barhau i drafod â Llywodraeth y DU i sicrhau cyfarfodydd pedairochrog mwy rheolaidd a strwythuredig rhwng Gweinidogion cyllid y DU. Mae hwn yn fater y byddaf yn ei godi gyda Gweinidog Cyllid yr Alban a Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon yfory.
Mae'r rhyngweithio rhwng amserlen ein cyllideb ni ac amserlen Llywodraeth y DU yn fater sydd wedi ei ystyried mewn blynyddoedd blaenorol, ond mae'r agwedd anghysurus hon wedi bod yn amlycach eleni. Rwy'n croesawu'r ffaith fod y pwyllgor yn cydnabod bod ein hymagwedd at amseru'r gyllideb eleni yn ymarferol o dan yr amgylchiadau, ac yn cydbwyso'r angen i roi sicrwydd cyllid cynnar i randdeiliaid gyda'r angen i ddarparu amser ar gyfer craffu ar ein cynlluniau.
Mae parhau i fwrw ymlaen â gwelliannau yn ein cyllidebu hefyd yn ystyriaeth bwysig. Am y tro cyntaf, rydym wedi cyhoeddi cynllun gwella'r gyllideb sy'n nodi sut yr ydym yn bwriadu cymryd camau parhaus i ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ym mhroses y gyllideb. Mae hyn yn cynnwys nifer o feysydd a nodwyd gan y Pwyllgor Cyllid, gan gynnwys gwelliannau i'r ffordd yr ydym ni'n asesu effeithiau ein penderfyniadau ar y gyllideb. Croesawaf ddatganiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru y dylid canmol Cymru am fod ar flaen y gad o ran symud tuag at gyllidebu ar gyfer llesiant, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r comisiynydd wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynllun uchelgeisiol hwn.
Rwy'n falch bod y Pwyllgor Cyllid wedi croesawu'r pecyn cyfalaf unigol mwyaf erioed i helpu i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n siomedig â'r honiadau nad yw'r camau yr ydym ni'n eu cymryd yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Bydd y gyllideb ddrafft yn sicrhau buddsoddiad newydd yn y meysydd lle mae'r dystiolaeth gyfredol yn dweud wrthym y gallwn gael yr effaith fwyaf, yn ogystal â buddsoddi mewn mesurau eraill megis £64 miliwn y flwyddyn nesaf i amddiffyn ein cymunedau rhag effeithiau mwyaf difrifol ac uniongyrchol newid yn yr hinsawdd. Byddaf i a'm cydweithwyr yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid a rhai pwyllgorau eraill y Cynulliad cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol fis nesaf.
Felly, Llywydd, i gloi, er gwaethaf y cyni parhaus a orfodir ar lefel y DU sy'n tanseilio ein gallu i gyflawni'r buddsoddiad y mae ein gwlad yn ei haeddu, rwy'n falch o gyflwyno cyllideb sy'n parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol gan gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru fwy cyfartal, mwy ffyniannus a gwyrddach.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyfrannu at y ddadl bwysig yma ar y gyllideb ddrafft gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mae'n adroddiad ni yn gwneud cyfres o argymhellion, ac mi fyddaf i'n ymdrin â rhai o'r rhai amlycaf yn fy nghyfraniad i i'r ddadl yma y prynhawn yma.
Nawr, fel rydym ni wedi clywed, o ystyried yr ansicrwydd o gwmpas y gyllideb yma gydag etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig a Brexit ac yn y blaen, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod y gyllideb ddrafft hon wedi'i chyflwyno o dan amgylchiadau eithriadol, ac mae hyn wedi effeithio ar allu'r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i gynllunio.
O ganlyniad i hynny, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gwneud pob ymdrech i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y gyllideb ddrafft hon. Mi ddechreuodd hyn nôl ym mis Mehefin y llynedd pan gynhaliwyd digwyddiad rhanddeiliaid cyn y gyllideb yn Aberystwyth. Dyna oedd sylfaen dadl a gynigwyd gan y Pwyllgor Cyllid yma yn y Siambr, a ddilynodd wedyn ym mis Medi'r llynedd, gan roi cyfle i'r Cynulliad drafod blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft.
Eleni, roedd hi'n arbennig o bwysig i gynnal dadl o'r fath o ystyried ansicrwydd amseriad arfaethedig y gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn credu y dylid hwyluso dadl fel hyn yn barhaol—hynny yw, bob blwyddyn—i roi cyfle i Aelodau ddylanwadu ar flaenoriaethau a dyraniadau cyllideb yn gynharach yn y broses. Rŷm ni'n gobeithio'n fawr bod y Gweinidog yn cytuno â ni ac y gallwn ni weithio gyda hi i sicrhau y gellir cynnwys dadl fel hyn yn y broses graffu yn y blynyddoedd i ddod.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi, wrth gwrs, y bydd hi bellach yn cyhoeddi ei chyllideb ar 11 Mawrth. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y gallai rhagolygon macro-economaidd y Deyrnas Unedig effeithio ar refeniw'r trethi datganoledig a'r addasiadau cysylltiedig i'r grant bloc. Rŷm ni wedi argymell y dylid darparu'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl ar ôl cyllideb y Deyrnas Unedig. Deallwn y bydd angen adlewyrchu effaith cyllideb y Deyrnas Unedig yng nghyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru, ac rŷm ni'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ddod â hyn ymlaen mor gynnar â phosibl, pe bai'r newidiadau yn helaeth.
Yn ystod ein gwaith craffu, fe wnaethom ni adolygu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario ei chyllideb o £17 biliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, ac ar y cyfan—. Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, bod hyn yn gynnydd o £593 miliwn ar gyllideb y llynedd: cynnydd o 2.3 y cant mewn termau real. Mae'r pwyllgor yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi lledaenu'r cynnydd hwn ar draws pob adran. Fodd bynnag, byddai'r pwyllgor wedi hoffi gweld dull ychydig mwy uchelgeisiol yn cael ei ddefnyddio i'w flaenoriaethu o ran canolbwyntio ar gynaliadwyedd a thrawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol.
I symud at faes benthyca a threthiant, fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth sy'n awgrymu y bydd cynnydd mewn cyllidebau yn y dyfodol yn anghynaladwy heb fenthyca uwch neu gynnydd mewn trethiant. Rŷm ni'n credu hefyd y bydd angen newid strategaeth i sicrhau bod cyllid digonol ar gael i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud ei bod yn gwthio yn erbyn terfynau ei rheolau benthyca arian, ac wedi addo peidio â chodi treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Rŷm ni fel pwyllgor wedi cefnogi gofyniad Llywodraeth Cymru am fwy o hyblygrwydd benthyca, ac yn amlwg bydd newidiadau mewn trethiant yn fater i bob plaid yn eu maniffestos wrth inni agosáu at etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Ym mis Ebrill y llynedd, fe gyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Rŷm ni wedi clywed cyfeiriad ato fe yn sylwadau'r Gweinidog cyllid. Fodd bynnag, dyw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ddim yn adlewyrchu ei datganiad ei hun o argyfwng hinsawdd. Er bod y gyllideb ddrafft yn neilltuo, fel y clywsom ni, dyraniad o £140 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi datgarboneiddio, dyw'r pwyllgor ddim yn argyhoeddedig bod gan Lywodraeth Cymru ddealltwriaeth glir o'r effaith y mae ei phenderfyniadau yn ei chael ar allyriadau carbon na'r hinsawdd. Er ein bod ni'n croesawu'r dyraniad o £140 miliwn, mae'n siomedig na chymerwyd dull mwy radical i liniaru newid yn yr hinsawdd.
Dyma'r bedwaredd cyllideb ddrafft i gael ei chyhoeddi, wrth gwrs, ers i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ddod i rym. Mae'r pwyllgor wedi defnyddio'r Ddeddf fel lens i asesu'r gyllideb ddrafft ers ei deddfu. O ran y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ymgorffori'r Ddeddf yn ei phenderfyniadau ar gyfer 2020-21, fe ddywedodd swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrthym ni y bu, a dwi'n dyfynnu, newid gweladwy mewn perthynas â datgarboneiddio a gwariant ataliol. Fodd bynnag, a dwi'n dyfynnu ymhellach, roedd cryn dipyn o le i symud ymlaen o hyd, ac, gan ragweld adolygiad o wariant y Deyrnas Unedig yn fuan, mae'r comisiynydd yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio hwn fel cyfle i wneud rhagor o benderfyniadau strategol, trawsnewidiol. Mae'r pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall integreiddio'r nodau llesiant yn well wrth gyflwyno cyllidebau yn y dyfodol i ddangos yn fwy cyson sut mae'r Ddeddf wedi ei hymgorffori yn ei phrosesau gwneud penderfyniadau.
Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Gwener diwethaf, mae ansicrwydd, wrth gwrs, o hyd ynghylch y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Mae effaith Brexit yng Nghymru, gan gynnwys parhad cyllid a ddarparwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig o ran taliadau uniongyrchol i ffermwyr a busnesau eraill yn y sector pysgodfeydd ac amaethyddiaeth yn bryder mawr i'r pwyllgor.
Rŷn ni'n pryderu bod y cyfnod pontio hyd at ddiwedd Rhagfyr eleni, yn cynyddu'r risg na fydd cytundebau masnach ar waith. Yn yr amgylchiadau hyn, fe gredwn ni y byddai angen cymorth pellach gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau'r effaith ar economi Cymru. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn cael cyllid gan yr Undeb Erwopeaidd drwy gronfeydd strwythurol a chymorth amaethyddol. Disgwyliad Llywodraeth Cymru yw y bydd cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu disodli'n llawn. Fodd bynnag, nid yw'r cytundeb pontio yn cynnwys cymorth amaethyddol ac mi fyddai'r pwyllgor yn croesawu cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ei bod wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd yr arian hwn yn cael ei ddarparu.
Mae'r pwyllgor yn croesawu cynnwys tlodi ym mlaenoriaethau'r gyllideb, ond mae'n credu bod diffyg eglurder yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, ei hamcanion a sut y bydd y gyllideb yn sbarduno gwelliant tymor hir, yn enwedig wrth fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi.
Mae angen gwneud rhagor i leihau tlodi yng Nghymru. Mae gormod o bobl mewn swyddi sgiliau isel a/neu gyflog isel. Mi fydd uwchsgilio’r gweithlu a chynyddu cyflogaeth o fudd i economi Cymru waeth beth fydd canlyniad Brexit. Dylai Llywodraeth Cymru felly werthuso ei buddsoddiad mewn rhaglenni i-mewn-i-waith a rhaglenni datblygu economaidd i sicrhau eu bod yn darparu gwerth am arian.
Dwi eisiau diolch i bawb a gyfrannodd yn ystod pob cam o'r broses graffu yma a'r rhai a ddaeth i'r digwyddiad rhanddeiliad yn ogystal â'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth ffurfiol. Mae’r cyfan wedi bod o gymorth inni fel pwyllgor i lunio ein canfyddiadau. Dwi'n edrych ymlaen at weld ymateb ffurfiol y Llywodraeth i'n hadroddiad ni cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol fis nesaf. Diolch.
Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw, dadl, wrth gwrs, am y gyllideb, ond hefyd am ddyfodol pobl Cymru. Gadewch i ni fod yn gwbl glir ynglŷn â chyd-destun y gyllideb hon: ydy, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod datblygu'r gyllideb hon mewn cyfnod eithriadol o fyr, gyda phroblemau yn ymwneud â'r etholiad cyffredinol i gyd ei osod hefyd yn erbyn cefndir o £600 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU. Felly, mae gan drethdalwyr yng Nghymru yr hawl i gwestiynu rhai o benderfyniadau Llywodraeth Cymru o ran buddsoddi yn economi Cymru a datblygu economi Cymru ar ôl Brexit.
Gwelaf hefyd fod naratif y gyllideb yn edrych yn ôl ar gyflawniadau a gwariant Llywodraeth Cymru ar bob adran ers 2016, ond nid yw'n syndod, efallai, mai ychydig o sôn sydd am unrhyw un o'r targedau a fethwyd y mae Gweinidogion, wrth gwrs, yn ymwybodol ohonynt ac rwy'n credu, yn rhannol o leiaf, yn ysbryd tegwch, y byddai'n ddoethach i Lywodraeth Cymru gyfaddef hyn.
Bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn beio Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ei gofidiau, er, a bod yn deg â'r Gweinidog, ni chrybwyllwyd cyni yn fanwl iawn tan yn eithaf hwyr yn eich dadl, felly efallai eich bod wedi gwrando ar rai o'm beirniadaethau yn y gorffennol. Ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb am ei chamgymeriadau ariannol ei hun. Mae hynny'n rhan o Lywodraeth aeddfed, ddatganoledig sydd â phwerau pellgyrhaeddol a chynyddol.
Felly, beth mae'r cyhoedd yn disgwyl ei weld yn y gyllideb hon? Beth ddylem ni ddisgwyl ei weld? Wel, byddwn yn disgwyl gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y GIG er mwyn gweddnewid pethau. I fod yn deg, rydych chi wedi rhoi £37 biliwn yn y GIG yng Nghymru ers 2016. Mae hynny'n dra gwahanol i'r toriad cyllid mewn termau real a welsom yn gynharach, rhwng 2011 a 2016, er fy mod i'n gwybod bod hynny pan oedd eich rhagflaenydd yn Weinidog, yn hytrach na chi eich hun. Rydych chi, mi gredaf, fel y soniasoch, yn bwrw ymlaen â gwariant ychwanegol o £400 miliwn ar iechyd, sy'n newyddion cadarnhaol. Mae'r rhain i gyd yn gynnydd o ran arian, felly mae hynny'n dda.
Ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n gwneud iawn am y ffaith bod amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys wedi bod y rhai gwaethaf a gofnodwyd erioed am ddeufis yn olynol yn 2019 ac mae pedwar o'r saith bwrdd iechyd o dan ryw fath o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru—Betsi Cadwaladr, fel y crybwyllwyd yn gynharach, mewn mesurau arbennig ers dros bedair blynedd a hanner. Mae hwnnw wedi cael tua £83 miliwn mewn costau gwella, ac eto rhagwelir y bydd diffyg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly, nid mater o ddarparu mwy o arian yn unig yw hwn, Gweinidog, nage? Mae'n ymwneud â'r hyn y mae'r arian hwnnw'n ei gyflawni mewn gwirionedd, oherwydd mae dadl am werth am arian i'w thrafod yn y fan yma hefyd.
Dywedir wrthym, yn gyffredinol, bod hon yn gyllideb werdd—disgrifiad gwych, a ffordd glodwiw o geisio symud ymlaen, ond mae'r cwestiwn wedi ei godi: a yw hi'n ddigon uchelgeisiol i fynd i'r afael o ddifrif â'r heriau amgylcheddol yr ydym yn eu hwynebu? A yw'n cyflawni addewidion Llywodraeth Cymru yn ddigonol wrth gyhoeddi argyfwng yn yr hinsawdd, er enghraifft? Nid wyf i'n bersonol yn credu bod digon o fanylion yma ynglŷn â chynnig syniadau newydd ac arloesol o ran sut y bydd y Llywodraeth, er enghraifft, yn cyrraedd ei tharged o ostyngiad o 95 y cant o leiaf mewn nwyon tŷ gwydr, erbyn 2050.
Rwy'n sylweddoli, Gweinidog, fod y rhain yn ymrwymiadau enfawr, beiddgar, ac y byddan nhw angen ewyllys gref i'w cyflawni, ond nid dim ond mater o ddibynnu ar bolisïau hen ffasiwn ddoe i gyflawni'r nodau yw hyn; mae'n ymwneud â chyflwyno gweledigaeth fentrus, hyderus i Gymru, ac mae angen i ni weld cyllideb sy'n sbarduno gweledigaeth, sy'n gwneud pobl Cymru yn rhan ohoni, sy'n ysbrydoli ac yn ysgogi pobl Cymru. Oherwydd mae'r targedau polisi newid hinsawdd hyn yn mynd i fod yn anodd. Ni ddylem amau hynny o gwbl, ac ni ddylai unrhyw Lywodraeth ystyried yr ymrwymiadau hyn yn ddifeddwl. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â hynny.
Yn ddiddorol, roeddwn i'n edrych ar y cloc yn gynharach ac roeddech chi'n sôn am gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol—credaf fod hynny oddeutu wyth munud i mewn i'r araith. Cwestiwn sydd wedi ei godi'n aml yn y Pwyllgor Cyllid dros y blynyddoedd yr wyf i wedi bod arno yw hwn: yn ystod y broses o bennu'r gyllideb, a yw deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol yn ganolog i'r polisi hwnnw o'r cychwyn cyntaf a thrwy gydol yr amser, neu a ystyrir yn rhy aml ei fod yn cael ei gyflwyno fel ychwanegiad tuag at ddiwedd y broses? Dydw i ddim yn gwybod. Rwy'n awgrymu wrthych fy mod i'n credu bod angen i chi gyfiawnhau ymgynghori â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ar bob cam o'r broses honno, oherwydd, fel yr arferai ein cyd-Aelod diweddar, Steffan Lewis, ei ddweud, beth yw diben deddfwriaeth fel hon, sy'n gosod agenda feiddgar iawn, ond mewn gwirionedd, pan ddaw'n fater o ymarferoldeb llunio polisi, nid yw'n cael ei gynnwys yno yn gynnar yn y broses? Felly mae angen ymdrin â hynny.
Beth am y gogledd? Nid fy sylw i yw hwn yn benodol heddiw, ond wrth gwrs, mae'r ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, sef Lisa Nandy, hefyd wedi codi cwestiwn tebyg. Er bod y gyllideb yn amlinellu £20 miliwn ychwanegol ar gyfer metro gogledd Cymru, sydd i'w groesawu, ac rwyf wedi bod yn gefnogwr mawr o'r camau buddsoddi ar gyfer metro de Cymru, a chredaf fod momentwm da wedi ei ddechrau yn y fan honno, ond mae angen i ni weld hynny'n cael ei ddatblygu drwy bob rhan o'r de. Ac yn sicr mae angen i ni weld momentwm yn y gogledd, ac rwy'n credu bod cwestiwn yn y gogledd ynghylch pa un a yw hynny wedi bod yn digwydd.
Ni ddywedwyd dim, ar wahân i'r metro, am fuddsoddi mewn uwchraddio'r A55, sef anadl einioes economi'r gogledd. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle sydd wedi ei wastraffu. Mae angen llwybr trafnidiaeth allweddol o borthladd Caergybi i Lannau Dyfrdwy; yr angen i hwnnw fod yn gwbl barod i ddosbarthu allforion o Iwerddon i weddill y DU nawr ein bod ni yn y cyfnod ar ôl Brexit. A chyda llaw, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn uwchraddio rhan o'r A55 i helpu i sbarduno economi'r gogledd yn ei blaen, felly, yn sicr, byddai arian Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn cael ei wario'n ddoeth. Nid yw'n arian cyfatebol, yn union, ond mae bron iawn yn cyflawni nod tebyg os yw Llywodraeth y DU yn mynd i ymrwymo arian fel yna.
Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw gyllideb gan Lywodraeth Cymru yn gyflawn heb rywfaint o gyllid ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, ac mae'r gyllideb yn amlinellu hyd yn oed fwy o arian—£4.8 miliwn, rwy'n credu i chi ei grybwyll, o gyfalaf trafodion ariannol mewn cysylltiad â'r gyllideb hon yn eich araith.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf nawr, Mike.
Ar 31 Rhagfyr 2019, cyhoeddodd y maes awyr golled cyn treth o £18.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2019. Rwyf wedi dweud o'r blaen nad wyf i'n credu y dylid rhoi siec wag i'r maes awyr, felly byddwn yn chwilio am sicrwydd nad yw hynny'n mynd i ddigwydd. Rwy'n ildio i Mike Hedges.
Diolch. Rwy'n falch iawn bod hyn wedi digwydd unwaith eto. A gaf i ddweud eich bod wedi sôn am drafnidiaeth yn y gogledd, rydych chi wedi sôn am drafnidiaeth yn y de; beth am y rhai ohonom ni yn y gorllewin a metro'r gorllewin?
Wel, wrth gwrs nid fi yw'r Gweinidog. Hynny yw, oes, mae bylchau yn y gorllewin, ond efallai y byddwch chi eisiau codi hynny eich hun gyda'r Gweinidog yn eich sylwadau eich hun. Ond iawn, rwy'n derbyn y pwynt—pob agwedd, mae angen ystyried pob rhan o Gymru yn gyfartal, ac rwy'n credu mai'r pwynt yr ydych yn ei wneud yw, os ydych chi'n ffafrio un ardal, megis y gogledd, yna byddwch ar eich colled yn awtomatig mewn ardal arall. Rydym wedi cael trafodaethau am hyn yn y gorffennol. Credaf fod achos i'w wneud dros y gogledd, oherwydd ei fod yn aml yn teimlo'n arbennig o ynysig ac yn bell o'r de, ac o Gaerdydd yn benodol. Felly, rwy'n credu bod achos dros wneud hynny. Ond rwy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, Mike.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, rwy'n ildio i'r cyn Brif Weinidog.
Mae ef wedi sôn am Faes Awyr Caerdydd. Mae maer dyffryn Tees, sy'n Geidwadwr, wedi gwneud yn fawr o'r ffaith ei fod wedi prynu'r hyn sydd nawr yn faes awyr rhyngwladol Teeside, ac yn bwriadu buddsoddi ynddo a'i fod wedi dweud ei fod yn ased cyhoeddus. Os yw'n wir y gall y maer Ceidwadol yn y fan honno ganmol perchenogaeth gyhoeddus ar faes awyr, pam na all Ceidwadwyr Cymru wneud hynny hefyd?
Wel, dyna i chi gwestiwn. Diolch am y cwestiwn. Wel, sôn am fwrw rhywun i'r pen dwfn heddiw, onid e? Nid wyf yn adnabod y maer hwnnw'n benodol, ond byddwn yn cwestiynu'r hyn a dalodd am y maes awyr i ddechrau, a dalodd mwy na'r disgwyl amdano ac a oes ganddo strategaeth ar gyfer y maes awyr hwnnw. Nid wyf wedi bod yn cwestiynu perchnogaeth y maes awyr, ond rwy'n cwestiynu'r strategaeth sydd y tu ôl i redeg y maes awyr hwnnw ac rwyf hefyd yn cwestiynu rhoi siec wag ar gyfer hynny ac arian parhaus. Felly, gadewch i ni weld strategaeth, gadewch i ni weld gweledigaeth ac rwy'n fwy na pharod i ymchwilio i faer—Tyne oedd e? Dyffryn Tees. Fe edrychaf ar yr hyn y mae'r maer yn ei wneud yno, oherwydd efallai y gallai bob un ohonom ni yn y Siambr hon ddysgu o'r hyn y mae maer Ceidwadol yng ngogledd Lloegr yn ei wneud.
Os caf i droi'n fyr, yn ystod y munudau olaf, at gefnogi'r economi a threthi busnes, gallai Gweinidogion Cymru, wrth gwrs, fod wedi gostwng trethi busnes cosbol i adfywio'r stryd fawr, y sonnir amdani yn aml yn y Siambr hon, i roi hwb i economi Cymru. Edrychwch, rydym yn dal i fod â rhai o'r trethi busnes drutaf ym Mhrydain Fawr, beth bynnag yw'r rhesymau a roddir dros hynny. Mae'r dreth trafodiadau tir ar gyfer eiddo anfasnachol dros £1 miliwn ac ardrethi busnes yn mynd y tu hwnt i rai ein cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr, ac mae bwriad i hynny ddigwydd eto. Efallai fod angen i ni edrych ar hyn i gyd o'r newydd. Efallai fod gennym y pwerau yn y fan yma i wneud rhywbeth gwahanol. Credaf y byddai pleidiau eraill—efallai fod Plaid Cymru wedi crybwyll hyn yn y gorffennol. Efallai fod angen i ni ystyried a ellir ymdrin ag ardrethi busnes mewn ffordd hollol wahanol. Ar hyn o bryd, nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw, felly gadewch i ni weld rhywfaint o ryddhad hollbwysig i'n busnesau.
Gan ein bod wedi mynd heibio dyddiad Brexit erbyn hyn, mae'n amlwg yn bwysig ein bod yn mynd ati i ddatblygu ein cysylltiadau allanol ein hunain. Yn gam neu'n gymwys, mae Cymru'n cael ei gweld yn rhy aml fel un sy'n llusgo y tu ôl i weddill y DU pan ddaw'n fater o ddirnadaeth buddsoddwyr byd-eang. Mae'r gyllideb ddrafft yn dyrannu £2.5 miliwn ychwanegol o gyllid pontio'r UE yn 2020-21 i gefnogi gweithgareddau allforio, masnachu a mewnfuddsoddi, ond mae angen i ni weld mwy o ddefnydd o'r ysgogiadau economaidd datganoledig presennol, megis y system drethu, i ddarparu amgylchedd croesawgar er mwyn i fusnesau fuddsoddi a thyfu. Mae'r Alban wedi adeiladu'n wirioneddol ar y cysylltiad hwn rhwng y system drethi a mewnfuddsoddi. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni ei weld yn y dyfodol ac mae'n drueni nad ydym ni wedi gweld mwy o hynny yn y gyllideb hon.
Felly, i orffen, Llywydd, gadewch i ni sbarduno Cymru ymlaen. Mae Llywodraeth y DU yn cyflawni'r buddsoddiad mwyaf erioed eleni gyda £790 miliwn yn mynd i gytundebau twf a £500 miliwn i'r fargen ddinesig prifddinas-ranbarth. Mae arian yn mynd i mewn. Beth am weld buddsoddiad tebyg gan Lywodraeth Cymru. Mae gan Gymru ddwy Lywodraeth: mae ganddi Lywodraeth yn y fan yma; mae ganddi hefyd Lywodraeth yn San Steffan. Mae angen i'r llywodraethau hynny gydweithio i sbarduno economi Cymru yn ei blaen nawr ac yn y dyfodol.
Mae yna sawl llinyn mesur i'r ffordd rydym ni ym Mhlaid Cymru yn asesu cyllideb Llywodraeth Lafur. Yn sylfaenol, y cwestiwn rydym ni'n ei ofyn ydy: ydy'r Llywodraeth yn defnyddio ei hadnoddau cyllidol yn y ffordd fwyaf effeithiol i drio trawsnewid Cymru? Ydy'r Llywodraeth yn gallu dweud wrthym ni fod yna gyllido yma sydd yn arloesol, sy'n gyrru nid yn unig gwelliant yn y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yng Nghymru, ond yn newid diwylliant gwirioneddol ynglŷn â'r ffordd rydym ni'n meddwl ynglŷn â delifro i bobl Cymru? Yr ateb, dwi'n ofni, yn eithaf clir ydy, 'na'.
Beth sydd gennym ni ydy Llywodraeth Lafur sy'n amharod i fod yn radical ar gefndir o Lywodraeth Geidwadol sydd wedi profi yn gwbl ddi-hid ynglŷn ag effaith torri gwariant cyhoeddus yn drwm am resymau ideolegol am ddegawd a mwy. Allwn ni ddim fforddio mân reoli ar ymylon y gyllideb a disgwyl trawsnewid. Dwi'n ofni bod y gyllideb ddrafft yma yn gyfle arall wedi'i golli i fynd i'r afael â rhai o'r heriau pennaf rydym ni'n eu hwynebu. Oes, mae yna ragor o arian yn y pot y tro yma, mae yna fymryn o le i anadlu ar ôl y 10 mlynedd yna o doriadau llym—dwi'n ofni mai dros dro y mae o serch hynny—ond does yna ddim newid cyfeiriad yma. Does dim arwydd bod y Llywodraeth wedi sylweddoli o'r diwedd bod angen dilyn trywydd gwahanol, neu fel arall yr un heriau, yr un problemau sy'n mynd i godi dro ar ôl tro a fydd dim yn newid.
Mi fuaswn i'n licio diolch i fy nghyn gyd-Aelodau ar y Pwyllgor Cyllid—rwy wedi gadael y pwyllgor bellach—am y sgrwtini manwl sydd wedi bod o'r gyllideb mewn cyfnod llawer rhy fyr. Ac ar y pwynt yma, mi wnaf i ategu eto beth dwi ac eraill wedi'i ddweud o'r blaen: ydy, mae'r amgylchiadau wedi bod yn rhai anarferol, ein bod ni wedi cael etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig ar yr union gyfnod lle buasai'r penderfyniadau cyllidol wedi arfer cael eu gwneud ar lefel Brydeinig. Dyna sydd wedi arwain at ffaith ein bod ni'n delio â chyllideb Gymreig fan hyn heb fod yn gwybod yn union faint ydy'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ond mae'r ffaith bod hynny wedi gallu digwydd—ein bod ni yn gorfod dilyn proses sgrwtini heb wybod yn union beth rydym ni'n ei sgrwtineiddio—yn brawf i fi dyw bod ynghlwm mor dynn â system Westminster ddim yn gweithio i Gymru.
Mae yna nifer o elfennau unigol i'r gyllideb yma—ac mi wnaf i gyfeirio atyn nhw—ond mae yna thema, dwi'n credu. Mae yna wendid yn rhedeg drwy'r gyllideb yma, a hwnnw ydy'r methiant i ddechrau meddwl yn wirioneddol ataliol er mwyn tanio'r math o drawsnewid rydym ni ei angen. Edrychwch ar y gyllideb ar gyfer taclo newid hinsawdd—y cyllido mwyaf ataliol posib, efallai. Oes, wrth gwrs mae yna elfennau nid ansylweddol o'r gyllideb yma sydd wedi'u targedu tuag at daclo newid hinsawdd, ond os ydym ni'n rhoi hynny yn y cyd-destun rydym ni ynddo fo, y ffaith ein bod ni fel Senedd, a chithau fel Llywodraeth Cymru, wedi datgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar, mae'r ymateb yn y gyllideb yma i hynny, dwi'n credu, yn annigonol.
Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn amcangyfrif bod yna gymaint â 28 y cant o gynnydd wedi bod yn yr arian sydd yn cael ei glustnodi ar gyfer datgarboneiddio, sy'n swnio'n grêt, ond mae hi'n ein hatgoffa ni ein bod ni'n dechrau o lefel isel iawn, iawn. Ac, yn allweddol, beth mae'r comisiynydd wedi'i ddweud wrthym ni, sy'n ddamniol, ydy ei bod hi'n ymddangos mai prin iawn ydy'r dystiolaeth o weithredu strategol gan y Llywodraeth—[Torri ar draws.]
Mewn eiliad.
A'r gwendid mwyaf mae hi wedi'i adnabod ydy'r diffyg asesiad o sut mae arian sy'n cael ei glustnodi yn debyg o wneud gwahaniaeth.
Diolch yn fawr. Ynghylch y ffaith eich bod wedi crybwyll bod cynnydd o 28 y cant o ran yr agenda datgarboneiddio, a'r £140 miliwn ar ben yr hyn oedd yno o'r blaen, rydych chi'n hollol gywir i ddweud ein bod ni wedi cyhoeddi argyfwng newid hinsawdd digynsail. Yn hynny o beth, o ble yr hoffech chi weld yr arian hwnnw'n dod? Ai o Lywodraeth Leol ynteu iechyd, ynteu o ble yr hoffech chi fod wedi gweld yr arian hwnnw'n dod i fynd i'r agenda honno?
Iawn. Mater i'r Llywodraeth yw dangos ei bod yn blaenoriaethu drwy ei chyllideb, ac, os byddwn ni'n gwrando ar yr hyn y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi ei ddweud, dyma a ddywedodd hi mewn erthygl ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig fis diwethaf:
a all holl seilwaith y Llywodraeth ateb y cwestiwn o ba un a yw ei gwariant yn cynyddu neu'n gostwng allyriadau carbon yng Nghymru? O'r hyn yr wyf i wedi ei weld yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yw na.
Felly, nid mater o faint yn unig ydyw—mae'n ymwneud â sut y caiff yr arian hwnnw ei wario.
Mae'r comisiynydd yn mynd ymlaen:
Nid ydym yn gwybod a yw'r buddsoddiad newydd teilwng a phwysig yn yr hinsawdd a natur yn y gyllideb hon yn cael ei ddadwneud gan fusnes fel arfer mewn rhannau eraill o'r Llywodraeth.
Mae hynny'n ddamniol, dwi'n credu. Dyna i chi'r £29 miliwn ar gyfer bysus trydan. Grêt. Mae'r ffigur ei hun yn iawn. Rydych chi'n gwybod yn iawn fy mod i'n ymgyrchydd brwd dros gerbydau trydan, ond, efo cyllideb fel hyn, rydym ni angen tystiolaeth i weld ai rhoi £29 miliwn am fysus newydd ydy'r ffordd orau i gael yr impact mwyaf o ran datgarboneiddio allan o wariant o £29 miliwn. Ac, ar ben hynny, mae yna elfennau o'r gyllideb allai fod yn negyddol, hyd yn oed, o ran eu impact ar yr amgylchedd.
Heb asesiad cynhwysfawr o'r holl benderfyniadau ar wariant,
meddai Sophie Howe,
gall cynnydd cadarnhaol mewn rhai meysydd gael ei danseilio gan brosiectau neu raglenni carbon uchel mewn meysydd eraill. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i fod yn arweinydd byd-eang o ran cyllidebu mewn argyfwng hinsawdd, drwy gyhoeddi 'cyfrif effaith carbon' ynghyd â'i chyllideb flynyddol. '
Dydyn nhw ddim wedi cymryd y cyfle yna yn y gyllideb yma. Felly, i ateb y cwestiwn gafodd ei ofyn yn gynharach, nid dim ond o le mae pa arian yn dod ydy o, ond pa neges mae'r Llywodraeth yn ei gyrru allan drwy'r gyllideb drwyddi draw. Nid dim ond mesur a dylanwadu ar gynaliadwyedd amgylcheddol mae'r comisiynydd, wrth gwrs. Rôl y comisiynydd ydy gofyn yn gyffredinol ydy'r penderfyniadau rydym ni'n eu gwneud rwan yn mynd i gael effaith gadarnhaol ar genedlaethau a ddaw ar ein holau ni. Ac mae sut rydym ni'n gwario arian cyhoeddus yn ganolog i hynny: ydym ni'n gwneud y dewisiadau iawn rŵan?
Dyma'r bedwaredd gyllideb ers pasio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond dydyn ni'n dal ddim yn gweld newid go iawn mewn diwylliant yn y Llywodraeth. Mae'n rhaid gwneud mwy i sicrhau nad ryw ddarn o bapur ydy'r Ddeddf, ond rhywbeth sy'n sail gadarn i gyllidebau'r dyfodol. Dyna pam rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi ymrwymo i broses gyllidol lesol, yn debyg i Seland Newydd, ac mi ddywedodd swyddogion swyddfa'r comisiynydd eu bod hwythau yn dymuno gweld proses debyg yn cael ei dilyn yma.
Mae iechyd a gofal yn un o'r meysydd eraill lle gallai cymaint fwy o fudd ddod o sicrhau sifft go iawn at system ataliol, a meddwl am y dyfodol rŵan. Cyfran fach iawn o'r gyllideb sydd wedi ei neilltuo ar gyfer gwaith ataliol go iawn. Yn sicr, does yna dim arwydd o drawsnewid, a dwi'n sôn yn fan hyn nid dim ond am wariant ar yr NHS, ond yn hytrach am fethiant i ddod ynghyd yr holl elfennau hynny sy'n cael impact ar iechyd pobl.
Rydym ni'n gwybod yn iawn am y cysylltiad rhwng afiechyd a thlodi. Does yna ddim byd newydd yn y gyllideb yma pan fo'n dod at daclo tlodi. Dro ar ôl tro, mae'r Llywodraeth yn trio'r un pethau yn hytrach na chyflwyno'r math o newid uchelgeisiol sydd ei angen i dynnu'r rhai sydd fwyaf angen help allan o dlodi. Rydym ni'n gweld y pryderon eto am ddiffyg lefelau cyllid mewn meysydd fel tai, digartrefedd, y rhaglen Cefnogi Pobl—y Bevan Foundation yn dweud mai prin ydy'r dystiolaeth o ffyrdd newydd yn cael eu cyflwyno i atal tlodi. Er enghraifft, mae'n feirniadol o'r un hen arfer o roi pwyslais ar nifer y swyddi sy'n cael eu creu, gwaeth beth yw lefel y cyflog na thelerau'r swyddi hynny.
Mae llywodraeth leol, wedyn, yn chwarae rôl gwbl allweddol mewn delifro elfennau ataliol o wasanaethau cyhoeddus. Eto, tra ein bod ni'n gweld cynnydd o £184 miliwn, neu 1.8 y cant mewn termau real, yn y gefnogaeth i gynghorau Cymru, mi oedd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru wedi amcangyfrif bod cynghorau angen cynnydd o £250 miliwn dim ond i allu sefyll yn llonydd. All llywodraeth leol ddim chwarae rhan lawn ar y dirwedd ataliol rydym ni am ei weld yn datblygu heb gael y gefnogaeth i wneud hynny.
Gwnaf i droi at y Gymraeg yn sydyn. Rydym ni i gyd yn gallu cytuno ar werth anelu at y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ond sut mae sgwario efo hynny y gostyngiad mewn termau real o £400,000 mewn gwariant ar yr iaith Gymraeg yn uniongyrchol. Ac, ar ben hynny, mae yna doriad o £1.65 miliwn ar gyfer y Gymraeg o fewn addysg—felly, mewn ysgolion. Mi ges i'r cyfle yn y Siambr yr wythnos diwethaf i wthio'r Gweinidog dros y Gymraeg i beidio â thorri cyllideb dysgu Cymraeg i oedolion. Dwi'n gwybod mai ei barn hi ydy bod efallai eisiau edrych ar wario ar roi cyfleon i bobl siarad y Gymraeg. Tra bod hynny, wrth gwrs, yn bwysig iawn, mewn llefydd fel fy etholaeth i, mae yna hen ddigon o gyfleon i siarad yr iaith—rhoi cyfle i bobl drwy adnoddau dysgu Cymraeg i gael y sgiliau iaith i gymryd rhan yn y pethau hynny sy'n bwysig yn yr etholaethau a'r ardaloedd hynny. Ac, yn eu cyfanrwydd, mae'n ymddangos bod penderfyniadau'r Llywodraeth ar gyllid ar y Gymraeg yn mynd yn gwbl groes i'r hyn sydd ei angen i sicrhau llesiant y Gymraeg mewn blynyddoedd i ddod.
Mi wnaf i gloi, Llywydd: mae cyllideb yn rhan o ddodrefn y Senedd yma, yn rhan o'r dodrefn llywodraethol, ond mae'n fwy na hynny. Mae'n allweddol o ran gosod cyfeiriad. Mae'n dweud sut Lywodraeth sydd gennym ni. Dyma le mae'r rhethreg i fod i droi yn realiti, y prawf o barodrwydd Llywodraeth i weithredu ar eu haddewidion. Oes, mae yna heriau. Mae yna heriau o ran Brexit a beth fydd costau hynny, mae yna heriau o ran dyw'r gyllideb lawn yn dal ddim gennym ni, mae yna ansicrwydd ynglŷn ag am ba hyd fydd y cynnydd sydd wedi dod gan Lywodraeth Prydain yn parhau, ond dydy hon ddim yn gyllideb arloesol, mae'n rhyw groes o salami-slicing—cyllideb lle rydym ni'n gweld pob cyllideb, pob adran, yn codi rhyw fymryn. Dyna, dwi'n ofni, oedd y dull mwyaf di-ddychymyg o gyllido y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi ei ddewis y tro yma.
Diolch i Rhun am ei gyfraniad yna ac am ei wasanaeth ar y Pwyllgor Cyllid. Mae'n ddrwg gennym ein bod wedi ei golli. Ac rwyf hefyd yn croesawu Nick Ramsay yn ôl i'r Siambr ac yn diolch iddo am ei gyfraniad.
Soniodd am y maes awyr, ac yr oedd y Ceidwadwyr yn beirniadu'r gwariant ychwanegol ar hwnnw, a daeth Carwyn Jones, y cyn Brif Weinidog, nad yw yn ei le mwyach, yn ôl drwy ddweud: 'Wel, rydych chi wedi gwrthwynebu'r gwariant hwn, ond rydych chi yn ei gefnogi yn Durham Tees', lle y prynodd Ceidwadwr y maes awyr. Rwyf wedi edrych ar faint gafodd ei wario arno, a thalwyd £40 miliwn i fyny ar y Tees, a dim ond 130,000 o deithwyr oedd gan y maes awyr hwnnw.
Felly, er ein bod yn credu bod £52 miliwn yn gryn dipyn i Lywodraeth Cymru ei wario ar Faes Awyr Caerdydd, o'i gymharu ag amcangyfrif KPMG o brisiad o rhwng £25 miliwn a £35 miliwn, mae'n awgrymu, mewn gwirionedd, bod y £52 miliwn yn cymharu'n weddol dda â'r £40 miliwn, pan oedd gan Gaerdydd 1 filiwn o deithwyr o'i gymharu â'r 130,000 yn y fan honno, ond ai dyna'r prisiad cywir, wn i ddim. Ond byddwn yn nodi, mewn ymateb i sylw Carwyn, ymateb pum arweinydd cyngor Llafur i'r ffaith fod maer Ceidwadol wedi prynu'r maes awyr yn Durham Tees: Fe wnaethon nhw rybuddio y byddai cynlluniau'r maer i fuddsoddi arian yn y maes awyr a oedd mewn trafferthion yn creu twll du yn y cynlluniau buddsoddi.
Gobeithio y byddwn yn edrych ar y materion hyn ar sail teilyngdod, yn hytrach na dim ond drwy deyrngarwch pleidiol. Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig yr hoffwn i ei wneud, o ran arian yn mynd o'r Llywodraeth i'r maes awyr—ie, os yw'n dwll du ac mae'n cymryd arian parod yn gyson ac nid oes unrhyw bosibilrwydd y bydd yn cynhyrchu arian i wneud ad-daliadau yn y dyfodol, yna ni fyddai hynny'n syniad da. Ond, ar yr ymylon, beth maen nhw'n ei wneud gyda'r arian ychwanegol? Pan gyfarfûm â Roger Lewis ac eraill, pan oedd yn cadeirio'r maes awyr, credaf eu bod wedi dadlau bod o leiaf rhywfaint o'r arian ychwanegol yr oedden nhw'n chwilio amdano yn mynd i gael ei ad-dalu o fewn blwyddyn neu ddwy, o ran unedau manwerthu ychwanegol a gwella terfynellau. Os yw'r ad-daliad hwnnw'n wir, byddai'n synhwyrol i fuddsoddi'r arian ynddo, ac, o gofio mai'r Llywodraeth yw'r cyfranddaliwr, am y tro mae'r ddyletswydd honno'n disgyn ar Lywodraeth Cymru.
Clywsom, fel y dywedodd Nick, ychydig iawn o sôn am gyni gan y Gweinidog Cyllid, o leiaf o'i gymharu â chyfraniadau blaenorol. Fodd bynnag, roedd hi'n pwysleisio—ac roedd ei chymhariaeth hi'n un, unwaith eto, a oedd yn mynd yn ôl i 2010-11, a sut y mae gennym ni, meddai hi, £300 miliwn yn llai nawr nag yr oedd gennym ni bryd hynny mewn termau real. Rwy'n credu ei bod yn fwy o gymorth, wrth graffu ac ystyried y gyllideb, a phenderfynu beth yw ein barn ni, i gymharu beth yw'r gyllideb am y flwyddyn i ddod o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Beth ydych chi'n ei wneud mewn gwirionedd yn y gyllideb hon? Ar gyfer hynny, rwy'n credu mai'r rhif pwysig yw'r cynnydd o £593 miliwn mewn gwariant, neu 2.3 y cant mewn termau real.
Credaf fod y Gweinidog cyllid braidd yn annheg i feirniadu Llywodraeth y DU am ei hagwedd anhrefnus tuag at amseru'r gyllideb, gan fy mod i'n credu nad oedd amseriad yr etholiad cyffredinol hwnnw ar 12 Rhagfyr, na'r rheidrwydd i'w gael, yn nwylo Llywodraeth y DU yn llwyr. Roedd gan Aelodau'r wrthblaid yn San Steffan o leiaf gymaint o gyfrifoldeb dros yr amseroedd hynny a'r effaith a gawsant ar broses y gyllideb.
Fodd bynnag, hoffwn ganmol Llywodraeth Cymru am ei hymateb pragmatig i'r anawsterau amseru hynny, ac rwy'n credu ei bod hi wedi cysylltu'n synhwyrol â'r Pwyllgor Cyllid o ran craffu a'r dadleuon a gawsom yn y fan yma. Rwy'n credu ei fod wedi gweithio'n iawn, yng ngoleuni'r heriau a gawsom. Yn sicr, o'i gymharu â Llywodraeth yr Alban, a'r problemau enfawr a gawsant hwy, rwy'n credu ein bod ni wedi rhoi cyfrif da ohonom ein hunain o ran yr amseriadau hynny'n gweithio gyda'i gilydd.
Rwyf hefyd yn credu, yn y cyd-destun hwnnw, ein bod ni, ar y Pwyllgor Cyllid, yn bwriadu rhoi mwy o ystyriaeth i broses y gyllideb, gan gamu'n ôl o fanylion y gyllideb hon i ofyn ai hon yw'r broses gywir. Yr hyn yr wyf i wedi bod yn poeni fwyaf amdano, am y broses a'r ffordd y mae'n gweithio, gan i mi fod ar y Pwyllgor Cyllid o bryd i'w gilydd dros y blynyddoedd, yw bod y gyllideb ddrafft, ac yna'r craffu a'r dadleuon a'r cyfarfodydd i randdeiliaid, yn fy marn i o bosib yn arwain at fwy o ddisgwyliadau gan randdeiliaid, grwpiau â budd, y rhai sy'n cael eu hariannu—ACau yma, i raddau—o'r disgwyliadau o ran newid. Ac rwy'n aros i weld beth sy'n digwydd yng nghyllideb derfynol y Gweinidog Cyllid i weld beth gaiff ei newid bryd hynny.
Ond, os yw'r broses graffu i fod o unrhyw werth—. Hoffwn roi un enghraifft o faes lle credaf fod consensws ar draws y pleidiau, sef gwasanaethau bysiau. Ydy, mae'n braf cael y £29 miliwn hwn o gyllid cyfalaf ar gyfer bysiau trydan, ac rwy'n siŵr y bydd y rhai sy'n eu defnyddio a'r rhai yng nghanol dinasoedd sy'n elwa, efallai, ar lai o lygredd aer o'u herwydd yn gwerthfawrogi'r gwariant hwnnw, ond nid ydym yn glir pa un ai hynny yw gwerth gorau o ran gwariant o'i gymharu â phrosiectau eraill, i'r graddau bod y Gweinidog yn canolbwyntio ar amcanion newid yn yr hinsawdd. Yn amlwg, mae manteision eraill i'r rhain hefyd, ond a yw'r manteision hynny'n fwy na'r rhai a fyddai'n deillio o ddefnyddio'r arian hwnnw o £29 miliwn yn rhywle arall i gefnogi gwasanaethau bysiau?
Codais i a'r Aelod dros Flaenau Gwent y mater hwn dro ar ôl tro mewn pwyllgorau: mewn gwirionedd, os ydych chi, yng Nglynebwy, wedi gweld amlder y gwasanaeth yn cael ei haneru, mae'r cwestiwn a yw'n fws trydan yn llawer llai pwysig na pha un a oes bws o gwbl. Dim ond gobeithio y bydd y Gweinidog, os yw hi'n gwrando ar y craffu—ac mae'n dod oddi wrth Blaid Cymru, ni, y Ceidwadwyr ac o'i meinciau cefn hi ei hun. Nid yw gostyngiad mewn termau real yn y cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau bws ar sail refeniw yn cyd-fynd yn dda iawn gyda'i hamcanion honedig ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Ac unwaith eto, hoffwn ei hannog i ailystyried yr agwedd honno cyn y gyllideb derfynol.
Tybed hefyd, o ystyried ein bod ni wedi cael y cyfnod hir hwn o gyni cymharol a'n bod wedi dod allan ohono—dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn bennaf yw dosbarthu codiadau gweddol debyg yn gyffredinol. Mae rhai meysydd wedi elwa'n arbennig; gwelaf y Gweinidog dros yr ochr ryngwladol yn ei sedd, ac mae hynny'n ganran sylweddol er ei bod yn eithaf isel o ran cynnydd absoliwt, a gobeithio na fydd yn mynd dros ben llestri wrth agor gormod o swyddfeydd ar draws pob gwlad yn yr UE gyda'r arian ychwanegol, ond mae hynny'n faes mawr o gynnydd.
Ond tybed, o ran y penderfyniad craidd hwnnw—y GIG yn erbyn Llywodraeth Leol—cynnydd tebyg i'r ddau—. Eto i gyd, yr hyn sydd wedi digwydd wrth ymdrin â chyni yng Nghymru yw y bu toriadau cymharol yn y gwasanaeth iechyd o'i gymharu â Lloegr, ac eto mae Llywodraeth Leol wedi cael ei warchod yn llawer mwy nag a gafodd yn achos Llywodraeth Leol yn Lloegr. Arferai Llywodraeth Cymru ddweud wrthym fod angen newid strwythurol mewn Llywodraeth Leol, ac rwy'n cytuno â hwy. Pam mae gennym ni gymaint o gynghorau, 22 o gynghorau unedol, sy'n llawer llai yn gyffredinol na'r rhai yn Lloegr sy'n darparu gwasanaethau unedol? Mae angen taer i geisio annog gweithio rhanbarthol i liniaru rhywfaint ar yr aneffeithlonrwydd hwnnw. Ond yn y pen draw, oni fyddai'n well pe byddai gennym lai o gynghorau a chynghorau mwy a fyddai'n fwy addas i gyflawni'r tasgau hynny?
Fe wnaf ildio i rywun a fydd yn anghytuno'n gryf â'r hyn yr wyf newydd ei ddweud—Mike.
Diolch am ildio. Oni fyddech chi'n derbyn bod y cynghorau yng Nghymru yn sylweddol fwy na'r rheini ar dir mawr Ewrop a Gogledd America?
Mae'n dibynnu at ba gyngor yr ydych yn cyfeirio ato. Byddai rhai o'r gweithgareddau a wneir gan gynghorau unedol yma yn cael eu cyflawni gan daleithiau yn yr Unol Daleithiau, sydd wrth gwrs yn llawer mwy. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw: rwy'n credu bod 22 yn ormod, ac rwy'n credu y dylem ni fynnu bod cynghorau lleol yn uno ag o leiaf un arall. Rwy'n credu y dylai Caerdydd a Phowys fod yn eithriadau o ystyried eu maint. Rwy'n credu y dylai fod yn broses o'r gwaelod i fyny gyda chynghorau yn penderfynu ar eu partner uno, yn hytrach na map o'r brig i lawr. Credaf y byddai hynny'n caniatáu i arbedion gael eu defnyddio mewn gwasanaethau rheng flaen. A thra ein bod yn sôn am hynny, byddwn yn torri nifer y cynghorwyr a byddwn yn cwestiynu pam mae angen talu isafswm o £14,000 i bob un, sy'n llawer mwy na'r hyn a welais pan oeddwn i—. Mae gan lawer o gynghorau yn Lloegr yn cael cryn dipyn yn llai, er gwaethaf y ffaith eu bod yn gynghorau unedol mwy na'r rhai sy'n talu'r swm hwnnw.
Yn olaf, edrychaf ymlaen at weld y gyllideb derfynol yn cael ei gwneud. Diolch i'r Gweinidog am graffu o dan amgylchiadau anodd, ac mae'n dda gweld cyllideb lle mae gennym ni rai cyfleoedd i ddefnyddio a buddsoddi rhywfaint o arian ar ôl cymaint o flynyddoedd o gyni. Hir y parhaed hynny nawr bod y Deyrnas Unedig yn wlad annibynnol unwaith eto.
Yn gyntaf, a gaf i ddweud pa mor braf yw gweld cynifer o bobl yn cymryd rhan yn y ddadl hon a honno'n ddadl mor bwysig? Yn rhy aml o lawer, roedd pedwar ohonom yn arfer trafod y gyllideb ac roedd y Gweinidog yn arfer ymateb. Rydym ni'n ymdrin â symiau sylweddol o arian, ac rwy'n credu ei fod yn werth chweil i'r Cynulliad roi dadl lawn iddo. Rwyf am roi sylw i'r ddadl hon mewn dwy ran; yn gyntaf, ar y gyllideb gyffredinol, ac yna ar y gyllideb a gwmpesir gan y meysydd y craffwyd arnyn nhw gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Rwyf eisiau rhoi sylw i'r modd y caiff arian ei wario, oherwydd mae'r cynnydd i'w groesawu, ond mae sut y caiff ei wario o fewn adrannau o leiaf yr un mor bwysig—byddwn yn dadlau bod hynny yn fwy pwysig.
Gellir rhannu swyddogaeth y Llywodraeth i dri maes: iechyd a lles, diogelwch, a'r economi. Gan ddechrau gydag iechyd a lles: nid yw iechyd yn ymwneud ag ysbytai yn unig yn yr un ffordd nad yw gwaith cynnal a chadw ceir i gyd yn ymwneud â thrin ceir mewn garejys. Mae iechyd a lles pobl yn dechrau gyda chael cartref cynnes, sy'n dal dŵr ac sy'n ddiogel, gyda digon o faeth. Bydd atal pobl rhag bod yn ddigartref a darparu llety â chymorth yn cadw llawer o bobl allan o'r ysbyty. Rwyf eisiau tynnu sylw at ddau faes pwysig: darparu tai cymdeithasol fel bod gan bobl gartref; y ddarpariaeth ar gyfer cefnogi pobl nad ydyn nhw'n gallu edrych ar ôl eu hunain i gael cartref lle y cânt eu cynorthwyo. Mae'r rhain yn sylfaenol bwysig i fywydau pobl.
O fewn y ddarpariaeth iechyd—ac mae fy mhryder ynghylch maint ardaloedd daearyddol y byrddau iechyd yn hysbys—mae angen i'r cyllid ar gyfer gofal sylfaenol gynyddu. Yr hyn sy'n digwydd yw bod pobl yn methu â chael apwyntiad mewn gofal sylfaenol felly maen nhw'n mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys. Yn aml, y sefyllfa ddiofyn mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yw bod cleifion yn cael eu cadw i mewn i'w harsylwi am 24 awr pan eu bod yn dod i mewn gyda symptomau amhenodol. Ar adeg rhyddhau o'r ysbyty, mae'n sicrhau bod fferyllfa'r ysbyty yn darparu'r feddyginiaeth, fel y gall cleifion fynd adref yn hytrach nag aros tan y diwrnod canlynol pan fydd y fferyllfa leol yn gallu rhoi eu meddyginiaeth. Pam mae cymaint o gleifion sy'n mynd i'r ysbyty yn gallu gofalu amdanynt eu hunain yn cael eu rhyddhau naill ai i gartrefi nyrsio neu i becyn gofal sylweddol? Er bod hyn yn ddealladwy i gleifion strôc, rwyf i'n credu bod hyn yn llai dealladwy i bobl sy'n mynd i mewn, weithiau ar gyfer llawdriniaethau orthopedig y maen nhw wedi gofyn amdanynt, ac yn y diwedd nid ydyn nhw'n gallu gofalu am eu hunain mwyach.
O ran yr economi, gallwn naill ai geisio gwneud cynnig gwell na phawb arall i ddenu ffatrïoedd cangen, neu gallwn gynhyrchu gweithlu medrus iawn, gan greu ein sectorau diwydiannol ein hunain a chael cyflogwyr yn dod oherwydd ein cymysgedd sgiliau nid ein cymhelliad ariannol. Mae addysg yn allweddol i greu gweithlu sy'n gallu gweddnewid economi Cymru. Mae arian sy'n cael ei wario ar addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yn fuddsoddiad yn economi Cymru a thwf economaidd, a chredaf fod hynny yn wirioneddol bwysig.
Ar ôl datgan argyfwng newid hinsawdd, dydw i ddim yn credu mai fi yw'r unig berson a oedd yn teimlo ei bod yn siomedig gweld mai'r maes hwn oedd â'r cynnydd lleiaf yn y gyllideb refeniw mewn termau real. O ran y gyllideb, a gaf i ofyn a allai cyllidebau'r dyfodol gael eu hategu gan asesiad cynhwysfawr o'i heffaith carbon gyffredinol? Mae'r gwariant presennol ar ddatgarboneiddio a chynllun ariannu hirdymor yn anghenrheidiol. Er fy mod i'n croesawu'n fawr y gwaith o ddatblygu cynllun twf amgylcheddol a'r arian a ddyrennir i'r cynllun hwnnw, ni fwriedir i'r cynllun gael ei gyhoeddi tan yn ddiweddarach eleni. Sut ydym ni'n mynd i sicrhau bod arian yn cael ei wario'n effeithiol?
Mae'r pwyllgor ar newid hinsawdd yn cynnal ymchwiliad i dlodi tanwydd ar hyn o bryd. Cafodd targed Llywodraeth Cymru o ddileu tlodi tanwydd erbyn 2018 ei fwrw oddi ar y cledrau gan y chwalfa economaidd a'r cyni dilynnol gan Lywodraethau Ceidwadol, felly nid wyf i'n mynd i'w beio nhw am hynny. Ond yr hyn yr wyf i am ddweud yw, yn fy etholaeth i, mae gen i eiddo hŷn yn y sector rhentu preifat a'r sector perchen-feddianwyr nad oes ynddyn nhw gyfleusterau sylfaenol fel gwres canolog a ffenestri dwbl. Siawns na ddylai ymdrin â'r rhain fod y cam cyntaf tuag at ymdrin â thlodi tanwydd? Hefyd, nid yw'r diffiniad o dlodi tanwydd yn cynnwys y rhai sy'n cadw eu heiddo'n oerach na'r optimwm neu sy'n mynd i'r gwely'n gynnar—ac rwyf wedi siarad â phobl sy'n mynd i'r gwely am chwech o'r gloch y nos oherwydd na allan nhw fforddio cadw eu tŷ yn gynnes—er mwyn arbed costau gwresogi. Nid yw'r bobl hyn mewn tlodi tanwydd yn ôl y diffiniad. Rwyf i'n credu eu bod nhw mewn tlodi tanwydd yn ôl yr hyn y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn ei ddisgrifio fel tlodi tanwydd, oherwydd na allan nhw gadw eu tai yn gynnes.
Mae angen arian i ddiogelu'r amgylchedd, ac mae angen ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddigonol. Rwyf i'n un o'r bobl hynny nad ydym wedi ein hargyhoeddi bod uno tri chorff gwahanol yn syniad da, ond mae gennym sefydliad sydd fel ag y mae ar hyn o bryd, ac mae angen iddo gael ei ariannu'n ddigonol. Mae angen gwneud llawer iawn o waith i ddiogelu'r amgylchedd. I rai ohonom, mae hynny'n wirioneddol bwysig. A gaf i siarad am rywbeth nad oes llawer o sôn amdano yn aml, ac eithrio gan fy nghyfaill Joyce Watson, sef ardaloedd cadwraeth morol? Mae angen cyllid ar gyfer hynny. Mae angen mwy o barthau cadwraeth morol arnom, ac mae angen eu dynodi, ond nid eu dynodi'n unig, ond cael digon o staff. Does dim pwynt dweud, 'bydd gennym barth cadwraeth forol yn y fan yna', os nad oes arian a staff i'w gefnogi. Ac yn olaf, mae angen gwario arian i atal rhywogaethau rhag diflannu. Dyna beth mae'r newid yn yr hinsawdd yn ei wneud i'r wlad hon, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i atal hynny rhag digwydd.
Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd Mike, yn enwedig ynglŷn â'r mater o gadw pobl yn iach a bod hyn yn mynd i arbed llawer mwy ar y gyllideb iechyd na phe byddem yn lluchio arian drwy'r amser at bethau nad ydyn nhw'n gweithio'n arbennig o dda ar hyn o bryd.
Roeddwn i eisiau siarad am ddyraniad y gyllideb tai, yn enwedig y grantiau tai â chymorth. Oherwydd ddydd Gwener, ymwelais ag un o dai â chymorth Llamau i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, oed pan fo'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn dal i fod â lle yng nghartref y teulu, naill ai'n rhan-amser neu'n llawn amser. Ond nid yw'r bobl hyn, am ryw reswm neu'i gilydd, yn gallu byw gyda'u teuluoedd ac nid ydyn nhw'n yn barod i ddal eu tenantiaeth eu hunain, boed hynny o ganlyniad i drawma digartrefedd, sy'n eu gwneud yn agored i niwed, neu oherwydd cam-fanteisio rhywiol, neu oherwydd eu bod nhw'n colli'r cymorth a oedd ar gael iddyn nhw yn flaenorol fel plant sy'n derbyn gofal, neu os ydyn nhw yn gaeth i alcohol neu gyffuriau, sy'n golygu ei bod yn amhosibl iddyn nhw ddal eu tenantiaeth eu hunain.
Gwyddom fod y boen o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gwneud pobl ifanc o'r fath yn fwy tebygol o gael salwch meddwl difrifol neu, fel arall, mynd i'r carchar. Felly, mae'r naill lwybr neu'r llall yn fwy o lawer o dreth ar adnoddau cyhoeddus na'r gwariant ataliol y mae angen i ni ei roi yn y grant cymorth tai. Felly, mae'r gwaith gan Llamau ac eraill i atal pobl rhag disgyn i naill ai droseddu neu argyfwng meddwl yn arbediad enfawr i gymdeithas.
Mae gan Llamau 10 o dai yng Nghaerdydd, ac mae pob un gyda llety byw i rhwng tri a chwech o bobl. Mewn sawl ffordd, nid yw'n wahanol i'r trefniadau a ddefnyddiwyd gan y nifer fawr o fyfyrwyr mewn tai amlfeddiannaeth yn fy etholaeth i. Mae gan bob unigolyn ystafell ei hun, ac maen nhw'n rhannu'r ystafell ymolchi, y gegin a'r ystafell fyw gydag eraill. Mae gwahaniaethau, serch hynny. Mae pob tenant yn Llamau yn cael dewis eu dodrefn ystafell wely a'u haddurniadau eu hunain. Nid yw papur wal pinc at ddant pawb, ond dyna oedd dewis menyw ifanc benodol, a dyna oedd yn gwneud iddi deimlo ei fod yn gartref iddi hi.
Dywed Llamau wrthyf fod tri chwarter, o leiaf, o'r holl bobl ifanc hyn wedyn yn symud ymlaen yn llwyddiannus i ddal eu tenantiaethau eu hunain, neu denantiaeth hyfforddi, naill ai yn y sector cymdeithasol neu mewn tenantiaeth rhentu breifat. Un o nodweddion pwysig eu cymorth yw eu bod yn parhau i gael eu cefnogi am y 12 mis cyntaf gan yr un grŵp o weithwyr proffesiynol y daethant i ymddiried ynddynt nhw tra'r oedden nhw yn y llety â chymorth.
Felly, mae grant Llamau gan wasanaeth atal digartrefedd Cyngor Caerdydd yn talu am bedair rhan o bump o gost y cymorth hwn sydd wedi'i deilwra ac sy'n llawn dychymyg. Mae'n rhaid i'r gweddill—£250,000—ddod o godi arian, ac roeddwn i'n hapus iawn i gefnogi'r digwyddiad cysgu allan yng Nghastell Caerdydd ddechrau mis Rhagfyr, a gefnogwyd gan amrywiaeth enfawr o unigolion a sefydliadau. Ond rwy'n meddwl tybed, ar ôl llwyddiant profedig yr ymyrraeth gyntaf hon ym maes tai, a yw hi'n iawn i ddim ond cael setliad ar ffurf arian sefydlog ar gyfer y llinell hon o'r gyllideb, sydd mewn gwirionedd yn golygu toriad. Heb fuddsoddiad ychwanegol yn y grant cymorth tai, mae perygl na fydd gan wasanaethau y gallu i ddiwallu anghenion pobl, ac mae hynny'n amlwg yn broblem enfawr yng Nghaerdydd, lle mae gennym ni nifer sylweddol o bobl sydd naill ai'n ddigartref eisoes neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
I droi at fater arall, sef ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i dlodi tanwydd, sy'n mynd rhagddo, mae'n dangos bod llawer mwy y gellir ei wneud i gydgysylltu'r dull. Tybed a ydym ni'n defnyddio'r holl fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ddigonol i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyd-weithio rhwng gwahanol randdeiliaid
Gall symiau bach o arian fod yn allweddol yn aml, a chymeradwyaf y £5 miliwn yn y gyllideb twf amgylcheddol ar gyfer cronfa lleoedd lleol ar gyfer natur, y gellir ei gweld, fel y dywedodd y Gweinidog, o garreg y drws ac mae'n llawer mwy arwyddocaol o ran ei heffaith na'r £137 miliwn o gyfalaf cyffredinol ar gyfer yr eitem hon. Felly, rwy'n credu y gallem fod yn gwneud llawer mwy o'r math hyn o beth, megis y gronfa tai arloesol, sydd wedi dangos, dro ar ôl tro, y gallwn ni fod yn adeiladu tai llawer gwell na dull Legoland y pum cwmni mawr sy'n adeiladu tai. Diolch.
Rhagwelodd cyllideb Llywodraeth Lafur y DU ym mis Mawrth 2010 y byddai diffyg y DU yn 11 y cant o gynnyrch mewnwladol crynswth yn y flwyddyn honno. Yn ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol, y DU oedd â'r diffyg uchaf ymhlith economïau'r G7 a'r G20. Fe wnaeth datganiad cyllideb Alistair Darling ym mis Mawrth 2010 adolygu'r rhagolwg twf, lleihau benthyca, a nodi y byddai'r diffyg yn fwy na haneru dros bedair blynedd, am fod ei faint yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian, rhywbeth a ddiffiniwyd fel 'cyni cyllidol'.
Yn ei wiriad iechyd blynyddol ym mis Medi 2010 ar economi'r DU, cefnogodd yr IMF fesurau cyni y Llywodraeth glymbleidiol oedd mewn grym bryd hynny, gan alw cynlluniau Canghellor y DU yn gredadwy ac yn hanfodol, gan ddweud bod y cynllun:
yn lleihau'n fawr y risg o golli ffydd mewn cyllidebau cyhoeddus ac yn cefnogi adferiad cytbwys.
Mae rheolaeth economaidd ddarbodus Llywodraeth y DU ers 2010 wedi lleihau diffyg y DU i lai na 2 y cant o CMC, sy'n is na'r cyfartaledd nawr ymhlith economïau'r G7, gan alluogi Llywodraeth y DU i roi hwb i gyllideb Llywodraeth Cymru nawr. Ond, roedd pedwar o'r pum awdurdod lleol isaf o ran cynnydd mewn cyllid, unwaith eto yr un awdurdodau yn y gogledd—Conwy, Wrecsam, Sir y Fflint ac Ynys Môn—tra bod Sir Fynwy yn dal ar y gwaelod. Dywedodd y Gweinidog llywodraeth leol dro ar ôl tro bod y broses o rannu'r setliad llywodraeth leol rhwng awdurdodau lleol yn cael ei wneud drwy brosesau democrataidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Fodd bynnag, fel y dywedodd uwch gynghorwyr trawsbleidiol yn y gogledd wrthyf, nid yw'r collwyr eisiau herio'n agored y fformiwla ariannu ar y sail, er mwyn elwa, y bydd yn rhaid i gynghorau eraill gael llai o arian. Felly, drwy fabwysiadu agwedd 'nid yw tyrcwn yn pleidleisio i gael Nadolig', ni fydden nhw'n cael unrhyw gefnogaeth allanol.
Serch hynny, mae arweinyddion cynghorau yn y gogledd wedi ysgrifennu at arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud nad yw buddion y setliad dros dro hwn yn cael eu rhannu'n ddigon teg a'i fod yn gadael y rhan fwyaf o'r cynghorau yn y gogledd gyda setliad sylweddol is na chost net pwysau, chwyddiant a newid demograffig. Ac mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae arweinydd Conwy yn dweud bod y sefyllfa cyllid allanol gyfunol ledled Cymru mewn ystod eang o rhwng 3 y cant—y gwaethaf—a 5.4 y cant—y gorau, a bod hyn yn achosi cryn bryder. Mae'r rhychwant o 2.4 y cant yr uchaf a fu ers nifer o flynyddoedd.
Wrth ysgrifennu at y Gweinidog llywodraeth leol, Julie James, mae arweinyddion pob un o'r chwe cyngor yn y Gogledd yn datgan yn drawsbleidiol eu bod, ar ôl yr heriau sy'n parhau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21, yn dymuno gofyn am gyllid gwaelodol o 4 y cant yn y setliad cyllid llywodraeth leol i'w dalu o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru. Oherwydd, meddai nhw, ar gyfer setliad dros dro 2020-21—mae pedwar o'r pum cyngor isaf yn y gogledd—heb gyllid gwaelodol, bydd y rhan fwyaf o gynghorau'r gogledd yn wynebu'r her fwyaf o ran ceisio cwtogi gwasanaethau. Bydd terfyn isaf yn helpu i ddiogelu gwasanaethau a gweithio yn erbyn codiadau sy'n uwch na chwyddiant yn y dreth gyngor yn y chwe chyngor isaf.
Mae angen i ni hefyd weld diwedd ar economïau ffug, sy'n golygu bod gwasanaethau ymyrraeth ac atal cynnar allweddol sy'n cael eu darparu gan y trydydd sector yn cael eu hamddifadu o gyllid, gan ychwanegu miliynau at y pwysau cost ar wasanaethau statudol. Fel y clywsom yn ddiweddar mewn dadl yn y fan yma, nid oes arian statudol ar gael ar gyfer yr asiantaethau a'r elusennau sy'n helpu pobl sydd wedi cael profedigaeth. Mae elusennau yng Nghymru sy'n darparu cymorth hanfodol i bobl awtistig a'u teuluoedd hefyd yn adrodd nad oes unrhyw gyllid statudol. Mae Cyngor Cymru i'r Deillion wedi rhybuddio bod symudiad Llywodraeth Cymru oddi wrth y model cyllid craidd i ariannu prosiectau yn golygu bod cynaliadwyedd y sefydliadau ymbarél penodol yng Nghymru o dan fygythiad yn fuan iawn. Wrth ymateb i'r setliad arian sefydlog ar gyfer y grant cymorth tai yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru—toriad mewn termau real—mae Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymorth i Ferched Cymru yn rhybuddio bod gwasanaethau atal digartrefedd a chefnogi byw wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol erbyn hyn. Fel y dywedodd darparwr gwasanaeth byw â chymorth yn y gogledd wrthyf yn ystod ymweliad ddydd Gwener diwethaf, bydd hyn yn arwain at bwysau cynyddol ar y GIG, adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau golau glas, gan ychwanegu bod hyn, ynghyd ag ailddosbarthu grant cynnal tai arfaethedig Llywodraeth Cymru, yn ddinistriol i'r gogledd, lle bydd pum awdurdod lleol yn colli rhwng 25 y cant a 40 y cant o'u cyllid i'r de. Mae'r canlyniadau o ran llochesi, hosteli a chymorth sy'n gysylltiedig â thai sy'n galluogi pobl i fynd i'r afael â'r problemau cymhleth sydd wedi eu hatal rhag byw'r bywydau y gallen nhw eu byw, fel y clywsom, yn ddinistriol iawn. Rwy'n gobeithio na chaniateir i hyn ddigwydd.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, hoffwn gyfeirio at ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft a basiwyd yr wythnos diwethaf. Yn hwnnw, Llywydd, fe wnaethom ailadrodd ein barn y byddai Llywodraeth Cymru ar ei hennill, y byddai Cymru ar ei hennill o gael strategaeth trechu tlodi a fyddai'n rhoi gwell pwyslais ar y materion pwysig iawn hynny. Rydym yn croesawu'r £18 miliwn ychwanegol ar draws portffolios ar gyfer trechu tlodi yn y gyllideb ddrafft, gan fynd i'r afael, er enghraifft, â thlodi mislif, y grant amddifadedd disgyblion, llwgu yn ystod y gwyliau, prydau ysgol ac yn wir tlodi tanwydd. Ond rydym yn credu y byddai strategaeth fwy cydlynol, sy'n tynnu holl waith Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thlodi at ei gilydd, yn fwy effeithiol ac rydym yn credu y dylid rhoi mwy o bwyslais ar fynd i'r afael â'r hyn sy'n achosi tlodi yn hytrach na'r symptomau.
Roedd ein prif argymhelliad yn yr adroddiad, Llywydd, yn ymwneud â'r dyraniadau yn y gyllideb i'r grant cymorth tai a llinell y gyllideb ar gyfer atal digartrefedd. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gwneud llawer o waith fel pwyllgor yn edrych ar gysgu ar y stryd yng Nghymru. Rydym wedi croesawu'r cynnydd yn y gweithgarwch a'r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar y mater hwn yn ystod y misoedd diwethaf, ac yn arbennig, sefydlu'r grŵp gweithredu digartrefedd a'r ffaith fod y Llywodraeth wedi derbyn y gyfres gyntaf o argymhellion gan y grŵp.
Ym mhob rhan o'n gwaith, mae wedi bod yn glir bod her arbennig yn y maes hwn i newid o ddarparu cymorth adweithiol brys wrth, ac ar yr un pryd, ail-lunio gwasanaethau i ddarparu mwy o gymorth ataliol. Mae cost amlwg i ddarparu'r ddau fath o wasanaeth ar yr un pryd. Fel y dywedwn yn ein hadroddiad, mae unrhyw gynnydd mewn cyllid yn debygol o fod dros dro tan fydd y gwaith ataliol yn dechrau dwyn ffrwyth a'n bod yn symud tuag at gyflawni'r nod o wneud digartrefedd yn brin, yn fyrhoedlog ac na fydd yn digwydd yr eildro.
Felly, nid ydym yn credu bod cynnal yr arian ar gyfer y grant cynnal tai a'r llinell gyllideb atal digartrefedd ar yr un lefelau â 2019-20 yn ddigonol—mae hynny, i bob pwrpas, yn doriad mewn termau real. Er i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym fod y cynnydd mewn cyllid yn y blynyddoedd blaenorol wedi ei gynnal i gefnogi ei huchelgeisiau, awgrymodd eraill yn y sector nad oedd y cynnydd yn y gyllideb yn ddigonol. Er gwaethaf arian ychwanegol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dywedodd y sector wrthym fod y nifer gynyddol o achosion y maen nhw yn ymdrin â hwy a'u cymhlethdod yn golygu eu bod yn dal i'w chael yn anodd darparu'r holl gymorth angenrheidiol yn y lle cywir ar yr adeg gywir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod lleihau digartrefedd yn flaenoriaeth. Gallwn weld y blaenoriaethu hwn yn y dewisiadau polisi sy'n cael eu gwneud, ond nid ydym yn credu ein bod yn ei weld yn ddigonol o fewn dyraniadau cyllideb 2020-21. Mae rhyddhau'r ffigurau o'r cyfrif cysgu ar y stryd blynyddol heddiw yn dangos cynnydd yn y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd, a chredwn fod hyn yn dangos yr angen i fynd i'r afael â'r mater hwn nawr. Rydym yn cydnabod bod cyfyngiadau i'r cyfrif ei hun, ond rydym yn dal i gredu ei fod yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau bod digon o arian ar gael i fynd i'r afael â'r broblem hon. Nid yw gwarchod y gyllideb yn ddigon; mae angen ei chynyddu.
Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r dyraniad cyllid yng nghyllideb 2020-21 ar gyfer cymorth tai ac atal digartrefedd. Mae'r gost ddynol yn ogystal â chost ariannol digartrefedd i wasanaethau cyhoeddus yn rhy uchel i beidio â gwneud hyn. Diolch yn fawr.
Rwy'n siarad fel Cadeirydd y pwyllgor iechyd. Fel rhan o ystyriaeth y pwyllgor o'r gyllideb ddrafft, clywsom dystiolaeth gan y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chyllid iechyd a gofal cymdeithasol, a'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth mewn perthynas â chyllid ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
Yn ogystal, rydym wedi cymryd rhan mewn rhaglen graffu ar yr holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau dros dymor yr haf, sydd wedi cynnwys craffu ar eu perfformiad ariannol. A'r ddau brif beth sy'n dod allan ydy atal a thrawsnewid.
Trawsnewid ac atal. Yn dilyn y broses o graffu ar gyllideb y llynedd, fe wnaethom godi pryderon ynghylch gallu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i brif ffrydio gweithgareddau trawsnewid gwasanaethau, o gofio'r pwysau o ran galw a chost sydd arnyn nhw a methiant parhaus mwyafrif y byrddau iechyd i beidio â cholli arian.
Nid yw'r sefyllfa eleni yn fawr gwell ac, felly, rydym yn parhau i bryderu am gapasiti ym mhob rhan o'r system i ysgogi trawsnewid ar y raddfa a'r cyflymder sydd ei hangen.
Ynglŷn ag atal, ac o ystyried y pwyslais cynyddol yn y maes hwn, mae'n siomedig bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn disgrifio ei bod wedi gweld:
tystiolaeth brin bod y Llywodraeth wedi ceisio cymhwyso'r diffiniad o atal ar draws gwariant mewn modd systematig a chadarn.
Nodwn fod gwaith yn cael ei wneud gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i wella'r broses o fesur gwariant ar atal. Serch hynny, rydym yn pryderu nad yw'r gyllideb hon yn dangos bod symudiad amlwg tuag at brif-ffrydio ataliad a thrawsnewid gwasanaethau. Felly, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru, yng nghylchoedd y gyllideb yn y dyfodol, yn dangos sut y bydd ei dyraniadau cyllid yn cefnogi newid hirdymor, cynaliadwy wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Ac yn rhan o hyn, rydym yn disgwyl gweld mwy o bwyslais strategol ar drawsnewid ac atal yn y gyllideb, a chyflwyniad cliriach o'r arian a ddyrennir ar gyfer dibenion atal a thrawsnewid.
Mae anallu parhaus nifer o fyrddau iechyd i reoli eu cyllid yn parhau i beri pryder. Dim ond tri bwrdd iechyd sy'n cyflawni eu dyletswyddau ariannol statudol o gyflawni cydbwysedd ariannol a chael cynllun tymor canolig integredig cymeradwy dros dair blynedd. Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol ynghylch sut y bydd pob bwrdd iechyd yn gallu buddsoddi mewn trawsnewid gwasanaethau a'u sicrhau, o gofio y bydd cyllid trawsnewid penodol yn dod i ben yn 2021.
Gwyddom fod £83 miliwn wedi ei ddarparu i Betsi Cadwaladr dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer cymorth ymyrraeth a gwella. Fodd bynnag, nid yw'n glir faint o arian sy'n cael ei ddarparu i gefnogi'r tri bwrdd iechyd arall mewn ymyraethau wedi eu targedu, na'r hyn y defnyddir yr arian hwn ar ei gyfer. Felly, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y manylion hyn ar gael, ynghyd â manylion am sut y caiff yr arian hwn ei wario, sut y caiff y gwariant hwnnw ei fonitro, a sut y mae'n sicrhau gwerth am arian.
Wrth graffu ar gyllideb drafft y llynedd, un pryder sylweddol i ni oedd bod cyfran gwariant y byrddau iechyd sy'n mynd ar ofal sylfaenol wedi aros yn weddol gyson dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd hyn yn awgrymu nad oedd y newid mewn adnoddau tuag at ofal sylfaenol yn cael ei wireddu. Rydym felly yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu eglurder mewn cylchoedd cyllideb yn y dyfodol, er mwyn ein galluogi i weld yn gliriach sut y mae'r cyllid yn cefnogi'r newid mewn adnoddau i'r gymuned.
O ran iechyd meddwl, rydym yn dal yn bryderus bod diffyg cydraddoldeb o hyd rhwng iechyd meddwl a chorfforol, a'r ffordd y cânt eu cefnogi. Yn ein hadroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru, 'Busnes Pawb', nodwyd gennym ei bod yn annerbyniol nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu blaenoriaethu yn yr un modd ag iechyd corfforol. Er ein bod yn croesawu'r ymrwymiad i fuddsoddi £13 miliwn ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl—gan ddod â'r dyraniad sydd wedi ei neilltuo i fwy na £700 miliwn—rydym yn bryderus ynghylch ein gallu i graffu'n effeithiol ar wariant ar iechyd meddwl, o ystyried y diffyg dadansoddiad manwl o'r dyraniad sydd wedi ei neilltuo a'r anghysondeb yn y ffordd y mae byrddau iechyd yn casglu ac yn darparu gwybodaeth. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi dadansoddiad i ni o'r £700 miliwn hwn.
Gan droi at ofal cymdeithasol, rydym yn dal i bryderu am y gweithlu gofal cymdeithasol a breuder gwasanaethau. Roedd yr anghysondeb rhwng y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol o ran telerau ac amodau cyflogaeth, yn ogystal â pharch yn bryder allweddol. Ac, yn amlwg, aethom i'r afael â nifer o'r materion hyn yn y datganiad cynharach. Byddem yn dweud, y dylai cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol gael ei gyfeirio at wasanaethau i atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf a bod angen gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol—cronfa wirioneddol drawsnewidiol,
I gloi, sy'n dod â mi at gyllid y trydydd sector. Un thema a gododd dro ar ôl tro yn ystod ein hymchwiliadau yn y Cynulliad hwn oedd yr angen am drefniant ariannu cynaliadwy, syml a hirdymor ar gyfer cyrff y trydydd sector er mwyn gallu cynllunio'n fwy effeithiol, gan arwain at gyflawni gwasanaethau mewn modd cyson a chynaliadwy. Rydym wedi argymell y dylid darparu cyllid ar sail bob tair blynedd o leiaf, ac rydym wedi annog Llywodraeth Cymru i symud tuag at hyn fel mater o flaenoriaeth. Felly, mae'n siomedig iawn clywed gan nifer o sefydliadau, sy'n darparu gwasanaethau hanfodol i rai o'n grwpiau mwyaf agored i niwed, na fydd eu cyllid yn cael ei adnewyddu o fis Ebrill 2020 ymlaen. Diolch yn fawr.
A gaf i groesawu'r ffaith fod gennym y cyfle i ddatblygu cyllideb Cymru ar gyfer 2020-21 er gwaethaf yr anawsterau a'r amgylchiadau yn ymwneud â'r broses hon eleni? Mae'r anawsterau hynny wedi cynnwys, fel y clywsom eisoes, yr amserlen ar gyfer pennu cyllideb eleni, gan ei gwneud yn llawer mwy heriol nag arfer i ACau y meinciau cefn yn enwedig i ddarparu craffu effeithiol. Rwy'n gwybod nad bai'r Llywodraeth hon yw hynny, ond mae'n werth ei nodi serch hynny. Yr hyn y byddwn i yn ei ddweud yw bod llawer i'w groesawu yng nghyllideb eleni, yn enwedig y buddsoddiad parhaus yn y GIG yng Nghymru, a chynnydd sylweddol mewn cyllid i lywodraeth leol eleni, ac mae llawer o bethau y gallwn i roi sylwadau arnynt.
Fodd bynnag, hoffwn innau ychwanegu fy llais at yr un mater sy'n codi o'r gwaith craffu a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a nodwyd gan y Cadeirydd, John Griffiths, ac a godwyd hefyd gan Jenny Rathbone a Mark Isherwood, ond sydd angen ei atgyfnerthu, sef y dyraniad yn y gyllideb ar gyfer y grant cymorth tai a'r llinell atal digartrefedd, ac mae'r ddau ohonyn nhw yn statig eleni.
O ystyried y pwysigrwydd yr ydym yn ei roi ar fynd i'r afael â materion tai, mae'r agwedd hon ar y gyllideb sydd ger ein bron heddiw yn anffodus, a dweud y lleiaf. Fel eraill, rwy'n siŵr, rwyf wedi gweld yn fy etholaeth fy hun buddion y grant hwn a'r cyfeiriad polisi cyffredinol o ymdrin â digartrefedd a chefnogaeth mewn achosion o gam-drin domestig, er enghraifft. Ond rwyf hefyd yn gweld, o'r gwaith achos sy'n dod drwy fy swyddfa, mai dim ond crafu'r wyneb yr ydym ac, i asiantaethau sy'n ceisio darparu cymorth tai i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, mae'n mynd yn fwy o her flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ac fel y cyfeiriwyd ato eisoes, mae'n ymddangos bod hyn wedi ei gadarnhau gan ddatganiad y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol heddiw ar y nifer sy'n cysgu ar y stryd, sy'n dangos cynnydd o ryw 17 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yr wythnos diwethaf, gofynnwyd i mi siarad mewn digwyddiad a oedd yn dathlu gwaith y prosiect Tai yn Gyntaf ym Merthyr Tudful, cynllun arloesol sy'n cael ei ddarparu gan Fyddin yr Iachawdwriaeth ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae'r math o gymorth sydd ei angen mewn prosiectau Tai yn Gyntaf yn ddwys ac mae'n ddrud. Dim ond pedwar neu bump o bobl y mae'r prosiect ym Merthyr yn gallu eu cefnogi, er ein bod yn gwybod bod yr angen yn fwy o lawer. Mae'r prosiect, fel pob prosiect o'r fath, yn gyfyngedig o ran amser ac yn dibynnu ar gyllid grant. Yn fy marn i, mae angen sicrwydd cyllid a'r sicrwydd o fwy o arian yn flynyddol ar wasanaethau tai hanfodol, boed hynny'n brosiectau Tai yn Gyntaf, llochesi i fenywod neu gymorth ar gyfer ymyrraeth gynnar i atal digartrefedd, fel bod y prosiectau hyn yn gallu parhau i ymdopi â chostau darparu'r gwasanaethau.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn manylu ar y pryderon hynny a sut y gallai'r llinell gyllideb statig effeithio ar amcanion a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun. Felly, i ddyfynnu o adroddiad y pwyllgor,
'dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynyddu'r arian sydd ar gael i ariannu cymorth tai a digartrefedd.'
Rwy'n gwybod bod y mater o dai ag atal digartrefedd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae ein polisïau bob amser wedi bod yn arloesol mewn cymaint o ffyrdd, ond rwy'n disgwyl i'r Gweinidog fy sicrhau am ddau beth: yn gyntaf, bod y gwaith amhrisiadwy a wneir drwy'r llinell gyllideb hon, yr wyf wedi ei amlinellu'n fyr yn fy nghyfraniad, yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru; ac yn ail, pe byddai'r cyfle'n codi, yna bydd arian ychwanegol yn cael ei ddargyfeirio i ddiwallu anghenion sefydliadau yn y sector hwn, oherwydd yn erbyn cefndir o lai o gyllid, i lawr o £139 miliwn yn 2011-12 i £124 miliwn eleni, 2019-20, mae'n anodd gweld sut y gallwn ni adeiladu a datblygu'r gwasanaethau hyn y mae llawer o sefydliadau'n gweithio mor galed i'w darparu mewn amgylchiadau mor anodd, ac nid oes gennyf amheuaeth na fydd hyn yn cael ei gadarnhau pan fydd y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn adrodd yn ystod yr wythnosau nesaf.
Siaradaf heddiw fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad. Bob blwyddyn, rydym yn ystyried sut mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Caiff y gwaith hwn ei lywio gan y craffu ariannol y byddwn yn ei brif ffrydio i'n holl waith a bydd yn cael ei wneud gyda dull gweithredu hawliau plant yn ganolog iddo. Drwy gydol y Cynulliad hwn, rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth glir am sut mae hi wedi asesu effaith ei phenderfyniadau ariannol ar blant a phobl ifanc. Nid yw hyn yn unig oherwydd ein bod ni'n credu y dylai Gweinidogion wneud hyn, mae oherwydd bod y ddyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw asesu effaith eu penderfyniadau ar hawliau plant.
Y llynedd, buom yn gweithio'n agos gyda'r pwyllgorau cyllid a chydraddoldeb i alw am welliannau i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn asesu effaith penderfyniadau cyllidebol ar wahanol grwpiau o'r boblogaeth. Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn dal i weithio ar roi ein hargymhellion ar waith, nid yw'r wybodaeth a ddaeth gyda'r gyllideb ddrafft eleni wedi gwneud unrhyw beth i dawelu ein pryderon hirsefydlog ynghylch sut y mae hawliau'r plentyn yn llywio penderfyniadau ariannol mor bwysig. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddychwelyd at gyhoeddi asesiad o'r effaith ar hawliau plant unigol ar ei chyllideb ddrafft. Rydym yn credu bod hyn yn angenrheidiol tan y gallwn fod yn sicr bod yr asesiad integredig strategol o effaith yn dangos bod y ddyletswydd i roi sylw dyledus i CCUHP wedi ei hystyried.
Gan droi yn awr at faterion penodol yn ein hadroddiad, nid oes gennyf amser i drafod popeth, felly canolbwyntiaf ar y meysydd sydd wedi eu hategu gan yr ymchwiliadau polisi manwl a gynhaliwyd gennym yn y Cynulliad hwn. Hoffwn ddechrau gyda chyllid ysgolion. Rydym wedi edrych ar hyn yn fanwl eto eleni. Rydym yn croesawu'r cynnydd yng nghyllid awdurdodau lleol yn setliad 2020-21, a'r ymrwymiad a roddwyd gan lywodraeth leol i'w ddefnyddio i flaenoriaethu cyllid ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol. Er hynny, gwyddom o'n gwaith penodol yn y maes hwn fod pryderon difrifol, o fewn y sector ac ymhlith y cyhoedd, ynglŷn â chyllido ysgolion. O ganlyniad, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro'r cyllid hwn yn gadarn ac i ddangos i'r Cynulliad bod yr arian hwn, mewn gwirionedd, yn cyrraedd ein hysgolion.
Gan droi yn awr at y cwricwlwm newydd, o ystyried cynlluniau diwygio uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, rydym yn croesawu'r dyraniadau a wnaed i ddarparu'r dysgu proffesiynol angenrheidiol i athrawon allu paratoi'n ddigonol. Rydym wedi dweud yn gyson bod yn rhaid mai'r gweithlu yw ein hased cryfaf os ydym am wneud y gorau o'r cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r holl arian i gefnogi'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm yn ofalus. Credwn fod hyn yn hanfodol i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei roi ar waith mewn modd effeithiol.
Ni fydd yn peri syndod i'r Siambr hon glywed bod dyraniadau sy'n ymwneud â gweithredu ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' yn ganolbwynt allweddol i ni eleni. Mae dilyn yr arian sy'n berthnasol i iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn her sylweddol i Aelodau a rhanddeiliaid fel ei gilydd, felly buom yn edrych arno mewn modd mor fanwl ag y gallem. Rydym yn croesawu'r cyllid sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i gefnogi gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, o ystyried y symiau a fuddsoddwyd, gwelsom fod yr wybodaeth a oedd ar gael am sut y dylid mesur canlyniadau hyn yn ddiffygiol iawn. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried sut y mae'n monitro cyllid yn y maes hwn.
Ym maes iechyd meddwl amenedigol, mae bron i dair blynedd wedi mynd heibio ers i ni alw am weithredu ar frys i gynnig darpariaeth arbenigol ar gyfer mamau a babanod yng Nghymru. Rydym yn pryderu'n fawr nad oes unrhyw ffigur wedi ei nodi yn y gyllideb ddrafft o hyd ar gyfer y ddarpariaeth barhaol o unedau mamau a babanod yng Nghymru, heb sôn am uned wedi ei sefydlu. Rydym yn cydnabod bod gwasanaeth dros dro yn cael ei ddatblygu, ond nid yw hyn hyd yn oed yn gweithredu eto. Mae'n rhaid i hyn newid, a byddwn yn mynd ar drywydd hyn yn drylwyr yn ystod y mis nesaf.
Yn olaf, ac yn bwysig iawn, trof at gefnogaeth i blant sy'n derbyn gofal. Fe'i dywedais yn y ddadl hon y llynedd ac fe'i dywedaf eto: plant sy'n derbyn gofal yw rhai o'n pobl ifanc fwyaf agored i niwed. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar gynlluniau i leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal. Wrth i ni graffu ar y gyllideb, clywsom na ofynnwyd i awdurdodau lleol gostio'r cynlluniau hyn. O ystyried y pwysau ar y gwasanaethau i blant, rydym o'r farn ei bod yn hanfodol cael syniad o'r costau cysylltiedig. Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir eu cyflawni'n ddiogel ac yn fforddiadwy. Rydym yn unfryd yn ein barn bod yn rhaid i ddiogelwch plant a phobl ifanc fod yn hollbwysig mewn unrhyw gynlluniau i leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal.
Mae ein hadroddiad yn crybwyll nifer o feysydd pwysig iawn eraill, ac edrychaf ymlaen at gael ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i'n holl argymhellion cyn ein dadl ar y gyllideb ddrafft derfynol yn ddiweddarach y tymor hwn. Diolch.
Roeddwn i'n gwenu wrth wrando ar gyfraniad Mike Hedges yn gynharach yn y ddadl hon, wrth iddo drafod adegau pryd y cymerodd ran mewn dadleuon pan nad oedd ond ychydig iawn o Aelodau yn bresennol ac ychydig iawn o Aelodau a gyfrannodd mewn gwirionedd. Mae fy nodiadau yn dweud 'ychydig iawn oedd yn bresennol'. Rwy'n credu bod angen i ni feddwl yn galed am sut yr ydym ni'n rheoli proses y gyllideb yn y lle hwn. Mae'r Pwyllgor Cyllid, rwyf yn credu, wedi gwneud gwaith da iawn ar sut y byddem ni'n symud at broses ddeddfwriaethol, ac rwy'n sicr yn credu bod angen llawer mwy o ymgysylltu o bob ochr i'r Siambr yn y broses o wneud y penderfyniadau hollol allweddol hyn.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
A gaf i ofyn iddo, gyda'i brofiad hir, pam mae ef yn credu bod pethau wedi newid cymaint fel bod gennym erbyn hyn bresenoldeb a chyfranogiad da mewn dadleuon fel hon, ond nad oedd llawer yn mynychu yn y gorffennol?
Nid wyf yn credu bod gennym—dyna'n union yw fy mhwynt. Credaf fod angen i ni sicrhau bod gennym ni fwy o gyfranogiad o bob ochr i'r Siambr yn y materion hyn, a chredaf fod angen i ni sicrhau ein bod yn gallu craffu ar waith y Llywodraeth mewn modd mwy dwys, gan edrych ar y blaenoriaethau cyffredinol yn hytrach na dim ond dadansoddi'r gyllideb linell wrth linell.
Yn fy nghyfraniad y prynhawn yma, nid wyf i eisiau canolbwyntio ar benderfyniadau gwario unigol ond hoffwn edrych ar rai o'r themâu ehangach hynny, oherwydd dechreuwyd y broses hon gennym ni eleni gyda dadl a gynhaliwyd fis Medi diwethaf lle ceisiodd aelodau'r Pwyllgor Cyllid ddarganfod beth oedd blaenoriaethau'r lle hwn, y Senedd, cyn i ni glywed gan y Llywodraeth. Oherwydd yn y gorffennol, wrth gwrs, rydym ni bob amser wedi ymateb i benderfyniadau'r Llywodraeth yn hytrach na'i gwneud yn eglur ar ddechrau'r broses beth rydym ni'n credu ddylai blaenoriaethau'r Llywodraeth fod. Rwy'n gobeithio y gallwn ni fwrw ymlaen â hynny: sefydlu proses ddeddfwriaethol i wneud hyn yn rhan ddyfnach o'n trafodion yma.
Ond o ran lle'r ydym ni yma, y themâu y byddwn i eisiau rhoi sylw iddyn nhw yw'r hinsawdd, y cydbwysedd rhwng refeniw a gwariant, ac yna lle'r ydym ni arni o ran y dyfodol. Y dystiolaeth a gawsom ni fel Pwyllgor Cyllid oedd: a yw hon yn gyllideb sy'n adlewyrchu'r pwysigrwydd y mae'r Llywodraeth yn ei neilltuo i argyfwng hinsawdd? Mae'n amlwg mai'r ateb i hynny yw 'nac ydy', ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael ymatebion tebyg gan bwyllgorau eraill ac ar wahanol ochrau i'r Siambr. Mae'n amlwg nad yw'n gyllideb a fydd yn gweddnewid yn sylfaenol y ffordd y mae'r Llywodraeth yn cyflawni ei busnes. Rwy'n credu bod honno'n feirniadaeth deg i'w gwneud.
Ond gwahanol ffordd o edrych ar hyn fyddai: sut fyddai'r gyllideb honno'n edrych mewn gwirionedd? Os byddaf yn meddwl yn ofalus am hyn, nid wyf i wedi fy argyhoeddi bod gan y Llywodraeth o fewn ei phwerau heddiw yr adnoddau ar gael i ddarparu'r math hwnnw o gyllideb hinsawdd. Yr hyn yr wyf i'n credu y mae angen i ni ei wneud yw edrych yn fwy sylfaenol ar y defnydd o'r pwerau sydd ar gael i'r lle hwn. Bu llawer o sgwrsio yma'r prynhawn yma ac ar achlysuron eraill am ymosodiadau'r Llywodraeth ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a'u proses o gyni cyllidol. Wel, yn sicr, nid wyf i'n mynd i amddiffyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig am eiliad, ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth Lywodraeth Cymru yw y byddai'r ymosodiadau hynny'n llawer mwy cryf pe bai'r Llywodraeth hon wedi defnyddio ei holl bwerau mewn ffordd fwy dwys i leddfu effaith cyni cyllidol na'r hyn a wnaed. Rwy'n credu bod hynny'n siom sy'n parhau i lawer ohonom ni.
Clywsom mewn dadl gynharach y prynhawn yma bod y Gweinidog iechyd yn ystyried edrych ar bwerau i godi trethi er mwyn ymdrin â gofal cymdeithasol. Mae'n ddadl yr wyf i wedi bod yn ei gwneud ers blynyddoedd lawer. Ni allwn ariannu ein huchelgeisiau ar draws holl feysydd y Llywodraeth gyda'r adnoddau sydd ar gael i ni, ac mae'n rhaid i ni edrych yn fwy gofalus ar y sylfaen drethi. Mae'n rhaid i ni gael sgyrsiau llawer mwy dwys am drethiant nag esgus bod sgwrs am y gyllideb yn ddadl ar wariant cyhoeddus yn unig, sef yr hyn y bu ein dadleuon yn bennaf.
Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych yn llawer mwy gofalus ar sut rydym ni'n defnyddio'r pwerau sydd ar gael i ni. Rwyf i eisiau gweld mwy o radicaliaeth gan y Llywodraeth, rwyf i eisiau gweld y Llywodraeth yn meddwl yn fwy radical, rwyf i eisiau gweld y Llywodraeth yn defnyddio'r cyfle i symud yn gyflymach o ran y math o drethiant yr ydym ni'n ei ddefnyddio. Mae'r pwerau dros dreth incwm gennym ni; gwn fod y Llywodraeth yn edrych tuag at fathau eraill o drethiant ar hyn o bryd, ond rwyf i eisiau i hynny ddigwydd gyda mwy o hwb ymlaen.
Ond gadewch i mi orffen gyda hyn. A yw hon yn gyllideb ar gyfer y dyfodol? Rydym ni'n gwybod, dros y tymor canolig, er gwaethaf brwdfrydedd ac optimistiaeth gynharach Mark Reckless ynghylch effaith Brexit ar y diwydiant ceir—sydd er clod iddo, a bod yn deg—rydym ni'n gwybod o ddarllen y gwaith papur sy'n sail i'r gyllideb hon bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a phrif economegydd y Llywodraeth ei hun yn gweld ansicrwydd yn y tymor canolig. Rydym ni hefyd yn gwybod, a chyfeiriwyd ato'n gynharach yn y ddadl hon, bod Cymru'n wlad sy'n cael ei gorlywodraethu'n ddifrifol, bod yn well gennym ni yn rhy aml neilltuo adnoddau prin i sefydlu pwyllgor ar ôl pwyllgor ar ôl pwyllgor, yn hytrach na neilltuo'r arian hwnnw i'r rheng flaen. Rydym ni i gyd yn gwybod bod hyn yn wir ac yn sicr fel Gweinidog llywodraeth leol, cefais sgyrsiau ar bob ochr i'r Siambr ac yn anaml y cafwyd llawer o anghytuno yn breifat—llawer yn gyhoeddus, ond nid yn breifat—ac rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni edrych yn ofalus iawn ar sut rydym ni'n llywodraethu'r wlad hon. Yr hyn sy'n fy siomi'n ddirfawr o ran y gyllideb hon yw ei bod hi'n gyllideb ar gyfer y byrdymor ac nid y tymor canolig na'r hirdymor. Yr hyn nad ydym yn ei wneud yw edrych ar sut y gallwn ni gael yr effaith fwyaf posibl ar reng flaen gwasanaethau cyhoeddus, diogelu gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus, diogelu ansawdd gwasanaethau cyhoeddus ac i ba raddau y maen nhw ar gael—yn hytrach, 'Fe wnawn ni sefydlu pwyllgor' oherwydd dyna'r ateb hawsaf, mewnol i'n problemau.
Rwy'n credu bod angen llawer iawn mwy o radicaliaeth arnom ni, a'r gyllideb yw lle'r ydym ni'n datgan ein gwerthoedd fel Llywodraeth ac fel Senedd. Ac rwy'n credu bod ein cyllideb, yn aml iawn, er bod ganddi ymylon radicalaidd iddi, yn ei hanfod, yn rhy geidwadol i wynebu'r heriau sy'n wynebu'r wlad hon.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Pan gawsom gyfle i drafod y gyllideb ddrafft yn y ddadl ar y datganiad ar y gyllideb ddrafft dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, ymatebais yn eithaf manwl i'r materion a godwyd ynghylch tlodi, y GIG, y Gymraeg, a'r setliad llywodraeth leol, felly rwy'n bwriadu defnyddio fy amser yn ymateb i'r ddadl y prynhawn yma trwy edrych ar rai o'r meysydd eraill y mae cyd-Aelodau wedi sôn amdanyn nhw yn y ddadl heddiw ac yn y gorffennol, na chefais gyfle i edrych arnyn nhw y tro diwethaf.
Rwy'n credu bod thema datgarboneiddio wedi bod yn amlwg dros ben yn y cyfraniadau y prynhawn yma, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod bod y cyllid ychwanegol o £96 miliwn ar gyfer mesurau datgarboneiddio yn rhan o'r £140 miliwn ehangach hwnnw sy'n edrych ar ddatgarboneiddio a bioamrywiaeth yn un rhan yn unig o'r darlun. Gallwch edrych drwy'r holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a thrwy'r gyllideb gyfan i weld ble'r ydym ni'n gwneud cynnydd o ran mynd i'r afael â datgarboneiddio. Felly, un enghraifft fyddai'r £48 miliwn ychwanegol sy'n cael ei ddefnyddio i gynyddu lefel y grant tai cymdeithasol sydd ar gael. Felly, nawr, mae pob tŷ newydd yng Nghymru yn cael ei adeiladu yn unol â safon ansawdd tai Cymru, ac mae hynny, wrth gwrs, yn gwella effeithlonrwydd ynni ac yn lleihau'r allyriadau o wresogi domestig.
Rydym ni hefyd yn buddsoddi bron i £21 miliwn drwy ein cynllun gweithredu economaidd yn 2020-21, ac mae hynny'n ymwneud â sbarduno twf cynaliadwy a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn unig, drwy'r galwadau i fusnesau preifat weithredu, y mae angen iddyn nhw ei wneud os ydyn nhw eisiau cael mynediad at gronfa dyfodol yr economi. Ac, yn amlwg, mae hynny hefyd yn chwarae rhan flaenllaw iawn yn y contract economaidd hefyd. Felly, gallwch weld datgarboneiddio'n rhedeg drwy'r holl bethau hynny.
Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cyhoeddi ein cynllun cyflawni carbon isel, sy'n nodi amrywiaeth eang o gamau gweithredu a blaenoriaethau i'r Llywodraeth. Ers tair blynedd bellach, rydym ni wedi bod yn darparu cyllid ychwanegol i weithredu'r Ddeddf teithio llesol, sy'n rhoi'r ddyletswydd gyfreithiol honno ar awdurdodau lleol i wella eu llwybrau teithio llesol—sydd, unwaith eto, yn bwysig iawn ar gyfer datgarboneiddio. Ac mae ein gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru wedi bod yn buddsoddi mewn benthyciadau dim llog ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu prosiectau ynni ac effeithlonrwydd ynni. Ac, ar gyfer 2020-21, rydym ni'n cyfrannu £4 miliwn arall o gyfalaf tuag at hynny.
Wrth gwrs, pan edrychwn ni ar y diwydiant ffermio, rydym ni'n gwybod y rhan bwysig y gall hwnnw ei chwarae o ran ein helpu ni gyda'n dyheadau o ran datgarboneiddio. Felly, gwnaed £40 miliwn ar gael drwy'r grant busnes fferm tuag at fuddsoddiad cyfalaf mewn offer a pheiriannau y nodwyd ymlaen llaw eu bod yn cynnig manteision eglur a mesuradwy i fentrau fferm, a cheir £1.5 miliwn ychwanegol yn 2020-21 yn hynny o beth. Felly, nid yw'n ymwneud â'r £96 miliwn ychwanegol yn unig—mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â gwneud pethau trwy gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru.
Rydym ni'n cymryd ein cyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd o ran y meysydd lle gallwn ni gael yr effaith orau a mwyaf dwfn, ac maen nhw'n dweud wrthym ni bod datgarboneiddio'r sector trafnidiaeth ffyrdd yn hanfodol i gyflawni targed sero net. A dyna pam mae dros £60 miliwn o'r buddsoddiad ychwanegol a dargedir mewn datgarboneiddio ar gyfer y sector trafnidiaeth yn uniongyrchol. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ymlaen at weld Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn rhoi mwy o gyngor i Gymru yn ystod y flwyddyn hon ar y ffordd orau y gallwn ni gyflawni'r daith honno tuag at ddyfodol di-garbon. Wrth gwrs, rwy'n deall dymuniad fy nghyd-Aelodau i gael yr asesiadau effaith carbon hynny i ddeall effaith ein gwariant yn well. Mae'n aruthrol o anodd ei wneud; rydym ni'n edrych i weld a yw hyn yn cael ei wneud yn llwyddiannus yn rhyngwladol. Dydyn ni ddim wedi dod o hyd i enghraifft eto. Efallai yr edrychwn ni tuag at gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i ddangos, drwy'r gwaith y mae'n ei wneud yn ei chyllideb, rhyw fath o lwybr i'n tywys ni i ddatblygu asesiad effaith carbon, efallai. Ond rydym ni'n eglur iawn y dylem ni'n sicr, lle gellir ei wneud, wneud ymdrechion i wneud hynny.
Un enghraifft lle gallwn ddangos effaith ein gwariant ar garbon, er enghraifft, yw'r £7.9 miliwn ychwanegol i gefnogi amrywiaeth o fesurau ansawdd aer, gan gynnwys cymell cerbydau hacni a gyrwyr hurio preifat yng Nghaerdydd i uwchraddio i gerbydau sydd â lefel isel iawn o allyriadau. Nawr, yn seiliedig ar ein tybiaethau presennol, gellir sicrhau arbedion carbon deuocsid amcangyfrifedig o tua 3,300 tunnell y flwyddyn. Felly, dyna un maes lle gallwn ni ei ddangos, ac rwy'n awyddus iawn bod cydweithwyr ar draws y Llywodraeth yn archwilio ffyrdd y gallwn ni ddangos hyn ymhellach yn y dyfodol, oherwydd rwy'n cydnabod ac yn deall ac yn cytuno â'r dymuniad i wneud mwy yn y maes hwnnw.
Rhoddwyd enghraifft cyllideb llesiant Seland Newydd fel ffordd y gallwn ni edrych ymhellach ar wella'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac rydym ni'n ymgysylltu â Seland Newydd yn rhan o'r rhwydwaith hwnnw o wledydd sy'n cyllidebu ar gyfer llesiant—felly, rhannu gwybodaeth—oherwydd maen nhw'n awyddus iawn i wybod beth rydym ni'n ei wneud yma hefyd. Ond gallaf roi'r sicrwydd hwnnw bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi cymryd rhan gyda ni yn natblygiad y gyllideb drwyddi draw, ac rydych chi'n gweld hynny'n arbennig, rwy'n credu, yng nghynllun gwella'r gyllideb, a gyhoeddwyd gennym ni am y tro cyntaf erioed eleni. Mae hwnnw'n cymryd gorwel pum mlynedd, gan ystyried sut y gallwn ni geisio gwreiddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn well, ac yn arbennig, rwy'n meddwl, atal, yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar draws y Llywodraeth gyfan.
O ran atal, rwy'n credu bod yr enghraifft a roddodd Mike Hedges o ran y buddsoddiad y mae'n rhaid i ni ei wneud ym maes tai yn enghraifft dda iawn, oherwydd, fel y disgrifiodd, gall effaith tai gwael ar unigolyn fod yn niweidiol iawn mewn cymaint o ffyrdd.
Diolch am dderbyn ymyriad, Gweinidog. Ar y mater hwnnw o gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, rwy'n falch o glywed eich bod chi wedi dweud ei bod hi wedi cymryd rhan drwy gydol y broses, ond roedd pwynt ychydig yn ehangach na hynny, sef, wrth gwrs, cyllideb â strategaeth a luniwyd gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol sy'n sail iddi ac yn edrych dwy, dair, pedair, pum mlynedd i'r dyfodol. Gwn eich bod chi wedi crybwyll hyn i ni fel pwyllgor o'r blaen, ond efallai y gallwch chi roi sicrwydd i ni hefyd bod y math hwnnw o strategaeth gynaliadwy, tymor hwy yn sail i'r gyllideb hon a chyllidebau'r dyfodol.
Os edrychwch chi'n benodol ar gynllun gwella'r gyllideb, byddwch yn gweld golwg yn ôl ar yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf i geisio sicrhau bod y Ddeddf yn hysbysu'r gwaith o baratoi'r gyllideb, ond, unwaith eto, mae'n edrych ymlaen hyd at bum mlynedd arall o ran sut y gallwn ni geisio gwreiddio'r Ddeddf yn well yn ein ffyrdd o weithio ar draws y Llywodraeth gyfan. Cymeradwyaf y ddogfen honno i'm cyd-Aelodau.
Mae atal, wrth gwrs, yn ymwneud â chymaint o bethau, ond, fel roeddwn i'n dweud, mae tai yn elfen arbennig o bwysig. Felly, yn y gyllideb, byddwch yn gweld £108 miliwn o fuddsoddiad parhaus i gynorthwyo landlordiaid cymdeithasol i sicrhau bod y safon ansawdd tai yn cael ei bodloni yn ein 225,000 o gartrefi cymdeithasol. Mae hynny'n dipyn o gamp. Byddwch yn gweld £50 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol yn ein rhaglen benthyciadau tai, a diben hwnnw yw cynorthwyo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ariannu cynlluniau datblygu ar gyfer tai cymdeithasol newydd a helpu, yn hollbwysig, i ddechrau datgarboneiddio'r cartrefi presennol hynny, a £400,000 i roi cyngor ar ynni yn y cartref ac ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd ymhlith cartrefi incwm isel.
Maes arall na chawsom gyfle i siarad llawer amdano yn y ddadl flaenorol oedd pwysigrwydd addysg a'r blynyddoedd cynnar yn yr agenda ataliol, oherwydd mae addysg yn amlwg yn un o'r buddsoddiadau pwysicaf y gallwn ni eu gwneud i wella cyfleoedd bywyd plant, yn enwedig y rhai o gymunedau difreintiedig a'r rhai â nodweddion gwarchodedig. Felly, rhai enghreifftiau penodol fyddai'r £10 miliwn i gynorthwyo darpariaeth y cwricwlwm newydd i Gymru, sydd wrth wraidd ein cynllun gweithredu i godi safonau ysgolion. Ategir hynny gan £3 miliwn ychwanegol ar gyfer datblygu rhwydweithiau cenedlaethol, a £15 miliwn arall ar gyfer y dysgu proffesiynol i sicrhau bod ein proffesiwn addysgu yn cael y cymorth sydd ei angen arno. Rwy'n arbennig o falch gyda'r buddsoddiad ychwanegol o £8 miliwn i gynorthwyo plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i gael addysg o ansawdd uchel a gwireddu eu potensial.
Soniwyd am faes awyr Caerdydd ychydig o weithiau, ac, ar 21 Hydref, cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gyfleuster benthyciad masnachol estynedig i'r maes awyr. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod, o'r £21.2 miliwn, bod £4.8 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer 2020-21 ac wedi ei adlewyrchu yn y gyllideb hon. Felly, nid yw hwnnw'n arian newydd mewn unrhyw ffordd—fe'i cyhoeddwyd eisoes—ac mae ail-gyllido'n weithgaredd normal a phriodol.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod hefyd bod meysydd awyr yn cael eu prisio ar sail yr enillion cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddio, ac mae hwnnw'n fesur sylfaenol o'r ffordd y caiff meysydd awyr eu prisio'n fyd-eang. Mae prisiad Maes Awyr Caerdydd yn hynny o beth wedi cynyddu o £7,000 i £77,000, felly mae hwnnw'n amlwg yn gynnydd mawr, ac mae'n adlewyrchu'r twf cryf yn refeniw'r maes awyr, a oedd 34% yn uwch o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol. Felly, mae hynny dim ond mewn ymateb i rai o'r materion a godwyd ynglŷn â Maes Awyr Caerdydd ar ddechrau'r ddadl. Ond, i atgoffa cyd-Aelodau hefyd, o'r meysydd awyr byd-eang sy'n gwasanaethu teithiau awyr a drefnwyd, dim ond 14 y cant ohonyn nhw sydd ddim mewn perchenogaeth gyhoeddus, felly mae meysydd awyr fel Charles de Gaulle ym Mharis, Schiphol yn Amsterdam, a JFK yn Efrog Newydd i gyd yn eiddo cyhoeddus, ac mewn gwirionedd dylai ein pryder fod ynghylch y wasgfa y mae Llywodraeth y DU yn ei rhoi ar feysydd awyr llai a rhanbarthol.
Dim ond ychydig eiliadau sydd gen i ar ôl i fyfyrio ar fater dyfodol ardrethi busnes, y cyfeiriwyd ato gan lefarydd yr wrthblaid hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â chyfres fawr o waith ymchwil i helpu i'n hysbysu am y newidiadau posibl yr hoffem ni eu gwneud i drethi lleol efallai—ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, felly—a byddwn yn cyhoeddi cyfres o adroddiadau ymchwil dros yr wythnosau nesaf a fydd yn ein helpu ni ac eraill, gobeithio, i ddechrau llunio eu syniadau i greu gweledigaeth o ran ble y gallai'r trethi hynny fynd yn y dyfodol.
Felly, i gloi, bydd gennym ni gyllideb Llywodraeth y DU ar 11 Mawrth, a gallai honno arwain at oblygiadau eithaf mawr i'n cynlluniau gwario ni. Bydd hefyd yn cael ei hategu gan ragolygon economaidd a chyllidol newydd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a allai effeithio ar ragolygon y refeniw trethi datganoledig a hefyd yr addasiadau i'r grant bloc cysylltiedig. Gallai Llywodraeth y DU hefyd wneud newidiadau i bolisi treth a allai effeithio ar benderfyniadau ynghylch trethi datganoledig yng Nghymru, felly rwy'n ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau ac i'r Cynulliad am yr effeithiau hynny cyn gynted â phosibl, ac edrychaf ymlaen yn fawr at ymgysylltu â'r Pwyllgor Cyllid ar y gwaith y mae'n ei wneud pan fydd yn ystyried y broses o bennu cyllideb, ac rwy'n arbennig o awyddus i ddweud ar goedd nawr pa mor awyddus yr wyf i dderbyn eich argymhelliad ynghylch dadl gynnar yn y flwyddyn ariannol, gan fy mod i'n credu bod hynny'n arbennig a ddiddorol a defnyddiol ar ddechrau'r broses hon.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Caroline Jones. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig, Mark Drakeford.
Cynnig NDM7260 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod adroddiad hanesyddol y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a’r corff o dystiolaeth na welwyd mo’i debyg o’r blaen a gynhyrchwyd ganddo, ac yn diolch i aelodau a staff y Comisiwn am eu gwaith;
2. Yn cydnabod ymroddiad yr unigolion a’r sefydliadau lawer sy’n gweithio yn y system gyfiawnder, a’u hymrwymiad i wasanaethu’r cyhoedd, ond yn nodi hefyd y siom bod y Comisiwn wedi dod i’r casgliad canolog nad yw eu system gyfiawnder yn diwallu anghenion pobl Cymru yn ddigonol;
3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i weithredu ar yr argymhellion hynny sydd o fewn ei chymhwysedd ar hyn o bryd a gweithio gyda chyrff eraill i weithredu ar argymhellion sy’n gyfrifoldeb arnynt hwythau;
4. Yn nodi prif ganfyddiad y Comisiwn fod rhaid penderfynu ynghylch polisi a’i oruchwylio, yng Nghymru, os dymunir gweld gwahaniaeth parhaus yn y modd y cyflawnir cyfiawnder yng Nghymru; a
5. Yn gefnogol o ddatganoli cyfiawnder a phlismona, wedi’u cyllido’n llawn er mwyn sicrhau bod gweithrediaeth y system gyfiawnder yn cyd-fynd â’r amcanion polisi ehangach i Gymru y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad hwn.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n falch iawn ein bod wedi gallu dod o hyd i'r amser i gynnal y ddadl bwysig hon ar adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae'n gyfle inni drafod yr uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer y system gyfiawnder yng Nghymru, ac i sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru.
Fel rydw i wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen, ymchwiliad y comisiwn yw'r un mwyaf cynhwysfawr erioed o'r system gyfiawnder yng Nghymru. Roedd e'n edrych ar statws presennol pob rhan o'n system gyfiawnder. Fel mae adroddiad y comisiwn yn ei ddweud, mae yna rai meysydd o arferion da yn y system gyfiawnder yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n gweithio yn effeithiol mewn partneriaeth ac ymrwymiad pobl y sefydliadau sy'n ymwneud â gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid; mae wedi cael effaith bositif ar leihau nifer y plant sydd yn y ddalfa. Ar lefel weithredol, mae plismona yn aml yn golygu rhyngweithio rhwng yr heddlu a sefydliadau sy'n darparu addysg, gofal cymdeithasol, iechyd, tai a gwasanaethau eraill sydd wedi cael eu datganoli. Mae glasbrintiau ar gyfer cyfiawnder ieuenctid ac ar gyfer troseddu gan fenywod yn enghreifftiau eraill o weithio mewn partneriaeth, a hynny er mwyn darparu gwasanaethau cyfiawnder effeithiol yng Nghymru. Rydym ni'n gwneud hyn er gwaethaf ac nid oherwydd y sefyllfa gymhleth sydd ohoni ar hyn o bryd yng Nghymru o safbwynt polisi a chyllid cyfiawnder o dan y cynllun datganoli presennol.
Felly, Llywydd, er bod rhai meysydd o arfer da ar draws y system gyfiawnder, mae angen mynd i'r afael â diffygion sylweddol. Ni allwn symud oddi wrth baragraff cyntaf yr adroddiad a'i gasgliad nad yw'r system gyfiawnder yn gwasanaethu dinasyddion Cymru yn dda ar hyn o bryd. Mae'n rhy aml yn bell, yn ddideimlad, yn anhyblyg ac yn ddryslyd. Gall hefyd fod yn andwyol o ddrud. I lawer o bobl yng Nghymru heddiw, mae'r syniad bod gennym system gyfiawnder sy'n eu hamddiffyn pan fydd ei hangen arnynt yn ddamcaniaethol yn hytrach na'n real.
Roedd gwneud hawliau yn wirionedd yn un o gonglfeini sylfaenol gwladwriaeth les 1945. Roedd cymorth cyfreithiol, pan gafodd ei gyflwyno ym 1949, yn cwmpasu 80 y cant o'r boblogaeth. Saith deg mlynedd yn ddiweddarach, yn 2019, canfu'r comisiwn ddarlun gwahanol iawn. Mae toriadau cyllideb gan Lywodraeth y DU wedi arwain at yr hyn y mae'r Comisiwn yn ei alw'n 'anialwch cyngor' cynyddol mewn ardaloedd gwledig a Chymru ôl-ddiwydiannol, lle gall fod yn anodd i bobl gael gafael ar gyngor a gwasanaethau cyfreithiol o gwbl. Ac ar yr un pryd, mae niferoedd cynyddol o bobl yn cynrychioli eu hunain mewn llysoedd a thribiwnlysoedd.
Mae cymorth cyfreithiol yn gyfrifoldeb a gadwyd yn ôl yn gyfan gwbl, ond canfu'r comisiwn mai penderfyniadau a wneir yma gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon sy'n gorfod llenwi'r bylchau sy'n dod i'r amlwg. Mae cronfa cyngor sengl Cymru yn sicrhau bod dros £8 miliwn ar gael bellach i wasanaethau cynghori, sy'n rhan hanfodol o'n system gyfiawnder erbyn hyn. A dim ond un enghraifft yw honno o orfod dargyfeirio arian a ddarperir ar gyfer gwasanaethau datganoledig er mwyn diwallu anghenion brys dinasyddion Cymru wrth iddynt ryngweithio â'r system gyfiawnder. Yn wir, adroddodd y comisiwn fod tua 38 y cant o gyfanswm y gwariant ar gyfiawnder yng Nghymru yn 2017-18 yn deillio o Lywodraeth Cymru neu dalwyr treth gyngor Cymru. Gallem ni ddefnyddio'r arian hwnnw i wneud penderfyniadau gwahanol yma yng Nghymru.
Llywydd, fel y gŵyr yr Aelodau, mae ymchwil a wnaed gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn awgrymu bod gan Gymru un o'r cyfraddau carcharu uchaf, os nad yr uchaf, yng ngorllewin Ewrop. Yn achos menywod sydd yn y system garchardai, mae'r mwyafrif yn cael eu heuogfarnu o fân droseddau ac yn cyflawni dedfrydau byr, ond eto dedfrydau sy'n arwain at darfu ar fywyd cartref, colli cyflogaeth a thai, ac yn effeithio ar ofal plant neu berthnasau oedrannus. I fenywod yng Nghymru, mae'r sefyllfa'n waeth oherwydd bod yr holl fenywod sy'n cael eu carcharu yn cael eu carcharu mewn un o 12 o garchardai i fenywod yn Lloegr, sy'n ei gwneud yn anoddach i fenywod o Gymru gadw cyswllt â'u teulu ac yn gwaethygu'r problemau y maen nhw a'u dibynyddion yn eu hwynebu. Gallem ni a byddem ni yn gwneud pethau yn wahanol yng Nghymru.
Neu os edrychwn ar brofiad plant sy'n cael eu gwahanu oddi wrth eu cyfoedion mewn sefydliadau troseddwyr ifanc, fel yr amlygwyd yn ddiweddar gan Brif Arolygydd Carchardai EM, dylid gwahanu dan amgylchiadau o'r fath er mwyn amddiffyn plant, ond canfu'r prif arolygydd fod y rhan fwyaf o blant sydd wedi eu gwahanu yn cael eu cadw i bob pwrpas mewn carchariad unigol niweidiol heb lawer o gyswllt â phobl ac o dan amodau sy'n peryglu niwed i'w hiechyd meddwl. Eto, gallem ni a byddem ni yn gwneud pethau yn wahanol ac yn well yng Nghymru.
Sut, felly, yr ydym yn bwrw ymlaen ag adroddiad y comisiwn? Rydym yn wynebu tair tasg hanfodol: deddfu'r argymhellion hynny sy'n uniongyrchol berthnasol i Lywodraeth Cymru; darparu arweiniad cydweithredol yn y meysydd hynny lle mae cynigion yr adroddiad yn dibynnu ar weithredwyr eraill yng Nghymru; a goruchwylio trafodaethau gyda Llywodraeth newydd y DU ar gynigion Thomas. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar bob un o'r tair tasg.
Rydym yn archwilio'r ddarpariaeth o brentisiaethau a sut yr ydym yn sicrhau hyfywedd hirdymor arferion cyfreithiol ledled y wlad. Rydym yn bwrw ymlaen ag argymhellion y comisiwn ynghylch addysg gyfreithiol a sefydlu cyngor cyfreithiol i Gymru. Bydd Comisiwn y Gyfraith yn ein cynghori ar nifer o'r argymhellion sy'n ymwneud â rhannau o'r system gyfiawnder sydd eisoes wedi eu datganoli, yn arbennig tribiwnlysoedd Cymru, ac rydym yn dysgu gwersi'r adroddiad o ran sut y gallem ni leihau nifer y plant mewn gofal.
Ein hasesiad cychwynnol yw y gallai tua dwy ran o dair o argymhellion y comisiwn ofyn am gydweithrediad Llywodraeth y DU i'w gweithredu. Nid yw hyn yn syndod, o gofio bod cyfiawnder yn fater a gadwyd yn ôl ar y cyfan. Nodais bwysigrwydd trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros gyfiawnder i Gymru yn fy ngohebiaeth gyntaf â'r Prif Weinidog ar ôl ei ailethol. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd cyfiawnder, a ddywedodd yn ddiweddar y dylai pob adran yn y DU ystyried ei hun yn adran gyfiawnder, bod angen i benderfyniadau ynghylch sut y mae'r system gyfiawnder yn gweithredu fod yn gyson â blaenoriaethau cymdeithasol ac economaidd eraill, a bod yn gydgysylltiedig â'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus megis iechyd ac addysg.
Yng Nghymru, wrth gwrs, mae'r gwasanaethau hynny wedi eu datganoli, ac mae adroddiad comisiwn Thomas yn dweud wrthym nad yw ble mae pwerau yn gorffwys yn fater o ddamcaniaeth haniaethol. Mae heriau ymarferol gwirioneddol, anochel a diangen yn codi bob dydd sy'n deillio o'r ffaith bod cyfrifoldebau wedi eu rhannu rhwng San Steffan a Chymru ar hyn o bryd, er gwaethaf yr holl ymdrechion sy'n cael eu gwneud yng Nghymru ar bob ochr i leddfu effeithiau'r heriau hynny.
Llywydd, rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn ymuno â fi i ddiolch i'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, y comisiynwyr a staff y comisiwn am eu gwaith ac am lunio'r adroddiad nodedig hwn sy'n rhoi gweledigaeth gadarn i ni ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru.
Mae'r ddadl hon heddiw yn bwysig, oherwydd y bydd yn datgelu ble y mae'r craidd disgyrchiant yn gorffwys ar y materion hyn yn y Siambr hon. Mae gwelliannau a gyflwynwyd eisoes yn dangos ble y mae'r grymoedd gwrthiant i newid yn gorwedd. Gadewch imi fod yn glir: ni ellir gwneud cynnydd trwy roi ein pennau yn y tywod a smalio, yn groes i'r holl dystiolaeth a gasglwyd ac a ddadansoddwyd gan yr Arglwydd Thomas a'i gomisiynwyr, fod popeth yn iawn ac y dylai aros yr un peth.
Ond ni fydd newid yn digwydd ychwaith dim ond trwy weiddi'n uwch drwy uwchseinydd yr M4. Rydym yn wynebu Llywodraeth y DU â mwyafrif o 80 sedd. Nid yw strategaeth o wneud dim mwy na churo'n uwch fyth ar y drws yn debygol o lwyddo. Bydd yn rhaid ychwanegu argyhoeddiad ein dadl at draw ein llais. Ac wrth gwrs, dyna pam y mae adroddiad y comisiwn mor hanfodol.
Mae'n mynd rhagddo nid yn unig o safbwynt cyfansoddiadol, ond o arddangosiad ymarferol o'r ffyrdd y gellid cyfochri cyfrifoldebau, cyllidebau a phrosesau gwneud penderfyniadau atebol yn well, a hynny'n well i wasanaethu buddiannau dinasyddion Cymru. Dyna pam yr ydym yn gofyn i'r Senedd heddiw wrthod y gwelliannau, cefnogi'r cynnig, a chymryd cam tuag at ychwanegu cyfiawnder troseddol at yr uchelgeisiau ar gyfer cyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sydd eisoes mor bwysig i bobl yng Nghymru.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw felly ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mark Isherwood.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn cydnabod yr ymroddiad a'r ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus a ddangosir gan y nifer fawr o bobl a sefydliadau sy'n gweithio yn y system gyfiawnder.
2. Yn gresynu wrth fethiannau yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, lle mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am amrywiaeth o wasanaethau allweddol.
3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu gwasanaethau rheoli troseddwyr yng Nghymru sy'n adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru.
4. Yn nodi bod yn rhaid i natur drawsffiniol gweithgarwch troseddol fod yn ganolog i weithredu cyfiawnder a phlismona yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Llywydd. Rydym yn cydnabod yr ymroddiad a'r ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus a ddangoswyd gan y llu o bobl a sefydliadau sy'n gweithio o fewn y system gyfiawnder, ond yn gresynu at y methiannau yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru lle mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros ystod o wasanaethau allweddol.
Mae adroddiad comisiwn Thomas ar gyfiawnder yn cyfeirio at Gymru a'i
'pholisïau a'i gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg nodedig, sy'n datblygu'
ac yn datgan
'Er bod meysydd o arfer da o fewn y system gyfiawnder y gellir adeiladu arnynt, rhaid ymdrin â'r methiannau difrifol.'
Fodd bynnag, yn hytrach nag uno'r dotiau, mae wedyn yn cynnig datganoli cyfiawnder a phlismona, gan anwybyddu'r agenda sy'n datblygu ar gyfer polisi yr heddlu a chyfiawnder ar lefel y DU, sy'n cwmpasu'r realiti daearyddol a demograffig a setliad datganoli Cymru.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Fe wnaf i dderbyn un, gwnaf.
Rydych chi'n dweud ei bod yn cael ei datblygu ar lefel y DU, nid yw'n cael ei datblygu ar lefel y DU, oherwydd bod y materion hyn wedi eu datganoli yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban. Maen nhw wedi cael eu rhyddhau. [Torri ar draws.] Ie, a Manceinion a Llundain i ryw raddau. [Torri ar draws.] A Jersey, iawn. Gallem ni fod yma am amser maith. Roedd i fod yn ymyriad yn hytrach nag yn araith. A ydych yn deall bod y materion hyn ym meddyliau ychydig o unigolion yn Whitehall a San Steffan yn unig?
Nac ydw. Mae nifer enfawr o bethau arloesol yn digwydd ym maes cyfiawnder troseddol yng Nghymru, ond nid yw datganoli yn un ohonynt.
Felly, fel y canfu Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae gan Gymru y gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, ac er bod cyfanswm y dedfrydau o garchar wedi cynyddu yng Nghymru rhwng 2010 a 2017 fe wnaeth ostwng 16 y cant yn Lloegr, o ran y gwasanaethau yr oedden nhw'n eu rheoli o hyd ond y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw yng Nghymru. Dywedodd awdur yr adroddiad fod
angen ymchwil ehangach i geisio egluro cyfradd garcharu uchel Cymru.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ystyried bod llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i reoli troseddwyr, cyn-droseddwyr ac i hyrwyddo camau adsefydlu eisoes wedi'u datganoli. Mae'r fath wahaniaeth mewn darpariaeth, o fewn yr hyn sy'n system cyfiawnder troseddol a rennir, yn rhoi rheswm arall pam na ddylid ateb y galwadau am ddatganoli cyfiawnder troseddol.
Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu gwasanaethau rheoli troseddwyr yng Nghymru sy'n adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru i'w groesawu. Yn 2018, roeddwn yn bresennol yn y digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid a gynhaliwyd yn Wrecsam gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru yn rhan o'r ymgynghoriad ar wasanaethau prawf yn y dyfodol yng Nghymru, pan fydd yr holl wasanaethau rheoli troseddwyr yng Nghymru wedi eu cynnwys yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol o 2020.
Bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru yn archwilio opsiynau ar gyfer comisiynu gwasanaethau adsefydlu megis ymyriadau ac ad-dalu cymunedol. Byddan nhw'n adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd eisoes ar waith yng Nghymru drwy'r gyfarwyddiaeth carchardai a phrawf sefydledig, ac ar bartneriaethau lleol llwyddiannus sydd eisoes yn bodoli, gan adlewyrchu'n well gyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru. Fel y clywsom, bydd y cynigion hyn yn caniatáu mwy o integreiddio ar draws carchardai a'r gwasanaeth prawf yng Nghymru, gan atal dioddefwyr drwy newid bywydau, gyda chyfraniad gwirioneddol gan y trydydd sector, trwy ddefnyddio cyfalaf pobl.
Yn hytrach nag ailgylchu'r cynnig afraid hwn, mae angen felly i Lywodraeth Cymru roi adroddiad cynnydd i ni ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yn hyn o beth. Mae hyn yn arbennig o wir yng nghyd-destun dogfen 2019 'Rhaglen Diwygio'r Gwasanaeth Prawf' gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EM, a ddilynodd y papur ymgynghori ar ddyfodol y gwasanaeth prawf ac mae'n disgrifio sut y bydd y model newydd yn wahanol yng Nghymru. Fel y mae hyn yn ei nodi:
mae gan Lywodraeth Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn cysylltiad â materion datganoledig gan gynnwys iechyd, tai, lles cymdeithasol ac addysg, ac mae hyn yn cyflwyno tirlun cyflawni gwahanol ar gyfer gwasanaethau prawf yng Nghymru. Mae'r setliad datganoli cyfiawnder yn caniatáu trefniadau penodol ar gyfer y gwasanaeth prawf sy'n diwallu anghenion Cymru.
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru:
wedi'i gyflunio'n wahanol i adlewyrchu hyn, wrth i'w strwythur gyfuno gwasanaethau carchardai a phrawf o fewn un gyfarwyddiaeth a gyda'r cyfochri yn yr ardal ddaearyddol.
Wrth gwrs, mae'n rhaid i natur drawsffiniol gweithgareddau troseddol fod yn ganolog i weithredu cyfiawnder a phlismona yng Nghymru. Mae'r galw am ddatganoli hyn yn methu â chydnabod nad yw gweithgareddau troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol na rhanbarthol. Yn wahanol i'r Alban neu Ogledd Iwerddon, mae 48 y cant o bobl Cymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr, ac mae 90 y cant o fewn 50 milltir. Mae adroddiad comisiwn Thomas ar gyfiawnder yn cynnwys un cyfeiriad yn unig at unrhyw droseddu trawsffiniol, yng nghyd-destun llinellau cyffuriau ar hyd coridor yr M4 ac yn y gogledd. Yr ateb y mae'n ei gynnig yw gweithio ar y cyd ar draws y pedwar heddlu yng Nghymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, ond nid oes dim cyfeiriad at bartneriaid ar draws y ffin.
Wel, bues i ar ymweliad yn ddiweddar â Titan, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarth y Gogledd Orllewin, a sefydlwyd yn 2009 fel cydweithrediad rhwng y chwe heddlu yng ngogledd Cymru, Swydd Gaer, Glannau Mersi, Manceinion Fwyaf, Swydd Gaerhirfryn a Cumbria i fynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol difrifol sy'n croesi ffiniau sirol yn y rhanbarth. Clywsom bythefnos yn ôl fod holl waith cynllunio brys gogledd Cymru yn cael ei wneud ar y cyd â gogledd-orllewin Lloegr, fod 95 y cant neu fwy o droseddu yng ngogledd Cymru yn lleol neu'n gweithredu yn drawsffiniol o'r dwyrain i'r gorllewin, nad oes gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw weithrediadau sylweddol yn gweithio ledled Cymru gyfan, a bod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas gan y prif gwnstabliaid a'r comisiynwyr heddlu a throsedd yng Nghymru yn cael ei hanwybyddu i raddau helaeth yn adroddiad y comisiwn.
Galwaf ar Mark Reckless i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Mark Reckless.
Gwelliant 2—Caroline Jones
Dileu pwyntiau 3, 4 a 5 a rhoi yn eu lle:
Yn gwrthwynebu datganoli cyfiawnder a phlismona.
Yn croesawu'r cynnydd yn y cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer plismona.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r cyllid i wella'r system gyfiawnder.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw Caroline Jones.
Rydym yn gwrthwynebu datganoli cyfiawnder a phlismona. Roeddwn i'n falch o gymryd yr amser i ystyried yr adroddiad hynod drawiadol hwn yn fanwl cyn dweud hynny. Rwy'n credu bod cyfatebiaeth rhwng yr UE a datganoli. Mae i'w gweld pan fo rhyng-gysylltiad, yma, rhwng gwasanaethau sydd wedi'u datganoli a rhai nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Yn amlwg, os oes gennych chi ryng-gysylltiad o'r fath, bydd heriau bob amser ynglŷn â rheoli'r rhyng-gysylltiad hwnnw.
Ond nid yw'r ffaith bod anawsterau wedi eu nodi ynddo'i hun yn cyfiawnhau'r casgliad bod yn rhaid, felly, datganoli'r gwasanaethau nad ydyn nhw wedi eu datganoli yma, sef cyfiawnder a phlismona. Gallai fod yr un mor rhesymegol i gyflwyno'r achos dros dynnu yn ôl o fod wedi eu datganoli y gwasanaethau hynny sydd wedi eu datganoli ar hyn o bryd ond sy'n cael anawsterau wrth ryng-gysylltu â gwasanaethau nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Ond yn y lle hwn, dim ond un ffordd y mae'n symud bob amser. Mae pob dadl ynghylch unrhyw anhawster wrth ryng-gysylltu yn mynd yn un dros fwyfwy o ddatganoli. Yn union fel y gwelsom yn yr Undeb Ewropeaidd, ar gyfer unrhyw broblem, yr ateb a gynigiwyd bob amser oedd un o fwy o Ewrop.
A hynny, yn fy marn i, yn rhannol yw pam yr aeth pleidlais y refferendwm ar Brexit fel y gwnaeth. Un o'r rhesymau pam nad yw'r lle hwn yn cael ei barchu'n fwy ledled Cymru yw ein diffyg gallu i gyflawni system ddatganoli sefydlog, sy'n caniatáu i bobl fod yn gysurus â sefydliadau datganoledig heb ei ystyried yn llethr llithrig a fydd bob amser, bob amser yn arwain at fwyfwy o bwerau a mwy o ymreolaeth ac, o bosibl, annibyniaeth.
Nid ydym yn bwriadu cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, yn rhannol oherwydd fy mod i o'r farn bod pwynt 2 yn annheg iawn â Llywodraeth Cymru. Rydych chi'n dweud eich bod yn gresynu at y
'methiannau yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru',
ac yn sicr, mae yna fethiannau enfawr yn y llyfr hwn; mae'n amlwg iawn, iawn. Ac eto, rydych yn dweud wedyn,
'lle mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros ystod o wasanaethau allweddol.'
A phe baech yn deg, byddech yn parhau trwy ddweud, 'ond mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb dros lawer mwy.'
Rwyf i yn credu bod yr adroddiad hwn gan y comisiwn yn feirniadaeth o'r system cyfiawnder troseddol fel y bu'n gweithio ledled Cymru a Lloegr. Mae cyfiawnder yn un maes yr wyf i'n pryderu bod y broses cyni wedi mynd yn rhy bell. Rwyf i yn credu bod angen mwy o arian arno i weithredu ein llysoedd, ac mae'r achos wedi ei wneud yma hefyd ar gyfer rhai meysydd o gymorth cyfreithiol. Rwy'n credu bod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi deffro i'r ffaith bod cyni a thoriadau ym maes plismona wedi mynd yn rhy bell, sydd wedi arwain at eu haddewid i sicrhau 20,000 o swyddogion ychwanegol ledled Cymru a Lloegr, ac rydym ni'n cefnogi hynny.
Ond dylen nhw edrych hefyd ar yr hyn sy'n digwydd yn y system gyfiawnder ac, yn hytrach na dim ond gwrthwynebu hyn oherwydd ei bod yn fwy o ddatganoli, i annog Gweinidogion yn San Steffan mewn gwirionedd i edrych ar yr adroddiad hwn, deall y feirniadaeth a wna o'r system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr, a dweud wrthym ni beth y maen nhw am ei wneud yn ei chylch. A gall rhan o hynny fod yn fwy o arian.
Rwy'n ildio i'r cyn Brif Weinidog.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod. Bydd yn ei synnu, mae'n siŵr, fy mod ar fin cytuno ag ef, fel rhywun a fu'n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol am gyfnod hir. Pan oeddwn yn ymarfer ar ddechrau'r 1990au tuag at 2000, roeddem yn arfer edrych ar wledydd eraill lle nad oedd cyngor cyfreithiol ar gael i bobl ac roeddem yn brawychu y bydden nhw'n cynrychioli eu hunain mewn materion eithaf difrifol yn y llys heb unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol wrth gael eu herlyn gan erlynydd proffesiynol. A yw'n cytuno â mi mai dyma'r union sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr a'n bod ni wedi mynd yn ôl ryw 200 o flynyddoedd?
Rwy'n cytuno bod yr Aelod, mewn llawer o amgylchiadau, yn gywir yn ei ddiagnosis.
Yn yr adroddiad hwn, wrth ddarllen pennod 11 ar y Gymraeg ac yna pennod 12 ar lywodraethu proffesiynau, nid wyf yn argyhoeddedig eu bod wedi'u cysylltu'n ddigonol. Ar hyn o bryd, nid oes arholiadau cyfreithiol ar gael, ar lefel gradd o leiaf, yn y Gymraeg. Mae hwn yn cynnig y dylen nhw fod ar gael ac y dylai pobl allu cymhwyso drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig ac arddangos hyfedredd drwy arholiadau Cymraeg yn unig, ond wedyn mae'n cynnig y dylen nhw barhau i fod â phroffesiwn ar y cyd a bod gennym yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Bwrdd Safonau'r Bar yn rheoleiddio ar y sail honno.
Ond os yw pobl o Gymru sydd wedi cymhwyso yn mynd i ymarfer yn Lloegr ond eu bod dim ond wedi dangos hyfedredd yn y Gymraeg drwy'r addysg a'r arholiadau, a yw'n rhesymol disgwyl i'r cyrff rheoleiddio Cymru a Lloegr hynny weithredu yn y ffordd honno?
Yna, pam—[Anhyglyw.]—ar gyfer Saesneg?
Wel, mae hynny'n gwbl briodol os oes gennym ni system ar gyfer Cymru. Ond byddwn yn cwestiynu a yw'n rhesymol gofyn am reoleiddiwr Cymru a Lloegr. Er, byddwn yn cefnogi mwy o ymgysylltu â'r Cynulliad ar y materion hyn fel y cynigir, ac efallai y gellir trafod y rhain.
Rwy'n parhau i fod yn siomedig â'r Goruchaf Lys a'r trefniadau yn y fan yna ynglŷn â phenodiadau. Mae'r adroddiad yn anghywir o ran disgrifio'r system benodi ac felly nid yw'n gwneud y trefniadau priodol. Nid yw'n iawn bod comisiynau yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi'u cynrychioli ar bob penodiad o'r Goruchaf Lys, a'u bod bob amser yn cael mynegi 40 y cant o'r farn. Credaf y dylem newid hynny fel bod gennym, o leiaf ar Gomisiwn Cymru a Lloegr, yr un aelod lleyg hwn sydd â gwybodaeth briodol am gyfraith Cymru. Rwy'n credu y dylai fod yno fel ail aelod o Gomisiwn Cymru a Lloegr, a chredaf hefyd, gan ychwanegu at hynny, seithfed aelod o'r panel hwnnw; rwy'n credu y dylem ni fod â chadeirydd y pwyllgor dethol cyfiawnder wedi'i ethol gan holl Aelodau Seneddol Tŷ'r Cyffredin mewn pleidlais gudd.
Nid wyf i'n dymuno dilyn llwybr yr Unol Daleithiau a'r Goruchaf Lys a'r gwleidyddoli yn y fan yna, ond credaf y byddai bod ag un o nifer o aelodau sydd â'r swyddogaeth honno yn helpu i ymdrin â rhai o'r pryderon ynghylch penodiadau yn y farnwriaeth, a byddai'n well na'r system bresennol, sy'n gallu caniatáu i bedwar barnwr wneud y penodiadau allan o gomisiwn o bump. Nid yw hynny'n briodol ac rwy'n credu y dylid diwygio'r maes hwn.
O'r diwedd, mae gennym ni'r cyfle i drafod datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru—a hynny diolch i'r adroddiad pwysig gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i'r cyn-Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, a holl aelodau'r comisiwn, yr oedd eu casgliadau a'u hargymhellion yn yr adroddiad hwn yn unfrydol. Mae'r adroddiad yn cynnig disgrifiad a beirniadaeth o'r modd y mae lles cyhoeddus—cyfiawnder—yn gweithredu yng Nghymru, ac yn bwysicach, sut y caiff ei brofi gan bobl yng Nghymru. Mae llawer o gytundeb trawsbleidiol ar y mater hwn, a lle i gydweithredu yn San Steffan a rhwng San Steffan a'r Senedd.
Dros yr 21 mlynedd diwethaf o ddatganoli, rydym wedi gweld grym ein Cynulliad Cenedlaethol yn ehangu a'i hyder fel sefydliad yn tyfu. Erbyn 2020, mae polisi Llywodraeth Cymru â mwy o effaith uniongyrchol ar fywydau pobl yng Nghymru nag erioed o'r blaen, ac eto rydym yn dal i weithredu heb awdurdodaeth gyfreithiol gyfatebol, er bod gennym bŵer deddfu llawn yn ein Senedd. Mae hyn yn creu dyblygu, diffyg atebolrwydd, costau ychwanegol heb dryloywder a digon o ddryswch. Mae'r adroddiad yn dweud bod angen gwell system ar Gymru a'i bod yn ei haeddu.
Hoffwn ganolbwyntio ar gyfiawnder troseddol, gan fy mod yn gyn swyddog prawf. Dywed yr adroddiad, ac rwy'n dyfynnu,
'Er mwyn i gyfiawnder troseddol fod yn effeithiol, yn enwedig o ran y ffordd y mae'n trin dioddefwyr, wrth blismona a gweinyddu dedfrydau'r carchardai (prif rôl y gwasanaeth carchardai a phrawf), rhaid iddo gael ei integreiddio'n agos â gwasanaethau y mae rhannau eraill o lywodraeth leol, ddatganoledig a chanolog yn gyfrifol amdanynt – er enghraifft, iechyd, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, tai, addysg, cyflogaeth, cael budd-daliadau a rheoli dyledion a gwasanaethau lles eraill.'
Mae Dr Rob Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi dangos mai Cymru sydd â'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop. Er i garcharu ostwng 16 y cant yn Lloegr rhwng 2010 a 2017, cynyddodd 0.3 y cant yng Nghymru.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Yn seiliedig ar yr ystadegau hynny yn unig, a fyddech chi'n cytuno â mi, felly, y dylem ni wneud popeth y gallwn ni yn erbyn Gweinidog newydd y DU a ddywedodd y byddai 'wrth ei fodd' o gael uwch-garchar newydd yma yng Nghymru?
Ydw, rwy'n cytuno â'r pwynt hwnnw, oherwydd gwnaeth gwaith Jones ddatgelu y bydd cynlluniau'r Llywodraeth i gael lleoedd ychwanegol mewn carchardai yn gweld Cymru'n dod yn fewnforiwr net o garcharorion. Yn syml, nid oes angen rhagor o garchardai arnom ni yng Nghymru, felly rydych yn llygad eich lle i herio'r ysgrifennydd cyfiawnder ar y pwynt hwnnw, ei fod yn dymuno adeiladu carchar arall.
Mae'r comisiwn ar gyfiawnder yn nodi bod y rhai hynny sy'n cael eu cyhuddo yn anghymesur yn fwy tebygol o ddod o grŵp du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Ac i fenywod, mae'r system bresennol yn waeth nag annigonol. Nid oes unrhyw gyfleusterau o gwbl ar gyfer troseddwyr benywaidd yng Nghymru, ac efallai yn gysylltiedig â chyfiawnder menywod y mae angen dull iechyd cyhoeddus fwyaf. Yn ôl adroddiad Thomas, mae dros hanner y menywod sydd yn y carchar wedi eu treisio yn y cartref—hanner. Mae pum deg tri y cant wedi nodi eu bod wedi cael eu cam-drin yn emosiynol, yn gorfforol neu yn rhywiol pan oeddynt yn blant—53 y cant. Mae datganoli cyfiawnder i Gymru yn rhoi'r cyfle inni dorri'r cylch hwnnw drwy uno ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol â'n polisi cyfiawnder. Byddai datganoli'r system cyfiawnder troseddol hefyd yn ein galluogi ni i sicrhau bod rhaglenni tramgwyddwyr a dreialwyd yn dda ar gael yn llawn mewn carchardai ac o fewn timau cyhoeddus y gwasanaeth prawf i leihau'r risg o ailadrodd troseddau rhyw. Gallai newidiadau gael eu gwneud i arferion o fewn yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a system y llysoedd i fynd i'r afael â'r cyfraddau euogfarnu arswydus o isel am dreisio.
Daeth Thomas i'r casgliad mai dim ond datganoli deddfwriaethol llawn, ynghyd â phwerau gweithredol, a fydd yn goresgyn methiannau'r system bresennol. Gallwn greu system newydd sy'n gweithio, system sy'n rhydd o'r rhwymau patriarchaidd a misogynistaidd sy'n arwain at y fath gyfraddau euogfarnu am dreisio sy'n isel yn hanesyddol. Pam na fyddem ni eisiau gwneud hynny?
Yn olaf, rwy'n troi at gymorth cyfreithiol. Mae'r toriadau dwfn a wnaed i gymorth cyfreithiol yn 2012 wedi esgor ar anialwch cyngor, lle nad yw cyfiawnder i rai pobl ar gael o gwbl. Cyn y toriadau, roedd 31 o ddarparwyr cyngor ar fudd-daliadau a ariennir yn gyhoeddus; erbyn hyn dim ond tri sydd ar ôl. Mae nifer y cwmnïau sy'n darparu cymorth cyfreithiol wedi gostwng 29 y cant, o'i gymharu ag 20 y cant yn Lloegr. Nid cyfiawnder yw hyn. Mae nifer cynyddol o bobl yn awr yn cynrychioli eu hunain mewn llysoedd a thribiwnlysoedd, sy'n eu gadael dan anfantais sylweddol. Mae rhannau mawr o'r proffesiwn cyfreithiol wedi'u dinistrio, ac yn brawf o hynny y mae'r ffaith mai dim ond 68 o dymhorau prawf troseddol a hysbysebwyd yng Nghymru a Lloegr y tu allan i Wasanaeth Erlyn y Goron yng nghylch eleni o geisiadau, a dim ond dau o'r rheini sydd yng Nghymru.
Yn yr amser a oedd gennyf—ac rwy'n sylweddoli fy mod wedi mynd dros amser—nid wyf ond wedi gallu cyffwrdd â materion cyfyngedig a godwyd yn adroddiad y comisiwn hwn, ond digon yw dweud nad yw'r system bresennol yn gweithio, yn amlwg. Dros gyfnod rhy hir, mae Cymru wedi goddef y cymhlethdodau sy'n achosi i bobl Cymru gael eu siomi'n systematig. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers amser ei bod yn bryd i Gymru gymryd cyfrifoldeb dros gyfiawnder ac inni fod â'n hawdurdodaeth gyfreithiol ein hunain. Gyda'r adroddiad hwn, gallwn alw ar y cyd am ddatganoli cyfiawnder, nid yn unig oherwydd ein bod yn credu yn yr egwyddor, ond oherwydd bod y dystiolaeth yn dangos bod gan hyn y cyfle i wella bywydau pobl yn y wlad hon yn sylweddol, a dylem wneud hynny.
Fel yn achos eraill yn y ddadl hon, cyn dod i'r Cynulliad, cefais brofiad uniongyrchol o'r system cyfiawnder troseddol ar ôl bod yn gyfreithiwr mewn practis cymorth cyfreithiol yn ymdrin â chyfraith trosedd, ymysg materion eraill. Felly, mae gennyf brofiad uniongyrchol o weld pobl a gyhuddwyd yn fy swyddfa, mewn gorsafoedd heddlu, mewn carchardai ac, yn amlwg, yn eu cynrychioli yn y llys. Mae'n rhaid imi ddweud y byddwn i'n adleisio llawer o'r hyn yr wyf wedi'i glywed yma heddiw o ran beirniadaeth o'r system. Rwy'n credu ei bod yn anghynhyrchiol, yn gyfeiliornus ac, yn wir, yn anfoesol yn y modd y mae'n gweithredu. Dywedodd ein Prif Weinidog y byddem ni'n gwneud pethau, pe byddem yn cael datganoli, yn wahanol ac yn well, ac rwy'n gwbl argyhoeddedig mai dyna fyddai'r sefyllfa. Credaf y byddai, mewn gwirionedd, yn anodd peidio â gwneud pethau'n well na'r system bresennol, ac rwyf yn gwbl ffyddiog y byddem ni'n amlwg yn mynd ymhell y tu hwnt i'r ffon fesur honno o ran cyflwyno cyfiawnder troseddol yn wahanol yma yng Nghymru.
Rwy'n credu bod Leanne Wood wedi gwneud achos cryf iawn. Roeddwn i'n mynd i sôn am lawer o'r materion y soniodd Leanne amdanynt o ran pwy sy'n dioddef yn sgil diffygion a methiannau'r system cyfiawnder troseddol. Rwy'n credu, o ran dosbarth cymdeithasol, o ran ethnigrwydd, o ran rhyw, ein bod yn gweld pobl sy'n ddifreintiedig yn dioddef mwy o anfantais yn sgil y ffordd y mae'r system yn gweithredu. Rwy'n credu mai'r farn gyffredinol yw y gallem ni wneud yn well o lawer. Mae'n wallgof, onid yw, bod Cymru yn carcharu mwy o'i phobl na bron unrhyw ran arall o orllewin Ewrop? Yr hyn y mae hynny'n ei wneud yw gwneud pobl yn greulon; mae'n difetha eu cyfleoedd mewn bywyd pan gânt eu carcharu'n ddiangen, mae'n arwain at fwy o ddioddefwyr troseddau oherwydd y creulondeb hwnnw a diffyg adsefydlu effeithiol o gofio cyflwr ein carchardai, sy'n orlawn ac mae'r bobl sydd yno yn ei chael yn anodd darparu gwasanaeth, yn ei chael yn anodd adsefydlu ac maen nhw'n gwneud hynny mewn amodau sy'n achosi llawer iawn o broblemau. Felly, nid yw'n ddim byd llai na stori arswyd a gallem ni wneud cymaint yn well. Byddai hynny o fudd i bobl a garcharwyd yn ddiangen, eu teuluoedd, ein cymunedau ac, wrth gwrs, dioddefwyr troseddau, oherwydd os nad yw pobl yn cael eu hadsefydlu'n briodol oherwydd na all y gwasanaeth weithredu o fewn yr amodau sy'n bodoli, yna bydd dioddefwyr troseddau yn y dyfodol a llawer iawn mwy o ddioddefwyr nag sydd angen.
Gwyddom hefyd, oni wyddom ni, fod gan lawer o'r bobl yn ein carchardai broblemau iechyd meddwl, bod ganddyn nhw broblemau camddefnyddio sylweddau—cyffuriau anghyfreithlon ac alcohol. Mae llawer ohonyn nhw'n anllythrennog ac yn anrhifog; mae eu sgiliau yn isel iawn. Mae'r rhain yn bobl sy'n cael eu hesgeuluso gan y system, ac yna, mewn rhai achosion, yn peri mwy o drallod i gymdeithas yn gyffredinol oherwydd methiant y system honno.
Rwy'n credu, o ystyried y math hwnnw o gefndir, Llywydd, ei bod mewn gwirionedd yn anodd dychmygu system ddatganoledig na fyddai'n arwain at welliannau sylweddol ac ystyrlon iawn. Ac, wrth gwrs, mae achos cymhellol yn cael ei wneud gan y comisiwn ar gyfiawnder a'r Arglwydd Thomas o ran sut y gallem ni weithredu cymaint yn fwy effeithiol. Felly, rwy'n credu gyda'r cefndir hwnnw a'r hyn a glywsom gan y rhan fwyaf o'n cyfranwyr i'r ddadl hon heddiw, mae taer angen datganoli cyfiawnder arnom yng Nghymru. Os nad ydym am gyflawni hynny yn y tymor byr, yn wir, yna rydym yn mynd i weld y methiannau hyn yn cael eu hailadrodd yn ddiddiwedd gyda'r holl drallod a dioddefaint sy'n gysylltiedig ar gyfer ein cymunedau. Mae'r achos yn un cryf ac, fe ddywedwn i na ellir dadlau yn ei erbyn, ac rwy'n ddiamynedd iawn mewn gwirionedd, ac rwy'n gwybod bod llawer o rai eraill yma heddiw, Llywydd, eisiau gweld cynnydd o ran yr adroddiad hwn ac i weld gweithredu'r argymhellion, hyd yn oed os yw hynny y rhai sydd fwyaf cyflawnadwy ar unwaith yn y tymor byr, i'w dilyn gan ragor o gynnydd wedi hynny. Mae angen inni weld y newid hwn ac mae angen inni ei weld mor gyflym ag sy'n bosibl.
Llywydd, mae'r gyfraith yn cynnwys rheolau cymdeithas sy'n ein galluogi i fyw, gweithio a mwynhau bywyd gyda'n gilydd, ac mae'r egwyddorion sy'n sail i'n cyfraith yn seiliedig ar werthoedd ein cymdeithas ac maen nhw wedi'u rhwymo at ei gilydd mewn fframwaith cyfreithiol, a ategir gan yr hyn yr ydym yn ei alw'n rheol y gyfraith. Heddiw, rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon fel Cadeirydd y pwyllgor seneddol Cymreig cyntaf erioed sy'n ymroddedig i graffu ar ein cyfansoddiad, deddfwriaeth ac erbyn hyn cyfiawnder. Felly, mae hwn yn ddechrau hanesyddol i Gymru, nid yn unig yn ein datblygiad fel senedd sy'n creu cyfreithiau, ond hefyd o ran dyfodiad ein system gyfreithiol ein hunain.
Bydd fy mhwyllgor yn datblygu rhaglen waith gyda'r nod o graffu ar ein system farnwrol bresennol o dribiwnlysoedd a chyrff lled-farnwrol, ac archwilio sut y mae meysydd polisi yng Nghymru yn rhyngweithio ag awdurdodaeth gyfreithiol bresennol Cymru a Lloegr. Bydd angen i ni ddatblygu dealltwriaeth o rai egwyddorion sylfaenol er mwyn i'r gwaith hwn lwyddo. Felly, nid yw'r mater o ddatganoli cyfiawnder yn ymwneud â throsglwyddo pŵer o San Steffan neu o'r lle hwn, felly mae gwrthwynebu newid gydag ymadroddion fel y clywsom yn ystod Deddf Cymru 2017, bod system gyfreithiol Cymru a Lloegr wedi ein gwasanaethu'n dda, yn camddeall yn sylfaenol natur y modd o weinyddu cyfiawnder, sy'n ymwneud mewn gwirionedd â sicrhau bod achosion yn cael eu clywed a'u gweinyddu'n effeithlon mor agos i'r bobl â phosibl, gan farnwyr a chan gyfreithwyr sy'n adnabod y cymunedau lleol ac sy'n deall y gyfraith berthnasol.
Nid yw ein system bresennol o weinyddu cyfreithiol yn addas i'r diben. Mae toriadau cymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU yn dilyn y Ddeddf cymorth cyfreithiol 2012 a chau llysoedd wedi dinistrio gallu pobl gyffredin i gael cyfiawnder. Mae hanner yr holl lysoedd ynadon yng Nghymru wedi cau, mae cyfiawnder lleol wedi dod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol, nid yw'r rhan fwyaf o bobl dlawd ac agored i niwed bellach yn gallu manteisio ar gyfiawnder priodol mewn llawer o'r meysydd pwysig sy'n effeithio ar eu bywydau. Fel y dywed comisiwn Thomas, mae'r toriadau sylweddol i gymorth cyfreithiol wedi bod yn anodd i Gymru ac nid oes cyfiawnder priodol ar gael. Rwy'n cytuno â'r sylw hwnnw.
Pan sefydlwyd y system cymorth cyfreithiol yn 1949, roedd dealltwriaeth bod gallu i gael cyfiawnder yn elfen hanfodol o gyfiawnder. Fel y dywedodd yr Is-iarll Simon yn y ddadl honno flynyddoedd yn ôl, mae sefydlu'r gallu i gael cyfiawnder yn ddiwygiad hanfodol mewn gwir ddemocratiaeth. Felly, mae'n rhaid inni yn awr archwilio sut y gallem greu ein system newydd ein hunain ar gyfer cymorth cyfreithiol a chyngor a chynrychiolaeth i Gymru.
Mae'n rhaid inni hefyd ailsefydlu'r cysylltiad rhwng polisi cymdeithasol a gweinyddu cyfiawnder. Mae gan y Senedd hon gyfrifoldeb dros blant, gofal cymdeithasol, tai, gwasanaethau cymdeithasol, polisi cyffuriau ac alcohol, addysg, hyfforddiant a chynifer o feysydd eraill. Mae'r gwaith o weinyddu'r gwasanaethau hyn yn mynd law yn llaw â'r system gyfreithiol a weithredwn. Mae tlodi a pholisi cymdeithasol yn ffactorau allweddol wrth sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a gweinyddol ac nid yw gwahanu'r cyfrifoldeb dros bolisi datganoledig yn y meysydd hyn o gyfiawnder yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Mae angen iddynt weithio a datblygu law yn llaw.
Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad.
Nid wyf eisiau amddiffyn unrhyw doriadau i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU ond, yn amlwg, bydd unrhyw arian ychwanegol i'w wario ar system cyfiawnder wedi'i datganoli yn dibynnu ar fformiwla Barnett. Onid oes dadl dros ddweud y dylem ni fod yn gwario'r arian sydd gennym ni, gan ganolbwyntio mwy o hynny ar atal pobl rhag ymuno â'r system gyfiawnder yn y lle cyntaf?
Rwy'n credu bod yna ddadl y dylai'n system gyfiawnder fod yn addas at y diben, ac mae unrhyw gymdeithas nad oes ganddi system cyfiawnder gymwys yn amlwg yn methu. Rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth gennym ni, a dyna pam y cafodd yr adroddiad hwn ei gomisiynu a pham y mae ei gasgliadau mor bwysig.
Mae angen inni ystyried yn benodol y ffordd y mae ein system tribiwnlysoedd bresennol yng Nghymru yn gweithredu, ombwdsmyn amrywiol Cymru a llysoedd y crwneriaid, sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru neu lywodraeth Leol, ac sy'n gorfod gweithredu'n annibynnol ar y Llywodraeth. Mae cyfiawnder teuluol, cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf, er enghraifft, i gyd yn feysydd sydd â chyd-berthynas uniongyrchol â pholisi datganoledig. Ni all un weithio heb y llall ac mae angen inni ddatrys y benbleth hon. Fel y mae'r adroddiad yn ei ddweud,
Mae angen gwell system ar bobl Cymru, ac maent yn haeddu hynny. Nid yw cyfiawnder yn bodoli ar ei ben ei hun a dylai gael ei integreiddio â pholisïau sy’n creu Cymru gyfiawn, deg a ffyniannus.
Rhaid i hynny fod yn nod i ni, a bydd y pwyllgor yn canolbwyntio arno.
Diolch i'r Prif Weinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw, sydd, yn wir, yn un bwysig, ac rwyf wedi gwrando'n astud ar yr hyn y mae Aelodau eraill wedi bod yn ei ddweud.
Mae'n amlwg bod cyllid yn un mater allweddol. Rydym wedi clywed llawer am danariannu pethau fel cymorth cyfreithiol a chynnal y gwasanaeth llys yng Nghymru, ac mae'r rhain yn broblemau gwirioneddol, ond maen nhw hefyd yn broblemau yn Lloegr. Nid problemau sy'n unigryw i Gymru ydyn nhw. Nid oes rheswm da dros gredu, hyd yn oed pe bai'r system gyfiawnder yn fwy datganoledig i Gymru, y byddai mwy o arian ar gael.
Byddaf i bob amser yn cofio'r hyn yr oedd cyn Weinidog Cabinet yn y lle hwn yn arfer ei ddweud yn y Siambr o ran galw am ragor o ddatganoli. Byddai'n dweud, 'Byddwch yn ofalus o'r hyn yr ydych chi'n ei ddymuno neu yn y pen draw bydd gennych chi Lywodraeth y DU yn datganoli'r mater ond heb ei ariannu'n llawn.' Dyna'r cyngor y byddem yn ei glywed yn rheolaidd gan Carl Sargeant, a chlywsom hefyd gyngor tebyg yr wythnos diwethaf gan Chris Bryant, AS Llafur y Rhondda, pan oedd y pwnc hwn yn cael ei drafod Neuadd San Steffan.
Fodd bynnag, nid wyf yn hollol argyhoeddedig bod gan Lywodraeth y DU ddiddordeb mawr mewn ymgysylltu â'r adroddiad hwn. Pan gawsom ni ddatganiad ar y pwnc hwn yma yn y Siambr fis Tachwedd diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog fod cyhoeddi'r adroddiad yn drobwynt, ac ychydig funudau'n ôl rydym wedi clywed gan Leanne Wood a ddywedodd rywbeth tebyg; rwy'n credu iddi ddefnyddio'r ymadrodd ei bod yn foment 'o bwys'. Fodd bynnag, pan siaradodd un o Weinidogion Llywodraeth y DU, Chris Philp, ar yr un adroddiad yr wythnos diwethaf yn Neuadd San Steffan, dywedodd nad oedd Llywodraeth y DU hyd yn oed yn mynd i ymateb yn ffurfiol i'r argymhellion. Dyna pa mor ddifrifol y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth y DU yn gyffredinol yn ystyried yr adroddiad hwn.
Mae'n rhaid inni gofio bod hwn yn adroddiad na chafodd ei gomisiynu hyd yn oed gan Lywodraeth y DU, sydd â chyfrifoldeb dros gyfiawnder. Cafodd ei gomisiynu gan Brif Weinidog Cymru ar y pryd, yn y lle hwn. Mae amheuon ynghylch ei annibyniaeth o gofio'r cysylltiadau agos rhwng ein cyn Brif Weinidog a chadeirydd y comisiwn, yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd. [Torri ar draws.] Na, ni wnaf. Penododd Carwyn Jones yr Arglwydd Thomas i gadeirio'r comisiwn hwnnw—.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na. Na.
Carwyn Jones—[Torri ar draws.]
A ydych chi'n derbyn ymyriad?
Nid wyf, Llywydd.
Nid yw'r Aelod yn derbyn ymyriad. [Torri ar draws.]
Ni fyddwn i pe bawn i yn eich lle chi. Ni fyddwn.
Ie, ac rwy'n crynu, fy ngwas i.
Penododd Carwyn Jones yr Arglwydd Thomas i gadeirio'r comisiwn hwnnw ac ers hynny, mae'r Arglwydd Thomas, sydd hefyd yn Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, wedi goruchwylio penodiad Carwyn yn athro'r gyfraith yn y sefydliad mawreddog hwnnw, ac mae hynny'n drefniant eithaf cyfleus ar gyfer y ddau ohonyn nhw.
Ar bwynt o drefn—
Gadewch i'r Aelod orffen ei gyfraniad, a byddaf i'n mynd i'r afael â'r hyn a allai fod wedi cael ei ddweud bryd hynny. Gorffennwch eich cyfraniad os gwelwch yn dda, Gareth Bennett.
Diolch yn fawr.
Y pwynt yw ein bod yn gwybod bod yr Arglwydd Thomas a Carwyn Jones yn canu'r un dôn, ond beth sydd gan eu cân nhw i wneud â phobl Cymru? Ble mae'r cydsyniad democrataidd ar gyfer y pwerau mwy hyn i'r Cynulliad? Nid oedd datganoli cyfiawnder wedi'i gynnig ym maniffesto diwethaf Llywodraeth Llafur Cynulliad Cymru, sef 2016, ac ni chafodd hyd yn oed ei gynnig ym maniffesto etholiad cyffredinol Llafur Cymru ychydig wythnosau'n ôl.
Yn ôl pôl a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, dim ond traean o bleidleiswyr Cymru sydd o blaid cael dod â mwy o bwerau yma, felly nid oes mandad democrataidd ar gyfer trosglwyddo mwy o bwerau i'r Cynulliad hwn. Ac eto, mae pleidiau'r chwith, Llafur a Phlaid Cymru, sydd yn cytuno—[Torri ar draws.] Sydd yn cytuno—[Torri ar draws.] Mae pleidiau'r chwith, Llafur a Phlaid Cymru—[Torri ar draws.] Mae pleidiau'r chwith, Llafur a Phlaid Cymru, sydd yn cytuno unwaith eto heddiw, bob amser yn galw am fwy o ddatganoli. Heddiw, byddaf i'n gwrthwynebu'r cynnig ac yn cefnogi gwelliant Plaid Brexit a byddwn i'n dweud un peth wrth yr Aelodau yma heddiw sy'n teimlo'n frwd dros yr adroddiad hwn: byddwch yn ofalus o ran yr hyn yr ydych chi'n ei ddymuno.
Byddaf i'n adolygu'r Cofnod ar ôl y cyfraniad hwnnw oherwydd mae'n amlwg ei fod wedi codi ymateb yn y Siambr. Mae'n ddrwg iawn gennyf na chlywais yn uniongyrchol yr hyn a ddywedwyd ar y pryd, Felly, bydd angen imi ei adolygu a phenderfynu a oedd yr hyn a ddywedwyd neu a awgrymwyd yn amhriodol mewn unrhyw ffordd. Galwaf yn awr ar Carwyn Jones.
Wel, y cyfan y gallaf i ei ddweud—[Torri ar draws.]
A wnaiff yr Aelodau sy'n gweiddi ar eu heistedd, sydd newydd gerdded i mewn yn awr, ychydig cyn 6 o'r gloch, fod cystal â gwrando ar y ddadl a'r hyn sy'n digwydd yma ar hyn o bryd? Ac rwy'n edrych arnoch chi, Mr McEvoy. Carwyn Jones.
Diolch, Llywydd. [Torri ar draws.] Mae'r Aelod newydd gerdded i mewn; efallai y dylai ef wneud y gwaith y mae wedi'i dalu i'w wneud a bod yn y Siambr hon o'r cychwyn cyntaf os yw eisiau cymryd rhan yn y ddadl hon, yn hytrach nag eistedd yno'n achwyn fel rhyw fath o berthynas oedrannus sy'n achosi embaras.
Ond gadewch imi gymryd, yn gyntaf oll, yr hyn y mae Gareth Bennett wedi'i ddweud. Y cyfan y gallaf ei ddweud wrtho yw hyn: mae Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr yw rhywun sydd â phrofiad helaeth yn y system cyfiawnder troseddol. Mae ganddo brofiad helaeth o ddim byd pan ddaw i'r system cyfiawnder troseddol, yn enwedig o ochr eiriolaeth. Mae byd o baranoia yn bodoli ar yr ochr honno i'r Siambr. Byddai'n gas gennyf i fod y tu mewn i'w pennau a'u bydoedd, ac rwy'n teimlo trueni drostyn nhw.
Mae datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn fenter enfawr. Nid yw'n bosibl ei wneud dros nos, dim ond dros gyfnod hir iawn y mae modd gwneud hynny, a byddai'n cymryd llawer iawn o waith paratoi. Gadewch inni fod yn glir am hynny. Nid yw hyn yn rhywbeth a all ddigwydd dros nos. Ond os edrychwn ni ar Gymru, Cymru yw'r unig awdurdodaeth ym myd y gyfraith gyffredin lle mae yna ddwy Senedd. Nid yw'n bodoli yn unman arall. Bob tro y mae Senedd sy'n creu'r gyfraith wedi'i sefydlu yn unrhyw le yn y Gymanwlad, mae awdurdodaeth wedi dilyn bob amser. Mae Gogledd Iwerddon yn enghraifft o hyn yn y DU. Nid yw hyn yn radical—mae'n normal. Y sefyllfa annormal yw'r sefyllfa yng Nghymru.
Dyma'r unig Senedd ym myd y gyfraith gyffredin nad oes ganddi awdurdodaeth i orfodi ei chyfreithiau ei hun. Mae'n dibynnu ar Lywodraeth arall a'i hasiantaethau i orfodi'r cyfreithiau a gaiff eu pasio yn y lle hwn mewn gwirionedd. Ni all hynny fod yn iawn. Ni fyddem yn derbyn bod gan Lys Ewrop awdurdodaeth lwyr ar sut i orfodi cyfreithiau a gaiff eu pasio yn y DU—wrth gwrs na fyddem—felly pam nad yw hynny'n iawn i Gymru? Mae'n rhaid ei bod yn iawn, mewn egwyddor, pan fydd cyfreithiau'n cael eu pasio gan Senedd, y dylai'r Senedd gael awdurdodaeth i orfodi'r cyfreithiau hynny. Fel arall, mae yna ryw ansawdd garw yn y system na ellir ei gywiro.
Os trof at bolisi cyfiawnder, cafodd y pwynt ei wneud yn dda ynghylch y diffyg cyfle i fynd at Gyfiawnder, ac mae hynny'n wir. Ni allwch ddweud bod y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr yn deg, oherwydd nid yw hynny'n wir, ac mae'r adroddiad yn dweud hynny. Ni all fod yn iawn fod aelod unigol o'r cyhoedd yn cael ei orfodi i fynd i dreial i gynrychioli ei hun ac mae erlynydd proffesiynol yn ei erbyn. Mae barnwyr wedi dweud hyn wrthyf, eu bod yn pryderu ynghylch sut y maen nhw'n ymdrin â sefyllfa lle mae ganddyn nhw rywun sy'n ddibrofiad o'i gymharu â rhywun sy'n brofiadol. Mae treialon yn para'n hwy o lawer, oherwydd mae'n rhaid egluro pethau wrth bobl, oherwydd nid ydyn nhw'n gyfarwydd â'r system.
Clywais i'r hyn a ddywedodd Mark Isherwood. Cyflwynodd yr achos yn gryf iawn, os caf i ddweud, dros ddatganoli carchardai a'r gwasanaeth prawf, oherwydd dywedodd, 'Wel, nid oes angen datganoli arnom; mae yna un system yn barod ac mae eisoes yn gweithio'n dda iawn.' Os yw hynny'n wir, os yw eisoes yn gweithio'n dda yng Nghymru fel system genedlaethol, yna siawns mai'r lle i'w llywodraethu yw'r lle hwn, fel Senedd genedlaethol pobl Cymru.
A gadewch inni gadw mewn cof hefyd, mae'n wirion nad oes gan bobl Cymru, sy'n siarad Cymraeg, unrhyw hawl i gael treial yn eu hiaith eu hunain. Ni allwch gael rheithgor Cymraeg—nid yw'n cael ei ganiatáu. Byddai'n bosibl ei wneud, ond nid yw wedi'i ganiatáu, byth. Ac mae hwnnw'n bwynt arall y credaf i sy'n werth inni feddwl amdano, nad oes gennych yr hawl i dreial o'ch cymheiriaid ar reithgor Cymraeg yng Nghymru. Ac nid yw hynny erioed wedi bodoli. A rhaid i hynny newid.
Gan droi at yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood. A gaf i eich sicrhau, os caiff plismona ei ddatganoli, ni fydd yn fater o ddiffyg cydweithrediad sydyn ar draws y ffin? Wrth gwrs na fydd. Ni fyddai neb rhesymegol yn dadlau hynny. A bydd rhai meysydd o droseddu sydd mor ddifrifol fel y byddai'n rhaid cydgysylltu ar draws y DU a thu hwnt, i Ewrop. Mae hynny'n wir. Ond mae dweud, oherwydd bod troseddu'n drawsffiniol, sy'n gywir, yna mae'n rhaid cynnal ein holl blismona o Whitehall yn ddadl ffug. Oherwydd, os ystyriwch chi'r Iwerddon, lle mae'r ffin yn debyg iawn i'r ffin yma—mae Newry a Dundalk yn agos at ei gilydd; mae Letterkenny a Derry yn agos at ei gilydd; mae Lifford a Strabane ar draws yr afon oddi wrth ei gilydd. Felly, mae gennych chi bobl yn byw yn agos iawn mewn trefi sy'n agos iawn at y ffin. Eto i gyd mae cofnod da o gydweithrediad rhwng Garda Síochána a gwasanaeth heddlu Gogledd Iwerddon. Nid yw'n broblem. Am ryw reswm, mae'n ymddangos mai dim ond rhwng Cymru a Lloegr y mae'n broblem, ond nid yw'n broblem yn unman arall—hyd yn oed o fewn y DU, lle mae gan yr Alban system heddlu annibynnol, wrth gwrs. Nid oes neb erioed wedi dweud, 'Mae hynny'n creu problem o ran cydweithredu ar draws ffiniau.' Felly, rwyf yn ei chael hi'n anodd derbyn y ddadl honno.
Yn ymarferol, beth mae hyn yn ei olygu? Wel, mae'n golygu, er enghraifft, yn amlwg, y byddai gennym ni reolaeth yma o'n system gyfiawnder. Nid yw'n golygu na fyddai unrhyw gydweithrediad; nid yw'n golygu y byddem ni'n adeiladu wal gyfiawnder rhyngom ni a Lloegr—wrth gwrs na fyddem. Ni fyddai angen proffesiynau ar wahân arnoch chi. Rwy'n credu bod hynny'n iawn; gallech gael proffesiynau a allai reoleiddio'u hunain a bod yn drawsffiniol. Ni fyddai angen system llysoedd ar wahân arnoch chi o anghenraid. Mae'r Arglwydd Ustus Thomas wedi dweud yn y gorffennol fod y syniad o awdurdodaeth bendant yn golygu y gallwch chi ddweud, 'Iawn, byddwn ni'n rhannu system llysoedd ac yn rhannu'r costau.' Oherwydd, ar hyn o bryd, nid ydym yn talu unrhyw beth tuag at y system gyfiawnder, ac eto rydym ni'n cynhyrchu Deddfau yma sy'n creu costau i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder y mae'n rhaid iddyn nhw eu codi bob tro. Nawr, mae'n gyfleus iawn i ni, ond a yw hynny'n deg yn y tymor hwy? Byddai awdurdodaeth wedi'i rhannu'n briodol yn gweld rhannu cyfrifoldeb rhwng y ddau gorff hyn, y ddwy ddeddfwrfa hyn. Rwy'n gweld yr amser yn mynd yn brin, Llywydd.
A byddwn i ond yn dweud hyn: fel y dywedais o'r blaen, y sefyllfa annormal sydd gennym ni yng Nghymru—Senedd heb awdurdodaeth. Y sefyllfa annormal yw'r hyn sydd gennym ni yng Nghymru a Lloegr, lle mae gennym ni ddwy Senedd o fewn yr un awdurdodaeth. Rwy'n gwneud y pwynt olaf hwn er mwyn dangos i'r Aelodau beth y gallai hynny ei olygu: mae'r amser yn dod pan fyddai'n bosibl i rywun gael ei arestio, ei roi ar brawf a'i garcharu yn Lloegr am drosedd nad yw'n drosedd yn Lloegr, gan mai un awdurdodaeth ydyw. Ac mae'n amlwg na all hynny fod yn iawn yn y dyfodol, ac mae'n amser gwneud yn siŵr bod gennym ni well cymesuredd o ran datganoli ac yn sicr gymesuredd llawer gwell cyn belled ag y mae datganoli cyfiawnder yn y cwestiwn.
Fel eraill, hoffwn i fanteisio ar y cyfle y prynhawn yma i ddiolch i'r Arglwydd Thomas a'i gydweithwyr, ei gomisiynwyr a'r staff a'u cefnogodd wrth lunio'r adroddiad hwn. Hoffwn i ddweud hefyd fy mod yn cytuno'n llwyr â'r dull a amlinellwyd gan y Prif Weinidog wrth gyflwyno'r ddadl hon ac rwy'n gobeithio y gallwn ni symud ymlaen ar y mater hwn yn gyflym ac ar fyrder.
Pan gefais i fy mhenodi â chyfrifoldeb dros gyfiawnder am y tro cyntaf, cefais i fy syfrdanu'n fawr gan yr hyn a welais i—fy syfrdanu'n llwyr a chael ysgytwad ofnadwy oherwydd cyflwr y system cyfiawnder troseddol yn y wlad hon. Ac mae'r adroddiad hwn—dywedodd Mark Reckless ei fod yn gondemniad o'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr. Nid yw hynny'n wir: mae'n gondemniad o'r system yng Nghymru. Nid yw'r materion yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael â nhw a rhoi sylw iddyn nhw yma yn bodoli yr ochr arall i'r ffin yn yr un ffordd o gwbl. Nid yw hynny'n golygu fy mod yn cefnogi ymagwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyn o beth, ond nid oes ganddyn nhw'r problemau yr ydym ni'n ymdrin â nhw yma. A mynegodd uwch was sifil hynny'n dda iawn pan ddywedodd wrthyf i ein bod mewn sefyllfa yma lle nad yw Llywodraeth y DU yn gallu cyflawni polisi—nad yw'n gallu cyflawni polisi o gwbl—ond ni all Llywodraeth Cymru wneud hynny ychwaith. Nid yw Llywodraethau Cymru na'r DU yn gallu cyflawni polisi yn y maes hwn. Mae'n gwbl anghywir oherwydd—[Torri ar draws.] Byddaf i'n ildio mewn eiliad. A'r bobl sy'n dioddef—y bobl sy'n dioddef—yw'r bobl sy'n dihoeni mewn system nad yw'n gallu diwallu eu hanghenion nac anghenion y gymdeithas ehangach am gyfiawnder.
Rwy'n cytuno â'r aelod o ran materion uwch ynghylch llywodraethu neu awdurdodaeth, ond yn sicr mae llawer o'r adroddiad hwn yn ymwneud â gweithredu'r system gyfiawnder ar lawr gwlad pan fydd wedi'i hamddifadu o arian. Ac mae llawer iawn o'r materion hyn yr un mor gyffredin mewn rhanbarthau ledled Lloegr, nad ydyn nhw wedi cael budd yr adroddiad rhagorol hwn.
Yn sicr, mae'n ymwneud â hynny'n rhannol—nid wyf yn anghytuno â chi bod y polisïau y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn eu dilyn ers degawd neu fwy wedi bod yn gwbl ddinistriol ac wedi achosi lefel o anhrefn nad ydym ni wedi'i gweld yn ystod y cyfnod diweddar.
Ond gadewch i mi ddweud hyn: rydym ni, yn rhy aml, yn canolbwyntio ar garcharu, y broses o garcharu—o anfon rhywun i ystad ddiogel, eu hanfon i'r carchar, er mwyn cyflawni dedfryd neu beth bynnag. Mae hynny mewn gwirionedd yn rhan gymharol fach o'r hyn y dylai system cyfiawnder troseddol fod yn ei wneud, a'r rheswm dros fethiant y system bresennol yw bod yr holl wasanaethau a ddylai gefnogi a chynnal rhywun, nid yn y system, ond drwy'r system ac allan o'r system, eisoes wedi'u datganoli. Ac mae'n gondemniad parhaol, i ddefnyddio'ch gair chi, o system sydd wedi'i chyflwyno dros y canrifoedd, nad yw wedi darparu'r un cyfleuster i fenywod, nac ychwaith, hyd at ddwy neu dair blynedd yn ôl, yr un cyfleuster difrifol y tu allan i goridor yr M4. Felly, rydym ni wedi cael system cyfiawnder troseddol nad yw wedi cael ei chynnal er budd pobl Cymru, nad yw wedi cael ei chynnal i ddiwallu anghenion pobl Cymru, ond sydd wedi cael ei chynnal allan o Whitehall a San Steffan i gwrdd â'u hanghenion pan fo hynny'n gyfleus iddyn nhw. Ac nid yw'r bobl sy'n talu'r pris yn dueddol o fod yn bobl sy'n eistedd mewn mannau fel hyn, ond nhw yw'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Ac rwy'n credu, os ydym ni o ddifrif ynglŷn â gwneud hyn, bod angen i ni gymryd y cam hwn a gwneud hynny ar frys.
Rwy'n edrych ar sut yr ydym ni'n gweinyddu nid yn unig y deddfau yr ydym ni'n eu pasio yma, ond hefyd y ffordd yr ydym ni'n gorfodi'r rheini. Mae Mark Isherwood yn gwneud pwynt diddorol, ond un hollol anghywir. Nid ydym ni, yma, yn sôn am ganfod troseddau, neu, fel yr oeddech chi wedi'i ddweud, datganoli gweithgarwch troseddol. Nid oes angen i ni wneud hynny, yn fy marn i. Yr hyn yr ydym ni'n ei ystyried yma yw sut y gall yr heddlu ymgysylltu â'r gwasanaethau sydd wedi'u datganoli, a siarad â chomisiynwyr yr heddlu—. Fel Gweinidog yma, siaradais â phob un o gomisiynwyr yr heddlu, ac mae newidiadau wedi bod i'r prif gwnstabliaid nawr, ond, dros y rhan fwyaf o fy nghyfnod yn y swydd, roedd y comisiynwyr a'r prif gwnstabliaid, a'r rhan fwyaf o'r uwch swyddogion, yn cefnogi datganoli'r gwasanaeth yn gryf, oherwydd eu bod yn cydnabod bod angen iddyn nhw weithio'n agosach gyda'r gwasanaethau sydd wedi'u datganoli a bod angen iddyn nhw fod â chysylltiad agosach o lawer â'r gwasanaethau sydd wedi'u datganoli nag yr oedden nhw, nag y maen nhw ar hyn o bryd. Nid yw'n gredadwy i ddadlau fel arall. Ac rwy'n credu bod y gwaith sydd wedi'i wneud gan y comisiwn wedi sicrhau bod gennym ni'r egwyddor a'r arfer o bolisi.
Mewn egwyddor—creu setliad mwy sefydlog—rwy'n cael fy nghalonogi'n fawr o glywed o fewn y Blaid Lafur bod yr ymgeiswyr am arweinyddiaeth i gyd yn edrych, rwy'n credu, am ateb ffederal, neu ateb cydffederal, yn y Deyrnas Unedig; rwy'n credu bod hwnnw'n gam pwysig ymlaen. Mae'n rhaid i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol fod yn rhan sylfaenol o hynny. Ni all system ffederal fodoli heb hynny. A'r hyn y mae angen inni allu ei wneud, fel y dywedodd y cyn-Brif Weinidog ei hun, yw creu'r amgylchiadau i hynny ddigwydd, oherwydd—ac fe wnaf orffen ar y pwynt hwn, Llywydd—ar hyn o bryd, rydym ni'n esgeuluso pobl sydd yn y carchar oherwydd eu hiechyd meddwl, neu oherwydd camddefnyddio sylweddau. Nid ydym ni'n darparu'r addysg sydd ei hangen arnyn nhw. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw cloi'r drws ac anghofio amdanyn nhw. Efallai mai dyna'r ymagwedd y mae'r Blaid Brexit a'r Ceidwadwyr eisiau ei chymryd, ond ni chredaf mai dyna'r ymagwedd y gall neu y dylai'r Senedd hon ei chymryd.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl. Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Wrth gloi'r ddadl hon, a gaf fi ategu diolchiadau'r Prif Weinidog i'r Arglwydd Thomas a'r comisiynwyr am ddarn sylweddol o waith, sy'n dangos cadernid, arbenigedd ac annibyniaeth, y mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn eu cyfraniadau wedi eu cydnabod? Ac mae'n ddrwg gennyf ddweud nad wyf yn gallu dweud bod pob aelod wedi gwneud hynny.
Fel Aelodau'r Senedd, ein cyfrifoldeb ni yw cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, a rŷn ni gyd yn ceisio gweithio yn ein ffordd ein hunain i gyflawni'r cyfrifoldeb hwn. Ac, ar y cyfan, rwy'n credu bod pawb yma hefyd, yn ein ffyrdd ein hunain, eisiau gweld Cymru fwy cyfiawn.
Mae amryw o Aelodau wedi cyfeirio yn ystod y ddadl at sylwadau gan Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a oedd fel petasai nhw efallai yn diystyru datganoli cyfiawnder. Ond dwi ddim yn credu bod y drws wedi ei gau yn derfynol ar hynny, ac, wrth edrych ar rai o'r sylwadau hynny, rwy'n credu bod cyfle i astudio canfyddiadau'r comisiwn efallai'n fwy manwl na sydd wedi digwydd hyd yn hyn, ac rwy'n disgwyl ymlaen at gynnal sgyrsiau pellach ar y testun hwn gyda nhw.
Dylai cyfiawnder, fel y mae'r comisiwn wedi'i ddweud, fod wrth wraidd Llywodraeth. Ac mae casgliadau'r comisiwn yn ddiamwys. Dylai cyfiawnder gael ei bennu a'i gyflawni yng Nghymru, i gyd-fynd â pholisïau cymdeithasol, iechyd ac addysg unigryw Cymru sy'n datblygu. Nid ydyw ar hyn o bryd, oherwydd mae cyfiawnder, yn gyffredinol, wedi'i gadw'n ôl. Rwy'n cytuno â'r comisiwn fod y setliad datganoli presennol yn ddryslyd ac yn gymhleth ac nad yw'n diwallu anghenion pobl Cymru.
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol dderbyn ymyriad byr?
Gwnaf, yn wir.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi. A fyddech chi'n cytuno â mi mai un maes lle mae'r gwrthdaro hwn yn dod yn fwyfwy amlwg yw maes y llysoedd teulu? Mae polisi cyhoeddus Cymru yn gynyddol â dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau plant, ac mae gan lysoedd teulu ddull o weithredu sydd ychydig yn wahanol. Ac a fyddech chi'n cytuno â mi y byddai datganoli cyfiawnder yn ein galluogi ni i ddwyn yr elfennau hyn at ei gilydd i alluogi plant a theuluoedd i gael gwell mynediad a mynediad mwy amserol a gobeithio, gweld proses llai gwrthdrawiadol?
Byddwn i'n cytuno'n llwyr â'r cynnig hwnnw. Rydym yn cefnogi'n frwd y broses o ddatganoli cyfiawnder teuluol, oherwydd ei fod yn golygu y bydd modd cysoni'n well â'n blaenoriaethau ni yma fel Llywodraeth, gan gynnwys ymyrryd yn gynnar a sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed yn well yn rhai o'r achosion hynny hefyd.
Mae hynny'n un o amryw o feysydd lle mae gwaith y comisiwn yn adlewyrchu'r angen i integreiddio cyfiawnder â'r meysydd polisi hynny sydd eisoes wedi'u datganoli i Gymru—nododd Mick Antoniw rai ohonyn nhw yn ei gyfraniad—tai, iechyd ac addysg, ymysg eraill. A'r rhwystr hwnnw rhag integreiddio sydd, yn fy marn i, yn esbonio'r cyfyng-gyngor yr oedd Mark Isherwood yn ymladd ag ef yn ei gyfraniad, rwy'n credu, a dyna pam nad yw'r system gyfiawnder a gedwir yn ôl yn perfformio'n well ar gyfer pobl Cymru. Yn yr ardaloedd hynny, mae gwahaniaethau eisoes rhwng y gyfraith sy'n berthnasol i Loegr a'r gyfraith sy'n berthnasol i Gymru, ac ni fydd hynny ond yn cynyddu. Ac mae'r casgliad y dylai cyfiawnder gael ei ddatganoli yn adlewyrchu hefyd well defnydd o arian y gellir ei ddyrannu'n gyfannol i sicrhau canlyniadau gwell i'r bobl y siaradodd Leanne Wood a John Griffiths mor angerddol a phwerus amdanyn nhw, sydd ymysg y mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Felly, mae'n rhaid i wella canlyniadau i bobl Cymru fod wrth wraidd yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i gyflawni.
Ac yna, yn olaf, y mae'r gwaith y gallwn ni ei wneud ar hyn o bryd yng Nghymru. Ac, o'm rhan i, rwyf i wedi cyfarfod yn ddiweddar â phenaethiaid ysgolion y gyfraith yng Nghymru i drafod addysg gyfreithiol a sefydlu cyngor cyfraith newydd arfaethedig Cymru a'i swyddogaeth. Dwi ar drywydd achos y Gymraeg yn y system o gymwysterau cyfreithiol proffesiynol, lle, yn wahanol i Mark Reckless, mae'r Llywodraeth hon yn disgwyl triniaeth gyffelyb i'r rhai sy'n ceisio cymhwyso yn Gymraeg. Rwy'n cyfarfod â chwmnïau'r gyfraith ac â Chymdeithas y Cyfreithwyr—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf.
A yw'n credu ei bod yn rhesymol i rywun sydd dim ond wedi dangos hyfedredd drwy arholiad yn y Gymraeg gael ymarfer ar draws Lloegr, yn Saesneg?
Rwy'n credu ei bod yn gwbl resymol i ddisgwyl hynny, yn union fel y mae'r system bresennol yn rhoi'r hawl i bobl sydd wedi cymhwyso yn Saesneg i ymarfer yng Nghymru, gan gynnwys yn y Gymraeg, gyda chleientiaid o Gymru.
Rwy'n cwrdd ymhellach â chwmnïau'r gyfraith yng Nghymru a Chymdeithas y Cyfreithwyr yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod sut y gallwn ni ddatblygu gallu'r sector cyfreithiol yng Nghymru, ac rwyf eisoes yn trafod gyda'r bar yng Nghymru yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd i gryfhau ymhellach y rhan y gall ei chwarae wrth gyfoethogi ecoleg gyfreithiol Cymru.
Wrth ddod i gasgliad, Llywydd, mae'n amlwg bod y comisiwn wedi cyflwyno condemniad hallt o gyflwr y system gyfiawnder yng Nghymru. Ond mae hefyd wedi rhoi inni weledigaeth feiddgar a thrywydd fel y gallwn ni ddarparu gwell canlyniadau i bobl Cymru, a rhaid i hynny fod yn brif amcan inni wrth greu Cymru deg a mwy cyfiawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly dyma ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y gyllideb ddrafft, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM7259 - Dadl: Cyllideb Ddrafft 2020-2021 : O blaid: 28, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl rŷn ni newydd ei chynnal ar adroddiad y comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
NDM7260 - Gwelliant 1: O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 3
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 2, felly. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
NDM7260 - Gwelliant 2: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Y bleidlais olaf yw'r un ar y cynnig heb ei ddiwygio. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM7260 - Dadl: Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru : O blaid: 38, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
A dyna ddiwedd ar ein trafodion am y dydd.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:31.