Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

19/09/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.

Gwisgoedd Ysgol

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol newydd ar gyfer gwisgoedd ysgol? OAQ52592

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd yr hydref hwn ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Bydd canllawiau statudol newydd wedi'u diweddaru a'u cryfhau ar waith o fis Medi 2019.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A nodaf y sylwadau yn eich datganiad diweddar ynglŷn ag annog rhieni a gofalwyr plant cymwys i wneud cais am gyllid mynediad y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer gwisg ysgol yn arbennig. Ond rwy’n pryderu bod llawer o'r rheini sy'n gymwys ar ei gyfer yn colli allan. O fy mhrofiad personol fy hun yn lleol, mae'r ffordd y mae'r wybodaeth hon yn cael ei chyfleu i rieni yn anghyson ac mae ei heffeithiolrwydd yn amrywio. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog cynghorau ac ysgolion i hyrwyddo'r gronfa hon i fyfyrwyr, yn enwedig cyn dechrau blwyddyn academaidd newydd?

Diolch, Vikki. Fel y gwyddoch, am y tro cyntaf erioed y tymor hwn, mae cymorth gyda chost gwisg ysgol ar gael nid yn unig i blant sy'n dechrau yn yr ysgol uwchradd ym mlwyddyn 7, ond hefyd ar gyfer ein disgyblion ieuengaf sy'n dechrau ar eu taith ysgol. Mae'r grant hefyd ar gael i dalu am gostau eraill sy'n gysylltiedig ag ysgol, nid gwisg ysgol yn unig, megis dillad addysg gorfforol, a phethau eraill hanfodol ar gyfer y diwrnod ysgol. Byddaf yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod rhieni'n cael y wybodaeth gywir, fel y gallant wneud cais cadarnhaol i dderbyn yr arian hwn, gan fod arnom eisiau i bob plentyn sy'n gymwys gael y cymorth hwn.

Yn dilyn hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o wahanol storïau ar ddechrau’r tymor ysgol am blant yn cael eu cosbi am nad ydynt yn gwisgo’r wisg ysgol gywir. Rwy’n credu'n gryf yn y syniad ein bod yn awyddus i’r holl blant edrych yr un fath, ac mae'n bwysig iawn ar gyfer disgyblaeth ysgol a morâl ysgol, ac ati. Ond un o'r pryderon sydd gennyf yw'r syniad hwn y dylem gosbi'r plentyn am rywbeth y mae'r rhiant wedi'i wneud. Ac rwy'n bryderus iawn fod—. Mae'n ymwneud nid yn unig â gwisgoedd ysgol—gwn fod Caroline Jones wedi dwyn mater i'ch sylw yn ddiweddar ynglŷn â phlentyn na allai fynd i'r prom am fod ganddi syndrom Asperger ac ni allai gael y graddau. Rwyf wedi tynnu eich sylw yn y gorffennol at y plentyn a gafodd eu cosbi am fod ganddynt afiechyd cronig felly ni allent fod yn bresennol drwy'r amser, ond cosbwyd y plentyn, yn hytrach na bod yr ysgol yn edrych ar yr unigolion dan sylw. A wnewch chi edrych ar hyn eto, oherwydd mater gwisgoedd ysgol, a sut y gallwn gynrychioli plant yn gymesur, neu drin plant yn gymesur, a gwahaniaethu rhwng y rhai nad ydynt yn gwneud pethau y dylent eu gwneud am nad ydynt yn teimlo fel gwneud hynny, a'r rhai sydd mewn sefyllfa letchwith o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan rieni a gofalwyr, gan y credaf ein bod yn rhoi'r neges anghywir i'r bobl ifanc hynny ynglŷn â chyfrifoldeb?

Angela, yn y pen draw, mae polisi gwisg ysgol yn fater i ysgolion unigol a'u cyrff llywodraethu, a chyfrifoldeb penaethiaid yw penderfynu pa gamau i'w cymryd pan fo disgyblion yn mynd yn groes i bolisi gwisg ysgol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl, os mai’r rheswm dros fynd yn groes i’r polisi yw am fod teuluoedd mewn anawsterau ariannol, y dylai ysgolion ganiatáu cyfnod priodol o amser i brynu'r eitem angenrheidiol, a sicrhau rhywfaint o hyblygrwydd yn y system, heb allu cosbi’r plentyn hwnnw. Mae'r canllawiau hefyd yn amlygu pa gymorth ariannol sydd ar gael i deuluoedd, er mwyn eu cynorthwyo i brynu gwisgoedd ysgol. Mae deialog barhaus rhwng penaethiaid, staff addysgu, a'u rhieni yn rhan hanfodol o unrhyw ysgol lwyddiannus. Ond yn y pen draw, mater i gorff llywodraethu'r ysgol honno yw penderfynu pa gosb, os o gwbl, sy'n briodol os yw rheolau'r ysgol honno yn cael eu torri.

Rwy'n croesawu'r tro pedol a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni ar ei chynlluniau i gael gwared ar y grant gwisg ysgol, oherwydd pan fo cyllidebau aelwydydd yn parhau i fod dan bwysau, yn enwedig yn fy etholaeth i yn y Rhondda, byddai wedi bod yn amhosibl meddwl am fwrw ymlaen â hynny. Nawr, oddeutu’r adeg y cyhoeddwyd y cynlluniau annoeth hyn, bûm yn edrych ar ysgolion lleol yn fy etholaeth i weld beth oedd eu polisi gwisg ysgol, a gwelais fod polisi’n amrywio o un ysgol i'r llall, gyda rhai'n mynnu bod yn rhaid prynu eitemau drud, gyda logos, ac eraill yn llawer mwy hyblyg. Fel Sefydliad Bevan, hoffwn weld canllawiau statudol yn cynnwys gofyniad i bob ysgol fabwysiadu gwisg ysgol a all fod yn fwy generig, ac felly'n costio llai. Gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi roi sylw gofalus i gost flynyddol uchel gwisgoedd ysgol i deuluoedd, a cheisio darparu ateb gwahanol i bawb pan fyddwch yn cyhoeddi eich canllawiau statudol?

13:35

Wel, fel y dywedais wrth ateb cwestiwn cyntaf Vikki Howells, bydd y Llywodraeth yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am 12 wythnos yr hydref hwn ar bolisi newydd ar gyfer gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Gobeithio y bydd y canllawiau statudol cryfach yn dod i rym ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, ac yn hollbwysig, fel rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, byddwn yn ceisio mynd i'r afael â materion fforddiadwyedd a rhoi hyblygrwydd i rieni. Felly, er enghraifft, wrth benderfynu ar wisg ysgol ar gyfer ysgol uwchradd, a fyddai modd ystyried natur lliw rhai o'r ysgolion cynradd yn yr ardal honno? Nid ymddengys bod angen cael gwared ar drowsus da neu sgert ysgol pan fyddwch yn mynd i'r ysgol uwchradd am eich bod yn symud i ysgol wahanol. Felly, mae llawer o ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â phroblemau fforddiadwyedd a dyna yw diben yr ymgynghoriad a pham rwy'n benderfynol o gyflwyno canllawiau statudol ar hyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn yn falch iawn o weld y cyhoeddiad y byddwch yn ymgynghori ar ganllawiau statudol, oherwydd, fel y gwyddoch, mae’r ddogfen bolisi bresennol yn dda iawn, mewn gwirionedd, ac yn rhoi llawer o bwyslais ar wisg ysgol enerig. Ond buaswn yn dadlau nad yw'r rhan fwyaf o ysgolion yn dilyn y canllawiau hynny fel y dylent, ac rwy'n siŵr eich bod wedi gweld yr adroddiadau yn gynharach y mis hwn am blant yn cael eu cadw mewn neuadd am nad oeddent yn gwisgo trowsus â brand, sy'n gwbl annerbyniol. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi y byddwch yn mynd i’r afael â hyn yn gadarn iawn? Ond yn bwysig iawn, sut y byddwch yn sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed drwy'r ymgynghoriad hwn?

Wel, Lynne, fel y nodwyd yn gywir gennych, mae yna ganllawiau ar gael yn barod. Fe’u cyhoeddwyd ym mis Medi 2013, ond nid ydynt o natur statudol. Y rheswm pam rwy'n benderfynol o fynd i'r afael â'r mater hwn yw er mwyn inni allu rhoi sylfaen ddeddfwriaethol i'r hyn a ddisgwyliwn gan gyrff llywodraethu a fydd yn gorfod rhoi sylw dyledus i'r canllawiau wrth ddatblygu eu polisïau eu hunain. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle inni nid yn unig i edrych ar fater fforddiadwyedd mewn perthynas â gwisgoedd ysgol ond ar rai o'r materion na chawsant eu trafod yn 2013, fel gwisgoedd niwtral o ran rhywedd. Mae hyn yn rhoi cyfle inni drafod y materion hynny yn awr, ac yn amlwg, bydd barn plant a phobl ifanc yn allweddol yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, a byddwn yn sicrhau bod cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan fel y gallant ddweud wrthym sut y maent yn teimlo am fater gwisg ysgol a'r rôl y mae'n ei chwarae yn eu bywydau ysgol.

Cau Ysgolion Gwledig

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cyngor am gau ysgolion gwledig y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i awdurdodau lleol ar hyn o bryd? OAQ52595

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddiogelu ysgolion gwledig? OAQ52599

Diolch, Andrew. Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiwn 3 a chwestiwn 5 gael eu grwpio.

Mae'r cod trefniadaeth ysgolion, a wnaed o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, yn gosod gofynion ar Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu mewn perthynas â threfniadaeth ysgolion ac yn darparu canllawiau y mae'n rhaid iddynt eu dilyn wrth ystyried cau unrhyw ysgol, gan gynnwys y rheini sydd mewn lleoliadau gwledig.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ychydig cyn toriad yr haf, cyhoeddasoch ganllawiau newydd mewn perthynas ag ysgolion gwledig—rhywbeth a gafodd groeso. Yn amlwg, daw'r canllawiau hynny i rym yn ddiweddarach eleni. Hoffwn ddeall pa bwys y dylai awdurdodau lleol ei roi ar hyn o bryd ar y canllawiau penodol a gyhoeddwyd gennych. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid ydynt wedi'u hymgorffori yn y cod, ond mae llawer o awdurdodau—ac rwy'n meddwl am un ym Mro Morgannwg—yn penderfynu ar gau ysgolion ar hyn o bryd, ac mae'n bwysig nad oes brys i gau nifer o ysgolion sydd mewn perygl cyn i'r canllawiau newydd hyn ddod yn rhan o'r cod. Felly, a allech nodi pa bwys rydych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi ar y nodyn a ddosbarthwyd gennych cyn toriad yr haf, os gwelwch yn dda?

Wel, Andrew, fel y dywedoch, rydym yn adolygu'r cod. Gosodwyd y cod drafft sydd wedi'i adolygu i adlewyrchu'r ymatebion i'r ymgynghoriad—yr ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd—gerbron y Cynulliad ddydd Llun yr wythnos hon. Fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf 2013, mae'n rhaid bod y cod wedi'i osod am 40 diwrnod, a gall ddod i rym wedi hynny oni bai fod y Cynulliad yn penderfynu peidio â'i gymeradwyo. Felly, buaswn yn disgwyl i'r cod newydd ddod i rym ar 1 Tachwedd, os yw'r cyd-Aelodau o amgylch y Siambr hon yn fodlon. Rydym wedi bod yn glir iawn gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â chyfeiriad y polisi yn y maes hwn a buaswn yn disgwyl iddynt fod yn ymwybodol o hynny pan fyddant yn gwneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â dyfodol ysgol wledig a fyddai wedi'i rhestru o dan y cod newydd.

13:40

Ysgrifennydd y Cabinet, mewn perthynas â'r cynlluniau arfaethedig i symud/cau Ysgol Gynradd Llancarfan, y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod atynt yn awr, clywais fod mater mynediad at y rhaglen adeiladu ysgolion yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gael eu hadeiladu ar safleoedd newydd ac i ysgolion gael eu cyfuno neu eu hehangu. Mae hon yn broblem wirioneddol i ysgolion mewn cymunedau gwledig, lle gall fod yno safle cyfyngedig, heb opsiwn arall ar gael a lle nad oes arian ar gael ar gyfer addasu—mae'n rhaid i chi gael adeilad newydd cynhwysfawr—ac mae hyn yn cyfyngu ar y dewisiadau sydd gan awdurdodau lleol, yn enwedig pan fyddant yn awyddus i gynyddu hyfywedd ein hysgolion gwledig, llai o faint. A wnewch chi edrych ar y rhaglen adeiladu?

Yn gyntaf, a gaf fi ddweud nad yw'n ofynnol cael adeilad cwbl newydd er mwyn cael mynediad at arian y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain? Mewn gwirionedd, rwyf wedi ymweld â phrosiectau adnewyddu ledled y wlad lle mae arian ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi'i ddefnyddio i adnewyddu rhan o ysgol—yn etholaeth eich arweinydd newydd heb fod mor hir â hynny'n ôl. Felly, mae'r syniad hwn mai dim ond drwy adeiladu ysgol newydd sbon y gallwch gael mynediad at yr arian hwnnw yn gamsyniad. Nid yw hynny'n gywir.

Ystyrir pob achos a gyflwynir gan ein partneriaid llywodraeth leol yn ôl ei rinweddau ei hun. Yr hyn a ddeallaf, o ran y mater y gwn ei fod wedi bod yn dreth ar feddyliau Andrew a chi, a'r Aelod Cynulliad dros Fro Morgannwg, yw achos Llancarfan. Y penderfyniad a wnaed mewn cyfarfod ddydd Llun yr wythnos hon, rwy'n credu, yw y bydd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Fro yn cael ei gyfeirio'n awr at eu pwyllgor craffu, a byddant yn caniatáu i aelodau'r pwyllgor craffu hwnnw edrych ar y cynigion a gyflwynwyd gan Gyngor Bro Morgannwg—ac rwy'n eu croesawu—ac yn y pen draw, mater i'r rheini sy'n rhedeg Cyngor Bro Morgannwg fydd gwneud penderfyniad ynglŷn â dyfodol yr ysgol honno.

Rydw i'n meddwl bod fy safbwynt i ar gefnogi ysgolion gwledig yn reit hysbys. Rydw i'n cydymdeimlo, mae'n rhaid i mi ddweud, â chynghorau ym mhob cwr o Gymru sy'n wynebu sefyllfaoedd cyllidol amhosib. Rydw i yn meddwl bod rhaid i Lywodraeth sicrhau cyllid digonol i gefnogi dulliau arloesol o gadw ysgolion yn ein cymunedau ni—cefnogaeth i greu ysgolion ardal aml-safle, er enghraifft, sef rhywbeth rydw i yn ei gefnogi. Un elfen sydd yn rhoi pwysau ar gyllidebau addysg, fel rydym ni wedi ei glywed, ydy'r backlog o waith cynnal a chadw. Rydw i'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud fel Ysgrifennydd Cabinet, ond, heb os, mae'r tueddiad yna yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain tuag at adeiladu ysgolion newydd, mwy, sydd ddim yn gweithio yng nghefn gwlad o reidrwydd. Felly, a allwch chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, roi ymrwymiad i chwilio am becyn newydd o gyllid sylweddol a phenodol at y diben hwn, fel bod cyflwr adeilad ysgol yn nghefn gwlad ddim yn yrrwr mor gryf pan fydd hi'n dod at benderfyniadau ar ddyfodol ysgolion?

Unwaith eto, Lywydd, byddai'n rhaid i mi herio'r awgrym gan yr Aelod fod rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gael ar gyfer adeiladau newydd yn unig. Unwaith eto, rwyf wedi ymweld ag ysgolion yn etholaeth yr Aelod—prosiectau adnewyddu—lle defnyddiwyd buddsoddiad i wella cyfleusterau mewn ysgol.

O ran adnoddau ychwanegol ar gyfer ysgolion gwledig, bydd yr Aelod yn ymwybodol y byddwn yn darparu oddeutu £10 miliwn o adnoddau ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn drwy ein grant newydd ar gyfer ysgolion bach a gwledig i annog arloesi a chefnogi rhagor o waith ysgol-i-ysgol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau a rhai o'r anawsterau ymarferol sydd ynghlwm wrth ddarparu addysg mewn ardal wledig—arian y mae ei gyngor ei hun yn ymwybodol ohono ac wedi gwneud cais amdano ac sy'n cael ei ddefnyddio.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi darllen y cod a osodwyd ddydd Llun. Mae'n cynnwys dynodiad o ysgolion gwledig at ddibenion rhagdybiaeth yn erbyn cau, ac mae'n defnyddio dosbarthiad gwledig a threfol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac rwy'n derbyn hwnnw, a dyna pam fod y rhestr yno ar y cefn. Ond pan edrychwch ar y gofynion ychwanegol manwl, rwy'n gofyn y cwestiwn: pam nad ydynt yn berthnasol i bob ysgol, oherwydd mewn gwirionedd, dylai'r gofynion ychwanegol hynny fod yn berthnasol i bob ysgol sydd dan ystyriaeth ar gyfer ei chau? Mae'r awdurdod lleol yn fy ardal i wedi dynodi y dylid cau Ysgol Gyfun Cymer Afan, ond mae'n rhaid i'r astudiaeth fanwl a chydwybodol sydd ei hangen, yn enwedig ynghylch yr effaith ar y gymuned, gael ei defnyddio mewn perthynas â phob ysgol. A wnewch chi edrych ar hyn a dweud nad yw'n ymwneud ag ysgolion gwledig yn unig ac y dylai fod yn berthnasol ar gyfer pob ysgol?

13:45

Wel, David, fe fyddwch yn ymwybodol fod y rheoliadau a'r cod wedi nodi set o feini prawf llym iawn y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu defnyddio wrth ystyried cau unrhyw ysgol. Roedd yn bwysig i mi, a theimlaf ei bod yn bwysig i lawer o gymunedau gwledig o ystyried natur bywyd gwledig, fod mesur diogelwch ychwanegol ar gael i ysgolion sy'n gwasanaethu cymuned wledig. Os ydym am gael rhagdybiaeth yn erbyn cau'r ysgolion hynny mae'n rhaid inni gael rhestr ac mae'n rhaid inni gael meini prawf gonest, agored a thryloyw ynglŷn â'r modd y caiff ysgol ei rhoi ar y rhestr. Rydym wedi defnyddio, fel y dywedoch chi, ddosbarthiad trefol/gwledig y Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn gwneud hynny. O ganlyniad i'r ymgynghoriad, rydym wedi ehangu'r categorïau ysgolion a gwmpesir gan y rhestr wledig i gynnwys mwy o ysgolion nag a ragwelwyd gan y Llywodraeth hon yn wreiddiol. Ond wrth ystyried dyfodol unrhyw ysgol, mae gweddill y cod yn berthnasol a buaswn yn disgwyl i unrhyw awdurdod lleol ddefnyddio'r cod hwnnw'n drwyadl, gan ystyried yr effaith y gallai cau unrhyw ysgol ei chael ar y gymuned, boed yr ysgol honno mewn ardal wledig neu mewn ardal fwy trefol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian. 

Diolch, Llywydd. Mae un o'r prif bwyntiau gweithredu o dan thema 2, 'Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg', yn eich strategaeth 'Cymraeg 2050' yn ymwneud a rôl ganolog y gweithle wrth gyrraedd y targed o weld 20 y cant o'r boblogaeth yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd. Rydych chi'n cydnabod rôl hanfodol Llywodraeth Cymru fel cyflogwr pwysig yng Nghymru yn hynny o beth ac yn ymrwymo y byddwch chi fel Llywodraeth yn, ac rydw i'n dyfynnu,

'arwain drwy esiampl drwy hybu a hwyluso cynnydd yn y defnydd a wneir o’r Gymraeg gan ein gweithlu ein hunain.'

A allwch chi roi diweddariad i ni ar y gwaith yma? 

Wel, wrth gwrs, rŷm ni yn annog aelodau sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru i ddysgu Cymraeg ac mae llawer o gyfleoedd iddyn nhw, ond mae yna adroddiad mewnol sydd yn cael ei ddatblygu yn edrych ar sut rŷm ni fel Llywodraeth yn mynd i ymateb i ofynion 2050. Fe wnes i gyfarfod â'r Ysgrifennydd Parhaol ddoe i drafod hynny. 

Diolch yn fawr. Mae gen i gopi o adroddiad sy'n dangos bod gennych chi weithgor mewnol o uwch-weision sifil wedi cael ei sefydlu, fel rydych chi'n ei ddweud, a hynny yn ôl yn haf 2016. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog efo'r Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd gweinyddol swyddogol erbyn 2036. Fel rhan o hynny, mae'ch gweision sifil yn dod i'r casgliad bod yn rhaid gwneud lefel o beth sy'n cael ei alw'n Gymraeg cwrteisi neu Gymraeg sylfaenol yn ofynnol ar gyfer pob swydd yn Llywodraeth Cymru fel man cychwyn. Rydym ni efo'n gilydd tan y pwynt yma. Mae nifer o gyrff, gan gynnwys Comisiwn y Cynulliad, Heddlu De Cymru a Chyngor Sir Gâr, wedi cyflwyno model cwrteisi o'r fath, sy'n golygu meddu ar sgiliau dwyieithog cwbl sylfaenol fel, er enghraifft, ynganu geiriau Cymraeg yn gywir a chyfarch yn syml, fel 'bore da', 'prynhawn da', 'hwyl fawr' ac yn y blaen. Ond, fis diwethaf, mewn llythyr ataf i, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol nad oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i wneud lefel cwrteisi cwbl sylfaenol o'r fath yma yn ofynnol. Felly, flwyddyn a hanner ers i adroddiad eich arbenigwyr argymell hynny, pam fod Llywodraeth Cymru heb allu ymrwymo i weithredu mesurau cwbl sylfaenol o'r fath, ac onid ydy hi'n hen bryd i'r Llywodraeth arwain drwy esiampl?   

Wel, diolch yn fawr. Fel y dywedais i, rwyf wedi cwrdd â'r Ysgrifennydd Parhaol i drafod yr union fater yma ddoe. Mae rhan o beth oedd yn cael ei argymell yn yr adroddiad, rwy'n meddwl, yn ymwneud â diffiniadau o yn union beth sy'n cael ei olygu wrth ba lefel o Gymreictod, ac rwy'n meddwl bod hynny yn issue rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni ei drafod ymhellach. Mae yna ffyrdd o wneud hynny ac mae'n rhaid i ni gael gwell dealltwriaeth o hynny. Mae hi, rydw i'n gwybod, wedi gofyn am fwy o waith i gael ei wneud ar y mater yma, ac wrth gwrs, bydd rhaid i hynny wedyn ymwneud â'r ffordd rŷm ni yn mynd i sicrhau bod ein nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr yn rhan annatod o beth rŷm ni’n ei wneud yng nghanol Llywodraeth Cymru.

13:50

Felly, bydd blwyddyn a hanner arall, mae’n debyg, tan inni gael diffiniad o rywbeth sydd yn hollol, hollol amlwg a chlir a syml, sef beth yn union ydy Cymraeg cwrteisi. Rwyf newydd enghreifftio hynny—pethau fel dweud 'bore da', 'prynhawn da', a medru ynganu geiriau Cymraeg yn gywir. Dyna i gyd ydy o; y lefel isaf un o sgiliau iaith Gymraeg. Felly, nid wyf fi’n deall pam ei fod yn cymryd gymaint o amser i gyflwyno hyn. Yr unig beth fedraf i feddwl ydy nad yw'r ewyllys ddim yna i fwrw ymlaen efo hyn, ac mai dyna sydd y tu ôl i hyn, ac nad ydych chi’n barod, fel Llywodraeth, i ddangos yr esiampl glir yna sydd ei angen.

Wel, nid ydym ni wedi cael y papur yma yn swyddogol o’n blaenau ni eto achos nid yw’n rhywbeth sydd wedi cael ei derfynu gan yr Ysgrifennydd Parhaol yn barod. Felly, mae’n rhaid inni aros tan bod yr adroddiad yna’n dod allan, wedyn fe wnawn ni benderfyniad gwleidyddol ynglŷn ag a ydym ni eisiau parhau gyda’r system yna neu a ydym ni eisiau mynd ag ef ymhellach.

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i Paul Davies am fy mhenodi i'r swydd newydd hon? Ni allaf ddweud wrthych faint rwy'n edrych ymlaen. Gobeithiaf na fydd ots gan Ysgrifennydd y Cabinet os dechreuaf gyda rhywbeth o ddiddordeb personol a dychwelyd at ysgolion gwledig, o ystyried profiad fy nheulu dros y 15 mlynedd diwethaf.

Gallaf weld bod yr ymgynghoriad ar y newidiadau hyn, ac wrth gwrs, ar newidiadau eraill i'r cod—rhaid inni beidio ag anghofio hynny—wedi'i gynnal dros flwyddyn yn ôl, fwy neu lai yn ystod gwyliau haf 2017. Sut y gwnaeth eich adran gydymffurfio â'i rhwymedigaeth i roi sylw dyledus i erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth gynnal yr ymgynghoriad?

Lywydd, a gaf fi gymryd y cyfle hwn i groesawu Suzy Davies i'w rôl newydd? Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi. A hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Darren am y berthynas waith a fu gennym—[Chwerthin.]

Y gwir am Darren Millar yw bod ei gyfarth yn waeth na'i frathiad. Er ein bod wedi croesi cleddyfau yn y fan hon, y tu ôl i'r llen, mae'n eithaf hawdd cydweithio a chyflawni gwaith.

Dewch ymlaen, rydych wedi gwneud digon o ddifrod i fy enw da. Parhewch os gwelwch yn dda. [Chwerthin.]

Rwyf am ddweud wrth Suzy Davies fy mod yn ymwybodol ei bod hi a minnau'n rhannu dyhead i wella safonau addysg wledig, gan gydnabod bod gan ysgolion gwledig ran bwysig i'w chwarae, nid yn unig o ran addysg plant gwledig ond yn y gymuned ehangach. Mewn llawer o leoliadau gwledig, yr ysgol yw'r unig adeilad cyhoeddus sydd ar ôl yn y lle hwnnw, ac felly mae angen inni wneud ein gorau i'w cefnogi. O ran yr ymgynghoriad, rwy'n fodlon, wrth gynnal yr ymgynghoriad hwnnw y llynedd, fod Llywodraeth Cymru wedi cydymffurfio â'r holl ofynion a roddwyd arnynt.

Wel, diolch am eich ateb ac am eich geiriau caredig iawn, wrth gwrs. Mae'n rhaid imi ddweud, fodd bynnag, fod y rhan fwyaf o'r ymatebion a gafwyd yn yr ymgynghoriad wedi dod gan gynghorau, cyrff esgobaethol ac undebau, a chynrychiolwyd llais y plant, ymddengys i mi beth bynnag, gan y comisiynydd plant yn unig, ac nid wyf yn siŵr sut y llwyddodd i gael gwybodaeth neu safbwyntiau pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwnnw, o gofio eu bod ar eu gwyliau ysgol.

Buaswn yn arbennig o awyddus i wybod, mewn gwirionedd, sut y gwnaeth y bobl ifanc hynny ymdopi â dosbarthiad trefol/gwledig y Swyddfa Ystadegau Gwladol a grybwyllwyd gan David Rees yn gynharach. Yn sicr, nid oedd traean o'r oedolion a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn barod i fabwysiadu un yn unig o'r wyth dosbarthiad yn y dull hwn o nodi ysgol wledig. Ond eto, cymerwyd naw mis i ddod yn ôl atynt gyda rhestr hwy o ysgolion, gan ychwanegu'r ail ddosbarthiad hwnnw i gynorthwyo'r broses nodi. Ac roedd y gynulleidfa ddatganedig ar gyfer yr adroddiad hwnnw, a ryddhawyd ar 2 Gorffennaf eleni, yn cynnwys awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu, awdurdodau esgobaethol, Estyn a rhai eraill â buddiant. Dim llwybr clir at safbwyntiau plant, na staff ysgol yn wir, gan iddo gael ei gyhoeddi unwaith eto yn fuan cyn y gwyliau haf.

Fe gyflwynoch chi'r cod newydd ddydd Llun, felly nid oedd hynny yn ystod toriad yr haf o leiaf, ond nid yw'r 16 mis y mae wedi'i gymryd i ddod i rym wedi rhoi cyfle i awdurdodau addysg lleol sleifio o dan wifren cyfundrefn lem; rydych wedi rhoi dros flwyddyn iddynt gyflymu eu hystyriaethau o'r math o gau roeddech yn iawn i obeithio'i osgoi. A gallaf ddweud wrthych gyda fy mhrofiad pan gaewyd Cwrt Sart, nad yw'n ysgol wledig, y gall awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o'r cyfeiriad teithio, ond gallant fod yn benderfynol iawn o'i anwybyddu os ydynt yn dymuno. Felly, a allwch ddweud wrthym pam ei bod wedi cymryd naw mis i adrodd ar 70 arolwg yn unig, a pham na ofynasoch ym mis Mehefin 2017 i awdurdodau addysg ohirio unrhyw gynlluniau a allai fod ganddynt i gau wrth aros am y newidiadau perthnasol hyn?

13:55

Wel, Suzy, diben yr ymgynghoriad yw cael gafael ar amrywiaeth mor eang o safbwyntiau â phosibl. Yn y dewis a oedd gennyf fel Gweinidog, gallwn fod wedi anwybyddu canlyniadau'r ymgynghoriad a chyflwyno'r cod yn gynharach neu gallwn fod wedi ystyried y sylwadau a wnaed yn yr ymgynghoriad nad oedd y rhestr o ysgolion yn ddigon hir, ac anwybyddu hynny a bwrw ymlaen. Penderfynais y byddai'n well gennyf ohirio'r broses o roi'r cod ar waith fel y gallem gael rhestr hwy o ysgolion, fel y gallem ymateb yn gadarnhaol i'r pwyntiau a wnaed yn yr ymgynghoriad. Fel arall, pam cynnal yr ymgynghoriad o gwbl os oeddwn yn benderfynol o fwrw ymlaen gyda'r cynigion cychwynnol? Y rheswm pam oedd yr ail ymgynghoriad yn un cyfyngedig oedd fy mod yn teimlo ei bod ond yn deg i'r awdurdodau lleol nad oeddent, efallai, wedi ymateb i'r ymgynghoriad cyntaf gan eu bod yn teimlo nad oedd yn effeithio arnynt am nad oedd ganddynt unrhyw ysgolion ar y rhestr, ond yn sydyn, byddai ganddynt ysgolion ar y rhestr. Credwn ei bod hi ond yn deg i'n partneriaid llywodraeth leol gael cyfle i ymateb i bolisi a fyddai bellach yn effeithio arnynt os oeddent o dan gamargraff nad oedd y polisi yn effeithio arnynt cyn hynny. Mae'r cod wedi'i gyflwyno cyn gynted ag y gellid gwneud hynny o dan y Rheolau Sefydlog priodol yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac rwyf wedi dweud yn gwbl glir ers imi ymgymryd â'r swydd hon fy mod yn benderfynol o gefnogi a diogelu ysgolion gwledig gymaint â phosibl. Ond mae'n rhaid inni fod yn realistig: hyd yn oed gyda'r cod hwn, nid yw hynny'n golygu y bydd pob ysgol wledig yn parhau i fod ar agor, ond mae'n rhaid i'r achos dros eu cau fod yn un cryf, a dylai awdurdodau lleol yn yr ardaloedd hynny, os oes ganddynt ysgol ar y rhestr, ddechrau ar y sail mai cau yw'r dewis olaf a dylent geisio pob cyfle drwy amrywiaeth o ffyrdd i gadw'r ysgolion hynny ar agor.

Wel, diolch am eich ateb. Mae'n cymryd naw mis i gynhyrchu plentyn; roeddwn yn gobeithio y byddai cynhyrchu cod wedi bod ychydig bach yn gynt. Nid y Ddeddf safonau ysgolion a'r Mesur hawliau plant a phobl ifanc yw'r unig ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i ad-drefnu ysgolion; mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn grym bellach, ac rwy'n falch o ddweud, yn ystod y newidiadau hyn—ac yn wir, fe gyfeirioch chi at hyn yn gynharach hefyd—rydych wedi dweud fwy nag unwaith y gall bodolaeth ysgol fach yn y gymuned fod yn hollbwysig i gynaliadwyedd y gymuned honno. Ar ba adeg y dylai awdurdod addysg ystyried egwyddorion Deddf cenedlaethau'r dyfodol? Ai yn ystod y broses o benderfynu a ddylid mynd ati i ymgynghori ynghylch cau ysgol, neu yn ystod unrhyw ymgynghoriad?

Wel, mae pob awdurdod lleol yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yma gan Gynulliad blaenorol. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw eu bod yn defnyddio darpariaethau Deddf cenedlaethau'r dyfodol i lywio eu gweithredoedd ar y cyfle cyntaf, a buaswn yn dadlau, o dan y cod sydd wedi'i gyflwyno ac a fydd yn dod i rym ym mis Tachwedd, gobeithio, os nad oes unrhyw un yn gweddïo yn ei erbyn, na ddylid gadael y rhagdybiaeth honno yn erbyn cau a'r opsiwn i chwilio am ddewisiadau eraill i gadw ysgol ar agor, unwaith eto, tan y cyfnod ymgynghori swyddogol, ond dylai'r cyngor eu harchwilio cyn gwneud unrhyw benderfyniad i gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysgol. Oherwydd fe wyddoch chi a minnau, pan fyddwch yn dechrau'r broses ymgynghori swyddogol, gall hynny ddifetha sefydliad addysgol unigol. Felly, mae'n glir iawn y dylai'r awdurdod lleol ddefnyddio'r cod hwn ac ystyried y rhagdybiaeth hyd yn oed cyn iddynt ymgynghori'n ffurfiol a dylent ystyried eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar yr adeg honno.

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Ym mis Awst, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, nad yw'n credu bod newid yn digwydd yn ddigon cyflym i ddiogelu plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Daw hyn ar ôl dau achos mewn dwy flynedd o blant yn cael eu hesgeuluso, a bu un ohonynt farw o ganlyniad i hynny, yn anffodus. A allwch chi ddweud wrthyf beth ydych chi wedi bod yn ei wneud i ddiogelu plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref?

Yn gyntaf, dylwn rybuddio'r Aelod rhag gwneud cysylltiad uniongyrchol rhwng penderfyniad rhieni i addysgu yn y cartref, a bod hynny, o bosibl, yn arwain at wneud blentyn yn anniogel. Credaf fod hwnnw'n bwynt o egwyddor y mae angen inni ddechrau ohono: nid oes cysylltiad rhwng y ddau beth. Ers fy natganiad blaenorol i'r Siambr ynglŷn â fy mwriad i gynnal ymgynghoriad ar sefydlu cronfa ddata a gwell cefnogaeth i rieni sy'n dewis addysgu yn y cartref—bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n cael ei gynnal yn ystod tymor yr hydref.

14:00

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. O ran yr egwyddor ynglŷn ag a yw plant yn ddiogel gyda'u rhieni, buaswn yn cytuno'n llwyr â chi—ni ddylem ymdrin â hyn o'r safbwynt fod plant mewn perygl anorfod gyda'u rhieni. Fodd bynnag, mae Sally Holland wedi nodi risg. Mae'n amlwg fod yna risg gan fod un plentyn a oedd yn cael ei addysgu yn y cartref, plentyn nad oedd yr awdurdodau yn ymwybodol ohono ar y pryd, wedi marw. Nawr, rwy'n cydnabod eich bod wedi cyhoeddi y bydd cronfa ddata yn cael ei sefydlu i nodi plant nad ydynt ar y gofrestr ysgolion, ond mae hyn ymhell o'r hyn y gofynnodd y comisiynydd plant amdano pan ddywedodd, a dyfynnaf:

Rwyf wedi bod yn galw ar y llywodraeth i weithredu mewn modd cryfach, ac mae'r holl gyfarwyddwyr addysg yng Nghymru, holl gyfarwyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol a bwrdd diogelu annibynnol y Llywodraeth ei hun wedi gwneud hynny hefyd.

Aeth yn ei blaen i ddweud, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu:

I mi, mae cyflymder y newid wedi bod yn rhy araf ac nid yw wedi bod yn ddigon cryf i sicrhau bod pob plentyn yn cael yr hawl i addysg er mwyn bod yn ddiogel a chael dweud eu dweud.

A yw hi'n iawn?

Bydd y comisiynydd, wrth gwrs, yn cael pob cyfle i roi sylwadau ffurfiol ar gynigion y Llywodraeth pan fyddwn yn cynnal yr ymgynghoriad. Gadewch imi ddweud yn gwbl glir wrth yr Aelod: mae'r hyn rwy'n paratoi i'w wneud yn rhan o'n taith ddiwygio addysg i sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg briodol. Mae unrhyw faterion diogelu sy'n deillio o hynny yn amgylchiadol a chredaf ei bod yn bwysig iawn i'r Aelodau fod yn glir, hyd yn oed wrth sefydlu cronfa ddata, nad yw hynny'n cael gwared ar yr angen i bob gweithiwr proffesiynol fod yn wyliadwrus wrth ymdrin â'u plant, ac i gofio y bydd y gronfa ddata honno'n berthnasol i blant o oedran ysgol gorfodol yn unig, sy'n dechrau o bum mlwydd oed. Felly, os yw rhiant yn benderfynol o gadw eu plentyn oddi wrth y gwasanaethau, ni fydd y cynnig hwn yn berthnasol hyd nes bydd plentyn yn bump oed, ac mae'n bwysig cofio hefyd fod yna gyfyngiadau—yn naturiol, ceir cyfyngiadau—gyda'r argymhelliad os ydych yn awyddus i sicrhau bod pob plentyn yn cael eu gweld ar bob oedran yn ystod eu bywydau.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n synnu braidd y byddech yn credu y byddai diogelu plentyn yn ymylol i unrhyw beth, ond fe symudaf ymlaen.

A allwch ddweud wrthyf a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â ffordd y gall plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref gael gwiriadau meddygol tebyg neu'r un gwiriadau meddygol â phlant sy'n cael eu haddysgu mewn ysgol arferol?

Mewn gwirionedd, y bore yma, cefais gyfarfod gyda'r prif swyddog nyrsio i ddeall sut, fel rhan o'n pecyn gwell o gymorth i rieni sy'n dewis addysgu yn y cartref, y gallwn sicrhau bod y plant hynny'n cael mynediad at rai o'r gwasanaethau iechyd y byddent yn eu cael fel arfer yn yr ysgol. Felly, i lawer ohonom—fe fyddwch yn gwybod, os oes gennych blant yn eu harddegau, y byddant yn cael brechiadau yn yr ysgol uwchradd. Felly, y bore yma, bûm yn trafod mater canolfannau brechu gyda'r prif swyddog nyrsio fel y gall plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref gael mynediad at y gwasanaethau hynny.

Addysg Cyfrwng Cymraeg

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y twf arfaethedig mewn addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ52574

Roeddwn yn falch fod £46 miliwn yn ychwanegol o arian cyfalaf wedi cael ei gyhoeddi y bore yma i gefnogi amrywiaeth o brosiectau i hwyluso'r gwaith o ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Roeddem yn fodlon iawn ag ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd gennym, sy'n golygu bod awdurdodau lleol wedi deall hyn bellach ac wedi deall mai dyma'r cyfeiriad teithio yr hoffem fynd iddo.

Diolch am eich ateb. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd y bore yma, yn amlwg. Ond os mai'r bwriad yw creu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, y llwybr mwyaf tebygol o fod yn llwyddiannus yw cynyddu nifer y plant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Gwn o brofiad personol, fel eraill yn y Siambr hon, pa mor anodd yw dysgu Cymraeg fel oedolyn. Byddai hyn yn golygu bod oddeutu traean o blant Cymru yn cael addysg cyfrwng Cymraeg—rhwng 30 a 33 y cant, yn ôl fy nghyfrif i. Os oes gan y Gweinidog gyfrif gwahanol, hoffwn wybod beth ydyw, ond dyna rwy'n ei gyfrif. Sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni?

Ac a wnaiff y Gweinidog ymweld â dwy ysgol yn fy etholaeth rwy'n eu hadnabod yn dda—Ysgol Gymraeg Tan-y-Lan, lle mae fy wyresau'n mynd, ac Ysgol Gyfun Bryn Tawe, yr arferai fy merch ei mynychu yn fy etholaeth, dwy ysgol sydd wedi tyfu'n sylweddol ers eu hagor?

14:05

Diolch yn fawr, Mike. Credaf ei bod yn addas iawn eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwn y prynhawn yma pan ydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar yr agenda hon. O ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw, byddwn yn gweld bron i 3,000 o leoedd newydd yn ysgolion Cymru, a dyna sut y credaf ein bod yn mynd i ddechrau cyrraedd y targed a osodwyd gennym, sy'n darged uchelgeisiol. Mae 16 o awdurdodau lleol wedi cael arian drwy'r fenter hon, a chredaf fod y ffaith ein bod hefyd wedi cyfuno'r arian hwn ag arian o gyllideb fy nghyd-Aelod sy'n ymwneud â gofal plant—. Felly, mae arnoch angen cyfrwng—mae angen ichi weld y plant hyn yn dod drwy'r system, a gorau po gyntaf y gallwn eu cyflwyno i addysg Gymraeg, a dyna pam rydym wedi cyfuno'r arian hwn er mwyn bwrw ymlaen â'r agenda hon.

Y bore yma, bûm yn Ysgol Gyfun Gwynllyw yn Nhorfaen, lle byddant yn awr yn agor ysgol gynradd Gymraeg newydd. Rwy'n falch o weld y bydd hynny'n digwydd. A bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd ym Merthyr Tudful hefyd, ac rydym yn falch iawn o weld hynny, ond hefyd yn Nhrefynwy. Felly, mae pethau'n symud ymlaen mewn ardaloedd lle rydym yn wirioneddol awyddus i weld y camau hynny'n cael eu cymryd, felly rydym yn falch iawn gyda'r cyfeiriad teithio a'r ffaith bod awdurdodau lleol yn deall go iawn ein bod o ddifrif ynglŷn â bwrw ymlaen gyda'r agenda hon.

Mae Llwybrau Dysgu 14-19—mae hwn i chi, Weinidog—maent yn rhoi'r hawl i bobl ifanc yng Nghymru, fel y gwyddoch, i astudio'r pynciau y maent eisiau eu hastudio, hyd yn oed os nad yw hynny'n digwydd yn eu hysgol eu hunain a gallant fynd i ysgol gyfagos. Fodd bynnag, mae'r arian a oedd yn arfer mynd i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru i alluogi hynny wedi'i gyfuno â grantiau cyllid eraill, ac mae hynny wedi gwneud dilyn yr arian yn anodd. Felly, rwy'n gobeithio na fydd y cyhoeddiad calonogol iawn heddiw, a fydd hefyd yn cael ei gyfuno gydag arian arall, yn anodd ei ddilyn, ac na fyddwn yn cyrraedd sefyllfa lle bydd yn mynd i gyllidebau cyfalaf cyffredinol awdurdodau lleol. Sut y gallwn fod yn sicr fod yr hawl a grëwyd yn y llwybr 14-19 yn cael ei pharchu yn y sector cyfrwng Cymraeg, lle gall fod pellter eithaf sylweddol rhwng ysgolion? Ac yn amlwg, ceir ystyriaethau ariannol hefyd. Sut y bydd cyhoeddi'r cyfalaf newydd hwn yn cynorthwyo gyda darpariaeth y llwybrau 14-19? Diolch.

Wel, er eglurder: mae'r arian hwn wedi'i glustnodi'n glir iawn. Mae wedi'i neilltuo. Mae'n arian penodol ar gyfer twf addysg cyfrwng Cymraeg, felly nid oes unrhyw bosibilrwydd y bydd yn mynd i mewn i unrhyw gronfeydd cyffredinol. Mae wedi'i dargedu yn glir iawn. Mae'r llwybr dysgu hwnnw—rydym wedi dweud yn glir ein bod yn awyddus i weld ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd os nad ydynt yn gallu darparu hynny eu hunain yn lleol, ac rydym yn cynorthwyo i ddatblygu'r cydgysylltiad hwnnw yn awr, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae gennym gynllun peilot newydd y byddwn yn ei ddechrau—[Anghlywadwy.]—lle rydym yn dechrau gwneud mwy o ddysgu o bell. Credaf fod hwnnw, yn arbennig, yn ddatblygiad diddorol iawn y byddwn yn ei dreialu yn ardal Ceredigion a Phowys.

Cyfleusterau Chwarae

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o gyfleusterau chwarae mewn ysgolion lleol? OAQ52581

Diolch, Janet. Dylai pob plentyn a phob person ifanc allu manteisio ar ddewis eang o ddarpariaeth chwarae yn eu hamgylchedd lleol a chymunedol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i annog ysgolion i ddarparu eu cyfleusterau at ddefnydd a budd ehangach y gymuned.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae nifer o etholwyr wedi tynnu fy sylw yn ddiweddar at gyhoeddiad diweddar ynglŷn â chael gwared ar gyfleusterau chwarae yn eu hysgol, heb unrhyw esboniad gan yr awdurdod lleol. Nawr, o ystyried hyn ochr yn ochr â thoriad o 35 y cant mewn termau real i wariant llywodraeth leol ar gyfleusterau chwarae a hamdden, mae'r bil o £15,000—dyna i gyd—er mwyn atgyweirio'r cyfleuster chwarae hwn cyn hanner tymor yr hydref yn anfforddiadwy. Nawr, mae polisi chwarae Llywodraeth Cymru 2002 yn datgan mai

'Chwarae yw'r broses ddysgu sylfaenol.'

Felly, a allwch esbonio pam fod cyfleusterau chwarae ysgol ledled Cymru wedi'u tanariannu mor druenus? A sut rydych yn gweithio gyda'ch partneriaid yn Llywodraeth Cymru, yn eu swyddi Cabinet, i sicrhau y darperir arian i ysgolion fel y gall ein plant, yn llythrennol, fynd allan i chwarae?

Os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf ynglŷn â manylion y cyfleuster ysgol penodol hwnnw, fe wnaf ymholiadau. Mater ar gyfer y corff llywodraethu yw gwneud penderfyniadau ynglŷn â mynediad at y cyfleusterau hynny y tu hwnt i'r diwrnod ysgol, a chynnal y cyfleusterau hynny, ac yn hytrach na—. Mae'r Aelod yn paentio darlun lle mae'r cyfleusterau hyn yn cael eu colli. Hoffwn ei hatgoffa: yn ei hetholaeth hi, agorais ysgol newydd, Ysgol Awel y Mynydd, a oedd yn cynnwys tir ysgol wedi'i dirlunio, gydag ardal chwaraeon a gofod i ddisgyblion archwilio ac i ddysgu yn eu cynefin naturiol. Agorais brosiectau adnewyddu Ysgol Sŵn y Don a Ysgol Nant y Groes, ac mae hynny wedi golygu bod disgyblion o'r ddwy ysgol wedi elwa o ardaloedd gemau aml-ddefnydd trydedd genhedlaeth ac ardaloedd wedi'u gwella. Felly, yn ei hetholaeth ei hun, gall weld effaith buddsoddiad Llywodraeth Cymru ar lawr gwlad yn darparu'r cyfleusterau pwysig hynny, ond fe wnaf ymholiadau am yr achos penodol hwnnw os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf.

14:10

Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cytuno ei bod yn hanfodol ein bod yn caniatáu i blant o bob gallu fwynhau cyfleusterau chwarae, a gwyddom hefyd fod plant anabl yn cael llai o gyfleoedd, yn sicr i gymryd rhan mewn addysg gorfforol a gweithgareddau chwaraeon. Felly, pa gynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer offer chwarae mewn ysgolion, neu'n wir unrhyw offer chwarae, er mwyn sicrhau bod modd i blant ag anableddau ei ddefnyddio?

Diolch, Julie. Er nad oes gennyf gyfrifoldeb am offer chwarae yn gyffredinol, yn amlwg, rydym am i'n hysgolion fod yn ysgolion cynhwysol a chael cyfleusterau sy'n caniatáu i bob un o'u disgyblion gael mynediad llawn at y cyfle i chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, ac yn wir, i allu cyflawni rhan statudol y cwricwlwm sy'n golygu y dylid darparu addysg gorfforol i bob disgybl rhwng saith ac 16 oed. Rydym am i bob disgybl, waeth beth fo'u gallu, allu cael mynediad at y cyfleoedd hynny, gan fod hynny'n ofyniad statudol. Ond os oes gan yr Aelod bryderon ynglŷn ag unrhyw beth penodol, rwy'n cynnig yr un peth ag y gwneuthum i Janet Finch-Saunders: rwy'n fwy na pharod i ymchwilio i unrhyw achosion lle teimla'r Aelod nad yw hynny'n digwydd mewn gwirionedd.

Cyfraddau Cyflog ar gyfer Athrawon Cyflenwi

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfraddau cyflog ar gyfer athrawon cyflenwi? OAQ52591

Diolch, Hefin. Cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyflogi, defnyddio a rheoli gweithlu'r ysgol. Telir athrawon cyflenwi a gyflogir yn uniongyrchol gan ysgolion ac awdurdodau lleol yn unol â chyfraddau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Telir athrawon a gyflogir gan asiantaethau cyflenwi preifat yn unol â thelerau eu contract cyflogaeth.

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 28 Mehefin, a gofynnais gwestiynau iddi ynglŷn ag athrawon cyflenwi. Un o'r pethau a ddywedodd wrth y pwyllgor oedd:

Mae llawer o'r ffocws diweddar wedi bod ar gyflogau isel athrawon cyflenwi. Yn ddiweddar, tynnwyd fy sylw at ddadl ynghylch ysgolion sy'n defnyddio athrawon cyflenwi ar gyfer rhai o'n pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, lle mae'r athrawon cyflenwi hynny'n gosod eu pris, ac yn siarad, ar lefel sylfaenol, am oddeutu £250 y dydd i addysgu ffiseg.

Gofynnais iddi am y manylion, a dywedodd:

nid yw'r holl ddata gennym o reidrwydd.

Wel, buaswn yn dweud nad wyf yn credu bod yna ddata sylweddol i'w gael ar hyn. Canfu'r arolwg cenedlaethol o athrawon cyflenwi ar gyfer 2018 unwaith eto mai'r ardaloedd â'r cyflogau gwaethaf yw Cymru a de-orllewin Lloegr, gydag 87 y cant a 93 y cant o ymatebwyr yn y drefn honno yn cael llai na £125 o dâl y diwrnod. Yn wir, dywedodd yr arolwg fod tri chwarter yr ymatebwyr o Gymru yn cael cyfradd ddyddiol o lai na £100. A gaf fi ofyn iddi ymrwymo i beidio â defnyddio'r enghraifft honno o £250 eto, gan na chredaf ei fod yn rhoi'r darlun llawn, ac a wnaiff hi ymrwymo i sicrhau bargen well i athrawon cyflenwi?

Rwy'n awyddus iawn i weld yr holl athrawon sy'n gweithio yn ein system yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu talu'n briodol. Rwy'n fwy nag ymwybodol o'r pryderon a fynegwyd ynghylch y graddfeydd cyflog sy'n gysylltiedig â'r bobl a gyflogir gan asiantaethau. Fe fyddwch yn gwybod, rwy'n gobeithio, ein bod yn gweithio'n agos iawn gydag MPS Education i baratoi ar gyfer unrhyw broses dendro newydd y byddant yn cychwyn arni yn y gwanwyn eleni, er mwyn sicrhau bod y fframwaith y maent yn ei gynnig yn addas i'r diben ac yn ymgorffori'r egwyddorion a gymeradwyir yn y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi ac egwyddorion gwaith teg.

Rydym hefyd yn awyddus i gyflwyno safonau sicrwydd ansawdd gorfodol ar gyfer asiantaethau cyflenwi fel y byddai'n rhaid i unrhyw asiantaeth fasnachol sy'n dymuno cyflenwi athrawon dros dro i ysgolion a gynhelir yng Nghymru fodloni gofynion penodol, ac rwy'n credu y byddai safonau'n cefnogi ysgolion ac athrawon cyflenwi ac yn gwella ansawdd addysgu a chyfleoedd dysgu ar gyfer myfyrwyr. Felly, rydym yn archwilio llu o ffyrdd y gallwn sicrhau bod yr holl athrawon sy'n gweithio yn ein hysgolion ar sail ran amser neu ar sail cyflenwi yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu talu'n briodol.

14:15

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ymgyrchwyr yn honni bod athrawon cyflenwi yng Nghymru yn gorfod cymryd swyddi ychwanegol i gadw deupen llinyn ynghyd, ac mae llawer yn ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl. Maent yn honni bod yr arfer o gyflogi athrawon cyflenwi drwy asiantaethau wedi arwain at gyflogau is a thelerau ac amodau gwaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu annibynnol i wneud argymhellion yn hyn o beth. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Cynulliad hwn yn awr pryd y bydd hi mewn sefyllfa i wneud cynnig yn seiliedig ar argymhellion y tasglu, os gwelwch yn dda?

Nid yn unig fod y tasglu hwnnw'n ymgysylltu â grŵp Bargen Deg i Athrawon Cyflenwi, ond mae swyddogion hefyd yn cyfarfod â'r grŵp hwnnw o athrawon sy'n ymgyrchu ar y mater hwn. Fel y dywedais wrth Hefin David, rydym yn edrych ar amrywiaeth o opsiynau a fydd yn mynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd gan yr Aelod.

Trosglwyddwyd cwestiwn 8 [OAQ52602] i'w ateb yn ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Hyrwyddo Lles Emosiynol mewn Ysgolion

9. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo lles emosiynol mewn ysgolion? OAQ52601

Diolch, Jayne. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni newid sylweddol mewn perthynas â lles meddyliol ac emosiynol mewn ysgolion, ac i gyflawni hyn rydym yn cynnull grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau, i ystyried ymagwedd ysgol gyfan.

Mae'n rhaid i les emosiynol, gwytnwch ac ymyrraeth gynnar fod yn flaenoriaeth genedlaethol a chroesawaf y cyhoeddiad diweddar parthed ymagwedd ysgol gyfan, a thynnwyd sylw at yr angen am hynny yn adroddiad gwych y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl'. Derbyniodd y pwyllgor dystiolaeth gan y Samariaid, sydd wedi creu DEAL—offeryn datblygu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando ar gyfer athrawon. Bydd hi'n hanfodol cynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac emosiynol yng nghymwysterau hyfforddiant cychwynnol athrawon. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen newydd yn siarad gydag athrawon sy'n defnyddio'r offeryn DEAL i weld beth y gellir ei ddysgu o'u profiadau?

Diolch i Jayne am groesawu sefydlu'r grŵp gorchwyl a gorffen. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo eisoes. Cynhaliwyd gweithdy amlasiantaethol ac amlbroffesiwn ar 7 Medi i archwilio beth y gallai ymagwedd ysgol gyfan ei gynnwys, ac i amlygu lle ceir bylchau yn y cymorth presennol. Bydd canfyddiadau'r gweithdy yn llywio gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen ymhellach, a buaswn yn disgwyl i'r grŵp gorchwyl a gorffen fod yn awyddus i dderbyn cyngor a thystiolaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid a fydd â rhywbeth i'w ddweud am yr agenda bwysig hon.

Mae 'cenhadaeth ein cenedl' yn gosod lles y plentyn wrth wraidd ein system addysg, ac yn ganolog i hyn, bydd trefniadau atebolrwydd ysgolion newydd a chynhwysol yn cael eu rhoi ar waith, a byddant yn cydnabod nid yn unig cyflawniadau academaidd yr ysgol, ond pwysigrwydd iechyd a lles y dysgwr hefyd.

A gaf fi holi Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen? Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i sicrhau, pan fydd pobl yn yr ysgol, a chwnselwyr yn aml, yn atgyfeirio plant penodol at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, fod yr atgyfeiriadau hynny'n cael eu cymryd yn ôl yn briodol, ac nad ydynt, fel y dengys peth o'r dystiolaeth a gawsom fel Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn cael eu hatgyfeirio'n ôl fel pe na bai'r cwnselydd yn unigolyn addas i wneud yr atgyfeiriad hwnnw?

Mark, dim ond yn ddiweddar y cyhoeddwyd bod y grŵp wedi'i sefydlu. Fel y dywedais, cychwynnwyd gwaith y grŵp gan y gweithdy amlasiantaethol ac amlbroffesiwn, oherwydd cyn y gallwn lunio gwasanaeth sy'n cynrychioli ymagwedd ysgol gyfan, mae angen inni gytuno ar sut y dylai ymagwedd ysgol gyfan edrych, er mwyn sicrhau bod pob un ohonom yn gweithio tuag at yr un agenda. Rydym yn gweithio ar draws portffolios, ac mae swyddogion a fu'n gweithio ar y cynllun 'Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc' yn edrych yn barhaus ar rwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau CAMHS mwy dwys ar lefel uwch i blant, oherwydd os oes cwnselydd wedi gweld y plentyn, ac os oes ganddynt berthynas gyda'r plentyn, a'u bod yn teimlo bod therapi a chymorth mwy dwys ar gael, mae hynny bron â bod fel system frysbennu a ddylai sicrhau atgyfeirio ac ymateb cyflym gan CAMHS. Byddwn yn parhau i gael gwared ar y rhwystrau, os yw cwnselwyr ysgolion yn eu hwynebu, fel y gall y broses fod mor gyflym ag sydd angen iddi fod ar gyfer y plentyn unigol.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.

Gwasanaethau i Oroeswyr Strôc yn Ne-ddwyrain Cymru

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau i oroeswyr strôc yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52582

Diolch am eich cwestiwn. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer strôc yn darparu fframwaith ar gyfer gweithredu gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, gan weithio gyda'u partneriaid. Mae'n nodi disgwyliadau'r holl randdeiliaid o ran atal, gwneud diagnosis a thrin strôc mewn pobl o bob oed ac i sicrhau y gallant ddychwelyd i fyw'n annibynnol cyn gynted â phosibl.

14:20

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ar hyn o bryd, mae'r Gymdeithas Strôc yn darparu gwasanaeth adfer strôc i oroeswyr strôc ledled ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan ac eithrio Casnewydd, wedi i'r awdurdod lleol dorri'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth ar ddiwedd 2015. Torrodd gyngor Caerffili y cyllid ar gyfer y gwasanaeth yn gynharach eleni, gyda'r bwrdd iechyd yn talu cyfraniad yr awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn unig. Fodd bynnag, ceir diffyg eglurder ynghylch y cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Os torrir yr arian ar gyfer y gwasanaeth ymhellach, mae perygl y bydd yr ardaloedd eraill o fewn y bwrdd iechyd hefyd yn colli allan ar y gwasanaeth hanfodol hwn, neu gallai'r gwasanaeth ddod i ben yn gyfan gwbl.

A wnewch chi ymrwymo i weithio gyda bwrdd iechyd Aneurin Bevan a'r awdurdodau lleol yn y rhanbarth i sicrhau bod cyllid digonol ar gael ar gyfer y gwasanaeth adfer strôc yn yr ardal, er mwyn sicrhau bod gan bob rhan o'r byrddau iechyd fynediad cyfartal at y cymorth hanfodol hwn yn ne-ddwyrain Cymru, os gwelwch yn dda?

Diolch am eich cwestiwn. Mae'n amlygu rhai o'r heriau a wynebwn wrth geisio sicrhau integreiddiad a chydwasanaethau rhwng iechyd a phartneriaid llywodraeth leol ynghyd â'r trydydd sector, yn ogystal â rhai o'r heriau diymwad a wynebwn yn sgil y gostyngiadau parhaus mewn arian cyhoeddus.

Y newyddion da, wrth gwrs, yw ein bod, yn gyffredinol, yn gweld cyfraddau goroesi strôc ar gynnydd. Yn Aneurin Bevan, er enghraifft, dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd o 15 y cant yn y cyfraddau goroesi ymhlith pobl sy'n 75 oed a hŷn. Mae hynny'n newyddion da, ond mae'r her o ran sut y gweithiwn gyda'n gilydd ar draws y meysydd hynny yn cael ei datblygu gyda'n gilydd, mewn gwirionedd, rhwng y partneriaid hynny.

Rwy'n optimistaidd ynghylch gallu Aneurin Bevan i wneud mwy. Mewn gwirionedd, maent wedi ad-drefnu eu gwasanaethau strôc ar draws ardal y bwrdd iechyd. Mae hynny'n gam a gefnogir gan y Gymdeithas Strôc, a dylai hynny eu cynorthwyo i ddarparu cymorth adsefydlu cynharach hefyd. Mae'n fater rwy'n parhau i fod â diddordeb ynddo, yn ogystal â thrafodaethau ynghylch y bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn wir o ran sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd fel partneriaid.

Byddaf yn edrych eto ar y materion ariannu y mae'n eu codi, ond fel y dywedaf, mae a wnelo'r rhain ag awdurdodau lleol yn gwneud eu dewisiadau hefyd.FootnoteLink Nid wyf mewn sefyllfa i'w cyfarwyddo ynghylch defnyddio'u cyllidebau, ond credaf y gallwn sicrhau cytundeb ehangach rhwng partneriaid ynglŷn â sut i ddarparu'r gwasanaethau priodol ar gyfer dinasyddion, boed yn wasanaethau iechyd neu wasanaethau llywodraeth leol.

Ysgrifennydd y Cabinet, drwy gydol toriad yr haf, rwyf wedi bod yn edrych yn fanwl ar wasanaethau gofal iechyd lleol yn fy etholaeth, ac a gaf fi ddweud fy mod yn gwerthfawrogi'r ffaith eich bod wedi rhoi eich amser i ddod i Ferthyr Tudful i ymuno â mi yn un o'r sesiynau trafod hynny? Yn hyn o beth ac yn y gwaith arall a wnaf, rwy'n parhau i edmygu gwaith y proffesiynau perthynol i feddygaeth a'u rôl allweddol ym maes gofal iechyd ataliol ac adsefydlu. Felly, a fyddech yn cytuno, wrth inni sôn am lunio dyfodol ein gwasanaethau iechyd, nad oes a wnelo hyn ag arloesi yn unig, neu hyd yn oed â rhagor o arian o reidrwydd, ond ei fod yn ymwneud â chryfhau arferion gorau, megis rhyddhau cleifion yn gynnar ac adsefydlu ar ôl strôc, a gefnogir gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd fel ffordd effeithiol a chosteffeithiol o wella'r gwasanaethau hynny?

Ydych, rydych yn iawn i dynnu sylw at rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac yn aml yn ein dadleuon am iechyd yn y lle hwn, rydym yn sôn am feddygon, ac efallai nyrsys, ac rydym yn anwybyddu llawer o'r gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n bwysig er mwyn sicrhau bod y system gyfan yn gweithio. Ac yn y maes hwn, adsefydlu cynnar, y mynediad cynharach at amrywiaeth o therapyddion gwahanol sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i sicrhau bod pobl yn dychwelyd i'w cartrefi eu hunain ac yn gwella cyn gynted â phosibl. Ac mewn gwirionedd, mae gan Aneurin Bevan record dda yn y maes hwn o ran y gwelliant y maent wedi'i wneud.

Awgryma adroddiad diweddaraf yr archwilwyr fod ganddynt ddwywaith cyfartaledd archwilio'r bobl hynny pan fyddant wedi cwblhau eu hapwyntiad dilynol ar ôl chwe mis. Felly, nid yn unig sicrhau bod pobl yn mynd allan ac yn symud o gwmpas yn fuan ac yn ôl i'w cartrefi eu hunain, ond y cynllun dilynol wedi iddynt ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain hefyd. Ac mae gennym gyfradd gydymffurfio o oddeutu 70 y cant gyda'r amserlen i gytuno ar eu nodau adsefydlu o fewn pum niwrnod, ac mae hynny'n llawer gwell nag amryw o unedau eraill ledled y DU. Felly, mae hwn yn fwrdd iechyd sy'n edrych tua'r dyfodol, sy'n edrych ar wneud gwelliannau pellach ac sy'n sicr, fel y dywedoch, yn meddwl am y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill hynny a'u rôl hanfodol yn sicrhau prosesau adfer ac adsefydlu effeithiol.

Argaeledd Gwelyau yn y GIG

2. A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am argaeledd gwelyau yn y GIG yng Nghymru? OAQ52594

Diolch am y cwestiwn yn eich rôl newydd ar y meinciau cefn, yn ffigurol o leiaf. Rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion eu pobl. Mae hyn yn cynnwys darparu niferoedd digonol o welyau mewn gwahanol leoliadau ar draws ein system gofal iechyd i fodloni'r galw lleol a chenedlaethol disgwyliedig. Mae'n rhaid i hynny, wrth gwrs, ystyried yr amrywiadau yn y galw sy'n digwydd drwy gydol y flwyddyn.

14:25

Diolch am eich dymuniadau da—fe'u cymeraf fel canmoliaeth ddeufiniog, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Ysgrifennydd y Cabinet, gwyddom yn iawn mai un o'r problemau mawr sy'n ein hwynebu yn ystod misoedd anodd y gaeaf, yn arbennig, yw mynediad at welyau yn GIG Cymru. Rwy'n siŵr, drwy doriad yr haf, eich bod chi a'ch swyddogion wedi bod yn gweithio gyda byrddau iechyd ledled Cymru ar gynlluniau paratoi ar gyfer y gaeaf. Pa hyder y gallwch ei roi i bobl sy'n gweithio yn GIG Cymru, ac i bobl Cymru, eich bod wedi mynd i'r afael â'r argyfwng o ran argaeledd gwelyau a geir mewn rhai byrddau iechyd ledled Cymru, fel y gallwn gael rhywfaint o ddiogelwch rhag peth o'r ôl-gronni sy'n digwydd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys gan na all bobl symud drwy'r ysbyty oherwydd diffyg gwelyau mewn ysbytai cyffredinol dosbarth ledled Cymru?

Diolch am eich cwestiwn. Rwyf o ddifrif yn dymuno'n dda ichi yn eich rôl newydd yn y Siambr. Rwy'n disgwyl eich gweld ar sawl achlysur yn ystod y cwestiynau hyn, heb os.

Pan edrychwch ar niferoedd ein gwelyau, y llynedd roedd gennym dros 400 o welyau ychwanegol drwy'r system gyfan ar gyfer ymateb i bwysau'r gaeaf. Felly, mae hynny'n cyfateb i ysbyty cyffredinol dosbarth o faint rhesymol o ran capasiti ychwanegol yn ein system.

Rydym yn wynebu pwysau hyd yn oed yn fwy difrifol yn y gaeaf, fel y dywedwn yn rheolaidd, ac rwy'n siŵr y cawn gyfleoedd i wneud hynny dros y misoedd nesaf. Nid oes a wnelo hynny'n unig â'r rhan o hyn sy'n ymwneud â gwelyau yn yr ysbyty; mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn mynd i ofal cymdeithasol a gefnogir er mwyn eu cael allan o'r ysbytai. Y llif yw ein problem fwyaf.

Felly, yn yr ystyr honno, nid oes a wnelo hynny â chapasiti yn unig; mae'n ymwneud â sut y rheolwn y galw a'r llif drwy ein system gyfan. Mae hwnnw'n waith sy'n mynd rhagddo wrth gynllunio ar gyfer y gaeaf hwn, gyda'r Llywodraeth yn cydweithio â'r byrddau iechyd, yr ymddiriedolaethau a phartneriaid i geisio sicrhau bod gennym yr ymateb gorau posibl i'r gofynion anarferol y gwyddom eu bod yn wynebu ein system yn y gaeaf.

Fodd bynnag, mae gennym gyfran uwch o welyau ar gyfer y boblogaeth yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Rydym yn parhau i edrych eto ar niferoedd a defnydd gwelyau, ac yn hollbwysig, ar sut y defnyddir y niferoedd i sicrhau bod y system gyfan yn gweithio, ac yn arbennig, y cysylltiad rhwng iechyd a'r system gofal cymdeithasol.

Yn dilyn ymgyrch a chynnwys dilynol ar y cyfryngau cymdeithasol, cefais nifer o negeseuon e-bost trallodus gan fenywod sydd wedi dioddef o ganlyniad i ddarpariaeth annigonol o gymorth a gwelyau ysbyty addas ar gyfer menywod sy'n dioddef camesgoriad. Dywedodd un fenyw stori dorcalonnus wrthyf am gael ei derbyn i'r ysbyty pan dybiwyd ei bod wedi cael camesgoriad, ac fe'i rhoddwyd mewn ward wrth ymyl yr uned esgor. Yn ystod y nos, mewn poen eithafol, bu'n rhaid iddi weld un o bâr o efeilliaid a gamesgorwyd ar lawr y toiled. Disgrifiodd hyn fel 'y digwyddiad mwyaf erchyll a thorcalonnus yn fy mywyd', fel rwy'n siŵr y gall pob un ohonom ddychmygu.

Ddoe, cyhoeddodd y grŵp ymgyrchu, Triniaeth Deg ar gyfer Menywod Cymru, eu hadroddiad gydag argymhellion ar gyfer gwella gofal camesgor. Maent yn cynnwys sicrhau bod unedau beichiogrwydd cynnar yn darparu gwasanaethau cymorth yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, gwell cymorth emosiynol a sefydlu clinigau colli beichiogrwydd sy'n digwydd dro ar ôl tro. A wnewch chi ymrwymo, Ysgrifennydd y Cabinet, i weithio gyda'r ymgyrchwyr ar y mater pwysig hwn ac i roi argymhellion yr adroddiad hwnnw ar waith?

Rwy'n cydnabod y darlun torcalonnus a ddisgrifiwyd gennych, sy'n amlygu profiad go iawn pobl yn ein system. Rydym yn siarad yn rheolaidd ynglŷn â phan fydd gofal iechyd yn mynd yn iawn—fel y dylem ei wneud i ddathlu hynny, fel rydym wedi'i wneud eleni—ond rydym yn cydnabod, pan fydd gofal iechyd yn mynd o'i le, y gall gael effaith sylweddol a pharhaus ar iechyd a lles cyffredinol pobl. 

Rwy'n fwy na pharod i sicrhau bod fy swyddogion, gan gynnwys, os yw'n briodol, adran y brif nyrs, rwy'n credu, yn edrych ar yr adroddiad i weld pa gynnydd adeiladol y gallwn ei wneud i gael trafodaeth gyda'r ymgyrchwyr ynglŷn â'r sefyllfa ar hyn o bryd yn y GIG, ac yn benodol, ynglŷn â sut y mae sicrhau gwelliannau pellach.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae pob un ohonom yn deall bod argaeledd gwelyau yn hollbwysig, yn enwedig gyda phwysau'r gaeaf, ac mae Andrew R.T. Davies wedi tynnu sylw at hynny. Ym mis Mai, cynhaliwyd ymgynghoriad gan fy mwrdd iechyd lleol ar yr hyn a alwai'n newidiadau i'r gwasanaeth, ond a oedd yn golygu cael gwared ar welyau mewn gwirionedd. Roeddent yn argymell y dylid cael gwared ar dros 79 o welyau na châi eu defnyddio dros dro yn barhaol, ac y dylid cael gwared ar 46 gwely arall. O ganlyniad i fy ngwrthwynebiad, a gwrthwynebiad eraill i hynny, cawsom fersiwn wannach, ond rwy'n dal i bryderu'n fawr y bydd y fersiwn wannach yn arwain at gael gwared ar 125 o welyau.

Rwy'n gofyn y cwestiwn: pam nad ydych yn ystyried adleoli'r gwelyau hynny i wasanaethau eraill, gan fod galw mewn mannau eraill? Y rheswm pam eu bod yn cael gwared arnynt yw am eu bod yn dweud eu bod wedi gwella gwasanaethau—maent yn symud pobl drwy'r ysbyty yn gyflymach, ac felly mae'r gwelyau'n cael llai o ddefnydd wrth i bobl symud ymlaen. Ond ceir llawer o fannau eraill mewn ysbytai lle mae pobl yn aros am welyau. A wnewch chi fynd at y byrddau iechyd a dweud wrthynt, cyn iddynt gael gwared ar ragor o welyau, fod yn rhaid iddynt ystyried darpariaeth y gwasanaeth ar draws eu gwasanaethau i weld a allant adleoli'r gwelyau i anghenion clinigol eraill er mwyn sicrhau nad oes yn rhaid i bobl aros am lawdriniaeth ar eu clun neu rywbeth arall am nad oes gwely ar eu cyfer?

14:30

Rwy'n cydnabod y pwynt rydych yn ei wneud, ac rydym wedi cael nifer o drafodaethau y tu allan i'r Siambr ynghylch materion ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg a gwn eich bod wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â'r bwrdd iechyd. O ran y byrddau iechyd yn cyflawni eu cyfrifoldebau ar y mater hwn, mae angen iddynt sicrhau wrth gwrs fod ganddynt gynllun mewn perthynas â'r nifer briodol o welyau yn y rhan briodol o'r system a'r staff i fynd gyda hwy. Ac yma, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud eu bod wedi gwella gwasanaethau fel nad oes angen gwelyau mewn un rhan o'r system, fel y gallent drin ac edrych ar ôl pobl drwy'r system iechyd a gofal ehangach. Mewn gwirionedd, credaf mai'r cam mwyaf cyfyngol o ran cael gwelyau mewn gwahanol rannau o'n gwasanaeth yw cael y staff priodol i ddarparu'r gwasanaethau sydd ynddynt. Ond rwy'n glir ynglŷn â'r prosesau sy'n rhaid i'r byrddau iechyd eu dilyn mewn perthynas â'r angen i gael tystiolaeth o'r effaith a manteision newid niferoedd gwelyau a'r hyn y mae hynny'n ei olygu o ran y staff a darpariaeth y gwasanaeth, ac yn allweddol, wrth gwrs, ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu i bobl. Mae gennym lawer o enghreifftiau da yn 'Cymru Iachach' o ble mae angen inni weld newid yn ein system er mwyn symud pobl o ofal ysbyty yn gynt. Mae hynny'n golygu capasiti gwahanol o fewn gofal cymdeithasol yn ogystal. Felly, fe edrychaf eto ar brofiad Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac rwy'n siŵr y byddwch yn manteisio ar y cyfle i siarad â mi am y peth hefyd er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud hyn yn iawn yn y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn dilyn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad seneddol ym mis Gorffennaf, nodaf eich bod wedi dweud mai'r byrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n gyfrifol am gyfarwyddo newid a'ch bod yn bwriadu cyhoeddi canllawiau. A allech chi roi gwybod inni pryd y bydd y canllawiau hyn ar y newid gweddnewidiol yn barod, ac o ystyried bod cynnydd y byrddau rhanbarthol wedi bod yn anghyson iawn hyd yn hyn, sut y gallwch fod yn hyderus y bydd y cynnydd a'r newid yn deg ar draws y byrddau iechyd?

Croeso nôl i Angela Burns ar ôl yr ad-drefnu. Edrychaf ymlaen at lawer o brocio parhaus o natur a naws amrywiol.

Cyhoeddwyd y canllawiau rydych yn cyfeirio atynt eisoes. Rydym eisoes wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch y defnydd o'r meini prawf ar gyfer y gronfa drawsnewid. Ac yn fwy na hynny, mewn perthynas ag ail ran eich cwestiwn—yr hyder y byddwn yn gweld cynnydd go iawn—rwyf wedi rhoi amser, ynghyd â'r Gweinidog, i wneud yn siŵr ein bod wedi cyfarfod â phob un o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, rydym wedi cyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol ac iechyd gyda'n gilydd, er mwyn bod yn glir ynglŷn â'r hyn roeddem yn ei ddisgwyl wrth ddatblygu 'Cymru Iachach', ac yna er mwyn bod yn glir ein bod yn disgwyl iddo gael ei ddarparu yn awr. Ac wrth gyfarfod â'r bobl hynny, yr hyn sydd wedi bod yn ddiddorol iawn yw bod ganddynt oll syniadau ynglŷn â defnyddio adnoddau ar y cyd, lle mae iechyd a llywodraeth leol yn bartneriaid go iawn yn hytrach na bod un yn gwneud y penderfyniadau a'r llall yn ymgynghorai yn unig—ond yn fwy na hynny, amrediad y prosiectau a'r cynigion sydd gennym yn barod. Rwy'n gobeithio, o fewn yr wythnosau, nid misoedd, nesaf y byddaf yn gallu cyhoeddi'r meysydd cyntaf a fydd yn derbyn cymorth ychwanegol o'r gronfa drawsnewid. Ac rwy'n credu y bydd yn gwireddu rhai o'r trafodaethau rydym yn eu cael ar hyn o bryd. Rwyf hefyd yn hyderus y bydd y rhannau o Gymru nad ydynt yn y grŵp cyntaf i gael eu prosiectau trawsnewid wedi'u cymeradwyo yn gweld hynny fel hwb defnyddiol i sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael yn y lôn araf. Rwy'n falch o ddweud bod gwir uchelgais i wneud yn siŵr fod pob rhan o Gymru'n cymryd rhan o ddifrif yn y broses o drawsnewid gwasanaethau.

Felly, o ystyried yr hyn rydych newydd ei ddweud ynglŷn â'r rôl rydych yn credu y bydd y byrddau rhanbarthol yn ei chwarae, a allwch chi egluro sut y mae hynny'n cysylltu â'r bwrdd trawsnewid cenedlaethol? Ai'r bwrdd hwn fydd yn gyfrifol am drawsnewid y gwasanaeth iechyd gwladol yn y pen draw? Ac fel rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, mae ailstrwythuro prosesau busnes yn sgìl hynod ddiffiniedig ac mae'n cymryd llawer o brofiad i'w wneud yn llwyddiannus, yn enwedig mewn sefydliad mor fawr â'r GIG—a chofiwch, pan gyfeiriaf at y GIG, fy mod yn cyfeirio at y GIG a gofal cymdeithasol, oherwydd mae'r ddau'n rhan annatod o'i gilydd. Felly, hoffwn ddeall pa adnoddau ychwanegol y gallech fod yn eu rhoi ar waith i gefnogi'r bwrdd cenedlaethol a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol o ran pobl sydd â sgiliau ailstrwythuro prosesau busnes trawsnewidiol. A phryd y byddwch yn mesur—neu sut y byddwch yn rhoi cyfres o ddangosyddion perfformiad allweddol ar waith fel y cawn wybod pa mor dda y maent yn ei wneud a pha amserlenni y maent yn eu dilyn?

Diolch i chi am hynny. Gallaf gadarnhau bod y bwrdd cenedlaethol eisoes wedi cyfarfod, a'i rôl yw goruchwylio'r cynnydd ar gyflawni 'Cymru Iachach', yn hytrach na darparu, i bob pwrpas, ail gwrs gwneud penderfyniadau ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol unigol i gytuno ar gynigion y maent eisiau eu gwneud ar gyfer trawsnewid. Fy swyddogion i fydd yn edrych ar y cynigion hynny o hyd, ac yna yn fy nghynghori a ddylwn gytuno i ariannu'r cynigon a wneir ai peidio. Y rheswm am hynny yw oherwydd ein bod wedi cyhoeddi canllawiau yn barod, gydag eglurhad ynglŷn â'r meini prawf sydd i'w diwallu gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol wrth ddarparu'r prosiectau trawsnewidiol hynny. A'r rhai rydym wedi eu hamlygu yw bod yn rhaid iddynt fod yn wirioneddol drawsnewidiol—felly'n gwneud mwy nag ailddiffinio gwasanaeth cyfredol, sy'n bodoli'n barod—a bod â'r potensial hefyd i gyflawni ar raddfa fawr, oherwydd rwy'n edrych am drawsnewid gwirioneddol ar draws y system ac nid am gyfres o brosiectau micro sy'n ymwneud ag amgylchiadau mwy lleol ac arweinyddiaeth leol iawn. Rwy'n edrych am faint go iawn a'r gallu i dyfu yn yr hyn sydd gennym.

Rwy'n bwriadu mesur ein llwyddiant drwy broses o atebolrwydd. Mae gennym gronfa sy'n edrych i weld a ydym wedi trawsnewid ein sefyllfa mewn gwirionedd, a ydym yn cyflawni'r penawdau ac yn cyrraedd y targedau, y 40 o dargedau gwahanol sydd gennym yn 'Cymru Iachach' dros y cyfnod cychwynnol o dair blynedd. A gwn y byddwn yn cael ein barnu ar hynny. Bydd prosesau craffu yma, bydd cyfleoedd rheolaidd i ofyn cwestiynau i mi. Ond rhan o'r her, er mwyn i bob un o'r cynigion hynny drawsnewid y gwasanaeth, yw bod yn rhaid i mi fod yn barod, hyd yn oed gyda'r cyngor gorau a'r cynllun gwasanaeth gorau, gyda phobl o fewn y maes iechyd a'r maes gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd, ei bod hi'n bosibl na fydd pob un ohonynt yn llwyddo neu na fydd pob un yn llwyddo i gyflawni'r holl nodau ac amcanion a osodir yn erbyn pob cais a ddaw i law. Mae'n bwysig fy mod yn derbyn hynny o'r cychwyn cyntaf, oherwydd fel arall ni fyddwn yn gweld arloesedd go iawn ac ni fyddwn yn gweld dull trawsnewidiol go iawn o ailstrwythuro ein gwasanaethau i oresgyn heriau'r dyfodol.

Felly, ar gyfer pob cais, fe welwch yr hyn y mae'n ei gwmpasu, fe welwch y sail dros wneud fy mhenderfyniad ac fe welwch rywbeth am amserlen i weld a yw wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.

14:35

Mewn gwirionedd, rwy'n falch dros ben o'ch clywed yn dweud nad ydych yn disgwyl i bob cais unigol fod yn llwyddiannus, oherwydd yr allwedd i sicrhau bod y GIG yn cael ei ad-drefnu yw'r angen inni fod yn barod i dderbyn methiant, a bydd rhai methiannau ar hyd y ffordd gyda phob un o'r prosiectau hyn. Ond rydych yn sôn am y prosiectau—rydych yn sôn am y gronfa drawsnewid a'r arian a ddaw ohoni, ond wrth gwrs, roedd yr arolwg seneddol yn ymwneud â chymaint mwy na hynny, oherwydd soniai am weddnewid diwylliannol o fewn y GIG, am y newid hwn tuag at ofal sy'n canolbwyntio llawer mwy ar rymuso staff, gan alluogi gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i weithio o ddifrif yn ei ystyr lwyraf. Felly, tra bo'r holl brosiectau hynny ar y gweill a'ch bod yn defnyddio arian trawsnewid i ariannu'r 40 prosiect penodol, sut arall y caiff y neges hon ei chludo ledled y GIG? Sut arall y cewch gefnogaeth gan staff cyffredin sydd angen gallu cynnal y weledigaeth genedlaethol honno: dyma ble rydym eisiau i'n GIG fod ymhen 10 mlynedd; dyma lle rydym eisiau i'r ffocws fod? Yr hen ganolfannau arbenigol, y meddylfryd seilo—mae angen cael gwared arnynt i gyd. Mae'n rhaid i ni edrych ar hyn mewn ffordd wahanol, ac mae hynny'n effeithio ar bawb, o'r porthor i'r meddyg ymgynghorol mwyaf arbenigol rydym yn ei gyflogi ar hyn o bryd ac wrth gwrs, drwy'r holl haenau rheoli.

Felly, er ein bod yn croesawu'r gronfa drawsnewid—a'r prosiectau—ni all weithio ar ei phen ei hun, oherwydd ni fyddwch ond yn trwsio darnau bach o'r broblem wrth inni symud ymlaen. Mae'n rhaid i chi allu ymdrin â'r strwythur yn ei gyfanrwydd ac nid wyf yn gweld hynny na'n teimlo hynny: o ble y daw'r bobl i alluogi hynny, oherwydd nid elfen yn ymwneud â chost yw hynny bob amser. Mae'n ymwneud â newid diwylliannol ac ailstrwythuro'r modd y mae pobl yn gwneud swyddi penodol heddiw, ac nid yw'n rhywbeth sy'n rhaid ei roi mewn prosiect o reidrwydd er mwyn cael rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn ddigwydd.

Rwyf am eich atgoffa o'r ffaith eich bod wedi cydnabod bod yn rhaid i ni dderbyn na fydd rhai prosiectau yn llwyddo, os bydd hynny'n digwydd. Ond edrychwch, mae'r pwynt rydych yn ei wneud ynglŷn â newid diwylliannol yn bwynt rwy'n ei dderbyn yn llwyr. Ond bydd y gronfa drawsnewid yn arbennig yn ein helpu i hyrwyddo modelau gofal newydd. Bydd hynny'n rhan o greu newid diwylliannol, ond ni fydd yn gwneud hynny ynddo'i hun. Pe bawn yn dweud mai'r gronfa drawsnewid yw'r peth a fyddai'n cynhyrchu'r newid diwylliannol rydym eisiau ei weld, buaswn yn achosi i'r gronfa honno fethu o'r cychwyn, oherwydd mae'n ymwneud â llawer mwy na hynny mewn gwirionedd. Os edrychwch nid yn unig ar yr adolygiad, ond ar 'Cymru Iachach' ei hun, a derbyn y pedair prif golofn, mae rhan fawr o hynny'n ymwneud ag ymrwymiad y staff i helpu i ailstrwythuro ac ailgynllunio’r gwasanaeth. Nid yw hynny'n golygu un grŵp penodol o reolwyr, arweinwyr a chynllunwyr yn unig. Mae'n ymwneud â grŵp ehangach o staff yn cytuno mai hwy yw'r asiantau mwyaf effeithiol ar gyfer newid y gwasanaeth. Mae'n neges rwyf wedi'i rhoi'n rheolaidd wrth gyfarfod â staff a gwrando arnynt, a dweud, mewn gwirionedd, eu bod mewn sefyllfa freintiedig iawn, gan fod y cyhoedd yn ymddiried ynddynt mewn ffordd na fyddent byth yn ymddiried mewn unrhyw wleidydd yn y lle hwn, ac mae ganddynt gyfle i newid y system o'u profiad eu hunain a'u safbwynt eu hunain ynglŷn â ble mae gwastraff ac aneffeithiolrwydd a chyfle i wella. Mae sicrhau bod y newid diwylliannol yn iawn yn rhywbeth y byddant yn ei ddeall pan fydd wedi cael ei gyflawni, ond mae'n anos ei fesur. Serch hynny, os na allwn gynhyrchu'r newid diwylliannol, ni fyddwn yn cyflawni'r math o newid y credaf y bydd pawb, ni waeth beth yw eu plaid yn y lle hwn, eisiau ei weld ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol.

14:40

Diolch. Mae'ch Llywodraeth chi wedi rhedeg bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ers dros dair blynedd erbyn hyn. Nid ydym ni wedi gweld gwelliannau digon sylweddol eto, mae gen i ofn. Felly, beth ydy'r prif resymau pam rydych chi wedi methu yn hynny o beth?

Ers cyflwyno mesurau arbennig, rydym wedi cyhoeddi amrywiaeth o fframweithiau gwella, amrywiaeth o gamau gweithredu a chymorth rydym wedi'u cymryd. Wrth gwrs, byddwn yn ymdrin â mwy o hyn yng nghwestiwn 3, ond byddwch wedi sylwi dros yr haf, er enghraifft, ar y £6.8 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol rydym wedi'i wneud o fewn y bwrdd iechyd.

Mae'r rhesymau pam nad yw perfformiad y bwrdd iechyd wedi gwella i lefel y byddem yn ei galw'n dderbyniol ar bob cyfrif yn amrywiol. Mae yna heriau ynghylch arweinyddiaeth ganolog o fewn y bwrdd iechyd ac mae yna heriau ynghylch newid rhywfaint o ddiwylliant lleol o fewn y bwrdd iechyd yn ogystal. Rydym wedi gweld rhai gwelliannau, er enghraifft, mewn gwasanaethau mamolaeth, sydd wedi cael eu tynnu o'r categori mesurau arbennig. Rydym wedi gweld gwelliannau mewn rhai gwasanaethau y tu allan i oriau. Ond credaf fy mod wedi crybwyll y rhesymau am hynny, ynghyd â fy rhwystredigaeth gyda'r anallu i wneud cynnydd mor gyflym ar nifer o achlysuron—rwy'n siŵr y caf gyfle i wneud hynny eto—gan gynnwys yn y datganiad diwethaf a wneuthum yn y lle hwn cyn toriad yr haf.

Mi ydych chi, wrth gwrs, yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad yma yn aml eich bod chi'n teimlo bod gwelliannau'n digwydd mewn sawl maes, ond mae'n amlwg i fi bod yna rywbeth yn floc yn y system. Wn i ddim a ydy'n floc cyllidol neu floc o ran rheoli, neu a oes yna broblem sydd yn fwy creiddiol sydd angen mynd i'r afael â hi. Rydym ni'n sôn am yr angen i ddylifro gwasanaethau mwy a mwy yn y gymuned trwy feddygfeydd teulu a fferyllfeydd ac ati, ond mae gen i ofn mai symud i'r cyfeiriad arall yr ydym ni o ran defnydd adnoddau, efo ysbytai, sydd o dan bwysau mawr, wrth gwrs, yn cymryd mwy a mwy o siâr o'r gacen.

Rydw i'n gwybod nid ar chwarae bach y mae newid strwythurau, ond rydw i yn meddwl bod yr amser wedi dod i gael gwared ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydw i'n cynnig mai'r hyn sydd ei angen ydy ei rhannu fo, nid yn ddaearyddol, ond ei rhannu fo yn haenau—yn ysbytai a gofal sylfaenol. Mi fyddai cyllidebau gofal sylfaenol yn cael eu gwarchod a'r bwrdd gofal sylfaenol yn gallu creu model newydd o integreiddio go iawn efo gofal cymdeithasol, tra bo'r ysbytai yn gallu canolbwyntio ar eu heriau hwythau. A oes gan y Llywodraeth, fel finnau, yr awydd i chwilio am atebion o'r newydd?

Wrth gwrs fy mod eisiau gweld Betsi Cadwaladr yn llwyddo. Rwyf eisiau i'r bwrdd iechyd gyflawni gofal iechyd o'r math o ansawdd y byddai pob un ohonom, ym mhob cymuned, yn ei ddisgwyl. Nid yw'r mwyafrif llethol o staff o fewn y bwrdd iechyd yn cefnogi eich argymhelliad i rannu'r bwrdd iechyd—rydym wedi bod drwy hyn mewn ymatebion ganddynt. Ac nid wyf yn credu y byddai'r ailstrwythuro rydych yn ei awgrymu yn darparu gwasanaeth gwell. Rydym wedi ceisio rhannu ysbytai a gofal sylfaenol yng Nghymru yn y gorffennol, ac ni lwyddodd hynny i ddarparu'r math o welliant roeddem ei eisiau. Nid yw rhannu ymddiriedolaethau ysbytai a gofal sylfaenol wedi sicrhau'r math o welliant y byddai pawb ei eisiau yn Lloegr ar draws y system gyfan chwaith. Felly, buaswn yn cymell yr Aelod i bwyllo rhag awgrymu y bydd y math hwnnw o ailstrwythuro yng ngogledd Cymru yn darparu'r canlyniadau y byddai pob un ohonom, rwy'n credu, yn dymuno eu gweld yn y pen draw.

Canlyniad eich pwyll, welwch chi, yw'r ffaith bod Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun mesurau arbennig ers dros dair blynedd bellach. Rwy'n sicr yn fy meddwl fod cleifion gogledd Cymru yn haeddu gwell. Ac yma mae gennym fodel y credaf y gallai weithio i Gymru gyfan ar ôl cael ei gyflwyno yn y bwrdd iechyd sydd â'r boblogaeth fwyaf ac sy'n gwasanaethu'r ardal fwyaf. Mae'r bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru yn gallu gweld y broblem. Ac mae'r staff, sy'n dweud wrthyf eu bod yn hoffi'r syniad hwn o wneud rhywbeth gwahanol i geisio mynd i'r afael â'r broblem yn y ffordd y mae'r Llywodraeth hon wedi methu ei wneud hyd yn hyn, yn rhwystredig ac maent o dan bwysau. Drwy roi model ar waith sy'n diogelu cyllidebau gofal sylfaenol ac yn cadw pobl allan o ofal eilaidd, sy'n caniatáu i ofal eilaidd ganolbwyntio ar ei heriau niferus ac sy'n rhoi ffocws newydd ar integreiddio—. Wel, rwy'n credu, drwy wneud hynny, y gallem fod yn mynd i'r cyfeiriad cywir. O ystyried nad yw mesurau arbennig yn gweithio, onid yw'n bryd cael mesurau radical yn lle hynny?

14:45

Ceisiais fod yn gwrtais wrth yr Aelod yn fy ail ateb, i roi cyfle iddo ailystyried y trywydd roedd yn ei ddilyn. Mae'n rhaid i mi ddweud nad gorchymyn i ailstrwythuro iechyd yng ngogledd Cymru yn unig yw hwn, ond nid yw eich cynllun—ar ran eich plaid rwy'n cymryd—i ddinistrio'r ffordd rydym yn trefnu ac yn gweithredu'r gwasanaeth iechyd gwladol ym mhob cwr o Gymru yn rhywbeth y buaswn yn ei gefnogi o gwbl. Y peth olaf sydd ei angen ar ein gwasanaeth iechyd yw ad-drefnu strwythurol mawr fel yr un rydych newydd ei argymell. Byddai'n ymyrraeth ychwanegol â'r nod o ddarparu gofal iechyd yn yr amgylchiadau mwyaf heriol, gyda phwysau ariannol ychwanegol, heriau Brexit ar y gorwel, yr heriau iechyd cyhoeddus ychwanegol y mae pawb ohonom yn gwybod ein bod yn eu hwynebu, a phoblogaeth sy'n heneiddio, a byddai'n rhwystr ychwanegol i integreiddio o fewn y gwasanaeth iechyd, heb sôn am gyflawni'r cynllun 'Cymru Iachach', a luniwyd ac a gytunwyd gan lywodraeth leol ac iechyd, gan weithio gyda'i gilydd am y tro cyntaf i gyflawni cynllun iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd, gyda chefnogaeth y trydydd sector a'r sector tai. Credaf fod y cynnig rydych yn ei wneud yn un ffôl. Mae'n mynd yn erbyn safbwynt pob sylwebydd ac arbenigwr uchel ei barch ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Hyd yn oed yn Lloegr, mae Simon Stevens yn cydnabod eu bod wedi gwneud y peth anghywir wrth wahanu ymddiriedolaethau a gofal sylfaenol. Mae bellach yn edrych ar fodelau gofal integredig yn Lloegr. Ni fydd yn dweud 'Edrychwch ar yr Alban neu Gymru' pan fydd yn edrych arnynt; bydd yn edrych ymhellach i ffwrdd. Prin y gall ddweud wrth y Torïaid yn Lloegr ei fod yn hoffi'r syniad o fodelau gofal iechyd integredig. Nid oes neb sydd o ddifrif ynglŷn â threfniadaeth a gweithrediad gwasanaeth iechyd modern yn cytuno â'r cynllun rydych yn ei gynnig, ac awgrymaf yn gryf eich bod yn mynd yn ôl i ailystyried eich safbwynt.      

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn eisiau gofyn cwestiynau i chi heddiw am bresgripsiynu cymdeithasol. Fel y gwyddoch, mae presgripsiynu cymdeithasol—cyfeirir ato weithiau fel atgyfeirio cymunedol—yn fodd o alluogi meddygon teulu, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i atgyfeirio pobl at amrywiaeth o wasanaethau lleol ac anghlinigol. Felly, mae'n hyrwyddo ymagwedd fwy cyfannol at faterion iechyd ac fel y cyfryw, credaf ei fod yn ddatblygiad i'w groesawu.

Nawr, cydnabyddir yn eang fod gan Gymru broblem fawr gyda gordewdra, gyda 59 y cant o oedolion yng Nghymru yn ordew ac yn fwy pryderus byth, mae'r ffigurau ar gyfer plant hefyd yn dangos bod bron i chwarter o blant Cymru yn ordew. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog y defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol i fynd i'r afael â phroblem ordewdra?

Mae'r Llywodraeth hon eisoes wedi mabwysiadu dull o hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol a datblygu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ei effaith ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Rwyf wedi gwneud cyfres o gyhoeddiadau am amrywiaeth o brosiectau rydym yn eu cefnogi gydag adnoddau ychwanegol. Efallai eich bod wedi'u methu; rwy'n hapus i'ch cyfeirio atynt eto. Yn ogystal â hynny, efallai y byddwch eisiau edrych ar enghreifftiau rhagorol o bresgripsiynu cymdeithasol ar raddfa fawr, mae rhai ohonynt yn digwydd yng ngogledd Cymru ar sail y bwrdd iechyd ehangach, ac wrth gwrs, mae pencadlys menter ragorol Camau'r Cymoedd wedi'i leoli yng Nghwm Cynon. Felly, rydym yn cydnabod yr achos dros fwy o bresgripsiynu cymdeithasol. Byddwn yn edrych ar fwy o dystiolaeth mewn perthynas â'r hyn y gallwn ei wneud ag ef. Nid yw'n ymwneud yn unig â chynnal pwysau iachach, mae'n ymwneud ag amrywiaeth o fanteision posibl rydym yn awyddus i'w deall a manteisio arnynt yn briodol.

Ie, credaf eich bod yn iawn fod angen amrywiaeth o ddulliau i fynd i'r afael â'r broblem, ac rwy'n falch o glywed eich bod yn o ddifrif ynghylch presgripsiynu cymdeithasol. Nawr, fel y dywedais, rwy'n credu bod defnyddio'r dull hwn yn syniad da. Fodd bynnag, rhan o'r broblem gyda darparwyr presgripsiynu cymdeithasol yw bod llawer o weithgareddau yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr a'r sector elusennol, felly gallant fod yn agored i newidiadau cyllido dros y tymor hwy. A yw'r Llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i glustnodi cyllid ar gyfer rhai o'r prosiectau hanfodol hyn yn y dyfodol?

Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf, rwyf wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i gefnogi prosiectau presgripsiynu cymdeithasol penodol a drefnir gan amrywiaeth o bobl yn y sector gwirfoddol yn arbennig. Yn aml, rhan o'r her mewn perthynas â phresgripsiynu cymdeithasol—mae'r rhain yn weithgareddau cost isel neu'n weithgareddau rhad ac am ddim beth bynnag—yw annog pobl i wneud defnydd ohonynt. Efallai y byddwch eisiau edrych ar y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, sef cynllun sydd wedi bod ar y gweill ers nifer o flynyddoedd. Bydd nifer o'r Aelodau'n gyfarwydd ag ef yn y Siambr hon, ac mae wedi esgor ar ganlyniadau rhagorol o ran helpu i wella iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl. Ond wrth gwrs, byddwn bob amser yn adolygu'r swm o arian sydd ar gael i geisio cyflawni'r amcanion rydym eisiau eu cyflawni dros bobl Cymru. Byddwn yn parhau i wneud hynny, wrth gwrs, yn wyneb y cyni parhaus.

Ie, diolch am yr ateb hwnnw. Fe ymdrechaf i ymgyfarwyddo â'r adroddiadau a grybwyllwyd gennych yn fwy manwl. Nawr, mae yna un adroddiad rwyf am gyfeirio ato. Cafwyd adroddiad hyb gofal sylfaenol yn ddiweddar ar bresgripsiynu cymdeithasol a nodai fod yna ddiffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynglŷn â phresgripsiynu cymdeithasol. Yn amlwg, er mwyn i bresgripsiynu cymdeithasol weithio, mae angen i'r cyhoedd fod yn ymwybodol iawn ohono a meddygon teulu hefyd wrth gwrs. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i gynyddu gwybodaeth am bresgripsiynu cymdeithasol ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol a hefyd ymysg meddygon teulu?

14:50

Rwy'n gyfarwydd â'r hyb gofal sylfaenol sydd wedi'i leoli o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru a'u hadroddiad ar bresgripsiynu cymdeithasol. Mae yna her, rwy'n credu, yn wynebu bob un ohonom o ran y ffordd rydym yn sôn am faterion gofal iechyd yn y Siambr hon a chyda'r cyhoedd yn ehangach. Nid wyf yn disgwyl i'r cyhoedd ddod yn fwy cyfarwydd â'r term 'presgripsiynu cymdeithasol' mewn termau cyffredinol neu ddeall beth ydyw, oherwydd mae presgripsiynu cymdeithasol yn golygu amrywiaeth o bethau. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â sut rydym yn ailnormaleiddio sgwrs am wahanol ffyrdd o helpu pobl i gyrraedd eu nodau iechyd a llesiant ar draws iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Nid wyf yn credu bod angen i chi wybod, er enghraifft, os ydych yn ymuno â'ch grŵp cerddwyr lleol, fod hwnnw'n un llwybr presgripsiynu cymdeithasol. Mae'n ymwneud mwy â sut y cewch gymorth i gyflawni nodau gwahanol i wella eich iechyd a'ch lles, a chredaf ein bod, yn rheolaidd, wedi defnyddio iaith sy'n rhwystro'r cyhoedd rhag gallu cymryd rhan mewn sgwrs hyddysg. Oherwydd, mewn gwirionedd, os ydych yn dweud, 'Pe baech yn gwneud y gweithgaredd hwn neu pe baech yn ymuno â grŵp penodol, gallai fod o fudd', dyna'r math o sgwrs y mae angen inni ei hailstrwythuro ac mae hynny, mewn sawl ffordd, yn ymwneud â chael mynediad at wybodaeth am yr hyn sydd eisoes ar gael yn ogystal â datblygu sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr effaith ar lesiant corfforol a meddyliol.

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

3. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r cynnydd a wnaed dros y chwe mis diwethaf i ddatrys problemau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ52607

Yn fy natganiadau rheolaidd ar fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, rwyf wedi nodi'r manylion ynglŷn â ble y gwnaed gwelliannau, megis yn y gwasanaethau mamolaeth, ond rwyf hefyd wedi bod yn glir iawn ynglŷn â ble y mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd gymryd camau brys dros y 18 mis nesaf. Ym mis Mai eleni cyhoeddais fframwaith gwella newydd ar gyfer Betsi Cadwaladr a chyhoeddais amrywiaeth o gymorth dwys, gan gynnwys y £6.8 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad a grybwyllais yn gynharach yn fy sgwrs gyda Rhun ap Iorwerth, ac rwyf wedi targedu meysydd perfformiad allweddol lle rwy'n disgwyl gweld gwelliannau brys. Bydd adroddiadau cynnydd manwl yn cael eu darparu yn erbyn y fframwaith gwella. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref eleni.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gobeithio eich bod yn gyfarwydd ag achos brawychus a thrallodus Reece Yates, y baban a fu farw yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac y cynhaliwyd ei gwest ddoe. Fel y gwyddoch, mae hon yn un o ysbytai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Clywodd y cwest y byddai Reece wedi bod yn fwy tebygol o oroesi ei gymhlethdodau pe bai wedi cael ei drin yn rhywle arall, ac mai diffyg cyfathrebu oedd yr unig beth a wnaeth atal camau i'w drosglwyddo i uned ar y Wirral. Cyfaddefodd y bwrdd, er mai drwy eu cyfreithiwr y digwyddodd hynny, ac rwy'n dyfynnu yma:

Byddai gobaith Reece o oroesi wedi bod yn well pe bai wedi cael ei eni mewn uned arall.

Mae'n gyfaddefiad syfrdanol fod methiannau yn yr ysbyty yn ffactor ym marwolaeth y baban hwn, er fy mod yn credu y dylid rhoi cydnabyddiaeth i'r bwrdd am fod yn onest. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: a fyddwch yn cynnal ymchwiliad i'r achos hwn ac os oes angen, a fydd pobl yn cael eu diswyddo o'r diwedd am fethiannau angheuol y bwrdd iechyd rydych yn gyfrifol amdano?

Rwy'n cydymdeimlo'n aruthrol â'r teulu yn eu colled. Nid wyf am geisio defnyddio eu sefyllfa i gael cydnabyddiaeth na sgorio pwyntiau. Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig, ym mhob achos o'r math hwn, yw bod yna adolygiad mewnol yn cael ei gynnal er mwyn darganfod beth ddigwyddodd a beth aeth o'i le. Yn gynharach, roeddem yn trafod cwestiwn arall ynglŷn ag effeithiau gwirioneddol a pharhaol pan fo gofal iechyd yn mynd o chwith, gan gynnwys y posibilrwydd y bydd pobl yn colli eu bywydau. Wrth gwrs, rwy'n disgwyl y bydd pob rhan o'r gwasanaeth iechyd, nid gogledd Cymru yn unig, yn dysgu'n briodol o gamgymeriadau mewn gofal iechyd ac yn darparu'r sicrwydd y bydd pobl ei eisiau. Nid wyf am fachu ar gyfle i ddiswyddo pobl o fewn y gwasanaeth iechyd yn fympwyol, ond rwy'n disgwyl y bydd atebolrwydd priodol a gwersi'n cael eu dysgu, sef yr hyn y mae'r cyhoedd ehangach yn ei ddisgwyl rwy'n credu.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn, wrth gwrs, fod yr uned gofal dwys ar gyfer babanod, y SuRNICC, bellach wedi agor yng Nglan Clwyd ac mi fyddai'n braf medru llongyfarch y Llywodraeth ar ei gweledigaeth yn hynny o beth. Ond, wrth gwrs, y gwir plaen yw bod y Llywodraeth a'r bwrdd iechyd, yn ôl yn 2013, wedi cymeradwyo israddio gofal dwys i fabanod newydd-anedig yn y gogledd. Bryd hynny, y cynllun oedd symud y gwasanaeth i Arrowe Park yng ngogledd-orllewin Lloegr. Nawr, dim ond ymgyrch nerthol gan drigolion y gogledd orfododd y Llywodraeth i newid cyfeiriad. Felly, mi hoffwn i ddefnyddio'r cyfle yma i longyfarch yr ymgyrchwyr hynny ar eu dycnwch a'u dyfalbarhad. Mi wnaeth eu hymgyrch nhw newid meddyliau y bwrdd iechyd ac mi wnaeth e newid meddwl y Llywodraeth hefyd, gan sicrhau bod SuRNICC yn cael ei ddatblygu fel canolfan gwasanaethau gofal dwys yn y gogledd ar ran babanod y dyfodol. Felly, a wnewch chi ymuno â fi i longyfarch yr ymgyrchwyr hynny ar eu llwyddiant ac i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion diflino?

14:55

Roedd amryw o bobl, wrth gwrs, yn rhan o drafodaethau ac ymgyrchoedd ar y pryd, ac edrychodd y Llywodraeth eto a chynnal adolygiad, ac fe wnaeth y Prif Weinidog benderfyniad yn dilyn adolygiad arbenigol, sydd bellach wedi arwain at agor y ganolfan isranbarthol ar gyfer gofal newyddenedigol dwys. Mae yna bobl yn y Siambr hon a gymerodd ran yn yr ymgyrch honno, a gwelaf yr Aelod lleol yn edrych arnaf, ac wrth gwrs roedd hi'n un o'r rhai hynod o ddi-flewyn-ar-dafod ar y pryd, nid yn unig yn gyhoeddus, ond yn breifat yn ogystal, fel y cofiaf.

Y stori lwyddiant yw ein bod wedi dewis buddsoddi mewn adnoddau ychwanegol sylweddol yn dilyn hynny ac mewn gwirionedd, pan ymwelais â'r uned cyn ei hagor yn ffurfiol gwelais bobl a oedd wedi derbyn gofal ac roeddent yn hynod o gadarnhaol ynglŷn ag ansawdd y gofal roeddent wedi'i dderbyn. Dysgais fod rhai aelodau o staff wedi dweud nad oeddent yn credu'n iawn y byddai'n digwydd mewn gwirionedd, hyn yn oed pan oedd y gwaith adeiladu'n mynd rhagddo, ac mae rhywbeth yno ynglŷn â diffyg ymddiriedaeth ac mae angen i ni barhau i ailadeiladu'r ymddiriedaeth honno gyda'n staff a'r cyhoedd y bydd y penderfyniadau rydym yn eu gwneud yn cael eu gwireddu. Ond mae'r staff sy'n gweithio ar y ward yn awr yn cydnabod bellach fod ganddynt gyfleusterau o'r radd flaenaf, maent yn falch o'r gofal y maent yn ei ddarparu, ac yn bwysicach, rwy'n credu y gall pobl gogledd Cymru fod yn hyderus ac ymfalchïo yn ansawdd y gwasanaeth yn dilyn y buddsoddiad y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud.

Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno system Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau ar draws holl ysbytai Cymru? OAQ52577

Gwnaf. Mae pum bwrdd iechyd wedi rhoi'r system drawsgrifio meddyginiaethau ac e-ryddhau ar waith o fewn eu hysbytai. Byddaf yn cyfeirio ato o hyn ymlaen fel y system MTeD; bydd yn gwneud pethau'n haws ac yn gynt. Mae gan y ddau fwrdd iechyd sy'n weddill eu systemau lleol eu hunain gyda swyddogaethau tebyg i MTeD o ran darparu gwybodaeth am ryddhau cleifion i feddygon teulu.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n cefnogi'r hyn rydych wedi bod yn ei ddweud ynghylch rhyddhau electronig ac rwy'n croesawu'r cynnydd a wnaed wrth geisio cyflawni hynny. Clywaf yr hyn a ddywedwch am MTeD, ond rwyf hefyd wedi clywed yn ddiweddar fod gwasanaeth newydd, mwy integredig yn cael ei ddatblygu a fydd, neu a fyddai'n gallu, disodli'r MTeD yn y pen draw. A yw hyn yn wir? Ymddengys ychydig yn od, os oes system newydd yn cael ei datblygu cyn i'r MTeD gael ei roi ar waith ledled Cymru, ein bod yn dilyn y trywydd hwn ar hyn o bryd.

Credaf y byddai'n ffôl ceisio oedi MTeD a cheisio gwneud rhywbeth gwahanol. Os edrychwch ar yr hyn rydym wedi'i wneud, mae'n rhan o borth clinigol Cymru. Mae ymarferwyr yn gyffredinol yn gefnogol iawn iddo ac yn gadarnhaol yn ei gylch—nid yn unig ymarferwyr mewn ysbytai a meddygon teulu ond o fewn y byd fferylliaeth hefyd—ac mae yna gydnabyddiaeth ein bod mewn sefyllfa well na Lloegr, lle maent yn ceisio cyflwyno rhywbeth sydd â swyddogaethau tebyg, ac yn yr Alban, er bod ganddynt beth offer ar gyfer rhyddhau cleifion yn electronig, system sy'n seiliedig ar bapur sydd ganddynt i raddau helaeth. Felly, rwy'n credu bod angen i ni gyflwyno rhywbeth sy'n gyson ac yna deall sut y byddem yn gallu datblygu a gwella hwnnw yn y dyfodol, ac mae gennyf fwy o uchelgais byth i wella'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty, gwneud mwy o ddefnydd o bresgripsiynu electronig a rhannu gwybodaeth ar draws ein system iechyd ac yn benodol, gweld beth arall y gall fferylliaeth gymunedol ei wneud i helpu i wella'r broses o drosglwyddo gwybodaeth a phobl o'r ysbyty er mwyn gwneud yn siŵr fod eu meddyginiaethau'n barod ar eu cyfer pan fyddant yn cael eu rhyddhau i'w lleoliadau eu hunain.

Heriau Recriwtio yn y GIG

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â heriau recriwtio yn y GIG? OAQ52575

Rydym yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd ac o fis Hydref ymlaen wrth gwrs, Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar heriau recriwtio gyda chamau gweithredu tymor byr, tymor canolig a hirdymor. Mae hyn yn cynnwys ein hymgyrch lwyddiannus 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', cynyddu lleoedd ysgolion meddygol a gweithio i sicrhau bod mwy o fyfyrwyr o Gymru yn astudio er mwyn dod yn weithwyr proffesiynol gofal iechyd.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd iechyd, ond un peth na wnaethoch sôn amdano oedd ansawdd llety ar gyfer staff y GIG, a ddarperir gan y byrddau iechyd yn aml iawn. Yr adborth rwyf wedi'i dderbyn gan staff yng ngogledd Cymru dros y misoedd diwethaf yw bod ansawdd y llety yn gwbl warthus a bod hynny'n atal pobl rhag ceisio dod i weithio yn y rhan honno o'r wlad. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa gamau rydych yn bwriadu eu cymryd, Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau bod llety gweddus yn cael ei ddarparu ar gyfer staff y GIG lle mae byrddau iechyd yn gyfrifol am lety. Mae gennym safon ansawdd tai Cymru, sy'n berthnasol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, ond nid yw'n ymddangos ei bod yn berthnasol i ansawdd llety byrddau iechyd. Pa waith rydych yn bwriadu ei wneud i sicrhau ein bod yn codi safonau yn hyn o beth?

Wel, yng ngogledd Cymru, rwy'n ymwybodol o sgyrsiau parhaus ynglŷn â'r angen i wella ansawdd eu llety a ph'un a oes angen i'r gwasanaeth iechyd ei hun ei ddarparu neu beidio. Neu gellid creu partneriaeth, er enghraifft, gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chymdeithasau tai i helpu i fuddsoddi mewn cyfleuster a sicrhau ei fod yn cael ei reoli'n well ac yn fwy rhagweithiol. Felly, mae'n broblem rwy'n ymwybodol iawn ohoni ac rwy'n bwriadu cymryd camau gweithredu pellach. Ac wrth gwrs, rydym yn cydnabod ein bod, yn wahanol i rai rhannau o'r DU, yn parhau i ddarparu llety am ddim ar gyfer meddygon yng nghyfnod sylfaen 1 yn ogystal. Felly, rwy'n cydnabod yr heriau. Dylai gwella'r cynnig olygu ein bod yn lle hyd yn oed yn fwy deniadol i bobl sydd eisiau dod ac ymrwymo i yrfa yma.

15:00

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r ffaith bod niferoedd nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn uwch nag erioed yma yng Nghymru, a deallaf fod ymestyn y rhaglen 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' i nyrsys cofrestredig wedi creu llawer o ddiddordeb ymysg nyrsys cymwysedig sy'n ystyried gyrfa yng Nghymru, a bod hyn wedi arwain at rai nyrsys yn cael swyddi ochr yn ochr â'r rheini a recriwtiwyd yn uniongyrchol gan sefydliadau'r GIG. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i olrhain straeon llwyddiant 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' er mwyn dysgu mwy am yr hyn a wnaeth iddynt ddewis gyrfa yng Nghymru, er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwn?

Rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw at y rhan recriwtio nyrsys o 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' a'r ffaith nad ymgyrch i recriwtio meddygon teulu neu feddygon arbenigol yn unig ydyw. Mewn gwirionedd, mae'r adborth rydym eisoes wedi'i gael gan bobl sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.'—a chyfarfûm â nifer ohonynt yng nghynhadledd y Coleg Nyrsio Brenhinol ym Melffast—yn dweud bod yr ymgyrch yn weladwy ac yn uchel ei phroffil yn y byd nyrsio, a byddwn yn sicr yn defnyddio straeon go iawn am nyrsys sydd wedi gwneud y penderfyniad i ddod i Gymru yn sgil yr ymgyrch honno. Gallwch weld peth o'r llwyddiant parhaus yn ein dull gweithredu, oherwydd mae yna heriau'n wynebu amrywiaeth o faterion recriwtio ledled y DU, ond tua 5 y cant yw'r gyfradd swyddi nyrsio gwag yn GIG Cymru. Yn Lloegr, mae'n 11.8 y cant. Felly, rydym mewn sefyllfa well, ond yr her yw gwneud yn siŵr nad ydym yn colli golwg ar ein sefyllfa, a'n bod yn parhau i wella. Mewn gwirionedd, pe baech yn siarad â'r nyrsys eu hunain, rwy'n credu y byddent yn dweud wrthych beth y mae nyrsys eraill yn ei feddwl am eu taith, er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn stori y gallant gredu ynddi. Felly, byddwn yn bendant yn codi'r pwynt rydych yn ei godi wrth barhau â'r ymgyrch.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf finnau hefyd yn croesawu'r cynllun 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', yn ogystal â'r fwrsariaeth, a chroesawaf y ffaith bod y fwrsariaeth yn dal i gael ei chadw yma yng Nghymru er bod y Torïaid yn Lloegr wedi'i dileu. Mae hynny'n allweddol er mwyn sicrhau bod mwy o ddinasyddion Cymru yn dod i mewn i'r proffesiwn. Ac nid yw'n ymwneud â nyrsio yn unig, wrth gwrs; mae'n ymwneud â phroffesiynau eraill perthynol i iechyd yn ogystal. A allwch chi roi sicrwydd i mi y bydd y fwrsariaeth yn parhau, ac a allwch chi ymhelaethu arni? Oherwydd fel y dywedoch chi, rydym angen mwy o nyrsys a mwy o weithwyr iechyd proffesiynol eraill yn ein hysbytai, yn ein gwasanaethau, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu'r gwasanaethau hynny, fel nad ydym yn gorfod cael gwared ar welyau.

Rwy'n cydnabod y pwynt a wnewch am y fwrsariaeth, felly rwyf wedi gwneud penderfyniadau blynyddol i barhau â'r fwrsariaeth. Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben bellach. Rwy'n credu ein bod wedi cael ymatebion gan dros 40 o wahanol sefydliadau a nifer o unigolion. Felly, byddaf yn cael crynodeb o'r ymgynghoriad ac yna bydd gennyf benderfyniadau i'w gwneud dros yr hydref mewn perthynas â threfniant mwy hirdymor fel nad oes angen i ni wneud penderfyniad yn flynyddol, ond rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn parhau i fuddsoddi er mwyn cynorthwyo nyrsys i ddod i astudio yma ac i roi cyfle iddynt a disgwyliad o waith yn GIG Cymru yn dilyn hynny.

Rydym wedi gweld effaith diddymu'r fwrsariaeth yn Lloegr, nid yn unig ar y niferoedd sy'n dod oddi ar y gofrestr, ond mewn meysydd arbenigol yn arbennig. Mae nyrsys anableddau dysgu yn enghraifft dda. Mae'n faes nad yw'n cael ei drafod yn aml, ond y realiti yw bod nyrsys anableddau dysgu yn tueddu i fod yn fyfyrwyr aeddfed, yn fwy felly nag mewn rhannau eraill o'r teulu nyrsio, ac yn Lloegr, gyda diddymu'r fwrsariaeth, cafwyd gostyngiad trychinebus yn nifer y bobl sy'n anelu i gael cymwysterau nyrsio anableddau dysgu. Gwn fod rhai darparwyr wedi cau eu cyrsiau. Nawr, problem i Loegr yw honno ar hyn o bryd, ond mae'n risg i ni hefyd mewn gwirionedd oherwydd wrth i ni gynnal ein niferoedd, mae'n bosibl iawn y bydd nyrsys anableddau dysgu yng Nghymru yn cael eu denu gan rannau eraill o'n system gofal iechyd. Felly, gallwch weld y risgiau, gallwch weld y difrod sy'n cael ei wneud, a buaswn yn annog Llywodraeth Lloegr i feddwl eto am y trywydd y mae'n ei ddilyn i gefnogi nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill ac i ailgyflwyno bwrsariaeth, a gobeithio y byddwch chi ac Aelodau eraill yn y Siambr yn cefnogi'r penderfyniad y byddaf yn ei wneud yn y pen draw mewn perthynas â sut i barhau i gynorthwyo nyrsys a therapyddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i astudio yma yng Nghymru.

Hyrwyddo Iechyd Corfforol Ymysg Pobl Ifanc

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyrwyddo iechyd corfforol ymysg pobl ifanc? OAQ52589

Rydym yn darparu nifer o ddulliau i gefnogi iechyd corfforol. Mae gennym raglenni wedi'u targedu megis y filltir ddyddiol, deddfwriaeth drwy ddarparu strategaeth ordewdra ac isafswm pris fesul uned, darpariaethau fel gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu a rheoli pwysau, canllawiau drwy safonau maeth mewn ysgolion a chynlluniau drwy asesiadau effaith ar iechyd.

Diolch yn fawr am yr ateb. Roedd hwn yn achos o orfod geirio cwestiwn yn ofalus iawn, oherwydd petaswn i wedi gofyn fel roeddwn i eisiau ynglŷn â gweithgaredd corfforol yn hytrach na iechyd corfforol, mi fuasai'r cwestiwn wedi mynd i Weinidog arall, ond, wir, i chi'r mae'r cwestiwn yma achos, wrth gwrs, mae hybu gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff yn allweddol i hybu iechyd. Wrth i ni aros am adroddiad beiddgar, gobeithio, gan y pwyllgor iechyd yma yn y Cynulliad, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo fi ar fater o egwyddor, sef bod angen edrych ar sut i ddefnyddio cyllidebau iechyd i fuddsoddi mewn gweithgaredd corfforol? Achos os ydym ni’n sôn am atal afiechydon a gwneud yr NHS yn wasanaeth iechyd yn hytrach na gwasanaeth salwch, mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod pob ffynhonnell ariannol ar gael i greu’r cynlluniau a rhaglenni iechyd hirdymor a darparu’r isadeiledd ar gyfer iechyd yr ydym ni ei angen i’n gwneud ni’n genedl fwy iach. Achos bydd gwneud y genedl yma’n fwy iach yn arbed arian i ni yn y pen draw hefyd.

15:05

Rwy'n cydnabod y pwyntiau cyffredinol rydych yn eu gwneud ac nid wyf yn credu y byddwn yn anghytuno ar yr egwyddorion. Edrychaf ymlaen at adroddiad y pwyllgor, a byddwch yn clywed mwy gan y Llywodraeth dros yr hydref. Gwyddoch ein bod yn ymrwymedig, nid yn unig i ddeddfwriaeth, ond rydym wedi gwneud ymrwymiadau cyhoeddus am ein strategaeth newydd ar bwysau iach, a fydd yn destun ymgynghoriad yn ystod yr hydref hwn yn ogystal. Wrth gwrs, mae gan y gyllideb iechyd rôl i'w chwarae yn y ffordd y byddwn yn defnyddio adnoddau i hyrwyddo gweithgarwch corfforol, a ni wedi'r cyfan yw'r cyflogwr mwyaf yn y wlad gyda dros 90,000 o staff yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol o fewn y gwasanaeth. Felly, dylem fod yn esiampl ein hunain o ran y cyfleoedd rydym yn eu darparu a'r negeseuon rydym yn eu rhoi i'n staff yn eu rolau fel gweithwyr, yn ogystal â'u hymwneud â'r boblogaeth.

Daw hyn â mi yn ôl, i raddau, os mynnwch chi, at y pwynt pwysig am y newidiadau diwylliannol ehangach sydd angen eu gweld yn digwydd, ynghyd ag ailnormaleiddio meysydd o weithgarwch corfforol. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni weithio ar draws y Llywodraeth gyda phortffolios gwahanol, yn ogystal â gweithio gyda phobl yn y cymunedau hefyd, a deall sut y gallwn wneud gweithgarwch corfforol yn haws iddynt mewn gwirionedd, yn hytrach na dweud, 'Dylech wneud hyn; mae'n beth da i chi ei wneud'. Mewn gwirionedd, mae angen i ni ei wneud yn haws iddynt. Felly, byddwch yn clywed mwy gan y Llywodraeth dros yr hydref ynglŷn â'r hyn y bwriadwn ei wneud, ac edrychaf ymlaen at waith craffu ac awgrymiadau, yn wir, ynglŷn â sut y gallem ddewis gwneud hynny a'i gyflawni yn y modd mwyaf cadarnhaol, rwy'n gobeithio.

Gall addysg awyr agored chwarae rhan bwysig yn annog ein pobl ifanc i fod yn heini a gall hefyd roi'r sgiliau a'r hyder iddynt wneud hynny. Gwn eich bod newydd sôn yn awr am beth o'r gwaith trawslywodraethol rydych yn ei wneud, ond yn benodol gyda'ch cyd-Aelod Kirsty, beth rydych yn ei wneud yno er mwyn ceisio hyrwyddo manteision addysg awyr agored?

Gwn fod eich proffesiwn blaenorol yn yr haen addysg uwchradd, ond mewn gwirionedd, pan fyddwch yn edrych ar yr hyn rydym ni, yn benodol, yn ceisio ei wneud, mae patrymau bywyd yn aml yn cael eu gosod yn ystod y blynyddoedd cynnar ac yn yr ysgol gynradd, ac mae llawer iawn o addysg awyr agored ym mron pob un o'r ysgolion cynradd rwyf wedi'u gweld ac wedi ymweld â hwy. Mae'n rhan gyson o'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni. Ac nid yn unig hynny, ond mewn perthynas â'r filltir ddyddiol, mae 303 o ysgolion wedi cofrestru ar ddechrau'r flwyddyn ysgol hon i wneud y filltir ddyddiol, ac mae rhywbeth ynglŷn â newid arferion fel ei bod yn normal i wneud y pethau hynny yn hytrach na bod angen ymdrech arbennig i'w gwneud. Rydym yn gweld mwy o hynny, nid yn unig gyda diwygio'r cwricwlwm, ond gyda'r mesurau y bydd y Llywodraeth yn eu cyflwyno ac y gallwn gytuno arnynt a bwrw ymlaen â hwy o'r hydref hwn ymlaen. Felly, rwy'n optimistaidd ynglŷn â'r hyn y byddwn yn ei wneud, ond yr her yw perswadio'r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwahanol a pharhaus. 

Gwasanaethau i Gefnogi Plant ag Arthritis yng Nghanol De Cymru

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd gwasanaethau i gefnogi plant ag arthritis yng Nghanol De Cymru? OAQ52597

Rydym yn adnewyddu'r gyfarwyddeb ddatblygu a chomisiynu gwasanaeth ar gyfer arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol cronig. Mae'n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau a chymorth o ansawdd uchel ar gyfer pobl sy'n byw gyda'r cyflyrau hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau cyhyrysgerbydol gan gynnwys arthritis.

Weinidog, fe fyddwch yn gwybod bod Gofal Arthritis wedi uno ag Ymchwil Arthritis y DU y llynedd, a deallaf y bydd yr elusen yng Nghymru yn cael ei galw yn Cymru yn Erbyn Arthritis o hyn ymlaen. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cymeradwyo'r amcan hwnnw. Mewn perthynas â'r ddarpariaeth yn ne Cymru, rwy'n ymwybodol fod y ddarpariaeth rewmatoleg bediatrig wedi cael ei chynnwys yn y cynllun ariannol blynyddol ar gyfer Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ac y bydd y pwyllgor hwnnw'n datblygu model o fanyleb gwasanaeth posibl ar gyfer gwasanaeth rhewmatoleg bediatrig estynedig. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â ble mae'r gwaith hwnnw arni? Mae'n wirioneddol hanfodol, oherwydd bydd angen gweithredu i sicrhau olyniaeth cyn gynted â phosibl o ganlyniad i'r ffaith bod y rhewmatolegydd sy'n darparu'r gwasanaeth pediatrig ar hyn o bryd, ar sail ran-amser, ar fin ymddeol—er nad yw'n arbenigwr mewn pediatreg yn benodol, mae wedi ymestyn ei waith i gwmpasu'r maes hwnnw yn rhagorol.

Yn wir. Cytunaf yn llwyr. A gaf fi gymeradwyo gwaith y sefydliad newydd sydd wedi uno—rwy'n siŵr y bydd yn gwneud gwaith da iawn yn ymgyrchu a datblygu polisi—ond hefyd gwaith Dr Jeremy Camilleri, a fydd yn symud ymlaen ar ryw bwynt yn y dyfodol agos? Mae wedi gwneud ei fwriadau'n glir, ond mae'n werth dweud, oherwydd y rhybudd a gawsom ymlaen llaw, y bydd y bwrdd iechyd yn gweithio'n agos yn awr gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cynaliadwy.

David, fe wnaethoch fy holi ynglŷn â'r cynnydd rydym yn ei wneud ar ddiweddaru'r gyfarwyddeb ddatblygu a chomisiynu gwasanaeth, a gyhoeddwyd yn gyntaf yn ôl yn 2007. Nawr, bydd yr adolygiad hwn yn ystyried ystod o fathau o boen arthritis a phoen cyhyrysgerbydol, gan gynnwys cyflyrau arthritig mewn plant, a byddwn yn sicrhau bod y diweddariad yn ystyried yr argymhellion a wnaed yn adroddiad y Gymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg a'r Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol, a gyhoeddwyd ar ddiwedd 2016.

Felly, ein nod yw—. A dywedaf hyn fel rhywun sydd wedi byw am flynyddoedd lawer gyda'r cyflwr spondylitis ymasiol er pan oeddwn yn ddyn ifanc, felly rwy'n enghraifft fyw a gweithredol o rywun sydd wedi cael y diagnosis cywir, y driniaeth gywir, y ffisiotherapi a'r gweithwyr proffesiynol perthynol cywir. Heriaf unrhyw un i gerdded i gopa'r mynyddoedd uchaf gyda mi yn awr, ond ar un adeg prin y gallwn gerdded i lawr y coridor. Ond dyna'r nod: canolbwyntio ar helpu pobl o bob oedran, gan gynnwys plant a phobl ifanc, i ddatblygu sgiliau i'w galluogi i reoli eu cyflyrau, a lle bo'n briodol, i gynyddu eu gallu i aros a gweithio a byw y bywydau y maent eisiau eu byw.

Felly, rydym wedi sefydlu grŵp llywio, dan gadeiryddiaeth Alun Morgan, dirprwy gyfarwyddwr therapïau bwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n goruchwylio'r gwaith. Mae wedi dod ag arbenigwyr clinigol mewn meysydd amrywiol at ei gilydd, gan gynnwys arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol, yn ogystal â chyrff trydydd sector ac yn bwysicach, cynrychiolwyr cleifion, fel fi. Felly, mae'r ddogfen amlinellol wedi cael ei drafftio. Mae aelodau'r grŵp yn awr yn y broses o'i llenwi gyda gwybodaeth o'u meysydd arbenigedd penodol. Felly, ar hyn o bryd, rydym yn cwmpasu'r galw am y gwasanaeth. Rydym yn cynnal gweithdy ym mis Hydref i sefydlu pa fodelau a ffafrir wrth symud ymlaen, ac rydym yn gobeithio ei gyflwyno wedyn, yn yr hydref, er mwyn ei ystyried a chyflwyno ein heitemau ar gyfer blaenoriaethu. Felly, mae'r gwaith yn bendant ar y gweill, a diolch iddo am godi'r mater pwysig hwn.

15:10
Rhoddwyr Mêr Esgyrn

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog pobl i gofrestru fel rhoddwyr mêr esgyrn i gefnogi'r rhai sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn? OAQ52587

Diolch i chi am y cwestiwn. Gwasanaeth Gwaed Cymru sy'n gyfrifol am weithredu cofrestrfa rhoddwyr mêr esgyrn Cymru. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn mynd ati'n weithredol i annog rhoddwyr o bob cefndir ethnig i ymuno â'r panel ac yn gofyn i roddwyr gwaed rhwng 17 a 30 oed a fyddent yn hoffi cofrestru, gan mai'r grŵp oedran hwn sy'n cynnig y gobaith gorau o oroesi i gleifion trawsblaniad.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Bachgen chwe mlwydd oed yn Nwyrain Casnewydd yw Marley Nicholls. Mae ganddo gyflwr gwaed prin, anemia aplastig, lle nad yw ei fêr esgyrn na'i gelloedd bonyn yn cynhyrchu digon o gelloedd gwaed. Mae angen cael trawsblaniad mêr esgyrn, ond nid oes neb yn ei deulu yn cydweddu, ac yn wir, nid oes neb ar y gofrestr fyd-eang yn cydweddu'n addas chwaith. Felly, maent wedi lansio ymgyrch i annog cynifer o bobl â phosibl i gofrestru fel rhoddwyr mêr esgyrn a phrofi eu mêr esgyrn. Yn amlwg, gobeithio y bydd Marley yn gallu elwa ar hynny yn y pen draw, ac eraill yn wir sy'n aros am drawsblaniad mêr esgyrn, ond nid oes unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ychwanegu eich llais at eu hymgyrch i annog cynifer o bobl â phosibl i ganfod a ydynt yn cydweddu'n addas, ac yn wir, i gofrestru fel rhoddwyr mêr esgyrn? A oes unrhyw gamau pellach y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd yn ychwanegol at yr hyn sydd eisoes ar waith i annog pobl i gofrestru?

Rwy'n ymwybodol o'r achos penodol hwnnw, a gwn eich bod wedi chwarae rhan yn cefnogi'r teulu yn eu hymgyrch i godi ymwybyddiaeth, a dymunaf bob llwyddiant iddynt wrth geisio dod o hyd i roddwr i'w plentyn. Rwyf wedi ymweld â Gwasanaeth Gwaed Cymru ac rwyf wedi gweld sut y mae'r gofrestrfa'n gweithio, ac mae'n gamp anhygoel, mewn gwirionedd, i gael cofrestr fyd-eang lle gellir dod o hyd i roddwyr mewn gwahanol rannau o'r byd. Nawr, oherwydd yr ystod oedran ar gyfer chwilio am roddwyr, rhwng 17 a 30, mae'n her am nad yw llwybrau traddodiadol yn llwyddiannus bob amser. Felly, maent yn edrych eto, ar y cyfryngau cymdeithasol yn benodol, ac yn rhyngweithio arnynt er mwyn annog pobl i gofrestru. Y pwynt ffodus yw bod llawer o bobl ifanc yn eithaf anhunanol ac eisiau gwneud pethau. Felly, mae yna gyfleoedd i fanteisio ar yr agwedd honno. Nid mater i ni yng Nghymru yn unig ydyw; mae'n digwydd ar draws y DU ac yn fwy eang hefyd, oherwydd rydym yn gweithredu fel rhan o'r gofrestrfa fyd-eang. Rwy'n hapus i edrych ar ffyrdd y gall y Llywodraeth gynorthwyo Gwasanaeth Gwaed Cymru i wneud hynny a sicrhau bod mwy a mwy ohonom yn gallu helpu eraill.

15:15
3. Cwestiynau Amserol
Mwd Hinkley Point

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gefnogi'r gwyddonwyr sy'n ceisio atebion gan Magnox Cyf. ynghylch nifer a graddau'r damweiniau pyllau oeri yn Hinkley Point A a allai fod wedi arwain at symiau sylweddol o wraniwm a phlwtoniwm yn y mwd sy'n cael ei ddympio gan EDF ym Mae Caerdydd? 211

Ni allaf wneud sylwadau ar faterion sy'n ymwneud â'r drwydded forol ar gyfer carthu a gwaredu deunydd o Hinkley Point C oherwydd her gyfreithiol sydd ar y gweill i geisio gwaharddeb i atal y drwydded forol.

Yn y 1960au, roedd Hinkley Point A yn ffatri bomiau niwclear. Yn y flwyddyn ariannol 1968-9, cafodd hanner y craidd niwclear ei dynnu i ddarparu plwtoniwm o safon cynhyrchu arfau. Cynlluniwyd y system i dynnu un rhan o bump o'r craidd yn unig mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn. Y rheswm dros y rhuthr oedd bod y cytundeb rhyngwladol i atal rhag twf arfogaeth niwclear yn dod i rym yn 1970. Mae Magnox Cyf wedi cyfaddef fod damweiniau wedi digwydd yn y pwll oeri. Rhaid inni ganfod maint y damweiniau hyn. O gofio y gallai fod yna ronynnau poeth o wraniwm a phlwtoniwm na chafodd eu darganfod gan y profion sbectrometreg gama a gynhaliwyd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru atal y drwydded ddympio a chynnal profion sbectrometreg alffa a sbectrometreg màs i allu dweud yn bendant beth yn union sydd yn y mwd—os gwelwch yn dda?

Atebais yr Aelod a'i gwneud yn glir iawn na allaf wneud sylw ar hyn o bryd oherwydd y broses gyfreithiol sy'n mynd rhagddi. Yr hyn y gallaf ei adrodd yw'r hyn rwyf wedi'i ddweud o'r blaen yn y Siambr hon yn ystod dadl y tymor diwethaf, sef bod adroddiad diweddar Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol yn dangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar gyngor arbenigol. Cadarnhaodd hefyd fod yr holl brofion ac asesiadau wedi dod i'r casgliad fod y deunydd o fewn terfynau diogel, nad yw'n peri unrhyw risg radiolegol i iechyd dynol na'r amgylchedd, a'i fod yn ddiogel ac yn addas i'w waredu yn y môr.

Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n deall y cyfyngiadau a roddwyd arnoch gyda'r achos llys sydd ar fin digwydd, ond os gallaf wneud dau bwynt a gofyn am ateb i'r ddau bwynt: un peth sydd wedi codi dro ar ôl tro gydag etholwyr yw pam y dewiswyd y lleoliad penodol hwn i ddympio'r mwd, o ystyried, yn ôl yr hyn a ddeallaf, fod yna amryw o fannau eraill lle gellid bod wedi gwaredu'r mwd. Felly, nid yw'n honiad afresymol i geisio darganfod pam y dewiswyd y man penodol hwn, o gofio pa mor agos ydyw i Gaerdydd. Yn ail, o ystyried bod y drwydded wreiddiol wedi'i chyflwyno yn 2014, mae newidiadau amrywiol wedi bod yn y cynlluniau ar gyfer datblygiad Hinkley. A ydych yn hyderus fod y drwydded a ddyfarnwyd yn 2014 yn rhoi sylw i'r holl newidiadau hynny ac yn gyfredol, ac nad oes angen ei hadolygu i wneud yn siŵr ei bod yn rhoi sylw i unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd yn y cyfamser?

Gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru eu penderfyniad yn seiliedig ar gyngor arbenigol, a hynny yn unol â'r holl asesiadau radiolegol—gweithdrefnau a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol. Rwy'n hapus iawn i barhau i drafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru pan fyddaf yn eu cyfarfod yn rheolaidd, a rhoi gwybod i'r Aelodau ynghylch unrhyw ddatblygiadau.

Diolch yn fawr iawn ichi. Onid ydy’r protestio sydd yn digwydd rŵan—[Torri ar draws.] Mi rof eiliad i chi.

Rwyf am barhau yn Saesneg. Onid yw'n wir fod y protestiadau a welwn yn digwydd yn awr, a'r pryderon gwirioneddol sy'n cael eu lleisio, yn profi'r hyn a ddywedais yn y Siambr ym mis Mai—fod yr hyn a ddywedais bryd hynny yn hollol gywir? Dadl oedd honno, fe gofiwch, ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau rwy'n aelod ohono ynglŷn â beth sy'n digwydd i'r mwd hwn. Roeddwn wedi argymell yn y pwyllgor ychydig fisoedd cyn hynny y dylid cynnal rhagor o brofion, a'r hyn a ddywedais yn y ddadl mewn Cyfarfod Llawn ym mis Mai, wrth inni drafod yr adroddiad hwnnw, ac fe ddyfynnaf—mae'r dyfyniad yma yn Gymraeg felly rwyf am ei gyfieithu— oedd: pe bai CEFAS eu hunain wedi cynnig bod yna ffordd fwy tryloyw o wneud yr asesiadau, o gynnal y profion, fel y gwnaethant yn y Pwyllgor Deisebau, yna dylid bod wedi manteisio ar y cyfle ar y pryd, rwy'n credu, er mwyn chwilio am ffordd o symud ymlaen a allai ddigwydd yn y modd mwyaf tryloyw.

Nawr, gofynnwyd cwestiynau ar y diwrnod hwnnw hefyd ynglŷn â sut y gellir dympio gwastraff o unrhyw fath, waeth beth fo canlyniadau profion, ar dir Cymru neu yn nŵr Cymru heb unrhyw iawndal. Ond yn y bôn, mater o dryloywder yw hyn ynglŷn â'r mwd, ac oni all Llywodraeth Cymru weld yn awr fod eich penderfyniad i beidio â gwthio am ailgynnal profion wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth yn eich gweithredoedd?

15:20

Yn amlwg, mae hon yn drwydded fyw, ac fel y cyfryw, mater ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ydyw. Rydych yn sôn am dryloywder. Maent wedi cyhoeddi datganiad cyhoeddus. Maent hefyd wedi gosod amrywiaeth sylweddol o ddogfennaeth y broses o wneud penderfyniadau ar eu gwefan fel y gall pobl ei gweld. Felly, o safbwynt tryloywder, rwy'n credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynd i'r afael â'r mater hwnnw.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi gofyn dau gwestiwn ddoe ynglŷn â'r datganiad busnes, ac rwy'n deall y cyfyngiadau a wynebwch o ran ymateb i'r rhain o ganlyniad i'r sefyllfa gyfreithiol rydych ynddi ar hyn o bryd. Ond fe ofynnais gwestiwn ynglŷn â'r datganiad busnes yn ymwneud â diffyg asesiad o'r effaith amgylcheddol o ran y pryderon ynghylch mwd Hinkley Point, ac rwy'n credu bod hynny'n sicr yn rhywbeth a fyddai o gymorth os yn bosibl, er mwyn cael rhyw fath o eglurhad ar y rhagolygon ar gyfer asesiad o'r effaith amgylcheddol, ond mae etholwyr wedi mynegi pryderon penodol, y rhoddais innau hefyd sylw iddynt yn nadl y Pwyllgor Deisebau, ynghylch samplu annigonol o haenau dyfnach o fwd. Felly, yn amlwg, ceir llawer iawn o bryder cyhoeddus, ac rwy'n ymwybodol fod Richard Bramhall o'r Ymgyrch Ymbelydredd Lefel Isel, cyn-aelod o bwyllgor Llywodraeth y DU sy'n ystyried risgiau ymbelydredd allyrwyr mewnol, wedi lleisio pryderon am y prawf. Felly, unwaith eto, dyma gyfle heddiw i gofnodi'r cwestiynau hynny eto, a hefyd buaswn yn ddiolchgar am unrhyw eglurhad pellach y gallwch ei roi i ni, o fewn y cyfyngiadau sy'n eich wynebu.

Credaf mai un pwynt allweddol i'w nodi yw nad yw diffyg asesiad o'r effaith amgylcheddol yn golygu na wnaed asesiad amgylcheddol llawn a thrylwyr. Cynhaliwyd asesiad radiolegol, fe'i cefnogwyd gan arbenigwyr, yn ogystal â'r asesiadau iechyd amgylcheddol a dynol ehangach sydd eu hangen ar gyfer gwneud penderfyniad ynghylch trwydded forol. Cynhaliwyd asesiad o'r effaith amgylcheddol ar brosiect Hinkley Point C yn gyffredinol. Cyflwynwyd yr asesiad o'r effaith amgylcheddol yn rhan o'r wybodaeth ategol a ddarparwyd gyda'r cais am y drwydded forol ac fel y cyfryw, fe'i ystyriwyd yn y penderfyniad—[Torri ar draws.]

Diolch, Lywydd. Nid wyf eisiau ychwanegu llawer at yr hyn a ddywedodd yr Aelodau eraill—y rhai sydd wedi gofyn cwestiynau. Fe gawsom ddadl ar hyn ym mis Mai, fel y soniodd Rhun, ac mae'n rhaid cydnabod bod pryder cyhoeddus eang ynglŷn â'r mater hwn. Buom yn siarad am yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, neu ddiffyg asesiad o'r fath, yn y ddadl a gawsom ym mis Mai. Nid wyf yn meddwl mewn gwirionedd fod y materion hynny wedi cael sylw, neu o leiaf, ceir canfyddiad ymysg y cyhoedd, yn sicr, nad yw'r materion hyn wedi cael sylw. Credaf fod angen inni leddfu pryderon y cyhoedd, mynd i'r afael â'r materion sy'n codi, a rhaid inni gael lefel uwch o brofi cyn inni fwrw ymlaen â hyn. Felly, gobeithio y gallwch ymateb yn gadarnhaol i hynny, Weinidog.

Wel, rwy'n credu fy mod wedi gwneud. Yn sicr, pan gawsom ddadl y tymor diwethaf, fe'i gwneuthum yn glir iawn fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i dawelu meddwl y cyhoedd a'r Aelodau, ac rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â hynny yn y ddadl.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n deall y cyfyngiadau ar Ysgrifennydd y Cabinet, ond roeddwn am ddefnyddio'r cyfle i fynegi'r pryder yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd. Mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi ac mae wedi cael ei godi mewn nifer o gyfarfodydd y bûm ynddynt. Ceir pryder am ddiogelwch yng Nghaerdydd, felly rwy'n teimlo y dylem wneud popeth yn ein gallu i archwilio, ym mha bynnag fodd y gallwn, er mwyn tawelu meddyliau pobl os oes angen. Os yw'n ddiogel, yna mae angen inni allu gwneud hynny.

Fe siaradais er mwyn codi'r materion hyn yn y Pwyllgor Deisebau ar 23 Mai. A gwn fod rhagor o wybodaeth yn cael ei geisio bellach am Hinkley A, y gwyddom ei fod wedi'i ddatgomisiynu, ond bod Magnox Electric, a oedd yn berchen ar y safle Hinkley gwreiddiol ar y pryd, wedi cael dirwy o £100,000 yn 2001 am dorri deddfwriaeth waredu gwastraff niwclear a chynnal a chadw safleoedd. Felly, yn amlwg, mae'n destun pryder i aelodau o'r cyhoedd wybod bod hynny wedi digwydd.

Hefyd, rwyf am ategu'r cwestiwn ynglŷn â pham y dewiswyd y lle penodol hwn ar gyfer dympio 2 km yn unig, rwy'n credu, o'r lan. A beth yw'r manteision i ni yn ne Cymru o gael y mwd hwn wedi'i ddympio yma? Pa fath o drafodaethau neu ddadleuon a ddigwyddodd ynghylch y penderfyniad hwnnw? Felly, rwy'n awyddus iawn i weld unrhyw dystiolaeth wyddonol bellach y gellid ei chael yn dod i law, a gwn fod yr Athro Barnham wedi codi'r materion hyn, felly buaswn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i wneud popeth a all i fynd i'r afael â phryderon y cyhoedd am y peryglon posibl.

15:25

Soniais cyn hynny, yn amlwg, fod hon yn drwydded fyw, felly mae'n fater ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, a gellir parhau i gyfeirio pryderon atynt hwy. Rwy'n meddwl eu bod wedi cymryd y cam o wneud datganiad cyhoeddus, gan wneud yn siŵr fod amrywiaeth sylweddol o ddogfennaeth y broses o wneud penderfyniadau wedi'i rhoi ar y wefan er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd. Ac fel y dywedaf, fe wneuthum hynny hefyd yn y ddadl a gawsom y tymor diwethaf.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Nick Ramsay.

Diolch, Lywydd. Y penwythnos diwethaf roeddwn yn falch iawn o groesawu'r Pennaeth Chinamhora o Zimbabwe, sy'n gyfrifol am dros 280,000 o bobl yn ei ardal, i sir Fynwy. Arweiniodd y Pennaeth, maer y Fenni a minnau yr 'Orymdaith dros Affrica' yng Ngŵyl Fwyd y Fenni, drwy wahoddiad Martha a David Holman o elusen Love Zimbabwe, a leolir yng Ngilwern.

Rwy'n adnabod Martha a David ers saith mlynedd ac rwyf wedi gwylio'r elusen yn tyfu'n gysylltiad ffyniannus rhwng Cymru a Zimbabwe. Mae cysylltiadau wedi'u gwneud ag ysgolion, cymdeithasau, busnesau a swyddogion y Llywodraeth. Maent wedi sefydlu rhaglen addysgol fywiog gyda Phrifysgol Llanbedr Pont Steffan, gan fynd â myfyrwyr i'w canolfan gymunedol yn Zimbabwe. Maent bellach yn gobeithio ymestyn y rhaglen i gynnwys Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.

Anrhydedd yw cael gwahodd y Pennaeth i'r Senedd heddiw. Mae yn yr oriel y prynhawn yma, gyda Martha a Dave, i gyfarfod â fy nghyd-Aelodau Cynulliad. Deallaf mai ef yw'r unig Bennaeth mewn hanes diweddar i ddod i'r DU o Zimbabwe. Mae Love Zimbabwe wedi ennill arian grant yn ddiweddar o'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica i gyflawni prosiect cadwraeth ar bedwar hectar o dir newydd. Ar eu hymweliad nesaf ym mis Ebrill maent yn bwriadu mynd â llyfrau draw ar gyfer adeilad newydd y llyfrgell, yng nghwmni fy nghyd-Aelod John Griffiths, ymhlith eraill.

Rydym yn falch iawn o wahodd y Pennaeth Chinamhora i Gymru ac yn gobeithio bod hyn yn ddechrau ar gyfeillgarwch hir a pharhaol rhwng ein dwy wlad.

Yr wythnos diwethaf, cafwyd gwasanaeth arbennig yn Ysgol Glan Clwyd i ddathlu llwyddiant plentyn o flwyddyn 8 mewn cystadleuaeth ryngwladol gan Airbus ar gyfer pobl ifanc. Yr her oedd cynllunio roced. Allan o dros 900 o gystadleuwyr ar draws y byd, daeth Max Bentley o Brestatyn yn gyntaf o'r rhain i gyd. Roedd hi'n fraint cael ymuno â Max a blwyddyn 8 i gydnabod y wobr ryngwladol hon gan Airbus am gynllunio roced a helpu i wella eu rhaglen ofod. Mae'n glod iddo ef a'i deulu, ond hefyd i'r ysgol. Dywedodd Max:

'Mae wedi bod yn brofiad anhygoel. Rwyf yn hynod o falch fy mod wedi ennill y gystadleuaeth. Rwy'n gobeithio dilyn llwybrau astudio pynciau STEM, ac rwy'n edrych ymlaen at y dyfodol. Diolch yn fawr iawn i Airbus am y cyfle.'

Felly, unwaith eto, llongyfarchiadau Max ac Ysgol Glan Clwyd—seren fawr y dyfodol.

15:30
5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar graffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Russell George.

Cynnig NDM6780 Russell George

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad i'r Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Bron bum mlynedd yn ôl, ym mis Tachwedd 2013, daeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) i rym. Bwriad y Ddeddf oedd creu newid o un genhedlaeth i'r llall, a thrawsnewid ein ffordd o wneud teithiau hanfodol i'r gwaith ac i'r ysgol, gan wneud cerdded a beicio yn norm.

Credaf fod y rhesymau dros wneud hyn yn glir: mae teithio llesol yn hyrwyddo iechyd gwell, yn lleihau llygredd a thagfeydd. Yn wir, cafodd y pwyllgor brofiad uniongyrchol i'w ychwanegu at y cyfoeth o dystiolaeth ar y pwnc. Cawsom gystadleuaeth rhwng y beic, y car a'r trên er mwyn lansio ein hadroddiad. Gan ddechrau o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, cafodd aelodau'r pwyllgor ras yn ôl i'r Senedd yn gynnar un bore ym mis Mai. A hoffwn eich gwahodd i wylio'r sgriniau, i weld canlyniadau'r ras honno.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Dangoswyd cyflwyniad clyweledol. Mae’r trawsgrifiad mewn dyfynodau isod yn drawsgrifiad o’r cyfraniadau llafar yn y cyflwyniad.

'Mae'n 8.30 a.m. yng nghanol dinas Caerdydd, ac mae'r Aelodau Cynulliad hyn yn dechrau eu diwrnod gydag arbrawf. Maent am dynnu sylw at fanteision teithio llesol fel y'i gelwir, sy'n anelu i'n hannog i ddod allan o'r car er mwyn teithio o gwmpas mewn ffyrdd iachach, ond hyd yma, mae'r canlyniadau wedi bod yn wael.'

Russell George: 'Felly, y bore yma, rydym yn mynd i fynd o'r fan hon i mewn i'r gwaith, ac rydym am fynd drwy ddefnyddio dulliau gwahanol o deithio—cerdded, beicio, ac—[Torri ar draws.] Dyna ni—da iawn, Lee.'

Lee Waters: 'Rwy'n frwdfrydig iawn.'

Russell George: 'Ac mewn tacsi hefyd. Rydym yn mynd i weld pwy fydd yn cyrraedd yno yn gyntaf. Iawn, barod? Pump, pedwar, tri—'

Lee Waters: 'O'r ffordd, Russell.'

Russell George: '—dau, un. Dyna ni.

Wel, mewn gwirionedd, nid ydym yn cerdded a beicio mwy, sy'n siomedig iawn a dweud y gwir. Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth bum mlynedd yn ôl. Mae arian yn cael ei ryddhau i awdurdodau lleol ar gyfer creu llwybrau cerdded a beicio gwell. Yn y rhan fwyaf o lefydd, yr hyn a welsom yw bod lefelau cerdded a beicio heb wella. Ac o ran plant yn cerdded i'r ysgol, mae'r ffigur hwnnw wedi gostwng mewn gwirionedd, felly mae hynny'n peri pryder a bod yn onest. Mae ein hargymhellion i'r Llywodraeth yn ymwneud â beth sydd angen iddynt ei wneud i fywiogi'r ddeddfwriaeth teithio llesol i bob pwrpas.'

Lee Waters: 'Rwy'n credu mai ni enillodd.'

'Nôl yng Nghaerdydd, mae'r beiciau wedi croesi'r llinell y tu allan i'r Senedd, ar ôl taith 15 munud, gyda Joyce yn cyrraedd yn fuan wedyn yn ei thacsi, bum munud yn ddiweddarach, a Russell yn cyrraedd 10 munud ar ei hôl hi.'

Lee Waters: 'Nid oes angen i chi fod yn arwr, neu'n dduw gwyrdd, i feicio. Rhowch gynnig arni. Ar gyfer teithiau byr, dyna'r ffordd gyflymaf a mwyaf cyfleus yn aml o symud o gwmpas.'

Russell George: 'Ac mae'n dda i'ch ffordd o fyw.'

Joyce Watson: 'Ond cerddwr ydw i, felly buaswn wedi bod yn hapus iawn i'w gerdded.'

'Gobeithio, wrth symud ymlaen, y bydd hyn yn gwneud i fwy ohonom fynd ar gefn ein beiciau.'

Wel. Fe brynais bâr newydd o esgidiau ymarfer ar gyfer y ras, ac fe gollais er hynny—ond dyna ni.

Er ei fod yn hwyl, roedd yna neges ddifrifol wrth wraidd yr hyn a wnaethom yn ôl ym mis Mai. Y beicwyr a gyrhaeddodd yn gyntaf, ac roedd y daith iddynt hwy'n rhad, ac yn gyfle gwych i wneud ymarfer corff. Eto ers i'r Ddeddf ddod yn gyfraith, mae cyfraddau teithio llesol wedi aros yn yr unfan yng Nghymru. Ac yn fwy siomedig efallai, mae nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n beicio neu'n cerdded i'r ysgol wedi gostwng.

Felly, ceisiodd gwaith craffu ar ôl deddfu'r pwyllgor ar y Ddeddf teithio llesol ddarganfod beth oedd y rheswm dros hyn. Aethom ati i siarad â nifer o dystion yn ystod ein hymchwiliad, gan gynnwys awdurdodau lleol, cynllunwyr, peirianwyr. Clywsom gan Sustrans, Strydoedd Byw, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Buom yn siarad ag ymgyrchwyr anabledd a defnyddwyr gwasanaethau. Cawsom ymatebion ffurfiol i'n hymgynghoriad, yn ogystal â dros 2,500 o ymatebion i arolwg ein pwyllgor. A chynhaliwyd pum grŵp ffocws ledled Cymru i glywed gan grwpiau o bobl nad ydynt yn cerdded na'n beicio ar hyn o bryd.

Roedd y dystiolaeth yn glir iawn. Ceir dau brif rwystr i deithio llesol: teimlo'n anniogel a diffyg seilwaith priodol. Nawr, yn ddiddorol, mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei hun na fyddai'n teimlo'n ddiogel yn beicio drwy'r ddinas yma yng Nghaerdydd. Mae rhai aelodau o'r pwyllgor wedi dweud wrthyf eu bod yn beicio yn y ddinas a bod hynny'n braf iawn ac maent yn mwynhau beicio ar hyd rhai o'r llwybrau beicio oddi ar y ffordd yn arbennig.

Ond ym mhob tref yng Nghymru, ceir ardaloedd lle mae'n anodd ac yn annymunol i gerdded a beicio. Mae rhai beicwyr yn rhannu ffyrdd gyda thraffig trwm, lle mae tyllau'n rhwystrau ac yn creu peryglon eraill yn ogystal, lle mae llwybrau beicio'n rhy gul neu'n rhy fyr neu wedi'u lleoli'n wael, a lle mae parcio ar y palmant wedi'i gwneud yn amhosibl cerdded yn ddiogel. Mewn ychydig wythnosau, bydd ymgyrchwyr o bob rhan o Gymru'n 'Beicio i'r Senedd' i dynnu sylw at y ffaith bod gwariant ar deithio llesol yng Nghymru tua hanner y lefel sydd angen iddo fod.

Wrth gwrs, nid oedd teithio llesol byth yn mynd i newid y ffordd y teithiwn dros nos, ond roedd i fod i newid y ffordd roedd awdurdodau lleol, cynllunwyr a pheirianwyr yn gwneud eu gwaith. Roedd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynhyrchu mapiau o lwybrau presennol a mapiau o'r rhwydweithiau integredig y byddent yn hoffi eu creu. Canfu ein hymchwiliad fod yna ddryswch ynglŷn â diben y mapiau, a oedd yn ddrud ac yn cymryd llawer o amser i'w cynhyrchu. Disgwyliai aelodau'r cyhoedd gael map y gallent ei ddefnyddio i gynllunio eu taith i'r gwaith neu i'r ysgol, ond nid dyna a ddigwyddodd. Roedd y Gweinidog yn disgwyl i fapiau'r rhwydwaith integredig fod yn uchelgeisiol, ond dywedodd peirianwyr wrthym nad oeddent eisiau codi disgwyliadau ac na fyddai unrhyw weithiwr proffesiynol yn creu cynllun heb ystyried yr adnoddau sydd ar gael. Fel y mae pethau, nid oes digon o gyllid ar gael.

Mae'r pwyllgor wedi argymell adnoddau'n cyfateb i £20 y pen y flwyddyn. Mae'r ffigur hwnnw'n seiliedig ar arferion gorau mewn rhannau eraill o'r DU. Nid yw'n bopeth y byddem ei eisiau pe bai coeden arian hud ar gael, ond mae'n ffigur pragmataidd yn ein barn ni ac mae'r ymgyrchwyr a fydd yn ymgasglu yma mewn ychydig wythnosau'n cytuno. Derbyniodd Ysgrifennydd y Cabinet yr argymhelliad hwnnw mewn egwyddor, ond wrth wneud hynny, tynnodd sylw at y ffaith y bydd cyfanswm y cyllid ar gyfer teithio llesol, hyd yn oed gyda'r dyraniad cyfalaf ychwanegol o £60 miliwn a gyhoeddwyd ganddo yn ystod yr ymchwiliad, ychydig o dan £92 miliwn dros dair blynedd. Ond yn ôl ei gyfrif ei hun, mae angen cyllideb o £62 miliwn y flwyddyn i ddarparu'r cyllid y gelwir amdano: diffyg o dros 50 y cant.

Rwy'n deall y galwadau sy'n cystadlu am arian wrth gwrs. Ond os yw'r Llywodraeth yn mynd i gyflwyno deddfwriaeth uchelgeisiol, rhaid iddi hefyd gyflwyno modd o gyflawni'r uchelgais hwnnw. Buaswn yn awgrymu na fyddwn yn darbwyllo nifer fawr o bobl newydd i fabwysiadu teithio llesol hyd nes y bydd y seilwaith yn ei le er mwyn iddynt allu teimlo'n ddiogel wrth gerdded a beicio. Ac ni chaiff seilwaith ei ddarparu heb arian.

Wrth gwrs, nid arian yw popeth, rwy'n derbyn hynny. Mae angen newid ymddygiad hefyd. Ers i'r Ddeddf ddod i rym yn 2013, clywodd y pwyllgor fod y dull o newid patrymau ymddygiad wedi bod yn anghyson ac wedi'u cynllunio'n wael. Clywodd y pwyllgor am rwystr diwylliannol sy'n atal teithio llesol rhag cael ei osod wrth wraidd y broses o gynllunio seilwaith, gydag ymagwedd draddodiadol tuag at beirianneg yn drech nag arloesedd. Roedd tystion yn cwestiynu ymrwymiad arweinwyr awdurdodau lleol ar lefel uwch i hyrwyddo'r newid, yn hytrach na'i adael i'w swyddog beicio ei gyflawni ar ei ben ei hun.

Dywedodd Strydoedd Byw fod Llywodraeth Cymru, ar y diwrnod cyn i'r Ddeddf teithio llesol droi'n flwydd oed, wedi rhoi'r gorau i ariannu Dewch i Gerdded Cymru. Roeddent yn dweud bod y penderfyniad hwnnw wedi gadael Cymru heb unrhyw gynllun cerdded sy'n cael ei ariannu gan y Llywodraeth, ar wahân i'r cynllun Teithiau Llesol. A dywedodd Sustrans wrthym mai 8 y cant o ysgolion yn unig sy'n rhan o'r rhaglen teithiau llesol i'r ysgol.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym ei fod wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad y dylid cynnwys cydgynhyrchu fel safon ofynnol. Fodd bynnag, mae ei ymateb hefyd yn nodi ei fod yn ystyried bod gwneud hynny'n wrthgynhyrchiol ac o bosibl yn fwy costus. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r pwynt hwnnw ac a yw'n derbyn ein hargymhelliad ai peidio.

Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl y prynhawn yma a chlywed cyfraniadau gan yr Aelodau cyn crynhoi'r ddadl yn nes ymlaen.

15:40

Ni ddylem synnu nad yw Ysgrifennydd y Cabinet ond wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf mewn egwyddor yn unig, argymhelliad a oedd yn ystyried mai diffyg arweinyddiaeth strategol ar lefel Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y diffyg cynnydd hyd yn hyn, lle dylid cryfhau arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru ac egluro'r hyn y mae'n ei ddisgwyl gan arweinwyr lleol.

Un peth yw i Ysgrifennydd y Cabinet ddweud,

'Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos arweinyddiaeth wrth roi’r Ddeddf
Teithio Llesol ar waith',

ond fel y mae ein Cadeirydd, Russell George, yn datgan yn rhagair yr adroddiad,

'Mae'n bryd nawr i'r Llywodraeth newid ei hymddygiad ei hun, dangos arweinyddiaeth go iawn a chymryd camau i wireddu uchelgeisiau'r Ddeddf.'

Yn wir, nid yw ymateb disylwedd, hunanesgusodol Ysgrifennydd y Cabinet y bydd yn parhau i hyrwyddo'r agenda hon a bod gan awdurdodau lleol rôl glir i'w chwarae yn gwneud y tro. Ac nid yw'n ddigon da iddo dderbyn mewn egwyddor yn unig ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei chanllawiau statudol i gynnwys cydgynhyrchu fel safon ofynnol ar gyfer cyflwyno Deddf Teithio Llesol (Cymru), a chynnwys rhanddeiliaid nid yn unig yn y broses o nodi'r broblem, ond eu galluogi i fod yn rhan o'r ateb hefyd.

Mae disgrifio technegau cydgynhyrchu fel modd o ddatblygu cynlluniau da yn unig yn dangos methiant cyson Ysgrifennydd y Cabinet i ddeall bod cydgynhyrchu'n golygu gwneud pethau'n wahanol—llunio a darparu gwasanaethau gyda phobl a chymunedau er mwyn gwella bywydau a chryfhau'r cymunedau hynny. Nid yw cydgynhyrchu'n ymwneud â chyni; mae'n rhan o fudiad byd-eang sy'n ddegawdau oed bellach ac wedi gwneud gwelliannau sylweddol ar draws ein planed. Mae'n ymwneud â symud o ddulliau seiliedig ar anghenion tuag at ddatblygu sy'n seiliedig ar gryfder—helpu pobl mewn cymunedau i nodi'r cryfderau sydd ganddynt eisoes, a defnyddio'r cryfderau hynny gyda hwy.

Ym mis Gorffennaf 2017, agorais a siaradais mewn digwyddiad yn y Cynulliad gydag ESP Group ar wneud i wasanaethau trafnidiaeth a thechnoleg weithio dros gynhwysiant a lles. Mae'r ESP Group yn helpu gweithredwyr trafnidiaeth mawr a dinasoedd i ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid heddiw a llunio gwasanaethau symudedd ar gyfer y dyfodol, gyda chleientiaid megis Transport for London, Rail Delivery Group, ScotRail, Stagecoach, cynghorau Llundain a Llywodraeth yr Alban. Fel y dywedais yno, rwy'n falch o weithio gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru a'r nifer gynyddol o sefydliadau ar draws Cymru sy'n arddel egwyddorion cydgynhyrchu, gan gydnabod nad yw hyn yn ymwneud â chyni, ond â datgloi cryfderau pobl i allu adeiladu bywydau gwell a chymunedau cryfach.

Hefyd dyfynnais ddatganiad Sefydliad Bevan sy'n dweud, os yw pobl yn teimlo bod polisïau'n cael eu gorfodi arnynt, nad yw'r polisïau hynny'n gweithio, ac y dylid cynhyrchu rhaglen newydd gyda chymunedau ac nid ei chyfeirio o'r brig i lawr. Ychwanegai y gallwn gyflawni mwy drwy ddeall beth sy'n bwysig a thrwy gynllunio tuag yn ôl, gan ddefnyddio'r pen blaen fel y system gynllunio proses, lle dylai ymwneud cymunedol mewn cydgynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol fod yn ganolog.

Mewn cyferbyniad, dywedodd Cŵn Tywys Cymru ac RNIB Cymru yn glir wrth y pwyllgor, er bod llwybrau'n gallu troi'n fannau anhygyrch, ni fu fawr iawn o ymgysylltiad â phobl ddall a rhannol ddall na sefydliadau sy'n cynrychioli eu safbwyntiau. Fel y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn dweud, rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pobl yn gallu cyfrannu at eu cymuned, a'u bod yn cael eu hysbysu, eu cynnwys a'u clywed. Rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet ddeall bod cyflawni hyn yn galw am roi diwedd ar ddweud wrth bobl beth y gallant ei gael, a gofyn iddynt yn lle hynny beth y gallant ei gyflawni.

Mae Sustrans Cymru, yr elusen sy'n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio, yn gweld gwerth mewn buddsoddi a chysylltu pob math o drafnidiaeth fel bod cerdded a beicio yn opsiwn hawdd a hygyrch. Maent yn disgrifio proses gaffael masnachfraint Cymru a'r Gororau fel,

cyfle a gollwyd i integreiddio cerdded a beicio'n well gyda thrafnidiaeth gyhoeddus,

ac maent yn datgan y dylai gorsafoedd trên fod yn ganolfannau teithio llesol, gan ei gwneud yn haws i gymudwyr, pobl leol ac ymwelwyr gadw'n heini.

Ym mis Ebrill 2017, noddais ddigwyddiad Cynulliad yma ar gyfer y cwmni datblygu seilwaith Furrer+Frey, a oedd yn lansio eu Papur Gwyn ar ddatblygu atebion trafnidiaeth cynaliadwy, hyblyg, amlfodd ar gyfer Cymru. Roedd yn cynnwys canlyniadau llawn arolwg YouGov o drafnidiaeth gyhoeddus Cymru, a ganfu mai 29 y cant o bobl yn unig sy'n meddwl bod trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i chydgysylltu'n dda yng Nghymru, gyda 5 y cant yn unig yn fodlon iawn yng ngogledd Cymru. Rwy'n gorffen gyda'u datganiad fod seilwaith trafnidiaeth yn cysylltu cymunedau a rhaid ei ddefnyddio mewn ffordd gynaliadwy a than reolaeth gan ddefnyddio adnoddau lleol, h.y. pobl, lle bynnag sy'n bosibl.

15:45

Credaf fod y Ddeddf teithio llesol, unwaith eto, yn rhoi gwers lesol inni am ddynameg, neu absenoldeb dynameg, yng ngwleidyddiaeth Cymru. Mae gwleidyddiaeth Cymru yn anweithredol, yn yr ystyr ein bod yn pasio cyfres o fwriadau da wedi'u hysgrifennu mewn cyfraith ag iddynt gonsensws eang, oherwydd, mewn gwirionedd, realiti gwleidyddiaeth Cymru yw ein bod yn rhannu llawer o'r un gwerthoedd—y bwlch gweithredu yw'r broblem. Rwy'n credu bod y ffaith bod y Ddeddf teithio llesol, ydi, yn ymgorffori egwyddorion clir a synnwyr clir o gyfeiriad ac eto ein bod wedi mynd tuag yn ôl i raddau helaeth yn rheswm dros oedi ac ystyried natur yr hyn a wnawn yma.

Cyfeiriwyd at sylwadau'r Prif Weinidog yn gynharach, ac mae'n debyg fy mod yn ategu ei sylwadau am Geraint Thomas—mwy yn cael ei wneud mewn 21 diwrnod i Gymru nag a wnaed mewn gwleidyddiaeth, efallai. Gallech ddweud hyn: 'Ar Gymru, gweler beicio'—neu gerdded.

Fel y soniwyd eisoes, mae'n amlwg mai rhan o'r broblem yw lefel y cyllid. Yn y pen draw, dyna sut yr ydym yn blaenoriaethu yn fwy na dim arall. Rydym wedi clywed y ffigurau a'r bwlch ariannu y cyfeiriwyd ato—y £120 miliwn a addawyd dros dair blynedd yn y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru.

Rydym ar ei hôl hi'n enbyd, wrth gwrs, o gymharu â llawer o'r gwledydd bach eraill sy'n arweinwyr yn y maes hwn. Gallem fod yn arweinwyr hefyd gyda'r gwledydd Nordig, yr Iseldiroedd a rhai o Länder yr Almaen. Bydd y 2,000 o gefnogwyr pêl-droed Cymru a aeth ar bererindod i Copenhagen ac Aarhus—sut bynnag mae ei ddweud—yn dod yn ôl yn llawn rhyfeddod, mewn gwirionedd. Canlyniad siomedig i bêl-droed, ond eu hymdeimlad o edmygedd a gwerthfawrogiad o'r modd y mae'r Daniaid yn synied am drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol—dyna oedd y prif beth a ddarllenwn ar Twitter.

Trawsnewid dinasoedd fel Copenhagen yn ddinasoedd beicio—. Wrth gwrs, yr hyn y mae pobl yn ei anghofio yw nad oedd Copenhagen bob amser fel hyn. Newid diwylliannol diweddar iawn ydyw, a digwyddodd trwy arweiniad gwleidyddol eglur a oedd yn bwydo drwodd wedyn i gymdeithas sifil yn ogystal. Mae'r cynnydd anferth o 68 y cant mewn traffig beicio, y £240 miliwn neu'r 2 biliwn DKK a fuddsoddwyd mewn un ddinas yn unig ar seilwaith beicio-gyfeillgar—. A chanlyniad hynny, wrth gwrs, oedd—beth oedd hi, ddwy flynedd yn ôl—fod synwyryddion wedi cofnodi'r record newydd fod mwy o feiciau nag o geir bellach yng nghanol y ddinas am y tro cyntaf.

Gan symud at argymhellion yr adroddiad, mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 7, sy'n golygu y bydd yr arolwg 'Polisi Cynllunio Cymru' presennol yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i gryfhau cefnogaeth i deithio llesol, ac mae hynny'n iawn. Ond mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen arnom yw dod â theithio llesol o ble mae wedi bod, sef ar ymylon polisi trafnidiaeth, i'w graidd. Dyna natur yr her i bob un ohonom a dweud y gwir.

Mae argymhelliad 18 yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu llinell gyllideb gylchol ar gyfer ariannu teithio llesol, fel y clywsom, ar lefel o £17 i £20 y pen y flwyddyn. Dyna lefel y cyllid y byddai angen i ni yng Nghymru ei—

Diolch am ildio, Adam Price. Roeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf pan fuom yn ystyried y ddeddfwriaeth gychwynnol ar deithio llesol. Daeth un Lee Waters, sydd bellach yn Aelod dros Lanelli, atom i roi llawer o dystiolaeth yn rhinwedd ei swydd gyda Sustrans ar y pryd. Roeddem yn dweud yr hyn rydych newydd ei ddweud yn eich araith—fod yn rhaid i hyn fod yn fwy nag ychwanegiad yn unig. Dylai teithio llesol fod yn ganolog i'r holl ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio, ac yn ganolog i holl ystyriaethau cynghorau lleol. A ydych yn rhannu fy ngofid nad yw hynny'n digwydd yn awr, bum mlynedd yn ddiweddarach?

15:50

Ydw. Wyddoch chi, mae pawb ohonom yn esblygu ac efallai, wrth ddod yn dad, rydych yn dechrau meddwl am bethau mewn ffordd wahanol. Rydym yn dweud rhai o'r pethau cywir a rhai o'r un pethau. Mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau. Mae angen inni osod targed yn gyntaf i fod i fyny yno gyda'r gwledydd bach hynny—i fyny yno gyda Caergrawnt, sy'n gwario ar y lefel hon.

Yn olaf, o ran derbyn argymhellion mewn egwyddor, roeddwn yn meddwl bod y Llywodraeth wedi dweud ym mis Ionawr y byddai'n rhoi'r gorau i dderbyn argymhellion mewn egwyddor, oherwydd bod hynny'n gwneud atebolrwydd yn anodd iawn wir. Felly, a gawn ni eglurder hefyd gan y Llywodraeth? Os yw'n gwrthod neu'n anghytuno ag argymhellion, credaf ei bod yn haws os yw'n dweud hynny yn hytrach na chael rhyw fath o'r math hwn o—disylwedd oedd y term technegol a ddefnyddiwyd yn gynharach rwy'n credu. Oherwydd nid yw hynny o fudd i neb.

Un mlynedd ar ddeg yn ôl safwn ar risiau'r Senedd i gyflwyno deiseb i Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd ar y pryd, o blaid deddf i hyrwyddo cerdded a beicio. A ddegawd wedyn, mae gennym ddeddf a rhaid imi ddweud, er mawr glod i Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennym y talp gwirioneddol sylweddol cyntaf o arian y tu ôl iddo. Ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn haeddu clod go iawn am hynny. Ond gadewch inni fod yn onest am hyn. Yr hyn rwy'n ei gael yn fwyaf digalon am yr ymchwiliad hwn—a chawsom dystiolaeth dda, ac mae'n adroddiad purion—yw mai'r un pethau sydd wedi bod yn codi dro ar ôl tro dros y degawd neu fwy y bûm yn rhan o'r ddadl hon. Rydym yn cydnabod beth sydd angen ei newid, ond nid ydym yn gwthio newid ar y lefel sylfaenol. Un mlynedd ar ddeg yn ôl, newidiais fy ail gar a phrynu beic. Nid oeddwn wedi bod ar gefn beic er pan oeddwn yn fy arddegau, ac roedd y profiad o feicio yng Nghaerdydd ar y pryd o gymharu â nawr yn wahanol iawn. Roedd yn beth go ecsentrig i'w wneud 11 mlynedd yn ôl; bellach mae'n beth prif ffrwd i'w wneud. Mae beicio yn Llanelli yn awr fel yr oedd yng Nghaerdydd 11 mlynedd yn ôl—mae mynd ar hyd prif strydoedd y dref ar gefn beic yn beth go ecsentrig i'w wneud; nid wyf yn gweld llawer o rai eraill yn ei wneud. Rwy'n gweld eraill ar lwybrau di-draffig o amgylch y dref, ond nid fel dull bob dydd o deithio. Ond mae Caerdydd, rwy'n credu, yn dangos y gallwch greu momentwm a newid trwy fàs critigol, ac mae hynny'n digwydd yn organig, nid oherwydd y pethau y mae'r Llywodraeth a'r Cyngor wedi'u gwneud at ei gilydd, ond oherwydd bod momentwm y tu ôl iddo.

Ond yr hyn a welais o brofiad personol yw mai'r manylion sy'n bwysig mewn gwirionedd, ac mae angen inni ystyried hyn o safbwynt rhywun na fyddai fel arfer yn beicio. Dyna'r broblem gyda'r ddadl hon, a dyna'r perygl o wneud Geraint Thomas yn esiampl. Nid pobl nodweddiadol yw'r rhain. Pencampwyr elitaidd yw'r rhain sy'n gwneud ymdrechion gorchestol i gyflawni tasgau anferthol. Ac mewn gwirionedd, dylem fod yn gweld hyn drwy brism fy mam a fi a fy mhlant, a'r pethau bach sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth. A yw ymyl y palmant yn gostwng yn y man cywir? A oes arwydd yn dangos i chi ble i fynd? A ydych chi'n teimlo'n ddiogel a chyfforddus? A dyna lle rydym yn methu.

A rhaid imi ddweud fy mod wedi teimlo'n eithaf digalon wrth ddarllen ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad, gan ei fod yn adroddiad heriol, ond mae'r ymateb a gyflwynwyd gan swyddogion yn gwneud i chi feddwl eu bod yn gwneud hyn i gyd, eu bod wedi concro'r peth. A gwyddom o'r dystiolaeth a gawsom nad ydynt yn gwneud hyn i gyd; nid ydym wedi'i goncro. Cam cyntaf newid yw cydnabod lle rydych yn methu, ac nid oes unrhyw gywilydd yn hynny. Mae hon yn agenda heriol iawn o newid diwylliannol. Gallwn gynhyrchu strategaethau yr ydym yn eu hoffi—gwyddom o lyfrau ar reoli fod diwylliant yn bwyta strategaeth i frecwast, ac mae hynny'n wir yn yr achos yma. Clywsom y dystiolaeth fanwl am arferion peirianneg, am swyddogion cynllunio awdurdodau lleol a'u hagweddau, eu rhagdybiaethau. Dyma'r pethau y mae angen inni eu newid a'r hyn rwy'n poeni yn ei gylch, ar ôl gweld Llywodraeth, yw nad yw'r capasiti yno, nid yw'r arbenigedd yno, nid yw'r cyrff yno i wneud i hyn ddigwydd. Oherwydd rhaid inni gael y manylion yn iawn.

Credaf fod trosglwyddo peth o'r cyfrifoldeb i Trafnidiaeth Cymru am hyn yn galonogol, cyhyd â bod y cylch gwaith ganddynt, a'r capasiti i'w wneud. Ac rwy'n poeni am yr arian a ddyrannwn ar hyn o bryd—pa mor dda y caiff ei wario, ar sail y dystiolaeth a gawsom—oherwydd mae'n iawn i awdurdod lleol gyflwyno cynllun, ond os nad yw'n cydymffurfio'n fanwl â'r canllawiau cynllunio da iawn a luniodd Phil Jones ar ran Llywodraeth Cymru, nid yw'n mynd i weithio—mae'n wastraff arian. Rwyf o blaid dyblu'r arian, ond os na chawn y pethau sylfaenol yn iawn, mae'n wastraff arian, a dyna ble y credaf fod angen i'r Llywodraeth ganolbwyntio yma. Nid yw cael dadleuon a chyflwyno datganiadau lefel uchel yn unig yn ddigon da. Rhaid cael trylwyredd, rhaid cael ffocws, rhaid cael her—ohoni ei hun ac ymysg yr holl wahanol bartneriaid—er mwyn cael y manylion yn iawn, oherwydd mae'n anodd ond mae'n bosibl ei wneud. Rwy'n annog y Gweinidog yn gryf i ystyried sut y gall newid sylweddol ar y lefel weithredol honno ddigwydd.

Oherwydd, wrth gwrs, paradocs hyn yw nad sôn am bolisi trafnidiaeth a wnawn mewn gwirionedd; polisi iechyd yw hwn. Mae'n bolisi iechyd y gofynnwn i beirianwyr priffyrdd ei ddarparu. Ac nid yw peirianwyr priffyrdd yn ei ddeall. Maent wedi'u hyfforddi i ddarparu ar gyfer gwneud i geir yn symud yn gyflymach, ac yn aml, nid ydynt yn deall. Nid yw'n fai arnynt hwy. Rhaid inni eu helpu, rhaid inni eu hyfforddi, rhaid inni roi gallu iddynt. Ble mae rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru yn hyn? Roeddwn yn credu bod y dystiolaeth a gawsom gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wirioneddol wael. Maent yn ardderchog am gynhyrchu'r strategaethau sy'n dangos y manteision i iechyd y cyhoedd, ond mae angen iddynt ddod i'r cyfarfodydd hyn i herio, fel y maent yn herio ar ysmygu. Mae angen iddynt wthio'r awdurdodau i wneud yn well?

Gallwn siarad am beth amser ar hyn, Ddirprwy Lywydd, ond yn naturiol, ni allaf wneud hynny. Ond gadewch i mi orffen drwy ddweud rhywbeth am uchelgais. Roeddem yn dweud yn y Ddeddf ein bod yn anelu at

'sicrhau mai cyfuniad o gerdded a beicio yw'r ffordd fwyaf naturiol a normal o symud o le i le.'

Ac eto targed y cynllun gweithredu ar deithio llesol yw cael 10 y cant o bobl i feicio unwaith yr wythnos. Nawr, pan feddyliwch am y targedau sydd gennym ar gyfer ynni adnewyddadwy, sy'n dod yn berthnasol i bob pwrpas mewn penderfyniadau cynllunio—ystyriaethau perthnasol—mae'r rheini'n dargedau heriol. Meddyliwch am y targedau sydd gennym ar ailgylchu—mae'r rheini'n dargedau heriol. Mae gennym lefel uchel o uchelgais yma a'n targed yw cael 10 y cant o bobl i feicio unwaith yr wythnos. Nid yw hynny'n mynd i gyflawni'r uchelgais a nodwyd gennym. Felly, nid oes gennym ddigon o uchelgais, nid ydym yn ddigon trylwyr a gonest ynglŷn â'n sefyllfa, nid oes gennym sgiliau a chapasiti ar lefel leol i fwrw ymlaen â hyn, ac a dweud y gwir, rwy'n dechrau diflasu ar drafod hyn. Rydym i gyd yn cytuno bod angen iddo ddigwydd. Mae yna fwlch rhwng hynny a gwneud iddo ddigwydd. Rhaid inni wella ein perfformiad.

15:55

Yn ystod gwaith craffu'r pwyllgor ar effaith y Ddeddf teithio llesol, a oedd, wrth gwrs, yn cynnwys ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid, nodwyd nifer o fethiannau. Yn bennaf, nodwyd yn y rhan fwyaf o ardaloedd nad oedd wedi arwain at wneud i bobl ddechrau cerdded neu feicio, ac mewn rhai sefyllfaoedd gwelsom ostyngiad yn nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn teithio llesol, yn enwedig o ran plant naill ai'n seiclo neu'n cerdded i'r ysgol. Nawr, gwyddom fod perygl, canfyddedig neu wirioneddol, yn effeithio ar ein gallu ac yn benodol ar awydd rhieni i anfon eu plant i'r ysgol. Felly, dyna un o'r ffactorau sy'n rhaid inni eu cynnwys yn yr holl senario hon o geisio cael pobl ar gefn beiciau neu i gerdded.

Roeddem hefyd yn pryderu nad oedd rhai o gamau gweithredu'r Ddeddf yn cael eu dilyn, er enghraifft nid yw seilwaith teithio llesol yn cael ei gynnwys mewn prosiectau ffyrdd mawr, neu caiff seilwaith teithio llesol ei israddio wrth i brosiectau ddatblygu ac wrth i gyllidebau ddod o dan bwysau—mae Ffos-y-frân yng Nghaerffili yn un prosiect lle na chafodd unrhyw seilwaith teithio llesol ei gynnwys, naill ai ar y cam cynllunio neu'r cam gweithredu.

Roedd un neges yn amlwg iawn gan bob un o'r cyfranwyr i'r ymgynghoriad: diffyg cyllid, a diffyg cyllid hirdymor yn enwedig, a olygai ei bod hi'n amlwg nad oedd gan awdurdodau lleol ddigon o uchelgais i weithredu seilwaith newydd ar gyfer llwybrau teithio llesol. Daeth yn amlwg hefyd nad oedd unrhyw arweiniad strategol effeithiol ar lefel awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru a lle cafwyd llwyddiannau, roedd y rhain yn bennaf yn deillio o frwdfrydedd a gwaith unigolion brwd.

Roedd y broses fapio'n fwy anodd a hirwyntog nag a ragwelodd Llywodraeth Cymru. Felly, roedd y £700,000 a ddyrannwyd i awdurdodau lleol ar gyfer y gwaith yn annigonol, gan arwain at orfodi'r awdurdodau i wneud iawn am y diffyg, gyda rhai rhanddeiliaid yn honni bod hyn wedi arwain at ddargyfeirio arian oddi wrth brosiectau seilwaith.

Mae pawb ohonom yn gwybod am yr effaith y gallai newid sylfaenol yn arferion teithio llesol pobl ei chael ar broblemau tagfeydd cronig a welwn mewn llawer o rannau o Gymru, felly hoffwn gydnabod teilyngdod uchelgais y Llywodraeth yn hyn o beth, ond rhaid iddynt gael eu hariannu'n briodol a'u hannog yn briodol. A gaf fi alw ar Lywodraeth Cymru felly i gynyddu cyllid i'r holl sectorau sy'n gweithredu teithio llesol gan wybod yn sicr y bydd y manteision economaidd a ddaw o deithio llesol yn llawer mwy nag unrhyw arian a werir arno?

16:00

Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon gan fy mod yn gefnogwr cadarn i'r Ddeddf teithio llesol, fel llawer o fy etholwyr yng Ngogledd Caerdydd, a'i lwybr Taf enwog iawn, un o lwybrau beicio a cherdded gwych Cymru. Gwn o gynnwys fy mlwch llythyrau yng Ngogledd Caerdydd pa mor bwysig yw beicio, a hefyd daeth llawer iawn o bobl i'r digwyddiad beicio a drefnais yn ddiweddar, gyda llawer o blant a llawer o drigolion Gogledd Caerdydd, ac roedd yn llwyddiant mawr. Felly, croesawaf yr adroddiad, a chredaf yn sicr ei fod yn tynnu sylw at y materion y mae angen rhoi sylw iddynt os ydym yn mynd i allu newid arferion teithio pobl. Roeddwn i'n croesawu'n arbennig y ffilm ar y dechrau. Roedd hi'n dangos yn glir iawn y mathau gwahanol o drafnidiaeth yn fy marn i, felly llongyfarchiadau i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ffilm.

Mae wedi'i ddweud eisoes, wrth gwrs, mai ymwneud ag iechyd y mae hyn. Credaf fod Lee Waters wedi dweud hynny yn ei gyfraniad, ac felly nid wyf am ailadrodd hynny heddiw. Ond pan ddaeth y Ddeddf teithio llesol i rym yn 2014, rwy'n credu ein bod i gyd braidd yn naïf yn disgwyl gweld cerdded a beicio yn dod yn norm ar gyfer y teithiau byr bob dydd, ac mae'n siomedig na welsom y tueddiadau y disgwyliem eu gweld ar i fyny, a gwn fod mater plant yn arbennig wedi'i godi gan nifer o Aelodau yma heddiw.

Credaf fod adroddiad y pwyllgor wedi nodi rhai o'r rhesymau pam y bu'r cynnydd yn araf hyd yma, yn enwedig yr elfen ddiogelwch, sydd eisoes wedi cael ei thrafod yma, a diffyg seilwaith priodol. Ond credaf ei bod hi'n wirioneddol bwysig ein bod yn cysylltu pob math o drafnidiaeth fel bod teithio llesol yn opsiwn hawdd a hygyrch. Rydym wedi sôn am gael system drafnidiaeth integredig yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ond rydym yn dal i fod ymhell o gyflawni hynny. Credaf fod integreiddio teithio llesol gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn rhan hanfodol o greu newid sylweddol yn y ffordd y teithiwn.

Gwn fod rhywun yma heddiw wedi dweud bod masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau yn gyfle a gollwyd, ond i mi mae'n gyfle gwych, a chredaf y bydd yna gyfle go iawn gyda'r fasnachfraint honno i sicrhau, ochr yn ochr â datblygu metro de Cymru, ein bod yn adeiladu beicio a cherdded yn rhan o'r system gyfan. Mae'n gyfle gwych i integreiddio cerdded a beicio'n well gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Fel y dywedodd y Cadeirydd eisoes, fel y dywed Sustrans, rhaid i orsafoedd trên ddod yn ganolfannau teithio llesol, gan ei gwneud yn haws i gymudwyr, pobl leol ac ymwelwyr gadw'n heini, ac mae angen inni sicrhau bod pob gorsaf yn hygyrch i gerddwyr a beicwyr, fod yna lefydd diogel i adael beiciau a bod mynediad i bobl anabl yn gwella er mwyn sicrhau cydraddoldeb i bawb.

Yng Nghaerdydd, rwy'n credu bod cynnydd mawr wedi bod yn y nifer sy'n beicio. Yn sicr, mae yna lawer mwy o feiciau ar y ffordd yng Nghaerdydd, a chredaf ein bod oll wedi gweld y cynnydd ym mhoblogrwydd nextbike yng Nghaerdydd, gyda lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd. Eisoes mae gennyf rai o'r mannau docio hyn yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd, a gwn fod rhagor yn dod cyn bo hir i Riwbeina, yr Eglwys Newydd a Gogledd Llandaf. A bydd hyn yn rhoi cyfle delfrydol i gynyddu teithiau beic yn y ddinas o orsafoedd trenau, y brifysgol, gweithleoedd a chyrchfannau i dwristiaid.

Wrth gwrs, mae gennym ddatblygiad cyfnewidfa drafnidiaeth newydd Caerdydd yng nghanol y ddinas—yr orsaf fysiau, fel y byddwn yn ei galw yng Nghaerdydd. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle enfawr arall i gynnwys beicio, cerdded a hygyrchedd yn y lle hwnnw. Mae wedi cymryd amser hir i gyrraedd lle rydym yn awr, ond rwy'n obeithiol iawn y bydd y gyfnewidfa drafnidiaeth honno'n anogaeth fawr i gerddwyr a beicwyr.

Credaf y bydd pobl yn ei chael hi'n llawer haws penderfynu gadael eu car gartref os gallwn greu system deithio llesol a chyhoeddus wirioneddol integredig. Felly, rwy'n cydnabod bod yr adroddiad wedi dweud pa mor anodd yw hi a sut y bu diffyg cynnydd, a chredaf i rywun ddweud yn y ddadl hon hefyd ein bod yn dda iawn yn y sefydliad hwn am wneud deddfwriaeth dda iawn—wyddoch chi, deddfwriaeth sy'n well na dim yn y byd—ond yr her fawr yw sut y mae cymhwyso honno wedyn a sut y mae gweld y cyflawniadau mewn gwirionedd. Ond rwy'n optimistaidd iawn oherwydd credaf fod gennym sylfaen yn ei lle. Yn sicr, yng Nghaerdydd, rydym wedi gweld bod yna ewyllys i'w wneud—newid mawr sy'n digwydd wrth inni siarad yma. Felly, rwy'n teimlo'n optimistaidd ar gyfer y dyfodol ac yn diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn.

16:05

Weinidog, rwy'n credu eich bod wedi clywed y pryderon go iawn a geir yn y Siambr hon, er bod rhai pethau cadarnhaol yno yn ogystal, ond fel y mae'r enwog Mark Isherwood newydd ddweud wrthych, nid yw eich ffordd ddisylwedd yn gwneud y tro, ac a dweud y gwir, mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei ategu'n gadarn iawn.

Rwy'n credu o ddifrif fod craffu ar ôl deddfu yn agwedd hanfodol o'r hyn sydd angen inni ei wneud yn y Siambr hon, a dylem wneud mwy ohono. Ganed y ddeddfwriaeth hon o'r sector dinesig, cafodd ganmoliaeth eang ledled y DU, gan gynnwys ym mhapur newydd The Times, a dynnodd sylw ato fel maes gweithgarwch deddfwriaethol a allai hyrwyddo lles y cyhoedd o ddifrif, ac eto o'r 24 o argymhellion, mae'r Llywodraeth yn derbyn 11, ac yna'n derbyn 11 arall mewn egwyddor ac yn gwrthod dau. Rhaid imi ddweud, os nad yw hynny'n ddisylwedd, beth sydd? 'Derbyn mewn egwyddor', wrth gwrs, yw ffordd y Llywodraeth o ddweud, 'Ie, ond—' gyda'r pwyslais yn fawr ar yr 'ond'. Wel, nid yw hynny'n mynd i sicrhau'r math o newid sydd ei angen arnom. Fodd bynnag, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 15, sy'n golygu y bydd prosiectau seilwaith Llywodraeth Cymru yn arddangos y dulliau teithio llesol arloesol y mae'n disgwyl eu gweld gan awdurdodau lleol, gan geisio arwain drwy esiampl o leiaf, ac mae angen iddi ei wneud yn llawer mwy eang mewn meysydd eraill o bolisi cyhoeddus, fel y mae Julie Morgan newydd ei nodi mewn perthynas â'r fasnachfraint rheilffyrdd, er enghraifft.

Felly, mae angen inni fynd lawer ymhellach, a gadewch i mi sôn ychydig am ddatblygiadau tai newydd. Nawr, pe baem yn trawsnewid y rheini a sicrhau eu bod yn addas iawn ar gyfer teithio llesol, mae'n enghraifft o'r hyn y gallem ei wneud mewn mannau eraill, oherwydd nid ydym yn adeiladu cymaint â hynny, ac yn amlwg, mae angen inni fynd yn llawer pellach na chymunedau newydd. Ond dylem gael eu cynllun yn iawn fan lleiaf, a chredaf y byddai defnydd gwell, er enghraifft, o gytundebau adran 106 yn ffordd ddefnyddiol o sicrhau bod y system gynllunio yn ymgorffori teithio llesol. Mae'r Llywodraeth, a bod yn deg, yn gwneud hyn i ryw raddau gyda seilwaith cerbydau trydan, nad yw'n deithio llesol yn hollol ond o leiaf mae'n fwy gwyrdd, a chredaf y dylech ymestyn hynny o ran yr agenda teithio llesol. Mae angen i'n polisïau fod yn meddwl 50 mlynedd i'r dyfodol yn ogystal â beth y gallwn ei gyflawni'n weddol gyflym, fel y nododd Adam Price gan ddefnyddio Copenhagen fel enghraifft. Felly, dyna sydd angen inni ei weld mewn gwirionedd—newid go iawn—er mwyn manteisio i'r eithaf ar y potensial ar gyfer teithio cynaliadwy, ac mae hynny'n galw am ffordd glir a synhwyrol ymlaen, gyda'r Llywodraeth yn arwain, a sicrhau bod cynaliadwyedd wedi'i ymgorffori mewn datblygiadau newydd ar gyfer cerdded, beicio a llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae gwir angen iddo fod yn ddull cynhwysfawr o weithredu.

Rwy'n credu ei bod hi'n werth inni edrych ar arferion gorau mewn mannau eraill, ac mae llawer ohonynt i'w gweld yn Ewrop. Rwy'n sôn yn awr am Ewrop diwylliannol ac Ewrop fel ffynhonnell syniadau ysbrydoledig yn dod gan lywodraethau ac ardaloedd a'r bobl. A gaf fi dynnu sylw—a gobeithiaf fod fy Almaeneg yn ddigon da—at enghraifft o'r math hwn o feddylfryd yn natblygiad preswyl Vauban sydd wedi'i leoli ar ymyl ddeheuol dinas Freiburg—rwy'n meddwl fy mod wedi ynganu hynny'n gywir—sy'n cynnwys 5,000 o drigolion? Roedd y nodau ar gyfer y datblygiad hwn, a gwblhawyd yn 2006, yn cynnwys creu ardal lle roedd llawer llai o ddefnydd o geir. Canolbwyntiai ar drafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd da a seilwaith teithio llesol ochr yn ochr â chymhellion economaidd i annog pobl i beidio â phrynu a defnyddio ceir. Nawr, nid yw hynny'n addas ar gyfer pawb, ond wyddoch chi, arweiniodd yr hen gysyniad o ardd-bentref—gardd-faestrefi—y ffordd at newid cymdeithasol. Byddech yn cael grwpiau a fyddai eisiau arddel gweledigaeth o'r fath ar gyfer eu bywydau a chael strydoedd lle gallai eu plant chwarae a bod yn ddiogel. Mae llawer o ddatblygiad amgylchedd di-gar Vauban wedi bod yn llwyddiannus; ni chewch barcio yn y gymuned, ceir mannau parcio ar y cyrion, ac o ganlyniad, mae mwyafrif y trigolion yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a cherdded neu feicio er mwyn teithio o gwmpas. Canlyniad hyn yw mai 164 o geir sydd yna i bob 1,000 o bobl yn Vauban—llawer is na'r cyfartaledd ar gyfer Freiburg, sydd eisoes yn gwneud yn well o lawer na'r rhan fwyaf o ddinasoedd yr Almaen i hyrwyddo teithio llesol.

A gaf fi orffen? Efallai y dylem lenwi'r cylch yma a chael dull radical ar waith o ran y defnydd o gerbydau yn ein hardaloedd dinesig lle rydym yn caniatáu cerbydau a rhagdybiaeth o 20 milltir yr awr, a chredaf y bydd hynny, unwaith eto, yn gwneud teithio llesol ei hun yn fwy dymunol a diogel. Nid wyf am bwysleisio mater diogelwch yn ormodol, gan mai'r dewis mwyaf diogel o hyd, fel arfer, yw dulliau teithio llesol. Ond mae angen iddo fod yn rhan o'r hyn y dylem ei wneud ac rwy'n gobeithio y gwelwn rywfaint o newid o ran y terfynau cyflymder yn fuan iawn. Ac rwy'n canmol Caerdydd am arwain y ffordd yng Nghymru ar hyn o bryd a datblygu arferion gorau yno.

16:10

Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn adeiladu fy sylwadau o gwmpas un ateb penodol iawn ar gyfer gwella cyfleoedd teithio llesol. Ni fydd yr ateb penodol a gynigiaf yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet gan ei fod yn un y bûm yn ei hyrwyddo'n gyson ers i mi gyrraedd y lle hwn, sef ailagor twneli rheilffordd segur ledled Cymru fel llwybrau ar gyfer cerdded a beicio.

Bydd fy sylwadau'n canolbwyntio ar dwnnel Abernant yn bennaf, twnnel sy'n cysylltu Cwm-bach yn fy etholaeth gyda thref Merthyr Tudful. Gan ddisgyn i 650 troedfedd o dan y ddaear yn ei fan dyfnaf, agorwyd y twnnel yn 1853 ac roedd yn gysylltiad rheilffordd pwysig rhwng y cymoedd am 110 mlynedd. Ar ei letaf, mae lle yn yr adeilad 1.3 milltir o hyd i ddau drac. Hyd yn oed ar ei fwyaf cul, gall car mawr fynd drwyddo'n gyfforddus. Mae ei hanes yn drawiadol. Cafodd y twnnel ei fesur a'i gynlluniau eu paratoi gan Isambard Kingdom Brunel, y peiriannydd enwog o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y pleidleisiodd y cyhoedd dros ei ddyfarnu'n ail Brydeiniwr enwocaf erioed. Ond yn fwyaf trawiadol, mae'n amlwg y gallai ailagor hwn fel llwybr teithio llesol ateb nifer o'r heriau a nodwyd gan ein hadroddiad.

Yn unol â'n hargymhelliad cyntaf, er mwyn i uchelgais y Ddeddf teithio llesol gael ei wireddu, buaswn yn dadlau'n gryf ein bod angen cynlluniau blaenllaw sy'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ysbryd y Ddeddf. Ac yn y £0.25 miliwn y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi'i ddyrannu ar gyfer datblygu'r gwaith o ailagor twneli Abernant a Rhondda, rydym yn dechrau gweld hyn yn cychwyn. At hynny, ac yn unol â'n trydydd argymhelliad, cyflwyna'r twnnel ffordd arloesol ac unigryw o ddenu pobl nad ydynt fel arfer yn cerdded neu'n beicio. Wedi imi fod yn siarad am y twnnel, neu'n sôn amdano ar y cyfryngau cymdeithasol, crëwyd cyffro go iawn yn y gymuned leol. Rwy'n credu y byddai twnnel Abernant nid yn unig yn denu cerddwyr a beicwyr, ond byddai hefyd yn annog pobl i gerdded drwy'r adeilad hanesyddol hwn.

Mae'r gwaith partneriaeth sy'n sail i gynnydd ar y twnnel hyd yma hefyd yn cyflawni argymhelliad 5 yn gampus. Er mwyn inni gyrraedd lle rydym, cafwyd ymgysylltiad ac ymwneud â Sustrans, gyda chwmnïau lleol yn fy etholaeth a'r cynghorau. Credaf hefyd y byddai ailagor twnnel Abernant yn helpu, yn rhannol, i gyflawni argymhelliad 20 o ran seilwaith. Un dadl gyffredin a wnaed gennyf fi ac ACau eraill y Cymoedd yw y dylai rhwydweithiau trafnidiaeth wneud mwy na rhedeg o'r gogledd i'r de yn unig, gan wneud cymunedau balch y Cymoedd yn fawr mwy na maestrefi cymudwyr i'r brifddinas. Yn hytrach, mae angen inni feddwl am lwybrau cadarn a dynamig o'r dwyrain i'r gorllewin rhwng cymunedau'r Cymoedd. Gallai twnnel Abernant greu cysylltiad teithio llesol bywiog rhwng fy etholaeth a Merthyr Tudful.

Ar y pwynt hwn, mae'n werth cofio mai dim ond un twnnel yn unig y gellid ei addasu yw hwn. Pan wnaeth Sustrans waith ar 21 o dwneli rheilffordd segur, roeddent yn dweud bod Abernant yn ddeniadol gan fod ganddo botensial llawer iawn mwy na'r lleill ar gyfer newid y ffordd y mae pobl yn teithio. Mapiodd Sustrans ddata cyfrifiad a nodi'r niferoedd fawr o bobl a oedd yn teithio rhwng y ddau Gwm. ond roeddent hefyd yn nodi'r posibilrwydd o allu ailagor naw twnnel arall i fod yn llwybrau teithio llesol. A gallai hyn sicrhau'r newid moddol y mae'r pwyllgor yn galw amdano yn ein casgliad cyntaf.

Ar ben hynny, maent yn amlygu'r manteision y soniwn amdanynt yng nghasgliad 3. Er enghraifft, mae Sustrans wedi gwneud gwaith ar y posibilrwydd o ailagor twnnel Abernant fel llwybr teithio llesol i greu swyddi. Byddai cyfleoedd cyflogaeth yn cael eu creu wrth i'r llwybr gael ei ailagor a'i drawsnewid ar gyfer teithio llesol, wrth wneud yn siŵr fod llwybrau cerdded a beicio i'r twnnel yn addas i'r diben ac wrth sicrhau bod y twnnel yn parhau i fod mewn cyflwr diogel a chroesawgar. Byddai addasu'r twnnel hefyd yn gwella cysylltiad â BikePark Cymru a llwybrau Cynon a Taf. Gallai hyn greu swyddi newydd o bosibl a diogelu gwaith gweithwyr presennol wrth i niferoedd yr ymwelwyr gynyddu.

Gallwn weld enghreifftiau lle mae llwybrau teithio llesol wedi cael yr effaith hon. Pan grëwyd Two Tunnels Greenway rhwng Caerfaddon a gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf fel llwybr beicio, yn seiliedig ar ran o hen reilffordd Gwlad yr Haf a Dorset, heidiodd pobl o bob cwr i ddathlu ei agoriad. Yn ogystal â dod yn llwybr a ddefnyddir yn helaeth gan bobl leol, mae'r twnnel hefyd wedi dod yn atyniad i dwristiaid ynddo'i hun. Daw llawer o ymwelwyr i weld y twnnel beicio hiraf yn y DU ar hyn o bryd, ac mae'r twnnel hwnnw'n fyrrach nag Abernant mewn gwirionedd.

Wrth gwrs, mae teithio llesol yn ymwneud hefyd â gwneud dewisiadau amgylcheddol gwell, a hybu iechyd a lles, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc. Fel y dywedais, i wneud hyn rhaid inni wneud cynnig mentrus ac arloesol. Mae rhoi anadl newydd i'n hen dwneli trên yn darparu cynnig o'r fath.

16:15

Cytunaf â'r rhai sy'n dweud nad ydym wedi gwneud digon mewn gwirionedd dros y pum mlynedd diwethaf. Roeddwn yn ymwneud â drafftio'r Ddeddf hon, ac mewn gwirionedd, mae ein cynnydd ar weithredu ac effaith wedi bod yn eithaf siomedig. Credaf fod yn rhaid inni bellach fynd ar drywydd y newid sy'n rhaid inni ei wneud yn gyflym—awgrymwyd £62 miliwn, rwy'n credu, gan Adam Price. Arian bach yw hwn—arian hollol ddibwys—o gymharu â'r taliadau a gaiff eu gorfodi gan y llysoedd, a fydd yn ein llusgo'n ôl am fethu â mynd i'r afael â'n llygredd aer. Felly, mae teithio llesol yn un o'r ffyrdd allweddol y gallwn wneud rhywbeth am y llygredd aer sy'n llythrennol yn lladd rhai o'n dinasyddion, ac ni allwn barhau i fynd ar hyd y ffordd yr ydym yn mynd ar hyd-ddi ar hyn o bryd.

Pan oeddwn yn dod i'r Senedd y bore yma, fe basiais ddyn ar ffyn baglau a oedd yn hebrwng ei blentyn i'w ysgol. Roedd yn cerdded i'r ysgol. Mae'n fwy na thebyg nad oedd ganddo gar, ond a dweud y gwir, os gall ef wneud hynny, gall unrhyw un ei wneud. Nid oes unrhyw esgus dros ddefnyddio car i fynd ar deithiau byr i fynd â'u plentyn i'r ysgol. Nid yn unig eu bod yn cynyddu'r gwenwyn y mae eu plant yn ei gael, am eu bod mewn car, na phe baent ar y ffordd, ond hefyd maent yn gwneud y peth anghywir o ran gweddill y gymuned hefyd. Ac felly, rhaid inni ddefnyddio moron a ffyn i gael y newid y mae nifer o bobl wedi awgrymu bod angen i ni ei wneud.

Rwy'n cytuno â Julie Morgan fod nextbike wedi bod yn ddatblygiad gwych yn ein prifddinas. Cyflwynwyd nextbike yng Nghaerdydd yn fwy llwyddiannus nag yn unrhyw ddinas yn y byd. Ers mis Ebrill/mis Mai yn unig y maent wedi bod yn weithredol a bellach mae ganddynt—neu bydd ganddynt y penwythnos hwn—500 o feiciau ar waith, a 50 o fannau lle gallwch eu casglu a'u gadael. Ac mae ganddynt dechnoleg i sicrhau nad yw'n werth chweil i bobl geisio'u dwyn, oherwydd yn y broses byddant wedi'u difetha ac yna ni fydd modd eu defnyddio. Felly, credaf ei fod yn ddatblygiad gwych, ond nid yw'n ddigon. Mae'n rhaid inni newid agwedd pobl tuag at wneud teithiau bob dydd ar droed ac ar feic.

Rwy'n falch iawn o weld Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yma, oherwydd teimlaf fod yr hyn a wnawn â'n pobl ifanc yn ein hysgolion yn allweddol i wneud y newid hwnnw, oherwydd mae angen inni sicrhau bod gwersi hyfedredd beicio mewn ysgolion yn ystyrlon, a'i fod yn arwain at bobl yn defnyddio'u beiciau ar gyfer cyrraedd yr ysgol. Anaml iawn y bydd plant yn beicio i'r ysgol, ac mae'n ymddangos i mi mai dyna un o'r pethau sy'n rhywbeth y dylai pob person ifanc gael y cyfle i wneud, a dylem gael cynlluniau benthyciadau i alluogi rhieni i brynu beic ar gyfer eu plant os nad ydynt yn gallu talu amdano i gyd ar unwaith. Hoffwn weld yr holl arweinwyr ysgol yn gorfod darparu cynlluniau teithio llesol i bob un o'u hysgolion, a'i gwneud yn glir fod hyn i'w ddisgwyl—mai dyna sut y bydd disgyblion yn teithio i'r ysgol.

Ni allwn barhau fel y gwnawn ar hyn o bryd. Ni allwn gyflawni 'Cymru Iachach', sef ein strategaeth ddiweddaraf ar gyfer gwella'r GIG, oni bai ein bod yn newid ymddygiad pobl. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn annog arweinyddiaeth lawer mwy egnïol i wneud y newidiadau sydd eu hangen, oherwydd yn rhy aml, nid yw'r peirianwyr priffyrdd hyn yn bobl sy'n beicio. Pan euthum adref ddydd Llun, gwelais arwydd newydd yn dweud—wrth imi ddod at bont Sblot—'Beicwyr yn ailymuno â'r ffordd'. Wel, ailymuno â'r ffordd yn y man culaf yw hynny pan allent fod yn aros ar y palmant, lle maent yn llawer mwy diogel. Felly, mae'n amlwg iawn nad yw pobl yn deall o hyd. Yn yr un modd, defnyddir alïau y mae Caerdydd wedi'i bendithio â hwy fel llwybrau tarw gan gerbydau yn y bore, ac mewn gwirionedd maent yn gwthio pobl sy'n cerdded i'r ysgol oddi ar y llwybr. Ni ddylent fod yno o gwbl. Mae angen inni ddefnyddio ein halïau fel lonydd beicio a llwybrau cerdded diogel.

Gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi sicrwydd inni y bydd newid sylfaenol yn digwydd yn y polisi, nid yn lleiaf oherwydd bod angen inni gyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd a lleihau ein hallyriadau trafnidiaeth, a dyma un o'r ffyrdd allweddol y gallwn wneud hynny.

16:20

Fel y Gweinidog ar y pryd a hebryngodd y Ddeddf teithio llesol drwy'r Cynulliad, rwy'n falch iawn fod y pwyllgor wedi gwneud y gwaith craffu ar ôl deddfu hwn. Fel y dywedwyd, roedd yn bolisi a ddaeth drwy'r gymdeithas ddinesig, gyda Sustrans yn amlwg yn chwarae rôl allweddol iawn. Roedd yn tarddu o, ac yn cael cefnogaeth gan y Gymru ehangach, ac roedd yn dda iawn ei datblygu a'i rhoi ar y llyfr statud, ond mae'n amlwg yn siomedig iawn gweld, o ran ei gweithrediad, tua pum mlynedd yn ddiweddarach, nad ydym wedi gweld cynnydd mewn cerdded a beicio, na gwell seilwaith yn wir, fel yr oeddem wedi disgwyl.

Rwy'n credu bod arweinyddiaeth wleidyddol yn gwbl allweddol i hyn—arweinyddiaeth wleidyddol i sicrhau ein bod yn cael y gweithrediad sydd ei angen ar gyfer y newid sylweddol a fydd yn cyflawni'r gwelliannau i iechyd, lles, yr amgylchedd, yr economi ac ansawdd bywyd y mae pawb ohonom am eu gweld. Mae'r Aelodau yn rheolaidd yn codi'r pwyntiau hyn gyda Ken Skates ac yn wir, gyda Gweinidogion eraill, gan ddangos, rwy'n credu, fod consensws ar draws y Siambr i gael y ffocws a'r blaenoriaethau sydd eu hangen. Yng ngoleuni hynny, Ddirprwy Lywydd, rhaid imi ddweud fy mod yn falch iawn fod Ken Skates wedi ymrwymo arian ychwanegol—er fy mod yn cytuno ag eraill fod yna ffordd bell i fynd o hyd—a'i fod hefyd yn awyddus iawn o ran y cyhoeddiadau a'r datganiadau a wnaeth yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill sy'n ymateb yn y ffordd iawn i'r pwyntiau a wnaed gan Aelodau a sefydliadau allanol. Credaf fod Ken Skates yn dangos y newid sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud, er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol, ariannu gwell a mwy o ffocws a blaenoriaethu wrth inni symud ymlaen. Yn amlwg, yr her yw gyrru hynny ar draws Llywodraeth Cymru ac yn wir, ledled rhengoedd y gwasanaeth sifil, gan gynnwys y peirianwyr trafnidiaeth, a gwneud yn siŵr hefyd fod newid diwylliant o'r fath yn digwydd yn ein hawdurdodau lleol, lle mae angen arweinyddiaeth awdurdodau lleol ar ran yr arweinwyr, aelodau cabinet a'u pobl trafnidiaeth i ddeall beth sydd angen ei gyflawni a chymryd y camau angenrheidiol i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni.

Rwy'n cytuno ag eraill hefyd, Ddirprwy Lywydd, ynghylch pwysigrwydd ysgol a gwaith, am mai teithio pwrpasol oedd y nod o'r cychwyn cyntaf. Ar hyn o bryd, ni cheir rhaglen ar gyfer gweithleoedd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru i yrru'r newid sydd ei angen yn niwylliant ein gweithleoedd. Mae'r cyllid ar gyfer ysgolion drwy Sustrans yn bwysig iawn ac yn wir, yn cyflawni cynnydd o 9 y cant ar gyfartaledd mewn teithio llesol dros 12 mis cyntaf y rhaglen, ond nid yw ond yn cyrraedd 8 y cant o'r ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd, felly rwy'n credu bod angen inni adeiladu ar hynny, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod rhagor o ysgolion yn ymwybodol o arferion gorau. Pan ewch i rai ysgolion cynradd yn awr, yn y blynyddoedd cynharaf mae ganddynt feiciau cydbwysedd, maent yn eu darparu ar gyfer y plant nad oes ganddynt feiciau yn y cartref o bosibl, mae'r hyfforddiant yn digwydd—wyddoch chi, mae'n rhoi dechrau da iawn iddynt. Ceir hyfforddiant hyfedredd yn ddiweddarach, fel y soniodd Jenny Rathbone, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod arferion da i'w gweld ym mhob un o'n hysgolion. Ac mae angen inni wneud yn siŵr, oes, fod seilwaith o'n cwmpas i'w gwneud yn ddiogel i deithio, i feicio a cherdded, yn y ffordd yr ydym am ei weld. Yng Nghasnewydd mae llawer mwy o feicio ar hyd glan yr afon bellach ar lwybr Sustrans o ganol dinas Casnewydd i Gaerllion, er enghraifft, am eu bod yn llwybrau oddi ar y ffordd sy'n safonol a diogel. Ond mae angen inni ddarparu llawer mwy o'r cyfle hwnnw yng Nghasnewydd a ledled Cymru.

Ddirprwy Lywydd, un mater arall yr hoffwn sôn amdano'n gyflym, i adleisio'r hyn a ddywedodd David Melding, yw'r parthau 20 mya. Rwy'n credu, ac mae momentwm cynyddol y tu cefn i hyn—mae digwyddiadau wedi'u cynnal ac yn mynd i gael eu cynnal yng Nghymru yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod i wneud 20 mya yn derfyn cyflymder diofyn yng Nghymru, gan symud oddi wrth hynny ar sail amgylchiadau penodol ffyrdd penodol, gyda'r awdurdodau lleol yn gwneud y penderfyniadau hynny. Ond byddai'n derfyn 20 mya diofyn a fyddai'n gymwys ledled Cymru, a chredaf y dylai Llywodraeth Cymru roi'r polisi hwnnw ar waith. Lle mae wedi digwydd, megis Bryste, er enghraifft, maent wedi gweld llawer mwy o bobl yn cerdded a beicio oherwydd mae'n fwy diogel i wneud hynny bellach, ac oherwydd ei fod wedi bod yn rhan o'r newid angenrheidiol yn y diwylliant.

Felly, mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n falch iawn fod Ken Skates wedi dangos blaenoriaeth, ffocws ac ymrwymiad newydd ar ran Lywodraeth Cymru, ac mae angen inni eu gweld ar waith.

16:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf fi hefyd yn edrych ymlaen at gyfarch y beicwyr i'r Senedd pan fyddant yn ymweld yn fuan. Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â dirprwyaeth ohonynt. Rwy'n gobeithio y byddant yn cyrraedd yn ddiogel ac yn gwneud fel y mae Geraint Thomas a llawer o bobl eraill yn ei annog, sef gwisgo helmed. Wrth siarad am ddiogelwch, fodd bynnag, y realiti, fel y dywedodd David Melding, yw ei bod hi'n hynod o ddiogel i seiclo ac i gerdded, ac eto cawn ein peledu ar sail ddyddiol gan ddelweddau a negeseuon sy'n ein hannog i deimlo'n anniogel yn ein bywydau bob dydd, oherwydd bod llawer o bobl am fanteisio ar deimlad o ansicrwydd. Dyna pam fod SUVs wedi dod yn ffordd mor boblogaidd o deithio—oherwydd ein bod yn cael ein hannog gan hysbysebwyr i gredu, oni bai eich bod yn uwch nag eraill, fod eich plant mewn perygl neu eich bod chi mewn perygl. Y gwir amdani yw ein bod yn fwy diogel heddiw yn beicio neu'n cerdded nag y buom erioed, a'r realiti, yn groes i'r hyn a ddywedir wrthym yn barhaus sef bod pawb ohonom yn byw bywydau anhygoel o brysur, yw bod llawer ohonom yn gallu dod o hyd i'r ychydig bach o amser ychwanegol i feicio neu i gerdded i'r gwaith neu i'r ysgol, neu at y gwasanaethau yr ydym—[Torri ar draws.] Iawn, yn sicr.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. O ran diogelwch, credaf eich bod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod llawer o'r cwestiynau sy'n codi ynglŷn â diogelwch yn ymwneud â chanfyddiad, ond mae'n broblem go iawn i fenywod a merched sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a beicio a cherdded, yn enwedig yn y nos. A gaf fi eich annog, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth i ni yrru'r agenda teithio llesol hon yn ei blaen, i wneud yn siŵr fod y pryderon dilys hynny—ac maent yn beryglon dilys—yn cael sylw, a materion fel goleuo yn benodol, a sicrhau bod llwybrau sy'n mynd drwy ardaloedd lle mae pobl, lle nad ydych ar eich pen eich hun os ydych chi'n beicio a cherdded yn ystod y nos fel menyw, yn rhan awtomatig o'r modd y datblygir y cynlluniau hynny?

Yn hollol. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod. Ceir materion penodol sy'n arbennig o berthnasol ac yn broblem arbennig i fenywod a merched. Credaf y buaswn hefyd yn cynnwys yr henoed yn hynny ac mae'n rhywbeth rwy'n ymwybodol iawn ohono. Ond mae'n anodd weithiau i wthio'n erbyn y symiau enfawr o arian sy'n cael ei wario ar ein hannog i deimlo'n llai diogel yn ein bywydau bob dydd. Fodd bynnag, os ceir màs critigol, fe allwch chi newid ymddygiad, cyhyd â bod hynny'n gysylltiedig â seilwaith mwy diogel, mwy cyfleus. Yna gallwch weld y math o ddatblygiadau a welsom yn Copenhagen, ac yng Nghaerdydd yn wir. Rwy'n siŵr y bydd Lee Waters yn gallu mynegi barn ynglŷn ag a yw'n fwy diogel i feicio a cherdded yng Nghaerdydd heddiw nag 20 mlynedd yn ôl. Fy ngobaith i fyddai ei bod hi'n sicr yn fwy diogel, a buaswn yn pwyso ar bob Aelod i annog, nid yn unig eu hetholwyr eu hunain, ond y bobl y maent yn ymgysylltu â hwy ar sail ddyddiol, i deithio mewn modd mor llesol ag y gallant.

Rwy'n credu'n bendant fod y Ddeddf teithio llesol yn llwyddiant mawr. Mae'n rhywbeth rwy'n arbennig o falch ohono ac ni chredaf y dylem danbrisio'r effaith a gafodd y Ddeddf eisoes. Mae wedi cyflawni rhywbeth na wnaethpwyd erioed o'r blaen yng Nghymru. Ac ers ei chychwyn bedair blynedd yn ôl, mae'r Ddeddf wedi arwain at ddatblygu cynlluniau'n systematig ar gyfer rhwydweithiau cerdded a beicio diogel ar gyfer yr holl drefi mwy a chanolig eu maint a phentrefi yng Nghymru—mwy na 140 ohonynt.

Credaf fod creu'r cynlluniau yn gyflawniad allweddol, ond nid ydym wedi rhoi'r gorau i fuddsoddi mewn seilwaith yn y cyfamser. Yn y pedair blynedd ariannol ers gwneud y Ddeddf, rydym wedi buddsoddi mwy na £60 miliwn mewn seilwaith cerdded a beicio o'r cyllidebau trafnidiaeth yn unig. Mae'r ffigur yn cynnwys cyllid ar gyfer tua 125 o gynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, a thua 70 o gynlluniau'r gronfa trafnidiaeth leol sy'n canolbwyntio ar deithio llesol. Ond nid yw'r arian hwnnw'n cynnwys gwelliannau ehangach a ariannwyd gennym fel rhan o gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd, cyfyngiadau terfyn cyflymder a chynlluniau trafnidiaeth integredig.

A nawr bod y cynlluniau yn eu lle, rydym yn cyflymu'r gwaith o greu llwybrau teithio llesol. Eleni, rydym eisoes wedi dyrannu mwy na £22 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer gwelliannau teithio llesol lleol drwy ein grantiau trafnidiaeth lleol ac wedi addo £50 miliwn pellach ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol fel rhan o'r gronfa teithio llesol, ar ben y £10 miliwn ar gyfer Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Ac fel y dywedodd Julie Morgan, byddwn yn gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar wella gorsafoedd trên a gorsafoedd bysiau yng Nghymru, gyda'r nod o wella cyfleoedd i bobl fabwysiadu arferion teithio llesol.

Nawr, rwy'n cydnabod, fel yr amlygwyd gan argymhellion y pwyllgor, y gellid ac y dylid gwella prosesau. Rwy'n credu bod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor yn dangos ein parodrwydd i wneud hyn. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, gyda Sustrans a phartneriaid eraill i ystyried ac i ddysgu o brofiad y camau cynnar a llywio camau dilynol y broses. Byddwn yn nodi gwelliannau pellach y gellir eu gwneud i'r broses.

Eisoes rydym wedi cryfhau cynrychiolaeth awdurdodau lleol ar y bwrdd teithio llesol, fel yr argymhellwyd, ac rydym wedi croesawu cynrychiolaeth ranbarthol newydd yng nghyfarfod diwethaf y bwrdd ym mis Mehefin. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn aelod parhaol o'r bwrdd teithio llesol bellach ac rwyf wrth fy modd fod Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio arweinydd teithio llesol dynodedig i adeiladu capasiti arbenigol yn y sefydliad, fel y trafodwyd gyda'r pwyllgor yn gynharach eleni.

Ac roeddwn yn cytuno gyda'r pwyllgor fod yn rhaid gweithredu'r Ddeddf mewn modd integredig. Derbynnir yn gyffredinol fod gan deithio llesol botensial i sicrhau manteision uniongyrchol mewn ystod eang o feysydd, ac mae hyn yn golygu nad mater trafnidiaeth yn unig neu hyd yn oed yn bennaf yw cynyddu lefelau teithio llesol, fel y dywedodd Lee Waters. O'm rhan i, nid wyf yn cerdded a beicio'n rheolaidd er mwyn ysgafnhau traul ar fy nghar nac i arbed costau ar danwydd; rwy'n ei wneud er fy lles meddyliol ac emosiynol a chorfforol fy hun. Ac rwy'n credu bod Vikki Howells wedi gwneud achos cryf iawn dros fuddsoddi mewn teithio llesol er mwyn gwella iechyd a lles ar draws y wlad.

Rwy'n gweld gwerth mewn partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd y mae teithio llesol yn eu cynnig, yn enwedig ym maes iechyd y cyhoedd, a hefyd rwy'n bwriadu cynnal cyfarfodydd dwyochrog gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet i drafod beth arall y gellir ei wneud yn ein meysydd cyfrifoldeb ein hunain. Credaf fod Lee Waters wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn ag iechyd y cyhoedd, oherwydd mae'n arbennig o bwysig ein bod yn sicrhau bod newid ymddygiad yn cael ei drin gyda'r difrifoldeb mwyaf, ar draws y Llywodraeth ac ar draws llywodraeth leol, ac yn wir ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat i gyd.

Buaswn yn bendant yn cytuno â John Griffiths fod yn rhaid inni annog cyflogwyr i wneud mwy i annog eu gweithwyr yn eu tro i ymgymryd â theithio llesol. Mae pedwar amod ynghlwm wrth y contract economaidd. Felly, bydd unrhyw fusnes sy'n awyddus i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn gorfod cydymffurfio â hynny. Wel, mae dau o'r amodau'n ymwneud â datgarboneiddio a gwelliannau i iechyd meddwl ac iechyd corfforol eu gweithwyr. Wrth gwrs, mae dechrau ymgymryd â theithio llesol, annog teithio llesol, gan fuddsoddi mewn seilwaith yn y gweithle sy'n galluogi gweithwyr i feicio neu gerdded i'r gwaith yn un ffordd o ddatgarboneiddio'r busnes ac mae'n ffordd arall o wella iechyd meddwl ac iechyd corfforol cyflogeion, felly lluniwyd y contract economaidd i wneud hynny.

Nawr, yr hyn a ddaeth yn amlwg yn glir iawn o waith y pwyllgor oedd yr angen i wella ymgysylltu ac ymgynghori o fewn y broses teithio llesol, a chytunaf â phwysigrwydd ymgynghori nid yn unig gyda rhai sy'n ymgymryd â theithio llesol ar hyn o bryd, ond hefyd gyda rhai y gellid eu perswadio i roi cynnig arni pe bai'r amodau'n iawn.

Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, ond dylwn ddweud ein bod hefyd ar y camau cynnar o ddatblygu strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru. Bydd y strategaeth honno'n amlinellu ein polisïau strategol ar gyfer cyfleusterau a gwasanaethau effeithiol ac economaidd sy'n ddiogel, yn integredig, ac yn gynaliadwy. Wrth gwrs, bydd cerdded, beicio a dulliau eraill cynaliadwy yn ffocws i'r strategaeth hon.

Yn olaf, mae llawer o'r Aelodau yn hoffi pregethu, weithiau, wrth Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y dylem ac y gallem wneud mwy, ond fy nghwestiwn yn ôl i'r Aelodau yw gofyn i chi sut y gallwch chi wneud mwy hefyd fel arweinwyr gwleidyddol, fel arweinwyr dinesig. Fel y dywedodd Russell George, mae'n ymwneud â mwy nag arian—mae'n ymwneud ag ymddygiad. Mae hyn yn cynnwys eich ymddygiad chi fel arweinwyr dinesig, felly buaswn yn annog pob Aelod i fod yn gyson â'r hyn y maent yn ei ddweud trwy ymgymryd â theithio mwy llesol o ran y ffordd y maent hwy eu hunain yn teithio, i ddangos arweiniad gwleidyddol eu hunain ac i arwain drwy esiampl a beicio a cherdded yn fwy rheolaidd, fel y gwn fod pobl fel Jenny Rathbone yn ei wneud—sef cerdded y llwybr ei hun ac nid siarad am wneud hynny'n unig.

16:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd hi'n ddiddorol—nid oeddwn wedi ystyried y ffaith mai 11 mlynedd yn ôl y cyflwynwyd y ddeiseb, gyda Lee Waters yn cyflwyno'r ddeiseb honno, nid fel Aelod o'r sefydliad ar y pryd, ond ar ran y bobl a'i llofnododd, a mai dyna oedd dechrau'r daith i deithio llesol.

Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad a'r rhai a fynychodd y grwpiau ffocws, ac wrth gwrs i'r 2,500 o bobl a ymatebodd i arolwg ein pwyllgor, ac a ddywedodd yn glir iawn beth oedd y rhwystrau i deithio llesol, sef diogelwch—mater y canolbwyntiodd Ysgrifennydd y Cabinet arno yn ei gyfraniad, roeddwn yn falch o glywed. Hoffwn ddiolch i bob aelod o'r pwyllgor am eu cyfraniadau heddiw, a hefyd i dîm clercio'r pwyllgor, yn ogystal â'r tîm allgymorth, am eu cymorth mawr.

Canolbwyntiodd Mark Isherwood ar gydgynhyrchu fel ffordd o alluogi beicwyr a cherddwyr i helpu i lunio seilwaith, a chredaf fod hynny'n arbennig o bwysig. Wrth gwrs, cawsom argymhelliad ar y pwynt hwn, a chefais fy atgoffa, pan siaradodd Julie Morgan, am lwybr Taf. Cawsom enghraifft, mewn gwirionedd, gan un tyst a ddywedodd wrthym am y rhwystrau ffisegol ar lwybr Taf a oedd yn ei atal rhag defnyddio ei feic a addaswyd ar y llwybr hwnnw. Byddai cydgynhyrchu wedi atal yr angen i symud y rhwystrau hynny ar ôl y digwyddiad ar gost ychwanegol.

Rwy'n credu bod Adam Price wedi sôn yn briodol am enghraifft Copenhagen, ond byddai'n afrealistig iawn yn fy marn i inni ddisgwyl y newid sylweddol sydd ei angen arnom dros nos, neu dros bum mlynedd hefyd. Ni fyddai neb yn disgwyl i Gaerdydd droi'n Copenhagen dros nos, ond byddem yn disgwyl i fwy fod wedi digwydd ac i fwy o gynnydd fod wedi'i wneud. Ond credaf fod Adam yn gywir i nodi, yn amlwg, fod Copenhagen ar un adeg yn arfer bod lle'r ydym ni.

Lee Waters, diolch am eich cyfraniad. Wrth gwrs, roeddech yn aelod gwerthfawr o'r pwyllgor ar yr adroddiad hwn, ac wrth lunio ein hadroddiad a'n hargymhellion. Ni wnaf sylwadau ar y term 'disylwedd' a gafodd ei drafod ychydig o weithiau, ond buaswn yn cytuno â David Melding fod y defnydd cynyddol o 'derbyn mewn egwyddor' mewn perthynas ag argymhellion pwyllgor yn rhwystredig iawn. Nid wyf yn credu bod hyn yn dda i graffu, a rhaid imi ddweud fy mod yn gobeithio y bydd Gweinidogion yn ystyried y defnydd o 'derbyn mewn egwyddor'—rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ysgwyd ei ben i gytuno â hynny, felly rwy'n hapus o weld hynny.

Vikki Howells, nid oeddwn wedi sylweddoli cymaint o dwneli rheilffordd sydd yna yn eich etholaeth chi, felly diolch i chi am eich cyfraniad. Jenny Rathbone, rydych yn fath o aelod mabwysiedig o'n pwyllgor—rydych yn siarad ar y rhan fwyaf o'n hadroddiadau pwyllgor, rwy'n falch o ddweud. Fe wnaethoch y pwynt eich bod yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yma, sy'n atgyfnerthu'r pwynt, rwy'n credu, fod hon yn ddeddfwriaeth drawsbynciol nad yw'n perthyn yn unig i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a'r seilwaith.

Credaf ei bod hi'n iawn inni fod yn gadarnhaol fod teithio llesol yng Nghymru wedi dechrau ar ei daith, ond ar gyfer y camau nesaf mae angen i wleidyddion etholedig, yn y Llywodraeth ac mewn llywodraeth leol gymryd cyfrifoldeb—ac rwy'n derbyn her Ysgrifennydd y Cabinet i bawb ohonom ni yn ogystal. Credaf fod angen inni ddangos arweiniad i'n cymunedau, mae angen inni weithio gyda phobl leol i ddatblygu'r llwybrau teithio llesol a ddymunant, ac mae angen inni ddarparu'r arian sydd ei angen, a chredaf mai dyna oedd casgliad cyfraniad David Rowlands. Mae angen inni gael yr adnoddau i adeiladu seilwaith effeithiol a chefnogi'r newid diwylliannol yr ymrwymodd y Cynulliad hwn iddo pan basiodd y Ddeddf teithio llesol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei fod yn credu bod y Ddeddf hon wedi bod yn llwyddiannus, ond rwy'n gobeithio ymhen pum mlynedd y gallwn edrych yn ôl ar y degfed pen-blwydd ac y gall pawb ohonom gytuno bryd hynny fod y Ddeddf teithio llesol wedi bod yn ddeddfwriaeth lwyddiannus. Mae gennym Ddeddf sydd â photensial i drawsnewid y ffordd y mae Cymru yn symud. Nawr mae angen inni weithredu fel bod Cymru yn teithio'n llesol mewn ffordd a all drawsnewid ein hiechyd a'n lles. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:40

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Safonau Ysgolion

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar safonau ysgolion. Galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig. Suzy Davies. 

Cynnig NDM6776 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod cyrhaeddiad graddau TGAU rhwng A * a C yng Nghymru yn haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005.

2. Yn mynegi pryder am safonau ysgol, o ystyried nifer yr ysgolion yng Nghymru a roddwyd mewn mesurau arbennig gan Estyn a sydd wedi cael hysbysiadau rhybuddio gan awdurdodau addysg lleol Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn addysg i fynd i'r afael â'r bwlch ariannu fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cael cryn dipyn i'w wneud yn fy 24 awr gyntaf yn y rôl newydd hon. Hoffwn ddechrau, gyd-Aelodau, ar ran pawb ohonom, rwy'n credu, drwy longyfarch myfyrwyr, athrawon a staff ledled Cymru ar y gwaith a wnaethoch ar gyfer yr arholiadau eleni, a chynnig ein dymuniadau gorau i bawb, beth bynnag oedd eu canlyniadau.

Mae yna nifer o ffyrdd o lunio dyfodol, a dim ond rhan o'r arfau sydd gennych i wneud hynny yw tystysgrifau arholiad. Ein rôl ni yma yw bod yn sicr fod yr arfau hynny o'r ansawdd gorau a'r hyn sydd ei angen arnoch yn bersonol ar gyfer dechrau llunio'r math o ddyfodol boddhaol a chynhyrchiol a fydd yn eich cynnal. Ond ni fydd dyfodol cynhaliol, boddhaol a chynhyrchiol pawb wedi'i lunio gan ganlyniadau arholiad da, felly mae llawn gymaint o rôl gennym i adeiladu system addysg sy'n helpu ein pobl ifanc i gaffael arfau gwahanol i adeiladu'r bywydau hynny—rhywbeth y byddwn yn ei drafod ar ddiwrnod arall rwy'n siŵr.

Felly, os oedd yr Aelodau'n gobeithio cyfrannu at y ddadl drwy alw'r cynnig hwn yn ymosodiad ar bawb rwyf newydd eu llongyfarch, rydych ar y trywydd anghywir. Dadl yw hon am ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn perthynas â chyflawni addewidion y mae pawb ohonom eisiau eu gweld yn cael eu cadw: safonau uwch, dysgwyr mwy hyderus, cynnwys cyrsiau sy'n fwy perthnasol, gan arwain at gymwysterau academaidd gwerth chweil yn yr achos hwn, ac sy'n ennyn parch pawb. Ac fel yr awgryma'r cynnig, Ysgrifennydd y Cabinet, nid ydych wedi cyrraedd yno eto.

Pwrpas dadl fel hon, ar wahanol adegau, yw profi a yw'r llwybr rydych chi arno yn agos o gwbl i'r lle rydych chi'n ceisio ei gyrraedd. Ac mae'r ateb i bwynt 1 ein cynnig, a roddir yn eich gwelliant cyntaf, mor llawn o wrthgyhuddiadau fel fy mod yn amau eich bod chi hefyd yn boenus mai graddau TGAU A* i C yr haf hwn yw'r rhai gwaethaf ers 13 mlynedd. Roedd y TGAU newydd ar gyfer Cymru yn unig i fod i sicrhau'r gorau gan ein myfyrwyr.

Nawr, gadewch i ni fod yn deg yma: mae nifer y graddau A ac A* yn TGAU wedi cynyddu ychydig bach o gymharu â llynedd—tua 0.5 y cant—er yn dal i fod yn is na'r ddwy flynedd flaenorol. Ond yn bersonol, rwy'n falch o weld rhywfaint o gynnydd. Hoffwn feddwl bod y myfyrwyr disgleiriaf yn cael cyfran decach o sylw, sydd wedi bod yn anodd pan oedd ysgolion yn teimlo rheidrwydd i ganolbwyntio ar fyfyrwyr ar ffin C/D yn TGAU er mwyn osgoi ystadegau negyddol. Ac nid wyf o reidrwydd yn rhoi'r bai ar ysgolion am hynny. Rwy'n beio degawdau o system sydd, er gwaethaf blynyddoedd o siarad am hyn, heb wneud dim i sicrhau parch cydradd i gymwysterau anacademaidd. Mae wedi golygu bod pobl ifanc dirifedi wedi cael eu gwthio i ddilyn cyrsiau TGAU sy'n llesteirio'u cyflawniad a'u hyder tra'u bod yn colli allan ar addysg wahanol a allai gydnabod ac ymestyn eu cryfderau.

Trof yn ôl at y cynnig. Mae nifer y goreuon wedi cynyddu ychydig, ond mae'r gyfradd o raddau A* i C wedi gostwng 1.2 y cant ers y llynedd. Efallai nad yw hynny'n swnio'n llawer, ond mae'n werth cofio bod canlyniadau y llynedd yn is nag ar unrhyw adeg ers 2006, gyda Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru yn beio'r newyddion drwg ar y naid yn nifer y cofrestriadau cynnar—disgyblion 15 oed neu iau.

Nawr, rydym wedi cael blynyddoedd o ddisgyblion yn sefyll arholiadau'n amhriodol o gynnar a dylem fod wedi rhoi'r gorau i hyn amser maith yn ôl. Ond nawr eu bod yn cael eu hatal—mae'r nifer wedi gostwng 77 y cant eleni—mae cyrhaeddiad graddau TGAU da yn is byth: mae graddau A* i C mewn mathemateg, Saesneg iaith a llenyddiaeth, Cymraeg iaith, bioleg, cemeg a ffiseg—y pethau mawr—i gyd wedi gostwng yn ôl Cymwysterau Cymru. Ni allwch guddio hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych wedi ceisio'i wneud yn eich gwelliant, drwy gyfuno'r ffigurau anffodus hyn ag eraill. Rydym wedi derbyn gwelliant bychan yn y ganran o raddau A i A* yn TGAU, ond rydych yn gobeithio awgrymu bod y darlun yn well yn gyffredinol trwy ychwanegu cynnydd yn y graddau hynny a graddau A* i C Safon Uwch.

Yr hyn nad ydych yn ei ddweud yw bod nifer y dysgwyr sy'n sefyll arholiadau Safon Uwch wedi gostwng 10 y cant—10 y cant. Dywedodd Cymwysterau Cymru fod 'llai o ymgeiswyr gwannach'—eu geiriau hwy, nid fy ngeiriau i—wedi sefyll arholiadau Safon Uwch eleni, felly wrth gwrs fod cyfran y graddau uchaf wedi codi. Cynnydd o 50 y cant yn y niferoedd sy'n gwneud TGAU gwyddoniaeth, y fersiwn newydd—mae hynny'n newyddion gwych. Ond a yw hynny oherwydd nad oedd cyfran ohonynt wedi sefyll yr arholiad ym mlwyddyn 10, fel oedd yn digwydd gyda chohortau blaenorol? Nid yw'r gwelliannau bach mewn mathemateg a mathemateg rhifedd yn 16 oed yn celu'r gostyngiad cyffredinol yn y cofrestriadau ar gyfer pob oedran ychwaith, ond yn sicr maent yn cadarnhau'r synnwyr da o gael gwared ar gofrestriadau cynnar. Rwy'n falch o weld, fodd bynnag, ein bod ein dwy yn derbyn gair Cymwysterau Cymru pan fyddant yn dweud, er gwaethaf yr holl newidiadau, fod y safonau'n sefydlog. Mae'n berffaith deg, fel rwy'n dweud, i gymharu eleni â llynedd a'r blynyddoedd cyn hynny.

Cyn dychwelyd at y cynnig eto, a gaf fi eich cymeradwyo ar eich dewrder yn cyfeirio at ffigurau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ym mhwynt c eich gwelliant cyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet? Prin mai buddugoliaeth yw hawlio bod gwariant fesul disgybl yma bellach yn llawer nes at wariant Llywodraeth wahanol ar y sail fod y Llywodraeth arall bellach yn llai hael na'r hyn ydoedd yn flaenorol. Mae'n wir fod Llywodraeth y DU yn gwario llai y pen nag yn 2008, ond rydych chithau hefyd, ac o'r pwynt lle mae'r data rhwng Cymru a Lloegr yn gwbl gyson, sef 2013-14, fwy neu lai, mae gwariant y pen Cymru wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn, ond ni ddechreuodd y dirywiad yn Lloegr tan ddwy flynedd yn ôl. A pham y bu gostyngiad yn y gwariant y pen yn Lloegr? Oherwydd bod cynnydd o 10 y cant yn y boblogaeth ddisgyblion, ac nid yw'r adnoddau wedi dal i fyny â hynny eto. Pam y bu gostyngiad yng ngwariant y pen yng Nghymru—ac mae'n dal i fod tua 2 y cant yn is? Niferoedd disgyblion statig a thoriad bwriadol yng nghyfanswm y gwariant—stori wahanol iawn ac un sy'n gwbl groes i'r addewid i fuddsoddi £100 miliwn yn ychwanegol ar godi safonau ysgolion yn eich rhaglen lywodraethu. Mae pwynt 3 ein cynnig ni a dau welliant Plaid Cymru, a gefnogwn, yn rhoi stori wahanol iawn. Felly, gadewch i ni weld sut rydych yn gwario'r £23.5 miliwn o arian canlyniadol Barnett y byddwch yn ei gael gan Lywodraeth y DU. Efallai y gallwch ddweud wrthym hefyd a ydych yn bwriadu defnyddio'r cyfle i ddiwygio llywodraeth leol fel cyfle i ddiwygio cyllid addysg yn ogystal.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, ar bwynt 2 ein cynnig a'n pryder ynglŷn â nifer yr ysgolion yng Nghymru sy'n peri pryder i Estyn ac sydd wedi cael hysbysiadau rhybuddio gan awdurdodau lleol, beth bynnag am y cyfeiriad yng ngwelliant y Llywodraeth at y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mae yna 45 o sefydliadau addysg ar draws hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru sydd mewn mesurau arbennig neu angen gwelliant sylweddol. Mae un ohonynt wedi bod yn y sefyllfa honno ers pedair blynedd. Rwy'n credu bod nifer yr ysgolion uwchradd yn y categori coch wedi codi, ac fel y gwyddoch, rydym wedi dadlau yn y gorffennol fod yr ysgolion yn y categori melyn a gwyrdd—mae'r cynnydd yno'n deillio lawn cymaint o newid y categorïau ag y mae o welliant go iawn. Ni chydymffurfiwyd â dwy ran o dair o'r hysbysiadau rhybuddio statudol hynny i ysgolion. Credaf fod hyn yn ddigalon ac nid wyf yn dychmygu am un eiliad eich bod ronyn yn hapusach na ninnau ynglŷn â'r sefyllfa. Ond roeddwn yn gobeithio, oherwydd eich ymrwymiad i addysg, y byddech yn cymryd cam y mae eich cyd-Aelodau o'r Cabinet i'w gweld yn benderfynol o'i osgoi.

Rwyf wedi treulio blynyddoedd yn gwrando ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, yn enwedig, yn dweud wrthym beth y mae'n ei ddisgwyl gan y byrddau iechyd wrth graffu ar berfformiad. A phan na fydd y disgwyliadau hynny'n cael eu gwireddu, nid yw'n gwneud dim heblaw ailadrodd ei ddisgwyliadau. Nid yw'n defnyddio ei bwerau i ymyrryd ac nid yw rheolwyr byrddau iechyd lleol yn cael cymorth o ganlyniad i hynny, ac mewn rhai achosion, ni chânt eu cosbi. Mae gennych bwerau o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i ymyrryd mewn ysgolion sy'n tangyflawni pan ddaw'n glir na allant ddatrys eu problemau eu hunain er gwaethaf pob cymorth her ysgolion a chymorth consortiwm a gânt. Ym mis Ionawr eleni, nid oedd y pwerau hynny wedi cael eu defnyddio yn y pum mlynedd ers i'r Ddeddf ddod i fodolaeth. Nawr, credaf y dylai pob ysgol gael cyfle i wella'i hun, ond daw amser pan fo'n rhaid i Ysgrifennydd Cabinet ystyried yr arfau sydd ganddynt i lunio dyfodol pobl a thrin y pwerau hynny i ymyrryd fel dyletswyddau i ymyrryd. A hoffwn wybod a ydych chi'n credu bod yr amser hwnnw wedi dod bellach. Diolch.

16:50

Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, ac a gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Croesawu:

a. bod cyfran y disgyblion sy’n cael y graddau uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu;

b. bod cynnydd o 50% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o gofrestriadau yn cael A*-C;

c. bod cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan gydnabod y canlyniadau gorau a gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd a’r haf;

d. bod 76.3 y cant o ddisgyblion a oedd yn gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers 2009.  

2. Nodi:

a. rhybudd Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf 2018 a chanlyniadau blynyddoedd blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn sefydlog ar y cyfan;

b. bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl maes polisi, a nodi bod ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a byrdymor i fod yn un sy’n cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a

c. casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn, i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy wlad.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth?

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod yr holl weithlu addysg yn derbyn hyfforddiant digonol ac o safon uchel.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu addysg yn denu gweithlu gyda lefel uchel o sgiliau.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Plaid Cymru. Wrth gwrs, rydym wedi gweld nifer o newidiadau a diwygiadau dros y blynyddoedd, yn enwedig dros ddau dymor diwethaf y Cynulliad efallai. Rydym wedi gweld yr adolygiad o'r system gymwysterau, rydym wedi gweld adolygiad parhaus yn awr o'r cwricwlwm cenedlaethol, rydym wedi gweld newidiadau i anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal, wrth gwrs. Ac fel y clywsom, oherwydd maint a chymhlethdod y newidiadau diweddar hynny, mae Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru yn ein hatgoffa'n rheolaidd y dylem fod yn ofalus wrth ddod i unrhyw gasgliadau yn sgil cymharu canlyniadau o un flwyddyn i'r llall. Wel, wyddoch chi beth? Rwyf wedi bod yma ers saith mlynedd bellach, ac nid wyf yn meddwl fy mod wedi cael un flwyddyn lle na chefais wybod ei bod hi'n anodd gwneud y cymariaethau hynny, ac mae hynny'n dangos i mi, rwy'n credu, y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gyson wedi diwygio, newid, symud y pyst gôl—fel y dylent, i raddau helaeth, rwy'n siŵr. Ond mae'n gwneud i mi feddwl tybed a fyddwn ni byth yn cyrraedd lefel o gysondeb yn y system lle gallwn wneud y mathau hynny o gymariaethau yn y dyfodol o bosibl.

A meddyliwch am yr athrawon sy'n gorfod ymdopi â'r newidiadau hynny yn y rheng flaen yn ddyddiol, ac wrth gwrs, mae'r newid mwyaf eto i ddod gyda diwygio'r cwricwlwm a'r newidiadau yn sgil hynny i gymwysterau a systemau asesu.

Mae yna eironi, rwy'n credu, yn y modd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicr o ddweud wrthym mewn munud na ddylem wneud y cymariaethau hynny o un flwyddyn i'r llall, ond yng ngwelliant y Llywodraeth, wrth gwrs, mae'n croesawu'r cynnydd yng nghanlyniadau mathemateg a mathemateg rhifedd A* i C yn TGAU. Wel, nid wyf yn siŵr y gallwn ei chael hi'r ddwy ffyrdd. Efallai y gallwn, ond wyddoch chi, beth y mae hynny'n ei wneud o ran drysu pobl ynglŷn â'n gallu i wneud cymariaethau ystyrlon?

Rhaid imi ddweud, o ystyried y gostyngiad enfawr yn nifer y cofrestriadau cynnar ar gyfer TGAU eleni o gymharu â'r llynedd—credaf fod tua 16 y cant o'r holl gymwysterau y llynedd yn gofrestriadau cynnar a bellach prin ei fod yn 4 y cant eleni—roeddwn yn gobeithio efallai y byddai hynny'n gwneud argraff ar y gyfradd sy'n llwyddo i gael A* i C yn gyffredinol, ond mae'n siomedig ein bod wedi gweld y prif ystadegyn i lawr eto eleni. Ac wrth gwrs, mae'r bwlch rhwng cyrhaeddiad yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon—er y gallai fod cafeatau a rhybuddion, mae'n gymhariaeth y bydd pobl yn ei gwneud. Felly, efallai mai'r cwestiwn y dylem ei ofyn yw: os yw cymharu'n anodd, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu disgyblion, rhieni a'r cyhoedd yn ehangach ynglŷn â sut y gwnawn hynny?

Felly, er bod yn rhaid cyfaddef ei bod hi'n fwyfwy anodd gwneud cymariaethau blynyddol, credaf fod un peth yn amlwg iawn, sef, wrth gwrs, ei bod yn afrealistig ac yn annheg i Lywodraeth Cymru ac unrhyw un arall ddisgwyl gwelliant flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y perfformiad Safon Uwch a TGAU pan welwn gyllidebau ysgol o un flwyddyn i'r llall yn lleihau ac yn crebachu a'r adnoddau sydd ar gael yn mynd yn llai. Oni bai bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn cael cyllid tecach, nid wyf yn meddwl mewn gwirionedd y gallwn ddisgwyl i'n disgyblion wella'n gyson a chyrraedd eu potensial llawn.

Mae awdurdodau lleol, athrawon ac undebau athrawon yn dweud wrthym fod yr ysgolion bellach wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Yn sgil toriadau termau real o £300 y disgybl i'r cyllid ers 2009, mae'r undebau addysg yn dweud ein bod yn gweld cynnydd ym maint dosbarthiadau, mae'n arwain at orddibyniaeth ar gynorthwywyr addysgu, nad ydynt, wrth gwrs, yn cael eu talu'n briodol, mae'n arwain at effaith niweidiol ar y cwricwlwm, ac yn anochel bydd addysg disgyblion yn dioddef o ganlyniad. Felly, mae'n wyrth, mewn gwirionedd, eu bod yn cyflawni gystal ag y maent yn ei wneud o dan yr amgylchiadau hynny. Ac mae hynny wedi cael effaith ar forâl athrawon a disgyblion yn ogystal, ac mae cylch dieflig yno, onid oes? Gyda lefelau staffio'n gostwng fwyfwy mewn llawer o'n hysgolion, mae llwyth gwaith yr athrawon sy'n weddill yn uwch o lawer ac mae'r pwysau a'r straen yn rhwym o ddangos. Yn sicr, caiff ei adlewyrchu yn y ffordd y mae llai o bobl yn cael eu denu i'r proffesiwn yn awr, gyda niferoedd athrawon dan hyfforddiant newydd yn methu cyrraedd y targedau, nifer athrawon ysgolion uwchradd draean yn is na'r targed yn 2016-17, y targed ar gyfer athrawon cynradd dan hyfforddiant heb ei gyrraedd chwaith, a dywedodd traean o'r athrawon a ymatebodd i arolwg cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg o'r gweithlu addysg eu bod yn bwriadu gadael y proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf. Ac wrth gwrs mae ffigurau Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru wedi dangos bod dros 15,000 diwrnod gwaith y flwyddyn bellach yn cael eu colli gan athrawon oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â straen.

Nawr, roedd maniffesto Plaid Cymru yn 2016 a gostiwyd yn llawn yn amlinellu sut y byddem yn cyflwyno nifer o fentrau, gan gynnwys taliad premiwm blynyddol i athrawon a thaliad yn ogystal i gynorthwywyr addysgu—rhaid inni beidio ag anghofio amdanynt hwy. Roeddem yn trafod canolbwyntio mwy ar ganiatáu amser ar gyfer hyfforddiant, mwy o bwyslais ar ddatblygiad proffesiynol parhaus, mwy o amser i baratoi ac i addysgu ac i farcio, ond wrth gwrs, mae hyn oll yn costio, ac rydym yn cydnabod hynny. Ond mae creu system addysg o'r radd flaenaf yn mynd i gostio arian, ac ni allwn dwyllo ein hunain y gallwn ei wneud mewn unrhyw ffordd arall. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, a nes y bydd hynny'n digwydd ni allwn ddisgwyl yn deg ac yn rhesymol i'n hathrawon a'n disgyblion gyflawni'r safonau a'r canlyniadau gwell y mae pawb ohonom am eu gweld.

16:55

Arferem fod yn genedl a oedd yn hyrwyddo addysg ar un adeg—ni oedd yr arloeswyr gydag ysgolion y wladwriaeth, safonau a lefelau cyflawni uchel a gennym ni oedd un o'r prifysgolion cyntaf a oedd yn agored i bawb. Bellach, rydym yn tangyflawni ar bob lefel.

Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, Ddirprwy Lywydd; dyma eiriau Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei haraith fel arweinydd i gynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru bedair blynedd yn ôl, a heddiw, mae fy araith, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'i haddewidion a'i geiriau a'i pherfformiad hi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Yn ei haraith yng Nghasnewydd, honnodd fod

cenhedlaeth o'n plant wedi cael cam gan system addysg sy'n dal i wynebu problemau.

Yn anffodus, mae'r problemau hynny'n parhau heddiw. Canlyniadau TGAU eleni yw'r rhai gwaethaf ers dros ddegawd. Mae lefelau cyrhaeddiad graddau A i C ar gyfer pob oedran wedi disgyn mewn Cymraeg, llenyddiaeth Saesneg, y gwyddorau a mathemateg. Mae hyn yn peri pryder arbennig pan fyddwch yn ystyried bod nifer y dysgwyr sy'n anelu am gymwysterau Safon Uwch wedi gostwng bron 10 y cant ers 2015. Bedair blynedd yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn gresynu at y canlyniadau PISA gwael ar gyfer Cymru. Cwynai am y ffaith bod Cymru, am y trydydd tro yn olynol, wedi disgyn ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Ac eto mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dangos mai gan Gymru y mae'r system addysg sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig. Am y pedwerydd tro mewn degawd, gorffennodd Cymru gryn dipyn ar ôl holl wledydd eraill y DU yn y safleoedd PISA. Dengys ffigurau mwyaf diweddar Estyn fod 45 o sefydliadau addysg ledled Cymru ar hyn o bryd yn destunau mesurau arbennig neu angen gwelliant sylweddol. Rwy'n pryderu wrth weld bod y nifer uchaf o sefydliadau addysg sy'n destunau mesurau arbennig yng Nghasnewydd, a Thorfaen sydd â'r nifer uchaf o ysgolion sydd angen gwelliant sylweddol—y ddau le, wrth gwrs, yn fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn un o'i hareithiau cynhadledd bedair blynedd yn ôl—ac rwy'n dyfynnu:

Mae gormod o'n hysgolion yn tangyflawni—a phob un ohonynt yn cael eu tangyllido.

Heddiw, mae ysgolion yng Nghymru yn parhau i fod wedi'u tangyllido'n sylweddol, gyda chanlyniadau difrifol i safonau addysgol ar draws ein gwlad. Yn ôl NASUWT, mae'r bwlch cyllid yn y gwariant fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr wedi cynyddu i £678. Mae hyn wedi cael effaith ganlyniadol ddinistriol ar gadw athrawon, hyfforddiant athrawon, atgyweirio adeiladau ysgol a mesurau amrywiol i gefnogi anghenion dysgu grwpiau dan anfantais a phlant o deuluoedd tlotach. I ddechrau, torrodd Ysgrifennydd y Cabinet y cyllid ar gyfer addysgu plant o grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, sy'n draddodiadol ymhlith y mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae wedi methu adfer y grant yn llawn. Mae Estyn yn honni bod y bwlch rhwng y gyfran o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac sy'n cyflawni pump gradd A i C yn TGAU a'r rhai nad ydynt yn gwneud hynny yn parhau i fod yn ystyfnig o fawr, a hyn oll dan law Ysgrifennydd y Cabinet a honnai bedair blynedd yn ôl—unwaith eto, fe ddywedodd, yn ei geiriau ei hun, fod—

plentyn o'r cefndir tlotaf yng Nghymru'r Blaid Lafur yn llawer llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol na phlant o gefndiroedd tebyg yn Lloegr.

Cau'r dyfyniad. Ddirprwy Lywydd, a dyfynnu o araith Ysgrifennydd y Cabinet yn 2014 unwaith eto:

Yn rhy aml, mae ein cenedl wych sy'n meddu ar gymaint o bobl dalentog ac ysbryd cymunedol mor ardderchog, yn rhy aml yn cael cam gan Lywodraeth ddi-fflach sy'n methu cyflawni dro ar ôl tro.

Rwy'n cytuno â hynny. Mae'n drychineb i Gymru fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dewis ymuno â'r Llywodraeth aflwyddiannus a di-fflach hon er mwyn ei chadw mewn grym. Diolch.

17:00

'Dim gwelliannau arwyddocaol ym maes addysg yng Nghymru tan 2022'. Nid fy ngeiriau i ond geiriau prif arolygydd ysgolion Cymru. Nawr, efallai na fyddai hynny'n rhy ddrwg pe bai'r system addysg yng Nghymru yr orau yn y byd, neu hyd yn oed yr orau yn Ewrop. Byddai'r orau yn y DU ein gwneud yn llai pryderus ein bod yn wynebu pedair blynedd o ddiffyg cynnydd. Ond nid yw hynny'n wir. O dan y Llywodraeth Lafur hon, sy'n siarad am gydraddoldeb, gan Gymru y mae'r system addysg waethaf yn y DU.

Ar 1 Rhagfyr 2016, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wrth The Guardian fod yna ymdeimlad newydd o ddiben, a mynegodd ei siom na wnaethom yn dda iawn yn y safleoedd PISA. Ffordd gwmpasog iawn o ddweud, 'Nid ydym yn gwneud yn dda iawn yn yr ystafell ddosbarth' yw honno, 'Nid ydym yn gwneud yn dda iawn dros ein teuluoedd a'u plant' ac 'Nid ydym yn gwneud yn dda iawn dros ein heconomi sydd angen gweithwyr ac entrepreneuriaid sydd wedi cael addysg'. Sut y gallwn ddenu teuluoedd ifanc, uchelgeisiol i Gymru pan fydd arbenigwr yn dweud wrthynt na fydd y system addysg aflwyddiannus yn gwella am bedair blynedd arall fan lleiaf?

Rydym yn brin o feddygon a gweithwyr proffesiynol eraill addysgedig, ond nid ydym byth yn mynd i allu denu'r rheini sydd wedi elwa o addysg dda ac eisiau yr un fath i'w plant i ddod â'u sgiliau a'u teuluoedd yma. Pa gyngor fyddai'r Llywodraeth yn ei roi i rieni sy'n ystyried symud i Gymru—'Peidiwch â thrafferthu am y pedair blynedd nesaf'? Cyfeiriai'r erthygl yn 2016 at y degawd blaenorol a gollwyd, ac eto siarad yn unig am ymdeimlad newydd o ddiben a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet. Wel, roedd hynny bron ddwy flynedd yn ôl, a beth oedd canlyniadau'r ymdeimlad newydd hwnnw o ddiben dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet? Gadewch i ni glywed geiriau'r prif arolygydd ysgolion unwaith eto: 'Dim gwelliannau arwyddocaol ym maes addysg yng Nghymru tan 2022'.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog wedi cynhyrchu llif ymddangosiadol ddiddiwedd o ddatganiadau'n cyhoeddi y bydd arian yn cael ei ddyrannu i brosiectau amrywiol a chafodd nifer dda o siopau siarad eu creu. Ond sut y gallwn fod yn hyderus y bydd y newidiadau hyn yn gweithio? Mae'r Llywodraeth Lafur wedi bod yn rhedeg addysg ers dros 20 mlynedd ac wedi bod yn methu ers y diwrnod cyntaf. Pa esgus sydd yna dros ddegawdau o fethiant? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ei egluro? Rwy'n amau. Rhaid inni gael gwybod bod y Llywodraeth yn gwybod beth sydd wedi bod yn mynd o'i le er mwyn inni allu bod yn hyderus y byddant yn datrys y problemau, ond mae gwelliant Llafur yn dangos nad oes gennym unrhyw reswm dros gredu bod Llafur yn deall y broblem. Ac felly, maent yn analluog i'w datrys. Gallaf ddweud o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet nad yw'n credu bod yna broblem, ond rwy'n siŵr y caf glywed ganddi ar hynny mewn munud.

Maent yn dweud bod y perfformiad wedi bod yn sefydlog—ydy, nid yw wedi newid o fod yn wael; mae'n gadarn wael. Felly, bydd UKIP yn cefnogi'r cynnig hwn heb ei ddiwygio. Efallai y bydd Llafur yn teimlo nad oes angen iddynt wneud llawer â'r portffolio y maent wedi'i ddympio ar y Democrat Rhyddfrydol sy'n fwch dihangol iddynt, ond mae gweddill Cymru yn anghytuno. Rydym wedi blino ar Lywodraeth sy'n mynd ati'n systematig i ddefnyddio lansiad menter newydd fel esgus dros berfformiad gwael yn flaenorol ac fel ffordd o ddargyfeirio beirniadaeth gyfiawn. Rhowch y gorau i siomi ein pobl ifanc a dechreuwch fod yn rhan o'r gwaith o adeiladu eu dyfodol a dyfodol economi Cymru. Ariannwch addysg yn briodol a pheidiwch â derbyn na fydd dim yn gwella tan 2022—mae hynny'n llawer rhy hwyr i filoedd o bobl ifanc. Diolch.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y gwnewch chi faddau imi am fy hyfdra yn dechrau gyda newyddion da, oherwydd mewn gwirionedd, mae yna rywfaint o newyddion da allan yno. Gwn ein bod wedi taro ar ein gilydd yn y ffreutur yn ystod toriad yr haf, sy'n profi bod Aelodau'r Cynulliad yn parhau i weithio drwy'r hyn y mae'r byd y tu allan yn parhau i'w alw'n gyfnod y gwyliau, ac fe eglurais fod fy nith Nia ar fin cael ei graddau Safon Uwch a'i bod hi wedi sefyll arholiadau mewn pynciau STEM. Roeddem yn siarad am yr angen i annog disgyblion i ymgymryd â her pynciau STEM, ac rwy'n falch o ddweud ei bod wedi cael y graddau ac wedi cael lle yn ei dewis cyntaf, sef Prifysgol East Anglia, i astudio peirianneg amgylcheddol. Felly, mae hi'n mynd i Norwich ddydd Sadwrn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom am anfon ein dymuniadau gorau i'r holl bobl ifanc sy'n cychwyn ar y cam mwyaf cyffrous hwn yn eu bywydau. Maent yn dangos potensial ein pobl ifanc, ac wrth gwrs, mae hi bob tro'n drasiedi pan nad ydym yn cyrraedd y lefel honno lle gall y nifer fwyaf posibl o'n pobl ifanc gael y mathau hynny o brofiadau bywyd a dechrau cyrraedd eu gwir botensial.

Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn herio ein hunain o ran y safonau a gyflawnwn ym maes addysg, a chredaf ei bod yn briodol inni edrych ar ganlyniadau'r arholiadau, edrych ar PISA, ac annog y Llywodraeth i gael strategaeth sydd o ddifrif yn newid pethau fel y gallwn fod ar y blaen yn y Deyrnas Unedig unwaith eto, neu efallai yn Ewrop a'r byd. Pam lai? Dyna'r math o uchelgais a ddylai fod gennym, fel bod cenedlaethau'r dyfodol yn siarad am ein system addysg yn y ffordd yr arferai llawer o bobl siarad am yr athrawon a gweithwyr proffesiynol niferus a gâi eu cynhyrchu gan y system addysg yng Nghymru genedlaethau yn ôl. Ac rwy'n credu mai dyna sut yr ydym eisiau i weddill y DU siarad amdanom.

A gaf fi ddweud bod fy ymrwymiad penodol i i'r sector addysg ym maes anghenion arbennig? Rwy'n gadeirydd corff llywodraethu Ysgol Meadowbank, sef ysgol gynradd ar gyfer plant ag anawsterau dysgu iaith a lleferydd ac anableddau ehangach yn ogystal bellach. Ac o ran y ddadl y prynhawn yma, rwy'n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Headlands, sef ysgol i bobl ifanc ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol sylweddol. Yn dechnegol, ysgol annibynnol yw hi sy'n cael ei rhedeg gan yr elusen Gweithredu dros Blant, ond mewn gwirionedd mae'n darparu lleoedd ar gyfer sector y wladwriaeth. Credaf ei bod yn enghraifft wirioneddol ddisglair o'r hyn a gyflawnir gan ddisgwyliadau uchel, oherwydd ceir diwylliant o gyflawniad a disgwyliadau uchel yno. Ein harwyddair yw 'Disgwyliadau yw popeth', ac rydym yn annog pobl ifanc i sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch, ac rwy'n falch o ddweud y bydd rhai ohonynt yn ein gadael yn awr ac yn symud ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch. Dyma'r math o ganlyniadau yr ydym am eu gweld, oherwydd dylem weld y bobl ifanc hyn fel rhai sy'n llawn o botensial, a pheidio â gweld eu hanhawster penodol fel rhywbeth sy'n eu diffinio.

Credaf fod grwpiau eraill yn allweddol yma o ran disgwyliadau: rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim—mae angen inni wneud yn llawer gwell ar gyfer y grŵp hwnnw o bobl ifanc—a hefyd, plant sydd wedi cael profiad o ofal. Nid wyf am ganolbwyntio ar hynny y prynhawn yma, ond yn amlwg maent mewn categori tebyg. Unwaith eto, credaf fod yn rhaid i'n disgwyliadau fod yn uwch pan fyddwn yn gosod ein polisïau a'r hyn a ddisgwyliwn gan ysgolion: pa fecanweithiau cymorth a ddylai fod ganddynt ar waith? Sut y maent yn goresgyn y diffygion amlwg y bydd rhai yn yr ardaloedd hynny'n eu profi, fel lle gallant fynd i wneud gwaith cartref a chael mynediad at offer modern? A hyd yn oed ein pobl ifanc na allant ddibynnu ar eu rhieni neu eu gwarcheidwaid i helpu gyda'u gwaith cartref mathemateg neu rywbeth. Mae'n brofiad cyffredin, a dylem allu sicrhau, yn ein system, fod myfyrwyr o'r fath yn cael y cymorth y mae eraill yn ei gael pan fydd ganddynt fynediad drwy ffrindiau a pherthnasau at y math hwnnw o arbenigedd.

Felly, credaf ei fod yn hynod bwysig, a hoffwn weld pethau fel proses arolygu Estyn yn cael ei haddasu fel ein bod yn rhoi pwyslais go iawn ar is-setiau mewn perthynas â pherfformiad mewn arholiadau, megis anghenion arbennig—y darperir ar eu cyfer yn y brif ffrwd; dyna gyfeiriad cynyddol ar gyfer polisi cyhoeddus ac un rwy'n fras o'i blaid—ac fel y dywedais, prydau ysgol am ddim a phlant sydd wedi cael profiad o ofal. Yn anad dim, nid wyf am weld diwylliant yn datblygu yng Nghymru lle mae rhai myfyrwyr yn cael eu hannog rhag sefyll arholiadau TGAU neu Safon Uwch am fod hynny'n cael ei weld fel ffordd o guddio'r perfformiad cyffredinol go iawn yn y gymuned ysgol honno.

17:05

Y broblem gyda siarad ar y pwynt hwn mewn unrhyw ddadl—wel, hon yn sicr—yw bod llawer o bethau wedi cael eu dweud. Mae hanner yr Aelodau eisoes wedi rhoi cic i fwch dihangol y Democratiaid Rhyddfrydol, neu beth bynnag. Roeddent yn eiriau anffodus, ac nid fy ngeiriau i oeddent, Kirsty, ond geiriau Aelodau eraill. Ac yn awr mae David Melding wedi tynnu'r mat cadarnhaol o dan fy nhraed drwy sôn am rai o'r pethau da sydd wedi digwydd yng Nghymru. Felly, ychydig o amser sydd ar ôl gennyf i ychwanegu at y sylwadau da a aeth o'r blaen, heblaw dweud yr hoffwn innau hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i fyfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed i gael eu graddau yr haf hwn, yn ogystal â'r athrawon a'r rhieni a'u cefnogodd. Rwy'n gobeithio o leiaf fod y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi cael yr hyn oedd ei angen arnynt i symud ymlaen i gam nesaf eu gyrfaoedd. Rwy'n falch iawn o glywed am eich perthynas, David Melding, ac yn dymuno'n dda iddi ym Mhrifysgol East Anglia.

Er bod nifer o ganlyniadau ar draws Cymru wedi bod yn siomedig, hoffwn dynnu sylw at rai o'r canlyniadau mewn ysgolion yn fy etholaeth fy hun, gan gynnwys fy hen ysgol, Croesyceiliog, a aeth yn groes i'r duedd genedlaethol ac a welodd welliant yng nghanran y myfyrwyr a gafodd bum gradd A* i C gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Yn yr arholiadau Safon Uwch, gwelodd Ysgol Gyfun Trefynwy ac Ysgol y Brenin Harri VIII gynnydd yng nghanran y myfyrwyr a gafodd dair gradd A* i C, gan godi i 75 y cant a 55 y cant yn eu tro, yn ogystal â gwelliant addawol yn y gyfradd lwyddo yng Nghas-gwent. Gwn fod gennych yr holl ffigurau hyn ar flaen eich bysedd, felly rydych yn gwybod am y rhain, Ysgrifennydd y Cabinet. [Torri ar draws.] Rwy'n mynd i roi'r gorau iddi yn y fan honno gyda'r ysgolion. Yn gyffredinol, gwelodd sir Fynwy welliannau ym mhob un o'r dangosyddion allweddol ar gyfer Safon Uwch, ond ar lefel TGAU, roedd ysgolion uwchradd sir Fynwy yn dilyn y duedd genedlaethol a gwelwyd gostyngiad yn y mesur pum gradd A* i C, felly credaf yr hoffwn glywed—a hoffai pawb ohonom glywed—gan Ysgrifennydd y Cabinet beth yw rhai o'r rhesymau pam y teimlwch ein bod yn gweld y dirywiad hwn ledled Cymru ar y lefel honno o gymhwyster.

O gofio ein bod yn ymdrin â chymwysterau newydd, sut y gallwch ein sicrhau y caiff safonau eu cynnal o flwyddyn i flwyddyn, a bod C a gafwyd yn 2016 o safon gyfartal i'r hyn a gafwyd yn 2017 neu 2018? Mae yna bryderon go iawn mewn ysgolion nad yw'r clwydi ar yr un uchder yn union. Os mai canfyddiad yn unig yw hynny, canfyddiad ydyw, ond mae'n un sydd angen ei ystyried a rhoi sylw iddo er mwyn inni allu cael hyder yn y system. Rwy'n sicr y byddech yn cytuno bod angen inni gael cymwysterau trylwyr a chadarn. Rhaid i raddio fod yn deg i bob grŵp blwyddyn hefyd fel y gall ein heconomi gael hyder yn yr hyn y mae'r graddau hynny'n ei olygu.

Nawr, fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddyn rhesymol ac yn debyg i David Melding, rhaid imi ddweud bod yna feysydd sy'n effeithio ar safonau mewn ysgolion lle mae Llywodraeth Cymru yn haeddu rhywfaint o glod. Yr wythnos diwethaf, ymwelodd y Prif Weinidog ag ysgol newydd sbon, Ysgol Gyfun Mynwy—prosiect gwerth £45 miliwn ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy a arweinir gan y Ceidwadwyr. Gwn fod yr hyn a gyflawnwyd yno wedi creu argraff ar y Prif Weinidog—adeilad syfrdanol ac enghraifft o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdod lleol i gyflawni yn ôl y model ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rwyf hefyd yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyfraniad pellach i fy awdurdod lleol yn y rownd nesaf o gyllid ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain mewn ymgais i uwchraddio peth o'r hyn sy'n weddill o rai o'r adeiladau gwaethaf, yn enwedig yn y sector uwchradd. Felly, edrychaf ymlaen at glywed am eich cynlluniau i barhau'r broses o ailgynllunio addysg drwy addasu adeiladau ein hysgolion.

Yn olaf, hoffwn ddweud ychydig am y bwlch cyllido y cyfeiriodd Aelodau eraill ato, ac rwy'n croesawu'r ffaith fod yna dderbyniad petrus o'r diwedd mewn gwelliant gan y Llywodraeth fod yna fwlch cyllido, er eich bod yn honni ei fod wedi lleihau, nid oherwydd unrhyw gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, ond oherwydd penderfyniadau a wnaethpwyd yn Lloegr. Gydag addysg, nid wyf yn credu ei fod yn fater o daflu'r baich a beio Llywodraeth y DU, fel y clywn yn rhy aml. Yn amlwg, mae problem gydag arian yn gyffredinol, ond mae'n rhaid inni wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd gennym a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei dargedu yn y ffordd orau. Erys y ffaith bod bwlch cyllido wedi bod, ac yn parhau i fod, sy'n gannoedd o bunnoedd y disgybl, ac sydd, mewn ysgol gynradd gyfartalog o 210 o ddisgyblion, yn gallu golygu cymaint â £100,000 y flwyddyn. Mae hynny'n golygu athrawon ychwanegol, cynorthwywyr ychwanegol, offer technoleg gwybodaeth ychwanegol, yr holl bobl sy'n cyfrannu at y canlyniadau positif wrth i bobl ifanc gyrraedd eu potensial llawn. Dyna'r realiti ar lawr gwlad. Mae fy awdurdod lleol fy hun wedi cynyddu gwariant ysgolion fel cyfran o'i gyllideb, er iddo ddioddef rhai o'r toriadau dyfnaf o blith holl awdurdodau lleol Cymru o ran y swm cyffredinol—y grant cynnal refeniw—a gwyddom fod tanariannu cynghorau gwledig yn parhau i fod yn broblem. Fe wyddoch yn iawn, a chithau'n dod o etholaeth wledig, beth y gall hynny ei olygu.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, fel y clywsom yn y ddadl flaenorol, rydym yn aml yn clywed llawer o eiriau yn y Siambr hon sydd wedi'u bwriadu'n dda iawn, ond i aralleirio Lee Waters yn y ddadl flaenorol, rwy'n credu bod yr amser i siarad yn dod i ben yn gyflym ac mae gwir angen inni weld gweithredu a gwelliannau yn y meysydd hyn.

17:10

Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Fel cyn-athrawes, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â rhoi cyfle i ddisgyblion fanteisio ar eu doniau a'u galluogi i gyflawni eu huchelgeisiau. Er fy mod yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud, mae gennym lwybr hir i'w droedio o hyd, a rhaid inni gael strategaeth ymarferol ar waith er mwyn sicrhau llwyddiant i ddisgyblion Cymru, nid yn unig ar gyfer y genhedlaeth hon, ond ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddilyn. Mae'n ffaith mai canlyniadau TGAU y flwyddyn hon yw'r rhai gwaethaf ers degawd, ac fe sylwyd bod newidiadau i'r cwricwlwm wedi'u gohirio ymhellach. Yn ôl pennaeth Estyn, ni fyddwn yn gweld unrhyw gynnydd sylweddol tan ar ôl 2022, a theimlaf fod hynny'n ei gadael hi'n rhy hwyr o lawer i'r cohort presennol o ddisgyblion. Y genhedlaeth bresennol o ddisgyblion yw ein dyfodol, a rhaid inni sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i roi pob cyfle iddynt lwyddo yn eu huchelgeisiau. Y bobl ifanc hyn yw ein meddygon, ein nyrsys, ein rhaglenwyr cyfrifiadurol, ein gwyddonwyr data a'n harweinwyr busnes yn y dyfodol. Os nad ydym yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol iddynt, sut y maent yn mynd i wireddu eu breuddwydion a'u huchelgeisiau? Heb y sgiliau hyn, bydd ein heconomi'n dioddef, a bydd ein sector iechyd a gofal cymdeithasol yn brin o staff, gan ychwanegu mwy o bwysau ar amgylchedd sydd eisoes dan bwysau.

Addysg yw carreg sylfaen ein cenedl ac mae llwyddiant ein heconomi yn dibynnu ar lwyddiant ein cyflawniadau addysgol a chyraeddiadau cenedlaethau'r dyfodol. Rydym wedi mynd i ganolbwyntio gormod ar gyrraedd targedau artiffisial yn hytrach na chanlyniadau. Yr wythnos hon, amlygodd y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau fod pwysau targedau yn arwain at dynnu disgyblion oddi ar gofrestri ysgolion fel nad yw eu graddau'n cyfrif tuag at fesurau perfformiad yr ysgol. Mae hyn yn warthus, a diolch byth mae Llywodraeth Cymru wedi nodi na fydd hyn yn cael ei oddef.

Fodd bynnag, dyma'r sefyllfa a grëwyd. Mae athrawon dan bwysau aruthrol i gyrraedd targedau perfformiad er gwaethaf cyllidebau sy'n crebachu. Mae angen inni symud oddi wrth fesurau perfformiad artiffisial a chanolbwyntio ar ddarparu system addysg sy'n canolbwyntio ar anghenion y plentyn. Rhaid inni gael cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar anghenion ein cenedl yn ogystal â'r plentyn, ac yn anad dim, rhaid inni sicrhau bod gan ysgolion adnoddau i ddiwallu'r anghenion hynny.

Mae'r canlyniadau TGAU eleni yn ysgytwad, ond maent hefyd yn gyfle i edrych ar bethau mewn ffordd wahanol, a gweithio ar bethau nad ydynt wedi bod mor llwyddiannus ag y dymunwn iddynt fod, o bosibl. Felly mae gennym gyfle gwych yma, ac fel rhywun sy'n credu'n gryf mewn datganoli, ac fel cyn-athrawes, credaf mewn rhoi cyfle i'n pobl ifanc. Mae hyn yn ein dwylo ni. Dewch, gadewch inni gyd gydweithio a rhoi'r cyfle y maent yn ei haeddu i bawb fel y gallwn oll weithio gyda'n gilydd i sicrhau canlyniad cadarnhaol i bawb. Diolch.

17:15

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn ôl ym mis Awst, cefais y fraint o ddathlu canlyniadau arholiadau gyda'r dysgwyr yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ar gyfer Safon Uwch ac Ysgol Gorllewin Mynwy ar ddiwrnod y canlyniadau TGAU. Hoffwn longyfarch nith David. Fel myfyriwr STEM, rhagwelais y byddai'n gwneud yn dda, ac yn amlwg, mae hi wedi gwneud yn dda, a gwn fod gan Aelodau Cynulliad eraill yn y Siambr ddiddordeb uniongyrchol yn y diwrnod canlyniadau TGAU, a gwn fod ganddynt lawer i'w ddathlu yn eu teuluoedd eu hunain. Rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau'n dymuno llongyfarch dysgwyr ledled Cymru ar eu cyflawniadau aruthrol eu hunain ac yn cytuno â mi pan fanteisiaf ar y cyfle hwn i ganmol ein hathrawon am eu gwaith caled ym mhob maes addysg ac yn arbennig y rhai sydd wedi gweithio mor ddiflino i addasu i newidiadau wrth gyflwyno'r cymwysterau TGAU newydd, gan gynnwys y 15 cymhwyster a ddyfarnwyd am y tro cyntaf yr haf hwn.

Rhaid imi gyfaddef, Ddirprwy Lywydd, fy mod wedi fy siomi wrth ddarllen cynnig y Ceidwadwyr, sy'n llwyr anwybyddu'r pethau cadarnhaol yn y canlyniadau yr haf hwn. I ddechrau, maent yn anwybyddu'r canlyniadau Safon Uwch eleni'n llwyr am nad yw hynny'n cyd-fynd â'u naratif. Gobeithio y byddant yn croesawu'r ffaith bod 76.3 y cant o ddysgwyr yng Nghymru wedi cael gradd A* i C yn eu Safon Uwch, ac mai dyna'r ffigur uchaf ers 2009. Gobeithio y byddant hefyd yn croesawu'r gyfradd uchaf erioed o fyfyrwyr a gafodd A* yn eu Safon Uwch. Yn wir, o ran perfformiad A* i A Safon Uwch, dim ond rhanbarth Llundain a de-ddwyrain Lloegr sy'n gwneud yn well na Chymru.

O ran TGAU, mae'n gywir wrth gwrs, a fi yw'r cyntaf i gydnabod, fod gostyngiad wedi bod yn y canlyniadau cyffredinol o gymharu â'r llynedd. Ni fyddaf yn derbyn, ac nid wyf yn derbyn, fod gostyngiad wedi bod yn y safonau. Y gwrthwyneb sy'n wir. Rwyf wedi dweud yn glir y bydd y Llywodraeth hon yn cefnogi pob un o'n dysgwyr. Ni ddylem byth ostwng ein disgwyliadau ar gyfer unrhyw un o'n pobl ifanc, ni waeth beth fo'u cefndir. A dyna pam nad wyf am ymddiheuro am ddal i bwyso yn hytrach na dewis y llwybr hawdd a llaesu dwylo.

Rwy'n croesawu'r camau cryf gan ysgolion wrth newid o wyddoniaeth alwedigaethol i TGAU gwyddoniaeth. Anelu am gymwysterau galwedigaethol yn 16 oed, fel BTEC gwyddoniaeth, yw'r llwybr cwbl gywir ar gyfer rhai o'n dysgwyr yng Nghymru. Ond nid yw'n dderbyniol i mi, nac i eraill yn y Siambr heddiw rwy'n gobeithio, fod yr ysgolion wedi meddwl ei bod hi'n briodol i 40 y cant o ddysgwyr ddilyn cwrs galwedigaethol. Efallai fod hyn wedi sicrhau'r canlyniadau a ddymunir iddynt o ran mesurau perfformiad ysgol, ond ni ddylai hynny byth bythoedd ddod o flaen buddiannau dysgwyr. Ac rydych chi a minnau, David, yn cytuno ar y pwynt hwnnw.

Rwy'n falch ein bod wedi gweld cynnydd o 50 y cant eleni yn nifer y myfyrwyr a gofrestrwyd ar gyfer TGAU gwyddoniaeth—rwy'n ei ddweud eto: 50 y cant yn fwy o gofrestriadau ar gyfer TGAU gwyddoniaeth—gyda mwy o'r ymgeiswyr hynny'n ennill gradd A* i C. Ac mae hefyd yn braf iawn gweld bod y nifer a gofrestrwyd ar gyfer gwyddorau unigol—bioleg, cemeg a ffiseg—wedi codi dros 10 y cant. Nawr, bydd cynnydd mor enfawr yn y cohort yn ystumio'r canlyniadau wrth gwrs. Roedd pawb ohonom yn gwybod y byddai'r penderfyniad anodd hwn yn ei gwneud hi'n haws i'r gwrthwynebwyr feirniadu a chamgyflwyno'r canlyniadau cyffredinol. Mae'n benderfyniad anodd, ond mae hefyd yn benderfyniad cywir—codi safonau a gwella'r cyfle i bawb o'n dysgwyr ac yn bennaf oll, i rai o gefndir tlotach. Mae'r cam hwn, ochr yn ochr ag eraill, megis rhoi diwedd ar y defnydd amhriodol o gofrestriadau cynnar, yn ei gwneud hi'n anodd ffurfio cymariaethau ystyrlon. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i gymharu canlyniadau eleni gyda blynyddoedd blaenorol. Nawr, nid fy marn i yw hynny—dyna farn y rheoleiddiwr annibynnol, Cymwysterau Cymru, a ddisgrifiodd y broses o wneud cymariaethau fel un 'or-syml', oherwydd y newid sylweddol ym maint a natur y cohort, heb sôn am y newidiadau i'r arholiadau eu hunain.

A rhaid imi ddweud, cefais fy nrysu braidd gan ymagwedd y llefarydd Ceidwadol newydd. Mae'n ymddangos ei bod hi'n methu deall natur unedol ein cymwysterau TGAU gwyddoniaeth newydd. Mae hi eisiau parch cydradd rhwng cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau academaidd, ond wedyn mae'n bwrw iddi i feirniadu gostyngiad yn nifer y cofrestriadau Safon Uwch. Gadewch inni fod yn gwbl glir pam fod cwymp yn nifer yr ymgeiswyr Safon Uwch—pan fydd gostyngiad ym maint y cohort, yn syml iawn, bydd yna lai o fyfyrwyr o'r oedran hwnnw yn ein hysgolion a'n colegau. Ac i'r myfyrwyr a oedd yn cael trafferth gyda Safon Uwch am eu bod wedi cael eu gorfodi i ddilyn cyrsiau Safon Uwch, symud at gymwysterau mwy galwedigaethol yw'r peth hollol iawn i'w wneud. Felly, ni allwch ddweud ar y naill law eich bod yn flin nad yw myfyrwyr llai galluog yn gwneud Safon Uwch mwyach, a galw wedyn am barch cydradd. Rydych yn methu'n llwyr â deall hefyd beth yw effaith barhaus cofrestriad cynnar ar ffigurau cyffredinol, ond rydym wedi newid y polisi hwnnw. Rydym hefyd yn newid mesurau perfformiad i'r union system rydych chi newydd alw amdani sy'n edrych ar ymagwedd fwy cyfannol tuag at y modd y byddwn yn barnu ein hysgolion. Rydym yn buddsoddi mewn arweinyddiaeth, rydym yn buddsoddi yn ein plant mwy galluog a thalentog ac rydym yn gwario mwy ar y grant amddifadedd disgyblion nag erioed o'r blaen i fynd i'r afael â phryderon y grwpiau agored i niwed y soniodd David Melding amdanynt yn awr. A gadewch i mi fod yn hollol glir: bydd arian a dderbyniwyd gan y Llywodraeth hon ar gyfer cyflogau athrawon yn cael ei wario ar gyflogau athrawon.

Nawr, nonsens yw'r syniad ein bod rywsut yn eistedd yn ôl a gwneud dim ynglŷn ag ysgolion sy'n peri pryder. Y rheswm pam y gwn beth yw canlyniadau Ysgol y Brenin Harri yn y Fenni yw ein bod yn edrych yn fanwl ar bob ysgol unigol. Awn yn ôl i wirio'r berthynas a gawsant gyda'u consortiwm rhanbarthol. Rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno adroddiad bob tro y byddant wedi defnyddio hysbysiad statudol ar gyfer ysgol sy'n peri pryder, ac rwy'n cael adroddiadau rheolaidd er mwyn deall, gan bob awdurdod lleol a chonsortiwm, beth y maent wedi'i wneud i gefnogi'r ysgol sy'n destun mesurau arbennig. Ac os nad wyf yn fodlon ar yr ymateb hwnnw, rwy'n mynd yn ôl at y consortiwm rhanbarthol hwnnw ac rwy'n mynd yn ôl at yr awdurdod lleol hwnnw.

Mae cymaint y gallwn ei ddweud am y modd y disgrifiodd Michelle system addysg Cymru. Soniodd am feddygon. Sut y gallwn gael meddygon i ddod i Gymru? Wel, efallai y daw'r meddygon hynny o blith y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr o Gymru sydd wedi ennill lle mewn ysgol feddygol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Byddant yn dychwelyd i'r wlad hon i fod yn feddygon, fel y gall eu plant gael yn union yr un addysg ag y cawsant hwy ac a'u galluogodd i fynd i ysgol feddygol. A bwch dihangol? Bob dydd, rwy'n falch o wneud y gwaith hwn, ac rwy'n falchach byth wrth gofio fy mod, drwy gymryd y swydd wedi eich cadw chi, a'r sylwadau niweidiol a fynegwyd gan eich arweinydd ddoe, rhag dod unman yn agos at y Llywodraeth.

O ran gwelliannau Plaid Cymru, byddwn yn cefnogi'r ddau ohonynt. Rwyf wedi ymrwymo, Llyr, i barhau i fuddsoddi yn ein gweithlu i sicrhau bod gennym weithlu addysg cyfan sy'n cael digon o hyfforddiant o safon uchel. Dyfarnwyd £5.85 miliwn o ddyraniad cyllid dysgu proffesiynol i'r consortia rhanbarthol yn ystod 2017-18 i gefnogi gwaith arloeswyr dysgu proffesiynol ac i wella gallu consortia i ddatblygu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol. Rydym hefyd wedi rhyddhau £5.5 miliwn pellach yn ystod 2018-19 i ddatblygu'r dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn gallu cynllunio'n briodol ar gyfer newid y cwricwlwm a thu hwnt.

Fel y gwyddoch—mae'n rhywbeth y mae eich plaid chi a fy mhlaid i wedi ymgyrchu drosto ers nifer o flynyddoedd—bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb dros bennu cyflog ac amodau athrawon o ddiwedd y mis hwn. Rwy'n disgwyl cael adroddiad pwysig yr wythnos hon gan yr Athro Mick Waters gydag opsiynau ar sut y gallwn ddefnyddio'r pwerau newydd hynny i wobrwyo ein hathrawon yn well a denu recriwtiaid o ansawdd uchel i'r proffesiwn. Rwyf am ailadrodd un peth fodd bynnag, sef nad yw hyn yn ymwneud yn unig ag arian a chyflogau. Caiff y rhai sydd am weithio gyda'n plant eu hysgogi gan rywbeth cymaint mwy na hynny—mae yna ffyrdd gwell o ddod yn gyfoethog. Cânt eu hysgogi gan yr awydd i fod yn rhan o'r gweithlu sector cyhoeddus i wneud rhywbeth anhygoel ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc.

Felly, rhaid inni edrych hefyd ar fater amodau. Mae cymryd cyfrifoldeb am gyflog ac amodau athrawon yn gam hynod o bwysig yn ein system addysg. O'r cychwyn cyntaf, rydym am wneud yn siŵr fod gennym system sy'n seiliedig ar werthoedd tegwch a rhagoriaeth, ac ymrwymiad i wasanaeth addysg cyhoeddus cynhwysol. Credaf fod hyn yn hanfodol i gefnogi a chryfhau ein proffesiwn addysgu.

I gloi, Lywydd, nid ydym yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, sydd ond yn camliwio ac yn bychanu'r newidiadau a'r cynnydd a wnawn yma yng Nghymru. Yn sicr, nid wyf am wrando ar unrhyw bregeth ganddynt ar faterion cyllid.

Aeth Mohammad Asghar i drafferth fawr i ddyfynnu'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, felly gadewch imi ddweud wrtho beth y mae'r sefydliad hwnnw yn ei ddweud am ein system. Rydym yn gweld

cynnydd mewn nifer o feysydd polisi a newid yn y dull o wella ysgolion yng Nghymru o gyfeiriad polisi tameidiog a thymor byr tuag at un sy'n cael ei arwain gan weledigaeth hirdymor.

Rwy'n gwybod—rwy'n gwybod—nad oes unrhyw le i laesu dwylo, ond gan weithio gyda'r sector, byddwn yn parhau ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol ac sy'n ennyn hyder y cyhoedd.

17:25

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ymateb i'n dadl, er fy mod yn anghytuno i raddau helaeth, wrth gwrs, â'r hyn a ddywedodd? Agorwyd ein dadl, wrth gwrs, gan Suzy Davies, ein llefarydd newydd yn y rôl hon, ac roeddwn yn meddwl ei bod hi wedi gwneud gwaith rhagorol, er gwaethaf barn ddifrïol Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr, rwy'n ei chroesawu i'r rôl ac yn gwybod y bydd hi'n hyrwyddwr ardderchog ar ran y system addysg yng Nghymru ac y bydd yn brwydro hyd eithaf ei gallu i'w gwella bob cam o'r ffordd.

Roeddwn yn credu ei bod hi wedi nodi'n glir iawn beth yw realiti'r sefyllfa a'r heriau sy'n ein hwynebu. Er na fyddech yn dychmygu hynny, o ystyried araith Ysgrifennydd y Cabinet yn awr, rydym wedi cael y set waethaf o ganlyniadau TGAU ers dros 15 mlynedd. Sut y mae hynny'n rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono yma yng Nghymru? Roedd Ysgrifennydd y Cabinet fel pe bai'n awgrymu mai oherwydd ei bod hi wedi annog pobl rhag gwneud y cwrs BTEC gwyddoniaeth fel cwrs galwedigaethol ac wedi annog pobl i ddilyn TGAU gwyddoniaeth y digwyddodd hyn, ond nid yn y gwyddorau'n unig y gwelwyd gostyngiad yn y ffigurau. Gwelsom ganlyniadau gwaeth mewn mathemateg, canlyniadau gwaeth mewn Saesneg iaith a chanlyniadau gwaeth mewn Saesneg llenyddiaeth—tri phwnc rwyf wedi'u dewis ar hap. Felly, ni allwch awgrymu'n syml mai am eich bod yn annog mwy o bobl i ymgeisio am y cymwysterau academaidd hynny y digwyddodd hyn.

A dweud y gwir, rwyf wedi alaru ar glywed pobl yn difrïo cymwysterau galwedigaethol yn y Siambr hon. Rydym wedi clywed yr holl siarad am 'barch cydradd' gan y Llywodraeth yn y gorffennol, ac eto rydych wedi ceisio cymell ysgolion rhag annog pobl i ymgeisio am gymwysterau galwedigaethol priodol er mai dyna sydd orau ar gyfer y plant yn eu gofal.

Fi fyddai'r person cyntaf yn y Siambr hon i gydnabod gwaith caled athrawon ledled Cymru sy'n gwneud eu gorau i gynorthwyo dysgwyr i gyrraedd eu potensial. Hoffwn longyfarch y bobl ifanc hyn ledled Cymru hefyd, gan gynnwys fy merch a fy mab fy hun, a lwyddodd i gael graddau digon da yn eu TGAU a Safon Uwch eleni. Credaf hefyd ei bod yn briodol imi ddiolch i'r llywodraethwyr ysgolion sydd wedi cyfrannu at lwyddiant a gweddnewidiad llawer o'n hysgolion. Clywsom David Melding yn sôn am ei brofiad fel llywodraethwr ysgol, a gwn fod sawl un, gan fy nghynnwys i, hefyd yn llywodraethwyr ysgolion yn y Siambr hon. Ond gwirfoddolwyr yw'r bobl hyn, sy'n rhoi eu hamser eu hunain, gan ymroi i'w cymuned drwy wasanaethu ar gyrff llywodraethu'r ysgolion hynny, a hoffwn dalu teyrnged i bob un ohonynt.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn hoffi dewis a chymharu â Lloegr pan fo'n gyfleus iddi, ond nid yw'n hoffi gwneud cymariaethau â rhannau eraill o'r DU pan nad yw'n gyfleus iddi wneud hynny. Y gwir yw ein bod yn gwybod bod cyllid y disgybl yng Nghymru yn llai na'r hyn ydyw dros y ffin yn Lloegr. Mae canlyniadau'n deillio o hyn o ran y cyfleoedd i bobl ifanc gael yr adnoddau yn yr ysgolion hynny i allu cyrraedd eu potensial. Nid pethau rwyf fi neu unrhyw un arall ar y meinciau hyn yn eu dweud yw'r rhain; mae unigolion eraill, yr undebau athrawon, hefyd yn ychwanegu at y corws cynyddol o leisiau, a bod yn onest, sy'n dweud bod yn rhaid ichi wneud rhywbeth ynglŷn â hyn.

A rhaid imi ddweud, Suzy—. [Chwerthin.] A rhaid imi ddweud, Kirsty, maddeuwch imi—Ysgrifennydd y Cabinet—fod ychydig bach o wyneb gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn taro bargen—byddai'n well gennym weld Suzy yno—i ddod yn rhan o'r Llywodraeth ar y sail fod £100 miliwn ychwanegol yn mynd i gael ei fuddsoddi mewn addysg er mwyn gwella safonau ysgolion, a'i chwipio ymaith wedyn gan doriadau ar y llaw arall, oherwydd nid ydych wedi ychwanegu £100 miliwn at y gwariant dros y tymor hwn. Nid yw hynny'n digwydd o gwbl, ac os defnyddiwch eich cyfrifiannell, mae'n glir iawn na ddigwyddodd hynny oherwydd, wrth gwrs, mae'r gwariant wedi bod yn lleihau.

Mae gennyf lawer o gydymdeimlad, mewn gwirionedd, â'r hyn a ddywedodd Michelle Brown yn gynharach yn ei chyfraniad. Yn y pen draw, ein heconomi fydd yn talu'r pris am y methiant hwn yn y blynyddoedd i ddod. Os nad oes gennym weithlu addysgedig iawn sy'n addas ar gyfer y dyfodol, mae ein heconomi'n mynd i ddioddef. Ac yn ogystal, nid ydym yn mynd i ddenu pobl i mewn i greu cyfoeth yn ein gwlad os oes gennym system addysg wael, ac rydym yn mynd i atal pobl rhag aros yma hefyd os yw ein system addysg yn wael. Felly, mae'n rhaid i ni godi ein safonau. Rhaid inni wneud yn siŵr ei bod yn system well nag yw hi ar hyn o bryd.

Roedd Mohammad Asghar yn llygad ei le yn tynnu sylw at y methiannau yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn llygad ei le yn sôn am y dreftadaeth fendigedig sydd gennym yma yng Nghymru, o ran y mudiadau ysgol arloesol a sefydlodd Griffith Jones Llanddowror ac eraill yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Ond y realiti wrth inni edrych ar y safleoedd PISA, yw nad wyf yn siŵr beth fydd disgwyliad y Llywodraeth pan gyhoeddir y set nesaf o safleoedd, ond credaf fod yr uchelgeisiau'n go isel yn y Siambr hon gan nad oes neb yn teimlo'n hyderus iawn ein bod wedi llwyddo i newid y sefyllfa ers y set ddiwethaf o ganlyniadau.

A chlywais yr hyn a ddywedodd yr arolygiaeth—y prif arolygydd—na ddylem ddisgwyl unrhyw welliannau sylweddol tan 2022. Wel, a dweud y gwir, mae hynny'n rhy hir i'r plant sydd yn y system addysg ar hyn o bryd, fel y nododd Caroline Jones yn gwbl gywir. Rhaid inni fod yn fwy uchelgeisiol na gorfod aros pedair blynedd a phwyso'r botwm ailosod ar y pwynt hwnnw. Mae angen inni newid y sefyllfa hon yn awr ar gyfer y bobl ifanc hynny, oherwydd fel arall byddant yn genhedlaeth arall sydd wedi cael cam o ganlyniad i'r Llywodraeth flinedig hon dan arweiniad Llafur.

Credaf hefyd fod angen inni fyfyrio ar yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y DU, oherwydd mae'r sefyllfa'n gwella yn Lloegr mewn gwirionedd. Mae'r safonau'n codi. Maent yn dal eu tir o ran economi byd a thablau cynghrair. Ni yw'r unig rai sy'n mynd tuag yn ôl i raddau sylweddol. Ni yw'r unig un o bedair gwlad y DU sydd yn hanner gwaelod y gynghrair fyd-eang, ac nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn ymfalchïo ynddo.

Felly, erfyniaf arnoch, Ysgrifennydd y Cabinet, i gael mwy o arian gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn rownd y gyllideb ar gyfer y flwyddyn hon, i'w fuddsoddi yn ein hysgolion fel bod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i allu gwella'r canlyniadau yn y blynyddoedd i ddod. Rwy'n eich annog i gyflymu'r gwaith o ddiwygio fel nad oes yn rhaid inni aros am bedair blynedd arall cyn inni weld y gwelliannau sydd eu hangen arnom. Rwy'n eich annog i roi hwb go iawn i'r athrawon hynny—nid yn unig yn ein hysgolion, ond hefyd yn ein colegau addysg bellach, y darlithwyr sydd wedi helpu i sicrhau canlyniadau TGAU a Safon Uwch boddhaol eleni—fel y gallwn ddechrau gweld y math o botensial sydd gennym yng Nghymru yn cael ei wireddu'n llawn. Oni welwn hynny, ni fydd y dyfodol i Gymru yn debyg i'r hyn y dylai fod.

17:35

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Da byw yr Ucheldir

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 3 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen at eitem 7, sef dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar dda byw yr ucheldir, a galwaf ar David Rowlands i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6779 Gareth Bennett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylid dychwelyd defaid, y cyfeiriwyd atynt yn y gorffennol fel cynrhon gwlanog, i fryniau Cymru.

2. Yn gresynu at y ffaith bod y penderfyniad i ddileu hawliau pori ar ucheldiroedd Cymru wedi arwain at ddifrod enfawr i ucheldiroedd Cymru, bywyd gwyllt a'r amgylchedd yn gyffredinol. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar unrhyw gymhellion sy'n annog symud da byw o ardaloedd yr ucheldir ac, yn lle hynny, darparu cymhellion i ailboblogi'r ardaloedd hynny â da byw.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau trwy ddweud na allaf gefnogi unrhyw un o'r gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig hwn, yn gyntaf oherwydd bod pob un yn dechrau gyda'r gosodiad twp hwnnw, 'Dileu popeth', sy'n golygu wrth gwrs y byddent yn dileu popeth rwy'n ei gyflwyno—sy'n safbwynt hollol wirion? Ond hefyd oherwydd nad oes unrhyw beth a osodir yn eu lle yn ymdrin â phrif fyrdwn fy nadl, sef effaith amgylcheddol dadstocio'r ucheldiroedd. Mae'r holl welliannau a gyflwynwyd yn ymdrin yn unig ag economeg yr ucheldir.

Mae fy nadl yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r cynrhon gwlanog yn ôl ar ein mynyddoedd. Yn dilyn y penderfyniad, dan law Elliot Morley a'r Farwnes Barbara Young bellach, i gychwyn polisi o gael gwared ar anifeiliaid sy'n pori—cyfeiriwyd at ddefaid fel 'cynrhon gwlanog'—oddi ar ein bryniau, proses a elwir yn gyffredinol yn ddad-ddofi tir, rydym yn gweld dinistrio amgylchedd ein hucheldir ac effaith drychinebus ar y bywyd gwyllt yn ein hucheldiroedd. Felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar unrhyw gymhellion i ffermwyr fynd â'u hanifeiliaid oddi ar y bryniau a gosod mesurau ar waith i wrthdroi'r polisi difeddwl hwn a rhoi camau ar waith ar unwaith i ailboblogi'r ardaloedd hyn.

Ceir corff sylweddol o dystiolaeth sy'n profi bod diboblogi ein bryniau yn y fath fodd yn cael effaith hynod o andwyol ar rywogaethau bywyd gwyllt ac amgylchedd cyffredinol ein mynyddoedd. Yn sgil symud da byw oddi ar yr ucheldir, mae twf rhedyn niweidiol wedi lledaenu ac uchder grug pori wedi cynyddu, i'r graddau nad yw grug mwyach yn cynnig cynefin da ar gyfer adar sy'n nythu ac nid yw rhedyn yn cynnig fawr o gynefin addas os o gwbl i unrhyw un o'n rhywogaethau bywyd gwyllt. Os ychwanegwn at hyn effaith bellach twf glaswellt heb ei reoli, rydym yn gweld cyfuniad o ffactorau sy'n effeithio'n sylweddol ar nifer ac amrywiaeth y rhywogaethau sy'n byw ar ein bryniau. Gwyddys hefyd fod y dŵr hynod wenwynig sy'n llifo o wreiddiau rhedyn yn effeithio'n andwyol ar ecoleg ein nentydd a'n hafonydd.

Un canlyniad pellach sy'n deillio o ordyfiant ar ein bryniau yw'r duedd iddo ledaenu tanau gwyllt. Glaswellt tal, a sych yn aml, a gordyfiant o rug ac eithin yw rhai o'r mathau mwyaf llosgadwy o lystyfiant. Canlyniad hyn yw ein bod bellach yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y digwyddiadau dinistriol hyn. Am ganrifoedd, bu ffermwyr yn defnyddio llosgi dan reolaeth i reoli twf rhywogaethau yn ogystal â chreu bylchau tân. Mae pawb ohonom wedi gweld yr effaith ddinistriol y mae tanau afreolus wedi ei chael ac yn ei chael ar ein cynefin mynyddig. Oni bai ein bod yn ailfeddwl yn sylfaenol ynglŷn â rheoli'r ucheldir, gallwn ddisgwyl i amlder a maint y tanau hyn waethygu.

Unwaith eto, oherwydd diffyg stoc pori yn bennaf, gwelwn cynnydd digyffelyb mewn rhywogaethau trogod ar ein bryniau. Mae glaswellt hir yn gynefin delfrydol ar gyfer trogod. Mae hyn wedi arwain at nifer cynyddol o achosion o glefyd Lyme, yn enwedig ymhlith pobl sy'n cerdded y bryniau a'u hanifeiliaid anwes. Gall clefyd Lyme arwain at effeithiau trychinebus a gwanychol ar y sawl sy'n dioddef ohono a chan mai gwybodaeth gyfyngedig am y clefyd sydd gan feddygon teulu—a David, nid wyf yn gwneud unrhyw sylwadau arbennig o ran hynny—gall fynd heb ddiagnosis am gyfnodau hir, gan wneud ei effeithiau hyd yn oed yn fwy dinistriol. Effaith hirdymor hyn yw y bydd twristiaeth yn dioddef wrth i gerddwyr ac ati fod yn llai a llai parod i wynebu'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â phla trogod. Yn Ffrainc, y llynedd, cafodd oddeutu 60,000 o bobl eu heffeithio gan frathiadau trogod.

Yn olaf ond nid yn lleiaf, rhaid i ni gydnabod effaith economaidd tynnu stoc werthfawr iawn oddi ar ein bryniau. Wrth gwrs, mae gan Gymru nifer fawr iawn o ardaloedd ucheldirol. O ganlyniad, mae'r golled refeniw o stoc mynydd yn sylweddol. Er y gellir digolledu ffermwyr unigol, yn y tymor byr yn unig wrth gwrs, mae'r wlad i gyd dan anfantais yn ariannol. Roedd stoc mynydd yn cyfrannu'n sylweddol at economi amaethyddol Cymru.

Ceir llawer o enghreifftiau o'r modd y mae dad-ddofi cynefinoedd ucheldir fel y'i gelwir wedi cael effaith drychinebus. Mae polisi English Nature a Natural England o ddadstocio Dartmoor i'w weld yn cael effaith amgylcheddol negyddol iawn, gyda llawer o'r canlyniadau a amlinellwyd uchod yn dod yn amlwg, gyda chanlyniadau trychinebus. Mae cominwyr Dartmoor bellach yn gweld canlyniadau ofnadwy'r polisi dadstocio a gyflawnwyd dros yr 20 i 25 mlynedd diwethaf.

Yn nes at adref, mae Geraint Davies, ffigwr adnabyddus ac uchel ei barch yn y diwydiant ffermio yng Nghymru, sy'n rhedeg fferm fynydd fawr ger y Bala, lle mae ef a'i wraig wedi bod yn adfer rhannau o'r fferm i'w gwneud yn fwy croesawgar ar gyfer bywyd gwyllt, yn credu'n gryf fod cael gwared ar stoc oddi ar ein bryniau yn cael effaith andwyol ar fywyd gwyllt. Geraint a nododd wrthyf y golled bosibl i'r diwydiant twristiaeth wrth i bobl sy'n cerdded y bryniau ei chael hi'n fwyfwy anodd cerdded mewn rhannau o'r ucheldir oherwydd y twf glaswellt a rhedyn.

Un arbenigwr cydnabyddedig ym maes cynefin yr ucheldir yw Geoff Eyre, a wnaeth waith adfer ar 6,000 erw o rostir Howden yn y Peak District rhwng 1989 a 2006, yn cynnwys chwistrellu, llosgi, ail-hadu grug a phorfeydd bwytadwy, a chael gwared ar redyn a chynnydd masnachol hyfyw decplyg yn nifer y gwartheg a defaid, ac arweiniodd at weld bywyd gwyllt yn dychwelyd ar raddfa go anghyffredin, gan brofi'n bendant fod dadstocio ucheldiroedd yn gwbl wrthgynhyrchiol i gynnal neu gynyddu bywyd gwyllt yn ardaloedd yr ucheldir. Mae Geoff wedi rheoli ac adfer tua 40,000 hectar o gynefin ucheldirol.

Felly, o ystyried y dystiolaeth uchod, ni all fod unrhyw ddadl gredadwy dros barhau gyda'r polisi cyfredol. Felly, galwaf eto ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi ei pholisi mewn perthynas â chymorthdaliadau ucheldir a rhoi'r cynrhon gwlanog, ynghyd â'u ffrindiau buchol mwy o faint, yn ôl ar fryniau Cymru.

17:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Andrew R.T. Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd da byw yng Nghymru yn y broses o gefnogi'r diwydiant bwyd-amaeth ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

2. Yn credu bod diwydiant da byw Cymru yn sector integredig a bod da byw yr ucheldir a'r iseldir yn ddibynnol ar ei gilydd.

3. Yn nodi pwysigrwydd ffermio ar yr ucheldir i gymunedau gwledig, ac yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i hybu mwy o gapasiti prosesu yng Nghymru er mwyn ychwanegu gwerth at y sector da byw.

4. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau newid o ran sut y mae incwm yr ardoll hyrwyddo yn cael ei ddosbarthu a, drwy hynny, sicrhau gwell elw, yn enwedig ar gyfer diwydiant defaid Cymru a Hybu Cig Cymru, y sefydliad sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. 

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 1 yn ffurfiol yn enw Paul Davies yn y ddadl a gyflwynodd UKIP y prynhawn yma mewn perthynas â stocio ein hardaloedd ucheldir a'r ddadl amaethyddol gyffredinol am y sector da byw yma yng Nghymru.

Rwy'n gresynu nad ydym yn gallu cefnogi'r cynnig oherwydd credaf mai proses negyddol yw dileu cynigion yn eu cyfanrwydd, ond teimlaf fod y cynnig a gyflwynwyd gennych yn llawer rhy eang inni ddod o hyd i unrhyw agwedd go iawn y gallem gefnogi safbwynt arni. Yn benodol, ceir rhai achosion lle mae cymhellion gwerth chweil ar waith i symud da byw o ardaloedd penodol oherwydd statws safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig er enghraifft, y ddadl dal carbon a manteision amgylcheddol eraill y gellir eu cyflawni yn rhai o'n hucheldiroedd.

Dyna pam rydym wedi cyflwyno gwelliant heddiw sy'n edrych ar ddarlun cyffredinol o ffermio da byw, ar ucheldir ac iseldir, oherwydd mae'r patrwm da byw hanesyddol yma yng Nghymru yn un cydgysylltiedig, lle na ellir rhannu'r ucheldir a'r iseldir. Weithiau, pan fyddwn yn trafod yn y Siambr hon, rwy'n teimlo ein bod yn ceisio rhannu'r diwydiant da byw yn sectorau penodol ar draul y sector arall. Ceir integreiddio sy'n rhan annatod o wead amaethyddiaeth Cymru a gwae inni chwalu hwnnw. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych, pan fyddwn yn sôn am amaethyddiaeth, ar ddull gweithredu cydgysylltiedig sy'n cynnwys yr ucheldir a'r iseldir yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y sector da byw yma yng Nghymru yn gryfach ac yn fwy gwydn, fel y gallwn ychwanegu mwy o werth at yr hyn y mae ein ffermydd da byw yn ei gynhyrchu ac yn y pen draw, cadw mwy o arian yn ein cymunedau gwledig ac yn anad dim, cynnig mwy o gyfle i bobl ifanc yn y gymuned amaethyddol, gydag chyfleoedd newydd mewn ffermydd ar hyd a lled Cymru. Ni all fod yn iawn ar hyn o bryd mai oedran cyfartalog ffermwyr yng Nghymru yw 61. Nid oes fawr o gyfle os o gwbl i ffermwyr ifanc ddod i mewn i'r diwydiant, a chyda Brexit, mae hynny'n cynnig cyfle—fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud, a bod yn deg—i ni allu saernïo polisïau sy'n hybu amaethyddiaeth yma yng Nghymru, polisïau sy'n benodol i Gymru ac i'r DU.

Ac yn sicr yn fy rôl newydd fel y llefarydd dros amaethyddiaeth a materion gwledig ar y meinciau Ceidwadol, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at edrych ar ffyrdd newydd o ddatblygu cymorth ar gyfer y diwydiant amaethyddol drwy ychwanegu gwerth at y cynnyrch gwych a gynhyrchwn. A dyna pam, ym mhwynt 4 y gwelliant sydd ger bron y Cynulliad heddiw, gofynnwn am eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â pha gynnydd y gallodd ei wneud ar ailgydbwyso'r ardoll hyrwyddo. Cafwyd dadl barhaus a thrafodaeth ers cryn dipyn o amser, oherwydd ni waeth faint o dda byw sydd gennym yn yr ucheldiroedd, boed yn ddefaid neu'n wartheg, ceir ardoll hyrwyddo sy'n gallu mynd yn ôl i mewn i'r diwydiant i hyrwyddo ac annog mwy o ddefnydd o gynnyrch Cymreig ac ar hyn o bryd, cynhyrchir y system honno yn y man prosesu, h.y. y lladd-dy, yn hytrach nag ar adeg magu. Ac felly, oherwydd natur y sector prosesu yma yng Nghymru a'r cyfle cyfyngedig, yn enwedig yn y sector gwartheg, i'r anifeiliaid gael eu prosesu yma yng Nghymru, caiff nifer o'r gwartheg y mae'r gymuned ffermio wedi colli chwys a dagrau yn eu pesgi ar gyfer y farchnad eu prosesu yn Lloegr a rhannau eraill o'r DU ac mae'r ardoll hyrwyddo honno'n aros o fewn yr awdurdodaeth honno yn hytrach nag yma yng Nghymru. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n anghyfiawnder sydd angen ei ailgydbwyso, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn defnyddio'r cyfle y prynhawn yma i roi sylw, gan ei fod yn ein gwelliant.

Y pwynt arall yr hoffwn ei wneud hefyd, fel y mae'r gwelliant yn crybwyll, yw natur y cymunedau yn yr ucheldiroedd o ran y ffordd y maent yn cefnogi economi ehangach cefn gwlad Cymru yn arbennig. Y sector twristiaeth, er enghraifft—fel y mae'r sawl a gynigiodd y cynnig wedi nodi, caiff £250 miliwn ei ychwanegu i'r diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru gan sector ucheldir ffyniannus gyda gweithgaredd yn ganolog iddo ac sydd â chymuned sy'n creu cyfoeth. Ac ni ddylem anghofio bod y sector da byw yma yng Nghymru yn cyfrannu at ddiwydiant bwyd-amaeth gwerth £6.9 biliwn sy'n cyflogi cynifer o bobl ar hyd a lled Cymru.

Rydym wedi mynd drwy 25 mlynedd o ddiwygiadau Ewropeaidd amrywiol, o ddiwygiadau MacSherry yn y 1990au cynnar, a aeth ati am y tro cyntaf i symud cymorthdaliadau cynhyrchu oddi wrth gynhyrchu da byw ac yn fwy tuag at—fel y bydd rhai o'r Aelodau yn gyfarwydd â hwy—y trefniadau neilltuo tir ac yn amlwg, y cynlluniau amgylcheddol a gyflwynwyd yn y 1990au a'r 2000au. Mae angen sicrhau cydbwysedd, ond buaswn yn awgrymu mai ffermwyr yw ffrindiau gwreiddiol ymgyrchwyr cyfeillion y ddaear, oherwydd, yn y pen draw, maent yn dibynnu ar y tir am eu bywoliaeth ac maent am weld amgylchedd cryf gyda rhagolygon amaethyddol da sy'n symud y genhedlaeth nesaf yn ei blaen.

Ac fel y dywedais, gallwn gael y ddadl am yr Undeb Ewropeaidd a chanlyniad y refferendwm yn y Siambr hon dro ar ôl tro, ond y ffaith amdani yw bod yna gyfle i greu pecyn cymorth amaethyddol Cymreig, pecyn cymorth amaethyddol gwledig sy'n cadw'r amgylchedd ac amaethyddiaeth i gydsymud gyda'i gilydd a datblygu atebion gorau'r byd. Rwy'n gobeithio y gallwn fanteisio ar y cyfleoedd hynny, ac yn y pen draw, y gallwn sicrhau dyfodol i bobl ifanc allu dod i mewn i'r diwydiant amaethyddol ac economi wledig sy'n ffynnu, sy'n ddynamig, ac sy'n cynnig y cyfleoedd hynny, a dyna pam rwy'n cynnig y gwelliant i'r cynnig yn enw Paul Davies y prynhawn yma.

17:45

Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Llyr Gruffydd.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod ffermydd defaid yr ucheldir yn rhan bwysig o economi Cymru.

2. Yn nodi â phryder y peryglon y mae gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn eu hachosi i ffermydd defaid yr ucheldir.

3. Yn cefnogi aros yn yr UE fel ffordd o gadw statws y farchnad sengl ond, os byddwn yn gadael yr UE ac yn colli aelodaeth o'r farchnad sengl, yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth digonol i ffermydd defaid yr ucheldir gan adeiladu ar safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Llywydd, ac a gaf i gyfeirio Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, sy'n berthnasol i'r pwnc yma, wrth gwrs? Ac a gaf i gychwyn drwy resynu at yr iaith y mae UKIP yn ei defnyddio yn eu cynnig, fel rydym ni wedi'i chlywed? Mae'n gychwyn ymfflamychol i drafodaeth y mae nifer ohonom ni wedi bod yn trio ei hannog mewn modd adeiladol a phositif dros y blynyddoedd diwethaf. Rydw i'n credu ei bod hi'n gwbl anghyfrifol i gyflwyno'r ddadl rydych chi'n ei gwneud gan ddefnyddio'r iaith yr ydych chi yn ei gwneud. Mae yna lawer mwy o gonsensws a thir cyffredin rhwng amaethwyr ac amgylcheddwyr nag, yn amlwg, rŷch chi'n meddwl sydd yna. 

Felly, ni fydd yn syndod i chi bod Plaid Cymru yn argymell yn ein gwelliant ni ein bod ni'n dileu'r cyfan o'r cynnig, ond mi ydym ni, wrth gwrs, yn ein gwelliant yn tanlinellu pwysigrwydd ffermydd defaid yn ucheldir Cymru fel rhan gwbl allweddol o'n heconomi ni, ond rŷm ni hefyd, wrth gwrs, yn tanlinellu peryglon gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau a'r difrod diamheuol y bydd hynny yn ei greu i ffermydd yr ucheldir. Nid dim ond defaid a fydd wedi gadael yr ucheldir mewn blynyddoedd i ddod. Yn sgil Brexit, mae’n bosib y bydd pobl yn gadael yr ucheldir, oherwydd yr effaith y bydd yn ei chael ar hyfywedd ffermydd teuluol yng Nghymru. Rŷm ni wedi clywed yr ystadegau mewn nifer o ddadleuon yn y Siambr yma: 96 y cant o gig oen Cymru sy’n cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd; sôn am dariffau allforio a fydd yn cael eu cyflwyno a fydd, wrth gwrs, yn cael effaith negyddol. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi bod yn glir ac yn gyson ein bod ni am gadw ein haelodaeth a’n statws o fewn y farchnad sengl, ac, yn wir, y ffordd orau i wneud hynny yw aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Ond, os ydym ni yn gadael ac yn colli ein haelodaeth o’r farchnad sengl, yna, yn amlwg, mae angen mesurau cryf i amddiffyn buddiannau amaeth yng Nghymru, yn enwedig ein ffermydd ar yr ucheldiroedd.

Hoffwn ddweud ychydig eiriau yn awr am ymgynghoriad parhaus Llywodraeth Cymru, 'Brexit a'n tir'. Nawr, y tro diwethaf y bu'r Llywodraeth yn ystyried newidiadau mawr i daliadau fferm yng Nghymru, aethant ati i asesu faint y byddai pob busnes, pob sector, pob sir yng Nghymru yn ei golli neu'n ei ennill drwy fodelu cynhwysfawr iawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau allweddol. Nawr, y newidiadau arfaethedig diweddaraf hyn yw rhai o'r newidiadau mwyaf a welsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sicr, os nad dros y genhedlaeth hon mae'n debyg. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa asesiadau a wnaed y tro hwn o faint y gallai Ynys Môn, Ceredigion, sir Gaerfyrddin, ei ennill neu ei golli, ei effaith ar swyddi yn y siroedd hynny a siroedd eraill, cyn mynd ymhellach ar drywydd y polisi hwn na chafodd ei weithredu erioed o'r blaen, oherwydd nid wyf yn ymwybodol fod y gwaith hwnnw wedi'i wneud.

Yn ogystal fe wyddom fod yr Alban yn dal at y taliad sylfaenol ar gyfer eu ffermwyr. Mae Gogledd Iwerddon yn debygol o wneud yr un peth hefyd a bydd ffermwyr ledled yr Undeb Ewropeaidd yn ei gael hefyd. Mewn gwirionedd, oherwydd canlyniadau ariannol Brexit i'r UE, ymddengys y bydd eu cyllid colofn 2 yn cael ei dorri ac y bydd eu taliadau uniongyrchol yn cael eu clustnodi, felly wyddoch chi, bydd ffermwyr yr UE yn well eu byd mewn cymhariaeth oherwydd Brexit. Ond mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn mynd y ffordd arall ac yn bwriadu cael gwared ar y taliadau sylfaenol. Enw papur safbwynt Llywodraeth yr Alban, os cofiaf yn iawn, yw, 'Stability and Simplicity'. Wel, roedd rhywun yn awgrymu y dylid galw cynigion Llywodraeth Cymru yn 'Ansefydlogrwydd a Chymhlethdod' o bosibl. Y cyfan a wnewch yw dilyn polisi Michael Gove a'r Torïaid yn Lloegr fel y defaid diarhebol, ac mae'n rhaid i mi gwestiynu dilysrwydd eich proses ymgynghori yma. Gwn eich bod wedi honni mai mythau yw'r hyn y bu Undeb Amaethwyr Cymru yn ei ddweud—wel, nid dyna ydynt; maent yn bryderon dilys. Efallai fod yna wahaniaeth barn, ond maent yn bryderon dilys gan randdeiliaid allweddol. A yw'n wir fod eich llythyr at ffermwyr, hanner ffordd drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus—? A yw'n iawn eich bod chi fel Ysgrifennydd Cabinet yn ymyrryd i ddylanwadu ar safbwyntiau pobl ac yn diystyru'r hyn sy'n bryderon dilys yn fy marn i gan randdeiliaid allweddol? Rydych yn dweud yr hoffech glywed safbwyntiau pobl, ond wedyn rydych yn ysgrifennu ac mae'n ymddangos i mi nad ydych yn barod i glywed barn pobl oni bai eu bod yn cytuno â chi. Ac roedd yn arwyddocaol iawn, rhaid imi ddweud, eich bod yn dweud yn y datganiad a aeth gyda'ch llythyr agored i ffermwyr yng Nghymru, a dyfynnaf:

'Bydd ein rhaglen Rheoli Tir newydd yn cynnwys dau gynllun mawr hyblyg'.

'Bydd yn cynnwys'. Felly, a yw'r penderfyniad wedi'i wneud eisoes? Roeddwn yn meddwl mai ar ganol ymgynghoriad yr oeddem. Yn wir, mae eich gwelliant yn adlewyrchu'r un iaith yn union. Felly, gyda'ch ymyrraeth ddigynsail a'r math o iaith a welwn—hynny yw, nid wyf yn siŵr a ydym yn nhiriogaeth adolygiad barnwrol. Nid fi sydd i ddweud; mae hynny i eraill ei ystyried. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn eich annog i arafu eich argymhellion, dilynwch esiampl yr Alban, Gogledd Iwerddon a gweddill yr UE a chynnig sefydlogrwydd i ffermwyr Cymru. Ar yr adeg fwyaf heriol hon yn ein hanes diweddar, gadewch i ni o leiaf roi elfen o sicrwydd o gyllid i'n ffermwyr a gadewch i ni roi chwarae teg iddynt fan lleiaf.

17:50

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol gwelliant 3 yn enw Julie James, ac i siarad—Lesley Griffiths.

Gwelliant 3—Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod canlyniad refferendwm Brexit a’r heriau masnach a fydd yn deillio ohono i ffermio ucheldir Cymru yn golygu bod angen i ni edrych tua’r dyfodol, ac nid i’r gorffennol, gan ddatblygu model cymorth newydd ar gyfer rheolwyr tir.

2. Yn nodi canlyniadau gwahanol ymarferion cynllunio senarios ar gyfer amaeth ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae’r cyfan yn rhagweld dyfodol anodd ar gyfer ffermio defaid yn yr ucheldir os bydd y DU yn ymadael â’r farchnad sengl a’r undeb tollau.

3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i greu rhaglen, a fydd yn cynnwys ffermwyr yr ucheldir, a fydd yn mynd i’r afael â’r materion a nodir uchod drwy gyflwyno dau gynllun mawr a hyblyg: sef Cynllun Cadernid Economaidd a chynllun Nwyddau Cyhoeddus.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch i chi, ac rwy'n cynnig ein gwelliant yn ffurfiol.

Mae'r cynnig a gyflwynwyd gan UKIP yn ymwneud â chynigion i ddiwygio cymorth amaethyddol, ac yn fwy penodol, â chymorth i ffermwyr defaid yr ucheldir. Fel y mae'r Aelodau'n gwybod, a chyfeiriwyd at hyn, rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar 'Brexit a'n tir'. Ynddo, rydym yn cynnig mesurau sy'n wahanol iawn i'r rhai yn y cynnig hwn. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 30 Hydref ac rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymateb. Datblygwyd y ddogfen yn dilyn trafodaethau manwl gydag aelodau o fy mwrdd crwn gweinidogol ar Brexit, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff anllywodraethol amgylcheddol ac undebau ffermio. Mae llawer o'r Aelodau hynny wedi dweud wrthyf nad oedd unrhyw beth annisgwyl yn y ddogfen derfynol honno, oherwydd eu bod wedi chwarae cymaint o ran yn y trafodaethau hynny. Daw'r angen am newid o ganlyniad uniongyrchol i'r DU yn gadael yr UE, ac roedd nifer o Aelodau yn y Siambr hon yn awyddus iawn i alw am Brexit, ond i'w gweld yn llai awyddus i ymdrin â'r canlyniadau a'r heriau niferus a ddaw yn ei sgil. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am warantau y bydd cyllid ar gyfer ffermio yn cael ei gadw ar lefelau cyn Brexit, fel yr addawodd yr ymgyrch dros adael, ac na fydd yr arian yn ddarostyngedig i fformiwla Barnett. A dywedodd Prif Weinidog Cymru y bydd yr arian wedi'i glustnodi ar gyfer amaethyddiaeth.

Mae angen polisi ffermio ar gyfer y dyfodol i Gymru a fydd yn ymdrin â newidiadau penodol y mae'r sector yn debygol o'u hwynebu wedi i'r DU adael yr UE, yn enwedig mewn perthynas â masnach a chystadleurwydd. Gallwn i gyd gytuno ar yr angen i sicrhau bod ffermwyr Cymru yn parhau i ffermio; dyna egwyddor gyntaf ein diwygiadau. Fodd bynnag, mae'r heriau y bydd amaethyddiaeth Cymru yn eu hwynebu mewn dyfodol ar ôl Brexit yn galw am ateb soffistigedig sy'n gweithio i bob ffermwr, nid dychwelyd at bolisïau aflwyddiannus y gorffennol. Nid yw mynd ati'n syml i gynyddu nifer y defaid ar y bryniau yn galluogi ffermwyr i ffynnu ar ôl Brexit. Bydd angen ystyried canlyniadau trefniadau masnach, ond wrth gwrs, ar hyn o bryd nid oes gennym syniad sut fath o fynediad a fydd i farchnad yr UE.

Nodaf bwyntiau Plaid Cymru ynghylch risgiau a achosir o ganlyniad i adael y farchnad sengl a'r undeb tollau. Fodd bynnag, ni fydd y cynlluniau talu presennol yn galluogi ffermwyr i leihau'r risgiau hynny drwy addasu eu busnesau i'r amgylchedd economaidd newydd. Cynllun y taliad sylfaenol yw'r ffynhonnell fwyaf o arian o'r polisi amaethyddol cyffredin. Fodd bynnag, fel math o gymhorthdal incwm, nid yw'n darparu cymhellion ar gyfer arloesi, nac yn ymgorffori effeithlonrwydd busnes. Dros y 10 mlynedd diwethaf, gyda'r system bresennol o daliadau, mae cynhyrchiant wedi dirywio. Mae gwerth ychwanegol gros o amaethyddiaeth yng Nghymru wedi gostwng dros gyfnod pan fo gwerth ychwanegol gros Cymru wedi cynyddu dros 80 y cant. Dros yr un cyfnod, mae diogelwch y cyflenwad bwyd wedi lleihau, a chynefinoedd a rhywogaethau sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth wedi profi tuedd ar i lawr.

17:55

A gaf fi ofyn chi egluro  eich ffigur gwerth ychwanegol gros? Oherwydd ceir enghraifft y mae'r Prif Weinidog yn ei defnyddio'n aml iawn ynglŷn â'r modd y mae pobl yn gweithio yng Nghaerdydd ond yn byw yn y Cymoedd ac felly dyna pam y mae gwerth ychwanegol gros yn ymddangos yn isel yn y Cymoedd. Gwneuthum y pwynt fod y sector prosesu yn Lloegr i raddau helaeth bellach ar gyfer llaeth, ar gyfer cig eidion yn arbennig, felly does bosibl nad yw hynny'n dangos bod y gwerth rydym yn ei gynhyrchu yma yng Nghymru yn cael ei symud allan o Gymru ac yn cael ei briodoli i werth ychwanegol gros Lloegr. Onid ydych yn cydnabod bod angen inni wneud llawer mwy i ddatblygu prosesu yma yng Nghymru er mwyn inni allu cadw mwy o werth yma yng Nghymru a fyddai'n rhoi hwb i'r ffigurau gwerth ychwanegol gros hynny?

Fe ddof at hynny wrth imi barhau â fy sylwadau.

Rydym wedi creu sector lle mae busnesau fferm yn dibynnu ar gymorthdaliadau ar gyfer 81 y cant ar gyfartaledd o incwm eu busnesau fferm, ac mae hyn yn dangos pam nad yw'r status quo yn opsiwn, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei araith yn y Sioe Frenhinol. Mae cynlluniau amaeth-amgylchedd a'r cynllun taliad sylfaenol wedi datblygu dros y 40 mlynedd diwethaf i gefnogi ffermwyr ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Arfau di-fin ydynt, sy'n cefnogi ffermwyr ar draws gwledydd sydd â modelau economaidd ac amgylcheddol gwahanol iawn. Mae dull yr UE o weithredu rheoliadau archwilio a chyfrifyddu hefyd wedi bod yn unffurf. Beth bynnag fydd canlyniadau'r trafodaethau Brexit, yma yng Nghymru rydym yn bwriadu rhoi rhyddid a hyblygrwydd i ffermwyr ffynnu, rhyddid i reoli eu busnes yn y ffordd y gwelant yn dda, a hyblygrwydd i addasu eu busnes a manteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol. Ni fydd busnes fel arfer neu gamu'n ôl i'r gorffennol yn helpu ffermwyr Cymru yn y tymor hir. Mae angen dull mwy deallus, wedi'i dargedu, sy'n helpu ffermwyr i gynyddu eu cynhyrchiant a'u cystadleurwydd.

Dyna pam ein bod wedi lansio cynigion ar gyfer rhaglen rheoli tir newydd trwy ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'. Mae'n cynnwys dau gynllun: un ar gadernid economaidd, a'r llall ar nwyddau cyhoeddus. Hyd nes y bydd y rhaglen hon ar waith, bydd ffermwyr yn parhau i dderbyn cyllid trwy'r system bresennol. Bydd cynllun y taliad sylfaenol yn parhau i gael ei dalu rhwng 2018 a 2019. Rydym wedi argymell cyfnod pontio, a ddaw i ben yn 2025.

Soniodd Andrew R.T. Davies, yn ei sylwadau, am fater yr ardoll cig coch, sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd lawer a gwn fod llawer o ffermwyr wedi ei ddwyn i fy sylw dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Soniais wrth Michael Gove amdano eto yn y cyfarfod pedairochrog yn Llundain ddydd Llun. Dywedais yn glir iawn wrtho, tua blwyddyn yn ôl mwy na thebyg, fy mod yn disgwyl gweld darpariaethau ym Mil Amaethyddiaeth y DU. Roeddwn wedi gobeithio ei weld ar wyneb y Bil; mae wedi dweud wrthyf bellach nad yw hynny'n bosibl. Rwy'n disgwyl ei weld—ac unwaith eto, soniais wrtho am hyn ddydd Llun—fel gwelliant gan y Llywodraeth, oherwydd roedd yn dweud y gallai gael ei godi fel gwelliant meinciau cefn. Nid wyf am weld hynny; rwyf am weld gwelliant gan y Llywodraeth i'r Bil i fynd i'r afael â hyn fel mater o frys, a byddaf yn ysgrifennu at Michael Gove i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Bydd ariannu drwy'r cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus yn dilyn ein pum egwyddor ar gyfer diwygio rheoli tir. Mae'r egwyddorion hyn yn nodi ein hymrwymiad i gefnogi cynhyrchiant bwyd, cadw rheolwyr tir ar y tir, adeiladu diwydiant rheoli tir ffyniannus a chadarn, cefnogi'r gwaith o ddarparu nwyddau cyhoeddus, a sicrhau bod pob rheolwr tir yn gallu cael mynediad at y cynlluniau.

Bydd y cynllun cadernid economaidd yn darparu cyllid ar gyfer mesurau penodol. Byddwn yn gweithio gyda ffermwyr i sicrhau bod cyllid yn cefnogi gwelliannau yn eu busnesau. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod hyn yn peri braw, ond bydd cymhelliant i wella busnes yn creu canlyniadau mwy cadarnhaol, a rhoddir cymorth hefyd i ymdrechion ar y cyd. Bydd mesurau'n targedu'r gadwyn gyflenwi gyfan, gan gynnwys cynyddu capasiti prosesu, fel y crybwyllwyd yng ngwelliannau'r Ceidwadwyr. Bydd hyn yn arwain at gostau is ac yn cynyddu arbedion effeithlonrwydd i ffermwyr.

Ochr yn ochr â'r cynllun cadernid economaidd, nod y cynllun nwyddau cyhoeddus yw darparu ffrwd incwm ychwanegol i ffermwyr. Byddant yn cael arian am ganlyniadau nad oes unrhyw farchnad ar eu cyfer ar hyn o bryd, megis lleihau perygl llifogydd neu wella ansawdd dŵr. Yn ogystal â darparu ffrwd incwm, bydd hyn yn gwella cynaliadwyedd ffermydd, yn cyfrannu at ddatblygu economi gylchol, a gostyngiad mewn costau allanol. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnig ffordd i ffermwyr defaid mynydd allu ffynnu. Gyda'n cymorth ni, gallant arallgyfeirio, buddsoddi mewn technolegau neu offer newydd, a chael eu talu am ddarparu dyfodol a nwyddau cyhoeddus pellach. Bydd cadwyni cyflenwi mwy effeithlon hefyd yn cyfrannu at gynyddu cystadleurwydd.

Hoffwn gyfeirio at y sylwadau gan Llyr. Mewn perthynas â gwahaniaeth barn, nid oes gennyf broblem gyda gwahaniaeth barn. Fy mhryder ynghylch Undeb Amaethwyr Cymru yw eu bod wedi gofyn i'w holl aelodau wrthod ein holl gynigion—yn ddiwahân. Maent yn gwneud anghymwynas â'u haelodau, oherwydd mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn clywed eu barn. Felly, mae gwrthod ein cynigion, i mi, yn golygu na fydd ganddynt lais yn yr hyn rydym yn ei gyflwyno. Rydych chi'n hollol gywir mai ymgynghori ar y ddau gynllun hwnnw'n unig a wnawn. Rydym wedi dweud yn glir iawn y bydd taliadau uniongyrchol yn dod i ben, ond mae'n ymgynghoriad ystyrlon iawn. Dyma'r ymgynghoriad hiraf i mi ei gael erioed fel Gweinidog. Mae'n 16 wythnos o hyd, a hynny oherwydd y gwyddwn y byddai pobl yn eithriadol o brysur dros yr haf. Felly, hoffwn glywed cymaint o safbwyntiau â phosibl, ond roeddwn yn credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â'r mythau a oedd allan yno, nid yn unig gan yr undebau ffermio o reidrwydd, ond—clywais rai dros yr haf yn y sioeau amaethyddol—gan ffermwyr y bûm yn siarad â hwy.

Fe sonioch am yr Alban, fe sonioch am Ogledd Iwerddon, ac fe sonioch am Loegr. Rhaid inni lunio polisi unigryw ar gyfer Cymru. Mater i'r tair gwlad honno yw beth y maent hwy yn ei wneud, a bydd hynny'n targedu—[Torri ar draws.]—Nid oes gennyf amser, mae'n ddrwg gennyf. Bydd yn targedu cymorth lle bydd iddo'r effaith fwyaf drwy wireddu gwerth llawn economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol tir Cymru.

18:00

Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, rydym wedi cael dadl go ddiddorol, ond yn anffodus nid oedd yn ymwneud â'r hyn y mae'r cynnig yn sôn amdano, fel y nododd David Rowlands yn ei araith agoriadol am natur y gwelliannau a gyflwynwyd gan y pleidiau eraill. Ceisiodd Andrew R.T. Davies gyfiawnhau gwelliant y Ceidwadwyr ar y sail na ellid diwygio ein cynnig i gynnwys y pwyntiau sydd gan welliant y Ceidwadwyr ar y papur trefn, ond ni allwn weld pam lai. Nid wyf yn gweld pam y mae'n rhaid dileu cynnig UKIP er mwyn cyflwyno'r pwyntiau adeiladol iawn y mae cynnig y Ceidwadwyr yn rhoi sylw iddynt, a gallem ni yn ein plaid ni fod wedi cefnogi pob un ohonynt. Ac o'r herwydd, gallem fod wedi cael ein cynnig ni, yn ogystal â gwelliannau'r Blaid Geidwadol.

Nid oes gennyf syniad sut y gallai Llyr Gruffydd gredu bod ein cynnig heddiw yn ymfflamychol. Roeddem yn mynd i'r afael â phroblem benodol iawn sef dad-ddofi'r bryniau ac effaith amgylcheddol y gyfundrefn bresennol, sy'n achosi llawer o anawsterau o ran rheoli tir a hefyd o ran rheoli clefydau. Mae'n drueni fod y ddadl hon wedi troi'n ddadl arall eto am Brexit, ac ar un ystyr, dylem fod yn hapus iawn am hynny yn UKIP, ond roeddem o ddifrif yn ceisio cyflwyno cynnig heddiw nad oedd yn mynd i ganolbwyntio ar rinweddau neu wendidau gadael yr UE ar gyfer y sector amaethyddol, er mor bwysig yw hynny wrth gwrs fel cefndir i bopeth. Ond diolch i Andrew R.T. Davies a Llyr Gruffydd, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet wrth gwrs, am eu cyfraniadau diddorol ac fe gyfeiriaf at rai o'r pwyntiau a wnaethant.

Ond i fynd yn ôl at yr hyn y mae'r ddadl hon yn ymwneud ag ef mewn gwirionedd, sef bod dad-ddofi tir mynyddig Cymru, yn dilyn o gyfarwyddeb cynefinoedd yr UE, wedi achosi cynnydd trychinebus yn niferoedd y rhan fwyaf o ysglyfaethwyr, ac wedi sicrhau bod rhai rhywogaethau ar eu ffordd i ddifodiant, yn enwedig rhai sy'n agored i niwed. Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle inni wella amgylchedd yr ucheldir ac yn rhoi pŵer i'r Cynulliad hwn fabwysiadu ymagwedd wahanol iawn i'r un a fabwysiadwyd hyd yma. Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at y cyfleoedd y mae hyn yn eu rhoi i Gymru lunio polisi amaethyddol sy'n addas ar gyfer problemau topograffig a hinsoddol penodol ein hardaloedd ucheldirol yn benodol. Yn ystod ei haraith disgrifiodd y polisi amaethyddol cyffredin presennol a'r cynllun taliadau sylfaenol fel offer di-fin iawn, ac mae hynny'n wir. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi ar hynny. Mae'r polisi amaethyddol unffurf ar gyfer Ewrop gyfan yn anwybyddu llawer o elfennau pwysig yn y gyfundrefn amaethyddol yma yng Nghymru, a chymeradwyaf ei geiriau yn dweud ei bod am gyflwyno mwy o ryddid i ffermwyr gynyddu cynhyrchiant a chyflawni eu busnes mewn modd mwy cynhyrchiol. Ymddengys i mi fod hwnnw'n bwynt da iawn i'w wneud, yn hytrach na'r pwyntiau cynhennus pleidiol arferol am allforio cig oen, ac ati ac ati, ac fe wnaf ymdrin â'r hyn a ddywed Llyr Gruffydd am hynny nesaf.

Wrth gwrs, fe wyddom fod tua thraean o gynnyrch cig oen Cymru yn cael ei allforio i'r UE. Caiff dwy ran o dair ei fwyta yn y Deyrnas Unedig, felly gadewch i ni gadw hyn mewn persbectif. Mae'r sector ffermio ei hun fel cyfran o'r incwm cenedlaethol yn eithaf bach. Mae cyfanswm allforion cig oen o'r Deyrnas Unedig oddeutu £300 miliwn y flwyddyn. Nid ydym yn ymdrin â ffigurau mawr yma. I'r graddau bod ffermwyr defaid yn mynd i wynebu problemau pontio, gellid yn hawdd ymdrin â hwy o fewn y cyllidebau a ddaw ar gael o ganlyniad i adael yr UE oherwydd ceir difidend Brexit, fel y gwyddom. Yn hytrach na rhoi cymhorthdal i ffermwyr mewn rhannau eraill o Ewrop, bellach gallwn roi cymhorthdal i ffermwyr yn y Deyrnas Unedig, ac yng Nghymru'n benodol, a Llywodraeth Cymru fydd â'r cyfrifoldeb a'r cyfle i wneud hynny. Rwy'n rhyfeddu eu bod mor wangalon a phesimistaidd ynglŷn â'r cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig i amaethyddiaeth Prydain. Am druenus yw gweld Llywodraeth Cymru yn dweud, 'Byddai'n llawer gwell gennym i Frwsel wneud y penderfyniadau hyn na'u gwneud ein hunain'. Pa fath o lywodraeth sy'n gwrthod credu ynddi ei hun a'i gallu ei hun i ddarparu'r gorau i bobl Cymru, ac yn enwedig i ffermwyr a defnyddwyr Cymru?

Felly, mae gan UKIP olwg optimistaidd ar y dyfodol, ac yn sicr mae gennym ffydd a hyder yn ein gwlad ein hunain a'n gallu ein hunain nid yn unig i oroesi yn y byd, ond hefyd i ffynnu ar sail polisi amaethyddol a gynlluniwyd gennym ni ar ein cyfer ni, ac ar gyfer ein pobl ein hunain. Os cyflwynir polisi amaethyddol, a'i fod yn arwain at fethiant, fe wyddom ble i roi'r bai. Y rhai ar y fainc flaen gyferbyn yma fydd i'w beio.

Felly, os caf ddychwelyd at yr hyn y mae'r ddadl hon yn ymwneud ag ef am eiliad, fel yr eglurodd David Rowlands, gwelsom gynnydd mewn glaswellt trwchus ac anfwytadwy yn llawn trogod, ac o ganlyniad i rug aeddfed heb ei losgi, daw hwnnw hefyd yn gartref i blâu chwilod y grug. Mae rhedyn heb ei reoli yn cynhyrchu tirweddau anffrwythlon sy'n anniogel ar gyfer twristiaid a cherddwyr a hefyd yn fectorau clefyd Lyme. Felly, mae'r rhain yn bwyntiau sy'n hollbwysig i ffyniant cefn gwlad mewn ardaloedd ucheldirol yn ogystal, fel yr eglurodd, ac mae polisi dad-ddofi tir y bryniau yn mynd yn gwbl groes i effaith a phwysigrwydd amaethyddiaeth ym mywyd unrhyw wlad, ac yn enwedig ym mywyd Cymru oherwydd disgrifir 84 y cant o Gymru fel ardal lai ffafriol. Mae gennym gyfran lawer uwch o ardaloedd ucheldirol na rhannau eraill o'r DU, ac felly mae gwella ansawdd yr ardaloedd ucheldirol yn well i ffermwyr a hefyd, fel y nododd, i gerddwyr, i dwristiaid ac i bawb sy'n mwynhau cefn gwlad, yn ogystal â'r rhai sydd ond yn hoffi edrych arno.

Fel y gwyddom, nid yw cefn gwlad yn rhywbeth a gynhyrchir gan natur; mewn gwirionedd caiff ei gynhyrchu gan y rhai sy'n rheoli'r tir, ac yn arbennig gan ffermwyr sy'n gweithredu eu busnesau arno. Felly, mae angen inni gael agwedd gwbl wahanol tuag at ardaloedd yr ucheldir na'r hyn a gafwyd hyd yma. Mae cyfarwyddeb cynefinoedd yr UE wedi esgor ar lawer o ddeddfwriaeth fanwl nad yw wedi bod o fudd i'r gymuned amaethyddol, nac yn wir, i'r cyhoedd yn gyffredinol. Credaf fod y problemau sy'n cael eu creu gan ledaeniad rhedyn ac ati ar y bryniau gan bobl nad ydynt yn deall yr angen i reoli tir yn cael effaith a allai fod yn drychinebus.

Felly, o ganlyniad i'r rhyddid a gawn o ganlyniad i adael yr UE, os defnyddir y rhyddid hwnnw'n ddeallus, gall arwain at wella ansawdd bywyd ac ansawdd tir i bawb. Ni allaf weld y gall fod unrhyw anfantais i hynny. Felly, rwy'n gwahodd Aelodau'r Cynulliad i roi ystyriaethau pleidiol o'r neilltu yn y ddadl hon, i droi dalen newydd ac i ddilyn arweiniad UKIP yn y cyswllt arbennig hwn a phleidleisio o blaid ein cynnig a dangos rhywfaint o barch tuag atom nad ydym, ar yr achlysur hwn, yn ceisio dadlau mewn modd gwleidyddol a phleidiol. Roedd hon yn ymgais ddiffuant i wella bywydau pobl Cymru ac i ddod â'r pleidiau yn y tŷ hwn at ei gilydd ar fater a allai gynnal ymagwedd o'r fath. Felly, ar y sail honno, rwy'n gwahodd yr Aelodau i bleidleisio o blaid ein cynnig ac yn erbyn eu gwelliannau eu hunain.

18:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar safonau ysgolion. Rwy'n galw, felly, am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal a 35 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

NDM6776 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: O blaid: 16, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal a 23 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo.

NDM6776 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1: O blaid: 29, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2—galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal a dau yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6776 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 2: O blaid: 50, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 3—galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal ac un yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 3.

NDM6776 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 3: O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6776 fel y'i digwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1.  Croesawu:

a.  bod cyfran y disgyblion sy’n cael y graddau uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu;

b.  bod cynnydd o 50% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o gofrestriadau yn cael A*-C;

c.  bod cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan gydnabod y canlyniadau gorau a gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd a’r haf;

d.  bod 76.3 y cant o ddisgyblion a oedd yn gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers 2009.  

2.  Nodi:

a.  rhybudd Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf 2018 a chanlyniadau blynyddoedd blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn sefydlog ar y cyfan;

b.  bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl maes polisi, a nodi bod ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a byrdymor i fod yn un sy’n cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a

c.  casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn, i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy wlad.

3.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod yr holl weithlu addysg yn derbyn hyfforddiant digonol ac o safon uchel.

4.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu addysg yn denu gweithlu gyda lefel uchel o sgiliau.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal ac 16 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6776 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl UKIP ar dda byw yn yr ucheldir, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pedwar, neb yn ymatal a 48 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

NDM6779 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: O blaid: 4, Yn erbyn: 48, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1—os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

18:15

NDM6779 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Gwelliant 1: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galw am bleidlais, felly, ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid chwech, un yn ymatal, 45 yn erbyn. Ac felly gwrthodwyd gwelliant 2. 

NDM6779 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Gwelliant 2: O blaid: 6, Yn erbyn: 45, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3, felly. Galw am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 3 wedi ei gymeradwyo.   

NDM6779 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Gwelliant 3: O blaid: 30, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6779 fel y'i diwygiwyd: 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod canlyniad refferendwm Brexit a’r heriau masnach a fydd yn deillio ohono i ffermio ucheldir Cymru yn golygu bod angen i ni edrych tua’r dyfodol, ac nid i’r gorffennol, gan ddatblygu model cymorth newydd ar gyfer rheolwyr tir.

2. Yn nodi canlyniadau gwahanol ymarferion cynllunio senarios ar gyfer amaeth ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae’r cyfan yn rhagweld dyfodol anodd ar gyfer ffermio defaid yn yr ucheldir os bydd y DU yn ymadael â’r farchnad sengl a’r undeb tollau.

3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i greu rhaglen, a fydd yn cynnwys ffermwyr yr ucheldir, a fydd yn mynd i’r afael â’r materion a nodir uchod drwy gyflwyno dau gynllun mawr a hyblyg: sef Cynllun Cadernid Economaidd a chynllun Nwyddau Cyhoeddus.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio. 

NDM6779 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 30, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

9. Dadl Fer: Gwella ein democratiaeth a thrafodaeth wleidyddol: Pam y mae'n rhaid i Gymru arwain y ffordd o ran creu a darparu gwleidyddiaeth fwy caredig

Os ydych yn gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n dawel, os gwelwch yn dda, ac yn gyflym?

Rydym yn symud yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Jack Sargeant i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo. Jack Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch ichi am y cyfle hwn i gyflwyno fy nadl fer gyntaf yn y Senedd ar wella ein democratiaeth a thrafodaeth wleidyddol: pam y mae'n rhaid i Gymru arwain y ffordd o ran creu a darparu gwleidyddiaeth fwy caredig. Rwy'n falch iawn heddiw hefyd i roi munud o fy amser i gyd-Aelodau ar draws y Siambr, gan gynnwys Adam Price, Julie Morgan a Darren Millar.

Deuthum i'r Cynulliad hwn ar yr adeg anoddaf yn fy mywyd i a bywyd fy nheulu, ac i lawer ohonom mae'n dal i fod yn amser anoddaf ein bywydau. Bryd hynny, addewais i fy etholwyr, pobl y Blaid Lafur ac yn wir, i bobl ledled Cymru y buaswn yn chwarae fy rhan i sicrhau gwleidyddiaeth fwy caredig a hefyd yn adeiladu ar waddol fy nhad. Roedd yn ymgorffori gwleidyddiaeth fwy caredig, gyda'i allu a'i barodrwydd i weithredu ac i ymdrechu bob amser i weithio'n drawsbleidiol. Byddai'n tynnu sylw at fwlio pan fyddai'n dod ar ei draws a bob amser yn cynorthwyo pobl i ddod drwy eu hanawsterau. Rwy'n bwriadu gwneud yr un peth: adeiladu gwleidyddiaeth fwy caredig, nid yn unig mewn gwleidyddiaeth ei hun, ond caredigrwydd mewn bywyd yn gyffredinol.

Byddwn yn brifo pobl ar adegau, am mai dyna yw bywyd. Fodd bynnag, ni ddylem wneud hynny'n fwriadol byth, a dylem oll fod yn ymwybodol fod angen i ni fod yn fwy caredig wrth ein gilydd. I gyflawni hynny, mae angen newid diwylliant yn sylfaenol: newid yn niwylliant ein gwleidyddiaeth i'w gwneud yn fwy hygyrch i'r bobl a gynrychiolwn, trin ein gilydd gyda pharch, waeth beth yw ein safbwyntiau a gwrando ar syniadau a gweithio ar draws rhaniadau pleidiol er lles y wlad, am mai dyna y mae pobl yn ei ddisgwyl gan eu cynrychiolwyr etholedig.

Credaf fod y ddadl hon yn un amserol gyda phenawdau newyddion diweddar ac ystadegau'n dangos cynnydd mewn troseddau casineb, gwleidyddion yn cael negeseuon casineb ar-lein ac anesmwythyd cyhoeddus ar gynnydd. Mae cynnydd enfawr yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, a heriau cymdeithasol a gwleidyddol oll yn ffactorau sy'n egluro pam y mae ein gwleidyddiaeth fodern wedi dod yn un amrywiol a llwythol. Er gwaethaf yr holl gynnydd a wnaed gennym fel gwlad, mae Cymru'n rhan o'r DU sy'n wynebu llawer o raniadau, nid yn unig materion yn ymwneud ag 'aros' neu 'adael' yr UE, ond rhwng yr ifanc a'r hen, y gogledd a'r de, y cyfoethog a'r tlawd, y trefol a'r gwledig. Mae llawer o bobl yn disgwyl i fy mhlaid arwain y ffordd a gwella'r rhaniadau hyn, ond mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom i chwarae ein rhan ein hunain ac arwain y newid sydd ei angen arnom.

Mae'r genhedlaeth nesaf o bobl ledled Cymru yn disgwyl inni weithredu er eu budd. Yn Oriel y Senedd mae yna fwrdd arddangos gyda phethau y mae pobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt am eu gweld, ac yn fy araith gyntaf yn y Senedd dywedais fy mod yn gobeithio, fel cynrychiolydd cenhedlaeth newydd yn y Cynulliad hwn, y gallwn wneud rhywbeth i adeiladu gwleidyddiaeth well a mwy caredig i bawb ar gyfer y dyfodol. Ac mae hyn yn golygu annog mwy o'r genhedlaeth iau i gymryd rhan—cenhedlaeth y dyfodol gyda syniadau ffres—yn y lle hwn ac mewn sefydliadau gwleidyddol eraill.

Ddoe, cefais gyfle i ddarllen drwy rai o'r syniadau hyn ar y bwrdd yn yr Oriel ac rwy'n pwysleisio y dylai llawer o bobl ar draws y Siambr hon fynd i edrych drostynt eu hunain, oherwydd nid oeddwn yn synnu gweld bod cynifer o blant a phobl ifanc yn cyfeirio at yr angen i wella gwasanaethau iechyd meddwl a sicrhau ein bod yn rhoi diwedd ar fwlio mewn ysgolion. Wrth gwrs, bydd yn cymryd amser, ond gyda'r arweinyddiaeth gywir, gallwn sicrhau, o fewn ein pleidiau gwleidyddol ein hunain, ein bod yn arwain y ffordd tuag at roi terfyn ar fwlio yn ein rhengoedd. Rwy'n credu'n gryf fod arweinyddiaeth yn ymwneud â gwrando, ac i fy mhlaid i, mae'n ymwneud â gwrando ar bobl Cymru ac estyn allan at ein haelodau newydd a'r aelodau presennol, a chefnogwyr y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru. Mae'n ymwneud â chynnwys pobl yn ein dadleuon ar bolisi a gwneud penderfyniadau.

Mae'r cyhoedd yn disgwyl i'n pleidiau gwleidyddol, yn aml heb lawer o ffydd, i arwain drwy esiampl, ond maent hefyd yn disgwyl i ni fel unigolion weithredu, ac nid yw'n ddigon da inni sylwi ar yr angen am garedigrwydd yn ein gwrthwynebwyr gwleidyddol; rhaid inni edrych arnom ni ein hunain hefyd. Er mwyn i ddemocratiaeth fod yn effeithiol, rhaid i'r pleidiau allu gweithredu, fan lleiaf. Mae agweddau ymffrwydrol a brwydro mewnol oll yn effeithiau a welir mewn pleidiau o bob lliw, ac yn y pen draw, mae natur lwythol gyfredol gwleidyddiaeth y DU yn creu risg na fydd modd mwyach i ASau ac ACau uno'r bobl ar gyrion pellaf y gymdeithas.

Gwaith y Llywodraeth yw cymryd y dicter a'r rhwystredigaeth y mae cynifer o grwpiau ar draws y DU ac ar draws Cymru yn ei deimlo am eu dyfodol a throi'r dicter a'r rhwystredigaeth yn weithgarwch a llwyddiant. Mae llywodraethu yn ymwneud â gwella'r rhaniadau a chyfuno'r gorau o'r holl ddelfrydau hyn, nid yn unig rhai prif ffrwd, ond y rhai sy'n cyffroi fwyaf o emosiynau. O'n rhaniadau gwleidyddol, gwyddom fod cynnydd mawr wedi bod mewn troseddau casineb, a'r gwir cas yw bod hil, ethnigrwydd, crefydd, rhyw, statws anabledd a'r holl gategorïau cysylltiedig yn parhau i benderfynu beth fydd cyfleoedd bywyd a lles pobl ym Mhrydain mewn ffyrdd sy'n gwbl annerbyniol.

Nawr, bydd rhai yn dadlau nad yw gwleidyddiaeth fwy caredig yn bosibl, ond ni fydd gwleidyddiaeth fwy caredig yn bosibl heblaw bod mwy o'r rhai sy'n mynd i elwa yn gallu pleidleisio, er enghraifft. Dylai gwleidyddiaeth lenwi'r gofod lle mae'r frwydr rhwng syniadau yn caniatáu inni drafod rhwng gwahanol safbwyntiau gwleidyddol, ac rydym wedi gweld, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y cynnydd yng ngwleidyddiaeth hunaniaeth fel ateb gor-syml i broblemau cymhleth, ond mae mwy i'w gynnig ac mae'n bwysig dechrau ffurfio prosiectau gwleidyddol newydd sy'n cystadlu. Mae dychwelyd at wleidyddiaeth garedicach hefyd yn golygu'r posibilrwydd o gynnig dewisiadau polisi amgen sy'n fwy hyfyw i bobl i ddewis o'u plith, yn seiliedig ar degwch a dadansoddi cymdeithasol a ffeithiol. Mae'r llwybr at wleidyddiaeth fwy caredig hefyd yn golygu cael gwared ar y siambr atsain a'r diffyg cysylltiad rhwng y cyhoedd ac aelodau etholedig. A'r hyn fydd yn digwydd ar ddwy ochr y Siambr, a phob ochr i'r Siambr, boed yn y cyfryngau, yn y Senedd a'r Cynulliad ac mewn fforymau cyhoeddus, fydd creu siambr atsain, ac ni fyddwn yn gweld syniadau go iawn yn cael eu cyfnewid mwyach, ond yn hytrach, fe welwn galedu meddylfryd sydd wedi ymffurfio'n barod—meddylfryd y swigen. Un canlyniad i hyn yw y gall safbwyntiau eithafol ffynnu'n haws nag o'r blaen. Mae rhyngweithio personol wedi troi'n ryngweithio rhithiol bellach ac mae hynny wedi caniatáu radicaleiddio a'r perygl o radicaleiddio yng nghywair trafod, gyda'r newyddion a dadleuon ar rwydweithiau cymdeithasol yn troi'n gas.

Er mwyn i wleidyddiaeth weithio ar ei gorau mae angen cyfaddawd hefyd, ac mae cyfaddawd yn ffurf ar garedigrwydd. Mae'n golygu parchu eraill er mwyn ystyried eu barn o ddifrif. Weithiau mewn gwleidyddiaeth rydym yn cytuno i bethau nad ydynt o reidrwydd o fudd inni ond oherwydd mai dyna'r peth cywir i'w wneud, ac mewn amgylchiadau o'r fath, mae'n angharedig i geisio ailfframio neu ailddiffinio'r cyfaddawd hwnnw. Mae'n ymddangos na all rhai, gan gynnwys y pwerus yn ein heconomi ar draws y DU ac mewn bywyd gwleidyddol, ddychmygu bod caredigrwydd yn gweithio fel strategaeth wleidyddol. Mae llawer yn gweld caredigrwydd fel gwendid. Mae'n nodwedd cymeriad sy'n cael ei hosgoi a'i gwawdio. Wel, nid wyf yn cytuno â hynny, ac nid wyf am ildio i'r rhai sy'n awgrymu nad yw newid diwylliant, gwleidyddiaeth fwy caredig a charedigrwydd mewn bywyd yn bosibl. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

18:25

Yn y 1960au, dadleuai'r awdur Americanaidd James Baldwin o blaid gwleidyddiaeth newydd yn seiliedig ar gariad. Roedd yn alwad ddewr ar adeg pan oedd ymgyrchwyr rhyddid yn llythrennol yn cael eu lladd mewn gwaed oer a chynddaredd eirias. Ysgrifennodd Hannah Arendt lythyr at Baldwin yn ymateb gan ddadlau bod yn rhaid i wleidyddiaeth a chariad fod yn ddieithriaid. Gwelai ynddo lwybr llithrig tuag at sentimentaliaeth a dileu rheswm. Pan fyddwch yn gadael y drws yn gilagored i gariad, dadleuodd, byddwch hefyd yn ei adael yn agored i'w wrthwyneb, sef casineb, ac roedd hi wedi cael profiad enbyd iawn o hwnnw, wrth gwrs, yn yr Almaen Natsïaidd. Roedd Baldwin—dyn du a hoyw—yn anghytuno:

Mae cariad yn diosg y mygydau yr ofnwn na allwn fyw hebddynt ac y gwyddom na allwn fyw o'u mewn.

Mae caru'n gilydd yn golygu bod yn rhaid inni fod yn ni'n hunain yn gyfan gwbl ac yn agored, a deall bod yn rhaid i ni ddysgu gwrando er mwyn i ni gael ein clywed. Nid gwendid yw caredigrwydd. Mae'n fath gwahanol o gryfder, a'r hyn a ddisgrifiodd Baldwin fel

yr ymdeimlad cadarn a chynhwysol o ymgyrch a her a thwf,

ac yn yr ysbryd hwnnw rwy'n falch o gefnogi'r alwad am fath newydd o wleidyddiaeth lle mae cariad yn ysgogiad, yn ddelfryd, yn rhinwedd ac yn nod cyffredin i ni.

Diolch yn fawr iawn ichi am roi cyfle imi ddweud ychydig eiriau yn y ddadl bwysig iawn hon. Hoffwn longyfarch Jack Sargeant am gyflwyno'r pwnc, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn bwnc anodd a chredaf ei fod yn dangos dewrder yn ei gyflwyno. Credaf fod arnom angen gwleidyddiaeth fwy caredig—gwleidyddiaeth o gyd-barch—a chredaf yn yr amser byr y mae wedi bod yma fod Jack wedi cyfrannu at y cyd-barch hwnnw.

Cyn imi ddod yma fel Aelod Cynulliad, fel eraill yn y Siambr hon, roeddwn yn aelod o Dŷ'r Cyffredin, a phan ddeuthum yma roedd i'w gweld yn Siambr fwy cydsyniol. Roedd hi'n ymddangos bod pobl yn chwilio i weld lle roeddent yn cytuno yn ogystal â lle roeddent yn anghytuno, ac roeddwn yn teimlo bod llawer o gyd-barch. Ond teimlaf fod hynny wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, a theimlaf, fel y dywedodd Jack, nad ydym ni yn y Siambr wedi bod yn esiamplau da iawn i'r cyhoedd bob amser yn ddiweddar, a chredaf fod mwy o wrthdaro bellach. Mae mwy o weiddi wedi bod a cheir llai o oddefgarwch tuag at ein gilydd fel unigolion.

Hoffwn gefnogi'r ddadl hon yn gadarn iawn, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bosibl arddel safbwyntiau angerddol, a choleddu barn wahanol iawn, a dal i barchu ein gilydd, a chredaf y dylem wneud hynny yn y Siambr hon. Rwy'n credu bod dadl Jack heddiw yn tynnu sylw at hynny, a hoffwn roi fy nghefnogaeth lawnaf iddi.

Rwyf finnau hefyd, Lywydd, yn awyddus i godi i gefnogi galwadau Jack am wleidyddiaeth fwy caredig yma yng Nghymru, gwleidyddiaeth sy'n parchu urddas pob bod dynol. Wedi'r cyfan, rydym oll yn gyfartal, rydym oll wedi ein creu ar ddelw Duw, ac mae gan bawb ohonom hawl, rwy'n credu, i gael ein clywed. Rydym yn anghofio weithiau, rwy'n meddwl, ac yn colli ein hunain yn theatr Siambr y Cynulliad. Fi fyddai'r cyntaf i gydnabod weithiau, pan fo'r angerdd ar ei fwyaf dwys, ein bod yn dweud pethau y byddem yn hoffi eu stwffio'n ôl i lawr ein gyddfau. Ond un peth sy'n sicr yw bod llawer iawn o undod, ac yn fy 11 mlynedd yn Siambr y Cynulliad hwn, buaswn yn cytuno â barn Julie Morgan fod yna lawer mwy sy'n ein huno nag sy'n ein rhannu, a chredaf ei bod yn bwysig iawn inni fod yn bobl sy'n anghytuno'n dda, fel y gallwn o leiaf werthfawrogi safbwynt y rhai rydym yn anghytuno â hwy hyd yn oed os nad ydym yn rhannu'r un farn.

Credaf yn sicr nad yw galwad Jack wedi syrthio ar glustiau byddar o'm rhan i, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd pob un ohonom yn gwneud ein gorau yn y Siambr hon a'r tu allan i'r Siambr hon, i wneud yn siŵr fod yma barch, fod caredigrwydd bob amser yn cael ei ddangos yn y geiriau a rannwn ac yn ein gweithredoedd tuag at bobl eraill. Felly, llongyfarchiadau i chi, Jack. Rwy'n cefnogi eich galwadau'n llawn, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb ar fy meinciau wrth ddweud hynny.

18:30

Diolch, Lywydd. Rwyf innau hefyd yn hynod o ddiolchgar i Jack am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd wrth gwrs, fe all ac fe ddylai Cymru arwain y ffordd yn hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy caredig a mwy amrywiol. Wrth gwrs, dylai ansawdd y drafodaeth yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill mewn bywyd cyhoeddus osod y cywair ar gyfer dadleuon cyhoeddus yng Nghymru, ac rwyf innau hefyd yn credu, Ddirprwy Lywydd, fod lefel y ddadl yn y Siambr wedi newid yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n gresynu at hynny.

Ni chlywais y ddadl rhwng fy nghyd-Aelod Kirsty Williams a Darren Millar yn gynharach, ond hoffwn ddweud rhywbeth sydd wedi fy nharo'n fawr yma—gallwn gael anghytundeb egnïol iawn yn aml, trafodaeth fywiog, dadl fywiog, ac mae Darren a minnau wedi cyfnewid safbwyntiau egnïol ac angerddol ar wahanol ochrau'r sbectrwm, ond yr hyn nad yw'r cyhoedd yn ei weld yw ein bod yn gyfeillgar iawn tu allan mewn gwirionedd, fod gennym lawer mwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu. Pe baech am ei ddangos fel canran, rydym yn cytuno ar lawer iawn—rydym yn dadlau am swm bach iawn o wahaniaeth. Mae pawb ohonom yma am yr un rheswm mewn gwirionedd: mae pawb ohonom yma oherwydd ein bod am wneud Cymru yn lle gwell i etholwyr ac i bawb ohonom, ac mae gennym fap llwybr gwahanol i gyrraedd yno, ond mae pawb ohonom yn ymdrechu i gyrraedd yr un man. Felly, rwy'n credu mai'r hyn y mae'r ddadl yn ei wneud yw amlygu hynny.

Mor aml mewn bywyd cyhoeddus, mae'n cael ei ystyried yn waith gwrthwynebol, ond mae pawb ohonom yn gwybod bod llawer o'r hyn a wnawn yma'n gydsyniol mewn gwirionedd, ein bod yn dadlau am ddarnau bach o fanylion ffeithiol a phwyslais gwahanol, ond mewn gwirionedd, i raddau helaeth rydym yn cytuno. Fel arall, ni fyddem yn gallu pasio deddfwriaeth. Rydym yn aml yn symud i'r un cyfeiriad, ond efallai fod gennym lwybr ychydig yn wahanol. Os ydych am ddefnyddio'r gyfatebiaeth â mapiau Google: efallai y bydd eich amser cyrraedd ddau funud yn arafach os ewch ar hyd y llwybr hwn, ond rydym yn ceisio cyrraedd yr un lle.

Mewn gwirionedd, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem sôn mwy amdano. Er enghraifft, wrth annog menywod ifanc i ddod i mewn i wleidyddiaeth, mae'n aml yn syndod iddynt ein bod yn cyd-fynd yn dda iawn, a bod pawb ohonom ar draws y pleidiau yn cyd-fynd yn dda y tu allan i'r Siambr, fel ein bod yn aml yn cael trafodaeth, oherwydd yr hyn a welant, wrth gwrs, yw dadl fywiog i mewn yma. Maent yn rhagdybio bod hynny'n lledaenu i'r pwyllgorau ac ati, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw pobl yn gwylio'r pwyllgorau i'r fath raddau. Nid ydynt yn gweld y gweithio caled cydsyniol a'r gwaith manwl sy'n digwydd ynddynt. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod dyletswydd arnom i wneud yn siŵr fod pobl yn gweld y rhan honno o'r gwaith cydsyniol—i ddyfynnu dyfyniad Jo Cox a ddefnyddiodd Darren, mae gennym

fwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu.

Weithiau mae'n cymryd gweithred erchyll fel marwolaeth Jo Cox AS i greu ton o emosiwn o'r fath. Gwnaed argraff fawr arnaf, ar ôl i Jo farw, gan y modd y siaradai'r cyfryngau, am ennyd, am wleidyddion fel gweision cyhoeddus, fel y gwyddom sy'n wir, a'r ddeuoliaeth ofnadwy sy'n wynebu pawb ohonom lle caiff gwleidydd lleol ei edmygu'n fawr yn lleol, ond mewn gwirionedd, ni chaiff gwleidyddion yn gyffredinol eu hedmygu. Cafwyd ymchwydd bach, oni chafwyd, pan oedd pobl yn deall yr holl waith hwnnw, ac yna aethom yn ôl at y miri beunyddiol. Ond rwy'n credu y dylai'r ymddygiad cadarnhaol a modelau rôl fod yn rhywbeth rydym yn ei ddathlu mewn gwirionedd, a phan fyddwn yn siarad â'r bobl ifanc yn ein senedd ieuenctid, er enghraifft, a thynnodd Jack sylw at hyn, dylem sicrhau eu bod yn adeiladu'r math hwnnw o gonsensws, oherwydd fe wyddoch ein bod i gyd yn cyflawni mwy pan fyddwn yn adeiladu'r consensws hwnnw, ac rydym yn aml yn ceisio mynd i'r un cyfeiriad.

Credaf fod yna nifer o bethau sydd angen inni eu hystyried o ddifrif yn y Siambr hon hefyd. Mae yna bethau y gallem eu gwneud, y gallai'r Comisiwn eu gwneud ac y gallai pawb ohonom eu gwneud, pethau fel interniaethau—interniaethau cyflogedig, interniaethau priodol—sy'n annog pobl nad ydynt ar hyn o bryd yn cael eu cynrychioli yn y Siambr i fod yma. Felly, gellid cynnig interniaethau penodol ar gyfer pobl ag anableddau, er enghraifft, neu bobl o gymunedau amrywiol nad ydynt yn cael eu cynrychioli yma ar hyn o bryd fel y gallwn ddangos i bobl fod y lle hwn yn lle croesawgar ar gyfer pob un ohonynt.

Yn ddiweddar, fel y Dirprwy Lywydd, cyfarfûm â grŵp o bobl ifanc o ystod o gefndiroedd lleiafrifol ethnig amrywiol, a gwnaed argraff fawr arnaf gan y modd yr oeddent yn dweud nad oeddent wedi teimlo croeso yn yr adeilad oherwydd, pan wnaethant edrych drwy'r waliau gwydr i mewn i'r adeilad, nid oeddent yn gweld unrhyw un a edrychai'n debyg iddynt hwy, ac felly nid oeddent yn teimlo ei fod yn lle ar eu cyfer hwy. Cefais fy syfrdanu'n fawr gan hynny. Credaf fod angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Mae angen inni wneud yn siŵr fod y lle hwn yn lle croesawgar a thryloyw i'n holl gymunedau yng Nghymru, ar gyfer ein pobl ifanc yn ogystal â—wel, i bob cymuned. Dyna'r pwynt. Ac mae'r bobl yn edrych am rywun sy'n edrych yn debyg iddynt hwy, i weld a yw'r lle'n eu croesawu. Yn bersonol, er enghraifft, buaswn i'n ei chael hi'n anodd iawn cerdded i mewn i siop goffi neu far nad oedd yn cynnwys unrhyw un a edrychai'n debyg i fi. Rwy'n credu na fyddai llawer o groeso i mi yno yn ôl pob tebyg, a gallwch allosod hynny i fywyd cyhoeddus. Ac fe welwch fod diffyg modelau rôl yn wirioneddol bwysig.

O ran pethau fel troseddau casineb, soniodd Jack am y cynnydd mewn troseddau casineb. Rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn annog pobl i roi gwybod am yr holl droseddau sy'n digwydd, oherwydd gwyddom nad yw'r holl droseddau'n cael eu cofnodi, a rhan o'r broblem honno yw sicrhau bod pobl yn deall—ac rydym wedi siarad â phob un o'n cydweithwyr ymhlith comisiynwyr yr heddlu am hyn hefyd—y bydd rhywbeth yn cael ei wneud os ydynt yn rhoi gwybod am drosedd oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer o ragdybiaeth ynghylch hynny. Mae comisiynwyr yr heddlu ar draws y sbectrwm pleidiol wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau y bydd rhywbeth yn cael ei wneud os ydych yn rhoi gwybod am drosedd o'r fath ac rydym yn pwysleisio hynny—nad yw hon yn ffordd dderbyniol o ymddwyn yn y Gymru fodern, ac rydym wedi gweithio'n galed iawn i wneud hynny.

Yn yr un modd gyda'n cynllun ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid a'n cynllun cenedl noddfa sy'n destun balchder i ni ac rydym wrthi'n dadansoddi ymatebion iddo. Rydym am wneud yn siŵr y gall pawb yng Nghymru wneud cyfraniad priodol i'n bywyd, y gallant ddefnyddio'r doniau sydd ganddynt yng Nghymru er lles pawb ohonom. Rydym yn gwybod na allem weithredu ein gwasanaeth iechyd gwladol, ni allem weithredu llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus heb gyfraniad pobl a ddaeth yma, gan ddianc weithiau rhag y sefyllfaoedd mwyaf echrydus ac sydd wedyn yn gallu trawsnewid eu hunain a defnyddio'u sgiliau er ein lles. Nid wyf byth yn hapusach na phan welaf hynny'n digwydd, a gobeithio y gwelwch y fideo hyfryd iawn sydd ar gael ar Facebook—mae'n ymddangos yn aml iawn ar fy ffrwd i beth bynnag—o'r ddau berson ifanc mewn gwisg draddodiadol Fwslimaidd yn siarad Cymraeg dros nant yn sir Gaerfyrddin. Mae'n galonogol dros ben, ac maent yn siarad yn Gymraeg ynglŷn â sut y mae eu bywydau wedi newid ers iddynt ddod i Gymru, sy'n wirioneddol hyfryd. Rwy'n credu mai dyna'r math o fodel rôl sydd ei angen arnom—i'r bobl ifanc hynny ddod i mewn i fywyd cyhoeddus ar ôl gwneud bywyd yma fel y mae Jack yn ei ddweud. Felly, rwy'n falch ei fod wedi dweud hynny.

Rwyf am ddweud un peth olaf ynglŷn â hynny. [Torri ar draws.] Wrth gwrs, Angela.

18:35

Diolch ichi am gymryd ymyriad, oherwydd rwy'n credu, mewn gwirionedd, mai'r un peth nad ydym wedi sôn amdano yw'r rôl y mae'r cyfryngau yn ei chwarae, a chredaf ei bod hi'n hanfodol fod y cyfryngau'n ymatal rhag rhai o'r ffyrdd y maent yn portreadu pobl, gwleidyddion, ffoaduriaid, fel bod y modelau rôl da hyn, y straeon da hyn, ehangu ein dealltwriaeth a derbyn gwahanol ffyrdd o fyw, yn cael eu portreadu mewn ffordd lawer mwy cadarnhaol oherwydd i fod yn onest, gallwch godi unrhyw bapur, yn bapur tabloid neu fel arall, a'r pethau negyddol sy'n cael eu hamlygu bob amser. Y gwleidydd sy'n gwario 32c ar fwyd cathod neu'r person mewn gwisg Fwslimaidd sy'n cerdded ar hyd y stryd ac yn dweud rhywbeth sy'n cael ei gamddehongli. Wyddoch chi, rydym bob amser yn edrych am y gwaethaf, ac rwy'n ofni fy mod yn credu bod yn rhaid i'r cyfryngau fod yn rhan o'r broses o helpu pawb i ddatblygu math newydd a mwy caredig o wleidyddiaeth. Un o'r rhesymau y credaf ei bod mor bwysig yw os na wnawn hyn, byddwn yn gadael gwead ein cymdeithas yn agored i eithafion yr ymylon yn unig. Ni fydd y bobl dda am gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, oherwydd byddant yn edrych arno ac yn dweud, 'Nid yw'n rhywbeth i mi', a byddant yn troi cefn. Pan wnawn hynny, pan fyddwn yn gadael lle wag, un o'r pethau y gwyddom i sicrwydd yw bod natur yn casáu gwactod. Os byddwn yn gadael gwagle, bydd yn cael ei lenwi gan bobl nad oes ganddynt mo'r cariad y buoch yn sôn amdano, ac y siaradodd Adam mor ddoeth yn ei gylch, yn ganolog iddo.

Rwy'n cytuno'n llwyr, Angela. Un o'r pethau rydym wedi bod yn falch iawn o fod yn ei wneud yw casglu cyfres o straeon cadarnhaol o bob rhan o Gymru i sicrhau eu bod yn y cyfryngau, ac i fod o ddiddordeb i newyddiadurwyr mewn darnau math cylchgrawn gwell na'r math o bethau rydych yn sôn amdanynt.

Roeddwn am orffen trwy ddweud, heb fodelau rôl ifanc fel Jack, mae'n anodd iawn cyfleu'r darlun hwnnw, a buaswn yn annog pob un ohonoch—. Felly, un o'r pethau rwy'n ei wneud, ac rwy'n siarad mewn llawer o ysgolion—gwn fod Suzy yn ei wneud a gwn fod Caroline yn ei wneud oherwydd rwy'n eu gweld yno, oherwydd eu bod o'r un rhan â fi—byddaf yn siarad â llawer o bobl ifanc mewn ysgolion, amrywiaeth eang iawn o bobl, ac rwy'n dweud, 'Edrychwch, byddwch wedi clywed yr holl stwff am wleidyddion, byddwch wedi clywed bod gwleidyddion benywaidd yn cael llwyth o ofid ac yn y blaen, ac mae rhywfaint o hynny'n wir. Ond rwy'n gwneud y gwaith hwn oherwydd fy mod wrth fy modd yn ei wneud ac oherwydd, mewn gwirionedd, ei fod yn beth gwerthfawr i'w wneud. Fe ddowch i sylweddoli eich bod yn gwneud rhywbeth sy'n bwysig iawn ac mewn gwirionedd, mae gennych gyfle o ddifrif i newid y ffordd y mae eich cenedl yn gwneud rhai pethau.' Dyna'r peth y mae angen inni ei gyfleu, oherwydd caiff ei golli yn yr holl anhawster a diffyg caredigrwydd. Ond pe baem am ddangos y math o gryfder y siaradodd Adam amdano mewn caredigrwydd, ac y soniodd Julie amdano yn ogystal, yn y modd y trafodwn bethau, pe baem yn dangos peth o'r consensws hwnnw a'r gwir foddhad a gewch o wneud gwasanaeth cyhoeddus—nid gwasanaeth etholedig yn unig, mae mathau eraill o fywydau mewn gwasanaeth cyhoeddus yn bosibl—cawn fath mwy caredig o wleidyddiaeth, oherwydd byddwn yn pwysleisio'r rhan honno o'n gwaith ac nid yn pwysleisio'r rhan o'n gwaith sy'n fath o ymryson fel y cewch chi weithiau adeg y cwestiynau i'r Prif Weinidog ac yn y blaen. Ac nid wyf yn meddwl fod dim o'i le ar nodi, mewn gwirionedd, fod Darren yn fwy o gath fach y tu allan i'r Siambr nag y mae weithiau—i ddyfynnu fy nghyd-Aelod, Kirsty Williams. Nid wyf am ddifetha eich enw da, Darren. [Chwerthin.] Ond hefyd, fod gennym fwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu, ac rwy'n meddwl, Ddirprwy Lywydd, fod y fan honno'n lle da i ddod i ben. Diolch yn fawr iawn am y ddadl, Jack.

18:40

Daeth y cyfarfod i ben am 18:40.