Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

06/03/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw eitem 1, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog, a daw cwestiwn 1 gan Llyr Gruffydd.

Grant Byw'n Annibynol Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i hawlwyr grant byw'n annibynol Cymru yn dilyn dirwyn y grant i ben? OAQ51831

Diolch. A gaf i ddechrau, os gallaf, drwy roi diolch i'r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio mor galed yn ystod y tywydd garw, y rheini, wrth gwrs, sydd wedi helpu i gael staff y gwasanaeth iechyd i'w gwaith, a hefyd, wrth gwrs, y rheini sydd wedi gweithio mor galed er mwyn sicrhau bod yna lai o bwysau ar y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol ac, wrth gwrs, y gwasanaethau argyfwng?

Rydym ni'n darparu cyllid llawn o £27 miliwn i’r awdurdodau lleol i’w galluogi i ddiwallu anghenion gofal a chymorth y rhai sy’n cael taliadau ar hyn o bryd oddi wrth grant byw’n annibynnol Cymru.

Mae pobl ag anableddau ac sy'n derbyn y grant byw'n annibynnol yn dweud wrthyf i mai eu pryder nhw yw colli'r elfen yna o annibyniaeth y mae'r grant yn ei roi iddyn nhw ar lefel bersonol. Maen nhw'n gwerthfawrogi'r annibyniaeth yn fwy nag unrhyw beth arall. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y byddan nhw'n parhau i fwynhau yr un annibyniaeth pan fydd eich Llywodraeth chi yn dirwyn y grant yna i ben?

Rydym ni wedi bod yn monitro beth mae'r awdurdodau lleol yn ei wneud, a bydd hynny'n parhau yn ystod y sefyllfa sydd gyda ni ar hyn o bryd, sef y cyfnod newid. O ddechrau'r cyfnod hwnnw ym mis Ebrill y llynedd i ddiwedd y cyfnod hwnnw, bydd beth mae awdurdodau lleol yn eu wneud yn cael ei fonitro. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, fod unigolion wedi cael eu hasesu hefyd yn ystod yr amser hynny. Rwy'n gwybod hefyd fod y Gweinidog yn gwybod bod eisiau monitro beth yw profiad unigolion ynglŷn â'r broses ar hyn o bryd, ac mae'r Gweinidog yn ystyried pa fath o ffordd ymlaen a ddylai ddigwydd nawr er mwyn sicrhau bod yna fwy o sicrwydd i'r rheini sydd yn derbyn y grant. 

Diolch am yr eglurhad rhannol yna. Diben y gronfa byw'n annibynnol, cyn datganoli, oedd rhoi dewis a rheolaeth i unigolion dros sut yr oeddent yn gwario eu harian, eu cronfa, i fyw'n annibynnol. Ar y cychwyn, dyna sut yr oedd grant byw'n annibynnol Cymru yn gweithio, ond, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon sydd wedi datblygu eu modelau mewn partneriaeth â'r trydydd sector, rydych chi'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyfarfod â phobl sy'n cael y grant i gytuno ar y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud hyn. Mae ymgyrch Achub Grant Byw'n Annibynnol Cymru yn dweud bod byw'n annibynnol yn fater o hawliau a bod cau grant byw'n annibynnol Cymru yn bradychu pobl anabl, eu teuluoedd, eu ffrindiau, aelodau staff a'r gymuned gan ei fod yn cymryd eu llais, eu dewis, eu rheolaeth a'u hannibyniaeth oddi arnynt. Gwn fod arweinydd yr ymgyrch wedi cyfarfod â Huw Irranca-Davies ym mis Ionawr, a dywedodd arweinydd yr ymgyrch honno wedyn ei bod yn debygol mai hwn oedd cyfarfod pwysicaf ei fywyd. Dyna pa mor bwysig yw hyn. A wnewch chi, ar y pwynt terfynol hwn, wrando ar y gymuned hon os gwelwch yn dda, a chydnabod bod annibyniaeth yn golygu rhoi dewis a rheolaeth iddyn nhw, ac nid gorfod cytuno ar sut y dylen nhw wario eu harian gydag arbenigwyr â bwriadau da yn neuadd y sir pan mai nhw yw'r arbenigwyr gwirioneddol yn eu bywydau eu hunain?

O ran sut y daethom ni i'r sefyllfa bresennol, roedd grŵp cynghori, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, a argymhellodd ddarparu cymorth yn y dyfodol trwy wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Nawr, yr egwyddor y tu ôl i hynny oedd sicrhau bod yr holl bobl anabl yng Nghymru yn cael eu cynorthwyo i fyw yn yr un ffordd, ac i sicrhau bod y cyllid cyfyngedig—a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU, gadewch i ni gofio—yn cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol at y diben hwnnw ac nid ar gostau gweithredu trefniadau ar wahân ar gyfer rhai pobl anabl yn unig. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr yng Nghymru bod pob ceiniog o'r arian hwnnw wedi mynd i dderbynwyr. Ni fu hynny'n wir mewn mannau eraill yn y DU.

Prif Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi sydd hefyd yn bryderus am y ffordd y bydd y grant yn gweithio yn y dyfodol. Nid yw fy etholwyr yn hidio ynghylch o ble daw'r cyllid hwn, pa un a yw hynny gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol. Y cwbl sydd o bwys iddyn nhw yw eu bod yn cael yr un lefel o gymorth. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i fonitro'r system newydd hon i sicrhau bod awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu'r lefel honno o gymorth?

Wel, mae'r gwaith monitro hwnnw'n parhau. Rydym ni'n gwybod bod awdurdodau lleol wedi adolygu, neu wrthi'n adolygu anghenion cymorth ychydig dros 350 o gyn-dderbynwyr y gronfa byw'n annibynnol yng Nghymru yn y dyfodol. O'r rhain, roedd ychydig dros 30 eisoes wedi cytuno ac yn derbyn eu cymorth yn y dyfodol naill ai'n uniongyrchol gan yr awdurdod neu drwy dderbyn taliadau uniongyrchol er mwyn cael gafael ar eu cymorth eu hunain. Nawr, mae angen, wrth gwrs, parhau gyda'r trefniadau monitro, fel y soniais yn gynharach. Rydym ni eisiau monitro profiad derbynwyr o'r broses, a dyna'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei ystyried ar hyn o bryd o ran sut y gellid bwrw ymlaen â hynny.

13:35

Prif Weinidog, mae'n ymddangos bod llawer o awdurdodau lleol yn cael anhawster o ran bodloni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Er enghraifft, mae llawer o ofalwyr ledled y wlad nad ydyn nhw wedi cael asesiadau gofalwyr. Mae diwedd y grant byw'n annibynnol yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Prif Weinidog, a allwch chi sicrhau y bydd y rheini sy'n cael y grant byw'n annibynnol yn derbyn cymorth sydd yr un fath neu'n well na'r cymorth y maen nhw'n ei gael ar hyn o bryd pan mai awdurdodau lleol fydd yn darparu'r cymorth hwnnw?

Wel, mae'r arian wedi ei drosglwyddo i awdurdodau lleol. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod lefel y gofal yn parhau i fod cystal ag y mae wedi bod yn y gorffennol o leiaf. Ac atgoffaf yr Aelod, wrth gwrs, fod y swm yr ydym ni'n ei wario ar wasanaethau cymdeithasol fesul pen yng Nghymru yn sylweddol uwch nag yn Lloegr.

Oed Pleidleisio

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gostwng yr oed pleidleisio ar gyfer etholiadau yng Nghymru? OAQ51871

Wel, cynhaliwyd ymgynghoriad gennym ar ostwng yr oedran pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yn ddiweddar. Bydd y newid hwnnw'n cael ei gyflwyno ar gyfer yr etholiadau nesaf, ac yn cael ei roi ar waith drwy'r Bil llywodraeth leol yn yr hydref. A gwn fod y Llywydd yn ymgynghori ar wahân o ran etholiadau'r Cynulliad.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Ceir dadleuon cryf dros ostwng yr oedran pleidleisio i 16, ond a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod cysondeb yn elfen bwysig yn y gyfraith hefyd, ac os yw rhywun yn ddigon aeddfed i allu cymryd rhan mewn dewis Llywodraeth y wlad yn 16 oed, y dylai gael gyrru car yn gyfreithlon, penderfynu drosto ei hun a ddylai gael tatŵ neu dwll yn ei gorff, y dylai gael prynu alcohol yn gyfreithlon, ni ddylai fod yn ddarostyngedig i unrhyw reolau ar sensoriaeth ffilmiau, ac yn y blaen? Os nad ydym ni'n mynd i gael unrhyw gysondeb ar draws ystod gyfan y gyfraith, pa gyfiawnhad posibl a allai fod?

Wel, nid oes unrhyw gysondeb yn hynny o beth nawr. Rwy'n credu bod y gallu gan bobl 16 oed i bleidleisio yn sicr. Maen nhw'n cael, er enghraifft, rhoi eu caniatâd ar gyfer triniaethau meddygol. Pam felly na ddylen nhw gael gwneud eu penderfyniadau eu hunain, ynghylch pwy i bleidleisio drosto? Ni chânt yrru tan eu bod yn 17 oed, ni chânt yfed alcohol tan eu bod yn 18 oed, ni chânt fod yn yrrwr cymwys tan eu bod yn 21 oed, ni chânt reidio unrhyw feic modur o unrhyw faint injan tan eu bod yn 24 oed. Ceir anghysondebau, wrth gwrs, ond, serch hynny, yn fy marn i, mae 16 yn oedran priodol, a dangosodd yr Albanwyr hyn yn eu refferendwm, pan gafodd pobl ifanc bleidleisio ynddo.

Prif Weinidog, efallai eich bod chi wedi sylwi, yn yr Alban, yn y refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban, bod 75 y cant o bobl 16 a 17 oed wedi pleidleisio. Mae hynny'n cymharu â 54 y cant ar gyfer y grŵp oedran yn uniongyrchol ar ôl hynny—18 i 24—ac roedd gwahaniaeth tebyg iawn yn bodoli yn etholiadau lleol yr Alban yn 2017. A ydych chi'n cytuno â mi fod greddfu arfer o bleidleisio yn gynnar yn cynnig budd mawr i gymdeithas ac yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar gyfrifoldebau dinasyddiaeth, ond hefyd ein gallu i ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd o'n cwmpas yn y byd yr ydym ni'n byw ynddo?

Yn sicr. 'Pleidleisiwch yn gynnar, pleidleisiwch yn aml' oedd y slogan yng Ngogledd Iwerddon flynyddoedd lawer yn ôl. Mae angen i ni adael yr ail ran ohono allan, rwy'n amau. Ond mae'r ffigurau yn siarad drostynt eu hunain. Mae'r ffaith fod pobl 16 i 18 oed wedi pleidleisio ar gyfradd uwch o lawer na'r rheini yn y grŵp oedran uniongyrchol nesaf yn dangos pa mor frwdfrydig ydyn nhw, faint o gysylltiad sydd ganddyn nhw â'r broses wleidyddol, a pha mor bwysig yw hi bod y synnwyr hwnnw o gysylltiad yn parhau wrth iddynt fynd yn hŷn.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi estyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 yn sicr, ond rydym ni'n moyn cael pobl i bleidleisio mewn niferoedd mwy o bob oedran, wrth gwrs. Mae'n rhaid rhoi rheswm da iddyn nhw i bleidleisio ac allwch chi ddim jest disgwyl i bobl bleidleisio oherwydd eich bod chi wedi rhoi'r hawl iddyn nhw. Felly, yn eich cynigion ar gyfer gwella pleidleisio ar gyfer awdurdodau lleol, ble ydych chi'n rhoi'r flaenoriaeth? Ai drwy wneud pob pleidlais i gyfrif drwy system bleidleisio gyfranogol, er enghraifft, drwy newid y dull pleidleisio, gwahanol ddiwrnodau, pleidleisio electronig, pleidleisio mewn gwahanol ddulliau? Lle ydych chi'n meddwl y byddwch chi nid yn unig yn cael y bobl ifanc â'r hawl i bleidleisio, ond yn eu hannog nhw i bleidleisio yn ogystal?

Mae yna sgôp i ystyried y ffyrdd y mae pobl yn pleidleisio. Er enghraifft, nid oes dim rheswm pam y dylai pob etholiad fod ar ddydd Iau. Pam na allwn ni gael etholiadau ar y penwythnos? Mae hynny'n digwydd mewn sawl gwlad arall, wrth gwrs. Mae dydd Sul, wrth gwrs, yn hanesyddol, yn mynd i fod yn anodd yng Nghymru, ond mae dydd Sul yn cael ei ddefnyddio mewn sawl gwlad, lle mae mwy o bobl yn gallu mynd mas i bleidleisio. Mewn amser, rwyf i'n credu y gwelwn ni amser lle mae pobl yn gallu pleidleisio mewn ffordd electronig. Mae yna gwestiynau, wrth gwrs, ynglŷn â diogelwch, ond rwyf i'n siwr, ymhen amser, y byddai hynny'n cael ei ddatrys. Ond beth sy'n hollbwysig yw sicrhau bod pobl eisiau pleidleisio, eu bod nhw'n gwybod sut mae'r system yn gweithio, eu bod nhw eisiau pleidleisio, ac wedyn, wrth gwrs, ystyried ym mha ffyrdd yn y dyfodol y bydd modd ei wneud e'n rhwyddach iddyn nhw wneud hynny. 

13:40

Prif Weinidog, cafodd y cynigion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 mewn etholiadau cyngor lleol gefnogaeth drawsbleidiol eang, ac, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ei ddatgan,

'Mae democratiaeth leol yn dibynnu'n llwyr ar y rhai sy'n cymryd rhan.'

Prif Weinidog, mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod yr hawliau gwleidyddol yr ydym ni'n eu rhoi i'n holl blant wedi eu hategu gan weithgaredd a llythrennedd gwleidyddol cymesur. Pa gamau, felly, all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, ble bynnag y mae wedi ei eni a'i addysgu yng Nghymru, yn cael mynediad at addysg ddinesig gynhwysfawr a chyffredinol a bod hynny wrth wraidd ei addysg i sicrhau ei fod yn wleidyddol llythrennog ynghylch llywodraethiad Cymru a'r Deyrnas Unedig?

Wel, rydym ni'n datblygu cwricwlwm newydd i Gymru, ac un o bedwar diben y cwricwlwm newydd yw bod pobl ifanc yn gadael addysg fel dinasyddion moesegol a gwybodus sy'n gallu deall ac arfer eu cyfrifoldebau a'u hawliau dynol a democrataidd. Wrth gwrs, bydd gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd yn rhan bwysig o'r cwricwlwm, oherwydd rydym ni'n gwybod bod addysg yn ymwneud â chymwysterau, ydy, ond mae'n ymwneud hefyd â datblygu'r unigolyn cyfan a gwybodaeth yr unigolyn cyfan am y gymdeithas o'i gwmpas.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Trown nawr at arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, sydd gyntaf heddiw.

Diolch yn fawr iawn. Prif Weinidog, mae'r cyfryngau wedi adrodd heddiw fod o leiaf 271 o gleifion iechyd meddwl agored iawn i niwed wedi marw dros y chwe blynedd diwethaf yn dilyn methiannau yng ngofal y GIG, a bod 136 o gyrff y GIG wedi cael rhybuddion cyfreithiol gan grwneriaid. Fel sy'n aml yn wir, mae'r adroddiad yn cyfeirio at gleifion yng Nghymru a Lloegr. A allwch chi ddweud wrthym pa un a oes unrhyw gorff GIG yng Nghymru wedi bod yn destun rhybudd cyfreithiol gan grwneriaid ynghylch marwolaeth claf iechyd meddwl?

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw un, ond byddaf yn ysgrifennu at arweinydd Plaid Cymru gyda mwy o wybodaeth am hynny.

Iawn, diolch am hynny.

Bu llawer o alwadau am ymchwiliad i'r marwolaethau hyn, gan gynnwys galwadau gan eich plaid eich hun. Nawr, rydym ni'n gwybod y bu methiannau ym maes gofal iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym ni i gyd yn gallu cofio sgandal Tawel Fan. Felly, nid wyf yn credu bod unrhyw le i laesu dwylo o ran y cwestiwn hwn. Mae cyfraddau hunanladdiad yn uwch yng Nghymru nag y maen nhw yn yr Alban a Lloegr, ac eto rydym ni hefyd yn gwybod bod lleiafrif o bobl sy'n colli eu bywydau wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn cyn eu marwolaeth. Mae hyn yn awgrymu nad yw anghenion iechyd meddwl pawb, ond pobl ifanc yn enwedig o bosibl, yn cael eu diwallu. A all ein gwasanaethau cyhoeddus fod yn fwy rhagweithiol o ran nodi a chynorthwyo pobl sy'n dioddef argyfyngau iechyd meddwl i gael cymorth yn gynharach, ac a oes gennych chi broblem mynediad gyda'ch gwasanaethau iechyd meddwl?

Rwy'n credu bod problemau gyda rhannau penodol o'r boblogaeth nad ydynt yn cael gafael ar wasanaethau, sydd ddim eisiau neu ddim yn cydnabod y gallai fod ganddyn nhw symptomau sy'n awgrymu cyflwr iechyd meddwl negyddol. Wrth gwrs, drwy'r ysgolion, mae gennym ni system gymorth erbyn hyn sy'n helpu pobl ifanc, a byddem yn annog meddygon teulu, gan eu bod nhw'n siarad â phobl sy'n dod i'w gweld gydag anhwylderau corfforol efallai, i geisio canfod pa un a oes rhywbeth dyfnach sy'n effeithio ar gyflwr iechyd cyffredinol rhywun.

Rwy'n credu y gallwch chi wneud llawer mwy na hynny, Prif Weinidog. Rydym ni'n gwybod bod 10 mlynedd ar gyfartaledd yn mynd heibio rhwng yr adeg y bydd plant a phobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl yn mynd yn sâl gyntaf a'r adeg y byddant yn cael cymorth. A bydd gan lawer ohonom ni yma yn yr ystafell hon, rwy'n siŵr, waith achos cleifion sydd wedi gorfod brwydro i gael unrhyw gymorth o gwbl.

Nawr, mae gen i reswm i gredu y bydd nifer y bobl a gedwir gan yr heddlu o dan adran 136 i sicrhau eu diogelwch eu hunain, a fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan, wedi cynyddu'n aruthrol. Fe'm hysbyswyd hefyd, gan nad ystyrir bod rhai cleifion mewn perygl uniongyrchol, er iddynt gael eu cadw o dan y gyfraith, y gallant fod yn aros diwrnodau am gael eu trosglwyddo. Mae capasiti'r gwasanaeth yn amlwg yn annigonol i ymdrin ag argyfwng, ac mae'n rhaid i leihau'r defnydd o adran 136 fod yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth chi erbyn hyn.

Byddaf yn dychwelyd at y mater hwn pan fydd y ffigurau hynny'n cael eu cyhoeddi, ond oni fyddech chi'n cytuno â mi nawr ei bod hi'n amser da i gael ymchwiliad ehangach i'n system iechyd meddwl brys i nodi'r methiannau hyn? Onid yw'n amser rhoi'r gorau i esgus bod popeth yn iawn, pan fod y ffigurau hyn yn dangos yn eglur nad yw popeth yn iawn?

13:45

Mae'n bwysig i ni aros i weld beth mae'r ffigurau hynny yn ei ddangos mewn gwirionedd, ac yna, ar sail yr hyn a welwn, gweld pa gamau sydd angen eu cymryd. O ran iechyd meddwl yng Nghymru, rydym ni wedi gweld y ddarpariaeth i blant a phobl ifanc yn gwella'n sylweddol gyda'r arian ychwanegol—£8 miliwn, os cofiaf—a aeth i mewn i'r gwasanaethau hynny, ac, wrth gwrs, yr hyn sy'n cael ei wneud mewn ysgolion i gynorthwyo pobl ifanc hefyd. Mae hi'n sôn am y ffigurau nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto. Rwy'n credu ei bod yn bwysig aros tan i'r ffigurau hynny gael eu cyhoeddi ac yna gwneud asesiad o beth arall sydd angen ei wneud i ostwng y ffigur—y rheini sy'n destun gorchmynion adran 136 ac, wrth gwrs, y rheini sydd, yn drasig, yn lladd eu hunain.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, ymunaf â chi yn eich sylwadau yn gynharach, wrth ateb cwestiwn 1, ar ymdrechion arwrol y gwasanaethau brys a phawb yn ystod y tywydd gaeafol a gawsom ddydd Iau diwethaf. Bu rhai hanesion arwrol, ond rhai calonogol hefyd. Ond hefyd, hanfod hyn yw'r ffaith mai'r hyn y mae awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yn ei wynebu ar ôl cwblhau'r gwaith glanhau yw bil ariannol braidd yn fawr a fydd yn cyrraedd adrannau trysoryddion ar hyd a lled awdurdodau lleol ledled Cymru. Pa drafodaethau, os o gwbl, ar yr adeg gynnar iawn hon, mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda chyrff sector cyhoeddus—byrddau iechyd ac awdurdodau lleol—i'w helpu i dalu'r bil ariannol hwn, nad oeddent yn ei ddisgwyl mor hwyr â hyn yn y gaeaf?

Cafwyd trafodaethau gydag awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, rydym ni wedi gofyn i awdurdodau lleol roi syniad o beth allai'r pwysau ychwanegol fod fel y gallwn ddeall y sefyllfa yn well.

Rwy'n deall felly y bydd cymorth gan Lywodraeth Cymru yn cael ei roi i awdurdodau lleol, Prif Weinidog, yn enwedig rhai o'r rheini yma yn y de, y mae'n ymddangos y disgynnodd y rhan fwyaf o'r eira arnynt.

Ond hoffwn ofyn cwestiwn i chi am y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, yr edrychodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus arno ddoe ac y mae'r archwilydd cyffredinol wedi amlygu ei fod yn werth arbennig o wael am arian am y bunt Gymreig. Pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, dywedodd Ysgrifennydd cyllid Llywodraeth Cymru ar y pryd bod hwn yn mynd i fod yn fodel cydweithredol i gyflawni arbedion o ran caffael cyhoeddus—mae gwerth £4 biliwn o gaffael cyhoeddus yn digwydd yma yng Nghymru. Bwriad y swm cychwynnol a ddyrannwyd oedd ceisio arbed arian—gwerth tua £1 biliwn o gaffael cyhoeddus ar gostau trydan a chostau eraill a delir. Ystyriwyd ei bod yn

ffordd Gymreig iawn o ddiwallu anghenion busnes Cymru ond hefyd gwerth am arian am y bunt Gymreig.

Wel, mae'n ymddangos ei fod wedi methu ei dargedau ar bob agwedd bron. Beth ydych chi'n ei wneud, Prif Weinidog, fel Llywodraeth, i naill ai wneud i'r system hon weithio'n well neu ei diwygio'n llwyr fel y gallwn ni gael gwell gwerth am y bunt Gymreig?

Yn gyntaf oll, mae'n rhaid dweud nad yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi colli arian. Nid yw wedi cyrraedd y pwynt eto lle y gall dalu amdano ei hun o gyfraniadau ardoll, ond mae'r gwasanaeth ar y trywydd iawn i sicrhau'r gwasanaethau prynu cyhoeddus a ragwelwyd, ac mae hynny oddeutu £40 miliwn hyd yma. Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn eiddo i'r 73 o aelodau ar draws y gwasanaeth cyhoeddus mewn gwirionedd. Caiff ei lywodraethu gan fwrdd dan gadeiryddiaeth annibynnol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o blith yr aelodaeth. Rydym ni wedi cynnal y gwasanaeth ac wedi ei gynorthwyo'n ariannol, ond nid ydym ni'n berchen ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar ein pennau ein hunain.

Gallaf ddweud bod y nifer sy'n manteisio ar fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi cynyddu'n gyson ers iddo ddod yn gwbl weithredol yn 2015, ac mae'n dal i gynyddu. £234 miliwn oedd y ffigur dangosol ar gyfer gwariant yn 2016, cynnydd o dros 50 y cant o'r flwyddyn flaenorol, ac mae hynny'n golygu arbedion dangosol o £14.8 miliwn. Felly, rydym ni'n gwybod bod y gwasanaeth yn tyfu. Ni fyddai'n wir dweud ei fod wedi colli arian, ond nid yw mewn sefyllfa eto lle mae ei gyfraniadau ardoll yn talu ei gostau.

Prif Weinidog, nid yw'n gallu talu'r cyfalaf cychwynnol o £6 miliwn a roesoch chi ar gael iddo, na'i gostau rhedeg blynyddol o £2.5 miliwn. Yn ei flwyddyn gyntaf, llwyddodd i ddenu dim ond £330,000 o arian ardoll, fel yr ydych chi'n ei ddweud. Mae wedi methu bron bob targed a bennwyd ar ei gyfer yn ei flwyddyn gyntaf—mae ym mlwyddyn 3 erbyn hyn. Ar sail unrhyw fesuriad, mae'r hyn a allasai fod wedi bod yn Wasanaeth Caffael Cenedlaethol cyffrous, ac yn cynnig gwerth gwirioneddol yn ôl i'r trethdalwr, wedi methu â chyrraedd ei nodau. Os edrychwch chi ar gaffael Llywodraeth Cymru, dim ond 32 y cant o'i gaffael ei hun sy'n lleol yma yng Nghymru. Yn eich dogfen 'Ffyniant i Bawb', rydych chi'n trafod ad-dalu mwy i gymunedau ar hyd a lled Cymru. Wel, gan ddefnyddio'r gwasanaeth caffael, rydych chi wedi methu yn ystod ei dair blynedd cyntaf. Sut ydych chi'n mynd i gyflawni'r fenter polisi sydd yn eich dogfen 'Ffyniant i Bawb' mewn gwirionedd gan, yn amlwg, ddarparu'r bunt Gymreig honno yn ôl i fusnesau?

13:50

Rydym ni'n ffyddiog bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar y trywydd iawn. Yr hyn y mae angen i'r gwasanaeth ei ystyried yw pa un a ddylid cynyddu'r cyfraniad er mwyn darparu mwy o refeniw i'w hun i dalu'r costau hynny yn y dyfodol. Ond rydym ni'n ffyddiog ei fod ar y trywydd iawn i gyrraedd ei darged ac, fel y dywedais, rydym ni'n credu y byddwn yn bodloni'r arbedion prynu cyhoeddus a ragwelwyd yn rhan o'r targed hwnnw. Yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod tua £40 miliwn wedi cael ei arbed hyd yma drwy'r gwasanaeth caffael.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r holl Aelodau, rwy'n siŵr, yn falch, er i wahanol raddau, o weld y Prif Weinidog yn dychwelyd yn ddiogel o Unol Daleithiau America. Darllenais y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd y bore yma gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn a wnaeth ar ei daith yno, a chefais fy synnu braidd o weld nad oedd unrhyw sôn am unrhyw gyfarfodydd ag aelodau gweinyddiaeth Llywodraeth yr Unol Daleithiau. Ac ar yr union ddiwrnod y cyhoeddodd yr Arlywydd Trump ei fod yn bwriadu cyflwyno tariffau ar ddur o bob rhan o'r byd, roedd y Prif Weinidog yn cyfarfod y sawl a gollodd i'r Arlywydd Trump yn yr etholiad arlywyddol, Hillary Clinton. Oni ddylai fod gan y Prif Weinidog fwy o ddiddordeb mewn chwarae gwleidyddiaeth bŵer na gwleidyddiaeth analluedd?

Nid wyf i'n siŵr a yw arweinydd UKIP yn credu y dylwn i fod wedi torri drws y Tŷ Gwyn i lawr er mwyn mynnu cyfarfod gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau. Nid yw'n gweithio felly, gallaf ei sicrhau. Ond, wrth gwrs, mae mater y tariffau ar ddur yn rhoi twll mawr iawn yn ei safbwynt o'r byd, byd ar ôl Brexit, oherwydd fe'n hysbyswyd ganddo ef a chan eraill bod y ffordd yn agored bellach i ni ddod i gytundeb, cytundeb masnach rydd, gyda'r Unol Daleithiau, ac eto un o'r pethau cyntaf y mae'r Unol Daleithiau wedi ei wneud yw cyflwyno tariffau ar ddur yr ydym ni'n ei allforio i'r Unol Daleithiau. Nid yw'n gam cyfeillgar iawn, yw e'?

Mae'r Prif Weinidog yn gwybod nad yw pryder yr Unol Daleithiau am allforion dur i'r Unol Daleithiau yn ymwneud â Phrydain, oherwydd bu gostyngiad o 11 y cant i gyfanswm a gwerth dur sy'n cael ei allforio o'r DU i'r Unol Daleithiau yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae'r ddadl gyda gwledydd fel Tsieina, sy'n cynhyrchu hanner dur y byd a lle ceir capasiti dros ben enfawr sy'n cyfateb i'r holl ddefnydd o ddur yn yr Unol Daleithiau mewn blwyddyn, a gwledydd fel Fiet-nam a Chanada, sy'n allforio 10 gwaith gymaint o ddur i'r Unol Daleithiau ag yr ydym ni. Mae'r Arlywydd yn poeni am effaith cytundeb masnach rydd Gogledd America gyda Chanada a Mecsico. Rydym ni'n digwydd bod wedi ein dal yng nghysgod hyn i gyd. Mae ymateb yr Undeb Ewropeaidd i gyhoeddiad yr Arlywydd yn debygol o fod yn drychinebus tra ein bod ni yn yr undeb tollau, gan fod y Comisiwn Ewropeaidd yn dweud nawr ei fod eisiau dial trwy gyflwyno tariffau ar geir, efallai, a nwyddau eraill a weithgynhyrchir, a allai gael effaith enfawr ar swyddi gweithwyr Prydain a swyddi gweithwyr yng Nghymru mewn sawl rhan o'r wlad. Pe byddai gennym ni bolisi masnach annibynnol y tu allan i undeb tollau yr UE, efallai y byddem ni'n gallu cytuno ein cytundebau ein hunain gyda gwledydd eraill, yn enwedig yr Unol Daleithiau, sef ein partner masnachu unigol mwyaf heblaw am 27 gwlad yr UE.

Gadewch i mi geisio ei addysgu. Yn gyntaf oll, mae busnesau'r Unol Daleithiau eisiau gweld masnach rydd. Mae cymaint â hynny'n wir. Nid yw Llywodraeth yr Unol Daleithiau eisiau gweld hynny. Dyw hi ddim. Mae'r tariffau dur hyn yn cael eu gosod ar bob gwlad. Efallai ei fod yn iawn wrth ddweud mai Tsieina a gwledydd eraill yw'r prif darged, ond mae hwn yn erfyn di-awch sy'n cael ei ddefnyddio yn erbyn pawb. Does neb wedi dweud yng ngweinyddiaeth yr Unol Daleithiau y bydd y DU wedi ei heithrio mewn rhyw ffordd, neu y bydd yr UE wedi ei eithrio mewn rhyw ffordd. Mae hwn yn dariff yn erbyn pawb. Mae wedyn yn beirniadu'r Undeb Ewropeaidd am awgrymu y bydd dial. Beth mae e'n ei ddisgwyl? A yw e'n dweud pe na byddai'r DU yn yr UE, na fyddai unrhyw gamau gan Lywodraeth y DU? Oherwydd os mai diffiniad o analluedd y mae ef ei eisiau, mae ef newydd ei roi.

Y cwestiwn yw a ddylem ni geisio datrys y problemau hyn trwy ddiplomyddiaeth a siarad synhwyrol a phartïon eraill, neu gymryd rhan yn y math o gwerylgarwch megaffon a glywyd o Frwsel yn y dyddiau diwethaf. Mae materion difrifol iawn yn y fantol yn y fan yma. Mae gwledydd eraill fel yr Almaen a Sbaen yn allforio llawer mwy o ddur i'r Unol Daleithiau nag y mae Prydain. Felly, nid Prydain yw achos y problemau a'r pryderon presennol yn yr Unol Daleithiau. Er ei bod hi'n wir bod y cyhoeddiad a wnaed hyd yma ar sail y ffaith y bydd y tariff hwn yn berthnasol yn gyffredinol ledled y byd, nid yw manylion yr hyn a gynigir wedi eu cyhoeddi eto, wrth gwrs, ac mae'r rheini i'w trafod. Mae ysgrifennydd masnach yr Unol Daleithiau wedi dweud hynny.

Felly, trof yn ôl at y cwestiwn cyntaf a ofynnais i'r Prif Weinidog: onid yw'n credu byddai wedi bod yn synhwyrol agor rhai sianelau cyfathrebu, hyd yn oed os nad oedd ar lefel Arlywydd yr Unol Daleithiau ei hun, sy'n sicr o blaid Prydain—mae'n amlwg o'r pethau y mae wedi eu dweud yn ystod y cyfnod y mae wedi bod yn y swydd—[Torri ar draws.] Wel, gall yr Aelodau chwerthin, ond mae'r Unol Daleithiau yn ddylanwad aruthrol o bwysig ar yr economi yn fyd-eang, ac yn enwedig ar swyddi a bywoliaeth pobl yn y wlad hon. Does bosib na ddylem ni fod eisiau cyd-dynnu cystal ag y gallwn gydag arweinydd y byd rhydd a chydag un o'n partneriaid masnachu pwysicaf.

13:55

Wel, mae'n sôn am gwerylgarwch megaffon heb unrhyw synnwyr o eironi ac yn rho'r bai ar Frwsel am hynny. Mae'n rhaid imi ddweud, y realiti yw bod Llywodraeth bresennol yr Unol Daleithiau—nid wyf yn credu bod hon yn farn a rennir gan fusnesau'r Unol Daleithiau o gwbl, na'r rheini sy'n buddsoddi yng Nghymru—eisiau cyflwyno tariffau o 24 y cant ar ddur o'r DU. Rwy'n cytuno ag ef; nid y DU yw'r prif darged ar gyfer y tariffau hyn, ond mae'n rhan ohonynt beth bynnag. Nawr, mae Prif Weinidog y DU ei hun wedi siarad â'r Arlywydd, heb unrhyw effaith o gwbl, o ran dileu'r tariffau hyn. Nawr, a yw ef wir yn dweud os bydd yr Unol Daleithiau yn cyflwyno tariffau ar nwyddau sy'n dod i mewn i'r Unol Daleithiau, na ddylai'r DU a'r UE wneud dim byd o gwbl mewn ymateb? Mae gen i ofn nad dyna'r ffordd y mae'r byd yn gweithio.

Byddai'n well gen i weld sefyllfa lle mae gan yr Unol Daleithiau fasnach fwy rhydd gyda'r UE a, thrwy ddiffiniad, y DU, ond efallai nad yw wedi sylwi bod gan yr Unol Daleithiau y Llywodraeth fwyaf ddiffyndollol y bu ganddynt ers degawdau lawer iawn. Nid oes ganddi ddiddordeb mewn cytundebau masnach rydd nad ydynt yn gyfan gwbl o fudd i'r Unol Daleithiau. Pan oeddwn i yn yr Unol Daleithiau, un o'r themâu a ddaeth i'r amlwg oedd bod y trafodaethau NAFTA wedi eu seilio ar yr Unol Daleithiau yn mynnu popeth i'w hun a dim hyblygrwydd cyn belled ag y mae Canada a Mecsico yn y cwestiwn. Ni allwch fod yn Llywodraeth ddiffyndollol ar y naill law ac yna dweud eich bod chi eisiau cael masnach rydd ar y llall. Rwy'n gresynu'n fawr y cyhoeddiad a wnaed gan Arlywydd yr Unol Daleithiau o ran tariffau dur. Efallai y bydd yn cael effaith ar ddiwydiant dur Cymru, ond eistedd yn ôl a gwneud dim yw'r ymateb mwyaf analluog y gellir ei ddychmygu.

Hyrwyddo Masnach Cymru ag Unol Daleithiau America

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo masnach Cymru ag Unol Daleithiau America? OAQ51877

Gwnaf. Cyfeiriaf yr Aelod at fy natganiad ysgrifenedig, a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw.

Aeth y Prif Weinidog i'r Unol Daleithiau i hyrwyddo cytundeb masnach rydd rhwng y DU a'r Unol Daleithiau. Daeth yn ôl yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni ei adael i'r UE. Onid y gwir yw bod ei bolisi o undeb tollau newydd gyda'r UE yn cynnig y gwaethaf o'r ddau fyd, o'r safbwynt na fyddai gennym ni bolisi masnach annibynnol ac eto ni fyddai gennym ni unrhyw ddylanwad a dim pleidlais dros bolisi masnach yr UE? Yn yr un modd â Thwrci, yr UE fyddai'n pennu ein polisi masnach ac ni fyddai gennym unrhyw ddylanwad. Gallai'r Unol Daleithiau neu Rwsia dargedu allforion y DU yn benodol ac ni fyddai gennym unrhyw rym i ymateb. Sut ar y ddaear fyddai hynny o fudd i ni?

Wel, mae maint a màs yn bwysig. Dim ond 60 miliwn yw'r DU. Mae'r UE yn llawer, llawer mwy. Mae'r Unol Daleithiau yn llawer, llawer mwy. Does bosib nad ydym ni mewn sefyllfa well pan fyddwn ni'n gweithio gyda gwledydd eraill i ddatblygu nod cyffredin. Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n synnwyr cyffredin perffaith. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrtho—. Mae'n sôn am yr undeb tollau. Dywedaf unwaith eto yn y Siambr hon: cynigwch ddewis arall gwell yn hytrach nag undeb tollau—nid oes yr un wedi ei gynnig—ac yn ail, dewch o hyd i ateb ar gyfer Iwerddon. Sawl gwaith wyf i wedi ei ddweud? Roeddwn i'n ei ddweud dair blynedd yn ôl yn y Siambr hon, bod Iwerddon wrth wraidd y broblem pan ddaw i gytundeb rhwng y DU a'r UE. Does neb wedi cynnig unrhyw awgrym sy'n cynnwys y posibilrwydd o ffin agored rhwng y gogledd a'r de yn Iwerddon ac eto bod y DU y tu allan i'r undeb tollau, a'r weriniaeth y tu mewn i'r undeb tollau. Byddai hynny'n creu sefyllfa lle byddai smyglo yn rhemp, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Dyna yw'r cwestiwn na chafodd erioed ei ateb yn y refferendwm, ac na chafwyd ateb iddo o hyd ac nad oes datrysiad iddo o hyd, ac eithrio'r datrysiad amlwg, sef aros yn yr undeb tollau.

Yn eich cyfarfod gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Quebec yr wythnos diwethaf, a oeddech chi wedi cael cyfle i drafod y feto sydd ganddyn nhw yn Quebec dros gytundebau masnach rhyngwladol? Rŷch chi, yn eich sylwadau hyd yma, wedi dweud eich bod chi eisiau i Gymru gael dylanwad, ond nid y math o feto sydd gan daleithiau yng Nghanada, er enghraifft, ac, a dweud y gwir, ranbarthau Ewropeaidd fel Fflandrys a Wallonie hefyd. A ydych chi wedi newid eich barn yn sgil yr ymweliad?

14:00

Wel, gwnaethom ni ddim ei godi fe yn ystod y trafodaethau. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Quebec yn Llywodraeth sydd yn credu yn undod Canada, ond nid ydyn nhw’n gweld hyn fel unrhyw fath o broblem. Ond, wrth gwrs, un o’r pethau y gwnes i ei drafod gyda nhw oedd y system o sofraniaeth sydd wedi cael ei rhannu sydd yn bodoli yng Nghanada. Ac mae honno’n system, yn fy marn i, y dylem ni ei hystyried yn y Deyrnas Unedig.

Prif Weinidog, mae arweinydd grŵp UKIP eisoes wedi codi'r mater bod yr Arlywydd Trump wedi trydar am y tariffau masnach ar ddur. Yn wahanol iddo fe, mae gen i a'm hetholwyr—mae llawer ohonynt yn weithwyr dur—bryderon dwys ynghylch cynnwys y trydariad hwnnw a'r goblygiadau sydd ganddo i'r diwydiant dur. A wnewch chi godi fel Llywodraeth gyda Llywodraeth y DU gymaint â phosibl y camau sydd i'w cymryd o fewn y DU i amddiffyn y diwydiant dur oherwydd mae'r gost i ddiwydiant dur y DU yn annerbyniol? Efallai mai 10 y cant sy'n mynd allan i'r Unol Daleithiau oherwydd Tata, ond mae'r 10 y cant hwnnw yn arwain at oblygiadau ariannol mawr i ddur a goblygiadau i Bort Talbot. A wnewch chi felly amddiffyn y diwydiant dur cymaint ag y gallwch a gwneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn gwneud hynny ac yn gweithio gyda'r UE y tro hwn, yn hytrach na'i rwystro, i fynd i'r afael â'r mater hwn?

Yn sicr. Gwn fod llythyr wedi ei anfon gan UK Steel i Lywodraeth y DU yn pwysleisio'r pwynt hwn, gan wneud y pwynt amlwg y bydd unrhyw beth nad oes modd ei allforio yn ceisio dod o hyd i farchnad yn yr UE, a bydd hynny yn anochel yn golygu gostyngiad i bris dur, a bydd hynny'n cael effaith ar holl wneuthurwyr dur Ewrop, gan gynnwys, wrth gwrs, y rhai yng Nghymru.

Rwy'n gresynu'n fawr y cyflwyniad diseremoni o dariffau gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau. Edrychwch, rwyf i wedi dadlau dros dariffau yn y gorffennol yn erbyn dur o Tsieina. Rwyf i wedi ei ddweud yn y Siambr hon. Ond yr holl bwynt yw eich bod chi'n ceisio dewis a dethol i wneud yn siŵr eich bod chi'n amddiffyn eich diwydiannau rhag y cynhyrchion hynny sy'n peri'r risg fwyaf. Nid yw dur Cymru yn achosi perygl i ddur yr Unol Daleithiau. Nid yw'n achosi perygl i ddiogelwch America, nid yw'n achosi perygl i ddiwydiant dur yr Unol Daleithiau gan ein bod ni'n creu cynhyrchion nad ydynt, ar y cyfan, yn cael eu cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau, ac eto mae gennym ni Lywodraeth yr Unol Daleithiau yn ceisio defnyddio'r erfyn di-awch o dariff yn erbyn yr holl nwyddau sy'n dod i mewn i'r Unol Daleithiau, ac mae hwnnw'n bwynt yr ydym ni wedi ei wneud i Lywodraeth y DU, sef bod hynny'n rhywbeth nad yw'n dderbyniol. Er tegwch, mae Llywodraeth y DU wedi derbyn y pwynt hwnnw. Rydym ni'n gwybod bod Prif Weinidog y DU wedi siarad ag Arlywydd yr Unol Daleithiau yn mynegi ei phryder difrifol am yr hyn sy'n cael ei gynnig.

Amseroedd Ymateb Ambiwlansys

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys ledled Cymru? OAQ51837

Rydym ni'n disgwyl i wasanaeth ambiwlans Cymru weithio gyda phartneriaid i ddarparu gwasanaeth ambiwlans wrth gefn digonol i sicrhau bod pob claf sydd angen ymateb brys yn cael hynny mewn amser sy'n gymesur â'i angen clinigol.

Wel, diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond a yw'n teimlo ei bod hi'n annerbyniol y bu'n rhaid i un o'm hetholwyr oedrannus, ar ôl dioddef codwm, aros dros 10 awr i ambiwlans gyrraedd? Roedd hyn cyn y tywydd garw diweddar. Yn ystod y cyfnod hwn, fe'i cynghorwyd gan staff ymateb i beidio â symud rhag ofn iddi waethygu ei hanafiadau. Yn ufudd, gorweddodd ar lawr yr ystafell ymolchi tan i'r ambiwlans gyrraedd. Hoffwn ddweud yn y fan yma fod y gofal a gafodd gan griw'r ambiwlans ar ôl iddyn nhw gyrraedd yn rhagorol ym mhob ffordd. Serch hynny, onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod hi'n gwbl annerbyniol, yng Nghymru yr unfed ganrif ar hugain, bod yn rhaid i glaf aros 10 awr am ymateb ambiwlans?

Mae'n anodd iawn cynnig ateb i'r sefyllfa y mae'r Aelod wedi ei disgrifio gan nad wyf i'n gyfarwydd â'r holl ffeithiau. Fodd bynnag, byddwn yn fwy na pharod i ymchwilio i hyn iddo, pe byddech chi'n ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion, i weld beth ddigwyddodd yn—. Nid oes gen i unrhyw reswm i amau'r hyn y mae'n ei ddweud, wrth gwrs, ond er mwyn i mi roi ateb llawn iddo ac ateb llawn i'w etholwr, pe byddai'n ysgrifennu ataf, byddaf yn rhoi'r ateb hwnnw.

Cwestiwn yn benodol ynglŷn ag amseroedd aros yn ystod y tywydd garw—rydym ni yn ymwybodol o’r straen ychwanegol sydd wedi cael ei roi ar y gwasanaeth ambiwlans oherwydd yr eira. Rydw i wedi clywed un adroddiad arbennig o bryderus ynglŷn ag effaith aros yn hir iawn ar un claf yn arbennig. Nid ydy eira mawr yn rhywbeth sy’n digwydd yn wythnosol, ond nid ydy o chwaith yn rhywbeth cwbl eithriadol. A all y Prif Weinidog ein cyfeirio ni at wybodaeth all roi sicrwydd i ni fod y gwasanaeth ambiwlans yn cynllunio gymaint ag y gall o i allu ymdopi pan ydym ni yn cael sefyllfaoedd o dywydd eithriadol fel y cawsom ni'r wythnos diwethaf?

Fe wnaf i roi peth o’r cefndir ac wedyn mynd ymlaen at beth yn gwmws a ddigwyddodd yn ystod y tywydd garw. Yn gyntaf, roedd yna gynnydd yn nifer y galwadau, fel y byddai Aelodau yn ei ddisgwyl. Roedd yna 103 galwad coch ar ddydd Sul, ac mae hynny amboutu 20 y cant yn fwy nag yn yr wythnos cyn hynny, felly roedd yna fwy o alw, fel y byddai pobl yn ei erfyn. Beth felly a wnaeth y gwasanaeth ambiwlans? Fe wnaethant weithio’n agos gyda byrddau iechyd a phartneriaid yn y gwasanaethau argyfwng, trwy’r gold command, achos dyna’r ffordd y mae hwn yn cael ei ddatrys a’i weithredu, er mwyn sicrhau bod pob adnodd yn cael ei ddefnyddio er mwyn eu helpu nhw. Beth mae hynny’n ei feddwl yn ymarferol? Wel, cerbyd 4x4, a hefyd, wrth gwrs, yr ambiwlans awyr, sef yr hofrennydd, er mwyn eu bod nhw'n gallu mynd at bobl a oedd eisiau cael triniaeth argyfwng yn ystod yr wythnos diwethaf.

Felly, beth sy'n digwydd yw bod yr ymateb yn cael ei weithredu trwy'r gold command er mwyn sicrhau bod pob gwasanaeth argyfwng ar gael i helpu ei gilydd ac, wrth gwrs, i helpu'r cyhoedd.

14:05

Diolch. Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i'n gwrando ar ddiwedd y cyfieithiad, a oedd ychydig y tu ôl i chi. Cwestiwn 5, Mike Hedges.

Prifysgolion fel Gyrwyr Economaidd

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl prifysgolion yng Nghymru fel gyrwyr economaidd? OAQ51829

Trwy eu gweithgareddau addysgu ac ymchwil, mae prifysgolion Cymru yn cyfrannu at ffyniant a llesiant ehangach Cymru, yn codi proffil y wlad yn rhyngwladol ac yn denu buddsoddiad. Ac, wrth gwrs, mae ganddyn nhw ran bwysig i'w chwarae o ran darparu ein cynllun gweithredu economaidd.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Ledled Ewrop, Gogledd America a rhannau o Loegr, mae prifysgolion yn gweithredu fel ysgogwyr pwysig o ddatblygiad economaidd ac nid yn unig fel cyflogwyr mawr. Er enghraifft, ceir Canolfan Entrepreneuriaeth ac Arloesedd Mannheim yn Mannheim ac mae'n cynnig llwyfan sylfaenydd a deori i fyfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr. Mae gan Aarhus, fel Caergrawnt, barc ymchwil sy'n meithrin arloesedd a chyflogaeth. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynigion i efelychu'r ddwy ddinas Ewropeaidd lwyddiannus hynny yn nwy ddinas-ranbarth Cymru?

Wel, byddwn yn dadlau, wrth gwrs, eu bod ar waith eisoes, i raddau helaeth, ac yn cael eu datblygu. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar ddatblygiad parc gwyddoniaeth Menai o amgylch Prifysgol Bangor, mae'n un enghraifft o gydweithio rhwng y Llywodraeth, diwydiant a Phrifysgol Bangor ei hun. Enghreifftiau eraill? Wel, ail gampws arloesedd Prifysgol Abertawe, wrth gwrs—un o'r datblygiadau economi gwybodaeth mwyaf yn y DU, sydd, mi wn, cyn i'r Aelod dros Aberafan dynnu fy sylw at y ffaith, yn ei etholaeth ef, ond serch hynny, wrth gwrs, mae'n ysgogwr pwysig i etholaethau cyfagos a thu hwnt.

Mae gennym ni ardal arloesedd SA1 y Drindod Dewi Sant ac amcangyfrifir y bydd honno'n cyfrannu mwy na £3 biliwn at yr economi ranbarthol dros y 10 mlynedd nesaf. Mae gennym ni SPECIFIC sydd wedi ei leoli, wrth gwrs, ym Mhrifysgol Abertawe, gan gydweithio gyda Tata Steel, gyda NSG Pilkington ac AkzoNobel, ac mae hwnnw'n canolbwyntio ar gynhyrchu, storio a rhyddhau ynni sy'n gysylltiedig ag adeiladau, ac, wrth gwrs, yn fwy eang, seilwaith clwstwr lled-ddargludo cyfansawdd rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE a champws arloesedd a menter Aberystwyth. Felly, rydym ni'n gweld nawr y datblygiad o arloesedd mewn nifer o brifysgolion ac—yr enghraifft yr wyf i wedi ei rhoi ym Mangor—parciau gwyddoniaeth er mwyn troi eiddo deallusol ac ymchwil i mewn i swyddi.

Diwygio Llywodraeth Lleol

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol? OAQ51870

Mae’r dull gweithredu o ran cryfhau llywodraeth leol yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Caiff cynigion eu hamlinellu maes o law.

Diolch yn fawr. Yn fan hyn, yr wythnos diwethaf, fe gadarnhaodd eich Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol na fydd yn cario ymlaen efo'r cynigion cynharaf i ranbartholi, a hynny ar sail fandadol, ac felly, i bob pwrpas, mae cynigion ei ragflaenydd yn mynd i'r bin, hyd y gwelaf i. A oes cytundeb yn eich Cabinet chi am y newid cyfeiriad sylfaenol yma?

Wel, nid yw'r sefyllfa wedi newid ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Beth mae pawb yn derbyn, wrth gwrs, rwy'n siŵr, yw bod yn rhaid ystyried y ffordd y mae llywodraeth leol yn gweithio. Nid oes neb yn dadlau bod y system bresennol yn un sy'n gweithio'n dda, ac, wrth gwrs, rŷm ni'n moyn gweithio gyda phleidiau eraill er mwyn sicrhau bod y strwythur yn fwy cynaliadwy yn y pen draw.

Rheoleiddio Cwmnïau Rheoli Ystadau

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau ar ystadau tai sydd heb eu mabwysiadu? OAQ51876

Gwnaf. Mae hwn yn un o'r meysydd y bydd y Gweinidog dros Dai ac Adfywio yn eu hystyried yn rhan o adolygiad ehangach o faterion lesddaliad a ffioedd gwasanaeth.

Hoffwn achub ar y cyfle i ganmol y Gweinidog dros Dai ac Adfywio am y gwaith a wnaed i sicrhau bod y contract lesddaliad cyn lleied â phosibl. Ceir un maes lle mae gan lesddeiliaid fwy o hawliau na rhydd-ddeiliaid mewn gwirionedd, sef lle gall lesddeiliaid herio'r hyn y maen nhw'n ei ystyried yn ffioedd gwasanaeth afresymol gan gwmnïau rheoli ystadau. Mae hawliau rhydd-ddeiliaid yn hyn o beth yn llawer mwy cyfyngedig. Yn wir, pan anfonodd etholwr sy'n rhydd-ddeiliad yn fy etholaeth i e-bost at gwmni rheoli ystadau i wneud cwyn, cafodd e-bost yn ôl gan gyfarwyddwr cwmni y cwmni rheoli ystadau gyda'r ateb sarhaus 'get a life'.

Rwy'n cyflwyno cynnig deddfwriaethol Aelod yn y Siambr hon yr wythnos nesaf i wella'r broses o reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau ac i gryfhau hawliau rhydd-ddeiliad. Nid wyf yn disgwyl i'r Prif Weinidog ymrwymo Llywodraeth Cymru i'w gefnogi nawr, ond a fyddai'r Prif Weinidog yn fodlon cyfarfod â mi a'r Gweinidog Tai ac Adfywio i drafod hyn cyn yr wythnos nesaf?

14:10

Ie, mae'r mater y mae'n ei godi yn un pwysig, oherwydd, yn gynyddol, yr hyn yr wyf i'n ei weld yw bod ystadau tai newydd yn cael eu hadeiladu ac yn hytrach na'r awdurdod lleol yn mabwysiadu nid yn unig y ffyrdd ond yr amgylchedd, mae ffi gwasanaeth yn cael ei chodi ar yr holl drigolion, er eu bod yn berchen ar eu tai fel rhydd-ddaliad, y mae'n rhaid iddyn nhw ei thalu. Nawr, nid yw'n eglur, wrth gwrs, pa fecanweithiau cyflafareddu sydd ar waith i wneud yn siŵr bod y swm a delir yn rhesymol. Bydd rhai datblygwyr yn cynnwys yn y contract gwerthu y bydd cynnydd penodol i'r lefel a bennir bob ychydig o flynyddoedd, ond nid yw hwnnw'n arfer cyffredinol. Felly, rwy'n credu bod yr Aelod wedi nodi pwynt pwysig yn y fan yma. Fel rheol, rydym ni'n tybio bod gan rydd-ddeiliaid fwy o hawliau na lesddeiliaid, ond mae hwn yn un maes lle nad yw hynny'n digwydd. Os ydym ni'n mynd i weld sefyllfa yn y dyfodol lle mae mwy a mwy o ddatblygwyr tai yn datblygu tai ar y sail eu bod nhw'n dweud wrth awdurdodau lleol, 'Edrychwch, nid oes unrhyw gost i chi', yna mae'r mater yn fwy difrifol, a byddwn yn fwy na hapus, wrth gwrs, i drafodaethau gael eu cynnal ag ef i weld sut y gellir bwrw ymlaen â hyn.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru? OAQ51874

Rydym ni'n symud ymlaen â'n gweledigaeth uchelgeisiol i ail-lunio seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau bws lleol, ar ôl eu datganoli, gwasanaethau rheilffyrdd trwy fasnachfraint nesaf Cymru a'r gororau, ac, wrth gwrs, prosiectau metro y de-ddwyrain a'r gogledd.

Diolch. Prif Weinidog, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r A55 wedi bod ar gau 55 o weithiau erbyn hyn. Mae hynny, wrth gwrs, yn arwain at oediadau enfawr i'n gwasanaethau bysiau, ein cymudwyr ac, yn gyffredinol, mae'n cael effaith wirioneddol ar fusnes, ein diwydiant twristiaeth a phopeth. A allwch chi roi diweddariad ar y gwaith i ddilyn astudiaeth cydnerthedd yr A55 a chadarnhau faint o'r enillion cyflym a nodwyd fydd yn cael eu cyflawni gan eich Llywodraeth?

Yn gyntaf oll, adeiladwyd yr A55 i safon is na'r safon y byddai'n cael ei hadeiladu nawr. Ond mae hi yno, ac mae'n rhaid i ni ymdrin â hi fel ag y mae hi. Beth allwn ni ei wneud, felly, i wella llif y traffig ar hyd yr A55? Wel, ceir dau brosiect penodol y byddwn yn cyfeirio'r Aelod atynt: yn gyntaf, cael gwared ar y cylchfannau yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, o ran y cam dylunio. Bydd hynny'n helpu i symud traffig yn gyflymach. Ac, wrth gwrs, y gwaith sy'n cael ei wneud i ystyried trydedd croesfan dros y Fenai a fyddai'n troi'r A55 yn ffordd ddeuol go iawn, yn hytrach na bod ag un rhan lle mae wedi ei chyfyngu i un lôn i'r ddau gyfeiriad.

Datganoli'r System Cyfiawnder Troseddol

9. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru? OAQ51873

Cyflwynwyd dull cydlynol gennym yng nghyd-destun Bil Cymru, ond ni dderbyniwyd y dadleuon hynny gan Lywodraeth y DU. Dyna pam yr wyf i wedi sefydlu'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i gynnig barn arbenigol, annibynnol a hirdymor.

Diolch am yr ateb yna. Fel y dywedwch, mae'r system cyfiawnder troseddol yn fwy nag un darn yn unig; ceir gwahanol elfennau iddi, a'r gwasanaeth carchardai yw un o'r elfennau hynny, ac mae hynny'n rhywbeth a ddylai gael ei ddatganoli i Gymru yn fy marn i.

Y casgliad o'r gwaith ymchwil i faint carchardai yw bod gwell canlyniadau mewn carchardai llai na rhai mwy o faint, i garcharorion ac i gymunedau. Yn aml iawn, mae carchardai bach yn cael eu rhedeg yn fwy effeithiol, mae ganddynt lefelau is o drais, gwell perthynas rhwng y staff a'r carcharorion, mwy o bwyslais ar adsefydlu ac yn hwyluso cyswllt rhwng carcharorion a'u teuluoedd yn well. Mewn geiriau eraill, maen nhw'n well na'r carchardai mwy ym mhob ffordd. Ac mae hynny'n cael ei gefnogi gan y profiadau yr ydym ni'n eu gweld yng Ngharchar Ei Mawrhydi Berwyn ar hyn o bryd, a agorodd y llynedd, fel y gwyddoch, yn Wrecsam. Mae wedi wynebu problemau sylweddol, er gwaethaf y ffaith ei fod yn dal llai na hanner y carcharorion a ddylai fod yno ar hyn o bryd: 15 o danau, nid oes modd defnyddio 46 o gelloedd oherwydd difrod, a chafwyd tair galwad i'r grŵp ymateb tactegol cenedlaethol. Yn amlwg, nid yw uwch-garchardai yn gweithio. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi nad oes gan uwch-garchardai unrhyw ddyfodol yng Nghymru ac y dylai'r cynigion gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer yr un ym Maglan gael eu tynnu'n ôl ac y dylid defnyddio'r tir ar gyfer twf economaidd gwirioneddol, yn union fel y mae'r cyfamod arno yn ei ddweud?

Wel, mae safbwyntiau'r Aelod ar hyn wedi bod yn gryf iawn, ac mae'n fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond byddaf yn ceisio ateb rhai o'r cwestiynau y mae'n eu gofyn. Pan agorwyd carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn y ward gyngor yr oeddwn i'n ei chynrychioli, nid oedd yn gweithio'n dda. Ni weithiodd yn dda am yr ychydig flynyddoedd cyntaf. Cafwyd nifer o ddigwyddiadau difrifol yn y carchar. Roedd y carchar yn newid llywodraethwr yn arbennig o aml. Llwyddodd un carcharor i ddianc trwy hongian o dan lori ac ni ddaethpwyd o hyd iddo byth, a bu'n rhaid dod â staff o Abertawe a Chaerdydd i mewn i ymdrin ag anniddigrwydd yn y carchar. Mae hynny'n rhywbeth, yn amlwg, nad oes neb eisiau ei weld. Ond mae e'n codi pwynt pwysig, sef hwn: os byddwn ni'n cyrraedd y pwynt lle'r ydym ni'n ystyried datganoli cyfiawnder troseddol, yna mae angen i ni ddatblygu polisi cosbi i Gymru. Rwyf i wedi dadlau erioed y gallwch chi ddatganoli'r heddlu ar wahân, ond os cymerwch chi'r llysoedd, yna mae gennych chi'r gwasanaeth prawf, mae gennych chi'r gwasanaeth carchardai, mae gennych chi bolisi dedfrydu, Gwasanaeth Erlyn y Goron—mae'r cwbl yn gysylltiedig â'i gilydd; mae'r cwbl yn rhan o'r system gyfiawnder. Mae'n amser, rwy'n credu, fel y mae ef yn ei nodi'n briodol, i ni ddechrau'r ddadl ar sut y gallai polisi cosbi Cymru edrych os bydd cyfiawnder troseddol yn cael ei ddatganoli. Mae'n dadlau'r achos dros garchardai llai. Nid oes gen i unrhyw reswm i amau'r hyn y mae'n ei gynnig, ond rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig ei fod wedi cychwyn trafodaeth ar sut y byddai polisi Cymru yn edrych pe byddai cyfiawnder troseddol yn cael ei ddatganoli.

14:15
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 2 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

Rwy'n galw am un datganiad gan Lywodraeth Cymru, gobeithio gan yr Ysgrifennydd iechyd, ar sganio MRI amlbarametrig—neu mp—ar gyfer cleifion GIG Cymru y mae amheuaeth bod canser y brostad arnynt. Pan ysgrifennais at yr Ysgrifennydd iechyd ynghylch y mater hwn, ysgrifennodd yn ôl ataf yr wythnos diwethaf yn dweud nad yw'r canllawiau presennol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal—neu NICE—yn argymell mpMRI cyn biopsi, ac nad oes unrhyw gonsensws clinigol ar y cynllun gorau posibl ar gyfer llwybr canser y brostad sy'n cynnwys hyn.

Pan ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru ato, yn croesawu ei ymrwymiad i ddisgwyl bod byrddau iechyd yn adolygu eu llwybrau diagnostig i ymgorffori'r sganiau hyn, pe byddai NICE yn argymell hynny mewn canllawiau diwygiedig ar ôl mis Ebrill 2019, mynegwyd pryder hefyd y byddai hyn yn rhy hwyr, y bydd cleifion yn y gogledd yn parhau i gael eu gadael ar ôl, ac mae eu trafodaethau â niwrolegwyr yn y gogledd yn awgrymu bod angen inni ddatblygu'r gwasanaeth yn awr er mwyn paratoi ar gyfer achrediad NICE. Yr ateb y tro hwn oedd,

'Pan fydd y manteision clinigol wedi eu hasesu, ac os caiff y canllawiau eu diweddaru, byddwn i'n disgwyl i fyrddau iechyd adolygu eu llwybrau diagnostig.'

Fodd bynnag, mae'r canllawiau presennol yn dweud bod y blaenoriaethau gweithredu allweddol o ran diagnosis a rheoli canser y brostad, gan NICE, yn cynnwys:

'Ystyried MRI amlbarametrig...ar gyfer dynion â biopsi craidd 10-12 uwchsain trawsrectol negyddol i benderfynu ar ba un a oes angen biopsi arall.'

Wel, ddydd Gwener diwethaf, cwrddais i ag etholwyr—cleifion—sydd wedi gorfod gwario symiau mawr o arian ar ôl i ymgynghorydd yn Wrecsam ddilyn y canllawiau hynny, ond nid oedd y GIG yn y gogledd yn fodlon ariannu'r sganiau hanfodol a gawsant dros y ffin yn Lloegr, yn y pen draw. Dywedodd un wrthyf ei fod wedi gwario £1,020. Dywedodd wrthyf hefyd fod y sganiau hyn fwy na ddwywaith yn fwy cywir na'r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd. Roedd y gŵr bonheddig hwnnw o Sir y Fflint. Dywedodd un arall wrthyf—gŵr bonheddig o Langollen—mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn oherwydd mai nhw roddodd y Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig, a'i fod yn un o naw o ddynion o'r gogledd sydd wedi gorfod talu am hyn er ei fod ar gael yn Lloegr ac yn y de. Maen nhw eisiau cwrdd â'r Gweinidog. Maen nhw'n dweud eu bod eisiau iddo dderbyn y dylai'r un peth fod yn digwydd yn y gogledd, ac maen nhw'n gofyn pam nad yw pobl fel fe yn cael eu had-dalu pan fu'n rhaid iddyn nhw dalu eu hunain am y weithdrefn hon a allai achub eu bywydau.

Nid yw'n ddigon da aros tan 2019, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae bywydau'r dynion hyn mewn perygl. Mae ar gael mewn rhannau o Gymru. Rydych chi'n dweud eich bod chi'n credu mewn un GIG Cymru. Wel, cyflawnwch ar hynny nawr os gwelwch yn dda.

Wel, nid wyf yn gwbl sicr beth yw'r cwestiwn a ofynnwyd i mi, ond roedd Ysgrifennydd y Cabinet yma i wrando ar lwyth achosion etholaeth yr Aelod, ac mae'n amlwg yn cyfathrebu ag Ysgrifennydd y Cabinet, a bydd hynny, rwy'n tybio, yn parhau.

A gaf i ddweud hyn wrth y rheolwr busnes? Rwy'n nodi o'r datganiad busnes nad yw'r Llywodraeth wedi datgan pryd y bydd yn gwneud datganiad ac yn cyhoeddi adroddiad ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr o ran deunydd pecynnu ac ailgylchu, a addawyd gan y Prif Weinidog ym mis Chwefror. Felly, a wnaiff y rheolwr busnes gadarnhau pryd y bydd hyn yn digwydd?

Ddoe es i gyda Kirsty Williams i ymweld â Natural Weigh yng Nghrucywel, sef y siop ddiwastraff gyntaf yng Nghymru a menter breifat a groesewir yn fawr. Ond mae'n annhebygol y bydd siopau fel Natural Weigh yn llwyddo oherwydd caiff yr archfarchnadoedd becynnu yr hyn maen nhw eisiau ei werthu i ni ym mha fodd bynnag maen nhw'n dymuno ei wneud ar hyn o bryd, a'r trethdalwr sy'n talu am ei ailgylchu, gobeithio, ond mewn llawer o achosion, wrth gwrs, nid yw'n cael ei ailgylchu, mae'n mynd yn hytrach i'r gwastraff cyffredinol. Felly, mae'r adroddiad allweddol ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr yn datgloi rhan o'r gallu i siopau fel Natural Weigh yng Nghrucywel bellach i wneud eu ffordd a llwyddo, ac wrth gwrs rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw.

Yn ail, a gaf i ofyn am ddadl amserol ar y problemau difrifol a gafwyd gyda'r gwasanaeth rheilffordd rhwng y de a'r gogledd yr wythnos diwethaf? Fe wnaeth y tywydd garw iawn, a fyddai wedi arwain at ganslo'r gwasanaeth beth bynnag, rwy'n cyfaddef, guddio, mewn gwirionedd, yn fy marn i, y methiant cynnal a chadw mwyaf difrifol ar fasnachfraint Cymru a'r Gororau y gallaf i ei gofio yn sicr. Ddydd Mawrth diwethaf canfuwyd nam ar olwyn trên, a arweiniodd erbyn diwedd y dydd at dynnu 27 o unedau trên yn ôl ac atal y gwasanaeth o'r de i Fanceinion, sy'n gyswllt hanfodol ar gyfer y rhai hynny sy'n teithio o'r gogledd a'r canolbarth, ac i'r gwrthwyneb, wrth gwrs. Cymerodd tan ddydd Llun yr wythnos hon—chwe diwrnod cyfan yn ddiweddarach—i ddatrys hyn. Mae'n ymddangos bod nam ar y cledrau ym Maendy, Casnewydd yn niweidio olwynion y trenau.

Nawr, wrth feddwl am y peth, mae hyn mewn gwirionedd yn gwbl warthus. A allwch chi ddychmygu'r ymateb pe byddai prif reilffordd arfordir dwyrain Lloegr yn methu â gweithredu am chwe diwrnod? Nid wyf yn gwybod pwy sy'n gyfrifol, er, gan mai nam ar y cledrau ydoedd, mae gan Network Rail lawer o waith esbonio i'w wneud. Rwyf yn gwybod, fodd bynnag, ei bod yn gywilyddus bod yn rhaid i ni ddioddef gwasanaeth mor eilradd mewn economi fodern.

Dyma'r pris yr ydym yn ei dalu am y tanfuddsoddiad echrydus yn ein seilwaith rheilffyrdd, sy'n £1 biliwn o leiaf ar hyn o bryd. Dyma sy'n digwydd pan fo gennych 5 y cant o'r seilwaith rheilffyrdd ond 1.5 y cant o'r buddsoddiad. Ac wrth i ni weld buddsoddiadau enfawr yn Crossrail a rheilffyrdd cyflym yn Lloegr, mae gennym ni reilffordd sydd, mewn gwirionedd, yn niweidio trenau ac yn arwain at atal y gwasanaeth am wythnos. Mae'n sefyllfa warthus, felly a gawn ni gyfle yn fuan iawn am ddadl ar y materion hyn? Rwy'n gwerthfawrogi bod datganiadau wedi'u hysgrifennu gan Ysgrifennydd y Cabinet, ond os cawn ni ddadl ar y materion hyn, gallwn ni hefyd archwilio'r goblygiadau posibl ar gyfer y fasnachfraint newydd, er nad yw proffil y buddsoddiad ariannol ar gael yn gyhoeddus eto hyd y gwn i. Efallai y gallem ni hefyd geisio atebion o ran pa iawndal a allai fod ar gael.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ar bwnc gwahanol iawn, a gaf i ddweud y gofynnwyd i mi arwain cyfarfod o bobl Gwrdaidd sy'n byw yng Nghymru yr wythnos diwethaf, a oedd yn canolbwyntio ar ymosodiad Twrci yn Afrin a'r cyffiniau yng ngogledd Syria? Roedd ganddynt straeon dirdynnol a grymus iawn ac, fel dinasyddion Cymru, mae'n iawn ein bod yn clywed eu hanesion a'u profiadau yn ein Senedd. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gyfleu eu pryderon fel dinasyddion Cymru yn uniongyrchol i awdurdodau'r DU a gwneud datganiad ar hynny i'r Cynulliad? Mae'n atgas gweld cynghreiriad NATO yn ymosod ar ein cynghreiriaid yn erbyn Isis, a'r rhai hynny sy'n gweithio ar ran democratiaeth seciwlar yn Syria ac Irac, sy'n flodyn bregus iawn yn wir. Byddai'n dda i Lywodraeth Cymru godi llais dros ein dinasyddion Cymru o Kurdistan.

14:20

Mae'r Aelod yn codi tri phwynt pwysig a gwahanol iawn. Ynghylch cyfrifoldebau cynhyrchwyr, mae'r Gweinidog yn arwyddo i mi ei bod hi yn trafod â sefydliadau cynhyrchu yng Nghymru ac y bydd yn cyflwyno datganiad pan fydd y trafodaethau hynny wedi'u cwblhau. Hoffwn i ddweud fy mod i yn rhannu rhwystredigaeth yr Aelod o ran rhai o'r deunyddiau pecynnu gan gynhyrchwyr sydd gennym, ac mewn rhai ffyrdd mae ein ffordd gyfoes, ddigidol o fyw wedi gwaethygu hynny, oherwydd wrth i ni archebu pethau dros y rhyngrwyd maen nhw'n cael eu danfon wedi'u pecynnu mewn modd braidd yn hurt. Maddeuwch imi, Llywydd, am eiliad, archebais i gebl bach ar gyfer fy ffôn—nid wyf am ddweud beth yw gwneuthuriad fy ffôn—a daeth mewn blwch mor fawr â hyn, ac roedd cryn dipyn o ddeunyddiau pecynnu na ellir eu hailgylchu o gwbl ynddo, a byddai hynny wedi bod yn ddealladwy pe byddai'n cynnwys llestr bregus efallai, ond darn o gebl plastig oedd hwn. Rwyf wedi ysgrifennu at y cwmni dan sylw, mewn gwirionedd, yn cwyno, a gyda llawer o ffotograffau i ddweud, 'Beth ar y ddaear oedd diben hyn?' Felly, rwy'n rhannu ei rwystredigaeth, a gwn fod y Gweinidog yn rhannu ei rwystredigaeth hefyd, felly rwy'n sicr y bydd yn cyflwyno'r datganiad hwnnw pan fydd y trafodaethau hynny wedi'u cwblhau.

Mae fy nghyd-Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth yn nodi y byddai ef yn fwy na hapus i gael dadl y Llywodraeth ar destun methiant y gwasanaeth, ac, yn wir, am y fasnachfraint yn ei chyfanrwydd a'n dyheadau, os mynnwch chi, am y math o reolaeth y dylai fod gennym, ac yn wir, galwadau i ddatganoli rhai rhannau o'r rhwydwaith ymhellach. Rwy'n credu bod y gwasanaeth dan sylw yn un o'r meysydd hynny nad wyf i'n hollol sicr pwy sy'n gyfrifol amdanynt. Rwy'n rhannu rhywfaint o'r rhwystredigaeth honno gan fy mod i'n dod o Abertawe ac mae gennym ni broblem y Great Western hefyd. Felly, rwy'n credu ein bod yn dweud y byddai dadl yn amser y Llywodraeth yn ffordd dda iawn o edrych ar rai o'r materion hynny a gweld pa lefel o gonsensws a welir ar draws y Siambr ynglŷn â hynny.

Ac o ran ein dinasyddion Cymreig sydd â chysylltiadau Cwrdaidd, rwyf innau hefyd yn rhannu ei dristwch a gofid ynglŷn â rhai o'r pethau sy'n digwydd. Rwy'n fwy na pharod i fynegi ei bryderon, a phryderon y Siambr hon, i'r Prif Weinidog, ac rwy'n sicr y bydd ef yn gweithredu'n unol â hynny.

14:25

Roedd gen i ddau bwynt yr oeddwn i'n dymuno eu codi gydag arweinydd y tŷ. Rwy'n falch iawn ein bod yn cael dadl unigol yfory ar garchardai ac rwy'n gobeithio defnyddio'r cyfle hwnnw i siarad am fenywod sy'n garcharorion, ond roeddwn i'n awyddus i dynnu sylw arweinydd y tŷ at weithgareddau yr Ymddiriedolaeth Koestler, sef elusen ar gyfer celfyddydau yn y carchar. Yr wythnos hon, rwy'n disgwyl i ddarlun gael ei osod ar wal fy swyddfa sydd wedi'i beintio gan garcharor sy'n fenyw, a'i fwriad yw nodi wythnos Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Felly, roeddwn i'n meddwl bod cymaint o werth i'r fenter hon, a tybed a fyddai'n bosibl rywbryd i gael datganiad ar fentrau fel hyn yng Nghymru sydd, yn ogystal â gwerth cynhenid y darluniau eu hunain, yn ffordd o adsefydlu. Felly, tybed a oes rhywbeth y gallem ni roi ystyriaeth iddo yn hynny o beth.

Yn ail, wythnos yn ôl, daeth llu o fenywod i glwb rygbi yr Eglwys Newydd yn fy etholaeth i. Roedd tagfeydd ar y ffyrdd ac roedd yr ystafell a oedd wedi'i neilltuo dan ei sang. Roedd hyn ar gyfer cyfarfod a drefnwyd gan ein AS, Anna McMorrin, ac anerchiadau gan Carolyn Harris AS a minnau, ac roedd hyn i gyd yn ymwneud â'r dicter llwyr ynghylch beth sydd wedi digwydd i'w pensiynau—y menywod WASPI fel y'u gelwir. Roedd yn ymddangos yn fater o bryder enfawr i gynifer o fenywod, a chymaint o fenywod ledled Cymru, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oedd unrhyw beth o gwbl y gallem ei wneud drwy ein busnes yma yn y Cynulliad i edrych ar y mater hwn ac edrych ar y goblygiadau enfawr y mae'n eu cael ar fenywod wrth iddynt gynllunio eu bywydau, fel a ydynt yn rhoi'r gorau i'w swydd ai peidio, sy'n effeithio ar eu swyddogaeth fel gofalwyr—yr holl bethau sydd yn amharu ar ein cyfrifoldebau datganoledig, er nad yw'r mater ei hun wedi'i ddatganoli wrth gwrs.

Yn wir. Wel, dau bwynt pwysig iawn yn wir. O ran y prosiect celf, rwyf wrth fy modd yn clywed bod darlun yn cael ei osod ar wal ei swyddfa; edrychaf ymlaen at gael golwg arno. Wrth gwrs, nid yw wedi'i ddatganoli i ni, ond mae'n amharu ar lawer o wasanaethau Llywodraeth sydd wedi'u datganoli: cyflogadwyedd, gwasanaethau cymdeithasol, gofal, ac ati. Felly, yr hyn a wnaf yw cael sgwrs ag amryw o gyd-aelodau'r Cabinet i weld beth y gallwn ni ei wneud o ran ymateb trawslywodraethol i hynny, a byddwn i'n fwy na hapus i ddod i edrych ar y darlun a chael trafodaeth bellach â hi ynghylch yr hyn y gellir ei wneud. Mae'n ymddangos fel prosiect da iawn yn wir. Rwy'n siŵr y gallwn ni wneud rhywbeth gydag ef.

O ran y menywod WASPI, fel y'u gelwir, mae'n rhaid imi ddatgan buddiant ar y pwynt hwn, Llywydd, gan ddweud fy mod i mewn gwirionedd yn un o'r menywod WASPI. Rwyf yng ngrŵp oedran y menywod y mae'r symud pensiynau wedi effeithio arnynt. Mae fy un i wedi'i symud saith mlynedd. Ac mae hynny'n iawn os ydych chi'n dal i gael eich cyflogi mewn gwirionedd, ond nid yw'n iawn os nad ydych chi'n dal i fod mewn cyflogaeth, neu os oedd eich cyfrifoldeb teulu cyfan wedi'i seilio ar eich gallu i ymddeol ar adeg benodol mewn amser. Nid yw'r broblem yn ymwneud â'r ffaith nad oes cydraddoldeb i ni yn y pensiwn, sef y cwestiwn a gaiff ei ofyn i ni yn aml. Nid dyna'r broblem. Y broblem yw faint o amser sydd gennych chi i baratoi a chynllunio ar gyfer faint o incwm y bydd gennych. Felly, nid yw'n ymwneud â symud tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau; mae'n ymwneud â pha mor hir oedd gennych i gynllunio ar gyfer hynny a faint y byddech wedi gorfod ei gynilo er mwyn gwneud yn siŵr bod eich cynlluniau yn parhau i fod yn bosibl. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig i wneud y pwynt hwnnw, oherwydd y broblem yn y fan yma yw nad oedd hynny'n ddigon hir i bobl nad ydynt yn ddigon ffodus i aros mewn cyflogaeth ar ôl eu pen-blwydd yn 60 allu paratoi'r cynlluniau hynny. Ac o ganlyniad i hynny, mae nifer fawr iawn o bobl mewn gwirionedd yn dioddef caledi difrifol o ganlyniad i beidio â chael eu pensiwn am y blynyddoedd hynny. Felly, nid yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli, ond mae'n effeithio ar ein gwasanaethau yn fawr iawn, iawn. Gwn fod fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi mynegi a lledaenu ein barn ar yr effaith ar economi Cymru yn gyffredinol. Rwy'n fwy na pharod, fel y Gweinidog cydraddoldeb, i wneud y pwynt hwnnw eto yn rymus i Lywodraeth y DU.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Arweinydd y tŷ, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar gymorth i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan ffordd liniaru arfaethedig yr M4. Mae cwmni gweithgynhyrchu yng Nghasnewydd wedi cysylltu â mi gan ddweud y byddai'n dioddef colled sylweddol i'w fusnes na ellir ei hadennill, yn ogystal â mynd i gostau adleoli, oherwydd gorfod cau ei safle presennol yng Nghasnewydd. Er bod y cwmni hwn wedi bod yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ers 2016, maen nhw'n teimlo rhwystredigaeth fawr ynghylch y diffyg eglurdeb o ran y lefel o gymorth ymarferol ac ariannol y gallant ddisgwyl ei derbyn i'w galluogi i barhau i weithredu yng Nghymru. Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn ichi am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn cyn gynted â phosibl? Diolch.

14:30

Ie. Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dweud y bydd dadl ar lawr y tŷ ynglŷn â'r M4 a'r holl oblygiadau cyn gynted ag y byddwn yn gwybod canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus. Felly, rwy'n siŵr y bydd honno'n agwedd—busnesau a ddadleolir gan y cynigion, pa ganlyniadau bynnag a geir o'r ymchwiliad cyhoeddus, yr wyf yn siŵr y bydd rhan o'r ddadl honno.

Hoffwn ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad Llywodraeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol os yw'n bosibl, ac, yn wir, am arweiniad pellach ar y rhwymedigaethau ar awdurdodau lleol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod y ganolfan hamdden yn ein cymuned ym Mhontllanfraith dan fygythiad o gau. Mae wedi'i harbed ar y funud olaf dros dro oherwydd gwaith caled y bobl leol sy'n ymgyrchu i gadw'r ased hwnnw. Mae yn gwella lles pobl. Y mae wedi cofnodi'r nifer mwyaf o ddefnyddwyr erioed yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond mae'r awdurdod lleol, fel pob un arall, wedi'i ddal yn y sefyllfa hon, oherwydd polisïau cyllidol y wladwriaeth Brydeinig, o ymdrechu'n daer i godi arian, a byddent yn hoffi gwerthu tir y ganolfan hamdden a'i werthu i ddatblygwyr i wneud arian i dalu am wasanaethau. Ac mae cyngor Caerffili bellach yn cynnal adolygiad cyffredinol o hamdden a lles, ac rwy'n credu, yn rhan o'r adolygiad hwnnw, byddai cael mwy o eglurder ynghylch eu rhwymedigaeth o dan y Ddeddf llesiant yn gwella'r adolygiad hwnnw, ac yn datgan eu rhwymedigaethau iddynt yn glir iawn, a, gobeithio, yn arwain at ganlyniad lle gall dinasyddion barhau i fwynhau'r cyfleusterau rhagorol ym Mhontllanfraith ac mewn mannau eraill yn y dyfodol.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'n un o effeithiau enbyd iawn yr agenda cyni yn gyffredinol, ac er bod cynghorau yng Nghymru wedi'u diogelu gan y Llywodraeth hon mewn ffordd na fu'n bosibl i gynghorau yn Lloegr, serch hynny, mae'r agenda cyni yn achosi cryn broblemau. Ac mae'n gwneud hynny fwyaf ar rai o'n cyfleusterau cymunedol agosaf at ein calonnau y mae pobl wedi brwydro'n galed i'w cael. Ac mae hynny'n digwydd ledled Cymru gyfan, ac mae llawer o gynghorau yn wir yn gweld hynny'n anodd. Ac mae'n benbleth wirioneddol rhwng cefnogi gwasanaethau statudol y mae'n rhaid i gynghorau eu cynnal a'r gwasanaethau dewisol fel y'u gelwir, ond rhai sy'n gwbl hanfodol serch hynny, fel y mae'r Aelod yn ei nodi.

Nid ein lle ni yw rhagweld penderfyniadau unigol y gwahanol gynghorau ac ati, ond gwn fod fy nghyd Ysgrifennydd y Cabinet yn trafod yn gyson â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac â chynghorau unigol ynghylch eu dyletswyddau llesiant, ac rwy'n siŵr y byddai'n fwy na pharod i ysgrifennu atynt eto yn mynegi natur strategol trosfwaol eu dyletswyddau o dan y Ddeddf, er y byddwn i'n pwysleisio bod penderfyniadau unigol yn sicr yn fater i'r sefydliad democrataidd lleol.

A allaf ddiolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad, a mynd ar ôl agwedd sydd yn bwysig yn gyfoes rŵan? Mae llygredd awyr yn parhau i fod yn broblem sy'n wynebu llawer o bobl yn fy rhanbarth i, fel rŷch chi'n ymwybodol, yn dod o Abertawe eich hunan. Yn yr Hafod yn Abertawe, yn Nhreforys, a hefyd ym Mhort Talbot, mae llygredd awyr yn achosi afiechyd a marwolaethau dianghenraid. Pan gymerodd ClientEarth y Llywodraeth hon i'r llys, cyfaddefwyd bod diffyg gweithredu'r Llywodraeth ar lygredd aer yn anghyfreithlon. Rydym ni nawr yn disgwyl i gynllun awyr glân i Gymru a'r parthau awyr glân gael eu lansio. A allaf felly ofyn am ddadl a diweddariad cyn gynted ag y bo modd ar y cynllun yma, a hefyd ofyn pryd y gall y Cynulliad ddisgwyl gwybodaeth bellach ar y parthau awyr glân? Diolch yn fawr.

Mae'r Gweinidog yn gwrando ar eich sylwadau, ac rwy'n sicr ei bod yn cytuno â nhw, a bydd hi'n cyflwyno datganiad er mwyn i'r tŷ ei ystyried cyn bo hir. Fodd bynnag, hoffwn i hefyd ddweud bod mater o gydraddoldeb yn y fan yma hefyd yn sicr. Un o'r pethau diddorol, os oes gan Aelodau fynediad at astudiaethau prifysgol ar aer glân, yw, yn Abertawe er enghraifft, bod llawer o'r llygredd o ganlyniad i geir ar lan y môr yn Abertawe, o rannau cyfoethog iawn y ddinas, yn llifo mewn gwirionedd i fyny'r rhiw mewn storm berffaith i rannau tlotach y ddinas ar y brig. Felly, mae'r llygredd a gynhyrchir gan rannau cyfoethog y ddinas yn effeithio fwyaf ar rannau tlotaf y ddinas mewn gwirionedd. Felly, nid wyf yn sicr bod pawb yn hollol ymwybodol o sut yn union y mae llif yr aer yn gweithio yn y ffordd honno, a chymhlethdod rheoli cyflymder traffig amrywiol mewn gwirionedd, er enghraifft, er mwyn lleihau y ffordd y mae llif yr aer hwnnw yn digwydd mewn gwirionedd, o gofio'r amodau hinsoddol arbennig. Ni wnaethom ddioddef yn arbennig o'r eira yn Abertawe dros y penwythnos, ond cawsom wynt difrifol, ac achosodd hynny broblemau llygredd difrifol iawn mewn rhannau o'r ddinas, gan ei fod wedi effeithio ar agweddau penodol ar y ddinas. Ac mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth fynd ar drywydd y mater. A gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r materion hyn, ac y bydd yn rhoi ystyriaeth i hynny pan fydd yn cyflwyno ei datganiad.

14:35
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwerthfawrogi Gweithlu'r GIG

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar werthfawrogi gweithlu'r gwasanaeth iechyd. Ac rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething, i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.

Diolch ichi, Llywydd.

Mae datganiad ynglŷn â gweithlu'r GIG wrth gwrs, yn amserol, yn enwedig o ystyried y tywydd eithriadol dros yr wythnos diwethaf. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ategu'r Prif Weinidog drwy fynegi fy niolch a'm gwerthfawrogiad o ran y ffordd yr ymatebodd gweithwyr y gwasanaeth cyhoeddus yn llywodraeth Leol, y gwasanaeth iechyd gwladol, gwasanaethau brys, y trydydd sector, ac, wrth gwrs, am ymateb y cyhoedd ehangach. Mae'r ymrwymiad anhygoel a ddangoswyd gan staff y GIG a welwyd gan bob un ohonom yn yr ychydig ddyddiau diwethaf yn un enghraifft arall o pam y maent mor fawr eu parch gan y Llywodraeth hon ac, wrth gwrs, gan bobl Cymru.

Rwyf eisiau tynnu sylw at y gwaith sydd eisoes ar y gweill i gefnogi, datblygu ac ehangu'r gweithlu, yn awr ac yn y dyfodol. Rydym yn trafod yn rheolaidd yr heriau recriwtio sy'n wynebu'r gwasanaethau iechyd cenedlaethol. Mae'r heriau yn rhai go iawn, ac, wrth gwrs, rwy'n disgwyl y bydd craffu ar hyn. Fodd bynnag, mae'n ffaith ddiymwad bod dewisiadau ariannol anodd a wnaed gan Lywodraeth bresennol Cymru er gwaethaf wyth mlynedd o gyni dan law Llywodraeth y DU, wedi gweld gweithlu'r GIG yn tyfu i'r mwyaf y bu erioed. Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod gennym y nifer mwyaf erioed o staff yn gweithio yn GIG Cymru. Mae gennym y nifer mwyaf erioed o nyrsys a bydwragedd cymwys, ymgynghorwyr ysbytai a staff y gwasanaeth ambiwlans.

Ac mae'r Llywodraeth hon yn parhau i weithredu'n gadarnhaol, drwy ein menter 'Hyfforddi. Gweithio. Byw', i gynorthwyo sefydliadau'r GIG i hyfforddi a recriwtio'r gweithlu sydd eu hangen arnyn nhw a ninnau. Eisoes mae ein hadenillion ar fuddsoddiad wedi bod yn sylweddol, yn enwedig o ran nifer y meddygon sy'n dewis Cymru ar gyfer ymgymryd â'u hyfforddiant meddyg teulu. Ym mis Mai, byddaf yn Belfast ar gyfer lansio blwyddyn dau yr ymgyrch nyrsio 'Hyfforddi. Gweithio. Byw'. Ac, yn ddiweddarach yn yr haf, bydd 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn ehangu i gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan ganolbwyntio ar gynyddu'r gymysgedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ym maes gofal sylfaenol.

Yn ogystal â mentrau recriwtio, mae'r buddsoddiad parhaus y mae'r Llywodraeth hon wedi dewis ei wneud mewn addysg a hyfforddiant gweithlu'r GIG presennol ac yn y dyfodol yn hollbwysig. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y gyllideb ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol anfeddygol wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddais becyn cymorth £107 miliwn ar gyfer 2018-19, ac mae hynny'n gynydd o £12 miliwn ar y flwyddyn flaenorol. 

Ac mae'r buddsoddiad parhaus hwn yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn golygu bod cynnydd parhaus mewn lleoedd hyfforddi yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys, dros y cyfnod hwnnw, 68 y cant yn fwy o nyrsys dan hyfforddiant, mae lleoedd hyfforddiant ar gyfer ymwelwyr iechyd wedi mwy na dyblu, bu cynnydd o 42 y cant mewn lleoedd hyfforddi bydwreigiaeth, 51 y cant o leoedd hyfforddi therapi galwedigaethol ychwanegol, a chynnydd o 53 y cant yn y lleoedd hyfforddi ffisiotherapi. Rydym wedi buddsoddi, a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer gwyddonwyr gofal iechyd, therapyddion a hylenyddion deintyddol, ac mewn meysydd allweddol sy'n amlwg eu hunain megis hyfforddiant mewn geneteg.

Mae swyddogaeth y parafeddyg yn newid, a bydd yn parhau i ddatblygu o fewn amrywiaeth eang o leoliadau gofal. Bydd mwy o bwyslais yn dal i fod ar benderfyniadau, trin a rheoli critigol yn hytrach na ffocws hanesyddol ar gludo cleifion i adrannau damweiniau ac achosion brys ac rydym yn cefnogi'r newidiadau hynny yn swyddogaeth y parafeddygon, ac, ers 2014, cynyddodd nifer y lleoedd hyfforddi parafeddygon yng Nghymru gan 139 y cant.

Yn wahanol i rannau eraill o'r DU, mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod pa mor bwysig yw cefnogi ein myfyrwyr gofal iechyd yn ystod eu cyfnod astudio. Dyna pam yr ydym wedi cadw bwrsariaeth y GIG. Y llynedd, cyhoeddais y byddem yn ymgynghori ar gynlluniau ar gyfer cymorth ariannol mwy hirdymor ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd yn y dyfodol. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf, ac edrychaf ymlaen at dderbyn amrywiaeth eang o safbwyntiau gan sefydliadau ac unigolion er mwyn helpu i osod sylfaen ar gyfer trefniadau yn y dyfodol ac yn y tymor hir.

Fel y gŵyr Aelodau wrth gwrs, bu cryn ddiddordeb mewn faint o leoedd myfyrwyr meddygol sydd ar gael yng Nghymru. Ac yn y gogledd mae'r ddadl am ysgol feddygol newydd wrth gwrs, wedi parhau. Ac rwyf wedi egluro safbwynt y Llywodraeth. Ein barn ni yw y gall ac y bydd Prifysgol Bangor, gan weithio gydag ysgolion meddygol Caerdydd ac Abertawe, yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru. Rwy'n gwybod bod cryn dipyn o waith wedi'i wneud eisoes i lunio cynigion ar gyfer y dyfodol.

Gobeithiaf fod mewn sefyllfa i ddweud mwy am y cynigion hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Ond rwyf am wneud yn siŵr bod gennym ni gynllun ymarferol a chynaliadwy, a chynllun sy'n rhoi'r modd i fyfyrwyr astudio a chwblhau eu rhaglenni gradd meddygol yn y gogledd. Er y bu llawer o bwyslais ar y gogledd, mae llawer o'r heriau a wynebwn yn y gogledd hefyd yn bod mewn rhannau eraill o'r wlad, yn enwedig yn y gorllewin, ac rwyf eisiau sicrhau ein bod hefyd yn ymdrin â hynny fel rhan o gynllun cydlynol ar gyfer Cymru.

Er gwaethaf y ffigurau staff gorau erioed, rydym yn gwybod bod galw yn parhau i gynyddu. Mae hynny'n rhan o'r rheswm pam mae angen inni ddiwygio gwasanaethau iechyd a gofal. Mae angen mwy o staff arnom ni mewn proffesiynau ac arbenigeddau penodol, ond gwyddom mai dim ond rhan o'r ateb yw hynny. Mae'r ffaith bod yr heriau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd yn digwydd yng nghyd-destun y niferoedd gorau erioed o staff yn dangos hyn. Mae'n ddyletswydd arnom ni i wneud hyn nid yn unig i ddinasyddion Cymru, ond i weithlu ein GIG hefyd. Mae angen inni greu system sy'n caniatáu iddyn nhw allu darparu'r gofal gorau posibl. Dyna pam, wrth drafod ein gweithlu, na allwn ni ei wahanu o ddiwygio go iawn ac ystyrlon, gan gynnwys, wrth gwrs, yr angen am fodelau gofal newydd a ddaeth i'r amlwg yn yr arolwg seneddol.

Rhan o ddiwygiad y system yr ydym yn ymrwymedig iddi, wrth gwrs, yn benodol o safbwynt y gweithlu, yw sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae hwn yn newid mawr a sylweddol. Mae'n dangos ymrwymiad y Llywodraeth hon i ymdrin â'n gwasanaethau iechyd mewn ffordd newydd, amlddisgyblaethol. Nid dim ond newid strwythurol yw AaGIC. Mae'n ffordd newydd, strategol o roi sylw i ddyfodol tymor hir y gweithlu iechyd. Roeddwn yn falch bod yr arolwg seneddol diweddar yn cydnabod, mewn nifer o ffyrdd arwyddocaol, sut y gellid manteisio ar greu AaGIG i gyflawni'r weledigaeth o gael iechyd a gofal di-dor yng Nghymru. Adnabu'r adolygiad hefyd y cyfle i AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru arwain y ffordd ar gyfer partneriaeth ar draws y system gofal ac iechyd cymdeithasol. Disgwyliaf i'r ddau gorff hynny weithio fel un i ymrafael â llawer o'r heriau fydd yn wynebu ein gweithlu gofal yn y blynyddoedd i ddod.

Fel pob un o weithluoedd y sector cyhoeddus, mae staff GIG Cymru wedi dioddef dan law cyni Llywodraeth y DU. Dyna pam yr ydym ni wedi galw dro ar ôl tro ar i Lywodraeth y DU roi terfyn ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus a rhoi codiad cyflog haeddiannol i weithwyr ledled y DU, a'n barn o hyd yw bod yn rhaid i'r codiad cyflog gael ei ariannu yn llawn gan Lywodraeth y DU. Un o'r cryfderau yng Nghymru yw ein hymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol a chydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, y GIG a'r undebau llafur. Mae'r cryfder hwn yn rhywbeth y byddwn yn adeiladu arno wrth symud ymlaen unwaith y byddwn wedi derbyn argymhellion y corff adolygu cyflog ym mis Mai i gytuno ar ddyfarniad cyflog teg a fforddiadwy.

Mae ein GIG yn edrych ymlaen at ei ben-blwydd yn 70 eleni. Mae'n dal yn gyflawniad gwirioneddol ragorol o ewyllys gwleidyddol a gwerthoedd cymunedol i greu a chynnal ein gwasanaeth iechyd gwladol. Stori ein staff yw'r GIG yr ydym yn ei ddathlu, wrth gwrs: pobl sy'n hannu o bob cymuned ac yn dod o bob cwr o'r byd. Rwy'n hynod falch o'r bobl sy'n ffurfio ein gwasanaeth iechyd gwladol ac edrychaf ymlaen at barhau i'w gwasanaethu wrth i ni ailgynllunio dyfodol iechyd yma yng Nghymru.

14:40

Diolch yn fawr iawn, iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Ymddiheuriadau nad Angela Burns ydw i i chi heddiw. A gaf i ategu eich sylwadau yn diolch i staff y GIG am eu gwaith, yn enwedig yn ystod yr wythnos diwethaf? Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi synnu ac yn falch iawn mewn rhai ffyrdd gan y lluniau o bobl yn straffaglu drwy'r eira er mwyn cyflawni'r hyn y maent yn ystyried yw eu dyletswyddau i boblogaeth Cymru.

Credaf mai un ffordd amlwg efallai i gydnabod yr ymrwymiad hwnnw fyddai blaenoriaethu staff yn y GIG pan fo angen gwasanaethau'r GIG arnyn nhw, nid lleiaf fel y gallan nhw gael y driniaeth neu'r sylw cyflymaf sydd ei angen arnyn nhw, ond oherwydd effaith bosib hynny yn gwneud iddyn nhw allu dod yn ôl i'r gweithlu cyn gynted â phosib er mwyn cynnig eu gwasanaethau, ac efallai, wrth wneud hynny, leihau straen a phwysau ar y byrddau iechyd pan fyddant yn gorfod ystyried defnyddio staff asiantaeth. Gwyddom fod 330,000 diwrnod wedi'u colli i anhwylderau sy'n gysylltiedig â straen y llynedd yn unig, 2016-17, a, pe gellid bod wedi gwneud rhywbeth ynghylch hynny ychydig yn gynt, efallai y byddai wedi bod yn gynt neu'n haws i'r aelodau hynny o staff ddod yn ôl i'r gweithlu a pharhau i gynnig y gofal rhagorol i bobl Cymru. Credaf fod staff asiantaeth wedi costio £178.8 miliwn y llynedd. Mae hynny'n arbediad eithaf mawr, os gallwch chi gael pobl yn ôl i'r gwaith mor gyflym ag y byddent yn hoffi. Ac, os ydych chi'n poeni o gwbl fod hyn yn swnio fel triniaeth ffafriol, gofynnaf i chi ystyried yr effaith o wneud hyn, oherwydd mae'n golygu bod staff y GIG yn ôl yn y gwaith yn gynt ac yn cynnig eu gwasanaethau i bobl sydd eu hangen.

Fe wnaethom ni sôn hefyd am—. Rwy'n sylweddoli mai datganiad ynglŷn â gweithlu'r GIG yw hwn, ond, yn dilyn yr arolwg seneddol, rwy'n meddwl ei bod hi bellach ychydig yn llai ystyrlon, os caf ei fynegi yn y geiriau hynny, i siarad am weithlu'r GIG ar wahân i'r gweithlu gofal cymdeithasol. Rwy'n sicr yn croesawu'r buddsoddiad yn y lleoedd hyfforddi ar gyfer y proffesiynau atal ac adsefydlu, ac i'r sawl sy'n hyfforddi mewn gofal meddygol, ond os ydych chi'n bwriadu cynnig gwasanaeth di-dor—a grybwyllwyd gennych yn eich datganiad—credaf fod yn rhaid i'r mathau hyn o ddatganiadau ddechrau sôn yn awr am effaith a llwybrau gyrfa'r rheini mewn gofal anfeddygol. Felly, tybed a allem ni gael datganiad tebyg yn weddol fuan ynglŷn â'r gweithlu gofal cymdeithasol, nid dim ond gweithlu'r GIG.

Rwy'n falch iawn o glywed am y twf yng ngweithlu'r GIG, ond a allwch chi roi syniad o ble mae'r twf hwnnw wedi ei ganolbwyntio yn ddaearyddol? Ble mae'r staff mewn rhai disgyblaethau, ac a yw ad-drefnu a pheth o'r anhrefn a welsom ni yn weddol ddiweddar, yn enwedig gyda Hywel Dda, eisoes yn ymddangos i gael effaith ar ble mae pobl yn ymddiddori mewn gweithio, yn enwedig mewn ysbytai ond nid yn benodol?

Oes, yn sicr mae angen mwy o staff mewn proffesiynau ac arbenigeddau penodol. Mae swyddogaeth y ddeoniaeth wedi codi droeon mewn dadleuon ar hyn yn y gorffennol, ac rwy'n meddwl tybed a allwch roi inni ryw syniad a oes mater penodol—byddaf yn ei alw'n hynny, gan nad oes problem o reidrwydd—gyda'r ddeoniaeth yn hybu rhai o'r arbenigeddau hynny sydd eu hangen arnom ni ar hyn o bryd.

Dim ond dau beth arall, os allwch chi fod yn amyneddgar â mi, os gwelwch yn dda, Llywydd. Yn amlwg, rwy'n falch iawn o weld bod mwy o bobl yn gwneud eu hyfforddiant meddygon teulu yng Nghymru. Allwch chi ddweud wrthym ni faint o'r bobl hynny sydd mewn gwirionedd o Gymru a beth ydym yn ei wneud i'w cadw ar ôl iddyn nhw gael eu hyfforddi yma?

Yna, yn olaf, hyfforddiant parafeddygon—roeddwn yn falch iawn o weld hynny. A allwch chi gadarnhau a yw'r codiad cyflog a gynigiwyd i barafeddygon yn ddiweddar, os mynnwch chi, yn amodol mewn unrhyw ffordd ar yr hyfforddiant penodol yr ydych wedi cyfeirio ato? A yw'n godiad cyflog cyffredinol neu benodol yn gysylltiedig â'r hyfforddiant newydd hwn a grybwyllwyd gennych chi yn eich datganiad? Diolch.

14:45

Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Unwaith eto, credaf fod yr ymrwymiad staff yr ydym i gyd wedi'i weld—straeon am bobl yn cerdded milltiroedd drwy'r eira i gyrraedd eu gwaith—a chefnogaeth aruthrol y cyhoedd, gyda phobl yn rhoi lifft ac yn tramwyo ffyrdd i roi lifft i staff wrth iddynt eu gweld yn mynd i'w gwaith, mewn gwirionedd yn hynod galonogol, sydd, unwaith eto, yn atgyfnerthu'r gwerth cyhoeddus a roddir ar y gwasanaeth.

Rwy'n mynd i ymdrin â'r amrywiaeth o bwyntiau. Ynglŷn â'ch pwynt ynghylch a allem ni flaenoriaethu staff y GIG, mae darn o waith eisoes yn rhoi sylw i hyn yn dilyn sylwadau blaenorol a wnaed yn y Siambr. Rwy'n meddwl bod angen inni ymbwyllo ynglŷn â hyn, oherwydd os ydym yn penderfynu rhoi mantais i grwpiau o staff, o ble bynnag y maen nhw—p'un a ydyn nhw yn y GIG, neu yw y gwasanaethau brys, gofalwyr neu bwy bynnag—ac os ydym yn dweud nad eu hangen clinigol ond i bwy maen nhw'n gweithio fydd yn eu gweld yn cael mantais yn y system, rwy'n credu bod angen inni feddwl yn ofalus iawn am yr hyn y mae hynny'n ei olygu.

Felly, yn sicr ni fyddwn yn sefyll yn y Siambr heddiw a dweud y bydd gweithlu'r GIG yn cael blaenoriaeth dros bobl eraill, ond mae heriau am y GIG fel cyflogwr beth bynnag. Dylai unrhyw gyflogwr gefnogi eu gweithwyr gyda chymorth iechyd galwedigaethol da naill ai i'w cadw mewn gwaith neu i'w helpu i ddychwelyd i'r gwaith os nad ydyn nhw yn y gwaith, ac i ddeall y rhesymau dros hynny yn ogystal. Mae hynny'n bwynt gwahanol, o bosib, i'w gweld yn cael blaenoriaeth dros ddinasyddion eraill y wlad ar gyfer triniaeth.

O ran y gweithlu gofal cymdeithasol, mewn gwirionedd, gwnaeth Rebecca Evans, yn ei swyddogaeth flaenorol, nifer o ddatganiadau ynglŷn â hyrwyddo'r gweithlu gofal cymdeithasol a llwybr gyrfa ar eu cyfer. Byddwch yn clywed mwy gan Huw Irranca-Davies ynghylch y pwyntiau hynny yn y misoedd nesaf yn ogystal. Hefyd, bydd hynny yn gysylltiedig ag ymrwymiadau a wnaed gan y Llywodraeth yn 'Ffyniant i bawb', bod y sector gofal cymdeithasol yn sector blaenoriaeth yn rhan o'r economi sylfaenol. Felly, byddwch yn clywed mwy am y gweithlu gofal cymdeithasol yn unigol yn ogystal â gyda'i gilydd, fel yr wyf wedi dangos yn fy natganiad ynghylch datblygu sgiliau ar gyfer a chyda'r gweithlu hwnnw sydd, yn ddealladwy, yn integredig, a bydd yn fwy felly, gyda'r gwasanaeth iechyd gwladol.

O ran y twf daearyddol yn nifer y staff, mae rhai o'n hardaloedd mewn gwirionedd wedi gwneud yn dda iawn yn hyn o beth. O ran recriwtio nyrsys, er enghraifft, mae Hywel Dda wedi gwneud yn dda iawn mewn gwirionedd o ran recriwtio rhagor o nyrsys yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Rhan o'r her ar gyfer gwahanol raddau o staff yw y gall fod yn anodd recriwtio mewn gwahanol rannau o'r wlad—dyna pam y cynlluniwyd 'Hyfforddi. Gweithio. Byw', oherwydd gallwch gael bywyd gwych yn byw yn rhannau gorllewinol Cymru, boed y gogledd, y canolbarth neu'r de, ac mae'n ymwneud â sut yr ydych chi'n sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael ac yna yn deall beth y mae hynny'n ei olygu i staff gofal iechyd a'u teuluoedd i symud yno a gwneud y dewis cadarnhaol o fyw yn neu ger y rhan honno o'r wlad.

Mae rhywfaint o hynny hefyd, fodd bynnag, yn mynd yn ôl at y pwyntiau a wneuthum yn fy natganiad am y modelau gofal a ddarperir, oherwydd mae a wnelo hyn i raddau â dealltwriaeth ac ystyried yr heriau a nododd yr arolwg seneddol ar gyfer pob un ohonom ni os ydym yn dymuno rhedeg ein modelau gofal presennol, yna ni fyddan nhw'n gweithio—ni fyddan nhw'n gweithio ar gyfer y staff na'r cyhoedd. Felly, nid yw ein ffordd bresennol o redeg y gwasanaeth cyfan yn addas ar gyfer y dyfodol, ac mae newid hynny yn bwysig mewn gwirionedd. Ac rwyf wedi sôn o'r blaen yn y gorffennol am fodelau gofal sydd wedi newid sydd wedi gwneud recriwtio yn haws. Mae gofal strôc yng Ngwent yn enghraifft dda o ble mae newid yn y ffordd y cyflwynir gofal yn ei gwneud hi'n haws recriwtio'r staff cywir i ddarparu'r gofal hwnnw o ansawdd gwell.

Ni allaf ddweud wrthych beth yw'r ganran o hyfforddeion meddyg teulu sy'n hanu o Gymru, ond byddaf yn ymchwilio i weld os gallaf roi ffigur ystyrlon ac yn ysgrifennu at yr Aelodau ynghylch hynny. Ac ynglŷn â band 6 a pharafeddygon, byddwch wedi gweld bod Lloegr wedi cyhoeddi statws parafeddygon band 6 beth amser yn ôl. Maen nhw eto i gytuno ar sut i gyflawni hynny, serch hynny, felly dyw hynny ddim ar waith yno. Fe wnaethom ni hynny, ac, unwaith eto, mewn partneriaeth gymdeithasol cawsom sgwrs â chyflogwyr, gydag undebau llafur yn ogystal, ac fe wnaethom ni gytuno nid yn unig ar gynllun ar gyfer band 6—felly, beth ddylai hynny ei olygu—ond, mewn gwirionedd, sut i gyflawni hynny hefyd, oherwydd mae'n ymwneud â sgiliau newydd a'r sgiliau hynny'n cael eu defnyddio'n gyson i gael y cyflog band 6 sy'n gysylltiedig â hynny. Ni fydd pob parafeddyg yn dymuno gwneud hynny. Bydd swyddogaeth yn dal i fod ar gyfer parafeddygon ym mand 5 yn y gwasanaeth. Felly, rydym mewn sefyllfa dda, ac arian ar gyfer diwygio a gwella yw hwnnw. Mae'n dda ar gyfer y gweithlu i wneud gwaith y maent yn ei chael yn ddiddorol ac i feithrin y sgiliau y byddwn oll yn elwa arnyn nhw yn y byd cyhoeddus yn gyffredinol. Rydym ni wedi gwneud dewis anodd i fuddsoddi arian wrth wneud hynny, ac mae hynny'n golygu bod arian yr ydym wedi'i fuddsoddi yn yr agwedd honno nad yw ar gael mewn rhannau eraill o'n gweithlu, ond dyna'r dewis a wnaethom ni, unwaith eto, ar gyfer dyfodol y GIG a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu. 

14:50

Credaf fod y straeon yr ydym ni wedi'u clywed am bob rhan o'r GIG yn yr amodau tywydd eithafol diweddar yn dangos ymroddiad anhygoel y staff i ddarparu gofal ar gyfer eu cleifion, a gobeithiaf y byddant yn clywed ein diolch am eu hymrwymiad i'w gwaith a'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu.

Diolch yn fawr iawn, i holl staff yr NHS, am eich ymroddiad chi.

Mae nifer o gwestiynau gen i i'w gofyn. Mi fyddai rhywun yn gallu taeru bod popeth yn iawn o ran lefelau staffio yn y gwasanaeth iechyd o wrando ar y datganiad yma, ond mae gen i nifer o bethau rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i'w pwysleisio a thynnu sylw atyn nhw yn fan hyn. Yr honiad yma bod yna record o nifer o staff yn gweithio yn yr NHS. Mae gennym ni'n dal lai o GPs, er enghraifft, yn gweithio yn yr NHS yng Nghymru nag oedd gennym ni yn 2013. Nid yw StatsWales wedi cyhoeddi ffigurau ar gyfer nifer cyfatebol o swyddi llawn amser ers tair blynedd, tra eu bod nhw'n edrych ar safon y data. Mae gennym ni lai o feddygon ysbytai nag yn 2014 unwaith yr ydych chi'n tynnu'r categori 'general practice doctors in training' allan o'r ffigurau—rhywbeth a gafodd ei ychwanegu o rywle at y ffigurau yn 2015.   

Mae'n wir i ddweud bod ffigurau swyddogol yn dangos bod mwy o bobl yn gweithio mewn roles nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd. Nid yw hi, serch hynny, o'ch datganiad chi y prynhawn yma, yn glir faint o nyrsys wedi eu cymhwyso sydd yn gweithio—hynny ydy, wedi eu cymhwyso'n llawn—o fewn ein gwasanaeth iechyd ni. Ac rydym ni'n gwybod o gais rhyddid gwybodaeth gan y Daily Post yn ddiweddar fod yna 750 yn llai o nyrsys wedi cymhwyso yn llawn ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr nag oedd gennym ni bum mlynedd yn ôl.  

Ac ychwanegwch at hyn bryderon ynglŷn â Brexit, ac nid ydym wedi gweld effaith hynny eto, er bod yna dystiolaeth anecdotaidd, yn sicr, ynglŷn â'r effaith negyddol. Ond a fyddech chi'n cyfaddef bod y darlun gawsom ni gennych chi yn y datganiad yn un anghyflawn? A wnewch chi gyfaddef hefyd fod rhaid i ni roi ystyriaeth wastad i'r darlun cyflawn, yn cynnwys yr elfennau negyddol—y problemau o ran cynllunio gweithlu—yn hytrach na'r elfennau positif sydd yna, heb gwestiwn, neu allwn ni ddim mynd i'r afael â datrys rhai o'r problemau hynny. 

O ran lleoedd hyfforddiant wedyn, unwaith eto rydych chi'n sôn am leoedd hyfforddiant nyrsio, parafeddygon a gweithwyr iechyd eraill. Rwy'n dathlu unrhyw gynnydd sydd yna mewn niferoedd hyfforddiant, ond allwn ni ddim osgoi y cwestiwn anodd sydd yna ynglŷn â hyfforddiant meddygon a GPs yn benodol. Rwy'n eiddgar iawn i weld y Llywodraeth yma'n dod â ffigur i ni—faint o feddygon ydych chi'n gobeithio y gallwn ni weld yn cael eu hyfforddi yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod, ble bynnag y mae'r rheini? Hynny ydy, beth ydy ein hallbwn ni i fod o ran nifer y meddygon sy'n cael eu hyfforddi yma?

Mae hynny'n dod â ni ymlaen at y cynlluniau ar gyfer canolfan feddygol ym Mangor. Rydych chi'n hollol iawn, gyda llaw, fod y gorllewin hefyd yn bwysig iawn o ran cynyddu niferoedd pobl sy'n cael eu hyfforddi, ond, o ran Bangor, rwy'n falch iawn bellach fod sôn am hyfforddi meddygon ym Mangor yn rhan ganolog o unrhyw ddatganiad ar gynllunio ar gyfer y gweithlu. Rydw i a Siân Gwenllian yn sicr yn falch iawn i weld ein bod ni'n ennill tir yn fan hyn. Rwy'n hyderus iawn ar ôl trafodaethau efo Prifysgol Bangor ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn, ond mi wnaf i, fel rwy'n ei wneud bob tro, ofyn i chi am ychydig llai o amwyster. Rydych chi'n sôn am gyfleon hyfforddi. Dywedwch wrthym ni rŵan eto y bydd hyfforddiant llawn yn digwydd ym Mangor o flwyddyn 1 i 5, achos dyna'r cyfeiriad rydym ni angen mynd iddo fo ac rydw i'n hyderus ein bod ni yn mynd i'r cyfeiriad hwnnw. Hefyd, mae'n bosib bod aderyn mewn llaw yn werth dau mewn llwyn, ac mae'n bosib na ddylwn i ganolbwyntio dim ond ar y meddygon, ond rwy'n dweud wrthych chi fod yna bwysau yn barod i gynnwys hyfforddiant deintyddol yn y ganolfan newydd ym Mangor. Rydw i eto, yr wythnos diwethaf, wedi cael pwysau i gyflwyno elfen o hyfforddiant fferyllol yn y ganolfan ym Mangor. Hynny ydy, nid dim ond meddygon yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw ond yr holl ystod o weithwyr proffesiynol ar draws y gwasanaeth iechyd. 

Yn fyr iawn, o ran nyrsio, a allwch chi roi sylw i ni ynglŷn â datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer nyrsys yn benodol? Rwy'n gwybod ei fod o'n rhywbeth y mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn bryderus ynglŷn ag o, sef fod yna ddiffyg amser a sylw yn cael eu rhoi i CPD. Hefyd, nid oedd dim cyfeiriad yn y datganiad at ddarparu ar gyfer y Bil lefelau staffio diogel. A oes yna ddatganiad ynglŷn â ble yr ydym ni arni? 

14:55

Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Byddaf yn ceisio ymdrin â nhw mewn trefn synhwyrol. Rwyf am ddechrau yn y dechrau drwy ddweud nad wyf yn meddwl bod fy natganiad yn osgoi realiti rhai o'r heriau a wynebwn. Rwy'n bendant iawn am yr heriau hynny yn y datganiad hwn yn ogystal. Yn sicr nid oes unrhyw awydd ar fy rhan i beidio â rhoi'r darlun llawn. Pe byddech yn dymuno cael darlun cyflawn a manwl, byddwn yn dal ar fy nhraed am beth amser, efallai y byddwn i'n hapus i fod ond efallai na fyddai Aelodau eraill. Ond, mae'n ffaith ddiymwad, nid honiad—mae'n ffaith ddiymwad—bod gennym y nifer mwyaf erioed o staff yn y GIG. Mae hon yn ffaith ddiymwad. Ond, o fewn hynny, rydym yn cydnabod bod heriau o fewn gwahanol grwpiau o staff, a hefyd sut y cawn ein grwpiau staff i weithio mewn ffordd wahanol yn awr ac yn y dyfodol. Dyna lawer o'r hyn y mae'n rhaid i ni dreulio ein hamser arno.

Byddaf yn ceisio ymdrin â'ch cwestiynau am recriwtio meddygon ar y pwynt hwn hefyd, a hyfforddiant. Nid wyf yn credu mewn gwirionedd y buom ni'n amwys am ein disgwyliad ar gyfer y gogledd. Rwyf wedi bod yn glir fy mod am weld cymaint o hyfforddiant meddygol ac addysg â phosib yn digwydd yn y gogledd. Rwyf yn fwriadol heb ymrwymo i ddweud yn hollol beth fyddai hynny oherwydd does gen i ddim cynllun o'm blaen i wneud hynny, ac mae angen imi ddeall y dystiolaeth o'r hyn sy'n bosib, y trafodaethau yr wyf wedi nodi yn fy natganiad sy'n mynd rhagddyn nhw, ac yna fe fydd cynllun wedi'i gymeradwyo. Bryd hynny, bydd mwy o fanylion.

Nid dim ond hynny, ond o glywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ymyrryd, mae pwynt difrifol am y gwaith y mae'n rhaid inni ei wneud gyda'n gilydd—y mae'n rhaid inni barhau i'w wneud gyda'n gilydd—ynglŷn ag ariannu, oherwydd mae pwysau yn y gyllideb, fel y bydd pawb yn yr ystafell hon yn gwybod. Felly, nid yw'n ymwneud yn unig â chael cynllun sy'n edrych ac yn swnio'n dda iawn, ond mewn gwirionedd mae'n rhaid i ni ei ariannu. Os ydym yn mynd i ariannu cynllun i wneud hynny, ynghylch pwy a ddisgwyliwn i lenwi'r lleoedd hynny, ac mewn gwirionedd wedyn i weld budd inni yn ei chyfanrwydd a gweld mwy o feddygon o Gymru yn gallu hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru, ond hefyd mwy o feddygon wedyn yn aros yng Nghymru, o ble bynnag y dônt, ar ddiwedd eu cyfnod astudio, ni allwn ni osgoi'r trafodaethau gwirioneddol ac ymarferol iawn hyn y mae angen inni eu cael. Mae a wnelo hyn â mwy na fi yn cyhoeddi safbwynt polisi gwych ac yna'n dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, 'Mae angen i chi dalu amdano yn awr.' Nid yw mor syml â hynny ac ni ddylai fod.

Ynglŷn â'r agwedd fwy cyffredinol ynglŷn â dyfodol y gweithlu, dyna pam yr wyf wedi cyfeirio at Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac mewn gwirionedd beth a ddaw o hynny a'r cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru. Bydd angen i ni ddeall, er mwyn creu'r gweithlu hwnnw ar gyfer y dyfodol, y modelau gofal y byddwn yn dymuno eu cael a'r staff y bydd eu hangen arnom i allu cyflawni hynny yn ogystal. Rwyf am wneud y pwynt hwn am—. Fe wnaethoch chi sôn am heriau meddygon teulu; wel, dyna pam fod cam cyntaf 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' gyda meddygon teulu wedi bod mor llwyddiannus ac yn newyddion mor dda inni fel ein bod wedi gorlenwi ein lleoedd fel gwlad. Ond mae hefyd yn werth nodi pan fyddwn yn sôn am niferoedd meddygon teulu nad yw mwyafrif helaeth y meddygon teulu yn cael eu cyflogi gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Maent yn llunio contract gyda'r gwasanaeth iechyd gwladol i ddarparu gwasanaethau, a rhan o'n her wrth gyflenwi gweithlu'r GIG yn y dyfodol yw cael modelau cyflogaeth sy'n caniatáu inni wneud hynny.

Byddaf yn ymdrin â'ch cwestiynau am recriwtio nyrsys yn ogystal. Mae gennym ni'r nifer mwyaf erioed o nyrsys cymwys yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae hynny yn amrywio i raddau o un bwrdd iechyd i'r llall. Rwy'n cydnabod mai cyfeirio at y gogledd yr ydych chi, ond rwy'n glir iawn bod hyn ynghylch nyrsys cymwys, ac mae hyn yn mynd yn ôl at y pwynt ynghylch Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, a fydd yn cychwyn ym mis Ebrill. Nid oes oedi ynglŷn â chychwyn hynny, a disgwyliaf allu sôn yn y dyfodol yn y lle hwn ynglŷn â'r camau cynnar o wneud hynny i weld effaith hynny ac i weld a ydym yn gweld gwelliannau yn ansawdd y gofal o ganlyniad i hynny, oherwydd dyna oedd diben y Ddeddf. Mae'n gwneud yn siŵr ein bod yn gweld gwelliannau yn ansawdd y gofal a ddarperir. Ond mae a wnelo hyn i raddau â dweud y bydd y rhain yn nyrsys cymwys, felly nid ydym yn troedio'r llwybr y buont yn ei droedio yn Lloegr o ran gweithlu'r GIG lle maen nhw'n cyflwyno cymdeithion nyrsio. Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi cytuno i'w rheoleiddio, ond rwyf yn wirioneddol bryderus, fel yn wir y mae prif swyddogion nyrsio Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a yw hyn mewn gwirionedd ynglŷn â chyfnewid swyddogaethau ac mewn gwirionedd am yr arbediad ariannol yn hytrach na chael staff wedi'u cymhwyso'n briodol i wneud y swyddi cywir a sicrhau'r ansawdd cywir o ofal.

Fe wnaf i un sylw terfynol, oherwydd fe wnaethoch chi gyfeirio at Brexit. Mae gennym ni heriau gwirioneddol o ran recriwtio nyrsys yng Nghymru a ledled y DU ac yn y byd gorllewinol yn fwy cyffredinol. Gwyddom y bydd angen mwy o nyrsys. Mae hynny'n rhan o'r rheswm pam ein bod yn parhau i fuddsoddi mwy o arian mewn hyfforddi nyrsys—oherwydd gwyddom fod angen i ni feithrin llawer mwy o'n rhai ein hunain. Ond hefyd, er mwyn cynnal y gwasanaeth, mae angen inni barhau i recriwtio staff o rannau eraill o'r byd. Dyna hefyd pam yr wyf yn ei gwneud hi'n glir bod y gwasanaeth iechyd gwladol bob amser wedi dibynnu ar staff o bob cymuned, ond hefyd o bob gwlad ledled y byd yn ogystal. Mae'n rhan o'n llwyddiant mewn gwirionedd bod y gwasanaeth iechyd gwladol wedi gwneud y wlad yn fwy cosmopolitan ac amlddiwylliannol. Os edrychwch chi ar y bobl sy'n bodoli yng Nghymru yn awr mewn gwahanol gymunedau, maen nhw yma oherwydd y gwasanaeth iechyd gwladol.

Dyna pam fy mod i wir yn gobeithio ar ryw adeg cael ffrwydrad o synnwyr cyffredin ynglŷn â Brexit a'r safbwynt y byddwn yn ei chymryd mewn gwirionedd ar gael cyfatebiaeth yn y ddwy safon, boed hynny yn faterion fferyllol neu'n ymwneud â chymwysterau, a'n gallu i recriwtio staff o'r Undeb Ewropeaidd a hefyd llawer pellach na hyn. Pur anaml fy mod i'n dweud pethau dymunol am Jeremy Hunt yn gyhoeddus, ond mewn gwirionedd, credaf, ynglŷn â'r her o recriwtio staff o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd a'r byd ehangach, credaf fod Jeremy Hunt eisiau gallu gwneud hynny mewn ffordd synhwyrol. Yr her yw, yn Llywodraeth y DU, bod y Swyddfa Gartref yn parhau i fod yn rhwystr rhag gwneud hynny. Mae hynny'n her i bob un ohonom ni. Mewn gwirionedd rwy'n gobeithio y bydd ffrwydrad o synnwyr cyffredin yn Llywodraeth y DU i'r Swyddfa Gartref symud o'r ffordd fel y gellir recriwtio'r math cywir o staff gofal iechyd ar gyfer pob rhan o'r gwasanaeth iechyd gwladol ym mhob un o bedair gwlad y DU.

15:00

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Dangosodd y penwythnos diwethaf pobl mor rhyfeddol sydd gennym ni'n gweithio yn ein GIG a'r sector iechyd a gofal cymdeithasol ehangach: meddygon a nyrsys yn gweithio shifftiau dwbl, meddygon teulu yn cysgu yn eu meddygfeydd, staff yn cerdded milltiroedd mewn storm eira, er mwyn sicrhau bod cleifion yn parhau i dderbyn gofal o'r radd flaenaf, er gwaethaf tymheredd o dan y rhewbwynt a lluwchfeydd. Felly, fe hoffwn i ddiolch ar goedd i holl staff ein GIG am y gwaith rhyfeddol y maent yn ei wneud, ddydd ar ôl dydd, waeth beth fo'r amodau a'r pwysau sydd arnynt. Efallai y byddaf yn anghytuno gyda chi o dro i dro ar bolisi, ond byddaf bob amser yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd â chi wrth amddiffyn staff y GIG.

Yr unig broblem gyda gweithlu ein GIG yw nad oes digon ohonynt. Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y buddsoddiad ychwanegol a wnaeth eich Llywodraeth mewn gweithwyr proffesiynol gofal iechyd anfeddygol a'r cynnydd mewn lleoedd hyfforddiant yng Nghymru. Fodd bynnag, ceir prinder cynyddol mewn rhai meysydd yn ein GIG. Wrth i'n GIG ddatblygu, bydd y gofynion staff yn newid. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut fydd y byrddau iechyd lleol ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ystyried cynllunio gweithlu yn ein GIG mewn modd mwy strategol? Mae cynllunio yn hanfodol i fanteisio ar y newidiadau sydd ar y gorwel. A fydd AaGIC yn cynnal archwiliad o'r staff ym mhob arbenigedd er mwyn ymdrin ag unrhyw ddiffygion? Pan edrychwn ar staff diagnostig, mae Cancer Research UK yn dweud wrthym nad oes unrhyw ddata ynglŷn â faint o swyddi gwag sy'n bodoli ym maes endosgopi. Os ydym am fanteisio i'r eithaf ar effaith y prawf imiwnocemegol carthion ar ganser y coluddyn, rhaid inni sicrhau bod nifer digonol o staff sy'n gallu cynnal colonosgopi. Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych chi neu AaGIC unrhyw gynlluniau i greu rhaglen hyfforddiant endoscopi anfeddygol o fewn GIG Cymru ?

Wrth gwrs, mae ymwneud y rhan fwyaf o gleifion gyda'r GIG yn digwydd ym meddygfa'r meddyg teulu, er gwaethaf y ffaith bod meddygfeydd cyffredinol yn derbyn ychydig dros 7 y cant o gyllideb y GIG. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cefnogi galwad Coleg Brenhinol Meddygon Teulu i gynyddu gwariant ar feddygfeydd teulu i 11 y cant o leiaf? Mae'r coleg brenhinol hefyd yn datgan bod angen tua 200 o leoedd y flwyddyn ar gyfer hyfforddi meddygon teulu. Rydych chi wedi gwneud cynnydd wrth gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi yn y blynyddoedd diweddar, ond a oes gennych chi unrhyw gynlluniau i gynyddu hyn ymhellach?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae NHS England wedi cyhoeddi cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth ar gyfer meddygon teulu dros y ffin. Felly, a oes gennych chi unrhyw gynlluniau i gyflwyno cynllun tebyg ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru? Wrth i ni ddathlu pen-blwydd y GIG yn 70, mae'n bwysig pwysleisio na fyddai'n bodoli heb ein staff ardderchog, a rhaid inni wneud popeth a allwn ni i ddangos i staff y GIG cymaint yw ein gwerthfawrogiad ohonyn nhw, mewn termau ariannol a hefyd o ran cynyddu staff.

15:05

Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau. Byddaf yn dechrau gyda'ch pwynt cyntaf ynglŷn â, 'Nid oes gennym ddigon o staff'. Wel, mae gennym y nifer mwyaf erioed o staff. Mae angen inni wastad fod yn meddwl ynglŷn â sut y mae'r staff wedi'u trefnu yn y ffordd orau i ddarparu'r gofal gorau posib, waeth beth fo'r darlun ariannol neu fel arall. Mae gennym ni gyfrifoldeb bob amser i wneud hynny, ond mai hi'n wyth mlynedd ers dechrau cyni, a daw'r dewisiadau yr ydym yn eu gwneud i roi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd gwladol ar gost real i bob rhan arall o'r gwasanaethau cyhoeddus a gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ei thraed, byddai'n sôn wrthyf am bwysau gwirioneddol, a phe byddai'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol ar ei draed, byddai'n dweud wrthych am y pwysau yn y sectorau hynny hefyd a thu hwnt. Felly, gadewch inni beidio ag esgus bod hwn yn fater o ewyllys gwleidyddol; mae a wnelo hyn â'n cyllideb yn cael ei lleihau yn fwriadol. Wyddoch chi, pleidleisiodd pobl dros Lywodraeth a addawodd weithredu polisi o gyni mewn tri etholiad cyffredinol olynol, a byddai'n well gen i na fydden nhw wedi gwneud hynny, ond dyna'r dewis a wnaeth pobl ac rwy'n wirioneddol gredu bod angen i'r bobl sydd wedi mynd ati ac ymgyrchu i'r Llywodraeth wneud hynny dros dri etholiad cyffredinol olynol gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb yn y rhannau hynny o'r wlad yng Nghymru lle maent yn awr yn wynebu gorfod gwneud dewisiadau sydd yn ganlyniad uniongyrchol i gyni Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

O ran Addysg a Gwella Iechyd Cymru, diben hyn yw gwella gwaith cynllunio strategol y gweithlu. Dyna'r hyn y byddant yn ei wneud. Wrth iddynt symud i ffurf gysgodol ar gyfer y chwe mis cyntaf, bydd gennyf fwy i'w ddweud yn benodol am hynny, felly yn hytrach na dilyn yr ysgyfarnog honno yn awr byddaf yn dod yn ôl, rwy'n siŵr, yn y dyfodol gyda mwy i'w ddweud amdanynt ac am eu ffordd o weithio.

Dim ond yn fyr ynglŷn â'ch pwynt am endoscopyddion anfeddygol, mae gennym eisoes rhai yn ein system. Rydw i wedi cyfarfod nyrs endoscopydd ym Mhowys. Credaf mewn gwirionedd mai yn etholaeth Russell George roedd hynny. Felly, mae'r bobl hynny yn bodoli a'n her yw sut y gallwn ni lunio llwybr gyrfa iddynt barhau i wneud hynny, yn hytrach na bod y person hwnnw yn eithriad.

Ynglŷn â'ch pwynt am y ganran ar gyfer gofal sylfaenol, rwyf wedi sefyll ar fy nhraed yn y Siambr hon fwy nag unwaith yn y gorffennol, a sôn am y ganran o wariant y GIG sy'n mynd i faes gofal sylfaenol—mae mewn gwirionedd yn fwy nag 11 y cant. Yr ymateb rheolaidd a geir wedyn yw hwnnw gan Goleg Brenhinol Meddygon Teulu, sydd mewn gwirionedd yn sôn am hynny o safbwynt gwasanaethau meddygol cyffredinol, felly rhan benodol o ofal sylfaenol, nid gofal sylfaenol yn ei grynswth. Ond byddwch wedi gweld yr uchelgeisiau a nodir gan y Llywodraeth hon, ond hefyd o fewn yr arolwg seneddol, i gael nid yn unig lefel gynyddol o weithgarwch o fewn gofal iechyd lleol, ond mewn gwirionedd i wneud yn siŵr bod adnoddau yn deillio o hynny a bod gennym ni gynllun i gyflawni mwy o adnoddau mewn gofal iechyd lleol lle bydd mwy o weithgarwch. 

Ynglŷn â'ch pwynt olaf ynglŷn â meddygon teulu, hoffwn ddychwelyd at y pwyntiau a wneuthum ynghylch o ble y daw ein gweithlu. Mae llawer o'n meddygon teulu, ers sefydlu ein gwasanaeth iechyd gwladol, yn dod o rannau eraill o'r byd. Rwyf i a llawer o bobl eraill yn cwrdd â BAPIO, Cymdeithas Brydeinig y Ffisigwyr o Darddiad Indiaidd—rhan enfawr o hanes y gwasanaeth iechyd gwladol a'i ddyfodol. Maent hefyd yn pryderu, fel y mae pob meddyg teulu, am indemniad. Mae'r cynllun mae'r wladwriaeth yn ei gefnogi ac a gyhoeddwyd fel hoff ddewis Llywodraeth y DU yn Lloegr yn dal yn rhywbeth nad oes gennym eglurder yn ei gylch o ran beth mae'n ei olygu a sut y caiff ei weithredu. Dywedaf eto: os bydd cynllun sy'n cael ei negodi gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ac eraill i gefnogi meddygon teulu yn Lloegr, a bod Llywodraeth y DU a'r Trysorlys y DU yn ei gefnogi, byddwn yn disgwyl i delerau yr un mor ffafriol fod ar gael i feddygon teulu ym mhob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Ond nid yw'r trafodaethau hynny wedi'u cwblhau. Felly, nid wyf mewn sefyllfa i ddweud wrthych chi, oherwydd rwy'n gwybod nad yw Gweinidog Llywodraeth y DU mewn sefyllfa i ddweud wrth neb arall a oes cytundeb ynglŷn â sut beth fydd hynny. Ond cydnabyddir bod indemniad yn her fawr y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hi.

15:10

Fel pobl eraill, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i hefyd ymuno â chi i ddiolch i staff iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ymatebwyr brys, gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus a'r gwirfoddolwyr, wrth gwrs, am eu hymdrechion dros y gaeaf hwn ac yn enwedig dros yr ychydig ddyddiau diwethaf?

Yn fy swyddogaeth flaenorol—efallai fy mod wedi crybwyll hyn unwaith neu ddwy—roeddwn yn swyddog undeb llafur, a oedd yn cynrychioli staff y GIG. Mae'n arbennig o braf, mi gredaf, i weld y parafeddyg band 6 yn dod i fodolaeth. Roeddwn yno ar ddechrau'r trafodaethau hynny, ac mae gweld hynny'n dwyn ffrwyth yn braf iawn ac rwy'n falch bod hynny'n digwydd bellach. Pan oeddwn yn y swyddogaeth honno, roeddwn yn ymwybodol yn feunyddiol o'r math o ymdrechion arwrol y gwelsom gan staff y GIG dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. Efallai y buont yn fwy amlwg yn y newyddion, mae wedi bod yn fwy cyhoeddus dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, ond mewn gwirionedd, os ydych yn y gwasanaeth, rydych yn gweld pobl yn mynd gam ymhellach nag y mae angen iddynt bob dydd o bob wythnos. Cofiaf yn glir iawn orfod siarad â rhai gwleidyddion a phleidiau gwleidyddol am yr angen i fod yn ofalus ynghylch eu beirniadaethau o'r GIG, oherwydd cânt eu gweld, yn fwriadol neu beidio, fel beirniadaeth ar y staff sy'n darparu ein gwasanaeth, a daw effaith dorcalonnus yn sgil hynny wedyn, effaith sydd yn parhau.

Felly, yn sicr rwyf yn adleisio eich barn, Ysgrifennydd y Cabinet, os yw'r Ceidwadwyr yn benodol mor awyddus i gefnogi a diolch i'n gweithwyr yn y GIG am y gwaith ardderchog a wnânt wythnos ar ôl wythnos, yna'r hyn y dylen nhw ei wneud yn sicr yw codi'r cap cyflog a gwneud yn siŵr bod holl staff y GIG yn cael y codiad cyflog y maent yn ei haeddu. A byddwn yn sicr hefyd yn adleisio eich barn nad yw galw am staff ychwanegol mewn gwagle yn mynd i fynd â ni ddim pellach ymlaen pan ydym ni wedi gweld, fel rydych chi wedi dweud, wyth mlynedd o gyni yr ymddengys bod un blaid benodol yn y Siambr hon yn parhau i eiriol o'i blaid.

Ond fy nghwestiynau i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: er gwaethaf y nifer fwyaf erioed o staff, a does dim amau hynny, mae'r pwysau yn dal yn enfawr am yr holl resymau yr ydych chi wedi'u nodi, ac o ystyried y mathau hynny o bwysau, yn benodol, yr ydym ni newydd eu gweld, a fyddech chi'n cytuno bod yn rhaid i les staff fod yn flaenoriaeth uchel iawn ac y bydd pobl bellach angen rhywfaint o amser a lle i ddod dros y pwysau diweddar hwn fel y gallwn gynnal y gwasanaethau dros y tymor canolig a mwy hir dymor? A gaf i ofyn ichi beth yn rhagor yn eich barn chi allwn ni ei wneud i helpu i reoli'r pwysau hwnnw ar y staff hynny sy'n gweithio'n galed, ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol fel ei gilydd?

Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rydych chi'n iawn am y sgwrs band 6; rwy'n eich cofio mewn swyddogaeth wahanol pan ddechreuodd y sgyrsiau hynny, ac rwy'n gweld eich bod yn gwisgo porffor Unsain a'r swffragétiaid heddiw yn ogystal. Rwy'n cydnabod bod a wnelo hyn ag ewyllys da ac ymroddiad y staff. Mae'n rhan reolaidd o beth sy'n cadw'r gwasanaeth i fynd, oherwydd nid yw staff y GIG yn gweithio i lythyren eu disgrifiad swydd; maent yn mynd y tu hwnt i hynny yn rheolaidd. Pe byddai hynny'n dod i ben, yna ni fyddai rhannau helaeth o'n gwasanaeth yn gweithio yn y ffordd y maent ar hyn o bryd. 

Ynglŷn â'r pwynt am y drafodaeth negyddol yn gyhoeddus a gwleidyddol, mae yn effeithio ar staff. Cofiaf gyfarfod, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog iechyd ar y pryd, â pharafeddygon, ac roeddent yn arbennig o ddigalon am y ffordd yr oeddent yn teimlo y siaradwyd amdanynt. Nid oeddent yn teimlo mai'r Llywodraeth oedd yn cael ei thrafod bob mis pan gyhoeddwyd amseroedd ymateb ambiwlans, ac roedd yn effeithio ar eu morâl mewn ffordd real a sylweddol. Mae a wnelo hyn yn rhannol â'r drafodaeth gyhoeddus ehangach ac effaith hynny ar y gweithlu presennol, ond hefyd, o bosibl, y gweithlu yn y dyfodol, oherwydd mae rhai pobl sy'n dewis peidio â dilyn gyrfa mewn meddygaeth neu yn y gwasanaeth iechyd oherwydd y ffordd y siaredir yn rheolaidd am y GIG. Maent yn gweld hynny ar ychydig dudalennau cyntaf papurau newydd yn rheolaidd—a pha mor bell a pha mor gyflym y mae'r newyddion negyddol yn teithio am y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, dyna pam rwy'n ceisio manteisio ar bob cyfle i ddiolch ac i ganmol staff y GIG am eu gwaith.

O ran eich pwynt am y cap cyflog, rwy'n gwybod bod hynny'n bwysig hefyd, ac mae'n gysylltiedig yn rhannol â'r gwerth y mae pobl yn teimlo a roddir arnynt yn ogystal. Ar ôl gweld y cap cyflog yn parhau ar 1 y cant i athrawon, ac ar ôl gweld y cap cyflog yn parhau ar gyfer gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus eraill, bydd yr hyn sy'n digwydd nesaf gydag adroddiadau'r corff adolygu cyflogau a'r telerau ar gyfer cynnig unrhyw godiad cyflog, yn bwysig iawn i weithlu heddiw ac yfory hefyd. Rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth y DU yn cydnabod eu cyfrifoldebau ac yn gwneud y peth iawn drwy roi codiad cyflog gweddus, a'i ariannu'n llawn.

Ynglŷn â'ch sylw am les staff, rwy'n gyfarwydd iawn â hyn. Ar gyfer y staff hynny sy'n gweithio'n galed iawn, ni allwch ddal ati, ar 100 milltir yr awr bob dydd, oherwydd ar ryw bwynt mae pobl yn y pen draw yn torri. Felly, mae angen iddynt gael amser i adfer a'r lle i wneud hynny. Dyna pam fod gennym ni delerau ac amodau gweddus ar gyfer staff y GIG, ond dyna hefyd pam ei bod hi'n bwysig edrych eto ar yr hyn a ddywedodd yr arolwg seneddol am les staff. Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol ddiddorol eu cynnig am y pwyslais y dylem ni ei roi ar les ein staff a sut y cawn nhw eu trin a'u rheoli, ac, mewn gwirionedd, sut maen nhw'n teimlo wedi eu grymuso yng ngwir ystyr y gair i wneud dewisiadau ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth oherwydd mae hynny'n bwysig hefyd. Felly, mae amrywiaeth o bethau.

Daw hyn yn ôl at fy mhwynt am y GIG fel cyflogwr, yn cyflogi dros 90,000 o unigolion yn y wlad, ac mae angen iddo wneud yn siŵr ei fod yn gyflogwr da ac edrych yn feirniadol ar ei hun a'r ffordd y mae'n trin ei holl staff ac yn gallu adnabod cyfleoedd ar gyfer gwella. Nid wyf erioed wedi dweud bod y GIG yn gyflogwr perffaith oherwydd nid yw, ac mae hynny'n rhywbeth y bydd angen i ni roi ystyriaeth barhaus iddo ac a fydd yn bendant yn ffurfio rhan o'n hymateb i'r adolygiad seneddol. 

15:15

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ynglŷn â gwerthfawrogi gweithlu'r GIG? Yn dilyn sylw Dawn Bowden am les staff, roeddwn yn mynd i ganolbwyntio ar feddygon iau mewn ysbytai a'u lles parhaus, a gofyn yn benodol i Ysgrifennydd y Cabinet beth y mae'n ei wneud i fynd i'r afael â phryderon meddygon iau mewn ysbytai yng Nghymru heddiw ac i archwilio'r diwylliant o sut y rheolir eu hamseroedd gweithio yn ein hysbytai.

Yn amlwg, bu sôn bod eleni yn 70 mlynedd ers sefydlu'r GIG, ac mae rhai ohonom ni wedi bod yn gweithio yn y GIG am fwy na hanner yr amser hwnnw, erbyn hyn, rwy'n arswydo wrth feddwl nôl. Ond beth bynnag, yn y gorffennol, fel meddygon iau mewn ysbytai, roeddem yn gweithio mewn timau penodol—ymgynghorydd, uwch gofrestrydd, cofrestrydd, uwch-swyddog preswyl neu SHO a swyddog preswyl. Roedd yn benodol, roeddech yn cael yr un tîm ddydd ar ôl dydd, a'r un tîm ydoedd am chwe mis. Nid oedd problem gyda rotâu; roeddem yn gweithio'n galed iawn—dros 100 awr yr wythnos. Nid oedd problem cael amser o'r gwaith ar gyfer astudiaethau neu arholiadau ac nid oedd problem cael amser o'r gwaith i briodi. Roedd hyd yn oed y gweinyddwyr yno bob awr o'r dydd ar nos, yn ein helpu i gyd—un teulu mawr hapus. O wibio ymlaen i heddiw ac mae ein meddygon iau yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol ac nad oes neb yn hidio amdanynt. Nid ydynt bellach yn gweithio mewn timau penodol. Mae moderneiddio gyrfaoedd meddygol wedi difetha hynny ac mae'r meddygon iau bellach yn gweithio gyda gwahanol bobl bob dydd; dydyn nhw ddim mewn tîm sefydlog. Mae ymgyfreitha wedi codi, maent yn cael eu beio, fel gwallau unigol, am fethiannau systemig, pan fo bylchau yn y rota yn golygu bod yn rhaid ymdrin â dwy neu dair ac weithiau bedair neu bum ward pan fyddan nhw'n gweithio. Os bydd rhywbeth yn digwydd, nhw sydd ar fai yn awtomatig ac nid y ffaith nad oedd digon o feddygon o gwmpas a'u bod yn gorfod ymdrin â wardiau lluosog.

Ceir hollt rhwng gweinyddwyr ysbyty, yn enwedig y rhai sy'n trefnu rotâu—nid ydynt mwyach yn rhan o'r tîm, felly erbyn hyn mae meddygon iau yn gorfod brwydro i gael amser i ffwrdd ar gyfer gwyliau, amser i ffwrdd ar gyfer seibiant i astudio, amser o'r gwaith i astudio ar gyfer yr arholiadau sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, a hyd yn oed gorfod brwydro am amser i ffwrdd i briodi a chael mis mêl a phethau. Nawr, nid felly yr oedd pethau; bu newid cynnil mewn diwylliant. Mae meddygon iau yn teimlo eu bod yn cael eu herlid, eu bwlio a'u hecsbloetio, a dyna pam maen nhw'n gadael. Felly, o ran gwerthfawrogi gweithlu'r GIG, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn beth yr ydych yn ei wneud yn benodol i fynd i'r afael â phryderon meddygon iau mewn ysbytai yng Nghymru heddiw? Diolch yn fawr.

Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau. Credaf ei bod hi'n adlewyrchiad o'r ffaith ynglŷn â faint mae'r GIG wedi datblygu o ran lefel y gweithgarwch sy'n digwydd yn awr—lefel y galw a ddaw drwy ddrysau'r gwasanaeth iechyd gwladol mewn gofal iechyd lleol ac mewn ysbytai a gallu'r gwasanaeth iechyd gwladol i wneud mwy. Mae hyn yn rhan o'n her. Mae hefyd yn gysylltiedig, wrth gwrs, â'r cynnydd demograffig a'r ffaith bod mwy ohonom yn byw yn hirach—rhywbeth i'w ddathlu, ie, ond mae hefyd yn her i'r gwasanaeth iechyd. Ond hefyd y ffaith nad yw iechyd y genedl wedi gwella ym mhob agwedd. Mae rhan o'r heriau yr ydym yn eu gweld yn dod drwy ein drysau yn ganlyniad i iechyd gwael ymhlith y boblogaeth. 

Cytunaf â chi fod staff unigol, yn arbennig—a dyma bron bob amser ble mae hynny'n digwydd—. Af yn ôl i gyfnod blaenorol yn fy mywyd pan oeddwn, ar un adeg, yn cynrychioli rhai o aelodau Dawn Bowden ac eraill o ran gwasanaethau gofal iechyd ac agweddau cysylltiedig, mewn gwrandawiadau Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a Chyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer, ac, mewn gwirionedd, rydych yn tueddu i weld mwy o staff iau yn cael y bai am fethiannau yn y system unigol ac rydych yn tueddu i beidio â gweld uwch gofrestryddion yn cael gwŷs ar gyfer y gwrandawiadau rheoleiddio hynny. Nid wyf yn meddwl bod hynny'n iawn ac mae angen inni feddwl eto am y diwylliant y byddwn yn ei greu a'r amgylchedd rheoleiddiol sy'n cydnabod cyfrifoldeb unigol a chyfunol wrth wneud hynny.

Rwyf hefyd yn cydnabod mai rhan o'r rheswm pam bod meddygon iau yn teimlo y cymerir mantais arnynt yn arbennig—. Nid wyf yn meddwl y gallwch synied yn rhy isel am hyn mewn gwirionedd, ond rwy'n dal i synnu, hyd yn oed yng Nghymru, gan y dicter a deimlir am anghydfod a streic y meddygon iau. Er bod llawer o'r meddygon iau yn dweud eu bod yn teimlo'n ddiolchgar am y ffaith eu bod yng Nghymru ac nid yn Lloegr ar y pryd, mae'n wir wedi gwenwyno'r ffynnon o ran sut y mae meddygon iau yn teimlo am y gwasanaeth iechyd cyfan a'u parodrwydd nid yn unig i hyfforddi yma ond wedyn i ymrwymo i aros o fewn y DU yn ogystal. Mae'r contract hwnnw yn rhan o ble'r ydym ni arni yn ein sgwrs gyda meddygon iau. Felly, rwy'n cyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain yn rheolaidd ac maent yn rheolaidd yn dod â chadeirydd eu pwyllgor meddygon iau i hwnnw, yn rhannol oherwydd ei bod hi'n bryd i ni gael sgwrs am y contract a'r anghydfod, ond mae'n fwy ynglŷn â'r hyn a wnawn wedyn, oherwydd rotâu—mae hynny i gyd yn rhan o'r sgwrs a gawn. Felly, rwy'n dal i gael sgwrs agored ac adeiladol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, ac rwy'n disgwyl parhau i weld cynrychiolwyr eu meddygon iau, oherwydd mae arnom ni angen deall yr heriau penodol y maent yn eu hwynebu, yn arbennig oherwydd, wedi'r cyfan, maent yn rhan o ddyfodol y gwasanaeth.

15:20

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni atgoffa ein hunain o bwysigrwydd y gweithlu yn y GIG. A gaf i ymuno â chi ac eraill ar draws y Siambr—ac rwy'n sicr fy mod yn siarad ar ran pawb na fyddant hyd yn oed yn siarad heddiw efallai am y cymorth a roddwn i staff y GIG, y gwerthfawrogiad sydd gennym o'u hymrwymiad, yn enwedig yn ystod y dyddiau diwethaf a'r anhawster o ran teithio? Hyd yn oed ar adegau pan fydd yr heddlu wedi dweud na ddylid ond teithio os yw'n hanfodol, mae staff y GIG a gofal yn credu bod eu presenoldeb i ofalu am gleifion a chleientiaid yn hanfodol, ac maen nhw wedi gwneud yr ymdrech honno. Roeddwn yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot fore Gwener—ni chawsom ein heffeithio mor ddrwg—yn gollwng fy ngwraig i fynd i'r gwaith, ond gwelais staff yn dod â bagiau dros nos, oherwydd roeddent yn dod o ardaloedd yr effeithiwyd arnynt ac roeddent yn gwybod bod angen iddynt fod yn y man gwaith hwnnw i ddarparu'r gofal i gleifion. Dylem werthfawrogi hynny bob amser a byth anghofio hynny.

Roeddech hefyd yn pwysleisio heddiw, yn amlwg, fod y niferoedd mwyaf erioed o staff yn y gweithlu. Cytunaf yn llwyr. Mae mwy o staff nag erioed o'r blaen yn y gweithlu. Ond rhaid inni hefyd gydnabod nad ydym bellach yn gyffredinolwyr, mae gennym lawer mwy o arbenigwyr mewn gwahanol feysydd ac, felly, mae gennym nifer fawr o staff, ond mae rhai ohonynt bellach yn arbenigo mewn meysydd a oedd yn llawer mwy cyffredinol cyn hyn. Byddaf yn cymryd maes fy ngwraig fel enghraifft. Mewn radiograffeg, mae gennym uwchsain, MRI, CT— tomograffeg gyfrifiadurol, meddygaeth niwclear, diagnosteg ychwanegol arferol, radiotherapi—[Anghlywadwy.] Mae cymaint o arbenigeddau yn yr un maes hwnnw fel y gallem ni gael mwy o radiograffyddion, fel y cyfryw, ond efallai llai fesul meysydd unigol. Felly, rwyf hefyd yn falch o weld y datganiad o fwriad ddoe sy'n tynnu sylw at y gwaith a wneir yn y maes delweddu penodol hwnnw, sydd yn newyddion da, yn ogystal. Mae yn rhaid inni gydnabod mai ystyr hynny yw y bydd prinder mewn mannau eraill.

Soniodd Dai Lloyd am feddygon iau, ond gadewch inni beidio ag anghofio'r meddygon teulu y tu allan i oriau, sydd hefyd yn fater o bwys y mae angen inni fynd i'r afael ag e, oherwydd rydym yn wynebu heriau gyda meddygon teulu y tu allan i oriau. Nid nifer y meddygon teulu yw hynny o reidrwydd, dim ond bod rhai pobl yn gallu cael amser i wneud gwaith y tu allan i oriau heb deimlo dan gymaint o straen yn eu gwaith bob dydd arferol. Mae hynny'n rhan o'r broblem y mae angen inni edrych arni.

Ond rhaid inni hefyd gydnabod bod hyfforddiant yn wych, ond mae'n cymryd blynyddoedd. Nid yw'n digwydd dros nos. Mae yna sawl blwyddyn o hyfforddiant ac yna y mae arnynt angen profiad, ac, weithiau, mae arnom angen y cyflenwi nawr. Felly, af ymlaen at un o'r materion ar gyfer nyrsio, er enghraifft. Mae cronfa nyrsys yn fater y credaf fod angen inni edrych yn ofalus iawn arno ym mhob bwrdd iechyd i sicrhau bod y gronfa yn gyson. Rwyf wedi cyfarfod ag undebau llafur sydd â phryderon bod—y ceir terfyn ar gronfa, neu os ydych chi'n mynd i wneud cronfa, rydych mewn gwirionedd yn gwneud contract newydd, fel na thelir goramser i chi. Felly, mae gwerth staff y GIG—gwnewch iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi drwy beidio â dweud wrthyn nhw, 'Ni allwch gael tâl goramser, mae gennych eich contract gwahanol eich hunan ac felly rydych yn cael cyflog cyfradd safonol ar gyfer gweithio 70 awr mewn wythnos efallai.' Mae angen inni ystyried creu cronfa i sicrhau ei fod yn gyson ledled Cymru a'i fod yn gwobrwyo staff, oherwydd ei bod yn rhatach na chael staff asiantaeth. Mae llawer o bobl nawr sy'n dewis peidio â chael cronfa, ac rydych yn defnyddio asiantaethau, ac mae hynny'n costio llawer mwy o arian i chi. Felly, os gwelwch yn dda ystyriwch siarad â byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r mater hwn ynglŷn â chronfeydd. 

Fe wnaethoch chi sôn hefyd am barafeddygon—newyddion gwych am barafeddygon, ond rydym hefyd yn gweld ystod ehangach o barafeddygon bellach—maent yn cael eu defnyddio mewn meddygfeydd teulu yn ogystal. Felly, fel yr ydym yn hyfforddi mwy, maent yn cael eu gwasgaru'n fwy eang mewn meysydd gwahanol. Felly, credaf fod angen inni gynyddu nifer y parafeddygon sy'n cael eu hyfforddi.

Yn yr un modd, fel y crybwyllwyd gan Suzy Davies, y ddeoniaeth—. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â rhai o'r materion y soniodd y ddeoniaeth amdanynt, i gynyddu nifer y meddygon sy'n cael eu hyfforddi i fod yn feddygon teulu. Rhaid i'r niferoedd gynyddu i'r terfyn o 170 yr oedd trafodaeth yn ei gylch. Nawr, rwy'n deall—. Allwn ni lenwi'r 170? Dyna'r cwestiwn, ond os nad ydym yn nodi nifer, fyddwn ni byth yn gwybod. Felly, credaf y dylem ni roi sylw i hynny yn ogystal.

Llywydd, terfynnaf ar hynny, oherwydd gwelaf fy mod yn brin o amser. Ond credaf fod hyn yn ymwneud â materion o werthfawrogi staff, nid dim ond dweud y geiriau, ond gweithredu ar y gwerthfawrogiad sydd gennym ni tuag at ein staff. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch. Mae hwnnw'n bwynt defnyddiol iawn am y gwerthfawrogiad a'r gwerth a roddwn ar y staff, nid yn unig ar adegau eithriadol, ond, fel y crybwyllwyd gan Dawn Bowden, drwy gydol y flwyddyn, a'r gwasanaeth rhyfeddol yr ydym yn freintiedig i'w gael yn y wlad hon. Rwy'n cydnabod eich pwynt am y cydbwysedd o ran y swyddogaethau cyffredinol ac arbenigol i weld—[Anghlywadwy.]—am ffurf o hyfforddiant yn y maes meddygol, ond mae'n rhan o'r hyn sydd angen i ni ei ddeall, a rhan o'r gwaith y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yno i'w ddeall ac i helpu'r system i ddeall wrth iddo gynllunio'r gwahanol lefelau o staff a'r gwahanol niferoedd o staff a sut wedyn y disgwyliwn iddynt weithio gyda'i gilydd.

Rwy'n falch o'ch clywed yn cydnabod y datganiad o fwriad am ddelweddu. Credaf mai chi yw'r unig Aelod sydd wedi crybwyll hynny, ond mae'n gam pwysig ymlaen, ac mae wedi cael ei drefnu gyda staff yn y maes yn ogystal er mwyn cael gweledigaeth gydlynol ar gyfer y staff hynny o'r gwasanaeth y gwyddom y bydd angen iddynt ei gyflawni. Mae hyn yn effeithio ar ystod eang o'r gwasanaeth iechyd gwladol.

Ynglŷn â'r trefniadau cronfeydd, rwy'n cydnabod bod her i ni yma, a her go iawn am y cyfraddau cyflog, sut y caiff ei drefnu, pa mor gyfleus yw, a chredaf ei fod yn gysylltiedig ag e-amserlennu yn ogystal—sut y gallwn ni wneud iddo weithio ar gyfer staff i ymgymryd â shifftiau sy'n gweithio iddyn nhw ac i'r gwasanaeth. Mae gwaith eisoes ar y gweill ar y meysydd hynny. Felly, yn y misoedd nesaf, disgwyliaf allu adrodd yn ôl ynglŷn â'r rheini i chi beth bynnag.

O ran niferoedd hyfforddi meddygon teulu, rydych yn iawn—mae gennyf ddiddordeb mewn gweld sut hwyl gawn ni eleni, ac os ydym eto yn llenwi neu'n gorlenwi, yna bydd gennym wahanol sgwrs am y seilwaith sydd gennym ar gyfer faint o leoedd hyfforddi y gallem ni ddarparu ar eu cyfer, yn ogystal â dealltwriaeth o faint mwy o bobl y gallwn eu cael mewn gwirionedd i gynnal niferoedd hyfforddiant meddygon teulu yma yng Nghymru, ac, wrth gwrs, y sgwrs am y gyllideb i gefnogi'r bobl hynny yn ogystal.

Gorffennaf gyda'r pwynt am barafeddygon. Unwaith eto, bydd sylwadau am y nifer o barafeddygon y mae angen i ni eu hyfforddi. Mae parafeddygon eu hunain yn adnodd dymunol iawn, a llawer o bobl yn ceisio eu recriwtio y tu allan i system Cymru yn ogystal. Ond hefyd y swyddogaethau—ac rydych chi'n iawn, mae swyddogaethau yn newid, fel y gwneuthum gydnabod yn fy natganiad. Mae a wnelo hyn hefyd â'r rotâu a sut yr ydym yn disgwyl iddynt weithio. Oherwydd os cymerwch barafeddyg allan o'r gwasanaeth ambiwlans brys, ac yr ydych yn rhoi'r parafeddyg mewn gofal sylfaenol, os ydyn nhw yno am gyfnod hir o amser, efallai na fyddant yn gallu symud yn ôl yn hawdd i'r gwasanaethau brys, ac mae potensial i'w dad-sgilio ar gyfer pob rhan o'u swyddogaeth. Mae'n ymwneud yn rhannol â deall sut mae parafeddygon profiadol, yn benodol, yn cael rota a disgrifiad swydd, ac amlinelliad o'u swyddogaeth sy'n caniatáu iddynt symud i rannau gwahanol o'r gwasanaeth ac i barhau i ychwanegu gwerth at y rhannau hynny o'r gwasanaeth. Os yw'n ymwneud â chylchdroi rheolaidd mewn gwahanol rannau o'r gwasanaeth, gallwn yn wir weld mwy o werth o ran darparu, ond hefyd i'r person hwnnw ddal i deimlo bod gwerth iddynt a bod ganddynt swydd y maent am ei gwneud ac nad ydyn nhw'n cael eu gorweithio gan un rhan ohoni neu'r llall.

15:25
4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan arweinydd y tŷ ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rwy'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Caiff Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ar 8 Mawrth, ei gydnabod ledled y byd. Mae'n ddiwrnod i gydnabod a dathlu llwyddiannau menywod a merched ym mhob man. Y thema eleni yw Pwyso am Gynnydd. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw at y cynnydd yr ydym yn ei wneud yng Nghymru a'r heriau yr ydym ni'n parhau i'w hwynebu.

Mae stereoteipio ar sail rhyw yn achos ac yn ganlyniad i anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Yn rhy aml o lawer, dydy menywod a merched ddim yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial o hyd. Rydym ni'n gweithio'n galed i newid a herio hyn mewn sawl maes. Mae ein gwaith ar STEM—gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg—yn enghraifft o sut yr ydym ni'n gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw. Rydym ni'n hyfforddi athrawon ffiseg ledled Cymru ynghylch dulliau addysgu cynhwysol o ran rhywedd. Rydym yn ariannu dosbarthiadau codio cyfrifiadur, gan gynnwys gweithdai penodol i ennyn diddordeb ac ysgogi merched. Mae tegwch rhwng y rhywiau yn cael sylw yn ein holl drefniadau cyllido sy'n gysylltiedig â STEM. Mae hefyd yn cael ei godi drwy'r rhwydweithiau cenedlaethol o ragoriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg a mathemateg. Nod ein rhaglen STEM Cymru 2 yw annog mwy o fenywod ifanc i symud ymlaen i yrfaoedd peirianneg. Hyd yma, mae dros 3,000 o fenywod ifanc wedi ymgysylltu â'r rhaglen.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed. Mae mynd i'r afael â rhagfarn ar sail rhyw yn flaenllaw yn ein hymagwedd tuag at brentisiaethau, ac rydym wedi cyflogi hyrwyddwr cydraddoldeb i ddatblygu'r gwaith hwn.

Eleni, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cyd-daro â'r Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol. Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal gan ein rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant i annog menywod i ystyried llwybrau anhraddodiadol.

Mae angen mwy o fenywod arnom ar bob lefel rheoli yn ein busnesau sector preifat. Nod benodol y prosiect Cenedl Hyblyg 2 yw datblygu menywod i ymgymryd â swyddi rheoli. Caiff ei gefnogir gan £8 miliwn o arian Ewropeaidd. Drwy'r prosiect hwn, rydym ni wedi gweld bod y cyfuniad cywir o hyfforddiant arweinyddiaeth, cefnogaeth ac anogaeth unigol yn gallu talu ar ei ganfed mewn gwirionedd a helpu menywod i gael swyddi gwell, dyrchafiadau neu godiadau cyflog. Rydym ni hefyd wedi gweld sut y gall menywod, pan fyddant yn cyrraedd y lefelau uchaf o reoli, helpu i arwain newid sefydliadol i hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer eu gweithlu cyfan, fel cyflwyno trefniadau gweithio hyblyg.

Mae angen mwy o amrywiaeth arnom hefyd mewn rolau lle gwneir penderfyniadau ac mewn bywyd cyhoeddus, ond rydym ni yn gwneud cynnydd. Yn 2016-17, roedd 47.8 y cant o'r bobl a benodwyd i swyddi cyhoeddus newydd a 50 y cant o'r ailbenodiadau yn fenywod. Yn dilyn etholiadau lleol mis Mai 2017, mae pedwar cyngor bellach yn cael eu harwain gan fenywod. Rydym yn disgwyl yn ffyddiog gweld mwy yn y dyfodol.

Mae'r holl sefydliadau a ariennir drwy ein rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant wedi ymrwymo i ddarparu cronfa fwy amrywiol o benderfynwyr. Yn rhan o'r gwaith hwn, mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wedi lansio rhaglen fentora ar gyfer menywod, sy'n dechrau yn ddiweddarach y mis hwn. Fel llawer ohonoch chi, rwyf wedi ymrwymo i fod yn fentor ac rwy'n edrych ymlaen at gefnogi'r cyfranogwyr i ddod yn arweinwyr y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo ei hymrwymiad i 50:50 erbyn ymgyrch 2020. Mae bod yn rhan o'r ymgyrch yn dangos ymrwymiad cyhoeddus cyflogwyr i weithio tuag at gynrychiolaeth gyfartal rhwng y rhywiau mewn swyddi sy'n penderfynu ac yn dylanwadu yng Nghymru. Rydym hefyd wedi addo ein hymrwymiad i ymgyrch Working Forward y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw merched yn wynebu gwahaniaethu yn y gweithle yn gysylltiedig â beichiogrwydd neu famolaeth. Credaf y gall y sector cyhoeddus yng Nghymru arwain y ffordd a bod yn esiampl wrth arddangos arferion da a thrwy hyrwyddo manteision gweithleoedd heb wahaniaethu.

Rydym ni hefyd yn gweithio'n galed i gefnogi menywod sy'n wynebu rhwystrau wrth geisio cael hyfforddiant a chyflogaeth. Rydym ni'n cydnabod mai ailgyflogi yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a'n prif bwyslais yw sicrhau bod pobl mor gyflogadwy â phosibl. Mae'r rhaglen Cymunedau dros Waith yn rhoi cefnogaeth bwrpasol i'r rhai hynny sy'n wynebu rhwystrau sylweddol a chymhleth, yn aml, sy'n eu hatal rhag dilyn hyfforddiant neu gael cyflogaeth. Bydd yn darparu dros £70 miliwn mewn gwasanaethau cymorth cyflogaeth yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru tan 2020. Erbyn mis Ionawr, roedd 5,730 o fenywod wedi cael cymorth gan y rhaglen.

Nod y rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth yw cefnogi rhieni i fod yn fwy cyflogadwy ac i gael gwaith mewn achosion pan mai gofal plant yw eu prif rwystr rhag cael addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae dros 95 y cant o gyfranogwyr PaCE yn fenywod, a thros 84 y cant o'r cyfranogwyr yn unig rieni hefyd. Rydym ni'n gwybod y bydd sicrhau bod gofal plant fforddiadwy a hygyrch ar gael yn rhoi mwy o ddewisiadau cyflogaeth i rieni, yn galluogi rhieni i weithio, ac yn cefnogi ein hymgyrch i gynyddu twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau. Dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair blwydd oed, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae'n rhaid inni hefyd sicrhau bod plant yn cael eu dysgu am berthynas iach ag eraill o oedran ifanc. Mae'r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru yn cynnwys, fel un o'i bedwar o ddibenion, y dylai pob person ifanc adael ein system addysg yn unigolion iach, hyderus sy'n gallu meithrin perthynas gadarnhaol ag eraill, yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd. Mae dysgu am berthynas iach ag eraill yn ifanc yn gam pwysig wrth fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ac, yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y gwaith pwysig iawn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae ystadegau'n dangos bod menywod yn fwy tebygol na dynion o fod wedi profi pob math o gam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn cynnwys priodasau dan orfod, troseddau a gyflawnir er anrhydedd, ac anffurfio organau cenhedlu benywod. Yn dilyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn 2015, a oedd yn gam pwysig, cyhoeddwyd y fframwaith hyfforddi cenedlaethol yn 2016. Mae mwy na 70,000 o weithwyr proffesiynol wedi'u hyfforddi drwy'r fframwaith hwn hyd yma. Mae hynny'n 70,000 o weithwyr proffesiynol mwy hyderus, mwy ymwybodol a mwy gwybodus sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

Ym mis Ionawr, lansiwyd ymgyrch Dyma Fi i fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw ac i annog pobl i fyw heb ofni cyfyngiadau ar sail rhyw a normau ar sail rhyw. Yn y pedair wythnos ar ôl ei lansio, mae wedi ei weld dros 200,000 o weithiau a gwelwyd cynnydd o bron i 2,000 y cant yn y defnydd o wefan Byw Heb Ofn. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ddydd Iau, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ei hun, gan dynnu sylw at y cam nesaf yn ein gwaith i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n bwysig bod y bobl hynny y gwnaethpwyd y polisi hwn ar eu cyfer yn gallu dylanwadu a llywio'r polisi hwnnw a rhannu'r hyn sy'n gweithio iddyn nhw. Y cam nesaf fydd gwneud cynigion ynghylch sut yr ydym yn gwneud hyn.

Yn y pen draw, rydym yn bwriadu adeiladu cymdeithas nad yw'n goddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Ond i ddod yn ôl at y pwyslais heddiw, mae'n ymwneud â dathlu menywod Cymru a'u cyfraniad i bob maes o fywyd Cymru. Ein swyddogaeth ni fel Llywodraeth yw pwyso am gynnydd a sicrhau bod gan fenywod a merched yr un cyfleoedd i wireddu eu potensial. Rydym ni'n pwyso am gynnydd, ac rydym yn gwneud y cynnydd hwnnw, ond nid ydym yn hunanfodlon. Mae llawer mwy i'w wneud. Mae gennym ni i gyd ddyletswydd i fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw, yn ei holl ffurfiau, i sicrhau nad yw'r cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol yn destun iddo, yn cael eu cyfyngu ganddo neu eu niweidio ganddo, i greu Cymru lle gall pawb ddyheu a chyflawni a bod y bobl y bwriadwyd iddynt fod. Diolch.

15:30

Diolch yn fawr iawn, iawn arweinydd y tŷ, am eich datganiad heddiw. Mae'n anodd iawn i feirniadu unrhyw beth yn y fan honno, a dydw i ddim yn bwriadu gwneud hynny. Ac yn sicr, rwy'n croesawu'r rhestr o weithgareddau y mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan ynddynt, a nifer y menywod sydd wedi cael eu hannog i gymryd rhan yn y gweithgareddau hynny. Does dim amheuaeth gen i y byddan nhw'n elwa ar hynny ac yn bwrw ymlaen yn dda â'r uchelgeisiau hynny yn eu bywydau. Ond meddwl ydw i tybed a oes unrhyw ffordd—neu hyd yn oed a yw'n briodol, mewn gwirionedd—y gallem ni fonitro cynnydd y menywod, a'r merched iau yn arbennig, sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglenni hynny. Dydw i, yn sicr, ddim eisiau ysbïo arnyn nhw, ac wrth gwrs eu dewisiadau nhw yw eu dewisiadau nhw, ond os gallwn ni gael tystiolaeth gref—dydw i ddim yn gwybod, hyd yn oed ymhen 10 mlynedd—i brofi bod y rhain wedi bod yn weithgareddau hynod werth chweil, mewn gwirionedd, y gellid eu hailadrodd, yna rwy'n credu bod hynny'n beth da i bob un ohonom ni.

Rwy'n falch iawn o weld bod pwyslais ar brentisiaethau yn y datganiad a wnaethoch chi heddiw. Hoffwn i sôn yn gyflym am Goleg Penybont, sydd newydd ennill gwobr darparwr prentisiaethau y flwyddyn—rwyf wedi gwneud fy nyletswydd i'm hetholwyr yn y fan yna.

Ond mae yna wybodaeth sy'n achosi pryder mawr am stereoteipio ar sail rhyw o hyd, ac rwy'n cyfeirio yn benodol at ddarn o waith a wnaethpwyd gan The Careers and Enterprise Company yn ddiweddar, a ganfu fod gan bobl ifanc safbwyntiau mwy, nid llai ceidwadol am y rhywiau yn y byd nag oedd gan eu rhieni. Mae 56 y cant o fenywod ifanc rhwng 17 ac 19 oed yn credu bod eu rhyw yn cyfyngu ar eu dewisiadau gyrfa—dim ond 37 y cant o ddynion ifanc a oedd o'r farn honno. Ac aeth yr ymchwil ymlaen i gadarnhau bod dyheadau gyrfa yn dangos gwahaniaethau penodol rhwng y rhywiau, a 18 y cant yn fwy o ddynion ifanc na menywod eisiau bod yn beirianwyr ac yn weithwyr TG proffesiynol—efallai nad yw hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n synnu o'i glywed yn y fan hon. Ond roedd yn dangos bod y rhagfarnau hynny yn cael eu rhoi i eraill gan bobl ifanc eu hunain, felly cyfoedion, mewn un ffordd, sydd wedi annog menywod ifanc yn arbennig i fynd i'r gyrfaoedd yr aethant iddynt, efallai. Ac rwy'n credu bod y ffaith bod y ffigurau newydd hyn yn dangos nad yw cydraddoldeb rhwng y rhywiau, os mynnwch chi, yn fater o drefn, rwy'n credu bod hynny'n rheswm da pam mae'r dadleuon hyn, a'r datganiadau hyn yr ydych chi'n eu gwneud, Gweinidog, yn dal yn hanfodol. Byddwn i wrth fy modd yn dweud bod y gwaith ar ben, ond rydyn ni'n ymhell iawn o hynny, o farnu yn ôl y ffigurau hyn.

Yn ogystal â phrentisiaethau, tybed a yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i ddychweliaethau hefyd—dydw i ddim yn gwybod a yw hwnnw'n air y gallaf ei ddefnyddio. Mae Llywodraeth y DU newydd gyhoeddi rhywfaint o arian i gefnogi pobl yn y sector preifat i fynd yn ôl ar ôl cael amser i ffwrdd at ddibenion gofalu. O'r bobl hynny, menywod yw 90 y cant ohonyn nhw—efallai nad yw hynny eto yn syndod mawr. Ac mae hyn yn ddiddorol os ydym ni'n gofyn i fenywod yn benodol i fynd yn ôl i yrfa, yn hytrach na swyddi, oherwydd yn sicr pan fyddwch chi'n ystyried yr ystadegau diweddar a gawsom o 'Pwy sy'n rhedeg Cymru? 2017', er gwaethaf y gwaith da yr ydym ni'n ei wneud yn y fan yma, dim ond 6 y cant o'r prif weithredwyr yn y 100 busnes uchaf sy'n fenywod—a mae hynny yn y sector preifat. Siawns y gallwn ni fod yn gwneud yn well na hynny. Felly, os oes ffrwd waith benodol yma yr ydych chi'n credu y gallai fod gennych chi ddiddordeb yn ei datblygu, byddem ni yn sicr yn hapus i'ch cefnogi chi yn hynny o beth.

O ran gofal plant, yn amlwg rydym ni eisiau i hyn weithio. Ac rwy'n meddwl tybed a allaf i dim ond tynnu sylw at y cynllun treialu ar ofal plant yn fy ardal i—sef, wrth gwrs, eich ardal chi hefyd—lle mae'n ymddangos nad yw nanis wedi eu cynnwys yn y cynllun, am resymau sy'n ymwneud â chofrestru; rwy'n deall yn iawn pam nad ydyn nhw. Ond byddai'n hawdd neidio i'r casgliad bod nanis dim ond ar gyfer teuluoedd sy'n gallu eu fforddio, yn hytrach na, ar adegau, bod lles y plentyn yn galw am hynny. A'r rheswm yr wyf yn ei godi yw oherwydd, ar wahân i leihau, o bosibl, nifer y swyddi sydd ar gael i nanis, sy'n tueddu i fod yn fenywod, mae perygl mai'r menywod yn y teuluoedd hynny a fydd yn dewis aros gartref i ofalu am y plant, yn hytrach na mynd allan i'r gweithle, oherwydd anghenion y plentyn penodol hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny yn rhywbeth—rwy'n credu ei fod yn un o ganlyniadau anfwriadol y polisi—y gellid ei ystyried efallai.

Ac yna hoffwn i groesawu eich sylwadau pwysig iawn ar drais yn gyffredinol. Rwy'n falch iawn o weld cymaint o hyfforddiant a wneir gan weithwyr proffesiynol, y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw. Ond dim ond os byddwch yn gwneud yr elfen perthynas iach ag eraill o hyn yn iawn y bydd hynny'n talu ar ei ganfed. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud y bydd y cwricwlwm yn cynnwys hynny bellach, ond mae gennym ni'r math o fwlch cyn-Donaldson, ac rwyf i o'r farn—efallai na fyddwch chi'n gallu rhoi gwybodaeth i mi heddiwi—bod angen i ni gael rhywfaint o wybodaeth, yn enwedig ar lefel ysgolion uwchradd, lle mae dynion a menywod ifanc wedi colli'r cyfle i hyn fod wedi'i normaleiddio ar lefel ysgol gynradd. Felly, os ydych chi'n gallu rhannu unrhyw wybodaeth ar hynny, byddai hynny'n wych. Diolch.

15:35

Wel, gan ddechrau â'r olaf yn gyntaf, oherwydd mae'r un olaf yna yn bwysig iawn, rwy'n credu bod addysgu am berthynas iach ag eraill yn fater pwysig iawn, yng nghyd-destun stereoteipio ar sail rhyw, a rhai o'r pethau diwylliannol sy'n digwydd yn ein cymdeithas heddiw. Rydym ni'n rhedeg sawl cynllun ledled Cymru, mewn gwirionedd, cyn-Donaldson, fel yr ydych chi'n ei ddweud, ac es i i weld un sy'n cael ei redeg gan Hafan Cymru yn ddiweddar iawn. Ac roedd y ferch ifanc a oedd yn ei redeg yn anhygoel, mae'n rhaid i mi ddweud; cefais y fraint o eistedd drwy un o'r sesiynau. Ond dywedodd hi wrthyf, Dirprwy Lywydd, rywbeth sy'n torri calonnau pob un ohonom mewn gwirionedd. Cyn y sesiwn—ac roedd y sesiwn hon ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 a blwyddyn 6—gofynnodd i grŵp cymysg o ran rhywedd a oedd bechgyn neu ferched yn well, ac ni fydd neb yn synnu i glywed bod y bechgyn yn credu bod y bechgyn yn well a'r merched yn credu bod y merched yn well, oherwydd dyna fel ag y mae hi. Ond wedyn gofynnodd i'r bechgyn pam yr oedden nhw o'r farn eu bod nhw yn well, a gwnaethon nhw ddweud bod bechgyn yn well oherwydd eu bod nhw'n gryfach ac yn well am wneud chwaraeon. Ac yna gofynnodd i'r merched pam yr oedden nhw'n meddwl bod merched yn well, ac ni allen nhw feddwl am unrhyw beth, sy'n ofnadwy, on'd yw e'?

Cefais y fraint o fod yno, felly gofynnais iddyn nhw os oedden nhw wedi clywed am Jessica Ennis, a digwydd bod, roedd gen i lun ohoni hi ar fy ffôn, gan fy mod i wedi bod mewn digwyddiad gwahanol. Ac roedden nhw wedi clywed am Jessica Ennis, a gofynnais iddyn nhw a oedden nhw'n meddwl ei bod hi'n gryf ac yn dda am wneud chwaraeon ac roedden nhw'n cytuno ei bod hi. Felly, cawsom drafodaeth eithaf diddorol ynghylch beth oedd y stereoteip rhywedd hwnnw. Ond roedd yn eithaf brawychus i mi bod y menywod ifanc hynny eisiau iddyn nhw fod yn well—os 'gwell' yw'r gair cywir—ond doedden nhw ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth, mewn gwirionedd, oherwydd eu bod nhw eisoes, hyd yn oed ar yr oedran ifanc hwnnw, wedi bod yn destun cymaint o stereoteipio ar sail rhyw, eu bod yn ei chael hi'n anodd nodi un nodwedd sy'n gysylltiedig â bod yn fenyw sy'n 'well'.

Nid oes a wnelo hyn â bod yn well, mae hyn yn ymwneud â galluogi pob un bod dynol i fod y person gorau y gallan nhw ei fod, er gwaethaf popeth. Nid yw'n ymwneud â'ch rhyw. Rwyf i'n digwydd fod yn hoffi chwarae o gwmpas â cheir. Mae fy mab yn hoffi coginio. Mae hynny yn ôl pob tebyg, yn erbyn y stereoteip rhywedd. Wel, roedd hynny'n newyddion i mi pan oeddwn i'n tyfu i fyny ac mae'n newyddion iddo fe hefyd. A dyna'r pwynt, ynte?

Felly, rydym ni yn y Llywodraeth yn cefnogi nifer fawr o'r cynlluniau hyn. Rydym ni'n cefnogi'r ymgyrch Let Toys be Toys, er enghraifft, lle nad ydym ni'n annog pobl i ddefnyddio stereoteip rhyw o ran eu teganau. Os ydych chi, yn eich siop, eisiau gwahanu eich teganau i'w gwneud yn fwy hwylus i siopa, yna gwnewch hynny yn ôl oedran priodol. Rwy'n siŵr eich bod chi i gyd yn gwybod fy hanesyn am stopio mewn siop leol yn Abertawe, a dweud y drefn wrth y rheolwr a gofyn iddo beth oedd yn y rhes o deganau i fechgyn a theganau i ferched a dweud wrtho ei fod ef a minnau yn mynd i orfod mynd y tu allan os oedd yna deganau peirianneg mewn un rhes ac offer domestig yn y llall. Estynnodd wahoddodd i mi gael cwpanaid o de, tra yr aeth ef i edrych a datrys y mater. Felly, nid oedd ef yn rhy siŵr ei hun, a dyna'r pwynt. A bod yn deg, pan es i yn ôl i'r siop honno yr wythnos nesaf, roedden nhw wedi eu trefnu yn ôl oedran, felly, derbyniodd y pwynt ar unwaith. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn am hynny. Ond mae'n dangos pa mor dreiddiol yw hyn a pha mor ddinistriol yw hyn o ran perthnasoedd. Rydym ni'n gwybod bod trais yn y cartref yn cael ei ysgogi gan rywfaint o'r stereoteipio ar sail rhyw hyn wrth i bobl geisio byw yn unol â rôl nad yw'n addas ar eu cyfer, mewn gwirionedd, ac maen nhw'n teimlo'r straen drwy geisio gwneud hynny. Mae'n rhan bwysig iawn o hynny.

O ran rhai o'r pethau penodol a ddywedodd, roeddwn i'n falch o weld bod Coleg Penybont wedi ennill y wobr, ac mae'n haeddiannol iawn. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn i gynnwys rhywfaint o ymwybyddiaeth o stereoteipio ar sail rhyw a chydraddoldeb yn rhai o'r pethau prentisiaeth ac mae gennym ni fentrau sy'n annog bechgyn a merched i gymryd rhan mewn dysgu drwy brofiad ar draws y rhaniad rhwng y rhywiau—felly, rhaglennu robot, plethu gwallt, cynllunio gweithgareddau gofal plant—ar gyfer y ddau ryw ar yr un pryd er gwaethaf popeth, oherwydd, pam lai? Ac mae hynny wedi ei dderbyn yn dda iawn ac mae llawer yn manteisio ar hynny.

O ran dychweliaethau, mae'n werth sôn am y cynllun Sêr Cymru ar y pwynt hwn, sydd bellach yn cael ei gopïo gan Lywodraeth y DU—rwyf i bob amser yn falch iawn pan fyddan nhw'n gwneud hynny. Un rhan fawr iawn o raglen Sêr Cymru fu annog ymchwilwyr sydd wedi gadael y maes ymchwil—fel arfer oherwydd seibiant gyrfa, ond weithiau dim ond oherwydd eu bod wedi mynd rywle arall—i ddod yn ôl yn i'r maes gwyddoniaeth. Fe fyddech chi'n synnu i ddarganfod bod tua 95 y cant o'r rhai hynny sy'n dychwelyd yn fenywod, oherwydd eu bod wedi cymryd seibiant gyrfa a'u bod yn dod yn ôl. Felly, rydym yn gwneud hynny, ond rwy'n credu nad oes amheuaeth bod llawer mwy i'w wneud, yn anffodus, cyn inni gyflawni unrhyw beth tebyg i gydraddoldeb rhwng y rhywiau.

15:40

Bob blwyddyn, mi ydym yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rydym ni'n cofio llwyddiannau'r menywod a aeth o'n blaenau ac yn addo y gwnawn ni bopeth yn ein gallu i wneud pethau'n well i'r menywod a fydd yn ein dilyn ni. Rydw i'n meddwl bod eleni'n teimlo'n wahanol. Yn sgil y sgandalau yn y diwydiant ffilm a theledu, mewn gwleidyddiaeth, newyddiaduraeth ac mewn llawer maes arall o fywyd, mae yna sgwrs newydd wedi cychwyn, ac rydw i'n credu bod mudiad Me Too wedi creu ymwybyddiaeth newydd am ymddygiad a oedd gynt yn cael ei weld yn dderbyniol. Mae menywod ifanc a dynion ifanc yn herio stereoteipiau ac yn galw am derfyn ar anghydraddoldeb, rhywiaeth, aflonyddu rhywiol a thrais yn seiliedig ar rywedd. Mae yna newid yn y gwynt, ac ni wnawn bellach dderbyn aflonyddu rhywiol fel elfen o fywyd na ellir ei hosgoi. Nid wyf yn credu y gallwn osgoi cael y sgwrs honno yng Nghymru chwaith. 

Mi ddylem ni, mewn gwirionedd, fod ar flaen y gad wrth fwrw ymlaen â'r cynnydd, sydd wedi cael ei gyflymu yn wir gan Me Too. Felly, hoffwn i wybod, arweinydd y tŷ, pa waith sydd wedi cael ei wneud i ddeall yn well profiadau menywod yng Nghymru o gamwahaniaethu, ac, yn benodol, am aflonyddu. Mae angen i ni ddysgu mwy am y ffordd orau i newid ymddygiad amhriodol fel unigolion, ac ar y cyd fel cymdeithas. Felly, un syniad rydw i'n ceisio ymchwilio iddo fo'r prynhawn yma: a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried cynnal arolwg cenedlaethol fel ffordd o gychwyn y sgwrs genedlaethol sydd ei hangen, ac yn benodol o gwmpas aflonyddu rhywiol?

Gwaetha'r modd, mae trais yn erbyn menywod a cham-drin yn y cartref yn dal yn rhan o fywydau gormod o bobl, ac rydw i'n gwybod eich bod chi'n rhannu'r un dyhead â mi i weld hyn yn cael ei ddileu, ond, yn anffodus, mae'n cynyddu. Mae dros un o bob pedwar o fenywod yng Nghymru a Lloegr yn ddioddef cam-drin domestig yn ystod eu bywydau—13 y cant o ddynion. I newid ymddygiad, mae angen i ni gychwyn o'r oedran cynnar, gan ddysgu plant a phobl ifanc am berthynas iach, a darparu addysg rhyw gynhwysfawr. Rydych chi newydd ddisgrifio'r broblem yna oherwydd bod yna ddiffyg o'r math yna o addysg, ond rydw i'n chwilio am ddatrysiad. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru rhoi'r gorau i fod yn chwit-chwat ac ymrwymo i gyflwyno addysg orfodol a chynhwysfawr am ryw a pherthynas iach yn ein hysgolion cyn gynted ag y bo modd?

Nid oes yn rhaid i'r newidiadau i'r cwricwlwm Cymreig ddod i rym. Mae angen i ni symud ar hwn, a symud yn gyflym. Rydym ni hefyd angen mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal menywod ifanc rhag manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd addysgol sydd ganddyn nhw. Gall rhywbeth mor syml i'w unioni â chael trafferth fforddio cynhyrchion iechydol ar gyfer mislif gael effaith enfawr ar hyder a lles merched. A wnewch chi, felly, ymuno â mi i ddiolch i'r Cynghorydd Elyn Stephens am ei hymgyrch yn y Rhondda i gyflwyno polisi o ddarparu cynhyrchion iechydol am ddim mewn ysgolion? Mi fydd ei gwaith hi yn helpu menywod ifanc sy'n dioddef tlodi mislif, ac yn mynd i'r afael â'r cywilydd sy'n dal i ddal merched yn ôl yn y maes yma. A wnewch chi fel Llywodraeth asesu'r sefyllfa hon, ac asesu hefyd cyflwyno polisi cyffelyb i'r hon sydd ar y gweill yn y Rhondda, a hynny ar draws Cymru?

Yn olaf, mae angen i ni gymryd camau cadarnhaol i greu cynrychiolaeth gyfartal rhwng menywod a dynion fel cynrychiolwyr etholedig. Sut yn y byd gallai fod yn iawn fod hanner y boblogaeth wedi'u tangynrychioli mor enbyd mewn bywyd cyhoeddus? Dim ond 27 y cant o gynghorwyr sy'n fenywod, er enghraifft, ac mi ddylem ni fod yn gosod esiampl o gydraddoldeb, byddai wedyn yn helpu i greu newid mewn meysydd eraill o fywyd. Felly, a ydych chi yn cytuno bod angen gwahaniaethu cadarnhaol os ydym ni'n mynd i wneud i ffwrdd â chenedlaethau o anghydbwysedd rhwng y rhywiau?

15:45

Ie, rwy'n cytuno i raddau helaeth â phopeth a ddywedasoch chi, Siân Gwenllian. Mae yna gysgodion o wahaniaeth, ond dydy'r cysgodion ddim yn bwysig iawn. Rwy'n mynd i neidio dros y lle dim ond oherwydd dyna'r drefn y mae fy mhapurau penodol yn digwydd bod ynddi ond, er enghraifft, yn y rhaglen democratiaeth ac amrywiaeth, gwnaethom ni gynnal y rhaglen honno ac rydym ni wedi cadw mewn cysylltiad â'r mentoreion—dylwn i fod wedi dweud hynny wrth Suzy Davies, mewn gwirionedd—oherwydd maen nhw eisiau cadw mewn cysylltiad â ni o'u gwirfodd, ac rydym ni'n gwybod bod nifer fawr o'r rhai hynny wedi sefyll etholiad yn 2017, ac etholwyd pedwar ohonyn nhw ac roeddyn nhw i gyd yn fenywod. Mae'r rhaglenni hynny yn gweithio, felly rydym ni'n mynd i fynd ar drywydd y rhai hynny, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni i gyd yn cymryd rhan yn y rhaglen fentora, dynion yn ogystal â menywod, oherwydd mewn gwirionedd, po fwyaf o fenywod ifanc y gallwn ni wneud iddyn nhw ddeall beth yw swyddi cyhoeddus, y mwyaf tebygol ydynt o gyflwyno eu hunain ar eu cyfer.

Rwyf hefyd wedi gofyn i Chwarae Teg adnewyddu darn o waith a wnaeth o dan y Gweinidog blaenorol ynghylch cydraddoldeb a bywyd cyhoeddus i mi, a dylen nhw fod yn cyflwyno hynny cyn bo hir fel y gallwn ni gyflymu'r cynnydd o ran cydraddoldeb mewn bywyd cyhoeddus. Rydym ni wedi gwneud yn eithaf da, ond rwyf am wneud yn well nag eithaf da. Rwyf i eisiau bod yn gyfartal. Felly, dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam, yn nhymor y Cynulliad hwn, na ddylem ni gyrraedd 50:50 ar bob corff cyhoeddus a noddir gan y Llywodraeth hon, ac mae Chwarae Teg yn mynd i gyflwyno rhai cynigion imi eu hystyried i weld sut y gallem ni reoli hynny, ac mae hynny'n bwysig iawn.

O ran tlodi mislif, mae gen i swyddogion yn gweithio'n galed iawn ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yn y fan yma, ochr yn ochr â swyddogion addysg. Rydym ni'n edrych yn agos ar Rondda Cynon Taf; maen nhw wedi gwneud rhywbeth sy'n ddiddorol iawn, ac rydym ni wedi bod yn cael sgyrsiau hir gyda'r Ymddiriedolaeth Trussell—mae hwnnw'n anodd ei ddweud, yr Ymddiriedolaeth Trussell—ynghylch lle y maen nhw o ran gwaith gyda menywod ifanc ddigartref hefyd, ond rwy'n benderfynol o wneud rhywbeth yn fuan iawn ynghylch hynny. Felly, cyn gynted ag y bydd gen i rywfaint o ddata wedi'u casglu at ei gilydd, byddaf yn cyhoeddi rhai cynlluniau y gallwn ni fwrw ymlaen â nhw i weld beth sy'n gweithio orau. Hyd yn oed os ydym ni'n darparu cynhyrchion mislif yn rhad ac am ddim i bob menyw sydd eu hangen yng Nghymru, nid yw hynny'n llawer o bobl. Mae hwn yn rhywbeth yr wyf i'n benderfynol o fwrw ymlaen ag ef mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Felly, mae hyn yn ymwneud â'r ffordd orau o wneud hynny, a dyna'r sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd.

O ran addysg rhyw—rydych chi yn llygad eich lle, mae angen i ni wneud rhywbeth. Rydym ni newydd gael adroddiad y panel addysg rhyw a pherthnasoedd, ac roedd yn adroddiad da iawn yn fy marn i. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a minnau wedi bod yn ystyried hynny ers ychydig bach o amser. Bydd hi'n ymateb yn ffurfiol iddo cyn hir, ond dydw i ddim yn meddwl fy mod yn cyhoeddi o flaen amser gormod drwy ddweud bod y ddwy ohonom ni yn credu ei fod yn adroddiad da iawn yn wir. Ac, fel y dywedais i, rydym ni'n noddi rhai sefydliadau eisoes i fwrw ymlaen â rhywfaint o'r gwaith hwnnw ar berthynas iach ag eraill. Byddwn ni'n ystyried beth yw'r ffordd orau o gynnwys hynny yn y system addysg, ac mae'n ddigon posibl y byddwn yn newid y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ei hun, neu y byddwn yn ei chynnwys yn y diwygiadau cwricwlwm y byddwn yn eu harwain drwy'r Cynulliad cyn bo hir. Mae nifer o ffyrdd o wneud hynny, ond byddwn ni'n gwneud hynny mor gyflym â phosib.

Dim ond dweud wedyn ar y diwedd, oherwydd gwyddom—mae'r holl waith ymchwil yn dangos i ni—y mater stereoteipio sydd wrth wraidd hyn i gyd, mewn gwirionedd. Caiff pobl eu haddysgu o'r eiliad y maen nhw'n agor eu llygaid fod eu rhyw yn bwysig, ac mewn gwirionedd nid yw'n bwysig—oni bai eich bod yn ffurfio teulu a chael perthynas rywiol gydag unigolyn, pam ar y ddaear y mae hynny'n bwysig? Dydw i ddim, mewn gwirionedd, yn deall pam y mae babanod pum diwrnod oed ac ati yn cael eu gwahaniaethu wrth ei gilydd ar sail rhyw. Mae'n rhaid inni weithio'n galed iawn fel cymdeithas i atal hynny rhag digwydd. Mae angen inni wneud yn siŵr nad yw'r un o'n prosesau yn y Llywodraeth, mewn unrhyw ffordd, yn tybio bod hynny'n beth da i'w wneud, a'n bod yn rhoi cyfle cyfartal yn gyffredinol. Ond nid wyf mewn unrhyw ffordd yn hunanfodlon; mae gennym ffordd bell i fynd eto.

15:50

Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Gyda chaniatâd, hoffwn i roi ar y cofnod ein bod, bedwar mis yn ôl i heddiw, wedi colli gwir eiriolwr dros hawliau menywod a rhywun a safodd dros fenywod sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol. Dydw i ddim yn meddwl nad oes yr un o siwtiau fy nhad nad oes arni fathodyn pin rhuban gwyn arni, ac rwy'n falch iawn o fod yn sefyll yma heddiw yn y Siambr yn gwisgo fy un i.

Mae gen i dri chwestiwn i arweinydd y tŷ. Yn gyntaf, rydym ni'n gwybod bod fy nhad yn cefnogi'r ymgyrch Rhuban Gwyn, a bod fy nghyd-Aelod Joyce Watson wedi bod â rhan hollbwysig yn hynny o beth, gyda ei digwyddiad blynyddol. A wnaiff y Llywodraeth ymuno â mi yn fy ymgyrch i sicrhau bod yr holl ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel yr heddlu, fel y gwasanaeth tân, yn dilyn heddlu a gwasanaeth tân de Cymru ac arweiniad Gwent o fod â rhubanau gwyn ar eu cerbydau drwy gydol y flwyddyn?

Yn ail, hoffwn i hefyd dalu teyrnged i gyngor Rhondda Cynon Taf a'r holl ymgyrchwyr sydd wedi gwneud y cyhoeddiad y gallai cynhyrchion mislif rhad ac am ddim fod ar gael i bob merch ysgol o bosibl. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone yn y fan yma wedi eirioli mewn modd allweddol yn hynny o beth hefyd, ac roedd hi'n gweithio'n agos gyda fy nhad ar y mater hwn. Felly, roeddwn i eisiau gwybod hefyd a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i sicrhau bod hyn yn cael ei adlewyrchu ledled Cymru a helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Yn olaf, hoffwn i orffen gyda hyn: a gaf i annog arweinydd y tŷ a'r holl Aelodau a'r staff sy'n gweithio yn y Cynulliad i ddarllen llyfr newydd Rachel Williams, The Devil at Home? Mae stori Rachel, un sydd wedi goroesi cam-drin domestig, yn ofnadwy ond mae'n gwbl gwbl ysbrydoledig. Mae ei stori hi o obaith yn dweud wrth bob un ohonom sut y gallwch chi bob amser ddod o hyd i olau, hyd yn oed ar adegau tywyll iawn, iawn. Mae hi wir yn ysbrydoliaeth, ac rwy'n eich annog chi, bob un ohonoch, i ddarllen y llyfr yn eich amser hamdden. Diolch i chi, arweinydd y tŷ.

Cewch siŵr. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli, mewn gwirionedd, fod pedwar mis wedi mynd heibio, ond rydym ni i gyd yn cofio'n iawn gyfraniadau eich tad yma yn y Senedd. Llwyddodd i fod yn ddoniol ac yn ddi-lol ac yn dosturiol hefyd ac roedd wedi ymrwymo i bwnc a oedd yn amlwg yn bwysig iddo, ac rwy'n falch iawn o fod wedi etifeddu rhan o'i bortffolio ac i allu, mewn rhyw ffordd fach, gamu i'w esgidiau a bwrw ymlaen â hynny. Mae gennyf lun gwych ohono, mewn gwirionedd—a sôn am stereoteipiau rhyw—yn gwisgo'r sodlau uchel coch gwaethaf yr ydych chi erioed wedi'u gweld. Roedd yn rhaid i mi ddal ei bwysau ar fy ysgwyddau wrth i ni geisio cerdded milltir—doedd hi ddim yn filltir, tua pum cam—yn esgidiau rhywun arall. [Chwerthin.] Dydw i ddim yn rhy siŵr a oeddwn i yn waeth am sefyll mewn sodlau uchel nag yr oedd ef, ond doeddem ni ddim—doedd hi ddim yn olygfa wych, ond roedd yn ddoniol. Felly, mae'n deyrnged briodol, a doeddwn i heb sylweddoli hynny.

O ran ymgyrch y Rhuban Gwyn, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r ymatebwyr cyntaf a gwasanaethau cyhoeddus eraill ar hyn, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn bwrw ymlaen â hyn. Rydym ni'n falch iawn o'r heddlu am fod wedi gwneud yr hyn y maen nhw wedi'i wneud a'r gwaith aml-asiantaeth y maen nhw'n ei wneud, ac y maen nhw'n gwbl ymrwymedig i fwrw ymlaen â hynny cyn gynted â phosibl. Mae'n symbol pwysig iawn, mewn gwirionedd—nid yn unig am yr ymgyrch; mae'n symbol pwysig iawn o ymrwymiad gwasanaethau cyhoeddus i'r math hwnnw o gydraddoldeb, ac, wrth gwrs, dim ond i atgoffa ein hunain—mae Joyce wedi gweithio'n ddiddiwedd ar hyn hefyd—o'r addewid hwnnw am beidio byth â chyflawni trais na'i oddef na bod yn dawel yn wyneb trais. Mae'r rhuban gwyn yn symbol cyhoeddus iawn i'n hatgoffa o'r addewid hwnnw, sy'n bwysig iawn i'w gael, yn enwedig i ymatebwyr cyntaf, sy'n aml yn mynd i mewn i sefyllfaoedd lle mae trais domestig yn broblem.

O ran tlodi mislif, fel y dywedais wrth Siân Gwenllian, rydym ni'n ei ystyried yn ofalus iawn. Rwy'n gwbl ymrwymedig i wneud rhywbeth. Nid wyf eto yn argyhoeddedig bod un cynllun yn addas i bob un fenyw yng Nghymru, felly mae'n fater o geisio ei deilwra fel ein bod yn gwneud hyn yn iawn ac i argyhoeddi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y gall fforddio rhywfaint ohono. Rwy'n siŵr ei fod—. Edrychwch—nid yw'n gwrthwynebu. [Chwerthin.] Ond rydym ni wedi ymrwymo i wneud hynny—yn gwbl ymrwymedig i wneud hynny.

O ran llyfr Rachel Williams, nid wyf wedi darllen y llyfr i gyd, ond rwyf wedi darllen darnau ohono. Un o'r pethau sy'n gwbl blaen yn ein polisi o ran mynd i'r afael â phob math o drais yn y cartref a thrais rhywiol yw bod llais y goroeswr yno yng nghanol y polisi, fel y gallwn ni ddeall yr effaith y mae'n ei chael yn ystod ac ar ôl y cyfnod adfer, i bawb sy'n dioddef y math hwnnw o drais yn y cartref. Felly, rwy'n sicr yn gobeithio ei ddarllen pan gaf i rywfaint o amser hamdden—nid wyf yn rhy siŵr pryd fydd hynny yn union—ond rwyf wedi darllen darnau ohono, ac rwyf wedi clywed Rachel yn siarad, mewn gwirionedd, ac mae hi'n llais pwerus iawn. Rydym ni'n awyddus iawn bod ein polisi ni yn ystyried llais y goroeswr, ac, yn wir, Carl Sargeant, eich tad, oedd y cyntaf i gynnwys hynny wrth wraidd ein polisi, a byddaf i yn sicr yn parhau ar y trywydd da hwnnw.

15:55

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, arweinydd y tŷ. Rwyf i'n sicr yn croesawu y gwaith a wneir i annog merched i ymuno â phroffesiynau nad ydynt yn draddodiadol, i astudio pynciau STEM ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a stereoteipio. Rwy'n nodi'r cynllun STEM Cymru 2 a hoffwn ofyn: allan o'r 3,000 o fenywod ifanc sydd wedi ymgysylltu â'r cynllun, faint o'r rheini sydd wedi mynd ymlaen i ddewis gyrfa mewn peirianneg? Rwyf wir yn croesawu'r ymdrechion hyn, ond mae angen i ferched fod â'r hyder mewn mathemateg cyn iddyn nhw allu rhagori mewn pynciau fel ffiseg, ac mae'n hanfodol inni gael y pethau sylfaenol yn iawn.

Po fwyaf o ferched sy'n gadael yr ysgol gynradd ac yn mynd i'r ysgol uwchradd yn ffyddiog yn eu gallu i wneud mathemateg, a pho fwyaf sy'n cael eu hannog i feddwl am astudio ar gyfer pynciau STEM ac i fynd ymlaen i astudio pynciau STEM, y mwyaf o fenywod y byddwn ni'n eu gweld ym maes peirianneg ac yn y proffesiynau gwyddonol. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr, mawr i wybod sut ydych chi'n monitro effeithiolrwydd y rhaglenni yr ydych chi wedi'u cyflwyno. Rwy'n credu bod ganddynt y potensial i fod yn rhaglenni da iawn, ond mae angen inni wybod pa mor effeithiol ydyn nhw a, gobeithio, y bydd newyddion da iawn yn hynny o beth.

Yr hyn sy'n fy mhoeni i, ac rwy'n siŵr eich bod chithau hefyd yn pryderu am hyn, yw bod mwy na 40 mlynedd ers dyfodiad Deddf Cyflog Cyfartal 1970, ac mae menywod yn dal i ennill dim ond 80 y cant o gyflog dynion. Tua 20 mlynedd yn ôl, roedd menywod yn ennill 75 y cant o enillion dynion, sy'n golygu bod cau'r bwlch gan oddeutu 5 y cant dros 20 mlynedd yn gynnydd o fath, ond os awn ni ymlaen fel hyn mae'n mynd i gymryd 80 mlynedd arall i gael gwared ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Gallai sector cyhoeddus Cymru arwain y ffordd yn hyn o beth a grymuso menywod sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus drwy gyflwyno tryloywder cyflog, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod beth yw eich barn chi ar hynny.

Rwy'n croesawu'r rhaglenni y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw, ond byddwn i'n awgrymu bod angen mynd i'r afael â llawer o stereoteipio ar sail rhyw, yn llawer, llawer cynharach, ac mae'n debyg eich bod yn cytuno â mi yn hynny o beth. Mae merched a bechgyn yn amsugno normau rhyw ynghyd â'r holl normau a gwerthoedd eraill y maen nhw'n eu dysgu oddi wrth y bobl o'u cwmpas nhw, ac mae'r broses hon yn dechrau ar adeg eu geni. Felly, sut mae staff mewn meithrinfeydd ac ysgolion babanod, yn ogystal ag oedolion sy'n gweithio gyda phlant hŷn, yn cael eu hyfforddi i sylwi ar stereoteipio ar sail rhyw a sut i osgoi hynny?

Rwy'n croesawu'r ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yn y cartref, ac mae hyfforddi gweithwyr proffesiynol yn gam da iawn. A wnaiff arweinydd y tŷ roi diweddariad inni ar gynnydd y cynlluniau hynny maes o law? Rwy'n sylweddoli na fyddwch yn gallu rhoi diweddariad manwl ar hyn o bryd.

Ond i ddod at fater pwysig arall, nid oes unrhyw arfer yn fwy o enghraifft o ddarostyngiad a cham-drin menywod nag anffurfio organau cenhedlu benywod, ac eto ni fu unrhyw erlyniadau ystyrlon. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ ddweud wrthyf beth yw polisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyfeirio achosion o anffurfio organau cenhedlu benywod i'w hymchwilio gan yr heddlu os gwelwch yn dda? Ac a wnaiff hi ddweud wrthym hefyd beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i herio'n uniongyrchol diwylliannau patriarchaidd y cymunedau y mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn digwydd ynddynt, ac sy'n arwain at anffurfio organau cenhedlu benywod? Diolch.

16:00

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn—mae'r pwynt olaf, yn arbennig, yn bwynt pwysig iawn. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn mewn amrywiaeth o feysydd i wneud yn siŵr bod troseddau'n cael eu hadrodd a'u herlyn. Maent yn tueddu i fod yn achosion cymhleth iawn i'w herlyn ac, mewn gwirionedd, mae atal yn well nag erlyn beth bynnag. Felly, rydym ni wedi bod yn cyflwyno ein hyfforddiant i weithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â merched ifanc, yn arbennig merched ifanc sydd yn y categori mewn perygl, felly ychydig cyn oed aeddfedrwydd, er mwyn iddynt allu gweld arwyddion bod merch ifanc mewn perygl, a dechrau'r rhaglen amddiffyn mor gynnar ag sy'n bosibl. Ond hefyd, rydym wedi bod yn gweithio'n ofalus gyda'r awdurdodau cyfiawnder troseddol ledled y DU i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig yr hyfforddiant cywir, er mwyn sicrhau bod yr heddlu ac ymatebwyr cyntaf hefyd yn adnabod yr arwyddion. Rydym hefyd yn gweithio o fewn y cymunedau, fel bod y cymunedau eu hunain yn dechrau plismona'u hunain. Felly, mae hyn yn gymhleth dros ben, ond byddwn yn gweld mwy o erlyniadau cyn bo hir. Rwy'n credu bod a wnelo hyn â mwy nag erlyn yn unig. Mae'n ymwneud yn llawer mwy â newid diwylliant—y diwylliant batriarchaidd fel yr ydych chi'n ei ddweud—mewn rhai, mewn gwirionedd, mewn nifer fawr o'r diwylliannau hynny, y menywod eu hunain sy'n ymwneud ag ef. Felly, ceir problem ddiwylliannol anferth yma y mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn ohoni ac mae'n rhaid inni weithio'n galed iawn i'w newid. Dyna'n rhannol pam yr ydym ni'n mabwysiadu dull y gymdeithas gyfan o fynd i'r afael â stereoteipio yn ôl rhyw, oherwydd dyna, yn ei hanfod, yw sail hyn i gyd.

O ran rhai o'r manylion y gofynasoch i mi amdanynt—o ran ffiseg, er enghraifft—dywedodd un o'r cyfranwyr i seremoni dadorchuddio'r plac Val Feld sydd newydd ei chynnal y tu allan i'r Senedd rywbeth sy'n taro tant gyda mi. Dywedodd ei bod hi'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fyddai'r bobl sy'n siarad â menywod ifanc am eu ffigurau, yn golygu eu cyfraniadau mewn mathemateg neu ddatblygiadau gwyddonol, yn hytrach na sut y maent yn edrych heb ddillad. Byddwn innau hefyd yn eilio hynny. Rwy'n gobeithio eich bod chi i gyd wedi gweld y ffilm Hidden Figures, a oedd yn dangos yn dda iawn y cyfraniad y mae menywod wedi'i wneud drwy gydol hanes gwyddonol, sydd wedyn wedi'i gelu'n llwyr. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn gwbl anymwybodol o gyfraniad menywod du i'r rhaglen ofod hyd nes i mi ddarllen y llyfr a gweld y ffilm.

Dyna beth oedd dadorchuddio'r plac hwnnw yn ymwneud ag ef. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr bod menywod ifanc ledled Cymru yn deall y cyfraniad y mae menywod wedi'i wneud yn y meysydd hynny, ac yna'n ceisio gwneud cyfraniad tebyg eu hunain. Oherwydd, os nad ydych chi wedi ei weld, sut y gallwch chi ymgeisio tuag ato? Felly, rwy'n credu bod y plac yn gam cyntaf da iawn. Fy ngham nesaf, Dirprwy Lywydd, yw gwneud yn siŵr bod gennym un o'r codau QR hynny oddi tano, felly pan fyddwch chi'n defnyddio'ch ffôn i ddarllen y cod, bydd yn rhoi bywgraffiad i chi o'r fenyw sy'n cael ei hanrhydeddu yn y ffordd honno, fel bod gan fenywod ifanc ledled Cymru esiamplau cadarnhaol a fydd yn rhoi hwb iddynt i lwyddo.

Ond o ran sut y byddwn ni'n gwybod ein bod ni'n llwyddo, pan fydd nifer y menywod yng Nghymru sy'n sefyll arholiadau safon uwch mewn ffiseg yn codi'n uwch nag 20 y cant, bydd honno'n sefyllfa safonol iawn. Nid yw'r ganran honno wedi newid ers 40 mlynedd, felly rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd y mesurau yr ydym ni'n eu rhoi ar waith nawr yn arwain at newid hynny yn y pum mlynedd nesaf.

Diolch. Mae gennym ni naw munud ar ôl ar y datganiad hwn ac mae gennym ni bum siaradwr, felly rwy'n gadael i chi wneud y mathemateg ar hynny. Rwy'n gofyn nawr felly: a gawn ni gyfraniadau byr ac atebion byr? Drwy wneud hynny, bydd modd i bawb cael cyfle i siarad. Dawn Bowden.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a byddaf yn ceisio bod yn gryno, ond mae gennyf ychydig o bwyntiau yr wyf eisiau eu gwneud. Yn gyntaf, a gaf i ddiolch ichi am eich datganiad ac am y camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru, yn amlwg, wedi eu cymryd eisoes? Ac a gaf i ddweud bod heddiw, yn arbennig, wedi bod yn hollol wych, wrth i ni weld y plac porffor i Val Feld yn cael ei ddadorchuddio, a'r ymgyrch honno i ddarparu placiau porffor eraill ledled Cymru ar gyfer menywod arbennig? Hoffwn longyfarch Chwarae Teg am ddatblygu'r ymgyrch honno.

Gan barhau â'r thema o gydnabod menywod rhyfeddol ledled Cymru, hoffwn i ofyn i chi, arweinydd y tŷ, i ymuno â mi i alw am weithredu dros fenywod ledled Cymru, i mi, yn arbennig menywod ym Merthyr Tudful a Rhymni, yn amlwg, ond ledled Cymru gyfan, i ddathlu cyfraniad menywod i bob un o'n cymunedau lleol. Yn fy etholaeth i, er enghraifft, efallai y gallem ystyried menywod o'r gorffennol fel Mary Rose Crawshay, a oedd yn swffragét, neu fenywod a wasanaethodd fywyd cyhoeddus fel cynghorwyr, meiri ac arweinwyr. Gallem ddathlu cyfraniad menywod fel Laura Ashley, eto yn fy etholaeth i, at y byd dylunio a ffasiwn; Marion Jones, sy'n arwain y frwydr dros gyflog cyfartal yn Hoover; Winifred Agnes, a oedd yn llywydd rhyngwladol ar gyfer cydffederasiwn y bydwragedd, gwragedd anhygoel Aberfan, ac, wrth gwrs, y menywod rhyfeddol hynny a gefnogodd y glowyr yn ystod y streic, drwy'r ymgyrch Menywod yn erbyn Cau'r Pyllau Glo. Y gwir amdani yw nad ydym ni wedi rhoi fawr ddim cydnabyddiaeth i lawer o fenywod anhygoel sydd wedi gadael eu hôl ar fy etholaeth i dros y blynyddoedd.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018, a gaf i ofyn ichi ymuno â mi i wneud yr alwad honno i'r wlad gyfan weithio gyda'i gilydd i ddathlu cyfraniad menywod yn ein cymunedau lleol, fel ein bod ni'n gweld placiau porffor a mathau eraill o gydnabyddiaeth ym mhob un o'n cymunedau ym mhob cwr o Gymru?

16:05

Yn wir. Yn gyflym iawn, Dirprwy Lywydd, byddwn yn dweud fy mod i'n cytuno i'r carn â hynny. Mae rhestr hir ym mhob etholaeth o fenywod sydd wedi bod yn gwbl allweddol wrth ddatblygu pob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at yr ymgyrch 100 o fenywod nodedig y bydd WEN Cymru yn ei chyflwyno ac rydym eisoes wedi dweud y byddwn ni'n defnyddio arian y Llywodraeth i gefnogi'r ymgyrch plac porffor, er mwyn cael cymaint o'r placiau porffor hynny ag y gallwn ni, a bydd yna apêl gyhoeddus i wneud hynny hefyd. Rwy'n benderfynol o gael y codau QR hynny hefyd, nid dim ond yr enw a'r ffaith eu bod wedi byw yno. Rwyf eisiau i rywun ddeall mewn gwirionedd beth yn union wnaeth y fenyw honno, a beth y gallwch chi, felly, ymgyrraedd ato ym mhob un o'n cymunedau ledled Cymru. 

Rwy'n meddwl mai'r peth arbennig am ddadorchuddio'r plac heddiw, i mi, oedd brwdfrydedd wyresau Val Feld wrth iddynt gymryd rhan yn y seremoni—mae hynny'n hollol wych.

Beth bynnag, gan symud yn ôl i dlodi mislif. Does dim amheuaeth gen i fod yna bobl sydd ymhlith y mwyaf difreintiedig yn y gymdeithas sy'n gorfod defnyddio sanau a chadachau a deunyddiau eraill er mwyn ymdopi â'u mislif. Yn y chweched economi fwyaf yn y byd, mae hynny'n gwbl annerbyniol. Rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi'n gweithio ar hynny gydag  Ymddiriedolaeth Trussell. Darllenais adroddiad Rhondda Cynon Taf gyda diddordeb mawr, a oedd yn cynnwys sylwadau gan y cyn-athrawes Jayne Brencher, sy'n amlwg yn wybodus iawn am y mater o dlodi mislif ac ysgolion. Credaf fod nifer o bethau i'w hystyried yn yr adroddiad. Un o'r rheini yw nad wyf wedi fy argyhoeddi mai tlodi mislif sy'n cadw rhai disgyblion i ffwrdd o'r ysgol yn ystod eu mislif; rwy'n credu ei bod yn ymwneud yn llawer mwy ag urddas a phobl yn teimlo'n dda amdanynt eu hunain ac yn hyderus. Felly, gwn fod Rhondda Cynon Taf wedi dyrannu £50,000 ar gyfer y cyfnod treialu mewn ysgolion a hyd at £98,000, ond mae'r rhan fwyaf ohono yn ymwneud â gwneud yn siŵr bod biniau ar gyfer gwaredu padiau mislif a thyweli mewn ysgolion, a byddai rhywun yn disgwyl gweld y biniau hynny fel mater o drefn.

Credaf ei bod yn ddiddorol iawn clywed gan y merched eu hunain. Fe wnaeth bron i 800 o ddisgyblion gymryd rhan ac roedd gen i ddiddordeb mawr mewn gweld bod 15 y cant wedi dweud y byddent yn dymuno i Mooncups fod ar gael, sef yr ateb mwyaf cynaliadwy yn amlwg, oherwydd fel arall rydych chi'n ychwanegu at y mynydd sbwriel, sy'n gorfod mynd i safleoedd tirlenwi neu cael ei losgi. Felly, byddwn yn gobeithio y gallech chi edrych ar hynny fel ateb cynaliadwy ar gyfer sicrhau bod gan bawb fodd o ymdopi â'u mislif. Ond, yn amlwg, os ydych chi'n mynd i gael Mooncups mewn ysgolion, bydd yn rhaid cael cyfleusterau golchi dwylo yn y toiled. Felly, mae'n fater cymhleth. Yr oeddwn yn synnu'n fawr, fodd bynnag, o weld er bod y rhan fwyaf o'r ysgolion yn darparu tyweli, neu damponau mewn rhai achosion, a'r rhan fwyaf ohonynt am ddim, nid oedd mwy nag oddeutu £100 ar gael yn y gyllideb ar gyfer hyn, mewn rhai achosion. Roedd staff naill ai'n eu prynu nhw eu hunain i sicrhau nad oedd merched yn gorfod dioddef cywilydd, neu roeddent yn cael yr arian o'r pot arian parod. A nododd 17 y cant o benaethiaid nad ydynt yn darparu biniau hylendid ar gyfer cael gwared ar dyweli a thamponau, sy'n ffordd dda o sicrhau bod y draeniau'n blocio, a dweud y gwir.

Rwy'n credu ei fod yn fater diddorol iawn. Rwy'n credu ei bod yn wych ein bod ni'n gallu siarad am y peth heddiw yng ngoleuni Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, oherwydd mae'n rhaid inni gofio, o amgylch y byd, nad yw merched yn cael cymryd rhan mewn gweddi, nid ydyn nhw'n cael cymryd rhan yn yr ysgol. Mewn rhai diwylliannau, cânt eu taflu allan o'u tŷ yn ystod eu mislif oherwydd ystyrir nad ydynt yn lân. Mae'n rhaid i ni, yn hytrach, ddathlu mislif fel arwydd o ffrwythlondeb menywod, sef yr hyn ydyw. Felly, mae'n bwysig iawn bod pawb yn deall pwysigrwydd y mislif a'i fod yn broses naturiol. Nid oes angen i ferched golli'r ysgol oherwydd hynny. Mae angen rhoi'r adnoddau a'r cyfleusterau iddynt a all sicrhau eu hurddas yn ystod eu mislif. 

16:10

Rwy'n cytuno'n llwyr â popeth yr ydych chi wedi'i ddweud. Mae'n fater sy'n ymwneud ag urddas a chywilydd, ac mae hynny'n rhan bwysig iawn o'r agenda rhyw a pherthynas iach. Mewn gwirionedd, mae hwn yn fater mewn ysgolion cynradd hefyd, gan fod llawer o ferched yn dechrau eu mislif cyn iddyn nhw droi'n 11 oed a chyn iddyn nhw fynd ymlaen i'r ysgol uwchradd, ac mae hynny'n broblem wirioneddol iddynt. Felly, mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr bod ein system addysg gyfan yn barod i sicrhau urddas a phfarch a phreifatrwydd i bobl, ynghyd â'r adnoddau cywir o ba fath bynnag.

Rydym yn edrych ar yr agenda cynaliadwyedd gyfan hefyd, sydd yn broblem enfawr, a materion yn ymwneud ag adnoddau mislif, a hynny ar gyfer yr unigolyn ac ar gyfer gwaredu a chyfleusterau golchi ac yn y blaen. Dyna pam yr wyf yn dweud bod yn rhaid i ni sicrhau, wrth gyflwyno cynllun, fod y cynllun hwnnw yn gweithio mewn gwirionedd i bawb yng Nghymru, gan fod gennym ni fenywod ar wahanol gyfnodau o'u cylchred mislifol ac atgenhedlol, yn amlwg.

Felly, mae'n bwynt pwysig iawn. Rydym ni'n gweithio'n galed iawn arno. Byddwn yn edrych yn agos iawn ar rai o'r treialon sy'n cael eu cynnal yn Rhondda Cynon Taf ac mewn mannau eraill, ac rydym yn siarad â gwahanol elusennau digartrefedd ac ati, ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r Gweinidog tai ar rywfaint o hyn hefyd. Fe fyddwn ni'n cyflwyno cynllun; rwyf yn awyddus i sicrhau bod y cynllun yn gweithio i bawb ac yn gydnaws â'n hagenda rhyw a pherthynas iach gyffredinol. 

Gweinidog, hoffwn holi ynghylch awtomatiaeth, sydd, hyd y gallwn ddweud, yn debygol o gael effaith anghyfartal iawn o ran y rhywiau. Nid oes unrhyw astudiaeth na rhagfynegiad dibynadwy ynghylch yr hyn sy'n mynd i ddigwydd, ond mae Fforwm Economaidd y Byd yn amcangyfrif, am bob un swydd newydd a gaiff ei chreu, y bydd tri o ddynion yn colli eu swyddi, ond am bob un swydd a gaiff ei chreu, bydd pump o fenywod yn colli eu swyddi, gan fod llawer o'r swyddi hynny sy'n debygol o gael eu colli o ganlyniad i awtomatiaeth yn swyddogaethau gweinyddol swyddfa gefn, ac mae llawer o'r swyddi newydd yn y proffesiynau STEM, lle mae menywod yn dal i fod wedi'u tangynrychioli'n aruthrol. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynnal asesiad o effaith cynhwysfawr ar sail rhyw yn sgil awtomatiaeth yng Nghymru? Fel y gwnaeth Annalise Moser ein hatgoffa ni,

'mae'r hyn a gaiff ei fesur yn fwy tebygol o fod yn destun gweithredu',

a bydd ymgymryd ag asesiad o effaith ar sail rhyw yn gwneud mwy na dangos maint yr her yr ydym yn ei hwynebu, bydd hefyd yn sicrhau nad yw menywod yn gorfod cario pen trymaf y faich o awtomatiaeth.

Ie, yn wir, dyna bwynt pwysig iawn. Rydym wedi bod yn trafod â'r Prif Weinidog a nifer o gydweithwyr eraill yr amrywiol asesiadau effaith ar sail rhyw y dylem fod yn eu cynnal—ac mae asesiadau effaith cyllidebu ar sail rhyw yn rhan bwysig o hyn—ac fe fyddwn yn cyflwyno rhai cynigion yn hynny o beth. Nid oeddwn wedi ystyried awtomatiaeth, ond rwy'n fwy na hapus i'w gynnwys. Y broblem wirioneddol yma, wrth gwrs, yw sicrhau bod gennym cymaint o bobl ag sy'n bosibl â'r nifer mwyaf o sgiliau hyblyg sydd eu hangen er mwyn i ni allu hwylio'r don honno yn hytrach na chael ein boddi ganddi. Mae hynny'n rhan fawr o'n hagenda STEM yn gyffredinol. Mae angen mwy o beirianwyr arnom yn gyffredinol, nid dim ond peirianwyr sy'n fenywod, ond yn amlwg, mae angen i bawb sydd â nodwedd warchodedig o unrhyw fath i gael y siawns orau sydd ar gael iddynt, ac mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n aros ar flaen y gad. Felly, rwy'n fwy na pharod i ddweud y gwnawn ni hynny. 

Diolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad. Eleni, rydym yn dathlu canmlwyddiant menywod yn cael y bleidlais, ond wrth gwrs nid oedd hynny'n golygu pob menyw oedd hi? Gadewch inni fod yn glir. Roedd yn golygu y menywod hynny ag eiddo, a'r rhai hynny a oedd dros 30 oed. Felly, yn syth, dyma ni'n gweld Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 yn eithrio menywod dosbarth gweithiol yn fwriadol rhag pleidleisio, ac fe wnaeth hynny, yn fy marn i, osod ar unwaith y gwahaniaeth a'r frwydr y byddai'n rhaid i fenywod ei hymladd wedi hynny. Mae ffeministiaeth wedi bod erioed yn gydnaws â chyfiawnder cymdeithasol, gan fod y naill a'r llall yn ddwy ochr i'r un geiniog. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi'i wreiddio yn y frwydr dros hawliau gweithwyr, ac fe ddechreuodd mewn ffatri dillad yn ninas Efrog Newydd, wrth i weithwyr brotestio ynghylch tâl ac amodau. Ym 1917 yn Rwsia, dechreuodd protestwyr benywaidd chwyldro'r gweithwyr. Felly, mae'n rhaid inni gofio ym mhle y dechreuodd y brwydrau hynny. Go brin bod llawer ohonoch chi yma—os unrhyw un o gwbl yma—wedi clywed am Rachel Parsons. Hi oedd y fenyw gyntaf i ddarllen gwyddoniaeth fecanyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt ym 1910. Felly, o gofio hynny, mae'n debyg na chafodd hi ei gradd am y byddai'r radd wedi'i gwadu iddi, ac rwy'n meddwl bod angen i ni i gyd ddeall o ble y daeth y frwydr hon.

Mae'r frwydr wedi cyrraedd y fan hon, oherwydd rydym ni i gyd yn ymwybodol o ddadorchuddio plac Val Feld heddiw, yn briodol iawn, ac fe sefydlwyd ar unwaith y byddem ni'n sicrhau cydraddoldeb o fewn ein system ni. Ac mae bob amser yn broses pan fyddwn ni'n sôn am gydraddoldeb, ac nid yw cydraddoldeb i fenywod yn ddim gwahanol. Un o'r materion sydd angen sylw deddfwriaethol ar hyn o bryd, yn fy marn i, yw rhywbeth a elwir yn 'upskirting', lle caiff lluniau o natur bersonol iawn eu cymryd sy'n targedu corff y fenyw o dan ei dillad. Ar hyn o bryd, nid yw'n drosedd, ond mae'n eithriadol o dramgwyddus, ac mae'n hynod o annymunol i'r holl unigolion hynny y mae hyn yn digwydd iddynt. Felly, er ein bod ni'n credu ein bod ni'n troedio'r llwybr ac yn cyrraedd cydraddoldeb, mae rhywun, yn rhywle, yn meddwl am y ffordd nesaf o droseddu yn erbyn person arall gan ddefnyddio'r offer newydd sydd ganddynt yn eu llaw. Felly, a wnewch chi gael trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch cyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth i wneud tynnu lluniau i fyny sgertiau menywod, neu 'upskirting' yn drosedd os gwelwch yn dda? Mae'r adroddiad yn The Guardian naill ai heddiw neu ddoe yn datgan yn glir nad menywod yn unig sy'n dioddef hyn, ond mae hyn yn cael ei wneud i ferched mor ifanc â 10 oed. Diolch

16:15

Rwy'n credu bod hynny'n warthus, a byddaf i yn sicr yn gwneud yr union beth hwnnw. Rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Dirprwy Lywydd, dyma'r cwbl yr wyf am ei ddweud, oherwydd weithiau mae ystrydebau yn gwneud y pwynt: rydym ni i gyd wedi clywed am arwydd y gyngreswraig ar ei desg yn America—i wneud y swydd hon, mae'n rhaid ichi fod ddwywaith cystal ag unrhyw ddyn. Yn ffodus nid yw hynny'n anodd. Ond, mewn gwirionedd, cefais i fy nysgu tra yr oeddwn i yn y brifysgol gan fenyw ffeministaidd o'r enw Cora Kaplan, ac rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gwybod am y dyfyniad hwn, ond dywedodd hi, yn arwyddocaol, ac mae'n rhaid i chi feddwl o ddifrif am yr ymadrodd:

Byddwn ni'n gwybod bod gennym wir gydraddoldeb pan fydd cymaint o fenywod diddrwg didda mewn grym ag sydd o ddynion diddrwg didda.

Dirprwy Lywydd, mae gennym ffordd bell i fynd cyn inni gyflawni hynny. [Chwerthin.]

Sut mae dilyn hynna, arweinydd y tŷ? Hoffwn i ddiolch i bawb a oedd yn bresennol yn y seremoni plac porffor heddiw; mae hwn nawr yn goffa parhaol i gyn-Aelod Cynulliad Dwyrain Abertawe, Val Feld, hyrwyddwr cydraddoldeb. Nawr, roedd Cerys Furlong, prif weithredwr Chwarae Teg, yn y digwyddiad. Siaradodd hi am ei hymrwymiad i ddatblygu cydraddoldeb i fenywod, sy'n cyd-fynd yn llwyr â'ch datganiad chi heddiw. A ydych chi'n croesawu menter LeadHerShip Chwarae Teg, a ddaeth â menywod ifanc 16 i 25 mlwydd oed i'r Cynulliad yr wythnos diwethaf, i gysgodi llawer ohonom ni fel Aelodau Cynulliad—menywod ifanc fel Nia Watkins a Chloe Pierce o'r Barri a Llanilltud Fawr yn fy etholaeth i—a gafodd eu hysbrydoli gan yr hyn a welsant a sut y gallen nhw fwrw ymlaen â hyn? Ac yn ail, a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i feincnod cyflogwr teg Chwarae Teg? Cafodd ei lansio fis Tachwedd diwethaf, ac yn amlwg, mae angen i Lywodraeth Cymru fod ar flaen y gad fel cyflogwr rhagorol, ac rwy'n credu bod y comisiynydd eisoes wedi ymrwymo, felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud hynny hefyd.

Bydd, o ran yr ail un, rwyf wedi cael llawer o drafodaethau â gwahanol rannau o'r Llywodraeth er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn ymrwymo i'r fenter honno. Roeddwn i'n falch iawn o gael siarad, dim ond yn fyr, yn y digwyddiad LeadHerShip yr wythnos diwethaf. Dywedais i wrth yr arweinydd yno fy mod i ar fin gwneud cwestiynau i'r Prif Weinidog a bod hynny'n codi cryn arswyd arnaf ond fy mod yn mynd i'w wneud serch hynny. Cyflwynodd y ffeminist honno a'm dysgodd ym Mhrifysgol Sussex yr holl flynyddoedd hynny yn ôl i mi lyfr o'r enw Fear of Flying, a byddwn yn ei argymell i bobl hyd yn oed yn awr, sef teimlwch yr ofn ond ei wneud serch hynny, wedi'i fynegi mewn iaith fodern.

Un o'r rhesymau yr oeddwn i wrth fy modd o fod yn nadorchuddiad plac Val Feld oedd oherwydd bod Val yn berson o'r math hwnnw yn union—roedd hi'n berson anhygoel, roedd hi'n ddoniol iawn. Pan fyddai hi'n adrodd rhai o'r hanesion—wyddoch chi, pan yr oedd hi wedi mynd â'i hymgyrch bresennol i bobl uchel eu parch a dod yn ôl ac yn dweud y stori wrthych wedyn, byddech chi yn eich dwble—yn llythrennol yn eich dwble—ond doedd hynny byth yn tynnu oddi ar ba mor o ddifrif yr oedd hi ynghylch mynd i'r afael â chydraddoldeb. Roeddwn i'n meddwl bod ei phlant a'i hwyrion yn ysbrydoliaeth wirioneddol i ni i gyd. Ac yn wir rydym ni'n sefyll ar ysgwyddau'r menywod a aeth o'n blaenau ni, Dirprwy Lywydd, ac, fel y dywedais yn gynharach, mae gennym ffordd bell i fynd cyn y cawn ni'r cydraddoldeb hwnnw.

16:20
5. Rheoliadau Gorfodaeth Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018, ac rwy'n galw ar y Gweinidog dros yr Amgylchedd i wneud y cynnig. Hannah Blythyn.

Cynnig NDM6676 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018. Er bod y rhan fwyaf o'r diwydiant gwastraff yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol, rydym yn gweld problemau sylweddol o du rhan fechan o'r diwydiant sydd yn methu â bodloni'r safon ofynnol neu sydd yn gweithredu yn groes i'r gyfraith. Mae gwastraff a gaiff ei waddodi yn anghyfreithlon a safleoedd wedi eu rheoli'n wael yn achosi perygl o dân ac yn achosi llygredd yn llwybrau'r dŵr, a gall achosi arogleuon, sbwriel a phlâu pryfetach. Yn anffodus, gwyddom mai'r cymunedau cyfagos sy'n dioddef ac mai cyrff cyhoeddus a pherchnogion tir sy'n cael eu gadael i glirio'r llanast ac ymdrin â'r canlyniadau.

Rydym wedi cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru i nodi beth arall y gellir ei wneud i atal safleoedd gwastraff segur sy'n achosi problemau. Rwyf wedi gwrando ar farn y diwydiant, a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y pwerau gorfodi newydd i'r rheolyddion, ac rwy'n falch nawr o gyflwyno'r rheoliadau hyn sydd yn rhan o gyfres o fesurau sy'n anelu at fynd i'r afael â throseddau sy'n ymwneud â gwastraff yng Nghymru.

Mae'r rheoliadau yn darparu dau bŵer newydd. Bydd y pŵer cyntaf yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfyngu ar fynediad i safle gwastraff a rhwystro mewnforio mwy o wastraff drwy gloi'r fynedfa neu wahardd mynediad er mwyn atal y perygl o lygredd difrifol neu i atal parhad y llygredd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod tua thri safle yn cael eu gadael yn segur bob blwyddyn. I leihau'r effaith yn sgil y gwastraff a gaiff ei adael, mae'r ail bŵer yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i roi hysbysiad i feddiannydd neu berchennog tir yn gofyn iddynt symud gwastraff sydd yno'n anghyfreithlon ar y safle, hyd yn oed os cafodd ei waddodi yno'n gyfreithlon yn wreiddiol. Bydd ganddyn nhw hefyd y pŵer i orfodi meddianwyr a thirfeddianwyr i gymryd camau i ddileu neu leihau unrhyw ganlyniadau a achosir gan gadw neu waredu'r gwastraff ar y tir.

Yn dilyn ymgynghoriadau gyda'r diwydiant, rwyf wedi cyflwyno cyfnod trosiannol o ddeufis cyn y bydd y pŵer i symud gwastraff o'r tir yn dod i rym. Bydd hyn yn rhoi amser i feddianwyr a thirfeddianwyr ddeall y newidiadau a'r pwerau deddfwriaethol newydd. Mae'n hanfodol i orfodaeth rheoliad y sector gwastraff gael ei ategu gan ddeddfwriaeth os ydym yn mynd i ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl, ac i leihau effaith safleoedd gwastraff segur.

Bydd mwy o bwerau i gymryd camau yn erbyn masnachwyr anghyfreithlon hefyd yn helpu i roi cyfle teg i bawb yn y diwydiant ac yn helpu i sicrhau na fydd masnachwyr cyfreithlon yn colli busnes i'r rhai sy'n tanseilio'r mwyafrif sy'n parchu'r gyfraith. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr iawn.

Bydd Plaid Cymru’n cefnogi'r rheoliadau ac yn croesawu, yn arbennig, y grym newydd a fydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i rwystro'r defnydd pellach o safle anghyfreithlon. Byddai sawl person yn synnu nad yw’r grym erbyn hyn gyda’r mudiad, y corff, i wneud hynny. Yn sicr, fe fydd yn ffordd o atal llygru pellach i ddigwydd, ac rwy’n croesawu hynny.

Un cwestiwn sydd gyda fi i’r Gweinidog mewn perthynas â'r rheoliadau hyn. Yn amlwg, dylai unrhyw dirfeddiannwr sydd wedi caniatáu i’w dir gael ei ddefnyddio at y pwrpas anghyfreithlon yma wynebu cosb os oes angen. Ond mae yna enghreifftiau o dir sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer dymchwel sbwriel anghyfreithlon, dros gyfnod weithiau hefyd, heb fod y tirfeddiannwr bob tro yn gwybod hynny, ac weithiau mae tirfeddiannwr wedi’i gau allan o’r tir yn ogystal. Rwyf jest eisiau gofyn i’r Gweinidog pa fath o ddiogelwch fydd yn y system i sicrhau bod rhywun nad yw’n ymwybodol bod ei dir wedi’i ddefnyddio at y pwrpas yma ddim yn cael ei ddal gan y rheoliadau hyn.

prydlesu tir yn ymwybodol o oblygiadau tymor hwy, ac mae cael y grym sy’n edrych ymlaen yn rhoi cyfle i

Diolch yn fawr iawn ichi, a diolch yn fawr am y cwestiwn. Nid wyf yn credu y byddai'n ddadl ar reoliadau heb gwestiwn neu gyfraniad gan Simon Thomas.

Rwy'n ddiolchgar am eich cyfraniad, a bydd y rheoliadau hyn yn helpu ein rheolyddion i fynd i'r afael â safleoedd gwastraff sy'n perfformio'n wael a safleoedd anghyfreithlon, ac yn lleihau'r effaith sydd gan safleoedd gwastraff segur ar y cymunedau cyfagos.

Rydych yn crybwyll y tirfeddianwyr nad ydyn nhw'n ymwybodol efallai—rydym yn disgwyl i'r rheoliadau wneud y rhai sy'n prydlesu tir yn ymwybodol o oblygiadau tymor hwy, ac mae cael y grym sy’n edrych ymlaen yn rhoi cyfle i landlordiaid wneud y newidiadau, a bydd y ffordd y maen nhw'n prydlesu ac yn rheoli tir yn darparu ar gyfer newid i'r dyfodol. A bydd camau y gall Cyfoeth Naturiol Cymru eu cymryd i wneud yn siŵr bod tirfeddianwyr yn y sefyllfa orau i'w hamddiffyn eu hunain wrth fynd ymlaen. Gallai'r camau hyn gynnwys sicrhau bod tirfeddianwyr yn ymwybodol o'r goblygiadau. Efallai na fydd rhai tirfeddianwyr yn ymwybodol eu bod yn cyflawni trosedd drwy ganiatáu i wastraff gael eu storio ar dir neu ar eiddo penodol heb ganiatâd, a gallai'r gost hon eu gadael yn agored i erlyniad a chostau glanhau sylweddol Rhan o hynny yw codi ymwybyddiaeth a dyna pam yr ydym yn cael cyfnod pontio—i roi'r amser hwnnw i dirfeddianwyr allu gwneud yr addasiadau hynny sydd angen eu gwneud, fel nad ydyn nhw, gobeithio, yn cael eu hunain mewn sefyllfa o gael eu cosbi.

Gwyddom fod angen i fwy gael ei wneud i wella perfformiad y diwydiant gwastraff a chael gwared ar yr elfen dwyllodrus honno, pan ydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o fasnachwyr a thirfeddianwyr yn gweithredu o fewn y gyfraith. Yn Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i nodi ymhle y gellir cymryd unrhyw gamau pellach i leihau effeithiau a chost troseddau gwastraff ar gymunedau cyfagos.

Nid diwedd y gwaith yw'r rheoliadau hyn i fynd i'r afael â throseddau gwastraff. Ym mis Ionawr, cyhoeddais ymgynghoriad pellach ar y cyd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gynigion pellach i wella perfformiad y sector gwastraff, gan gynnwys diwygio'r drefn eithriadau a'r trefniant cymhwysedd i bobl sy'n gwneud cais i weithredu cyfleuster gwastraff. Edrychaf ymlaen at allu cyflwyno cynigion deddfwriaeth pellach gerbron y Cynulliad i roi hwb i'n hymdrechion i fynd i'r afael â throseddau gwastraff ac yn wir i gyflawni ein huchelgais o gael economi gylchol effeithiol yng Nghymru.

16:25

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, cytunir ar y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018

Eitem 6 ar yr agenda yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018, ac rwy'n galw ar y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig hwnnw—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM6674 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn symud y cynnig.

Mae'r Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn diwygio'r rheoliadau a wnaed yn 2015 ar lety diogel ar gyfer plant. Mae llety diogel yn ffurfio rhan fechan ond bwysig iawn o ddarpariaeth llety plant sy'n derbyn gofal. Defnyddir lleoliadau gan awdurdodau lleol dim ond pan fo plentyn yn debygol o ddianc o unrhyw fath arall o leoliad a bod perygl sylweddol iddo wneud niwed iddo'i hun neu i rywun arall. Ym mhob achos, bydd yn rhaid i awdurdod lleol wneud cais i'r llys am orchymyn llety diogel. Nawr, ni ddylid gwneud hyn ond pan fo hynny'n gwbl angenrheidiol, a phan fo dewisiadau eraill wedi eu hystyried.

Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd heddiw yn ceisio cyflawni dau beth. Yn gyntaf, ceir diwygiadau sy'n ganlyniad i newid i adran 25 o Ddeddf Plant 1989, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr leoli plant mewn llety diogel yn yr Alban. Nawr, dylwn bwysleisio mai ein polisi ni o hyd yw y dylai plant sydd angen lleoliadau diogel, lle bynnag y bo'n bosibl ac yn briodol, gael lle i aros yng Nghymru. Fodd bynnag, oherwydd natur arbenigol y ddarpariaeth hon a'i natur byrdymor, mae lleoliadau i blant o Gymru yn Lloegr yn eithaf cyffredin, ac ambell waith, maent yn mynd i leoliadau yn yr Alban. Er bod y lleoliadau hyn i blant o Gymru yn yr Alban yn anghyffredin, rydym yn dal i fod eisiau gweld y dewis hwn ar gael i'r awdurdodau yng Nghymru. Buom yn ymgynghori ar hyn yn yr hydref ac roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion, gan gynnwys yr un gan Gomisiynydd Plant Cymru, yn cefnogi'r ddarpariaeth hon, ar yr amod nad oedd i'w defnyddio ond ar sail eithriadol yn unig.

Yn ail, Dirprwy Lywydd, rydym yn gwneud rhai diwygiadau technegol i reoliadau 2015 sy'n anelu at sicrhau bod eglurder ynghylch y ffordd y caiff rheoliadau eu gweithredu ar gyfer lleoliadau trawsffiniol yn bennaf. Mae'r rhain yn ddymunol i warantu gweithrediad trawsffiniol y rheoliadau, yn enwedig o ran lleoliadau o Gymru i Loegr ac i'r gwrthwyneb. Yn wir, maen nhw'n sicrhau bod y rheoliadau o Gymru a Lloegr yn asio'n ddi-dor ac yn gweithio er lles gorau'r plant.

Felly, cymeradwyaf y rheoliadau hyn i'r Aelodau.

Rwyf eisiau gwneud sylwadau, yn y bôn, am yr hyn yr ydych wedi ei ddweud yn barod o ran amgylchiadau eithriadol. Rydym yn cytuno â chyfeiriad y rheoliadau, fel y dywedwch, o ran asio Lloegr, Cymru a'r Alban, ond rwy'n credu, ar gyfer y cofnod, ein bod yn awyddus i'w gwneud yn glir mai dim ond dan amgylchiadau eithriadol y byddai hynny'n digwydd lle nad oes modd dod o hyd i ddarpariaeth yng Nghymru. Ac a oes gennych ystadegau y gallech eu rhannu gyda ni ryw dro ynghylch faint o blant sy'n cael eu symud wedyn i'r Alban? Oherwydd, wrth gwrs, rwy'n siŵr inni siarad mewn ffordd gadarnhaol am yr Alban ar sawl achlysur yma yn y Siambr hon, yn enwedig ar y meinciau hyn, ond rydym yn dymuno bod yn sicr, gan ei bod gryn bellter o Gymru, fod ganddyn nhw systemau cymorth ar waith. Pa mor anhydrin bynnag y gallasai'r plentyn hwnnw fod, mae angen i'r mecanweithiau cefnogi hynny fynd gyda nhw wrth gael eu symud i'r wlad honno. Felly, dyna oedd y prif bwynt yr oeddem am wneud yn siŵr ei fod yn cael ei glywed yma heddiw.

16:30

Bethan, diolch yn fawr am hynny, ac rydym yn cytuno'n llwyr â'r hyn yr ydych yn ei ddweud. Mae angen iddo fod ar sail eithriadol. Ni fyddem eisiau gweld defnydd o lety diogel ond pan fyddo'n ddewis priodol a bod pethau eraill wedi cael eu diystyru. Byddem yn hoffi gweld y defnydd o lety diogel yng Nghymru pan fydd ar gael, ond, oherwydd ei natur, ac yn aml iawn natur byrhoedlog y llety arbenigol hwn, o bryd i'w gilydd bydd angen inni ymestyn—yn wir, nid yn anfynych y byddwn yn ymestyn hyd Loegr ac, fel eithriad mawr, i'r Alban. Ond yn y sefyllfa honno, byddem yn disgwyl i ddewisiadau gael eu hystyried i ddod â'r plentyn hwnnw yn nes at ei gynefin cyn gynted â phosibl, ond mae'n sefyllfa angenrheidiol ambell waith.

Ar hyn o bryd, mae'r broses o wneud hynny, yn enwedig yn yr Alban, yn astrus iawn. Mae'n gofyn mynd drwy broses ddeddfol aruthrol. Yr hyn a wna hyn yma nawr mewn gwirionedd yw, yn unol â'r newidiadau cyfreithiol y mae'r tŷ hwn yn eu hystyried y prynhawn yma, gweithredu ffordd fwy di-dor o wneud hynny'n effeithiol. Ond ie, cytunaf â chi yn llwyr y dylid defnyddio hyn fel eithriad. Gwnaeth y comisiynydd plant hynny'n glir, rydym ninnau'n cytuno â hynny hefyd, ond mae'n golygu gwneud y gwelliant technegol hwn er mwyn gallu ei wneud felly pan fo angen ei wneud, pan fydd popeth arall wedi mynd allan trwy'r ffenestr a phopeth arall wedi cael ei ystyried.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, cytunir ar y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2017-18

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, y ddadl ar ail gyllideb atodol 2017-18, a galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig. Mark Drakeford.

Cynnig NDM6657 Julie James

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 9 Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r ail gyllideb atodol hon yn rhan safonol o'r broses rheolaeth ariannol flynyddol. Mae'n gyfle olaf inni addasu'r cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad y llynedd. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu ar yr ail gyllideb atodol. Byddaf yn ymateb i'r Cadeirydd maes o law.

Yn bennaf, mae'r gyllideb hon yn gyfle i roi trefn ar y newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i reolaeth ariannol yn ystod y flwyddyn. Mae'n alinio'r adnoddau sydd ar gael gyda blaenoriaethau'r Llywodraeth. Mae'r mwyafrif o newidiadau i gynlluniau yn rhai gweinyddol yn bennaf.

Mae'r ail gyllideb atodol, felly, Dirprwy Lywydd, yn rhoi manylion am yr addasiadau o ganlyniad i drosglwyddiadau o fewn grwpiau gwariant gweinidogol, trosglwyddiadau rhwng prif grwpiau gwariant, dyraniadau o gronfeydd wrth gefn, newidiadau yn y terfyn gwariant adrannol cyffredinol, gan gynnwys symiau canlyniadol ac addasiadau eraill sy'n deillio o benderfyniadau Trysorlys EM, a rhagolygon diweddaraf gwariant a reolir yn flynyddol y cytunwyd arnynt â Thrysorlys EM.

O ran dyraniadau cronfeydd wrth gefn, mae'r GIG yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, ac mae'r gyllideb hon yn cynnwys dyraniadau refeniw o dros £146 miliwn o'n cronfeydd wrth gefn i gefnogi GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys £50 miliwn a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ym mis Awst, i gefnogi gwelliannau mewn atgyfeirio i driniaethau, amseroedd aros diagnosteg a therapi. Cyhoeddwyd £10 miliwn pellach ym mis Ionawr i helpu i leddfu'r pwysau ar y GIG yn y gaeaf. Darparwyd arian ychwanegol hefyd i helpu'r un prif grŵp gwariant i ymateb i ddiffygion mewn dau fwrdd iechyd lleol a diffyg incwm amcangyfrifedig gan y cynllun rheoleiddio prisiau fferyllol.

Mewn dyraniadau refeniw eraill, Dirprwy Lywydd, mae'r gyllideb atodol hon yn dyrannu £4.1 miliwn o arian refeniw ar gyfer y gronfa cymunedau arfordirol, £4 miliwn ar gyfer cydweithredu rhaglen cydgasglu band eang y sector cyhoeddus, ac yn gwneud darpariaeth i'r Awdurdod Refeniw Cymru newydd. 

Gan droi nawr, Dirprwy Lywydd, at gyfalaf, dyrannwyd £41 miliwn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru i gefnogi ei raglen gyfalaf Cymru gyfan, gan gynnwys y datblygiad yn ysbyty athrofaol y Faenor, datblygiadau i wasanaethau newyddenedigol yng Nghaerdydd a'r Fro, rhaglen gweddnewid gwasanaethau canser Felindre a'r gwaith parhaus yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae mynd i'r afael ag anghenion tai yng Nghymru yn flaenoriaeth bwysig i'r Llywodraeth hon. Mae'r gyllideb atodol hon felly yn buddsoddi cyfalaf ychwanegol o £49.8 miliwn mewn tai ac yn parhau i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Dyrannwyd £10 miliwn pellach o'r cyfalaf trafodion ariannol ar gyfer y cynllun Cymorth i Brynu.

Rydym yn parhau, hefyd, i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi ein hamcanion. Er enghraifft, mae'r gyllideb hon yn darparu cyfalaf trafodion ariannol o £32 miliwn i gefnogi cyfanswm o £40 miliwn yn fuddsoddiad i sefydlu cronfa safleoedd segur Cymru. Bydd hyn yn rhoi benthyciad ar gyfer datblygu i safleoedd pan fo hyfywedd ariannol yn rhwystr i gynnydd a phan fo'r farchnad yn methu â darparu'r cyllid mewn modd fforddiadwy.

Dirprwy Lywydd, fel y trafodwyd gyda Phlaid Cymru, bydd y gyllideb hon yn darparu buddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £30 miliwn ar gyfer prosiectau penodol i gefnogi a datblygu'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn addysg. Bydd yn cyfrannu at y twf o siaradwyr Cymraeg gan gefnogi strategaeth iaith Gymraeg y Llywodraeth hon.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus fuddsoddiad o £30 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol i gynnal ac i atal y dirywiad yn y rhwydwaith ffyrdd lleol. Bydd hyn yn cefnogi rhaglen sylweddol o adnewyddu ac yn gwella cydnerthedd rhwydwaith ffyrdd yr awdurdodau lleol i'r dyfodol.

Dirprwy Lywydd, fel y dywedais i yn gynharach, cyllidebau gweinyddol yw cyllidebau atodol yn bennaf. Mae’r gyllideb hon yn rhoi manylion i addasiadau amrywiol eraill sydd i’w gwneud i’n cyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae’r rhain yn cynnwys unrhyw newidiadau i grant bloc Cymru, adolygiadau o ragolygon ar wariant a reolir yn flynyddol, a throsglwyddiadau eraill rhwng ac o fewn portffolios Gweinidogion. Hoffwn ddiolch, unwaith eto, i’r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith yn craffu ar y gyllideb atodol hon, a gofynnaf i’r Aelodau ei chefnogi.

16:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am amlinellu blaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer y gyllideb atodol. Mae’r Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, wedi cyfarfod i graffu ar y gyllideb gyda’r Ysgrifennydd Cabinet, ac roedd y pwyllgor yn gymharol fodlon wrth ystyried y gyllideb atodol hon, ac nid ydym wedi gwneud unrhyw argymhellion y tro yma, ond rydym wedi dod i bedwar casgliad.

Yn gyntaf, daethom i'r casgliad nad oes digon o fanylion, er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn amdanyn nhw. Nid oes digon o fanylion yn y gyllideb atodol ynghylch blaenoriaethau a sut mae blaenoriaethu yn cael ei wneud gan y Llywodraeth yn wyneb rhaglenni megis 'Ffyniant i Bawb', y rhaglen lywodraethu ei hun ac, wrth gwrs, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hon yn thema sy’n codi'n gyson wrth i ni graffu ar y gyllideb, a byddem yn annog y Llywodraeth i ddarparu cymaint o dystiolaeth ag sy’n bosib o sut mae’r dyraniadau'n bodloni amcanion y rhaglenni hyn. At hynny, credwn y byddai’n ddefnyddiol ac yn fwy tryloyw pe bai manylion penodol ar gael i esbonio sut y caiff yr ymrwymiadau eu hariannu. Er enghraifft, a ydyw cyllid yn dod o gronfeydd wrth gefn, neu o danwariant mewn meysydd eraill?

Mae ein trydydd casgliad ni yn ymwneud â chyfalaf trafodion ariannol. Yn ystod y gwaith craffu, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am y problemau sy'n gysylltiedig â'r ffrwd ariannu hon—mae e newydd sôn am un ateb i’r broblem yma, wrth gwrs—ac fe roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am ei drafodaethau â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid ystyried cyfalaf trafodion ariannol wrth graffu ar y gyllideb ddrafft gwreiddiol ar gyfer 2018-19, a gwnaethom gydnabod cyfyngiadau'r ffrwd ariannol hon bryd hynny, gan ddod i'r casgliadau ein bod ni, wrth ddyfynnu:

'yn pryderu am y problemau sy’n gysylltiedig â’r cyfalaf trafodion ariannol y mae’n rhaid ei ad-dalu, a’r modd y gallai cyfyngiadau o ran defnyddio’r arian hwn gyfyngu ar Lywodraeth Cymru wrth iddi geisio cael y gwerth gorau am arian yn y modd y mae’n dyrannu’r arian hwn.'

Yn y gwaith craffu hwn, gwnaethom gydnabod unwaith eto gyfyngiadau'r ffrwd ariannu, ond byddem yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i barhau i ystyried pob ffordd bosibl o ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael.

Mae ein casgliad olaf yn ymwneud â'r cyllidebau atodol a gyflwynwyd gan y cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan y Cynulliad, sef Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ac i Aelodau sydd ddim wedi sylweddoli, nid dim ond cyllideb atodol y Llywodraeth sydd gyda chi ger eich bron heddiw, ond cyllideb atodol ar gyfer y tri chorff yma hefyd. Fel pwyllgor, cawsom olwg ar y cyllidebau atodol hyn, ar gyfer pob un corff, cyn bod cynnig y gyllideb wedi ei gyhoeddi, ac roedd y dull hwnnw o gael rhagflas a rhagolwg ar y gyllideb atodol, yn ein barn ni, yn werthfawr, a byddem ni’n annog y ffordd yma o weithredu yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

Diolch. Mae nifer o siaradwyr yn y ddadl hon, a dim ond 30 munud sydd gennym ar gyfer y ddadl, felly, rwyf am ofyn i'r Aelodau ystyried mai am dri munud y bydd eu cyfraniadau nhw. Rwy'n sylweddoli y gall fod rhai ohonoch chi wedi paratoi ar gyfer mwy na thri munud. Rwyf am fod yn haelfrydig, ond nid wyf am fod mor hael hyd at—pan fydd pedwar munud a hanner wedi mynd heibio byddaf yn gofyn ichi gau pen y mwdwl. Felly, cawn weld sut yr aiff hi. Nick Ramsay.

16:40

Ni chredaf y bydd angen ichi ofidio y byddaf i'n hirwyntog, Dirprwy Lywydd. Roeddwn yn mynd i ddweud jôc, ond ni wnaf hynny.

Ni fydd yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet gael gwybod na fyddwn yn cefnogi'r gyllideb atodol heddiw. Credaf ein bod ni wedi agor y rhych hwn o'r blaen, felly gwn y bydd ef yn deall hynny. Er hynny, rwy'n derbyn bod rhai agweddau yr ydym yn eu croesawu. Rydym yn sicr yn croesawu'r newidiadau a ddaeth gyda chyllideb hydref 2017 Llywodraeth y DU, y mae Cymru wedi elwa ar £1.2 biliwn ychwanegol yn yr ariannu dros y pedair blynedd nesaf yn ei sgil, ynghyd â £160 miliwn ychwanegol ar gyfer GIG Cymru ac awdurdodau lleol dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd symiau canlyniadol Barnett.

Wrth gwrs, ceir yma gynnydd mewn dyraniadau cyllidol a chyfalaf, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet. Ac rydym yn llawn ddeall y pwysau sydd wedi bod ar Lywodraeth Cymru. Rwy'n gwybod ein bod ni yn aml yn y Siambr hon yn tynnu coes fel hyn ac fel arall am fethiannau—wel, yn eich achos chi, fethiannau Llywodraeth y DU, ac yn ein hachos ninnau fethiannau Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae'r holl Lywodraethau—y DU a Llywodraeth Cymru—wedi bod o dan bwysau oherwydd yr angen i ymdrin â'r diffyg ariannol dros y blynyddoedd diwethaf, ac i fantoli'r cyfrifon. Ni fu hwn yn gyfnod hawdd, ond rydym yn gwybod oherwydd y newyddion economaidd da a gafwyd yn y tridiau diwethaf fod cyllideb dros ben bellach o £3.8 miliwn—swm cymharol fychan o arian dros ben, ond serch hynny, yr arian dros ben cyntaf ers cryn amser, bron i 20 mlynedd. Felly, mae hynny i'w groesawu.

Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn derbyn mwy o arian drwy'r grant bloc, ac rydym yn croesawu, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, y fframwaith cyllidol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod wedi cefnogi hynny o'r cychwyn ac rwy'n fwy na pharod i ddweud fy mod i'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y gwaith caled a wnaed i ddatblygu'r fframwaith cyllid hwnnw dros gyfnod hir o amser. Gwn fod llawer wedi digwydd y tu ôl i'r llenni na ddaeth bob amser i sylw'r cyhoedd, ond rwyf i o'r farn fod hynny wedi bod er budd Cymru, a'r lle hwn a Llywodraeth Cymru ar eu gorau. Felly, mae yna newyddion da i'w gael.

Os caf i droi yn fyr at adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwy'n cytuno â geiriau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Byddem yn hoffi gweld mwy o dryloywder yn y modd y pennir dyraniadau cyllideb atodol. Fe ddaw hyn yn gynyddol bwysig gyda'r datganoli o bwerau treth sydd ar fin digwydd fis nesaf—proses ac nid digwyddiad, os goddefir hen ymadrodd o hanes y Cynulliad. Bydd yn bwysig iawn gyda'r pwerau treth newydd hynny, a datganoli pwerau treth incwm, fod y broses mor dryloyw â phosibl, a bod y Pwyllgor Cyllid o dan y Cadeirydd, Simon Thomas, â rhan lawn i'w chwarae yn hynny. Rwyf yn falch fod adroddiad y pwyllgor wedi annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddal ati i archwilio pob ffordd o ddefnyddio'r arian sydd ar gael o fewn rheolau Trysorlys y DU.

Pethau rhyfedd yw cyllidebau atodol yn eu hanfod, ac felly y bydd hi byth mae'n debyg. Ond credaf fod yna awgrymiadau da yn yr adroddiad hwn y gellid eu hystyried ar gyfer cyllidebau atodol y dyfodol, ac rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Cyllid yn edrych ymlaen at weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar gyllidebau'r dyfodol er mwyn ceisio gwella'r strwythur a'r system o lunio cyllidebau.

Achos pryder yn y gyllideb hon ger ein bron yw rhywbeth sydd wedi cael ei bwysleisio yn y gorffennol, ac ar dudalen 16 yr adroddiad hwn. Mae'r diffygion ariannol y mae'r byrddau iechyd lleol ledled Cymru yn eu dwyn wedi bod yn destun pryder ers peth amser bellach, ac mae'n debyg y byddan nhw'n fater o bryder o hyd. Rydym ni, Geidwadwyr Cymru, yn pryderu y bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer y GIG, er bod croeso iddo, os nad ydym yn ofalus, yn mynd tuag at gau'r bylchau ariannol ac nid o reidrwydd yn codi safon gofal iechyd fel yr hoffem ni ei weld. Nid pwynt pleidiol yn unig o'm rhan i yw hwn. Gwn fod Mike Hedges ei hunan wedi mynegi pryderon am allu'r GIG i amsugno arian heb iddo fod yn gwbl dryloyw bob amser lle mae'r holl arian hwnnw yn mynd. Felly, rwy'n gwneud y cafeat hwnnw, er ein bod yn croesawu'r gwariant ychwanegol ar y GIG. Felly, da o beth fyddai inni gael sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet y gwneir yn fawr o'r arian newydd hwn.

Beth bynnag, nodais ar y dechrau mai safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig ar y gyllideb hon yw, er ein bod yn croesawu'r arian ychwanegol heddiw, na fyddwn yn cefnogi'r gyllideb. Byddwn yn atal ein pleidlais, oherwydd yn ein barn ni, er mai cyllideb atodol yw hi, mae'n dilyn y brif gyllideb flaenorol nad oeddem ni yn ei chefnogi.

Rydw i hefyd yn gallu cadarnhau y bydd fy mhlaid i yn dilyn, wrth gwrs, ein patrwm cyson o ran y gyllideb yma ac yn ymatal ar y bleidlais fel rhan o'r cytundeb sydd rhyngom ni. 

Mae yna bethau i'w croesawu, wrth gwrs—yn benodol, fel yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn, y £30 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg Gymraeg fel rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. O'i natur, wrth gwrs, mae cyllideb atodol, fel yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud, yn dueddol o fod yn dechnegol weinyddol. Er gwaethaf hynny, wrth gwrs, byddwn i'n ategu'n sicr prif fyrdwn y neges a glywsom ni gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: yr angen, a dweud y gwir, inni ddeall yn well y stori tu ôl i'r ffigurau. Hynny yw, mae ffigurau, wrth gwrs, yn greiddiol bwysig i unrhyw gyllideb, ond mae geiriau hefyd, y naratif, yn hynod allweddol hefyd i ni ddeall y broses o ddod at y penderfyniadau ynglŷn â'r dyraniadau a'r trosglwyddiadau ac yn y blaen.

Yn benodol, wrth gwrs, mae hwn yn codi o ran sut y mae egwyddorion ac amcanion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi cael eu gweithredu. Mae'n rhywbeth yr oedd adroddiad y pwyllgor yn cyfeirio ato fe yn benodol, fe ddaeth lan yn nhystiolaeth yr Ysgrifennydd Cabinet, ac mi oedd e'n gallu rhoi rhai enghreifftiau lle yr oedd yr egwyddorion wedi cael eu gweithredu. Ond rydw i yn rhyw feddwl bod angen dynesiad sydd yn fwy systemataidd, hynny yw, rhywbeth ar hyd y llinellau lle byddai efallai yn y memorandwm esboniadol neu mewn adroddiad cyfatebol—bod yna ddadansoddiad ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth wedi mynd ati i weithredu'r egwyddorion wrth ddod i'w hargymhellion o ran y gyllideb. 

Jest ar gwpwl o bethau penodol—. Roedd Simon Thomas wedi cyfeirio at y trafodiadau ariannol. Rwy'n deall bod yna gyfyngiadau ynglŷn â sut y mae modd defnyddio nhw, wrth gwrs, ond pan fo yna gyfyngiadau, wrth gwrs, mae'n rhaid wedyn bod yn greadigol. Rydw i'n sylwi yn yr Alban, er enghraifft, fod Llywodraeth yr Alban wedi defnyddio trafodiadau ariannol ar gyfer benthyciadau i fusnesau bychain, er enghraifft, ar gyfer ariannu buddsoddiadau o ran carbon isel, y diwydiant carbon isel. Nawr, maen nhw wedi cyhoeddi'r bwriad i greu banc buddsoddi cenedlaethol i'r Alban gyda chyfalaf o £2 biliwn—£2 biliwn—felly tipyn yn fwy o ran sgôp na'r banc datblygu sydd gyda ni ar hyn o bryd, a thrafodiadau ariannol maen nhw'n mynd i'w defnyddio er mwyn cyrraedd y nod uchelgeisiol hwnnw. Felly tybed a oes yna sgôp i'r Llywodraeth gael trafodaeth gydag arweinwyr y banc datblygu i weld a ydym ni'n gallu efelychu'r Alban yn hynny o beth. 

Cyfeiriais at yr arian ychwanegol ar gyfer addysg Gymraeg—mae hwnnw i'w groesawu. Mae'r ychydig o arian hefyd ar gyfer prosiect datblygu gyda'r Mudiad Ysgolion Meithrin hefyd i'w groesawu. Jest cwestiwn technegol—os nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu ateb nawr, gall  ysgrifennu ataf i—mae yna drosglwyddiad yn y cynnig o £2.3 miliwn, o Gymraeg mewn addysg i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae yna gyllideb eisoes yn bodoli wrth gwrs, drwy'r cytundeb rhyngom ni, ond mae yna £300 miliwn ar gyfer prosiectau eraill sydd yn ymwneud â hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym ni'n sôn am arian ychwanegol ar ben y £2 filiwn ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg a wnaethom ni negodi fel rhan o'r cytundeb, rydw i'n cymryd. Byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu cadarnhau hynny i ni.

Un peth negyddol rydw i'n becso ychydig bach amdano yn y gyllideb ydy dau drosglwyddiad: o'r gronfa wyddoniaeth neu o'r llinell gwariant gwyddoniaeth i eiddo yn gyffredinol, ac £1.7 miliwn yn cael ei drosglwyddo o arloesedd i wybodaeth i fusnes yn gyffredinol. Mae hynny ar adeg, wrth gwrs, lle mae'r Llywodraeth yn y gyllideb nesaf yn mynd i dorri'r arian sydd ar gael ar gyfer arloesedd o 78 y cant. Rwy'n poeni i weld rhagor o arian yn cael ei drosglwyddo o'r cronfeydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd pan, a dweud y gwir, ddylem ni fod—ar adeg Brexit ar y gorwel ac yn y blaen, oni ddylem ni fod yn buddsoddi yn fwy yn ein sylfaen gwyddonol ac arloesol?

16:50

Erbyn y cam hwn yn y cylch ariannol, teimlaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn debyg i'r dyn sydd yn dilyn sioe yr Arglwydd Faer gyda rhaw er mwyn tacluso'r strydoedd ar ôl y prif ddigwyddiad. Felly, er inni bleidleisio yn erbyn y brif gyllideb, fel Nick Ramsay gallaf ddweud ar ran fy mhlaid i na fyddwn yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol hon. Er ei bod yn gwneud rhai newidiadau sylweddol, tacluso'n unig yw llawer ohoni.

Rydym yn sicr yn cefnogi'r £30 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i ddarparu ffrwd cyllid cyfalaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i'r blynyddoedd sydd i ddod, sef rhan hanfodol o wireddu amcan y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy'n sicr yn cefnogi popeth a dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid hefyd, ac, yn wir, Adam Price, o ran deall y fethodoleg o ran y newidiadau i flaenoriaethau, er eu bod ar ymylon y cyllidebau dan sylw, mewn perthynas â'r amcanion a nodwyd yn gyffredinol gan y Llywodraeth mewn dogfennau fel 'Ffyniant i Bawb'.

Hoffwn ganmol Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am y dystiolaeth a roddodd i'r pwyllgor yn y cyswllt hwn a'i barodrwydd amlwg i weithio gyda'r pwyllgor yn hynny o beth. Yn sicr, y prif beth a ddaeth yn sgil ystyried y gyllideb yn y pwyllgor yn fy marn i oedd y dystiolaeth a gawsom am y gorwariant yn y gwasanaeth iechyd gwladol a'r byrddau iechyd lleol. Mae hon yn amlwg yn broblem gynhenid, a roeddwn yn cydymdeimlo ag Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd a'r anawsterau y mae hynny'n ei achosi iddo pan fyddwn yn gweld y diffygion ariannol annisgwyl hyn, sydd, gan hynny, yn cyfyngu ar y Llywodraeth mewn meysydd eraill hefyd. O ystyried pwysigrwydd iechyd yng ngolwg y cyhoedd, a maint y gwariant ar iechyd fel cyfran o gyllideb Llywodraeth Cymru, bydd gan unrhyw orwariant sylweddol gan awdurdodau iechyd lleol o reidrwydd sgil-effeithiau ar rannau eraill o'r gyllideb.

Yn anffodus, mae'n ymddangos mai gwaethygu y mae pethau yn hytrach na gwella, oherwydd, ym mharagraffau 25 a 26 o adroddiad y pwyllgor, fel y dywedwn ni:

'Roedd y sefyllfa gyfanredol ar gyfer yr holl Fyrddau Iechyd Lleol am y cyfnod o dair blynedd hyd at 2016-17 yn orwariant net o £253 miliwn',

ac, ar gyfer y cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2017, y diffyg oedd £135 miliwn, gydag

'amcangyfrif ar gyfer blwyddyn lawn 2017-18 dros £170 miliwn’,

sy'n cymharu â diffyg gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn flaenorol o ddim ond £147.8 miliwn. Felly, mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae angen ymdrin ag ef ar sail mwy hirdymor na dim ond mewn cyllideb atodol, ac rwy'n gobeithio y bydd yna rywfaint o gydnabyddiaeth o hyn yn y gyllideb lawn nesaf y flwyddyn nesaf—yn amlwg, ni ellir ymdrin â hynny yn y gyllideb atodol hon.

Gan hynny, mae fy nhair munud wedi dod i ben, Dirprwy Lywydd, a byddaf yn dangos esiampl nad yw eraill wedi ei gwneud efallai wrth imi gadw at eich awgrym. Felly, byddwn ni'n ymatal ar y bleidlais hon.

Diolch. 'Does gen i'r un seren aur i'w rhoi i neb heddiw, felly mae'n ddrwg gennyf am hynny. Mike Hedges.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siarad o blaid yr ail gyllideb atodol ac adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Cytunaf yn llwyr ag argymhellion y Pwyllgor Cyllid, a byddwn yn croesawu mwy o fanylion am sut y mae dyraniadau arwyddocaol newydd wedi cael eu blaenoriaethu. Byddwn, er hynny, yn mynd ymhellach ac yn gofyn: beth fydd canlyniadau amcanol y gwariant hwn? Oherwydd rydym yn sôn llawer am yr arian yn mynd i mewn, ond nid ydym yn sôn llawer iawn am yr hyn yr ydym mewn gwirionedd yn mynd i'w gyflawni o'i herwydd.

Rydym yn cytuno y dylid cael arian ychwanegol ar gyfer iechyd—£146 miliwn mewn refeniw, £41 miliwn o arian cyfalaf. Rwy'n credu ein bod ni wedi cyrraedd y cam lle mae arian ychwanegol ar gyfer iechyd yn y gyllideb atodol flynyddol yn rhywbeth y gallwn ei ddisgwyl. Mae Neil Hamilton newydd fynd â ni drwy'r diffygion, felly nid wyf i am fynd dros hynny eto. Rwy'n troi at Betsi Cadwaladr, diffyg a ragwelwyd o £75.9 miliwn, a Hywel Dda, diffyg a ragwelwyd o £88.3 miliwn. Gofynnaf y cwestiwn hwn: a ydyn nhw'n cael eu tangyllido? Ai dyna'r broblem? A ydyn nhw'n cael eu rheoli'n wael? Neu a oes rhywbeth o'i le ar y strwythur bwrdd iechyd yn ei hanfod? Neu ai cyfuniad o'r tri pheth sydd yma? Os na all Ysgrifennydd y Cabinet roi rheswm arall i mi, ni allaf weld dim byd y tu hwnt i'r tri rheswm hyn am y problemau hynny, a phroblemau gweddol fawr ydyn nhw.

Rwy'n cytuno â'r Pwyllgor Cyllid pan mae'n cydnabod y cyfyngiadau o ran cyllid trafodiadau ariannol, a chytunaf ein bod yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i barhau i archwilio pob ffordd o ddefnyddio'r arian sydd ar gael, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i wneud hynny.

A gaf i ddyfynnu dogfen o Westminster? Yn 2012-13, cyflwynodd Llywodraeth y DU ddull ychwanegol o gyllido cyfalaf er mwyn rhoi hwb i fuddsoddi, sef y cyfalaf trafodiadau ariannol fel y'i gelwir. Nid yw cyfalaf trafodiadau ariannol yn ychwanegu gwariant cyfalaf fel y cyfryw, ac nid yw Trysorlys ei Mawrhydi yn eu hystyried yn drafodiadau gwariant. Y nodwedd sy'n gwahaniaethu cyfalaf trafodiadau ariannol yw na all y cronfeydd ond cael eu defnyddio gan y sector cyhoeddus yn fenthyciad i, neu'n fuddsoddiad ecwiti mewn, endid sector preifat. Caiff 'sector preifat' ei ddiffinio gan ganllawiau dosbarthu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a chaiff ei bennu gan bwy sy'n rheoli, yn hytrach na pherchnogaeth neu a yw'r endid yn derbyn arian cyhoeddus neu beidio.

Ni all cyfalaf trafodiadau gael eu defnyddio i adeiladu ysgolion newydd, ni ellir eu defnyddio ar gyfer adeiladu ysbytai newydd ac, o dan ddosbarthiad cyfredol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ni ellir ei roi i gymdeithasau tai i adeiladu tai. Mae hon yn rheol a osodwyd gan y Trysorlys ei hun sy'n caniatáu gwariant, ond nid ychwanegu at gyfanswm gwariant cyfalaf y Llywodraeth. Nid yw ei drin fel benthyciad yn gwneud synnwyr o gwbl ond mae'n cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru a ninnau fel Cynulliad i wario arian ar y pethau a ddymunwn.

Yn olaf, ar fenthyciadau i fyfyrwyr, nododd y pwyllgor fod y cynnydd mewn refeniw nad yw'n arian parod sy'n ymwneud â chyfrifyddu adnoddau myfyriwr a chyllidebu ffioedd o ran benthyciadau i fyfyrwyr wedi cynyddu oddeutu £300 miliwn yn y gyllideb atodol. A gaf i ddarogan? Bydd £300 miliwn arall y flwyddyn nesaf. Mae'r dyraniad ychwanegol hwn nad yw'n arian parod gan Drysorlys ei Mawrhydi yno i dalu dyled benthyciadau myfyrwyr ac nid yw'n arian y gellid ei wario mewn gwirionedd ar unrhyw beth arall. Felly byddwn yn gobeithio bod pawb yn rhannu fy mhryder y bydd y canran o'r benthyciad i fyfyriwr y rhagwelir na chaiff ei dalu'n ei ôl, ac a gaiff ei ddileu, yn cynyddu bob blwyddyn. Mae hon yn broblem na fydd yn diflannu. Camgymeriad enfawr oedd ffioedd dysgu, ond trychineb oedd eu codi i £9,000.

16:55

Yn eich ail gyllideb atodol, Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech chi'n gallu rhyddhau rhywfaint o arian o ganlyniad i'ch gwaith paratoi gofalus ar gyfer cyllideb mis Tachwedd 2017 y Canghellor a ffactorau cyllidol eraill. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn canlyniadau cadarnhaol i addysg a thai mewn perthynas â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. A wnewch chi egluro'r hyn yr oeddech yn gallu ei gyflawni drwy gyfalaf a/neu refeniw i gefnogi'r blaenoriaethau hyn?

A gaf i achub ar y cyfle, Dirprwy Lywydd, i roi sylwadau ar gyd-destun heriol yr ail gyllideb atodol, yr wyf yn ei llwyr gefnogi ac, yn wir, yn llwyr gefnogi adroddiad y Pwyllgor Cyllid hefyd? Nodaf fod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi cydnabod bod y diffyg cyffredinol yng nghyllideb y DU wedi ei ddileu. A gytunwch chi nad yw hynny'n gamp, fel y datganodd George Osborne, pan fo effaith mantoli'r gyllideb wedi bod yn bennaf ar fenywod a grwpiau incwm isel? Ac a ydych chi'n cytuno â'r economegydd Ann Pettifor fod y cyflawniad hwn, fel y'i gelwir, yn dinistrio ein gwasanaethau cyhoeddus, ac o dan oruchwyliaeth George Osborne torrwyd £14 biliwn ar gyfanswm y gwariant a reolir mewn termau real, ac aeth buddsoddiad y sector cyhoeddus o £60 biliwn yn 2010 i £35 biliwn yn 2016? Dyma'r cyd-destun y bu'n rhaid i chi weithio oddi mewn iddo, ac a ydych yn cytuno bod angen i Lywodraeth y DU gydnabod anghenion gwirioneddol ein gwasanaethau cyhoeddus ac iechyd, addysg a thai, a newid trywydd ar ôl naw mlynedd o galedi?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Simon Thomas am beth ddywedodd e? Rydw i'n edrych ymlaen i ystyried y casgliadau yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Rydw i'n siŵr fod pethau yna i ni eu dysgu, ac rydw i'n edrych ymlaen i ymateb i'r adroddiad. 

Fe glywais i beth ddywedodd Cadeirydd y pwyllgor am gyfalaf, a financial transaction capital, yn enwedig. Rŷm ni yn trio gweithio yn greadigol i ddefnyddio yr arian sydd wedi dod atom ni yn y ffordd yna. Rydw i'n gallu dweud wrth Adam Price ein bod ni yn gweithio gyda Gweinidogion yn yr Alban. Cwrddais i gyda Derek Mackay cyn y Nadolig jest i rannu syniadau. Maen nhw'n wynebu yr un problemau â ni wrth drial defnyddio'r arian sy'n dod yn y ffordd yna, fel esboniodd Mike Hedges pan oedd e'n rhoi mas i ni gyd y rheoliadau sy'n dod gyda'r cyfalaf yn y ffordd yna.

Byddaf yn hapus iawn, wrth gwrs, i ysgrifennu at Adam Price ar y pwyntiau penodol a gododd ef.FootnoteLink Credaf fy mod yn iawn i ddweud bod y newidiadau o fewn y prif grŵp gwariant addysg wedi eu cynllunio i gefnogi'r cytundeb yr ydym wedi dod iddo gyda Phlaid Cymru, a dyna pam yr ydych yn gweld arian yn cael ei symud o gwmpas. Mae hynny o ganlyniad i'n cytundeb i wneud yn siŵr y gallwn gyflawni hynny, yn hytrach nag unrhyw beth arall.

Ar rai o'r pwyntiau eraill a godwyd gan Adam, credaf y byddwn yn canfod—ond byddaf yn gwirio'r manylion—fod y newidiadau hynny yn sgil ein gallu i gyflwyno rhywfaint o gyllid Ewropeaidd. Felly, nid gostyngiad mewn gwariant yw hyn, ond defnyddio arian arall, tra y gallwn ni, at y dibenion hynny fel y gallwn ryddhau arian i wneud pethau eraill hefyd.

17:00

Cyn iddo symud ymlaen at faterion eraill a thra bod cyfalaf trafodiadau ariannol ar ein meddyliau ni o hyd, mae'r Pwyllgor Cyllid yn gobeithio gwneud ychydig o waith ychwanegol ar hyn o ran y mecanwaith ariannu tu ôl i hyn. A yw'n gallu rhannu mwy o wybodaeth a gafodd gan y Trysorlys gyda ni am y disgwyliad o dalu hwn yn ôl, ac ar ba gyfradd neu ganran y disgwylir ei fod yn ei ad-dalu? Mae'n amlwg fod rhywfaint o risg ynglŷn â rhai o'r prosiectau y mae ef wedi cyfeirio atyn nhw hyd yma a chredaf fod risg gyda rhai o'r prosiectau y soniwyd amdanynt yn yr Alban hefyd.

Bydd, Dirprwy Lywydd, yn union felly. Nodais yn fy llythyr i Mike Hedges, yr wyf wedi ei roi yn y llyfrgell, y rheolau sy'n gysylltiedig â chyfalaf trafodiadau ariannol, gan gynnwys y ffaith bod yn rhaid i 80 y cant ohono gael ei dalu'n ôl, nid y swm llawn. Dyna ychydig o gydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU y ceir risg ac na chaiff holl gyfalaf trafodiadau ariannol ei ad-dalu. Ceir cyfraddau llog amrywiol y gallwch eu defnyddio yn dibynnu ar y risg sy'n ymwneud â defnyddio'r arian ac yn y blaen. Gobeithio y bydd unrhyw Aelod sydd â diddordeb yn rhai o'r manylion astrus ynglŷn a chyfalaf trafodiadau ariannol yn cael cyfle i edrych ar y llythyr yr achosodd Mike Hedges i mi ei ysgrifennu. [Torri ar draws.] Roeddwn yn falch o'i ysgrifennu.

Wrth ateb Nick Ramsay, mae ef yn iawn i ddweud ein bod yn dechrau gweld blaenffrwyth y fframwaith cyllid, ac rwy'n hapus i gydnabod mai gwaith ar y cyd oedd hwnnw. Cyfeiriodd Neil Hamilton at yr ail gyllideb atodol fel carthu ar ôl y ceffyl, ond mae'r bobl sydd yn gwneud peth felly o fudd i gymdeithas a chan hynny rwy'n derbyn ei sylw yn gymeradwyaeth o'r gwaith a wnawn wrth gyflwyno'r gyllideb hon gerbron y Cynulliad.

 Mae nifer o'r Aelodau wedi cyfeirio at y GIG. Ni wnaf i byth ymddiheuro ar ran Llywodraeth Lafur am fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd a gwneud yn siŵr, yn y rhannau hynny o Gymru lle mae'r frwydr galetaf i fyw o fewn y gyllideb sydd ar gael, nad yw canlyniadau'r frwydr yn cael eu teimlo ym mywydau'r cleifion sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwnnw. Dyna pam yr ydym wedi gweithio mor galed i ddod o hyd i'r arian ychwanegol hwnnw sy'n angenrheidiol a pham mae fy nghydweithiwr Vaughan Gething yn gweithio mor galed i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn cael y gwerth gorau un am y buddsoddiad a wnawn.

Gofynnodd Jane Hutt i mi am ragor o fanylion o ran buddsoddiadau tai ac addysg ac roedd Mike Hedges yn cyfeirio at rai o'r un materion. Ynglŷn â thai yn arbennig, fy mhrif flaenoriaeth i o ran cyfalaf yw cefnogi penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad hwn i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Mae tai yn un o brif gonglfeini bywydau ein cyd-ddinasyddion, ac rydym yn benderfynol o ddod o hyd i'r arian i fuddsoddi yn hynny. Mae bron £50 miliwn yn symud yn y gyllideb atodol i gefnogi hynny. O ran addysg, fel y clywsoch, ceir amrywiaeth o wahanol fuddsoddiadau yn y gyllideb atodol, ond bydd £30 miliwn i'w fuddsoddi mewn cyfalaf, mewn addysg cyfrwng Cymraeg, yn caniatáu i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddwyn buddsoddiadau ymlaen i'r flwyddyn ariannol hon ac yna i greu llif o fuddsoddiad mewn addysg cyfrwng Cymraeg i'r dyfodol. Mae ganddi hi gynlluniau uchelgeisiol i wneud yn siŵr ein bod yn gallu llunio'r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg, yr ydym wedi ymrwymo i hynny ledled y Siambr hon, ac mae'r buddsoddiad hwnnw i'w gael yno i wneud hynny. 

Gadewch i mi orffen, Dirprwy Lywydd, drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Jane Hutt yn ei chyfraniad olaf: y bwgan sydd yn gwmwl dros yr holl gyllideb atodol hon, fel y mae dros bopeth a wnawn, yw'r oes o galedi. Pam ddylid disgwyl i ni godi ar ein traed a churo dwylo ar ôl wyth mlynedd o galedi oherwydd bod y Torïaid yn gallu dweud o'r diwedd eu bod wedi cyrraedd rhyw nod o arian dros ben yn y gyllideb—. Fe wnaethon nhw hynny drwy'r ffordd y maen nhw wedi torri a llosgi eu ffordd drwy'r gwasanaethau cyhoeddus. Pe bai'r twf mewn cyllidebau, a gafodd pob Llywodraeth arall ers 1945, wedi bod ar gael i'r Cynulliad hwn—mewn geiriau eraill fod y buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn adlewyrchu yn syml y twf yn yr economi yn ei chyfanrwydd—byddai gennym ni £4.5 biliwn yn fwy i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol na'r hyn oedd ar gael i ni yn y gyllideb a bennwyd gennym cyn y Nadolig. Mae hwnnw'n ffigwr arwyddocaol dros ben: £4.5 biliwn nad yw ar gael ar gyfer ein gwasanaeth iechyd, ein gwasanaethau cymdeithasol, i fuddsoddi yn ein gwasanaethau addysg a phopeth arall y mae angen inni ei wneud. Roedd Jane Hutt yn gwbl gywir i dynnu sylw at y ffaith, o dan yr holl fanylion yr ydym wedi eu trafod y prynhawn yma, fod y ffaith sylfaenol honno yn aros. Mae llawer mwy y gallem ni ei wneud pe byddem wedi cael buddsoddiad teg yn y gwasanaethau yr ydym ni oll yn dibynnu arnyn nhw.

17:05

Diolch. Y cynnig yw cytuno â’r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2016-17

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad blynyddol Estyn, a galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i gynnig y cynnig—Kirsty Williams.

Cynnig NDM6675 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2016-17.

Cynigiwyd y cynnig.

Dirprwy Lywydd, rwy’n agor y ddadl hon heddiw drwy ddiolch i Meilyr Rowlands am ei drydydd adroddiad blynyddol fel prif arolygydd addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Yn ogystal â darparu tystiolaeth ar berfformiad a safonau, bydd adroddiad y prif arolygydd yn llywio datblygiad polisi ac yn ysgogi gwelliannau i addysg. Mae adroddiad blynyddol Estyn 2016-17 yn edrych ar gynnydd dros y saith mlynedd diwethaf, yn ôl at 2010, pan ddechreuodd cylch arolygu presennol Estyn, a chanfyddiadau arolygu’r sectorau. Rwy’n croesawu’r dull hirdymor hwn. Mae'n galonogol gweld mai’r duedd fwyaf dros y saith mlynedd diwethaf oedd symudiad tuag at ddiwylliant o hunanwella, ac mae hyn yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i mi ac i'r Llywodraeth.

Mae'r adroddiad yn dangos mwy o gydweithredu rhwng ysgolion, yn enwedig yn y ffordd y datblygir y cwricwlwm newydd. Rydym yn cefnogi ysgolion i gydweithio ac i chwarae rhan lawn mewn system hunanwella, ac mae’r ymdrech hon yn cael ei hwyluso drwy'r consortia addysgol rhanbarthol. Rwy’n croesawu’r canfyddiadau sy'n dangos bod llawer o gryfderau’n bodoli mewn lleoliadau meithrin, mewn ysgolion arbennig a gynhelir ac mewn colegau addysg bellach. Mae ansawdd yr addysg yn dda neu'n well yn y rhan fwyaf o achosion, a bu cynnydd parhaus o ran darpariaeth y blynyddoedd cynnar, llythrennedd a rhifedd, ymddygiad a phresenoldeb a pherfformiad dysgwyr dan anfantais.

Rwy’n falch o weld, rhwng 2010 a 2017, y cafwyd gwelliannau hefyd i berfformiad ysgolion cynradd, yn benodol bechgyn a’r disgyblion hynny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae'n galonogol bod ysgolion a lleoliadau wedi ymrwymo i arfer da yn y cyfnod sylfaen. Mae plant yn gwneud cynnydd da ac yn dangos mwy o gymhelliant a mwynhad o ddysgu mewn lleoliadau sy’n gwneud hyn yn iawn. Rwy’n nodi, fodd bynnag, fod cymhwyso’r cyfnod sylfaen wedi bod yn anghyson. Rwy’n cydnabod bod angen gwneud mwy i sefydlu arferion cyson ledled Cymru ac i sicrhau bod y fframwaith cywir yn bodoli i gefnogi addysgu a dysgu effeithiol drwy addysgeg y cyfnod sylfaen. Y llynedd, cyhoeddais ddatblygiad rhwydwaith rhagoriaeth y cyfnod sylfaen, a fydd yn bennaf yn cynorthwyo gyda'r gwaith o rannu arferion effeithiol ac yn gweithio'n agos gyda rhwydweithiau rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg.

Dirprwy Lywydd, mae'n galonogol bod gofalu am les disgyblion, gofal, cymorth ac arweiniad, a'r amgylchedd dysgu yn nodweddion cryf yn ein system addysg. Rydym yn gwybod bod cysylltiad cryf rhwng lles a deilliannau addysgol, a bod plant sydd â lefelau uwch o les emosiynol, ymddygiadol, cymdeithasol ac ysgol, ar gyfartaledd, yn cyflawni at lefelau uwch ac yn dangos mwy o ddiddordeb yn eu haddysg.

Rwy’n nodi canfyddiadau'r adroddiad bod saith o bob 10 ysgol gynradd a gafodd ei harolygu eleni’n dda neu'n rhagorol, sy’n debyg i'r llynedd. Er bod hyn yn gadarnhaol, ac rwy'n cydnabod ymroddiad a gwaith caled ein hysgolion i gyflawni hyn, mae'n amlwg bod angen gwneud mwy. Mae hanner yr ysgolion uwchradd a gafodd eu harolygu’n dda neu'n rhagorol, sy’n welliant ar y llynedd. Rwyf hefyd yn falch o weld canfyddiadau'r adroddiad bod darparwyr da a rhagorol ym mhob sector, gan gynnwys mewn ardaloedd o dlodi cymharol. Rydym wedi ymrwymo i greu system addysg gynhwysol ar gyfer pob dysgwr, waeth beth fo'i anghenion, i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cael addysg o safon uchel. Mae'r adroddiad yn glir ein bod yn gwneud cynnydd, er fy mod yn credu, Dirprwy Lywydd, fod gormod o amrywioldeb o hyd mewn rhai sectorau a bod heriau’n dal i fodoli o ran codi safonau rhifedd, codi safonau Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, gwella cynnydd disgyblion o ran sgiliau digidol, a pharhau i leihau'r bwlch cyrhaeddiad.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn dangos bod llawer mwy o enghreifftiau erbyn hyn o ysgolion yn cydweithio i wella agweddau ar eu darpariaeth, fel prosiectau llythrennedd a rhifedd, gwella addysgu a datblygu arweinyddiaeth, a fydd, rwy’n credu, i gyd yn helpu i leihau amrywioldeb yn y system. Bellach, ceir dull mwy systematig o gynllunio cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio ac ymarfer eu rhifedd ar draws y cwricwlwm, ers i ysgolion roi’r fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol ar waith.

Mae safonau'r Gymraeg mewn llawer o ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg yn gwella; cynyddodd y niferoedd a enillodd gymwysterau Cymraeg ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 dros 12 pwynt canran rhwng 2010 a 2016. Fodd bynnag, mae rhagair y prif arolygydd yn nodi bod rhai ysgolion yn canolbwyntio gormod o lawer ar dechneg arholiad yn hytrach nag ar ddarparu addysg eang, ac mae hyn oherwydd bod system atebolrwydd yr ysgolion uwchradd yn gysylltiedig â chanlyniadau arholiadau allanol, ac rwy’n cydnabod hyn. Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid i ddatblygu fframwaith gwerthuso newydd a model newydd o atebolrwydd. Byddwn yn sefydlu mecanweithiau adeiladol ar gyfer gwerthuso ac atebolrwydd i atgyfnerthu dibenion diwygio ac alinio systemau trefniadau cwricwlwm, asesu ac atebolrwydd.

Rwy’n nodi, yn 2016-17, fod nifer yr hyfforddeion ar raglenni addysg gychwynnol i athrawon ôl-raddedig ac israddedig wedi methu â chyrraedd y targedau niferoedd. Roedd y niferoedd ar raglenni cynradd tua 90 y cant o'r targed, a dim ond 66 y cant o'r targed gafodd eu denu at raglenni uwchradd. Felly, rwyf wedi sefydlu bwrdd cynghori newydd ar gyfer recriwtio a chadw athrawon, a fydd yn ystyried y materion hyn a sut y gallwn gefnogi gweithlu addysg o safon uchel, sy’n gallu bodloni gofynion y cwricwlwm a diwygio addysg ehangach. Gadewch imi fod yn glir: mae ein hathrawon yn gwbl ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol. Mae proffesiwn sy'n cydweithio’n dysgu drwy’r amser ac, felly, yn codi safonau drwy’r amser. Mae'n glir o'r adroddiad bod y polisïau yr ydym wedi eu rhoi ar waith yn helpu i ysgogi gwelliant, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cynnal momentwm i sicrhau datblygiadau pellach a mwy cyson ar draws ein system addysg.

Bydd adroddiad Estyn yn chwarae rhan allweddol wrth dynnu sylw at feysydd sydd angen eu gwella a helpu i roi ein diwygiadau pellgyrhaeddol ar waith. Rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod ein cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg yn cael ei rhoi ar waith yn iawn, i godi safonau a helpu pob dysgwr, beth bynnag ei gefndir, i wireddu ei botensial. Dirprwy Lywydd, rwy’n ddiolchgar i'r holl athrawon, arweinwyr a rheolwyr ysgolion ledled y sector am eu cyfraniadau. Rydym i gyd yn rhannu'r un uchelgais ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc: system addysg ragorol. Felly, yr oll sy’n weddill imi yw diolch i Meilyr Rowlands a'i dîm am y gwaith a wnaed i gynhyrchu'r adroddiad blynyddol hwn. Diolch yn fawr.

17:10

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod y Prif Arolygydd yn datgan yn yr adroddiad bod 'gwella’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu disgyblion yn mynd law yn llaw â gwella ansawdd addysgu. Mae gwella addysgu yn mynnu gwell cymorth, dysgu proffesiynol a datblygiad staff ar gyfer athrawon presennol, yn ogystal â recriwtio gwell ac addysg a hyfforddiant cychwynnol gwell'.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i gynnig y gwelliant yn enw Plaid Cymru? A gaf i ddiolch i brif arolygydd Ei Mawrhydi dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru—i roi'r teitl llawn—am yr adroddiad blynyddol sydd yn sicr yn cyfrannu yn helaeth at ein dealltwriaeth ni o'r sefyllfa? Mae e, wrth gwrs, yn rhywbeth rydym ni'n rhoi pwys arno fe ac yn ei werthfawrogi'n fawr iawn. Rwyf hefyd yn ategu cydnabyddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet o'r gwaith aruthrol sydd yn digwydd yn y maes ymhlith y sector, a hynny mewn amgylchiadau anodd—amgylchiadau sydd yn mynd yn anos, hefyd, oherwydd y cyfyngiadau ariannol sydd, wrth gwrs, wedi dod yn real drwy gyllidebau nifer o'r awdurdodau lleol dros yr wythnosau diwethaf yma. Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni yn cydnabod y realiti yna i'r rhai sydd yn gweithio ar y ffas lo. 

Rwy’n meddwl bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi rhoi crynodeb digon teg inni o’r sefyllfa. Mae yna elfennau positif, ac mi oedd hi’n iawn i gyfeirio atyn nhw, ac yn enwedig y ffocws yma ar y diwylliant yma sydd yn dod yn ei flaen nawr o safbwynt mwy o bwyslais ar hunanwella a chydweithio rhwng ysgolion. Er, efallai, mai rhywbeth sydd mewn cyflwr o egino yw hynny, mae e’n sicr yn ein symud ni i’r cyfeiriad y byddem ni'n dymuno mynd iddo fe.

17:15

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ar y llaw arall, wrth gwrs, fel y mae hi hefyd wedi cydnabod, mae yna elfennau llai positif. Un o’r agweddau mwyaf, efallai, siomedig i fi yw—. Hynny yw, yn amlwg mae hanner ysgolion uwchradd a 70 y cant o rai cynradd yn cael eu barnu’n 'dda' neu’n 'rhagorol', ond, wrth gwrs, mae hynny’n golygu bod hanner o’r ysgolion hefyd, fel yr oedd hi’n cydnabod, ond yn 'ddigonol' neu, yn wir, yn 'anfoddhaol'. Ac yn y cyd-destun hwnnw, wrth gwrs, mae Estyn yn ein hatgoffa ni fod hynny’n gyson â’r canlyniadau ers 2010. Felly, er ei bod hi’n dweud eu bod yn well na'r flwyddyn ddiwethaf, nid ydym wedi gweld y cynnydd efallai y byddai nifer ohonom wedi gobeithio—dros y cyfnod hirach, beth bynnag.

Mae amrywiad, hefyd—variability—wrth gwrs, yn dal i fod yn broblem. Mae’n bwnc sy’n cael ei godi bob blwyddyn, bron iawn, pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi, ac mae rhywun yn teimlo erbyn hyn, efallai, y dylem ni fod yn gweld ychydig mwy o wella ar y ffrynt yna.

Mae amser yn gymharol brin i ddelio gyda phopeth, so fe wnaf i jest ffocysu ar un neu ddau o agweddau.

Mae’r sylwadau ar y cyfnod sylfaen yn rhai mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio atyn nhw. Mae pawb yn cydnabod, wrth gwrs, bwysigrwydd addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel fel blaenoriaeth, a’r effaith mae hynny’n ei gael ar ddatblygiad a chyrhaeddiad tymor hir disgyblion. Mae gweld datganiadau yn yr adroddiad blynyddol—. Er enghraifft, mae'r un sy’n tynnu sylw at y ffaith, mewn tri chwarter o ysgolion, nid yw penaethiaid yn llawn ddeall egwyddorion ac addysgeg arfer da'r cyfnod sylfaen yn reit frawychus, fel rwy'n ei ddweud. Mae angen mwy o ffocws ar hyn, rwy’n meddwl, ac mae angen mynd i’r afael â hyn, oherwydd mae’r cyfnod sylfaen wedi cael trafferthion yn y gorffennol, fel rŷm ni'n gwybod. Ond hefyd mae cyfeiriad yn yr adroddiad at yr effaith uniongyrchol mae rhai o’r toriadau cyllidebol yn eu cael ar hynny. Er enghraifft, yn sôn bod yna lai o athrawon cymwysedig nawr yn ymwneud â’r cyfnod sylfaen o ganlyniad i rai o'r toriadau ariannol. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn mynd yn gwbl i'r gwrthwyneb o'r naratif rŷm ni'n ei glywed ac mae nifer ohonom ni'n awyddus i'w weld yn cael ei wireddu, o safbwynt creu'r gweithlu mwy cymwysedig yma, er mwyn, wrth gwrs, i hynny gael dylanwad positif ar gyrhaeddiad addysgol.

Yn y cyd-destun yna, os caf i jest holi'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â’r cynnig gofal plant. Nawr, rwy’n gwybod nad yw’n rhan o’i phortffolio hi’n uniongyrchol, ond mae goblygiadau llwyddiant, neu fel arall, y polisi hwnnw ar y blynyddoedd cynnar mewn addysg ac mewn ysgolion, yn cael effaith uniongyrchol. Yn amlwg, rŷm ni fel plaid yn awyddus i weld hwnnw’n gynnig sydd yn cael ei estyn i bawb, nid dim ond i rieni sy’n gweithio. Mi wrthododd yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd a’r Gweinidog plant, yn y pwyllgor ieuenctid yn ddiweddar, rannu’r uchelgais hwnnw fel nod hirdymor. Byddwn i jest yn licio gwybod beth yw eich barn chi ynglŷn â hynny. A ydych chi'n cytuno gyda'r comisiynydd plant, er enghraifft, ac Achub y Plant yng Nghymru hefyd, sydd oll yn dweud bod yna risg gwirioneddol y bydd y bwlch cyrhaeddiad wedi agor ymhellach rhwng y plant mwyaf difreintiedig, o gartrefi sydd ddim â rhieni’n gweithio, wrth gwrs, os nad ydyn nhw hefyd yn cael mynediad i’r cynnig gofal plant—efallai ddim yn syth, ond yn sicr fel uchelgais mwy tymor canol?

Rwy'n cydnabod bod gwelliant Plaid Cymru, mae'n bosib, yn un o'r gwelliannau lleiaf dadleuol mae'r Cynulliad yma wedi'i weld mewn tipyn o amser, ond, yn sicr, mae e'n crynhoi i fi un o’r prif agweddau sydd yn mynd i galon yr adroddiad. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod hynny, i raddau, yn ei sylwadau agoriadol, sef, wrth gwrs, yr angen i wella’r gefnogaeth o ran datblygiad proffesiynol, a hefyd i wella recriwtio a hyfforddi cychwynnol i athrawon newydd. Bron iawn fod yna restr o enghreifftiau o wendidau yn y maes yna sy’n cael effaith ar, er enghraifft, dysgu rhifedd—mae yna gyfeiriad at ddiffyg gwybodaeth a hyder mathemategol athrawon, sydd yn rhywbeth sydd angen ei ddatrys; y ffaith nad yw athrawon yn cael eu harfogi â’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu ystod o dechnoleg gwybodaeth sydd yn angenrheidiol mewn ysgolion. Rwyf wedi cyfeirio at rai o'r sylwadau ynglŷn â'r cyfnod sylfaen yn gynharach, a hefyd, wrth gwrs, y diffyg cynllunio ym maes addysg Gymraeg, sydd yn rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd wedi'i gydnabod yn benodol hefyd—y diffyg recriwtio a hyfforddi athrawon cyfrwng Cymraeg. 

Mwy o'r un problemau rŷm ni wedi eu cael eto eleni yn yr adroddiad, mewn gwirionedd, i'r hyn rŷm ni wedi'i glywed yn y blynyddoedd diwethaf. Felly, nid yw'r cynnydd yn yr agweddau yma wedi digwydd mor sydyn, rwy'n siŵr, ag y byddai rhai ohonom ni'n ei ddymuno. Mae rhywun yn cydnabod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cymryd camau i fynd i'r afael â rhai ohonyn nhw, ond y neges greiddiol yr ydw i'n ei chymryd o'r adroddiad yma yw, wrth gwrs, os nad ŷm ni'n mynd i'r afael â rhai o'r problemau sylfaenol, megis ariannu digonol i ysgolion yng Nghymru, megis recriwtio a chadw athrawon yn fwy effeithiol o fewn y sector, yna y risg yw y bydd rhai o'r gwelliannau rŷm ni'n dechrau eu gweld yn dod i'r amlwg yn y sector yn ddim byd mwy nag adeiladu tŷ ar dywod.

17:20

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gael y ddadl hon yn y Siambr heddiw? Yn wir, rwy’n cefnogi’n llawn y gwelliant a gyflwynwyd gan grŵp Plaid Cymru.

Rwyf bob amser yn pryderu wrth godi adroddiad blynyddol gan Estyn a gweld byrdwn o bethau sydd wedi cael eu dweud yn y gorffennol, oherwydd mae'n awgrymu nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud, ac rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet ac eraill yn y Siambr hon yn pryderu am hynny. Rhaid inni atgoffa ein hunain, ydym, rydym ni wedi gweld rhai gwelliannau, ond ni ddylem ni byth anghofio methiannau, a dweud y gwir, Llywodraethau Llafur olynol, yn y blynyddoedd diwethaf, i ddatrys y problemau yn ein system addysg ledled Cymru.

Rydym ni'n gwybod bod ein canlyniadau PISA, yn 2016, yn waeth nag yr oeddent ddegawd ynghynt. Rydym ni'n gwybod ein bod, y llynedd, wedi gweld ein canlyniadau TGAU gwaethaf ers degawd. Rydym ni'n gwybod bod yr adroddiad Estyn hwn yn awgrymu, wrth ichi gymharu’r niferoedd yno, fod 160 yn llai o ysgolion cynradd yng Nghymru nag a oedd yn ôl ym mis Ionawr 2011—mae 160 o ysgolion wedi cau, ac roedd llawer o'r rheini’n ysgolion boddhaol â safonau da iawn. Nawr, wrth gwrs, roedd yn gwbl briodol bod rhai ysgolion wedi gorfod cau oherwydd nad oeddent yn diwallu anghenion cymunedau lleol, ond mae gen i rai pryderon am hynny. Rwyf hefyd yn pryderu, os edrychwn ni ar yr ysgolion sy'n destun mesurau arbennig yng Nghymru, ei bod yn ymddangos bod yr arolygiaeth, y consortia rhanbarthol ac awdurdodau addysg lleol yn methu â gwella’r ysgolion hynny’n ddigon cyflym. Mae gennym ddwy ysgol, er enghraifft, sy’n destun mesurau arbennig yng Nghymru ar hyn o bryd—mae un ohonynt yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet—sydd wedi bod yn destun mesurau arbennig ers 2014. Mae hwnnw'n gyfnod hir i blant fod mewn ysgolion nad ydynt yn perfformio'n foddhaol. Mae hynny'n annerbyniol. Felly, yn amlwg mae her sylweddol yn ein hwynebu yng Nghymru i ddatrys y problemau hyn.

Rwy’n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fod gennych adolygiad o Estyn, fel arolygiaeth, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr adolygiad hwnnw, a phryd yr ydych chi'n disgwyl cael argymhellion o’r adolygiad hwnnw, fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod Estyn yn addas at ei ddiben. Rwy’n ddiolchgar i Estyn am y gwaith y mae'n ei wneud, rwy’n ddiolchgar am yr ymyriadau angenrheidiol y mae'n eu gwneud yn ein hysgolion, ond rwy'n meddwl y dylai fod rhai o'r materion hyn, a dweud y gwir, wedi eu datrys erbyn hyn gyda chymorth Estyn. Ac, wrth gwrs, fel y dywedaf, rwy’n ddiolchgar bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud mewn rhai meysydd, ond nid yw’n ddigon cyflym o bell ffordd. Nid yw’n ddigon cyflym o bell ffordd i’r bobl ifanc hynny sydd yn ein system addysg ar hyn o bryd.

Nawr, mae rhan o hynny, wrth gwrs, fel y dywedodd Llyr Huws Gruffydd yn gwbl gywir, o ganlyniad i gyllid. Rydym yn gwybod, am bob £1 sy’n cael ei gwario ar y system addysg yn Lloegr, fod £1.20 yn dod i Gymru fel bod gennym y cyfle i wario mwy ar ein plant yma. Ac eto, er gwaethaf hynny, yn ôl yr undebau, mae bwlch gwariant o £678 fesul dysgwr yng Nghymru o gymharu â’r buddsoddiad a wneir dros y ffin yn Lloegr. Rwy’n meddwl mai dyna, yn rhannol, pam mae gennym ganlyniadau mor wael yma, a dweud y gwir, o ran y deilliannau i’n plant. Nid yw'n ddigon da ac mae angen inni ddeall pam nad yw addysg yn cael y math o flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru sydd ei hangen o ran rhannu cacen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllidebau.

Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet, yn yr wythnos ddiwethaf, wedi darparu £14 miliwn ychwanegol i'n hysgolion, ac mae’r cam hwnnw i'w groesawu'n fawr, yn enwedig o ystyried y toriadau gwerth £15 miliwn a gaiff eu gwneud o ganlyniad i'r newid i’r grantiau gwella addysg. Ond, unwaith eto, rwy’n meddwl, hyd yn oed gyda hynny, fod gennym y bwlch llydan iawn hwn fesul dysgwr o gymharu â Lloegr o hyd, ac rwy’n meddwl bod angen i’r Llywodraeth egluro pam.

Mae Llyr Huws Gruffydd eisoes wedi cyfeirio at nifer o'r pwyntiau yr oeddwn i eisiau rhoi sylw iddynt, ond un o'r rhai syfrdanol, rwy'n meddwl, y mae angen inni ganolbwyntio llawer mwy arno yw dysgu oedolion a’r sector addysg bellach. Nawr dyma, rwy’n meddwl, yr un rhan o'r system addysg yng Nghymru sy’n arwain y ffordd, os mynnwch chi, o ran ansawdd arweinyddiaeth, o ran ei deilliannau i’n dysgwyr, ac ys gwn i, Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y gwnewch chi harneisio'r cyfle sydd yna i weithio gyda'r sector addysg bellach i sicrhau gwelliannau ac i sbarduno gwelliannau yn ein hysgolion? Rydym ni'n gwybod bod gennym strategaeth ddiwydiannol yma yng Nghymru. Mae angen ategu honno â rhywfaint o’r gwaith sy'n digwydd yn ein sector addysg bellach, ac yn enwedig o ran dysgu oedolion, rwy’n meddwl bod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn tracio pobl drwy'r system i weld faint o bobl ifanc sy’n mynd drwy addysg bellach ac yn mynd i gyflogaeth. Dydy’r wybodaeth hon ddim yn cael ei chasglu fel mater o drefn gan Lywodraeth Cymru, ac, wrth gwrs, mae Estyn wedi sôn am hyn yn eu hadroddiad. Rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth y byddem ni'n hoffi eich gweld yn ei ystyried yn y dyfodol.

Pan ddaw i addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon, efallai y gwnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am achredu’r cyrsiau newydd, hefyd, yn ein prifysgolion. Rwy’n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi bod yn ei ystyried ar hyn o bryd, ac, yn amlwg iawn, mae angen inni adfer enw da ein hyfforddiant cychwynnol i athrawon yng Nghymru. Tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni pa mor hyderus yr ydych bod y cyrsiau newydd sy'n cael eu hachredu’n mynd i helpu ni i ddatrys ein problem recriwtio, oherwydd dydyn ni ddim yn gallu denu’r bobl i'r proffesiwn y bydd eu hangen arnom yn y dyfodol.

17:25

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl am adroddiad blynyddol Estyn. Mae'n bwysig bod y Cynulliad yn cael cyfle i graffu ar waith y prif arolygydd, yn y ddadl flynyddol hon ac yn y pwyllgor. Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei hun yn cymryd tystiolaeth gan y prif arolygydd am yr adroddiad blynyddol yr wythnos nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd yr hyn a ddywedwyd yn y ddadl heddiw’n rhoi llawer i’r pwyllgor feddwl amdano cyn y sesiwn hwnnw.

Mae’r adroddiad blynyddol hwn wedi'i ysgrifennu ar ddiwedd cylch adrodd saith mlynedd Estyn ac mae’n adlewyrchu ar y cyfnod hwnnw. Fel mae'r adroddiad yn ei nodi, mae llawer wedi newid ym maes addysg dros y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, mae rhai o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol eto i ddod. Un o'r negeseuon allweddol yn yr adroddiad, a gafodd sylw yng ngwelliant Plaid Cymru, yw bod sicrhau ansawdd addysgu’n hollbwysig wrth inni symud ymlaen â diwygio’r cwricwlwm. Dywed adroddiad Estyn hefyd

'I wella addysgu, mae angen gwella cymorth, dysgu proffesiynol a datblygiad staff'.

Parodrwydd y proffesiwn addysgu i ddiwygio'r cwricwlwm oedd un o'r prif bryderon a godwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod eu hymchwiliad diweddar i ddysgu ac addysgu proffesiynol athrawon. Mae adroddiad y pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion i helpu i sicrhau bod y proffesiwn addysgu’n barod am y newidiadau sydd i ddod. Mae ein hadroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion allweddol ynglŷn â gwelliannau y gellid eu gwneud i ddarparu dysgu proffesiynol a datblygiad i’r gweithlu addysg, ac rydym yn credu y bydd hyn i gyd yn helpu i sicrhau gwell ansawdd addysgu a gwell profiad dysgu i blant a phobl ifanc. Mae'n amlwg bod angen gweithredu ar frys i roi pob cyfle i’n gweithwyr addysgu proffesiynol i ffynnu drwy eu gyrfa, gan greu diwylliannau o ddatblygiad personol a dychwelyd hunan-barch i broffesiwn y mae ei angen mor ddybryd arno.

Ar 14 Mawrth, bydd y Pwyllgor yn cynnal eu dadl Cyfarfod Llawn ar ein hadroddiad ar ddysgu ac addysgu proffesiynol athrawon. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet i helpu i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol i ddysgu proffesiynol athrawon—mae'n amlwg bod Estyn yn rhannu'r pryder hwn.

Rwy’n ddiolchgar i Estyn am eu hadroddiad blynyddol sylweddol. Wrth ddarllen drwyddo, nid oeddwn i bob amser yn glir a yw Estyn yn fecanwaith i Lywodraeth Cymru ei ddefnyddio i geisio sicrhau eu hamcanion polisi, ynteu a yw'n sefydliad ar wahân, o ran ei ymreolaeth a’i annibyniaeth, ac i ba raddau y gallai fod yn barnu goblygiadau ei feini prawf asesu ei hun. Felly, er enghraifft, mae’r asesiad a sut y mae Estyn yn asesu ysgolion yn eithriadol o bwysig o ran yr hyn y mae athrawon yn ei wneud a sut y mae ysgolion yn blaenoriaethu gwahanol amcanion. Tybed i ba raddau y mae’r amcanion hynny’n perthyn i Lywodraeth Cymru, ynteu a yw Estyn, o leiaf mewn rhai meysydd, yn torri eu cwys eu hunain. Rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad hwn yr ydym yn ei gynnal yn egluro rhai o'r materion hynny—a oes y radd briodol o ymreolaeth neu annibyniaeth i Estyn, a oes dadl, Ysgrifennydd y Cabinet, y dylech chi gael rhagor o bwerau yn amodol ar y Cynulliad hwn i bennu blaenoriaethau Estyn, ac rwy’n meddwl, mewn rhai meysydd o leiaf, y gallai fod rhywfaint o synnwyr i hynny.

Os caf i gymryd un enghraifft—mae'n faes lle'r wyf i'n meddwl y gallai fod fy marn i ac efallai farn llawer o bobl, o leiaf yn y grŵp Ceidwadol, yn wahanol i’ch un chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac i’r Llywodraeth Lafur, ond mae’n ymwneud ag atebolrwydd i ysgolion a thryloywder dros sut maent yn gwneud. Mae gennym asesiad Estyn eu hunain a’r sgôr mae'n ei roi. Wedyn mae gennym y coch, ambr a gwyrdd, sy'n dod gan Lywodraeth Cymru, rwy’n meddwl. Ac rwy’n gweld y negeseuon sy’n dod o'r ddau fesur hyn—o leiaf ar gyfer rhai ysgolion—yn anghyson weithiau. Yna, ceir tystiolaeth fwy cadarn o'r hyn y mae ysgolion yn ei gael o ran eu canlyniadau. O leiaf o gymharu â Lloegr, ceir llai o dryloywder ynghylch y canlyniadau hynny. Mae’n ymddangos bod ofn enfawr o dablau cynghrair, ond, i mi, mae'n amlwg, os ydych chi'n dryloyw ac os ydych chi'n atebol, ac os ydych chi'n agored gyda gwybodaeth yn hytrach na’i chelu a’i chuddio rhag rhieni, bod hynny’n debygol o gynorthwyo eich system ysgol i wella. Rwy'n siarad â rhywfaint o rwystredigaeth, fel rhiant fy hun, sy’n ceisio cymharu ysgolion.

Ond yr hyn nad wyf yn ei ddeall yw'r math o system gymysg sydd gennym nawr lle, ers 2014, mae Estyn wedi newid eu dulliau gweithredu ac, yn eu hadroddiadau arolygu ar ysgolion unigol, maent wedi dod yn fwy tryloyw o ran faint y maent yn ei ddweud wrth rieni ac eraill am y canlyniadau y mae’r ysgolion hynny'n eu cael. Cyn 2014, roedd canlyniadau cyfnod allweddol 2 yn cael eu cymharu’n amwys iawn. Roedd yn deulu o ysgolion, ac nid oedd yn glir sut yr oedd yn mynd i’r genedl gyfan, ac nid oedd yn dweud wrthych beth oedd canlyniadau gwirioneddol ysgol benodol. Ers 2014, mae'r polisi hwnnw wedi newid, ond mae’n peri ychydig o benbleth imi oherwydd nid wyf yn gweld dim tystiolaeth bod ymagwedd Llywodraeth Cymru wedi newid yn arbennig na’n bod ni wedi ennill y ddadl yng Nghymru y dylai ysgolion fod yn fwy tryloyw ac y dylem ni fod yn agored am y data hyn. Mae'n ymddangos mai dim ond penderfyniad gan Estyn oedd hwn. Efallai fod Llywodraeth Cymru wedi ei gymeradwyo. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf, ond ers 2014, mae gennych y wybodaeth hon am ysgolion unigol, ond wedyn os ydych chi'n ceisio ei chymharu ag ysgolion eraill, mae’r wybodaeth wedi’i chymryd ar ddyddiadau gwahanol, sy’n gwneud y cymariaethau hynny’n llai dibynadwy i rieni. Yn y bôn, dydw i ddim yn deall beth yw diben hynny na sut mae hynny'n helpu neb.

Dau faes yr hoffwn i sôn amdanynt, yn fyr, yn yr adroddiad yw'r pwyslais cynyddol y mae’n ymddangos bod Estyn yn ei roi ar yr angen i roi gwell cymorth i fyfyrwyr abl a thalentog, ac yn benodol absenoldeb hyn ar lefel gynradd mewn llawer o ysgolion, ac yn enwedig yn yr ysgolion hynny sy'n perfformio'n arbennig o wael. I ryw raddau, gallai fod yn ddealladwy, os yw ysgol yn gwneud yn wael iawn o ran ei chanlyniadau, ei bod yn canolbwyntio ar godi'r llawr neu geisio efallai cynyddu cyfartaledd y canlyniadau hynny, ond os oes ar y pryd, drwy wneud hynny, efallai nifer o blant sy'n abl a thalentog yn yr ysgol honno ddim wir yn cael cymorth a bod ganddynt anghenion penodol sydd ddim yn cael eu diwallu, rwy’n meddwl bod hynny’n destun pryder, ac os ydych chi'n abl a thalentog ac mewn ysgol sy’n gwneud yn wael, mae pethau'n mynd i fod gymaint gwaeth oherwydd y diffyg ffocws hwnnw. Rwy'n gobeithio y gwnaiff Estyn hefyd edrych ar sut y gallant, ar y lefel uwchradd, gysylltu cymorth i fyfyrwyr abl a thalentog â rhwydwaith Seren, a sicrhau bod ysgolion yn ymwneud yn briodol â hwnnw ac wir yn gwthio ac yn annog eu disgyblion i gysylltu â Seren yn fwy cyson.

Yn olaf—ac esgusodwch fy mheswch, Llywydd; rwy’n meddwl efallai fod eraill yn dioddef o hwnnw hefyd—dim ond i edrych ar y cyngor mae disgyblion yn ei gael am yrfaoedd ac addysg yn y dyfodol, mae’n ymddangos bod Estyn yn gymharol fodlon â’r hyn sy'n digwydd ym mlwyddyn 9, ond bod mwy o feirniadaethau o'r hyn sy'n digwydd ym mlwyddyn 11. Er ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn rhyw wthio yn erbyn chweched dosbarth mewn ysgolion ac yn annog uno a chyfuno a phwyslais ar golegau addysg bellach ar gyfer safon uwch i raddau—efallai mai dim ond sôn yr wyf am rai enghreifftiau lleol yn fy rhanbarth de-ddwyreiniol—mae’n ymddangos bod Estyn yn gyffredinol yn awgrymu bod ysgolion yn tueddu, neu rai ysgolion o leiaf, i wthio plant i fynd i’w chweched dosbarth eu hunain. Wrth gwrs, rwy’n deall pam byddai ysgol am hyrwyddo ei chweched dosbarth ei hun, ond mae angen inni hefyd sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyngor priodol ac yn gallu ystyried dewisiadau eraill mewn modd teg. Byddwn yn croesawu, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech ddweud ychydig eiriau am efallai beth arall y gallem ni ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc yn cael hynny.

17:35

Roeddwn yn falch iawn o ddarllen yn yr adroddiad blynyddol bod cydffederasiwn Bryngwyn a Glan y môr yn fy etholaeth i yn Llanelli a Phorth Tywyn wedi cael sylw am ei arfer da ar arweinyddiaeth; bod hen ysgol gynradd Ysgrifennydd y Cabinet, Ysgol y Bynie, wedi cael sylw; a bod ysgol arbennig Heol Goffa hefyd wedi cael ei chrybwyll yn arbennig. Mae gennym arweinyddiaeth ac arfer rhagorol yn Llanelli a ledled Cymru.

Ond hoffwn i ganolbwyntio ar y meysydd pryder sylweddol yn yr adroddiad hwn, ac yn enwedig ynglŷn â digidol. Rwy’n meddwl, fel yr awgrymodd Darren Millar yn gynharach, nad oes pwynt inni seboni'r ddadl hon; mae angen inni fod yn llym ac anfaddeugar wrth edrych ar y gwendidau, ac a dweud y gwir mae’r hyn y mae’r adroddiad hwn yn ei ddweud eto fyth am ddysgu digidol yn fy nychryn.

Mewn ychydig llai na dau draean o ysgolion cynradd mae, ac rwy’n dyfynnu, 'diffygion pwysig' o ran safonau TGCh. Dau draean o ysgolion cynradd—diffygion pwysig mewn TGCh. Dyma mae Estyn yn ei ddweud: 'Yn yr ysgolion hyn'—ac mewn llawer o ysgolion uwchradd—'mae diffyg gwybodaeth a hyder gan athrawon.' Ceir

'diffyg gweledigaeth glir am TGCh gan uwch arweinwyr.'

Dydy disgyblion ddim yn cael y cyfle i gymhwyso sgiliau mewn cyd-destunau perthnasol. Mae'n mynd ymlaen: ar draws ysgolion Cymru gyfan, dydy cynnydd TGCh disgyblion ddim wedi cadw i fyny â datblygiadau technoleg, ac

'nid yw disgyblion yn cymhwyso eu...sgiliau’n dda ar draws y cwricwlwm ac mae eu sgiliau TGCh yn aml yn gyfyngedig i ystod gul o gymwysiadau.'

Mae hefyd yn dweud nad yw ysgolion yn archwilio cymhwysedd digidol eu staff i ganiatáu iddynt hyfforddi athrawon a gwella eu sgiliau, ac nid yw canolfannau hyfforddiant cychwynnol i athrawon ychwaith yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen i athrawon dan hyfforddiant.

Dylem adael i hynny dreiddio i’r cof, Llywydd. Ceir diffygion pwysig mewn dau draean o ysgolion cynradd, ac mewn llawer o ysgolion uwchradd mae gan athrawon ddiffyg gwybodaeth a hyder. Mae hyn yn frawychus. Dylai unrhyw un o'r brawddegau hynny, ar unrhyw ddiwrnod newyddion arferol, hawlio’r penawdau fel achos o bryder enfawr, yn enwedig o ystyried yr hyn a wyddom am ba mor hanfodol yw sgiliau digidol eisoes, a’u bod yn mynd yn fwy felly bob mis. Mae’r disgrifiad hwn o sut y mae ein hysgolion yn addysgu pobl ifanc yn peri gofid mawr. Rwyf wir yn meddwl bod hon yn foment stopiwch-y-clociau, Llywydd. Rydym yn sôn am system hunanwella, ond does fawr o arwydd o welliant o ran sgiliau digidol. Roedd adroddiad y llynedd yn dweud llawer o'r un peth.

Nawr, mae lle i feirniadu Llywodraeth Cymru yma, a dof at hynny mewn munud, ond yn bennaf oll mae’r system ysgolion gyfan yn euog o fethu ag ymateb i'r her hon: y consortia; llywodraethwyr; penaethiaid; gweithwyr proffesiynol unigol. Nid yw hyn yn ddigon da.

Rwyf wedi sôn am hyn wrth y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet—yr angen i sicrhau bod gan ddisgyblion sgiliau codio—ar nifer o achlysuron, ac mae’r feirniadaeth hon yn mynd ymhell y tu hwnt i godio; mae'n mynd ar draws yr holl sbectrwm digidol. Dim ond un is-set bwysig yw codio. Fis Mehefin diwethaf, lansiodd Llywodraeth Cymru ‘Cracio’r cod’ a oedd yn rhannu £1.3 miliwn dros dymor cyfan y Cynulliad i helpu i ddatblygu'r sgiliau hyn cyn i'r cwricwlwm newydd gyrraedd, a £930,000 arall i’r Technocamps—gyda'i gilydd, ychydig dros £2 miliwn i Gymru gyfan dros y tair blynedd nesaf. Maen nhw hefyd yn treialu Minecraft ar gyfer Addysg i ysbrydoli pobl sy’n codio am y tro cyntaf ag adeiladwr cod Minecraft, ac o wybod pa mor frwdfrydig yw fy mhlant i dros Minecraft, rwy’n meddwl bod hon yn fenter ragorol, yr union fath o beth y dylem fod yn ei wneud. Ond mae’n cael ei gynnal mewn 10 ysgol. Deg ysgol. Mae dros 1,600 o ysgolion yng Nghymru, ac rydym yn cynnal y prosiect codio hwn mewn 10 ohonynt. Unwaith eto, nid yw hyn yn ddigon da.

Yn union fel roedd olew’n danwydd i’r oes ddiwydiannol, mae data a digidol yn danwydd i ddatblygiadau yn yr oes deallusrwydd artiffisial. Mae yna reswm pam mae Tsieina yn addysgu deallusrwydd artiffisial a dysgu dwfn yn eu hysgolion canol. Rydym yn rhoi pobl ifanc dan anfantais enfawr drwy beidio â rhoi’r sgiliau a'r hyder iddynt i ffynnu yn y byd hwn.

Ac rydym yn colli cyfle hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, drwy beidio â harneisio datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannau yn y ffordd yr ydym yn addysgu. Mae newyddbethau edtech fel y'u gelwir yn cynnig yr addewid o ryddhau athrawon o ormes marcio, tracio data a datblygu strategaethau addysgu gwahaniaethol ar gyfer dysgwyr unigol. Gall edtech wneud hyn i gyd. Gallwn ni ryddhau athrawon o hyn i gyd i wneud yr hyn y daethant i’w wneud—i addysgu. Dylem fod yn awyddus iawn i wneud hyn, ond, fel y mae canfyddiadau gwirioneddol arswydus Estyn yn ei ddangos eleni eto fyth, dydyn ni ddim.

17:40

Rwy’n croesawu’r cyfle i gael dadl am adroddiad blynyddol Estyn heddiw. Ar ôl treulio 16 mlynedd mewn ystafell ddosbarth fel athrawes ysgol uwchradd, rwy’n gwybod yn iawn sut beth yw disgwyl am arolwg. Felly rwy’n croesawu’r newid i fod yn awr mewn sefyllfa lle rwy’n ystyried gwaith Estyn yn eu tro.

Er gwaethaf y tarfu, mae gan arolygon ysgolion ran hanfodol i'w chwarae. Maent yn taflu goleuni ar arferion gorau fel y gallwn ganmol beth sy'n dda, ac yn bwysicach maent yn gweithio i ledaenu’r eithriadol drwy holl system addysg Cymru. Maent hefyd yn rhoi cyfle inni i fonitro cynnydd, i ddangos beth sy’n anghywir, yn annerbyniol neu ddim yn gweithio, ac i wneud newidiadau lle mae eu hangen i sicrhau deilliannau gwell i ddysgwyr ac i'r gweithlu addysgol.

Mae'r adroddiad hwn yn dangos y gallwn fod yn falch o lawer yn ein system addysg. Mae’r ymrwymiad i godi safonau’n cael ei rannu gan bob adran. Yn wir, mae'r adroddiad yn nodi’r ysbryd cydweithredu o ran y cwricwlwm newydd. Mae'r adroddiad hefyd yn disgrifio momentwm cadarnhaol i wella. Mae ymyriadau polisi a diwygiadau gan Lywodraeth Cymru yn cael effeithiau buddiol. Mae gweithredu i wella arweinyddiaeth yn cael ei groesawu.

Yn fy mhrif sylwadau, hoffwn ganolbwyntio ar dri maes yn yr adroddiad. Y cyntaf o'r rhain yw ymdrin ag effeithiau anfantais. Mae'r adroddiad yn nodi bod hyn yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac mae hynny’n gwbl briodol. O fy ngyrfa addysgu fy hun, rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwahaniaeth rhwng deilliannau disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion. Mae gwahaniaethau o'r fath yn annheg ac yn annerbyniol. Dylid croesawu’r ffaith bod ysgolion nawr yn canolbwyntio mwy ar unioni hyn nag yr oeddent saith mlynedd yn ôl, a’u bod yn gwneud ymyriadau ac yn benderfynol o wella perfformiad. Fel y mae Estyn yn ei nodi, mae hyn yn golygu bod deilliannau disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gwella ar bob cam addysg.

Fodd bynnag, fel y mae’r adroddiad yn ei nodi, mae rhai ysgolion yn arwain y ffordd ar hyn. Maent yn cymryd camau cadarnhaol ynghylch presenoldeb. Maent yn gweithredu drwy weithio gyda'r gymuned leol. Mewn rhai achosion, hyd yn oed, derbynnir ymyriadau cyn i blant ddechrau yn yr ysgol. Rhaid rhaeadru'r gwersi hyn drwy'r system gyfan. Mae hwn hefyd yn faes lle mae'n rhaid inni sicrhau ymagwedd gydgysylltiedig ar draws pob maes polisi; mae ymdrin ag effeithiau anfantais yn gofyn am ymagwedd wirioneddol gyfannol.

Mae clybiau cinio a hwyl Llywodraeth Cymru yn ymyriad rhagorol, gan gynnig gweithgareddau gwerth chweil dros yr haf i blant cymwys fel nad ydynt yn colli unrhyw gynnydd a wnaethant yn ystod y tymor ym misoedd yr haf. Yn bwysig, maent hefyd yn cyfrannu at ymdrin â newyn gwyliau. Rydym yn gwybod bod banciau bwyd yn cael eu defnyddio’n fwy yn ystod misoedd yr haf. Soniais yn ystod y sesiwn cwestiynau yr wythnos diwethaf am brosiect peilot sy’n cael ei gynnal yng Ngogledd Swydd Lanark gyda’r nod o fwydo disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar bob un o 365 diwrnod y flwyddyn. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn talu sylw agos i'r prosiect hwn. Ni all plant a phobl ifanc ddysgu'n effeithiol os ydynt yn llwglyd.

Yn ail, hoffwn gyfeirio at yr adran ar ysgolion uwchradd. Canfu Estyn fod dros hanner ysgolion uwchradd Cymru nawr yn dda neu'n well. Yn yr un modd, mae'n braf bod canran yr ysgolion rhagorol yn 2016-17 yn uwch na chyfartaledd 2010-17, ond ar y llaw arall mae Estyn hefyd wedi sylwi ar gynnydd cyffredinol mewn arfer anfoddhaol. Ni ellir derbyn hyn, a rhaid cefnogi’r ysgolion hyn fel y gallant newid yn gyflym a sicrhau y gall eu myfyrwyr gyflawni eu gwir botensial. Rhaid i’r agwedd gadarnhaol at ddysgu y mae’r adroddiad yn ei nodi ymysg pobl ifanc mewn ysgolion da fod yr isafswm yr ydym yn anelu ato, a chyflawni i bawb yng Nghymru.

Roedd fy ngyrfa addysgu hefyd yn cynnwys swyddogaeth fugeiliol sylweddol, a gwn yn iawn pa mor bwysig yw hyn i sicrhau lles ein disgyblion ym mhob agwedd. Mae'n dda gweld bod lles, gofal, cymorth ac arweiniad i ddisgyblion yn nodweddion mor amlwg gadarnhaol yn ystod y cylch arolygu tymor hwy.

Yn drydydd, hoffwn sôn am sylwadau'r adroddiad am ddysgu seiliedig ar waith; rwy’n meddwl bod hyn yn elfen bwysig iawn os ydym am gyflawni’r gweithlu hyblyg a medrus sydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Mae Estyn yn dweud, yn ystod 2010-17, fod safonau'n dda neu'n well mewn tua hanner y darparwyr. Fodd bynnag, o'r tri darparwr a arolygwyd yn 2016-17, dim ond dau oedd yn ddigonol ac roedd y trydydd yn anfoddhaol. Er bod nifer y darparwyr a arolygwyd yn ystod y flwyddyn yn golygu ein bod ni'n sôn am sampl bach iawn, ni allwn ddiystyru'r canfyddiadau hyn yn llwyr. Fel y dywed Estyn:

'Lle mae safonau'n anfoddhaol, nid yw dysgwyr yn gwneud cynnydd digon cryf.'

Mae darparu dysgu seiliedig ar waith yn rhywbeth y mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi ei ystyried yn fyr yn ystod ein hymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru. Rwy’n gobeithio bod hwn yn bwnc y gallwn ddychwelyd ato, oherwydd mae Estyn yn dangos testun pryder clir yma. Rwy’n gobeithio ei fod yn faes lle bydd y canlyniadau’n fwy cadarnhaol yn arolygiad nesaf Estyn.

17:45

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma?

Ydyn. [Torri ar draws.] Rwy’n mynd i geisio rhoi sylw i gynifer ohonynt â—

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cael trafferth â’i llais, fel fi. Os byddwch chi'n dawel, rwy’n siŵr y gallwn ei chlywed hi.

Diolch, Llywydd. Rwy’n mynd i geisio rhoi sylw i gynifer o'r sylwadau a'r cwestiynau a godwyd ag sy'n bosibl yn yr amser a ganiateir.

Rwy’n meddwl mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig, Llyr, yw bod y prif arolygydd yn cydnabod bod newid sylweddol yn niwylliant addysg yng Nghymru. Rhaid inni ddibynnu ar y bobl hynny ar lawr gwlad i wneud y newidiadau sydd eu hangen. P'un a ydych chi'n sefyll yn y safle hwn ac yn dweud y drefn, fel y gwnaeth rhai yn y gorffennol, ynteu’n sefyll yn y safle hwn ac yn ceisio cymell a darbwyllo a chefnogi, mae'n rhaid i'r system fod eisiau hyn drosti ei hun. Y peth sy'n rhoi gobaith i mi bod pethau'n gwella yw fy mod yn credu bod y system eisiau hyn drosti ei hun, a bod ymdeimlad newydd o obaith, ymrwymiad a phroffesiynoldeb i sbarduno newid. I mi, dyna’r rhan rwy’n gweld Estyn yn ei gydnabod, ac mae hynny'n hollbwysig i fynd ymlaen.

Nawr, mae canfyddiadau'r cyfnod sylfaen yn peri pryder mawr imi. Lle mae pobl yn ei gael, mae'n darparu’n dda iawn ac yn gwneud gwahaniaeth gwych i’r plant hynny, ond mae gormod o ysgolion yn dal i dueddu i ffurfioli dysgu yn rhy fuan ym mlwyddyn 1 a blwyddyn 2 a throi’n ôl at hen ffyrdd o ddarparu addysg. Dyna pam y gwnes i, y llynedd, cyn imi hyd yn oed weld y dystiolaeth hon, gydnabod bod mwy i'w wneud yn y cyfnod sylfaen, ac rydym yn sefydlu ein rhwydwaith cenedlaethol o ragoriaeth yn y sector penodol hwn. Roedd hwnnw i fod i gael ei lansio'n ffurfiol mewn ysgol ddydd Gwener diwethaf, ac ni wnaethom ni, wrth gwrs, allu gwneud hynny’n ffurfiol, ond nid yw hynny’n golygu nad oes llawer o waith yn cael ei wneud i adeiladu’r rhwydwaith hwnnw, a byddwn yn ei lansio'n ffurfiol yn nes ymlaen y mis hwn.

Unwaith eto, gyda chynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn fyw iddo ac yn effro iddo, a dyna pam, yn gynnar yn ystod y Llywodraeth hon, y gofynnwyd i Aled Roberts ddod i mewn i adolygu cadernid cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn annibynnol, ac mae gwaith yn digwydd yn y maes hwnnw.

Mae adroddiad yr arolygydd yn cydnabod gwelliannau, o ran ansawdd ein haddysg gychwynnol i athrawon, ond mae mwy i’w wneud—dyna, unwaith eto, pam yr ydym ni wedi sefydlu’r panel newydd a pham mae gennym gymhellion recriwtio newydd, yn arbennig i’r rheini sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym ni'n parhau i edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i wneud y proffesiwn mor ddeniadol ag y gall fod.

Darren, gwnaethoch chi sôn am yr adolygiad o Estyn. Nid fy adolygiad i o Estyn ydyw—adolygiad Estyn o Estyn ydyw, er fy mod yn croesawu’n fawr iawn y ffaith eu bod wedi bod mor ddoeth â gofyn i Graham Donaldson edrych ar p'un a fydd y gyfundrefn bresennol yn addas i'r diben yn y dyfodol. Rwyf ar ddeall y bydd Graham Donaldson yn llunio adroddiad yn nes ymlaen y gwanwyn hwn. Yn amlwg, mater i Estyn fydd ei argymhellion, ond, yn amlwg, rwy’n cadw llygad gofalus ar yr amgylchiad hwn.

Nawr, dydw i ddim yn osgoi’r ffaith bod amgylchiadau ariannol heriol yn wynebu ein system ysgolion, ond rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud nad yw'n bosibl gwneud cymariaethau uniongyrchol. Rwy’n gwybod, oherwydd dyna oedd fy hoff dric pan oeddwn i'n arfer eistedd draw yn y fan yna ac yn gofyn i'r Prif Weinidog yn rheolaidd am y mater hwn. Ond yna, pan ddaeth cyhoeddiad gan y prif ystadegydd, yn annibynnol ar y Llywodraeth, yn dweud, ‘A dweud y gwir, dydy hi ddim yn deg gwneud hyn mwyach’, roedd rhaid i mi, hyd yn oed, roi’r gorau iddi. Ond rwy’n cydnabod bod yr amgylchiadau hyn yn heriol i’n hysgolion, a dyna pam yr wyf i'n defnyddio pob cyfle i gael arian i'r rheng flaen. Dyna pam yr ydym ni wedi darparu’r £14 miliwn i awdurdodau lleol i’w roi i’w hysgolion i ymdrin â materion yn ymwneud â gwaith atgyweirio a chostau a gwaith cynnal a chadw ar raddfa fach, oherwydd dydw i ddim eisiau i’r arian hwnnw gael ei wario ar hynny pan allai gael ei wario ar addysgu a dysgu.

Rwy’n cydnabod bod heriau o ran y grant gwella addysg, a dyna pam, yn y flwyddyn ariannol newydd, ar ôl trafodaethau gyda'r Ysgrifennydd cyllid, yr ydym ni'n cydnabod y bydd rhai o'r newidiadau wedi peri anfantais arbennig i rai awdurdodau lleol, a dyna pam y byddwn yn darparu £5 miliwn ychwanegol ar gyfer hynny hefyd. Byddaf yn cymryd pob cyfle i ddarparu arian i'r rheng flaen; mae’r Gweinidog cyllid yn gwybod hynny’n iawn.

O ran ITE, rwyf wedi ymweld â phob darparwr ITE ers y Nadolig i weld drosof fy hun beth y maent yn ei wneud ar hyn o bryd ac i’w herio ar eu parodrwydd am y gyfundrefn newydd. Mae’r broses honno’n mynd rhagddi ac nid wyf yn rhan o'r broses honno ar hyn o bryd; mae’n rhaid i hynny fod yn annibynnol arnaf fi. Ond dewch imi ddweud wrthych: fy her i brifysgolion sy’n darparu ITE yw nad dim ond mater o achredu eu cwrs yw hyn; mae'n fater o fuddsoddiad parhaus yn eu cyfadrannau addysg. Yn rhy aml, caiff hynny ei weld fel ceffyl gwaith i brifysgolion. Nid yn yr adran hon mae’r gogoniant. Nid yw fel y pynciau proffil uchel eraill. Hoffwn i gyfadrannau addysg ein prifysgolion gael y gogoniant os ydynt yn cynnig ITE. Hoffwn i weld mwy o brifysgolion yng Nghymru yn y maes hwn yn cyflwyno ymchwil, er enghraifft, ac yn ymgeisio am grantiau fel y gallwn adeiladu capasiti ymchwil addysg yng Nghymru. Dyna yw fy her pan fyddaf yn ymweld â nhw. Nid dim ond mater o achrediad yw hyn; mae gwella cryfder ein prifysgolion yn y sector hwn hefyd yn bwysig iawn.

Byddwn yn cyflwyno dulliau tracio fel rhan o'n trefn atebolrwydd ar gyfer gwaith ôl-16. Mae angen inni wybod i ble mae’r plant hynny’n mynd, a bydd hynny'n rhan o'r gwaith yr ydym yn ei wneud i gael mwy o bwyslais, a dweud y gwir, ar ddeilliannau ar lefel ôl-16, rhywbeth nad yw wedi bod yn arbennig o gryf yn y gorffennol. Yn y gorffennol, roedd pobl, er enghraifft, a oedd yn gwneud safon uwch yn cael eu gweld, efallai, fel lleiafrif a oedd yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain. Gyda chynifer o blant yn gwneud safon uwch heddiw, nid yw hynny'n ddigon da. Mae angen llawer mwy o bwyslais.

Lynne, ni all unrhyw system addysg ragori ar ansawdd yr athrawon sy'n gweithio oddi mewn iddi, felly mae dysgu proffesiynol parhaus yn gwbl allweddol. Ac rwy’n cydnabod bod yr arolygydd wedi dweud bod rhywfaint o welliant wedi'i wneud, ond mae angen gwneud mwy.

A Mark Reckless, mae Estyn yn annibynnol arnaf fi, fel y byddem yn disgwyl iddo fod. Dydyn nhw ddim yn ymatal, fel yr ydym ni wedi’i weld; os ydym ni'n gwneud yn dda, maen nhw'n dweud wrthym, os nad ydym yn gwneud yn dda, dydyn nhw ddim, a, sut y maen nhw'n barnu eu trefn, maen nhw'n ymgynghori â ni am y peth, ond mater iddyn nhw yw hynny. Nid wyf yn cytuno â'r ffaith y bydd cyhoeddi tablau cynghrair yn helpu ein system addysg i wella. Mae'r adroddiad hwn yn dweud ei fod yn ymwneud â gwaith ar y cyd a chefnogi gweithio ysgol-i-ysgol. Chewch chi mo hynny os yw ysgolion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Mae'n tanseilio’r ethos yr ydym ni'n ceisio ei ddatblygu yn ein system addysg o system gydweithredol sy’n hunanwella.

17:50

Yn hytrach na’r egwyddor abl honno, lle nad wyf yn meddwl y byddwn ni'n dod i gytundeb, beth yw pwynt y ffordd ganol hon lle mae Estyn yn dweud wrthych chi beth yw’r canlyniadau os oedd yr arolygiad ar ôl 2014, ond nid cyn hynny, a sut y mae hynny'n helpu unrhyw un os yw rhieni’n cymharu ysgolion ar sail data sydd ddim yn gywir neu’n gyfoes?

Mater i Estyn yw beth maen nhw'n ei gynnwys yn eu hadroddiad—nid mater i mi—ond nid wyf yn credu y byddai troi at system o dablau cynghrair sy’n gosod ysgol yn erbyn ysgol, athro yn erbyn athro, yn ein helpu i ddatblygu'r system gydweithredol sydd ei hangen arnom, ac mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dweud wrthym fod ei angen arnom yma yng Nghymru. Ond mae’r arolygydd yn dweud wrthym fod arnom angen gwell mesurau atebolrwydd. Mae'r arolygydd yn sôn yn helaeth am y mesurau atebolrwydd yr ydym ni wedi’u cael yn y gorffennol, yn seiliedig ar arholiadau allanol, sydd wedi arwain at addysgu i brofi, culhau'r cwricwlwm a pheidio â rhoi’r hyn sydd ei angen i blant. A'r her i ni yw dod o hyd i drefn atebolrwydd sy'n cyfochri atebolrwydd Llywodraeth Cymru ag Estyn a'n consortia rhanbarthol, a byddwn yn hapus iawn i siarad â phenaethiaid ysgol yn eu cynhadledd yfory am sut yr ydym yn datblygu hynny.

MAT—gwnaf eich cyfeirio at y datganiad a wnes yr wythnos diwethaf. Mae angen inni wneud mwy ynglŷn â mwy abl a thalentog, a dyna pam y cyhoeddais y buddsoddiad yn hynny. Dewch imi fod yn hollol glir: nid wyf ar genhadaeth i gau'r chweched dosbarth. Rwy’n credu mewn economi gymysg o ddarpariaethau ôl-16. Mewn rhai mannau ac i rai disgyblion mae'r chweched dosbarth yn iawn, mewn mannau eraill, mae penderfyniadau lleol wedi dweud rhywbeth gwahanol—ond nid wyf o blaid cau'r chweched dosbarth; rwyf o blaid economi gymysg. Rwyf fi o blaid, lle bynnag y mae’r plentyn hwnnw’n astudio, sicrhau ei fod o ansawdd uchel a bod plant yn cael y math iawn o gyngor fel y gallant wneud dewisiadau cadarnhaol am eu dyfodol heb gael eu gorfodi i mewn i'r sector addysg bellach nac i aros i fynd i'r chweched dosbarth. Gallwn wneud mwy o waith i sicrhau bod plant a rhieni’n cael amrywiaeth eang o wybodaeth am beth sydd orau i’w plentyn. Ond peidiwch da chi â dweud fy mod o blaid cau’r chweched dosbarth; rydym o blaid economi gymysg yn y Llywodraeth hon.

Lee, rydych chi'n hollol iawn: mae angen inni wneud cymaint mwy am ddigidol. Dyna pam mai’r fframwaith cymhwysedd digidol oedd y rhan gyntaf o’r cwricwlwm wedi’i ddiwygio a gyhoeddwyd. Yr wythnos diwethaf cyfarfûm â’n Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol i edrych ar ail-lunio eu cylch gwaith a’u swyddogaeth fel y gallwn ysgogi gwelliannau yn y maes hwn oherwydd, yn amlwg, nid yw’r hyn a welwn ar hyn o bryd yn ddigon da. Dyna pam yr ydym ni wedi sefydlu’r rhwydwaith cenedlaethol o ragoriaeth ar gyfer STEM hefyd, oherwydd rwy’n cydnabod bod angen inni wneud cymaint mwy ac ni fyddwn yn gwasanaethu ein plant yn dda oni bai eu bod yn llythrennog, yn rhifog ac yn ddigidol gymwys. Dyna beth sydd ei angen arnom ar gyfer eu dyfodol.

Vikki Howells, rydych yn llygad eich lle: gallwn gael yr adeiladau ysgol gorau yn y byd, gallwn gael yr athrawon gorau, y cwricwlwm gorau, ond, os nad ydym yn rhoi sylw i les plant, nid ydynt mewn sefyllfa i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny. Rwy’n falch bod Estyn yn cydnabod, a dweud y gwir, bod gennym stori dda i'w hadrodd am les, ond gallwn wneud mwy o hyd.

Llywydd, rwy’n mynd i orffen nawr drwy ddweud fy mod yn cytuno â sylw’r prif arolygydd bod llawer i ymfalchïo ynddo yn system addysg Cymru. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn cydnabod bod llawer mwy o hyd i mi a'r Llywodraeth hon ei wneud. Rhaid inni gadw’r momentwm y tu ôl i'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, i leihau'r bwlch cyrhaeddiad, a sicrhau system addysg a fydd yn destun balchder cenedlaethol ac y bydd y cyhoedd yn hyderus ynddi, Mark. Bydd adroddiad blynyddol Estyn yn chwarae rhan allweddol i’n helpu ar y daith honno a rhoi gwybod inni ble’r ydym wedi gwneud cynnydd. Diolch.

17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig NDM6675 fel y'i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2016-17.

Yn nodi bod y Prif Arolygydd yn datgan yn yr adroddiad bod 'gwella’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu disgyblion yn mynd law yn llaw â gwella ansawdd addysgu. Mae gwella addysgu yn mynnu gwell cymorth, dysgu proffesiynol a datblygiad staff ar gyfer athrawon presennol, yn ogystal â recriwtio gwell ac addysg a hyfforddiant cychwynnol gwell'.

A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio. 

Derbyniwyd cynnig NDM6675 fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yr eitem nesaf felly yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn cael ei drin fel Bil brys y Llywodraeth a chynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rydw i'n cynnig bod y ddau gynnig a ganlyn o dan eitemau 9 a 10 yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes.

9. & 10. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth a Chynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Felly rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i wneud y cynigion. Mark Drakeford. 

Cynnig NDM6672 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn:

Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.

Cynnig NDM6673 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn:

Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) fel ag y mae yn yr Amserlen ar gyfer ystyried Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn cynrychioli'r her fwyaf sylweddol a dyrys, yn gyfansoddiadol, yn gyfreithiol ac yn economaidd yr ydym ni yng Nghymru wedi'i hwynebu ers dyfodiad datganoli. Mae gan yr ansicrwydd sy'n amgylchynu'r broses a'r canlyniad y potensial i achosi niwed mawr i'n cenedl. Maint yr her, yr ansicrwydd parhaus, datblygiad cyflym digwyddiadau a'r peryglon posib sy'n gysylltiedig â Brexit sy'n ffurfio cefndir i'r cynigion a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn y prynhawn yma. Llywydd, mae'r rhain yn amseroedd hynod anarferol, a natur yr amseroedd hyn sy'n esbonio'r cynnig hynod anarferol bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cydsynio i Fil brys.

Fel y nodir yn y datganiad a gyflwynwyd ochr yn ochr â'r cynigion, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn, ers mis Mehefin 2016, fod canlyniad y refferendwm yn golygu ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd. Ond nid oedd y bleidlais i adael yr UE yn bleidlais i wrthdroi datganoli. Mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth hon, ac ar y Cynulliad hwn, rwy'n credu, i sicrhau, wrth ymadael, fod buddiannau Cymru a'i phobl yn cael eu hamddiffyn cyn belled â phosib.

18:00

Yn y trafodaethau a'r cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU, a wnewch chi roi addewid inni na fyddwch chi'n derbyn bargen wael i Gymru? Ac felly a wnewch chi gytuno i beidio â chyflwyno'r Bil parhad hwn dim ond os yw Bil ymadael yr UE naill ai'n diogelu neu'n gwella'r setliad datganoli hwn?

Llywydd, wrth gwrs, nid wyf byth yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth gyda'r bwriad o gael bargen wael i Gymru, a byddaf yn parhau i weithio gyda chydweithwyr mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr y caiff Bil ymadael yr UE ei ddatblygu yn y fath fodd fel y gallem ni ei argymell i'r Cynulliad hwn, ac os na allwn ni gyflawni hynny yna ni wnawn argymhelliad o'r fath i chi.

Llywydd, nid diben y Bil gerbron y Cynulliad, os oes cytundeb arno heddiw, yw llesteirio Brexit, nid ei nod yw gohirio Brexit; yn hytrach mae'n ymgorffori ein cydnabyddiaeth bod angen deddfwriaeth er mwyn rhoi sefydlogrwydd cyfreithiol a dilyniant wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n hollbwysig bod y llyfr statud yn rhoi eglurder a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau yn ystod y cyfnod digynsail hwn o newid.

Barn Llywodraeth Cymru ers tro byd yw mai deddfwriaeth gan y DU fyddai'r ffordd orau o sicrhau dilyniant, sefydlogrwydd a sicrwydd. Felly, bu'n siom enfawr bod Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a luniwyd gan Lywodraeth y DU, a ddylai fod wedi bod yn gyfrwng i sicrhau'r parhad cyfreithiol hwnnw, wedi'i ddrafftio yn hytrach yn y fath fodd fel ei fod yn tanseilio'r setliad datganoli presennol ac mae ynddo'i hun yn ffynhonnell o ansefydlogrwydd ac ansicrwydd.

Mae'r gwaharddiadau a'r cyfyngiadau y mae'n eu gosod ar bwerau'r Cynulliad hwn a Gweinidogion Cymru i ddeddfu ar faterion sydd wedi eu datganoli inni ers amser maith yn gwbl annerbyniol. Mae'r pwerau y mae'n eu rhoi i Lywodraeth y DU arfer rheolaeth o'r deddfau a'r cyfrifoldebau polisi sydd wedi'u datganoli yr un mor annerbyniol. Ers cyflwyno Bil y DU fis Gorffennaf diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n ddiflino i geisio ei ddiwygio fel ei fod yn parchu'r setliad datganoli mewn modd priodol. Mae Llywodraeth y DU wedi cael pob cyfle posib i gytuno ar y mater hwn ac i naill ai dderbyn y diwygiadau a gyhoeddwyd gennym ni ar y cyd â Llywodraeth yr Alban neu gyflwyno gwelliannau addas ei hun. Yn wir, addawodd wneud hynny ym mis Rhagfyr y llynedd. Mae hi bellach yn fis Mawrth ac rydym ni'n dal i aros. 

Felly, Llywydd, fel yr adroddais i'r Cynulliad yr wythnos diwethaf, er y bu cynnydd ar y mater hwn yn ystod yr wythnosau diwethaf, nid ydym eto wedi cyrraedd sefyllfa lle y gallwn ni fod yn ffyddiog y caiff y Bil ymadael ei ddiwygio er mwyn bodloni'r holl bryderon. Felly nid oes unrhyw ddewis inni ond cyflwyno ein Bil parhad ein hunain, sef y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), y Bil LDEU, sy'n sicrhau bod modd gweithredu'r gyfraith yng Nghymru yn llwyr ar ôl y diwrnod ymadael ac sydd hefyd yn sicrhau y caiff penderfyniadau ynglŷn â chyfreithiau datganoledig eu gwneud yng Nghymru a chan y Cynulliad hwn. A dyna pam mae angen cyflwyno Bil a gwneud hynny ar fyrder.

Ar ôl rhoi cymaint o amser â phosib i Lywodraeth y DU wneud y newidiadau angenrheidiol i'w Bil, rydym wedi aros tan y funud olaf i gyflwyno'r Bil LDEU, ond mae'r funud olaf posib wedi cyrraedd. Bydd gweithredu'r Bil yn gofyn am swm sylweddol, yn wir swm gwbl ddigynsail, o gamau deddfwriaethol ar ran Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r amser cyfyngedig sydd ar ôl rhwng nawr a'r diwrnod ymadael yn golygu y byddai defnyddio'r gweithdrefnau arferol gyda Biliau yn mynd yn groes i'w nod ei hun, gan adael amser rhy fyr ar gyfer gweithredu ar ôl pasio'r Bil.

Mae angen inni hefyd roi amser i'r Senedd ymateb i lais y Cynulliad ar y mater hwn. Pe bai'r Cynulliad yn penderfynu pasio'r Bil hwn, bydd yn dangos cryfder y teimlad yng Nghymru bod y penderfyniadau hynny ynghylch paratoi deddfwriaeth ddatganoledig ar gyfer Brexit yn fater i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Rwy'n gwrando gyda diddordeb mawr ac, yn amlwg, rwy'n cefnogi egwyddor gyffredinol yr hyn y mae'n ei argymell heddiw. Ond nid yw Biliau brys bob amser yn gyfreithiau da oherwydd cânt eu llunio i ddiwallu amcan penodol ac nid ydyn nhw o reidrwydd yn berthnasol wrth i sefyllfaoedd newid. A ddylai Bil brys fel hyn gynnwys cymal machlud?

18:05

Wel, Llywydd, rwy'n gobeithio bod gan y Bil gymal machlud wedi ei ymgorffori'n rhan ohono yn yr ystyr fy mod yn dal yn gobeithio y byddwn yn dod i gytundeb â Llywodraeth y DU a chyda Llywodraeth yr Alban ynglŷn â gwelliannau y gallem ni eu cyd-gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi. Byddai'r rheini'n gwneud y Bil parhad yn ddiangen oherwydd byddem wedi cyflawni ein hamcanion mewn ffordd arall, ac rydym ni wedi credu erioed fod y ffordd honno'n ffordd well. Fodd bynnag, rwyf bob amser yn awyddus i wrando ar sylwadau y mae'r Aelodau yn eu gwneud ynglŷn â'r Bil hwn a ffyrdd y gellid rhoi ystyriaeth bellach iddo pe byddai'r Cynulliad yn penderfynu heddiw rhoi caniatâd i'w gyflwyno ar sail brys ac yn unol â'r amserlen a fyddai'n ofynnol yn hynny o beth. Mae'r amserlen yr ydym ni'n ei hargymell yn caniatáu cyfle i drafodaethau barhau rhwng y deddfwrfeydd ac i'r Senedd ystyried cryfder y teimlad yng Nghymru ac, felly, i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol o ran Bil ymadael yr EU.

Nawr, Llywydd, wrth gwrs rwy'n cydnabod nad yw cyflwyno'r Bil LDEU ar ffurf Bil brys yn ddelfrydol, a dyna pam rwy'n dweud, unwaith eto, mai'r sefyllfa ddelfrydol i ni o hyd yw cael Bil Llywodraeth y DU sy'n parchu datganoli. Byddwn yn parhau i weithio gyda hynny mewn golwg nes disbyddu pob posibilrwydd o'i wella'n llwyddiannus. Ond mae methiant Llywodraeth y DU i weithredu i fynd i'r afael â'n pryderon yn golygu bod angen y Bil LDEU ar frys erbyn hyn. Os na ellir ei drin fel Bil brys, ni ellir ei gyflwyno o gwbl. Gallai'r gost o beidio â gwneud hynny fod yn uchel iawn: tanseilio'r setliad datganoli presennol yn sylfaenol.

Ynghylch y cynnig o ran yr amserlen, rwy'n gofyn i'r Aelodau ei gefnogi oherwydd mae'n angenrheidiol craffu ar y Bil a'i gyflwyno i'r Cynulliad cyn gynted â phosib. Pan fydd amserlen gennym ni, yna byddaf yn gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae'r Aelodau'n ei ddweud amdano, gan gynnwys yr hyn a ddywedir y prynhawn yma, ond, heb amserlen, mae'r Bil hwn yn sownd heb fan cychwyn; ni fydd y trên byth yn gadael yr orsaf, ac aiff ei holl ddiben i'r gwellt cyn iddo ddechrau. Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau gytuno ar y defnydd o'r weithdrefn Bil brys a'r amserlen arfaethedig ar gyfer rhoi'r broses ffurfiol ar waith.

Yn fwy cyffredinol, Llywydd, mae'r penderfyniad i gyhoeddi'r Bil ar ffurf ddrafft yr wythnos diwethaf yn golygu ein bod eisoes wedi dechrau trafod ei gynnwys. Roeddwn yn ddiolchgar o gael y cyfle i ateb cwestiynau gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddoe. Os cytunir ar gynigion heddiw, caiff y Bil ei gyflwyno'n ffurfiol yfory. Ddydd Llun wythnos nesaf, byddaf yn mynd i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, lle creffir ar y Bil. Ddydd Mawrth, bydd y Cynulliad cyfan yn gallu trafod rheolaethau sylweddol y Bil yn erbyn y cynnig Cyfnod 1. Ond, Llywydd, ni all dim o hynny ddigwydd oni bai y gellir cytuno heddiw ar ddefnyddio gweithdrefn Bil brys a'r amserlen sy'n gysylltiedig â hynny. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddau gynnig fel y gellir dechrau ar y gwaith hanfodol hwn, gwaith o bwysigrwydd mawr a chryn frys. 

Dechreuaf drwy sôn am yr agweddau hynny yr ydym ni'n cytuno â Llywodraeth Cymru yn eu cylch ar yr ochr hon i'r Cynulliad, ac mae hynny yn unol â'r hyn a amlinellwyd mewn datganiad, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae Llywodraeth Cymru yn parhau o'r farn mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r mater hwn yw diwygio'r Bil i Ymadael â'r UE er mwyn iddo fedru cael cydsyniad deddfwriaethol gan y Cynulliad Cenedlaethol.'

Ac rwyf yn cytuno y dylid mynd i'r afael â hyn ar lefel y DU gyda chaniatâd llawn a phriodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac, yn wir, Senedd yr Alban. Cytunaf hefyd â Llywodraeth Cymru pan ddywedant, ac rwy'n dyfynnu,

'Byddai costau ansicrwydd cyfreithiol a diffyg cysondeb yn debyg o fod yn sylweddol iawn.'

Credaf, yn hyn oll, fod yn rhaid inni, orau y gallwn ni mewn maes cymhleth, geisio ffurfio'r safbwynt cliriaf posib. A gaf i hefyd gydnabod, Llywydd, eich penderfyniad ynglŷn â chymhwysedd ac nad oedd hwnnw'n fater syml, oherwydd roedd cydnabyddiaeth bod dadleuon sylweddol o blaid ac yn erbyn cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn? Barn ddoeth a chytbwys nodweddiadol, os caf i ddweud hynny.

Rydym yn coleddu barn wahanol i Lywodraeth Cymru ar hyn oherwydd credwn fod y gwiriadau priodol hyn—ac mae hynny yn brawf gwych o'r setliad datganoli, rwy'n cytuno â hynny—yn y weithdrefn cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Nid ydym yn credu y gall Bil ymadael yr UE fynd rhagddo'n llwyddiannus heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd yr Alban. Mae hi'n ddyfais briodol, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac mae'n un sy'n rhoi inni yr amddiffyniad cyfansoddiadol y mae'r Gweinidog yn ei geisio, yn fy marn i. Ildiaf.

18:10

Diolch i'r Aelod am ildio. A ydych chi'n cytuno â mi, felly, yn gynharach eleni, y cafwyd cefnogaeth unfrydol ar gyfer Bil parhad ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad? A allwch chi roi syniad imi o'r hyn sydd wedi newid o ychydig dros fis yn ôl i nawr, pan mae Bil parhad yn dal i fod?

Nid oedd cefnogaeth unfrydol. Cafwyd cynnig i nodi nad oeddem eisiau rhannu'r Cynulliad arno, oherwydd, yn nhactegau hyn, rydym wedi bod yn awyddus bod ymdrechion Llywodraeth Cymru i negodi fframwaith effeithiol a fframweithiau llywodraethu effeithiol yn cael cymaint o gymorth â phosib gan y Cynulliad. Felly, gwnaethom benderfyniad ymarferol iawn, ond nid penderfyniad oedd hwnnw i gymeradwyo Bil parhad, ac mae gennym bellach Fil parhad ger ein bron. Ac rwyf yn mynd i wneud rhai sylwadau ynglŷn â'r agweddau hynny yr wyf i o'r farn ei bod yn bwysig inni siarad yn unfrydol yn eu cylch yma. 

Felly, mae'n rhaid imi ddod i'r casgliad nad yw penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r Bil hwn ond yn ychwanegu llawer iawn at ansicrwydd cyfreithiol, ac ni fydd hynny er budd pobl Cymru, na sefydliadau a busnesau yng Nghymru. Fel y dywedais, y cyfrwng priodol—ac y mae yn un enfawr—yw proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

A gaf i wneud rhai sylwadau ymarferol, Llywydd, ynglŷn â chraffu? Fel y dywedasoch chi, nid yw'r rhain yn faterion syml, sydd yn ffordd arall o ddweud y byddai angen craffu helaeth i sicrhau ein bod yn gweithredu mewn ffordd briodol ac yn deddfu yn drylwyr. Mae dadleuon yn bodoli ar y ddwy ochr. Y sefyllfa yn yr Alban yw eu bod wedi mynd ati mewn ffordd wahanol, a gallai hyn arwain at gyfeirio'r mater at y Goruchaf Lys, a bydd hynny ynddo'i hun yn ychwanegu at ba bynnag ansicrwydd a all ein hwynebu.

Felly, mae'n rhaid imi ddweud, am y rhesymau hyn, rydym yn awgrymu pwyllo, o ystyried yr amwysedd sy'n bodoli ar hyn o bryd ynghylch yr holl fater hwn. Ond mae'r gwrthwynebiad mwyaf yn ymwneud â sut y byddem ni'n craffu ar Fil brys ynglŷn â mater cyfansoddiadol mor sylweddol. O ystyried yr amserlen, byddai hynny mor gyflym fel na ellid ond craffu yn arwynebol, os oedd hynny'n bosib o gwbl, ar nifer penodol o feysydd cyfyngedig. Ddydd Mawrth nesaf byddai gennym Gyfnod 1, y dydd Mawrth canlynol, 20 Mawrth, Gyfnod 2, a'r diwrnod ar ôl hynny, 21 Mawrth, Gyfnodau 3 a 4.

Mae'n rhaid inni benderfynu heddiw a ddylid rhoi gweithdrefn frys ar waith heb femorandwm esboniadol. Mae'r Gweinidog yn iawn: rydym wedi cael y Bil ar ffurf ddrafft, ond, wyddoch chi, mae memorandwm esboniadol yn bodoli, ac mae wedi ei atal. Nid wyf yn credu bod hynny'n ychwanegu llawer iawn at y trafodion hyn, a, Llywydd, hwyrach ei fod yn rhywbeth yr hoffem ni ei ystyried o ran diwygio'r Rheolau Sefydlog, sef, yn amgylchiadau eithriadol gweithdrefn frys, mae'n rhaid cyflwyno'r memorandwm esboniadol bryd hynny. Gwn ar hyn o bryd ei bod hi'n anodd ac y gwneir hynny yn ystod y cyflwyno, ond ni fu hon yn broses lle cawsom bob cyfle posib, ar hyn o bryd o leiaf, i lunio barn gadarn.

A gaf i orffen— 

Diolch yn fawr iawn. Onid yw hi'n wir, fodd bynnag, na fyddai'r ddeddfwriaeth hon ar ffurf frys efallai yn angenrheidiol o bosib pe bai Llywodraeth y DU wedi ymateb i'n galwadau o Gymru i ystyried anghenion Cymru yn y dyfodol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Edrychwch, nid oes ffordd o gwmpas hyn. Yr hyn a gynigiwyd heddiw yw, ymhen amser—rhyw 20 diwrnod, neu lai mewn gwirionedd—y byddem yn pasio rhyw fath o Fil parhad. Mae'n mynd i gymryd naw neu 10 mis drwy weithdrefn San Steffan, ac rydym i fod ei wneud mewn 14, 15, 16 diwrnod neu beth bynnag. Rwy'n credu y dylech chi, Rhun, os caf i fod mor hyf a dweud, edrych ar y darlun mawr yn y fan yma. Ni ddylem fod yn gwneud cyfraith gyfansoddiadol ar frys gwyllt fel hyn. 

Hoffwn i ddod i ben yn gyflym iawn gyda'r hyn y mae angen inni ei gyflawni, a hynny yw fframweithiau ar gyfer y DU sy'n cael eu derbyn ym mhobman—gan Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru—a bod angen cyd-lywodraethu effeithiol ynglŷn â fframweithiau a gaiff eu derbyn yn yr Alban a Chymru. Dyna'r frwydr wirioneddol yr ydym yn ei chael gyda'n cyd-Aelodau yn Lloegr nad ydyn nhw, efallai, yn gyfarwydd â rhai o'r cysyniadau hyn fel yr ydym ni, ac yn hynny o beth rydym wedi rhoi pob cymorth ymarferol i Lywodraeth Cymru. 

Yn olaf, er mwyn cyflawni'r sicrwydd cyfreithiol a'r trylwyredd llawn sydd eu hangen arnom, mae'n rhaid inni fwrw ymlaen ar lefel Brydeinig a gweithio ar Fil ymadael ar gyfer y DU a fydd yn cael cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol. Yn anffodus, ni fyddwn yn cefnogi'r naill gynnig na'r llall ar y mater hwn y prynhawn yma, Llywydd.

18:15

Heddiw, rydym yn pleidleisio ar gyflwyno y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) fel Bil brys y Llywodraeth. Mae hyn yn gwireddu'r alwad gan Blaid Cymru i gyflwyno Bil parhad ac mae'n adeg dyngedfennol i'n cenedl ac o ran ein hymateb i'r broses o ymadael â'r UE. Mae'r Bil hwn yn rhoi'r dylanwad mwyaf sylweddol sydd gennym ni fel gwlad yn y ddadl hon ar hyn o bryd.

Hoffwn fynd â chi yn ôl i 8 Tachwedd 2016. Dyna pryd yr esgorwyd ar y syniad o Fil parhad—pan gafodd ei gynnig gyntaf gan Blaid Cymru fel ffordd o atal San Steffan rhag cipio grym. Roedd hyn cyn i Lywodraeth y DU gyflwyno Bil ymadael yr UE ac yn dangos bod rhai ohonom ni ar y meinciau hyn yn rhagweld y byddai bygythiad i'r pwerau hynny a oedd yn dychwelyd o Frwsel. Ac yn awr, fwy na blwyddyn yn ddiweddarach, rydym o'r diwedd mewn sefyllfa lle mae'r Bil parhad hwn yn mynd rhagddo. Nid yw hyn ond yn digwydd oherwydd eiriolaeth ddi-baid o blaid y Bil, ac oherwydd methiant Llywodraeth y DU i gynnig ateb i'r broblem wirioneddol o gipio grym gan San Steffan. Maen nhw wedi methu â bodloni Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban. Mae'n bwysig nodi yng Nghymru a'r Alban ill dwy fod y gefnogaeth i'r Bil parhad nid yn unig o du'r Llywodraeth; yn y ddau achos, mae mwyafrif y Senedd yn gefnogol. Nid oes a wnelo hyn yn unig â grym y Llywodraeth a grym Gweinidogion; mae a wnelo hyn â'r Cynulliad cyfan. Mae'n ymwneud â democratiaeth Cymru a phleidleisiau olynol o blaid pwerau deddfu a datganoli.

Bydd Plaid Cymru, wrth gwrs, yn pleidleisio o blaid y ddau gynnig heno. Ond, Llywydd, rwyf o'r farn ei bod yn anffodus na fydd y bleidlais heno yn unfrydol. Bydd gennym fwyafrif clir a llethol o Aelodau'r Cynulliad o blaid y Bil hwn o hyd, sydd yn gadarnhaol, ond fel y cyfaddefodd David Melding eisoes, mae'r neges yn gryfach o lawer pan fydd yr holl bleidiau'n gytûn. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn dibynnu ar gefnogi neu wrthwynebu'r egwyddor o adael yr UE. Nid yw hyn yn ymwneud â hynny. Byddwn yn croesawu pleidleisio ochr yn ochr â phleidiau eraill yr wrthblaid ar hyn ar ôl i gynnig deddfwriaethol yr Aelod gael cefnogaeth unfrydol yn gynharach eleni. Ond er gwaethaf hyn, mae'n rhaid inni symud ymlaen yn awr gyda mwyafrif effeithiol o ddwy ran o dair i gefnogi'r Bil hwn, sy'n cynrychioli pleidlais gref o hyder o blaid amddiffyn democratiaeth Cymru.

Llywydd, rwy'n cytuno â'r ddadl y gellid bod wedi osgoi'r weithdrefn frys, ond bellach mae hynny'n rhy hwyr. Byddai Plaid Cymru wedi cefnogi cyflwyniad y Bil hwn yn gynharach o lawer; roeddem eisiau gweld hynny'n digwydd. Ond mae cyflwyno'r Bil o dan weithdrefn frys yn well, yn ein barn ni, na chael dim Bil o gwbl. Ar hyn o bryd yn y broses o ymadael â'r UE, nid oes unrhyw ddadl argyhoeddiadol o blaid llaesu dwylo a chaniatáu i San Steffan gipio'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli. Rydym wedi dysgu'r ffordd anodd, dro ar ôl tro, i beidio ag ymddiried yn San Steffan. Faint o addewidion? Ac mae San Steffan eisoes wedi anwybyddu cynnig cydsyniad deddfwriaethol o'r lle hwn ar gomisiynwyr yr heddlu. Mae'n rhaid i unrhyw bwerau datganoledig a gaiff eu rhannu ar lefel y DU neu Brydain Fawr fod wedi eu cyd-benderfynu gan Lywodraethau'r DU. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gadw'n driw i'r farn honno ac i wrthsefyll unrhyw ymgais i geisio gwyrdroi penderfyniadau'r Cynulliad hwn yn y llysoedd.

Llywydd, i gloi, mae Plaid Cymru yn parhau i alw am Fil parhad a byddwn yn pleidleisio o blaid cynigion heddiw. Byddwn bob amser, bob amser yn amddiffyn ein sefydliadau democrataidd yr ymdrechwyd mor ddyfal i'w cael a'n democratiaeth genedlaethol—bob amser.

18:20

Mae fy marn i am y Bil hwn yn seiliedig ar gyd-destun—ac rwy'n credu mai'r brif flaenoriaeth, yn gyfansoddiadol, yw ein bod yn parchu ewyllys y bobl, a bod refferenda, hyd yn oed os nad ydyn nhw, o ran eu ffurf, yn gofyn am ymlyniad cyfreithiol, maen nhw'n sicr yn gofyn am ymlyniad moesol pan fo'r Senedd, boed hynny yn San Steffan neu yma, wedi rhoi ar y llyfr statud y ddeddfwriaeth sy'n rhoi grym cyfreithiol iddynt—

Ydych chi'n derbyn y dylid parchu ewyllys y bobl hefyd fel y mynegwyd hynny yn refferendwm 2011 ar bwerau?

Wel, mae arweinydd Plaid Cymru wedi rhagweld fy mrawddeg nesaf, oherwydd dyna'n union yr hyn yr oeddwn i'n mynd i'w ddweud. Mae ein meddyliau yn gweithio yn yr un ffordd; rydym ni o gyffelyb fryd. 

Roeddwn i ar fin dweud bod hynny yr un mor berthnasol i refferendwm yr UE ag i'r ddau refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru. Ac er imi goleddu barn wahanol ynglŷn â datganoli ar y pryd, rwy'n derbyn ewyllys y bobl a byddaf yn gwneud fy ngorau, fel y gobeithiaf fy mod i wedi gwneud yn yr amser y bûm i yn y lle hwn, i wneud iddo weithio. Rwy'n gweld manteision a all ddod i Gymru yn ei sgil. Yn aml iawn, mae hyn yn wir mewn bywyd; bod manteision yn ogystal ag anfanteision, er nad ydym o bosib eisiau gweld rhywbeth yn digwydd. 

Rwy'n cael trafferth deall pam yn wir bod Llywodraeth y DU wedi ein rhoi ni yn y sefyllfa hon heddiw. Mae gennym ni Gabinet lle mae pobl sydd eisiau aros yn yr UE yn tra-arglwyddiaethu, ac mae rhan ohonof felly yn meddwl tybed a yw hyn i gyd yn rhan o gynllun cyffredinol i danseilio'r holl broses—i geisio creu cymaint o ddrwgdeimlad ag y bo modd, sy'n tanseilio'r amcan yr wyf eisiau ei weld yn cael ei gyflawni. Ond rwy'n credu bod y ddamcaniaeth smonach yn hytrach na'r ddamcaniaeth cynllwyn yn berthnasol yn gyffredinol i Lywodraeth, ac felly mae'n well gennyf ei briodoli i'w hanallu naturiol.

Ond, rwy'n credu bod y diffyg dealltwriaeth yn San Steffan yn warthus—rwy'n credu mai dyma'r hyn a amlygwyd gan araith David Melding—bod y diffyg dealltwriaeth y mae'n credu sy'n bodoli yn San Steffan, ac rwy'n cytuno ag ef, yn gyfrifol am ddibrisio canlyniadau'r refferendwm a arweiniodd at sefydlu'r lle hwn. Mae'n rhaid inni dderbyn y realiti bod gan Gymru ei Senedd ei hun bellach, bod ganddi ei Llywodraeth ei hun, yr un fath ag yn yr Alban. Ac o ganlyniad, pan fyddwn yn gyfreithiol y tu allan i'r UE, bydd angen i'r fframweithiau hynny fydd yn ddymunol, os nad yn gwbl angenrheidiol, mewn sawl ffordd, o ran pwerau sydd wedi eu datganoli i wneud bywyd yn fwy cyfleus i bob un ohonom ni, roi ystyriaeth briodol i safbwyntiau pobl Cymru, fel y'u cynrychiolir yn y lle hwn a'r Llywodraeth sy'n cael ei hethol o'n plith. Mae hynny'n ymddangos i mi yn ddatganiad hollol gyffredin o'r materion cyfansoddiadol.

Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd yn y datganiad a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror gan Lywodraeth Cymru, mai 

'prif amcan y Bil yw sicrhau, yn gyffredinol, bod y rheolau a'r cyfreithiau sy'n berthnasol mewn meysydd datganoledig cyn ymadael yn parhau i fod yn berthnasol yn syth ar ôl ymadael, gan felly ddarparu sicrwydd i ddinasyddion, busnesau a sefydliadau eraill.'

Mae hynny'n amlwg er budd pawb. Felly, mewn gwirionedd ni allaf weld pam ddylai hyn rwystro'r broses Brexit. Roedd gennyf amheuaeth ar y dechrau mai ystryw oedd hyn i geisio gwneud y broses o adael yn fwy anodd nag y dylai fod, ac efallai hyd yn oed i'w rwystro'n gyfan gwbl. Rwyf, ers peth amser, wedi cefnu ar yr ofn hwnnw, ac rwy'n derbyn didwylledd y Llywodraeth fod hyn yn ymgais ddiffuant i orfodi Llywodraeth y DU i wneud y peth iawn y mae pob plaid yn y tŷ hwn, hyd yn oed y Blaid Geidwadol yma, yn derbyn y dylid ei wneud—y dylid diwygio Bil ymadael yr UE i sicrhau'r canlyniad y mae pob un ohonom ni eisiau ei weld. 

Felly, does a wnelo hyn ddim â mater mawr o egwyddor, y ddadl hon. Mae pob un ohonom  yn cytuno ar yr egwyddor gyffredinol ac ar y canlyniad yr ydym eisiau ei weld o'r broses Brexit. Felly, os mai canlyniad hyn yw gorfodi Llywodraeth y DU i gyflymu'r broses o gyflawni hynny, rwy'n credu y byddai yn beth da iawn. Mae gan Lywodraeth y DU, ar ddiwedd y dydd, y grym i'n gwastrodi'n llwyr. Rydym yn gwybod hynny. Felly, mae hyn yn ceisio ei gwneud hi'n fwy chwithig iddyn nhw nag y byddai fel arall pe baen nhw yn y sefyllfa honno. Dyna gymaint ag y gallwn ni ei wneud, ac ar y sail honno rwy'n fwy na pharod i roi fy nghefnogaeth i Lywodraeth Cymru yn y glymblaid enfys eithaf annhebygol hon a dod yn dipyn o symbol, yn ôl a ddeallaf o ddarllen y wasg yn yr Alban, ymhlith cenedlaetholwyr yr Alban, a chyda Nicola Sturgeon, o ganlyniad i'r hyn a ddywedais yn y fan yma ychydig wythnosau yn ôl. Nid yw hon yn sefyllfa y credwn a fyddai byth yn bosib, heb sôn am fod yn un ddymunol. Ond dyna ni; mae'n rhaid inni dderbyn clodydd mewn bywyd, pan ddelont i'n rhan, hyd yn oed o'r ffynonellau mwyaf annhebygol.

Felly, ar y sail honno, byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth i dywys y Bil drwy'r Cynulliad hwn, a gobeithiaf y bydd synnwyr cyffredin i'w weld yn San Steffan yn fuan iawn.

18:25

Llywydd, a gaf i yn gyntaf oll gymeradwyo'r rhai a ddrafftiodd y Bil a'r cryn fedr a'r gwaith a fu'n rhan o'i lunio? Bu hon yn broses ddysgu anhygoel iddyn nhw, ond mae'n dangos yr adnoddau a'r sgiliau sy'n bodoli yn y ddeddfwrfa hon.

A gaf i ddweud hefyd fy mod yn cytuno â llawer iawn o'r hyn y mae David Melding wedi ei ddweud? Mae wedi crybwyll yr holl bwyntiau cyfansoddiadol cywir o ran ein swyddogaeth, o ran craffu ar bwerau, a'r ffordd y mae Llywodraeth yn gweithredu. Nid wyf yn beirniadu o gwbl y pwyntiau a nododd, ar wahân i'r maes yr wyf yn anghytuno ag ef, sef nad wyf yn credu ein bod ni mewn sefyllfa lle gallwn fforddio llaesu dwylo a gwneud dim. Rwy'n credu bod hynny yn ein tywys yn ôl mewn gwirionedd i fan cychwyn y benbleth, lle mae gwraidd yr anghydfod, lle mae gwraidd y broblem. Ac mae'n deillio mewn gwirionedd, o'r ddealltwriaeth gychwynnol o wir natur gyfansoddiadol datganoli yng nghyd-destun cyfansoddiad y DU.

Nid oes unrhyw amheuaeth, yn fy marn i, oherwydd rwy'n credu y caiff hynny ei anrhydeddu gan bron pob un o'r pwyllgorau cyfansoddiadol a deddfwriaethol, gan Dŷ'r Arglwyddi, Tŷ'r Cyffredin, yn yr Alban ac yng Nghymru, sydd ar y cyfan, rwy'n credu, i gyd yn derbyn bod dadansoddiad cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru yn gywir, a bod y pwerau hynny, yn absenoldeb y Bil ymadael—mae'r holl bwerau sydd ar hyn o bryd ym Mrwsel sy'n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb datganoledig yn dychwelyd i'r mannau lle mae'r Senedd eisoes wedi penderfynu eu bod yn perthyn iddynt, a phenderfynir ar hynny gan statudau amrywiol datganoli.

Mae'r Bil ymadael, os na chaiff ei ddiwygio, mewn gwirionedd, yn Fil canoli pwerau. Mae'n tanseilio cytundebau datganoli yn llwyr. Dyma sylw a wnaed dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU. Mae'n rhaid inni fynd yn ôl at ddechrau'r broses hon, ar ôl y refferendwm: hynny yw, addawyd inni y byddai trafod ac ymgynghori priodol. Ni ddigwyddodd hynny. Addawyd inni y cyflwynid gwelliannau. Addawyd gwelliannau allweddol i'r Alban o ran cymal 11. Ni anrhydeddwyd hynny. Addawyd inni y rhoddid pob math o drefniadau ar waith—y byddai hyn yn cael ei ddatrys. [Torri ar draws.] Gwnaf, mi wna i. 

Diolch yn fawr iawn ichi am dderbyn ymyriad. Os oedd Llywodraeth Cymru yn pryderu cymaint am y diffyg gweithredu ar ran Llywodraeth y DU, pam na wnaethon nhw gyflwyno hyn ynghynt?

Wel, rwy'n credu mai'r rheswm yw oherwydd roeddem yn credu—ac rwy'n credu yr oedd hi'n iawn inni gredu—y byddai Llywodraeth y DU yn gwrando ar y cyngor cyfreithiol yr oedd hi'n ei chael ac y byddai hi'n gwneud y peth iawn. Nawr, rwy'n credu mae'n debyg bod rhai yn Llywodraeth y DU sydd eisiau gwneud y peth iawn, ond buont yn analluog i wneud y mathau o newidiadau sydd eu hangen mewn gwirionedd i ddatrys hyn, ac mae cynigion wedi'u gwneud.

Nawr, rwy'n gobeithio bod trefniant, ond gwelaf dri phosibilrwydd. Yr un cyntaf—a gobeithio nad oes neb yn mynd i ymyrryd, fel bod yn rhaid imi fynd yn ôl a dweud, 'Na, roedd pedwar posibilrwydd'—ond rwy'n gweld tri phosibilrwydd allweddol. Y gyntaf yw nad oes unrhyw gytundeb ar gymal 11. Felly, nid ydym yn gallu rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Felly, mae'n rhaid inni ymdrechu i ddiogelu buddiannau Cymru a'r setliadau datganoli. Yr ail bosibilrwydd yw bod cytundeb, y gallwn ni gytuno, ac, heb amheuaeth, bydd y Bil arfaethedig hwn yn cyfrannu'n sylweddol at gyflawni hynny, os caiff ei gyflawni. Ac os sicrheir y cytundeb hwnnw ar gymal 11, yna ni fydd angen parhau â'r Bil parhad, oherwydd bydd y trefniadau a'r grymoedd datganoli cywir wedi'u sefydlu. 

Y dewis arall—a chredaf ei bod yn annhebygol, ond mae'n ddewis amgen trychinebus, ond nid oes dim y tu hwnt i anallu'r Llywodraeth bresennol sydd gennym ni yn San Steffan—yw y bydd y Bil ymadael yn methu am ryw reswm, ac y byddai hynny'n golygu na fydd gennym unrhyw drefniadau o gwbl yr eiliad yr ydym yn gadael yr UE o ran yr holl feysydd hynny yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw ar hyn o bryd. Yn fy marn i, byddai'n gwbl anghyfrifol i beidio â chyflwyno'r ddeddfwriaeth hon mewn gwirionedd, ac mae rhesymau da pam na chafodd ei chyflwyno, nid dim ond fy mod yn credu y buom yn y sefyllfa gryfaf—rydym wedi gweithio er mwyn ceisio dod i gytundeb ac rydym yn dal i wneud hynny—ond mae hefyd yn wir bod hyn yn galluogi'r Bil hwn bellach i gael dylanwad a dangos pa mor benderfynol yr ydym ni, a'r Alban, bod yn rhaid anrhydeddu'r trefniadau datganoli, y trefniadau cyfansoddiadol sydd gennym ni. Rhoddwyd addewid inni y byddent yn cael eu hanrhydeddu, ond, yn anffodus, mae'r Bil ymadael ar ei ffurf bresennol yn ffurf o ysbeilio cyfansoddiadol, lle mai'r unig addewid a roddir yw dweud, 'Rydym ni wedi dwyn eich pwerau a'ch cyfrifoldebau, ond peidiwch â phoeni, wrth inni redeg ymaith, byddwn yn eu rhoi nhw yn ôl ichi yn nes ymlaen.' Nid yw hynny'n ddigon da. Nid yw'n dangos parch i'r Senedd a sefydlodd y setliadau datganoli, ac nid yw'n dangos parch i'r Llywodraethau datganoledig.

Mae anawsterau gyda hynny, mae problemau gyda hynny, ond mae'n rhaid dechrau ar y Bil parhad. Credaf, os nad ydym yn gwneud hyn heddiw ac yn ei basio, na fydd yn digwydd. A bydd hynny yn gwanhau ein sefyllfa negodi yn sylweddol, ac rwy'n dal i gytuno'n llwyr â safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet ein bod yn dal i obeithio y byddwn yn sicrhau cytundeb. Ond gadewch i ni fod yn gwbl glir, os na allwn ni ddod i'r cytundeb hwnnw, os na allwn ni gyrraedd cyfnod lle dylid cael cynnig cydsyniad deddfwriaethol, yna mae'n rhaid inni ddiogelu buddiannau Cymru, a dyna beth mae'r Bil hwn yn ei wneud.

18:30

Yn rhinwedd ei swyddogaeth yn cadeirio trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig ar Fil ymadael yr UE, dywedodd Gweinidog y Cabinet, yr Aelod Seneddol David Lidington, yn Airbus ym Mrychdyn, sir y Fflint yr wythnos diwethaf, fod yn rhaid inni warchod marchnad fewnol yn y DU gan barchu datganoli. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, dywedodd hefyd fod wyth o bob 10 lori nwyddau sy'n gadael Cymru yn mynd i weddill y DU, gan bwysleisio pwysigrwydd marchnad gyffredin y DU i Gymru, yn ogystal â gweddill y DU. Ychwanegodd Mr Lidington, ym Mrychdyn, fod

rhaid inni sicrhau, fel yr ydym ni'n benderfynol o wneud, fod Brexit yn golygu mwy o bwerau i'r llywodraethau datganoledig ac nid llai... Felly ein cynnig ni yw diwygio'r Bil gerbron y Senedd i'w gwneud hi'n glir tra cytunir ar fframweithiau, y rhagdybiaeth bellach fyddai y dylai pwerau sy'n dychwelyd o'r UE fynd i'r llywodraethau datganoledig. Byddai gan San Steffan ran yn hyn dim ond pan fyddai, er mwyn amddiffyn y farchnad gyffredin yn y DU neu gyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol, angen saib arnom—rwy'n pwysleisio saib—i roi amser i'r llywodraethau gynllunio a gweithredu fframwaith ar gyfer y DU gyfan.

Lywodraethau—yn y lluosog. Wrth ymateb i mi yn y—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i?

Rwy'n ddiolchgar. Ynglŷn â'r union sylw hwnnw, mae wedi sôn am saib, am yr angen i edrych ar y creadur newydd hwn sy'n cael ei alw yn farchnad gyffredin y DU, ond, yn bwysicach fyth, pwy sy'n penderfynu a oes angen y saib hwnnw a phwy sy'n penderfynu a oes angen inni gadw'r pwerau yn San Steffan? Ai dim ond San Steffan, fel rwy'n tybio ei fod yn awgrymu, neu ai'r pedair gwlad yn cytuno ar hynny gyda'i gilydd? Os yw'n golygu y pedair gwlad, rwy'n cytuno ag ef, ond rwy'n credu ei fod yn awgrymu San Steffan. 

Fel y dywedais, er mwyn rhoi i'r Llywodraethau—yn y lluosog—amser i benderfynu a rhoi fframwaith ar waith ar gyfer y DU gyfan.

Wrth ymateb i mi yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford fod araith Mr Lidington

'yn gam ymlaen o ran ein pryderon am gymal 11.'

Ychwanegodd Mr Drakeford wedyn,

'Yr hyn y mae angen inni ei wneud yn awr yw cael trafodaeth fanwl gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhai o'r ffyrdd ymarferol y byddai hynny'n gweithredu, a'r mater allweddol yn y fantol o hyd yw caniatâd'—

rydym yn cytuno—y bydd yn mynd i gyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogol ar drafodaethau'r UE gyda chynigion adeiladol am sut y gellid datrys y cwestiynau hynny, mai ei ddewis ffordd o gyflawni hyn yw cytuno ar welliant y gallai'r tair Llywodraeth ei gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi. Os na ellir cytuno ar welliant bydd yn parhau i fynd ar drywydd y gwelliannau ar y cyd a gyflwynwyd gyda Llywodraeth yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin ac a gaiff eu hail-gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi. A dim ond os nad ydynt yn llwyddo yn y fan honno y mae'n rhaid iddynt amddiffyn y sefyllfa pe ddaw'r dydd pan na fyddai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn barod i roi ei gydsyniad deddfwriaethol i'r Bil ymadael.

Ar ôl cyflawni cymaint yn barod, mae'n amlwg felly bod awydd yn Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddod i gytundeb a fyddai'n caniatáu i Fil ymadael yr UE fynd rhagddo. Rwy'n siŵr y byddai un ymdrech olaf, ynghyd ag ymwneud adeiladol gyda'r Alban, yn galluogi i hyn yn awr ddigwydd. Wrth gwrs, rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yr wrthblaid swyddogol, yn llawn gydnabod yr egwyddorion cyfansoddiadol sydd yn y fantol. Rydym wedi galw'n gyson am gytundebau ar fframweithiau cyffredin rhwng Llywodraeth y DU yn sail ar gyfer cytundeb masnach rydd ar gyfer y DU, ac wedi dadlau nad oes unrhyw reswm pam na allai Bil ymadael yr UE nodi y byddai'r cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig yn dod i ben pan fo'r fframweithiau cyffredin y cytunwyd arnynt yn dod i rym. Rydym ni hefyd yn croesawu yr ateb a roddodd yr Ysgrifennydd Cyllid i mi yng nghyfarfod ddoe o Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad, y cyfeiriodd ato pan ddywedodd y bu

gwaith manwl iawn ar lefel swyddogol,

sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ynglŷn â mater cydsynio. Ychwanegodd fod

mwy nag un ffordd y gellid pontio'r safbwyntiau gwahanol hynny

ac y bydd cyfarfod dydd Iau o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogol ar drafodaethau'r UE yn canolbwyntio ar ffyrdd ymarferol o wneud hynny, lle mae pawb yn rhannu'r un uchelgais i gytuno ar welliant. Rydym hefyd yn deall y bydd hyn yn cael ei drafod mewn cyfarfod y bydd Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Cymru yn mynd iddo yr wythnos nesaf. Wrth gydnabod hyn ac anaddasrwydd cyflwyno deddfwriaeth gyfansoddiadol sylweddol o dan weithdrefn frys, a fyddai'n gwneud y craffu angenrheidiol ac effeithiol yn amhosibl, mae'n rhaid inni wrthwynebu'r cynigion hyn. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gellir mynegi barn y Cynulliad hwn, gan gynnwys ein barn ni, drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol os na roddir sylw bryd hynny i'r pryderon sydd gennym ni. Rhaid gwarchod uniondeb cyfansoddiadol Senedd Cymru, ac ni wnaiff y Ceidwadwyr Cymreig, yr wrthblaid swyddogol, betruso ennyd cyn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ochr yn ochr â phleidiau eraill, os peryglir hynny. Diolch.

18:35

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hynod ystyriol hon? Caniatewch i mi ddechrau gyda'r cyfraniad diwethaf gan Mark Isherwood, a chadarnhau i Aelodau'r Cynulliad y byddaf yn wir yn mynd i gyfarfod gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ddydd Iau yr wythnos hon, ac y byddaf yn mynd i'r cyfarfod hwnnw yn yr ysbryd hwnnw y cyfeiriodd Mark Isherwood ato. Byddaf yn ceisio darganfod ffyrdd o  lunio gwelliant rhyngom ni sy'n sicrhau parhad, fel bod modd trosglwyddo cyfraith yr UE i gyfraith ddomestig mewn ffordd drefnus, ond mewn modd sydd hefyd yn parchu datganoli yn y Deyrnas Unedig. Ac mi af i yno i wneud hynny mewn modd mor bendant a phwrpasol ag y gallaf.

Mae'r Bil hwn yn ymwneud â'r hyn sy'n digwydd os nad yw hynny'n llwyddo, ac rwyf eisiau troi at gyfraniad David Melding, oherwydd soniodd David Melding am ddau fater sy'n uniongyrchol berthnasol i'r ddadl. Roedd yn dadlau bod y system wirio briodol yn rhan o broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, mai'r hyn y dylem ei wneud yw dibynnu ar broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol—ac fe glywsoch chi Mark Isherwood yn dweud na fyddai ei blaid ef yn petruso am ennyd cyn pleidleisio yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol os na fyddai Bil ymadael yr UE gan Lywodraeth y DU yn parchu datganoli. Ond y cwestiwn sydd gennyf i'w ofyn i'r Blaid Geidwadol yw: beth sy'n digwydd wedyn? Beth sy'n digwydd os yw'r ddeddfwrfa hon yn gwrthod rhoi cymhwysedd deddfwriaethol? Dywedodd Leanne Wood fod Llywodraeth y DU eisoes wedi anwybyddu, unwaith, gynnig cydsyniad deddfwriaethol a gafodd ei wrthod, ond nid ydyn nhw erioed wedi amharchu cynnig cydsyniad deddfwriaethol yr oedden nhw eu hunain wedi dweud ar y dechrau fod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Dywedasant nad oedd yn angenrheidiol o ran plismona, gan ddadlau nad oedd hynny wedi'i ddatganoli, ond mae Llywodraeth y DU ei hun wedi dweud bod angen cydsyniad y ddeddfwrfa hon. Felly, mae'n rhaid inni gymryd yn ganiataol, wrth dderbyn sylw David, os yw'r gwiriadau yn mynd i weithio mewn gwirionedd, petaem ni'n gwrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol, yna ni fyddai'r rhannau hynny o'r Bil sy'n effeithio ar Gymru bellach yn mynd rhagddynt, a ble byddai'r sicrwydd wedyn?

Mae'n ddrwg gennyf. Yn ein barn ni, nid yw'n gredadwy o gwbl y gellid gweithredu Bil ymadael yr UE y DU os nad yw'n cael cydsyniad pendant y lle hwn a Senedd yr Alban. Dyna realiti'r sefyllfa wleidyddol, a dyna'r hyn y dylem ni ddibynnu arno.

18:40

Nid yw'n ddigonol, Llywydd. Nid yw'n cyfateb i ddifrifoldeb y sefyllfa. Roedd Mick Antoniw yn hollol gywir. Os nad oes cytundeb, os na allai'r ddeddfwrfa hon roi ei chydsyniad deddfwriaethol, yna mae'n rhaid inni weithredu i roi cyfres o drefniadau ar waith a fyddai'n gweithredu ar gyfer busnesau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru pe bai Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn a ddylai, a pharchu penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Dyna pam mae'r Bil hwn yn angenrheidiol, a dyna pam, yn y pen draw, nad yw'n ddigon dibynnu ar broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, er mor bwysig yw honno, oherwydd pe na baem yn rhoi cydsyniad ac y byddai Llywodraeth y DU yn parchu hynny, ni fyddai unrhyw lyfr statud i Gymru er mwyn rhoi'r parhad a'r sicrwydd hynny y mae'r Bil hwn, y Bil parhad, yn ei roi.

Roedd yr ail bwynt a wnaeth David Melding ynglŷn â chraffu, ac rwy'n rhannu llawer o'i bryderon ynghylch yr amserlen yr ydym ni bellach yn gorfod cydymffurfio â hi, ond mae'r bai mewn gwirionedd ar Lywodraeth y DU. Petaent wedi gweithredu yn y ffordd y dywedasant wrthym y bydden nhw’n ei wneud ac wedi rhoi'r sicrwydd inni yr oedd ei angen yn gynharach yn y broses hon, yna naill ai ni fyddai angen y Bil parhad hwn arnom ni o gwbl, neu byddem wedi gallu cynnig mwy o amser i'r Cynulliad graffu arno. Yn hynny o beth, gofynnodd Leanne Wood pam na wnaethom ni ei gyflwyno yn gynharach. Bydd hi'n gwybod pa mor agos yr ydym wedi cydweithio â Llywodraeth yr Alban ar y mater hwn, sut rydym wedi gweithio gyda'n gilydd i geisio rhoi cymaint o gyfle â phosib i Lywodraeth y DU gyflwyno gwelliant y gallem ni gytuno arno, sut yr ydym wedi gweithio gyda Llywodraeth yr Alban yn unol ag amserlen gyffredin wrth gyflwyno ein Biliau parhad, a sut yr ydym ni nawr mewn sefyllfa o orfod gweithio'n gyflym. Caiff memorandwm esboniadol ei gyhoeddi yfory ochr yn ochr â'r Bil, os caiff ei gyflwyno.

Cyfeiriodd Leanne Wood yn gywir at y ffaith bod Plaid Cymru wedi dadlau'n hir o blaid Bil parhad, ac rwy'n credu y gwnaiff hi gydnabod bod rhan o'r effaith a gawsom ar lefel y DU wedi bod oherwydd y cydweithio â'r Alban, ond hefyd drwy allu dangos yr undod pwrpas yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn ynglŷn â'r materion pwysig iawn hyn. Dyna pam yr oeddem ni mor falch o gyhoeddi 'Diogelu Dyfodol Cymru' gyda Phlaid Cymru. Ac rwy'n siŵr y bydd hi'n cydnabod i Brif Weinidog Cymru ymateb yn gadarnhaol o'r dechrau i'r cysyniad o Fil parhad, ac iddo gymryd y cyfrifoldeb ei hun o oruchwylio datblygiad y Bil hwnnw, a'r swm aruthrol o waith, fel dywedodd Mick Antoniw, fu'n rhan o'r paratoi, gan gynnwys trafod gyda Phrif Weinidog yr Alban yn ystod y broses.

Rwyf wedi clywed yr hyn fu gan y pleidiau i'w ddweud yma y prynhawn yma, Llywydd. Gwn nad ydym yn unfrydol. Rwy'n gresynu at hynny. Nid wyf yn credu ei fod yn ein helpu ni i gael y dylanwad mwyaf posib y cyfeiriodd Leanne Wood ato. Ond credaf y bydd mwyafrif sylweddol yma yn y Cynulliad hwn fel y gallwn gyflwyno'r Bil hwn, y gallwn ni ei gyflwyno ar ffurf Bil brys, y gallwn ni wneud ein gorau o fewn yr amserlen sydd gennym ni. Ac os ydym ni yn y sefyllfa nad ydym eisiau bod ynddi, lle na ellir sicrhau cytundeb Llywodraeth y DU ar welliant priodol i'r Bil ei hun, yna bydd dyfodol Cymru a sicrwydd a pharhad cyfreithiol wedi'u sicrhau yma drwy'r Bil hwn os gallwn ni ei roi ar y llyfr statud.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. Gan nad ydym wedi gwaredu'r bleidlais o dan eitem 9, gohiriaf y bleidlais o dan eitem 10 tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r pleidleisio. 

11. Cyfnod pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar yr ail gyllideb atodol 2017-18. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, 23 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly, derbyniwyd y cynnig.

18:45

NDM6657 - Yr Ail Gyllideb Atodol 2017-18: O blaid: 29, Yn erbyn: 0, Ymatal: 23

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 am y Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), a bod hynny'n cael ei drin fel Bil brys. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal, 10 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig.

NDM6672 - Bil Brys y Llywodraeth: O blaid: 44, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw i gytuno'r amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), ac rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig. 

NDM6673 - Amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth: O blaid: 43, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:46.