Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

16/05/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Mae'r cwestiwn cyntaf, sydd wedi ei grwpio â chwestiwn 6, i'w holi gan Julie Morgan.

Y Gronfa Cyd-ffyniant

1. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y gronfa cyd-ffyniant? OAQ52189

6. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynglŷn â chronfa cyd-ffyniant y Deyrnas Gyfunol? OAQ52200

Diolch, Lywydd, a diolch am gadarnhau eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 1 a 6 gael eu grwpio.

Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhannu unrhyw fanylion hyd yn hyn ynglŷn â'i chynigion ar gyfer cronfa cyd-ffyniant. Rwyf wedi crybwyll mater cyllid yn lle cronfeydd strwythurol wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac mae ein safbwynt, gan gynnwys ymreolaeth gyllidol, wedi'i nodi yn glir yn ein papur 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Yn gyffredinol, cydnabyddir bod menywod wedi dioddef yn anghymesur o dan bolisïau cyni yn y DU, a gŵyr pob un ohonom pa mor bwysig y mae cronfeydd strwythurol Ewropeaidd wedi bod wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Sut y gallwn sicrhau y bydd unrhyw gyllid a ddaw yn lle cronfeydd strwythurol yr UE ar ôl Brexit yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau yn y gymdeithas?

Wel, Lywydd, a gaf fi ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn, a diolch iddi am y gwaith y mae'n ei wneud yn cadeirio pwyllgor monitro'r rhaglen ar gyfer y rownd bresennol o gyllid Ewropeaidd? A bydd yn gwybod, o ganlyniad i'r sylw craff y mae'r pwyllgor hwnnw'n ei roi i anghydraddoldeb, fod rhaglenni presennol y gronfa gymdeithasol, er enghraifft, yn cynnwys targedau penodol i ddarparu sgiliau a hyfforddiant i dros 95,000 o fenywod yn y gweithle, a chynllun arbennig o dda i annog 15,000 o fenywod ifanc i fynd ati i ddysgu pynciau STEM yma yng Nghymru. Gyda chymorth pwyllgor monitro'r rhaglen, fe ffurfiasom ein cynigion, a nodir yn 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit', ac un o'r egwyddorion allweddol yn y papur hwnnw yw ein bod yn dysgu gwersi o'r rowndiau cyllid presennol a blaenorol, a'n bod yn ailadrodd y llwyddiannau yn y dyfodol. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod materion anghydraddoldeb yn parhau i fod wrth wraidd cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu buddsoddiad rhanbarthol wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hi'n destun pryder nad oes yna unrhyw gynigion cynhwysfawr wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Prydain eto ynglŷn â sut yn union y bydd y gronfa cyd-ffyniant yma yn gweithio. Fel mae hi rŵan, wrth gwrs, Llywodraeth Cymru a chynghorau sir, drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sydd yn penderfynu ar beth mae'r grantiau rhanbarthol yn cael eu gwario yng Nghymru. Yn y man cyntaf, mae'n bwysig na fydd Cymru yn colli yr un geiniog o'r arian yr oeddem ni yn ei dderbyn gan Ewrop, sy'n golygu y bydd yn rhaid i'r arian gael ei ddyrannu ar sail angen yn hytrach na thrwy fformiwla Barnett. A fy mhryder i hefyd ydy, os bydd y system yn newid, ble bydd yn rhaid i gyrff yng Nghymru fidio am grantiau i bot o bres Llywodraeth Prydain, yna mi fyddai hynny yn enghraifft arall o'r Torïaid yn San Steffan yn dwyn pwerau, yn y maes datblygu economaidd y tro yma. A wnewch chi sefyll i fyny dros Gymru ar y mater yma, ynteu a ydym ni am eich gweld chi yn ildio eto, dan faner eich ideoleg unoliaethol?

Wel, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau. Rwy'n cytuno â bron popeth roedd hi'n ei ddweud, tan y diwedd. Jest i fod yn glir, rwyf yn cytuno â hi; mae hi yn fwy nag amser i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddod ymlaen â'r awgrymiadau sydd gyda nhw. O dan yr awgrymiadau yna, mae hi'n hollbwysig, ynghylch y pethau roedd pobl yng Nghymru yn eu clywed gan bobl a oedd yn trïo eu perswadio nhw i adael yr Undeb Ewropeaidd, nôl yn y refferendwm—i fod yn glir, pob ceiniog roeddem ni'n ei chael drwy fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd—ac mae'n rhaid i'r arian yna ddod i Gymru yn y dyfodol, achos mae'r anghenion a oedd gennym ni yn dal i fod yna. Nawr, byddai'n hollol afresymol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig petaen nhw'n trïo dod ymlaen â system newydd lle byddai'n rhaid i ni fidio i mewn i gronfa newydd. Y ffordd orau, rwy'n siŵr, yw jest i weld yr arian sy'n dod i Gymru ar hyn o bryd, i roi hwnnw mewn i'r baseline sydd gyda ni ar ein cyllid ni, a rhoi'r cyfrifoldeb i ni, fel mae cyfrifoldebau gyda ni yn barod, i redeg y system yn y dyfodol.  A dyna beth rydw i wedi ei ddweud yn barod wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, a dyna beth rydw i'n mynd i fwrw ymlaen i ddweud pan fydd cyfleon gennym ni yn y dyfodol. 

13:35

Rwy'n cytuno gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a gyda Siân Gwenllian. Rwy'n anghytuno â'r ddau ohonoch ar yr un pryd, felly, gwnewch o hynny beth a fynnwch. Ond mae'n amlwg fod datblygu'r gronfa cyd-ffyniant yn bwysig iawn i economi Cymru a'n nod yma yw sicrhau nad yw Cymru yn waeth ei byd ar ôl Brexit mewn perthynas â lwfans y cronfeydd strwythurol. Cytunaf â'r hyn a ddywedoch nad ydym yn awyddus i gael system newydd lle byddem yn waeth ein byd drwy orfod gwneud cynigion, mewn rhyw ffordd, am yr arian hwn, ond ar yr un pryd, credaf y byddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod yn awyddus i osgoi Barnetteiddio'r arian a ddaw i Gymru, gan y byddai hynny hefyd yn rhoi pwysau ar y gyllideb mewn ffordd wahanol, ond ffordd arwyddocaol iawn serch hynny.

Pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag osgoi'r posibilrwydd y caiff y gronfa honno ei Barnetteiddio? A hefyd, ochr yn ochr â hyn, dylai Llywodraeth Cymru fod yn datblygu ei pholisïau rhanbarthol ei hun er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i wneud defnydd o'r cronfeydd newydd hynny pan ddônt i Gymru. Pa gam rydych wedi'i gyrraedd ar ddatblygu'r polisi rhanbarthol newydd hwnnw a fydd yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth y DU?

Wel, Lywydd, cytunaf na fyddai gwneud cynigion na mabwysiadu ymagwedd sy'n deillio o fformiwla Barnett tuag at gronfa cyd-ffyniant yn dderbyniol i ni yma yng Nghymru, gan gofio nad yw'r gronfa hon yn tarddu o Gymru a bod y blaid a'i cynigiodd yn bendant heb sicrhau mwyafrif o'i phlaid yma yng Nghymru. Gadewch imi ddweud bod y trafodaethau'n parhau i fynd rhagddynt ar lefel weinidogaethol ac ar lefel swyddogol. Pan fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynigion manylach ar gyfer y gronfa, rwy'n gobeithio y bydd modd trefnu cyllid i Gymru yn y ffordd a amlinellwyd gennyf yn fy ateb i Siân Gwenllian.

Yn y cyfamser, rwy'n cytuno â Nick Ramsay ei bod yn bwysig iawn inni fwrw ymlaen â'r cynlluniau rydym yn eu datblygu ar gyfer y modd y byddai arian yn cael ei ddefnyddio at ddibenion buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym wedi cynnal ymarfer ymgynghori, fel y gŵyr Nick Ramsay, ar y papur a gyhoeddwyd gennym. Denodd yr ymarfer hwnnw gryn dipyn o ymateb. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn dadansoddi'r holl ymatebion a gawsom ac rwy'n gobeithio y byddaf mewn sefyllfa i'w cyhoeddi cyn bo hir.

Ysgrifennydd y Cabinet, i gefnogi eich papur 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit' yn llawn, sut y gallwn sicrhau bod trefniadau cyllido yn y dyfodol yn cyd-fynd â chronfeydd Ewropeaidd eraill y gobeithiwn fanteisio arnynt ar ôl Brexit, megis Horizon 2020 a'r rhaglen gydweithredu ryngdiriogaethol?

Wel, Lywydd, mae Jane Hutt yn gwneud pwynt ychwanegol pwysig iawn, gan fod ein pryderon ynglŷn â'r gronfa cyd-ffyniant, pe bai'n cael ei rhoi ar waith yn y ffordd anghywir, nid yn unig yn ymwneud â'r ffaith y gallai Cymru fod ar ei cholled yn ariannol drwy system o wneud cynigion neu system sy'n seiliedig ar fformiwla Barnett, ond pe bai ymgais o ddifrif i weithredu cronfa cyd-ffyniant o Whitehall, ble mae'r bobl ar lawr gwlad y gallai Llywodraeth y DU ddibynnu arnynt i wneud defnydd effeithiol o'r cyllid hwnnw?

Ugain mlynedd ers datganoli, Llywodraeth Cymru a chyrff Cymreig eraill sydd â phrofiad o ddatblygu economaidd rhanbarthol ac o sicrhau y gellir cydlynu'r ffrydiau cyllido a ddaw i Gymru gyda'i gilydd yn briodol fel y gallwn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl. Ac un o'r mân fanteision y cred rhai ohonom a ddaw o beidio â bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd yw y byddai gennym fwy o hyblygrwydd i sicrhau y gellid cydlynu'r arian a ddaw'n uniongyrchol i Gymru yn well gyda ffrydiau cyllido eraill ar gyfer y dyfodol. Rydym yn y sefyllfa iawn i wneud hynny. Nid oes gan Lywodraeth y DU adnoddau yng Nghymru i wneud hynny, ac mae'r pwyntiau a wnaeth Jane Hutt ynglŷn â chydlynu ein cronfeydd gyda rhaglenni eraill yn bwysig iawn.

Digartrefedd

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r broses ar gyfer cyfrifo swm yr arian a ddyrannwyd i'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi digartrefedd? OAQ52175

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r broses ar gyfer dyrannu arian i wasanaethau digartrefedd yn dilyn y broses ar gyfer y gyllideb yn ei chyfanrwydd. Nodir y blaenoriaethau mewn cyfarfodydd dwyochrog, gyda'r Cabinet yn cytuno ar y dyraniadau terfynol. Roedd nifer cynyddol yr achosion o ddigartrefedd, a dyhead y Llywodraeth hon i ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc, yn sail i'r arian ychwanegol a gytunwyd gan y Cynulliad at y dibenion hyn ym mis Ionawr eleni.FootnoteLink

13:40

Diolch am y wybodaeth honno, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n ofni bellach, a thywydd gwaethaf y gaeaf wedi bod, y bydd yr angen i ariannu'r gwasanaethau sy'n angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion pobl ddigartref yn dechrau llithro i lawr yr agenda gyhoeddus. Fodd bynnag, fel y byddwch yn cytuno, rwy'n siŵr, mae'n debyg mai dyma'r union adeg y dylem fod yn cynllunio i sicrhau bod cyllid digonol yn cael ei ddarparu gyfer yr anghenion hyn, yn enwedig yn wyneb bygythiad cynyddol credyd cynhwysol, a fydd yn cael ei gyflwyno yn fy etholaeth y mis nesaf. Yn sicr, mewn cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni, credaf ein bod yn gweld mwy o alw am y gwasanaethau hyn, ac fel eraill, rwy'n gweld y dystiolaeth honno bob dydd. Felly, a allwch roi sicrwydd i mi eich bod chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn parhau i drafod gyda chyd-Weinidogion ynglŷn â'r ffordd orau yn gyffredinol i Lywodraeth Cymru ymateb i'r anghenion hyn?

Lywydd, a gaf fi ddechrau drwy gytuno â phwynt agoriadol yr Aelod? Un o gyfrifoldebau diamheuol y Llywodraeth, ac yn wir, y Cynulliad, yw sicrhau ein bod yn parhau i fod yn effro i anghenion cymdeithasol difrifol pan fyddant yn codi. Yn anochel, yn y parth cyhoeddus, mae problemau'n mynd a dod, ond credaf y gallwn ddweud, ers i mi fod yn Aelod yn y lle hwn, fod Aelodau o bob rhan o'r Cynulliad yn sicrhau eu bod yn codi'r materion hyn drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig pan fyddant yn digwydd bod o dan chwyddwydr y cyhoedd, a dyna un o'r cyfrifoldebau gwirioneddol bwysig y mae'r Cynulliad yn eu cyflawni.

Mae'r arian a ddarparwyd gennym—yr £20 miliwn ychwanegol yn y gyllideb eleni ac eto'r flwyddyn nesaf—yno drwy gydol y flwyddyn. Mae yno i gefnogi'r cynllun cysgu allan a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros dai ac adfywio. Yn y rownd o gyfarfodydd dwyochrog ar y gyllideb rwyf ar fin ei chwblhau gyda fy holl gyd-Aelodau o'r Cabinet, mae tai yn faes a drafodwyd ym mhob un o'r cyfarfodydd dwyochrog hynny gan mai dyna yw'r sylfaen i fywyd llwyddiannus, ac mae pawb yng Nghymru'n haeddu sylfaen er mwyn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol a chreu dyfodol ar eu cyfer eu hunain a'u teuluoedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod am argymhellion y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y dylid ystyried pobl sy'n cysgu allan yn bobl ag angen blaenoriaethol am dai. Fodd bynnag, cyn y gellir gweithredu hyn, bydd angen digon o adnoddau a chymorth ar waith i ymdopi gyda'r newid hwn. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet ynglŷn â chynyddu'r swm o gyllid a ddyrannwyd i fynd i'r afael â phroblem pobl ddigartref yn cysgu allan yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Fel y dywedais eiliad yn ôl, mae materion tai wedi bod yn rhan o'r holl gyfarfodydd dwyochrog ar y gyllideb a gefais gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet. Mae gan bob cyd-Aelod o'r Cabinet ddiddordeb mewn materion tai a digartrefedd, boed yn broblemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol y mae pobl ddigartref yn eu hwynebu neu'r pwysau ar wasanaethau llywodraeth leol sy'n deillio o ddigartrefedd. Felly, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ei fod yn fater sydd o ddiddordeb i bob Aelod o'r Cabinet. Gwn fod y buddsoddiad ychwanegol a ddarparwyd gennym ar gyfer gwasanaethau digartrefedd wedi'i gefnogi ar draws y Siambr.

Mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod, unrhyw dro y bydd rhywun yma yn gofyn imi ddod o hyd i ragor o arian ar gyfer unrhyw wasanaeth ar adeg pan fo'r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn gyffredinol yn prinhau fwyfwy, yr unig ffordd o ddod o hyd i arian ar gyfer un peth yw mynd ag ef oddi wrth rhywbeth arall. Gwn y bydd yn deall bod hwnnw'n gyfrifiad anodd iawn i'w wneud.

Deallaf fod cynlluniau peilot Tai yn Gyntaf wedi cael eu datblygu ac yn mynd i gael eu datblygu mewn rhannau o Gymru, ac rwy'n croesawu hynny, fel rhan o'r ymrwymiad i fynd i'r afael â digartrefedd, ond mae ymwneud gwasanaethau eraill, gan gynnwys cyfiawnder a gofal iechyd, yn allweddol mewn perthynas â hyn. Felly, beth rydych yn ei wneud i ystyried cyfuno'r cyllidebau? Rwyf wedi siarad gyda'r sector ar sawl achlysur ac maent wedi dweud wrthyf nad oes digon o sgwrs rhwng y maes tai a maes gofal iechyd. Mae Crisis, yr elusen, a ariennir yn ninas-ranbarth Lerpwl—. Maent wedi edrych ar y dadansoddiad o sut roedd Tai yn Gyntaf yn gweithio yno, a daethant i'r casgliad fod mynediad, er enghraifft, at gymorth iechyd meddwl ail haen a bod dysgu a hyfforddi yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod Tai yn Gyntaf yn gweithio. Felly, os ydym am sicrhau bod Tai yn Gyntaf yn gweithio yma yng Nghymru, sy'n rhywbeth rwy'n ei gefnogi, sut y gallwn sicrhau bod y cyllidebau'n adlewyrchu'r uchelgais hwnnw?

13:45

Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig. Wrth gwrs, mae'r anawsterau a wynebir gan bobl ddigartref yn gymhleth, ac yn aml maent yn ymwneud â phroblemau eraill yn eu bywydau. Dyna pam, o'r £10 miliwn a ddarparwyd yn uniongyrchol ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn y gyllideb eleni, fod £6 miliwn ohono wedi mynd i ddarparu lleoedd ychwanegol i bobl aros, ac mae £4 miliwn wedi mynd i'r gwasanaethau cymorth sydd angen eu darparu, er mwyn sicrhau y gall pobl fanteisio ar y cyfle y gallai dechrau newydd mewn lle newydd ei ddarparu iddynt.

Byddaf yn ystyried y pwynt a wnaed ganddi ynglŷn â chyfuno cyllidebau. Mae ganddynt fanteision; mae ganddynt anfanteision hefyd. Mae angen i bawb sy'n rhoi arian mewn cronfa ddeall y gellir defnyddio'r arian hwnnw at ddibenion y tu hwnt i'r rhai y maent yn gyfrifol amdanynt eu hunain. Mae'n ddealladwy, mewn cyfnod anodd, fod sefydliadau yn aml yn edrych yn genfigennus iawn ar yr arian y maent hwy eu hunain wedi'i gyfrannu, ac mae Aelodau yma yn aml yn gofyn cwestiynau i sicrhau bod yr arian yn dal i gael ei ddefnyddio at y diben y cafodd ei ddarparu ar ei gyfer. Felly, gall rhannu cyllidebau fod yn ateb, ond nid ydynt yn dod heb eu hanfanteision chwaith. Yn sicr, mae'n bosibilrwydd y byddwn yn ei gadw mewn cof.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, yn eich datganiad ar y dreth ar dir gwag, fe'ch gelwais yn Siôn bob swydd mewn perthynas â datblygu trethi newydd; mae gennych lawer o drethi gwahanol ar y gweill ar hyn o bryd. Yn y datganiad ddoe, siaradoch am brofi'r mecanwaith mewn perthynas â'r dreth ar dir gwag. Os caf ehangu’r cwestiwn hwnnw i gynnwys trethi newydd posibl eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu hystyried yn y dyfodol, mae'n amlwg mai un o'r trethi posibl hynny fyddai treth i fynd i'r afael â bom amser y broblem gofal cymdeithasol, ac ardoll gofal cymdeithasol bosibl, fel y trafodwyd gan Aelodau eraill yn y Siambr hon. A allwch ddweud wrthym: a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth, hyd yn hyn, i ardoll gofal cymdeithasol bosibl, ac a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'ch cyd-Aelodau ynglŷn â hynny?

Lywydd, do, rydym wedi bod yn ymwneud yn weithredol iawn â'r pwnc hwn—yn arbennig yn ddiweddar, yn dilyn syniadau a gyhoeddwyd gan yr Athro Gerry Holtham. Mae'r Athro Holtham wedi rhoi drafft sydd bron â bod yn ddrafft terfynol o adroddiad wedi'i ddiweddaru i Lywodraeth Cymru, ac ynddo mae'n edrych yn fanylach ar y ffordd y gellid datblygu cronfa gofal cymdeithasol bwrpasol ar gyfer Cymru, yn seiliedig ar fodel y gronfa yswiriant gwladol wreiddiol. Mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu grŵp trawsweinidogaethol, a gadeirir gan fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, a bydd y grŵp yn dechrau ei waith drwy edrych ar dair elfen. Bydd yn edrych yn fanwl ar waith yr Athro Holtham er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys model economaidd ymarferol, ond bydd yn edrych hefyd ar sut y dylai gwasanaethau gofal cymdeithasol y dyfodol weithredu. Pe baem byth mewn sefyllfa lle byddem yn ceisio darbwyllo pobl yng Nghymru i fynd yn ddyfnach i'w pocedi er mwyn darparu ar gyfer y dyfodol, byddai'n gwbl deg iddynt ddisgwyl inni allu disgrifio beth fyddant yn ei gael am eu buddsoddiad. A'r drydedd elfen o waith y grŵp fydd edrych ar y rhyngwynebu gyda'r DU, gan fod yn rhaid i ateb gofal cymdeithasol ar gyfer Cymru ryngwynebu gyda'r system fudd-daliadau, gyda'r system dreth ehangach, gyda gwaith yr Adran Iechyd ac ati.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, mae hwn yn faes dychrynllyd o gymhleth. Mae'n broblem enfawr sydd wedi bod ar y gweill ers amser maith, a bydd angen mynd i'r afael â hi ar ryw ffurf neu'i gilydd yn y dyfodol agos. Fe sonioch am ymchwil yr Athro Holtham, ac awgrymodd yr Athro Holtham efallai mai treth raddedig sy'n gysylltiedig ag oedran fyddai orau, o leiaf yn y tymor byr. Yn ei chwestiwn i chi yn gynharach, soniodd Julie Morgan am rai o'r problemau a nodwyd ganddi y gallai menywod eu hwynebu ar ôl i'r cronfeydd strwythurol ddod i ben.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi nodi y gall fod anfanteision posibl yng nghynigion yr Athro Holtham ar gyfer rhai grwpiau o bobl yn yr ardoll gofal cymdeithasol—yn enwedig menywod a phobl ar gyflogau isel, yn ogystal â'r bobl hŷn y gallech fod yn gofyn iddynt dalu mwy o dan y model hwn. Yn benodol, noda'r comisiynydd pobl hŷn—. Mae'n dweud, ac rwy'n aralleirio, eich bod yn dweud i bob pwrpas, 'Diolch am bopeth rydych wedi'i dalu i mewn. Fe ddywedasom wrthych y byddai'n rhad ac am ddim pan ddôi eich amser. Mae'n ddrwg gennym, ond nid yw hynny'n wir.' A ydych yn hyderus fod pryderon y comisiynydd pobl hŷn ac eraill yn cael eu hystyried wrth nodi'r cynigion posibl ar gyfer ardoll gofal cymdeithasol?

13:50

Wel, Lywydd, hyd yn oed mewn aralleiriad, ni fyddem wedi dweud wrth unrhyw un, 'Fe ddywedasom wrthych y byddai'n rhad ac am ddim', gan mai un o nodweddion diffiniol y system gofal cymdeithasol yw ei bod yn dibynnu ar brawf modd. Rydym yn cael llawer o ddadleuon yma, yn y Siambr hon, ynglŷn â cheisio cysylltu'r system iechyd a'r system gofal cymdeithasol a'r rhwystrau yn hynny o beth. Yn bersonol, rwyf wedi credu erioed mai un o'r gwir anawsterau sy'n gwneud hynny'n anodd yw bod gofal iechyd yn rhad ac am ddim pan gaiff ei ddefnyddio ac mae gofal cymdeithasol yn dibynnu ar brawf modd. Mae hynny bob amser yn ei gwneud hi'n anodd dod â'r ddwy system honno'n agos at ei gilydd.

Nawr, yn ei bapur, mae'r Athro Holtham yn sôn am degwch rhwng y cenedlaethau, ac mae'n trafod rhai pethau eraill y bydd yr Aelodau yma'n gyfarwydd iawn â hwy—y dadleuon fod gan bobl a aned ar ôl 1980, ar bwyntiau cymharol yn eu bywydau, ragolygon ariannol llai ffafriol na phobl a aned 30 neu 40 mlynedd ynghynt. Mae'n cyfeirio at waith yn Japan, lle mae treth raddedig ar waith, lle rydych yn talu ychydig yn fwy tuag at ofal cymdeithasol wrth fynd yn hŷn. Yn eich ugeiniau, nid ydych byth yn credu y bydd angen gofal cymdeithasol arnoch. Erbyn eich bod yn 50, rydych yn dechrau sylweddoli y gallai ddigwydd i chi. Felly, caiff derbynioldeb cymdeithasol, o ran talu am bethau, ei raddnodi yn y ffordd honno, ond nid yw ond yn un o'r ffactorau a gynigir gan yr Athro Holtham, ac mae'n modelu cyfres o wahanol ffyrdd y gellid gwneud taliadau i mewn i gronfa, ac nid yw treth raddedig sy'n codi gydag oedran ond yn un o'r modelau a archwilir ganddo.

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, mae model Holtham, o bosibl, yn dyblu'r ardoll gofal cymdeithasol o £172 i £344 ar gyfer bobl rhwng 57 a 59 oed o fewn cyfnod o 12 mis, ar adeg pan fydd eu hincwm yn dechrau lleihau. Yn 2017, cymerodd 71 y cant o bobl a ymddeolodd yng Nghymru ymddeoliad cynnar, a 58 mlynedd a chwe mis oedd yr oedran ymddeol cyfartalog—yng nghanol yr ystod oedran hon. Nid wyf yn ceisio gwneud unrhyw bwyntiau gwleidyddol pleidiol ar y mater hwn gan y credaf, mewn gwirionedd, ei fod yn fater rhy fawr ar gyfer hynny—mae'n fwy nag unrhyw blaid unigol ac unrhyw Lywodraeth unigol. Mae hwn yn fater sydd wedi datblygu o dan nifer o wahanol bleidiau a Llywodraethau dros y blynyddoedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod potensial anferth yma i Gymru wneud rhywbeth arloesol os gwnawn hyn yn iawn, ond mae rhai peryglon enfawr hefyd, ac mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi cyfeirio atynt—ac eraill hefyd. Felly, a allwch roi sicrwydd inni, wrth fynd i'r afael â'r holl faterion hyn a rhoi arweiniad i Aelodau'r Cynulliad sy'n edrych ar hyn, y byddwch yn sicrhau, yn y pen draw, y bydd gennym system deg a chyfartal nad yw'n peri i rai pobl deimlo eu bod wedi cael cam—i aralleirio—a hefyd, wrth gwrs, system sy'n golygu y bydd cronfa'n cael ei datblygu dros amser, ac ymhen y rhawg, na fydd Llywodraethau'r dyfodol yn dweud, 'Wel, mewn gwirionedd, nid yw'r arian hwnnw i gyd ar gael bellach i ni ei ddarparu i chi, fel y dywedasom 20 neu 30 mlynedd yn ôl'? Oherwydd rwy'n credu, a byddech yn cytuno â mi, ein bod, yn y pen draw, am wneud hyn yn iawn ac rydym yn awyddus i sicrhau, yn y dyfodol, nad yw pobl yn teimlo eu bod wedi cael eu twyllo allan o arian a fyddai wedi bod ganddynt fel arall.

Lywydd, wel, credaf fod y cyfraniad a wnaeth Nick Ramsay yn tynnu sylw'n bendant at botensial y syniad hwn, ond hefyd y peryglon sy'n peri rhwystrau iddo, ac yn dangos pam ei bod wedi bod mor anodd i Lywodraethau o bob lliw gwleidyddol wneud cynnydd go iawn mewn perthynas â'r broblem bolisi hon. Roeddwn i fod i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid yn eich ymchwiliad i hyn yn gynharach y mis hwn, a byddaf yn gwneud hynny—gobeithio, bellach—y flwyddyn nesaf. Am y rheswm hwnnw, ailddarllenais adolygiad Dilnot a ddywedodd, yn 2012, fod y mater hwn yn fater brys ac na ellid ei anwybyddu mwyach, ac ailddarllenais bapur gwyrdd Gwenda Thomas ddegawd yn ôl, sy'n adlewyrchu llawer o'r dadleuon sy'n dal i fod yma heddiw. Mae hynny'n dangos pa mor anodd yw mynd i'r afael â'r broblem hon.

Fodd bynnag, mae'r Athro Holtham yn cyfeirio'n uniongyrchol at y pwynt olaf a wnaeth Nick Ramsay. Dechreuodd y gronfa yswiriant gwladol, Lywydd, fel system a ariennir. Bu felly tan 1957, pan benderfynodd Llywodraeth Macmillan y byddai'n defnyddio arian ohoni i dalu am wariant cyfredol, ac o ganlyniad, mae gennym system talu wrth ddefnyddio bellach. Dywed Holtham yn glir, os ydych am berswadio pobl i dalu i mewn i gronfa, fod yn rhaid trefnu hynny mewn ffordd sy'n sicrhau y gall pobl fod yn hyderus na all Llywodraethau ddefnyddio arian ohoni mewn cyfnodau anodd, a bod yr arian rydych yn ei dalu i mewn yn cael ei ddefnyddio at y diben hwn mewn gwirionedd.

Diolch, Lywydd. Wel, rwy'n cymeradwyo'r gwaith pwyllog a difrifol y mae'r Ysgrifennydd cyllid yn ei wneud ar y posibilrwydd o ardoll gofal cymdeithasol—pwnc y byddwn yn dychwelyd ato maes o law. Rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd cyllid yn cytuno â mi ei bod yn bwysig nad yw gwleidyddiaeth 'chwiban y ci' yn amharu ar y trethi newydd posibl hyn ac nad ydym yn peri pryder diangen ymhlith grwpiau o bobl a allai gael eu heffeithio gan unrhyw un ohonynt. Un o'r pethau a oedd yn fy mhoeni am y posibilrwydd o dreth ar dir gwag, a drafodwyd gennym yn rhannol ddoe, oedd y byddai llawer o bobl na fyddant o bosibl yn cael eu heffeithio ganddi yn y pen draw, ac efallai, yn y cyfamser, eu bod yn bryderus ynglŷn â chynnig o'r fath. Felly, tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ychydig mwy i leddfu pryderon posibl yn hyn o beth.

Cyfeiriais ddoe at y gwaith a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru ar hyn mewn perthynas â safleoedd segur a chytundebau adran 106. Nodwyd oddeutu 400 o safleoedd ganddynt rhwng 2000 a 2014 lle nad oedd tir wedi'i ddatblygu am ryw reswm neu'i gilydd. Ond mae nifer yr achosion y gellid eu hystyried yn fancio tir go iawn, a allai ddarparu cyfle ar gyfer datblygu economaidd ac a oedd yn hyfyw ond na fwriwyd ati i'w datblygu, yn fach iawn mewn gwirionedd. Credaf ei bod yn werth crynhoi'r ffigurau sydd yn y ddogfen. Lle roedd y rhesymau am oedi yn gysylltiedig â pherchnogaeth tir neu werthu safle, hynny yw, y rhai a oedd yn ymwneud â bancio tir go iawn yn unig yn hytrach nag amrywiadau yn yr amodau neu faterion cynllunio eraill, 17 achos yn unig a gafwyd o'r 400 dros gyfnod o 14 mlynedd. Felly, efallai nad yw problem bancio tir mor fawr ag yr ofnir, ac rwy'n derbyn y pwynt a wnaed ddoe, fod hon yn dreth a gynigiwyd er mwyn profi'r system, ac nad yw'n debygol o effeithio ar nifer fawr o bobl. Felly, a allai'r Ysgrifennydd cyllid ddweud ychydig mwy ar y pwynt hwnnw?

13:55

Diolch, Lywydd. Wel, rwy'n cymryd y pwyntiau a wnaeth arweinydd UKIP yma ynglŷn ag osgoi gwleidyddiaeth 'chwiban y ci' o ddifrif. Yn sicr, cytunaf ag ef o ran yr hyn a ddywedodd heddiw ar y mater hwnnw.

Ddoe, fe wnaeth y pwyntiau a wnaeth heddiw, y byddem, pan fyddwn yn edrych ar fanylion treth gwerth tir a'r potensial ar gyfer un yng Nghymru, yn dod i'r casgliad efallai na fyddai ond yn berthnasol mewn nifer gymharol fach o achosion. Wrth i'r gwaith manwl fynd rhagddo, rwy'n siŵr y byddwn yn cael y dystiolaeth wirioneddol ynglŷn ag a yw hynny'n wir ai peidio. Ddoe, ceisiais roi sicrwydd ynglŷn â dau beth i bobl yn y sector sydd efallai'n bryderus ynglŷn â hyn: yn gyntaf oll, y byddwn yn gwneud y gwaith manwl, ac y bydd y polisi a gyflwynir gennym, os gwnawn hynny, yn seiliedig yn gyfan gwbl ar y dystiolaeth; ac yn ail, y byddwn yn cymryd yr amser angenrheidiol i wneud hynny'n briodol ac yn drwyadl, ac os caiff y Cynulliad bŵer i wneud hynny, ni fydd yn fater o neidio ar y cyfle i ddefnyddio'r grym hwnnw am ei fod yma. Os daw'r pŵer yma, byddwn yn sicrhau, os ydym yn ei ddefnyddio, ein bod yn gwneud hynny am fod yr achos dros wneud hynny wedi'i brofi'n drylwyr.

Tybed a fyddai'r Ysgrifennydd cyllid yn cytuno â mi hefyd y dylid cynnwys rhyw fath o elfen de minimis yn hyn o beth, gan fy mod wedi cyfeirio ddoe at achos Harry Hyams ac adeilad Centre Point a fu'n wag, yng nghanol Llundain, gofod dethol, am flynyddoedd maith yn y 1970au. Mae'r broblem rydym yn ceisio'i datrys, os oes problem, yn ymwneud â safleoedd datblygu posibl mawr gyda nifer sylweddol o gartrefi y gellid eu hadeiladu ar y tir. Nid oes fawr o bwynt mynd ar drywydd plotiau unigol yma ac acw a allai gael eu datblygu ai peidio am ryw reswm neu'i gilydd. Cyfeiriodd David Melding hefyd ddoe at yr angen am hyblygrwydd yn y ffordd y gellid gweithredu treth o'r fath.

Yn yr adolygiad a gynhelir ar hyn o bryd gan Oliver Letwin, bydd yn edrych ar safleoedd mawr, ac mae'n cydnabod bod llawer o resymau dros beidio â bwrw ymlaen â datblygiadau mawr hyd yn oed—prinder gweithwyr crefftus, er enghraifft, cyflenwadau cyfyngedig o ddeunyddiau adeiladu, prinder cyfalaf ac yn y blaen. Mae'n rhoi llu o resymau posibl nad ydynt yn ymwneud â drygioni canfyddedig bancio tir ei hun. Hyd yn oed yn achos safleoedd mawr, bydd yn rhaid inni gyfyngu ar y dreth bosibl gyda phob math o ostyngiadau yn y dreth er mwyn osgoi creu anghyfiawnder, hyd yn oed ar gyfer cwmnïau datblygu eiddo mawr.

Lywydd, yn wir, mae llawer o resymau pam nad yw safleoedd gwag gyda chaniatâd cynllunio ac ati yn dod i ddefnydd cynhyrchiol, ac ni fyddai treth ar dir gwag ond yn un offeryn mewn set lawer ehangach o offer y gall gwneuthurwyr polisi eu defnyddio i fynd i'r afael â hynny. O'r hyn a gofiaf, ond rwy'n dibynnu ar fy nghof, credaf fod rhan de minimis yng nghynllun Gweriniaeth Iwerddon, ond byddai unrhyw un a oedd wedi clywed dadl fer Vikki Howells ac wedi gweld yr enghreifftiau a gyflwynwyd ganddi yn gwybod bod hyd yn oed safleoedd bach iawn, weithiau, sy'n cael eu gadael i ddadfeilio yn peri gofid ar raddfa lawer ehangach ymhlith y bobl sy'n gorfod byw gerllaw. Felly, mae maint yn rhan o'r peth, ond nid yw hynny ynddo'i hun yn ddiffiniad cyflawn o'r broblem.

14:00

Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a Vikki Howells yn wir, ar hyn, er bod dadfeilio'n fater gwahanol y gellid mynd i'r afael ag ef mewn ffyrdd eraill ar wahân i dreth. Ond rwy'n pryderu hefyd am effaith bosibl treth o'r fath ar adeiladwyr bach mewn ardaloedd gwledig. Mae'n hawdd lladd ar gwmnïau mawr, ond gall fod amrywiaeth o resymau pam fod adeiladwyr bach hyd yn oed, sy'n methu fforddio bancio tir am gyfnod hir o amser beth bynnag, yn teimlo efallai y byddai hyn yn effeithio arnynt ac y byddai'n eu hatal felly rhag gwneud cais am ganiatâd cynllunio hapfasnachol. Ac o gofio y gall amgylchiadau economaidd newid yn eithaf cyflym weithiau, byddai hyn yn ddatblygiad anffodus, oherwydd pe bai'n arwain at lai o gynigion hapfasnachol ar gam paratoi'r cynllun datblygu lleol, byddai gofyn i'r awdurdodau cynllunio lleol fynd ati'n rhagweithiol wedyn i ymgysylltu â pherchnogion tir i nodi tir y gellid ei ddatblygu ac y byddent yn awyddus iddo gael ei ddatblygu. O gofio bod gan awdurdodau lleol ddigon ar eu plât beth bynnag, byddai hwn yn ganlyniad anffodus arall. Felly, gobeithiaf fod hwnnw'n bwynt arall y bydd yr Ysgrifennydd cyllid yn ei ystyried yn ofalus.

Wel, Lywydd, diolch i'r Aelod am ei bwynt. Rwyf wedi gweld y ffigurau sy'n dangos ei bod yn cymryd mwy o amser mewn rhannau gwledig o Gymru i ddechrau datblygu tir sydd wedi cael y caniatâd angenrheidiol. Buom yn sôn ddoe yn y drafodaeth yma am dreth ar dir gwag ynglŷn â faint o amser y byddai'n rhaid i ddarn o dir fod yn wag cyn y byddai'n rhaid talu treth arno, a phan fyddwn yn gwneud y gwaith manwl ar hyn, sydd—. Fel rwy'n atgoffa'r Aelodau o hyd, rydym megis dechrau ar y gwaith manwl hwnnw, ond pe bai'r ffigurau hynny'n cael eu cadarnhau, credaf y byddent yn arwain at drafodaeth ynglŷn ag a fyddech angen cyfnod hwy o amser mewn rhannau gwledig o Gymru cyn y byddai'n rhaid talu treth, oherwydd natur datblygu yn yr ardaloedd hynny. Ond mae hwnnw'n bwynt y byddai'n rhaid inni ddychwelyd ato pan fyddai'r dystiolaeth yn gliriach. Yn y cyfamser, mae'n bwynt cwbl deg i'r Aelod ei godi yn y ddadl.

Diolch, Llywydd. Bythefnos yn ôl, Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech chi wedi cyhoeddi'r adolygiad canol ffordd o ran y cynllun buddsoddi isadeiledd Cymru, oedd yn wreiddiol yn cynnwys piblinell o brosiectau gwerth £42 biliwn mewn cyfanswm. Wrth gwrs, yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, dim ond ryw £1.5 miliwn—tua £1.5 miliwn, £1.6 miliwn—sy'n fuddsoddiad cyfalaf, ac rwy'n credu ein bod ni'n cydnabod bod hynny'n golygu, o wneud y maths, felly, y byddai'n cymryd blynyddoedd maith, wrth gwrs, i ni gyflawni’r holl anghenion buddsoddi o ran yr isadeiledd sydd ei angen. Mae'n rhaid cyferbynnu hyn, ond oes, gyda'r sefyllfa yn ne-ddwyrain Lloegr a Llundain, sef y gornel o'r Deyrnas Gyfnol sydd yn derbyn y sleisen fwyaf o'r gacen o safbwynt buddsoddiad mewn isadeiledd, ac maen nhw nawr ar fin, wrth gwrs, derbyn £550 miliwn yn ychwanegol i achub croen project Crossrail, sydd, mae'n debyg, yn gorwario. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae tua hanner—ychydig yn llai na hanner—o'r hyn y mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu ei fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn y cyfnod nesaf o fuddsoddiad pum mlynedd. A ydych chi'n gallu cadarnhau na fydd Cymru yn derbyn unrhyw arian ychwanegol o ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw mewn Crossrail, gan fod, o dan y setliad ariannol ar hyn o bryd, ffactor cymharedd o 0 y cant sy'n cael ei ddefnyddio o ran y fformiwla? Ac o ddilyn y trywydd hwnnw, pe bai rheilffyrdd yn cael eu datganoli yn llwyr, fel y sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, oni fyddai Cymru yn elwa i'r graddau o £700 miliwn yn ychwanegol, er mwyn buddsoddi yn ein rhwydwaith ni a gwneud yn iawn am y tanwariant sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, a dros y pum mlynedd nesaf o 2019 i 2024?

14:05

Diolch yn fawr i Adam Price am y cwestiwn yna. Rydw i'n gallu gweld y pwynt mae'n ei wneud.

Mae buddsoddiad ledled y Deyrnas Unedig yn gwyro tuag at Lundain a de-ddwyrain Lloegr yn y ffordd y disgrifiodd. Am fod hwn yn ddatblygiad cymharol ddiweddar, byddaf yn ysgrifennu ato os bydd gennyf unrhyw beth arall i'w ddweud. Ond mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â'r Trysorlys heddiw. Mewn perthynas â Crossrail, yn ôl yr hyn a ddeallaf, maent yn dweud hyn: yn gyntaf oll, nad oes unrhyw arian ychwanegol wedi'i addo i'r Adran Drafnidiaeth o ganlyniad i ddatblygiadau Crossrail, ac ar hyn o bryd, mae'r Trysorlys yn ystyried hynny'n bwysau y mae'n rhaid i gyllideb yr Adran Drafnidiaeth ymdopi ag ef. Wedyn, fe ofynasom iddynt, pe bai'r Trysorlys yn gwneud buddsoddiad pellach yn yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer Crossrail, a fyddai hynny'n arwain at gyllid canlyniadol Barnett, a dywedasant wrthym, 'Byddai', gan fod hwn yn ddatblygiad rheilffyrdd lleol, a phe bai'r Adran Drafnidiaeth yn cael arian newydd ar gyfer Crossrail, byddem yn cael ein cyllid canlyniadol Barnett am hynny drwy'r fframwaith cyllidol, ac fe atgoffaf yr Aelodau yma fod hynny, wrth gwrs, yn golygu y byddem yn cael 105 y cant o'r cyllid canlyniadol hwnnw.

Nawr, yn rhy aml o lawer, rwyf wedi gweld y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o osgoi cyllid Barnett, fel nad yw pethau y byddech yn ystyried ar yr olwg gyntaf y byddent yn denu cyllid canlyniadol Barnett yn gwneud hynny yn y pen draw. Felly, gallwch fod yn sicr y bydd ein swyddogion yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn, ac, os daw arian ar gael ar gyfer Crossrail ac os yw'r arian hwnnw'n mynd i'r Adran Drafnidiaeth, y byddem yn cael ein cyfran deg ohono yma yng Nghymru.

Rydw i'n croesawu'r newyddion hynny yn fawr, a dweud y gwir, ac efallai bod hwn yn gyfle ar gyfer profi'r system setlo anghytundeb sydd o fewn y fframwaith gyllidol. Fe gawn ni weld maes o law. Wrth gwrs, mi fyddai sicrhau arian Barnett, nid yn unig o ran y gorwariant yma, ond ar draws y system reilffordd, yn golygu bod yna £2 biliwn y flwyddyn o'i gymharu â £1.3 biliwn. Byddai £700 miliwn, wrth gwrs, yn fodd i ni wneud llawer o bethau, a dweud y gwir. Byddai modd i ni adeiladu'r rheilffordd newydd rhwng Aberystwyth a Caerfyrddin; byddai modd edrych ar wneud yn iawn am fethiant neu wrthodiad tro pedol Llywodraeth Prydain ynglŷn â thrydaneiddio i Abertawe; byddai modd i ni edrych ar wneud dau draean o'r gwaith o ran adeiladau'r metro newydd arfaethedig ar gyfer y Cymoedd gorllewinol ag Abertawe. A dweud y gwir, mi fyddai modd, wrth gwrs, cwmpasu'r prosiectau yna i gyd. Hynny yw, byddai £2 biliwn, £3 biliwn, mewn bond trafnidiaeth yn fodd i ni weddnewid, trawsnewid, ein system drafnidiaeth ar draws Cymru—y math o gynnig uchelgeisiol, dychmygol byddwn i'n disgwyl oddi wrth ymgeisydd ar gyfer Prif Weinidogaeth Cymru. 

Mi oeddech chi wedi sôn yn ddiweddar yn eich datganiad eich bod chi am symud ymlaen nawr i greu bondiau i Lywodraeth Cymru. Onid yw hwn yn gyfle i fynd i greu rhaglen dychmyglawn o fuddsoddiad yr ydym ni wedi bod yn aros amdano fe am ddegawdau a chreu bond Cymru? Byddwn i, hyd yn oed, fel Aelod o'r wrthblaid, yn fodlon prynu'r bondiau hynny.

Diolch yn fawr am hynny.

Wrth gwrs, mae Adam Price yn llygad ei le wrth nodi'r ffaith ein bod bellach yn arfer y pŵer i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bondiau. Y rheswm dros wneud hynny yw'r un a amlinellodd Mike Hedges yn y Siambr oddeutu wythnos yn ôl—er mwyn cadw Llywodraeth y DU yn onest o ran y cyfraddau llog y mae'n eu codi drwy'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, oherwydd, os yw'n ceisio cynyddu'r cyfraddau llog i ni wrth roi benthyciadau o'r ffynhonnell honno, byddai gennym ffordd arall o godi arian yn y lle hwn, ac mae hynny'n tueddu i annog Llywodraeth y DU i beidio â chodi cyfraddau llog yn y benthyciadau y mae'n eu gwneud.

Yr anhawster o ran yr awgrym y mae Adam Price yn ei wneud—ac mae'n ei wneud yn llawn perswâd, fel arfer—yw nad yw'r gallu i gyhoeddi bondiau yn cynyddu'r terfyn cyfalaf a wynebir gan Lywodraeth Cymru. Nid yw'n darparu £1 yn ychwanegol i ni o fuddsoddiad. Felly, gallem greu cronfa fel yr un a awgrymwyd ganddo, ond ni fyddai'n arian newydd—ni fyddai'n arian ychwanegol a fyddai ar gael i Gymru. Felly, pe baech yn creu cronfa at y diben hwnnw, byddai'n rhaid i chi benderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda gwahanol fuddsoddiadau pwysig eraill mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Wrth gwrs, mae honno'n ddadl gyhoeddus briodol ynglŷn â blaenoriaethau, ond ni fyddai'n gywir awgrymu wrth bobl y gallech greu cronfa lawn bondiau ac y byddai'r arian hwnnw, rywsut, yn arian newydd uwchlaw popeth sydd gennym—ni fyddai hynny'n wir.

14:10

Rwy'n deall dadl Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, pe bai bond at ddiben penodol yn cael ei greu yn y modd a awgrymais, tybed a fyddech, mewn gwirionedd, yn gallu argyhoeddi Trysorlys y DU, at y diben penodol hwnnw, i godi'r terfyn benthyca. Yn wir, mae hyn yn rhywbeth a awgrymwyd gan yr Athro Holtham, ac a grybwyllwyd gennych mewn cyd-destun arall yn gynharach. Felly, tybed a fyddech yn barod, o leiaf, i ystyried hyn.

Mae yna fecanwaith arall hefyd, sydd, mewn gwirionedd, yn goresgyn rhai o'r problemau hyn i ryw raddau, sef edrych ar Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi'i fodelu ar Transport for London. Mae gan Transport for London, wrth gwrs, bwerau benthyca ar wahân, ac mae ganddo'r pwerau hynny'n benodol oherwydd fod ganddo allu i gynhyrchu refeniw wrth gwrs; mae ganddo allu hefyd i hybu cyfalaf, o ran cynlluniau adfywio. Felly, gallai hwnnw fod yn fecanwaith. Yn wir, mae'r Blaid Lafur yn Lloegr yn dadlau'n gryf y dylid rhoi pwerau benthyca cyffelyb i'r corff newydd, Transport for the North. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn barod i archwilio'r achos dros roi'r math o bwerau benthyca i Trafnidiaeth Cymru sydd wedi caniatáu i Transport for London wneud buddsoddiad sylweddol yn eu rhwydwaith eu hunain?

Wel, Lywydd, mae hon yn adeg wych i godi'r posibiliadau hyn, gan fy mod wedi ysgrifennu'n ddiweddar at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys er mwyn tynnu ei sylw at y ffaith y byddaf, fel rhan o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar y gweill, yn ceisio ymestyn y terfyn benthyca sydd ar gael ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru. Felly, mae'n adeg lle mae posibiliadau newydd i'w cael.

Mae'r rhai a godwyd gan Adam Price yn sicr o ddiddordeb, gan fod gan y Llywodraeth hon hanes blaenorol cadarn, a gychwynnwyd gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, o chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o ymestyn y gronfa o fuddsoddiad cyfalaf sydd ar gael i Gymru. Os byddai o gymorth, buaswn yn awyddus iawn i gyfarfod â'r Aelod i siarad ag ef yn fwy manwl nag y gallwn ei wneud yn y trafodaethau hyn ynglŷn â sut y gellid bwrw ymlaen â'r syniadau hynny.

Gadewch i ni weld a allwn gyflymu gyda'r cwestiynau a'r atebion. Rydym ar gwestiwn 3 ac rydym bron â rhedeg allan o amser ar gyfer y sesiwn, felly dyna her i chi. Dai Lloyd, cwestiwn 3.

Buddsoddi Strategol yng Ngorllewin De Cymru

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi strategol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52177

Fel rhan o’r buddsoddi strategol yng Ngorllewin De Cymru, bydd y £266 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gydag adolygiad canol cyfnod cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn dod â chyllid newydd i deithio llesol, cynlluniau cyfalaf y gwasanaeth iechyd gwladol, ac ailgylchu gwastraff.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £11 miliwn wrth geisio datblygu parc busnes strategol yn Felindre, Abertawe. Ers dymchwel y gweithfeydd dur yna ym 1996, rŷm ni wedi gweld nifer o strategaethau marchnata yn ceisio denu cwmnïau i'r parc busnes yna, ond mae'r lle dal yn wag. Mae rhwystredigaeth amlwg yn lleol o ran cyflymder datblygiad y safle yma, sydd efo'r potensial i greu cannoedd o swyddi. A ydych chi hefyd yn rhwystredig gyda'r diffyg cynnydd yma a beth ydych chi'n bwriadu ei wneud ar y cyd efo cyngor Abertawe i symud pethau ymlaen?

14:15

Diolch i Dai Lloyd am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod beth y mae e'n ei ddweud am yr amser sydd wedi mynd ymlaen heb gael pethau yn digwydd ym Mharc Felindre. Beth rydw i wedi'i ddeall oddi wrth bobl sy'n gweithio yn y maes yna yw ein bod ni wedi bod mas yn trial tynnu pobl i mewn i'n helpu ni i ddatblygu y safle. Mae'r nodyn sydd gyda fi yn dweud

mae safon y datblygwyr a'r meddianwyr sydd bellach wedi mynegi diddordeb yn y safle wedi bod yn galonogol iawn, ac mae fy nghyd-Aelod Ken Skates yn awyddus i fwrw ymlaen fel y gallwn oresgyn yr anawsterau a nodwyd gan Dr Lloyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, roedd rhan o'ch datganiad ar y gyllideb yn cynnwys buddsoddiad o dros £30 miliwn yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot. A allwch ddweud wrthym pa gynnydd a wnaed ar y buddsoddiad hwnnw ac a fydd yn digwydd, mewn gwirionedd, yn ystod y flwyddyn ariannol hon?

Wel, Lywydd, mae'r Llywodraeth yn awyddus i fuddsoddi ym Mhort Talbot mewn partneriaeth â Tata, lle y gallwn fod yn sicr fod ein buddsoddiad yn rhan o gynllun hirdymor i sicrhau cynaliadwyedd cynhyrchu dur yng Nghymru. Rydym yn barod i wneud mwy gyda'r cwmni, cyhyd ag y bo'r cynlluniau hynny'n dangos y byddant yn defnyddio buddsoddiad cyhoeddus ochr yn ochr â'u buddsoddiad eu hunain mewn ffordd a fydd yn creu'r capasiti cynhyrchu dur yn y dyfodol. Mae fy nghyd-Aelod Ken Skates, ac yn wir, y Prif Weinidog, wedi bod yn trafod gyda'r bobl uchaf yn Tata i sicrhau ein bod yn cyflwyno cynlluniau sy'n caniatáu inni wario'r arian mewn modd amserol ac i ddiogelu dyfodol cynhyrchu dur.

Rwyf am ddychwelyd at gwestiwn Dai Lloyd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn sôn am 20 mlynedd yma, a chredaf fod arnom angen rhywfaint o sicrwydd, yn arbennig yn fy rhanbarth i, nad Kancoat arall mo hyn, na technium arall yn wir. Yn dilyn cronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, credaf fod arnom angen rhywfaint o sicrwydd fod y buddsoddiad yn adferadwy ac na fyddwn yn gweld gwerthiannau sy'n sylweddol is na'u gwerth. Yn gyntaf oll, a allwch ddweud wrthyf pa sicrwydd sydd gan Lywodraeth Cymru ar y tir hwnnw, ac yn ail, pa sgyrsiau a gawsoch gyda bwrdd y fargen ddinesig, eich cyd-Aelodau yn y Cabinet, ac yn wir, Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar yr ased defnyddiol hwnnw?

Wel, Lywydd, credaf mai cwestiynau i fy nghyd-Aelod Ken Skates yw'r rhain mewn gwirionedd, gan mai ef sy'n uniongyrchol gyfrifol am y polisi a'i gyflawniad ymarferol. Rwy'n sicr y bydd yn cytuno gyda'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod o ran ei awydd i sicrhau enillion priodol i'r cyhoedd ar y buddsoddiad a wnaed ar y safle.

Cyllid ar gyfer Undebau Credyd

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r dyraniad o gyllid Llywodraeth Cymru i undebau credyd yn dilyn y diweddariad diweddar i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru? OAQ52191

Mae undebau credyd yn chwarae rôl hanfodol wrth gryfhau cydnerthedd ariannol ein cymunedau. Fel rhan o adolygiad hanner ffordd y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, cyhoeddais £1 filiwn ychwanegol dros ddwy flynedd i gefnogi undebau credyd ledled Cymru.

Yr wythnos hon, rwy'n ymuno â Michael Sheen fel un o noddwyr newydd Undebau Credyd Cymru ac rwy'n falch iawn o weld y canlyniad cadarnhaol hwn i'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac undebau credyd yng Nghymru fel rhan o'r strategaeth cynhwysiant ariannol, a gymeradwywyd gennych chi bellach drwy ddyrannu cyfalaf trafodiadau ariannol. A fyddech yn cytuno mai dyma'r union ffordd y dylem fod yn defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol, er mwyn cyflawni nodau Llywodraeth Cymru o hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy gefnogi ein hundebau credyd? Bydd y dyraniad hwn yn gymorth i ateb gofynion heriol y gymhareb asedau cyfalaf, sydd wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf—maent yn arbennig o heriol ar gyfer undebau credyd mawr—er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi twf a hyfywedd undebau credyd yng Nghymru.

A gaf fi ddechrau, Lywydd, drwy longyfarch Jane Hutt ar ei rôl newydd fel un o noddwyr Undebau Credyd Cymru? Mae'n llygad ei lle wrth ddweud mai'r rheswm y gallwn ddarparu cyfalaf trafodiadau ariannol yw am fod y Prudential Regulation Authority wedi nodi gofynion heriol newydd ar gyfer y gymhareb asedau cyfalaf, ac mae'r cymarebau asedau cyfalaf hynny'n orfodol. Mae rhai undebau credyd yng Nghymru wedi cael trafferth i sicrhau eu bod yn gallu cydymffurfio â'r cymarebau hynny, ond maent yn gallu llunio cynlluniau sy'n dangos sut y gallant eu bodloni yn y dyfodol. Mae chwistrelliad o gyfalaf trafodiadau ariannol yn eu galluogi i gynnal eu mantolenni tra bo'r cynlluniau hynny'n cael eu rhoi ar waith. Dyna pam, wrth drafod gyda'r sector, ein bod wedi gallu darparu'r cymorth hwnnw.

A gaf fi ychwanegu ein cefnogaeth i'r ymdrechion i gynyddu capasiti undebau credyd? Ar hyn o bryd, yn ôl y Money Charity, rydym yn gwario £139 miliwn y dydd ar ad-daliadau a dyledion personol. Mae'n gwbl anghredadwy. Ac mae undebau credyd yn rhan allweddol, yn fy marn i, yn sicr i bobl mewn amgylchiadau ariannol anodd, ond yn fwy cyffredinol hefyd, o bosibl. Felly, mae angen ehangu rôl sefydliadau fel Dragonsavers yn Rhondda Cynon Taf, a gallwn edrych ar lawer o wledydd, wyddoch chi—yr Unol Daleithiau, ac yn nes atom o lawer, Gweriniaeth Iwerddon—sydd â sectorau gwasanaethau ariannol ehangach o lawer sy'n croesawu undebau credyd.

14:20

Cytunaf yn llwyr gyda'r Aelod. Mae undebau credyd yn darparu credyd fforddiadwy a benthyca cyfrifol ac maent yn achubiaeth i lawer o bobl a fyddai, pe bai'n rhaid iddynt fenthyca mewn rhannau drytach o'r farchnad, yn rhan o'r cyfanswm anghredadwy hwnnw a nododd yr Aelod yn ei gwestiwn atodol sy'n cael ei dalu'n ôl drwy'r amser. Yn ychwanegol at yr £1 filiwn y llwyddais i'w ddarparu drwy'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, mae fy nghyd-Aelodau wedi cyhoeddi £844,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i gefnogi undebau credyd dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd 19 o brosiectau gwahanol yn cael eu cefnogi gan yr arian hwnnw, ac mae pob un ohonynt wedi'u cynllunio i wneud yr hyn a awgrymodd David Melding: dod o hyd i ffyrdd o ddenu mwy o bobl i ymaelodi ag undebau credyd yng Nghymru.

Y Gronfa Arloesi i Arbed

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gronfa arloesi i arbed? OAQ52163

Llwyddodd rownd gyntaf y cynllun arloesi i arbed i ddenu 50 o geisiadau yn amrywio o effeithiolrwydd presgripsiynu cymdeithasol i ffyrdd newydd o gynorthwyo cymunedau sy'n wynebu bygythiad o lifogydd arfordirol. Lansiwyd ail rownd o gyllido yn gynharach eleni.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb? Rwy'n croesawu'r cynllun arloesi i arbed yn fawr. Mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn gofyn amdano ers peth amser. Ond wrth gwrs, ni fydd pob math o arloesi yn gweithio neu'n darparu atebion hirdymor, ond gall y rheini sy'n gwneud hynny gynhyrchu gwell gwasanaethau a/neu arbedion i sector cyhoeddus Cymru, a gallent fod yn eithaf sylweddol. A oes unrhyw gynlluniau llwyddiannus y gellir eu cyflwyno mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru?

Wel, Lywydd, mae'n ddyddiau cynnar iawn ym maes arloesi i arbed, ac ni chredaf y gallwn fod yn gwbl hyderus eto fod y cynlluniau cyntaf hyn wedi dangos eu llwyddiant hyd at bwynt lle y gallem fod yn ddigon hyderus i'w cyflwyno ym mhobman. Ond i roi un enghraifft i chi, mae elusen Leonard Cheshire Disability, gan eu bod yn un o'r cynlluniau rydym yn eu datblygu o dan y cynllun arloesi i arbed, wedi bod yn gweithio gyda chyngor Ynys Môn i dreialu prosiect sy'n dod â phobl ag anableddau corfforol dwys ynghyd, gan mai un o effeithiau bod ag anabledd corfforol dwys yw eich bod yn aml wedi eich ynysu—rydych yn cael gwasanaethau yn eich cartref eich hun, rydych yn gweld y gofalwr, efallai na fyddwch yn gweld unrhyw un arall. Ar Ynys Môn, maent wedi bod yn dod â phobl at ei gilydd fel y gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'i gilydd, ac maent wedi bod yn llwyddiannus iawn. Yn yr enghraifft honno, maent eisoes yn siarad ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i weld a allant ymestyn y cynllun peilot hwnnw ymhellach.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n hollbwysig fod cynlluniau ariannu fel y gronfa arloesi i arbed yn cyrraedd prosiectau ledled Cymru, ac fel y cyfryw, mae'n bwysig fod pob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru yn ymwybodol o'r cynllun. Felly, a allwch ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r cynllun ym mhob rhan o Gymru er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol ohono? Er fy mod yn sylweddoli mai newydd gael ei lansio y mae'r ail rownd, a allwch ddweud wrthym hefyd sut y bwriadwch fonitro'r gronfa i sicrhau ei heffeithiolrwydd?

Wel, yn gyntaf oll, a gaf fi gytuno â Paul Davies ein bod yn awyddus iawn i ledaenu amlygrwydd y gronfa a dealltwriaeth ohoni ledled Cymru? Dyna pam rydym yn gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Nesta fel sefydliadau sydd eisoes yn cyrraedd pob rhan o'r trydydd sector i sicrhau bod llawer o bobl yn ymwybodol o'r cynllun ac yn ei ddeall. Rydym wedi ymestyn cyfnod yr ail rownd er mwyn gallu cynnal digwyddiadau mewn gwahanol rannau o Gymru, unwaith eto, er mwyn gallu egluro'r gronfa i bobl na fyddent wedi clywed amdani fel arall o bosibl, ac er mwyn annog ceisiadau o ble bynnag y dônt. Ac wrth gwrs, byddwn yn defnyddio ein model buddsoddi i arbed i sicrhau bod y buddsoddiadau a wnawn drwy'r cynllun arloesi i arbed yn darparu enillion priodol ar y buddsoddiad a wnawn.

Cyllid ar gyfer Prosiectau Cyfalaf

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf dros y tair blynedd nesaf? OAQ52160

Diolch i Andrew Davies am ei gwestiwn. Bydd ein cyllideb gyfalaf gonfensiynol 20 y cant yn is yn 2019-20 nag ar ddechrau'r degawd hwn. Serch hynny, drwy arloesi a phenderfyniad, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu £6.5 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf dros y tair blynedd nesaf, i gefnogi tai, ysgolion ac ysbytai ledled Cymru gyfan.

14:25

Rwy'n falch eich bod wedi rhoi ateb mor hir, Brif Weinidog. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy ngalw, ac roeddwn newydd roi Polo yn fy ngheg, nad yw'n beth doeth i'w wneud cyn gofyn cwestiwn, Lywydd—

Roeddwn yn gweld eich bod yn brysur yn darllen rhywbeth, felly penderfynais geisio'ch dal chi wrthi.

Yr hyn yr hoffwn ofyn i'r Ysgrifennydd cyllid, os caf, os gwelwch yn dda, yw hyn: mae'r Llywodraeth newydd gwblhau'r ymchwiliad cyhoeddus i ffordd liniaru'r M4, ac mae'r pwysau o ran costau, yn amlwg, wedi cynyddu'n ddramatig mewn perthynas â'r costau a ragwelir ar gyfer y ffordd liniaru. Mae ffigurau Llywodraeth Cymru bellach yn £1.4 biliwn—dyna'r ffigur a gyflwynwyd i'r ymchwiliad cyhoeddus. Pa mor hyderus yw Ysgrifennydd y Cabinet mai'r £1.4 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr ymchwiliad—os bydd yr ymchwiliad o blaid y prosiect cyfalaf hwn—fydd y swm terfynol y bydd yn rhaid iddo ef fel Ysgrifennydd cyllid ddod o hyd iddo? Ac os bydd yn rhaid dod o hyd i'r swm mwy hwnnw o arian, pa mor hyderus yw ef na fydd prosiectau cyfalaf eraill mewn rhannau eraill o Gymru yn dioddef o ganlyniad i hynny?

Wel, Lywydd, dyna'r swm o arian y gofynnir i mi ddod o hyd iddo ar hyn o bryd, a chedwir y cronfeydd hynny wrth gefn ar gyfer prosiect yr M4, gan ddisgwyl canlyniad yr ymchwiliad sydd ar y gweill. Gan fod hwn yn brosiect a fydd yn parhau i'r dyfodol, mae'n rhan o'r rheswm pam fy mod wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i ddweud wrthi y byddaf yn ceisio ymestyn ein pwerau benthyca ar gyfer y blynyddoedd hynny yn y dyfodol, fel y gallwn sicrhau, yn y ffordd yr awgryma Andrew R.T. Davies, os yw prosiect yr M4 yn mynd rhagddo, a'n bod yn gwneud y buddsoddiad hwnnw, nad yw'n mynd rhagddo ar draul buddsoddiadau angenrheidiol eraill mewn rhannau eraill o Gymru.

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i arweinydd y tŷ, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.

Gwella Cynhwysiant Digidol

1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gamau i wella cynhwysiant digidol ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ52174

Yn sicr. Drwy Cymunedau Digidol Cymru, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a rhaglenni ledled Merthyr Tudful a Rhymni sydd mewn sefyllfa dda i gyrraedd y bobl sydd wedi'u hallgáu fwyaf yn ddigidol. Maent yn darparu'r cymorth sylfaenol sydd ei angen gyda sgiliau digidol er mwyn sicrhau gwell canlyniadau economaidd, deilliannau dysgu a chanlyniadau iechyd.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi cael dadl fawr a datganiad ar hyn ddoe. Mae gennyf ddau gwestiwn i chi heddiw, ac mae'r ddau'n ymwneud â chynhwysiant digidol. Felly, maddeuwch i mi. Bydd fy ail gwestiwn yn ategol i'r cwestiwn hwn. Ond yn y gobaith y byddwch, yn fuan, yn nodi hanes blaenorol Llywodraeth Cymru o fuddsoddi mewn gwasanaethau digidol a band eang ym Merthyr Tudful a Rhymni, a ydych yn cytuno ei bod yn hanfodol ein bod yn canolbwyntio hefyd ar weithredu strategaeth cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018? Oherwydd mae'r strategaeth honno'n atgyfnerthu'r pryderon ynglŷn â'r bwlch rhwng pobl o dan anfantais a chyflymder y newid mewn gwasanaethau digidol. Felly, er na allwn rwystro'r cynnydd, a oes unrhyw waith pellach y gallwn ei wneud yn ein cymunedau yn y Cymoedd i gefnogi'r strategaeth ac i gefnogi pobl ar y llwybr tuag at sicrhau'r sgiliau digidol sydd mor hanfodol i fywyd modern a'r agenda les ehangach?

Oes, yn sicr. Lywydd, rwy'n credu y bydd gennyf sawl cyfle yn y man i sôn am gyflwyno band eang, felly nid wyf am ddweud gormod yma. Ond pan fyddwn wedi cwblhau'r broses gyflwyno, mae'n amlwg yn bwysig iawn fod gan bobl sgiliau a hyder i fanteisio i'r eithaf ar dechnolegau digidol. A cheir rhai enghreifftiau gwych, mewn gwirionedd, ym Merthyr Tudful a Rhymni ar hyn o bryd. Rydym yn darparu'r arweinyddiaeth strategol sydd ei hangen i fynd i'r afael ag allgáu digidol, gan gydnabod bod y gofynion o ran sgiliau digidol i ddiwallu anghenion economi a chymdeithas fodern ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn newid o hyd. Felly, mae angen ymdrech gydunol a chydweithredol ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ac ar draws ein cymunedau, i greu cymdeithas sy'n wirioneddol gynhwysol yn ddigidol. Ac felly, rydym yn gweithio'n agos iawn ar draws nifer o bortffolios y Cabinet, gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, gyda chydweithwyr yn y trydydd sector fel rhan o dasglu'r Cymoedd, ac mae gennym gynllun gweithredu digidol ar gyfer tasglu'r Cymoedd, sy'n gyffrous iawn. Rwy'n credu fy mod wedi dweud ddoe fod nifer o elfennau yn y cynllun. Un yw cronfa ddata ddaearyddol a gynlluniwyd i alluogi pobl i gael mynediad at ystod o ddata y gallant ei ddefnyddio yn eu bywydau personol, i wneud defnydd o wasanaethau cyhoeddus, ac i ddatblygu apiau ar gyfer busnesau bach a chanolig. Un yw cymorth i ddatblygu apiau o'r fath a Wi-Fi cymunedol i'w gwneud hi'n bosibl eu defnyddio ar raddfa eang. Felly, ceir nifer o brosiectau pwysig iawn, ond mae'n bwysig fod y sgiliau gan bobl i gael mynediad atynt, neu fel arall byddwn yn gwaethygu arwahanrwydd cymdeithasol.

Arweinydd y tŷ, mae adroddiad cynnydd diweddar Llywodraeth Cymru ar gynhwysiant digidol yn nodi bod Merthyr Tudful yn ardal heb lawer o weithgarwch cynhwysiant digidol yn digwydd ynddi. Arweiniodd hyn at ffurfio partneriaeth Get Merthyr Tydfil Online. O gofio bod mynegai datblygu digidol Barclays 2017 wedi honni bod sgôr gweithwyr yng Nghymru ymhlith yr isaf o holl ranbarthau'r DU o ran eu sgiliau digidol, a bod cyflogwyr yn barod i dalu premiwm i weithwyr â sgiliau prosesu geiriau, dadansoddi data a chyfryngau cymdeithasol, a wnaiff arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar waith y bartneriaeth ar wella cynhwysiant digidol ym Merthyr Tudful a'r cymoedd cyfagos, os gwelwch yn dda?

14:30

Ie. Rydych yn gwneud pwynt da iawn. Mae nifer o arolygon wedi'u cynnal yn ddiweddar. Yn anffodus, mae bob amser yn anhawster yng Nghymru, o ran maint yr arolwg, felly os ydych yn ei allosod ar draws Cymru, nid ydym yn hollol sicr pa mor ddilys yw'r data, yn ystadegol. Ond serch hynny, mae'n tynnu sylw at rai o'r problemau difrifol sydd gennym o ran allgáu digidol. Ac yn sicr, mae'n broblem sy'n ymwneud â chenhedlaeth. Mae'r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau ar yr un pryd. Rydym angen i bobl fod yn meddu ar y sgiliau digidol sylfaenol, y gallu i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, a'r gallu i barhau i gymryd rhan yn gymdeithasol ac ati, ond rydym hefyd angen y sgiliau digidol lefel uwch yn ein gweithlu oedran gwaith, ac yn ein pobl ifanc, er mwyn datblygu'r rhaglenni sy'n caniatáu i bobl feithrin y sgiliau hynny.

Rhan o fenter y Cymoedd Technoleg, a nifer o fentrau eraill ym Merthyr, fel y dywedais wrth Dawn Bowden, mewn partneriaeth â nifer o bartneriaid, yw gwneud y ddau beth gyda'i gilydd. Ac mae gennym brosiectau rhyng-genhedlaeth cyffrous iawn, lle mae gennym bobl ifanc gyda lefelau uchel iawn o sgiliau digidol yn cynorthwyo mewn ysbytai ac mewn amgylchiadau preswyl, drwy helpu pobl hŷn, nad oes ganddynt y sgiliau hynny, i fynd ar-lein, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae'n galonogol iawn mewn nifer o ffyrdd, mewn gwirionedd, i weld y gwaith hwnnw rhwng y cenedlaethau. Felly, mae yna nifer o ffyrdd arloesol y gallwn helpu gyda hynny, ond rwy'n cytuno bod y—wel, mae maint y samplau'n broblem ddifrifol, felly mae angen i ni edrych ar ffyrdd mwy effeithiol o gasglu'r data.

Hyrwyddo Cynhwysiant Digidol

2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cynhwysiant digidol yng Nghymru? OAQ52188

3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo cynhwysiant digidol? OAQ52184

Lywydd, credaf eich bod wedi cytuno i gyfuno'r cwestiwn hwn â chwestiwn 3.

Mae Cymunedau Digidol Cymru, a llawer o gamau gweithredu eraill yn ein fframwaith a'n cynllun cyflawni, yn cefnogi mwy o bobl i gael y budd mwyaf posibl o'r cyfleoedd sy'n newid bywydau y mae technolegau digidol yn gallu eu cynnig.

Diolch. Dim ond 51 y cant o bensiynwyr sy'n byw ar eu pen eu hunain, a 25 y cant o bobl anabl yng Nghymru sydd â mynediad at y rhyngrwyd. Mae diffyg sgiliau a hyder yn aml yn ffactorau allweddol sy'n atal pobl rhag mynd ar-lein. Mae dysgu sut i ddefnyddio technoleg a mynd ar y rhyngrwyd, yn ddi-os, yn lleihau unigrwydd ac unigedd cymdeithasol ymhlith pobl hŷn, gan eu helpu i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Mae meithrin sgiliau digidol yn gallu newid byd, a galluogi pobl i ailddarganfod hen gysylltiadau a ffurfio rhai newydd. Dangoswyd bod prosiectau rhyng-genhedlaeth o fudd mewn amrywiaeth o feysydd, ac mae sgiliau digidol yn ail natur i'r rhan fwyaf o bobl ifanc erbyn hyn, ac maent yn elwa o rannu eu gwybodaeth. Ceir rhai enghreifftiau gwych o amgylch Cymru lle mae hyn wedi digwydd, ond beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog a chefnogi prosiectau digidol rhyng-genhedlaeth?

Wel, fel y dywedais, mae gennym brosiectau arloesol iawn ar y gweill. Ond os caf ddefnyddio rhai o'r ystadegau sydd gennym: mae 85 y cant o oedolion yng Nghymru bellach yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd, o gymharu â 66 y cant yn 2010, a buddsoddir £1 filiwn y flwyddyn yn y rhaglen cynhwysiant digidol benodol, ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, ac rydym wedi gwneud hynny bob blwyddyn ers 2015. Ers hynny, rydym wedi cynorthwyo dros 117,300 o unigolion i ymgymryd â thechnoleg, ac rydym wedi hyfforddi dros 1,000 o arwyr digidol ifanc, sef y rhaglen rydym yn sôn amdani, lle mae pobl ifanc o ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid yn gwirfoddoli i gynorthwyo pobl hŷn i ymwneud â thechnoleg ddigidol.

Mae'r rhan fwyaf o weithgareddau ariannu yn y cyswllt hwn wedi'u hanelu at fynd i'r afael â'r sgiliau digidol sylfaenol roeddem yn sôn amdanynt, gan alluogi pobl hŷn i fod yn llai ynysig yn gymdeithasol ac i gael mynediad at wasanaethau sylfaenol. Ond rydym yn ymwybodol iawn hefyd ein bod eisiau cynyddu sgiliau digidol y bobl ifanc sy'n gwneud y gwaith gwirfoddol a'r addysgu mewn gwirionedd, a chynnwys hynny yn y gwaith cwricwlwm rydym yn ei wneud, a chyda'n cynllun arwyr digidol. Felly, mae'n rhaglen wych, ac rydym yn datblygu'r ddwy ochr i hynny mewn gwirionedd, ac yn bwriadu cyflwyno hynny mor eang â phosibl drwy Gymru. Rwyf wedi bod yn trafod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud mewn ysbytai ar gyfer pobl sydd wedi'u hynysu yn gymdeithasol, sydd wedi bod yn yr ysbyty am gyfnodau hir, lle mae gennym gynulleidfa barod ar un ystyr, Lywydd.

Arweinydd y tŷ, mae cynhwysiant digidol yn dibynnu ar gyflymderau band eang digonol, a gwn, dros fisoedd lawer, eich bod wedi dangos diddordeb brwd yn fy mannau gwan yn Sir Fynwy, ac wedi ymweld â nifer ohonynt. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi yn ddiweddar eu bod eisiau cyflwyno cynllun peilot pumed genhedlaeth ar draws fy ardal yn ne-ddwyrain Cymru. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn ag unrhyw drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r cynllun peilot hwnnw, yr amserlen ar gyfer y peilot, ei gyrhaeddiad, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu ar hynny i ddysgu gwersi o'r cynllun peilot hwnnw a chyflwyno'r arfer da ar draws gweddill de Cymru a gweddill Cymru?

14:35

Gallaf, rydym wedi gofyn i'r Arloesfa ymchwilio i sut yn union y gallwn fanteisio ar y technolegau 5G yn y ffordd orau ynghyd â nifer fawr o ffynonellau gwahanol o arian sydd bellach ar gael mewn nifer o wahanol gyfluniadau, mewn gwirionedd, a thrafodais rai o'r rheini ddoe, Lywydd, yn ystod fy natganiad. Nid wyf am ailadrodd pob un ohonynt, ond yn sicr, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ar flaen y gad o ran y dechnoleg, ein bod yn helpu busnesau bach a chanolig i fanteisio ar y dechnoleg, ein bod yn sicrhau bod y broses o werthu sbectra'n cael ei gwneud mewn ffordd sy'n ein galluogi i gael mynediad at y technolegau hynny heb eu datgysylltu, a'n bod hefyd yn annog y diwydiant moduron yn benodol, ond diwydiannau digidol eraill, i ddod yma i fanteisio ar y sgiliau rydym yn eu cynhyrchu.

Felly, mae gennym nifer o fentrau arloesol yn digwydd ar yr un pryd, gan gynnwys pethau fel yr Academi Feddalwedd Genedlaethol yr ydym yn ei hariannu yng Nghasnewydd, sydd â rhaglen radd arloesol iawn yn seiliedig ar ddatrys problemau diwydiannau'n uniongyrchol ac sydd wedyn yn cael eu cyflwyno i'r diwydiannau hynny, a'r Arloesfa ei hun. Eisoes, mae nifer o drafodaethau parhaus ar y gweill rhyngom a'n diwydiannau yma yng Nghymru, oherwydd mae'n bwysig gwella sgiliau'r gweithlu cyfredol, yn ogystal â denu technolegau digidol arloesol. Felly, mae yna nifer fawr o ffyrdd gwahanol rydym yn cefnogi'r datblygiadau hynny o amgylch yr hybiau technoleg, yn y Cymoedd yn benodol.

Bydd arweinydd y tŷ yn esgusodi fy niffyg dealltwriaeth o rai o'r materion sy'n ymwneud â thechnoleg. Dof o genhedlaeth lle roedd technoleg cyfathrebu yn golygu ymestyn llinyn ar draws y ffordd a rhoi tun ar bob pen iddo. [Chwerthin.] Ond rwy'n deall bod band eang cyflym iawn 96 y cant yn ardal Pontypridd yn dda iawn.

A gaf fi ofyn i chi ynglŷn ag ystadau—ystadau newydd sy'n cael eu hadeiladu? Mae yna enghraifft yn fy ardal yn Nyffryn y Coed, datblygiad Persimmon yn Llanilltud Faerdref, lle roedd yna ddau gam. Roedd y cam cyntaf yn cysylltu â band eang cyflym iawn drwy'r band eang ffeibr, ac mae hwnnw'n iawn. Ond nid yw cam 2 yn cysylltu â hwnnw—nid oes ganddo'r lefel uchaf honno, oherwydd ni ofynnodd y datblygwyr amdani. Nawr, yn sicr, rhaid bod gofyniad sy'n dweud bod yn rhaid i ddatblygiadau newydd, bron fel rhan o'u caniatâd cynllunio—gofyniad i wneud hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae gennyf nifer fawr o etholwyr bellach sy'n dweud wrthyf mai'r cyngor gorau y maent yn ei gael yw sefydlu endid cyfreithiol i wneud cais am grant o £4,800, yna mae'n broses 17 cam, a fydd yn cymryd 12 mis, i gael y math hwnnw o gysylltiad ffeibr mewn gwirionedd.

Rwyf wedi ysgrifennu atoch am hyn, ond a yw hon yn broblem sydd wedi codi mewn mannau? Beth y gallwn ei wneud ynglŷn â hynny? Ac oni ddylem fod yn sicrhau ei bod yn rhwymedigaeth orfodol ar ddatblygwyr?

Ydi, mae wedi bod yn ddraenen gyson yn ein hystlys mewn gwirionedd, ac mae'r holl fater yn ymwneud ag a yw'n dechnoleg seilwaith neu'n gynnyrch moethus. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU yn parhau i'w ystyried yn gynnyrch moethus yn hytrach na seilwaith, ac felly mae gennym lai o bwerau da yn y maes o ran yr hyn y gallwn ei wneud. Ond rwyf wedi cael sgyrsiau helaeth, gyda fy Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio, a chyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio mewn gwirionedd, ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i annog cynghorau i'w gynnwys yn rhan o gytundebau 106, er enghraifft, ac i annog yr adeiladwyr tai i osod gwifrau yn eu heiddo mewn gwirionedd.

Mae gan adeiladwyr tai, lle maent yn adeiladu dros 30 o dai ar yr un pryd, gytundeb â BT i osod y seilwaith. Ond fel arall mae'n fater o negodi rhwng y datblygwr a pha gwmni technoleg bynnag y maent yn negodi â hwy.

Fodd bynnag, mae'r cynllun rydych yn sôn amdano yn gynllun ffeibr cymunedol BT. Mae gennym gynlluniau eraill ar gael yng Nghymru a chredaf eich bod wedi ysgrifennu ataf, felly byddaf yn cysylltu â chi ynglŷn ag atebion eraill a allai fod yn bosibl ar gyfer y gymuned arbennig honno. Mae'n broblem barhaus yr ydym yn ymwybodol ohoni ac rydym yn ceisio ei datrys.

Arweinydd y tŷ, mae Casnewydd wedi bod yn denu buddsoddiad i'r sector digidol ac mae'n awyddus i ddenu llawer mwy gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Fe sonioch chi am yr academi feddalwedd a'r potensial ar gyfer cymwysterau lefel gradd. A oes angen sicrhau hefyd fod hyd yn oed mwy o bwyslais ar hyfforddiant ar gyfer pobl sydd, efallai, mewn swyddi ar gyflogau is ar hyn o bryd, ac sy'n rhan-amser, fel y gallant uwchsgilio, cynyddu eu hincwm a llywio datblygiad yr economi ddigidol rydym eisiau ei gweld yn ogystal ag elwa ohoni?

Oes, yn bendant. Mae angen sgiliau sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ar draws y sbectrwm. Felly, rydym eisiau cynhyrchu graddedigion y dyfodol, ond rydym hefyd angen y technegwyr ac ati. Felly, mae gennym nifer o gynlluniau cyflogadwyedd. Nid ydynt yn rhan o fy mhortffolio, ond mae gennym nifer fawr o gynlluniau cyflogadwyedd a rhaglenni sgiliau hyblyg, sydd ar gael i gwmnïau sy'n bodoli eisoes i wneud yn union hynny—uwchsgilio eu gweithlu cyfredol. Hefyd, mae gennym gynlluniau cyflogadwyedd ar gyfer pobl nad ydynt eto yn y farchnad i gael eu sgiliau i mewn iddi. Felly, caiff y ddau beth hynny eu cynnwys. Mae'r academi feddalwedd yn edrych ar gyflwyno allgymorth ar gyfer pobl a allai fod eisiau gwneud sgiliau lefel 3 yn ogystal—felly cymwysterau sy'n gyfwerth â lefel A a'r diploma cenedlaethol uwch, gyda llwybr i gamu ymlaen at addysg uwch, neu lwybr i mewn i gyflogaeth yn wir ar y pwynt hwnnw. Felly, rydym yn ystyried hynny. Yn bendant, mae angen pawb ar bob lefel o'r ystod o alluoedd.

14:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Mae cydraddoldeb yn golygu sicrhau bod pobl yn gallu byw eu bywydau i’w llawn botensial, a’u bod yn gallu byw yn annibynnol. Rydw i'n siŵr eich bod chi’n cytuno efo’r geiriau yna. Dyna pam fod y model cymdeithasol ynglŷn ag anabledd wedi bod yn ffordd o rymuso bywydau pobl anabl, ac wedi gwneud i wasanaethau cyhoeddus feddwl am anabledd mewn ffordd wahanol. Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu llawer o bobl anabl ydy diffyg arian neu dlodi. Yn amlwg, mae tlodi yn gallu gwneud ansawdd bywyd person anabl yn sylweddol waeth. A ydych chi’n cytuno bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i roi cefnogaeth ariannol i bobl anabl a theuluoedd sydd â phlant anabl, fel eu bod yn gallu goresgyn rhai o’r rhwystrau mae cymdeithas yn eu gosod arnyn nhw?  

Ie, yn wir. Mae'r Aelod, fel bob amser, yn codi pwynt pwysig iawn. Nid yw'n rhan uniongyrchol o fy mhortffolio mewn gwirionedd. Mae gennyf farn drosfwaol ar y cydraddoldebau rwy'n gweithio arnynt gyda'r holl Weinidogion a'r holl Ysgrifenyddion Cabinet eraill. Felly, mewn gwirionedd, fy nghyd-Aelod, y Gweinidog plant, sy'n ymdrin â'r rhan fwyaf o'r cyllid sydd ar gael, ond rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd iawn gydag ef am yr effaith ar deuluoedd anabl a'u cymunedau. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag Anabledd Cymru a nifer o grwpiau eraill yn y sector i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyllid sydd ar gael. Mae terfyn i'r hyn y gallwn ei wneud o ran cyflwyno'r credyd cynhwysol, er enghraifft, sy'n achosi peth pryder yn yr ardaloedd lle mae wedi'i gyflwyno'n llawn, ond rydym yn ymwybodol o rai o'r problemau hynny.

Diolch yn fawr. Mi fyddwch chi’n ymwybodol bod gan Blaid Cymru gynnig nes ymlaen y prynhawn yma lle byddwn ni’n trafod tlodi plant, a bod y cynnig hwnnw yn gofyn am ddatganoli gweinyddu rhannau o’r gyfundrefn les. Ond, wrth gwrs, mae yna rai budd-daliadau eisoes wedi eu datganoli’n llawn, neu mae’r rheolaeth weinyddol drostyn nhw yma yng Nghymru yn barod—Cronfa'r Teulu, budd-dal y dreth gyngor, elfennau o'r gronfa gymdeithasol ac, wrth gwrs, y gronfa byw'n annibynnol. 

A ydych chi’n hapus efo’r ffordd mae’ch Llywodraeth chi wedi bod yn delio efo cyfrifoldeb dros y cronfeydd yma? Rydw i'n derbyn efallai mai’r Gweinidog arall fyddai’n gallu ateb yn fwy manwl, ond, yn gyffredinol, a ydych chi’n hapus efo perfformiad eich Llywodraeth chi yn delio efo’r cronfeydd yma?

Credaf ei fod yn faes cymhleth iawn, ac nid yw'n rhan o fy mhortffolio, felly, maddeuwch i mi, ni fydd gennyf y lefel angenrheidiol o fanylion i'w ateb â'r manylder y byddech yn ei hoffi o bosibl. Huw Irranca-Davies, fy nghyd-Aelod, sy'n gyfrifol am y cyllid mewn gwirionedd, ond fel y dywedais, rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd iawn gydag ef a nifer o grwpiau gwirfoddol yn y sector i weld beth y gallwn ei wneud. Rwy'n ymwybodol o'r ddadl faith ac athronyddol, bron, ynglŷn ag a allwch weinyddu'r system les yn seiliedig ar set o werthoedd nad ydych yn eu rhannu, ac yn sicr nid ydym yn rhannu'r gwerthoedd sy'n gysylltiedig ar hyn o bryd â ffordd Llywodraeth y DU o weithredu'r system les honno.

Rwy'n siŵr y gwelwn, yn y ddadl y prynhawn yma, fod nifer o faterion yn codi ynglŷn ag a fyddech chi mewn gwirionedd yn cael yr arian angenrheidiol i'w chynnal heb dorri i mewn i wasanaethau eraill ac ati, ond mewn egwyddor wrth gwrs, byddem yn hoffi gweld y system les yn cael ei gweithredu fel y bwriadwyd iddi gael ei gweithredu, sef er budd y bobl sydd angen cymorth i allu byw eu bywydau'n llawn. Credaf ein bod, yn ôl pob tebyg, yn rhannu'r farn nad yw'n cael ei gweithredu yn y ffordd honno ar hyn o bryd.

Mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn, yn cynnal nifer o adolygiadau o'r cronfeydd amrywiol, a byddai ef mewn sefyllfa well i roi rhai o'r manylion i chi ar hynt yr adolygiadau hynny ar hyn o bryd.

Diolch yn fawr ac edrychwn ymlaen at gael y drafodaeth yna ar ddatganoli lles yn nes ymlaen prynhawn yma.

Ond mae’n amlwg nad ydy pawb yn eich plaid chi yn hapus efo rhai agweddau, yn sicr, o’r cronfeydd yma—er enghraifft, diddymu’r gronfa byw'n annibynnol. Rydw i'n deall bod yna gynnig wedi cael ei basio i adfer y gronfa yma gan gynhadledd y Blaid Lafur, a oedd o blaid mabwysiadu model yr Alban. Felly, a fedrwch chi egluro sut mae dileu’r cymorth hanfodol yma, ynghyd, hefyd, â thorri’r arian i Gronfa'r Teulu—? Sut mae gwneud hynny yn gydnaws efo’r geiriau cychwynnol gen i ac efo egwyddorion deddfwriaeth cydraddoldeb, a’ch dyletswydd chi i symud rhwystrau sy’n wynebu pobl â phlant anabl?

14:45

Dyma un o'r anawsterau sy'n deillio o fod yn gyfrifol am un o'r portffolios trawsbynciol. Felly, nid wyf am roi ateb sy'n foddhaol i chi, yn syml oherwydd nad fi yw'r Gweinidog sydd â manylion y gronfa dan sylw, felly nid cwestiwn i mi ei ateb yw hwnnw. Ond yn gyffredinol, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda'r Gweinidog ynglŷn â beth rydym yn ei wneud i adolygu'r gronfa, beth yw ei nodau cyffredinol, faint o arian sydd ynddi a beth yw'r peth gorau i'w wneud ag ef, ochr yn ochr â'r gwahanol sefydliadau rydym yn cysylltu â hwy—grwpiau rhanddeiliaid ac ati.

Rwy'n ymwybodol fod yna amrywiaeth o safbwyntiau ar hyn, ond yn anffodus, nid fi yw'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am hynny. Rwy'n eich sicrhau ein bod yn cael y sgwrs fel y gallwn sicrhau cymaint o fudd â phosibl i deuluoedd anabl. Ond yn sicr, nid oes amheuaeth o gwbl ein bod yn cael anhawster gydag agenda cyni nad ydym yn cytuno â hi a lle rydym yn ymdrin â system ddogni nad ydym yn cytuno â hi chwaith. Felly, mae'n fater o geisio dod o hyd i'r llwybr gorau drwy hynny a lleddfu, lle bo hynny'n bosibl, yr anawsterau y mae pobl sy'n byw gydag anableddau, ac sy'n byw gyda phlant ag anableddau, yn eu hwynebu yn eu bywydau.

Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, 18 mis yn ôl, fe gyhoeddoch y bwriad i gyhoeddi'r cynllun gweithredu ar ffonau symudol. A gaf fi ofyn, ers y dyddiad hwnnw, pa fesurau pendant rydych wedi'u gweithredu i wella signal ffonau symudol yng Nghymru? A phryd oedd y tro diwethaf i chi gyfarfod yn uniongyrchol â gweithredwyr ffonau symudol?

Rwy'n cyfarfod â gweithredwyr ffonau symudol ar raglen dreigl o gyfarfodydd â'r gwahanol weithredwyr. Nid wyf wedi cael cyfarfod grŵp â hwy ers cryn amser, ers i ni lansio'r cynllun gweithredu, ond rwy'n cael rhyw fath o gyfres o gyfarfodydd gyda hwy, os hoffech chi. Rydym hefyd yn gohebu'n rheolaidd gydag Ofcom. Rydym wedi cael llawer mwy o drafodaethau gydag Ofcom yn ddiweddar iawn—mae'n teimlo fel cylch diddiwedd yma i raddau, Lywydd, oherwydd cawsom y ddadl ddoe—ar faterion megis rhannu seilwaith, cynllunio eich seilwaith yn fwy effeithlon, pa anghenion cynllunio sy'n angenrheidiol mewn gwirionedd, beth yw'r angen gwirioneddol am ostyngiad mewn taliadau ardrethi annomestig, a pham eu bod mor wrthwynebus i drawsrwydweithio mewn ardaloedd lle maent oll wedi cytuno mai un gweithredwr yn unig sy'n debygol o ddarparu signal daearyddol o 98 y cant. Credaf fy mod wedi trafod rhywfaint o hynny gyda chi ddoe hefyd.

Fe wnaethoch, ac fe ofynnais yn fy nghwestiwn pa fesurau pendant rydych wedi'u rhoi ar waith i wella signal ffonau symudol yng Nghymru. Ni chlywais unrhyw beth ynglŷn â pha fesurau gwirioneddol rydych wedi'u cyflawni. Buaswn yn awgrymu efallai y dylech gyfarfod â'r gweithredwyr gyda'i gilydd, oherwydd byddent yn gallu dweud wrthych beth yw'r rhwystrau. Maent yn dweud wrthyf beth yw'r rhwystrau, ac rwy'n credu eu bod angen esbonio rhai o'r rhwystrau hyn i chi. Fe ddywedoch chi ddoe eich bod yn anghytuno'n llwyr â fy nadansoddiad o'r sefyllfa gyda ffonau symudol, ond rwy'n credu ei bod yn bwysicach i bobl Cymru fod y diwydiant ffonau symudol i'w weld yn cytuno gyda fy nadansoddiad i.

Nawr, ddoe, fe ddywedoch hefyd fod y problemau daearyddol yng Nghymru yn wahanol i unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â chi am hynny, ond dyna'n union pam y mae angen i chi feithrin yr amodau cywir i'r diwydiant gyflwyno ei seilwaith yma yng Nghymru, ac mae'r gweithredwyr yn dweud bod oedi parhaus ar ddiwygio'r deddfau cynllunio cyfredol yn gohirio ac yn ychwanegu costau ychwanegol ar eu cyfer. Credaf mai hyn, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, sy'n achosi problemau i ni. Nawr, gyda newidiadau i'r rheolau cynllunio eisoes ar waith yn Lloegr ac yn yr Alban, rydym bellach yn ceisio dal i fyny yng Nghymru. Rydych yn dweud bod angen mwy o dystiolaeth gan y diwydiant, ond buaswn yn gofyn i chi pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch yn ychwanegol at y dystiolaeth y maent eisoes wedi'i darparu i chi. Dyna yw fy nghwestiwn penodol.

Y llynedd, cynhaliodd y pwyllgor economi ymchwiliad ar hyn ac fe wnaethom rai argymhellion ar ddarpariaeth symudol ac rwy'n falch o ddweud eich bod wedi derbyn pob un ohonynt. Un o'r argymhellion hynny oedd y dylech archwilio dichonoldeb defnyddio'r gyfundrefn gynllunio i annog gweithredwyr i rannu seilwaith. Fe wnaethoch gytuno â hynny, felly hoffwn gael diweddariad ar hynny. Rydych hefyd wedi derbyn argymhelliad 9, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynnig rhyddhad ardrethi annomestig ar gyfer mastiau newydd. Wel, rwy'n falch o ddweud eich bod wedi derbyn hwnnw yn ogystal. Ac fe ddywedoch yn eich ateb ar y pryd—naw mis yn ôl—eich bod yn archwilio'r potensial ar gyfer newidiadau ar yr adeg honno ac y byddai'r gwaith ymchwil hwnnw wedi ei gwblhau ym mis Tachwedd 2017. Felly, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd ar hyn os gwelwch yn dda?

Gallaf. Mae rhan fawr o hynny, mewn gwirionedd, ym mhortffolio fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, sydd hefyd yma i glywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud, ond rwy'n credu fy mod wedi trafod llawer ohono ddoe. I fod yn glir, un o'r problemau mawr sydd gennym o ran dweud wrthych beth yw'r pethau pendant rwyf wedi'u gwneud, yw nad yw'r mater wedi'i ddatganoli mewn gwirionedd. Rydym yn anghytuno'n sylfaenol â Llywodraeth o'ch lliw gwleidyddol chi yn y DU ynglŷn ag a yw hwn yn fater seilwaith ai peidio. Rwy'n ymwybodol iawn y bydd y gweithredwyr ffonau symudol yn dweud wrthych mai'r cyfan y maent ei angen yw'r gallu i adeiladu mastiau mwy o faint a bydd popeth yn iawn. Ond nid wyf eisiau gweld, ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl Cymru eisiau gweld, coedwig o fastiau yng nghanol y parc cenedlaethol, oherwydd ni ellir gwneud iddynt rannu'r seilwaith a'r mastiau hynny, na defnyddio mastiau'r Swyddfa Gartref yn lle hynny. Felly, mae yna gydbwysedd gwirioneddol yma rhwng nifer y mastiau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yna gystadleuaeth mewn rhywbeth a ddylai fod yn seilwaith a sicrhau signal i Gymru, a phobl yn ymddwyn yn synhwyrol mewn ardaloedd sensitif.

Fel y dywedais, gorchymyn masnachol ganddynt hwy yw hwn, felly yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf yn y bôn yw eu bod eisiau i mi sicrhau y bydd fy nghyd-Aelod Cabinet yn caniatáu iddynt adeiladu mast o ba faint bynnag y byddent yn ei hoffi, lle bynnag y byddent yn hoffi, a chael gwared ar yr holl dariffau y byddai'n rhaid iddynt eu talu i fynd yno, ac yna byddant yn adeiladu rhwydwaith cyfan ar draws Cymru. Wel, mae'n ddrwg gennyf, nid yw hynny'n gwneud synnwyr mewn termau busnes. Rydym wedi gofyn iddynt am dystiolaeth i ddangos pam fod y gyfundrefn gyfredol ar gyfer codi tâl yn gwneud gwahaniaeth i'w hachos masnachol, a pham na allant rannu, a pham nad ydynt yn caniatáu trawsrwydweithio, ac yn anffodus, nid yw'r dystiolaeth rydym wedi'i chael yn ôl wedi bod yn dda. Felly, rydym wedi mynd ati eto i wneud hynny. Ar yr un pryd, rydym yn cynnal ymgynghoriad ar 'Polisi Cynllunio Cymru'—mae hwnnw ar fin dod i mewn—ac rydym ar fin ymgynghori ar newidiadau i'r gyfundrefn ddatblygu a ganiateir. Ond ni fyddant yn rhydd i wneud fel y mynnant, gan nad oes yr un ymgynghoriad wedi dweud wrthym mai dyna y mae pobl Cymru ei eisiau mewn gwirionedd.

14:50

Wel, rydych yn dweud nad yw'r materion hyn wedi'u datganoli. Mae'r ddau fater penodol y gofynnais i chi amdanynt yn sicr wedi'u datganoli. Gofynnais i chi am gynnig rhyddhad ardrethi annomestig ar gyfer mastiau newydd, ac ni wnaethoch ateb. Gofynnais i chi hefyd am y newidiadau i'r gyfundrefn gynllunio. Rydych yn dweud nad yw hyn yn rhan o'ch portffolio, ond dylech fod yn ateb—rydych eisoes wedi trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet—a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny. Felly, credaf ei bod yn rhwystredig fod cyn lleied o gynnydd wedi'i wneud.

Mae ymchwil newydd gan O2 yn dangos y gallai'r DU elwa o £6 biliwn o arbedion cynhyrchiant i wasanaethau hanfodol gan 5G. A gaf fi ofyn i chi sut rydych yn bwriadu gweithio gyda'r diwydiant i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad mewn perthynas â'r genhedlaeth nesaf hon o dechnoleg symudol ac nad yw'n colli buddsoddiad i rannau eraill o'r DU?

Iawn, wel, fe wnaf ailadrodd, oherwydd roeddwn yn meddwl fy mod wedi ateb y cwestiwn yn glir. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bendant i ddangos pam fod yr achos busnes yn dweud na allant rannu mastiau, fod angen adeiladu eu seilwaith eu hunain ar wahân, ac nad yw'r seilwaith hwnnw'n hyfyw heb ryddhad ardrethi annomestig. Felly, nid wyf wedi gweld y dystiolaeth honno eto, er ein bod wedi gofyn amdani sawl gwaith. Rydym yn ymgynghori. Rydym wedi cael y gwaith ymchwil; rydym yn ymgynghori ar sail y gwaith ymchwil hwnnw. Mae'r ymgynghoriad hwnnw'n dod i ben ym mis Mehefin, ac rydym ar fin dechrau'r hawliau datblygu a ganiateir. Felly, dyna'r ateb rydych wedi gofyn amdano, rwy'n credu. Mae'n bosibl nad dyna'r ateb y byddech yn ei hoffi, ond dyna'r ateb.

A'r ateb nesaf ar 5G—ac rwyf wedi dweud hyn droeon yn y Siambr hon—os oes gennym yr un sefyllfa ag sydd gennym gyda 4G, lle mae gennym fancio tir i bob pwrpas, lle mae gennych un gweithredwr sy'n berchen ar 4G ar gyfer Cymru ac os nad yw'n credu ei fod yn hyfyw yn fasnachol, yn syml iawn ni chaiff ei gyflwyno, nid yw'n dderbyniol. Felly, os ydynt yn ei brynu ac os nad ydynt yn ei ddefnyddio o fewn cyfnod penodol o amser, rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU sawl gwaith i roi terfyn ar hynny a dweud, 'Os nad ydych wedi'i ddefnyddio yn yr ardal benodol hon erbyn hynny, dylech ei roi yn ôl a gadael i'r sector cyhoeddus ei wneud fel ymyrraeth yn y farchnad'. Nawr, bydd hynny'n lleihau'r swm o arian a geir am werthu'r sbectrwm, ac mae honno'n broblem fawr oherwydd nid ydym yn credu y dylid ei ddefnyddio fel ffynhonnell arian, ac rwy'n ofni nad yw Llywodraeth y DU yn credu hynny. Felly, rydym yn cael dadl fawr gyda hwy ynglŷn â hynny, ac mae'n fater sylfaenol, oherwydd nid moethusrwydd yw hwn; mae'n seilwaith. Cyhyd â'n bod yn parhau i gael y ddadl honno, mae gennym broblem go iawn.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n addo i chi, arweinydd y tŷ, na fyddaf yn sôn am seilwaith digidol o gwbl. Ym mis Hydref 2017, lluniodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi adroddiad o'r enw 'Stolen freedom: the policing response to modern slavery and human trafficking'. Yn yr adroddiad hwnnw, mae'n dweud bod miloedd o ddynion, menywod a phlant yn cael eu diraddio a'u gwneud i deimlo'n annynol, heddiw a bob dydd. Er mai adroddiad ar gyfer y DU gyfan yw hwn, a all arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ymdrechion yng Nghymru i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern?

Gallaf, yn wir. Mae'r cydgysylltydd atal caethwasiaeth cyntaf yng Nghymru yn ei swydd, ac mae wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar system, ochr yn ochr â'n holl bartneriaid, i wneud yn siŵr fod yr hybiau amlasiantaethol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau, pan fydd pobl yn tynnu sylw at achosion, ein bod yn gallu eu prosesu'n gyflym, sicrhau eu bod mewn mannau diogel, a bwrw ymlaen â'r erlyniadau cyn gynted â phosibl. Nid oes llawer wedi bod hyd yn hyn, ond rydym yn hyderus iawn y bydd mwy ohonynt. Mae yna dair problem, fodd bynnag, a'r gyntaf yw'r broblem sy'n ymwneud â'r amgylchedd gelyniaethus—a elwir bellach yn amgylchedd 'cydymffurfio'. Nid ydym eisiau i bobl sy'n dod i'n sylw am eu bod wedi dioddef caethwasiaeth fodern orfod wynebu sefyllfa lle na fydd ganddynt unrhyw statws, ac fel sy'n digwydd yn yr achosion gwaethaf, eu bod yn gorfod wynebu alltudiaeth. Yn fwyaf arbennig, nid ydym eisiau i fenywod sy'n cael eu masnachu i fod yn y sefyllfa honno, a hwythau'n aml yn ffoi rhag trais domestig hefyd. Felly, rydym wedi bod mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gartref i drafod canlyniadau anfwriadol yn deillio o sawl cyfundrefn yn dod at ei gilydd, gan atal pobl rhag rhoi gwybod am eu sefyllfa am eu bod yn ofni y byddant yn cael eu rhoi mewn sefyllfa waeth. Ond rydym wedi cael ein canmol yng Nghymru am benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth a'i ymdrechion i ddod â'r gwasanaethau at ei gilydd, ac rydym yn falch iawn o hynny.

14:55

Wel, diolch i arweinydd y tŷ am y sylwadau hynny, ac rwy'n llwyr ategu'r hyn a ddywedodd am y cymhlethdodau hynny, ac y dylai unrhyw un mewn sefyllfa o'r fath gael y cymorth angenrheidiol ac na ddylent gael eu cosbi am y sefyllfa y maent ynddi. Ond pwysleisiodd y Comisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol, Kevin Hyland, fod dioddefwyr caethwasiaeth fodern o'r golwg yng ngolwg pawb, yn byw mewn amgylchiadau aflan ac yn gweithio mewn diwydiannau risg uchel, gan gynnwys safleoedd adeiladu, sefydliadau golchi ceir a salonau ewinedd. O ystyried bod yr holl ddiwydiannau hyn yn gyffredin yng Nghymru, onid yw'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd Cymru'n goddef y cam-drin sy'n gysylltiedig â'r mathau hyn o waith?

Ie, yn wir, ac rydym yn gwneud yn siŵr—. Rydym wedi bod yn cynnal nifer o ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd—yr ymgyrch 'Paid cadw'n dawel', a lansiwyd yr wythnos diwethaf, er enghraifft—sy'n tynnu sylw pobl at yr hyn y dylent edrych amdano, mewn achosion o drais domestig a thrais rhywiol, ond hefyd mewn achosion o gaethwasiaeth, a chyhoeddi astudiaethau ar deledu rhwydwaith ac ati, fel y gall pobl roi gwybod, os ydynt yn adnabod eu hunain, a deall ble i ddod o hyd i'r cymorth hwnnw. Mae rhan fawr o hyn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'r ffaith nad yw pobl yn deall mai dyna sy'n digwydd iddynt oherwydd nad ydynt yn deall y system y maent wedi cael eu masnachu neu eu symud i mewn iddi. Mae fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, wedi gwneud gwaith enfawr yn sicrhau'r math hwn o gyhoeddusrwydd hefyd.

Rydych yn hollol gywir fod yn rhaid i ni wneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o'u hamgylchiadau ac yn gwybod beth i'w wneud er mwyn gallu rhoi gwybod, a'u bod yn gallu dianc, os mynnwch, o'r amgylchiadau hynny gyda rhywfaint o ddiogelwch er mwyn i hynny ddigwydd. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr fod pob un o ddinasyddion Cymru yn ymwybodol ohono ac yn ei adnabod pan fyddant yn ei weld, fel y gallant roi gwybod amdano. Buaswn yn dweud ar y pwynt hwn, Lywydd, ein bod bob amser yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw amheuon o'r fath i gysylltu â'u heddlu lleol ar unwaith.

Wel, unwaith eto, diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ac rwy'n llwyr ategu'r ffaith bod Joyce Watson wedi gwneud llawer o waith mewn perthynas â hyn, ac rwy'n cydnabod hynny, wrth gwrs.

Ond mae nifer o sylwadau wedi'u gwneud mewn perthynas ag anallu'r asiantaethau dan sylw i sicrhau euogfarnau'r rheini sy'n cyflawni gwahanol agweddau ar gamfanteisio, yn enwedig mewn perthynas â gweithwyr mudol, ac a gaf fi ei gwneud yn glir yma fod rhaid i ni gael diffiniad o beth yw caethwasiaeth mewn gwirionedd? Mae'n iawn i ddweud y dylai pobl roi gwybod os ydynt yn ei adnabod ac yn ei weld, ond os nad oes gennym ddisgrifiad cywir o beth yw caethwasiaeth, ni fydd hynny'n digwydd. Felly, a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar nifer yr euogfarnau, nid atgyfeiriadau—euogfarnau—a gafwyd yng Nghymru mewn perthynas â chaethwasiaeth neu led-gaethwasiaeth?

Ie, nid oes gennyf yr ystadegau wrth law, felly byddaf yn ysgrifennu atoch gyda'r ystadegau penodol. Ond nid oes digon ohonynt, a dyna pam rydym wedi parhau i ddatblygu'r hybiau gwasanaeth amlasiantaethol, er mwyn dwyn y data angenrheidiol ynghyd i sicrhau bod erlyniadau'n llawer mwy tebygol o ddigwydd. Mae yna nifer fawr o resymau pam nad yw'r erlyniadau wedi digwydd, sy'n ymwneud yn bennaf â dibynadwyedd ac argaeledd data ar gyfer tystiolaeth. Mae hyn yn ymwneud â chael yr asiantaethau at ei gilydd fel bod gennym y data angenrheidiol ac fel nad ydym yn rhoi pobl mewn perygl o wynebu bygythiadau ac anawsterau pellach wrth roi gwybod am eu sefyllfa. Rydym yn obeithiol iawn y bydd nifer yr erlyniadau yn cyflymu wrth i ni fwrw ymlaen, gan fod yr hybiau amlasiantaethol yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda'r manylion penodol, gan nad ydynt gennyf wrth law ar hyn o bryd.

'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus'

4. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am yr adroddiad Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus? OAQ52181

Gwnaf. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar weithredu argymhellion yr adroddiad ar draws y Llywodraeth, busnesau, addysg a'r byd academaidd, ac mae cynnydd da'n cael ei wneud mewn nifer o feysydd.

Diolch. Efallai y byddwch yn ymwybodol fod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i feichiogrwydd a mamolaeth a menywod sy'n dychwelyd i'r gwaith yng Nghymru. Mae'n deg dweud—os oes unrhyw aelodau o'r pwyllgor yma—ein bod yn gweld rhai canfyddiadau brawychus iawn, mewn gwirionedd, mewn perthynas â'r diffyg cymorth i fenywod a dychwelyd i'r gweithle. Mae'r adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus' yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer y sector STEM, gan gynnwys datblygu strategaethau cadw mewn cysylltiad ar gyfer y rhai sydd i ffwrdd o'r gwaith neu ymchwil tra'u bod ar gyfnod mamolaeth neu absenoldeb rhiant. Gwelsom ormod o enghreifftiau lle nad oedd pobl yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau tra oeddent i ffwrdd yn gofalu am fabi, ac yna, roedd hi'n amser hir wedyn pan oedd disgwyl iddynt ddychwelyd i'r gweithle ac ailgydio yn eu gwaith yn syth. Nid yw honno'n ffordd dda o weithredu mewn unrhyw fusnes.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i annog a hwyluso argymhellion a chamau gweithredu, ac rwy'n meddwl tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar gynnydd yr adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus', a dweud wrthym sut y mae eich Llywodraeth yn hwyluso'r broses o wella amodau ar gyfer beichiogrwydd, mamolaeth a thadolaeth mewn gweithleoedd STEM ledled Cymru. Oherwydd roedd un peth yn amlwg o'r dystiolaeth a gawsom: mae gan ddynion ran, mae gan dadau ran i'w chwarae yn y broses o fagu eu plant hefyd. Maent yn dymuno gwneud hynny, ond nid yw'r mecanweithiau sydd yno yr un mor hawdd iddynt hwy. Felly, nid yw'n fater i fenywod yn unig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

15:00

Na, rwy'n cytuno'n llwyr. Mae hyn yn ymwneud â rhieni, nid mamau, fel rydym yn ei ddweud o hyd. Rwy'n gadeirydd ar y bwrdd sy'n gweithredu'r adroddiad, y bwrdd menywod mewn meysydd STEM, ac mae dau gyfarfod wedi bod hyd yma. Yn y cyfarfod diwethaf, fe ehangwyd aelodaeth y bwrdd, yn enwedig gyda golwg ar ddenu mwy na phobl o'r byd academaidd a gwasanaethau cyhoeddus, a chynnwys amrywiaeth o bobl eraill yn ogystal. Fel y dywedoch yn gywir, rwyf wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad a gwneuthum ddatganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad i'r perwyl hwnnw.

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg newyddion ar gynnydd i'r bwrdd yn y cyfarfod diwethaf mewn perthynas â chamau a gymerwyd o fewn y sector addysg i weithredu'r argymhellion. Yn ddiweddar, ysgrifenasom at holl brifysgolion Cymru yn gofyn am ddiweddariad pellach i ddilyn yr un a gawsom ym mis Medi yn nghyfarfod cyntaf y bwrdd. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at yr holl gwmnïau angori a'r rhwydweithiau busnes allweddol yn gofyn am adborth ar eu cynnydd mewn perthynas â'r 12 argymhelliad yn yr adroddiad. Rydym yn mynd ar trywydd hwnnw ar hyn o bryd. Ac mae gennym weithgor trawsadrannol o swyddogion sy'n arwain y broses o gydgysylltu a gweithredu'r argymhellion a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cymru ei hun—er nad oedd cymaint â hynny ohonynt i Lywodraeth Cymru ei hun—i gefnogi a hwyluso'r rheini gan sefydliadau allanol.

Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi cynnwys hyn yn y contract economaidd newydd yn ogystal, ac rydym hefyd yn gweithio ar y meini prawf gwaith teg, a fydd hefyd yn cynnwys hynny. Un peth arall i'w grybwyll wrthych yw'r ffaith bod gennym hefyd ein rhaglen Sêr Cymru, yr ydym yn falch iawn ohoni yn wir, ac mae un ohonynt wedi'i hanelu'n benodol at bobl sy'n dychwelyd i feysydd STEM—pobl sy'n dychwelyd i'r byd academaidd, ond mewn perthynas â STEM. A bydd yn syndod i chi glywed, wrth gwrs, mai menywod yw tua 98 y cant o'r rheini sy'n dychwelyd. Felly, mae'r rhaglen honno wedi'i hanelu'n arbennig at bobl sy'n dychwelyd, ac rydym yn edrych i weld sut y gallwn gyflwyno'r rhaglen lwyddiannus honno mewn meysydd eraill o weithgarwch economaidd, megis ein cwmnïau angori mawr.

Cefnogaeth ar gyfer Dioddefwyr Trais Domestig

5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer dioddefwyr trais domestig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52185

Gwnaf, yn sicr. Ceir nifer o wasanaethau cam-drin domestig ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, i gefnogi dioddefwyr gwrywaidd a benywaidd. Bydd y rhanbarth yn cyhoeddi ei strategaeth gyntaf ar y cyd, 'Bywydau Mwy Diogel, Teuluoedd Iachach', erbyn diwedd mis Gorffennaf eleni.

Diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw. Roeddwn yn falch iawn o'i chlywed yn dweud y gall trais a cham-drin domestig fod yn berthnasol i ddynion yn ogystal â menywod. Mae Cymorth i Fenywod Cymru a sefydliadau eraill yn gwneud gwaith gwych yn darparu llochesau a gwasanaethau llinellau cymorth, ac wrth gwrs rydym yn cymeradwyo eu gwaith, ond mae yna broblem—sydd, unwaith eto, o'r golwg yng ngolwg pawb—gyda dynion sy'n dioddef trais a cham-drin domestig. Yn 2016-17, cofnodwyd 713,000 o achosion o'r fath yng Nghymru a Lloegr. Un o'r problemau yma—ac mae'n arbennig o wir mewn perthynas â dynion—yw bod yna gyndynrwydd i ddatgelu'r hyn a ddigwyddodd er mwyn gallu arwain at gamau unioni o ryw fath. Mae hyn yn arbennig o wir, efallai, mewn ardaloedd gwledig lle mae mwy o ymdeimlad o arwahanrwydd, a lle mae pobl yn teimlo fel pe baent y tu hwnt i gyrraedd gwasanaethau cam-drin domestig hanfodol, sy'n aml iawn yn cael eu darparu mewn ardaloedd trefol. Felly, a all arweinydd y tŷ ddweud wrthym efallai pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gael gwared ar y stigma a deimlir, yn gyfeiliornus, gan lawer o ddynion sy'n dioddef cam-drin domestig, fel bod modd galluogi mwy o ddynion i roi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath, a sicrhau y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu'n gyfrinachol hefyd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig?

Ie, yn hollol. Rydym yn cynnal nifer o ymgyrchoedd, ac rwyf wedi'u crybwyll eisoes, ond rwy'n fwy na pharod i dynnu sylw atynt eto. Rydym yn cynnal ymgyrch Dyma Fi, a'i bwriad yw herio'r math o stereoteipio ar sail rhywedd rydych yn ei ddisgrifio, ac i dynnu sylw at anghydraddoldeb rhwng y rhywiau fel achos a chanlyniad trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a lansiais yng Ngholeg Gŵyr ym mis Ionawr, a gwneir hynny'n benodol i sicrhau nad yw dynion yn teimlo bod yn rhaid iddynt adlewyrchu math penodol o wrywdod ac y gallant roi gwybod os ydynt yn wynebu amgylchiadau o'r fath.

Roeddwn yn falch iawn o lansio ymgyrch Paid Cadw'n Dawel yn y Pierhead ym mis Ebrill. Roedd nifer fawr ohonoch yn bresennol yn ystod y lansiad hwnnw ac rydym wedi darparu nifer o gyfleoedd i dynnu lluniau yma, ac ati. Byddem yn hapus iawn i helpu unrhyw Aelodau Cynulliad sydd eisiau rhoi cyhoeddusrwydd pellach i'r ymgyrch mewn unrhyw ardal o Gymru i wneud hynny, oherwydd holl bwrpas yr ymgyrch yw galluogi pobl i adnabod eu hunain ac i roi gwybod am unrhyw beth y maent yn ei weld. Ond rydym hefyd yn benodol yn ariannu'r llinell gymorth Byw Heb Ofn, sef gwasanaeth cyfrinachol ar gyfer dynion a menywod sy'n weithredol ym mhob rhan o Gymru. Ac rydym hefyd yn benodol yn ariannu'r prosiect Dyn, ar gyfer dynion sy'n dioddef cam-drin domestig, ac sydd hefyd yn gweithredu'r llinellau cymorth hynny ledled Cymru.

15:05
Band Eang

6. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ymestyn y ddarpariaeth o fand eang yng Nghymru? OAQ52169

Fy nod erioed yw dod â phobl at ei gilydd yn ddigidol drwy ddarparu mynediad at fand eang cyflym dibynadwy i bob eiddo ar hyd a lled Cymru. Ein nod yw parhau i gyflawni hyn drwy gynllun olynol Cyflymu Cymru, ein cynlluniau talebau a chynllun newydd sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ. Yn amlwg, mae'n bwysig iawn fod gennym fynediad mor llawn â phosibl at fand eang yng Nghymru, o ystyried ei bwysigrwydd mewn perthynas â dinasyddiaeth lawn heddiw, o ran cael mynediad at nwyddau a gwasanaethau ac elfennau addysgol, er enghraifft. Felly, yn amlwg, dyna pam y mae Llywodraeth Cymru, rwy'n gobeithio, yr un mor awyddus â minnau i gyrraedd pob cymuned yng Nghymru. Ac yn y cyd-destun hwnnw, mewn perthynas â'r anawsterau yn Nwyrain Casnewydd ar hyn o bryd, wrth geisio cyrraedd rhai ardaloedd pellennig megis Llanfaches, Trefesgob ac Allteuryn, cynhaliais gyfarfod yn ddiweddar gyda chynrychiolwyr y cymunedau hynny, Openreach ac eraill. Arweinydd y tŷ, tybed beth y gallwch ei ddweud ar hyn o bryd mewn perthynas â cham 2 Cyflymu Cymru ac unrhyw ddatblygiadau eraill a allai roi rhywfaint o gysur i'r cymunedau hynny.

Fel y gwyddoch, John, heb gyfeiriadau penodol, mae'n anodd iawn i mi wneud sylwadau. Ond gwyddom fod llawer o'r adeiladau yn y tair cymuned rydych wedi'u crybwyll eisoes yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn ac fel rwyf wedi'i ddweud wrthych o'r blaen, rwy'n eich annog i rannu'r union gyfeiriadau â mi ac yna gallwn ymdrin â phroblemau penodol. Mae rhai o'r safleoedd nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn ar hyn o bryd wedi cael eu cynnwys ar y rhestr o safleoedd y gellid eu gwasanaethu, o bosibl, gan y cynllun olynol, rwy'n falch o ddweud. Ac o ran y lleill, drwy broses adolygu'r farchnad agored, rydym yn ceisio nodi adeiladau unigol a allai fod wedi'u cynnwys yn y categori 'bron â bod wedi'u cwblhau', os caf ei alw'n hynny. Nid yw hynny'n gywir iawn, yn dechnegol, ond fe wyddoch beth rwy'n ei olygu, a byddem yn falch o'ch helpu i nodi'r rheini. A gallwn helpu hefyd, fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i gwestiwn arall, gydag atebion cymunedol a allai fod ar gael ar gyfer rhai o'r pentrefi nad yw'r rhaglen ffeibr ei hun yn mynd i'w cyrraedd o bosibl. Ond mae yna raglenni addas eraill, ac rydym yn fwriadol wedi cadw rhan fawr iawn o arian y cynllun olynol yn ôl er mwyn sicrhau bod atebion cymunedol o'r fath yn cael eu rhoi ar waith. Felly, buaswn yn croesawu'r cyfle i gael y manylion gennych, fel y gallwn edrych ymhellach ar hynny.

Gosod Band Eang yng Ngorsaf RNLI Tyddewi

7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am osod band eang yng ngorsaf Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn Nhŷ Ddewi? OAQ52187

Gwnaf. Mae trafodaethau rhwng Openreach a'r orsaf yn Nhyddewi yn parhau i nodi atebion addas ar gyfer y cysylltiad hanfodol hwn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda chynrychiolwyr yr orsaf i archwilio'r ddarpariaeth o linell ffeibr optig bwrpasol a fydd yn sicrhau lefelau uwch o ddiogelwch, cydnerthedd rhwydweithiau a chyflymderau gwarantedig.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw a hefyd am y newyddion diweddaraf ddoe ar gysylltedd digidol yng Nghymru. Yn gyffredinol, mae wedi bod yn rhaglen lwyddiannus. Mae rhai wedi bod yn fwy anodd i'w cyrraedd nag eraill ac mae gorsaf Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn Nhyddewi yn un enghraifft o hynny. Rwy'n meddwl tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn fodlon ymuno â mi mewn cyfarfod yn Nhyddewi i siarad â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, fel y gallwn drafod y ffordd ymlaen, o leiaf.

Ie, buaswn yn falch iawn o wneud hynny. Mae nifer o sgyrsiau wedi bod eisoes, ond rwy'n fwy na pharod i ymuno â chi yn y sgyrsiau hynny. Rydym wedi edrych i weld pam nad oedd y cysylltiad cyflym iawn yn bosibl yn y lle cyntaf yn ogystal ag edrych pa gerrynt yw'r cysylltedd, ac mae yna rai problemau technegol. Bydd yn werth dod i weld drosof fy hun. Felly, buaswn yn hapus iawn i dderbyn y gwahoddiad hwnnw.

Seilwaith Digidol ym Merthyr Tudful a Rhymni

8. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddatblygu seilwaith digidol ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ52173

Gwnaf. Cyhoeddais gyfres o fesurau yn fy natganiad llafar ar 30 Ionawr i ymestyn cysylltiad band eang cyflym ymhellach ledled Cymru. Ac roedd y cynllun gweithredu ar ffonau symudol a gyhoeddais fis Hydref diwethaf yn nodi sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i wella cysylltedd darpariaeth symudol yn ogystal.

15:10

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn eich bod yn cytuno bod yn rhaid inni barhau i wneud yn siŵr fod ein holl gymunedau yn gallu elwa o gyflwyno cysylltiad band eang a chysylltedd digidol. Felly, a gaf fi ofyn i chi pa fanteision pellach y teimlwch y byddant yn codi ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni, yn arbennig o gyhoeddiad diweddar y Cymoedd Technoleg, a fydd yn amlwg wedi'i leoli yn ardal Glynebwy, ond y gobaith yw y bydd o fudd ar draws Blaenau'r Cymoedd?

Ie, dyna £25 miliwn dros dair blynedd i edrych ar arloesi digidol, yn enwedig ym maes moduron, ac mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn chwarae rhan fawr yn hyn hefyd. Rydym hefyd yn ystyried manteisio ar y posibiliadau 5G, yn enwedig ar y fflyd, ac ym Mlaenau Gwent maent wedi llwyddo i sicrhau grant gan Lywodraeth y DU ar gyfer manteisio ar dechnoleg 5G a chasglu data. Rwy'n credu eu bod am ei ychwanegu at eu fflyd fel y gallant gael gwell data ar gyflwr eu ffyrdd a'u casgliadau sbwriel ac ati. Felly, bydd gennym ddiddordeb mewn gweld sut y bydd y dechnoleg arloesol honno'n gweithio. Rydym wedi penodi'r Arloesfa, fel y dywedais yn gynharach, wrth Russell George rwy'n credu, i gynghori, ysgogi a chydgysylltu gwaith ar 5G yng Nghymru.

Fel y dywedais yn gynharach, bydd Merthyr Tudful a Rhymni yn arbennig yn elwa o dri chynllun tasglu'r Cymoedd. Y tri chynllun peilot rydym yn edrych arnynt, os na ddywedais hyn yn gynharach, yw: gweithgarwch tebyg i Uber, wedi'i weithredu gan y sector cyhoeddus, i gludo cleifion y GIG nad ydynt yn rhai brys i apwyntiadau ysbyty ac ati, ac rydym yn teimlo'n gyffrous iawn ynglŷn â hwnnw; cyflwyno cronfa ddata ddaearyddol Lle y Llywodraeth er mwyn caniatáu i fusnesau bach a chanolig gael mynediad at y data agored hwnnw i weld beth y gallant ei wneud drwy ei ddefnyddio mewn ffyrdd arloesol; a chyflwyno Wi-Fi cymunedol mewn gwahanol leoedd, canolfannau siopa bach, pentrefi ac ati, i weld beth y gallwn ei wneud drwy gasglu data.

Ac mae yna bethau gwirioneddol arloesol yno, mewn gwirionedd, o ran caniatáu i bobl roi talebau digidol ar-lein er enghraifft ar gyfer cynigion gwerthu ac ati. Mae'n caniatáu i fasnachwyr weld pa rai sydd wedi bod yn llwyddiannus a pha rai nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus, oherwydd rydych yn cael adborth uniongyrchol ynglŷn ag a oes rhywun yn ei ddefnyddio ai peidio oherwydd dônt ag ef i mewn i'r siop. Felly, mae yna rai pethau da iawn.

Mae yna enghraifft dda iawn o system Wi-Fi cymunedol yn Llandrindod, os oes diddordeb gan Aelodau mewn ymweld â hi. Pan fyddwch yn mynd yno, gallwch fewngofnodi i'r system ac mae'n rhoi pob math o wybodaeth i chi ynglŷn â'r hyn sydd ar gael yn y siopau a pha dalebau sydd ar gael ac ati—defnyddiol iawn yn wir. Felly, mae yna syniadau arloesol da iawn ar y ffordd; a'r cyfan, wrth gwrs, yn seiliedig ar ein buddsoddiad enfawr yn y seilwaith band eang sy'n sail i hyn i gyd.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 3 ar yr agenda yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Comisiynydd Joyce Watson. Cwestiwn 1, Neil Hamilton.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

1. A wnaiff y Comisiynydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at gyflawni amcan pedwar o Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21 y Cynulliad? OAQ52199

Rydym wedi gwneud cynnydd da yn y maes hwn drwy ymgorffori ystyriaethau'n ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant yn y broses o gynllunio gwasanaethau a phrosiectau, datblygu polisi, caffael ac unrhyw newidiadau i ystâd y Cynulliad. Rydym hefyd wedi cynyddu nifer yr asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd, gan gynnwys, er enghraifft, un sy'n adolygu proses recriwtio'r Comisiwn ac un ar gyfer y senedd ieuenctid.

Diolch i'r Comisiynydd am yr ateb hwnnw. Mae'n amlwg o ddatganiad amcan 4 ei fod yn ymwneud ag integreiddio amrywiaeth a chynhwysiant yng ngwaith pawb ohonom a gwaith y Comisiwn. A yw'r Comisiynydd, felly, yn cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn fod Comisiynwyr eu hunain yn arwain drwy ddangos esiampl yn y maes hwn? Er bod pawb yn meddwl yn syth am gydraddoldeb hiliol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, cydraddoldeb o ran cyfeiriadedd rhywiol, ac ati, ac ati, mae'r cwestiwn o gyfeiriadedd gwleidyddol yr un mor bwysig hefyd. Felly, mae disgrifio Aelodau eraill—

Na, mae'n ddrwg gennyf. Na, mae'n ddrwg gennyf, nid mater i'r Comisiwn yw hwnnw. Nid yw hwnnw'n gwestiwn i'w ateb gan y Comisiwn. Mr Hamilton, mae'n ddrwg gennyf, nid yw hwnnw'n gwestiwn i'w ateb gan y Comisiwn. Felly, symudwn ymlaen. Cwestiwn 2, Jenny Rathbone, i'w ateb gan y Llywydd.

Digwyddiadau a Noddir gan Aelodau'r Cynulliad

2. A wnaiff y Comisiynydd egluro pam mae nifer y digwyddiadau y gall Aelodau'r Cynulliad eu noddi wedi'i gyfyngu i 10 y flwyddyn? OAQ52193

Yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ystod yr adolygiad o ddigwyddiadau ar yr ystâd, awgrymodd rhai Aelodau Cynulliad y dylid pennu terfyn ar nifer y digwyddiadau. Byddai terfyn yn eu helpu i reoli eu hamser yn well, yn annog defnydd mwy amrywiol o'r ystâd, ac yn osgoi archebu a threfnu mewn ffordd ddiwahân. Yn ôl y ffordd y mae Aelodau wedi defnyddio'r ystâd yn y gorffennol, dim ond pedwar Aelod Cynulliad byddai terfyn o 10 digwyddiad yn effeithio arnyn nhw. Nid yw'n effeithio ar drefniadau a wnaed eisoes, ac nid yw, hefyd, yn effeithio ar grwpiau trawsbleidiol ychwaith.

15:15

Diolch i chi, Lywydd, rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad. Yn amlwg, rwy'n awyddus i wybod a allai hyn effeithio arnaf fi. Mae fy safle fel Aelod Cynulliad dros Ganol Caerdydd yn ei gwneud hi'n bosibl i mi gynnal digwyddiad, er enghraifft, ar ddydd Gwener, ac rwy'n sylweddoli na fyddai hynny'n bosibl i'r rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad y mae eu hetholaethau'n rhy bell i ffwrdd i allu gwneud hynny. Cytunaf yn llwyr fod angen i ni gadw ystâd y Cynulliad ar gyfer materion sy'n gysylltiedig â pholisi—pethau y credwn eu bod yn bwysig i wella'r gwaith a wnawn ar ran pobl Cymru. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech egluro—. Nid wyf yn credu fy mod yn un o'r bobl sydd wedi cael mwy na 10 digwyddiad, ond yn amlwg, rwyf ychydig yn bryderus y bydd yn rhaid i mi ddweud 'na' wrth etholwyr, sydd—. Er enghraifft, rwyf wedi noddi'r arddangosfa Armenaidd sydd i fyny'r grisiau ar hyn o bryd, ac er nad yw'n uniongyrchol berthnasol, mae'n ffordd hyfryd o ddathlu'r ffaith ein bod yn croesawu Armeniaid alltud yng Nghymru. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pwy a gaiff ei effeithio gan hyn, ac ai ymgais yw hon go iawn i sicrhau nad yw'r ystâd yn cael ei defnyddio'n amhriodol gennym.

Mae'n ymgais go iawn i geisio sicrhau bod yr ystâd yn cael ei defnyddio yn unol â'n gwaith seneddol, yn ogystal â'n hangen i gynnal trafodaethau cyhoeddus a thrafodaethau polisi o fewn ein hystâd. Y fantais o gynnal mwy na 10 digwyddiad yw bod mwy yn digwydd ar ystâd y Cynulliad, sy'n beth da. Yn hanesyddol—fel y soniais yn fy ateb yn gynharach, ac fel rydych wedi awgrymu, mae rhai Aelodau eithaf lleol i Fae Caerdydd yn gwneud cais i gynnal llawer o ddigwyddiadau. Tra bo hynny'n beth da ynddo'i hun, mae hefyd yn gallu atal eraill, sy'n gwneud cais i gynnal digwyddiadau'n fwy achlysurol, rhag cael lle. Felly, mae sicrhau mynediad cyfartal i bob Aelod yn arbennig o bwysig.

Ond os oes yna effeithiau negyddol i'r polisi rydym yn ei roi ar waith, yna mae angen i ni edrych ar y rheini. Rydym eisoes yn rhoi adolygiad cynnar ar waith i weld a yw'r system newydd o wneud cais am le ar ystâd y Cynulliad wedi cael unrhyw effaith negyddol ar y gwaith y mae Aelodau'r Cynulliad yn ei wneud. Felly, byddem yn awyddus iawn i glywed gan Aelodau'r Cynulliad pa un a oes effaith negyddol wedi bod ar eu gwaith yn eu barn hwy, a sut y gallwn ddysgu o'r profiad ac unioni pethau os oes angen.

Wel, gwn yn bendant fy mod yn un o'r rheini sy'n gwneud cais am fwy na 10 digwyddiad y flwyddyn, ac yn sicr nid wyf eisiau atal unrhyw un arall rhag gallu gwneud cais am ddigwyddiad, ond yn sicr, ni fuaswn yn dymuno i'r lle beidio â chael ei ddefnyddio a'i adael yn wag. Oherwydd mai'r fan hon yw calon ein democratiaeth, rydym eisiau i bobl fod yma drwy'r amser, cymaint ag y gallwn. Ac rwy'n ofni y gallai'r polisi hwn fod yn rhy anhyblyg yn y pen draw. Nid wyf o reidrwydd yn sôn am nifer y digwyddiadau y gallwch eu cynnal, ond yn hytrach, am y math o ddigwyddiad sy'n briodol. A fyddai'r Llywydd yn gallu dweud pwy, mewn gwirionedd, sy'n penderfynu a yw digwyddiad yn briodol neu beidio? Ac oni fyddai'n well gadael i Aelodau'r Cynulliad benderfynu hynny?

Wel, os caf fi ddweud, i ailadrodd y pwynt a wneuthum eisoes, os yw Aelodau'r Cynulliad yn teimlo bod effaith negyddol wedi bod ar eu gwaith a'u blaenoriaethau o ganlyniad i newid y polisi ar gyfer gwneud cais am le ar yr ystâd, yna, wrth i ni gynnal yr adolygiad hwn, fe rown wybod i Aelodau'r Cynulliad am yr adolygiad hwnnw a byddem yn hoffi eich adborth yn ffurfiol iddo fel y gallwn ddysgu. Cafwyd ymgynghoriad gydag Aelodau'r Cynulliad wrth lunio'r polisi yn y lle cyntaf. Nid yw pawb yn ymgysylltu ar y pwynt hwnnw, wrth gwrs, oherwydd rydym—ac rwyf fi yr un mor euog ag unrhyw un arall o wneud hyn; rwy'n ymgysylltu pan fyddaf yn wynebu problem. Felly, gobeithio y bydd pobl yn ymgysylltu â'r adolygiad rydym yn ei roi ar waith.

O ganlyniad i'r adolygiad hwnnw, bydd y Comisiynwyr yn trafod gyda'u pleidiau gwleidyddol ynglŷn â beth yw blaenoriaethau'r pleidiau gwleidyddol a'r Aelodau Cynulliad cyn i ni lunio barn derfynol ar ateb hirdymor i hyn. Mae'r pwynt rydych yn ei wneud ynglŷn ag ai AC unigol sy'n penderfynu beth yw'r blaenoriaethau a phwy sy'n cael penderfynu yn un pwysig. Rydym wedi ceisio rhoi rhai blaenoriaethau ar waith. Maent yn ymwneud â gweithgarwch sy'n canolbwyntio ar bolisi, maent yn berthnasol i waith sy'n gysylltiedig â gwaith democrataidd y Senedd, ac mae rôl y grwpiau trawsbleidiol yn arbennig yn bwysig yn hynny o beth, a hefyd i leihau problem sydd wedi cael ei chrybwyll yn weddol aml gan Aelodau yn y lle hwn: lleihau'r tebygolrwydd y bydd digwyddiadau tebyg yn cael eu trefnu ar yr un pryd, pan fydd gofyn i'r un AC fod yn bresennol mewn un neu ddau neu dri digwyddiad, a bod trefnwyr y digwyddiadau hynny'n siomedig nad oes digon o Aelodau'n aros yn eu digwyddiadau'n ddigon hir. Felly, mae'n broblem gymhleth i'w chael yn iawn ar ystâd gyfyngedig. Efallai nad yw'r ateb gennym ar hyn o bryd, ond rydym yn awyddus i adolygu hynny gydag ymgysylltiad Aelodau'r Cynulliad yn y dyfodol.

15:20
4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Dai Lloyd sy'n gofyn y cwestiwn amserol cyntaf y prynhawn yma, a bydd yn cael ei ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Dai Lloyd.

Yr Ail Bont Hafren

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn cadarnhad bod Llywodraeth Cymru wedi croesawu cynigion i ailenwi'r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru? 173

Ased Llywodraeth y DU yw'r ail bont Hafren. Ysgrifennodd Llywodraeth y DU at y Prif Weinidog i roi gwybod iddo am y newid enw yn 2017; nid oedd y Prif Weinidog yn gwrthwynebu'r argymhelliad.

Pan ddaru'r Ysgrifennydd Gwladol ddatgan ei fwriad i ailenwi ail bont yr Hafren, ychydig fisoedd yn ôl, yn bont Tywysog Cymru, nid ydw i'n meddwl ei fod o, chi, na'r teulu brenhinol wedi disgwyl y fath wrthwynebiad. Erbyn hyn, mae dros 40,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynnig ac mae pôl piniwn diweddar yn dangos mai dim ond 17 y cant o bobl Cymru sydd yn cefnogi'r syniad. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwrth-ddweud yn llwyr eich honiad chi, Ysgrifennydd Cabinet, pan ddywedoch chi fod llawer iawn o bobl Cymru yn cefnogi'r cynlluniau yma. Ond, yn dilyn y datganiad gwreiddiol, pan ofynnwyd am ymateb Llywodraeth Cymru, eich ymateb chi oedd na wnaeth Llywodraeth Cymru godi unrhyw wrthwynebiad, ac rwy'n dyfynnu yn uniongyrchol yn fanna. Ond mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth diweddar yn datgelu llythyr gan y Prif Weinidog i'r Ysgrifennydd Gwladol yn croesawu'r penderfyniad, a hynny yn frwdfrydig a hyd yn oed yn gofyn am wahoddiad i'r agoriad swyddogol. Mae ymateb y Prif Weinidog yn y llythyr hwn yn bell o ymateb cychwynnol y Llywodraeth. Felly, dim ond un cwestiwn sydd gennyf: a ydy'r Llywodraeth wedi camarwain y cyhoedd? 

Naddo. A wyddoch chi mai'r hyn y mae pobl Cymru—ac nid fi fy hun yn unig, ond pobl Cymru—yn ei ystyried yn wirioneddol ddigalon am y lle hwn weithiau yw pa mor amherthnasol ydyw i'w bywydau? Gallai'r Aelod fod wedi gofyn cwestiwn am gannoedd o swyddi a gollwyd yn ddiweddar yn y rhanbarth y mae'n honni ei fod yn ei gynrychioli. Gallai fod wedi cyflwyno cwestiwn ar bobl ddi-waith. Na, roedd yn ymwneud ag enwi pont. Nid unwaith, ond ddwywaith—[Torri ar draws.] Nid unwaith, ond ddwywaith.

Diolch. Rwyf wedi diffodd eich meicroffon oherwydd ni allaf glywed beth rydych yn ei ddweud—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi. [Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Nid wyf angen unrhyw gymorth gan unrhyw Aelod yn y Siambr hon i gadw trefn ar y Siambr hon. Fodd bynnag, mae rhai ohonoch yn dechrau ymddwyn fel plant, ac os ydych eisiau cael eich trin fel plant yna fe wnaf eich trin fel plant. Nid wyf eisiau gwneud hynny. Rwyf am roi'r meicroffon yn ôl ymlaen i glywed beth roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud, a hoffwn glywed ei ateb.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Mae pobl Cymru yn troi at y Siambr hon am berthnasedd—perthnasedd i'w bywydau, perthnasedd i'w swyddi, perthnasedd i'w cymunedau—ac yn lle hynny, mae gennym bobl yn cymryd rhan mewn dadl hunanfaldodus ar enwi seilwaith. Fe ddywedaf eto, yr ateb i'r cwestiwn yw 'naddo'.

Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig ddoe am yr ail bont Hafren a'r cyfan a ddywedoch chi mewn ymateb—y Prif Weinidog—oedd mai ased y DU yw'r ail bont Hafren. Ond fel y clywsom, roeddech yn gwybod am hyn flwyddyn yn ôl, fe wnaethoch ei groesawu, roeddech eisiau bod yn rhan o'r dathliadau. Os ydych yn frenhinwr, pam na wnewch chi gyfaddef hynny? Pam nad ydych yn agored ac yn dryloyw gyda phobl Cymru ynglŷn â'r mater hwn? Roeddech yn ei gefnogi: cyfaddefwch hynny. Cyfaddefwch hynny.

15:25

Mae'r Aelod yn gwybod nad wyf yn frenhinwr. Mae'r Aelod yn gwybod fy mod yn weriniaethwr, ond yr hyn y mae'r enw hwn yn ei wneud yw cydnabod y cyfraniad y mae Tywysog Cymru wedi'i wneud i Gymru a'r proffil byd-eang sydd gan Dywysog Cymru. Rwy'n credu bod ymddygiad yr Aelod, unwaith eto, yn eithaf gwarthus: yn bwrw sen, yn taflu honiadau o gwmpas, heb unrhyw dystiolaeth o gwbl. Ac o ran y 40,000 o enwau ar ddeiseb, cyflwynwyd cwestiwn amserol arall heddiw ynglŷn â mater sy'n effeithio ar 27 miliwn o deithiau teithwyr y flwyddyn, ac rwy'n falch o ddweud y bydd y fasnachfraint reilffyrdd nesaf yn dechrau, fel y cynlluniwyd, ym mis Hydref eleni.

Diolch yn fawr iawn. [Torri ar draws.] Diolch. Bydd yr ail gwestiwn amserol y prynhawn yma—Vikki Howells, yn cael ei ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Vikki Howells.

Y Cynllun Indemniad Proffesiynol i Ymarferwyr Cyffredinol

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynllun indemniad proffesiynol i ymarferwyr cyffredinol, yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Llun? 175

Diolch i chi am y cwestiwn. Bydd cynllun a gefnogir gan y wladwriaeth yn cael ei gyflwyno i ddarparu yswiriant indemniad i amddiffyn meddygon teulu yng Nghymru mewn achosion o esgeulustod clinigol. Bydd y cynllun, y bwriedir iddo ddod i rym ym mis Ebrill 2019, yn cynnwys pob meddyg teulu dan gontract a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gweithio mewn ymarfer cyffredinol yn y GIG.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi ymateb yn gadarnhaol i'r cam hwn gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir, cefais e-bost personol gan Gymdeithas Feddygol Prydain y bore yma yn dweud pa mor falch yr oeddent gyda hyn, a gwn y caiff groeso cynnes gan feddygon teulu yn fy etholaeth i hefyd. Pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i roi newyddion pellach i ACau am waith ar unrhyw gynllun yn y dyfodol?

Diolch i chi am y cwestiwn dilynol hwnnw. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cydnabod y gefnogaeth a'r croeso a roddwyd gan feddygon teulu drwy Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ac yn benodol drwy Gymdeithas Feddygol Prydain. Rydym wedi gweithio ochr yn ochr â Chymdeithas Feddygol Prydain, fel yr undeb llafur ar gyfer ymarferwyr cyffredinol, i weithio nid yn unig ar heriau indemniad, ond ar sut y darparwn ateb mewn gwirionedd. Mae gennym ddau ddewis penodol posibl: y cyntaf yw'r posibilrwydd o gael cynllun ar gyfer Cymru yn unig. Yr ail yw gweithio ochr yn ochr â chynllun ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod cynllun yn fforddiadwy, fod cynllun er budd gorau meddygon teulu a'u cleifion yma yng Nghymru, a bod cynllun, fel y dywedais, yn cynnwys yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys staff locwm a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gweithio ym maes ymarfer cyffredinol. Felly, dros y misoedd nesaf, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, sef Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain, sefydliadau amddiffyn meddygol, Cronfa Risg Cymru ac adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol y DU, a byddaf mewn sefyllfa i ddarparu diweddariad pellach i'r Aelodau ym mis Medi eleni.

Yn ychwanegol at y cwestiwn, a gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am ymateb? Hynny yw, mae'r rhain yn gostau enfawr a gaiff eu talu'n bersonol gan feddygon teulu. Efallai y byddwch yn cofio fy mod wedi codi'r mater hwn o dan y datganiadau busnes yr wythnos diwethaf, ac rwy'n ddiolchgar fod rhai o fy nghwestiynau yn y Siambr hon wedi ennyn ymateb cadarnhaol gan Ysgrifennydd Cabinet. Felly, rwy'n ddiolchgar am hynny, ond yn bwysicach, rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr meddygol ym mhobman yng Nghymru a ymatebodd mewn ffordd gadarnhaol iawn i hyn, gan godi'r baich costau enfawr a gwrthannog pobl rhag gweithio'n rhan-amser fel staff locwm a mynd ati i annog pobl i ymddeol yn gynnar oni bai bod ateb indemniad yn cael ei gynnig i'r holl sefyllfa hon o gostau personol. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am ymateb cadarnhaol gan Ysgrifennydd Cabinet.

Wel, mae'r gwaith hwn wedi bod ar y gweill ers misoedd lawer drwy ymgysylltiad uniongyrchol â'r tasglu gweinidogol a sefydlais i edrych ar ofal sylfaenol, ac nid materion recriwtio yn unig, ond amrywiaeth ehangach o faterion, ac edrychaf ymlaen at glywed Cymdeithas Feddygol Prydain yn cyflwyno materion ar gyfer y cyfarfod hwnnw yn ystod y misoedd nesaf. Ac mae yna rywbeth yma ynglŷn â'r amser y mae Gweinidogion yn ei dreulio yn ceisio arwain a darparu atebion, ac rwyf wedi siarad, wrth gwrs, â'r Aelod dros Gwm Cynon ynglŷn â heriau gofal iechyd lleol yn ei hetholaeth ei hun lle mae hi wedi'i hethol, yn ogystal â'r her ehangach ar draws y wlad gyfan, a dylai arwain at feddygon teulu yn gallu aros mewn ymarfer cyffredinol, yn llawn amser, yn rhan-amser, yn y gwasanaeth y tu allan i oriau neu fel locwm. Dylai fod yn gadarnhaol, nid yn unig iddynt hwy, ond yn y pen draw, i bobl Cymru sy'n dibynnu ar y gwasanaeth iechyd gwladol.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, rwyf wedi codi'r mater hwn gyda chi sawl gwaith yn y gorffennol ac rwy'n falch eich bod wedi cyflwyno'r cynllun hwn yng Nghymru. Mae'n helpu i fynd i'r afael ag un o bryderon mawr llawer o'n meddygon teulu gweithgar. Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch yn eich datganiad ysgrifenedig y bydd cynllun Cymru yn cyd-fynd â'r cynllun yn Lloegr cyn belled ag y bo modd fel na fydd yn effeithio ar weithgarwch trawsffiniol neu recriwtio. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych i gynnig cynllun gwell yng Nghymru er mwyn denu mwy o feddygon teulu i weithio yng Nghymru?

15:30

Byddwn yn chwilio am y cynllun gorau posibl, gan gadw budd y gwasanaeth, y staff sy'n gweithio ynddo ac wrth gwrs, y bobl sy'n dibynnu arno, mewn cof. Yn sicr, rwyf eisiau gwneud yn siŵr nad yw meddygon teulu yng Nghymru dan anfantais o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr. Bydd pob un o'r cwestiynau hyn, fodd bynnag, o reidrwydd yn dibynnu arnom ni i sicrhau'r diwydrwydd dyladwy i edrych ar y rhwymedigaethau posibl a allai gael eu trosglwyddo gan sefydliadau amddiffyn meddygol, sydd eu hunain wedi croesawu ein cyhoeddiad yma yng Nghymru. Ond mae angen i ni feddwl am rai o'r newidiadau ehangach yn ogystal, er enghraifft y newid i'r gyfradd ddisgownt niwed personol a gyhoeddwyd gan yr Arglwydd Ganghellor ym mis Chwefror, sy'n creu heriau go iawn mewn amryw o'r gwahanol feysydd hyn, yn arbennig mewn perthynas â'r cynnydd sylweddol a arweiniodd at gostau premiwm yn ogystal. Felly, rwy'n glynu at yr ymrwymiad a wneuthum heddiw ac yn flaenorol, ac yn y datganiad ysgrifenedig: ni fydd meddygon teulu yng Nghymru dan anfantais o gymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr. Mae hyn yn ymwneud â chael bargen dda iddynt ac wrth gwrs, fel y dywedais ar fwy nag un achlysur, i'r bobl sy'n dibynnu ar wasanaethau gofal iechyd lleol yma yng Nghymru.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Yr wythnos diwethaf, cynorthwyais i lansio dathliad hanner canfed pen blwydd gŵyl gerddoriaeth Bro Morgannwg a gafodd ei sefydlu a'i chynnal gan ei chyfarwyddwr artistig ysbrydoledig, y cyfansoddwr Cymreig John Metcalf. Hoffwn ddiolch i'r ŵyl am gynnwys cerddoriaeth David Roche o Dredegar gyda'r perfformiad cyntaf o Leading by Example mewn cyngerdd a fynychais ddydd Sadwrn diwethaf. Yn ei raglen, roedd David yn dweud:

Dyma ddathliad o bŵer addysg a mynegiant o ddiolchgarwch i'r bobl sydd wedi gweithredu fel modelau rôl ac sydd wedi fy ngalluogi i ddilyn y llwybr rwyf arno heddiw.

Gyda chyfansoddwyr a cherddorion o Tsieina, Denmarc, yr Iseldiroedd a'r Unol Daleithiau i'w clywed yn yr ŵyl, cafodd darn David ei chwarae gan y ffliwtydd o Cuba, Javier Zalba, a'r pianydd o'r Iseldiroedd, Jan Willem Nelleke, ym mhafiliwn pier Penarth. Hefyd, chwaraeodd Javier Zalba ddarn newydd gan y cyfansoddwr o Gaerdydd, Helen Woods. Roedd yr ŵyl ym Mhriordy Ewenni eleni yn cynnwys gwaith y cyfansoddwyr Cymreig Huw Watkins a'r diweddar Peter Reynolds.

Mae Steph Power, un o'r cyfansoddwr yn yr ŵyl a chadeirydd Tŷ Cerdd, yn cefnogi fy neges am bwysigrwydd yr ŵyl, nid yn unig i Fro Morgannwg, ond i Gymru ac i'r byd. Ond mae gan yr ŵyl wreiddiau cryf yn ein cymuned ni hefyd ac mae'n chwarae rhan bwysig yn ysbrydoli plant a phobl ifanc, gyda cherddorion a chyfansoddwyr yn cynnwys disgyblion yn Ysgol Sant Curig, Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Gynradd Parc Jenner yn y Barri eleni. Mae Steph Power yn dweud—ac rwy'n cytuno—fod

y rhan y mae'r ŵyl yn ei chwarae yn y ddeialog ynglŷn â dyfodol cerddoriaeth, ynghyd â'i hymrwymiad i gyflwyno proffil diwylliannol o'n gwlad sy'n rhyngwladol ac yn flaengar, yn ei gwneud yn un o lwyddiannau mawr y byd celfyddydol yng Nghymru.  

Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Seliag. Mae'r ffocws ar gael diagnosis cynnar i fwy o bobl, gan fod ymchwil yn dangos bod diagnosis hwyr yn gallu arwain at broblemau niwrolegol anwrthdroadwy sy'n effeithio ar leferydd, cydbwysedd a chydsymud. Mae clefyd seliag yn gyflwr awto-imiwn gydol oes difrifol a achosir gan adwaith i glwten—protein a geir mewn gwenith, haidd, rhyg a rhai mathau o geirch. Mae'n rhaid i bobl sydd wedi cael diagnosis o'r cyflwr beidio â bwyta glwten am weddill eu hoes os ydynt am osgoi cymhlethdodau difrifol iawn fel osteoporosis, anffrwythlondeb a chanser prin yn y coluddyn bach.

Mae un o bob 100 o bobl yng Nghymru yn dioddef o glefyd seliag, ond mae dros dri chwarter o'r rhain heb gael diagnosis. Yn wir, Cymru sydd â'r cyfraddau diagnosis isaf—22 y cant—ar gyfer y cyflwr yn y DU gyfan. Yn ogystal â hyn, mae'n cymryd cymaint ag 13 o flynyddoedd ar gyfartaledd i unigolyn gael diagnosis.

Mae Coeliac UK yn 50 mlwydd oed eleni. Mae'n cyflawni gwaith rhagorol ar ran dioddefwyr cyflwr seliag, ond mae taer angen am fwy o arian a gwaith ymchwil. Ym mis Mawrth eleni, lansiodd Coeliac UK apêl ar gyfer cronfa ymchwil gwerth £5 miliwn, a gyda chefnogaeth y cyhoedd, mae'n gobeithio cyflawni mwy o waith ymchwil i'r clefyd. Rwy'n falch o fod yn gadeirydd ar y grŵp trawsbleidiol ar glefyd seliag ac rwyf wedi gweld drosof fy hun yr effaith y gall y cyflwr ei gael.

Fel meddyg teulu, gwn pa mor bwysig yw diagnosis cynnar a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i fywydau cleifion. Gall pawb ohonom chwarae ein rhan drwy godi ymwybyddiaeth o glefyd seliag a buaswn yn annog pob un ohonoch i gefnogi gwaith Coeliac UK a'i grwpiau lleol ledled Cymru.

6. Dadl ar Bolisi Urddas a Pharch y Cynulliad

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar bolisi urddas a pharch y Cynulliad. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gynnig y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM6724 Jayne Bryant

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo polisi Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2. Yn nodi'r canllawiau ar gyfer polisi Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r polisi urddas a pharch i'r Cynulliad heddiw. Mae'n darparu eglurder i'r darpariaethau sydd eisoes yn y cod ymddygiad mewn perthynas â'r safonau uchel o urddas a pharch y gall pawb, ac y dylai pawb, eu disgwyl wrth ddod i gysylltiad ag ACau a'r bobl sy'n gysylltiedig â'r Cynulliad.

Mae hwn yn cael ei gynnig heddiw fel rhan o waith parhaus y pwyllgor safonau i greu diwylliant heb aflonyddu o unrhyw fath, diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i herio ymddygiad amhriodol os yw'n digwydd iddynt hwy neu os ydynt yn ei weld yn digwydd i rywun arall. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod y polisi hwn yn angenrheidiol o ganlyniad i gasglu tystiolaeth ac adroddiadau yn y cyfryngau. Mae'n gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir ar y llwybr i newid ystyrlon.

Mae'r polisi a'r canllawiau cysylltiedig yn egluro pa fath o sefydliad yw hwn a pha fath o sefydliad y mae'n rhaid iddo fod. Mae'n nodi camau i sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn gyffyrddus, a'u bod yn cael eu parchu pan fyddant yn ymwneud â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae'n egluro'r opsiynau ar gyfer lleisio pryderon neu wneud cwynion. Cafodd ei ddrafftio gyda mewnbwn gan staff ar draws Comisiwn y Cynulliad, staff cymorth Aelodau'r Cynulliad a'r comisiynydd safonau, yn ogystal ag ymgynghoriad allanol â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cynulliad.

Heddiw, rydym yn gofyn i'r Aelodau ymrwymo i'r safonau a nodir yn y polisi hwn. Fel cynrychiolwyr ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae angen inni ddangos arweinyddiaeth ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb o fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag ymddygiad amhriodol. Mae cymeradwyo'r polisi hwn heddiw yn gam pwysig i wneud hynny. Mae'r polisi hwn yn rhan o broses barhaus. Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn benderfynol o sicrhau ei fod yn hollol glir nad oes unrhyw le i ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad a bod pobl yn cael eu grymuso i fynegi pryderon neu wneud cwynion.

15:35

Diolch. Rwy'n clywed yr ymadrodd hwn drwy'r amser—'ymddygiad amhriodol'. [Torri ar draws.] A allech chi ddiffinio beth ydyw? Mae'n debyg mai'r ymddygiad mwyaf amhriodol yw gwneud honiadau ffug, er enghraifft. Mae hwn yn ymddangos yn dda iawn ar bapur, ond os edrychwch ar y diffyg parch yn y Siambr hon, wrth i mi yngan ychydig eiriau yn awr—y diffyg parch llwyr gan Aelodau gyferbyn â mi—nid yw'n ymddangos ei fod yn werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. Felly, beth yw 'amhriodol'?

[Anghlywadwy.]

Diolch. Rydych wedi gwneud eich cyfraniad. Nid wyf angen i chi ddod â'r cyfraniad i ben o'ch sedd.

Fel rwy'n dweud, hoffwn bwysleisio bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo. Nid wyf eisiau darogan canlyniad trafodaethau'r pwyllgor, ond rwyf am amlinellu bwriadau eang y pwyllgor yn fras. Rydym yn argyhoeddedig o'r angen i sicrhau bod unigolion yn teimlo eu bod yn gallu ac yn barod i drafod eu pryderon. I wneud hyn, mae'r pwyllgor yn ceisio cael mewnbwn i'r ymchwiliad o amrywiaeth eang o arbenigeddau'n ymwneud â newid diwylliannol, amrywiaeth a pharch. Mae'n bwysig fod y pwyllgor yn dod i gasgliadau cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac argymhellion sy'n gallu llywio'r diwylliant galluogi rydym yn disgwyl i'r Cynulliad ei feithrin.

Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod gennym y strwythurau a'r cyfleusterau cywir ar waith ar gyfer y tymor hwy. Mae hyn yn cynnwys ystyried y darpariaethau yn y cod ymddygiad a'r weithdrefn gwyno i wneud yn siŵr eu bod yn glir. Rydym yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno i ymgorffori'r polisi hwn yn y cod yn ddiweddarach eleni pan fydd y pwyllgor wedi dod i gasgliad ar y newidiadau ehangach i'r cod ymddygiad. Rydym hefyd yn ystyried y cymorth a ddarperir i swyddfa'r comisiynydd safonau a'r angen i sicrhau bod hwn yn ddigonol ac yn briodol i ymdrin â natur sensitif cwynion.

Yn dilyn y datganiad ym mis Tachwedd, gofynnodd y Llywydd i'r comisiynydd safonau weithio gyda phob un o'r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad. Roedd yn galonogol clywed, mewn cyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, fod y comisiynydd wedi cyfarfod â phob un o'r pleidiau a bod cynnydd yn cael ei wneud. Mae'n rhaid egluro prosesau, a hynny heb ryddhau unrhyw grŵp o'u cyfrifoldebau.

Rydym yn hyderus fod y darpariaethau a roddwyd ar waith yn y Cynulliad hyd yma yn symud i'r cyfeiriad cywir. Mae gofyn i bob un ohonom weithredu gydag urddas a pharch tuag at bawb ym mhob agwedd ar ein bywydau. Mae'n rhaid i'r agwedd hon fod yn sail i'r holl drafodaethau a geir yn y dyfodol. Rwy'n credu bod y polisi urddas a pharch hwn yn gosod safonau clir a disgwyliadau cadarn. Caiff ei gyflwyno i chi heddiw fel man cychwyn proses sy'n sicrhau mwy o eglurder i bawb. Gobeithio y bydd pawb yn y Siambr hon yn cefnogi'r polisi pan fyddwn yn pleidleisio ar hyn yn ddiweddarach heddiw.

15:40

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Comisiwn a hefyd fel Llywydd. Er na all y Dirprwy Lywydd na minnau bleidleisio yn y ddadl yma heddiw, rwyf am gofnodi ein hymrwymiad llwyr i'r polisi yma ger eich bron chi heddiw. Rwy'n ddiolchgar bod y Pwyllgor Busnes wedi penderfynu nad yw hyn yn bolisi y dylid ei fabwysiadu heb bleidlais gadarnhaol yn y Siambr heddiw, felly bydd angen pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig hwn yn ddiweddarach y prynhawn yma i ddangos a phwysleisio ymrwymiad yr Aelodau i'r polisi yma.

Mae'r polisi, felly, sydd ger ein bron ni heddiw yn arwydd o garreg filltir yn y daith rŷm ni wedi cychwyn arni ers mis Hydref diwethaf i wella'r ffordd yr ydym yn ymdrin â chwynion am ymddygiad amhriodol. Rydym wedi gwrando, ymgynghori ar ein cynlluniau, a'u haddasu. Rydym hefyd wedi meincnodi ein camau gweithredu yn erbyn yr arfer gorau mewn mannau eraill er mwyn sicrhau bod gennym bolisi ar waith sy'n addas at y diben wrth inni symud yn ein blaenau.  

Hoffwn ddiolch i staff ac undebau llafur y Cynulliad am gymryd rhan yn y ddeialog adeiladol sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y cam yma heddiw. Rydym bellach mewn sefyllfa lle cytunwyd ar bolisi'r Comisiwn drwy'r bartneriaeth â'r undebau llafur. Mae'r bwrdd taliadau, sy'n gyfrifol am delerau ac amodau'r staff rydym yn eu cyflogi fel Aelodau Cynulliad, hefyd wedi cytuno ar y polisi. Eto, mae staff cymorth yr Aelodau, trwy'r grŵp cyfeirio a'u hundebau llafur, wedi cymryd rhan mewn modd adeiladol ac effeithiol er mwyn ein helpu i gyrraedd y cam yma. 

Fel Llywydd, rwy'n addo y bydd y polisi hwn a pholisi staff y Comisiwn yn parhau i fod yn gyson. Er bod prosesau cymeradwyo gwahanol, mae cynnwys y polisi yn parhau i fod yr un peth ac, yn bwysig, rydym bellach mewn sefyllfa lle bydd yr holl grwpiau o staff—staff y Comisiwn, staff cymorth yr Aelodau, ein contractwyr ac Aelodau'r Cynulliad—yn ddarostyngedig i'r un safonau ymddygiad uchel. Roedd yn bleser gennyf glywed gan Jayne Bryant y byddwn yn cadw at y bwriad gwreiddiol o gysoni'r polisi urddas a pharch o ran Aelodau'r Cynulliad gyda chod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad pan fydd y pwyllgor safonau wedi cwblhau ei waith.

Dim ond un o'r conglfeini, wrth gwrs, yw'r polisi urddas a pharch a fydd yn helpu i feithrin mwy o ymddiriedaeth yn y system ac yn y sefydliad. Ond mae'n ymwneud â mwy na'r gweithdrefnau polisi a chwynion sydd gennym ar waith; diwylliant y sefydliad a sut rydym ni'n ymateb i honiadau fydd yn gwneud y gwahaniaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwnnw arnom ni i gyd fel Aelodau'r Cynulliad, Comisiynwyr, y comisiynydd safonau a'r pleidiau gwleidyddol. Ni ddylai'r pleidiau gwleidyddol fyth ysgubo'r materion yma o'r golwg, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y comisiynydd safonau maes o law am yr adolygiad y gofynnais iddo fe ei gynnal er mwyn cysoni gweithdrefnau cwyno pleidiau gyda'n gweithdrefnau cwyno ni ein hunain yn y Cynulliad. Mae'n amlwg i mi ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir, ond rwy'n llwyr dderbyn bod llawer mwy o waith i'w wneud, ac felly, y bydd angen inni adolygu ein sefyllfa yn barhaus o hyn ymlaen.

Rydym wedi clywed ar y cyfryngau am fenywod sydd wedi bod yn destun ymddygiad amhriodol ond nad oeddent wedi dod i'r amlwg trwy ein gweithdrefnau cwyno ni. Mynegwyd pryderon ganddynt nad yw'n prosesau ni'n glir, nad oedd y gefnogaeth yn ddigonol, a chanfyddiad mai ychydig iawn y gellid ei wneud pe bai honiadau'n cael eu hadrodd. Mae'r rhain i gyd wedi bod yn broblemau difrifol i ni ac maent wedi llywio'r gwaith rydym wedi'i wneud hyd yn hyn. Fel sefydliad, rydym am sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i ddod ymlaen, ac os ydynt yn dymuno adrodd y mater yn ffurfiol, eu bod yn teimlo'n hyderus y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'w cwyn ac yr ymdrinnir â hynny'n briodol. I'r diben hwn hefyd, rydym wedi cyflwyno swyddogion cyswllt hyfforddedig nawr i gydnabod y ffaith y gall fod angen cyngor a chefnogaeth gyfrinachol ar bobl cyn penderfynu a ddylent wneud cwyn ffurfiol.

Hefyd, mae'n bleser gennyf ddweud bod hyfforddiant ymwybyddiaeth yn cael ei gyflwyno ar draws y grwpiau gwleidyddol ar hyn o bryd. Rwyf am ailadrodd heddiw yr hyn a ddywedwyd yn ein datganiadau ym mis Tachwedd a mis Chwefror: ni chaiff ymddygiad amhriodol gan Aelodau, eu staff hwy na staff y Comisiwn ei oddef. Ar y cyd, mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn amgylchedd ddiogel i'r rhai sy'n gweithio yma, i'r rhai sy'n ymweld â'r ystâd ac i unrhyw un sy'n ymwneud â ni. Mae'r egwyddorion hynny'n berthnasol lle bynnag rydym ni yn gwneud ein gwaith.

I gloi fy nghyfraniad, felly, mae'n werth cydnabod ein bod yn sefydliad diwylliannol amrywiol, a'n bod wedi cael llawer o wobrau am fod yn Senedd gynhwysol. Rwy'n falch o hyn, ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau—rhaid inni barhau i ymdrechu i wneud yn well. Er mwyn sicrhau hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd, rhaid i ni feithrin diwylliant sy'n gynhwysol a heb achosion o aflonyddu a rhaid i ni gael y gweithdrefnau cywir i ymateb yn effeithiol ac yn briodol pan fydd achosion yn digwydd. Mae hynny'n golygu mwy na chael polisi ar waith, er bod hynny'n bwysig; mae'n golygu ein bod ni, y 60 Aelod Cynulliad yn y Senedd yma, yn ymddwyn, bob dydd ac ym mhob lle ac ar bob cyfrwng, gydag urddas a pharch. Dyna beth mae pobl Cymru yn disgwyl ohonom ni. 

15:45

Hoffwn ddiolch i'r Aelod Cynulliad ac unrhyw un arall, mewn gwirionedd, sy'n gweithio ar symud ymlaen gydag urddas a pharch. Gwn fod sôn am y peth fel dadl—nid wyf yn meddwl bod unrhyw drafod, unrhyw ddadl, o fath yn y byd am hyn. Wrth siarad â chi heddiw, gwnaf hynny ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig rwy'n gadeirydd arno.

Rydym yn llwyr gefnogi'r cynnig hwn—yn wir, rydym yn ei groesawu. Rwy'n siŵr na fydd, fel y dywedaf, yn fawr o ddadl, er y gwnaf—. Mae wedi mynd, mae wedi gadael y Siambr, ond roeddwn yn mynd i godi mater gyda fy nghyd-Aelod, Mr McEvoy. Buaswn yn disgwyl i'r holl Aelodau sydd yma'n bresennol gefnogi polisi, nodau ac amcanion y cynnig. Rwy'n falch iawn o weld y bydd yn cysylltu'n agos iawn â gwaith y comisiynydd safonau.

Bob amser, lle bynnag yr ydym, fel Aelodau Cynulliad, credaf y dylem fod yn ymwybodol o'n cod ymddygiad ein hunain ac egwyddorion Nolan, oherwydd rwy'n credu bod uniondeb mewn bywyd, mewn unrhyw rôl broffesiynol, yn enwedig rôl gyhoeddus, yn allweddol. Rhaid i sicrhau nad oes unrhyw le i ymddygiad amhriodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, a sicrhau rhyddid rhag aflonyddu o unrhyw fath i'r rhai sy'n gysylltiedig â'r Cynulliad, fod yn egwyddor sylfaenol y parhawn i adeiladu arni. Ond credaf hefyd fod hyn yn berthnasol i ni pan fyddwn yn gweithio neu'n—. Fel y mae fy mhrif chwip yma wedi sôn o bryd i'w gilydd, rydym yn Aelodau'r Cynulliad 24 awr o bob diwrnod o'r wythnos a'r flwyddyn, ac ni ddylwn byth anghofio hynny. Rhaid iddi fod yn fraint ac yn anrhydedd i ni gynrychioli ein hetholwyr. Os caniateir ymddygiad gwael, yna buaswn eisiau cwestiynu'r sefydliad ei hun. Rhaid inni fynd ati i greu'r diwylliant cywir. Os oes ymddygiad amhriodol yn digwydd, neu hyd yn oed os ceir canfyddiad o ymddygiad amhriodol, rhaid i ni gael diwylliant lle mae gennym y dulliau cywir ar waith yma, a'r gefnogaeth, fel nad oes neb yn teimlo na allant leisio cwyn.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu nodau'r polisi urddas a pharch, gan chwalu'r rhwystrau i'r rhai a fyddai'n dymuno mynegi pryder. Mae'n hanfodol fod unrhyw un sy'n teimlo eu bod wedi wynebu aflonyddu neu ymddygiad amhriodol yn teimlo wedi'u grymuso. Mae grymuso'n allweddol. Mae hyder yn y system hefyd yn bwysig er mwyn annog pobl i fynegi eu pryder pan nad yw rhywbeth yn iawn, boed yn ganfyddedig neu'n wirioneddol. Mae'r polisi hwn yn darparu gweithdrefn glir a chyfrinachol ac yn amlinellu systemau y credaf y dylai pobl allu ymddiried ynddynt.

Fe ddywedaf hyn, er hynny: rwyf wedi bod yn siomedig tu hwnt, a byddaf yn ysgrifennu at y BBC, a gofynnwyd i mi gan aelodau o fy staff fy hun—. Credaf fod arolwg wedi ei anfon gan y BBC at bob aelod o staff Aelodau'r Cynulliad, ac mae'r cwestiynau yno'n rhai cyffredin, ac mae rhai ohonynt, mewn gwirionedd, yn ymwthgar yn fy marn i. Rwy'n teimlo mewn gwirionedd ei fod wedi peri tramgwydd a gofid i rai aelodau o staff, ac rwy'n teimlo bod angen i'r BBC eu hunain edrych i mewn ar eu sefydliad eu hunain, oherwydd os ydym yn mynd i gael diwylliant o ymddiriedaeth a gonestrwydd ac ymddygiad priodol, rwy'n siomedig iawn ynghylch natur a chywair yr arolwg a aeth allan, a byddaf yn ysgrifennu at y BBC. Nid oes systemau cymorth ar waith mewn perthynas â'r arolwg penodol hwnnw, ac mae rhai o'r cwestiynau yn mynd yn rhy bell yn fy marn i. Felly, roeddwn am gofnodi hynny oherwydd byddaf yn ysgrifennu ar ran y grŵp. Diolch.

Rydw i'n codi i gefnogi'r cynnig yma i gymeradwyo polisi urddas a pharch y Cynulliad. Mae e'n gyfraniad pwysig at roi fwy o eglurder i ni ar nifer o agweddau pwysig, hynny yw beth yw disgwyliadau'r Cynulliad Cenedlaethol yma o unrhyw un sy'n ymwneud â'r sefydliad, beth yw ymddygiad amhriodol, beth i'w wneud os ŷch chi am wneud cwyn ynglŷn ag achos a beth yw'r gweithdrefnau perthnasol, a sut hefyd, wrth gwrs, y bydd achwynwyr, tystion a'r rhai sydd â chŵyn yn eu herbyn nhw yn cael eu diogelu o fewn y prosesau yma. Mae e i gyd yn gyfraniad pwysig, yn fy marn i, at fater pwysig i ni fel sefydliad. Ond mae angen, rydw i'n meddwl hefyd, taro nodyn o rybudd fan hyn. Un cam bychan yw'r polisi yma mewn taith lawer iawn yn hirach, a pheidied neb â meddwl y gall un ddogfen bolisi fel hyn fod yn ddigonol, ac y gall y Cynulliad wedyn symud ymlaen yn ei sgil. Mae yna broses ehangach ar waith fan hyn, ac fel y cyfeiriodd Cadeirydd y pwyllgor safonau, mae'r pwyllgor hwnnw yn gwneud llawer o'r gwaith yna ar hyn o bryd.

Nawr, mae'r dystiolaeth rŷm ni fel pwyllgor safonau wedi ei chael wedi bod yn sobreiddiol, ac wedi gwneud inni sylweddoli cymaint o waith sydd yna sydd angen ei wneud. Fe welsom ni'r wythnos yma, wrth gwrs, adroddiadau am y ffigurau brawychus o Brifysgol Caerdydd, a oedd yn dweud stori wahanol iawn, efallai, i'r canfyddiad sydd gan nifer o bobl ynglŷn â hyd a lled y felltith yma o aflonyddu a chamdriniaeth. Roedd e'n codi cwr y llen ar broblem sy'n llawer mwy cyffredin nag, efallai, mae nifer ohonom ni wedi ei ddychmygu, ac mae angen cydnabod, yn fy marn i, fod Prifysgol Caerdydd wedi bod yn rhagweithiol yn gosod y platfform ar-lein yma yn ei le er mwyn cofnodi achosion o gam-drin ac o aflonyddu.

Fe amlygwyd hon yn enghraifft inni yn ein tystiolaeth fel pwyllgor safonau, ac, yn sicr, rydw i'n meddwl ei fod yn rhywbeth y dylem ni fod yn ei ystyried fel opsiwn posib i ni fan hyn yn y Cynulliad, i ddatblygu cyfrwng o'r fath hefyd, oherwydd, fel y polisi parch ac urddas sydd o'n blaenau ni heddiw, mi fyddai fe, o bosib, yn un ffordd arall o fynd i'r afael â ac o daclo'r broblem yma. Oherwydd po fwyaf o gyfleoedd a chyfryngau sydd yna i godi, nodi a chofrestru’r materion yma, yna'r mwyaf tebygol yw hi y bydd dioddefwyr a thystion yn dod ymlaen, ac, yn sgil hynny, wrth gwrs, y mwyaf tebygol yw hi y byddan nhw wedyn, yn eu tro, yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw, ac wedyn, wrth gwrs, yn sgil hynny, y mwyaf tebygol yw hi y medrwn ni fynd i'r afael â'r broblem yma a chreu diwylliant go iawn o barch ac urddas, nid dim ond ar bapur mewn polisi, nid dim ond o fewn y Cynulliad fel sefydliad, ond, wrth gwrs, ar draws cymdeithas yn ehangach.

15:50

Nid wyf yn cael unrhyw anhawster i ymrwymo i dri pharagraff cyntaf yr amcanion yn y polisi urddas a pharch hwn. Wrth gwrs y dylai pawb deimlo'n ddiogel, yn gyfforddus a chael eu parchu pan fyddant yn ymwneud â'r Cynulliad Cenedlaethol, a dylai pobl sy'n gweithio yma deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus, a chael eu parchu yn eu hamgylchedd gwaith. Rwy'n cytuno hefyd fod diwylliant y Cynulliad yn amrywiol a chynhwysol.

Ond rwyf am leisio gair o rybudd ynghylch amhendantrwydd peth o eiriad y polisi hwn, a hefyd ei gyrhaeddiad honedig i bawb ohonom fel Aelodau Cynulliad yn gweithredu fel unigolion preifat, hyd yn oed ar wyliau er enghraifft, neu mewn unrhyw sefyllfa breifat mewn gwirionedd. Credaf y dylem fod yn ofalus iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym yn ei wneud yma. Os rhown ein hunain mewn sefyllfa lle y gall pobl o'r tu allan, fel y mae Janet Finch-Saunders wedi nodi'n barod, ymgymryd â gweithredoedd honedig o wyliadwriaeth—gellir gwneud hyn yn gudd yn ogystal, nid yn unig yn agored, fel y disgrifiodd, ac rydym ni, felly, yn ein holl ymwneud mewn bywyd preifat, boed ar ôl ychydig o ddiodydd yn y dafarn neu mewn bwyty, neu hyd yn oed yn ein cartref preifat ein hunain, a allai fod wedi ei fygio, yn dweud jôc a allai o bosibl beri tramgwydd i rywun a allai wneud cwyn—gallai hwn fod yn offeryn gormesol.

Nawr, fe rof un enghraifft amserol iawn. Mae'r Athro Richard Lebow, sy'n athro mewn theori wleidyddol ryngwladol yn King's College Llundain, ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad gan y Gymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol oherwydd iddo wneud y camgymeriad, yn un o'u cynadleddau yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, o fynd i mewn i lifft gorlawn, a phan ofynnwyd iddo, 'Pa lawr ydych chi ei eisiau?', fe ddywedodd, 'Dillad isaf menywod'. Nawr, cafodd hyn ei wneud yn destun cwyn gan athro astudiaethau rhywedd yn un o brifysgolion gorllewin canol America, rwy'n credu. Mae bellach mewn perygl o gael ei yrfa broffesiynol wedi'i thanseilio, neu hyd yn oed ei dinistrio efallai am fod rhywun yn dal dig tuag ato, neu ei duedd wledidyddol ganfyddedig neu ragdybiedig.

Nawr, os ydym yn dehongli termau'r polisi urddas a pharch hwn yn gymesur ac yn synhwyrol, wrth gwrs nad ydym yn mynd i roi ein hunain mewn perygl, ond mae penderfyniadau diweddar yn fy mhoeni. Ac nid wyf am fanylu ar yr achos unigol, ond siaradais amdano yn y ddadl ar adroddiad y pwyllgor safonau yr wythnos cyn diwethaf, neu ddwy neu dair wythnos yn ôl. Rwy'n credu bod yn rhaid inni fireinio'r datganiad hwn fel ein bod yn gosod rhyw brawf rhesymoldeb ar y drosedd yr ydym yn ei chreu. Wrth gwrs, nid wyf am amharu ar urddas pobl eraill drwy unrhyw beth a wnaf neu a ddywedaf, ond nid wyf yn rheoli sut yr effeithir ar eraill gan yr hyn a ddywedaf. Gallai rhywun deimlo sarhad afresymol ynglŷn â rhywbeth a ddywedais, a gallai arwain at gŵyn ddisgyblu, a gallai hynny fod yn berthnasol i bob unigolyn, nid yn unig i rywun sy'n Aelod o'r Cynulliad hwn, ond pawb sy'n gweithio yma neu'n dod i gysylltiad â ni yn swyddogol. Ac yn hynny o beth, rwy'n credu bod problemau difrifol yma, ynghylch rhyddid i lefaru, ynghylch preifatrwydd—caiff y ddau eu gwarchod gan y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol a deddfwriaeth hawliau dynol eraill—a chredaf nad ydym wedi rhoi digon o ofal a sylw i'r mater hwn drwy ddrafftio'r datganiadau cyffredinol eang hyn o egwyddor heb unrhyw gyfyngiad, a'u cymhwyso i ni yn ein bywydau bob dydd, 24 awr y dydd bob dydd, fel y mae Paul Davies wedi nodi'n flaenorol. Felly, hoffwn ychwanegu gair o rybudd, heb ddymuno gwrthwynebu'r ddogfen bolisi, y dylem gyflwyno rhyw brawf rhesymoldeb a chymesuredd i'r hyn a wnawn.

15:55

Rwy'n siarad y prynhawn yma ar ran y grŵp Llafur, a hoffwn gofnodi ein diolch i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am gynhyrchu'r polisi urddas a pharch sydd ger ein bron. Mae'r grŵp Llafur yn cefnogi'n gryf y mesurau a gryfhawyd i ddiogelu pawb sy'n gweithio yn ein Cynulliad Cenedlaethol neu'n wir, sy'n ymgysylltu ag Aelodau a'u staff.

Credwn fod y mecanweithiau cymorth a'r gweithdrefnau cryfach yn glir, yn gynhwysfawr ac yn briodol i bawb. Rydym hefyd yn croesawu'n fawr y ffordd y datblygwyd y polisi mewn partneriaeth agos gyda staff, gydag Aelodau ac yn wir, gyda'r rhai sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Mae eu barn a'u profiad wedi bod yn amhrisiadwy wrth lunio'r polisi newydd hwn. Fodd bynnag, fel y mae cyfranwyr eraill wedi nodi, mae'r ddadl hon yn ymwneud â mwy na phleidlais ar ddogfen y prynhawn yma. Yn hanfodol, mae'n ymwneud â sut yr ydym ni, fel Aelodau, staff ac fel sefydliad yn ymgorffori egwyddorion urddas a pharch ym mhopeth a wnawn.

Fel grŵp, byddwn yn ymgymryd â hyfforddiant urddas a pharch er mwyn helpu i ymgorffori'r polisi hwn ymhellach yn ein gwaith, a gwn y bydd grwpiau eraill hefyd yn cymryd rhan mewn ffordd debyg. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ag eraill ar draws y Cynulliad, wrth i'r polisi gael ei gyflwyno a'i ddatblygu, er mwyn sicrhau y bydd yn parhau i gyflawni'r amcanion pwysig a nodwyd heddiw.

Ddirprwy Lywydd, rydym eisiau gweld pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch, a dyna pam y byddwn yn cefnogi'r polisi hwn heddiw.

Diolch yn fawr iawn. Mae gennyf nifer o siaradwyr ar hyn. Nid wyf yn mynd i allu cynnwys llawer mwy ohonoch chi, ond fe gymeraf ddau siaradwr arall. Felly, fe gymeraf Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr iawn. Mae'r diffiniad o ymddygiad amhriodol yn cael ei gynnwys yn y polisi urddas a pharch, ac mae o'n cynnwys aflonyddu, aflonyddu rhywiol, bwlio, bygwth, a gwahaniaethu anghyfreithlon. O edrych yn benodol ar ymddygiad rhywiol amhriodol, y diffiniad ydy:

'ymddygiad nas dymunwyd o natur rywiol tuag at rywun arall…Gall ymddygiad "o natur rywiol"…gynnwys, er enghraifft, awgrymiadau rhywiol annerbyniol…jôcs rhywiol, arddangos ffotograffau neu luniau pornograffig, gofyn am ffafrau rhywiol',

ac yn y blaen. Hynny yw, mae o'n ddiffiniad eang, ac yn ehangach nag ymddygiad corfforol yn unig. Rŵan, rydw i'n croesawu'r diffiniad yma yn fawr iawn, ac yn croesawu'r polisi yn gyffredinol, ond rhaid dweud, fel y mae eraill wedi ei ddweud, mai cam cyntaf i'r cyfeiriad iawn ydy hyn heddiw.

Mae'n hollol amlwg bod angen newid diwylliannol radical ar draws cymdeithas yng Nghymru, ac rydw i yn galw, unwaith eto, ar Lywodraeth Cymru i gynnal arolwg cenedlaethol a sgwrs genedlaethol ar aflonyddu rhywiol a thrais rhywiol. Byddai hynny yn codi proffil y broblem, yn gyfrwng i adael i ddioddefwyr wybod bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol ar eu hochr nhw, a hefyd yn ffordd o egluro beth ydy natur aflonyddu, beth ydy'r gwahanol elfennau, a pham nad yw'n dderbyniol. Mi ddylai'r sgwrs hefyd gynnwys dulliau y dylai dioddefwyr eu defnyddio i wrthsefyll ymddygiad anfoddhaol, hynny yw, sut i ateb yn y fan a'r lle, yn ogystal â chwyno'n swyddogol ar ôl i ymddygiad ddigwydd.

Mae aflonyddu rhywiol yn digwydd ym mhob man, ac efallai bod y ffocws wedi bod, cyn belled, ar aflonyddu yn y man gwaith, ond mae'n bryd cydnabod ei fod yn digwydd ar ein strydoedd, yn ein tafarndai, yn ein mannau cymdeithasol hefyd. Mae aflonyddu rhywiol yn symptomatig o sut y mae merched yn cael eu trin yn eilradd yn y gymdeithas yma, ac mae'n rhaid cydnabod bod y continwwm o drais ac aflonyddu merched yn ymwneud â phatrymau ehangach, diwylliannol o anghydraddoldeb rhywedd. Ac yn ganolog i’r cyfan mae cynnal ac atgynhyrchu perthynas o bŵer anghyfartal. Mi fydd datrys y broblem yn dasg anferth, ac mae’n gorfod cynnwys datrysiad diwylliannol, cymdeithasol eang, ac mae hynny, yn fy marn i, yn cychwyn efo trafodaeth genedlaethol. Mae’n cynnwys edrych ar y byd addysg i newid ymddygiad. Mae angen inni gychwyn o’r oedran cynnar, gan ddysgu plant a phobl ifanc am berthynas iach, a darparu addysg ryw gynhwysfawr ac ymrwymo i gyflwyno addysg orfodol a chynhwysfawr am ryw a pherthynas iach yn ein hysgolion cyn gynted ag y bo modd.

Mae hefyd angen inni greu gofod lle y mae’n bosibl i unigolion drafod y materion yma’n agored ac yn hyderus, ac y mae agwedd ragweithiol Prifysgol Caerdydd, er enghraifft, wrth greu llwyfan i adrodd am achosion o gam-drin, yn esiampl y dylai sefydliadau eraill ei dilyn. Y mwyaf o gyfleoedd i adrodd am achosion o’r fath, y mwyaf tebygol yw hi y bydd dioddefwyr yn dod ymlaen ac yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae hynny, yn ei dro, yn ei gwneud yn fwy tebygol y gallwn ni greu diwylliant o barch ac urddas yng ngwir ystyr y gair, ac nid yn unig yn y Cynulliad Cenedlaethol yma ond ar draws cymdeithas gyfan.

Rydw i'n meddwl y bydd Jane Hutt yn sôn, mewn ychydig, am ddatblygiad newydd, ac fe fyddaf i’n croesawu cydweithio efo Aelodau benywaidd eraill yn y Siambr yma, nid yn unig i drafod y polisi yma yn ehangach, ond er mwyn trafod materion yn ymwneud â rhywedd yn gyffredinol er mwyn—

16:00

Dim ond ymyriad bach. Diolch i chi am ei gymryd. Rydych yn cadw dweud 'menywod'. Buaswn yn hoffi meddwl bod—ac rwy'n siŵr ei fod—unrhyw gyflogeion neu aelod o staff gwrywaidd neu—. Rhaid i hyn fod ar draws y rhaniad rhwng y rhywiau, oherwydd rhaid inni fod yn gwbl agored. Roeddwn am gofnodi hynny.

Wrth gwrs, rydw i'n cytuno yn llwyr efo chi, ond mae’r ystadegau yn dweud stori glir iawn: fod merched yn llawer iawn mwy tebygol o fod wedi cael eu heffeithio gan aflonyddu a thrais. Er enghraifft, mae un o bob pedair o ferched yng Nghymru a Lloegr yn dioddef camdrin domestig; dynion 13 y cant. Felly, mae yna anghyfartaledd yna, ond nid yw hynny i ddweud, wrth gwrs, nad ydyw yn digwydd i ddynion hefyd. Fe wnaf i orffen ar y nodyn yna. Diolch.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi groesawu'r ddadl hon heddiw ar urddas a pharch, gan gydnabod rôl y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ein dwyn at y pwynt hwn lle mae cyfle i'r Cynulliad cyfan ategu'r datganiad urddas a pharch? Rwy'n falch eich bod yn cydnabod hwn, Jayne Bryant, fel Cadeirydd y pwyllgor, fel rhywbeth sy'n agored ar gyfer ei adolygu a'i ddatblygu, gan ddysgu o'r ddadl hon a'r dystiolaeth barhaus i'r pwyllgor. Ac fel y dywedoch chi, mae'n gam i'r cyfeiriad cywir fel llwybr tuag at newid ystyrlon a chyd-ddysgu, wrth gwrs, yn y Cynulliad hwn. Rwy'n falch fod y Llywydd wedi sôn am yr hyfforddiant sydd ar gael, a deallaf fod rhai ohonoch wedi'i gael—codi ymwybyddiaeth ynghylch urddas a pharch. Gobeithio y gallwn sicrhau cytundeb trawsbleidiol gan holl Aelodau'r Cynulliad i gyflawni'r hyfforddiant hwn. Byddai hynny'n dangos ymrwymiad go iawn.

Mae'n briodol ein bod yn trafod y datganiad hwn yr wythnos hon, yn dilyn y datganiad a wnaed gan Julie James ddoe ar y Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia a'r sylw hefyd a dynnodd Jack Sargeant at Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, pan ddywedodd fod yn rhaid i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion i helpu pobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl. Mae hyn oll yn rhan o'n hymdrech i ddysgu a byw agenda urddas a pharch yma yn y Cynulliad.

Rydym yn gwybod faint mwy sydd angen ei wneud ym mhob ffordd, fel y dywedodd Vikki Howells—fel unigolion, fel Aelodau etholedig, fel cyflogwyr, rhaid inni wneud hyn yn flaenoriaeth. Credaf hefyd y gallwn ddysgu gan sefydliadau eraill fel Prifysgol Caerdydd. Roedd yn dda clywed gan Gwyneth Sweatman o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ynglŷn â pha mor effeithiol y mae'r system ar-lein newydd wedi bod i alluogi myfyrwyr i adrodd am achosion o drais ac ymosodiadau—mae 101 o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi gan fyfyrwyr ers mis Hydref diwethaf. Gallwn ddysgu gan yr eraill hynny, lle y gallwn weld bod y system ar-lein newydd hon wedi meithrin hyder, hyder i alluogi pobl i adrodd cwynion, a dyna sydd ei angen arnom yma.

Rwy'n arbennig o awyddus i gefnogi'r datganiad yng ngoleuni ein hangen fel Cynulliad i fod ar flaen y gad yn hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb, gyda gwleidyddiaeth fwy caredig, yn rhydd rhag gwahaniaethu, ymddygiad amhriodol ac aflonyddu. Mae Mary Beard, yn ei maniffesto 'Women and Power', yn ein hatgoffa am gyfleoedd sydd gennym yma yn y Cynulliad yn fy marn i i newid ein diwylliant gwleidyddol, fel y gallwn fod yn fwy rhagweithiol ynghylch y math o Gynulliad sydd gennym yma. Mae hi'n awgrymu bod hynny'n golygu meddwl am bŵer mewn ffordd wahanol. Mae'n golygu ei ddatgysylltu o fri cyhoeddus. Mae'n golygu meddwl yn gydweithredol am bŵer dilynwyr, nid arweinwyr yn unig. Yr hyn sydd gennyf mewn golwg yw'r gallu i wneud gwahaniaeth i'r byd, a'r hawl i gael ein cymryd o ddifrif, gyda'n gilydd ac fel unigolion.

Mae Siân Gwenllian wedi gwneud awgrym buddiol ynglŷn â sgwrs genedlaethol ar aflonyddu rhywiol. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad rhywedd. Gwyddom o'r ymgyrch #MeToo fod menywod dewr wedi bod yn codi llais o amgylch y byd. Fel y dywedodd Catherine Fookes, mae'r ymgyrch #MeToo yn grymuso hyn. Mae hon yn adeg i symud ymlaen tuag at gymdeithas sy'n gyfartal, a lle y gall menywod fod yn rhydd o rywiaeth fympwyol, neu waeth.

16:05

Diolch i'r Aelod am ildio, a gresynaf nad yw'r ddadl hon yn hwy na hanner awr o hyd, oherwydd mae llawer i'w ddweud ar y mater hwn. Ond tybed a oedd hi'n ymwybodol o'r gweithgor trawsbleidiol yn San Steffan sydd wedi argymell y dylid sefydlu swydd cynghorydd annibynnol ar drais rhywiol, gan gadw mewn cof y dylai cynghorydd wedi'i hyfforddi mewn trais rhywiol ymdrin ag aflonyddu a thrais rhywiol mewn gweithdrefn ar wahân i gwynion am fathau eraill o ymddygiad amhriodol. Tybed a oedd yr Aelod yn ystyried yr argymhelliad hwnnw pan oedd yn sôn am yr ymgyrchoedd hynny.

Credaf fod hynny hefyd yn rhywbeth y gall y Pwyllgor Safonau Ymddygiad fwrw ymlaen ag ef. Ond gan fod Siân Gwenllian yn ddefnyddiol iawn wedi rhoi rhagolwg o gyhoeddiad rwy'n ei wneud heddiw, rydym yn ceisio sefydlu grŵp trawsbleidiol newydd ar gydraddoldeb menywod i helpu i symud yr agenda hon yn ei blaen, ac yn amlwg gan ystyried tystiolaeth o'r fath am Bwyllgor Menywod a Chydraddoldebau pwerus iawn yn San Steffan a gadeirir gan Maria Miller. Rydym am gefnogi gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar urddas a pharch, a gwneud yn siŵr fod y Cynulliad a'r Llywodraeth unwaith eto yn arwain y ffordd ar gyfle cyfartal a chydraddoldeb canlyniadau yng Nghymru.

Y neges allweddol, rwy'n meddwl, yw bod angen inni sicrhau bod ein polisïau a'n gweithdrefnau ar waith, fod pobl yn hyderus yn ei gylch ar draws y Cynulliad cyfan a'r rhai rydym yn eu cynrychioli a'u gwasanaethu. Rhaid i hynny fod yn ei le, ac yna rhaid i bawb ohonom gael ein dwyn i gyfrif.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi siarad heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi eich cyfraniadau i gyd yn fawr iawn, ac rwy'n annog pob Aelod o'r Siambr hon i ymwneud â gwaith y pwyllgor dros y misoedd nesaf i sicrhau nad oes lle o gwbl i unrhyw ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad hwn. Unwaith eto, fel y dywedais, ac fel y mae nifer ohonoch wedi sôn, mae'n gam cadarnhaol i'r cyfeiriad iawn, ond unwaith eto, rhaid imi bwysleisio mai man cychwyn yw hwn mewn gwirionedd, ac mae llawer i'w wneud eto. Mae gwaith y pwyllgor yn parhau, a bydd yr Aelodau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf. Y cam nesaf fydd cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a bwriadwn wneud hynny cyn toriad yr haf gobeithio.

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Llywydd am ei sylwadau a'i chefnogaeth gref i gael hyn yn iawn drwy gydol y broses. Mae'n bwysig iawn ei bod hi'n gefnogol ac yn awyddus iawn i wneud hyn. Fel y dywedodd y Llywydd yn ei chyfraniad, mae'n ymwneud â mwy na'r polisi a'r weithdrefn gwyno sydd gennym ar waith; mae'n ymwneud â diwylliant y sefydliad a'r modd y byddwn yn ymateb i honiadau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth, a bydd y materion hynny'n her barhaus. Ac fel y dywedais, bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn parhau i edrych ar hynny ac ar y materion hynny.

Janet Finch-Saunders, diolch yn fawr i chi am eich sylwadau a'ch cefnogaeth gref, a'ch ymrwymiad cryf i ddileu unrhyw ymddygiad amhriodol. Mae'n hanfodol fod gan bobl hyder yn y weithdrefn honno. Felly, diolch i chi. Llyr, dyma gyfle i ddiolch i chi ac aelodau eraill y pwyllgor am eich holl gefnogaeth, gan mai pwyllgor trawsbleidiol ydym ni, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith eich bod wedi tanlinellu pa mor bwysig yw'r gwaith hwn a'i fod yn rhan o'n gwaith parhaus, oherwydd yn sicr, rhan ydyw o waith ehangach y byddwn yn ei wneud.

Neil Hamilton, diolch i chi am eich sylwadau a'ch cefnogaeth i'r polisi hwn. Hoffwn ddweud bod y comisiynydd safonau yn annibynnol ac mae'n ymchwilio i unrhyw gwynion fel cam cyntaf. Vikki Howells, diolch i chi unwaith eto am eich cefnogaeth, ac fe sonioch chi am yr hyfforddiant urddas a pharch rwyf fi a'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd, ac Aelodau eraill, rwy'n credu, wedi'i gael. Hoffwn weld cynifer o Aelodau, os nad yr holl Aelodau, mewn gwirionedd, yn cael yr hyfforddiant gwirioneddol bwysig hwn mewn gwirionedd. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y mae'n bwysig inni wneud amser ar ei gyfer.

Siân, fel rydych wedi dweud, mae'r diffiniad yn glir yn y polisi ac roedd eich cyfraniad yn tynnu sylw at y cyd-destun ehangach sy'n rhaid rhoi sylw iddo ac fe sonioch am y drafodaeth genedlaethol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi a gweld sut y gall y pwyllgor gymryd rhan yn hynny yn ogystal. Jane Hutt, fe sonioch chi fod yn rhaid i bawb ohonom fyw gydag urddas a pharch ac mae'n rhaid i bawb ohonom arwain gyda hyn fel agenda, ac mae gwir angen inni wneud hynny yn y Cynulliad. Rwy'n croesawu'r ffaith bod grŵp trawsbleidiol wedi'i sefydlu, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, fel y bydd y pwyllgor safonau hefyd, rwy'n siŵr. Diolch i Julie Morgan am ei hymyriad, oherwydd rwy'n siŵr y bydd y pwyntiau a godwyd gennych yn cael eu hystyried yng nghyd-destun ehangach gwaith y Cynulliad a gwaith y pwyllgor safonau.

Felly, diolch i bawb sydd wedi gwneud sylwadau heddiw ac mae'n gam pwysig ymlaen. Mae hwn yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom, ac anogaf bob Aelod i gefnogi hyn heddiw. Diolch.

16:10

Diolch yn fawr iawn. Fel yr awgrymodd y Llywydd yn ei chyfraniad, yn unol â Reol Sefydlog 11.15, mae'r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu y bydd pleidlais ar y cynnig hwn yn cael ei wneud drwy ddull cofnodedig ac felly cynhelir y bleidlais yn ystod yr cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil cynllunio gwefru cerbydau trydan

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig ar Fil cynllunio gwefru cerbydau trydan. Rhun.

Cynnig NDM6720 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig am fil cynllunio gwefru cerbydau trydan.

2. Yn nodi mai diben y bil hwn fyddai:

a) gosod canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, boed hwy yn adeiladau cyhoeddus neu yn dai;

b) sicrhau bod adeiladau newydd yn gorfod cynnwys pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan;

c) ei gwneud hi’n haws i bobl allu defnyddio cerbydau trydan er mwyn lleihau allyriadau carbon.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Pwyllgor Busnes am roi'r cyfle imi wneud y cynnig deddfwriaethol yma heddiw. Mi yrrais i gar trydan gyntaf yn ôl yn 2009. Yn Tsieina oeddwn i yn ffilmio yn ffatri cwmni BYD—cwmni a gafodd ei sefydlu yn 1995 yn datblygu batris, ac sy'n hawlio rŵan i fod y gwneuthurwr cerbydau trydan mwyaf yn y byd. Mi werthon nhw dros 100,000 o gerbydau trydan y llynedd, ac mae yna siawns go lew bod lot o bobl sy'n gwrando ar hyn erioed wedi clywed am BYD. Ac rydw i'n meddwl bod hynny'n nodwedd o berthynas Cymru efo cerbydau trydan.

Mae yna ddatblygiadau mawr yn digwydd yn y maes yma, ond nid ydynt yn hysbys iawn i bobl yng Nghymru. Oes, mae yna ambell gar trydan o gwmpas, ond maen nhw'n dal yn brin. Mae yna dipyn o hybrids, ond nid dyna rydym ni'n siarad amdano fo—mae'r rheini'n dal ag injans yn llosgi diesel neu betrol sy'n llygru’r amgylchedd. Ond mewn mater o ychydig ddegawdau, mi fydd hyn i gyd yn newid.

Mae yna addewidion hirdymor yn dechrau amlygu eu hunain yn barod i gael gwared ar beiriannau petrol a diesel yn llwyr. Mae llywodraethau Prydain a Ffrainc yn crybwyll 2040, er enghraifft, fel targed i anelu ato. Ond mae'r dewis i ni yng Nghymru rŵan yn glir iawn. Mi allwn ni aros i'r chwyldro cerbydau trydan ddigwydd i ni, neu mi allwn ni drio arwain y newid—paratoi y ffordd a thrio annog pobl Cymru i gadw ar y blaen i'r hyn a fydd yn anochel yn y pen draw beth bynnag. Beth rydw i'n ei gynnig ydy deddfwriaeth a fyddai'n gam pendant tuag at sicrhau y math o isadeiledd fydd ei angen i wefru'r ceir trydan, er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl benderfynu dewis y dechnoleg newydd yma. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:15

Dewiswch o blith yr amcangyfrifon ynghylch cyflymder newid, ond gwyddom ein bod yn anelu tuag at ddyfodol o gerbydau trydan. Gyda llaw, oes, mae angen perswadio mwy o bobl i ddod allan o'u ceir yn gyfan gwbl. Rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus lanach, a mwy gwyrdd, ochr yn ochr â theithio llesol, fod yn destun buddsoddiad helaeth. Ond bydd y car gyda ni am gryn amser eto. Yr hyn na fydd gyda ni yw'r peiriant tanio mewnol.

Nawr, mae banc UBS yn credu y bydd 14 y cant o'r ceir a werthir yn gerbydau trydan erbyn 2025. Bydd yn tyfu i hynny o fan cychwyn o fawr mwy nag 1 y cant ar hyn o bryd. Yng Nghymru, ychydig gannoedd o geir trydan a werthir, ond hyd yn oed yma mae'r twf wedi bod yn fawr—cynnydd o 35 y cant rhwng 2016 a 2017. Ond ddau ddegawd o nawr, bydd y gwaith wedi'i gwblhau. Y cwestiwn yw: pryd y bydd Cymru yn penderfynu camu ymlaen o ddifrif ar hyn?

Mae angen inni oresgyn nifer o rwystrau. Mae rhai y tu hwnt i'n rheolaeth ni: datblygu technoleg batri, mwy o gyrhaeddiad, gwefru cyflymach, cynnydd yn y dewis o'r modelau sydd ar gael—mae hynny'n fyd-eang. Gallwn obeithio elwa drwy ymchwil yn ein prifysgolion, drwy geisio sicrhau bod ein sector cydrannau ceir yn wybodus ynghylch y newidiadau yn y maes neu'n well byth, yn cadw ar y blaen i newidiadau. Mae gennym Aston Martin yn cynllunio i adeiladu cerbyd trydan arloesol yma, ond yr hyn rwy'n sôn amdano heddiw yw cymhwyso'r dechnoleg newydd honno ar eich cyfer chi a fi—mewn geiriau eraill, cael pobl i brynu a gyrru'r ceir ac i deimlo bod gwneud hynny yr un mor gyfleus â'r petrol neu ddiesel presennol.

Un o'r rhwystrau mwyaf yw lle i wefru. Mae hyn yn sicr yn ein dwylo ni. Hoffwn archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio deddfwriaeth i oresgyn hyn. Rwy'n cynnig bod pob datblygiad newydd—tai, ffatrïoedd, adeiladau cyhoeddus, swyddfeydd, atyniadau i dwristiaid, meysydd parcio, beth bynnag—yn gorfod cynnwys seilwaith gwefru drwy gyfraith. Bydd y mwyafrif llethol o ddefnyddwyr cerbydau trydan yn gwefru gartref dros nos. Os ydych yn ddigon ffodus i gael rhywle i barcio eich car gyda phwynt gwefru cerbyd trydan, dyna fyddech chi'n ei wneud yn bennaf. Os ydym am i fwy o bobl ddewis cerbydau trydan, fodd bynnag, mae angen i gartrefi newydd gael y pwyntiau gwefru cerbydau trydan hynny wedi'u gosod ynddynt ymlaen llaw. Os nad oes gennych le parcio, bydd digon o bwyntiau gwefru ym mhob man yn bwysig i chi. Er enghraifft, mae angen inni fuddsoddi mewn ôl-osod mewn ystod eang o fannau parcio, ond yr hyn rwy'n ei awgrymu heddiw yw y dylai fod pwyntiau gwefru newydd yn cael eu gosod drwy gyfraith ble bynnag y ceir datblygiad newydd. [Torri ar draws.] Iawn.

Hoffwn ei atgoffa ein bod wedi cael dadl, neu gwestiynau yn hytrach, ar fynediad band eang a seilwaith oddeutu awr yn ôl, pan oedd y Gweinidog yn anhapus iawn nad yw'n ofynnol i ddatblygiadau newydd gael mynediad at fand eang fel rhan o'r datblygiad. Dyna'n union yr hyn na all ganiatáu iddo ddigwydd gyda'r newid hwn i gerbydau trydan.

Ie, nid oes cymaint o amser â hynny er pan oedd gennym doiledau wedi'u hadeiladu y tu allan i gartrefi, ond bellach mae'n rhyw fath o ddisgwyliad fod gennych ystafell ymolchi yn y tŷ. Mae angen inni symud gyda'r oes.

Felly, mae angen pwyntiau gwefru at ddefnydd lleol, ond rhaid inni gael rhwydwaith cenedlaethol priodol yn ogystal. Rwy'n edrych ymlaen at godi Renault ZOE gan Renault UK ymhen ychydig wythnosau, er mwyn gyrru 200 milltir o fy etholaeth ar Ynys Môn i fy ngweithle yng Nghaerdydd. Bydd yn ddiddorol oherwydd, hyd y gwelaf, nid oes unrhyw bwyntiau gwefru cyflym rhwng Ynys Môn a Chaerdydd. Felly, bydd yn daith ddiddorol. Ond mae'n rhaid i hynny newid. Felly, mae angen inni ôl-osod gosodiadau mewn mannau strategol, ond gall gosodiadau mewn datblygiadau newydd at ddefnydd y cyhoedd yma ac acw o gwmpas Cymru ffurfio rhan o rwydwaith cenedlaethol newydd.

Nawr, ar gyllido, rwy'n credu y dylai fod elfen o gyllid cyhoeddus, benthyciadau cyhoeddus, efallai, sydd ar gael ar gyfer gosod, yn sicr yn y lleoedd mwyaf strategol. Yn ddiweddar, negododd Plaid Cymru £2 filiwn ar gyfer hyn yn y fargen ar y gyllideb ddiwethaf. Mae'n fan cychwyn o leiaf. Os edrychwch ar nifer y pwyntiau gwefru a gyllidir yn gyhoeddus yn y DU erbyn hyn, rwy'n credu mai gogledd-ddwyrain Lloegr sydd ar frig y gynghrair gydag un pwynt gwefru wedi'i ariannu'n gyhoeddus fesul 4,000 o drigolion; yr Alban, un fesul 7,000 o bobl. Roedd gan Gymru, yn ôl ffigurau'r HSBC yn ddiweddar, un pwynt gwefru a ariennir yn gyhoeddus fesul 99,000 o bobl. Nid yw'n ddigon da. Ond nid yw'r ffocws heddiw ar ariannu, mae ar adeiladu rhwydweithiau gwefru yn ein hamgylchedd. Byddwn yn clywed gan Lywodraeth Cymru heddiw, rwy'n siŵr, eu bod eisoes yn ymgynghori ar ganllawiau cynllunio newydd yn hytrach na deddfwriaeth, ond mae angen inni fod yn siŵr fod yr ymgyrch tuag at gerbydau trydan yn cael ei chefnogi gan beth bynnag sydd ei angen i wneud iddo ddigwydd.

Nid wyf yn meddwl bod angen imi ailadrodd y dadleuon amgylcheddol—newid yn yr hinsawdd a llygredd aer. Rwy'n gobeithio nad oes angen imi eich perswadio, am lawer o resymau da, fod cerbydau trydan ar y ffordd. Mae a wnelo hyn â sicrhau bod Cymru'n barod pan fo'r hyn sy'n anochel yn digwydd, ac mae'n ymwneud hefyd â gweld a allwn gael Cymru i groesawu'r dyfodol hwnnw yn awr, ac edrychaf ymlaen at eich cyfraniadau. Diolch.

16:20

Yn sicr, rwy'n croesawu'r fenter rydym yn ei thrafod heddiw i gyflwyno canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd er mwyn sicrhau bod yn rhaid i adeiladau newydd gynnwys pwyntiau gwefru ac i'w gwneud hi'n haws i bobl allu defnyddio cerbydau trydan er mwyn lleihau allyriadau carbon, er y dylid nodi nad yw cerbydau trydan eu hunain yn lleihau allyriadau carbon—yn syml, ffynhonnell wahanol o bŵer yw hi. Oni bai bod y ffynhonnell sylfaenol yn adnewyddadwy, nid yw ond yn symud y broblem i rywle arall, felly rwy'n credu y dylem fod yn ofalus ynglŷn â'r iaith a ddefnyddiwn. Bydd yn sicr yn gwella ansawdd aer lleol, ac mae hynny i'w groesawu, ond ni fydd effaith ar ansawdd aer cyffredinol ac allyriadau cyffredinol oni bai ein bod yn defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy yn y lle cyntaf, felly rwy'n credu y dylem ychwanegu'r cafeat pwysig hwnnw.

Fel rwy'n deall, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar bwyntiau gwefru cerbydau trydan yr haf hwn, ac eisoes maent yn cael adwaith gan rai datblygwyr ynglŷn â'r syniad o orfod darparu dwythellau. Buaswn yn annog y Llywodraeth i fod yn gadarn iawn ynglŷn â hyn a hefyd i arfer ei dychymyg—i ymchwilio gyda rhai o'r cwmnïau cynhyrchu pŵer y cyfle i dreialu dulliau gwahanol, lle y gellir gosod ffynonellau pwyntiau gwefru lle bydd pobl eraill yn ysgwyddo'r gost. Fel rwy'n deall, mae yna rai cwmnïau sydd â diddordeb mewn trafod hyn.

Mae angen inni hefyd feddwl am y math o wefru a flaenoriaethwn. A ydym yn blaenoriaethu technoleg gyfredol Nissan Leaf, er enghraifft, sy'n cymryd oddeutu pum neu chwe awr yn ôl yr hyn a ddeallaf i wefru, neu a ydym yn llamu ymlaen at y genhedlaeth nesaf o dechnolegau gwefru cyflym, a fydd yn gallu ei wneud mewn rhan fach o'r amser? Pa rai rydym yn dewis rhoi blaenoriaeth iddynt yn gyntaf?

Mae angen inni feddwl ble i'w rhoi yn ogystal. Dylem fod yn symud at ffurf lanach o drafnidiaeth, ond ni all hynny fod ar draul mathau cynaliadwy o drafnidiaeth. Rhaid inni ddweud ar y cychwyn, rwy'n meddwl, na ddylid caniatáu pwyntiau gwefru ar balmentydd, lle y gallent fod yn rhwystr i bobl gerdded a beicio ac i bobl anabl, ond rhaid iddynt fod ar ffyrdd.

Rwy'n credu hefyd fod yn rhaid inni ofyn i ni'n hunain: a ddylem fod yn cynllunio ar gyfer cyfnewid yr holl gerbydau petrol am gerbydau trydan, neu a allwn fanteisio ar y cyfle hwn, wrth i bobl newid, i geisio hybu dull o weithredu sy'n fwy deallus, gan ffafrio, er enghraifft, trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol mewn ardaloedd trefol a chanolbwyntio ar gerbydau trydan mewn ardaloedd gwledig yn lle hynny? Credaf fod hyn yn rhywbeth y dylem ei ystyried.

Yn olaf, Lywydd, mae cerbydau trydan yn mynd i fod yn ddrud, a gallai hyn waethygu lefelau presennol o dlodi trafnidiaeth, lle y gorfodir pobl mewn teuluoedd incwm isel i fuddsoddi mewn rhedeg car i gyrraedd eu gwaith a gwasanaethau allweddol, a mynd i ddyled yn sgil hynny. Credaf y dylem edrych ar gyfleoedd i rannu ceir ar gyfer cerbydau trydan. Ceir rhai enghreifftiau o gynlluniau cydweithredol i rannu cerbydau trydan yn Nhyddewi ac ym Mhowys ar hyn o bryd. Cafwyd arbrawf gyda chlybiau hen geir yng Nghaerdydd, fel rhan o'r ddinas teithio cynaliadwy rai blynyddoedd yn ôl, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf fod angen inni ei wneud yn gyflym, oherwydd mae'r rhain yn mynd i fod allan o gyrraedd llawer o deuluoedd, ac nid yw pob teulu angen car—mae'r rhan fwyaf o geir yn segur am 23 awr y dydd o flaen eu tai.

Felly, yn gyffredinol, wrth inni newid i dechnoleg wahanol, dylem achub ar y cyfle i newid ymddygiad yn ogystal.

Cytunaf â llawer o'r hyn a ddywedwyd yn awr gan Lee Waters, ond diolch i Rhun am gyflwyno hyn fel cynnig deddfwriaethol, ac yn sicr, rwy'n cytuno â'r amcan cyffredinol. Nid wyf yn siŵr a oes angen cyfrwng deddfwriaethol arnom, ond mae'n dda ein bod yn trafod y materion hyn.

Fel y dywedodd Lee Waters, mae angen inni gofio bod y ffordd rydym yn cynhyrchu ynni yn allweddol yma, ac mae newid i ffynonellau di-garbon yn wirioneddol hanfodol. Hefyd, mae'n hanfodol edrych ar dagfeydd mewn dinasoedd, ac ni fyddai hynny o reidrwydd yn cael ei ddatrys—neu ni fyddai'r gostyngiad yn digwydd o reidrwydd—pe baem ond yn cyfnewid y cerbydau petrol a diesel presennol am gerbydau trydan. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod cerbydau trydan yn rhan bendant o'r ateb, yn wir, o fewn y fflyd drafnidiaeth gyhoeddus yn enwedig. Felly, credaf fod hon yn drafodaeth ddefnyddiol iawn ac mae'n un lle rwyf am weld Cymru'n symud ymlaen arni.

Fel y dywedodd Rhun, ar hyn o bryd, nid ydym yn cymharu'n arbennig o dda â rhannau eraill o'r DU. Yn 2012, 53 o geir trydan a geid yng Nghymru; roedd wedi codi i 1,523 erbyn 2016, sy'n gynnydd canrannol enfawr wrth gwrs ond credaf mai'r nifer absoliwt yw'r hyn y dylem edrych arno yma. Mae rhannau eraill o'r wlad wedi symud ymlaen yn gynt na ni hyd yma, felly mae angen inni edrych ar hyn. Mae'n ymwneud â ble y ceir pwyntiau gwefru cyflym. Credaf y bydd angen inni edrych ar adeiladau cyhoeddus yn gyntaf. Yn sicr mae angen inni edrych ar y rhwydwaith ffyrdd mawr oherwydd mae teithio rhwng Ynys Môn a Chaerdydd heb bwynt gwefru o bosibl yn broblem wirioneddol.

Felly, credaf fod angen i hyn fod yn rhan o strategaeth eang, ond yn sicr mae'n rhywbeth lle y credaf fod y cyhoedd yn mynd i'n gwthio hyd yn oed yn galetach nag yr ydym yn barod i fynd ar hyn o bryd. Mae angen i'r Llywodraeth ddechrau edrych ar y mater fel problem seilwaith, ac mae'r stoc enfawr o adeiladau cyhoeddus yn lle amlwg i ddechrau. Rydych eisoes yn ei weld mewn rhai datblygiadau—rwyf wedi sylwi arno o gwmpas Bro Morgannwg—lle mae tai newydd yn cynnwys pwyntiau gwefru fel nad oes gennych gebl hir a lletchwith i gefn eich garej, ond rydych yn gweld y pwynt gwefru o flaen y tŷ.

Felly, dyna lle bydd pobl yn mynnu gweld y farchnad yn mynd, rwy'n credu, ond mae angen inni hwyluso'r newid hwnnw yn ogystal. Felly, rwy'n falch fod hyn yn cael ei drafod ac mae gennyf feddwl agored iawn ynglŷn ag a ddylid gwneud hynny drwy ddeddfwriaeth, neu a oes dulliau polisi mwy traddodiadol y gallwn eu mabwysiadu.

16:25

Diolch i Rhun am gyflwyno'r cynnig hwn, oherwydd mae'n sicr yn gynnig diddorol iawn. Hoffwn ddweud ychydig o sylwadau byr amdano, ac at ei gilydd rwy'n cefnogi'r cynnig.

Yn union fel roedd yn rhaid i adeiladwyr osod gwifrau yn eu hadeiladau newydd ar gyfer trydan, ac fel mae'n rhaid gosod gwifrau ar gyfer cyfrifiaduron ac ati mewn swyddfeydd modern, mae'n gwneud synnwyr, wrth i dechnoleg a chymdeithas ddatblygu, fod canllawiau cynllunio yn cael eu haddasu er mwyn dal i fyny â'r newidiadau. Felly, byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn, gan fod mwy o bobl yn defnyddio cerbydau trydan a rôl y wladwriaeth yw sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol ar gael i'w gwneud hi'n haws i bobl fyw eu bywydau.

Mae gennyf rai pryderon, ac mae'r cyntaf yn ymwneud â chymhwyso'r rheol i'r holl dai newydd fel bod yn rhaid gosod y pwyntiau ym mhob cartref newydd. Gallaf weld pam y credwch hynny ond fy mhryder i yw y bydd y gost ychwanegol o osod y pwyntiau gwefru ym mhob cartref newydd yn sicr o gael ei throsglwyddo i'r rhai sy'n prynu tŷ. Mae prynwyr tai eisoes yn gorfod talu premiwm am adeiladau newydd. Mae rhai pobl yn dweud bod hynny'n gorbwyso manteision unrhyw gynllun cymorth i brynu, a bydd unrhyw bremiwm a delir hefyd yn cael ei drosglwyddo i denantiaid. Felly, gallai llyffetheirio pobl â chodiadau gorfodol ei gwneud yn anos i bobl ddod o hyd i gartref. Rwy'n siŵr mai'r peth olaf y mae unrhyw un yn y lle hwn am ei wneud yw ei gwneud yn ddrutach i bobl brynu cartref drwy godi pris adeiladau newydd.

Y pryder arall sydd gennyf, sy'n bwynt y cyfeiriodd Lee ato, yw bod annog mwy o ddefnydd o geir trydan ar hyn o bryd i'w weld yn rhoi'r drol o flaen y ceffyl, gan fod perygl o anghofio bod y rhan fwyaf o'n trydan presennol yn dod o orsafoedd pŵer sy'n llygru, nid o ynni adnewyddadwy. Felly, ar hyn o bryd ni fydd y trydan ychwanegol sydd ei angen i wefru ceir yn gwneud dim ond cynyddu allyriadau o orsafoedd pŵer lleol a symud y broblem o un lle i'r llall i bob pwrpas.

Fel y dywedwyd eisoes, efallai y dylid defnyddio llai o geir—ond rydym wedi cael 40 mlynedd neu fwy o awdurdodau lleol a Llywodraethau yn adeiladu eu strategaeth economaidd a'u strategaeth gynllunio ar ddefnydd eang o'r car. Felly, mae dweud bod angen i bobl yrru llai yn rhesymegol, ydy, ond mae'n beth anodd tu hwnt i'w gyflawni yn y gymdeithas fodern.

Wrth gwrs, gellid sicrhau cyflenwad trydan o ffynonellau ynni glân yn bennaf gyda'r buddsoddiad cywir mewn ymchwil a datblygu, ond nid ydym ar y cam hwnnw, ac nid ydym yn agos ato eto, ac ni ddylem fod yn ymddwyn fel pe baem yn agos ato. Nid wyf yn credu mai'r ffactor sy'n penderfynu a ddylem brynu car trydan neu beidio yw a oes gennych bwynt gwefru yn eich tŷ, er ei fod yn amlwg yn mynd i fod yn ffactor. Y ffactorau allweddol yw'r gost—pa mor bell y bydd un cyfnod gwefru yn mynd â chi—ac o safbwynt amgylcheddol, faint o lygredd y bydd yn ei greu yn realistig. Er mwyn i geir trydan ddod yn norm, rhaid i chwyldro ddigwydd o ran pa mor bell y gallwn deithio cyn ailwefru a'r amser a gymer i ailwefru, ac nid ydym yn gwybod beth fydd y cam arwyddocaol nesaf ar gyfer y ceir hyn. Felly, pryder arall i mi yw y gallem fod yn cyflwyno rheolau sy'n costio arian sylweddol yn y tymor hir i'r trethdalwr a'r perchennog tŷ am bwyntiau gwefru a fydd yn hen ffasiwn ac wedi'u disodli gan dechnoleg newydd cyn iddynt gael eu defnyddio. Diolch.

16:30

Rydw i'n cefnogi, wrth gwrs, y cais gan fy nghyfaill i ddod â'r cynnig deddfwriaethol yma, ond rydw i'n gwneud hynny am sawl rheswm. Yn gyntaf oll, mae'n ddymuniad gen i a Phlaid Cymru i weld ein bod ni'n dod i ben â gwerthu ceir newydd sydd yn ddibynnol ar danwydd ffosil erbyn 2030, ac rydw i'n synnu nad yw Llywodraeth San Steffan wedi gwneud camau i gyflymu'r broses yma. Rydym ni'n dal i edrych tuag at 2042 ar gyfer hyn, er ein bod ni'n gwybod yr effaith ar ansawdd awyr sydd yn deillio o beiriannau tanwydd ffosil, a diesel yn benodol. Rydw i hefyd yn ei wneud e gan ein bod ni o'r farn, er bod y twf yma yn digwydd yn organig, bron, mewn cerbydau trydan, ei bod hi'n wir i ddweud, megis gyda band llydan, fel soniais i, y byddem ni yn rhannau helaeth o Gymru ar ein colled oni bai fod ymyrraeth gan y wladwriaeth i sicrhau cyfartaledd. Roedd y pwynt roedd Lee Waters yn ei wneud yn un digon teg, ond er mwyn helpu'r cyfartaledd yna, mae'n rhaid i'r Llywodraeth sefyll i mewn a gwneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. Ac rydw i'n meddwl bod hynny'n rhywbeth rydym ni'n gyfarwydd â gorfod ei wneud yn y cyd-destun Cymreig.

Ar ôl i Blaid Cymru negodi y £2 filiwn ar gyfer cynllun cyhoeddus o bweru ceir trydan, rydw i wedi cysylltu â phob cyngor sir yng Nghymru i ofyn beth roedden nhw'n ei wneud i helpu'r broses yma, ac mor belled rydw i wedi cael ateb nôl gan hanner—gan gynnwys Ynys Môn, os caf i ddweud; da iawn Ynys Môn. Nid ydw i yma i enwi'r cynghorau, achos mae pob un ohonyn nhw'n dweud eu bod nhw'n gwneud eu gorau glas, ond mae'n amlwg beth sydd ar goll yn ambell i le. Mae yna gynghorau heb unrhyw bwynt gwefru cyhoeddus o gwbl. Mae yna lefydd yng Nghymru—. Os rydych chi'n teithio, Rhun, o Ynys Môn i Gaerdydd, mae'n ddigon posib, fel gyda'r trên, y bydd rhaid i chi fynd drwy Loegr i sicrhau eich bod chi'n gwneud y daith yn saff. Dyna'r math o fframwaith sydd gyda ni ar hyn o bryd.

Cwpwl o bethau sydd wedi codi yn hynny sydd yn awgrymu i fi ein bod ni angen rhywfaint o ddeddfwriaeth neu bwysau deddfwriaethol yn y maes yma yw: yr angen i greu rhwydwaith cenedlaethol; yr angen i'r rhwydwaith yna fod â bathodyn Cymreig arno fe, os liciwch chi, so mae pobl yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn rhan o'r broses yma; ein bod ni'n sicrhau drwy ymrwymiad deddfwriaethol bod y pwyntiau gwefru yma yn open source ac yn agored i bawb—felly beth sydd gyda chi, wrth gwrs, yw bod un cwmni yn licio cadw fe jest ar gyfer eu ceir nhw, ond rydym ni angen i hwn fod ar gael i bawb—ac ein bod ni'n gallu annog a helpu cynghorau lleol a phobl eraill a chyrff cyhoeddus sydd â diddordeb yn hyn nid jest i roi un pwynt i mewn, ond sawl pwynt i mewn. Rydym ni eisiau buddsoddiad eithaf sylweddol fan hyn; ie, paratoi ar gyfer y twf sy'n dod yn hytrach na beth sydd gyda ni nawr, efallai, fel roedd David Melding yn sôn, ond mae angen gweld hynny.

Y pwynt olaf oll rydym ni angen ei weld yng nghyd-destun ymyrraeth Llywodraeth yw bod y grid mewn mannau o Gymru heb fod yn ddigon cadarn na chryf ar gyfer y twf sy'n mynd i gael ei weld mewn pweru ceir. Mae capasiti'r grid yn gyfyng iawn mewn mannau o Gymru, yn enwedig yn y canolbarth, ac rydw i eisiau i'r Llywodraeth gydweithio gyda Llywodraeth San Steffan i fynd i'r afael â hynny. A gan bod y grid yn dweud na fydd modd cael batris mwy nag 1 MW yng Nghymru am o leiaf ddegawd arall—dyna'r sefyllfa, mae'r Grid Cenedlaethol yn dweud nawr—mae'r syniad o gael batris bach ym mhob man, sef y ceir trydan yma, yn defnyddio ein pŵer a'n hynni adnewyddol ni, yn ddeniadol iawn i fi, ond mae angen ymyrraeth y Llywodraeth, nid oes dim dwywaith gen i. 

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. 

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i ymateb i'r ddadl hon, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ystyrlon iawn. Cefnogaf fwriad y ddadl yn llwyr, ac rwy'n benderfynol o wneud popeth a allaf i gynyddu'r defnydd o gerbydau trydan yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod dyfodol cerbydau petrol a diesel yn gyfyngedig, gyda Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei bwriad i'w gwahardd erbyn 2040. Yn y cyfamser, mae'r diwydiant modurol eisoes yn ymateb i'r her. Mae Volvo, er enghraifft, wedi cyhoeddi y bydd yr holl fodelau newydd y bydd yn eu lansio o 2019 yn rhedeg ar fatri naill ai'n rhannol neu yn llwyr.

Os ydym i wireddu ein huchelgais ar gyfer datgarboneiddio, rhaid inni sicrhau darpariaeth ddigonol ar gyfer gwefru cerbydau trydan. Fodd bynnag, nid wyf yn argyhoeddedig mai'r cynigion ar gyfer deddfu a glywsom heddiw yw'r ffordd fwyaf priodol ymlaen. Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth eisoes wedi ymgorffori datgarboneiddio yn y cynllun gweithredu economaidd ac wedi gwneud ymrwymiad o £2 filiwn o gyllid i helpu i wella seilwaith gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd, ac mae fy null i o weithredu newidiadau i'r system gynllunio yn ategu hyn. Yn amlwg, rhaid i'r system gynllunio alluogi yn hytrach na rhwystro'r defnydd o gerbydau trydan, felly rhaid inni roi sylw i'r mater yn awr. Mae arnom angen dull cydgysylltiedig ac unedig o sicrhau darpariaeth ddigonol o gyfleusterau gwefru.

Hoffwn amlinellu'n fras yr hyn rydym yn ei wneud eisoes. Mae angen i bolisi cynllunio cenedlaethol roi arweiniad clir ar bwysigrwydd cyfleusterau gwefru. Mae'r ymgynghoriad 'Polisi Cynllunio Cymru' cyfredol yn cynnwys gofyniad i isafswm o 10 y cant o fannau parcio dibreswyl newydd gael pwyntiau gwefru, a ni yw'r cyntaf yn y DU i wneud hyn. Cyn diwedd y mis hwn, byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad ar hawliau datblygu a ganiateir newydd, a bydd yn cynnwys cyflwyno hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn cartrefi a busnesau. Yn olaf, bydd newidiadau i gyfarwyddeb perfformiad ynni adeiladau yn nodi gofynion seilwaith pwyntiau gwefru ar gyfer pob datblygiad preswyl a dibreswyl newydd, a rhaid trosi'r gyfarwyddeb hon erbyn 2020.

Rwyf am sicrhau'r Aelodau y byddaf yn ystyried gosod safonau llymach drwy reoliadau cynllunio neu reoliadau adeiladu os na fydd y gyfarwyddeb yn cyflawni ein huchelgeisiau. Ochr yn ochr â'r newidiadau polisi hyn, rwyf eisoes yn cael trafodaethau gyda'r Grid Cenedlaethol—credaf fod Simon Thomas wedi nodi pwynt pwysig iawn ynghylch gallu'r grid cenedlaethol i gefnogi ein cynlluniau ar gyfer gwefru cerbydau trydan—a hefyd yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Dywedodd nifer o'r Aelodau fod angen inni fod yn fwy dychmygus, mae angen inni gymryd yr awenau ac rwy'n cytuno'n llwyr; mae angen inni wneud yn siŵr fod Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gerbydau trydan. Felly, nid yw'r newidiadau rwyf wedi'u hamlinellu heddiw yn ddim ond dechrau ar y broses, ac wrth i'r dechnoleg ddatblygu, mae angen inni sicrhau bod Cymru ar y blaen gyda'r datblygiadau hyn.

16:35

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma y prynhawn yma? Rydw i’n cael fy nghalonogi gan ysbryd y drafodaeth honno. Mi ddof fi at y Gweinidog yn olaf, o bosib. O ran y sylwadau sydd wedi cael eu codi yn barod,

mae yna nifer o bwyntiau a godwyd gan yr Aelodau yr hoffwn wneud sylwadau arnynt yn gyflym. Nododd Lee Waters a David Melding y pwynt fod yn rhaid i chi ddal i gynhyrchu trydan rywsut, ac nid yw hynny'n dda i ddim os ydych yn ei gynhyrchu drwy losgi tanwydd ffosil, er enghraifft. Mewn gwirionedd, yn sicr, mae angen inni symud tuag at gynhyrchu trydan di-garbon, ond mae'r cerbyd trydan ei hun yn llawer mwy effeithiol na'r peiriant tanio mewnol, felly hyd yn oed os ydych yn llosgi tanwydd ffosil, rhywbeth nad ydym eisiau ei wneud, mwy na thebyg y byddwch dair, pedair, pump, chwech neu saith gwaith yn fwy effeithlon o gael cerbyd trydan yn trosglwyddo'r pŵer ar y ffordd yn hytrach na char petrol neu ddisel.

Rwy'n ddiolchgar ichi am ganiatáu imi ymyrryd, oherwydd mewn gwirionedd, rwy'n creu bod hwn yn bwynt pwysig iawn. Roeddwn yn arswydo o weld y rhaglen Dispatches fis diwethaf yn datgelu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn defnyddio ein hardoll werthfawr ar ein biliau trydan i gael pelenni pren, wedi'u gwneud o bren caled yn lle glo yng ngorsaf pŵer Drax, sy'n amlwg yn un o'r gorsafoedd pŵer mwyaf yn y DU, a bod hyn yn creu mwy o garbon na'r glo mewn gwirionedd. Hynny yw, mae hynny'n gwbl syfrdanol. Felly, roeddwn yn gobeithio y gallem—. Methais â chynnwys gwelliant i'ch tri phwynt. Credaf fod angen pedwerydd pwynt, yn dweud bod angen inni gael rhwydwaith o bwyntiau gwefru adnewyddadwy wedi'u cynhyrchu gan ynni adnewyddadwy, a gobeithio gan ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, fel y gallwn osgoi'r problemau rhwydwaith y cyfeiriodd Simon Thomas atynt.

Nid wyf yn anghytuno â hynny ar unrhyw lefel; credaf y caiff hynny ei gofnodi fel syniad da. Ond dof yn ôl at y pwynt am effeithlonrwydd cerbydau trydan yn y mater penodol hwn, beth bynnag. Felly, er bod gennym yr oedi o ran beth yr hoffem ei gael o ran symud tuag at gynhyrchu trydan di-garbon, o leiaf mae cerbydau trydan yn ffordd o fod yn fwy effeithlon.

Nid oes gennyf lawer o amser, mewn gwirionedd, i roi sylwadau ar bwyntiau unigol, heblaw, oes, wrth gwrs bod angen newid diwylliant arnom, ac oes, mae angen inni newid ein hagwedd tuag at y modd rydym yn teithio o un lle i'r llall. Nid wyf yn poeni am y gost, oherwydd rydych yn prynu neu'n lesio car trydan ac fe gewch y pwynt gwefru am ddim. Hynny yw, nid yw'r gost yn fawr; mae'n ymwneud ag annog pobl drwy wneud yn siŵr ei fod yno, ar y cychwyn, pan fyddant yn prynu'r tŷ, felly mae'n gwneud synnwyr perffaith i brynu'r car hwnnw yn lle car petrol neu ddiesel.

Rwy'n cydnabod yn llwyr fod gwaith ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ar edrych ar ffyrdd gwahanol o annog defnydd o gerbydau trydan. Un peth a ddywedaf yw nad oes gan y Llywodraeth yr hanes gorau, dros y blynyddoedd, o fod yn arloesol yn hyn o beth. Mae'n wych fod pethau'n digwydd yn awr, ond gallai fod wedi digwydd yn gynharach, ac mae hynny'n gwneud imi feddwl bod arnom angen yr holl sicrwydd y gallwn ei gael i wneud yn siŵr fod bwriadau da gan y Llywodraeth yn awr yn troi'n weithredu pendant ar lawr gwlad. Flynyddoedd yn ôl, roeddwn yn siarad am y potensial i Gymru arwain ym maes cerbydau trydan. Mae honno i'w gweld yn freuddwyd bell braidd erbyn hyn, gan ein bod mor bell ar ei hôl hi. Ond os ydym yn ymdrechu i ddal i fyny yn awr, beth am inni ymdrechu'n wirioneddol galed. Gadewch i ni ei wneud yn uchelgais a bod yn barod i ddeddfu os oes angen, yn ogystal â defnyddio canllawiau cynllunio amrywiol ac ati, er mwyn gallu dweud yn hyderus yn y dyfodol fod Cymru yn croesawu cerbydau trydan ac yn wlad sy'n barod ar gyfer cerbydau trydan.

16:40

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Canser y coluddyn

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ac rydw i'n galw ar Hefin David i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6682 Hefin David, Angela Burns, Mark Isherwood, Rhun ap Iorwerth, Dawn Bowden, Mandy Jones

Cefnogwyd gan Neil Hamilton

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu adroddiad diweddar gan Bowel Cancer UK a Beating Bowel Cancer sy'n tynnu sylw at ddiagnosis cynnar a'i uchelgais o wella cyfraddau goroesi pobl y mae canser y coluddyn yn effeithio arnynt.

2. Yn cydnabod cyfraniad dewr cleifion canser y coluddyn yng Nghymru o ran codi ymwybyddiaeth o'r clefyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran gwella canlyniadau yn sgil galw cynyddol am ddiagnosis, o fewn cyfyngiadau'r gwasanaeth presennol.

3. Yn cydnabod mai canser y coluddyn yw'r canser sy'n lladd yr ail nifer fwyaf o bobl yng Nghymru ac yn cydnabod yr effaith a gaiff diagnosis cynnar ar gyfraddau goroesi a phwysigrwydd annog y cyhoedd i fanteisio ar gyfleoedd i sgrinio eu coluddion gan bod y niferoedd sy'n cael eu sgrinio wedi gostwng 1 y cant yn y 12 mis diwethaf.

4. Yn croesawu cyflwyno prawf imiwnogemegol ysgarthion (FIT) symlach a mwy cywir fel rhan o'r rhaglen profi'r coluddyn a'r potensial i wella cyfraddau goroesi canser y coluddyn.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen sgrinio canser y coluddyn y gall gyrraedd ei photensial llawn ymdrin â materion o amgylch:

a) y trothwy arfaethedig ar gyfer prawf imiwnogemegol ysgarthion i'w gyflwyno yn 2019;

b) heriau sy'n bodoli o fewn gwasanaethau endosgopi a phatholeg i sicrhau y gellir cyflwyno prawf imiwnogemegol ysgarthion yn y ffordd orau bosibl;

c) yr angen i ostwng yr oedran sgrinio cymwys o 60 i 50.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Efallai y bydd Aelodau yn y Siambr hon wedi sylwi fy mod yn gwisgo'r sêl-fodrwy hon. Fe'i rhoddwyd i mi gan fy nhad pan oeddwn yn 16 mlwydd oed. Modrwy fy nhad-cu oedd hi mewn gwirionedd. Mae hi wedi tynhau wrth imi heneiddio, rhaid dweud. Cafodd fy nhad-cu ddiagnosis o ganser y coluddyn yn y 1970au, a goroesodd i mewn i'r 1980au. Un o'r pethau a ddywedodd wrthyf oedd, 'Hoffwn fyw yn ddigon hir i dy weld yn mynd i brifysgol.' Bu farw fy nhad-cu pan oeddwn yn 10 mlwydd oed. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom wedi cael ein cyffwrdd gan straeon am ganser y coluddyn, ac felly mae'n bleser gennyf gyflwyno'r ddadl hon yn y Siambr heddiw.

Mae sgrinio ar gyfer canser y coluddyn ar gael bellach yn genedlaethol ar draws pedair gwlad y DU, ac yng Nghymru caiff ei ddarparu ar gyfer pobl rhwng 60 a 75 oed. Rydym wedi gweld newidiadau arloesol mawr yn yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer triniaeth, ac maent wedi arwain at ostyngiad o 13 y cant yn y cyfraddau marwolaeth ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. Dyma deyrnged i waith caled llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr yn y gwasanaeth iechyd gwladol a'r diwydiant fferyllol. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod gennym waith i'w wneud o hyd, ac mae elusen Bowel Cancer UK wedi ein helpu i weld lle y gellir gwneud y gwaith hwnnw. Caiff oddeutu 41,000 o bobl ledled y DU ddiagnosis o ganser y coluddyn bob blwyddyn. Mae mwy na 2,200 ohonynt yma yng Nghymru. Felly, y realiti poenus a thorcalonnus yw, o'r 16,000 o bobl ledled y DU, bydd dros 900 yng Nghymru yn colli eu brwydr yn erbyn y clefyd ofnadwy hwn. Rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr heddiw yn cytuno ei fod dros 900 yn ormod.

Yn syml, po gynharaf y ceir diagnosis, y mwyaf yw'r tebygolrwydd y byddwch yn goroesi pum mlynedd neu fwy. Mae diagnosis cynnar yn allweddol a rhan hanfodol o hyn yw codi ymwybyddiaeth a sgrinio, ac rwyf am sôn am hynny wrth Lywodraeth Cymru yn fy araith heddiw. Mae angen i bobl fod yn ymwybodol o symptomau posibl canser y coluddyn, a gwn fod gan yr Aelodau rwyf wedi siarad â hwy gynlluniau i drafod hynny'n fanwl. Os ydych yn meddwl efallai fod gennych symptomau canser y coluddyn, peidiwch â theimlo cywilydd a pheidiwch â'u hanwybyddu, ewch i'w cael wedi'u harchwilio.

Rwy'n cydnabod bod pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn methu cyrraedd targedau gorfodol Llywodraeth Cymru ar gyfer amseroedd aros—mae dros 1,800 o gleifion yng Nghymru yn aros mwy nag wyth wythnos am ddiagnosis canser y coluddyn. Daw hyn o adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Chwefror gan Bowel Cancer UK, y gwnaethom helpu i'w lansio. Helpodd Mandy Jones ac Andrew Davies ACau i'w lansio yma ym mis Chwefror. Canfu'r adroddiad hefyd fod llai na hanner y bobl sy'n gymwys ar gyfer profion sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru wedi gwneud y prawf, ond sgrinio yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ganfod canser y coluddyn. Ysgrifennais at y Gweinidog ar y pryd, Rebecca Evans, pan oedd hi'n Weinidog iechyd y cyhoedd ym mis Chwefror 2017 ar fater gostwng yr oedran sgrinio o 60 i 50, fel sy'n digwydd yn yr Alban ar hyn o bryd. Cefais fy nghalonogi pan ddywedodd, ar 23 Chwefror 2017, 'mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymestyn rhaglen sgrinio'r coluddyn yng Nghymru i ddynion a menywod rhwng 50 a 59 oed, ond mae ein ffocws ar gynyddu'r nifer sy'n cael y prawf yn yr ystod oedran presennol a lleihau'r annhegwch y gwyddom ei fod yn bodoli cyn ymestyn y rhaglen ymhellach.'

Rwy'n credu bod heddiw yn gyfle amserol i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar ba gynnydd a wnaed ers mis Chwefror 2017 a pha gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn 2019, sy'n rhan o'n cynnig. Roedd y Gweinidog hefyd yn pwysleisio yn ei llythyr pa mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth ymhlith grwpiau incwm is, oherwydd yn ystadegol maent yn llai tebygol o wneud y prawf—

16:45

Mae'n ddiddorol mai hanner y bobl gymwys yn unig sy'n cael eu sgrinio, ond rwyf hefyd wedi cael etholwr sydd wedi cael ei sgrinio'n rheolaidd, neu wedi gwneud y prawf sgrinio, ac yna, yn 75 oed, mae'n dod i ben, ac mewn gwirionedd mae'n achosi llawer iawn o bryder. Tybed a oes unrhyw dystiolaeth yn dod i'r amlwg fod parhau i sgrinio y tu hwnt i 75 yn fuddiol hefyd.

Mae angen cyflwyno tystiolaeth o'r fath gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a hoffwn roi cyfle i Ysgrifennydd y Cabinet ateb y cwestiwn penodol hwnnw.

Yn y Senedd ar 6 Chwefror, fodd bynnag, siaradais innau hefyd—ac efallai i ateb David Melding—ag oncolegydd a ofynnodd gwestiynau ynghylch newid yr ystod oedran. Nid oedd yn sôn am bobl dros 75 oed, roedd yn sôn am ei ostwng i 50, a'i farn broffesiynol oedd y gallai'r rhwyd risg gael ei lledaenu'n rhy eang ac yn rhy denau os nad oedd y mecanweithiau cymorth priodol ar waith pe baech yn gostwng yr ystod oedran. Felly, os ydych yn mynd i ostwng yr ystod oedran, rhaid i chi gael cyngor proffesiynol iechyd y cyhoedd i ddweud bod y system yn barod i gefnogi hynny. Pe bai Llywodraeth Cymru'n gallu, rwy'n credu y byddent yn ei ostwng yn syth i 50, ond rhaid ichi gael dulliau cymorth digonol yn cael eu gosod na fyddant yn creu anfantais i'r rhai sydd eisoes yn cael eu profi. Rwy'n ymwybodol fod yna weithwyr iechyd y cyhoedd eraill a fyddai'n arddel safbwynt gwahanol, ac maent oll yn ffurfio cyfraniad gwerthfawr, ond rwy'n meddwl mai'r allwedd yw gwrando ar gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru a sicrhau bod yr ystod oedran yn cael ei ostwng, buaswn yn gobeithio, cyn gynted ag y gall y Llywodraeth wneud hynny.

Hefyd bydd cyd-Aelodau am gyfrannu at y ddadl heddiw ynglŷn â'u profiadau eu hunain, ac mae Dawn Bowden wedi rhoi pecyn sgrinio'r prawf imiwnogemegol ysgarthion i mi, drwy garedigrwydd Bowel Cancer UK, a deallaf fod hwn wrthi'n cael ei gyflwyno yng Nghymru, yn dilyn cynlluniau peilot a awgrymodd ei fod wedi arwain at gynnydd o 5 i 10 y cant yn nifer y bobl sy'n ei wneud. Gallaf weld eich un chi ar eich desg yno hefyd, Dawn Bowden. Drwy gyflwyno enghreifftiau o becynnau sgrinio'r profion hyn, gobeithiwn dorri'r tabŵ sydd ynghlwm wrth y profion. Dyna ran o'r hyn y ceisiwn ei wneud heddiw—torri'r tabŵ o wneud prawf.

Ond rwyf am orffen gyda fy straeon personol am ffrindiau sydd â chanser y coluddyn. Yn etholiad 2016, fy ngwrthwynebwr UKIP oedd yr unigolyn hynod ddiddorol hwnnw o'r enw Sam Gould. Roedd personoliaeth, ynni a brwdfrydedd a chariad at fywyd Sam yn disgleirio ym mhob dim a wnâi. Cafodd ei daro y llynedd â chanser y coluddyn a bu farw yn 33 oed. Daeth Sam yn ffrind i mi, ymwelais ag ef yn yr ysbyty, a gwelaf ei golli. Credaf fod dewrder Sam yn rhywbeth y gallwn ddysgu llawer o wersi ohono. Ni wnaf anghofio'r tro y daeth Sam â Nigel Farage i Gelli-gaer yn ystod etholiad y Cynulliad 2016, a thynnodd lun ohonof fi yn ysgwyd llaw gyda Nigel Farage hyd yn oed, sy'n mynd o gwmpas yn rhywle ar y rhyngrwyd. Credaf y byddai Sam yn chwerthin nawr pe bai hwnnw byth yn dod i'r golwg.

Rwy'n siarad hefyd am ein cyfaill mawr ac annwyl Steffan Lewis. Mae Steffan yn unigolyn gwych ac mae wedi gwneud cyfraniad aruthrol i'r Cynulliad hwn. Mae ar hyn o bryd yn absennol oherwydd ei salwch. Rydym yn meddwl am Steffan heddiw, gyda'i salwch, ac rwyf am wneud fy araith yn ei enw. Rydym yn aros iddo ddod yn ôl a dymunwn y gorau iddo gyda'i driniaeth a'i adferiad. Fel y gŵyr yr Aelodau rwy'n siŵr, mae chwaer Steffan wedi trefnu taith gerdded noddedig ar 14 Gorffennaf i godi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, ac ni allaf feddwl am ffordd well inni ei gefnogi ef a'i achos.

Felly, rwy'n argymell y cynnig hwn i'r Siambr heddiw, ac yn gobeithio y bydd y ddadl yn nodi'n fanylach ac yn fwy trylwyr y materion sy'n ein hwynebu, fel y gallwn weithio gyda'n gilydd wedyn i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i gleifion â chanser y coluddyn yma yng Nghymru a gwneud yr hyn y mae pawb ohonom am ei wneud, sef curo canser y coluddyn.

16:50

Wel, yr unig brofiad sydd gennyf fi yw bod un o fy neiniau wedi marw cyn i mi gael cyfle i'w hadnabod, gan iddi gael ei chymryd gan ganser y coluddyn pan oeddwn yn ddau fis oed.

Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yn y DU. Mae oddeutu 16,000 o bobl yn marw o'r clefyd bob blwyddyn—900 yng Nghymru—gan ei wneud yn ail ganser mwyaf sy'n lladd. Mae'r gyfradd yn tyfu, ac amcangyfrifir rhwng nawr a 2035 y gallai tua 332,000 o fywydau ychwanegol gael eu colli i'r clefyd ledled y DU, ac ni ddylai hyn fod yn wir, gan ei fod yn glefyd y gellir ei atal, ei drin a hyd yn oed ei wella. Bydd naw o bob deg o bobl yn goroesi canser y coluddyn os ceir diagnosis ar y cam cynharaf.

Sgrinio yw'r dull mwyaf effeithiol o ganfod canser y coluddyn yn gynnar ac mae'n chwarae rôl allweddol yn gwella cyfraddau goroesi. Ledled y DU, mae rhaglenni sgrinio canser y coluddyn yn anfon pecyn prawf cartref i bawb rhwng 60 a 74 oed—a nodaf sylwadau David Melding yn gynharach, yn y cyd-destun hwnnw—bob dwy flynedd. Yn yr Alban, cânt eu hanfon hefyd at bobl yn eu 50au. Atgyfeiriad gan feddyg teulu yw'r llwybr y caiff y rhan fwyaf o bobl ddiagnosis o hyd. Mae atgyfeirio drwy ofal sylfaenol yn llwybr allweddol i ddiagnosis ar gyfer y rhai sy'n profi symptomau a allai fod yn ganser y coluddyn, ac ar gyfer rhai o dan yr oed a gwmpesir gan y rhaglen sgrinio. Dylid cyfeirio pobl sy'n profi symptomau am y profion diagnostig mwyaf dibynadwy a manwl sydd ar gael ar gyfer canser y coluddyn: colonosgopi a sigmoidosgopi hyblyg, sy'n gallu canfod canser ar gam cynharaf y clefyd. Er y gall rhaglenni ymwybyddiaeth iechyd cyhoeddus effeithiol hysbysu pobl am symptomau canser y coluddyn a'u hannog i ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu, mae hefyd yn bwysig fod meddygon teulu yn gallu adnabod y symptomau hyn a chyfeirio'n briodol a phrydlon.

Fodd bynnag, gan fod symptomau canser y coluddyn yn gallu bod yn anodd gwneud diagnosis cywir ohonynt, a hefyd yn gallu bod yn symptomau cyflyrau'r coluddyn eraill llai difrifol a mwy cyffredin, gall fod yn anodd i feddygon teulu wybod pwy i'w hatgyfeirio a phryd. Gall hyn arwain at oedi cyn y gall cleifion gael gwasanaethau diagnostig ac mewn rhai achosion, rhaid i gleifion weld eu meddyg teulu fwy na phum gwaith cyn cael eu hatgyfeirio. Mae canllawiau NICE ar gyfer achosion lle y ceir amheuaeth o ganser, a ddiweddarwyd ym mis Gorffennaf 2017, ar gael i helpu meddygon teulu i wneud y penderfyniadau hyn. Maent yn argymell y dylid mabwysiadu'r prawf imiwnocemegol ysgarthion, neu FIT, mewn gofal sylfaenol i arwain atgyfeiriadau lle yr amheuir canser y coluddyn mewn pobl heb waedu rhefrol, sydd â symptomau heb eu hesbonio ond nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer llwybr atgyfeirio oherwydd amheuaeth o ganser. Gallai defnyddio FIT yn y modd hwn helpu meddygon teulu i nodi ac atgyfeirio'r cleifion cywir yn well ac yn gyflym a chanfod canser y coluddyn yn gynnar. Mae angen inni weld hyn yn cael ei fabwysiadu yng Nghymru cyn 2019, ochr yn ochr â Lloegr a'r Alban, lle mae eisoes wedi'i dreialu ac yn cael ei ddefnyddio mewn rhai ardaloedd.

Mae'r adroddiad blynyddol ar ganser yn cydnabod mai'r berthynas wael rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd sy'n achosi llawer o'r oedi i gleifion canser. Mewn ymateb i hyn, cynhwysodd Llywodraeth Cymru ganfod ac atgyfeirio canser yn gynnar yn rhan o gontract meddygon teulu Cymru ar gyfer 2017-18. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i dimau gofal sylfaenol ddatblygu strategaethau i wella canfod a diagnosis cynnar. Dylai'r ymyriadau hyn gefnogi diagnosis cynharach i bobl â chanser mewn gofal sylfaenol, a gallent hefyd arwain at ostyngiad yn y galw am wasanaethau colonosgopi.

Cafodd Jackie Hill o Wrecsam ddiagnosis o ganser y coluddyn ar ôl sawl ymweliad â'i meddyg teulu. Dywedodd:

'cefais archwiliad gan fy meddyg teulu, ond ni lwyddodd i ganfod lwmp. Rhoddodd garthydd i mi a dweud wrthyf am ddychwelyd yn y flwyddyn newydd. Dychwelais a dywedais wrth fy meddyg teulu fy mod yn gwaedu rhagor hyd yn oed ac yn teimlo'n flinedig iawn. Daeth fy mhrawf gwaed yn ôl yn normal. Dychwelais eto dri mis yn ddiweddarach gan fod y gwaedu'n drwm iawn, ond dywedwyd wrthyf nad oedd unrhyw beth o'i le. Wyth mis ar ôl fy ymweliad cyntaf, dychwelais a chefais fy atgyfeirio i gael y camera er mwyn tawelu fy ofnau, ond ni chafodd canser ei ystyried unwaith gan fod y profion gwaed wedi dod yn ôl yn normal a dywedwyd wrthyf fy mod i'n rhy ifanc i gael canser. Ar un adeg, dywedodd fy meddyg teulu wrthyf: "A beth ydych chi ei eisiau yn yr apwyntiad brys hwn?" Cefais ddiagnosis o ganser cam 2 yn y pen draw. Yn naïf iawn, pan gefais y diagnosis, credwn y buaswn yn cael tynnu'r tiwmor ac yna'n dychwelyd i fywyd normal. Oherwydd canlyniadau fy nhriniaeth, rwy'n gyson yn pryderu am fynd allan o'r tŷ a sawl gwaith pan fyddaf yn barod i adael y tŷ rhaid i mi fynd i'r toiled. Y peth cyntaf sy'n mynd drwy fy meddwl pan af i unman yw ble mae'r toiledau ac a fyddant yn lân.'

Felly rhaid i Gymru wneud y defnydd gorau o sgrinio canser y coluddyn drwy ddefnyddio FIT ar y trothwy sensitifrwydd gorau, ehangu'r ystod oedran a chynyddu'r nifer sy'n cael eu sgrinio ar gyfer canser y coluddyn. Diolch.

16:55

Rydw i'n falch i groesawu'r ddadl yma, i ddweud y gwir, ac yn diolch am arweiniad Hefin David, sydd yn rhoi canser y coluddyn yn wirioneddol o dan y chwyddwydr. Hefyd, fel nifer ohonom ni, gan fod y canser yma mor gyffredin, mae profiad teuluol gennyf innau hefyd, gan i fy nhad a'm taid ddioddef o'r cyflwr yma dros y blynyddoedd. Fel yr ydym wedi ei glywed, mae yna her sylweddol i wneud y diagnosis. Mae'r symptomau, megis poenau yn y stumog, dolur rhydd, weithiau yn rhwym, pasio gwaed yn y carthion—mae'r symptomau hynny yn rhai cyffredin iawn. Petai meddygon teulu yn arallgyfeirio pawb efo'r symptomau hynny i'r ysbytai, byddai dim lle i wneud unrhyw waith arall o gwbl.

Felly, mae hanes oddi wrth y claf yn hanfodol bwysig. Mae angen rhywbeth yn yr hanes, neu yn hanes yr unigolyn, i bwyntio'r meddyg i gyfeiriad y diagnosis peryglus yma o ganser y coluddyn. Dyna grefft y meddyg teulu, gan gydnabod hefyd fod ambell ganser y coluddyn yn gyfan gwbl heb symptom o gwbl. Dyna bwysigrwydd rhaglen sgrinio. Er mor amherffaith yw e ar hyn o bryd—ac rydw i yn cefnogi y camau arloesol, fel rydym wedi ei glywed gan Mark Isherwood, sydd yn cael eu cymryd yn y maes i gael prawf llawer mwy dibynadwy a manwl. Felly, mae yna waith i'w wneud, ac mae angen ei wneud e ar frys. Dyna pam rwyf yn cefnogi'r ddadl ac yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma.

Gan ei bod ni yn wythnos codi ymwybyddiaeth o glefyd seliag yn ogystal, fel y gwnes i sôn yn gynharach, fe wnaf i hefyd sôn ychydig am hwnnw. Clefyd seliag ydy’r cyflwr yna lle mae’r corff yn adweithio yn anffafriol i brotin mewn gwenith, haidd, rhyg ac ambell fath o geirch. Y protin yna ydy glwten. Mae pawb yn meddwl taw clefyd digon di-nod, yn wir, ydy clefyd seliag, ac o aros ar y deiet arbenigol di-glwten, mae o yn hollol ddi-nod, oni bai am yr holl drafferth o sicrhau bod yr unigolyn yn osgoi glwten—glwten sydd mewn bara, pasta, blawd, pitsa, cacenni, bisgedi, grefi, bysedd pysgod hyd yn oed, selsig—mae’r rhestr yn gallu bod yn faith—ac unrhyw beth lle mae blawd yn cynnwys glwten yn bodoli.

Ond o beidio â gwneud diagnosis o glefyd seliag, sydd hefyd yn rhywbeth anodd ei wneud: eto, mae’r symptomau yn gyffredin iawn, fel blinder, poenau yn y stumog, dolur rhydd, yn enwedig ar ôl bwyta bara, ond ddim o anghenraid—nid o reidrwydd o gwbl—. Rydym wastad yn darllen yn y llyfrau am y symptomau ond, wrth gwrs, mae pawb yn wahanol o ran y ffordd y maen nhw’n cyflwyno eu hunain i’r meddyg teulu, a dyna grefft y meddyg. Ond o beidio â bod ar ddeiet di-glwten, pan mae clefyd seliag arnoch chi, mae yna berig o ddatblygu anemia, breuder yn yr esgyrn—osteoporosis—sgileffeithiau niwrolegol fel ataxia, a hefyd canser y coluddyn bach, a math o lymffoma yn y coluddyn. Ffactor o risg mewn datblygu canser yn y coluddion ydy clefyd seliag, a dyna’i bwysigrwydd, felly. Fel rydw i'n ei ddweud, rydym i gyd yn tueddu i edrych arno fe fel rhywbeth reit ddi-nod, ond o’i esgeuluso mae clefyd seliag yn gallu bod yn ddifrifol iawn, ac mae’n destun pryder ei bod yn aml yn cymryd blynyddoedd i gael y diagnosis yna. Cefnogwch y cynnig, felly. Diolch yn fawr.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Hoffwn ddiolch i bob Aelod sy'n rhan o gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Fel yr amlygwyd gan y cynnig, mae canser y coluddyn yn un o'r lladdwyr mwyaf yng Nghymru. Dyma'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yn y DU, gydag un o bob 14 o ddynion ac un o bob 19 o fenywod yn datblygu'r canser yn ystod eu hoes. Mae bron i 16,000 o bobl yn marw o ganser y coluddyn yn y DU bob blwyddyn, a gellid atal llawer o'r marwolaethau hyn pe baem yn gallu gwneud diagnosis o'r clefyd yn gynharach. Mae gennym raglen sgrinio ar gyfer canser y coluddyn i ddynion a menywod rhwng 60 a 74 oed, ond dylem fod yn sgrinio pawb dros 50 oed. Mae llawer o bobl yn gwrthod gwneud y prawf oherwydd embaras neu oherwydd cymhlethdod y prawf cartref.

Diolch byth, ceir prawf sgrinio llawer symlach a chywirach, sef y prawf imiwnocemegol ysgarthion neu'r prawf FIT. Rwyf wedi siarad droeon yn y Siambr hon am FIT, am yr angen i'w gyflwyno yn gynharach, am yr angen i ostwng yr oedran ar gyfer cynnal profion ac yn bwysicach, yr angen i gyflwyno trothwy sensitifrwydd mwy cadarn yn wyddonol. Mae'r prawf FIT eisoes wedi'i gyflwyno yn yr Alban ac yn fuan dyna fydd y prawf safonol yn Lloegr. Yng Nghymru rydym yn gorfod aros am flwyddyn arall. Mae'r prawf yn symlach o lawer gan mai un sampl yn unig sydd ei angen ac mae'n llawer mwy cywir—neu fe fyddai pe na bai Llywodraeth Cymru wedi dewis gostwng y trothwy sensitifrwydd. Mae Cymru yn cael trothwy profi sy'n hanner yr hyn a argymhellir yn yr Alban ac sy'n is na'r hyn a argymhellir ar gyfer Lloegr. Dywedir wrthym mai'r rheswm am hyn yw oherwydd nad oes gennym gapasiti yn y gwasanaethau endosgopi ar gyfer cynnal profion dilynol. Faint o ganserau a gollir o ganlyniad? Faint o bobl fydd yn marw oherwydd ein bod wedi dewis y llwybr hawdd?

Wrth ymateb i'r ddadl hon, gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu ei gynllun ar gyfer cynyddu capasiti colonosgopi yng Nghymru, yn amlinellu'r camau y bydd ei Lywodraeth yn eu cymryd i gyflymu'r gwaith o gynyddu sensitifrwydd y prawf FIT, ac yn amlinellu amserlen ar gyfer gostwng yr oedran sgrinio i 50. Mae sgrinio yn achub bywydau ac amcangyfrifir bod oddeutu 6,000 o bobl yn eu 50au yn cael diagnosis o ganser y coluddyn bob blwyddyn. Fel y nododd Aelodau eraill, pan wneir diagnosis cynnar o ganser y coluddyn, mae 90 y cant o gleifion yn goroesi, yn hytrach nag un o bob 10 yn unig pan wneir diagnosis yn ddiweddarach. Mae'n gwneud synnwyr i ostwng oedran sgrinio i 50, o gofio bod bron 95 y cant o'r achosion mewn pobl dros 50 oed.

Yn anffodus, yma yn y Siambr, rydym yn ymwybodol iawn y gall canser y coluddyn daro ar unrhyw oed—nid yw'n parchu oedran—gydag un o'n plith yn ymladd yr afiechyd, ac ar ôl colli aelod o staff, Sam Gould. Felly, rhaid inni gynyddu ymwybyddiaeth o'r symptomau oherwydd, fel y gwyddom, os caiff ei ddal yn gynnar, gellir trechu'r clefyd ofnadwy hwn.

Rydym hefyd yn gwybod bod cyflyrau genetig megis syndrom Lynch yn gallu cynyddu'r ffactor risg o ddatblygu canser y coluddyn. Dylai pob claf canser y coluddyn gael eu sgrinio ar gyfer syndrom Lynch a dylid cynnig sgrinio wedyn i aelodau'r teulu.

Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i wella sgrinio, i atal pobl rhag marw'n ddiangen am na chanfuwyd y clefyd tan yn rhy hwyr. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.

17:00

Rwy'n falch o ychwanegu fy nghefnogaeth i'r cynnig hwn heddiw, a gobeithio y bydd y ddadl hon yn chwarae rhan fach yn y dasg bwysig o godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud â chanser y coluddyn—yn arbennig ymwybyddiaeth o'r symptomau, a phwysigrwydd hanfodol manteisio ar sgrinio, fel y mae cymaint o bobl eraill eisoes wedi sôn.

Pan ddechreuais edrych ar y mater hwn cefais fy nharo'n arbennig gan ffigurau niferoedd yr achosion o ganser y coluddyn yn llawer o gymunedau'r Cymoedd, gan gynnwys ym Merthyr Tudful a Rhymni. Er enghraifft, mae Bowel Cancer UK yn dweud bod y rhai sy'n byw yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf yn wynebu posibilrwydd sylweddol uwch o gael diagnosis o ganser y coluddyn na rhai sy'n byw yn ardal gyfagos bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro. Gwelir amrywiadau tebyg yn y patrwm hefyd ar lefel awdurdodau lleol.

Felly, yn amlwg mae hwn yn fater iechyd sydd o bwys mawr yn fy etholaeth, ac o'r herwydd, roeddwn am fanteisio ar y cyfle hwn i sôn am Chris Daniel ym Merthyr Tudful sydd wedi rhoi ei stori ar wefan Bowel Cancer UK. Mae Chris ar hyn o bryd yn cyflawni taith feicio rithwir 18,000 o filltiroedd o amgylch y byd er cof am ei wraig Rita. Credaf mai heddiw yw diwrnod 167 o'i daith, ac mae Chris newydd basio drwy'r Rockies yng Nghanada. Mewn gwirionedd, mae Chris wedi bod yn beicio tu mewn i Dŷ'r Cwmnïau, wrth iddo symud ei ymdrechion codi arian o gwmpas lleoliadau, ond yn rhyfeddol, drwy dechnoleg, mae ei daith rithwir yn cynnwys efelychiadau o holl natur y tir, gan gynnwys pob dringfa ar ei daith yn ogystal, ac mae ei fideos dyddiol yn awgrymu mai'r Rockies yw'r rhan anoddaf o'i daith hyd yma. Ond yn y broses, mae Chris yn codi arian ar gyfer Bowel Cancer UK, Canolfan Ganser Felindre, ac Ymchwil Canser Cymru—ymateb anhygoel i'r trychineb personol y bu'n rhaid i Chris ymdopi ag ef. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle yn y ddadl hon i ddiolch i chi, Chris, am eich ymdrechion yn hyn o beth.

Gan fod hwn yn fater mor bwysig, ac oherwydd y straeon sy'n cael eu hadrodd gan bobl fel Chris, rwy'n ymuno â fy nghyd-Aelodau Vikki Howells a Lynne Neagle y dydd Gwener hwn, 18 Mai, mewn diwrnod o ymgyrchu ar y cyd â Bowel Cancer UK ar draws ein hetholaethau yn y Cymoedd er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth, mewn ymgais i helpu i drechu canser y coluddyn. Ein nod yw cefnogi'r elusennau Bowel Cancer UK a Beating Bowel Cancer i godi proffil symptomau canser y coluddyn, gan fod gormod o bobl naill ai'n anymwybodol o'r symptomau, neu'n eu hanwybyddu. Mae'n fenter newydd i ni, lle rydym yn dod at ein gilydd i gynnal digwyddiadau i helpu'r elusen i gyflwyno eu negeseuon hollbwysig. Nid ymgyrchu gwleidyddol ydyw, ond defnyddio ein swyddi fel ACau i gynnal digwyddiadau ac i helpu i hyrwyddo'r negeseuon iechyd y cyhoedd. Yn ystod y dydd, byddwn yn cynnal digwyddiadau yn Aberdâr, yn Rhymni, ac yng Nghwmbrân, ac mae croeso i chi ymuno â ni. Gallwch gael manylion o fy swyddfa os oes gennych ddiddordeb. Mae hefyd yn dda gweld bod Lowri Griffiths o Bowel Cancer UK yn siarad â rhwydwaith busnes Martyrs yng Nghlwb Pêl-droed Tref Merthyr bore yfory, gan fod gan gyflogwyr hefyd rôl bwysig i'w chwarae yn helpu i ledaenu ymwybyddiaeth o'r mater hwn ymysg eu gweithwyr.

Felly, fel y dywedodd Hefin yn gynharach, gadewch i ni chwalu peth o'r tabŵ o'i amgylch a gadewch i ni siarad am y symptomau. Gadewch inni beidio â'i wisgo mewn iaith gwrtais: rydym yn sôn am waedu o'ch pen-ôl, rydym yn sôn am waed yn eich carthion, rydym yn sôn am newid parhaus ac anesboniadwy yn arferion eich coluddyn. I mi, mae yna neges bwysig i bawb: peidiwch â bod yn swil, gadewch inni siarad am garthion, yn llythrennol, a gadewch inni wneud yn siŵr fod pobl yn cymryd camau i edrych am symptomau canser y coluddyn. Yna, o ganlyniad, efallai y cawn fwy o bobl i gydnabod pwysigrwydd hanfodol sgrinio, oherwydd mae sgrinio'n syml, fel y clywsom eisoes. Gan fod Hefin eisoes wedi ei chwifio, fe wnaf fi ei chwifio hefyd—y pecynnau sydd ar gael yn hawdd. Mae pecynnau sgrinio ar gael yn rhwydd a chânt eu hanfon yn awtomatig at bawb dros 60 oed bob dwy flynedd hyd at 74 oed. Ac wrth gwrs rydym wedi clywed galwadau hefyd am ostwng yr oedran cychwyn ar gyfer sgrinio.

Felly, gadewch i bawb ohonom chwarae ein rhan i gynyddu gwybodaeth am y symptomau ac annog pobl i gael eu sgrinio. Gadewch i ni obeithio y gallwn chwarae ein rhan i atal mwy o bobl fel Rita, gwraig Chris, Sam Gould, Steffan Lewis, a'u teuluoedd, rhag gorfod mynd drwy hynt a helynt diagnosis, triniaeth, ac mewn rhai achosion, marwolaeth. Rwy'n mawr obeithio y bydd Steffan yn parhau i herio ei gyflwr, oherwydd mae pawb ohonom gyda chi—rwyf y tu ôl i chi gant y cant, gyfaill.

17:05

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Aelodau eraill sydd wedi cydgyflwyno'r cynnig hwn heddiw, a diolch hefyd i Hefin David ac Andrew R.T. Davies, a oedd yn gydnoddwyr y digwyddiad Tynnu Sylw at Ganser y Coluddyn yn y Senedd ar 6 Chwefror. Roedd y digwyddiad yn rhan o addewid i Sam Gould gan Bowel Cancer UK pan gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn. Ar y diwrnod hwn y llynedd, roedd Sam yn dal gyda ni. Ef oedd ein cyfaill a'n cydweithiwr a gweithiodd gyda ni yma yn y Cynulliad nes iddo fynd yn sâl. Bu farw ar ôl brwydr ddewr ond cyflym iawn yn erbyn canser y coluddyn. Rydym yn gweld ei golli bob dydd—esgusodwch fi.

Ni soniodd Sam am ei symptomau wrth ei gydweithwyr tan fis Mawrth y llynedd, ond ag yntau ond yn 33 oed, nid oedd ei feddyg teulu'n poeni'n ormodol gan ei fod yn llawer rhy ifanc i gael canser y coluddyn. Yn fuan iawn, roedd mewn gormod o boen, aeth i'r adran ddamweiniau ac achosion brys a chafodd ei dderbyn i'r ysbyty a rhoddwyd diagnosis o ganser y coluddyn cam 4 iddo. Felly, nid oedd yn rhy ifanc o gwbl. Sam oedd ein cyfaill, ond roedd ac fe fydd bob amser yn fab annwyl i June a Tim, sy'n gwylio'r ddadl hon o'r oriel gyhoeddus heddiw, brawd Mim a Lizzie, gŵr i Caroline, a thad i Olivia, Louisa a Pippa. Rwy'n dweud eu henwau am nad ydym yn siarad yn haniaethol yma. Nid ynglŷn ag ystadegau, siartiau, tueddiadau neu rywun arall y mae hyn. Mae hyn yn ymwneud â ni—ein bywydau, ein gwŷr, ein ffrindiau, ein mamau, ein plant, y bobl a garwn, y bobl yr ydym yn eu hadnabod a'r bobl rydym yma i'w gwasanaethu.

Mae pawb a gollir i ganser y coluddyn yn perthyn i rywun. Mae eu colli yn effeithio ar rywun—mae'n achosi'r loes mwyaf i rywun. Ond os caiff ei ddal yn ddigon cynnar, gall y canlyniadau fod yn dda. Rydym yn gobeithio y bydd y ddadl hon heddiw yn codi ymwybyddiaeth bellach o ganser y coluddyn ac yn bwysicach na hynny, y bydd yn annog sgyrsiau mewn teuluoedd ac ymhlith ffrindiau am iechyd a lles yn gyffredinol.

Yr hyn rwyf am dynnu sylw ato'n benodol yma yw geneteg canser y coluddyn. Gall prawf cymharol syml a rhad ganfod syndrom Lynch. Rhagdueddiad genetig i ganser y coluddyn a mathau eraill o ganser yw hwn. Mae Cymru a'r DU wedi eu rhwymo gan ganllawiau diagnosteg DG27 y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, sy'n ei gwneud yn ofynnol i brofi cleifion canser y coluddyn ar gyfer syndrom Lynch, ond nid ydym yn gwneud hynny.

Cyhoeddodd Bowel Cancer UK hyn ym mis Ebrill eleni, yn ystod Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Coluddyn. Nid yw'r DU yn gwneud yn wych ar hyn, ond yng Nghymru ni chyflawnir unrhyw sgrinio o gwbl ar gyfer syndrom Lynch—dim o gwbl. Gwyddom o'r digwyddiad ar 6 Chwefror fod y gweithwyr proffesiynol yn teimlo'n rhwystredig tu hwnt ynglŷn â'r sefyllfa hon. Maent yn cyfeirio at ddiffyg arweiniad a seilos cyllidebol y gwasanaeth iechyd. Ni chefais unrhyw ymateb gan Betsi Cadwaladr ynglŷn â hyn, ond rwy'n tybio yn ôl faint o negeseuon e-bost a ddaw gan etholwyr eu bod hwythau hefyd yn bryderus iawn.

Felly, nid oes unrhyw sgrinio ar gyfer syndrom Lynch yn digwydd yng Nghymru—dim o gwbl—er gwaethaf y gofynion a'r manteision clinigol, ariannol, economaidd a dynol amlwg o wneud hynny. Rwy'n ystyried bod hyn yn gywilyddus. Os oes gennych syndrom Lynch wedi'i gadarnhau, gallwch roi camau ataliol ar waith fel gofalu am eich deiet, ymarfer corff ac yn fwy perthnasol, cael sgrinio rheolaidd—mae'n gwbl amlwg.

Mae sgrinio ar gyfer syndrom Lynch yn costio £200, o'i gymharu â chost triniaeth ar gyfer canser y coluddyn mwy datblygedig, gyda'r amcangyfrifon oddeutu £25,000, heb sôn am y gost ddynol sy'n anfesuradwy. Crybwyllais enwau teulu Sam—mae ei fam a'i dad i fyny yno—a'i ferched yn gynharach am y rheswm hwn. Gwn nad ydynt wedi cael unrhyw sgrinio dilynol gan y GIG yng Nghymru—ni chynigwyd profion iddynt ar gyfer syndrom Lynch. Nid oes gennyf syniad pam nad yw GIG Cymru a chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb, yn gwneud i hyn ddigwydd. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr.

Rwy'n eich annog, fel Ysgrifennydd y Cabinet, i ddangos rhywfaint o arweiniad yma o'r diwedd a gwneud i hyn ddigwydd. Fel rhan o'ch ateb i'r ddadl hon, buaswn yn gofyn yn benodol i chi ateb y cwestiwn hwn: a oes unrhyw unigolyn yng Nghymru wedi'i ddynodi ar gyfer cymryd cyfrifoldeb, a chael y gyllideb angenrheidiol i weithredu NICE DG27? Diolch yn fawr iawn.

17:10

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i ymateb i'r ddadl heddiw, a agorwyd gan Hefin David, ac yn falch o nodi y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig. Ond yn benodol, rwyf am ddechrau drwy gydnabod yr effaith ddynol uniongyrchol a phrofiadau pobl sydd nid yn unig yn cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ond sydd y tu allan yn gwylio, neu a fydd yn edrych arni wedyn—nid yn unig ynglŷn â'r effaith uniongyrchol yma ar bobl a oedd yn gweithio gyda Sam Gould, neu yn ei adnabod, neu'r rhai ohonom sy'n adnabod Steffan Lewis, ond fel y nododd Hefin David a Mark Isherwood, pobl y byddwn ni ein hunain wedi eu hadnabod sydd wedi cael canser y coluddyn.

Rydym hefyd yn croesawu'r adroddiad gan Bowel Cancer UK a Beating Bowel Cancer. Mewn gwirionedd, mae gennym berthynas dda gydag elusennau canser Cymru a byddaf yn cyfarfod â hwy'n rheolaidd. Yn wir, cyfarfûm â Chynghrair Canser Cymru ddiwethaf ar 19 Ebrill, a buom yn trafod yr adroddiad yn y cyfarfod hwnnw a chyda nifer o grwpiau arweinyddiaeth y GIG, gan gynnwys y grŵp gweithredu ar ganser a'r grŵp gweithredu ym maes endosgopi. Ni ellir amau pwysigrwydd gwella canlyniadau canser y coluddyn na maint yr her sy'n wynebu ein gwasanaethau. Rydym yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i wella canlyniadau canser. Mae hynny'n amlwg yn ein cynllun cyflawni ar gyfer canser diweddaraf, a gyhoeddwyd gennym ym mis Tachwedd 2016, ac mae'r cynllun hwnnw'n cydnabod pwysigrwydd canfod canser yn gynnar, pwynt a wnaed gan nifer o'r Aelodau yn y ddadl heddiw.

Mae gan y grŵp gweithredu ar ganser raglen genedlaethol o'r enw darganfod canser yn gynnar, sy'n edrych ar fynediad at brofion diagnostig, ymwybyddiaeth o symptomau a niferoedd sy'n ymgymryd â sgrinio. Mae'r grŵp yn ariannu dau dreial yn ne Cymru, i gynnwys byrddau iechyd Cwm Taf a Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg, gyda'r nod o ganfod canserau cam cynnar sydd fel arfer yn ymddangos mewn symptomau mwy anodd i'w canfod.

Mae'r llwybr symptomau amwys, a drafodwyd gennym o'r blaen mewn ateb i gwestiwn gan Hefin David, hanner ffordd drwy brawf dwy flynedd ac mae'n cael ei ddarparu ar sail un stop. Credaf y bydd hynny'n sicr yn rhoi llawer o ddysgu i ni ei ddatblygu a'i weithredu ar draws system gyfan, ac yn bendant dylai arwain at fwy o ganfod cynnar, ac yn amlwg, dylai hynny arwain at well canlyniadau i bobl.

Ond wrth gwrs, mae llawer o'r ddadl heddiw wedi canolbwyntio ar sgrinio poblogaeth, sy'n elfen graidd yn ein hymdrechion i ganfod yn gynnar. Mae ein rhaglen sgrinio'r coluddyn yng Nghymru bellach wedi bod ar waith ers 10 mlynedd. Anfonir pecyn sgrinio at ddynion a menywod 60 oed bob dwy flynedd tan eu bod yn 74 oed. Daw'r ystod oedran a ddefnyddiwn, a pheidio â pharhau i sgrinio bobl dros 74 oed, o ganlyniad i gyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru er enghraifft, ond yn arbennig, Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, sy'n rhoi cyngor i'r pedair gwlad yn y DU ynglŷn â ble i gael y budd mwyaf a chanfod yn gynnar er mwyn osgoi marwolaeth gynamserol.

Mae'r pecyn presennol, fel y dywedwyd, yn ei gwneud hi'n ofynnol i bobl gasglu samplau lluosog i'w dychwelyd at Sgrinio Coluddion Cymru ar gyfer eu dadansoddi. Yn 2016-17, sgriniwyd mwy na 280,000 o bobl yn rhan o'r rhaglen honno, a nododd fod mwy na 1,600 o bobl angen archwiliad dilynol, ac yn y pen draw nododd fod canser y coluddyn ar 216 o bobl. Ond fel y dywedwyd yn y ddadl hon, mae'r niferoedd hynny'n dangos mai yn 53.4 y cant o'r boblogaeth gymwys yn unig a ddychwelodd becyn yn 2016-17. Ein blaenoriaeth oedd cynyddu'r nifer honno, gan fod y dystiolaeth yn dangos y bydd y manteision yn gorbwyso'r risgiau ar lefel y boblogaeth ar gyfer yr ystod oedran hwn.

Mae yna ran anodd yma, oherwydd ni allwch anwybyddu effaith ddynol yr hyn sy'n digwydd, ond rhaid inni wneud dewisiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth am y boblogaeth gyfan a sgrinio poblogaeth-gyfan. Dyna pam y byddwn yn parhau i ddilyn y cyngor gorau sydd ar gael i ni. Ond yn blwmp ac yn blaen, nid yw'r prawf presennol o reidrwydd yn brawf poblogaidd iawn nac yn un hawdd i'w wneud. Fe soniaf am brawf newydd yn y man.

Mae'r pwynt am syndrom Lynch wedi'i grybwyll fwy nag unwaith, ac yn 2017, cyflwynodd NICE ganllawiau newydd a argymhellai y dylai pob claf canser y coluddyn gael ei brofi wrth gael diagnosis. Nawr, roeddem yn meddwl i ddechrau y gallem wneud hynny drwy wasanaeth wedi'i gomisiynu'n arbennig ond ni fu hynny'n bosibl, felly, yn dilyn cyngor a thrafodaeth gyda rhwydwaith canser Cymru, rydym yn edrych ar y ffordd orau o weithredu'r canllaw. Ar hyn o bryd caiff ei gomisiynu drwy Wasanaeth Geneteg Meddygol Cymru Gyfan ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf. Wrth newid i symud y tu hwnt i hynny, rydym yn edrych ar argymhellion a roddwyd ar ei weithrediad a gafwyd gan rwydwaith canser Cymru a bydd y prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd yn trafod hynny yn awr gyda byrddau iechyd a'r rhwydwaith patholeg sy'n bodoli. Felly, bydd gennym fwy i'w ddweud ynglŷn â sut y byddwn yn gwneud rhagor i gyflawni'r canllaw NICE.

Ond wrth gwrs, mater i unigolion yw derbyn y cynnig i sgrinio. Mae'n fater o ddewis. Ni allwn orfodi pobl i wneud hynny. Rydym yn cydnabod, fel rwy'n dweud, fod anymarferoldeb y prawf presennol yn datgymell rhai pobl, ond rwy'n croesawu'r gwaith a nododd Dawn Bowden yn ei chyfraniad—nid yn unig ynglŷn â'r gydnabyddiaeth gan eraill fod yna wahaniaethau economaidd-gymdeithasol yn y nifer sy'n cael eu sgrinio, ond hefyd yr angen i geisio codi ymwybyddiaeth o symptomau ac annog pobl i wneud y prawf. Felly, ysgogiad cadarnhaol iawn i Dawn Bowden, ynghyd â Vikki Howells a Lynne Neagle, ymgyrchu ar y mater hwn.

Dylem weld gwahaniaeth go iawn yn Ionawr 2019 pan fyddwn yn cyflwyno'r prawf imiwnogemegol ysgarthion newydd, neu'r prawf sgrinio FIT. Un sampl yn unig sydd angen ei gymryd ar gyfer y prawf ac mae treialon wedi gweld cynnydd o 5 i 10 y cant yn nifer y bobl sy'n ei ddefnyddio, sy'n welliant sylweddol a chadarnhaol. Yn ogystal â bod yn hawdd i'w ddefnyddio, fel sydd wedi'i ddweud heddiw, mae'r prawf yn fwy cywir yn ogystal. Mae angen ystyried y trothwy sensitifrwydd ar gyfer y prawf yn ofalus. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, trwy fodelu gofalus, wedi ein cyghori y dylai'r trothwy yng Nghymru fod yn 150 mg y gram i ddechrau, ac ar y trothwy arfaethedig hwnnw, y cyngor yw bod y prawf yn fwy sensitif a bydd yn nodi mwy o ganserau o ganlyniad.

Rydym yn bwriadu cynyddu sensitifrwydd y prawf dros amser yn unol ag ehangu parhaus y gwasanaethau diagnostig a gwasanaethau triniaeth, a byddwn yn gwneud hynny mewn modd diogel a chynaliadwy, gan weithredu ar gyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd, oherwydd ni fyddai profi pobl a'u cyfeirio at wasanaeth nad yw'n barod i'w gweld o werth yn y byd. Mae gwasanaethau iechyd eraill, mewn gwirionedd, wedi rhoi eu hunain mewn sefyllfa anodd a bellach yn gorfod lleihau sensitifrwydd y prawf am nad yw eu gwasanaethau dilynol yn eu lle, ac mewn perthynas â gostwng yr oedran sgrinio, rydym wedi ymrwymo i ostwng yr ystod oedran yn unol â chyngor gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny. Byddwn yn gwneud hynny'n raddol dros amser. Ond fel gyda chyflwyno FIT, bydd cynyddu'r ystod oedran yn cynyddu'r galw am wasanaethau eraill, ac mae angen inni sicrhau bod byrddau iechyd yn gallu rheoli'r galw ychwanegol hwnnw mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy. Yn y cyfamser, rhaid i'n ffocws fod ar wella'r nifer sy'n cael eu sgrinio o blith y grŵp presennol o bobl sydd gennym sy'n wynebu'r risg mwyaf o ddatblygu canser y coluddyn.

Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i wella capasiti colonosgopi fel y gall gwelliannau ddigwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac mae'r grŵp gweithredu ym maes endosgopi, grŵp arweinyddiaeth cenedlaethol, yn gweithio ar yr union fater hwnnw. Mae hynny wedi cael sylw ychwanegol ym mis Ionawr gan y bwrdd gweithredol cenedlaethol, gydag argymhellion i'w dychwelyd y mis nesaf.

Rwy'n cydnabod bod angen inni gael hyn yn iawn, ac mae'n ymwneud â mwy na chapasiti sgrinio, ond y—[Anhyglywadwy.]—llawer mwy sy'n ymwneud â phobl yr amheuir bod canser arnynt, cleifion dan wyliadwriaeth ar gyfer canser, yn ogystal â rhai eraill, megis clefyd llid y coluddyn. Bydd mynd i'r afael â'r mater hwn yn galw am ffocws sylweddol gan fyrddau iechyd ar gynhyrchiant, trefniadau gweithlu a modelau gwasanaeth, ac yn gynyddol, mae penodi endosgopegwyr anfeddygol yn helpu i leddfu pwysau yn y system.

Hefyd—cyn i mi orffen, Ddirprwy Lywydd—mae yna botensial pwysig y gellir defnyddio'r FIT fel ffordd ddiogel o frysbennu atgyfeiriadau at golonosgopeg, ac mae nifer o fyrddau iechyd wrthi'n ystyried hyn, a gallai leihau'n sylweddol, mewn ffordd ddiogel, yr atgyfeiriadau a wnaed at wasanaethau i'w galluogi i ateb y galw a sgrinio cleifion allanol yn well. Edrychaf ymlaen at adrodd yn ôl ar y cynnydd a wnawn yng Nghymru ar gyflawni'r nodau a'r amcanion a amlinellwyd yn y cynnig heddiw.

17:20

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma prynhawn yma. Rydw i'n hynod o falch ein bod ni wedi cael y cyfle i roi hyn ar agenda y Cynulliad y prynhawn yma. Mae cyfres o gyfranwyr ar draws y pleidiau gwleidyddol wedi disgrifio yn glir iawn yr angen i sicrhau diagnosis cynnar, y pwysigrwydd o godi ymwybyddiaeth, yr angen i gydnabod a dathlu rhagoriaeth ein staff, sydd yn gwneud popeth y gallan nhw o fewn ein gwasanaeth iechyd ni yn y maes yma, ac wedi pwysleisio, wrth gwrs, y rôl gwbl allweddol y mae sgrinio yn gallu chwarae wrth daclo'r canser yma, un o'r mathau mwyaf creulon o ganser, sy'n cymryd mwy o fywydau yng Nghymru na bron bob canser arall. Ond rydym ni i gyd yn credu—ac rydych chi wedi ein clywed ni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet—bod modd gwneud mwy. 

Mae'r cynnig, a'r holl siaradwyr, wedi adlewyrchu pwysigrwydd diagnosis cynnar, pa un a yw'n dod o sgrinio neu gael pobl wedi'u hatgyfeirio ar gyfer eu profi yn llawer cyflymach o ganlyniad i symptomau y soniant amdanynt wrth feddyg teulu, ac mae'r ddau lwybr hwnnw i ddiagnosis a chael mwy o bobl ar y ffordd honno i ddiagnosis yn mynd i fod yn rhan hanfodol bwysig o'r modd y gwellwn gyfraddau goroesi. Credaf fod angen rhywfaint o newid diwylliant gan y cyhoedd yma a'r Llywodraeth a'n gwasanaeth iechyd. Mae'r cyhoedd yn deall bod angen iddynt fanteisio ar y cyfleoedd sgrinio—rydych yn llygad eich lle, Ysgrifennydd y Cabinet, i nodi bod hyn yn wirfoddol. Dylwn gael fy ngheryddu ar y pwynt hwn gan Dawn Bowden am anghofio dod â fy mhecyn profi i lawr i Siambr y Cynulliad gyda mi heddiw; mae i fyny'r grisiau yn fy mag. Ond rhaid inni fod yn barod ac yn awyddus i siarad am y materion hyn, a phan gawn gyfleoedd i archwilio ein hiechyd, dylem fachu'r cyfleoedd hynny â'r ddwy law, ni waeth pa mor annifyr neu anodd y gallai fod inni siarad am y materion hynny.

Hefyd, mae angen i'r cyhoedd ddeall bod rhaid iddynt fynd i weld eu meddyg teulu yn gynharach pan fyddant yn profi symptomau—ac nid osgoi embaras unwaith eto. Ac mae angen i'r Llywodraeth hefyd ddeall y gall ymgyrchoedd llawn bwriadau da yn gofyn i bobl osgoi mynd at y meddyg teulu oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol fod yn wrthgynhyrchiol; mae'n rhywbeth rwyf wedi rhybuddio yn ei gylch yn y gorffennol. A bydd y newidiadau hynny yn anorfod yn arwain at bwysau cynyddol ar ofal sylfaenol, mwy o bwysau ar gapasiti diagnostig, ond yn nhermau'r gyllideb, nid oes gennyf amheuaeth o gwbl y bydd arbedion o ymyrryd yn gynnar lawer yn fwy na'r costau. Ac o roi'r gost ariannol o'r neilltu, wrth gwrs, mae'n ddyletswydd arnom i'r rhai y mae canser y coluddyn yn realiti iddynt ein bod yn rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt. Rydym wedi clywed enw Sam Gould yn cael ei grybwyll ar sawl achlysur; rydym yn meddwl am Steffan Lewis y prynhawn yma.

Steffan, rydym ni'n meddwl amdanat ti ac yn anfon cryfder i ti. Mi fyddwn ni yno ar 14 Gorffennaf yn cerdded yng Nghwmcarn, yn codi arian i ysbyty Felindre.

Byddwn yn dangos ein cefnogaeth ar 14 Gorffennaf yn y daith gerdded i godi arian i Felindre yn eich enw chi, Steffan.

Ond, wyddoch chi, ni allwn fynd i'r afael â'r materion sy'n cael sylw gennym heddiw ar gyflymder cerdded; rhaid inni fynd benben â chanser y coluddyn. Ein neges i'r Llywodraeth—rwy'n credu ein bod wedi ei gwneud yn glir: gostwng yr oedran sgrinio, rhoi cyfle i fwy o bobl gael diagnosis cynnar, mynd ati ag egni newydd i oresgyn yr heriau mewn endosgopi, mewn colonosgopi a phatholeg, yr holl rannau o'r system ddiagnostig sydd angen eu cryfhau, a phrofi i ni bob amser eich bod yn cadw sensitifrwydd y prawf FIT newydd o dan arolwg pan gaiff ei gyflwyno y flwyddyn nesaf.

Mae canser y coluddyn wedi cael y llaw uchaf ers llawer gormod o amser; mae'n bryd inni ymladd yn ôl.

17:25

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Rydym yn symud ymlaen at y ddadl ar dlodi plant, a galwaf ar Bethan Sayed i gynnig y cynnig. Bethan.

Cynnig NDM6723 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn tlodi plant.

2. Yn nodi gwaith ymchwil ar gyfer Achub y Plant Cymru a ganfu, erbyn iddynt droi’n bump oed, fod 'tua thraean o’r plant sy’n byw mewn tlodi (30-35 y cant) eisoes yn colli tir mewn amrywiaeth o ddeilliannau gwybyddol (h.y. geirfa, datrys problemau, deheurwydd a chydsymud) o’i gymharu ag un o bob pump o’r rhai sy’n dod o deuluoedd mwy cyfoethog (20-21 y cant)'.

3. Yn credu bod y cyfrifoldeb dros y cynnydd mewn tlodi plant a dros fynd i'r afael â thlodi plant, yn nwylo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

4. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben heb werthuso ei heffeithiolrwydd na darparu cynllun i gymryd ei lle.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad cyfartal at addysg plentyndod cynnar o ansawdd uchel a gofal i bob plentyn yng Nghymru, gyda ffocws penodol ar ddarparu cymorth ychwanegol i'r holl blant sy'n byw mewn tlodi, fel yr argymhellwyd gan Achub y Plant Cymru.

6. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr holl gamau o fewn ei phwerau i fynd i'r afael â thlodi plant fel rhan o'r cynllun newydd ar gyfer dileu tlodi plant, sy'n cynnwys targedau SMART yn hytrach na datganiadau amwys.

7. Yn credu na all cynllun o'r fath lwyddo heb reolaeth weinyddol dros nawdd cymdeithasol ac y dylai sicrhau'r pwerau hyn fod un o brif amcanion strategol y cynllun newydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae tlodi plant yn bla ar ein gwlad. Nid wyf yn mynd i roi siwgr ar y bilsen i unrhyw un yma heddiw, ac nid wyf yn mynd i geisio camarwain neb ynglŷn â'i achos na'i effeithiau. Nid yw'n rhoi unrhyw bleser i mi agor y ddadl hon heddiw mewn gwirionedd, i drafod yr un sgandal o dlodi sy'n bodoli yng Nghymru, tlodi sydd ond wedi gwaethygu yn ystod y degawd diwethaf. Yn syml, mae plant yn byw mewn tlodi pan fo'u haelwyd yn ennill llai na 60 y cant o'r enillion canolrifol. Felly, mewn gwirionedd, tlodi oedolion sydd â phlant dibynnol yw tlodi plant. Mae'n broblem gymdeithasol a hefyd yn broblem economaidd ddofn a strwythurol y mae llawer o gymunedau yng Nghymru wedi'i hwynebu ers degawdau. Rydym yn gwybod llawer o'r ystadegau, ac nid wyf am eu hailadrodd yma heddiw, gan y bydd fy nghyd-Aelodau hefyd yn amlinellu'r rheini'n fwy manwl, ond dengys y ffigurau llinell uchaf yn glir iawn pa mor enbyd yw'r sefyllfa sy'n wynebu'r genhedlaeth nesaf yng Nghymru.

O'r 600,000 o blant yng Nghymru, mae un o bob tri—200,000—yn byw mewn tlodi; mae 90,000 yn byw mewn tlodi difrifol. Mae dros hanner y plant mewn teuluoedd incwm isel yn poeni sut y mae eu rhieni'n mynd i dalu am hanfodion sylfaenol. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod wynebu'r math hwnnw o straen. Ac yn anffodus, nid yw'r sefyllfa'n gwella dim, gyda'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn rhybuddio, erbyn 2021, y bydd tlodi plant yn cynyddu 7 pwynt canran, gyda 4 pwynt canran yn uniongyrchol gysylltiedig â thoriadau a newidiadau lles.

Rydym yn gwybod yn rhy dda beth yw effeithiau tlodi plant yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod plentyn sy'n cael ei fagu ar aelwyd dlawd yn llawer llai tebygol na'i gyfoedion ar aelwydydd incwm canolig neu uwch o gyrraedd yr un lefel o gyrhaeddiad addysgol. Gwyddom fod plant sy'n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl, ynghyd â phroblemau iechyd ehangach. Effaith fwyaf tlodi plant, fodd bynnag, yw'r canlyniadau hirdymor i ddyfodol ein cenedl.

Cefais fy magu yn y 1980au ym Merthyr Tudful ac rwyf wedi byw drwy Thatcheriaeth a'r dinistr a achosodd i fy nghymuned a chymunedau eraill ledled Cymru. Yn rhy aml, gwelsom fod cenhedlaeth o blant a gafodd eu magu mewn tlodi yn ystod y cyfnod hwnnw wedi aros yn dlawd wrth iddynt dyfu'n oedolion ac wedi dod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol. Roeddwn yn ceisio meddwl am enghraifft o sut yr adwaenwn dlodi ar oedran cynharach yn fy mywyd a chofiais am brofiad a gefais pan oeddwn ar brofiad gwaith yn y llysoedd ym Merthyr Tudful gyda chwmni o gyfreithwyr lleol. Sylweddolais fy mod yn adnabod cryn dipyn o'r bobl ifanc a oedd yn mynd i'r llys y diwrnod hwnnw, a chyfarfûm â rhai ohonynt wedyn. Mewn gwirionedd, pan euthum yno fel tyst i'r profiad hwn, ar brofiad gwaith, roedd rhywun yn credu fy mod yn gariad i rywun a oedd yn cael ei gyhuddo y diwrnod hwnnw. Rwy'n credu mai dyna pryd y gwnaeth fy nharo, oherwydd nid oeddwn yn hapus nac yn gyffyrddus iawn â'r ffaith bod llawer o fy nghyfoedion yn fy ngrŵp oedran ysgol yn wynebu'r profiad hwnnw yn eu bywydau. Ac ni ddylent fod wedi bod yn y system cyfiawnder troseddol, ond ni chawsant eu cefnogi drwy gydol eu bywydau, oherwydd y tlodi yr oeddent yn byw ynddo, oherwydd yr amgylchiadau y cawsant eu magu ynddynt ym Merthyr yn y 1980au. Ac mae'n parhau i ddigwydd hyd heddiw mewn llawer o'n cymunedau ledled Cymru.

Ond y gwahaniaeth rhwng nawr a'r 1980au yw bod gennym Lywodraeth Cymru, ac nid oedd honno gennym bryd hynny. Ond ble mae Llywodraeth Cymru? Nid wyf yn bwriadu awgrymu mai ei chyfrifoldeb hi'n unig yw hyn, er na fyddent byth yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw beth bynnag, fel rydym wedi'i weld yn eu gwelliant heddiw. Gwn fod y gymysgedd wenwynig o economeg asgell dde a'r newidiadau niweidiol i les a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU wedi bod yn achos ac yn rhwystr i'r broblem hon, ond ni ddylai fod unrhyw ymdeimlad o hunanfodlonrwydd nad oes mwy y gellir ei wneud gan y Llywodraeth hon ym Mae Caerdydd. Nid ydym am ddisgrifio'r broblem yn barhaus; rydym am ganfod atebion go iawn yma yng Nghymru.

Mae gwelliant y Blaid Lafur heddiw yn dangos nad ydynt o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn, yn anffodus. Oes, mae yna gydnabyddiaeth ei bod hi a Llywodraeth y DU yn gyfrifol, ac mae wedi amlinellu rhai prosiectau teilwng ac rydym yn cytuno gyda'r prosiectau hynny. Ond yn ein barn ni, ni all unrhyw Lywodraeth honni ei bod o ddifrif ynglŷn â sgandal ein tlodi oni bai ei bod yn awyddus i ddal yr holl ddulliau o newid a allai effeithio ar dlodi yma yng Nghymru. Y gwir amdani yw na chaiff anghenion lles ein holl ddinasyddion eu diwallu'n gyfartal. Nawr, ar hyn o bryd, a ydych o ddifrif yn fodlon sefyll ar y cyrion? Mae eu hanghenion yn cael eu tanseilio yn yr un modd gan Lywodraeth y DU ac mae'n peri rhwystredigaeth, dro ar ôl tro, i glywed bod yn rhaid inni wneud hyn mewn ffordd gyfartal pan fo'n ras i'r gwaelod ar hyn o bryd. A ydym o ddifrif am adael y pwerau i ddiwygio lles yn nwylo'r Ceidwadwyr yn y DU yn hytrach na chymryd yr awennau ein hunain, cael ein barn ein hunain ar y prosiectau hyn? Dyna rwy'n ei gael yn sylfaenol anodd i'w ddeall o'r meinciau Llafur yma yng Nghymru. Sut y gall Llafur ymosod ar newidiadau lles Torïaidd fel prif achos problem tlodi plant a hwythau'n gwbl wrthwynebus i hyd yn oed geisio ennill rheolaeth dros yr union bwerau a allai leddfu effaith, neu hyd yn oed atal rhai o'r newidiadau hynny? I ni, mae'n dangos diffyg egni sylfaenol a diffyg awydd i fod yn ddim mwy na chorff dosbarthu grantiau rhanbarthol.

Yn 1964, lansiodd yr Unol Daleithiau—a dyfynnaf—'y rhyfel ar dlodi', Deddf cyfle economaidd, ac mae ei theitl hir yn dweud,

Deddf i gynnull adnoddau dynol ac ariannol y Genedl er mwyn trechu tlodi.

Nid wyf yn awgrymu bod gennym yr un amrywiaeth o offer i efelychu'r cynllun penodol hwnnw, ond mae teimlad ac ysgogiad Llywodraeth sy'n defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael iddi i fynd i'r afael ag argyfwng cenedlaethol ar goll yma yng Nghymru.

Hoffwn gyffwrdd ar rywbeth pwysig hefyd. Mae hon yn ddadl sy'n digwydd yn y gwledydd datganoledig eraill, ac mae'r gwledydd datganoledig hynny'n gwneud yn well na'n gwlad ni. Yng Ngogledd Iwerddon, er gwaethaf y gwahaniaethu strwythurol, cymdeithasol ac economaidd enfawr a wynebir gan gynifer o'r boblogaeth, ac ansefydlogrwydd y trafferthion a'i Llywodraeth ddatganoledig a ddeilliodd o gytundeb Dydd Gwener y Groglith, mae ganddi gyfradd tlodi plant sy'n is nag un Cymru. Mae cyfradd tlodi plant yr Alban hefyd yn is nag un Cymru, er na ddefnyddiodd lawer o'r pwerau cyllidol a'r manteision sydd ganddi tan yn ddiweddar iawn. Mae twf economaidd y ddwy wlad a'u cynnyrch domestig gros, o gymharu â chyfartaledd y DU, wedi bod yn gryfach nag yng Nghymru. Ar ddiwedd y 1990au, roedd gan Gymru gynnyrch domestig gros uwch nag Iwerddon. Gallwch ddyfalu lle'r ydym arni heddiw gyda hynny. Bydd pobl yng Nghymru yn gofyn yn gwbl briodol ble mae ein difidend datganoli ar ôl dau ddegawd o reolaeth Lafur. Gall Llywodraeth Cymru nodi eu rhaglenni presennol, ond beth am y degawd diwethaf? Rwy'n credu bod angen i Lafur ofyn cwestiwn difrifol a didwyll iddi ei hun: sut y mae eisiau i'w hoes fel Llywodraeth yn y cyfnod hwn o ddatganoli gael ei chofio?

Fel y soniais, rwy'n cofio sut beth oedd tyfu i fyny yn yr ardal y cefais fy magu ynddi, mewn man a oedd yn dioddef tlodi a dirywiad—ac mae wedi gwella. Mae arnaf ofn fod y tlodi a oedd yn fwy gweladwy yn yr 1980au o ran ffatrïoedd yn cau a mannau diwydiannol segur yn fwy cudd bellach. Rydym yn byw drwy ein hail gyfnod o dlodi eang yng Nghymru yn ystod fy oes, os bu iddo ddiflannu o gwbl mewn gwirionedd. Ar y pwynt hwn, bydd llawer o bobl yn ystyried oes Llafur Cymru dros y degawd diwethaf fel oes tlodi, oes dirywiad, oes ymlafnio. Nid wyf yn cael unrhyw lawenydd pleidiol yn yr argraff honno; nid oes ond tristwch a rhwystredigaeth i mi wrth feddwl am genhedlaeth arall eto sydd wedi cael cam.

17:35

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1. Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn uwch na lefel y DU gyda chyfraddau'n codi cyn y dirwasgiad diwethaf.

2. Yn nodi gwaith ymchwil ar gyfer Achub y Plant Cymru a ganfu, erbyn iddynt droi’n bump oed, fod 'tua thraean o’r plant sy’n byw mewn tlodi (30-35 y cant) eisoes yn colli tir mewn amrywiaeth o ddeilliannau gwybyddol (h.y. geirfa, datrys problemau, deheurwydd a chydsymud) o’i gymharu ag un o bob pump o’r rhai sy’n dod o deuluoedd mwy cyfoethog (20-21 y cant)'.

3. Yn cydnabod er bod polisi Llywodraeth y DU mewn meysydd sydd wedi'u cadw hefyd yn gymwys yng Nghymru, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am hyrwyddo ffyniant a rhaglenni trechu tlodi, gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, yng Nghymru ers 1999.

4. Yn nodi pwysigrwydd mynediad at ofal ac addysg plentyndod cynnar o ansawdd uchel ar gyfer plant yng Nghymru a'r angen am gymorth wedi'i dargedu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi.

5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr holl gamau o fewn ei phwerau i fynd i'r afael â thlodi plant fel rhan o'r cynllun newydd ar gyfer dileu tlodi plant, sy'n cynnwys targedau SMART yn hytrach na datganiadau amwys.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Er bod tlodi plant yng Nghymru wedi gostwng yn fras i lefel y DU yng nghanol y degawd diwethaf, dechreuodd godi uwchlaw lefelau'r DU eto cyn y cwymp ariannol a'r dirwasgiad, ac ni ddechreuodd ddisgyn tan ar ôl i Lywodraeth y DU newid yn 2010. Ar 28 y cant, roedd lefelau tlodi plant yng Nghymru yn dal i fod yn uwch na rhai'r Alban a Gogledd Iwerddon y llynedd. Yn ôl data awdurdodau lleol Dileu Tlodi Plant, ym mis Ionawr, ystyriwyd bod 178,676 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ar ôl costau tai gyda thlodi plant yng Nghymru yn uwch y pen na chyfartaledd y DU, lle mae un o bob tri yn byw mewn tlodi ar ôl costau tai, o gymharu ag un o bob pedwar yn yr Alban a Lloegr.

Ni ellir edrych ar dlodi plant ar ei ben ei hun. Ar ôl 19 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, gan Gymru y mae'r cyfraddau uchaf o dlodi o holl wledydd y DU ar 24 y cant, y lefel uchaf yng Nghymru ers 2007-08. Gan Gymru hefyd y mae'r cyfraddau tlodi ail uchaf o holl ranbarthau'r DU. Ymhellach, canfu adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree, 'Tlodi yng Nghymru 2018'

'Mae'r gyfran o gartrefi yn byw mewn tlodi incwm yng Nghymru... [yn] parhau i fod yn uwch nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon'

ac

'Mae tlodi ymysg cyplau gyda phlant wedi bod yn codi ers 2003/06.'

Yn ystod tymor diwethaf y Blaid Lafur fel Llywodraeth yn y DU, gwelwyd cynnydd o 1 filiwn yn nifer y bobl ddi-waith, gwelwyd cynnydd o 44 y cant mewn diweithdra ymhlith ieuenctid a gwelwyd nifer y cartrefi lle nad oes neb erioed wedi gweithio bron yn dyblu. Mae lefelau cyflogaeth y DU bellach ar ei lefel uchaf erioed, mae diweithdra'n is nag y bu ers 40 mlynedd, ac mae nifer y bobl ifanc sy'n ddi-waith bron 408,000 yn is ers 2010.

A ydych yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am weithredoedd eich plaid mewn Llywodraeth am unrhyw rai o'r ystadegau rydych newydd eu darllen?

Yr ystadegau rwyf wedi'u darllen, na, oherwydd maent yn ymwneud â'r patrwm dros 20 mlynedd a mwy, yn hytrach na chyfnod byr o amser diweddar.

Ar ôl bron i ddau ddegawd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae Cymru wedi'i gadael ar ôl—14 y cant o blant yng Nghymru yn byw ar aelwydydd heb waith o gymharu ag 11 y cant ar gyfer y DU. Gan Gymru y mae'r gyfradd gyflogaeth isaf a'r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf ym Mhrydain, a'r gyfradd uchaf o ddiweithdra yng ngwledydd y DU. Dywed crynodeb Sefydliad Bevan ar gyflogaeth ym mis Mawrth 2018, er bod cael sicrwydd gwaith yn galluogi gweithwyr i gynllunio eu bywydau bob dydd a chael incwm diogel, mae'r gyfran mewn gwaith nad yw'n barhaol, gan gynnwys trefniadau dim oriau, yn uwch yng Nghymru nag yn Mhrydain ac mae wedi aros yn gymharol uchel, tra bo'r gyfran wedi gostwng ym Mhrydain. Ym mis Ionawr, adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod anghydraddoldeb incwm wedi gostwng dros y degawd diwethaf a bod gan aelwydydd fwy o incwm gwario nag ar unrhyw adeg o'r blaen—fe hawliaf glod am hynny—gydag incwm yr aelwydydd tlotaf bron £2,000 yn uwch o gymharu â'r lefelau cyn y dirwasgiad. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n dweud hynny, nid gwleidydd.

Fodd bynnag, er bod cyflogau gwirioneddol y DU bellach yn codi'n gyflymach na phrisiau, gweithwyr Cymru bellach sy'n cael y cyflogau wythnosol isaf o holl wledydd y DU, gydag enillion wythnosol gros £46 yn is na lefel y DU. Ugain mlynedd yn ôl, roedd pecynnau cyflog wythnosol gweithwyr Cymru a'r Alban yn union yr un fath, ond 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae pecyn cyflog wythnosol yr Alban yn cynnwys £43 yn fwy na phecyn cyflog yng Nghymru.

Felly rwy'n cynnig gwelliant 1, sy'n cynnig

'bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

'1. Yn nodi bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn uwch na lefel y DU gyda chyfraddau'n codi cyn y dirwasgiad diwethaf.

'2. Yn nodi gwaith ymchwil ar gyfer Achub y Plant Cymru a ganfu, erbyn iddynt droi'n bump oed, fod "tua thraean o'r plant sy'n byw mewn tlodi (30-35 y cant) eisoes yn colli tir mewn amrywiaeth o ddeilliannau gwybyddol".

'3. Yn cydnabod er bod polisi Llywodraeth y DU mewn meysydd sydd wedi'u cadw hefyd yn gymwys yng Nghymru, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am hyrwyddo ffyniant a rhaglenni trechu tlodi, gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, yng Nghymru ers 1999.

'4. Yn nodi pwysigrwydd mynediad at ofal ac addysg plentyndod cynnar o ansawdd uchel ar gyfer plant yng Nghymru a'r angen am gymorth wedi'i dargedu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi.

'5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr holl gamau o fewn ei phwerau i fynd i'r afael â thlodi plant fel rhan o'r cynllun newydd ar gyfer dileu tlodi plant, sy'n cynnwys targedau SMART yn hytrach na datganiadau amwys.'

Rydym yn cytuno'n fawr â Phlaid Cymru yn hynny o beth. Gorffennodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ar ôl gwario bron i £0.5 biliwn arni. Dywedodd Sefydliad Bevan,

'na lwyddodd Cymunedau yn Gyntaf i leihau'r prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif helaeth o gymunedau, a llai fyth yng Nghymru yn ei chyfanrwydd.'

Ychwanegodd

'y dylai rhaglen newydd gael ei chyd-gynhyrchu gan gymunedau a gweithwyr proffesiynol, ac nid o'r brig i lawr',

y dylai fod yn seiliedig

'ar ddamcaniaeth glir o newid, gan adeiladu ar asedau pobl a chymunedau, ac nid ar ddiffygion'

ac

'y dylai gweithredu lleol gael ei arwain gan sefydliadau a leolir yn y gymuned a chanddyn nhw hanes cryf o ddarparu, ac sy’n ymgysylltu’n gryf â'r gymuned.'

Roeddent hefyd yn dweud os yw pobl yn teimlo bod polisïau'n cael eu gorfodi arnynt, nad yw'r polisïau'n gweithio.

17:40

Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Julie James yn ffurfiol.

Gwelliant 2. Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu bod y cyfrifoldeb dros fynd i'r afael â thlodi plant yn nwylo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

2. Yn nodi gyda phryder bod dadansoddiad diweddaraf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dangos y bydd diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU yn gwthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi erbyn 2021/22.

3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth fel y llwybr gorau allan o dlodi a’r camau gweithredu uchelgeisiol a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a’r Cynllun Cyflogadwyedd.

4. Yn croesawu’r buddsoddiad parhaus yn Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, y Grant Datblygu Disgyblion a Rhaglen Plant Iach Cymru er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl yn eu bywydau.

5. Yn credu y dylid diwallu anghenion lles holl ddinasyddion y DU yn gyfartal ac nad yw datganoli budd-daliadau lles yn cefnogi’r egwyddor hon.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i am ganolbwyntio fy sylwadau i ar yr angen i sicrhau mynediad cyfartal i blant i addysg blynyddoedd cynnar. Mi gychwynnaf i drwy rannu ystadegyn gyda chi: mi fydd dros hanner y plant o ardaloedd difreintiedig Cymru yn cychwyn ysgol efo sgiliau cyfathrebu diffygiol. Yn wir, mi fydd plant o'r 20 y cant mwyaf tlawd o'r boblogaeth, erbyn eu bod nhw'n dair oed, bron i flwyddyn a hanner y tu ôl i'r plant cyfoethocaf o ran datblygiad iaith. Nawr, meddyliwch am hynny; pan rydych chi ddim ond yn dair oed, rydych chi eisoes blwyddyn a hanner ar ei hôl hi. Mae hyn yn bwysig oherwydd dyma un o'r mesurau sicraf sydd yna o ragolygon rhywun nes ymlaen mewn bywyd. Mae sgiliau gwan plant o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cael effaith mawr ar ystod eang o ganlyniadau nes ymlaen mewn bywyd, yn cynnwys ymddygiad, iechyd meddwl, parodrwydd ysgol a chyflogadwyedd hefyd.

Nawr, mi oedd Bethan yn cyfeirio yn gynharach at y system gyfiawnder a phobl ifanc o fewn y system gyfiawnder. Mae 60 y cant o'r bobl ifanc sydd yn yr ystâd gyfiawnder ieuenctid ag anawsterau cyfathrebu. Mae gan bron i 90 y cant o'r dynion ifanc sydd wedi bod yn ddiwaith am yr hirdymor anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Heb gymorth effeithiol, mi fydd treian o blant ag anawsterau cyfathrebu heddiw angen triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl pan fyddan nhw'n oedolion. Mae'r dystiolaeth yn glir mai darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd ar gael i bawb yw'r ffordd orau i godi plant allan o dlodi—a dyna beth mae Plaid Cymru eisiau ei weld. 

Oni wnewch chi dderbyn bod cynnydd wedi'i wneud gyda Dechrau'n Deg i gael plant o ddwy i dair? Ac mae'r hyn a ddywedoch ar y dechrau yn rhywbeth rwyf wedi ysgrifennu amdano ac wedi ei ddweud dros y saith mlynedd diwethaf: mae gormod o blant yn dechrau yn yr ysgol flwyddyn neu ddwy flynedd ar ei hôl hi, ac mae'n rhaid iddynt geisio cau'r bwlch yn y saith mlynedd nesaf. Ond mae'n rhaid ystyried bod Dechrau'n Deg yn gynnydd.

Wel, os ydych wedi ysgrifennu ac wedi siarad amdano am saith mlynedd, nid oes angen ichi ddweud wrthyf fi; dylech ddweud wrth eich Llywodraeth eich hun. Fe ddof at Dechrau'n Deg mewn munud, oherwydd rydych yn gwneud pwynt dilys, ond fe ddof at hynny mewn munud.

Felly, rydw i wedi amlinellu pam rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ymrwymo i ddarparu gofal plant am ddim i bob plentyn tair i bedair oed yng Nghymru, fel ffordd i fynd i'r afael â'r anghyfartaledd yma rydw i wedi cyfeirio ato fe. Ac mae'r ddadl yma yn amserol, oherwydd dim ond y bore yma roeddem ni'n cychwyn ar graffu'r Bil cyllido gofal plant y mae'r Llywodraeth yma yn ei gyflwyno, ac mae'r polisi hwnnw, wrth gwrs, gan y Llywodraeth, yn cyfyngu'r gofal plant am ddim i deuluoedd sy'n gweithio. Nawr, fe fyddai rhywun yn dadlau—mae'r Llywodraeth yn dadlau—bod hynny'n dod â budd iddyn nhw, er bod yna gwestiynau, yn fy marn i ac eraill, ynglŷn â’r dystiolaeth i danlinellu hynny, ond mae e hefyd, yn fy marn i, yn cynyddu’r risg y bydd y plant yna o’r teuluoedd mwyaf difreintiedig, y teuluoedd di-waith, yn cael eu gadael hyd yn oed ymhellach ar ei hôl hi. Mae Plaid Cymru eisiau torri’r cylch dieflig yna o ddifreintedd a chyrhaeddiad isel.

Mae’r comisiynydd plant, Achub y Plant ac eraill yn rhannu safbwynt Plaid Cymru fod allgau plant o gartrefi di-waith o’r cynnig gofal yma yn mynd i ehangu’r bwlch addysg yn lle ei gau. Ac mae’n rhaid imi ddweud, mae peth o’r dystiolaeth rŷm ni wedi ei chlywed yn ddamniol. Mi ddywedodd y comisiynydd plant, er enghraifft:

Nid yn unig fod y Bil hwn yn debygol o roi plant o aelwydydd heb waith o dan anfantais anghymesur, mae hefyd yn annhebygol o gyflawni ei brif nod.

Mae hi hefyd yn dweud:

Felly, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y buddsoddiad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth nac wedi'i dargedu'n dda... Nid wyf yn credu bod y polisi sy’n sail i'r Bil hwn yn dangos y bydd y cynllun yn addas ar gyfer y tymor hir.

Nawr, safbwynt y comisiynydd plant yw hwnnw.

A wyddoch chi, gyda llaw, y bydd cyplau sy'n ennill hyd at £199,000 y flwyddyn yn gymwys ar gyfer y cynnig gofal plant am ddim? Nawr, mae'r Llywodraeth yn dweud wrthym fod gan y rheini sy'n llai cefnog fynediad at Dechrau'n Deg—ac rwy’n mynd i'r afael â'r pwynt a wnaethoch, Mike. Nid yw'r mwyafrif o blant dan anfantais, wrth gwrs, yn byw yn ardaloedd Dechrau'n Deg, a dyna'r broblem: mae'n gyfyngedig yn ddaearyddol. Bydd y polisi hwn yn cau'r drws ar hanner ein plant tlotaf, mwyaf difreintiedig, mwyaf bregus, sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl am na fyddant yn gallu cael gofal plant am ddim, tra bo teuluoedd sy'n ennill £199,000 y flwyddyn o bosibl yn cael gofal plant am ddim gan y Llywodraeth Lafur hon. Ai dyna yw Llafur bellach? Oherwydd, os felly, rydych yn amlwg wedi colli eich ffordd. Gwrandewch ar y comisiynydd plant, gwrandewch ar Achub y Plant ac eraill, gwrandewch ar Blaid Cymru: sicrhewch fod y cynnig gofal plant ar gael i bawb, fel y gall pawb, gan gynnwys ein plant tlotaf, gael y dechrau gorau mewn bywyd hefyd.

17:45

Wel, ni wnaf unrhyw esgusodion am ailadrodd rhai o'r ffigurau a ddefnyddiwyd gan Bethan Sayed ac eraill, oherwydd maent yn haeddu cael eu hailadrodd dro ar ôl tro. Mae tua 600,000 o blant yn byw yng Nghymru. O'r rheini, mae un o bob tri, neu 200,000, yn byw mewn tlodi; mae 90,000 yn byw mewn tlodi difrifol. Mae mwy na hanner y plant yng Nghymru sy'n byw mewn teuluoedd incwm isel yn poeni bod eu rhieni'n ei chael hi'n anos talu am hanfodion pob dydd megis gwresogi, bwyd a dillad.

Yn anffodus, mae'r rhethreg yn y Siambr hon yn beio'r toriadau i fudd-daliadau fel prif achos tlodi. Ond nid yw hynny'n wir. Prinder swyddi a chyflogau da yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar dlodi yng Nghymru, pa un a yw'n dlodi plant neu'r sector cyfan. Methiant Llywodraeth Cymru i ddarparu'r swyddi hyn yw'r rheswm am y sefyllfa erchyll a ffigurau tlodi yng Nghymru. Esgus tila yw beio toriadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau, er mor annymunol ydynt, am y nifer gynyddol o fanciau bwyd a dangosyddion eraill o dlodi yng Nghymru. Yr unig lwybr go iawn a pharhaus allan o dlodi yw cyflogaeth—gwaith da am gyflog da. Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod lefelau diweithdra yn is nag erioed ond yn celu'r ffaith bod llawer o'r gwaith hwnnw'n rhan-amser, neu'n waeth, drwy'r system anghyfiawn o gontractau dim oriau.

Rwy'n credu bod ymdrechion glew yn cael eu gwneud yn awr gan Lywodraeth Cymru i liniaru'r broblem hon: rhaglenni prentisiaeth gwell, system addysg sy'n cyd-fynd yn llawer gwell ag anghenion busnesau a nifer o ymyriadau a gynlluniwyd i sicrhau bod pobl sy'n ddi-waith yn hirdymor yn cael gwaith. Ond mae hyn oll yn erbyn cefndir o 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru—Llywodraeth a addawodd ddileu tlodi erbyn 2020, ac afraid dweud nad oes llawer o amser i gyflawni'r nod hwnnw. A hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Lafur yn Senedd y DU am 13 o'r 20 mlynedd. Ugain mlynedd a oedd yn cynnwys llanastr y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, yr addawodd y Llywodraeth y byddai'n rhoi diwedd ar dlodi yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, ac nad yw wedi cyflawni fawr ddim mewn gwirionedd, ar wahân i rai achosion unigol: £410 miliwn i lawr y draen. Mae'r dystiolaeth i'w gweld yn y ffigurau a ddyfynnir uchod. Tybed faint o swyddi hirdymor go iawn a fyddai wedi'u creu pe baem wedi rhoi £1 filiwn, gyda mesurau rheoli priodol, i 410 o entrepreneuriaid profedig.

Mae'n bryd bellach i Lywodraeth Cymru gyflawni ei haddewidion. Mae pobl Cymru, yn enwedig y rhai a gondemniwyd i fywyd o dlodi, yn haeddu gwell na'r hyn a gyflawnwyd yn yr 20 mlynedd diwethaf.

17:50

Beth bynnag fo'ch lliw gwleidyddol, gallwn i gyd gytuno na ddylai'r un plentyn dyfu i fyny mewn tlodi. Ni ddylai'r un plentyn wynebu'r gwarth a'r stigma a ddaw yn sgil tlodi.

Rwyf am ddechrau drwy amlinellu'r cyd-destun i fy ngalwad am newid. Rydym wedi clywed yr ystadegau. Mae tlodi plant yma yn uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU. Beth y mae hyn yn ei olygu i'n plant? Mae'n golygu bod traean o blant yn wynebu brwydr ddyddiol, brwydr ddiraddiol, sy'n eu gadael yn llwglyd, yn sâl, yn agored i eraill bigo arnynt, a heb obaith am ddyfodol gwell.

Y mis diwethaf yn unig cadarnhaodd Ymddiriedolaeth Trussell fod defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru yn parhau i gynyddu. Wedi'i chladdu yn yr ystadegau hynny roedd y ffaith mai plant oedd 35,403 o'r rhai sy'n gorfod dibynnu ar barseli bwyd. Nawr, gwn nad yw'r Gweinidog yn falch o'r ffigurau hyn, ond Llafur sydd mewn grym. Mae gan Lafur bŵer i newid pethau, ac felly Llafur sy'n gorfod ysgwyddo cyfrifoldeb am y sefyllfa ofnadwy hon.

Rwyf hefyd yn cydnabod bod y Ceidwadwyr yn San Steffan yn cadw rheolaeth dros rywfaint o'r dulliau a allai helpu i godi plant allan o dlodi: mae'r cymal trais rhywiol, sy'n golygu bod menywod sydd â thrydydd plentyn yn gorfod profi eu bod wedi cael eu treisio cyn y gallant dderbyn credydau treth, neu'r system taliad cymorth profedigaeth newydd sydd wedi torri'r cymorth ariannol a gynigir i'r rheini sydd wedi colli anwyliaid o 20 mlynedd i 18 mis, ac yna, wrth gwrs, cawsom anhrefn y credyd cynhwysol—mae'r modd carbwl y cyflwynodd San Steffan ddiwygiadau mawr i fudd-daliadau wedi gwneud teuluoedd yn ddiobaith ac yn ddigartref hyd yn oed. Mae'r rhain yn bolisïau sy'n achosi dioddefaint i'r rheini sydd eisoes yn dioddef. Dywedir mai diwygiadau i fudd-daliadau fel y rhain yw un o'r rhesymau craidd dros y cynnydd mewn tlodi plant. Yn wir, canfu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y bydd polisïau diwygio lles yn gwthio 50,000 yn fwy o blant yng Nghymru i fyw mewn tlodi, ac mae hynny'n warth sy'n rhaid ei newid.

Felly, beth y gellir ei wneud i newid y sefyllfa hon? Yn gyntaf, rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i dorri ei chyllid i'r rhai sydd angen cymorth. Yr wythnos diwethaf cawsom ein gorfodi i drafod penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri'r grant ar gyfer gwisg ysgol i'r plant tlotaf. Yr wythnos hon mae Llafur dan bwysau i wrthdroi eu penderfyniad i ddileu'r grant byw'n annibynnol yng Nghymru. Yn y gwelliant heddiw i gynnig Plaid Cymru, mae'r Llywodraeth yn nodi'r cynllun gweithredu economaidd fel ffordd o liniaru tlodi. Nawr, hoffwn wahodd y Gweinidog i ymyrryd i ddweud wrthyf faint o weithiau y defnyddir y gair 'tlodi' yn y cynllun gweithredu hwnnw. A oes gennym cwestiwn yno? A ydych yn gwybod faint o weithiau y crybwyllir y gair 'tlodi' yn y cynllun gweithredu?

Rwy'n hapus i ymyrryd. Ni fyddwch yn synnu nad wyf yn gwybod sawl gwaith y defnyddir y gair 'tlodi' yn y cynllun, ond mewn gwirionedd, mae'r strategaeth tlodi plant yn dal ar waith a byddwn yn cyflwyno adroddiad yn 2019, fel y dywedodd fy rhagflaenydd yn y swydd hon. Hefyd, nid yn unig ein bod yn diffinio'r ymosodiad ar dlodi a'r cynnydd mewn ffyniant yn y cynllun hwnnw, ond hefyd gyda'r cynllun cyflogaeth y byddwn yn ei gyflwyno, a phob elfen o feddwl y Llywodraeth. Mae wedi'i ymgorffori ar draws y Llywodraeth. Felly, ni allaf chwarae gêm faint o eiriau sydd mewn dogfen, ond gallaf ddweud bod mynd i'r afael â thlodi yn rhedeg drwy holl feddwl y Llywodraeth hon.

Wel, gallaf eich helpu. Gallaf ddweud wrthych fod eich cynllun gweithredu economaidd, y byddwch yn dibynnu'n helaeth arno i leihau tlodi, yn sôn unwaith yn unig am 'dlodi'. Mae ar dudalen 24, ac mae'n ymddangos mewn rhestr.

Nawr, tlodi uchelgais y Llywodraeth hon sy'n arwain at dlodi ein plant. Yr wythnos diwethaf gelwais ar y Gweinidog i ymuno â Phlaid Cymru i gefnogi datganoli'r gwaith o weinyddu lles, a beth oedd ymateb y Llywodraeth Lafur hon i hynny? Fwy neu lai fod y Ceidwadwyr yn San Steffan yn fwy abl na chi eich hunain i ddarparu budd-daliadau ar gyfer y bobl hynny.

Nawr, gadewch imi wneud ychydig o ffeithiau'n glir ynglŷn â datganoli'r gwaith o weinyddu lles. Bydd yn—[Torri ar draws.] Ewch ymlaen.

17:55

Ni ddywedais fod Llywodraeth y DU yn fwy abl i weinyddu lles, roeddwn yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru eisiau gorfod gweinyddu toriadau Torïaidd Llywodraeth y DU.

Rydych wedi gwrthod cymryd cyfrifoldeb ac rydych yn fwy na pharod i barhau i feio'r Torïaid am rywbeth a allai fod gennych chi i'w roi. Hefyd, byddai datganoli budd-daliadau'n niwtral o ran cost oherwydd fe addaswyd y grant bloc i Lywodraeth yr Alban ar i fyny er mwyn adlewyrchu trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros les.

Drwy wneud rhai newidiadau, gallem liniaru pwysau ar y GIG a gwasanaethau eraill sydd wedi'u datganoli, gan arwain at arbed arian mewn gwirionedd. Rhaid bod y casgliad yn un syml: nid plaid egwyddor yw Llafur ond yn hytrach, plaid hwylustod gwleidyddol, sy'n gwrthod cyfrifoldeb er mwyn sicrhau amwysedd gwleidyddol defnyddiol.

Rwyf am orffen fy araith drwy alw am weithredu gan y Llywodraeth hon. Galwaf arnoch i roi'r gorau i esgeuluso eich cyfrifoldeb. Chi yw'r Llywodraeth. Chi sy'n gyfrifol. Cymerwch reolaeth ar weinyddu lles a chodwch y plant hyn allan o dlodi.

Yn haf 2017 fe gyhoeddwyd adroddiad 'Cymunedau yn Gyntaf—Yr hyn a ddysgwyd' gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr wyf i yn aelod ohono fo. Roedd argymhelliad 4 yn yr adroddiad yn dweud hyn:

'Rydym yn argymell yn gryf bod strategaeth glir ar gyfer trechu tlodi yn cael ei chyhoeddi, un sy’n dwyn ynghyd yr elfennau niferus o waith i leihau tlodi i helpu i ddarparu cyfeiriad clir ac i helpu’r Cynulliad i graffu ar ddull y Llywodraeth. Dylai’r strategaeth gynnwys dangosyddion perfformiad clir i sicrhau rheoli perfformiad effeithiol, yn ogystal â nodi sail dystiolaeth ehangach i helpu i ategu gwerthusiad effeithiol o wahanol ddulliau o drechu tlodi.'

Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad yna. Ymateb y pwyllgor oedd hyn, sef dweud ein bod ni

'yn siomedig o hyd bod yr argymhelliad hwn wedi’i wrthod. Teimlwn fod fframwaith a ddarperir gan Strategaeth neu Gynllun Gweithredu yn hollbwysig er mwyn ein galluogi ni i graffu ar p’un a yw polisïau’r Llywodraeth yn gweithio. Mae cynllun gweithredu clir yn allweddol, gyda dangosyddion perfformiad sy’n cael eu dadansoddi yn ôl ardal a rhyw…Byddai cynllun gweithredu hefyd yn helpu i ddangos pa mor dda y mae dull Llywodraeth Cymru wedi’i integreiddio, a sicrhau bod gwaith ar draws portffolios i gyd yn gweithio tuag at yr un nod.'

Mae'n sgandal nad oes gan y Llywodraeth hon strategaeth glir ar gyfer trechu tlodi. Mae ystyfnigrwydd y Llywodraeth yn awgrymu un o ddau beth. Un, nad ydy trechu tlodi yn flaenoriaeth, neu nad ydyn nhw wir yn credu bod modd trechu tlodi ac y byddai methu cyrraedd targedau yn arwydd o fethiant, ac felly mae'n well jest peidio â chael targedau a pheidio â chael cynllun. O ran y strategaeth tlodi plant—oes, mae yna un, ond ymddengys fod honno wedi aros yn ei hunfan ers 2015.

Rydw i'n troi rŵan at fater y grant gwisg ysgol, ac mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi eu bod nhw'n bwriadu diddymu hwn, mewn cyfnod pan mae plant a theuluoedd yn brwydro yn erbyn heriau cynyddol o bob math. Yng Ngwynedd, diolch i bolisi Plaid Cymru, mi fydd y cyngor yn dal i gynnig y grant hollbwysig yma, er gwaetha'r toriad gan y Llywodraeth. Bydd dros 800 o blant yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan y cyngor er mwyn cynorthwyo rhieni sy'n cael trafferth i gwrdd â gofynion ariannol gwisgoedd ysgol.

Rydw i'n falch iawn fod Cyngor Gwynedd wedi medru dal ati i gynnig y grant yma y mae cymaint o deuluoedd yn dibynnu arno fo. Fe gafodd cyfanswm o 842 o bobl ifanc gefnogaeth gan Wynedd yn ystod 2016-17. Bryd hynny, roedden nhw'n cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru hefyd, ond mae honno i ddiflannu. Ond mi fydd y gefnogaeth yn parhau yng Ngwynedd, ac mi fydd 800 o ddisgyblion yn gallu elwa ohoni. Mae'r cyngor yn gwneud hynny oherwydd un o egwyddorion sylfaenol Plaid Cymru ydy cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd difreintiedig. Mae gwisgoedd ysgol yn nwyddau hanfodol a ddim yn bethau sydd, efallai, yn neis i'w cael.

Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi dileu contractau dim oriau i bob gweithiwr, oni bai am y rhai sy'n dymuno eu cael nhw, ac wedi cyflwyno'r cyflog byw i bawb. Dyna mae Plaid Cymru yn ei wneud pan fydd gennym ni'r awenau a lle rydym ni mewn llywodraeth.

I gloi, mae angen gweithredu—mae angen gweithredu ar frys. Brynhawn yma, mae Plaid Cymru wedi cynnig nifer o ffyrdd ymarferol y gellid eu mabwysiadu. Y peth cyntaf i'w wneud ydy creu cynllun strategol i drechu tlodi. Mi fedrid datganoli elfennau lles er mwyn inni greu system mwy dyngarol; creu pecyn cymorth gofal plant pwrpasol, sy'n cynnwys teuluoedd efo rhieni di-waith, yn ogystal â'r rhai sydd mewn gwaith, er mwyn creu mynediad cyfartal i blant at addysg blynyddoedd cynnar; dileu cytundebau dim oriau yn y gwasanaethau cyhoeddus a chyflwyno'r cyflog byw.

Dim ond ychydig o syniadau ydy'r rheini y medrid eu gweithredu yn syth petai'r dymuniad yma i wneud hynny. Diolch yn fawr.

18:00

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ymddiheuro am fod braidd yn rhy gynnar yn gynharach. A gaf fi ddechrau drwy groesawu'n ddidwyll y ffocws ar dlodi plant yn y ddadl hon? Mae'n iawn inni ganolbwyntio ar hyn, oherwydd gwyddom fod tlodi plant, heb ei ddatrys, yn gallu cyfyngu ar fywyd cynnar plentyn a chyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd ymhellach wrth iddynt deithio tuag at fod yn oedolion ac yn eu bywydau fel oedolyn.

Gadewch i mi droi ar y cychwyn at rai o'r cyfraniadau a wnaed eisoes a diolch i bawb am wneud y cyfraniadau hynny. Nododd Bethan yn briodol mai pla yw tlodi plant ac effaith negyddol y newidiadau treth a budd-daliadau hefyd. Cawsom ein herio ganddi am deimlo'n hunanfodlon—fe drof at hynny mewn eiliad, oherwydd ni chredaf ein bod yn hunanfodlon—ond hefyd heriodd ni i beidio â sefyll ar y cyrion. Byddaf yn troi at hynny mewn eiliad hefyd, oherwydd ni chredaf fod y Llywodraeth hon yn sefyll ar y cyrion. Gofynnodd, 'Beth am weinyddiaeth polisi Llywodraeth y DU?' Byddaf yn troi at hynny'n syth, ond a gaf fi ddweud na ddylem fod yn weinyddwyr polisi Llywodraeth Geidwadol y DU? Fe drof at hynny mewn eiliad.

Cyfrannodd Mark Isherwood at y ddadl a siaradodd am lefelau ystyfnig o uchel o dlodi plant yng Nghymru. Mae'n gywir, a dyna pam na allwn fod yn hunanfodlon. Mae tlodi plant yn ystyfnig o uchel, ond gadewch imi gywiro a chofnodi yma nad yw'n gywir, yn gyntaf oll, i ddweud, fel y byddai rhai pobl yn ei awgrymu, fod tlodi plant yng Nghymru wedi cynyddu. Yn wir, dengys y data aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni fod tlodi plant cymharol wedi gostwng dau bwynt canran yng Nghymru am y tair blynedd hyd at 2016-17 ar ôl talu costau tai, o gymharu â ffigurau—y llynedd, mae'n ddrwg gennyf, o gymharu â ffigurau a gyhoeddwyd yn 2017.

Hefyd, nid yw'n gywir i ddweud bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn uwch na lefel y DU, oherwydd roedd yr un data aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog a gyhoeddwyd ym mis Mawrth yn dangos bod tlodi plant cymharol ar ôl costau tai yn y DU yn 30 y cant ar hyn o bryd.

Mark Isherwood a gododd—

A wnewch chi gytuno bod data awdurdodau lleol Dileu Tlodi Plant a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, a ehangai'r diffiniad o dlodi plant er mwyn ystyried ffactorau demograffig ehangach, wedi canfod mewn gwirionedd mai Cymru oedd â'r lefel uchaf o dlodi plant yn y DU? Daeth y lleihad mewn tlodi plant y cyfeiriais ato o ystadegau'r Llywodraeth, o gronfeydd data'r Llywodraeth, ac nid o rywbeth rwyf wedi'i dynnu o'r aer neu o ddogfen friffio un o'r pleidiau.

Rydym yn chwarae o gwmpas gyda setiau data gwahanol yma, ond mae'r ystadegau hynny'n bendant ac maent yn annibynnol ac maent wedi'u profi. Fodd bynnag, lle y gallwn gytuno yw ei fod yn rhy uchel—mae'n ystyfnig o uchel—ac mae angen inni ddefnyddio'r holl ddulliau o dan ein rheolaeth i ddod â lefelau tlodi plant i lawr.

Os caf droi at rai o'r sylwadau gan Llyr, cyfeiriodd, fel llawer o rai eraill, at effeithiau niweidiol tlodi plant, a chymerodd yr ymyriad gan Mike Hedges, a nododd, mewn gwirionedd, yr effaith fuddiol y mae rhaglen Dechrau'n Deg yn ei chael—wedi ei chael yn wir—yn yr ardaloedd lle mae'n bodoli. Mae angen inni wneud yn siŵr y gwelir yr un effeithiau hynny y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, naill ai gyda'r rhaglen honno neu raglenni eraill sydd gennym yn ogystal. Mewn gwirionedd, mae ein cynnig gofal plant sydd wedi'i dargedu'n dda iawn, fel y dywedais pan ymddangosais gerbron y pwyllgor—. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n gwneud defnydd o fewn y flwyddyn gyntaf, o saith awdurdod lleol y cynllun peilot, yn is na'r cyflog canolrifol yng Nghymru—y rheini sydd fwyaf o angen cael y cynnig gofal plant yw'r rhai sy'n cymryd y cynnig hwnnw o fewn y flwyddyn gyntaf y buom yn asesu hynny, ond byddwn yn cyflwyno dadansoddiad yn yr hydref hefyd.

David, a gaf fi ddweud yn syml, gyda phob parch, nad esgus tila yw tynnu sylw at gyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn hyn o beth? Mae gennym ddulliau o dan ein rheolaeth; nid oes gennym yr holl ddulliau i chwarae â hwy mewn gwirionedd. Ond roedd yn dda eich clywed yn canmol ymdrechion Llywodraeth Cymru ar bethau fel mynd i'r afael â threfniadau dim oriau.

Leanne, rwy'n deall eich bod wedi canolbwyntio ar nodi faint o eiriau a geir mewn dogfennau penodol ar dlodi. Yr hyn na wnaethoch, rhaid imi ddweud, yw edrych ar y polisïau o fewn y strategaethau hynny sy'n cael eu cyflawni yn awr ar lawr gwlad ac sy'n gwneud gwahaniaeth; yr offer a'r dulliau go iawn. Fe drof at rai ohonynt mewn eiliad.

Soniodd Siân nad oes gan Lywodraeth Cymru bolisi a strategaeth ar fynd i'r afael â thlodi plant. Wel, oes mae gennym un, a byddwn yn ei ddiweddaru ac yn bwrw ymlaen i wneud cynnydd ar hwnnw yn 2019.

18:05

Siân Gwenllian a gododd—

Ond yr hyn sydd gennym hefyd, Siân, yw rhaglen drawslywodraethol ar gyfer cynyddu ffyniant i bawb. Fe godoch chi'r mater hefyd, gyda llaw—. Nid wyf yn siŵr a oes gennyf amser i—

Gwnaf mewn munud. Siân, fe wnaethoch chi hefyd grybwyll mater y grant ar gyfer gwisg ysgol. Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg eisoes wedi egluro ei bwriad i gyflwyno cynllun gwell o fis Medi 2018—cynllun a fydd yn fwy hyblyg, yn fwy perthnasol i anghenion dysgwyr dan anfantais. Mae fy swyddogion eisoes wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â datblygu'r cynllun newydd hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a fydd yn gwneud cyhoeddiad yn ystod yr wythnosau sy'n dod. Ac rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.

Sôn ydw i am gynllun strategol ar draws Llywodraeth—trosolwg efo targedau clir ynglŷn a thaclo tlodi. Rwy'n cydnabod bod yna strategaeth taclo tlodi plant ond, wrth gwrs, mae plant yn rhan o deuluoedd ac mae'n rhaid cael strategaeth taclo tlodi sydd uwchben hynny. Ac nid oes yna un, ac mae'n sgandal o beth nad oes yna un. 

Rwy'n cytuno bod tlodi'n sgandal ar ba lefel bynnag, ond fe drof at rai o'r polisïau ymarferol sy'n newid hynny mewn gwirionedd yn hytrach na geiriau mawr mewn strategaethau a'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd. Nid oes unrhyw ymdeimlad o hunanfodlonrwydd oherwydd mae angen inni wneud mwy.

Felly, gadewch imi ddweud yn gyntaf oll lle y gallwn gytuno. Ein dyletswydd foesol eglur yw gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â thlodi drwy'r dulliau sydd gennym wrth law yng Nghymru. Ond mae'n iawn inni gydnabod hefyd, fel y gwnawn yn ein gwelliant, fod y cyfrifoldeb am drechu tlodi plant ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Er mwyn y plant ifanc hynny, rydym angen i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan hefyd. Dyna pam yr ysgrifennais i, arweinydd y tŷ a'r Gweinidog Tai ac Adfywio at Lywodraeth y DU yn galw am ymateb ar frys ganddi i adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a oedd yn darogan mai polisïau treth a lles Llywodraeth y DU a allai wthio 50,000 yn fwy o blant i fyw mewn tlodi. Dyma'r diweddaraf o nifer o sefydliadau uchel eu parch sy'n haeru y bydd diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU mewn perthynas â theuluoedd dan anfantais yn ysgogi cynnydd sylweddol mewn tlodi plant yn y blynyddoedd i ddod er gwaethaf yr hyn a wnawn, ac er gwaethaf yr hyn a wnânt yn yr Alban, gyda llaw, yn ogystal.

Ond gallwn wneud gwahaniaeth drwy ein polisi yng Nghymru. Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar, a all drawsnewid iechyd a datblygiad hirdymor plant a'u cyflawniadau yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae ein strategaeth tlodi plant yn tanlinellu pwysigrwydd dull ataliol o ymdrin â thlodi plant drwy weithredu trawslywodraethol, ac mae ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', y cyfeiriwyd ati'n gynharach, yn tynnu sylw at y blynyddoedd cynnar a chyflogadwyedd fel meysydd blaenoriaeth ar gyfer mynd i'r afael â thlodi. Mae'n nodi nid yn unig ein gweledigaeth, ond hefyd y camau gweithredu allweddol a roddwn ar waith yn ystod tymor y Cynulliad hwn i sicrhau bod plant yng Nghymru o bob cefndir, beth bynnag fo'u hamgylchiadau, yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Rydym yn croesawu adroddiad Achub y Plant a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni. Roedd yn heriol, ond fel roedd yr adroddiad yn cydnabod, mae Llywodraeth Cymru yn bendant wedi buddsoddi mewn amrywiaeth eang o raglenni blynyddoedd cynnar. Ymhlith y rhain mae rhaglenni arloesol Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Os yw Tessa Jowell yn edrych i lawr arnom yn awr, bydd yn edrych i lawr ar y rhaglenni Dechrau'n Deg rydym yn eu darparu yma yng Nghymru ac yn eu hehangu gyda balchder, a bydd yn edrych ar draws y ffin ac yn meddwl tybed beth sydd wedi digwydd i Sure Start.

Maent wedi newid bywydau rhai teuluoedd gydag anghenion dwys: ein buddsoddiad mewn datblygiad ac addysg y blynyddoedd cynnar; y grant datblygu disgyblion, sydd wedi lleihau'r bwlch cyrhaeddiad addysgol rhwng plant sy'n cael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn eu cael; ein rhaglen Plant Iach Cymru i bob plentyn hyd at saith mlwydd oed; Cefnogi Teuluoedd, i helpu ein plant i wireddu eu potensial; y cyfnod sylfaen mewn addysg ar gyfer plant tair a phedair blwydd oed, i helpu ein plant i ffynnu; y cynnig gofal plant, sydd hyd yn oed yn y cyfnod treialu—rwy'n ymddiheuro, Ddirprwy Lywydd, cymerais ychydig o ymyriadau. A ydych yn fodlon i mi barhau?

Iawn. Wel, gadewch imi droi at ddatganoli lles neu reolaeth weinyddol. Nid ydym yn cefnogi hyn ar sail egwyddor ac ymarferoldeb clir. O ran yr egwyddor, credwn y dylem oll gael hawl i hawliad cyfartal gan wladwriaeth les sy'n darparu cymorth pan fo angen ac yn mynd i'r afael â thlodi yn Abertawe ac yn Swindon, ym Mangor, ond hefyd yn Bognor. Yn ymarferol hefyd, mae system cymorth lles ar sylfaen ehangach yn gallu gwrthsefyll ergydion economaidd a dirywiadau cylchol lleol na all system lai ei wneud, a dylem fod yn hynod o ofalus, Ddirprwy Lywydd, rhag rhuthro i newidiadau yn y system nawdd cymdeithasol cyn asesu'r costau. Mae'r costau i'r Alban yn sylweddol, gan gynnwys £66 miliwn ar gyfer gweinyddu a swm untro o £200 miliwn ar gyfer gweithredu eu pwerau lles datganoledig newydd. Oni ddylem roi hwnnw i wasanaethau rheng flaen sy'n trechu tlodi? Gallwn wneud mwy, Ddirprwy Lywydd, heb geisio datganoli pellach. Gallwn wneud mwy, ac rydym yn bwriadu gwneud mwy. Mae torri'r cylch amddifadedd—

18:10

Rwy'n cloi, Ddirprwy Lywydd. Ond mae torri'r cylch o amddifadedd a thlodi, Ddirprwy Lywydd, yn ymrwymiad hirdymor i'r Llywodraeth hon. Mae'n ategu ein strategaeth genedlaethol a'n cyfrifoldeb i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae'n rheidrwydd moesol hefyd, ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan.

Diolch. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu yma heddiw. Hoffwn ddechrau ar y pwynt a wnaed mewn perthynas â datganoli'r gwaith o weinyddu lles a'r pwyntiau a wnaed mewn ymyriadau gan Rebecca Evans a Huw Irranca-Davies. Nid wyf yn deall y rhesymeg, oherwydd mae i'w weld yn awgrymu—. Rydym mewn sefyllfa lle bydd y toriadau diwygio lles hyn yn digwydd beth bynnag ac yn sicr, os ydym yn cydnabod y ffaith nad oes gennym reolaeth dros yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill y DU, yna byddem am gael rheolaeth dros y gyfran o les y gallai fod yn bosibl i ni gael dylanwad arni. Yn wir, rydym yn cydnabod hynny yn y pwyllgor cydraddoldebau. Pan gawsom dystiolaeth gan y rhai a ddaeth i lawr o'r Alban i roi tystiolaeth, rydym yn cydnabod y gallech newid natur y ddadl drwy gael y pwerau hynny yn eich gafael. Darllenwch y dystiolaeth honno os gwelwch yn dda—rydym yn dweud wrth ein gilydd am ddarllen dogfennau penodol yn y Siambr hon—darllenwch y dystiolaeth honno i ddangos sut y gallwn wneud pethau'n wahanol, oherwydd na, wrth gwrs nad ydym am i'r diwygiadau lles ddigwydd, ond maent yn mynd i digwydd, ac yn sicr byddech am gael y pwerau hynny yma yng Nghymru yn hytrach na'u bod yn cael eu darparu ar ein cyfer gan rai nad ydynt mewn cysylltiad, nad ydynt yn gallu deall bywydau pobl Cymru.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Pe baem yn meddwl y byddai datganoli'r gwaith o weinyddu neu rywbeth arall o ran hyn yn datrys y broblem yn syml, yna byddai'n rhywbeth gwerth mynd i'r afael ag ef. Ond a gytunwch, mewn gwirionedd, wrth edrych ar hynny, fod angen inni fod yn ofalus iawn o'r canlyniadau anfwriadol a'r costau a fyddai'n dod gyda hynny a'r perygl i'r undod cymdeithasol sy'n diogelu'r gwead mewn gwirionedd?

Rwyf wedi rhoi sylw i'r costau nes fy mod yn goch yn fy wyneb yn y Siambr hon, ac nid wyf am fynd dros fater y gost, a dweud y gwir. Rydym wedi egluro'r fframwaith cyllidol yn glir iawn ac roedd Llafur yr Alban i'w gweld yn cefnogi hynny. Mae'n un arf; nid wyf yn dweud ei fod yn ateb i bopeth, ond yn sicr mae'n un arf yn y blwch o faterion ehangach y gallwn gael rheolaeth drostynt yma yng Nghymru.

O ran rhai o'r cyfraniadau eraill, fe af yn gyflym drwy rai ohonynt. Rhoddodd Mark Isherwood gryn dipyn o wybodaeth i ni am dlodi, ond ni chlywais ef yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw beth y mae'r Ceidwadwyr yn ei wneud ar lefel y DU, ac efallai y byddai ychydig o ostyngeiddrwydd yn braf o bryd i'w gilydd. [Chwerthin.]

Llyr, rydym ni'n gweld—

Beth? A ydym am gael dadl am hynny yma yn awr? Nid wyf yn meddwl bod hynny'n briodol.

Fe wnaeth Llyr Huws Gruffydd siarad am sgiliau cyfathrebu diffygiol sydd yn dod o'r system addysg os nad yw pobl yn cael yr un cyfleon a'i gilydd, gyda 60 y cant o bobl ifanc yn y system gyfiawnder yn cael problemau cyfathrebu. Eto, dyna pam rydym ni'n dweud fel plaid fod angen i ni gael y pŵer yma yng Nghymru, er mwyn ceisio ymdrin â'r sefyllfa yma. 

Yng nghyd-destun gofal plant, rydym ni wedi clywed eto ar y pwyllgor cydraddoldeb y ffaith y dylai hyn fod yn rhywbeth sydd ar gael i rieni gyda phlant o bob oed oherwydd, ar hyn o bryd, pan fydd hyn yn cychwyn yn dair neu bedair oed, maen nhw wedi colli'r cyfle i fynd yn ôl i mewn i'r gwaith. Dyna pam rydym ni o'r meddylfryd hynny. 

David Rowlands, fe ddywedoch chi nad diwygio lles oedd prif achos tlodi ac mai esgus tila yw beio diwygio lles. Credaf y byddai'n dila i ni beidio â bod eisiau gwneud dim amdano, a dweud y gwir. Felly, ni fuaswn ond yn cytuno â chi hyd at bwynt, sef lle rydym wedi dweud ar sawl achlysur yr hoffem geisio cael rhywfaint o reolaeth dros y system honno. Ond rwy'n cytuno â chi, er nad wyf yn cytuno gydag UKIP bob amser, ar yr agenda sgiliau a'r agenda swyddi. Os rhown y posibiliadau hynny i'n pobl ifanc, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn ei gefnogi.

Soniodd Leanne am y cymal trais a bod y credyd cynhwysol wedi gadael llawer o deuluoedd mewn anobaith, a bod 50,000 o bobl newydd yn byw mewn tlodi o ganlyniad i ddiwygio lles. Ac unwaith eto, fe wnaeth y pwynt am ddatganoli'r gwaith o weinyddu lles yn go gadarn, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth nad ydym yn mynd i'w ennill yma heddiw, ond byddwn yn parhau gyda'r ddadl benodol honno.

Siân Gwenllian yn dweud nad oes fframwaith clir o ran trechu tlodi, eu bod nhw'n methu â chyrraedd targedau, ac efallai dyna pam nid ydynt yn rhoi’r targedau hynny yn eu lle rhagor. Roeddwn i’n sylwebu ar dlodi plant pan ges i fy ethol yn gyntaf, ac roedd y targedau yna am reswm er mwyn ein bod ni’n gallu tracio'r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Heb y targedau hynny, nid yw hynny’n bosib. Da iawn hefyd i Gyngor Gwynedd sydd wedi ceisio dileu contractau dim awr a hefyd wedi adfer y grant gwisg ysgol yng Ngwynedd. Mae’n bwysig ein bod ni’n siarad lan am yr hyn sydd yn digwydd yn bositif ar lefel awdurdodau lleol.

Rwy'n credu fy mod am orffen gyda'r ddogfen yr ydym wedi sôn amdani. Ie, wyddoch chi, gallwn drafod sawl gwaith y sonnir am dlodi, ond y ffaith amdani yw, nid oes unrhyw ffordd ddiriaethol o olrhain sut y symudwn ymlaen o fewn y ddogfen hon. Mae'n darllen yn dda ac mae'n darllen fel dogfen Llywodraeth dda iawn, ond wedyn ni allwn weld sut y gallwn ddefnyddio unrhyw dargedau i ysgogi ein gwaith craffu ar y strategaeth arbennig hon yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac rwy'n credu mai dyna y mae pobl y tu allan i'r Siambr hon eisiau inni allu ei wneud. Felly, os oes cynllun gweithredu a allai ddeillio o hon, gyda mwy o fanylion ynglŷn â thargedau ac ynglŷn â chyflawni, buaswn yn sicr yn croesawu hynny, ac nid wyf yn gwybod a oes rhywbeth gan y Gweinidog i'w ddweud ar y mater.

18:15

Ie, yn syml er mwyn helpu i egluro fel rhan o'r ddadl. Felly, mae'r dangosyddion perfformiad allweddol yn parhau i fod ar waith, ac un o'r pethau yr ydym yn edrych arnynt ar draws y Llywodraeth ac ar draws Gweinidogion y Llywodraeth yw cerrig milltir sy'n sail i'r dangosyddion perfformiad allweddol hynny. Felly, rydym eisoes yn gwybod pethau megis nifer y bobl sy'n mynd i mewn i'r categori NEET, beichiogrwydd ymhlith yr ifanc, ac ati, ac ati, ac ati—rhai o'r dangosyddion allweddol hyn. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud y gellid ei fesur mewn gwirionedd fel ein bod yn gallu gweld cynnydd yn cael ei wneud.

Diolch. Rwy'n falch ein bod wedi cyrraedd diwedd y ddadl honno heb unrhyw ymyriadau pellach. Mae hynny'n dda. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn pleidleisio ar yr eitem hon yn y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, fe symudaf ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio. Iawn. Felly, symudwn at y cyfnod pleidleisio.

Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly, yw'r ddadl ar bolisi urddas a pharch y Cynulliad, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 52, roedd dau yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6724 - Dadl ar bolisi Urddas a Pharch y Cynulliad: O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar dlodi plant, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6723 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 44, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rydym bellach yn mynd i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 17, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM6723 - Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 1: O blaid: 17, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 33, roedd un yn ymatal, ac 20 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2.

18:20

NDM6723 - Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 2: O blaid: 33, Yn erbyn: 20, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6723 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod y cyfrifoldeb dros fynd i'r afael â thlodi plant yn nwylo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

2. Yn nodi gyda phryder bod dadansoddiad diweddaraf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dangos y bydd diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU yn gwthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi erbyn 2021/22.

3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth fel y llwybr gorau allan o dlodi a’r camau gweithredu uchelgeisiol a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a’r Cynllun Cyflogadwyedd.

4. Yn croesawu’r buddsoddiad parhaus yn Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, y Grant Datblygu Disgyblion a Rhaglen Plant Iach Cymru er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl yn eu bywydau.

5. Yn credu y dylid diwallu anghenion lles holl ddinasyddion y DU yn gyfartal ac nad yw datganoli budd-daliadau lles yn cefnogi’r egwyddor hon.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 34, neb yn ymatal, 20 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6723 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 34, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

11. Dadl Fer: Rhent sefydlog—pam mae angen mesurau rheoli rhent i sicrhau bod rhentwyr preifat yn cael bargen deg.

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Jenny Rathbone i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddi. Jenny.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae fy nadl am fater pwysig tai rhent a pham y mae angen inni reoli rhenti. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i David Melding, ac nid oes neb arall wedi nodi eu bod am siarad.

Tai fforddiadwy, da yw conglfaen cymdeithas wâr. Mae tai yn rhy bwysig i iechyd a lles y boblogaeth i'w gadael i rymoedd y farchnad yn unig. Ni allwn ganiatáu i farchnad rydd a rhemp gondemnio'r genhedlaeth rent i dai drud ac ansicr o safon isel. Defnyddir tai fel cyfle i gamu ymlaen, yn hytrach na lleoedd i bobl fyw ynddynt, a chaiff hyn ei waethygu gan wleidyddion sy'n sôn o hyd am gael troed ar yr ysgol dai fel pe bai'n wynfyd y mae angen i bawb ohonom anelu tuag ato. Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda phobl sydd am fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ond ynddo'i hun, nid yw'n ofyniad hanfodol ar gyfer llwyddiant a hapusrwydd. Ein gwaith ni, fel deddfwyr, yw sicrhau ffyniant i bawb ac amddiffyn y rhai sy'n llai abl i amddiffyn eu hunain, ac mae gwir angen camau pendant i newid y farchnad dai gamweithredol, sy'n condemnio'r genhedlaeth rent i ansicrwydd ac ansefydlogrwydd parhaol, ac sy'n ystumio ein heconomi.

Mae tai cymdeithasol yn annigonol i ateb y galw a bellach mae tenantiaethau newydd wedi'u cyfyngu'n bennaf i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Ond mae'r ris gyntaf ar yr ysgol dai ddamcaniaethol hon y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o fy etholwyr. Rwy'n derbyn nad yw'r darlun yng Nghaerdydd yr un fath ag ar draws Cymru gyfan, lle mae'n braf nodi nad oes ond 15 y cant mewn eiddo rhent preifat, ond yn fy etholaeth i sy'n ifanc o ran demograffeg, mae mewn perygl o fod yn y safle uchaf, gyda'r holl ansicrwydd ac ansefydlogrwydd sydd ynghlwm wrth hynny. Er bod awdurdodau lleol yn gwneud eu rhan i gau eiddo nad yw'n addas i bobl fyw ynddynt, nid oes fawr o ddiogelwch i ddefnyddwyr sy'n rhentu'n breifat.

Mae cwyno am ddiffyg atgyweirio yn aml yn arwain at gael eich troi allan ac mae llawer o denantiaid yn dygymod ag amodau ofnadwy yn lle hynny. Nid yw hynny'n golygu nad oes landlordiaid da sy'n gwneud gwaith cynnal a chadw ar eu heiddo'n amserol ac yn effeithiol, ond nid oes gan y tenant hawl i aros ac nid oes angen rhoi unrhyw reswm dros ddod â thenantiaeth i ben. Mae ansefydlogrwydd o'r fath mewn perthynas â rhentu mor niweidiol i les. Ni ellir bwrw gwreiddiau, na chael sicrwydd dibynadwy ynglŷn ag ysgolion neu swyddi. Mae diwedd tenantiaeth yn golygu dod o hyd i flaendal o fis o leiaf, mwy o ffioedd asiantaeth, cynnydd anrhagweladwy yn y rhent a chostau symud. Nid oes angen iddi fod fel hyn.

Cyn 1989, câi rhenti'r sector rhentu preifat eu pennu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a byddai'r Asiantaeth yn gosod lefel deg o rent ar gyfer yr eiddo wedi'i gyfrifo yn ôl faint y gallai'r swm hwnnw gynyddu. Roedd hyn yn rhoi sicrwydd i denantiaid a landlordiaid fel ei gilydd, ond newidiodd Deddf Tai 1988 bethau fel bod Prydain ar amrantiad yn newid o fod yn un o wledydd y byd a gâi ei rheoleiddio'n fwyaf llym mewn perthynas â rhentu preifat i fod y system fwyaf direol ac wedi'i dadreoleiddio fwyaf yn y byd datblygedig. Ers 1989, mae landlordiaid ym Mhrydain wedi cael codi unrhyw dâl y credant y gall y farchnad ei gynnal ar denantiaid. Yn anffodus, yr unig reoli rhenti de facto a gyflwynwyd yw cap ar fudd-daliadau tai, sydd wedi rhoi hwb anferthol i lefelau o ansicrwydd sydd eisoes yn annerbyniol.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn amcangyfrif y bydd bron i 50,000 o gartrefi yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan y cap ar fudd-daliadau tai. Mae talu 30 y cant o renti'r farchnad lleol yn lle'r 50 y cant blaenorol yn crebachu opsiynau pobl dlawd a hefyd yn cyfrif maint yr eiddo. Felly nid yn unig y bydd pobl sy'n cael eu gorfodi i symud i gartref llai o faint o ganlyniad i'r dreth ystafell wely yn gweld gofod eu cartref yn crebachu, byddant hefyd yn gweld eu hopsiynau'n crebachu'n sylweddol iawn. Nid oes ganddynt opsiwn hyd yn oed i wasgu i mewn i gartref bach er mwyn aros yn agos at ysgol eu plentyn neu at eu rhiant oedrannus, oherwydd cânt eu dal hefyd gan gap pellach ar eiddo o wahanol faint. Felly, po leiaf yr eiddo, y lleiaf o fudd-dal tai a delir.

Rhybuddiodd ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin i effaith newidiadau i fudd-daliadau yn 2013 fod ymdrechion i reoli codiadau mewn budd-daliadau tai yn gwbl briodol yn gorfod cynnwys strategaethau i reoli rhenti cynyddol yn y sector rhentu preifat, gan gynnwys mesurau i reoli rhenti'n uniongyrchol. Rwy'n cytuno, a bron bum mlynedd yn ddiweddarach mae angen inni weld gweithredu'n digwydd ar frys bellach. Mae rhenti yng Nghaerdydd eisoes yn uwch na chapiau ar fudd-daliadau rhent. Er enghraifft, mae fflat dwy ystafell wely yn Admiral House ar Ffordd Casnewydd yn costio £1,200 am ddwy ystafell wely, neu £950 am un ystafell wely sengl. Nid sôn am strydoedd deiliog Cyncoed yr ydym. Dyma ardal sy'n cael ei herio gan lefelau perygus o uchel o lygredd aer. Yn wir, mae rhenti cymdeithasau tai hyd yn oed yn uwch na'r cap ar fudd-daliadau tai bellach.

Mae diffyg rheolaeth ar renti wedi dod yn fath o lanhau cymdeithasol. Ni all pobl sy'n dlawd ddod o hyd i unrhyw le y gallant ei fforddio yng Nghaerdydd ac maent naill ai'n mynd yn ddigartref neu cânt eu gorfodi i symud, gan hollti teuluoedd ac amddifadu pobl o'r rhwydweithiau cymorth sy'n creu cymunedau cydlynus. Dyma rysáit ar gyfer profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a salwch meddwl. Mae arnom angen mesurau rheoli rhenti. Mae angen rhoi diwedd ar droi pobl allan yn annheg ac ailwampio'r system dai yn sylfaenol er mwyn darparu sefydlogrwydd rhent.

Trosglwyddwyd y pŵer i reoleiddio rhenti yn y sector preifat i Lywodraeth Cymru gan Senedd y DU yn 2006, a chyflwynodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer rhentu cartref yng Nghymru. Erbyn hyn mae'n rhaid i landlordiaid gael hyfforddiant gofynnol ar eu hawliau a'u cyfrifoldebau er mwyn cael cofrestru. Er ei fod yn bwysig, nid yw'r Bil sydd ar y ffordd i ddiddymu ffioedd asiantaethau gosod tai yn mynd i fod yn ddigon i sicrhau bargen deg i denantiaid. Yn anffodus, bydd asiantaethau'n ceisio ychwanegu'r costau at renti misol, sydd eisoes yn anfforddiadwy.

Mae rhenti teg yn cynnig ffordd gynaliadwy o atal rhenti rhag codi ymhellach o gyrraedd mewn cynifer o'n cymunedau trefol. Yn wir, mae hyd yn oed adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar renti'r sector preifat yn cydnabod bod yr eiddo isaf ei bris ar y pryd, ddiwedd y llynedd, yn £325 y mis am ystafell sengl neu fflat un ystafell nad yw'n hunangynhwysol, a'r pris canolrifol uchaf oedd £750. Ond yng Nghaerdydd, mae hynny'n codi i dros £1,000 am rent cyfartalog, ac mewn llawer o achosion, fel yr awgrymais eisoes, mae'n uwch o lawer.

Felly, mae yna ddwy ffordd y gallem gyflwyno mesurau rheoli rhent. Yn gyntaf, gallem warchod teuluoedd rhag codiadau rhent annheg drwy roi opsiwn iddynt herio rhent afresymol drwy system tribiwnlys annibynnol. Gallai olygu Asiantaeth y Swyddfa Brisio, fel o'r blaen, a byddai'n sicrhau tegwch a rhagweladwyedd i denantiaid a landlordiaid. Fel arall, gallem roi cyfle i awdurdodau lleol wneud cais i Lywodraeth Cymru ar gyfer creu parthau pwysau rhent dynodedig er mwyn gosod cap ar godiadau rhent mewn ardaloedd y pennir eu bod yn ddarostyngedig i godiadau rhent gormodol. Yr ail lwybr yw'r un sydd dan ystyriaeth gan Gaeredin a Glasgow wedi i Senedd yr Alban basio Deddf Tai Preitaf (Tenantiaethau) (Yr Alban) 2016.

Ond nid oes raid inni edrych tua'r Alban yn unig am ysbrydoliaeth. Mae llawer o wledydd ar draws y byd yn rheoleiddio marchnadoedd rhent yn dynn. Mae gan yr Almaen ei doriad pris rhent, sy'n cyfyngu rhenti ar denantiaethau newydd mewn mannau poblogaidd o ran eiddo fel Berlin, Munich a Dusseldorf i 10 y cant yn uwch na'r meincnodau rhenti presennol. Mae'n werth nodi bod dwy ran o dair o bobl Berlin yn rhentu. Caiff tenantiaid eu diogelu'n dda, ond mae cyfleoedd i landlordiaid hefyd. Gellir codi'r rhent os caiff yr eiddo ei wella ac os nad yw'r toriad yn gymwys ar gyfer eiddo a adeiladwyd o'r newydd.

Yn Efrog Newydd, nid yw mesurau rheoli rhenti ond yn berthnasol i denantiaid sydd wedi byw yno ers 1971 ac mewn eiddo a adeiladwyd cyn 1947, ond mae mesurau sefydlogi rhent hefyd yn gymwys ar gyfer bron hanner y fflatiau ar rent, gan atal landlordiaid rhag gwthio'r pris yn uwch na chanllaw gosodedig ar gyfer ardal, oni bai, wrth gwrs, eu bod yn mynd am eiddo moethus heb reolaeth ar y rhenti, sef eiddo dros $2,500 y mis, ac yn ôl pob tebyg, gall y bobl hynny ymladd eu brwydrau eu hunain yn well. Ond mae'n golygu bod hanner, yn hytrach na dwy ran o dair, o'r eiddo yn Efrog Newydd bellach yn ddarostyngedig i fesurau rheoli, o gymharu â llawer mwy na hynny 40 mlynedd yn ôl. Nawr, cyflwynodd Paris fesurau rheoli rhenti newydd yn ddiweddar. Mae la loi Alur yn rheoli rhenti mewn parthau lle mae'r galw'n uchel, gan osod rhent canolrifol fesul metr sgwâr ar gyfer ardal benodol, gan wahanu eiddo tirol dosbarthau'n fandiau pris yn seiliedig ar ba un a yw'n eiddo wedi'i ddodrefnu a nifer yr ystafelloedd. Mae'n bosibl y caiff y rheolaethau hyn eu gosod mewn dinasoedd eraill yn Ffrainc.

Efallai mai'r enghraifft fwyaf diddorol yw'r un yn yr Iseldiroedd, ac rwyf am edrych arni yng nghyd-destun ein sefyllfa facroeconomaidd yn y DU, sef, yn y flwyddyn ddiwethaf ar draws y DU, fod y nifer uchaf erioed o landlordiaid prynu i osod bellach yn talu mewn arian parod i fachu mwy a mwy o eiddo, yn ôl benthyciwr morgeisi mwyaf y DU, Countrywide. Mae'r lefel o £21 biliwn mewn pryniannau arian parod am frics a morter yn uwch nag y bu ers degawd, a daw rhywfaint o'r arian parod hwn o ailforgeisio, tynnu ecwiti allan o gartrefi y maent eisoes yn berchen arnynt, ac mae llawer ohono'n anelu tuag at Gymru oherwydd bod marchnad orgynnes Llundain a de-ddwyrain Lloegr y tu hwnt i bocedi llawer o fuddsoddwyr. Ond rhaid inni ddeall bod y £21 biliwn sy'n mynd i mewn i frics a morter yn rhywbeth a allai fod yn mynd i mewn i'r economi gynhyrchiol—gan greu swyddi, creu nwyddau a chreu allforion ar gyfer ein heconomi. Ac yn y cyfamser, mae canlyniad y dadreoleiddio'n glir: portffolios prynu i osod enfawr ar gyfer y cyfoethog, gyda'r elw'n cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn a'r rhai nad ydynt eto'n ddigon lwcus i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain yn cael eu blingo.

Felly, yn olaf, roeddwn am edrych ar y sefyllfa yn yr Iseldiroedd, sydd wedi'i dominyddu gan—. Mae tri chwarter yr holl gartrefi'n eiddo i gymdeithasau tai, ac mae'r sector rhentu preifat yn yr Iseldiroedd wedi gostwng o 17 y cant i 8 y cant. Yn aml gwelir rheoleiddio cryf, yn arbennig rheoli rhenti, fel un o'r rhesymau dros y dirywiad mewn rhentu preifat. Ond mae'n bwysig gweld bod y sector perchen-feddiannaeth a'r sector rhentu cymdeithasol wedi elwa o gymorthdaliadau a chymhellion treth, tra bo landlordiaid preifat wedi bod dan anfantais, yn enwedig o'r 1980au. Ond o'i gymharu â gwledydd eraill yn Ewrop, mae'r sector rhentu cymdeithasol yn ffynnu ac mae pobl yn gyffredinol yn fodlon ag ef. Credaf ei bod yn bryd i Lafur Cymru edrych o ddifrif ar gyflwyno mesurau rheoli rhenti i atgyweirio'r farchnad dai doredig, ac os oes angen, cynyddu maint y sector tai cymdeithasol er mwyn sicrhau y gall pawb gael cartref priodol, gyda'r diogelwch a ddaw gyda hynny. Felly, edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Llywodraeth.

18:30

Diolch i Jenny am dynnu ein sylw at y pwnc pwysig hwn y prynhawn yma. Mae gennym ymagwedd glir iawn, rwy'n credu, o ochr chwith gwleidyddiaeth ac rydych yn gwneud rhai pwyntiau diddorol a phwerus. Rwy'n cytuno â chi ar rai materion. Mewn rhai mannau, mae'r farchnad dai yn sicr yn gamweithredol a cheir nifer o resymau am hynny. Mae gennym y ffenomen hon o genhedlaeth rent, lle mae pobl a fyddai wedi prynu eu cartrefi eu hunain o'r blaen bellach yn gorfod rhentu. Mae gan lawer o'r bobl hyn incwm cymharol uchel ond nid oes ganddynt gyfalaf i brynu neu ddarparu blaendal, a chredaf fod angen sicrwydd deiliadaeth arnynt yn gymaint â'r hyn a alwch yn rhenti teg ac wedi'u rheoli.

Credaf y dylem gael adolygiad cynhwysfawr o'r polisi tai a sut y mae'n berthnasol i'r galwadau newydd sydd gennym. Rydym yn wynebu prinder o ran cyflenwad; credaf fod pob un ohonom yn cytuno â hynny. Credaf fod angen rhagor o fodelau arnom. Mae enghraifft yr Iseldiroedd yn ddiddorol; mae'n dal mwy o bobl nag y byddem ni yn eu dal o ran yr hyn y pennir yw diben tai cymdeithasol, ac mae ffyrdd o wneud hynny drwy gymdeithasau tai, o bosibl, neu ffyrdd newydd o ffurfio cwmnïau cydweithredol, sydd hefyd yn fodel a ffafrir mewn llawer o wledydd ar y cyfandir. Credaf fod arnom angen y dulliau gweithredu hyn, a phan ddown allan o'r argyfwng ariannol yn y pen draw, rwy'n gobeithio y bydd y ffenomen hon o bobl yn mynd ar drywydd yr elw uchel y gallwch ei gael drwy fuddsoddi mewn tai yn dod i ben, oherwydd rwy'n cytuno â chi—mae tai y tu hwnt i fod yn nwydd economaidd arferol. Mae'n llawer mwy sylfaenol. Mae'n llawer tebycach i iechyd yn hynny o beth. Felly, mae yna bethau'n codi yma. Nid wyf yn cytuno â phopeth rydych wedi'i ddweud y prynhawn yma, ond efallai y byddech yn synnu cymaint ohono rwy'n cytuno ag ef.

18:35

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Wrth gwrs, rwy'n rhannu ei phryder y dylai pawb gael mynediad at gartref fforddiadwy o ansawdd da, pa un a fyddant yn prynu neu'n rhentu, pa un a fydd eu landlord yn landlord cymdeithasol neu'n landlord sector preifat, a ble bynnag y maent yn byw.

Mae'r sector rhentu preifat yn chwarae, ac yn mynd i barhau i chwarae, rwy'n meddwl, rhan gynyddol bwysig yn cyflawni ein hagenda dai. Bu'n farchnad a oedd yn tyfu am gyfnod estynedig ac mae oddeutu 15 y cant o'n stoc dai bellach yn eiddo rhentu preifat. I bobl sy'n rhentu, mae problemau fforddiadwyedd, ansawdd a diogelwch deiliadaeth yn real iawn, a dyna pam y mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi pwyslais mawr ar sicrhau bod y sector rhentu preifat yn cael ei reoleiddio a'r reoli'n dda, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Yn y modd hwn, gallwn helpu i sicrhau ei fod yn cynnig ateb hirdymor hyfyw i'r bobl sy'n dewis neu sydd angen rhentu yn y sector rhentu preifat.

Mae'n wir fod mesurau rheoli rhenti yn bodoli mewn llawer o ddinasoedd ledled y byd. Y cwestiwn yw: i ba raddau y maent yn ateb y problemau penodol a wynebwn yng Nghymru? Mae ein marchnad dai yng Nghymru yn rhannu rhai, ond nid pob un o'r nodweddion a welwn mewn mannau eraill. Roedd astudiaeth gan ganolfan ymchwil tai a chynllunio Caergrawnt yn 2015 i effeithiau mesurau rheoli rhenti ar gyflenwad a marchnadoedd yn profi'r ddwy brif ffordd o reoli rhenti. Un dull yw rhoi rheolaeth lwyr dros lefel y rhent. Y llall yw caniatáu i'r landlord bennu rhent marchnad cychwynnol, ond cyfyngu ar godiadau rhent. Soniodd yr ymchwil am y potensial am ganlyniadau anfwriadol yn y ddau ddull, a thrafodai pa mor bwysig fyddai ymateb landlordiaid.

Yn ddiweddar, mae Shelter wedi ymateb i alwadau am fesurau rheoli rhenti drwy nodi bod dulliau absoliwt o reoli rhenti'n peri niwed i'r union bobl yr ydym yn ceisio'u helpu. Os ydym yn lleihau'r adenillion y gall landlordiaid eu cael, rydym mewn perygl o'u cymell i werthu yn hytrach na rhentu eu heiddo, a gallai hyn fod o fudd i rai ar gyflogau canolig a hoffai weld mwy o gartrefi ar gael i'w prynu, ond i'r rhai na allant fforddio prynu, y canlyniad anfwriadol posibl yw mwy o ddigartrefedd o ganlyniad i'r crebachu ar y cyflenwad o dai rhentu preifat.

Yn yr un modd, ni fyddem am anghymell landlordiaid preifat yn anfwriadol rhag buddsoddi yn ansawdd y cartrefi y maent yn eu cynnig ar rent. Mae swyddogion rhent Llywodraeth Cymru yn nodi, yn y nifer fach o achosion lle mae mesurau rheoli rhenti'n parhau o dan y Ddeddf rhentu, fod eiddo'n tueddu i ddioddef o ddiffyg moderneiddio a chynnal a chadw, ac ni ddylai fod yn syndod inni fod y cymhelliad elw yn effeithio'n negyddol ar ymddygiad landlordiaid pan gânt eu cyfyngu yn y modd hwn.

Mae'n werth cofio hefyd fod a wnelo tai â chydadwaith system gymhleth, ac efallai mai un o ganlyniadau cyfyngu ar renti mewn un ardal fyddai gostwng lwfansau tai lleol, ac felly lefel y budd-daliadau a fydd ar gael i denantiaid dan anfantais. Mae hyn oherwydd lle mae'r degfed canradd ar hugain.

Felly, gallai cyfyngu ar godiadau rhent fel ffordd o reoli rhenti roi llai o anghymhelliad i landlordiaid. Fodd bynnag, yn hanesyddol, mae chwyddiant o fewn y sector rhentu preifat yng Nghymru wedi bod yn is nag yn Lloegr. Ers 2012, mae mynegai prisiau rhentu tai preifat yn dangos bod y twf, ar gyfartaledd, wedi bod 1.5 pwynt canran yn is. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw marchnad Cymru yn ymestyn rhenti ymhell y tu hwnt i chwyddiant.

Rydym wedi canolbwyntio ar gryfhau rhentu fel dewis o ansawdd ym maes tai. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diweddar tuag at sicrhau bod cyfraith rhentu preifat a deiliadaeth yn gyfredol. Mae mwyafrif helaeth ein landlordiaid preifat yn darparu eiddo o safon uchel a gwasanaeth da i'w tenantiaid. Mae Rhentu Doeth Cymru wedi helpu i ledaenu'r arferion da hyn drwy sicrhau bod landlordiaid yn ymwybodol o'r safonau cyfreithiol gofynnol ar gyfer cyflwr eiddo ac maent yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt fel landlordiaid. Mae Rhentu Doeth Cymru wedi bod yn gam cadarnhaol iawn. Mae 89,000 o landlordiaid bellach wedi'u cofrestru, cyfradd gydymffurfio o 98 y cant, yn debyg i'r gyfradd sy'n cydymffurfio â threth car. Bellach, cafwyd 18 o erlyniadau llwyddiannus, gyda dirwyon sylweddol.

Bydd ein Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn symlach ac yn haws i rentu. Mae hefyd yn ymdrin â phroblem troi allan er mwyn dial, yn diogelu hawliau tenantiaeth dioddefwyr cam-drin domestig ac yn sicrhau bod eiddo'n addas i bobl fyw ynddo. Mae'n welliant pwysig i fywydau dros 1 filiwn o bobl sy'n rhentu eu cartrefi yng Nghymru.

Ym mis Mawrth, cawsom ddadl fer ar y defnydd o hysbysiadau 'dim bai', neu hysbysiadau adran 21. Ni all fy ymrwymiad i weithio gyda landlordiaid i adeiladu sector rhentu ffyniannus ddigwydd ar draul tenantiaid. Dyna pam rwy'n ymrwymedig i weithio ar hyn. Mae trafodaethau â rhanddeiliaid eisoes ar y gweill, ac rwyf wedi cyfarfod â Shelter Cymru i drafod ein hopsiynau. Mae nifer o ddulliau gweithredu yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd, megis ymestyn y cyfnod rhybudd, darparu cymhellion ar gyfer landlordiaid i nodi rheswm penodol dros hysbysiad os ydynt yn awyddus i geisio meddiant yn gyflymach.

Gall rhentu fod yn ddrud mewn ardaloedd lle mae'r galw'n uchel, megis rhannau o Gaerdydd. Mae hyn yn adlewyrchu pa mor anodd yw hi i fforddio prynu yn yr ardaloedd hyn a rhaid inni beidio ag anghofio bod pris prynu eiddo hefyd yn effeithio ar landlordiaid sydd angen elw rhent ar eu buddsoddiad, neu fel arall gallant werthu'r eiddo ac elwa ar unrhyw gynnydd yng ngwerth yr eiddo. Mae fforddiadwyedd yn fater rwy'n awyddus i fynd i'r afael ag ef, gan gynnwys pa mor fforddiadwy yw hi i gael mynediad at y sector rhentu preifat, neu i symud o'i fewn. Dyna pam y cyhoeddais fy mwriad i gyflwyno deddfwriaeth yn fuan iawn i wahardd ffioedd a godir ar denantiaid pan fyddant yn dechrau, yn adnewyddu neu'n terfynu tenantiaeth.

Felly, beth yw'r atebion y dylem fod yn manteisio arnynt yn ein cyd-destun Cymreig? Unwaith eto, mae ymateb Shelter i'r ddadl ar reoli rhenti wedi bod yn ddiddorol iawn. Maent wedi tynnu sylw at y toriad yn y cysylltiad rhwng rhenti a budd-daliadau tai, o ganlyniad i bolisi Llywodraeth y DU, sydd wedi gwneud rhentu'n llai fforddiadwy. Mae diwygio lles yn niweidiol ac mae'n cael effaith go iawn ar denantiaid a landlordiaid. Rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'n gwrthwynebiad i ddull Llywodraeth y DU o weithredu, sy'n golygu nad yw lwfansau tai lleol yn adlewyrchu gwir gost rhentu. Rhaid i hyn newid os yw'r farchnad dai yn mynd i weithredu'n effeithiol.

Nid ydym yn rheoli polisi lles yma yng Nghymru, ond rydym yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod gweithrediad y system les wedi ei integreiddio â'n hagenda polisi. Mae taliadau tai yn ôl disgresiwn yn rhoi cymorth i bobl sy'n agored i niwed, megis y rhai yr ydym yn eu cynorthwyo drwy'r rhaglen Cefnogi Pobl. Roedd nifer o awdurdodau nad oeddent yn defnyddio eu cyllideb yn llawn, felly buom yn gweithio gyda'r awdurdodau i ddatblygu fframwaith i sicrhau defnydd mwy cyson o daliadau disgresiwn at gostau tai. Mae'r dull hwn wedi llwyddo i leihau nifer yr awdurdodau sy'n tanwario eu lwfans o 13 i dri mewn blwyddyn yn unig. Nawr, byddwn yn gweithio ar y tri arall i sicrhau eu bod yn gwario eu lwfans yn llawn.

Y maes arall y mae Shelter yn ei nodi yw'r angen i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, i sicrhau bod y system dai gyfan yn gweithio'n effeithiol. Rwy'n falch o'r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru ar hyn a'n cynnydd tuag at ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Yn ddiweddar, cyhoeddais adolygiad annibynnol o'r cyflenwad tai fforddiadwy a fydd yn archwilio'r trefniadau ar gyfer cefnogi datblygu tai fforddiadwy. Mae'r adolygiad hwn yn digwydd yng nghyd-destun ein hymrwymiad hirsefydlog i gynyddu'r cyflenwad, sydd wrth wraidd ein rhaglen lywodraethu. Rwy'n gobeithio y bydd yn caniatáu inni osod targedau hyd yn oed yn fwy ymestynnol yn y dyfodol, gan barhau i greu hinsawdd sy'n gwella ansawdd.

Y ffordd Gymreig yw edrych am bartneriaeth lle mae consensws yn debygol o sicrhau'r canlyniadau a geisiwn. Credaf ein bod wedi sefydlu partneriaeth gref gyda landlordiaid sector preifat yng Nghymru—partneriaeth lle mae cyfrifoldebau clir, safonau a phroffesiynoldeb yn cael eu gorfodi'n briodol a landlordiaid gwael yn cael eu dwyn i gyfrif, a lle y caiff hawliau tenantiaid eu diogelu, tra'n dal i gynnig cymhellion i'r landlord da. Felly, nid wyf yn ofni rheoleiddio'r sector lle y teimlaf fod angen gwneud hynny a rhannaf bryderon y bobl eraill sydd wedi siarad heddiw, ac rwyf bob amser yn agored i ystyried syniadau o'r fan hon a mannau eraill—rydym wedi clywed am nifer o fodelau diddorol o wledydd eraill—gan ddewis yr atebion yn y pen draw sy'n gweddu i'n marchnad dai a'n dull partneriaeth yng Nghymru. Diolch.

18:40

Daeth y cyfarfod i ben am 18:44.