Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
20/02/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar effaith trafnidiaeth eco-gyfeillgar ar lefelau llygredd? OAQ53454
Diolch. Rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â’r camau gweithredu cynaliadwy sydd eu hagen er mwyn lleihau allyriadau trafnidiaeth, er enghraifft, drwy waith ar ein cynllun Cymreig i fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd, a'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar ddatgarboneiddio, a gadeirir gennyf, ac y mae'r Gweinidog hefyd yn aelod ohono.
Diolch, Weinidog, a chroesawaf y cyfle hwn i ofyn fy nghwestiwn cyntaf i chi yn y Siambr hon. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi fod lefelau llygredd plastig yn broblem fyd-eang, ond mae gan Gymru gyfle i arwain. Weithiau, mae angen inni hefyd edrych yn rhywle arall o ran sut rydym yn meddwl am drafnidiaeth mewn modd gwahanol. Yn Surabaya, y ddinas fwyaf ond un yn Indonesia, mae’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau wedi dod o hyd i ffordd wahanol o annog trigolion i ailgylchu gwastraff, gan roi teithiau bws am ddim i bobl yn gyfnewid am hen boteli plastig. O dan gynllun a lansiwyd gan Surabaya ym mis Ebrill, gall cymunedau ddefnyddio bysiau coch y ddinas drwy fynd â photeli plastig i derfynfeydd neu dalu'n uniongyrchol am docyn gyda photeli. Lywydd, mae tocyn bws dwy awr yn costio 10 cwpan plastig, neu hyd at bum potel blastig, yn dibynnu ar eu maint. Mae'r ddinas yn gobeithio cyflawni eu targed uchelgeisiol o ddod yn ddinas ddi-blastig erbyn 2020.
Wrth i’r Llywodraeth fuddsoddi yn nyfodol technoleg a thrafnidiaeth werdd, a wnaiff y Gweinidog hefyd drafod gyda Gweinidog yr economi, yn ogystal ag arweinwyr llywodraeth leol, sut y gallem efelychu system debyg yn y wlad hon mewn ardaloedd peilot yma, yn unol â Deddf cenedlaethau'r dyfodol?
Diolch. Yn sicr, mae’n fenter ddiddorol iawn. Cawsom sgwrs fywiog gyda swyddogion y bore yma yn ystod y cwestiynau llafar, a byddaf yn sicr yn trafod hyn gyda fy nghyd-Aelod, Ken Skates. Credaf ei bod hefyd yn bwysig trafod hyn gyda'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, sy'n amlwg yn arwain ar y rhan honno o'r portffolio, ond hefyd, gydag arweinwyr llywodraeth leol.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Hannah Blythyn hefyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar rinweddau cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diod yn gynharach yr wythnos hon, ac mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar yr un pryd, ond yn amlwg, mae plastig yn faes lle rydym wedi gwneud yn dda o ran ein hailgylchu. Mae gennym gyfraddau uchel iawn o ailgylchu plastig, felly rydym am osgoi canlyniadau anfwriadol.
Fel y clywsom yn y grŵp trawsbleidiol diweddar ar drafnidiaeth, o dan gadeiryddiaeth Russell George, bysiau a cherbydau nwyddau trwm sy'n cyfrannu fwyaf at lygredd diesel. Ac er bod lorïau'n cael eu newid am rai newydd yn weddol aml, nid yw’r un peth yn wir am fysiau. Yn y gorffennol, rhoddodd Llywodraeth Cymru gryn dipyn o arian i Gyngor Abertawe tuag at system Nowcaster—nid wyf wedi sôn amdani ers tro, felly roeddwn yn meddwl y dylid ei chrybwyll—a hyd y gallwn ddweud—efallai y bydd rhywun yn fy nghywiro yma—nid yw wedi cael ei defnyddio i ailgyfeirio traffig ar unrhyw adeg. Felly, yn fy marn i, mae’n system sydd wedi methu. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi arian i helpu cynghorau i uwchraddio eu trafnidiaeth gyhoeddus, os mynnwch, a sicrhau ei bod yn fwy gwrth-lygredd, yn hytrach na buddsoddi yn y systemau monitro hyn nad yw'n ymddangos eu bod wedi gwneud unrhyw wahaniaeth?
Mae'n sicr yn rhywbeth y buaswn yn fwy na pharod i’w drafod gyda fy nghyd-Aelod, Ken Skates.
Weinidog, fe sonioch chi am lefel y nitrogen deuocsid, ac fe fyddwch yn ymwybodol o astudiaeth yr Athro Paul Lewis ym Mhrifysgol Abertawe mewn perthynas â hyn—dengys ffigurau fod y lefelau’n uwch na’r terfynau diogel mewn 81 o 916 man, gan gynnwys wyth lle yn Sir Gaerfyrddin, gyda heol Felinfoel yn Llanelli yn un enghraifft. Pa werthusiad rydych chi a'ch swyddogion yn ei wneud o gamau fel y terfynau 50 mya ar rai cefnffyrdd a rhannau o'r M4 ers eu cyflwyno? A ydym yn gallu gweld pa wahaniaeth y mae'r rheini'n ei wneud eto?
Pa drafodaethau diweddar a gawsoch gydag awdurdodau lleol i wella'r gwaith o fonitro lefelau llygredd, gan y byddwch yn ymwybodol fod rhai cymunedau'n poeni bod ganddynt lefelau a all fod yn beryglus, ond nad oes monitro'n digwydd yno. Ac a ydych wedi rhoi mwy o ystyriaeth i'r angen am Ddeddf aer glân newydd i Gymru?
Diolch. Mewn perthynas â’r pum ardal sydd gennym ledled Cymru o ran y cyfyngiad cyflymder 50 mya, mae hwn yn amlwg yn faes a arweinir gan Ken Skates, ond mae gennyf un yn fy etholaeth fy hun, a gwn eu bod yn cael eu monitro'n agos iawn, ond nid wyf yn gwybod a oes unrhyw ffigurau wedi’u cyflwyno hyd yn hyn. Nodwyd mai’r cyfyngiadau cyflymder yw’r unig fesur a fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth â gwerthoedd y terfynau nitrogen deuocsid cyn gynted â phosibl. Credaf fod angen inni gyfleu’r neges ychydig yn well. Yn sicr, o ran yr un yn Wrecsam, nid yw pobl yn deall pam ein bod wedi rhoi’r cyfyngiad 50 mya ar waith yno, pam nad oedd yn cael ei orfodi, ai diogelwch oedd ei ddiben, neu allyriadau. Felly, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod gennym arwyddion, ac mae hynny’n rhywbeth rwyf wedi bod yn ei drafod gyda fy swyddogion.
Fe ofynnoch chi am Ddeddf aer glân, ac unwaith eto, roedd hynny’n rhywbeth ym maniffesto’r Prif Weinidog newydd rwy’n bwriadu mynd i'r afael ag ef wrth i ni symud ymlaen drwy’r tymor hwn, gan edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol sydd gennym.
2. Sut y mae cynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi Llywodraeth Cymru o fudd i gymunedau yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ53444
Diolch. Roedd 27 o'r 71 o geisiadau a gafwyd o dan gynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi yn llwyddiannus yn y cyfnod ariannu cyntaf, a weinyddwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Bydd wyth o'r prosiectau hyn yn cael eu cyflawni yn ne-ddwyrain Cymru, gan fuddsoddi £257,490 mewn prosiectau sy'n gwella'r amgylchedd, bioamrywiaeth, a lleihau gwastraff.
Diolch. Croesawaf y newyddion a gyhoeddwyd y mis diwethaf y bydd cyfanswm o 27 prosiect ledled Cymru yn derbyn grantiau yn y rownd gyntaf o gyllid, a godwyd gan gynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi Llywodraeth Cymru. Weinidog, sefydlwyd y cynllun arloesol hwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol lleol mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan warediadau i safleoedd tirlenwi, ac fe’i hariennir gan dreth gwarediadau tirlenwi newydd Cymru, a gymerodd le treth dirlenwi y DU ym mis Ebrill 2018. Felly, Weinidog, a allwch nodi sawl cais am arian a dderbyniwyd gan brosiectau yn Islwyn yn ystod y ddwy rownd gyntaf o gyllid? Ac a allwch nodi ymhellach pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Islwyn yn elwa o'r cynllun gwobrwyo hwn?
Diolch. Soniais yn fy ateb gwreiddiol mai Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru sydd â’r contract a'r cyfrifoldeb dros reoli a dosbarthu cyllid. Cafwyd nifer o geisiadau o'r ardal gyfagos, ond un cais yn unig a gafwyd o’ch etholaeth chi yn Islwyn yn ystod rownd 1. Yn anffodus, roedd y cais hwnnw'n aflwyddiannus. Mae un cais o Islwyn hefyd wedi'i gyflwyno yn rownd 2, ac mae’n mynd drwy'r broses asesu ar hyn o bryd. Rwy'n parhau i annog Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, fel y sefydliad sy’n cyflenwi, i ddarparu cyfle cyfartal i ymgeiswyr cymwys wneud cais i'r cynllun. Yn ôl y trafodaethau cynnar a gefais gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, roedd cryn dipyn o alw am y cynllun, ac maent wedi cadarnhau bod y ceisiadau o safon uchel iawn.
Rydych wedi dechrau rhywbeth nawr, Weinidog. Nid wyf yn gwybod a oes gennych unrhyw ffigurau yn y ffeil honno sy'n berthnasol i fy etholaeth i hefyd—mae'n debyg y bydd Aelodau Cynulliad eraill yn gofyn yr un peth. Os nad oes gennych unrhyw ffigurau, naill ai yn awr neu'n hwyrach, buaswn yn gwerthfawrogi'n fawr os gallech gysylltu â mi ynglŷn â chyfraddau defnydd o’r cynllun yn fy ardal. O ran y cynllun cymunedol a'r manteision cyffredinol, mae hyn yn amlwg yn syniad da, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dilyn y llwybr iawn ar ôl i'r dreth gwarediadau tir gael ei datganoli. A allech ddweud wrthym beth rydych yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r cynllun ledled Cymru mewn cymunedau? Oherwydd ymddengys i mi mai ychydig iawn o wybodaeth sydd gan bobl am y dreth gwarediadau tirlenwi ei hun, ac efallai y byddai mwy o geisiadau'n dod i law pe bai mwy o ymwybyddiaeth. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn os gallech ddweud ychydig mwy wrthym am hynny.
O edrych ar fy rhestr, nid yw'n ymddangos bod unrhyw geisiadau llwyddiannus wedi dod o Sir Fynwy; nid wyf yn gwybod a gafwyd unrhyw rai a oedd yn aflwyddiannus, ond buaswn yn sicr yn fwy na pharod i edrych ar hynny, ac i ysgrifennu at yr Aelod.FootnoteLink Fel y dywedais yn fy ateb i Rhianon Passmore, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru sy'n gweithredu'r cynllun ar ein rhan. Maent yn ei hyrwyddo, maent yn ei hysbysebu, maent yn defnyddio ystod o fecanweithiau—gwn eu bod yn cynnal digwyddiadau penodol, mae ganddynt gylchlythyrau, maent yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Ac unwaith eto, cafwyd lefel uchel iawn o alw am y cynllun. Felly, credaf eu bod yn ei hyrwyddo mewn ffordd sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond wrth gwrs, gallwn wneud mwy bob amser, a byddaf yn sicr yn annog hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Weinidog rŷn ni fater o wythnosau nawr o adael yr Undeb Ewropeaidd, ac fel mae pethau'n sefyll, mae'n debyg y byddwn ni o bosib yn gadael heb gytundeb na chytundeb pontio hyd yn oed. Mae hyn wrth gwrs yn creu bygythiad clir iawn i'r amgylchedd yng Nghymru ac i'n hawliau ni fel dinasyddion. Oherwydd, hyd yn hyn, dŷn ni heb weld unrhyw gynigion gan Lywodraeth Cymru ar y strwythurau llywodraethiant amgylcheddol a fydd yn bodoli yng Nghymru ar ôl Brexit. Nawr, fe addawoch chi ymgynghoriad nôl yn yr haf y llynedd, wedyn yr hydref, wedyn yn y flwyddyn newydd. Rŷn ni nawr yn agosáu at ddiwedd Chwefror a dŷn ni'n dal i aros, ac, wrth gwrs, mae cloc Brexit yn dal i dician. Mae'r diffyg cynnydd yna yn sgandal, os caf i ddweud, ac, wrth gwrs, mi allai fod yn drychinebus i'r amgylchedd fan hyn yng Nghymru. A wnewch chi, felly, gadarnhau heddiw i'r Senedd yma pryd welwn ni yr ymgynghoriad hirddisgwyliedig yma ar lywodraethiant amgylcheddol yn ymddangos? A phryd fydd y Llywodraeth, o'r diwedd, yn amlinellu beth yw'ch bwriad chi o ran deddfu? A sut fyddwch chi yn cyflwyno cyfundrefn ar frys mewn sefyllfa o Frexit heb gytundeb?
Wel, mae cryn ddiddordeb gennyf yn y defnydd o'r gair 'sgandal' ac efallai y byddai 'llythyr a ddatgelwyd heb ganiatâd' yn dod i'r meddwl, ar ôl edrych ar eich gwefan y bore yma—gwefan Plaid Cymru, nid yr Aelod ei hun. Ni chredaf fod hyn yn sgandal. Rydym wedi gwneud llawer iawn o waith. Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â Brexit 'dim bargen'. Rwy’n cymryd y bygythiad hwnnw o ddifrif, a byddaf yn cynnal yr ymgynghoriad. Mae'n rhaid i chi dderbyn bod ein bwlch amgylcheddol yn wahanol iawn i unrhyw ran arall o'r DU oherwydd y ddeddfwriaeth rydym eisoes wedi’i rhoi ar waith, ond byddaf yn cynnal ymgynghoriad yn nes ymlaen y mis nesaf.
Wel, mae'n rhaid i mi dderbyn rhai pethau, ond credaf fod angen i chi dderbyn eich bod wedi cael ymhell dros ddwy flynedd i baratoi ar gyfer hyn, a bellach mae gennym oddeutu 37 diwrnod hyd nes y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, tan y bydd ein hamgylchedd yn agored i'r holl fygythiadau hyn y mae llawer ohonom yn pryderu amdanynt. Mae ein strwythurau llywodraethu amgylcheddol presennol drwy'r UE yn darparu mecanwaith am ddim a hygyrch i bob dinesydd allu mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol posibl gan eu llywodraethau neu eu hawdurdodau cyhoeddus. Nid yw’r maes hwn sy'n gweithredu yma yng Nghymru ar hyn o bryd yn cynnwys unrhyw beth tebyg i gwmpas a phŵer Comisiwn yr UE a Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd. Felly, y cwestiwn yw: i ble y trown ar ôl Brexit?
Roeddwn yn pryderu wrth eich gweld yn awgrymu mewn llythyr diweddar i bwyllgor yr amgylchedd fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn darparu mesurau lliniaru ar gyfer y cwynion hyn. Mae ein strwythurau Ewropeaidd presennol hefyd, wrth gwrs, yn monitro cydymffurfiaeth, a gallant ddirwyo, gallant orchymyn camau unioni lle nodir troseddau. Nid yw'r ombwdsmon yn gwneud hynny. O ystyried y bwlch sylweddol hwn, ac o ystyried y posibilrwydd y bydd pobl yng Nghymru yn colli eu hawliau o ddiwedd y mis nesaf i herio'r Llywodraeth yn y ffyrdd hyn, sut y byddwch yn sicrhau na fydd hawliau dinasyddion Cymru, diogelwch amgylchedd Cymru, yn lleihau ar ôl Brexit? A phryd y byddwn yn cael strwythur monitro a gorfodi cyfatebol, sydd â'r pŵer i fonitro cydymffurfiaeth, i dderbyn cwynion ac i’w gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus roi camau unioni ar waith a gwneud hynny oll, wrth gwrs, o safbwynt cwbl annibynnol?
Hoffwn sicrhau ein hymateb i fynd i'r afael â bylchau yn y swyddogaethau a gyflawnir gan Gomisiwn yr UE ar hyn o bryd. Ac rydych yn llygad eich lle—bydd bylchau i'w cael, ond fel rwy'n dweud, byddant yn llai o lawer nag mewn rhannau eraill o'r DU. Ond hoffwn sicrhau bod hyn nid yn unig yn rhywbeth sy'n helpu i gynnal a gwella ein hamgylchedd, ond ei fod yn gyson â'r setliad datganoli a'i fod yn ategu ein mecanweithiau atebolrwydd presennol. Mae'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn un ohonynt, mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn un arall, ac mae'r Cynulliad ei hun yn un arall.
Rwyf hefyd yn cael trafodaethau parhaus â Llywodraeth y DU ynglŷn â'u cynigion. Byddant yn cyhoeddi eu darpariaethau drafft tuag at ddiwedd y flwyddyn. Unwaith eto, mae'r darpariaethau drafft hynny yn ofynnol o dan y Ddeddf ymadael, ac mae hynny'n cynnwys datblygu cynaliadwy fel egwyddor. Ond rwyf wedi dweud yn gwbl glir nad wyf am weld unrhyw leihad o ran datblygu cynaliadwy neu ein safonau amgylcheddol yng Nghymru.
Ond pam fod hyn yn cymryd cyhyd? Rwy'n dweud eto, rydych wedi cael dros ddwy flynedd i baratoi ar gyfer hyn. Ymddengys bod popeth yfory ac yfory ac yfory. Efallai y dylem eich galw'n 'Weinidog maniana', oherwydd ble mae'r llinell derfyn mewn perthynas â hyn? Wel, dywedaf wrthych ble: ymhen 37 diwrnod pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, o bosibl, a heb y trefniadau hyn ar waith, bydd ein hamgylchedd yn agored i bob math o fygythiadau a bydd hawliau ein dinasyddion yn y cyswllt hwnnw yn lleihau.
Nawr, mae'r egwyddorion amgylcheddol presennol a'r hawliau cysylltiedig, wrth gwrs, yn berthnasol i'r holl awdurdodau cyhoeddus a holl brosesau gwneud penderfyniadau'r Llywodraeth. Ond heb gamau gweithredu, ni fydd hynny'n wir wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd, hyd yn oed mewn meysydd lle mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi deddfu ar gyfer rhai egwyddorion, er mewn cwmpas llawer culach, a chwmpas sydd bellach yn gwbl annigonol yn fy marn i o fewn, er enghraifft, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Maent wedi cytuno yn Lloegr i ddeddfu ar gyfer naw o egwyddorion a hawliau yn eu Bil egwyddorion a llywodraethu. Yr unig beth sydd gennym yng Nghymru, gyda dyddiau i fynd tan Brexit, yw darn gwag o bapur. Nid oes unrhyw esgusodion am hyn, Weinidog. Rydych wedi cael digon o amser i baratoi ar gyfer y posibilrwydd hwn. Felly, sut y byddwch yn sicrhau na cheir unrhyw gyfyngu ar y cwmpas o ran y ffordd y bydd yr egwyddorion a'r hawliau amgylcheddol hyn yn weithredol o'r eiliad nad ydym mwyach yn dod o dan gylch gwaith strwythurau'r UE sydd eisoes yn bodoli?
Fel y dywedais yn fy ateb cynharach, byddaf yn ymgynghori y mis nesaf. Dywedwch ein bod wedi cael dwy flynedd, ond mae'n rhaid ichi dderbyn faint o waith y mae Brexit wedi'i achosi i'r Llywodraeth. Rwy'n gwbl o ddifrif ynglŷn â'r senario 'dim bargen' wrth i'r dyddiau fynd heibio—rydych yn llygad eich lle. Byddwn yn ymgynghori. Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar hyn â rhanddeiliaid ers y refferendwm, ond nid wyf am geisio achub y blaen ar ganlyniadau unrhyw ymgynghoriad. Ond dywedaf unwaith eto: mae gennym ddeddfwriaeth ar waith mewn ffordd nad oes gan rannau eraill o'r DU.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n braf clywed gan feinciau Plaid Cymru fod y Ceidwadwyr yn San Steffan yn gweithredu ar yr amgylchedd a gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn gwrando ar y cwynion y bore yma ynghylch yr oedi cyn cyflwyno ei chynigion ei hun.
Ond wrth sôn am oedi, rwy'n awyddus iawn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet os gall nodi pryd y bydd yn gwneud penderfyniad ynglŷn â'r asesiad o'r effaith amgylcheddol roedd yn bwriadu, neu roedd ei dirprwy yn bwriadu, rhoi cyfarwyddyd arno, ynghylch boeler biomas y Barri, gan fod hyn wedi bod ar y gweill ers dros 12 mis bellach. Ar 14 Chwefror y llynedd, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod y Llywodraeth yn ystyried cyfarwyddo'r datblygwr i gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol. Pan ydym yn sôn am gamau na chânt eu cymryd a phan fydd pobl mewn cymuned yn gwrando ar y datganiadau hynny, maent yn disgwyl gweld gweithredu'n digwydd. Mae 12 mis wedi bod ers hynny, heb unrhyw gweithredu. Felly, yn y ffolder honno, rwy'n mawr obeithio y gallwch roi dyddiad pendant imi o ran pryd y byddwch yn dweud wrthym a oes angen yr asesiad o'r effaith amgylcheddol ai peidio.
Mae arnaf ofn nad yw hynny gennyf yn fy ffolder gan fod Hannah Blythyn yn dal i wneud y penderfyniad hwnnw.
Mae'n rhaid i chi gytuno, Weinidog, fod hynny'n gwbl annerbyniol, 12 mis ers cyhoeddi gyntaf fod y Llywodraeth yn bwriadu cyfarwyddo'r datblygwr i gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol. Mae 4 mis wedi bod ers i'r Prif Weinidog ar y pryd anfon llythyr ataf yn dweud y byddai penderfyniad yn cael ei wneud erbyn diwedd mis Tachwedd y llynedd. Mae'r trigolion ac Aelodau'r sefydliad hwn yn dal i aros. Faint yn hwy sy'n rhaid inni aros? Pa bwysau, felly, y byddwch yn ei roi ar Hannah Blythyn yn ei rôl newydd, sy'n amlwg wedi mynd â'r cyfrifoldeb hwn gyda hi, gan fy mod o dan yr argraff mai chi oedd yn gyfrifol amdano o hyd, ond yn amlwg, nid yw hynny'n wir. Felly, pa bwysau y byddwch yn ei roi er mwyn sicrhau y gwneir y penderfyniad hwnnw? Roeddech yn ddigon cyflym wrth wneud penderfyniad ar fferm wynt Hendy yng nghanolbarth Cymru. Gadewch inni gael penderfyniad ar foeler biomas y Barri.
Fel y dywedaf, Hannah Blythyn fydd yn gwneud y penderfyniad. Rwy'n siŵr y bydd yn y Siambr, gan y bydd yn ateb y set nesaf o gwestiynau, rwy'n credu. Felly, os caiff yr Aelod gyfle, gall ofyn iddi ei hun. Ond yn sicr, byddaf yn siarad â hi ac yn gofyn iddi ysgrifennu atoch.
Ymddengys mai dyna'r ateb dro ar ôl tro i nifer o'r pethau rwy'n eu rhoi gerbron y Gweinidog: 'Byddaf yn ysgrifennu atoch' neu 'Byddwn yn gwneud penderfyniad ymhen y rhawg' neu 'maes o law'. Beth yw ymhen y rhawg? Bron i 13 mis yn ddiweddarach bellach ar y mater penodol hwn.
Os edrychwch ar yr adran yn benodol, mae ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' wedi symud ymlaen yn awr tan yr haf cyn y bydd y Llywodraeth yn ymateb i hwnnw; mae'r WWF a chyrff amgylcheddol eraill wedi nodi eu pryderon ynghylch yr oedi yn yr adran; ac yn benodol, datblygu'r Bil amaeth, rhywbeth nad ydym yn siŵr a fydd yn dod ger ein bron ai peidio, ac amseriad y Bil hwnnw. Credaf fod y Gweinidog wedi nodi na fydd yn weithredol, yn ôl pob tebyg, cyn y daw'r Cynulliad hwn i ben yn 2021. Mae'n ymddangos fel pe bai'n cael ei ohirio'n barhaol.
Mae angen camau rhagweithiol gan y Gweinidog a'i hadran i ddatblygu'r atebion hyn yma yng Nghymru. Dyna oedd hanfod datganoli. Pan fo trigolion y Barri a rhannau eraill o Gymru yn edrych ar y diffyg gweithredu, maent yn cwestiynu pa benderfyniadau a wnaed yn eu henw. Pa hyder y gallwch ei roi fod eich adran yn gymwys, yn gwneud yr hyn y mae i fod i'w wneud ac yn gallu cyflawni mewn perthynas â'r gwahanol gynlluniau rwyf wedi eu nodi wrthych heddiw, oherwydd yn ôl y dystiolaeth a nodais, o ran gwneud penderfyniad sy'n gymharol syml yn fy marn i, er ei fod ynghlwm wrth gyfyngiadau cyfreithiol ac ystyriaethau cyfreithiol, ni allwch wneud y penderfyniad hwnnw hyd yn oed?
Af yn ôl: mae'r cwestiwn y gofynnodd yr Aelod i mi yn ymwneud â phenderfyniad nad yw'n cael ei wneud yn fy adran, felly ni allaf ateb y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedaf—[Torri ar draws.] Fe ofynnoch chi gwestiwn ynglŷn â phryd y byddai penderfyniad yn cael ei wneud. Ni allaf ateb y cwestiwn hwnnw; nid yw yn fy adran i.
Felly, rydych yn gofyn imi pa hyder sydd gennyf yn fy adran. Mae gennyf gryn dipyn o hyder yn fy adran. Ond mae'n rhaid imi ddweud, mae Brexit, a gefnogwyd gan gynifer o aelodau o'ch grŵp, wedi ychwanegu lefel o waith na allwch ddechrau ei dychmygu. Rwyf wedi cael 45 o swyddogion newydd. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn unig wedi cael 1,300 o swyddogion newydd. Mae'r Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi cael 700 o swyddogion newydd, i helpu gyda Brexit yn unig. Felly, mae gennyf gryn dipyn o hyder yn fy swyddogion sy'n gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod gennym Fil amaethyddol.
Cynhaliwyd ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' y llynedd. Roeddwn wedi gobeithio cyflwyno'r Papur Gwyn yn y gwanwyn; rwyf bellach wedi dweud yr haf gan fy mod yn awyddus i sicrhau ein bod yn dadansoddi'r ymatebion a gawsom yn drwyadl. Cafwyd rhai syniadau craff iawn sydd wedi gwneud inni feddwl. Mae angen inni eu hystyried yn llawn, a chredaf ei bod yn well peidio â brysio hyn. Rwyf wedi dweud, fel y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud, y byddaf yn cyflwyno Bil amaethyddol yn ystod y tymor hwn. Mae'n rhaid iddo gyd-fynd â'r rhaglen ddeddfwriaethol, mae'n rhaid iddo gyd-fynd—mae'n amlwg yn benderfyniad ar gyfer y Cabinet cyfan, ond mae'r Prif Weinidog a minnau wedi dweud y byddwn yn cyflwyno Bil amaethyddol yn ystod y tymor hwn.
Yn y cyfamser, rwyf wedi sicrhau bod gennym bwerau dros dro drwy Fil Amaethyddiaeth Llywodraeth y DU i sicrhau y gallwn dalu ffermwyr, er enghraifft. Fe sonioch chi hefyd am y llythyr gan y WWF—nid Plaid Cymru yn unig a'i cafodd. A dweud y gwir, roeddwn yn synnu braidd at y llythyr hwnnw oherwydd, unwaith eto, maent yn gwybod sut y mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi ymgorffori datblygu cynaliadwy ym mhopeth a wnawn yn Llywodraeth Cymru mewn ffordd nad yw Llywodraethau eraill wedi'i wneud.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. A yw'r Gweinidog wedi gweld y llythyr llawn panig a ysgrifennwyd gan y sefydliadau bwyd a diod amaethyddol mawr Ewropeaidd at Michel Barnier ar 6 Chwefror? Mae'n dweud:
ar ran cadwyn fwyd-amaeth gyfan yr UE—
Rwy'n darllen o'r llythyr ei hun, sy'n nodi
Yn 2017, roedd allforion bwyd-amaeth 27 gwlad yr UE i'r DU yn €41 biliwn,
ac nid yw'r DU ond yn gwerthu €17 biliwn iddynt hwy. Felly, ceir diffyg enfawr o ran bwyd a diod rhwng Prydain a'r UE, sy'n agor cyfle sylweddol iawn i gynhyrchwyr Prydain os na cheir cytundeb ar 29 Mawrth. A yw'n croesawu'r sylweddoliad o'r diwedd ar ran cynhyrchwyr Ewropeaidd, os na cheir cytundeb, y bydd hyn yn eu brifo hwy'n llawer gwaeth nag y bydd yn ein brifo ni?
Nac ydw.
Wel, os felly, mae hi'n anwybyddu realiti gan mai dyna yw barn y bobl yn Ewrop sy'n pryderu fwyaf ynglŷn ag effaith hyn.
Ond gadewch inni edrych ar hyn mewn ffordd gadarnhaol. Bydd cyfle enfawr i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd Prydain yn gyffredinol ar ôl 29 Mawrth, os na cheir cytundeb. Gadewch inni edrych ar y ffigurau. Mewn cig eidion, gadewch i ni ystyried cig eidion: rydym yn allforio gwerth £450 miliwn o gig eidion; rydym yn mewnforio gwerth £1.3 biliwn o gig eidion. Felly, rydym yn allforio un rhan o dair yn unig o'r hyn a fewnforiwn. Cig oen: mae'n eithaf eang. Rydym yn mewnforio cymaint ag a allforiwn a daw'r mewnforion o Seland Newydd yn bennaf, ond mae gan Seland Newydd ddiddordeb cynyddol mewn allforio i rannau eraill o'r byd, fel Tsieina a'r dwyrain pell, ac mewn gwirionedd, mae gwerthiant o Seland Newydd i Ewrop yn gostwng ac nid ydynt yn agos at ddefnyddio'u cwota beth bynnag. Cig mochyn: rydym yn allforio gwerth £470 miliwn y flwyddyn; rydym yn mewnforio gwerth £1.1 biliwn y flwyddyn mewn gwirionedd. Felly, mae cyfle aruthrol yno i bobl sy'n cynhyrchu cig mochyn. Ffermydd godro—[Torri ar draws.] Cathod, dyna mae'r Aelod dros Ynys Môn yn credu y dylem fod yn canolbwyntio arno. Credaf y dylem fod o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn yn hytrach na cheisio gwneud jôc ohono. Ceir cyfle eto mewn cynhyrchion llaeth. Daw 82 y cant o'r llaeth a allforir o Iwerddon i'r Deyrnas Unedig, a 49 y cant o'u cig eidion. Hoffwn wybod beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i hyrwyddo cynnyrch o Gymru yn y Deyrnas Unedig i fanteisio ar y cyfleoedd a fydd i'w cael ar ôl 29 Mawrth os na cheir cytundeb.
Lywydd, mae'r Aelod yn dweud fy mod yn anwybyddu realiti. Roeddech chi, Neil Hamilton, yng nghyfarfod cyngor Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, y mis diwethaf rwy'n credu, lle clywsoch y llywydd John Davies yn dweud y byddai Brexit 'dim bargen' yn gwbl drychinebus i'r sector amaethyddol ac i ffermwyr, ar y diwrnod y dywedodd Theresa May, mae'n debyg, ei bod yn credu—credaf mai'r ymadrodd oedd rhywbeth fel y 'byddai ffermwyr Cymru yn croesawu Brexit "dim bargen."' Clywsoch yr hyn a ddywedodd John Davies y noson honno, felly os wyf fi'n anwybyddu realiti, nid oes gennyf syniad beth rydych chi'n ei wneud. Byddai 'dim bargen' yn gwbl drychinebus i ffermio, i deuluoedd sy'n ffermio ac i'n cymunedau yng Nghymru, ac rwy'n fwy a mwy ofnus mai dyna sut y byddwn yn gadael yr UE.
Yn fwy cadarnhaol, gofynnwch beth rydym yn ei wneud i hyrwyddo bwyd a diod Cymru yn y DU. Efallai eich bod yn ymwybodol ein bod yn cynnal digwyddiad ddwywaith y flwyddyn, a byddwn yn ei gynnal y mis nesaf yn y Celtic Manor—Blas Cymru—ac yno, bydd gennym dros 100 o gynhyrchwyr a byddwn yn croesawu oddeutu 150 o brynwyr, gyda llawer ohonynt yn brynwyr rhyngwladol, ond daw llawer ohonynt o bob cwr i'r DU.
Wel, rwy'n falch iawn o glywed hynny, a dyma'r math o siarad cadarnhaol rydym am ei glywed ar draws y Siambr, ac mae pa un a oes cytundeb ai peidio allan o'n dwylo ni, ond y realiti yw bod yn rhaid inni baratoi ar gyfer y canlyniadau os ceir un. A'r hyn rwy'n ei ddweud yw y ceir cyfleoedd enfawr hefyd, yn ogystal â'r anawsterau y byddai hynny'n eu hachosi i gynhyrchwyr wrth gwrs. Ond ceir marchnadoedd sy'n ehangu'n gyflym mewn rhannau eraill o'r byd, yn wahanol i Ewrop, sydd ag economi sy'n sefyll yn ei hunfan—ac ar drai yn wir—gan y bydd y rhan fwyaf o'r cyfandir mewn dirwasgiad cyn bo hir.
Yn y dwyrain canol, rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar yn ehangu ein marchnadoedd. Yn 2013-14, nid oeddem ond yn gwerthu gwerth oddeutu £3 miliwn y flwyddyn o fwyd i'r dwyrain canol. Mae'r ffigur diweddaraf sydd gennyf ar gyfer 2017, ac roedd 10 gwaith yn fwy na hynny—£33 miliwn. Felly, mae'n amlwg fod cyfleoedd yno y gellir manteisio arnynt. Mae Tsieina yn farchnad enfawr, wrth gwrs. Cyn bo hir, bydd yn un o farchnadoedd mwyaf y byd. Mae Seland Newydd yn gwerthu mwy a mwy i Tsieina. £340 miliwn yn unig oedd allforion cynnyrch Seland Newydd i'r DU yn 2017. Maent bellach yn allforio mwy na theirgwaith hynny i Tsieina, ac mae'r ffigur yn cynyddu'n gyflym bob blwyddyn. Felly, beth y gallwn ei wneud i fanteisio ar allu gwerthu i farchnadoedd mewn rhannau eraill o'r byd, fel Tsieina, ac India yn wir, economi a oedd yn ehangu ar gyfradd o 8 y cant y llynedd, er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn i gynhyrchwyr Cymru?
Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi rhaglen allforio well gyda Hybu Cig Cymru. Felly, er enghraifft, mae Japan, yn amlwg, wedi agor eu marchnad i gig oen Cymru yn ddiweddar, felly gwn fod HCC yn gweithio yno. Rydym yn cefnogi teithiau masnach i leoedd fel Japan ac India. Felly, rwy'n sicrhau bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Credaf fod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo cyn inni gael y refferendwm i adael yr UE. Credaf ein bod bob amser wedi bod yn chwilio am farchnadoedd newydd. Roeddwn yn Gulfood yn Dubai ychydig flynyddoedd yn ôl, lle roedd gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd gig oen o Gymru ar eu silffoedd. Felly, rwy'n credu bod y gwaith hwn wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd lawer.
3. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo cynnyrch bwyd a diod o Gymru ymhellach yn 2019? OAQ53434
Diolch. Mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru. Un enghraifft yw'r digwyddiad Blas Cymru ddwywaith y flwyddyn, sy'n cael ei gynnal eto y mis nesaf yng ngwesty'r Celtic Manor. Bydd dros 100 o gynhyrchwyr bwyd o Gymru yn cyfarfod â dros 150 o brynwyr, gyda thraean ohonynt yn brynwyr rhyngwladol.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Canfu arolwg defnyddwyr YouGov a gynhaliwyd ar ran NFU Cymru y gallai Brexit helpu i ysgogi gwerthiant cynnyrch Cymru pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dywedodd chwarter yr ymatebwyr y bydd prynu cynnyrch o Gymru yn bwysicach iddynt ar ôl Brexit, a dywedodd 31 y cant yn ychwanegol fod prynu cynnyrch o Gymru yn bwysig iddynt yn barod ac y bydd yn parhau i fod yn bwysig iddynt. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â labelu bwyd er mwyn sicrhau y gall ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru fanteisio'n llawn ar y budd posibl a nodwyd yn yr arolwg defnyddwyr?
Credaf fod labelu bwyd yn hynod o bwysig, ac mae'n rhan o drafodaethau parhaus, yn enwedig ar ôl Brexit. Credaf fod gan bobl lawer mwy o ddiddordeb yn nharddiad eu bwyd a'u diod nag a oedd ganddynt ychydig ddegawdau yn ôl yn unig, mae'n debyg. Credaf fod sicrhau bod y ddraig ar ein bwyd, i ddangos ei fod wedi'i wneud yng Nghymru, yn bwysig iawn, ac mae pobl yn cydnabod hynny o ddifrif. Os caf ddweud: ddoe ddiwethaf, rhoddwyd statws enw bwyd gwarchodedig gan Ewrop i fwyd arall—y ffrwyth cyntaf, mewn gwirionedd—sef eirin Dinbych Dyffryn Clwyd. Roedd yn wych eu croesawu i deulu sy'n tyfu. Credaf fod gennym 16 o gynhyrchion bwyd a diod bellach, ac fel rwy'n dweud, dyma'r ffrwyth cyntaf.
Cyhoeddwyd adroddiad gan y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yr haf diwethaf a ddywedai fod defnyddwyr yn y DU am weld mwy o gynnyrch o Gymru. Ar yr un pryd, wrth gwrs, cafodd cynnyrch Cymru ei ailfrandio'n gynnyrch Prydain yn y Sioe Frenhinol y llynedd. A all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ers hynny i geisio atal y wladwriaeth Brydeinig rhag ailfrandio Cymru?
Mae'r Aelod yn cyfeirio at benderfyniad masnachol a wnaed gan Sioe Frenhinol Cymru i ganiatáu i Lywodraeth y DU noddi'r tu allan i'r neuadd fwyd. Ni fydd hynny'n digwydd eto eleni; gallaf roi sicrwydd i chi ynglŷn â hynny. Mae'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt ynghylch labelu cynnyrch Cymru yn y ffordd honno. Yn sicr, credaf fod y rhan fwyaf o'r cwmnïau rwy'n gweithio gyda hwy yn teimlo ei bod yn fantais enfawr. Maent yn teimlo ei bod yn hawdd iawn gwerthu bwyd a diod gyda'r brand hwnnw arno.
4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda rhanddeiliaid o ran lleihau llygredd ym Mhort Talbot? OAQ53462
Diolch. Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas waith dda, gyda Gweinidogion a swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â rhanddeiliaid ym Mhort Talbot. Mae hyn yn cynnwys Tata Steel, awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae ein trafodaethau'n canolbwyntio ar reoli ansawdd aer yn yr ardal, camau gweithredu i leihau llygredd aer, a chyfathrebu gyda'r gymuned leol.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac yn amlwg, rydym wedi bod yn pryderu am ddau brif faes o ran y llygredd. Un yw allyriadau cerbydau, a byddaf yn codi'r mater hwnnw gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan fod hynny'n rhan o'i gylch gwaith ef ar hyn o bryd. Y maes arall, yn amlwg, yw allyriadau diwydiannol. Fel y dywedoch, rydych yn trafod gyda Tata, a hoffwn godi mater y llygredd a ddaw o Tata. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o bwysigrwydd Tata i economi'r dref a'r ardal, ond ar yr un pryd, mae angen iddynt fod yn gymydog cyfrifol i drigolion fy etholaeth. Pa drafodaethau y byddwch yn eu cael gyda Tata i sicrhau bod yr allyriadau a'r llygredd a welwn—? Ac mae preswylwyr yn cwyno wrthyf bob dydd eu bod yn golchi eu ceir, maent yn codi yn y bore, ac mae eu ceir wedi'u gorchuddio â llwch coch neu lwch du, eu tai, eu gerddi, silffoedd ffenestri, setiau patio—mae popeth yn cael ei lygru'n barhaus. Pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda Tata i edrych ar sut y gallant leihau hynny i fy etholwyr, oherwydd, er nad yw'n cael ei ystyried yn un o'r llygryddion gwaethaf, gan mai llygryddion PM10 a PM2.5 yw'r gwaethaf, mae pobl yn dal i anadlu'r llwch hwn, maent yn dal i fyw yn llwch hwn, maent yn cario'r llwch hwn drwy eu tai, ac mae angen inni wneud rhywbeth i sicrhau y ceir llai ohono?
Diolch. Fel y dywedaf, mae swyddogion yn cael trafodaethau parhaus gyda Tata Steel. Gwn fod cynlluniau i Ken Skates a minnau ymweld ar y cyd i gael trafodaethau pellach gyda Tata Steel. Fe fyddwch yn gwybod am y gwaith monitro dwys sy'n mynd rhagddo yn yr ardal honno, a hyd yma eleni, gwn mai unwaith yn unig y cafodd y terfyn dyddiol ar gyfer deunydd gronynnol, sef PM10, ei groesi ar draws yr holl safleoedd monitro, ond wrth gwrs, mae un yn ormod ac rydym yn monitro hynny'n ofalus.
Mae Prifysgol Abertawe, ynghyd â phrifysgolion Warwick a Sheffield, yn cydweithio ar y prosiect newydd SUSTAIN hwn, a fydd yn defnyddio £35 miliwn o fuddsoddiad i leihau allyriadau o'r broses gynhyrchu dur ac yn cynyddu cynhyrchiant a swyddi, a chredaf y dylid croesawu'r cydweithrediad hwnnw'n fawr, rhywbeth a all leihau llygredd ar gyfer Tata Steel, a gobeithiaf y byddant hefyd, pan fyddant yn adeiladu eu gorsaf bŵer newydd, os bydd hynny'n digwydd, yn ymwybodol iawn o leihau llygredd gyda'r orsaf bŵer honno hefyd. Os yw prosiect SUSTAIN yn gwneud y cynnydd a ddisgwylir, pa gymorth uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru ystyried ei roi iddo yn eich barn chi, yn enwedig ar ôl neu os newidir y rheolau cymorth gwladwriaethol wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd?
Nid wyf yn siŵr pa gymorth y gallem ei roi, ond buaswn yn fwy na pharod i ystyried hynny ac i ysgrifennu at yr Aelod.
Nawr, mae cynyddu'r defnydd o gerbydau trydan, yn breifat ac yn gyhoeddus, yn ffordd amlwg o leihau lefelau llygredd aer mewn ardaloedd fel Port Talbot, ond mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn feirniadol o'r cynnydd, neu'r diffyg cynnydd, yn hytrach, ar yr agenda hon, gan ddweud bod diffyg cyfeiriad cenedlaethol ac na chafwyd ymdrech gydunol gan Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol ar yr agenda hon. A ydych yn derbyn bod diffyg cynnydd wedi bod ar hyn, a hyd nes eich bod yn darparu'r cyfarwyddyd cenedlaethol hwnnw, bydd Port Talbot ac ardaloedd eraill yng Nghymru yn parhau i ddioddef yn sgil problemau ansawdd aer?
Wel, credaf ein bod yn sicr wedi dangos arweiniad mewn perthynas â cherbydau trydan. Gwn inni roi—credaf inni roi oddeutu £2 filiwn o gyllid i'r holl awdurdodau lleol, rwy'n credu, ond fy nghyd-Aelod Ken Skates sy'n arwain ar hyn. Ond yn ôl yr hyn a gofiaf, credaf ein bod wedi rhoi oddeutu £2 filiwn i awdurdodau lleol er mwyn sbarduno, os mynnwch, rhywfaint o gynnydd yn y maes hwn. Ond wrth gwrs, mae angen inni wneud mwy, ac yn amlwg, mae angen inni—. Yn sicr, rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Grid Cenedlaethol, er enghraifft, i sicrhau y byddai llwybr o'r fath o fannau gwefru cerbydau trydan yn gallu cael ei gynnal gan y capasiti presennol sydd gennym o fewn y grid.
Weinidog, nid llygredd aer yw'r unig beth sydd gennym i boeni amdano ym Mhort Talbot a fy rhanbarth ehangach. Mae llygryddion eraill hefyd yn cael effaith. Amlygodd adolygiad diweddar yng nghyfnodolyn Biological Conservation yr effaith roedd plaladdwyr yn ei chael ar rywogaethau infertebratau. Fel hyrwyddwr rhywogaethau ar ran corryn rafft y ffen sydd â'i gynefin yng nghysgod y gwaith dur, un o dri yn unig yn y DU, rwy'n bryderus ynghylch effaith plaladdwyr, a fydd yn bygwth diddymu'r rhywogaeth frodorol hon. Weinidog, pa gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i amddiffyn corryn rafft y ffen a phryfed eraill rhag plaladdwyr a llygryddion eraill?
Mae'n bwysig iawn ein bod yn diogelu pob math o bryfed, fel y dywedwch, ac yn sicr, mae gennym ganllawiau ar gyfer defnyddio plaladdwyr, a gwn fod ffermwyr yn ofalus iawn o ran y plaladdwyr y maent yn eu defnyddio, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda hwy i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r plaladdwyr y gellir eu defnyddio.
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch trwyddedu ar gyfer anifeiliaid sy'n perfformio? OAQ53450
Diolch. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 31 Ionawr yn crynhoi canlyniadau cyfres o weithdai a gynhaliwyd â rhanddeiliaid i drafod arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid y llynedd. Mae fy swyddogion wedi bod yn gohebu ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i drafod materion trawsffiniol ynghylch deddfwriaeth trwyddedu gweithgarwch anifeiliaid yn Lloegr.
Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch am y llythyr a anfonoch chi ataf yn ddiweddar ar fater a godwyd gan fy etholwr sy'n wynebu gorfod talu nid yn unig am ei thrwydded Gymreig ei hun, rhywbeth y mae'n fwy na pharod i'w wneud, ond hefyd £800 yn ychwanegol er mwyn gallu mynd â'i busnes i Loegr, sy'n rhywbeth y mae'n ei wneud yn rheolaidd. Nawr, mae hi—a llawer o bobl eraill sy'n gweithio yn y maes hwn—yn unig fasnachwr â throsiant isel iawn, ac os bydd yn rhaid iddi dalu'r swm ychwanegol hwn o £800 ar sail barhaus, ni fydd ei busnes yn hyfyw mwyach.
Rwy'n falch o'ch clywed yn dweud eich bod yn cynnal trafodaethau gyda Michael Gove ynglŷn â'r mater hwn, gan ei fod yn fater bach yn y darlun mawr ôl-Brexit, ond i fy etholwr, ac i eraill sy'n gweithio yn y maes hwnnw, mae'n fater difrifol iawn. Pa sicrwydd y gallwch ei roi inni? Tybiaf ei bod yn rhy hwyr bellach i ddatrys hyn erbyn y dyddiad cau ar gyfer eleni, 1 Ebrill, ond pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwr y bydd gennym rai trefniadau trawsffiniol o ryw fath ar waith erbyn y flwyddyn nesaf, ac na fydd yn rhaid iddi dalu ddwywaith i drwyddedu ei busnes?
Wel, mae swyddogion yn dal i—. Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth a fu rhyngom, ac yn sicr, mae fy swyddogion yn parhau i gael y trafodaethau hynny â'u swyddogion cyfatebol—nid yn Llywodraeth y DU yn unig, ond yn yr Alban hefyd wrth gwrs, oherwydd mae'r busnesau hyn, fel y dywedwch, yn symudol o ran eu natur. Felly, ni allaf roi dyddiad ichi ynglŷn â phryd y daw'r trafodaethau hynny i ben, ond gobeithiaf na fydd yn cymryd blwyddyn i wneud hynny. Ond rydych yn llygad eich lle, ni chredaf y bydd ar waith gennym erbyn 1 Ebrill eleni.
Weinidog, credaf fod y maes hwn o bolisi cyhoeddus yn haeddu llawer o sylw a bod angen ei gyflymu. Cafwyd eich ateb ysgrifenedig cyntaf, neu ddatganiad ysgrifenedig, ym mis Rhagfyr 2016, felly, mae hynny ymhell dros ddwy flynedd yn ôl. Mae'r cyhoedd yn mynnu gweld gweithredu yn hyn o beth, gan nad yw hyn yn ymwneud yn unig ag anifeiliaid syrcas. Mae pob un ohonom wedi bod mewn sioeau amaethyddol ac wedi gweld yr adar ysglyfaethus yno, ac adeg y Nadolig, rydych yn aml yn gweld ceirw ar y strydoedd mewn arddangosfeydd teithiol. A chredaf fod angen eglurder, ac o ran y rheini sy'n defnyddio anifeiliaid, os gallant wneud hynny heb greulondeb a heb fod yr anifeiliaid hynny'n colli unrhyw fath o urddas, yna gall fod yn addas. Ond mae'n rhaid inni ddod i gasgliad ynglŷn â hyn a datgan beth yw ein nodau polisi ar gyfer rheoleiddio.
Credaf eich bod yn llygad eich lle ynghylch budd y cyhoedd. Mewn rhai ffyrdd, credaf fod mwy o ddiddordeb cyhoeddus mewn arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid nag mewn syrcasau, gan nad oes gennym unrhyw syrcasau wedi'u cofrestru yng Nghymru. Ac fel y dywedwch, mae pob un ohonom wedi bod mewn sioeau amaethyddol. Mae adar ysglyfaethus yn aml yn mynd i ysgolion, er enghraifft, ac felly credaf fod hyn o ddiddordeb i'r cyhoedd, ac yn sicr, pan gawsom yr ymgynghoriad, roedd nifer fawr o'r ymatebion yn ymwneud â'r agwedd hon.
Mae'r cynllun trwyddedu yn cael ei ddatblygu. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi ymgysylltu â'r rhanddeiliaid, yn ogystal ag asiantau gorfodi. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn, gan y credaf fod angen gwneud hynny a bydd hynny'n digwydd, gobeithio, o fewn yr ychydig fisoedd nesaf. Ond fe fyddwch yn deall, unwaith eto, fod yn rhaid rhoi'r flaenoriaeth i Brexit—yn enwedig Brexit 'dim bargen'—ond gobeithiaf y bydd yr ymgynghoriad, yn sicr, yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd yr haf.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r risg o lifogydd o ran seilwaith hanfodol? OAQ53441
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i gyllid ar gyfer rheoli llifogydd ac erydu arfordirol er mwyn amddiffyn cartrefi a chymunedau. Er ei bod hefyd yn cefnogi cynlluniau sy'n cynnig manteision ehangach, gan gynnwys diogelu seilwaith, yn y pen draw, perchnogion yr asedau hynny sy'n gyfrifol am sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gadarn ac yn addas i'r diben.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac a gaf fi gofnodi fy niolch i Lywodraeth Cymru am eu buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yn fy etholaeth? Ond fe fyddwch yn gwybod bod un rhan o'r amddiffynfeydd môr yn arbennig o fregus yn ardal Hen Golwyn, rhan sy'n diogelu'r prif rwydwaith carthffosiaeth, cefnffordd yr A55, y promenâd ym Mae Colwyn, ac yn wir, rheilffordd gogledd Cymru. Gwelsom stormydd dramatig yn gynharach y mis hwn, sydd wedi niweidio'r amddiffynfeydd hynny ymhellach, ac mae bellach yn hanfodol eu bod yn cael eu huwchraddio a'u gwella er mwyn amddiffyn y seilwaith hanfodol hwnnw y soniais amdano. Nawr, roedd eich rhagflaenydd â'r portffolio ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd yn ddigon caredig i ymweld â'r etholaeth i ddysgu mwy am bryderon Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn perthynas â breuder yr amddiffynfeydd hynny, a hoffwn estyn gwahoddiad i chi ddod ar ymweliad hefyd, i weld drosoch eich hun beth yw rhai o'r heriau a wynebir. Credaf ei bod yn hollol glir y bydd angen arweiniad gan Lywodraeth Cymru o ran ymrwymo i ddarparu buddsoddiad er mwyn cynnull y partneriaid eraill, sydd hefyd â pheth cyfrifoldeb, gan gynnwys yr awdurdod lleol, Dŵr Cymru, National Rail ac ati. Ond buaswn yn ddiolchgar pe gallech ymweld â'r etholaeth i gyfarfod â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, rhai o'r partneriaid eraill a minnau er mwyn archwilio ffordd ymlaen.
Ysgrifennodd yr Aelod ataf tua diwedd Ionawr, ac ysgrifennais yn ôl atoch ar 13 Chwefror i egluro nad oeddem wedi darparu unrhyw gytundeb i ariannu gwaith. Oherwydd rwy'n credu o ddifrif fod angen i'r awdurdod lleol ymuno â buddiolwyr trydydd parti eraill—fe enwoch chi Network Rail yn un ohonynt—gan fy mod yn credu—wyddoch chi, mae hwn yn gynllun gwerth £37 miliwn; byddai hynny'n mynd â fy nghyllideb i gyd. Felly, rwy'n credu o ddifrif fod angen i'r arweinyddiaeth ddod gan yr awdurdod lleol a dod â'r trydydd partïon hyn ynghyd. Gwn fod swyddogion yn cael trafodaethau parhaus hefyd.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sector cig coch yn dilyn Brexit? OAQ53465
Diolch. Rydym yn disgwyl i'r sector cig coch yng Nghymru wynebu heriau sylweddol ar ôl Brexit. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid i helpu i baratoi'r sector cystal ag y gallwn ar gyfer yr heriau lluosog a'r newid sylweddol y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd bron yn sicr o'i olygu i'n ffermwyr a'n teuluoedd ffermio.
Rwy'n cydnabod y bydd cig oen, yn wir, yn wynebu heriau sylweddol, yn enwedig mewn Brexit 'dim bargen'. Roeddwn yn falch iawn gydag ymweliad ein pwyllgor Brexit â Brwsel dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. Cawsom gyfarfod â llysgennad Seland Newydd yno a chawsom sgyrsiau adeiladol, a deallaf ei fod hefyd bellach wedi bod yn trafod gyda'r sector cig oen yng Nghymru. Fodd bynnag, a wnaiff y Gweinidog roi mwy o ystyriaeth i'r sector cig eidion? Oherwydd, pe baem yn gadael yr UE heb gytundeb ac yn gosod tariffau ar allforion Iwerddon i'r DU, sydd mor sylweddol, byddai hynny'n gadael cyfle mawr iawn i ffermwyr cig eidion, ac yn wir, ffermwyr llaeth yng Nghymru gynyddu eu cynhyrchiant yn broffidiol er mwyn llenwi'r bwlch hwnnw.
Roeddwn am ddweud, pan ddywedoch eich bod yn ymwybodol o'r heriau i'r sector cig oen, fy mod yn ymwybodol iawn o'r heriau i'r sector cig eidion hefyd. Mae fy swyddogion, yn amlwg, wedi bod yn gwneud gwaith ar gynllunio senarios ac mae'n ymwneud â mwy na'ch sectorau yn unig, mae'n ymwneud â'ch sefyllfa yng Nghymru a'r lle rydych o ran yr effaith y gallai Brexit 'dim bargen' ei chael arnoch.
Un o'r rhesymau pam y darperais rywfaint o arian o dan gynllun pontio'r UE oedd i helpu'r sector cig coch, helpu ffermwyr, i feincnodi er mwyn sicrhau bod eu cynlluniau busnes—eu bod yn deall eu perfformiad a'u cynhyrchiant fel y gallem nodi ble i ganolbwyntio ein hymdrechion go iawn. Felly, credaf eich bod yn llygad eich lle, mae'n rhaid inni edrych ar gig oen a chig eidion, ond mewn gwirionedd, mae angen inni sicrhau bod 'dim bargen'—na cheir Brexit 'dim bargen'.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau plannu coed yng Nghymru? OAQ53455
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflymu'r broses o greu coetiroedd yng Nghymru, ac rwy'n ymwybodol fod angen gwneud mwy i annog hyn. Rwyf wedi cytuno i rownd arall o gyllid creu coetiroedd Glastir. Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i goedwigaeth yng Nghymru ym mis Mawrth.
Diolch. Yr wythnos diwethaf, aeth plant ledled y DU ar streic i alw am weithredu ar newid hinsawdd. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cydnabod y rôl hynod bwysig y mae coetiroedd yn ei chwarae yn natblygiad cynaliadwy ein hadnoddau naturiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i isafswm o 15.8 y cant o gynnydd mewn gorchudd coetir erbyn 2030. Er mwyn cyrraedd y targed cyfreithiol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae pwyllgor y DU ar y newid hinsawdd yn argymell y dylid plannu 4,000 hectar o goed bob blwyddyn erbyn 2030. Byddai hyn yn cynyddu gorchudd coetir yng Nghymru i 16.7 y cant. Heb os, mae arnom angen mwy o goed mewn amgylcheddau trefol a gwledig ledled Cymru. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau plannu coed?
Fel y dywedaf, gwn fod angen inni wneud mwy o lawer o ran plannu coed, ac rwyf wedi bod yn cael trafodaethau gyda'r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Fe fyddwch yn gwybod am ein camau gweithredu ar ymaddasu i newid hinsawdd—fe'u disgrifir yn ein strategaeth ar newid hinsawdd yng Nghymru. Ac mae gan greu coetiroedd, gan gynnwys y gwyrddu trefol y cyfeirioch chi ato, rôl bwysig iawn i'w chwarae i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd. Felly, byddwn yn ymgorffori hynny yn y rôl y gall rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd gynaliadwy ei chwarae yn eu gwaith datgarboneiddio. Soniais fy mod wedi cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos diwethaf, ac yn sicr, mae ganddynt dir a fydd ar gael ar gyfer plannu coed, felly rwyf am weithio gyda hwy i weld sut y gellir troi peth o'r tir hwnnw yn goetir—dros y flwyddyn nesaf, gobeithio.
Weinidog, credaf fod pob un ohonom yn cytuno â'r dyheadau i blannu mwy o goed yma yng Nghymru. Mewn gwirionedd, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r sector coedwigaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn, a phan edrychwn ar y canlyniadau—yn enwedig y canlyniadau ariannol—gan rai o'r cyfranogwyr yma, maent yn rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol. Ond methwyd cyrraedd y targedau olynol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed—nid o drwch blewyn, ond o bell ffordd. Nawr, rydych wedi sôn am y sgyrsiau rydych wedi'u cael. Rydych yn Weinidog sydd wedi bod yn y swydd ers rhai blynyddoedd bellach. A allwch roi rhywfaint o hyder i'r Siambr eich bod, yn eich rôl weinidogol, wedi nodi'r diffygion yn y rowndiau blaenorol o gyllid ar gyfer plannu coed yma yng Nghymru, a sut, yn y dyfodol, y gallwn fod yn hyderus y byddwch yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru drwy fynd i'r afael â'r diffygion a sicrhau rhywfaint o fomentwm y tu ôl i weithgarwch plannu coed ledled Cymru?
Credaf fod arnom angen rhywfaint o fomentwm y tu ôl i'n gweithgarwch plannu coed. Yn amlwg, ceir nifer o rwystrau, a chredaf fod yn rhaid inni eu goresgyn, ac mae'n ddiddorol, mae'n dibynnu â phwy rydych yn siarad o ran pa un a ydym yn plannu'r coed iawn yn y lleoedd anghywir neu'r coed anghywir yn y lleoedd cywir, ac mae hyn i'w weld yn rhywbeth cymhleth iawn yn fy marn i, ac ni chredaf fod angen iddo fod mor gymhleth. Cefais drafodaeth gynhyrchiol iawn yr wythnos diwethaf gyda Confor, a chyfarfod arall yn syth ar ôl hynny gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, lle nodasom sut y gallem oresgyn rhai o'r rhwystrau hynny, a chrybwyllais yn fy ateb i Jayne Bryant fod tir ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn barod ar gyfer plannu, felly hoffwn weithio'n agos iawn â hwy dros yr ychydig fisoedd nesaf i sicrhau bod coed yn cael eu plannu dros y flwyddyn nesaf, i roi hwb i rywfaint o weithgarwch plannu coed ar y lefelau yr hoffem eu gweld dros y flwyddyn nesaf. Credaf fod cyfleoedd i'w cael hefyd gyda'r cynllun nwyddau cyhoeddus—cyflwynwyd y cynnig hwnnw gennym yn 'Brexit a'n tir'—ac unwaith eto, ar ôl Brexit, credaf fod hwnnw'n gyfle y buaswn yn awyddus i'w archwilio.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a dwi wedi cael gwybod o dan Reol Sefydlog 12.58 y bydd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ateb y cwestiynau ar ran y Gweinidog y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu rhagor o gartrefi? OAQ53435
Mae darparu cartrefi ychwanegol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, fel y nodir yn y strategaeth genedlaethol. Rydym yn defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni er mwyn annog adeiladu tai ac rydym yn buddsoddi mwy nag erioed mewn tai yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Ddirprwy Weinidog, mae eich Llywodraeth eich hun yn amcangyfrif bod angen adeiladu oddeutu 8,300 o gartrefi bob blwyddyn, ac yn ôl Ffederasiwn Meistr Adeiladwyr Cymru, 6,000 yn unig a adeiladwyd y llynedd. Nawr, mae Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn dweud bod y broses gynllunio yn rhy gymhleth ac yn rhy ddrud, a bod tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu bod y farchnad dai wedi cael ei dominyddu gan nifer fach o gwmnïau mawr iawn. Maent wedi amcangyfrif bod oddeutu tri chwarter yr holl dai newydd yn cael eu hadeiladu gan bum cwmni mawr. Er mwyn i chi allu cyflawni eich targedau a rhoi mwy o gyfleoedd i gwmnïau llai Cymru, a wnewch chi adolygu'r canllawiau a roddir i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y broses gynllunio yn llai cymhleth ac yn llai costus, fel y gall busnesau llai adeiladu mwy o gartrefi newydd?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod polisi cynllunio cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Cymru eisoes wedi'i gyhoeddi, gyda'r bwriad o helpu i fynd i'r afael â materion cyflenwi tai drwy gyflwyno mwy o drylwyredd a her i'r broses o wneud cynlluniau mewn perthynas â dyrannu safleoedd tai. Cyfarfu'r Gweinidog a minnau â'r ffederasiwn yn ddiweddar, i drafod y pryderon a godwyd gennych, ond hefyd, mewn gwirionedd, rydym yn cymryd camau fel Llywodraeth i sicrhau ein bod yn helpu i gefnogi'r busnesau bach a chanolig hyn, yn enwedig y rheini sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, i allu cydweithio gyda ni i gyflawni ein targedau uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi newydd. Un o'r cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gweinidog i'n helpu i wneud hyn yw prosiect Hunanadeiladu Cymru, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau cyfunol blaenorol o ran cynllunio, cyllid a mynediad, ac yn agor y farchnad i fwy o fusnesau bach a chanolig yn y broses.
Gwyddom fod adeiladwyr tai mawr yn elwa o brinder tai gan fod hynny'n cynyddu'r prisiau y gallant eu codi am adeiladau newydd. Ac fel yr amlinellodd Paul Davies, mae gennym nifer fach o adeiladwyr mawr iawn sy'n dominyddu'r farchnad. Un dull o gynyddu'r cyflenwad tai yw hunanadeiladu a hunanreoli gwaith adeiladu. A wnaiff y Llywodraeth ofyn i awdurdodau lleol nodi safleoedd, y tu allan i'r cynlluniau datblygu lleol, ar gyfer pump neu lai o anheddau y gellir naill ai eu hunanadeiladu neu lle gellir hunanreoli'r gwaith adeiladau fel y gallwn sicrhau bod tai'n cael eu defnyddio, helpu adeiladwyr bach a helpu pobl i ddod yn berchnogion cartrefi?
Diolch am eich cwestiwn, Mike Hedges. Rydych yn gwneud pwyntiau dilys a diddorol iawn. Fel rwyf wedi'i grybwyll eisoes, mae'r fersiwn ddiweddaraf o 'Polisi Cynllunio Cymru', yn benodol, yn ei gwneud yn ofynnol yn awr i awdurdodau cynllunio lleol gadw cofrestr o safleoedd bach. Ac fel y soniais eisoes, rydym wedi cyhoeddi £40 miliwn i gefnogi cynlluniau Hunanadeiladu Cymru newydd ac arloesol, ac yn rhan o hynny, mae swyddogion yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar hyn o bryd i nodi safleoedd addas ar gyfer hunanadeiladu, ar y raddfa a grybwyllwyd gennych yn eich cwestiwn o bosibl. Yn amlwg, mater i awdurdodau lleol yw penderfynu pa safleoedd a gyflwynir ar gyfer y cynllun, ond mae'r Gweinidog a minnau'n edrych ymlaen at weld y safleoedd hynny'n dechrau dod i'r amlwg dros y misoedd nesaf.
Ddirprwy Weinidog, credaf fod rhai mesurau allweddol y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â'n hanghenion tai nad ydynt yn cynnwys gorfod adeiladu cartrefi newydd, ac un enghraifft o'r fath yw cynlluniau cyngor Rhondda Cynon Taf i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Mae 312 o geisiadau grant eiddo gwag wedi dod i law ers i'r cynllun ddechrau yn 2016, a hyd yma, mae 128 o'r cartrefi hynny bellach wedi dod yn ôl i ddefnydd llawn, gyda £2.4 miliwn yn cael ei wario drwy'r grant eiddo gwag. Felly, a ydych yn cytuno â mi fod y math hwn o gynllun yn darparu ffordd gynaliadwy iawn o fynd i'r afael â'r prinder tai, ac a oes unrhyw gynlluniau i sicrhau y gall awdurdodau lleol eraill ddysgu o'r arfer gorau hwn?
Diolch, Vikki Howells. Yn sicr, croesawaf ymdrechion a gwaith Rhondda Cynon Taf ac awdurdodau eraill o ran sut rydym yn creu cartrefi newydd drwy ddod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd. Ac mae'n rhywbeth rwy'n teimlo'n arbennig o angerddol yn ei gylch yn fy rôl arweiniol mewn perthynas ag adfywio, sut y gallwn gysylltu hynny mewn modd cyfannol, nid yn unig adfywio ac adfywhau cymuned a chanol y dref, ond mynd i'r afael ag anghenion tai a'r angen am dai gweddus hefyd yn y broses.
Gwyddom fod llawer o resymau pam fod cartrefi'n wag, felly mae angen sicrhau bod amrywiaeth o offer ar gael i ddod â hwy yn ôl i ddefnydd. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion archwilio sut y gallem gynorthwyo awdurdodau lleol yn well i ddefnyddio eu pwerau gorfodi i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, ac yn sicr, credaf fod hwn yn faes lle gallwn ychwanegu mwy o werth.
2. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru yn 2019? OAQ53433
Cefnogir ein hymrwymiad i fynd i'r afael â digartrefedd, gan gynnwys cysgu allan, â buddsoddiad ychwanegol sylweddol o £30 miliwn. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad ar gyfer Tai yn Gyntaf a chymorth i amrywiaeth o fentrau fel rhan o'n cynllun gweithredu cysgu allan.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn eu hymateb i ymchwiliad y Cynulliad i gysgu allan yng Nghymru, dywedodd cyngor dinas Caerdydd y gall llawer o bobl sy'n cysgu allan barhau i fod wedi'u hynysu ar y strydoedd gan nad ydynt am gael llety mewn hosteli. Y llynedd, gwrthododd Llywodraeth Cymru gais am arian gan Gyngor Dinas Casnewydd i ddarparu podiau digartrefedd ar gyfer pobl sy'n cysgu allan. Roedd hynny'n ddigalon iawn. Yn gynharach y mis hwn, cafwyd adroddiadau y bydd cynllun ar gyfer troi cynwysyddion llongau yn llety yn dod i Gaerdydd, ar ôl cael ei dreialu ym Mryste. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y dylid annog syniadau arloesol o'r fath er mwyn mynd i'r afael â chysgu allan yng Nghymru mewn perthynas â'r bobl nad ydynt eisiau llety mewn hosteli yng Nghymru, am ba reswm bynnag?
Fel Llywodraeth, ein prif amcan yw cefnogi ymyrraeth gyda'r bwriad o gefnogi pobl i osgoi cysgu allan fel cam gweithredu cyntaf. O'r £30 miliwn ychwanegol, darperir £12 miliwn i'r awdurdodau lleol i gynyddu eu cymorth i bobl sy'n dweud eu bod yn ddigartref. Fel y dywed yr Aelod yn gwbl gywir, ceir llawer o resymau pam nad yw pobl yn teimlo ei bod yn iawn iddynt, neu'n briodol iddynt yn wir, fynd i aros mewn hostel, felly dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a'n partneriaid yn y trydydd sector i sicrhau y gallwn fabwysiadu ymagwedd gyfannol sy'n ystyried yr unigolyn a'r amgylchiadau unigol. Cyfeiria'r Aelod at fenter podiau Cyngor Dinas Casnewydd a ddaeth gerbron Llywodraeth Cymru cyn hynny. Er y credaf fod Llywodraeth Cymru yn deall y bwriad y tu ôl i'r podiau hyn a'r broblem y maent yn ceisio mynd i'r afael â hi, roedd pryderon ynghlwm wrth eu defnydd a pha opsiynau eraill sydd ar gael ar gyfer ariannu, gyda phob pod yn costio oddeutu £6,000. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i weithio gyda phob un o'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i edrych ar sut y gellir rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â chysgu allan a digartrefedd yng Nghymru, ym mhob un o'n dinasoedd a'n trefi.
Hoffwn ddychwelyd at fater carcharorion CEM Caerdydd yn troseddu ar ôl cael eu rhyddhau fel y gallant gael to uwch eu pennau. Mae gan y Blaid Lafur yn y Llywodraeth hanes blaenorol o addo datrys y broblem hon. Ym mis Rhagfyr 2015, cafwyd addewid gan y Gweinidog cymunedau, Lesley Griffiths, y byddai carcharorion sy'n wynebu bod yn ddigartref yn cael cymorth am 56 diwrnod cyn iddynt gael eu rhyddhau. Wrth lansio'r llwybr cenedlaethol yr honnodd y byddai'n rhoi Cymru ar y blaen i weddill y DU, dywedodd
'Heb os nac oni bai, mae llety sefydlog yn ffactor allweddol wrth geisio torri cylch troseddu.'
Yna, lansiwyd fframwaith y llynedd gan y Gweinidog llywodraeth leol, Alun Davies, i ddarparu newid cadarnhaol ar gyfer y rheini sydd mewn perygl o droseddu. Fe gyhoeddodd yn groyw iawn ymrwymiad y Llywodraeth i leihau—ac rwy'n dyfynnu:
'troseddu ac aildroseddu, er mwyn helpu i sicrhau bod ein cymunedau’n parhau’n ddiogel.'
Rydym wedi cael digon o eiriau calonogol gan gyn-Weinidogion yn y gorffennol, ond fel y dangosodd adroddiad y bwrdd monitro annibynnol yr wythnos diwethaf, mae'r dyfodol yn parhau i fod yn llwm iawn i lawer o garcharorion pan gânt eu rhyddhau o'r carchar. Sut y byddwch yn sicrhau bod eich mentrau newydd yn gwneud yn well na'ch mentrau blaenorol?
Diolch. Mae'r Aelod yn llygad ei lle, yn enwedig yn CEM Caerdydd, o ran yr effaith y gall dedfrydau tymor byr ei chael, yn enwedig y 56 diwrnod, oherwydd os ydych yn y carchar am gyfnod byr iawn, mae'n gyfnod digon byr i gael effaith ar eich llety blaenorol, a llety eich teulu o bosibl. Ac a dweud y gwir, mae'n her i sicrhau bod y llety cywir ar gael wedi hynny. Mae'n rhywbeth y gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol iawn ohono ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar fynd i'r afael â hyn fel mater o frys.
Ar yr un pwnc, Weinidog, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cael gwared ar garcharorion o'r categori angen blaenoriaethol, a bod protocol wedi'i roi ar waith wedyn a ddylai fod wedi cysylltu sefydliadau ac asiantaethau er mwyn sicrhau bod gan garcharorion do uwch eu pennau wrth gael eu rhyddhau, ymddengys nad yw hynny'n gweithio'n dda iawn, o ystyried yr ystadegau y cyfeiriodd Leanne Wood atynt. Tybed, bellach, yn y sefyllfa hon, a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych eto ar sefyllfa pobl sy'n gadael carchar, o gofio'r goblygiadau amlwg i'w hiechyd a'u lles os ydynt yn cysgu allan a heb gartref diogel, yn ogystal â'r effaith ar aildroseddu.
A gaf fi ddiolch i John? Gwn fod gan yr Aelod, yn ei rôl fel Cadeirydd y pwyllgor, gryn ddiddordeb yn y maes hwn. Gwnaethoch bwyntiau tebyg iawn i'r rhai a wnaeth Leanne. Cyfeiriaf yn ôl at yr adroddiad yr wythnos diwethaf gan y bwrdd monitro annibynnol ar gyfer CEM Caerdydd, a oedd yn cynnwys canfyddiadau llwm iawn. Rydym yn cydnabod bod problem benodol yn CEM Caerdydd gyda lefelau uchel o ddedfrydau byr, a'r effaith a gaiff hynny. Fodd bynnag, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn y Siambr yr wythnos diwethaf, rydym yn disgwyl gweld gwelliannau yn safonau a chapasiti'r cwmnïau adsefydlu cymunedol, sy'n darparu gwasanaethau adsefydlu ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae, ac rydym wedi darparu adnoddau ychwanegol yn y maes drwy'r grant atal digartrefedd. Yn sicr, rydym yn cydnabod yr hyn a ddywedodd yr Aelod er mwyn sicrhau bod yr adolygiad a wnawn o angen blaenoriaethol yn arwain at welliannau yn y maes hwn.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr—David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, gwyddoch fod cael cartref diogel a fforddiadwy yn angen sylfaenol, heb os, a gall amgylchedd sefydlog helpu i gynnal iechyd a lles. Felly, heddiw, rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno gyda mi i groesawu menter Tai Pawb a'r Sefydliad Tai Siartredig i gyhoeddi adroddiad ar iechyd meddwl o fewn y sector rhentu preifat. Credaf ei fod yn faes da iawn i ganolbwyntio arno. Canfu fod bron i draean o sefydliadau cymorth yn teimlo nad yw tenantiaid yn y sector preifat byth yn cael digon o gymorth. Yn ddiddorol, mae bron i hanner y landlordiaid yn teimlo nad ydynt byth yn cael digon o gymorth a gwybodaeth iddynt allu cefnogi tenantiaid, yn enwedig tenantiaid â phroblemau iechyd meddwl. Felly, heddiw, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r adroddiad hwn, ac a wnewch chi helpu i ledaenu ei ganfyddiadau pwysig iawn?
Yn sicr, rwy'n ymuno â chi i groesawu'r adroddiad a'r canfyddiadau a'r materion a godwyd ganddo heddiw. Bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau, wrth gwrs, yn archwilio'r canfyddiadau hynny gyda chrib fân ac yn ymateb maes o law. A chredaf eich bod yn gwbl iawn i godi'r pwynt ynghylch cymorth nid yn unig i denantiaid, o ran eu hiechyd meddwl, a'r effaith a gaiff hynny ar allu rhywun i sicrhau a chynnal cartref gweddus a sefydlog, ond mewn gwirionedd, y manteision a'r cymorth i landlordiaid ac asiantaethau hefyd, sy'n eu galluogi nid yn unig i gynorthwyo tenantiaid, ond i allu diogelu sefydlogrwydd y denantiaeth hefyd.
Wel, yn sicr, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedwch, Ddirprwy Weinidog, a'ch cefnogaeth gyffredinol. I denantiaid, gall y straen a'r pryder a wynebant wrth i ôl-ddyledion rhent gronni, er enghraifft, waethygu problemau iechyd meddwl sy'n bodoli eisoes, ac i rai, wrth gwrs, gallant achosi'r problemau iechyd meddwl hynny. A gall y newidiadau gwybyddol ac ymddygiadol sy'n aml yn dod law yn llaw â phroblemau iechyd meddwl ei gwneud yn anodd iawn i osgoi ôl-ddyledion yn y lle cyntaf, neu eu datrys pan fyddant wedi digwydd. Nawr, mae landlordiaid cymdeithasol yn rhoi llawer o sylw i'r ffenomenau hyn, ac ar ddau o brif argymhellion yr adroddiad hwn—y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr i landlordiaid ac asiantaethau gosod tai ynghylch cymorth iechyd meddwl lleol a chenedlaethol, ac y dylai Rhentu Doeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i holl landlordiaid y sector preifat gwblhau modiwl ar iechyd meddwl er mwyn gwella eu gwybodaeth ynglŷn â sut i gael mynediad at gymorth i denantiaid sydd â phroblemau iechyd meddwl—a fyddwch yn cefnogi'r syniadau arloesol hyn?
Rydych yn llygad eich lle eu bod yn syniadau arloesol iawn, a dyma'r math o syniadau sydd eu hangen arnom yn rhan o'n trafodaeth ynglŷn â'r ffordd y gweithiwn ar y cyd yng Nghymru i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau a'r bobl yn ein cymunedau. Mae'r syniad o weithio gyda Rhentu Doeth Cymru i lunio modiwl ar iechyd meddwl yn bendant yn un y dylid ei ystyried, ond gan mai uwch-eilydd wyf fi heddiw, byddai'n gas gennyf roi geiriau yng ngheg y Gweinidog, ond rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y byddai ganddi gryn ddiddordeb ynddo.
Rwy'n croesawu eich gêm lawn heddiw, fel petai, fel yr uwch-eilydd—[Chwerthin.]—ac rwy'n siŵr y gallwch ffurfio eich barn eich hun ac annog y bos i wneud rhywbeth ynglŷn â hyn. Mae'n arwyddocaol iawn, yn fy marn i, fod undod yn y sector, gan gynnwys y sefydliadau sy'n cynrychioli'r landlordiaid preifat. Ac mae'n faes sy'n tyfu—mae oddeutu 20 y cant o bobl bellach yn y sector rhentu preifat, ac mae llawer ohonynt yn eithaf agored i niwed, gallant fod ar incwm isel a gallai fod ganddynt gyflyrau iechyd eisoes. Ac felly, credaf fod hwn yn faes polisi cyhoeddus sy'n galw am gefnogaeth drawsbleidiol, a buaswn yn dweud bod angen ei wella neu ei ddatblygu i fodloni tueddiadau modern. A chredaf y byddai'r rhan fwyaf o landlordiaid y sector preifat yn neidio at y cyfle i dderbyn y math hwn o gymorth, cyngor a hyfforddiant, gan y bydd yn eu galluogi i gynnal eu tenantiaethau hirdymor hir a'u ffrydiau incwm. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n tybio bod hyn er budd y landlord yn ogystal â'r tenant.
Mae argymhelliad pellach yn yr adroddiad heddiw yn datgan y dylid cynnwys cynrychiolwyr o'r sector rhentu preifat yn strwythurau llywodraethu'r rhaglen Cefnogi Pobl. A wnewch chi edrych ar yr argymhelliad hwn, argymhelliad arloesol arall, a gweithredu arno cyn gynted â phosibl? Ac a wnewch chi hefyd ganmol y gwaith a wnaed gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, a'u hymdrechion yn wir, a amlygwyd yn yr adroddiad heddiw, i leihau anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn y sector rhentu preifat?
Yn sicr, rwy'n cymeradwyo unrhyw ymdrechion i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn y sector yng Nghymru, ac yn y wlad yn gyffredinol. Rydych yn llygad eich lle wrth ddweud, fel y dywedasom ni, ei fod yn fater o fwy nag ystyried ac edrych ar yr adolygiad a'r cynigion arloesol a geir ynddo, a fydd nid yn unig yn sicrhau manteision posibl i'r tenantiaid, ac yn mynd i'r afael yn benodol ag anghydraddoldeb ac unrhyw wahaniaethu y gall tenant ei wynebu oherwydd eu problemau iechyd meddwl eu hunain, ond ei fod hefyd yn darparu sicrwydd a thenantiaethau estynedig hirdymor ar gyfer landlordiaid. Ac i ailadrodd, byddwn yn sicr yn ystyried ac yn edrych ar ganfyddiadau'r adolygiad gyda chryn ddiddordeb.
Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch, Lywydd. O ystyried y ffars gostus a hirfaith yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gyflwyno set o raddfeydd cyflog a thelerau ac amodau a bennir yn genedlaethol er mwyn rheoli cyflogau uwch swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rydych yn codi nifer o bwyntiau allweddol. Mae materion gweithlu lleol yn faterion i'r awdurdodau lleol unigol ar hyn o bryd. Yn amlwg, rydych yn codi nifer o faterion allweddol, a materion y gellir eu hystyried mewn perthynas â deddfwriaeth yn y dyfodol.
A fyddech yn cytuno y byddai cael un raddfa gyflog ledled Cymru yn cael gwared ar yr amrywiannau a welwn rhwng prif weithredwyr a chyfarwyddwyr ledled Cymru, yn rhoi terfyn ar gystadleuaeth a'r math o farchnad fewnol sydd gennym ar hyn o bryd, ac yn rhoi diwedd ar sefyllfaoedd fel yr un a welwyd yng Nghaerffili rhag digwydd eto yn y dyfodol?
O ran creu—mae'r Aelod yn codi cwestiwn diddorol iawn; fe'i codwyd o'r blaen, o ran y potensial ar gyfer un raddfa gyflogau gwasanaethau cyhoeddus ganolog. Ac yn amlwg, mae angen gwneud unrhyw beth o'r fath mewn partneriaeth a thrwy drafod gyda chynrychiolwyr undebau llafur mewn llywodraeth leol, yn ogystal â chynrychiolwyr llywodraeth leol. Mae pethau fel—yn amlwg, fe nodoch chi'r manteision, ond gallant hefyd greu heriau amlwg, os oes unrhyw ad-drefnu o'r fath, o ran cysoni graddfeydd cyflog.
Mae gennym un raddfa gyflog ar gyfer staff y Cynulliad Cenedlaethol, un raddfa gyflog ar gyfer staff y byrddau iechyd. Pam nad oes gennym un ar gyfer llywodraeth leol? Beth sy'n eich dal yn ôl?
Credaf fod yr Aelod yn nodi rhai pwyntiau pwysig iawn, o ran sut y dylem symud ymlaen, ac o ran gweithio gyda'n gweithlu diwyd mewn llywodraeth leol y dibynnwn arnynt er mwyn cael y gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth i'n bywydau bob dydd. Ac yn sicr, mae'n rhywbeth yr hoffai'r Aelod ei drafod gyda ni ymhellach y gallwn ei ystyried yn y dyfodol.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Y tro diwethaf y cawsom y cwestiynau hyn yn y Siambr, bûm yn trafod gyda'r Gweinidog, Julie James, beth oedd ei syniadau ynglŷn â'r system gynllunio yng Nghymru. Nawr, yn ddiweddarach yn y sesiwn honno, codwyd materion penodol gan un neu ddau o'r Aelodau ynghylch ceisiadau lluosog am ddatblygiadau tai ar raddfa fawr yn eu hardaloedd. Mae hon yn broblem barhaus, wrth gwrs, mewn sawl rhan wahanol o Gymru, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, Weinidog. Nawr, rydych newydd groesi drosodd o'r portffolio amgylchedd, felly byddwch hefyd yn ymwybodol iawn o'r ystyriaethau amgylcheddol. A ydych yn credu bod y system gynllunio yn rhoi digon o ystyriaeth i effeithiau amgylcheddol?
Pan fyddwn yn rhoi sylw i ddatblygiadau mawr, mae'r Aelod wedi nodi—fel y gŵyr llawer o'r Aelodau o'u bagiau post eu hunain—yr angen i ystyried, yn rhan o'r broses honno, ac yn rhan o'r cynlluniau datblygu lleol, y seilwaith lleol hwnnw yn ogystal â'r effaith ar yr amgylchedd. Ac yn ddiweddar cawsom adolygiad o 'Polisi Cynllunio Cymru', er mwyn ehangu'r cyd-destun hwnnw, ac i ystyried pethau mewn modd mwy cyfannol.
Iawn. Ac wrth gwrs, nid oes llawer o amser ers hynny, felly bydd angen inni edrych ar hynny yn nes ymlaen. Ond yn amlwg, fel y dywedwch, ceir goblygiadau o ran seilwaith yn sgil y datblygiadau tai mawr hyn, o ran gosod y seilwaith sy'n angenrheidiol bob amser. Nawr, mae un pwynt penodol mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r defnydd o gytundebau adran 106. Amodau yw'r rhain sydd ynghlwm wrth geisiadau cynllunio, lle mae'n rhaid i'r datblygwr ddarparu cyfleusterau cymunedol penodol, a allai fod yn barc, llyfrgell, maes chwarae, neu a allai fod yn rhan arall o'r seilwaith. Cafwyd cwynion nad yw llawer o ddatblygwyr wedi darparu'r cyfleusterau y dywedasant y byddent yn eu darparu. A ydych yn credu bod y gwaith o orfodi cytundebau adran 106 wedi bod yn ddigon cadarn?
Yn amlwg, mae cytundebau 106 yn cynnig cyfle i gymunedau lleol sicrhau manteision ehangach o ddatblygiadau mawr, neu ddatblygiadau yn eu hardal. Ac yn amlwg, pan roddir sicrwydd i bobl leol yn rhan o'r cynnig ar ei ffurf gychwynnol, rydym yn cydnabod y bydd yn dod law yn llaw â gwahanol gytundebau a phrosiectau datblygu cymunedol—mae'n creu pryderon pan nad yw hynny'n digwydd. Ac yn sicr, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried o ran sut y gwnawn yn siŵr fod pobl leol yn hyderus ein bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol, a thrwy'r cynlluniau datblygu lleol, i sicrhau bod manteision llawn cytundebau adran 106 yn cael eu gwireddu.
Rwy'n falch eich bod yn gweld bod hyn yn broblem, a gobeithio y gallwn gael datganiad gennych ar hyn maes o law efallai, a gweld beth yw barn eich adran ar hyn, gan y credaf ei fod yn rhywbeth sy'n peri pryder i gymunedau presennol pan fydd datblygiadau mawr newydd yn cael eu hadeiladu ac nid yw'r pethau hyn a addawyd ar waith ganddynt. Gall anghenion tai ar raddfa fawr fod yn heriol i'r amgylchedd. Roeddem yn sôn yn gynharach, mewn ymateb i gwestiwn gan Mike Hedges, ynglŷn â datblygiadau ar raddfa fach. Roedd Mike yn sôn am hunanadeiladu yn benodol. Nid wyf am eich holi ynglŷn â'r mater penodol hwnnw, gan ein bod wedi trafod hynny, ond i ba raddau y dylid cael rhagdybiaeth yn gyffredinol, yn y dyfodol, o blaid datblygiadau tir llwyd?
Mae'r Aelod yn codi'r cyfleoedd rydym wedi eu trafod yn gynharach yn y Siambr hon ar gyfer hunanadeiladu a galluogi mwy o gyfleoedd i hunanadeiladu drwy ein rhaglen newydd, yn ogystal â mwy o gyfleoedd i ddatblygwyr adeiladau ac adeiladwyr bach a chanolig yng Nghymru. Mae'r 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig wedi'i gyhoeddi, ac mae hwnnw'n ceisio mynd i'r afael â nifer o'r materion sy'n gysylltiedig â chyflenwi tai a godwyd yn y Siambr heddiw drwy gyflwyno mwy o drylwyredd a her yn y broses o lunio cynlluniau o ran dyraniad safleoedd tai.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am foddhad y cyhoedd o ran gwasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ53440
Mae llywodraeth leol yn darparu gwasanaethau hanfodol sy'n cefnogi pobl a chymunedau. Mae cael adborth yn rhan bwysig o hyn, ac roedd 77 y cant o'r ymatebwyr i'r arolwg cenedlaethol diweddaraf yng Nghymru yn fodlon â'u gallu i gael mynediad at y gwasanaethau a'r cyfleusterau y maent eu hangen.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Byddwch wedi darllen, gyda pheth pryder, heb os, yr adroddiadau yr wythnos diwethaf fod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi derbyn 87,000 o gwynion mewn perthynas â cholli casgliadau sbwriel. Yn fy etholaeth fy hun, wrth gwrs, mae gennym drefn lle gall colli casgliad sbwriel olygu y gall pobl fynd hyd at wyth wythnos heb i'w gwastraff gael ei gasglu, sy'n amlwg yn annerbyniol. Ac yn wir, yng Nghonwy, roedd oddeutu 10 y cant o'r 87,000 o gwynion yn ymwneud â'r un awdurdod lleol penodol hwnnw.
Nawr, mae'n rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru lynu at reolau Llywodraeth Cymru. Yr hyn y mae llawer o bobl yn fy etholaeth yn gofyn amdano yw mwy o ystyriaeth o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol er mwyn sicrhau setliad teg ar gyfer awdurdod lleol Conwy, ond maent hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddiogelu cymunedau lleol drwy fynnu bod cynghorau lleol yn casglu gwastraff ar sail fwy rheolaidd. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthyf beth rydych yn ei wneud i edrych ar y fformiwla ariannu i sicrhau ei fod yn deg â gogledd Cymru, a Chonwy yn arbennig, a pha waith rydych yn ei wneud gyda'ch swyddogion i edrych ar amseroldeb ac amlder y casgliadau gwastraff er mwyn amddiffyn y cyhoedd rhag y niwed posibl a all ddeillio o hynny i'r amgylchedd ac i iechyd y cyhoedd?
Mae'r Aelod yn codi—a gwn fod hwn yn bwynt y mae'r Aelod wedi'i godi o'r blaen o ran amlder casgliadau gwastraff, a chasgliadau gwastraff gweddilliol yn benodol. Rwy'n gwrthod y demtasiwn i wneud jôc am siarad sbwriel. [Torri ar draws.] Mae'n werth nodi bod yr adroddiadau y cyfeiriwch atynt, mewn gwirionedd, yn un o'r 10 cwyn uchaf ar gyfer yr holl gynghorau yn Lloegr, ond serch hynny, pan fydd hyn yn digwydd, gwyddom ei fod yn peri problem i bobl leol—boed hynny oherwydd y baich o orfod cael gwared ar y sbwriel eich hun neu unrhyw gymhlethdodau yn sgil hynny. Ceir llawer o resymau dros golli casgliadau. Nid wyf yn ymwybodol o'r manylion ar gyfer rhai unigol, a allai fod oherwydd bod cerbydau'n torri, y tywydd, biniau yn y lle anghywir, neu eu bod ychydig yn hwyr. O ran sut y gweithiwn gydag awdurdodau lleol i'w cynorthwyo gyda hyn, bydd yr Aelod yn ymwybodol mai mater i awdurdodau lleol yw amlder eu casgliadau gwastraff. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dweud yn glir fod angen inni adeiladu ar ein record ailgylchu. Os ydych yn ailgylchu'r holl ddeunyddiau sych y gallwch eu hailgylchu, gallwch wneud hynny, ac os edrychwch yn eich bin mae mwy o bethau y gallwch eu hailgylchu. Mae angen inni symud i'r cyfeiriad hwnnw o ran cynaliadwyedd ein planed. Mae angen inni wneud hynny yn y ffordd gywir yn ogystal â gweithio gyda thrigolion i wneud hynny, ac mae'n cynnwys sicrhau bod gennym gasgliadau eraill ar waith, megis ar gyfer cewynnau a phadiau anymataliaeth—pethau nad ydych am eu gadael mewn bin du am wythnosau lawer.
O ran gweithio gydag awdurdodau lleol yn y dyfodol, yn enwedig ym maes casglu gwastraff ac ailgylchu a chasglu gwastraff, yn ddiweddarach eleni, byddwn yn bwrw ymlaen gyda'n strategaeth 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', gan edrych ar ba fath o ganllawiau statudol a gyhoeddwn i awdurdodau lleol. Ond ar yr un pryd, roeddwn yn gweithio gyda'r partneriaid mewn awdurdodau lleol ac yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau ein bod yn gweithio mewn ffordd sy'n gweithio nid yn unig iddynt hwy, ond sy'n gweithio ar gyfer dinasyddion y cymunedau hynny hefyd.
Mewn ymateb i'ch cwestiwn o ran y fformiwla ariannu, mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi dweud yn glir, mewn cyfarfodydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn y Siambr hon, fod Llywodraeth Cymru yn sicr yn agored i awgrymiadau amgen gan bobl ynglŷn â sut y dylem fynd i'r afael â hynny, ond mae'n rhaid iddynt fod yn deg, mae'n rhaid iddynt fod yn wrthrychol ac mae'n rhaid iddynt gyd-fynd a bod yn berthnasol i awdurdodau lleol ledled Cymru. Ond mae'n sicr yn rhywbeth y mae'r Gweinidog yn barod i'w ystyried a'i brofi.
Weinidog, un o'r gwasanaethau pwysig a werthfawrogir yn fawr iawn gan ein cymunedau, wrth gwrs, yw gwasanaethau hamdden. Mae rhai cynghorau yn buddsoddi'n helaeth iawn ar hyn o bryd, yn enwedig fy nghyngor i, Rhondda Cynon Taf. Wrth gwrs, mae eraill, oherwydd eu sefyllfa ariannol, yn edrych ar gau gwasanaethau. Wrth gwrs, mae canolfannau hamdden awdurdodau lleol, sydd hefyd yn tueddu i gynnig gwell telerau ac amodau ar gyfer eu staff, o dan anfantais o gymharu ag ymddiriedolaethau canolfannau hamdden sy'n cael eu sefydlu am eu bod wedi'u heithrio rhag gorfod talu ardrethi busnes. Mae'r canolfannau hamdden hynny sy'n ymddiriedolaethau, sy'n aml yn gyn-ganolfannau hamdden cyhoeddus a roddwyd i ymddiriedolaethau, yn elwa ar oddeutu £5.5 miliwn oherwydd yr esemptiad rhag ardrethi busnes. Ond wrth gwrs, mae'n rhaid i ganolfannau hamdden awdurdodau lleol dalu'r ardrethi busnes hynny. Mae Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, yn talu £850,000 y flwyddyn yn y cyswllt hwnnw. A ydych yn cytuno â mi, er mwyn cynnal boddhad y cyhoedd mewn gwasanaethau hamdden, i gynnal y gwasanaethau hamdden hynny, fod angen mwy o chwarae teg? Tybed a wnewch chi argymell yn awr y dylid eu trin yr un fath ac y dylid eithrio canolfannau hamdden awdurdodau lleol yn awr rhag gorfod talu ardrethi busnes.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n codi pwynt da iawn ynglŷn â sut y mae hyn yn dal i fod o dan ofal y cyngor yn ei awdurdod ei hun, ond mae llawer o awdurdodau wedi ystyried trosglwyddo asedau fel dewis amgen yn ogystal â chyfleusterau a weithredir gan y gymuned. Fe sonioch chi am y gwahaniaeth statws o ran rhyddhad ardrethi annomestig o ran beth sy'n eiddo i gyngor awdurdod lleol neu i ymddiriedolaeth.
Mae'n rhaid i ganolfannau hamdden dalu ardrethi annomestig, fel y dywedwch. Gan fod hwn yn fater ar gyfer i'r Gweinidog cyllid, sy'n gyfrifol am y math hwn o drethiant, rwy'n fwy na pharod i—. Mae'r Gweinidog yn amlwg yn y Siambr ac wedi clywed y drafodaeth hon, ond rwy'n fwy na pharod, drwy'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol hefyd, i gael y sgwrs honno gyda'r Gweinidog cyllid.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y rheoliadau draenio trefol cynaliadwy ar gyflenwad tai? OAQ53464
Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017 yn awgrymu y gallai systemau draenio cynaliadwy sy'n cydymffurfio ac sydd wedi'u cynllunio'n dda arbed bron i £1 biliwn i Gymru mewn costau cyfalaf adeiladu yn unig erbyn 2021 ac y gallant ysgogi manteision ehangach nid yn unig i'n hamgylchedd, ond i'r economi ehangach, o £20 miliwn y flwyddyn.
Gwn beth y mae'r Gweinidog yn ei ddweud, ond mae hefyd yn dweud wrthym, fel y gwnaiff Gweinidogion eraill, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu'r cyflenwad tai yn sylweddol a chymaint o flaenoriaeth yw hyn. Er bod ganddi gyfiawnhad teilwng, heb os, dros y rheoliadau penodol, a yw'n derbyn bod cyfaddawd i'w gael rhwng rheoliad o'r fath sy'n gwneud adeiladu tai yn fwy drud ac yn anos i bobl a allai ei wneud, a faint o dai a fydd yn cael eu cyflenwi?
A wnaiff hi hefyd ystyried y cwynion a gefais gan adeiladwyr tai ynghylch anghysondeb gwahanol gyrff cymeradwyo draenio o ran dehongli'r rheoliadau hyn a bwriad gwahanol awdurdodau cynllunio i ddarparu canllawiau ar wahân a allai fod yn groes i'w gilydd o ran sut y dylent roi sylw i'r rheoliadau hyn?
O ran dehongliad cyrff cymeradwyo'r systemau draenio cynaliadwy o'r rheoliadau, mae'r systemau draenio cynaliadwy, fel mater sy'n ymwneud â dŵr, yn fater i Weinidog yr Amgylchedd, ond deallaf y dylai awdurdodau lleol fod wedi derbyn canllawiau mewn perthynas â'r cyrff cymeradwyo a sut y rhoddir hynny ar waith.
Ni chredaf y gallwn anwybyddu'r ffaith ein bod yn gwybod y bydd systemau draenio trefol cynaliadwy yn arwain at ostyngiad o 30 y cant o ran nifer yr achosion o ddifrod oherwydd llifogydd, ac ni chredaf fod hwn yn fudd y gallwn ddewis ei anwybyddu. Clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud o ran—. Rwy'n ymwybodol o'r dystiolaeth mewn papur a gyflwynwyd i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn gynharach y mis hwn. Honnai y gallai rheoliadau'r systemau draenio cynaliadwy arwain at leihad o 20 y cant o ran dwysedd ystadau tai, ond nid yw hyn yn cyd-fynd â chanfyddiadau'r ymchwil gan Environmental Policy Consulting a gomisiynwyd gennym ac a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2017, ac a ddaeth i'r casgliad, lle caiff systemau draenio cynaliadwy eu cynnwys yn rhan o gynlluniau datblygiadau o'r cychwyn cyntaf, nad yw'n ymddangos y ceir unrhyw effaith ar nifer yr unedau tai, ac mae hyn yn cyd-fynd â gwaith ymchwil ystod eang o gyrff proffesiynol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio gydag adeiladwyr tai, awdurdodau lleol a'r holl randdeiliaid i fonitro cynnydd y polisi hwn, a byddwn yn gadarn nid yn unig yn ein nod o ddatblygu dulliau effeithiol ac effeithlon hirdymor a chynaliadwy o leihau perygl llifogydd, ond yn ein nod hefyd o adeiladu mwy o dai.
5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod datblygwyr yn cadw at amodau cynllunio? OAQ53468
Mae rhwymedigaeth gynllunio yn gontract preifat cyfreithiol rwymol rhwng datblygwr ac awdurdod cynllunio lleol. Felly, nid yw ymlyniad datblygwr i gytundeb o'r fath yn fater ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Wel, dwi'n anghytuno gyda hynny, oherwydd mae yna enghreifftiau cyson iawn erbyn hyn o achosion lle mae yna ddatblygwyr, hyd yn oed ar ôl cael caniatâd cynllunio, yn gwrthod darparu'r canran angenrheidiol o dai fforddiadwy y maen nhw wedi cytuno i'w darparu fel rhan o'r amod cynllunio, a'r rheswm, yn syml iawn, wrth gwrs, yw achos nad ydyn nhw'n gallu gwneud digon o elw allan o'r cynllun. Os nad oes yna reidrwydd iddyn nhw gadw at y cymal hwnnw doed a ddelo, yna pam gosod y cymal yn y lle cyntaf? Felly, beth ŷch chi am ei wneud fel Llywodraeth—a ddim golchi'ch dwylo o'r mater yma, oherwydd mae'n broblem genedlaethol—i gynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau bod cymalau fel hyn sy'n dynodi nifer y tai fforddiadwy angenrheidiol yn cael eu parchu a'u gwireddu gan ddatblygwyr?
Clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Pan fo rhwymedigaethau cynllunio yn cael eu negodi gan awdurdodau lleol a datblygwyr—ac maent yn cynrychioli amodau pwysig, gan gynnwys amodau y mae llawer ohonom yn y Siambr hon o'u plaid—mae'n bwysig fod y datblygwr yn diogelu hynny er budd y cyhoedd. Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, os yw'r cyhoedd wedi bod yn dilyn cais cynllunio penodol gyda disgwyliad penodol, mae ganddynt hawl i ddisgwyl y cedwir at y rhwymedigaethau hynny, ac rwy'n ymwybodol, fel y dywedwch, o ddatblygwyr sy'n ceisio ailnegodi rhai o'r ceisiadau cynllunio hynny ar ôl sicrhau cydsyniad i ddatblygu. Gwn fod hynny'n rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn ymwybodol iawn ohono, ac mae'n edrych ar y mater.
Ddirprwy Weinidog, buaswn yn ddiolchgar pe gallech egluro i mi faint o gynnydd rydych yn ei wneud mewn gwirionedd o ran dod i benderfyniad ynghylch yr asesiad o'r effaith amgylcheddol sydd ei angen ar gyfer boeler biomas y Barri. Mae'n rhwymedigaeth roeddech yn bwriadu ei chefnogi. Mae rhwymedigaethau'n mynd y ddwy ffordd—fe'u gosodir gan awdurdodau cynllunio ar ddatblygwyr, ond lle mae'r Llywodraeth wedi nodi eu dyhead amlwg i roi rhywbeth ar waith, yna does bosib nad yw 13 mis yn amser digonol i chi allu ffurfio barn a gwneud datganiad yn ei gylch? Mae trigolion yn y Barri, a'r datblygwr hefyd bellach, wedi bod yn aros ers cryn dipyn o amser. A allwch roi syniad clir inni y prynhawn yma, o leiaf o'r amserlen rydych yn gweithio iddi er mwyn caniatáu i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud?
Rwy'n ymwybodol iawn o'r sylwadau a wnaed yn ddyfal eisoes gan yr Aelod ynglŷn â'r mater hwn, ac o'r sylw lleol a chyhoeddus a'r teimlad cyhoeddus wrth ei wraidd, a pham. O ran y penderfyniad, rydych yn gofyn mewn perthynas ag asesiad effaith amgylcheddol y cais cynllunio yr ymdrinnir ag ef gan gyngor Bro Morgannwg, a gwn fod y cyn Brif Weinidog wedi ysgrifennu atoch i ddweud nad oedd yn rhagweld penderfyniad cyn y Nadolig, ond mae eglurhad cyfreithiol pellach ar agweddau ar yr achos wedi bod yn angenrheidiol. Rwy'n deall rhwystredigaeth yr Aelod ynglŷn â hyn a pham ei fod yn gwthio ar ran ei etholwyr, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno, ar fater fel hwn, ei bod yn bwysig fod pethau'n cael eu gwneud, ac y cawn yr holl ystyriaeth gyfreithiol orau y gallwn ei chael er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniad gorau, a bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.
6. Beth yw hyd a lled pwerau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod rhenti ar gyfer tai cymdeithasol yn fforddiadwy? OAQ53446
Mae'n rhaid i renti fod yn fforddiadwy i bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol. Mae'n ofynnol i landlordiaid cymdeithasol gydymffurfio â pholisi rhenti cyfredol Llywodraeth Cymru, sy'n darparu fframwaith sy'n golygu bod landlordiaid cymdeithasol yn gyfrifol am bennu'r rhenti ar gyfer eu tai a'u tenantiaid eu hunain.
Fy nealltwriaeth i yw bod Llywodraeth Cymru wedi pennu mynegai o 2.4 y cant o gynnydd yn asesiad mis Medi 2018 o'r hyn sy'n rhesymol o ran mynegai prisiau defnyddwyr, ac mae hynny'n golygu bod rhent wythnosol tenantiaid, os ydynt yn denantiaid sicr, yn 2.4 y cant yn unig. Nawr, fy nealltwriaeth i yw nad yw hyn ond yn berthnasol i renti sicr yn unig ac y daw'n weithredol ar 1 Ebrill eleni. Mae nifer o denantiaid wedi bod yn gohebu â mi gan fynegi pryderon ynghylch lefel y cynnydd y maent yn ei wynebu yn y rhenti. Mae un tenant sicr, na fydd, yn amlwg, yn wynebu cynnydd o fwy na 2.4 y cant, hefyd yn wynebu taliadau gwasanaeth am bethau ychwanegol fel addurno, garddio, atgyweirio'r to, y math hwnnw o beth, a dros y blynyddoedd diwethaf, ers i'r tâl gwasanaeth a'r rhent fod ar wahân, mae'n dweud ei bod wedi wynebu cynnydd sylweddol ddwywaith y flwyddyn. Felly, mae hynny wedi arwain at gostau uchel iawn i'r unigolyn dan sylw.
I unigolyn arall, sy'n denant sicr, mae swyddog rhenti yn pennu rhent teg. Cafwyd yr adolygiad diwethaf ym mis Hydref, ac fe'i pennwyd ar gynnydd o 8 y cant dros y ddwy flynedd nesaf. Nawr, mae hynny'n llawer uwch na'r 2.4 y cant. A fy mhryder i yw bod landlordiaid cymdeithasol yn dod o hyd i fylchau sy'n golygu nad ydynt yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru o 2.4 y cant, a bod hyn oll yn digwydd yng nghyd-destun prinder llwyr o dai fforddiadwy, a bod pobl ar gyflogau isel yn pryderu na fydd modd iddynt aros yn eu tai rhent cymdeithasol oni bai eu bod yn cael budd-dal tai, sy'n arwain at gymhelliant gwrthnysig i fod yn ddi-waith. Ac yn amlwg, byddai pob un ohonom yn cytuno—
Mae angen i chi ofyn cwestiwn.
Diolch. Ymddiheuriadau. Ac felly, fy mhryder yw, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud am hyn, o ystyried y goblygiadau i denantiaid tai cymdeithasol?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Rwy'n cydnabod bod darparu'r holl dai sydd eu hangen arnom ar draws deiliadaethau yn her, ac yn her nid yn unig i'r rhai sy'n cyflenwi tai, ond heriau i'r bobl sydd angen y tai hynny hefyd.
Rydych yn gwbl gywir i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu na ddylai rhenti eleni yn y sector tai cymdeithasol gynyddu mwy na 2.4 y cant. Mae landlordiaid tai cymdeithasol unigol wedi dadlau y gall fod angen amrywio'r cynnydd mewn rhenti er mwyn rheoli tai mewn rhannau gwahanol o'u stoc dai. Lle llwyddwyd i ddadlau'r achos hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ganiatáu amrywiad cyfyngedig wedi'i reoli o amgylch cynnydd cyfartalog o 2.4 y cant. Mae'r pwyntiau rydych wedi eu codi o ran yr heriau y mae rhai o'ch etholwyr yn eu hwynebu yn haeddu rhagor o sylw, a hoffwn eich gwahodd efallai i ysgrifennu at y Gweinidog tai ar y mater hwn fel y gallwn archwilio hynny ymhellach.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mentrau ailgylchu ac ailddefnyddio yng Nghymru? OAQ53456
Mae ailddefnyddio yn chwarae rôl bwysig yn y broses o gyflawni ein huchelgeisiau diwastraff, gyda'r potensial i arbed cannoedd o filoedd o dunelli o wastraff rhwng nawr a'n targed diwastraff yn 2050. Ym mis Tachwedd, cyhoeddais £5.4 miliwn yn ychwanegol ar draws wyth prosiect newydd i wella lefelau ailddefnyddio ac ailgylchu ledled Cymru.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â Reseiclo yng Nghasnewydd, menter gymdeithasol a enillodd y wobr amgylcheddol yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol y llynedd. Sefydlwyd Reseiclo 13 blynedd yn ôl yng Nghrindai, a'i nod yw arbed cymaint â phosibl o bren gwastraff rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Maent yn casglu pren yn bennaf o safleoedd adeiladu yn ne-ddwyrain Cymru, yn gwerthu'r eitemau yn y cyflwr gorau posibl ar gost isel ac yn creu amrywiaeth eang o eitemau o bren wedi'i adfer. Mae'r saith o weithwyr yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ac oedolion ag anableddau dysgu i uwchgylchu'r pren, ac mae'r busnes yn ymdopi'n gyfan gwbl ar y ffioedd a godir am wasanaethau casglu a gwerthiant. Felly, gydag oddeutu 5 miliwn tunnell o bren gwastraff yn cael ei gynhyrchu yn y DU bob blwyddyn, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i gefnogi mentrau fel Reseiclo i wireddu eu huchelgais, ac efallai y gall y Dirprwy Weinidog ymuno â mi ar ymweliad â Reseiclo i weld y gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud ers blynyddoedd lawer?
Diolch i'r Aelod am hynny ac am dynnu sylw at y gwaith rhagorol y mae Reseiclo yn ei wneud. Yn fy rôl flaenorol fel Gweinidog yr Amgylchedd, ac rwy'n dal i fod yn gyfrifol am hyn, rwyf wedi ymweld â nifer o ganolfannau ailddefnyddio: FRAME yn Sir Benfro, Crest Co-operative yng ngogledd Cymru a hefyd, yn fwyaf diweddar, The Shed yn Llantrisant. Felly, rwy'n fwy na pharod i ymuno â chi ar ymweliad ac i longyfarch Reseiclo ar eu gwobr yn bersonol. Mewn gwirionedd, rydym yn sôn am y ffordd y mae'r canolfannau hyn yn darparu manteision amgylcheddol, ond hefyd, fel mentrau cymdeithasol, maent yn dwyn manteision llawer ehangach i'r bobl sydd wedi cael cyfle i gymryd rhan, ac rwyf wedi clywed cymaint o straeon am wirfoddolwyr sydd wedi mynd ymlaen i ddysgu sgiliau a chael swydd yno yn ogystal, felly maent yn newid bywydau pobl yn ogystal â bod o fudd i'r amgylchedd. Dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy mewn mentrau fel y rhain. Fel y dywedasoch, mae'n gwestiwn a ydych yn uwchraddio ac yn defnyddio pren wedi'i adfer—a gwyddom fod pren yn gallu bod yn arbennig o anodd ei ailgylchu oherwydd y cemegau sy'n aml yn cael eu defnyddio arno, felly mae'n wirioneddol dda eu bod yn creu menter mor llwyddiannus o hyn, ac rwy'n fwy na pharod i ddod ar ymweliad.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i dai cydweithredol? OAQ53424
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad tai cydweithredol yng Nghymru a thai dan arweiniad y gymuned yn fwy cyffredinol. Drwy ein prosiect tai cydweithredol yng Nghymru, rydym yn ariannu, gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru, er mwyn annog, hybu a chefnogi tai cydweithredol.
O, mae'n ddrwg gennyf; nid oeddwn yn siŵr a oeddech wedi gorffen.
Er bod tai cydweithredol yn darparu cyfran sylweddol o anheddau mewn llefydd mor amrywiol ag Efrog Newydd, Vancouver a'r gwledydd Llychlyn, nid yw'n darparu llawer o dai yng Nghymru. A wnaiff y Gweinidog sefydlu tasglu neu gymryd camau i nodi beth sydd angen ei wneud i gynyddu tai cydweithredol yn sylweddol yng Nghymru? Credaf ei fod yn rhywbeth sydd ar goll yng Nghymru ac mae'n gyfle i gynyddu nifer y tai, ac mae pawb ohonom yn dweud ein bod eisiau gwneud hynny.
Mae'r Aelod yn sôn am fentrau arloesol sy'n digwydd mewn mannau eraill, nid yn unig yn Ewrop ond ar draws y byd. Rwy'n cytuno bod yna bethau y gallwn eu dysgu o fannau eraill yn y maes tai a meysydd polisi cyhoeddus eraill yn ogystal. Yn yr un modd, mae yna bethau y gallai gwledydd eraill eu dysgu gennym ni. Mae gennym fentrau arloesol mewn perthynas â thai cydweithredol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae'r rhain ar raddfa gweddol fach, ond mae rhai'n amlwg yn fwy llwyddiannus nag eraill, ac mae angen i ni ddysgu o'r enghreifftiau hyn a'u hymestyn yn seiliedig ar y gwersi a ddysgwyd.
Mae gennym eisoes nifer o grwpiau arbenigol ar y pwnc hwn. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru, sy'n cael arian grant gan Lywodraeth Cymru, ac mae gennym grŵp rhanddeiliaid tai cydweithredol hefyd, lle mae Tai Cymunedol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â'r grwpiau tai dan arweiniad y gymuned eu hunain wedi ymuno â Chanolfan Cydweithredol Cymru a'r Cydffederasiwn Tai Cydweithredol. Ar hyn o bryd, nid ydym wedi ein hargyhoeddi o rinweddau cael grŵp arbenigol arall, ond credaf ei fod yn sicr yn rhywbeth y gall y grwpiau arbenigol hyn ei ystyried i sicrhau eu bod yn dysgu o enghreifftiau mewn rhannau eraill o'r byd a gweld sut y gallant gymhwyso'r rheini'n llwyddiannus yma yng Nghymru.
Yn olaf, cwestiwn 9, Nick Ramsay.
9. Sut y mae'r Gweinidog yn cryfhau'r broses gynllunio mewn ardaloedd gwledig? OAQ53447
Y ffordd orau o gynllunio'n effeithiol mewn ardaloedd gwledig yw sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol ar waith sy'n amlinellu'r strategaeth gynllunio ar gyfer ardaloedd gwledig. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10' yn cynnwys canllawiau cynllunio cryfach ar gyfer ardaloedd gwledig drwy wneud creu lleoedd effeithiol yn ofynnol er mwyn sicrhau bod datblygiadau'n hyrwyddo ffyniant, iechyd a llesiant.
Diolch i chi, Ddirprwy Weinidog. Ac rydych wedi rhagweld fy nghwestiwn drwy sôn am broses y cynlluniau datblygu lleol. Cynhaliais gymhorthfa yn archfarchnad Morrisons yn y Fenni yn ddiweddar—model poblogaidd bob amser. Gallaf weld bod Lynne Neagle yn cytuno ac yn eu cynnal hefyd. [Chwerthin.] Un mater sy'n codi'n gyson yn fy nghymorthfeydd ar hyn o bryd yw cynllunio ac yn benodol, nifer y ceisiadau cynllunio sy'n cael eu cyflwyno y tu allan i gynlluniau datblygu lleol awdurdodau lleol. Pa arweiniad rydych yn ei roi neu y mae'r Gweinidog wedi'i roi i awdurdodau lleol mewn perthynas ag ymdrin â'r ceisiadau hyn? Teimlaf fod fy etholwyr yn derbyn bod yn rhaid cael mwy o dai a bod yn rhaid adeiladu mwy ond maent yn pryderu ynglŷn â chadernid y broses ac os ydych am gael proses ar gyfer cynlluniau datblygu lleol, a fyddech yn cytuno ei bod yn well fod ceisiadau'n mynd drwy'r broses honno yn hytrach na'u bod yn cael eu gweld yn cael eu rhuthro, ac o bosibl yn amhriodol yn y tymor hwy?
Unwaith eto, mae'r Aelod yn codi pwyntiau pwysig o ran hyder y cyhoedd yn y prosesau sydd ar y gweill. Credaf fod yna wên gyfarwydd ar wyneb sawl un ohonom pan sonioch am gymorthfeydd archfarchnadoedd—treuliodd llawer ohonom yn y lle hwn oriau lawer mewn un ohonynt. [Anghlywadwy.]—mae nifer o awdurdodau lleol wrthi'n adolygu eu cynlluniau datblygu ar hyn o bryd. Pan ddaw'n bryd i Lywodraeth Cymru ystyried a chymeradwyo adolygiad, bydd yn ystyried a yw'r cynllun yn bodloni anghenion cymunedau lleol a'i chanllawiau ei hun. Un o amcanion y Llywodraeth hon a'r Gweinidog yw bod cynllun datblygu lleol unrhyw awdurdod lleol yn cael ei ddatblygu yng nghyd-destun cynllun rhanbarthol, ac rwy'n falch bod cynnydd wedi'i wneud bellach ar ddatblygu cynllun rhanbarthol o'r fath yn ne-ddwyrain Cymru. Os yw awdurdod lleol yn ystyried cymeradwyo datblygiad arwyddocaol iawn sydd y tu hwnt i'w gynllun datblygu lleol ei hun, mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i alw cais o'r fath i mewn ac mae wedi gwneud hynny'n ddiweddar. Ond mae'r Aelod yn ymwybodol na allaf roi sylwadau ar unrhyw geisiadau unigol.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau amserol, ac dwi wedi derbyn un cwestiwn amserol i'w ofyn i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Mae'r cwestiwn gan Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith penderfyniad Honda i gau eu ffatri’n Swindon ar y gadwyn cyflenwi yng Nghymru? 281
Diolch. Wrth gwrs, effeithir ar gyflenwyr o Gymru i ffatri Honda yn Swindon gan y newyddion ofnadwy hyn. Bydd ein swyddogion, ynghyd â fforwm modurol Cymru ac Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU, yn gweithio gyda'r cwmnïau hyn, gan ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i helpu.
Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn amlwg yn gyhoeddiad sy'n peri pryder i ni. Credaf fod tua dwsin o gwmnïau yn gyflenwyr uniongyrchol, gan gynnwys Kasai—200 o weithwyr ym Merthyr Tudful—Toyoda Gosei yng Ngorseinon—600 o weithwyr yno, rwy'n credu—Mitsui yn Rhydaman—dros 100. Mae'n rhestr hir iawn ac wrth gwrs, mae gan y cwmnïau hynny eu cadwyni cyflenwi eu hunain yn ogystal. Felly, mae yna effaith ganlyniadol. Heb amheuaeth, bydd rhai cwmnïau yn gallu trosglwyddo i gwsmeriaid newydd, o ystyried yr amser cymharol hir cyn cau'r ffatri yn Swindon. Ond yn sicr, bydd llawer yn ei chael yn anodd iawn i sicrhau cytundebau yn lle'r un gyda Honda, yn enwedig os yw'r contractau hynny'n ffurfio cyfran fawr o gyfanswm eu gwaith. Felly, a allai'r Dirprwy Weinidog amlinellu natur y gwaith a fydd yn mynd rhagddo yn awr gyda'r sector i asesu effaith cyhoeddiad Honda, ac amlinellu pa fathau o becynnau cymorth y mae'r Llywodraeth yn ystyried eu datblygu ar y cam hwn? A allai ddweud wrthym pa gymorth penodol sy'n cael ei archwilio i gynorthwyo gyda throsglwyddo i gontractau newydd, a throsglwyddo i dechnolegau modurol newydd, gan gynnwys gyriant cenhedlaeth newydd? Oherwydd, mewn gwirionedd, gallai llawer o'n harbenigedd yma ym maes electroneg—sglodion ac ati—fod yn sylfaen dda ar gyfer diwydiant modurol yn y DU yn y dyfodol—diwydiant sy'n cael ei fygwth gan Brexit, wrth gwrs.
Nawr, er bod Honda yn dweud nad Brexit yw'r rheswm dros eu penderfyniad, mae digon o dystiolaeth i ddangos bod ansicrwydd a nerfusrwydd ynghylch Brexit wedi bod yn ffactor arwyddocaol yn rhai o'r penderfyniadau a wnaed gan wneuthurwyr ceir a chydrannau i ddad-fuddsoddi yn y DU yn y misoedd diweddar. Wrth gwrs, mae yna ddigon o rybuddion am ganlyniadau trychinebus Brexit 'dim bargen' i'r diwydiant cynhyrchu ceir yn y DU. Nawr, bydd y Dirprwy Weinidog wedi darllen adroddiadau, fel finnau, am gronfa—a fedyddiwyd yn 'Kingfisher' gan Ganghellor y DU—i gryfhau'r economi yn sgil Brexit 'dim bargen'. Nawr, pe bai'r paratoadau ar gyfer Brexit yn dryloyw, fel y dylent fod, rwy'n siŵr y byddai'r Trysorlys eisoes wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut y gallai cronfa o'r fath weithio yng Nghymru, beth fyddai'r blaenoriaethau, ac ati. Nid wyf yn dal fy ngwynt, ond rwyf am ofyn, serch hynny, pa drafodaethau a allai fod wedi'u cynnal. Yn benodol, pa lefel o gyllid a allai fod ar gael gan 'Kingfisher', neu unrhyw gronfa arall o ran hynny, i'r diwydiant modurol yng Nghymru? Hefyd, a yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl cael unrhyw ddylanwad dros y modd y caiff y cronfeydd hynny eu gwario? Hefyd, sut y disgwylir i gwmnïau gwahanol a gwahanol sectorau, gan gynnwys y sector modurol, gael mynediad at yr arian hwnnw?
Diolch. Yn wir, mae yna 18 cwmni o Gymru yng nghadwyn gyflenwi Honda. Ar y cyfan, Honda sydd i gyfrif am lai na 10 y cant o gyfanswm eu busnes, ond Honda sydd i gyfrif am 80 y cant o fusnes tri o'r cwmnïau—ac mae pob un ohonynt yn gwmnïau o Japan. Honda sydd i gyfrif am bron 50 y cant o fusnes un cwmni arall, sydd hefyd yn gwmni o Japan. Wrth gwrs, ni fydd y cyhoeddiad hwn yn dod yn weithredol am dair blynedd, sy'n rhoi rhywfaint o amser i ni weithio gyda'r cwmnïau i ddod o hyd i farchnadoedd amgen. Yn y cyfamser, mae disgwyl i'r cwmnïau fodloni eu gofynion cytundebol i Honda a gweithredu ar gapasiti llawn. Felly, nid ydym yn disgwyl unrhyw ddiswyddiadau ar unwaith, ac mae gennym dair blynedd i asesu'r opsiynau sydd ar gael i ni. Ac mae'n galonogol fod Honda yn gwahodd y cwmnïau i wneud cais am eu model newydd. Mae amrywiaeth o drafodaethau ar y gweill gyda'r cwmnïau a Llywodraeth y DU. Roedd swyddogion yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn Llundain ddoe. Maent yno eto heddiw yn cymryd rhan mewn uwchgynhadledd—cyfarfod cyntaf y tasglu Honda, wedi'i gadeirio gan Greg Clark—felly rydym yn cael trafodaeth lawn gyda Llywodraeth y DU ac yn ystyried sut y gallwn ymateb i hyn.
Os bydd gweithwyr yn cael eu diswyddo, wrth gwrs, mae gennym raglen ReAct ac rydym bellach, gwaetha'r modd, wedi hen arfer ei defnyddio i greu pecyn o fesurau ar waith, gan gynnwys Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith, a chymorth i helpu cwmnïau i addasu a gweithwyr i ailhyfforddi, ond nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto.
O ran y darlun ehangach, mae'r Aelod yn gywir—mae yna nifer o ffactorau ar waith yma wrth gwrs. Mae Brexit yn sicr yn ffactor, oherwydd gallai'r gost o allforio i Ewrop gynyddu'n sylweddol ar ôl diwedd y mis nesaf, ond nid dyna'r unig ffactor. Nid yw'r ffatri hon wedi bod yn gweithredu ar gapasiti llawn ers peth amser. Mae gostyngiad yn y galw byd-eang am geir. Mae yna newid o'r injan safonol i gerbydau trydan. Mae yna bryderon amgylcheddol ac wrth gwrs, ceir y gostyngiad yn y tariff, sydd wedi'i gwneud yn rhatach i gwmnïau o Japan allforio o Japan i weddill y byd. Felly, ceir amryw byd o ymyriadau.
O ran y cwestiwn penodol ar Brexit, cawsom gyfarfod o is-bwyllgor y Cabinet ar barodrwydd ar gyfer Brexit y bore yma, a gallaf ddweud wrth yr Aelodau ei fod yn gyfarfod go ddifrifol. Wrth gwrs, mae trafodaethau ar y gweill mewn perthynas â sut y gallwn helpu pob diwydiant unigol. Byddem yn annog pob cwmni gweithgynhyrchu i fanteisio ar y porth Brexit, ffynhonnell ganolog ar gyfer yr holl gyngor ar gyfer sut i addasu. Rydym yn pryderu, yn sicr ymhlith mentrau bach a chanolig, nad oes digon yn ymgysylltu. Ar ôl cymryd rhan mewn cyfarfod bwrdd crwn gyda grwpiau busnes yr wythnos diwethaf, mae yna deimlad ymhlith busnesau bach, yn arbennig, y bydd Brexit yn cael ei ddatrys mewn rhyw ffordd, y bydd rhywbeth yn digwydd a fydd yn ateb y broblem, ac nad oes angen iddynt boeni gormod yn ei gylch. Mae nifer o sefydliadau yn ymgysylltu ac wedi gwneud defnydd o'n cronfa parodrwydd Brexit, sydd bellach yn wag, ac erbyn hyn rydym wedi rhyddhau adnoddau ychwanegol i wneud yn siŵr fod cymorth pellach ar gael ar gyfer busnesau.
Wel, wrth gwrs, mae Honda wedi cadarnhau nad Brexit oedd wrth wraidd eu penderfyniad, ond ei fod wedi'i lywio'n bennaf gan y ffaith bod y diwydiant yn symud tuag at gerbydau trydan, ac maent wedi dweud y byddant yn canolbwyntio gweithgarwch mewn rhanbarthau lle maent yn disgwyl y bydd mwy o alw am geir trydan. Felly, rwy'n pryderu ein bod ni ar ei hôl hi yma yng Nghymru. Gwyddom fod Llywodraeth yr Alban—neu'n sicr, rwy'n credu bod Llywodraeth yr Alban ymhell ar y blaen mewn perthynas â datblygu seilwaith a chefnogi'r dechnoleg honno. Nawr, gwn nad yw rhai cynghorau hyd yn oed wedi dechrau gwneud cais am gyllid i osod seilwaith gwefru ar gyfer cerbydau trydan, gan ddweud ei bod yn well ganddynt aros tan y bydd galw yn y farchnad.
Felly, gan ganolbwyntio fy nghwestiynau ar hyn, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gweithio gydag awdurdodau lleol, ac o ran gweithio gyda'r cynlluniau economaidd rhanbarthol, i sicrhau bod maes cerbydau trydan a thechnoleg newydd yn cael ei ddatblygu? A beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddangos i gwmnïau fel Honda a Ford fod Cymru yn lle sy'n buddsoddi mewn seilwaith arloesol ac o ddifrif ynglŷn â thechnolegau newydd?
Diolch. Credaf eich bod yn gorliwio'r sefyllfa braidd drwy geisio cysylltu'r ddau fater hynny. Mae gennym gronfa o £2 filiwn yr ydym wedi cytuno arni ar y cyd â Phlaid Cymru ar gyfer cyflwyno mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan. O ran y pwynt nad oedd Brexit yn ffactor wrth benderfynu, credaf unwaith eto fod yr Aelod yn ymestyn y gwir braidd. Y bore yma—
Dyna beth roeddent yn ei ddweud. Rwy'n dyfynnu beth roeddent yn ei ddweud.
Y bore yma, dywedodd y cyn-lysgennad yn Japan, Syr David Warren, fod ceisio honni nad yw'r penderfyniad yn gysylltiedig â Brexit yn ffansïol. Yn y pen draw—[Torri ar draws.] Rwy'n cael fy heclo o feinciau'r Ceidwadwyr. Byddai'n well pe baent yn anelu eu dicter tuag at eu Llywodraeth eu hunain sy'n methu rhoi sicrwydd i fusnesau ynglŷn â beth fydd yr amgylchedd masnachu ymhen mis.
Rydych yn gwrando ar fusnesau—maent hwy'n cefnogi cytundeb y Prif Weinidog.
Rwy'n gwrando ar fusnesau, sy'n dweud wrthym y gallent, erbyn diwedd y mis hwn, yn hawdd fod yn wynebu treth o £400 ar bob injan, ar ben rhwystrau di-dariffau, os na chawn gytundeb da, a bydd hynny'n tarfu ar yr holl fodel busnes 'mewn pryd' y mae'r diwydiant ceir yn dibynnu arno. Felly, mae meinciau'r Ceidwadwyr yn byw ym myd ffantasi os ydynt yn credu nad yw'r ansicrwydd ynghylch Brexit yn ffactor ym mhob penderfyniad y mae pob cwmni rhyngwladol yn ei wneud ar hyn o bryd.
Weinidog. Gallaf ddeall pam fod Aelodau UKIP a'r Aelodau Ceidwadol eisiau claddu eu pennau yn y tywod ynglŷn â'r dinistr y mae Brexit yn ei achosi'n ddyddiol i'n swyddi gweithgynhyrchu. Rwy'n pryderu'n ofnadwy am fy ffatrïoedd modurol yn Nhorfaen. Mae gennym gannoedd o weithwyr ar gyflogau da yn gweithio mewn cadwyni cyflenwi modurol ac mae eu swyddi oll mewn perygl yn awr, nid yn unig oherwydd y posibilrwydd o Brexit 'dim bargen', ond hefyd maent yn cydnabod nad oes unrhyw gytundeb cystal â'r cytundeb sydd gennym yn awr o ran gweithgynhyrchu.
A gaf fi ofyn pa drafodaethau a gawsoch, yn benodol gyda ffatrïoedd modurol yn Nhorfaen, i sicrhau y gallwn baratoi ar gyfer y trychineb hwn sy'n ymddangos fel pe bai'n anelu tuag atom yn ddiatal?
Diolch. Mae Fforwm Modurol Cymru yn ceisio ymgysylltu â'r holl gwmnïau yn gynnar—pob un o'r 18 cwmni o Gymru sy'n rhan o gadwyn cyflenwi Honda—i ddeall y sefyllfaoedd y maent ynddynt a gweld sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i liniaru'r golled hon. Fel y dywedaf, mae gennym gyfres o ymyriadau ar gael ac mae gennym dair blynedd. Ni fydd unrhyw ddiswyddiadau mawr yn sgil y cyhoeddiad hwn, mae llyfrau archeb y ffatrïoedd yn parhau i fod wedi'u gwarantu o dan eu contractau ar gyfer y tair blynedd nesaf, a bydd gennym amser felly i'w helpu i baratoi. Ond wrth gwrs, mae hwn yn amgylchedd sy'n newid yn gyflym o ran y ffordd y mae'r diwydiant ceir yn datblygu. Mae'r sector modurol a'r sector awyrofod yn wynebu newidiadau dwys i'w diwydiannau, sy'n ei gwneud yn bwysicach fyth ein bod yn sicrhau fframwaith sefydlog o reoliadau a chyfraith a threfniadau masnachu drwy gytundeb da. A chytunaf â'r sylwadau a wnaeth Lynne Neagle—mae'n ffansïol, fel y dywedodd cyn-lysgennad Japan, i honni nad yw'r penderfyniad yn gysylltiedig â Brexit. Yn amlwg, nid Brexit yw'r unig ffactor, ond serch hynny, mae'n ffactor ar gyfer pob cwmni sy'n masnachu yn yr amgylchedd rhyngwladol ar hyn o bryd.
Wel, mae'n ffansïol i'r Gweinidog geisio cysylltu hyn â Brexit, oherwydd mae Honda yn cau eu llinell gynhyrchu yn Nhwrci, sydd y tu mewn i'r undeb tollau. Felly, nid oes gan hyn unrhyw beth o gwbl i'w wneud â Brexit, fel y dywedodd y cwmni ei hun. Mae'n ymwneud â pholisi yr UE a pholisi Llywodraeth y DU a pholisi Llywodraeth Cymru ar gael gwared ar ddiesel. Oherwydd ers 2006, mae'r galw am geir Honda o bob math yn Ewrop wedi gostwng 50 y cant, ac mae'r galw yr Honda Civic, sydd dan sylw, wedi gostwng bron i ddwy ran o dair, ac mae hynny'n ymwneud yn uniongyrchol â'r sgandal diesel a'r newidiadau deddfwriaethol sydd wedi cael eu gwneud o ganlyniad i hynny. Felly, mae arnaf ofn dweud y gall y busnesau a'r unigolion sy'n dioddef, neu'r rhai a fydd yn dioddef o ganlyniad i'r penderfyniad hwn, roi'r bai ar Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd sydd yn y broses o ddinistrio'r farchnad ar gyfer ceir diesel ar eu tiroedd eu hunain. Gwelwyd gostyngiad o 30 y cant yn y galw am geir diesel y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae'r syniad fod y penderfyniad i gau'r llinellau cynhyrchu hyn o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu o fewn yr undeb tollau yn ymwneud â Brexit mewn unrhyw ffordd yn sothach. Mae'n ymwneud â pholisïau bwriadol, polisïau sy'n dinistrio swyddi, yr UE.
Mae'n werth cofio bod Neil Hamilton wedi gwneud dadleuon tebyg iawn wrth ddadlau yn erbyn camau i gael gwared ar betrol sy'n cynnwys plwm. Mae wedi bod yn gyson anghywir ar ddiogelu defnyddwyr ac amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag cerbydau sy'n llygru, ac mae'n ceisio rhoi'r bai ar bopeth ar wahân i'r polisi byrbwyll y mae wedi'i gefnogi i ddinistrio swyddi yn sgil celwyddau ynglŷn ag effaith gadael yr UE.
Glynwch at y ffeithiau.
Mae Neil Hamilton yn cyfeirio at y ffaith bod Twrci hefyd yn cau ei ffatrïoedd. Dyna sy'n digwydd pan fo gennych gytundebau masnach rydd; mae canlyniadau y ddwy ffordd. Rydym wedi sicrhau cytundeb masnach gyda Japan sy'n ei gwneud yn rhatach i Japan gynhyrchu ei geir yn Japan, a dyna sut y mae masnach rydd yn gweithio. Heb amddiffyniadau'r UE, byddwn yn fwy agored i niwed mewn perthynas â newidiadau i amodau rhyngwladol.
Mae Neil Hamilton yn gwrthod arbenigedd cyn-lysgennad Japan, sydd wedi gwneud y cysylltiad â Brexit ei hun, a chredaf ei fod yn naïf—. Nid wyf yn dweud mai dyma'r unig ffactor, ond mae'n naïf i feddwl bod cwmnïau sy'n dibynnu ar nwyddau masnachu—. A chofiwch mai dim ond 10 y cant o'r 160,000 o geir a gynhyrchir gan Honda a werthir yn y DU, mae'r rhain yn—. Mae'r rhain yn—gwelaf Michelle Brown wrthi'n brysur yn tynnu lluniau; mae'r— [Torri ar draws.] Mae'n drueni nad oedd ganddi bethau pwysicach i'w gwneud—[Torri ar draws.] Mae'r ceir hyn yn cael eu gwerthu i'w hallforio i'r UE ac mae'n amlwg y bydd y posibilrwydd y bydd costau allforio'n cynyddu yn ffactor yn y penderfyniadau y maent yn eu gwneud.
Weinidog, fe fyddwch yn gwybod bod Kasai yn fy etholaeth yn waith modurol mawr sy'n cyflogi tua 200 o bobl, fel y mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi'i grybwyll. Nawr, maent yn darparu proses weithgynhyrchu unigryw a chwyldroadol iawn—y gyntaf o'i bath yn Ewrop mewn gwirionedd, a dyna sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am ei llwyddiant a'i gallu i sicrhau contractau gyda chwmnïau fel Honda a Jaguar Land Rover, sydd i gyfrif am ran fawr o'i fusnes.
Nawr, fel rydych wedi'i ddweud eisoes, ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod beth fydd effaith cyhoeddiad Honda yn Swindon ar Kasai, ond yn y senario waethaf, mae'n bosibl y caiff swyddi eu colli, ac ni ellir gorbwysleisio'r effaith ar ardal fel Merthyr Tudful, ar ôl colli swyddi yn St Merryn Meat yn ddiweddar a'r cynigion arfaethedig i drosglwyddo dros 200 o swyddi'r Adran Gwaith a Phensiynau allan o'r dref. Nawr, rwy'n ddiolchgar am y wybodaeth rydych wedi'i rhoi eisoes mewn atebion blaenorol, ond byddaf yn cyfarfod â rheolwyr Kasai yfory, gyda Gerald Jones AS, a byddai'n ddefnyddiol pe gallem, yn y trafodaethau hynny, roi ychydig mwy o sicrwydd mewn perthynas â gallu Llywodraeth Cymru i'w cefnogi drwy'r hyn a allai fod yn gyfnod anodd, os bydd angen iddynt archwilio marchnadoedd a chontractau amgen er mwyn sicrhau eu dyfodol hirdymor ym Merthyr Tudful. Oherwydd, rwy'n tybio y bydd Kasai, fel llawer o gwmnïau eraill, mewn sefyllfa lle bydd angen iddynt oresgyn rhwystr; nid ydynt eisiau colli swyddi tra'u bod yn gwneud hynny, tra'u bod yn chwilota'r farchnad am fusnes arall. Mae'n bosibl y bydd angen iddynt ddatblygu sgiliau amgen o fewn eu gweithlu i gystadlu mewn gwahanol farchnadoedd modurol. Felly, pa gymorth penodol y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu ei roi i gwmni fel Kasai yn y broses honno o oresgyn y rhwystr penodol hwnnw o ran sicrhau eu diogelwch yn y dyfodol?
Diolch. Ydw, rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa yn Kasai a'r 200 o swyddi. Fel y dywedais, ni fydd unrhyw ddiswyddiadau yn digwydd ar unwaith yn unrhyw un o'r ffatrïoedd, gan na fydd y cyhoeddiad hwn yn dod yn weithredol am dair blynedd, a byddwn yn gweithio gyda chwmnïau yn y cyfamser i helpu i weld sut y gallwn eu cynorthwyo i ddod o hyd i farchnadoedd eraill. Mae Kasai, fel y dywedodd Dawn Bowden, yn cynhyrchu paneli drws mewnol ar gyfer yr Honda Civic ac yn meddu ar set o sgiliau penodol, a bydd Honda yn gwahodd pob un o'r cwmnïau yr effeithiwyd arnynt i wneud cais ar gyfer y modelau newydd y byddant yn eu cynhyrchu. Felly, bydd Fforwm Modurol Cymru yn ymgysylltu â'r cwmni i weld sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol y ffatri ym Merthyr Tudful.
Rwy'n siŵr fod yr Aelodau'n ymwybodol fod ffatri Ford yn fy rhanbarth yn wynebu colli hyd at 1000 o swyddi o bosibl yn y dyfodol agos. Soniasoch yn gynharach, Ddirprwy Weinidog, na fydd y sefyllfa yn Honda yn dod yn un ddifrifol tan 2021, sy'n golygu bod dwy flynedd lle gallai Llywodraeth Cymru weithio i sicrhau bod Ford a'u cadwyni cyflenwi, yn ogystal â Honda, yn cael y canlyniad gorau posibl o'r hyn sy'n benderfyniad trychinebus i bawb mewn gwirionedd.
Yr ail beth rwyf eisiau ei ofyn i chi yw: yr wythnos diwethaf, clywsom gan Jeremy Miles fod y Gweinidog materion rhyngwladol yn gweithio'n galed i hyrwyddo'r sector modurol, a oedd yn cynnwys cadwyni cyflenwi, ar draws y byd, ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd gennych unrhyw newyddion pellach ynglŷn â hynny. Diolch.
Cafodd y Prif Weinidog a Gweinidog yr economi gyfarfod â chadeirydd Ford yn y DU yr wythnos diwethaf i weld a allem gynnig unrhyw gefnogaeth neu gymorth pellach. Yn amlwg, mae'r sefyllfa y maent yn ei hwynebu yn ddifrifol, ac maent hwythau hefyd, fel Honda, yn wynebu natur newidiol y sector modurol a'r gymysgedd o wahanol rymoedd sydd wedi dod at ei gilydd ar yr un pryd i achosi anawsterau ar gyfer y cwmnïau amrywiol yn y sector. Atgyfnerthodd y drafodaeth yno y ffaith bod creu rhwystrau i fasnach, a rhwystrau nad ydynt yn rhai masnachol yn y farchnad allforio yn ffactor gwirioneddol yn eu proses o wneud penderfyniadau. O ran y gwaith y mae'r Gweinidog materion rhyngwladol wedi bod yn ei wneud ar hyrwyddo Cymru, byddaf yn sicr yn gofyn iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y cynnydd yn hynny o beth, ond gallaf eich sicrhau ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i geisio lliniaru effaith Brexit a helpu'r sector i ddod yn fwy gwydn yn wyneb newidiadau sylweddol.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, a datganiad gan Jayne Bryant.
Roedd Paul Flynn yn gawr o fewn y mudiad Llafur, yn ddatganolwr brwd a seneddwr eithriadol. Roedd yn eiriolwr dros yr iaith Gymraeg, a ddysgodd yn ei arddegau, ac roedd yn hynod o falch o weld ein Senedd yn cael ei sefydlu. Câi ei barchu ar draws y rhaniad gwleidyddol, gyda'i ymadroddion gwych, ei sylwadau ffraeth a'i feddwl miniog, ac roedd Paul yn sicr yn herio grym gyda'r gwir. Roedd ymhell o flaen ei amser ar faterion roedd eraill yn eu hystyried yn rhy ddadleuol. Cafodd ei brofi'n gywir mewn perthynas â chymaint ohonynt. Fel y dywedai, roedd pawb yn cytuno ag ef 20 mlynedd ar ôl iddo ei ddweud. [Chwerthin.]
Roedd yn caru Casnewydd, ac roedd mor falch o gynrychioli Gorllewin Casnewydd yn y Senedd. Nid oedd neb gwell i'w gael ar eich ochr na Paul. Roedd yn ymgyrchydd dygn a oedd yn malio am bobl ac ni fyddai byth yn rhoi'r ffidl yn y to, roedd bob amser yn awyddus i siarad dros bobl heb lais, roedd ganddo feddwl agored ac roedd yn ddewr. Roedd Paul yn croesawu technoleg newydd ac yn ei ystyried yn gyfle i gyfathrebu â mwy o bobl. Ef oedd yr unig berson y gwn amdano a oedd yn siomedig pan gynyddwyd y nifer geiriau ar Twitter. Iddo ef, roedd Twitter yn gelfyddyd, fel barddoniaeth; roedd pob gair yn bwysig, ac roedd yn mwynhau'r her.
Oherwydd ei broblemau symudedd, byddai Paul yn meddwl am ffyrdd gwahanol o ymgyrchu. Un tro, parciodd i fyny ar Fryn Betws a difyrru'r ystâd gyfan ag uchelseinydd enfawr am oriau gyda'i lais persain. Nid wyf yn siŵr ai annog neu gythruddo pobl i ddod allan i bleidleisio a wnâi; y naill ffordd neu'r llall, fe weithiai.
Cyfarfûm â Paul am y tro cyntaf pan oeddwn yn naw mlwydd oed, pan ymwelodd â fy ysgol ar ôl iddo gael ei ethol i gynrychioli Gorllewin Casnewydd am y tro cyntaf ym 1987. Daeth â gwleidyddiaeth yn fyw i mi bryd hynny, ac mae wedi gwneud hynny byth ers hynny. Nid oedd Paul byth yn ddi-liw nac yn ddiflas, a phrofodd fod gwleidyddiaeth yn ymwneud â phobl, ac roedd eisiau i bobl ifanc fod mor angerddol yn ei gylch ag yr oedd ef ar hyd ei oes.
Roedd bob amser yn optimistaidd. Y peth gorau amdano oedd y ffaith ei fod yn garedig ac yn ysbrydoli, ac roedd cymaint o hwyl o fod yn ei gwmni. Bydd colled fawr ar ei ôl, ac rydym yn cydymdeimlo'n fawr â Sam, ei wraig, a'u teulu. Dylai Casnewydd, Cymru a'r mudiad Llafur fod yn hynod falch ohono. [Cymeradwyaeth.]
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6977 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Helen Mary Jones (Plaid Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Cynigiwyd yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Sy'n dod â ni at y ddadl ar yr adroddiad ar berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol. Dwi'n galw ar Mick Antoniw i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6942 Mick Antoniw, Bethan Sayed
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r adroddiad ac argymhellion yn ymwneud â pherthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd perthynas barhaus rhwng Cymru a Phwyllgor y Rhanbarthau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydlu Comisiwn ar y cyd rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau deialog barhaus a chydweithredu rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Cynulliad ac awdurdodau lleol Cymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a chyfeiriaf hefyd at y ddogfen a baratowyd gennyf fi a Bethan Sayed ar berthynas Cymru gyda Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol. Lywydd, erbyn diwedd y mis nesaf, mae'n debygol y byddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, nid oes dim yn sicr. Mae'n bosibl y bydd estyniad i erthygl 50, mae'n bosibl y bydd etholiad cyffredinol, mae'n bosibl y bydd refferendwm neu gadarnhad o ryw fath. Nid oes neb yn gwybod i sicrwydd, yn enwedig y Llywodraeth. Mae hyn yn golygu y bydd ein cynrychiolaeth ar nifer o gyrff Ewropeaidd yn dod i ben. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud yn bennaf â'n cynrychiolaeth ar Bwyllgor y Rhanbarthau. Fodd bynnag, nid yw'n ymwneud â'r pwyllgor hwnnw'n unig, a dyna pam fod Bethan Sayed a minnau wedi cyfeirio at nifer o gyrff UE cysylltiedig yr ydym ni, fel Cynulliad, yn ymwneud â hwy neu'n gysylltiedig â hwy i ryw raddau neu'i gilydd.
Rwyf am fod yn onest a dweud nad wyf yn credu ein bod erioed wedi meddu ar strategaeth ddigon clir mewn perthynas â strwythurau is-genedlaethol yr Undeb Ewropeaidd, ac nid ydym wedi manteisio i'r eithaf ar y budd posibl y gallem fod wedi'i gael i Gymru. Serch hynny, mae'r ffaith ein bod yn gadael yr UE yn rhoi ffocws llym i ganlyniadau ymadael a'r partneriaethau, y cysylltiadau a'r cyfleoedd posibl ar gyfer ymgysylltu â gwledydd a sefydliadau Ewropeaidd eraill yr ydym yn debygol o'u colli oni bai ein bod yn mynd ati'n rhagweithiol i roi camau ar waith i sefydlu fframweithiau ôl-Brexit newydd.
Roeddwn yn aelod o Bwyllgor y Rhanbarthau am ddwy flynedd o'r blaen yn y Cynulliad diwethaf, gyda Rhodri Glyn fel eilydd. Roeddem yn gweithio'n dda gyda'n gilydd, gan ymdrin â chynifer o'r meysydd allweddol o ddylanwad sy'n berthnasol i Gymru ag y gallem, o'r polisi economaidd a chymdeithasol yn yr UE i'r polisi amgylcheddol. Cafodd y ddau ohonom nifer o lwyddiannau'n ymwneud yn uniongyrchol â materion neu bolisïau Cymreig. Yn fy marn i, nid yw Pwyllgor y Rhanbarthau wedi cael ei werthfawrogi agos digon, oherwydd mae'n galluogi trefi a dinasoedd, gwladwriaethau ffederal, llywodraethau a threfniadau llywodraethu is-genedlaethol i ddod at ei gilydd, ac mae'n darparu fframwaith ar gyfer datblygu polisi yr UE, mynediad at Gomisiwn yr UE, Senedd a Chyngor yr UE ac mae wedi chwarae rhan enfawr yn y gwaith o gynllunio systemau trafnidiaeth metro rhanbarthol, dinasoedd clyfar, cynllunio amgylcheddol, ailgylchu, llywodraethu rhanbarthol, prosiectau economaidd ac adfywio rhanbarthol, ac mae llawer o'r hyn a weithredwyd gennym yma â'i wreiddiau mewn datblygiadau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, ac yna wedi'i hyrwyddo a'i ddatblygu'n strategaethau drwy Bwyllgor y Rhanbarthau.
Ar hyn o bryd, er enghraifft, rwy'n aelod o dasglu Pwyllgor y Rhanbarthau ar Ukrain, ac mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn chwarae rôl sylweddol yn y broses o ddatganoli a democrateiddio yn Ukrain, gan efeillio mentora rhanbarthau ledled Ewrop â rhanbarthau Ukrain. Mae sefydlogrwydd economaidd a chymdeithasol a diogelwch yn Ukrain yn hanfodol i sefydlogrwydd a ffyniant economaidd Ewrop yn y dyfodol. Ni ellir gorbwysleisio gwerth geowleidyddol y math hwn o waith.
Mae Pwyllgor y Rhanbarthau wedi gwneud cyfraniad sylweddol hefyd i bolisi rhyngranbarthol ar ddiwylliant, y celfyddydau ac ieithoedd lleiafrifol. Yn bwysig, mae ganddo hefyd swyddogaeth gyfansoddiadol sylweddol a phŵer deddfwriaethol fel gwarcheidwad sybsidiaredd. Mewn byd ôl-Brexit, bydd angen i Gymru fel gwlad, a'r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru, ddatblygu ei pherthynas benodol ei hun ag Ewrop. Byddwn am ddiogelu'r enw da rydym wedi'i sefydlu a'i ddatblygu, a datblygu cysylltiadau newydd Cymreig mwy ffurfiol, yn enwedig ym maes arloesi ac ymchwil, a phrosiectau megis Erasmus. Bydd angen inni ddangos ein bod yn barod i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i oresgyn ynysu gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol sydd mewn perygl o fwrw cysgod dros ein hunaniaeth yn y dyfodol.
Yn ystod cyfarfodydd diweddar o Bwyllgor y Rhanbarthau, mae dirprwyaeth y DU wedi bod yn hyrwyddo deialog newydd, i sefydlu fformat newydd ar gyfer statws cyswllt ôl-Brexit. Mae hyn wedi'i dderbyn mewn egwyddor, ond mae'n colli ei drywydd yn sgil ansicrwydd y negodiadau Brexit. Hyd nes y ceir eglurder ynghylch safbwynt y DU a'r trefniadau terfynol ar gyfer y berthynas rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd, mae Pwyllgor y Rhanbarthau a sefydliadau eraill yr UE yn amharod, yn ddealladwy, i ddatblygu a ffurfioli trefniadau a strwythurau newydd.
Cyfyd materion allweddol mewn perthynas ag ymgysylltiad y DU yn y dyfodol. Bydd yn rhaid iddo gynrychioli buddiannau Llywodraeth ddatganoledig ac amrywiaeth wleidyddol y DU yn briodol. Byddwn eisiau hybu perthynas Gymreig benodol o fewn hynny, nad yw wedi'i chyfyngu gan drefniadau blaenorol ar gyfer y DU. Bydd yn rhaid mynd i'r afael â materion ariannu. Er enghraifft, mae'n debygol y byddwn am barhau gydag Erasmus, un o'r polisïau cymdeithasol a ddefnyddiwyd yn fwyaf llwyddiannus sy'n galluogi pobl ifanc o bob rhan o Ewrop i ymgysylltu â'i gilydd, astudio a hyfforddi mewn gwahanol wledydd yn Ewrop. Yr hyn sy'n amlwg i mi yw y bydd angen llais Ewropeaidd Cymreig. Nid ynysu a mewnblygrwydd yr eithafwyr yn y Blaid Doraidd ac UKIP yw ein ffordd ni o edrych ar bethau. Rhaid inni barhau i fod yn rhyngwladolaidd ac yn genedl sy'n edrych tuag allan. Mae'n debygol iawn y bydd cynnydd sylweddol wedi'i wneud erbyn diwedd cynhadledd nesaf Pwyllgor y Rhanbarthau ym mis Mawrth, ond bydd amlinelliad o strwythur y prototeip ar gyfer y berthynas yn y dyfodol wedi symud ymlaen. Pwrpas y cynnig heddiw yw i'r Cynulliad gymeradwyo'r dull o weithredu y mae Bethan a minnau wedi'i fabwysiadu, ac i gyfarwyddo Llywodraeth Cymru i gymryd perchnogaeth ar y broses yn awr. Ar ôl 29 Mawrth, bydd ein mewnbwn fel aelodau o Bwyllgor y Rhanbarthau wedi dod i ben. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn llenwi'r gwagle hwnnw ac yn parhau'r broses hyd nes y bydd trefniant ffurfiol ar waith. Mae'r cynnig, felly, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n uniongyrchol â Phwyllgor y Rhanbarthau a sefydliadau eraill yr UE, a hefyd i fynd ar drywydd yr amcan hwn gyda Llywodraeth y DU, fel rhan o'r negodiadau Brexit parhaus. Diolch ichi, Lywydd.
A gaf fi ddweud cymaint rwy'n croesawu'r ddadl sydd ger ein bron heddiw, ar y mater pwysig hwn o ymgysylltiad ar ôl Brexit? Nid wyf yn derbyn y darlun na allwch fod yn rhyngwladolaidd os ydych yn cefnogi Brexit, a'ch bod yn ymynysol. Yn sicr nid dyna yw fy marn i. Rwy'n rhyngwladolaidd iawn, ac mae'n bwysig iawn inni ymgysylltu ar lefel fyd-eang, ac nid o fewn Ewrop yn unig. Ac wrth gwrs mae'n gwbl hanfodol fod gennym berthynas agos barhaus gyda'r rhanbarthau gwahanol yn Ewrop ar ôl 29 Mawrth. Roeddwn yn un o'r rhai a bleidleisiodd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd wrth gwrs, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn fod yn Gynulliad sy'n edrych at y gorwelion sydd y tu hwnt i Gymru, y tu hwnt i'r DU, a thu hwnt i 29 Mawrth.
Dywedwyd wrthym yn gyson yn ystod y refferendwm y byddai'n amhosibl cynnal perthynas agos gyda rhannau eraill o Ewrop ar ôl Brexit, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n wir o gwbl, a dyna pam roedd fy mhlaid yn falch iawn o weld y Prif Weinidog newydd yn dilyn ein harweiniad drwy benodi rhywun i fod yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol. Ac rwy'n falch iawn o weld mai Eluned Morgan a gafodd y swydd honno, o gofio am y cyfoeth o brofiad a gafodd yn Ewrop. Ac wrth gwrs mae grwpiau eraill yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn hefyd wedi achub ar y cyfle i benodi llefarwyr cysylltiadau rhyngwladol. Ac mae'n wych fod Delyth Jewell wedi cael y fraint honno ar ran Plaid Cymru, a hoffwn ei chroesawu i'w swydd.
Credaf ei bod yn hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn datblygu ei strategaeth cysylltiadau rhyngwladol o ran ymgysylltu o gwmpas y byd, ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhan bwysig iawn ohono. Ond rydych yn iawn i dynnu sylw yn eich araith agoriadol, Mick, at yr angen i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, fel sefydliad, gael strategaeth cysylltiadau rhyngwladol hefyd, fel y gallwn hyrwyddo gwaith y Cynulliad Cenedlaethol y tu allan i Gymru, a dysgu hefyd gan rannau eraill o'r byd, o ran sut y gweithredwn fel deddfwrfa ddatganoledig o fewn undeb llwyddiannus y Deyrnas Unedig.
Nawr, cefais y fraint o gynrychioli'r Cynulliad Cenedlaethol fel un o aelodau'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig. Bûm yn aelod o'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig ers dros ddegawd bellach, ac fel rhan o waith y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig cawn gyfle hefyd i gymryd rhan, mewn fforwm gwahanol, gyda phobl o ddeddfwrfeydd eraill o fewn y DU, a Gweriniaeth Iwerddon wrth gwrs, ac yn wir, rhai o'r ynysoedd eraill sy'n ffurfio Ynysoedd Prydain. Ac i mi, dyna ffordd ddefnyddiol iawn o gydweithio gyda seneddwyr eraill, o ran ceisio ymchwilio i rai o'r heriau sy'n aml yn gyffredin iawn i bob un ohonom yn y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig.
Rwy'n cadeirio pwyllgor materion Ewropeaidd y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, ac mewn gwirionedd, cynhaliodd y pwyllgor hwnnw ymchwiliad byr ynglŷn ag ymgysylltiad â gwahanol sefydliadau Ewropeaidd yn dilyn Brexit. Cyhoeddodd adroddiad tua 18 mis yn ôl, ac edrychodd ar werth ymgysylltiad a chydweithrediad a oedd eisoes ar waith—nid y cydweithrediad rhynglywodraethol yn unig, ond cyfarfuom hefyd â llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau, Karl Heinz Lambertz, i gael trafodaeth gydag ef am y cyfleoedd a allai ddal i fodoli ar gyfer ymgysylltu â'r pwyllgor yn y dyfodol. Ac roedd hi'n amlwg iawn fod llu o wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd eisoes yn cymryd rhan mewn gwahanol fforymau a sefydlwyd ar gyfer ymgysylltu. Ac un o'r rhai y cyfeiriai atynt oedd Cymdeithas y Rhanbarthau Ffiniol Ewropeaidd, er enghraifft, sydd wrth gwrs yn mynd i fod yn fwyfwy pwysig i ni, rwy'n meddwl, o ran ein hymwneud yn y dyfodol. Mae'n gweithio'n agos iawn, fel y gŵyr Mick a Bethan, gyda Phwyllgor y Rhanbarthau, ac nid oes raid i chi fod yn aelod o'r UE er mwyn ymgysylltu â'r gymdeithas honno.
Felly, buaswn yn annog y Cynulliad Cenedlaethol hwn a Llywodraeth Cymru yn gryf i geisio ymwneud rhywfaint â'r sefydliad penodol hwnnw wrth i amser fynd yn ei flaen, oherwydd rwy'n credu bod cyfleoedd enfawr i ni o ran ymgysylltiad rhyngwladol ar ôl 29 Mawrth, a chredaf y dylem fanteisio arnynt, ond ni allwn wneud hynny heb fod gennym strategaeth briodol ar waith, fel Senedd ac fel Llywodraeth Cymru yn ogystal.
A gaf fi groesawu'r adroddiad gan ein cynrychiolwyr ym Mhwyllgor y Rhanbarthau a'r cyflwyniad gan Mick Antoniw ynglŷn â phwysigrwydd Pwyllgor y Rhanbarthau a'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yn ei gylch? Rwyf am gyfeirio'n ôl at adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol fis Chwefror neu fis Mawrth diwethaf, 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol—Rhan un: safbwynt o Gymru'. Gyda llaw, awgrym cynnil oedd hwnnw—mae rhan 2 yn dod allan ddydd Iau. Argymhelliad 16 gennym oedd:
'Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi yn ei ymateb i’r adroddiad hwn pa drafodaethau y mae wedi eu cael ar berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol ar ôl Brexit, a sut mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt.'
A dyma'r ymateb a gawsom gan Lywodraeth Cymru—gobeithiaf y gall y Gweinidog ymhelaethu ar rai o'r sylwadau yma:
'Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddor o berthynas barhaus rhwng y DU a Phwyllgor y Rhanbarthau ac mae trafodaethau manwl eisoes wedi cael eu cynnal ynglŷn â ffurf y berthynas.'
Felly, efallai y gallwn gael cadarnhad ynglŷn â pha mor bell y maent wedi mynd bellach.
'Yn y cyfnod pontio, rydym wedi mynegi ein cefnogaeth i sefydlu Pwyllgor y Rhanbarthau-Comisiwn y DU ar y cyd, a fyddai—pe câi ei fabwysiadu gan Bwyllgor y Rhanbarthau—yn cynnwys deuddeg aelod o Bwyllgor y Rhanbarthau a deuddeg o'r DU.'
Ond eto, mae angen inni wybod ai dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd, ac os felly, pa bwysau y mae'n ei roi ar gynrychiolaeth y DU i sicrhau bod cynrychiolaeth o Gymru yn rhan o'r ddirprwyaeth honno.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn datgan:
'Rydym hefyd yn cytuno â'r cynnig o fforwm gwleidyddol parhaol i Ogledd-orllewin Ewrop ar ôl y pontio a ddylai gynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r Gweinyddiaethau Datganoledig.'
Felly, unwaith eto, mis Mai diwethaf oedd hyn. Pa gynnydd a wnaethpwyd ar y tri phwynt mewn ymateb i'n hadroddiad rhan 1?
Mae'n bwysig ein bod hefyd—. Rwy'n cefnogi sylw Darren Millar ynglŷn â gwahanu rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Nodaf y bydd gweddill fy sylwadau ar Lywodraeth Cymru, ond mae'n bwysig fod gan y Cynulliad ei safbwynt ei hun mewn sefydliadau Ewropeaidd. Ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr, Lywydd, yr ateb a roesoch i'r pwyllgor, a oedd yn tynnu sylw at rai o'r pethau hynny. Efallai fod angen inni weld faint yn fwy o waith y gallwn ei wneud a phwy arall y gallwn archwilio'r posibilrwydd o weithio gyda hwy fel Cynulliad, yn enwedig deddfwrfeydd ledled Ewrop mewn rhanbarthau penodol. Gwn eich bod wedi cael trafodaethau gyda'r Basgiaid a'r Catalaniaid, er enghraifft. Efallai y byddwn am—. A bydd hynny'n ddefnyddiol iawn i ni yn ogystal, oherwydd mae dau grŵp ar wahân yma: mae perthynas ar lefel Cynulliad ac mae perthynas ar lefel Llywodraeth Cymru, ac mae'n bwysig. Rhaid inni gofio y caiff y ddau gynrychiolydd eu penodi gan y Prif Weinidog, ond maent yn cynrychioli'r Cynulliad ym Mhwyllgor y Rhanbarthau, nid Llywodraeth Cymru. Pam? Oherwydd, unwaith eto, os darllenwch y papurau gan Bwyllgor y Rhanbarthau, a chawsom rai pan gawsom gyfarfod â llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau ddoe mewn perthynas â Brexit, ac mae eu llais yn glir iawn eu bod eisiau i'r trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ddod hefyd i bwynt lle gallwn gael cytundeb ar gyd-bwyllgor rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r DU. Nawr, fy mhryder i, felly, yw y dywedwyd wrthym fod rhan fwyaf o'r—[Anghlywadwy.]—â thrydydd gwledydd yn digwydd unwaith y flwyddyn. Felly, mae hynny'n golli mynediad ar un ystyr, ond cawn gysylltiadau anffurfiol o ganlyniad i hynny, ac efallai y byddwch yn edrych ar sut y gallwn gael is-bwyllgorau o ganlyniad i weithio arno. Felly, mae hynny'n bwysig—yn bwysig iawn yn wir.
Yr hyn a glywsom ddoe, ac mae hyn yn eithaf clir—dywedodd y llywydd wrthym, heb amheuaeth: mater i Lywodraeth Cymru yw arwain ar yr hyn y mae'n ei ofyn. Nid oeddent hwy'n mynd i arwain; roeddent am i Lywodraeth Cymru gymryd yr awenau. Felly, ar un ystyr, os ydym o ddifrif eisiau bod yn rhan o hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad a chyflwyno ei chynigion.
A wnewch chi ildio? A yw'n cofio'r pwyslais a roddwyd hefyd ar gael cymorth Llywodraeth y DU i'r hyn yr ydym am ei wneud? Ac a yw'r Aelod yn credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn ei gael er mwyn sicrhau y gall Cymru gadw'r cysylltiadau y mae'n dymuno eu gweld?
Ydy, mae'n bwysig, cymorth Llywodraeth y DU, oherwydd, yn amlwg, mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn dal i fod yn aelod-wladwriaeth ac yn cael ei gweld fel y prif gorff mewn un ystyr. Ond yr hyn y gwnaethant ei nodi oedd—. Ceir dau bwynt i hynny: a yw Cymru'n gallu dylanwadu o fewn y ddadl ar lefel y DU, yn yr ystyr o'r hyn yr ydym bob amser wedi siarad amdano—Cyngor y Gweinidogion neu gael rhywbeth mwy ffurfiol yn lle'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion? Ond roeddent yn nodi mai mater i'r DU oedd hynny ac nid oeddent am fod yn rhan o hynny. Ond ceir pwynt fod angen i Lywodraeth y DU gymryd rhan hefyd, oherwydd eu bod, ar hyn o bryd, ar lefel aelod-wladwriaeth a dyna pwy ydynt mewn trafodaethau ar rai o'r safbwyntiau hyn, am fod y strwythurau'n bodoli o wladwriaeth i wladwriaeth. Felly, dyna oedd y broses ffurfioli. Ond os yw Llywodraeth Cymru am ddod yn rhan o hyn, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn dechrau gofyn amdano.
Hoffwn dynnu sylw at un peth, oherwydd mae hyn yn bwysig. Cawsom gyfarfod hefyd â swyddogion eraill, a oedd yn datgan yn glir fod Llywodraeth Cymru, yn ystod y blynyddoedd y bu'n bresennol ym Mrwsel, wedi bod yn effeithiol iawn yn yr hyn a elwir yn ddiplomyddiaeth feddal, ac maent bellach yn cael eu cydnabod am y gwaith hwnnw. Yn ogystal, mae eraill yn troi atynt fel pobl sydd wedi mynd mor bell â hynny, oherwydd, i lawer o rai eraill—. Fel aelod-wladwriaeth, rydych yn cael eich cynnwys yn awtomatig. Fel Cymru, dechreuasom weithredu fel trydedd wlad, ar un ystyr, ac adeiladwyd y ddiplomyddiaeth feddal honno. Ac roedd hwnnw'n gyfeiriad clir iawn yr oedd angen inni fynd iddo. Felly, mae'r berthynas hon gyda Phwyllgor y Rhanbarthau yn fecanwaith arall i barhau'r ddiplomyddiaeth feddal honno ac felly, buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i fynd ar drywydd hyn ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i Lywodraeth Cymru.
Rwyf innau newydd ddychwelyd o ymweliad hynod ddiddorol ac ysgogol gyda'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol â Brwsel ac fel y dywedwyd, cawsom y fraint o gyfarfod â Llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau yno, yn ogystal â'r anhygoel Mairead Mcguinness, Aelodau o Senedd Ewrop a llysgenhadon. Mewn llawer o'r cyfarfodydd hyn, rhoddwyd darlun llwm iawn o'r dylanwad y bydd y DU, a Chymru'n fwy byth, yn ei golli gyda Brexit. Cymharodd aelod arall o'r pwyllgor y cynnydd o chwith hwn fel rhywun sy'n arfer gwneud penderfyniadau yn newid i fod yn lobïwr, ac mae perygl gwirioneddol mai felly y bydd.
Nid wyf wedi siarad yn y Siambr hon am Brexit o'r blaen ac nid wyf yn petruso rhag dweud fy mod yn bersonol yn ystyried bod y posibilrwydd y bydd Cymru yn colli ei llais mewn sgyrsiau â'i chwiorydd yn Ewrop yn hynod o ddinistriol. Felly, rhaid inni wneud cynnydd lle gallwn. Yn wir, diben ymweliad y pwyllgor â Brwsel oedd edrych ar y math o berthynas y dylai Cymru obeithio ei hadeiladu â sefydliadau a gwledydd yr UE ar ôl diwedd mis Mawrth. Ni allaf bwysleisio digon pa mor hanfodol yw hi fod Cymru'n cryfhau ac yn meithrin cynghreiriau cryf ac mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn fecanwaith amlwg ar gyfer hyrwyddo'r nod hwnnw.
Mae Ivan Rogers wedi dweud, ar gyfer pob gwlad yn Ewrop, mai ei pherthynas â'r UE yw ei pherthynas strategol bwysicaf. I ni, yng Nghymru, nid yw'r ffaith honno ar fin newid. Nid yw ein daearyddiaeth ar fin newid ac yn sicr, rwy'n gobeithio ac yn hyderu na fydd ein cysylltiadau diwylliannol yn newid. Ond rydym yn gwybod na theimlir effaith Brexit yn yr un modd ar draws pob rhan o'r ynysoedd hyn. Mae hynny'n arbennig o wir yng Nghymru ac yn arbennig o wir mewn rhai rhannau o Gymru, gan gynnwys fy rhanbarth yn y de-ddwyrain. Yn wir, fel rydym eisoes wedi clywed heddiw, teimlwyd rhai o'r effeithiau hyn eisoes gyda chau ffatri Honda yn Swindon ac effaith debygol hynny ar ffatri Kasai ym Merthyr Tudful, lle mae 200 o bobl yn gweithio. Ni allwn fforddio colli'r swyddi hyn, a byddaf yn gwneud popeth a allaf i weithio gyda phartïon sydd â diddordeb er mwyn eu hachub.
Fel y noda'r adroddiad hwn, bydd Brexit yn cael effaith anghymesur. Felly, dylai ein diplomyddiaeth hefyd fod yn anghymesur mae'n debyg. Fel y saif pethau, nid yw'r mecanwaith a welwyd ym Mhwyllgor y Rhanbarthau—sef deddfwrfeydd datganoledig â llais uniongyrchol yn sgyrsiau sefydliadau'r UE—yn cael ei efelychu ar lefel y DU. Dyna pam y cymeradwyaf yr argymhelliad i sefydlu comisiwn ar y cyd rhwng y pwyllgor a'r DU i sicrhau na chollir y mecanwaith hwn, a gobeithiaf fod y Cynulliad yn cymeradwyo'r argymhelliad hwnnw hefyd.
Heb amheuaeth, dylem geisio cynnal cynrychiolaeth gyswllt ar y pwyllgor. Mae'n ofid fod cymaint o ddiplomyddiaeth wedi'i hymddiried i Lywodraeth y DU ei wneud ar ein rhan. Mae angen i Gymru gadw ein llais wedi'i glywed yn glir ac yn groyw. Ni allwn ymddiried mewn Llywodraeth arall i wneud hynny ar ein rhan. Mae hynny'n arbennig o wir am Lywodraeth a gaiff ei hystyried gyda'r fath ddryswch ac arswyd â San Steffan yn Ewrop ar hyn o bryd. Mae'r diffyg eglurder y mae San Steffan yn ei roi i Ewrop yn broblem enfawr. Fel y dywedodd un person a gyfarfuom: 'Pan ydych chi'n hwylio, rhaid ichi weld y tir er mwyn llywio'n briodol.' I gynifer o sefydliadau yr UE sydd am weithio gyda ni—ac mae parodrwydd i weld hynny—nid ydynt ond yn gallu gweld dŵr. Dyna pam y mae angen inni gadarnhau ein hymrwymiad i ddod o hyd i ffordd o barhau i weithio gyda Phwyllgor y Rhanbarthau. Ni all Cymru fforddio colli ei llais. Diolch.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf fi yn gyntaf ddiolch i Mick Antoniw a Bethan Sayed am eu hadroddiad nhw ar y berthynas rhwng Cymru yn y dyfodol a Phwyllgor y Rhanbarthau? Ac a gaf i longyfarch Delyth Jewell hefyd ar ei phenodiad hi fel siaradwraig Plaid Cymru dros gysylltiadau rhyngwladol?
Nawr, dwi wedi bod yn ymwybodol o waith y pwyllgor dros amser hir, a dwi’n meddwl ei fod yn sefydliad o'r Undeb Ewropeaidd sy’n cynrychioli llais unigryw rhanbarthau, gwledydd fel Cymru, ac awdurdodau lleol ar draws yr Undeb Ewropeaidd, a dwi’n gwerthfawrogi’r ymrwymiad mae ein haelodau ni wedi’u gwneud i gynrychioli Cymru yna.
Ers canlyniad y refferendwm, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir: er gallai Cymru fod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, dŷn ni ddim yn gadael Ewrop. Ac felly mae’n gwneud synnwyr inni ddatblygu cysylltiadau parhaus gyda sefydliadau perthnasol yr Undeb Ewropeaidd ynghyd â rhwydweithiau a rhaglenni rhanbarthau eraill fel ein bod ni ddim yn colli ein cydweithrediad llwyddiannus, fel rŷn ni wedi clywed gan gymaint o siaradwyr dros y blynyddoedd yn y mudiadau yma.
Nawr, yn y gorffennol, mae’r cysylltiad hwn wedi profi i fod yn un gwerthfawr ac wedi ein galluogi ni i ddylanwadu ar lunio polisïau Ewropeaidd, ond hefyd i ddysgu o’r rhanbarthau eraill i helpu i wella ein polisïau ni ein hunain yma yng Nghymru. Mae’n amlwg y bydd aelodaeth ffurfiol y Deyrnas Unedig o Bwyllgor y Rhanbarthau yn dod i ben ar ôl i’r Deyrnas Unedig dynnu’n ôl o’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn wir os ydyn ni’n llwyddo i gael cytundeb neu’n gadael heb gytundeb.
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod hi’n gwneud synnwyr i archwilio pa gyfleoedd sydd ar gael i feithrin perthynas barhaus rhwng y Deyrnas Unedig a Phwyllgor y Rhanbarthau. A dwi’n ymwybodol bod ein cynrychiolwyr wedi bod yn weithredol mewn trafodaethau ynghylch sefydlu’r comisiwn yma ar y cyd rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a’r Deyrnas Unedig yn ystod unrhyw gyfnod pontio a fydd yn digwydd, os bydd yna gytundeb.
Pe byddai strwythur o’r fath yn cael ei datblygu—ac, wrth gwrs, byddai’n rhaid i hwn gael ei gytuno gan Bwyllgor y Rhanbarthau—byddwn i’n awyddus iawn i sicrhau cynrychiolaeth ddatganoledig gref yn nirprwyaeth y Deyrnas Unedig, a byddwn i’n disgwyl y byddai’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig mewn lle i enwebu un cynrychiolydd i’r pwyllgor. Rŷn ni hefyd yn cytuno bod lle i archwilio ymhellach gynnig i greu fforwm gwleidyddol parhaol ar gyfer gorllewin gogledd Ewrop ar ôl unrhyw gytundeb, a ddylai gynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r sefydliadau datganoledig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Nawr, deallaf fod cynnig ar hyd y llinellau o ymchwilio i sefydlu fforwm economaidd gogledd-orllewin Ewrop, a grybwyllwyd gan Mick Antoniw, o dan ystyriaeth gan Bwyllgor y Rhanbarthau ar hyn o bryd, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad penderfyniad y pwyllgor, a fydd, wrth gwrs, yn digwydd ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd yn ddiddorol iawn siarad â Syr Albert Bore mewn cyfarfod dros y ffôn a gefais ag ef yr wythnos diwethaf ar yr union fater hwn—ynglŷn â sut beth fyddai hwnnw a'r modelau sy'n bodoli ar gyfer y math hwnnw o esiampl i ni ei dilyn.
Gan droi at yr argymhellion a wnaed yn adroddiad Mick a Bethan, rwy'n falch o gadarnhau, ers y refferendwm yn 2016, fod Gweinidogion a swyddogion wedi parhau i archwilio sut y gellir datblygu cysylltiadau sefydledig er creu budd pellach i Gymru. Rwy'n llwyr ategu'r pwynt ein bod wedi adeiladu cymaint o ewyllys da dros y blynyddoedd, cymaint o bŵer meddal, fel y byddai'n gamgymeriad enfawr inni ei golli. A gallaf gadarnhau hefyd fod y Prif Weinidog yn gofyn am gyfarfod â llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau yn ystod ei gyfarfod nesaf ym Mrwsel.
Nawr, cyhoeddais yn ddiweddar y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth ryngwladol newydd, ac yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw, byddwn yn ceisio penderfynu pa un o'r nifer o rwydweithiau Ewropeaidd a restrir yn atodiad A y ddogfen y byddwn eisiau ei flaenoriaethu o ran y berthynas rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Ac wrth i'r cloc barhau i dician tuag at yr adeg y bydd y DU yn gadael yr UE, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn anfon neges gref, hyd yn oed os ydym yn gadael yr UE a'i sefydliadau, ein bod yn gwbl benderfynol o sicrhau ein bod yn parhau ar delerau da a'n bod yn benderfynol o wella a pharhau i ddatblygu ein perthynas â'n cymdogion agosaf ar y cyfandir.
Gobeithiwn y bydd i lywodraethu o'r fath ar lefel is-aelod-wladwriaeth rôl allweddol yn sicrhau y bydd y cyfeillgarwch hwnnw'n parhau. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau y bydd llais Ewropeaidd Cymreig yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir ar draws y cyfandir. Rwy'n falch o adrodd bod y Llywodraeth yn hapus i gefnogi'r cynnig yn llawn.
Diolch. Galwaf ar Bethan Sayed i ymateb i'r ddadl. Bethan.
Diolch yn fawr iawn. Gwn fod amser yn brin. Diolch i Mick Antoniw am gyflwyno ein hadroddiad ac am gyflwyno'r trafodaethau a gawsom yn huawdl a'r casgliadau y daethom iddynt o ran y gwaith yr ydym wedi ceisio ei wneud o fewn y gallu cyfyngedig a oedd gennym mewn perthynas â'n cynrychiolaeth ar Bwyllgor y Rhanbarthau. Croesawaf gyfraniadau pawb yma heddiw, yn enwedig y gydnabyddiaeth o'r ffaith bod angen inni barhau i weithio gyda'r Undeb Ewropeaidd ym mha ffordd bynnag, a gweithio gyda gwledydd eraill hefyd ar sail fyd-eang i ddangos bod Cymru'n gymuned o gymunedau wirioneddol ryngwladolaidd.
Buaswn yn anghytuno ag un peth a ddywedodd Darren Millar o ran ein potensial i weithio gydag Ewrop. Gallwn weithio mewn gwahanol ffyrdd a rhwydweithiau gwahanol, ond mae gennym berthynas ffurfiol yn awr. Rydym yn aelodau ffurfiol ac mae gennym y gallu hwnnw, fel roedd gennyf bythefnos yn ôl, i sefyll yn y Senedd ym Mrwsel a siarad a dweud wrth bobl beth rydym yn ei wneud yma yng Nghymru i hyrwyddo ein cenedl, i hyrwyddo ein gwerthoedd. Ni chawn y cyfle hwnnw o dan strwythurau mwy anffurfiol, ond rwy'n derbyn y bydd yn rhaid i hynny ddigwydd. Sut y gwnawn hynny pan na fydd gennym y strwythurau breintiedig iawn a fu gennym yw'r cwestiwn. Gwnaf y gyfatebiaeth o sut rydym wedi gallu rhwydweithio, sut y gallasom ddod â syniadau gwerthfawr yn ôl i'r sefydliad hwn, yn ôl i fod o fudd i Gymru, a sut y bydd yn rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud hynny. [Torri ar draws.]—Nid oes gennyf amser. Yn llythrennol, nid oes gennyf amser. Gallwn barhau'r trafodaethau hyn wedyn.
Mewn perthynas â'r hyn y mae'r Gweinidog wedi dweud am un aelod o unrhyw gyd-gomisiwn, hoffwn ei hannog i ystyried mwy nag un. Bu'n dda cael amrywiaeth barn gennyf fi a Mick Antoniw. Mae gennym syniadau tebyg, ond gall ein barn fod yn wahanol ar bethau eraill. Rwy'n meddwl bod cael amrywiaeth barn ar lefel ryngwladol neu Ewropeaidd yn rhywbeth y dylid ei hyrwyddo a'i gefnogi, ac efallai ei fod hyd yn oed yn fwy pwysig ar ôl Brexit fel y gallwn gael cynrychiolaeth gref ar y lefel honno. Soniasoch fod y Prif Weinidog yn gofyn am gyfarfod â llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau. Buaswn yn eich annog i ddweud wrthym, cyn gynted ag y bydd y broses o ofyn drosodd, os ydych yn cael y cyfarfod hwnnw, oherwydd pan oeddem ym Mrwsel yn ddiweddar, roedd brys o'r mwyaf i sicrhau bod prosesau ar waith, ar ôl mis Mawrth. Ni allaf orbwysleisio pa mor werthfawr oedd gallu ymgysylltu'n gadarnhaol, er na fûm mewn llawer o gyfarfodydd.
Ar ôl i mi siarad yn Senedd Ewrop bythefnos yn ôl, cefais sgwrs Google Translate ar fy ffôn gydag un o Weinidogion yr Eidal. Nid oes gennyf unrhyw Eidaleg ac nid oes ganddo ef Saesneg na Chymraeg, a dywedodd, 'Ni wnaethom adael yr UE, chi a ddewisodd adael yr UE', a dywedais, 'Rydym am barhau i weithio gyda chi a chadw'r drysau ar agor.' Credaf mai dyna'r neges sydd angen i bawb ohonom ei chael yma heddiw: gan symud ymlaen, rydym am gadw'r drws hwnnw ar agor, rydym am ymgysylltu. Mae'r adroddiad a gyflwynasom i chi heddiw yn bwysig i sicrhau ein bod yn canfod ffyrdd gwahanol o ymgysylltu'n gadarnhaol a'n bod yn gweithio gan alw nid yn unig ar Lywodraeth Cymru, ond bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel sefydliad ei ffyrdd ei hun o ymgysylltu fel y gallwn ddod yn gryf yn y byd fel cenedl yn ein hawl ein hunain hefyd. Diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn yn awr at eitem 6 ar ein hagenda, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 'Busnes Pawb: Adroddiad ar Atal Hunanladdiad yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dai Lloyd.
Cynnig NDM6974 Dai Lloyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, sef Busnes Pawb: Adroddiad ar Atal Hunanladdiad yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ei chysidro hi'n anrhydedd i agor y ddadl bwysig yma y prynhawn yma ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar atal hunanladdiad yma yng Nghymru, 'Busnes Pawb'. Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad yng Nghymru yn syfrdanol. Bu 360 o farwolaethau cofrestredig o ganlyniad i hunanladdiad yng Nghymru yn 2017, 278 ohonyn nhw yn ddynion. Mae’r ffigur hwn wedi cynyddu ers 2016—322 o hunanladdiadau oedd pryd hynny—ac nid yw nifer yr hunanladdiadau wedi bod yn gostwng gydag amser. Mae'n debygol hefyd bod yr ystadegau swyddogol o ran hunanladdiad yn tan-gynrychioli gwir raddfa hunanladdiad oherwydd yr angen i sefydlu y tu hwnt i amheuaeth resymol mewn cwest crwner mai hunanladdiad oedd achos y farwolaeth.
Gwnaethom gynnal yr ymchwiliad hwn i ddeall beth sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd a lle mae angen gweithredu i annog y newid a'r gwelliannau sydd eu hangen i wrthdroi'r duedd hon sy'n peri pryder. Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, cawsom ystod eang o dystiolaeth. Yn ychwanegol at y dulliau ffurfiol, arferol o gasglu tystiolaeth yng nghyfarfodydd y pwyllgor, cyfarfu'r Aelodau efo cynrychiolwyr Tir Dewi, a ffurfiwyd i helpu ffermwyr Gorllewin Cymru mewn cyfnodau anodd, a Sefydliad Jacob Abraham yng Nghaerdydd, sy'n darparu cefnogaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl ac sy’n cefnogi pobl sydd wedi colli rhywun yn sgil hunanladdiad. Diolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith hwn.
Dŷn ni wedi gwneud 31 argymhelliad yn yr adroddiad hwn. Os byddan nhw’n cael eu gweithredu, byddant yn gam mawr ymlaen o ran gwneud Cymru yn wlad heb hunanladdiad. Byddaf yn cyfeirio at rai o’r argymhellion hyn yn yr amser sydd gennyf heddiw.
Mae hunanladdiad yn fusnes i bawb; dyna'r neges allweddol a glywsom drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Dyna'r neges y mae angen inni i gyd ei chofio a'i rhannu. Gall hunanladdiad effeithio ar unrhyw un, ni cheir unrhyw gymuned yng Nghymru lle nad yw pobl wedi'u cyffwrdd gan hunanladdiad, ac nid yw siarad am hunanladdiad yn ei wneud yn fwy tebygol o ddigwydd.
Clywodd y pwyllgor yn glir fod codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau rheng flaen, yn hollbwysig. Mae angen inni annog ymddygiad sy'n ceisio cymorth a hyrwyddo ymateb mwy tosturiol i bobl mewn trallod. Awgrymodd tystiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid y byddai budd mewn rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth o hunanladdiad i staff rheng flaen ar draws amryw o broffesiynau. Yn benodol, clywsom gan y Samariaid y byddai hyfforddiant mwy cyson i bobl ar y rheng flaen, sy'n debygol o ddod ar draws pobl sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad, yn rhywbeth y gallwn wneud cynnydd gwirioneddol ar ei gyflawni.
Felly, mae'n bleser gennyf gyfeirio at ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 1 a 2 yr adroddiad hwn. Rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod adnoddau hyfforddi ar gael, ac yn awyddus i weld pa mor effeithiol fydd hyn ar gyfer cynyddu'r defnydd o hyfforddiant atal hunanladdiad, gan y gweithwyr proffesiynol rheng flaen a'r cyhoedd. Nid mater i feddygon yn unig yw hwn.
Mae'r pwyllgor hefyd yn croesawu'r ffaith bod Comisiwn y Cynulliad wedi derbyn argymhelliad 3, ac rydym yn annog y Comisiwn i barhau i hyrwyddo argaeledd hyfforddiant a chymorth i'w holl staff, o ystyried y rôl sydd gan bawb i'w chwarae yn atal hunanladdiad, ac rydym angen i fwy o therapïau siarad fod ar gael ym mhobman, ond mwy am hynny yn nes ymlaen.
Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 5 ac wedi ymrwymo i roi camau cadarnhaol ar waith i sicrhau bod pob meddyg teulu yng Nghymru yn deall canllawiau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar rannu gwybodaeth er mwyn diogelu bywydau. Cafodd y pwyllgor dystiolaeth rymus gan Papyrus yn ystod yr ymchwiliad hwn am eu hymgyrch i annog cyrff GIG i gynorthwyo staff yn briodol i wneud penderfyniad ar sail budd pennaf i dorri cyfrinachedd claf yn y cyd-destun hwn. Rydym yn deall bod Papyrus hefyd yn croesawu'r ymateb hwn. Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod bod hwn yn gynnydd go iawn.
Yn argymhelliad 13, rydym yn ei gwneud yn glir fod gweithredu ar strategaeth ôl-ymyrraeth Cymru gyfan ar gyfer hunanladdiad yn flaenoriaeth uniongyrchol. Rydym yn croesawu ymateb cadarnhaol y Llywodraeth i edrych ar beth sy'n digwydd yn Lloegr gyda golwg ar ei addasu ar gyfer Cymru. Fel pwyllgor, rydym yn bwriadu dychwelyd at y mater hwn ymhen chwe mis ac yn disgwyl gweld datblygu yn y maes hwn.
Mewn perthynas â rhan b o'r argymhelliad hwn, mae gennym rai pryderon ynghylch y canllawiau i ysgolion ar siarad am hunanladdiad a'r cymorth a gynigir yn fwy cyffredinol i'r grŵp hwn sy'n agored i niwed. Nawr, bydd Lynne Neagle, fel aelod o'r pwyllgor hwn a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn siarad mwy am hyn yn ei chyfraniad, gan fod llawer o argymhellion y pwyllgor hwn yn adleisio'r rhai yn adroddiad y pwyllgor hwnnw ar iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, 'Cadernid Meddwl'.
Yn fyr, o ran argymhelliad 25, ceir tystiolaeth gref fod lleihau mynediad at ddulliau yn elfen effeithiol o atal hunanladdiad. Yn unol â'n neges allweddol fod hunanladdiad yn fusnes i bawb, rwyf am dynnu sylw at y rôl bwysig y gall awdurdodau cynllunio, penseiri ac eraill ei chwarae yn atal hunanladdiad, drwy gynnwys mesurau i atal hunanladdiad ym mhob cynllun adeilad newydd. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru yn gryf i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod adeiladau'n ddiogel.
Gan droi at ongl wahanol, mae llawer o bobl yn teimlo na allant siarad am eu hiechyd meddwl, yn bennaf oherwydd y stigma sy'n parhau ynghylch cyfaddef bod ganddynt broblem. Mae angen inni oresgyn hyn fel bod pawb yn teimlo'n gyfforddus i ofyn am y cymorth sydd ei angen arnynt heb ofni cael eu barnu neu golli wyneb. Mae mynediad at wasanaethau arbenigol priodol ac amserol yn allweddol ar gyfer sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rhaid bod cymorth ar gael ar lefel gydradd ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau iechyd corfforol fel y gall pobl gael cymorth priodol pan fyddant ei angen er mwyn atal sefyllfaoedd o argyfwng. Felly, rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 6 yr adroddiad hwn, lle mae'r pwyllgor yn galw am weithredu'r holl gamau angenrheidiol i sicrhau'r cydraddoldeb hwn. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd cynllun cyflawni newydd yn mynd i'r afael â'r angen hwn ac yn disgwyl i'r gwaith hwn symud yn gyflym, gan gynnwys datblygu set ddata graidd iechyd meddwl.
Mae argymhellion 7 a 12 yn cyfeirio at lwybrau atgyfeirio brys ar gyfer meddygon teulu a'r amseroedd aros ar gyfer therapïau seicolegol fel therapi gwybyddol ymddygiadol. Er bod y Gweinidog wedi derbyn y rhain, nid yw ymateb y Llywodraeth yn ategu'r dystiolaeth a glywyd gan y pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad hwn. Clywsom gan feddygon teulu ei bod yn aml yn anodd iawn iddynt atgyfeirio a chael rhywun wedi'i weld mor gyflym ag y credant sy'n angenrheidiol. Gyda salwch corfforol difrifol, gall meddygon teulu ffonio meddygon mewn ysbytai gofal eilaidd i glaf gael ei dderbyn i'r ysbyty ar unwaith. Nid oes unrhyw hawl o'r fath yn bodoli i feddygon teulu allu sicrhau mynediad at feddygon seiciatrig mewn gofal eilaidd. Mae'n annerbyniol nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu blaenoriaethu yn yr un modd ag iechyd corfforol, ac mae angen rhoi sylw i hyn fel mater o frys.
Gan droi at hunanladdiad ymhlith dynion, mae anallu i siarad am iechyd meddwl yn arbennig o wir am ddynion. Drwy gydol ein cyfnod yn casglu tystiolaeth, clywsom fod dynion, dynion canol oed yn arbennig, yn wynebu risg uwch o hunanladdiad. Mae'n ystadegyn syfrdanol mai hunanladdiad yw'r prif achos marwolaeth ymhlith dynion 20 i 49 oed. Mae angen inni oresgyn hyn fel bod pawb yn teimlo'n gyfforddus i ofyn am yr help sydd ei angen arnynt heb ofni cael eu barnu. Mae angen dulliau newydd o weithredu bellach er mwyn annog ymddygiad sy'n chwilio am gymorth ac i wella iechyd meddwl, lles meddyliol a chydnerthedd ymhlith dynion. Gall y rhain wneud gwahaniaeth aruthrol, ond yn aml maent yn dibynnu ar ymrwymiad unigolion neu'n anghynaladwy yn sgil ariannu sefydliadau elusennol ar sail fyrdymor. Mae angen cydnabod bod lleihau, ac yn y pen draw, atal hunanladdiad ymhlith dynion yn flaenoriaeth genedlaethol, ac rydym yn falch fod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad 18.
Ceir rhai ffactorau sy'n creu risg a straen i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn ychwanegol at y ffactorau risg hunanladdiad sy'n effeithio ar boblogaethau cyffredinol. Clywodd y pwyllgor, er nad oes unrhyw ystadegau penodol ar gael ar nifer y ffermwyr a oedd wedi cyflawni hunanladdiad, roedd pob ffermwr yn adnabod ffermwr a oedd wedi cyflawni hunanladdiad. Cawsom ein taro'n arbennig gan y dystiolaeth a ddarparwyd gan Tir Dewi pan ddywedasant wrthym, ac rwy'n dyfynnu:
Pan fo marwolaeth yn digwydd ar fferm, mae'n dal i fod angen godro'r gwartheg y bore yma, a heno ac yfory.
Mae hyn yn dangos yn glir pa mor bwysig yw deall yr effaith y gall pwysau amrywiol ei chael ar iechyd meddwl ffermwyr a'r angen am hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl i staff pob sefydliad sy'n rhyngweithio â ffermwyr a'u teuluoedd.
Rydym yn croesawu ymateb y Gweinidog i argymhelliad 22 ac rydym yn nodi bod gwasanaeth cysylltwyr fferm Llywodraeth Cymru wedi cael hyfforddiant yn ddiweddar. Fodd bynnag, hoffwn nodi y byddai pob aelod o staff sy'n gweithio i gefnogi ffermwyr yn elwa o'r hyfforddiant hwn, fel y rhai a fu'n gysylltiedig â threfnu archwiliadau fferm. Roedd y pwyllgor yn arbennig o falch o ddysgu bod Undeb Amaethwyr Cymru wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus yn ddiweddar i gynyddu ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.
Gan droi'n fyr at risg carcharorion o gyflawni hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru, mae'r pwyllgor yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Mae'r pwyllgor yn dechrau ar ymchwiliad i ofal iechyd mewn carchardai a bydd yn manteisio ar y cyfle i edrych ar y mater hwn yn fanylach dros y misoedd nesaf.
Yn olaf, croesawn y £500,000 ychwanegol bob blwyddyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gweinidog tuag at atal hunanladdiad yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod y Samariaid yn adrodd bod yr amcangyfrif o gost gyfartalog hunanladdiad yn y boblogaeth gyffredinol yn £1.67 miliwn am bob hunanladdiad a gyflawnir, sy'n dangos cost economaidd hunanladdiad yn glir. Er bod y Gweinidog, yn ei ymateb i argymhelliad 31 yr adroddiad hwn, yn derbyn mewn egwyddor yr angen am ryddhau arian penodol ar gyfer atal hunanladdiad, byddai'r pwyllgor yn dymuno gweld rhai adnoddau'n cael eu diogelu. O'r herwydd, byddem yn croesawu gwybodaeth bellach ynglŷn â sut y gwerir yr arian ychwanegol hwn.
I gloi, mae llawer o waith yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau o hunanladdiad, a hoffwn ganmol y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud gan sefydliadau'r trydydd sector i roi cefnogaeth i'r rheini yr effeithir arnynt. Er bod cynnydd yn cael ei wneud, mae angen mwy o arweiniad i fwrw ymlaen â’r newid sydd ei angen. Mae'r pwyllgor yn ymrwymedig i sicrhau bod atal hunanladdiad yn parhau ar yr agenda. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau eraill y prynhawn yma a gweld cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn. Diolch yn fawr.
Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid yw'r Llywydd wedi dethol y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Darren Millar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, a chredaf fod y pwyllgor iechyd wedi gwneud gwaith rhagorol yn datblygu'r ymchwiliad penodol hwn. Bob tro y mae rhywun yn cyflawni hunanladdiad, maent yn mynd ag ychydig bach o fywyd pawb arall o'u cwmpas hefyd a wyddoch chi, rydym ni yn y Siambr hon wedi adnabod unigolion sydd wedi cyflawni hunanladdiad, a gwyddom am y drasiedi a all ddigwydd i'r rhai sy'n eu caru o ganlyniad i hynny.
Mae 360 o farwolaethau yn 2017 yn 360 yn ormod, a rhaid i bawb ohonom wneud popeth a allwn i sicrhau bod y niferoedd hynny'n dechrau disgyn. Fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor yn gwbl gywir, mae'r ystadegau'n mynd i'r cyfeiriad cwbl anghywir, a dylai hynny fod yn achos dychryn i bob un ohonom. Ac nid wyf yn meddwl mai cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith ein bod hefyd, ar yr un pryd ag y mae'r ystadegau hynny'n mynd i'r cyfeiriad anghywir, wedi gweld amseroedd aros i bobl gael mynediad at therapïau siarad yn ymestyn, a phroblemau gyda gwasanaethau iechyd meddwl mewn gwahanol rannau o Gymru yn ogystal.
Gwnaed argraff fawr arnaf gan y sylwadau am y diwydiant ffermio. Gallaf gofio gwahodd Tir Dewi i ddod i roi tystiolaeth i'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd am eu gwaith, oherwydd gwn eu bod yn sefydliad sy'n cael ei ysbrydoli, i bob pwrpas, gan ffydd Gristnogol y gwirfoddolwyr sy'n ymwneud ag ef. Cefais fy nychryn gan rai o'r straeon unigol a rannwyd ganddynt yn y grŵp trawsbleidiol hwnnw am yr heriau—yr heriau unigryw, mewn gwirionedd—y mae llawer yn y gymuned ffermio yn eu hwynebu. Ac mae'n hollol iawn fod y pwyllgor wedi amlygu hyn yn adroddiad yr ymchwiliad pwysig hwn a'r angen i gael rhywfaint o ffocws ar y diwydiant ffermio yn y dyfodol.
Rwyf hefyd yn falch o weld y cyfeiriadau at ddylunio adeiladau yn yr adroddiad. Cofiaf ymweld ag uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd tua dwy flynedd a hanner yn ôl gyda'r cyfarwyddwr iechyd meddwl presennol, heb fod yn hir ar ôl iddo ddechrau yn ei swydd, ac roedd yn gwbl warthus gweld bod llawer o fannau lle roedd modd i rywun grogi'i hun, hyd yn oed ar y ward iechyd meddwl honno lle cedwir pobl yn anwirfoddol am eu bod wedi cyrraedd sefyllfa mor argyfyngus fel eu bod yn meddwl am gyflawni hunanladdiad. Ac roeddwn yn synnu bod y rhain yn bethau nad oeddent wedi cael sylw yn y gwaith o ddylunio'r adeilad hwnnw, er bod hwnnw'n fwrdd iechyd a oedd yn destun mesurau arbennig am resymau'n ymwneud ag iechyd meddwl. Felly, yn amlwg, mae llawer iawn o waith i'w wneud o fewn ystâd ein gwasanaeth iechyd cyhoeddus ein hunain yn ogystal ag ôl-osod adeiladau wrth gwrs ac ymdrin ag unrhyw geisiadau adeiladu newydd a ddaw i law, a gwneud yn siŵr fod y system gynllunio yn rhoi ystyriaeth ddigonol i'r mathau hyn o bethau wrth inni symud ymlaen.
Credaf ei bod yn hollol iawn fod yr adroddiad hefyd wedi amlygu'r angen i roi sylw i'r stigma parhaus mewn perthynas â phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl fel nad ydynt yn teimlo eu bod yn gallu siarad am y pethau a wynebant. Credaf fod yr ystadegau y mae Hafal a Mind Cymru wedi'u nodi, sy'n dweud bod 40 y cant o weithwyr yn amharod i drafod eu hiechyd meddwl gyda'u cyflogwyr, yn eithaf brawychus. Ond yr hyn sy'n wirioneddol ofnadwy yw na fyddai mwy na chwech o bob 10 cyflogwr yn ystyried cyflogi rhywun pe baent yn gwybod bod ganddynt broblem iechyd meddwl. Mae hynny'n gywilyddus. Rhaid inni fynd i'r afael â'r math hwn o ragfarn yn ein cymdeithas ac ymhlith y gweithlu. Credaf ei bod yn gwbl briodol fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill ddangos arweiniad ar hyn. Ond rywsut, rhaid i ni estyn allan at gyflogwyr ledled Cymru a gwneud yn siŵr eu bod hwy hefyd yn ymgysylltu'n bositif â'r gweithlu. Credaf y gallwn edrych ar gontractau sector cyhoeddus gyda chyflenwyr preifat, pa un a ydynt yn darparu rhannau o'r gweithlu neu nwyddau a gwasanaethau, i weld beth y maent yn ei wneud i sicrhau iechyd meddwl a lles meddyliol cadarnhaol y gweithluoedd y maent yn eu cyflogi.
Felly, hoffwn gymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd. Roeddwn yn falch iawn o weld yr argymhellion—yn falch o weld llawer o'r pethau cadarnhaol yr oedd y Llywodraeth wedi'u dweud mewn ymateb i'r argymhellion hynny. Ond credaf fod angen inni barhau i ganolbwyntio ar y mater hwn ar sail drawsbleidiol, fel y gallwn leihau'r broblem hon, lleihau nifer yr achosion o hunanladdiad, gyda chymaint o fywydau'n cael eu colli'n ddiangen.
Rwy'n credu'n gryf fod atal hunanladdiad yn fusnes i bawb ac yn gyfle i bawb. Hoffwn siarad am bob argymhelliad ond o gofio'r cyfyngiadau amser, rwyf am ganolbwyntio ar ddau faes. Mae'r cyntaf yn arbennig o agos at fy nghalon—hunanladdiad ymhlith pobl ifanc a'r gorgyffwrdd rhwng yr adroddiad hwn ac adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, oherwydd ceir cysylltiad anorfod rhwng y ddau. Hunanladdiad yw'r prif achos marwolaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 19 oed. Mae mwy na 200 o blant yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yn y DU. Yn 2017, bu farw 226 o blant drwy hunanladdiad. Mae'n sgandal genedlaethol. Fel y dywedodd Papyrus wrth ein hymchwiliad, pe bai Ebola neu HIV neu unrhyw glefyd arall yn lladd 200 o blant ysgol bob flwyddyn, byddem yn taflu miliynau o bunnoedd ato. Rwy'n cytuno. Roedd canfyddiadau 'Cadernid Meddwl' yn glir. Mae'r her uniongyrchol yn awr i'w gweld ar ben ataliol y llwybr, gyda lles emosiynol, cydnerthedd ac ymyrraeth gynnar.
Mae dameg yr afon yn teimlo'n fwy perthnasol yn awr nag erioed. Rwy'n siŵr fod rhai ohonoch yn gwybod amdani, ond i grynhoi: un noson, roedd pentrefwyr yn eistedd ar lan yr afon, yn barod i fwyta, pan sylwodd un pentrefwr ar blentyn ifanc yn arnofio â'i ben i lawr yn yr afon. Neidiodd sawl pentrefwr i mewn a cheisio achub y plentyn. Roedd yn rhy hwyr. Ychydig amser yn ddiweddarach, gwelwyd plentyn ifanc arall yn pesychu ac yn sgrechian wrth iddo ymdrechu i gadw ei ben uwchben y dŵr. Y tro hwn, roedd y pentrefwyr yn fwy ffodus ac fe oroesodd y plentyn, er ei fod yn gleisiau byw. Parhaodd y digwyddiadau hyn, a bu'n rhaid i'r pentrefwyr achub mwy a mwy o blant o'r afon—weithiau'n llwyddiannus, ond nid bob amser. Yn fuan, câi holl adnoddau a grym pobl y pentref eu cyfeirio at achub cymaint o blant ag y gallent. Roedd yn mynd â sylw cyson y pentrefwyr, a bu'n rhaid iddynt anghofio am bethau eraill yr arferent eu gwneud. Câi hyn ei dderbyn am ei fod yn achos mor deilwng. Un diwrnod, dechreuodd dau o'r pentrefwyr gerdded i ffwrdd o'r pentref, gan anelu i fyny'r afon. Gofynnwyd iddynt, 'I ble rydych chi'n mynd? Mae eich angen yma i helpu i achub y plant.' Atebodd y pentrefwyr, 'Rydym yn mynd i fyny'r afon i ddarganfod pam y mae'r plant hyn yn yr afon yn y lle cyntaf.'
Dyna'n bendant lle credaf fod angen inni fod—i fyny'r afon, cyn i bobl ifanc ddisgyn i'r afon yn y lle cyntaf. Dyna pam rwy'n falch iawn fod 'Busnes Pawb' wedi llwyr gymeradwyo'r argymhellion yn 'Cadernid Meddwl', sy'n anelu at wneud yn union hynny. Dyma'r tro cyntaf i un adroddiad pwyllgor gymeradwyo a chefnogi un arall yn llawn yn y modd hwn, a hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am y ffordd golegaidd y mae'n arwain y pwyllgor iechyd ac am y bartneriaeth adeiladol sydd wedi datblygu rhwng ein dau bwyllgor ar fater sylfaenol iechyd meddwl ein cenedl. Oherwydd nid pobl ifanc yn unig a fydd yn elwa o argymhellion 'Cadernid Meddwl'—maent yn sefydlu map ffordd ar gyfer datblygu cydnerthedd i bawb.
Rydym wedi clywed heddiw am faint yr her mewn perthynas â hunanladdiad ymhlith dynion. Dyma'r prif achos marwolaeth ymhlith dynion o dan 45 oed. Heb rithyn o amheuaeth, mae'n argyfwng iechyd cyhoeddus. Eto, nid yw'r rhan fwyaf o ddynion sy'n marw drwy hunanladdiad wedi cael unrhyw gyswllt blaenorol â gwasanaethau iechyd meddwl cyn eu marwolaeth. Felly, sut mae eu cyrraedd? Gyda hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau yn ystod plentyndod, mae Samariaid Cymru wedi dweud wrthym fod gan ddatblygu cydnerthedd ac ymyrraeth gynnar yn yr ysgolion ran bwysig i'w chwarae yn atal hunanladdiad ymhlith dynion. Rwy'n cytuno.
Byddaf fi ac aelodau eraill y pwyllgor yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud cynnydd gyda 'Cadernid Meddwl'. Ond yn y cyfamser, mae angen inni barhau i dynnu pobl ifanc o'r afon. Felly, roeddwn yn siomedig iawn fod yr argymhellion a wnaed yn 'Cadernid Meddwl' a'u hailadrodd yn llawn bron flwyddyn yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn ar yr angen i gyhoeddi canllawiau brys i ysgolion ar siarad am hunanladdiad ond wedi'u derbyn mewn egwyddor yn unig unwaith eto.
Nawr, rwy'n croesawu'n fawr y gwaith sydd wedi'i wneud ar baratoi canllawiau ar gyfer ysgolion gan yr Athro Ann John, ond rwy'n pryderu'n fawr nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw ymrwymiad i wneud y canllawiau hyn yn statudol. Nid yw siarad am hunanladdiad yn achosi hunanladdiad. Mae siarad am hunanladdiad yn achub bywydau. Mae pob diwrnod a gollir ar hyn yn ddiwrnod pan allem weld plentyn arall yn marw drwy hunanladdiad fel y gwelsom, yn wir, ers cyhoeddi 'Cadernid Meddwl'. Ni all aros tan ein bod wedi gweithredu'r diwygiadau eraill.
Mae colli rhywun rydych yn ei garu i hunanladdiad yn golled fwy dinistriol na'r un. Mae pobl sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn wynebu risg lawer uwch eu hunain o farw drwy hunanladdiad. Felly, roeddwn yn siomedig mai mewn egwyddor yn unig y derbyniwyd argymhelliad 15 ar gymorth i bobl sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad. Yn ystod yr ymchwiliad, cyfarfuom â grŵp o berthnasau yn Sefydliad Jacob Abraham a oedd wedi colli meibion, gwŷr, tadau i hunanladdiad. Roedd un wraig wedi colli ei dau fab yn sgil hunanladdiad—sy'n atgoffa'n dorcalonnus o'r risg y mae profedigaeth hunanladdiad yn ei chreu. Mae'n arswydus na chafodd yr un o'r teuluoedd hynny unrhyw gymorth arbenigol, ar wahân i'r cymorth y mae'r sefydliad yn ei gynnig, sefydliad nad yw'n derbyn unrhyw arian statudol ac sy'n gweithredu o'r llaw i'r genau. Weinidog, nid wyf angen adolygiad arall i ddweud wrthyf fod cymorth profedigaeth hunanladdiad yng Nghymru yn druenus o annigonol a bod angen inni roi sylw iddo ar fyrder.
I gloi, gwn fod y pwyllgor iechyd a fy mhwyllgor i'n gofyn llawer gan y Llywodraeth ar iechyd meddwl, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Hefyd rwy'n cydnabod ymrwymiad y Gweinidog a'r Gweinidog Addysg i'r grŵp gorchwyl a gorffen i gyflawni argymhellion 'Cadernid Meddwl'. Mae Llywodraeth Cymru yn ein hatgoffa'n rheolaidd fod iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb', ond eto nid ydym yn gweld digon o dystiolaeth o hynny ar lawr gwlad. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol yn cael ei wireddu yng Nghymru.
Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan ddaeth y dystiolaeth i law wrth gwrs, ac rwyf am ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy fynegi fy niolch i bawb oedd yn rhan o'r gwaith pwysig iawn hwn—i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, i staff, ac yn bennaf oll, wrth gwrs, i'r rhai a roddodd dystiolaeth. Mae hwn yn adroddiad eang a chynhwysfawr, ac fel y dywedodd Lynne Neagle, credaf y gallai unrhyw un ohonom sy'n cyfrannu at y ddadl hon siarad amdano am oriau. Rwyf am ganolbwyntio ar dri o'r argymhellion yn unig.
Rwyf am ddechrau gydag argymhelliad 2 ynghylch ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae'n hanfodol ein bod yn creu hinsawdd lle mae pawb o ddifrif yn deall bod hunanladdiad yn fusnes i bawb. Gall hunanladdiad effeithio ar unrhyw deulu mewn unrhyw gymuned ar unrhyw adeg, ac mae'n dal yn anodd iawn siarad amdano. Mae cywilydd o hyd, mae stigma o hyd, ac ni ddylai hynny fod o gwbl. Mae angen inni i gyd fod yn ymwybodol pan fydd rhai o'n cwmpas yn teimlo'n ynysig, yn unig ac yn ddiobaith, fod angen inni fod yn barod i ofyn os yw rhywun yn iawn, ac i wrando, i wrando go iawn ar eu hateb, ac efallai'n anad dim ar yr hyn nad ydynt yn ei ddweud.
Ac mae angen inni fod yn fwy agored, ac yn yr ysbryd hwn y rhannaf gyda'r Siambr hon heddiw y ffaith bod fy nheulu fy hun yn un o'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Pan oeddwn yn ferch fach iawn, fe wnaeth fy nghefnder David, a oedd yn ei arddegau hwyr, gyflawni hunanladdiad. Rwy'n cofio'n bennaf sut nad oedd yno mwyach yn sydyn iawn, a phan ofynnais lle'r oedd, dywedwyd wrthyf am fod yn ddistaw. Ni siaradwyd am beth oedd wedi digwydd, a chymerodd flynyddoedd i mi wybod yn iawn. Un peth y gwyddwn oedd na fu fy modryb annwyl byth yr un fath eto.
Nawr, roedd hynny flynyddoedd lawer yn ôl wrth gwrs, ac mae llawer wedi newid, ond nid yw'n ddigon. A daw hyn â mi at argymhelliad 15 a'r rhai eraill sy'n cyfeirio at yr angen i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y rhai sydd mewn galar. Hoffwn ategu pob gair a ddywedodd Lynne Neagle yn awr. Wrth gwrs, yn y 1960au, pan gollasom fy nghefnder, nid oedd dim i'w gael. Ni chafodd fy modryb ei chynorthwyo i fynd i'r afael â'r galar ofnadwy a'r emosiynau cymhleth y mae'r rhai sydd mewn profedigaeth yn eu dioddef, ac nid yw hyn yn syndod. Yr hyn sy'n syndod ac yn syfrdanol yn wir, yw bod llawer o deuluoedd yr effeithir arnynt gan hunanladdiad heddiw yn dal i fethu cael unrhyw gymorth profedigaeth, heb sôn am y cymorth profedigaeth hunanladdiad arbenigol sydd ei angen arnynt ac y dylai fod ganddynt hawl iddo. Clywodd y pwyllgor am enghreifftiau ardderchog o arferion da, ond mae Aelodau'n dweud yn yr adroddiad eu bod wedi'u 'syfrdanu' ynghylch y diffyg cymorth sydd ar gael o hyd i'r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, ac rwyf innau wedi fy syfrdanu hefyd. Ni all hyn barhau. Nid oes angen i gymorth o'r fath fod yn ddrud, ond ni ellir mesur y gost i'r rhai nad ydynt yn cael yr help. Rhaid i Lywodraeth Cymru, gydag asiantaethau priodol, sicrhau bod cymorth profedigaeth priodol ar gael i bawb sydd ei angen, pan fo'i angen, ar ffurf sy'n gweithio iddynt, ym mhob rhan o Gymru. Yn benodol, mae angen iddynt gefnogi sefydliadau trydydd sector sy'n rhagori ar hyn. A rhaid imi ddweud, fel y dywedodd Lynne Neagle wrth y Gweinidog, yn hyn o beth, nid yw derbyn mewn egwyddor yn ddigon. Yn rhy aml, mae derbyn mewn egwyddor yn golygu gwthio o'r neilltu. Rwy'n gobeithio'n fawr nad dyna yw bwriad y Gweinidog, a hoffwn ofyn iddo adolygu'r penderfyniad hwnnw i dderbyn mewn egwyddor a'i droi heddiw'n dderbyniad llawn.
Yn olaf, hoffwn droi'n gyflym at argymhelliad 18, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod hunanladdiad ymhlith dynion fel blaenoriaeth genedlaethol. Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw stereoteipiau rhywiaethol ynglŷn ag ymddygiad gwrywaidd derbyniol yn cyfrannu'n uniongyrchol at y gyfradd hunanladdiad uchel iawn mewn dynion. Mae'r gymdeithas yn dal i fethu annog dynion a bechgyn i fod yn agored am eu mannau gwan—gwgir ar wendid o hyd. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn ymwybodol o effeithiau negyddol rhywiaeth a normau patriarchaidd ar fywydau menywod a merched. Mae angen inni gofio bod y rhywiaeth honno, y normau patriarchaidd hyn, weithiau'n llythrennol angheuol i ddynion a bechgyn hefyd. Mae argymhelliad 18 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu cyllid priodol ac i roi dulliau newydd ar waith i annog dynion i siarad am eu hiechyd meddwl a gofyn am help. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu. Ond mae un peth y gallai pob un ohonom ei wneud. Gadewch i bawb ohonom ymrwymo heddiw i beidio byth eto â dweud wrth fachgen bach, 'Nid yw bechgyn mawr yn crio.'
Mae ymateb cyffredinol cadarnhaol Llywodraeth Cymru i argymhellion y pwyllgor i'w groesawu ar y cyfan, ond mae angen brys, fel y dywedodd Dai Lloyd a Lynne Neagle ac eraill. Ni ddylai unrhyw un ohonom orffwyso hyd nes y bydd Cymru yn rhydd rhag hunanladdiad. Bydd y pwyllgor yn craffu'n agos ar gyflawniad y Llywodraeth ar yr agenda hanfodol hon, a bydd yn fraint gennyf gymryd rhan yn y gwaith hwnnw.
Rwyf am ddechrau heddiw drwy groesawu'r adroddiad hwn a'r gwaith caled a wnaeth y pwyllgor ar y mater, ac ategaf y sylwadau a wnaed gan Aelodau ar draws y Siambr y prynhawn yma hefyd. Mae'n hen bryd inni drafod y mater hynod bwysig hwn yn Siambr y Senedd, ac wrth baratoi ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, roeddwn yn meddwl y buaswn yn mynd yn ôl at rywbeth y daeth fy mam a minnau ar ei draws wrth inni fynd drwy ddillad fy nhad ar ôl ei farwolaeth drist. Pryd bynnag yr arferem edrych yn siacedi ei siwtiau, byddem yn aml yn dod o hyd i feiro nad oedd yn gweithio, sbectol wedi torri neu ruban gwyn. Ond ar yr achlysur hwn, gwelsom ddarn o bapur, bwydlen o ginio cyngor tref yng Nghei Connah, ac ar y cefn roedd wedi ysgrifennu'r geiriau hyn yr oedd yn mynd i seilio ei araith arnynt: 'Edrych ar ôl ein gilydd'.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad i'r ddadl hon heddiw yn yr ysbryd hwnnw. Ni all dim eich paratoi ar gyfer effaith barhaol hunanladdiad. Mae'n dorcalonnus a gall yr effeithiau ar aelodau o'r teulu ac anwyliaid fod yn ddifrifol a phellgyrhaeddol. Mae'r effaith grychdonnog yn eich taro'n arbennig—mae'n fy nharo i. Mae wedi effeithio ar ffrindiau agos yn ogystal â ffrindiau i ffrindiau, ac roedd llawer o fy ffrindiau yn edrych ar fy nhad fel ail dad. Rai dyddiau, bydd yr effeithiau hyn yn fach, ac weithiau byddwn yn gwneud cynnydd. Ac ar ddyddiau eraill, rwy'n cael trafferth codi o'r gwely.
Yn anffodus, mae ffrindiau a theulu y rhai sydd wedi cyflawni hunanladdiad yn profi effeithiau ar eu hiechyd meddwl eu hunain. Mae deall eich bod wedi colli rhywun rydych yn eu caru drwy hunanladdiad yn ddigon trawmatig. Yn bersonol, gallaf ddweud eich bod yn dechrau cael teimladau eraill, ac mae'r teimladau hynny'n effeithio ar eich iechyd a'ch lles eich hun—y teimlad o euogrwydd, dicter, dryswch, trallod ynghylch materion sydd heb eu datrys a llawer iawn mwy—a gwn fod pob un wedi cael effaith hirdymor arnaf fi a byddant yn parhau i wneud hynny. A gwn eu bod wedi cael effaith hirdymor ar eraill mewn llawer o ffyrdd gwahanol hefyd.
Mae'n hynod o syfrdanol fod ystadegau yn 2017 yn dangos bod 360 o bobl wedi cyflawni hunanladdiad yng Nghymru yn unig, ac mae'n deimlad ofnadwy fod fy nhad yn un o'r 360 hynny. Mae'n arswydus fod miloedd o bobl eraill wedi cael teimladau hunanladdol. Fel y gŵyr yr Aelodau, rwy'n ceisio siarad yn agored am y mater hwn oherwydd gwn fod eraill yn dioddef yn dawel. Ni waeth pa mor galed yw hi, byddaf yn parhau i siarad. Dyna fyddai fy nhad wedi ei ddymuno; dyna fyddai ef wedi'i wneud.
Ddirprwy Lywydd, rhaid i mi dalu teyrnged i Abbie Penell o Bontypridd a oedd yn y newyddion yn ddiweddar am siarad am effeithiau hunanladdiad yn dilyn hunanladdiad ei thad. Ac roedd hi'n hollol gywir ynglŷn â'r angen am gymorth i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad, a rhaid imi ddweud fy mod yn parchu ei dewrder.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen drwy ddweud y geiriau a ddywedodd Dai Lloyd yn gynharach: mae hunanladdiad yn fusnes i bawb. Rhaid i bawb ohonom wneud mwy i gefnogi ei gilydd. Rhaid i bawb ohonom wneud mwy i atal hunanladdiad. Nid wyf am i deulu arall fynd drwy'r hyn rydym ni'n dal i fynd drwyddo. Felly, gadewch imi fynd â chi'n ôl i ddechrau fy araith, gadewch i ni gofio'r geiriau a oedd gan fy nhad ar y darn hwnnw o bapur yn siaced ei siwt: Edrych ar ôl ein gilydd. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Wel, Ddirprwy Lywydd, yn yr holl flynyddoedd y bûm mewn bywyd cyhoeddus, nid wyf wedi teimlo'n fwy annigonol wrth godi ar fy nhraed i gymryd rhan mewn dadl, yn dilyn yr araith rymus honno gan Jack Sargeant, oherwydd ni all yr un ohonom, wrth gwrs, gymharu ag ef mewn profiad na gwybodaeth—er mor drasig yw gorfod dweud hynny. Cefais fy nghyffwrdd gan hunanladdiad yn anuniongyrchol, ond nid yn uniongyrchol, ac mae'n beth ofnadwy iawn, wedi'i wneud yn fwy grymus fyth, rwy'n credu, gan y ffordd y disgrifiodd Jack ei effaith ar ei deulu.
Fe wnaeth gwraig i ffrind agos iawn i mi o ddyddiau prifysgol gyflawni hunanladdiad ychydig cyn y Nadolig heb unrhyw fath o rybudd, a gwn pa mor ddinistriol yw effaith hyn ar bawb. Roedd Jack yn llygad ei le wrth ddweud ei fod yn effeithio nid yn unig ar y teulu agos, ond hefyd ar y cylch ehangach o ffrindiau yn ogystal. Ac mae'n anodd dychmygu, mewn gwirionedd, y lle du y mae rhywun ynddo, yn teimlo mor ddiobaith mai dyma'r unig ffordd allan, ac mae'n cyffwrdd â chalonnau pawb, rwy'n credu, i ddim ond meddwl amdano. Ac rwyf fi wedi bod mewn mannau du yn fy mywyd innau hefyd. Cefais fy nghyhuddo drwy dwyll am gamymddygiad rhywiol a chyrraedd tudalennau blaen y papurau newydd a'r eitem gyntaf mewn bwletinau newyddion, a gwn am y pwysau a'r effaith y gall hynny ei chael arnoch. Ni chefais fy nhemtio i gyflawni hunanladdiad erioed, ond profais ymdeimlad o unigrwydd ac anobaith, a dyna'r unigrwydd sydd wrth wraidd yr holl broblem hon. Fel y dywedodd Jack yn dda iawn, mae angen inni edrych ar ôl ei gilydd yn hyn o beth. Pan fydd pobl yn teimlo nad oes neb y gallant droi atynt, am ba reswm bynnag—. Credaf eto fod Helen Mary Jones wedi taro'r hoelen ar ei phen pan ddywedodd, yn enwedig mewn perthynas â dynion, ein bod—yn sicr dynion yn fy nghenhedlaeth i, o leiaf—yn llawer rhy dawedog. Nid wyf yn cael unrhyw anhawster i fynegi fy hun yn gyhoeddus, ond rhaid imi ddweud, ar faterion emosiynol, caf anhawster o'r mwyaf i fod yn agored yn breifat, mewn amgylchiadau lle byddai o fudd i mi fod yn agored. Ac rwy'n bell o fod yr unig un i fod felly. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i gael gwared ar ba stigma bynnag sy'n weddill mewn perthynas â hunanladdiad neu feddyliau hunanladdol. Rydym wedi dod yn bell iawn ers Deddf Iechyd Meddwl 1959, pan oedd unrhyw un a oedd â rhyw fath o salwch meddwl yn cael ei ddisgrifio'n swyddogol fel ynfytyn moesol a meddyliol. Wrth gwrs, mae llawer mwy o ddealltwriaeth yn y gymdeithas heddiw nag a oedd yn y byd y cefais fy ngeni iddo, ond mae gennym ffordd bell iawn i fynd, ac mae gan Lywodraeth rôl bwysig iawn yn hyn o beth rwy'n meddwl, ac yn enwedig mewn perthynas â dynion, fel y nododd Helen Mary. Yn wir, nododd Dai Lloyd hefyd yn ei araith agoriadol ein bod wedi darganfod bod dynion canol oed yn benodol—. Yn anffodus, nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan gawsant y dystiolaeth, ond rwyf wedi darllen yr adroddiad a llawer o'r dogfennau sydd ynghlwm wrtho gyda diddordeb mawr. Mae problem arbennig gyda dynion, a gorau po fwyaf o bobl fy nghenhedlaeth i sy'n gallu siarad am y peth yn gyhoeddus, gan y gallai hynny helpu rhywun.
Mae rolau elusennau a'r trydydd sector yn hyn i gyd yn gwbl hanfodol yn ogystal. Mewn byd lle mae teuluoedd yn chwalu, yn aml iawn caiff y dyn ei anghofio am mai menywod yw mwyafrif llethol y dioddefwyr trais yn y cartref, ond gall dynion hefyd fod yn ddioddefwyr trais yn y cartref weithiau. Lle mae teuluoedd yn chwalu, a phlant yn cael eu dwyn ymaith, mae hynny hefyd yn aml yn achos hunanladdiad ymhlith dynion, ac efallai fod angen mwy o sylw i hynny. Fel llawer o'r Aelodau, mae elusen o'r enw Both Parents Matter wedi cysylltu â mi i ddwyn hyn i fy sylw, a dyna pam rwy'n tynnu sylw ato yn y ddadl heddiw. Heb leihau pwysigrwydd gofalu am fenywod yn yr amgylchiadau hyn mewn unrhyw ffordd, mae'n bwysig i ni gofio hefyd y gall dynion fod yn ddioddefwyr hefyd.
Mae'n drasiedi ac efallai yn gondemniad o gymdeithas heddiw fod hunanladdiad ar gynnydd. Mae'n baradocs, onid yw, mewn byd o gyfathrebu byd-eang a chyfathrebu ar amrantiad, ac mewn byd sy'n fwyfwy trefol, y gall pobl deimlo'n fwy unig nag erioed. Rhaid inni wneud popeth y gallwn, bob un ohonom mewn bywyd cyhoeddus, i sicrhau ein bod yn lleihau'r stigma ac yn manteisio i'r eithaf ar y cymorth y gellir ei roi i bobl sydd mor ddiobaith fel eu bod yn cael eu temtio i gyflawni hunanladdiad.
Mi ddaeth rhywun i'm gweld i yn y gymhorthfa'r wythnos diwethaf, yn digwydd bod—mam a oedd yn galaru ar ôl i'w merch farw o hunanladdiad. Mi oedd hi'n galaru ac yn gofyn 'Pam?' Pam fod dim mwy wedi gallu cael ei wneud i'w helpu hi? Pam fod beth sy'n amlwg iddi hi rŵan fel arwyddion bod bywyd ei merch mewn peryg ddim wedi cael digon o sylw ar y pryd? Mi oedd hi wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl. Mi driodd gymryd ei bywyd ei hun unwaith, meddai'r fam. Dair wythnos yn ddiweddarach, mi gafodd hi gynnig ymgynghoriad iechyd meddwl ar y ffôn.
Nid dyma y tro cyntaf i fi eistedd mewn stafell efo teulu yn galaru mewn amgylchiadau tebyg ers i fi gael fy ethol, ac mae llawer gormod o famau, o dadau, o frodyr a chwiorydd, plant, cyfeillion hefyd yn gofyn 'Pam?' A dyna wnaethon ni fel pwyllgor, mewn difri, ac mi ges i fy sobri wrth gymryd rhan yn yr ymchwiliad. Mi gafodd pob un ohonon ni. Mi glywsom ni am brofiadau pobl sydd wedi dioddef effeithiau hunanladdiad. Mi dderbynion ni dystiolaeth am y mesurau all gael eu mabwysiadau yma yng Nghymru i ymateb i'r argyfwng cenedlaethol yma. Dwi'n cydnabod bod yna waith yn cael ei wneud gan y Llywodraeth, ond dyma dŷn ni yn ei wynebu—argyfwng, dim llai. Hunanladdiad ydy'r prif achos o farwolaeth mewn dynion ifanc yng Nghymru, fel dŷn ni wedi clywed; y prif achos o farwolaeth ymhlith pawb o dan 35. Mae o'n deillio o rywbeth a all gael ei atal. Pe bai o'n salwch corfforol, fel dŷn ni wedi clywed yn barod, mi fyddai popeth yn cael ei daflu ato fo i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ond ar hyn o bryd dydyn nhw ddim.
Mae angen codi ymwybyddiaeth, felly, am y materion sydd ynghlwm â hunanladdiad. Mae angen mwy o hyfforddiant, mae angen ansawdd uwch o hyfforddiant, mae angen llwybrau cliriach drwy'r system iechyd i helpu'r rheini sy'n dangos risg o hunanladdiad. Ond yn ganolog, dwi'n meddwl, o'm rhan i, i'r argymhellion, yw bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd pob cam posib i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng darpariaeth gofal iechyd a darpariaeth gofal meddwl. Dwi’n clywed yn llawer rhy aml gan etholwyr am eu trafferthion yn cael mynediad at ofal iechyd meddwl. Yn aml, mae o’n cynnwys trafferth cael mynediad at wasanaethau i blant a phobl ifanc, ac mae’n rhaid i hyn newid. Mae angen gwneud mwy i sicrhau ac i annog pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ac i chwilio am hwnnw yn fuan. Mae angen codi ymwybyddiaeth am y math o gymorth sydd ar gael cyn iddyn nhw gyrraedd y pwynt o argyfwng.
A dwi’n clywed yn rhy aml am bobl fregus yn cael eu troi i ffwrdd o wasanaethau pan maen nhw’n mynd i chwilio amdano fo—yn clywed, o bosib, nad ydy eu cyflwr iechyd meddwl nhw yn cael ei ystyried yn ddigon difrifol. Mi oedd yna achos diweddar yn Ynys Môn dros y Nadolig: hogyn ifanc wedi lladd ei hun er iddo fo fynd i’r ysbyty i chwilio am help. Yn anffodus, doedd yna ddim gwely iddo fo; ystyriwyd nad oedd angen hynny arno fo. Mi benderfynodd o ei hun beth oedd angen ei wneud er mwyn lleddfu ei boen. Ac mi oedd yn ergyd drom iawn i’r gymuned yna—cymuned sydd wedi ymateb drwy dynnu at ei gilydd ac adnabod bod hunanladdiad, fel dŷn ni’n ei drafod heddiw, yn fusnes i bawb. A dwi’n falch iawn o ymateb mudiadau fel y ffermwyr ifanc, unigolion fel Laura Burton o’r mudiad Amser i Newid Cymru, sydd wedi ymateb drwy benderfynu lledaenu’r neges yna o fewn ein cymunedau ni am effeithiau hunanladdiad a'r ffactorau all arwain ato fo. Mae yna rôl inni gyd chwarae wrth warchod ein gilydd.
Mae’r rheini sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad yn erfyn arnon ni i sicrhau nad oes rhaid i’r un rhiant neu bartner neu blentyn arall ddioddef fel y gwnaethon nhw. Dŷn ni wedi clywed yr apêl yna gan Jack eto y prynhawn yma. Ydyn, mi ydyn ni’n siarad mwy am iechyd meddwl y dyddiau yma nag y buon ni, ac mae hynny’n gam bositif, heb amheuaeth, tuag at gael gwared ar y stigma sydd yna o gwmpas iechyd meddwl. Ond mae yna ffordd bell iawn i fynd o hyd. Mae chwarter y boblogaeth, fel dŷn ni’n ei glywed fel ystadegyn yn aml iawn, yn mynd i ddioddef o afiechyd meddwl o ryw fath yn ystod eu hoes. Dŷn ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei daro ac mi allem ninnau gael ein taro ein hunain ar unrhyw adeg hefyd. Felly, mae’n rhaid inni barhau i siarad am iechyd meddwl ac mae’n rhaid inni siarad am hunanladdiad, ond mae’n rhaid hefyd inni gofio bod yn rhaid i’r siarad yna fynd law yn llaw â gweithredu.
A gaf fi gofnodi fy niolch i bawb a roddodd dystiolaeth yn yr ymchwiliad hwn, gan gydnabod pa mor anodd oedd gwneud hynny i gynifer ohonynt? Yn ystod ein gwaith eang ar y pwyllgor iechyd, rydym yn ystyried rhai materion anodd. Rydym wedi ymdrin â theuluoedd sy'n byw gyda dementia, y defnydd o gyffuriau gwrthseicotig, heriau unigedd ac unigrwydd, i enwi ond ychydig, ond roeddwn yn ystyried mai'r ymchwiliad i atal hunanladdiad oedd y mwyaf heriol, a'r mwyaf dirdynnol ar adegau, o'r profiadau hyn. Yn wir, ar yr adeg pan benderfynasom gynnal yr ymchwiliad, fel y gwyddom, ac fel y mae Jack wedi siarad mor rymus yn ei gylch heddiw, rydym ni yn y lle hwn wedi cael ein cyffwrdd yn uniongyrchol gan drychineb hunanladdiad, felly rwy'n ymwybodol o ba mor agos yw'r pwnc i bob un ohonom.
I mi, un o'r negeseuon allweddol o'r ymchwiliad oedd yr angen am fwy o ymwybyddiaeth. Daeth hynny'n amlwg ar ôl gwrando ar hanesion rhieni, plant, gwŷr, gwragedd, chwiorydd, brodyr mewn profedigaeth—pobl sy'n chwilio am atebion i pam y gwnaeth eu hanwyliaid gyflawni hunanladdiad. Roedd yn dorcalonnus. Ac fel rhiant fy hun, teimlais y fath dristwch llethol ar ôl siarad â'r rhieni yn Sefydliad Jacob Abraham fel na allwn aros i gyrraedd adref y noson honno i siarad â fy nau fab fy hun i dawelu fy meddwl bod popeth yn eu bywydau yn iawn ac i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod ei bod yn iawn i siarad â mi am unrhyw beth oedd yn achosi pryder iddynt. Ac eto, ar ôl ystyried, mae'n debyg ei bod hi'n sioc bersonol i mi hefyd i sylweddoli pa mor gymharol gyfyngedig oedd fy ymwybyddiaeth o hunanladdiad a sut i sylwi ar yr arwyddion, neu i fod yn ymwybodol o'r technegau ar gyfer gwneud ymyriadau. Sylweddolais y dylai diffyg ymwybyddiaeth fod yn ysgytwad i bawb ohonom. Oherwydd clywsom y teuluoedd hynny'n dweud pan oedd pobl yn siarad â hwy wedyn am yr arwyddion, eu bod yn gallu gweld eu bod yno, ond nad oeddent yn eu hadnabod neu'n gwybod beth i fod wedi'i wneud. Bod yn ymwybodol o'r arwyddion hynny yw'r cam cyntaf i gael y sgwrs a allai atal trychineb. Rwy'n ymwybodol o'r dystiolaeth i'r ymchwiliad gan Zero Suicide Alliance a ddywedodd wrthym nad oes unrhyw ffordd rwydd o ofyn i rywun os ydynt yn bwriadu lladd eu hunain, ond ni fydd hynny'n ei wneud yn fwy tebygol.
Yna, roedd clywed nad chafodd teuluoedd mewn profedigaeth fawr ddim cymorth yn union ar ôl eu trasiedi, dim mynediad at wybodaeth berthnasol ar daflen hyd yn oed, yn rhoi cyngor ymarferol iddynt ar beth i'w wneud nesaf—roedd hynny'n syfrdanol hefyd a dweud y lleiaf. Felly, ar ôl buddsoddi mewn cymorth fel Cymorth wrth Law Cymru, mae angen inni wneud yn siŵr fod y cymorth hwnnw ar gael ar draws ein gwasanaethau gofal sylfaenol, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau trydydd sector eraill, a bod gan bobl y wybodaeth angenrheidiol i gynnig cyngor ymarferol pan fo'i angen, oherwydd nid yw wedi digwydd hyd yn hyn.
Am wybodaeth ynghylch profiadau ar y rheng flaen, roedd hefyd yn ddefnyddiol clywed tystiolaeth ynglŷn â sut y mae'r heddlu yn ymdrin ag achosion o hunanladdiad. Nodais y dystiolaeth ynglŷn â'u rhaglenni hyfforddi presennol. Rhaid inni adeiladu ar y math hwnnw o brofiad hefyd. Ond er bod gan yr heddlu waith annymunol o fynd i ddweud wrth berthynas am farwolaeth o ganlyniad i hunanladdiad, am nad oes trosedd wedi'i chyflawni, cefais fy nharo nad ydynt yn treulio fawr o amser os o gwbl yn siarad â theuluoedd neu'n eu cysuro er mor gydymdeimladol ydynt ar lefel bersonol. Mewn cyferbyniad, fodd bynnag, mae'r heddlu'n darparu cymorth i deuluoedd mewn amgylchiadau eraill drwy eu swyddogion cyswllt teulu os yw'r unigolyn ymadawedig wedi dioddef trosedd. Felly, roedd tystiolaeth fel hyn yn cadarnhau sut y gallwn helpu fwyfwy ar draws y gwasanaethau cyhoeddus i wneud yn siŵr fod hunanladdiad yn fusnes i bawb a pham y mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r holl bartneriaid i ganolbwyntio ar fynd i'r afael ag achosion, gan ddarparu cymorth a gweithio ar atal.
Lywydd, er bod ein hymchwiliad yn eang ac yn edrych ar amrywiaeth eang o ystadegau hunanladdiad, i mi, fel Lynne Neagle, yn yr wythnos y clywsom ganfyddiadau cwêst Derek Brundrett 14 oed o Sir Benfro a gyflawnodd hunanladdiad yn 2013, daeth yn glir i mi fod hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn destun pryder arbennig. Mae pobl ifanc yn agored i ddylanwadau, maent yn ymdrin â llawer o newidiadau yn eu bywydau, drwy'r glasoed, ysgol, prifysgol, symud oddi cartref. Yn aml nid ydynt yn barod ar gyfer y pwysau y mae'r newidiadau hyn yn ei achosi a gallant ddioddef yn ofnadwy o ddiffyg hunan-barch a theimladau o ddiymadferthedd a methu gwybod ble i fynd neu at bwy i droi am help. Er bod y dystiolaeth yn awgrymu mai ymwybyddiaeth a thrafod yw'r ffordd orau o atal yn aml, fel y crybwyllwyd o'r blaen, clywsom hefyd fod ysgolion yn aml yn amharod i fynd i'r afael â hyn ac i siarad am hunanladdiad.
Ond yn fwyaf pryderus, pan fydd pobl ifanc yn estyn allan, yn ymarferol anaml y ceir y lefel o gymorth sydd ar gael yn ddamcaniaethol ar yr adeg y mae ei angen. Clywsom am bobl ifanc sydd wedi cyflawni hunanladdiad tra'n aros am gymorth cynghori, am feddygon teulu nad ydynt yn gallu cael mynediad uniongyrchol at gyngor proffesiynol, am apwyntiadau'n cael eu canslo am fod seicolegydd neu gwnselydd yn absennol oherwydd salwch. Cefais fy nharo gan y gymhariaeth a roddwyd i ni ynglŷn â hyn. Roedd hi'n annhebygol, er enghraifft, y byddai apwyntiad yn cael ei ganslo pe baech yn glaf canser a oedd yn mynd am eich triniaeth radiotherapi. Byddai rhywun arall yn ei gymryd. Roedd y ddadl ynglŷn â pharch cydradd i iechyd corfforol ac iechyd meddyliol yn amlwg yn yr enghraifft honno.
Fodd bynnag, rhwng ymdrechion Lynne Neagle ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl', a'r adroddiad hwn yn awr, rwy'n fodlon ein bod yn darparu tystiolaeth ar gyfer achos parhaus dros newid sylweddol yn ein gwasanaethau ymyrryd. Dim ond drwy ddarparu—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—ymyrraeth well mewn ysgolion, mewn colegau, gyda chyflogwyr ac yn y sector gwirfoddol y gallwn helpu i wneud yn siŵr fod hunanladdiad yn fusnes i bawb.
Cefais y fraint o fod yn aelod o'r pwyllgor tra oedd yr ymchwiliad i atal hunanladdiad yn cael ei gyflawni. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, cyd-aelodau ar y pwyllgor, y clercod a'r rhai a roddodd dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad. Fel y mae Dai'n nodi'n gwbl briodol yn y rhagair i'r adroddiad, mae nifer y marwolaethau drwy hunanladdiad yng Nghymru yn wirioneddol syfrdanol.
Yn 2017, dewisodd 360 o bobl roi diwedd ar eu bywydau eu hunain, ffigur sydd bron 12 y cant yn uwch na'r flwyddyn flaenorol er bod nifer y marwolaethau drwy hunanladdiad wedi gostwng yng ngwledydd eraill y DU. Dynion yw mwyafrif llethol y rhai sy'n marw drwy hunanladdiad. Mae dynion dair gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad. Rhaid inni ofyn pam. Beth rydym yn ei wneud yn anghywir fel cenedl? Yn ystod yr ymchwiliad roedd un neges yn sefyll allan i mi: mae'n rhaid inni wella mynediad at therapïau seicolegol. Gall amseroedd aros am therapïau siarad fod ymhell dros flwyddyn, ac mae hyn yn annerbyniol. Gall siarad achub bywydau, yn llythrennol.
Rhaid inni hefyd oresgyn y stigma—y stigma sy'n gysylltiedig â hunanladdiad a'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Yfory, mae Amser i Newid Cymru yn lansio ymgyrch i fynd i'r afael â'r stigma ynghylch iechyd meddwl ymhlith dynion yng Nghymru. Mae cannoedd o ddynion yn marw bob blwyddyn oherwydd ein bod fel cymdeithas wedi parhau'r myth fod cyfaddef bod gennych broblem iechyd meddwl yn arwydd o wendid. Nid yw hynny'n wir. Ni allai fod ymhellach o'r gwir. Mewn gwirionedd, mae'n dangos cryfder i gyfaddef eich bod yn dioddef. Mae angen inni gydnabod hyn gyda'n gilydd fel cymdeithas nad yw'n trin iechyd meddwl yn wahanol i iechyd corfforol. Ni fyddech yn beirniadu rhywun sydd wedi torri ei fraich, felly pam y byddech yn trin rhywun sy'n dioddef o iselder yn wahanol?
Rhaid inni ddileu'r ymadrodd hynod atgas 'bod yn ddigon o ddyn' o'n geirfa gyfunol. Mae'n gorfodi dynion i ddioddef yn dawel ac yn ddi-os mae'n cyfrannu at gyfraddau hunanladdiad uwch. Bydd yr ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig yn annog dynion i fod yn fwy agored am eu problemau iechyd meddwl heb bryderon ynglŷn â theimlo'u bod yn cael eu barnu neu deimladau o embaras. Canfu ymchwil Amser i Newid Cymru fod llawer o ddynion yn methu siarad â theulu a ffrindiau oherwydd ofn a phryder am ganlyniadau negyddol.
Ni ddylai fod unrhyw ganlyniadau negyddol. Dylai dynion fod yn rhydd i siarad am eu hiechyd meddwl â rhywun y maent yn eu caru, ffrind y maent yn ymddiried ynddynt, neu eu meddyg teulu. Rhaid inni ddileu'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac i'r perwyl hwnnw, rwy'n cymeradwyo ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig Amser i Newid Cymru yn llwyr. Lleihau'r stigma yw'r cam cyntaf, ac er bod gan Lywodraeth rôl i'w chwarae, Amser i Newid Cymru sydd yn y sefyllfa orau i yrru'r sgwrs. Yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw sicrhau, pan fydd rhywun yn goresgyn y stigma, fod cymorth a chefnogaeth ar gael ar unwaith.
Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi derbyn deuddegfed argymhelliad y pwyllgor. Rhaid inni gyflymu mynediad at therapïau seicolegol. Mae'r sector gwirfoddol a sefydliadau, er enghraifft y Samariaid, yn chwarae rhan unigryw yn y gymdeithas, a gwn am lawer o bobl sydd wedi elwa ac wedi goroesi drwy amseroedd tywyll yn eu bywydau o'u herwydd. Felly, rwy'n talu teyrnged i'r gwirfoddolwyr hyn ac yn diolch iddynt o waelod calon am fod yno.
Hoffwn ddweud bod gennym orddibyniaeth ar feddyginiaeth wrth-iselder. Mae gan Gymru un o'r cyfraddau presgripsiynau gwrth-iselder uchaf yng ngorllewin Ewrop. Mae meddygon teulu yn presgripsiynu digon o'r cyffuriau hyn i allu darparu cyflenwad 19 diwrnod i bawb yng Nghymru. Mae'r cyffuriau hyn yn effeithiol i rai pobl, ond nid i bawb, a gallant achosi sgil-effeithiau erchyll i lawer o gleifion. Dangoswyd bod therapi gwybyddol ymddygiadol yn effeithiol ac mae treialon wedi dangos bod cleifion yn llai tebygol o fynd yn sâl eto wedi i'r driniaeth ddod i ben.
Mae'n bryd rhoi diwedd ar y stigma ac mae'n amser gwella mynediad at therapïau siarad. Mae siarad yn achub bywydau; gadewch i ni fod yn agored ynglŷn â'n hiechyd meddwl a chymryd cam pwysig tuag at wneud Cymru yn genedl lle nad oes neb yn cyflawni hunanladdiad. Ac wrth i ni gael y sgwrs am ein hiechyd meddwl, rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati ar fyrder i weithredu 31 argymhelliad y pwyllgor. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch fod yr adroddiad wedi'i wneud, ac rwy'n falch o glywed y byddwch yn dychwelyd at y mater, ond mae bylchau yn yr adroddiad. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl waith a wnaed yn y maes hwn. Cyfarfûm â Sefydliad Jacob Abraham, ac maent yn gwneud gwaith gwych yng Nghaerdydd.
Ysgrifennodd etholwr ataf, at bump o ACau eraill ac at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn mynegi pryderon go ddifrifol ynglŷn â chynhadledd genedlaethol Beth am Siarad â Fi? Cefais negeseuon y bore yma gan etholwyr, negeseuon y prynhawn yma, galwad ffôn am tua 8:00 y bore yma i drafod yr adroddiad. Mae etholwyr wedi'u siomi gan yr adroddiad. Nid oeddent yn teimlo bod grŵp agored i niwed o ddynion wedi cael cymryd rhan mor llawn ag y dylent. Rwyf yma i siarad ar ran y bobl hynny heddiw, a llawer o ddioddefwyr cudd.
Bob tro y bûm mewn cyfarfod o grŵp cymorth—fel Both Parents Matter, er enghraifft—rwyf wedi cyfarfod â phobl sydd naill ai wedi teimlo'n hunanladdol neu sy'n hunanladdol, ac rwy'n argymell bod y pwyllgor yn mynd i gyfarfodydd grwpiau cymorth o'r fath ac yn cyfarfod â'r bobl yno.
Mae cam-drin domestig cudd yn erbyn dynion yn ffactor yn yr epidemig o hunanladdiad ymhlith dynion. Fel y clywsom, yn 2017, cyflawnodd 278 o ddynion hunanladdiad—pump yr wythnos, bron un y dydd. Fel y soniwyd, mae'n ystadegyn syfrdanol, a rhaid gwneud rhywbeth pan glywn mai hunanladdiad yw'r achos marwolaeth mwyaf mewn dynion rhwng 20 a 49 oed.
Mae yna ffurf gudd ar gam-drin domestig a ganiateir mewn cymdeithas, sef dieithrio plentyn oddi wrth riant. Mae llawer o ddynion sy'n dod i fy swyddfa yn dioddef yn sgil cam-drin emosiynol a rheolaeth drwy orfodaeth. Defnyddir plant fel arfau, ac mae pawb ar eu colled. Yn ne Cymru, mae'r heddlu'n gwrthod derbyn cam-drin o'r fath fel cam-drin, ac mae hynny'n sgandal. Yr hyn sy'n fy nhristáu hefyd—ac rwy'n dweud hyn fel dyn—yw fy mod yn gweld canran gynyddol o famau'n wynebu'r un math o gam-drin. Yn 2003, roedd Justice Wall yn dweud bod
dieithrio plentyn oddi wrth riant yn ffenomenon gyfarwydd iawn.
Wel, dylai fod yn yr adroddiad. Rwy'n mynd i ddarllen dyfyniad gan ddyn mewn llawer o boen, rhywun sy'n dad. Ac roedd yn dweud: 'Yn syml iawn, torri'r berthynas rhwng rhiant a phlentyn, ar wahân i ladd rhywun, yw'r peth gwaethaf y gall un bod dynol ei wneud i un arall'.
Mae diwylliant o honiadau ffug, weithiau i gael cymorth cyfreithiol yn y llysoedd teulu, hefyd yn lladdwr. Fe ddarllenaf ddyfyniad arall, gan berson go iawn arall: 'Cymerwyd fy mhlant oddi wrthyf, yna gwnaed 42 o honiadau yn fy erbyn. Roedd hi'n ymddangos mai hunanladdiad oedd yr opsiwn gorau. Ceisiais grogi fy hun ddwy waith, a sefais ar drac rheilffordd unwaith ac fe lwyddodd y Samariaid i fy nghymell oddi ar y rheilffordd drwy siarad â mi'.
Caiff dynion eu beirniadu am beidio ymgysylltu a siarad ynglŷn â sut maent yn teimlo, ond pan fyddwch yn y system llysoedd teulu, ni allwch siarad am unrhyw deimladau hunanladdol, unrhyw gythrwfl emosiynol, oherwydd defnyddir hynny yn eich erbyn i'ch rhwystro rhag gweld eich plant. Ac rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd cyfiawnder troseddol yn cael ei wneud mewn ffordd gwbl wahanol yng Nghymru, yn enwedig ym maes cyfraith teulu.
Yn y ddinas hon, ym mhrifddinas Cymru, nid oes unrhyw gymorth anfeirniadol ar gyfer dynion. Caiff dynion eu trin fel troseddwyr bob amser, a chânt eu sgrinio. Rwyf am ddyfynnu cyfaill i Alex Skeel, dyn dewr iawn a gymerodd ran mewn rhaglen ddogfen ar y BBC. Cafodd ei gam-drin gan Jordan Worth, y fenyw gyntaf i gael ei charcharu am reolaeth drwy orfodaeth, a dywedodd:
Nid oes ots pa ryw ydynt. Mae dioddefwr yn dal i fod yn ddioddefwr. Mae camdriniwr yn dal i fod yn gamdriniwr. Mae dioddefwr yn dal i frifo boed yn wryw neu'n fenyw. Mae camdriniwr yr un mor gas boed yn ddyn neu'n ddynes.
Caf negeseuon gan bobl yn dweud nad oes unman iddynt fynd—ac fe ddof i ben yn awr—
A ydych yn dirwyn i ben? Diolch.
Mewn cyd-destun, yn yr ychydig fisoedd diwethaf, mae dau o bobl wedi cysylltu â fy swyddfa i ddweud bod ein hymyrraeth wedi eu rhwystro rhag lladd eu hunain. Roedd un yn dad. Roedd un yn fam. Rhaid gwneud rhywbeth. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad 'Busnes Pawb' ar atal hunanladdiad yng Nghymru. Ac rwy'n croesawu'r ddadl heddiw. Mae wedi bod yn anodd ond yn bwysig ac yn gam ymlaen ar drafod y mater mewn modd aeddfed a sensitif iawn ar y cyfan, oherwydd mae gwella iechyd meddwl a lles meddyliol ac atal hunanladdiad yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Mae'r argymhellion yn cyd-fynd yn fras â'r rhai yn adolygiad canol tymor y strategaeth 'Siarad â fi 2'. Mae gwaith eisoes ar y gweill gyda'r grŵp cynghori cenedlaethol ar gyfer cyflawni'r rhain. Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth bellach, a fydd yn helpu i lywio ein rhaglen waith, i gynyddu ei heffaith ar leihau hunanladdiad yma yng Nghymru.
Roeddwn yn falch o gytuno neu gytuno mewn egwyddor â'r holl argymhellion, ac rwyf am grynhoi rhai o'r prif gamau gweithredu sy'n deillio o'r ymchwiliad. Dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol o'r camau rydym wedi'u cymryd yn y blynyddoedd diwethaf i wella'r gwaith o atal hunanladdiad drwy 'Siarad â fi 2'. Rwy'n dal yn benderfynol o gryfhau ein dull o atal hunanladdiad, oherwydd, er ein bod wedi dod yn bell, rwy'n cydnabod bod llawer iawn mwy y gellir ei wneud.
Roeddwn yn falch o gyhoeddi £500,000 o arian ychwanegol bob blwyddyn yn y gynhadledd genedlaethol ddiweddar ar atal hunanladdiad tuag at gefnogi dulliau cenedlaethol a rhanbarthol i helpu i atal hunanladdiad a hunan-niwed. Defnyddir y cyllid ychwanegol hwn yn rhannol i recriwtio arweinydd cenedlaethol a thri arweinydd rhanbarthol ledled Cymru i gydlynu a gyrru'r gwaith hwnnw yn ei flaen ac i gefnogi monitro a gweithredu cynlluniau lleol. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried hwnnw fel arian ar wahân. Mae ein dull ehangach o wella iechyd meddwl a lles meddyliol a gwella mynediad at wasanaethau yn helpu i gefnogi'r dyhead sydd gan bawb ohonom. Rydym yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag unrhyw ran arall o GIG Cymru. Caiff gwariant ar iechyd meddwl ei neilltuo yng Nghymru, a dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi sicrhau cynnydd pellach o £20 miliwn i £655 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Ac mae hynny wedi cynnwys cyllid wedi'i dargedu tuag at wella mynediad at nifer o feysydd penodol, gan gynnwys iechyd meddwl pobl hŷn, gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, therapïau seicolegol ar gyfer oedolion, gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gymuned a'r gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a gofal sylfaenol lleol.
Mae gwella mynediad at ofal y tu allan i oriau a gofal mewn argyfwng yn flaenoriaeth ar gyfer ein cronfa trawsnewid iechyd meddwl. Yn ddiweddar rydym wedi ymrwymo £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth o ddulliau i wella cymorth, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt, cymorth mewn argyfwng a brysbennu ar y stryd. A nodwyd bod gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau yn faes blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y flwyddyn i ddod. Felly, rydym yn gweithio gydag ystod o asiantaethau, gan gynnwys yr heddlu ac awdurdodau lleol, i bennu'r dull mwyaf effeithiol o dargedu'r buddsoddiad hwn.
Bydd y £7.1 miliwn ychwanegol y flwyddyn a gyhoeddais yn ddiweddar yn adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol ac yn ceisio sicrhau gwelliannau cynaliadwy i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, ond caiff ei ddefnyddio hefyd i gefnogi'r dull ysgol gyfan o weithredu ar iechyd meddwl a lles meddyliol emosiynol, oherwydd rydym yn hyderus y bydd dull ysgol gyfan yn helpu i sicrhau bod iechyd meddwl a lles meddyliol yn dod yn ganolog i'r ffordd y mae ysgolion yn gweithio ac y bydd ethos yr ysgol yn cefnogi iechyd meddwl a lles meddyliol ehangach dysgwyr.
Ac mewn ymateb i un o bwyntiau Lynne Neagle, gallaf ddweud bod y Gweinidog Addysg a minnau yn disgwyl gallu cyhoeddi canllawiau i ysgolion ar siarad am hunanladdiad ym mis Ebrill eleni. Ar bwynt gwahanol, sy'n ymwneud â phobl ifanc yn hytrach na phlant, bydd y Gweinidog Addysg yn gwneud cyhoeddiad cyn bo hir ar gymorth ar gyfer y ddarpariaeth iechyd meddwl mewn addysg uwch.
Mae cael cyfle i fwydo eu safbwyntiau i mewn yn uniongyrchol yn ganolog i'n dull o weithredu gyda phlant a phobl ifanc. Felly, rydym yn gweithio gyda Plant yng Nghymru a'r GIG i gynnull grŵp rhanddeiliaid ieuenctid, a fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf y mis hwn, i weithio ochr yn ochr â ni a'n cynghori wrth i'r gweithgaredd fynd rhagddo. Fel rhan o'n hymdrech barhaus i wella gwybodaeth a sgiliau staff rheng flaen, gan gynnwys meddygon teulu, drwy weithredu fframwaith hyfforddi, byddwn yn cynnwys darparu gwybodaeth i wasanaethau allu gwneud penderfyniadau gwybodus am hyfforddiant priodol ar gyfer eu hanghenion.
Rydym yn cydnabod yr angen i sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar gyfer y rhai sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad. Mae peth her yn gysylltiedig ag iaith, ac nid wyf yn siŵr y bydd pawb yn deall beth y mae ôl-ymyrraeth yn ei olygu, ond rydym yn sôn am y gefnogaeth a ddarparwn. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o'r cymorth sy'n bodoli eisoes ac i dargedu buddsoddiad lle mae ei angen, ac rwy'n disgwyl y bydd angen buddsoddiad pellach. Yn sicr, nid yw hynny'n cael ei wthio o'r neilltu. Rwyf wedi ymrwymo i wella sut rydym yn gwella cymorth, nid pa un a ddylem wneud hynny, ac rwy'n cydnabod bod y pwyllgor yn disgwyl gweld camau ar waith o fewn cyfnod rhesymol o amser, ac nid nifer o flynyddoedd o aros.
Bydd y gwaith hwn yn cynnwys gweithredu'r llwybr cymorth ar ôl hunanladdiad a gwella ymwybyddiaeth o adnoddau, gan gynnwys 'Cymorth wrth Law', ac a bod yn deg, mae'r ymchwiliad hwn wedi gwneud gwahaniaeth drwy wneud yn siŵr fod y cymorth hwnnw'n llawer mwy hygyrch ar-lein, ac ar ffurf copi caled, i gefnogi pobl sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad. Byddwn yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth wedi'i thargedu at staff rheng flaen yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys meddygon teulu, staff y gwasanaeth ambiwlans a chlinigwyr adrannau damweiniau ac achosion brys. Y nod yw sicrhau y gall gwasanaethau rheng flaen ymateb yn briodol ac yn sensitif i bobl mewn trallod.
Un o'r argymhellion yn yr adroddiad oedd darparu un pwynt mynediad i help a chymorth. Roeddwn yn falch o gefnogi'r grŵp cynghori cenedlaethol gyda lansio eu gwefan newydd ar 30 Ionawr eleni. Mae'r wefan yn anelu i wella mynediad at gymorth a galluogi pobl i gael mynediad at gyngor a gwybodaeth. Bydd yn cynnwys adrannau ar gyfer gweithleoedd, plant, pobl ifanc, ysgolion, rhieni, y rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â'r rhai sydd mewn profedigaeth yn sgil hunanladdiad.
Y cam cyntaf i ddarparu cymorth priodol a digonol yw cynorthwyo pobl i siarad am broblemau iechyd meddwl. Mae codi ymwybyddiaeth, a mynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu, yn ganolog i 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a 'Siarad â fi 2', ac yn thema y mae nifer wedi'i chrybwyll yn eu cyfraniadau heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gefnogwr cryf i ymgyrchoedd dan arweiniad y sector gwirfoddol i wneud yn union hynny.
Rwy'n deall bod pobl yn pryderu ynglŷn â'r effaith y gall cyfryngau cymdeithasol ei chael ar iechyd meddwl hefyd. Yn ddiweddar, cyhoeddodd ein prif swyddog meddygol, ynghyd â chymheiriaid ledled y DU, gyngor a oedd yn cydnabod y gall amser sgrin a chyfryngau cymdeithasol fod yn fuddiol. Fodd bynnag, mae hefyd yn amlygu effaith amser sgrin ar ddatblygiad plant iach, megis ymarfer corff a chysgu, ac yn herio'r diwydiant i gael cod ymddygiad gwirfoddol i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein.
Nawr, rwy'n cydnabod cysylltiadau penodol hunanladdiad yn y gymuned ffermio, fel y crybwyllwyd gennym heddiw yn y ddadl hon, ond hefyd yn fy ymddangosiad gerbron y pwyllgor iechyd y bore yma. Mae'n un o nodweddion ein gwaith presennol ac yn y dyfodol i wella'r cymorth ymarferol sydd ar gael. Amlygodd adroddiad y pwyllgor hunanladdiad ymhlith dynion fel blaenoriaeth genedlaethol—unwaith eto, soniodd nifer o'r Aelodau am hynny. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd nodi cymorth, ac mae gennym amrywiaeth o raglenni eisoes ar waith i helpu i gynorthwyo dynion. Mae cyfnod 3 o ymgyrch gwrth-stigma Amser i Newid Cymru, ymgyrch rydym yn ei hariannu ar y cyd, yn canolbwyntio ar ddynion canol oed ar gyfer y cyfnod nesaf. Rydym hefyd yn darparu cyllid i sefydliadau trydydd sector drwy grantiau iechyd meddwl adran 64 i ategu a gwella'r gwasanaethau a ddarperir eisoes gan GIG Cymru ac awdurdodau lleol.
Dau gynllun penodol rydym yn eu hariannu ar hyn o bryd yw Siediau Dynon, i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, a'r Samariaid, sy'n canolbwyntio ar atal hunanladdiad, tra bydd swyddogion y Llywodraeth yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â'r grŵp cynghori cenedlaethol. A chan fod yr holl ranbarthau o Gymru wedi datblygu eu cynlluniau lleol, bydd swyddogion yn datblygu canllawiau adrodd cliriach i fonitro gweithredu camau lleol ochr yn ochr â gwaith cenedlaethol. Mae gennym raglen waith ddifrifol a all wneud gwahaniaeth go iawn. Edrychaf ymlaen at roi diweddariadau pellach ar y cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion yn yr adroddiad hwn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn yr ychydig funudau sydd gennyf, rwyf am ganolbwyntio ar ymateb i rai o'r cyfraniadau yn yr hyn a fu'n ddadl anodd ond pwerus iawn ar adegau. Credaf fod y Senedd hon ar ei gorau, weithiau, pan fydd yn rhaid inni fynd i'r afael â materion sy'n anodd ac yn heriol iawn i bawb ohonom, a'n bod yn llwyddo i ddadlau mewn ffordd aeddfed ac ystyriol iawn â'n gilydd, oherwydd mae llawer o bobl yma wedi cael eu cyffwrdd gan hunanladdiad. Cawsom brofiad personol Helen Mary, ac yn arbennig, profiad personol Jack Sargeant yn amlwg, a hyd yn oed gan Neil Hamilton, a phobl yn dod i weld Rhun ap Iorwerth yn ogystal, a phrofiad personol Lynne Neagle a'r dystiolaeth bwerus y mae'n ei darparu yn y pwyllgor iechyd ac yn y pwyllgor plant a phobl ifanc. Felly, rydym yn gwybod am hunanladdiad.
Yn broffesiynol, nid wyf yn gwybod os soniais cyn hyn fy mod wedi bod yn feddyg teulu ers cymaint o gannoedd o flynyddoedd bellach, ac yn achlysurol rydych yn cael eich cyffwrdd gan hunanladdiad. Rydych yn cael y sgwrs honno lle mae rhywun yn rhyw led fygwth hunanladdiad ac rydych yn ceisio gwneud rhywbeth am y peth, a dyna'r pwynt. Ni allaf gael pobl i mewn i ysbytai seiciatrig brys yn awr, a gallwn wneud hynny 20 mlynedd yn ôl, wyddoch chi. Gallwn ffonio, fel pe bai gennych boen yn y frest. Gallwn gael pobl i mewn i'r ysbyty. Ni allaf wneud hynny mwyach, ac mae pobl yn dweud, 'Lle'r oedd y meddyg teulu yn hyn oll?' Iawn, gallwn ddeall hunanladdiad, ac rydym yn deall dinistr hyn i gyd. Daeth hynny'n amlwg yn y ddadl bwerus hon.
Ac mae gwaith rhagorol yn digwydd ar lawr gwlad. Mae angen mwy ohono. Dyna'r cyfan sydd ei angen arnom—mwy o therapïau siarad. Mae 'Cymorth wrth Law' yn wych, fel y mae'r gyfres 'Siarad â fi 2'. Mae angen newid sylfaenol o ran darparu adnoddau. Mae'r sefydliadau cymorth profedigaeth yn y sector gwirfoddol yn rhagorol. Mae angen mwy ohonynt. Mae angen mwy o gymorth arnynt, oherwydd, fel y dywedasom, mae hunanladdiad yn ddinistriol.
Fe wnaeth meddyg teulu yr oeddwn yn ei adnabod rai blynyddoedd yn ôl yn y practis rwyf bellach yn feddyg teulu ynddo gyflawni hunanladdiad, ac nid yw hynny byth wedi gadael y practis. Mae 18 mlynedd ers hynny, ac mae'r practis rwy'n dal i fod yn feddyg teulu ynddo'n dal i deimlo trallod—trallod llwyr. Ac ni allai pobl siarad amdano am flynyddoedd. Nawr, maent yn siarad amdano, oherwydd mae siarad am y materion hyn wedi dod yn dderbyniol yn sydyn iawn, ac rydym yn dechrau deall yn araf nad yw sôn am hunanladdiad yn ei wneud yn fwy tebygol o ddigwydd. Mae'n dal i fod syniad o hyd, os ydym yn sôn amdano, ei fod yn debygol o ddigwydd. Mae hynny mor gwbl anghywir.
Mae'n fusnes i bob un, busnes i bawb yn bendant iawn, ac rwy'n cymryd geiriau Carl Sargeant i galon: edrychwch ar ôl ei gilydd. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar deithio llesol, a galwaf ar Huw Irranca-Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6947 Huw Irranca-Davies, Dai Lloyd, Russell George, Jenny Rathbone, John Griffiths, Neil McEvoy, Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod gan bobl ifanc yng Nghymru rai o'r lefelau gweithgarwch corfforol isaf yn y Deyrnas Unedig, sy'n cyfrannu at lefelau cynyddol o ordewdra a materion iechyd cysylltiedig megis diabetes math 2;
b) bod nifer o gymunedau yng Nghymru yn dioddef o lefelau anghyfreithlon o uchel o lygredd aer, gydag un gymuned yn profi'r ansawdd aer gwaethaf y tu allan i Lundain;
c) amcangyfrifir bod cost tagfeydd ar y ffyrdd yn £2 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn;
d) nid yw targedau ar gyfer allyriadau carbon o drafnidiaeth yng Nghymru wedi'u cwrdd o gwbl;
e) mae lefelau cerdded a beicio yng Nghymru yn dirywio, ac un pryder arbennig yw bod lefelau teithio llesol i'r ysgol yn disgyn; ac
f) gellid gwella pob un o'r materion hyn pe bai Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn cael ei gweithredu'n effeithiol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei huchelgais am deithio llesol yng Nghymru trwy lunio strategaeth teithio llesol gynhwysfawr, gan gynnwys targedau uchelgeisiol a chynllun manwl ar gyfer buddsoddi hirdymor mewn seilwaith teithio llesol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ôl cerdded i lawr y mynydd uchaf ym Maesteg y bore yma i waelod y cwm i ddal y trên yma i Gaerdydd, ac yna seiclo ar hyd y ffordd yma i weithio, rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar deithio llesol, gyda chymorth Aelodau o wahanol bleidiau ar draws y Siambr.
Nawr, gwyddom fod gan Gymru beth o'r ddeddfwriaeth fwyaf arloesol a phellgyrhaeddol sydd gan unrhyw wlad ar hyn, gan osod fframwaith polisi sy'n ein galluogi i wneud penderfyniadau'n wahanol iawn ar gyfer y tymor hir, nid yn unig ar gyfer heddiw, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn ogystal â hon, ac ar gyfer buddsoddi mewn lles a ffyrdd o fyw egnïol ac iach, ac ar gyfer twf economaidd gwirioneddol gynaliadwy. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n ddwy Ddeddf bellweledol iawn, wedi gosod y sylfeini i ni allu gwneud penderfyniadau mewn ffordd wahanol iawn.
Felly, mae'r ddadl hon yn ymwneud â gosod her i Lywodraeth Cymru ac i'r Gweinidog newydd—croeso iddo i'w swydd—rychwantu'r bwlch rhwng yr amcanion clodwiw a nodir yn ein deddfwriaeth sy'n arwain y byd a realiti'r ddarpariaeth ar lawr gwlad. Nawr, ar ôl rhoi'r fframwaith polisi a'r fframwaith deddfwriaethol ar waith, gallaf grynhoi fy nghais i'r Gweinidog mewn tri gair byr: cyflawni, cyflawni, cyflawni.
Gadewch i mi droi yn gyntaf oll at deithio llesol a'r nodau llesiant. Mae teithio llesol yn cyfrannu mwy at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 nag unrhyw fath arall o drafnidiaeth. Mae'n helpu'r economi drwy leihau tagfeydd, yr amcangyfrifir eu bod ar hyn o bryd yn costio £2 biliwn y flwyddyn i Gymru, a thrwy wella iechyd y gweithlu. Mae'n cyfrannu at gydnerthedd drwy leihau allyriadau, at gydraddoldeb drwy ddarparu dull trafnidiaeth rhad, mae'n helpu cydlyniant cymunedol drwy alluogi pobl i ryngweithio'n haws, ac yn yr un modd mae'n ei gwneud yn haws ac yn rhatach i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol. Ac mae iddo gyrhaeddiad byd-eang, gydag effaith fyd-eang drwy helpu pobl i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Ond ei gyfraniad mwyaf yw Cymru iachach.
Gan roi mater gwelliannau i ansawdd aer a gyflawnir drwy gymryd lle siwrneiau car i'r naill ochr, mae effeithiau buddiol tu hwnt i weithgarwch corfforol syml fel cerdded a beicio, fel y gwneuthum y bore yma, i'r unigolyn, ond hefyd i lefelau iechyd y genedl. Gan Gymru y mae'r lefelau isaf o weithgarwch corfforol ym Mhrydain, gan arwain at ordewdra a llu o afiechydon amrywiol yr amcangyfrifir eu bod yn costio £35 miliwn i'r GIG yng Nghymru eu trin bob blwyddyn. Mae'r sefyllfa gyda phobl iau yn peri pryder arbennig. Ymhlith merched yn eu harddegau yng Nghymru y mae'r lefelau gweithgarwch corfforol isaf o bob un o wledydd y DU, gyda dim ond 8 y cant o ferched yn eu harddegau yng Nghymru yn bodloni'r canllawiau gweithgarwch corfforol. Nawr, o gofio bod ein gwariant ar iechyd yng Nghymru yn 50 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru, dylai unrhyw ymyriadau sy'n helpu i osgoi'r costau enfawr y mae clefydau ffordd o fyw megis gordewdra a diabetes math 2 yn eu gosod ar gymdeithas fod yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi. Felly, yn fyr, bob tro y mae rhywun yn dewis cerdded neu feicio yn hytrach na mynd yn y car, mae'n fuddiol iddynt hwy, ond hefyd mae'n fuddiol i Gymru.
Felly, dyna pam y pasiodd y Cynulliad ddeddf arloesol yn 2013, sef Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Nod y Ddeddf oedd gwneud cerdded a beicio, ac rwy'n dyfynnu'r memorandwm esboniadol a ddaeth gyda hi:
'y ffordd fwyaf naturiol ac arferol o fynd o gwmpas'
yng Nghymru.
Nawr, gwyddom mai'r patrwm enghreifftiol ar gyfer beicio yw dinas Copenhagen yn Nenmarc lle mae 41 y cant o'r holl deithiau i'r gwaith ac i astudio i ac o Copenhagen yn digwydd ar gefn beic, ac mae 62 y cant o bobl Copenhagen yn dewis beicio i'r gwaith ac i astudio yn Copenhagen. Mae cyfanswm o 1.4 miliwn o gilometrau yn cael eu beicio yn y ddinas ar ddiwrnod wythnos cyfartalog, ac mae hynny'n gynnydd o 22 y cant ers 2006. Nawr, yn agosach at adref, yn Llundain, mae nifer y teithiau a wneir ar feic wedi cynyddu 154 y cant ers 2000, gan gyrraedd 730,000 o deithiau bob dydd yn 2016. Mae hyn yn drawiadol.
Fodd bynnag, mae'r ffigurau teithio llesol sydd newydd eu llunio a gynhyrchwyd i fonitro Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn parhau i ddangos canlyniadau siomedig ar gyfer Cymru. Roedd 61 y cant o oedolion yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol. Mae'r ffigur gwael hwn wedi gostwng o 66 y cant yn 2013-14. Mae 44 y cant o blant yn teithio'n llesol i'r ysgol gynradd, a 34 y cant i'r ysgol uwchradd—roedd hyn yn ostyngiad bach o'r 50 y cant i'r ysgol gynradd yn 2013-14. Mae beicio i'r ysgol yn gymharol anghyffredin, gyda llai nag 1 y cant yn beicio i'r ysgol gynradd neu'r ysgol uwchradd ar ddiwrnod arferol.
Ac eto, mae ein huchelgeisiau yn uchel. Ond mae uchelgais Llywodraeth Cymru, a nodais ar y dechrau, wedi llithro o'r cyflwyniad gwych iawn ar ddechrau'r gwaith o wneud teithio llesol y ffordd fwyaf naturiol ac arferol o fynd o gwmpas yng Nghymru, sef yr hyn y bwriadau ei wneud bryd hynny. Mae wedi gostwng. Mewn cyferbyniad, mae gan Lywodraeth yr Alban uchelgais clir. Yn eu cynllun gweithredu ar feicio ar gyfer yr Alban 2017-2020, maent yn cynnwys
10% o siwrneiau bob dydd i gael eu gwneud ar feic, erbyn 2020.
Mae cynllun teithio llesol Llywodraeth Cymru—cafodd ei roi ar waith o dan y Gweinidog blaenorol, yn ôl ym mis Chwefror 2016—yn cynnwys nod mwy amwys, llawer llai uchelgeisiol. Mae'n dweud:
'Rydym yn anelu i symud at batrwm erbyn 2026 lle bydd 10% yn beicio unwaith yr wythnos o leiaf'.
Ac o ran targedau pendant, ymrwymir i'w datblygu'n unig. Dywed
'Byddwn yn datblygu targedau priodol a hefyd yn monitro pa gyfran o’r boblogaeth sy’n gwneud teithiau llesol yn aml, sy’n golygu tair taith gerdded neu feicio yr wythnos.'
Ond nid oes tystiolaeth gennym fod unrhyw dargedau wedi neu yn cael eu datblygu.
I droi at adnoddau, tan y flwyddyn ariannol hon, 2018-19, roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwario tua £12 miliwn y flwyddyn ar deithio llesol. Ac ar 1 Mai y llynedd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd cyllid ffrwd ariannu newydd o £60 miliwn dros dair blynedd o'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. Am y tro cyntaf, byddai gan Gymru gronfa teithio llesol benodol, gan fod y rhan fwyaf o'r aran yn flaenorol wedi'i gynnwys yn y gronfa trafnidiaeth lleol; mater i awdurdodau lleol oedd pa un a oeddent yn gwneud cais am brosiectau teithio llesol—roedd fy nghyngor fy hun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn weithgar iawn yn y maes hwn, a phrin oedd eraill yn gwneud ceisiadau o gwbl—neu gynlluniau trafnidiaeth eraill—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn wir.
Diolch ichi am dderbyn ymyriad. Yn fyr iawn, oes, mae yna ffrydiau ariannu ar gael. Un o'r problemau mawr a wynebwn yn fy etholaeth gyda Chyngor Ynys Môn, yw cael pobl i wneud cais a chydlynu'r mathau o gynlluniau a allai ddigwydd, ac oherwydd nad oes ganddynt staff, y byddai cyllid hirdymor yn caniatáu iddynt ei gael, ni allant ddefnyddio'r arian. Felly, ni cheir unrhyw ddarpariaeth.
Mae'n bwynt da iawn, ac mae'r gwahaniaeth yn yr arbenigedd i alluogi'r ceisiadau hyn i gael eu cyflwyno yn amlwg iawn. Buom yn ffodus ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd gennym feiciwr gweithgar iawn a oedd yn digwydd bod yn swyddog monitro teithio llesol hefyd—Matt, mae wedi symud ymlaen yn awr i Lywodraeth Cymru, pob lwc iddo, bydd yn gwneud pethau da yno—ond ef a'i gyrrai, gydag ymrwymiad yr awdurdod lleol ac eraill. Mewn ardaloedd eraill, nid yw hynny wedi bod yn digwydd. Gwahaniaethau enfawr. Felly, mae'n bwynt da iawn.
Ond gan ychwanegu ffrydiau ariannu eraill at y £60 miliwn hwnnw, megis llwybrau a chymunedau diogel, bydd y cyfanswm gwariant yng Nghymru yn £30,666,667 y flwyddyn yn union. Mae hyn yn gyfystyr â £10 i bob pen o'r boblogaeth. Nawr, cafodd y cyhoeddiad yn tynnu hyn i gyd at ei gilydd ei groesawu'n eang, rhaid imi ddweud. Fodd bynnag, mae'n gadael Cymru ymhell y tu ôl i ardaloedd eraill sydd wedi ymrwymo i gynyddu teithio llesol. Mae gan yr Alban ymrwymiad yn ei rhaglen lywodraethu—'A Nation with Ambition' yw ei henw—i ddyblu'r buddsoddiad mewn cerdded a beicio i £80 miliwn y flwyddyn. Mae hyn yn gyfystyr â £17 y pen. Mae Manceinion fwyaf wedi amlinellu cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol sy'n golygu gwario £150 miliwn y flwyddyn ar seilwaith cerdded a beicio. Mae hyn yn gyfystyr â £54 y pen o'r boblogaeth o fewn Manceinion fwyaf. Ac rydym yn gwybod bod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau 'Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu' yn argymell y dylid gosod ariannu cyfalaf ac adnoddau ar y cyd yng Nghymru ar £17 i £20 y pen y flwyddyn. Felly, gallwn weld pa mor fyr o'r nod yr ydym.
Ond un o'r prif gwynion am weithrediad y Ddeddf yn ystod y tair blynedd y mae proses fapio'r Ddeddf wedi'i gymryd yw nad oes fawr o seilwaith wedi'i adeiladu mewn gwirionedd. Felly, mae gan Gymru lawer o ffordd i fynd. Ac eto, ceir tystiolaeth sylweddol fod buddsoddi mewn teithio llesol yn darparu enillion mawr mewn buddion cyhoeddus. Gwelodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal fod llwybrau beicio oddi ar y ffordd, llwybrau beicio diogel, yn sicrhau gwerth da iawn am arian, gyda phob £1 a fuddsoddir yn dod â £14 yn ôl mewn buddion. Mae buddsoddiad mewn seilwaith cerdded yn dod â £37 yn ôl am bob £1 a fuddsoddir. Mae Manceinion fwyaf yn amcangyfrif y bydd eu rhaglen 10 mlynedd o fuddsoddiad gwerth £1.5 biliwn yn sicrhau o leiaf £8.3 biliwn o enillion mewn budd cyhoeddus. A dyna pam fod arnom angen strategaeth.
Mae'n rhaid i weithrediad effeithiol y Ddeddf teithio llesol fod yn drawslywodraethol a chynnwys amrywiaeth enfawr o wasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys addysg yn arbennig. O ystyried pwysigrwydd cael plant i gerdded a beicio i'r ysgol wrth basio'r Ddeddf, mae'n rhyfeddol nad yw teithio llesol wedi bod yn ystyriaeth yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain y Llywodraeth ei hun. Mae rhai ysgolion wedi ei wneud, ond maent wedi'i wneud ar eu liwt eu hunain, nid oherwydd ei fod wedi'i gynnwys yn rhan o'r rhaglen honno. Rhaid i gynllunwyr, peirianwyr ffyrdd, darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus, gweithwyr iechyd, a chymaint o bobl eraill ar draws Cymru ddeall ein dull a'n penderfyniad i wneud i hyn ddigwydd. Mae arnom angen datganiad clir ynglŷn â phwy sy'n gwneud beth a pha bryd y byddant yn gwneud hynny. Ac mae Trafnidiaeth Cymru yn mynd i chwarae rôl allweddol yn cyflawni teithio llesol, ond ar hyn o bryd, nid oes neb yn gwbl glir ynglŷn â beth yw'r rôl honno, neu sut y caiff ei chyflawni.
Mae gwneud Cymru yn genedl teithio llesol yn brosiect hirdymor, ond mae angen y strategaeth hirdymor honno na fydd yn dod i ben pan fydd Gweinidog yn dod neu'n mynd. Hefyd, mae angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â sut y bydd buddsoddiad yn cael ei flaenoriaethu. Mae adeiladu rhwydweithiau yn hirdymor; mae angen dull strategol o weithredu. Mae penderfyniadau cyllido blynyddol yn arwain at ddarnau byr, ynysig o seilwaith sy'n dod i ben, nid ydynt yn llwyddo i gyrraedd unrhyw le yn iawn, nid ydynt yn caniatáu i bobl wneud teithiau cyflawn. Felly, mae'n siomedig nad yw'r ymrwymiad yn y cynllun gweithredu teithio llesol i ddatblygu'r strategaeth ariannu honno wedi cael ei ddatblygu. Mae angen inni gael pobl i gefnogi go iawn, i fwrw ymlaen drwy'r strategaeth, ac mae angen iddo gael ei gydgynhyrchu. Ac yn yr ysbryd hwnnw o gydgynhyrchu, rwy'n datgan buddiant fel is-lywydd y Cerddwyr. Yn ogystal, rhaid imi godi materion yn ymwneud â diffyg integreiddio seilwaith hawl tramwy gyda'r rhwydwaith teithio llesol drwy'r mapiau rhwydwaith integredig, a diffyg arian ar gyfer gwella hawliau tramwy. Ond fe ysgrifennaf at y Gweinidog ynglŷn â'r materion hynny ar wahân.
Felly, i gloi, gadewch imi ddweud bod gennyf hyder llwyr yn y Gweinidog newydd, sydd ei hun wedi bod ymhlith cefnogwyr mwyaf blaenllaw teithio llesol. Os gall unrhyw un wneud iddo ddigwydd, gall ef wneud hynny, gyda chymorth awdurdodau lleol a phartneriaid anstatudol, gyda hwb achlysurol gan y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, ac rwy'n falch o gymryd yr awenau ganddo, a chydag anogaeth gan yr Aelodau yma heddiw. Os yw Deddf teithio llesol a Deddf cenedlaethau'r dyfodol wedi rhoi fframwaith inni gyflawni uchelgais mawr, gan wneud Cymru'n wlad lle daw cerdded a beicio yn ffordd fwyaf naturiol ac arferol o fynd o gwmpas, ein dyfalbarhad ni fydd yn gwireddu'r uchelgais, ac mae cyfle euraid gan y Gweinidog i gyflawni hynny. Gall gerdded y llwybr, a beicio'i ffordd i lwyddiant hefyd. Bydd pob un ohonom yn enillydd, a Chymru fydd yr enillydd mwyaf oll.
Hoffwn eilio cynnig Huw Irranca-Davies, sydd wedi'i gyd-gyflwyno ar sail drawsbleidiol mewn ymdrech i annog Llywodraeth Cymru i ddiweddaru ei huchelgais ar gyfer teithio llesol drwy strategaeth teithio llesol gynhwysfawr. Ac ni chredaf y bydd unrhyw anghytundeb yn y Siambr hon ynglŷn â manteision teithio llesol. Maent yn niferus, gan gynnwys y cyfraniad y gall ei wneud tuag at drechu gordewdra, gwella ansawdd aer, lleihau tagfeydd traffig a mynd i'r afael â newid hinsawdd, ac yn sicr, rwy'n meddwl bod angen inni weld mwy o weithredu i sicrhau bod y darn pwysig hwn—ac mae'n ddarn pwysig—o ddeddfwriaeth yn creu'r newid ymddygiadol a diwylliannol sydd ei angen i fynd i'r afael â'r heriau rwyf newydd eu hamlinellu.
Bellach mae'n wyth mis ers i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y caf y fraint o'i gadeirio gyhoeddi ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru). Gwnaeth y pwyllgor 24 o argymhellion. Nid wyf am fynd drwy'r rheini heddiw—cawsom y ddadl honno—ond buaswn yn croesawu diweddariad gan y Gweinidog ar ba gynnydd a wnaethpwyd ar weithredu'r argymhellion, oherwydd y gwir anffodus, Ddirprwy Lywydd, yw bod cyfraddau teithio llesol ers i'r Ddeddf ddod yn gyfraith bron i chwe blynedd yn ôl wedi bod yn statig yng Nghymru ac mewn gwirionedd, maent wedi gostwng ymhlith plant. Ac nid oedd y Ddeddf teithio llesol byth yn mynd i fod—. Nid oeddem byth yn mynd i weld y newid hwnnw dros nos. Credaf ein bod i gyd yn cydnabod hynny. Ond roedd i fod i newid y ffordd roedd awdurdodau lleol, cynllunwyr a pheirianwyr yn edrych ar eu gwaith. Yn anffodus, canfu adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau na chafodd hyn ei gyflawni, ac mae yna ddryswch ynglŷn â diben mapiau teithio llesol.
'Felly, nid oes gennym ddigon o uchelgais, nid ydym yn ddigon trylwyr a gonest ynglŷn â'n sefyllfa, nid oes gennym sgiliau a chapasiti ar lefel leol i fwrw ymlaen â hyn... Rydym i gyd yn cytuno bod angen iddo ddigwydd. Mae yna fwlch rhwng hynny a gwneud iddo ddigwydd. Rhaid inni wella ein perfformiad.'
Dyna oedd geiriau Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bellach, pan siaradodd yn y ddadl ar adroddiad y pwyllgor yn ôl ym mis Medi, ac nid oes gennyf amheuaeth o gwbl yn fy meddwl fod y rheini'n eiriau y mae'n sefyll wrthynt yn awr hefyd. Gwelodd y pwyllgor fod diffyg arweinyddiaeth ar lefel yr awdurdodau lleol a lefel Llywodraeth Cymru, a dyna sy'n gyfrifol am y diffyg cynnydd a wnaed ar deithio llesol hyd yma. Fel pwyllgor, galwasom ar Lywodraeth Cymru i gryfhau ei harweinyddiaeth ar y mater ac i egluro'r hyn yr oedd yn ei ddisgwyl gan awdurdodau lleol. Nawr, ar y pryd, nid oedd Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r asesiad hwnnw, ond credaf ei bod yn glir bellach fod angen mwy o arweinyddiaeth gan lywodraeth ar bob lefel os ydym am wireddu uchelgeisiau'r Ddeddf teithio llesol. Yn wir, dywedodd y Dirprwy Weinidog y dylai teithio llesol fod wrth wraidd yr holl ddeddfwriaeth Llywodraeth sy'n cael ei phasio, ac wrth wraidd holl ystyriaethau cynghorau lleol. Dywedodd hefyd,
'Rydym yn cydnabod beth sydd angen ei newid, ond nid ydym yn gwthio newid ar y lefel sylfaenol.'
Ac nid oes gennyf amheuaeth y bydd y Dirprwy Weinidog yn dweud wrthym sut y mae'n cyflawni hynny yn ei sylwadau yn nes ymlaen.
Siaradodd Huw Irranca-Davies am £60 miliwn ychwanegol y Llywodraeth ar gyfer teithio llesol dros y tair blynedd nesaf; mae hwnnw'n arian i'w groesawu. Soniodd am ariannu yn ei ardaloedd ei hun yn cyflawni prosiectau, ac yn wir yn ardal fy awdurdod lleol, roedd Cyngor Sir Powys yn llwyddiannus yn ei gais am groesfan teithio llesol newydd dros yr afon Hafren yn y Drenewydd a fydd yn helpu i annog mwy o bobl i gerdded a beicio.
Os yw'r Llywodraeth yn mynd i ddod â deddfwriaeth uchelgeisiol at y bwrdd, rhaid iddi ddod â'r modd o gyflawni'r uchelgais hwnnw. Yn wir, fel y nododd Huw Irranca-Davies, roedd adroddiad y pwyllgor y llynedd yn dweud bod cyllid Llywodraeth Cymru yn brin o'r £17 i £20 y pen y flwyddyn o'r cyllid cyfalaf a refeniw sydd ei angen i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol. Yn y ddadl fis Medi diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn ei sylwadau wrth gloi fod rhaid inni ddechrau cerdded y llwybr ei hun yn awr ac nid siarad am wneud hynny'n unig. Felly, edrychaf ymlaen at y cyfraniadau y prynhawn yma. Yn arbennig, rwy'n edrych ymlaen at y sylwadau i gloi, gan Dai Lloyd rwy'n credu, sydd ag oddeutu dau funud i gyflwyno hynny—
Nage. Nid ef fydd.
Nid ef fydd yn gwneud, ond rhywun arall; Aelod arall fydd yn gwneud hynny.
Parhewch chi i ddirwyn i ben ac fe wnaf i'r llywyddu.
Rwy'n edrych ymlaen at y sylwadau i gloi dyna i gyd. [Torri ar draws.] Mae gan John Griffiths ddwy funud yn ei sylwadau i gloi. Dyna rwy'n edrych ymlaen ato. [Chwerthin.]
Diolch byth fy mod i'n gwybod beth sy'n digwydd, ynte? [Chwerthin.] Dai Lloyd.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Cefais fy arwain ar gyfeiliorn yno am eiliad, ond dyna ni. Rwy'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Yn amlwg, roedd hi'n ddadl bwysig iawn pan gawsom hi fis Medi diwethaf hefyd, ac rwy'n derbyn yr hyn y mae Huw Irranca-Davies a Russell George newydd ei ddweud. Felly, i ailadrodd y pwyntiau, mewn gwirionedd, mai ymwneud â ffitrwydd corfforol y mae, ac fe bwysleisiaf fanteision hynny. Fel y dywedais yma o'r blaen, os ydych yn ffit yn gorfforol, mae eich pwysedd gwaed 30 y cant yn is nag y byddai pe na baech yn ffit yn gorfforol. Os ydych yn ffit yn gorfforol, mae eich lefel siwgr yn y gwaed 30 y cant yn is na phe na baech yn ffit yn gorfforol. Ac os ydych yn ffit yn gorfforol, mae lefel eich colesterol 30 y cant yn is na phe na baech yn ffit yn gorfforol. Hynny yw, pe baem yn cynhyrchu tabled a wnâi hynny, byddem yn gweiddi am ei rhoi ar bresgripsiwn i bawb a phopeth. Nid ydym wedi cynhyrchu tabled a all wneud hynny. Mae'r rhan fwyaf o'r cyffuriau i leihau colesterol—gallant ostwng eich colesterol oddeutu 10 y cant. Yma mae gennym fodd o ostwng eich lefel colesterol 30 y cant ac eto, nid oes digon ohonom yn ei wneud.
Mae angen 6 sesiwn 30 munud o ymarfer egnïol yr wythnos. Gallwch fod yn ymgorfforiad o Geraint Thomas fel Huw Irranca fan acw a beicio'r holl ffordd i Faesteg ac yn ôl neu beth bynnag, ond nid oes raid iddi fod felly, neu gael gafael ar Lycra. Gall fod yn gerdded egnïol. Gallech wneud eich 10,000 y dydd o gamau yn adeilad y Senedd. Ceisiwch beidio â defnyddio lifftiau—i'r rhai hynny ohonom sy'n gallu osgoi defnyddio'r lifftiau, gallwch wneud eich 10,000 o gamau y dydd yn y diwrnod gwaith cyfartalog yn y Senedd. Nid oes angen Lycra arnoch, ac mae hynny yn y bôn—[Torri ar draws.] Wel, gallant gael Lycra os ydynt yn dymuno hynny ar y meinciau Ceidwadol fan acw, ond a dweud y gwir, gallwch wneud eich 10,000 o gamau yma yn y Senedd drwy gerdded yn unig. Ond mae angen y seilwaith ychwanegol, fel roedd Huw yn ei ddweud yn gynharach, i wneud cerdded yn haws o amgylch Cymru. Mae gennym lwybr yr arfordir, ond gadewch i ni ei wneud yn haws. Y Cerddwyr—gwych; mae angen inni fod yn cerdded i bobman. Ceir y peth hwnnw am gerdded y llwybr yn lle siarad amdano, ac rydym yn gwneud digon yn siarad yma, ond mae cerdded y llwybr a beicio'r llwybr beicio yn rhyfeddol o lwyddiannus.
Mewn ychydig wythnosau, mae'r pwyllgor iechyd yn lansio adroddiad ar weithgarwch corfforol, ac mae rhan o hynny'n ymwneud â chael y syniad o weithgarwch corfforol i mewn i blant yn ddigon cynnar fel bod ganddynt hyder, wrth iddynt dyfu, i fod yn gorfforol egnïol—nid penderfynu ar hap nad yw'r busnes gweithgarwch corfforol hwn yn rhywbeth ar eu cyfer hwy. A dengys y dystiolaeth fod yn rhaid i chi fod yn feistr ar sgiliau echddygol bras a rhedeg a cherdded a dal a chicio pêl erbyn eich bod yn saith oed i gael y math hwnnw o hyder i fynd allan a bod yn egnïol yn gorfforol. Os nad oes gennych hynny, rydych yn tueddu i fod yn swil braidd wrth ichi dyfu fyny ynglŷn â'r holl agenda gweithgarwch corfforol. Felly, mae gwers yno. Ond yn y bôn, rydym yn gwybod y ffeithiau yn awr, ac mae angen newid ymddygiad o ran y swm o weithgarwch corfforol, ac mae angen newid ymddygiad hefyd yn ein deiet, ac i gydnabod mai siwgr yw'r gelyn yn awr, nid braster yn gymaint—siwgr. Nid wyf yn edrych ar neb yn benodol ar y meinciau Ceidwadol. Caiff carbohydradau eu troi'n siwgr yn y corff wrth gwrs. Felly, siwgr a charbohydradau—mae angen inni edrych ar hynny yn bersonol. Gallwn alw ar Lywodraeth i wneud llawer o bethau, gallwn alw ar ysgolion i wneud llawer o bethau, ond mae llawer iawn o bethau hefyd yn dibynnu ar sut rydym yn byw ein bywydau ein hunain. Felly, cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.
Diolch i chi, Dr Dai. Rwy'n cymryd eich cyngor, mae gennyf lefel pwysedd gwaed eithaf isel. Rwy'n beicio i'r Senedd ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau ac rwy'n cael hynny'n fuddiol iawn. Os nad wyf yn gwneud hynny, nid wyf yn teimlo cystal. Caerdydd yw'r ddinas sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop, a dros yr 20 mlynedd nesaf bydd gennym 40,000 o gartrefi ychwanegol, gan ei gwneud draean yn fwy o faint na'r hyn ydyw yn awr. O ystyried y lefelau llygredd aer sydd eisoes yn annerbyniol o uchel, mae'n hollbwysig ein bod yn newid y ffordd rydym yn teithio o amgylch y ddinas. Fel arall, bydd hi'n dod yn gwbl amhosibl byw yn y ddinas fwy o faint hon sy'n ehangu, a bydd unrhyw fanteision yn cael eu colli.
Felly, nid yw dim newid yn opsiwn yn fy marn i. Rwy'n falch tu hwnt fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymuno â Chyngor Caerdydd i gael disgyblion i fesur lefel y llygredd ar dir chwarae'r ysgol—dyna arf pwerus iawn. Rwy'n siŵr na fydd yn braf darllen y canlyniadau hynny. Eisoes, mae lefelau anghyfreithlon o lygredd aer mewn chwe ysgol yn fy etholaeth, a naw ledled y ddinas. Bydd y wybodaeth honno'n rhoi'r grym sydd ei angen arnynt i ddisgyblion sicrhau nid yn unig eu bod hwy'n newid ond bod yr oedolion o'u cwmpas yn newid hefyd. Oherwydd fe wyddom fod bron hanner y plant a holwyd gan Sustrans yn ôl yn 2010 eisiau beicio i'r ysgol, ond 4 y cant yn unig oedd yn cael gwneud hynny—o'r rhai a holwyd. Roedd yn amlwg yn ymarfer braidd yn hunanddewisol oherwydd, fel y clywsom eisoes gan Huw Irranca, 1 y cant yn unig sy'n beicio i'r ysgol. Oherwydd bod rhieni'n dweud, 'Mae gormod o draffig i'n plant allu cerdded i'r ysgol, felly rydym yn eu cludo yn ein ceir.' Ond drwy wneud hynny, maent yn ychwanegu at yr union lefelau traffig sy'n atal plant rhag cerdded neu feicio i'r ysgol. Mae'r ddadl gylchol hon yn gwbl anghynaladwy.
Yn ddiweddar, gwaharddodd un o'r ysgolion cynradd yn fy etholaeth y plant rhag gadael eu beiciau a'u sgwteri ar safle'r ysgol. Dyma'r un ysgol lle mae oedolion yn defnyddio'r lonydd y tu ôl i'r brif ffordd fel llwybrau tarw gan yrru cerddwyr ac ambell feiciwr oddi ar y llwybr—enghraifft glir o sut y mae pobl yn gwneud y peth cwbl anghywir, a hyd yn oed yn gorfodi eu hymddygiad anghywir ar eraill sy'n gwneud y peth iawn.
Felly, mae pobl yn mynd â'u plant i'r ysgol mewn car, gan eu gwneud yn agored i fwy o fwg traffig yn y car nag y byddent yn ei gael drwy gerdded neu seiclo, a hefyd yn ei gwneud yn fwy annymunol i'r rhai sy'n gwneud y peth iawn. Hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno yn y car sydd i gyfrif am 60 y cant o'r llygredd y mae plant yn ei gymryd i mewn bob dydd ac sy'n cynhyrchu 20 i 30 y cant o'r traffig oriau brig. Byddwn yn gallu gweld y gwahaniaeth yr wythnos nesaf pan fydd llawer llai o geir ar y ffyrdd o ganlyniad i hanner tymor.
Felly, rydym yn bell iawn o gyrraedd targed Caerdydd i dros 50 y cant o deithiau gael eu gwneud ar feic, ar droed neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Cael pobl i adael eu car gartref ar gyfer cymudo i'r gwaith ac i'r ysgol yw'r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o fynd i'r afael â'r broblem iechyd cyhoeddus fawr hon, yn ogystal â mynd i'r afael â'n targedau allyriadau carbon. Gydag aer llygredig yn lladd mwy o bobl bob blwyddyn na damweiniau ffyrdd, rydym yn gwybod bod rhaid inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Yn benodol mewn perthynas â phlant, mae niwed i'r ysgyfaint ar oedran cynnar yn rhywbeth na ellir ei wrthdroi. Mae cysylltiad rhwng plant yn anadlu aer brwnt a phroblemau cronig ar y frest yn ddiweddarach mewn bywyd. Felly, mae gennym ddyletswydd, bob un ohonom oedolion sy'n gwneud penderfyniadau ar ran plant, i newid y ffordd y gwnawn bethau. Felly, mae teithio llesol i'r ysgol yn hollol allweddol i hyn, ac rwy'n falch iawn fod Cyngor Caerdydd bellach wedi neilltuo £100,000 i sicrhau bod gan bob ysgol yng Nghaerdydd gynlluniau teithio llesol erbyn y flwyddyn nesaf, 2020. Bydd hynny'n bwysig iawn, oherwydd ar hyn o bryd mae gennym lawer o eiriau teg yn y cynllun datblygu lleol, ac yn wir yn strategaeth feicio Cyngor Caerdydd, ond yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yw'r gwrthwyneb.
Rhaid inni ddilyn esiampl dinasoedd eraill sydd wedi gwahardd rhieni rhag gollwng plant wrth giât yr ysgol—mae'n beryglus iawn i blant sy'n cerdded i'r ysgol beth bynnag—a gorfodi pobl i barcio a cherdded y rhan olaf o'r daith. Nid wyf yn glir sut y mae Cyngor Caerdydd yn mynd i gyflawni hyn. Nid oes unrhyw ddiben mewn cael cynlluniau teithio llesol ar gyfer pob ysgol os nad oes ganddynt adnoddau wedyn i'w gweithredu a'u gwneud yn fwy diogel i bawb. Felly, fy nghwestiwn i'r Llywodraeth yw: pan fo Cyngor Caerdydd yn cyflwyno cynllun busnes i chi yn rhoi manylion y camau y cânt eu gorfodi i'w cyflawni er mwyn cydymffurfio â therfynau'r UE ar ansawdd aer yr amgylchedd ym mis Mehefin, beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud os nad yw'n cynnwys parth aer glân, sef beth fyddai'n rhoi adnoddau i'r cynghorau—fel Caerdydd—i weithredu'r bwriadau da sydd ganddynt yn awr?
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn y ddadl a gyflwynwyd gan grŵp trawsbleidiol o Aelodau'r Cynulliad. Ochr yn ochr â Deddf cenedlaethau'r dyfodol, mae'r Ddeddf teithio llesol yn ddeddfwriaeth wirioneddol uchelgeisiol a phwysig, ac un y mae pawb ohonom yn falch iawn ohoni, fel y dywedwyd eisoes, ac yn briodol felly. Mae'n Ddeddf a wnaed yng Nghymru y dylai pawb ohonom sicrhau ei bod yn cael ei chefnogi'n briodol ar bob lefel os ydym i gyflawni ei photensial llawn a chyffrous ar gyfer Cymru. Felly, wrth gwrs, mae'n siomedig gweld bod lefelau beicio a cherdded yn dirywio, ac yn wir ceir nifer o ffactorau cymdeithasol ac economaidd-gymdeithasol allanol clir sy'n cyfrannu at hyn. Ond hoffwn ganolbwyntio fy sylw'n arbennig ar faterion sy'n ymwneud â llygredd aer, gan fod hyn yn peri pryder penodol i gymdeithas ac yn peri pryder i fy etholwyr. Rhaid mynd i'r afael â phob agwedd ar y broblem, a chyda'r holl gamau lliniaru y mae gennym bŵer drostynt.
Yn Islwyn rydym yn ddigon ffodus i gael nifer o lwybrau beicio pwrpasol, gan wneud defnydd arbennig o nifer o reilffyrdd segur sy'n cysylltu ein cymunedau amrywiol ac yn caniatáu i feicwyr weld rhai o olygfeydd godidog, gwych ac unigryw Cymoedd Gwent. Fodd bynnag, rhaid inni wneud yn siŵr fod ein ffyrdd yn lleoedd iach a diogel i gerdded a beicio hefyd. Yn wir, mae'n gwbl ddealladwy y gallai pobl fod am osgoi beicio ar fryn Hafodyrynys, er enghraifft, sydd wedi cael amlygrwydd yn ddiweddar o ystyried y gwerthusiad o lefelau uchel o lygredd aer. Eto os ydym am fynd i'r afael â'r llygredd hwn, fel y dywedwyd eisoes gan lawer yn y Siambr, rhaid i gael pobl allan o'u ceir fod yn nodwedd allweddol o'n dull cenedlaethol a lleol o weithredu, ac ni allwn guddio ein pennau yn y tywod. Mae'r biliynau'n llai i grant bloc Cymru yn cyfateb i'r mater a basbortiwyd i'n hawdurdodau lleol, a'r mater hwnnw a basbortiwyd yw diffyg capasiti ar lefel leol, yn ariannol a dynol. Yn wir, ni ddylem fod yn gwneud dim i wneud tagfeydd yn waeth, ac yn wir rhaid edrych ar lygredd yn yr ardal hon, yn Hafodyrynys, yn ofalus, ac mae hynny'n digwydd. Rhaid inni wneud y gwrthwyneb, ac felly yn y broses gynllunio rhaid inni edrych ar hyn hefyd mewn perthynas â'r chwarel a argymhellir ar gyfer yr ardal benodol hon, felly rwy'n dweud 'na' i hynny.
Felly, croesawaf y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn y Cymoedd, ond mae angen inni wneud yn siŵr fod hyn yn cael ei gysylltu â rhwydweithiau teithio llesol sy'n integredig, yn glyfar, yn ddefnyddiadwy, yn fforddiadwy ac yn iach. Felly, er enghraifft, ar waelod bryn Hafodyrynys mae safle hen orsaf reilffordd Crymlyn ar reilffordd Caerdydd i Lynebwy, a phe baem yn gallu trawsnewid ac ailagor yr orsaf yma, byddai'n gyfle delfrydol ac unigryw i liniaru llygredd mewn ardal lle ceir llawer o dagfeydd, pe bai pobl yn gallu cerdded neu feicio'n syth i'r orsaf, gan ateb llawer o'n nodau lles a theithio llesol strategol mewn un weithred. Felly, gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau, a gwn y bydd yn gwneud hynny, i wrando ar nifer o'r pwyntiau difrifol a godwyd ar draws y pleidiau yn y ddadl hon, i roi cefnogaeth lawn i'r teithio llesol sydd ei angen er mwyn cynyddu nifer y teithiau llesol. Felly, bydd yn ddiddorol clywed yn benodol beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi teithio llesol ar draws Cymoedd de Cymru. Yn wir, mae gan ein topograffeg unigryw ei heriau unigryw ei hun, ond mae ganddi gyfleoedd unigryw hefyd ar gyfer teithio llesol. Buaswn yn ddiolchgar hefyd i glywed sut y caiff teithio llesol ei ddefnyddio ochr yn ochr ag ymdrechion strategol ehangach i fynd i'r afael â llygredd aer yng Nghymru ac er lles pawb yn fy etholaeth. A hoffwn ailddatgan y gallwn, a bod yn rhaid inni wneud yn well, ac rwy'n gobeithio y gwnawn.
Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters.
Diolch, Lywydd.
Rwy'n teimlo fy mod mewn sefyllfa ryfedd fel y Gweinidog sy'n ymateb i'r ddadl hon. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i geisio hyrwyddo'r agenda hon a gwireddu rhai o'r pethau y bûm yn eu dweud ers peth amser. Mae'n braf fod gennyf Dafydd Elis-Thomas yn eistedd wrth fy ymyl, oherwydd i Dafydd, pan oedd yn Llywydd ym mis Hydref 2007, y cyflwynais y ddeiseb a ddechreuodd y broses o greu'r Ddeddf teithio llesol. Felly, credaf ei bod yn briodol ei fod yn sefyll wrth fy ymyl ar fy ymddangosiad cyntaf fel Gweinidog i ymateb i'r ddadl hon.
Mae'n ddeddfwriaeth uchelgeisiol, ac rwy'n croesawu'r cynnig, a bydd y Llywodraeth yn ei gefnogi. Rhaid inni fod yn uchelgeisiol. Rhaid inni beidio ag anghofio bod y ddeddfwriaeth ei hun yn uchelgeisiol, ac mae'n arbennig o uchelgeisiol oherwydd ei bod yn ceisio creu diwylliant nad yw'n bodoli, ac mae hynny'n anodd, a bydd yn cymryd cenedlaethau i'w wneud. Ond rhaid inni osod sylfeini cadarn. Un o'r pethau allweddol y mae'n ceisio ei wneud yw sicrhau mai cerdded a beicio, teithio llesol, yw'r peth arferol i'w wneud ar gyfer teithiau bob dydd—nid yn unig ar gyfer teithiau hamdden, nid gwisgo Lycra ar gyfer chwaraeon, ond er mwyn symud o gwmpas bob dydd ar gyfer y rhan fwyaf o'r teithiau a wnawn. Ac mae hynny'n galw am feddylfryd gwahanol, ac mae'n galw am ddiwylliant gwahanol. Mae'n galw ar fodurwyr i fod yn fwy ystyriol o bobl ar droed neu ar feic, ac mae'n galw ar bawb ohonom i weld nad gweithred egsentrig yw honno. Oherwydd, yn rhy hir, fe'i gwelwyd fel rhywbeth braidd yn od i'w wneud, ac mae'r math hwnnw o odrwydd wedyn yn annog meddylfryd wrthdrawiadol ar y ffordd, ac nid yw hynny'n ddefnyddiol o gwbl a rhaid cael gwared ar feddylfryd o'r fath.
Rwy'n fodlon derbyn ymyriadau drwy'r hyn sydd gennyf i'w ddweud y prynhawn yma. Rwy'n dechrau ar yr agenda hon mewn ysbryd o gonsensws trawsbleidiol. Mae hon yn agenda sydd wedi cael cefnogaeth gan bob plaid o'r cychwyn, ac mae'n agenda y gobeithiaf y bydd yn parhau i gael cefnogaeth pob plaid, ac nid oes unrhyw reswm pam na ddylai. Cymeradwywyd yr adroddiad y soniodd Russell George amdano yn gynharach yn unfrydol gan bwyllgor yr economi. Roeddwn yn falch o fod yn rhan ohono. Rwy'n glynu at bopeth a ddywedais yn yr areithiau hynny, ac yn awr y dasg i bawb ohonom yw gweithio gyda'n gilydd i gyflawni hynny. A rhan bwysig o gyflawni hynny yw her. Ac mae her ar draws y Siambr i mi fel Gweinidog a ni fel Llywodraeth i gyflawni'r addewidion yn gyson â'r gefnogaeth drawsbleidiol.
Yn yr ysbryd hwnnw, a wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Nid wyf yn gwybod os yw hyn yn cyfrif fel her, ond tybed a fyddech yn cytuno mai un o'r ffactorau allweddol yn yr agenda hon yw diogelwch, yn yr ystyr, fel rydych wedi dweud, fod angen i ddefnyddwyr eraill y ffordd fod yn ystyriol o feicwyr er enghraifft, ond mae yna fater penodol yn codi ar gyfer menywod a merched o amgylch llwybrau a llwybrau beicio sydd angen eu goleuo'n dda, am fod angen iddynt fod yn ddiogel. Ni allaf argymell i fy merch 22 oed ei bod yn cerdded adref yn y nos o'i gwaith yng ngwesty St David's i'n cartref yn Grangetown, oherwydd bod llawer o'r llwybrau hynny heb eu goleuo'n ddiogel. Ni fuaswn i'n hyderus, ac ni fyddai hithau chwaith. Felly, buaswn yn dweud hynny, boed fel her neu gais i chi, felly pan fyddwn yn feirniadol, fel rydym weithiau, o bobl nad ydynt yn teithio'n llesol—ac rwy'n euog o hynny fy hun—mae yna broblemau gwirioneddol yn ymwneud â diogelwch i fenywod a merched, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod y seilwaith yn iawn cyn inni ddechrau rhoi amser caled i bobl.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Yn bendant, a phan ddywedodd Carwyn Jones, y cyn Brif Weinidog, na fyddai'n breuddwydio beicio yng Nghaerdydd, cafodd ei feirniadu'n hallt, a chredaf ei fod yn iawn i ddweud hynny. Mae'n bwysig i bobl deimlo'n gyfforddus i ddweud nad ydynt yn teimlo'n hapus i feicio neu gerdded dan amodau presennol. Yr ateb i ddiogelwch yw cael digon o bobl i wneud hyn fel eich bod yn teimlo'n ddiogel, ac mae diogelwch mewn niferoedd. Dyna'r ffordd go iawn o fynd i'r afael â diogelwch, fel nad yw'n dasg ynysig.
Rwyf am geisio ymdrin â'r prif bwynt yn y cynnig ynghylch uchelgais a'r alwad am strategaeth. Nid oes ots gennyf beth rydym yn ei alw mewn gwirionedd, pa un a yw'n strategaeth neu'n gynllun gweithredu, ond credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â hynny ac yn fwy uchelgeisiol o ran yr hyn y dywedwn ein bod yn mynd i'w wneud a beth rydym yn ceisio ei wneud. Nid yw'r cynllun presennol yn cynnwys targedau, ond mynegai uchelgais i gynyddu canran y bobl sy'n beicio ar gyfer teithio llesol o leiaf unwaith yr wythnos o 5 y cant i 10 y cant, a cherdded unwaith yr wythnos o 64 y cant i 80 y cant erbyn 2026. Ond nid yw'r rhain yn uchelgeisiol. Hyd yn oed pe baech yn cyrraedd 10 y cant o bobl yn beicio unwaith yr wythnos, byddai hynny'n cyfrif rhywun sy'n barod i fynd i'r siop bapur newydd ar fore Sadwrn unwaith yr wythnos fel rhywun sy'n cyrraedd y targed, ac nid yw hynny'n arwain at y geiriau y clywsom Huw Irranca-Davies yn eu dyfynnu o'r Ddeddf, a ddywedai y byddai cerdded a beicio'n dod yn ffordd naturiol ac arferol o fynd o gwmpas yng Nghymru. Felly, nid yw hynny'n ddigon da. Ond hyd yn oed i gyflawni hynny, byddai angen dyblu'r lefelau presennol. Mae hynny'n dangos y bwlch yr ydym am ei lenwi.
Mae'r cynllun gweithredu presennol yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu hyn ymhellach ac yn pennu targedau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Nawr, dair blynedd yn ddiweddarach, credaf ei bod yn bryd inni wneud hynny. Y flwyddyn nesaf, bydd gennym strategaeth trafnidiaeth Cymru wedi'i chyhoeddi, ac mae'n hanfodol fod teithio llesol yn cael ei brif ffrydio yn rhan o hynny, ac nid ei osod mewn agenda wahanol. Felly, fy nghynnig yw nad oes gennym strategaeth teithio llesol benodol ar hyn o bryd—strategaeth trafnidiaeth Cymru yw'r strategaeth—ond bod gennym gynllun gweithredu a chynllun cyflawni teithio llesol newydd, a'i fod yn uchelgeisiol. Mae angen i'r targedau a luniwn fod yn gyflawnadwy am fod targedau na ellir eu cyflawni yn wrthgynhyrchiol. Mae angen inni wneud hynny. Mae angen inni eu datblygu ar y cyd—eu cydgynhyrchu gyda'r gweithlu nad yw'n cael ei werthfawrogi'n ddigonol sy'n darparu teithio llesol ar hyn o bryd. Mae gennym fand bach o bobl mewn llywodraeth leol sy'n gwneud eu gorau, mewn amgylchiadau anodd, i gyflawni'r agenda hon. Mae angen inni eu cynnwys a rhoi rhan iddynt yn y gwaith o ddatblygu ffordd ymlaen.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Mae angen eglurder yn Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â phwy sy'n gyrru'r agenda hon, ac o ran y capasiti adnoddau mewn awdurdodau lleol, lle nad oes gan rai awdurdodau lleol yr arbenigedd y dywedodd Huw Irranca ei fod gan Ben-y-bont ar Ogwr. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau y caiff pob awdurdod lleol yng Nghymru ei gynorthwyo i allu cyflawni'r Ddeddf hon yn llawn ac yn briodol?
Wel, mae honno'n her gywir. Nid oes digon o adnoddau, naill ai ar lefel Llywodraeth Cymru neu ar lefel llywodraeth leol, i wneud i'r agenda hon hedfan mewn gwirionedd. Er enghraifft, heddiw, mae swyddogion yn asesu'r cylch diweddaraf o geisiadau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Am bot o £5 miliwn, nid ydym ond wedi cael gwerth £6 miliwn o geisiadau. Dyma'r nifer isaf o geisiadau a gawsom erioed, ac mae ansawdd y ceisiadau, ar y gorau, yn amrywio. Nawr, rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchu'r ffaith fod y gweithlu llywodraeth leol wedi teneuo, ac maent yn cael trafferth i gael amser ac arbenigedd i gyflwyno ceisiadau o ansawdd da. Nid yw hynny o fudd i neb i wneud yr agenda hon yn gyraeddadwy. [Torri ar draws.] Nid wyf wedi gorffen y pwynt, ond rwy'n hapus i ildio.
Diolch. Beth am yr adnoddau a allai fod ar gael drwy barth aer glân, yn amlwg gyda thâl atal tagfeydd i fynd gyda hynny?
Iawn, wel, dyna bwynt ychydig yn wahanol. Gadewch imi orffen mynd i'r afael â'r pwynt arall yn gyntaf. Rwy'n ymwybodol o'r amser, ac mae llawer yr oeddwn am geisio ei ddweud na allaf ei ddweud heddiw. Mae angen inni edrych ar gydweithio rhanbarthol fel ffordd o sicrhau'r adnoddau sydd ar gael. Mae potensial yn y cynnig yn y Papur Gwyn ar fysiau i gyd-awdurdodau trafnidiaeth, os caiff hynny ei ehangu i gynnwys teithio llesol, i greu mwy o fàs critigol. Mae angen inni ddarparu hyfforddiant. Rwy'n mynd i fod yn cyfarfod â'r holl bobl sy'n darparu teithio llesol—nid yr uwch-swyddogion ond y bobl ar lawr gwlad—i gael sgwrs gadarn â hwy, lle gallant ddweud wrthyf beth yw'r cyfyngiadau a sut y gallwn symleiddio'r broses a'u helpu. Mae angen canllawiau gwell, a gallwn roi hyfforddiant wedyn ar gyfer eu cyflawni. Ystyrir bod y canllawiau cynllunio sydd gennym yn arwain y sector, ac mae Lloegr yn ystyried eu hefelychu. Ond nid yw ein canllawiau cyflawni'n iawn, ac rydym yn eu hadolygu ar hyn o bryd i'w cyhoeddi o'r newydd, ochr yn ochr â'r canllawiau cynllunio.
O ran pwynt Jenny Rathbone ar lygredd aer, mae hi'n llygaid ei lle. Yr unig ffordd y gallwn fynd i'r afael ag ansawdd aer o ddifrif yw drwy newid moddol. Mae'n wir fod ceir allyriadau is yn rhan o'r ateb, ond oni bai bod gennym lai o bobl yn gyrru a mwy o bobl yn teithio'n llesol, nid ydym yn mynd i fynd i wraidd y broblem. Ond mae yna rai materion anodd i ni eu hwynebu yn hynny, ac rydym yn gweithio drwyddynt ar hyn o bryd, ac rwy'n hapus i siarad â hi ar wahân, o ystyried yr amser sydd gennym, er mwyn deall ei phwyntiau'n well.
Nid oes gennyf amser i sôn am y pwyntiau yr oeddwn am eu gwneud. Gadewch imi ddweud un neu ddau o bethau eraill, gyda'ch caniatâd chi, Gadeirydd. Rwy'n credu nad yw'r mapiau sydd gennym ar hyn o bryd, a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol i gyflawni eu rhwydweithiau, yn ddigon da. Ceir rhai eithriadau, ond ar y cyfan, nid yw'r ansawdd yn ddigon uchel. Rydym lle'r ydym ar hynny. Rwy'n bwriadu edrych o'r newydd ar hynny ar gyfer y rownd nesaf o gyflwyniadau yn 2021, er mwyn dechrau gydag ymgynghoriad—oherwydd os na all cyngor ysbrydoli mwy nag 20 o bobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar eu cynlluniau ar gyfer rhwydwaith, maent yn mynd i'w chael hi'n anodd iawn fy ysbrydoli i fuddsoddi miliynau o bunnoedd ynddo.
Felly, rwy'n bwriadu bod yn fentrus pan ddaw'r cylch cyllido nesaf, ac rwy'n rhagweld y bydd cwynion gan Aelodau nad wyf yn dosbarthu arian yn gyfartal ledled Cymru. Byddaf yn gwobrwyo uchelgais. Mae'n hanfodol, ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, fod gennym gynlluniau sy'n dangos sut beth yw gwahaniaeth. Felly, ni fyddaf yn gwobrwyo diffyg uchelgais, ond byddwn yn helpu'r awdurdodau nad ydynt wedi bod yn uchelgeisiol i ddod yn fwy uchelgeisiol ar gyfer y cylch nesaf.
Ac yn anffodus mae'n rhaid ildio i'r cloc, ond gallaf sicrhau'r Aelodau y byddaf yn gweithio gyda hwy i wireddu'r agenda hon y mae pawb ohonom yn teimlo'n angerddol amdani, ond peidiwch â gadael inni dwyllo ein hunain pa mor anodd yw hyn a faint o amser y mae'n mynd i gymryd i wneud iddo weithio, ond credaf o ddifrif y gallwn wneud cynnydd go iawn yn y flwyddyn neu ddwy nesaf. Diolch.
Galwaf ar John Griffiths, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Ceir consensws cryf, fel y soniodd Russell George, i gefnogi'r ddeddfwriaeth. Rwy'n credu ei bod yn ddeddfwriaeth sydd â photensial mawr a chryn bwysigrwydd yn perthyn iddi; buaswn yn dweud hynny, Ddirprwy Lywydd, gan mai fi oedd y Gweinidog a'i tywysodd drwy'r Cynulliad, ond rwy'n credu hynny o ddifrif. Ac mae'n rhwystredig iawn, rwy'n gwybod, i bob un ohonom, o ystyried y consensws tu ôl i'r Ddeddf, nad yw ei chyflawniad wedi bod mor effeithiol ag y dylai ac fel sy'n rhaid iddo fod ar gyfer y dyfodol. Gwelsom ffigurau go ddisymud ar gyfer beicio a cherdded yng Nghymru, felly mae llawer iawn o waith i'w wneud.
Mae hefyd yn rhwystredig iawn fod adnoddau—adnoddau sylweddol—wedi'u hymrwymo gan Lywodraeth Cymru, ond nad yw rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn deall y cyfle'n ddigonol i gyflwyno'r cynigion a fyddai'n gwneud defnydd o'r arian hwnnw ar gyfer eu hardaloedd lleol, a sicrhau'r gwelliannau y cyfeiriodd yr Aelodau atynt. Dyna pam y croesawaf yn fawr iawn yr hyn a ddywedodd Lee Waters am edrych ar y sefyllfa honno, a chynnig y cymorth a'r help a fydd yn galluogi'r awdurdodau lleol hynny sy'n cael anhawster gyda'u capasiti mewnol eu hunain i gael help i gael trefn arnynt eu hunain, fel petai, a chael mynediad at yr arian hwnnw a gwneud y gwelliannau hynny.
Rydym wedi clywed am y manteision mawr a fyddai'n deillio o hynny, Ddirprwy Lywydd, a dyna sy'n ei wneud mor rhwystredig nad ydym yn gweld yr hyn y dylid bod wedi'i gyflawni. Er enghraifft, soniodd Jenny ac eraill am hebrwng plant i ac o'r ysgol. Mae'r tagfeydd sy'n digwydd yn ystod yr adeg y bydd plant yn cael eu hebrwng i'r ysgol, y llygredd a ddaw yn sgil hynny, effaith economaidd y tagfeydd hynny, yr effeithiau niweidiol ar iechyd o ganlyniad, yr anhrefn yn yr ysgol, sy'n broblem ddiogelwch go iawn—gellid mynd i'r afael â hyn oll pe bai mwy o feicio a cherdded i'r ysgol, a gallem ddatblygu'r ymddygiadau ymarfer corff da hynny yn ein plant ifanc a fyddai'n aros gyda hwy drwy gydol eu bywydau. A gwnaeth Dai Lloyd yr achos iechyd yn effeithiol iawn, fel erioed. Mae arnom angen buddsoddiad iechyd cyhoeddus, a gallai teithio llesol fod yn rhan o ddarparu'r gwelliant hwnnw.
Gwyddom hefyd, wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, fod y dull trafnidiaeth integredig rydym am ei weld yng Nghymru yn dibynnu ar deithio llesol, gan helpu ynddo'i hun i gyflawni'r newid moddol hwnnw, ond gan gysylltu â thrafnidiaeth gyhoeddus hefyd i helpu i wneud y newid hwnnw. Mae angen newid ymddygiad gyrwyr, a daw hynny os ydym yn gweld llawer mwy o bobl yn beicio a cherdded, a gallai parthau 20 mya yn ein hardaloedd trefol fod yn rhan o'r newid hwnnw.
Mae'n ddeddfwriaeth uchelgeisiol, Lywydd, ond mae cyfle gennym i hyrwyddo hynny, a dyna pam rwy'n croesawu'n fawr y consensws sy'n bodoli o fewn y Cynulliad ac y gwelwyd tystiolaeth ohono gan Aelodau'r Cynulliad heddiw, ond yn enwedig yr ymrwymiad gan Lee Waters. Credaf ein bod oll yn ymwybodol o hanes Lee gyda Sustrans, ac rydym yn gwerthfawrogi'r ymrwymiad hwnnw a'r cyfle sydd gan Lee yn awr gyda'r cyfrifoldeb sy'n deillio o hynny hefyd i weithio gyda phob un ohonom er mwyn gwneud y newid angenrheidiol hwnnw.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans.
Symudwn yn awr at eitem 8, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu ysgolion. Galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6975 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) ar gyfer 'gwasanaethau ysgolion' ar hyn o bryd, sy'n cyfrifo faint o arian sydd ei angen ar bob awdurdod lleol yn genedlaethol i'w wario ar ei ysgolion.
2. Yn cydnabod:
a) diffyg tryloywder yn y fformiwla IBA a phenderfyniadau dilynol awdurdodau lleol o ran ariannu ysgolion; a
b) y dryswch ymysg y cyhoedd ynghylch sut y caiff ysgolion unigol eu hariannu drwy awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a grantiau penodol Llywodraeth Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio dull dealladwy o werthuso a chyfleu effeithiolrwydd holl ffrydiau ariannu ysgolion, yn arbennig;
a) eu heffaith ar gyrhaeddiad a deilliannau eraill dysgwyr;
b) cymorth a datblygiad staff;
c) safonau ysgolion; a
d) cyflawni yn erbyn amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Yn sicr cafwyd newid gêr eleni o ran nifer y cwynion gan ysgolion ac awdurdodau lleol ynglŷn â thanariannu. Nid yw cynghorau yn fodlon gadael i'r Llywodraeth hon gael rhwydd hynt mwyach i feio popeth ar gyni fel y'i gelwir, ac yn wir ni allant wneud hynny, oherwydd mae'r cyllid gwaelodol, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr hynny, yn golygu bod Cymru—. Yma cawn £1.20 am bob £1 a werir yn Lloegr.
Wrth wraidd y cwynion a gawn gan rieni ac arweinwyr ysgolion, fodd bynnag, mae'r hyn y maent yn dechrau ei weld—[Torri ar draws.]—mae'r hyn rydym yn dechrau ei weld fel annhegwch o ran ariannu rhwng ysgolion o fewn yr un awdurdod lleol, heb sôn am gymharu â siroedd eraill, ynghyd â pheth gofid ynghylch ffyrdd newydd o ariannu, nad ydynt bob amser yn cyflawni eu blaenoriaethau—blaenoriaethau sy'n aml yn codi oherwydd galwadau gan y Llywodraeth. A dyna pam y cyflwynasom y ddadl hon: er mwyn canfod y dystiolaeth y tu ôl i'r dryswch ac i annog y Gweinidog i ddweud wrthym am y rhesymau sydd ganddi dros fynd â ni i'r sefyllfa hon—sefyllfa yr ymddengys ei bod yn fodlon â hi yn ôl gwelliant y Llywodraeth. Wel, nid yw ein hetholwyr, arweinwyr ysgolion, cynghorau a rhieni yn fodlon. Dyna pam y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i ariannu ysgolion—ymchwiliad y gobeithiwn y byddai'r ddadl hon yn ei helpu. A dyna pam y mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn ynglŷn â gwelliant y Llywodraeth i'r ddadl hon. Roeddwn yn gobeithio y byddai hyn yn ymwneud â syniadau, ond mae dileu'r cynnig cyfan a dweud bod popeth yn iawn oherwydd y canllawiau, wedi methu'r pwynt yn llwyr fod ein hetholwyr yn cael trafferth gydag ariannu ysgolion er gwaethaf y canllawiau hyn. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant.
Mae'r pwynt cyntaf yn methu mynd i'r afael â'r diffyg tryloywder ynglŷn â beth sy'n digwydd rhwng cyfrifo'r ffigur asesu seiliedig ar ddangosydd a'r gwariant gwirioneddol ar ysgolion gan lywodraeth leol. Cyhoeddwyd y rheoliadau sy'n darparu'r canllawiau yn 2010, ac eto ni wnaeth y canllaw cwestiynau cyffredin y cyfeirir ato yng ngwelliant 2 ymddangos nes mis Medi 2018, pan oeddem ar fin gwneud ein hymchwiliad pwyllgor, rhaid i mi ychwanegu. Ac o ran eu hansawdd, yr ateb i'r cwestiwn allweddol, 'Sut fedra' i fod yn siŵr bod y dyraniad cyllid ar gyfer fy ysgol i yn gywir?', yw 'dylech gysylltu â'ch awdurdod'.
Mae trydydd pwynt y gwelliant yn dweud bod y canllawiau yn unol â dogfen bolisi 'Cenhadaeth ein Cenedl'. Ac efallai fod hynny'n wir, ond ddoe, yn y ddadl Estyn, Weinidog, fe fethoch yn llwyr â mynd i'r afael â fy mhwyntiau am archwilio a rheoli risg prosesau gwerthuso cyfredol, gan ddewis siarad am y rhai newydd y byddech yn eu cyflwyno. Felly, rwy'n gofyn y cwestiwn hwnnw eto heddiw. Hoffwn i chi ddweud wrthym yn union sut rydych yn gwerthuso effeithiolrwydd y ffrydiau ariannu penodol yn erbyn eich amcanion polisi a sut y caiff y prosesau gwerthuso hynny eu harchwilio gan eich swyddogion ac archwilwyr allanol i weld a ydynt yn addas i'r diben.
Felly, gadewch i ni gael golwg ar pam y mae ein hetholwyr yn ddryslyd. Mae eich ffigurau tybiannol eisoes yn ystyried yr hyn rydych yn ei ddisgwyl yn y grant bloc, Weinidog. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru yn aml yn cael ychydig mwy nag a ragwelwyd, sy'n egluro'r cyllidebau atodol yn ystod y flwyddyn. Ar gyfer 2018-19, y flwyddyn sydd newydd ddod i ben, a chyda'r sylwadau hyn mewn cof, cyfrifodd y Llywodraeth fod y gyllideb gros dybiannol ar gyfer ysgolion i'w chynnwys yn y grant cynnal refeniw yn £2.56 biliwn, gyda ffigur tybiannol o £2.24 biliwn i'w ddirprwyo i'r ysgolion eu hunain. Mewn gwirionedd, cafodd yr ysgolion £2.16 biliwn. Felly pam oedd awdurdodau lleol yn meddwl bod angen llai ar ysgolion nag y credech chi fod ei angen arnynt?
Teimlai cyngor Sir Gaerfyrddin y gallai wario £4 miliwn yn llai nag y credech chi fod ei angen arnynt. Gwariodd Sir Benfro, lle mae un o bob 10 ysgol gynradd a 37 y cant o'r ysgolion uwchradd yn y categori coch, £1.6 miliwn yn llai ar ysgolion nag credech chi y dylent ei wneud. A hyn cyn inni gyrraedd yr amrywio enfawr o ran faint y mae awdurdodau lleol yn ei gadw'n ganolog. Ym Mhowys, mae hwnnw'n 25 y cant, ac yng Nghaerdydd mae'n 10 y cant. Ac er bod rhesymau dealladwy iawn am hynny, o ran natur wledig a theneurwydd poblogaeth, mae natur wledig a theneurwydd poblogaeth yn effeithio ar yr ysgolion eu hunain lawn cymaint â'r ddarpariaeth o wasanaethau canolog, felly onid ydynt hwy angen rhagor hefyd? Rydych yn dechrau gweld pam rwy'n gofyn cwestiynau am eich prosesau mewnol o werthuso effeithiolrwydd y modd y gweithredir eich penderfyniadau.
Mae'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau yn beio'r ffaith na chaiff cyllid ysgolion ei neilltuo, fel y gwyddoch. Yr hyn a welaf i yw tueddiad cynyddol i osgoi llwybr y grant cynnal refeniw oherwydd nad ydych yn ymddiried yn ddigonol yn y cynghorau i wario digon o'r hyn a roddwch iddynt ar ysgolion, ac ni allwch wynebu'r frwydr. Ond nid yw llywio arian drwy grantiau canolog a chonsortia yn mynd i lawr yn dda chwaith. Mae'n dechrau edrych fel tacteg sefydledig Llywodraeth Cymru o ranbartholi'n llechwraidd. Mae'r consortia'n cyfeirio'r gwariant o £230 miliwn. Mae awdurdodau lleol yn brigdorri eu cyllidebau ysgol i gyfrannu tuag at hynny. Mae'n ymddangos nad yw'r grant datblygu disgyblion, y credaf ei fod yn syniad gwerthfawr, wedi lleihau'r bwlch cyrhaeddiad yn y ffordd y credwn y byddai'n ei wneud ar y cychwyn. A'r £139 miliwn ar gyfer gwella ysgolion—wel, nid wyf am ailadrodd y cyfan o'r ddadl ddoe; gwneuthum y pwynt nad yw'r amrywiol ffurfiau ar werthuso yn gyson ac nid ydynt yn arwain yn gyson at wella ysgolion sy'n methu. Felly, ymddengys bod £230 miliwn yn llawer iawn o arian am yr ychydig iawn a gyflawnwyd.
Mae'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau wedi cyfrifo nad yw £450 miliwn o gyllideb addysg y Llywodraeth a allai fynd i ysgolion yn eu cyrraedd drwy unrhyw lwybr, i gyflawni eich blaenoriaethau hwy neu eich rhai chi. Ac rydych wedi dweud wrthym, Weinidog, ym mis Gorffennaf, eich bod yn edrych ar yr union bryder hwn am arian yn cael ei ddal yn ôl mewn awdurdodau lleol neu gonsortia ac yn methu cyrraedd ysgolion. Dywed Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru ei bod yn bryd cadw rheolaeth ar y consortia. Credaf ei bod yn bryd i chi rannu eich canfyddiadau ynglŷn â'r gwaith hwnnw gyda ni i weld a ydym yn cytuno gyda'r Undeb Addysg Cenedlaethol.
Nawr, hoffwn ddod yn ôl at y grant datblygu disgyblion am eiliad, oherwydd mae hon yn enghraifft dda yn fy marn i o pam rwy'n dod yn ôl at gwestiwn effeithiolrwydd, oherwydd rydym yn cefnogi diben y grant datblygu disgyblion. Fodd bynnag, mae Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru ac Estyn wedi mynegi pryderon ynglŷn â sut y mae'r arian wedi'i dargedu at gyflawnwyr isel a bod ein disgyblion mwy galluog a thalentog yn parhau i gael eu dal yn ôl gan eu cefndiroedd incwm isel. A gwelodd y pwyllgor rywbeth tebyg iawn. Felly, nid yw llythyr at ysgolion yn ddigon da. Sut ydych yn bwriadu sicrhau tystiolaeth o ddefnydd mwy effeithiol o'r arian hwn ar draws yr ystod gallu, yn enwedig gan y bydd rhagor o blant bellach yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan y newidiadau i'r credyd cynhwysol? Rydym yn derbyn na ellir gwario'r grant datblygu disgyblion mewn gwagle ac os ceir budd achlysurol i blant nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim, wel, mae hynny'n iawn, ond credaf fod yn rhaid i chi ofyn, Weinidog, a yw defnyddio'r grant datblygu disgyblion i gyflogi cynorthwywyr addysgu yn dechrau celu'r ffaith mewn gwirionedd nad oes gan ysgolion gyllid craidd i gyflogi staff o gwbl.
Nawr, gadewch i ni gymharu dwy ysgol gynradd yn ardal un cyngor yn fy rhanbarth i, ac mae'r ddwy yn y categori gwyrdd. Mae gofyniad grant datblygu disgyblion uchel gan un ohonynt, digon o staff ymroddedig a chymeradwyaeth gynnes gan Estyn, ac mae'n ei haeddu. Mae gofyniad grant datblygu disgyblion y llall yn isel, mae ganddi nifer tebyg o fyfyrwyr, ond mae'n edrych ar ddiswyddo'i staff ymroddedig ac yn gofyn i rieni dalu am offer. Mae'n dal i gael cymeradwyaeth gan Estyn.
Yn gryno, dyma y mae'r ysgol honno yn ei ddweud, ac rwy'n ei grynhoi: 'Mae'n ymddangos bod tybiaeth ar ran y Llywodraeth y bydd rhieni'n gwneud iawn am y diffyg cyllid. Nid yw ein disgyblion a disgyblion mewn ysgolion tebyg yn cael cymaint o adnoddau neu ddarpariaeth ag ysgolion mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae hyn wedi arwain at'—a dyma'r rhestr—'ddiswyddo staff; toriadau o ran gwariant ac adnoddau, safle, iechyd a diogelwch, felly nid yw disgyblion bellach yn cael cymorth yn y dosbarth; nid ydym bellach yn gallu cynnal athro cymwysedig yn ein dosbarth meithrin; nid ydym yn gallu cyllido athro cymwysedig i lenwi dros amser cynllunio, paratoi ac asesu statudol i bob aelod o staff'. Maent yn ystyried torri oriau ysgol am hanner diwrnod yr wythnos er mwyn rhoi'r amser cynllunio, paratoi ac asesu y mae ganddynt hawl gyfreithiol iddo i athrawon. 'Prinder cynorthwywyr addysgu i fodloni'r cymarebau a argymhellir ar gyfer y cyfnod sylfaen; nid oes arian ar gyfer swyddog lles neu swyddog presenoldeb wedi'i hyfforddi'n briodol; nid yw'r uwch dîm rheoli yn cael amser rheoli; nid oes digon o adnoddau i staff allu gwneud eu gwaith; nid yw disgyblion yn cael cymorth yn y dosbarth mwyach; mae cyflwr yr adeilad a'r tir yn dirywio; mae'r gofalwr yn rhan-amser; os yw cynorthwywyr addysgu'n absennol oherwydd salwch, anaml y ceir cynorthwywyr addysgu yn eu lle yn y tymor byr; os yw staff addysgu'n absennol oherwydd salwch, ni cheir neb yn eu lle ar y cychwyn, ac wedi hynny caiff eu gwaith ei rannu rhwng aelodau eraill o staff, gan gynyddu maint dosbarthiadau ac achosi problemau llwyth gwaith'—[Torri ar draws.] Iawn, diolch.
Suzy, gwn eich bod yn ymwybodol fod y pwyllgor rydych yn aelod ohono'n cyflawni ymchwiliad mawr i ariannu ysgolion, ond rwyf ychydig yn ddryslyd ynghylch y catalog hir hwn o anawsterau y cyfeiriwch atynt, oherwydd rwy'n meddwl tybed o ble y credwch y daw'r pwysau ariannol a orfodir ar ysgolion mewn gwirionedd, gan mai eich Llywodraeth yn San Steffan sydd wedi torri ein grant.
Credaf imi ateb y cwestiwn hwnnw ar y dechrau un, oherwydd—ac fe ddof at hyn—mae'n rhy hawdd rhoi bai ar Lywodraeth y DU am hyn, oherwydd mae'r problemau rwy'n sôn amdanynt—[Torri ar draws.] Beth am i chi adael i mi ddod at ddiwedd fy araith, ac fe gewch atebion. Fe gymeraf ymyriad arall, os mynnwch, i arbed ychydig o amser ar hyn.
Yn fyr, mae'r holl restr hon rwyf wedi'i chrybwyll wrthych yn tanseilio amcanion y Llywodraeth hon ac nid wyf yn meddwl bod unrhyw un ohonom eisiau hynny. Er fy mod yn derbyn y bydd y cwricwlwm newydd yn galw am ddatblygiad proffesiynol sylweddol, nid wyf yn siŵr na fyddai'r miliynau ychwanegol y daethoch o hyd iddynt yn ystod y flwyddyn ar gyfer cyllido datblygiad proffesiynol parhaus yn ganolog wedi'u gwario'n well—un enghraifft yw hon, Lynne—ar helpu ysgolion eleni, yn hytrach na brys munud olaf i'w wario ar baratoi ar gyfer meysydd dysgu a phrofiad, nad ydynt yn barod eto.
Felly, yn fyr, mae perygl yma na ellir bodloni amcanion polisi oherwydd bod ysgolion yn cael eu tangyllido drwy fod awdurdodau lleol yn dargyfeirio arian o fewn y grant cynnal refeniw a methiant i ddirprwyo, ynghyd â chyllid uniongyrchol, sy'n gadael rhai ysgolion allan yn gyfan gwbl. Fel y dywedais, mae'n rhy hawdd beio Llywodraeth y DU am hyn. Mae'r risgiau penodol yn codi o'r hyn sy'n digwydd rhwng cyfrifo fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd a beth y mae ysgolion yn ei gael gan gynghorau mewn gwirionedd, yn ogystal ag arian yn cael ei gyfeirio'n ganolog at ddibenion nad ydynt wedi gwneud eu marc eto o ran effeithiolrwydd. Ac nid wyf yn credu bod hynny, ynghyd â her cwricwlwm newydd a chymwysterau newydd, yn annog pobl i mewn i'r proffesiwn addysgu chwaith.
Fel y dywedais ar y dechrau, mae Llywodraeth Cymru yn gwybod faint o arian y bydd yn ei gael ar ddechrau'r broses o benderfynu beth yw'r fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd. Ni allwch weld bai, bryd hynny, os yw'r awdurdodau lleol wedyn yn dechrau mynd ag arian allan o'r hyn y maent wedi bod yn ei ddisgwyl, oherwydd bod Llywodraeth Cymru, fel y dywedais ar y dechrau, yn cael ychydig bach mwy yn y pen draw gan Lywodraeth y DU nag a ragwelai'n wreiddiol.
Y pwynt olaf rwyf am ei wneud, Ddirprwy Lywydd, yw bod y canllawiau cyllido ysgolion yn naw mlwydd oed. Maent bron yn hanner oes y Cynulliad hwn. Fformiwla cyllido'r grant cynnal refeniw, fformiwla cyllido asesu seiliedig ar ddangosydd, canllawiau cyllido ysgolion—yn y gwersi hanes y mae eu lle. Ac wrth wneud y cynnig hwn, rwy'n gofyn i chi, Weinidog: pa wersi rydych chi wedi'u dysgu o'r hyn y mae ein hetholwyr yn ei ddweud wrthych?
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod fformiwlâu asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) cyfredol ar gyfer 'gwasanaethau ysgolion' yn modelu angen cymharol awdurdodau i wario ar wasanaethau ysgolion, o ystyried y cyllid sydd ar gael a chan ragdybio ynghylch y dreth gyngor a blaenoriaethau gwario.
2. Yn croesawu’r canllawiau ‘Cyllid ar gyfer ysgolion’, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n egluro’r trefniadau cyllido ysgolion.
3. Yn cydnabod bod holl ganllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ynghylch cyllido a pholisi yn cefnogi cyflawni yn unol â chynllun gweithredu ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a sicrhau system addysg y mae gan y cyhoedd hyder ynddi.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Diolch. Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma.
Rŷn ni wedi clywed gan weithwyr proffesiynol yn y byd addysg yn ddiweddar eu bod yn credu bod y lefelau isel o ariannu ysgolion yng Nghymru yn rhwystro eu gallu i gyflwyno gwersi i'r safonau y maen nhw eu hangen. Mae yna ddiffyg adnoddau, ac, yn gynyddol, mae diffyg cyflenwad staffio llawn yn tanseilio gallu'r ysgolion yng Nghymru i sicrhau'r safonau addysg gorau posib. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond geiriau NUT Cymru, ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod y model cyllido bresennol yn cael effaith wirioneddol ar safonau addysgol ledled Cymru, yn enwedig yn fy etholaeth i.
Yn anffodus, yn gynharach eleni, dangosodd ffigurau categori ysgolion Llywodraeth Cymru fod gan sir Benfro'r canran uchaf o ysgolion cynradd sydd angen y gefnogaeth fwyaf. Yn ôl y ffigurau hynny, cafodd 10.7 y cant o ysgolion cynradd yr awdurdod eu categoreiddio fel coch, o'i gymharu â dim ond 3.6 y cant yn y flwyddyn flaenorol. Mae hynny'n naid syfrdanol mewn dim ond 12 mis, ac, erbyn hyn, fel dywedodd Suzy Davies, mae mwy nag un o bob 10 ysgol gynradd yn sir Benfro yn y categori cymorth coch, sydd angen cymorth ychwanegol.
Nawr tra fy mod i'n derbyn nid y model cyllido yw’r unig reswm pam mae sir Benfro yn wynebu her mewn safonau ysgol, mae'n sicr yn glir dyw’r asesiadau sydd yn seiliedig ar ddangosyddion gwasanaethau'r ysgol ddim yn cwrdd ag anghenion ysgolion yn fy etholaeth i. Mae'n amlwg bod lefel anghyson mewn cyllid ar draws gwahanol rannau o Gymru a bod yr anghysondeb yma yn rhwystro safonau.
Codwyd yr anghysondeb hwnnw y llynedd gan Michael Davies, pennaeth Ysgol y Preseli yng Nghrymych, a ddywedodd fod ei ysgol yn edrych ar doriadau dyfnach nag erioed o'r blaen, gan gynnwys cyrsiau TGAU a phartneriaethau â cholegau lleol. Rhybuddiodd, a dwi’n dyfynnu:
Rydym wedi torri popeth i lawr i'r asgwrn—ac, yn anffodus, mae'n rhaid inni edrych ar dorri'r adnodd pwysicaf oll, sef y staff addysgu a'r staff cynorthwyol.
Felly, efallai, wrth ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma, gall y Gweinidog ddweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael yn benodol â phryderon penaethiaid yn sir Benfro dros y flwyddyn ddiwethaf, a hefyd dweud wrthym ni pa gamau pellach y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â hyn.
Nawr, mewn ymateb i ystadegau dosbarthu ysgolion, mae'r Gweinidog wedi nodi bod y system wedi dod yn fwy soffistigedig dros amser. Yn wir, efallai mai dyma beth sydd wedi digwydd, ond, i lawer yng Nghymru, gwelir bod y system yn rhy fiwrocrataidd, ac, fel y mae'r ystadegau eu hunain yn dangos, mewn rhai rhannau o Gymru nid yw'r consortia rhanbarthol yn darparu ar gyfer disgyblion mewn rhai meysydd.
Dengys ffigurau gan Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru fod consortiwm gwella ysgolion yn cadw £40 miliwn, sydd felly ddim wedi cyrraedd ein hysgolion, ar adeg pan fo ysgolion yn cael eu tan-ariannu. Mae hyn, yn syml, yn annerbyniol. Dyw e ddim yn iawn fod cyllid hanfodol yn cael ei gadw pan fo ysgolion ledled Cymru yn gorfod ymdopi â chyllidebau llai. Yn wir, mae Cymdeithas Genedlaethol Penaethiaid Cymru wedi holi a yw'r consortia rhanbarthol yn rhoi gwerth am arian, gan ddweud, a dwi'n dyfynnu, 'Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ysgolion wedi torri'n sylweddol, yn enwedig o ran lefelau llai o gyllideb ddirprwyedig, o ganlyniad i lywodraethu trydedd haen ormodol yng Nghymru.'
Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru nawr yn asesu effeithiolrwydd y consortia rhanbarthol a gweld a ydynt yn wirioneddol yn cyflawni'r canlyniadau y mae angen inni eu gweld mewn ysgolion ledled Cymru. Y cwestiwn yw: a yw'r consortia hyn yn ychwanegu gwerth at ein system addysg, neu a ydyn nhw yn syml yn wastraff adnoddau ac yn creu lefel ychwanegol o fiwrocratiaeth?
Dirprwy Lywydd, wrth wraidd y ddadl hon yw’r awydd i weld ysgolion yng Nghymru'n ffynnu ac rŷn ni ar yr ochr hon o'r Siambr yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru werthuso ei fformiwlâu ariannu fel y gellir deall yn well ddeilliannau dysgwyr a gwerth am arian. Mae’r sefyllfa bresennol yn ei gwneud hi’n anodd iawn i ganfod pa mor effeithiol yw cyllid ysgolion yng Nghymru. Heb ddeall effeithiolrwydd y gwariant, ychydig iawn o liferau sydd ar ôl gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen ar y system addysg. Wrth gwrs, mae gyda ni ein syniadau ein hunain fel mae gwella’r system, megis ariannu ysgolion yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a byddai hyn yn sicr yn arwain at fwy o arian yn cyrraedd ein hystafelloedd dosbarth.
Yn naturiol, mae heriau eraill hefyd, nid yn bennaf oll daearyddiaeth Cymru. Mae cost darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn ddrud o'i chymharu ag addysgu disgyblion mewn ysgolion mwy. Rŷn ni'n gwybod bod awdurdodau gwledig wedi cyfeirio at gostau cludiant ysgol fel rhywbeth sy’n anodd ei reoli, ac nid yw'r gost honno'n bodoli yn ein hardaloedd trefol. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei modelau cyllido wedi pasio’r prawf gwledig i sicrhau bod awdurdodau gwledig ddim o dan anfantais wrth dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae ein cynnig ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ei modelau cyllido a sefydlu ffordd well o fonitro effeithiolrwydd ei gwariant fel bod y cyhoedd yn gallu deall sut mae ysgolion unigol yn cael eu hariannu ac felly rŷn ni'n gallu cyflawni'r canlyniadau gorau posib i ddysgwyr yng Nghymru. Felly, dwi'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig.
Er mwyn i'r ddadl hon heddiw fod o fudd gwirioneddol, mae'n werth sefydlu rhai paramedrau sylfaenol. Mae agenda gyni barhaus Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad o bron £1 biliwn i gyllideb gyffredinol Cymru. Mae hyn yn real. Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gweithio'n galed i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru rhag y toriadau sylweddol ac wedi cymryd camau uniongyrchol i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus allweddol drwy lywodraeth leol, ac mae hynny'n cynnwys ysgolion. Mae'n werth atgoffa ein hunain nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am benderfynu faint o arian a ddyrennir i ysgolion o gyfanswm yr adnoddau sydd ar gael iddo, a disgwylir i bob awdurdod lleol ymgysylltu â'i ysgolion ar faterion y gyllideb yn ei fforwm cyllideb ysgolion, ac maent yn gwneud hynny.
Mae gan Lywodraeth Lafur Cymru ymrwymiad clir a hirsefydlog i gyllid ysgolion, er gwaethaf y ffaith bod y grant bloc, erbyn diwedd y Cynulliad diwethaf, dywedaf eto, 8 y cant yn is mewn termau real na'r hyn ydoedd yn 2010-11. Mae Llafur Cymru mewn Llywodraeth wedi cyflawni ei hymrwymiad—[Torri ar draws.] Gwnaf mewn eiliad—i ddiogelu gwariant ar ysgolion ac wedi rhyddhau £106 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion Cymru. Ac mae gwella'r system addysg yn flaenoriaeth Lafur Cymru. Iawn.
Diolch yn fawr, ac roeddwn am gyfleu'r pwynt hwn: beth bynnag yw'r swm y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael, mae'n rhoi ffigur dangosol i gynghorau. Nid yw'r ysgolion yn cael y ffigur a ddynodwyd iddynt, a dyna'r bwlch rwy'n ceisio ei nodi yn hytrach na'r cyllid cychwynnol.
O'r gorau. Rwy'n cydnabod mewn gwirionedd, os ydym yn edrych ar beth sy'n digwydd ar draws y dŵr yn Lloegr, fe welwch fod problem enfawr o ran cyllid ar gyfer ysgolion yn Lloegr, ac a dweud y gwir, mae'r bwlch y soniwch amdano yr un fath ledled Cymru. Nid wyf am gymryd unrhyw wersi ar hynny, er gwaethaf y rhethreg nad yw hynny bob amser wedi bod yn wir ar gyfer ariannu ysgolion yn Lloegr. Fel athro, cyn dod i'r Cynulliad, ac fel llywodraethwr ysgol, rwy'n cofio diswyddo athrawon, ac nid oes unrhyw amheuaeth fod ein sector cyhoeddus yn teimlo straen ariannol a basbortiwyd. Felly, hoffwn ofyn inni ysgwyd y goeden arian hud honno ar gyfer Cymru.
Byddai'r blaenoriaethau gwario a amlinellwyd yn y gyllideb amgen Geidwadol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2011 wedi arwain at doriad o 12 y cant yng nghyllideb addysg Cymru yn y Cynulliad diwethaf. Pe bai wedi'i phasio, byddai hynny'n cyfateb i bron i 10,000 o athrawon yn colli eu swyddi—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, mae arnaf ofn—toriadau i'n gweithlu ac i'r gyllideb a fyddai wedi cael effaith drychinebus ar ganlyniadau addysgol i'n pobl ifanc. Nawr, naill ai fod y Ceidwadwyr Cymreig yn chwarae gwleidyddiaeth neu roeddent o ddifrif yn meddwl y byddai torri niferoedd staff addysgu i'r fath raddau a chynyddu maint dosbarthiadau i 50 neu 60 o ddisgyblion yn helpu i godi safonau addysg yng Nghymru. Felly, y tu hwnt i syniad hiraethus a hanner pob y byddai ailgyflwyno ysgolion gramadeg a dethol yng Nghymru yn ein codi i'r entrychion ar restr y rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr, nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig, nac UKIP rwy'n credu, wedi dangos unrhyw awydd i wneud y gwaith caled, y gwaith polisi caled a fyddai'n cynnig dewis amgen yn lle'r weledigaeth a gyflwynwyd dros y pedair blynedd diwethaf ac fel sydd wedi'i chydnabod gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.
Felly, gadewch inni gymharu a chyferbynnu. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi cwtogi cyllid—fy mhwynt cynharach—ym mhob maes addysg, o'r blynyddoedd cynnar i ysgolion i addysg bellach ac oedolion, gyda biliynau o bunnoedd wedi'u colli ers iddynt ddod i rym yn gyntaf yng ngwanwyn 2010. Nid ysgolion academi a phroses ddethol remp sy'n digwydd yn agored a'r tu ôl i ddrysau caeedig yw'r model rydym am ei weld yng Nghymru. Ers 2015, mae'r Torïaid wedi torri, ac rwyf am ddweud hyn, £2.7 biliwn oddi ar gyllidebau ysgolion yn Lloegr. Felly, mae'n ddrwg gennyf, ond ni wyf am gymryd unrhyw wersi ar hynny. Mae dadansoddiad o'r ffigurau a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid annibynnol yn dangos bod cyllidebau ysgolion £1.7 biliwn yn is mewn termau real nag yr oeddent bum mlynedd yn ôl.
Mae gan Lafur yng Nghymru uchelgais ar gyfer ein pobl ifanc, a bydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn cyflawni ar gyfer ein pobl ifanc. Fel y dywedodd yr OECD, er hynny, fe fydd yn gwneud hynny'n deg, fe fydd yn gwneud hynny'n gynhwysol, a bydd yn gwneud hynny heb ddethol.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl, yn enwedig am fod y prif siaradwr o'n meinciau ni wedi agor y ddadl mewn ffordd mor huawdl, gan dynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu llawer o ysgolion ledled Cymru. Nid wyf yn bychanu'r heriau y mae'r Gweinidog/Ysgrifennydd y Cabinet yn awr, mae'n ddrwg gennyf, yn eu hwynebu yn y trafodaethau ar y gyllideb o fewn y Llywodraeth. Ond mae'n ffaith, gyda chyllid gwaelodol newydd sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, am bob £1 a ddaw i Gymru, mae £1.20—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Fe gymeraf yr ymyriad â phleser.
Mae'r ffigur yn anghywir ac mae'n dangos diffyg dealltwriaeth o'r modd y caiff Cymru ei hariannu. Os edrychwch ar gyllid wedi'i nodi a chyllid nad yw wedi'i nodi, maent yn dangos bod y ffigur sy'n dod i Gymru yn sylweddol is na hynny ac mae'n is na'r hyn sy'n mynd i Lundain. Felly, nid yw pedlera'r 120c am bob 100c sy'n mynd i Loegr yn wir o gwbl.
Mae'n wir. Yn wir, cydnabu'r Prif Weinidog presennol hynny pan oedd yn Weinidog cyllid. Un peth y mae pawb ohonom yn ei wybod yw hyn: pe bai Cymru'n mynd yn annibynnol, byddai'n cael ei thangyllido'n ddifrifol. Rydym yn cyflawni canlyniadau llawer mwy drwy fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, fel y mae'r boblogaeth yn ei ddangos dro ar ôl tro. [Torri ar draws.]—rwyf wedi cymryd un ymyriad, hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd yn fy nghyfraniad.
Yr hyn sy'n wirioneddol hanfodol ei ddeall yma, yn amlwg, yw bod rhai o'r materion cyllido hyn—. Rydym yn gwybod bod llai o arian yn y pot yn gyffredinol, oherwydd pan ddaeth y Llywodraeth i rym yn 2010, gadawodd Prif Ysgrifennydd y Llywodraeth Lafur nodyn a ddywedai fod yr arian i gyd wedi mynd. Felly, nid oedd coed arian hud pan ddaethom i mewn. Fe wnaethom gadw economi i dyfu gyda chyfraddau cyflogaeth uwch nag erioed a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae'r hyn a ddigwyddodd yma yn y Cynulliad yn eithaf clir, mae'r Llywodraeth wedi achub croen y byrddau iechyd dro ar ôl tro ac nid yw wedi cael cyfrifoldeb cyllidebol o fewn y byrddau iechyd, ac eto mae addysg a gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill wedi dioddef oherwydd hynny. Mae'n eithaf clir, roedd rheol tair blynedd y gyllideb a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd cyllid pan oedd yn Ysgrifennydd cyllid i fod i gydbwyso'r gyllideb, ac eto, bob tro, mae addysg wedi dioddef yn sgil diffyg profiad ac anghymhwystra, buaswn yn awgrymu, yn rhai o'r byrddau iechyd o ran rheoli pwysau eu cyllidebau eu hunain. Dyna sydd angen i'r Llywodraeth hon ei ddeall.
Mae'n ffaith bod llawer iawn o amgylcheddau ysgol mor wahanol ar hyd a lled Cymru, ac mae honno'n her i awdurdodau lleol ei rheoli. Cofiaf ymweld ag ysgol gynradd y Rhath yn fy rhanbarth i, lle roedd y pennaeth yn dweud wrthyf fod mwy na 30 o ieithoedd yn cael eu siarad yn yr ysgol gynradd honno. Yna gallwch fynd i ysgol gynradd wledig fach lle nad oes mwy na 20, 30 neu 40 hyd yn oed ar y gofrestr wrth gwrs, ac eto rydych yn ceisio cyflwyno cwricwlwm a chynnig cyfleoedd bywyd i'r bobl ifanc hynny. Felly, rhaid inni fyfyrio ar y ffaith bod yr amrywiaeth o ysgolion ledled Cymru yn galw am wahanol lefelau o gyllid. Nid wyf yn bychanu'r heriau hynny.
Ond pan fo undeb, y Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr, yn tynnu sylw at y ffigurau a amlygwyd ganddynt yn ddiweddar, mae hynny'n sicr yn cyfiawnhau ac yn teilyngu dadl, a dyna a gawn yma y prynhawn yma. Pan edrychwch ar ffigurau'r arian wrth gefn, gyda thua £450 miliwn nad yw'n cyrraedd yr ystafell ddosbarth, does bosib nad oes raid inni ofyn y cwestiwn, 'Pam y cyfanswm hwnnw?' Nawr, rwy'n derbyn yn llwyr fod rhai gwasanaethau'n cael eu darparu'n well gan yr awdurdod lleol yn hytrach na'u rhannu, ac mae trafnidiaeth yn enghraifft dda o hynny, yn enwedig mewn lleoliad gwledig. A ddylai ysgol fach o 30 neu 40 o ddisgyblion fod yn ceisio ymdopi â thrafnidiaeth? Yn amlwg, ni fyddai ganddynt bresenoldeb yn y farchnad i gael y fargen orau bosibl. Ond mae £450 miliwn yn gyfran deg o arian allan o gyllideb o £2.5 biliwn sy'n cael ei chadw gan awdurdodau lleol. Does bosib na ellir dwyn mwy o bwysau er mwyn gostwng y niferoedd, yn enwedig pan fydd gennych rai awdurdodau fel Caerdydd, er enghraifft, sy'n cadw 10 y cant o'r arian cyn iddo ddod i'r ystafell ddosbarth yn hytrach nag awdurdodau lleol eraill, y rhai sy'n perfformio waethaf, buaswn yn awgrymu, sy'n cadw 25 y cant neu 30 y cant efallai o'r arian hwnnw. Mae honno'n ddadl sydd i'w chael, a chofiaf ragflaenydd y Gweinidog presennol, Leighton Andrews, yn amlwg yn ceisio gwasgu am hynny, a chafwyd peth llwyddiant.
Felly, mae'r ddadl hon yn ymwneud mewn gwirionedd â cheisio rhoi sylw i'r pryderon sydd wedi ein hwynebu fel Aelodau Cynulliad dro ar ôl tro gyda'n hetholwyr, wrth iddynt geisio deall arian wedi'i neilltuo, heb ei neilltuo, pam y mae'r athro hwn a hwn yn cael ei ddiswyddo, pam nad yw'r ystafell ysgol honno wedi cael ei hadnewyddu, pam nad yw'r rhaglenni cyfrifiadurol wedi'u diweddaru, ac ati, pan ddywedir wrthym dro ar ôl tro fod symiau uwch nag erioed o arian yn mynd i mewn yn ôl yr honiad. Gwyddom fod cwricwlwm newydd yn dod ger ein bron yn 2021 hefyd, a bydd yn galw am fuddsoddiad, ond yr hyn a wyddom dros 20 mlynedd o Lywodraeth dan arweiniad y Blaid Lafur yma yng Nghymru, yn anffodus, o ran y tabl cynghrair rhyngwladol, yw ein bod wedi methu cyflawni fel gwlad. Does bosib nad un o'r dangosyddion allweddol yw'r gallu i ddarparu arian i'r ystafelloedd dosbarth er mwyn cynyddu lefelau cyfranogiad athrawon mewn cyrsiau hyfforddi o ansawdd da ac yn anad dim, sicrhau amgylchedd y gall ein dysgwyr ffynnu ynddo. Mae hynny'n rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei rannu—y dyhead ar gyfer ein hysgolion yma yng Nghymru. Yn anffodus, oherwydd camreoli gan Lafur Cymru mewn grym—[Torri ar draws.] Mae'r cloc yn tician. Oherwydd camreoli Llafur mewn grym, af yn ôl at fy sylw agoriadol, rydym wedi gweld achub croen y byrddau iechyd dro ar ôl tro pan fyddant wedi mynd dros y gyllideb i raddau enfawr, a'r awdurdodau addysg lleol yn gorfod lleihau eu gwariant oherwydd eu bod wedi'u hamddifadu o unrhyw arian ychwanegol a allai ddod mewn symiau canlyniadol ar hyd yr M4. Felly, mae'r ddadl hon yn amserol, mae'n berthnasol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei chefnogi.
Yn y lle cyntaf, fe hoffwn i ganmol ein hathrawon a'r staff yn ein hysgolion am eu hymroddiad parhaus i'r dasg gynyddol anodd o ddysgu ein disgyblion. Maen nhw'n gweithio o dan gyfyngiadau penodol o ddiffyg adnoddau a chyllid i lawer gormod o ymyrryd yn eu gwaith bob dydd. Mae’r proffesiwn dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, ac mae angen dweud 'diolch' iddyn nhw am barhau i geisio ysbrydoli ein plant a'n pobl ifanc ar lawr y dosbarth, sef eu priod waith ar ddiwedd y dydd. Ond mae’r cyd-destun yn un heriol.
Mae argyfwng cyllid difrifol yn wynebu ysgolion ar draws Cymru sy’n cael effaith andwyol ar addysg ein pobol ifanc. Mae hyn yn cael ei danlinellu yn yr adroddiad 'Cut to the Bone?'. Mae £324 yn llai yn cael ei wario mewn termau real yn ôl y disgybl o'i gymharu â naw mlynedd yn ôl. Yn ôl y Llywodraeth ei hun, mae yna ddiffyg yng nghyllideb dwy o bob pump ysgol.
Mae Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn dyfynnu data ar niferoedd athrawon gan nodi bod gostyngiad o 1,416, sef 5.6 y cant, yn nifer athrawon, ac yn aml, mae'r rhain yn athrawon profiadol sydd wedi gadael yn gynamserol yn ystod y broses o gyflawni toriadau.
Dŷn ni'n gwybod bod y gacen yn lleihau yn sgil polisïau llymder y Torïaid. Mae'n ddiddorol nodi, felly, fod y cynnig sydd gerbron heddiw yn manylu am un agwedd benodol o gyllido ysgolion. Mae Plaid Cymru yn cytuno bod yna ddiffyg tryloywder a dryswch am y fformiwla, a dŷn ni'n cytuno hefyd fod angen edrych ar effeithiolrwydd yr holl ffrydiau ariannu ysgolion ac, efallai, angen creu un ffrwd ariannu a chytuno ar sut i fesur llwyddiant.
Beth sy'n siomedig yw bod y Llywodraeth, drwy ei gwelliant, yn meddwl bod popeth yn iawn. Wel, mi ddywedaf i wrthych chi dydy popeth ddim yn iawn. Dŷn ni'n gwybod bod y broblem yn cychwyn efo'r Torïaid yn Llundain a'r ymgyrch ideolegol i danseilio ein gwasanaethau cyhoeddus drwy eu polisïau llymder nhw. Does dim rhyfedd, felly, bod y Torïaid yng Nghymru yn mynd at y glo mân, gan anwybyddu'r eliffant yn yr ystafell, sef bod y pot arian cyhoeddus yn gyffredinol yn crebachu, a bod angen buddsoddi, nid torri, ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Ond mi fuaswn i'n dadlau hefyd: oes, mae angen i'r gacen gyhoeddus fod yn fwy yn y lle cyntaf, ond mae angen iddi hefyd gael ei thorri mewn ffordd sydd yn cyd-fynd yn well efo rhai o brif strategaethau'r Llywodraeth yng Nghymru. Dydy'r gwasanaethau ataliol ddim yn cael eu siâr ddigonol o gyllideb y Llywodraeth, a pha well enghraifft o wasanaeth ataliol nag addysg? Mae angen edrych yn llawer mwy holistaidd ar y gyllideb yn ei chrynswth a symud i ffordd o raniadau amrwd. Mae angen ariannu gwasanaethau sy'n atal problemau rhag datblygu mewn ffordd mwy priodol.
A beth am y sleisen o’r gacen sy’n mynd at addysg? Oes digon o'r sleisen addysg yn mynd at ein hysgolion, a beth a fedrid ei wneud i sicrhau bod yr arian yn cael ei wario yn briodol? Dwi yn gobeithio y bydd gwaith y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg yn bwydo i’r drafodaeth honno.
Gwaith y Llywodraeth yma ydy edrych yn hir a chaled ar y dystiolaeth a dod i gasgliadau a gweithredu yn ôl hynny. Dydy’r gwelliant, fel yr un sydd gerbron heddiw, yn helpu dim ar neb. Mae angen gwrando ar beth mae’r proffesiwn yn ei ddweud wrthym ni. Mae yna rai yn gofyn a ydy’r consortia yn sugno gormod o arian, a oes yna ddyblygu gwasanaethau ar draws yr amryfal haenau. Oes angen cyllidebau tair blynedd? Mae yna bryder bod cyllid drwy grantiau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn creu ansicrwydd, yn arwain at ddull tameidiog, yn peidio ag adlewyrchu blaenoriaethau lleol bob amser. Maen nhw’n faich biwrocrataidd, a bod canran rhy uchel ohonyn nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer tracio a monitro ac ati, ac ati. Mi allaf i ymhelaethu ar y materion penodol yna sydd angen sylw, a dwi’n edrych ymlaen at gyfrannu at waith y pwyllgor i gyfrannu tuag at hynny i gyd.
Dydy’r safbwynt o 'mae popeth yn iawn' ddim yn taro deuddeg, ac mae yn achos arall o’r Llywodraeth yma’n claddu ei phen yn y tywod tra bod ein hysgolion ni’n gwegian a’n pobl ifanc ni’n cael eu gadael i lawr.
Nid yw fformiwla Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu ysgolion yng Nghymru yn addas i'r diben. O ganlyniad, mae arweinwyr ysgol a rhanddeiliaid wedi dweud bod diffyg cyllid cronig wedi rhoi ysgolion o dan bwysau ariannol difrifol. Mae'r system yn ddiffygiol, gyda fawr ddim tryloywder, cydlyniant na chysondeb. Mae arwyddion perygl wedi bod yn amlwg ers peth amser. Y llynedd, cynhyrchodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd adroddiad a oedd yn dadlau bod gwahaniaethau yn y modelau ariannu lleol yn achosi pryderon ynghylch triniaeth anghyfartal i ysgolion mewn amgylchiadau tebyg. Yn ôl yr OECD, gallai diffyg chwarae teg o ran ariannu ysgolion effeithio ar allu ysgolion i weithredu'r cwricwlwm newydd. Aethant ymlaen i ddweud y dylai Llywodraeth Cymru ystyried adolygu'r model cyllido ysgolion os ydynt yn dymuno gwireddu eu huchelgais ar gyfer cydraddoldeb ac addysg a lles myfyrwyr. Nid yw ariannu ac addysg anghyfartal yn bethau dieithr i Lywodraeth Cymru. Ceir bwlch gwariant y disgybl o bron £700 rhwng Cymru a Lloegr, ond caiff y bwlch gwariant hwn ei ailadrodd rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru, diolch i'r fformiwla ariannu ddiffygiol hon. Yn ddiweddar tynnodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg sylw at y ffaith bod y gwariant fesul disgybl yn ei awdurdod lleol £600 yn is na chyfartaledd Cymru. Dylai pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru gael yr un lefel sylfaenol o fuddsoddiad yn eu dyfodol. Ni all fod yn iawn fod loteri cod post yn bodoli ar gyfer ariannu ysgolion yng Nghymru.
Mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon hefyd wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu,
Mae'n bryd cael dadl onest, agored ac aeddfed am gyllidebau ysgolion yng Nghymru.
Aethant ymlaen i ddweud:
Nid yw arweinwyr ysgolion yn gwybod a oes digon o arian yn y system ysgolion.
Ac maent hefyd yn dweud:
Mae angen archwiliad cenedlaethol ac mae angen inni weld dull o ariannu ysgolion sy'n fwy teg a thryloyw.
Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru at y Gweinidog Addysg. Yn y llythyr hwn, roeddent yn mynegi eu rhwystredigaeth a'u gofid am yr argyfwng ariannu difrifol yn ysgolion Cymru a'r effaith niweidiol a gaiff hynny ar ddisgyblion a phobl ifanc. Roeddent yn tynnu sylw at yr effaith y mae'r argyfwng cyllid yn ei chael ar gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru, ac maent yn dyfynnu 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl'. Maent yn dweud y gellir gweld y canlyniadau mewn dosbarthiadau mwyfwy o faint, gostyngiad yn nifer y staff cymorth, a thorri llawer o weithgareddau y tu allan i'r cwricwlwm gorfodol. Ond roeddent yn codi un mater arall o bryder sylweddol, sef y swm o gyllid ysgol nad yw byth yn cyrraedd y rheng flaen. Ni all fod yn iawn fod tua £450 miliwn o arian addysg yn cael ei gadw gan awdurdodau lleol neu gonsortia rhanbarthol. Mae angen system sy'n ariannu ysgolion yn uniongyrchol ac sy'n rhoi mwy o reolaeth gwario i athrawon. [Torri ar draws.] Ie, ewch chi.
A ydych yn cydnabod gwerth y gwaith gwella addysg y mae'r consortia addysg yn ei wneud ledled Cymru neu beidio?
Wel, ni allaf—. Mae hynny'n wahanol—. Rydym yn sôn am y bwlch cyllido ysgolion. Gadewch y consortia allan ohono oherwydd rydym yn poeni am gyllido ysgolion yma. Mae arnom angen system sy'n cyllido ysgolion yn uniongyrchol—dyna rwy'n ei ddweud—nid consortia, un sy'n rhoi mwy o reolaeth ar wariant i athrawon, rhieni a llywodraethwyr, gan gyfeirio mwy o arian i'r ystafelloedd dosbarth yn hytrach nag i rywle arall.
Ddirprwy Lywydd, os ydym yn mynd i rannu adnoddau'n decach ac yn fwy cyfartal, mae angen fformiwla ariannu newydd. Derbynnir ar draws y sector addysg nad yw'r system bresennol yn ddigonol. Mae'r OECD, awdurdodau lleol, cyrff proffesiynol a rhanddeiliaid yn cydnabod hyn. Yn anffodus, Llywodraeth Cymru'n unig sy'n methu ei gydnabod. Gofynnaf i'r Gweinidog adolygu'r system ariannu ysgolion i sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu.
Ac yn olaf, Weinidog, os ydym mewn grym, bydd tri maes y byddwn yn rhoi arian ar eu cyfer yn fwy effeithlon ac effeithiol. Un yw addysg grefyddol ar wrth-Semitiaeth a dealltwriaeth o ffydd a chred a dim eithafiaeth ymhlith y plant. Ac arian ar gyfer meysydd chwaraeon; mae iechyd plant o'r pwys mwyaf. Ac yn olaf, dosbarthiadau cerddoriaeth, a fyddai'n cael eu hariannu o'r ochr hon i'r Siambr. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl a diolch i'r Aelodau am siarad yn y ddadl? Er na fuaswn o reidrwydd yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelodau ar y meinciau Ceidwadol neu feinciau Plaid Cymru, a gaf fi ddweud pa mor ddiolchgar wyf fi fod ganddynt ddigon o ddiddordeb mewn addysg yng Nghymru i gymryd rhan? Ddirprwy Lywydd, fe sylwais mai dyma'r ail ddiwrnod yn ddilynol i ni gael dadleuon pwysig ar addysg ac nid yw Aelodau UKIP wedi cyfrannu unwaith.
Lywydd, buaswn yn dadlau bod dau fater yn cael ei drafod yma y prynhawn yma. Y cyntaf, yn seiliedig ar gynnig y Ceidwadwyr, yw trafodaeth ar y dull sydd gennym yng Nghymru o ariannu ysgolion, a'r ail, yn fwy cyffredinol, yw'r wasgfa ar gyllid gwasanaethau cyhoeddus a chyllidebau ysgol, ac rwyf am roi sylw i'r ddau bwynt yn eu tro.
O ran y pwynt a nododd Suzy Davies ynghylch archwilio, rhaid imi ddweud bod pob menter Llywodraeth Cymru, megis y grant datblygu disgyblion neu'r cyfnod sylfaen, yn destun adolygiad academaidd annibynnol. O ran yr adnoddau ariannol sy'n gysylltiedig â'r grantiau hynny, caiff y rheini eu harchwilio bob blwyddyn, boed yn grantiau a roddir i awdurdodau lleol neu'n grantiau a roddir i'r consortia rhanbarthol, ac rydym yn edrych yn gyson ar wella hynny. Felly, eleni, er enghraifft, cawsom ffocws newydd ar ganlyniadau ar gyfer yr holl arian grant hwnnw.
Os caf symud ymlaen, mae cynnig y Ceidwadwyr yn canolbwyntio'n bennaf ar y fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd a mecanweithiau ariannu ysgolion. Maent yn sôn am ddiffyg tryloywder, ac eto rwy'n nodi bod y cynnig yn methu cynnig unrhyw atebion neu beth y byddent hwy'n ei wneud yn wahanol. Ac yn wir, o'r cyfraniadau gan rai o'r Aelodau Ceidwadol yma heddiw, ymddengys bod anghytundeb ynglŷn â'u hagwedd tuag at hyn. Nid yw Suzy Davies am imi wario arian ar ddysgu proffesiynol ar gyfer athrawon, ond mae Andrew R.T. Davies yn cydnabod bod hwnnw'n wariant gwirioneddol werthfawr. Mae Oscar—Mohammad Asghar yn dweud y dylid rhoi'r holl arian i ysgolion, ond mae Andrew R.T. Davies, unwaith eto, yn cydnabod, mewn rhai achosion, fel trafnidiaeth neu wasanaethau AAA arbenigol, ei bod yn well i rai gwasanaethau gael eu darparu ar sail ranbarthol neu awdurdod lleol.
Gadewch inni fod yn gwbl glir: cytunir ar y fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd gan yr is-grŵp dosbarthu, a chyn i unrhyw un ddweud mai ystryw yw hyn yn erbyn awdurdodau lleol gwledig, mae'r is-grŵp hwnnw'n cynnwys cynrychiolwyr o Wynedd, Powys, Sir Fynwy a Bro Morgannwg. Caiff y data a ddefnyddir i gyfrifo'r fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd ei ddiweddaru bob blwyddyn, a'r setiau data yn y fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd yw niferoedd disgyblion, cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim a theneurwydd poblogaeth, ac os nad yw'r Torïaid yn cytuno ag unrhyw un o'r setiau data hynny, dylent ddweud pa rai nad ydynt yn cytuno â hwy. Serch hynny, Ddirprwy Lywydd, fe fyddaf yn onest, rwy'n derbyn ac yn cytuno y gall y modd y caiff ysgolion eu hariannu fod yn ddryslyd. Mae fformiwlâu ariannu, o ran eu natur, yn greaduriaid cymhleth ar y cyfan. Dyna'n union pam y gofynnais i fy swyddogion wneud ymdrechion pellach i gyhoeddi manylion yn esbonio sut y caiff ysgolion eu hariannu. Ac fel y cyfeiriodd Suzy Davies, cyhoeddwyd tudalen newydd ym mis Medi ar wefan Llywodraeth Cymru sy'n nodi'n union sut y caiff ysgolion eu hariannu. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen cadw materion o dan arolwg ac archwilio a yw'r systemau presennol yn gweithio ar eu gorau. Ac rwyf fi a'r Gweinidog llywodraeth leol wedi dweud yn glir iawn nad oes gennym unrhyw wrthwynebiad i newidiadau i'r fformiwla. Mae'r is-grwp dosbarthu llywodraeth leol wedi nodi addysg fel ffrwd waith ar gyfer edrych ar ddulliau amgen o sefydlu'r fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo gyda'r gwaith hwn.
Ond Ddirprwy Lywydd, mae angen i'r Aelodau fod yn ofalus hefyd o ran yr hyn y maent yn galw amdano. Mae pobl wedi siarad heddiw am fformiwla newydd ar gyfer ariannu ysgolion, un genedlaethol. Rwy'n deall y galwadau hyn, ond rhaid inni wynebu'r realiti: mae perygl i fformiwla ariannu newydd greu ansefydlogrwydd sylweddol yn y cyllid i ysgolion. Ar draws y ffin, mae'r Ceidwadwyr eu hunain wedi penderfynu cyflwyno fformiwla ariannu genedlaethol newydd, a bydd Aelodau yn y Siambr hon yn cofio'r anhrefn a achosodd, gan gynnwys nifer fawr o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn gwrthryfela yn erbyn y cynlluniau. Nawr, rwy'n derbyn, yn yr oes hon, nad yw mor anghyffredin â hynny i ASau Ceidwadol bleidleisio yn erbyn eu Llywodraeth eu hunain, ond mae'n werth ei nodi, serch hynny.
Felly, gadewch inni fod yn glir yma: byddai fformiwla ariannu newydd yn golygu y byddai rhai enillwyr, ond byddai rhai ar eu colled hefyd, ac nid wyf yn gweld neb yn y Siambr hon yn sefyll i gynnig unrhyw rai o'u hysgolion fel collwyr. Hefyd, fel y nododd Andrew R.T. Davies yn gwbl briodol, a fyddai un fformiwla ariannu genedlaethol yn adlewyrchu amrywiaeth y ddarpariaeth addysg Gymreig yn ddigonol mewn gwirionedd—ysgolion bach, gwledig; ysgolion mawr, trefol gyda phoblogaeth amrywiol iawn; ysgolion sy'n arbenigo mewn anghenion addysgol arbennig? Mae'r rhain oll yn faterion cymhleth y credaf y byddai'n anodd tu hwnt eu cyfleu mewn un fformiwla ariannu genedlaethol, a byddai hefyd yn newid radical i rôl awdurdodau addysg lleol a chynghorwyr a etholwyd yn uniongyrchol yn eu rôl mewn addysg. A gallaf ddweud wrthych nad yw arweinydd Ceidwadol cyngor Sir Fynwy yn cefnogi ariannu ysgolion yn uniongyrchol ac yn sicr ni chaiff ei gefnogi gan arweinwyr megis Ellen ap Gwynn yng Ngheredigion. Felly, gadewch inni fod yn glir beth y mae fformiwla ariannu genedlaethol yn ei olygu mewn gwirionedd i awdurdodau addysg lleol a rôl cynghorwyr etholedig lleol. Efallai mai dyna y mae'r Torïaid ei eisiau, ond dylent ddweud hynny'n uchel.
Ddirprwy Lywydd, ar y cyfan, nid y fformiwlâu, nid y grant cynnal refeniw, na'r grantiau wedi'u neilltuo yn wir, y bydd rhieni ac athrawon yn treulio amser yn siarad â mi yn eu cylch. Maent yn siarad â mi am eu siom oherwydd y toriadau a orfodwyd dros gyfnod parhaus o gyni economaidd, ac mae'r toriadau hynny, gadewch inni fod yn glir, wedi arwain at dynnu bron i £1 biliwn allan o gyllideb Cymru yn gyffredinol.
Nawr, o ran y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, a'r llythyr oddi wrthynt sydd wedi'i grybwyll sawl gwaith yn y Siambr y prynhawn yma, rwy'n rhoi sylw difrifol i'r hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Nid wyf yn cydnabod y ffigur o £450 miliwn. Yn wir, maent wedi cydnabod wrth fy swyddogion a minnau fod y ffigur yn cynnwys gwasanaethau AAA yr AALl ac mae'n cynnwys cludiant ysgol, ac rwy'n siŵr na fyddai neb ohonom yn cytuno bod hwnnw'n arian nad oes angen ei wario. Ond bydd fy swyddogion yn trafod ymhellach gyda'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, oherwydd byddai'n rhyfedd, oni fyddai, pe bai'r awdurdodau lleol a'r ysgolion unigol hynny o dan y fath bwysau—ac nid wyf yn dweud nad ydynt—ond byddai'n benderfyniad rhyfedd yn wir i ddyblygu gwasanaethau. Oherwydd wedi'r cyfan, gadewch i ni gofio, yr AALlau yw'r prif randdeiliaid yn y consortia rhanbarthol, felly pam y byddai AALl, sydd am flaenoriaethu cyllid ar gyfer ei ysgolion, yn penderfynu gwario arian yn dyblygu gwasanaeth y gallai'r consortia rhanbarthol ei ddarparu a'u bod hwy'n rhanddeiliaid yn y consortia rhanbarthol hynny? Byddai'n sefyllfa ryfedd iawn yn wir, oni fyddai? Byddai'n wrthnysig braidd. A dyna pam y bydd fy swyddogion yn trafod gyda'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau yr wythnos hon i ddeall o ble y deillia'r pryderon hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, mae angen imi orffen, os nad oes gwahaniaeth gennych, Andrew.
Rwy'n cydnabod, pan fyddaf yn mynd i ysgolion, fy mod yn gweld y pwysau sydd ar ein hathrawon—wrth gwrs fy mod. Ond rwyf hefyd yn gweld eu hymrwymiad yn glir, eu brwdfrydedd a'u hysgogiad i gael y canlyniadau gorau posibl i'r plant y maent yn eu haddysgu. Ond rwy'n cydnabod bod angen cymorth pellach arnynt i gyd-fynd â'u hymrwymiad, a dyna pam rwy'n croesawu gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ariannu ysgolion, ac edrychaf ymlaen at dderbyn yr adroddiad hwnnw. Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon yn gwneud y buddsoddiad sengl mwyaf mewn athrawon ers datganoli, a wrthwynebir heddiw gan Suzy Davies, ac sy'n cael ei groesawu, dylid dweud, gan ein hundeb athrawon. Dyna pam rydym yn rhoi arian ychwanegol i mewn i'r grant datblygu disgyblion, dyna pam rydym yn lleihau maint dosbarthiadau, a dyna pam rydym yn cefnogi ysgolion bach a gwledig, i enwi tri o'r cynlluniau'n unig. Mae'r holl bethau hynny'n canolbwyntio ar godi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, ac ni fyddaf byth yn ymddiheuro am geisio gwneud hynny.
A gaf fi alw ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nawr, mae'r ddadl hon heddiw'n amserol iawn mewn gwirionedd, Weinidog. Mae nifer o'n hysgolion bellach yn gorfod gwneud penderfyniadau eithafol. Nid wyf yn meddwl ei bod hi'n gwrando, ond dyna ni. Mae hyn yn arbennig o wir yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, lle mae'r ysgolion eleni'n unig yn wynebu toriad mewn termau real o dros 7.6 y cant, sy'n cyfateb i dros £400,000 mewn rhai ysgolion uwchradd. Nawr, rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r llythyr hwn sy'n mynd o gwmpas, ac mae wedi mynd adref at bob rhiant yn ysgolion Conwy, ac mae wedi'i lofnodi gan saith o benaethiaid ysgolion uwchradd. Maent yn dweud ei bod yn adeg dyngedfennol i'n hysgolion. Mae'r sefyllfa ariannol yn enbyd bellach. Maent yn gorfod ystyried dosbarthiadau mwy o faint, llai o athrawon; adeiladau ysgol sy'n dadfeilio; gostyngiad yn y cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion lles; toriadau i niferoedd cynorthwywyr addysgu a staff cymorth; TG hen ffasiwn; llai o deithiau ysgol a gweithgareddau ar ôl ysgol; a grantiau'n cael eu defnyddio i gefnogi darpariaeth graidd ein hysgolion.
Mae'r sefyllfa hon wedi'i hategu gan arweinwyr ysgolion eraill sydd wedi mynegi pryderon cyson fod cyllid wedi'i dargedu megis y grant datblygu disgyblion yn cuddio annigonolrwydd y cyllidebau craidd, ac yn llenwi bylchau ynddynt. Er enghraifft, mae'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau wedi dweud bod cyllidebau craidd yn annigonol bellach i gynnal lefelau staff arbenigol, cynnal adeiladau ysgolion a phrynu'r offer angenrheidiol sydd ei angen i sicrhau bod ein holl ysgolion yn gallu darparu'r addysg orau bosibl i bobl ifanc Cymru. Gan ddefnyddio'r fformiwla presennol ar gyfer gwasanaethau ysgol, sef asesu seiliedig ar ddangosydd, mae awdurdodau lleol yn pennu eu hangen cymharol a faint o wariant y dylid ei ddyrannu i ysgolion. Fodd bynnag, nid yw pob awdurdod lleol yn darparu'r swm o arian a nodwyd yn y fformiwla seiliedig ar ddangosydd i ysgolion, ac mae hynny'n rhywbeth y dylech fod yn edrych arno. Er enghraifft, er bod y gwariant gros i ysgolion ar gyfer 2018-19 wedi'i gyllidebu'n £2.56 biliwn, y cyllid a ddirprwywyd i ysgolion mewn gwirionedd oedd £2.16 biliwn—llai na'r ffigur asesu seiliedig ar ddangosydd o £2.42 biliwn. Mae gwariant y disgybl yng Nghymru, fel y dywedodd Mohammad yma, bron £700 yn llai nag yn Lloegr, gyda diffyg o £283 miliwn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i 85 y cant o'r holl gyllid i ysgolion fynd yn uniongyrchol i ysgolion yn 2012, ni chyrhaeddwyd y targed erioed ar lefel Cymru gyfan.
Mae difrifoldeb y sefyllfa yn amlwg wrth ystyried bod y gymdeithas—[Torri ar draws.] Na, dim ond pedair munud sydd gennyf.
Mae Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru yn amcangyfrif, o'r £2.5 biliwn a ddyrannwyd ar gyfer ysgolion yn y gyllideb addysg, nad yw o leiaf £450 miliwn ohono'n cyrraedd yr ysgolion am ei fod yn cael ei gadw gan awdurdodau lleol neu gonsortia rhanbarthol. Fel y cyfryw, mae'n rhesymol gofyn beth sy'n digwydd ac a yw'r cyllid yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol.
Mae Suzy Davies yn hollol gywir i chwalu'r ddadl mai deillio o gyni y mae hyn. Mae llawer o ysgolion yn methu yn y system gategoreiddio ysgolion ar lefel genedlaethol, gan gynnwys un yn—[Torri ar draws.] Gadewch i mi orffen. Pedair munud sydd gennyf.
Mae'r effaith negyddol a gaiff hyn ar ddisgyblion yn amlwg wrth ystyried bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu rhwng 2016 a 2017. Disgrifiodd Paul Davies yn huawdl sut y mae ysgolion yn ei etholaeth yn dioddef o ganlyniad uniongyrchol i'r materion cyllido hyn. Mae hefyd yn gywir i nodi'r angen i adolygu'r consortia rhanbarthol eu hunain a'r treuliau a'r fiwrocratiaeth y maent yn eu hychwanegu. Rwy'n mynd o gwmpas fy ysgolion, rwy'n mynd o gwmpas i siarad â fy mhenaethiaid, a gallaf ddweud wrthych nad yw'r hyn a wnewch yn gweithio. Mae'r consortiwm rhanbarthol ynddo'i hun yn hunllef feichus a biwrocrataidd sy'n mynd ag arian oddi wrth ein hysgolion. Gofynnaf i chi, Weinidog, os gwelwch yn dda, os na wnewch unrhyw beth arall, adolygwch weithrediadau'r consortia rhanbarthol.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Rwy'n falch fod yr Aelodau wedi gwrando ar y rhybudd. Diolch i chi, clywais hynny. Felly, rwy'n gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Symudaf yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri o bobl yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen. Iawn, felly symudwn yn awr at y bleidlais heddiw, ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu ysgolion. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 18, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM6975 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig he ei ddiwygio: O blaid: 18, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 18 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
NDM6975 - Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 18, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6975 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod fformiwlâu asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) cyfredol ar gyfer 'gwasanaethau ysgolion' yn modelu angen cymharol awdurdodau i wario ar wasanaethau ysgolion, o ystyried y cyllid sydd ar gael a chan ragdybio ynghylch y dreth gyngor a blaenoriaethau gwario.
2. Yn croesawu'r canllawiau 'Cyllid ar gyfer ysgolion', a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n egluro'r trefniadau cyllido ysgolion.
3. Yn cydnabod bod holl ganllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ynghylch cyllido a pholisi yn cefnogi cyflawni yn unol â chynllun gweithredu 'Cenhadaeth ein Cenedl' i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, a sicrhau system addysg y mae gan y cyhoedd hyder ynddi.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 26, neb yn ymatal, 18 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM6975 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 18, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda. Os ydych eisiau siarad, a allwch wneud hynny y tu allan i'r Siambr, os gwelwch yn dda?
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Darren Millar i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo—Darren.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Un o'r breintiau mawr y gallais eu mwynhau wrth wasanaethu fel Aelod Cynulliad dros y 12 mlynedd diwethaf oedd fy rôl fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid. Ers ei sefydlu dros ddegawd yn ôl, mae'r grŵp trawsbleidiol wedi ceisio gweithio gyda rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru i nodi arferion da, amlygu heriau a phleidio achos ein cyn-filwyr mewn perthynas â meysydd polisi datganoledig. Rwy'n falch iawn o ddweud ei bod wedi bod yn berthynas gynhyrchiol iawn, a gallaf ddweud yn hyderus fod Cymru, mewn sawl ffordd, wedi bod yn arwain yn y DU ar gefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd.
Yn ôl yn 2010, yn ystod y trydydd Cynulliad, cyflawnodd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ymchwiliad i wasanaethau trin anhwylder straen wedi trawma ar gyfer cyn-filwyr yma yng Nghymru. Ymatebodd Llywodraeth Cymru yn gadarnhaol i'r adroddiad hwnnw drwy ddatblygu gwasanaeth iechyd meddwl newydd pwrpasol ar gyfer cyn-filwyr. Mae'r gwasanaeth hwnnw, a elwir bellach yn GIG Cymru i Gyn-filwyr, wedi bod yn fendith i'r cannoedd o gyn-filwyr a'u teuluoedd sydd wedi cael cymorth gan Neil Kitchener, sy'n arwain y gwasanaeth, a'i dîm gwych o therapyddion.
Yna, yn 2011, gwelsom gyfamod y lluoedd arfog, a ymgorfforwyd yng nghyfraith y DU. Mae'r cyfamod, wrth gwrs, yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg. Mae ei egwyddorion yn addo na ddylai cymuned y lluoedd arfog byth wynebu anfantais o gymharu â dinasyddion eraill o ran y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus a masnachol eu darparu, ac y dylid rhoi ystyriaeth arbennig iddynt mewn achosion priodol, yn enwedig i'r rhai sydd wedi rhoi fwyaf, megis y rhai a anafwyd neu sydd wedi cael profedigaeth. Croesawyd y cyfamod hwnnw'n frwdfrydig iawn yma yng Nghymru.
Roeddwn yn falch iawn mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i weld pob awdurdod lleol unigol yn cefnogi'r cyfamod, ac arweiniodd hyn wrth gwrs at benodi hyrwyddwyr y lluoedd arfog ym mhob ardal awdurdod lleol, a phenodi swyddogion arweiniol hefyd i hyrwyddo'r cyfamod. Mae byrddau iechyd Cymru wedi ei gefnogi ac maent hwythau hefyd wedi penodi hyrwyddwyr. Rwy'n falch o ddweud bod nifer gynyddol o fusnesau preifat a sefydliadau trydydd sector wedi ei gefnogi yn ogystal.
Nawr, yn sgil cefnogi'r cyfamod, mae llawer o awdurdodau lleol wedi datblygu gwasanaethau newydd, wedi sefydlu arferion da, a dechrau partneriaethau gyda'r trydydd sector. Ac mae canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf hefyd wedi helpu i gynnal ffocws ar faterion a heriau sy'n wynebu cymuned y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Roedd effaith y cyfamod yn destun ymchwiliad gan y grŵp trawsbleidiol yn ddiweddar, a chyhoeddwyd ein hadroddiad ar ddiwedd 2017. Roedd yn cofnodi ac yn dathlu'r cynnydd sylweddol a gyflawnwyd ers 2011, a bydd llawer o'r Aelodau wedi gweld tystiolaeth o waith allanol y cyfamod yn eu hetholaethau eu hunain. Gwelais innau hynny, yn sicr.
Sefydlwyd y sied gyntaf yn y DU i gyn-filwyr yn Llanddulas, ger Abergele, a hynny gan gyn-filwr y Falklands, Martin Margerison, un o fy etholwyr. Mae'r sied ym Mae Colwyn yn awr, mae wedi cael ymweliadau gan Weinidogion, ac mae'n rhoi cyfle i gyn-filwyr ddod at ei gilydd, rhoi'r byd yn ei le a chefnogi ei gilydd gyda thasgau ymarferol a gwirfoddoli. Mae Bae Colwyn hefyd yn gartref i bencadlys Newid Cam, rhaglen drwy Gymru sy'n cynnig cymorth effeithiol ar gyfer cyn-filwyr ar draws y wlad, gan gynnwys gwasanaethau penodol ar gyfer rhai mewn argyfwng, cyn-filwyr hŷn a phobl ag anghenion yn gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl. Fe'i sefydlwyd gan yr elusen camddefnyddio sylweddau CAIS, ac mae ganddo dîm o gyn-filwyr sy'n gweithredu fel mentoriaid cymheiriaid, gan ddefnyddio eu profiadau eu hunain i helpu cyn-filwyr i lywio ac wynebu'r heriau yn eu bywydau. Mae'n gweithio law yn llaw, wrth gwrs, â GIG Cymru i Gyn-filwyr, ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn i Help for Heroes, y Lleng Brydeinig Frenhinol a Llywodraeth Cymru am y cymorth ariannol y maent wedi'i roi iddo. Dyma'r unig wasanaeth o'i fath yn y DU.
Y llynedd, ym Mae Colwyn hefyd, gwelsom sefydlu Woody's Lodge, un o ddau yng Nghymru. Mae'r llall yn ne Cymru, yma ym Mro Morgannwg. Credaf fod David Melding wedi ymweld â'r lle hwnnw yn y gorffennol. Canolfannau cymdeithasol yw Woody's Lodges, maent yn arwain cyn-filwyr at y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt ac yn ceisio eu denu i ailymwneud â'u teuluoedd a'u cymunedau, a'r weledigaeth yw creu gofod cyfarfod croesawgar ar gyfer y rhai sydd wedi gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog a'r gwasanaethau brys ehangach, lle gallant gael y cymorth a'r cyngor a chysylltu â ffrindiau hen a newydd.
Mae ardal ehangach Conwy hefyd wedi'i bendithio â chartrefi Alabare ar gyfer cyn-filwyr. Gan weithio mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Tai Dewis Cyntaf, mae Alabare, sy'n elusen Gristnogol, yn darparu cartref yng Nglan Conwy a dau yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer cyn-filwyr sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. A dyma'r mater tai rwyf am droi ato am weddill yr amser sydd gennyf, gan ei fod yn dal i fod yn faes sy'n galw am ein sylw. Mae digartrefedd ymysg cyn-filwyr wedi bod yn bwnc sydd wedi cael ei drafod mewn neuaddau barics, ar ffrigadau, ac mewn canolfannau awyr ers diwedd rhyfeloedd Napoleon yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A 200 mlynedd yn ddiweddarach, er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol, mae'n ddrwg gennyf ddweud bod yna gyn-filwyr yn dal i gysgu allan yma yng Nghymru.
Nawr, a bod yn deg, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed i geisio mynd i'r afael â'r broblem hon. Yn ogystal â'i rhaglenni atal digartrefedd cyffredinol, mae hefyd wedi canolbwyntio sylw ychwanegol ar gyn-aelodau'r lluoedd arfog. Mae tai yn elfen allweddol ym mhecyn cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer y lluoedd arfog, a datblygwyd llwybr tai cenedlaethol penodol ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog hefyd. Mae'r partneriaid trydydd sector a sefydlodd y Porth Cyn-filwyr—gwasanaeth 24 awr yng Nghymru sy'n helpu cyn-filwyr i drefnu eu bywydau newydd fel sifiliaid—hefyd wedi ceisio cyfeirio pobl at asiantaethau cymorth megis Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA), ac Alabare, a grybwyllais yn gynharach.
Nawr, mae amcangyfrifon o niferoedd yr aelodau o gymuned y lluoedd arfog sy'n byw yng Nghymru yn amrywio, ond mae rhai wedi awgrymu y gallai fod mor uchel â 385,000. Nawr, mae mwyafrif llethol y cyn-filwyr hyn yn trosglwyddo'n ôl i fywyd sifil yn dda iawn. Ond mae lleiafrif bach a sylweddol yn ei chael hi'n anodd addasu. Ac rwy'n meddwl mai'r peth lleiaf y gallwn ei wneud fel cymdeithas yw ad-dalu'r ddyled sydd arnom i'r arwyr hyn drwy eu helpu i gael to dros eu pennau. Nawr, i gydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau cadarnhaol. Yma yng Nghymru, mae'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog yn cael ffafriaeth ychwanegol at ddibenion tai wrth wneud cais tai cymdeithasol i awdurdodau lleol. Hefyd, anogir awdurdodau lleol i roi ffafriaeth ychwanegol i gyn-filwyr sydd wedi cael anaf, cyflwr meddygol neu anabledd yn sgil eu gwasanaeth. Rhoddir statws angen blaenoriaethol ychwanegol i gyn-filwyr digartref. Caiff taliadau cynllun iawndal y lluoedd arfog neu daliadau cynllun pensiwn rhyfel eu diystyru wrth ymgeisio am grantiau cyfleusterau i'r anabl i addasu cartrefi pobl, ac mae statws blaenoriaethol gan aelodau a chyn-filwyr y lluoedd arfog yng nghynlluniau cymorth prynu a Rhent yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, fel sydd gan wragedd a gwŷr gweddw unigolion a laddwyd yn ystod eu gwasanaeth. Nawr, mae'r rhain yn gamau i'w croesawu, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell. Er enghraifft, gall awdurdodau lleol ystyried rhoi ffafriaeth ychwanegol i gyn-filwyr a phenderfynu peidio wedyn, gan mai canllawiau yn unig ydynt, nid dyletswydd statudol, ac mae llawer o landlordiaid cymdeithasol, megis cymdeithasau tai, y tu allan i'r canllawiau sydd ar gael yn gyfan gwbl. Ac mae anfanteision eraill sydd eto i gael eu datrys yn wynebu teuluoedd milwrol. Nid yw cynlluniau rhanberchenogaeth a chynlluniau rhentu i brynu yn rhoi unrhyw freintiau arbennig i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.
Ac yna mae gennym broblem anodd y meini prawf cysylltiadau lleol a ddefnyddir yn aml gan lawer o landlordiaid cymdeithasol. Mae llawer ohonynt yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr am dai sydd wedi byw mewn ardal i fod wedi byw mewn ardal am gyfnod penodol o amser er mwyn sefydlu cymhwysedd i fynd ar restr dai leol. Ond beth os cawsoch eich anfon i ganolfan filwrol am rai misoedd yn unig cyn i'ch gwasanaeth ddod i ben? Gallai hynny eich anghymwyso rhag cael unrhyw gymorth o gwbl, ac mae'n anghywir. Weithiau camwahaniaethir yn erbyn y rhai sy'n gadael llety milwrol oherwydd diffyg cysylltiad lleol o'r fath a gall arwain at eu hanghymhwyso rhag cael tai gan y landlordiaid cofrestredig hynny. Ac mae hyn yn effeithio ar fwy na'r rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn unig. Rhaid meddwl am eu teuluoedd a'u dibynyddion hefyd, oherwydd mae'r rheolau hyn yn creu anfantais i wŷr a gwragedd priod a phartneriaid sifil y rhai sydd yn y lluoedd arfog os collant eu priod neu os yw eu perthynas yn chwalu. Nawr, gall pob un o'r sefyllfaoedd a grybwyllais arwain at ddiffyg cymorth priodol a mwy o risg o gartref amhriodol neu ddigartrefedd.
Nawr, fel y soniais yn gynharach, mae gennym sefydliadau gwych sy'n ceisio cefnogi'r rhai sy'n wynebu risg, megis Alabare, ond nid yw eu cefnogaeth ar gael ym mhob rhan o Gymru. Fel y soniais yn gynharach, rywsut maent wedi sefydlu rhai tai yn ardal Conwy. Mae ganddynt leoedd yn Wrecsam hefyd ac mewn mannau eraill, ond yn anffodus, nid yw eu gwasanaethau'n cyrraedd pob rhan o Gymru. Ac wrth ateb y cwestiwn y mae fy nadl yn ei ofyn heddiw: 'Cartrefi i'n harwyr: a ydym yn diwallu anghenion cartrefu ein cyn-filwyr yma yng Nghymru?', dyna pam mai fy ateb yw 'Na, nid ydym yn gwneud hynny eto, ond rydym yn gwneud cynnydd da'. Felly, beth sydd angen ei newid? Wel, rwy'n credu bod angen canllawiau statudol sy'n berthnasol i bob landlord cymdeithasol cofrestredig, nid i awdurdodau lleol yn unig. Mae angen inni ddatrys y broblem gyda meini prawf cysylltiadau lleol unwaith ac am byth drwy hepgor unrhyw ofynion am gysylltiad lleol ar gyfer unrhyw un sy'n gadael llety i deuluoedd sy'n gwasanaethu, gan gynnwys gwŷr a gwragedd milwrol neu ddibynyddion, ac mae angen inni anrhydeddu ein harwyr drwy roi ffafriaeth ychwanegol iddynt yn holl gynlluniau tai Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cynlluniau rhanberchnogaeth a chynlluniau rhentu i brynu. Mae angen inni sicrhau hefyd, pan fydd pethau'n chwalu, fod cynllun lleol tai â chymorth ar gael ar gyfer cyn-filwyr i'w helpu i godi'n ôl ar eu traed, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Dirprwy Weinidog, gyda'r rôl newydd hon, yn gallu datblygu rhai o'r awgrymiadau hyn. Diolch.
Rwyf wedi rhoi munud o fy amser i Mark Isherwood; dylwn fod wedi crybwyll hynny yn gynharach, ac mae'n ddrwg gennyf.
Mae hynny'n iawn. Diolch. Mark Isherwood.
Diolch. Ddoe, cyhoeddodd Ysgrifennydd amddiffyn y DU y bydd pobl sy'n gadael gwasanaeth a'u teuluoedd bellach yn gallu cael llety milwrol am hyd at flwyddyn ar ôl gadael, gan roi mwy o amser iddynt chwilio am gartref parhaol wrth iddynt newid i fywyd fel sifiliaid, gan fod cael cartref yn allweddol i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Cyflwynodd Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf, sydd wedi arwain y ffordd ar hyn yng Nghymru, brosiect hunanadeiladu uchelgeisiol ar gyfer cyn-filwyr yn Wrecsam, y drydedd breswylfa yng ngogledd Cymru i gael ei rheoli gan Cartrefi Cymru ar gyfer Cyn-filwyr Alabare Cymru, sy'n golygu bod 57 o gartrefi i gyd gan yr elusen ar gyfer cyn-filwyr sy'n addasu i fywyd fel sifiliaid ar draws Nghymru. Fodd bynnag, nid yw llwybr atgyfeiriadau tai Llywodraeth Cymru ar gyfer cyn-filwyr yn datrys pryderon ynglŷn â sut y gall y swyddogion tai sy'n darparu'r cymorth angenrheidiol reoli achosion cymhleth cyn-filwyr a ailgartrefir. Felly mae angen i Lywodraeth Cymru integreiddio gwasanaethau tai, iechyd a gofal yn well, ac mae'n rhaid iddynt egluro pam y bu gostyngiad mawr yn nifer y cyn-filwyr a'u teuluoedd a dderbyniwyd gan awdurdodau lleol fel rhai ag angen blaenoriaethol am gartref ers cyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl. Hannah Blythyn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig hwn yn y Siambr heddiw? Gwn eich bod yn ddadleuwr brwd a gweithgar yn y maes hwn, ac wrth agor, roeddech yn dweud ei bod yn fraint bod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid. Ac er fy mod yn gymharol newydd i'r rôl hon, mae'n fraint cael fy ngwahodd i wneud hyn ac arwain ar gyn-filwyr ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae gan bob Llywodraeth ddyletswydd i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog, yn enwedig y lleiafrif bach sy'n ei chael hi'n anodd newid i fywyd sifil. Fel y dywedodd yr Aelod, mae'n briodol inni roi'n ôl i'r rhai sydd wedi rhoi cymaint drwy wasanaethu eu gwlad. Dyma pam y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymuned y lluoedd arfog, ac wedi ymrwymo i barhau i wneud hynny yn y dyfodol. Nid yw ond yn iawn ein bod yn sicrhau bod cyn-filwyr yn cael yr help a'r cymorth y maent eu hangen a phan fo'i angen. Mae ein pecyn cymorth a'r ddogfen 'Croeso i Gymru' yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd. Rydym yn cefnogi GIG Cymru i Gyn-filwyr â bron i £700,000 bob blwyddyn er mwyn ymateb i broblemau iechyd meddwl ac i gynnal treialon ymchwil. Mae gweithio mewn partneriaeth â Newid Cam yn rhoi cyfle i gyn-filwyr gael cymorth mentora cymheiriaid a chymorth defnyddiol arall, gan gynnwys cyngor ar dai, cyflogaeth a lleihau camddefnyddio sylweddau.
Ond mae dadl heddiw yn canolbwyntio ar dai. Mae'r Aelod yn sôn am nifer o enghreifftiau yn ei gyfraniad, gan gynnwys enghraifft y sied yn ei etholaeth ei hun. Rhoddwyd camau cadarnhaol ar waith i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel ar gyfer cyn-filwyr, ac enghraifft arall, nad yw'n rhy bell oddi wrthych yng ngogledd Cymru, yn Wrecsam, yn Nhŷ Ryan, sef prosiect hunanadeiladu arloesol sy'n gweithio gyda chyn-filwyr digartref. Darparodd y prosiect brofiad gwaith iddynt ar y safle, yn ogystal â chyfle i gael cartref pan gâi'r gwaith ei gwblhau—cartref y gallent fod yn falch o ddweud eu bod wedi gweithio arno eu hunain—gan gefnogi eu hiechyd a'u lles ar adeg heriol yn eu bywydau.
Mae rhaglen gymorth tenantiaeth gofal acíwt Hafal yn enghraifft arall o wasanaeth sy'n darparu'r cymorth angenrheidiol i gyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl ac sy'n methu dal gafael ar eu cartref. Mae nifer o ddarparwyr cymorth yng Nghymru yn cynnig cymorth tai i aelodau o gymuned y lluoedd arfog, ac mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu'n rheolaidd â'r darparwyr hyn drwy ein grŵp arbenigol gweinidogol a swyddogion sy'n gweithio—[Torri ar draws.] i hyrwyddo gwasanaethau ar gyfer sector y lluoedd arfog yng Nghymru. Bendith. [Chwerthin.]
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei safbwynt yn glir iawn y dylai aelodau o'r lluoedd arfog sydd wedi cael anaf difrifol neu wedi eu gwneud yn anabl yn sgil eu gwasanaeth ac sydd ag angen brys am gartref cymdeithasol gael blaenoriaeth uchel yng nghynlluniau dyrannu awdurdodau lleol i gydnabod eu gwasanaeth. Rwy'n deall bod gan yr holl awdurdodau lleol ffafriaeth ychwanegol ar gyfer cyn-filwyr, ac mae atal digartrefedd i bawb yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae bron 20,000 o aelwydydd wedi cael cymorth yn llwyddiannus ers mis Ebrill 2015, ac mae ein deddfwriaeth wedi arwain at helpu mwy o bobl, a help ar gam cynharach, sy'n bwysig. Rydym wedi dangos ein hymrwymiad drwy fuddsoddi £30 miliwn i atal a lliniaru digartrefedd dros y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi amrywiaeth o wasanaethau statudol ac anstatudol i helpu'r rhai heb le diogel i fyw, a fydd, yn amlwg, yn cynnwys cyn-filwyr.
Wrth ddrafftio'r ddeddfwriaeth, fe wnaethom sicrhau ein bod yn cadw'r categori angen blaenoriaethol gwreiddiol, sy'n sicrhau bod pawb sy'n ddigartref ar unwaith ar ôl gadael y lluoedd arfog rheolaidd yn parhau i elwa ar y warant o lety. I gefnogi hyn, ac mewn cydweithrediad â'n partneriaid, rydym wedi datblygu llwybr atgyfeiriadau tai i gyn-filwyr y lluoedd arfog i helpu cyn-filwyr a'u teuluoedd i wneud dewis gwybodus ynglŷn â'u hanghenion llety wrth newid nôl i fywyd fel sifiliaid. Nod hyn yw hwyluso'r broses a chynorthwyo cyn-filwyr a'u teuluoedd i ailymgartrefu yn y cymunedau y maent wedi dewis byw ynddynt. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar gael mynediad at dai cymdeithasol a'r farchnad rhentu preifat. I'r rhai sydd ei angen, ceir cyngor hefyd ar sut i gael cymorth digartrefedd. I hybu'r llwybr ymhellach, rydym hefyd wedi datblygu cardiau cyngor ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog sy'n cysgu allan, ynghyd â thaflenni a phosteri. Roedd y cyhoeddiadau hyn yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer gwasanaeth y Porth Cyn-filwyr, a bydd yr Aelod yn gyfarwydd â'r siop un stop i gyn-filwyr ac aelodau o'u teuluoedd allu cael mynediad at wasanaethau a chymorth mewn un lle.
Yn union ar ôl deddfwriaeth 2015, roedd nifer y bobl y nodwyd eu bod ag angen blaenoriaethol oherwydd eu bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd arfog yn llai na thri bob blwyddyn. Yn 2017-18, cynyddodd i naw o gyn-filwyr y lluoedd arfog. Rydym yn parhau i fonitro'r data a'r wybodaeth hon, ac er ein bod yn hyderus fod y system sydd ar waith yn gweithio, nid ydym yn hunanfodlon mewn unrhyw fodd. Ac rwy'n derbyn yn llwyr yr heriau y nododd yr Aelod heddiw eu bod yn dal i wynebu cyn-filwyr y lluoedd arfog a'u teuluoedd, boed yn arweiniad, cysylltiad. A gobeithio, gall ein hymarfer cwmpasu nodi rhai ohonynt i ni, a byddwn mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â hynny yn y dyfodol.
Credaf hefyd ein bod yn cydnabod na fydd pob unigolyn sy'n defnyddio gwasanaeth yn datgelu eu cefndir yn y lluoedd arfog. Efallai y bydd y cerdyn adnabod newydd i gyn-filwyr yn helpu gyda'r broses adnabod, ond ni fydd yn goresgyn problemau'n ymwneud â datgelu, ac ni fydd yn helpu'r rhai sydd eisoes mewn argyfwng.
Roeddech yn sôn eich bod yn falch mai Cymru oedd y wlad gyntaf i weld pob awdurdod lleol yn ymrwymo i gyfamod y lluoedd arfog. Ac ers dod i'r rôl, rwyf wedi clywed llawer am y gwaith gwerthfawr y mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn ei wneud ar draws Cymru yn cefnogi anghenion y gymuned hon, gan gynnwys y gwaith partneriaeth gyda Solas Cymru a phenodi gweithiwr cymorth cyn-filwyr ar gyfer y digartref yng Ngwent. Mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn ei weld yn cael ei ddatblygu ar draws awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £500,000 i ymestyn swyddi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog am ddwy flynedd arall. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n bosibl ymgorffori gwasanaethau a gaiff cymuned y cyn-filwyr mewn cymorth prif ffrwd gan awdurdodau lleol yn y dyfodol, gan gynnwys cymorth ar gyfer anghenion tai. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys gwasanaethau allgymorth, elusennau cyn-filwyr a'r Porth Cyn-filwyr i sicrhau bod cymuned ein lluoedd arfog yn cael y cymorth a'r cyngor sydd ei angen arnynt i'w helpu i newid i fywyd fel sifiliaid. Credaf ein bod yn cyflawni mwy, yn y sector hwn yn arbennig, drwy weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth, a thrwy rannu arbenigedd ac adnoddau.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wrthi'n comisiynu asesiad annibynnol o wneud newidiadau i angen blaenoriaethol, oherwydd mae'n hollbwysig inni ddeall y canlyniadau bwriadol ac anfwriadol cyn gwneud unrhyw newidiadau. Disgwylir adroddiad ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, a byddai angen i unrhyw newidiadau i'r system bresennol barhau i gefnogi ein nod o sicrhau bod cyn-filwyr yn gallu cael y cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Rydym hefyd yn monitro'n agos yr ymgynghoriad sydd ar y gweill gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i'r materion a godwyd yn adroddiad blynyddol 2017 ar gyfamod y lluoedd arfog, sy'n nodi argymhellion ar gyfer diwygio'r canllawiau i awdurdodau lleol yn Lloegr, gyda'r bwriad, ymhlith pethau eraill, o wneud yn glir fod disgwyl i awdurdodau lleol ddileu gofynion cysylltiadau lleol i wŷr neu wragedd cyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi ysgaru neu wahanu, yn ogystal â sicrhau bod y rhai sy'n dioddef o salwch meddwl yn cael blaenoriaeth briodol ar gyfer tai cymdeithasol.
I gloi, hoffwn fanteisio ar y cyfle unwaith eto i sicrhau'r holl Aelodau fod atal cyn-filwyr ein lluoedd arfog rhag mynd yn ddigartref, a chysgu allan o bosibl, yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Oes, mae heriau i'w hwynebu o hyd, ond rwy'n falch ein bod yn cydnabod gyda'n gilydd pa mor bell y daethom a'n hymrwymiad ar y cyd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mewn ffyrdd sy'n cefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda chi i gefnogi cymuned ein lluoedd arfog yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:12.