Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
16/05/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Galw'r Aelodau i drefn.
I call Members to order.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Mae'r cwestiwn cyntaf, sydd wedi ei grwpio â chwestiwn 6, i'w holi gan Julie Morgan.
The first item on our agenda this afternoon is the questions to the Cabinet Secretary for Finance. The first question, which has been grouped with question 6, is to be asked by Julie Morgan.
1. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y gronfa cyd-ffyniant? OAQ52189
1. What discussions has the Cabinet Secretary had with the UK Government regarding the shared prosperity fund? OAQ52189
6. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynglŷn â chronfa cyd-ffyniant y Deyrnas Gyfunol? OAQ52200
6. What discussions has the Cabinet Secretary had regarding the UK's shared prosperity fund? OAQ52200

Thank you, Llywydd, and thank you for confirming that you've given your permission for questions 1 and 6 to be grouped.
The UK Government is yet to share any details of its proposals for a shared prosperity fund. I have raised the issue of replacement funds for structural funding with the Chief Secretary to the Treasury, and our position, including autonomy of funding, is clearly set out in our paper 'Regional Investment in Wales after Brexit'.
Diolch, Lywydd, a diolch am gadarnhau eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 1 a 6 gael eu grwpio.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhannu unrhyw fanylion hyd yn hyn ynglŷn â'i chynigion ar gyfer cronfa cyd-ffyniant. Rwyf wedi crybwyll mater cyllid yn lle cronfeydd strwythurol wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac mae ein safbwynt, gan gynnwys ymreolaeth gyllidol, wedi'i nodi yn glir yn ein papur 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'.
I thank the Cabinet Secretary for that response. It's generally accepted that women have suffered disproportionately under austerity in the UK, and we all know how important European structural funds have been in tackling inequalities. How can we ensure that any replacement for the EU structural funds post Brexit will concentrate on the inequalities in society?
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Yn gyffredinol, cydnabyddir bod menywod wedi dioddef yn anghymesur o dan bolisïau cyni yn y DU, a gŵyr pob un ohonom pa mor bwysig y mae cronfeydd strwythurol Ewropeaidd wedi bod wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Sut y gallwn sicrhau y bydd unrhyw gyllid a ddaw yn lle cronfeydd strwythurol yr UE ar ôl Brexit yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau yn y gymdeithas?
Well, Llywydd, can I thank Julie Morgan for that question, and to thank her for the work that she does in chairing the programme monitoring committee for the current round of European funding? And she will know, as a result of the careful attention that that committee pays to inequalities, that the current social fund programmes, for example, include specific targets to provide skills and training to more than 95,000 women in the workplace, and a particularly fine scheme to support 15,000 young women to participate in learning STEM subjects here in Wales. With the help of the programme monitoring committee, we formulated our proposals, set out in 'Regional Investment in Wales after Brexit', and one of the key principles in that paper is that we learn the lessons from current and previous funding rounds, and that we take the successes of it into the future. I can give the Member an assurance that inequality issues remain at the heart of the proposals that the Welsh Government has for developing regional investment the other side of the European Union.
Wel, Lywydd, a gaf fi ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn, a diolch iddi am y gwaith y mae'n ei wneud yn cadeirio pwyllgor monitro'r rhaglen ar gyfer y rownd bresennol o gyllid Ewropeaidd? A bydd yn gwybod, o ganlyniad i'r sylw craff y mae'r pwyllgor hwnnw'n ei roi i anghydraddoldeb, fod rhaglenni presennol y gronfa gymdeithasol, er enghraifft, yn cynnwys targedau penodol i ddarparu sgiliau a hyfforddiant i dros 95,000 o fenywod yn y gweithle, a chynllun arbennig o dda i annog 15,000 o fenywod ifanc i fynd ati i ddysgu pynciau STEM yma yng Nghymru. Gyda chymorth pwyllgor monitro'r rhaglen, fe ffurfiasom ein cynigion, a nodir yn 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit', ac un o'r egwyddorion allweddol yn y papur hwnnw yw ein bod yn dysgu gwersi o'r rowndiau cyllid presennol a blaenorol, a'n bod yn ailadrodd y llwyddiannau yn y dyfodol. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod materion anghydraddoldeb yn parhau i fod wrth wraidd cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu buddsoddiad rhanbarthol wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae hi'n destun pryder nad oes yna unrhyw gynigion cynhwysfawr wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Prydain eto ynglŷn â sut yn union y bydd y gronfa cyd-ffyniant yma yn gweithio. Fel mae hi rŵan, wrth gwrs, Llywodraeth Cymru a chynghorau sir, drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sydd yn penderfynu ar beth mae'r grantiau rhanbarthol yn cael eu gwario yng Nghymru. Yn y man cyntaf, mae'n bwysig na fydd Cymru yn colli yr un geiniog o'r arian yr oeddem ni yn ei dderbyn gan Ewrop, sy'n golygu y bydd yn rhaid i'r arian gael ei ddyrannu ar sail angen yn hytrach na thrwy fformiwla Barnett. A fy mhryder i hefyd ydy, os bydd y system yn newid, ble bydd yn rhaid i gyrff yng Nghymru fidio am grantiau i bot o bres Llywodraeth Prydain, yna mi fyddai hynny yn enghraifft arall o'r Torïaid yn San Steffan yn dwyn pwerau, yn y maes datblygu economaidd y tro yma. A wnewch chi sefyll i fyny dros Gymru ar y mater yma, ynteu a ydym ni am eich gweld chi yn ildio eto, dan faner eich ideoleg unoliaethol?
It is a cause of concern that there are no comprehensive proposals that have been published by the UK Government as of yet, in terms of how exactly the shared prosperity fund will work. At the moment, the Welsh Government and councils in Wales, through the Welsh European Funding Office, decide on how the regional funds are spent in Wales. In the first place, it’s important that Wales doesn’t lose a single penny of the funding that we were receiving from Europe, which will mean that the funding will have to be allocated on the basis of need rather than being Barnettised. My concern also is that, if the system does change, where organisations in Wales will have to bid for grants from a pot of money held by the UK Government, then that will be another example of the Conservatives in Westminster undertaking a power grab, in economic development on this occasion. Will you stand up for Wales on this particular issue, or are we going to see you ceding once again, under the banner of your unionist ideology?
Wel, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau. Rwy'n cytuno â bron popeth roedd hi'n ei ddweud, tan y diwedd. Jest i fod yn glir, rwyf yn cytuno â hi; mae hi yn fwy nag amser i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddod ymlaen â'r awgrymiadau sydd gyda nhw. O dan yr awgrymiadau yna, mae hi'n hollbwysig, ynghylch y pethau roedd pobl yng Nghymru yn eu clywed gan bobl a oedd yn trïo eu perswadio nhw i adael yr Undeb Ewropeaidd, nôl yn y refferendwm—i fod yn glir, pob ceiniog roeddem ni'n ei chael drwy fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd—ac mae'n rhaid i'r arian yna ddod i Gymru yn y dyfodol, achos mae'r anghenion a oedd gennym ni yn dal i fod yna. Nawr, byddai'n hollol afresymol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig petaen nhw'n trïo dod ymlaen â system newydd lle byddai'n rhaid i ni fidio i mewn i gronfa newydd. Y ffordd orau, rwy'n siŵr, yw jest i weld yr arian sy'n dod i Gymru ar hyn o bryd, i roi hwnnw mewn i'r baseline sydd gyda ni ar ein cyllid ni, a rhoi'r cyfrifoldeb i ni, fel mae cyfrifoldebau gyda ni yn barod, i redeg y system yn y dyfodol. A dyna beth rydw i wedi ei ddweud yn barod wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, a dyna beth rydw i'n mynd i fwrw ymlaen i ddweud pan fydd cyfleon gennym ni yn y dyfodol.
I thank Siân Gwenllian for the questions, and I agreed with nearly everything she said, until the end there. I just want to be clear that I do agree with her; it is more than time for the UK Government to bring forward the suggestions that they have. And, when we see those suggestions, it’s important that the people of Wales hear from the people who tried to persuade them to leave the European Union, back during the referendum—to clarify, every penny that was received during our membership of the EU—that the money must come to Wales in future, because the needs that we had continue to exist. It would be entirely unreasonable if the United Kingdom Government were to try to come forward with a new system where we would have to bid into a new fund. The best way, I am certain, is just to look at the funding that comes to Wales currently and then put that into the baseline that we have in our budget, and to give us the responsibility, as we already have, to administer the system in the future. I have already said this to the Chief Secretary to the Treasury, and I will continue to say this when opportunities arise in future.
I agree with both you, Cabinet Secretary, and Siân Gwenllian. I disagree with both of you at the same time, so, take that as you will. The development of the shared prosperity fund is clearly of immense importance to the Welsh economy and our goal here is that Wales should be no worse off after Brexit in relation to the structural fund allowance. I agree with what you said that we don't want a new system where we would be worse off by, in some way, having to bid for this funding, but, at the same time, I think you'd agree with me, Cabinet Secretary, we want to avoid a Barnettisation of the money coming to Wales, because that would also squeeze the budget in a different, but still a very significant, way.
What discussions have you had with the UK Government about avoiding that potential Barnettisation of the fund? And, also, in tandem with this, the Welsh Government should be developing its own regional policies so that we're in the best place possible to make use of those new funds when they do come to Wales. At what stage are you at in developing that new regional policy that will fit in with the UK Government strategy?
Rwy'n cytuno gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a gyda Siân Gwenllian. Rwy'n anghytuno â'r ddau ohonoch ar yr un pryd, felly, gwnewch o hynny beth a fynnwch. Ond mae'n amlwg fod datblygu'r gronfa cyd-ffyniant yn bwysig iawn i economi Cymru a'n nod yma yw sicrhau nad yw Cymru yn waeth ei byd ar ôl Brexit mewn perthynas â lwfans y cronfeydd strwythurol. Cytunaf â'r hyn a ddywedoch nad ydym yn awyddus i gael system newydd lle byddem yn waeth ein byd drwy orfod gwneud cynigion, mewn rhyw ffordd, am yr arian hwn, ond ar yr un pryd, credaf y byddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod yn awyddus i osgoi Barnetteiddio'r arian a ddaw i Gymru, gan y byddai hynny hefyd yn rhoi pwysau ar y gyllideb mewn ffordd wahanol, ond ffordd arwyddocaol iawn serch hynny.
Pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag osgoi'r posibilrwydd y caiff y gronfa honno ei Barnetteiddio? A hefyd, ochr yn ochr â hyn, dylai Llywodraeth Cymru fod yn datblygu ei pholisïau rhanbarthol ei hun er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i wneud defnydd o'r cronfeydd newydd hynny pan ddônt i Gymru. Pa gam rydych wedi'i gyrraedd ar ddatblygu'r polisi rhanbarthol newydd hwnnw a fydd yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth y DU?
Well, Llywydd, I agree that neither a bidding nor a Barnett-derived approach to a shared prosperity fund would be acceptable to us here in Wales, remembering that this fund has no origins here in Wales and that the party that proposed it certainly did not secure a majority for it here in Wales. Let me say that discussions continue both at ministerial and official levels. I hope that when the UK Government comes forward with more detailed proposals for the fund, there will be the possibility of organising funding for Wales along the lines that I set out in my answer to Siân Gwenllian.
In the meantime, I agree with Nick Ramsay that it's very important that we press ahead with the plans that we are developing for how funding would be used for regional investment purposes in Wales in the future. We've carried out a consultation exercise, as Nick Ramsay will know, on the paper that we published. That was a very engaged exercise. Officials are currently analysing all the responses that we have received and I hope to be in a position to publish those shortly.
Wel, Lywydd, cytunaf na fyddai gwneud cynigion na mabwysiadu ymagwedd sy'n deillio o fformiwla Barnett tuag at gronfa cyd-ffyniant yn dderbyniol i ni yma yng Nghymru, gan gofio nad yw'r gronfa hon yn tarddu o Gymru a bod y blaid a'i cynigiodd yn bendant heb sicrhau mwyafrif o'i phlaid yma yng Nghymru. Gadewch imi ddweud bod y trafodaethau'n parhau i fynd rhagddynt ar lefel weinidogaethol ac ar lefel swyddogol. Pan fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynigion manylach ar gyfer y gronfa, rwy'n gobeithio y bydd modd trefnu cyllid i Gymru yn y ffordd a amlinellwyd gennyf yn fy ateb i Siân Gwenllian.
Yn y cyfamser, rwy'n cytuno â Nick Ramsay ei bod yn bwysig iawn inni fwrw ymlaen â'r cynlluniau rydym yn eu datblygu ar gyfer y modd y byddai arian yn cael ei ddefnyddio at ddibenion buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym wedi cynnal ymarfer ymgynghori, fel y gŵyr Nick Ramsay, ar y papur a gyhoeddwyd gennym. Denodd yr ymarfer hwnnw gryn dipyn o ymateb. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn dadansoddi'r holl ymatebion a gawsom ac rwy'n gobeithio y byddaf mewn sefyllfa i'w cyhoeddi cyn bo hir.
Cabinet Secretary, in full support of your 'Regional Investment in Wales after Brexit' paper, how can we ensure that future funding arrangements are aligned with other European funds we hope to draw on after Brexit, such as Horizon 2020 and the inter-territorial co-operation programme?
Ysgrifennydd y Cabinet, i gefnogi eich papur 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit' yn llawn, sut y gallwn sicrhau bod trefniadau cyllido yn y dyfodol yn cyd-fynd â chronfeydd Ewropeaidd eraill y gobeithiwn fanteisio arnynt ar ôl Brexit, megis Horizon 2020 a'r rhaglen gydweithredu ryngdiriogaethol?
Wel, Llywydd, Jane Hutt make a very important additional point, because our anxieties about the shared prosperity fund, if it were to be done in the wrong way, are not simply that Wales might lose out financially through a bidding or Barnett-based system, but if a shared prosperity fund was seriously to be attempted to be run out of Whitehall, then where are the troops on the ground that the UK Government could rely on to make effective use of that funding?
Twenty years into devolution, it is the Welsh Government and other Welsh bodies who have the experience of regional economic development and of making sure that funding streams that come to Wales can be properly aligned with one another so that we get the maximum impact from it. And one of the small advantages that some of us think we may gain from not being in the European Union is that we would have greater flexibility to make sure that funds that came directly to Wales could be used in greater alignment with other funding streams for the future. We are in the right position to do that. The UK Government simply does not have the wherewithal In Wales to do so, and the points that Jane Hutt made about aligning our funds with other programmes is very important.
Wel, Lywydd, mae Jane Hutt yn gwneud pwynt ychwanegol pwysig iawn, gan fod ein pryderon ynglŷn â'r gronfa cyd-ffyniant, pe bai'n cael ei rhoi ar waith yn y ffordd anghywir, nid yn unig yn ymwneud â'r ffaith y gallai Cymru fod ar ei cholled yn ariannol drwy system o wneud cynigion neu system sy'n seiliedig ar fformiwla Barnett, ond pe bai ymgais o ddifrif i weithredu cronfa cyd-ffyniant o Whitehall, ble mae'r bobl ar lawr gwlad y gallai Llywodraeth y DU ddibynnu arnynt i wneud defnydd effeithiol o'r cyllid hwnnw?
Ugain mlynedd ers datganoli, Llywodraeth Cymru a chyrff Cymreig eraill sydd â phrofiad o ddatblygu economaidd rhanbarthol ac o sicrhau y gellir cydlynu'r ffrydiau cyllido a ddaw i Gymru gyda'i gilydd yn briodol fel y gallwn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl. Ac un o'r mân fanteision y cred rhai ohonom a ddaw o beidio â bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd yw y byddai gennym fwy o hyblygrwydd i sicrhau y gellid cydlynu'r arian a ddaw'n uniongyrchol i Gymru yn well gyda ffrydiau cyllido eraill ar gyfer y dyfodol. Rydym yn y sefyllfa iawn i wneud hynny. Nid oes gan Lywodraeth y DU adnoddau yng Nghymru i wneud hynny, ac mae'r pwyntiau a wnaeth Jane Hutt ynglŷn â chydlynu ein cronfeydd gyda rhaglenni eraill yn bwysig iawn.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r broses ar gyfer cyfrifo swm yr arian a ddyrannwyd i'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi digartrefedd? OAQ52175
2. Will the Cabinet Secretary outline the process for calculating the amount of funding allocated to the local government and public services portfolio to support homelessness? OAQ52175
I thank the Member for that question. The process for allocating funding for homelessness services follows that for the budget as a whole. Priorities are identified in bilateral meetings, with the Cabinet agreeing final allocations. The increasing prevalence of homelessness, and this Government’s ambition to eradicate youth homelessness, underpinned the additional funding agreed by the Assembly for these purposes in January of this year.FootnoteLink
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r broses ar gyfer dyrannu arian i wasanaethau digartrefedd yn dilyn y broses ar gyfer y gyllideb yn ei chyfanrwydd. Nodir y blaenoriaethau mewn cyfarfodydd dwyochrog, gyda'r Cabinet yn cytuno ar y dyraniadau terfynol. Roedd nifer cynyddol yr achosion o ddigartrefedd, a dyhead y Llywodraeth hon i ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc, yn sail i'r arian ychwanegol a gytunwyd gan y Cynulliad at y dibenion hyn ym mis Ionawr eleni.FootnoteLink
Thank you for that information, Cabinet Secretary. My fear is that now the worst of the winter weather has passed, the need to adequately fund the services required to meet the needs of homeless people will actually start to slip down the public agenda. However, as I'm sure you'll agree, this is probably the very time when we should be planning to ensure that adequate finance is provided for these demands, especially with the growing threat from universal credit, which is going to be rolled out in my constituency next month. Certainly, in communities like Merthyr Tydfil and Rhymney, I believe we are seeing a greater demand for these services and, like others, I see that evidence every day. So, can you assure me that, as Cabinet Secretary for Finance, you remain in conversation with ministerial colleagues about how, overall, the whole of Welsh Government can best respond to these demands?
Diolch am y wybodaeth honno, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n ofni bellach, a thywydd gwaethaf y gaeaf wedi bod, y bydd yr angen i ariannu'r gwasanaethau sy'n angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion pobl ddigartref yn dechrau llithro i lawr yr agenda gyhoeddus. Fodd bynnag, fel y byddwch yn cytuno, rwy'n siŵr, mae'n debyg mai dyma'r union adeg y dylem fod yn cynllunio i sicrhau bod cyllid digonol yn cael ei ddarparu gyfer yr anghenion hyn, yn enwedig yn wyneb bygythiad cynyddol credyd cynhwysol, a fydd yn cael ei gyflwyno yn fy etholaeth y mis nesaf. Yn sicr, mewn cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni, credaf ein bod yn gweld mwy o alw am y gwasanaethau hyn, ac fel eraill, rwy'n gweld y dystiolaeth honno bob dydd. Felly, a allwch roi sicrwydd i mi eich bod chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn parhau i drafod gyda chyd-Weinidogion ynglŷn â'r ffordd orau yn gyffredinol i Lywodraeth Cymru ymateb i'r anghenion hyn?
Llywydd, can I begin by agreeing with the opening point that the Member made? It is one of the genuine responsibilities of Government and, indeed, of the Assembly, to make sure that we remain alert to serious social needs whenever they take place. Inevitably, in the public domain, issues come and go, but I think I could say that, in the time that I've been a Member here, Members throughout this Assembly do make sure that they raise these issues right through the year, not just at the point when they happen to be under the public microscope, and that's a really important responsibility that the Assembly discharges.
The money that we have provided—the additional £20 million in the budget this year and again into next year—is there all year round. It's there to support the rough-sleeping plan that my colleague the Minister with responsibility for housing and regeneration published earlier this year. In the round of budget bilaterals that I'm just concluding with all my Cabinet colleagues, housing has been discussed in every single one of those bilaterals because it is the foundation of a successful life, and everybody in Wales deserves to have a base from which they can plan for the future and create a future for themselves and their families.
Lywydd, a gaf fi ddechrau drwy gytuno â phwynt agoriadol yr Aelod? Un o gyfrifoldebau diamheuol y Llywodraeth, ac yn wir, y Cynulliad, yw sicrhau ein bod yn parhau i fod yn effro i anghenion cymdeithasol difrifol pan fyddant yn codi. Yn anochel, yn y parth cyhoeddus, mae problemau'n mynd a dod, ond credaf y gallwn ddweud, ers i mi fod yn Aelod yn y lle hwn, fod Aelodau o bob rhan o'r Cynulliad yn sicrhau eu bod yn codi'r materion hyn drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig pan fyddant yn digwydd bod o dan chwyddwydr y cyhoedd, a dyna un o'r cyfrifoldebau gwirioneddol bwysig y mae'r Cynulliad yn eu cyflawni.
Mae'r arian a ddarparwyd gennym—yr £20 miliwn ychwanegol yn y gyllideb eleni ac eto'r flwyddyn nesaf—yno drwy gydol y flwyddyn. Mae yno i gefnogi'r cynllun cysgu allan a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros dai ac adfywio. Yn y rownd o gyfarfodydd dwyochrog ar y gyllideb rwyf ar fin ei chwblhau gyda fy holl gyd-Aelodau o'r Cabinet, mae tai yn faes a drafodwyd ym mhob un o'r cyfarfodydd dwyochrog hynny gan mai dyna yw'r sylfaen i fywyd llwyddiannus, ac mae pawb yng Nghymru'n haeddu sylfaen er mwyn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol a chreu dyfodol ar eu cyfer eu hunain a'u teuluoedd.
Cabinet Secretary, you will be aware of the recommendations by the Equality, Local Government and Communities Committee that rough-sleepers be considered as a priority need for housing. However, before this can be implemented, enough resources and support will be needed in place to cope with this change. What discussion have you had with your Cabinet colleagues about increasing the amount of funding allocated to tackling the problem of homeless people rough-sleeping in Wales, please? Thank you.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod am argymhellion y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y dylid ystyried pobl sy'n cysgu allan yn bobl ag angen blaenoriaethol am dai. Fodd bynnag, cyn y gellir gweithredu hyn, bydd angen digon o adnoddau a chymorth ar waith i ymdopi gyda'r newid hwn. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet ynglŷn â chynyddu'r swm o gyllid a ddyrannwyd i fynd i'r afael â phroblem pobl ddigartref yn cysgu allan yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Diolch.
I thank the Member for the question. As I said just a moment ago, housing issues have featured in every single one of the budget bilaterals that I have had with Cabinet colleagues. Every Cabinet colleague has an interest in housing and homelessness matters, whether it be the mental health and physical health issues that homeless people face or the pressure on local government services that homelessness creates. So, I can give the Member an assurance that it is a matter that interests all members of the Cabinet. I know that the extra investment we were able to find for homelessness services was supported right across the Chamber.
I have to say to the Member that any time someone here asks me to find extra money for any service at a time when the resources available to the Welsh Government as a whole are going down, the only way more money for one thing can be found is by taking it away from something else. He'll understand, I know, that that is a very challenging calculation to carry out.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Fel y dywedais eiliad yn ôl, mae materion tai wedi bod yn rhan o'r holl gyfarfodydd dwyochrog ar y gyllideb a gefais gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet. Mae gan bob cyd-Aelod o'r Cabinet ddiddordeb mewn materion tai a digartrefedd, boed yn broblemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol y mae pobl ddigartref yn eu hwynebu neu'r pwysau ar wasanaethau llywodraeth leol sy'n deillio o ddigartrefedd. Felly, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ei fod yn fater sydd o ddiddordeb i bob Aelod o'r Cabinet. Gwn fod y buddsoddiad ychwanegol a ddarparwyd gennym ar gyfer gwasanaethau digartrefedd wedi'i gefnogi ar draws y Siambr.
Mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod, unrhyw dro y bydd rhywun yma yn gofyn imi ddod o hyd i ragor o arian ar gyfer unrhyw wasanaeth ar adeg pan fo'r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn gyffredinol yn prinhau fwyfwy, yr unig ffordd o ddod o hyd i arian ar gyfer un peth yw mynd ag ef oddi wrth rhywbeth arall. Gwn y bydd yn deall bod hwnnw'n gyfrifiad anodd iawn i'w wneud.
I understand that there are Housing First pilots that have been and are going to be developed in parts of Wales, which I welcome, as part of the commitment to tackle homelessness, but the involvement of other services, including justice and healthcare are key in relation to this. So, what are you doing to look at pooling budgets? I've spoken to the sector on many occasions and they've said to me that there's not enough conversation between housing and healthcare. Crisis, the charity, funded in the Liverpool city region—. They looked at the analysis of how Housing First worked there, and they found that access, for example, to second-tier mental health support and that learning and coaching were needed to make Housing First work. So, if we're going to make Housing First work here in Wales, which is something I support, how can we ensure that the budgets reflect that ambition?
Deallaf fod cynlluniau peilot Tai yn Gyntaf wedi cael eu datblygu ac yn mynd i gael eu datblygu mewn rhannau o Gymru, ac rwy'n croesawu hynny, fel rhan o'r ymrwymiad i fynd i'r afael â digartrefedd, ond mae ymwneud gwasanaethau eraill, gan gynnwys cyfiawnder a gofal iechyd, yn allweddol mewn perthynas â hyn. Felly, beth rydych yn ei wneud i ystyried cyfuno'r cyllidebau? Rwyf wedi siarad gyda'r sector ar sawl achlysur ac maent wedi dweud wrthyf nad oes digon o sgwrs rhwng y maes tai a maes gofal iechyd. Mae Crisis, yr elusen, a ariennir yn ninas-ranbarth Lerpwl—. Maent wedi edrych ar y dadansoddiad o sut roedd Tai yn Gyntaf yn gweithio yno, a daethant i'r casgliad fod mynediad, er enghraifft, at gymorth iechyd meddwl ail haen a bod dysgu a hyfforddi yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod Tai yn Gyntaf yn gweithio. Felly, os ydym am sicrhau bod Tai yn Gyntaf yn gweithio yma yng Nghymru, sy'n rhywbeth rwy'n ei gefnogi, sut y gallwn sicrhau bod y cyllidebau'n adlewyrchu'r uchelgais hwnnw?
Well, Llywydd, the Member makes a series of important points. Of course, the difficulties faced by homeless people are complex, and they often involve other issues in their lives. It's why, of the £10 million directly found for homelessness services in this year's budget, £6 million of that has gone into providing extra places for people to stay, and £4 million has gone into the support services that need to be provided, if people are to be able to use the opportunity that the new start of a new place to live might provide to them.
I'll think about the point that she has made about pooled budgets. They have pluses to them; they have downsides as well. Everybody who puts money into a pool needs to understand that that money can be used for purposes beyond those that they are responsible for themselves. Understandably, in tough times, organisations often look very jealously at the money they themselves have put in, and Members here often ask questions to make sure that the money is still being used for the purpose it was already provided for. So, shared budgets can be a solution, but they don't come without their downsides either. Certainly, it's a possibility we will keep in mind.
Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig. Wrth gwrs, mae'r anawsterau a wynebir gan bobl ddigartref yn gymhleth, ac yn aml maent yn ymwneud â phroblemau eraill yn eu bywydau. Dyna pam, o'r £10 miliwn a ddarparwyd yn uniongyrchol ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn y gyllideb eleni, fod £6 miliwn ohono wedi mynd i ddarparu lleoedd ychwanegol i bobl aros, ac mae £4 miliwn wedi mynd i'r gwasanaethau cymorth sydd angen eu darparu, er mwyn sicrhau y gall pobl fanteisio ar y cyfle y gallai dechrau newydd mewn lle newydd ei ddarparu iddynt.
Byddaf yn ystyried y pwynt a wnaed ganddi ynglŷn â chyfuno cyllidebau. Mae ganddynt fanteision; mae ganddynt anfanteision hefyd. Mae angen i bawb sy'n rhoi arian mewn cronfa ddeall y gellir defnyddio'r arian hwnnw at ddibenion y tu hwnt i'r rhai y maent yn gyfrifol amdanynt eu hunain. Mae'n ddealladwy, mewn cyfnod anodd, fod sefydliadau yn aml yn edrych yn genfigennus iawn ar yr arian y maent hwy eu hunain wedi'i gyfrannu, ac mae Aelodau yma yn aml yn gofyn cwestiynau i sicrhau bod yr arian yn dal i gael ei ddefnyddio at y diben y cafodd ei ddarparu ar ei gyfer. Felly, gall rhannu cyllidebau fod yn ateb, ond nid ydynt yn dod heb eu hanfanteision chwaith. Yn sicr, mae'n bosibilrwydd y byddwn yn ei gadw mewn cof.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
We now move to questions from the party spokespeople. The Conservative spokesperson, Nick Ramsay.
Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, yesterday, in your statement on the vacant land tax, I described you as a jack of all trades when it came to developing new taxes; you've got a lot of different taxes on the go at the moment. In yesterday's statement, you spoke about testing the machinery in terms of the vacant land tax. If I can widen that question out into other potential new taxes that the Welsh Government might be considering in future, clearly one of those potential taxes would be one to deal with the social care time-bomb problem, and a potential social care levy, as other Members have discussed in this Chamber. Could you tell us: have you given any thought, as of yet, to a potential social care levy, and have you had any discussions with your colleagues about that?
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, yn eich datganiad ar y dreth ar dir gwag, fe'ch gelwais yn Siôn bob swydd mewn perthynas â datblygu trethi newydd; mae gennych lawer o drethi gwahanol ar y gweill ar hyn o bryd. Yn y datganiad ddoe, siaradoch am brofi'r mecanwaith mewn perthynas â'r dreth ar dir gwag. Os caf ehangu’r cwestiwn hwnnw i gynnwys trethi newydd posibl eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu hystyried yn y dyfodol, mae'n amlwg mai un o'r trethi posibl hynny fyddai treth i fynd i'r afael â bom amser y broblem gofal cymdeithasol, ac ardoll gofal cymdeithasol bosibl, fel y trafodwyd gan Aelodau eraill yn y Siambr hon. A allwch ddweud wrthym: a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth, hyd yn hyn, i ardoll gofal cymdeithasol bosibl, ac a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'ch cyd-Aelodau ynglŷn â hynny?
Llywydd, yes, we've been very actively engaged in this topic—particularly recently, following the ideas published by Professor Gerry Holtham. Professor Holtham has provided the Welsh Government with a near-final draft of an updated report, in which he looks in more detail at the way in which a dedicated social care fund, based on the model of the original national insurance fund, might be developed for Wales. The First Minister has set up a cross-ministerial group, chaired by my colleague Huw Irranca-Davies, and that will begin its work by looking at three dimensions. It will look in detail at Professor Holtham's work to make sure that there is a workable economic model there, but it will look, as well, at what the social care services of the future need to look like. If we ever were to be in a position of trying to persuade people in Wales to dig deeper into their pockets to make provision for the future, then they will quite rightly expect us to be able to describe what it is they are going to get for the investment that they are making. And the third strand in the work that that group will do will be to look at the interface with the UK, because a social care solution for Wales has to interface with the benefits system, with the wider tax system, with the work of the Department of Health and so on.
Lywydd, do, rydym wedi bod yn ymwneud yn weithredol iawn â'r pwnc hwn—yn arbennig yn ddiweddar, yn dilyn syniadau a gyhoeddwyd gan yr Athro Gerry Holtham. Mae'r Athro Holtham wedi rhoi drafft sydd bron â bod yn ddrafft terfynol o adroddiad wedi'i ddiweddaru i Lywodraeth Cymru, ac ynddo mae'n edrych yn fanylach ar y ffordd y gellid datblygu cronfa gofal cymdeithasol bwrpasol ar gyfer Cymru, yn seiliedig ar fodel y gronfa yswiriant gwladol wreiddiol. Mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu grŵp trawsweinidogaethol, a gadeirir gan fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, a bydd y grŵp yn dechrau ei waith drwy edrych ar dair elfen. Bydd yn edrych yn fanwl ar waith yr Athro Holtham er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys model economaidd ymarferol, ond bydd yn edrych hefyd ar sut y dylai gwasanaethau gofal cymdeithasol y dyfodol weithredu. Pe baem byth mewn sefyllfa lle byddem yn ceisio darbwyllo pobl yng Nghymru i fynd yn ddyfnach i'w pocedi er mwyn darparu ar gyfer y dyfodol, byddai'n gwbl deg iddynt ddisgwyl inni allu disgrifio beth fyddant yn ei gael am eu buddsoddiad. A'r drydedd elfen o waith y grŵp fydd edrych ar y rhyngwynebu gyda'r DU, gan fod yn rhaid i ateb gofal cymdeithasol ar gyfer Cymru ryngwynebu gyda'r system fudd-daliadau, gyda'r system dreth ehangach, gyda gwaith yr Adran Iechyd ac ati.
Thank you, Cabinet Secretary. This is clearly a horrendously complicated area. It's an enormous problem that's gone on for a long time, and which will need to be dealt with in some form or other in the not-too-distant future. You mentioned Professor Holtham's research, and Professor Holtham suggested that an age-related, graduated tax might be best, at least in the short term. In her question to you earlier, Julie Morgan mentioned some of the problems that she identified that women could experience in the post-structural-funds world.
The Commissioner for Older People in Wales has pointed out that there could be potential disadvantages in Professor Holtham's proposals for certain groups of people in the social care levy—particularly women and those on low pay, as well as those older people that you may be asking to pay more under this model. Specifically, the older people's commissioner notes—. She says, and I paraphrase, that you're essentially saying, 'Thanks for everything you've paid in. We told you that when your time came it would be free. Sorry, it's not.' Are you confident that the concerns of the older people's commissioner and others are being taken into account when working out potential proposals for a social care levy?
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, mae hwn yn faes dychrynllyd o gymhleth. Mae'n broblem enfawr sydd wedi bod ar y gweill ers amser maith, a bydd angen mynd i'r afael â hi ar ryw ffurf neu'i gilydd yn y dyfodol agos. Fe sonioch am ymchwil yr Athro Holtham, ac awgrymodd yr Athro Holtham efallai mai treth raddedig sy'n gysylltiedig ag oedran fyddai orau, o leiaf yn y tymor byr. Yn ei chwestiwn i chi yn gynharach, soniodd Julie Morgan am rai o'r problemau a nodwyd ganddi y gallai menywod eu hwynebu ar ôl i'r cronfeydd strwythurol ddod i ben.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi nodi y gall fod anfanteision posibl yng nghynigion yr Athro Holtham ar gyfer rhai grwpiau o bobl yn yr ardoll gofal cymdeithasol—yn enwedig menywod a phobl ar gyflogau isel, yn ogystal â'r bobl hŷn y gallech fod yn gofyn iddynt dalu mwy o dan y model hwn. Yn benodol, noda'r comisiynydd pobl hŷn—. Mae'n dweud, ac rwy'n aralleirio, eich bod yn dweud i bob pwrpas, 'Diolch am bopeth rydych wedi'i dalu i mewn. Fe ddywedasom wrthych y byddai'n rhad ac am ddim pan ddôi eich amser. Mae'n ddrwg gennym, ond nid yw hynny'n wir.' A ydych yn hyderus fod pryderon y comisiynydd pobl hŷn ac eraill yn cael eu hystyried wrth nodi'r cynigion posibl ar gyfer ardoll gofal cymdeithasol?
Well, Llywydd, even in a paraphrase we would not have said to anybody, 'We told you it would be free', because it's one of the defining characteristics of the social care system that it is means-tested. We have many debates here, in this Chamber, about trying to join up the health and social care system and the barriers that exist to that. Personally, I've always believed that one of the real fault lines that makes it difficult to do that is that healthcare is free at the point of use and social care is means-tested. That always makes it difficult to bring those two systems close together.
Now, Professor Holtham, in his paper, talks about inter-generational fairness, and he deals with some other things that Members here will be very familiar with—the arguments that people born after 1980 have, at comparable points in their lives, a less-advantageous financial outlook than people who were born 30 or 40 years earlier than them. He draws on work in Japan, where there is indeed a graduated tax, where the older you are you pay a bit more towards social care. In your twenties, you never believe you'll need social care. By the time you're 50, you begin to realise that this could be you. Therefore, social acceptability, in terms of paying towards things, is calibrated in that way, but it is only one of the factors that Professor Holtham proposes, and he models a series of different ways in which payments could be made into a fund, and a graduated tax rising by age is only one of the models that he investigates.
Wel, Lywydd, hyd yn oed mewn aralleiriad, ni fyddem wedi dweud wrth unrhyw un, 'Fe ddywedasom wrthych y byddai'n rhad ac am ddim', gan mai un o nodweddion diffiniol y system gofal cymdeithasol yw ei bod yn dibynnu ar brawf modd. Rydym yn cael llawer o ddadleuon yma, yn y Siambr hon, ynglŷn â cheisio cysylltu'r system iechyd a'r system gofal cymdeithasol a'r rhwystrau yn hynny o beth. Yn bersonol, rwyf wedi credu erioed mai un o'r gwir anawsterau sy'n gwneud hynny'n anodd yw bod gofal iechyd yn rhad ac am ddim pan gaiff ei ddefnyddio ac mae gofal cymdeithasol yn dibynnu ar brawf modd. Mae hynny bob amser yn ei gwneud hi'n anodd dod â'r ddwy system honno'n agos at ei gilydd.
Nawr, yn ei bapur, mae'r Athro Holtham yn sôn am degwch rhwng y cenedlaethau, ac mae'n trafod rhai pethau eraill y bydd yr Aelodau yma'n gyfarwydd iawn â hwy—y dadleuon fod gan bobl a aned ar ôl 1980, ar bwyntiau cymharol yn eu bywydau, ragolygon ariannol llai ffafriol na phobl a aned 30 neu 40 mlynedd ynghynt. Mae'n cyfeirio at waith yn Japan, lle mae treth raddedig ar waith, lle rydych yn talu ychydig yn fwy tuag at ofal cymdeithasol wrth fynd yn hŷn. Yn eich ugeiniau, nid ydych byth yn credu y bydd angen gofal cymdeithasol arnoch. Erbyn eich bod yn 50, rydych yn dechrau sylweddoli y gallai ddigwydd i chi. Felly, caiff derbynioldeb cymdeithasol, o ran talu am bethau, ei raddnodi yn y ffordd honno, ond nid yw ond yn un o'r ffactorau a gynigir gan yr Athro Holtham, ac mae'n modelu cyfres o wahanol ffyrdd y gellid gwneud taliadau i mewn i gronfa, ac nid yw treth raddedig sy'n codi gydag oedran ond yn un o'r modelau a archwilir ganddo.
Well, Cabinet Secretary, the Holtham model potentially doubles the social care levy from £172 to £344 for those aged between 57 and 59 within the space of 12 months, just at the point when income starts to reduce. In 2017, 71 per cent of retirees in Wales took early retirement, and the average age of retirement was 58 years and six months—right in the middle of this age range. I'm not seeking to make any party political points on this issue because I think, actually, it's too big for that—it's bigger than any individual party and any individual Government. This is an issue that's developed under many different parties and Governments over the years.
Cabinet Secretary, I think there is massive potential here for Wales to do something that is groundbreaking if we get it right, but also there are some enormous pitfalls, which the older people's commissioner has alluded to—and others have as well. So, can you give us an assurance that, in dealing with all these issues and giving guidance to the Assembly Members who are looking at this, you will ensure that, at the end of this, we will have a system that is equal and fair, that doesn't lead to some people feeling that they have been hard done by—to paraphrase—and also, of course, a system that means that a fund will be built up over time, and that some way down the line, future Governments won't say, 'Well, actually, that money isn't all there now for us to provide to you, as we said 20 or 30 years ago'? Because I think, and you would agree with me, that ultimately, we want to get this right and we want to make sure that, in the future, people don't feel that they have been cheated out of money that they otherwise would have had.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, mae model Holtham, o bosibl, yn dyblu'r ardoll gofal cymdeithasol o £172 i £344 ar gyfer bobl rhwng 57 a 59 oed o fewn cyfnod o 12 mis, ar adeg pan fydd eu hincwm yn dechrau lleihau. Yn 2017, cymerodd 71 y cant o bobl a ymddeolodd yng Nghymru ymddeoliad cynnar, a 58 mlynedd a chwe mis oedd yr oedran ymddeol cyfartalog—yng nghanol yr ystod oedran hon. Nid wyf yn ceisio gwneud unrhyw bwyntiau gwleidyddol pleidiol ar y mater hwn gan y credaf, mewn gwirionedd, ei fod yn fater rhy fawr ar gyfer hynny—mae'n fwy nag unrhyw blaid unigol ac unrhyw Lywodraeth unigol. Mae hwn yn fater sydd wedi datblygu o dan nifer o wahanol bleidiau a Llywodraethau dros y blynyddoedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod potensial anferth yma i Gymru wneud rhywbeth arloesol os gwnawn hyn yn iawn, ond mae rhai peryglon enfawr hefyd, ac mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi cyfeirio atynt—ac eraill hefyd. Felly, a allwch roi sicrwydd inni, wrth fynd i'r afael â'r holl faterion hyn a rhoi arweiniad i Aelodau'r Cynulliad sy'n edrych ar hyn, y byddwch yn sicrhau, yn y pen draw, y bydd gennym system deg a chyfartal nad yw'n peri i rai pobl deimlo eu bod wedi cael cam—i aralleirio—a hefyd, wrth gwrs, system sy'n golygu y bydd cronfa'n cael ei datblygu dros amser, ac ymhen y rhawg, na fydd Llywodraethau'r dyfodol yn dweud, 'Wel, mewn gwirionedd, nid yw'r arian hwnnw i gyd ar gael bellach i ni ei ddarparu i chi, fel y dywedasom 20 neu 30 mlynedd yn ôl'? Oherwydd rwy'n credu, a byddech yn cytuno â mi, ein bod, yn y pen draw, am wneud hyn yn iawn ac rydym yn awyddus i sicrhau, yn y dyfodol, nad yw pobl yn teimlo eu bod wedi cael eu twyllo allan o arian a fyddai wedi bod ganddynt fel arall.
Llywydd, well, I think the contribution that Nick Ramsay has made does point exactly to both the potential of this idea, but also the pitfalls that get in the way of it, and demonstrates why it has been so difficult for Governments of all political persuasions to make a real inroad into this policy problem. I was due to give evidence to the Finance Committee in your inquiry into this earlier this month, and will do—I hope, now—next year. For that reason, I re-read the Dilnot review that, in 2012, said that this matter was absolutely urgent and couldn't be left any longer, and I re-read Gwenda Thomas's Green Paper of a decade ago, which reflects many of the debates that are still here today. That just shows what a difficult problem it is to address.
However, Professor Holtham does very directly address the final point that Nick Ramsay made. The national insurance fund, Llywydd, began as a funded system. It remained so until 1957, when the Macmillan Government decided that it would dip into it in order to meet current expenditure, and as a result, we now have a pay-as-you-go system. Holtham says clearly if you're going to persuade people to pay into a fund, it has to be organised in a way that people can have confidence that Governments cannot dip their hands in it in tough times, and the money that you pay in really is there for this purpose.
Lywydd, wel, credaf fod y cyfraniad a wnaeth Nick Ramsay yn tynnu sylw'n bendant at botensial y syniad hwn, ond hefyd y peryglon sy'n peri rhwystrau iddo, ac yn dangos pam ei bod wedi bod mor anodd i Lywodraethau o bob lliw gwleidyddol wneud cynnydd go iawn mewn perthynas â'r broblem bolisi hon. Roeddwn i fod i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid yn eich ymchwiliad i hyn yn gynharach y mis hwn, a byddaf yn gwneud hynny—gobeithio, bellach—y flwyddyn nesaf. Am y rheswm hwnnw, ailddarllenais adolygiad Dilnot a ddywedodd, yn 2012, fod y mater hwn yn fater brys ac na ellid ei anwybyddu mwyach, ac ailddarllenais bapur gwyrdd Gwenda Thomas ddegawd yn ôl, sy'n adlewyrchu llawer o'r dadleuon sy'n dal i fod yma heddiw. Mae hynny'n dangos pa mor anodd yw mynd i'r afael â'r broblem hon.
Fodd bynnag, mae'r Athro Holtham yn cyfeirio'n uniongyrchol at y pwynt olaf a wnaeth Nick Ramsay. Dechreuodd y gronfa yswiriant gwladol, Lywydd, fel system a ariennir. Bu felly tan 1957, pan benderfynodd Llywodraeth Macmillan y byddai'n defnyddio arian ohoni i dalu am wariant cyfredol, ac o ganlyniad, mae gennym system talu wrth ddefnyddio bellach. Dywed Holtham yn glir, os ydych am berswadio pobl i dalu i mewn i gronfa, fod yn rhaid trefnu hynny mewn ffordd sy'n sicrhau y gall pobl fod yn hyderus na all Llywodraethau ddefnyddio arian ohoni mewn cyfnodau anodd, a bod yr arian rydych yn ei dalu i mewn yn cael ei ddefnyddio at y diben hwn mewn gwirionedd.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
UKIP spokesperson, Neil Hamilton.

Diolch, Llywydd. Well, I applaud the sober and serious work that the finance Secretary is doing on the possibility of a social care levy—a subject to which we'll return in due course. I'm sure that the finance Secretary will agree with me that it's important that dog-whistle politics doesn't intrude upon these potential new taxes and that we don't create unnecessary anxiety amongst groups of people who might potentially be affected by any of them. One of the things that concerned me about the possibility of a vacant land tax, which we discussed in part yesterday, was that a lot of people may not ultimately be affected by it, and may, in the interim period, be worried by such a proposal. So, I wonder if the Cabinet Secretary will do a bit more to allay potential fears in this respect.
I referred yesterday to the work the Welsh Government has already done on this in relation to stalled sites and section 106 agreements. They identified just about 400 sites between 2000 and 2014 where land had not been developed for one reason or another. But the number of cases that might be regarded as true land banking, that were capable of economic development and were viable but weren't proceeded with, is actually very small. It's worth, I think, summarising the figures that are in the document. Where the reasons for stalling were related to land ownership or site sale, that is, those that related only to real land banking as opposed to variations in conditions or other planning matters, there were only 17 cases out of this 400 over a period of 14 years. So, the problem of land banking may not be as great as is feared, and I appreciate the point that was made yesterday, that this is a tax that has been proposed in order to test the system, and is not likely to affect a great many people. So, could the finance Secretary just say a little more on that one point?
Diolch, Lywydd. Wel, rwy'n cymeradwyo'r gwaith pwyllog a difrifol y mae'r Ysgrifennydd cyllid yn ei wneud ar y posibilrwydd o ardoll gofal cymdeithasol—pwnc y byddwn yn dychwelyd ato maes o law. Rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd cyllid yn cytuno â mi ei bod yn bwysig nad yw gwleidyddiaeth 'chwiban y ci' yn amharu ar y trethi newydd posibl hyn ac nad ydym yn peri pryder diangen ymhlith grwpiau o bobl a allai gael eu heffeithio gan unrhyw un ohonynt. Un o'r pethau a oedd yn fy mhoeni am y posibilrwydd o dreth ar dir gwag, a drafodwyd gennym yn rhannol ddoe, oedd y byddai llawer o bobl na fyddant o bosibl yn cael eu heffeithio ganddi yn y pen draw, ac efallai, yn y cyfamser, eu bod yn bryderus ynglŷn â chynnig o'r fath. Felly, tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ychydig mwy i leddfu pryderon posibl yn hyn o beth.
Cyfeiriais ddoe at y gwaith a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru ar hyn mewn perthynas â safleoedd segur a chytundebau adran 106. Nodwyd oddeutu 400 o safleoedd ganddynt rhwng 2000 a 2014 lle nad oedd tir wedi'i ddatblygu am ryw reswm neu'i gilydd. Ond mae nifer yr achosion y gellid eu hystyried yn fancio tir go iawn, a allai ddarparu cyfle ar gyfer datblygu economaidd ac a oedd yn hyfyw ond na fwriwyd ati i'w datblygu, yn fach iawn mewn gwirionedd. Credaf ei bod yn werth crynhoi'r ffigurau sydd yn y ddogfen. Lle roedd y rhesymau am oedi yn gysylltiedig â pherchnogaeth tir neu werthu safle, hynny yw, y rhai a oedd yn ymwneud â bancio tir go iawn yn unig yn hytrach nag amrywiadau yn yr amodau neu faterion cynllunio eraill, 17 achos yn unig a gafwyd o'r 400 dros gyfnod o 14 mlynedd. Felly, efallai nad yw problem bancio tir mor fawr ag yr ofnir, ac rwy'n derbyn y pwynt a wnaed ddoe, fod hon yn dreth a gynigiwyd er mwyn profi'r system, ac nad yw'n debygol o effeithio ar nifer fawr o bobl. Felly, a allai'r Ysgrifennydd cyllid ddweud ychydig mwy ar y pwynt hwnnw?
Thank you, Llywydd. Well, I take very seriously the points that the leader of UKIP here made about avoiding dog-whistle politics. I quite certainly agree with him in what he said today on that matter.
Yesterday he made the points that he's made today, that when we come to look at the detail of a land value tax, the potential for one in Wales, we may find that it would apply in a relatively small number of occasions. As the detailed work gets done, I'm sure we will have the actual evidence as to whether or not that is the case. I tried yesterday to offer two reassurances to people in the sector who might have anxieties about this: first of all, that we will do the detailed work, and the policy that we bring forward, if we do, will be thoroughly based upon the evidence; and secondly, that we will take the time necessary to do that properly and thoroughly, and that if the power is drawn down to the Assembly, it will not be a matter of simply jumping to use the power because it's here. If the power comes here, we will make sure that, if we do use it, it's because the case for doing so has been thoroughly tested.
Diolch, Lywydd. Wel, rwy'n cymryd y pwyntiau a wnaeth arweinydd UKIP yma ynglŷn ag osgoi gwleidyddiaeth 'chwiban y ci' o ddifrif. Yn sicr, cytunaf ag ef o ran yr hyn a ddywedodd heddiw ar y mater hwnnw.
Ddoe, fe wnaeth y pwyntiau a wnaeth heddiw, y byddem, pan fyddwn yn edrych ar fanylion treth gwerth tir a'r potensial ar gyfer un yng Nghymru, yn dod i'r casgliad efallai na fyddai ond yn berthnasol mewn nifer gymharol fach o achosion. Wrth i'r gwaith manwl fynd rhagddo, rwy'n siŵr y byddwn yn cael y dystiolaeth wirioneddol ynglŷn ag a yw hynny'n wir ai peidio. Ddoe, ceisiais roi sicrwydd ynglŷn â dau beth i bobl yn y sector sydd efallai'n bryderus ynglŷn â hyn: yn gyntaf oll, y byddwn yn gwneud y gwaith manwl, ac y bydd y polisi a gyflwynir gennym, os gwnawn hynny, yn seiliedig yn gyfan gwbl ar y dystiolaeth; ac yn ail, y byddwn yn cymryd yr amser angenrheidiol i wneud hynny'n briodol ac yn drwyadl, ac os caiff y Cynulliad bŵer i wneud hynny, ni fydd yn fater o neidio ar y cyfle i ddefnyddio'r grym hwnnw am ei fod yma. Os daw'r pŵer yma, byddwn yn sicrhau, os ydym yn ei ddefnyddio, ein bod yn gwneud hynny am fod yr achos dros wneud hynny wedi'i brofi'n drylwyr.
I wonder if the finance Secretary would agree with me also that there ought to be some kind of de minimis element in this, in as much as I referred to the case yesterday of Harry Hyams and the Centre Point building that was empty, right in the centre of London, a prime space, for many, many years in the 1970s. The problem that we're trying to address, if there is such a problem, relates to large potential development sites that have significant numbers of homes that could be built upon the land. There's little point in going after individual plots here or there that might or might not be developed for one reason or another. David Melding yesterday referred also to the need for flexibility in the way in which such a tax might be implemented.
In the review that is currently going on by Oliver Letwin, he's going to be looking at large sites, and he recognises that there are many reasons for even large developments not being proceeded with—limited availability of skilled labour, for example, limited supplies of building materials, limited availability of capital, et cetera. He gives a whole host of potential reasons that are nothing actually to do with the perceived ill of land banking itself. Even in the case of large sites, we will have to hedge around the potential tax with all sorts of reliefs in order to avoid creating injustice, even for significant property development companies.
Tybed a fyddai'r Ysgrifennydd cyllid yn cytuno â mi hefyd y dylid cynnwys rhyw fath o elfen de minimis yn hyn o beth, gan fy mod wedi cyfeirio ddoe at achos Harry Hyams ac adeilad Centre Point a fu'n wag, yng nghanol Llundain, gofod dethol, am flynyddoedd maith yn y 1970au. Mae'r broblem rydym yn ceisio'i datrys, os oes problem, yn ymwneud â safleoedd datblygu posibl mawr gyda nifer sylweddol o gartrefi y gellid eu hadeiladu ar y tir. Nid oes fawr o bwynt mynd ar drywydd plotiau unigol yma ac acw a allai gael eu datblygu ai peidio am ryw reswm neu'i gilydd. Cyfeiriodd David Melding hefyd ddoe at yr angen am hyblygrwydd yn y ffordd y gellid gweithredu treth o'r fath.
Yn yr adolygiad a gynhelir ar hyn o bryd gan Oliver Letwin, bydd yn edrych ar safleoedd mawr, ac mae'n cydnabod bod llawer o resymau dros beidio â bwrw ymlaen â datblygiadau mawr hyd yn oed—prinder gweithwyr crefftus, er enghraifft, cyflenwadau cyfyngedig o ddeunyddiau adeiladu, prinder cyfalaf ac yn y blaen. Mae'n rhoi llu o resymau posibl nad ydynt yn ymwneud â drygioni canfyddedig bancio tir ei hun. Hyd yn oed yn achos safleoedd mawr, bydd yn rhaid inni gyfyngu ar y dreth bosibl gyda phob math o ostyngiadau yn y dreth er mwyn osgoi creu anghyfiawnder, hyd yn oed ar gyfer cwmnïau datblygu eiddo mawr.
Llywydd, there are indeed many reasons why vacant sites with planning permissions and so on do not come into productive use, and a vacant land tax would only ever be one tool in a much wider set of tools that policy makers can use to bear down on that. From memory, but I am relying on memory, I believe the Republic of Ireland scheme does have a de minimis part to it, but anybody who had heard Vikki Howells's short debate and had seen the examples that she brought forward would know that sometimes even very small sites that are allowed to go into dereliction spread the misery of that on a much wider scale amongst people who have to live nearby. So, scale is an issue, but it's not, by itself, a complete definition of the problem.
Lywydd, yn wir, mae llawer o resymau pam nad yw safleoedd gwag gyda chaniatâd cynllunio ac ati yn dod i ddefnydd cynhyrchiol, ac ni fyddai treth ar dir gwag ond yn un offeryn mewn set lawer ehangach o offer y gall gwneuthurwyr polisi eu defnyddio i fynd i'r afael â hynny. O'r hyn a gofiaf, ond rwy'n dibynnu ar fy nghof, credaf fod rhan de minimis yng nghynllun Gweriniaeth Iwerddon, ond byddai unrhyw un a oedd wedi clywed dadl fer Vikki Howells ac wedi gweld yr enghreifftiau a gyflwynwyd ganddi yn gwybod bod hyd yn oed safleoedd bach iawn, weithiau, sy'n cael eu gadael i ddadfeilio yn peri gofid ar raddfa lawer ehangach ymhlith y bobl sy'n gorfod byw gerllaw. Felly, mae maint yn rhan o'r peth, ond nid yw hynny ynddo'i hun yn ddiffiniad cyflawn o'r broblem.
I fully accept what the Cabinet Secretary and, indeed, Vikki Howells have said on this, although dereliction is a separate issue in itself, which could be dealt with in other ways other than by a tax. But I'm also concerned about the potential impact of such a tax upon small house builders in rural areas. It's easy to demonise big companies, but there may be a variety of reasons why even small house builders, who can't afford to bank land for long period of time anyway, might feel that they would be affected by this and which would therefore dissuade them from applying for speculative planning permissions. And, given that economic circumstances can sometimes change quite rapidly, this would be an unfortunate development, because if it indeed resulted in fewer speculative proposals at the local development plan preparation stage, the onus would then be on local planning authorities to approach land owners proactively to identify land that is capable of development and which they would like to see developed. Given that local authorities have enough on their plate anyway, this would be another unfortunate consequence. So, I hope that that's another point that the finance Secretary will bear carefully in mind.
Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a Vikki Howells yn wir, ar hyn, er bod dadfeilio'n fater gwahanol y gellid mynd i'r afael ag ef mewn ffyrdd eraill ar wahân i dreth. Ond rwy'n pryderu hefyd am effaith bosibl treth o'r fath ar adeiladwyr bach mewn ardaloedd gwledig. Mae'n hawdd lladd ar gwmnïau mawr, ond gall fod amrywiaeth o resymau pam fod adeiladwyr bach hyd yn oed, sy'n methu fforddio bancio tir am gyfnod hir o amser beth bynnag, yn teimlo efallai y byddai hyn yn effeithio arnynt ac y byddai'n eu hatal felly rhag gwneud cais am ganiatâd cynllunio hapfasnachol. Ac o gofio y gall amgylchiadau economaidd newid yn eithaf cyflym weithiau, byddai hyn yn ddatblygiad anffodus, oherwydd pe bai'n arwain at lai o gynigion hapfasnachol ar gam paratoi'r cynllun datblygu lleol, byddai gofyn i'r awdurdodau cynllunio lleol fynd ati'n rhagweithiol wedyn i ymgysylltu â pherchnogion tir i nodi tir y gellid ei ddatblygu ac y byddent yn awyddus iddo gael ei ddatblygu. O gofio bod gan awdurdodau lleol ddigon ar eu plât beth bynnag, byddai hwn yn ganlyniad anffodus arall. Felly, gobeithiaf fod hwnnw'n bwynt arall y bydd yr Ysgrifennydd cyllid yn ei ystyried yn ofalus.
Well, Llywydd, I thank the Member for that point. I've seen the figures myself that do demonstrate that it does take longer in rural parts of Wales to bring land that has got the necessary permissions into development. We talked yesterday in the discussion here about a vacant land tax, about the length of time a piece of land would have to be vacant before it started to become liable for a tax, and, when we come to do the detailed work on all of this, which—. As I keep reminding Members, we're at the very earliest stages of doing that detailed work, but if those figures were borne out then they would lead, I think, to a discussion of whether or not you would need to have a longer period of time available in rural parts of Wales before a tax began to apply, because of the nature of development in those areas. But that is a point we would need to return to when the evidence was clearer. In the meantime, it is a perfectly fair point for the Member to have put into the debate.
Wel, Lywydd, diolch i'r Aelod am ei bwynt. Rwyf wedi gweld y ffigurau sy'n dangos ei bod yn cymryd mwy o amser mewn rhannau gwledig o Gymru i ddechrau datblygu tir sydd wedi cael y caniatâd angenrheidiol. Buom yn sôn ddoe yn y drafodaeth yma am dreth ar dir gwag ynglŷn â faint o amser y byddai'n rhaid i ddarn o dir fod yn wag cyn y byddai'n rhaid talu treth arno, a phan fyddwn yn gwneud y gwaith manwl ar hyn, sydd—. Fel rwy'n atgoffa'r Aelodau o hyd, rydym megis dechrau ar y gwaith manwl hwnnw, ond pe bai'r ffigurau hynny'n cael eu cadarnhau, credaf y byddent yn arwain at drafodaeth ynglŷn ag a fyddech angen cyfnod hwy o amser mewn rhannau gwledig o Gymru cyn y byddai'n rhaid talu treth, oherwydd natur datblygu yn yr ardaloedd hynny. Ond mae hwnnw'n bwynt y byddai'n rhaid inni ddychwelyd ato pan fyddai'r dystiolaeth yn gliriach. Yn y cyfamser, mae'n bwynt cwbl deg i'r Aelod ei godi yn y ddadl.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Plaid Cymru spokesperson, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Bythefnos yn ôl, Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech chi wedi cyhoeddi'r adolygiad canol ffordd o ran y cynllun buddsoddi isadeiledd Cymru, oedd yn wreiddiol yn cynnwys piblinell o brosiectau gwerth £42 biliwn mewn cyfanswm. Wrth gwrs, yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, dim ond ryw £1.5 miliwn—tua £1.5 miliwn, £1.6 miliwn—sy'n fuddsoddiad cyfalaf, ac rwy'n credu ein bod ni'n cydnabod bod hynny'n golygu, o wneud y maths, felly, y byddai'n cymryd blynyddoedd maith, wrth gwrs, i ni gyflawni’r holl anghenion buddsoddi o ran yr isadeiledd sydd ei angen. Mae'n rhaid cyferbynnu hyn, ond oes, gyda'r sefyllfa yn ne-ddwyrain Lloegr a Llundain, sef y gornel o'r Deyrnas Gyfnol sydd yn derbyn y sleisen fwyaf o'r gacen o safbwynt buddsoddiad mewn isadeiledd, ac maen nhw nawr ar fin, wrth gwrs, derbyn £550 miliwn yn ychwanegol i achub croen project Crossrail, sydd, mae'n debyg, yn gorwario. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae tua hanner—ychydig yn llai na hanner—o'r hyn y mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu ei fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn y cyfnod nesaf o fuddsoddiad pum mlynedd. A ydych chi'n gallu cadarnhau na fydd Cymru yn derbyn unrhyw arian ychwanegol o ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw mewn Crossrail, gan fod, o dan y setliad ariannol ar hyn o bryd, ffactor cymharedd o 0 y cant sy'n cael ei ddefnyddio o ran y fformiwla? Ac o ddilyn y trywydd hwnnw, pe bai rheilffyrdd yn cael eu datganoli yn llwyr, fel y sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, oni fyddai Cymru yn elwa i'r graddau o £700 miliwn yn ychwanegol, er mwyn buddsoddi yn ein rhwydwaith ni a gwneud yn iawn am y tanwariant sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, a dros y pum mlynedd nesaf o 2019 i 2024?
Thank you, Llywydd. A fortnight ago, Cabinet Secretary, you published the mid-term review in terms of the Wales infrastructure investment plan, which originally included a pipeline of projects worth £42 billion in total. Now, of course, in next year’s budget there’s only around £1.5 million—£1.6 million—which is capital investment, and I think we recognise, having done the maths, that it would take many, many years for us to deliver all of the investment needs in terms of infrastructure. You have to contrast this, of course, with the situation in the south-east of England and London, which is the corner of the UK that receives the largest slice of the cake in terms of infrastructure investment, and they are now about to receive an additional £550 million to save the Crossrail project, which, apparently, is overspending. To put this in context, that is a little less than half of what the UK Government intends to invest in the rail network in Wales over this next investment period of five years. So, can you confirm that Wales will not receive any additional funding as a consequence of that additional investment in Crossrail, because, under the financial settlement as it stands, there is a comparison factor of 0 per cent that is used in terms of the formula? And, along the same lines, if railways were to be devolved entirely, as is the situation in Scotland and Northern Ireland, wouldn’t Wales benefit to the tune of some additional £700 million, which could be invested in our network in order to make up for the underspending that has been the case over the past few years, and that could be done over the next five years between 2019 and 2024?
Diolch yn fawr i Adam Price am y cwestiwn yna. Rydw i'n gallu gweld y pwynt mae'n ei wneud.
I thank Adam Price for that question, and I can see the point that he is making.
Investment across the United Kingdom is tipped towards London and the south-east in the way that he described. Because this is a relatively very recent development, I will write to him if I've got anything further to say. But my officials have been in contact with the Treasury today. They say, in relation to Crossrail, as I understand it, these things: first of all, that no additional funding has yet been committed to the Department for Transport as a result of the Crossrail developments, and at the moment the Treasury regard that simply as a pressure that the Department for Transport's budget has to manage. We then checked with them, if a further investment from the Treasury to the Department for Transport were to be made for Crossrail, would there be a Barnett consequential for that, and they said to us, 'Yes, there would be', because this is a local rail development, and, if there are to be new funds found for Crossrail and given to the Department for Transport, we would get our Barnett consequential for that through the fiscal framework, which I'll remind Members here of course means we would get 105 per cent of that consequential.
Now, I have seen too often the way in which the UK Government looks to find Barnett workarounds, so that things that at first glance you would imagine would attract a Barnett consequential, turn out not to. So, you can be sure that our officials will be very closely monitoring the situation, and, if money does become available for Crossrail and if that money does go to the Department for Transport, that we would get our proper share of that here in Wales.
Mae buddsoddiad ledled y Deyrnas Unedig yn gwyro tuag at Lundain a de-ddwyrain Lloegr yn y ffordd y disgrifiodd. Am fod hwn yn ddatblygiad cymharol ddiweddar, byddaf yn ysgrifennu ato os bydd gennyf unrhyw beth arall i'w ddweud. Ond mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â'r Trysorlys heddiw. Mewn perthynas â Crossrail, yn ôl yr hyn a ddeallaf, maent yn dweud hyn: yn gyntaf oll, nad oes unrhyw arian ychwanegol wedi'i addo i'r Adran Drafnidiaeth o ganlyniad i ddatblygiadau Crossrail, ac ar hyn o bryd, mae'r Trysorlys yn ystyried hynny'n bwysau y mae'n rhaid i gyllideb yr Adran Drafnidiaeth ymdopi ag ef. Wedyn, fe ofynasom iddynt, pe bai'r Trysorlys yn gwneud buddsoddiad pellach yn yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer Crossrail, a fyddai hynny'n arwain at gyllid canlyniadol Barnett, a dywedasant wrthym, 'Byddai', gan fod hwn yn ddatblygiad rheilffyrdd lleol, a phe bai'r Adran Drafnidiaeth yn cael arian newydd ar gyfer Crossrail, byddem yn cael ein cyllid canlyniadol Barnett am hynny drwy'r fframwaith cyllidol, ac fe atgoffaf yr Aelodau yma fod hynny, wrth gwrs, yn golygu y byddem yn cael 105 y cant o'r cyllid canlyniadol hwnnw.
Nawr, yn rhy aml o lawer, rwyf wedi gweld y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o osgoi cyllid Barnett, fel nad yw pethau y byddech yn ystyried ar yr olwg gyntaf y byddent yn denu cyllid canlyniadol Barnett yn gwneud hynny yn y pen draw. Felly, gallwch fod yn sicr y bydd ein swyddogion yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn, ac, os daw arian ar gael ar gyfer Crossrail ac os yw'r arian hwnnw'n mynd i'r Adran Drafnidiaeth, y byddem yn cael ein cyfran deg ohono yma yng Nghymru.
Rydw i'n croesawu'r newyddion hynny yn fawr, a dweud y gwir, ac efallai bod hwn yn gyfle ar gyfer profi'r system setlo anghytundeb sydd o fewn y fframwaith gyllidol. Fe gawn ni weld maes o law. Wrth gwrs, mi fyddai sicrhau arian Barnett, nid yn unig o ran y gorwariant yma, ond ar draws y system reilffordd, yn golygu bod yna £2 biliwn y flwyddyn o'i gymharu â £1.3 biliwn. Byddai £700 miliwn, wrth gwrs, yn fodd i ni wneud llawer o bethau, a dweud y gwir. Byddai modd i ni adeiladu'r rheilffordd newydd rhwng Aberystwyth a Caerfyrddin; byddai modd edrych ar wneud yn iawn am fethiant neu wrthodiad tro pedol Llywodraeth Prydain ynglŷn â thrydaneiddio i Abertawe; byddai modd i ni edrych ar wneud dau draean o'r gwaith o ran adeiladau'r metro newydd arfaethedig ar gyfer y Cymoedd gorllewinol ag Abertawe. A dweud y gwir, mi fyddai modd, wrth gwrs, cwmpasu'r prosiectau yna i gyd. Hynny yw, byddai £2 biliwn, £3 biliwn, mewn bond trafnidiaeth yn fodd i ni weddnewid, trawsnewid, ein system drafnidiaeth ar draws Cymru—y math o gynnig uchelgeisiol, dychmygol byddwn i'n disgwyl oddi wrth ymgeisydd ar gyfer Prif Weinidogaeth Cymru.
Mi oeddech chi wedi sôn yn ddiweddar yn eich datganiad eich bod chi am symud ymlaen nawr i greu bondiau i Lywodraeth Cymru. Onid yw hwn yn gyfle i fynd i greu rhaglen dychmyglawn o fuddsoddiad yr ydym ni wedi bod yn aros amdano fe am ddegawdau a chreu bond Cymru? Byddwn i, hyd yn oed, fel Aelod o'r wrthblaid, yn fodlon prynu'r bondiau hynny.
Well, I welcome that news very warmly, and perhaps this is an opportunity to test the dispute resolution agreement within the fiscal framework. We will see in due course. Securing Barnettised funding, not only in terms of this overspend, but across the rail network, would mean that there would be £2 billion per annum rather than £1.3 billion, and £700 million would be a means for us to do a great many things. We could build the new rail line between Carmarthen and Aberystwyth; we could look at putting right the failure or the u-turn of the UK Government on electrification to Swansea; we could look at doing two thirds of the work in terms of building the proposed metro for the western Valleys and Swansea. If truth to be told, all of these projects could be considered. That is, £2 billion or £3 billion in a transport bond would be a means for us to transform our transport system across Wales—the kind of ambitious proposal I would expect from a candidate for the First Ministership of Wales.
Now, you mentioned recently in a statement that you do want to proceed now to create Welsh Government bonds. Isn’t this an opportunity to create an innovative programme of investment that we have been waiting for for decades and to create a Welsh bond? Even I, as a Member of the opposition, would be willing to buy those bonds.
Diolch yn fawr am hynny.
Thank you very much for that.
Of course, Adam Price is right to point to the fact that we are now drawing down the power for the Welsh Government to issue bonds. The reason for doing so is the one that Mike Hedges outlined in the Chamber a week or so ago—it's to keep the UK Government honest in the interest rates that it charges through the Public Works Loan Board, because, if it seeks to increase the interest charges to us in making loans from that source, then we would have another way in which we could raise money in this place, and that tends to encourage the UK Government not to raise interest in the loans that it makes.
The difficulty in the proposition that Adam Price puts—and he puts it persuasively, as he does—is that the ability to issue bonds does not increase the capital limit that the Welsh Government faces. It doesn't bring us an extra £1 in investment. So, we could create a fund of the sort that he has suggested, but it wouldn't be new money—it wouldn't be extra money available to Wales. So, if you did create a fund for that purpose, you would have to decide not to go ahead with various other important investments across other parts of the Welsh public sector.
Of course, that's a proper public debate about where priorities lie, but it wouldn't be right to suggest to people that you could create a bond-filled fund and that that, somehow, would be new money over and above everything we have—it wouldn't be.
Wrth gwrs, mae Adam Price yn llygad ei le wrth nodi'r ffaith ein bod bellach yn arfer y pŵer i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bondiau. Y rheswm dros wneud hynny yw'r un a amlinellodd Mike Hedges yn y Siambr oddeutu wythnos yn ôl—er mwyn cadw Llywodraeth y DU yn onest o ran y cyfraddau llog y mae'n eu codi drwy'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, oherwydd, os yw'n ceisio cynyddu'r cyfraddau llog i ni wrth roi benthyciadau o'r ffynhonnell honno, byddai gennym ffordd arall o godi arian yn y lle hwn, ac mae hynny'n tueddu i annog Llywodraeth y DU i beidio â chodi cyfraddau llog yn y benthyciadau y mae'n eu gwneud.
Yr anhawster o ran yr awgrym y mae Adam Price yn ei wneud—ac mae'n ei wneud yn llawn perswâd, fel arfer—yw nad yw'r gallu i gyhoeddi bondiau yn cynyddu'r terfyn cyfalaf a wynebir gan Lywodraeth Cymru. Nid yw'n darparu £1 yn ychwanegol i ni o fuddsoddiad. Felly, gallem greu cronfa fel yr un a awgrymwyd ganddo, ond ni fyddai'n arian newydd—ni fyddai'n arian ychwanegol a fyddai ar gael i Gymru. Felly, pe baech yn creu cronfa at y diben hwnnw, byddai'n rhaid i chi benderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda gwahanol fuddsoddiadau pwysig eraill mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae honno'n ddadl gyhoeddus briodol ynglŷn â blaenoriaethau, ond ni fyddai'n gywir awgrymu wrth bobl y gallech greu cronfa lawn bondiau ac y byddai'r arian hwnnw, rywsut, yn arian newydd uwchlaw popeth sydd gennym—ni fyddai hynny'n wir.
I understand the Cabinet Secretary's argument. I wonder, though, if a purpose-specific bond was put together on the lines that I've suggested that, actually, you would be able to convince the UK Treasury, for that specific purpose, to raise the borrowing limit. Indeed, this is something that has been suggested by Professor Holtham, that you mentioned in another context earlier. So, I was wondering whether you would be prepared, at least, to look at this.
There is an alternative mechanism as well, which, actually, to some extent overcomes some of these problems, which is to look at Transport for Wales, which is modelled on Transport for London. Transport for London, of course, has separate borrowing powers, and it has them in particular because, of course, it has revenue-generating capacity; it also has capital-uplift capacity, in terms of regeneration schemes. So, that could be a mechanism. Indeed, the Labour Party in England is strongly advocating that the new body, Transport for the North, is given parallel borrowing powers. So, is the Welsh Government prepared to explore a case for Transport for Wales being given the kind of borrowing powers that have allowed Transport for London to invest extensively in its own network?
Rwy'n deall dadl Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, pe bai bond at ddiben penodol yn cael ei greu yn y modd a awgrymais, tybed a fyddech, mewn gwirionedd, yn gallu argyhoeddi Trysorlys y DU, at y diben penodol hwnnw, i godi'r terfyn benthyca. Yn wir, mae hyn yn rhywbeth a awgrymwyd gan yr Athro Holtham, ac a grybwyllwyd gennych mewn cyd-destun arall yn gynharach. Felly, tybed a fyddech yn barod, o leiaf, i ystyried hyn.
Mae yna fecanwaith arall hefyd, sydd, mewn gwirionedd, yn goresgyn rhai o'r problemau hyn i ryw raddau, sef edrych ar Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi'i fodelu ar Transport for London. Mae gan Transport for London, wrth gwrs, bwerau benthyca ar wahân, ac mae ganddo'r pwerau hynny'n benodol oherwydd fod ganddo allu i gynhyrchu refeniw wrth gwrs; mae ganddo allu hefyd i hybu cyfalaf, o ran cynlluniau adfywio. Felly, gallai hwnnw fod yn fecanwaith. Yn wir, mae'r Blaid Lafur yn Lloegr yn dadlau'n gryf y dylid rhoi pwerau benthyca cyffelyb i'r corff newydd, Transport for the North. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn barod i archwilio'r achos dros roi'r math o bwerau benthyca i Trafnidiaeth Cymru sydd wedi caniatáu i Transport for London wneud buddsoddiad sylweddol yn eu rhwydwaith eu hunain?
Well, Llywydd, this is a very good moment for raising these possibilities, because I have only recently written to the Chief Secretary to the Treasury putting her on alert to the fact that, as part of the forthcoming comprehensive spending review, I will be seeking an extension to the borrowing limit currently available to the Welsh Government. So, it's a moment where there are some new possibilities in play.
The ones that Adam Price has raised are certainly of interest, because this Government has a solid track record, begun by my predecessor, Jane Hutt, of looking for new and innovative ways of extending the pool of capital investment available to Wales. If it would be helpful, I would be very interested to meet the Member and talk with him in more detail than we're able to in these exchanges about how those ideas might be taken forward.
Wel, Lywydd, mae hon yn adeg wych i godi'r posibiliadau hyn, gan fy mod wedi ysgrifennu'n ddiweddar at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys er mwyn tynnu ei sylw at y ffaith y byddaf, fel rhan o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar y gweill, yn ceisio ymestyn y terfyn benthyca sydd ar gael ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru. Felly, mae'n adeg lle mae posibiliadau newydd i'w cael.
Mae'r rhai a godwyd gan Adam Price yn sicr o ddiddordeb, gan fod gan y Llywodraeth hon hanes blaenorol cadarn, a gychwynnwyd gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, o chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o ymestyn y gronfa o fuddsoddiad cyfalaf sydd ar gael i Gymru. Os byddai o gymorth, buaswn yn awyddus iawn i gyfarfod â'r Aelod i siarad ag ef yn fwy manwl nag y gallwn ei wneud yn y trafodaethau hyn ynglŷn â sut y gellid bwrw ymlaen â'r syniadau hynny.
Let's see whether we can pick up some speed on questions and answers. We're on question 3 and we're almost out of time for the session, so that's a challenge for you. Dai Lloyd, question 3.
Gadewch i ni weld a allwn gyflymu gyda'r cwestiynau a'r atebion. Rydym ar gwestiwn 3 ac rydym bron â rhedeg allan o amser ar gyfer y sesiwn, felly dyna her i chi. Dai Lloyd, cwestiwn 3.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi strategol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52177
3. Will the Cabinet Secretary make a statement on strategic investment in South Wales West? OAQ52177
Fel rhan o’r buddsoddi strategol yng Ngorllewin De Cymru, bydd y £266 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gydag adolygiad canol cyfnod cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn dod â chyllid newydd i deithio llesol, cynlluniau cyfalaf y gwasanaeth iechyd gwladol, ac ailgylchu gwastraff.
Amongst the strategic investments made in South Wales West, the additional £266 million announced alongside the Wales infrastructure investment plan mid–point review will bring fresh funding in active travel, national health service capital schemes and waste recycling.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £11 miliwn wrth geisio datblygu parc busnes strategol yn Felindre, Abertawe. Ers dymchwel y gweithfeydd dur yna ym 1996, rŷm ni wedi gweld nifer o strategaethau marchnata yn ceisio denu cwmnïau i'r parc busnes yna, ond mae'r lle dal yn wag. Mae rhwystredigaeth amlwg yn lleol o ran cyflymder datblygiad y safle yma, sydd efo'r potensial i greu cannoedd o swyddi. A ydych chi hefyd yn rhwystredig gyda'r diffyg cynnydd yma a beth ydych chi'n bwriadu ei wneud ar y cyd efo cyngor Abertawe i symud pethau ymlaen?
Thank you very much for that answer. The Welsh Government has spent over £11 million trying to develop a strategic business park in Felindre, Swansea. Since the demolition of the steelworks in that area, we have seen many marketing strategies aimed at bringing companies to that business park, but it is still vacant. There’s clear local frustration about the speed of development of the site, which has the potential to create hundreds of jobs. Do you share this frustration with the lack of progress and what do you intend to do jointly with Swansea council to move things forward?
Diolch i Dai Lloyd am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod beth y mae e'n ei ddweud am yr amser sydd wedi mynd ymlaen heb gael pethau yn digwydd ym Mharc Felindre. Beth rydw i wedi'i ddeall oddi wrth bobl sy'n gweithio yn y maes yna yw ein bod ni wedi bod mas yn trial tynnu pobl i mewn i'n helpu ni i ddatblygu y safle. Mae'r nodyn sydd gyda fi yn dweud
Well, I thank Dai Lloyd for that question. Of course, I recognise what he has said about the time that has passed and that things haven't been developed in Parc Felindre. What I understand from people working in that area is that we have been trying to attract people in to help us develop the site. My notes state that
we have been encouraged by the standard of developers and occupiers who have now expressed an interest in the site, and my colleague Ken Skates is anxious to move ahead so that we overcome the difficulties that Dr Lloyd has identified.
mae safon y datblygwyr a'r meddianwyr sydd bellach wedi mynegi diddordeb yn y safle wedi bod yn galonogol iawn, ac mae fy nghyd-Aelod Ken Skates yn awyddus i fwrw ymlaen fel y gallwn oresgyn yr anawsterau a nodwyd gan Dr Lloyd.
Cabinet Secretary, part of your budget statement obviously included investment of over £30 million in the Tata steelworks in Port Talbot. Could you tell us what progress has been made on that investment and will we have it actually done in this financial year?
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, roedd rhan o'ch datganiad ar y gyllideb yn cynnwys buddsoddiad o dros £30 miliwn yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot. A allwch ddweud wrthym pa gynnydd a wnaed ar y buddsoddiad hwnnw ac a fydd yn digwydd, mewn gwirionedd, yn ystod y flwyddyn ariannol hon?
Well, Llywydd, the Government is anxious to invest in Port Talbot in partnership with Tata, where we can be sure that our investment is part of a long-term plan to ensure the sustainability of steel making in Wales. There is more that we are prepared to do with the company, provided those plans demonstrate that they are going to be using public investment alongside their own investment in a way that will create the steel-making capacity of the future. My colleague Ken Skates, and, indeed, the First Minister, have been in discussions with the most senior people in Tata to make sure that we come forward with plans that allow us to spend the money in a timely fashion and to secure the future of steel making.
Wel, Lywydd, mae'r Llywodraeth yn awyddus i fuddsoddi ym Mhort Talbot mewn partneriaeth â Tata, lle y gallwn fod yn sicr fod ein buddsoddiad yn rhan o gynllun hirdymor i sicrhau cynaliadwyedd cynhyrchu dur yng Nghymru. Rydym yn barod i wneud mwy gyda'r cwmni, cyhyd ag y bo'r cynlluniau hynny'n dangos y byddant yn defnyddio buddsoddiad cyhoeddus ochr yn ochr â'u buddsoddiad eu hunain mewn ffordd a fydd yn creu'r capasiti cynhyrchu dur yn y dyfodol. Mae fy nghyd-Aelod Ken Skates, ac yn wir, y Prif Weinidog, wedi bod yn trafod gyda'r bobl uchaf yn Tata i sicrhau ein bod yn cyflwyno cynlluniau sy'n caniatáu inni wario'r arian mewn modd amserol ac i ddiogelu dyfodol cynhyrchu dur.
I'm just going back to Dai Lloyd's question. Cabinet Secretary, we are talking 20 years here and I think we need some reassurance, particularly in my region, that this isn't another Kancoat or indeed another technium. Following the regeneration investment fund for Wales, I think we need some assurance that the investment is recoverable and that sales that are significantly under value won't be forthcoming. Firstly, can you tell me what security Welsh Government has on that land and secondly what conversations you've had with the city deal board, your Cabinet colleagues and indeed the UK Government in order to make sure we exploit to the maximum that quite useful asset?
Rwyf am ddychwelyd at gwestiwn Dai Lloyd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn sôn am 20 mlynedd yma, a chredaf fod arnom angen rhywfaint o sicrwydd, yn arbennig yn fy rhanbarth i, nad Kancoat arall mo hyn, na technium arall yn wir. Yn dilyn cronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, credaf fod arnom angen rhywfaint o sicrwydd fod y buddsoddiad yn adferadwy ac na fyddwn yn gweld gwerthiannau sy'n sylweddol is na'u gwerth. Yn gyntaf oll, a allwch ddweud wrthyf pa sicrwydd sydd gan Lywodraeth Cymru ar y tir hwnnw, ac yn ail, pa sgyrsiau a gawsoch gyda bwrdd y fargen ddinesig, eich cyd-Aelodau yn y Cabinet, ac yn wir, Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar yr ased defnyddiol hwnnw?
Well, Llywydd, I think these are questions really for my colleague Ken Skates, who is directly responsible for the policy and the practical implementation of it. I'm quite sure that the points the Member makes will be shared by him in wanting to make sure there is a proper return for the public on the investment that has been made at the site.
Wel, Lywydd, credaf mai cwestiynau i fy nghyd-Aelod Ken Skates yw'r rhain mewn gwirionedd, gan mai ef sy'n uniongyrchol gyfrifol am y polisi a'i gyflawniad ymarferol. Rwy'n sicr y bydd yn cytuno gyda'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod o ran ei awydd i sicrhau enillion priodol i'r cyhoedd ar y buddsoddiad a wnaed ar y safle.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r dyraniad o gyllid Llywodraeth Cymru i undebau credyd yn dilyn y diweddariad diweddar i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru? OAQ52191
4. Will the Cabinet Secretary clarify the allocation of Welsh Government funding to credit unions following the recent update to the Wales infrastructure investment plan? OAQ52191
Credit unions play a vital role in strengthening the financial resilience in our communities. As part of the Wales infrastructure investment plan mid-point review, I announced an additional £1 million over two years to support credit unions across Wales.
Mae undebau credyd yn chwarae rôl hanfodol wrth gryfhau cydnerthedd ariannol ein cymunedau. Fel rhan o adolygiad hanner ffordd y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, cyhoeddais £1 filiwn ychwanegol dros ddwy flynedd i gefnogi undebau credyd ledled Cymru.
This week, I'm joining Michael Sheen as a new patron for Credit Unions Wales and I'm delighted to see this positive outcome of Welsh Government collaboration with credit unions in Wales as part of the financial inclusion strategy, which you've now endorsed with the allocation of financial transaction capital. Would you agree that this is precisely the way we should be using financial transaction capital, to meet Welsh Government goals of promoting social justice by supporting our credit unions? This allocation will help meet the challenging capital asset ratio requirements, which have changed in the last couple of years—particularly challenging for large credit unions—to ensure that we can help the growth and viability of credit unions in Wales.
Yr wythnos hon, rwy'n ymuno â Michael Sheen fel un o noddwyr newydd Undebau Credyd Cymru ac rwy'n falch iawn o weld y canlyniad cadarnhaol hwn i'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac undebau credyd yng Nghymru fel rhan o'r strategaeth cynhwysiant ariannol, a gymeradwywyd gennych chi bellach drwy ddyrannu cyfalaf trafodiadau ariannol. A fyddech yn cytuno mai dyma'r union ffordd y dylem fod yn defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol, er mwyn cyflawni nodau Llywodraeth Cymru o hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy gefnogi ein hundebau credyd? Bydd y dyraniad hwn yn gymorth i ateb gofynion heriol y gymhareb asedau cyfalaf, sydd wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf—maent yn arbennig o heriol ar gyfer undebau credyd mawr—er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi twf a hyfywedd undebau credyd yng Nghymru.
Can I begin, Llywydd, by congratulating Jane Hutt on her new role as patron of Credit Unions Wales? She's right to say that the reason we are able to provide financial transaction capital is because there are new challenging capital asset ratio requirements set out by the Prudential Regulation Authority, and those capital-to-asset ratios are mandatory. Some credit unions in Wales have struggled to make sure that they are able to match those ratios, but they are able to produce plans that show how they can meet them in the future. An injection of financial transaction capital allows them to shore up their balance sheets while those plans are carried out. That's why, in discussion with the sector, we've been able to put forward the assistance that we are able to.
A gaf fi ddechrau, Lywydd, drwy longyfarch Jane Hutt ar ei rôl newydd fel un o noddwyr Undebau Credyd Cymru? Mae'n llygad ei lle wrth ddweud mai'r rheswm y gallwn ddarparu cyfalaf trafodiadau ariannol yw am fod y Prudential Regulation Authority wedi nodi gofynion heriol newydd ar gyfer y gymhareb asedau cyfalaf, ac mae'r cymarebau asedau cyfalaf hynny'n orfodol. Mae rhai undebau credyd yng Nghymru wedi cael trafferth i sicrhau eu bod yn gallu cydymffurfio â'r cymarebau hynny, ond maent yn gallu llunio cynlluniau sy'n dangos sut y gallant eu bodloni yn y dyfodol. Mae chwistrelliad o gyfalaf trafodiadau ariannol yn eu galluogi i gynnal eu mantolenni tra bo'r cynlluniau hynny'n cael eu rhoi ar waith. Dyna pam, wrth drafod gyda'r sector, ein bod wedi gallu darparu'r cymorth hwnnw.
Can I just add our support to efforts to increase the capacity of credit unions? At the moment, according to the Money Charity, we spend £139 million per day on repayments and personal debt. It's absolutely incredible. And credit unions are a key part, I think, certainly for people in limited financial circumstances, but more generally as well, potentially. So, it's organisations like Dragonsavers in RCT that need to have their role expanded, and, you know, we can look at many countries—the United States and, much closer to us, the Republic of Ireland—that have a much more extensive financial services sector that embraces credit unions.
A gaf fi ychwanegu ein cefnogaeth i'r ymdrechion i gynyddu capasiti undebau credyd? Ar hyn o bryd, yn ôl y Money Charity, rydym yn gwario £139 miliwn y dydd ar ad-daliadau a dyledion personol. Mae'n gwbl anghredadwy. Ac mae undebau credyd yn rhan allweddol, yn fy marn i, yn sicr i bobl mewn amgylchiadau ariannol anodd, ond yn fwy cyffredinol hefyd, o bosibl. Felly, mae angen ehangu rôl sefydliadau fel Dragonsavers yn Rhondda Cynon Taf, a gallwn edrych ar lawer o wledydd, wyddoch chi—yr Unol Daleithiau, ac yn nes atom o lawer, Gweriniaeth Iwerddon—sydd â sectorau gwasanaethau ariannol ehangach o lawer sy'n croesawu undebau credyd.
I agree with the Member entirely. Credit unions provide affordable credit and responsible lending and they are a lifeline for many people who, if they were obliged to borrow in more expensive parts of the market, would be part of that astonishing sum that the Member set out in his supplementary question that is being paid back all the time. In addition to the £1 million that I was able to make available through the Wales infrastructure investment plan, colleagues have recently announced £844,000 of Welsh Government funding to support credit unions over the next two years. There are 19 different projects that will be supported by that money, and they are all designed to do what David Melding suggested: to find ways of drawing more people into credit union membership in Wales.
Cytunaf yn llwyr gyda'r Aelod. Mae undebau credyd yn darparu credyd fforddiadwy a benthyca cyfrifol ac maent yn achubiaeth i lawer o bobl a fyddai, pe bai'n rhaid iddynt fenthyca mewn rhannau drytach o'r farchnad, yn rhan o'r cyfanswm anghredadwy hwnnw a nododd yr Aelod yn ei gwestiwn atodol sy'n cael ei dalu'n ôl drwy'r amser. Yn ychwanegol at yr £1 filiwn y llwyddais i'w ddarparu drwy'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, mae fy nghyd-Aelodau wedi cyhoeddi £844,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i gefnogi undebau credyd dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd 19 o brosiectau gwahanol yn cael eu cefnogi gan yr arian hwnnw, ac mae pob un ohonynt wedi'u cynllunio i wneud yr hyn a awgrymodd David Melding: dod o hyd i ffyrdd o ddenu mwy o bobl i ymaelodi ag undebau credyd yng Nghymru.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gronfa arloesi i arbed? OAQ52163
5. Will the Cabinet Secretary make a statement on the innovate-to-save fund? OAQ52163
The first round of innovate-to-save attracted 50 bids extending from the effectiveness of social prescribing to new ways of assisting communities threatened by coastal flooding. A second funding round was launched earlier this year.
Llwyddodd rownd gyntaf y cynllun arloesi i arbed i ddenu 50 o geisiadau yn amrywio o effeithiolrwydd presgripsiynu cymdeithasol i ffyrdd newydd o gynorthwyo cymunedau sy'n wynebu bygythiad o lifogydd arfordirol. Lansiwyd ail rownd o gyllido yn gynharach eleni.
Can I thank the Cabinet Secretary for that response? I very much welcome the innovate-to-save scheme. It's something I've been asking for for some time. But, of course, not all innovations will work or provide long-term solutions, but those that do can produce improved services and/or savings to the Welsh public sector, which can be quite substantial. Are there any successful schemes that can be rolled out to other parts of the Welsh public sector?
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb? Rwy'n croesawu'r cynllun arloesi i arbed yn fawr. Mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn gofyn amdano ers peth amser. Ond wrth gwrs, ni fydd pob math o arloesi yn gweithio neu'n darparu atebion hirdymor, ond gall y rheini sy'n gwneud hynny gynhyrchu gwell gwasanaethau a/neu arbedion i sector cyhoeddus Cymru, a gallent fod yn eithaf sylweddol. A oes unrhyw gynlluniau llwyddiannus y gellir eu cyflwyno mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru?
Well, Llywydd, it is very early days in the innovate-to-save area, and I don't think we could yet be completely confident that these first schemes have yet demonstrated their success to the point where we could be confident of rolling them out everywhere. But to give you just one example, the Leonard Cheshire Disability charity, as they are one of the schemes we are taking forward under innovate-to-save, have been working with Anglesey council to pilot a project that brings people with profound physical disabilities together, because one of the effects of having a profound physical disability is you're often very isolated—you get services in your own home, you see the carer, you may not see anybody else. On Ynys Môn they've been bringing people together so that they can share in activities, and they have found it to be very successful. In that example, they are already talking to other local authorities in Wales as to whether or not they could roll that pilot scheme out further.
Wel, Lywydd, mae'n ddyddiau cynnar iawn ym maes arloesi i arbed, ac ni chredaf y gallwn fod yn gwbl hyderus eto fod y cynlluniau cyntaf hyn wedi dangos eu llwyddiant hyd at bwynt lle y gallem fod yn ddigon hyderus i'w cyflwyno ym mhobman. Ond i roi un enghraifft i chi, mae elusen Leonard Cheshire Disability, gan eu bod yn un o'r cynlluniau rydym yn eu datblygu o dan y cynllun arloesi i arbed, wedi bod yn gweithio gyda chyngor Ynys Môn i dreialu prosiect sy'n dod â phobl ag anableddau corfforol dwys ynghyd, gan mai un o effeithiau bod ag anabledd corfforol dwys yw eich bod yn aml wedi eich ynysu—rydych yn cael gwasanaethau yn eich cartref eich hun, rydych yn gweld y gofalwr, efallai na fyddwch yn gweld unrhyw un arall. Ar Ynys Môn, maent wedi bod yn dod â phobl at ei gilydd fel y gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'i gilydd, ac maent wedi bod yn llwyddiannus iawn. Yn yr enghraifft honno, maent eisoes yn siarad ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i weld a allant ymestyn y cynllun peilot hwnnw ymhellach.
Cabinet Secretary, it's crucial that funding schemes like the innovate-to-save fund reach projects right across Wales and as such it's important that all parts of the Welsh public and third sectors are actually aware of the scheme. Therefore, can you tell us how the Welsh Government is promoting the scheme in all parts of Wales so that everyone is aware of it? Whilst I appreciate that the second round has only recently been launched, can you also tell us how you intend to monitor the fund to ensure its effectiveness?
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n hollbwysig fod cynlluniau ariannu fel y gronfa arloesi i arbed yn cyrraedd prosiectau ledled Cymru, ac fel y cyfryw, mae'n bwysig fod pob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru yn ymwybodol o'r cynllun. Felly, a allwch ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r cynllun ym mhob rhan o Gymru er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol ohono? Er fy mod yn sylweddoli mai newydd gael ei lansio y mae'r ail rownd, a allwch ddweud wrthym hefyd sut y bwriadwch fonitro'r gronfa i sicrhau ei heffeithiolrwydd?
Well, first of all, can I agree with Paul Davies that we are very keen that visibility of the fund and understanding of it is spread right across Wales? That's why we are working with the Wales Council for Voluntary Action and with Nesta, as organisations that already have reach out in all parts of the third sector, to make sure that the scheme is well known and understood. We've extended the period of the second round in order to be able to hold events in different parts of Wales, again, to be able to explain the fund to people who may not have heard about it otherwise and to encourage bids from wherever they may come. And, of course, we will use our invest-to-save model to make sure that investments that we make through innovate-to-save provide a proper return for the investment that we are making.
Wel, yn gyntaf oll, a gaf fi gytuno â Paul Davies ein bod yn awyddus iawn i ledaenu amlygrwydd y gronfa a dealltwriaeth ohoni ledled Cymru? Dyna pam rydym yn gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Nesta fel sefydliadau sydd eisoes yn cyrraedd pob rhan o'r trydydd sector i sicrhau bod llawer o bobl yn ymwybodol o'r cynllun ac yn ei ddeall. Rydym wedi ymestyn cyfnod yr ail rownd er mwyn gallu cynnal digwyddiadau mewn gwahanol rannau o Gymru, unwaith eto, er mwyn gallu egluro'r gronfa i bobl na fyddent wedi clywed amdani fel arall o bosibl, ac er mwyn annog ceisiadau o ble bynnag y dônt. Ac wrth gwrs, byddwn yn defnyddio ein model buddsoddi i arbed i sicrhau bod y buddsoddiadau a wnawn drwy'r cynllun arloesi i arbed yn darparu enillion priodol ar y buddsoddiad a wnawn.
Ac yn olaf, cwestiwn 7—Andrew R.T Davies.
And finally, question 7—Andrew R.T Davies.

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf dros y tair blynedd nesaf? OAQ52160
7. Will the Cabinet Secretary make a statement on the availability of funding for capital projects over the next three years? OAQ52160
I thank Andrew Davies for that question. Our conventional capital budget will be 20 per cent lower in 2019-20 than at the start of this decade. Nevertheless, through innovation and determination, the Welsh Government intends to deploy £6.5 billion in capital investment over the next three years, supporting homes, schools and hospitals right across the whole of Wales.
Diolch i Andrew Davies am ei gwestiwn. Bydd ein cyllideb gyfalaf gonfensiynol 20 y cant yn is yn 2019-20 nag ar ddechrau'r degawd hwn. Serch hynny, drwy arloesi a phenderfyniad, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu £6.5 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf dros y tair blynedd nesaf, i gefnogi tai, ysgolion ac ysbytai ledled Cymru gyfan.
I'm glad you gave such a long answer, First Minister. I wasn't expecting to be called, and I'd just put a Polo in my mouth, which isn't a good thing to do just before you ask a question, Presiding Officer—
Rwy'n falch eich bod wedi rhoi ateb mor hir, Brif Weinidog. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy ngalw, ac roeddwn newydd roi Polo yn fy ngheg, nad yw'n beth doeth i'w wneud cyn gofyn cwestiwn, Lywydd—
I could tell that you were busy reading something, so I decided to try and catch you out.
Roeddwn yn gweld eich bod yn brysur yn darllen rhywbeth, felly penderfynais geisio'ch dal chi wrthi.
What I'd like to ask the finance Secretary, if possible, please, is: the Government have just concluded the public inquiry into the M4 relief road, and cost pressures, obviously, have increased dramatically over the anticipated costs of the relief road. The Welsh Government's own figures are now £1.4 billion—that was the figure that was submitted to the public inquiry. How confident is the Cabinet Secretary that the £1.4 million that the Welsh Government supplied to the inquiry—if the inquiry finds in favour of this capital project—will be the final amount that he as finance Secretary will have to find? And if that increased amount of money does have to be found, how confident is he that other capital projects in other parts of Wales won't suffer as a consequence?
Yr hyn yr hoffwn ofyn i'r Ysgrifennydd cyllid, os caf, os gwelwch yn dda, yw hyn: mae'r Llywodraeth newydd gwblhau'r ymchwiliad cyhoeddus i ffordd liniaru'r M4, ac mae'r pwysau o ran costau, yn amlwg, wedi cynyddu'n ddramatig mewn perthynas â'r costau a ragwelir ar gyfer y ffordd liniaru. Mae ffigurau Llywodraeth Cymru bellach yn £1.4 biliwn—dyna'r ffigur a gyflwynwyd i'r ymchwiliad cyhoeddus. Pa mor hyderus yw Ysgrifennydd y Cabinet mai'r £1.4 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr ymchwiliad—os bydd yr ymchwiliad o blaid y prosiect cyfalaf hwn—fydd y swm terfynol y bydd yn rhaid iddo ef fel Ysgrifennydd cyllid ddod o hyd iddo? Ac os bydd yn rhaid dod o hyd i'r swm mwy hwnnw o arian, pa mor hyderus yw ef na fydd prosiectau cyfalaf eraill mewn rhannau eraill o Gymru yn dioddef o ganlyniad i hynny?
Well, Llywydd, that is the sum of money that I'm being asked to identify at present, and those funds are held in reserves for the M4 project, awaiting the outcome of the ongoing inquiry. Because this is a project that will extend into the future, it is part of the reason that I have written to the Chief Secretary to the Treasury telling her that I will be looking for an extension to our borrowing powers for those future years, in order that we can ensure, in the way that Andrew R.T. Davies has suggested, that if the M4 project goes ahead, and we make that investment, it does not take place at the expense of other necessary investments in other parts of Wales.
Wel, Lywydd, dyna'r swm o arian y gofynnir i mi ddod o hyd iddo ar hyn o bryd, a chedwir y cronfeydd hynny wrth gefn ar gyfer prosiect yr M4, gan ddisgwyl canlyniad yr ymchwiliad sydd ar y gweill. Gan fod hwn yn brosiect a fydd yn parhau i'r dyfodol, mae'n rhan o'r rheswm pam fy mod wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i ddweud wrthi y byddaf yn ceisio ymestyn ein pwerau benthyca ar gyfer y blynyddoedd hynny yn y dyfodol, fel y gallwn sicrhau, yn y ffordd yr awgryma Andrew R.T. Davies, os yw prosiect yr M4 yn mynd rhagddo, a'n bod yn gwneud y buddsoddiad hwnnw, nad yw'n mynd rhagddo ar draul buddsoddiadau angenrheidiol eraill mewn rhannau eraill o Gymru.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i arweinydd y tŷ, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.
The next item, therefore, is questions to the leader of the house, and the first question is from Dawn Bowden.
1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gamau i wella cynhwysiant digidol ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ52174
1. Will the Leader of the House make a statement on action to improve digital inclusion in Merthyr Tydfil and Rhymney? OAQ52174

Certainly. Through Digital Communities Wales, we are working in partnership with organisations and programmes across Merthyr Tydfil and Rhymney who are well placed to reach the most digitally excluded. They provide the basic digital skills support needed to secure improved economic, learning and health outcomes.
Yn sicr. Drwy Cymunedau Digidol Cymru, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a rhaglenni ledled Merthyr Tudful a Rhymni sydd mewn sefyllfa dda i gyrraedd y bobl sydd wedi'u hallgáu fwyaf yn ddigidol. Maent yn darparu'r cymorth sylfaenol sydd ei angen gyda sgiliau digidol er mwyn sicrhau gwell canlyniadau economaidd, deilliannau dysgu a chanlyniadau iechyd.
Thank you very much. I'm very conscious, Cabinet Secretary, that you did have a major debate and statement on this yesterday. I have two questions for you today, and they're both on digital inclusion. So, please bear with me. My second question will be complementary to this one. But in the hope that you are shortly going to set out the track record of Welsh Government investment in broadband and digital services in Merthyr Tydfil and Rhymney, do you agree that it's critical that we do also focus on implementing the Welsh Government's digital inclusion strategy of 2018? Because that strategy reinforces the concerns about the gap between disadvantaged people and the pace of change in digital services. So, while we can't hold back the progress, is there any further work we can do in our Valleys communities to support the strategy and to help people on the path towards acquiring those digital skills that are so vital to modern life and the wider well-being agenda?
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi cael dadl fawr a datganiad ar hyn ddoe. Mae gennyf ddau gwestiwn i chi heddiw, ac mae'r ddau'n ymwneud â chynhwysiant digidol. Felly, maddeuwch i mi. Bydd fy ail gwestiwn yn ategol i'r cwestiwn hwn. Ond yn y gobaith y byddwch, yn fuan, yn nodi hanes blaenorol Llywodraeth Cymru o fuddsoddi mewn gwasanaethau digidol a band eang ym Merthyr Tudful a Rhymni, a ydych yn cytuno ei bod yn hanfodol ein bod yn canolbwyntio hefyd ar weithredu strategaeth cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018? Oherwydd mae'r strategaeth honno'n atgyfnerthu'r pryderon ynglŷn â'r bwlch rhwng pobl o dan anfantais a chyflymder y newid mewn gwasanaethau digidol. Felly, er na allwn rwystro'r cynnydd, a oes unrhyw waith pellach y gallwn ei wneud yn ein cymunedau yn y Cymoedd i gefnogi'r strategaeth ac i gefnogi pobl ar y llwybr tuag at sicrhau'r sgiliau digidol sydd mor hanfodol i fywyd modern a'r agenda les ehangach?
Yes, absolutely. I think, Llywydd, I will have several opportunities in a moment to talk about broadband roll-out, so I won't indulge myself here. But once we have achieved roll-out, then it's obviously very important that people have the skills and confidence to make the most of the digital technologies. And there are some great examples, actually, in Merthyr Tydfil and Rhymney at the moment. We provide the strategic leadership required to tackle digital exclusion, recognising that digital skills requirements to meet the current and future needs of a modern economy and society are always evolving. So, we need a concerted, collaborative effort across the third, private and public sectors, and throughout our communities, to achieve a truly digitally inclusive society. And so, we work very closely across a number of Cabinet portfolios, with our local government colleagues, with third sector colleagues as part of the Valleys taskforce, and we have a digital action plan for the Valleys taskforce, which is very exciting. I think I probably said yesterday that it has a number of elements in it. One is a geographical database that is designed to allow people to access a range of data that they can use both in their personal life, in accessing public services, and in developing apps for little SMEs. One is actually assistance to develop such apps and community Wi-Fi to enable them to be used in a widespread way. So, there are a number of very important projects, but it is important that people have the skills to access them, otherwise we will just be exacerbating social isolation.
Oes, yn sicr. Lywydd, rwy'n credu y bydd gennyf sawl cyfle yn y man i sôn am gyflwyno band eang, felly nid wyf am ddweud gormod yma. Ond pan fyddwn wedi cwblhau'r broses gyflwyno, mae'n amlwg yn bwysig iawn fod gan bobl sgiliau a hyder i fanteisio i'r eithaf ar dechnolegau digidol. A cheir rhai enghreifftiau gwych, mewn gwirionedd, ym Merthyr Tudful a Rhymni ar hyn o bryd. Rydym yn darparu'r arweinyddiaeth strategol sydd ei hangen i fynd i'r afael ag allgáu digidol, gan gydnabod bod y gofynion o ran sgiliau digidol i ddiwallu anghenion economi a chymdeithas fodern ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn newid o hyd. Felly, mae angen ymdrech gydunol a chydweithredol ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ac ar draws ein cymunedau, i greu cymdeithas sy'n wirioneddol gynhwysol yn ddigidol. Ac felly, rydym yn gweithio'n agos iawn ar draws nifer o bortffolios y Cabinet, gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, gyda chydweithwyr yn y trydydd sector fel rhan o dasglu'r Cymoedd, ac mae gennym gynllun gweithredu digidol ar gyfer tasglu'r Cymoedd, sy'n gyffrous iawn. Rwy'n credu fy mod wedi dweud ddoe fod nifer o elfennau yn y cynllun. Un yw cronfa ddata ddaearyddol a gynlluniwyd i alluogi pobl i gael mynediad at ystod o ddata y gallant ei ddefnyddio yn eu bywydau personol, i wneud defnydd o wasanaethau cyhoeddus, ac i ddatblygu apiau ar gyfer busnesau bach a chanolig. Un yw cymorth i ddatblygu apiau o'r fath a Wi-Fi cymunedol i'w gwneud hi'n bosibl eu defnyddio ar raddfa eang. Felly, ceir nifer o brosiectau pwysig iawn, ond mae'n bwysig fod y sgiliau gan bobl i gael mynediad atynt, neu fel arall byddwn yn gwaethygu arwahanrwydd cymdeithasol.
Leader of the house, the Welsh Government's recently published digital inclusion progress report states that Merthyr was identified as an area with limited digital inclusion activity taking place. This led to the formation of the Get Merthyr Tydfil Online partnership. Given that the Barclays digital development index 2017 claimed that Welsh employees score among the lowest of all UK regions for their digital skills, and that employers are willing to pay a premium for workers with word processing, data analysis and social media capabilities, will the leader of the house update the Assembly on the work of the partnership in improving digital inclusion in Merthyr and surrounding valleys, please?
Arweinydd y tŷ, mae adroddiad cynnydd diweddar Llywodraeth Cymru ar gynhwysiant digidol yn nodi bod Merthyr Tudful yn ardal heb lawer o weithgarwch cynhwysiant digidol yn digwydd ynddi. Arweiniodd hyn at ffurfio partneriaeth Get Merthyr Tydfil Online. O gofio bod mynegai datblygu digidol Barclays 2017 wedi honni bod sgôr gweithwyr yng Nghymru ymhlith yr isaf o holl ranbarthau'r DU o ran eu sgiliau digidol, a bod cyflogwyr yn barod i dalu premiwm i weithwyr â sgiliau prosesu geiriau, dadansoddi data a chyfryngau cymdeithasol, a wnaiff arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar waith y bartneriaeth ar wella cynhwysiant digidol ym Merthyr Tudful a'r cymoedd cyfagos, os gwelwch yn dda?
Yes. You make a very good point. There have been a number of surveys recently. Unfortunately, it's always a difficulty in Wales, for the size of the survey, so if you extrapolate it out across Wales, we're not absolutely certain how valid the data is, statistically. But, nevertheless, it draws attention to some of the serious problems we have with digital exclusion. And there is definitely a generational issue there. The Member makes a number of points simultaneously. We need people to have the basic digital skills, to be able to access public services, and to stay socially involved and so on, but we also need the higher level digital skills in our working-age workforce, and our youngsters, in order to develop the programmes that allow people to access those skills.
Part of the Tech Valleys initiative, and a number of other initiatives in Merthyr, as I said to Dawn Bowden, in partnership with a number of partners, are to do both of those things together. And we have some very exciting inter-generational projects, where we have young people with very high levels of digital skills assisting in both hospitals and in residential circumstances, to get people who are older, who don't have those skills, to get online, and that's been very successful, and actually very heartening in a number of ways, to see the inter-generational working. So, there are a number of innovative ways that we can assist with that, but I agree that the—well, the sample sizes are a serious problem, so we do need to look at ways of capturing the data more effectively.
Ie. Rydych yn gwneud pwynt da iawn. Mae nifer o arolygon wedi'u cynnal yn ddiweddar. Yn anffodus, mae bob amser yn anhawster yng Nghymru, o ran maint yr arolwg, felly os ydych yn ei allosod ar draws Cymru, nid ydym yn hollol sicr pa mor ddilys yw'r data, yn ystadegol. Ond serch hynny, mae'n tynnu sylw at rai o'r problemau difrifol sydd gennym o ran allgáu digidol. Ac yn sicr, mae'n broblem sy'n ymwneud â chenhedlaeth. Mae'r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau ar yr un pryd. Rydym angen i bobl fod yn meddu ar y sgiliau digidol sylfaenol, y gallu i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, a'r gallu i barhau i gymryd rhan yn gymdeithasol ac ati, ond rydym hefyd angen y sgiliau digidol lefel uwch yn ein gweithlu oedran gwaith, ac yn ein pobl ifanc, er mwyn datblygu'r rhaglenni sy'n caniatáu i bobl feithrin y sgiliau hynny.
Rhan o fenter y Cymoedd Technoleg, a nifer o fentrau eraill ym Merthyr, fel y dywedais wrth Dawn Bowden, mewn partneriaeth â nifer o bartneriaid, yw gwneud y ddau beth gyda'i gilydd. Ac mae gennym brosiectau rhyng-genhedlaeth cyffrous iawn, lle mae gennym bobl ifanc gyda lefelau uchel iawn o sgiliau digidol yn cynorthwyo mewn ysbytai ac mewn amgylchiadau preswyl, drwy helpu pobl hŷn, nad oes ganddynt y sgiliau hynny, i fynd ar-lein, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae'n galonogol iawn mewn nifer o ffyrdd, mewn gwirionedd, i weld y gwaith hwnnw rhwng y cenedlaethau. Felly, mae yna nifer o ffyrdd arloesol y gallwn helpu gyda hynny, ond rwy'n cytuno bod y—wel, mae maint y samplau'n broblem ddifrifol, felly mae angen i ni edrych ar ffyrdd mwy effeithiol o gasglu'r data.
2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cynhwysiant digidol yng Nghymru? OAQ52188
2. Will the Leader of the House provide an update on how the Welsh Government is promoting digital inclusion in Wales? OAQ52188
3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo cynhwysiant digidol? OAQ52184
3. Will the Leader of the House provide an update on the Welsh Government's policies for promoting digital inclusion? OAQ52184
I think, Llywydd, you've agreed to combine this with question 3.
Digital Communities Wales, and many other actions in our framework and delivery plan, support more people to gain maximum benefit from the life-changing opportunities digital technologies can offer.
Lywydd, credaf eich bod wedi cytuno i gyfuno'r cwestiwn hwn â chwestiwn 3.
Mae Cymunedau Digidol Cymru, a llawer o gamau gweithredu eraill yn ein fframwaith a'n cynllun cyflawni, yn cefnogi mwy o bobl i gael y budd mwyaf posibl o'r cyfleoedd sy'n newid bywydau y mae technolegau digidol yn gallu eu cynnig.
Thank you. Only 51 per cent of pensioners living alone and 25 per cent of disabled people in Wales have internet access. A lack of skills and low confidence are often the key factors preventing people from getting online. Learning how to use technology and access the internet undoubtedly reduces loneliness and social isolation among older people, by helping them to stay in touch with family and friends. Gaining digital skills can be life changing, enabling people to rediscover old connections, and form new ones. Inter-generational projects have been shown to benefit in a variety of fields, and digital skills are now second nature to most young people, and they benefit from sharing their knowledge. There are some great examples around Wales where this has happened, but what more can the Welsh Government do to encourage and to support inter-generational digital projects?
Diolch. Dim ond 51 y cant o bensiynwyr sy'n byw ar eu pen eu hunain, a 25 y cant o bobl anabl yng Nghymru sydd â mynediad at y rhyngrwyd. Mae diffyg sgiliau a hyder yn aml yn ffactorau allweddol sy'n atal pobl rhag mynd ar-lein. Mae dysgu sut i ddefnyddio technoleg a mynd ar y rhyngrwyd, yn ddi-os, yn lleihau unigrwydd ac unigedd cymdeithasol ymhlith pobl hŷn, gan eu helpu i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Mae meithrin sgiliau digidol yn gallu newid byd, a galluogi pobl i ailddarganfod hen gysylltiadau a ffurfio rhai newydd. Dangoswyd bod prosiectau rhyng-genhedlaeth o fudd mewn amrywiaeth o feysydd, ac mae sgiliau digidol yn ail natur i'r rhan fwyaf o bobl ifanc erbyn hyn, ac maent yn elwa o rannu eu gwybodaeth. Ceir rhai enghreifftiau gwych o amgylch Cymru lle mae hyn wedi digwydd, ond beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog a chefnogi prosiectau digidol rhyng-genhedlaeth?
Well, as I was saying, we have some very innovative projects going on. But just to use some of the stats that we have: 85 per cent of adults in Wales now regularly use the internet, compared to 66 per cent in 2010, and £1 million a year is invested in the dedicated digital inclusion programme, our Digital Communities Wales programme, and we've done that every year since 2015. Since then, we've supported over 117,300 individuals to engage with technology, and we've trained over 1,000 young digital heroes, which is the programme we're talking about, where young people from schools, colleges and youth organisations volunteer to support older people to engage in digital technology.
Most of the funding activities in this regard are aimed at addressing the basic digital skills that we were just talking about, allowing older people to become less socially isolated and to have access to basic services. But we're very much aware that we also want to increase the digital skills of the youngsters who are actually doing the volunteering and the teaching, and to include that in the curriculum work that we're doing, and with our digital heroes scheme. So, it's a really great programme, and we're actually developing both sides of that, and we're looking to roll that out as widely as possible through Wales. I've been discussing with the Cabinet Secretary for health what we can do in hospitals for some socially isolated people, who have lengthy stays in hospitals, where, in a sense, Llywydd, we have a captive audience.
Wel, fel y dywedais, mae gennym brosiectau arloesol iawn ar y gweill. Ond os caf ddefnyddio rhai o'r ystadegau sydd gennym: mae 85 y cant o oedolion yng Nghymru bellach yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd, o gymharu â 66 y cant yn 2010, a buddsoddir £1 filiwn y flwyddyn yn y rhaglen cynhwysiant digidol benodol, ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, ac rydym wedi gwneud hynny bob blwyddyn ers 2015. Ers hynny, rydym wedi cynorthwyo dros 117,300 o unigolion i ymgymryd â thechnoleg, ac rydym wedi hyfforddi dros 1,000 o arwyr digidol ifanc, sef y rhaglen rydym yn sôn amdani, lle mae pobl ifanc o ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid yn gwirfoddoli i gynorthwyo pobl hŷn i ymwneud â thechnoleg ddigidol.
Mae'r rhan fwyaf o weithgareddau ariannu yn y cyswllt hwn wedi'u hanelu at fynd i'r afael â'r sgiliau digidol sylfaenol roeddem yn sôn amdanynt, gan alluogi pobl hŷn i fod yn llai ynysig yn gymdeithasol ac i gael mynediad at wasanaethau sylfaenol. Ond rydym yn ymwybodol iawn hefyd ein bod eisiau cynyddu sgiliau digidol y bobl ifanc sy'n gwneud y gwaith gwirfoddol a'r addysgu mewn gwirionedd, a chynnwys hynny yn y gwaith cwricwlwm rydym yn ei wneud, a chyda'n cynllun arwyr digidol. Felly, mae'n rhaglen wych, ac rydym yn datblygu'r ddwy ochr i hynny mewn gwirionedd, ac yn bwriadu cyflwyno hynny mor eang â phosibl drwy Gymru. Rwyf wedi bod yn trafod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud mewn ysbytai ar gyfer pobl sydd wedi'u hynysu yn gymdeithasol, sydd wedi bod yn yr ysbyty am gyfnodau hir, lle mae gennym gynulleidfa barod ar un ystyr, Lywydd.
Leader of the house, digital inclusion is dependent on adequate broadband speeds, and I know, over many months, you've shown a keen interest in my notspots in Monmouthshire, and visited a number of them. You'll be aware that, recently, the UK Government announced that they wanted to roll out a fifth generation pilot across my area in south-east Wales. Can you update us on any discussions you've had with the UK Government about that pilot, about the timescale for the pilot, the extent of it, and how the Welsh Government intends to build on that to learn the lessons from that pilot and then roll out the good practice across the rest of south Wales and the rest of Wales?
Arweinydd y tŷ, mae cynhwysiant digidol yn dibynnu ar gyflymderau band eang digonol, a gwn, dros fisoedd lawer, eich bod wedi dangos diddordeb brwd yn fy mannau gwan yn Sir Fynwy, ac wedi ymweld â nifer ohonynt. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi yn ddiweddar eu bod eisiau cyflwyno cynllun peilot pumed genhedlaeth ar draws fy ardal yn ne-ddwyrain Cymru. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn ag unrhyw drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r cynllun peilot hwnnw, yr amserlen ar gyfer y peilot, ei gyrhaeddiad, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu ar hynny i ddysgu gwersi o'r cynllun peilot hwnnw a chyflwyno'r arfer da ar draws gweddill de Cymru a gweddill Cymru?
Yes, we've asked Innovation Point to look into exactly how we can best exploit the 5G technologies and, actually, a large number of different pots of money that have come available in a number of different configurations, and Llywydd, yesterday, during my statement, I discussed some of those. I won't reiterate all of them, but we absolutely need to make sure that we are on top of the technology, that we assist small and medium-sized enterprises to exploit the technology, that we have the spectrum sales done in a way that allows us to access those technologies and doesn't cut them off, and that we also encourage the automotive industry in particular, but other digital-enabled industries, to come here to exploit the skills that we're producing.
So, we have a number of innovations going on at the same time, including things like the National Software Academy, which we fund over in Newport, which has a very innovative degree programme based on solving industry problems directly and which are then rolled out into the industries, and Innovation Point itself. There are a number of discussions that we have ongoing with our industries here already in Wales, because there's a big issue about upskilling the current workforce, as well as attracting in innovative, digital technologies. So, there are a large number of different ways that we're supporting those developments around the tech hubs, in the Valleys in particular.
Gallaf, rydym wedi gofyn i'r Arloesfa ymchwilio i sut yn union y gallwn fanteisio ar y technolegau 5G yn y ffordd orau ynghyd â nifer fawr o ffynonellau gwahanol o arian sydd bellach ar gael mewn nifer o wahanol gyfluniadau, mewn gwirionedd, a thrafodais rai o'r rheini ddoe, Lywydd, yn ystod fy natganiad. Nid wyf am ailadrodd pob un ohonynt, ond yn sicr, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ar flaen y gad o ran y dechnoleg, ein bod yn helpu busnesau bach a chanolig i fanteisio ar y dechnoleg, ein bod yn sicrhau bod y broses o werthu sbectra'n cael ei gwneud mewn ffordd sy'n ein galluogi i gael mynediad at y technolegau hynny heb eu datgysylltu, a'n bod hefyd yn annog y diwydiant moduron yn benodol, ond diwydiannau digidol eraill, i ddod yma i fanteisio ar y sgiliau rydym yn eu cynhyrchu.
Felly, mae gennym nifer o fentrau arloesol yn digwydd ar yr un pryd, gan gynnwys pethau fel yr Academi Feddalwedd Genedlaethol yr ydym yn ei hariannu yng Nghasnewydd, sydd â rhaglen radd arloesol iawn yn seiliedig ar ddatrys problemau diwydiannau'n uniongyrchol ac sydd wedyn yn cael eu cyflwyno i'r diwydiannau hynny, a'r Arloesfa ei hun. Eisoes, mae nifer o drafodaethau parhaus ar y gweill rhyngom a'n diwydiannau yma yng Nghymru, oherwydd mae'n bwysig gwella sgiliau'r gweithlu cyfredol, yn ogystal â denu technolegau digidol arloesol. Felly, mae yna nifer fawr o ffyrdd gwahanol rydym yn cefnogi'r datblygiadau hynny o amgylch yr hybiau technoleg, yn y Cymoedd yn benodol.
The leader of the house will excuse my lack of grasp of some of the issues with technology around them. I come from a generation where communication technology consisted of stretching a string across the road and having a tin can either end. [Laughter.] But I understand that the 96 per cent superfast broadband in the Pontypridd area is very good.
Can I raise with you the issue of estates—new developed estates that are being built? There is an example in my area of Dyffryn y Coed, a Persimmon development in Llantwit Fardre, where there were two phases. The first phase connected to superfast broadband through the fibre broadband, and that's fine. But phase 2 is not connected to that—it doesn't have that highest level, because it hasn't been asked for by the developers. Now, surely, there must be an issue where new developments, almost as part of their planning permission—that there should be a requirement that they actually do this, because I now have a large number of constituents who tell me that the best advice that they have is to set up a legal entity to apply for a grant of £4,800, and then there's a 17-step process, which will take 12 months, in order to actually get that sort of fibre connection.
I have written to you about this, but is this a problem that has been arising in places? What can we do about it? And should we not be ensuring that it's a mandatory obligation upon developers?
Bydd arweinydd y tŷ yn esgusodi fy niffyg dealltwriaeth o rai o'r materion sy'n ymwneud â thechnoleg. Dof o genhedlaeth lle roedd technoleg cyfathrebu yn golygu ymestyn llinyn ar draws y ffordd a rhoi tun ar bob pen iddo. [Chwerthin.] Ond rwy'n deall bod band eang cyflym iawn 96 y cant yn ardal Pontypridd yn dda iawn.
A gaf fi ofyn i chi ynglŷn ag ystadau—ystadau newydd sy'n cael eu hadeiladu? Mae yna enghraifft yn fy ardal yn Nyffryn y Coed, datblygiad Persimmon yn Llanilltud Faerdref, lle roedd yna ddau gam. Roedd y cam cyntaf yn cysylltu â band eang cyflym iawn drwy'r band eang ffeibr, ac mae hwnnw'n iawn. Ond nid yw cam 2 yn cysylltu â hwnnw—nid oes ganddo'r lefel uchaf honno, oherwydd ni ofynnodd y datblygwyr amdani. Nawr, yn sicr, rhaid bod gofyniad sy'n dweud bod yn rhaid i ddatblygiadau newydd, bron fel rhan o'u caniatâd cynllunio—gofyniad i wneud hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae gennyf nifer fawr o etholwyr bellach sy'n dweud wrthyf mai'r cyngor gorau y maent yn ei gael yw sefydlu endid cyfreithiol i wneud cais am grant o £4,800, yna mae'n broses 17 cam, a fydd yn cymryd 12 mis, i gael y math hwnnw o gysylltiad ffeibr mewn gwirionedd.
Rwyf wedi ysgrifennu atoch am hyn, ond a yw hon yn broblem sydd wedi codi mewn mannau? Beth y gallwn ei wneud ynglŷn â hynny? Ac oni ddylem fod yn sicrhau ei bod yn rhwymedigaeth orfodol ar ddatblygwyr?
Yes, it's been a continuing thorn in our side, actually, and this is the whole issue about whether this is an infrastructure technology or whether it's a luxury product. Unfortunately, the UK Government persist in thinking of it as a luxury product and not an infrastructure, and therefore we have less good powers in the area in terms of what we can do. But I have had extensive conversations, both with my Cabinet Secretary with planning responsibility and, actually, with the Minister for Housing and Regeneration, about what we can do, both in encouraging councils to put it in as part of 106 agreements, for example, and in encouraging the house builders to actually wire their properties.
There is an agreement with BT for house builders, where they build over 30 houses at the same time, to put the infrastructure in. But otherwise it's a negotiation between the developer and whatever technology company they're particularly negotiating with.
However, the scheme you're talking about is a BT community fibre scheme. We do have other schemes available in Wales and I think you have written to me, so I will be getting in touch with you about other solutions that may be possible for that particular community. It is an ongoing problem that we're aware of and that we're trying to work on.
Ydi, mae wedi bod yn ddraenen gyson yn ein hystlys mewn gwirionedd, ac mae'r holl fater yn ymwneud ag a yw'n dechnoleg seilwaith neu'n gynnyrch moethus. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU yn parhau i'w ystyried yn gynnyrch moethus yn hytrach na seilwaith, ac felly mae gennym lai o bwerau da yn y maes o ran yr hyn y gallwn ei wneud. Ond rwyf wedi cael sgyrsiau helaeth, gyda fy Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio, a chyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio mewn gwirionedd, ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i annog cynghorau i'w gynnwys yn rhan o gytundebau 106, er enghraifft, ac i annog yr adeiladwyr tai i osod gwifrau yn eu heiddo mewn gwirionedd.
Mae gan adeiladwyr tai, lle maent yn adeiladu dros 30 o dai ar yr un pryd, gytundeb â BT i osod y seilwaith. Ond fel arall mae'n fater o negodi rhwng y datblygwr a pha gwmni technoleg bynnag y maent yn negodi â hwy.
Fodd bynnag, mae'r cynllun rydych yn sôn amdano yn gynllun ffeibr cymunedol BT. Mae gennym gynlluniau eraill ar gael yng Nghymru a chredaf eich bod wedi ysgrifennu ataf, felly byddaf yn cysylltu â chi ynglŷn ag atebion eraill a allai fod yn bosibl ar gyfer y gymuned arbennig honno. Mae'n broblem barhaus yr ydym yn ymwybodol ohoni ac rydym yn ceisio ei datrys.
Leader of the house, Newport has been attracting investment into the digital sector and is keen to attract significantly more with support from Welsh Government. You mentioned the software academy and the potential of degree-level qualifications. Does there also need to be even more emphasis on training for people who are in, perhaps, lower paid jobs at the moment, and are part-time, so that they can upskill, increase their income and benefit from but also drive the development of the digital economy we want to see?
Arweinydd y tŷ, mae Casnewydd wedi bod yn denu buddsoddiad i'r sector digidol ac mae'n awyddus i ddenu llawer mwy gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Fe sonioch chi am yr academi feddalwedd a'r potensial ar gyfer cymwysterau lefel gradd. A oes angen sicrhau hefyd fod hyd yn oed mwy o bwyslais ar hyfforddiant ar gyfer pobl sydd, efallai, mewn swyddi ar gyflogau is ar hyn o bryd, ac sy'n rhan-amser, fel y gallant uwchsgilio, cynyddu eu hincwm a llywio datblygiad yr economi ddigidol rydym eisiau ei gweld yn ogystal ag elwa ohoni?
Yes, absolutely. There's a need for science, technology, engineering and mathematics-related skills right through the spectrum. So, we want to produce the graduates of the future but we also need the technicians and so on. So, we have a number of employability schemes. They're not in my portfolio, but we have a large number of employability schemes and flexible skills programmes, which are available to existing companies to do just that—to upskill their current workforce. We also have employability schemes for people not yet in the market to get their skills into that. So, both of those things are covered. The software academy is looking at doing outreach for people who want to perhaps do level 3 skills as well—so A-level equivalent and higher national diploma, with a route to going on to higher education or indeed with a route to going into employment at that point. So, we are exploring that. There definitely is a need for everybody at every level of the range of abilities.
Oes, yn bendant. Mae angen sgiliau sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ar draws y sbectrwm. Felly, rydym eisiau cynhyrchu graddedigion y dyfodol, ond rydym hefyd angen y technegwyr ac ati. Felly, mae gennym nifer o gynlluniau cyflogadwyedd. Nid ydynt yn rhan o fy mhortffolio, ond mae gennym nifer fawr o gynlluniau cyflogadwyedd a rhaglenni sgiliau hyblyg, sydd ar gael i gwmnïau sy'n bodoli eisoes i wneud yn union hynny—uwchsgilio eu gweithlu cyfredol. Hefyd, mae gennym gynlluniau cyflogadwyedd ar gyfer pobl nad ydynt eto yn y farchnad i gael eu sgiliau i mewn iddi. Felly, caiff y ddau beth hynny eu cynnwys. Mae'r academi feddalwedd yn edrych ar gyflwyno allgymorth ar gyfer pobl a allai fod eisiau gwneud sgiliau lefel 3 yn ogystal—felly cymwysterau sy'n gyfwerth â lefel A a'r diploma cenedlaethol uwch, gyda llwybr i gamu ymlaen at addysg uwch, neu lwybr i mewn i gyflogaeth yn wir ar y pwynt hwnnw. Felly, rydym yn ystyried hynny. Yn bendant, mae angen pawb ar bob lefel o'r ystod o alluoedd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Sian Gwenllian.
Questions now from the party spokespeople. Plaid Cymru spokesperson, Siân Gwenllian.
Diolch, Llywydd. Mae cydraddoldeb yn golygu sicrhau bod pobl yn gallu byw eu bywydau i’w llawn botensial, a’u bod yn gallu byw yn annibynnol. Rydw i'n siŵr eich bod chi’n cytuno efo’r geiriau yna. Dyna pam fod y model cymdeithasol ynglŷn ag anabledd wedi bod yn ffordd o rymuso bywydau pobl anabl, ac wedi gwneud i wasanaethau cyhoeddus feddwl am anabledd mewn ffordd wahanol. Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu llawer o bobl anabl ydy diffyg arian neu dlodi. Yn amlwg, mae tlodi yn gallu gwneud ansawdd bywyd person anabl yn sylweddol waeth. A ydych chi’n cytuno bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i roi cefnogaeth ariannol i bobl anabl a theuluoedd sydd â phlant anabl, fel eu bod yn gallu goresgyn rhai o’r rhwystrau mae cymdeithas yn eu gosod arnyn nhw?
Thank you, Llywydd. Equality means ensuring that people can live their lives to their full potential, and that they can live independently. I'm sure that you would agree with those words. That is why the social model in relation to disability has been a way of empowering the lives of disabled people, and making public services think about disability in a different manner. One of the greatest challenges that faces many disabled people is lack of finance or poverty, and, obviously, poverty can make the quality of life of a disabled person significantly worse. Do you agree that the Welsh Government has a responsibility to give financial support to disabled people and families with disabled children, so that they can overcome some of the barriers that society places upon them?
Yes, indeed. The Member, as always, raises a very important point. It's not actually directly in my portfolio. I have an overarching view of equalities that I work with all of the other Ministers and Cabinet Secretaries on. So, it's actually my colleague the Minister for children who actually deals with most of the funds available, but I have very regular meetings with him about the effect on disabled families and their communities. We work very closely with Disability Wales and a number of other groups in the sector to make sure that we do maximise the funding available. There is a limit to what we can do in terms of the universal credit roll-out, for example, which is causing some concern in the areas where it's been fully rolled out, but we are aware of some of those problems.
Ie, yn wir. Mae'r Aelod, fel bob amser, yn codi pwynt pwysig iawn. Nid yw'n rhan uniongyrchol o fy mhortffolio mewn gwirionedd. Mae gennyf farn drosfwaol ar y cydraddoldebau rwy'n gweithio arnynt gyda'r holl Weinidogion a'r holl Ysgrifenyddion Cabinet eraill. Felly, mewn gwirionedd, fy nghyd-Aelod, y Gweinidog plant, sy'n ymdrin â'r rhan fwyaf o'r cyllid sydd ar gael, ond rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd iawn gydag ef am yr effaith ar deuluoedd anabl a'u cymunedau. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag Anabledd Cymru a nifer o grwpiau eraill yn y sector i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyllid sydd ar gael. Mae terfyn i'r hyn y gallwn ei wneud o ran cyflwyno'r credyd cynhwysol, er enghraifft, sy'n achosi peth pryder yn yr ardaloedd lle mae wedi'i gyflwyno'n llawn, ond rydym yn ymwybodol o rai o'r problemau hynny.
Diolch yn fawr. Mi fyddwch chi’n ymwybodol bod gan Blaid Cymru gynnig nes ymlaen y prynhawn yma lle byddwn ni’n trafod tlodi plant, a bod y cynnig hwnnw yn gofyn am ddatganoli gweinyddu rhannau o’r gyfundrefn les. Ond, wrth gwrs, mae yna rai budd-daliadau eisoes wedi eu datganoli’n llawn, neu mae’r rheolaeth weinyddol drostyn nhw yma yng Nghymru yn barod—Cronfa'r Teulu, budd-dal y dreth gyngor, elfennau o'r gronfa gymdeithasol ac, wrth gwrs, y gronfa byw'n annibynnol.
A ydych chi’n hapus efo’r ffordd mae’ch Llywodraeth chi wedi bod yn delio efo cyfrifoldeb dros y cronfeydd yma? Rydw i'n derbyn efallai mai’r Gweinidog arall fyddai’n gallu ateb yn fwy manwl, ond, yn gyffredinol, a ydych chi’n hapus efo perfformiad eich Llywodraeth chi yn delio efo’r cronfeydd yma?
Thank you very much. You will be aware that Plaid Cymru has a motion later on this afternoon where we will be discussing child poverty, and that that motion calls for the devolution of the administration of parts of the welfare system. But, of course, there are some benefits that have already been fully devolved, or the administrative responsibility for them already lies in Wales—the Family Fund, the council tax benefit, elements of the social fund and, of course, the independent living fund.
Are you content with the way that your Government has been dealing with the responsibility for these particular funds? I accept that perhaps the other Minister would be able to answer in more detail, but, generally speaking, are you happy with the performance of your Government in dealing with these funds?
I think it's a very complex area, and it's not in my portfolio, so, forgive me, I won't have the level of detail necessary to answer it with perhaps the detail that you'd like. It is actually Huw Irranca-Davies, my colleague, who has control of the actual funds, but I have very regular meetings with, as I said, him and a number of voluntary groups in the sector to see what we can do. I am aware of the long-running and philosophical, almost, debate about whether you can administer a welfare system predicated on a set of values that you don't share, and we certainly do not share the values currently associated with the UK Government's running of that welfare system.
I'm sure it will come out in the debate this afternoon that there are a number of issues around whether you would actually get the money necessary to run it without cutting into other services and so on, but, in principle, of course, we'd like to see the welfare system run in the way it was intended, which is for the benefit of those people who need the helping hand to be able to live their lives to the full. I think we probably share the view that that's not how it's running at the moment.
My colleague the Minister with responsibility for this is conducting a number of reviews of the various funds, and he would be better placed to give you some of the detail of how those reviews are going at the moment.
Credaf ei fod yn faes cymhleth iawn, ac nid yw'n rhan o fy mhortffolio, felly, maddeuwch i mi, ni fydd gennyf y lefel angenrheidiol o fanylion i'w ateb â'r manylder y byddech yn ei hoffi o bosibl. Huw Irranca-Davies, fy nghyd-Aelod, sy'n gyfrifol am y cyllid mewn gwirionedd, ond fel y dywedais, rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd iawn gydag ef a nifer o grwpiau gwirfoddol yn y sector i weld beth y gallwn ei wneud. Rwy'n ymwybodol o'r ddadl faith ac athronyddol, bron, ynglŷn ag a allwch weinyddu'r system les yn seiliedig ar set o werthoedd nad ydych yn eu rhannu, ac yn sicr nid ydym yn rhannu'r gwerthoedd sy'n gysylltiedig ar hyn o bryd â ffordd Llywodraeth y DU o weithredu'r system les honno.
Rwy'n siŵr y gwelwn, yn y ddadl y prynhawn yma, fod nifer o faterion yn codi ynglŷn ag a fyddech chi mewn gwirionedd yn cael yr arian angenrheidiol i'w chynnal heb dorri i mewn i wasanaethau eraill ac ati, ond mewn egwyddor wrth gwrs, byddem yn hoffi gweld y system les yn cael ei gweithredu fel y bwriadwyd iddi gael ei gweithredu, sef er budd y bobl sydd angen cymorth i allu byw eu bywydau'n llawn. Credaf ein bod, yn ôl pob tebyg, yn rhannu'r farn nad yw'n cael ei gweithredu yn y ffordd honno ar hyn o bryd.
Mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn, yn cynnal nifer o adolygiadau o'r cronfeydd amrywiol, a byddai ef mewn sefyllfa well i roi rhai o'r manylion i chi ar hynt yr adolygiadau hynny ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr ac edrychwn ymlaen at gael y drafodaeth yna ar ddatganoli lles yn nes ymlaen prynhawn yma.
Ond mae’n amlwg nad ydy pawb yn eich plaid chi yn hapus efo rhai agweddau, yn sicr, o’r cronfeydd yma—er enghraifft, diddymu’r gronfa byw'n annibynnol. Rydw i'n deall bod yna gynnig wedi cael ei basio i adfer y gronfa yma gan gynhadledd y Blaid Lafur, a oedd o blaid mabwysiadu model yr Alban. Felly, a fedrwch chi egluro sut mae dileu’r cymorth hanfodol yma, ynghyd, hefyd, â thorri’r arian i Gronfa'r Teulu—? Sut mae gwneud hynny yn gydnaws efo’r geiriau cychwynnol gen i ac efo egwyddorion deddfwriaeth cydraddoldeb, a’ch dyletswydd chi i symud rhwystrau sy’n wynebu pobl â phlant anabl?
Thank you very much, and we look forward to having that debate on the devolution of welfare later on this afternoon.
But it is clear that not everyone in your party is content with some aspects, certainly, of these funds—for example, abolishing the independent living fund. I understand that a proposal was passed to restore this fund by the Labour Party conference, which was in favour of adopting the Scottish model. So, could you explain how abolishing this essential support, along with cutting the funding to the Family Fund—? How can doing that be in accordance with my opening words and with the principles of equalities legislation, and your responsibility to remove barriers facing disabled people and children?
This is one of the difficulties of having one of the cross-cutting portfolios. So, I'm not going to give you an answer that's satisfactory, simply because I'm not the Minister with the detail of the fund in question, so it's not for me to answer that. But, in general terms, I've had a number of conversations with the Minister around what we're doing to review the fund, what the overarching aims of it are, what the amount of money contained within it is and what can be best done with that, alongside the various organisations with whom we liaise—the stakeholder groups and so on.
I am aware that there is a range of views on this, but, unfortunately, I'm not the Minister with overall responsibility for that. I do assure you that we have the conversation so that we can maximise the benefit to disabled families. But there's absolutely no doubt at all that we're struggling in an austerity agenda with which we do not agree and where we are really dealing with a rationing system, also with which we do not agree. So, it is a question of trying to find the best path through that and ameliorate, where at all possible, the difficulties that people living with disabilities and living with children with disabilities encounter in their lives.
Dyma un o'r anawsterau sy'n deillio o fod yn gyfrifol am un o'r portffolios trawsbynciol. Felly, nid wyf am roi ateb sy'n foddhaol i chi, yn syml oherwydd nad fi yw'r Gweinidog sydd â manylion y gronfa dan sylw, felly nid cwestiwn i mi ei ateb yw hwnnw. Ond yn gyffredinol, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda'r Gweinidog ynglŷn â beth rydym yn ei wneud i adolygu'r gronfa, beth yw ei nodau cyffredinol, faint o arian sydd ynddi a beth yw'r peth gorau i'w wneud ag ef, ochr yn ochr â'r gwahanol sefydliadau rydym yn cysylltu â hwy—grwpiau rhanddeiliaid ac ati.
Rwy'n ymwybodol fod yna amrywiaeth o safbwyntiau ar hyn, ond yn anffodus, nid fi yw'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am hynny. Rwy'n eich sicrhau ein bod yn cael y sgwrs fel y gallwn sicrhau cymaint o fudd â phosibl i deuluoedd anabl. Ond yn sicr, nid oes amheuaeth o gwbl ein bod yn cael anhawster gydag agenda cyni nad ydym yn cytuno â hi a lle rydym yn ymdrin â system ddogni nad ydym yn cytuno â hi chwaith. Felly, mae'n fater o geisio dod o hyd i'r llwybr gorau drwy hynny a lleddfu, lle bo hynny'n bosibl, yr anawsterau y mae pobl sy'n byw gydag anableddau, ac sy'n byw gyda phlant ag anableddau, yn eu hwynebu yn eu bywydau.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
The Conservative spokesperson, Russell George.
Diolch, Presiding Officer. Leader of the house, 18 months ago, you announced the intention to publish the mobile action plan. Can I ask, since that date, what concrete measures you have implemented to improve mobile coverage in Wales? And when was the last time you directly met with mobile operators?
Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, 18 mis yn ôl, fe gyhoeddoch y bwriad i gyhoeddi'r cynllun gweithredu ar ffonau symudol. A gaf fi ofyn, ers y dyddiad hwnnw, pa fesurau pendant rydych wedi'u gweithredu i wella signal ffonau symudol yng Nghymru? A phryd oedd y tro diwethaf i chi gyfarfod yn uniongyrchol â gweithredwyr ffonau symudol?
I meet with mobile operators on a rolling programme of meeting the various different operators. I haven't had a group meeting with them for quite some time, since we launched the action plan, but I have a sort of series of meetings with them, if you like. We're also in regular correspondence with Ofcom. We've had many more discussions with Ofcom very recently around—it feels slightly like groundhog day here, Llywydd, because we had the debate yesterday—issues such as sharing infrastructure, planning your infrastructure more efficiently, what planning requirements are actually necessary, what the real need for a reduction in non-domestic rate charges are, and why they're so extremely opposed to roaming in areas where they've all agreed that only one operator is likely to give 98 per cent geographical coverage. I think I did rehearse some of that with you yesterday as well.
Rwy'n cyfarfod â gweithredwyr ffonau symudol ar raglen dreigl o gyfarfodydd â'r gwahanol weithredwyr. Nid wyf wedi cael cyfarfod grŵp â hwy ers cryn amser, ers i ni lansio'r cynllun gweithredu, ond rwy'n cael rhyw fath o gyfres o gyfarfodydd gyda hwy, os hoffech chi. Rydym hefyd yn gohebu'n rheolaidd gydag Ofcom. Rydym wedi cael llawer mwy o drafodaethau gydag Ofcom yn ddiweddar iawn—mae'n teimlo fel cylch diddiwedd yma i raddau, Lywydd, oherwydd cawsom y ddadl ddoe—ar faterion megis rhannu seilwaith, cynllunio eich seilwaith yn fwy effeithlon, pa anghenion cynllunio sy'n angenrheidiol mewn gwirionedd, beth yw'r angen gwirioneddol am ostyngiad mewn taliadau ardrethi annomestig, a pham eu bod mor wrthwynebus i drawsrwydweithio mewn ardaloedd lle maent oll wedi cytuno mai un gweithredwr yn unig sy'n debygol o ddarparu signal daearyddol o 98 y cant. Credaf fy mod wedi trafod rhywfaint o hynny gyda chi ddoe hefyd.
You did, and I did ask in my question what concrete measures you have implemented to improve mobile coverage in Wales. I didn't hear anything to tell me what actual measures you've undertaken. I would suggest that perhaps you do meet with the operators together, because they would be able to tell you what their barriers are. They tell me what the barriers are, and I think they need to explain some of these barriers to you. You said yesterday that you disagreed entirely with my analysis of the situation with mobile, but what I think is more important to the people of Wales is that the mobile industry seems to agree with my analysis.
Now, you did also say yesterday that the geographical problems in Wales are unlike anywhere else in the United Kingdom. Well, I entirely agree with you on that, but that is precisely why you need to foster the right conditions for the industry to roll out its infrastructure here in Wales, and the operators are saying that continued delays in the reform to the existing planning laws are delaying and adding additional costs for them. I think this is the issue, particularly in rural Wales, which is causing us issues. Now, with changes to the planning rules already in place in England and in Scotland, we're now playing catch-up in Wales. You talk about needing more evidence from the industry, but I would ask you what evidence you need on top of what they've already provided you. That's my specific question.
Last year, the economy committee undertook an inquiry on this and we made some recommendations on mobile and you accepted them all, I'm pleased to say. One of those recommendations was that you should explore the feasibility of using the planning regime to encourage operators to share infrastructure. You agreed with that, so I'd like an update on that. You also accepted recommendation 9, which said that Welsh Government should consider offering non-domestic rate relief for new masts. Well, you accepted that, I'm pleased to say, as well. And you did say in your response at the time—nine months ago—that you were examining the scope for changes at that time and that research would be completed in November 2017. So, can you please also update us on progress in this area?
Fe wnaethoch, ac fe ofynnais yn fy nghwestiwn pa fesurau pendant rydych wedi'u rhoi ar waith i wella signal ffonau symudol yng Nghymru. Ni chlywais unrhyw beth ynglŷn â pha fesurau gwirioneddol rydych wedi'u cyflawni. Buaswn yn awgrymu efallai y dylech gyfarfod â'r gweithredwyr gyda'i gilydd, oherwydd byddent yn gallu dweud wrthych beth yw'r rhwystrau. Maent yn dweud wrthyf beth yw'r rhwystrau, ac rwy'n credu eu bod angen esbonio rhai o'r rhwystrau hyn i chi. Fe ddywedoch chi ddoe eich bod yn anghytuno'n llwyr â fy nadansoddiad o'r sefyllfa gyda ffonau symudol, ond rwy'n credu ei bod yn bwysicach i bobl Cymru fod y diwydiant ffonau symudol i'w weld yn cytuno gyda fy nadansoddiad i.
Nawr, ddoe, fe ddywedoch hefyd fod y problemau daearyddol yng Nghymru yn wahanol i unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â chi am hynny, ond dyna'n union pam y mae angen i chi feithrin yr amodau cywir i'r diwydiant gyflwyno ei seilwaith yma yng Nghymru, ac mae'r gweithredwyr yn dweud bod oedi parhaus ar ddiwygio'r deddfau cynllunio cyfredol yn gohirio ac yn ychwanegu costau ychwanegol ar eu cyfer. Credaf mai hyn, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, sy'n achosi problemau i ni. Nawr, gyda newidiadau i'r rheolau cynllunio eisoes ar waith yn Lloegr ac yn yr Alban, rydym bellach yn ceisio dal i fyny yng Nghymru. Rydych yn dweud bod angen mwy o dystiolaeth gan y diwydiant, ond buaswn yn gofyn i chi pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch yn ychwanegol at y dystiolaeth y maent eisoes wedi'i darparu i chi. Dyna yw fy nghwestiwn penodol.
Y llynedd, cynhaliodd y pwyllgor economi ymchwiliad ar hyn ac fe wnaethom rai argymhellion ar ddarpariaeth symudol ac rwy'n falch o ddweud eich bod wedi derbyn pob un ohonynt. Un o'r argymhellion hynny oedd y dylech archwilio dichonoldeb defnyddio'r gyfundrefn gynllunio i annog gweithredwyr i rannu seilwaith. Fe wnaethoch gytuno â hynny, felly hoffwn gael diweddariad ar hynny. Rydych hefyd wedi derbyn argymhelliad 9, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynnig rhyddhad ardrethi annomestig ar gyfer mastiau newydd. Wel, rwy'n falch o ddweud eich bod wedi derbyn hwnnw yn ogystal. Ac fe ddywedoch yn eich ateb ar y pryd—naw mis yn ôl—eich bod yn archwilio'r potensial ar gyfer newidiadau ar yr adeg honno ac y byddai'r gwaith ymchwil hwnnw wedi ei gwblhau ym mis Tachwedd 2017. Felly, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd ar hyn os gwelwch yn dda?
Yes. A large part of that is actually in the portfolio of my colleague, the Cabinet Secretary, who is also here to hear what you've got to say, but I think I did go through a lot of it yesterday. Just to be clear, one of the big problems we have in terms of giving you concrete things that I've done, is that it's not actually devolved. We have a fundamental disagreement with a Government of your colour in the UK about whether this is infrastructure or not. The mobile phone operators, I'm very well aware, will tell you that all they need is to be able to build bigger masts and everything will be fine. But I don't want to see, and nor do most of the people of Wales, a forest of masts right through the national park, because they can't be brought to share those masts and infrastructure, or indeed use the Home Office masts instead. So, there is a real balance here between the number of masts necessary in order to ensure there's competition in something that ought to be an infrastructure and ensuring the coverage for Wales, and actually people behaving sensibly in sensible areas.
As I said, this is a commercial imperative by them, so what they're basically saying to me is they want me to get my Cabinet colleague to allow them to build any size mast they like, anywhere they like, and take all of the tariffs away that they have to pay to go there, and then they'll build a whole network right across Wales. Well, I'm sorry, that doesn't stack up in business terms. We've asked them for the evidence to show why the current charging regime makes such a difference to their commercial case, and why they can't share, and why they won't allow roaming, and I'm afraid the evidence we've had back has not been good. So, we've gone out again to do that. At the same time, we're out to consultation on 'Planning Policy Wales'—that's about to come in—and we're about to consult on changes to the permitted development regime. But it will not be a free-for-all, because that's not what the people of Wales have indicated to us, in any consultation, they actually want.
Gallaf. Mae rhan fawr o hynny, mewn gwirionedd, ym mhortffolio fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, sydd hefyd yma i glywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud, ond rwy'n credu fy mod wedi trafod llawer ohono ddoe. I fod yn glir, un o'r problemau mawr sydd gennym o ran dweud wrthych beth yw'r pethau pendant rwyf wedi'u gwneud, yw nad yw'r mater wedi'i ddatganoli mewn gwirionedd. Rydym yn anghytuno'n sylfaenol â Llywodraeth o'ch lliw gwleidyddol chi yn y DU ynglŷn ag a yw hwn yn fater seilwaith ai peidio. Rwy'n ymwybodol iawn y bydd y gweithredwyr ffonau symudol yn dweud wrthych mai'r cyfan y maent ei angen yw'r gallu i adeiladu mastiau mwy o faint a bydd popeth yn iawn. Ond nid wyf eisiau gweld, ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl Cymru eisiau gweld, coedwig o fastiau yng nghanol y parc cenedlaethol, oherwydd ni ellir gwneud iddynt rannu'r seilwaith a'r mastiau hynny, na defnyddio mastiau'r Swyddfa Gartref yn lle hynny. Felly, mae yna gydbwysedd gwirioneddol yma rhwng nifer y mastiau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yna gystadleuaeth mewn rhywbeth a ddylai fod yn seilwaith a sicrhau signal i Gymru, a phobl yn ymddwyn yn synhwyrol mewn ardaloedd sensitif.
Fel y dywedais, gorchymyn masnachol ganddynt hwy yw hwn, felly yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf yn y bôn yw eu bod eisiau i mi sicrhau y bydd fy nghyd-Aelod Cabinet yn caniatáu iddynt adeiladu mast o ba faint bynnag y byddent yn ei hoffi, lle bynnag y byddent yn hoffi, a chael gwared ar yr holl dariffau y byddai'n rhaid iddynt eu talu i fynd yno, ac yna byddant yn adeiladu rhwydwaith cyfan ar draws Cymru. Wel, mae'n ddrwg gennyf, nid yw hynny'n gwneud synnwyr mewn termau busnes. Rydym wedi gofyn iddynt am dystiolaeth i ddangos pam fod y gyfundrefn gyfredol ar gyfer codi tâl yn gwneud gwahaniaeth i'w hachos masnachol, a pham na allant rannu, a pham nad ydynt yn caniatáu trawsrwydweithio, ac yn anffodus, nid yw'r dystiolaeth rydym wedi'i chael yn ôl wedi bod yn dda. Felly, rydym wedi mynd ati eto i wneud hynny. Ar yr un pryd, rydym yn cynnal ymgynghoriad ar 'Polisi Cynllunio Cymru'—mae hwnnw ar fin dod i mewn—ac rydym ar fin ymgynghori ar newidiadau i'r gyfundrefn ddatblygu a ganiateir. Ond ni fyddant yn rhydd i wneud fel y mynnant, gan nad oes yr un ymgynghoriad wedi dweud wrthym mai dyna y mae pobl Cymru ei eisiau mewn gwirionedd.
Well, you keep saying that these issues aren't devolved. The two specific issues that I asked you about are absolutely devolved. I asked you about offering non-domestic rate relief for new masts, which you didn't address. I also asked you about changes to the planning regime. You talk about how this isn't in your portfolio, but you should be answering—you've already discussed this with the Cabinet Secretary—and giving us an update in that regard. So, I think it is frustrating that so little progress has been made.
New research from O2 reveals that the UK could benefit from £6 billion of productivity savings to essential services from 5G. Can I ask you how you're going to work with the industry to ensure that Wales is at the forefront of this next generation of mobile technology and does not lose investment to other parts of the UK?
Wel, rydych yn dweud nad yw'r materion hyn wedi'u datganoli. Mae'r ddau fater penodol y gofynnais i chi amdanynt yn sicr wedi'u datganoli. Gofynnais i chi am gynnig rhyddhad ardrethi annomestig ar gyfer mastiau newydd, ac ni wnaethoch ateb. Gofynnais i chi hefyd am y newidiadau i'r gyfundrefn gynllunio. Rydych yn dweud nad yw hyn yn rhan o'ch portffolio, ond dylech fod yn ateb—rydych eisoes wedi trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet—a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny. Felly, credaf ei bod yn rhwystredig fod cyn lleied o gynnydd wedi'i wneud.
Mae ymchwil newydd gan O2 yn dangos y gallai'r DU elwa o £6 biliwn o arbedion cynhyrchiant i wasanaethau hanfodol gan 5G. A gaf fi ofyn i chi sut rydych yn bwriadu gweithio gyda'r diwydiant i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad mewn perthynas â'r genhedlaeth nesaf hon o dechnoleg symudol ac nad yw'n colli buddsoddiad i rannau eraill o'r DU?
Right, well, I'll reiterate it, because I thought I had answered it very clearly. I have not seen any concrete evidence of why the business case is that they can't share masts, that they need to build their own separate infrastructure, and that that infrastructure is not viable without non-domestic rate relief. So, I have not yet seen that evidence, although we've asked for it many times. We are out to consultation. We've had the research; we are out to consultation on the back of that research. That consultation finishes in June, and we're about to start the permitted development rights. So, I think that is the answer that you've asked for. It might not be the one you like, but that is the answer.
And the next answer on 5G—and I've said this many times in this Chamber—is that if we have the same situation as we have with 4G, where we have, effectively, landbanking, where you have one operator that owns 4G for Wales and if it doesn't think it's commercially viable, it simply doesn't roll it out, it is not acceptable. So, if they buy it and they haven't used it within a certain amount of time, we've asked the UK Government many times to put an axe on that to say, 'If you haven't used it in this specific area by then, give it back and let the public sector do it as a market intervention'. Now, that will reduce the amount of money that the spectrum is sold for, and that is a big issue because we don't think it should be used as a cash cow, and I'm afraid that's not what the UK Government thinks. So, we're having a big argument with them about that, which is a fundamental issue, because this is not a luxury product; it is an infrastructure. As long as we have that argument, we've got a real problem.
Iawn, wel, fe wnaf ailadrodd, oherwydd roeddwn yn meddwl fy mod wedi ateb y cwestiwn yn glir. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bendant i ddangos pam fod yr achos busnes yn dweud na allant rannu mastiau, fod angen adeiladu eu seilwaith eu hunain ar wahân, ac nad yw'r seilwaith hwnnw'n hyfyw heb ryddhad ardrethi annomestig. Felly, nid wyf wedi gweld y dystiolaeth honno eto, er ein bod wedi gofyn amdani sawl gwaith. Rydym yn ymgynghori. Rydym wedi cael y gwaith ymchwil; rydym yn ymgynghori ar sail y gwaith ymchwil hwnnw. Mae'r ymgynghoriad hwnnw'n dod i ben ym mis Mehefin, ac rydym ar fin dechrau'r hawliau datblygu a ganiateir. Felly, dyna'r ateb rydych wedi gofyn amdano, rwy'n credu. Mae'n bosibl nad dyna'r ateb y byddech yn ei hoffi, ond dyna'r ateb.
A'r ateb nesaf ar 5G—ac rwyf wedi dweud hyn droeon yn y Siambr hon—os oes gennym yr un sefyllfa ag sydd gennym gyda 4G, lle mae gennym fancio tir i bob pwrpas, lle mae gennych un gweithredwr sy'n berchen ar 4G ar gyfer Cymru ac os nad yw'n credu ei fod yn hyfyw yn fasnachol, yn syml iawn ni chaiff ei gyflwyno, nid yw'n dderbyniol. Felly, os ydynt yn ei brynu ac os nad ydynt yn ei ddefnyddio o fewn cyfnod penodol o amser, rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU sawl gwaith i roi terfyn ar hynny a dweud, 'Os nad ydych wedi'i ddefnyddio yn yr ardal benodol hon erbyn hynny, dylech ei roi yn ôl a gadael i'r sector cyhoeddus ei wneud fel ymyrraeth yn y farchnad'. Nawr, bydd hynny'n lleihau'r swm o arian a geir am werthu'r sbectrwm, ac mae honno'n broblem fawr oherwydd nid ydym yn credu y dylid ei ddefnyddio fel ffynhonnell arian, ac rwy'n ofni nad yw Llywodraeth y DU yn credu hynny. Felly, rydym yn cael dadl fawr gyda hwy ynglŷn â hynny, ac mae'n fater sylfaenol, oherwydd nid moethusrwydd yw hwn; mae'n seilwaith. Cyhyd â'n bod yn parhau i gael y ddadl honno, mae gennym broblem go iawn.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
The UKIP spokesperson, David Rowlands.
Diolch, Llywydd, and I promise you, leader of the house, I will not mention digital infrastructure at all. In October 2017, Her Majesty's Inspectorate of Constabulary produced a report entitled 'Stolen freedom: the policing response to modern slavery and human trafficking'. In that report, it says that today and every day, thousands of men, women and children are being degraded and dehumanised. Whilst this is a UK-wide report, can the leader of the house give us an update on efforts in Wales to combat modern slavery?
Diolch, Lywydd, ac rwy'n addo i chi, arweinydd y tŷ, na fyddaf yn sôn am seilwaith digidol o gwbl. Ym mis Hydref 2017, lluniodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi adroddiad o'r enw 'Stolen freedom: the policing response to modern slavery and human trafficking'. Yn yr adroddiad hwnnw, mae'n dweud bod miloedd o ddynion, menywod a phlant yn cael eu diraddio a'u gwneud i deimlo'n annynol, heddiw a bob dydd. Er mai adroddiad ar gyfer y DU gyfan yw hwn, a all arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ymdrechion yng Nghymru i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern?
Yes, indeed. We have the first anti-slavery co-ordinator in Wales, and he's been working very hard on a system, alongside all of our partners, to make sure that we have the multi-agency hubs working together to ensure that, when people do come forward, we're able to swiftly process them, take them to places of safety, and get the prosecutions in place as swiftly as possible. There have not been many so far, but we're very confident that more are coming. There are three problems, however, the first of which is the issue around the hostile—now called 'compliance'—environment. We do not want people who come forward and who have been the victims of modern slavery to find themselves without any status and, in the worst of cases, faced with deportation. We particularly don't want women who are trafficked to be in that position, often fleeing domestic violence as well. So, we have had liaison with the Home Office to discuss unintended consequences of the several regimes coming together, which we fear are stopping people coming forward because they fear that they'll be put into a worse position. But we have been very much praised in Wales for our anti-slavery co-ordinator and his efforts to bring the services together, and we're very pleased with that.
Gallaf, yn wir. Mae'r cydgysylltydd atal caethwasiaeth cyntaf yng Nghymru yn ei swydd, ac mae wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar system, ochr yn ochr â'n holl bartneriaid, i wneud yn siŵr fod yr hybiau amlasiantaethol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau, pan fydd pobl yn tynnu sylw at achosion, ein bod yn gallu eu prosesu'n gyflym, sicrhau eu bod mewn mannau diogel, a bwrw ymlaen â'r erlyniadau cyn gynted â phosibl. Nid oes llawer wedi bod hyd yn hyn, ond rydym yn hyderus iawn y bydd mwy ohonynt. Mae yna dair problem, fodd bynnag, a'r gyntaf yw'r broblem sy'n ymwneud â'r amgylchedd gelyniaethus—a elwir bellach yn amgylchedd 'cydymffurfio'. Nid ydym eisiau i bobl sy'n dod i'n sylw am eu bod wedi dioddef caethwasiaeth fodern orfod wynebu sefyllfa lle na fydd ganddynt unrhyw statws, ac fel sy'n digwydd yn yr achosion gwaethaf, eu bod yn gorfod wynebu alltudiaeth. Yn fwyaf arbennig, nid ydym eisiau i fenywod sy'n cael eu masnachu i fod yn y sefyllfa honno, a hwythau'n aml yn ffoi rhag trais domestig hefyd. Felly, rydym wedi bod mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gartref i drafod canlyniadau anfwriadol yn deillio o sawl cyfundrefn yn dod at ei gilydd, gan atal pobl rhag rhoi gwybod am eu sefyllfa am eu bod yn ofni y byddant yn cael eu rhoi mewn sefyllfa waeth. Ond rydym wedi cael ein canmol yng Nghymru am benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth a'i ymdrechion i ddod â'r gwasanaethau at ei gilydd, ac rydym yn falch iawn o hynny.
Well, I thank the leader of the house for those comments, and I fully endorse exactly what she has just said about those complexities, and that anybody who comes forward should have the necessary help and should not be punished for the situation they're in. But the Independent Anti-Slavery Commissioner, Kevin Hyland, highlighted that those in modern slavery are hidden in plain sight, housed in squalid conditions and working in high-risk industries, including building sites, car washes and nail salons. Given that all of these industries are prevalent in Wales, is it not incumbent on the Welsh Government to ensure that Wales will not tolerate the abuses that come with these practices?
Wel, diolch i arweinydd y tŷ am y sylwadau hynny, ac rwy'n llwyr ategu'r hyn a ddywedodd am y cymhlethdodau hynny, ac y dylai unrhyw un mewn sefyllfa o'r fath gael y cymorth angenrheidiol ac na ddylent gael eu cosbi am y sefyllfa y maent ynddi. Ond pwysleisiodd y Comisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol, Kevin Hyland, fod dioddefwyr caethwasiaeth fodern o'r golwg yng ngolwg pawb, yn byw mewn amgylchiadau aflan ac yn gweithio mewn diwydiannau risg uchel, gan gynnwys safleoedd adeiladu, sefydliadau golchi ceir a salonau ewinedd. O ystyried bod yr holl ddiwydiannau hyn yn gyffredin yng Nghymru, onid yw'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd Cymru'n goddef y cam-drin sy'n gysylltiedig â'r mathau hyn o waith?
Yes, indeed, and we make very sure—. We've been running a number of publicity campaigns—the 'Don't be a bystander' one, which was launched last week, for example—highlighting to people what they should look for, both in domestic and sexual violence cases, but also in slavery cases, and putting studies out across network television and so on, so that if people recognise themselves, they can come forward and they can understand where to get that help. A large part of this is actually people not understanding that that's what happening to them because they don't understand the system into which they've been trafficked or moved. My colleague Joyce Watson has done an enormous amount of work in getting this sort of publicity out as well.
You're absolutely right that we have to make sure that people are aware of their circumstances and know what to do in order to come forward, and can escape, if you like, from those circumstances, with some degree of safety in order for that to happen. For that to happen, we have to make sure that all of the citizens of Wales are aware and actually recognise it when they see it, so that they can come forward and report. I would say at this point, Llywydd, that we always encourage anyone who has any suspicions of that sort to contact their local police immediately.
Ie, yn wir, ac rydym yn gwneud yn siŵr—. Rydym wedi bod yn cynnal nifer o ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd—yr ymgyrch 'Paid cadw'n dawel', a lansiwyd yr wythnos diwethaf, er enghraifft—sy'n tynnu sylw pobl at yr hyn y dylent edrych amdano, mewn achosion o drais domestig a thrais rhywiol, ond hefyd mewn achosion o gaethwasiaeth, a chyhoeddi astudiaethau ar deledu rhwydwaith ac ati, fel y gall pobl roi gwybod, os ydynt yn adnabod eu hunain, a deall ble i ddod o hyd i'r cymorth hwnnw. Mae rhan fawr o hyn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'r ffaith nad yw pobl yn deall mai dyna sy'n digwydd iddynt oherwydd nad ydynt yn deall y system y maent wedi cael eu masnachu neu eu symud i mewn iddi. Mae fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, wedi gwneud gwaith enfawr yn sicrhau'r math hwn o gyhoeddusrwydd hefyd.
Rydych yn hollol gywir fod yn rhaid i ni wneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o'u hamgylchiadau ac yn gwybod beth i'w wneud er mwyn gallu rhoi gwybod, a'u bod yn gallu dianc, os mynnwch, o'r amgylchiadau hynny gyda rhywfaint o ddiogelwch er mwyn i hynny ddigwydd. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr fod pob un o ddinasyddion Cymru yn ymwybodol ohono ac yn ei adnabod pan fyddant yn ei weld, fel y gallant roi gwybod amdano. Buaswn yn dweud ar y pwynt hwn, Lywydd, ein bod bob amser yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw amheuon o'r fath i gysylltu â'u heddlu lleol ar unwaith.
Well, again, I thank the leader of the house for her answer, and I fully endorse the fact that Joyce Watson has done a great deal of work with regard to this, and I acknowledge that, of course.
But there have been numerous observations on the inadequacy of the agencies concerned in obtaining convictions of those engaged in the various aspects of exploitation, particularly with regard to immigrant workers, and can I make it known here that we really do have to have a definition of what slavery is? It's all right to say that people should come forward if they recognise it and they see it, but unless we have a true description of what slavery is, then that's not going to happen. So, could the Minister update us on the number of convictions, not referrals—convictions—there have been in Wales involving slavery or quasi-slavery?
Wel, unwaith eto, diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ac rwy'n llwyr ategu'r ffaith bod Joyce Watson wedi gwneud llawer o waith mewn perthynas â hyn, ac rwy'n cydnabod hynny, wrth gwrs.
Ond mae nifer o sylwadau wedi'u gwneud mewn perthynas ag anallu'r asiantaethau dan sylw i sicrhau euogfarnau'r rheini sy'n cyflawni gwahanol agweddau ar gamfanteisio, yn enwedig mewn perthynas â gweithwyr mudol, ac a gaf fi ei gwneud yn glir yma fod rhaid i ni gael diffiniad o beth yw caethwasiaeth mewn gwirionedd? Mae'n iawn i ddweud y dylai pobl roi gwybod os ydynt yn ei adnabod ac yn ei weld, ond os nad oes gennym ddisgrifiad cywir o beth yw caethwasiaeth, ni fydd hynny'n digwydd. Felly, a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar nifer yr euogfarnau, nid atgyfeiriadau—euogfarnau—a gafwyd yng Nghymru mewn perthynas â chaethwasiaeth neu led-gaethwasiaeth?
Yes, I don't have the statistics to hand, so I'll write to you with the specific statistics. But there aren't enough of them, and that's why we've continued to develop the multi-agency service hubs, in order to bring together the data necessary to make the prosecutions much more likely to happen. There are a large number of reasons for why the prosecutions haven't happened, largely to do with the reliability and availability of data for evidence. This is about getting the agencies together so that we have the data necessary and we don't expose people to further threats and difficulties in coming forward. We're very hopeful that the number of prosecutions will accelerate as we go forward, now that we've got the multi-agency hubs being rolled out right across Wales. But I will write to the Member with the specifics, which I don't have in my brief at the moment.
Ie, nid oes gennyf yr ystadegau wrth law, felly byddaf yn ysgrifennu atoch gyda'r ystadegau penodol. Ond nid oes digon ohonynt, a dyna pam rydym wedi parhau i ddatblygu'r hybiau gwasanaeth amlasiantaethol, er mwyn dwyn y data angenrheidiol ynghyd i sicrhau bod erlyniadau'n llawer mwy tebygol o ddigwydd. Mae yna nifer fawr o resymau pam nad yw'r erlyniadau wedi digwydd, sy'n ymwneud yn bennaf â dibynadwyedd ac argaeledd data ar gyfer tystiolaeth. Mae hyn yn ymwneud â chael yr asiantaethau at ei gilydd fel bod gennym y data angenrheidiol ac fel nad ydym yn rhoi pobl mewn perygl o wynebu bygythiadau ac anawsterau pellach wrth roi gwybod am eu sefyllfa. Rydym yn obeithiol iawn y bydd nifer yr erlyniadau yn cyflymu wrth i ni fwrw ymlaen, gan fod yr hybiau amlasiantaethol yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda'r manylion penodol, gan nad ydynt gennyf wrth law ar hyn o bryd.
4. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am yr adroddiad Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus? OAQ52181
4. Will the Leader of the House make a statement on the Talented Women for a Successful Wales report? OAQ52181
Yes. Work to implement recommendations from the report is under way across the Government, business, education and academia, and good progress is being made in a number of areas.
Gwnaf. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar weithredu argymhellion yr adroddiad ar draws y Llywodraeth, busnesau, addysg a'r byd academaidd, ac mae cynnydd da'n cael ei wneud mewn nifer o feysydd.
Thank you. You may be aware that the Equality, Local Government and Communities Committee is undertaking an inquiry into pregnancy and maternity and returning women back to work in Wales. It is fair to say—if any committee members are here—that we're having some very startling findings, really, about the lack of support for women and getting back in the workplace. The 'Talented Women for a Successful Wales' report makes a number of recommendations for the STEM sector, including the development of keeping-in-touch strategies for those away from work or research while on maternity or parental leave. We found too many examples where people were not kept in the loop whilst they were off looking after baby, and then it was a long time afterwards that they were expected to go back to work and pick up where they left off. That is not a good way to operate in any business.
The Welsh Government has responsibility to encourage and facilitate the recommendations and actions, and I wonder if you could update the Chamber on progression as regards this 'Talented Women for a Successful Wales' report, and advise us as to how your Government is facilitating improving the conditions for pregnancy, maternity and paternity in STEM workplaces across Wales. Because one thing that did come out of the evidence we took: men have a part, fathers have a part to play in the bringing up of their children too. They want to, but the mechanisms there are not as easy for them. So, it's not just about a women's issue.
Diolch. Efallai y byddwch yn ymwybodol fod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i feichiogrwydd a mamolaeth a menywod sy'n dychwelyd i'r gwaith yng Nghymru. Mae'n deg dweud—os oes unrhyw aelodau o'r pwyllgor yma—ein bod yn gweld rhai canfyddiadau brawychus iawn, mewn gwirionedd, mewn perthynas â'r diffyg cymorth i fenywod a dychwelyd i'r gweithle. Mae'r adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus' yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer y sector STEM, gan gynnwys datblygu strategaethau cadw mewn cysylltiad ar gyfer y rhai sydd i ffwrdd o'r gwaith neu ymchwil tra'u bod ar gyfnod mamolaeth neu absenoldeb rhiant. Gwelsom ormod o enghreifftiau lle nad oedd pobl yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau tra oeddent i ffwrdd yn gofalu am fabi, ac yna, roedd hi'n amser hir wedyn pan oedd disgwyl iddynt ddychwelyd i'r gweithle ac ailgydio yn eu gwaith yn syth. Nid yw honno'n ffordd dda o weithredu mewn unrhyw fusnes.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i annog a hwyluso argymhellion a chamau gweithredu, ac rwy'n meddwl tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar gynnydd yr adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus', a dweud wrthym sut y mae eich Llywodraeth yn hwyluso'r broses o wella amodau ar gyfer beichiogrwydd, mamolaeth a thadolaeth mewn gweithleoedd STEM ledled Cymru. Oherwydd roedd un peth yn amlwg o'r dystiolaeth a gawsom: mae gan ddynion ran, mae gan dadau ran i'w chwarae yn y broses o fagu eu plant hefyd. Maent yn dymuno gwneud hynny, ond nid yw'r mecanweithiau sydd yno yr un mor hawdd iddynt hwy. Felly, nid yw'n fater i fenywod yn unig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.
No, I couldn't agree more with that. This is about parents, not mothers, as we keep saying. I chair the board that implements the report, the women in STEM board, and there've been two meetings so far. At the last meeting we broadened the membership of the board, particularly with a view to bringing in more than academia and public services, and to include a range of other people as well. As you rightly said, I accepted all the recommendations from the report and did a written statement to the Assembly to that effect.
The Cabinet Secretary for Education provided a progress update to the board at its last meeting on actions taken within the education sector to implement the recommendations. We recently wrote to all Welsh universities requesting a further update from the one that they gave us in September, at the first meeting of the board. We've also written to all anchor companies and key business networks to request feedback on their progress with the 12 recommendations from the report. We're following that up at the moment. And we have a cross-departmental working group of officials leading the co-ordination and implementation of the recommendations directed at the Welsh Government itself—although there weren't that many for the Welsh Government itself—to support and facilitate those by outside organisations.
My colleague the Cabinet Secretary for Economy and Transport has written this into the new economic contract as well, and we're also working on the fair work criteria, which will also have that. One last thing to mention to you is that we also have our Sêr Cymru programme, which we're very proud of indeed, one of which is specifically aimed at returners to STEM—returners into the academic world, but for STEM. And you'll be amazed to discover that, of course, about 98 per cent of those have been women going back into it. So, that's particularly aimed at returners, and we're looking to see how we can roll that successful programme out in other areas of economic activity, such as our big anchor companies.
Na, rwy'n cytuno'n llwyr. Mae hyn yn ymwneud â rhieni, nid mamau, fel rydym yn ei ddweud o hyd. Rwy'n gadeirydd ar y bwrdd sy'n gweithredu'r adroddiad, y bwrdd menywod mewn meysydd STEM, ac mae dau gyfarfod wedi bod hyd yma. Yn y cyfarfod diwethaf, fe ehangwyd aelodaeth y bwrdd, yn enwedig gyda golwg ar ddenu mwy na phobl o'r byd academaidd a gwasanaethau cyhoeddus, a chynnwys amrywiaeth o bobl eraill yn ogystal. Fel y dywedoch yn gywir, rwyf wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad a gwneuthum ddatganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad i'r perwyl hwnnw.
Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg newyddion ar gynnydd i'r bwrdd yn y cyfarfod diwethaf mewn perthynas â chamau a gymerwyd o fewn y sector addysg i weithredu'r argymhellion. Yn ddiweddar, ysgrifenasom at holl brifysgolion Cymru yn gofyn am ddiweddariad pellach i ddilyn yr un a gawsom ym mis Medi yn nghyfarfod cyntaf y bwrdd. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at yr holl gwmnïau angori a'r rhwydweithiau busnes allweddol yn gofyn am adborth ar eu cynnydd mewn perthynas â'r 12 argymhelliad yn yr adroddiad. Rydym yn mynd ar trywydd hwnnw ar hyn o bryd. Ac mae gennym weithgor trawsadrannol o swyddogion sy'n arwain y broses o gydgysylltu a gweithredu'r argymhellion a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cymru ei hun—er nad oedd cymaint â hynny ohonynt i Lywodraeth Cymru ei hun—i gefnogi a hwyluso'r rheini gan sefydliadau allanol.
Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi cynnwys hyn yn y contract economaidd newydd yn ogystal, ac rydym hefyd yn gweithio ar y meini prawf gwaith teg, a fydd hefyd yn cynnwys hynny. Un peth arall i'w grybwyll wrthych yw'r ffaith bod gennym hefyd ein rhaglen Sêr Cymru, yr ydym yn falch iawn ohoni yn wir, ac mae un ohonynt wedi'i hanelu'n benodol at bobl sy'n dychwelyd i feysydd STEM—pobl sy'n dychwelyd i'r byd academaidd, ond mewn perthynas â STEM. A bydd yn syndod i chi glywed, wrth gwrs, mai menywod yw tua 98 y cant o'r rheini sy'n dychwelyd. Felly, mae'r rhaglen honno wedi'i hanelu'n arbennig at bobl sy'n dychwelyd, ac rydym yn edrych i weld sut y gallwn gyflwyno'r rhaglen lwyddiannus honno mewn meysydd eraill o weithgarwch economaidd, megis ein cwmnïau angori mawr.
5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer dioddefwyr trais domestig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52185
5. Will the Leader of the House make a statement on support for victims of domestic violence in Mid and West Wales? OAQ52185
Yes, certainly. There are several domestic abuse services across Mid and West Wales, supporting both male and female victims. The region’s first joint strategy, 'Safer Lives, Healthier Families', will be published by the end of July this year.
Gwnaf, yn sicr. Ceir nifer o wasanaethau cam-drin domestig ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, i gefnogi dioddefwyr gwrywaidd a benywaidd. Bydd y rhanbarth yn cyhoeddi ei strategaeth gyntaf ar y cyd, 'Bywydau Mwy Diogel, Teuluoedd Iachach', erbyn diwedd mis Gorffennaf eleni.
I thank the leader of the house for that reply. I was very pleased to hear her say that domestic violence and abuse can apply to men as well as women. Welsh Women's Aid and other organisations do wonderful work to provide refuges and helpline services, and of course we commend their work, but there is a hidden—again, in plain sight—problem with men who are victims of domestic violence and abuse. In 2016-17 there were 713,000 such cases that were reported in England and Wales. One of the problems here is that—and it especially applies to men—there is a reticence in coming forward to reveal what has actually happened so that it can lead to some sort of remedial action. This is particularly the case, perhaps, in rural areas where there is a greater sense of isolation, and people feel as though they're beyond the reach of essential domestic abuse services, which are very often provided in urban areas. So, can the leader of the house perhaps tell us what steps the Welsh Government are taking to remove the stigma that is falsely felt by many male victims of domestic abuse, and therefore enable a greater number of men to report such incidents, and also that these services will be provided confidentially, especially in rural areas?
Diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw. Roeddwn yn falch iawn o'i chlywed yn dweud y gall trais a cham-drin domestig fod yn berthnasol i ddynion yn ogystal â menywod. Mae Cymorth i Fenywod Cymru a sefydliadau eraill yn gwneud gwaith gwych yn darparu llochesau a gwasanaethau llinellau cymorth, ac wrth gwrs rydym yn cymeradwyo eu gwaith, ond mae yna broblem—sydd, unwaith eto, o'r golwg yng ngolwg pawb—gyda dynion sy'n dioddef trais a cham-drin domestig. Yn 2016-17, cofnodwyd 713,000 o achosion o'r fath yng Nghymru a Lloegr. Un o'r problemau yma—ac mae'n arbennig o wir mewn perthynas â dynion—yw bod yna gyndynrwydd i ddatgelu'r hyn a ddigwyddodd er mwyn gallu arwain at gamau unioni o ryw fath. Mae hyn yn arbennig o wir, efallai, mewn ardaloedd gwledig lle mae mwy o ymdeimlad o arwahanrwydd, a lle mae pobl yn teimlo fel pe baent y tu hwnt i gyrraedd gwasanaethau cam-drin domestig hanfodol, sy'n aml iawn yn cael eu darparu mewn ardaloedd trefol. Felly, a all arweinydd y tŷ ddweud wrthym efallai pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gael gwared ar y stigma a deimlir, yn gyfeiliornus, gan lawer o ddynion sy'n dioddef cam-drin domestig, fel bod modd galluogi mwy o ddynion i roi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath, a sicrhau y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu'n gyfrinachol hefyd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig?
Yes, absolutely. We run several campaigns, which I've already mentioned, but I'm more than happy to highlight them again. We run the This is Me campaign, which is deliberately done to challenge gender stereotypes of the sort that you're describing, and to highlight gender inequality as a cause and consequence of violence against women, domestic abuse and sexual violence, which I launched in Gower College in January, and that is specifically done to ensure that men don't feel that they have to live up to a particular brand of masculinity and can come forward in those circumstances.
I was very pleased to launch the Don't be a Bystander campaign at the Pierhead in April. A large number of you were present during that launch and we've run a number of photo opportunities here, and so on. We would be very happy to assist any AMs who want to publicise that further in any area of Wales to do so, because the whole point of it is to allow people to recognise themselves and to come forward and to report anything that they see. But we specifically also fund the Live Fear Free helpline for both men and women, which is a confidential service that runs in all parts of Wales. And we also specifically fund the Dyn project, which is for male victims of domestic abuse, which also runs those helplines right across Wales.
Ie, yn hollol. Rydym yn cynnal nifer o ymgyrchoedd, ac rwyf wedi'u crybwyll eisoes, ond rwy'n fwy na pharod i dynnu sylw atynt eto. Rydym yn cynnal ymgyrch Dyma Fi, a'i bwriad yw herio'r math o stereoteipio ar sail rhywedd rydych yn ei ddisgrifio, ac i dynnu sylw at anghydraddoldeb rhwng y rhywiau fel achos a chanlyniad trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a lansiais yng Ngholeg Gŵyr ym mis Ionawr, a gwneir hynny'n benodol i sicrhau nad yw dynion yn teimlo bod yn rhaid iddynt adlewyrchu math penodol o wrywdod ac y gallant roi gwybod os ydynt yn wynebu amgylchiadau o'r fath.
Roeddwn yn falch iawn o lansio ymgyrch Paid Cadw'n Dawel yn y Pierhead ym mis Ebrill. Roedd nifer fawr ohonoch yn bresennol yn ystod y lansiad hwnnw ac rydym wedi darparu nifer o gyfleoedd i dynnu lluniau yma, ac ati. Byddem yn hapus iawn i helpu unrhyw Aelodau Cynulliad sydd eisiau rhoi cyhoeddusrwydd pellach i'r ymgyrch mewn unrhyw ardal o Gymru i wneud hynny, oherwydd holl bwrpas yr ymgyrch yw galluogi pobl i adnabod eu hunain ac i roi gwybod am unrhyw beth y maent yn ei weld. Ond rydym hefyd yn benodol yn ariannu'r llinell gymorth Byw Heb Ofn, sef gwasanaeth cyfrinachol ar gyfer dynion a menywod sy'n weithredol ym mhob rhan o Gymru. Ac rydym hefyd yn benodol yn ariannu'r prosiect Dyn, ar gyfer dynion sy'n dioddef cam-drin domestig, ac sydd hefyd yn gweithredu'r llinellau cymorth hynny ledled Cymru.
6. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ymestyn y ddarpariaeth o fand eang yng Nghymru? OAQ52169
6. What further steps will the Welsh Government take to extend broadband coverage in Wales? OAQ52169
My aim has always been to bring people together digitally by providing access to fast reliable broadband to all properties across Wales. We aim to continue to achieve this through the Superfast Cymru successor scheme, our voucher schemes and a new community-focused scheme.
Fy nod erioed yw dod â phobl at ei gilydd yn ddigidol drwy ddarparu mynediad at fand eang cyflym dibynadwy i bob eiddo ar hyd a lled Cymru. Ein nod yw parhau i gyflawni hyn drwy gynllun olynol Cyflymu Cymru, ein cynlluniau talebau a chynllun newydd sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
Thank you very much, leader of the house. Obviously, it's very important that we have as full an access to broadband as possible in Wales, given its importance in terms of full citizenship today, accessing goods and services and educational aspects, for example. So, obviously that's why the Welsh Government is, I hope, as keen as I am to reach all communities in Wales. And in that context, on the difficulties in Newport East at the moment, reaching some of the outlying areas such as Llanvaches, Bishton and Goldcliff, I held a recent meeting with representatives of those communities, Openreach and others. Leader of the house, I just wonder what you are able to say at this stage in terms of phase 2 of Superfast Cymru and any other developments that might give some comfort to those communities.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ. Yn amlwg, mae'n bwysig iawn fod gennym fynediad mor llawn â phosibl at fand eang yng Nghymru, o ystyried ei bwysigrwydd mewn perthynas â dinasyddiaeth lawn heddiw, o ran cael mynediad at nwyddau a gwasanaethau ac elfennau addysgol, er enghraifft. Felly, yn amlwg, dyna pam y mae Llywodraeth Cymru, rwy'n gobeithio, yr un mor awyddus â minnau i gyrraedd pob cymuned yng Nghymru. Ac yn y cyd-destun hwnnw, mewn perthynas â'r anawsterau yn Nwyrain Casnewydd ar hyn o bryd, wrth geisio cyrraedd rhai ardaloedd pellennig megis Llanfaches, Trefesgob ac Allteuryn, cynhaliais gyfarfod yn ddiweddar gyda chynrychiolwyr y cymunedau hynny, Openreach ac eraill. Arweinydd y tŷ, tybed beth y gallwch ei ddweud ar hyn o bryd mewn perthynas â cham 2 Cyflymu Cymru ac unrhyw ddatblygiadau eraill a allai roi rhywfaint o gysur i'r cymunedau hynny.
As you know, John, without specific addresses, it's very difficult to comment. But we do know that many of the properties in the three communities that you mentioned can already access superfast broadband and, as I've said to you before, I encourage you to give me actual addresses and then we can address specific problems. Some of the premises that can't currently access superfast broadband have been included on the list of premises that might, potentially, be served by the successor scheme, I'm delighted to say. And for others, through the open market review process, we're trying to identify individual properties that may be in the 'almost completed' category, if I can call it that. That's not very accurate, technically, but you know what I mean, and we'd be pleased to help you identify those. And we can also, as I said earlier in response to another question, help with some community solutions that might be available for some of those villages where the actual fibre programme might not get to them. But, there are other suitable programmes, and we've deliberately kept a very large part of the successor scheme money back to get such community solutions in place. So, I'd welcome the opportunity to have the details off you, so that we can look into that further.
Fel y gwyddoch, John, heb gyfeiriadau penodol, mae'n anodd iawn i mi wneud sylwadau. Ond gwyddom fod llawer o'r adeiladau yn y tair cymuned rydych wedi'u crybwyll eisoes yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn ac fel rwyf wedi'i ddweud wrthych o'r blaen, rwy'n eich annog i rannu'r union gyfeiriadau â mi ac yna gallwn ymdrin â phroblemau penodol. Mae rhai o'r safleoedd nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn ar hyn o bryd wedi cael eu cynnwys ar y rhestr o safleoedd y gellid eu gwasanaethu, o bosibl, gan y cynllun olynol, rwy'n falch o ddweud. Ac o ran y lleill, drwy broses adolygu'r farchnad agored, rydym yn ceisio nodi adeiladau unigol a allai fod wedi'u cynnwys yn y categori 'bron â bod wedi'u cwblhau', os caf ei alw'n hynny. Nid yw hynny'n gywir iawn, yn dechnegol, ond fe wyddoch beth rwy'n ei olygu, a byddem yn falch o'ch helpu i nodi'r rheini. A gallwn helpu hefyd, fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i gwestiwn arall, gydag atebion cymunedol a allai fod ar gael ar gyfer rhai o'r pentrefi nad yw'r rhaglen ffeibr ei hun yn mynd i'w cyrraedd o bosibl. Ond mae yna raglenni addas eraill, ac rydym yn fwriadol wedi cadw rhan fawr iawn o arian y cynllun olynol yn ôl er mwyn sicrhau bod atebion cymunedol o'r fath yn cael eu rhoi ar waith. Felly, buaswn yn croesawu'r cyfle i gael y manylion gennych, fel y gallwn edrych ymhellach ar hynny.
7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am osod band eang yng ngorsaf Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn Nhŷ Ddewi? OAQ52187
7. Will the Leader of the House provide an update on the installation of broadband at the St Davids RNLI station? OAQ52187
Yes. Discussions between Openreach and the station at St Davids are ongoing to identify suitable solutions for this essential connection. My officials continue to work closely with station representatives to explore the provision of a dedicated fibre optic line, which will ensure greater levels of security, network resilience and guaranteed speeds.
Gwnaf. Mae trafodaethau rhwng Openreach a'r orsaf yn Nhyddewi yn parhau i nodi atebion addas ar gyfer y cysylltiad hanfodol hwn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda chynrychiolwyr yr orsaf i archwilio'r ddarpariaeth o linell ffeibr optig bwrpasol a fydd yn sicrhau lefelau uwch o ddiogelwch, cydnerthedd rhwydweithiau a chyflymderau gwarantedig.
I thank you for that answer and also yesterday's update on digital connectivity in Wales. Overall, it has been a successful programme. Some have been harder to reach than others and St Davids RNLI station is one example of that. I wonder, Cabinet Secretary, if you'd be prepared to join me at a meeting in St Davids to speak to the RNLI, so that we can at least discuss the way forward.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw a hefyd am y newyddion diweddaraf ddoe ar gysylltedd digidol yng Nghymru. Yn gyffredinol, mae wedi bod yn rhaglen lwyddiannus. Mae rhai wedi bod yn fwy anodd i'w cyrraedd nag eraill ac mae gorsaf Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn Nhyddewi yn un enghraifft o hynny. Rwy'n meddwl tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn fodlon ymuno â mi mewn cyfarfod yn Nhyddewi i siarad â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, fel y gallwn drafod y ffordd ymlaen, o leiaf.
Yes, I'd be very delighted to do that. There have been a number a conversations already, but I'm more than happy to join you in them. We have looked at why the superfast connection wasn't possible in the first place and what current the connectivity is, and there are some technical issues. It will be well-worth coming to see for myself. So, I'd be very happy to take you up on that invitation.
Ie, buaswn yn falch iawn o wneud hynny. Mae nifer o sgyrsiau wedi bod eisoes, ond rwy'n fwy na pharod i ymuno â chi yn y sgyrsiau hynny. Rydym wedi edrych i weld pam nad oedd y cysylltiad cyflym iawn yn bosibl yn y lle cyntaf yn ogystal ag edrych pa gerrynt yw'r cysylltedd, ac mae yna rai problemau technegol. Bydd yn werth dod i weld drosof fy hun. Felly, buaswn yn hapus iawn i dderbyn y gwahoddiad hwnnw.
8. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddatblygu seilwaith digidol ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ52173
8. Will the Leader of the House make a statement on developing digital infrastructure in Merthyr Tydfil and Rhymney? OAQ52173
Yes. I announced a suite of measures in my oral statement on 30 January to further extend fast broadband coverage across Wales. And the mobile action plan I published last October set out how we will work with others to improve mobile connectivity as well.
Gwnaf. Cyhoeddais gyfres o fesurau yn fy natganiad llafar ar 30 Ionawr i ymestyn cysylltiad band eang cyflym ymhellach ledled Cymru. Ac roedd y cynllun gweithredu ar ffonau symudol a gyhoeddais fis Hydref diwethaf yn nodi sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i wella cysylltedd darpariaeth symudol yn ogystal.
Thank you, Cabinet Secretary. I know that you agree that it's vital we continue making sure that all our communities can benefit from broadband and digital roll-out. So, can I ask you what further benefits you feel will arise for Merthyr Tydfil and Rhymney in particular from the recent Tech Valleys announcement, which is clearly going to be based in the Ebbw Vale area, but is hoped will have a benefit across the whole of the Heads of the Valleys?
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn eich bod yn cytuno bod yn rhaid inni barhau i wneud yn siŵr fod ein holl gymunedau yn gallu elwa o gyflwyno cysylltiad band eang a chysylltedd digidol. Felly, a gaf fi ofyn i chi pa fanteision pellach y teimlwch y byddant yn codi ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni, yn arbennig o gyhoeddiad diweddar y Cymoedd Technoleg, a fydd yn amlwg wedi'i leoli yn ardal Glynebwy, ond y gobaith yw y bydd o fudd ar draws Blaenau'r Cymoedd?
Yes, that's £25 million over three years to look at digital innovation, particularly in the automotive field, and my colleague the Cabinet Secretary for Economy and Transport is also very involved in this. We're also looking at the exploitation of the 5G possibilities, especially on fleet, and in Blaenau Gwent they've been successful in securing a UK Government grant for exploiting 5G technology and data collection. I believe they are about to attach it to their fleet so that they get better data on the state of all of their roads and refuse collections and so on. So, we will be looking with interest to see how that innovative technology works. We've appointed, as I said earlier to Russell George, I think it was, Innovation Point to advise, stimulate and co-ordinate activity on 5G in Wales.
As I said earlier, Merthyr and Rhymney will be particularly benefiting from the Valleys taskforce's three ways forward. The three pilots that we're looking at, if I didn't say earlier, are: an Uber-style operation, run by the public sector, for NHS non-urgent patients to get to hospital appointments and so on, which we're very excited about; rolling out the Lle Government geographical database to allow SMEs access to that open data to see what they can come up with by way of innovative use of it; and rolling community Wi-Fi out in various points, small shopping centres, villages and so on, to see what we can do by way of data collection.
And there are some really innovative things there around allowing people to put digital vouchers online, for example, for sale offers and so on. It allows the traders to see which of those have been successful and which have not, because you get direct feedback from whether somebody uses it or not because they bring it into the shop. So, there's some really good stuff.
There's a really good example of a community Wi-Fi system in Llandrindod Wells, if Members are interested in visiting. When you go there you can log onto it and it tells you all kinds of information about what's available in the shops and what vouchers are available and so on—very, very useful indeed. So, there's some really good innovations coming; all based, of course, on our massive investment into the broadband infrastructure that underpins all of this.
Ie, dyna £25 miliwn dros dair blynedd i edrych ar arloesi digidol, yn enwedig ym maes moduron, ac mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn chwarae rhan fawr yn hyn hefyd. Rydym hefyd yn ystyried manteisio ar y posibiliadau 5G, yn enwedig ar y fflyd, ac ym Mlaenau Gwent maent wedi llwyddo i sicrhau grant gan Lywodraeth y DU ar gyfer manteisio ar dechnoleg 5G a chasglu data. Rwy'n credu eu bod am ei ychwanegu at eu fflyd fel y gallant gael gwell data ar gyflwr eu ffyrdd a'u casgliadau sbwriel ac ati. Felly, bydd gennym ddiddordeb mewn gweld sut y bydd y dechnoleg arloesol honno'n gweithio. Rydym wedi penodi'r Arloesfa, fel y dywedais yn gynharach, wrth Russell George rwy'n credu, i gynghori, ysgogi a chydgysylltu gwaith ar 5G yng Nghymru.
Fel y dywedais yn gynharach, bydd Merthyr Tudful a Rhymni yn arbennig yn elwa o dri chynllun tasglu'r Cymoedd. Y tri chynllun peilot rydym yn edrych arnynt, os na ddywedais hyn yn gynharach, yw: gweithgarwch tebyg i Uber, wedi'i weithredu gan y sector cyhoeddus, i gludo cleifion y GIG nad ydynt yn rhai brys i apwyntiadau ysbyty ac ati, ac rydym yn teimlo'n gyffrous iawn ynglŷn â hwnnw; cyflwyno cronfa ddata ddaearyddol Lle y Llywodraeth er mwyn caniatáu i fusnesau bach a chanolig gael mynediad at y data agored hwnnw i weld beth y gallant ei wneud drwy ei ddefnyddio mewn ffyrdd arloesol; a chyflwyno Wi-Fi cymunedol mewn gwahanol leoedd, canolfannau siopa bach, pentrefi ac ati, i weld beth y gallwn ei wneud drwy gasglu data.
Ac mae yna bethau gwirioneddol arloesol yno, mewn gwirionedd, o ran caniatáu i bobl roi talebau digidol ar-lein er enghraifft ar gyfer cynigion gwerthu ac ati. Mae'n caniatáu i fasnachwyr weld pa rai sydd wedi bod yn llwyddiannus a pha rai nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus, oherwydd rydych yn cael adborth uniongyrchol ynglŷn ag a oes rhywun yn ei ddefnyddio ai peidio oherwydd dônt ag ef i mewn i'r siop. Felly, mae yna rai pethau da iawn.
Mae yna enghraifft dda iawn o system Wi-Fi cymunedol yn Llandrindod, os oes diddordeb gan Aelodau mewn ymweld â hi. Pan fyddwch yn mynd yno, gallwch fewngofnodi i'r system ac mae'n rhoi pob math o wybodaeth i chi ynglŷn â'r hyn sydd ar gael yn y siopau a pha dalebau sydd ar gael ac ati—defnyddiol iawn yn wir. Felly, mae yna syniadau arloesol da iawn ar y ffordd; a'r cyfan, wrth gwrs, yn seiliedig ar ein buddsoddiad enfawr yn y seilwaith band eang sy'n sail i hyn i gyd.
Thank you very much, leader of the house.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.
Item 3 on the agenda is questions to the Assembly Commission. The first question this afternoon is to be answered by Commissioner Joyce Watson. Question 1, Neil Hamilton.
Eitem 3 ar yr agenda yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Comisiynydd Joyce Watson. Cwestiwn 1, Neil Hamilton.
1. A wnaiff y Comisiynydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at gyflawni amcan pedwar o Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21 y Cynulliad? OAQ52199
1. Will the Commissioner provide an update on progress towards objective four of the Assembly's Diversity and Inclusion Strategy 2016-21? OAQ52199

We have made good progress in this area by embedding diversity and inclusion considerations into service and project planning, policy development, procurement and any changes to the Assembly estate. We've also increased the number of equality impact assessments that have been undertaken, including, for example, one reviewing the Commission's recruitment process and one for the youth parliament.
Rydym wedi gwneud cynnydd da yn y maes hwn drwy ymgorffori ystyriaethau'n ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant yn y broses o gynllunio gwasanaethau a phrosiectau, datblygu polisi, caffael ac unrhyw newidiadau i ystâd y Cynulliad. Rydym hefyd wedi cynyddu nifer yr asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd, gan gynnwys, er enghraifft, un sy'n adolygu proses recriwtio'r Comisiwn ac un ar gyfer y senedd ieuenctid.
I thank the Commissioner for that response. It's clear from the statement of objective 4 that it applies to integrating diversity and inclusion into all our work and the work of the Commission. Does the Commissioner therefore agree with me that it's very important that Commissioners themselves should lead by example in this area? Although everybody thinks immediately in terms of racial equality, gender equality, sexual orientation equality, et cetera, et cetera, that also the question of political orientation is equally important. Therefore, describing other Members—
Diolch i'r Comisiynydd am yr ateb hwnnw. Mae'n amlwg o ddatganiad amcan 4 ei fod yn ymwneud ag integreiddio amrywiaeth a chynhwysiant yng ngwaith pawb ohonom a gwaith y Comisiwn. A yw'r Comisiynydd, felly, yn cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn fod Comisiynwyr eu hunain yn arwain drwy ddangos esiampl yn y maes hwn? Er bod pawb yn meddwl yn syth am gydraddoldeb hiliol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, cydraddoldeb o ran cyfeiriadedd rhywiol, ac ati, ac ati, mae'r cwestiwn o gyfeiriadedd gwleidyddol yr un mor bwysig hefyd. Felly, mae disgrifio Aelodau eraill—
No, I'm sorry. No, I'm sorry that's not for the Commission. That is not for the Commission to answer. Mr Hamilton, sorry, that question was not for the Commission to answer. Therefore, we will move on. Question 2, Jenny Rathbone, to be answered by the Llywydd.
Na, mae'n ddrwg gennyf. Na, mae'n ddrwg gennyf, nid mater i'r Comisiwn yw hwnnw. Nid yw hwnnw'n gwestiwn i'w ateb gan y Comisiwn. Mr Hamilton, mae'n ddrwg gennyf, nid yw hwnnw'n gwestiwn i'w ateb gan y Comisiwn. Felly, symudwn ymlaen. Cwestiwn 2, Jenny Rathbone, i'w ateb gan y Llywydd.
2. A wnaiff y Comisiynydd egluro pam mae nifer y digwyddiadau y gall Aelodau'r Cynulliad eu noddi wedi'i gyfyngu i 10 y flwyddyn? OAQ52193
2. Will the Commissioner explain why the number of events that can be sponsored by Assembly Members has been limited to 10 per year? OAQ52193
Yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ystod yr adolygiad o ddigwyddiadau ar yr ystâd, awgrymodd rhai Aelodau Cynulliad y dylid pennu terfyn ar nifer y digwyddiadau. Byddai terfyn yn eu helpu i reoli eu hamser yn well, yn annog defnydd mwy amrywiol o'r ystâd, ac yn osgoi archebu a threfnu mewn ffordd ddiwahân. Yn ôl y ffordd y mae Aelodau wedi defnyddio'r ystâd yn y gorffennol, dim ond pedwar Aelod Cynulliad byddai terfyn o 10 digwyddiad yn effeithio arnyn nhw. Nid yw'n effeithio ar drefniadau a wnaed eisoes, ac nid yw, hefyd, yn effeithio ar grwpiau trawsbleidiol ychwaith.
After a consultation held during the review of events on the estate, some Assembly Members suggested that there should be a cap on the number of events. A cap would help them to manage their time more effectively, encourage more diverse use of the estate and avoid block bookings. Based on Members’ use of the estate in the past, only four Assembly Members would be affected by a limit of 10 events. It doesn’t affect bookings already made, and neither does it effect cross-party groups.
Thank you, Llywydd, I'm grateful for the clarification. I'm obviously concerned to know whether I might be affected by this. My position as the Assembly Member for Cardiff Central does make it possible for me to host an event, for example, on a Friday, which I appreciate would not be possible for most Assembly Members, whose constituencies are too far away for that. I absolutely agree that we need to keep the Assembly estate for policy-related issues—things that we think are important to enhance the work we do on behalf of the people of Wales. So, I just wondered if you could clarify—. I believe I'm not one of the people who've had more than 10 bookings, but, obviously, I'm a bit anxious that I might have to say 'no' to constituents, who—. For example, I've sponsored the Armenian exhibition that's upstairs at the moment, which is not directly relevant, but it's a lovely way of celebrating the fact that the Armenian diaspora is made to feel welcome in Wales. So, I just wondered who is going to be affected by this, and whether this is genuinely an attempt to ensure that we're not having the estate used inappropriately.
Diolch i chi, Lywydd, rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad. Yn amlwg, rwy'n awyddus i wybod a allai hyn effeithio arnaf fi. Mae fy safle fel Aelod Cynulliad dros Ganol Caerdydd yn ei gwneud hi'n bosibl i mi gynnal digwyddiad, er enghraifft, ar ddydd Gwener, ac rwy'n sylweddoli na fyddai hynny'n bosibl i'r rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad y mae eu hetholaethau'n rhy bell i ffwrdd i allu gwneud hynny. Cytunaf yn llwyr fod angen i ni gadw ystâd y Cynulliad ar gyfer materion sy'n gysylltiedig â pholisi—pethau y credwn eu bod yn bwysig i wella'r gwaith a wnawn ar ran pobl Cymru. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech egluro—. Nid wyf yn credu fy mod yn un o'r bobl sydd wedi cael mwy na 10 digwyddiad, ond yn amlwg, rwyf ychydig yn bryderus y bydd yn rhaid i mi ddweud 'na' wrth etholwyr, sydd—. Er enghraifft, rwyf wedi noddi'r arddangosfa Armenaidd sydd i fyny'r grisiau ar hyn o bryd, ac er nad yw'n uniongyrchol berthnasol, mae'n ffordd hyfryd o ddathlu'r ffaith ein bod yn croesawu Armeniaid alltud yng Nghymru. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pwy a gaiff ei effeithio gan hyn, ac ai ymgais yw hon go iawn i sicrhau nad yw'r ystâd yn cael ei defnyddio'n amhriodol gennym.
It's most genuinely an attempt to try and ensure that the use of the estate is in line with our parliamentary working, our need to have public and policy discussions happening within our estate. The upside of allowing more than 10 events is that there is more happening on the Assembly estate, which is a good thing. Historically, there have been—as I mentioned in my earlier response, there are some Members, as you've hinted, quite local to Cardiff Bay, who are high users of the booking of events. Whilst that's a good thing in itself, it can also then stop others who are more occasional users of the booking for events from having space. So, making sure that we ensure that we have equality of access to all Members is particularly important.
But if there are negative effects of the policy that we are putting in place then we need to look at those. We're already putting an early review into place to see how the new system of booking space on the Assembly estate has had any negative impact on the work that Assembly Members do. So, we'd be very keen to hear from Assembly Members as to whether there has been a negative impact on their work as they see it, and how we can learn from that experience and put things right if need be.
Mae'n ymgais go iawn i geisio sicrhau bod yr ystâd yn cael ei defnyddio yn unol â'n gwaith seneddol, yn ogystal â'n hangen i gynnal trafodaethau cyhoeddus a thrafodaethau polisi o fewn ein hystâd. Y fantais o gynnal mwy na 10 digwyddiad yw bod mwy yn digwydd ar ystâd y Cynulliad, sy'n beth da. Yn hanesyddol—fel y soniais yn fy ateb yn gynharach, ac fel rydych wedi awgrymu, mae rhai Aelodau eithaf lleol i Fae Caerdydd yn gwneud cais i gynnal llawer o ddigwyddiadau. Tra bo hynny'n beth da ynddo'i hun, mae hefyd yn gallu atal eraill, sy'n gwneud cais i gynnal digwyddiadau'n fwy achlysurol, rhag cael lle. Felly, mae sicrhau mynediad cyfartal i bob Aelod yn arbennig o bwysig.
Ond os oes yna effeithiau negyddol i'r polisi rydym yn ei roi ar waith, yna mae angen i ni edrych ar y rheini. Rydym eisoes yn rhoi adolygiad cynnar ar waith i weld a yw'r system newydd o wneud cais am le ar ystâd y Cynulliad wedi cael unrhyw effaith negyddol ar y gwaith y mae Aelodau'r Cynulliad yn ei wneud. Felly, byddem yn awyddus iawn i glywed gan Aelodau'r Cynulliad pa un a oes effaith negyddol wedi bod ar eu gwaith yn eu barn hwy, a sut y gallwn ddysgu o'r profiad ac unioni pethau os oes angen.
Well, I know I'm certainly one of the ones who books more than 10 events a year, and I certainly don't want to stop anybody else being able to book an event, but I certainly wouldn't want the place not to be used and left empty. Because this is the heart of our democracy, we want people to be here all the time, as much as we possibly can. And I just have a fear that this policy may turn out to be a bit too rigid. I'm not thinking necessarily of the numbers of events that you're able to have, but in terms of what type of event is appropriate. Would the Llywydd be able to say who actually decides whether an event is appropriate or not? And wouldn't that be best left to the decision of the Assembly Members?
Wel, gwn yn bendant fy mod yn un o'r rheini sy'n gwneud cais am fwy na 10 digwyddiad y flwyddyn, ac yn sicr nid wyf eisiau atal unrhyw un arall rhag gallu gwneud cais am ddigwyddiad, ond yn sicr, ni fuaswn yn dymuno i'r lle beidio â chael ei ddefnyddio a'i adael yn wag. Oherwydd mai'r fan hon yw calon ein democratiaeth, rydym eisiau i bobl fod yma drwy'r amser, cymaint ag y gallwn. Ac rwy'n ofni y gallai'r polisi hwn fod yn rhy anhyblyg yn y pen draw. Nid wyf o reidrwydd yn sôn am nifer y digwyddiadau y gallwch eu cynnal, ond yn hytrach, am y math o ddigwyddiad sy'n briodol. A fyddai'r Llywydd yn gallu dweud pwy, mewn gwirionedd, sy'n penderfynu a yw digwyddiad yn briodol neu beidio? Ac oni fyddai'n well gadael i Aelodau'r Cynulliad benderfynu hynny?
Well, just to say, to reiterate the point I've already made, if there have been negative impacts on the work and the priorities that Assembly Members feel from changing the policy of booking space on the estate, then as we undertake this review we'll let Assembly Members know of that review and we would like your feedback formally into that so that we can learn. There was consultation with Assembly Members in designing the policy to start with. Not everybody engages at that point, of course, because we—and I'm as guilty as anybody else on this; I engage when I meet a problem. Therefore, hopefully, people will engage with the review that we are putting in place.
As a result of that review, the Commissioners will discuss with their political parties what the priorities of the political parties and Assembly Members are before we take a final view on a long-term solution for this. The point that you make about whether it's an individual AM that decides what the priorities are and who gets to decide is an important point. We've tried to put some priorities in place. They relate around policy-focused activity, they relate to work that's linked to Parliament's democratic work, and the role of cross-party groups in particular is important in that, and also to minimise an issue that's been raised quite often by Members in this place: to minimise the likelihood of similar events being scheduled at the same time demanding the presence of the same AM at one or two or three events, and then the organisers of those events being disappointed that not enough Members are staying for long enough for their events. So, it's a complicated issue, on a limited estate, to get right. We may not have it right at this point but we're keen to review that with Assembly Members' engagement into the future.
Wel, os caf fi ddweud, i ailadrodd y pwynt a wneuthum eisoes, os yw Aelodau'r Cynulliad yn teimlo bod effaith negyddol wedi bod ar eu gwaith a'u blaenoriaethau o ganlyniad i newid y polisi ar gyfer gwneud cais am le ar yr ystâd, yna, wrth i ni gynnal yr adolygiad hwn, fe rown wybod i Aelodau'r Cynulliad am yr adolygiad hwnnw a byddem yn hoffi eich adborth yn ffurfiol iddo fel y gallwn ddysgu. Cafwyd ymgynghoriad gydag Aelodau'r Cynulliad wrth lunio'r polisi yn y lle cyntaf. Nid yw pawb yn ymgysylltu ar y pwynt hwnnw, wrth gwrs, oherwydd rydym—ac rwyf fi yr un mor euog ag unrhyw un arall o wneud hyn; rwy'n ymgysylltu pan fyddaf yn wynebu problem. Felly, gobeithio y bydd pobl yn ymgysylltu â'r adolygiad rydym yn ei roi ar waith.
O ganlyniad i'r adolygiad hwnnw, bydd y Comisiynwyr yn trafod gyda'u pleidiau gwleidyddol ynglŷn â beth yw blaenoriaethau'r pleidiau gwleidyddol a'r Aelodau Cynulliad cyn i ni lunio barn derfynol ar ateb hirdymor i hyn. Mae'r pwynt rydych yn ei wneud ynglŷn ag ai AC unigol sy'n penderfynu beth yw'r blaenoriaethau a phwy sy'n cael penderfynu yn un pwysig. Rydym wedi ceisio rhoi rhai blaenoriaethau ar waith. Maent yn ymwneud â gweithgarwch sy'n canolbwyntio ar bolisi, maent yn berthnasol i waith sy'n gysylltiedig â gwaith democrataidd y Senedd, ac mae rôl y grwpiau trawsbleidiol yn arbennig yn bwysig yn hynny o beth, a hefyd i leihau problem sydd wedi cael ei chrybwyll yn weddol aml gan Aelodau yn y lle hwn: lleihau'r tebygolrwydd y bydd digwyddiadau tebyg yn cael eu trefnu ar yr un pryd, pan fydd gofyn i'r un AC fod yn bresennol mewn un neu ddau neu dri digwyddiad, a bod trefnwyr y digwyddiadau hynny'n siomedig nad oes digon o Aelodau'n aros yn eu digwyddiadau'n ddigon hir. Felly, mae'n broblem gymhleth i'w chael yn iawn ar ystâd gyfyngedig. Efallai nad yw'r ateb gennym ar hyn o bryd, ond rydym yn awyddus i adolygu hynny gydag ymgysylltiad Aelodau'r Cynulliad yn y dyfodol.
Diolch, Llywydd.
Diolch, Lywydd.
Item 4 is topical questions. The first topical question this afternoon is from Dai Lloyd, to be answered by the Cabinet Secretary for Economy and Transport. Dai Lloyd.
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Dai Lloyd sy'n gofyn y cwestiwn amserol cyntaf y prynhawn yma, a bydd yn cael ei ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Dai Lloyd.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn cadarnhad bod Llywodraeth Cymru wedi croesawu cynigion i ailenwi'r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru? 173
1. Will the Cabinet Secretary make a statement following confirmation that the Welsh Government welcomed proposals to rename the second Severn crossing the Prince of Wales bridge? 173

The second Severn bridge is a UK Government asset. The UK Government wrote to inform the First Minister of the name change in 2017; the First Minister did not object to the proposal.
Ased Llywodraeth y DU yw'r ail bont Hafren. Ysgrifennodd Llywodraeth y DU at y Prif Weinidog i roi gwybod iddo am y newid enw yn 2017; nid oedd y Prif Weinidog yn gwrthwynebu'r argymhelliad.
Pan ddaru'r Ysgrifennydd Gwladol ddatgan ei fwriad i ailenwi ail bont yr Hafren, ychydig fisoedd yn ôl, yn bont Tywysog Cymru, nid ydw i'n meddwl ei fod o, chi, na'r teulu brenhinol wedi disgwyl y fath wrthwynebiad. Erbyn hyn, mae dros 40,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynnig ac mae pôl piniwn diweddar yn dangos mai dim ond 17 y cant o bobl Cymru sydd yn cefnogi'r syniad. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwrth-ddweud yn llwyr eich honiad chi, Ysgrifennydd Cabinet, pan ddywedoch chi fod llawer iawn o bobl Cymru yn cefnogi'r cynlluniau yma. Ond, yn dilyn y datganiad gwreiddiol, pan ofynnwyd am ymateb Llywodraeth Cymru, eich ymateb chi oedd na wnaeth Llywodraeth Cymru godi unrhyw wrthwynebiad, ac rwy'n dyfynnu yn uniongyrchol yn fanna. Ond mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth diweddar yn datgelu llythyr gan y Prif Weinidog i'r Ysgrifennydd Gwladol yn croesawu'r penderfyniad, a hynny yn frwdfrydig a hyd yn oed yn gofyn am wahoddiad i'r agoriad swyddogol. Mae ymateb y Prif Weinidog yn y llythyr hwn yn bell o ymateb cychwynnol y Llywodraeth. Felly, dim ond un cwestiwn sydd gennyf: a ydy'r Llywodraeth wedi camarwain y cyhoedd?
When the Secretary of State declared his intention to rename the second Severn crossing, a few months ago, the Prince of Wales bridge, I don’t think that either he, you or the royal family had expected such opposition to the proposal. Now, over 40,000 people have signed a petition opposing this proposal, and a recent opinion poll shows that only 17 per cent of the people of Wales support this idea. That, of course, entirely contradicts your claim, Cabinet Secretary, when you said that very many of the people of Wales supported these proposals. But, following the original statement, when the Welsh Government’s response was requested, your response was that the Welsh Government didn’t raise any objection, and I am quoting there. But freedom of information requests recently submitted reveal a letter from the First Minister to the Secretary of State welcoming the decision enthusiastically, and even asking for an invitation to the official opening. The First Minister’s response in this letter is a long way from the Government’s initial response, so I have just one question: has the Government misled the public?