Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

03/04/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a'r cwestiwn cyntaf, Delyth Jewell.

Paratoi at Brexit Heb Gytundeb

1. Pa adnoddau ariannol a ddyrannwyd hyd yn hyn gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi at Brexit heb gytundeb? OAQ53726

Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i ryddhau arian i fynd i'r afael â'r anhrefn y mae wedi’i achosi iddi ei hun. Yn ogystal â dyrannu £34 miliwn drwy gronfa bontio'r Undeb Ewropeaidd, rydym wedi bod yn cynyddu paratoadau ar gyfer ymadawiad 'dim bargen', gan gynnwys porth Paratoi Cymru, adleoli adnoddau staff, a chydlynu gwaith ar draws y gwasanaethau cyhoeddus.

Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Wrth gwrs, gallai'r adnoddau a wariwyd ar gynllunio 'dim bargen' fod wedi cael eu gwario ar y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru a'n hysgolion, sy'n galw allan am fuddsoddiad, pe bai Llywodraeth San Steffan wedi negodi cytundeb synhwyrol, yn debyg i’r hyn a nodwyd ym Mhapur Gwyn Plaid Cymru/Llywodraeth Cymru ar y cyd, 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2017. Arweiniodd peidio â gwneud hynny at anghytundeb yn San Steffan, at ansicrwydd economaidd, a'r angen i Lywodraeth Cymru dreulio amser ac adnoddau'n paratoi at y posibilrwydd o Brexit 'dim bargen'. A allai'r Gweinidog ein hysbysu a yw gwariant Llywodraeth y DU ar 'ddim bargen' wedi’i Farnetteiddio yn ôl yr hyn y mae'n ei ddeall? Ac ymhellach, a yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai Trysorlys Prydain ddigolledu Llywodraeth Cymru am unrhyw arian a wariwyd ar baratoadau penodol i Gymru yn hyn o beth, gan mai Llywodraeth San Steffan sydd ar fai am fod y cronfeydd Cymreig gwerthfawr hyn wedi cael eu gwastraffu?

Diolch yn fawr iawn. Ychydig iawn y gallwn anghytuno ag ef yn y datganiad rydych wedi'i roi y prynhawn yma, sy'n dangos y lefel o wariant y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran buddsoddi er mwyn sicrhau ein bod mor barod ag y gallwn fod ar gyfer pa fath bynnag o Brexit a allai ddigwydd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud hefyd fod yr arian yr ydym yn ei ddarparu drwy gronfa bontio'r UE, lefel yr adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn gorfod eu cyfeirio oddi wrth ein busnes craidd o ddydd i ddydd, a’u rhoi tuag at gynlluniau 'dim bargen', yn enfawr, ac mae'n dominyddu gwaith pob adran. Rydym wedi dyrannu cyllid a gawsom fel swm canlyniadol Barnett drwy gronfa bontio’r UE. Felly, mae rhywfaint o'r arian hwnnw wedi mynd i'r gronfa cydnerthedd busnes—sef £1.7 miliwn; aeth £1.2 miliwn tuag at gryfhau gallu awdurdodau lleol i ymateb i Brexit; £435,000 ar gyfer datblygu capasiti'r heddlu i ymateb i unrhyw argyfyngau sifil; £0.5 miliwn ar gyfer fforymau Cymru gydnerth lleol, a fydd yn cydlynu'r ymateb i argyfyngau sifil, wrth iddynt godi; a £0.5 miliwn i ehangu'r ddarpariaeth o wybodaeth a chymorth, gan gynnwys cyngor ar fewnfudo, i helpu dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru. Mae'r rhain i gyd yn bethau na fyddai'n rhaid i ni eu gwneud oni bai am yr anhrefn y mae Llywodraeth y DU wedi'i greu.

Yn amlwg, rhyddhaodd y Canghellor £31 miliwn i chi fel Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau 'dim bargen'. Mae'n bwysig deall sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio o fewn Llywodraeth Cymru, a’i chyrff partner yn wir. A allwch nodi sut y dosbarthwyd yr arian hwnnw gennych, Weinidog cyllid, ac yn bwysicach, faint o'r £31 miliwn hwnnw sydd wedi mynd y tu allan i Lywodraeth Cymru, i gefnogi byrddau iechyd neu awdurdodau lleol, er enghraifft, a allai orfod gwneud eu paratoadau eu hunain mewn perthynas â chynlluniau wrth gefn ar gyfer ‘dim bargen’?

Wel, mae'r holl eitemau hynny a ddisgrifiais yn awr wedi’u hariannu drwy gronfa bontio'r UE, a ariannwyd gyda'r arian a ddisgrifiwch, ochr yn ochr â chyllid ar gyfer hyfforddi a gwella sgiliau gweithlu'r diwydiannau modurol ac awyrofod yng Nghymru, ac arian i brifysgolion Cymru i ysgogi partneriaethau rhyngwladol a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer astudio. Buaswn yn fwy na hapus i rannu eto gyda'r Aelodau y rhestr o gynlluniau yr ydym eisoes wedi'u hariannu drwy gronfa bontio’r UE.FootnoteLink

Cyllideb Derfynol 2019-20

2. Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i'r GIG wrth ddyrannu cyllid ar gyfer cyllideb derfynol 2019-20? OAQ53707

Rydym yn parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer y GIG yng Nghymru, ac mae cyllideb 2019-20 a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Ionawr yn darparu £7.4 biliwn ar gyfer cyllid craidd y GIG, sef y buddsoddiad mwyaf erioed yn y GIG yng Nghymru.

Diolch. Yn ei ymateb i Paul Davies ddoe, dywedodd y Prif Weinidog,

'bod yn rhaid i'n cymuned meddygon teulu wneud mwy i fodloni disgwyliadau poblogaethau cleifion'.

Ond aeth dros saith mlynedd heibio bellach ers i Gymdeithas Feddygol Prydain Cymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol lansio ymgyrchoedd wedi'u hanelu at Aelodau'r Cynulliad yn rhybuddio am y bom sy’n tician, a bod 90 y cant o gysylltiadau cleifion yn digwydd gyda meddygon teulu, ac eto mae’r cyllid fel cyfran o gacen y GIG wedi gostwng. Ac maent wedi ail-lansio'r ymgyrchoedd hynny’n gyson ers hynny. Mae bron i bum mlynedd ers i Bwyllgor Meddygol Lleol gogledd Cymru ddod i'r Cynulliad i ddweud ein bod yn wynebu argyfwng yng ngogledd Cymru, gan rybuddio na allai nifer o bractisau lenwi eu swyddi gwag a bod llawer o feddygon teulu o ddifrif yn ystyried ymddeol oherwydd y llwyth gwaith cynyddol. Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru at y Gweinidog iechyd yma mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y papur opsiynau, 'Rhestr Perfformwyr GIG Cymru', gan ddweud bod eu haelodau'n siomedig a bod yr anawsterau yng ngogledd Cymru wedi bod yn bresennol ac yn cynyddu ers o leiaf bum mlynedd ac nid oes amheuaeth ynglŷn ag a fydd yr anawsterau i recriwtio a chadw staff yn parhau. O ran dyrannu arian i wasanaethau meddygon teulu o fewn cyllideb y GIG, sut y byddech yn ymateb felly i frawddeg olaf eu llythyr yr wythnos diwethaf fod angen i Lywodraeth Cymru ddangos ei bod yn gweithio'n galed i ddatblygu ymagwedd gadarn a dyfeisgar tuag at yr argyfwng hwn sy’n gwneud y gorau o'r rhyddid i arloesi a roddir i GIG Cymru?

13:35

Fe gofiwch, wrth gwrs, fod y Gweinidog iechyd wedi ymateb i lawer o'r pryderon hynny, yn enwedig o ran y gwasanaeth meddygon teulu yng Nghymru yn ystod ei ddatganiad ar 'Hyfforddi Gweithio Byw' brynhawn ddoe. Ac wrth gwrs, gwnaeth y Prif Weinidog sylwadau ar yr un peth yn ystod sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog brynhawn ddoe.

Ond o ran ein buddsoddiad cyffredinol yn y GIG, wrth gwrs, cyllid craidd y GIG gyda chyfanswm buddsoddiad o £ 7.4 biliwn yn 2019-20 yw'r gyllideb unigol fwyaf o fewn Llywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys ein harian craidd ar gyfer byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru ac rydym yn buddsoddi mwy na £0.5 biliwn yn ychwanegol ar iechyd a gofal cymdeithasol yn 2019-20. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu perfformiad, cyflogau’r GIG ac atal, gan gynnwys £192 miliwn i fwrw ymlaen â gweithredu ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach'. Ac wrth gwrs, ceir £14 miliwn dros ddwy flynedd, o 2018 i 2020, fel rhan o'n cytundeb gyda Phlaid Cymru, sy'n cynnwys eu hymrwymiad i sefydlu addysg feddygol yng ngogledd Cymru. Ochr yn ochr â hynny, mae gennym raglen fuddsoddi cyfalaf ddwys yn y GIG, yn enwedig yng ngogledd Cymru, felly rydym yn dangos yn glir iawn fod iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.

Mae'n amlwg, wrth gwrs, y gall cydweithrediad effeithiol rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol leihau'r pwysau ar gyllidebau iechyd a gofal. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am gytuno i gyfarfod â mi ddoe i drafod y ffyrdd ymlaen i geisio datblygu rhywfaint o gonsensws ynghylch ffyrdd arloesol o ariannu gofal. A yw'r Gweinidog yn cytuno y byddwn yn parhau i wynebu pwysau cynyddol ar gyllidebau iechyd oni bai y gallwn ddatrys problemau'r rhyngwyneb rhwng iechyd a gofal? Ac a yw hi hefyd yn cytuno y bydd angen buddsoddi'n sylweddol yn ein gwasanaethau gofal os ydym am greu'r parch cydradd hwnnw rhwng y ddau wasanaeth y cytunwn ar draws y Siambr hon y byddai’n ddymunol?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn a diolch i chi hefyd am y cyfarfod defnyddiol iawn a gawsom ddoe i drafod ffyrdd arloesol o ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol, o gofio'r pwysau enfawr y gwyddom ei fod yn bodoli yn y system eisoes, ond hefyd y pwysau cynyddol a ragwelir oherwydd y boblogaeth sy'n heneiddio sydd gennym yma yng Nghymru a'r anghenion cynyddol a fydd gan rai pobl yng Nghymru hefyd.

Felly, un o'r opsiynau hynny a drafodwyd gennych oedd yr ardoll gofal cymdeithasol. Mae'n un o'r opsiynau y mae'r grŵp rhyngweinidogol yn edrych arno o ran sut yr ymbaratown ar gyfer ateb yr her honno. Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd arloesol eraill o ariannu. Rwy'n wirioneddol awyddus i symud y gwaith hwn yn ei flaen ar sail drawsbleidiol gan ei fod yn rhywbeth y byddwn i gyd yn awyddus i gydweithio arno, rwy'n siŵr. Rydym wedi cael consensws trawsbleidiol da, rwy'n credu, mewn dadleuon ar hynny.

Mae gwaith y gronfa gofal integredig yn gyffrous iawn, oherwydd daw honno ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol at ei gilydd go iawn. Mae'r gronfa drawsnewid hefyd yn gwneud gwaith da yn y maes hwnnw. Felly, mae'n dangos, os ydym am gyflawni canlyniadau da i bobl, fod angen i ni sicrhau nad ydym yn gwahanu iechyd a gofal cymdeithasol yn ein meddyliau, ond hefyd ein bod yn rhoi cyfle i ddod â'r ddau beth at ei gilydd drwy gyllidebau ac rydym yn gweld byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn gweithio mewn ffordd wahanol iawn ochr yn ochr â'r trydydd sector pan fyddwn yn eu galluogi i rannu'r cyllidebau hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog cyllid, mae adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach ar greu system dreth newydd yng Nghymru wedi amlygu ffeithiau sy'n peri pryder ynghylch y diffyg ymwybyddiaeth o drethi datganoledig. Yn fwyaf syfrdanol o bosibl, canfu eu harolwg ym mis Awst 2018 fod 66 y cant o aelodau’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn dweud pan gawsant eu holi nad oeddent yn ymwybodol o drethi datganoledig, gyda rhai’n dweud na chawsant fawr ddim gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru, os o gwbl. Rhaid cyfaddef mai rai misoedd yn ôl oedd hynny. Mae hyn i’w weld yn croes-ddweud ateb a gefais gan Awdurdod Cyllid Cymru ddoe, a oedd wedi amcangyfrif eu bod wedi cyrraedd cynulleidfa o 4.5 miliwn drwy ymgyrchoedd digidol a chyfryngau cymdeithasol. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd sy'n cael ei wneud i godi proffil trethi datganoledig yng Nghymru, a phwy ydych chi'n credu sy'n gywir? Awdurdod Cyllid Cymru neu'r Ffederasiwn Busnesau Bach?

13:40

Diolch i chi am godi'r mater pwysig hwn, yn enwedig yn ystod wythnos bwysig iawn i drethiant yng Nghymru. Roeddwn yn sicr yn falch o dderbyn adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac roeddwn yn falch o'u gwahodd i roi cyflwyniad yn y grŵp cynghori ar dreth i'n helpu i ddeall o'u safbwynt hwy a safbwynt eu haelodau sut y gallant weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru yn y ffordd orau. O ran pwy sy'n gywir, rwy'n credu mewn gwirionedd eu bod ill dau’n gywir yn ôl pob tebyg yn yr ystyr fod adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dod allan ym mis Awst, felly roedd hynny cyn—neu fe wnaed yr ymchwil ym mis Awst—cyn y gwnaed llawer o'r gwaith ymgysylltu a chyfathrebu, ac mewn gwirionedd mae ymchwil y Ffederasiwn Busnesau Bach yn adlewyrchu'r math o ymchwil y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran deall lefel yr ymwybyddiaeth a'r ddealltwriaeth sydd i’w weld ymhlith y cyhoedd yng Nghymru mewn perthynas â threthi. Credaf fod yr adroddiad hwnnw'n rhoi llinell sylfaen dda iawn i ni weithio arni yn awr, o ran ysgogi ein gwaith cyfathrebu i helpu pobl i ddeall trethi Cymru yn well. Hefyd, rwy'n credu bod angen inni wneud gwaith pellach ar drethi lleol. Ond yn sicr mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn gwneud gwaith cwbl ardderchog a dwys er mwyn gallu cyfathrebu.

Gwrthodais y demtasiwn i ddweud ei bod yn wythnos bwysig ar drethi yng Nghymru am ein bod yn tueddu i ddweud hynny yn ystod pob set o gwestiynau gyda'r holl newidiadau sydd wedi bod yn digwydd gyda threthi datganoledig dros y misoedd diwethaf ac yn wir y paratoadau dros gyfnod hwy na hynny. Pan oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn amheus i ba raddau yr oedd materion trethiant yn effeithio ar ymddygiad, a dywedodd,

Nid wyf yn arddel yr olwg economaidd ar y ddynoliaeth fod pobl bob amser yn cyfrifo i lawr i'r geiniog olaf p'un a ydynt am fod mewn un man neu mewn man arall.

Ac eto, gan ddychwelyd at adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac rwy’n falch eich bod wedi ei weld, mae'n dweud bod rhai cyfreithwyr sy'n ymdrin â’r dreth trafodiadau tir eisoes yn dweud bod eu cleientiaid yn ystyried prynu eiddo yn agos at y ffin er mwyn osgoi talu trethi eiddo uwch yng Nghymru. Mewn gwirionedd, un o'u canfyddiadau allweddol oedd bod pryderon yn parhau i gael eu mynegi ynglŷn â’r posibilrwydd o gyfraddau gwahanol rhwng y dreth trafodiadau tir a threth dir treth stamp y DU, ac effaith hynny’n dylanwadu ar ymddygiad trethdalwyr a'r posibilrwydd o gamystumio. Felly, rwy'n deall bod y rhain yn ddyddiau cynnar o hyd, a dim ond rhai cyfreithwyr a ddywedodd hynny, ond serch hynny, mae'n amlwg fod yna faes yma y mae angen i Lywodraeth Cymru ei fonitro. A ydych yn credu ein bod yn gwneud digon i fonitro camystumio posibl ar hyd ardal y ffin, a pha baratoadau yr ydych yn eu gwneud i sicrhau, wrth symud ymlaen, fod y farchnad eiddo yng Nghymru yn sefydlog?

Rwy'n sylweddoli bod eich prif bryder yma yn ymwneud â threth trafodiadau tir amhreswyl, ac wrth gwrs mae gennym gyfradd dreth ddechreuol is ar gyfer prynu eiddo busnes yma yng Nghymru nag o dan dreth dir y dreth stamp, ac mae hyn yn golygu bod pob busnes sy’n prynu eiddo hyd at £1.1 miliwn yng Nghymru naill ai'n osgoi talu unrhyw dreth o gwbl neu'n talu llai nag y byddent o dan dreth dir y dreth stamp. Mae hyn o fudd mawr i fusnesau bach a chanolig ledled y wlad.

Yn ystod blwyddyn gyntaf y dreth trafodiadau tir, amcangyfrifir y byddai tua naw o bob 10 trafodiad yn osgoi talu’r dreth trafodiadau tir neu byddai'r swm yn llai nag y byddai wedi bod o dan dreth dir y dreth stamp ar gyfer trafodiadau amhreswyl. Felly, rwy'n credu bod y camau a gymerwyd gennym yn sicr o fudd i fusnesau bach a chanolig. Rwy'n deall y pryder ynglŷn â’r 1 y cant ychwanegol ar y gyfradd uwch. Fodd bynnag, credaf ei bod yn llawer rhy gynnar i ddod i gasgliad ynghylch yr effaith a gafodd hynny ar ymddygiad, os o gwbl, ac mae'n werth cofio hefyd fod y flwyddyn cyn i'r dreth trafodiadau tir ddod yn weithredol yn flwyddyn eithriadol o ran derbyniadau treth neu o ran trafodiadau ar yr eiddo gwerth uwch. Felly rwy'n meddwl ei fod yn rhywbeth yr ydym yn ei wylio'n agos. Byddwn yn cael y ffigurau alldro ym mis Mehefin eleni, felly bydd gennym well dealltwriaeth o ymddygiad y flwyddyn gyntaf o leiaf.

Mae fy nghydweithiwr ar y Pwyllgor Cyllid, Mike Hedges, bob amser yn awyddus i nodi natur gylchol y dreth trafodiadau tir a thrafodiadau eiddo, ac yn sicr mae'r hyn rydych newydd ei ddweud ynglŷn â’i bod yn ddyddiau cynnar a’r blynyddoedd eithriadol a gafwyd yn rhywbeth yr edrychasom arno ar y Pwyllgor Cyllid.

Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedasoch, y dylai pobl sy'n prynu eiddo ar y pen isaf ysgwyddo llai o faich treth. Credaf y byddem i gyd yn cytuno â hynny, nid yn unig o ran trethiant, ond o ran y dreth incwm hefyd, gyda Llywodraeth y DU yn tynnu mwy o bobl allan o'r dosbarth treth o ran y lwfans ar y pen isaf. Mae hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, gan droi’n ôl at adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach a'r dreth trafodiadau tir, mae'r ffigurau diweddaraf hefyd yn dechrau canu larymau ynghylch codi'r trothwyon treth ar gyfer eiddo ar y pen uchaf, dros £1 miliwn, i'r hyn sydd ymhlith y lefelau uchaf yn y DU.

Er nad ydym eto wedi gweld casgliad y flwyddyn lawn ar gyfer y dreth trafodiadau tir, mae adolygiad eiddo masnachol CoStar yn y DU ar gyfer chwarter 3 yn 2018 yn dangos mai Cymru yw un o'r rhanbarthau gwannaf yn y DU ar gyfer buddsoddi mewn eiddo—i lawr 70 y cant, neu £54 miliwn yn erbyn cyfartaledd chwarterol pum mlynedd. Nawr, er fy mod yn derbyn efallai nad trethiant yn unig sy'n achosi hynny, a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r sefyllfa hon yn agos iawn? Ac os ydych yn cael rhybuddion gan CoStar a sefydliadau eraill, fod yr ystadegau'n awgrymu bod polisi trethiant Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn niweidiol i'r economi, a wnewch chi newid y trywydd yn gyflym a sicrhau nad ydym yn annog pobl i beidio â buddsoddi drwy drethu'r rhai ar y pen uchaf yn ormodol?

13:45

Diolch, a gallaf gadarnhau bod swyddogion yn cysylltu'n rheolaidd ag arbenigwyr yn y diwydiant eiddo, ac mae'r ymgysylltiad hwnnw'n parhau. Byddwn yn sicr yn monitro unrhyw effaith ganfyddadwy y gallai'r gyfradd wahaniaethol sydd gennym yma o ran y gyfradd uwch o dreth trafodiadau tir, ei chael ar y trafodiadau gwerth uchel hynny. Fel y dywedaf, blwyddyn yn unig sydd wedi bod, felly nid oes gennym ddarlun llawn eto, ond mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n cadw llygad arno.

Diolch, Llywydd. Mae'r byd yn newid, mae'r economi yn newid efo fo, ac un newid ydy bod yr economi wybodaeth yn dod yn fwy a mwy pwysig, ac yn hynny o beth mae gwariant ar ymchwil a datblygu yn mynd i fod yn dod yn bwysicach. Dyna sut i greu syniadau newydd a dyfeisiau newydd fydd yn sail i genhedlaeth newydd o fusnesau. All y Gweinidog roi diweddariad i ni ar wariant R&D o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru?

Yn sicr. Byddaf yn ceisio darparu ffigurau pendant i chi ynglŷn â'n gwariant ar ymchwil a datblygu,FootnoteLink ond un o'r pryderon a fu gennym yn y cyfnod diweddar, wrth gwrs, yw effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ein capasiti ymchwil a datblygu. Rydym wedi bod yn edrych yn agos iawn ar adroddiad Reid er mwyn sicrhau bod y proffil gorau gennym, os mynnwch, i sicrhau bod Cymru yn cael ei gweld fel cyrchfan gwych ar gyfer ymchwil a datblygu, amgylchedd lle mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol, ond amgylchedd hefyd lle mae academyddion yn cael eu galluogi i ffynnu mewn amgylchedd sy'n hybu'r gwaith a wnânt yn bendant iawn.

Diolch am yr ymateb hwnnw, ac rwyf innau hefyd yn sicr yn rhannu'r pryder am effeithiau gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ddyfodol cyllid ymchwil a datblygu yng Nghymru. Daw arian ymchwil a datblygu o lawer o ffynonellau gwahanol, wrth gwrs, a busnes yw'r ffynhonnell fwyaf o arian o bell ffordd, ond gadewch imi edrych ar addysg uwch. Dengys ffigurau diweddar fod cyfanswm yr arian a werir ar ymchwil a datblygu addysg uwch yn y DU oddeutu £6.5 biliwn. O'i ddadansoddi, gwelwn fod gwariant y pen yng Nghymru yn £86. Yn Llundain a'r siroedd cartref yn Lloegr, mae'n £275 y pen—gwerir bron 60 y cant o gyfanswm y gwariant ymchwil a datblygu mewn addysg uwch yn ne-ddwyrain Lloegr. Mae prifysgolion eu hunain, wrth gwrs, yn denu'r cyllid ymchwil a datblygu hwnnw eu hunain, ond byddai'n anghywir awgrymu na allai Llywodraeth Cymru fod yn ddylanwadol o ran gweld faint yn fwy o arian y gallem ei ddenu i mewn i Gymru. Mae llawer o gronfa bresennol y DU o gyllid ymchwil a datblygu yn mynd i mewn i'r hyn a elwir yn 'driongl euraidd', rhwng Rhydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion Llundain, ac oherwydd eu hanes ym maes ymchwil a datblygu maent yn gallu curo llawer o'r gystadleuaeth a hawlio cyfran fawr o'r arian. Ond a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn bryd bellach i Lywodraeth Cymru ddechrau dadlau'r achos o ddifrif dros greu cronfa Cymru—cronfa warchodedig i Gymru—o gyllid ymchwil a datblygu, y gallai ein prifysgolion wneud cais am gyllid ohoni er mwyn cynyddu'r gwariant yn y sector hwn yng Nghymru?

Wel, yn amlwg rydych yn codi pwynt hynod bwysig. Gwariwyd tua £0.75 biliwn ar ymchwil a datblygu yng Nghymru yn 2017—dyna'r flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer—ac mae hynny'n gynnydd o 4.6 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae hynny bellach, i bob pwrpas, yn cyfateb i'r cynnydd mewn gwariant ymchwil a datblygu ar draws y DU.

Rydych wedi derbyn yr argymhelliad cyntaf yn adolygiad Reid, sef atgyfnerthu ein sefyllfa yn Llundain drwy'r swyddfa sydd gennym yno, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Rydym ein dau wedi cyfeirio at gyfnod rhaglen cronfeydd strwythurol yr EU. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi buddsoddi £340 miliwn, sef 20 y cant o holl gronfeydd strwythurol yr UE a ddyrannwyd i Gymru ac mae'n parhau i chwarae rhan hanfodol yn tyfu economi Cymru ac yn tyfu arbenigedd Cymru.

Felly, yn sicr, buaswn yn awyddus i archwilio beth y byddem yn ei wneud pe bai Llywodraeth y DU yn gwireddu ei gwarant ar gyfer arian yr UE. Yn amlwg, ceir trafodaethau parhaus yno sy'n achosi peth pryder, yn enwedig ynglŷn â'r gyfradd gyfnewid y bwriada Llywodraeth y DU drosglwyddo'r arian i ni arni. Byddaf yn cael trafodaethau, rwy'n meddwl, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod—

13:50

Gan gyfeirio'n ôl at eich geiriau cyntaf, rwy'n edmygu eich agwedd gadarnhaol yn dweud bod y cynnydd mewn gwariant ar ymchwil a datblygu yng Nghymru yn cyd-fynd â'r cynnydd mewn rhannau eraill o'r DU. Gadewch imi geisio ei ddarlunio. Mae Cymru wedi cynyddu cymaint â hynny o'r pwynt hwnnw, ond mae gweddill y DU wedi cynyddu cymaint â hynny o bwynt i fyny yno. Mae angen inni anelu at gydraddoldeb â rhannau eraill o'r DU. Gadewch i ni edrych ar fannau eraill. Gadewch i ni edrych ar wariant uniongyrchol y Llywodraeth ar ymchwil a datblygu yng Nghymru. Yn 2016, o'r £2.2 biliwn a wariwyd ar ymchwil a datblygu gan Lywodraeth y DU, gwariwyd £54 y pen yn Llundain a'r siroedd cartref, a dim ond £5 y pen a wariwyd yng Nghymru. Ac fel Gweinidog cyllid, nid ydych yn neidio i fyny ac i lawr ynglŷn â hyn bob dydd. Onid yw'n enghraifft arall o'r Llywodraeth Geidwadol ar lefel y DU yn peidio â buddsoddi yng Nghymru, fel y credwn ni ar y meinciau hyn y dylent ei wneud, ond hefyd eich Llywodraeth chi yn gyson eto yn methu dadlau'r achos dros gyfran Cymru o arian ymchwil a datblygu? Ac mae hynny'n niweidiol i Gymru ac i swyddi yng Nghymru.

Yn amlwg, rwy'n anghytuno. Mae'n ddiddorol bob amser, pryd bynnag y ceisiwch wneud cymhariaeth, rydych yn cymharu bob amser â Llundain a'r siroedd cartref, nad yw o reidrwydd yn gymhariaeth gydnabyddedig â Chymru. Mae gwariant ar ymchwil a datblygu yn isel yng Nghymru, fel y mae ledled y DU o safbwynt y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Mae'n her sy'n ein hwynebu ar draws y DU. Mae lefel y cyllid ymchwil a datblygu mewn unrhyw economi gymharol fach, megis Cymru, wedi'i dylanwadu'n fawr gan nifer fach o brosiectau mawr sy'n dechrau neu sy'n dod i ben, ac mae hynny'n golygu y dylid dehongli canlyniadau unrhyw un flwyddyn yn ochelgar.

Diolch, Lywydd. Weinidog, hoffwn godi pwnc caffael cyhoeddus. Ar ôl Brexit dylem allu ailedrych ar y rheolau sy'n llywodraethu caffael cyhoeddus, a dylai hyn ei gwneud yn haws i'r sector cyhoeddus yng Nghymru ddyfarnu contractau i gwmnïau bach a busnesau bach a chanolig. Fodd bynnag, hyd yn oed heb ystyried Brexit, mae yna gyfleoedd i'r sector cyhoeddus ei gwneud yn haws i gwmnïau bach wneud cais am gontractau. Er enghraifft, os edrychwn ar y sector iechyd, y broblem yma yw na all cwmnïau lleol gynnig yn realistig am lawer o gontractau, er enghraifft i gyflenwi bwyd i ysbyty penodol, oherwydd mae'r contractau hyn yn tueddu i gael eu dyfarnu gan fwrdd iechyd GIG i ddarparu bwyd ar draws ystâd gyfan y bwrdd iechyd, sy'n golygu wrth gwrs fod y rhan fwyaf o'r contractau hyn yn mynd i gwmnïau mwy o faint yn unig yn y pen draw, ac efallai na fydd rhai ohonynt o reidrwydd yn gwmnïau o Gymru. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried sut y gellid newid y sefyllfa hon, er enghraifft drwy fod byrddau GIG yn rhannu'r ddarpariaeth fwyd yn gontractau llai o faint?

Diolch i chi am godi mater pwysig caffael. Wrth gwrs, mae ein strategaeth yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi yng Nghymru ac ar fusnesau yng Nghymru, gyda chyflenwyr o Gymru bellach yn ennill dros hanner y gwariant caffael blynyddol o £6.2 biliwn. Fodd bynnag, rwy'n awyddus iawn i wneud mwy, a fy uchelgais yw gweld ein busnesau bach a chanolig yn gallu chwarae rhan lawn yn hynny. Yn sicr rydym yn defnyddio ein polisïau i ostwng y rhwystrau i fusnesau bach a'u galluogi i sicrhau lleoedd yn y cadwyni cyflenwi yng Nghymru. Mae'r canlyniadau yr ydym yn eu cyflawni yn rhagori cryn dipyn ar y targedau y mae Llywodraeth y DU yn gweithio tuag atynt ar gyfer ymgysylltu â busnesau bach a chanolig. Felly, mae polisïau o'r fath yn cynnwys buddion cymunedol, cronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr, cyfrifon banc prosiectau, y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol a'n canllawiau ymgeisio ar y cyd. Ac rydym yn parhau i gynnig cyfleoedd i gwmnïau llai o faint, ac mae ein hanogaeth i gyrff cyhoeddus hysbysebu pob contract sy'n werth llai na £25,000 ar GwerthwchiGymru yn ysgogi newidiadau gwirioneddol gadarnhaol.

13:55

Ar y meinciau hyn, rydym yn cydnabod y ffaith bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gwneud gwahaniaeth, ond rydym hefyd yn gwybod y bydd angen i Lywodraeth Cymru newid ei dull o weithredu ar ôl Brexit, a chafodd hyn ei gydnabod gan y Prif Weinidog, a ddywedodd yn y Siambr yn ddiweddar y byddai Llywodraeth Cymru, ar ôl Brexit, yn edrych ar ddefnyddio caffael ar lefel fwy lleol neu ranbarthol. Ac rydym hefyd yn gwybod bod templed ar gyfer polisi caffael cyhoeddus wedi'i lunio pan oedd Jane Hutt yn Weinidog cyllid ac roedd yn cynnwys y diwydiant adeiladu yng Nghymru. A yw'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o ba mor dda y mae'r polisi hwn wedi gweithio yn y sector adeiladu?

Yn sicr, rydym yn gweithio i sicrhau bod mentrau bach a chanolig yn gallu gwneud cais am gontractau yn y sector adeiladu, a dyna un o'n sectorau targed allweddol, mewn gwirionedd, o ran ein dull o weithredu caffael. Wrth gwrs, cawsom yr adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru, ac rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y timau hynny'n pontio i wasanaeth newydd gyda phortffolio llai o gontractau cenedlaethol, ond gyda ffocws llawer cryfach ar ddatblygu a chyflawni polisi caffael ar sail leol a rhanbarthol o'r fath, a chredaf y byddai hynny'n rhoi llawer mwy o gyfle i gwmnïau adeiladu llai o faint ddod i gysylltiad â'r contractau sydd ar gael.

Diolch eto i'r Gweinidog am ei hateb wrth gwrs, ond un o'r rhwystrau wrth dendro am gontractau yw'r broses dendro ei hun, wrth gwrs, sy'n galw am lenwi llawer o ffurflenni cymhleth, ac mae'r broses yn defnyddio llawer o adnoddau, rhywbeth a fydd yn aml y tu hwnt i allu cwmnïau bach neu ganolig eu maint. Felly, i grynhoi, Weinidog, rwy'n credu o ddifrif fod hwn yn faes y mae angen i Lywodraeth Cymru fod o ddifrif yn ei gylch, gan y gall effeithio'n sylweddol iawn ar yr economi sylfaenol. Os dyfernir contractau i gwmnïau lleol, mae'r arian a gynhyrchir yn tueddu i aros yn y gymuned leol, ac nid yw hyn yn wir o reidrwydd pan ddyfernir contractau i gwmnïau mawr iawn, yn enwedig os nad yw eu pencadlys yng Nghymru.

Rydym yn cydnabod bod cwmnïau bach yn aml yn cael trafferth i wneud cais am gontractau mawr, a dyna pam rwy'n falch iawn fod 31 y cant o'r contractau a gyhoeddwyd ar GwerthwchiGymru hyd at fis Mawrth eleni wedi'u hysbysebu fel rhai addas ar gyfer gwneud ceisiadau ar y cyd, ac rwy'n credu bod honno'n ffordd bwysig iawn o gynorthwyo cwmnïau bach lleol i wneud cais am y contractau hynny. Ac rydym yn gweld rhai o'r effeithiau cadarnhaol hynny yn y sector adeiladu, lle dyfarnwyd 78 y cant o'r contractau neu'r fframweithiau dros £750,000 a hysbysebwyd drwy GwerthwchiGymru i gontractwyr o Gymru eleni.

Cwmnïau Tanwydd Ffosil

3. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru parthed dad-fuddsoddi o gwmnïau tanwydd ffosil? OAQ53730

Mae lleihau allyriadau carbon yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Bythefnos yn ôl, cyhoeddasom ' Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel', ein cynllun trawslywodraethol i dorri allyriadau a chyfrannu at y frwydr fyd-eang yn erbyn newid hinsawdd.

Dŷch chi ddim wedi dweud dim byd am ddad-fuddsoddi o gwmnïau tanwydd ffosil, hyd y gwelaf i. Ac, wrth gwrs, rŷn ni ar ei hôl hi fan hyn yng Nghymru yn y cyd-destun hwnnw, oherwydd mae Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon wedi penderfynu mai nhw fydd y wlad gyntaf yn y byd i ddad-fuddsoddi a gwerthu eu holl fuddsoddiadau mewn cwmnïau tanwydd ffosil ar ôl i Fil gael ei basio yn ddiweddar gyda chefnogaeth pob plaid yn fanna. Dwi'n siŵr na fyddem ni'n bell o gyflawni hynny yn y Senedd yma hefyd, petai'r Llywodraeth yn dewis dilyn y llwybr hwnnw. Mi fydd, er enghraifft, yng Ngweriniaeth Iwerddon, eu cronfa buddsoddi genedlaethol nhw, sydd gwerth £8 biliwn, yn dad-fuddsoddi o lo, o nwy, o olew ac o fawn cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib, wrth gwrs, ond mae disgwyl i hynny ddigwydd mewn dim mwy na phum mlynedd. Felly, a wnewch chi ymrwymo i Gymru i efelychu hynny er mwyn dangos yn glir yr ymrwymiad gwirioneddol sydd gennym ni o safbwynt newid hinsawdd yn y wlad yma?

Byddaf yn sicr o ymrwymo i ymchwilio i hynny gyda chydweithwyr ac i edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y mae Gweriniaeth Iwerddon wedi'i gyflawni, ac yna byddaf yn ysgrifennu atoch yn dilyn hynny.

Weinidog, rydym yn gwybod bod cynlluniau pensiwn llywodraeth leol wedi buddsoddi mewn amrywiaeth enfawr o gwmnïau, gan gynnwys cwmnïau tanwydd ffosil yn ogystal. Rydym yn gwybod am y math o bwysau sydd ar gynlluniau pensiwn llywodraeth leol ac mae'n edrych yn debyg y byddant yn parhau i fod o dan bwysau o'r fath, felly mae'n ymwneud â mwy na'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i fuddsoddi ynddo neu ddadfuddsoddi ynddo. Pa gyngor a roddwch i awdurdodau lleol mewn perthynas â'u cynlluniau pensiwn, i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cydbwysedd cywir rhwng annog rhag economi tanwydd ffosil dros y degawdau i ddod, ond hefyd er mwyn sicrhau nad yw'r awdurdodau lleol hynny'n cael eu rhoi dan fwy o anfantais ariannol nag y byddent fel arall o bosibl?

14:00

Yn 2018, pleidleisiodd Cyngor Sir Fynwy o blaid gofyn i gronfa Gwent fwyaf, sy'n ymdrin â phensiynau ar gyfer cynghorau Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Chasnewydd, dynnu arian allan drwy orchymyn o gwmnïau sy'n seiliedig ar danwydd ffosil. Amcangyfrifwyd bod y gronfa ar y pryd yn buddsoddi £245 miliwn mewn cwmnïau sy'n seiliedig ar danwydd ffosil. Felly, credaf fod honno'n enghraifft gadarnhaol iawn, ac yn sicr maent yn dangos arweinyddiaeth gref o fewn y sector.

Wrth gwrs, mae'r cynllun pensiwn llywodraeth leol yn gynllun ar gyfer Cymru a Lloegr, felly nid yw wedi'i ddatganoli ac ni fyddai gennym unrhyw ddylanwad uniongyrchol arno. Ond rydym yn edrych yn ofalus ar yr hyn a gyflawnwyd drwy gronfa Gwent fwyaf.

Y Dreth Trafodiadau Tir

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y dreth trafodiadau tir yng Nghymru? OAQ53710

Mae cyfraddau a throthwyon presennol y dreth trafodiadau tir yn golygu bod y rhan fwyaf o drethdalwyr yn talu yr un peth neu lai o dreth nag o dan dreth dir y dreth stamp. Ystyrir data alldro ar gyfer y flwyddyn gyntaf ar ôl ei gyhoeddi gan yr Awdurdod Cyllid Cymru ym mis Mehefin. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod trethdalwyr yn cael gwasanaeth o ansawdd uchel gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog, ond yn ddiweddar, cyhoeddodd y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru adroddiad ar greu system dreth newydd yng Nghymru. Wrth gyfeirio at y dreth trafodiadau tir, gwelodd y Ffederasiwn Busnesau Bach fod llawer o gyfreithwyr wedi mynegi pryderon am yr eiddo sy'n agos at, neu boptu'r ffin â Lloegr. Maent yn honni eu bod yn ei chael hi'n anodd canfod ar ba ochr i'r ffin y mae eiddo, am na cheir fawr iawn o wybodaeth ar leoliad pendant y ffin. Mae sawl cyfreithiwr yn galw am ffordd syml o ganfod yn gyflym a yw eiddo yng Nghymru neu yn Lloegr, drwy wefan Awdurdod Cyllid Cymru os oes modd. A wnaiff y Gweinidog gytuno i ymchwilio i'r mater hwn a gweld beth y gellir ei wneud i roi sylw i bryderon cyfreithwyr sy'n ymdrin ag eiddo ar y ffin?

Yn sicr fe edrychaf ar unrhyw bryderon sy'n parhau, ond ers i'r Ffederasiwn Busnesau Bach gyflawni eu hymchwil yn ôl ym mis Awst, buaswn yn gobeithio bod y materion hynny bellach wedi'u datrys yn foddhaol. Ond os oes achosion unigol lle ceir pryder o hyd, rwy'n hapus i ystyried yr achosion hynny.

Polisi Caffael Cyhoeddus

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith polisi caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru? OAQ53691

Mae datganiad polisi caffael Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar economi a chymunedau Cymru, gyda chyflenwyr yng Nghymru bellach yn ennill 52 y cant o'r gwariant caffael blynyddol o £6.2 biliwn, i fyny o 35 y cant yn 2004. Wrth symud ymlaen, bydd ein polisïau'n adeiladu ar hyn i gryfhau economi Cymru ymhellach.

Weinidog, pan gafodd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ei greu yn 2013 fe fyddwch yn gwybod bod y Gweinidog ar y pryd, Jane Hutt, wedi disgrifio'r gwasanaeth fel

'ffordd Gymreig iawn o ateb gofynion busnesau Cymreig gan sicrhau gwerth am arian i'r bunt Gymreig.'

Ers hynny, fodd bynnag, fel y gwyddoch, mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gwneud colledion sylweddol, gan arwain yn y pen draw at y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r gwasanaeth yn gyfan gwbl.

Nawr, yn naturiol, cyfeiriwyd at gaffael cyhoeddus yn strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru ei hun, y cynllun gweithredu economaidd, fel ffactor galluogi allweddol ar gyfer hybu twf busnes a chreu swyddi yma yng Nghymru. Felly, a gaf fi ofyn i chi amlinellu beth y credwch yw'r ffactorau craidd sydd wedi cyfrannu at fethiant y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol? A ydych yn cytuno bod methiant y gwasanaeth yn ergyd ddifrifol a sylweddol i raglen gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni polisi yn y tymor Cynulliad hwn?

O ran y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, yn sicr buaswn yn eich cyfeirio at yr adolygiad a gynhaliwyd o'r gwasanaeth, sy'n nodi beth y dywedodd ein rhanddeiliaid wrthym y teimlent nad oedd yn gweithio cystal ag y gallai drwy'r dull o weithredu, ac roeddent yn bethau fel methiant i arfer dull rhanbarthol digon cryf neu i fabwysiadu dull lleol digon cryf. Felly, gan y credaf mai'r peth mwyaf pwysig, mewn gwirionedd, yw symud ymlaen o'r fan hon, mae'r gwaith yn parhau yn awr o ran y strategaeth gyflawni yn y dyfodol. Mae'r gwaith hwnnw yn mynd rhagddo'n dda, fel y dywedais. Rydym yn rhannu drafft gyda rhanddeiliaid erbyn dechrau haf 2019, a buaswn yn fwy na pharod i gynnig cyfle i gyd-Aelodau ar draws y Siambr i gael sesiwn friffio gyda swyddogion a chyfle i gyfrannu at y strategaeth honno, oherwydd gwn fod llawer iawn o ddiddordeb mewn caffael cyhoeddus ar draws y Cynulliad. Fel y dywedaf, dylai'r drafft cyntaf fod yn barod erbyn diwedd y mis, ac erbyn hynny byddem yn dechrau mynd allan i'w drafod gyda rhanddeiliaid.

Rydym yn mireinio ymhellach rai o'r cerrig milltir y byddem yn eu dymuno, er mwyn ystyried yr adborth a gawsom eisoes gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a GIG Cymru. Bydd y strategaeth ddrafft honno yn sail ar gyfer ymgynghori pellach ar ffordd newydd ymlaen. Byddwn hefyd yn defnyddio digwyddiadau megis Procurex fel ffordd o godi ymwybyddiaeth o'r gwaith, ac yn ymgysylltu ag ystod mor eang â phosibl o randdeiliaid. Ond rwy'n gwbl glir fod yn rhaid i'r ffordd y byddwn yn symud ymlaen gyda'r agenda hon fod wedi'i chydgynhyrchu i raddau helaeth gyda'r bobl a fydd yn defnyddio'r gwasanaeth ac yn cael budd o'r gwasanaeth.

14:05

Weinidog, nid oes amheuaeth yn fy meddwl fod gan Lywodraeth Cymru strategaeth uchelgeisiol a deinamig i harneisio pŵer caffael cyhoeddus er mwyn gwella cymunedau ledled Cymru. Ond er mwyn gwneud hynny, mae'n gwbl hanfodol fod gennym arbenigwyr caffael wrth galon llywodraeth leol, a gwyddom fod prinder yn y maes hwn. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog llywodraeth leol ynglŷn â hyn ac yn arbennig, a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer cynllun i olynu'r Doniau Cymru, a oedd mor llwyddiannus ychydig flynyddoedd yn ôl?

Diolch ichi am godi hyn, a chredaf fod caffael yn broffesiwn nad yw'n cael ei werthfawrogi hanner digon, o gofio'r gwahaniaeth enfawr y gall penderfyniadau a wneir gan arbenigwyr caffael ei wneud i'r economi leol yn enwedig. Felly, mae sgiliau a gallu yn feysydd blaenoriaethol yn y dull newydd a weithredwn, a bydd rhaglen sgiliau a hyfforddiant newydd yn cael ei datblygu. Unwaith eto, byddwn yn gwneud hynny ar y cyd â rhanddeiliaid. Bydd y ffocws nid yn unig ar gaffael, ond ar faterion ehangach megis meddwl yn arloesol, manteisio ar reolau cymorth gwladwriaethol a rheolau caffael, cymhwyso dulliau newydd o gaffael i sicrhau manteision economaidd, creu swyddi a sicrhau amcanion lles ar draws Cymru. Ac yn ogystal â hyn, byddwn yn darparu canllawiau ategol newydd mewn meysydd allweddol, megis gofal cymdeithasol ac adeiladu, i wella cysondeb a gallu yn y broses o gomisiynu a chaffael o fewn y meysydd hanfodol hynny o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Unwaith eto, byddwn yn edrych yn arbennig ar asesu risg a rheoli o ran y gwaith a wnawn ar wella gallu o fewn y sector. Ond rwy'n glir iawn y bydd gweithwyr caffael proffesiynol yn chwarae rôl gwbl allweddol yn hyrwyddo'r agenda hon, ac roedd yn rhywbeth a nododd y Prif Weinidog yn glir iawn yn ei faniffesto arweinyddiaeth fel un o'i flaenoriaethau ei hun.

Yn anffodus, mae'r Gweinidog amgylchedd newydd orfod gadael y Siambr, ond mi oeddwn i'n gobeithio diolch iddi, yn ei phresenoldeb hi, a'i swyddogion am y ffordd y gwnaethon nhw weithio efo fi a Phrifysgol Bangor ar ôl i fi awgrymu y dylid gweithio efo nhw ar ffordd o achub llong y Prince Madog, a'i throi hi rywfodd yn llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru. Dwi yn deall bod y trafodaethau yna efo swyddogion y Gweinidog a'r brifysgol wedi bod yn gadarnhaol iawn, ond bod penderfyniad wedi cael ei wneud fod rheolau caffael yn ei gwneud hi yn amhosib bwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw, a fyddai wedi gallu achub y berthynas hynod o lwyddiannus sydd wedi gweithredu rhwng y brifysgol a chwmni P&O ers blynyddoedd. A dwi'n gwybod bod y Gweinidog amgylchedd, sydd yn ôl yma erbyn hyn, yn cydfynd â fi yn hyn o beth, ond a gaf i apelio arnoch chi fel Gweinidog i wneud popeth posib i sicrhau bod spec yn gallu cael ei roi at ei gilydd sydd yn golygu bod modd gweithio o fewn rheolau caffael i fwrw ymlaen efo'r cynllun yma, a fyddai'n achub y llong, achub eu gwaith ymchwil rhagorol, ac achub y swyddi lleol?     

Diolch ichi am godi hyn, ac rwy'n hapus iawn i gyfarfod â'r Gweinidog i ystyried sut y gallem symud yr agenda hon yn ei blaen.

Datblygu Economaidd yn y Cymoedd

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i'r portffolio economi a thrafnidiaeth i gefnogi datblygu economaidd yn y cymoedd? OAQ53732

O fewn portffolio'r economi a thrafnidiaeth, mae'r Gweinidog yn blaenoriaethu buddsoddiad i gefnogi datblygiad economaidd yn y Cymoedd drwy amrywiaeth o fesurau, megis blaenoriaethau tasglu'r Cymoedd, y Cymoedd Technoleg a nifer o brosiectau trafnidiaeth.

Rydym ar hyn o bryd yn mwynhau lefelau uwch nag erioed o fuddsoddiad i gefnogi a chynnal yr economi yng Nghymoedd de Cymru. Mae bron i £0.5 biliwn yn cael ei wario o amgylch fy etholaeth i yn unig ar ddeuoli ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd. Ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn gallu cynyddu gwerth y buddsoddiadau hyn ac yn gallu sicrhau'r effaith economaidd fwyaf sy'n bosibl a chreu swyddi a chyfleoedd i bobl, yn enwedig ar draws Blaenau'r Cymoedd. A fyddai'n bosibl i'r Gweinidog a'r Llywodraeth ddarparu atodlen ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol o'r buddsoddiadau sy'n digwydd? Mae tasglu'r Cymoedd wedi cynhyrchu cynllun cyflawni gan gynnwys canolfannau strategol a pharc rhanbarthol y Cymoedd. Byddai'n ddefnyddiol i bob un ohonom pe baem yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwariant yn erbyn y dyheadau a'r targedau hynny a chlywed hefyd a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau i gynnal y lefel hon o fuddsoddiad.

14:10

Diolch ichi am godi hynny. Wrth gwrs, mae cyllideb 2019-20 yn cynnwys gwariant o £25 miliwn dros ddwy flynedd i ddatblygu'r saith canolfan strategol yn ardal tasglu'r Cymoedd—a gyhoeddwyd gennych chi wrth gwrs, felly fe fyddwch yn gyfarwydd iawn â hyn—er mwyn creu cyfleoedd cyflogaeth a buddsoddiad. Hefyd rydym wedi dyrannu £7 miliwn o gyfalaf dros ddwy flynedd, felly £3.5 miliwn yn y ddwy flynedd, 2019-20 a 2020-21, i gefnogi datblygiad parc rhanbarthol y Cymoedd. Defnyddir hwn i gefnogi datblygiad y pyrth darganfod ar draws y Cymoedd ac i gyflawni uchelgeisiau a nodwyd ym mhrosbectws parc rhanbarthol y Cymoedd a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2018. Gwn mai bwriad Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yw cyflwyno datganiad i'r Cynulliad a fydd yn crynhoi'r Cymoedd Technoleg, yr economi sylfaenol a gwaith tasglu'r Cymoedd, ac fe ofynnaf iddo gadw eich sylwadau y prynhawn yma mewn cof pan fydd yn gwneud hynny.

Mae'n ddigon posibl y bydd y datganiad hwnnw'n ateb fy nghwestiwn, ond rwy'n mynd i ofyn i chi rhag ofn, oherwydd roedd yn galonogol clywed gan First Cymru y gellid dod o hyd i enghraifft wych o amserlenni bws cydgysylltiedig ar draws siroedd gyda gwasanaeth Maesteg-Cymer, lle ceir cysylltiadau ar gyfer teithiau ymlaen a reolir yn y Cymer ond sy'n dechrau mewn sir wahanol. Mae'r cwmni wedi datblygu meddalwedd yn ddiweddar i ddweud wrthynt ynglŷn ag unrhyw oedi i draffig fel y gallant gysylltu â gyrwyr os bydd un o'r bysiau yn y trefniant hwnnw wedi'i ohirio, er mwyn i'r bysiau sy'n cysylltu allu aros amdanynt. Mae'r un cwmni'n sôn am ddatblygu meddalwedd i alluogi teithwyr i ddefnyddio un tocyn yng nghwm Tawe ac i mewn i Abertawe er efallai y bydd mwy nag un gweithredwr yn gweithio ar y llwybr penodol. Credaf y byddem yn cytuno bod symudedd a chysylltedd yn mynd i fod yn eithaf hanfodol wrth adfywio economïau'r Cymoedd a thechnolegau i alluogi hynny. Felly, a allwch ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio dyraniad y gyllideb y tu allan i'r Cymoedd Technoleg, ar gyfer datblygu economaidd cyffredinol, i siarad â chwmnïau technoleg a'u perswadio ei bod yn werth lleoli neu ehangu o fewn ardaloedd y Cymoedd er mwyn dod yn rhan o'r economi gylchol yn yr ardaloedd hynny, nid yr economi sylfaenol yn unig? Diolch.

Byddaf yn sicr yn gofyn i fy nghyd-Aelod sydd yn y sefyllfa orau i roi diweddariad llawnach i chi ar y gwaith y mae'n ei wneud yno. Gwn fod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn hynod o uchelgeisiol ar gyfer y Cymoedd Technoleg ac yn mynd ar drywydd nifer o syniadau a allai gyfuno dulliau cyffrous iawn o weithredu technoleg a'r agenda ddigidol o fewn yr ardal honno. Rwyf hefyd yn awyddus iawn i ystyried beth arall y gallwn ei wneud i harneisio potensial digidol i sicrhau bod trafnidiaeth yn dod yn fwy hygyrch i bobl. Fe wnaf yn siŵr eich bod yn cael ymateb llawnach i hynny.FootnoteLink

Polisi Treth Llywodraeth Cymru

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd o ran datblygu polisi treth Llywodraeth Cymru? OAQ53728

Sefydlodd fframwaith polisi treth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017 yr egwyddorion sy'n diffinio ein dull strategol o weithredu trethi Cymru. Mae fy nghynllun gwaith ar y polisi treth ar gyfer 2019, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, yn nodi beth a wnawn mewn tri maes allweddol: datblygu treth, gweinyddu treth, ac ymgysylltu a meithrin gallu.

Weinidog, mae twristiaeth yn bwysig iawn yng Nghymru ac yn rhan bwysig iawn o'n heconomi. Mae gan lawer o wledydd dreth dwristiaeth, sy'n darparu refeniw i wella cynnyrch twristiaeth ac yn wir yn helpu i hyrwyddo a marchnata twristiaeth yn effeithiol. Mae Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Mae yna bryderon hefyd ynghylch yr argymhellion, ac rwy'n eu deall. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried a gwneud gwaith ar dreth dwristiaeth bosibl yng Nghymru?

Diolch ichi am godi hyn. Rydym yn sicr yn gweithio gyda'r sector twristiaeth a llywodraeth leol i ddechrau archwilio natur ac effaith bosibl treth dwristiaeth a'r rhinweddau a gyflwynwyd mewn perthynas â hi, ond hefyd y pryderon a fynegwyd gan y sector twristiaeth ynglŷn â'r syniad hwn. Mae ystyriaeth o dreth dwristiaeth wedi nodi nifer o faterion polisi sy'n galw am fwy o ystyriaeth ar ein rhan, gan gynnwys, er enghraifft, y berthynas rhwng treth dwristiaeth a TAW ar lety i dwristiaid a sut y gallai trethi twristiaeth lleol groestorri â meysydd polisi allweddol eraill, megis trethi lleol a phwysau rheoleiddiol presennol. Ond rydym yn parhau i archwilio'r materion hyn yn fwy hirdymor ac i wneud hynny'n bendant iawn mewn partneriaeth â'r sector twristiaeth ac awdurdodau lleol, gan gadw llygad manwl ar y datblygiadau sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y DU ac ymhellach i ffwrdd yn y maes hwn.

14:15
Brexit a Chyllidebau yn y Dyfodol

8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith bosibl Brexit ar gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol? OAQ53733

Mae adroddiad y prif economegydd, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â chyllideb ddrafft 2019-20, yn rhoi dadansoddiad o ragolygon cyllidol Cymru yn y tymor canolig. Mae rhagolygon economaidd ac ariannol yn dibynnu'n allweddol ar ffurf ein hymadawiad â'r UE.

Weinidog, rydym yn ymwybodol fod yr anhrefn sy'n gysylltiedig â Brexit ar hyn o bryd eisoes yn cael effaith niweidiol ar gyllidebau'r Deyrnas Unedig, a hefyd ar y canfyddiad o'r Deyrnas Unedig yn y byd ehangach. Rydym hefyd yn ymwybodol nad oes unrhyw fath o Brexit mewn gwirionedd o fudd i'r economi. Nid oes y fath beth â Brexit swyddi yn gyntaf, nid oes y fath beth â Brexit economi yn gyntaf. Gwyddom y bydd Brexit, ar ba ffurf bynnag, yn effeithio'n andwyol ar economi Cymru ac economi'r Deyrnas Unedig. Y cwestiwn i ni ei ofyn i ni ein hunain yw pa fath o effaith negyddol fydd iddo. Nawr, bydd hynny'n amlwg yn effeithio ar ein gallu i godi trethi, yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. Ymddengys i mi y byddai'n ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru'n gallu gwneud datganiad llawn ar effeithiau posibl Brexit, ar ba ffurf bynnag, ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.

Diolch. Fy mwriad yw cyflwyno datganiad cyn diwedd tymor yr haf ar y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus, a bydd hwnnw'n sicr yn seiliedig ar ffurf Brexit, ond rydych yn hollol gywir i ddweud nad oes unrhyw ffurf ar Brexit nad yw'n niweidiol i economi Cymru, ac rydym yn nodi hynny'n glir iawn yn y papur polisi 'Diogelu Dyfodol Cymru', ond hefyd o ran y dadansoddiad economaidd, a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr, ynglŷn â'r ffyrdd posibl o adael yr UE. Ac mewn gwirionedd, mae'n ffaith y gallai Cymru, neu fod Cymru'n debygol o gael ei tharo hyd yn oed yn waeth na rhannau eraill o'r DU. Roedd yn ddiddorol darllen Goldman Sachs heddiw yn dweud bod £600 miliwn yr wythnos wedi'i golli eisoes yn y DU ers y refferendwm ar Ewrop. Yn sicr ni welais hynny ar ochr bws.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Yr eitem nesaf, felly, yw’r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae’r cwestiwn cyntaf i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog, a’r cwestiwn gan Dawn Bowden.

Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae gwaith Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn dod â manteision i Ferthyr Tudful a Rhymni? OAQ53715

Mae Amgueddfa Cymru yn agor ei drysau am ddim yn ei saith safle ledled Cymru. Mae'n arwain y sector drwy estyn allan ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol yn gymdeithasol ar draws Cymru, ac rwy'n gwbl ymwybodol, ar ôl cael fy addysgu gan yr Athro Gwyn Alf Williams, fod popeth o werth yn y chwyldro diwydiannol a gwleidyddiaeth radicalaidd yng Nghymru wedi dechrau ym Merthyr Tudful. [Chwerthin.]

Yn bendant iawn, Weinidog, felly diolch am hynny. A chan fy mod ar fy nhraed, a gaf fi fanteisio ar y cyfle i ddiolch i chi am fod ym Merthyr Tudful yn ddiweddar i ddechrau'r hanner marathon ac am arian grant Llywodraeth Cymru—

—a'i gwnaeth yn bosibl? Ei dechrau a wnaeth, nid ei rhedeg.

Weinidog, bydd llawer ohonom wedi sylwi ar y llwyddiant a gafwyd yn ddiweddar wrth fynd â Dippy y deinosor ar daith o amgylch amgueddfeydd y DU, ac rwy'n siŵr fod gan ein horielau a'n hamgueddfeydd cenedlaethol ein hunain arddangosion yn yr un modd y gellid eu harddangos mewn lleoliadau ledled Cymoedd de Cymru a thu hwnt. Yn wir, mae yna lawer o arddangosion a gedwir mewn storfeydd ar hyn o bryd y gellid eu defnyddio yn y ffordd honno, felly i ba raddau y gallwch gyfeirio ein horielau a'n hamgueddfeydd cenedlaethol i ddod â'u harddangosion at y bobl, gan ddefnyddio atyniadau lleol fel y Redhouse neu Gastell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful, er enghraifft, yn y gobaith o greu ymwelwyr ychwanegol a masnach fawr ei hangen? Er enghraifft, cedwir trên Trevithick yn amgueddfa'r môr yn Abertawe ac nid yn ei gartref ym Merthyr Tudful, ac rwy'n siŵr y byddai pobl Merthyr Tudful yn hoffi ei weld yn dod i Ferthyr Tudful o bryd i'w gilydd er mwyn i'r bobl yno'n lleol gael ei weld. Felly, a ydych yn cytuno y gallai defnyddio arddangosion wedi'u dewis yn addas fod yn elfen ymarferol arall o weithgareddau yn ein strategaethau ar gyfer y Cymoedd?

14:20

Wel, rhaid mai'r ateb i hynny yw 'ydw'. Rwyf bob amser yn annog yr amgueddfeydd a'r orielau cenedlaethol i sicrhau bod pob agwedd ar y casgliad cenedlaethol y gellir eu dangos ar draws y wlad yn cael eu harddangos yn y ffordd honno. Mae gennym ganolfannau fel Oriel y Parc yn Nhyddewi, neu rai o'r llyfrgelloedd—yn fwyaf diweddar roeddwn yn Hwlffordd yn agor llyfrgell newydd lle mae yna berthynas arbennig â'r amgueddfa a'r orielau cenedlaethol, ac wrth gwrs, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ei hun fuddsoddi, o dan y cynllun Cyfoeth Cymru Gyfan, yng Nghastell Cyfarthfa ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn sicrhau ein bod yn gwario mwy ar y cronfeydd amrywiol sydd gennym—yr arian cyfalaf drwy'r gronfa trawsnewid, er enghraifft, a weithredir gan fy adran—er mwyn ei gwneud yn bosibl gwella safon y mannau amrywiol sydd gennym ar gyfer cynnal arddangosfeydd.

O ran yr injan, fe wnaf—[Torri ar draws.] O ran yr injan, byddaf yn trafod gyda'r Amgueddfa Genedlaethol yn uniongyrchol oherwydd mae gennyf obsesiwn, fel y gwyddoch, â hanes stêm a glo a datblygiad y rheilffyrdd yng Nghymru. Byddaf yn trafod gyda'r Amgueddfa Genedlaethol pa ffordd y gallem eich helpu ar hyn. Nawr, p'un a yw'n golygu trosglwyddo'r injan yn rheolaidd neu ei throsglwyddo fel rhan o berthynas fwy hirdymor—.

Weinidog, a gaf fi eich cymeradwyo am geisio cael cymaint o'r casgliad cenedlaethol allan yno ag sy'n bosibl er mwyn iddo gael ei weld? Mae gormod ohono wedi'i gadw mewn storfeydd a dylem gofio bod yr eitemau hyn yno i'w gweld a dyna pam y maent yn y casgliad yn y lle cyntaf. A wnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith Dawn Bowden yn hybu gwybodaeth am gymuned Iddewig Merthyr Tudful, a sefydlwyd ym 1848, ac a welir ar ei mwyaf ardderchog yn y synagog a luniwyd yn arddull yr adfywiad Gothig, ac a adeiladwyd yn 1877? Mae dyfodol y synagog yn dal i fod yn ansicr, a tybed a allech ofyn i'r Amgueddfa Genedlaethol edrych ar y fenter newydd a alwyd—a elwir, yn hytrach—yn brosiect Synagogau Hanesyddol Ewrop, sy'n edrych ar gymunedau diwydiannol ac ardaloedd eraill lle roedd yna boblogaeth Iddewig fawr a sicrhau bod y trysorau hanesyddol hyn yn cael eu cadw.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich cefnogaeth i'n gweithgarwch. Mae gennyf ddiddordeb arbennig, wrth gwrs, oherwydd fy nghefndir a fy arfer fy hun, yn hanes pob cymuned ffydd ac yn arbennig rôl y gymuned Iddewig yn datblygu Cymru, yn datblygu busnesau a chyfalafiaeth a buddsoddiad yng Nghymru, yn enwedig yn ystod cyfnodau allweddol o'r chwyldro diwydiannol, a byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr fy mod yn trafod hyn. Cafwyd menter, a mynychais gyfarfodydd grwpiau ffydd i edrych yn benodol ar y defnydd o adeiladau ffydd at ddibenion cadwraeth a bydd hynny wedyn yn arwain at roi gwerth cyfoes iddynt, ac mae'n ymddangos i mi mai'r allwedd yma, fel bob amser, yw nad yw henebion yno i fod yn henebion. Maent yno i gael eu defnyddio yn y presennol er mwyn dehongli'r hyn a ddigwyddodd yno yn y gorffennol.

Gohebiaeth yn Gymraeg

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am barodrwydd sefydliadau mawr y sector preifat, fel banciau, i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg? OAQ53697

Wel, diolch yn fawr, Mike, a diolch am ofyn y cwestiwn yn Gymraeg. Dwi'n falch o weld y byddwch chi'n un o'r miliwn erbyn 2050. Diolch yn fawr. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio gyda'r sector banciau i’w hannog i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Yn ddiweddar, ysgrifennais at y comisiynydd er mwyn cynnig cymorth fy swyddogion i ddatblygu technoleg addas i’w cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Byddai hwn, wrth gwrs, yn cynnwys gohebiaeth.

Diolch am eich ateb. 

Mae'r anhawster a gafodd fy merch i gael Banc Lloyds i dderbyn y ffurflen yn Gymraeg wedi cael llawer o sylw. Pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog, neu y mae'n bwriadu eu cael, gyda banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau yswiriant ynglŷn â derbyn gohebiaeth yn Gymraeg, oherwydd fel arall bydd gennym system ddwy haen, lle mae'r sector cyhoeddus yn ymateb yn Gymraeg ac ni fydd y sector preifat yn gwneud hynny?

Wel, dwi wedi cael cyfarfod gyda'r banciau a hefyd gyda'r comisiynydd iaith, ac, wrth gwrs, mae hwn yn gyfrifoldeb ar y comisiynydd. Dwi yn cydnabod, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod, fod correspondence yn rhan allweddol o wasanaeth y banc. Mae'r comisiynydd wedi cyflwyno seminar yn ddiweddar yn Llundain, achos, yn aml, dyna lle mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud, ac felly dwi'n meddwl dyna'r ffordd i bwyso arnyn nhw, ac, wrth gwrs, hefyd, i ddeall bod pethau'n newid yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio banciau. Mae angen inni sicrhau bod pobl yn defnyddio technoleg a bod y dechnoleg yna ar gael drwy'r Gymraeg. Ac mae'n ddiddorol—mae Santander, er enghraifft, wedi datblygu meddalwedd lle, unwaith rŷch chi'n defnyddio'r Gymraeg unwaith, mae'n cofio eich bod chi'n siaradwr Cymraeg, a dwi'n meddwl y dylen ni fod yn annog eraill i wneud hynny.

14:25

Mae'n gwneud synnwyr busnes da iawn, wrth gwrs, i unrhyw sefydliad allu rhyngweithio â'u cwsmeriaid yn eu dewis iaith, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys Cymraeg, yn enwedig o gofio ein bod eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo. Nawr, bydd gan lawer o fusnesau, yn fawr ac yn fach, aelodau o staff yn eu timau sy'n siarad Cymraeg, ond sydd ond yn defnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg o ddydd i ddydd yn anaml iawn. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog defnydd ehangach o'r sgiliau hynny mewn busnesau o bob maint ledled Cymru fel bod y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg â chwsmeriaid yn rhywbeth nad yw'n gudd, os mynnwch, o ran y sgiliau cudd hyn, ond eu bod yno i bawb eu gweld, fel y gellir annog cwsmeriaid i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg?

Wel, wrth gwrs, byddwch chi'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi bod 12 o swyddogion busnes ledled Cymru nawr yn mynd o gwmpas busnesau bach i roi syniadau iddyn nhw ar sut gallan nhw ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. A hefyd, wrth gwrs, mae'r cynllun Cymraeg Gwaith sy'n cael ei redeg gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae miloedd ar filoedd o bobl eisoes wedi defnyddio'r cyfle i ddysgu'r Gymraeg yn y gweithle, ac, wrth gwrs, rŷn ni'n rhoi cyfraniad hael tuag at y cyfle iddyn nhw i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae lot o hyn am rili cynyddu hyder pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Mae lot o waith yn cael ei wneud eisoes y tu fewn i'r Llywodraeth, ond beth sy'n dda nawr yw bod hwnna'n mynd allan i'r sector breifat hefyd.

Weinidog, diolch byth, ar wahân i ychydig o faterion hyfforddiant, mae sefydliadau mawr yn y sector preifat megis banciau a chwmnïau cyfleustodau eisoes yn derbyn gohebiaeth yn nwy iaith swyddogol Cymru. Os ydym am annog mwy o sefydliadau sector preifat i wneud yr un peth, a ydych yn cytuno bod rhaid inni gymell yn hytrach na chosbi? Weinidog, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gynnig hyfforddiant iaith Gymraeg i sefydliadau o'r fath a gostyngiadau mewn ardrethi busnes efallai i'r sefydliadau sy'n annog staff i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg?

Diolch yn fawr. Credaf eich bod yn hollol gywir, mae—. Mae'n bwysig iawn inni ddefnyddio'r foronen a'r wialen lle bo hynny'n bosibl. Rwy'n fwy cefnogol i'r foronen, yn gyffredinol, na'r wialen, a dyna pam yr ydym wedi cyfrannu miliynau i fenter i annog pobl i ddysgu'r iaith yn y gweithle. Ond yr ochr arall i hyn, wrth gwrs, yw bod siaradwyr Cymraeg—os yw'r cwmnïau sector preifat hyn yn darparu'r gwasanaeth hwnnw drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n ddyletswydd arnom ni, fel siaradwyr Cymraeg—

—fel siaradwyr Cymraeg, i sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r gwasanaeth yna. A dyna'r broblem ar hyn o bryd. Yn aml iawn, mae'r gwasanaethau yna; ychydig iawn o Gymry Cymraeg sy'n eu defnyddio nhw. Mae'n rhaid inni fod yn sicr ein bod ni, fel Cymry Cymraeg, yn defnyddio'r gwasanaethau yna pryd bo hynny—pan fo'r cyfle yna gyda ni.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Diolch, Llywydd. Pum mlynedd yn ôl, mi oeddwn i’n cynrychioli Cyngor Gwynedd ar fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd, sef y gymdeithas tai sy’n gyfrifol am reoli dros 6,300 o dai cymdeithasol Gwynedd. Mae mwyafrif helaeth staff y corff yn siaradwyr Cymraeg, mae’r Gymraeg yn iaith mwyafrif y boblogaeth y mae’r sefydliad yma’n ei gwasanaethu, ac mae pencadlys y corff yn un o gadarnleoedd y Gymraeg. Mae’r corff wedi ymrwymo i gynnal yr arfer o weinyddu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg ac i wneud y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn sgìl hanfodol ar gyfer pob swydd er mwyn gweithredu hynny. 

Yn 2014, fe wnaeth y bwrdd benderfynu bwrw ati, yn groes i gyngor Comisiynydd y Gymraeg, ac yn groes i gynllun iaith y sefydliad, i benodi i ddwy o brif swyddi'r corff heb ofyn am sgiliau Cymraeg, a hynny ar gyngor asiantaeth recriwtio o Leamington Spa. Mae yna gonsensws o blaid gweinyddu yn fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cyhoeddus yng Ngwynedd, ac mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol bod y Gymraeg yn cael ei chynnal yn iaith gwaith, ac yn iaith fyw, yn y rhannau yma o'r byd. Gan fy mod i'n gweld hynny i gyd yn y fantol nôl yn 2014, mi wnes i ymddiswyddo o'r bwrdd.

Rŵan, mae hi wedi dod i'r amlwg bod y corff yma unwaith eto yn recriwtio uchel swyddogion, efo cymorth asiantaeth o Birmingham y tro yma. Ac mae swydd dirprwy brif weithredwr, swydd sydd â chyflog o £105,000, wedi cael ei hysbysebu heb unrhyw ofyniad o ran gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, dim ond 'dirnadaeth' o'r Gymraeg ac o ddiwylliant gogledd Cymru, beth bynnag ydy hynny.

14:30

A wnewch chi ymyrryd i sicrhau bod un o gonglfeini eich strategaeth miliwn o siaradwyr, o ran y gweithlu, yn cael ei chynnal, drwy anfon llythyr cyhoeddus i erfyn ar Cartrefi Cymunedol Gwynedd i ailystyried?

Wel, dwi'n meddwl bod hwn yn bwnc sensitif tu hwnt, a dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus ein bod ni ddim yn cau'r cyfle off i ni alluogi mwy o bobl i gael y cyfle i ddysgu Cymraeg. A dwi'n meddwl, os oes yna ymrwymiad i bobl ddysgu Cymraeg pan maen nhw'n dod mewn i swydd, mi ddylen ni fod yn annog hynny hefyd. Felly, dwi yn meddwl bod rhaid i ni gymryd y cyfle i sicrhau ein bod ni ddim yn disgrimineiddio gormod yn erbyn pobl sydd ambell waith, efallai, gyda'r sgiliau cywir o ran datblygu tai ac ati, ond efallai ddim gyda'r sgiliau ieithyddol rŷch chi yn ystyried sydd mor hanfodol.

Dydy'r swydd ddisgrifiad ddim yn sôn am ddysgu Cymraeg; dydy o ddim yn sôn ei bod hi'n ddymunol, dim ond 'dirnadaeth'—sut bynnag dŷch chi'n mynd i fod yn edrych ar hynny. Y gwir amdani ydy bod gennych chi bwerau i osod safonau ar gymdeithasau tai. Ac yn 2015, yn dilyn y ffrae wreiddiol, fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg edrych mewn i'r holl sefyllfa, a dod i'r casgliad—a dwi'n dyfynnu allan o'r adroddiad wnaethpwyd ar y pryd—bod yr

'achos hwn wedi arddangos yn glir nad yw'r drefn bresennol o ofyn i ddarparwyr tai cymdeithasol weithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg gwirfoddol yn ddigonol'.

Ac roedd hi'n glir bryd hynny, nôl yn 2015, bod angen i'r Llywodraeth gyflwyno safonau ar gyfer cymdeithasau tai—bedair blynedd yn ôl. Mae'r oedi yma yn golygu ein bod ni yn yr union yr un sefyllfa eto. Mae'r gwaith o wneud y rheoliadau drafft wedi cael ei gyflwyno i chi ar gyfer cymdeithasau tai. Mae o'n eistedd ar eich desg chi. Wnewch chi ddweud wrthym ni heddiw, felly, pryd fydd yna safonau ar gyfer cymdeithasau tai?

Wel, dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn i beidio â chymysgu'r ddau beth. Dwi yn meddwl y byddwn ni'n symud ymlaen â chynlluniau iaith—neu safonau iaith—ar gyfer cymdeithasau tai. Allaf fi ddim rhoi amserlen glir i chi, achos ein bod ni yng nghanol Brexit, ac yn anffodus mae hwnna yn sugno darpariaeth ddeddfwriaethol y Llywodraeth, felly ychydig iawn sydd ar ôl o ran symud pethau ymlaen yn ddeddfwriaethol mewn adrannau eraill. Ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus ein bod ni ddim yn cymysgu rhwng rhoi safonau ar gynllunio ieithyddol y tu fewn i gymdeithasau tai a mynnu bod pob un y tu fewn i'r mudiad wedyn yn siarad Cymraeg. Mae hwnna yn gam mawr iawn i'w wneud.

Dwi wedi eich clywed chi'n sôn am Brexit o'r blaen fel rheswm dros beidio ag ailgychwyn y rhaglen o gyflwyno safonau ar gyfer cyrff newydd. Os rhywbeth, mae bygythiad Brexit yn ei gwneud hi'n fwy o flaenoriaeth i warchod ein hawliau iaith ni.

Mi wnaethoch chi gyhoeddi eich cynllun gweithredu strategaeth miliwn ar gyfer 2019-20 ychydig ddyddiau yn ôl. Ac roedd hyn yn gyfle i chi gadarnhau eich cynlluniau a'r gweithredu y gallwn ni edrych ymlaen atyn nhw dros y flwyddyn i ddod rŵan bod bygythiad Bil y Gymraeg wedi diflannu. Ond, yn anffodus—a dŷch chi wedi ailadrodd hynny eto heddiw—does yna ddim goleuni ar amserlen bendant ar gyfer mwy o safonau. Heb os, mae beth dŷn ni wedi ei brofi heddiw yn dangos ein bod ni eu hangen nhw.

Mi wna i ofyn i chi eto: fedrwch chi roi syniad pryd y gall gweithwyr Cymru a'r cyhoedd gael sicrwydd am eu hawliau o ran y Gymraeg ac a wnewch chi ymrwymo felly i gyhoeddi amserlen ar gyfer gosod safonau ar gyfer cymdeithasau tai ynghyd â'r holl sectorau sy'n weddill yn ystod tymor yr haf, a hynny ar ôl inni ddychwelyd ar ôl y toriad? 

14:35

Wel, rŷm ni yn bwriadu bwrw ymlaen gyda rhoi safonau newydd ymlaen. Mi ges i air ddoe gyda phennaeth Dŵr Cymru a gwneud yn siŵr ei fod e'n deall ein bod ni'n bwriadu symud ymlaen gyda safonau yn y maes dŵr. Felly, dyna fydd y cam cyntaf ac wedyn byddwn ni'n edrych ar y sectorau eraill ar ôl hynny.

Diolch yn fawr, Llywydd. Weinidog, yn eich cynllun gweithredu 'Cymraeg 2050' ar gyfer 2019-20, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, rydych yn cyfeirio at argymhellion a wnaed mewn gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen Cymraeg i Blant. Gobeithio y byddwch yn cadarnhau y byddwch yn cyhoeddi'r adolygiad rywbryd yn fuan. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd swyddogion Cymraeg i Blant yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu ac adolygu y WESPs, cyfarfodydd fforymau iaith lleol a chynllunio rhanbarthol y Mudiad Meithrin? A sut y clywir llais y plentyn yn y broses hon yn unol â'r confensiwn hawliau plant? A gaf i ofyn hefyd—? A oes risg fod rhai cynghorau yn parhau i ddibynnu ar grwpiau allanol tebyg—mae mentrau iaith yn esiampl arall—i gyflawni eu dyletswyddau eu hunain o dan safonau?

Diolch. Dwi'n meddwl, o ran Cymraeg i Blant, y byddwn ni'n ymgymryd â sicrhau ein bod ni'n deall os yw hwnna wedi bod yn llwyddiant. Ac, wrth gwrs, mi wna i ymgymryd â chyhoeddi'r canlyniadau unwaith y bydd y rheini gyda ni. 

Rŷch chi'n eithaf iawn o ran y WESPs. Beth rŷm ni'n trio ei wneud nawr yw symud ymlaen o'r camau rŷm ni wedi eu cymryd yn y gorffennol i ganolbwyntio ar ysgolion. Ac mae dealltwriaeth gref nawr bod angen inni sicrhau bod plant, cyn mynd i'r ysgol—bod gyda ni strategaeth ar gyfer hynny. Achos, wrth gwrs, dyna'r ffordd rŷm ni'n cael plant i mewn i'r ysgol yn y lle cyntaf. Rwy'n credu ei fod yn anodd, o ran plant ifanc iawn, i gael llais y plentyn yn rhan o ddatblygu'r WESPs yma, ond dwi eisiau eich sicrhau chi ein bod ni'n mynd i ail-lunio gweithgaredd y WESPs i sicrhau bod plant ifanc—rŷm ni'n gobeithio canolbwyntio ar hynny fel y trywydd y byddwn ni eisiau i'r cynghorau ei gymryd yn y dyfodol.

Diolch am yr ymateb. Wrth gwrs, rwy'n derbyn y ffaith bod plant ifanc iawn ddim yn gallu cyfrannu lot i'r broses yma, ond wrth gwrs mae gyda nhw rieni hefyd gyda syniadau. Dyw hi ddim wedi ymateb i'r cwestiwn chwaith am sut y mae rhai cynghorau yn dechrau dibynnu ar grwpiau allanol i'w helpu nhw gyda'u dyletswyddau mewnol, achos mae'n debyg fod gormod ohonyn nhw yn gwneud hynny yn lle trio creu mwy o gapasiti y tu mewn i'r cynghorau eu hunain, yn y gweithlu, ynglŷn â'u gallu Cymraeg.

Jest i symud ymlaen nawr, mae'r cynllun gweithredu yn dweud hefyd y bydd y rhaglen Cymraeg Byd Busnes eleni yn canolbwyntio ar dwristiaeth, bwyd a diod a manwerthu. Mae Cymru yn aml yn cael ei chymharu'n wael â'r Alban o ran cyfleu ein cynnig i dwristiaid yn glir. Rydym yn dal i danbrisio ein pwynt gwerthu unigryw, sef ein bod ni'n genedl o ddwy iaith. Mae'n gwahaniaethu Cymru oddi wrth rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Sut y bydd eich swyddogion Cymraeg Byd Busnes yn gweithio gyda busnesau sy'n rhan o'n heconomi ymwelwyr i fanteisio ar y pwynt gwerthu unigryw hwnnw er budd ein cymunedau Cymraeg, ac fel esiampl i ardaloedd twristaidd eraill di-Gymraeg, lle gallai fod yn anodd i'w perswadio am y gwerth ychwanegol mae'r iaith yn ei gynnig?

14:40

Diolch. Rŷch chi'n eithaf reit; mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus—jest i ateb yr un diwethaf wnes i ddim ateb y tro diwethaf—o ran dibynnu yn ormodol ar grwpiau allanol i ymgymryd â phethau sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni i gyd yn datblygu'r gallu yna yn fewnol ac, wrth gwrs, gall cynghorau ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mae rhai yn lot fwy ar y blaen na rhai eraill. Rŷm ni wedi gweld bod Heddlu Gogledd Cymru, er enghraifft, wedi gwneud gwaith arbennig yn datblygu'r iaith Gymraeg.

O ran Cymraeg Byd Busnes, ddoe fe wnes i siarad â'r grŵp trawsbleidiol a oedd yn gofyn yn union yr un cwestiwn ag ŷch chi wedi ei ofyn nawr, sef sut rŷm ni'n defnyddio'r ffaith bod gyda ni iaith unigryw i werthu ein gwlad. Beth sydd wedi digwydd eisoes yw bod ein brandio ni wedi newid yn llwyr yn ddiweddar. Rŷm ni'n defnyddio'r iaith Gymraeg fel rhan o'r brandio rhyngwladol fel ein bod ni yn sefyll allan. Ac, wrth gwrs, bydd y swyddogion sy'n gweithredu o ran Cymraeg mewn busnes yn gallu rhoi lot o help i'r rheini sy'n gweithio yn y maes twristiaeth. Er enghraifft, mae lot ohonyn nhw mewn restaurants ac ati ac rŷm ni'n gallu eu helpu nhw i gyfieithu eu bwydlen nhw i sicrhau bod yna allu iddyn nhw roi'r gwasanaeth yna trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hwnna hefyd yn gwneud iddyn nhw sefyll allan, ac mae pobl yn hoffi hynny, wrth gwrs. Dwi'n meddwl bod yna rai ardaloedd lle mae hynny'n mynd i weithio'n well, ond dwi'n gobeithio beth welwn ni, fel ŷch chi wedi cyfeirio ato, yw bod pobl eraill yn deall ac yn dysgu oddi wrth y rhai sy'n cymryd y camau cyntaf yna.

Diolch am yr ateb hwnnw. Gobeithio bod peth o'r gwaith yn dechrau cael tipyn bach o lwyddiant gyda beth sy'n digwydd yn barod, ond hoffwn i weld mwy o gynnydd yn y llwyddiant yna yn y dyfodol.

Fis diwethaf, pan wnes i ofyn ichi am linell gymorth gyfieithu Llywodraeth Cymru i fusnesau bach, dywedoch chi wrthyf fi fod llawer iawn o waith yn cael ei wneud yn y maes hwn a bod y rhan fwyaf o'r gwaith hwnnw yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Mae eich cynllun gweithredu yn dweud y bydd ymgyrch farchnata i annog busnesau i ddefnyddio'r llinell gymorth gyfieithu hon a bydd Llywodraeth Cymru—quote—yn cydweithio â Chomisiynydd y Gymraeg ar hyn. Manylion newydd yw'r rheini ers mis diwethaf. A ydych chi'n golygu y bydd y comisiynydd yn helpu i hyrwyddo'r llinell gymorth? Achos roeddwn i'n meddwl taw mentrau iaith oedd yn gyfrifol am weithio gyda busnesau bach. Neu a ydych chi'n ystyried trosglwyddo'r holl gyfrifoldeb dros redeg y llinell gymorth i swyddfa'r comisiynydd? Os felly, a allwch chi gadarnhau lle ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 y mae gan y comisiynydd y pŵer i gynnig y gwasanaeth hwn, a faint o gyllid ychwanegol y byddwch yn ei roi i'r comisiynydd newydd i gwrdd â'r cyfrifoldeb newydd hwn?

Wel, ar hyn o bryd, beth rŷm ni'n gobeithio ei wneud yw sicrhau bod y llinell gymorth yna yn dechrau tu fewn i Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae'r ymgyrch farchnata yna—bydd hwnna'n dechrau cyn bo hir. Ond mae gyda ni gomisiynydd newydd sydd wedi dechrau'r wythnos yma, a dwi'n gobeithio y bydd y cydweithrediad yna rhwng Llywodraeth Cymru a swyddfa'r comisiynydd yn rhoi'r cyfle inni sicrhau ein bod ni lot yn gliriach ynglŷn â phwy sy'n gwneud beth o ran busnesau. Dwi'n meddwl bod yna le inni geisio gweld a oes yna ffordd inni gydweithredu yn well. Dwi ddim yn meddwl bod dim byd yn y Mesur yn atal y comisiynydd rhag mynd i mewn i'r maes yma, ond beth rŷm ni wedi bod yn poeni amdano yn y gorffennol yw'r ffaith bod y comisiynydd wedi bod yn canolbwyntio gormod, efallai, ar y safonau ac ar blismona yn hytrach nag ar hybu ac ar hyrwyddo. Byddwn i'n gobeithio yn y dyfodol bydd yna gamau yn cael eu cymryd i fynd i mewn i'r maes yma'n fwy gan y comisiynydd.

Diolch, Lywydd. Weinidog, rydym wedi cael ambell i ddadl yn ddiweddar am rygbi, sydd bob amser yn bwnc diddorol. Fodd bynnag, mae'r tymor criced yn dechrau ymhen wythnos, felly rwy’n awyddus i roi sylw i hynny heddiw. Nawr, fel y gwyddoch, mae Morgannwg wedi wynebu anawsterau ariannol dros y blynyddoedd diwethaf. Wrth gwrs, fe ddaethant i gytundeb â bwrdd criced Lloegr i beidio â chynnal gemau prawf rhwng 2020 a 2024 yn gyfnewid am becyn iawndal sydd wedi helpu eu sefyllfa ariannol i raddau. Ond beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod criced rhyngwladol yn dod i Gymru dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt?

14:45

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, ac yn wir, rwy'n cefnogi Morgannwg ers y tro cyntaf i mi fynd i faes San Helen, heb ddeall beth yn union oedd yn digwydd yno, a minnau tua phum mlwydd oed ar y pryd. Yr hyn rwyf am ei wneud yw ymrwymo i gael cyfarfod gyda Criced Cymru, a thrafodaeth gyda chlwb criced Morgannwg, a byddaf yn cael cyfle i wneud hynny cyn bo hir wrth i'r tymor ddechrau. Ond byddaf hefyd yn ymrwymo, os bydd angen, i gyfarfod yn ffurfiol â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, mewn perthynas â'r penderfyniadau a wneir ynghylch gemau prawf, gan fy mod yn sylweddoli gwerth digwyddiadau o'r fath i Gaerdydd a statws pwysig Gerddi Sophia fel cartref cenedlaethol criced yng Nghymru.

Iawn. Diolch yn fawr iawn am eich ymrwymiad, Weinidog, ac rwy'n siŵr y byddai cyfarfod â bwrdd criced Lloegr yn syniad da, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad cadarnhaol yn sgil hynny.

Nodaf fod Llywodraeth Cymru, yn 2018-19, wedi dyrannu £600,000 i Criced Cymru i gefnogi criced cymunedol a chriced pherfformiad uchel ledled Cymru. Wrth gwrs, mae poblogrwydd criced wedi tyfu ymhlith pobl o bob oed dros y blynyddoedd diwethaf, ond yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Gwelaf o gofnodion bwrdd Criced Cymru fod nifer o aelodau'r bwrdd wedi bod yn gweithio gyda chlwb criced Morgannwg i ddatblygu gwahanol fentrau, gyda'r ffocws ar gynyddu nifer y bobl sy'n ymwneud â chriced o'r ffigur presennol o 20,000 i 40,000, sy'n darged uchelgeisiol. A allwch ddweud ychydig mwy wrthym am yr hyn y mae Criced Cymru yn ei wneud i helpu i ddatblygu'r gamp ar lawr gwlad, ac a ydych yn credu y gellir cyflawni'r targed hwn o ddyblu nifer y bobl sy'n ymwneud â chriced?

Wel, rwy'n gobeithio y gellir ei gyflawni. Yn amlwg, mae'n fater o amserlen, ond unwaith eto, byddaf yn sicrhau, yn fy nhrafodaethau gyda Criced Cymru sydd i ddod y tymor hwn, y byddaf yn gofyn iddynt am arwydd cliriach ynglŷn â gweithredu targed o'r fath. O'm rhan i, mae cynyddu diddordeb mewn chwaraeon bob amser yn bwysig. Mae gennym ein prif chwaraeon, nad ydynt bellach wedi'u cyfyngu i'r tymhorau traddodiadol o ran pêl-droed, rygbi a phêl-rwyd, sy'n gamp gynyddol bwysig, ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn yr wythnos hon at y digwyddiad pêl-droed menywod rhyngwladol, pan fyddaf yn cefnogi tîm menywod Cymru yn Rodney Parade yng Nghasnewydd, sef eu lleoliad traddodiadol bellach. Ond rwyf am wneud yn siŵr, pan fyddaf yn cael y trafodaethau hyn, y byddaf yn sicrhau y bydd rôl criced, ac yn wir, rôl chwaraeon haf eraill o bosibl, yn faterion y byddaf yn eu trafod, a thrwy Chwaraeon Cymru, wrth gwrs.

Ie, wrth gwrs. Mae'n bwysig meithrin diddordeb mewn llawer o chwaraeon, ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn dymuno'n dda i dîm menywod Cymru gyda’u hymdrechion.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Bwrdd Criced Lloegr gystadleuaeth T20 newydd i ddinasoedd, os caf ddychwelyd at griced. Mae'n dda gweld bod Caerdydd yn un o'r lleoliadau a fydd yn cynnal y digwyddiad. Fodd bynnag, un o'r problemau sydd gan Forgannwg o ran apelio at bobl o bob cwr o Gymru yn fy marn i, yw bod y rhan fwyaf o'r gemau bellach yn cael eu chwarae yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd. Gwn fod Morgannwg wedi ymdrechu i chwarae gemau o gwmpas y wlad. Mae ganddynt faes yn San Helen, lle dechreuoch chi wylio Morgannwg, wrth gwrs, fel y dywedasoch yn gynharach, a hefyd ym Mae Colwyn, lle maent yn chwarae gemau sirol. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn eich barn chi i sicrhau bod criced yng Nghymru yn cyrraedd cynulleidfa ehangach, nid yn unig o ran niferoedd, ond yn ddaearyddol hefyd?

Yn sicr, rwy’n cydnabod pwysigrwydd cyrhaeddiad daearyddol, ac eto, yn amlwg, rwy'n mynychu gemau Morgannwg yn Llandrillo-yn-Rhos yn rheolaidd, ond fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef nad yw’n faes addas, gan fod y ffin, yn anffodus, braidd yn agos at y wiced, at y llain. Ond byddaf yn sicrhau bod y materion hynny’n cael eu trafod pan fyddaf yn cael fy nhrafodaethau â Morgannwg, a byddaf yn ceisio cyngor pellach ynghylch yr hyn sydd i weld yn fasnachol bosibl, heb wneud unrhyw ymrwymiadau ar unwaith ynglŷn â sut y dylem wneud hynny. Ond yn amlwg, mae dosbarthiad daearyddol criced, yn ogystal â dosbarthiad chwaraeon eraill yn y gogledd yn wir, yn dod a'r holl gwestiwn ynghylch dyfodol Parc Eirias yn ei ôl, gan fod materion yma lle credaf ein bod yn colli cynulleidfa fawr yng ngogledd Cymru, yn ogystal â chynulleidfa sylweddol a fyddai wrth ei bodd yn teithio o ogledd-orllewin Lloegr i leoliadau chwaraeon yng ngogledd Cymru.

14:50
Rhaglen Cymru o Blaid Affrica

3. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adeiladu ar lwyddiant y rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru? OAQ53727

Rwyf wrth fy modd fod Cymru o Blaid Affrica yn rhan o fy mhortffolio a bod cynifer o bobl yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o wneud Cymru a'r byd yn lle gwell. Bydd y rhaglen yn rhan allweddol o'r ymgynghoriad ar y strategaeth ryngwladol. Rwy'n ystyried ymateb i'r strategaeth ryngwladol gan y sector gwirfoddol ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â'r agwedd hon ar waith Llywodraeth Cymru.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Cytunaf yn llwyr, a chredaf y ceir cytundeb cyffredinol ar draws y Siambr fod hon yn rhaglen werth chweil sy'n darparu manteision sylweddol i Affrica Is-Sahara, ac yn wir, i Gymru. Un agwedd bwysig ar hyn yw'r cysylltiadau rhwng cymunedau. Credaf fod gennym nifer calonogol iawn ohonynt yng Nghymru, ond yn amlwg, gellid ychwanegu atynt, Weinidog, a gellid dwysáu a chryfhau'r rhai sy'n bodoli'n barod. Felly, o ystyried pwysigrwydd agor Cymru i'r byd a'r byd i Gymru, a'r rhan arwyddocaol y mae'r cysylltiadau hyn yn ei chwarae wrth gyflawni’r uchelgais honno, a wnewch chi ystyried gwella argaeledd adnoddau a chyllid er mwyn cynyddu nifer y cysylltiadau, ac fel y dywedais, er mwyn cryfhau a dwysáu’r rheini sy'n bodoli eisoes?

Wel, mae'n amlwg mai'r strategaethau mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n ymwneud â'r cysylltiad rhwng cymunedau, ac mae hon yn enghraifft wych o ble mae pobl yn mynd i’r afael â hynny, yn fy marn i. Mae PONT yn enghraifft wych o hynny; mae peth o'r gwaith a wneir yn Lesotho yn dangos o ddifrif sut y mae adeiladu'r cymunedau hynny a'r cysylltiadau hynny rhwng pobl yn rhoi dyfnder i raglen Cymru o Blaid Affrica.

Un o'r pethau y mae angen i ni eu gwneud yw sicrhau y ceir mwy o eglurder o ran pwy sy'n gwneud beth ac ym mhle, felly rwyf eisoes wedi comisiynu gwaith i weld sut i fynd ati i fapio hynny, er mwyn sicrhau bod pob un ohonom yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd cyn inni ddechrau. Rydych yn llygad eich lle—bydd adnoddau bob amser yn broblem yn hyn o beth, ond yr hyn sy'n glir yw bod yr ychydig iawn o adnoddau a ddarparwn ar gyfer hyn yn cael cryn effaith. Ond gallwn hefyd fod yn greadigol gyda rhai o'r ffyrdd eraill rydym yn rhoi cymorth. Felly, yn ddiweddar, rhoddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gwch ar gyfer amddiffyn pysgodfeydd i Lywodraeth Liberia. Mae'n broblem wirioneddol yno—sut y mae pobl yn amddiffyn eu stociau pysgota—a chredaf fod hwnnw'n gyfraniad gwych y gallwn ei roi. Nid arian ydoedd, ond llong, a gwnaethom hynny gyda Banc y Byd a chyda sefydliadau eraill. Credaf y gallwn fod yn falch iawn o rywfaint o'r gwaith a wnawn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Credaf fy mod yn prysur ddod yn hyrwyddwr fy mhlaid ar ran Affrica, Weinidog. Ymddengys fy mod bob amser yn eich holi ynglŷn ag Affrica neu Love Zimbabwe yn fy nghwestiynau i chi. A gaf fi gytuno â'r sylwadau a wnaed gan John Griffiths? Fel y gwyddoch, mae gennyf gysylltiadau ag elusen Love Zimbabwe, sydd â chysylltiadau cryf â thref Y Fenni. Fel y dywedais wrthych yr wythnos diwethaf, bydd Martha Holman, un o'r gwirfoddolwyr, yn mynychu ei seremoni ddinasyddiaeth Brydeinig yfory ym Mrynbuga. Felly rwy'n siŵr yr hoffech ymuno â mi i ddymuno'n dda iddi.

Gwyddom am yr anawsterau y mae Zimbabwe yn eu hwynebu ar hyn o bryd, yn ogystal ag ardal ehangach de Affrica yn dilyn storm Idai yn ddiweddar. Mae gan y Cynulliad hwn, fel y dywedasoch, enw da am ei gysylltiadau ag Affrica ers y Cynulliad cyntaf, pan sefydlasom y cysylltiadau hynny â Lesotho. A wnewch chi, y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd sicrhau bod pwysigrwydd y cysylltiadau hynny rhwng pobl Cymru a phobl Affrica yn cael sylw blaenllaw yn y digwyddiad eleni—y mis nesaf—i ddathlu 20 mlynedd ers datganoli, a fydd yn digwydd yma ac mewn mannau eraill, er mwyn sicrhau bod cysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica yn y dyfodol yn cael eu cadarnhau, gan y credaf fod ein cefnogaeth i bobl Affrica yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr?

Diolch. Credaf fod hynny'n syniad gwych, a gobeithiaf ei fod yn un y bydd y Dirprwy Lywydd yn ei rannu—y neges honno y byddai'n wych dathlu'r cysylltiadau Cymru-Affrica wrth ddathlu 20 mlynedd ers datganoli.

Buaswn wrth fy modd yn croesawu Martha fel dinesydd Cymru. Rydym yn falch iawn o'i chael. Pe bai pawb yn gwneud y math o gyfraniad y mae hi wedi'i wneud i'w chymuned, byddem yn llawer gwell ein byd fel cenedl. Rydym yn wirioneddol falch o'i chael, ac mae unrhyw un sy'n gallu pasio'r profion dinasyddiaeth hynny yn haeddu bod yn aelod o'n gwlad. Maent yn eithaf anodd. Felly, croeso iddi, i fod yn Zimbabwead Cymreig. Rydym yn falch iawn o'i chael.

Credaf ei bod hefyd yn hanfodol gofyn i bobl Cymru ddangos eu bod yn un â'r bobl yn ne Affrica sydd wedi'u heffeithio gan seiclon Idai. Mae wedi cael effaith enfawr a niweidiol ar yr economi, ar fywydau, ar y cymunedau yno, ac os oes modd i unrhyw un gyfrannu, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddem yn eu hannog i'w wneud.

14:55

Weinidog, rwy'n falch iawn eich bod yn sôn am PONT a'r gwaith a wnaed gan bobl yn fy etholaeth, yn enwedig pobl fel Dr Geoff Lloyd, sydd wedi gwneud cymaint o waith ar iechyd mewn mannau fel Uganda. A tybed a ydych yn ymwybodol o'r cynnig sy'n datblygu gan y rhai sy'n ymwneud â rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica, sy'n awgrymu y gallai Cymru fabwysiadu 3 miliwn o bobl yn Affrica Is-Sahara a darparu gwasanaeth iechyd cyffredinol iddynt drwy'r rhwydwaith sy'n bodoli eisoes. Nawr, mae hwn yn gynnig cyffrous iawn, nid yn unig o ran defnyddio'r rhwydwaith a'r adnoddau ac ati sy'n bodoli eisoes, ond byddai'n ymestyn holl gwmpas y rhaglen ac yn deyrnged wirioneddol i ben-blwydd rhaglen Cymru o Blaid Affrica.

Diolch. Credaf fod y gwaith y mae PONT wedi'i wneud dros y blynyddoedd yn wirioneddol anhygoel, ac mae cymaint o bobl wedi bod yn rhan o'r gwaith hwnnw o'r gwaelod i fyny. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith a'r awgrymiadau a wnaed o ran y cyswllt hwnnw a'r posibilrwydd o weld faint yn rhagor y gallwn hybu'r cysylltiadau iechyd yn enwedig. Rwyf wedi cael cyfarfod gyda'r dirprwy Weinidog iechyd heddiw i weld a oes unrhyw fodd o hybu hyn ymhellach. Felly, mae angen i ni feddwl a nodi unrhyw bosibiliadau sydd i'w cael. Mewn egwyddor, buaswn wrth fy modd yn gweld hynny'n datblygu ychydig ymhellach. Wrth gwrs, mae cyfyngiadau ariannol difrifol arnom ar hyn o bryd, ond os oes posibilrwydd, yn enwedig o fewn y sector iechyd, hoffwn weld sut y gallwn archwilio hynny ymhellach.

Strategaeth Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ53734

Diolch yn fawr. Cyhoeddais fy mwriad i gynhyrchu strategaeth newydd i gyfleu ein gweledigaeth ryngwladol ar gyfer Cymru ym mis Ionawr. Rydym yn dal i ddrafftio'r gwaith hwn, ac rwy'n disgwyl cyflwyno drafft i'r Cabinet ym mis Mai, gyda'r ddogfen derfynol yn barod i'w chyhoeddi cyn yr haf.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Wel, os felly, rwy'n falch iawn fy mod wedi'ch dal yn drafftio'r strategaeth. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth i'w groesawu. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o drychineb Brexit a'r effaith y mae'n ei chael ar statws y Deyrnas Unedig ledled y byd. Mae'n bwysig, felly, fod Llywodraeth Cymru yn adnewyddu ei gwaith i hyrwyddo Cymru fel lle i wneud busnes a man lle gallwn greu cysylltiadau busnes newydd gyda gwahanol wledydd. Gwyddom hefyd fod buddsoddiad sylweddol ar waith ym Mlaenau'r Cymoedd a rhaglen ar gyfer y Cymoedd sy'n ceisio hyrwyddo'r Cymoedd fel lle i fuddsoddi a lle i wneud busnes ynddo. A allwch chi, Weinidog, sicrhau bod y Cymoedd a Blaenau'r Cymoedd yn ganolog i'ch gwaith o ran cysylltiadau rhyngwladol? Bydd hyrwyddo Blaenau'r Cymoedd a'r Cymoedd yn gyffredinol fel mannau lle gallwn greu busnesau, creu gweithgarwch busnes newydd, gobeithio, yn rhan ganolog o weledigaeth ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer strategaeth gysylltiadau rhyngwladol.

Diolch, ac rydych yn llygad eich lle, mewn gwirionedd, fod y ffaith nad oes gennym unrhyw syniad beth fydd yn digwydd o ran ein perthynas gydag Ewrop yn ei gwneud yn anodd iawn drafftio strategaeth ryngwladol, gan y byddai gwahaniaeth sylfaenol yn dibynnu ar ein sefyllfa yn y pen draw. Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn enwedig os byddwn yn gadael heb gytundeb, mae angen i ni weithio'n galed iawn i ailadeiladu'r cysylltiadau hynny gyda'n cymheiriaid cyfandirol lle mae gennym werthoedd tebyg ac mae 60 y cant o'n masnach a'n nwyddau yn mynd iddynt hwy. Wrth gwrs, byddai'n rhaid i ni atgyfnerthu hynny. Os na fyddwn yn cyrraedd y sefyllfa honno, a thrwy ryw fath o wyrth yn rhan o'r farchnad sengl yn y pen draw, byddwn yn addasu ein strategaeth o ganlyniad i hynny. Felly, ar hyn o bryd, mae'n anodd gwybod sut yn union i ddatblygu'r strategaeth.

Ond un peth y gallaf ei ddweud wrthych yw bod holl ddwli Brexit yn ei gwneud yn llawer anoddach i ni sicrhau mewnfuddsoddiad i Gymru. Pan fydd pobl yn dweud bod ganddynt ddiddordeb mewn buddsoddi, y cwestiwn a ofynnant yw, 'A gaf fi allforio i'r farchnad honno o 500 miliwn o bobl ar y cyfandir cyfagos?' A'r ateb ar hyn o bryd yw, 'Nid ydym yn siŵr.' Nawr, nid yw honno'n sail ar gyfer buddsoddi. Felly, wrth gwrs, rydym yn bryderus iawn ynglŷn â hynny.

Fe fyddwch yn gwybod bod dros 100 o fuddsoddiadau unigol wedi'u gwneud dros y blynyddoedd yn rhanbarth Blaenau'r Cymoedd, lle rydym wedi diogelu mwy na 16,000 o swyddi dros y blynyddoedd, ond credaf mai'r hyn sy'n hanfodol i'r hyn y mae angen i ni ei wneud—gan fod angen ichi ofyn yn y gymdeithas fyd-eang hon sydd ohoni pam fod pobl yn mynd i ble—credaf mai un o'r pethau y mae angen inni eu gwneud yw sicrhau ein bod yn uwchsgilio pobl yn y Cymoedd fel ein bod yn cynnig gweithlu medrus a fydd yn denu busnesau i'r ardaloedd hynny. Felly, credaf fod hynny'n ddarn sylfaenol o'r jig-so hwn.

15:00
Rhaglenni Cyfrwng Cymraeg Dechrau'n Deg

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch rôl rhaglenni cyfrwng Cymraeg Dechrau'n Deg o ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg? OAQ53714

Diolch yn fawr. Rwy’n cyfarfod yn gyson gyda Gweinidogion er mwyn trafod eu cyfraniad at y nod o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg. Felly, ym mis Medi, fe wnes i gael cyfarfod gyda’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar y pryd i drafod cyfraniad y maes i’r nod yma.

Diolch. Credaf mai mynychu Ti a Fi, y Mudiad Meithrin neu raglen cyfrwng Cymraeg Dechrau'n Deg yw'r ffordd orau i baratoi plant, yn enwedig y rhai o deuluoedd di-Gymraeg, ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau bod plant yn cael mynediad cyfartal at raglenni cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg Dechrau'n Deg? Hynny yw, mae'r ddwy raglen ar gael ac nid yw'r rhaglen cyfrwng Cymraeg yn dechrau'n hwyrach na'r rhaglen cyfrwng Saesneg.

Wel, mae'n bwysig, o ran yr hyn a gynigiwn, ein bod yn cael hyn yn iawn o'r cychwyn cyntaf, oherwydd, yn aml iawn, bydd yn cael effaith ar ble fydd y plant yn y pen draw. Felly, rydych yn hollol gywir: mae angen i ni sicrhau bod yna gynnig cyfartal. Gwn mai Dechrau Disglair yw lleoliad gofal plant cyfrwng Cymraeg Dechrau'n Deg yn ardal Abertawe. Wrth gwrs, yr hyn rydym yn ei wneud yn awr yw ymestyn ein cynnig gofal plant, sydd ar gael yn Gymraeg wrth gwrs, a bydd hynny'n rhoi mwy o gyfleoedd i'r rhieni hynny sydd eisiau anfon eu plant i leoliadau cyfrwng Cymraeg. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi unrhyw fanylion i mi am enghreifftiau lle na welwyd darpariaeth gyfartal mewn perthynas â Dechrau'n Deg o ran pa iaith a ddefnyddir i addysgu pobl. Buaswn yn ddiolchgar i glywed hynny a gallaf basio'r wybodaeth honno ymlaen i fy swyddogion.

Cyllid y Loteri Genedlaethol

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau yng Nghymru? OAQ53709

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Wrth i ni ddathlu pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn bump ar hugain mlwydd oed, rwy'n falch o allu dweud wrthych fod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi dros 50,000 o brosiectau ledled Cymru, gydag oddeutu £1.75 biliwn o fuddsoddiad. Fel rhan o fy rôl fel Gweinidog, rwy'n goruchwylio gwariant y Loteri Genedlaethol, ac felly rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Loteri Genedlaethol ynghylch y cyfeiriad teithio a chyfeiriad y gwariant.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Roedd adroddiad diweddar o Dŷ'r Arglwyddi, yr ydych yn digwydd bod yn Aelod ohono, yn rhybuddio am y perygl posibl y gallai Brexit arwain at ganoli mwy o gyllid y celfyddydau yn Llundain. Mynegwyd pryderon ynghylch tegwch lleoliad arian y loteri, a bod rhai rhannau o Lundain wedi derbyn 10 gwaith yn fwy o arian y pen o'r boblogaeth nag yng Nghymru. Yn Llundain, maent yn cael 10 gwaith yn fwy y pen nag yng Nghymru. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Camelot ynglŷn â lleihau'r anghydbwysedd cyllidol hwn yng ngoleuni canfyddiadau adroddiad Tŷ’r Arglwyddi?

Wel, mae'n rhaid i mi anghytuno â fy nghyd-aelodau yn y Siambr uchaf. Yn amlwg, nid wyf yn fynychwr rheolaidd ac nid yw fy nghyd-Aelod yn fynychwr rheolaidd ychwaith—mae braidd yn eironig fod gennym ddau aelod o Dŷ’r Arglwyddi o fewn un adran yn y Cynulliad hwn. Yr ateb yw nad wyf yn credu ei bod yn bosibl cymharu gwariant cyhoeddus yn Llundain drwy arian y loteri â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig—ac mae'n amlwg ei fod yn adnabod Llundain yr un mor dda â fi—yn rhannol oherwydd bod pencadlys llawer o sefydliadau yno, mae amrywiaeth enfawr o weithgareddau artistig a gweithgareddau eraill yno hefyd, a gweithgareddau eraill a allai wneud cais am arian y loteri. Felly, rwyf bob amser wedi ceisio sicrhau bod gwariant y loteri yng Nghymru yn adlewyrchu cyfran y ceisiadau a wneir a bod hynny'n deg yng Nghymru. Nid oes gennyf reolaeth dros wariant y loteri, fel y cyfryw; rwy'n goruchwylio'r ffordd y caiff ei wario yng Nghymru. Ond byddaf yn gofyn am drafodaeth bellach gyda'r loteri yng Nghymru mewn perthynas â'r gwariant ar lefel y DU, gan gyfeirio'n benodol at eich cwestiwn, ac rwy'n ddiolchgar amdano.

15:05
Delwedd Fyd-eang Cymru

7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr ar ffyrdd o hyrwyddo delwedd fyd-eang Cymru fel lle ar gyfer buddsoddiad? OAQ53694

Rwyf wedi cyfarfod â rhanddeiliaid a chyd-Weinidogion i drafod sut y gellir hybu cryfderau Cymru yn ehangach, a thrwy frand Cymru sydd wedi ennill gwobrau, rydym yn canolbwyntio ar adrodd stori Cymru ar gyfer busnesau sy'n dechrau, tyfu a buddsoddi yma, a'r straeon hyn yw sylfaen ein rhaglen farchnata.

Diolch i'r Gweinidog. Roeddwn yn falch o fynychu a siarad yr wythnos diwethaf mewn digwyddiad a drefnwyd gan y Gymdeithas Frenhinol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar yr heriau a'r cyfleoedd ar gyfer ymchwil a datblygu ac arloesi yng Nghymru. Un o'r sawl agwedd a ystyriwyd gennym oedd argymhellion Reid, gan gynnwys yr angen i gynyddu amlygrwydd a dylanwad ymchwil Cymru drwy greu swyddfa newydd ar gyfer ymchwil ac arloesi Cymru yn Llundain i weithredu ar ran Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru er budd cymuned ymchwil ac arloesi Cymru, ond hefyd i nodi a hyrwyddo cyfleoedd ariannu sy'n codi ar lefel y DU ac ar lefel ryngwladol, i ddenu talent a buddsoddiad o weddill y DU, ac yn rhyngwladol i gymuned ymchwil ac arloesi Cymru, ac wrth gwrs, i gynyddu amlygrwydd ymchwil ac arloesi Cymru y tu allan i Gymru.

Felly, Weinidog, mewn sefyllfa ôl-Brexit pan fyddwn yn wynebu diflaniad ffrydiau arian yr UE a dyfodiad tirlun cyllidol a phroses ymgeisio fwy cystadleuol ar gyfer ymchwil a datblygu ac arloesi yn y DU, bydd yn hollbwysig i ni wneud yn well na'r disgwyl o ran ansawdd a maint. Felly, yn ei rôl, beth y gall y Gweinidog ei wneud, ochr yn ochr â'r Gweinidog Addysg, i ddenu cyllid ac arbenigedd ymchwil a datblygu ac arloesi i Gymru?

Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i bwysleisio'r pwynt ein bod, mewn gwirionedd, wedi elwa yn eithaf sylweddol o Horizon yn y gorffennol, ac nid wyf wedi rhoi'r gorau iddi eto. Credaf fod cyfle gwirioneddol i ni barhau i geisio ymgysylltu â'r rhaglen honno. Nonsens y sefyllfa yw bod y DU, yn y gorffennol, wedi cael £8 biliwn yn ôl am y £5 biliwn a fuddsoddodd yn y rhaglen. Ac yng Nghymru rydym wedi cael £100 miliwn o'r rhaglen yn ddiweddar—dros 2,800 o gydweithrediadau gwahanol ar draws y cyfandir. Felly ni ddylem roi'r gorau i hynny. Mae cyfle gwirioneddol i ni barhau i bwyso am hynny.

Rwyf wedi cyfarfod â Phrif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ychydig o weithiau ers fy mhenodiad, ac rydych yn hollol gywir, mae'n pwysleisio bod ansawdd y gwaith yng Nghymru yn well, yn aml iawn, na llawer o'r hyn a wneir mewn mannau eraill, ac mae angen i ni siarad am y peth a chanu am y peth. Rwy'n falch o gyhoeddi ein bod wedi penodi swyddog ymgysylltu arloesedd ac ymchwil yn ddiweddar, a fydd yn gweithio yn y swyddfa honno yn Llundain. Ac wrth gwrs, mae gennym raglenni eraill, megis rhaglen Sêr Cymru. Ond bydd rhan o'r strategaeth ryngwladol yn ymwneud â chynyddu amlygrwydd yr hyn rydym yn ei wneud yn y meysydd hynny yn rhyngwladol.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, a bydd y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Llywydd. Janet Finch-Saunders.

Gwasanaeth Allgymorth Comisiwn y Cynulliad

1. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am wasanaeth allgymorth Comisiwn y Cynulliad? OAQ53698

Mae gwasanaeth allgymorth y Cynulliad yn ymgysylltu â phobl o bob oed a chefndir, ac o bob rhan o Gymru, i hybu eu dealltwriaeth o waith y Cynulliad ac ennyn eu diddordeb ynddo, a hefyd i’w hannog i gyfrannu at waith y pwyllgorau. Mae’r gwasanaeth yn gweithio gydag ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid, busnesau, cyrff cyhoeddus, cyrff cynrychioladol, undebau ac amrywiaeth eang o sefydliadau cymdeithas sifil. Mae’r tîm hefyd yn rheoli presenoldeb y Cynulliad mewn sioeau dros yr haf a digwyddiadau eraill. Yn fwy diweddar, wrth gwrs, mae ein gwasanaeth allgymorth wedi bod ynghlwm wrth weithgareddau Senedd Ieuenctid Cymru. 

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n falch iawn o gymeradwyo'r gwaith y maent yn ei wneud. Gwn eu bod yn gweithio'n eithriadol o galed. Wrth gwrs, yma, mae gennym y fraint o ddrafftio, trafod a phasio deddfwriaeth sy'n effeithio ar ein hetholwyr ein hunain ar hyd a lled Cymru.

Mae gennyf rywfaint o fân bryderon, ac roeddwn yn meddwl y buaswn yn eu codi yma, mewn perthynas â sut y gallwn ni, fel Aelodau, gael rhagor o wybodaeth am yr ymgysylltiad o fewn ein hetholaethau. Mae hyn wedi codi mewn pwyllgorau. Yn aml iawn, bydd y tîm allgymorth yn ymgysylltu o fewn ein hetholaethau ein hunain, ac weithiau bydd etholwyr yn dweud wrthyf amdano, ond hoffwn weld cysylltiad gwell, mewn gwirionedd, rhwng y gwaith a wnânt yn ein hetholaethau, oherwydd rydym yn Aelodau etholedig, a sut y gallasem, efallai, weithio'n agosach gyda hwy. Efallai y byddwn yn gallu mynychu digwyddiad lle byddant, o bosibl, yn gwneud rhywfaint o waith, fel y gallasem fynd i'w cefnogi. A allai hynny, o bosibl, fod yn ystyriaeth wrth symud ymlaen, pan fydd y tîm allgymorth yn bresennol yn ein hetholaethau, efallai y gallem gael gwybod a gallem naill ai eu cefnogi, fel rydym yn ei wneud allan o gwrteisi pan fydd Gweinidogion yn mynychu ein hetholaethau mewn gwirionedd, neu o leiaf byddem yn ymwybodol o hynny a byddai gwell cydgysylltiad rhyngom ni a hwy?

15:10

Diolch am y cwestiwn, ac rwy'n meddwl bod yr Aelod yn gwneud pwynt diddorol iawn. Yn wir, mae wedi digwydd i fi, lle mae yna waith gan bwyllgorau wedi digwydd yn fy etholaeth i a doeddwn i ddim yn ymwybodol ohono. Felly, mae yn waith sydd yn digwydd ym mhob etholaeth yng Nghymru—pob rhanbarth yng Nghymru. Efallai bod gwerth inni edrych a yw hi'n bosibl creu system sydd yn rhoi gwybod, o leiaf, i Aelodau fan hyn beth yn union yw'r gwaith sydd yn digwydd yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau nhw. Felly, mi wnawn ni edrych ar a yw hynny'n ymarferol bosibl i'w wneud, ond yn sicr rwy'n credu ei fod yn gwestiwn gwerthfawr i'w ofyn.

Diolch. Bydd cwestiwn 2 a chwestiwn 3 yn cael eu ateb gan y Comisiynydd David Rowlands. Cwestiwn 2, Huw Irranca-Davies.

Teithio Llesol

2. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran annog teithio llesol i ac o'r Senedd? OAQ53696

Diolch i'r Aelod Cynulliad am ei gwestiwn. Mae gwefan y Cynulliad yn darparu gwybodaeth ar sut i gyrraedd y Senedd drwy amrywiaeth o ddulliau teithio, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.

Ceir raciau beiciau sy'n hygyrch i'r cyhoedd yn agos at y Senedd, y tu allan i Dŷ Hywel a'r Pierhead. Rydym wedi cyfarfod â chynllun nextbike i helpu i hwyluso'r broses o osod gorsaf ddocio ym Mae Caerdydd ac roedd yn dda gennym glywed bod un wedi cael ei gosod gerllaw yn ddiweddar. Mae'r Cynulliad wedi chwarae rhan weithredol yn y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer teithio iach yng Nghaerdydd. Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o'r ymrwymiad a gynhwysir yn y fasnachfraint rheilffyrdd newydd i ymestyn cyfleusterau ar gyfer defnyddio beiciau, gan gynnwys mwy o le ar gyfer beiciau pan ddaw'r cerbydau newydd yn weithredol, a byddwn yn cadw llygad barcud ar sut y gall hyn, gobeithio, gael effaith gadarnhaol ar y defnydd o feiciau i gyrraedd ystâd y Cynulliad.

Diolch yn fawr i David am yr ateb hynod gynhwysfawr hwnnw. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y Cynulliad yn arwain y ffordd yma o ran teithio llesol, ond mae bob amser mwy i ni ei wneud, felly byddaf yn codi fy mhen yn rheolaidd fel cyfaill beirniadol. Rwyf eisiau gofyn i chi, David, a ydych wedi ystyried, neu a wnewch chi ystyried, defnyddio dewisiadau amgen yn lle'r tryciau gwaith trwm sy'n dod drwy'r brif fynedfa ddiogelwch gan achosi ychydig o dagfa.

Roedd yna foment ddiddorol y diwrnod o'r blaen pan oedd beiciwr, sydd hefyd yn gyfaill i mi, yn beicio i mewn. Cyrhaeddodd y fan gymalog ac fe gafodd ei harchwilio'n drylwyr gan y swyddogion diogelwch a welodd mai un blwch bach yn unig, yng nghanol y fan Luton, a oedd angen cael ei yrru i mewn ac o amgylch yr ystâd. Felly, a fyddai'n fodlon ymchwilio i'r defnydd—gan arwain y ffordd unwaith eto, o fewn y Senedd—o bethau megis beiciau cargo neu feiciau cargo trydan, sydd bellach ar gael yng Nghaerdydd, a allai ddosbarthu pecynnau llai o faint? Mae'n fater o arweinyddiaeth unwaith eto. Rydych wedi dangos i ni eich bod yn barod i arwain, felly a wnewch chi archwilio'r posibilrwydd hwnnw?

Fel y gwnawn gyda'r holl awgrymiadau gan Aelodau'r Cynulliad, rydym yn croesawu'r awgrymiadau hynny a fydd yn ein helpu i sicrhau bod mynediad i'r Cynulliad yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch.

Os caf ymhelaethu rhywfaint ar eich cwestiwn yn gynharach, rydym yn nodi ac yn croesawu'r ffaith bod gan yr awdurdod lleol, sy'n gyfrifol am y seilwaith lleol o ran beiciau wrth gwrs, gynlluniau ar gyfer pum llwybr beicio newydd, gan gynnwys un sy'n rhedeg o ganol y ddinas i'r bae. Rydym yn darparu cyfleusterau helaeth, fel y gwyddoch o'ch cwestiwn diwethaf, i hyrwyddo teithio llesol, gan gynnwys y rheini ar gyfer beicio, cerdded, ac yn fwy diweddar, wrth gwrs, rydym wedi cyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan. Rydym yn parhau i weithio gyda Sustrans i godi ymwybyddiaeth ymhlith staff y Cynulliad o argaeledd llwybrau teithio cynaliadwy ar draws y ddinas a ledled Cymru yn gyffredinol. Gwn fod gan yr Aelod dros Ogwr ddiddordeb brwd mewn teithio llesol a'i fod yn ei hyrwyddo hefyd, ac yn arwain drwy esiampl, rwy'n credu. Ond a gaf fi ei sicrhau bod gan y Comisiwn ymrwymiad cadarn i ddarparu'r cyfleusterau gorau posibl ar gyfer beicwyr ar ystâd y Cynulliad a byddwn yn parhau i gyhoeddi'r cyfleusterau hynny fel y bydd gofod a chyfle'n caniatáu?

15:15
Mynediad i Ystâd y Cynulliad

3. Pa gamau y mae Comisiwn y Cynulliad yn eu cymryd i sicrhau bod gan bobl anabl fynediad llawn i ystâd y Cynulliad? OAQ53721

Os gallech roi dwy eiliad i mi ddal i fyny gyda fy ngwaith papur ar hyn, os gwelwch yn dda.

Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau mynediad at ystâd y Cynulliad ar gyfer pobl anabl, ac nid yw hyn wedi'i gyfyngu i hygyrchedd cadeiriau olwyn yn unig ond ar gyfer anableddau eraill hefyd, megis y rheini sydd â nam ar eu golwg a'r rheini sydd ag awtistiaeth. Rydym yn parhau i adolygu hygyrchedd pob adeilad a gwneir asesiadau effaith cydraddoldeb cyn mynd ati i ailwampio neu i gyflawni unrhyw welliannau. Rydym yn cydymffurfio â deddfwriaeth, wrth gwrs, ac yn dilyn canllawiau arferion gorau hefyd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Comisiynydd am ei ateb. Mae'n flin gennyf fod yn rhaid i mi ddwyn mater sy'n peri pryder at ei sylw y prynhawn yma. Yn ddiweddar, cefais ymwelydd anabl, ac roeddem wedi archebu lle parcio ar ei chyfer wythnosau ymlaen llaw. Nid yw'n defnyddio cadair olwyn, ond mae ganddi nam symudedd. Pan gyrhaeddodd i fanteisio ar y cyfle hwn nid oedd y gofod ar gael iddi, nid oedd yn gallu parcio ac roedd hyn hyd yn oed yn fwy anffodus gan ei bod yn ymweld â'r Cynulliad i fynychu'r grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol. Nid wyf am enwi'r unigolyn na chyfeirio at y dyddiad heddiw, ni fyddai hynny'n deg; byddaf yn ysgrifennu at y Comisiynydd yn uniongyrchol i'r perwyl hwnnw. Ond a gaf fi ofyn i'r Comisiwn gynnal adolygiad o'u polisïau mewn perthynas â'r defnydd o leoedd parcio i'r anabl, i sicrhau bod digon ohonynt, i sicrhau bod y systemau—? Dylwn bwysleisio fy mod wedi gwirio nad oedd bai ar fy aelodau staff. Rwyf wedi gwirio, cyn codi'r mater hwn gyda chi, fod yr archeb wedi cael ei gwneud yn briodol.

Rwy'n codi hyn yma yn hytrach nag ysgrifennu am yr un digwyddiad hwn oherwydd bod y person dan sylw wedi dweud wrthyf nad dyma'r tro cyntaf iddi gael y profiad hwn yn yr adeilad hwn, ac os yw wedi digwydd iddi hi mae'n bosibl iawn ei fod wedi digwydd i eraill. Felly, buaswn yn ddiolchgar—fe ysgrifennaf atoch gyda'r achos unigol fel y gallwch edrych ar hynny, ond buaswn yn ddiolchgar iawn pe baech chi, fel Comisiwn, yn ymchwilio i'r ddarpariaeth o'r lleoedd hyn er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd i unrhyw un o'n cyd-ddinasyddion anabl eto. Gwn y byddech chi fel Comisiwn yn awyddus iawn i sicrhau hynny.

Unwaith eto, diolch i'r Aelod am ddod â'r materion hynny i sylw'r Comisiwn, a phan gawn ragor o wybodaeth gennych, gallaf eich sicrhau y byddwn yn ymchwilio i'r mater hwnnw'n llawn. Gwyddoch ein bod yn darparu parcio i bobl anabl ym maes parcio Tŷ Hywel a'r Senedd, ond yn amlwg gallasem adolygu'r rheini i weld a ydynt yn ddigonol bellach. Mae'n rhaid i mi ddweud bod adeilad y Senedd, ers ei sefydlu, wedi'i gynllunio ar gyfer pobl anabl. Ond wrth gwrs, mae pethau'n symud yn eu blaenau a byddwn yn sicr o groesawu cyfleusterau ychwanegol os yw hynny'n bosibl.

Cronfeydd Pensiwn

4. A oes gan y Comisiwn strategaeth ar gyfer dadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil fel rhan o gronfeydd pensiwn Cynulliad Cymru? OAQ53711

Ni all y Comisiwn ddylanwadu ar y modd y caiff asedau cynllun pensiwn Aelodau'r Cynulliad eu dyrannu. Mae’r pŵer i fuddsoddi asedau’r cynllun yn gyfan gwbl yn nwylo’r bwrdd pensiynau. Mae’r bwrdd hwnnw yn annibynnol o'r Comisiwn. Y bwrdd pensiynau yn ei gyfanrwydd fydd yn penderfynu sut i fuddsoddi’r asedau, a hynny ar sail y cyngor a gaiff gan ei gynghorwyr buddsoddi.

O ran staff y Comisiwn, cynllun heb ei ariannu yw cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil ac felly nid oes ganddo asedau i’w buddsoddi. Defnyddir refeniw trethi i dalu’r buddion yn hytrach nag asedau a roddir o’r neilltu.

Diolch i chi am hynny. Roeddwn yn meddwl tybed pa ohebiaeth sydd rhyngoch a'r bwrdd taliadau annibynnol ynghylch y strategaeth fuddsoddi rydych eisiau iddynt ei dilyn mewn perthynas â chronfa bensiwn Aelodau'r Cynulliad, oherwydd ymddengys i mi ei bod yn amhosibl i ni annog awdurdodau lleol i ddadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, oni bai ein bod yn rhoi trefn ar ein pethau ein hunain. Mae'n rhaid bod rhywfaint o ohebiaeth wedi bod mewn perthynas â hynny, er fy mod yn sylweddoli nad oes gan Aelodau'r Cynulliad na'r Comisiwn unrhyw fewnbwn gwirioneddol o ran y buddsoddiadau a wneir.

15:20

Wel, cyfrifoldeb y bwrdd pensiynau yw hyn, nid y bwrdd taliadau, ac rydym yn ethol cynrychiolwyr o'n plith, Aelodau Cynulliad presennol a chyn-Aelodau Cynulliad, i gynrychioli ac i fod yn aelodau o'r bwrdd pensiynau a phenderfyniad annibynnol y bwrdd pensiynau felly yw edrych ar ei strategaeth fuddsoddi. Nid wyf yn siŵr a oes unrhyw Aelodau sy'n bresennol yn y Siambr ar hyn o bryd yn aelodau o'r bwrdd pensiynau, ond mae'r wybodaeth honno ar gael i chi os ydych yn bwriadu ysgrifennu at y bwrdd pensiynau yn uniongyrchol.

A gaf i, felly, ofyn—? Yn amlwg, dyw e ddim yn benderfyniad mae’r Comisiwn yn ei wneud, ond dwi’n siŵr bod gan y Comisiwn farn ar y mater yma, neu byddwn i’n licio meddwl bod gan y Comisiwn farn ar y mater yma. A fyddai’r Comisiwn yn barod i gydlynu llythyr gan holl Aelodau’r Cynulliad, wedi'i gyd-arwyddo, at y bwrdd pensiynau, yn gofyn iddyn nhw i edrych ar hyn ac i edrych ar y mater ar frys?

Wel, mae’r bwrdd pensiynau, fel dwi wedi dweud, yn annibynnol o’r Comisiwn, a does gyda ni ddim cyfrifoldeb na chwaith benderfyniad polisi ar hyn. Dyw e ddim yn fater rŷn ni wedi edrych arno, oherwydd bod y cyfrifoldeb yn gorwedd rhywle arall.

Fel dwi wedi dweud, mae yna gynrychiolwyr o’r Cynulliad yma ar y bwrdd pensiynau. Dwi ddim yn gwybod eu henwau nhw ar hyn o bryd, i’w henwi nhw fan hyn yn gyhoeddus, ond fe fyddwn i’n meddwl ei fod e'n fater i bob plaid, i bob Aelod fan hyn, i fod yn llythyru gyda’r bwrdd pensiynau yn uniongyrchol eu hunain i fod yn dwyn sylw at y materion yma, sydd yn amlwg yn faterion o ddiddordeb ac o gonsérn i Aelodau. Mae wedi codi yn ystod cwestiynau i’r Comisiwn y prynhawn yma a hefyd y cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ynghynt yn y prynhawn. Felly, a gaf i eich annog chi i gyd i ystyried ysgrifennu’n uniongyrchol at y bwrdd pensiynau?

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Daw'r cwestiwn amserol cyntaf y prynhawn yma gan Lynne Neagle, a bydd yn cael ei ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Lynne.

Mynediad at Ofal Cleifion Mewnol CAMHS

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at ofal cleifion mewnol CAMHS i blant a phobl ifanc risg uchel yng Nghymru? 298

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae mwyfwy o unigolion yn credu mai dewis olaf yw mynd i'r ysbyty, ac mae mwy o bobl ifanc yn derbyn eu gofal o fewn eu cymuned leol bellach. Er mwyn helpu i ddiwallu anghenion pobl ifanc sydd angen gofal cleifion mewnol, rydym wedi buddsoddi £42 miliwn mewn gwasanaethau iechyd meddwl penodol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, gan arwain at ostyngiad yn nifer y rheini sy'n cael eu hanfon o'r ardal.

Nodwyd y sefyllfa o ran mynediad yn fy llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 25 Chwefror. Mae diweddariad pellach ar y ffordd i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, mewn ymateb i lythyr a anfonwyd gan Gadeirydd y pwyllgor hwnnw ar 7 Mawrth.

Diolch i chi, Weinidog. Rwy'n pryderu'n fawr fod cyfyngiadau'n parhau i fod yn angenrheidiol yn yr unedau cleifion mewnol CAMHS yng Nghymru, sy'n golygu nad ydynt yn gallu gofalu am bobl ifanc sydd mewn perygl o hunan-niweidio neu gyflawni hunanladdiad. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi galw unwaith eto am gamau gweithredu ar hyn yn eu hadroddiad ar wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac wrth wneud hynny, maent wedi pwysleisio eu bod wedi bod yn codi'r pryderon hyn ers mor bell yn ôl â 2013. Mae fy mhwyllgor wedi bod yn codi hyn gyda Llywodraeth Cymru ers ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' y llynedd.

Rwy'n deall bod llawer mwy o bobl ifanc yn cael eu trin gan dimau yn y gymuned bellach, ond mae yna rai, serch hynny, sydd angen mynd i uned ar gyfer cleifion mewnol. Ac ni all fod yn iawn fod rhai o'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yn gorfod cael eu lleoli y tu allan i Gymru, ymhell oddi wrth eu teuluoedd a chymorth. Mae hefyd yn codi cwestiynau difrifol ynglŷn â sut yr awn ati mewn modd effeithiol i sicrhau ansawdd a diogelwch lleoliadau o'r fath, sy'n gallu bod cannoedd o filltiroedd i ffwrdd.

Weinidog, pryd y gallwn ddisgwyl i'n hunedau cleifion mewnol fod mewn sefyllfa i dderbyn pobl ifanc sydd mewn perygl o hunan-niweidio neu gyflawni hunanladdiad? Yn y cyfamser, pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni fod prosesau cadarn a chynhwysfawr ar waith i sicrhau bod unrhyw leoliadau y tu allan i Gymru yn ddiogel ac o ansawdd da? Ac yn olaf, o ystyried nad yw rhagweld y perygl y bydd rhywun yn cyflawni hunanladdiad yn wyddor fanwl, yn enwedig mewn person ifanc, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd claf ifanc nad yw wedi'i nodi fel claf risg uchel yn cael gofal diogel yn ein hunedau cleifion mewnol CAMHS?

15:25

Diolch i chi am y cwestiynau dilynol. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd a difrifoldeb y mater hwn. Gan nad ydym yn gallu cael capasiti llawn, fel y byddem ei eisiau fel arall, mae'n gyfuniad o ffactorau gwahanol yn yr uned yng ngogledd Cymru o gymharu â de Cymru, ond rydym yn credu bod nifer lai na deg o blant a phobl ifanc wedi'u lleoli y tu allan i Gymru oherwydd y cyfyngiadau hynny. Felly, mae llai na deg yn nifer fach, ond mae gan bob person deulu a chyd-destun, ac nid dyna'r math o ofal a lleoliad gofal rydym eisiau gallu ei ddarparu. Nid dyna y mae'r buddsoddiad rydym wedi'i wneud a'r cyfalaf i fod i'w ddarparu ychwaith.

Mewn perthynas â Thŷ Llidiard, a grybwyllwyd gennych yn benodol, fe fyddwch yn ymwybodol fod angen i ni wneud gwelliannau i'r ystâd ffisegol. Mae rhan o'r gwaith hwnnw wedi'i gwblhau; disgwylir y bydd gweddill y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau o fewn y flwyddyn 2019-20. Rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod a'r ddau bwyllgor sydd â diddordeb yn y mater hwn i roi arwydd cliriach o ran pryd y dylai'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau. 

O ran eich pwynt ehangach am—. Os hoffech, dau bwynt ychydig yn wahanol. Un ar sut rydym yn rhoi sicrwydd i ni'n hunain ynglŷn ag ansawdd y gofal y tu allan i'r ardal a'r tu allan i'r wlad: mae honno'n her go iawn ac yn her i'r comisiynwyr a'r fframwaith sy'n cael ei ddarparu a'i fonitro drwy wasanaeth sicrhau a gwella ansawdd. Maent yn cynnal archwiliadau safle ac yn monitro perfformiad, ac mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn derbyn adroddiadau misol rheolaidd gan y ddwy uned sy'n darparu gofal yng Nghymru ar hyn o bryd.

Felly, unwaith eto, rwy'n cydnabod y pwynt rydych yn ei wneud nad yw hi bob amser yn bosibl dweud a yw rhywun yn cael teimladau hunanladdol. Felly, mae'r her yn ymwneud â gwneud yn siŵr fod ansawdd y gofal yn briodol. Dyna ran o'r her o ran pam nad ydym yn derbyn rhai pobl i'r unedau hynny yn awr lle mae honno'n risg y gwyddys amdani. Ond dyna pam fod adroddiadau rheolaidd yn cael eu gwneud i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, i'r tîm ansawdd, tra bo proses uwchgyfeirio ar waith. Ac mae honno'n broses uwchgyfeirio ychwanegol—nid dyna'r ffordd arferol o weithredu oherwydd mae gennym bryderon ynglŷn â'n capasiti i reoli gofal yn ddiogel. Nid yw'n sefyllfa rwyf fi nag unrhyw un arall eisiau bod ynddi. Byddaf yn darparu'r diweddariadau a nodais i'r Aelodau ac yn benodol i'r pwyllgorau, a byddaf yn amlinellu'n fanylach yn y llythyr y byddaf yn ei anfon at y pwyllgor iechyd—byddaf yn sicrhau bod copi yn mynd i'r pwyllgor plant a phobl ifanc, oherwydd rwy'n cydnabod bod gan y ddau bwyllgor ddiddordeb uniongyrchol yn y mater hwn—a byddaf yn parhau i wneud hynny hyd nes ein bod mewn sefyllfa wahanol.

Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. Rwy'n falch iawn fod Lynne Neagle wedi codi'r mater hwn unwaith eto yn y Siambr y prynhawn yma, oherwydd, fel y gwyddoch, mae uned iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc, gyda chapasiti cleifion mewnol, yn fy etholaeth fy hun, yn nhref Abergele. Cafodd ei hadeiladu bron i 10 mlynedd yn ôl bellach, yn ôl yn 2009, gyda chapasiti o 18 o welyau, i wasanaethu ardal gogledd Cymru, ac yn anffodus, nid yw'r gwelyau hynny erioed wedi cael eu defnyddio'n llawn neu ar agor yn llawn, ac rydym yn dal i wynebu'r posibilrwydd y bydd unigolion yn cael eu hanfon gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o ogledd Cymru pan nad oes ond 12 yn unig o'r gwelyau wedi'u comisiynu yn ein huned flaenllaw ein hunain ar hyn o bryd.

Nawr, rwy'n siŵr y gallai mwy o bobl elwa o'r cyfleuster hwn pe bai wedi'i lenwi hyd at gapasiti llawn o ran y defnydd o welyau. Rwy'n siŵr y byddai rhai pobl yn cael eu hanfon i ogledd Cymru o'r tu allan i ardal gogledd Cymru hefyd er mwyn llenwi'r gwelyau hynny pe baent ar gael. Ac rwy'n meddwl tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw ar ba gamau a gymerir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sicrhau bod digon o welyau yng ngogledd Cymru ar gyfer y bobl ifanc a allai fod angen cyfleusterau cleifion mewnol yn ein rhanbarth. Rwy'n derbyn y bydd yna achosion arbenigol weithiau lle bydd angen darpariaeth arbenigol iawn na ellir ei darparu yn un o'r unedau mwy cyffredinol hyn. Rwy'n deall ac yn derbyn y gallai hynny ddigwydd o bryd i'w gilydd, ond yn amlwg, mae yna bobl ifanc a allai elwa o'r cyfleusterau hyn yng Nghymru sy'n cael eu hanfon dros y ffin i Loegr ar hyn o bryd. Gallwn fonitro ansawdd ac effeithiolrwydd y gofal yn hawdd. Nid oes problem gyda'r comisiynwyr yn gorfod wynebu'r her o fonitro rhywbeth gannoedd o filltiroedd i ffwrdd. Mae hyn yng Nghymru, o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Felly, a gaf fi ofyn, a fyddwch yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru i gynyddu capasiti cleifion mewnol yn Abergele, a pha waith sy'n cael ei wneud o fewn y bwrdd iechyd i recriwtio gweithwyr iechyd proffesiynol ychwanegol, os oes angen, er mwyn gofalu am y gwelyau ychwanegol hynny, os ydych yn bwriadu eu hagor?

15:30

Mae dau bwynt rwy'n credu y dylwn ymateb iddynt. Y cyntaf yw'r pwynt am y nifer o welyau sydd gennym. Rydym wedi llenwi'r capasiti a gomisiynwyd yn Nhŷ Llidiard. Nid ydym wedi llenwi'r capasiti a gomisiynwyd—ac mewn gwirionedd, rydym yn comisiynu 12 o'r 18 gwely posibl—yng ngogledd Cymru. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r cymhlethdod a'r lle sydd ei angen, ond mae hefyd yn ymwneud, yn rhannol, â staff. Ac felly, mae 10 o welyau wedi cael eu comisiynu ac yn cael eu defnyddio, ac maent wedi gallu cynyddu i 12; bu'n rhaid iddynt symud yn ôl i lawr i 10, oherwydd heriau o ran recriwtio staff i weithio'n barhaol yn y cyfleuster, felly rwy'n cydnabod bod staffio'n broblem. Ac nid yw adnoddau'n broblem—nid yw fel pe bai'r bwrdd iechyd yn gwrthod penodi staff neu'n cadw swyddi'n wag; mae'n ymwneud â'n gallu i recriwtio pobl i'r gwasanaeth. Ac felly rydym yn gweithredu 10 gwely gan ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

Mae'r her arall, mae'n debyg, yn ymwneud â nifer y gwelyau a gomisiynwyd beth bynnag. Mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, mae canllawiau gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dangos ein bod uwchlaw'r lefel poblogaeth/gwelyau y maent yn awgrymu y dylai fod gennym ar draws y wlad. Ond o ran adolygu ein capasiti, byddwn yn cael ein llywio gan lefel yr angen wrth gwrs, ac yn gweld faint o bobl y gallwn eu gwasanaethu. Fel y dywedais, oherwydd nad ydym wedi llwyddo i staffio'r holl welyau a gomisiynwyd gennym yn ddiogel, rwy'n cydnabod bod nifer lai na deg o blant a phobl ifanc o Gymru wedi mynd allan o'r wlad pan allent fod wedi bod yn y cyfleusterau GIG Cymru hynny fel arall. Felly, mae'n broblem go iawn i'r holl blant a phobl ifanc hynny a'u teuluoedd, ac felly, ydw, rwy'n benderfynol o ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf y byddwch chi a'r Aelodau eraill yn ei disgwyl—a'r ymrwymiad a roddais i Lynne Neagle ynglŷn â gwneud yn siŵr fod y ddau bwyllgor pwnc yn cael y newyddion diweddaraf ar gynnydd.

A gaf fi gytuno â phopeth a ddywedodd Lynne Neagle, a Darren Millar, am ddifrifoldeb y sefyllfa? Dywed y Gweinidog fod lefel y capasiti ar hyn o bryd yn adlewyrchu lefel yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl yn y boblogaeth, ond yn amlwg, nid yw'n adlewyrchu lefel yr angen, os ydym yn parhau i fod â chyfleusterau llety y tu allan i Gymru ar gyfer y nifer fach honno o bobl ifanc. O gofio bod y Gweinidog wedi dweud wrthym ein bod yn credu ein bod yn sôn am nifer lai na deg yma, a oes mwy y gall y Gweinidog ei wneud i gynyddu'r capasiti a sicrhau bod y capasiti yn y lleoliadau cywir, yn ogystal â bod wedi ei staffio'n ddiogel? A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi na ddylid trin pobl ifanc gyda'r cyflyrau difrifol hyn y tu allan i Gymru heblaw bod eu cyflwr yn gwneud hynny'n angenrheidiol—os yw eu cyflwr mor anarferol fel na allem—nid yn unig na allwn ar hyn o bryd, ond fel na allem—ddarparu'n ystyrlon ar gyfer yr angen penodol iawn hwnnw yn ein gwlad ein hunain? Ac o dderbyn popeth y mae wedi'i ddweud heddiw, y bydd yn cymryd camau i geisio mynd i'r afael â hyn, mae yna ymdeimlad bach ein bod, fel y dywedodd Lynne Neagle, wedi bod yn codi'r materion hyn ers nifer o flynyddoedd. Ond os ydym yn dal i fod mewn sefyllfa lle mae pobl ifanc yn cael eu trin y tu allan i Gymru—hyd yn oed os ydym i gyd yn derbyn nad dyna rydym eisiau ei weld—pa gamau pellach y gall y Gweinidog eu cymryd i sicrhau bod pobl ifanc sy'n cael eu trin y tu allan i Gymru yn cael eu monitro'n briodol, ein bod yn gwybod bod eu gofal yn cyrraedd y safonau rydym yn eu disgwyl yma yng Nghymru, a bod gweithwyr proffesiynol priodol, yn ogystal â'u teuluoedd, yn ymweld â hwy'n rheolaidd, i wneud yn siŵr eu bod mor ddiogel a chyfforddus a, buaswn yn dweud, mor hapus ag y gallant fod?

Credaf fod dau gwestiwn yno. O ran yr ail un, ynglŷn â'r model ac ansawdd y lleoliadau y tu allan i Gymru, credaf fy mod wedi ymdrin â hynny mewn ymateb i'r cwestiynau a ofynnodd Lynne Neagle yn ei chwestiwn atodol. A byddaf yn sicr yn mynd i'r afael â hynny er mwyn darparu lefel ysgrifenedig o fanylder i'r ddau bwyllgor, fel y nodais yn yr ymrwymiad a roddais mewn ymateb i gwestiynau Lynne Neagle.

Ar eich cwestiwn arall, ynglŷn â chapasiti ac angen, rwy'n hapus i roi sicrwydd iddi—ac i'r holl Aelodau—fy mod yn disgwyl i ni roi ein hunain mewn sefyllfa lle nad yw GIG Cymru ond yn helpu i leoli plant a phobl ifanc y tu allan i Gymru oherwydd eu bod angen hynny, yn hytrach nag oherwydd capasiti. Ac felly wrth gwrs, bydd angen inni edrych ar y capasiti sydd gennym a gweld bod hwnnw'n cyd-fynd â'r angen. Mae'r canllawiau—a chanllawiau ydynt, yn hytrach na rheol bendant gan y coleg brenhinol—yn awgrymu bod gennym ddigon o gapasiti, os ydym yn gallu staffio'r lleoedd hynny'n ddigonol. Ac yng ngogledd Cymru y mae'r broblem fwyaf mewn perthynas â staffio priodol mewn gwirionedd. Byddwn yn gallu sicrhau wedyn—rydym yn disgwyl na fydd staffio'n broblem gyda'r capasiti a gomisiynwyd yn Nhŷ Llidiard—fod yr holl welyau hynny wedi'u staffio'n briodol ac yn ddiogel. Felly, rwy'n hapus i gadarnhau nad yw hyn yn fater o oddef yn ddiderfyn y ffaith bod pobl yn cael eu lleoli y tu allan i Gymru pan nad yw eu hanghenion gofal yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fynd i'r lleoliad hwnnw.

15:35

Weinidog, credaf y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi ymdrin ag achosion sy'n peri gofid yn aml mewn perthynas â'r agwedd benodol hon ar ofal ac rydym yn sôn am rai o'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Rwyf wedi cael profiad o achosion lle nad yw'r cynllun triniaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn, mewn gwirionedd, ar ôl i unigolion gael eu derbyn fel cleifion mewnol ac maent wedi gorfod mynd yn ôl i ofal ac mae hyn yn aflonyddgar iawn. Hefyd weithiau, mae lle i wella'r ffordd y mae rhieni a gofalwyr yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau triniaeth. Pan fo cleifion yn arddangos y symptomau gofidus hyn, mae angen i ni sicrhau, pan fo cleifion yn gadael gofal cleifion mewnol, eu bod yn parhau i dderbyn triniaeth arbenigol iawn—triniaeth ddwys—ac yn fwyaf arbennig, fod y gwaith diagnostig sydd angen ei wneud yn cael ei wneud yn effeithiol, oherwydd weithiau, ceir amheuaeth go iawn ynglŷn â'r llwybr gorau ar gyfer yr unigolion hyn sydd mewn trallod mawr yn aml iawn.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wna'r Aelod yn llwyr. Rwyf fi, fel Aelod etholaeth, wedi cael gwaith achos ac wedi cyfarfod â theuluoedd sydd mewn sefyllfa anodd iawn ac nad ydynt yn teimlo eu bod wedi cael cefnogaeth dda gan y system. Felly, nid yn unig ein bod wedi rhoi adnoddau—adnoddau ariannol a mwy o staffio—i'r gwasanaeth CAMHS cyffredinol, ond wrth gwrs, mae hyn yn cysylltu â'n gwaith atal ac ymyrraeth gynharach, yn ogystal â'r ymateb i 'Cadernid Meddwl', a hefyd mewn gwirionedd, y pwynt ynglŷn â pha gefnogaeth sydd ar gael, ar ôl iddynt gael eu derbyn, i'r bobl sydd wedi'u derbyn i ofal cleifion mewnol.

O ran adroddiad thematig Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru—y newyddion cadarnhaol yw eu bod wedi canfod at ei gilydd fod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn cael profiadau da o ofal, gyda staff a oedd yn dosturiol ac yn darparu gofal urddasol yn canolbwyntio ar unigolion. Ond mae hynny'n amlygu, unwaith eto, ei fod yn bosibl, a dyna pam hefyd fod cymaint o angen gwella profiadau'r bobl hynny lle nad ydym yn credu bod hynny wedi digwydd a pham y gwn y byddwch wedi gweld, ac y bydd Aelodau eraill wedi gweld, enghreifftiau o lle nad yw teuluoedd yn teimlo bod hynny wedi digwydd. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, nid yn unig mewn sgyrsiau rhwng y Llywodraeth a byrddau iechyd, ond rhwng y gwasanaeth iechyd a phobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth i weld a ydym yn cyflawni ein dyheadau. 

Os oes gan yr Aelod enghreifftiau unigol o achosion lle nad yw teuluoedd yn credu bod hynny wedi digwydd, mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn cael manylion am y rheini er mwyn gallu eu codi'n uniongyrchol gyda'r rhan honno o'r gwasanaeth iechyd.

Mewn perthynas ag achos Claire Greaves—yr achos trasig—roedd hwn yn amlwg yn achos o anorecsia yn ogystal ag anhwylder personoliaeth o oedran cynnar. Fel rhan o'r adolygiad ar anhwylderau bwyta, hoffwn wybod a ydych yn ystyried trafodaeth, trafodaeth ehangach, ar anhwylderau bwyta mewn uned neu unedau cleifion mewnol yng Nghymru, nid yn uniongyrchol o ganlyniad i hyn, ond o ganlyniad i'r galw sydd wedi bod, dros flynyddoedd lawer, gan gleifion a gofalwyr.

Pan oedd Mark Drakeford, y Prif Weinidog presennol, yn Weinidog iechyd, dywedodd ei fod yn benderfynol o ddod â llawer o'r bobl ifanc a oedd mewn unedau dros y ffin yn ôl i'r wlad hon, ac efallai y gallwn drafod lefel y gofal yn yr achos hwn, neu efallai ddim, ond yr hyn sy'n bwysig yma yw bod gennym lefel o ddarpariaeth yn y wlad hon lle mae pobl yn ddigon agos at eu hanwyliaid fel nad ydynt yn teimlo eu bod yn y mathau hyn o sefyllfaoedd. Felly, rwy'n awyddus i ddeall beth y gallwch ei wneud i sicrhau ein bod yn cael trafodaeth agored am bosibiliadau'r dimensiwn ychwanegol hwn na chafodd ei gynnwys yn y fframwaith gwreiddiol oherwydd y ffordd y cafodd y fframwaith ei ddarparu ar sail y ffocws rhanbarthol. Credaf fod yr amser wedi dod pan fo gwir angen inni edrych ar y model hwnnw eto, nid yn unig ar gyfer yr achos hwn ynddo'i hun, ond ar gyfer pobl ifanc eraill ledled Cymru sydd yn yr un sefyllfa.

Unwaith eto, rwy'n cydnabod bod hwn yn fater real a difrifol. Gyda llawer o blant a phobl ifanc sy'n cael mynediad at wasanaeth CAMHS ac sy'n cael eu trin, gwyddom fod anhwylderau bwyta yn rhan o'r rheswm pam eu bod yn defnyddio'r gwasanaeth CAMHS ac yn derbyn gwasanaeth arbenigol. Mae gennym arian i ddod â mwy o bobl yn ôl i'r wlad hon, ond rydym yn cydnabod nad ydym wedi gwneud cymaint ag y byddem wedi'i ddymuno. Mae'r pwynt roeddwn yn ei wneud, mewn ymateb i gwestiwn Helen Mary, yn ymwneud â sicrhau mai angen, yn hytrach na chapasiti, sy'n penderfynu lle mae pobl yn cael eu trin. Byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad ar anhwylderau bwyta y mae Jacinta Tan a'r tîm o bobl, gan gynnwys pobl ag anhwylderau bwyta, wedi cyfrannu ato, a bydd yna ymateb yn amlwg. Ac rwy'n fwy na hapus i gael dadl agored am y ddarpariaeth sydd gennym, sut y mae honno'n cyd-fynd â'r ddarpariaeth y credwn y dylem ei chael, a sut y gallwn fod mewn sefyllfa wahanol. Felly, mae fy meddwl yn gwbl agored ynglŷn â'r hyn y gallem ac y dylem ei wneud, ac fel rwy'n dweud, bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi, a gwn y bydd gennych chi ac Aelodau eraill gwestiynau i'w gofyn a sylwadau i'w gwneud a gobeithio y byddant yn ddefnyddiol ar gyfer bwrw ymlaen mewn ffordd well.

15:40

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Diolch. Mae'r ail gwestiwn amserol y prynhawn yma i'w ateb gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Helen Mary Jones.

Gwaith Trostre yn Llanelli

2. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyfodol gwaith Trostre yn Llanelli? 297

Rydym yn parhau i gael trafodaethau rheolaidd iawn gyda Tata Steel ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys y fenter arfaethedig wrth gwrs.

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb ac rwy'n falch o glywed ei fod mewn cysylltiad rheolaidd. Rwy'n siŵr fy mod yn siarad dros bawb ar bob ochr i'r Siambr hon pan nodaf y pryder dwfn ynghylch yr adroddiadau y gallai fod gofyn i Tata werthu safle Trostre er mwyn hwyluso'r uno arfaethedig â Thyssenkrupp.

Wrth gwrs, yng ngwaith Trostre, rydym wedi wynebu sefyllfa debyg i hon o'r blaen, pan oedd y busnes yn eiddo i Corus, ac roeddem mewn sefyllfa lle roedd y gweithwyr yn Llanelli yn cystadlu'n uniongyrchol â safle a oedd yn gwneud yn union yr un gwaith yn yr Iseldiroedd. Ar y pryd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, gallodd y gweithlu a'r rheolwyr lleol ddangos bod eu proffidioldeb, eu lefelau sgiliau, yn uwch na rhai'r busnes—y safle oedd yn cystadlu â hwy—yn yr Iseldiroedd. A hoffwn ofyn am sicrwydd gan y Gweinidog heddiw y bydd yn gwneud popeth yn ei allu gyda'r gweithlu a'r rheolwyr lleol i sicrhau na chollir y lefel uchel hon o sgiliau a'r swyddi pwysig hyn—mae dros 600 o swyddi uniongyrchol a llawer iawn mwy, wrth gwrs, yn y gadwyn gyflenwi—yng Nghymru.

Wrth gwrs, mae iddo bwysigrwydd y tu hwnt i Lanelli, gan fod gwaith Trostre yn gwsmer pwysig iawn i Bort Talbot. Felly, gallai fod effaith ganlyniadol yno pe bai'r gwaith yn cael ei werthu, o bosibl, er mwyn ei gau, a lleisiwyd pryder ynglŷn â hynny yn y gorffennol. Felly, gobeithio y gall y Gweinidog ein sicrhau y bydd yn gwneud popeth yn ei allu i gadw'r swyddi pwysig hyn yn Llanelli oherwydd yr effaith ar yr economi leol, ond hefyd ar economi Cymru yn fwy cyffredinol.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig heddiw, ac rwy'n ei sicrhau y byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod yna sector dur cynaliadwy yng Nghymru, fel y buom yn ei wneud yn wir ers mis Mawrth 2016? Rwy'n falch iawn fod yr Aelod hefyd wedi nodi'r ffaith bod Trostre yn dal i fod yn safle proffidiol a bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol yn cefnogi'r 650 o weithwyr dur ar y safle.

Credaf ei bod hi'n bwysig iawn dweud, Ddirprwy Lywydd, na ellid gwerthu'r safle er mwyn ei gau. Byddai'n rhaid iddo gael ei werthu mewn ffordd sy'n sicrhau bod ganddo ddyfodol hyfyw. Ni fuaswn yn dymuno dyfalu gormod ynglŷn â'r hyn a adroddwyd heddiw, oherwydd, wrth gwrs, mae hwn yn fater sy'n fasnachol gyfrinachol rhwng dau gwmni. Ond gallaf gadarnhau bod y Prif Weinidog wedi siarad heddiw gyda Hans Fischer ac o ganlyniad i'r drafodaeth a gafwyd, rydym yn ofalus obeithiol y bydd y gwerthiant yn digwydd mewn ffordd sy'n sicrhau dyfodol hirdymor y gwaith.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn heddiw, Helen Mary, ac am eich ymateb, Weinidog. Yn amlwg, rwy’n ofidus ynglŷn â hyn, gan fod fy nhad-cu a fy mam wedi gweithio yn Nhrostre am flynyddoedd lawer, ond Port Talbot yw fy mhryder mwyaf ar hyn o bryd, a soniodd Helen Mary am y rôl y mae Trostre yn ei chwarae yng nghadwyn gyflenwi Port Talbot, os hoffwch.

Tybed a wnaed unrhyw waith—mae'n debyg y gallai fod ychydig yn gynnar i hyn—ar geisio mapio sut y mae'r gadwyn gyflenwi yn debygol o gael ei heffeithio gan hyn, yn enwedig yn ardal y fargen ddinesig, oherwydd, wrth gwrs, un o'r agweddau cadarnhaol ar gyfer lleoli canolfan arloesedd dur yno o fewn cyfres o brosiectau'r fargen ddinesig yw'r ffaith bod cymaint o waith cynhyrchu dur, prosesu dur a gwneud dur wedi'i grynhoi yno. Felly, hoffwn yn fawr gael sicrwydd bod hyn yn annhebygol o effeithio ar yr uchelgeisiau o fewn y fargen ddinesig sy'n ymwneud â dur, ac na fydd yn gwneud hynny.

Mae'r uno, fel rydym yn deall yn awr, yn edrych yn bur wahanol i'r hyn roeddem yn ei ragweld, a chredaf fod hynny'n cyfiawnhau agwedd ochelgar llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon ar yr adeg y cyhoeddwyd y bwriad i uno. Ar y pryd, Weinidog, yn ystod y cyfnod hwnnw o uno, fe ddywedoch eich bod yn disgwyl gallu bwrw ymlaen â'ch trafodaethau ar y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Tata o ran y gweithfeydd yng Nghymru, ac y byddech yn croesawu cyhoeddiad ynghylch ymestyn yr ymrwymiad cyflogaeth hyd at 2026, gydag ymrwymiad i geisio osgoi diswyddiadau gorfodol o ganlyniad i'r gyd-fenter. Clywais eich ateb i Helen Mary, ond a allwch roi rhyw arwydd o ba gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar gael yr ymrwymiadau hynny? A ydych wedi cael unrhyw ymrwymiad penodol y bydd unrhyw swyddi y gellid bod yn eu colli yn Nhrostre yn cael eu hailddosbarthu o fewn teulu Tata, yn yr ardal gyfagos os oes modd?

Ac yna, yn olaf, ar yr un math o bwynt, mae'r cymorth ar gyfer Tata yn gyffredinol yn gysylltiedig â'u hymrwymiad i ddiogelu nifer penodol o swyddi. Rwy'n edrych am sicrwydd yma nad yw'r cyhoeddiad heddiw yn debygol o ohirio unrhyw ddatblygiad ar safle Port Talbot. Rwy'n meddwl yn benodol am y pwerdy yno. Oherwydd mae'r holl bethau hyn yn gydgysylltiedig ac yn amodol ar gadw lefel benodol o gyflogaeth. Yn amlwg, ni fuaswn yn dymuno i'r cyhoeddiad hwn heddiw beryglu cynlluniau mwy cadarnhaol ar gyfer rhannau eraill o ystâd Tata. Diolch.

15:45

A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau yn ogystal, a dweud na fydd hyn yn oedi'r broses o ystyried cymorth pellach ar gyfer Port Talbot a chymorth pellach ar gyfer darparu hyfforddiant sgiliau pe bai galw amdano yn y misoedd i ddod? Mae'r Aelod yn llygad ei lle; rhoddwyd £60 miliwn ar y bwrdd er mwyn cefnogi gweithfeydd dur yng Nghymru ym mis Mawrth 2016, a darparwyd £17 miliwn o bunnoedd heddiw, gan gynnwys, wrth gwrs, swm sylweddol iawn o arian ar gyfer Port Talbot a'r ffwrnais chwyth er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn waith mwy cystadleuol nag yn y gorffennol.

Ddirprwy Lywydd, credaf y gallai fod o gymorth i'r Aelodau pe bawn yn dosbarthu nodyn ar yr amodau ar gyfer cymorth gan Lywodraeth Cymru. Yn amlwg, mae yna rai materion na ellir eu datgelu am resymau'n ymwneud â chyfrinachedd masnachol. Fodd bynnag, hoffwn i'r Aelodau fod mor wybodus â phosibl ynglŷn â sut y gosodwn amodau llym iawn ar gyfer cymorth Llywodraeth Cymru neu'r trethdalwr er mwyn sicrhau bod cymaint o swyddi yn cael eu diogelu am gymaint o amser â phosibl.

Mae'r Aelod yn hollol iawn i ofyn cwestiwn am yr effaith bosibl ar yr ecosystem o fewn Cymru. Nawr, bydd y Comisiwn yn gwneud penderfyniad ar y fenter arfaethedig erbyn 5 Mehefin, ac wrth wneud penderfyniad, byddwn yn gallu gweld beth fydd yr effaith—os o gwbl—ar yr ecosystem. Wrth gwrs, mae'n werth nodi bod Trostre'n broffidiol ac yn gystadleuol, oherwydd mae wedi bod yn cael dur o Bort Talbot. O gofio y byddai'n rhaid ei werthu fel busnes hyfyw ac fel busnes cystadleuol, buaswn yn disgwyl y byddai'n parhau i gael dur o'r gwaith sydd wedi helpu i'w wneud yn gwmni proffidiol.

Weinidog, rwy'n gobeithio bod eich pwynt olaf yn wir, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n dod yn endid masnachol ar wahân a byddant yn edrych am y fargen rataf y gallant ei chael, nid o reidrwydd y fargen orau y gallant ei chael. Felly, yn amlwg, mae'r goblygiadau ar gyfer Port Talbot yn ddifrifol ac rydym yn pryderu ynglŷn â Phort Talbot, ond hefyd am y gweithwyr yn Nhrostre, oherwydd mae'n becyn—mae'n becyn cyfan ar draws Cymru—Tata yn Shotton, Port Talbot, Llan-wern a Throstre. Mae'n gweithio gyda'i gilydd fel pecyn. Rwyf wedi crybwyll hyn droeon, ac wedi trafod gyda chi sawl gwaith y pryderon y gallai cyd-fenter eu hachosi. Yn 2016, daethom allan o berygl, ond nid oeddem wedi goresgyn yr heriau byd-eang eto, ac mae hon yn un arall.

Rwy'n poeni am hyn, oherwydd nid Trostre'n unig sy'n cael eu crybwyll; mae Tata'n cael gwared ar Cogent hefyd—gwaith Orb yng Nghasnewydd. Mae'n ymddangos bod Tata yn cael gwared ar adnoddau yn fwy nag y mae ThyssenKrupp yn ei wneud yn y gyd-fenter hon. Felly, pa drafodaethau y bwriadwch eu cael gyda Tata? Soniasoch am Hans Fischer, ond efallai fod angen inni fynd uwchben Hans Fischer i weld lle mae dyfodol Tata yn y lle hwn. Oherwydd rwy'n bryderus iawn na châi Tata ei gynrychioli yn y DU i bob pwrpas pan adawodd Bimlendra Jha ei swydd, yn enwedig yng Nghymru; cafodd ei adael wedyn i Martin Brunnock, efallai, i fod yn brif berson yma. Felly, mae angen inni edrych ar gael trafodaethau gyda Tata yn India, o bosibl, i drafod beth yw eu cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer y diwydiant yng Nghymru yn ei chyfanrwydd, gan fod hyn yn dod fel pecyn.

Hefyd, a ydych wedi cael trafodaethau o gwbl gyda'r Comisiwn? Oherwydd mae hyn yn dibynnu ar reolau'r Comisiwn ac edrych ar ddull y gyd-fenter yn ei gyfanrwydd a'r ochr fonopoli i bethau. Felly, a ydych wedi cael unrhyw gyfle i siarad â'r Comisiwn o gwbl o ran edrych ar y prosiect hwn?

Rwy'n llawn sylweddoli faint o fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn dur dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi bod yn fuddiol iawn. Mewn gwirionedd dyna oedd un o'r rhesymau pam fod gennym ddiwydiant dur yma yng Nghymru o hyd. Ond mae'n bwysig cadw'r diwydiant hwnnw, a'n bod yn pwyso ar Tata i sicrhau bod eu holl ymrwymiadau i ddur Cymru'n parhau, ac os yw'n mynd i werthu—roeddwn yn casglu o'ch ateb i Helen Mary Jones ei fod yn mynd i werthu Trostre, mae'n ymddangos, neu dyna'r argraff a gefais o'ch ateb—fod angen inni sicrhau bod contractau sydd ar waith gyda Phort Talbot yn aros gyda Phort Talbot, fel nad ydynt yn mynd i rywle arall, ac felly ein bod yn cadw'r diwydiant yma yng Nghymru.

15:50

A gaf fi ddiolch i David Rees am ei gwestiwn ac am ei gefnogaeth barhaus i'r diwydiant dur yng Nghymru? O ran y trafodaethau sy'n digwydd yn y Comisiwn Ewropeaidd, dylwn nodi mai negodi cyfrinachol rhwng y Comisiwn Ewropeaidd a phartneriaid y gyd-fenter yw hyn wrth gwrs, felly nid lle'r Llywodraeth fyddai cymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r Comisiwn Ewropeaidd. Ein rôl ni bob amser yw creu'r amgylchedd cywir lle gall gweithfeydd dur yng Nghymru fod yn gystadleuol a chael dyfodol disglair, cryf.

O ran y cwestiwn ynglŷn ag a fyddai Trostre'n parhau i gael ei ddur o Bort Talbot wrth gwrs, bydd hwn yn fater allweddol yn y trafodaethau sy'n mynd i ddigwydd rhyngom a Tata yn yr wythnosau i ddod. Rwy'n gofyn am drafodaethau gyda phenaethiaid busnes Tata yn India, gan gynnwys, wrth gwrs, gyda Bimlendra Jha, sydd bellach wedi dychwelyd i'r India, ond mae gennym berthynas adeiladol iawn ag ef o hyd.

Mae'r gyd-fenter yn berthynas 50:50 rhwng ThyssenKrupp a Tata Steel, ac felly rydym yn disgwyl y caiff unrhyw boen ei rhannu'n gyfartal o ran unrhyw asedau a werthir. Ond rhaid i mi bwysleisio unwaith eto y byddai'n rhaid i werthu Trostre ddigwydd ar y sail ei fod yn fusnes hyfyw mewn marchnad gystadleuol, a chredaf fod hynny wedi'i bwysleisio mewn e-bost gan Joe Gallagher at weithlu Trostre neithiwr—mae hynny'n hollol gywir.

Nawr, o ran gweithfeydd dur eraill yng Nghymru, soniodd David Rees am fusnes Cogent Orb Electrical Steels yng Nghasnewydd, ac rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda Tata mewn perthynas â'r gwaith hwnnw wrth gwrs. Rydym hefyd wedi helpu i gyfrannu at lwyddiant gwerthiannau eraill gan Tata. Er enghraifft, fe wnaethom helpu i sicrhau dyfodol i'w safle Afon Tinplate. Nawr, ar yr achlysur hwnnw, gallasom sicrhau canlyniad llwyddiannus a gallodd pob un o'i 43 aelod o staff barhau yn eu gwaith ar y safle yn Abertawe, sydd bellach yn gweithredu fel rhan o frand Tinmasters. Wrth gwrs bydd pryder yn Nhrostre ar hyn o bryd, ond gyda Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio'n ddigyfaddawd ar greu'r amgylchedd iawn i weithfeydd dur allu llwyddo yng Nghymru, rwy'n hyderus y gall y bobl a gyflogir yn Nhrostre fwynhau dyfodol hirdymor yn y sector. 

5. Datganiadau 90 Eiliad

Ar ddydd Iau 28 Mawrth, roedd hi'n wythdeg mlynedd ers un o'r gweithredoedd mawr arwrol a digwyddodd yn ystod rhyfel cartref Sbaen. Ar y diwrnod hwnnw, llwyddodd y Cymro o Gaerdydd, y Capten Archibald Dickson, i achub ac arbed bywydau 2,638 o ddynion, menywod a phlant a oedd yn dianc o Sbaen rhag milwyr ffasgaidd y Cadfridog Franco. Arweiniodd blocâd ar borthladd Alicante gan longau rhyfel Eidalaidd a bygythiad awyrennau bomio o'r Almaen at olygfeydd o anhrefn ac anobaith. Wrth weld y golygfeydd trasig hyn, ac mewn gweithred o'r dewrder mwyaf, gadawodd Capten Dickson o SS Stanbrook ei gargo ar ôl ac yn lle hynny, derbyniodd y ffoaduriaid ar fwrdd y llong. Ddeng munud ar ôl dechrau'r daith, daeth sŵn ffrwydradau, a glaniodd bomiau ger y Stanbrook, ac eto torrodd Capten Dickson drwy'r blocâd, gan achub llawer iawn o fywydau heb unrhyw amheuaeth.

Yn Alicante, ceir plac coffa i Capten Dickson yn Gymraeg, Sbaeneg a Saesneg. Yr wythnos diwethaf, ar ddydd Sul Mawrth 31, cynhaliwyd digwyddiad dinesig cyhoeddus yn Alicante i gofio am y digwyddiadau hyn. Darllenwyd datganiad o gydnabyddiaeth a solidariaeth gan Brif Weinidog Cymru, i gydnabod y nifer o ddynion a menywod o Gymru yn y frigâd ryngwladol a fu'n ymladd ffasgiaeth yn Sbaen, ac a oedd yn dweud

Ni cheir gweithred fwy o solidariaeth na phan fydd un person yn peryglu eu bywyd dros eu cyd-ddyn.

Mae cynlluniau ar droed i osod plac coffa, yn union yr un fath â'r un yn Alicante, ger y Cynulliad i gydnabod gweithredoedd Capten Dickson ac mewn solidariaeth â phobl Alicante. Rwy'n falch iawn fod y Prif Weinidog wedi rhoi ei gefnogaeth, a gwn y gallaf ddibynnu ar y Cynulliad hwn i roi ei gefnogaeth lawn i'r prosiect hwn.

15:55

Bu farw hanner cant o bobl ac anafwyd dwsinau yn rhagor pan ymosododd dyn â gwn ar ddau fosg yn Christchurch, Seland Newydd, y mis diwethaf. Roedd y digwyddiad erchyll hwn yn ymosodiad uniongyrchol ar werthoedd goddefgarwch a rhyddid i addoli, sydd mor annwyl i ni i gyd. Yn ddiweddar, bu'n rhaid cynyddu mesurau diogelwch mewn mosgiau o amgylch Birmingham wedi i bump ohonynt gael eu targedu mewn ton o fandaliaeth. Mae Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Cartref, wedi cyhoeddi hwb ariannol o £1.6 miliwn tuag at fesurau diogelu amddiffynnol ar gyfer mannau addoli er mwyn helpu i dawelu meddyliau cymunedau. Rhaid inni yng Nghymru chwarae ein rhan. Ni ddylai neb ofni erledigaeth oherwydd eu ffydd. Rydym yn gwrthod y rhai sy'n ceisio hau casineb a rhaniadau ymysg ein cymunedau.

Ddirprwy Lywydd, mae Jacinda Ardern, Prif Weinidog Seland Newydd, wedi dod yn ddynes sy'n ennyn edmygedd o gwmpas y byd yn sgil y ffordd yr ymdriniodd â'r sefyllfa ar ôl y gyflafan hon. Cofleidiodd y dioddefwyr, gweddïodd gyda hwy, fe wylodd gyda hwy, a'r ffordd y rhoddodd gamau ar waith—rhoddwyd mesurau rheoli gynau ar waith o fewn dyddiau ac roedd ei chenedl yn wylo gyda'r dioddefwyr a'u teuluoedd. Rhaid inni ddysgu gwersi. Cyn imi orffen, rwyf am ddyfynnu gair neu ddau o'r araith a wnaeth. Rwy'n dyfynnu ei geiriau:

Nid ydym yn rhydd rhag firysau casineb, ofn, yr arall. Ni fuom erioed. Ond gallwn fod yn genedl sy'n darganfod yr iachâd.

Credaf y dylem ni fod yn genedl felly. Effaith uniongyrchol ei haraith oedd bod y rhan fwyaf o'r dioddefwyr wedi maddau i'r person a laddodd eu perthnasau. Am berson mawr. Credaf y dylem ei gwahodd i ddod atom i'r Siambr hon i ddweud wrthym sut yr ymdriniodd â'r sefyllfa a dylem ddysgu gwersi ganddi. Diolch.

Bydd rowndiau terfynol WorldSkills yn digwydd rhwng 22 a 27 Awst yn ddiweddarach eleni. Cawsant eu galw'n 'Olympics sgiliau', ac mae'n gyfle i brentisiaid disgleiriaf a mwyaf medrus y byd herio'r gorau yn y byd yn eu cyfryw broffesiynau. Bydd mwy na 60 o wledydd yn anfon timau i'r digwyddiad, a chaiff ei ddangos ar deledu byw a'i ffrydio ar draws y byd. Mae 32 aelod Tîm y DU eisoes wedi'u cyhoeddi, a bydd yr aelodau'n cynrychioli amrywiaeth o sectorau, yn amrywio o beirianneg, lletygarwch, gwasanaethau proffesiynol, adeiladu, digidol a TG.

Ar ymweliad diweddar â Choleg Sir Benfro, roeddwn yn falch o gael clywed am lwyddiant tri gweithiwr proffesiynol ifanc hynod dalentog o ranbarth y canolbarth a'r gorllewin, a gynrychiolir gennyf, sydd wedi sicrhau eu lle yn nhîm WorldSkills y DU: Sam Everton a Chris Caine, cyn-fyfyrwyr yng Ngholeg Sir Benfro, a Phoebe McLavy, a gwblhaodd ei hyfforddiant yng Ngholeg Sir Gâr. Bydd Sam yn cystadlu yn y gystadleuaeth goginio, Chris yn y gystadleuaeth saernïaeth, a bydd Phoebe yn arddangos ei sgiliau mewn trin gwallt. Hoffwn ganmol gwaith caled ac ymroddiad y gweithwyr proffesiynol ifanc hyn, a'r ymdrech a wnaethant er mwyn cyrraedd y cam hwn o'r gystadleuaeth fawreddog hon. Rwy'n siŵr y bydd y Siambr gyfan am ddymuno pob lwc iddynt yn y rownd derfynol yn ddiweddarach eleni. Gwn y byddant yn bachu ar y cyfle hwn i ddangos lefel y dalent sydd gan Gymru i'w chynnig i'r byd.

Cynnig i atal dros dro Reolau Sefydlog 11.16 a 12.20(i) er mwyn caniatáu trafod adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Yr eitem nesaf yw cynnig i atal dros dro Reolau Sefydlog 11.16 a 12.20 er mwyn caniatáu dadl ar adroddiad y pwyllgor safonau. Galwaf ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7033 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 3 Ebrill 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cynnig yw atal Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 01-19 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

Symudwn yn awr at y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-19 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM7032 Jayne Bryant

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 01-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 1 Ebrill 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y Comisiynydd Safonau dros dro mewn perthynas â chŵyn yn erbyn Gareth Bennett AC ynglŷn â'i uniondeb, sy'n tramgwyddo paragraff 4(b) y cod ymddygiad a pholisi urddas a pharch y Cynulliad. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y Comisiynydd, ac mae ein hadroddiad yn nodi barn y pwyllgor ynghylch y gosb sy'n briodol yn yr achos hwn. Nodir yn llawn y ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhellion yn adroddiad y pwyllgor. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i gofnodi diolch y pwyllgor am y gwaith a wnaed gan y Comisiynydd dros dro mewn perthynas â'r gŵyn hon. Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Cynulliad i gymeradwyo argymhellion y Pwyllgor.

16:00

Rwy'n sylweddoli bod yr hyn rwyf am ei ddweud yn mynd i syrthio ar glustiau byddar, ond fe wnaf fy araith beth bynnag. Nid yw'n ymwneud â'r unigolyn sy'n destun yr adroddiad hwn. Mae'r rhain yn ystyriaethau cyffredinol ynghylch y ffordd y mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn gweithredu er mwyn rhoi effaith i'r polisi urddas a pharch a Rheolau Sefydlog y Cynulliad hwn.

Rwy'n pryderu yn gyntaf oll ynglŷn ag i ba raddau y mae'r cwynion hyn yn dderbyniadwy, gan fod yna gwynion a wnaed gryn amser yn ôl i Syr Roderick Evans, ein comisiynydd safonau, a wrthodwyd ganddo mewn llythyr at Gareth Bennett ar 3 Hydref, ac a gyhoeddir gyda'r adroddiad. Dywed Syr Roderick

Deuthum i'r casgliad nad oedd y cwynion fod y fideo

—sef testun y gŵyn—

yn rhywiaethol ac yn wreig-gasaol yn rhai dilys.

Yn dilyn hynny, gwnaed sawl cwyn arall gan Aelodau Cynulliad eraill yn gofyn i Syr Roderick adolygu ei benderfyniad. Wrth gwrs, nid oes unrhyw ddarpariaeth a fyddai'n caniatáu hynny o dan y rheolau presennol. Felly, penderfynodd Syr Roderick na fyddai'n gallu clywed y cwynion newydd hyn, ac o ganlyniad, penodwyd Mr Bain i weithredu yn ei le. Casglodd Mr Bain wedyn fod modd derbyn y cwynion newydd, er gwaethaf y ffaith bod cwynion yn union yr un fath eisoes wedi'u diystyru.

Nawr, mae'n fater difrifol pan fyddwn yn gwneud un o Aelodau'r lle hwn yn agored i erlyniad dwbl, fel y byddai i unrhyw ddinesydd yn y Deyrnas Unedig. Mewn llys barn, os yw mater yn functus officio, sef y term cyfreithiol swyddogol ar gyfer hyn mewn llys barn, ni ellid derbyn unrhyw gŵyn o'r fath, ac eto rydym yn caniatáu erlyniad dwbl yn y lle hwn ar gyfer gwneud cwynion hyd syrffed, o bosibl, yn erbyn Aelodau unigol. Credaf fod hynny'n anghywir o ran egwyddor.

Mae Mr Bain, ym mharagraff 6.1 ei adroddiad—esgusodwch fi—yn dweud bod—

Mae'n adroddiad maith.

Wel, nid yn gymaint ei fod yn hir, ond heb fy sbectol mae'n anodd. Ie, ym mharagraff 6.1 yn ei adroddiad, dywed Mr Bain ei fod yn cydnabod bod:

dyfarnu ar gwynion o'r natur hon yn fater y gall personau yn gyfreithlon wneud penderfyniadau gwahanol yn eu cylch.

Yna aiff ymlaen i ddweud:

Gwn fod y Comisiynydd Safonau, wrth gwrs, heb y fantais o'r holl ffeithiau sydd ger fy mron yn awr, wedi penderfynu nad oedd cwyn Mrs Watson—

sef yr un wreiddiol—

ynghylch cyhoeddi'r fideo yn dderbyniadwy.

Felly, mae hynny'n ein harwain at: beth oedd wedi newid rhwng y gŵyn wreiddiol a'r cwynion newydd? Wel, wrth gwrs ar yr adeg y penderfynodd Mr Bain ymchwilio i'r mater, nid oedd unrhyw beth wedi newid, oherwydd ni fu unrhyw ymchwiliad pellach. O ganlyniad i'w ymchwiliad, penderfynodd—felly, fe benderfynodd yn ôl-weithredol—fod yna wybodaeth newydd a'i galluogai i ystyried y gŵyn yr oedd eisoes wedi penderfynu ei hystyried.

Roedd hyn yn ymwneud ag ymadrodd a ddefnyddiodd Gareth Bennett sef—nid wyf yn gwybod a yw'r Aelodau'n gwybod beth oedd y fideo, sef yn y bôn wyneb Joyce Watson wedi'i roi ar gorff barforwyn. Rwy'n esbonio hyn er budd y bobl ar y tu allan nad ydynt o bosibl yn deall beth y mae'r achos hwn yn ymwneud ag ef.

Nid wyf yn ei wneud yn llai nag ydyw. Nid wyf wedi gorffen fy araith eto. Gallwch wneud eich araith chi maes o law.

Fe ddarllenaf o'r adroddiad. Mr Gething, ei gŵyn oedd bod y fideo

yn amlwg yn rhywiaethol. Mae'n amlwg mai bwriad y llun o'r farforwyn lond ei chroen oedd bychanu a pheri loes. Y cyfeiriad at—

Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n anghywir. Mae'n ddrwg gennyf, nid dyna'r paragraff cywir. Heb fy sbectol, mae'n anodd i mi ddarllen. Rwy'n ymddiheuro i'r Aelodau am wneud y camgymeriad hwnnw. Yn agos at ddechrau'r fideo mae'r testun canlynol:

Roedd Joyce ar un adeg yn rhedeg tafarn yn Sir Benfro ond ni fyddech yn dyfalu hynny o edrych arni. Nid yw'n edrych fel pe bai'n enaid y parti. [Torri ar draws.]

Rwy'n dyfynnu o'r adroddiad, sydd wedi'i gyhoeddi. Rwy'n dyfynnu o'r adroddiad, sydd wedi'i gyhoeddi, ac rwy'n mynd i wneud fy araith, gyda chaniatâd y Dirprwy Lywydd, yn fy ffordd fy hun.

Felly—dyma'r frawddeg bwysig—

Nid wyf yn siŵr y byddai gennyf awydd galw i mewn am un cyflym yn y dafarn leol pe bawn i'n ei gweld yn tynnu peint wrth y bar. [Torri ar draws.]

Hoffwn pe bai'r Aelodau'n gwrando. Rwy'n ceisio gwneud—[Torri ar draws.] Gwn nad yw'r Aelodau eisiau gwrando—

16:05

Diffoddwch ei feicroffon.

—oherwydd rwyf wedi dioddef ymyriadau sydd wedi tarfu ar lif yr hyn rwy'n ceisio'i ddweud. Rwy'n ceisio gwneud pwynt difrifol ynglŷn ag ystyr yr ymadrodd, 'un cyflym yn y dafarn leol'. Mr Bain—

Pwynt o drefn.

Na, na—nid oes pwyntiau o drefn ynghanol dadl, mae'n ddrwg gennyf. A wnewch chi ddod at eich brawddeg olaf? A wnewch chi ddod at eich brawddeg olaf?

Honnodd Mr Bain fod hwnnw'n sylw rhywiaethol. I mi mae 'galw i mewn am un cyflym yn y dafarn leol'—

I bron bawb, buaswn yn meddwl fod 'galw i mewn am un cyflym' yn golygu—

Mae'r Cambridge English Dictionary yn dweud bod 'cael un cyflym' yn golygu

'cael diod, diod alcoholig fel arfer, ychydig cyn mynd i rywle'.

Nid oes unrhyw—

Iawn, rwyf wedi diffodd eich meicroffon. Dewch at eich brawddeg olaf; rydych wedi cael llawer gormod o amser i siarad.

Wel, mae'n ddrwg gennyf eich bod yn rhoi taw arnaf yn y mater difrifol hwn—

Byddwch wedi clywed ymdrechion yr Aelodau yma i roi taw ar yr araith hon ac i dorri ar ei thraws.

Prin fod diwrnod yn mynd heibio yn y lle hwn pan na chaiff Aelodau UKIP eu bychanu neu eu tramgwyddo gan rai o'r sylwadau y mae Aelodau eraill o'r tŷ hwn—[Torri ar draws.] Mewn cymdeithas rydd, credaf y dylai aelodau cynulliad democrataidd fod yn barod i oddef beirniadaeth ac yn wir, i gael eu bychanu a'u tramgwyddo o bryd i'w gilydd. Mae hynny'n rhan annatod o'r peth, a Joyce Watson—

Na, mae'n flin gennyf, rydych wedi cael digon o amser. Mae'n ddrwg gennyf, os gwelwch yn dda, eisteddwch. Eisteddwch. Eisteddwch. Nid yw eich meicroffon ymlaen. Nid yw eich meicroffon ymlaen. Ni fydd eich meicroffon yn cael ei roi ymlaen. Eisteddwch os gwelwch yn dda.

Iawn, mae'n ddrwg gennyf, Huw Irranca-Davies yw'r siaradwr nesaf. Mae'n ddrwg gennyf, Huw Irranca-Davies.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Ac mewn gwirionedd, mae hyn wedi dangos y pwynt roeddwn am ei wneud.

Yn gyntaf oll, a gaf fi gymeradwyo'r adroddiad a gyflwynwyd? Mae'n benderfyniad anodd pryd bynnag y caiff honiadau o'r fath eu gwneud yn erbyn unrhyw Aelod a hefyd i'r unigolyn, rhaid imi ddweud, sydd wedi bod yn destun y cwynion gwreiddiol yn ogystal. A chredaf fod y ffordd rydych chi, Neil, wedi ymdrin â hyn heddiw wedi dod â'r materion hynny i'r wyneb eto mewn ffordd anghyfforddus iawn—a dywedaf hyn yn gwrtais—er anghysur mawr, nid yn unig i'r unigolyn ond i'r Aelodau ac i bobl sy'n gwylio'r trafodion hyn.

Ond a gaf fi ddweud, oherwydd mae'r pwynt yr oeddwn am ddod ato yn ymwneud â'r ffordd yr ydym yn ymdrin â hyn? Ac yn gyntaf oll, dylai fod ar y sail eich bod yn chwarae yn ôl y chwiban. Nid ydych yn dadlau gyda'r canolwr. A Neil, fe wyddoch gystal â minnau pan geir Aelod yn Nhŷ'r Cyffredin yn euog o dramgwydd, nid yn unig eu bod yn ymddangos yno a bod disgwyl iddynt eistedd yno a gwrando yn gwrtais ac yn ostyngedig i'r hyn sy'n cael ei ddweud, ond yn aml gofynnir iddynt gan y Pwyllgor Safonau a Breintiau i wneud ymddiheuriad personol. Rwy'n rhyfeddu, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu bod angen inni ailedrych ar ein Rheolau Sefydlog i fynnu bod yr Aelod yn bresennol. Rwyf wedi gweld yn rhy aml yn y lle hwn fod yr Aelod yn ei heglu i rywle i guddio rhag hyn ac yn caniatáu i rywun arall lunio amddiffyniad ar eu rhan. A buaswn yn croesawu cyfle i ailedrych ar Reolau Sefydlog ac edrych ar y gofyniad y dylai'r Aelod fod yn bresennol ac yn ail, ein bod yn ymestyn y Rheolau Sefydlog sydd gennym o dan 22.10—lle caniateir inni geryddu Aelod, tynnu hawliau a breintiau yn ôl, gwahardd Aelod o drafodion y Cynulliad—i ychwanegu hefyd y ffaith y gallem fynnu ymddiheuriad os yw'r gŵyn yn sylweddol.

Yn ail, pŵer y Cadeirydd, neu yr achos hwn, y Dirprwy Lywydd. Yn Erskine May yn Nhŷ'r Cyffredin, mae'n dweud yn glir iawn fod pŵer y Cadeirydd, y Llefarydd, i enwi a chosbi Aelod sydd wedi anwybyddu awdurdod y Cadeirydd, neu sydd wedi rhwystro'r tŷ yn gyson ac yn fwriadol drwy dorri ei reolau, y gellir ei enwi ef neu hi, ar ôl iddynt gael bob cyfle at ei gilydd—mae'r gadair wag honno heddiw yn siarad cyfrolau—bob cyfle i unioni pethau, y gellid eu henwi, ac yna cânt eu hatal am bum diwrnod, am 20 diwrnod, cyhyd ag y bydd y tŷ hwnnw'n penderfynu. Yn ein Rheolau Sefydlog, yma yn y llyfr coch, sef ein Beibl, mae'n dweud, os oes Aelod, Neil, 

'sy'n gwrthod cydymffurfio ag unrhyw Reol Sefydlog neu ag unrhyw ofyniad arall... neu sy'n anwybyddu awdurdod y cadeirydd.'

Un peth yn unig sy'n ein cadw o fewn y rheolau, i ymddwyn yn briodol yn y tŷ hwn; awdurdod y Cadeirydd yw hwnnw.

Rwyf wedi codi i siarad nid ar y sylwedd, er fy mod yn croesawu'r canfyddiadau a'r argymhellion a gyflwynwyd, yn bendant iawn. Ond os nad yw'r Aelod—sy'n absennol heddiw—yn fodlon ymddiheuro, dangos edifeirwch am yr hyn a wnaed, buaswn yn argymell o ddifrif fod y pwyllgor yn ei ailystyried, yn dod yn ôl, ac yn ailedrych ar yr opsiwn o gyflwyno gwaharddiad pellach, ond drwy wneud hynny ei fod hefyd yn edrych ar yr ystod o gosbau y gellir eu gwneud.

Hoffwn weld yr Aelod yma, nid yn cael ei amddiffyn gan rywun arall, ond yn siarad drostynt eu hunain ac yn ymddiheuro ac yn dangos edifeirwch. Oherwydd os nad ydynt yn gwneud hynny, mae'n dangos diffyg cydymffurfiaeth â Rheolau Sefydlog, a byddwn yn pleidleisio ac yn dangos ewyllys y tŷ hwn ar hynny yn y man, ond mae hefyd yn dangos diffyg cydymffurfiaeth â'r Rheolau Sefydlog ynghylch pŵer ein Llywydd a'n Dirprwy Lywydd. Anwybyddu awdurdod y Cadeirydd. Buaswn yn credu bod diffyg parch yn cael ei ddangos nid yn unig at yr Aelod, ond hefyd at y Siambr. Ac os ydym yn sefydliad democrataidd, fel yr oedd Neil oedd mor awyddus i ddweud, yna rydym yn cadw at y rheolau, rydym yn ymddiheuro pan fydd pawb ohonom yn gwneud pethau'n anghywir, a bod y pwyllgor yn dweud hynny, a'n bod yn gwrando ar y Cadeirydd ac yn derbyn y cosbau. [Cymeradwyaeth.]

16:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddweud fy mod yn siomedig ynglŷn â thôn yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Rwy'n synnu na ddyfynnodd o'r adroddiad, sy'n dweud:

'Fel Aelodau’r Cynulliad, mae gennym gyfrifoldeb i osod esiampl ar sut i ymddwyn ag urddas a pharch i gymdeithas gyfan, ac mae’r fideo hwn yn is o lawer na’r safonau disgwyliedig.'

Ar y pwynt a wnaeth ynglŷn â'r comisiynydd dros dro yn ogystal, fe nododd y comisiynydd yn glir yn ei ddatganiad ynghylch penodi comisiynydd dros dro yn ôl ym mis Hydref, a rannodd gyda'r Aelodau, ei fod wedi derbyn rhagor o gwynion, ac felly'n ystyried na allai weithredu yn y mater hwn. Mae hawl o fewn y ddeddfwriaeth i benodi comisiynydd dros dro, ac nid oes dim yn y Mesur i atal cwyn rhag cael ei hystyried lle cafodd cwyn o natur debyg ei diystyru. Cafodd y pwyllgor gyngor cyfreithiol na fyddai'r darpariaethau erlyniad dwbl yn gymwys mewn achosion o'r fath, a hoffwn ei atgoffa nad llys barn yw hwn.

Gan symud ymlaen at Huw Irranca-Davies, diolch i Huw Irranca-Davies am ei gyfraniad. Mae'r pwyllgor yn ystyried, ac fe wnaeth yn yr achos hwn, a yw Aelod yn ymddiheuro fel rhan o'i ystyriaethau. Yn yr achos hwn, rhoddodd ystyriaeth i ddiffyg edifeirwch yr Aelod, a nodir yn yr adroddiad, wrth ddod i'n casgliad. Byddem yn hapus i edrych ar y pwyntiau a godwch yn ogystal, gan y byddwn yn edrych ar gosbau pan fydd ein gwaith ar y cod ymddygiad wedi'i gwblhau. Mae'n amserol i ni adolygu hwnnw a gwneud yn siŵr eu bod yn addas at y diben.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Plant sydd wedi cael eu Cam-drin yn Rhywiol

Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Galwaf ar Bethan Sayed i wneud y cynnig. Bethan.

Cynnig NDM7021 Bethan Sayed

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnig i gael bil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) cyflwyno'r Model Barnahus o gymorth i ddioddefwyr gyda phwyslais therapiwtig;

b) gweithio gyda'r heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob achos o gam-drin plant yn rhywiol; ac

c) yn cyflwyno newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref. 

Cynigiwyd y cynnig.

Roeddwn yn awyddus i gyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd fy mod i ac eraill yma wedi bod â diddordeb yn y ddadl hon ar fodelau darparu gwasanaethau cymorth yn y maes hwn.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o'r ddeiseb, sy'n dal dan ystyriaeth gan y Pwyllgor Deisebau, mewn perthynas â'r model Barnahus a chynyddu'r ddarpariaeth ddiogelwch a chymorth i blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Cyflwynwyd y ddeiseb gan un o fy etholwyr yn ardal Gorllewin De Cymru, Mayameen Meftahi, sydd wedi bod yn dadlau'n gryf dros ddiwygio'r gwasanaethau a geir ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Mae hyn yn dangos cryfder y system ddeisebau. Cyfarfûm â hi yn y digwyddiad i gyflwyno'r ddeiseb ac fe wnaeth argraff fawr arnaf pan ddywedodd ei stori bersonol wrthyf ynglŷn â'r profiad dirdynnol roedd hi wedi byw drwyddo yn ei phlentyndod.

Mae hwn yn fater emosiynol iawn ac mae'n rhywbeth y bydd pawb yma, rwy'n siŵr, yn cael ei gyffwrdd ganddo, ynghyd â phobl ledled y wlad. Pwynt cyflwyno'r ddadl hon yw fy ymgais i gynnig rhai o'r syniadau hynny i lawr y Senedd fel y gallwn weld pa gonsensws a geir ac i ymhelaethu ar ddichonoldeb y syniadau hyn. Rwy'n siŵr y byddant yn cael ystyriaeth ddifrifol gan y Llywodraeth.

Rwy'n cydnabod bod rhai o'r syniadau y byddwn yn eu trafod yn gysyniadau cymharol newydd yn y DU, ond credaf eu bod yn rhan o chwyldro hanfodol posibl yn y ffordd yr ydym yn trin plant a sut y gallwn gynorthwyo plant, y bydd llawer ohonynt mewn lle truenus o anobaith a thrawma.

Mae fy nghynnig yn canolbwyntio ar dri phwynt sylfaenol: sut y gallwn weithio gyda'r heddlu i gynhyrchu canlyniadau gwell fel rhan o'r model Barnahus; sut y gallwn sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth a sicrhau'r lefelau lluosog o gymorth ac asesiad mewn un man; a sut y gallwn gynnig lloches i blant mewn angen.

Lansiwyd model Barnahus yng Ngwlad yr Iâ yn 1998 fel ymateb uniongyrchol i rai o'r un problemau a welwn mewn llawer o wledydd eraill, gan gynnwys ein gwlad ni: cyfraddau euogfarnau is nag y dylent fod; plant nad ydynt yn teimlo'n ddigon diogel neu heb eu cefnogi ddigon i roi gwybod; plant yn poeni am y canlyniadau pe baent yn rhoi gwybod; plant mewn trawma dwfn, heb y math o amgylchedd cefnogol sy'n gwbl angenrheidiol i helpu rhywun sy'n agored i niwed ac mewn lle tywyll iawn i ddweud beth sy'n digwydd. Mae model Barnahus, neu 'tŷ plentyn', fel y mae'n cyfieithu'n uniongyrchol, wedi bod yn llwyddiant. Maent yn wasanaethau dan arweiniad therapiwtig, gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig yn arwain amgylchedd diogel wedi'i gynllunio i fod yn ystyriol o blant. Ac mae'r Barnahus yn gweithredu fel ystafelloedd mewn un lle ar gyfer gwasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys y cyfweliad fforensig, archwiliad meddygol a therapi plant a theuluoedd. Gellir rhoi tystiolaeth tyst yn erbyn y sawl sy'n cam-drin heb fod angen i ddioddefwr roi tystiolaeth sawl gwaith mewn nifer o leoliadau.

Yn aml, ni fydd gan lawer o blant sy'n cael eu cam-drin ddarlun arbennig o dda o'r gwasanaethau statudol ac mewn rhai achosion, nid ydynt wedi cael y profiadau uniongyrchol gorau ychwaith. Bydd llawer o blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol wedi cael eu cam-drin mewn ffyrdd eraill hefyd. Bydd llawer o blant wedi bod mewn trafferthion gydag awdurdodau hefyd o bosibl am resymau amrywiol, yn aml yn gysylltiedig â'r cam-drin y maent wedi'i ddioddef, ac ni fydd ganddynt hyder i siarad yn rhwydd â'r heddlu neu'r awdurdodau.

Pan fydd plentyn yn rhoi gwybod beth sydd wedi digwydd, yn amlach na heb, o dan y system bresennol, ni fydd erlyniad yn llwyddiannus. Ceir achosion rheolaidd o fethu cydymffurfio â gofynion tystio, ac yn aml mae hyn yn cydblethu â methiant plant i fodloni disgwyliadau cyffredin ar gyfer tystion. Oherwydd straen a thrawma'r lleoliadau y mae disgwyl i blentyn sydd wedi cael eu cam-drin roi tystiolaeth ynddynt neu am eu bod yn rhoi'r gorau i'r broses ar ryw adeg wedi iddi gychwyn, am lu o resymau, nid yw hyn yn syndod.

Hefyd rhoddir lles plentyn mewn perygl, gan fod effaith cyfweliadau lluosog yn ail-greu trawma ar draws gwahanol awdurdodau yn arfer gwael, ac eto mae'n arfer sy'n cael ei dderbyn. Dyna un rheswm pam y mae'r amser y mae'n ei gymryd i gyflwyno cyhuddiad mewn achosion asiantaeth cynnal plant gryn dipyn yn hwy nag ar gyfer oedolion. Mae proses gyfweld dan arweiniad seicolegydd clinigol mewn un ystafell, lle gall llysoedd wrando a gofyn cwestiynau'n fyw, yn fodel gwell, ac fe'i cefnogir gan awdurdodau ledled y wlad hon, sy'n annog treialu'r model hwn, gan gynnwys y cyn Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd. Felly, mae gweithio gyda'r heddlu ar hyn yn hanfodol, ac mae o fewn ein cymhwysedd. Mae Comisiynydd Plant Lloegr, er enghraifft, eisoes wedi ymuno gyda gwasanaethau heddlu yn Lloegr i dreialu'r model, ac wedi annog pob ardal heddlu i sefydlu'r model erbyn 2016. Credaf nad oes fawr o reswm pam na ddylai neu na allai Cymru wneud yr un peth. Wrth gwrs byddai hyn yn galw am fuddsoddiad posibl, ac nid wyf yn awgrymu y dylid cael gwared yn llwyr ar y model presennol o ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol o blaid rhywbeth newydd sbon. Nid dyna rwy'n ei ddweud yma heddiw. Gellid adeiladu ar waith presennol y canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol mewn partneriaeth â byrddau diogelu rhanbarthol lle maent yn gweithio'n dda ar hyn o bryd, neu gellid sefydlu'r Barnahus mewn rhai ardaloedd o'r wlad lle mae'r ddarpariaeth yn brin iawn ar hyn o bryd. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae cyrff trydydd sector wedi'i ddwyn i fy sylw o ganlyniad i ddewis y cynnig deddfwriaethol hwn.

Rhaid inni wneud yn well yma yng Nghymru. Rwy'n sylweddoli nad yw plismona wedi'i ddatganoli'n uniongyrchol, ond mae'r system hon o asesu, cefnogi a chyfweliadau i gyd o dan un to eisoes ar gael mewn canolfannau peilot yn Llundain, a gellir gweithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu ar yr agenda hon. Yn wir, mae'r comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer gogledd Cymru eisoes wedi mynegi ei barodrwydd i gefnogi model tebyg yma yng Nghymru.

Mae hwn yn fodel sydd wedi bod yn llwyddiannus. Cafodd ei ddefnyddio ar draws y gwledydd Llychlynnaidd, lle gwelwyd gwelliannau sylweddol. Dyblodd cyfraddau euogfarnau yng Ngwlad yr Iâ, a gwelwyd gostyngiad dramatig yn yr amser a gymerir i gwblhau asesiadau ac ymchwiliadau. Mabwysiadwyd y model hwn mewn rhannau o'r UDA a Chanada fel canolfannau eiriolaeth plant o'r 1980au, ac mae ymgyrch ledled Ewrop i weld hyn yn cael ei gyflwyno. Felly, yn bersonol nid wyf yn derbyn y farn fod hwn yn syniad sy'n galw am lefel sylweddol o waith archwilio, neu gael addasiadau, er mwyn dod o hyd i fodel addas ar gyfer Cymru. Weithiau mae'n briodol dilyn arferion gorau yn rhyngwladol ac i wneud hynny ar unwaith. Mae'n ddrwg gennyf ddyfynnu comisiynydd Lloegr eto, ond, ac rwy'n dyfynnu:

Mae profiadau yn Sweden, Norwy a Denmarc yn dangos y gellir addasu a gweithredu'r model o fewn fframwaith cyfreithiol gwlad arall, heb beryglu'r egwyddorion craidd sy'n sicrhau canlyniadau mor drawiadol. 

Felly, ni fyddai angen inni beryglu unrhyw beth a wnawn ar hyn o bryd.

Roeddwn yn awyddus iawn wrth gyflwyno'r cynnig hwn iddo gynnwys trafodaeth ynghylch tai diogel a llety mewn llochesau. Os yw plentyn yn mynd i orsaf yr heddlu neu'n gwneud honiad wrth athro ynglŷn â rhiant, gwarcheidwad neu aelod o'r teulu sy'n cam-drin yn rhywiol, credaf ei bod hi'n iawn fod lle diogel a llety ar gael i'r plentyn allu mynd iddo i gael cefnogaeth wrth aros i'r broses statudol ddod yn weithredol neu i aros am yr opsiynau gofal maeth priodol. Ar hyn o bryd, mae gan awdurdodau lleol bŵer i gyhoeddi gorchmynion gofal brys ac i blant fynd i ofal maeth, ond nid wyf yn credu y dylai hyn fod yn unig opsiwn.

Er bod rhwydweithiau rhagorol o ofalwyr maeth ar draws y wlad yn gwneud gwaith rhagorol yn y maes hwn, ceir prinder gofalwyr maeth hefyd. Yn 2018 nodwyd bod Cymru yn wynebu diffyg o fwy na 500; ledled y DU, amcangyfrifodd y rhwydwaith maethu fod angen 8,000 i lenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth.

Pan gaiff plentyn ei leoli mewn sefyllfa gofal maeth brys, ni cheir sicrwydd ychwaith y bydd gan y teulu brofiad penodol o ymdrin â phlant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol, er fy mod yn sylweddoli y byddent yn gobeithio gallu ymdrin â hynny yn y ffordd fwyaf priodol. Yn aml, byddai'r plentyn yn cael ei osod mewn sefyllfa dros dro, cyn symud ymlaen at ofalwr maeth gyda mwy o brofiad, gobeithio, gyda'r cefndir penodol hwnnw mewn cof. Ond ni fyddai'r gofal a'r cymorth arbenigol ar gael ar unwaith o reidrwydd.

Mae Cymorth i Fenywod wedi cefnogi'r galwadau am dai diogel ar gyfer plant oherwydd ceir loteri cod post i blant mewn llawer o achosion, ac oherwydd bod y cymorth arbenigol a'r amgylchedd sydd ar gael i fenyw sy'n mynd i loches menywod yn eithriadol o bwysig. Dylai fod yr un amgylchedd cefnogol ac arbenigol ar gael i blentyn sy'n agored i niwed, hyd yn oed os mai opsiwn ar gyfer y tymor byr yn unig ydyw.

Fel y dywedais yn gynharach, cyflwynwyd y ddeiseb yn galw am dai plant yng Nghymru gan etholwr i mi yn Abertawe, Mayameen Meftahi, a gafodd ei cham-drin ac a redodd i ffwrdd o'i chartref ond cafodd ei dychwelyd i aelwyd a oedd yn ei cham-drin—dyna rywbeth nad yw hi byth eisiau ei weld yn digwydd i unrhyw un arall. Mae wedi galw am dai diogel ar gyfer plant oherwydd bod realiti pwysau'r trawma ar y plentyn sy'n wynebu ac yn rhoi gwybod am brofiadau mor ofnadwy â hyn yn wirioneddol enfawr—ni allwn fychanu'r profiad y bydd y plentyn hwnnw'n gorfod mynd drwyddo. A gânt eu credu? A fydd rhywun yn gwrando arnynt? A fyddant yn wynebu'r posibilrwydd o orfod dychwelyd adref? A fydd rhywun yn y teulu yn eu hargyhoeddi i dynnu'r honiad penodol hwnnw yn ôl? Rydym wedi ei weld yn digwydd. Rydym wedi'i weld yn y newyddion—rydym wedi gweld y straeon hyn ac nid ydym am eu gweld eto.

Mae opsiwn llochesau, lle gall plentyn gael cymorth i ymdrin â'r materion a'r penderfyniadau hyn, yn opsiwn gwerth ei archwilio. Gadewch inni beidio ag anghofio bod penderfyniadau mawr a phroses fawr iawn yn cael eu gorfodi ar ysgwyddau plant agored iawn i niwed. Rwy'n barod i wrando ar y Llywodraeth ac Aelodau eraill ar ymarferoldeb sefydlu opsiynau fel hyn, ac i ba raddau y gallai olygu cydweithio ar draws asiantaethau statudol a phartneriaid trydydd sector priodol. Caf fy nghalonogi gan eiriau comisiynydd plant Cymru y byddai'n croesawu ymgysylltiad ar y ffordd orau o fynd ati i sefydlu gofod diogel neu loches, a sut y gallai hynny weithio. Gwn fod gwaith ar y gweill ar hyn o bryd ar y model arbennig hwn yn Llundain—prosiect Lighthouse yw ei enw. Ond er bod yr adolygiad hwnnw ar y gweill, nid yw hynny yn ein hatal ni rhag ei fabwysiadu yma—mae wedi bod yn gweithio'n llwyddiannus yno hyd yma.

I orffen, buaswn yn annog y Llywodraeth yn gryf i gefnogi'r cynnig hwn heddiw fel rhan o gyfres ehangach o ffyrdd i ddiwygio'r system er gwell. Rydym yn gwybod bod hwn yn faes sensitif iawn, ond fe wyddom hefyd mai'r rhai sydd wedi cael eu cam-drin sydd yn y sefyllfa orau weithiau i ddweud wrthym beth ddylai ddigwydd, ac yn yr achos hwn, credaf fod hynny'n iawn.

16:20

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi atgoffa'r Aelodau'n garedig mai dadl 30 munud y hon? Mae'n mynd i fod yn ddiddorol gweld sut y bydd Bethan yn mynd tuag at yn ôl nawr i ymateb i'r ddadl, ond fe fyddaf yn drugarog. Hoffwn atgoffa'r Aelodau mai tri munud yn unig sydd ganddynt, ac mae gan y Gweinidog chwe munud i siarad? Gadewch i ni weld sut y gwnawn ni. Janet Finch-Saunders.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cynnig hwn ar gyfer dadl ac am ein hatgoffa ni i gyd o'r angen i weithio tuag at amddiffyn a diogelu ein plant a'n pobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin a'u hecsbloetio'n rhywiol yn y modd mwyaf erchyll. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r ystadegau ar gam-drin rhywiol ar hyn o bryd, a'r niwed seicolegol difrifol a hirdymor y gall hyn ei achosi i ddioddefwyr. Cyflawnwyd oddeutu 54,000 o droseddau rhywiol yn erbyn plant o dan 18 oed yn y cyfnod rhwng Hydref 2015 a 2016.

Gall cam-drin rhywiol ddigwydd mewn nifer o ffyrdd, o drais rhywiol, gweithgaredd rhywiol, ymosodiadau rhywiol, masnachu mewn pobl, camfanteisio ar ymddiriedaeth, voyeuriaeth a ffurfiau eraill ar gam-drin ystrywgar a cham-drin nad yw'n gydsyniol. O gofio'r trallod seicolegol, y poen a'r dioddefaint anochel y mae cam-drin rhywiol yn ei achosi, rwy'n cytuno y dylai Cymru—ar ôl darllen mwy amdano—edrych ar fabwysiadu model Barnahus o Wlad yr Iâ.

Fel yr eglurodd adolygiad GIG Lloegr o'r llwybr yn dilyn ymosodiadau rhywiol ar gyfer plant a phobl ifanc yn 2005, mae'r model Barnahus yn integreiddio'n llawn y gofal a'r driniaeth seicolegol sydd eu hangen ar y dioddefwyr hyn yn gynnar wrth iddynt wella, a phan fyddant yn rhoi gwybod am y drosedd. Yn hanfodol, mae'r model hwn yn pwysleisio y dylid cynnwys ymarferwyr iechyd meddwl profiadol sydd wedi cymhwyso'n llawn. Bydd yr holl gyrff a fyddai'n ymwneud yn agos ag achos o gam-drin plentyn yn rhywiol wedi'u hintegreiddio’n llawn.

Yn wir, dau o'r rhwystrau mwyaf y mae angen eu goresgyn wrth fynd i'r afael yn briodol â cham-drin rhywiol yw adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn pobl ifanc er mwyn iddynt roi gwybod, ac i leihau a lliniaru'r teimladau o ofn a beio'r hunan sy'n aml wedi gwreiddio mewn achosion o gam-drin rhywiol. Mae'r allwedd i'r cyntaf, wrth gwrs, yn ymwneud â'r heddlu a'u perthynas â chymunedau a'r cyhoedd. Efallai bod angen pwysleisio'r agwedd hon ar waith yr heddlu yn well, gyda hyfforddiant gwell ar gyfer yr heddlu, ac edrych hefyd i weld sut y maent yn rhyngweithio pan ddaw adroddiadau i mewn. 

I grynhoi, hoffwn fynegi fy nghymeradwyaeth i'r cynnig hwn er mwyn amddiffyn rhai o'n plant mwyaf agored i niwed. Mae angen newidiadau cynhwysfawr, ac yn fy marn i mae hynny'n cynnwys gweithio tuag at yr egwyddor a grybwyllodd Bethan Sayed AC, y model Barnahus, fel yng Ngwlad yr Iâ, Norwy, yr Ynys Las a Denmarc. Yn ogystal ag atal ail-drawmateiddio a pharhau i gynnig gwasanaethau ymyrraeth therapiwtig, dylem ymdrechu hefyd i oresgyn y ffactorau emosiynol sy'n achosi cyfraddau erlyn mor wael. Diolch a da iawn, Bethan.   

16:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Bethan am gyflwyno'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon, ac rwyf am ddweud ar y dechrau fy mod yn ei chefnogi'n llwyr yn hyn o beth. Fel Bethan, cyfarfûm â Mayameen pan ddaeth i'r Senedd i gyflwyno ei deiseb yn galw am ddarparu tai plant yng Nghymru ar gyfer plant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol. Treuliais amser gyda Mayameen pan adroddodd ei stori erchyll wrth un neu ddau ohonom am y modd y cafodd ei cham-drin gan ei thad. Roedd ei dewrder a chryfder ei hysbryd yn eglur iawn. Gallaf ddweud yn bendant ei bod yn un o'r bobl fwyaf ysbrydoledig y cefais y pleser o gyfarfod â hwy.

Nid oedd Mayameen eisiau i blant eraill ddioddef o'r un diffyg cefnogaeth sylfaenol ag y mae hi wedi'i ddioddef. A dywedodd na ddylid mynd â phlentyn sy'n dioddef unrhyw fath o gam-drin yn ôl i'r un amgylchedd wedi iddynt wneud y gŵyn honno ac wedi iddi ddod yn hysbys i wasanaethau penodol.

Drwy fabwysiadu'r model Barnahus, nid yw'n ymwneud o reidrwydd â chreu tai diogel lluosog, ond â chydnabod ein bod yn methu darparu unrhyw ddarpariaeth sylfaenol ar gyfer plant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol. Mae'r model wedi bod mor llwyddiannus ledled y byd ac mewn rhannau eraill o'r DU fel ei fod wedi'i fabwysiadu'n eang fel y model a ffafrir gan arbenigwyr ym maes amddiffyn plant. Mae Cymru angen mabwysiadu'r model hwn i sicrhau y bydd gan blant sy'n cael eu cam-drin rywle i ddianc iddo. Heb Barnahus, cânt eu dychwelyd adref, yn ôl i freichiau'r sawl a fu'n eu cam-drin, fel y gwnaethant i Mayameen.

Mae Mayameen wedi codi llais fel nad oes eraill yn dioddef fel y gwnaeth hi pan oedd yn blentyn. Mae'n ddyletswydd arnom i wrando arni hi ac ar blant dirifedi eraill sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol. Mae cyfathrebu a gwaith tîm rhwng asiantaethau fel y gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu yn hollbwysig yn yr achosion hyn. Mae'r cynnig hwn yn ateb y galwadau hynny ac anogaf yr Aelodau i'w gefnogi ac i basio'r ddeddfwriaeth hon cyn gynted ag y gallwn. Diolch yn fawr.

16:30

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan?

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Bethan Sayed am gyflwyno'r ddadl hon yma heddiw. Gwn ein bod i gyd yn cytuno bod plant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol yn haeddu'r dull gorau posibl o weithredu, dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae cael eu cam-drin yn rhywiol yn effeithio'n andwyol iawn ar les plant, fel y mae'r Aelodau wedi dweud yma heddiw, a gwyddom y gall hyn yn aml effeithio arnynt drwy gydol eu bywydau. Weithiau, ni fyddant yn datgelu'r cam-drin tan yn llawer diweddarach mewn bywyd oherwydd y trawma a achosodd. Dyna pam fod yn rhaid i wasanaethau weithredu mewn ffordd sy'n cefnogi lles emosiynol plant ac yn eu helpu i wella o drawma cam-drin.

Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yn yr haf. Bydd y cynllun yn nodi camau gweithredu clir ar gyfer Llywodraeth Cymru ac ar gyfer partneriaid byrddau diogelu. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu trawslywodraethol er mwyn cryfhau cymorth i blant sydd wedi'u cam-drin rhywiol. Rydym eisoes wedi cyhoeddi fframwaith cyflawni trawslywodraethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a chyda'i gilydd mae'r polisïau hyn yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer cryfhau cymorth i blant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol ac i oedolion sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol.

Mae'r GIG ar hyn o bryd yn arwain gwaith, mewn partneriaeth â'r heddlu, partneriaid diogelu a'r trydydd sector oll yn gweithio gyda'i gilydd, i ddatblygu model cynaliadwy o wasanaethau ymosodiadau rhywiol ar gyfer plant ac oedolion yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol bod gweithredu'r model Barnahus yng Ngwlad yr Iâ wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol, ar gyfer arferion sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac o ran cynnydd mewn cyhuddiadau ac euogfarnau. Mae wedi llwyddo i wneud hynny. A gwyddom am gynllun peilot y tŷ plant yn Llundain, lle mae prosesau cyfiawnder troseddol a chymorth therapiwtig ar gyfer plant gyda'i gilydd ar un safle. Bydd yn bwysig deall yn well sut y bydd y model yn gweithio yng nghyd-destun system gyfiawnder y DU, a byddwn yn ystyried y gwerthusiad o'r cynllun peilot hwn ar ôl iddo ddod i ben. Wrth ddatblygu gwasanaethau cymorth therapiwtig i blant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol, byddwn hefyd yn ystyried y dystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd dulliau eraill sy'n canolbwyntio ar y plentyn.

Nid ydym yn cytuno bod angen deddfwriaeth i sicrhau'r newidiadau hyn yn y maes gwaith hwn, a bydd y Llywodraeth yn ymatal ar y cynnig hwn. Bydd plant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol yn destun camau diogelu. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol o ble y dylai plentyn fyw er mwyn eu cadw'n ddiogel. Mae gan grŵp cynghori'r Gweinidog ar wella canlyniadau i blant raglen waith sy'n cynnwys cryfhau ymhellach ein dull o sicrhau lleoliadau priodol a diogel ar gyfer plant sy'n mynd i dderbyn gofal. Ni fyddem am hyrwyddo unrhyw sefyllfa lle mae disgwyl i blant sydd wedi'u cam-drin fynd yn uniongyrchol i unrhyw lety argyfwng a byddem yn pryderu am y risg y gallai cyflawnwyr ganfod lleoliad llety o'r fath a thargedu plant ar gyfer eu cam-drin. Rydym hefyd yn darparu cyllid i Childline, sy'n cynnig ffordd ddiogel i blant sy'n cael eu cam-drin ddod i gysylltiad â chwnselydd a all roi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol am y cam-drin.

Caiff ein gwaith datblygu polisi a'n cyngor ymarfer yn y maes hwn ei lywio'n uniongyrchol gan dystiolaeth oddi wrth oroeswyr sy'n blant ac yn oedolion, ac ystyriwn mai hwy yw'r arbenigwyr ar eu profiadau eu hunain. Mae Gweinidogion Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo'r hawl i fod yn ddiogel ar gyfer plant yng Nghymru, ac yn teimlo bod llawer o'r pwyntiau a wnaed yn y ddadl hon heddiw yn hanfodol bwysig.

Ni fyddaf yn hir iawn. Roeddwn am ddiolch i Janet Finch-Saunders, fel arfer, am ei chefnogaeth i'r syniad hwn ac i eraill a gyflwynais yn y gorffennol, ac i Caroline Jones hefyd—roeddech chi gyda mi pan gyfarfûm â'n hetholwr a gwn i hynny effeithio arnom, ac y bydd yn ffurfio sail i waith yn y dyfodol, rwy'n siŵr. O ran yr ymateb oddi wrth y Llywodraeth—yn amlwg rwy'n siomedig eich bod chi wedi penderfynu peidio â'i gefnogi heddiw, er bod yr ymatal yn rhywbeth a gymeraf. Enillion bychain, wyddoch chi.

Hoffwn bwysleisio'r ffaith bod llochesau yn bodoli ar gyfer oedolion, ar gyfer menywod, a chânt eu cadw'n gyfrinach oddi wrth bobl. Ymwelais â hwy ar sail gyfrinachol iawn, ac oes, efallai bod yna achosion lle gall rhai sy'n cam-drin ddarganfod y cyfeiriad, ond hoffwn feddwl, pe baem yn sefydlu'r math hwn o gyfleuster yng Nghymru—rydym wedi gweld o enghreifftiau rhyngwladol eu bod yn ddiogel, eu bod yno ar gyfer y plentyn ym mhob ffordd, ystyr a ffurf, a gallem ei wneud mewn modd diogel a chefnogol yma yng Nghymru.

Dywedwch eich bod yn aros am y gwerthusiad o brosiect Lighthouse yn Llundain, felly rwy'n mynd i apelio arnoch, os yw'r gwerthusiad yn gadarnhaol o'r prosiect Lighthouse yn Llundain, a wnewch chi ailystyried eich penderfyniad i ymatal, ac y byddwch, fel rhan o'r cynllun gweithredu, yn agored i ystyried hyn fel cyfres o syniadau ar gyfer y cynllun gweithredu hwnnw, oherwydd credaf yn ddiffuant fod hon yn un elfen ychwanegol i gefnogi plant a allai fod yno fel opsiwn, yn hytrach na cheisio tanseilio popeth arall sydd yno—nid dyna rwy'n ei ddweud. Felly, os gwelwch yn dda cadwch eich meddwl yn agored, edrychwch ar y gwerthusiad a chynhwyswch Aelodau'r Cynulliad wrth lunio'r cynllun gweithredu hwnnw. Mae hynny'n rhywbeth y byddai pawb ohonom yn hoffi gweithio arno gyda chi. Diolch yn fawr iawn.

16:35

Diolch. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] O'r gorau. Felly, fe bleidleisiwn ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Gweithredu Datganoli Cyllidol yng Nghymru

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Rhoi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru (2019)', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM7030 Llyr Gruffydd

Cefnogwyd gan Siân Gwenllian

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Rhoi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru (2019)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Wel, diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i gael arwain y ddadl yma ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar roi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru. Mae amseriad y ddadl yma, wrth gwrs, yn arwyddocaol iawn oherwydd, ymhen tridiau, fe ddaw’r cyfraddau treth incwm y cytunwyd arnyn nhw yn y Cynulliad hwn i rym. Bach iawn fyddai pobl wedi meddwl, efallai, bydden ni wedi cyrraedd fan hyn flynyddoedd yn ôl. Ond mi fydd hyn, wrth gwrs, yn cynhyrchu tua £2 biliwn o dreth fydd yn cael ei chasglu bob blwyddyn yng Nghymru. Mae’r penderfyniad i gyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig yn trosglwyddo mwy o gyfrifoldeb cyllidol nag erioed o’r blaen yn hanes Cymru. Ac mae’n adeg allweddol, wrth gwrs, i ni felly o ran gweithredu datganoli cyllidol yng Nghymru a rhan olaf Deddf Cymru 2014. Hefyd, flwyddyn yn ôl i ddydd Llun, fe gyflwynwyd y trethi newydd cyntaf ers 800 o flynyddoedd yng Nghymru, sef y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi; felly, mae wedi bod yn flwyddyn arwyddocaol iawn o ran datganoli cyllidol yng Nghymru.

Rwyf yn falch, felly, o gael agor y ddadl hon heddiw, fel Cadeirydd y pwyllgor, ar adeg mor bwysig yn ein hanes ni. Mi hoffwn i ddiolch i'r rhai, wrth gwrs, sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad penodol o dan sylw. Mae'r pwyllgor yn falch o nodi bod y broses o roi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus hyd yma, i raddau helaeth. Yn benodol, mae’r penderfyniad i sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru, ac yna i gyflwyno’r dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae'n galonogol nodi bod y gost derfynol o roi Awdurdod Refeniw Cymru ar waith yn cyd-fynd ag amcangyfrif cychwynnol Llywodraeth Cymru, sef tua £6 miliwn.

Fe drefnwyd i’r pwyllgor ymweld â swyddfeydd Awdurdod Refeniw Cymru yn Nhrefforest y llynedd, ac fe gafodd yr awyrgylch cadarnhaol a brwdfrydig mae'r sefydliad yna wedi'i feithrin, a'r arbenigedd mae wedi llwyddo i'w ddenu—fe gafodd hynny gryn argraff arnom ni fel aelodau o’r pwyllgor.

Ar adegau, wrth graffu ar waith Llywodraeth Cymru, rŷn ni’n gallu bod ychydig yn feirniadol o weision sifil, ond, y tro hwn, rŷn ni yn teimlo y dylid cydnabod eu gwaith caled a'u brwdfrydedd dros y broses hon.

Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn nodi mai dyddiau cynnar yw hi o ran sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru, ac fe hoffai'r pwyllgor adleisio’r pryderon a nodon ni yn ein hadroddiad y llynedd ynghylch nifer y staff oedd yn gweithio ar fenthyg ac ar secondiad i’r awdurdod ar hyn o bryd. Er ein bod ni’n cydnabod manteision hwn wrth sefydlu’r awdurdod, rŷn ni’n credu bod angen rhoi sylw i’r gwaith o gynllunio'r gweithlu a'r camau sy'n cael eu cymryd i gadw gwybodaeth ac i gadw profiad o fewn yr awdurdod. Fe ddywedodd bwrdd Awdurdod Refeniw Cymru wrthym ni eu bod nhw’n rhoi sylw dyladwy i'r mater yma, a bod ‘pwyllgor pobl’ wedi’i sefydlu i ystyried sut i gadw staff. Mi fyddai'r Pwyllgor Cyllid yn ddiolchgar, felly, pe bai’r bwrdd yn anfon y wybodaeth ddiweddaraf atom ni bob blwyddyn, yn benodol yn y cyswllt hwn.

Ar 15 Ionawr, ar ôl pleidlais yn y Siambr hon, penderfynwyd mai 10c fyddai cyfraddau treth incwm Cymru, a hynny ym mhob band, sef yr un fath â'r gostyngiad canlyniadol yng nghyfraddau treth incwm y Deyrnas Unedig. Gan hynny, wrth gwrs, na fydd y cyfraddau y bydd pobl Cymru yn eu talu ddim yn newid eleni.

O'r dydd Sadwrn yma, bydd trethdalwyr Cymru'n talu cyfraddau treth incwm Cymru, ac, er na fydd trethdalwyr yma yng Nghymru yn gweld unrhyw wahaniaeth amlwg yn ystod y flwyddyn dreth nesaf, mae'r pwyllgor yn teimlo’i bod yn bwysig bod pawb yn gwybod am y newidiadau hyn ac yn eu deall nhw, ac rŷn ni'n pryderu, efallai, nad yw'r neges yn cyrraedd rhai o drethdalwyr Cymru.

Fe glywodd y pwyllgor fod rhai o’r farn bod y daflen a gyhoeddwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru braidd yn ddryslyd a bod rhai’n credu y bydden nhw'n talu 10c mwy na’r cyfraddau presennol drwy dalu treth incwm yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, aeth y pwyllgor ati i gynnal arolwg anffurfiol ym mis Chwefror, ac mi ddangosodd hwn nad oedd bron un o bob tri o drethdalwyr Cymru yn gwybod am y newidiadau, ac mae hyn, yn amlwg, yn peri pryder. Nawr, mae Llywodraeth Cymru ar fin cynnal gwerthusiad ffurfiol o'i gwaith cyfathrebu ar ôl rhoi’r newidiadau ar waith, a bydden ni yn falch o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau'r gwerthusiad hwn pan fydd hynny ar gael.

Cadarnhaodd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi fod y gwaith sydd ynghlwm wrth drosglwyddo’r dreth trafodion tir bron â'i gwblhau, a'u bod yn parhau’n hyderus y bydd y costau'n cyd-fynd â’r amcangyfrif diwygiedig o rhwng £1.75 miliwn a £2 filiwn. Cadarnhaodd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi hefyd fod y gost o roi cyfraddau treth incwm Cymru ar waith hefyd o fewn yr amrediad o £7.5 miliwn i £9.5 miliwn a bennwyd ym mis Hydref. Hoffai'r pwyllgor gael gwybod y costau terfynol o ddileu’r dreth dir y dreth stamp a rhoi cyfraddau treth incwm Cymru ar waith cyn gynted ag y bydd y wybodaeth hon ar gael.

Nawr, fel rhan o'r ymchwiliad hwn, wrth gwrs, gwahoddodd y pwyllgor yr Ysgrifennydd Gwladol i roi tystiolaeth i ni—fel gwnaeth y pwyllgor llynedd, wrth gwrs—ac rŷn ni yn siomedig iawn yn ei amharodrwydd ef i ymgysylltu â ni unwaith eto. Er y penderfyniad i gyflwyno cyfraddau Cymru, treth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, yw treth incwm o hyd, ac mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi'n un o adrannau Llywodraeth y DU hefyd, a nhw sy’n casglu'r dreth honno, wrth gwrs. Gan hynny, mae tystiolaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn hanfodol, yn enwedig o ystyried na chafodd dros 400,000 o drethdalwyr yr Alban eu cynnwys yn eu system newydd nhw. Felly, mae'n hanfodol bod y pwyllgor yn gallu cadarnhau bod buddiannau Cymru'n cael eu diogelu'n ddigonol ar lefel y Deyrnas Unedig. 

Roedd cynnig yr Ysgrifennydd Gwladol i gwrdd ag Aelodau yn unigol ac yn breifat yn rhwystredig iawn, mae'n rhaid i fi ei ddweud. Mae'r pwyllgor o'r farn y dylid craffu’n gyhoeddus ar newidiadau sydd mor gyfansoddiadol bwysig. Byddai sesiwn bwyllgor ffurfiol a chyhoeddus yn llawer mwy priodol, yn llawer mwy tryloyw, ac yn llawer mwy gwerthfawr i bob un ohonom ni. Mae hyn yn arbennig o wir pan fo'n mor bwysig codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r newidiadau hyn hefyd. Dyw trafodaethau preifat, fel roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn eu cynnig, yn cyfrannu dim at ennyn diddordeb a hybu dealltwriaeth y cyhoedd.

Mae datganoli yng Nghymru yn dirwedd, wrth gwrs, sy'n newid yn gyson, ac mae'r pwyllgor yn falch bod y cam diweddaraf hwn yn y broses ddatganoli wedi'i chwblhau mewn ffordd sydd—mae’n ymddangos, beth bynnag—wedi bod yn bur ddidrafferth ac sydd wedi cael ei rheoli’n dda. Ond mae'n hanfodol peidio â gorffwys ar ein rhwyfau o ran rhoi gwybod i bobl Cymru am y newidiadau newydd hyn, ac mae'r pwyllgor yn bwriadu monitro hyn, yn ogystal â’r modd y mae’r trethi newydd a chyfraddau treth incwm Cymru'n gweithio yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Fodd bynnag, gan ein bod wedi datgan ei bod yn bwysig cydnabod pan fydd pethau'n cael eu gwneud yn dda, fe hoffwn i ganmol pawb a fu’n rhan o’r broses hyd yma, gan gynnwys y gwahanol Weinidogion cyllid a’r swyddogion, yn ogystal â'r modd y mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac adrannau Llywodraeth Cymru wedi cydweithio gyda'i gilydd.

Mae creu system drethi newydd, sefydlu corff casglu trethi newydd, a chyflwyno newidiadau sylfaenol yn y modd y mae trethi’n gweithio yn y wlad hon yn ddigwyddiadau arwyddocaol iawn, ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar amser, o fewn y gyllideb a bennwyd, ac yn llwyddiannus. Hoffwn i, felly, Dirprwy Lywydd, ddiolch i bawb a gyfrannodd at ymchwiliad y pwyllgor. Dwi'n edrych ymlaen at roi diweddariadau cyson i’r Cynulliad hwn yn ystod y blynyddoedd nesaf am y cyfnod newydd a chyffrous hwn o ddatganoli cyllidol yng Nghymru. Diolch.

16:45

'Ar amser, o fewn y gyllideb, ac mewn modd llwyddiannus.'

Nid ydym bob amser yn clywed y disgrifiadau hynny o brosiectau. Roedd hwn yn hynod o—. Nid oes gennyf lawer i'w ychwanegu, mewn gwirionedd, at yr hyn a ddywedodd Cadeirydd y pwyllgor. Roedd hwn yn ymchwiliad diddorol iawn i fod yn rhan ohono. A gaf fi ddiolch hefyd i'r tystion a ddaeth ger bron yr ymchwiliad? Rwy'n credu ein bod wedi llwyddo i gyflawni adroddiad amserol ac effeithlon iawn nad yw ond yn cynnwys tri argymhelliad, ond maent yn dri argymhelliad pwysig. Fel y dywedais yn gynharach mewn cwestiynau cyllid i'r Gweinidog, mae'n hawdd iawn datgan ar hyn o bryd fod pob dydd yn dyngedfennol mewn perthynas â datganoli ariannol, oherwydd mae rhywbeth yn digwydd bob dydd. Ac rwy'n deall mai 6 Ebrill yw'r dyddiad go iawn pan fydd y gyfradd Gymreig o dreth incwm yn dod yn weithredol. Mae'n amlwg mai dyma'r broses bwysicaf y bu'r Cynulliad drwyddi, os nad ers dyfodiad datganoli, yn sicr ers dyfodiad pwerau pellach yn ôl yn 2011. Felly, mae'n amlwg yn bwysig i ni ei gael yn iawn, a gwn mai dyna oedd bwriad pawb ar y pwyllgor.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y tri argymhelliad—maent yn eithaf syml. Os gallaf droi at argymhelliad 3 yn gyntaf, o gofio rhai o bryderon y Ffederasiwn Busnesau Bach a godais yn gynharach ynghylch diffyg ymwybyddiaeth busnesau o ddatganoli'r dreth stamp a'r dreth gwarediadau tirlenwi, mae'n amlwg yn bwysig fod pobl yn ymwybodol o ddatganoli treth incwm y mis hwn, ar 6 Ebrill, a'r hyn y mae'n ei olygu iddynt hwy. Fel y dywedodd y Cadeirydd, roedd yn peri gofid fod rhai pobl yn meddwl y byddent yn gorfod talu 10c yn ychwanegol ar ben cyfradd y DU o dreth incwm. Credaf y byddai hynny'n achosi mudo torfol ar draws y ffin o fewn ychydig fisoedd. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru, a phob un ohonom mewn gwirionedd, wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod pobl yn deall hyn yn iawn. Ond ar yr un pryd, mae hon yn broses gymhleth, ac i'r bobl nad ydynt yn ymwneud â threfniadau trethu o ddydd i ddydd, mae'n amlwg yn rhywbeth sydd angen ei egluro.

Mae argymhelliad 2 yn ymwneud â throsglwyddo gwybodaeth o fewn Awdurdod Cyllid Cymru, ac mae hyn yn bwysig os yw'r sefydliad nid yn unig i oroesi yn awr, ond i'w gryfhau yn y dyfodol, fel y byddai pawb ohonom am ei weld. Mae angen inni recriwtio, datblygu a chadw sgiliau sy'n ymwneud yn benodol â'r dreth—i ddyfynnu o'r adroddiad—yng Nghymru. Gadewch inni ei wynebu; nid ydym wedi bod angen y dyfnder hwn o allu yma cyn hyn. Mae'n arloesol ym mhob ystyr. Ond mae angen inni ei wneud yn awr. Ac mae hynny'n berthnasol i fwy nag Awdurdod Cyllid Cymru; mae'n berthnasol hefyd i Lywodraeth Cymru. Mae angen inni gael mwy na gwybodaeth am drethiant; mae angen inni gael gwybodaeth economaidd a gallu i lunio rhagolygon treth a llunio rhagolygon economaidd yn ogystal.

Nid yw pennod 5 yr adroddiad yn dod i ben gydag argymhelliad mewn gwirionedd, mae pennod 5 yn trafod trethi newydd. Bwriad yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol i roi prawf ar y mecanwaith ar gyfer datblygu treth newydd—rwy'n tybio bod y Gweinidog presennol wedi etifeddu'r bwriad hwnnw. Efallai y gall egluro hynny. Rwy'n falch fod y Pwyllgor Cyllid i'w weld yn barod i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu unrhyw drethi newydd, yr un gyntaf ac unrhyw drethi sy'n dilyn. Fel gyda threth incwm, fel y dywedais yn gynharach, mae'n amlwg yn bwysig inni gael y broses hon yn iawn, yn enwedig gan nad yw wedi ei wneud o'r blaen. Gallai trethi newydd effeithio'n eithaf sylfaenol ar yr economi yn awr ac yn y dyfodol, i fynd yn ôl at y mecanwaith ar gyfer llunio rhagolygon y dywedais fod angen i Lywodraeth Cymru ei ddatblygu.

Gan ddychwelyd at weithrediad presennol y gyfradd dreth incwm yng Nghymru, mae angen inni gadw llygad ar y costau trawsnewid disgwyliedig. Rhagwelir y byddant yn £5 miliwn i £10 miliwn, gryn dipyn yn llai na'r £20 miliwn i £25 miliwn a ragwelwyd yn wreiddiol ar gyfer yr Alban—neu a ddigwyddodd yn yr Alban, dylwn ddweud. Y rheswm, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yw y gall y Cynulliad ddefnyddio'r system a ddatblygwyd ar gyfer yr Alban. Nawr, gadewch i ni obeithio bod hynny'n wir. Mae'n debyg y bydd yn wir, ond ar yr un pryd, fel y clywn yn aml mewn dadleuon yn y lle hwn, nid yw Cymru a'r Alban yr un fath, ac felly gallai fod costau annisgwyl nad ydym yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd. Felly, fel y dywedodd y Cadeirydd, mae angen i ni gadw hyn oll dan arolwg, ac mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr fod y mecanwaith ar waith os aiff unrhyw elfen o hyn o chwith, fel bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r problemau ar y cyfle cynharaf fel bod modd rhoi sicrwydd i'r cyhoedd fod datganoli trethi yn mynd rhagddo fel y dylai.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, costau ffiniol. Mwy na thebyg y bydd Mike Hedges yn sôn am y rhain. Pe bai fy nghyn gyd-Aelod diweddar Steffan Lewis yma, byddai ef wedi sôn amdanynt yn ogystal. Arferai gynhyrfu ar y pwyllgor pan fyddem yn siarad yn ddiddiwedd am y ffin. Dywedai fod ffiniau'n gweithio mewn mannau eraill yn y byd ac nad oes unrhyw reswm na allant weithio yma yn ogystal. Mae'n debyg ei fod yn llygad ei le ar hynny. Ond bydd cost i faterion fel gwaith mapio cymhleth o ffin Cymru a bydd angen edrych ar hynny. Ni chafodd ei wneud yn effeithiol o'r blaen, oherwydd nad oedd yn angenrheidiol, ond gan ein bod bellach yn teithio ar hyd y ffordd hon, mae angen ei wneud yn y dyfodol. Ond rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan o'r ddadl hon.

16:50

Mae'n ddiddorol dod at adroddiad y gellid ei grynhoi orau drwy ddweud, 'Aeth popeth yn dda.' Gallwch ddweud hynny yn ôl nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y ddadl a nifer y bobl yma. Pe bai'r datganiad wedi dweud bod popeth wedi mynd yn wael, byddai'n ddadl hir iawn, a byddem yn ei chael hi'n anodd ei chwblhau o fewn yr awr, a byddai pobl yn ciwio i'w chlywed.

Os gallaf ateb pwynt olaf Nick Ramsay, dywedwyd wrthym fod mater y ffin yn cael ei ddatrys gan y gofrestrfa tir a'u bod yn mynd i weld yn union pa eiddo oedd ar ba ochr i'r ffin, a dywedwyd wrthym wedyn ei fod wedi'i wneud. Efallai ei fod yn gyfarfod neu'n rhan o gyfarfod nad oeddech yn bresennol ynddo, ond mewn gwirionedd dywedwyd wrthym ei fod wedi'i wneud bellach gan y gofrestrfa tir. Felly, gallwch roi rhywle i mewn, a gallant ddarganfod nid yn unig ym mha wlad y mae, neu ym mha genedl, ond gallant ddweud hefyd faint o'r eiddo sydd ym mhob gwlad, sy'n datrys yr hyn yr oeddwn bob amser yn meddwl ei bod yn broblem, a rhywbeth yr oedd Steffan Lewis bob amser yn dweud y byddai'n hawdd iawn ei ddatrys—ac roedd yn llygad ei le.

Rydym wedi cael y dreth gyngor ac ardrethi annomestig wedi'u datganoli ers peth amser. Roedd Deddf Cymru 2014 yn datganoli rhai trethi a phwerau benthyg i Gymru, ac yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddeddfu mewn perthynas â threth dir y dreth stamp a'r dreth dirlenwi. Mae honno hefyd yn deddfu ar gyfer datganoli treth incwm yn rhannol, y gyfradd dreth incwm Gymreig. Aeth y dreth trafodiadau tir a'r dreth dirlenwi'n fyw, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, ar 1 Ebrill 2018, a chânt eu gweinyddu gan Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym bellach wedi cyrraedd diwedd y flwyddyn gyntaf o'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi datganoledig. Edrychaf ymlaen at weld alldro diwedd blwyddyn ar gyfer y trethi hyn, a gofyn, o leiaf, am gael datganiad ysgrifenedig wedi'i ddarparu ar gyfer y Cynulliad hwn yn dweud yn union beth ydynt.

Mae'r dystiolaeth a ddarparwyd i'r pwyllgor yn awgrymu bod gweithredu datganoli cyllidol i Gymru wedi llwyddo hyd yma i raddau helaeth. Mae'r pwyllgor yn cydnabod ei bod yn ddyddiau cynnar yn y broses o hyd, ond mae'n credu y dylid cydnabod y gwaith cadarnhaol sydd wedi'i wneud hyd yma. Ychydig iawn o arian y mae'r dreth gwarediadau tirlenwi yn ei godi, ac mae'r swm a godir yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn. Nod y dreth pan gafodd ei sefydlu gyntaf oedd effeithio ar ymddygiad yn hytrach na chodi arian. Fe'i cyflwynwyd i gynyddu cost gwarediadau tirlenwi, o gymharu ag ailgylchu, gan olygu nad oedd parhau i ddefnyddio safleoedd tirlenwi yn gosteffeithiol, ac mae hynny wedi gweithio mewn gwirionedd, gan mai Cymru yw un o'r gwledydd ailgylchu gorau yn y byd. Ond y nod—er ei bod hi'n braf codi arian, llwyddiant ar gyfer y dreth tirlenwi fyddai peidio â chodi unrhyw arian o gwbl am nad oedd dim yn cael ei gludo i safleoedd tirlenwi. Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn yr ystafell hon yn gweld hynny fel llwyddiant mawr.

Mae gallu gan y dreth trafodiadau tir i amrywio'n fawr iawn rhwng blynyddoedd. Rhwng 2007-08 a 2010-11, amcangyfrifwyd ei bod wedi gostwng i'r hanner. Dyma'r dreth fwyaf anwadal ond un. Y dreth enillion cyfalaf yw'r dreth fwyaf anwadal, ond mae hon yn ail o ran anwadalrwydd. Felly, mae'n braf ei chael; mae'n mynd i fod yn wych, o un flwyddyn i'r llall, pan fyddwn naill ai'n gwneud yn dda iawn, a bod y Llywodraeth yn codi ac yn dweud, 'Edrychwch pa mor dda rydym wedi'i wneud gyda'r dreth trafodiadau tir,' neu ei bod yn gwneud yn wael iawn a bod yr wrthblaid yn codi a dweud, 'Edrychwch, nid yw eich treth trafodiadau tir wedi gweithio.' Y realiti yw y bydd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Ar wahân i mewn dirwasgiad, mae'n hynod o sefydlog, a rhagwelwyd twf araf, cyson gan y swyddfa cyfrifoldeb cyllidebol, ond mae'r swyddfa cyfrifoldeb cyllidebol bob amser wedi rhag-weld twf araf, cyson ar gyfer popeth. Nid ydynt yn meddwl ein bod byth mynd i gael dirwasgiad, a chredaf y gallent yn hawdd fod yn anghywir. Fe fydd dirwasgiad ar ryw adeg, ac fe gawn ostyngiad sylweddol yn yr incwm hwn.

Rydym yn mynd i ddechrau ar y flwyddyn gyntaf o dreth incwm wedi'i datganoli'n rhannol. Gall Llywodraeth Cymru amrywio cyfradd y dreth incwm, ond mae wedi gwneud ymrwymiad i beidio â'i chynyddu cyn etholiad 2011. Trosglwyddodd Deddf yr Alban 1998 y pŵer i ddeddfu—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, 2021. Cefais fy ethol yn 2011. Diolch. [Torri ar draws.] Mae'n—2021, mae'n ddrwg gennyf. Trosglwyddodd Deddf yr Alban 1998 y pŵer i ddeddfu ar gyfer trethiant lleol a hefyd y pŵer i amrywio treth incwm 3c yn y bunt yn uwch neu'n is. Ni chafodd ei ddefnyddio gan lywodraethau a arweiniwyd gan Lafur na chan yr SNP yn yr Alban, ac ni allaf ragweld cyfradd sylfaenol y dreth incwm yn cael ei hamrywio yng Nghymru. Os cynyddwch y gyfradd, bydd y pleidleiswyr yn taro'n ôl yn erbyn talu mwy na Lloegr; os gostyngwch y gyfradd, bydd hyd yn oed rhagor o doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rydych yn gaeth i'r hyn ydyw. Mae gennych bŵer sy'n anodd iawn, os nad yn amhosibl, ei ddefnyddio.

Un o'r pethau y credaf y dylai pob un ohonom yn y Cynulliad ei wneud, a chredaf ei bod yn ddyletswydd arnom ei wneud, yw esbonio, fel y gwnaeth Nick Ramsay yn gynharach, nad yw'n dreth ychwanegol. Nid yw'n 10c arall; yr hyn ydyw mewn gwirionedd yw symud rhan o'r dreth fel ei bod yn dod i Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol yn hytrach na'n anuniongyrchol. Er y caiff ei hailddyrannu i Gymru, bydd y dreth a gesglir yr un fath yn union â'r hyn ydyw yn awr.

Yn olaf, ceir cyfle i gyflwyno trethi newydd. Ceir cynnig ar gyfer treth ar werth tir. Mae trethi eraill wedi'u hystyried hefyd, gan gynnwys un ar waredu plastigion. A wnaiff y Gweinidog cyllid roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed ar gyflwyno treth ar werth tir? Ac a wnaiff y Gweinidog cyllid ddarparu diweddariad ar y cynnydd a wnaed ar gyflwyno trethi newydd eraill? Oherwydd ceir cyfleoedd mawr yn y system drethu i'w gwneud yn decach.

16:55

Gaf i ddiolch i dîm clercio'r Pwyllgor Cyllid ac i'r Cadeirydd, Llyr Gruffydd, am eu gwaith yn tynnu'r adroddiad yma at ei gilydd? Mae hwn yn faes sydd yn newydd i ni fel pwyllgor, wrth gwrs, yn ogystal â bod yn newydd i ni fel Senedd ac fel cenedl. Dŷn ni wedi bod yn mynd ati i ddysgu ac i drio datblygu ein harbenigedd ein hunain, wrth gwrs, wrth ymdrin â materion trethiannol ac wrth baratoi i roi datganoli cyllidol ar waith yma yng Nghymru. Felly, dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i wrth gymeradwyo'r argymhellion a'r casgliadau yn yr adroddiad yma i chi, a dwi'n sicr yn edrych ymlaen at weld ein pwerau trethiant diweddaraf ni yn dod yn fyw ymhen ychydig o ddyddiau. Wrth gwrs, mi ydyn ni'n cael y drafodaeth ar yr adroddiad yma yn gynharach na'r arfer oherwydd yr amserlen honno, a dwi'n ddiolchgar i'm cyd-Aelodau ar Bwyllgor Busnes y Cynulliad am ganiatáu i'r ddadl yma allu cael ei chynnal heddiw.

Mi wnaf i ddelio efo'r ddau gasgliad yn yr adroddiad yn y drefn anghywir. Casgliad 2—y ffaith bod y pwyllgor yn cydnabod y gwaith da sydd wedi cael ei wneud i sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru o'r newydd, a nhwythau'n delio â threth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi, sydd yn flwydd oed rŵan. Fel y clywsom ni gan y Cadeirydd, mi grëwyd argraff gref iawn arnom ni gan y tîm hynod o broffesiynol a hynod o gyffrous, dwi'n meddwl, sydd wedi sefydlu'r awdurdod newydd hwnnw. Wrth gwrs, yn edrych ar argymhelliad 1, sy'n ymwneud â chynllunio gweithlu, dwi'n meddwl wrth osod y bar mor uchel o ran beth sydd wedi cael ei wneud o fewn yr awdurdod cyllidol yn y flwyddyn gyntaf, yr her fydd i gynnal y safon honno. Mi ddaeth hi'n amlwg i ni fel pwyllgor bod proffesiynoldeb a phrofiad y gweithlu a'r unigolion sy'n gyrru'r gwaith hynny yn ei flaen yn gwbl hanfodol, ac mi fyddwn ni'n edrych ymlaen am ddiweddariadau blynyddol ynglŷn â sut mae'r safon yna yn cael ei gynnal.

Yn symud yn ôl, wedyn, at gasgliad 1, mi hoffwn innau ategu'r casgliad hwnnw sy'n dweud bod y pwyllgor yn siomedig iawn ynghylch diffyg ymgysylltiad yr Ysgrifennydd Gwladol ar ddatganoli cyllidol yng Nghymru. Dwi'n digwydd credu bod agwedd Ysgrifennydd Cymru tuag atom ni fel sefydliad yn hyn o beth yn gywilyddus. Mae copi yn fan hyn o'r llythyr gen i gan yr Ysgrifennydd Gwladol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, lle mae o'n sôn am fod yn atebol i'r Senedd yn San Steffan ac nid i'r Cynulliad Cenedlaethol. Wel, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gorff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau pobl Cymru. Os ydy'r Cynulliad hwn a'i bwyllgorau yn ei gweld hi'n iawn i ddal pwy bynnag i gyfrif, ein cyfrifoldeb ni ydy gwneud hynny, ac nid dewis Alun Cairns nac unrhyw Weinidog gwladol arall ydy gosod ei hun uwchlaw atebolrwydd i bobl Cymru. Allaf i ddim gwneud y pwynt hwnnw yn gryfach.

Mae o'n fodlon, meddai fo, siarad ag unigolion, fel Aelodau Cynulliad, am y peth. Mae o'n fodlon siarad a rhoi tystiolaeth i bwyllgor dethol materion Cymreig San Steffan am y peth. Hynny ydy, mae o'n barod i ymwneud â'r mater ac i ateb cwestiynau, ond yr unig gasgliad allaf i ddod iddo fo ydy ei fod o'n ddirmygus tuag at y sefydliad hwn. Dwi'n synnu i weld o yn ceisio gosod muriau rhwng prosesau trethiannol Cymreig newydd a'r drefn drethiannol sy'n dal yn cael ei rhedeg yn ganolog ar lefel Brydeinig. Mae yna ryngweithio rhwng prosesau yng Nghymru a phrosesau yn San Steffan, ac mae'n gwbl allweddol ein bod ni'n gallu gofyn cwestiynau i gynrychiolydd Cymru yn San Steffan a'i fod yntau yn clywed yn uniongyrchol gennym ni, fel Senedd ddemocrataidd i Gymru, beth yn union ydy ein pryderon ni a'r math o sicrwydd dŷn ni angen ar ystod o faterion yn ymwneud â phwerau trethiant.

Yn symud ymlaen yn sydyn iawn, dwi'n bryderus ynglŷn â'r diffyg dealltwriaeth gan bobl o gyfraddau treth Cymru sy'n dod i mewn y penwythnos yma. Mae yna gwestiynau i'w gofyn ynglŷn â sut i godi ymwybyddiaeth wrth inni symud ymlaen.

Gwnaf ddweud i gloi, i ymateb i sylwadau Mike Hedges ynglŷn â beth sy'n debyg o ddigwydd i gyfraddau treth yng Nghymru, a pha mor anodd, o bosib, allai hi fod yn wleidyddol i wneud penderfyniad i godi neu ostwng trethi, mae yna werth i gael dim ond y datganoli, oherwydd mae'n rhoi pwysau ar lywodraeth i weithredu mewn ffordd efo mwy o ffocws ar eu gwaith nhw. Ond dwi yn edrych ymlaen mewn blynyddoedd i ddod i'n gweld ni yn datblygu ffordd Gymreig o ymdrin â threthiant. Mi ddaw yna ragor o bwerau trethiant, ac mi fydd yna bethau sy'n gallu cael eu gwneud i gyfraddau treth incwm drwy newid trethiannau eraill. Ond materion ar gyfer y dyfodol ydy hynny. Dŷn ni ar ddechrau'r daith a dwi'n falch o gael y gymeradwyaeth oddi ar ffôn rhywun yn y cefn yn fan hyn, ond dwi'n falch o allu cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Cynulliad.

17:00

Fel Aelodau eraill y prynhawn yma, rwy'n croesawu'n fawr y broses y buom yn ei dilyn dros y blynyddoedd diwethaf. Yn sicr mae'r lle hwn wedi bod ar daith ers sefydlu Cynulliad yn 1999 i fod yn Senedd sy'n codi trethi yn 2019. Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith ein bod wedi gweld datganoli'r pwerau hyn bellach. Ni fûm erioed yn un o'r bobl a gredai fod arnom angen refferendwm i wneud hynny, ac roeddwn yn sicr yn falch iawn ein bod wedi gallu symud ymlaen â'r atebolrwydd hwn a ffurf briodol o lywodraethiant yng Nghymru.

Gyda'ch caniatâd chi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn wneud tri phrif bwynt y prynhawn yma. Y cyntaf yw, fel eraill y prynhawn yma, hoffwn longyfarch swyddogion a staff y sefydliadau amrywiol sydd wedi gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod trosglwyddo esmwyth yn digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Weithiau gall holl broses datganoli deimlo'n debyg i dynnu dannedd, a gall fod yn dasg eithriadol o anodd. Yn sicr pan wyf wedi siarad â Gweinidogion y DU ynghylch datganoli pwerau ychwanegol, maent wedi gwneud iddo ymddangos fel tasg anferthol sydd bron yn amhosibl ei chyflawni o fewn canrif. Felly mae datganoli'r cyfrifoldebau hyn ar drethiant wedi symud yn gymharol gyflym ac yn esmwyth iawn, a gobeithiaf y bydd honno'n wers ar gyfer y dyfodol, ond yn sicr mae angen inni longyfarch y staff a'r swyddogion sydd wedi gwneud hynny.

Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw'r un a wnaed gan yr Aelod dros Ynys Môn yn ei gyfraniad. Mae'r adroddiad yn gwneud pwynt o siom y pwyllgor ynghylch penderfyniadau a chamau gweithredu'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae fy marn glir a fy mhrofiad fel Gweinidog yn y lle hwn yn dweud wrthyf nad oes unrhyw rôl i Swyddfa Cymru yn y Deyrnas Unedig heddiw. Fel Gweinidog ni allaf feddwl am un achlysur pan fo Swyddfa Cymru wedi bod o gymorth i mi neu wedi ein galluogi i lywodraethu'n briodol. Yr hyn sydd bob amser wedi gweithio ar bob achlysur yw'r berthynas rynglywodraethol uniongyrchol rhwng Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU. Ni allaf feddwl am unrhyw achlysur pan fo Swyddfa Cymru wedi helpu llywodraethiant y wlad hon, ac mae ymddiswyddiad rhywun nad ydym erioed wedi clywed amdano heddiw, rhywun a oedd prin wedi ymweld â'r wlad hon ac na chyflawnodd unrhyw ddyletswydd o fath yn y byd y gallodd neb ei chanfod, yn dangos bod defnyddioldeb y swyddfa honno wedi dod i ben. Mae anallu'r Ysgrifennydd Gwladol i deithio i Gaerdydd i roi tystiolaeth ac i gael ei graffu, sef yr hyn y credaf y mae'n ceisio ei osgoi mewn gwirionedd, yn dystiolaeth bellach, os oes ei hangen, ei bod yn bryd symud ymlaen at strwythurau priodol yn y DU a strwythurau llywodraethu priodol nad ydynt yn eiddo i Lywodraeth y DU, ond sy'n cael eu rhannu rhwng Llywodraethau'r DU. Gobeithiaf y gallwn wneud hynny maes o law.

Y trydydd pwynt yr hoffwn ei wneud yw bod y broses hon wedi symud yn gymharol ddidrafferth, ond i ba bwrpas? I ba ddiben? Ai'r diben yn syml yw ein dwyn i gyfrif am wneud yr un penderfyniadau ag y mae'r Trysorlys yn eu gwneud? Neu ai'r diben yw inni wneud rhywbeth gwahanol, adlewyrchu ein gwerthoedd a'n credoau ein hunain? Gwelaf fod tri Gweinidog ar y fainc flaen—iechyd, addysg a chyllid—ac rwy'n ffodus o fod wedi gweithio gyda'r tri ohonynt ar wahanol adegau, ac mae'r tri ohonynt—[Torri ar draws.] Iawn, gadewch i ni beidio â mynd yno nawr. Ond bydd y tri ohonynt yn cofio'r sgyrsiau a gawsom ynghylch arian parod, ynghylch gwariant, a'r penderfyniadau anodd iawn y bu'n rhaid inni eu gwneud dros y blynyddoedd diwethaf. Nid wyf yn credu bod cyni yn ddewis polisi cywir, ac nid wyf yn credu bod y polisi cyni wedi llwyddo yn ei amcanion datganedig. Ond wedyn, nid yw'r Torïaid yn credu hynny mwyach ychwaith.

Felly, beth a wnawn? A ydym yn parhau i drethu ar y lefelau presennol neu a ydym yn dweud, 'Rydym yn credu mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rydym am warchod gwasanaethau cyhoeddus. Rydym am fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rydym am fuddsoddi ym mhobl y wlad hon, cymunedau'r wlad hon a gwasanaethau'r wlad a dyfodol y wlad hon'? Ac os felly, rhaid inni fod yn ddigon dewr i ddadlau dros drethiant yn ogystal. Trethiant teg a fydd yn ein galluogi i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom a'r gwasanaethau y mae pobl Cymru eu heisiau. Ni allwn sefyll yma'n gwneud areithiau am gyni a darparu cyni drwy ein penderfyniadau. Ni allwn gael ein cacen a'i bwyta. Rydym wedi bod yn dweud hynny wrth Weinidogion y DU drwy Brexit a rhaid inni dderbyn hynny ein hunain. Os ydych yn credu mewn gwasanaethau cyhoeddus, rhaid i chi hefyd ddadlau o blaid trethiant i dalu amdanynt. Ond hefyd, gadewch inni drethu mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd. Treuliais rai blynyddoedd yn perswadio Gweinidogion cyllid blaenorol, pan oeddent yn cyhoeddi eu papurau Trysorlys, y dylai ein gwerthoedd ddod drwodd, dylent ddisgleirio drwy ein polisi trethiant yn ogystal. Methais ddarbwyllo unrhyw Weinidog cyllid ynglŷn â phwysigrwydd cynaliadwyedd fel egwyddor trethiant—gobeithio y caf well lwc gyda'r Gweinidog cyllid presennol, ond methais berswadio ei rhagflaenwyr—oherwydd credaf ei fod yn bwysig.

Ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn cydnabod sylfaen drethi sy'n lleihau. Trafodasom effaith bosibl Brexit yn ystod y cwestiynau yn gynharach. Rydym yn sôn yma am Brexit fel trychineb cenedlaethol i'r wlad hon, ond mae'n drychineb hefyd i'n gwasanaethau a'n gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n ddigon hawdd dweud na welwn y difidend a addawyd inni ar ochr bws ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, ond rydym yn mynd i orfod talu am hynny. Ac os yw hynny'n wir, beth y mae hynny'n ei wneud i'n polisi trethiant?

Gallaf weld fy mod wedi profi eich amynedd yn ddigon hir, Ddirprwy Lywydd. Ond gobeithio y cawn ddadl am natur trethiant yn y dyfodol a fydd yn adlewyrchu ein gwerthoedd, ac a fydd hefyd yn adlewyrchu ein dyheadau.

17:05

Diolch. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw yn fawr iawn, a hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad ac am ddarparu cyfle inni gael y drafodaeth hon heddiw, ac am y ffordd adeiladol iawn y mae'r pwyllgor wedi ymgysylltu â'r agenda hon drwyddi draw. Byddaf yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad y pwyllgor, ond gallaf ddweud heddiw fy mod yn falch fod y pwyllgor wedi cydnabod y gwaith da a wnaed ar sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru yn eu hadroddiad. Mae'r gwaith da hwn wedi parhau yn ei weithrediadau, a chafodd dull yr awdurdod o weinyddu treth ei gydnabod yn yr adroddiad diweddar gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, 'Funding Prosperity: Creating a New Tax System in Wales,' a drafodwyd gennym yn gynharach heddiw.

Nodaf argymhelliad y pwyllgor y dylid darparu diweddariadau blynyddol ar ddull yr awdurdod o gadw gwybodaeth ac arbenigedd yn y sefydliad. Mae gwaith eisoes ar y gweill yn y maes hwn, gan gynnwys datblygu cynlluniau ymsefydlu, cynlluniau parhad busnes, canllawiau manwl a phroses gipio gwybodaeth ffurfiol ar gyfer y rhai sy'n gadael y sefydliad.

Buaswn yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ar gostau gweithredu a chostau rhedeg parhaus cyfraddau Cymreig o dreth incwm. Mae sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru yn parhau'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a bydd fy swyddogion yn parhau i graffu ar y costau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r trefniadau newydd, ac rwy'n ddiolchgar i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, sydd wedi dangos ymrwymiad i gadw costau cyn lleied â phosibl.

Mae fy swyddogion wedi bod yn cydweithio'n agos â'u cymheiriaid o fewn CThEM i sicrhau bod cyfathrebu a gweithgarwch ymgysylltu yn gydgysylltiedig. Mae gwerthuso wedi bod yn digwydd drwy gydol yr ymgyrch i helpu i addasu a mireinio ein dull gweithredu yn ôl yr angen. A chynhelir gwerthusiad mwy ffurfiol gan ddefnyddio fframwaith gwerthuso Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth cyn bo hir.

Nodaf siom y pwyllgor na allodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymwneud â'r pwyllgor, neu ei amharodrwydd i wneud hynny, ar gyfer ystyried y modd o ddatganoli'r dreth incwm yn rhannol yng Nghymru. Rwy'n cytuno â chasgliad y pwyllgor, gan fod y dreth incwm yn parhau i fod yn dreth a gadwyd yn ôl, y byddai'n briodol i'r Ysgrifennydd Gwladol ateb cwestiynau am y broses weithredu. A hoffwn nodi fy mod yn falch iawn o roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar ddatganoli toll teithwyr awyr yn ddiweddar iawn.

Bydd cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig ddydd Sadwrn yn nodi cwblhau'r rhaglen waith—y rhaglen o ddatganoli cyllidol a roddwyd ar waith gan Ddeddf Cymru 2014. Bydd yn dilyn llwyddiant y camau i roi trethi a wnaed yng Nghymru mewn grym flwyddyn yn ôl—y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi, a gesglir gan Awdurdod Cyllid Cymru—a chaffael pwerau benthyca cyfalaf a refeniw newydd. Rydym hefyd yn pwyso ar Ddeddf 2014 i archwilio trethi newydd posibl a'r ffyrdd y gallent gynnal ein dyheadau polisi ehangach.

Wrth gwrs, dechreuodd y gwaith hwn ymhell cyn 2014 gyda'r adroddiadau gan gomisiwn Holtham a chomisiwn Silk, a argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol ennill llawer mwy o allu a chyfrifoldebau i reoli cyllideb Cymru. Ochr yn ochr â'n pwerau treth, rydym wedi mabwysiadu cyfrifoldeb ariannol dros ardrethi annomestig, a bu newidiadau hanfodol i'n grant bloc i ddarparu cyllid gwaelodol Barnett ac i sicrhau addasiadau priodol ar gyfer y refeniw treth datganoledig.

Rhydd datganoli pwerau treth amrywiaeth o gyfleoedd i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull blaengar o drethu wedi'i deilwra'n well i anghenion Cymru. Mae'r fframwaith polisi treth, a gyhoeddwyd yn 2017 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ar y pryd, a'r cynlluniau gwaith blynyddol a gyhoeddwyd ers hynny, wedi pwysleisio ymrwymiad y Llywodraeth hon i fabwysiadu dull strategol o weithredu polisi treth. Caiff hwn ei gyflawni yn awr drwy ein gwaith i reoli trethi presennol a threthi sydd wedi'u datganoli o'r newydd, yn ogystal â'n dull sy'n esblygu o ddatblygu trethi newydd.

Mae cynllun gwaith y polisi treth a gyhoeddais ar 27 Chwefror yn cyflawni'r ymrwymiad a roddwyd yn y fframwaith polisi treth i sicrhau bod cynigion sy'n gysylltiedig â threthi yn cael eu hystyried yn drwyadl ac yn gyson ag egwyddorion y Cabinet. Mae'n cydymffurfio â'r egwyddor i ddatblygu polisi treth drwy gydweithrediad a chyfranogiad, gan ddarparu cyfrwng ar gyfer trafodaeth fwy agored â rhanddeiliaid ynghylch cyfeiriad polisi treth Cymru. Mae'r meysydd ymchwil yn y cynllun gwaith yn cefnogi'r ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol i ddefnyddio pwerau treth i gryfhau'r cysylltiad rhwng twf economaidd a chyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac i wneud hynny mewn ffordd sy'n cefnogi busnesau ac sy'n deg.

Ynghyd â'r grant bloc, bydd trethi Cymru yn ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae llawer o bobl yn ein cymdeithas yn dibynnu arnynt. Pan gyflwynir cyfraddau Cymreig o dreth incwm, bydd penderfyniadau ynglŷn ag oddeutu £5 biliwn o refeniw treth a gesglir yng Nghymru yn cael eu gwneud yng Nghymru gan y Llywodraeth ganolog neu lywodraeth leol. Gyda'r pwerau wedi'u datganoli i Gymru, mae cyfle gennym i edrych ar drethi'n gyfunol. Bydd yn newid natur ein dadleuon ynglŷn â refeniw a chyllidebau yn y dyfodol, ac edrychaf ymlaen at y trafodaethau hyn.

Rwy'n hapus i gefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl ac ymuno gyda hwy ac ategu'r sylwadau canmoliaethus a wnaethant am y swyddogion sydd wedi gweithio ar y prosiect hwn. Diolch.

17:10

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon hefyd. Credaf ei bod yn adlewyrchu'r consensws sy'n bodoli ynghylch y ffordd y cyflawnwyd y gwaith. Mae Nick ac eraill wedi sôn am adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac roedd eu casgliadau'n adleisio casgliadau'r pwyllgor i raddau helaeth. Ond nid yn unig y Ffederasiwn Busnesau Bach sydd wedi dweud hyn, fe ddywedodd Swyddfa Archwilio Cymru, wrth gwrs, pan gyflwynodd adroddiad ar Awdurdod Cyllid Cymru ddiwedd y llynedd, ei fod 

'wedi gweithio’n effeithiol hyd yn hyn i weinyddu trethi datganoledig yng Nghymru... Mae gan Drysorlys Cymru drefniadau priodol ar waith i dderbyn sicrwydd ynghylch y ffordd mae CThEM yn gweithredu cyfraddau treth incwm Cymru'.

Rwy'n meddwl bod y neges yn dda hyd yn hyn, ond fel y pwysleisiais yn fy sylwadau agoriadol, ni allwn gymryd unrhyw beth yn ganiataol, ac yn amlwg mae angen inni gadw'r un lefel o wyliadwriaeth y byddai unrhyw un yn ei ddisgwyl gennym yn y broses hon. Hefyd, cyfeiriodd Nick, rwy'n credu, at yr angen i dyfu capasiti yng Nghymru yn awr oherwydd mae hon yn drafodaeth newydd sy'n dod i'r amlwg yn awr. Rydym yn clywed darnau ohoni heddiw, onid ydym, o ran sut beth fydd y polisi trethiant yn y dyfodol o dan Lywodraethau Cymru yn y dyfodol, ac yn amlwg efallai ein bod yn dechrau denu rhai ymrwymiadau maniffesto yn y cyfnod hyd at 2021.

Mae'n bwysig, fel y dywedodd Alun Davies, fod y polisi treth yn cynrychioli ein gwerthoedd, ac fel y dywedodd Mike Hedges hefyd, mae'n fodd o gyflawni canlyniadau polisi, onid yw? Nid ffordd o gynhyrchu refeniw yn unig ydyw, ac mae hynny'n bendant yn mynd i fod yn rhan o'r broses esblygol y byddwn ni fel pleidiau a fydd yn rhan o'r drafodaeth wleidyddol yn y cyfnod cyn yr etholiad nesaf ynghlwm wrthi hefyd.

Yn sicr mae gwersi i'w dysgu gan yr Alban, fel y clywsom yn ystod y ddadl. Am unwaith, mae mantais y sawl sy'n symud yn ail yn eithaf cadarnhaol, oherwydd gallant hwy wneud y camgymeriadau a gallwn ni ddysgu oddi wrthynt. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae angen inni fanteisio arno.

Rwyf am wneud sylw hefyd am y mater trawsffiniol—cafwyd ychydig o gyfeiriadau at hynny. Mae hwnnw'n waith y mae'r pwyllgor yn mynd i edrych arno o gwmpas yr hydref, yn yr ystyr y byddwn yn edrych ar effeithiau gwahanol—[Torri ar draws.] Caf fy nghymeradwyo yn awr gan ffôn rhywun—gwahanol effeithiau gwahaniaethau mewn cyfraddau treth ar draws ffiniau, a chredaf y bydd hi'n ddefnyddiol inni gael hynny fel ein bod yn gallu mynd i wraidd rhai o'r pryderon sy'n cael eu nodi fel problemau i rai, ac nid i eraill, fel y clywsom. Ond credaf y byddai hwnnw'n gyfraniad defnyddiol y gallwn ei wneud fel pwyllgor i'r holl drafodaeth honno.

Mae Awdurdod Refeniw Cymru, fel yr oedd Rhun ap Iorwerth yn dweud, wedi gosod bar uchel iawn, ond, wrth gwrs, byddwn i ddim yn disgwyl dim gwahanol. Ac mi fydd hi'n her i gynnal hynny ond, wrth gwrs, dyna dwi'n meddwl sydd yn rhaid inni sicrhau fydd nawr yn para. Ac mae ymateb yr Ysgrifennydd Gwladol, fel mae bron iawn pawb wedi cyfeirio ato fe, i'r cais i ddod i roi tystiolaeth—y niferoedd o geisiadau sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, a dweud y gwir, i ddod gerbron y Pwyllgor Cyllid—yn siomedig eithriadol. Mae'r cynnig i gwrdd â ni'n unigol, dwi'n credu, yn tanseilio pa bynnag resymeg sydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i beidio ag ymddangos o flaen y pwyllgor, oherwydd mae yna demtasiwn i ni fel wyth aelod o'r pwyllgor i'w gwrdd ag e'n unigol wyth gwaith. Mi awn ni i Lundain i wneud hynny os oes rhaid, ac, yn sicr, mi aiff y pwyllgor i unrhyw le er mwyn sicrhau bod yna dryloywder a bod yna atebolrwydd o'r cyfeiriad hynny hefyd. 

Y neges sylfaenol, dwi'n credu, i fi yn fan hyn yw: os gallwn ni barhau dros y blynyddoedd nesaf i roi datganoli cyllid ar waith yn y modd y mae e wedi cael ei roi ar waith hyd yma, yna, yn fy marn i, mi fyddwn ni fel sefydliad, wrth inni agosáu at ugainmlwyddiant y Cynulliad yma, yn deilwng, gobeithio, o gael ein galw yn Senedd. Diolch. 

17:15

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Timau Iechyd Meddwl Cymunedol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Symudwn ymlaen at eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dimau iechyd meddwl cymunedol. Galwaf ar Darren Millar i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7028 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Cyd Adolygiad Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol.

2. Yn nodi ymhellach y nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru.

3. Yn gresynu at y diffyg cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a gwasanaethau iechyd meddwl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol, a mynediad ato, gan gynnwys:

a) cynyddu gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad;

b) sicrhau bod timau argyfwng ar gael 24/7 ym mhob adran achosion brys mawr;

c) gweithio ar frys gyda byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a

d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig yn fy enw ar y papur trefn heddiw. Credaf fod rhai o'r dadleuon a gawsom ar faterion iechyd meddwl yma yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi gweld y Cynulliad ar ei orau, yn dod ynghyd er mwyn tynnu sylw at rai o'r heriau sy'n ein hwynebu ar y cyd ac yn dwyn pobl at ei gilydd o wahanol dueddiadau gwleidyddol i geisio cytuno ar gonsensws o ran y dull gweithredu y gallwn ei gael ar rai o'r materion hyn. Yn wir, cafwyd llawer o dir cyffredin yn y blynyddoedd diwethaf. Roeddem yn ffodus iawn, wrth gwrs, o gael Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod a'r cyn-Aelod Cynulliad Jonathan Morgan rai blynyddoedd yn ôl, ac a gefnogwyd gan yr holl bleidiau gwleidyddol yn y Senedd ar y pryd. Ac wrth gwrs, rydym wedi cael nifer o ddadleuon ar iechyd meddwl, gan gynnwys y rheini lle cawsom Aelodau'r Cynulliad yn siarad am rai o'u heriau a'u brwydrau eu hunain â phroblemau iechyd meddwl. A chredaf eu bod wedi bod ymhlith rhai o'r dadleuon mwyaf grymus, a dweud y gwir, a brofais i, yn sicr, fel Aelod Cynulliad.

Rydym wedi dod at ein gilydd hefyd, wrth gwrs, i geisio cefnogi nodau ac amcanion yr ymgyrch Amser i Newid, i fynd i'r afael â'r stigma sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl. Ac felly, yn yr ysbryd hwnnw y cyflwynwn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rydym yn ddiolchgar iawn i allu cydnabod y cymorth a gawsom gan Mind Cymru a Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain, sydd wedi dweud wrthym eu bod yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron yn llwyr.

Nawr, rydym wedi cael dadleuon ar sawl agwedd ar ofal iechyd meddwl sylfaenol ac eilaidd, ond nid wyf yn cofio inni gael dadl benodol yn canolbwyntio ar yr hyn yr ydym am sôn amdano heddiw, sef timau iechyd meddwl cymunedol. Ac mae'n bwysig ein bod yn edrych ar y mater hwn, ac yn amserol iawn ein bod edrych ar y mater hwn, oherwydd, wrth gwrs, rydym wedi gweld nifer o broblemau'n codi mewn perthynas â thimau iechyd meddwl cymunedol o ganlyniad i'r cyd-adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror. Ond roeddwn am fanteisio ar y cyfle i atgoffa pobl o'r hyn y mae timau iechyd meddwl cymunedol yn ei wneud.

Nawr, o'u henw, gallech feddwl eu bod yn rhan o'r system gofal sylfaenol, am eu bod wedi'u lleoli yn y gymuned, ond nid yw hynny'n wir wrth gwrs—maent yn bendant yn rhan o'r dull gofal eilaidd o weithredu gofal iechyd meddwl. Maent yn dimau amlddisgyblaethol sy'n aml iawn yn cynnwys nyrsys seiciatrig, seicolegwyr, therapyddion, cwnselwyr, gweithwyr cymorth a gweithwyr cymdeithasol, ac sy'n dod at ei gilydd er mwyn cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl acíwt ac anodd iawn—problemau iechyd meddwl cymhleth a difrifol.

17:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Soniais ychydig funudau yn ôl fod adroddiad ar y cyd wedi'i gynhyrchu gan yr arolygiaeth gofal iechyd a'r arolygiaeth ofal. Roedd rhai o'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwnnw'n peri pryder mawr iawn. Canfu'r adroddiad fod gwahaniaeth ac amrywiaeth o ran cysondeb ac argaeledd y gwasanaethau a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru, ac rwyf am ganolbwyntio ar rai o'r materion hynny am ychydig funudau, os caf.

Un o'r problemau a nodwyd oedd bod anhawster yn y system atgyfeirio—ei bod yn bur anghyson, ac nad oedd pawb yn gallu cael gafael ar wasanaethau mewn modd amserol pan oedd angen iddynt allu cael gafael arnynt. Roedd yn amlwg o'r adroddiad nad oedd ymarferwyr cyffredinol bob amser yn glir ynglŷn â sut i gyfeirio'n uniongyrchol at eu timau iechyd meddwl cymunedol ac yn aml iawn roeddent yn atgyfeirio at dimau ysbytai yn lle hynny.

Dywedodd yr adroddiad fod angen un pwynt mynediad, o safbwynt atgyfeirio, fel bod pobl yn gwybod yn union ble i gyfeirio eu cleifion pan oeddent angen gofal a chymorth. Wrth gwrs, mae hyn yn cyd-fynd yn dda iawn gyda rhai o'r canfyddiadau a'r argymhellion a welsom gan bwyllgorau'r Cynulliad a fu'n edrych ar ein gwasanaethau iechyd meddwl. Rydym yn cofio nad oes cymaint â hynny o amser er pan fuom yn trafod adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar atal hunanladdiad, adroddiad a oedd hefyd yn tynnu sylw at yr angen i gael llwybrau clir a mynediad amserol at gymorth pan fo angen.

Canfu'r adroddiad hefyd fod llawer o bobl yn cael anhawster i gael gafael ar dimau iechyd meddwl cymunedol, yn enwedig yn ystod argyfwng. Er bod rhai rhannau o Gymru lle roedd pobl yn cael cymorth ar unwaith, mewn rhannau eraill o Gymru roedd pobl yn cael trafferth i gael mynediad at wasanaethau, yn enwedig gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau. Wrth gwrs, roedd nifer o bobl yn adrodd eu bod wedi gorfod ymweld ag adran achosion brys sawl gwaith cyn iddynt gael mynediad at y math o gymorth argyfwng yr oeddent ei angen.

Credaf fod dwy ran o bump o'r rhai a holwyd fel rhan o'r gwaith hwnnw wedi dweud, pan wnaethant gysylltu â'u timau iechyd meddwl—eu timau iechyd meddwl cymunedol—yn ystod argyfwng, mai dwy ran o dair yn unig ohonynt a oedd yn cael y cymorth oedd ei angen arnynt mewn gwirionedd. Dyna pam mai un o'r galwadau a wnaethom yn y ddadl hon yw'r angen i dimau argyfwng fod ar gael 24/7—ddydd a nos—yn ein holl adrannau achosion brys mawr ledled Cymru, fel bod y gefnogaeth yno pan fo'i hangen mewn argyfwng. Mae angen y mynediad unffurf hwnnw a llwybr at gymorth o'r fath mewn argyfwng.

Mae'n anodd iawn deall beth yn union yw lefel y galw am dimau iechyd meddwl cymunedol, oherwydd, wrth gwrs, nid oes unrhyw ddata'n cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â hwy ar hyn o bryd. Yn ffodus, mae Mind Cymru wedi gwneud rhywfaint o waith ar hyn, drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth. Rhwng 2014-15 a 2017-18, mae'n honni bod atgyfeiriadau at dimau iechyd meddwl cymunedol wedi cynyddu oddeutu 18 y cant, sy'n golygu bod dros 4,000 o atgyfeiriadau ychwanegol yn mynd i'r timau hynny, gan wneud cyfanswm ar hyn o bryd—neu yn 2017-18—o 26,711 o atgyfeiriadau mewn blwyddyn. Nawr, mae hynny'n llai na nifer wirioneddol yr atgyfeiriadau ledled Cymru, oherwydd, yn anffodus, ni allodd un bwrdd iechyd roi unrhyw wybodaeth am nifer yr atgyfeiriadau a oedd yn mynd i'w timau iechyd meddwl cymunedol, ac yn anffodus, yr unig fwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig oedd hwnnw—Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Gwyddom fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig oherwydd pryderon ynglŷn â'r modd y mae'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl, felly rwy'n meddwl ei fod yn destun pryder arbennig mai dyna'r un bwrdd iechyd nad yw'n ymddangos ei fod yn gallu ymdopi â chyfanswm y nifer o atgyfeiriadau, oherwydd, wrth gwrs, mae angen i chi wybod beth yw'r atgyfeiriadau i allu cynllunio ar gyfer ateb y galw y mae'r timau hynny'n ei weld, er mwyn i chi allu rheoli gofal pobl—cofiwch fod y rhain yn bobl sy'n agored iawn i niwed—mewn ffordd ddiogel ac effeithiol. Credaf felly fod y diffyg data difrifol yn peri pryder, a dyna un o'r rhesymau pam y byddwn yn cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, ac mae un ohonynt yn cyfeirio, wrth gwrs, at yr angen i gyhoeddi data yn rheolaidd.

Nawr, rydym yn sôn llawer yn y Siambr hon am yr angen am gydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd corfforol, ac rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn inni gael cydraddoldeb rhwng y ddau wasanaeth, i wneud yn siŵr ein bod yn mesur perfformiad yn erbyn setiau tebyg o dargedau. Ond mae'n amlwg fod gormod o bobl yma yng Nghymru ar hyn o bryd yn aros yn llawer rhy hir i gael mynediad at therapïau siarad. Gwn ei fod yn destun pryder i bobl ym mhob plaid wleidyddol yma, gan gynnwys aelodau o'r Llywodraeth. Ac mae'r amseroedd aros hynny wedi cael sylw yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r arolygiaeth ofal, a gall fod yn unrhyw beth hyd at ddwy flynedd. Nawr, pan gaiff pobl eu hatgyfeirio at wasanaethau gofal eilaidd i gael cymorth, mae angen y cymorth arnynt mewn modd amserol, ac mae'n amlwg nad yw aros am ddwy flynedd cyn iddynt gael mynediad at y driniaeth sydd ei hangen arnynt yn ddigon da.

Nawr, mae gan Lywodraeth Cymru dargedau i wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ac yn wir, i dimau iechyd meddwl cymunedol a gwasanaethau eilaidd eu cyrraedd, ond yr hyn sy'n rhyfedd yw, fel arfer, os oes gennych lefel o angen mwy difrifol, byddech yn disgwyl y byddai angen ymyrraeth gynt arnoch, felly dylai'r targed fod yn fyrrach i bob pwrpas. Nid yw hynny'n wir mewn perthynas â'r targedau y mae'r GIG yng Nghymru yn eu gweithredu ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni weithio i fynd i'r afael ag ef.

Er enghraifft, mae targed o 28 diwrnod yn bodoli ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, sydd yno i gefnogi'r rheini sydd ag anghenion iechyd meddwl bach i gymedrol, neu anghenion iechyd mawr parhaus sy'n sefydlog iawn, o'r adeg y dônt i sylw tîm gofal sylfaenol hyd at y dyddiad y cânt eu hasesu. Dyna'r cyfnod targed—rhaid iddynt gael eu hasesu o fewn 28 diwrnod. Ac yna ceir targed arall o 28 diwrnod o ddyddiad yr asesiad hyd nes y byddant yn cael triniaeth. Yn gryno—56 diwrnod yw'r uchafswm y dylai'n rhaid i rywun aros o'r adeg y cânt eu hatgyfeirio hyd at yr adeg y byddant yn cael triniaeth.

Ond ar gyfer gwasanaethau gofal eilaidd, gan gynnwys mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol—ac mae'r rhain yn bobl sydd ag anghenion iechyd meddwl mwy difrifol a chymhleth—y targed yw 26 wythnos rhwng asesiad a thriniaeth—nid rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ond rhwng asesiad a thriniaeth. Nawr, mae hynny i mi yn awgrymu'n glir fod problem yn y system yn rhywle o ran beth ddylai lefel y flaenoriaeth fod. Nawr, rwy'n sylweddoli bod heriau'n mynd i fod i allu gostwng yr amser targed, ond mae'n achos pryder nad ydym yno ar hyn o bryd.  

Ac wrth gwrs, nid yw perfformiad yn erbyn y targedau hyn yn cael ei gyhoeddi fel mater o drefn. Rwy'n cymryd ei fod yn cael ei fesur yn rhywle gan y Llywodraeth, ond nid oes gennym ddata i allu dangos a yw'r GIG yng Nghymru yn cyrraedd y targedau hyn, a chredaf fod angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Cafwyd ymrwymiad clir yn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a gyhoeddwyd ar gyfer 2012-16, a ddywedai y byddai gennym set ddata graidd ar gyfer iechyd meddwl erbyn Rhagfyr 2014. Nid ydym wedi'i chael eto, ac yn wir, rwy'n credu ei bod yn cael ei gohirio nes 2022, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n ddigon uchelgeisiol. Nid ydym ychwaith wedi gweld adroddiadau blynyddol ers cryn dipyn o amser ynghylch cyflawniad y rhaglen Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Roedd hwnnw'n ymrwymiad a wnaethpwyd—y byddem yn cael adroddiadau blynyddol—ond nid ydym wedi eu cael.

Felly, yn amlwg, mae angen i bethau newid. Rydym yn mawr obeithio y bydd y Cynulliad yn cefnogi'r cynnig ger ein bron, a byddwn yn derbyn y gwelliannau y cyfeiriais atynt yn gynharach. Diolch i chi.

17:25

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.  

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod yr angen i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd meddwl;

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol a gwella’r mynediad at y cymorth hwnnw, gan gynnwys:

a) parhau i gynyddu’r gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad, yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn 2019;

b) sicrhau bod trefniadau ar waith i ymateb i argyfyngau iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym mhob un o’r adrannau achosion brys mawr;

c) gweithio ar frys gyda’r byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a

d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Helen Mary Jones nawr i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

cyhoeddi data perfformiad ystyrlon ar amseroedd aros, gan gynnwys grwpiau oedran a diagnosis, fel y gall hawliadau'n ymwneud â gwella gael eu gwirio'n annibynnol.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

sicrhau bod timau iechyd meddwl cymunedol yn cysylltu â gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yn erbyn asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a phrosesau gwneud penderfyniad sydd yn aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl .

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn? Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, a hoffwn gysylltu fy hun â llawer o'r hyn a ddywedodd Darren Millar. Credaf ei fod yn bortread meddylgar iawn o'r hyn sy'n broblem gymhleth iawn. Yn benodol, rwy'n credu y gall pawb ohonom gytuno bod rhywbeth mawr o'i le gyda'r targedau amseroedd aros. Pan fydd rhywun yn dioddef salwch meddwl difrifol, mae angen help arnynt yn syth, ac os oes rhywun yn gofyn am help ac nad ydynt yn ei gael ar unwaith, mae gwir berygl y bydd eu cyflwr yn gwaethygu. Os oes ganddynt gydafiachedd gyda chyffuriau ac alcohol, fel sy'n digwydd yn aml, bydd gennych bobl y gallai eu hunanfeddyginiaethu fynd allan o reolaeth—dyna un o'r rhesymau pam y credaf ein bod yn gweld cyfran mor uchel o boblogaeth ein carchardai yn bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, oherwydd weithiau nid ymdrinnir â'r problemau iechyd meddwl hynny mewn ffordd amserol. Ac rwy'n dweud hynny yn yr ysbryd cydweithredol y cyflwynodd Darren Millar y ddadl hon ynddo. Credaf y byddai pawb ohonom yma yn dyheu am well a rhaid inni ddisgwyl i'r Gweinidog gyflawni hynny.

Nid wyf am ailadrodd y sylwadau a wnaeth Darren. Rwyf am siarad yn fyr, Lywydd, am ein dau welliant a dechrau drwy ddweud na fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, oherwydd credwn fod Darren Millar wedi gwneud achos cryf iawn dros yr angen i gydleoli timau argyfwng brys mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Yn bersonol gwelais sefyllfaoedd sy'n peri gofid mawr, meddygon adrannau damweiniau ac achosion brys yn ceisio ymdrin â phobl ifanc, yn enwedig, gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol iawn. Nid oes ganddynt gapasiti na sgiliau i wneud hynny ac mae angen rhywun i allu dod i mewn ar unwaith, rhywle lle gallant atgyfeirio cleifion ar unwaith. Gallaf feddwl am un achos penodol pan oedd yn rhaid i mi eistedd mewn adran damweiniau ac achosion brys gyda pherson ifanc mewn trallod mawr a oedd yn hunanladdol, ac nid oedd unman i fynd â hi, ar wahân i gell yr heddlu o bosibl ar y cam hwnnw—ac roedd hyn rai blynyddoedd yn ôl, diolch byth. Gallwch ddychmygu pa mor ofnadwy oedd hynny iddi ond hefyd i'r staff meddygol a oedd yn ymdrin â hi. Felly, credwn fod yr achos dros gyd-leoli timau wedi'i wneud.

Os caf droi at ein gwelliannau ni a gwelliant 3, nid oes unrhyw amheuaeth fod newidiadau olynol yn y system nawdd cymdeithasol, a gychwynnwyd, wrth gwrs, gan yr Arglwydd Freud o dan Tony Blair—yr asesiadau o'r gallu i weithio—wedi taro pobl â phroblemau iechyd meddwl yn galed iawn. Mae'n hawdd gweld os oes gan rywun anabledd corfforol, dywedwch, sy'n golygu bod angen iddynt ddefnyddio cadair olwyn. Mae'n llawer anos gweld pa mor wanychol y gall problem iechyd meddwl fod. Rhaid imi ddweud, fel Aelod etholedig yn y lle hwn, nad wyf erioed wedi methu ennill apêl wrth i mi gefnogi person sydd â phroblem iechyd meddwl, yn sgil prawf Atos gwreiddiol—lle cynhelir y profion, wrth gwrs, gan bobl nad ydynt yn gymwys ac nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud yn aml iawn, a bod yn onest—ac rwy'n siŵr fod llawer ohonom yn yr ystafell wedi llwyddo i gefnogi apeliadau llwyddiannus. Ond caf fy ngadael gyda'r cwestiwn ynglŷn â phobl nad ydynt yn gwybod, sydd heb rywun gyda hwy a all sicrhau'r math hwnnw o eiriolaeth.

Lluniwyd y profion hyn yn amlwg gan bobl nad ydynt yn deall y profiad o anabledd anweledig; nid ydynt yn deall cyflyrau sy'n gyfnewidiol. Ac mae'r broses o orfodi pobl â phroblem iechyd meddwl barhaus i gael eu hailasesu dro ar ôl tro mewn gwirionedd—a gallaf feddwl eto, ac rwy'n siŵr y gall eraill yn yr ystafell hon—yn gwaethygu'r salwch meddwl. Mae angen inni herio hyn ac un ffordd ymarferol y gallem ei wneud yma yw sicrhau bod cysylltiadau cryf iawn gan dimau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru â chyngor lleol ar fudd-daliadau, fel bod y bobl sy'n gorfod mynd drwy'r asesiadau hynny—cymaint ag y byddem yn dymuno eu gweld yn diflannu—yn cael cymorth proffesiynol priodol. Nid yw bob amser yn bosibl iddynt—

17:30

A gredwch fod—? Credaf eich bod yn gwneud achos cryf iawn dros gysylltu problemau iechyd meddwl â diwygio lles. A gredwch y gallai datganoli gweinyddu lles helpu, pe baem yn gallu llunio rhai o'r asesiadau a'r gweithdrefnau hynny ein hunain?

Yn sicr, credaf y gallai. Credaf y gallem ddod â set wahanol iawn o werthoedd i'r asesiadau hynny ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi cytuno i gadw hynny dan arolwg.

Fe drof yn fyr iawn, gyda chaniatâd y Llywydd, at ein gwelliant 2, sy'n edrych ar yr achos dros gael data. Os caf roi un enghraifft yn fyr iawn, rydym wedi bod yn cyfeirio ers amser hir at amseroedd aros Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS). Dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd yn briodol iawn ei bod yn debygol fod yna ormod o bobl ifanc ar y llwybr CAMHS nad oedd angen iddynt fod arno. Gwnaed penderfyniad yn 2017 i dynnu tua 1,700 o blant oddi ar y llwybr—roedd tua 74 y cant ohonynt ar restrau aros ar y pryd. Nawr, efallai mai dyna oedd y peth cwbl gywir i'w wneud ar gyfer y bobl ifanc unigol hynny, ond fy mhwynt yw nad ydym yn gwybod mewn gwirionedd—nid ydym yn gwybod mewn gwirionedd i ble'r aethant, nid ydym yn gwybod beth oedd eu canlyniadau, ac nid ydym yn gwybod a gawsant ymyriadau mwy priodol.

Mae Darren Millar eisoes wedi cyfeirio at rai o'r problemau sy'n ymwneud â diffyg gwybodaeth, diffyg data—rwyf wedi fy syfrdanu, er nad yw'n syndod gwaetha'r modd, fod yna fwrdd iechyd lleol na all ddweud wrth bobl ynglŷn â nifer yr atgyfeiriadau at eu timau iechyd meddwl cymunedol. Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno gyda phawb ohonom nad yw hyn yn dderbyniol a hoffwn ei annog eto heddiw i sicrhau bod y broses o gasglu data'n effeithiol erbyn 2022 yn digwydd yn gynt na hynny. Ni allwn ddatrys y broblem os nad ydym yn gwybod pa mor fawr yw hi ac os nad ydym yn gwybod beth yn union yw hi. Hyd yn oed gyda'r ewyllys orau yn y byd ni all y Gweinidog mwyaf dawnus yn y byd wneud hynny.

Felly, rwyf am orffen fy sylwadau, Lywydd, drwy ddiolch unwaith eto i'r Ceidwadwyr, a diolch iddynt am dderbyn ein gwelliannau, a thrwy gymeradwyo'r cynnig hwn a'n gwelliannau i'r Siambr.

17:35

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad y prynhawn yma ar ganfyddiadau'r adroddiad hwn a gynhyrchwyd ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Maent yn ganfyddiadau brawychus. Canfu'r adroddiad anghyfartaledd ac amrywioldeb o ran cysondeb ac argaeledd y driniaeth, gofal a chymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru. Mae'n gwneud 23 o argymhellion mewn 40 o feysydd i fynd i'r afael â'r methiannau presennol yn y system.

Hoffwn gyfeirio fy sylwadau heddiw at y problemau sy'n wynebu cleifion rhag cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Rwy'n pryderu bod cleifion yn aml yn methu cael gafael ar y gofal y maent ei angen mewn modd amser neu'n agos at eu cartref. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai ychydig dros hanner y cleifion a gafodd eu gweld o fewn y targed amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth o 28 diwrnod ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Bu'n rhaid i bron 6 y cant o gleifion aros mwy na chwe mis am driniaeth. Mae amseroedd aros ar gyfer therapïau siarad hefyd yn achosi pryder, gyda 16 y cant o gleifion yn cael eu gorfodi i aros dros 28 diwrnod am y gwasanaeth hanfodol hwn. Mae un o'r anghydraddoldebau ac anghysonderau sylweddol a amlygwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â gofal argyfwng 24/7 ar draws yr awdurdodau iechyd gwahanol. Mae rhai byrddau iechyd, fel Cwm Taf, yn gweithredu llinell gymorth dros y ffôn ar gyfer unrhyw un sy'n profi argyfwng iechyd meddwl. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd. Fodd bynnag, nid yw byrddau iechyd eraill ond yn gweithredu'r gwasanaeth hwn am 12 awr y dydd yn unig, ac mae rhai o'r llinellau cymorth hyn ond yn bodoli i gefnogi'r bobl y mae'r gwasanaeth eisoes yn gwybod amdanynt.

Ceir anghysonderau o fewn y byrddau iechyd hyd yn oed. Mae bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn darparu gwasanaeth 24 awr ar gyfer pobl yn Abertawe ond gwasanaeth 12 awr yn unig a geir ar gyfer trigolion Pen-y-bont ar Ogwr neu Gastell-nedd Port Talbot. Ni ellir parhau loteri cod post o'r fath ar gyfer gofal mewn argyfwng. Mae'n annheg ac yn annerbyniol.

Mae anghydraddoldebau sylweddol yn effeithio i'r un graddau ar ofal mewn argyfwng ar gyfer plant a phobl ifanc. Tri bwrdd iechyd yn unig yng Nghymru sy'n darparu timau argyfwng am 12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Ym Mhowys, nid oes unrhyw wasanaethau ar gael ar benwythnosau neu ar ôl 5 p.m. ar ddyddiau'r wythnos. Ar fater gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc, rhaid imi nodi problem diffyg gwelyau ar gyfer pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl risg uchel. Tair uned cleifion mewnol arbenigol a geir yng Nghymru, gyda 51 o leoedd. Ers mis Rhagfyr, mae cleifion Cymru wedi'u symud o Regis Healthcare yng Nglynebwy oherwydd pryderon am eu diogelwch. O ganlyniad, mae hyn yn gadael 27 o welyau yn unig mewn mannau eraill. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi galw'r prinder yn 'annerbyniol'.

Mae problemau'n codi hefyd yn y ddwy uned arall. Mae Tŷ Llidiard ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gweithredu meini prawf cyfyngedig ar gyfer atgyfeiriadau hyd nes y cyflawnir gwaith gwella, ac mae'r uned yn Abergele yn wynebu problemau recriwtio. O ganlyniad i'r prinder hwn, nid yw pobl ifanc bob amser yn gallu cael gofal amserol sy'n agos at ble maent yn byw ac mae'n rhaid eu lleoli y tu allan i'r ardal. Mynegwyd pryderon am gapasiti yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru yn 2013, chwe blynedd yn ôl. Mae'n amlwg bod rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ati fel mater o frys i adolygu'r galw am y gwasanaethau hyn yn erbyn gallu a chapasiti'r unedau CAMHS er mwyn sicrhau y gall pobl ifanc gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt. Mae diagnosis cynnar yn bwysig iawn mewn perthynas ag iechyd meddwl, Lywydd. Os gwneir diagnosis ohono, naill ai gan feddyg teulu neu eraill, gellir ei wella'n gynnar yn hytrach na'i adael nes y bydd yn rhy hwyr, ac os rhoddir triniaeth yn ddiweddarach, mae'n cymryd llawer mwy o amser i drin yr unigolyn am weddill eu bywydau.

Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad hwn ac yn gweithredu i sicrhau bod pobl â salwch meddwl yn cael triniaeth deg a chyfartal lle bynnag maent yn byw yn y wlad hon. Diolch.

17:40

Lywydd, hoffwn ddiolch yn swyddogol i'r Torïaid am gyflwyno'r cynnig hwn. Rwy'n cytuno â barn Darren Millar, ac rwy'n cydnabod hynny. Cyflwynwyd y ddadl hon yn yr ysbryd o weithio i sicrhau ein bod yn cael y gwasanaethau cywir ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, ac mae hynny'n hollbwysig.

Y mis diwethaf, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl pan drafodwyd yr adroddiad. Y diwrnod canlynol, mewn gwirionedd, yn dilyn y cyfarfod hwnnw, fe'i codais yn y datganiad busnes gyda'r Trefnydd, pan ofynnais am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â sut y byddai'n ymateb i'r adroddiad, a chefais wybod y cawn ateb erbyn diwedd yr wythnos efallai, ac rwy'n croesawu'r cyfle i ofyn yr un cwestiwn eto heddiw a gweld a allwn gael ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad hwnnw yn awr, oherwydd nid ydym wedi'i gael hyd yma.

Nawr, mae'n hollbwysig fod pobl sydd ag anghenion iechyd meddwl yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd—nid ydym wedi sôn am eu gofalwyr a'u teuluoedd eto—yn cael y gofal a'r cymorth gorau posibl, ac mae'n peri pryder fod yr adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru a gyhoeddwyd yn dangos mewn gwirionedd fod yna anghysonderau yn y gofal ar draws Cymru, ac yn pwysleisio bod angen gwella'r timau iechyd cymunedol yn helaeth er mwyn sicrhau bod pobl sy'n profi anghenion iechyd meddwl a'u teuluoedd yn cael y gofal a'r cymorth gorau.

Rydym yn symud fwyfwy i fyd lle mae gofal yn ôl yn y gymuned yn brif nod, ac os ydym i gyflawni hynny, rhaid inni sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel ac mewn rheolaeth pan fyddant yn mynd yn ôl i'w hamgylchedd eu hunain. Ni allwn fforddio peidio â mynd i'r afael â'r canfyddiadau allweddol yn yr adroddiad hwn. Ac mae'r rhagair yn dweud y cyfan mewn gwirionedd. Nododd yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, Oscar, y materion sy'n codi o ran anghysondeb, argaeledd triniaeth, gofal a ddarperir yn y gymuned—fe ddywedodd y cyfan, ac yn wir, os darllenwch yr adroddiad, rydym yn clywed y geiriau 'amrywiol' ac 'anghyson' cymaint o weithiau, ac mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol angen ystyried yn ofalus ac archwilio'r holl feysydd a nodwyd yn yr adroddiad a gweithredu ar yr argymhellion fel y bydd pobl sy'n byw gyda salwch meddwl yn cael gofal cyfartal lle bynnag maent yn byw yng Nghymru.

Roedd pobl yn dweud bod y gwasanaeth yn feichus ac yn anodd ei ddefnyddio. Roeddent yn cyfeirio at ddiffyg dealltwriaeth o wahanol feini prawf ar gyfer atgyfeirio, a olygai bod atgyfeiriadau, yn enwedig gan feddygon teulu, yn cyflwyno'r wybodaeth anghywir, gan arwain at oedi cyn cael asesiadau a chymorth, ac yn fwy pryderus, mynegwyd pryderon ynghylch mynediad at wasanaethau i bobl sy'n profi argyfyngau iechyd meddwl, fel y nododd Darren Millar yn ei bwyntiau agoriadol ac yn ei gynnig. Mewn gwirionedd nid oedd hanner y bobl yn gwybod â phwy y gallent gysylltu y tu allan i oriau, ac mae hynny'n frawychus—i feddwl, os oes gan rywun salwch meddwl, nid yw teuluoedd a gofalwyr yn gwybod pwy i droi atynt er mwyn helpu'r unigolyn dan sylw. Rhaid inni fynd i'r afael â hynny.

Roedd sawl cwestiwn yn codi yn yr adroddiad ynglŷn â darparu gofal diogel ac effeithiol. Darllenwch y geiriau hynny: gofal diogel ac effeithiol ar gyfer y bobl hyn sy'n agored i niwed. Ac mae'r diffyg data wedi'i nodi eisoes, ond hefyd ymwneud aelodau o'r teulu neu ofalwyr yn y broses o gynhyrchu'r cynlluniau gofal ar gyfer yr unigolion hynny. Nododd yr adroddiad nad oedd bron i hanner yr aelodau teuluol neu ofalwyr wedi cael eu cynnwys yn y trafodaethau a arweiniodd at y penderfyniadau i ddod â chymorth y tîm iechyd cymunedol i ben. Felly, roeddent yn cael eu rhyddhau o ofal heb fod dros hanner yr aelodau teuluol yn rhan o'r trafodaethau hynny. Dywedodd un rhan o dair nad oeddent wedi cael gwybodaeth—. Mae'n ddrwg gennyf. Dywedodd llai na thraean eu bod wedi cael gwybodaeth ynglŷn â phwy i gysylltu â hwy. Nid yw hynny'n dderbyniol. Os ydych yn gofalu am berson sydd â salwch meddwl a'ch bod yn eu gosod yn ôl yn y gymuned, oherwydd eich bod yn eu rhyddhau o ofal, heb gymorth, y peth lleiaf y gallwch ei wneud yw sicrhau bod aelodau o'u teuluoedd a'u gofalwyr yn cael gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng. Mae angen inni ymdrin â hynny os ydym yn parchu'r unigolion sy'n wynebu'r heriau hyn. Yn aml yn y Siambr hon, rydym—. Dywedodd Darren—rydych yn hollol iawn—ein bod yn aml yn y Siambr yn tynnu sylw at ba mor agored i niwed yw'r unigolion hyn a'r camau y dylem ni fel Cynulliad eu cymryd i'w diogelu, ac mae'r adroddiad hwn yn dweud nad ydym yn gwneud hynny. Felly, dylem ofyn i'n Llywodraeth sicrhau eu bod yn ymateb i'r holl argymhellion yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau bod modd i'r bobl hyn ddibynnu ar y gwasanaethau sydd ar gael drwy gyfrwng y timau iechyd meddwl cymunedol a'r holl dimau eraill i ddarparu'r gofal y byddent yn ei ddisgwyl—gofal y buaswn yn ei ddisgwyl i mi fy hun neu aelod o fy nheulu.

Wrth gloi eu canfyddiadau, nododd Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

'bod angen gwneud cryn dipyn o welliannau o hyd mewn gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol er mwyn bod mewn sefyllfa i gyflawni'r weledigaeth a nodir yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'.

Edrychaf ymlaen at weld hynny'n dwyn ffrwyth. Weinidog, gwn mai un o'r problemau mawr yw adnoddau. Rydym wedi bod yn sôn am therapïau siarad—mae'n ymwneud ag adnoddau. Weithiau, nid oes gennym adnoddau i wneud hynny. Rwy'n derbyn hynny, ond mae angen inni ddechrau datblygu'r adnoddau hynny. Nid oes gennym ddigon, felly gadewch i ni eu cael yn eu lle, gadewch i ni wneud yr hyfforddiant, gadewch i ni gael pobl i allu darparu'r gwasanaethau hyn. Rhaid inni fod mewn sefyllfa, fel cenedl, i allu cefnogi pobl â salwch meddwl er mwyn sicrhau, fel cymuned, nad ydynt yn cael eu gadael yn agored i niwed yn eu cartrefi eu hunain.

17:45

Credaf ei bod yn eithaf amlwg yma heddiw fod llawer o'n Haelodau, o bob plaid, yn cydnabod y brys i sicrhau gwelliant parhaus yn y modd y darparwn gymorth ar gyfer gofal iechyd meddwl. Rydym yn ymwybodol iawn nad yw problemau iechyd meddwl yn gwahaniaethu; maent yn effeithio ar famau, plant, tadau, mamau beichiog, pobl ifanc, oedolion, pobl ganol oed, y genhedlaeth hŷn a'r rhai sydd ag anhwylderau eraill ac sydd wedi cael diagnosis o gyflyrau eraill gan waethygu'r broblem. Er bod gofalu am iechyd meddwl yn galw am gryn dipyn o hunanofal a gweithredu arferion ffordd o fyw iach, i ddioddefwyr profiadau niweidiol a thrawmatig ac argyfyngau iechyd meddwl difrifol, mae ymyrraeth a gofal iechyd meddwl priodol yn hanfodol. Ac eto, nid yw ein gwasanaethau iechyd meddwl a'r modd y trefnir ac y rheolir ein byrddau iechyd ar hyn o bryd, mewn rhai achosion, yn ddigon da i allu ymdopi â'r galw hwn. Mae ansawdd y gofal sydd ei angen i atal cynnydd pellach yn y cyfraddau hunanladdiad—ymhlith pobl ifanc ac oedolion gwrywaidd yn benodol—camddefnyddio sylweddau a salwch meddwl gwanychol yn eithriadol.

Fel Aelod Cynulliad—Aelod etholaeth gyda swyddfa yn nhref Llandudno—yn anffodus, rwy'n gweld gormod o dystiolaeth anecdotaidd o bobl na allant gael cymorth iechyd meddwl nac unrhyw fath o gwnsela neu unrhyw beth, ar adeg pan fyddant yn wynebu argyfwng dwys. Yn wir, Lywydd, mae hyfforddiant a chadw staff meddygol a gweithwyr proffesiynol cymwysedig yn un o fy mhrif bryderon. Yn ôl Mind, fel rhan o'r cwricwlwm hyfforddi meddygon teulu, ar hyn o bryd, un yn unig o'r 21 modiwl clinigol sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl, ac mae nifer y cylchdroadau y mae meddygon dan hyfforddiant yn eu cyflawni mewn amgylchedd iechyd meddwl wedi bod yn gostwng yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae'n mynd tuag at yn ôl. Eto i gyd, nid yw'r tueddiadau hyn yn adlewyrchu'r ffaith mai problemau iechyd meddwl bellach yw'r epidemig modern a bod un rhan o dair o apwyntiadau meddygon teulu bellach yn ymwneud â materion iechyd meddwl.

Felly, gofynnaf i'r Gweinidog, yn onest ac yn gwbl ddidwyll, sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod meddygon a gweithwyr proffesiynol meddygol dan hyfforddiant yn cael yr hyfforddiant—yr hyfforddiant perthnasol—sydd ei angen mewn gwirionedd ar gyfer anghenion pobl o bob oed ar hyn o bryd—

A ydych yn cytuno gyda'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Helen Mary Jones—y gallai problemau llawer o bobl gydag iechyd meddwl yn hawdd fod yn gysylltiedig â diwygio lles? Ac os ydych yn derbyn hynny, a ydych yn derbyn, pe bai gennym reolaeth dros rai agweddau ar ddiwygio lles yma, y gallem liniaru rhai o'r agweddau gwaethaf hynny arno?

Yr hyn a ddywedwn wrth yr Aelod, gyda phob parch, yw bod llu o resymau pam fod problemau iechyd meddwl—

Ac i fod yn onest, gadewch i ni—. Rydym yn sôn am broblemau iechyd meddwl a sut y gallwn ni, ar draws y Siambr hon, weithio tuag at—

Diwygio lles—gadewch inni gael y ddadl honno ar ddiwrnod arall. Ond rwy'n poeni mwy am fy etholwyr na allant gael gafael ar driniaeth a chymorth pan fyddant ei angen, Leanne.

At hynny, gan droi at ddarparu gofal iechyd, hoffwn dynnu sylw penodol at y ddarpariaeth anghyfartal ac anghyson o ofal argyfwng a gwasanaethau y tu allan i oriau. Ymgorfforir yr anghysondeb rhanbarthol hwn gan Abertawe, sy'n cynnig cyswllt ffôn mewn argyfwng 24/7, o gymharu â Phen-y-bont a Chastell-nedd Port Talbot, sydd ond yn cynnig y gwasanaeth hwn o 9 a.m. tan 9 p.m. Ac fe fyddaf yn onest, nid oes gennyf unrhyw ddarpariaeth yn Aberconwy y gwn amdani, neu y gŵyr fy etholwyr amdani, ar ôl 5 o'r gloch. Pan fydd pobl yn teimlo ar eu gwaethaf—gall fod am 2 o'r gloch yn y bore, gall fod am 4 o'r gloch yn y prynhawn, gall fod am 7.15 gyda'r nos, ac nid oes gennym y gwasanaethau hynny ar waith. Mae angen system gymorth 24/7 365 diwrnod rywsut neu'i gilydd yng Nghymru.

Mae'r sefyllfa o ran cymorth mewn argyfwng hyd yn oed yn fwy brawychus ar gyfer plant a phobl ifanc. Yng Nghwm Taf a Chaerdydd a'r Fro, mae timau argyfwng CAMHS ar gael rhwng 10 a.m. a 10 p.m. saith diwrnod yr wythnos, ac eto ym Mhowys nid oes unrhyw wasanaethau ar gael ar benwythnosau neu ar ôl 5 p.m.. Rwy'n gofyn i'r Gweinidog: 'Beth sy'n cyfiawnhau amrywio o'r fath?' Yn sicr, dylai mynediad cyfartal at wasanaethau fod yn elfen endemig sy'n rhedeg drwy unrhyw wasanaeth a ddarperir ganddo fel Gweinidog iechyd.

Yn wir, o ran rheoli, dylai'r Siambr fod yn ymwybodol hefyd o'r problemau llety i bobl ifanc sy'n wynebu risg uchel. Ymhelaethodd fy nghyd-Aelod Mohammad Asghar yn dda ar y problemau a amlygir yn y diffyg gallu i recriwtio pobl yn yr uned yn Abergele, sy'n gweld pobl—ac mae hefyd yn gweld awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gwario cannoedd o filoedd o bunnoedd er bod gennym ddarpariaeth hollol briodol o offer ac adeiladau yn Abergele, ond nid oes gennym staff hyfforddedig, cymwysedig.

Yn Aberconwy, mae canslo apwyntiadau iechyd meddwl ar fyr rybudd oherwydd prinder seiciatryddion ymgynghorol a gweithwyr arbenigol eraill wedi niweidio cleifion yn Nant y Glyn a Roslin. A phan fydd gennych broblem iechyd meddwl, mae cael eich apwyntiad wedi'i ganslo'n sydyn yn rhywbeth sy'n eich gwanychu'n eithafol iawn. Pan sonnir am hynny fel mater o bryder, ychydig iawn o sylw a gaiff.

Nawr, rwy'n edrych ymlaen at gynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' sydd ar y gweill ar gyfer 2019-22, ond peidiwch â gadael i hwn fod yn gynllun cyflawni arall gyda thargedau uchelgeisiol a llawer o eiriau gyda fawr ddim gweithredu. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog: os gwelwch yn dda, canolbwyntiwch ar anghenion y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl ledled Cymru, a gadewch inni fod yn arloeswyr ac yn hyrwyddwyr ar eu rhan, oherwydd maent yn rhan ganolog iawn o'n cymdeithas.

17:50

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl. Os caeaf fy llygaid, gallwn dyngu fy mod wedi bod yma o'r blaen, oherwydd pan ddeuthum gyntaf i'r Siambr hon, roeddwn yn eistedd yn y gadair hon ac roedd fy nghyd-Aelod Jonathan Morgan yn eistedd lle mae Nick Ramsay yn eistedd, ac yn y balot ar gyfer Mesurau ar y pryd, roedd yn ddigon ffodus i ennill y balot ar gyfer y Mesur iechyd meddwl. Cymerodd y Llywodraeth y Mesur iechyd meddwl hwnnw o dan ei hadain, ac fe'i cyflwynwyd yn sgil hynny. Un o'r pethau y ceisiai'r Mesur ei gyflawni wrth gwrs oedd rhoi diwedd ar y loteri cod post y teimlai llawer o bobl ei bod yn bodoli ar y pryd. Yn anffodus, oddeutu 10 mlynedd yn ddiweddarach, yn ôl adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, mae'n amlwg fod y loteri cod post honno'n dal i fodoli mewn llawer o wasanaethau iechyd meddwl.

Nid sgorio pwyntiau gwleidyddol mewn unrhyw fodd yw hyn. Nid wyf yn credu bod iechyd meddwl yn bwynt gwleidyddol, i fod yn onest gyda chi. Buaswn yn ei ystyried yn rhyfeddol pe bai unrhyw un o unrhyw blaid wleidyddol yn ceisio darostwng gwasanaethau iechyd meddwl neu'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl. Mae'n amgylchedd heriol i weithio ynddo, yn enwedig pan edrychwch ar y cynnydd yn y galw am y gwasanaethau hynny. Ond mae'n hanfodol fod yna gynllun cydlynol ar waith i gadw at y teimladau a fynegwyd yn y Siambr hon oddeutu 10 mlynedd yn ôl ynglŷn â dileu'r loteri cod post, ynglŷn â deall arwyddocâd y galwadau ar y gwasanaethau, boed yn y gymuned neu mewn lleoliad acíwt. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, pan fydd yn crynhoi'r ddadl y prynhawn yma, yn rhoi hyder inni, fel Gweinidog ac fel adran—ac ar draws y Llywodraeth, mewn gwirionedd, oherwydd mae hyn yn ymwneud â mwy na'r adran iechyd, mae hyn ar draws y Llywodraeth—fod yna gynllun cyfunol ar waith i godi'r targedau cyflawni fel y gall pobl, yn y pen draw, gael yr amseroedd aros is a chael yr ymateb sydd ei angen arnynt pan fo argyfwng yn digwydd a phan fo aelodau teuluol yn chwilio am gymorth i gefnogi un o'u hanwyliaid sy'n wynebu'r argyfwng hwnnw.

Un o'r pethau pan gyhoeddwyd y Senedd Ieuenctid yn ddiweddar a phan gyfarfûm ag aelodau'r Senedd Ieuenctid o fy ardal etholiadol fy hun—roedd pob un o'r aelodau'n nodi gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc fel maes blaenoriaeth, ynghyd â darparu cymorth iechyd meddwl yn yr ysgol, yn arbennig. Un peth nad oedd y Mesur iechyd meddwl yn ei roi, mae'n amlwg, oedd yr hawl honno i unrhyw un o dan 18 oed. Roedd yn bwynt y ceisiwyd edrych arno ar y pryd, ac mae'n faes pryder problemus sy'n tyfu eich bod yn edrych ar yr amseroedd aros i bobl ifanc gael mynediad at gymorth a chefnogaeth, rydych yn edrych ar yr amseroedd aros i'r teuluoedd gael y cymorth hwnnw, ac nid yw'n digwydd, Weinidog. Rwy'n gobeithio, unwaith eto, yn eich ymateb i hyn, y gallwch roi rhyw oleuni i ni ynglŷn â pha ddatblygiadau rydych yn eu rhoi ar waith i gefnogi pobl mewn addysg sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, oherwydd, yn amlwg, rydym yn gwybod ei fod yn faes sy'n peri pryder cynyddol. Fel y dywedais, pan gyfarfûm ag aelodau a etholwyd o fy ardal etholiadol fy hun i'r Senedd Ieuenctid, roeddent yn bryderus iawn ynglŷn â'r maes hwn ac yn ei restru fel un o'u tair prif flaenoriaeth.

Hefyd, wrth edrych ar yr adroddiad ac edrych ar beth o'r iaith sydd i'w gweld yn benodol, rwy'n credu bod yna ddarpariaeth, yn amlwg, ac yn gwbl briodol felly, ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg a Saesneg, ond fel cynrychiolydd ar gyfer Canol De Cymru—ac mae'r Gweinidog ei hun yn cynrychioli un o'r cymunedau mwyaf amrywiol yng Nghymru, De Caerdydd a Phenarth—mae'n bwysig gwneud yn siŵr fod ieithoedd yn cael eu cynnwys yn y ddarpariaeth ac nad yw pobl yn cael eu heithrio oherwydd yr iaith y maent yn ei siarad. Rwy'n derbyn bod hwn yn faes anodd iawn i weithio gydag ef, oherwydd weithiau rydych yn sôn am ychydig iawn o bobl, ond mae angen darparu gwasanaethau cyfieithu gwell ym maes iechyd meddwl, fel nad yw pobl yn cael eu heithrio yn sgil diffyg cyfieithydd addas i fod yno lle bo angen ac yn y gymuned.

Ac os caf orffen ar y pwynt olaf yn ogystal, rwy'n meddwl mai un o'r pethau a fyddai'n helpu meddygon teulu yn enwedig i ddarparu gwasanaeth gwell yw therapïau siarad, oherwydd dyma faes arall y mae gennyf ddiddordeb personol ynddo. Rwy'n gresynu bod pobl yn aml iawn yn cael eu trin yn feddygol drwy gyffuriau neu ryw fodd arall, pan fo therapïau siarad yn gallu bod o gymaint o gymorth i bobl ac yn eu cadw allan o'r sector acíwt mewn gwirionedd, os cânt therapi siarad mewn modd amserol. Ac nid oes unrhyw gofrestr genedlaethol ar gael i allu cynnwys gweithwyr proffesiynol—therapyddion neu gwnselwyr—arni. Mae llawer o gyrff cydnabyddedig yn rhoi achrediad, ond os ydych yn feddyg teulu, er enghraifft, ni cheir unrhyw gofrestr genedlaethol y gallwch ei defnyddio i gyfeirio rhywun ati, i gael mynediad at gymorth drwy therapïau siarad. Credaf fod hynny'n ddiffyg yn y system—ac efallai y bydd rhywun am fy nghywiro—y gellid ei unioni'n gymharol syml drwy roi cofrestr o'r fath ar waith. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog gymryd rhan yn hynny hefyd wrth iddo annerch y Cynulliad heddiw. Ond rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, ac yn benodol yr ysbryd y cynhaliwyd y ddadl ynddo, oherwydd pan fydd un o bob pedwar ohonom yn cael episod o salwch meddwl ar ryw adeg yn ystod ein hoes, mae'n ddyletswydd arnom oll fel deddfwyr i sicrhau, pan fyddwn yn pasio deddfwriaeth, ei bod yn cyflawni, a phan fydd problem yn codi, ein bod yn rhoi sylw iddi.

17:55

Diolch ichi, Lywydd. Rwy'n falch o gael cyfle heddiw i ailddatgan cydnabyddiaeth y Llywodraeth hon i bwysigrwydd parhau i wella gwasanaethau iechyd meddwl. Hoffwn ddweud fy mod yn croesawu naws gyffredinol y ddadl heddiw, gyda llawer o gyfraniadau ystyrlon, gan gynnwys y rhai rwy'n cytuno â hwy a'r rhai lle nad wyf yn cytuno â phob rhan unigol. Credaf ei bod yn ddefnyddiol cael dadl wirioneddol iach lle ceir gwahaniaeth barn ac yn gyffredinol, rwy'n credu, uchelgais a rennir i weld gwelliannau i brofiadau a chanlyniadau drwy ein gwasanaethau iechyd meddwl, ac yn bwysig, y pwynt nad mater ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn unig yw hwn. Yn aml, mae'r gwelliannau a'r pethau sy'n gwneud pobl yn wydn mewn perthynas â'u hiechyd meddwl yn ymwneud â mwy na'r gwasanaeth iechyd yn unig.

Nawr, un o brif rannau'r cynnig a'r ddadl heddiw yw'r adroddiad thematig gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae'n amlygu themâu a materion allweddol sy'n deillio o'u cyd-adolygiadau o dimau iechyd meddwl cymunedol. Mae'r cyd-adolygiadau'n adlewyrchu natur integredig y gwasanaethau hyn rhwng byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol, ond mae'r adroddiad thematig yn canolbwyntio ar wasanaethau i oedolion. Wrth gwrs, rydym wedi trafod cleifion mewnol CAMHS yn gynharach heddiw yn y cwestiwn amserol, ac mae gennym lawer iawn o waith ar y gweill i geisio gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar gam cynharach, mwy ataliol yn y cyd-grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol mewn ymateb i'r adroddiad 'Cadernid Meddwl'. Mae'r adroddiad thematig yn cydnabod bod cynnydd yn digwydd, gan gynnwys cydweithredu cynyddol rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ac ar ddarparu gwasanaeth ymatebol yn ystod cyfnod pan ydym yn wynebu craffu a galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl. Mae'r adroddiad yn gwneud 23 o argymhellion ar gyfer gwella, a gallaf gadarnhau bydd y Llywodraeth yn ymateb i bob un o'r argymhellion hynny.

Nawr, mewn ymateb cychwynnol i'r adroddiad, ysgrifennodd prif weithredwr GIG Cymru at Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar 20 Mawrth. Roedd yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru y bydd byrddau iechyd yn ymgysylltu â phartneriaid awdurdod lleol i ddarparu cynlluniau gwella cadarn fel eu hymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad, a gallaf gadarnhau y bydd cefnogi timau iechyd meddwl cymunedol yn faes blaenoriaeth yn ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Byddwn yn ymgynghori ar y cynllun cyflawni o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, a bydd y cynllun cyflawni hefyd yn datblygu'r argymhellion o'r adolygiad diweddar o gynllunio gofal a thriniaeth gan uned gyflawni'r GIG. I gefnogi'r gwelliannau hyn, byddwn yn targedu buddsoddiad ychwanegol dros y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd hwnnw'n cynnwys arian i gynyddu'r ystod o therapïau seicolegol a mynediad atynt, a bydd yn adeiladu ar y £5.5 miliwn ychwanegol a ddarparwyd yn y flwyddyn sydd newydd ddod i ben.

Mae'r cyd-adolygiad hefyd yn gwneud argymhellion mewn perthynas â system wybodaeth gofal cymunedol Cymru. Rydym wedi ymrwymo arian sylweddol i gefnogi gweithredu'r system TGCh hon ar draws ein 22 awdurdod lleol a'n saith bwrdd iechyd. Mae'n ymdrin â'r rhyngwyneb rhannu gwybodaeth o fewn y byrddau iechyd a rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, gan gynnwys ein tîm iechyd meddwl cymunedol. Hoffwn ymateb i rai o'r pwyntiau am y set ddata graidd ar gyfer iechyd meddwl yr ydym wedi ymrwymo i'w chwblhau. Bydd yn cynnwys nodi targedau priodol ac ystyrlon a datblygu dull sy'n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau o gyflawni'r gwaith hwn. Datblygir yr eitemau data hyn gan fwrdd llywio prosiect cenedlaethol amlasiantaethol, ac ar hyn o bryd maent yn mynd drwy'r bwrdd safonau arloesedd ar gyfer Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu casglu mewn ffordd gyson. Nid wyf eisiau gorfod esbonio sut y mae'r ystadegau a gynhyrchwn yn y pen draw yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Mae'r gwaith yn digwydd fesul cam ar hyn o bryd ond mae disgwyl iddo ddod i ben erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon, a bydd y set ddata'n cael ei chynnwys o fewn y system wybodeg ar gyfer gofal cymunedol yng Nghymru. O safbwynt iechyd meddwl, rydym wedi cyflogi staff i gefnogi gwaith yn uniongyrchol gyda thimau ledled Cymru drwy gydol 2019 i dreialu casglu data a ffurflenni gan ddefnyddio ein systemau TG presennol i baratoi ar gyfer gweithredu o fewn y system wybodaeth ar gyfer gofal cymunedol yng Nghymru. [Torri ar draws.] Fe wnaf.

Bydd hyn yn cynnwys gwaith i lywio ymarfer sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, yn casglu gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o wasanaethau ac yn gwella cysondeb wrth ddefnyddio mesurau canlyniadau ac i fesur cynnydd a gwellhad. Byddwn yn anelu i ymestyn y gwaith hwnnw ar draws yr holl dimau yn 2020-21, fel bod data iechyd meddwl yn cael ei gyhoeddi'n rheolaidd pan fydd y system yn gweithredu'n llawn ac yn briodol.

18:00

Diolch am gael y newyddion diweddaraf ar hynny, ond yn amlwg mae wyth mlynedd wedi mynd heibio ers inni gael ymrwymiad clir i gyflwyno'r set ddata graidd hon, a bydd llawer o bobl yn teimlo nad yw hynny'n rhoi digon o sylw neu flaenoriaeth, a dweud y gwir, i wneud hyn. Does bosib nad oes darnau o wybodaeth y gellir eu cyhoeddi yn y cyfamser—cyfres dros dro, os mynnwch, o dargedau—gyda rhywfaint o ddata perfformiad clir ynghlwm wrthynt cyn y cyhoeddir y set ddata graidd. A ydych yn derbyn y gallu i allu cynhyrchu rhywbeth yn y cyfamser sy'n ystyrlon, efallai yn erbyn perfformiad y targedau sydd eisoes gennych? Mae'n destun pryder yn fy marn i nad oes digon o wybodaeth gan fyrddau iechyd fel Betsi Cadwaladr—bwrdd sy'n destun mesurau arbennig am ei berfformiad ym maes iechyd meddwl—a buaswn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthym: a allwch roi rhywbeth yn y cyfamser, ac yn enwedig, a allwn gael rhywfaint o wybodaeth gan Betsi Cadwaladr?

Credaf fod nifer o gwestiynau ychwanegol yno, Lywydd. Gallaf ddweud, fodd bynnag, ein bod eisoes wedi darparu data perfformiad. Caiff ei gyhoeddi, ac rwy'n fwy na pharod i ystyried eto os oes yna bethau y gallem eu gwneud yn y cyfamser. Ond fy nod yw cyhoeddi data rheolaidd ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl sy'n wirioneddol ddefnyddiol, ac er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid iddo gynnwys ymgysylltu ag amrywiaeth o bobl wahanol. Byddai'n llawer gwell gennyf gael rhywbeth sy'n ddefnyddiol na rhywbeth sy'n gyfleus neu'n gyflym.

Nawr, canolbwyntiodd y cyd-adolygiad thematig ar dimau iechyd meddwl cymunedol. Mae'n bwysig deall y galw cyffredinol am wasanaethau iechyd meddwl y cyfeiriwyd ato ar sawl achlysur yn y ddadl heddiw. Dengys data rheoli fod timau datrys argyfwng a thriniaeth yn y cartref wedi gweld cynnydd yn y nifer o atgyfeiriadau a nifer yr asesiadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, derbyniodd y gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol oddeutu 20,000 o atgyfeiriadau ar gyfer asesiadau argyfwng, ac ar gyfartaledd, ceir mil o atgyfeiriadau ychwanegol bob mis at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o gymharu â 2013. O ran gweithgarwch, mae dros 200,000 o bobl wedi cael eu gweld gan wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol ers eu cyflwyno, gyda 100,000 o bobl yn cael ymyriadau therapiwtig. Mae'r galw cynyddol hwnnw yn rhannol yn adlewyrchu gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl yn ein cymdeithas, ac yn rhannol y ffactorau ychwanegol sy'n ysgogi pobl i ofyn am fwy o gymorth ar gyfer nifer fwy, o bosibl, o achosion o heriau iechyd meddwl, a pharodrwydd i ofyn am help sy'n gadarnhaol mewn gwirionedd. Mae hyn hefyd yn ganlyniad i'n dull o ddarparu mwy o gymorth yn y gymuned. Gwelsom gynnydd yn yr angen am wasanaethau cymunedol, ac rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sydd angen eu derbyn i'r ysbyty.

I gydnabod y galw cynyddol, rydym yn parhau i wario mwy ar iechyd meddwl nag unrhyw ran arall o'n gwasanaeth iechyd gwladol. Rydym yn parhau i glustnodi cyllid ar gyfer iechyd meddwl. Mewn gwirionedd, gwyddom fod byrddau iechyd yn gwario mwy na'r hyn a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl, ac ers 2016-17, mae cynnydd o 12.5 y cant wedi bod yn yr arian a glustnodwyd. Yn y flwyddyn ariannol nesaf, bydd yr arian a glustnodir yn £679 miliwn—cynnydd gwirioneddol ac ystyrlon a pharhaus yn y cyllid. Ac mae hynny'n cynnwys £14.3 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad wedi'i dargedu ar gyfer gwella meysydd blaenoriaeth allweddol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a'r glasoed, therapïau seicolegol, amenedigol, argyfwng a'r tu allan i oriau. Ac ar wasanaethau argyfwng a thu allan i oriau, dyma un o brif flaenoriaethau GIG Cymru yn y flwyddyn i ddod. Mae'n adeiladu ar ein gwaith blaenorol yn sefydlu timau argyfwng CAMHS a gwasanaethau cyswllt seiciatrig i oedolion, sy'n gweithio ar benwythnosau a'r tu allan i oriau.

Nawr, rwy'n deall ac yn awyddus i gydnabod ac ailadrodd y sylwadau am barch cydradd rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ac i ailddatgan ymrwymiad ein Llywodraeth i gyflawni hynny—lefel gyfartal o ofal, boed ar gyfer iechyd corfforol neu iechyd meddwl.

Felly, rwy'n croesawu'r pwyslais parhaus ar iechyd meddwl. Edrychaf ymlaen at ymgysylltiad yr Aelodau yn y cam nesaf o 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r ymgynghoriad cysylltiedig. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau gwirioneddol a chynaliadwy yn y gwasanaethau, y profiadau a'r canlyniadau. A byddwn yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl, er mwyn cynnal gofal o'r ansawdd y byddai pob un ohonom yn ei ddisgwyl.

18:05

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddweud bod Darren Millar wedi dechrau'r ddadl hon drwy ddweud bod dadleuon iechyd meddwl ymhlith y dadleuon gorau a gawn yn y Cynulliad? A bu'r Gweinidog yn hael wrth gydnabod naws adeiladol y ddadl hon, a chredaf y byddem oll yn cytuno iddi fod yn ddadl ystyrlon a phriodol iawn. Aeth Darren ymlaen i siarad hefyd am y straeon personol a roddwyd gan nifer o ACau dros y blynyddoedd mewn perthynas â'u problemau iechyd meddwl eu hunain—fy hun yn eu plith—a chredaf ei bod hi'n bwysig iawn i bobl gyhoeddus, ac enwogion yn enwedig, i siarad allan. Mae'n caniatáu inni chwalu'r mythau sydd ynghlwm wrth y mater, ac mae hynny'n bwysig tu hwnt. Aeth Darren ymlaen wedyn i siarad am yr ymgyrch 'Amser i Newid', sydd, wrth gwrs, â'r math hwnnw o amcan wrth ei wraidd. Yna siaradodd am bwysigrwydd y ddadl hon gan ein bod yn aml yn anwybyddu pwysigrwydd timau iechyd meddwl cymunedol ac yn benodol, tynnodd sylw at yr angen am dimau argyfwng 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, y cyfeiriodd Aelodau eraill a'r Gweinidog ato hefyd.

Dywedodd Helen Mary fod amseroedd aros yn broblem go iawn, a chredaf ei bod yn briodol inni ganolbwyntio ar hynny. Mae angen gwella'r data hwnnw ac mae angen inni sicrhau bod y terfyn amser ar gyfer y cynllun data newydd yn digwydd cyn gynted â phosibl. A threuliodd y Gweinidog beth amser yn sôn am hynny yn yr ymateb hwn.

Soniodd Mohammad Asghar am yr amrywioldeb a'r anghysondeb ar draws Cymru, sy'n her go iawn, rwy'n credu—fod angen inni godi safonau yn gyffredinol a sicrhau bod pobl yn cael gwasanaeth o'r radd flaenaf lle bynnag maent yng Nghymru.

Soniodd David Rees am yr angen am ymateb amserol i gyd-adroddiad AGIC/AGC, a gwahoddodd y Gweinidog i ddweud pryd y byddai'r Llywodraeth yn ymateb. Mae arnaf ofn y bydd yn rhaid eich siomi ar yr achlysur hwn oherwydd ni chawsoch wybod yn union pa bryd fyddai hynny'n digwydd. Er hynny, er tegwch i'r Gweinidog, fe roddodd rai manylion ynglŷn â dull y Llywodraeth o weithredu. Ac yna siaradodd David am le teulu a gofalwyr yn hyn, ac yn aml nid ydynt hyd yn oed yn gwybod sut i gysylltu â'r timau argyfwng a thu allan i oriau. Mae hwnnw'n fethiant allweddol.

Soniodd Janet am y ffaith bod gan bob math o bobl anawsterau iechyd meddwl. Mae pawb ohonom yn agored i niwed. Byddai'r rhan fwyaf ohonom, o orfod wynebau ffactorau penodol, yn debygol o ddioddef rhyw ffurf ar drallod meddwl neu salwch meddwl. Ac mae hynny'n wirioneddol bwysig. Ac yna fe siaradodd yn briodol iawn yn fy marn i am yr angen am fwy o fodelau iechyd meddwl mewn hyfforddiant meddygol, a chredaf fod y pwyntiau a wnaethoch yno wedi creu argraff ar bob un o'r Aelodau.

Dywedodd Andrew R.T. ei bod hi braidd fel pe baem wedi bod yma o'r blaen: 2007, Jonathan Morgan yn ennill y balot. Rwyf bob tro braidd yn amheus o'r ymadrodd eich bod yn 'ennill balot', ond beth bynnag, cafodd ei enw ei ddewis, a dewisodd Fesur iechyd meddwl. A chefais y fraint o gadeirio'r pwyllgor trosolwg deddfwriaethol a edrychodd ar hynny. Ac roedd yn garreg filltir wirioneddol bwysig mewn gwirionedd yn ein gwaith. A soniodd Andrew hefyd am werth consensws gwleidyddol yn hyn o beth.

A gaf fi gymeradwyo ymateb y Gweinidog at ei gilydd? Credaf iddo geisio mynd i'r afael â'r prif gwestiynau a godwyd—nid er boddhad llwyr i ni o reidrwydd ym mhob achos, ond ni chredaf iddo osgoi unrhyw beth. Mae'r cyd-adroddiad thematig yn cydnabod bod cynnydd yn cael ei wneud, ond bydd y Llywodraeth yn ymateb i bob un o'r argymhellion ac yna bydd yn datblygu cynllun cyflawni. Credaf fod hynny'n bwysig. Mae gwaith ar y set ddata'n parhau a rhaid iddo fod yn drylwyr. Yn amlwg, mae'n rhaid i'r terfyn amser adlewyrchu hynny, ond rydym ei angen cyn gynted â phosibl.

Cydnabu hefyd fod angen i dimau argyfwng a thu allan i oriau fod yn brif flaenoriaeth ac yna fe wnaeth bwynt pwysig iawn yn fy marn i. Fe fyddaf yn gorffen gyda hyn, a diolch i chi am eich amynedd, Lywydd. Wrth i'r galw gynyddu, i raddau helaeth am ein bod bellach yn siarad mwy am iechyd meddwl ac rydym yn ceisio cael mwy o bobl i ofyn am gymorth, rydym yn gwella'r math o gymorth y gallant ei gael gan y timau gofal sylfaenol, ac yn yr achos hwn, y timau gofal cymunedol. Felly, mae'r ffaith ein bod yn gweld cynnydd yn y galw yn dangos i raddau helaeth ein bod yn gwella, o leiaf o ran y canfyddiad cyffredinol o bwysigrwydd gofyn am gymorth. Gyda hynny, rwy'n dod â'r ddadl i ben.

18:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gohirio'r bleidlais felly tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, rwy'n symud i'r bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, un yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig. 

NDM7032 - Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 1 Ebrill 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9: O blaid: 48, Yn erbyn: 1, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod unigol. Mae'r cynnig yma wedi'i gyflwyno yn enw Bethan Sayed. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, 18 yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig. 

NDM7021 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: O blaid: 29, Yn erbyn: 2, Ymatal: 18

Derbyniwyd y cynnig

Yr eitem nesaf o bleidleisio yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dimau iechyd meddwl cymunedol, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig. 

NDM7028 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, saith yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant. 

NDM7028 - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 15, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2—galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

NDM7028 - Gwelliant 2: O blaid: 22, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3—pleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3. 

NDM7028 - Gwelliant 3: O blaid: 49, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7028 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Cyd Adolygiad Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol.

2. Yn nodi ymhellach y nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru.

3. Yn cydnabod yr angen i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd meddwl;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol a gwella’r mynediad at y cymorth hwnnw, gan gynnwys:

a) parhau i gynyddu’r gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad, yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn 2019;

b) sicrhau bod trefniadau ar waith i ymateb i argyfyngau iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym mhob un o’r adrannau achosion brys mawr;

c) gweithio ar frys gyda’r byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a

d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.

e) sicrhau bod timau iechyd meddwl cymunedol yn cysylltu â gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yn erbyn asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a phrosesau gwneud penderfyniad sydd yn aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM7028 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 46, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A wnaiff Aelodau sy'n gadael y Siambr—os ydych chi'n gadael—wneud hynny'n dawel ac yn gyflym?

Os gall yr Aelodau wneud eu mân siarad y tu allan i'r Siambr, rydym ar fin symud ymlaen at y ddadl fer.

18:15
10. Dadl Fer: Pwy sy'n elwa ar dai cymdeithasol?

Diolch, Lywydd. Ochr yn ochr â materion yn ymwneud â'r GIG, mae'r rhan fwyaf o fy mag post yn cynnwys materion yn ymwneud â thai cymdeithasol. Mae problemau cyson gyda chymdeithasau tai wedi fy arwain i holi pwy sy'n elwa o dai cymdeithasol. Yn fy mhrofiad i, yn sicr nid yw'r tenant yn elwa. Pan oedd tai cymdeithasol yn cael eu darparu gan gynghorau lleol, nid elw oedd yn eu gyrru, ac ar y cyfan, roeddent yn ymateb i anghenion eu tenantiaid.

Pan gafodd tai cyngor eu trosglwyddo ar raddfa eang ar ddechrau'r degawd hwn gan arwain at greu cymdeithasau tai, roedd i fod yn ddechrau cyfnod newydd ar dai cymdeithasol. Byddai'r stoc dai'n cael ei diweddaru a'i chynnal, ac elw gweithredu'n cael ei ailfuddsoddi i greu stoc dai newydd, gan roi diwedd ar y rhestrau aros o bump i 10 mlynedd am dai cymdeithasol. Yn anffodus, ni wireddwyd y weledigaeth fawr hon. Gwelodd rhai rhannau o Gymru gynnydd bychan yn y stoc dai, tra bod eraill wedi gweld y stoc dai'n lleihau. Dylem fod wedi bod yn adeiladu rhwng 3,000 a 4,000 o unedau tai cymdeithasol newydd bob blwyddyn. Dros y 10 mlynedd diwethaf, dim ond 6,000 o unedau tai cymdeithasol newydd a adeiladwyd.

Nid yw ansawdd tai cymdeithasol wedi gwella'n sylweddol ychwaith. Mae llai na 64 y cant o dai cymdeithasol yn cydymffurfio'n llawn â safon ansawdd tai Cymru. Mae bron 10 y cant yn methu cydymffurfio: 21,000 o deuluoedd sy'n gorfod byw mewn tai y bernir eu bod yn anaddas. Gyda hyn oll mewn golwg, nid yw'n syndod fy mod yn cael llu o gwynion am landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn fy rhanbarth. A'r tramgwyddwr gwaethaf rwyf am ei enwi yw Tai Tarian.

Crëwyd Tai Tarian, Cartrefi Castell-nedd Port Talbot yn ffurfiol, yn dilyn trosglwyddo 9,200 o dai cyngor gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn 2011. Mae Tai Tarian ar hyn o bryd yn rheoli 8,978 eiddo. Y llynedd, cyhoeddasant eu bod yn datblygu 37 o gartrefi newydd, gyda 10 ohonynt yn cael eu hadeiladu ar safle tai gwarchod sy'n cynnwys 20 eiddo. Nid yw 14 y cant o'u heiddo'n cydymffurfio'n llawn â safon ansawdd tai Cymru. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno ynglŷn â faint o amser y mae'n ei gymryd i gael gwaith atgyweirio wedi'i wneud. Dywedwyd wrth un etholwr y byddai'n rhaid iddynt aros am dair blynedd am waith atgyweirio. Ac mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno am renti cynyddol. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno ynglŷn â'r codiadau didostur yn y ffioedd cynnal a chadw.

Yn Hogan House, yn Aberafan, mae un neu ddau o'r fflatiau mewn dwylo preifat. Mae Tai Tarian yn mynnu dros £6,000 gan bob un o'r trigolion am waith ailwampio ar Hogan House. Sut ar y ddaear y mae rhywun sy'n byw ar bensiwn pitw'r wladwriaeth i fod i ddod o hyd i filoedd o bunnoedd nad ydynt wedi cyllidebu ar ei gyfer? Er mwyn popeth, fflat bach yw hwn, a brynwyd gan rywun a aberthodd wyliau blynyddol a llawer o foethau eraill y bydd rhai ohonom yn eu cymryd yn ganiataol er mwyn bod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Dywedir wrthynt yn awr os nad ydynt yn hoffi hynny, gallant naill ai adael neu werthu eu fflat i Tai Tarian. Ac mae'r sinig ynof yn meddwl tybed ai dyna yw'r nod: bwlio perchnogion preifat i adael.

Mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno am fethiant i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chlywais gan ddau o'r trigolion fod rhywun wedi ymosod arnynt, ar wahân. Yn hytrach na symud y tenant problemus, gofynnodd y gymdeithas dai os hoffai'r dioddefwyr symud.

Mae etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno am gyflwr eu heiddo yn sgil gwelliannau honedig. Cysylltodd un etholwr â mi i gwyno bod cael gwared ar y balconïau oddi ar y bloc o fflatiau wedi gadael eu heiddo mewn cyflwr peryglus. Ac roedd preswylwyr wedi cwyno wrth Tai Tarian, yn gofyn am osod rhwystrau diogelwch i atal rhywun rhag syrthio i'w marwolaeth. A ddwywaith, anwybyddodd Tai Tarian y ceisiadau hyn.

Drosodd a throsodd, mae tenantiaid wedi dweud wrthyf fod Tai Tarian wedi bod yn rhwystrol, yn annymunol ac yn aml iawn yn gwbl sarhaus. Rwyf wedi bod yn gofyn i arweinwyr Tai Tarian ers y llynedd am gopïau o'u cofnodion hyfforddi ar gyfer staff rheng flaen er mwyn canfod pa hyfforddiant y maent yn ei gael mewn perthynas â thrin tenantiaid ag urddas a pharch—rhywbeth yr ydym yn cydymffurfio ag ef yn y Siambr hon. Hyd yma, ni chefais unrhyw fath o ymateb.

Mewn cyferbyniad, cododd problem gyda Coastal Housing a gafodd ei thrin yn hollol wahanol gan y sefydliad hwnnw. Roedd un o fy etholwyr wedi cwyno am y diffyg mynediad i'r anabl a achoswyd gan ddiffyg gwaith cynnal a chadw—roedd mieri wedi tyfu'n wyllt a phalmentydd rhy uchel yn cyfyngu ar fynediad i gadeiriau olwyn. Wrth gerdded trwodd, gwelais gannoedd o hen gynwysyddion petrol, olew a hylif gwrth-rewi. Pan gyflwynais dystiolaeth ffotograffig i Coastal Housing, cafodd y problemau eu datrys yn gyflym. Fodd bynnag, ni ddylai fod wedi cymryd ymyrraeth gan wleidydd i denantiaid gael eu problemau wedi'u datrys, ond o leiaf fe wnaeth Coastal Housing weithredu, yn wahanol i Tai Tarian.

Tra oedd hyn yn digwydd, gwnaeth Tai Tarian elw o £5.8 miliwn. Wrth gwrs, nid ydynt yn ei alw'n elw; 'gwarged gweithredu' ydyw. Ond mae hynny ar ôl ichi ystyried cyflog y cyfarwyddwyr: mae'r prif weithredwr yn ennill mwy na'r Prif Weinidog a'r uwch gyfarwyddwyr yn ennill mwy na dwywaith cyflog meddyg teulu.

Felly, gofynnaf i chi pwy sy'n elwa o dai cymdeithasol. Y tenantiaid sydd i fod i elwa, y rhai sydd mewn angen dybryd am dai, a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi. Yn lle hynny, y cyfan y mae fy etholwyr yn ei weld yw tai cymdeithasol yn cael eu defnyddio i wneud ychydig o bobl yn gyfoethog ar draul pawb arall.

Mae gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy'n gweithredu fel sefydliadau dielw botensial i helpu i leihau tlodi drwy sicrhau cyflenwad parod o dai o ansawdd uchel sy'n effeithlon o ran eu defnydd o ynni ac sydd felly'n gwarantu rhenti rhatach a biliau tanwydd is. Mae llawer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gwneud hyn a chymaint mwy, ond nid yw'r cyfan yn cael eu gweithredu cystal ac nid yw pob cymdeithas dai yn trin eu tenantiaid gyda'r urddas a'r parch y maent yn eu haeddu, ac nid oes digon ohonynt yn rhoi anghenion y tenantiaid hyn yn gyntaf.

Rhaid i hyn newid. Rydym yn wynebu argyfwng tai anferthol dros y degawdau nesaf, ac ni allwn fforddio gweld cymdeithasau tai yn gwneud cyn lleied. Rhaid i Lywodraeth Cymru osod set o ofynion ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau eu bod yn gwella'r stoc dai bresennol ac yn adeiladu'r 3,000 i 4,000 o gartrefi newydd sydd eu hangen bob blwyddyn, heb gamfanteisio ar denantiaid presennol.

Mae'n hen bryd sicrhau mai tenantiaid yn unig sy'n cael budd o dai cymdeithasol. Gofynnaf i Tai Tarian, os gwelwch yn dda, i edrych ar y ffordd y maent yn trin y tenantiaid hyn. Yr isafswm cyflog a thâl sylfaenol ac ati y mae'r tenantiaid hyn yn ei gael, ac maent yn haeddu urddas a pharch, ac nid ydynt yn eu cael, ac mae cynifer ohonynt wedi cysylltu â mi fel na all fod yn un neu ddau achos yn unig. Diolch.

18:20

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i edrych ar bwysigrwydd tai cymdeithasol a'i fanteision yma yn y Siambr heddiw. Nid yn aml y byddaf yn anghytuno ag Aelod sy'n cyflwyno dadl fer, ond cefais fy hun yn anghytuno'n chwyrn iawn â llawer o'r hyn a ddywedodd Caroline Jones. Rwy'n siŵr fod ganddi'r llwyth achosion unigol y mae'n sôn amdano, ac mae ffyrdd o ymdrin â hynny, ond rwy'n anghytuno'n gryf â'r sylwadau cyffredinol a wnaeth am y casgliadau y daw iddynt o'i llwyth achosion yn y sector.

I ateb y cwestiwn yn nheitl y ddadl, rwy'n credu'n gryf fod y gymdeithas gyfan yn elwa ar dai cymdeithasol. Rydym i gyd yn elwa ar system dai cymdeithasol fywiog, lwyddiannus lle mae gan gymaint o deuluoedd â phosibl fynediad at gartref diogel, cynnes a lle mae cymunedau wedi'u hintegreiddio. Rydym i gyd yn elwa ar gael cartrefi a fyddai fel arall y tu hwnt i gyrraedd rhai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed, pobl hŷn a phobl anabl.

Soniodd Caroline Jones am ychydig o ystadegau ar ddechrau ei chyfraniad, ac roeddwn am fynd ar eu trywydd. Yn gyntaf oll, ni wnaeth y trefniadau trosglwyddo stoc arwain at greu cymdeithasau tai—mae llawer o gymdeithasau tai wedi bodoli ers llawer mwy o amser na hynny. Fe wnaeth arwain, wrth gwrs, at greu rhai cymdeithasau tai, sef y rhai a dderbyniodd y trosglwyddiad stoc.

O ran safon ansawdd tai Cymru, mae 91 y cant yn cydymffurfio â honno hyd yma, ac nid ydym ar ddiwedd y rhaglen eto. Mae'n bwysig cofio na fyddem yn disgwyl 100 y cant o gydymffurfiaeth cyn diwedd y rhaglen ar gyfer hynny. Ac mewn gwirionedd, mae lefel cydymffurfiaeth y sector cymdeithasau tai bron yn 100 y cant. Felly, roeddwn am gywiro ychydig o'r ystadegau yno, a rhai o'r disgwyliadau o hynny.

Yn amlwg, ceir ardaloedd lle gallem gael mwy o gartrefi o'n buddsoddiad mewn tai, a dyna pam y comisiynwyd yr adolygiad o gyflenwyr tai fforddiadwy gennym y llynedd, a bydd yr argymhellion ar ei gyfer yn cael eu cyflwyno ym mis Ebrill. Ac mae yna resymau eraill sy'n gysylltiedig â pham nad ydym wedi gallu adeiladu tai cyngor neu dai cymdeithasol fforddiadwy cyn gyflymed ag y byddem wedi hoffi gwneud, rhesymau a ailadroddwyd yn y Siambr hon eisoes, ond fe soniaf amdanynt eto, sef y trefniadau'n ymwneud â'r ffordd y rheolwyd y cyfrifon refeniw tai. Mae cael gwared ar y cap wedi golygu ein bod wedi gallu anfon trefniadau gwahanol at bob un o'r awdurdodau tai lleol sydd â chyfrifon refeniw tai, ac i gael trafodaeth gyda'r cynghorau nad oes ganddynt gyfrifon refeniw tai ynglŷn â'r ffordd orau o symud ymlaen ar fater tai cymdeithasol. Felly, credaf fod y darlun yn llawer mwy cynnil nag y gallai cyfraniad Caroline Jones fod wedi eich arwain i gredu.

Hoffwn sôn ychydig mwy ynglŷn â pham y credwn y dylai tai cymdeithasol fod yn brif flaenoriaeth, a pham y mae'n brif flaenoriaeth i ni. Mae'n darparu cartrefi o ansawdd yn ogystal â'r cymorth sydd ei angen i sicrhau bod pobl yn gallu cynnal eu tenantiaethau a ffynnu. Mae'n effeithio'n gadarnhaol ar iechyd, iechyd meddwl ac addysg, a dyna pam fod Cymru bob amser wedi cefnogi tai cymdeithasol, ers i'r Cynulliad ddod i fodolaeth.

Rydym yn cydnabod bod tai cymdeithasol yn galw am lefel uwch o gymhorthdal gan y Llywodraeth, ac rydym yn gyfforddus ynglŷn â hyn. Rydym yn cefnogi'r rhai y gall ein buddsoddiad gael yr effaith fwyaf arnynt. Gall y buddsoddiad hwnnw leihau'r gost i'r trethdalwr mewn meysydd eraill o bosibl. Felly, rydym wedi codi'r safonau ym maes tai cymdeithasol. Mae safon ansawdd tai Cymru yn sicrhau, er enghraifft, safon inswleiddio categori D, ac yn yr iteriad nesaf o safon ansawdd tai Cymru, byddwn yn edrych ar ei godi i gategori A. Felly, nid oedd modd trawsnewid y stoc dros nos o lle'r oedd i gategori A, ond byddwn yn cael yr ail ran o hynny pan fyddwn yn trafod codi'r safon honno.

Mae'r gwaith adeiladu newydd ar dai a adeiladwyd gan gymdeithasau tai lleol, sef yr unig bobl a oedd yn gallu eu hadeiladu tan y newid rwyf newydd ei grybwyll, Ddirprwy Lywydd, wedi sicrhau bod pob cartref newydd yn cyrraedd y safon erbyn 2020, a bydd yr holl stoc bresennol yn ei chyrraedd erbyn 2036. Mae'n ddrwg gennyf, mae fy llygaid y drwg. Mae'n dweud 2036. Roeddwn yn meddwl ei fod yn dweud 2038.

Felly, rwyf am roi stop ar yr awgrym roedd Caroline Jones i'w gweld yn ei wneud, fod tai cymdeithasol rywsut yn is na'r safon, ac ati, oherwydd yn bendant nid yw hynny'n wir. Yn ystod yr amser cymharol fyr y bûm yn Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, rwyf wedi gweld drosof fy hun pa mor bwysig yw tai diogel o ansawdd da i iechyd a lles y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Cefnogir ein hagenda integreiddio gan £105 miliwn o'r gronfa gofal integredig, gyda'r nod o wella gwasanaethau cyhoeddus drwy wneud gweithio cydweithredol yn ofyniad penodol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd, tra'n caniatáu lle ar gyfer arloesi. Er bod y gronfa yn dechrau cefnogi atebion ar sail llety ar gyfer gofal cymdeithasol ochr yn ochr â rhaglenni cyfalaf iechyd a thai, rydym yn ei chefnogi i symud tuag at ddatblygu rhaglen strategol fwy graddadwy o fuddsoddiad cyfalaf gyda thai'n ganolog iddi. Rwyf am weld y dull ar sail llety wedi'i wreiddio yn y modelau gofal a ddatblygwn ar gyfer pobl a grwpiau sy'n agored i niwed. Roeddwn yn cytuno â Caroline Jones fod angen llety arbenigol ar grwpiau agored i niwed, a dyna'n union y mae ein cronfa gofal integredig yn anelu tuag ato.

Fe fydd pawb ohonoch yn ymwybodol ein bod, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Cartrefi rhent cymdeithasol fydd y rhan fwyaf o'r targed hwnnw, er fy mod yn cydnabod bod angen cartrefi ychwanegol ledled Cymru. Rydym wedi buddsoddi'n drwm mewn tai cymdeithasol ac mewn tai yn fwy cyffredinol yn ystod y tymor hwn, ond nid yw ein hadnoddau'n ddiderfyn. Rhaid inni feddwl yn greadigol ynglŷn â sut y gallwn gyflawni mwy o'n buddsoddiad ac mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi herio fy swyddogion i'w wneud. Mae'r her yn ganolog hefyd i'r adolygiad annibynnol o gyflenwyr tai fforddiadwy a gomisiynwyd gennym, ac a fydd yn cyflwyno'i adroddiad ddiwedd mis Ebrill.

Un maes lle rwy'n argyhoeddedig y gallwn weld cynnydd yn nifer y tai cymdeithasol a ddarperir yw drwy weld awdurdodau lleol yn adeiladu eto, ac yn hynny o beth rwy'n cytuno â Caroline Jones. Credaf fod angen i awdurdodau tai lleol ddechrau adeiladu cartrefi cymdeithasol unwaith eto. Gan fod y cap benthyca a osodwyd gan Lywodraeth y DU wedi cael ei ddiddymu yng Nghymru, gall awdurdodau ddechrau adeiladu unwaith eto, ac fe fyddant yn gwneud hynny. Cefais sgyrsiau da iawn ledled Cymru gydag awdurdodau lleol sy'n awyddus ac yn barod i wneud hynny. Gallant gael mynediad at gyllid cost isel hirdymor iawn drwy'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, a byddaf yn eu hannog i'w ddefnyddio er mwyn hybu prosiectau adeiladu tai cyngor uchelgeisiol ledled Cymru.

Rwyf hefyd yn cydnabod bod yna agweddau ar y modd y defnyddiwn ein stoc tai cymdeithasol nad ydynt yn berffaith ym mhob cwr o Gymru. Rwyf wedi bod yn glir mai fy uchelgais yw inni adeiladu digon o dai cymdeithasol safonol fel bod pawb sydd am eu cael yn gallu eu cael. Tan hynny, rhaid inni wneud y gorau a allwn i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o'n tai cymdeithasol i ddiwallu anghenion y rheini sydd eu hangen fwyaf.

Nid yw troi teuluoedd allan o dai cymdeithasol, yn enwedig mewn awdurdodau lleol sy'n landlordiaid tai cymdeithasol, yn gwneud unrhyw synnwyr. Pan fydd teulu wedi'i wneud yn ddigartref, maent yn debygol o gael eu symud i lety llai diogel neu lety dros dro hyd yn oed, ac yn y sefyllfa waethaf gallai hyn olygu gwesty gwely a brecwast. Mae gan yr awdurdodau ddyletswydd i gefnogi teuluoedd er mwyn atal digartrefedd neu ei liniaru lle na ellir ei atal. Mae atal go iawn yn golygu cynorthwyo teuluoedd i lwyddo i gynnal eu tenantiaethau ac aros yn eu cymunedau. Dyna y dylem fod yn ceisio ei gyflawni, a dyma'r pwynt y byddaf yn ei bwysleisio i awdurdodau lleol. Dyma sgwrs y byddaf yn ei chael gyda chymdeithasau tai hefyd.

Felly, soniodd Caroline Jones am un neu ddau o bethau penodol yn ei llwyth achosion y buaswn yn hapus iawn pe bai'n eu hanfon ataf, oherwydd hoffwn edrych yn fanylach ar y manylion penodol. Ond yn gyffredinol, nid ystyried troi rhywun allan am ymddygiad gwrthgymdeithasol yw'r ffordd ymlaen. Y ffordd ymlaen yw mynd i'r afael â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol a'i gadw dan reolaeth a chaniatáu i'r teulu barhau gyda'u tenantiaeth. Felly, i fod yn glir, credaf nad ydym ar yr un dudalen yn llwyr ar rai o'r pethau hynny.

Yn y cyfnod ansicr hwn, gyda Brexit heb ei ddatrys, rydym yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau bod tai cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth yng Nghymru. Gwn o ddadl ddiweddar fod llawer ohonom ar draws y llawr yn rhannu'r un dyheadau ar gyfer tai cymdeithasol ac rwy'n barod i weithio gyda'r Aelodau ar yr agenda hon.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, tai cymdeithasol o ansawdd da yw'r sylfaen ar gyfer teuluoedd a chymunedau cryf, y sylfaen ar gyfer iechyd da, a'r sylfaen ar gyfer addysg dda. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi'r ased hanfodol hwn sydd o fudd i bob un ohonom. Diolch.

18:30

Daeth y cyfarfod i ben am 18:31.