Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

26/06/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Os caf i sylw pawb, er mwyn i fi fedru croesawu, yn arbennig, 39 o Aelodau'r Senedd Ieuenctid i ymuno â ni heddiw, yn ein sesiwn gyntaf ni o'r math yma, ac, o bosib, y sesiwn gyntaf yn y byd lle mae senedd genedlaethol wedi cwrdd mewn sesiwn ffurfiol gyda senedd ieuenctid etholedig hefyd. Dyw'r Senedd Ieuenctid ddim eto yn flwydd oed, ond eisoes mae wedi aeddfedu ac wedi esblygu mewn modd y gallwn ni i gyd fod yn falch iawn ohoni, ac mae blaenoriaethau'r Senedd Ieuenctid honno yn flaengar, yn feddylgar, ac yn feiddgar. Ac rŷm ni i gyd yn edrych ymlaen, dwi'n siŵr, i glywed mwy am y Senedd Ieuenctid yn ystod y sesiwn yma y prynhawn yma. Byddwn hefyd yn trafod a phleidleisio ar gynnig arbennig, sydd yn amlinellu egwyddorion craidd y berthynas a fydd yn datblygu rhwng y Senedd Ieuenctid a'r Cynulliad yma, wrth i'r gwaith pwysig o gynrychioli buddiannau pobl ifanc Cymru fynd rhagddo.

Felly, heb oedi mwy, rwy'n cyflwyno'r cynnig, ac yn galw ar Maisy Evans, Aelod Senedd Ieuenctid Torfaen, i ddweud mwy wrthym ni am arwyddocâd y cynnig hwnnw. Maisy Evans.

Cynnig NDM7100 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi y bydd gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod ei thymor cyntaf yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:

a) iechyd meddwl a llesiant emosiynol;

b) sgiliau bywyd yn y cwricwlwm; ac

c) sbwriel a gwastraff plastig.

2. Yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i gefnogi’r gwaith y mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgymryd ag ef i ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru.

3. Yn cytuno â’r datganiad ar y cyd sy’n amlinellu ymrwymiad y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru i weithio gyda’i gilydd ar ran pobl ifanc Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Braint ac anrhydedd yw sefyll yn y Siambr ar y diwrnod tyngedfennol hwn, ac mae'n wych gweld Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Senedd Ieuenctid gyda'i gilydd ar ddiwrnod mor hanesyddol yng Nghymru.

Cyfarfu Senedd Ieuenctid Cymru yma, yn y Siambr hon, am y tro cyntaf ym mis Chwefror eleni, a chawsom gyfle i siarad am y materion sydd bwysicaf i ni fel pobl ifanc yng Nghymru. Roedd y cyfraniadau a gafwyd yn angerddol, yn amrywiol ac yn ddiffuant. Dewisais i siarad am sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, ac roedd y materion a godwyd yn cynnwys addysg ryw, ariannu ac, yn bennaf, addysg wleidyddol a dinasyddiaeth, gan fod barn pobl ifanc ar wleidyddiaeth wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Yng nghyd-destun Brexit a ffug newyddion, mae pobl ifanc mewn sefyllfa fwy bregus nag erioed o’r blaen, gyda materion o'r fath yn cael effaith uniongyrchol ar ein dyfodol ni. Mi fydd addysg safonol yn seiliedig ar wleidyddiaeth Prydain, ac yn ehangach, yn sicrhau bod dyfodol cenedlaethau iau wedi'i ddiogelu.

Fel y soniwyd eisoes, y materion y gwnaethom bleidleisio i'w blaenoriaethu yn ein tymor dwy flynedd cyntaf yw: iechyd emosiynol ac iechyd meddwl; sbwriel a gwastraff plastig; a sgiliau bywyd yn y cwricwlwm. Bydd fy nghyd-Aelodau yn helaethu ar y gwaith sy'n digwydd ym mhob un o'r meysydd hyn yn y man. Er mwyn i'n gwaith fod yn effeithiol, ac er mwyn i Senedd Ieuenctid Cymru allu cynrychioli holl bobl ifanc Cymru, mae'n hanfodol bod perthynas rhyngom ni a'r Cynulliad. Mae’r datganiad, a ddarllenir gennyf yn fuan, yn amlinellu’r egwyddorion i'r ddau sefydliad weithio gyda'i gilydd a'r hyn y gall pobl ifanc ei ddisgwyl gennym ni. Pleidleisiodd Senedd Ieuenctid Cymru yn ddiweddar i gytuno'r datganiad, ac rydym newydd gynnal digwyddiad yn y Pierhead i bwysleisio pwysigrwydd heddiw, o ran sicrhau bod ein gwaith yn cael ei ystyried gan y Cynulliad. Dyma ddatganiad Senedd Ieuenctid Cymru a’r Cynulliad:

Mae’r datganiad hwn yn nodi’r egwyddorion sy’n sail i’r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ieuenctid Cymru, i sicrhau bod gan bobl ifanc yng Nghymru lais ar y lefel uchaf. Bydd Senedd Ieuenctid Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i: sicrhau bod materion, penderfyniadau, a gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu harwain gan ei Haelodau a'r bobl ifanc y maent yn eu cynrychioli; sicrhau bod gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn rhan annatod o'r broses gwneud penderfyniadau a strwythurau democrataidd yng Nghymru; parhau i wella'r ffyrdd y mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau yng Nghymru, yn unol ag erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n datgan bod gan bobl ifanc yr hawl i ddweud eu barn yn rhydd ac i’w barn gael ei hystyried; ymrwymo i hawliau pobl ifanc i gael y gefnogaeth sydd ei hangen i ymgysylltu â gwaith Senedd Ieuenctid Cymru, a'u hannog i weithio, cyfathrebu ac ymgysylltu yn nwy iaith swyddogol y Cynulliad; sicrhau y gall pobl ifanc gyfrannu mewn amgylchedd hygyrch, cynhwysol a diogel; a gweithredu yn ôl egwyddorion didwylledd a thryloywder, gan ddarparu adborth clir, hygyrch ac o ansawdd da ar gyfraniad pobl ifanc i waith Senedd Ieuenctid Cymru a busnes y Cynulliad. [Cymeradwyaeth.]

13:35

Diolch yn fawr iawn.

Y siaradwr nesaf yw Jonathon Dawes, Aelod dros Ddyffryn Clwyd. Jonathon Dawes.

Diolch, Lywydd. I ddechrau, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn fraint go iawn cael bod yn y Siambr heddiw i siarad am sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, sy'n fater gwirioneddol bwysig i bobl ifanc. A diolch i Senedd Ieuenctid Cymru am roi'r cyfle gwych hwn i mi. Fel y gŵyr llawer o Aelodau'r Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru, ers i mi gael fy ethol, ac chyn i mi gael fy ethol hyd yn oed, rwyf wedi bod yn dadlau dros sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, ac mae'n anrhydedd i mi gael siarad â chi heddiw am waith Senedd Ieuenctid Cymru yn ogystal â fy ngwaith i'n bersonol ar y mater hynod allweddol hwn.  

Ar ôl Cyfarfod Llawn cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Chwefror, pleidleisiodd yr Aelodau o blaid sgiliau bywyd fel un o'n tri mater pwysicaf, ac roeddwn yn hapus iawn fod yr Aelodau wedi cefnogi'r mater allweddol hwn ar ôl areithiau angerddol gan Aelodau ledled Cymru. Yn gyfunol, fel senedd ieuenctid, rydym wedi cymryd camau i sicrhau newid gwirioneddol i bobl ifanc ar y mater hwn. Yn ddiweddar, rydym wedi creu pwyllgorau sgiliau bywyd, sydd â chynrychiolwyr o bob rhanbarth o Gymru. Ym mis Mai, lansiwyd ein harolwg o sgiliau bywyd ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed yn ystod Eisteddfod yr Urdd, ac rydym wedi trefnu dau ddigwyddiad ymgynghori ar sgiliau bywyd—un yng ngogledd Cymru, a'r llall yn ne Cymru. Bydd yr holl gamau rhydd hyn yn ein helpu i gael ystod eang o safbwyntiau gan bobl ifanc am yr hyn y maent eisiau ei weld yn y cwricwlwm newydd, ac yna byddwn yn trafod y rhain yng Nghyfarfod Llawn y Senedd Ieuenctid ym mis Hydref. Hoffwn annog Aelodau'r Cynulliad i rannu ein harolwg ar gyfryngau cymdeithasol, fel y mae llawer eisoes wedi'i wneud, a mynychu'r digwyddiadau ymgynghori hyn, i gael y safbwyntiau ar yr hyn a ddylai fod yn y cwricwlwm newydd o ran sgiliau bywyd, gan bobl a fydd yn cael profiad o'r cwricwlwm newydd ond sydd hefyd wedi cael profiad o'r cwricwlwm presennol a chwricwla'r gorffennol, oherwydd yn y pen draw, bydd hyn yn ein helpu i ddysgu o gamgymeriadau'r hen gwricwlwm, yn ogystal â dysgu o'r pwyntiau da wrth ddylunio un newydd.

O'm rhan i'n bersonol, rwy'n teimlo'n angerddol am y mater hwn, ond hwn yw'r mater sy'n codi amlaf o bell ffordd mewn negeseuon gan bobl ifanc ar gyfryngau cymdeithasol, a phobl ifanc sy'n byw yn fy etholaeth. Ers i mi gael fy ethol, rwyf wedi siarad â channoedd o bobl ifanc, ac maent i gyd yn cytuno â mi—dylai sgiliau bywyd chwarae rhan flaenllaw yn y cwricwlwm newydd. Er eu bod wedi treulio 13 blynedd mewn addysg amser llawn, teimlant nad oes ganddynt sgiliau digonol i'w helpu i gyflawni eu potensial yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys addysg ariannol a gwleidyddol. Ond mae'n rhaid dweud, pan fyddaf yn siarad â phobl ifanc am y cwricwlwm—ac maent yn angerddol iawn am y mater hwn—y sgil bywyd a grybwyllir fwyaf, y sgil y mae pob un ohonynt eisiau ei weld, yw adfywio cardio-pwlmonaidd a chymorth cyntaf sylfaenol.

Mae llawer o Aelodau Cynulliad ar draws y Siambr wedi hyrwyddo'r mater hwn yn gwbl briodol, ond rwyf fi ac Aelodau eraill o Senedd Ieuenctid Cymru yn cefnogi ymgyrch barhaus Sefydliad Prydeinig y Galon i gynnwys adfywio cardio-pwlmonaidd yng nghwricwlwm 2022, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried hyn ar ôl y cyfnod ymgynghori. Mae'n bwysig ein bod yn casglu amrywiaeth eang o safbwyntiau gan bobl ifanc a bod y safbwyntiau hyn yn cael eu hystyried ar y lefel uchaf, a dyna pam fod bod yma yn y Siambr heddiw, o flaen holl Aelodau'r Cynulliad, yn gam enfawr.  

Mae'r cwricwlwm yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni ei newid er gwell, ac mae rhai o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru wedi cyfarfod â'r Gweinidog addysg, Kirsty Williams, i rannu eu safbwyntiau ac i gynrychioli barn pobl ifanc yn eu hardaloedd ar y mater gwirioneddol bwysig hwn. Mae pawb ohonom wedi bod yn cyfrannu at y broses o rannu'r ymgynghoriad presennol ar y cwricwlwm newydd, ac er mwyn sicrhau cwricwlwm sy'n mynd i'r afael â'r gwaith o wella sgiliau bywyd, ymysg pethau eraill, rwy'n credu bod yn rhaid i ni weithio gyda'n gilydd yn drawsbleidiol gyda Senedd Ieuenctid Cymru, er mwyn sicrhau bod cwricwlwm newydd Cymru yn rhywbeth y gall pawb ohonom ymfalchïo ynddo. Diolch yn fawr iawn. [Cymeradwyaeth.]

Ein siaradwr nesaf yw Sandy Ibrahim, yr Aelod a etholwyd gan bartner ar gyfer Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru. Sandy Ibrahim.

Diolch, Lywydd. Sandy Ibrahim wyf fi, ac rwy'n cynrychioli'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn Senedd Ieuenctid Cymru. Mae heddiw, 26 Mehefin, fel y gwn i a llawer o bobl eraill, yn ddiwrnod pwysig, nid yn unig i berson penodol, ond i Senedd Ieuenctid Cymru yn ei chyfanrwydd. Felly, yn fy araith heddiw, byddaf yn trafod gwaith y pwyllgor iechyd meddwl a llesiant emosiynol ac yn rhoi trosolwg o'n sefyllfa a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Fel y gŵyr y rhan fwyaf ohonom heddiw, mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar un o bob deg person ifanc. Maent yn cynnwys dicter, iselder, unigrwydd, pyliau o banig, straen, gorbryder ac anhwylder ymddygiad, ac yn aml maent yn ymateb uniongyrchol i'r hyn sy'n digwydd yn eu bywydau. Ond er mwyn lleihau'r nifer a helpu pob person ifanc, mae angen i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd.

Rwy'n falch iawn o ddweud bod llawer iawn o waith wedi'i wneud yng Nghymru ar edrych ymhellach ar iechyd meddwl a llesiant emosiynol pobl ifanc. Ac yn bennaf, dyna y mae pawb ohonom eisiau ei weld—gwaith cadarnhaol, a chanlyniadau cadarnhaol, gobeithio. Ym mis Ebrill 2018, cyhoeddwyd yr adroddiad 'Cadernid Meddwl'. Adroddiad yw hwn yn y bôn ar y newid sylweddol sydd ei angen o ran cymorth iechyd meddwl a llesiant emosiynol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. A'r wythnos diwethaf, cynhaliodd y Cynulliad sesiwn dystiolaeth i ddilyn yr adroddiad penodol hwn.

Gan symud ymlaen, ni all Senedd Ieuenctid Cymru ar ei phen ei hun fod yn gyfrifol am waith y pwyllgor iechyd meddwl a dod o hyd i ffyrdd o wella'n gadarnhaol. Yn bennaf, bydd pob un ohonom yn gweithio'n agosach â sefydliadau, pobl neu bobl ifanc hyd yn oed, ac yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau'r newid hwn a chyflawni'r hyn rydym eisiau ei gyflawni, a diolch byth, hyd yma, rydym wedi gweld llawer o ddiddordeb gan sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Gofal, Mind Cymru ac ambell un arall hefyd. Hefyd, rydym yn edrych ymlaen at ddechrau gweithio'n agos gyda hwy drwy ein thema waith.

Yn y pwyllgor iechyd meddwl a llesiant emosiynol, rydym wedi dechrau cymryd camau i edrych ar faterion unigol o fewn y pwynt cyffredinol hwn, ac yn y dyfodol byddwn yn gwneud mwy ar hyn ac yn dadansoddi pa feysydd rydym eisiau canolbwyntio arnynt yn benodol. Drwy ein hamser yma, mae'n amlwg y bydd angen i ni weithio gyda sefydliadau penodol, ac rydym wedi dechrau rhoi mwy o ystyriaeth i'r thema honno hefyd er mwyn dadansoddi pwy fydd y sefydliadau allweddol a fydd yn gweithio gyda ni.

Felly, yn olaf, cyn i mi gloi, roeddwn eisiau dweud, er cymaint yw fy niddordeb, rwy'n siŵr fod gan holl Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ddiddordeb mewn dechrau clywed gan gynifer o bobl ifanc â phosibl, a sicrhau hefyd ein bod yn canolbwyntio ac yn gweithio ar y materion mewn modd cadarnhaol ac yn bwysicaf oll, mewn modd effeithiol. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

13:40

Galwaf yn awr ar Anwen Rodaway. Anwen yw'r Aelod a etholwyd gan bartner ar gyfer Anabledd Dysgu Cymru. Anwen Rodaway i siarad.

Cyn dechrau, rydw i eisiau cymryd eiliad i ddweud diolch i’r Llywydd am y cyfle i siarad â'r holl Gynulliad yma yn y Siambr heddiw.

Anwen wyf fi ac rwy'n cynrychioli Anabledd Dysgu Cymru ar Senedd Ieuenctid Cymru. Rwy'n aelod o'r pwyllgor sbwriel a gwastraff plastig a hoffwn roi trosolwg byr i chi heddiw o'n sefyllfa a'n cynlluniau ar gyfer tymor cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru.

Yn ein cyfarfod rhanbarthol diweddaraf, ffurfiwyd pwyllgorau i ystyried pob un o'r tri maes rydym wedi penderfynu gweithio arnynt. Roedd y sesiynau taflu syniadau hyn yn gynhyrchiol iawn ac maent wedi rhoi man cychwyn da i ni ar gyfer deall beth yw'r problemau, ac mae gennym rai awgrymiadau cychwynnol i fwrw ymlaen â hwy.

Bu aelodau'r pwyllgor sbwriel a gwastraff plastig yn trafod profiadau a safbwyntiau personol. Rhannwyd gwybodaeth am weithgareddau rydym wedi cymryd rhan ynddynt yn bersonol er mwyn mynd i'r afael â'r gwaith o leihau sbwriel a gwastraff plastig, yn ogystal ag enghreifftiau eraill o arferion gorau roeddem yn ymwybodol ohonynt.

Mae rhai Aelodau wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau casglu sbwriel mewn ysgolion ac o fewn y cymunedau y maent yn byw ynddynt. Mae eraill wedi cymryd rhan mewn mentrau yn eu hysgolion. Er enghraifft, mae ysgol un Aelod wedi cyflwyno gorsafoedd ailgylchu o amgylch yr ysgol fel y gall disgyblion ailgylchu eu poteli plastig, eu papur, eu cardbord a'u cynwysyddion bwyd pan nad oeddent yn gallu gwneud hynny o'r blaen. Mae'n bwysig rhannu'r enghreifftiau hyn o arferion gorau ac annog ein hysgolion ein hunain i wneud newidiadau cadarnhaol.

Mae'n bwysig iawn i ni fod gennym ddealltwriaeth lawn o'r problemau y mae pobl ifanc ledled Cymru yn dymuno i ni fynd i'r afael â hwy. Rydym wedi dechrau ymgysylltu â phobl ifanc Cymru ac rydym yn dechrau cael sgyrsiau ynglŷn â pham fod sbwriel a gwastraff plastig mor bwysig iddynt a beth yw eu prif flaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn y maes hwn.

Yn ogystal â'r blaenoriaethau hyn, mae'n bwysig iawn i ni fod ein gwaith yn Senedd Ieuenctid Cymru a'r pwyllgor sbwriel a gwastraff plastig yn ystyried ymchwil a wnaed gan gyrff a sefydliadau eraill, gan gynnwys y gwaith pwysig a wneir gan y Cynulliad. Mae'r penderfyniad i ddatgan argyfwng hinsawdd a'r ymrwymiad i ddatblygu cynllun ar gyfer dyfodol di-garbon i Gymru wedi bod yn galonogol iawn. Gobeithiwn weithio gyda chi i gynnwys llais pobl ifanc Cymru yn y cynllun hwn. Mae'r gymuned rwy'n byw ynddi wedi ymuno â chi yn ddiweddar i wneud eu datganiad eu hunain. Rwyf wedi ymuno â'r gweithgor cymunedol gyda phobl ifanc eraill yn y gymuned i sicrhau bod pryderon pobl ifanc yn cael eu clywed.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn ymwybodol o'r adroddiad diweddar gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol ar effeithiau llygredd microblastig a phlastig. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r nifer enfawr o ficroronynnau a ffibrau na allwn eu gweld yn ogystal â'r plastig y gallwn ei weld. Cymeradwywn y pwyllgor am yr adroddiad hwn a chytunaf yn llwyr â chasgliad yr adroddiad na all Cymru wastraffu diwrnod arall yn y frwydr yn erbyn llygredd plastig. Mae'n bryd i ni weithredu yn awr. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

13:45

Llywydd, diolch yn fawr a diolch, wrth gwrs, i bob Aelod o'r Senedd Ieuenctid. Mae'n bleser mawr i mi gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma heddiw a dwi'n ddiolchgar i'r bobl ifanc sydd yn cyfrannu. Diolch i bob un ohonoch chi am eich sylwadau meddylgar a deallus.

Mae Cymru'n arwain y ffordd gyda hawliau plant a phobl ifanc ac mae'r Senedd Ieuenctid yn enghraifft bwysig arall o sut y gallwn ni gryfhau ein democratiaeth drwy eich cynnwys chi fel pobl ifanc yn ein trafodaethau. Mae gennych chi safbwynt unigryw i'w gyfrannu ac rydym ni angen clywed eich sylwadau ar faterion mawr sy'n wynebu Cymru heddiw.

Lywydd, mewn perthynas â'r hyn a glywsom eisoes, credaf ei bod yn galonogol iawn gweld y ffordd y mae'r agenda a osodwyd gan Aelodau'r Senedd Ieuenctid yn cyd-fynd mor dda â diddordebau'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun: datganiad o argyfwng hinsawdd—y Senedd genedlaethol gyntaf yn unrhyw le yn y byd i gymryd y cam hwnnw; a phwysigrwydd iechyd meddwl a llesiant. Mae'n bwysig iawn ein bod ni heddiw yn clywed gan rywun sy'n cynrychioli pobl ifanc ag anableddau dysgu yma yng Nghymru. Eleni, rydym yn dathlu 100 mlynedd ers creu sylfaen nyrsio anableddau dysgu yma yng Nghymru. Fel gwlad, rydym bob amser wedi bod â diddordeb arbennig yn llesiant pobl sy'n gorfod byw eu bywydau gyda chyflwr iechyd meddwl y mae pobl eraill yn ddigon ffodus i beidio â gorfod ei ddioddef.

O ran sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, mae'n ein hatgoffa pam ein bod yn gweithredu i roi'r hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru bleidleisio mewn etholiadau lleol ac yn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol, oherwydd mae cymryd rhan mewn democratiaeth yn sgil bywyd ynddo'i hun—mae'n rhywbeth sy'n rhaid i chi ei ddysgu; mae'n rhywbeth sy'n rhaid i chi ddod i arfer ag ef. Ac mae'r achos dros ymestyn hawliau pleidleisio yng Nghymru wedi'i wreiddio yn y gred y bydd pobl ifanc yn ein system addysg yn cael eu paratoi'n briodol bellach ar gyfer y dyletswyddau democrataidd hynny, o gofio'r sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt er mwyn gallu gwneud hynny. Gwyddom y bydd rhoi llais i bobl ifanc yn ein democratiaeth yn annog arferion pleidleisio gydol oes a mwy o gyfranogiad yn ein prosesau democrataidd.

Mae presenoldeb Aelodau o'r Senedd Ieuenctid yma yn y Siambr gyda ni y prynhawn yma yn enghraifft bendant o'r ffordd rydym eisiau gweld ein democratiaeth yn datblygu yn y dyfodol, gan roi cyfran i bawb yn y dyfodol rydym yn ei greu yma yn y Siambr hon, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bob un ohonoch am roi amser a gwneud ymdrech i fod yma gyda ni y prynhawn yma. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]

Galwaf yn awr ar gynrychiolwyr y grwpiau gwleidyddol. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser cael y cyfle i siarad ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ar y ddadl bwysig hon. Gaf i ddweud, Llywydd, fod creu Senedd Ieuenctid Cymru yn un o lwyddiannau mwyaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae mor bwysig o ran cryfhau llais pobl ifanc yma yng Nghymru?

Hoffwn, yn gyntaf oll, ddiolch i Aelodau o'r Senedd Ieuenctid a agorodd y ddadl hon am eu hareithiau arbennig a deallus. Mae'n gwbl glir bod eu cyflwyniadau wedi cael eu hymchwilio a'u hystyried yn dda iawn, ac maent yn sicr wedi rhoi digon i ni feddwl am wrth ystyried sut yr ydym ni, fel Aelodau Cynulliad, yn mynd i’r afael â rhai o’r materion pwysicaf sy’n wynebu ein cymdeithas.

Wrth gwrs, y pwnc cyntaf y mae’r Senedd Ieuenctid wedi dewis canolbwyntio arno yw iechyd meddwl a lles emosiynol, sy’n fater hollbwysig i bawb yng Nghymru. Ar yr ochr hon o’r Siambr, rŷm ni’n awyddus i weld mwy o waith yn cael ei wneud i annog mesurau ataliol cryfach ac ymyriadau cynnar. Er enghraifft, rŷm ni am weld ysgolion ledled Cymru yn cymryd camau i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar yn amgylchedd eu hysgolion, ac rŷm ni am i gyflogwyr edrych ar ffyrdd y gall eu busnesau ddarparu cymorth mwy cefnogol i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio gyda chyflyrau iechyd meddwl.

Rŷm ni eisoes yn gwybod bod amaethyddiaeth yn cario un o’r cyfraddau hunanladdiad uchaf, ac felly dwi’n credu ei bod hi’n deg dweud y gallai unrhyw un ohonom ni ei chael hi’n anodd ymdopi â’n hiechyd meddwl unrhyw bryd yn ein bywydau. Nid oes ots ble rŷch chi’n byw, neu ble rŷch chi’n gweithio, rŷm ni i gyd yn ddynol, ac felly gallwn ni gael trafferth gyda phryderon a phwysau unrhyw amser o’n bywydau. Felly, mae’n hanfodol bod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag iechyd meddwl yn cwmpasu ei holl feysydd polisi, fel bod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr effaith y gallai ei strategaethau eu cael ar les iechyd meddwl pobl pan fydd yn cyflwyno strategaethau ar gyfer yr economi, yr amgylchedd a thai.

Dwi’n hynod o falch bod y Senedd Ieuenctid wedi dewis sgiliau bywyd yn y cwricwlwm fel ei hail flaenoriaeth, oherwydd mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi bod yn ymgyrchu dros hyn ers peth amser. Mae fy nghyd-Aelod Suzy Davies, er enghraifft, wedi bod yn arwain y ffordd wrth alw am ddiffibrilwyr i gael eu rhoi mewn ysgolion ac i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf pwysig, fel CPR, mewn ysgolion ledled y wlad. Mae fy nghyd-Aelod Mark Isherwood hefyd wedi bod yn galw am ychwanegu Iaith Arwyddion Prydain at y cwricwlwm cenedlaethol ac am fynediad gwell at wasanaethau iaith arwyddion i blant a phobl ifanc ym meysydd iechyd a thrafnidiaeth gyhoeddus. A bydd Aelodau’n ymwybodol fy mod i wedi galw am well gwasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc sy’n cael trafferth gydag awtistiaeth, gan gynnwys hyfforddiant i athrawon a gweithwyr addysgol, fel bod dysgwyr ag awtistiaeth yn cael mynediad at y gofal a’r cymorth priodol drwy’r system addysg.

Yn olaf, Llywydd, dwi’n falch taw trydedd flaenoriaeth y Senedd Ieuenctid yw taclo sbwriel a gwastraff plastig. Mae’r pwnc yma’n sicr wedi ei wthio i frig yr agenda gwleidyddol yn ddiweddar oherwydd rhaglenni fel Blue Planet, sydd wedi codi ymwybyddiaeth y mater yma ymysg y cyhoedd. Mae digon o enghreifftiau o arfer da ledled Cymru sydd yn delio â sbwriel a gwastraff plastig, ond mae’n glir bod angen inni wneud mwy i hyrwyddo’r gweithgareddau hynny. Ac mae yna gyfrifoldeb gennym ni i gyd, fel unigolion, i fod yn llawer mwy cyfrifol ar fel rŷm ni’n mynd i’r afael â’r broblem enfawr yma. Rŷm ni i gyd yn ffodus iawn i fyw mewn gwlad mor brydferth, ond er mwyn cadw ei harddwch ar gyfer y bobl ifanc sydd gyda ni heddiw, ac i genedlaethau'r dyfodol, mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’w diogelu a’i chadw’n lân.

Felly, wrth gloi, Llywydd, gaf i, unwaith eto, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, ddiolch i Aelodau’r Senedd Ieuenctid sydd eisoes wedi siarad am eu cyfraniadau, a hefyd i holl Aelodau’r Senedd am y gwaith da y maen nhw wedi’i wneud yn barod yn yr amser byr ers iddynt gael eu hethol? Edrychaf ymlaen at glywed mwy gan y Senedd Ieuenctid ar eu blaenoriaethau yn y dyfodol ac i weithio’n agos iawn gyda nhw i ddatblygu syniadau a sicrhau bod y syniadau hynny’n cael eu gwireddu. Ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni ar ochr hon y Siambr yn cefnogi’r cynnig hwn sydd ger ein bron ni heddiw. Diolch yn fawr iawn. [Cymeradwyaeth.]

13:50

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi’n gwybod fy mod i’n siarad ar ran Aelodau o bob plaid yma drwy ddweud ysbryd mor braf sydd yma yn y Senedd heddiw yma, ac y byddai hi’n dda cael teimlo’r ysbryd yna yn eich cwmni chi, fel Aelodau’r Senedd Ieuenctid, lawer tro eto yn y dyfodol.

Mae yna lawer mewn gwleidyddiaeth sy’n destun digalondid. P’un ai drwy fy ngyrfa i fel newyddiadurwr neu fel gwleidydd fy hun, mae difaterwch yn rhywbeth sydd wedi bod yn peri pryder i fi. Yn fwy diweddar, mae anoddefgarwch mewn gwleidyddiaeth yn rhywbeth y dylai ein poeni ni i gyd. Felly, mae cael rhywbeth gwirioneddol i’w ddathlu mewn gwleidyddiaeth yn braf iawn, ac mae gweld ffurfio a dilyn datblygiad cynnar ein Senedd Ieuenctid genedlaethol ni yn rhywbeth sy’n destun balchder mawr i ni gyd. Senedd Ieuenctid sy’n rhoi cyfle nid yn unig i bobl ifanc leisio barn, ond hefyd sydd yn fodd o godi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc ledled Cymru o’r system wleidyddol, y system seneddol rydym ni'n rhan ohoni, ac sy'n cael effaith ar eich bywydau chi i gyd, ac wrth gwrs Senedd Ieuenctid sy'n blatfform i ddylanwadu go iawn ar benderfyniadau. Mae'ch Senedd chi yn llwyfan i helpu pobl ifanc, drwyddoch chi, i ddod yn rhan o wneud y penderfyniadau hynny sy'n mynd i siapio eich dyfodol chi i gyd. Dwi'n edrych ymlaen at weld hynny'n dod yn fwy a mwy amlwg wrth i'r oedran pleidleisio gael ei ymestyn i'r rhai sydd rhwng 16 a 18 oed.

Felly, mae'n wych gweld eich bod chi wedi mynd ati'n syth, wedi penderfynu rhoi ffocws clir ar dri thestun sy'n bwysig i chi. Yn wahanol i genedlaethau'r gorffennol, dwi'n meddwl, mae'ch cenhedlaeth chi wedi deall pwysigrwydd a gwerth siarad am iechyd meddwl. Mae dealltwriaeth o gyflyrau iechyd meddwl yn well nag erioed, ac mi all pwysau'r Senedd Ieuenctid sicrhau bod ymchwil a chefnogaeth a gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant yn dod yn rhan gwbl greiddiol o brofiad addysg, iechyd, gyrfaol a chymdeithasol pobl ifanc ar hyd a lled Cymru.

Mae sgiliau bywyd, wedyn, ar y cwricwlwm yn ardal bwysig iawn i roi sylw iddi hi. Mae troi o berson ifanc i oedolyn yn rhywbeth gwych, rydych chi'n amlwg yn mwynhau'r cyfnod yma yn eich bywydau a dwi'n cofio'r cyfnod efo cyffro a hapusrwydd mawr, ond, wrth gwrs, mae yna heriau yn dod yn y cyfnod yna mewn bywyd, o fod yn gyfrifol yn ariannol, gofalu am eich iechyd eich hunan neu ofalu am iechyd pobl eraill drwy CPR ac yn y blaen. Felly, ie, beth am sicrhau bod y gefnogaeth rydych chi eisiau ei chael yno i chi drwy'r system addysg?

Ac mae'r ymwybyddiaeth gynyddol wedyn sy'n tyfu o'n ffordd wastraffus ni o fyw yn galonogol iawn hefyd, a chi bobl ifanc sy'n arwain mewn cymaint o ffyrdd, yn cynnwys ar y defnydd o blastig. Felly, efo'ch help chi, mi all Cymru gael gwared ar rai o'n patrymau diog a difeddwl o fyw.

Felly bwrwch ati hi. Cofiwch y bydd cefnogaeth a phlatfform y Cynulliad yma o hyd i chi, ond mae hi hefyd yn bwysig inni beidio ag ymyrryd yn eich gwaith chi, a gadael ichi lywio’r ffordd.

Ewch amdani. Mae'r awenau yn eich dwylo chi; chi sydd wrth y llyw. Mae wedi bod yn bleser rhannu Siambr y Senedd gyda chi heddiw. Diolch am godi ein hysbryd ni i gyd heddiw, ac mae pawb ohonom yn edrych ymlaen at weld eich cyflawniadau drwy Senedd Ieuenctid Cymru ac ymhell y tu hwnt. [Cymeradwyaeth.]

13:55

Hoffwn innau hefyd estyn croeso cynnes i'n Haelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.  Rwy'n tybio'n gryf y bydd rhai ohonoch yma heddiw'n cael eich ethol i ymuno â ni yn y Cynulliad maes o law.

Yn anffodus, yn rhy aml, nid yw'r gwaith trawsbleidiol cadarnhaol sy'n digwydd yn y pwyllgorau, yn yr ystafelloedd wrth ymyl y Siambr hon, yn cael ei gofnodi'n eang. Caiff penawdau eu creu pan fo geiriau croes yn cael eu cyfnewid yn y Siambr hon. Fodd bynnag, rydym yn gytûn ar nifer o faterion, gan gynnwys y materion y mae'r Senedd Ieuenctid wedi tynnu sylw atynt.

Fel y clywsom yn gynharach—a diolch i chi—lluniodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adroddiad ar y newidiadau sydd angen i ni eu gweld yn y ddarpariaeth o gymorth iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru. Roeddwn ar y pwyllgor hwnnw, ac roeddwn yn llawn edmygedd o waith Cadeirydd y pwyllgor, yr Aelod dros Dorfaen, Lynne Neagle. Mae Lynne yn Aelod Llafur ac mae gennym ein safbwyntiau gwahanol, yn fwyaf amlwg yn y Siambr hon ar Brexit, ond rwyf wedi treulio o leiaf yr un faint o amser yn cytuno â hi ar gymorth iechyd meddwl i bobl ifanc, ac nid oes gennyf ddim ond canmoliaeth iddi am ei gwaith yn y maes hwn, gan gynnwys ei rôl yn y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.

Pan oeddwn yn fy arddegau, ac rwy'n siŵr y byddai Aelodau eraill o'r Cynulliad yn cytuno, nid oedd trafod llesiant emosiynol rhywun mor gyffredin ag y mae heddiw. Rydym yn falch o weld bod Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfrannu at awyrgylch lle gall pobl ifanc gael cymorth yn haws, oherwydd mae stigma'n bodoli o hyd, hyd yn oed os yw'n llai nag y bu, ac mae bylchau yn y cymorth o hyd. Fel y dywedodd Lynne yn ei rhagair i adroddiad 'Cadernid Meddwl':

'Amcangyfrifir y bydd gan dri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth gyffredin broblem iechyd meddwl. Erbyn y bydd plentyn yn 14 oed, bydd hanner yr holl broblemau iechyd meddwl wedi dechrau.'

Rydym ni i gyd yn pryderu am hyn, ac mae'n rhaid i bob un ohonom wneud mwy fel Cynulliad, fel y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud, os ydym o ddifrif ynglŷn â thrin iechyd meddwl yn gydradd ag iechyd corfforol, sef yr uchelgais sydd gan bawb ohonom rwy'n credu.  

Yn arbennig, buaswn yn gwerthfawrogi mewnbwn y Senedd Ieuenctid ar i ba raddau y mae'r cynnydd yn nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl a gofnodwyd yn adlewyrchu mwy o barodrwydd i fod yn agored am y mater hwn, ac i ba raddau y mae'n adlewyrchu mwy o bwysau ar bobl ifanc heddiw, gyda chynnydd bwlio ar-lein a phwysau cyfryngau cymdeithasol.

I gloi, a gobeithio na fydd ots ganddi, hoffwn ddyfynnu geiriau'r Aelod dros Dorfaen ar iechyd meddwl o adroddiad y pwyllgor unwaith eto:

'Mae hwn yn bwnc sy’n ein cyffwrdd i gyd, ac yn faes lle mae gennym ni oll gyfrifoldeb—a gallu—i wneud i newid ddigwydd.'

Gyd-Aelodau, gadewch i ni fyfyrio ar y daioni y gallwn ei wneud pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, gadewch i ni ddod at ein gilydd ar y materion yn y cynnig hwn, a gadewch i ni wneud i'r newidiadau hynny ddigwydd. [Cymeradwyaeth.]

14:00

Mi fyddaf i'n galw nawr ar Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru o bob un o'r rhanbarthau. Ac yn gyntaf, Ifan Jones, Aelod Ynys Môn. Ifan Jones.

Prynhawn da, bawb. Mae bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn y misoedd diwethaf wedi bod yn fraint, a dwi wedi cael gwneud ffrindiau efo’r bobl ifanc anhygoel yma. Yn rhanbarth y gogledd, rydym wedi bod yn gweithio efo’n gilydd ar sawl topig, yn cynnwys sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, a byddwn yn cynnal digwyddiad efo pobl ifanc eraill ym Mhrifysgol Glyndŵr yn fuan, i gael clywed eu barn nhw amdano. Mae'n hynod o bwysig bod llais pob person ifanc yn cael ei glywed, er eu pellter o'r brifddinas, ac rwyf yn falch iawn cael cynrychioli Ynys Môn a sicrhau bod lleisiau pobl ifanc fy mro yn cael eu clywed yn y Senedd.

Rydym hefyd wedi bod yn trafod iechyd meddwl, a beth fedrwn ni, fel Senedd Ieuenctid, ei wneud er mwyn helpu'r bobl ifanc sy’n gorfod wynebu hunllef wrth geisio cael y cymorth iechyd meddwl priodol. Rydym wedi cael cyfarfod sawl Aelod Cynulliad, yn cynnwys Rhun ap Iorwerth ac Ann Jones, sydd wedi bod yn ddiddorol iawn, wrth inni ddarganfod mwy am eu rôl a chael gweld eu cefnogaeth tuag at y Senedd Ieuenctid.

Er ein bod ni yma heddiw i ddathlu, rhaid cofio bod 200,000 o blant mewn tlodi yng Nghymru, cannoedd yn gorfod disgwyl misoedd am gymorth iechyd meddwl, ac mae’r byd o’n cwmpas yn cael ei ddinistrio gan newid hinsawdd. Mae’n rhaid i ni, fel cynrychiolwyr Cymru, weithio efo’n gilydd i greu gwlad well a mwy cydradd i bawb. Mae gennym ni ddyletswydd i sicrhau bod pobl ifanc Cymru yn cael y dechrau gorau posib i fywyd. Ni ddylem orfod disgwyl misoedd am gymorth iechyd meddwl. Ni ddylem orfod ddioddef mewn tlodi. Ni ddylem orfod poeni am ein dyfodol. Diolch. [Cymeradwyaeth.] 

Diolch, Llywydd. Rydw i'n hynod o ddiolchgar i gael bod yma heddiw er mwyn dathlu digwyddiad mor bwysig i hanes Cymru, sef y sesiwn cyntaf ar y cyd rhwng y Senedd Ieuenctid a'r Cynulliad—y sesiwn gyntaf o'i math yn y byd—a hynny yn ystod yr ugeinfed flwyddyn o ddatganoli. Dwi yma yn cynrychioli fy nghyd-Aelodau o Orllewin De Cymru heddiw.

Ers cwrdd am y tro cyntaf ym mis Chwefror, rydym ni fel Aelodau rhanbarth Gorllewin De Cymru wedi ymgymryd mewn llawer o bethau gwahanol er mwyn cwrdd â phobl ifanc. Mae rhai Aelodau wedi cynnal gwasanaethau ysgol ar waith y Senedd Ieuenctid, tra bod rhai wedi cynnal sesiynau llai gydag unigolion, grwpiau bach, a grwpiau ieuenctid lleol. Mae'r rhan fwyaf ohonom ni hefyd wedi cwrdd â llawer ohonoch chi, Aelodau'r Cynulliad, er mwyn trafod problemau yn ein hardaloedd ni neu i sgwrsio am fudiadau ac achosion rydym ni'n eu cefnogi.

Tua mis yn ôl, es i i gwrdd â Leanne Wood, lle buom ni'n trafod period poverty a diffyg cymorth i ddisgyblion a phobl ifanc sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Rydym yn cymryd ein rôl o gynrychioli llais pobl ifanc ein hardaloedd lleol ni o ddifrif, ac yn ddiolchgar am yr amrywiaeth o gyfleon trwy’r Senedd Ieuenctid i sicrhau bod modd i’r lleisiau yma gael eu clywed.

Fel rhanbarth, rydym ni wedi cwrdd yn ein pwyllgorau i drafod sut i symud ymlaen gyda'r achosion y dewisom ni fel Senedd Ieuenctid, sef sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, sbwriel a gwastraff plastig, a chefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol.

Ein prif ffocws ar hyn o bryd yw sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, gan fod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno y flwyddyn nesaf. Er mwyn casglu barn pobl ifanc yn ein rhanbarth, rydym ni fel Senedd Ieuenctid wedi cyhoeddi holiadur ar-lein. Rydym ni hefyd yn edrych ymlaen at ein digwyddiad fis nesaf, lle mae athrawon, disgyblion a grwpiau ieuenctid wedi cael eu gwahodd, er mwyn ymgymryd mewn sesiynau holi ac ateb a llawer o weithdai gwahanol. Mi fydd y digwyddiad yma yn Abertawe yn ein galluogi ni i weld safbwyntiau pobl o dros dde Cymru i gyd ar fater sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, a hefyd yn eu galluogi nhw i siarad efo ni a llawer o bobl arall, fel Lynne Neagle, am y peth.

I gloi, hoffwn i ddiolch eto i chi am wrando arnaf i heddiw ac am yr holl gefnogaeth rydych chi, fel Aelodau Cynulliad Cymru, wedi rhoi hyd yma, ac yn parhau i roi i ni yn ystod ein tymor ni fel Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

14:05

A'r siaradwr nesaf yw Angel Ezeadum, ac Angel Ezeadum yw'r Aelod a etholwyd gan bartner ar gyfer Race Council Cymru, ac yn siarad ar ran rhanbarth y de-ddwyrain. Angel Ezeadum.

Diolch yn fawr, Lywydd. Angel Ezeadum wyf fi ac rwyf yma i gynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru. Yn gyntaf, hoffwn ailadrodd pa mor arwyddocaol yw'r diwrnod hwn wrth i bob un ohonom ddod at ein gilydd heddiw i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru.

O ran gwaith y rhanbarth, rydym wedi rhannu ein gobeithion a'n dyheadau am ein gwaith fel Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ein cyfarfodydd rhanbarthol. Y prif gonsensws oedd ein bod yn gobeithio gwneud gwahaniaeth effeithiol i ieuenctid Cymru a grymuso lleisiau pobl ifanc. Yn ein cyfarfod diweddaraf, ffurfiwyd y tri phwyllgor yn seiliedig ar y tri mater allweddol y pleidleisiwyd drostynt yn ein sesiwn yn y Siambr. Yna, cyflawnwyd ymchwil i weld beth oedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i wneud eisoes neu wrthi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r mater, er mwyn osgoi unrhyw orgyffwrdd. Wedyn, trafodasom ein nodau a'r camau y byddai'n rhaid i ni eu cymryd er mwyn llwyddo.

Mae'r Senedd Ieuenctid wedi defnyddio digwyddiadau fel y jamborî yn y Senedd ac Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai i hyrwyddo ein gwaith ymhellach ac mae'n cael sylwadau gan amrywiaeth eang o blant a phobl ifanc. Mae'r defnydd o dechnoleg, yn enwedig mewn perthynas â'r arolwg ar sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, wedi ein galluogi i gyrraedd llawer iawn o bobl ifanc yng Nghymru, a chynyddu cyfranogiad wrth wneud hynny, gan sicrhau ein bod yn rhoi llais i'r ieuenctid mewn gwirionedd.

Fel un sy'n byw yng Nghaerdydd, rwyf wedi gweithio gyda chynrychiolwyr etholedig etholaethau Caerdydd ac Aelodau eraill a etholwyd gan bartneriaid o Gaerdydd i fynd i'r afael â'r problemau yn ein dinas. Rydym wedi cyfarfod â llawer o Aelodau Cynulliad, megis Andrew R.T. Davies, sef y cyntaf i gysylltu â ni, a Jenny Rathbone, a fu'n gymorth i ni gyda'n hareithiau ar gyfer y Siambr. Diolch i bawb a ddaeth o hyd i amser yng nghanol eu hamserlenni prysur i gyfarfod â ni.

Er bod y digwyddiad hwn yn ymwneud â dathlu pa mor bell y daethom, mae hefyd yn gyfle i edrych ymlaen at y dyfodol. Dim ond megis dechrau y mae ein gwaith ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu dros y 18 mis nesaf, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelodau, er mwyn llunio Cymru well ar gyfer ein cenhedlaeth ni.

Rwy'n falch o fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, a hyd yn hyn, mae wedi bod yn wych cael bod yn gynrychiolydd iddynt. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

A'r siaradwr nesaf, felly, yw Cai Phillips. A Cai Phillips yw'r Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Cai Phillips.

Dioch, Llywydd. Prynhawn da, ac mae yn brynhawn da iawn yma yn y Senedd. Fy enw i yw Cai Phillips a dwi’n Aelod Senedd Ieuenctid dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol a phwysig gan ei fod yn rhoi cyfle inni gwrdd a chydweithio â’r Aelodau 'hŷn'. Ar un ochr, profiad a doethineb, ac ar yr ochr arall, brwdfrydedd a syniadau newydd. Gobeithio y gallwn gydweithio i ddatrys rhai o’r problemau mawr sy’n ein hwynebu fel cenedl. Mae hefyd yn ddiwrnod i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli, ac, wrth gwrs, roedd canlyniad sir Gaerfyrddin wedi sicrhau 'ie' bendant i sefydlu Cynulliad i Gymru.

Rwy’n falch iawn o gynrychioli fy nghyd-Aelodau yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dyma ardal sy’n odidog iawn, gyda thraethau, mynyddoedd a chefn gwlad. Mae yna saith Aelod yn y rhanbarth, sef Arianwen, Lois, Caleb, Emily, Rhys, Ellie a fi. Ni yw magnificent seven y rhanbarth, ac ers cael ein hethol rydym wedi cyfarfod ddwywaith, a thrafodwyd pynciau llosg sy’n bwysig i bobl ifanc, ac yn benodol y tri mater a gafodd eu dewis yn ein cyfarfod seneddol cyntaf. 

Mae’n braf adrodd nôl ein bod wedi derbyn ymateb positif gan bobl ifanc ein rhanbarth. Mae’r Aelodau wedi codi ymwybyddiaeth mewn gwleidyddiaeth ac ennyn diddordeb mewn materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn sicr bod ein presenoldeb ar wefannau cymdeithasol wedi helpu i godi proffil gwaith y Senedd Ieuenctid. Er hyn, nid oes dim byd gwell na chwrdd wyneb yn wyneb â'n cyfoedion a chael sgyrsiau am yr hyn sy’n bwysig ac yn eu poeni, er enghraifft drwy waith gwych cynghorau sirol ieuenctid, fel yr un yn sir Gâr. Hefyd, mae nifer o Aelodau wedi bod i ymweld ag ysgolion a sefydliadau yn eu hetholaethau. Yn ogystal, bydd yr Aelodau yn mynychu rhai o ddigwyddiadau mwyaf yr haf, fel yr Eisteddfod Genedlaethol a'r sioe frenhinol, er mwyn casglu barn pobol ifanc, ac edrychaf ymlaen yn bersonol at glywed barn ymwelwyr ifanc yn y sioe. Mae’r ffyrdd hyn o ymgysylltu â phobol ifanc yn sicrhau bod pawb yn cael y siawns i ddweud eu dweud. 

Mae’r digwyddiad a'r datganiad heddiw yn mynd i roi sylfaen gadarn i’r Senedd Ieuenctid am flynyddoedd i ddod. Mae’n rhoi sicrwydd a hyder i Aelodau'r Senedd Ieuenctid wrth wneud gwaith yn eu hardaloedd lleol, ac o fewn eu pwyllgorau. A bydd y gwaith a gynhelir i bwrpas, gan y bydd y Cynulliad yn gwrando ac yn gweithredu ar yr hyn sydd gan yr ifanc i'w ddweud. Rydym yn edrych ymlaen at yr her. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

14:10

Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gau'r ddadl—Lynne Neagle.

Diolch, Lywydd. Mae'n anrhydedd go iawn i ddod â dadl gofiadwy heddiw i ben a chael cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â hi, dros fisoedd a blynyddoedd lawer, i'n helpu i gyrraedd y pwynt pwysig hwn yn hanes ein democratiaeth yma yng Nghymru. Mae'n amhosibl talu teyrnged i bawb yn unigol, ond mae ein diolch yn sylweddol serch hynny. Mae'n rhaid i ni ddiolch yn arbennig i Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Mae eich presenoldeb yma heddiw yn fraint wirioneddol i'r Cynulliad. Ac oddi wrth un o'r Aelodau Cynulliad cyntaf yn 1999 i bob un ohonoch chi fel Aelodau cyntaf eich Senedd Ieuenctid 20 mlynedd yn ddiweddarach, a gaf fi ddweud ei bod yn wych bod ymhlith y rhai cyntaf?

Mae heddiw'n garreg filltir bwysig yn ein gwaith fel Cynulliad Cenedlaethol ac fel Senedd Ieuenctid. Mae ein hymrwymiad i gydweithio fel cynrychiolwyr pobl Cymru, ar draws eu hoedrannau, yn un rwy'n ei groesawu'n fawr fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae'n amlwg o'r trafodaethau heddiw ein bod ni, fel dau gorff etholedig, yn rhannu'r un uchelgais. Ein nod yw galluogi ein pobl, boed yn ifanc, yn hen neu'n unrhyw beth rhwng y ddau, i fyw bywydau hapus ac iach. Credaf yn gryf y bydd gweithio gyda'n gilydd yn rhoi gwell cyfle i ni wireddu'r uchelgais hwnnw i bobl Cymru. Mae gwirionedd mawr yn yr hen ddywediad fod y darlun llawn yn aml yn fwy na chyfanswm ei rannau. Wrth i ni nesáu at ben blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn 30 oed, a phen blwydd swydd Comisiynydd Plant Cymru yn 18 oed, mae'n briodol fod ein Senedd Ieuenctid yn dechrau ar ei gwaith.

Mae gan y tri maes blaenoriaeth rydych wedi'u nodi botensial i weddnewid bywydau er gwell. Fel y gŵyr llawer o bobl, mae iechyd meddwl a llesiant emosiynol plant a phobl ifanc yn faes sy'n arbennig o agos at fy nghalon, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfeirio at waith y pwyllgor ar adroddiad 'Cadernid Meddwl' heddiw.

Gwn fy mod yn siarad ar ran pob un ohonom wrth ddweud ein bod yn edrych ymlaen yn llawn cyffro a gobaith at weld eich cynnydd a chanlyniadau eich gwaith caled. Ond credaf yn bendant y dylem wneud mwy na dim ond eistedd ar y cyrion a gwylio eich cynnydd. Mae ein pwyllgor eisoes wedi elwa'n fawr o ymgysylltu â Senedd Ieuenctid Cymru ar gynigion i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Mae clywed barn plant a phobl ifanc wedi bod yn bwysig i ni ym mhob elfen o waith ein pwyllgor, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar hyn yn ystod tymor y Senedd Ieuenctid o ddwy flynedd a thu hwnt i hynny. Buaswn yn annog yr holl bwyllgorau eraill a'r Senedd Ieuenctid i barhau â'r rhyngweithio hwn sydd o fudd i'r ddwy ochr. Mae gennym lawer i ddysgu oddi wrth ein gilydd a llawer i'w rannu â'n gilydd.

Hoffwn ddod â'r trafodion ar y cyd heddiw i ben drwy ailbwysleisio erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, y cyfeiriwyd ato eisoes gan Maisy Evans, yr Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Dorfaen, mewn modd mor huawdl yn ei hanerchiad agoriadol. Mae erthygl 12 yn datgan bod gan bobl ifanc hawl i fynegi eu safbwyntiau'n rhydd a chael eu barn wedi'i chlywed ym mhob mater sy'n effeithio arnynt. Mae sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru ac arwyddo'r datganiad ar y cyd heddiw sy'n nodi egwyddorion y modd y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn garreg filltir enfawr ar ein taith tuag at wireddu'r uchelgais hwnnw. Felly, rwyf am gloi drwy ddymuno'n dda i bob un ohonom yn ein hymdrechion ar y cyd.

Pob hwyl i ni oll, a diolch i chi i gyd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15, mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu y cynhelir y bleidlais ar ddiwedd y ddadl yma ar y cynnig. Ac mae’r Senedd Ieuenctid eisoes wedi cytuno’r datganiad ar y cyd, a dwi nawr yn galw, felly, am bleidlais o’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnig ar y datganiad ar y cyd. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r datganiad ar y cyd ar gydweithio â'r Senedd Ieuenctid wedi'i basio'n unfrydol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

14:15

NDM7100 - Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru: O blaid: 48, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Diolch yn fawr iawn i bawb ac fe fyddwn ni'n dod â'r sesiwn yma i ben ac ailgychwyn am 14:30. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:15.

14:30

Ailymgynullodd y Cynulliad am 14:30, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cwestiynau i'r Gweinidog cyllid sydd gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mandy Jones.

Y Cynllun Buddsoddi i Arbed

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun buddsoddi i arbed? OAQ54110

Ers 2009, mae'r cynllun buddsoddi i arbed wedi buddsoddi £180 miliwn mewn dros 190 o brosiectau ar draws Cymru gyfan. Mae'n parhau i roi cymorth ariannol i wasanaethau cyhoeddus Cymru a sefydliadau'r trydydd sector i'w helpu i wella eu gwasanaethau a darparu canlyniadau gwell ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Sylwaf fod y cynllun buddsoddi i arbed wedi buddsoddi tua £174 miliwn ers 2009. Sylwaf hefyd fod Betsi Cadwaladr yn derbyn dros £3 miliwn ar hyn o bryd. O ystyried bod buddsoddi i arbed yn fenthyciad di-log ac yn ad-daladwy, a chan fod ein gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn wynebu trafferthion ariannol, sut ydych chi'n sicrhau bod y symiau sy'n ddyledus yn cael eu had-dalu, ac a yw'r cynllun wedi cyrraedd ei darged mewn unrhyw ffordd o ran yr arbedion a sicrhawyd?

Diolch i chi am ofyn y cwestiwn hwnnw. Mae gan y portffolio o brosiectau buddsoddi i arbed ystod eang iawn o broffiliau ad-dalu. Ar gyfer prosiectau cyffredinol, chwe blynedd yw'r proffil ad-dalu hiraf, ac mae sawl un yn fwy na hynny. Fodd bynnag, gellir ad-dalu prosiectau effeithlonrwydd ynni, er enghraifft, o fewn wyth i 10 mlynedd. Ond fel y dywedaf, mae'n dibynnu ar y prosiect. Ond gallaf eich sicrhau bod gan y gronfa gyfradd adennill o 100 y cant hyd yma, ac na chafwyd unrhyw ddyledion drwg ers creu'r gronfa yn 2009.

Mae'r gronfa buddsoddi i arbed wedi bod yn llwyddiannus dros gyfnod o amser, ond mae'n ymwneud yn bennaf â buddsoddiadau diogel, sy'n sicr, neu bron yn sicr, o gynhyrchu arbedion. Law yn llaw â hynny, cyflwynwyd rhaglen fwy uchelgeisiol arloesi i arbed—rhywbeth y gofynnais amdano dros nifer o flynyddoedd. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun arloesi i arbed, ac a oes unrhyw brosiectau wedi bod mor llwyddiannus fel bod cyrff eraill wedi eu mabwysiadu?

Diolch i Mike Hedges am godi hynny; mae wedi bod yn hyrwyddo buddsoddi i arbed ac arloesi i arbed ers tro byd. Lansiwyd y fenter arloesi i arbed rhwng Llywodraeth Cymru, Nesta, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ym mis Chwefror 2017 gyda chyllideb o £5.8 miliwn. Ym mis Mawrth eleni, ychwanegwyd £0.5 miliwn ychwanegol gennym at y gyllideb, i'w chodi i £6.3 miliwn. Mae'n wahanol i'r gronfa buddsoddi i arbed gan nad yw'r taliad yn arian grant ad-daladwy ar gyfer prosiectau sydd wedi'u dewis i fynd drwy'r cam ymchwil a datblygu. Mae cymorth anariannol ar gael gan Nesta ar gyfer rheoli prosiectau, ac mae cymorth ymchwil ar gael gan Brifysgol Caerdydd. Mae ffocws gwirioneddol yno ar syniadau sydd ar wahanol gamau i'r gronfa buddsoddi i arbed. Mae'r rhain yn brosiectau y mae angen ymchwilio iddynt a'u profi er mwyn asesu a yw'r canlyniadau a ragwelir yn debygol o gael eu cyflawni ai peidio. Yn rownd 1 y rhaglen gwelwyd tri phrosiect yn cael eu cymeradwyo ar gyfer cyllid benthyciad, ac un ohonynt oedd Leonard Cheshire, a enillodd £1 filiwn i gyflwyno eu model gofal newydd i bobl sy'n derbyn taliadau uniongyrchol. Mae Fabric, yn Abertawe, wedi dechrau prynu eiddo ar gyfer gweithredu eu llety cam-i-lawr â chymorth rhannol i bobl ifanc dros 18 oed sy'n gadael y system gofal. Mae Llamau hefyd yn cynnal trafodaethau gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus i roi model ariannu newydd a mwy cynaliadwy ar waith er budd y bobl y maent yn eu gwasanaethu. Yn sicr, mae prosiectau yno y gallem ystyried eu huwchraddio maes o law, a byddwn yn dysgu llawer iawn o'r gwaith y mae'r prosiectau hynny'n ei wneud ar hyn o bryd.

Nid oes unrhyw drafodaeth ar fuddsoddi i arbed yn gyflawn heb gwestiwn gan Mike Hedges—rwy'n meddwl eich bod wedi gofyn cwestiwn yn ei gylch bob tro y mae wedi codi. Weinidog, credaf fod hwn yn un o'r materion hynny a dderbynnir gan bawb ar draws y Siambr fel syniad da ar y cyfan, ac mae gan fuddsoddi i arbed a'i olynydd rôl enfawr i'w chwarae yn cyfrannu at arbedion mewn llywodraeth leol a chynhyrchu mwy o arian. Ond rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud bod Gweinidogion, yn 2014, bum mlynedd i mewn i'r cynllun, wedi comisiynu ymchwil gymdeithasol gan y Llywodraeth i gynnal gwerthusiad annibynnol o'r gronfa buddsoddi i arbed. Ac er bod arbedion yn gyffredinol, canfu'r ymchwil nad oedd arbedion wedi'u sicrhau mewn rhai meysydd yn ôl y disgwyl. A chan fod 10 mlynedd bellach ers dechrau'r prosiect, a chan edrych ar gynlluniau olynol, tybed a ydych yn bwriadu comisiynu unrhyw ymchwil annibynnol arall i ddarganfod lle mae'r cynllun wedi gweithio a'r meysydd y gellir eu gwella?

Wel, fel y dywedwch, cafwyd rhywfaint o ymchwil—astudiaeth annibynnol mewn gwirionedd—yn 2014, a ddaeth i'r casgliad fod y gronfa, ar gyfartaledd, yn cynhyrchu budd o £3 am bob £1 a werir ar y cynllun hwnnw. Un cwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml, fel y dywed Nick Ramsay, yw pam nad yw arferion da fel pe baent yn lledaenu'n hawdd iawn, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gweithio arno gyda Phrifysgol Caerdydd. Rydym yn ymchwilio i'r rhwystrau, a'r ffactorau sy'n galluogi hefyd, ar gyfer lledaenu'r arferion da yr ydym wedi'u dysgu drwy'r cynllun arloesi i arbed. Cwblheir y cam casglu tystiolaeth o hynny erbyn 30 Mehefin, ac yna caiff y canfyddiadau eu dadansoddi drwy gydol yr haf. Rydym wedi sicrhau £4,000 o gyllid ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd y gellir ei ddefnyddio i gefnogi digwyddiadau gydag academyddion ac ymarferwyr ledled Cymru i drafod ein canfyddiadau ac i dynnu sylw at y manteision yr ydym wedi gallu eu cronni drwy'r cynllun buddsoddi i arbed, a cheisio sicrhau bod y manteision hynny'n cael eu lledaenu'n ehangach.

14:35
Gwaredu Asedau Eiddo'r Sector Cyhoeddus

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waredu asedau eiddo'r sector cyhoeddus? OAQ54117

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddor o reoli asedau'n dda, gan gynnwys prosesau gwerthu asedau dros ben. Drwy ganllawiau a gyhoeddwyd megis 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru' a'r gwaith parhaus ar gydweithredu ar asedau a arweinir gan Ystadau Cymru, rydym yn ceisio sefydlu arferion gorau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Diolch. Mae arferion gorau yn dda iawn yn ddamcaniaethol. Mae'r broses o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru wedi arwain at werthu rhai asedau eiddo. Fodd bynnag, erys cryn dipyn o ystadau, gan gynnwys y 137 eiddo dros ben y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn berchen arnynt. Amcangyfrifir bod y gost o gynnal yr ystâd hon yn £838 miliwn bellach dros gyfnod o 15 mlynedd. Nawr, wrth ystyried mai'r bwrdd iechyd hwn sydd â'r diffyg mwyaf yng Nghymru, a bod diffyg gan saith o fyrddau iechyd y GIG ar ddiwedd 2018-19, mae gwariant o'r fath i'w weld yn anghynaliadwy ac yn amhriodol. Nawr, mae yna ddamcaniaeth—gallwch fy nghywiro os wyf yn anghywir—fod arian yn dod yn ôl i'r pot canolog yma os ydynt yn gwerthu rhai o'u hasedau nad oes eu hangen mwyach. Felly, gallai rhywun ddadlau, mewn termau busnes, gyda'r bwrdd iechyd eisoes yn eu pumed tymor o fod yn destun mesurau arbennig, efallai nad yw gorfod ymdrin â hyn ar brif restr eu blaenoriaethau. Pa gamau y gallwch eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i edrych efallai ar y posibilrwydd y gallai unrhyw refeniw a ddaw o werthu'r asedau dros ben hynny fynd yn ôl mewn rhyw ffordd—nid y cyfan, efallai, ond rhywfaint ohono—er mwyn iddynt allu defnyddio'r arian sydd wedi'i glymu yn awr yn yr adeiladau gwag hynny er mwyn cael gwell canlyniadau i gleifion yng ngogledd Cymru?

Ceir terfyn ariannol lle gall byrddau iechyd gadw'r arian am unrhyw asedau a werthir ganddynt, ond uwchlaw'r terfyn hwnnw, daw'r arian yn ôl i Lywodraeth Cymru. Ac rwy'n credu bod hynny'n iawn yn yr ystyr y bydd gan Lywodraeth Cymru drosolwg ar draws sector cyhoeddus Cymru i gyd, a GIG Cymru, er mwyn deall y pwysau sy'n codi ar yr adeg benodol honno. Fodd bynnag, rydym wedi darparu mynediad at adnodd ar-lein, sy'n dod â chanllawiau a chyngor ar gyfer gwaith ystadau'r sector cyhoeddus at ei gilydd. Grŵp ar draws y sector cyhoeddus yw grŵp Ystadau Cymru, sy'n gweithio gyda byrddau iechyd i annog y gwahanol gyrff sector cyhoeddus i rannu eu profiadau a dysgu ohonynt. Mae gennym y rhaglen gydweithredu ar asedau yng Nghymru, ac yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, mae cyllid wedi cael ei ddarparu iddynt er mwyn helpu i sbarduno gwelliannau yn eu dull o reoli asedau. Ond mae hynny hefyd yn cynnwys ansawdd data, a all nodi asedau y gall y sefydliadau hynny eu gwerthu. Ond ar sail yr hyn yr ydych wedi'i ddweud wrthyf heddiw, byddaf yn gofyn i Gadeirydd Ystadau Cymru gael sgwrs gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i weld a oes rhagor o waith y gallant ei wneud ac y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i'w cynorthwyo i nodi asedau y gellid eu gwerthu.FootnoteLink

Tynnodd Janet Finch-Saunders sylw at faterion pwysig, ond rwyf am edrych ar hyn o safbwynt ychydig yn wahanol. Yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gennym, mae'n amlwg fod angen i ni leihau ein milltiroedd bwyd ac annog mwy o bobl i dyfu eu bwyd eu hunain neu brynu bwyd lleol. Felly, pan fyddwch yn ystyried asedau dros ben, tybed a allech ystyried darparu safleoedd newydd ar gyfer rhandiroedd i bobl sy'n agos at eu cartrefi, lle nad oes rhai ar gael, oherwydd byddai hynny'n galluogi pobl nad oes ganddynt ardd ar hyn o bryd, ac sydd heb le i dyfu eu llysiau, i allu gwneud hynny. Felly, tybed a ydych wedi ystyried y math hwnnw o beth yn y pethau hyn?

Mae'r meini prawf allweddol presennol ar gyfer ystyried sut i reoli asedau neu werthu asedau yn cynnwys creu twf economaidd, darparu gwasanaethau mwy integredig sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, cynhyrchu derbyniadau cyfalaf, lleihau costau rhedeg a datgarboneiddio'r ystâd gyhoeddus. Ond mae Julie James, Ken Skates a minnau wedi bod yn gwneud gwaith sy'n edrych ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig o ran y tir yr ydym yn berchen arno, i weld a allwn fabwysiadu ymagwedd lawer mwy strategol tuag at hynny yng ngoleuni maniffesto etholiad y Prif Weinidog, lle dywedodd ei fod yn awyddus i sefydlu adran ar gyfer tir o fewn Llywodraeth Cymru, ac edrych wedyn ar sut y gallwn weithio mewn ffordd gydweithredol gydag awdurdodau lleol, gyda byrddau iechyd ac eraill sydd â thir neu asedau o fewn eu portffolios. A bydd rhan o'r gwaith hwnnw'n ymwneud ag ailddiffinio sut y byddwn yn meddwl am werth am arian. Felly, nid yw'n ymwneud â gwerthu darn o dir neu ased am y pris gorau posibl, ond yn hytrach ag ystyried gwerth am arian yn gyffredinol—felly, gan feddwl am ein cyfrifoldebau o ran y newid yn yr hinsawdd, ond hefyd beth y gallai'r budd fod i'r gymuned leol. Mae eich enghraifft yn un o'r pethau hynny a fydd yn sicr yn rhan o'r cymysgedd hwnnw o ran ystyried gwerth gorau.

14:40

Weinidog y Cabinet, mae saga'r tir yn Llys-faen yng Nghaerdydd sy'n cael ei werthu am £1.8 miliwn gan gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, ac a werthwyd wedyn am £39 miliwn wedi cael llawer o sylw. Ond deallwn fod achos cyfreithiol wedi'i gychwyn ym mis Rhagfyr 2017 yn erbyn y ddau gwmni a oedd yn gynghorwyr i'r gronfa ar y pryd, sef Amber Fund Management a grŵp Lambert Smith Hampton. A allai'r Gweinidog roi'r newyddion diweddaraf inni am y sefyllfa ddiweddaraf yn yr achosion cyfreithiol hyn?

Fi oedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am y portffolio hwnnw pan gychwynnwyd yr achosion cyfreithiol hynny. Yn anffodus, maent yn dal i fynd rhagddynt. Felly, oherwydd hynny, ni allaf roi'r newyddion diweddaraf yn awr, ond gwn y bydd y Gweinidog tai, sydd bellach yn gyfrifol am hyn yn ei phortffolio, yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn gynted ag y bydd rhywbeth y gallwn ei ddweud.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Diolch, Llywydd. Yn dilyn canslo'r llwybr du, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y capasiti benthyg arian oedd ar gael i Lywodraeth Cymru yn amodol ar ei wario ar gynllun yr M4? Ydy'r arian dal ar gael rŵan bod y cynllun ddim yn mynd yn ei flaen? 

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Fe gofiwch y byddai hyd at £1 biliwn o arian wedi'i glustnodi ar gyfer y M4 pe bai'r penderfyniad wedi'i wneud i wneud y Gorchmynion hynny. Ond mae'n rhaid i ni gofio mai'r hyn yw'r £1 biliwn hwnnw yw £150 miliwn o fenthyciadau y gallwn eu defnyddio ar sail flynyddol hyd at uchafswm o £1 biliwn. Byddwch wedi clywed datganiadau diweddar Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth—a datganiadau'r Prif Weinidog—pan ddywedodd mai'r grŵp gorchwyl neu'r comisiwn sydd ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd o leddfu a mynd i'r afael â'r problemau trafnidiaeth a'r tagfeydd yn ardal Casnewydd a'r cyffiniau fydd yn penderfynu ar y cyllid hwnnw yn y lle cyntaf.

Roedd y cwestiwn a ofynnais yn ymwneud mewn gwirionedd â'r egwyddor fod Trysorlys y DU yn dweud wrth Lywodraeth Cymru sut y dylai wario'i harian. Nid oes unrhyw gyfiawnhad fod y Trysorlys yn dweud wrth y Cynulliad neu Lywodraeth Cymru beth ddylai fod yn flaenoriaethau iddynt. Rwy'n credu bod y papur gorchymyn, 'Atebolrwydd a Grymuso Ariannol', a gyhoeddwyd ar y cyd â Deddf Cymru 2014, yn dweud

'O fewn y trothwyon cyffredinol a blynyddol, bydd Llywodraeth Cymru’n gallu benthyca at unrhyw ddiben cyfalaf heb ganiatâd Trysorlys EM. Felly, byddai gan Weinidogion Cymru'r rhyddid a’r hyblygrwydd'.

Mae'r fframwaith cyllidol hefyd yn dweud

'Nid oes unrhyw gyfyngiadau bellach ar y ffordd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau benthyca'.

Ond cawsom yr amodoldeb hwn yn y pen draw. Nawr, gofynnodd y Prif Weinidog, pan oedd yn Weinidog cyllid, am bwerau ychwanegol dros fenthyca, a chyfeiriwyd yn benodol yn y llythyr at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys at fenthyca i helpu i ariannu'r M4. A'r canlyniad oedd bod Llywodraeth y DU wedi dweud, 'Iawn, gallwch gael yr arian, ar yr amod eich bod yn ei wario ar hynny'. A yw'r Llywodraeth yn edifar bellach am ysgrifennu'r llythyr yn y termau hynny? A phe bai'r Gweinidog presennol yn y sefyllfa honno, a fyddai wedi ysgrifennu'r llythyr yn yr un ffordd?

Wel, yr hyn a wneuthum oedd ysgrifennu at y Trysorlys y llynedd yn gofyn am gynyddu ein terfyn benthyca, sydd, fel y dywedais, yn £150 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd, yn ddilyniannol hyd at £1 biliwn, i helpu i wireddu ein blaenoriaethau buddsoddi. A phan soniwn am fenthyca, pan soniwn am ein cronfa gyfalaf, rydym yn siarad am y peth yn ei gyfanrwydd. Felly, nid ydym yn benthyca yn erbyn prosiect penodol na chynllun penodol. Rydym yn benthyca i gynyddu'r cyfalaf sydd ar gael i ni er mwyn cyflawni ein portffolio o flaenoriaethau a phrosiectau ar gyfer y flwyddyn honno a'r blynyddoedd wedyn.

Yng nghyllideb Llywodraeth y DU yr hydref diwethaf, dywedodd y Canghellor y dylid cynnal adolygiad o bwerau benthyca Llywodraeth Cymru yn yr adolygiad o wariant ac y byddent yn ystyried a ddylid cynyddu'r terfyn i £300 miliwn. Fodd bynnag, mae'r adolygiad hwnnw o wariant wedi'i ohirio gan Lywodraeth y DU, felly nid yw'n glir pryd y bydd hynny'n digwydd. Ond yn sicr, un o flaenoriaethau'r trafodaethau hynny, a ddaw adeg yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, fydd ein gallu i fenthyca.

14:45

Rwy'n dal i haeru bod camgymeriadau wedi'u gwneud yn yr ystyr fod Llywodraeth Cymru wedi gosod trap iddi'i hun, fod Llywodraeth y DU wedi manteisio arno wedyn, ac rwyf am gael sicrwydd na ellir gwneud camgymeriadau o'r fath eto.

O ystyried yr oedi, os mynnwch, a'r angen i wario arian ar y M4 yn awr, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi mai dyma'r amser i ailddatgan egwyddorion cyffredinol y fframwaith cyllidol a chytundebau rhynglywodraethol eraill, sy'n caniatáu ac yn sicrhau hyblygrwydd llawn i Weinidogion yn Llywodraeth Cymru, ac a wnaiff y Gweinidog gytuno i fynd ar drywydd hynny fel mater o frys gyda Llywodraeth y DU fel nad ydym yn wynebu'r un sefyllfa eto?

Wel, fel y dywedaf, rwyf eisoes wedi dechrau'r trafodaethau hyn o ran ein terfyn benthyca. Ond byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ddiweddarach yr wythnos hon, sy'n sôn am y datganiad ar bolisi ariannu, a dyna drafodaeth a ddechreuais yn fy nghyfarfod pedairochrog cyntaf gyda Gweinidogion cyllid eraill, a chyda chefnogaeth gweinyddiaethau'r Alban a Gogledd Iwerddon, sy'n edrych ar ddyraniad cyllid llawer mwy teg a llawer mwy tryloyw gan Lywodraeth y DU i'r gwledydd. Ond fel rwy'n dweud, byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar hynny yn ddiweddarach yr wythnos hon, neu ddatganiad pellach, dylwn ddweud, ar hynny yn ddiweddarach yr wythnos hon.

O ran yr arian a fyddai wedi'i wario eleni, dim ond tua £20 miliwn fyddai hwnnw, sef yr hyn a fyddai wedi'i wario ar brosiect yr M4 pe bai'r penderfyniad wedi'i wneud i fwrw ymlaen â'r llwybr du, ond fel y dywedaf, yn y dyfodol, byddwn yn edrych i weld beth yw'r ffordd orau o wario'r arian hwnnw a'r cam cyntaf fydd mynd i'r afael â'r problemau o gwmpas Casnewydd.

Diolch, Lywydd. A all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y dyraniadau cyllid sy'n cael eu darparu ar draws y portffolios er mwyn bwrw ymlaen â datgarboneiddio economi Cymru?

Diolch yn fawr iawn i Nick Ramsay am hynny. Rydym yn dechrau ein trafodaethau yn awr er mwyn paratoi ar gyfer cyllideb 2020-21. Yn amlwg, nid oes gennym gyllideb ar gyfer hynny eto. Rydym yn cynnal trafodaethau ar y blaenoriaethau y byddem yn dymuno eu gweld ar draws y Llywodraeth. Ym mhob un o'r trafodaethau a gefais gyda fy nghyd-Aelodau, rwyf wedi trafod ein hymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a phwysigrwydd mynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd, felly mae hyn yn amlwg iawn ac yn ganolog i'r gwaith a wnawn.

Mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i bob aelod o'r Cabinet arwain ar fynd i'r afael â mater trawsbynciol o fewn ein rhaglen lywodraethu, a gofynnwyd i Vaughan Gething arwain y gwaith ar ddatgarboneiddio. Felly, mae hynny'n golygu edrych ar draws y Llywodraeth i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y mwyaf o'r hyn a wnawn yn barod a gweld hefyd a oes ffyrdd eraill y gallwn gynyddu ein cyfraniad i ddatgarboneiddio.

Rwyf newydd ddod o gyfarfod y bore yma o is-bwyllgor y Cabinet ar ddatgarboneiddio. Bu'n cyfarfod ers tua dwy flynedd bellach. Mae wedi bod yn flaenllaw iawn yn y broses o ddatblygu ein gwaith ar leihau ein hallyriadau, a'n hymateb i adroddiad Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd ac yn y blaen.

Diolch, Weinidog, rwy'n falch o glywed am y cynnydd hwnnw. Mae Gweinidogion ar draws adrannau wedi bod yn gwneud y synau cywir ynghylch datgarboneiddio. Dywedodd Lesley Griffiths,

'yn union fel y gwnaeth Cymru chwarae rhan flaenllaw yn y chwyldro diwydiannol cyntaf, rwy'n credu y gall Cymru fod yn esiampl i eraill o'r hyn y gall twf amgylcheddol ei olygu.'

Ac aeth ymlaen i sôn am bwysigrwydd mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Mae hynny i gyd yn wych, ond ar yr un pryd, fe sonioch chi am gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, sydd wedi dweud mewn adroddiad ein bod,

yn llusgo... ar ôl gwledydd eraill... mewn rhai meysydd allweddol megis... trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol.

Mewn geiriau eraill, meysydd a all helpu o ddifrif dros y tymor hwy i leihau ein hôl troed carbon fel gwlad. Felly, rwy'n sylweddoli mai ymarfer pennu cyllideb yw hwn mae'n debyg, ond o safbwynt strategaeth ar gyfer penderfynu ar y dyraniadau cyn y broses honno er mwyn i adrannau wybod eu bod yn mynd i gael arian yn benodol ar gyfer lleihau carboneiddio, sut y sicrhewch y bydd hynny'n digwydd?

Mae hynny'n rhan o'r trafodaethau a gefais gyda Gweinidogion unigol wrth geisio deall eu blaenoriaethau o fewn eu portffolios o ran sut y byddent yn defnyddio'r cyllid sydd ganddynt a'u cyfrifoldebau a'r meysydd y mae'n rhaid iddynt ymateb iddynt er mwyn symud ymlaen â'n cyfrifoldebau mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd.

Rwy'n gyfarwydd â phapur trafod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n meddwl ei fod yn fan cychwyn diddorol a defnyddiol ar gyfer trafodaeth, ond rwy'n credu ar yr un pryd fod yn rhaid i chi gael trafodaethau am y ffaith, os ydych yn nodi £1 biliwn o gyllid sydd ei angen, wel, o ble mae'n dod? Oherwydd, fel y dywedaf wythnos ar ôl wythnos yn y Cynulliad, mae ein cyllid wedi'i gyfyngu ac mae'n llai o lawer na'r hyn ydoedd 10 mlynedd yn ôl hyd yn oed. Felly, mae'n rhaid inni drafod o ble y daw'r cyllid, pa weithgareddau fydd yn dod i ben neu pa weithgareddau y byddwn yn dargyfeirio cyllid oddi wrthynt. A'r ail bwynt ymchwil y tybiaf y bydd yn rhaid i'r comisiynydd ymdrin ag ef yng nghyd-destun ei phapur hefyd yw nodi'n union beth fyddai'r arbedion carbon ar gyfer pob un o'r prosiectau a'r blaenoriaethau gwariant y mae wedi'u nodi yn y papur. Edrychaf ymlaen at barhau'r trafodaethau hynny gyda hi yn ein cyfarfod nesaf.

14:50

Weinidog, mae'r adroddiad y cyfeiriais ato—ac rydych chi wedi gwneud hynny hefyd—yn tynnu sylw at y ffaith, er bod cynllun carbon isel Llywodraeth Cymru yn cynnwys 100 o bolisïau, mai dim ond 1 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru y gellir nodi ei fod yn benodol ar gyfer datgarboneiddio. A fyddech yn cytuno bod angen inni fod ychydig yn fwy uchelgeisiol yn y dyfodol wrth geisio codi'r ganran honno? Os caf eich holi am ychydig o fanylion, soniodd y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau yr wythnos diwethaf neu'r wythnos cynt am gynlluniau ar gyfer coedwig newydd i Gymru fel rhan o'r cynllun i greu dalfa garbon fel nad ceisio lleihau ein hallyriadau'n unig a wnawn ond ceisio tynnu rhywfaint o garbon allan o'r atmosffer hefyd. A allech amlinellu'r cyllid sydd wedi cael ei ddarparu ar gyfer y goedwig honno ar y cam cynnar hwn ac a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Gweinidog yr amgylchedd, gan y buaswn yn tybio mai o ran lle—. Rwy'n credu na fydd y goedwig mewn un man, felly rwy'n credu y bydd agweddau arni ar draws Cymru—felly, sut yn union y bydd yn cael ei hariannu.

Diolch i chi am godi hynny, ac mae hwn yn faes sydd o ddiddordeb arbennig i'r Prif Weinidog. Mae'n eitem arall a oedd ym maniffesto'r Prif Weinidog. Nid wyf wedi cael sgwrs uniongyrchol am y goedwig genedlaethol gyda Gweinidog yr amgylchedd, ond bûm mewn cysylltiad â'i swyddogion a fu'n fy nghynghori ar y goblygiadau posibl o ran cost ar gyfer hynny oherwydd, yn amlwg, mae angen y buddsoddiad cyfalaf arnoch, ond mewn gwirionedd, pan fyddwch yn plannu coetiroedd, mae yna effaith refeniw a chanlyniad refeniw i hynny ar sail barhaus hefyd. Felly, rwyf wedi bod yn ceisio deall y goblygiadau ariannol yn well gyda chymorth swyddogion y Gweinidog.

Rwy'n croesawu ymgysylltiad y Gweinidog ag Aelodau'r Cynulliad, ond hefyd y gymdeithas ddinesig ehangach, sydd â diddordeb yn y mater hwn ynglŷn â datganoli trethi ac yn benodol, y materion gwirioneddol arwyddocaol sy'n ymwneud â'r incwm a geir o gyfraddau treth incwm Cymru. Rwy'n gwybod ei bod yn siarad ddydd Mawrth yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, a diolch hefyd am drefnu eich cynhadledd eich hun ar 19 Gorffennaf, ac rwy'n edrych ymlaen at ei mynychu.

Daeth Robert Chote o'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i'r Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu eich bod yn talu £100,000 y flwyddyn am waith gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol mewn ymateb i'r hyn a wnaethpwyd gan Brifysgol Bangor. Cefais syndod o glywed yn y Pwyllgor Cyllid i ba raddau yr oedd Llywodraeth Cymru yn bennaf gyfrifol am y rhagolwg treth, a'r niferoedd a'r model a oedd yn gyrru hynny, ond wedyn daw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i mewn a herio hynny a rhoi rhywfaint o reolaeth ansawdd. Ond mae'n gyfrifoldeb enfawr.

Mae gennym yr £1 biliwn o 'dwll du' fel y'i gelwir gyda refeniw treth incwm yr Alban ac er nad ydym wedi newid hynny—mae cyfraddau treth incwm Cymru yn faes lle mae'r Llywodraeth wedi glynu at ei haddewid maniffesto i gadw'r rheini yr un fath—nid yw hynny'n golygu na all incwm trethi newid yn sylweddol iawn ar gyfer materion a allai fod y tu hwnt i'n rheolaeth. Mark Drakeford a negododd y compact ariannol, a chredaf fod y pleidiau a'r Aelodau eraill yn canmol hynny, ond mae ansicrwydd mawr o hyd ynglŷn â sut y bydd y refeniw hwn yn datblygu. Rwy'n dyfalu tybed pa wersi y mae'r Gweinidog yn eu dysgu o'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban gyda'r £1 biliwn o 'dwll du' fel y'i gelwir ac yn benodol, a yw'n credu bod achos dros fod angen lefel uwch o arian wrth gefn yn yr amcangyfrifon gwario yn y dyfodol o ystyried yr ansicrwydd hwnnw a'r hyn a welwn gyda'r Alban.

Diolch i chi am godi mater y 'twll du £1 biliwn' fel y'i gelwir yn yr Alban o ganlyniad i symud i gyfraddau treth incwm yr Alban. Yn amlwg, mae'n cymryd nifer o flynyddoedd i gyflawni'r cysoniad treth hwnnw. Felly, nid ydynt wedi gallu deall yr effaith yn iawn tan yn awr. Credaf mai rhan o'r rheswm pam y gallaf fod yn weddol falch o'r ffordd yr ydym yn gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru yw bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn craffu ar ein ffigurau ac yn ein cynghori yn yn hynny o beth, ond Comisiwn Cyllidol yr Alban oedd yn gwneud hynny yn yr Alban. Felly, mae gennym yr un sefydliad ag sydd gan Lywodraeth y DU i graffu ar ein ffigurau. Felly, credaf eu bod yn defnyddio'r un fethodoleg, wrth gwrs, a'u bod yn gallu ystyried yr un effeithiau. Felly, credaf fod hynny'n rhoi rhywfaint o warchodaeth i ni yn hytrach na defnyddio dau sefydliad gwahanol gyda dwy fethodoleg wahanol i ddeall a dadansoddi'r data.

Fel y dywedais, cyfarfûm â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Yn amlwg, mae'n rhywbeth y bydd gennym ddiddordeb mawr ynddo. Rydym yn llai agored, unwaith eto, na'r Alban gan mai dim ond y gyfradd 10c o dreth incwm a ddatganolwyd i ni, ond mae'r sefyllfa yn yr Alban yn dra gwahanol oherwydd bod ganddynt bwerau gwahanol wedi'u datganoli iddynt mewn perthynas â'r dreth incwm. Ond yn amlwg, mae cysoni a phwysigrwydd data cywir a da yn rhywbeth yr ydym yn dal i roi blaenoriaeth uchel iddo fel y gallwch ddychmygu gan nad ydym am fod mewn sefyllfa yn y blynyddoedd i ddod lle gwelwn ein bod yn gorfod ad-dalu arian a gyfrifwyd gennym yn rhan o'n cyllidebau dros nifer o flynyddoedd.

14:55

Nid wyf yn awgrymu bod y Gweinidog yn hunanfodlon ac yn amlwg, mae gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol enw da y mae wedi'i ddatblygu, ond rwy'n gochel braidd rhag meddwl, oherwydd bod gennym y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn hytrach na'n comisiwn ein hunain y bydd eu perfformiad yn well o reidrwydd, gan mai dim ond £100,000 y flwyddyn a rown iddo ac nid oes ganddynt brofiad penodol o economi Cymru a meddwl gofalus ynglŷn â sut y gallai refeniw Cymru fod yn wahanol oherwydd ni fu angen meddwl am hynny i'r un graddau o'r blaen am nad oedd yr un arwyddocâd i'r mater ag a fydd yn awr. Felly, rwy'n rhybuddio'r Gweinidog i'r graddau mai ei hadran sy'n gyrru hyn yn bennaf a bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dod i mewn ac yn rhoi eu barn ac yn rhoi rhai safbwyntiau, ond rhaid bod hynny'n gymharol gyfyngedig o ystyried y gyllideb o £100,000 o gymharu â'r £1.6 miliwn sy'n mynd i Gomisiwn Cyllidol yr Alban.

Wrth symud ymlaen, rwy'n gofyn am sensitifrwydd y mater hwn o ran beth yw'r rhagolwg ond hefyd pe bai'r cyfraddau treth yn cael eu newid, beth fyddai effaith hynny, ac yn benodol, y sensitifrwydd ar hyd y ffin o ran a fyddai pobl yn symud naill ai'n gorfforol eu hunain neu'n symud yr incwm a gofnodwyd y byddent yn talu treth arno. Rwy'n gwybod ei fod yn fater o bwys mawr i Lywodraeth Cymru ac rwy'n siŵr fod gennych nifer o swyddogion yn gweithio'n ofalus iawn ar hyn, ond mae hefyd yn arwyddocaol iawn i bleidiau eraill yn y Cynulliad, ac wrth inni agosáu at etholiad nesaf y Cynulliad, mewn ychydig o dan ddwy flynedd, bydd y pleidiau am feddwl yn ofalus iawn am yr hyn fydd eu polisïau ar gyfer eu maniffesto, a mewnbwn mawr i hynny fydd beth yw'r sensitifrwydd hwnnw, beth yw'r peryglon ynghylch y polisïau hynny, a tybed beth yn rhagor y gall y Gweinidog a Llywodraeth Cymru ei wneud i rannu ac ehangu'r arbenigedd sydd ganddynt yn fewnol i gynnwys mewnbwn gan bobl eraill, ond hefyd, efallai, i roi asesiad cyffredin yn sail i bleidiau gwleidyddol allu siarad am effeithiau eu polisïau treth arfaethedig.

Wel, rwy'n credu ein bod wedi datblygu perthynas dda iawn gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac maent yn sicr wedi bod yn awyddus i'n cefnogi wrth inni ddatblygu ein trethi newydd, er enghraifft mewn perthynas â modelu'r hyn y gallent fod i ni pan gyrhaeddwn y pwynt lle gallwn eu darparu gyda rhai paramedrau ar gyfer y gwaith ymchwil.

Ond fel y dywed yr Aelod, wrth i ni symud tuag at etholiadau nesaf y Cynulliad, rwy'n credu y bydd yn rhaid i bob un o'n pleidiau unigol nodi'r hyn y byddwn yn ceisio ei wneud gyda'r dreth incwm. Felly, pe baem yn ei chodi, ar beth y byddem yn gwario'r arian ychwanegol, a phe baem yn ei gostwng, ble byddai'r toriadau'n digwydd? Oherwydd, wrth gwrs, am bob ceiniog y byddwn yn codi neu'n gostwng cyfradd y dreth incwm, byddai hynny'n cael effaith o £200 miliwn ar gyllideb Cymru. Felly, credaf fod angen i bawb ohonom gofio hynny. Ond nid oes gennyf bryderon am y gwasanaeth a gawn gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Credaf ein bod yn gweithio'n dda iawn gyda hwy, ond pe bai yna bryderon, buaswn yn sicr yn eu codi ar unwaith.

Banc Cymunedol i Gymru

3. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i hwyluso'r broses o greu banc cymunedol i Gymru wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ54102

Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r egwyddor o sefydlu banc cymunedol i Gymru. Dyrannodd cyllideb Llywodraeth Cymru adnoddau i gefnogi busnesau newydd. Mater i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth fydd gwneud unrhyw gynnig ynghylch arian sbarduno i fanc cymunedol.

Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, ym mis Ionawr, fe ddywedoch chi wrthyf bryd hynny fod Llywodraeth Cymru ar gamau cynnar iawn yn y trafodaethau gyda nifer o randdeiliaid a oedd yn awyddus i archwilio dichonoldeb sefydlu banc cymunedol. Yr wythnos diwethaf, ailadroddodd y Prif Weinidog fod y Llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid a oedd hefyd yn paratoi cynllun busnes llawn ar gyfer y farchnad. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â pha symiau o arian a gaiff eu dyrannu o gyllideb y Llywodraeth i greu banc cymunedol. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei fod am i'r banc cymunedol fod ar waith cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, sydd, wrth gwrs, lai na dwy flynedd i ffwrdd. A buaswn yn ddiolchgar hefyd pe gallech ddarparu eich asesiad eich hun o bosibl o ba gymhorthdal cyhoeddus y credwch y byddai ei angen i sefydlu banc cymunedol i Gymru, fel yr amlinellir, a hefyd a ydych yn ymwybodol o unrhyw grant neu fenthyciad y gofynnwyd i'r Llywodraeth amdano i sefydlu'r banc cymunedol i Gymru.

15:00

Diolch am grybwyll y syniad o fanc cymunedol. Wrth gwrs, rydym yn cefnogi'r egwyddor o sefydlu banc cymunedol, ac mae datblygu hyn yn flaenoriaeth i ni. I roi diweddariad, cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru â rhanddeiliaid posibl yn y trydydd sector a'r sector preifat y llynedd, gan gynnwys y Grŵp Gweithredu Dros Fanc Cyhoeddus i Gymru, ac maent yn ceisio sefydlu banc cymunedol i Gymru. Rydym wedi darparu cyngor ar y broses y byddai angen ei dilyn er mwyn cael gafael ar gyllid sbarduno.

Mae swyddogion bellach yn adolygu cynnig penodol a chais am gyllid sbarduno gan y Grŵp Gweithredu Dros Fanc Cyhoeddus i Gymru, gan weithio ar y cyd â'r sefydliad DU gyfan, y Community Savings Bank Association. Byddai'r Grŵp Gweithredu Dros Fanc Cyhoeddus i Gymru yn defnyddio cyllid sbarduno i gychwyn cyfnod o waith a fyddai'n cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, asesu'r farchnad, a dichonoldeb banc cymunedol i Gymru, a fyddai wedyn yn arwain at gais am drwydded fancio. Gall cais am drwydded fancio gymryd peth amser—dwy flynedd neu fwy, weithiau—er mwyn cwblhau'r gwaith angenrheidiol gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Ond credaf ei bod yn rhy gynnar i nodi faint o arian cyfalaf y byddem yn ei roi tuag at hynny a pha elfen o gymhorthdal ​​y gallai fod ei hangen ar sail barhaus. Ond mae hynny oll yn rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo, ond fel y dywedais, mae'n ddyddiau cynnar iawn o ran cwmpasu'r prosiect a chynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid.

Y Strategaeth Eiddo ac Asedau

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth eiddo ac asedau Llywodraeth Cymru? OAQ54111

Cyhoeddwyd ein strategaeth rheoli asedau corfforaethol yn 2016 er mwyn darparu mwy o dryloywder yn ein dull o reoli asedau tir ac eiddo'r Llywodraeth. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod yr asedau sydd gennym fel Llywodraeth yn darparu gwerth cyhoeddus ac yn cefnogi ein hamcanion yn weithredol ar draws y Llywodraeth.

Diolch i'r Gweinidog. Mewn ateb cynharach i'r Aelod dros Aberconwy, fe ddywedoch eich bod am fuddsoddi mewn arferion gorau mewn perthynas â'r gwaith o reoli portffolio asedau Llywodraeth Cymru, a'ch bod hefyd yn annog rhannu profiad a gwybodaeth. A gaf fi ofyn i chi fod ychydig yn fwy rhagweithiol ac uchelgeisiol na hynny, Weinidog? Ymddengys i mi fod gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â'r gwasanaeth iechyd gwladol a llywodraeth leol a rhannau eraill o'r sector cyhoeddus, werth enfawr yn yr asedau a'r eiddo sydd ar gael iddynt, ond ymddengys i mi hefyd mai ychydig iawn o reolaeth ragweithiol a rheolaeth ragweithiol uchelgeisiol sydd i'w chael o ran yr asedau sydd ym mherchnogaeth y sector cyhoeddus yn gyffredinol. Buaswn yn ddiolchgar, Weinidog, pe gallech amlinellu i'r Cynulliad Cenedlaethol sut y byddech yn ceisio sicrhau bod y gwaith hwn o reoli asedau yn mynd rhagddo ar sail fwy cydgysylltiedig, ar sail fwy uchelgeisiol, a phe gallech amlinellu inni beth yw'r amcanion a'r targedau ar gyfer y strategaeth reoli sydd gennych ar waith.

Wel, fel y dywedaf, mae'r strategaeth rheoli asedau corfforaethol wedi'i chyhoeddi, ac rwy'n fwy na pharod i roi mwy o wybodaeth i'r Aelod. Ond mae'n cyd-fynd yn gyfan gwbl â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 o ran ei ffyrdd o weithio a nodau llesiant. Ac mewn gwirionedd, mae wedi'i chynllunio i gefnogi her y Ddeddf y dylai proses y Llywodraeth o wneud penderfyniadau fod yn fwy cyfannol. Mae'n ymwneud â chael persbectif ehangach a chydnabod y rhyngddibyniaethau sy'n bodoli a phwysigrwydd cydweithio i sicrhau'r gwerth mwyaf am arian cyhoeddus a'r effaith fwyaf i benderfyniadau corfforaethol. A dylai'r gwaith penodol hwnnw sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau polisi gorau.

Ni chredaf fod diffyg uchelgais yn y maes hwn gan fod gan bob un o'n hadrannau eu strategaethau rheoli asedau eu hunain, ac rwyf wrthi'n eu hystyried ar hyn o bryd i sicrhau fy mod yn fodlon eu bod yn cyflawni ein hamcanion ar draws y Llywodraeth yn hytrach na bodloni amcanion adrannau unigol yn unig.

Rydym hefyd yn datblygu arferion gorau ar gyfer caffael hefyd, gan y gwyddom, o bryd i'w gilydd, fod angen i ni gaffael tir ac adeiladau, ac mae angen i ni sicrhau bod hynny'n digwydd gyda'r tryloywder a'r diwydrwydd dyladwy priodol. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo yn y maes hwn. Cyfeiriais at y gwaith y mae Gweinidog yr economi a'r Gweinidog llywodraeth leol a minnau'n ei wneud i newid ein dull o weithredu mewn perthynas â'r tir sydd gennym fel Llywodraeth Cymru i sicrhau, pan geir gwared arno yn yr achosion hynny, y gwneir hynny mewn ffordd sy'n bodloni ein blaenoriaethau trawslywodraethol, yn hytrach na'i fod yn ymwneud â'r llinell waelod yn unig.

15:05

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar gynnydd camau cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn erbyn y ddau gwmni sy'n cynghori ar werthiant tir cyhoeddus gan gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, a arweiniodd at golled ariannol i drethdalwyr Cymru? Bydd eich adroddiad cynnydd yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

Diolch. Rhoddais wybod i David Rowlands yn gynharach yn ystod sesiwn gwestiynau y prynhawn yma mai fi oedd y Gweinidog a oedd yn y portffolio pan gychwynnwyd yr achos hwnnw, ac mae'r camau cyfreithiol yn parhau ar hyn o bryd, ond bydd y Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb bellach, Julie James, yn sicr o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd rhywbeth i'w ddweud. Gan ei bod yn broses barhaus, mae arnaf ofn na allaf wneud sylwadau pellach heddiw, mae'n ddrwg gennyf.

Y Gyfradd Dreth Trafodiadau Tir

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y gyfradd dreth trafodiadau tir uwch o 6 y cant mewn cysylltiad ag eiddo masnachol? OAQ54112

Bydd yr ystadegau blynyddol cyntaf ar gyfer trethi trafodiadau tir, ar gyfer 2018-19, yn cael eu cyhoeddi yfory. Fodd bynnag, mae ffigurau alldro amodol yn dangos bod refeniw amhreswyl trethi trafodiadau tir, cyfanswm o £72 miliwn, yn uwch nag mewn pedair o'r bum mlynedd flaenorol o dreth dir y dreth stamp. Byddwn yn parhau i fonitro effaith holl drethi Cymru.

Ew. Wel, fe geisiaf reoli fy nghyffro wrth edrych ymlaen at weld y ffigurau hyn yfory—diolch am adael i ni wybod hynny. Yr hyn rwyf am ei ofyn, fodd bynnag, yw: mae'r Gweinidog neu ei rhagflaenydd wedi cynyddu'r gyfradd ar gyfer eiddo dros £1 miliwn yn y sector masnachol o 5 y cant i 6 y cant, ac ni fydd y math hwnnw o gynnydd o un rhan o bump yn arwain at refeniw uwch os bydd nifer y trafodion yn gostwng cyfran debyg, neu fwy. Ac rwyf wedi bod yn bryderus, o leiaf yn y data chwarterol cynnar, fod yna dystiolaeth fod hynny wedi digwydd. A gaf fi ofyn, yn y dyfodol—a bydd rhyngweithio'n digwydd â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ynghylch beth fydd y rhagolygon, fel y trafodasom yn gynharach—a fydd Llywodraeth Cymru, er budd tryloywder ac atebolrwydd, yn cyhoeddi beth fydd yr incwm treth a ragwelir ym mhob band ar gyfer trethi trafodiadau tir preswyl ac amhreswyl?

Wel, fel y dywedais, bydd y data alldro gennym yfory, a gallwn edrych arno o ran y flwyddyn gyntaf, a byddwn bob amser yn ceisio cyhoeddi cymaint o wybodaeth ag y gallwn, wrth inni baratoi i bennu ein cyllideb, fel y gallwn graffu yn y pwyllgor wrth i ni ymgymryd â'r gwaith o bennu'r gyllideb.

Hoffwn ddweud, fodd bynnag, fy mod yn ymwybodol fod yr Aelod wedi bod yn arbennig o bryderus ynglŷn â'r gyfradd uwch o drafodiadau eiddo amhreswyl, ond mae llawer o'r data a adroddir gan ddadansoddwyr y diwydiant, felly buddsoddiadau eiddo, sy'n aml yn drafodiadau cyfranddaliadau yn hytrach na thrafodiadau tir, ac nid ydynt yn agored i dreth trafodiadau tir neu dreth dir y dreth stamp. Ac felly, ni fydd y dreth yn cael unrhyw effaith ar y trafodiadau hynny. Felly, nid yw unrhyw ymgais i gymharu'r ddwy eitem benodol hynny'n bosibl.

Hoffwn ddweud bod rhesymau eraill pam y bydd cwmnïau'n awyddus i sefydlu eu busnesau yng Nghymru, ac nid yw popeth yn ymwneud â lefel y cyfraddau treth sydd gennym. Bydd yna fynediad at weithlu medrus, ac mae pris tir, er enghraifft, yn ystyriaeth bwysig pan fydd eiddo at ddibenion amhreswyl yn cael eu prynu. Felly, mae amrywiaeth eang o ffactorau yn hyn o beth, ond yn amlwg, byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos.

Rwy'n eich annog, Weinidog, i edrych ar y sefyllfa yn yr Alban, gan y bydd y cwmnïau sy'n prynu ar sail debyg i'r rhai yng Nghymru yn talu 4.5 y cant—mae hynny'n is na chyfradd Lloegr, ac yn amlwg, 1.5 y cant yn is na'n cyfradd ni. Yn y mis pan wnaethant y penderfyniad hwnnw, cawsant eu cynnydd refeniw uchaf erioed, ac mae eu cynnydd blynyddol hyd yn hyn yn fwy na £13 miliwn. Felly, credaf fod gwers wirioneddol i'w chael yma am y lefel orau ar gyfer y cyfraddau trethiant hyn.

Yn sicr. A byddwn bob amser yn ceisio sicrhau'r lefel orau. Yn yr Alban, pan gyflwynwyd treth trafodiadau tir ac adeiladau am y tro cyntaf yn 2015, gwn fod ganddynt gyfradd amhreswyl uwch o 4.5 y cant, fel y dywedodd David Melding, ac roedd honno'n gyfradd uwch na threth dir flaenorol y dreth stamp ar y pryd, ond wedyn, cynyddodd refeniw treth yn yr Alban. Y flwyddyn ganlynol, cynyddodd Llywodraeth y DU gyfradd uchaf treth dir y dreth stamp i 5 y cant, a gostyngodd refeniw treth yn yr Alban yn sgil hynny, er bod ganddynt gyfradd gymharol is yno. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y byddant yn cynyddu eu cyfradd uchaf i 5 y cant, a rhagwelir y bydd hynny'n cynyddu refeniw treth. Felly, credaf ei bod yn bwysig ystyried yr hyn sy'n digwydd yn y gwledydd cyfagos, ond i wneud y penderfyniadau sydd orau i ni yng Nghymru bob amser.

15:10
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cyfrifyddu ac archwilio ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? OAQ54131

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â sefyllfa ariannol holl sefydliadau GIG Cymru, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Yr wythnos diwethaf, clywsom fod bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg, a elwir bellach yn fwrdd iechyd Bae Abertawe, unwaith eto wedi methu â chwrdd â'i ddyletswyddau ariannol. Mae'r bwrdd iechyd wedi gorwario dros gyfnod o dair blynedd ac oherwydd hynny bu'n rhaid i'r archwilydd cyffredinol gymhwyso ei farn archwilio ar ei gyfrifon am y flwyddyn 2018-19. Er bod bwrdd iechyd ABM wedi gwella ei sefyllfa ariannol o'i chymharu â'r llynedd, beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud i sicrhau bod y gorwariant yma yn cael ei ddileu yn y dyfodol a bod gwasanaethau yn cael eu rhoi ar sylfaen gynaliadwy?

Fel y dywed Dai Lloyd, gostyngodd y gorwariant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe o £32.4 miliwn yn 2017-18 i ychydig o dan £10 miliwn yn 2018-19, ac mae hwnnw'n welliant o £22.4 miliwn. Cyflawnodd y bwrdd iechyd eu cyfanswm rheoli gan Lywodraeth Cymru o uchafswm diffyg o £10 miliwn yn 2018-19. Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn rhagweld y byddant yn mantoli eu cyllideb yn 2019-20.

Yn seiliedig ar y ffigurau a ddyfynnwyd i ni yn awr, nid wyf 100 y cant yn sicr sut y gall bwrdd newydd sbon ddangos hanes o dair blynedd, ond yn ôl pob golwg, mae'r bwrdd newydd yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Ond a ydych yn gwybod faint o'r gostyngiad hwnnw yn y diffyg sy'n deillio o gael gwared ar unrhyw ddyled yn sgil y gweithrediadau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr—gan fod y gweithrediadau hynny, wrth gwrs, bellach wedi symud i Gwm Taf? Yr hyn rwy'n ceisio gweld yw a yw hyn yn enghraifft o symud dyled i fwrdd iechyd newydd o'r un blaenorol. Hefyd, efallai y gallwch roi rhyw syniad i ni, gan fod y bwrdd hwn yn llawer llai bellach, faint yn llai y bydd yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru o gymharu â bwrdd blaenorol Abertawe Bro Morgannwg, o gofio nad yw bellach yn gyfrifol am fy etholwyr i ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Diolch am godi'r cwestiwn hwnnw. Mae arnaf ofn nad yw'r union ffigurau hynny gennyf y prynhawn yma, ond byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog iechyd yn ysgrifennu atoch.FootnoteLink

Y Dreth Gyngor

7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau biliau'r dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54115

Mae ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn rhoi cymorth i oddeutu 280,000 o gartrefi gyda'u biliau treth gyngor. Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cyngor clir a chyson ar y cynllun hwn, a'r gostyngiadau a'r eithriadau eraill sydd ar gael, i sicrhau bod pob cartref yn derbyn y cymorth y mae ganddynt hawl i'w gael.

Weinidog, mae fy rhanbarth wedi wynebu cynnydd cyfartalog o 60 y cant yn y dreth gyngor band D ers 2007. Dros y cyfnod hwnnw, roedd chwyddiant oddeutu 2.5 y cant yn unig ar gyfartaledd. Dros yr un cyfnod, mae casgliadau sbwriel wedi eu haneru, mae canolfannau dydd wedi cau, mae llyfrgelloedd wedi cau ac mae gwasanaethau canolfannau hamdden wedi wynebu toriadau. Pam fod fy etholwyr yn talu cymaint yn fwy am gymaint yn llai? Weinidog, a wnewch chi ymrwymo'ch Llywodraeth i dorri trethi cyngor y flwyddyn nesaf, neu a fydd fy etholwyr, unwaith eto, yn wynebu cynnydd sy'n fwy na'r cynnydd yn eu cyflogau?

Wel, awdurdodau lleol sy'n pennu lefel y dreth gyngor yng Nghymru, ond rydym wedi parhau i ddiogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag toriadau sylweddol yn wyneb cyllidebau llai a llai gan Lywodraeth y DU. Wedi dweud hynny, rwy'n gwbl ymwybodol o'r pwysau difrifol sy'n wynebu awdurdodau lleol, ond maent yn derbyn dros £4.2 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd i'w wario ar ddarparu'r gwasanaethau allweddol hynny y cyfeiriwch atynt, ac fe wnaethom gynnwys cyllid ychwanegol yn y gyllideb derfynol, felly cynyddodd y setliad 0.2 y cant ar sail gyfatebol o gymharu â'r llynedd. Felly, yn amlwg, mae hwn yn gyfnod heriol.

Ond mae cyfradd gyfartalog treth gyngor band D £159 yn is na chyfradd gyfartalog treth gyngor band D yn Lloegr. Ac rydym hefyd wedi caniatáu i awdurdodau lleol gynnal yr hyblygrwydd mwyaf posibl wrth reoli eu cyllidebau drwy gydol y cyfnod o gyni, felly nid ydym wedi gosod cyfyngiadau cenedlaethol ar gynnydd mewn cyllidebau, ond rydym yn cydnabod bod hynny'n fater i'w bennu'n lleol. Hefyd, nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal refferenda drud na chlustnodi arian a godir drwy'r dreth gyngor at ddibenion penodol. Felly, rydym yn ceisio rhoi cymaint o hyblygrwydd ag y gallwn i awdurdodau lleol, gan geisio sicrhau bod y dreth gyngor yn decach. Felly, rydym wedi cael gwared ar y gosb o garchar am beidio â thalu'r dreth gyngor. Rydym wedi deddfu i sicrhau bod pawb sy'n gadael gofal yng Nghymru wedi'u heithrio rhag gorfod talu'r dreth gyngor hyd at eu pen blwydd yn 25, ac rydym hefyd yn parhau â'n cynllun gostyngiadau'r dreth cyngor, sy'n golygu, fel rhan o'r 280,000 o gartrefi sy'n derbyn cymorth, nad yw 220,000 o'r rheini yn talu ceiniog. Rydym yn gweithio'n gyson i ddod o hyd i fwy o ffyrdd o sicrhau bod y dreth gyngor yn decach, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i wneud hynny.

15:15
Dioddefwyr Trais Domestig

8. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i helpu dioddefwyr trais domestig wrth ddrafftio cyllideb derfynol 2019-20? OAQ54094

Yn 2019-20, rydym wedi darparu £15 miliwn i gefnogi dioddefwyr pob math o drais, gan gynnwys cam-drin domestig, trais yn erbyn menywod, a thrais rhywiol yng Nghymru.

Diolch. Wel, fel y dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru fis diwethaf, mae mynediad at gymorth arbenigol, lle a phan fydd goroeswyr camdriniaeth ei angen, yn hanfodol er mwyn galluogi menywod a merched i fod yn ddiogel ac i gyflawni eu potensial llawn. Ond er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyllid diogel a chynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol, ac mae gennym ganllawiau comisiynu, nid oes cyllid diogel ar gyfer gwasanaethau arbenigol wedi'i ddarparu eto mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru. Ac wrth gwrs, dyfynnwyd arolwg troseddu Cymru a Lloegr yn y ffigurau a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a gwelwyd bod 2 filiwn o ddioddefwyr yng Nghymru a Lloegr y llynedd: 65 y cant yn fenywod, 35 y cant yn ddynion—lle mae dynion deirgwaith yn fwy tebygol na menywod o beidio â rhoi gwybod am gamdriniaeth oherwydd teimladau o gywilydd, embaras, gwadu a stereoteipiau gwrywdod, ac mae dynion yng Nghymru bedair gwaith yn fwy tebygol na menywod o farw drwy hunanladdiad.

Sut, felly, y byddwch yn ymateb, neu a ydych yn ystyried ymateb, i adroddiadau BBC Wales ym mis Mawrth fod yr elusen Gymreig, Calan, wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y dioddefwyr gwrywaidd sy'n rhoi gwybod am gamdriniaeth, gan ailadrodd canfyddiadau gwaith yr elusennau gwych, KIM Inspire yn Nhreffynnon, yr uned ddiogelwch cam-drin domestig yng Nglannau Dyfrdwy, ac eraill, fel y gellir mynd i'r afael â phryderon Cymorth i Fenywod Cymru ynghylch dioddefwyr a goroeswyr sy'n fenywod a merched, ond hefyd y pryderon cynyddol sy'n cael eu mynegi ynglŷn â dioddefwyr gwrywaidd, drwy'r gwasanaethau cymorth priodol yn y dyfodol?

Roeddwn yn ddiolchgar i chi am grybwyll yr adroddiad ar y cyd ar gefnogi pobl anabl sy'n wynebu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yma yn y Siambr yn ystod y cwestiynau busnes y mis diwethaf, a gwn, ers hynny, fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr agenda hon wedi cael cyfle i edrych ar yr adroddiad ac wedi ysgrifennu at Cymorth i Fenywod Cymru er mwyn nodi'r hyn y gallai'r Llywodraeth ei wneud o ran ymateb i'r adroddiad penodol hwnnw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phob math o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a chefnogi pob dioddefwr cam-drin domestig. Rydym yn cydnabod, er ei fod yn brofiad anghymesur i fenywod a merched, nad yw hynny'n golygu na chyflawnir trais a chamdriniaeth tuag at ddynion a bechgyn, gan y gall y materion hyn effeithio ar unrhyw un. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu prosiectau yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr gwrywaidd, gan gynnwys llinell gymorth Byw Heb Ofn a phrosiect Dyn. Mae'r llinell gymorth yn ymateb yn ôl rhywedd ac mae'n cynnwys gwybodaeth wedi'i thargedu'n benodol ar gyfer dioddefwyr gwrywaidd, ac mae prosiect Dyn yn darparu cymorth hygyrch i bob dyn sy'n dioddef cam-drin domestig yng Nghymru, waeth beth fo'u hoed, eu rhywedd, eu hil, eu crefydd neu eu cyfeiriadedd rhywiol. Ac mae gennym hefyd ganllawiau statudol, sy'n nodi egwyddorion comisiynu craidd y dylid seilio strategaethau comisiynu rhanbarthol arnynt, ac unwaith eto, mae hynny'n ymwneud â sicrhau bod pob dioddefwr, waeth beth fo'u rhywedd neu eu cefndir, yn gallu cael cymorth.

3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.

Masnach Ryngwladol Cymru

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi masnach ryngwladol Cymru? OAQ54093

Diolch. Rydym yn gweithio gyda chwmnïau ledled Cymru i'w cynorthwyo i dyfu eu hallforion ac rydym yn defnyddio ein cysylltiadau rhyngwladol er mwyn eu cysylltu â chyfleoedd.

Diolch. Yn ôl sylw yn y cyfryngau, gan fod Brwsel wedi arwyddo cytundebau masnach newydd ledled y byd, gall nwyddau o wledydd partner fynd i mewn i'r UE ar gyfraddau is neu ddi-dariff ac yna maent yn rhydd i fynd i Twrci, sydd, er nad ydynt yn rhan o'r UE, yn rhan o'r undeb tollau ar gyfer nwyddau. Nid yw cwmnïau Twrci yn elwa o doriadau tariff cyfatebol wrth allforio i'r gwledydd hynny gan nad yw Ankara yn rhan o'r UE, a chafwyd adroddiadau fod Ankara, Llywodraeth Twrci, felly wedi dechrau gosod tariffau amddiffynnol ar nifer o fewnforion i'r UE y llynedd, a mynegwyd pryderon am y goblygiadau i'r DU ac i Gymru, felly, pe baem yn aros yn rhan o'r undeb tollau, y tu allan i'r UE, yn y dyfodol. Yn yr un modd, ym mis Ebrill, dywedodd golygydd economaidd y Guardian fod pwynt gan y rheini sy'n dadlau y byddai Prydain yn well ei byd yn trafod ei chytundebau masnach ei hun, gan nad oes gan yr UE ddiddordeb arbennig mewn rhyddfrydoli yn y mannau lle mae'n wan ond mae'r DU yn gryf—yn yr achos hwn, mewn gwasanaethau. Roedd honno'n agwedd ddiddorol gan y Guardian. Felly, wrth ystyried sut y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu masnach ryngwladol mewn amgylchedd ôl-Brexit, sut y bydd yn ystyried yr ystyriaethau ymarferol hyn, fel yr amlygwyd gan academyddion ac eraill dros y misoedd diwethaf?

15:20

Wel, credaf mai'r peth cyntaf i'w ddweud yw eich bod yn gwbl gywir wrth nodi bod Twrci mewn undeb tollau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ond credaf mai'r hyn sy'n bwysig i ni ei nodi yw mai'r berthynas bwysicaf yw ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd—mae 60 y cant o'n masnach mewn nwyddau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ac felly, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn deall y byddai unrhyw golled yn y farchnad honno, hyd yn oed am gyfnod byr, yn cael effaith niweidiol iawn ar ein marchnad yma yng Nghymru. Yr hyn sydd o ddiddordeb i mi, mewn gwirionedd, yw bod un o'r arweinwyr yn etholiad arweinyddiaeth y blaid Dorïaidd ar hyn o bryd yn awgrymu bod posibilrwydd y gallem gael senario lle na fyddwn yn talu unrhyw dariffau yn ystod cyfnod gweithredu. Mae Banc Lloegr a'r Undeb Ewropeaidd wedi dweud bod hynny'n sothach, felly os yw'r Aelod am ofyn am gytundebau masnach yn y dyfodol, credaf fod yn rhaid iddo ddeall mai'r cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd yw'r cytundeb pwysicaf, ac ar hyn o bryd, ymddengys bod y cytundeb hwnnw ymhell i ffwrdd.

Tir sy'n Eiddo i Cadw

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau i reoli tir sy'n eiddo i Cadw? OAQ54120

Diolch am eich cwestiwn. Mae Cadw yn rheoli eiddo hanesyddol sy'n eiddo i neu dan warchodaeth Gweinidogion Cymru yn unol â'u hegwyddorion cadwraeth a gyhoeddwyd. Mae rheolwyr Cadw hefyd yn adlewyrchu eu dyletswyddau statudol mewn meysydd fel iechyd a diogelwch y cyhoedd ac agendâu polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cynaliadwyedd.

Ddydd Gwener diwethaf, cyfarfu Wayne David AS a minnau â Cadw, yn benodol er mwyn trafod y mater hwn, a chadarnhawyd ganddynt gyda'r nos ar 16 Mai eu bod wedi cymeradwyo contractwyr i saethu nifer o adar ar dir castell Caerffili er mwyn rheoli eu niferoedd. Roedd llygad-dyst i hyn, a phostiodd y llygad-dyst luniau ar y cyfryngau cymdeithasol, a chawsant eu cyhoeddi gan y Caerphilly Observer. O ganlyniad, roedd y cyhoedd yn ddig iawn ynglŷn â saethu'r adar yn y castell. Penderfynodd Cadw ei hun roi'r gorau i'r dull hwn, ac maent wedi dweud wrthym eu bod wedi ei ohirio hyd nes y ceir canlyniadau'r adolygiad o sut y maent yn rheoli poblogaethau adar ar diroedd y castell. Daeth i'r amlwg fod Cadw wedi gallu defnyddio hyn fel dull ers peth amser o dan delerau trwydded gyffredinol a ddyfarnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn Lloegr, nid yw'r trwyddedau hyn yn cael eu dyfarnu mwyach o ganlyniad i her gyfreithiol, ac mae hynny'n parhau. Mae'r pwerau dros y trwyddedau hyn wedi'u datganoli, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac felly maent yn un o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru. A wnewch chi roi rhywfaint o eglurder inni ynglŷn â hynny, ar y sail honno, ond a wnewch chi hefyd ymrwymo Llywodraeth Cymru i gynorthwyo Cadw i ddod o hyd i ffyrdd eraill o reoli poblogaethau adar mewn lleoedd fel castell Caerffili?

Diolch am y ffordd rydych wedi mynd ar drywydd y mater hwn. Gallaf gadarnhau bod popeth a ddywedwch yn ffeithiol gywir. Caniateir gweithgarwch Cadw yn rheoli colomennod fferal o dan drwydded gyffredinol sy'n deillio o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sydd, fel y dywedwch, yn cael ei rhoi gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cadw wedi treialu nifer o ffyrdd o reoli colomennod fferal yn y gorffennol, gan gynnwys defnyddio rhwydi cyfyngedig, cau tyllau mewn adeiladwaith hanesyddol—sydd braidd yn anodd, fel y gallwch ei ddeall, rwy'n siŵr—gosod pigynnau gwrth-glwydo, defnyddio uwchsain, modelau plastig ataliol a hyd yn oed adar ysglyfaethus. Nid yw'r rhain wedi bod mor effeithiol ag y byddent wedi'i ddymuno, ond gallaf gadarnhau bod y gweithgarwch ar ran Cadw yn gyfreithiol, ond yn sgil y pryder a fynegwyd gennych heddiw, ac yn wir, gan aelodau'r cyhoedd, mae Cadw wedi cytuno i gynnal adolygiad. Maent wedi rhoi sicrwydd i mi y bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal ar frys, ac na fydd unrhyw weithgarwch pellach o'r math rydych yn ei ddisgrifio yn digwydd hyd nes y bydd yr adolygiad hwnnw wedi'i gwblhau. Bydd yr adolygiad yn cynnwys cyngor manwl ar yr agweddau amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd ar reoli colomennod fferal, a byddaf yn sicr o'ch cynnwys chi ac unrhyw Aelodau eraill sy'n pryderu am y digwyddiadau hyn yn y trafodaethau, wedi i'r adolygiad gael ei gwblhau.

15:25

A gaf fi gofnodi fy niolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb prydlon wrth fynd i'r afael â fandaliaeth yn yr amffitheatr Rufeinig yng Nghaerllion, a reolir gan Cadw? Deallaf fod gweithgor ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Cadw, Heddlu Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a'r gymuned leol, wedi cyfarfod ar 23 Mai i ystyried amrywiaeth o opsiynau i fynd i'r afael â'r mater. A all y Dirprwy Weinidog roi gwybod inni a oes unrhyw gynigion wedi dod i law yn dilyn y cyfarfod hwnnw ac a wnaiff ofyn i Cadw adolygu diogelwch mewn safleoedd eraill y maent yn eu rheoli yng Nghymru sydd hefyd yn dioddef o ganlyniad i'r un ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Diolch am wneud y sylwadau hynny. Nid wyf wedi gweld adroddiad manwl ar y trafodaethau hynny eto, ond gallaf gadarnhau eu bod wedi'u cynnal. Y broblem rydym yn ei hwynebu, ac rwyf wedi bod ar y safle, wrth gwrs—yng Nghaerllion a safleoedd hanesyddol eraill—. Yr anhawster gyda'r safleoedd hyn yw, os ydych yn eu ffensio, nid yw hynny'n eu gwneud yn lleoedd deniadol i bobl ymweld â hwy. Mae'n ymwneud â chael cydbwysedd, bob amser, rhwng y mesurau diogelwch lleiaf sydd eu hangen ar safleoedd i sicrhau nad ydynt yn cael eu camddefnyddio a'r modd y byddai'n atal pobl rhag ymweld pe bai safleoedd yn cael eu gor-ddiogelu, fel petai. Felly, mae gennyf rywfaint o ffydd o hyd ym mhotensial addysg, ac yn benodol, cynnwys pobl ifanc mewn gweithgareddau cadwraeth eu hunain—gallaf weld bod fy nghyd-Aelod y Gweinidog addysg yn nodio—ac mae'r rhaglenni amrywiol sydd gennym bellach gyda llysgenhadon ifanc a phrentisiaid ifanc yn Cadw ac mewn rhannau eraill o fy nghyfrifoldebau yn ffyrdd o gyflwyno pobl ifanc i arferion cadwraeth fel nad ydynt yn teimlo'r angen i achosi unrhyw ddifrod i'r hyn sydd, wedi'r cyfan, yn safleoedd hanesyddol iawn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr—Darren Millar.

Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae'n eu cynnal gyda swyddogion tramor a diplomyddion ynghylch hawliau dynol?

Diolch. Ie, mae hyn yn rhywbeth sy'n bwysig i ni wrth i ni ddatblygu strategaeth ryngwladol newydd. Ac wrth gwrs, bydd hynny'n ffactor y byddwn yn ei ystyried. Ond wrth gwrs, pan fo'n berthnasol, rydym yn trafod y materion hynny gyda chynrychiolwyr lle credwn fod yna broblem y dylid ei herio.

Diolch am eich ymateb. Wrth gwrs, un o gonglfeini ein democratiaeth yma yng Nghymru, ac yn wir, gweddill y Deyrnas Unedig, yw'r traddodiad balch o barch sydd gennym tuag at hawliau dynol, ac mae'n dda dweud ein bod wedi arwain ar hawliau dynol mewn sawl ffordd ym mhob rhan o'r byd ers blynyddoedd lawer. Yn ddiweddar, cawsoch gyfarfod ag is-bennaeth Tsieina yn ystod ei ymweliad â Chymru, ac roeddwn yn falch iawn o weld mewn adroddiadau yn y cyfryngau eich bod wedi bod yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig. A allwch ddweud wrthym: a wnaethoch chi drafod camweddau hawliau dynol yn Tsieina gyda'r is-bennaeth? Byddwch wedi gweld bod llawer o gamweddau wedi digwydd yn Tsieina yn hanesyddol, ac rwy'n siŵr ei fod yn gyfle i'w groesawu y byddai pobl wedi disgwyl i chi ei gymryd.

15:30

Wrth gwrs, rydym yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n ymwneud â hawliau dynol yn Tsieina, yn enwedig ar hyn o bryd gyda'r sefyllfa yn Hong Kong, a hefyd gyda'r lleiafrifoedd ethnig, o ran Mwslimiaid Uighurs. Felly, roedd y rheini'n faterion byw, ac yn wir, codais fater hawliau dynol gyda'r dirprwy bennaeth yn y cinio gyda'r nos.

Rwy'n falch iawn o glywed eich bod wedi codi record hawliau dynol Tsieina gyda'r dirprwy bennaeth. Mae'n eithriadol o bwysig ein bod yn sicrhau bod y rhain yn faterion sy'n cael eu codi ar bob cyfle. Sylwaf eich bod wedi cyfeirio at boblogaeth Mwslimiaid Uighurs yn Tsieina. Cafodd y grŵp trawsbleidiol ar ffydd gyfarfod y prynhawn yma, a buom yn sôn am beth o'r pwysau y mae hynny'n ei achosi gyda ffoaduriaid ledled y byd pan fo pobl yn cael eu herlid o ganlyniad i'w crefydd neu gredoau gwleidyddol.

Un o'r sefydliadau eraill sydd wedi codi pryderon gydag Aelodau'r Cynulliad yn y gorffennol, wrth gwrs, yw elusen Open Doors, sydd wedi nodi bod 97 miliwn o Gristnogion yn Tsieina mewn perygl o gael eu harestio a niwed corfforol. A allwch roi sicrwydd i'r Cynulliad y defnyddir pob cyfle i godi pryderon am gamweddau hawliau dynol lle maent yn digwydd, boed hynny yn Tsieina, Twrci neu unrhyw wlad arall, pan fyddwch yn cael cyfle i gyfarfod â swyddogion a diplomyddion yn y dyfodol?

Wel, gallaf roi sicrwydd i chi, pan gyfarfuom â Thwrci yn ddiweddar, fod mater hawliau dynol ar frig yr agenda yno. Ac rwy'n cytuno bod erlid Cristnogion yn rhywbeth y dylem fynd i'r afael ag ef. Nid problem yn Tsieina yn unig yw hon. Mae'n broblem fawr yn y dwyrain canol, yn yr Aifft, ac yn sicr, mae'r rhain yn faterion y mae angen eu hwynebu ac mae angen eu trafod gyda'r awdurdodau perthnasol.

Llywydd, yn gynharach y flwyddyn hon cyhoeddodd y Llywodraeth gynlluniau ar gyfer gwneud Cymru yn genedl noddfa. Roeddwn i'n croesawu hyn, wrth gwrs. A dydd Mawrth dywedodd y Prif Weinidog fod Cymru yn wlad groesawgar a chynhwysol. A all y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae ei hadran hi yn ei wneud i hyrwyddo'r neges groesawgar yma ar lwyfan y byd?

Diolch yn fawr. Ac, wrth gwrs, mae yn bwysig ein bod ni'n tanlinellu ein bod ni'n wlad sy'n croesawu pobl i'n plith ni. A'r wythnos diwethaf, er enghraifft, mi gaethon ni sefyllfa yma yn y Senedd lle gwnaethon ni groesawu pobl o Bangladesh a oedd yn chwarae criced gyda ni, ac roedd hi'n gyfle i ni unwaith eto ddweud ein bod ni'n ddiolchgar bod y gymuned Bangladeshaidd wedi dod yma atom ni yng Nghymru hefyd. 

Yr wythnos yma, rŷch chi wedi clywed bod y Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n glir ein bod ni'n wlad agored, ein bod ni'n croesawu pobl. Mae e wedi gwneud cyhoeddiad i'r perwyl hwnnw. Ac roedd hynny'n bwysig achos ei fod e'n cyd-fynd ag ymweliad yr ambassador o Romania. Ac roedd e'n bwysig ei fod e'n clywed y neges yna'n glir, achos mae gyda ni lot o bobl sydd wedi dod i'n gwlad ni, sydd yn cyfrannu at ein gwlad, ac mae'n bwysig iawn eu bod nhw yn deall bod croeso iddyn nhw. Ac un o'r pethau rŷm ni'n ei wneud nawr i hyrwyddo ac i sicrhau eu bod nhw'n deall bod yna groeso iddyn nhw yw ein bod ni wedi rhoi cynlluniau, gyda'r arian sydd gyda ni wedi'i neilltuo ar gyfer Brexit, i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'u hawliau nhw. Ac rŷm ni wedi rhoi arian i sicrhau bod pobl yn gallu mynd at ganolfan a gofyn am beth yw eu hawliau nhw. Ac rŷm ni'n gobeithio, wrth gwrs, y bydd hwnna'n dod drosodd yn glir yn y strategaeth ryngwladol newydd. 

Diolch am yr ymateb, Gweinidog. 

Gofynnais y cwestiwn gan fy mod yn pryderu ynghylch trin ymfudwyr yn annynol, yn enwedig ymfudwyr sy'n blant, ar ffin ddeheuol yr Unol Daleithiau â Mecsico. Hyd yn hyn, mae o leiaf 24 o bobl, gan gynnwys chwech o blant, wedi marw yn ystod gweinyddiaeth Trump yn yr hyn na ellir ond eu disgrifio mewn gwirionedd yn wersylloedd crynhoi. Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn gwahanu miloedd o blant oddi wrth eu rhieni ac yn eu cadw mewn cewyll oer sy'n cael eu galw'n 'ffaldau cŵn' a 'rhewgelloedd' gan y plant a gedwir ynddynt. Caiff eu pethau gwerthfawr, a hyd yn oed eu meddyginiaethau, eu cymryd oddi arnynt, ac er bod gofyniad cyfreithiol ar batrôl y ffin i sicrhau diogelwch ac amodau glanweithiol, dadleuodd cyfreithiwr o adran gyfiawnder yr Unol Daleithiau yn y llys yn ddiweddar nad oes angen sebon, brwsys dannedd neu welyau ar blant a gedwir i fod yn ddiogel ac yn lanweithiol pan gânt eu cadw gan batrôl y ffin. Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth ysgrifennu at Lywodraeth yr Unol Daleithiau i gondemnio'r camweddau hawliau dynol ofnadwy hyn?

15:35

Wel, yn sicr, rwy'n condemnio'r achosion hynny o dorri hawliau dynol. A chredaf mai un o'r pethau mwyaf syfrdanol i mi, mewn gwirionedd, oedd nad ydynt wedi cadw cofnod clir o ba bryd a phwy a wahanwyd oddi wrth eu rhieni a'u plant, ac felly mae hi wedi bod yn anodd dod â'r ddau grŵp hyn yn ôl at ei gilydd, oherwydd yr anhrefn ar y ffin honno. Wrth gwrs, rydym yn bryderus iawn wrth weld y lluniau ofnadwy hynny; wrth gwrs, rydym yn pryderu pan fydd pobl yn benderfynol o adeiladu waliau. A chredaf mai dyna un o'r pethau sy'n peri pryder i ni gyda thrafodaeth Brexit—beth sy'n digwydd mewn gwirionedd gyda'r ffin honno gydag Iwerddon. Gwyddom fod waliau a ffiniau yn creu tensiynau, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth nad ydym am ei weld yn digwydd yn y dyfodol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, o ran materion rhyngwladol, mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am hynny, ond rwy'n fwy na pharod i fynegi ein barn yn glir i Lywodraeth y DU.

Rwy'n croesawu ymateb y Gweinidog i fy nghwestiwn. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn dwyn yr Unol Daleithiau i gyfrif, gan mai hwy yw'r wladwriaeth fwyaf pwerus yn y byd, ac yn aml fe'i hystyrir yn un o gynghreiriaid agosaf y DU. Mae tawelwch llwyr Llywodraeth y DU ar hyn wedi codi arswyd arnaf. Credaf y gallai hyn fod yn rhywbeth i'w wneud ag ymdrechion Llywodraeth y DU i foddio Donald Trump yn y gobaith o gael rhyw fath o gytundeb masnach—cytundeb masnach y gŵyr pob un ohonom a fyddai'n niweidiol i Gymru ac i'n GIG. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi yn awr i gondemnio safbwynt diegwyddor Llywodraeth y DU ar weithredoedd erchyll Llywodraeth yr Unol Daleithiau?

Wel, a bod yn deg, nid wyf yn credu y gallwn ddwyn y Deyrnas Unedig i gyfrif am yr hyn y mae Donald Trump yn ei wneud ar y ffin honno. Ond credaf y byddai'n briodol inni fynegi ein barn, ac felly byddwn yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor i roi gwybod iddo mai dyma sut y teimlwn ynglŷn â hyn—fel Llywodraeth Cymru. Ond credaf fod yn rhaid i ni ddeall hefyd, mewn gwirionedd, fod yr Unol Daleithiau hefyd yn gynghreiriad. Mae gennym ffrindiau da sy'n rhan o'r Unol Daleithiau. Rydych yn meddwl am yr holl fyfyrwyr sy'n mynd o Gymru i astudio yn yr Unol Daleithiau. Rydym wedi cael ffigurau mewnfuddsoddi heddiw; yr Unol Daleithiau yw un o'r mewnfuddsoddwyr mwyaf i'n gwlad. Ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn egluro'n glir y gwahaniaeth rhwng yr Unol Daleithiau fel cenedl a'r arweinyddiaeth, yr arweinyddiaeth wleidyddol, nad ydym bob amser yn cytuno â hi o bosibl.

Hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf? OAQ54125

Rŷm ni'n gweithio gydag amrywiol bartneriaid i hyrwyddo'r iaith yn Rhondda Cynon Taf. Ac mae'n gyfnod rili cyffrous yna, gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld yn 2022, a'r fenter iaith yn trefnu Parti Ponty i hyrwyddo defnydd yr iaith.

Rwy'n ddiolchgar iawn, Weinidog, eich bod wedi cyfeirio at y ffaith y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â RhCT yn 2022; bydd yn gyfle allweddol i adeiladu ar y 28,000 o siaradwyr Cymraeg sydd eisoes yn Rhondda Cynon Taf. A chredaf ei fod yn gyfle pwysig i adfer iaith mewn rhan wirioneddol bwysig o Gymru, oherwydd, os ydym am fod yn genedl ddwyieithog, bydd angen i ni weld y cynnydd mwyaf yn yr ardal hon ac ardaloedd eraill tebyg. Mae hefyd yn gyfle ar gyfer adfywio economaidd, hyrwyddo twristiaeth a diwylliant yr ardal. A gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r cyngor, sydd â chynllun eisoes i ddatblygu eu strategaeth hyd at 2022, fel y gellid sicrhau'r budd mwyaf posibl o'r cyfle gwych hwn.

Wel, diolch yn fawr. Ac, wrth gwrs, dwi'n gobeithio bod pobl yn ardal Rhondda yn edrych ymlaen at y digwyddiad yna. Dwi'n meddwl mai beth sy'n bwysig i'w gofio gyda'r Eisteddfod yw nad gŵyl wythnos yw hi—mae'r paratoadau yn dechrau nawr. A beth sy'n bwysig am yr Eisteddfod yw bod y legacy yn mynd ymlaen ar ôl i'r Eisteddfod adael. Ond mae'n gyfle i ni godi cynnwrf yn yr ardal tuag at yr iaith Gymraeg, a dwi'n falch dros ben bod cyngor Rhondda Cynon Taf yn cymryd hwn o ddifrif, eu bod nhw wedi croesawu'r Eisteddfod, a'u bod nhw, dwi'n deall, wedi hefyd penodi swyddog i sicrhau bod hwn yn rhywbeth sy'n datblygu, nid jest yn 2022, ond yn dechrau lot cyn i'r digwyddiad ddigwydd.

15:40

Un o'r ffyrdd dŷn ni'n mynd i hyrwyddo'r iaith Gymraeg, wrth gwrs, yw drwy addysg, a sicrhau bod pobl yn gallu dysgu'r Gymraeg a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o'r pethau dwi wedi clywed yn ystod yr wythnosau diwethaf, a dwi wedi gweld hyn yn fy etholaeth fy hun, yw dyw cynghorau lleol ddim yn fodlon talu am drafnidiaeth ar gyfer y plant sydd eisiau mynychu ysgolion Cymraeg a'u  galluogi nhw i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dwi'n falch iawn gweld bod y Gweinidog Addysg yn ei lle ar gyfer y sesiwn yma y prynhawn yma. Ac a oes yna fodd i chi, Gweinidog, Gweinidogion, gydweithio gyda'ch gilydd i sicrhau bod pob un person a phob un plentyn yn gallu mynychu ysgolion Cymraeg, os dyna yw eu dewis, lle bynnag maen nhw'n byw yn ein gwlad? 

Wel, wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i'r Llywodraeth. Mae hwn yn gwestiwn i'r Gweinidog Addysg, mewn gwirionedd, ond mae hwn yn bwnc rŷn ni wedi trafod eisoes. Wrth gwrs, rŷn ni'n ymwybodol bod yna ddau gyngor lle mae hwn yn rhywbeth maen nhw'n ei drafod ar hyn o bryd. Mae'n bwysig dwi'n meddwl fod pobl yn deall bod yna ymgynghoriad yn mynd ymlaen ynglŷn ag a ddylai fod yna gost i bobl fynd i'r chweched dosbarth yn rhai o'r ysgolion yma, a dwi'n meddwl ddylen ni annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad yna, achos dyna'r ffordd orau efallai i ddwyn perswâd ar rai pobl sydd efallai yn dal â meddwl agored ynglŷn â beth ddylai ddigwydd yn y dyfodol. 

Hoffwn ymuno â fy nghyd-Aelod, David Melding, i fynegi fy nghyffro ynglŷn â'r ffaith y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Rondda Cynon Taf yn 2022, ac yn darparu buddion diwylliannol ac economaidd pwysig, yn ogystal, wrth gwrs, â chodi proffil yr iaith Gymraeg. Credaf mai un o'r ffyrdd pwysicaf y gallwn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yw cynyddu nifer y disgyblion sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg. Er bod gan RhCT hanes cryf o gyflawni hynny, credaf fod rôl y cylch meithrin yn bwysig iawn wrth annog plant ifanc i ddilyn y trywydd hwnnw.

Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda chylch meithrin yng Nghwm Cynon, Cylch Meithrin Seren Fach, sy'n gwbl orlawn. Mae angen arian arnynt i ehangu. Maent yn troi plant a theuluoedd ymaith wythnos ar ôl wythnos ac mae'n rhaid iddynt sicrhau llu o wahanol ffrydiau ariannu fel elusen er mwyn ceisio cyflawni'r targed sydd ei angen arnynt. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ddirprwy Weinidog, yw: pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall cylchoedd meithrin gael yr arian sydd ei angen arnynt?

Wel, rydym wedi cynyddu cyllid yn sylweddol iawn i sicrhau bod cyfle i bobl gael mynediad at addysg Gymraeg cyn gynted â phosibl. Mae hynny'n cynnwys cylchoedd meithrin. Felly, maent wedi cael £1 filiwn i ehangu, ac rwy'n falch o ddweud bod Rhondda Cynon Taf wedi cael £2.7 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf yn benodol ar gyfer datblygu'r ddarpariaeth feithrin Gymraeg yn yr ardal honno. A chredaf eich bod yn llygad eich lle: os nad ydym yn cael y pethau sylfaenol yn iawn, os na allwn gael pobl i mewn i'r system ar y dechrau, yna nid ydym yn debygol o'u perswadio pan fyddant yn mynd i mewn i addysg brif ffrwd. Felly, mae hyn yn hollbwysig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ei fod yn hollbwysig, a dyna pam ein bod yn gwneud ymdrech wirioneddol fawr yn y maes hwn, ac rydym ar y trywydd iawn o ran nifer yr ysgolion meithrin roeddem yn gobeithio eu hagor erbyn y pwynt hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Dirprwyaeth o Tseina

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau diweddar a gynhaliwyd rhwng Llywodraeth Cymru a dirprwyaeth o Tsieina? OAQ54128

Cadarnhaodd ymweliad yr Is-Bennaeth Hu â Chymru berthynas hirsefydlog Cymru a Tsieina. Yn dilyn y newyddion cadarnhaol ar godi mynediad at y farchnad ar gyfer cig eidion, cafwyd cyfle i arddangos amaethyddiaeth, cynnyrch ac arloesedd Cymru. Roedd yr ymweliad yn cynnwys cyfarfod dwyochrog cynhyrchiol gyda'r Prif Weinidog i drafod cyfleoedd am ragor o gydweithio mewn busnes, diwylliant ac addysg.

Diolch i'r Gweinidog am ei hateb ar yr amrywiaeth o bethau a drafodwyd. Tybed a oedd newid hinsawdd yn un o'r eitemau hynny, a sut y gall y ddwy genedl ar raddfa wahanol iawn, gyda gwahanol lefelau o gymhlethdod, ddysgu oddi wrth ei gilydd a dangos arweinyddiaeth. Gwyddom fod Tsieina, yn y degawd diwethaf, wedi buddsoddi'n sylweddol mewn ynni adnewyddadwy, ond ar yr un pryd, maent hefyd yn adeiladu fflyd o orsafoedd ynni glo newydd. Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni wedi datgan argyfwng hinsawdd a hefyd wedi gosod ein targedau di-garbon heriol. Felly, tybed a oedd rhan o'r trafodaethau'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd, nid yn unig o ran yr heriau ond o ran y cyfleoedd a sut y gallwn rannu profiad a dangos arweinyddiaeth ar lwyfan byd-eang?

15:45

Yn wir, manteisiais ar y cyfle i siarad â'r is-bennaeth ynglŷn â'r mater penodol hwn, gan y credaf fod Tsieina yn gwbl allweddol mewn perthynas â'n gallu i fynd i'r afael â'r broblem a chadw o dan y 2C sy'n gwbl hanfodol i bob un ohonom. Gŵyr pob un ohonom fod yna gyfnod pan oedd dwy orsaf bŵer glo yn cael eu hagor yn Tsieina bob wythnos ac mae'n wir fod glo yn dal i gynhyrchu oddeutu 69 y cant o'u hynni. Dywedodd y Gweinidog yn glir iawn ei fod yn deall bod hwn yn fater pwysig iawn i'w wlad. Pan oedd yn arwain rhanbarth, dywedodd wrthyf ei fod wedi chwarae rhan allweddol yn newid y ffordd y câi trafnidiaeth gyhoeddus ei threfnu er mwyn sicrhau newid i ynni adnewyddadwy. Credaf ei bod yn werth myfyrio ar y ffaith bod Tsieina yn gwario tair doler am bob doler y mae'r Unol Daleithiau yn ei gwario ar ynni adnewyddadwy. Felly, hwy yw prif fuddsoddwr y byd o bell ffordd mewn ynni adnewyddadwy. Mae'r effaith ar bobl, yn enwedig yn Beijing—dywedodd wrthyf fod hyn yn rhywbeth y maent yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch am fod ansawdd yr aer yn Beijing mor ofnadwy bellach.

Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ54122

Byddaf yn cyhoeddi strategaeth ddrafft er mwyn cynnal ymgynghoriad llawn arni cyn diwedd y tymor.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Croesawaf gyhoeddiad y strategaeth cyn diwedd tymor yr haf, gan ei bod yn hanfodol i ni weld y cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo. A gaf fi hefyd eich llongyfarch ar nifer y cyfarfodydd rydych wedi'u cael gyda'r gwahanol lysgenhadon a chynrychiolwyr eraill sydd wedi dod i Gymru? Ond rydym am weld y strategaethau, gan ein bod am allu asesu yn erbyn eich targedau a'ch blaenoriaethau a yw'r cyfarfodydd hynny'n ystyrlon ai peidio. Pan gyfarfûm ag Arlywydd Gwlad y Basg, nododd eu bod eisoes wedi nodi strategaethau, a chenhedloedd a rhanbarthau roeddent yn awyddus i weithio gyda hwy o ganlyniad i hynny. A oes gennych flaenoriaethau yn eich strategaeth y gallwn edrych arnynt ac a fydd y blaenoriaethau hynny'n rhan o'r broses ymgynghori honno fel y gallwn edrych ar yr hyn rydych yn ei ddweud, yr hyn rydych yn ei wneud a gweld a ydynt yn diwallu anghenion Cymru?

Diolch. Credaf y bydd cyfle i'w gael. A gaf fi roi sicrwydd i Gadeirydd y pwyllgor ein bod wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i gyfraniadau ei bwyllgor wrth ddrafftio'r strategaeth? Wrth gwrs, rhai o'r pethau rydym am eu gwneud yw codi proffil Cymru yn rhyngwladol. Rydym am sicrhau bod yr agwedd ryngwladol honno ar yr hyn a wnawn yn helpu i gyfrannu at gyfoeth ein gwlad o ran mewnfuddsoddiad ac allforion, ac rydym wedi cael newyddion da iawn o ran mewnfuddsoddi i Gymru heddiw. Ond hefyd, rydym am ddangos ein bod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Ond o ran a fyddwn yn nodi—. Oherwydd ni allwn wneud popeth; credaf fod yn rhaid i ni gydnabod hynny. Felly, bydd angen i ni gael ffocws. Bydd yna restr o feysydd rydym yn gobeithio canolbwyntio arnynt, ac wrth gwrs, bydd pobl wedyn yn gallu rhoi eu hadborth ynglŷn ag a ydynt yn credu ein bod wedi nodi'r meysydd cywir.

Nid Dirprwy Weinidog yr economi yn unig sy'n credu nad yw'r Llywodraeth hon yn gwybod yn iawn beth mae'n ei wneud ar yr economi. Fe ddywedoch y llynedd, er bod y Blaid Lafur yn dda am ddosbarthu arian, nad oedd—dyfynnaf—

mor gyfarwydd â gwybod sut i gynhyrchu cyfoeth y gellir ei drethu a'i rannu wedyn er budd yr economi ehangach.

Nawr, strategaeth ai peidio, byddwch yn ymdrin â chynhyrchwyr cyfoeth rhyngwladol profiadol iawn y gallem ddysgu llawer ganddynt, neu a allai gyfrannu'n uniongyrchol at yr economi. A yw eich Llywodraeth yn gwybod sut i'w denu i Gymru heb i ni gael ein twyllo? Oherwydd mae hanesion fel Pinewood yn awgrymu efallai nad ydych.

Diolch. Credaf mai'r hyn sy'n glir, mewn gwirionedd, yw bod gennym eisoes strategaeth glir iawn mewn perthynas â mewnfuddsoddi. Heddiw, clywsom ein bod wedi llwyddo i sicrhau 51 o brosiectau mewnfuddsoddi newydd i Gymru. Mae hynny wedi cynhyrchu 3,700 o swyddi. Gwyddom fod 75 y cant o'r ffigur hwnnw o ganlyniad i ymyrraeth Llywodraeth Cymru. Ni fyddai'r rhain wedi eu sicrhau heblaw amdanom ni. Felly, wrth gwrs, rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, ac wrth gwrs, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu. Mae'n anodd iawn denu sylw at eich lle penodol chi pan fyddwch yn cystadlu yn erbyn cymaint o ardaloedd eraill, felly yr hyn y byddwn yn ceisio'i wneud yn y strategaeth ryngwladol yw dangos lle rydym yn arwain ar sail wirioneddol fyd-eang, i ddenu sylw atom ni ein hunain fel cenedl, i ddenu sylw atom ni ein hunain gan ein bod yn wlad brydferth gyda sgiliau, pobl—ac ar ôl hynny gallwch ddechrau cael y sgyrsiau sy'n arwain at fewnfuddsoddi.

15:50
Y Targed o 1 Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ54097

Ers lansio Cymraeg 2050, dŷn ni wedi bod yn canolbwyntio ar osod sylfeini, er enghraifft drwy wella cynllunio, addysg a thechnoleg gwybodaeth. Dŷn ni hefyd wrthi yn sicrhau bod y Gymraeg yn rhan bwysig o bob maes polisi ar draws y Llywodraeth, yn ogystal ag edrych ar gryfhau swyddogaethau cynllunio ieithyddol yn ein sefydliad ni.

Weinidog, er mwyn cyrraedd y targed uchelgeisiol yma, dwi'n siŵr y byddwch chi'n cytuno y bydd rhaid i ni recriwtio llawer mwy o athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg ac athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn anffodus, mae nifer y myfyrwyr sy'n gallu addysgu yn y Gymraeg ar y lefel isaf ers 10 mlynedd, a dim ond 10 y cant o ymgeiswyr sy'n gallu gwneud hyn ar hyn o bryd. O ystyried y ffactorau hyn ac yn dilyn rhai o'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud yn y Siambr hon y prynhawn yma, beth ŷch chi a Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud er mwyn gwrthdroi’r sefyllfa hon? Pa drafodaethau ŷch chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau bod mwy o fyfyrwyr yn cael eu hannog i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg?

Wel, dŷn ni'n ymwybodol dros ben bod rhaid i ni gynyddu faint o athrawon sy'n medru dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth gwrs, mae yna gam cyn hynny—hynny yw, mae'n rhaid i ni sicrhau bod digon o bobl gyda lefel A Cymraeg fel eu bod nhw'n gallu mynd ymlaen i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg lle bo hynny'n bosibl. Dŷn ni wedi gweld bod yna berthynas rhwng y bobl sydd yn astudio lefel A Cymraeg a'r rheini sydd yn mynd mewn i addysg Gymraeg a dŷn ni'n ceisio annog mwy o'r rheini. Dŷn ni wedi rhoi £150,000 i annog plant yr oedran iawn i ddewis lefel A Cymraeg fel pwnc. Felly, mae hynny, rŷn ni'n gobeithio, yn mynd i wneud gwahaniaeth. Wrth gwrs, rydych chi'n ymwybodol bod eisoes gyda ni gymhelliant o £5,000 yn ychwanegol i geisio cael mwy o bobl i ymgymryd â dysgu Cymraeg a hyfforddi drwy'r Gymraeg. Wrth gwrs, beth sy'n bwysig hefyd yw ein bod ni'n ehangu'r cynllun sabothol. Mae hwnna'n rhywbeth dŷn ni'n edrych arno; dyw e ddim o reidrwydd yn rhywbeth sy'n para am flwyddyn. Ond dŷn ni'n edrych ar ble mae pobl efallai yn siarad ychydig o Gymraeg ond mae jest angen i ni helpu adeiladu eu hyder. Mae lot o'r gwaith yna yn mynd ymlaen hefyd. 

Ar lefel bersonol, rwy'n ceisio cynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad Cymraeg drwy ychwanegu un. Er na fyddwn yn gwybod beth fydd nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2050 gan na fydd modd o ganfod hynny, byddwn yn gwybod beth fydd y ffigur ar ôl cyfrifiadau 2021, 2031, 2041 a 2051. Faint o siaradwyr Cymraeg rydych yn eu disgwyl yng nghyfrifiad 2021? Un peth y gwn i yw nad ydym yn mynd i fynd o 600,000 i 1 filiwn mewn cyfnod o flwyddyn.

Beth sy'n glir yw ein bod ni wedi creu strategaeth am y tymor hir. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n mesur y cynnydd. Mae'r ffaith bod yr annual population survey wedi dangos bod erbyn hyn 896,000 o bobl yn medru'r Gymraeg yn rhoi rhywfaith o obaith i ni. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol nad dyna'r mesur dŷn ni'n ei ddefnyddio—y cyfrifiad yw'r mesur dŷn ni'n ei ddefnyddio. Un o'r pethau mae'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau bod gan bobl sy'n medru'r Gymraeg yr hyder i ddweud eu bod nhw'n medru'r Gymraeg. Mae hwnna yn broblem i lot o bobl, a dwi'n gobeithio, er enghraifft, Mike, erbyn 2050, y byddwch chi yn un o'r bobl yna fydd gyda'r hyder i dicio'r bocs yna a sicrhau eich bod chi hefyd yn gallu dweud eich bod chi'n un o'r miliwn yna. 

15:55
Hyrwyddo Twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng nghanolbarth Cymru? OAQ54095

Diolch am eich cwestiwn. Cafodd canolbarth Cymru gyfnod llwyddiannus dros y Pasg, gyda 40 y cant o fusnesau'n nodi mwy o ymwelwyr na'r un cyfnod y llynedd. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol ein bod wedi cadw, at ddibenion twristiaeth, canolbarth Cymru fel rhanbarth twristiaeth. Ac edrychaf ymlaen at fy nghyfraniad personol: byddaf yn aros yng ngwesty Caer Beris yn Llanelwedd ar gyfer y Sioe Frenhinol am o leiaf bedwar diwrnod.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith ar fargen dwf canolbarth Cymru, sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a'r gwaith sy'n mynd rhagddo gan awdurdodau lleol ym Mhowys a Cheredigion drwy bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru. Tybed pa sgyrsiau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau yma yn y Llywodraeth, neu'n wir gydag un o'r ddau awdurdod lleol, ar ddatblygu ffrwd dwristiaeth ar gyfer y fargen dwf honno? A hefyd, o ran cefnogi'r sector a'r diwydiant twristiaeth yng nghanolbarth Cymru, a ydych yn cytuno, fel rhan o'r gwaith hwnnw, fod angen atyniad allweddol a rhywbeth i ddenu pobl i'r ardal i gefnogi busnesau bach a busnesau twristiaeth lleol yn ardal canolbarth Cymru?

Mae busnesau twristiaeth o bob maint yng nghanolbarth Cymru yn gwneud cyfraniad nodedig i'r economi leol, ac mae'n allweddol ein bod yn gallu eu cefnogi. Mewn perthynas â'r fargen dwf, yn amlwg rydym yn disgwyl y bydd yna elfen dwristiaeth gref o fewn y fargen dwf. Mae twristiaeth yn weithgarwch economaidd sylfaenol ym mholisi'r Llywodraeth, a phwysigrwydd hynny yw ein bod yn gweld datblygiad twristiaeth yn rhoi hwb economaidd i agweddau eraill rydym yn eu cefnogi'n gryf, fel y diwydiant bwyd.

Hyrwyddo De-orllewin Cymru fel Cyrchfan i Dwristiaid

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo de-orllewin Cymru fel cyrchfan i dwristiaid? OAQ54130

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae'n dda gen i ddweud bod ein hymchwil yn dangos hefyd fod y de-orllewin wedi cael ymateb llewyrchus iawn yn y cyfnod rhwng y Pasg a'r Sulgwyn—dros y Pasg, ddylwn i ddweud—ac felly, rydym ni'n parhau i farchnata'r de-orllewin yn gadarn fel lle i dreulio amser o wyliau. Gan fy mod i wedi hysbysebu un gwesty yn y canolbarth, well imi hysbysebu Twr y Felin ym Mhenfro hefyd, lle bûm i'n aros yn weddol ddiweddar.

Ddirprwy Weinidog, mae'n siŵr y cytunwch y gall henebion hanesyddol gyfrannu'n fawr at gynnig twristiaeth unrhyw sir. Fodd bynnag, yn lleol yng Nghastell Nedd Port Talbot yn fy rhanbarth i mae rhwystredigaeth nad yw heneb hanesyddol allweddol, sef Abaty Nedd, yn cael ei hyrwyddo'n ddigonol fel atyniad i dwristiaid. Mae pryderon nad yw'n cael ei hysbysebu'n ddigonol ac mae mynediad ac arwyddion gwael iddo. Rwy'n ymwybodol bod Cadw wedi buddsoddi yn y safle i achub y strwythurau rhag cwympo; fodd bynnag, a wnewch chi yn awr ymrwymo i weithio gyda phartneriaid llywodraeth leol ac asiantaeth priffyrdd de Cymru i sicrhau bod y safle yma wedi ei arwyddo a'i hyrwyddo'n briodol i wneud y gorau o'i botensial o ran twristiaeth?

Dwi wedi ymweld â safle Abaty Nedd ac wedi gweld y gwaith sydd wedi cael ei wneud i ddiogelu'r adeilad gan Cadw ac yn ei gymeradwyo, ond rydw i yn derbyn bod yna anawsterau ynglŷn â lleoliad yr abaty o ran hygyrchedd. Rydym ni'n ystyried abatai o leiaf cyn bwysiced â chestyll yn ein strategaeth ynglŷn â henebion, a dwi'n barod iawn i gydweithio gyda'r awdurdod lleol ac, yn wir, unrhyw fuddiannau eraill yn yr ardal fyddai am hyrwyddo'r abaty yna ac am sicrhau bod yr etifeddiaeth sydd yn yr abatai yn cael ei ddathlu drwy Gymru. 

Ymweliad Diweddar y Gweinidog ag Iwerddon

10. Beth oedd canlyniadau ymweliad diweddar y Gweinidog ag Iwerddon mewn ymgais i hyrwyddo cysylltiadau â Chymru? OAQ54121

Cyfarfûm â'r Tánaiste a'r Gweinidog Materion Tramor a Masnach, Simon Coveney, gan ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio'n agos gydag Iwerddon waeth beth fo canlyniad proses Brexit. Cyfarfûm hefyd â nifer o fuddsoddwyr a chynrychiolwyr o'r gymuned fusnes.

Rwy'n cytuno â chi, Weinidog, fod cysylltiadau masnach ag Iwerddon yn bwysig iawn i'n gwlad. Tybed a gawsoch gyfle i sôn wrth yr holl bobl y gwnaethoch chi gyfarfod â hwy am rywbeth pwysig iawn a ddigwyddodd 25 mlynedd yn ôl i'r mis hwn? Rwy'n sôn am gyflafan Loughinisland, lle lladdwyd chwech ac anafwyd pump o ddinasyddion sifil mewn tafarn pan oeddent yn gwylio cwpan y byd. Nid oes unrhyw un erioed wedi cael eu herlyn, ond cadarnhaodd adroddiad yr ombwdsmon yn 2016 fod cydgynllwynio wedi bod rhwng yr heddlu a'r hysbyswyr a ddefnyddient a bod tystiolaeth wedi cael ei dinistrio. Rhyddhawyd ffilm am y digwyddiad hwn yn 2017, ac ers hynny, mae cynhyrchwyr y ffilm honno wedi cael eu harestio ar y sail eu bod wedi defnyddio gwybodaeth a ddatgelwyd iddynt yn answyddogol. Ond credaf ei fod yn fater amlwg iawn yn Iwerddon, a daethpwyd ag ef i Gaerdydd yn ddiweddar gan un o'r newyddiadurwyr a'i datgelodd. Tybed a oes cyfle i drafod hyn, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid gweld cyfiawnder troseddol ar waith ac mae'n amlwg na wnaethpwyd hynny yn yr achos hwn, gan fod enwau'r unigolion hyn yn hysbys iawn yn y gymuned yn Loughinisland. Ac rwy'n siŵr y byddai pobl Iwerddon yn awyddus i bobl Cymru weld cyfiawnder ar waith yng Ngogledd Iwerddon, gan na chawn heddwch tan y bydd hynny'n digwydd.

16:00

Diolch. Mae arnaf ofn na chefais gyfle i grybwyll hynny, ond ers hynny, rwyf wedi ymchwilio i'r achos penodol hwnnw, a achosodd gryn dipyn o bryder, yn sicr, yn Iwerddon. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod, lle bo modd, yn adeiladu ar y berthynas gydag Iwerddon. Cawsoch gyfle i gyfarfod â'r conswl Gwyddelig a gyflwynais i chi, sy'n newydd i Gymru. Rydym yn falch iawn fod y swyddfa conswl wedi'i hailagor, gan mai'r hyn y mae hynny'n ei wneud yw rhoi cyfle i ni adeiladu ar ein twf allforio yng Nghymru, sydd wedi bod yn sylweddol. Mae 50 y cant yn uwch heddiw nag yn 2017. Dyma'r bedwaredd farchnad allforio fwyaf sydd gennym, ac rydym wedi gweld twf o 60 y cant yn nifer yr ymwelwyr o Iwerddon. Ond mae'n gwbl iawn, pan fo materion yn ymwneud â chyfiawnder, ac mae'n bwysig ein bod yn edrych ar hynny, rhywbeth arall rwyf wedi'i ddysgu yn ystod yr wythnosau diwethaf yw bod y berthynas ag ardal y Bala yn arwyddocaol am fod llawer o bobl o'r gwrthryfel Gwyddelig wedi cael eu carcharu yn yr ardal honno ar ôl y digwyddiad hwnnw. Felly, mae'r cysylltiadau hynny'n bethau sydd, mewn gwirionedd, yn bwysig iawn i bobl y wlad honno ac mae angen i ni adeiladu arnynt ac adeiladu ar y berthynas honno, gan fod yr hanes cyffredin hwnnw'n rhywbeth gwerthfawr iawn yn fy marn i.

4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Caiff y cwestiynau y prynhawn yma eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Alun Davies.

Technoleg yn y Siambr

1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y defnydd o dechnoleg yn y Siambr? OAQ54114

Mae'r Comisiwn yn parhau i ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau i gefnogi Aelodau yn y Siambr. Mae'r rhain yn amrywio o'r feddalwedd a ddefnyddir i ddarparu agendâu, i negeseua ac i bleidleisio, i'r systemau a ddefnyddir i ddarparu cynnwys clywedol, darlledu a chyfieithu ar y pryd. Mae Wi-Fi hefyd ar gael yn y Siambr i alluogi Aelodau i gael mynediad at wasanaethau drwy eu dyfeisiadau personol eu hunain. 

Diolch yn fawr. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn cytuno bod hon yn siambr ddadlau hardd ac odidog iawn, ac yn gartref cwbl briodol i'n Senedd genedlaethol ac yn ffocws i'n trafodaethau cenedlaethol. Fodd bynnag, ers iddi gael ei chynllunio a'i hadeiladu yn 2006, rydym wedi gweld camau mawr ymlaen yn y defnydd o dechnoleg a'n dulliau o gadw mewn cysylltiad â'n swyddfeydd a gweithio'n gynhyrchiol wrth inni gymryd rhan mewn dadleuon yma. Hoffwn ofyn i'r Comisiwn a'r Llywydd a yw hi bellach yn bryd adolygu ac ystyried cael gwared ar y sgriniau cyfrifiadurol sydd gennym yn ein desgiau a sicrhau bod gennym ddefnydd o Wi-Fi, a dull electronig symudol o gyfathrebu.

Yn rhy aml o lawer, credaf y bydd pobl sy'n ein gwylio'n cymryd rhan mewn dadleuon yn y lle hwn yn gweld Aelod yn siarad, fel rwyf i'n ei wneud yn awr, a môr o bennau'n edrych i lawr ar eu sgriniau—[Torri ar draws.] Nid fy mod i'n gweld hynny. Yn amlwg, gallaf ddal sylw o leiaf eich hanner ar unrhyw adeg. Ond yn rhy aml o lawer, yr argraff a gaiff y rhai sy'n gwylio ein dadleuon yw bod mwy o bobl yn benderfynol o gyfathrebu ar eu cyfrifiaduron wrth gymryd rhan yn y dadleuon hynny. Credaf ei bod yn bryd bellach i ni adolygu strwythur y Siambr hon a sicrhau ein bod yn cael gwared ar ein sgriniau cyfrifiadurol ac yn treulio mwy o amser yn trafod gyda'n gilydd a llai o amser yn edrych ar ein sgriniau.

16:05

Gallaf gadarnhau bod Wi-Fi eisoes ar gael yn y Siambr, a gall Aelodau ddefnyddio Wi-Fi i ddefnyddio dyfeisiau personol. Wrth i chi awgrymu y dylid cael gwared ar yr offer TG ar y desgiau, edrychodd llawer iawn o bobl i fyny gyda diddordeb yn sydyn iawn—[Chwerthin.]—sy'n dangos i mi efallai nad ydynt o'r un farn â chi. Mae rhai ohonoch yn deipyddion eithaf brwd yn y Cynulliad hwn, a nodaf hynny pan fyddaf yn eistedd yng Nghadair y Llywydd.

Y tro diwethaf i ni ofyn i Aelodau'r Cynulliad am eu barn ynglŷn ag a oedd yr offer TG a oedd ar gael iddynt yn y Siambr yn iawn ar gyfer y dyfodol oedd yn 2016, ac roedd yr Aelodau'n sicr yn awyddus bryd hynny i barhau i ddefnyddio'r offer TG a osodwyd yma. Fel y sonioch chi, mewn gwirionedd, nid oes rhaid i'r Aelodau ddefnyddio'r hyn sydd o'u blaenau ac wrth i unrhyw Aelod sefyll ar eu traed, efallai y byddai'n ddefnyddiol atgoffa'r Aelodau eraill eu bod ar gamera ar y pryd, ac mae'n debyg nad yw'n edrych yn dda i arweinydd unrhyw blaid pan fo Aelodau o'i blaid neu ei phlaid—na, dim 'ei phlaid'—y tu ôl iddynt a heb fod yn cymryd unrhyw sylw o gwbl o'r hyn y mae arweinydd eu plaid yn ei ddweud. Gwn fod un grŵp yn arbennig yn gweithio fel grŵp i sicrhau eu bod yn edrych fel pe baent yn gwrando ar arweinydd eu plaid—[Chwerthin.]—a gadawaf i chi benderfynu pa grŵp yw hwnnw yr wythnos nesaf.

Ar hyn o bryd, buaswn yn dweud nad wyf yn credu bod barn fwyafrifol yn y Siambr o blaid cael gwared ar yr offer TG sydd gennym, ond yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw nad oes angen i chi ei ddefnyddio, a'r hyn y buaswn bob amser yn ei annog, fel Llywydd, yn ogystal ag ymateb ar ran y Comisiwn yma, yw eich bod yn cymryd rhan mewn dadl, eich bod yn gwrando ac yn cynnwys eich hun yn yr hyn sy'n digwydd o'ch cwmpas gan mai dyna pam y cawsoch eich ethol i'r lle hwn yn y lle cyntaf.

Sgamiau Ffôn

2. A wnaiff y Comisiwn amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i roi terfyn ar sgamiau ffôn sy'n defnyddio rhifau ffôn y Cynulliad? OAQ54107

Mae’r Comisiwn yn ymwybodol iawn o’r gofid y mae’r mater yma yn ei achosi i aelodau’r cyhoedd, i Aelodau’r Cynulliad, i staff yr Aelodau Cynulliad ac i staff y Comisiwn. Yn anffodus, mae atal hyn rhag digwydd y tu hwnt i allu’r Comisiwn i'w reoli. Fodd bynnag, rydym yn gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Action Fraud, darparwyr y system teleffon ac asiantaethau eraill er mwyn ceisio lleihau’r effaith y mae hwn yn ei gael. Mae’r Comisiwn wedi cymryd camau i roi gwybodaeth i’r cyhoedd, i Aelodau ac i staff am y sgiâm a’r camau priodol i’w cymryd os effeithir ar eu rhif ffôn.

Diolch am eich ateb, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am ymdrechion penodol staff y Comisiwn i roi sylw i bryderon yr Aelodau a phryderon y staff, gan nad Aelodau'n unig sy'n cael y galwadau ffôn hyn—mae hyn yn digwydd ar draws ystâd y Cynulliad. Rwy'n derbyn ei fod fater anodd iawn i ymdrin ag ef ar y sail fod y galwadau'n dod o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn sicr i fy swyddfa i. Ac os caf feddwl yn hunanol am yr enghreifftiau yn fy swyddfa i, mae rhai ohonynt yn peri cryn ofid i'r aelodau staff orfod ymdrin â hwy, gan fod pobl yn mynd yn ddig iawn pan fyddant yn sylweddoli eu bod yn siarad â sefydliad swyddogol, os mynnwch, ac maent yn cysylltu'r ddau beth gyda'i gilydd, er eu bod yn deall erbyn diwedd y sgwrs mai sgam yw hi.

A gaf fi ymbil ar y Comisiwn i edrych ar unrhyw lwybr posibl i roi cyhoeddusrwydd i hyn a sicrhau bod pobl yn ymwybodol nad yw hyn yn gysylltiedig â'r Cynulliad mewn unrhyw ffordd? Ac nid wyf yn gwybod a yw hyn yn gywir ai peidio, ond pan fyddwch yn ymchwilio i'r pethau hyn, mae rhai pobl yn rhoi safbwyntiau gwahanol i chi. Dywedwyd wrthyf ei bod yn haws sgamio rhifau 0300, yn hytrach na'r rhifau 02920 roeddem yn arfer eu defnyddio neu ein rhifau lleol yn ôl yn ein hetholaethau. Nid oes gennyf unrhyw wybodaeth a yw hynny'n gywir ai peidio, ond os oes gennych god cyffredinol i ddechrau, tybiaf fod hynny'n ei gwneud yn haws ei gamddefnyddio, a buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Comisiwn ystyried hyn, ac os yw'r dystiolaeth honno yno, efallai y gallwn newid yn ôl i system godio fwy lleol a allai liniaru unrhyw fath o sgamio yn y dyfodol.

Diolch am godi'r mater. Mae'n fater sydd wedi achosi cryn bryder, ac mae ymdrech sylweddol ar waith i fynd i'r afael ag ef a rhoi tawelwch meddwl i aelodau'r cyhoedd sy'n ffonio yn ôl ac yn ffonio ein system i roi gwybod eu bod wedi cael eu heffeithio gan sgam. Ni allwn fynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol fel Comisiwn. Rydym yn ddibynnol ar bartneriaid ac ar ddarparwr ein system ffôn yn arbennig ac rydym hefyd yn gweithio gydag asiantaethau eraill a all ein cynorthwyo i geisio mynd i'r afael â'r broblem hon.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf ar hyn o bryd, nid yw'n hawdd newid o'r rhif 0300, ni fyddai hynny'n gwarantu y byddai'r broblem yn cael ei datrys, ac yn amlwg, byddai'n ymarfer eithaf cymhleth i'w gyflawni ynddo'i hun, ond gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau fod hwn yn yn fater rydym yn ceisio dod o hyd i ateb iddo gan ei fod yn cymryd llawer o amser ein haelodau staff ac Aelodau'r Cynulliad pan ddaw'r galwadau ffôn hyn drwy'r amser, ac yn amlwg, mae'n peri gofid i'r bobl sydd wedi cael y negeseuon sgam yn y lle cyntaf. Felly, rydym yn gweithio hyd eithaf ein gallu i geisio dod o hyd i ateb i'r broblem hon.

16:10

Wel, fel rhywun sydd wedi cael o leiaf hanner dwsin y dydd, gan gynnwys un o'r Almaen, mae'n achos pryder. Mewn gwirionedd, mewn sawl ffordd, mae atal hyn y tu hwnt i allu'r Comisiwn. Yr hyn y gall y Comisiwn ei wneud, a deallaf fod sefydliadau eraill yn gwneud hyn, mae ganddynt neges awtomatig sy'n dweud, 'Os ydych yn meddwl eich bod yn cysylltu â CThEM, nid yw hynny'n wir, mae'r rhif hwn wedi cael ei sgamio ac rydych yn cysylltu â'r rhif anghywir. Dylech flocio'r rhif hwn yn y dyfodol fel na fyddwch yn cael un arall.' Er nad yw hynny'n ateb a fydd yn llwyddiannus yn y tymor byr, gall ddechrau lleihau'r nifer o alwadau yn y tymor canolig i'r tymor hir. Nid ydym yn anghyffredin, yn anffodus, ac mae hyn yn digwydd i lawer o sefydliadau mawr. Credaf ei fod yn rhywbeth y mae angen i gwmnïau ffôn fynd i'r afael ag ef o ran y gallu i sicrhau nad yw'n digwydd.

Os maddeuwch i mi am ychydig eiliadau, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud y bu gennym Aelod yma nad oedd yn defnyddio ei gyfrifiadur ar unrhyw adeg yn y Siambr ac a wrthododd ei ddefnyddio yn y Siambr, sef Steffan. Dywedodd ei fod wedi addo i aelodau na fyddai'n ei ddefnyddio yn y Siambr pan oedd yn sefyll etholiad ac ni wnaeth hynny erioed. A wyddoch chi beth, roedd cysylltu ag ef yn eithriadol o anodd, a dywedodd Siân Gwenllian wrthyf, 'Nid ei ysgrifenyddes wyf fi.' [Chwerthin.] Felly, mae yna anawsterau o beidio â'i ddefnyddio. Beth bynnag, diolch, Ddirprwy Lywydd.

Ie, ac rydych yn iawn, Mike, yn cyfeirio at y ffaith bod Steffan, wrth gwrs, wedi ymrwymo i beidio â defnyddio'r cyfrifiadur ei hun. Rwy'n siŵr na fyddai ots ganddo fy mod yn rhannu gyda'r Cynulliad, fodd bynnag, ei fod yn defnyddio'r system Wi-Fi yma i anfon ceisiadau i siarad ataf o bryd i'w gilydd, ac roedd hynny'n dibynnu'n fawr a oedd fy ffôn yn digwydd bod ymlaen ar yr adeg benodol honno.

Mae'r awgrym a wnewch ynglŷn ag ymateb awtomatig i negeseuon yn un rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd gyda darparwr y system ffôn. Felly, i ailadrodd fy ymateb i Andrew R.T. Davies, rydym yn edrych mor greadigol â phosibl i weld sut y gallwn fynd i'r afael â'r broblem hon, yn y tymor byr, ond er mwyn darparu ateb mwy hirdymor hefyd.

5. Cwestiynau Amserol

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, a bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ateb y cwestiwn amserol y prynhawn yma. Russell George.

Cwmni Adeiladu Jistcourt

1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i gwmni adeiladu Jistcourt? 329

Diolch. Bydd hyn yn newyddion torcalonnus i'r 66 o weithwyr a'u teuluoedd a byddwn yn canolbwyntio yn awr ar ddod o hyd i swyddi lleol eraill ar gyfer gweithlu talentog Jistcourt.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. O ystyried eich bod wedi dweud ddoe nad yw eich Llywodraeth yn gwybod beth y mae'n ei wneud ar yr economi, a gaf fi ofyn a oedd Llywodraeth Cymru yn gwybod bod Jistcourt yn wynebu unrhyw anawsterau ariannol, ac os felly, pryd a pha gamau penodol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru bryd hynny? Byddai'n ddefnyddiol cael crynodeb o'r digwyddiadau. Gwn fod fy nghyd-Aelod Suzy Davies wedi bod yn ceisio cysylltu a chael gwybodaeth gan y cwmni ers yr wythnos diwethaf, pan fu dyfalu ynghylch y cwmni ar y cyfryngau cymdeithasol. Ac efallai fod Llywodraeth Cymru yn yr un sefyllfa o ran methu â chysylltu â'r cwmni hefyd. Byddai'n ddefnyddiol gwybod a deall hynny.

Mewn perthynas â Dawnus, mae'r Llywodraeth wedi datgan na ddarparwyd unrhyw wybodaeth am gymorth a ddarperir drwy Lywodraeth Cymru i unrhyw sefydliad sy'n seiliedig ar gleientiaid na'r cyhoedd yn gyffredinol na'r gadwyn gyflenwi, ac rydych eisoes wedi amlinellu eich rhesymau am hynny. Ond credaf fod angen gofyn cwestiynau o hyd ynglŷn â thryloywder ac atebolrwydd Llywodraeth Cymru o ran caniatáu i bob pwrpas i awdurdodau lleol fynd ar drywydd contractau gyda chwmnïau fel Dawnus neu Jistcourt o safbwynt diwydrwydd dyladwy. Ymddengys fel pe bai awdurdodau lleol, a chyrff cyhoeddus eraill yn wir, wedi'u gadael yn y niwl i raddau helaeth mewn perthynas â rhwymedigaethau ariannol y cwmnïau hyn o ran gwerthuso eu potensial masnachol ar gyfer contractau cyhoeddus. Pe baent wedi cael eu hysbysu ynglŷn â rhwymedigaethau ariannol y cwmnïau hyn gan Lywodraeth Cymru, gan barchu cyfrinachedd masnachol, onid ydych yn cytuno y byddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth mwy sylweddol i asesiadau diwydrwydd dyladwy yr awdurdod lleol o'r contractau hyn a ariennir ar y cyd—a ariennir ar y cyd, mewn gwirionedd, dylwn ddweud, gan Lywodraeth Cymru?

Ac yn olaf, Ddirprwy Weinidog, a allwch roi ymrwymiad, neu ymrwymiad newydd, y bydd y prosiect tai £3.5 miliwn y mae Cyngor Sir Powys yn ei gyflawni yn y Drenewydd yn fy etholaeth yn parhau i gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru? Roedd yr awdurdod lleol, yn amlwg, yn defnyddio Jistcourt fel y cwmni i adeiladu'r datblygiad hwnnw, a bydd oedi bellach wrth gwrs wrth iddynt geisio dod o hyd i gontractwyr newydd ar gyfer y prosiect hwnnw. Byddai ymrwymiad o'r newydd i'r prosiect penodol hwnnw'n cael ei werthfawrogi'n fawr o safbwynt yr etholaeth.

16:15

Diolch. Gallaf gadarnhau na chafodd Llywodraeth Cymru unrhyw rybudd ymlaen llaw fod y cwmni o Bort Talbot yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Ni chysylltodd y cwmni â ni i ddweud eu bod mewn trafferth. Felly, ni allem roi'r wybodaeth honno i Gyngor Sir Powys. Cyn gynted ag y clywsom, gwnaethom ymdrech i gysylltu â'r cwmni'n uniongyrchol i ddeall y sefyllfa roeddent ynddi yn well ac i gynnig cefnogaeth. Mae swyddogion wedi cysylltu â'r busnes a'r gweinyddwr, ac mae rhai o gyn-weithwyr y busnes wedi cael gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael drwy raglen ReAct Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyngor ac arweiniad gan Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith. Nodaf hefyd, hyd y gallwn ddweud o ddadansoddiad llawn o gadwyn gyflenwi Dawnus, nad ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y cwmnïau'n agored i unrhyw risg ariannol yn sgil methiant Dawnus. Yn wir, roeddent yn gweithredu bron yn gyfan gwbl yn y maes tai cymdeithasol.

Y sefyllfa gyda Phowys, fel y mae'r Aelod yn ei nodi'n gwbl gywir, yw bod y cwmni wedi cael y contract i ddechrau gweithio ar y datblygiad £3.5 miliwn yn y Drenewydd, ac roedd disgwyl iddo ddechrau yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, ond mae'r safle ar gau o hyd. Roedd yn brosiect ar gyfer 26 o fflatiau un ystafell wely, y datblygiad tai fforddiadwy cyntaf ar gyfer rhentu cymdeithasol a gomisiynwyd gan Bowys ers dros 40 mlynedd. Roeddent wedi sicrhau grant o £2.1 miliwn gan Lywodraeth Cymru, o dan y rhaglen tai arloesol, i ariannu'r prosiect yn rhannol, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda chyngor Powys, ac maent yn mynnu na fydd y cyllid ar gyfer y rhaglen tai arloesol yn cael ei effeithio. Fodd bynnag, bydd angen aildendro'r contract, a bydd hynny'n creu oedi cyn dechrau'r gwaith adeiladu, mae arnaf ofn.

Mae'r safle hwnnw ym Mhowys, fel y clywsom, wedi cau. Rydym yn meddwl, wrth gwrs, am bawb yr effeithiwyd arnynt a gâi eu cyflogi ar y prosiect hwnnw. Fodd bynnag, rwyf wedi clywed o nifer o ffynonellau ei bod hi'n ymddangos bod Jistcourt yn parhau i weithio ar gontract i osod ceginau mewn tai cyngor gyda Chyngor Dinas Bryste—contract sy'n werth oddeutu £6 miliwn yn ôl yr hyn a ddeallaf. Tybed a yw'r Gweinidog yn ymwybodol o hynny. Buaswn yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau ar hynny, ac efallai y gallai egluro sut yr ymddengys bod gwaith Jistcourt yn gallu parhau ar ôl iddynt fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Os nad yw'r Gweinidog yn ymwybodol o hynny, buaswn yn gwerthfawrogi pe gallai wneud ymholiadau brys a rhoi diweddariad i ni cyn gynted â phosibl. A hefyd, wrth gwrs, os yw'n briodol i'r gwaith hwn barhau ym Mryste mewn rhyw ffordd, pam nad yw'r un peth yn wir ym Mhowys? Dyna'r mathau o gwestiynau y gallem wneud ag atebion iddynt.

Wrth gwrs, nid Jistcourt yw'r cwmni adeiladu cyntaf o bell ffordd i fynd i ddwylo'r gweinyddwyr; rydym eisoes wedi trafod hynny. Fodd bynnag, hoffwn ofyn i'r Llywodraeth pa gynlluniau ehangach sydd ganddynt i gynnal gwiriad o gyflwr y sector adeiladu ehangach yng Nghymru. A oes achos dros archwilio cwmnïau adeiladu i sefydlu pa gwmnïau a allai fod mewn perygl? Mae'n amlwg fod yn rhaid i'r Llywodraeth fod yn ofalus ynglŷn â'r hyn y gallant ei ddweud yn gyhoeddus, ond mae cyhoeddiadau fel hyn yn peri pryder arbennig. Mae'n effeithio'n uniongyrchol ar lawer o weithwyr, ac wrth gwrs, cydnabyddir y gall sector adeiladu sy'n ei chael hi'n anodd fod yn faner goch, yn arwydd o newyddion drwg ar y ffordd yn yr economi ehangach.

16:20

Nid oeddwn yn ymwybodol fod gwaith yn dal i fynd rhagddo ym Mryste, ac rwy'n fwy na pharod i wirio hynny. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r cwmni yn y broses o fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ond nid ydynt yn nwylo'r gweinyddwyr eto, ond byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ac yn ymateb i'r Aelod. Mae'n amlwg yn siomedig gweld cwmni fel hwn yn mynd i drafferthion, gan ei fod yn gwmni gwreiddiedig, yn rhan o'r economi sylfaenol, a dyma'r union fath o gwmni rydym am weld beth arall y gallwn ei wneud i'w gefnogi a'i ddiogelu yn y dyfodol.

Hyd y gwyddom, digwyddodd hyn o ganlyniad i fusnes mewn trafferth; nid oedd yn ganlyniad uniongyrchol i unrhyw ffactor allanol y gallwn ei nodi. Roedd ganddynt gontractau i'w cyflawni bob amser, ond mae'n adlewyrchiad o'r amgylchedd busnes lle mae'n anodd i gwmnïau, yn enwedig cwmnïau llai, allu goroesi yn yr amgylchedd modern. Fel rhan o'r datblygiadau rydym yn eu rhagweld yn sgil Brexit, ofnwn y gallai hyn ychwanegu straen ychwanegol ar bob sector, ac mae'n bosibl y bydd y rheini sydd eisoes mewn trafferth yn ei chael hi'n anodd ofnadwy yn y dyfodol.

O ran cynnal archwiliad o bob cwmni, byddai'n rhaid i mi archwilio ymarferoldeb hynny, oherwydd ble y dowch i ben, o gofio ein bod yn gwybod beth fydd effaith bosibl Brexit? Gallai fod ar gyfer economi Cymru gyfan o bosibl.

Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch, mae Jistcourt wedi'u lleoli yn fy etholaeth i ac mae'r rhan fwyaf o'r gweithwyr yn byw yn yr ardal, ac mae hyn yn peri cryn ofid i'r gweithwyr hynny a'u teuluoedd, ond rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i edrych i weld sut y gallwn sicrhau bod y bobl hynny'n dod o hyd i swyddi eraill mewn mannau eraill. Ond fel y dywed Rhun ap Iorwerth, mae hyn yn adlewyrchiad o'r sector adeiladu. Rydym wedi gweld Dawnus, Cuddy Group a Jistcourt bellach i gyd o fewn yr un rhanbarth yn mynd i drafferthion, ac mae rhai'n mynd i drafferthion oherwydd problemau llif arian, ac weithiau, mae'r problemau llif arian hynny'n digwydd oherwydd bod taliadau hirdymor, neu'r cyfnod talu lle maent yn cael elw am y gwaith a wnânt, yn mynd yn hirach ac yn hirach. A wnewch chi edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r diwydiant adeiladu i geisio sicrhau bod unrhyw gaffael y mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag ef yn cynnwys cyfnod talu byr iawn, fel y gall cwmnïau adeiladu fod yn sicr o gael eu talu o fewn 30 diwrnod fan bellaf, gan y gwn fod rhai ohonynt ar daliadau 120 diwrnod mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau bod y llif arian yn cael ei leihau fel y gallant fwrw ymlaen â'u busnes? Oherwydd fel y dywedoch, roedd gan y cwmni hwn gontractau a oedd yn werth miliynau o bunnoedd. Felly, roedd ganddynt amcanestyniad. Nid oedd ganddynt y llif arian i barhau. Credaf fod angen i ni edrych ar sut y gallwn gefnogi'r mathau hynny o gwmnïau gyda'u llif arian, fel y gallant barhau i gyflawni'r contractau roeddent yn eu hennill, gan eu bod yn ennill ar sail ar eu profiad ac ansawdd yr hyn a wnânt, ond daethant wyneb yn wyneb â phroblem. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gallwn helpu'r sector gyda'r math hwnnw o broblem?

Byddwn yn gwneud mwy o waith ar hyn. Roeddem eisoes yn cefnogi'r cwmni drwy Fanc Datblygu Cymru. Roedd ganddynt fenthyciad heb ei dalu yn y busnes, sydd wedi'i ddiogelu. Felly, darparwyd cefnogaeth gan ein banc datblygu, ond mae pwynt yr Aelod dros Aberafan yn gwbl gywir. Rydym yn gwneud gwaith mapio mewn perthynas â chaffael a chwmnïau gwreiddiedig fel rhan o'r gwaith ar yr economi sylfaenol i weld sut y gallwn gefnogi'r sector, a chyfarfûm â'r Gweinidog tai yn fwy diweddar yn Llanelli i drafod gydag adeiladwyr lleol rhanbarthol y problemau penodol y maent hwy'n eu hwynebu. Felly, rydym yn sicr yn ymwybodol o broblemau'r sector, ac rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud. Byddaf yn ystyried hyn ymhellach ac yn ysgrifennu at yr Aelod yn ei gylch.

16:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae hon yn ergyd arall i fy rhanbarth—y ddiweddaraf mewn cyfres o achosion o golli swyddi. Roedd Jistcourt yn ehangu, wedi iddo gael ei brynu gan reolwyr dair blynedd yn ôl yn unig. Ac mae'r ffaith bod y cwmni'n gwneud colledion sylweddol er gwaethaf llyfr archebion cryf yn adrodd cyfrolau am gyflwr y sector tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae gennym argyfwng tai, ond eto nid ydym yn adeiladu digon o dai cymdeithasol. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau ein bod yn cadw sector adeiladu bywiog yma yng Nghymru a sicrhau y gall y gweithwyr sy'n wynebu diswyddiadau ddod o hyd i swyddi addas eraill yn lleol? A fyddwch yn annog awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gyflymu eu cynlluniau adeiladu? Diolch.

Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, nid oedd y cwmni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol am gymorth. Rydym bellach yn helpu'r gweithwyr i allu dod o hyd i swyddi eraill ac i ailhyfforddi. Rwy'n credu bod ein hymdrechion i gyflymu'r broses o adeiladu tai cyngor a thai cymdeithasol yn fwy cyffredinol wedi cael cryn dipyn o sylw yn y Siambr hon, ac yn sicr, rydym yn ymwybodol o'r angen i gefnogi'r sector ac i gefnogi cwmnïau gwreiddiedig yn benodol, ac mae hynny'n rhan o'n gwaith parhaus.

6. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 6 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad a daw'r cyntaf o'r rhain yr wythnos hon gan Dawn Bowden.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Codaf i siarad fel hyrwyddwr rhywogaeth y llysywen Ewropeaidd, sy'n greadur hynod o brydferth. Mae gwaith rhagorol yn cael ei wneud gan grwpiau yn fy etholaeth, gan gynnwys Salmon and Trout Conservation Cymru ac Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru, gyda chefnogaeth rhai o bysgotwyr Merthyr a Cyfoeth Naturiol Cymru, i geisio adfer ein stociau llyswennod.

Yn 2018, rhyddhawyd llyswennod Ewropeaidd gennym i lyn Cyfarthfa ym Merthyr Tudful. Cafodd y llyswennod penodol hyn eu magu mewn tanciau yn Ysgol Gynradd Trelewis, a ddoe gwnaethom yr un peth ar lyn Taf Bargoed ar safle hen gloddfa ddrifft Trelewis. Mae'r prosiect cadwraeth hefyd yn cynnwys cael gwared ar rwystrau, fel coredau, o'n hafonydd fel y gall llyswennod fudo'n haws. Mae'r llysywen Ewropeaidd yn greadur rhyfeddol, ond fel y gwelodd rhai ohonoch efallai ar raglen Countryfile yn ddiweddar, mae'n wynebu amrywiaeth o fygythiadau, gan gynnwys smyglo i Asia, lle mae'r llysywen yn ddanteithfwyd arbennig. Mae bywyd llyswennod Ewropeaidd yn dechrau fel wyau ym môr Sargasso ger Bermuda ac maent yn treulio 18 mis yn arnofio ar gerhyntau cefnforol tuag at arfordiroedd Ewrop a Gogledd Affrica. Maent yn mynd i mewn i afonydd a llynnoedd ac yn treulio rhwng pump ac 20 mlynedd yn bwydo ac yn tyfu i fod yn llyswennod aeddfed. Yna, maent yn dychwelyd i'r môr ac yn nofio 3,000 milltir am dros flwyddyn yn ôl i silio ym môr Sargasso.

Fel hyrwyddwr y rhywogaeth, hoffwn ddiolch i'r grwpiau, gwirfoddolwyr, ysgolion a'r canolfannau addysg lleol hynny sydd bellach yn helpu gyda'r dasg bwysig hon o achub y llyswennod Ewropeaidd. Yn y Siambr hon, gwn y gall fod peth anghytuno ynghylch yr UE, ond rwy'n siŵr y gall pob un ohonom fod yn gytûn yn ein cefnogaeth i ddiogelu dyfodol y llysywen Ewropeaidd.

Ar 23 Mehefin 1894, am ddeng munud i bedwar yn y prynhawn, clywyd dwy glec uchel yng Nghilfynydd, o ganlyniad i ffrwydrad dinistriol yng nglofa'r Albion. Y lofa hon a arweiniodd at sefydlu'r pentref. Ar ôl agor y siafft gyntaf, cynyddodd y boblogaeth o 500 o fewn degawd, ac roedd oddeutu 3,500 erbyn 1901. Fodd bynnag, ar y diwrnod hwn, cafodd y trychineb hwn yn y pwll glo effaith ofnadwy ar y gymuned leol. Dryswch oedd yr ymateb cyntaf i'r ffrwydrad. Roedd y sifft nos newydd ddechrau. Nid oedd unrhyw un yn gwybod faint o ddynion a oedd i lawr yn y pwll. Pan ddaethpwyd â'r cyrff allan, mewn sawl achos, roeddent wedi'u hanffurfio mor wael nes ei bod yn amhosibl nodi pwy oeddent.

Lladdwyd 290 o ddynion i gyd yn nhrychineb glofa'r Albion, y trychineb mwyngloddio gwaethaf ond un yng Nghymru, a'r pedwerydd gwaethaf yn y DU. Rwy'n dweud 'dynion', ond roedd llawer o'r rhai a fu farw yn eu harddegau. Dim ond 13 oed oedd yr ieuengaf, John Scott. Amlygir maint y dinistr yn y ffaith mai dim ond dau o'r 125 o geffylau a oedd yn gweithio o dan y ddaear a oroesodd. Pennwyd mai'r achos oedd llwch glo'n tanio yn dilyn ffrwydrad llosgnwy. Rhyddhawyd y rheolwyr o fai yn yr hyn a oedd yn wyngalch ym marn nifer o bobl. Parhaodd glofa'r Albion i weithredu, gan hawlio bywydau glowyr, ond gadewch i ni beidio ag anghofio'r trychineb dinistriol hwn a ddigwyddodd 125 o flynyddoedd yn ôl, ac a effeithiodd ar fywydau pawb a drigai yng Nghilfynydd ac a newidiodd fywydau am byth.

16:30
Aelodaeth Pwyllgor

Symudwn yn awr at y cynnig ar aelodaeth pwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM7109 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Dawn Bowden (Llafur) fel aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol

Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 'Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM7099 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Ebrill 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor dadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar amrywiaeth ym maes llywodraeth leol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad naill ai drwy roi tystiolaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar. Yn fwyaf arbennig, hoffwn ddiolch i'r rhai a rannodd eu profiadau personol naill ai fel cynrychiolwyr etholedig, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr. Gallasom glywed y lleisiau hyn yn uniongyrchol drwy ein harolygon ar-lein a'n hymweliadau ag awdurdodau lleol. Mae'n bwysig clywed profiadau byw pobl, ac roedd y dystiolaeth hon yn cyfoethogi ein dealltwriaeth.

Fel y gwyddom, po fwyaf cynrychioliadol yw ein cynghorwyr o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, y mwyaf cynhwysol a gwybodus fydd eu penderfyniadau. Yn anffodus, ni cheir yn agos at gynrychiolaeth ddigonol o ran menywod, cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, unigolion ag anableddau, pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, pobl ifanc, a phobl ar incwm isel. 

Er gwaethaf ymdrechion i wella'r sefyllfa, mae cynnydd wedi bod yn araf. Gan fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl cyflwyno ei Bil llywodraeth leol ac etholiadau yn ddiweddarach eleni, roeddem yn teimlo y byddai'n amser da inni archwilio rhai o'r materion hyn ac awgrymu atebion mewn da bryd er mwyn iddynt gael eu hystyried yn y ddeddfwriaeth honno.

Nod ein hadroddiad oedd nodi ffyrdd ymarferol o fwrw ymlaen y credwn y gallent wneud cyfraniad pwysig tuag at gynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gwnaethom 22 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac mae 20 o'r rheini wedi cael eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor gan y Gweinidog. Cafodd dau argymhelliad eu gwrthod.

Mae ein dau argymhelliad cyntaf yn ymwneud â manteisio i'r eithaf ar dechnoleg i alluogi mwy o gynghorwyr i gymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell. Gan fod dulliau cyfathrebu fideo bellach yn gyffredin yn y rhan fwyaf o weithleoedd, byddem yn hoffi gweld defnydd gwell o dechnoleg o'r fath i leddfu pwysau amser. Yn fwyaf arbennig, gallai hyn helpu aelodau sy'n gorfod teithio o ymrwymiadau gwaith eraill a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Mae ymrwymiad y Gweinidog i gynnwys darpariaethau yn y Bil arfaethedig i alluogi mwy o ddefnydd o bresenoldeb o bell i'w groesawu felly, ac edrychwn ymlaen at graffu ar y rhain maes o law.

Clywsom y gallai caniatáu i gynghorwyr rannu swydd ag aelod arall, a rhannu'r llwyth gwaith, fod yn ffordd ymarferol o wneud y rôl yn fwy deniadol i grŵp ehangach o ymgeiswyr posibl. Mae rhannu swyddi yn gweithio'n dda ar gyfer nifer o rolau ar draws sectorau, ond nid ydym wedi gweld y duedd honno'n ymestyn i gynnwys gwleidyddion etholedig i raddau helaeth, er i'r arfer gael ei gyflwyno ar gyfer swyddi cabinet gan gyngor Abertawe, lle rhennir y cyfrifoldeb am bortffolios rhwng dau aelod. Cefnogwn yr egwyddor o alluogi rhannu swyddi o'r fath, ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi cadarnhau y bydd y Bil yn hwyluso trefniadau rhannu swyddi ar gyfer arweinwyr ac aelodau gweithredol cynghorau.

Pan gyflwynir darpariaethau yn y Bil, byddem yn disgwyl gweld ymgynghori priodol ar y dull mwyaf effeithiol o weithredu'r rhain, gan gynnwys defnyddio'r profiadau, nid yn unig yn Abertawe, ond mewn sectorau eraill hefyd lle maent wedi llwyddo i sefydlu trefniadau rhannu swyddi mewn arferion gweithio.

Argymhellwyd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ddichonoldeb caniatáu aelodau anweithredol i rannu swyddi. Rwy'n cydnabod nad yw hwn yn fater syml ac rwy'n cydnabod bod yna gyfyngiadau deddfwriaethol a phroblemau logistaidd ynglŷn â hyn ar hyn o bryd, ond rwy'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ystyried y mater fel rhan o gam nesaf y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Byddwn yn mynd ar drywydd hyn fel rhan o'n gwaith craffu yn y dyfodol.

Gwelsom fod y diffyg gwybodaeth a oedd ar gael am rôl cynghorydd yn rhwystr i ddenu ymgeiswyr posibl. Ni fydd pobl yn ymgeisio os nad ydynt yn deall beth y mae'r swydd yn ei olygu, ac mae diffyg gwybodaeth o'r fath hefyd yn bwydo'r syniad ymhlith rhai pobl nad yw rôl mewn bywyd cyhoeddus yn rhywbeth iddynt hwy. Drwy'r rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth, mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i nodi cwmpas ac elfennau ymgyrch i gynyddu amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr.

Pan gaiff cynghorwyr eu hethol, mae'n hanfodol eu bod yn cael cymorth digonol i gyflawni'r rôl honno, yn enwedig i ymdrin â'r pwysau amrywiol y byddant yn ei wynebu. Clywsom fod cynghorwyr yn aml yn diffygio, gan fod mwy a mwy o etholwyr yn disgwyl i'w cynrychiolwyr etholedig fod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Rwy'n falch fod ein hargymhellion yn ymwneud â hyfforddiant i aelodau ar gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, a nodi na ddylai cynghorwyr orfod cyhoeddi eu cyfeiriad cartref ar wefan y cyngor, wedi'u derbyn.

Yn anffodus, mae bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu yn faterion cyfarwydd i wleidyddion ar bob lefel. Roedd hon yn thema gyffredin a fynegwyd i ni fel rhwystr i ddenu ymgeiswyr, yn enwedig y rheini o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gwnaethom dri argymhelliad yn y maes hwn, gan gynnwys galwad am ganllawiau cryfach i ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig ar yr hyn sydd, a'r hyn nad yw'n ymddygiad derbyniol ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae'n bwysig pwysleisio'r brys i gyflwyno newid, ac mae angen camau gweithredu pellach i atal y cam-drin annerbyniol a brofir gan gynifer o bobl ar-lein. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru y bydd yn cymryd pob cam posibl i frwydro'n erbyn yr ymddygiad hwn, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog roi diweddariad byr i ni heddiw ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i thrafodaethau ar hyn gyda Llywodraeth y DU.

Roeddem yn pryderu ynglŷn â'r dystiolaeth a glywsom a oedd yn ymwneud â chynghorwyr yn peidio â hawlio'r lwfans gofal y mae ganddynt hawl iddo oherwydd eu bod yn ofni beirniadaeth gyhoeddus. Mae'r lwfans hwn yn adnodd pwysig i alluogi'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i ymgymryd â rôl cynghorydd, felly dylid gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn manteisio arno. Clywsom fod awdurdodau lleol sy'n cofnodi lwfansau ar sail unigol yn hytrach nag ar sail gyfunol yn atal rhai cynghorwyr rhag hawlio. Felly, argymellasom y dylid eu hannog i ddefnyddio'r ffigur cyfunol. Derbyniwyd hyn. Fodd bynnag, cafodd ein hawgrym pellach y dylai awdurdodau lleol gasglu gwybodaeth am nifer y cynghorwyr sydd â hawl i hawlio'r lwfans, a faint sy'n gwneud hynny, ei wrthod. Y rhesymeg oedd y byddai angen i gynghorwyr nodi sut y maent yn bodloni'r meini prawf, hyd yn oed os nad oeddent yn bwriadu hawlio. Heb wybod faint o gynghorwyr sy'n gymwys, nid yw'n bosibl gwybod pa gyfran sy'n derbyn y lwfans. Sylwaf, fodd bynnag, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ofyn i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ystyried y mater ymhellach, a bydd fy mhwyllgor yn parhau i fynd ar drywydd hyn yn ein gwaith craffu yn y dyfodol.

Gall dysgu oddi wrth gynghorwyr eraill roi cyfleoedd gwerthfawr i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i weld y gallent hwythau hefyd gyflawni'r rôl bwysig hon. Cymeradwywn waith rhanddeiliaid yn cynnig cyfleoedd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ddatblygu eu sgiliau a'u hyder. Gwneir hyn yn aml drwy gynlluniau arwain a mentora. Fodd bynnag, er bod nifer yn manteisio arnynt, roedd rhywfaint o'r dystiolaeth a glywsom yn cwestiynu eu heffeithiolrwydd. Felly, rydym yn argymell y dylid gwerthuso'r gwahanol gynlluniau, gyda'r nod o ddysgu oddi wrthynt ac adeiladu arnynt er mwyn sicrhau eu bod mor effeithiol â phosibl.

Gwyddom fod ymgysylltu â gwleidyddiaeth yn ifanc yn allweddol i gynnal diddordeb hirdymor. Rwy'n siomedig felly eu bod wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylid cynnal ffug etholiad cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc ar yr un pryd ag etholiadau'r Cynulliad. Clywsom sut y mae trefniant o'r fath ar waith yn Norwy, ac mae'n golygu bod gwleidyddion yn cymryd mwy o sylw o'r hyn y mae pobl ifanc yn ei feddwl. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut y mae'n bwriadu ymgysylltu drwy addysg a chodi ymwybyddiaeth, ond gall y cyffro o gymryd rhan mewn etholiad, o allu lleisio barn, gael effaith fawr a gall fod yn gatalydd i sicrhau ymgysylltiad hirdymor. Felly, buaswn yn annog y Gweinidog i ystyried yr argymhelliad hwn ymhellach.

Ddirprwy Lywydd, er bod oddeutu hanner y boblogaeth yn fenywod, tua 28 y cant yn unig o aelodau etholedig awdurdodau lleol sy'n fenywod. Roedd sawl tyst, ond nid pob un, o blaid cyflwyno rhyw fath o gwota, yn enwedig mewn perthynas â rhywedd; dywedodd un wrthym na fydd cynrychiolaeth gyfartal rhwng y rhywiau tan 2073 yn seiliedig ar y tueddiad presennol. Yn amlwg, mae angen i rywbeth newid. Nid yw'r ymdrechion i annog mwy o fenywod i wleidyddiaeth wedi cael yr effaith a ddymunwyd, ac mae menywod yn wynebu mwy o rwystrau na dynion rhag dod yn gynrychiolwyr etholedig. Felly, mae angen cymryd camau cadarnhaol. Er nad ydym wedi cynnwys unrhyw argymhellion penodol yn yr adroddiad, mae'n faes sydd o ddiddordeb i ni a byddwn yn ymchwilio i'r materion hyn—

16:40

Gwnaf. Os caf fi orffen y frawddeg hon, Helen Mary, byddwn yn archwilio'r materion hyn ymhellach fel rhan o'n gwaith craffu ar y Bil llywodraeth leol ac etholiadau sydd ar y gweill.

Nid wyf yn siŵr a fyddai hyn wedi bod yn rhan o ystyriaethau eich pwyllgor, John, ond a fyddech yn cytuno â mi fod gan y pleidiau gwleidyddol rywfaint o gyfrifoldeb yn hyn o beth i edrych ar sut y mae ein harferion ein hunain yn gweithio ac a ydym yn dewis menywod ar gyfer seddi y gellir eu hennill, boed hynny ar lefel leol neu ar lefel genedlaethol? Yn sicr, rwy'n siŵr fod gennym ni ym Mhlaid Cymru ffordd bell i fynd i herio rhai o ganfyddiadau ein haelodau ein hunain, felly, yn ogystal ag ystyried cwotâu ffurfiol, efallai y dylem edrych hefyd ar yr hyn rydym i gyd yn ei wneud, am mai dyna'r ffordd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu hethol wrth gwrs—gan eu bod yn cael eu dewis gan blaid i gael eu hethol.

Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Clywsom dystiolaeth gan y pleidiau gwleidyddol. O ran cwotâu, roedd yna safbwyntiau cymysg, ac yn wir, roedd safbwyntiau cymysg ymhlith aelodau’r pwyllgor hefyd. Ond o ran gweithredu cadarnhaol, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol, yn sicr, yn derbyn yr egwyddor honno, ond wrth gwrs, y mater allweddol yw sut y caiff ei weithredu, a dyna lle mae'r cwestiwn o seddi y gellir eu hennill yn gwbl hanfodol yn fy marn i.

I gloi, felly, Ddirprwy Lywydd, yn yr adroddiad hwn rydym wedi gwneud argymhellion i helpu i sicrhau newid angenrheidiol. Ar y cyd â mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid, gobeithiwn y gall y rhain gyfrannu at gynyddu amrywiaeth fel bod cynghorwyr lleol yn fwy cynrychioliadol ac yn adlewyrchu'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn well. Diolch yn fawr.

Er bod yn rhaid cynnal yr ysgogiad i sicrhau mwy o amrywiaeth ddemocrataidd, cafwyd y Tŷ Cyffredin mwyaf amrywiol erioed yn etholiad cyffredinol y DU yn 2007, gyda chynnydd yn nifer y menywod, pobl LHDT, pobl ag anableddau a lleiafrifoedd ethnig a etholwyd, gan adlewyrchu'r cyfeiriad teithio a osodwyd eisoes yn Senedd Cymru. Fodd bynnag, fel y dywed ein hadroddiad, ni cheir cynrychiolaeth ddigonol o bell ffordd mewn llywodraeth leol yng Nghymru o ran menywod, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl LHDT, pobl ifanc a phobl ar incwm is, ac nid yw'r gwaith o geisio unioni hyn wedi arwain at gynnydd digonol. Fel y clywodd y pwyllgor:

'Dim ond rhan o broblem amrywiaeth ehangach yw’r ffaith bod menywod wedi’u tangynrychioli mewn llywodraeth leol. Mae cynrychiolaeth gynyddol ymhlith pobl iau, y rhai o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol, unigolion o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ac unigolion ag anableddau yn parhau i fod yn her sylweddol.'

Clywsom fod cronfa mynediad i swyddi etholedig eisoes yn bodoli yn Lloegr a'r Alban i gynorthwyo pobl anabl i sefyll etholiad, ond nid oes cronfa o'r fath yn bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd. Roedd cefnogaeth eang yn y dystiolaeth dros gronfa o'r fath yng Nghymru, gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud wrthym:

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydym ar ei hôl hi yng Nghymru o ran darparu'r gefnogaeth honno.

Dywedodd y Gweinidog fod ganddi ddiddordeb mawr mewn profi pwerau Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, gan ychwanegu ei bod yn mynd ati i edrych i weld a ellid creu cronfa ar gyfer pobl sy'n dymuno sefyll etholiad yng Nghymru. Felly, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru, fel mater o flaenoriaeth, sefydlu cronfa mynediad i swydd etholedig yng Nghymru i gynorthwyo unigolion anabl i ymgeisio am swydd etholedig—ac ie, mewn seddi y gellir eu hennill. Dylid ymchwilio hefyd i'r posibilrwydd o ymestyn cronfa o'r fath i gefnogi grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol.

Er bod rhywfaint o gefnogaeth i gwotâu, fel y clywsom, yn enwedig o ran rhywedd, mae ein hadroddiad yn datgan nad oedd yr holl dystion yn argyhoeddedig mai dyma'r ffordd orau ymlaen. Roedd cynrychiolwyr y Ceidwadwyr, UKIP a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn credu mai'r dewis o ymgeiswyr yw'r broblem, ac y dylid canolbwyntio ar geisio annog ystod ehangach o unigolion i sefyll. Fel y dywedodd cyflwyniad ysgrifenedig fy mhlaid,

Dylai'r Blaid Geidwadol wneud popeth yn ei gallu i annog ystod o ymgeiswyr sydd mor gynrychiadol â phosibl o'r ardal y maent yn dymuno ei gwasanaethu.

Eglurwyd hyn ymhellach gan gyfarwyddwr adolygu ffiniau fy mhlaid pan ddywedodd wrth y pwyllgor fod cadeirydd plaid y DU wedi gosod targed o geisio cael cydbwysedd o 50/50 ar y rhestr. A dywedodd ei fod yn credu mai cynyddu'r gronfa o ymgeiswyr benywaidd yw'r peth pwysicaf. Mae Women2Win yn arwain yr ymgyrch i gynyddu nifer y menywod sy'n gynghorwyr, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol Ceidwadol drwy roi cymorth, cyngor a hyfforddiant i fenywod sydd eisiau mynd i mewn i lywodraeth leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Senedd neu sydd ond yn dymuno cymryd mwy o ran mewn gwleidyddiaeth, a thrwy hynny sicrhau bod fy mhlaid yn cynrychioli pobl Cymru a Phrydain, ac yn cynrychioli menywod yn deg ar bob lefel o wleidyddiaeth. Mae Women2Win Wales yn drawstoriad eang o fenywod a dynion o blith y Ceidwadwyr Cymreig sydd eisiau sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli'n deg ar bob lefel o wleidyddiaeth drwy gael eu dewis ar gyfer seddi y gellir eu hennill.

Fel y trafodwyd yn adroddiad y pwyllgor, mae'r defnydd o rannu swyddi rhwng aelodau awdurdodau lleol wedi'i gyflawni'n llwyddiannus yng nghyngor dinas Abertawe. Fodd bynnag, er ei bod yn cefnogi'r egwyddor, nododd y Cynghorydd Debbie Wilcox, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod anghysondeb bach yn y ddeddfwriaeth gyfredol, lle mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn nodi na ellir cael mwy na 10 aelod gweithredol. Roedd hefyd yn amau a fyddai mwy o rannu swyddi rhwng aelodau gweithredol yn cael effaith sylweddol ar ddenu ystod ehangach o ymgeiswyr. Fodd bynnag, mae'n iawn fod adroddiad y pwyllgor yn galw am gynnwys darpariaethau i alluogi mwy o rannu swyddi rhwng aelodau anweithredol awdurdodau lleol yn y Bil llywodraeth leol ac etholiadau sydd ar y gweill.

Yn ei thystiolaeth i'r pwyllgor, cytunodd y Gweinidog fod angen edrych ar y prosesau cwynion corfforaethol mewn awdurdodau lleol ar ôl i mi ofyn iddi a ddylid gwahardd swyddog monitro rhag bod yn barti i gwynion am aelod, fel y digwyddodd yn Sir y Fflint, yn hytrach na gweithredu mewn rôl gynghori. Dywedodd fod swyddogion y cyngor yn gwasanaethu'r arweinwyr etholedig ond eu bod hefyd yn atebol i aelodau o feinciau cefn awdurdodau lleol, a bod angen cryfhau hyn yn y Bil arfaethedig hefyd. Rwy'n gobeithio ac yn hyderu y bydd yn bwrw ymlaen â'r addewid hwnnw ymhlith yr addewidion eraill a wnaeth. Diolch yn fawr.

16:45

Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy ddweud fy mod yn credu y dylai democratiaeth gynrychioliadol fod yn union hynny—dylai pwy a etholwn adlewyrchu ein cymdeithas yn ei holl amrywiaeth. O gofio ein bod yn fwy na 50 y cant o'r boblogaeth, mae cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein democratiaeth yn hanfodol. Ond rhaid i ni hefyd fabwysiadu dull gweithredu rhyngadrannol yn hyn o beth a gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud beth bynnag y gallwn i gynyddu cynrychiolaeth menywod o bob cefndir: menywod duon ac Asiaidd, hoyw a thrawsrywiol, menywod anabl, menywod ifanc a hŷn, menywod dosbarth gweithiol ac yn y blaen. Rwy'n cefnogi cwotâu er mwyn sicrhau'r cydbwysedd hwn, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod anawsterau ymarferol yn ogystal â'r anghytundeb ar y pwyllgor, a dyna pam na lwyddasom i wneud argymhelliad i'r perwyl hwnnw.

Mae rhwystrau sylweddol i'w goresgyn os ydym am weld ystod fwy amrywiol o gynghorwyr, ac nid yr un hen fath o garicatur llwydwallt, gwyn a gwrywaidd sydd wedi dod yn ddelwedd ddiofyn o gynghorydd i lawer o bobl. Ac nid yw hynny'n diystyru'r gwaith gwych a wneir gan lawer o gynghorwyr ar draws Cymru sy'n gweithio'n ddiflino dros eu cymunedau. Ond mae'n bwysig tynnu sylw at y broblem hon yn ei hanfod. Ni cheir cynrychiolaeth ddigonol o fenywod, pobl LHDTQ+, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl ddosbarth gweithiol a phobl anabl, ac ni allwn gywiro'r methiant hwn i sicrhau cynrychiolaeth ddigonol heb drechu rhywiaeth, hiliaeth, homoffobia, trawsffobia, rhagfarn ar sail anabledd, a'r holl ragfarnau eraill sydd, yn anffodus, yn dal yn gyffredin iawn yn ein cymdeithas. Mae cyni a thlodi yn rhwystrau ychwanegol i annog amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Rwy'n gobeithio, felly, y bydd y Llywodraeth yn ceisio gweithredu'r awgrymiadau sydd yn yr adroddiad pwyllgor hwn. Rhaid inni edrych ar y rhwystrau sy'n atal pobl rhag sefyll yn y lle cyntaf, a gellir gwneud hyn drwy fynd i'r afael â sawl mater megis cyfarfodydd hygyrch, gan sicrhau bod technoleg yn cael ei defnyddio'n fwy helaeth er mwyn i aelodau allu mynychu cyfarfodydd drwy gyfrwng ffôn neu Skype efallai, yn ogystal â darparu ar gyfer aelodau sydd ag ymrwymiadau gofal plant drwy gynnig gofal plant yn y cyfarfodydd, neu ganiatáu rhannu swydd, ymysg mesurau eraill.

Byddai dull mwy hyblyg o weithredu'n canolbwyntio ar ddileu'r rhwystrau rhyng-gysylltiol sylfaenol sy'n wynebu pobl rhag cael eu henwebu ar gyfer swydd etholedig a chynnal ymgyrchoedd llwyddiannus. Mae rhai rhwystrau yn y system ei hun. Felly, er enghraifft, mae menywod yn gwneud yn well o dan gynrychiolaeth gyfrannol nag y gwnânt mewn system y cyntaf i'r felin, ac mae hynny wedi'i amlygu gan Fforwm Economaidd y Byd. Yn yr etholiad llywodraeth leol diwethaf, roedd 98 y cant o'r ymgeiswyr yn wyn, 94 y cant yn heterorywiol a 34 y cant yn fenywod. Ar ôl yr etholiad, dim ond 26 y cant o gynghorwyr oedd yn fenywod. Yn ogystal â hynny, mae pobl anabl o dan anfantais sylweddol wrth sefyll etholiad gan ei bod yn bosibl na fydd rhai'n gallu curo ar ddrysau yn yr un ffordd ag y gall ambell Aelod yma a minnau.  

Rhwystr arall i bobl sydd am sefyll etholiadau llywodraeth leol yw'r cam-drin y gall pobl ei hwynebu ar gyfryngau cymdeithasol. Rwy'n ymwybodol y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi profi'r math hwn o gam-drin, felly rydym yn gwybod yn iawn beth yw'r math o effaith y gall hynny ei chael. Gwn am rai pobl anhygoel o dalentog a fyddai'n gwneud cynrychiolwyr lleol da iawn, ond oherwydd diffyg cefnogaeth ac amddiffyniad i unigolion ar lefel leol yn ogystal ag ym myd y cyfryngau cymdeithasol, maent yn ymatal rhag gwneud hynny. Os ydym am gael y cynrychiolwyr gorau, rhaid inni eu helpu a'u hannog. Felly, rwy'n croesawu'r argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad hwn fod yn rhaid i'r Llywodraeth bwyso ar y DU i sicrhau deddfwriaeth gref a chadarn i fynd i'r afael â cham-drin, bwlio ac aflonyddu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ni allwn ddianc rhag y ffaith bod angen i newid ddechrau ar y brig ac mae angen i'r Llywodraeth arwain drwy esiampl. O'r penodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru rhwng mis Hydref 2017 a mis Mawrth 2019, roedd pob un o'r 170 penodiad yn wyn. Dylai'r Llywodraeth arwain drwy esiampl. Mae ffordd bell i fynd cyn ein bod yn sicrhau cymdeithas a gynrychiolir yn wirioneddol gyfartal, ond rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth o ddifrif ynghylch yr adroddiad hwn, yn gweld y cyfle hwn fel man cychwyn, ac yn gweithredu'r holl argymhellion.  

16:50

A gaf fi ddechrau drwy gymeradwyo'r adroddiad—credaf ei fod yn adroddiad da—a'r gwaith a wnaeth aelodau'r pwyllgor a chyd-Aelodau, a gwaith y Cadeirydd ac wrth gwrs, y clercod a'r tîm cymorth hefyd?

Un o'r pethau sy'n amlwg o'r adroddiad hwn, ac mae'n cael ei adleisio yn y sylwadau sydd newydd gael eu gwneud, yw'r cyflwyniad cefndirol lle mae'n dweud bod dadansoddiad blaenorol gan grŵp ar amrywiaeth mewn llywodraeth leol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, 'Ar Ôl Pwyso a Mesur: Sicrhau  Democratiaeth Amrywiol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru', nodwyd bod proffil cynghorwyr yng Nghymru at ei gilydd yn ddynion gwyn a'u hoedran cyfartalog oddeutu 60. Rwy'n meddwl mai fi yw hwnnw. Nid ydym i gyd yn ddrwg, gyda llaw, ond mae'n broblem pan fydd pawb ohonom yn edrych yn debyg i fi. [Torri ar draws.] Mae'n wir. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn edrych yn debyg i fi. Gallwn fod yn eithaf da—. Ni fyddai neb yn beirniadu'r diweddar Paul Flynn, a fu farw'n ddiweddar yn ei 80au ac a oedd yn dal i fod yn Aelod Seneddol gweithgar dros Gasnewydd. Felly, mae lle i rai yn eu hwythdegau hefyd. Ond y broblem yw, pan fydd y mwyafrif yn ddynion gwyn oddeutu 60 oed, nid yw'n annog amrywiaeth.

Felly, mae angen inni wneud hyn, a chredaf fod yr adroddiad hwn yn ein helpu ar y ffordd gan ei fod yn edrych ar gamau ymarferol i'w dilyn. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn y mwyafrif helaeth ohonynt a chwpl mewn egwyddor hefyd. Gadewch i mi droi at rai o'r rhain yn unig. Yn gyntaf oll, credaf ei bod yn dderbyniol iawn, ar argymhelliad 20, fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad ynglŷn ag ymestyn y cymal machlud yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw (Ymgeiswyr Etholiad) 2002 hyd at 2050 i ganiatáu parhad pob rhestr fer menywod yn unig. Rwy'n gwybod bod rhestrau byr menywod yn unig yn rhai dadleuol, ac nid yw pawb yn eu cefnogi, ond maent wedi bod yn arf angenrheidiol i ehangu amrywiaeth o ran cynrychiolaeth. Felly, mae angen hynny arnom o hyd. Mae angen mesurau eraill hefyd, ond mae angen i hynny fod yno.  

Rwy'n croesawu'r ffaith hefyd ei bod yn flaenoriaeth a dderbynnir y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cronfa mynediad i swydd etholedig i gynorthwyo unigolion anabl i ymgeisio am swydd etholedig. Mae gennyf gyfeillion a fyddai'n elwa'n uniongyrchol o hynny ond sydd ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn cael eu rhwystro rhag ymgeisio oherwydd y rhwystrau ychwanegol a wynebant oherwydd yr anableddau sydd ganddynt. Ac ar y posibilrwydd o ymestyn cronfa o'r fath i gynnwys grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol, credaf ei bod yn dra derbyniol fod y Llywodraeth wedi ystyried hynny hefyd.

Roedd argymhelliad 18 yn ymwneud â ffug etholiadau Cynulliad ar yr un pryd ag y cynhaliwn ein hetholiadau. Nawr, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth, sef bod hyn wedi'i brif ffrydio, y bydd llawer iawn o etholiadau ffug mewn ysgolion a ffyrdd eraill o annog ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r broses etholiadol, ond fel y dywedodd y Cadeirydd, mae yna gyfle go iawn yma, un waith mewn cylch etholiadol, i gyffroi pobl ifanc am yr hyn a wnawn yma. Heddiw, cawsom aelodau o'r Senedd Ieuenctid yma yn eistedd y tu ôl i ni; roedd cyffro gwahanol yn y Siambr. Byddai'n wych manteisio ar y cyffro hwnnw adeg etholiadau'r Cynulliad gyda phobl ifanc yn uniongyrchol. Felly, nid ydym yn dweud 'yn hytrach na'—dal ati i wneud yr holl waith gwych arall, ond ychwanegu ato mewn gwirionedd. Edrychwch ar hyn. Ewch yn ôl i gael golwg ar yr argymhelliad hwnnw, oherwydd credaf ei fod yn awgrym gwerth chweil yn y fan honno.

Gadewch i mi droi at ambell un arall yma. Y materion yn ymwneud â thechnoleg: rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn y rheini, oherwydd, yn sicr, nid yn unig wrth i ni edrych ar gynyddu amrywiaeth yn y gweithlu, ond hefyd, rhaid i mi ddweud, os ydym yn edrych ar ddulliau mwy modern o gyfathrebu a hefyd yr agenda ddatgarboneiddio yr ydym yn gryf iawn arni hefyd, dylem fod yn archwilio cyfleoedd eraill nad ydynt yn llusgo pawb i mewn ar gyfer pob cyfarfod o leoedd anghysbell pellennig Powys, Ceredigion, neu hyd yn oed Ogwr a dweud y gwir, a dylem ystyried ffyrdd eraill o ddefnyddio technoleg. Felly, rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion hynny.  

Hefyd, ar yr argymhellion ynghylch rhannu swyddi, gadewch i mi ddweud fy mod yn falch tu hwnt fod y mater o rannu swyddi ag aelodau gweithredol yn cael ei dderbyn yn llwyr. Mae'n debyg mai fi oedd un o aelodau mwyaf croch y pwyllgor a ddywedodd y dylai'r un peth fod yn berthnasol yn sicr wrth ethol aelodau unigol pan fyddant yn sefyll etholiad. Ac wrth gwrs, rwy'n gwybod bod llu o wrthwynebiadau, megis y byddent yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ac os oes gennych ddau berson yn rhannu swydd, y byddant yn ymdrechu i wneud yn well na'i gilydd. Wel, mae gennym hynny mewn wardiau aml-aelod eisoes. Mae yna ffyrdd o wneud hyn drwy gytundeb. A dweud y gwir, efallai y bydd rhai o'r bobl sy'n wynebu rhai o'r rhwystrau, megis anabledd, ac nad ydynt yn teimlo eu bod am ymrwymo i swydd amser llawn fel cynghorydd, yn dweud wrthyf fi neu wrth rywun arall yn y dyfodol, 'Huw, rwy'n awyddus iawn i rannu'r swydd gyda chi. Os gallwn rannu'r llwyth gwaith, gyda'ch profiad chi, a minnau'n newydd, gyda'r rhwystrau rwy'n eu hwynebu, fe wnawn hyn.' Felly rwy'n croesawu'r ffaith ei fod wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor, ond rwy'n falch eich bod yn mynd i edrych ar hynny. Ond rwy'n credu y gallwn fynd ymhellach.

Mae hwn yn adroddiad gwych a chredaf y bydd yn gwthio'r agenda yn ei blaen ac yn helpu'r Llywodraeth, a diolch i'r Cadeirydd am y ffordd y cadeiriodd hyn hefyd a gofyn am gonsensws go iawn ar y materion hyn. A diolch yn arbennig i'r tystion. Ni fyddant yn hapus ynglŷn â phopeth sydd ynddo, neu byddant yn dweud ein bod wedi methu rhai elfennau, ond rwy'n credu ei fod yn gam mawr ymlaen ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion.  

16:55

Cytunaf â'r hyn a ddywedodd yr holl Aelodau sydd wedi siarad hyd yn hyn, ac yn enwedig Helen Mary. Rwy'n cytuno bod gennym ni fel pleidiau gwleidyddol ddyletswydd i sicrhau bod yr ymgeiswyr y bydd pleidiau'n eu cyflwyno yn ceisio adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y maent yn gobeithio eu gwasanaethu.

Roeddwn yn falch iawn nos Sadwrn o weld ein maer newydd yng Nghaerdydd ar lwyfan, llwyfan byd-eang, ar gyfer Canwr y Byd, Caerdydd, i groesawu'r enillydd a'r rhai eraill a ddaeth i'r brig. Roedd honno'n foment wych i amrywiaeth, oherwydd mae Dan De'Ath yn—nid yn unig fod ganddo'r gadwyn aur o'i gwmpas, ond mae'n 6 troedfedd 5 modfedd, felly nid oedd modd i chi fethu gweld mai ef yw ein maer du cyntaf. Felly, mae hwnnw'n fodel rôl gwych i bobl y dyfodol o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy'n credu yr hoffent ddod yn gynghorwyr.  

Ond mae'n fater cymhleth iawn. Cytunaf yn llwyr â Leanne; mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â homoffobia, rhywiaeth, hiliaeth a gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anableddau, ond mae'n eithaf cymhleth pan fyddwch yn edrych ar y manylion. Felly, er enghraifft, pam fod ganddynt gydbwysedd eithaf da o gynghorwyr benywaidd yn Sir Gaerfyrddin, ond yng nghymuned Ceredigion, drws nesaf, prin fod yna unrhyw fenywod sy'n gynghorwyr? Ac felly mae'n beth llawer mwy cymhleth na dim ond sicrhau bod yr ymrwymiad hwn gennym.

Gwn mai un o'r materion sy'n codi yw'r adeg y mae cynghorau'n cyfarfod, oherwydd credaf fod cynghorau trefol Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam i gyd yn cyfarfod tua 4.30 neu 5 o'r gloch gyda'r nos, sy'n addas i bobl sydd â swydd ac sydd wedyn yn gallu cael caniatâd i adael yn gynnar bob mis ar ddiwrnod cyfarfod y cyngor. Ond gallaf weld sut y gall pobl sydd yn eu 60au hwyr, a allai orfod teithio am awr i gyrraedd y lleoliad ar gyfer cyfarfod y cyngor, fod yn wrthwynebus i gyfarfod gyda'r nos, gan ei fod yn golygu teithio yn y tywyllwch yn ystod y gaeaf, ac os ydych yn gynrychiolydd hŷn, gall hynny fod yn dipyn o her. Felly, rwy'n meddwl bod yna gymhlethdodau yn hyn nad ydynt yn hawdd eu datrys.

Credaf fod ein hargymhelliad 1 ynghylch caniatáu i bobl gymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell yn bwysig iawn, yn enwedig i bobl a allai fod â chyfrifoldebau gofalu munud olaf, lle mae trefniadau gofal plant wedi mynd o chwith, neu lle mae pellteroedd mawr i'w teithio. Pam y byddech eisiau teithio am ddwy awr er mwyn cymryd rhan mewn cyfarfod nad oedd ond yn awr o hyd? Wyddoch chi, mae hynny'n galw am ormod o ymdrech ar gyfer yr hyn a allai fod yn benderfyniad pwysig ond y gellid ei wneud yn hawdd gan aelod pwyllgor o bell.

Credaf mai un o'r pethau a'm trawodd fwyaf, a chredaf i mi sôn amdano yn y Siambr o'r blaen, oedd fy mod wedi cyfarfod â grŵp o gynghorwyr o dri chorff sirol yn Aberystwyth bron flwyddyn yn ôl, ac roeddwn yn teimlo'n wylaidd wrth weld lefel ymroddiad y bobl hyn, ond hefyd yn synnu eu bod yn gwneud pethau nad oeddwn yn credu y dylid disgwyl iddynt eu gwneud. Mae'n anodd iawn os ydych yn cynrychioli cymuned wledig, oherwydd bydd pawb yn gwybod ble rydych chi'n byw am fod pawb yn adnabod pawb. Ond roeddwn yn credu ei bod hi'n afresymol fod unigolion, ar rai achlysuron, yn cael cais i ateb y drws am saith o'r gloch y bore ac am 10 o'r gloch y nos. Wyddoch chi, mae hynny'n afresymol a chredaf y dylai swyddogion y cynghorau hynny fod wedi dweud yn bendant, 'Peidiwch â gwneud hyn. Bydd yn ormod i chi. Mae'n rhaid i chi gael bywyd hefyd.' Roedd yna un unigolyn nad oedd yn defnyddio ei wyliau i gyd er mwyn cynnal ei swydd amser llawn a chyflawni ei gyfrifoldebau cyngor. Nid wyf yn credu y dylai neb fod yn gwneud hynny. Credaf fod hynny'n annoeth ar y naw, a chredaf fod yn rhaid inni sicrhau y bydd y taliad a wneir yn caniatáu i bobl leihau eu horiau gwaith er mwyn adlewyrchu'r ffaith bod bod yn gynghorydd yn swydd dra chyfrifol.

17:00

A fyddech yn cytuno â mi, Jenny Rathbone, fod rôl hefyd i gwmnïau sy'n ddigon mawr a chyrff cyhoeddus i ddychwelyd at yr hen arfer o roi absenoldeb dyletswydd gyhoeddus i bobl fod yn aelodau o'r awdurdod lleol neu i fod yn ynadon? Gwn fod rhai cyrff yn dal i wneud hynny, ond mae'n ymddangos ei fod yn arfer sydd wedi mynd allan o ffasiwn, os mynnwch. Ac er na allwch ddisgwyl i gwmni bach lleol wneud hynny, rwy'n credu y dylai'r sefydliadau mawr fod yn galluogi eu staff i gyfranogi.

Ydw, credaf ei bod yn gwbl bosibl i gwmnïau mawr gael rhai diwrnodau penodedig wedi'u neilltuo ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus ac nid oes angen i hynny olygu bod yn gynrychiolydd ar y cyngor, gallai fod yn gorff llywodraethu ysgol neu weithio mewn corff gwirfoddol, yn eu cynghori ar sut i wneud eu cyfrifon neu beth bynnag. Rwy'n credu bod llawer o fusnesau yn y gymuned yn cefnogi'r math hwnnw o weithgarwch, ond rwy'n credu ei bod yn afresymol i gwmni bach, gyda phump o weithwyr efallai, adael i rywun fynd. Nid wyf yn meddwl bod hynny'n bosibl. Ond credaf fod angen inni fwrw ymlaen o ddifrif â—.

Rwy'n credu mai un o'r materion eraill nad wyf yn meddwl bod Aelodau eraill wedi sôn amdano yw argymhelliad 13, sef sicrhau bod y lwfans gofal y dylai pobl fod â hawl i'w hawlio os ydynt yn gyfrifol am aelod oedrannus neu anabl o'r teulu neu os oes ganddynt blant bach, nid wyf yn credu y dylai fod yn rhaid dweud bod unigolyn X, Y, Z wedi hawlio'r swm hwn. Dylai hyn fod yn rhywbeth a gofnodir gan y cyngor fel un o'r treuliau'n unig, gyda'r archwiliadau a'r gwiriadau amlwg fod yn rhaid i'r unigolyn sy'n hawlio'r lwfans fod yn bresennol yn y cyfarfod y mae'n hawlio ar ei gyfer wrth gwrs.

Ond gellir gwneud hynny y tu ôl i'r llenni; nid oes angen ei wneud drwy wneud y bobl hynny'n agored i feirniadaeth.

17:05

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad ac am waith ardderchog y Cadeirydd a'r pwyllgor. Mae'r ffaith nad yw ein democratiaeth yn adlewyrchu ein demograffeg yn fater a ddylai beri pryder mawr inni. Sut y gallwn obeithio cynyddu'r ymwneud â'r broses ddemocrataidd os bydd rhannau helaeth o'r etholwyr yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynrychioli? Yn etholiadau diwethaf y cynghorau, dim ond 42 y cant o'r etholwyr a drafferthodd bleidleisio. Ac nid difaterwch yn unig sydd ar fai; mae'n adlewyrchu'r ymddieithrio a fu o'r broses wleidyddol. Mae pobl yn colli diddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac o ganlyniad maent yn llai tebygol o bleidleisio, heb sôn am geisio am swydd wleidyddol.

Yn ôl archwiliad diweddar y Gymdeithas Hansard, 'Audit of Political Engagement', y diweddaraf mewn archwiliad 15 mlynedd sydd wedi bod yn edrych ar farn y cyhoedd am wleidyddiaeth, ein system wleidyddol a chyflwr ein democratiaeth, roedd barn pobl am wleidyddiaeth ar ei hisaf erioed, yn is o lawer nag yn sgil sgandal treuliau'r ASau. Mae tri chwarter y cyhoedd ym Mhrydain yn dweud bod angen cryn dipyn neu lawer iawn o welliant ar ein systemau Llywodraeth. Mae 50 y cant yn dweud nad yw'r prif bleidiau a'r gwleidyddion yn malio am bobl fel hwy, ac mae 75 y cant yn dweud bod y prif bleidiau gwleidyddol mor rhanedig fel na allant wasanaethu er budd gorau'r wlad. Felly, mae gan bobl fwy o ffydd yn y fyddin a'r farnwriaeth i weithredu er budd gorau'r wlad.

Gyda'r lefel hon o ddiffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, sut y gallwn obeithio annog niferoedd mwy o fenywod, cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau ac aelodau o'r gymuned LHDT i sefyll fel ymgeiswyr? Mae angen llawer o waith a chymorth ar hyn o bryd i annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i fynd i'r byd gwleidyddol a sefyll mewn seddi y gellir eu hennill; mae o'r pwys mwyaf.

Er fy mod yn croesawu llawer o'r mesurau a amlinellwyd gan y pwyllgor yn ei argymhellion am y byddant yn ei gwneud yn haws i bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol wasanaethu fel cynghorwyr, rydym yn ymladd brwydr amhosibl oni bai ein bod yn adfer ffydd yn ein systemau gwleidyddol. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i bob un ohonom weithio arno. Felly, o gynghorwyr cymuned i Aelodau Seneddol, rhaid inni ddangos ein bod yma i weithio dros ein hetholwyr, nid i sgorio pwyntiau pleidiol-wleidyddol hawdd yn erbyn ein gilydd. Rhaid inni ddangos i'r etholwyr ein bod yma i gyflawni eu dymuniadau, mai hwy yw ein meistri ni ac nid fel arall.

Ac mae'n rhaid inni weithredu fel oedolion, oherwydd weithiau, ceir casineb a bustl mewn trafodaethau gwleidyddol nad ydynt yn cyflawni dim heblaw—

Safodd arweinydd eich plaid o flaen poster a oedd yn atgoffa o bropaganda'r Natsïaid, ac rydych yn sôn am gasineb mewn gwleidyddiaeth. Ni allaf gysoni'r ddau beth—

A gaf fi ddweud rhywbeth wrthych? A wyf fi erioed wedi gwneud ymosodiad personol ar unrhyw un yn y fan hon?

Gadewch i mi ofyn rhywbeth i chi. Fe godoch ar eich traed a gwneud pwynt gwleidyddol yn erbyn un o'n haelodau yma, a dywedodd hi wrthych y tu allan nad oeddech wedi gwrando ar y frawddeg lawn cyn i chi sefyll a gwneud sylw o flaen y Siambr gyfan—

—ac nid oedd hynny'n iawn. A ydych wedi ysgrifennu at yr arweinydd gwleidyddol—

Na, na. Ni allwch ddadlau'n ôl ac ymlaen. Naill ai ymatebwch i'r ymyriad gan yr Aelod neu symudwch yn eich blaen.

Nid wyf wedi edrych arno. Nid wyf wedi edrych ar yr hyn rydych chi'n sôn amdano—

Fe ddywedoch chi 'arweinydd gwleidyddol', ac rwy'n ystyried mai Mark Reckless yw fy arweinydd yma, mae'n ddrwg gennyf.

Rwy'n symud ymlaen, ydw. Felly, rhaid inni ddangos i'r etholwyr ein bod yma i gyflawni eu dymuniadau, mai hwy yw ein meistri ni ac nid fel arall. Ac mae'n rhaid i ni weithredu fel oedolion, fel rwyf newydd ei ddweud. Nid yw'r casineb a'r bustl a geir yn llawer rhy aml mewn trafodaethau gwleidyddol yn ateb unrhyw ddiben ar wahân i ddadrithiad pellach mewn gwleidyddiaeth.

Os na all gwleidyddion weithredu fel oedolion cyfrifol, rhesymol a thrin ei gilydd â pharch, sut y gallwn ddisgwyl i'r etholwyr ein cefnogi neu hyd yn oed eu hannog i ddod yn wleidyddion eu hunain? Felly, nid yw'n fawr o syndod fod pobl yn cael eu diflasu gan wleidyddiaeth a gwleidyddion. Fodd bynnag, heddiw, gwelsom aelodau o'r Senedd Ieuenctid yn ymgysylltu'n gadarnhaol â llawer o faterion gwleidyddol ac yn siarad â ni am eu gwaith yn y dyfodol. Felly, roedd hwn yn gam cadarnhaol i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae'r Cadeirydd wedi sôn am rannu swyddi, sy'n amlwg eto yn gam cadarnhaol i'w ystyried ymhellach.

Yn etholiad diwethaf y Cynulliad, ni thrafferthodd mwy na hanner pobl Cymru i bleidleisio; mewn rhai seddi, ychydig dros draean o'r rhai a oedd yn gymwys i bleidleisio a wnaeth hynny mewn gwirionedd. A'r llynedd, buom yn dathlu canmlwyddiant y bleidlais gyffredinol, ond beth fyddai Emmeline Pankhurst yn ei feddwl am y lefelau o ymddieithrio a welwn heddiw?

Mae angen inni wneud gwleidyddiaeth yn fwy cynhwysol, ac er mwyn gwneud hynny, rhaid inni ei gwneud yn fwy parchus. Ac mae tlodi yn ein cymunedau, unwaith eto, yn rhwystr ac yn aml yn cynyddu anghydraddoldeb. Felly, yr ateb i gael rhagor o fenywod mewn gwleidyddiaeth yw gwneud gwleidyddiaeth yn fwy deniadol i fenywod, a gellir dweud yr un peth am bob grŵp arall sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae bwlio ar-lein yn rhwystr i annog menywod i fynd i fyd gwleidyddiaeth, a rhaid inni sicrhau bod gan bobl hyder i ymdrin â hyn yn gadarnhaol. Felly, mae angen inni ei wneud yn fwy atyniadol i bobl ddod yn gynghorwyr, yn ACau neu'n ASau, a bryd hynny'n unig y gallwn sicrhau amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth.

17:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith gwerthfawr a phwysig yn y maes hwn, a hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i a diolch y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i'r sefydliadau a'r unigolion niferus sydd wedi cyfrannu at hyn. Croesawn waith y pwyllgor a byddwn yn pleidleisio o blaid heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gynyddu amrywiaeth mewn swyddi etholedig, gan weithio i alluogi a grymuso pobl sydd am sefyll etholiad i wasanaethu eu cymunedau. Pan fydd ein gwleidyddiaeth yn adlewyrchu ein pobl, gwyddom fod ein cymunedau a'n gwlad yn well o'r herwydd. Felly, gweithio gyda phartneriaid i nodi a chwalu rhwystrau, o ran canfyddiad ac mewn ystyr fwy ymarferol, a chyfeiriodd y Cadeirydd at yr awgrymiadau ymarferol sydd yn yr adroddiad, a byddaf yn dod atynt cyn bo hir.

Ond yn gyntaf hoffwn grybwyll canfyddiad, o ran beth yw swydd wleidyddol ac i bwy y mae, a phwy sy'n wleidydd. Soniodd Leanne Wood am y stereoteip traddodiadol o'r hyn y mae pobl yn ei weld yw gwleidydd, ac rwy'n petruso rhag dweud 'gwelw a gwryw' gyda Huw'n sefyll mor agos ataf, ond peidiwch â phoeni, yn sicr ni fyddem yn dweud eich bod yn ddiflas. Ond o ddifrif, pan oeddwn i'n tyfu i fyny, ni feddyliais erioed y buaswn yn wleidydd gan nad oedd gwleidydd yn edrych yn debyg i fi, nid oedd yn rhywun tebyg i mi ac nid oedd yn rhywbeth y tybiwn erioed y gallwn ei wneud. Ond mewn gwirionedd roeddwn yn meddwl am y peth yn ddiweddar ac rwy'n meddwl efallai fy mod wedi cyrraedd y pwynt hwnnw, Ddirprwy Lywydd, pan wyf yn cyd-fynd â'r stereoteip gan fy mod yn agosáu at ganol oed, rwy'n wyn ac mae gennyf wraig erbyn hyn.

Ond o ddifrif, gwyddom fod profiad byw yn golygu ein bod yn gallu gwasanaethu ein cymunedau'n ddilys, ac mai dyna'r ffordd gryfaf o sicrhau bod ein llais a'n safbwyntiau o bob rhan o'n cymunedau a'n cymdeithas yn cael eu cynrychioli yn y drafodaeth a'r ddadl sy'n digwydd yn ein democratiaeth, yn ein cymunedau ac yn ein gwlad. Yn gryno, gall diffyg demograffig lywio diffyg democrataidd ac arwain at ddiffyg cysylltiad â'n prosesau gwneud penderfyniadau a'n proses ddemocrataidd.

Ond fel y clywsom heddiw, ni all pobl gychwyn ar y daith i ddod yn Aelod etholedig os nad ydynt yn ymwybodol o beth yw Aelod etholedig, beth y mae'n ei wneud a sut y mae'n ei wneud. Mae'r Cadeirydd wedi crybwyll diffyg gwybodaeth i bobl ynglŷn â sut y gallent ddod yn gynghorydd a beth y mae hynny'n ei olygu. Felly, mae angen i ni sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar bob cyfle i godi ymwybyddiaeth o rôl a gwerth cynghorwyr. Mae pawb ohonom wedi clywed y canfyddiadau a'r ystrydebau negyddol, am gynghorwyr nad ydynt yn gwneud unrhyw beth, nad ydynt yn gweithio'n galed, ond ar draws ein cymunedau ac yn y Siambr hon, gŵyr pawb ohonom y gallai pobl yma fod yn clywed o wahanol gefndiroedd gydag ideoleg wahanol, ond mae'r mwyafrif ohonom am wneud ein gorau i wasanaethu ein cymunedau.

Felly, yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i nodi elfennau allweddol ein hymgyrch i godi proffil cynghorwyr, y cyfraniadau allweddol a wnânt i gymdeithas a'r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i'w cymdogion a'r cymunedau ehangach. Byddwn yn ceisio manteisio ar hyn a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r cyfraniadau ymarferol y mae pobl wedi'u gwneud ar lawr gwlad ac mewn ardaloedd lleol. Bydd herio'r negyddoldeb cynyddol ynghylch gwleidyddiaeth yn allweddol i unrhyw ymgyrch. Ond mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â hyn drwy weithio mewn partneriaeth.

Ond fel y dywedais, mae angen i ni wneud mwy na herio'r canfyddiad yn unig, mae'n rhaid i ni weithredu i ddileu'r rhwystrau ymarferol i gyfranogi, ar y dechrau ac er mwyn galluogi cyfranogiad parhaus. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod systemau cymorth priodol ar waith o ran hyfforddiant a datblygiad, cymorth emosiynol a mecanwaith i ddiogelu lles. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu eisoes ar gael i gynghorwyr, yn amrywio o raglenni sefydlu i raglenni arweinyddiaeth, ond fel y clywsom heddiw, gallwn bob amser wneud mwy a gallwn adeiladu ar hyn. Byddwn yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gynyddu a gwneud y gorau o'r cyfleoedd, ac rydym yn awyddus i weithio gydag eraill i nodi meysydd ychwanegol i roi sylw iddynt.

17:15

Wrth wneud hynny, tybed a wnaiff y Gweinidog edrych ar rywbeth a godwyd gennyf ar y pwyllgor unwaith neu ddwy—yr enghraifft ragorol a welwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a wnaeth waith hyrwyddo aruthrol ar sail amhleidiol ar ymgyrch ynglŷn â sefyll fel cynghorydd os nad ydych erioed wedi meddwl am wneud hynny, ac yna aeth drwy hyfforddiant helaeth gyda phobl ynglŷn â beth y golygai hynny, sut y gallech oresgyn rhwystrau? Nid oedd yn gweddu i bawb—dywedai rhai pobl, 'Diolch yn fawr iawn ond nid oes gennyf ddiddordeb'—ond daeth â llwyth newydd o bobl wahanol i'r arfer i mewn, ac nid oedd cysylltiad gwleidyddol o unrhyw fath gan rai ohonynt. Felly, edrychwch ar y rheini pan fyddwch yn meddwl am weithio mewn partneriaeth.

Gwnaf, yn bendant, ac os oes gan unrhyw Aelodau awgrymiadau neu enghreifftiau o arferion gorau y gellir eu cyflwyno wedyn ar draws y cynghorau, ar draws y gymuned neu ar raddfa genedlaethol, rwy'n siŵr y buaswn i a'r Gweinidog yn hapus iawn i glywed am hynny. Fel y dywedoch chi, hyd yn oed os yw rhai pobl yn penderfynu nad yw'n gweddu iddynt hwy, byddwn wedi codi ymwybyddiaeth o rôl y cyngor yn y gymuned beth bynnag. Hefyd, yn yr un modd, mae angen i ni ystyried sut y gallwn roi cymorth gwell i bobl nad ydynt wedi llwyddo mewn etholiadau o bosibl, ac sydd eisoes wedi dangos diddordeb mewn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol a'r gymuned leol. Ac mewn gwirionedd, rydym wedi gweld drwy'r gwaith a wnaethpwyd gennym a thrwy dystiolaeth y pwyllgor fod rhai pobl, efallai, wedi mynd ymlaen i ddefnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy hynny wedyn, fel llywodraethwyr ysgol ac mewn rolau eraill yn y gymuned. Felly, mae'n fater o sut y byddwn yn parhau â'r gefnogaeth honno yn y dyfodol, fel bod pobl am ymgeisio eto. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud yn siŵr nad yw pobl yn colli diddordeb oherwydd y diffyg llwyddiant hwnnw—nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu hethol ar y cynnig cyntaf—felly, sicrhau ein bod yno i gefnogi pobl a mynd â hwy drwy'r broses honno.

Mae'r adroddiad hwn hefyd yn canolbwyntio ar nifer o faterion pwysig, gan gynnwys mynychu o bell, trefniadau rhannu swydd a chymorth i gynorthwyo pobl ag anableddau i geisio am swydd etholedig. Mae'r rhain yn feysydd lle mae gwaith eisoes ar y gweill, ond gallwn bob amser adeiladu ar y gwaith hwn. Felly, yn y Bil etholiadau llywodraeth leol (Cymru) sydd ar y gweill, rydym yn bwriadu diwygio'r adrannau ar fynychu o bell ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i gynnwys darpariaethau i hwyluso trefniadau rhannu swydd ar gyfer swyddogion gweithredol ac arweinwyr cynghorau. Byddwn yn amlwg yn ystyried pethau lle mae wedi digwydd—yn Abertawe—a lle gallwn ddysgu o fentrau eraill hefyd, fel y dywedodd Helen Mary, rwy'n credu. Bydd yn cynnwys dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo safonau ymddygiad priodol, a'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi cyfeiriad swyddogol eu haelodau etholedig, yn hytrach na'u cyfeiriad cartref. Felly, byddai angen i'r awdurdodau lleol roi cyfeiriad swyddfa swyddogol i'r Aelodau ei ddefnyddio ar gyfer cyhoeddusrwydd. Cododd Aelodau her y cynnydd mewn cam-drin ar-lein y mae gwleidyddion yn gyffredinol yn ei brofi, yn anffodus—gwn fod llawer ohonom yn y Siambr wedi profi hynny ein hunain—a deallaf fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol newydd fod mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU heddiw, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut y gallwn weithio i fynd i'r afael â cham-drin ar-lein gyda chwmnïau cyfryngau cymdeithasol, oherwydd credaf ein bod i gyd yn ymwybodol fod hyn yn rhywbeth y mae gwir angen mynd i'r afael ag ef a'i ddileu, oherwydd nid oes neb yn haeddu hynny. Mae pobl yn aberthu llawer yn bersonol drwy sefyll etholiad i wasanaethu eu cymuned ac mae angen inni barchu ein gilydd fel pobl am yr hyn a wnawn hefyd. Yn unol â hyn, byddwn yn deddfu i ddileu'r angen i gyhoeddi cyfeiriad yr ymgeisydd ar y papur pleidleisio. Bydd llawer o bobl yn gwybod ble mae eu cynghorydd lleol yn byw, ond rwy'n credu bod hynny'n darparu sicrwydd ychwanegol i wneud yn siŵr nad yw ar gael yn gyhoeddus ar-lein er mwyn rhoi tawelwch meddwl i bobl lle gallwn wneud hynny.

Byddwn hefyd yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â rhoi adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mewn grym, fel y cynigir yn yr adroddiad, ac mae swyddogion wedi cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i ofyn am farn ar y dull arfaethedig o gyhoeddi ad-daliadau os bydd costau. Rydym wedi ymrwymo i weithio ar ddarparu cronfa mynediad i swydd etholedig ar gyfer Cymru, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo gyda swyddogion ar draws y Llywodraeth a hefyd gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog yma.

Dylem hefyd gydnabod bod camau eisoes wedi'u cymryd i gefnogi amrywiaeth. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth ddeddfwriaethol ar gyfer absenoldeb teuluol i aelodau etholedig er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau i gyfranogiad mewn llywodraeth leol ar gyfer cynghorwyr a allai fod â chyfrifoldebau teuluol. Rydym yn bwriadu diweddaru'r trefniadau hyn yn y Bil etholiadau llywodraeth leol er mwyn ymestyn y darpariaethau i gynnwys rhai sy'n mabwysiadu, ac rydym hefyd yn bwriadu ei gwneud yn haws diweddaru'r trefniadau absenoldeb wrth i'r polisi ddatblygu yn y maes hwn.    

Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, hoffwn ailadrodd unwaith eto ein bod yn croesawu'r gwaith pwysig hwn gan y pwyllgor a phawb sy'n gysylltiedig ag ef, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n gilydd i fwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno ein bod wedi camu i'r cyfeiriad iawn, ond mae'n bryd i ni gynyddu ein gwaith yn y maes hwn ar gyfer ein holl bobl, ein cymuned a'n democratiaeth. Diolch yn fawr.

17:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl? Mae'n dda gweld, rwy'n credu, fod ymdeimlad eithaf cryf o gonsensws o ran lle rydym ni a lle mae angen i ni fynd. Fel y dywedwyd, mae'r Cynulliad yma mewn gwirionedd yn enghraifft go dda o'r ffordd y gellir gwneud cynnydd ac o'r ffordd y gwnaethpwyd cynnydd. Er hynny, fel y gwyddom, mae gwaith pellach i ni ei wneud hefyd. Serch hynny, mae gennym stori weddol dda i'w hadrodd, sydd yn ein rhoi mewn sefyllfa eithaf cryf yn fy marn i wrth wneud argymhellion a chynghori eraill.

Fel Huw, rwy'n pledio'n euog i fod yn y ddemograffeg wrywaidd, gwyn a thua 60 oed. [Chwerthin.] Nid oes llawer y gallwn ei wneud am hynny, ond yn sicr gallwn weithio tuag at fwy o amrywiaeth yn gyffredinol. Credaf fod yr hyn a ddywedodd Huw am Paul Flynn yn wir iawn—fod Paul yn dadlau'n gryf iawn dros y ddemograffeg sydd yn eu hwythdegau a chynrychiolaeth well ar gyfer y grŵp oedran hwnnw ar bob lefel o wleidyddiaeth, ond yn sicr, rydym am weld cymaint o amrywiaeth â phosibl ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru, a byddwn yn gweithio tuag at hynny, fel pwyllgor, ac yn gweithio gyda'r Llywodraeth yma ac awdurdodau lleol yng Nghymru.

Credaf fod Jenny Rathbone wedi gwneud pwynt cryf ynglŷn â'r ffaith bod maer Caerdydd yn dod o leiafrif ethnig a'i fod ar y llwyfan rhyngwladol yng nghystadleuaeth Canwr y Byd, Caerdydd y BBC—gall modelau rôl fod mor bwerus, ac ni ddylem fychanu hynny o gwbl, a gorau po fwyaf o fodelau rôl o'r fath sydd gennym.

Gwnaeth Leanne bwynt diddorol, rwy'n credu, ynglŷn â chynrychiolaeth gyfrannol a sut y mae menywod yn tueddu i wneud yn well o dan y systemau hynny. Nid ydym ar drothwy unrhyw newid mawr yn y systemau etholiadol yng Nghymru, ond mae'n ddefnyddiol edrych ar sut y gall systemau penodol helpu neu lesteirio'r amrywiaeth ehangach honno yr hoffem ei gweld. Roedd yn ddefnyddiol hefyd yn fy marn i fod Leanne wedi sôn am gyni, oherwydd mae angen inni ddeall yr amseroedd yr ydym yn byw ynddynt a beth y mae hynny'n ei olygu i'r ymdrechion hyn i sicrhau mwy o amrywiaeth, ac nid yw ceisio rheoli cyllidebau sy'n lleihau a phopeth sydd ynghlwm wrth hynny yn dasg atyniadol i'r un ohonom. Mae grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn tueddu i ddioddef mwy yn sgil cyni nag eraill, ac nid yw hynny'n helpu chwaith.

O ran gwleidyddiaeth y cyfnod hwn, credaf fod yr hyn a ddywedodd Caroline Jones yn wir iawn, nad yw'r ffaith bod llai o barch nag erioed gan y cyhoedd at wleidyddiaeth yn ddefnyddiol os ydym am i bobl ymgysylltu â gwleidyddiaeth. Mae Brexit a'r refferendwm wedi bod yn gwbl wenwynig i hyn yn fy marn i, gan fod y refferendwm wedi hollti'r boblogaeth yn ei hanner, mae pleidiau gwleidyddol yn rhanedig, ac mae Llywodraeth y DU a San Steffan mewn cyflwr o anhrefn pur—yn methu symud o'u hunfan. Nid oes dim o hynny'n hysbyseb atyniadol iawn dros gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Yn hynny o beth, a gredwch fod gan y cyfryngau hefyd rôl elfennol a chanolog bwysig iawn yn hyn o ran y modd y caiff gwleidyddiaeth, gwleidyddion a chymdeithas sifil eu portreadu?

Ydw. Siaradodd Hannah Blythyn am ganfyddiadau a pha mor bwysig ydynt, ac mae hynny'n sicr yn wir, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fwrw ymlaen ag ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a chyfathrebu, ac mae hynny'n ateb i ryw raddau y pwynt a wnaeth Helen Mary am ddyletswydd ddinesig, oherwydd credaf y byddai'n mynd i'r afael â hynny hefyd.

Ddirprwy Lywydd, gallaf weld bod fy amser yn gyfyng iawn, ond rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod yna naws afreal i'r hyn a ddywedodd Caroline Jones. Ni allwch ymbellhau fel Aelod etholedig oddi wrth y blaid yr ydych yn aelod ohoni, na'r blaid yr oeddech yn aelod ohoni, yn wir. A'r hyn a glywn am frad a gwneud cam â phobl a'r rhaniadau a'r elyniaeth a grëwyd gyda'r rhethreg honno a'r ymgyrchoedd hynny—unwaith eto, mae hynny'n gwbl wenwynig i geisio cael yr ymgysylltiad ac yn wir, yr amrywiaeth yn benodol, y mae pawb ohonom am ei gweld.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Y Sector Addysg Uwch

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar y sector addysg uwch. A galwaf ar Bethan Sayed i wneud y cynnig. Bethan.

17:25

Cynnig NDM7101 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r argyfwng ariannol difrifol sy'n wynebu sector addysg uwch Cymru, gyda chyhoeddi bod nifer sylweddol o swyddi wedi'u colli dros y deuddeg mis diwethaf ymysg pryderon am gynaliadwyedd ariannol sefydliadau unigol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad brys o gynaliadwyedd ariannol sector prifysgolion Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mandad penodol i CCAUC ymyrryd i atal methdaliad unrhyw sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn y dyfodol agos, drwy gyfrwng benthyciad brys os oes angen.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw arian cyhoeddus i brifysgol yng Nghymru yn amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn ddim mwy na phum gwaith enillion canolrifol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau digonolrwydd a thryloywder trefniadau goruchwylio a llywodraethu prifysgolion, yn enwedig mewn perthynas â gwariant arian cyhoeddus;

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarwyddo CCAUC, ac unrhyw gorff olynol, i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a staff prifysgolion ar bob lefel o wneud penderfyniadau; a'i gwneud yn ofynnol i brifysgolion ystyried llais myfyrwyr a barn staff wrth wneud penderfyniadau staffio.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn. Gadewch i mi ddechrau drwy ddweud nad ydym eisiau cynnal y ddadl hon heddiw. Nid ein dewis ni ydyw, ac nid ydym yn falch o ddod yma i drafod y problemau ar draws y sector addysg uwch yng Nghymru, ond teimlwn fod hon yn ddadl y mae'n rhaid ei chael yn awr, gan ein bod yn cefnogi'r sector, ac am ei fod mor hanfodol i'n cymdeithas a'r economi. Nid ydym yn mynd i fod yn blaid sy'n gweld problem, neu argyfwng hyd yn oed, ar y gorwel ac yn gwneud dim i ganu'r larwm, a byddem yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn teimlo'r un ffordd yn union. Gadewch i ni fod yn glir, rydym yn cynnal y ddadl hon nid yn unig oherwydd y materion rydym yn eu canfod ar lefel bersonol, neu drwy'r hyn y mae prifysgolion a'r wasg yn eu hadrodd, ond oherwydd bod pobl ar y rheng flaen ar draws y sector, gan gynnwys staff, academyddion a myfyrwyr, yn dod atom gan fynegi pryderon go iawn yn rheolaidd. Ni allwn ac ni ddylem eu hanwybyddu. Teimlant nad yw Llywodraeth Cymru yn trin y materion sy'n codi o'r sector addysg uwch gyda'r difrifoldeb y maent yn ei haeddu, ac rydym yn cytuno, yn enwedig ar yr adegau pan wyf fi ac eraill wedi tynnu sylw'r Gweinidog yn uniongyrchol at rai o'r pryderon hynny yn y Senedd hon.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd diferion cyson o newyddion yn dangos y modd y mae sefyllfa ariannol prifysgolion Cymru yn gwaethygu. Gwelsom gyhoeddiadau dilynol am dorri swyddi yn achos un ohonynt, y Drindod Dewi Sant, gwelwn newyddion ei bod hi'n bosibl y bydd hyd at 170 o swyddi'n cael eu torri, mae Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd hyd at 380 o swyddi'n cael eu colli yn ystod y pum mlynedd nesaf, a gwyddom fod hyn ar ben swyddi a gollwyd yn flaenorol ac ailstrwythuro. Pleidleisiodd darlithwyr a staff academaidd, aelodau o'r Undeb Prifysgolion a Cholegau bron 90 y cant o blaid streic y llynedd. Gwelwyd swyddi'n cael eu colli ac ad-drefnu yn fy nghyn-brifysgol dros y blynyddoedd diwethaf, ym Mangor hefyd, a rhagwelir rhagor yn y dyfodol.

Rydym hefyd mewn sefyllfa lle mae nifer y ceisiadau'n gostwng. Y llynedd, gwelwyd gostyngiad o bron i 6 y cant yng Nghymru yn gyffredinol. Ymhlith myfyrwyr yr UE, roedd y nifer yn peri pryder mawr, gyda gostyngiad o 20 y cant yn nifer y ceisiadau, ac rwy'n gobeithio, os bydd llefarydd Plaid Brexit yn ymateb yn y ddadl hon, y byddant yn ddigon gonest i gyfaddef y bydd eu polisi dewisol o adael yr UE heb gytundeb yn drychineb i'r sector addysg uwch yng Nghymru. Felly, deuwn—

Wel, roeddwn yn gobeithio y byddech yn ymateb i'r—[Torri ar draws.] Nid ydych yn mynd—[Torri ar draws.] Popeth yn iawn, o'r gorau.

Roeddwn am ddweud nad dyna yw ein polisi dewisol. Byddai'n well o lawer gennym gael cytundeb, ond dim ond drwy fod yn barod i adael heb gytundeb y mae unrhyw obaith o gael cytundeb gweddus.

Wel, nid wyf yn siŵr fod pawb yn eich plaid yn credu hynny, ond diolch am yr ymyriad.

Deuwn at y ddadl hon hefyd gan wybod y gall sicrwydd ariannol newid dros nos. Mae sefydlogrwydd ariannol prifysgolion yn dibynnu ar hyn, yn enwedig mewn perthynas â benthyca. Nawr, deallaf fod Cyngor Addysg Uwch Cymru yn chwarae rôl reoleiddiol yn hyn o beth ac yn y pen draw, ni fyddai benthycwyr yn fodlon benthyg o gwbl o dan amgylchiadau o ddiffyg hyder sylfaenol mewn rhai prifysgolion. Ond dylem gyfaddef hefyd fod lefel benthyca rhai o brifysgolion Cymru yn uchel o gymharu â'r incwm cyffredinol. Mewn sefyllfa o sioc economaidd neu ddirywiad sydyn a difrifol yn nifer y myfyrwyr, pa mor agored i niwed ydym ni? Beth am sefyllfa lle mae benthyciadau sy'n cael eu rhoi gan ddisgwyl incwm cyson yn deillio o ffioedd a benthyciadau myfyrwyr yn cael eu heffeithio gan ostyngiad mewn ffioedd ac incwm rhagamcanol? Sut y bydd hyn yn effeithio ar rai prifysgolion yng Nghymru? Dyma'r gwirioneddau y mae angen inni fynd i'r afael â hwy. Mae'r cwestiynau hyn ac eraill yn sail i pam y credwn fod angen inni gael adolygiad llawn o sefydlogrwydd ariannol a chynaliadwyedd y sector cyfan, a hynny ar frys.

Cyhoeddwyd adolygiad Diamond ym mis Medi 2016, ac mae elfennau ohono nad ydynt yn weithredol eto, ac nid yw ei oblygiadau ariannol llawn wedi'u teimlo eto. Ond clywaf gan lawer o'r sectorau nad yw'r difidend Diamond fel y'i gelwir yn mynd i fod yn ateb i bob dim—nid yw'n mynd i allu lliniaru llawer o'r problemau ariannol a wynebir yn awr, oherwydd bod y dirwedd y cynhyrchwyd Diamond arni eisoes wedi newid.

Yn fy marn i, rydym yn dal i fod yn bell o brofi effeithiau Brexit. Os daw Boris Johnson yn Brif Weinidog, sy'n ymddangos yn fwyfwy tebygol, beth fydd effeithiau hynny erbyn mis Hydref, pan fydd wedi addo gadael yr UE doed a ddelo? Sut y bydd statws gynyddol faeddedig a chwerthinllyd Prydain dramor yn effeithio ar recriwtio rhyngwladol a brand prifysgolion Cymru? Rydym eisoes yn gwybod bod rhagweld Brexit ynddo'i hun a'r anhrefn cyn inni adael hyd yn oed wedi achosi gostyngiad mawr yn niferoedd y myfyrwyr o'r UE.

Rydym yn profi newidiadau demograffig a chystadleuaeth gynyddol o Loegr. Mae tua 40 y cant o fyfyrwyr Cymru yn gadael Cymru i astudio mewn man arall, gan waethygu ein draen dawn a hyfywedd ein sector addysg uwch, a chredaf fod angen mynd i'r afael â hyn. Mae adolygiad Augar yn mynd i olygu y bydd angen newid rhannau o adolygiad Diamond hefyd, ac os bydd y newid hwnnw'n arwain at newid Llywodraeth, mae angen inni ddeall sut y mae'r dirwedd honno'n effeithio ar Gymru, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n dweud wrthym sut y bwriadant ymateb i'r adolygiad penodol hwnnw.  

Ac i ddod at rai agweddau ar y cynnig a gyflwynwyd gennym a'r gwelliannau, yn amlwg ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth. A deallaf y bydd Gweinidog addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, gyda'u record ar addysg, yn enwedig addysg uwch yn ystod Llywodraeth gymblaid y DU, am geisio bod yn hunanglodforus. Ond rwy'n meddwl bod hyn yn rhy bell ac nid yw'n cydnabod yn ddigonol pa mor ddifrifol yw'r mater hwn. Byddwn yn cefnogi gwelliant 4 gan Darren Millar.

Credwn fod angen adolygiad ehangach o drefniadau llywodraethu yn y sector addysg uwch yng Nghymru, a bydd fy nghyd-Aelod, Helen Mary Jones, yn trafod hynny ymhellach. Nodaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yr wythnos diwethaf ynglŷn â'i llythyr cylch gwaith i CCAUC, ond yn bersonol ni allwn ddod o hyd i gyfeiriad penodol at gynnal adolygiad yn y llythyr hwnnw. Ond ar ôl i fy ymchwilwyr ffonio CCAUC, maent wedi dweud eu bod yn cynnal adolygiad cyffredinol o'r trefniadau, felly efallai y gall y Gweinidog, yn ei hymateb i'r ddadl hon, ddweud beth yn benodol y bydd hynny'n ei olygu mewn perthynas â llywodraethu, a sut y bydd yn ymateb i'r adolygiad hwnnw.

Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ymdrin â sgandal cyflogau is-gangellorion o'r diwedd. Mae'n hollol hurt fod is-gangellorion yn cael mwy o gyflog na'r Prif Weinidog. Ceir trefniadau ar waith yn yr Alban sy'n helpu i ymdrin â'r materion hyn, ond ni welaf unrhyw reswm pam na all Cymru fynd i'r afael â hyn yn ogystal. Rydym hefyd yn falch o gefnogi galwadau a glywyd ers amser maith gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ac eraill i staff a myfyrwyr gael chwarae rhan lawn yn y strwythurau ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn prifysgolion, ac ni fyddai hyn yn syndod o gwbl fel cyn swyddog sabothol. Nid yw'r drefn fel y mae yn ddigonol bellach. Yn ein barn ni, mae angen strwythur mwy cynhwysol wedi'i gosod yn y gyfraith a dull partneriaeth gyfan o ymdrin ag addysg uwch yn gyffredinol.

Yn y pen draw, credwn fod prifysgolion yn hanfodol i wead bywyd Cymru ac i'n heconomi. Ceir cymunedau, trefi a dinasoedd cyfan sy'n llawer iawn cyfoethocach o ganlyniad i'w presenoldeb. Ond rydym yn gweld cymylau ar y gorwel ac yn ein barn onest ni—mae pawb ohonom yn onest yr wythnos hon, onid ydym—mae'n rhaid i ni gydnabod hyn o ddifrif ac rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn ei gydnabod hefyd.

Rydym wedi codi'r materion hyn mewn nifer o fforymau yn y gorffennol, a dywedwyd wrthym am beidio â phoeni cymaint. Rwyf fi ac eraill yn credu bod angen mwy o weithredu a hynny ar frys. Credwn hefyd, fel y gelwais amdano yn y gorffennol, fod y sector hwn yn ddigon mawr i gyfiawnhau cael Gweinidog ar wahân ar gyfer addysg uwch. Wrth edrych ar y tirlun ôl-16, diwygiadau arfaethedig y Gweinidog i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, credaf y byddai hyn yn cyfiawnhau gweithgarwch uniongyrchol gan Weinidog ar wahân.

Felly, fe ailadroddaf: sector sy'n wynebu bygythiadau ariannol parhaus a gostyngiad yn y niferoedd; sector a allai fod yn rhy agored i fenthyca mewn rhai meysydd; prifysgolion sy'n cyfyngu ar faint eu campysau a'u presenoldeb mewn rhai ardaloedd o Gymru. Ac mae gennym bobl yn gweithio mewn sector sy'n dweud wrthyf fi ac eraill nad yw tryloywder yn ddigon, nad yw llywodraethu'n ddigon cynhwysol ac nad yw'n darparu'r lefel o oruchwyliaeth, gweledigaeth na chyfeiriad cryf sydd eu hangen yn ddybryd ar y sector. Efallai y byddai'n beth da i'r rheoleiddiwr ganolbwyntio ar y pryderon hyn yn hytrach nag ymgysylltu â mi'n gyson ynglŷn â'r hyn a all, a beth na all y Gweinidog ymateb iddo yn y Siambr hon. Dywed y Gweinidog, a bydd yn dweud eto heddiw mae'n siŵr, fod y prifysgolion yn annibynnol, ac rydym yn deall hynny. Ond credwn y gellir cael mwy o ddisgwyliadau, ysgogiad a gweledigaeth o ran canlyniadau a ffefrir. Mae angen i bawb yng Nghymru, yn enwedig myfyrwyr a staff yn y sector addysg uwch, fod yn gwbl hyderus yn awr ar gyfer y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae arnaf ofn nad ydynt.

17:30

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig, ac, os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod:

a. bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol;

b. yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y bobl ifanc 18 oed;

2. Yn croesawu:

a. bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol;

b. bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon;

c. bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu;

d. mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr.

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwynt 3.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ym mhwynt 4, dileu 'yn amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn ddim mwy na phum gwaith enillion canolrifol' a rhoi yn ei le 'yn cynnwys amodau i fynd i'r afael â chyflogau gormodol is-ganghellorion ac uwch arweinwyr'.

Gwelliant 4—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r wybodaeth am y sefyllfa ariannol y mae'n ei hystyried o ran y sector addysg uwch cyn cytuno ar ddyraniad cyllideb flynyddol y sector.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Diolch yn fawr i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon, Lywydd. Cynigiaf ein gwelliannau.

Er nad ydym yn cytuno â phopeth yn y cynnig, mae yna gryn dipyn yr ydym yn cytuno ag ef, a dyna pam y gallwch weld sut rai yw ein gwelliannau. Ni allwn dderbyn yr hunanfodlonrwydd sy'n gynhenid yng ngwelliant Llywodraeth Cymru chwaith, oherwydd mewn gwirionedd, maent yn iawn i gydnabod bod prifysgolion yn annibynnol ac yn hunanlywodraethol; dyna pam na allwn gefnogi'r ymagwedd fwy ymyraethol yn rhannau o gynnig Plaid Cymru. Ond mae sefydliadau addysg uwch yn cael arian cyhoeddus, a dylent fod yn gwbl atebol amdano, ac yn atebol nid yn unig am y gwariant, ond am effeithiolrwydd y gwariant hwnnw. Rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn ystyried bod atebolrwydd yn cynnwys sicrhau bod prifysgolion yn esbonio sut y cyfrannodd gwario'r arian hwnnw, ein harian ni, at werth darlun mwy, nid dim ond yr hyn y gwariwyd yr arian hwnnw arno. Ac mae angen gofyn cwestiynau, megis: beth fyddai wedi'i golli pe na bai Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi, drwy gyfrwng llwybrau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru neu lwybrau eraill? Pa ffynonellau arian eraill a allai fod wedi bod ar gael ar gyfer y gwaith? Faint y gallai prifysgol ei godi ei hun? Felly, yng ngwelliant 4, rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym beth y mae'n ei ystyried ynglŷn â chyllid y sector ei hun cyn pennu ei dyraniad cyllidebol blynyddol, sy'n mynd law yn llaw, rwy'n credu, â phwynt 2 yn y cynnig. Os yw'r sector yn wynebu'r trafferthion y byddai cywair y ddadl hon eisiau i ni ei gredu, mae angen inni graffu lawn cymaint ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ag ar benderfyniadau'r sefydliadau addysg uwch eu hunain, os nad yn fwy.

Wrth gyflwyno un gwelliant yn unig, Weinidog, rydych wedi ein gorfodi mewn gwirionedd i dderbyn neu wrthod y cwbl. Felly, mae arnaf ofn fod yn rhaid i ni wrthod y cyfan, nid yn lleiaf oherwydd y gallai'r Alban ddadlau dehongliad gwahanol o'ch pwynt 2a, ac efallai y bydd prifysgolion am herio eich asesiad o'u setliad ym mhwynt 2b. Efallai yr hoffwn eich gwthio ymhellach hefyd ar allu ymrwymo i'r hyn sy'n swnio ychydig yn debyg i gyllidebu aml-flwyddyn ar gyfer CCAUC. Ond yn rhyfedd iawn, ni allwn wneud hynny ar gyfer ysgolion. Ond gadawaf y cwestiwn hwnnw ar gyfer dadl yn y dyfodol.

Gan droi yn awr at y cynnig ei hun, mae'r heriau sy'n wynebu'r sector addysg uwch yr un mor gyffrous ag y maent yn frawychus. Mae'n wir fod rhai darparwyr yn y sector yn gwneud toriadau; maent yn aildrefnu cyllid. Maent wedi lleihau'r diffyg o gryn dipyn, a dylid eu llongyfarch am hynny, oherwydd cydnabyddwn fod lefel yr arian cyhoeddus sy'n mynd i'r sector wedi bod yn anodd iawn i sefydliadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf—yn rhy anodd, efallai, yn 2016-17. Ond i fynd yn ôl at y pwynt, mae prifysgolion yn gyrff preifat a dim ond hyn a hyn o gwyno y gallant ei wneud am arian cyhoeddus. Gwnaf yr un eithriad hwn, oherwydd, pan ddaw'n fater o ymchwil, credaf fod gostyngiad ymddangosiadol yn y cyllid gan y Llywodraeth yn dweud rhywbeth am hyder y Llywodraeth, a gall hynny beryglu enw da cyfadran, heb sôn am sefydliad cyfan, am waith gwreiddiol neu weithio mewn partneriaeth.

Mae nifer y rhai 18 oed wedi gostwng. Mae gofynion economïau byd-eang yn newid yn gyflym. Mae myfyrwyr sy'n ysgwyddo dyled yn maddau llawer llai i gyrsiau nad ydynt yn rhoi gwerth am arian neu sy'n anatyniadol i gyflogwyr. Mae dyddiau 'graddau i bawb' Tony Blair yn cael eu disodli bellach, drwy drugaredd, gan ddiwylliant mwy synhwyrol o raddau ar gyfer y rheini a all gael mantais ohonynt, a rhywbeth arall sy'n gyfartal o ran gwerth i eraill. A rhaid i sefydliadau ymateb. Rhaid iddynt adfywio ar gyfer yr oes fodern neu fethu. Mae Diamond ac Augur yn egluro'r broblem ein bod i gyd yn talu am gyflenwad sy'n fwy na'r galw, felly mae angen i'r hyn y mae prifysgolion yn ei gyflenwi newid.

Mae'r ddwy brifysgol yn fy rhanbarth wedi cael eu gweddnewid dros y cyfnod y bûm yn Aelod Cynulliad, gan ddod ag awyrgylch uchelgeisiol i Abertawe. Ac yn awr mae'n ddigon posibl y byddwn eisiau archwilio pa mor ddoeth oedd hi i wneud hynny ar yr amcanestyniad o gynnydd yn y niferoedd ar adeg o ostyngiad demograffig, neu a oedd adeiladu uchelgais ar yr addewid o gyllid heb ei sicrhau—. Rwy'n sôn am y fargen ddinesig yma. Ond nid wyf yn credu mai CCAUC a ddylai wneud iawn am gytundebau gwael os yw cyrff llywodraethu'n gwneud llanastr o hynny, a dyna pam y ceir y newid yn ein hail welliant.  

Ond nid yw hynny'n achub croen CCAUC, a dyna pam nad ydym wedi herio pwynt 5 y cynnig, sy'n galw eich blyff, Weinidog, ym mhwynt 3 eich gwelliant. Mae angen i lywodraethu adlewyrchu dyheadau sy'n newid—yn fewnol ar gyfer sefydliadau ac ar gyfer CCAUC. Ac os nad yw rhywbeth yn iawn, a bod angen mwy o bwerau neu fwy o atebolrwydd ar CCAUC i helpu i gadw'r ddysgl yn wastad o fewn y sector, yna ni ddylem anwybyddu'r agoriad hwnnw.

Rwy'n credu bod is-gangellorion da yn hanfodol i lwyddiant prifysgolion—a dyna pam nad ydym yn derbyn pwynt 4 y cynnig—ond nid yw is-gangellorion barus yn helpu enw da sefydliadau chwaith, ac mae hynny'n rhywbeth sydd angen i sefydliadau ei ystyried.

Ond hoffwn orffen ar rôl Llywodraeth Cymru yma, oherwydd mae ganddi rôl ddifrifol yn hyn o beth, ac mae'n ymwneud â mwy nag arian fel y cyfryw. Pe bai'n gallu symud ymlaen gyda phrentisiaethau gradd, gallai prifysgolion ddechrau cynnig y rheini a chael gwared ar fwy o gyrsiau nad oes neb eu heisiau mwyach. Os oes ganddynt hyder yn y trefniadau llywodraethu, efallai y gallent gyflymu'r broses o gymeradwyo bargen ddinesig bae Abertawe, gwneud rhai o'r taliadau sy'n ddyledus. Byddai hynny'n dangos bod rhai o'r risgiau hyn yn werth eu cymryd. Dangoswch ychydig mwy o ffêr, efallai, mewn perthynas ag adolygiad Reid, oherwydd credaf fod ein prifysgolion yn dal i allu arwain y ffordd i ni fod yn genedl arloesi, sy'n gwybod beth y mae'n ei wneud ar yr economi.

17:35

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n arbennig o falch o gael cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, er y byddai'n dda gennyf, fel Bethan Sayed, pe na baem yn gorfod ei chyflwyno. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod, tan yn ddiweddar iawn, yn cael fy nghyflogi gan un o'n prifysgolion, ac roedd hwnnw'n sicr yn brofiad da iawn i mi, fel y mae i lawer.

Hoffwn ddechrau gyda'r hyn y credaf y gallwn i gyd gytuno yn ei gylch. Gall pawb ohonom gytuno ynglŷn â phwysigrwydd prifysgolion i'r cymunedau y maent wedi'u lleoli ynddynt, i ni fel cenedl, i'r economi. Maent yn fforymau dadl, maent yn fforymau lle cyflwynir syniadau annibynnol, maent yn cynhyrchu ymchwil o'r radd flaenaf, ac wrth gwrs maent yn addysgwyr, ac nid yn unig ar gyfer pobl ifanc, ond ar gyfer pobl ifanc yn bennaf. Mae gan ein sector addysg uwch lawer y gall ymfalchïo ynddo. Ond rwy'n credu y gall pawb ohonom gytuno bod y sector o dan bwysau hefyd.

Y cwestiwn sydd ger ein bron y prynhawn yma yw beth y gellir ei wneud. Rydym wedi cyflwyno'r ddadl hon oherwydd mai ymateb y Llywodraeth bresennol yn ôl pob golwg yw 'Nid oes dim i'w wneud', ac adlewyrchwyd hynny yn eu gwelliant, sy'n dweud wrthym fod popeth yn iawn. Mae prifysgolion yn annibynnol, medd y Llywodraeth wrthym, felly gadewch iddynt fwrw iddi. Yr hyn a ddeallwn o hynny, o bosibl, yw 'Gadewch iddynt suddo neu nofio', ac nid ydym ni ar y meinciau hyn yn meddwl bod hynny'n ddigon da, ac nid yw'r myfyrwyr, teuluoedd myfyrwyr, na'r gweithwyr mewn prifysgolion sy'n siarad â ni yn credu ei fod yn ddigon da.  

Mae'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn argymell ffyrdd ymarferol o fynd i'r afael â rhai o'r pryderon ynghylch llywodraethu a'r pryderon ynglŷn â sefydlogrwydd a hyfywedd hirdymor y sector pwysig hwn. Hoffwn gyfeirio'n fyr heddiw, Lywydd, at ddwy enghraifft benodol, enghreifftiau cyfredol, sy'n dangos pa mor wir yw ein pryderon. 

Ni fydd neb yn synnu fy ngweld yn pwyso eto ynglŷn â'r pryderon gwirioneddol ddifrifol ynghylch llywodraethu yn Abertawe. Rydym wedi ei godi yma droeon ac nid fi yw'r unig un. Rydym wedi gweld staff uchel iawn yn cael eu hatal o'u swyddi mewn modd eithriadol, prosesau disgyblu nad ydynt gam yn nes at fod yn glir nac yn dryloyw nac wedi'u datrys nag yr oeddent bron naw mis yn ôl; gwelwn yn awr fod yna broblemau difrifol yn codi gydag adroddiadau ariannol. Ni cheir tryloywder. Nid yw myfyrwyr yn gwybod beth sy'n digwydd ac nid yw'r staff yn gwybod beth sy'n digwydd.  

Wedi inni godi hyn o'r blaen, gofynnodd y Gweinidog inni dderbyn ei gair fod CCAUC yn mynd i'r afael â'r mater. Wel, naw mis yn ddiweddarach, os oeddwn yn credu hynny naw mis yn ôl, nid wyf yn ei gredu yn awr, ac rwy'n dal i fod ymhell o gael fy argyhoeddi. Y pwynt cyffredinol yw y gallai rhywbeth fel hyn ddigwydd yn unrhyw un o'n sefydliadau addysg uwch, oherwydd, er ei bod yn hanfodol iddynt fod yn annibynnol a bod eu rhyddid academaidd yn cael ei ddiogelu ac nad ydym am iddynt fod yn gwbl atebol i Lywodraeth—ni fyddai neb am weld hynny—mae'r trefniadau llywodraethu ym mhob un o'r sefydliadau hyn yn hynafol, maent yn anhryloyw. Mae'n aneglur iawn beth yw pwerau llys y brifysgol pan all uwch reolwyr y brifysgol, fel y gwnaethant yn Abertawe, barhau i ganslo cyfarfodydd y llys. Nid oes neb a all eu dwyn i gyfrif. Mae ein trefniadau llywodraethu presennol, Lywydd, yn seiliedig ar y dybiaeth o ganol y ganrif ddiwethaf fod pawb sy'n gweithio yn y sector hwn yn hen fois da yn y bôn ac y gellir ymddiried ynddynt a dibynnu arnynt i ymddwyn yn anrhydeddus. Wel, byddai'n dda gennyf pe bai hi felly, ond mae'r castiau sy'n digwydd yn Abertawe yn dangos yn glir fod rhai o'r bobl sydd mewn grym ymhell iawn o fod yn hen fois da.  

Mae arnom angen trefniadau llywodraethu cadarn a thryloyw ar gyfer ein prifysgolion sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac fel y dywedodd Suzy Davies, ar gyfer y sefydliadau mawr iawn y soniwn amdanynt yn awr sy'n cyflogi cannoedd a miloedd o bobl, yn ymdrin â miloedd ar filoedd o fyfyrwyr. Mae angen y trefniadau cadarn hynny arnom i sicrhau bod lleisiau myfyrwyr a staff yn cael eu clywed yn glir yn y prosesau hynny ac mae angen mwy o gysondeb ar draws sefydliadau. Mae hyn, i mi, yn hollbwysig os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â gwrthsefyll y dull Seisnig o farchnadeiddio'r sector, fel y dywed ei bod.  

Felly, hoffwn gyfeirio'n fyr at un enghraifft gyfredol iawn o ansefydlogrwydd ariannol a'r peryglon y mae hynny'n eu creu, ac rwyf am dynnu sylw yma at yr anawsterau sy'n wynebu Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Rwyf am ganolbwyntio'n fyr i ddechrau ar enghraifft prifysgol Llanbedr Pont Steffan, fel yr oedd, sefydliad sy'n annwyl iawn i lawer o bobl. Nid oes llawer ohonom yn sylweddoli mai dyma'r pedwerydd sefydliad addysg uwch hynaf yng Nghymru, Lloegr a'r Alban; roeddwn yn ceisio gweld a oedd hynny'n wir ar draws yr ynysoedd hyn, ond nid oeddwn yn gallu cael y dyddiad ar gyfer Dulyn. Mae'n hanfodol i'w chymuned. Mae'n chwarae rhan enfawr, er ei bod wedi lleihau, ac mae llawer o fy etholwyr wedi cysylltu â mi yn poeni'n wirioneddol. Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr a nifer y staff dros y blynyddoedd, ac mae rhai pobl yn cysylltu â mi sy'n cwestiynu ymrwymiad hirdymor y Drindod Dewi Sant fel sefydliad i gampws Llanbedr Pont Steffan.

Mae etholwyr yn poeni'n fawr hefyd am effaith bosibl yr anawsterau hyn ar y gwasanaethau addysg bellach a ddarperir gan Goleg Sir Gâr. Dyma enghraifft o'r ffordd y mae'r sefydliadau hyn wedi tyfu, a grwpiau o sefydliadau ydynt a rhaid iddynt gael trefniadau llywodraethu sy'n gweithio yn y cyd-destun hwnnw. Rydym yn wynebu risgiau i'n sector addysg bellach ar draws Sir Gaerfyrddin oherwydd problemau ariannol mewn rhannau eraill o sector Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, oherwydd bod y coleg yn rhan o'r grŵp hwnnw. Dyma enghraifft o sut y gall gwendid y prifysgolion yn ariannol gael effeithiau posibl y tu hwnt i'w ffiniau eu hunain.  

Mae fy etholwyr yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddwyn y brifysgol i gyfrif am y problemau hyn a bod yno i'w chefnogi. Rhaid imi ddweud, yn anffodus, fy mod yn cyd-fynd yn llwyr â Bethan Sayed nad yw gwelliant y Llywodraeth yn ddim ond nonsens hunanglodforus. Os yw'r Gweinidog yn credu o ddifrif nad oes problemau difrifol yn ein sector addysg uwch, mae'n amlwg nad yw'n byw yn yr un wlad ag rwy'n byw ynddi. Mae'n gofyn i ni gredu bod popeth yn iawn. Mae'r staff yn y prifysgolion yn gwybod nad ydyw, mae'r myfyrwyr yn gwybod nad ydyw, mae'r cymunedau lle mae'r prifysgolion hynny wedi'u lleoli yn gwybod nad yw popeth yn iawn. Pwysaf ar y Senedd i wrthod pob un o'r gwelliannau ac eithrio gwelliant 4 a chefnogi'r cynnig fel y mae, i sicrhau dechrau newydd a dyfodol diogel i'r sefydliadau hollbwysig hyn.  

17:45

Mae'r sector addysg uwch, fel y gwyddom, yn chwarae rhan allweddol a hanfodol ym mywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru, ac felly mae cynnal a datblygu sector addysg uwch bywiog a llwyddiannus yn ganolog i weledigaeth Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu system addysg o safon fyd-eang. Yn anffodus, mae addysg uwch yng Nghymru, yn debyg i weddill y DU, yn wynebu pwysau ariannol sylweddol. Mae gostyngiad yn nifer y rhai 18 oed yn ogystal ag ansicrwydd rhyngwladol ynghylch Brexit hefyd wedi gwaethygu'r pwysau. Mae'n bwysau go iawn. Mae toriadau Llywodraeth Dorïaidd y DU a orfodir ar Gymru yn arwyddocaol hefyd. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi gostwng £800 miliwn mewn termau real, o gymharu â 2010-11. Ac er gwaethaf yr heriau enfawr hyn a achoswyd gan gyni'r Torïaid, mae cyllid i addysg uwch Cymru wedi cynyddu dros £250 miliwn ers 2012 mewn gwirionedd.

Gan gydnabod maint y buddsoddiad cyhoeddus hwnnw'n llwyr, a yw'r Aelod yn cytuno â mi fod heriau gwirioneddol yn wynebu'r modd y llywodraethir addysg uwch?

Cytunaf yn llwyr fod pwysau gwirioneddol a heriau gwirioneddol, ond nid y sector addysg uwch yn unig, o gofio pwnc y ddadl hon, sy'n eu hwynebu.  

Mae'r diwygiadau radical y mae'r Llywodraeth hon a arweinir gan Lafur Cymru wedi'u rhoi ar waith mewn ymateb i adolygiad Diamond yn radical a byddant yn creu setliad ariannu cryf a chynaliadwy. Bydd y dull radical a blaengar hwn hefyd yn golygu bod myfyrwyr yn cael gwell cefnogaeth. Felly, gwrandawsom ar bryderon myfyrwyr ynghylch costau byw, ac felly ni fydd y wlad gyntaf yn Ewrop i ddarparu cymorth ar gyfer costau byw sy'n gyfwerth mewn grantiau a benthyciadau i israddedigion amser llawn a rhan-amser, gan ein bod wedi gwrando, wedi clywed ac wedi gweithredu.

Ac er bod Llywodraeth y DU wedi torri'n ôl ar grantiau i fyfyrwyr Lloegr, mae Cymru wedi symud ymhellach ac wedi sicrhau cymorth i fyfyrwyr o gartrefi ar incwm aelwydydd is, ac mae hyn hefyd yn iawn. Mae gan Lywodraethau Llafur record anrhydeddus o ehangu addysg uwch, agor sefydliadau newydd, sefydlu'r Brifysgol Agored a gwella mynediad i bobl o bob cefndir. Ac yma yng Nghymru, gyda'r gyfres barhaus o ddiwygiadau Diamond, rydym yn parhau â'r llwybr a'r traddodiad radicalaidd hwnnw.

Ond wrth gwrs, i ymateb i ymyriad Helen Mary, rhaid inni hefyd gydnabod bod pwysau gwirioneddol o fewn y sector, yn enwedig y pryderon ynghylch colli swyddi a chynaliadwyedd rhai sefydliadau, ac mae hynny'n ofid mawr i lawer. Ond mae hefyd yn iawn fod Llywodraeth Cymru wedi galw ar brifysgolion Cymru i ddod yn gyflogwyr cyflog byw, a hoffwn bwysleisio hynny'n fawr.  

Felly, Weinidog, hoffwn ofyn pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i staff sefydliadau ac undebau llafur ynghylch effaith y colli swyddi a gyhoeddwyd gan sefydliadau yng Nghymru. Ac o ran y goblygiadau a ragwelwyd yn sgil Brexit i sefydliadau addysg uwch Cymru, yn enwedig Brexit 'dim bargen' trychinebus, pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar waith i gefnogi sefydliadau drwy'r cyfnod anodd hwn i'r sector ac o ganlyniad, i economi Cymru?  

Yn sicr, mae sefydliadau addysg uwch cryf yn bwysig yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol o ran cyfrannu at ein llewyrch ni fel cenedl. Dwi am siarad am impact economaidd addysg uwch yn bennaf. Mae'n digwydd ar nifer o lefelau, ac mi ddylai'r problemau a'r argyfwng rydym ni'n eu hwynebu yn y sector ar hyn o bryd fod yn canu larymau yn uchel iawn ynglŷn â'r peryglon economaidd. 

O ran y cyfraniad economaidd i'r ardaloedd mae'r prifysgolion ynddyn nhw, yn gyntaf, rydym ni'n sôn mwy a mwy, fel y dylem ni, am werth yr economi sylfaenol—y foundational economy—ac yn y cymunedau a'r rhanbarthau y mae'r prifysgolion yn gweithio o'u mewn nhw, maen nhw'n rhai o'r cyfranwyr mwyaf at yr economïau sylfaenol hynny. Rydym ni'n sôn am nifer fawr o staff, rydym ni'n sôn am gyflogau da i lawer o'r staff hynny—cyflogau rhy uchel, yn achos rhai is-ganghellorion, wrth gwrs, sy'n fater pwysig i fynd i'r afael â fo. Lle mae cannoedd o swyddi wedi cael eu colli'n barod, mae impact economaidd hynny i'w deimlo yn drwm. Rydym ni'n sôn am gadwynau cyflenwi yn lleol, o gynnal a chadw ystadau i fwydo staff neu fwydo myfyrwyr. Rydym ni'n sôn am gyfraniad myfyrwyr, fel y gwnes i lawer gormod ohono fo, mae'n siŵr, at economïau gyda'r nos yn eu hardaloedd. Felly, mae yna gyfraniad economaidd eang.

Mae yna gyfraniad economaidd wedyn, wrth gwrs, sy'n deillio o'r sgiliau sy'n cael eu darparu gan y sector. Mae'r unigolion yn elwa o ddysgu sgiliau drwy addysg uwch—mae cymunedau a Chymru gyfan wedyn yn elwa o hynny. Yn anffodus, dydyn ni ddim, dwi ddim yn meddwl, wedi manteisio digon ar y potensial yma. Dwi'n meddwl bod methiant i fuddsoddi mewn system addysg uwch effeithiol yn rhan o'r rheswm pam fod gennym ni ormod o bobl â sgiliau isel, a hynny'n arwain wedyn at gyflogau rhy isel. Mae yna botensial wedi cael ei gloi mewn pobl yng Nghymru sydd ddim yn cael ei ryddhau fel y gallai fo drwy addysg uwch.

Mi ddefnyddia i'r cyfle yma hefyd i sôn am y brain drain rydym ni yn ei wynebu ar hyn o bryd. I fod yn glir, dwi a Phlaid Cymru'n credu y dylai myfyrwyr o Gymru gael astudio ym mhrifysgolion gorau'r byd, i gael cyfle i fyw a gweithio dramor fel y ces i wneud. Ond mae'n rhaid i ni wynebu'r sefyllfa bod Cymru yn dioddef colled net o'n graddedigion, ac mae gweld systemau cyllido, ar y cyd efo polisi Llywodraeth—drwy, er enghraifft, y rhaglen Seren; y rhaglen honno'n arbennig—mae'n annog y brain drain yna. A pha wlad ag unrhyw hunan-barch ac uchelgais fyddai am weld ein goreuon ni yn gadael heb wneud ymdrech i geisio eu cadw nhw neu eu denu nhw yn ôl?

Os ydym ni am gefnogi myfyrwyr i fynd i ble bynnag maen nhw'n dymuno i fagu sgiliau newydd—a fel dwi'n dweud, does gen i ddim gwrthwynebiad i hynny—os ydym ni'n gyrru arian ar eu holau nhw allan o Gymru, mae'n rhaid sicrhau bod hynny ddim yn tanseilio y sefydliadau sydd gennym ni yn ariannol, sydd wedyn yn arwain at ddiffyg buddsoddiad, sy'n arwain at y peryg o ostwng safonau, sydd wedyn yn eu gwneud nhw'n llai apelgar i fyfyrwyr o Gymru, sydd wedyn yn ystyried mynd i astudio i Loegr yn lle. Mae o'n gylch dieflig na allwn ni ddim ei anwybyddu.

Allwn ni chwaith ddim jest ffarwelio efo myfyrwyr am eu blynyddoedd prifysgol heb (a) eu dilyn nhw yn ofalus iawn, eu tracio nhw i wybod ble maen nhw'n mynd, beth maen nhw'n ei wneud—ac mi fuasai'n dda gen i glywed y Gweinidog yn egluro pa system dracio, debyg, sydd mewn bodolaeth, a beth ydy nod y system honno a beth ydy'r cynllun i gadw mewn cysylltiad efo myfyrwyr—a (b) heb gynllun clir, wedyn, i'w denu nhw nôl i weithio ar ôl graddio, yn cynnwys drwy ddefnyddio cymhellion ariannol. 

Yn olaf, gwaith ymchwil cwbl allweddol ein prifysgolion ni—ymchwil, wrth gwrs, sy'n gyrru twf economaidd. Mi soniaf i am Gaerdydd; mae'r ffigurau gen i fan hyn. Fel cyfrannwr allweddol at economi Cymru, yn 2016-17, roedd y brifysgol yn cyfrannu dros £3 biliwn at economi'r Deyrnas Unedig, a dros £2 biliwn o hwnnw yn hwb i Gymru yn benodol. Mae ymchwil QR yn rhan ganolog o hyn, ond mae gwariant ar ymchwil a datblygiad yn cwympo y tu ôl i rannau eraill y Deyrnas Unedig—yn cwympo y tu ôl i'r Alban, yn sicr, yn sylweddol. Mae hynny'n effeithio ar allu Cymru i arloesi. Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru, er enghraifft, fod yn gwneud llawer mwy i ariannu beth maen nhw'n ei alw'n ymchwil arloesol, challenge-led, yn ogystal â chynnal lefel yr ymchwil safonol QR. Mi fyddai hynny, dwi'n meddwl, yn mynd rhywfaint o'r ffordd i ddad-wneud yr anfantais mae Cymru yn ei wynebu ar hyn o bryd. Yn syml iawn, os ydy Cymru am fod yn llewyrchus, mae'n rhaid i ni gael sector R&D llewyrchus yn dod drwy ein prifysgolion ni. 

Felly, i gloi, mae'n glir bod y sector addysg uwch yn hanfodol, yn allweddol i'n heconomi ni. Os na sicrhawn ni gynaliadwyedd y sector honno, rydym ni'n siŵr o dalu pris uchel iawn. 

17:50

Yn dilyn y thema a archwiliwyd gan Helen Mary Jones, ond bron yn sicr heb fod mor huawdl ag y gwnaeth hi, roeddwn am drafod trefniadau llywodraethu'r sefydliadau sy'n gyfrifol am ddarparu ein haddysg uwch. Er ein bod yn cydnabod yr argyfwng ariannol y mae'r sector addysg uwch yn ei wynebu yn awr ac yn gresynu at y colledion swyddi sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rhaid inni sylweddoli hefyd, gan ei fod yn annibynnol, fod y sector addysg uwch wedi bod yn gyfrifol am ei drefniadau llywodraethu ariannol ei hun. Mae dau gynnig, un gan Blaid Cymru ac un gan y Ceidwadwyr, wedi cydnabod y cyflogau uchel iawn a roddwyd i is-gangellorion. Rhaid i rywun ofyn: a yw hyn yn arwydd o'r mesurau rheoli ariannol cyffredinol a arferir gan y sector? Mae pob sefydliad yn y sector bellach yn rheoli symiau enfawr o arian. Pa waith craffu sy'n berthnasol i'w penderfyniadau ariannol? Mae pawb ohonom yn ymwybodol o sgandal is-ganghellor Prifysgol Abertawe, ac eto mae manylion yr ymchwiliad yn brin, ac roeddent hefyd yn hwyr yn cynhyrchu eu cyfrifon blynyddol.

Derbyniwn bwysigrwydd natur annibynnol y sefydliadau hyn, yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol, ond does bosibl na allwn graffu ar eu cywirdeb ariannol, o gofio mai CCAUC yw'r corff Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ariannu addysg uwch. Mae'r Gweinidog addysg eisoes wedi nodi sut y mae am i brifysgolion gyfrannu at genhadaeth ddinesig Llywodraeth Cymru, a deallwn fod prifysgolion Cymru yn ymateb i'r safonau y mae wedi'u gosod ar eu cyfer. Pam na ellir gwneud hyn er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol a llywodraethu da yn y prifysgolion? Rydym yn cydymdeimlo â'r anawsterau ariannol y mae prifysgolion yn eu hwynebu yn awr, ond rydym hefyd yn ymwybodol o'r angen i wneud yn siŵr fod arian cyhoeddus yn cael ei wario yn y ffordd fwyaf costeffeithiol.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y sylwadau a wnaed gan Bethan Sayed am y gostyngiad yn niferoedd myfyrwyr tramor. Yr ansicrwydd sy'n ymwneud â Brexit yn awr sy'n atal myfyrwyr rhag dod yma, a gellir gosod y bai am yr ansicrwydd yn gadarn ar y ffaith nad yw'r rhai a oedd am aros yn derbyn y bleidlais ddemocrataidd, yn enwedig gan bobl Cymru.

17:55

Diolch am dderbyn ymyriad; rwy'n gwerthfawrogi hynny. Rydych newydd ddweud mai'r rhai sydd am aros sy'n peri'r ansicrwydd. Yn dilyn y refferendwm yn 2016, digwyddodd y dirywiad bryd hynny. Felly, nid ansicrwydd ydoedd, ond ofn yr hyn y byddai gadael yn ei olygu i ddinasyddion yr UE yn y DU a'u statws addysg. Nid y rhai sydd am aros sydd ar fai; yr holl broses sydd ar fai mewn gwirionedd.

Wel, fe ymatebaf yn gyflym iawn i hynny, David. Cytunaf yn llwyr fod y broses gyfan wedi cael ei chamdrafod yn wael iawn. Ac ni fuaswn yn sefyll yma i amddiffyn y Llywodraeth Dorïaidd a'r ffordd y maent wedi ymdrin â'r mater. Diolch.

Diolch. Hoffwn ymuno â chyd-Aelodau y prynhawn yma i werthfawrogi ymdrechion ac ymrwymiad y sector addysg uwch yng Nghymru a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar fywyd sifil yn ogystal â'n heconomi. Fel y dywedodd Helen Mary, rwy'n falch fy mod wedi bod yn rhan o hynny cyn imi ddod yn Aelod Cynulliad. Bûm yn gweithio yn y sector am flynyddoedd lawer. Dros y blynyddoedd hynny, rwy'n cydnabod bod newidiadau sylweddol wedi digwydd yn y sector o ran y strwythur a'r drefniadaeth. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y myfyrwyr, y niferoedd gwahanol o ddarparwyr sydd ar gael, y ddarpariaeth—ehangu rhaglenni—ac mae'r ymchwil wedi cynyddu'n ddramatig. Mae mwy o amrywiaeth o ddarparwyr yn bodoli yng Nghymru, a gwelwyd cynnydd yn nifer y cyrsiau addysg uwch sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd mewn sefydliadau addysg bellach. Mae'n gwbl wahanol i'r hyn a oedd yn bodoli, efallai, pan adewais i wyth mlynedd yn ôl.

Nawr, un o nodweddion arwyddocaol y newid hwn yn y dirwedd oedd tueddiad i gyfuno mwy—. Bellach, gwelwn wyth prifysgol. Fe sonioch chi am Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Wel, Llanbedr Pont Steffan, coleg y Drindod a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe gyda'i gilydd oedd honno'n arfer bod—a Phrifysgol Cymru, mewn gwirionedd—ac mae'n awr yn cynnwys colegau addysg bellach hefyd. Felly, mae newid dramatig wedi bod, gyda llawer o golegau addysg bellach yn cynnig cyrsiau gradd hefyd erbyn hyn. Felly, mae'r colegau addysg bellach y soniwch amdanynt yn cynnig cyrsiau lefel addysg uwch mewn gwirionedd, cyrsiau lefel 6.

Gan brifysgolion Cymru y gwelir rhai o'r cyfraddau bodlonrwydd uchaf yn y DU, felly gadewch inni eu llongyfarch ar beth o'r gwaith a wnânt, gan fod y myfyrwyr mewn gwirionedd yn gweld darpariaeth dda a phrofiad da, ac ni fyddent yn cael y fath ganlyniadau bodlonrwydd pe na baent. Credwch chi fi, rwyf wedi bod gyda myfyrwyr yn ystod y canlyniadau hynny; gwn yn union beth y maent yn ei ddweud—maent yn ei dweud hi fel y mae. Felly, os ydynt yn rhoi canlyniad bodlonrwydd da i chi, maent yn gweld bod y prifysgolion yn cynnig rhywbeth buddiol iddynt ac maent yn hapus gyda hynny.

Nawr, nid wyf yn mynd i ochel rhag yr agweddau eraill, ond gadewch i ni hefyd gydnabod llais y myfyriwr, oherwydd ni chlywais lawer am lais y myfyriwr yn y ddadl hon. Mae'r cyfan wedi ymwneud â llywodraethu. Dof yn ôl at hynny; dof yn ôl at lywodraethu. Ond gadewch i ni siarad am y myfyrwyr a chofiwch hynny, oherwydd rwyf hefyd yn tynnu sylw at—. Rydym yn siarad am iechyd yn aml iawn; rydym yn sôn am agenda sy'n canolbwyntio ar y claf. Efallai y dylem edrych ar agenda sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr pan soniwn am addysg, ac yn enwedig addysg uwch. Ac rwy'n cydnabod, yn anffodus, yr heriau o ran llywodraethu ac agweddau ariannol sefydliadau addysg uwch sy'n bodoli heddiw, ond nid ydynt yn newydd, yn anffodus. Cofiaf fod yn swyddog undeb llafur pan oedd Athrofa Abertawe ar y pryd dan fygythiad o gael ei chau neu ei throsfeddiannu i bob pwrpas yn sgil cwestiynau ynghylch llywodraethu a safonau academaidd.  

18:00

Rwy'n ddiolchgar iawn i David Rees am gymryd yr ymyriad. Rydych newydd sôn cymaint y mae'r sector wedi newid a faint yn fwy yw'r sefydliadau bellach. Rydych wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw'r problemau llywodraethu hyn yn newydd. A fyddech yn cytuno ei bod yn bryd gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r problemau hynny yn awr gan nad ydynt yn newydd?

Wel, roeddwn yn mynd i ddod at rai o’r pryderon sydd gennyf ynghylch llywodraethu, ac rwy'n cytuno bod angen mwy o dryloywder yn y trefniadau llywodraethu a mwy o gyfranogiad gan staff a myfyrwyr. Ac ni ddylid byth eu rhwystro rhag cymryd rhan yng nghyfarfodydd pa gorff llywodraethu bynnag ydyw, gan fy mod yn cofio bod yn aelod o undeb llafur ar gorff llywodraethu ac ni chawn fynd i rai cyfarfodydd gan y teimlid nad oedd hynny’n briodol. Nawr, mae'n rhaid rhoi'r gorau i hynny; rhaid i'r trefniadau llywodraethu fod yn agored, rhaid iddynt fod yn dryloyw, a rhaid i'r lleisiau hynny gael eu clywed yn gliriach ac yn uwch. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r agwedd honno.

Rydym i gyd yn cofio, o ran yr agweddau ariannol, fod prifysgolion yn cael eu harian o wahanol ffynonellau. Siaradodd yr Aelod o Blaid Brexit am CCAUC. Nid CCAUC yw'r prif gyllidwr mwyach. Flynyddoedd lawer yn ôl, fe stopiodd fod yn brif gyllidwr. Dyna fel oedd hi’n arfer bod. Roedd yr holl arian addysgu'n arfer dod gan CCAUC, ond nid yw'n gwneud hynny mwyach; daw drwy ffioedd myfyrwyr. Felly mae wedi cael ei newid; ffioedd myfyrwyr, grantiau a phrosiectau ymchwil a datblygu, gweithgareddau masnachol—na foed inni anghofio'r gweithgareddau masnachol y maent yn eu cyflawni—dyna ydyw bellach, a daw cyfran lai o arian cyhoeddus drwy gronfeydd CCAUC bellach. Maent yn llawer iawn llai nag yr arferent fod. Maent yn dibynnu ar niferoedd myfyrwyr. Mae prifysgolion yn dibynnu ar hynny mewn gwirionedd, gartref a thramor, ac mae'n destun pryder mawr ein bod yn gweld niferoedd myfyrwyr tramor yn gostwng, yn enwedig o'r UE, gan fod hynny bob amser wedi bod yn gymorth. Oherwydd er eu bod yn talu ffioedd cartref—[Torri ar draws.] Am funud bach. Er eu bod yn talu ffioedd cartref o’r UE, roeddent yn niferoedd, roeddent yn dod i mewn ac roeddent yn ychwanegu at brofiad y myfyrwyr unigol yn eu rhaglenni.

A yw'r Aelod yn cydnabod y bu cwymp sylweddol, fel y dywed, yn niferoedd y myfyrwyr o’r UE yng Nghymru, ond nad yw hynny wedi’i weld yn Lloegr? Felly, efallai fod gwersi i rai prifysgolion yn y sector yng Nghymru yn hytrach na beio Brexit o reidrwydd.

Ni allaf ateb ar y niferoedd yn Lloegr; nid wyf wedi astudio'r niferoedd yn Lloegr. Fe gymeraf eich gair, os mai felly y mae. Ond rwy'n credu mai'r hyn a welwn yw bod perthynas dda iawn yn arfer bod rhyngom a llawer o sefydliadau yn Ewrop a byddai myfyrwyr yn dod draw. Nawr, os yw'r gostyngiad yn nifer myfyrwyr yr UE yng Nghymru yn digwydd, yr hyn sy’n rhaid ei ofyn yw 'Pam?' Ac nid yw'n digwydd oherwydd y berthynas neu'r profiad y maent yn ei gael yma ond oherwydd bod myfyrwyr yn bryderus iawn am ganlyniadau Brexit—a dyna ni—mae hynny'n ffaith. Felly, rydym wedi mynd i'r afael â hynny.

Rwyf am dynnu sylw at un peth, Lywydd, cyn i mi orffen, oherwydd nid wyf wedi siarad amdano ac rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Nid ydym yn sôn bob amser am y llwybr astudio rhan-amser. Mae'n bwysig i lawer o bobl, ac rwyf am fanteisio ar y cyfle heddiw i ychwanegu fy llongyfarchiadau i'r Brifysgol Agored ar ei hanner canmlwyddiant. Mae'r gwaith y maent yn ei wneud yn wych, ac rwy'n croesawu'n fawr y ffordd y mae Llywodraeth Cymru bellach yn cefnogi myfyrwyr rhan-amser ar eu llwybrau oherwydd mae’n llwybr arall y bu prifysgolion yn ei ddilyn. Maent yn edrych ar ehangu llwybrau yn y rhaglenni rhan-amser, ac mae hynny'n hanfodol. I ddinasyddion Cymru, rwy’n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ei groesawu a llongyfarch camau i'w ehangu i gynnwys cynifer o bobl oherwydd i bobl mewn gwaith, pobl sydd eisiau astudio rhan-amser, os yw pobl am ddychwelyd i'r gwaith, pobl sydd eisiau gwella eu rhagolygon a'u cyfleoedd, mae gwaith rhan-amser yn aml iawn yno ac rydym yn tueddu i anghofio am hynny weithiau. Ac mae prifysgolion yn rhan enfawr o hynny ac maent yn gweithio gyda cholegau addysg bellach yn ogystal i ddarparu cyfuniad o raglenni.

Lywydd, rwyf am orffen am fy mod yn gweld bod fy amser wedi hen ddod i ben, ond cytunaf fod angen inni edrych ar lywodraethu. Credaf fod cwestiwn ynglŷn â sut i sicrhau ymagwedd agored a thryloyw, ond mae rhai pwyntiau rwy’n anghytuno â hwy yn y cynnig. Rwy’n cytuno’n llwyr ynglŷn â chyflogau is-gangellorion, gyda llaw. Mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n credu bod angen i ni wneud rhywbeth yn ei gylch, ond gadewch i ni beidio ag anghofio'r buddion a gânt oherwydd byddant yn cael ffigur, ond os ydym am eu denu, mae'n rhaid i chi eu cymharu â Lloegr, yn anffodus, o fewn y farchnad gystadleuol honno. Ac os ydych chi eisiau is-gangellorion da, mae'n rhaid i ni edrych ar y sector prifysgolion cyfan ar draws y DU. Os gwnawn hynny ar gyfer Cymru’n unig, efallai na chawn bobl o’r ansawdd yr ydym ei eisiau i ddatblygu ein prifysgolion yn y pen draw.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae unrhyw gyfle i drafod a hyrwyddo ein sector addysg uwch bob amser yn rhywbeth i'w groesawu. Ac wrth siarad o blaid gwelliant y Llywodraeth, rwy'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector, gan gynnwys Brexit, y gostyngiad yn nifer y bobl ifanc 18 oed a chystadleuaeth ddomestig a byd-eang. Ond rwyf hefyd yn croesawu llwyddiant y sector ac fel y dywedodd David Rees, mae’n sector sy'n perfformio'n well na gweddill y Deyrnas Unedig o ran  bodlonrwydd myfyrwyr, ac o ran arwain yng Nghymru a ledled y DU mewn perthynas â thalu'r cyflog byw go iawn i'w staff, ac o ran y cynnydd a wnaethpwyd, gan weithio gyda CCAUC, ar dryloywder cyflogau uwch a llywodraethu cryfach. Rwyf wedi ymrwymo i lwyddiant lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ein prifysgolion. Mae ein sefydliadau yn asedau cenedlaethol sy'n uchel eu parch ym mhob cwr o’r byd, ac maent yn cyflawni hyn fel sefydliadau annibynnol sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Llywodraeth.

Nawr, efallai y bydd yn well gan eraill ar draws y Siambr hon weld prifysgolion yn gweithredu fel cangen o'r Llywodraeth. Mae'n well gennym ni eu bod yn cymryd eu lle yn dadlau a thrafod yn y parth cyhoeddus, ac yn herio a chyfrannu at feddwl y Llywodraeth er lles ein cenedl.

18:05

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. A yw wedi clywed unrhyw un ar y meinciau hyn yn awgrymu y byddem am i'r prifysgolion weithredu fel cangen o Lywodraeth? Roeddwn yn meddwl fy mod wedi dweud hynny’n gwbl glir; rydym eisiau iddynt fod yn annibynnol a yn rhydd yn academaidd, ond mae angen iddynt fod yn agored ac yn atebol.

Lywydd, mae cefnogi system addysg uwch gynaliadwy a byd-enwog yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac yn wir mae gennym fframwaith rheoleiddio statudol cadarn ar waith sy'n sicrhau ansawdd a chynaliadwyedd ariannol y sector. Ac os oes angen atgoffa rhai o’r Aelodau, pasiodd llawer o bobl yn y Siambr hon Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 a roddai bwerau ychwanegol i CCAUC er mwyn cryfhau'r trefniadau hynny, er ei bod yn ymddangos bod hyn wedi'i anghofio yma y prynhawn yma.

Nawr, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r sectorau ac eraill i hyrwyddo buddiannau ein sefydliadau addysg uwch yng nghyd-destun y DU, yr UE ac yn fyd-eang. Drwy ein diwygiadau i gyllid myfyrwyr a chyllido addysg uwch, rydym wedi darparu'r sicrwydd a'r cynaliadwyedd angenrheidiol i helpu'r sefydliadau i ateb yr heriau parhaus a ddisgrifiwyd gennym. Y system gymorth hon yw'r gyntaf yn Ewrop sy'n darparu cymorth cynhaliaeth cyfwerth ar draws yr holl ddulliau a lefelau astudio. A'r hyn na fyddaf yn ei wneud y prynhawn yma, Lywydd, yw ymddiheuro am y ffaith bod y pecyn cymorth myfyrwyr hwnnw hefyd yn mynd gyda'r myfyriwr i ble bynnag y mae'n dymuno astudio.

Ac mae'n rhaid i mi ddweud, yr agwedd fwyaf digalon ar y cyfraniadau y prynhawn yma yw'r methiant i werthfawrogi gwaith caled iawn ein cydlynwyr Seren sy'n darparu profiadau a chyfleoedd gwych i'n pobl ifanc.

A wnewch chi gymryd ymyriad? Nid yw hyn yn ymwneud â'r unigolion sy'n gyrru'r polisi ac sy’n gweithio'n galed iawn arno, ond yn hytrach â beth y mae’n ei gyflawni drwy yrru myfyrwyr allan o Gymru, gan beri draen dawn ac fel y dywedais, pa wlad a fyddai'n dymuno gwneud hynny?

Pa wlad a fyddai'n dymuno cyfyngu ar uchelgais ei dinasyddion i astudio mewn sefydliadau o'r radd flaenaf ble bynnag y maent? Byddai honno'n genedl sy'n edrych i mewn, nid yn genedl sy'n edrych tuag allan ac sydd am roi'r cyfleoedd hynny i'w myfyrwyr allu cyflawni eu potensial lle bynnag yw’r man gorau ar gyfer cefnogi'r potensial hwnnw.

Rwyf wedi gofyn cwestiynau sawl gwaith o’r blaen am gynllun Seren. A gaf fi ddweud o'r meinciau hyn ein bod yn gwerthfawrogi ymdrechion y cydlynwyr yn fawr, ac yn dymuno'n dda iddi hi a hwythau gyda llwyddiant parhaus y cynllun?

Wel, rwy'n falch fod rhywun yma’n cydnabod gwaith caled a llwyddiant y cynllun ond hefyd, ar wahân i gefnogi'r myfyrwyr hynny, mae ein pecyn cymorth i fyfyrwyr wedi gweld cynnydd enfawr yn y ceisiadau newydd ar gyfer myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig, a dyna brawf fod y diwygio’n gweithio. Mae'n cyflawni ar gyfer symudedd cymdeithasol, mae'n cyflawni ar gyfer cyfle economaidd, ac mae'n cyflawni, yn hanfodol, ar gyfer pob myfyriwr waeth beth yw eu cefndir.

Ond Lywydd, gallwn bob amser wneud rhagor, ac felly heddiw gallaf gadarnhau cynllun bwrsariaeth newydd i ddenu myfyrwyr o Gymru i wneud eu graddau Meistr yma yng Nghymru. Anelir y bwrsariaethau hyn at ddarpar fyfyrwyr graddau Meistr mewn meysydd pwnc y gwyddom fod galw mawr am gymwysterau ôl-raddedig ynddynt. Mae rhoi cymhellion i raddedigion aros yng Nghymru neu ddychwelyd i Gymru yn un o fy mlaenoriaethau ar gyfer diwallu anghenion sgiliau ein heconomi. Bydd y cynllun hwn yn cynorthwyo ein prifysgolion i gymell recriwtio myfyrwyr mwyaf talentog Cymru, yn unol â'n cynllun gweithredu economaidd, a fy ymateb i adolygiad Diamond.

Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gynyddu cyllid i CCAUC ym mhob blwyddyn o'r Llywodraeth hon, yn amodol ar y prosesau arferol. Mae'r dyraniadau a wneuthum i CCAUC ers yr etholiad diwethaf wedi cynyddu o £117.5 miliwn yn 2016-17 i fwy na £151 miliwn yn 2019-20. Bydd y cynnydd hwn yn y cyllid yn amlwg yn parhau cyhyd ag y gallwn ei wneud, ac mae'n dangos ein hymrwymiad i sefydlogrwydd hirdymor y sector yng Nghymru. A Suzy Davies, nid oes gennyf unrhyw fwriad o ddangos ychydig mwy o ffêr, nac unrhyw ran arall o fy anatomi yn wir, wrth ymateb i adolygiad Reid. Rwyf wedi sicrhau bod £6.6 biliwn ar gael i helpu i gynorthwyo sefydliadau i gyflawni'r agenda honno.

Nawr, ers i mi ddechrau gwneud y swydd hon, rwyf wedi gosod disgwyliadau clir ar gyfer y sector a CCAUC yn fy llythyrau cylch gwaith blynyddol. Rwyf wedi codi ein disgwyliadau ynglŷn â'r hyn y dylai buddsoddiad y Llywodraeth ei gyflawni o'r bartneriaeth sydd gennym â CCAUC a'r sector. Eleni, mae hyn yn cynnwys gofyn i'r cyngor, gan weithio gyda gweinyddiaethau eraill lle bo hynny'n briodol, ystyried a ddylid cryfhau trefniadau'n ymwneud ag uniondeb academaidd ac adrodd ar incwm ffioedd, ac rwyf wedi gofyn am adroddiad ar hyn. Rwyf hefyd wedi defnyddio fy llythyrau cylch gwaith i annog ymagwedd fwy agored a thryloyw mewn perthynas â chyflogau uwch-swyddogion, ond hefyd o ran cyflog cyfartal a chydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau a chamau eraill i annog arferion gwaith teg. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd o ran adrodd ar y rhain. Mae ein prosesau adrodd yn fwy tryloyw nag y maent dros y ffin, a buaswn yn gobeithio y byddai Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod gwaith y sector fel gweithredwyr dinesig, da.

Rwy'n falch o'r cynnydd a wnaeth ein sefydliadau ar dalu'r cyflog byw go iawn i'r holl staff addysg uwch a gyflogir yn uniongyrchol ac yn hollbwysig, ar ei weithredu ar draws eu gweithgarwch addysg uwch ar gontract allanol. Rwyf hefyd yn falch iawn mai prifysgolion Cymru yw'r sector cyfan cyntaf i ymrwymo i'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.

Yn hytrach na'r darlun a beintiodd rhai o'r Aelodau y prynhawn yma, rydym wedi rhoi mwy o gyfrifoldebau i CCAUC mewn perthynas â rheoleiddio ffioedd dysgu, monitro cydymffurfiaeth ag ymrwymiadau a wnaed yng nghynlluniau ffioedd a mynediad sefydliadau, ac asesu ansawdd y ddarpariaeth a sefydlogrwydd ariannol drwy fabwysiadu cod rheoli ariannol, nad oes neb wedi gweld yn dda i'w grybwyll. Yn ogystal, rwyf wedi trafod gyda CCAUC y gwaith sydd ganddynt ar y gweill i gryfhau'r trefniadau llywodraethu mewn addysg uwch yng Nghymru gan weithio gyda Prifysgolion Cymru a chadeiryddion y prifysgolion hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at ddiweddariad pan fydd y gwaith hwn wedi'i ddatblygu'n sylweddol.

Ond wrth gwrs, wrth edrych tua'r dyfodol, bydd ein diwygiadau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn sefydlu corff cyllido a rheoleiddio newydd a fydd yn goruchwylio addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau a'r chweched dosbarth. A bydd gan y comisiwn bwerau'n ymwneud â goruchwylio arian cyhoeddus a ddyfernir i brifysgolion, darparwyr addysg uwch a darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-orfodol eraill a ariennir yn gyhoeddus. Bydd hyn, wrth gwrs, yn cynnwys sicrhau cynaliadwyedd ariannol ein prifysgolion. Bydd gan y comisiwn rôl allweddol hefyd yn sicrhau bod buddiannau ein dysgwyr a'u noddwyr yn cael eu gwarchod, fod myfyrwyr yn parhau i fod â llais mewn materion sefydliadol yn ogystal â diogelu enw da sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol Cymru drwy'r dulliau rheoleiddio a fydd ar gael iddo. Ac o gofio bod brwdfrydedd mawr yn y Siambr y prynhawn yma dros ddiwygio rheoleiddiol, edrychaf ymlaen at fwynhau cefnogaeth y Siambr pan ddaw'r Bil hwn ger ein bron.

Bydd angen i brifysgolion barhau i weithredu'n dryloyw yng ngolwg y comisiwn mewn perthynas ag arian cyhoeddus, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd. Ond rwyf hefyd wedi bod yn glir ynghylch yr angen i'r comisiwn roi ystyriaeth briodol i'r angen i warchod annibyniaeth sefydliadol a rhyddid academaidd. Rhaid inni gydnabod mai cyrff annibynnol yw prifysgolion ac y byddant yn parhau i fod yn gyrff annibynnol er gwaethaf eu rôl hanfodol yn darparu gwasanaeth cyhoeddus ac yn creu gwerth cyhoeddus. Mae heriau sylweddol o'n blaenau, Lywydd, ac mae angen inni sicrhau bod gennym system a fydd yn ein galluogi i ateb yr heriau hynny, i nodi a gwneud y gorau o'r cyfleoedd sy'n codi gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn parhau i fod â sefydliadau cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n perfformio'n dda, a dyna pam y bydd y diwygiadau hynny'n cael eu gwneud gan y Llywodraeth hon.

18:10

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a wnaethpwyd ynglŷn â gradd Meistr. Er bod yn rhaid imi ddweud, bob tro y byddaf yn codi materion yn ymwneud ag addysg uwch, teimlaf fod y Gweinidog bob amser yn amddiffynnol iawn, ac rydym yn codi'r materion hyn oherwydd ein bod yn clywed pryderon, fel y dywedais ar y dechrau. Ac nid ymdrech yw hon i geisio lladd ar y sector prifysgolion, fel y caiff ei ddehongli; ein bwriad yw ceisio codi pryderon dilys am yr hyn y credwn y gall newid ac y gellir ei ddiwygio yn y sector i weddu i anghenion pobl Cymru.

Ac mae'n werth nodi mai'r sector prifysgolion sy'n ein bwydo â'r pryderon hynny y gallwn eu codi yma ar lawr y Cynulliad.

Ie, a dyna pam rydym yn cyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac nid wyf yn ymddiheuro am wneud hynny, ac rwyf am sicrhau bod y cyfan a ddywedwn wedi'i ddwyn i'n sylw gan bobl yn y sector sydd am inni leisio'r pryderon hyn ac am inni wneud hynny yn y Siambr hon.

Nid wyf yn siŵr faint o amser sydd gennyf, ond roeddwn am ddiolch i Suzy Davies am ei hymyriad mewn perthynas â bod yn adeiladol, a chydnabod y pwynt ynglŷn â pha mor bwysig yw ymchwil a'r ffaith bod lefel o hunanfodlonrwydd yn y sector addysg uwch. Mae angen inni fod yn atebol. Gwn ein bod yn anghytuno ar hynny i ryw raddau. Lle byddem yn anghytuno eto, rwy'n dyfalu, yw lle gwelsom y Ceidwadwyr yn cefnogi mwy o farchnadeiddio yn y sector addysg uwch, a chredaf mai dyna lle mae'r bai am lawer o'r problemau hyn, felly rwy'n gobeithio o ddifrif y byddwch yn codi hynny gyda'ch cymheiriaid ar lefel y DU hefyd.

Siaradodd Helen Mary Jones yn angerddol am ei phrofiadau, ac os ydych wedi gweithio yn y sector, credaf y byddwch yn gwybod yn bersonol sut y mae rhai o'r materion hyn wedi effeithio ar bobl ar lawr gwlad. Yn y pen draw, addysgwyr ydynt, a dylai pobl deimlo, beth bynnag y maent am ei astudio, eu bod yn gallu gwneud hynny heb i bobl gael eu gorfodi i feddwl am gyflogaeth cyn eu bod yn barod i wneud hynny. Maent am fynd i'r brifysgol i gael profiad o fynd i'r brifysgol.

Nid oes gennyf lawer o awydd ymhelaethu ar y materion llywodraethu yn Abertawe yma heddiw, gwn fy mod wedi eu codi ar sawl achlysur, a cheir safbwyntiau gwahanol ar yr hyn sy'n digwydd yno. Y cyfan y gwn i yw bod angen inni sicrhau bod y broses hon yn cael ei gwneud yn iawn. Clywaf ei bod yn wallus, ac mae honno'n dystiolaeth a gefais. Nid wyf eisiau iddi fod yn wallus, ond mae hynny'n rhywbeth na allaf ei anwybyddu pan fydd pobl yn dwyn hynny i fy sylw. Felly, rwy'n gobeithio'n wirioneddol fod CCAUC yn ymwybodol o'r materion penodol hyn.

A Llanbedr Pont Steffan—fe sonioch chi am Lanbedr Pont Steffan, wel, treuliais bob haf o fy ieuenctid yno pan oeddwn yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a gwn pa mor bwysig yw Llanbedr Pont Steffan yn ecosystem y prifysgolion. Mae wedi mynd o 1,500 i 350 o fyfyrwyr, ac rwy'n credu bod hynny'n drychinebus i brifysgol mor rhagorol.

Rhianon Passmore, rydych bob amser yn gwneud gwaith gwych yn amddiffyn y Llywodraeth Lafur, rhaid i mi gydnabod hynny, a'r llwybr radical y soniwch amdano. Ond hoffi hynny neu beidio, deuthum i mewn i'r byd gwleidyddol oherwydd Llafur, oherwydd cyflwyno ffioedd dysgu gan y Llywodraeth Lafur. Felly, mae'n ddrwg gennyf ond rwy'n cofio'r hyn a etifeddwyd nad yw mor radicalaidd hefyd.

I Rhun, diolch yn fawr iawn am esbonio'r impact economaidd o ran addysg uwch a chanu'r larymau yn uchel iawn ynglŷn â'r hyn sydd yn digwydd dros Gymru gyfan—pa mor bwysig yw e o ran yr economi lleol. Roeddwn i'n siarad â phobl yn y sector oedd yn dweud, 'Os byddai'r brifysgol yma yn mynd, byddai'r holl dref yn marw.' Felly, mae'n rhaid inni fod yn fyw i'r sefyllfa honno pan dŷn ni'n siarad am ddyfodol a hyfywedd y sector addysg uwch.

Achos roeddech chi'n siarad am system tracio a sut i ddenu myfyrwyr yn ôl. Ar y pwyllgor dwi'n ei gadeirio, pwyllgor yr iaith Gymraeg, roedd deintyddion wedi dod i mewn ynglŷn â rheoliadau iaith, ac roedden nhw'n dweud nad ydyn nhw'n cael deintyddion sy'n siarad Cymraeg achos maen nhw i gyd wedi mynd i Loegr i astudio. Wel, mae'n rhaid inni fod yn poeni am y broblem hon, mae'n rhaid inni geisio eu denu nhw i aros yng Nghymru i astudio yng Nghymru.

18:15

Ac os caf i wneud y pwynt, dwi'n ymwybodol o etholwyr gen i sydd eisiau astudio meddygaeth yng Nghymru sydd wedi, drwy'r system Seren, trio cael eu denu i fynd i brifysgolion yn Lloegr.

Wel, dyna pam mae gan rai ohonom ni gonsýrn ynglŷn â'r system honno, ac mae'n bwysig ein bod ni'n codi'r consýrn am y system Seren hefyd.

Nid wyf yn credu fy mod i eisiau mynd i'r afael â phryderon Plaid Brexit ynglŷn â Brexit, oherwydd gwyddom pam nad yw pobl yn dod yma—oherwydd eu bod yn teimlo nad oes croeso iddynt ac oherwydd Brexit. Gallwch ddweud mai'r rhai sydd am aros sydd ar fai hyd nes y bydd eich wynebau'n goch, ond y gwir amdani yw nad yw pobl am ddod yma oherwydd nad ydynt yn teimlo bod croeso iddynt, ac mae'n rhaid i ni berchnogi'r cyfrifoldeb hwnnw. Rwy'n adnabod pobl sydd wedi dweud wrthyf nad ydynt eisiau dod yma oherwydd y ffordd y maent yn teimlo am Brexit.

A allai'r Aelod esbonio pam eu bod yn dal i fynd i Loegr yn yr un niferoedd ag o'r blaen?

Na, oherwydd nid fy nghyfrifoldeb i yw hynny, a Llywodraeth Cymru rwy'n ei dwyn i gyfrif, felly rwyf am weld y niferoedd yn codi yma yng Nghymru. Ond y realiti yw mai dyna sut y maent yn teimlo, ar ôl siarad â phobl sydd eisiau dod i Gymru, ond sy'n teimlo nad oes croeso iddynt wneud hynny.

Yna, cawsom David Rees yn nodi pwynt da am y cynnig addysg bellach yn ogystal. Ni allwn gael y ddadl hon heb sôn bod addysg bellach yn cynnig llawer mewn perthynas ag addysg uwch.

Hoffwn ddweud fy mod wedi sôn am fyfyrwyr yn fy araith, felly credaf fod hynny'n rhan annatod o'r hyn a wnawn yng nghyswllt addysg uwch—sut y gallant deimlo eu bod wedi'u cynnwys yn llawn. Yn Abertawe ar hyn o bryd, pan nad yw'r strwythurau'n digwydd, sut y mae myfyrwyr i fod i gymryd rhan yn y sgyrsiau hynny? Pan oeddwn yn llywydd myfyrwyr, y rheini—y llys a'r Senedd—oedd y ffyrdd y gallem ymgysylltu â hwy. Byddem yn eistedd yno a byddem yn cymryd rhan. Felly mae'n rhaid i ni sicrhau nad ydynt yn cael eu tanseilio gan broblemau llywodraethu yn unrhyw un o'r prifysgolion penodol hyn.

Hoffwn obeithio nad dyma ddiwedd y ddadl ar addysg uwch. Ar ôl i mi orffen y ddadl hon rwy'n siŵr y byddaf yn cael llawer o negeseuon e-bost gan y sefydliadau addysg uwch a chan y rheoleiddwyr yn dweud nad oes unrhyw broblem, a bod popeth yn fendigedig, ac os nad yw rwy'n obeithiol y byddant yn gallu ymwneud yn adeiladol â ni yn y dyfodol yn hytrach na'n gweld yn elyniaethus o bosibl, er mai'r cyfan yr ydym am ei wneud yw gwella'r sefyllfa fel y gall pawb yma yng Nghymru ymfalchïo yn ein sefydliadau addysg uwch.

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? 

Gwrthwynebiad oedd hwnnw? Ie. Roedd yn rhaid i mi wneud yn siŵr, mae'n ddrwg gennyf.

Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod eisiau imi ganu'r gloch. Dwi'n symud yn syth i'r bleidlais, felly, ac mae'r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar y sector addysg uwch. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, neb yn ymatal, 34 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi'i wrthod. 

NDM7101 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 9, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Sy'n dod â ni at welliant 1, ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 18 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1, ac felly mae gwelliant 2 a gwelliant 3 wedi cwympo.

NDM7101 - Gwelliant 1: O blaid: 25, Yn erbyn: 18, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Gwelliant 4 yw'r bleidlais nesaf. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 4 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, felly mae gwelliant 4 wedi'i wrthod. 

NDM7101 - Gwelliant 4: O blaid: 18, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7101 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod:

a. bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol;

b. yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y bobl ifanc 18 oed;

2. Yn croesawu:

a. bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol;

b. bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon;

c. bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu;

d. mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr.

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 19 yn erbyn, derbyniwyd y cynnig. 

NDM7101 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Ni chyflwynwyd cynnig

Mae'r eitem nesaf wedi'i gohirio, ond mae angen un bleidlais eto ar atal Rheolau Sefydlog.

Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog Dros Dro

Felly, dwi'n gofyn am gynnig i atal Rheol Sefydlog 11.16 dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Dwi'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig. 

Cynnig NNDM7103 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i Ddadl Fer Dawn Bowden gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 26 Mehefin 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl Fer: Amser i sefydlu hawl gyfreithiol i dai digonol yng Nghymru

Sy'n caniatáu inni fynd i'r eitem nesaf, sef y ddadl fer, sy'n cael ei chyflwyno yn enw Dawn Bowden. Dwi'n galw, felly, ar Dawn Bowden i gynnig ei dadl fer. Dawn Bowden.

Diolch, Lywydd. Mae fy mhwnc ar gyfer y ddadl hon yn ymwneud â mater y gwn ei fod yn agos at galonnau’r Aelodau ar draws y Siambr hon, sef tai. Yn fwy penodol, rwyf eisiau cynnig y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn ystyried gwneud ymrwymiad cenedlaethol i'r egwyddor sylfaenol y dylai pob un ohonom gael hawl ddynol, wedi’i hategu gan gyfraith i gael gafael ar dai digonol.

Byddaf yn cyflwyno'r ddadl hon mewn tair rhan, os caf. Yn gyntaf, y rhesymau pam y credaf fod hawl i dai digonol yn bwysig; yn ail, ystyried y ffyrdd y gallai deddfwriaeth Cymru gynnig ffrâm i hawl o'r fath; ac yn olaf, fy nghasgliadau. Rwyf wedi rhoi munud o fy amser i David Melding a Mike Hedges, ac rwy'n ddiolchgar am y diddordeb trawsbleidiol sy'n cael ei ddangos yn y ddadl hon, fel y gwelwyd yn y cwestiwn i Weinidogion yr wythnos diwethaf.

Ym mis Mawrth eleni, ysgrifennais ddarn i Fabians Cymru yn nodi bod cartref diogel, cynnes yn allweddol i lesiant personol ac mae diffyg diogelwch o'r fath yn niweidiol i lawer o bobl yn ein cymunedau. Yn fy marn i, gallai sefydlu hawl gyfreithiol i dai digonol ein symud ymlaen ar y daith i fynd i'r afael â'r pryder hwn.

Felly, yn gyntaf, gadewch i mi nodi'r rhesymau pam fy mod yn credu bod sefydlu hawl o'r fath yn bwysig. Ar y pwynt hwn, a gaf fi ddiolch yn syth i'r sefydliadau a'r bobl sydd wedi ymroi i drafod y pwnc yn ddiweddar, yn cynnwys Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Shelter Cymru a Dr Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe? Yn wir, sbardunwyd fy niddordeb yn y syniad hwn gan erthygl fer gan Dr Hoffman a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Welsh Housing Quarterly ym mis Gorffennaf y llynedd. Rwy'n falch fy mod wedi cael fy nghynrychioli'n ddiweddar mewn trafodaeth gychwynnol ar y syniad hwn a gynhaliwyd gan Tai Pawb yn ystod hydref 2018.

Yn y ddadl heddiw, rwy'n awr yn ceisio adeiladu ar fy niddordeb cynnar, a dilyn yr adroddiad dichonoldeb a lansiwyd yn adeilad y Pierhead yr wythnos diwethaf. Gallaf weld nifer o fanteision o sefydlu hawl o'r fath. Ar ei lefel fwyaf syml, byddai'n darparu fframwaith cyfreithiol i'r camau gweithredu sydd eu hangen i ddarparu'r hawl ddynol fwyaf sylfaenol honno. Rwy'n adlewyrchu erthygl 11(1) o'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, yr hawl i gael cartref.

Ers i mi gael fy ethol i'r Cynulliad hwn yn 2016, rwyf wedi teimlo rhwystredigaeth enfawr ynghylch ystod a dyfnder problemau tai mewn cynifer o'n cymunedau. Ym Merthyr Tudful a Rhymni, fel mewn mannau eraill, gwelaf y problemau sy'n codi o ddiffyg cyfleoedd tai, problemau digartrefedd, a'r ffyrdd y mae gormod o dai yn anfforddiadwy i ormod o bobl. Mewn gwirionedd, credaf ei bod yn broblem y mae cenedlaethau olynol wedi caniatáu iddi ddatblygu, ac mae llawer o hynny'n adlewyrchiad o'r methiant yn y farchnad.

O ystyried dyfnder a chymhlethdod y problemau rydym yn awr yn ceisio mynd i'r afael â hwy, mae'n hawdd teimlo'n ddigalon ynghylch y sefyllfa dai, felly mae'n dda cael syniad cadarnhaol am hawliau tai. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n gyson i greu amrywiaeth o fesurau i fynd i'r afael â llawer o broblemau'n ymwneud â thai, ac mae'r rhain yn cynnwys: buddsoddiad i wella safonau ansawdd tai; buddsoddiad mewn tai mwy fforddiadwy; deddfwriaeth i reoleiddio landlordiaid; mabwysiadu ymateb tai yn gyntaf; gweithredu yn erbyn y modd y manteisir ar rentwyr sector preifat; arian ar gyfer adeiladu arloesol; dileu'r hawl i brynu; a'r adolygiad o'r cyflenwad tai, a gwn y bydd y Gweinidog yn ymateb i hwnnw yn y Siambr hon yn fuan. A bydd fy nghyd-Aelodau'n cofio fy mod wedi cefnogi galwadau i fynd i'r afael â throsedd rhyw am rent; rwy'n cefnogi'r alwad ddiweddar yn y Siambr hon am ddiddymu Deddf Crwydradaeth 1824; ac rwy'n cefnogi dileu adran 21 yng Nghymru, troi pobl allan heb fai arnynt hwy, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar hynny cyn bo hir. Ac er y gellir ystyried pob un o'r rhain yn bwysig, maent yn ymatebion cynyddrannol i rai o'r problemau niferus rydym yn eu hwynebu.

Felly, credaf fod natur barhaus, ddwfn ac erydol ein problemau tai bellach yn golygu bod angen i ni ystyried fframwaith gweithredu newydd. Credaf fod sefydlu hawl i dai digonol yn ffordd o oresgyn yr agwedd gynyddrannol a thameidiog honno rwyf wedi'i disgrifio. Byddai'n darparu sail newydd i gyfraith a all ysgogi newid polisi a diwylliant, a darparu ymatebion mwy effeithiol. Ymatebion mwy effeithiol a all weddnewid un o'r ffactorau allweddol niferus sy'n dylanwadu ar ein rhagolygon mewn bywyd—cartref diogel, cynnes. A chredaf fod yn rhaid i ni hefyd ystyried i ba raddau y dylai'r hawl i iawn cyfreithiol fod yn rhan o'r pecyn hwnnw o hawliau. Yn wir, pan fyddwn yn craffu ar gynnig deddfwriaethol ar y mater hwn, rwy'n siŵr mai iawn cyfreithiol fydd yn galw am yr archwiliad mwyaf gofalus.

Mae awduron yr adroddiad dichonoldeb ar yr hawl i dai digonol yng Nghymru yn gosod y gallu i gael iawn cyfreithiol yng nghyd-destun trychineb Tŵr Grenfell. I mi, mae hynny'n helpu i sicrhau gwir ddealltwriaeth o'r hyn y mae'r rhan hon o'r ddadl yn ei olygu. Oherwydd, o ystyried ein bod i gyd yn awr yn dysgu am hanes y drasiedi honno, efallai y gallwn fyfyrio ar y ffaith pe bai gan y trigolion hawl i dai digonol ac iawn cyfreithiol drwy broses y llys, y gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn wahanol.

Symudaf yn awr at ail ran fy nadl, ac fe nodaf rai ystyriaethau pwysig wrth sefydlu hawl gyfreithiol i dai digonol. Ar gyfer y rhan hon o'r ddadl, hoffwn gyfeirio'n helaeth at waith Dr Simon Hoffman, y cyfeiriais ato'n gynharach yn fy nghyfraniad. Yn y Siambr hon, credaf ein bod yn gyfarwydd â hawliau dynol a'r ffordd y maent yn sail i'n hawliau fel dinasyddion. Mae'r adroddiad dichonoldeb diweddar ar yr hawl hon yn tynnu sylw at y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, sy'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, yr hawl i dai digonol fel y crybwyllais eisoes. Felly, mae cwestiwn yn codi ynglŷn â sut y gallem ymgorffori hawl o'r fath yng nghyfraith Cymru.  

Nawr, ar y pwynt hwn, credaf ei bod yn werth nodi ein bod eisoes, yng nghyd-destun polisi a deddfwriaeth Cymru, yn gyfarwydd iawn â dull sy'n seiliedig ar hawliau. Efallai mai'r mwyaf nodedig i mi oedd y gwaith yn ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc. Ymgorfforwyd y rheini yng nghyfraith Cymru drwy gyfrwng Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Drwy'r Mesur hwn, gwyddom fod yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i hawliau dynol penodol plant a phobl ifanc. Mae hyn, wrth gwrs, yn enghraifft o ymgorffori cytuniadau hawliau dynol yn anuniongyrchol, gan nad yw Gweinidogion y Llywodraeth wedi'u rhwymo'n llawn ganddynt, ond mae'n rhaid iddynt roi sylw dyledus i'r hawliau hyn. Ac mae hynny'n wahanol i'r dull o ymgorffori'n uniongyrchol, sef y ffordd yr ymdriniodd y DU â Deddf Hawliau Dynol 1998. 

Yn achos ymgorffori uniongyrchol, mae'n aml yn golygu y gall unigolyn ddefnyddio ei hawliau dynol i geisio cyfiawnder mewn llys Prydeinig. Mae'r adroddiad dichonoldeb diweddar hefyd yn tynnu sylw at ymgorffori sectoraidd, sy'n golygu bod hawliau wedi'u hymgorffori mewn meysydd polisi penodol. Unwaith eto, mae gan Gymru brofiad o hyn drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, gall ymgorffori hawliau fod yn broses uniongyrchol, anuniongyrchol neu sectoraidd. Ac mae ymgorffori'n bwysig, gan ei fod yn cynnwys yr hawliau dynol hyn yn ein fframwaith cyfreithiol cenedlaethol. Yn dilyn ymgorffori, gellir dwyn Llywodraethau a chyrff cyhoeddus i gyfrif drwy nifer o fecanweithiau, gan gynnwys cwynion, comisiynau a chomisiynwyr. Dull o'r fath, wrth gwrs, sy'n sail i waith Comisiynydd Plant Cymru.

Felly, beth yw'r hawl y byddem yn ceisio ei chynnwys mewn perthynas â thai digonol? Wel, fel y dywedais, mae wedi'i nodi yn erthygl 11(1) y cyfamod ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, ac mae'n cynnwys, ac rwy'n dyfynnu, felly dyna pam fod yr iaith rywedd-benodol,  

'...hawl pawb i safon byw ddigonol iddo ef a’i deulu, gan gynnwys bwyd, dillad a thai digonol...'

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig wedi diffinio hyn ymhellach fel hawl i fyw mewn heddwch, diogelwch ac urddas, ac mae hyn yn helpu i osod tai yn y ffrâm fel rhywbeth sydd o bwys sylfaenol i ddynoliaeth.  

Pwynt pwysig y dylwn ei wneud ar cam hwn yw nad yw ymgorffori'r hawl gyfreithiol hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth ddarparu tai i bawb. Fel yr ysgrifennodd Ali o Tai Pawb:

Mae camsyniad poblogaidd fod yr hawl i dai digonol yn golygu bod yn rhaid i'r Llywodraeth adeiladu cartref i bob dinesydd. Myth yw hyn, wrth gwrs, mae'n ymwneud mwy â chefnogi cynnydd cymdeithasol, gyda ffocws arbennig ar y rhai mwyaf difreintiedig—

yr hyn y mae hi'n ei ddisgrifio fel gwireddu graddol. Ond byddai angen strategaeth alluogi glir a all fynd i'r afael â phroblemau tai yn raddol. Yn wir, mae noddwyr yr adroddiad dichonoldeb diweddar yn cefnogi'r syniad o fabwysiadu ymagwedd gymysg tuag at ymgorffori'r hawl i dai digonol. Hynny yw, maent yn credu y dylid ymgorffori'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, fel bod fframwaith rhagweithiol cryf ar gyfer hawl i dai wrth lunio polisi, ond hefyd yr hawl i orfodi os torrir yr hawl honno. Nid oes gennyf fawr o amheuaeth fod angen archwilio'r rhan hon o'r ddadl yn y modd mwyaf gofalus.

Yn wir, buaswn yn gobeithio y gallai'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau gynnal ymchwiliad cychwynnol i gymryd tystiolaeth ar y materion hyn cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2021. Gallai tystiolaeth o'r fath ystyried profiad rhyngwladol yng nghyd-destun y ddadl hon. Gwelwn fod Canada wedi mabwysiadu'r dull hwn gyda strategaeth dai genedlaethol sy'n ymrwymo i ymdrin â thai fel hawl ddynol. Mae Norwy hefyd yn gwneud cynnydd ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau. Byddai sesiynau tystiolaeth o'r fath yn helpu i lywio penderfyniadau i'w gwneud mewn perthynas â chweched tymor y Cynulliad, gan nad wyf yn siŵr a oes digon o amser ar gyfer deddfwriaeth mor bwysig, yn anffodus, yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Ond byddai tystiolaeth o'r fath o gymorth i'r Gweinidog hefyd, a gwn ei bod eisoes wedi mynegi ei diddordeb a'i pharodrwydd i edrych ar y mater hwn, pan siaradodd yn y digwyddiad yn adeilad y Pierhead yn ddiweddar. A chan nad wyf yn gyfreithiwr, byddai tystiolaeth o'r fath yn helpu i wella fy nealltwriaeth o'r ystod o oblygiadau niferus a fyddai i ddeddf o'r fath.

Felly, gadewch i mi ddirwyn i ben ar y pwynt hwn. Ar ôl y ddadl hon, byddaf yn teithio i fy nghartref ym Merthyr Tudful a Rhymni, ac ar ddiwedd diwrnod hir, prysur, mae hynny'n rhoi rhywfaint o gysur i mi. Dychwelaf at wrthrychau personol cyfarwydd, at ddiogelwch, ac fe gaf gynhesrwydd os bydd ei angen. Ond rwy'n cydnabod hefyd, yn 2019, er gwaethaf holl gyfoeth y wlad hon, nad yw hyn yn wir i bob un o'n cyd-ddinasyddion yng Nghymru, sy'n fy arwain i'r casgliad, am y rhesymau a nodwyd gennyf yn y ddadl hon, ei bod bellach yn bryd i ni ystyried yr hawl statudol i dai digonol, er mwyn gwella'r gobaith yng Nghymru y gallwn ddiwallu hawl dinesydd i un o'r anghenion mwyaf sylfaenol, sef cartref.

Felly, dychwelaf at lle dechreuais, ac rwy'n cynnig y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn ystyried gwneud ymrwymiad cenedlaethol i'r egwyddor sylfaenol y dylai pob un ohonom gael hawl ddynol, wedi'i hategu gan gyfraith, i gael gafael ar dai digonol.  

18:35

A gaf fi gymeradwyo brwdfrydedd Dawn a'r ffordd glir y mae wedi cyflwyno'r ddadl dros gydnabod tai fel hawl ddynol sylfaenol, ac yn y cyd-destun hwn, yr hawl i weld tai digonol yn dod yn egwyddor ganolog ar gyfer trefnu polisi cyhoeddus? Pan fyddwn yn edrych ar yr angen mwyaf difrifol, byddai'n ffitio'n naturiol iawn i'n polisi tai yn gyntaf, er enghraifft, lle byddwn yn helpu pobl sydd â bywydau heriol iawn ac yn aml yn llawn anhrefn am lu o resymau ac sydd heb do uwch eu pennau. Credaf y byddai'r math hwn o gysyniad yn siapio'r math o ddull yr ydym am ei weld i helpu'r bobl hynny, ond hefyd y rhai sy'n ddigartref neu'n debygol o wynebu digartrefedd.

Credaf mai dyma'r ffordd o greu consensws newydd, a fodolai rhwng ein pleidiau mawr ar ôl yr ail ryfel byd fod tai yno gydag iechyd ac addysg fel rhywbeth y dylai pob dinesydd allu dibynnu arno fel rhywbeth y byddant yn ei gael, ac wrth gwrs, o'i dderbyn, dylai fod o safon ddigonol. Rwy'n canmol y gymdeithas ddinesig a'r grwpiau y cyfeiriodd Dawn atynt am wthio'r achos hwn, a chynnal y digwyddiad yn y Pierhead. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn edrych yn ddifrifol iawn ar hyn ac yn cydymdeimlo. Gallaf eich sicrhau bod y Blaid Geidwadol yn gwneud hynny yn ogystal. Rwy'n credu bod hwn yn syniad y mae ei amser wedi dod. Felly, llongyfarchiadau a diolch, Dawn. 

Yn gyntaf, rwyf am ddweud 'diolch' wrth Dawn Bowden am roi munud o'i hamser i mi. Mae'n rhyfedd, a dweud y gwir, oherwydd mae David Melding, Dawn a minnau'n aml yn siarad am dai ac yn aml mae ein hareithiau'n debyg iawn i'w gilydd.

Ar ôl cynhaliaeth, tai yw'r angen dynol nesaf. Rwyf am dynnu sylw at dai annigonol. Yn y 1950au a 1960au cafodd slymiau eu clirio ar raddfa fawr ac adeiladwyd tai cyngor ar raddfa fawr i ddarparu cartrefi i bobl fel fy nheulu wrth i ni symud o dai rhent preifat. Cafodd nifer fawr o dai yr arferid eu rhentu'n breifat eu prynu gan unigolion i fod yn gartref iddynt. Rydym bellach wedi gweld llawer o'r rhain yn cael eu prynu, mewn niferoedd mawr iawn weithiau, i'w gosod ar rent gan unigolion sy'n aml yn byw filltiroedd lawer i ffwrdd. Ni allaf weld unrhyw ffordd o ymdrin â thai annigonol ac eithrio drwy adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr. Dylem hefyd weld cynnydd yn y nifer sy'n berchen ar eu cartrefi gan y bydd eiddo a rentir yn breifat ar hyn o bryd yn dychwelyd i berchen-feddiannaeth. Nid serendipedd oedd bod y cynnydd mawr mewn adeiladu tai cyngor wedi digwydd ar yr un pryd â chynnydd mawr mewn perchen-feddiannaeth.

Diolch, Lywydd. Mae hwn yn bwnc pwysig ac amserol iawn. Dyma flwyddyn ganmlwyddiant Deddf Tai, Cynllunio Trefol etc. 1919, a elwir yn gyffredinol yn Ddeddf Addison, ond hefyd, fel y dywedodd Dawn Bowden, oherwydd ei bod hi'n ddwy flynedd ers y tân yn Nhŵr Grenfell. Felly, rwy'n falch iawn ein bod yn trafod hyn y prynhawn yma. Mae Deddf Addison yn bwysig yn hanesyddol i'r ddadl hon, gan mai dyma'r gydnabyddiaeth gyntaf fod gan y Llywodraeth ganolog rôl i'w chwarae'n cefnogi'r ddarpariaeth dai ar gyfer y dosbarth gweithiol, a'r cysylltiad rhwng tai gwael ac iechyd gwael. Pwysigrwydd tân Grenfell i'r ddadl hon yw ei fod wedi dod i gynrychioli methiant y system i wrando a gweithredu i amddiffyn y rhai sydd mewn angen yn y gymdeithas.

Yn fy natganiad llafar ar 11 Mehefin, dywedais wrth yr Aelodau am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd a chyni parhaus, y telir y gost amdanynt yn anghymesur gan y rhai lleiaf abl i'w thalu, mae'r lloches a'r noddfa a ddarperir gan y lle a alwn yn gartref yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Mae wedi'i wreiddio yn ein deddfwriaeth sefydlu. Mae'n rhedeg drwy bopeth y mae'r Llywodraeth hon yn ceisio ei wneud.

Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn ceisio cyflwyno dull newydd unigryw i Gymru o hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Rydym yn gwneud hynny, wrth gwrs, o fewn cwmpas ein cymhwysedd cyfreithiol. Rhaid i'r camau a gymerwn fod yn gydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol, fel y'u nodir yn adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r rhwymedigaethau hyn yn cynnwys saith Confensiwn y Cenhedloedd Unedig a lofnodwyd ac a gadarnhawyd gan wladwriaeth sy'n barti y DU. Mae adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Cymru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru weithredu'n gydnaws â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, fel y'i hadlewyrchir yn ein cyfraith ddomestig gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Rydym yn cymryd rhan lawn ym mhroses adrodd y Cenhedloedd Unedig ac yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwaith craffu, adborth ac arweiniad gan bwyllgorau'r Cenhedloedd Unedig. Yn ei gyfamod yn 1966, cydnabu Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, er mwyn rhoi safon byw ddigonol i ddinasyddion, fod angen iddynt gael tai addas yn ogystal â digon o fwyd, dillad a gwelliant parhaus yn eu hamodau byw. Ac roedd y gwladwriaethau sy'n barti hynny, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, a gadarnhaodd ac a fabwysiadodd y cyfamod, yn cytuno â'r nod hwn wrth iddynt ymrwymo iddo.

Er y gall ymddangos yn rhyfedd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, hyd yma, heb ymgorffori'r cyfamod mewn cyfraith ddomestig, ni ddylai hynny ein rhwystro rhag gweithio yn ysbryd y cyfamod yma yng Nghymru. Dylai caniatáu i ansicrwydd a diffyg urddas barhau i gael eu dioddef gan bobl heb dai neu heb dai digonol ar gyfer eu hanghenion fod yn destun pryder i bawb ohonom fel cymdeithas wâr. Mae ymrwymiad y Llywodraeth hon i'r egwyddor sylfaenol fod gan bob un ohonom hawl i gael tai digonol a chynaliadwy yn ganolog i'r dyheadau y ceisiwn eu gwireddu, ac mae'n dda gweld y consensws trawsbleidiol a fynegir yma eto, ond a fynegir yn aml yn y Siambr hon, wrth inni drafod y mater pwysig hwn.

Felly, yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i Bawb', rydym wedi cydnabod tai fel blaenoriaeth allweddol, gan nodi'n bendant ein bod yn deall rôl cartref fforddiadwy o ansawdd da i sicrhau ystod eang o fuddion o ran lles, iechyd, dysgu a ffyniant. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddarparu tai cymdeithasol newydd ac i wneud hynny ar raddfa fawr ac yn gyflym. Deallwn y rôl allweddol y gall tai cymdeithasol ei chwarae yn sicrhau bod teuluoedd ac unigolion yn gallu cael gafael ar gartrefi fforddiadwy o ansawdd da a all fod yn sbardun iddynt allu sicrhau dyfodol llwyddiannus. Mae tai cymdeithasol yn gofyn am lefel uwch o gymhorthdal gan y Llywodraeth, ond rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i ni, gan gefnogi'r rhai lle gall ein buddsoddiad gael yr effaith fwyaf. Rydym wedi gwneud buddsoddiad mwy nag erioed o £1.7 biliwn mewn tai yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Mae hwn yn swm sylweddol, sy'n cael effaith enfawr ar ddarparu tai cymdeithasol.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn am gyfraniad Mike Hedges y prynhawn yma ar fynd i'r afael â'r angen am dai a phwysigrwydd tai cymdeithasol. Wrth gwrs, mae tai cymdeithasol nid yn unig yn darparu tai o ansawdd, ond hefyd y cymorth sydd ei angen i sicrhau y gall pobl gadw eu tenantiaethau a ffynnu, a dyna pam nad yw Cymru erioed wedi troi ei chefn ar gefnogaeth i dai cymdeithasol ers iddi ddod i fodolaeth. Yn wir, yn Lloegr, mae'r ddarpariaeth o gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol wedi gostwng 81 y cant ers 2010.

Yn ogystal â hyn, mae gennym raglen dai arloesol a chronfa gofal integredig. Unwaith eto, ceir llawer o gonsensws ar draws y pleidiau, gyda David Melding yn enwedig yn croesawu hynny. Wrth gwrs, maent wedi cefnogi adeiladu o leiaf 1,300 o gartrefi, gan helpu i gyflawni'r uchelgeisiau hyn. Ceir heriau parhaus o ran darparu'r nifer o gartrefi sydd eu hangen ar gyfer y farchnad a'r sector tai fforddiadwy, ond rydym yn rhoi camau ar waith yma yng Nghymru i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom, ac rydym yn parhau i fod yn ffyddiog y cyrhaeddwn ein targed o 20,000 o dai fforddiadwy gyda chymorth ein partneriaid yn ystod y tymor Cynulliad hwn.

Ond mae'n fwy na nifer y cartrefi a adeiladwn, mae'n ymwneud hefyd â'r modd y sicrhawn eu bod o ansawdd uchel, ac yma mae ein buddsoddiad yn safon ansawdd tai Cymru yn sicrhau bod llawer o'n pobl fwyaf diamddiffyn yn byw mewn cartrefi gweddus, ac mae angen i'r cartrefi hynny hefyd fodloni anghenion cenedlaethau'r dyfodol a bod yn agos at fod yn ddi-garbon, gan helpu'r amgylchedd a thynnu teuluoedd allan o dlodi tanwydd. A dyna pam ein bod wedi gosod uchelgeisiau sylweddol i hybu datgarboneiddio ar draws holl ddeiliadaethau'r stoc dai bresennol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod cyfraith dai Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol drwy ddiweddaru'r gyfraith dai mewn dull cydlynol a chynhwysfawr. Mae cychwyn Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi cyflwyno gwelliannau arloesol ar gyfer atal digartrefedd, gan ddarparu ar gyfer cofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantiaid yn y sector rhent preifat drwy Rhentu Doeth Cymru. Yn ogystal, bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, sy'n symleiddio ac yn egluro trefniadau cytundebol, a Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 yn lleihau'r gost i denantiaid wrth rentu cartref yn breifat, yn enwedig ar y dechrau.

Mae pwynt Dawn, sef y dylai mynediad at dai digonol gael ei gydnabod fel hawl ddynol, yn mynd y tu hwnt i'n ffin genedlaethol yn unig, ac fel y cyfryw mae'n codi materion o dan y setliad datganoli. Rwy'n falch o ymateb i hyn gyda fy nghyfrifoldeb gweinidogol dros gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol, ac i weithio gyda chi i fwrw ymlaen â hyn. Rydym yn gweithredu i wneud Cymru'n decach, gan ddechrau drwy gychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i gydnabod effaith tlodi mewn perthynas ag agweddau eraill ar gydraddoldeb. Yn unol â hyn, rydym yn bwrw ymlaen â gwaith i ymchwilio i opsiynau i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, ond rydym hefyd yn comisiynu ymchwil i archwilio opsiynau ehangach, a gallwn ystyried hyn yn nhermau'r ymchwil honno. Byddwn yn cynnwys y modd yr ymgorfforwn y confensiwn ar hawliau pobl anabl a chytundebau rhyngwladol eraill yng nghyfraith Cymru, ac rydym wedi ymgysylltu â'r Athro Hoffman ynglŷn â hyn.

Byddwn yn arfer dull cynhwysol mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig, gan bwyso ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael, a thynnwyd sylw at yr union fater hwn yn y gwaith a gomisiynwyd gan Tai Pawb mewn cydweithrediad â Shelter Cymru a Sefydliad Tai Siartredig Cymru gan yr Athro Simon Hoffman, athro cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei adroddiad dichonoldeb ar gyfer cyflwyno hawl i dai digonol, a lansiwyd ddydd Mawrth diwethaf, yn werth ei ddarllen, ac yn bwerus, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd Julie James yn ystyried yr astudiaeth ddichonoldeb yn fanwl, sut y mae'n cyd-fynd â'r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud, ac rwy'n gobeithio sicrhau Dawn ac Aelodau eraill y Cynulliad heddiw ein bod, wrth aros i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymgorffori cyfamod y Cenhedloedd Unedig ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn ffurfiol mewn cyfraith ddomestig, yn cydnabod tai fel mater sylfaenol i sicrhau lles ein dinasyddion. Rydym hefyd yn gweithio'n galed o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig i adlewyrchu'r hawliau hyn yn y polisïau a'r ddeddfwriaeth a grëwyd gennym ac y byddwn yn parhau i'w creu. Diolch.

18:45

Daeth y cyfarfod i ben am 18:47.