Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

20/06/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Steffan Lewis.

Dyfodol Cadwyni Cyflenwi

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol cadwyni cyflenwi Cymru? OAQ(5)0661(FM)

Fel Llywodraeth, rydym ni wedi ymrwymo i feithrin cadwyni cyflenwi ar draws Cymru. Mae’r dyfodol i gwmnïau cadwyn gyflenwi yng Nghymru yn ddisglair, ac mae cefnogi busnesau o bob maint yng Nghymru i fanteisio ar gyfleoedd buddsoddi mawr nawr ac yn y dyfodol yn flaenoriaeth allweddol.

Mae'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi yn ddiweddar wedi cwblhau arolwg helaeth o fusnesau yn y DU ac ar y cyfandir yn sgil refferendwm yr UE y llynedd, a chanfu bod bron i hanner y busnesau cyfandirol yn disgwyl lleihau eu defnydd o gyflenwyr y DU. Canfu'r arolwg hefyd fod 65 y cant o fusnesau’r DU wedi gweld eu cadwyni cyflenwi yn dod yn ddrutach o ganlyniad i’r bunt wannach, ac mae bron traean yn ail-drafod rhai contractau. Mae Llywodraeth Iwerddon, er, wrth gwrs, bod Iwerddon yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, wedi achub y blaen ar y risg bosibl i gadwyni cyflenwi o ganlyniad i Brexit. Tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno i gynnull uwchgynhadledd o fusnesau cyflenwi Cymru, ac i ystyried ac archwilio’r posibilrwydd o sefydlu cynllun benthyciadau busnes i gefnogi cadwyni cyflenwi Cymru drwy'r ddwy flynedd nesaf o ansicrwydd mawr iddynt?

Wel, rwy'n meddwl mai’r peth cyntaf y mae'n rhaid i ni fod yn eglur amdano yw sut y gallai natur Brexit edrych. Nid ydym ni’n ddim callach ynghylch yr hyn y gallai hynny ei olygu. Mae ei blaid ef ac, yn wir, ni ein hunain fel Llywodraeth, wedi bod yn eglur iawn ei fod yn golygu mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Tan i ni gael syniad o beth fydd dyfodol busnesau Cymru, yna bydd yn anodd rhoi'r sicrwydd sydd ei angen iddyn nhw. Wedi dweud hynny, mae'n hynod bwysig ein bod ni’n gweithio gyda'n busnesau i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu caffael cymaint o gontractau i Gymru, yn sicr, â phosibl, ac i bwyso ar Lywodraeth y DU na ddylai leihau gallu busnesau Cymru i gyflawni busnes yn Ewrop yn y dyfodol.

Ar 8 Ebrill, cynhaliais i a’m cydweithwyr, Dawn Bowden a Rhianon Passmore, uwchgynhadledd leol ein hunain i drafod cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, pryd y siaradodd Alun Davies yn dda iawn. [Torri ar draws.] Roedd cynrychiolwyr yr awdurdod lleol, cyflogwyr lleol—roedd yn fy heclo i yn y fan yna, yn fy atgoffa i’w grybwyll—darparwyr addysg bellach ac uwch a thrafnidiaeth yn bresennol yn y digwyddiad. Un o'r themâu allweddol i ddod allan o’r digwyddiad oedd pwysigrwydd rhannu cyfalaf cymdeithasol ar draws cadwyni cyflenwi lleol yng ngogledd y Cymoedd, lle mae cydweithio rhwng cwmnïau lleol yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach na chystadleuaeth rhyngddynt. A fyddai'r Prif Weinidog, felly, yn cydnabod bod angen i gytundebau twf rhanbarthol dderbyn pwysigrwydd cyfalaf cymdeithasol, caffael lleol cryf a barn busnesau cynhenid ​​os yw'r cytundebau cyfalaf am fod yn llwyddiannus?

Rydym ni’n parhau i fod wedi ymrwymo i gyflawni cytundebau llwyddiannus i holl ranbarthau Cymru ac i fod yn bartner llawn yn eu datblygiad a’u darpariaeth, oherwydd, fel y mae’r Aelod wedi ei ddweud, mae cytundebau yn cynnig i Gymru, a rhanbarthau Cymru yn arbennig, cyfle i ddatgloi cyllid Trysorlys ychwanegol i gefnogi ymyraethau a all ddarparu twf economaidd cynaliadwy. Mae angen gwneud llawer o waith, wrth gwrs, er mwyn cael nid yn unig busnesau, ond busnesau ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd, ond gwyddom mai hwnnw yw’r llwybr sy'n cynnig y canlyniad gorau i holl gymunedau Cymru.

Prif Weinidog, mae hanes Llywodraeth Cymru hyd yma o ran gweithio i sicrhau bod cwmnïau Cymru yn elwa cymaint â phosibl ar gaffael cyhoeddus a gyflwynwyd yng Nghymru yn wael, rwy’n credu. O ddechrau 2016, o'r 130 o gontractau caffael corfforaethol a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ers 2011 ac a oedd yn werth mwy na £500,000, dim ond 53 y cant a ddyfarnwyd i fusnesau yng Nghymru. Ac nid oes dim yn amlygu mwy ar hyn na phrosiect ffordd Blaenau'r Cymoedd, a ddyfarnwyd, er ei fod yn brosiect cyfalaf wedi ei leoli yng nghalon Cymru, i gontractwr wedi ei leoli yn Lloegr. Felly, yn y dyfodol, beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod cwmnïau Cymru yn elwa llawer mwy ar gontractau cyhoeddus a gynigir yng Nghymru er mwyn helpu i adeiladu’r gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru?

Rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol i nifer y busnesau yng Nghymru sy'n ennill contractau sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r ffigur wedi mynd o tua 37 y cant, os cofiaf, i dros hanner nawr, sy'n welliant mawr. Trwy fentrau fel y gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr, er enghraifft, a'r fenter gaffael, rydym ni wedi sicrhau bod busnesau Cymru yn gallu cystadlu’n well am gontractau, ac yn enwedig yn gallu gweithio gyda'i gilydd gyda chwmnïau eraill er mwyn bod yn llwyddiannus o ran ennill y contractau hynny yn y lle cyntaf. Yn amlwg, bydd contractau penodol na allant gael eu darparu heblaw gan gwmnïau sydd â sgiliau arbenigol penodol, ond, serch hynny, rydym ni wedi gweld twf sylweddol i nifer y busnesau yng Nghymru sy'n llwyddiannus wrth wneud cais am gontractau sector cyhoeddus.

Targedau Ailgylchu

2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu targedau ailgylchu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0663(FM)

Wel, byddwn yn adolygu targedau ailgylchu yn rhan o'r adolygiad parhaus o strategaeth wastraff Cymru. Yn ogystal â gwerthuso ein perfformiad llwyddiannus yn erbyn targedau cyfredol, bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth o dargedau i'w gosod y tu hwnt i 2025.

Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond mae 'llwyddiannus' yn dod i hyn: bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fod ei Llywodraeth wedi gosod targed i awdurdodau lleol ailgylchu 58 y cant o wastraff erbyn 2016. Ym mis Ebrill, adroddwyd bod tri chyngor—Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen—i gyd wedi methu eu targed, ond y byddent yn osgoi cael eu dirwyo hefyd. A oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i adolygu targedau ailgylchu yng Nghymru, ac, os ydynt yn mynd i gael eu cynyddu, pa gymhelliad fydd yna i gynghorau sy'n tanberfformio wella, o ystyried yr amharodrwydd i ddefnyddio dirwyon yng Nghymru?

Wel, rwy'n falch bod yr Aelod wedi nodi, bod y targed yn 58 y cant erbyn diwedd 2016. Mewn gwirionedd, fe wnaethom gyrraedd 60 y cant o ganlyniad i'r gwaith a wnaed. Y gwirionedd yw bod cymhelliad ariannol annatod i awdurdodau lleol ailgylchu mwy, gan y gallant gael mwy o arian am y cynhyrchion y maen nhw’n eu cynnig ar gyfer ailgylchu, ac nid oes rhaid iddyn nhw dalu cymaint o ran y dreth tirlenwi. Felly, mae’r awdurdodau lleol hynny nad ydynt yn cyrraedd y targedau a osodwyd, i bob pwrpas, yn costio mwy o arian i’w hunain, a dyna'r cymhelliad annatod o ran sicrhau ein bod ni’n gweld mwy o ailgylchu. A gaf i ddweud ein bod yn sicr ar y trywydd iawn i ragori ar y targed o 70 y cant yr ydym ni wedi ei osod ar gyfer y flwyddyn 2024-25.

Er fy mod i’n croesawu’r llwyddiant ym maes ailgylchu, mae’n wir dweud y dylai’r prif ffocws erbyn hyn fod ar leihau gwastraff yn y lle cyntaf. Ac mae’n arbennig o broffidiol i gofio bod pob darn o blastig a grëwyd erioed yn dal mewn bodolaeth nawr, oni bai ei fod e wedi cael ei losgi. Ac, felly, onid yw hi’n bryd i edrych ar bethau fel cynllun dychwelyd blaendal, i weld sut y gallwn ni leihau plastig a polystyren yn ein hamgylchedd ni?

Mae hi’n broblem—rwy’n cytuno â hynny. Nid wyf i’n credu bod hwn yn rhywbeth sy’n gallu cael ei ddatrys ar lefel Gymreig o achos y ffaith bod siẁd gymaint o bethau’n dod mewn i Gymru o wledydd eraill lle mae yna reoliadau eraill. Felly, i fi, y ffordd o sicrhau bod yna lai o wastraff yn cael ei greu yn y lle cyntaf, dylai hwnnw gael ei ddelio ag e ar lefel Ewropeaidd, o leiaf, ond ar lefel fyd-eang. Achos dyna’r ffordd, wrth gwrs, i sicrhau bod cynhyrchwyr mewn gwledydd, er enghraifft, fel Tsieina, sydd yn allforio siẁd gymaint o gynnyrch i wledydd Ewrop, yn lleihau’r plastig y maen nhw’n ei ddefnyddio, er mwyn sicrhau, wrth gwrs, fod yna lai felly sy’n gorfod cael ei ailgylchu yng Nghymru.

Prif Weinidog, os ydym ni’n mynd i gael unrhyw obaith o gwbl o leihau faint o wastraff yr ydym ni’n ei anfon i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, dylid gwneud cynlluniau ailgylchu mor hawdd â phosibl i berchnogion tai allu ailgylchu. Yn anffodus, mae’n ymddangos bod awdurdodau lleol yn gweithredu i’r gwrthwyneb. Mae Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, wedi gwneud llanast llwyr o gyflwyno eu cynllun ailgylchu newydd, sydd, yng ngeiriau dirprwy arweinydd y cyngor, wedi achosi niwed i ewyllys da y trigolion. Mae'r sefyllfa mor wael erbyn hyn fel bod mwy na 40 o gynghorwyr wedi cymryd y cam digynsail o ysgrifennu at arweinydd y cyngor i gwyno. Prif Weinidog, heb ewyllys da trigolion, mae cynlluniau ailgylchu yn siŵr o fethu. Beth all eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ei gwneud mor rhwydd â phosibl i'r trigolion ailgylchu?

Wel, fel rhywun sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae'n rhwydd, ac rwyf i’n sicr wedi ailgylchu yn y system newydd dros y pythefnos diwethaf heb unrhyw broblem o gwbl. Nid yw’n hynod wahanol i'r hen system, mewn gwirionedd. Cafwyd achosion lle nad yw sbwriel wedi cael ei gasglu fel y dylai, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gwybod fod y cyngor wedi bod yn canolbwyntio arno. Ond mae’n rhaid i mi ddweud bod rhai o'r bobl sy'n cwyno yn bobl nad oeddent eisiau’r contract newydd yn y lle cyntaf, ac nad ydynt wedi eu hargyhoeddi bod y system bresennol yn rhywbeth sy'n werth chweil i’w wneud beth bynnag. Mater i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, wrth gwrs, yw ymdrin ag unrhyw broblemau sy'n codi, ond rwyf wedi fy sicrhau ganddyn nhw eu bod yn gwneud hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Mae'r trafodaethau i’r DU ddod allan o'r Undeb Ewropeaidd wedi cychwyn erbyn hyn, ac mae pwysigrwydd y trafodaethau hynny i Gymru y tu hwnt i amheuaeth. Yn ystod chwarter cyntaf 2017, cynyddodd ein gwarged masnach gyda'r UE i £2.5 miliwn. Rwyf i o'r farn na wnaeth etholiad y DU bythefnos yn ôl roi mandad i adael y farchnad sengl. A ydych chi’n cytuno?

Ni wnaeth yr etholiad cyffredinol roi mandad ar gyfer Brexit caled, ac, fel y mae ei phlaid hi a fy mhlaid innau wedi cytuno, yr hyn sydd ei angen arnom yw mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Nid yw’r farn honno wedi newid ac ni fydd yn newid yn y dyfodol.

Prif Weinidog, yn ystod ymweliad ag Airbus ar Lannau Dyfrdwy, dywedodd y cwmni wrthyf mai eu dwy flaenoriaeth allweddol ar gyfer perthynas y DU gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol oedd, yn gyntaf, na ddylai fod unrhyw dariffau ar eu nwyddau a’u cydrannau, ac, yn ail, y dylent allu manteisio ar ryddid i symud gweithwyr medrus. Rydym wedi clywed rhybuddion yn ddiweddar gan Airbus y gallai methiant i fodloni’r blaenoriaethau hyn beryglu swyddi a buddsoddiad busnes. Byddech eisiau sicrhau’r ddwy flaenoriaeth hynny, yn unol â'n Papur Gwyn ar y cyd, ond, dywedasoch mewn cinio Cydffederasiwn Diwydiant Prydain ddydd Gwener, y byddai aelodaeth o’r farchnad sengl yn anghydnaws â chanlyniad refferendwm yr UE. A wnewch chi gynnig eglurder nawr? A ydych chi’n diystyru aelodaeth o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop ac a ydych chi’n diystyru bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd?

Hoffwn atgoffa arweinydd Plaid Cymru o’r hyn y mae hi eisoes wedi cytuno iddo yn rhan o'r Papur Gwyn. Ceir dealltwriaeth dda o’r sefyllfa. Ni allwch fod yn aelod o'r farchnad sengl heb fod yn aelod o'r UE. Gallwch gael mynediad at y farchnad sengl heb fod yn aelod o'r UE, fel y mae Norwy wedi ei ddangos ac fel y mae'r gwledydd EFTA wedi ei ddangos. Nid wyf yn diystyru aelodaeth o EFTA. Nid wyf yn diystyru aelodaeth o'r AEE, o ran hynny ychwaith, yn enwedig yn y byrdymor. Ond os ydych chi’n aelod o'r farchnad sengl, mae’n awgrymu bod gennych chi lais yn y rheolau y mae’r farchnad honno’n gweithredu’n unol â nhw. Mae pobl y DU wedi dweud nad ydynt eisiau bod yn rhan o'r UE ac, felly, nad ydynt eisiau cael llais yn y ffordd y mae'r farchnad yn gweithredu. Nid yw hynny'n golygu na allwn ni gael mynediad at y farchnad sengl.

Yr hyn sy'n bwysig i Airbus—a cheir dau fater i Airbus—yn gyntaf oll, yw eu bod nhw’n gallu gwerthu yn y farchnad sengl, nid yn unig heb rwystrau tariff, ond heb rwystrau di-dariff, neu rwystrau rheoliadol, hefyd, ac, yn ail, fisas gwaith. Bydd hi’n gwybod bod pobl sy'n teithio yn ôl ac ymlaen rhwng Toulouse, Filton a Brychdyn bob dydd i weithio, ac mae Airbus yn ofni y gallai fod angen fisas gwaith ar y bobl hynny, naill ai ar gyfer pob ymweliad, neu efallai am gyfnod o amser yn y dyfodol, ac ni all hynny fod yn beth da o ran sefyllfa Brychdyn yng nghyswllt ei ddyfodol. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad oes angen fisas ar gyfer y gweithwyr hynny ac, yn ail, nad oes unrhyw dariffau, naill ai o ran rheoleiddio nac o ran arian, sy'n rhwystro mynediad llawn a dilyffethair Airbus at y farchnad sengl sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Prif Weinidog, rydych chi’n gwbl anghyson yn hyn o beth. [Torri ar draws.] Mae ASau Llafur yn defnyddio'r term 'aelodaeth o’r farchnad sengl'. Mae Chuka Umunna wedi dweud nad yw mynediad at y farchnad sengl yn mynd yn ddigon pell. Mae eich Ysgrifennydd masnach yr wrthblaid, Barry Gardiner, wedi sôn am aelodaeth ddiwygiedig o'r farchnad sengl—aelodaeth. Nawr, ceir goblygiadau i Airbus o'r ddau safbwynt hyn pan ddaw i ryddid i symud, ac i’n diwydiannau eraill hefyd. Unwaith eto, rydym ni’n gweld llu o safbwyntiau ar hyn y tu mewn i'r Blaid Lafur a rhwng canghennau Cymru a'r DU. Prif Weinidog, nawr bod y trafodaethau ffurfiol wedi cychwyn, beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau bod y cytundeb terfynol yn un sy'n gweithio i Gymru?

Byddaf yn gobeithio weithiau bod arweinydd Plaid Cymru yn gwrando ar fy ateb ac yna’n addasu'r cwestiwn y mae'n ei ofyn cyn iddi ei ofyn. Roedd hi'n fy nghyhuddo i o fod yn gwbl anghyson. Yn gyntaf, dywedodd wrthyf, 'Rydych chi wedi dweud nad ydych o blaid aelodaeth o'r UE', ac yna siaradodd am EFTA, sy’n sefydliad hollol wahanol, yn cynnwys tair gwlad: Norwy, Liechtenstein a Gwlad yr Iâ. Mae hi ei hun—mae ei phlaid eisoes wedi cytuno na allwch chi fod yn aelod o'r farchnad sengl heb fod yn aelod o'r UE. Dyna’r hyn a gytunwyd gennym ni, os yw hi’n cofio hynny. Mae hi'n fy nghyhuddo i o fod yn anghyson. Mae hi wedi anghofio hynny. Nid wyf i eisiau mynd i ddadl nad oes ei hangen rhwng dwy blaid sy’n cytuno ar yr un peth, sef ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod gan fusnesau Cymru fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Os ydych chi’n aelod ohoni, mae gennych chi lais yn ei rheolau. Ni allwch gael llais yn ei rheolau oni bai eich bod chi yn yr UE, ac mae’r mater hwnnw wedi ei ddatrys. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n cael y cytundeb gorau—mynediad llawn, dilyffethair at y farchnad sengl i fusnesau Cymru, fel y mae hi wedi cytuno iddo eisoes.

Rydym ni’n deall bod gwahaniaeth rhwng aelodaeth a mynediad, ond, cyn belled ag y mae busnesau Cymru yn y cwestiwn, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod hwnnw'n wahaniaeth anweledig, ein bod ni’n edrych ar fodelau eraill fel yr AEE, fel EFTA, yn enwedig yn y cyfnod pontio—gan na fydd cytundeb erbyn mis Mawrth 2019. Mae pawb yn deall hynny’n ddoeth. Mae'n drueni mawr, yn hytrach na chyfrannu at y ddadl, ei bod hi’n anghofio’r hyn y mae ei phlaid ei hun wedi cytuno iddo eisoes.

Rwy'n teimlo fel pe bawn i'n tarfu ar dipyn o ddadl deuluol yma, ac rydym ni’n gweld y glymblaid o anhrefn o flaen ein llygaid, credwch neu beidio. Pan—[Torri ar draws.] Gobeithio pan fyddwn ni’n cyrraedd eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma, y byddwch chi’n rhoi ychydig mwy o eglurder am y sefyllfa, Prif Weinidog, oherwydd os nad yw eich partneriaid yn ei deall, pa obaith sydd gan unrhyw arall o’i deall?

Ond hoffwn ddeall beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru o ran y targedau ar gyfer canlyniadau arholiadau PISA yn 2021, oherwydd dywedodd eich ysgrifennydd addysg, yng nghyfarfod y pwyllgor plant a phobl ifanc ddydd Iau diwethaf, nad y targed a osodwyd gan y Llywodraeth flaenorol a’ch Gweinidog—Gweinidog Llafur, Huw Lewis—o gael sgôr o 500 yn y tri chategori oedd ei tharged hi. A allwch chi roi rhywfaint o eglurder i ni o beth yw targed Llywodraeth Cymru ar gyfer canlyniadau PISA 2021?

Cyflawni 500 yn 2021 yw targed Llywodraeth Cymru o hyd. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir yn yr ystyr nad hi osododd y targed, gan nad oedd hi'n Weinidog ar y pryd, ond mae hi'n rhan o'r Llywodraeth sy'n cadw at y targed hwnnw. Ond cofiwch, un dangosydd diagnostig yw’r targed ymhlith llawer o rai eraill, fel perfformiad TGAU, cau'r bwlch cyrhaeddiad, categoreiddio ysgolion ac arolygiadau Estyn.

Mae hynna'n gerydd, er tegwch, Prif Weinidog, i’ch Ysgrifennydd Cabinet. Naill ai mae gennych chi darged y mae'r adran a'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio’n unol ag ef, ac y mae'r system addysg yma yng Nghymru yn gweithio yn unol ag ef—ac rydym ni’n croesawu'r targed, gan ei fod yn rhoi cyfeiriad teithio—ond mae'n ffaith, ddwywaith nawr, bod targed wedi cael ei ddiarddel gan Ysgrifenyddion Cabinet olynol ar addysg yma yn eich Llywodraeth: yn amlwg, targed Leighton Andrews o fod yn yr 20 uchaf erbyn 2015, ac yna ddydd Iau, cafodd y targed o gael 500 yn y tri chategori erbyn 2021 ei wadu gan Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf sut, yn y Llywodraeth ddi-drefn hon, y gall addysgwyr, rhieni a disgyblion fod ag unrhyw hyder y byddwn yn gweld y Llywodraeth hon yn cyrraedd y targed hwnnw erbyn 2021 ac yn cyflawni’r gwelliannau yr ydym ni eisiau eu gweld ym maes addysg?

Mae’r targed yn dal i fodoli. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn addysg. Ni fydd gennym ni ysgolion gramadeg yng Nghymru, ac ni fyddwn ychwaith yn lleihau gwariant ar addysg, fel y mae ei blaid ef wedi ei argymell ers blynyddoedd lawer.

Ai dyna’r cwbl? Ai dyna’r ateb—eich ateb llawn? Mae gennych chi chi yn dweud un peth—bod targed yn bodoli—ac mae gennych chi’r Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau o flaen pwyllgor craffu y Cynulliad hwn nad dyna ei tharged hi. Pwy sy'n cymryd cyfrifoldeb am addysg yma yng Nghymru? A yw'n unrhyw syndod ei fod yn gymaint o draed moch o dan eich arweinyddiaeth chi? Unwaith eto, gofynnaf i chi: a wnewch chi ymrwymo i fap ffordd o sut y bydd y system addysg yma yng Nghymru yn cyrraedd eich targed yn 2021, neu uchelgais yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer ble mae hi eisiau i addysg fod? Ni allwch chi gael dau darged, Prif Weinidog.

Gadewch i mi ei ddweud am y trydydd tro: sicrhau 500 yn 2021 yw targed Llywodraeth Cymru o hyd. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad o ffaith nad hi oedd y Gweinidog ar yr adeg y gosodwyd y targed, ond y targed yw targed y Llywodraeth.

Mae'n sôn am glymblaid o anhrefn a thraed moch. Gwelaf fod Ruth Davidson, ei gydweithiwr yn yr Alban, yn cael mynd i gyfarfodydd Cabinet y Deyrnas Unedig; mae ef wedi ei wahardd. Mae ef wedi ei wahardd. Faint o gywilydd all un dyn ei gymryd? Fe’i disodlwyd yn nadleuon yr arweinwyr yn yr etholiad. Faint o gywilydd all un dyn ei gymryd? Gadawodd i Theresa May, a ddaeth i lansiad maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig, ei wthio o’r neilltu, ei wahardd rhag dod i’r lansiad, cyn gwneud araith a drodd yr etholiad o’n plaid ni, sathru arno’n llwyr. Felly, diolch yn fawr iawn am hynny. Pan fyddwn ni’n clywed yr ymadrodd 'traed moch', ni allwn dderbyn unrhyw wersi gan yr arbenigwyr sy'n eistedd ar y meinciau gyferbyn.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog, fel minnau, yn edrych gydag eiddigedd at yr Unoliaethwyr Democrataidd yng Ngogledd Iwerddon yn defnyddio eu grym yn Nhŷ'r Cyffredin i wasgu’r cytundeb gorau posibl er budd pobl Gogledd Iwerddon. Ac yn hytrach nag ymladd y rhyfel diwethaf eto, fel y mae’n ymddangos bod arweinydd Plaid Cymru yn benderfynol o’i wneud, oni fyddai'n well i aelodau Plaid Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin ddefnyddio eu sefyllfa ganolog i gael y cytundeb gorau posibl i Gymru trwy gynyddu maint ein grant bloc neu unrhyw un o'r pethau niferus yr ydym ni eu heisiau, a fyddai'n gwella bywydau pobl Cymru?

Ni fyddwn yn cynghori unrhyw blaid i wasgu arian, fel y dywedodd arweinydd UKIP, ond mae'n iawn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth y DU wrando. Nid oes ganddi fandad ar gyfer y math o Brexit yr oedd yn dymuno ei gael. Methodd â chyflawni hynny yn yr etholiad, a nawr yw'r amser iddyn nhw wrando ar leisiau call fel y gellir cael Brexit synhwyrol sy'n gweithio i bobl Cymru, i bobl Prydain, ac i fusnesau a swyddi yn arbennig.

Wel, rwy'n siŵr y byddwn yn archwilio’r pwynt hwn ymhellach yn ddiweddarach y prynhawn yma yn y datganiad ar bapur y Llywodraeth ar Brexit.

Hoffwn symud ymlaen i fater arall. O ganlyniad i'r tân ofnadwy yn Kensington a’r colli bywyd ofnadwy a ddioddefwyd yno, onid yw hi braidd yn annymunol i arweinydd yr wrthblaid, Jeremy Corbyn, geisio defnyddio’r mater hwn fel arf i ysgogi pobl i feddiannu eiddo preifat er mwyn cartrefu’r rheini a ddifeddiannwyd? Mae'n sefyllfa beryglus iawn i wleidyddion mewn swyddogaethau o gyfrifoldeb ddefnyddio pethau o'r fath. Rydym ni’n gwybod bod rhai aelodau pwysig o'r Blaid Lafur sy'n credu bod gwrthryfel yn arf gwleidyddol derbyniol. Mae John McDonnell wedi dweud sawl gwaith mai dim ond un dewis yw democratiaeth seneddol, ac mae’r llinellau piced a'r strydoedd yw’r mannau lle gellir ymladd y brwydrau gwleidyddol go iawn. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai'n hynod anffodus pe byddai’r Blaid Lafur yn parhau â'r math hwn o rethreg?

Rwy'n ofni bod arweinydd UKIP yn dangos diffyg trugaredd llwyr, mae’n rhaid i mi ddweud. Mae pobl wedi marw yma. Mae pobl wedi marw. Aeth Jeremy Corbyn, fel AS dros yr ardal leol, i ymweld â phobl. Aeth i gysuro llawer o bobl a oedd yn etholwyr iddo, a mynegodd ddicter llawer a oedd yn teimlo, ar y pryd, nad oeddent yn cael digon o gymorth, pa un a oedd hynny gan lywodraeth leol neu Lywodraeth ganolog. Nid wyf yn gwneud unrhyw sylw ar hynny gan fy mod i’n meddwl, yr wythnos hon, ei bod hi’n hynod bwysig canolbwyntio ar y ffaith fod pobl wedi marw, a chanolbwyntio ar y ffaith ei bod yn hynod bwysig ein bod ni’n dysgu gwersi o'r hyn a ddigwyddodd, er mwyn gwneud yn siŵr bod nad yw’n digwydd eto. Dyna neges yr wythnos hon, nid pwynt gwleidyddol hawdd y mae e’n ceisio ei sgorio.

Wel, mae'n bell iawn o fod yn bwynt gwleidyddol hawdd. Roeddwn i’n dyfynnu o un o'n papurau newydd cenedlaethol—[Torri ar draws.]—lle cafwyd y pennawd

Gadewch i ddioddefwyr y tân atafaelu cartrefi gwag, meddai Corbyn.

Ef yw'r un a ddywedodd hynny. Nid oes gennyf i unrhyw wrthwynebiad, yn amlwg, i Jeremy Corbyn fynegi barn pobl, yn enwedig barn ei etholwyr. Rydym ni i gyd yn gwneud hynny. Ond yn y sefyllfaoedd hynod emosiynol hyn, mae’n beryglus iawn i rethreg o'r math hwnnw gael ei ddefnyddio pan ddylid dymuno cael sobrwydd o ran y ffordd yr ydym ni’n mynegi ein hunain. Mae ceisio elwa’n wleidyddol ar hyn yn y ffordd honno, rwy’n meddwl, yn annymunol dros ben.

Mae'n iawn, yn wir, i ddweud bod angen sobrwydd. Mae'n drueni na ddilynodd ei gyngor ei hun, mae’n rhaid i mi ddweud. Mae'n dyfynnu o bapur newydd cenedlaethol. Wel, fel y gwyddom, mae’r papurau bob amser yn gywir am bopeth, ac mae ganddo brofiad blaenorol o bethau o'r fath. Mae wedi camfarnu’n ddifrifol teimladau ein cenedl yng Nghymru a'r DU y prynhawn yma, rwy’n credu. Mae wedi camfarnu’n ddifrifol teimladau’r Siambr hon, rwy’n credu, ac mae’n rhaid iddo fyfyrio, fel rhywun sydd wedi bod mewn gwleidyddiaeth ers blynyddoedd lawer, ar y sylwadau y mae wedi eu gwneud, a myfyrio pa un a yw’r sylwadau y mae wedi eu gwneud mewn gwirionedd yn adlewyrchu'r trugaredd yr ydym ni’n ei rannu yn y Siambr hon, oherwydd nid wyf yn credu eu bod nhw.

Sir Benfro fel Cyrchfan Dwristiaeth

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Sir Benfro fel cyrchfan dwristiaeth? OAQ(5)0658(FM)

Mae Blwyddyn y Chwedlau 2017 yn rhoi cyfle inni adeiladu rôl hanfodol twristiaeth yn economi sir Benfro, ac mae strategaeth dwristiaeth Llywodraeth Cymru yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru gyfan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi’r flwyddyn hon, wrth gwrs, yn Flwyddyn y Chwedlau ac, yn sicr, mae gan sir Benfro ei chyfran deg o hanes diwylliannol sydd, wrth gwrs, yn cynnwys asedau fel eglwys gadeiriol Tyddewi a Chastell Henllys, i enwi ond ychydig. Mae’n hanfodol bod pob rhan o Gymru yn derbyn cyfran deg o gyllid i wir ddathlu Blwyddyn y Chwedlau, felly a allwch chi ddweud wrthym ni sut rydych chi fel Llywodraeth, yn ariannol, wedi cefnogi pob rhan o Gymru i sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael y chwarae teg y maent yn ei haeddu? Er enghraifft, faint o gefnogaeth ydych chi wedi ei rhoi i sir Benfro yn sgil y fenter benodol hon?

Wel, yn gyntaf, wrth gwrs, y gronfa dwristiaeth ynglŷn â 2017: mae yna arian wedi cael ei roi i’r ‘pollinator trail’, sef project yn Dr Beynon’s Bug Farm; mae arian wedi cael ei roi i TYF Group Ltd ynglŷn â ‘SUP Kids Wales project’; ac mae arian wedi cael ei roi i Seren Collection ynglŷn â’r ‘Welsh roots project’ yn ardal Arberth. Yn fwy eang, mae yna arian i’r ymddiriedolaethau bywyd gwyllt ynglŷn â’u projectau nhw, ac, wrth gwrs, projectau eraill yn sir Benfro. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n gefnogol iawn o’r bid gan Dyddewi ynglŷn â dinas diwylliant y Deyrnas Unedig yn 2021. Rydym ni’n gefnogol iawn o’r bid hwnnw, fel rydym ni’n gefnogol iawn o fid Abertawe. Wrth gwrs, mae’n wir i ddweud bod argraff Tyddewi ynglŷn â’r bid y maen nhw wedi’i ddodi i mewn wedi bod yn dda dros ben.

Roeddwn i’n gweld bod tref Penfro wedi codi cerflun newydd i Harri VII, ac wrth gwrs, mae’n ymgais i ddenu twristiaeth ac adlewyrchu hanes clos y teulu hwnnw gyda thref Penfro. Heddiw, rydw i wedi cynnal arddangosfa yn y Cynulliad o’r cerflun arall sydd yn gobeithio cael ei sefydlu yn sir Benfro—cerflun o Chelsea Manning, cymeriad arall a gafodd ei magu a’i haddysgu yn sir Benfro ac sydd wedi, yn sicr, dylanwadu yn drwm iawn ar y byd rydym ni’n byw ynddo ar hyn o bryd.

A allai’r Prif Weinidog ddweud beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i hybu celf gyhoeddus yn gyffredinol, a’r ymdeimlad o gelf gyhoeddus fel rhan o dwristiaeth, ie, ond hefyd fel rhan o adlewyrchu ein holl hanes ni fel cenedl? A fydd y Llywodraeth yn gallu edrych ar y bwriad yma i godi cerflun i Chelsea Manning yn sir Benfro, i’w chefnogi hi?

Wel, mae’n rhaid bod yn ofalus, wrth gwrs, ynglŷn â cherfluniau, achos ein bod ni’n cael llawer o geisiadau ynglŷn â chefnogi cerfluniau ar draws Cymru, ac mae’n hollbwysig bod unrhyw gerflun â digon o gefnogaeth leol, er mwyn bod y cerflun hwnnw yn gallu symud ymlaen. Rydym ni’n deall pa mor bwysig yw pethau gweledol ynglŷn â rhoi neges i bobl, ac wrth gwrs roedd hynny’n wir ynglŷn â’r arddangosfa yng Nghastell Caernarfon, sef y ffenestr wylo—‘The Weeping Window’—a oedd yn dangos yn bwerus iawn beth oedd effaith y rhyfel byd cyntaf, nid dim ond ar y cymunedau lleol, ond ar y rheini a gafodd eu lladd yna.

Ymwelais innau hefyd ag arddangosfa’r cerflun arfaethedig o Chelsea Manning. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai cerflun o Chelsea Manning, y mae’n rhaid ei bod yn un o feibion a merched ​​enwocaf Hwlffordd, wir yn cynyddu twristiaeth yn Sir Benfro?

Materion yw’r rhain, yn y pen draw, i’r cynghorau cymuned a thref, ac i’r awdurdod lleol, benderfynu a fyddent yn dymuno rhoi cefnogaeth i'r cerflun hwn, neu unrhyw un arall.

Gwella Bywydau Pobl Hŷn

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru? OAQ(5)0665(FM)

Mae 'Symud Cymru Ymlaen' yn cynnwys amrywiaeth o gamau gweithredu i wella iechyd a llesiant pobl hŷn, gan ganolbwyntio ar ymyraethau amserol a gwaith partneriaeth effeithiol. Er enghraifft, rydym ni’n buddsoddi mewn mentrau i bobl hŷn gadw eu hannibyniaeth ac aros yn eu cartrefi drwy'r gronfa gofal integredig.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond un o'r pethau na wnaethoch chi sôn amdanynt oedd yr arwahanrwydd cynyddol a wynebwyd gan lawer o bobl hŷn yng Nghymru. Amcangyfrifir bod tua 75,000 o bobl hŷn ar draws y wlad yn unig iawn, a gall yr unigrwydd hwnnw gael yr un math o effaith ag ysmygu 15 sigarét y dydd ar iechyd pobl. Tybed a wnewch chi ymuno â mi i gefnogi ymgyrch Age Cymru ar unigrwydd, ‘Ni ddylai neb fod heb neb'. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo pobl fel Gill Stafford, o Abergele yn fy etholaeth i, sy’n wraig weddw, yn gofalu am ei mab anabl, ac a ddywedodd wrth Age Cymru ei bod yn mynd ar y bws dim ond er mwyn cael mynd allan a siarad â rhywun a chael sgwrs? Pa gamau ydych chi’n eu cymryd i gynorthwyo pobl fel Gill a llawer o bobl eraill sy'n wynebu’r math hwnnw o arwahanrwydd ac unigrwydd?

Rydym ni’n ceisio gweithio gyda'r holl sefydliadau trydydd sector sy'n gwneud cymaint o waith i helpu pobl hŷn. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud bod arwahanrwydd ac unigrwydd yn broblem arbennig, yn enwedig yn y dyddiau hyn pan fo teuluoedd wedi symud i ffwrdd, ac mae’n cael effaith andwyol nid yn unig ar iechyd meddwl pobl, ond, mae'n ymddangos, ar eu hiechyd corfforol hefyd. Rydym ni eisiau gweithio gydag Age Cymru. Rwy’n cymeradwyo’r hyn y mae Age Cymru yn ei wneud i sicrhau bod arwahanrwydd, yn gyntaf, yn cael ei gydnabod fel problem, ac, yn ail, bod atebion yn cael eu canfod i'r broblem honno.

Un o'r pethau y gallwn ni ei wneud i wella bywydau pobl hŷn yw sicrhau bod ein strategaeth dementia yn uchelgeisiol ac wir yn newid bywydau. Fel y gwyddoch, mae Ysgrifennydd y Cabinet wrthi’n ystyried y nifer fawr iawn o ymatebion y mae'r Llywodraeth wedi eu cael ar hyn, ond rwy’n credu bod hwn yn sicr yn fater i'r Llywodraeth gyfan, yn enwedig gan fy mod i’n credu y bydd angen adnoddau ychwanegol arno er mwyn ei roi ar waith yn effeithiol. Pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd hyn yn flaenoriaeth i chi, a phan fydd gennym ni’r strategaeth ddementia derfynol, y bydd mor weddnewidiol ag yr ydym ni oll eisiau ei weld?

Rydym ni wedi ymrwymo, wrth gwrs, i wneud Cymru yn wlad ystyriol o ddementia, ac wrth gwrs i gyhoeddi'r cynllun gweithredu strategol cenedlaethol cyntaf ar ddementia i Gymru. Bydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Bydd yn nodi’r camau allweddol ynghyd â mesurau uchelgeisiol i gael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid allanol i gynorthwyo pobl a effeithir gan ddementia, ac, wrth gwrs, bydd angen, yn rhan o'r cynllun hwnnw, darparu'r adnoddau sy’n ofynnol i'w alluogi i lwyddo.

Prif Weinidog, mae llawer o'n pobl hŷn yn cael eu targedu ac yn dioddef wrth ddwylo sgamwyr, sy'n manteisio ar y ffaith eu bod yn agored i niwed i’w twyllo o’u cynilion bywyd. Cynorthwyais etholwr a oedd yn cael ei dargedu yn ddiweddar, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y cymorth gan Heddlu De Cymru yn rhagorol. Yn anffodus, nid yw pawb yn cael y cymorth hwn. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn ac addysgu pobl hŷn am y sgamiau, a sut i osgoi dioddef wrth ddwylo’r sgamwyr hyn?

Mae ardaloedd dim galw diwahoddiad yn rhan ohono, ond, wrth gwrs, ni allant, yn naturiol, effeithio ar sgamiau sy'n dod i'r amlwg ar-lein neu dros y ffôn. Rwyf i wedi gweld awdurdodau lleol—mae Pen-y-bont ar Ogwr yn un enghraifft—sy'n cynnal ymgyrchoedd llwyddiannus iawn trwy eu hadrannau safonau masnach i hysbysu pobl am sut y gall sgamiau edrych, a gallant fod yn effeithiol iawn, ac roedd yr ymgyrch honno’n effeithiol iawn. Gwelais hynny fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nawr, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn dysgu oddi wrth ei gilydd i weld beth allant ei wneud i amddiffyn pobl rhag sgamiau na ellir eu canfod, trwy ddulliau fel ardaloedd dim galw diwahoddiad.

Dyfodol Datganoli yng Nghymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol datganoli yng Nghymru? OAQ(5)0662(FM)

Cryno dros ben, diolch. Prif Weinidog, efallai eich bod chi’n ymwybodol bod Prif Weinidog Gogledd Iwerddon o blaid diddymu tollau teithwyr awyr i helpu teithwyr awyr i gefnogi twf, swyddi a thorri costau busnesau. O ystyried bod Llywodraeth yr Alban bellach wedi defnyddio ei phŵer datganoledig newydd a chyflwyno ei Bil Treth Ymadael (Yr Alban), i ddisodli’r doll teithwyr awyr, ac wedi ymrwymo i’w leihau o 2018, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod y doll teithwyr awyr yn cael ei datganoli, ac ar ôl iddi gael ei datganoli, beth fyddwch chi’n ei wneud â hi?

Nid yw Prif Weinidog Gogledd Iwerddon yn ei swydd, ar hyn o bryd—yn fuan gobeithio—ond does bosib nad yw’n gwybod bod hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi dadlau hyd at syrffed iddo gael ei ddatganoli. Nid oes unrhyw reswm pam y dylai gael ei ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon, ei ddatganoli yn yr Alban, ond peidio â chael ei ddatganoli yng Nghymru. Beth fyddem ni'n ei wneud ag ef? Byddem ni’n sicr yn ystyried lleihau neu gael gwared arno ar gyfer teithiau hir, oherwydd gwyddom fod Maes Awyr Caerdydd mewn sefyllfa arbennig o dda ar gyfer teithiau teithwyr pell. Ond mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod yn llwyr ei ddatganoli i ni, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi ei ddatganoli i'r Alban. Nid oes unrhyw reswm am hyn, nid oes unrhyw sail resymegol i hyn, nid oes unrhyw degwch yn hyn, ac, yn sicr, mae'n rhywbeth nad yw'r Ceidwadwyr yn y Siambr hon wedi bod yn arbennig o groch amdano yn ystod yr ychydig wythnosau neu fisoedd diwethaf.

A datblygiad cadarnhaol pellach, Prif Weinidog, o ddatganoli yw'r hawl i benderfynu sut y cynhelir ein hetholiadau ein hunain yma yng Nghymru. Ac yn ystod yr etholiad cyffredinol ychydig wythnosau yn ôl, gwelsom gynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc a gofrestrodd i bleidleisio a nifer digynsail o bleidleisiau gan y grŵp hwnnw yn ôl pob golwg. Ac os ydym yn credu’r doethinebwyr, bu hyn o fudd i Lafur mewn sawl rhan o'r DU, fel y gwelsom gyda'r canlyniadau anhygoel mewn mannau fel Kensington a Canterbury, a hyd yn oed Gogledd Caerdydd, gyda phobl ifanc yn gwneud safiad yn erbyn Brexit caled a chyni cyllidol. A ydych chi’n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod yr ymgysylltiad hwn gan bobl ifanc, yn y broses wleidyddol, i'w groesawu yn fawr ac yn cefnogi dadleuon dros ymestyn yr oed pleidleisio i 16 pan fyddwn yn cael y dewis i wneud hynny yma yng Nghymru?

Rwyf i’n bersonol o blaid ymestyn yr oed pleidleisio i 16. Ac rwy’n methu â gweld pam, os yw'n dda i’r Alban mewn un refferendwm, na all felly fod yn berthnasol ar draws pob etholiad, a bod yn blaen. Nid oes unrhyw resymeg dros ei wneud ar gyfer un bleidlais, ond nid mewn eraill. Ers nifer o flynyddoedd yn y Siambr hon, mae gwleidyddion o bob plaid wedi pendroni am sut y gallwn ni gael mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, gan ofni nad ydynt yn pleidleisio. Gwelsom lawer ohonynt yn pleidleisio’n llu yn yr etholiad cyffredinol, ar lefelau nad oeddwn i wedi eu gweld o'r blaen, yn enwedig yn y bore. Roedd yn amlwg dros ben yn fy ngorsaf bleidleisio leol i. Rwy’n sicr eisiau gweld y duedd honno’n parhau, gan ei bod yn hynod bwysig nad yw pleidleisio yn cael ei ystyried yn rhywbeth yr ydych chi’n ei wneud pan fyddwch chi’n cyrraedd canol oed.

Prif Weinidog, rwy'n falch o fynegi fy mod i o blaid datganoli toll teithwyr awyr i'r Cynulliad hwn. Mae'n ddrwg gen i os nad ydych chi wedi clywed ein galwadau ynghylch hynny yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ond, yn sicr, dyna ein safbwynt.

Roedd Nathan Gill, yn ei gwestiwn, yn iawn i gyfeirio at ddatganoli treth fel y datblygiad mawr nesaf i ddatganoli yng Nghymru—yn wir, yn rhannau datganoledig y DU hefyd. Mae’r dyddiad pan fydd treth stamp y DU a threth tirlenwi yn cael eu disodli gan drethi yng Nghymru yn prysur agosáu, ym mis Ebrill 2018 ac yna gyda threth incwm yn rhannol yn 2019.

Prif Weinidog, mae atebolrwydd cynyddol wedi bod yn un o'r dadleuon allweddol o blaid datganoli treth, ond mae hyn yn dibynnu ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwy sydd â’r cyfrifoldeb hwnnw. A ydych chi’n cytuno â mi bod diffyg ymwybyddiaeth ymhlith rhannau helaeth o etholwyr Cymru allan yna, yn sicr y bobl yr wyf i’n siarad â nhw, ac nad yw hynny'n beth da yn y tymor canolig a'r hirdymor ar gyfer yr atebolrwydd hwnnw? Felly, a wnewch chi gytuno i edrych ar ffyrdd y gallwn ni gael ymgyrch codi ymwybyddiaeth gyflym dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, wrth i drethi gael eu datganoli i Gymru, fel y gall pobl yng Nghymru ddeall yn llawn pa drethi sy’n cael eu codi yma, beth sy'n cael ei wa—godi yn y DU a sut y gallwn ni symud ymlaen gyda'n gilydd?

Gallwn ddweud yn ddireidus ei fod wedi defnyddio’r gair 'gwastraffu' yn y DU, ond roedd yn golygu 'codi', rwy'n gwybod hynny. Mae'n gwneud pwynt da. Hynny yw, mae'n hynod bwysig bod pobl yn deall yr hyn sy'n digwydd yma a bydd cynllun cyfathrebu ar waith i hysbysu pobl am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd y flwyddyn nesaf ac yn wir yn y flwyddyn ganlynol. Mae'n hynod bwysig bod hynny’n cael ei wneud, nid yn unig drwy’r cyfryngau traddodiadol ychwaith. Gwelsom yn yr etholiad cyffredinol bod cyfryngau fel Facebook yn ôl pob tebyg yn fwy grymus na'r papurau newydd tabloid am y tro cyntaf erioed. Felly, bydd amrywiaeth eang o gyfryngau yn cael eu defnyddio i gyfleu’r neges.

Darpariaeth Oncoleg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth oncoleg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0668(FM)

Mae bwrdd iechyd addysgu Powys a bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i ddarparu gofal canser o’r ansawdd gorau a phrydlon i'w poblogaethau yn eu priod leoedd.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. A wnaiff ef ymuno â mi i longyfarch Elly Neville sy’n naw mlwydd oed ac sydd wedi codi £109,500 i gynorthwyo gwaith ar ward 10 yn ysbyty Llwynhelyg, lle cafodd ei thad driniaeth ar gyfer canser? Er fy mod i’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud llawer iawn i geisio lleihau amseroedd aros mewn ysbytai am driniaeth canser, rydym ni’n dal i fethu'r targed 62 diwrnod o gryn dipyn, ac mae hynny’n creu problemau anochel, fel fy etholwr arall y mae ei wraig yn brwydro canser am yr ail dro ac y mae ei chais am driniaeth wedi cael ei wrthod am yr ail dro gan y GIG yng Nghymru a chan arbenigwyr yn Llundain ac sydd wedi mynd i gael ei thrin yn breifat, ac yn hytrach na chael dim gobaith, fel a ddigwyddodd â’r GIG yng Nghymru, mae wedi cael y wybodaeth nawr bod modd trin ei chanser.

Gwn fod hon yn broblem anochel gydag adnoddau cyfyngedig, ond os gallwn ni ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen i drin pob achos trist o'r fath, nid ydym ni byth yn mynd i gael ein hwynebu gan y penderfyniadau anodd hyn yn y lle cyntaf, sy’n mynd i fod o fantais i bawb. Felly, a all y Prif Weinidog roi cipolwg i’r dyfodol i ni efallai o ran yr hyn y mae'n gobeithio y bydd ei Lywodraeth yn gallu ei gyflawni o ran lleihau’r amseroedd aros hyn a phenderfyniadau triniaeth ar gyfer canser yn ystod blynyddoedd nesaf y Cynulliad hwn?

Tri pheth: yn gyntaf oll, ym Mhowys, er enghraifft, mae'r perfformiad yn erbyn y llwybr 62 diwrnod wedi bod yn 100 y cant ar bum achlysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn Hywel Dda, gwelwyd mwy na 90 y cant o gleifion ar y llwybr 62 diwrnod yn unol â’r targed—mae wedi bod oddeutu 90 y cant ar chwe achlysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

O ran achos ei etholwr, mae'n anodd iawn i mi wneud sylwadau heb wybod mwy amdano. Mae croeso iddo, wrth gwrs, ysgrifennu ar ran ei etholwr os yw'n teimlo bod hynny'n briodol. Rwyf wedi cyfarfod Elly, felly rwy'n gwybod pa mor frwdfrydig ac egnïol yw hi, ac mae hi'n glod mawr i’w rhieni ac yn wir i Sir Benfro ac i Gymru.

Prif Weinidog, mae radiwm-223 yn offeryn hanfodol wrth ymladd canser y brostad cam 4. Mae wedi ei gymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Gofal ac wedi cael ei gyflwyno, rwy’n meddwl drwy'r gronfa triniaeth newydd, hyd yn hyn yn y gogledd. Fodd bynnag, ceir llaesu dwylo gwirioneddol yma yn y de. Nid yw ysbyty Felindre na Singleton yn barod i gynnig hyn eto. Mae'n feddyginiaeth niwclear, felly mae’n gofyn am baratoadau penodol. Fodd bynnag, dywedir wrthyf, pan ac os bydd Felindre yn gallu ei gynnig, y bydd ar gael wedyn i bobl yn y de-ddwyrain, ond ni fydd yn gallu derbyn cleifion a fydd yn dod o’r canolbarth a’r gorllewin. Wrth gwrs, rwy'n bryderus iawn am hynny, oherwydd mae nifer sylweddol o’m hetholwyr hefyd yn dioddef o ganser y brostad. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bawb yn y de fynd i Fryste i gael y driniaeth hon—nid yw honno’n achub bywyd, ond mae'n ymestyn bywyd, ac os mai eich bywyd chi yw hwnnw, rwy'n siŵr bod hynny y tu hwnt i fod yn bwysig.

A wnewch chi adolygu hyn os gwelwch yn dda, Prif Weinidog? A wnewch chi ystyried sut y mae’r gogledd wedi llwyddo i gyflwyno’r ffrwd hynod hanfodol hon o feddygaeth, pam nad yw'n digwydd yn y de, yr hyn y gallwn ei wneud i wneud yn siŵr bod Felindre a/neu Singleton yn cael y cyfle i’w gynnig, a phan fydd yma yn y de ei fod yn cael ei gynnig yn deg i bob un etholwr yng Nghymru, ni waeth ble mae’n byw?

Ni fydd unrhyw gwestiwn o bobl yn peidio â chael cynnig triniaeth mewn un rhan o Gymru os yw ar gael mewn rhannau eraill o Gymru drwy’r gronfa driniaeth newydd. Dyna y bwriedir i’r gronfa gael gwared arno—y loteri cod post. Mae’r gwaith o gyflwyno’r gronfa yn mynd rhagddo yn dda, ond nid yw mor gyson ag yr wyf yn dymuno iddo fod ar hyn o bryd. Rhoddwyd cyfarwyddiadau gan Ysgrifennydd y Cabinet i'r byrddau iechyd ei fod yn disgwyl i'r sefyllfa fod yn gyson, yn sicr erbyn diwedd yr haf, ac yna byddwn ar y pwynt lle bydd y loteri cod post wedi cael ei ddileu yn gyfan gwbl. Mae ar y ffordd i hynny digwydd nawr, ond dywedwyd wrth y byrddau iechyd yn eglur iawn bod hyn yn rhywbeth y bydd y Llywodraeth yn sicrhau ei fod yn cael ei wneud.

Strategaeth ‘Arloesi Cymru’

7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o strategaeth ‘Arloesi Cymru’? OAQ(5)0660(FM)

Cafodd ei chyhoeddi yn 2013, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus eang. Fe wnaeth Cymru yn fabwysiadwr cynnar o ddull arbenigo clyfar yr UE o arloesi, a chyfeirir ati’n rheolaidd gan Gyngor Cynghorol annibynnol Cymru ar Arloesi.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r tarfu ar y farchnad sy'n cyd-fynd â’r hyn a elwir yn eang y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn rhoi cyfle i ni ail-ddychmygu economi Cymru a’i gwneud yn fwy cydnerth i'r heriau sy'n cael eu rhyddhau gan rymoedd byd-eang. Mae angen diweddaru strategaeth gyfredol Arloesedd Cymru ac mae angen mwy o uchelgais arni yn wyneb hyn. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i gynnal adolygiad sylfaenol ar ble y ceir cyfleoedd yn y dyfodol, gan edrych yn benodol ar farchnadoedd sy'n dod i'r amlwg ac nid y rhai presennol yn unig, ac edrych y tu hwnt i fuddsoddi mewn seilwaith a chanolbwyntio ar ffyrdd mwy anniriaethol o hybu twf yn y maes hollbwysig hwn?

Mae adolygiadau rheolaidd yn bwysig, gan ein bod ni’n gwybod bod technoleg yn newid mor gyflym fel y gall pethau symud ymlaen yn gyflym iawn. Rydym ni’n sôn am arloesedd 4.0—ni fyddai neb wedi gwybod am hynny yn 2012, er enghraifft, felly mae e'n iawn fod angen cael adolygiadau. Mae e'n iawn fod angen i ni edrych ar ffyrdd newydd o greu swyddi. Mae’n rhaid i mi ddweud bod y seilwaith yn bwysig, er bod yn rhaid i ni ddiffinio seilwaith yn y ffordd ehangaf bosibl, ac mae hynny'n golygu, er enghraifft, cynnwys, fel yr wyf wedi ei wneud bob amser, band eang mewn seilwaith—mae honno’n ffordd o sicrhau y gall swyddi aros, er enghraifft, mewn cymunedau gwledig, lle byddent wedi diflannu fel arall. Yn sicr, fel Llywodraeth, rydym ni wedi ymrwymo i adolygu Arloesedd Cymru yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod y cynllun mor gyfredol ag y gall fod.

A wnaiff y Prif Weinidog ailystyried sut y mae strategaeth Arloesedd Cymru yn cefnogi clwstwr digidol yn y de-ddwyrain, ac, yn arbennig, adolygu beth arall y gellid ei wneud i gefnogi ymchwil a datblygu trawsffiniol, o ystyried pwysigrwydd cynyddol economi Bryste ym maes technoleg ddigidol?

Wel, mae clystyrau yn tueddu i ymddangos yn yr ardaloedd hynny lle ceir sgiliau i'w cefnogi eisoes, a hefyd lle mae busnesau sy'n bodoli yn yr ardal honno eisoes. Nid yw hynny’n golygu, wrth gwrs, na ellir eu creu mewn mannau eraill, ond maen nhw’n fwy anodd eu creu mewn ardaloedd lle nad yw’r sgiliau hynny ar gael i’r un graddau. Er hynny, byddem eisiau sicrhau bod y clystyrau sy'n cael eu creu yn gynaliadwy—eu bod nhw’n arbenigol—ac, wrth gwrs, byddem yn hyrwyddo gweithio trawsffiniol. Yn wir, byddem yn hyrwyddo gweithio ar draws Ewrop ac ar draws y byd, oherwydd yn y ffordd honno, wrth gwrs, gallwn fanteisio ar y gwaith ymchwil gorau a’r cyngor gorau hefyd wrth i ni geisio datblygu economi Cymru.

Mae yna ddau adroddiad wedi bod gerbron Gweinidogion ers dros flwyddyn nawr, rwy’n credu, gan yr Athro Kevin Morgan ac eraill yn awgrymu creu corff arloesedd cenedlaethol i Gymru, yn debyg i’r hyn sydd gan y gwledydd Sgandinafaidd. Rwy’n deall mai’r awgrym nawr sy’n cael ei ledu yw bod arloesedd yn hytrach yn cael ei roi fel cyfrifoldeb i’r corff addysg drydyddol newydd. Y perig gyda hynny, wrth gwrs, yw bod y dimensiwn addysg uwch yn cael ei briod le, ond hynny ar draul y math o faterion economaidd ehangach yr oedd Lee Waters yn cyfeirio atyn nhw.

Mae’n rhaid sicrhau bod yna gydbwysedd. Rŷm ni’n gwybod bod sgiliau yn y byd addysg uwch yn hollbwysig, yn enwedig, er enghraifft, gyda Wylfa Newydd. Hefyd, wrth gwrs, mae addysg bellach yn bwysig er mwyn bod y sgiliau—y sgiliau ymarferol—ar gael gan bobl er mwyn iddyn nhw allu cael swyddi. Rŷm ni yn deall bod y cydbwysedd hwnnw yn bwysig, ac, wrth gwrs, bydd hwn yn rhan o’r ffordd rŷm ni’n ystyried hwn yn y pen draw.

Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghwm Cynon

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0675(FM)

Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd yn 2015, yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith a gwasanaethau ar gyfer 2015-20 ar draws pob rhan o Gymru.

Prif Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi’n ddiweddar am annigonolrwydd cysylltiadau cludiant cyhoeddus rhwng Cwm Cynon a Chaerdydd ar y Sul, gydag, er enghraifft, gwasanaethau anaml yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, yn y brifddinas a dim ond ymhellach i lawr Cwm Cynon ei hun. O dan metro de Cymru, neu unrhyw fasnachfraint reilffyrdd ddiwygiedig yn y dyfodol, sut gallwn ni wneud yn siŵr nad yw hyn yn wir a bod cyfleoedd priodol ar gael i ddefnyddio cludiant cyhoeddus ar y Sul?

Mae'n hynod bwysig ein bod ni’n dechrau meddwl am y Sul fel diwrnod nad yw'n union fel unrhyw ddiwrnod arall, wrth gwrs, ond tebyg o ran patrymau gwaith pobl. Nid ydym yn wlad Sabathyddol mwyach ac mae pobl yn teithio ar y Sul, ac, yn aml iawn, nid yw'r rhwydweithiau cludiant cyhoeddus yn adlewyrchu hynny. Mae'n rhywbeth y byddwn yn myfyrio arno yn rhan o'r trafodaethau masnachfraint. Mae'n hynod bwysig bod pobl yn gallu teithio i'r gwaith ar y Sul, gan fod llawer o bobl yn gweithio erbyn hyn, yn enwedig yn y sector manwerthu, ar y Sul. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried yn rhan o'r broses o gyflwyno’r metro ac yn rhan o'r fasnachfraint.

Prif Weinidog, mae amlder a dibynadwyedd gwasanaethau yn hanfodol, ac o ran gwasanaethau Arriva, rwyf i wir yn meddwl bod angen i ni weld gwelliant sylweddol i arferion fel canslo gwasanaethau neu derfynu gwasanaeth hanner ffordd i fyny'r cwm. Os ydych chi eisiau mynd i Aberdâr, mae'n stopio yn Aberpennar ac mae'n rhaid i chi ddod oddi ar y trên ac aros am y trên nesaf. Mae'r rhain yn brofion pwysig iawn o wasanaeth, ac nid wyf yn credu bod y math hwnnw o wasanaeth yn dderbyniol.

Mae'n hynod bwysig bod pobl yn gallu teithio ar wasanaeth dibynadwy ac yn gyfforddus. Ceir llawer o achlysuron lle mae Aelodau wedi tynnu sylw at fethiant yn y gwasanaeth hwnnw dros y blynyddoedd. O'r flwyddyn nesaf, wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd hyn, ac rydym ni’n derbyn hynny. Dylai gyfrif ei hun yn ffodus nad oedd yn Llundain ddoe, lle y teithiais yn ôl ac ymlaen ar drên Great Western lle nad oedd unrhyw aerdymheru o gwbl. Pe byddwn i wedi mynd â phlanhigyn rwber gyda mi, byddai wedi ffynnu mewn tymheredd a oedd yn y 30au canol—canradd, hynny yw—ar y trên ei hun. Roedd hynny’n gwbl annerbyniol gan Great Western. Mae'n gwbl annerbyniol i unrhyw gwmni trenau weithredu yn y modd hwnnw. Dyna pam mae mor bwysig gyda'r masnachfreintiau newydd, wrth iddynt gael eu neilltuo, ein bod ni’n ystyried nid yn unig amlder, ond ein bod ni hefyd yn ystyried y cyfforddusrwydd y mae teithwyr yn ei brofi pan eu bod ar y trenau, er mwyn gwneud yn siŵr bod mwy o bobl yn defnyddio'r trenau.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Ceir sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i drefnu cynnig i neilltuo Cadeiryddion pwyllgorau i grwpiau gwleidyddol yn syth ar ôl y datganiad busnes. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad wedyn ar ddiogelwch rhag tân yng Nghymru, y camau sy'n cael eu cymryd yn dilyn tân Tŵr Grenfell. Wedi hynny, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar 'Brexit a Datganoli: Sicrhau Dyfodol Cymru'. Mae'r Pwyllgor Busnes hefyd wedi trefnu dau gynnig yfory i geisio cytundeb y Cynulliad ar weithdrefnau cyllid wedi’u diweddaru a phrotocol cyllideb newydd. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a welir yn y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Prynhawn da, arweinydd y tŷ. A gaf i ofyn i chi ymbil ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i ddod â'r datganiad yn ôl i'r Siambr ar nyrsys ysgol a ohiriwyd bythefnos yn ôl? Mae nyrsys ysgol yn chwarae rhan bwysig yn ysgolion Cymru, nid dim ond o ran ymdrin â mân anafiadau, ond hefyd drwy gynnig cyngor bugeiliol a gwybodaeth iechyd gyffredinol. Roedd nifer o weithwyr proffesiynol yn awyddus i ddarganfod cynnwys y datganiad hwn ac felly hefyd llawer o Aelodau'r Cynulliad. Mae'n fater hollbwysig. Rydym ni’n gwybod sut mae llawer o'n pobl ifanc yn dioddef â phroblemau iechyd meddwl, yn dioddef a materion fel gordewdra, a byddai gallu deall yn eglur sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gefnogi swyddogaeth nyrsys ysgol o ddefnydd i bob un ohonom ni. Byddai'n well gennyf i hwn, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ, fod yn ddatganiad llafar os yn bosibl, gan fy mod i’r credu fod hwn yn fater sy’n llwyr haeddu dadl.

Diolch yn fawr iawn, Angela Burns. Wrth gwrs, mae cydnabyddiaeth a chymeradwyaeth wedi ei rannu ar draws y Siambr hon, rwy’n credu, o’r swyddogaeth a'r cyfraniad y mae nyrsys ysgol yn ei wneud ledled Cymru ar bob lefel, o ran atal, ac iechyd a llesiant ein plant a'n pobl ifanc. Yn sicr, gwn y bydd cyfle i ddechrau, rwy'n siŵr, gyda chwestiynau yfory i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, ond yn amlwg mae hyn yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ystyried o ran cyfleoedd pellach.

Cynhaliais ddigwyddiad gofalwyr ifanc yn y Senedd ddydd Sadwrn, lle’r oedd presenoldeb da, yn bennaf o blith gofalwyr ifanc o bob rhan o Gaerdydd. Gwn eu bod nhw wedi dweud wrthyf yno eich bod chi’n gweithio ar system cerdyn fel y gall gofalwyr ifanc nodi mewn ysgolion neu mewn lleoliadau cymdeithasol eu bod yn ofalwr, fel y gallant gael triniaeth sy'n sensitif i'r hyn sydd ei angen arnynt. Ond, soniodd bron pob un o'r gofalwyr ifanc y siaradais â nhw am y ffaith os oes angen iddyn nhw gasglu presgripsiwn a’u bod nhw’n iau nag 16 oed, mewn sefyllfa frys—. Un o'r merched a oedd yno, mae ei thad yn seicotig ac roedd angen iddo gael meddyginiaeth ar frys, ond gwrthodwyd iddi gael y feddyginiaeth gan ei bod yn iau nag 16 oed. Dywedodd llawer ohonynt wrthyf eu bod yn teimlo nad oeddent yn cael eu parchu gan nad oeddent yn cael casglu’r feddyginiaeth. Nid oedden nhw eisiau ei defnyddio am unrhyw reswm arall, ac eithrio ei rhoi i'w hanwyliaid. Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru ystyried hyn a dod â datganiad yn ôl, i edrych a oes ffyrdd o fod yn fwy hyblyg ar gyfer y gofalwyr ifanc hynny sydd angen gwneud hyn am resymau gwirioneddol, ac i geisio cyfathrebu â nhw ynghylch yr hyn yr ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth, yn gyffredinol, dros ofalwyr ifanc yng Nghymru.

Mae Bethan Jenkins yn dod â phwynt pwysig iawn i'r Cynulliad y prynhawn yma o ran, rwy'n siŵr, pob un ohonom ni’n ymgysylltu ac yn cydnabod swyddogaeth gofalwyr wrth i ni edrych ar Wythnos y Gofalwyr. Ond, yn benodol, rydych chi’n canolbwyntio ar ofalwyr ifanc ac, wrth gwrs, mae eu hanghenion nhw’n gudd mor aml ac nid ydynt yn cael eu deall oni bai ein bod ni’n cael yr ymgysylltiad, nid yn unig ymgysylltiad gweithredol ysgolion—. Ac, yn wir, rydym ni eisoes wedi myfyrio ar swyddogaeth nyrsys ysgol, sydd yn berthnasol iawn, rwy’n meddwl, hefyd i’r pwynt yr ydych chi’n ei wneud yn enwedig o ran y cyfrifoldebau sydd gan y gofalwyr ifanc. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ei drafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog priodol o ran rhoi ystyriaeth i’r pwyntiau hynny.

Mae pobl wedi cael eu harswydo gan dân Tŵr Grenfell a methiant Llywodraeth leol a chanolog i sicrhau bod rheolaeth adeiladu ar waith. Roeddwn i’n meddwl tybed a allai'r Llywodraeth wneud datganiad ar sut y gallem ni adfer pwerau llywodraeth leol i allu archwilio pob adeilad newydd yn effeithiol, a rhai wedi’u hailwampio yn wir, er mwyn sicrhau eu bod yn addas i bobl fyw ynddynt, gan fod awdurdodau lleol wedi colli’r adnoddau a'r arbenigedd yn llwyr. Ac rwy’n arbennig o bryderus y gall contractwyr benodi eu harolygwyr adeiladu eu hunain o restr gymeradwy erbyn hyn, gan fod hynny’n amlwg yn agor cyfleoedd enfawr i anonestrwydd, a cheir llawer o achosion, mae gen i ofn, yr wyf i wedi clywed amdanynt yng Nghaerdydd lle nad yw adeiladau’n bodloni’r safon a hysbysebwyd ar eu cyfer.

Wel, yn amlwg, mae Jenny Rathbone yn codi pwynt pwysig iawn, y gwn y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet nid yn unig yn rhoi sylw iddynt, ond bydd cwestiynau pellach yn ei ddatganiad o ran, nid yn unig camau sy’n cael eu cymryd yn dilyn tân trasig Tŵr Grenfell, ond hefyd o ran yr adolygiadau y bydd yn rhaid eu cynnal ac, yn wir, cwmpas yr ymchwiliad cyhoeddus, sy'n cael ei lansio. Ond mae'n bwysig eich bod chi wedi codi'r pwynt heddiw.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar sefydlu tîm criced Cymru? Mae'n stori tylwyth teg a ddigwyddodd y penwythnos diwethaf. Ddydd Sul, enillodd dîm criced Pacistan, a oedd y tîm criced yn y safle isaf yn y byd, gwpan y byd ac roedd cryn dalentau. Daeth y bechgyn o ran anghysbell o'r wlad; nid oedd neb wedi clywed amdanyn nhw; doedden nhw ddim yn gyfarwydd â daear nac amodau Prydain na’r tywydd neu beth bynnag oedd hi. Ond collasant y gêm gyntaf ac wedyn fe wnaethon nhw guro India, De Affrica a phrif wledydd eraill y byd. Fe wnaethon nhw ennill y gystadleuaeth. Rwy’n meddwl os yw’r Alban, Iwerddon a gwledydd eraill yn cymryd rhan yn Twenty20 yr ICC a Chwpan Criced y Byd yr ICC, pam na allwn ni, Cymru? Rwy’n credu bod yr amser wedi dod i Gymru gael ei thîm criced ei hun i gystadlu ar lwyfan y byd. Mae angen i ni ehangu'r llwybr i chwaraewyr Cymru chwarae criced rhyngwladol. Yn fy marn i, byddai chwaraewyr o Gymru yn camu ar y maes i chwarae criced rhyngwladol dros Gymru o’r budd pennaf i’r gamp yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn, os gwelwch yn dda?

Wel, rwy’n meddwl bod gan Mohammad Asghar gryn dipyn o gefnogaeth ar draws y Siambr hon i ddatganiad ar griced i Gymru, felly byddaf yn gweld beth y gallaf i ei wneud gydag Ysgrifennydd y Cabinet.

Roedd hi’n Sul y Tadau ddydd Sul. Byddai miloedd o blant ledled Cymru wedi cael eu hatal rhag gweld eu tadau. A allech chi roi datganiad gan y Llywodraeth ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i alluogi’r ddau riant i gael gweld eu plant, gan y dylai rhywbeth wir fod yn cael ei wneud?

Gwn fod Mark Isherwood wedi siarad yn rymus iawn yr wythnos diwethaf am swyddogaeth tadau. Roedd hynny cyn Sul y Tadau, ac rydych chi’n codi pwynt pwysig, wrth gwrs, Neil McEvoy, ond mae hyn yn rhywbeth sydd yn amlwg iawn o fewn fframwaith ein system gyfiawnder, yn ogystal â pholisïau rhianta cadarnhaol.

A gaf i groesawu'r newid busnes i roi sylw i fater sydd heb ei ddatrys sef cadeiryddiaeth CCERA? Rydym ni wedi gwneud yn dda iawn, ac rwy’n canmol yr Aelodau sydd wedi cylchdroi drwy'r gadeiryddiaeth, ar ôl colli'r Cadeirydd am gyfnod byr, ond fel y mae unrhyw un yn gwybod pan fyddwch chi heb Gadeirydd am gyfnod hir, mae angen i chi orffwys eich coesau yn y pen draw. Bydd yn dda cael rhywun yn y prif safle yno.

Felly, fel un o grŵp bach ond wedi ei ffurfio’n berffaith o Aelodau Cynulliad Plaid Lafur a Chydweithredol Cymru, a bellach, yn amlwg, mae’r nifer fwyaf erioed o Aelodau Plaid Lafur a Chydweithredol y DU yn Senedd y DU wedi ymuno â ni, rydym ni’n awyddus i ddathlu Pythefnos y Mentrau Cydweithredol, sy'n arddangos y mudiad sy’n tyfu o fentrau cydweithredol ledled y DU ac, yn wir, ledled y byd. Felly, pa ffordd well i nodi hynny nag i ofyn am ddadl yma yn y Senedd, lle gallwn dynnu sylw at swyddogaeth economi gydweithredol y DU? Dadl a fyddai'n ein galluogi i drafod dewis amgen gwirioneddol sydd i’w ganfod yn yr economi gydweithredol, sydd bellach werth £35.7 biliwn yn y DU, gyda thros 226,000 o weithwyr mewn dros 6,000 o fentrau cydweithredol, yn cynnwys tai, trafnidiaeth, ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, gofal iechyd, gofal cymdeithasol, ynni adnewyddadwy a manwerthu, o fentrau cymunedol i fusnesau gwerth miliynau o bunnoedd. Byddai'n gyfle da i glywed bod ffordd wahanol, amgen a llwyddiannus o gyflawni busnes, lle mae’r cwsmeriaid a'r gweithiwr yn cael eu gwerthfawrogi, nid dim ond y fantolen a'r cyfranddalwyr.

Mae Huw Irranca-Davies yn tynnu sylw at y canlyniad da iawn o’r etholiad cyffredinol, sydd wedi golygu bod gennym ni fwy o Aelodau Seneddol Llafur a Chydweithredol Cymru, yn ymuno, wrth gwrs, ag Aelodau Plaid Lafur a Chydweithredol Cymru yma. Mae hwn yn bwynt pwysig iawn, nad yw'n cael ei rannu gan Lafur Cymru yn unig; gwn fod ysbryd cryf yn y Cynulliad hwn, nid yn unig o ran y Blaid Lafur, ond gyda chydweithwyr ym Mhlaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig, er nad wyf yn siŵr am y blaid yna draw yn y fan yna. Ond rwy'n credu bod y pwyntiau yr ydych chi’n eu gwneud yn bwysig iawn. Byddai’r cyfraniad o ran yr economi a’r cyfle i drafod hynny, rwy’n meddwl, i’w groesawu’n fawr, ac rwy’n gobeithio y byddai hynny’n cael ei groesawu ar draws bob rhan o’r Siambr hon. Felly, rwy’n meddwl y dylem ni gyflwyno dadl yn unol â hynny felly.

Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng ngoleuni'r sylwadau gan y Prif Weinidog sy’n ymddangos o fod yn nodi eu bod wedi ailgyflwyno’r targed PISA ar gyfer 2021, ar ôl ei honiad yng nghyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddydd Iau diwethaf? Rwy’n credu ei bod hi’n hanfodol bwysig bod pawb sydd â diddordeb mewn addysg yn gwybod pwy sy'n rhedeg addysg yma yng Nghymru. Ai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sy’n gyfrifol, ynteu’r Prif Weinidog yn diystyru Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan bennu nodau ac amcanion ar gyfer yr adran ac, yn wir, y system addysg yma yng Nghymru? Oherwydd rydym ni i gyd eisiau gweld gwelliant yn ein system addysg, ac rydym ni i gyd eisiau gweld cysondeb yn y gwelliant hwnnw, ond roedd yr hyn a welsom y prynhawn yma yn ddiffyg cysylltiad llwyr rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a phennaeth y Llywodraeth, y Prif Weinidog. Felly, a gawn ni ddatganiad i egluro yn union pwy sy'n rhedeg y system addysg yma yng Nghymru?

Rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi gwneud y sefyllfa’n gwbl eglur y prynhawn yma ac, a dweud y gwir, cawsoch dri chyfle i ofyn y cwestiwn ac ymatebodd, unwaith eto, i gadarnhau ei safbwynt. Sicrhau 500 yn 2021 yw targed Llywodraeth Cymru o hyd. Ac, wrth gwrs, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i ddweud mai un dangosydd diagnostig yn unig yw’r targed ymhlith llawer o rai eraill, fel perfformiad TGAU a chau'r bwlch cyrhaeddiad, categoreiddio ysgolion ac arolygiadau Estyn. Ond fe wnaeth y Prif Weinidog y sefyllfa yn hollol eglur.

3. Cynnig i Ddyrannu Cadeiryddion Pwyllgorau i’r Grwpiau Plaid

Yr eitem nesaf yw’r cynnig i ddyrannu Cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau plaid, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y cynnig yn ffurfiol—Jane Hutt.

Cynnig NDM6337 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2R ac 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:

(i) Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig—Llafur;

(ii) Y Pwyllgor Deisebau—UKIP.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau rhoi ar gofnod y prynhawn yma fy siom enfawr o ran y newidiadau sy'n digwydd o ran ail-neilltuo Cadeiryddiaeth pwyllgorau yn dilyn penderfyniad Mark Reckless i adael grŵp UKIP ac ymuno â grŵp Ceidwadwyr Cymru. Nawr, mae'r Llywydd [Torri ar draws.] Nawr, fe wnaeth y Llywydd hi’n gwbl glir— [Torri ar draws.] Fe wnaeth y Llywydd ei phenderfyniad yn gwbl glir bod Mark Reckless yn wir yn aelod o grŵp Ceidwadwyr Cymru, ac mae hynny'n golygu bod nifer aelodau'r wrthblaid yn 12 erbyn hyn ar gyfer grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, 11 ar gyfer Plaid Cymru, a phump ar gyfer UKIP. Fy marn i yw y dylai'r Cynulliad gydnabod a pharchu penderfyniad y Llywydd, ac, yn wir, penderfyniad yr Aelod i ymuno â grŵp gwleidyddol arall. Ac, felly, dylid neilltuo tri Chadeirydd pwyllgor i’r grŵp Ceidwadwyr Cymreig a dau Gadeirydd pwyllgor i Blaid Cymru, ac nid fel arall. Fodd bynnag, daeth yn amlwg yn y Pwyllgor Busnes y bore yma nad oedd y pleidiau gwleidyddol eraill yn y lle hwn yn rhannu fy marn i. Mae'n annerbyniol ac yn achos pryder a dweud y gwir bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu gweithredu yn y modd hwn. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn gwrthwynebu'r cynnig hwn fel mater o egwyddor, o gofio bod y newid arbennig hwn yn digwydd heb roi ystyriaeth briodol i gydbwysedd gwleidyddol cyfan y Cynulliad hwn. Yn wir, mae Rheol Sefydlog 17.2R yn nodi yn gwbl glir, ac rwyf yn dyfynnu:

‘Pan fydd swydd cadeirydd yn dod yn wag:

(i) rhaid i’r Pwyllgor Busnes ystyried effaith y swydd wag honno ar gydbwysedd cadeiryddion y pwyllgorau o ran y grwpiau gwleidyddol’.

Felly, mae'n amlwg bod y penderfyniad i ganiatáu i Blaid Cymru barhau â thri Chadeirydd pwyllgor o’i gymharu â’n dau ni yn torri’r Rheol Sefydlog honno. Nid yw'n iawn bod gan wrthblaid yn y sefydliad hwn sydd â llai o aelodau erbyn hyn, fwy o gadeiryddion pwyllgor, a gallai hyn gael goblygiadau difrifol ar gyfer y sefydliad hwn yn y dyfodol. Mae hyn yn anfon neges nad oes gwahaniaeth faint o Aelodau sydd gan eich grŵp chi yn y lle hwn, y cyfan sy'n bwysig yw eich gallu i daro bargen heb ystyried unrhyw gydbwysedd gwleidyddol. Os caiff y cynnig hwn ei dderbyn—[Torri ar draws.] Os caiff y cynnig hwn ei dderbyn heb roi ystyriaeth briodol i'r cydbwysedd gwleidyddol cyfan, yna mae’n amlwg erbyn hyn nad yw dwy ran o dair o'r Cynulliad bellach yn—

Rwyf eisiau i'r safbwyntiau gael eu clywed. Paul Davies. Mae hynny'n golygu byddwch yn dawel, yn y bôn.

Diolch, Llywydd. Os caiff y cynnig hwn ei dderbyn heb roi ystyriaeth briodol i'r cydbwysedd gwleidyddol cyfan, yna mae hi wedi dod yn amlwg bod dwy ran o dair o'r Cynulliad nad ydynt bellach yn cefnogi Cynulliad cytbwys sy'n adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol ei Aelodau. Felly, i gloi, Llywydd, rwyf yn credu bod hwn yn ddiwrnod trist iawn yn wir i’r Cynulliad Cenedlaethol a'i weithrediadau. Rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraethau a rheolwyr busnes yn y dyfodol yn penderfynu adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y sefydliad hwn wrth gydlynu busnes y Cynulliad, fel y gall pobl Cymru fod yn gwbl ffyddiog bod y Cynulliad yn gweithio mewn modd agored, tryloyw, a democrataidd.

Yfory, mae cynnig gan Blaid Cymru sy’n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynnu cael ei gydnabod fel senedd genedlaethol Cymru—ac eithrio, mae’n ymddangos, o ran mabwysiadu ymagwedd gyson tuag at Reolau Sefydlog, yn enwedig pan eu bod yn anghyfleus—[Torri ar draws.] Yn enwedig pan eu bod yn anghyfleus i Blaid Cymru—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf?

[Yn parhau.]—ymdawelwch. Dim ond newydd ddechrau ar ei araith y mae’r Aelod. Ewch ymlaen, Mark Reckless.

Mae'r cynnig, Llywydd, yr ydych wedi ei roi gerbron yn cynnig y dylem weithredu yn unol â Rheolau Sefydlog 17.2R a 17.2A, ond beth am Reol Sefydlog 17.2B? Mae honno’n datgan:

‘Wrth gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A, rhaid i'r Pwyllgor Busnes roi sylw i’r angen i sicrhau bod cydbwysedd y cadeiryddion ar draws y pwyllgorau yn adlewyrchu'r grwpiau gwleidyddol y mae'r Aelodau yn perthyn iddynt.’

Os caiff y cynnig hwn ei dderbyn heddiw, ni fydd hynny'n wir. Mae gan y grŵp hwn 12 o aelodau, mae gan y grŵp yna 11 o aelodau. Eto i gyd mae ganddyn nhw ddau Gadeirydd, ac mae gennym ni dri. Mae hynny’n amlwg yn torri Rheol Sefydlog 17.2.

Mae gennym hefyd Bwyllgor Busnes a ddylai fod yn gwneud penderfyniad ar y cynnig hwn, ac eto onid y gwirionedd yw bod y cyfarfod hwnnw o’r Pwyllgor Busnes wedi ei atal er mwyn i gynrychiolwyr Plaid Cymru a Llafur allu mynd allan o’r ystafell a chytuno â’i gilydd ar yr hyn y dylai'r cynnig fod, ac yna bod y penderfyniad hwnnw wedi ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Busnes? Dylem gymhwyso ein Rheolau Sefydlog, dylem eu cymhwyso'n gyson, ac os mai’r gwirionedd yw y bydd Plaid Cymru a Llafur yn cafflo bargen—nid rhwng ei gilydd, yn unol â’u busnes priodol eu hunain, sut bynnag a phryd bynnag y maent yn dymuno, ond yn unol â Rheolau Sefydlog y Cynulliad hwn, a thorri’r rheini heb roi unrhyw ystyriaeth i’r hyn y mae rheolau’r sefydliad hwn yn ei ddweud, yna sut y gallwch chi gyflwyno’r cynnig hwnnw yfory, gan honni y dylem ni gael ein hystyried fel senedd genedlaethol Cymru, pan eich bod yn ymddwyn yn y fath fodd?

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill ar gyfer y cynnig hwn. A, chyn i mi symud ymlaen i ofyn am bleidlais ar hyn, mae angen i mi ddweud bod, yn ystod ein trafodaethau ers i swydd y Cadeirydd ddod yn wag ar 6 Ebrill—. Yn ystod ein trafodaethau yn y Pwyllgor Busnes, mae darpariaethau perthnasol y Rheolau Sefydlog, ein Rheolau Sefydlog ni, wedi eu gwneud—sicrhawyd bod holl aelodau'r Pwyllgor Busnes yn ymwybodol o'r darpariaethau hynny. Ac rwyf wedi annog yr Aelodau i ddod i gytundeb cyn gynted ag y bo modd ynghylch sut y dylai'r swydd wag gael ei llenwi. Ar ôl nifer o drafodaethau yn y pwyllgor, dros gyfnod o wythnosau—ac, rwy'n siŵr, y tu allan i'r pwyllgor hefyd—mae’r cynnig sydd ger eich bron y prynhawn yma yn cynrychioli’r cynnig sydd â’r gefnogaeth drawsbleidiol fwyaf.

The proposal, therefore, is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting on this motion until voting time.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

4. 3. Datganiad: Diogelwch Tân yng Nghymru—Y Camau sy’n Cael eu Cymryd yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar ddiogelwch tân yng Nghymru, a’r camau sy’n cael eu cymryd yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell. Ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Carl Sargeant.

Diolch i chi, Llywydd. Mae pawb, wrth gwrs, wedi dychryn o achos y tân trychinebus yn Nhŵr Grenfell yng ngorllewin Llundain yr wythnos diwethaf. Ar ran Llywodraeth Cymru ac, rwy'n siŵr, bawb yn y Cynulliad, hoffwn i estyn fy nghydymdeimlad dwysaf â’r rhai a gafodd eu heffeithio ganddo.

Mae pawb yn awyddus i ddeall yr hyn a ddigwyddodd a sut i'w atal rhag digwydd eto. Mae hyn yr un mor wir yng Nghymru ag unrhyw le arall, ac rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi ac yn gweithredu arnyn nhw. Byddwn yn mynd i’r afael â hyn yn drylwyr ac yn gynhwysfawr. Fodd bynnag, mae rhai o'r gwersi hynny eisoes yn weddol glir. Adeiladwyd adeiladau fel Tŵr Grenfell fel bod modd cadw tân mewn un fflat unigol ac felly ei ddiffodd cyn iddo ymledu. Mae hyn yn nodwedd ddiogelwch hanfodol ar gyfer trigolion sy’n byw mewn adeiladau uchel. Methiant trychinebus hyn yn Nhŵr Grenfell oedd i gyfrif am y canlyniad trychinebus. Er bod yn rhaid i ni aros am ganfyddiadau'r ymchwiliad tân, mae'n ymddangos mai achos uniongyrchol y methiant hwnnw o bosib oedd y cladin hylosg a ddefnyddiwyd y tu allan i'r adeilad. Unwaith i’r tân ledaenu i'r cladin, nid oedd llawer y gallai brigâd dân Llundain ei wneud i’w reoli.

Rydym ni felly wedi cwblhau rownd gyntaf o drafodaethau brys gyda phob landlord cymdeithasol preswyl yng Nghymru. Rhyngddyn nhw, maen nhw’n berchen ar 36 bloc o fflatiau saith llawr neu uwch. Mae landlordiaid cymdeithasol wedi dweud wrthym ni nad yw’n ymddangos bod unrhyw un ohonynt yn cynnwys y math o gladin a ddefnyddiwyd yn Nhŵr Grenfell. Mae systemau chwistrellu wedi eu hôl-osod mewn saith bloc yng Nghymru ac, wrth gwrs, pan gaiff unrhyw flociau preswyl aml-lawr uchel newydd neu rai wedi’u haddasu eu datblygu yma, o dan y newidiadau a gyflwynwyd fel rhan o'r Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, byddai angen iddyn nhw gynnwys systemau chwistrellu. Cafodd y gofynion eu cyflwyno ar gyfer fflatiau a thai ar 1 Ionawr 2016.

Bydd gosod systemau chwistrellu mewn tai newydd ac yn rhan o raglenni adnewyddu, fel y gwnaed eisoes gan rai cynghorau a chymdeithasau tai yng Nghymru, yn gwneud llawer i leihau’r risg o farwolaeth ac anafiadau o ganlyniad i dân. Rwy'n gobeithio bod hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd uniongyrchol i drigolion yr adeiladau hynny. Nid hynny, fodd bynnag, yw diwedd y mater, ac yn sicr nid oes rheswm i fod yn hunanfodlon. Nid un achos yn unig sydd i dân neu unrhyw drychineb arall ar y raddfa hon. Mae’n debyg y bu cadwyn gyfan o fethiannau a arweiniodd at ddigwyddiadau yr wythnos diwethaf. Gall y rhain fod wedi cynnwys sut cafodd yr adeilad ei ddylunio a’i adnewyddu, achos uniongyrchol y tân, sut y rhoddwyd gwybod am y tân a hygyrchedd y safle i ddiffoddwyr tân.

Mae angen dadansoddi a deall hynny i gyd os ydym ym mynd i atal trychinebau tebyg yn y dyfodol, boed hynny mewn tyrrau uchel o fflatiau cymdeithasol neu yn wir mewn adeiladau eraill. Rydym felly yn sefydlu grŵp arbenigol, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector tai cymdeithasol a’r sector tân dan gadeiryddiaeth fy mhrif gynghorydd tân ac achub. Bydd yn archwilio pob un o'r gwersi sy’n deillio o drychineb Tŵr Grenfell ac yn eu cymhwyso i Gymru. Bydd hefyd yn ystyried pa mor barod yr ydym ni i fynd i’r afael â digwyddiad o'r fath os yw'n digwydd. Rydym wedi dangos yn glir fod gennym ni’r gallu i weithredu cynlluniau wrth gefn, yn fwyaf diweddar yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Ond byddai ymateb i drychineb ar raddfa Tŵr Grenfell yn fater hollol wahanol. Felly, unwaith eto, mae angen i ni wneud yn siŵr y gallwn wneud hynny, a bod gwersi’n cael eu dysgu o'r digwyddiadau yn Llundain.

Ar yr un pryd, rwyf i a’m swyddogion yn trafod yn rheolaidd â swyddogion cyfatebol yn Lloegr a'r Alban i sicrhau ein bod yn cyfuno gwybodaeth ac yn rhannu’r hyn yr ydym ni’n ei ddysgu. Nid yw’r broses hon ond megis dechrau, a bydd yn cymryd peth amser cyn y daw’r gwir llawn am yr hyn a ddigwyddodd yn Nhŵr Grenfell yn hysbys. Fodd bynnag, mae fy nghydweithwyr a minnau yn gwbl ymrwymedig i weithredu ar y canfyddiadau, gan wneud popeth y gallwn ni yn y cyfamser i gadw pobl Cymru yn ddiogel rhag tân. Llywydd, byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Cynulliad wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Llywydd, a gaf i ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet i estyn ein cydymdeimlad dwysaf â phawb sydd wedi colli anwyliaid ac i ddweud bod y dioddefwyr yn ein meddyliau a'n gweddïau ar hyn o bryd? Roedd tân Tŵr Grenfell yn wirioneddol ofnadwy ac mae'n rhaid iddo arwain at adolygiad cynhwysfawr o reoliadau diogelwch tân. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am wneud datganiad mor brydlon? Rwy'n gwbl grediniol mai dyna oedd y ffordd briodol o symud ymlaen. Hoffwn i godi ambell beth sydd angen craffu arnyn nhw yn fy nhyb i, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n siŵr, yn gwneud hynny naill ai y prynhawn yma neu yn sgil yr amrywiol ymholiadau sydd bellach ar y gweill.

Deallaf gan Gartrefi Cymunedol Cymru fod systemau chwistrellu wedi eu gosod yn hanner blociau tŵr eu haelodau a adeiladwyd yn y 1960au. Mae hyn yn golygu, felly, nad oes system o’r fath yn yr hanner arall. Ond rwy’n sylwi, o'r wybodaeth a gefais i o Gaerdydd, fod systemau chwistrellu weithiau mewn llithrennau sbwriel ac nid mewn mannau eraill. Felly, rwy’n credu bod angen edrych ar hyn. Efallai bod chwistrellwyr mewn adeiladau, ond mae angen i ni fod yn sicr eu bod nhw hefyd ble mae angen iddyn nhw fod yn yr adeiladau hynny.

A gaf i gyfeirio at gladin ac inswleiddio? Mae angen sicrwydd arnom y bydd unrhyw gladin yn gallu gwrthsefyll tân. Rydym yn amlwg yn ceisio symud tuag at ddefnyddio cladin ar gyfer cynifer o adeiladau ag y bo modd i gwrdd â gofynion ynni newydd. Ond rwy'n siŵr bod llawer o bobl wedi synnu mai nam yn y deunydd cladin neu sut roedd y cladin wedi’i osod oedd yr achos o bwys yn y drasiedi hon. Rwy'n siŵr y bydd hynny yn sioc ac yn syndod i lawer o bobl. Felly, rwy’n credu bod angen cynnal archwiliad ar unwaith o’r deunyddiau hyn a sut maen nhw wedi eu gosod.

Gwn ein bod wedi cael gwybod gan gyngor Caerdydd a Chartrefi Cymunedol Cymru ac ati bod deunyddiau inswleiddio o ansawdd uchel wedi cael eu defnyddio yn gyffredinol, megis Rockwool. Ond eto i gyd, mae’r mater o’u gosod nhw ac mae angen i ni wybod nad yw deunyddiau annigonol yn bresennol rhywle yn ein stoc tai.

A gaf i droi at gynllunio? Roeddwn yn falch o glywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i edrych ar y modd y mae awdurdodau lleol yn datblygu a chynllunio. Mae'n amlwg bod angen i’w cynlluniau brys fod yn gadarn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi dilyn y newyddion a chlywed y feirniadaeth am ddiffygion yr ymateb cychwynnol. Mae rhai o'r methiannau, rwy’n credu, wedi digwydd oherwydd na chynlluniwyd yn llawn ar gyfer trychineb ar y fath raddfa. Gallwn ni ddeall, mae'n debyg, mewn rhai ffyrdd, nad yw pobl yn awyddus i wneud y paratoadau hyn, ond, wrth gwrs, mae’n rhan o ddyletswydd yr awdurdodau dinesig i fod yn barod am bosibiliadau ofnadwy fel hyn. Ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn cynnwys preswylwyr a gwirfoddolwyr yn y ffordd y mae'r gymuned a'r awdurdodau yn ymateb.

Trof yn awr yn fyr at reoli adeiladu. Unwaith eto, rwy’n gobeithio y bydd y grŵp arbenigol sydd wedi ei sefydlu—ac rwy’n croesawu hyn, gan fy mod yn credu, unwaith eto, ei fod yn beth priodol i'w wneud—yn gallu edrych ar reolaethau a safonau adeiladu. Mae'r rhain yn safonau gofynnol ac mae angen eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd. Mae'n bwysig iawn gwybod, o ran y deunyddiau a sut y cânt eu gosod, sut mae rheoliadau adeiladu yn gweithredu'n effeithiol. Mae rheoliadau adeiladu yn system sy'n seiliedig ar gydymffurfiaeth ac nid ar arolygu—pwynt y cyfeiriwyd ato'n gynharach. Rwy'n credu, unwaith eto, bod angen sicrwydd arnom ni fod hyn yn ddigonol. Mae rhoi’r cyfrifoldeb ar y rhai sy'n ymgymryd â'r gwaith neu'r adeilad am y tro cyntaf yn creu gwendid yn y system os nad oes, o leiaf drwy ddewis a dethol, beth gobaith o arolygiad fel y gallwn fod yn sicr y caiff cydymffurfio ei weld fel system sy'n gallu gweithio’n gyffredinol.

Rwy’n croesawu'r datganiad pellach y mae am ei wneud, ac a gaf i eich annog i roi’r datganiad ar lafar? Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'r sgyrsiau y cawsom ni y tu allan i’r Cyfarfod Llawn. Yn gyntaf oll, o ran y chwistrellwyr a’u gosod a pha mor briodol ydyn nhw. Fel mae’r Aelod yn gwybod, fe gyflwynom ni Fesur ar gyfer adeiladau newydd ac ôl-osod chwistrellwyr mewn adeiladau hŷn. Gosodwyd chwistrellwyr eisoes mewn rhai o'r blociau aml-lawr. Bydd hynny'n rhan o'r ymchwiliad gan y tîm a'r prif swyddog tân, i weld beth yw hyd a lled y ddarpariaeth honno, yn enwedig yn y bloc aml-lawr ar hyn o bryd. Rwy’n credu, yr hyn yr wyf i'n gobeithio gallu ei wneud yw rhaglen asesu mewn dwy ran. Felly, lle mae gennym ni risg fawr yn achos blociau aml-lawr o fflatiau fel y bloc tŵr yn Llundain, rydym yn mynd i gynnal ymchwiliad cyflym iawn i’r rheini, ac yna symud ymlaen i adeiladau eraill lle mae peth risg hefyd, ond lle mae’r peryg yn llai.

O ran cladin, mae arwyddion cynnar, fel y dywedais yn gynharach, yn dangos nad yw cladin tebyg i hwnnw a ddefnyddiwyd yn fflatiau Tŵr Grenfell wedi ei osod ar unrhyw adeilad. Fodd bynnag, oherwydd pryderon ac i roi sicrwydd ychwanegol, bydd y rhain i gyd yn cael eu harolygu ac rwyf hefyd wedi cyfarwyddo fy nhîm—credaf mai dim ond 18 o samplau sydd eu hangen—bod 18 o samplau yn cael eu tynnu a'u profi gan yr asiantaethau priodol i roi sicrwydd i ni o hynny. Mae arolygu ac ansawdd yn brosesau pwysig o ran rhoi hyder i drigolion.

Nid wyf yn credu bod y systemau sydd ar waith yn yr un cyflwr â’r rhai mewn rhai awdurdodau yn Lloegr. Rwy’n credu ein bod ni ar flaen y gad, ond nid ydym yn hunanfodlon. Rwy'n credu bod gennym ni lai o stoc, ac felly gallwn ni reoli hynny mewn ffordd wahanol. Ond mae'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol yn awyddus iawn i sicrhau eu bod yn rhoi adborth ar hynny.

O ran rheoliadau adeiladu, mae Lesley Griffiths a minnau yn rhannu’r gwaith hwn. Lesley Griffiths sy’n rheoli rheoliadau adeiladu, ond rydym ni’n cydweithio'n agos iawn o ran gwneud yn siŵr bod rheoliadau adeiladu a thystysgrifau diogelwch yn briodol, a byddwn yn edrych ar hynny yn rhan o'r adolygiad. Bydd y prif swyddog tân yn adrodd ar hynny. Byddaf, fel y dywedais yn y datganiad, yn gwneud datganiad manwl pellach ar ôl i ni gael rhywfaint mwy o wybodaeth gan Lywodraeth y DU.

Hoffwn i hefyd estyn fy nghydymdeimlad â’r rhai a gollodd eu bywydau yn yr amgylchiadau trasig. Hoffwn i hefyd ganmol y gwirfoddolwyr o Gymru a oedd yn y cyfryngau heddiw ac sydd wedi mynd i helpu’r rheini yn Grenfell, a hoffwn i annog hynny. Pan allwn weld bod trasiedi ddynol mewn gwlad arall, yna fe ddylem ni geisio helpu eraill. Dyna fy marn i. Ond mae hefyd yn neges i bawb ohonom fod angen i ni fod yn rhagweithiol yn y materion hyn, ac na ddylem ni fod yn adweithiol gyda materion fel diogelwch. Mae'n bwysig ein bod ar flaen yr agenda wleidyddol yn hyn o beth.

Mae llawer o fy sylwadau neu gwestiynau mewn cysylltiad â'ch ymgynghoriad ar y ddogfen 'Diweddariad ynglŷn â Rheoliadau Adeiladu – Dogfennau Cymeradwy A, B ac C' ers y llynedd. Mae Rhan B yn ymwneud â diogelwch tân yn benodol. Yn yr ymgynghoriad hwnnw, nodwyd bod yr ymgynghoriad arfaethedig yn cynnig, ac rwy’n dyfynnu, yr un newidiadau a wnaed gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Lloegr. Nododd yr asesiad effaith yn Lloegr fanteision sylweddol. Un o’r rhain oedd llai o gostau i ddatblygu ac i weithgynhyrchwyr, ynghyd ag effeithlonrwydd ynni ac arbedion carbon. Nawr, a allwch chi ddweud wrthyf i eich bod yn hollol fodlon nad yw'r arbedion hyn yn cyfaddawdu diogelwch yn Lloegr ac na fydden nhw’n peryglu diogelwch yma yng Nghymru? Rydym ni’n gwybod, weithiau, bod y costau yn ymddangos yn bwysicach na phethau eraill, ac, yn yr achos hwn, fel y gwyddom ni o'r achlysur hwn, ni ddylai ddod o flaen diogelwch.

Mae'r adrannau sy'n ymwneud â goleuadau yn nodi bod peth problemau, gan fod rhai mathau o oleuadau yn fwy tebygol o achosi tân, ac eto yn fwy effeithlon o ran ynni, ac rwy’n dyfynnu:

'Mae hyn yn creu gwrthdaro cynyddol rhwng y darpariaethau ar gyfer diogelwch tân a’r rhai ar gyfer effeithlonrwydd ynni.'

A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r rheoliadau ac unrhyw gynlluniau yn ymwneud â gosod goleuadau diogelwch yn benodol? Yn yr ymgynghoriad penodol hwn, hefyd, ymatebodd y Llywodraeth gan ddweud ei bod yn aros am ganlyniadau o brosiect y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch rheoleiddio mwg a nwyon gwenwynig cyn gwneud unrhyw ddiwygiadau ynglŷn â rheoleiddio hyn. A yw eich safbwynt wedi newid bellach ar y mater penodol hwnnw?

Fel y soniwyd yn gynharach, mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran darparu system chwistrellu i ryw raddau, ac fe wn i fod Ann Jones yn haeddu clod am hynny. Rydym ni’n gwybod, fel y mae David Melding wedi dweud, bod awdurdodau tai yn gosod systemau chwistrellu mewn sawl ardal, ac mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi ein diweddaru. Ond mae hyn yn dal heb ddigwydd mewn llawer lle ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. Felly, oes gennych chi unrhyw gynlluniau i gryfhau rheoliadau ynghylch gosod chwistrellwyr, ac a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau ynghylch sicrhau mwy o arian er mwyn gwneud hynny mewn adeiladau hŷn?

Fe wnaethoch chi ddod i’r pwyllgor cymunedau fis Medi diwethaf ac fe holon ni chi yno, ac fe ofynnais i chi’n benodol am reoliadau diogelwch o ran tanau oherwydd peiriannau neu ddyfeisiau, oherwydd bu cynnydd mewn tanau o’r fath. Nodwyd hefyd y bu Electrical Safety First yn eich lobïo ers peth amser ynghylch hyn. Fe wnaethoch chi awgrymu i'r pwyllgor nad oeddech chi’n gweld bod angen deddfwriaeth oherwydd bod rhai agweddau wedi'u cynnwys yn flaenorol fel rhan o'r Mesur Tai ehangach. Fel rhagbaratoad—ac fel y soniais ar ddechrau’r datganiad hwn —i geisio bod yn rhagweithiol, a fyddwch chi nawr yn ymrwymo i edrych ar sut o bosib mae angen newid diogelwch trydanol a'r peryglon sy'n gysylltiedig â thanau yn ymwneud â pheiriannau neu ddyfeisiau, neu a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud o ran gwell rheoleiddio?

Nodaf y bydd ymchwiliad yn Llundain, wrth gwrs, a byddai gennyf ddiddordeb gwybod, pan sefydlir rhychwant yr ymchwiliad hwnnw, sut y byddwch chi’n cyfrannu at yr ymchwiliad o safbwynt Cymru. Nodaf hefyd fod yr Alban wedi sefydlu ei adolygiad ei hun. Pam y gwnaethoch chi ddewis grŵp arbenigol yn hytrach na chynnal adolygiad cynhwysfawr yng Nghymru. Deallaf y byddant yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd wahanol, ond allwch chi fy sicrhau i ynghylch pam nad ydych chi wedi penderfynu gwneud adolygiad yn ei hawl ei hun ac o ran ei hun, a sut y bydd y grŵp arbenigol hwn yn ystyried y materion mewn perthynas â'r ymgynghoriad hwn? Oherwydd, yn bersonol, wn i ddim beth sydd wedi digwydd i lawer o'r materion a godwyd yn yr ymgynghoriad ar y diweddariad ynghylch rheoliadau adeiladu, ac nid wyf yn meddwl y gallwn ni nawr orffwys ar ein rhwyfau. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod hyn yn dod yn flaenoriaeth wleidyddol, efallai mewn amgylchiadau trasig, ie, ond fe all hynny atal unrhyw beth fel hyn rhag digwydd byth eto, a gwneud yn siŵr yn ogystal, bod tenantiaid yn teimlo eu bod yn cael gwrandawiad teg. Oherwydd rwy’n credu, o wylio'r newyddion, mai dyna oedd un o’r pryderon ymddangosiadol mwyaf—roedd tenantiaid wedi codi pryderon. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ni fodd i alluogi tenantiaid i deimlo y gallan nhw wneud y cwynion hynny heb deimlo y byddan nhw’n cael eu collfarnu mewn unrhyw ffordd. Maen nhw ond yn codi’r pryderon hynny er eu diogelwch eu hunain ac er diogelwch eu cymdogion.

Wrth gwrs, ac rwy’n diolch i'r Aelod am ei chwestiynau adeiladol. O ran y cwestiynau manwl ar y rheoliadau adeiladu yn benodol, dyna faes Lesley Griffiths. Beth wna’ i yw gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi, ond rhoi copi o'r ymatebion hynny yn y llyfrgell ar gyfer Aelodau hefyd.

O ran tân a chymhwyso tân, roedd yr hyn a ddigwyddodd yn Nhŵr Grenfell yn drasig. Ni wyddom ni eto sut y dechreuodd y tân yno, ond yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod tanau yng Nghymru wedi gostwng dros 50 y cant ers datganoli'r gwasanaeth tân. Felly, mae tanau’n digwydd yn llai aml yma, er gwaethaf y digwyddiadau trasig yno. Mae angen i ni ddysgu gwersi o hynny, a pha un ai a oedd hynny oherwydd offer neu rywbeth arall, mae’n rhaid i ni barhau i aros i weld beth yn union achosodd y tân a beth barodd i'r tân ledu mor sydyn yn strwythur yr adeilad.

Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod preswylwyr yn cael lleisio barn ar ansawdd eu stoc dai a'u perthynas â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol, a byddaf yn sicrhau bod hyn yn parhau. Rwy'n credu bod gennym ni, unwaith eto, berthynas wahanol iawn—beth sy’n digwydd yng Nghymru a beth sy'n digwydd yn Lloegr.

O ran y gyfundrefn archwilio y gofynnais i fy mhrif swyddog tân a’r tîm i edrych arni, mae hwn yn waith penodol iawn ar y blociau fflatiau saith llawr neu uwch. Ar hyn o bryd, mae 31 o ohonyn nhw, felly bydd modd cwblhau’r gwaith yn gyflym iawn. Siaradais â'r Gweinidog tai yn San Steffan brynhawn dydd Sadwrn, ac fe siaradais i â Gweinidog yr Alban bore ddoe, ac rydym ni’n cydweithio ar ddarn o waith ynglŷn â sut y gallwn ni rannu’r wybodaeth hon. Nid wyf yn credu ei bod yn gwneud unrhyw synnwyr i ni wneud tri darn o waith ar wahân. Mae’r gwaith rydw i wedi cychwyn arno yn ymwneud â'n stoc arbennig ni. Bydd felly yn cyfrannu at yr egwyddor gyffredinol o'r hyn yr ydym yn cydweithio i’w gyflawni, ond byddaf yn hysbysu’r Aelodau o’r hyn sy’n digwydd.

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Oedd, roedd hon yn drychineb fawr. Fe hoffwn i hefyd estyn fy nghydymdeimlad. Fel y dywedwch chi, y peth pwysicaf yw ein bod yn dysgu gwersi oddi wrthi ac yn sicrhau nad yw dim byd fel hynny yn digwydd yng Nghymru yn y dyfodol. Rwy'n meddwl bod y ffordd y gwnaethoch chi sefydlu’r grŵp arbenigol mor gyflym i'w groesawu. Mae sawl sylw wedi eu gwneud. Gwnaeth Bethan bwynt dilys iawn bod yna dystiolaeth i’r grŵp tenantiaid yn Llundain rybuddio am dân yn flaenorol, felly roeddwn yn meddwl tybed a oedd unrhyw ffordd, efallai, o reoleiddio'r trefniadau lle mae grwpiau tenantiaid yn rhyngweithio gyda'u landlordiaid, cymdeithasau tai neu awdurdodau lleol. Tybed beth oedd eich barn am hynny.

Mae’n ymddangos bod anghysondebau ynghylch darparu systemau chwistrellu mewn blociau hŷn. Yn ôl pob golwg, mae gan Abertawe a Sir y Fflint systemau chwistrellu eisoes, ond does gan Caerdydd ddim. Felly, dydw i ddim yn siŵr pam fod gwahaniaeth, ond efallai bod angen mynd i'r afael â hynny.

Agwedd arall oedd llety myfyrwyr, oherwydd mae neuaddau preswyl mawr i fyfyrwyr wedi eu hadeiladu yn ddiweddar yng Nghaerdydd, ac mae'n debyg yn Abertawe a Chasnewydd hefyd. Wn i ddim a fyddai unrhyw un ohonyn nhw’n cael eu cyfrif yn y categori blociau aml-lawr neu a oes angen edrych ar y ddarpariaeth sydd ganddyn nhw yn yr adeiladau hynny.

Wn i ddim a yw Jenny Rathbone yn siarad yn yr un yma, felly fe ddychwelaf at y pwynt a wnaeth yn gynharach, oedd yn bwynt penodol iawn am adfer grymoedd llywodraeth leol mewn perthynas ag arolygiadau adeiladu. Rwy’n gwybod y gallai hynny fod ychydig y tu hwnt i'ch cylch gwaith, ond os oes gennych unrhyw syniadau ynglŷn â hynny, buaswn yn eu croesawu. Diolch.

Diolch. Bydd yr Aelod yn gwybod ein bod eisoes yn ariannu grwpiau cyfranogi tenantiaid i adrodd yn ôl i’r Llywodraeth a hefyd i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ynglŷn â sut mae hynny’n gweithio. Eisoes, mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gweithio'n agos iawn gyda'u grwpiau, yn annibynnol ar y grwpiau cyfranogiad tenantiaid, yn ychwanegol at hynny.

Natur y cynllun chwistrellu—mae’r Mesur Chwistrellu a gyflwynon ni yn y Cynulliad yn 2011 wedi effeithio ar rai adeiladau. Yr hyn fydd angen ei wneud gyda’r adeiladau y soniodd yr Aelod amdanyn nhw yw ôl-osod, ac nid yw hyn yn rhan o’r Mesur. Fodd bynnag, mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi gofyn i'r arolygydd tân edrych arno’n benodol.

Gwrandewais yn ofalus ar bwyntiau Jenny ynghylch yr arolygwyr annibynnol, ac ar eich cyfraniad chi hefyd. Nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr arolygwyr annibynnol yn gweithredu'n amhriodol yn eu trefn arolygu. Os oes gan yr Aelod unrhyw dystiolaeth o hynny, byddai gennyf ddiddordeb mawr yn y manylion hynny, ond rwyf wedi nodi'r sylwadau a byddaf yn gofyn i fy nhîm edrych ar hynny yn benodol.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw a rhoi ar gofnod hefyd fy nghydymdeimlad dros y rheini a gollodd eu bywydau yr wythnos diwethaf? Rwy'n ddiolchgar iawn i Tai Cymunedol Bron Afon am gyfarfod â mi yn brydlon iawn yr wythnos diwethaf i drafod goblygiadau’r trasiedi ofnadwy hwn i Dorfaen. Fel y byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennym ni dri bloc aml-lawr yn Nhorfaen, a, diolch byth, mae systemau chwistrellu wedi eu hôl-osod ym mhob un ohonyn nhw. Fodd bynnag, mae’r gymuned yn dal yn bryderus, ac rwy’n cael ar ddeall gan Bron Afon y caiff y chwistrellwyr eu profi bob chwe mis ar hyn o bryd, felly byddai gen i ddiddordeb gwybod a oes unrhyw farn yn y Llywodraeth ynghylch a yw profi’r chwistrellwyr hynny bob chwe mis yn ddigonol, neu a yw'n debygol y bydd unrhyw arweiniad pellach yn cael ei roi.

Yn yr un modd, caiff yr ymarferion tân yn y blociau aml-lawr hefyd eu cynnal bob chwe mis, a byddai gen i ddiddordeb gwybod eich barn am amseroldeb hynny. Fel y gwyddoch chi, mae’n siŵr, mae pobl yn bryderus iawn, ac mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn poeni’n arw ar ôl digwyddiadau’r wythnos diwethaf, ac mae llawer ohonyn nhw’n byw mewn tyrrau llai yn Nhorfaen—dim un â system chwistrellu ond pob un â chladin allanol wedi ei osod. Felly, byddai gen i ddiddordeb clywed eich sylwadau, yn enwedig ynglŷn â pha mor gyflym y gallwch chi weithredu i dawelu meddwl y cyhoedd, drwy arolygu a mesurau eraill, ynghylch diogelwch rhai o’r tyrau llai. Ond mae hefyd yn fy nharo i bod gan ddarparwyr tai—ac yn Nhorfaen mae’r holl stoc dai wedi ei throsglwyddo—swyddogaeth hollbwysig i'w chwarae yn awr i sicrhau bod y cyhoedd yn dawel eu meddwl a bod cyfathrebu yn glir iawn. Mae Bron Afon wedi cyhoeddi taflen 'cwestiynau cyffredin' fer iawn ond yn sicr nid yw'n ateb pob cwestiwn rwyf wedi gofyn iddyn nhw. Byddwn yn bersonol yn hoffi gweld mwy o wybodaeth fanwl, nid yn unig i denantiaid, ond hefyd i lesddeiliaid a thrigolion eraill yr effeithir arnyn nhw. Felly, byddai gen i ddiddordeb gwybod pa ganllawiau yr ydych chi’n eu rhoi i ddarparwyr tai ynglŷn â sut y dylid cyfathrebu, gan nad wyf yn credu y dylai hynny olygu dim byd ond darn o bapur. Mae angen iddo fod wyneb yn wyneb, mae angen defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, a’r holl amrywiaeth o ddulliau sydd ar gael. Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau a'r sgyrsiau gawsom ni, hefyd, ynghylch hyn. O ran profi larymau a systemau chwistrellu bob chwe mis, mae'n rhaid i ni fod ychydig yn ofalus nad ydym ni’n gwneud i’r system brofi fynd yn hollol wallgof. Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn Llundain yn drasig, ac mae'n rhaid i ni ddysgu am y digwyddiadau a arweiniodd at y broses honno. Mae'n amlwg bod rhai methiannau sylfaenol ynghylch sut y gwariwyd peth o’r arian yno, boed hynny yn gysylltiedig â’r cladin neu â’r materion gweithredol yn yr adeilad ei hun. Fy ngwaith i, a gwaith Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol, yw rhoi hyder i bobl sy'n byw mewn blociau tŵr neu mewn adeiladau eraill yng Nghymru eu bod mor ddiogel ag y gallan nhw fod gyda’r systemau rydym ni’n eu gweithredu, ac rwy’n credu bod y rheol profi chwe mis yn briodol lle mae pethau yn eu lle i sicrhau bod diogelwch yn parhau.

O ran y tyrau llai, y rheswm pam rydym ni wedi dewis y seithfed llawr ac uwch yw oherwydd na all llwyfannau awyr yr awdurdodau tân gyrraedd unrhyw beth y tu hwnt i hynny, tra bod yr holl adeiladau y crybwyllodd yr Aelod yn hygyrch i’r gwasanaeth tân, a gobeithiaf y bydd hynny’n rhoi hyder i'ch trigolion ac etholwyr. O ran y lagin a ddefnyddiwyd gennym ni a materion yn ymwneud â Safon Ansawdd Tai Cymru, does a wnelo hyn ddim yn unig â materion amgylcheddol; mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod mewnolion ac allanolion cragen yr adeilad yn cael eu huwchraddio. Felly, does a wnelo hyn ddim yn unig â chadwraeth ynni, ond mewn gwirionedd mae'n ateb gwell i bobl o ran byw yn y tai hynny, ac nid ydym yn ymwybodol fod y math o ddeunydd a gâi ei ddefnyddio yn Llundain yn cael ei ddefnyddio unrhyw le yn y prosesau hynny yng Nghymru. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn ni roi hyder i’ch etholwyr chi a holl etholwyr Cymru fod yr amodau sydd gennym ni, â'r rheoliadau sydd yn eu lle, yn amgylchedd diogel iddyn nhw fyw ynddo.

Y peth cyntaf yr hoffwn ei wneud yw estyn fy nghydymdeimlad i bawb sydd wedi eu heffeithio gan hyn, ond hefyd fy niolch, ochr yn ochr â phawb arall, i'r rhai a helpodd i achub yr unigolion hynny a'r cymorth roeson nhw ar ôl hynny. Nid wyf am ailadrodd rhai o'r sylwadau sydd wedi eu dweud, ond rwy’n credu bod un datganiad amlwg iawn y mae'n rhaid ei wneud yma heddiw, a hynny yw nad oes yr un person yn y DU wedi marw erioed mewn adeilad lle mae chwistrellwyr tân wedi eu gosod. Ac mi fyddaf yn gadael sylwadau pellach ar hynny gyda fy nghyd-Aelod Ann Jones, a fydd, gobeithio, yn cymryd rhan yn y ddadl yn nes ymlaen.

Fe hoffwn i ddwyn eich sylw at rai o'r materion nad ydyn nhw wedi'u crybwyll yma yn y Siambr y bore yma: y mater ynghylch grisiau mewn blociau aml-lawr neu dai amlfeddiant, a ph’un ai a ydych chi’n credu, pan fyddwn yn symud ymlaen i edrych ar yr adeg pan gaiff caniatâd cynllunio ei roi, bod yn rhaid iddyn nhw gael rhywfaint o risiau lluosog, fel bod gwahanol ffyrdd o fynd i mewn ac allan, fel y gwelwyd tystiolaeth y byddai hyn mae’n debyg yn gam cadarnhaol ymlaen gan yr arbenigwyr a alwyd i’r sefyllfa ofnadwy yma. Byddwn hefyd yn gofyn bod safon y deunyddiau sy'n cael eu defnyddio yn cael eu harchwilio o ddifrif, gan fod peth anghytuno am hynny ar hyn o bryd. Mae'n amlwg, beth bynnag yw’r anghydfod, fod safon y deunyddiau o bosib mewn gwirionedd yn cydymffurfio â'r canllawiau presennol a ddefnyddiwyd, ond mae'n ymddangos yn bosib nad oedd y canllawiau presennol yn ddigon llym.

Y peth arall y byddwn yn gofyn i chi ei ystyried, Ysgrifennydd y Cabinet: rydym ni i gyd yn gwybod bod asiantaethau gosod yn chwarae rhan bwysig pan fo pobl yn chwilio am le i fyw yn y ddinas, boed hynny'n fyfyrwyr neu yn bobl eraill. Fe hoffwn i awgrymu bod asiantau gosod hefyd yn sicrhau rhai tystysgrifau diogelwch tân gan y landlordiaid tai amlbreswyl fel y gall y bobl hynny sy’n symud i’r tai hynny deimlo o leiaf yn hyderus bod yr archwiliadau hynny wedi eu gwneud.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Nid wyf yn credu fod heddiw, yn sicr, yn ddiwrnod i drafod gwleidyddiaeth systemau chwistrellu. Fe wnaethom ni yng Nghymru benderfyniad ymwybodol i gyflwyno deddfwriaeth ynglŷn â systemau chwistrellu, a bydd hyn gobeithio yn cael effaith gadarnhaol o ran y berthynas mae'r Aelod yn cyfeirio ati. Yr hyn mae'n rhaid i ni ei gofio yw bod yr adeiladau hyn—yn enwedig yng nghyffiniau Tŵr Grenfell a rhai o'r adeiladau aml-lawr hŷn a mwy o faint—wedi eu codi cyn 1976, ac mae'r rheoliadau adeiladu o gyfnod cyn 1974. Rydym ni wedi symud ymhell iawn yn y broses honno yn awr, at gynigion modern. Ond yr hyn mae'n rhaid i ni ei sicrhau yw, pan fo’r adeiladau hynny’n cael eu haddasu, eu bod yn cydymffurfio â safonau modern, ac felly mae ansawdd y gwaith ar yr adeiladau hynny yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod yn cael hynny’n gywir. Fel y dywedais i yn gynharach, byddaf yn gofyn i'r prif swyddog tân am adroddiad llawn ar yr adeiladau hyn, yna byddwn yn symud ymlaen at y cam nesaf o ran yr hyn sy'n digwydd gydag adeiladau eraill lle mae’r peryglon yn llai, er nad yn absennol. Rwy'n credu bod yn rhaid mynd ati mewn dau gam yn hynny o beth, ochr yn ochr â'r rheoliadau adeiladu a thystysgrifau diogelwch tân. Fy nealltwriaeth i yw y caiff tystysgrifau tân cyfredol eu hystyried dim ond ar gyfer elfennau mewnol adeilad. Felly, ni fyddai elfen cladin adeilad yn cael ei ystyried yn hynny. Efallai bod hynny yn rhywbeth y dylem ni roi sylw iddo wrth i ni symud ymlaen hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad heddiw, ac am ba mor gyflym y gwnaethoch chi ddod ag ef ymlaen. Mae ein meddyliau a'n gweddïau, wrth gwrs, gyda dioddefwyr y tân ofnadwy a losgodd Dŵr Grenfell yng ngorllewin Llundain yr wythnos diwethaf, a gyda’u teuluoedd. Roedd y delweddau yn wirioneddol erchyll a byddant gyda llawer o bobl am weddill eu bywydau. Mae angen i ni sicrhau nad oes unrhyw beth tebyg yn digwydd yn unrhyw le yn y DU eto.

Rwy'n falch eich bod wedi cael trafodaethau gyda landlordiaid cymdeithasol. Fe wnaethoch chi ddweud yn gynharach nad yw cladin o'r math a ddefnyddiwyd ar Dŵr Grenfell a'r cladin sy'n dod yn gynyddol fwy tebygol iddo achosi i’r tân ledaenu mor gyflym wedi cael ei osod ar adeiladau yng Nghymru. Rwy’n meddwl eich bod yn iawn yn dweud hynny. Fodd bynnag, mae angen i ni fod yn gwbl glir fod y cladin sydd wedi ei ddefnyddio mor ddiogel ag y gall fod. Ydych chi’n hyderus, o’ch trafodaethau—ac rwy’n gwerthfawrogi ei bod hi’n ddyddiau cynnar—bod y mathau eraill o gladin a ddefnyddiwyd yn briodol? A gaf i ategu galwad David Melding am archwiliad o'r deunyddiau sydd wedi cael eu defnyddio? Oherwydd ni fyddai llawer o ddeunyddiau o bosib mor ddrwg neu mor fflamadwy â'r rheini sydd yn Nhŵr Grenfell, ond bydd gan ddeunyddiau eu lefel o fflamadwyedd. Felly, mae angen i ni fod yn sicr y bydd y deunyddiau hynny, mewn unrhyw sefyllfa o dân a gwres, mor ddiogel ag y bo modd ac na fyddant yn lledu tân yn yr un ffordd a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf.

Yn ail, nid dim ond y deunyddiau eu hunain a oedd ar fai. Unwaith eto, mae'n edrych yn gynyddol wir bod a wnelo hynny â’r ffordd y’u gosodwyd nhw ar yr adeilad: ar fframwaith, a chyda bwlch rhwng deunydd a ffasâd yr adeilad gwreiddiol. Yn y sefyllfa honno, gall y bwlch sydd wedi ei greu arwain at greu effaith twndis—simnai. Mae'n ymddangos fel bod y tân mewn gwirionedd wedi lledaenu i fyny y tu ôl i'r cladin ar ôl iddo losgi drwyddo, ac yna cyrraedd lefelau uchaf yr adeilad. Felly, mae o’n fwy na dim ond y cladin; mae o ynglŷn â’r ffordd mae'n cael ei osod hefyd. Felly, allwch chi sicrhau bod unrhyw archwiliad yn edrych ar y ffordd mae cladin wedi ei osod ar adeiladau yng Nghymru?

A gaf i yn olaf alw am adolygiad? Rwy'n credu i Bethan Jenkins—ac Aelodau eraill—alw am adolygiad o'r rheoliadau adeiladu yng Nghymru. Nid dweud yr wyf i fod yna unrhyw beth o'i le ar y rheoliadau sydd gennym ni, ond rwy'n credu bod hon yn sefyllfa sy'n symud yn gyflym ac y byddwn yn croesawu unrhyw wersi y gellir eu dysgu o drasiedi yr wythnos diwethaf, a'r newidiadau y gellir eu gweithredu yma er mwyn sicrhau nad yw hynny'n digwydd eto. Fel y dywedodd Lynne Neagle, mae angen ar hyn o bryd—ac rydym yn gwerthfawrogi'r ffaith bod mwy o chwistrellwyr wedi eu gosod mewn adeiladau yng Nghymru nag sy’n wir am y math yma o adeiladau, yn sicr, yn Llundain ac yn Lloegr—ond mae angen rhoi sicrwydd i bobl sy'n byw yn y fflatiau hynny, a gyda landlordiaid cymdeithasol, eu bod yn byw mewn diogelwch. Yn olaf, mae angen i ni edrych ar y canllawiau hefyd. Credaf, yn achos yr wythnos diwethaf, y dywedwyd wrth bobl am aros yn eu cartrefi. Mae’n bosib nad hynny oedd y cyngor cywir. Fe wn i bod gennym ni systemau chwistrellu yma, sy'n gwneud y sefyllfa'n wahanol, ond allwch chi edrych ar y canllawiau fel y gall pobl fod yn gwbl hyderus eu bod yn gwneud y peth iawn os a phan fydd trasiedïau fel hyn yn digwydd?

Diolch. Fel y nodais yn gynharach, rwy’n cytuno gyda'r Aelod mewn perthynas â gwneuthuriad cyfansoddiad y deunyddiau, ac rwyf wedi gofyn am gymryd samplau o bob un o'r adeiladau lle mae deunydd ynysu—adeiladau aml-lawr—ar gyfer eu harolygu. Byddant yn cael eu profi, beth bynnag y gwyddom ni am y cynnyrch yn barod, er y gwyddom ni nad y system a ddefnyddiwyd yn Llundain yw’r un yn ein gwasanaethau ni. Serch hynny, er mwyn rhoi hyder i bobl yng Nghymru, rwy’n credu y dylem ni wneud hynny o leiaf.

O ran y rheoliadau adeiladu, byddwn o blaid bod yn gryfach mewn rhai achosion o ran datblygu ein rheoliadau adeiladu. Maen nhw wedi cael eu hadolygu'n ddiweddar, ond rwy'n siŵr y caiff y Gweinidog a minnau sgyrsiau pellach ynglŷn â sut y gall fod angen i ni eu cryfhau nhw yn dilyn adolygiad o'r arolygiaeth gwasanaeth tân.

O ran systemau chwistrellu, mae'r aelodau hefyd yn iawn i godi'r mater hwn. Bydd yr Aelod yn gwybod y cefais i fy meirniadu'n llym am gyflwyno mwy o fiwrocratiaeth i'r system ac am gyflwyno mwy o gostau i'r system, gan adeiladwyr a phobl eraill â diddordeb. Doeddwn i ddim yn difaru bryd hynny a dydw i ddim yn difaru nawr—dyma'r union reswm pam bod angen i ni sicrhau bod gennym ni adeiladau diogel i bobl, a systemau chwistrellu yw'r ateb. Gobeithio y bydd rhannau eraill o'r wlad yn ystyried hynny hefyd.

O ran y canllawiau a gyhoeddwyd, rydym ni’n hyderus y bydd y canllawiau a gyhoeddwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol yn briodol lle mae’r fframwaith adeiladu yn gweithredu'n briodol. Yr hyn a welsom ni yn Nhŵr Grenfell, lle y dywedwyd wrth drigolion am aros yn eu fflatiau, oedd y byddai hynny wedi bod yn iawn petai’r drysau tân yn gweithio'n iawn, neu’r drysau tân wedi eu gosod yn gywir. Mae llawer iawn o fanylion i ddod o'r ymchwiliad i Dŵr Grenfell, ond mae ein canllawiau ac arferion yn cael eu hadolygu a byddwn yn ystyried hynny wrth inni symud ymlaen.

Fel Aelodau eraill, fe hoffwn i estyn fy nghydymdeimlad at bawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiadau trasig hyn. Rwyf hefyd am gofnodi fy niolch i gydweithwyr o'r gwasanaethau brys ac yn arbennig fy hen gydweithwyr, yn ddiffoddwyr tân a staff yr ystafell reoli. Bydd llawer ohonyn nhw’n dychwelyd i leoliad y drychineb am rai dyddiau, ac am gryn amser, sy'n ail-ddeffro’r holl faterion y mae llawer ohonyn nhw wedi eu hwynebu.

Diolch, Weinidog, i'r Prif Weinidog, ac i chi—ac rydych chi wedi cyfeirio at hyn—ynghyd â chydweithwyr yn y Siambr hon, rhoddodd Cymru ddeddfwriaeth mewn grym oedd yn ei gwneud hi’n ofynnol gosod chwistrellwyr ym mhob cartref newydd a gâi ei adeiladu, ac ni oedd y wlad gyntaf i wneud hynny. Ar ôl wynebu gwrthwynebiad o bob cyfeiriad, rwy’n dal yn teimlo bod yr hyn a wnaethom ni yn iawn, ac rwy’n sefyll wrth yr hyn a wnaethom, ac rwy’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda chi a'r Prif Weinidog ynglŷn â’r penderfyniad dewr iawn hwnnw a wnaethoch chi. Rwy'n credu y bydd hynny yn gwasanaethu ein cymunedau yn dda yn y dyfodol, ac os mai dyna beth ydym ni fel gwleidyddion—dyna beth yw ein gwaith; diogelu ein cymunedau.

Nawr, bu llawer o alw am ôl-osod systemau chwistrellu, ac mae peth ymchwil da ar gael. Soniodd Lynne Neagle fod Bron Afon wedi ôl-osod chwistrellwyr yn eu hadeiladau uchel, ond mae yna hefyd ddarn arall o ymchwil yn Callow Mount yn Sheffield, sydd angen trafodaeth yn ei gylch ymysg pobl sydd yn edrych ar ôl-osod. Fel y gwnaethoch chi ddweud wrth fy nghydweithwraig Joyce Watson, nid heddiw yw'r diwrnod i siarad am gyflwyno systemau chwistrellu, ond fe ddaw y dydd pan y dylem ni fod yn gwthio am fwy o systemau chwistrellu, i ail-weithredu’r ddeddfwriaeth, a’i gweithredu mewn mannau eraill. Pan ddaw’r dydd hwnnw, Weinidog, wnewch chi ymuno â mi i wneud popeth yn ein gallu i ddangos y gall rhannau eraill o'r DU, ac yn wir gwledydd eraill yn y byd, ddysgu oddi wrth y penderfyniadau dewr a wnaethoch chi yn Llywodraeth Cymru wrth weithredu deddfwriaeth chwistrellu?

Diolch i Ann Jones am ei chyfraniad unwaith eto, a, llongyfarchiadau, mae’n debyg—derbyniodd yr Aelod wobr yr wythnos diwethaf, gwobr ryngwladol, yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth y gofynnodd hi amdani mewn dadl Aelodau unigol. Fel cyn-ddiffoddwr tân, welais i erioed dân mor ffyrnig â hwnnw a welais i yn nhân Tŵr Grenfell. Aeth rhywbeth mawr o’i le yn y lle hwnnw, ac rwy’n talu teyrnged i'r gwasanaethau brys a'r gwirfoddolwyr a’r aelodau o'r teulu a geisiodd achub unigolion yn y gymuned honno. Mae’n siŵr ei fod yn ddigwyddiad trasig a fydd yn bwrw cysgod dros y cymunedau hynny am flynyddoedd lawer i ddod.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i godi'r mater o bwysigrwydd y ddeddfwriaeth, y cam dewr rwy'n credu i ni ei gymryd o ran y lobïo a gawsom ni o ganlyniad i’r cyflwyniad. Ond rydw i, yn yr un modd â’r Aelod, yn meddwl ein bod hi’n iawn gwneud hynny bryd hynny, ac rydym ni’n iawn i barhau â'r rhaglen honno yn y dyfodol.

A gaf i hefyd gydymdeimlo â’r rhai a gollodd eu bywydau ac a gollodd eu cartrefi yn Nhŵr Grenfell, sy’n enghraifft o'r hyn sy'n digwydd pan fydd cymdeithas yn methu ag amddiffyn y mwyaf di-rym yn y man lle y dylen nhw deimlo fwyaf diogel? Mae'r rhan fwyaf o'r cwestiynau sydd gen i wedi eu hateb. Mae gen i ddau gwestiwn ar ôl. Yn gyntaf, pa drefniadau fydd ar waith rhwng Llywodraeth Cymru ac ymholiad Llywodraeth y DU i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael mynediad amserol i dystiolaeth a roddwyd i'r ymchwiliad hwnnw, fel bod modd dysgu gwersi wrth iddyn nhw godi? Yn ail, pan ganfyddir pwy oedd ar fai yn y gadwyn a achosodd hyn, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ganfod a yw’r partïon hynny wedi bod yn rhan o unrhyw gaffael cyhoeddus yng Nghymru?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Siaradais â Gweinidog y DU, fel y dywedais, ar brynhawn Sadwrn, ac â Gweinidog yr Alban ddoe. Rydym ni wedi dechrau trafod beth fydd natur yr adolygiad a sut y bydd y cyswllt rhwng y tair Llywodraeth yn edrych ar hynny, a byddaf yn parhau i hysbysu'r Cynulliad am y manylion hynny wrth i’r rheini ddod i law. O ran cwestiwn olaf yr Aelod, mae ychydig yn gynamserol oherwydd nid ydym ni wedi cael yr adolygiad hyd yn hyn, ac rwy’n hwyrfrydig i gynnig cyngor ynghylch hynny, ond byddwn yn edrych ar hynny yn ofalus iawn, yn dibynnu ar unrhyw dystiolaeth a gawn ni.

5. 4. Datganiad: Brexit a Datganoli: Diogelu Dyfodol Cymru

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar Brexit a datganoli: diogelu dyfodol Cymru. Ac rydw i’n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Carwyn Jones.

Diolch, Llywydd. Gall pawb, fwy neu lai, gytuno bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gam o bwys enfawr i Gymru a'r DU yn ei chyfanrwydd, ac mewn amrywiaeth eang o ffyrdd. Mae'r UE y byddwn yn ei gadael yn llawer mwy o faint, a mwy cymhleth, na'r Farchnad Gyffredin, y gwnaethom ymuno â hi flynyddoedd yn ôl, a dyna’n union pam y mae gadael yn gam hyd yn oed yn fwy nag oedd ymuno. Felly, mae yna nifer o heriau. Maent wedi dod i’r golwg yn gliriach ers canlyniad yr etholiad cyffredinol, ac mae hyn, yn fy marn i, yn ei gwneud yn anochel y bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU ail-lunio yn radical ei hymagwedd at y mater mwyaf hanfodol hwn, ac, os caf ddweud, symud yn agosach at y safbwynt cytbwys a chydlynol a nodwyd ym mhapur gwyn ar y cyd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’.

Wrth gwrs, rwy’n croesawu'r ffaith bod y cyfarfod cyntaf rhwng Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd ddoe wedi mynd yn dda, ond dim ond y cam cyntaf yw hwn ar daith hir a chymhleth. Bydd yr Aelodau yn glir, i Lywodraeth Cymru, mai sicrhau swyddi a ffyniant economaidd ein cenedl sydd ar frig ein hagenda ar gyfer Brexit. Nid yw hynny wedi newid ac ni fydd yn newid. Ond heddiw hoffwn ganolbwyntio ar oblygiadau gadael yr UE i ddatganoli, ac i lywodraethu'r DU yn y dyfodol.

Llywydd, yn gyntaf oll, gan gydnabod canlyniad refferendwm y llynedd, dewch inni hefyd ein hatgoffa ein hunain bod datganoli ei hun wedi digwydd o ganlyniad i ddau refferendwm yma yn 1997 ac eto yn 2011: yn yr ail o'r rhain, pleidleisiodd dwy ran o dair o bleidleiswyr o blaid pwerau dros ddeddfwriaeth sylfaenol i’r Cynulliad.

Rwy’n gobeithio y gallwn gytuno ar draws y Siambr hon bod datganoli, fel y'i cymeradwywyd yn y refferenda hynny, yn cynrychioli ewyllys cadarn pobl Cymru ac nad yw'n rhywbeth i Lywodraeth y DU ei drin yn ysgafn, ddim mwy nag y gallai anwybyddu canlyniad refferendwm yr UE. Rydym yn gwrthod yn bendant honiad Llywodraeth y DU yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ganddi cyn yr etholiad bod datganoli mewn unrhyw ystyr yn dibynnu ar aelodaeth y DU o'r UE. I'r gwrthwyneb, mae'r galw am ddatganoli yn uchelgais a fynegwyd yn rhydd gan bobl Cymru a dim ond nodwedd ymarferol o'n trefniadau oedd y ffaith ein bod yn aelod o'r UE ar yr adeg pan ddechreuodd datganoli, yn yr ystyr honno. Y dasg nawr, felly, yw cydnabod grym y gwahanol refferenda drwy ddod o hyd i drefniadau newydd ar gyfer llywodraethu'r DU sy'n rhoi effaith ymarferol i Brexit gan ystyried yn llawn bod datganoli’n barhaol yng nghyfansoddiad y DU.

Mae'r ddogfen ger ein bron heddiw, 'Brexit a Datganoli', yn adeiladu ar syniadau a gyflwynwyd gennym gyntaf yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, a gyhoeddwyd ar y cyd gyda Phlaid Cymru yn ôl ym mis Ionawr, a hon yw'r gyntaf mewn cyfres a fydd yn archwilio materion allweddol sy'n codi o Brexit. Mae yna lawer i’w ystyried a’i drafod a dyna pam yr ydym yn anelu at ysgogi trafodaeth yma yn y Cynulliad a thu hwnt.

Bydd gadael yr UE yn creu heriau llywodraethu newydd yma. Nid ydym yn gwybod yn sicr eto pa mor bell, os o gwbl, y byddwn yn parhau i gysoni rhwydweithiau rheoleiddiol y DU â rhai'r UE ar ôl Brexit, nac a fyddwn yn parhau i fod mewn undeb tollau gyda'r UE. Ond mae'n sicr y bydd angen cydlynu polisïau, sydd wedi digwydd cyn hyn ym Mrwsel, yn y wlad hon, o leiaf i ryw raddau.

Rydym yn hapus i gydnabod, er enghraifft, yr angen, wrth arfer ein pwerau ni, i weithio gyda'r gweinyddiaethau eraill i ddatblygu fframweithiau sy’n rhwymo ledled y DU mewn nifer o feysydd sydd wedi'u datganoli i atal ffrithiant rhag mynd i mewn i’n marchnad fewnol ni yn y DU. Ni fyddai pedair cyfundrefn iechyd anifeiliaid hollol wahanol ac anghydnaws, er enghraifft, yn amlwg o fudd i neb. Yn yr un modd, bydd gennym ddiddordeb clir Cymreig yn rhai o gymwyseddau’r DU.

Felly, bydd angen ffyrdd newydd a gwell i’r gwahanol Lywodraethau weithio gyda'i gilydd. Ond, yn syml, nid yw peirianwaith ymgynghorol presennol Cydbwyllgor y Gweinidogion yn addas i’r dasg newydd mewn llaw. Y ffordd iawn o reoli'r busnes hwn yw ag offer rhynglywodraethol newydd ac wedi’u hadnewyddu. Mae'n rhaid i'r pedair Llywodraeth eistedd i drafod a chytuno ar fframweithiau’r DU sy’n rhwymo mewn meysydd datganoledig lle mae angen y rhain, neu yn y tymor byr mae angen i bob un gytuno, o'n gwirfodd, i beidio â gwneud dim newidiadau i'r fframweithiau presennol sy'n deillio o’r UE, os dyna sydd ei angen.

Dylai'r un offer hwyluso trafodaeth a chytundeb ar bolisïau heb eu datganoli y bydd gennym ddiddordeb amlwg ynddynt, fel cymorth gwladwriaethol ac, yn enwedig os ydym y tu allan i undeb tollau gyda'r UE, masnach ryngwladol. Mae ein papur yn cynnig cyngor Gweinidogion ar gyfer y DU, mewn modd tebyg i fersiwn yr UE. Os yw'n bosibl i 28 o lywodraethau wneud penderfyniadau mewn meysydd cyffredin, yn sicr dylai fod yn bosibl i'r pedair Llywodraeth yma yn y DU wneud hynny.

Nid ymgais i gynyddu pwerau'r Llywodraeth neu'r Cynulliad hwn yw hyn. Unwaith eto, roedd Papur Gwyn Llywodraeth flaenorol y DU yn rhoi argraff gwbl gamarweiniol o’r gwaith o ddatblygu fframweithiau ar lefel yr UE sy'n berthnasol i bolisïau datganoledig, megis y polisi amaethyddol cyffredin neu bolisïau amgylcheddol, mai Llywodraeth y DU yn unig oedd yn penderfynu ar safbwynt y DU. Yn syml, nid yw hynny’n wir.

I'r gwrthwyneb, mae’n ofynnol i Lywodraeth y DU, yn unol â’r memorandwm dealltwriaeth a ddiweddarwyd ac a gadarnhawyd gan y Siambr hon yn 2013, ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a datblygu safbwynt y DU sy'n adlewyrchu cytundeb rhwng y pedair gweinyddiaeth. Byddai'n eironig, yn y DU lle’r ydym, fel y nodwyd, wedi cymryd rheolaeth yn ôl gan Frwsel, pe bai gan y sefydliadau datganoledig lai, nid mwy, o ddylanwad dros y fframweithiau yr ydym yn gweithredu ynddynt.

Os yw Llywodraeth y DU yn agored i ddatblygu offer sy'n galluogi'r pedair Llywodraeth i fwrw ymlaen â busnes cyffredin mewn ffordd gydweithredol, bydd Llywodraeth Cymru yn bartner parod iddynt. Ond dewch imi fod yn glir, os nad ydynt yn gwneud hynny, os ydynt yn dymuno gosod fframweithiau neu ddeddfu yn San Steffan i roi cyfyngiadau newydd ar bwerau a chymhwysedd y Cynulliad hwn, byddwn yn eu gwrthwynebu bob cam o'r ffordd, gan ddefnyddio'r holl offer sydd ar gael i ni. Fel yr wyf wedi’i ysgrifennu at y Prif Weinidog, does dim angen y frwydr hon arni nawr, o bob adeg.

Dewch imi ailadrodd: hoffem weld deddfwriaeth yn San Steffan, boed hynny y Bil diddymu mawr neu gywerth, sy’n llwyddo i gyflawni nodau Llywodraeth y DU—darparu parhad a sicrwydd deddfwriaethol a sicrhau, ar y diwrnod cyntaf ar ôl inni adael yr UE, bod ein hamgylchedd rheoleiddio yn union yr un fath ag un yr UE. Dyna ein huchelgais cyntaf.

Ond mae angen deddfwriaeth o’r fath arnom, i barchu datganoli ac i sbarduno'r cydweithio yr ydym yn gobeithio y bydd yn hwyluso dyfodol adeiladol ar y cyd. Os bydd yn methu â gwneud hyn, os bydd yn sathru ar ddatganoli, yna, wrth gwrs, bydd yn rhaid inni ymateb yn rymus ac yn negyddol, ac rydym eisoes yn y broses o ddatblygu ein hopsiynau ar gyfer y posibilrwydd hwn. Un o brif gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, ac yn wir y Cynulliad hwn, yw cynnal y setliad datganoli y pleidleisiodd ein pobl amdano. Gobeithio y caiff y neges honno ei chlywed yn glir a’i nodi yn Whitehall.

Rydym hefyd yn meddwl mai dyma’r amser iawn i gael confensiwn am ddyfodol y Deyrnas Unedig. Mae'n syniad yr wyf wedi’i ganfasio ad nauseam o’r blaen, fel y mae pobl eraill, ond mae'n fater mwy brys yn awr. Mae gadael yr UE yn gam mawr sy'n mynnu ymateb mawr gartref. Mae'n naturiol yn y sefyllfa hon i feddwl o'r newydd am y math o wlad a’r math o undeb yr hoffem fod yn y tymor hir. Dylai'r confensiwn gynnwys pob llais, pob plaid wleidyddol, cymdeithas sifil a phob rhan o'r DU. Ac fel yr wyf wedi’i ddweud sawl gwaith, mae gan Lywodraeth Cymru ddigon o syniadau ond dim monopoli arnynt.

Dewch imi fod yn glir, felly, Llywydd: rwy'n gadarnhaol am ein hundeb. Rwyf am i'r DU fod yn llewyrchus, yn ddeinamig ac wedi’i llywodraethu’n dda. Rwy’n dymuno i'r perthnasoedd rhynglywodraethol rhwng y pedair gweinyddiaeth hyrwyddo'r egni y dylai ein hundeb ei ddangos. Wrth weithredu yn enw pleidleiswyr Cymru, rydym yn haeddu rhywbeth mwy na pherthynas drafodaethol amharod sy’n seiliedig ar y mymryn lleiaf o ymgynghori dail ffigys. Mae angen i bob gweinyddiaeth barchu cyfreithlondeb gwleidyddol a mandad y lleill wrth gychwyn y ddadl hon. Drwy drafod a chydweithredu, gall syniadau da ddatblygu'n syniadau gwell, ac mae pawb yn ennill. Mae Teyrnas Unedig effeithiol yn helpu pawb ac nid yw’n brifo neb.

Mae'n wir dweud, Llywydd, bod y DU yn parhau i fod yn rhanedig iawn. Y ffordd o wella’r rhaniadau hynny yw drwy barch a gweithio drwy broblemau gyda'n gilydd—ceisio gweld safbwynt pobl eraill. Cyfrinachedd, diffyg ymgynghori, gosod dictadau o'r canol—wnaiff y rhain ddim byd i adeiladu'r DU aeddfed, ddeinamig, amlweddog sy'n wynebu tuag allan y gallwn fod. Bwriad y papur yr ydym wedi’i gyhoeddi yw cyfrannu at y syniadau sydd eu hangen nawr i ymateb i'r her honno, ac fe'i cymeradwyaf i'r Cynulliad.

Brif Weinidog, diolch am eich datganiad, ac, yn wir, diolch am olwg gynnar ar y datganiad hwnnw a ddarparwyd i’r pleidiau cyn inni ddechrau’r Cyfarfod Llawn heddiw. Sylwais eich bod chi, yn y paragraff olaf, wedi sôn am 'gyfrinachedd, diffyg ymgynghori, gosod dictadau o'r canol'. Mae'n rhaid imi ddweud, yn eistedd ar yr ochr hon i'r Siambr, fy mod bron yn teimlo fel dweud wrthych, Brif Weinidog, 'Edrychwch yn y drych ac yno fe welwch y disgrifiad hwnnw'. Oherwydd, yn sicr, pan ddaw i gael trafodaethau dros y 12 mis diwethaf am y materion pwysig hyn, dydych chi ddim wedi ymestyn ar draws y rhaniad gwleidyddol yn y Siambr hon. Fel yr wyf wedi’i ddweud sawl gwaith o'r blaen, mae’r Siambr hon wir yn gweithredu er ei pennaf les pan y gellir cyrraedd y consensws gwleidyddol hwnnw. Rwyf wedi dweud wrth ymateb i nifer o ddatganiadau a roesoch yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mewn dadleuon yn y Siambr hon, ein bod yn barod i ymgysylltu'n gadarnhaol yn y trafodaethau hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Os caf i enwi cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, rwy’n gwybod yn iawn bod y consensws hwnnw wedi bodoli mewn Cynulliadau blaenorol ynghyd â’r ewyllys gwleidyddol i ymgysylltu ar draws y rhaniad gwleidyddol pan oedd ef yn Brif Weinidog, o amgylch Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ac o amgylch y newidiadau cyfansoddiadol a oedd yn digwydd yn y Cynulliad yn ei ddyddiau cynnar. Rwy’n tynnu eich sylw eto at y cynnig a wneir ichi ymestyn ar draws y rhaniad gwleidyddol a chael y drafodaeth honno, oherwydd mae’r datganiad hwn heddiw i’w weld ychydig yn rhagrithiol, a chithau wedi cymryd camau sy’n atgyfnerthu'r polareiddio yr ydych yn honni i ffieiddio wrtho mewn gwleidyddiaeth, os ydych wir yn awyddus i geisio cyrraedd consensws ar rai o'r materion pwysig hyn y mae angen eu datrys ledled y Deyrnas Unedig gyfan.

Rydym ni i gyd yn awyddus i wneud yn siŵr, pan ddown allan o'r trafodaethau Brexit, bod y fargen a gawn yn fargen sy'n atgyfnerthu'r cysylltiadau sy'n gwneud ein hundeb mor wych—undeb y Deyrnas Unedig—ond ei bod yn undeb sy'n addas at yr unfed ganrif ar hugain ac nid un sy'n edrych yn ôl ar ffordd y gallai'r ynysoedd hyn fod wedi cael eu llywodraethu yn y 1950au a'r 1960au. Rwy’n barod, fel y mae fy ngrŵp a fy mhlaid, i sicrhau bod hynny'n digwydd. Yn y pen draw, byddwn yn llwyddo os ydym yn gweithio gyda'n gilydd yn hynny o beth.

Byddwn hefyd yn gofyn i'r Prif Weinidog gadarnhau beth yn union yw’r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur, oherwydd fel y gwelsom yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae’n amlwg bod yna wahaniaeth. Os na allwch gael y man cychwyn sylfaenol syml hwnnw’n iawn, pa hygrededd, pa bwysau, y gellir ei roi i'r Papur Gwyn a'r ddogfen yn benodol yr ydych wedi’i chyflwyno? Gall hynny fod yn sail i drafodaeth—a bod yn deg, roedd yna gytundeb yno, ond i unrhyw un a welodd y drafodaeth yma yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog roedd yn ddryslyd, a dweud y lleiaf, ei bod yn ymddangos bod gagendor o’r fath wedi agor rhwng dwy blaid a roddodd eu llofnod ar ddogfen yr ydych chi, yn y datganiad hwn, yn cyfeirio ato’n gyson fel sail y safbwynt negodi.

Felly, a allech chi ddefnyddio eich ymateb imi heddiw i roi eglurder llwyr ynghylch ble yn union y mae’r cytundeb hwnnw a beth yw’r ddealltwriaeth, o'ch safbwynt chi, ynglŷn â’r hyn y bydd y cytundeb hwnnw’n ei ddarparu o amgylch y farchnad sengl a mynediad i'r farchnad sengl?

Byddwn hefyd yn hoff iawn o gael deall pa ran o'r araith Lancaster House, a roddwyd gan Brif Weinidog y DU, y mae’r Prif Weinidog yn anghytuno â hi. Roedd hi'n cymeradwyo 12 egwyddor, sef yr egwyddorion trafod a ddechreuwyd ddoe yn y trafodaethau, ac ar yr ochr hon i'r tŷ, rydym ni’n credu bod y rheini’n 12 egwyddor y mae angen eu dwyn ymlaen yn y trafodaethau a fydd yn amlwg yn rhoi’r sail sydd ei hangen ar y trafodaethau hynny i gynnig llwybr cadarn inni i ddatblygu’r cytundeb yr hoffem ei weld ar ddiwedd y ddwy flynedd. Ac rwy’n sylwi yn y datganiad hwn i gyd—. A bod yn deg, rydych chi’n cyfeirio at eich dogfen eich hun, ond does bosib na ddylai'r ddogfen gyfeirio rhywfaint at linellau negodi allweddol Llywodraeth y DU. Ac mae’r 12 egwyddor hynny’n hanfodol i’r trafodaethau wrth iddynt fynd rhagddynt.

Rwy’n cymeradwyo’n llwyr yr hyn a ddywedwch am Gydbwyllgor y Gweinidogion, ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen nad yw'n sefydliad—. Nid fy mod i erioed wedi eistedd ar y pwyllgor hwnnw, ond, er tegwch, wrth arsylwi o bell, ac arsylwi cyfeiriadau a wnaethpwyd gan wleidyddion o bob plaid, mae’n amlwg nad yw’n addas at ei ddiben, ac nid yw'n gyfrwng sydd wir yn gallu ymdrin â'r gwaith datrys anghydfodau a'r trafodaethau a fydd yn dilyn ar ôl Brexit a'r cytundeb. Ac rwy’n credu bod arnom angen mwy o gydlyniad wrth ddatblygu fframwaith mwy cadarn i’r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU weithio drwyddo. A byddwn yn ddiolchgar i gael deall a yw'r Prif Weinidog yn gweld unrhyw olau a chynnydd ar hyd y ffordd i sicrhau bod gennym—a byddaf yn ei alw’n Gydbwyllgor y Gweinidogion yn y fan hon oherwydd dyna beth y byddwn yn deall ydyw—gorff olynydd i gyflawni'r canlyniad yr hoffem ei weld, unwaith y bydd y trafodaethau Brexit wedi dod i ben.

Rwy’n cytuno’n llwyr â'r Prif Weinidog bod gan y wlad hon ddyfodol cadarnhaol, ond mae'n dibynnu ar wleidyddion yn ymateb i'r her ac yn cymryd y cyfleoedd sydd o'n blaenau. Ac ar yr ochr hon i'r Siambr, yn sicr byddwn yn ymateb i'r her, ac yn cymryd y cyfle sydd yno. Ac, unwaith eto, rwy’n ailadrodd y pwynt fy mod yn gobeithio y gwnaiff gwleidyddion eraill, o ba bynnag liw gwleidyddol, wneud yn union yr un fath.

A gaf i ddiolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am ei sylwadau? A gaf i ddweud wrtho: gwrandewais ar yr hyn a ddywedodd am geisio cyrraedd safbwynt cyffredin, ond byddai'n sicr yn fy helpu i pe bawn i’n deall beth yw ei safbwynt ar rai o'r agweddau mwyaf sylfaenol? Rwy’n gwybod ei fod yn rhywun a oedd yn credu y dylai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny yno i bawb ei weld. Ond a yw'n credu y dylem gadw mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl? A yw'n gwrthod unrhyw syniad o rwystrau â thariff neu heb dariff? A yw'n derbyn bod angen efallai i addasu rhyddid i symud, ond nid ei atal yn gyfan gwbl? Beth yw ei farn am y ffin rhwng y gogledd a'r de yn Iwerddon? Beth yw ei farn, yna, am y ffin forol rhwng Cymru ac Iwerddon a sut y byddai hynny’n gweithredu? Beth yw ei farn am i’r DU fod oddi mewn i'r undeb tollau neu’r tu allan? Os yw y tu allan i'r undeb tollau, ni all y ffin honno â’r DU ac Iwerddon weithredu fel ffin ddi-dor. A yw'n credu y dylai’r trefniadau trosiannol, ac fe fydd eu hangen, olygu y dylem ystyried aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu aelodaeth o ardal masnach rydd Ewrop yn y tymor byr? Nid wyf wedi ei glywed yn mynegi barn am ddim un o’r cwestiynau hyn. Rwy'n ei wahodd i wneud hynny, ond yr hyn yr wyf yn ei wybod yw ei fod am adael yr Undeb Ewropeaidd ac mae hynny'n glir. Yr hyn nad wyf yn ei wybod yw beth, ar hyn o bryd, y mae'n disgwyl ei weld yn ei le.

O ran y Papur Gwyn, y Papur Gwyn yw’r papur ar y cyd rhyngom ni a Phlaid Cymru o hyd. Gofynnodd yn benodol, 'Ble mae'r anghytundeb?' Yn gyntaf oll, tôn. Roedd yr hyn a welsom gan Brif Weinidog y DU cyn yr etholiad yn dôn genedlaetholgar. Ni allaf ei disgrifio mewn unrhyw ffordd arall. Y math o dôn a welsom gan bobl a ddywedodd wrthym y byddai'r UE yn disgyn wrth ein traed er mwyn cael bargen. Roedd hynny'n anghywir ac rydym yn gweld hynny nawr. Gwrthododd y pleidleiswyr y dôn honno, ac nawr mae'n amser ei newid. Yn gyntaf, nid wyf yn credu bod dim bargen yn well na bargen wael. Rwy’n meddwl bod hynny’n hurt. Dim bargen yw’r fargen waethaf. Ac nid wyf yn credu, os nad oes cyfnod pontio, bod hynny’n rhywbeth na ddylem ei ofni. Ni allaf ddeall pam mae’r angen dybryd hwn i ddisgyn oddi ar ymyl clogwyn pan fo pont ar gael inni gerdded drosti, sef aelodaeth o’r AEE neu aelodaeth o EFTA.

Nid wyf yn cytuno â’i syniad hi bod yn rhaid i ryddid i symud ddod i ben yn gyfan gwbl. Unwaith eto, ni allwch reoli eich ffiniau heb gau’r ffin â Gweriniaeth Iwerddon. Does dim ffordd arall o wneud hynny. Ac mae hynny'n rhywbeth nad yw pobl wedi’i ddeall eto. Nid wyf yn cytuno felly â’i safbwynt hi ar hynny. Nid wyf yn cytuno â hi, rywsut, na fyddai'r DU yn ddarostyngedig i unrhyw fath o lys y tu allan i'r DU. Wrth gwrs y byddai. Hyd yn oed pan oedd y DU mewn sefyllfa i lofnodi cytundeb masnach rydd gyda gwlad arall neu floc masnachu arall, byddai angen llys o hyd i feirniadu anghydfodau a fyddai’n codi o'r cytundeb masnach rydd; mae'n siŵr o ddigwydd. A byddai hynny'n golygu cael llys, o leiaf, pe bai cytundeb masnach rydd ar ryw adeg â'r UE—llys sy'n cynnwys o bosibl barnwyr Llys Cyfiawnder Ewrop a barnwyr o’r DU, a fyddai'n gyfystyr â llys masnach. Does dim dianc rhag hynny. Os ydych am gael cytundeb masnach rydd, mae’n rhaid ichi dderbyn y bydd gan bobl eraill hefyd farn am sut y mae’r cytundeb masnach rydd hwnnw’n gweithredu mewn gwirionedd.

Nid wyf yn gwybod beth yw safbwynt y DU erbyn hyn, a dweud y gwir. Ni fu dim ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig. Rydym yn gwybod na all fod yr un fath ag yr oedd cyn yr etholiad. Rydym yn gwybod mai safbwynt y DU oedd ei bod yn dymuno i fater y DU yn gadael yr UE, a pherthynas y DU â'r UE yn y dyfodol, i gael eu trin yn gyfochrog. Safbwynt yr UE oedd y dylai fod yn ddilyniannol. Rydym yn clywed nawr mai safbwynt yr UE sydd wedi ennill y dydd—bydd y trafod yn ddilyniannol. Felly, mae’r tir hwnnw eisoes wedi’i ildio. Yr hyn a oedd yn ôl pob tebyg yn mynd i arwain at ffrae fwyaf yr haf, i ddyfynnu David Davis, nid yw hynny'n mynd i ddigwydd.

Rwy’n croesawu’r hyn a ddywedodd am y Cydbwyllgor Gweinidogion, a'r ffaith nad yw bellach yn addas at ei ddiben. Ond mae mater sylfaenol arall yma yr wyf yn credu y bydd y Bil diddymu mawr yn ceisio ymdrin ag ef, ac mewn ffordd sy'n negyddol. Sef, os bydd pwerau mewn meysydd datganoledig yn dychwelyd o Frwsel, ni fyddant byth yn cyrraedd Whitehall, byddant yn dod yn syth yma. Roedd y Bil diddymu mawr, rydym yn credu—wel, yn sicr, cyn yr etholiad—yn mynd i geisio newid y setliad datganoli, heb gyfeirio at bobl Cymru, i atal hynny rhag digwydd. Mae honno'n egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol. Ac ni allem dderbyn unrhyw sefyllfa a fyddai'n diystyru’r farn a fynegwyd yn glir gan bobl Cymru yn 2011. Byddai'n llawer mwy synhwyrol pe baem yn dweud yn syml, 'Iawn, mae’r pwerau hynny’n mynd i'r gweinyddiaethau datganoledig, ond dewch inni gytuno i beidio â gwneud dim byd â nhw, hyd nes y gallwn roi fframwaith cyffredin ar waith.' Y dewis arall yw sefydlu’r fframwaith cyffredin hwnnw, ac mae hynny'n rhywbeth na allem gytuno ag ef, oherwydd byddai hynny'n gwrthdroi rhan o'r setliad datganoli sy’n gwbl hanfodol. Rydym yn aros i weld beth fydd y Bil diddymu mawr yn ei ddweud mewn gwirionedd, ond yn amlwg mae yma broblem i Gymru.

Y mater arall, wrth gwrs, y soniais amdano yn y datganiad yw, er ei fod yn hanfodol inni, os ydym yn edrych ar fasnach, nid yw masnach wedi'i ddatganoli. Does dim dadl am hynny. Ond, er enghraifft, pe bai’r DU yn arwyddo cytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd, mae gan Gymru fudd enfawr yn hynny, oherwydd y byddai llawer mwy o gig oen o Seland Newydd yn cyrraedd y farchnad yn y DU. Yn amlwg, mae gennym farn gref am hynny—nid yw’n rhywbeth y byddem yn ei groesawu. Felly, mae'n rhaid cael mecanwaith hefyd i sicrhau bod safbwyntiau’r gweinyddiaethau datganoledig o leiaf yn cael eu hystyried pan fydd y DU yn ceisio cyd-drafod cytundebau masnach rydd, lle byddai cytundeb o'r fath yn cynrychioli anfantais negyddol i wledydd fel Cymru. Bydd yna enghreifftiau eraill sy'n effeithio ar wahanol rannau o wahanol wledydd yn y DU mewn gwahanol ffyrdd, ond mae'r rhain yn gwestiynau sylfaenol y mae angen eu hateb. Rydym wedi ceisio cael yr atebion hynny, a byddwn yn ei wahodd i fynegi barn ar y materion hynny yr wyf wedi’u hamlinellu eisoes, er mwyn inni ddeall yn llawnach beth yw ei feddyliau ers canlyniad y refferendwm y llynedd.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n diolch i’r Prif Weinidog am ei ddatganiad heddiw.

Of course, there’s no doubt that the future governance of the UK has to change once we leave the European Union. Many of us would argue that it needed to change regardless of the outcome of the referendum last year, of course. The document published by Welsh Government today elaborates on the proposals for a UK Council of Ministers to jointly agree the common frameworks that will be required once we leave the EU, and it rightly identifies a range of areas and functions that are devolved, but which work within the parameters of existing EU frameworks.

Upon leaving the EU, these matters remain devolved, as the First Minister has said, unless the UK Government acts unilaterally to re-reserve these matters, back to their pre-1999 status, and, of course, that would be unacceptable to Plaid Cymru. But we are right to be anxious about this, because, as the First Minister has said, we have had no details of the mechanics of the devolution that the UK Government has in mind post Brexit, other than warm words. And I wonder whether the First Minister can update us on any sudden change of heart the Prime Minister has on the future mechanics of devolution and co-operation between the devolved administrations on those matters that will require joint working and co-operation. I hear that she’s been swotting up on devolved government since the general election for some reason.

Whilst Plaid Cymru welcomes, of course, the proposals for the UK Council of Ministers, as was outlined originally in the White Paper between the Welsh Government and Plaid Cymru, the paper published and under consideration today has language in it that, of course, would not fit with Plaid Cymru’s political paradigm in terms of the durability, or even the desirability, of the centralised political union of the United Kingdom. But, we agree that it is in everyone’s interest and in every nation’s interest that countries work together and co-operate where they can. And I would recommend the First Minister read a pamphlet published by Gwynfor Evans in 1960, not available in any good bookshop, ‘Self-government for Wales and a Common Market for the Nations of Britain’. We do not need an over-centralised state to facilitate very good relations between our countries.

Circumstances have changed, as I’ve touched on before, since the UK general election. The Democratic Unionist Party now holds the balance of power across the United Kingdom. This certainly gives one devolved administration a political advantage that may become a significant economic advantage too. So, I wonder if the First Minister has had conversations with the Prime Minister on how we cannot have a UK Council of Ministers post Brexit, but actually an urgent UK Council of Ministers pre Brexit, now that negotiations are under way and now that one party, leading a devolved administration, holds the balance of power across the United Kingdom. What is the First Minister’s assessment of the likelihood of other devolved administrations now agreeing to a formal UK Council of Ministers, given that new political context because, perversely, there is now an interest for one party, at least, for there not to be a UK Council of Ministers, but instead for there to be a bilateral relationship between the Democratic Unionist Party and the Conservative and Unionist Party?

Also, and the First Minister touched on this in his response to the leader of the Welsh Conservatives, given the fact that the Irish border question, the issue of the common travel area and the overlapping frameworks that already exist between Northern Ireland and the Republic of Ireland are very much at the top end of the agenda in EU-UK negotiations—indeed, they were discussed yesterday on the very first day of those bilateral negotiations—is there not now scope to go beyond the document published by the Welsh Government and to bring forward proposals for a renewed British-Irish Council along the lines of the Nordic Council? Of course, in the Nordic Council area there are devolved administrations, independent states—some inside the EU, some outside the EU—and questions of land borders. Are we not at the point now where we need to be looking beyond just the confines of the United Kingdom and to ensure that there is a functioning British-Irish Council with full involvement from the devolved administrations? Because, of course, the decisions that are made in Brussels between the UK and EU on the Irish specific questions will have enormous consequences for devolved fields, from agriculture to rural affairs and to the administrations of the ports, particularly at Holyhead. So, I’d be very interested to hear whether the Welsh Government plans to publish a similar document for proposals for a renewed British-Irish Council that would involve all of the nations of these islands, not just those of us who are currently members of the United Kingdom.

Finally, this National Assembly, not so long ago, voted in favour of the introduction of a continuation Bill in order to protect the Welsh constitution and to enshrine in Welsh law the protections and rights that we enjoy today. I’d be grateful if the First Minister could update the Assembly on progress in bringing forward such a Bill.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Rwy'n meddwl ei bod yn deg dweud, cyn yr etholiad cyffredinol, nad oedd y syniad o bartneriaeth gyfartal rhwng pedair Llywodraeth yng ngeirfa Llywodraeth y DU. Roeddent yn eu gweld eu hunain yn uwch na’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig, hyd yn oed mewn meysydd a oedd wedi'u datganoli. Mae'r iaith wedi newid. Nid wyf yn siŵr a yw’r awydd, o ran beth i'w wneud yn ystod y trafodaethau Brexit, wedi newid o reidrwydd. Mae angen i dri pheth fod yn eu lle cyn i’r DU adael yr UE. Y cyntaf yw bod yn rhaid i'r Cyngor Gweinidogion eisoes fod yn weithredol oherwydd mae’n rhaid bod y strwythur i benderfynu beth sy'n digwydd i bwerau datganoledig pan fyddant yn dychwelyd yn ei le cyn i’r pwerau hynny ddychwelyd. Ni fyddai'n ddigon da inni weld Brexit ac yna sefydlu Cyngor Gweinidogion. Yn ail, mae angen sefydlu cyfres o reolau a fyddai'n rheoli marchnad sengl fewnol y DU. A bod yn ddoeth, mae'n debyg mai'r peth gorau yw cadw rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE fel y maent hyd nes y gellir datblygu cyfres o reolau. Yn drydydd, ac yn bwysicaf oll, mae angen, fel y bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn ei ddweud o'r blaen, llys annibynnol i blismona rheolau'r farchnad. Ar hyn o bryd, mae proses datrys anghydfod yn bodoli, ond mae'r anghydfodau’n cael eu datrys, yn y pen draw, gan Drysorlys y DU. Felly, os ydym mewn anghydfod â Thrysorlys y DU, Trysorlys y DU sy'n datrys yr anghydfod, ac ni all hynny fod yn realistig nac yn briodol—wel, nid yw'n briodol nawr, ond yn sicr ni all fod yn briodol yn y dyfodol. Er mwyn i unrhyw farchnad sengl lwyddo, os oes rheolau yn y farchnad sengl honno, mae’n rhaid i bawb sy'n gysylltiedig yn y farchnad honno fod yn ffyddiog bod y rheolau’n cael eu dehongli’n ddiduedd, yn ôl pob tebyg gan lys masnach. Byddai’n hawdd gwneud hynny drwy ddweud yn syml, 'Gadewch i’r Goruchaf Lys ei wneud'.

O ran yr Alban, nid yw'n glir beth fydd strategaeth yr Alban yn y dyfodol. Rwy'n meddwl ei bod yn deg dweud, yn y gorffennol, bod yr Alban wedi tueddu i fod o’r farn, 'Wel, rydym yn cytuno â'r hyn yr ydych yn ei ddweud, ond mae ein cyfeiriad teithio ni’n wahanol.' Nid wyf yn siŵr a yw hynny yr un mor glir ar ôl yr etholiad cyffredinol.

O ran Iwerddon, mae gennym gysylltiadau dwyochrog ag Iwerddon ond mae Iwerddon mewn sefyllfa anodd o ran y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yn yr ystyr bod Gweriniaeth Iwerddon, yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yn rhan o’r parti trafod arall—mae'n rhan o'r UE, felly mae'n hynod lletchwith i Weriniaeth Iwerddon gynnig barn yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig oherwydd ei bod yn rhan o farn gyfunol yr UE. Mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ddefnyddiol iawn i weinyddiaethau Iwerddon oherwydd mae’n rhoi cyfle iddynt i gyfarfod ag awdurdodaethau mwy, ac mae ganddynt gŵyn benodol sef, os yw'r DU yn gadael yr undeb tollau, y byddan nhw hefyd, heb i neb ofyn iddynt. Felly, o'u safbwynt nhw, maent mewn sefyllfa annymunol. Rwy'n meddwl, ymhen amser, cyn gynted â bod Brexit wedi ei ddatrys a’r Weriniaeth yn teimlo bod ganddi efallai ychydig yn fwy o ryddid, efallai, nag sydd ganddi ar hyn o bryd o ran negodi, yna efallai y bydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn dechrau tyfu. Mae'n rhaid dweud, yn hanesyddol, nad yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig y mae penderfyniadau wedi cael eu gwneud; mae wedi tueddu i fod yn fan lle ceir trafodaeth gyffredinol, rhai cytundebau dwyochrog, ond nid yw wedi bod yn gorff arbennig o rymus. Yn y mwy na saith mlynedd erbyn hyn ers imi fod yn Brif Weinidog, nid yw Prif Weinidog y DU wedi bod yn bresennol unwaith yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, sy'n dangos ichi, a dweud y gwir, faint o flaenoriaeth y mae’r DU yn ei rhoi i'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, er bod Taoiseach Iwerddon wedi bod yno bob amser.

O ran rhai o'r materion a gododd, mater Iwerddon, unwaith eto, soniodd amdano yng nghyd-destun y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Mae hynny, fel yr wyf wedi’i ddweud o'r blaen, yn berthnasol i ni yng Nghymru. Os caiff ffin forol rhwng Cymru ac Iwerddon ei hystyried yn anoddach na'r ffin rhwng y gogledd a'r de yn Iwerddon, bydd goblygiadau masnachol inni. Mae saith deg y cant o'r fasnach rhwng Prydain Fawr ac ynys Iwerddon yn mynd drwy porthladdoedd Cymru. Mae unrhyw beth sy'n ymyrryd â hynny yn amlwg yn ddrwg i Gymru, ac yn ddrwg i swyddi.

Yn olaf, gofynnodd am y Bil parhad. Mae'n rhywbeth yr ydym yn dal i’w ystyried. Mae wedi gwneud yr achos o’i blaid—rwyf wedi gwrando'n ofalus arno ac mae'n gwneud achos cryf o’i blaid. A yw'r sefyllfa wedi newid ers yr etholiad, dydyn ni ddim yn gwybod, ond dydw i ddim yn meddwl y gallwn gymryd dim byd yn ganiataol. Felly, gallaf ei sicrhau bod y Bil parhad nawr yn cael ei ystyried gan gyfreithwyr.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma a'r papur a gynhyrchodd ac a gyhoeddodd ddydd Iau diwethaf? Rwy'n meddwl, wrth i’r pwyllgor gymryd tystiolaeth dros y 12 mis diwethaf, ein bod wedi nodi nifer o faterion. A gwnaethoch siarad am y Cydbwyllgor Gweinidogion—rwy’n meddwl, o'n hadroddiad cyntaf ymlaen, bod y Cydbwyllgor Gweinidogion wedi cael ei weld fel mwy o bantomeim na chorff gweithredu go iawn a fydd yn gwneud penderfyniadau, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi tynnu sylw at y mater i ymdrin â hynny. A gaf i ofyn un neu ddau o bwyntiau? Rydych chi’n tynnu sylw at gymorth gwladwriaethol fel un enghraifft, ac rwy’n cytuno â chi bod angen cysondeb ledled y DU ar gyfer y farchnad fewnol honno, ond a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda'r gwledydd datganoledig eraill ynghylch sut y gellir symud ymlaen â hynny, nid yn unig yn y Cyngor Gweinidogion, ond efallai â mecanweithiau eraill i ganiatáu i’r trafodaethau hynny ddigwydd er mwyn sicrhau bod gan ein cenhedloedd datganoledig ymagwedd gyson? Rwy’n deall nad yw Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn eistedd ar hyn o bryd, ond maent yr un mor bwysig ag mewn mannau eraill.

Yn eich papur, roeddech yn tynnu sylw—ac yn eich datganiad—at y ffaith eich bod yn paratoi i amddiffyn Cymru rhag i Dorïaid San Steffan sathru arni, ac rwy’n gobeithio y bydd yr wyth AS Torïaidd Cymreig sydd wedi goroesi’n ymuno â chi ac yn eich cefnogi yn hynny o beth. Ond a allwch chi roi unrhyw fanylion pellach? Oherwydd, yn eich ateb i Steffan Lewis, wnaethoch chi ddim wir nodi pa bwynt sbardun a fyddai'n berthnasol, a gyflwynwyd o dan y Bil parhad, pe bai angen ichi wneud hynny, oherwydd mae’r amserlenni a fyddai gennym yn bwysig yn yr agwedd honno, ac mae'n bwysig deall pa bwynt sbardun y byddai ei eisiau arnoch i wthio’r botwm hwnnw, i bob diben.

A allwch chi hefyd ateb y cwestiwn ynghylch y gallu yn Llywodraeth Cymru? Rydym wedi cael y cwestiwn hwn lawer gwaith, sef a oes gennych chi wir y gallu i weithio gyda gwledydd datganoledig a Whitehall i sicrhau bod hyn yn cyflawni. Nawr, mae’r Cyngor Gweinidogion hwn yn nodi y bydd corff gweinyddol ar wahân ag aelodau wedi’u secondio arno o wahanol wledydd datganoledig. A oes gennym y gallu i wneud hynny i sicrhau y gall weithio mewn gwirionedd?

Y diwrnod ar ôl i chi gyhoeddi eich adroddiad, cyhoeddodd y pwyllgor eu hadroddiad am ystyriaethau cychwynnol y Bil diddymu mawr, ac rwy'n meddwl y gwelwch fod gennym bryderon dwfn dros allu Llywodraeth y DU i siarad mewn gwirionedd â’r gwledydd datganoledig. O’r dystiolaeth yr ydym wedi’i chael, dydyn nhw ddim yn gwneud hynny, i fod yn onest. Ar y Bil diddymu, ni wnaethant ymgynghori â Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn ystyriaethau deddfwriaethol, pwysig, y mae angen iddynt eu hystyried gyda chi a'r Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd. Byddwn yn gobeithio y byddwch yn gwthio Llywodraeth y DU—nid dim ond y Cyngor Gweinidogion—i ryngweithio’n well â’r cyrff seneddol hefyd i sicrhau y gellir ystyried y ddeddfwriaeth a ddaw drwodd o ganlyniad i'r Bil diddymu mawr a sicrhau ei bod yn cyflawni ei nod i’r DU ac i'r gwledydd datganoledig yn annibynnol.

Ac, yn olaf, cawsom gyfarfod â swyddogion a Gweinidogion o Iwerddon ddoe ar ein hymweliad ag Iwerddon i drafod porthladdoedd Cymru. Maent yn amlwg yn wynebu problemau, a hynny’n bennaf o ganlyniad i benderfyniad pobl y DU i adael yr UE. Buom yn sôn am borthladdoedd Cymru a chysylltiadau o'r dwyrain i'r gorllewin, i bob diben. Rwy'n gwybod bod y pwyslais wedi bod ar y cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de, o fewn ynys Iwerddon ei hun, ond mae'n bwysig ein bod yn adlewyrchu hynny yn y DU, oherwydd mae’r ystyriaethau TEN-T ar gyfer y llwybrau ar draws y DU—yr iaith a ddefnyddiwyd—yn bwysig. Mae angen cael trafodaethau yno gyda Llywodraeth y DU. Rwyf hefyd yn pryderu y gallai Llywodraeth y DU ganolbwyntio'n glir ar y porthladdoedd yn Lloegr, gyda chyfandir Ewrop, yn fwy na ni. Cawsom glywed ddoe bod trafodaethau gyda Philip Hammond wedi nodi y byddent yn cymryd pedair blynedd i roi mecanweithiau ar waith yn Dover i drin unrhyw beth nad yw'n rhan o'r undeb tollau. Beth sy'n mynd i ddigwydd i borthladdoedd Cymru yn yr ystyr hwnnw, a sut y byddwn yn sicrhau ein bod yn cael ein trin yn deg ac nad yw hyn yn cael ei adael i borthladdoedd Lloegr a’n bod ni’n cael ein gadael yn yr oerfel unwaith eto?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Yn gyntaf oll, nid yw'r dull wedi bod yn gyson, dewch inni ddweud, o ran y gwledydd datganoledig. Mae rhai adrannau’n well nag eraill, ar lefel swyddogol, am ymgysylltu. Gweithred gyntaf un Michael Gove—un o weithredoedd cyntaf un Michael Gove—fel ysgrifennydd DEFRA oedd canslo cyfarfodydd â’r Gweinidogion datganoledig, sef nid y cam mwyaf cadarnhaol y gallai fod wedi’i gymryd o bosibl. Rwyf, fel y bydd yr Aelod yn ei wybod, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog. Yn hynny, rwyf wedi awgrymu Cydbwyllgor Gweinidogion ar unwaith. Rwyf wedi awgrymu y dylem wahodd arweinwyr y DUP a Sinn Fein, er nad ydynt yn Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog eto, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig eu bod yn rhan o'r trafodaethau hynny.

Mae Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn gwbl dawel, hyd y gwela’ i, hyd yn hyn. Mae’n wahanol iawn i safbwynt Ceidwadwyr yr Alban, sydd wedi bod yn llafar iawn ac wedi cael canlyniad etholiad da yn yr Alban. Mae Ruth Davidson a'i thîm wedi bod yn llafar iawn wrth amlinellu'r hyn y maent yn credu y dylai'r DU ei wneud. Nid wyf wedi clywed dim byd o gwbl gan ASau y Ceidwadwyr Cymreig, ac rwy’n gresynu wrth hynny oherwydd mae ganddynt lais pwysig yn rhan o'r ddadl, ond does dim byd wedi’i glywed ganddynt eto.

O ran y Bil parhad, yr un peth yr ydym yn ei wybod yw y byddai angen i'r Bil parhad ddod yn Ddeddf cyn i’r Bil diddymu mawr ddod yn Ddeddf, oherwydd byddai angen inni ddiogelu ein sefyllfa cyn i’r Bil diddymu mawr allu ymyrryd â hi. Felly, mae'r gwaith eisoes yn mynd rhagddo, ond rydym yn gwybod mai dyna'r amserlen yr ydym yn gweithio iddi. Mae'r Bil diddymu mawr yn mynd i gymryd—hynny yw, mae rhai lleisiau yn San Steffan sy'n meddwl y gellir gwneud hyn erbyn y Nadolig. Yn blwmp ac yn blaen, mae'r ffaith nad oes dim Araith y Frenhines y flwyddyn nesaf yn arwydd o ba mor hir mae wir yn mynd i'w gymryd. Felly, byddwn yn cadw llygad ar yr amserlen yno.

Mae'r cwestiwn am allu Llywodraeth Cymru yn un teg. Mae'n rhywbeth yr wyf wedi bod yn ei archwilio am gryn amser gyda'r Ysgrifennydd Parhaol. Rwy'n hyderus bod gennym y bobl iawn yn eu lle. Ni fydd gennym byth ddyfnder fel sydd gan Lywodraeth y DU, oherwydd y niferoedd, ond mae gennym y gallu a'r arbenigedd ac rwy'n hyderus y gallwn gwrdd â'r her sydd o'n blaenau. Mae’n anochel y bydd goblygiadau i’r Cynulliad hwn. Efallai y bydd y Cynulliad yn wynebu beichiau deddfwriaethol mawr dros y blynyddoedd nesaf. Ni fyddwn yn gwybod hyd nes inni weld testun y Bil diddymu mawr ei hun.

Ac, yn olaf, ar y porthladdoedd—. Wel, wrth gwrs, barn Llywodraeth y DU fydd, 'Wel, bydd Iwerddon yn iawn oherwydd mae ardal deithio cyffredin wedi bodoli erioed’. Wel, nid yw hynny'n wir mwyach. Am y tro cyntaf, mae’n bosibl y bydd rheolaethau ar y ffin. Does neb am weld hynny. Efallai yn fwy realistig, bydd archwiliadau tollwyr eto. Nawr, allwch chi ddim cael ffin ddi-dor ac archwiliadau tollwyr. Os yw Iwerddon o fewn yr undeb tollau, ac nad yw'r DU, bydd yn rhaid ichi gael archwiliadau tollwyr sy'n drwyadl, a gyda hynny rydych yn wynebu’r risg o achosi gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon eto, neu rydych yn creu paradwys i smyglwyr, a dweud y gwir. Roedd y ffin honno’n adnabyddus am flynyddoedd fel man lle’r oedd llawer iawn o smyglo’n digwydd. Byddai hyn yn gwneud hynny’n waeth byth. Mae hynny'n rhywbeth na fyddai er budd y naill na’r llall ohonom, nac yn wir ynys Iwerddon. Pan wyf wedi codi'r mater hwn, yr ateb yr wyf bob amser wedi’i gael yw, 'O, caiff ei ddatrys'. Wel, does dim arwydd ei fod yn cael ei ddatrys eto, a dyna, o bosibl, yw'r rhan anoddaf o'r trafodaethau. Beth wnewch chi—? Oherwydd mae’r rhan fwyaf o bobl sy'n byw ar yr ynys hon yn meddwl bod y DU yn ynys a dydyn nhw ddim wedi ystyried y ffaith bod yna ffin tir—a dweud y gwir, dyna un o'r materion anoddaf y bydd angen eu datrys.

Rwy’n croesawu’r datganiad heddiw. Yn benodol, rwy’n croesawu’r dôn y mae'r Prif Weinidog wedi’i mabwysiadu; rwy’n meddwl ei bod yn realistig ac yn rhesymol ac yn fwy argyhoeddiadol o’r herwydd. Rwy’n falch ei fod wedi symud ymlaen o'r refferendwm yn y 12 mis diwethaf, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â’r dôn a glywsom gan arweinydd Plaid Cymru yn gynharach heddiw. Dyna'r ffordd, rwy’n meddwl, i hybu buddiannau Cymru gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac, yn wir, yn fwy eang hefyd.

Er fy mod yn cymeradwyo’r hyn a ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, bod angen inni sefydlu consensws mor eang â phosibl i gefnogi'r safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac, yn UKIP, bydd y Prif Weinidog yn gweld efallai ein bod yn nes at ei safbwynt ef nag y mae'r Ceidwadwyr Cymreig. Yn benodol, fel yr wyf wedi’i ddweud o'r dechrau, dylem gael pob ceiniog o arian trethdalwyr Prydain y mae Brwsel ar hyn o bryd yn ei gwario yng Nghymru yn ôl yma yng Nghaerdydd, a hefyd rydym yn erbyn cipio’r pwerau sydd wedi'u datganoli yn ôl mewn unrhyw ffordd. Ac rwy’n llwyr gefnogi'r datganiadau y mae'r Prif Weinidog wedi'u dweud heddiw ynglŷn â hynny i gyd.

Rwyf hefyd yn ategu ei farn bod angen i Lywodraeth y DU ein trin â pharch ac na fydd yr undeb yn goroesi ac yn ffynnu oni bai bod pob cyfranogwr ynddi’n arddangos y nodweddion hynny. Mae'n drueni, rwy'n meddwl, nad yw Llywodraeth y DU wedi bod yn fwy cynhwysol nac wedi ceisio symud ymlaen gyda Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Rwyf yn sicr yn anghymeradwyo’r ffaith bod Michael Gove wedi canslo ei gyfarfod a gynlluniwyd gyda Gweinidogion datganoledig.

Gofynnodd y Prif Weinidog i arweinydd Ceidwadwyr Cymru beth yw ei bolisi ar amrywiaeth o faterion, ac, wrth gwrs, hoffem gael mynediad rhydd, cyn belled ag y bo modd, i farchnadoedd Ewrop, ac rydym yn erbyn rhwystrau di-dariff. Nid y broblem gyda'r farchnad sengl wrth iddi ddatblygu oedd y syniad a oedd gan y Llywodraeth pan oeddwn yn aelod ohoni, a oedd yn seiliedig ar achos Cassis de Dijon yn Llys Cyfiawnder Ewrop, lle nad oedd angen rheoleiddio’n fanwl pob cynnyrch a gynhyrchwyd yn y Cymunedau Ewropeaidd, fel yr oeddent ar y pryd, fel bod pawb wedi’i gaethiwo mewn un gyfres o reoliadau, ond y gallech werthu unrhyw gynnyrch a oedd yn gyfreithlon mewn un wlad mewn unrhyw wlad arall, a byddai hynny, rwy’n meddwl, wedi bod yn ffordd well o lawer i’r Undeb Ewropeaidd symud ymlaen. Ond aethant i'r cyfeiriad arall a chanlyniad hynny oedd y bleidlais, rwy’n meddwl, ar 23 Mehefin y llynedd.

Ond mae'n rhaid inni dderbyn bod symud yn rhydd yn eitem nad yw'n agored i drafodaeth ar gyfer Llywodraeth Prydain, oherwydd dyna oedd un o'r prif gynhwysion y tu ôl i benderfyniad pobl Prydain fis Mehefin diwethaf. Ceir problemau o ran ffiniau Gogledd Iwerddon—rwy’n derbyn hynny’n llawn ac mae’r rheini’n broblemau ymarferol y mae angen eu datrys. O ran yr undeb tollau, ni allaf weld sut y byddai’n bosibl inni aros y tu mewn i'r undeb tollau, oherwydd byddai hynny'n golygu y byddem yn colli un o brif fanteision Brexit, sef y gallu i lunio cytundebau masnach rydd â'r 85 y cant o'r economi fyd-eang nad yw’n rhan o'r UE.

Er fy mod yn derbyn yn llwyr yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn dweud, sef bod rhywun yn siŵr o ennill a cholli mewn unrhyw gytundeb masnach rydd, a bod yn rhaid diogelu’r collwyr cyn belled ag y gallwn, dylai Llywodraeth Prydain, felly, gychwyn trafodaethau ystyrlon gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i geisio dod o hyd i gynnig cyfansawdd sy'n golygu bod unrhyw grŵp penodol—gadewch inni ystyried ffermwyr defaid, er enghraifft, fel un o'r enghreifftiau gorau o hyn—a allai fod o dan anfantais drwy gytundeb masnach rydd, fel y dywedodd y Prif Weinidog, gyda Seland Newydd, bod gennym ryw fodd i amddiffyn eu buddiannau. Dydw i, yn anffodus, ddim yn gweld unrhyw fecanwaith ar hyn o bryd sydd wedi ei sefydlu gan Lywodraeth y DU i ymdrin â'r anhawster cyfansoddiadol hwnnw.

Felly, rwy’n croesawu'r cynigion y mae'r Prif Weinidog wedi’u cyflwyno ar gyfer creu rhyw fath o gyngor Gweinidogion ar gyfer y DU, er bod gan y rheini ohonom sydd wedi bod yn aelodau o Gyngor y Gweinidogion yn yr UE, yn ddiau, lawer o feirniadaeth o'r modd y mae’r sefydliad cyfrinachgar hwnnw’n gweithio. Mae'n sicr yn syniad diddorol y dylid cyflwyno rhyw fath o system pleidleisio drwy fwyafrif cymwysedig yn y DU—yn cynnwys Llywodraeth y DU yn ogystal ag un weinyddiaeth ddatganoledig—er na fyddwn am gymeradwyo hynny heb feddwl ymhellach.

Nid wyf yn cytuno â'r Prif Weinidog pan ddywedodd fod y wlad wedi ei rhannu’n ddwfn. Mae'r rhaniadau sy'n bodoli yn ddwfn, ond mae'r mwyafrif llethol o bobl yn y wlad hon naill ai wedi croesawu penderfyniad y refferendwm fis Mehefin diwethaf yn frwd, neu wedi addasu iddo. Dim ond efallai 20 y cant o'r boblogaeth sydd â safbwynt gwahanol, a phleidleisiodd 83 y cant o'r bobl a bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol ychydig ddyddiau yn ôl dros bleidiau sydd wedi ymrwymo’n ffurfiol i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn siŵr y byddai confensiwn ar ddyfodol y DU yn ddefnyddiol ar hyn o bryd. Yn wir, mae canlyniad yr etholiad cyffredinol, fel y nododd y Prif Weinidog, yn yr Alban yn dangos efallai fod y cyfeiriad teithio i’r gogledd o'r ffin braidd yn wahanol i'r hyn yr oeddem yn ei feddwl dim ond ychydig wythnosau’n ôl, ac efallai y byddai'n well gweld sut yr aiff pethau am ychydig o amser eto cyn inni geisio meddwl am sefydliadau ffurfiol sydd wedi'u cynllunio i fod yn barhaol.

Dim ond un pwynt arall yr hoffwn ei wneud, o ystyried yr amser, nad yw wedi cael sylw hyd yn hyn, sef y gosodiad ar dudalen 12 y ddogfen hon, sy'n cyfeirio at y corpws o reoleiddio y byddwn yn ei etifeddu gan yr UE pan fyddwn yn gadael. Nid wyf yn meddwl ei bod yn iawn gwneud datganiad cyffredinol y dylem gadw ar gyfer y tymor hir yr amddiffyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol yr ydym wedi’u cronni drwy'r UE. Rwy'n meddwl y dylem edrych ar bopeth sydd ar y llyfr statud deddfwriaethol ar hyn o bryd a’i ystyried o'r newydd o ran a yw'n gwbl gymesur, a ellid cael gwared ar lawer o'r rheoliadau hyn yn gyfan gwbl neu eu trwsio mewn rhyw ffordd i leihau'r gost i'r cyhoedd heb beryglu dim o'r buddiannau cyhoeddus y maent wedi’u cynllunio i’w hamddiffyn. Dros 45 mlynedd, mae toreth o ddeddfwriaeth wedi ei chynhyrchu yn fanwl tu hwnt, yn aml iawn heb brin ddim goruchwyliaeth seneddol o gwbl. Mae rhai rheoliadau sy'n uniongyrchol berthnasol, er enghraifft, ond nid ydynt erioed wedi bod yn destun pleidlais mewn unrhyw ffordd yn Nhŷ'r Cyffredin. Gyda llawer o'r cyfarwyddebau—rwyf wedi eistedd ar bwyllgorau i’w hystyried, ond heb gael y pŵer i wneud unrhyw newidiadau sawl gwaith yn y degawdau diwethaf—rwyf wedi dod yn gwbl ymwybodol o'r diffyg democrataidd, felly dylem ymdrin â hynny. Bydd yn cymryd amser hir iawn, iawn wir, ond serch hynny rwy’n meddwl y dylem gymryd golwg hyblyg ar hyn. Ac er budd Cymru, ac ystyried mai ni yw’r rhan dlotaf o’r Deyrnas Unedig, dylem geisio ein gwneud ein hunain mor gystadleuol ag y bo modd i godi lefel incwm ein pobl. Felly, rwy’n rhoi cefnogaeth eang i'r Prif Weinidog am y dull y mae wedi’i gymryd heddiw, ac rwy'n meddwl bod hon yn llawer gwell dogfen na'r ddogfen ar y cyd a gynhyrchwyd gyda Phlaid Cymru. Rwy'n meddwl ei fod yn llawer gwell pan fo’n aredig ei gŵys ei hun, yn hytrach na bod rhywun yn arafu’r aradr y tu ôl iddo.

Wel, rwy’n amau pe bai ef yno, na fyddai'r aradr yn symud o gwbl pe bawn yn ceisio ei gwthio. Rwy’n mynd i geisio bod yn hael o ran yr hyn a ddywedodd. Rydym mewn safleoedd gwahanol iawn. Rwy’n cytuno ag ef am un peth, sef ei bod yn hynod bwysig bod y DU yn addasu i’r realiti newydd. Nid yw ef a mi byth yn mynd i gytuno am yr undeb tollau; rwy'n meddwl y dylem fod o fewn yr undeb tollau. Ni allaf weld bod unrhyw ddewis arall. Mae Iwerddon eisoes wedi cael ei chrybwyll o ran sicrhau, er enghraifft, ein bod yn cael chwarae teg i'n cynhyrchwyr modurol, i gwmnïau fel Airbus, i’n diwydiant dur—dyna’r lleiaf sydd ei angen.

Mae'n gywir i ddweud bod y rhan fwyaf o bobl naill ai wedi pleidleisio dros Brexit neu wedi derbyn y syniad; rwy'n meddwl bod hynny’n eithaf gwir. Y broblem yw na all pobl gytuno ar ba fath o Brexit y maen arnynt ei eisiau. Rydym yn gwybod nad yw pobl o blaid Brexit caled; cafodd hynny ei wrthod yn yr etholiad cyffredinol. Bydd gan bobl safbwyntiau gwahanol iawn am yr hyn y mae Brexit yn ei olygu iddynt. Mae pobl wedi dweud wrthyf, 'fe wnes i bleidleisio dros Brexit am fy mod i eisiau gadael y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol' ac rwyf wedi gorfod dweud wrth bobl, 'Does gan hwnnw ddim byd i'w wneud â'r UE'. Ac eto mae rhai pobl wedi dweud wrthyf mai dyna sut y gwnaethant bleidleisio. Mae’r rhan fwyaf o bobl am weld Brexit yn digwydd—maent o'r farn mai’r bleidlais yw’r bleidlais a dyna ni—ond mae'n eithaf clir o'r etholiad nad yw pobl eisiau ei weld yn digwydd yn y ffordd galetaf bosibl. Nid ydynt eisiau gweld sefyllfa lle nad oes bargen; nid ydynt eisiau gweld sefyllfa lle’r ydym ar ymyl clogwyn ar ôl Mawrth 2019; ac maent yn dymuno i Lywodraeth Prydain negodi’n rhesymol, o safbwynt pragmatig, nid o safbwynt cenedlaetholgar, sef yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn.

Ni allaf gytuno ag ef am y confensiwn. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen confensiwn. Mae'n iawn i ddweud bod y daith tuag at annibyniaeth yn yr Alban wedi mynd i gyfeiriad gwahanol ar ôl yr etholiad cyffredinol, ond nid yw’n hynny’n golygu, rywsut, bod diffyg archwaeth am ddatganoli yn yr Alban nac yng Nghymru. Dyna pam y mae mor bwysig, wrth inni wynebu'r dyfodol, wrth inni weld y DU—sydd nawr yn mynd i fod fel UE bychan, yn hytrach na gwlad sy'n edrych fel Ffrainc neu'r Almaen yn y dyfodol—ein bod yn sicrhau’r strwythur cywir fel y gall y DU gynnal yr hyblygrwydd y mae wedi gallu ei ddangos yn y gorffennol i ganiatáu i hunaniaethau a safbwyntiau’r cenhedloedd llai gael eu clywed tra, ar yr un pryd, yn cadw’r undeb. Mae’r undeb wedi gorfod newid. Bydd yn rhaid i'r undeb newid yn y dyfodol. Dylai’r hyblygrwydd hwnnw roi nerth.

Ei farn ef yw y dylem fod yn hafan trethi isel. Mae wedi dweud hynny sawl gwaith. Ni allaf gytuno ag ef am hynny. Dydw i ddim yn barod i wanhau rheoliadau amgylcheddol. Dewch inni beidio ag anghofio bod gan y DU, ar un adeg, ddeddfwriaeth amgylcheddol ofnadwy. Roedd ein hafonydd yn llawn llygredd, roedd yr aer yn llygredig ac roeddem yn gyfrifol, i raddau helaeth, am law asid. Yr Undeb Ewropeaidd a’n gorfododd ni i lanhau pethau, a'r peth olaf yr ydym am ei wneud yw mynd yn ôl i'r dyddiau hynny. Dyna pam, i mi, mae'n gwneud synnwyr i gadw'r corpws presennol o ddeddfwriaeth yr UE ac, ymhen amser, archwilio pa reoliadau sy'n briodol i Gymru.

A gaf i groesawu datganiad y Prif Weinidog a'r datganiad 'Brexit a Datganoli', sy’n achos sylweddol a rhesymegol, ac yn eirioli dros realiti newydd? Mae ganddo hefyd, yn hollbwysig, dôn o bartneriaeth wrth gydnabod bod pob rhan o'r DU yn dymuno gwneud i’r trefniadau newydd weithio ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd.

A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog—? Yn ei ddatganiad ac yn y papur 'Brexit a Datganoli', mae cyfeiriadau at ‘lunio fframweithiau rhwymol i’r DU a chytuno arnynt’. A all gadarnhau a yw'n rhagweld, yn ogystal â phenderfyniadau unigol o fewn y cyngor Gweinidogion, y gellid cytuno ar y fframweithiau sylfaenol ar y sail honno hefyd, sef y fformiwla DU adio 1 y mae’r datganiad hefyd yn ei nodi? Hefyd, a wnaiff gadarnhau ym mha ystyr y byddai’r fframweithiau hynny’n rhwymol? A yw'r datganiad, i bob pwrpas, yn dweud y byddent yn rhwymol mewn statud mewn rhyw ffordd?

Mae hefyd yn cyfeirio, fel yr adleisiodd ef yn ei ddatganiad, at 'gyflafareddu wedi’i reoli’n annibynnol’. Unwaith eto, a fydd y broses honno’n broses statudol â dannedd, neu, os na fydd, a all ymhelaethu ar y cynnig hwnnw?

Mae’r papur yn cyfeirio at sylfaen statudol i’r cyngor Gweinidogion, ac mae’n fy nghalonogi ein bod, efallai, yn rhannu'r farn y gallem—er gwaethaf amharodrwydd hanesyddol Llywodraeth y DU i ymdrin â materion yn gyffredinol yn y maes hwn gyda golwg sy’n seiliedig ar gydlyniad a rheswm—symud y tu hwnt i ryw fath o ddull ysgwyd llaw at un sy'n ymgorffori, mewn statud, y cysylltiadau rhynglywodraethol newydd hyn, yn union fel y mae’r pwerau datganoli wedi’u hymgorffori mewn statud ac, os caf i ddweud, efallai, ar ryw adeg, y gallai fod gennym fformiwla ariannu deg yn seiliedig ar statud hefyd.

Yn gyntaf oll, ydy, o ran fframweithiau’r DU, mae’r DU adio 1, yn ein barn ni, yn ffordd resymol o ddatrys anghydfodau. Byddem yn gobeithio, wrth gwrs, y byddai yna unfrydedd, ond yn absenoldeb unfrydedd, mae'n rhaid cael proses ar waith sy'n ymdrin â sut i wneud penderfyniadau.

O ran fframweithiau rhwymol, ni fyddai’r fframweithiau hynny’n rhwymol drwy statud, ond byddent yn rhwymol drwy gytundeb. Nawr, byddai hynny'n golygu, er enghraifft, pe bai busnes yn teimlo bod un Llywodraeth yn torri rheolau cymorth gwladwriaethol, y byddai ganddo’r hyder i fynd at y corff dyfarnu er mwyn i'w cwyn gael sylw. Felly, nid yw'n gymaint o fater o un Llywodraeth yn cwyno am un arall; mae’n fwy o fater o fusnesau’n mynd â materion i'r llys os ydynt yn teimlo eu bod yn torri'r rheolau cymorth gwladwriaethol, yn debyg i’r hyn sy’n digwydd nawr.

O ran yr hyn y byddai'r llys ei hun yn ei wneud, byddai'n ddyfarnwr, yn hytrach nag yn gyflafareddwr. Mae'n rhaid iddo wneud penderfyniadau yn hynny o beth. Yn syml, byddai’r partïon yn cytuno y dylai'r llys hwnnw fod y llys annibynnol sy'n eu rhwymo. Mae'n gyffredin mewn marchnadoedd unigol mewnol. Mae Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yn gweithredu fel rheoleiddiwr ar gyfer masnach rhwng taleithiau o fewn yr Unol Daleithiau, sy’n cynnal marchnad sengl yr Unol Daleithiau o ran nwyddau a gwasanaethau. Cyn belled ag y mae’r Llys EFTA dan sylw, mae'n gwneud yr un peth ar gyfer EFTA; mae Llys Cyfiawnder Ewrop yn gwneud yr un peth ar gyfer y farchnad sengl Ewropeaidd. Mewn unrhyw farchnad sengl, os bydd yna reolau, mae angen dyfarnwr annibynnol sy'n plismona’r rheolau hynny, fel yr wyf wedi’i ddweud o'r blaen.

O ran y cyngor Gweinidogion, mae'n codi pwynt diddorol: a ddylid cael sail statudol? Mae'n debyg y byddai’r sail statudol honno’n dod drwy ddeddfwriaeth ar y cyd a fyddai'n gorfod mynd drwy’r pedair senedd ar yr un pryd er mwyn iddi gael y math o sail statudol y byddai ei hangen. Dyna syniad diddorol. Byddai cydlynu hynny’n her, ond serch hynny mae'n un sydd yn sicr yn werth ei harchwilio. Ond yn y pen draw, ni all marchnad sengl fewnol weithio oni bai bod cytundeb rhwng y partïon sy'n bodoli o fewn y farchnad honno a bod yna gorff i blismona'r rheolau hynny. Fel arall mae'n peidio â bod yn farchnad sengl fewnol, ac yna mae'n dod yn farchnad lle y mae'n bosibl, i bob diben, cael rhyfeloedd masnach o fewn y farchnad, ac nid yw hynny'n rhywbeth, does bosib, y byddem yn ei groesawu, yn enwedig o ystyried ein maint a'r anhrefn y byddai’n ei achosi o fewn y farchnad honno.

Rwyf fi, fel eraill, yn croesawu'r datganiad heddiw, ond hefyd y ddogfen, 'Brexit a Datganoli', yn ogystal. Byddwn yn dweud, hefyd, ein bod yn canmol unwaith eto y ffaith bod yma yn y Cynulliad—o fewn Llywodraeth Cymru—barodrwydd i sefyll a dangos arweinyddiaeth ar bethau sydd, i lawer o bobl, byddent yn dweud 'Pam y mae hyn yn bwysig?' Ac eto pe baech yn darllen y ddogfen sy'n sail i’r datganiad hwn, gallwch weld bod elfen yma o ddiogelu cyfansoddiad y Deyrnas Unedig ar gyfer y dyfodol, hefyd. Nid dim ond ymateb i'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd o fewn Brexit a thrafodaethau Ewropeaidd ydyw; mae'n edrych ymlaen ychydig hefyd. Ond hoffwn roi ychydig o brawf i’r Prif Weinidog yn gyntaf i weld ai dim ond taflu clogfaen anferth i’r pwll i weld beth ddaw allan o’r crychdonnau sy'n deillio ohono yw hyn, ynteu a oes rhywfaint o hyn wir yn gyraeddadwy yn fuan hefyd. Rydym yn sylwi, yn y sylwadau i gloi yn yr adroddiad sy'n sail i hwn, bod Llywodraeth Cymru yn dweud:

Mae Llywodraeth Cymru yn sylweddoli, i lawer yn y DU, y gallai rhai o'r syniadau a amlinellir yn y ddogfen hon ymddangos yn heriol. Byddai eu mabwysiadu’n golygu gwaith ailadeiladu mawr ar gyfansoddiad y DU, ac nid ydym yn bychanu hyn.

Ond mae, o fewn y datganiad ac o fewn y ddogfen, yn gwahanu’r materion ehangach, a’r materion hirach, efallai, fel y confensiwn cyfansoddiadol a’r drafodaeth ehangach honno, oddi wrth y materion brys sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, megis, fel y mae llawer o bobl eraill wedi sôn amdano, y posibilrwydd o symud at gyngor o Weinidogion—nid Cydbwyllgor Gweinidogion; nid Cydbwyllgor Gweinidogion wedi’i gryfhau, ond cyngor o Weinidogion a’r holl fecanweithiau y byddai hynny’n ei olygu.

Felly, y cwestiwn cyntaf i'r Prif Weinidog yw: pa mor realistig y mae'n meddwl yw’r siawns y gallai Llywodraeth y DU fabwysiadu'r cynigion yma am gyngor Gweinidogion? Ynteu a yw'n credu bod rhyw fesur sydd ar y ffordd tuag at hynny, fel JMC cryfach a fyddai'n rhannu rhai o'r un nodweddion â chyngor Gweinidogion? Mwy o gydraddoldeb; mwy o barch rhwng y partneriaid sydd ynddo; agenda ystyrlon y cytunwyd arni ac sy’n cael ei gosod gan y rheini sy'n cymryd rhan yn y Cydbwyllgor Gweinidogion, lle gwneir penderfyniadau—yn y cyfan ond, i bob diben, cyngor Gweinidogion fel y mae'n ei ddweud. A yw hyn yn rhywbeth y byddai'n gobeithio, hyd yn oed yn fyr o hyn, y byddai Llywodraeth y DU, a’r partneriaid eraill o amgylch y DU, wir yn ei dderbyn?

Yn ail, a gaf i ofyn iddo: yn y cyd-destun gwleidyddol presennol sydd gennym ar ôl yr etholiad cyffredinol yr ydym newydd ei gael, a yw'n meddwl bod hyn yn gwneud ei uchelgeisiau o fewn y lle hwn yn fwy neu’n llai gwireddadwy? Mae Neil eisoes wedi dweud ei fod yn credu bod rhai o'r materion mwyaf, fel y confensiwn cyfansoddiadol, yn dal i fod yn rhai sy'n ddyheadau mwy hirdymor. Nid wyf yn gwybod, ond byddai gennyf ddiddordeb yn ymateb y Prif Weinidog i hynny oherwydd, unwaith eto, mae'n ymddangos yn y lle hwn bod rhai rhannau, fel y cyngor Gweinidogion, sy’n rheidrwydd—yn rheidrwydd brys. Gallai eraill fod yn uchelgeisiau mwy hirdymor. Ond a yw’r cyd-destun gwleidyddol presennol wedi newid y posibilrwydd o wneud hyn yn realiti?

Yn drydydd, dyma—

Chi yw'r trydydd siaradwr, ac felly dylai fod yn ddatganiad ac un cwestiwn, ac rwy’n meddwl fy mod wedi bod yn drugarog.

Gan mai chi yw Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, rwy’n mynd i ganiatáu’r trydydd pwynt hwnnw ichi, yn fyr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Os felly, fy nhrydydd o'r llawer sydd gennyf o fy mlaen fydd hwn: mae'r Prif Weinidog yn wir wedi nodi yma nid yn unig ffordd gadarnhaol, gydweithredol ar y cyd ymlaen—ac mae'n dod ar draws yn glir iawn—ond mae hefyd yn cario ffon fawr iawn. Mae wedi dweud yn ei ddatganiad heddiw, os na fyddwn yn gweld y ffordd gadarnhaol, gydweithredol ar y cyd hon ymlaen, bod Llywodraeth Cymru yn barod i ymateb, i’w ddyfynnu, 'yn rymus ac yn negyddol'. Mae’r Bil parhad eisoes wedi ei grybwyll—ai dyna sy’n cael ei ystyried, ynteu a oes ffyrdd eraill yn ogystal y gallai Llywodraeth Cymru ymateb yn rymus ac yn negyddol pe na bai ewyllys i wneud i hyn ddigwydd?

Yn gyntaf oll, i ateb fy ffrind yr Aelod dros Ogwr: nid yn unig yr wyf yn credu bod yr hyn sydd yn y papur hwn yn gyraeddadwy, ond mae'n angenrheidiol os yw'r DU yn mynd i ddangos ei hyblygrwydd er mwyn iddi ffynnu yn y dyfodol. A yw'n golygu, er enghraifft, ein bod yn ail-archwilio, ymhen amser, cysyniadau fel sofraniaeth seneddol? Ydy. Rydym yn gwybod bod rhannu sofraniaeth yn digwydd mewn gwledydd eraill, fel Canada. A yw mor radical nes ei fod yn ansefydlogi gwlad? Nac ydy, yn amlwg, oherwydd rydym yn gwybod nad yw hynny wedi digwydd yng Nghanada.

O ran y dewis arall, nid yw Llywodraeth y DU wedi cynnig dewis arall hyd yma. I mi, byddai'r cyngor Gweinidogion yn esblygiad naturiol o'r Cydbwyllgor Gweinidogion. Nid yw'r Cydbwyllgor Gweinidogion yn gwneud dim penderfyniadau. Nid oes ganddo fecanweithiau i wneud penderfyniadau. Wrth inni adael yr UE, mae angen corff gwneud penderfyniadau yn ei le sy'n cynrychioli’r pedair Llywodraeth. Felly, byddai'r Cydbwyllgor Gweinidogion yn esblygu’n gyngor Gweinidogion beth bynnag. Felly, mae’r strwythur yno’n barod. Mae'n fater syml o sicrhau bod gan y corff fwy o ddannedd. Ar hyn o bryd, a dweud y gwir yn onest, yn aml mae'n lle o drafodaethau llawn ac agored, a gaf i ddweud, ond nid yw wir yn arwain at ddim byd. Mae'n drueni mawr oherwydd rwy’n credu bod ganddo botensial fel cyngor o Weinidogion.

A oes modd gwireddu’r nodau hyn? Rwy'n credu, pe bai’r canlyniad wedi bod yn wahanol ac wedi rhoi mwyafrif i Lywodraeth bresennol y DU, mai’r ateb fyddai ‘na yn ôl pob tebyg’, ond mae pethau wedi newid, fel y gwyddoch, ac mae'n golygu ei bod yn hynod o bwysig nawr bod lleisiau eraill y tu hwnt i'r rhai sydd o blaid y math o Brexit, neu’r math o setliad cyfansoddiadol, yr oedd y Prif Weinidog yn ei ffafrio yn cael eu clywed. Ni wnaf esgus wrthyf fy hun nad oes rhai pobl yn Llywodraeth y DU, ac yn y blaid sy’n llywodraethu, sy'n meddwl bod datganoli yn gamgymeriad ac a fyddai’n barod i gymryd y cyfle i ddadwneud datganoli fel ag y mae, heb ystyried y mandad democrataidd sy'n sail iddo. Felly, weithiau, mae'n rhaid dangos y ffon, os gallaf ei roi felly, oherwydd yr unig ddewis arall yw addasu'r cymwyseddau datganoledig, nid dim ond ein rhai ni, ond rhai’r Albanwyr a Gogledd Iwerddon yn ogystal, heb ganiatâd y sefydliad hwn na phobl Cymru. Mae hwn yn fater hynod ddifrifol, ac mae'n iawn i ni roi i lawr ar gofnod beth fyddai ein safbwynt pe bai cam radical yn ôl o'r fath yn cael ei gymryd. Wrth gwrs, byddwn yn gwrthsefyll hynny mewn unrhyw ffordd y gallwn. Wrth gwrs, os yw Llywodraeth y DU yn gosod rheolau cymorth gwladwriaethol, byddwn yn gwrthwynebu hynny hefyd. Pam y byddem yn teimlo bod gennym berchnogaeth ohono pe bai’n cael ei osod arnom? Byddai’n llawer mwy aeddfed—a dweud y gwir—ac yn llawer callach sefydlu’r mecanwaith yr wyf wedi cyfeirio ato, lle y gallwn eistedd i lawr a chytuno ar ddull cyffredin lle mae gan bawb ymdeimlad o berchnogaeth. Mae hynny’n llawer mwy tebygol o weithio na gosod systemau neu fframweithiau ar lywodraethau datganoledig mewn meysydd datganoledig heb eu caniatâd.

Diolch. Ac ystyried eich cyfeiriadau at Iwerddon, yn arbennig, a chyfeiriad David Rees, fel Cadeirydd y pwyllgor materion allanol, at ein hymweliad ddoe—cyfeiriodd at swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Iwerddon sydd yn amlwg yn siarad â'u cymheiriaid yn 26 aelod-wladwriaeth arall yr UE am safbwynt negodi’r Comisiwn—sut yr ydych chi’n ymateb, ac ystyried eich datganiadau a'ch pryderon, i'r datganiad a wnaeth un Gweinidog y dylai materion yr ardal deithio gyffredin gael eu datrys heb unrhyw broblem wirioneddol, a gan, yn olaf, Swyddfa Datblygu Morol Iwerddon, sy’n gweithredu ar nawdd yr Adran Drafnidiaeth, Twristiaeth a Chwaraeon, na fydd Brexit yn cau mantais 18 awr y bont tir i'r marchnadoedd cyfandirol drwy borthladdoedd Cymru ar ôl y gwaith modelu manwl y maent wedi ei wneud ar sail y trefniadau archwiliadau tollwyr tebygol a’r trefniadau i gwsmeriaid a fydd yn bodoli, fel y maent yn damcaniaethu, ar ôl ymadael, os oes ffin feddal rhwng gogledd a de Iwerddon, ond ffin Brexit ar arfordir Cymru?

Mae’n rhaid datrys y pethau hyn ar sail cydraddoldeb. Nid wyf yn meddwl ei bod yn iawn y dylai fod gwahaniaeth yn natur y ffin waeth lle y mae’r ffin mewn gwirionedd. Ni ellir datrys mater yr ardal deithio gyffredin oni bai eich bod yn rheoli’r ffin, oherwydd fel arall mae'n hollol bosibl i bobl, ar ôl iddynt gyrraedd Iwerddon o ble bynnag y maent yn y byd, groesi i mewn i'r DU. Mae problemau yno, o bosibl, yn cynnwys masnachu mewn pobl os nad ydym ni’n ofalus, oherwydd mae’r ffin honno—os oes gennych chi basport UE, gallwch fynd i mewn i Iwerddon a mynd i mewn i'r DU heb ddim archwiliadau o gwbl. Os ydych chi’n mynd i mewn i Iwerddon, yna i bob diben rydych chi yn y DU. Mae'r rhain yn faterion na chawsant eu hystyried yn briodol ar adeg refferendwm Brexit. Nid ydynt wedi cael eu hystyried yn briodol yn awr. Does neb am weld ffin galed. Dydw i ddim yn meddwl bod neb yn argymell hynny, ond does neb eto wedi dod o hyd i unrhyw syniad o sut y gellir osgoi’r ffin galed honno. Mae ffin galed yno’n creu goblygiadau sy'n sylweddol ac na fyddai neb am eu gweld.

Nid wyf yn credu y gallwn fod yn optimistaidd am y bont tir os oes dwy set o archwiliadau tollwyr ar waith. Os ydych yn weithredwr llwythi Gwyddelig a’ch bod yn cael cynnig dewis rhwng mynd i mewn i Gaergybi gydag archwiliadau tollwyr, a mynd i Dover a chiwio, gyda'r asiantaeth ffiniau ynghyd â’r archwiliadau tollwyr, mae hynny'n mynd yn anneniadol o’i gymharu â'r daith fferi, er enghraifft, rhwng Rosslare a Cherbourg. Nawr, mae’n rhaid i’r pethau hyn gael eu hystyried yn ofalus o ran economeg, ond o ran yr oedi posibl a fyddai’n digwydd, wel, beth fyddai eich dewis chi? Gallu symud yn ddi-dor o Iwerddon i Ffrainc, neu symud drwy ddwy set o reolaethau tollau i Ffrainc drwy'r DU? Mae'r rhain yn faterion sydd heb eu datrys eto. Yn fy marn i, mae llawer iawn o optimistiaeth anghywir am yr hyn sy'n digwydd yn Iwerddon. Gan fod pawb yn cytuno y dylai rhywbeth ddigwydd, nid yw hynny'n golygu y bydd yn digwydd. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod pobl yn deall na fydd dim rheolaeth dros ffin y DU. Nid yw’n mynd i ddigwydd. Mae'n freuddwyd gwrach, oherwydd mae rheoli’r ffin yn awgrymu rheolaethau ffiniau ar y ffin. Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Os yw pobl yn barod i dderbyn hynny, mae’n rhaid i’r DU dderbyn y bydd ganddi ffin agored â’r UE yn Iwerddon, ac mae mwy o bosibiliadau o ran yr hyn a allai fod yn bosibl o safbwynt masnach. Ond yr hyn sy'n hollol amlwg yw na allwch ddal i ddefnyddio'r llinell, 'Byddwn yn rheoli ein ffiniau' pan ydych yn gwybod nad yw hynny'n wir. Nid wyf yn golygu yr Aelod yn benodol, ac fe wnaf hynny’n gliriach: ni all neb ddweud y gallwn reoli ein ffiniau os yw’r ffin yn mynd i fod yn agored. Mae’n gwbl amhosibl gwneud hynny, a gorau po gyntaf y gallwn roi’r gorau i esgus y gallwn wneud hynny, o ran y trafodaethau.

6. 5. Datganiad: Ymgynghoriad ar Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

Eitem 5 ar ein hagenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ymgynghoriad addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Rwy'n galw ar Kirsty Williams i gyflwyno'r datganiad.

Dirprwy Lywydd, yn gynharach eleni gwnes i ddatganiad i'r Cynulliad yn cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i adroddiad yr Athro Ellen Hazelkorn, yn ‘Tuag at 2030: Fframwaith ar gyfer adeiladu system addysg ôl-orfodol o'r radd flaenaf i Gymru’. Gwnaeth yr adroddiad hwnnw argymhellion pwysig ar gyfer diwygio'r system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol—o hyn ymlaen byddaf yn ei alw'n PCET—yng Nghymru. Y ddau argymhelliad cynradd, y mae Llywodraeth Cymru wedi eu derbyn, oedd y dylem ni ddatblygu gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y system PCET ac y dylid cael corff hyd braich newydd i fod yr unig awdurdod rheoleiddio, cyllido a goruchwylio ar gyfer y system ôl-orfodol.

Roeddwn i’n falch iawn o’r gefnogaeth drawsbleidiol a gafwyd ym mis Ionawr i’r cyfeiriad teithio a nodwyd yn adroddiad yr Athro Hazelkorn, ac rwyf heddiw’n falch o gyhoeddi ‘Public Good and a Prosperous Wales’, ein Papur Gwyn, sy'n nodi ein cynigion ar gyfer diwygio'r system PCET, sy'n cynnwys addysg bellach ac addysg uwch, ymchwil ac arloesedd, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned, ac sy'n ceisio barn rhanddeiliaid ar y ffordd ymlaen.

Wrth wraidd y Papur Gwyn mae ein cynigion ar gyfer corff newydd—comisiwn Cymru ar gyfer addysg trydyddol ac ymchwil—a fyddai'n disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn darparu goruchwyliaeth, cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth ar gyfer y sector PCET cyfan. Mae'r model hwn yn tynnu ar arfer gorau o systemau trydyddol ac economïau llwyddiannus o bob rhan o’r byd. Rydym ni’n cynnig yn y Papur Gwyn y byddai swyddogaethau'r comisiwn yn cynnwys: cynllunio strategol ar gyfer y ddarpariaeth o addysg a sgiliau ar draws PCET; cyllido; asesu a gwella ansawdd; rheoli perfformiad a risg ledled y system; goruchwylio a chydgysylltu gwariant ymchwil ac arloesedd Llywodraeth Cymru; a darparu newid sylweddol yn y data sydd ar gael, gan gynnwys mesur cynnydd addysgol, amcanion a deilliannau ar gyfer dysgwyr.

Un pwyslais allweddol i’r comisiwn fyddai gwarchod buddiannau dysgwyr, gan sicrhau bod llwybrau galwedigaethol ac academaidd yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal, a helpu i gyflwyno sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn economi sy'n gynyddol gystadleuol. Drwy ei weithgareddau cynllunio a chyllido strategol, byddai'r comisiwn hefyd yn gyfrifol am gyfochri PCET yn agosach ag anghenion cyflogwyr, gan helpu i adeiladu economi gryfach yn y dyfodol.

Rydym ni’n nodi yn y Papur Gwyn dri model posibl ar gyfer rheoli'r cysylltiad rhwng y comisiwn a darparwyr addysg a hyfforddiant, yn seiliedig ar yr egwyddor graidd o gofrestru. Y tri model yw: (1) model cofrestru darparwr; (2) model cytuno ar ddeilliannau; a (3) model compactau rhanbarthol. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am sylwadau ar bob un o'r rhain.

Mae ymchwil ac arloesedd yn hanfodol i lwyddiant ein prifysgolion a'n heconomi yn y dyfodol. Byddai'r comisiwn yn gyfrifol am gydgysylltu ymchwil ac ariannu capasiti ar gyfer ymchwil ôl-raddedig mewn ffordd fwy strategol a deinamig. Cynigir y byddai pwyllgor statudol y comisiwn, a elwid yn 'ymchwil ac arloesedd yng Nghymru’, yn arwain ar hyn. Byddai hyn yn diogelu a hyrwyddo buddiannau Cymru yng nghyd-destun newidiadau Llywodraeth y DU, sy'n debygol, yn fy marn i, o gymylu'r gwahaniaeth rhwng buddiannau y DU a rhai Lloegr.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnig dull a 'wnaed yng Nghymru' ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol fel ei bod yn haws i bobl ddysgu a chaffael sgiliau drwy gydol eu gyrfaoedd. Mae ein bywydau a'n heconomi yn mynd drwy newid technolegol enfawr—cyfeiriwyd at hynny'n gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen mewn gweithle sydd wedi’i weddnewid yn golygu nad oes lle i gyffredinedd erbyn hyn. Nid yw gwneud dim neu gynnal y status quo, yn fy marn i, yn ddewis sydd ar gael i ni.

Mae hefyd angen i ni annog a chefnogi y gwaith ymchwil ac arloesedd cynyddol a wneir mewn cwmnïau a sefydliadau eraill. Mae angen i ni adeiladu ar ein cryfderau— ac mae gennym gryfderau—ond eu cyfochri ag anghenion a dyheadau busnesau a'r gymuned ehangach pan fo hynny'n bosibl ac yn briodol. Drwy wneud hynny, rydym ni’n gobeithio denu rhagor o arian ymchwil o fuddsoddiadau yn y DU dros y pum mlynedd nesaf. Bydd mynd i'r cyfeiriad hwn yn gynyddol bwysig os ydym ni am reoli'r broses o adael yr UE gyda chyn lleied â phosibl o darfu ar ein sylfaen ymchwil a gwyddoniaeth. Y comisiwn newydd fyddai’n gyfrifol am oruchwylio’r newidiadau hyn a datblygu gweithgareddau ymchwil, arloesedd, a menter mewn prifysgolion, colegau a gyda darparwyr eraill.

Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o'r cynnydd a wnaed o ran ymgorffori cynrychiolaeth myfyrwyr i strwythurau llywodraethu sefydliadau yng Nghymru. Ond mae mwy i'w wneud eto. Byddwn yn disgwyl gweld cyfranogiad myfyrwyr, yn y comisiwn ac mewn sefydliadau unigol, yn cael eu hymestyn ymhellach yn ein system newydd. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn nodi'r cyfleoedd a'r heriau o gynnwys y chweched dosbarth o fewn cylch gorchwyl y comisiwn newydd. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd y gallai'r comisiwn gael ei sefydlu heb y chweched dosbarth yn ei gylch gwaith i ddechrau ac y gallai deddfwriaeth ganiatáu iddynt gael eu dwyn o fewn ei gwmpas yn ddiweddarach. Mae'r papur yn gofyn am safbwyntiau ar yr ymagwedd hon a sefyllfa ehangach y chweched dosbarth.

Rwy'n credu y bydd y cynigion yn y Papur Gwyn yn ein galluogi i godi safonau, cefnogi dysgwyr yng Nghymru i gyflawni eu potensial llawn, ni waeth beth yw eu cefndir a'u hamgylchiadau, ac yn gwneud ein system PCET un o'r goreuon yn y byd. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod y bydd yn cymryd amser i weithredu'r newidiadau hyn. Bydd yr ymgynghori ffurfiol yn para tan ddiwedd mis Hydref. Dilynir hyn gan ymgynghoriad technegol manylach tuag at ddiwedd y flwyddyn. A bydd diwygio deddfwriaethol hefyd yn ofynnol ar gyfer y newidiadau pellgyrhaeddol hyn. Yn ystod y cyfnod pontio, bydd Llywodraeth Cymru yn chwilio am aelodau newydd ar gyfer bwrdd CCAUC, sydd â phrofiad o ystod ehangach o feysydd, gan gynnwys busnes, er mwyn helpu i arwain a chefnogi'r symudiad i system newydd.

Dirprwy Lywydd, rwy’n cydnabod bod angen gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid er mwyn sicrhau y bydd y diwygiadau uchelgeisiol hyn yn llwyddiannus. Felly, os ydych chi’n ddysgwr neu, yn wir, yn ddarpar ddysgwr, yn weithiwr proffesiynol ym maes addysg neu hyfforddiant, yn ddarparwr addysg, yn ymchwilydd, neu’n berson busnes sydd â barn gref am sgiliau eich gweithlu, yna rydym ni eisiau clywed gennych. Rydym ni angen eich syniadau am y ffordd orau o sicrhau y gall y system weithio'n dda, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru yr hydref hwn. Byddaf hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar wahân ar gyfer pobl ifanc. Rwy’n gobeithio y gallaf ddibynnu ar Aelodau o bob plaid yn y Cynulliad i annog ymgysylltiad yn yr ymarferion ymgynghori hyn, fel y gallwn ni gael y syniadau gorau i’w defnyddio ar gyfer datblygu system PCET a fydd yn diwallu anghenion dysgwyr, cymunedau a busnesau Cymru am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch.

Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac am y ffordd y mae hi wedi ymrwymo i roi briffiau i Aelodau o'r gwrthbleidiau ar ei chynlluniau. Rwy’n falch iawn o weld bod argymhellion yr Athro Hazelkorn wedi cael eu cefnogi a'u derbyn, ac fel yr ydym ni wedi'i wneud yn y gorffennol, rwy’n credu ei fod yn bwysig ein bod ni’n symud fel cenedl gyda'n gilydd ar y mater hwn oherwydd bod angen i ni ei gael yn gwbl iawn. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod i’n credu'n gryf mai addysg sy’n gosod y seiliau i’r ffordd y bydd Cymru yn ymateb i heriau newydd yn y dyfodol, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni hefyd yn cydnabod bod addysg yn daith gydol oes ac y bydd gyrfaoedd a dyheadau personol pobl yn newid, o bosibl, dros amser, gyda phobl yn symud o un yrfa i'r llall, ac mae addysg yn gwbl allweddol o ran helpu i wneud hynny ddigwydd.

Mae gennyf i ychydig o gwestiynau, yn amlwg, ar y datganiad y mae hi wedi’i wneud y prynhawn yma. Yn gyntaf oll, o ran swyddogaethau’r comisiwn, rwy'n falch iawn o weld rhywfaint o eglurder ynglŷn â’r swyddogaethau yr ydych chi eisiau i'r comisiwn eu cyflawni, ond rwy’n sylwi bod un o'r swyddogaethau hynny yn cynnwys asesu a gwella ansawdd. Rwy’n meddwl tybed i ba raddau y gallai rhai o'r swyddogaethau hyn fod yn gorgyffwrdd â rhai o swyddogaethau'r cyrff statudol eraill sydd eisoes gennym ni yng Nghymru. Felly, o ran ansawdd yr addysg, wrth gwrs, mae gennym ni Gymwysterau Cymru, mae gennym ni sefydliadau fel Estyn a fydd hefyd â rhyw swyddogaeth i'w chyflawni, yn enwedig mewn sefydliadau addysg bellach. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni wedi cael eglurder ar hyn, wrth symud ymlaen, fel nad oes gennym ormod o fysedd yn y brywes, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn ystyried ein system addysg—ein system addysg ôl-orfodol.

Nodaf hefyd fod y comisiwn yn mynd i gael y cyfrifoldeb hwn o ran buddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd, ac rwy’n meddwl ei bod yn iawn ei fod yn cyflawni’r swyddogaeth honno, oherwydd bod pob un ohonom yn gwybod bod llawer o resymau masnachol pam y dylai pobl fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd, ac weithiau mae ymchwil ac arloesedd a fydd angen buddsoddiad sy'n gorfod dod o'r sector cyhoeddus, neu y bydd angen i’r sector cyhoeddus gyfrannu ato. Felly, mae'n hollol iawn i’r comisiwn fod â’r swyddogaeth hon. Ond yn amlwg, yn enwedig gyda’r cyfleoedd masnachol hynny, bydd yn bwysig sicrhau bod gan bobl sydd ag arbenigedd masnachol a phrofiad digonol ran i’w chwarae yn y comisiwn newydd hwnnw, a nodaf eich bod wedi cyfeirio at yr angen i bobl fusnes, os mynnwch, gymryd rhan yn CCAUC yn y cyfamser, ond byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod beth fydd natur y bwrdd hwnnw—y comisiwn newydd hwn, a pha ymgysylltiad yr ydych chi’n disgwyl iddo ei gael gyda'r sector masnachol, yn enwedig o ran yr ymchwil a’r arloesedd hynny.

Rydych chi’n cyfeirio at y tri model arfaethedig a amlinellir yn y Papur Gwyn, ac rwy’n credu eu bod yn dri model diddorol: y model cofrestru a darparwr, y model cytuno ar ddeilliannau, a'r model compactau rhanbarthol. Ond ni welaf unrhyw reswm, mewn gwirionedd, pam mae angen iddyn nhw fod yn dri model ar wahân. Rwy’n credu, yn bersonol, y dylai fod elfennau o bob un o'r tri o fewn cylch gwaith y comisiwn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol, yn amlwg, i ddarparwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach a hyfforddwyr eraill fod wedi eu cofrestru gyda'r comisiwn newydd. Rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol y dylai fod rhyw gytundeb ar ddeilliannau ynghlwm â’r buddsoddiad cyhoeddus y maen nhw’n ei dderbyn, ac y gellid eu dwyn i gyfrif ynglŷn â hynny. Ac rwy’n credu hefyd, yn enwedig o ran y sector Addysg Bellach, y dylai fod compactau rhanbarthol yn ymwneud a’r hyn yr ydych yn disgwyl iddyn nhw ei gyflawni ar lawr gwlad. Felly, nid wyf yn credu y dylai fod yn sefyllfa naill ai/neu o ran y dewisiadau hynny. Mewn gwirioned, rwy’n credu y dylid cynnwys elfennau o bob un o’r tri model, o ran sut y mae'r comisiwn yn gweithredu, wrth symud ymlaen. Byddwn yn gwerthfawrogi, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech ddweud wrthym a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chithau hefyd wedi ei ystyried, neu a ydych chi wedi ymrwymo i’r dull hwn o naill ai/neu a nodir yn y Papur Gwyn.

Nodais eich sylwadau o ran ymagwedd y DU tuag at ymchwil ac arloesedd hefyd. Mae’n ymddangos eich bod yn awgrymu y byddai model Lloegr yn cael ei orfodi, os mynnwch, ar weddill y DU, wrth symud ymlaen. Nid wyf yn gweld unrhyw dystiolaeth y byddai hynny'n digwydd o gwbl, mewn gwirionedd, ac rwy’n credu ei fod yn gwbl briodol bod gennym weithiau fodelau y DU ar gyfer ymchwil ac arloesedd, fel y gallai ein prifysgolion yng Nghymru, sydd ag arbenigedd mewn pethau fel peirianneg a gwyddorau meddygol, godi i’r brig a derbyn buddsoddiad, mewn gwirionedd, ar lefel y DU gyfan. Felly, nid wyf yn siŵr pam yr ydych yn or-ofalus am hynny. Rwy'n credu ei bod yn briodol bod gennym rai mecanweithiau ar draws y DU o ran buddsoddi yn ein gwaith ymchwil, a byddwn i’n gwerthfawrogi pe gallech fy nghyfeirio at ryw dystiolaeth i gadarnhau'r pryderon sydd gennych ynglŷn â llais ymchwil Cymru, os mynnwch chi, yn cael ei foddi gan yr ymagwedd newydd hon a allai gael ei gweithredu ar lefel y DU.

Hefyd o ran llais y myfyrwyr, rwy'n falch iawn o’ch clywed yn cyfeirio at y ffaith fod yn rhaid gwrando ar lais myfyrwyr, ac yn amlwg, bu rhywfaint o gynnydd, o ran cynrychiolaeth myfyrwyr mewn strwythurau llywodraethu yn y blynyddoedd diweddar, ac rwy’n cydnabod hynny. Ond, rwy'n credu ei bod yn bwysig i nodi hefyd y ceir gwahanol leisiau o fewn sefydliadau cyrff y myfyrwyr sydd hefyd angen eu clywed. Mae llais dysgwyr sy'n oedolion a llais dysgwyr rhan-amser yn aml iawn yn cael eu boddi gan lais dysgwyr llawn amser. Tybed pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i ni y bydd yn rhaid i’r comisiwn newydd wrando ar leisiau amrywiol y gymuned myfyrwyr, fel y gellir cael pethau'n iawn ar gyfer pob dysgwr, nid dim ond ar gyfer y rhai sy’n llawn amser.

Yn olaf, os caf i droi at y chweched dosbarth, rwy’n ofalus iawn ynghylch y corff hwn yn cael unrhyw gylch gwaith a chyfrifoldeb am addysg y chweched dosbarth; Rwy’n credu ei bod yn well gadael hynny i’r awdurdodau addysg lleol hynny. Yn amlwg, mae rhai rhannau o Gymru lle y mae trefniadau ar gyfer addysg drydyddol wedi’u sefydlu rhwng awdurdodau lleol a darparwyr addysg bellach mewn ffordd wahanol i'r model chweched dosbarth traddodiadol mewn ysgol, ond pam y dylem ni ymyrryd â rhywbeth sy'n gweithio i nifer o ddysgwyr ac sy’n sicrhau’r dewis hwnnw i lawer o ddysgwyr ledled Cymru? Nid wyf yn credu bod hynny yn iawn o gwbl—nid wyf yn credu bod y dystiolaeth yn cefnogi hyn—y dylem ni symud ymlaen a gwneud y chweched dosbarth yn rhan o gylch gorchwyl y comisiwn newydd.

A gaf i ddiolch i Darren am ei groeso eang ar gyfer y cyfeiriad teithio a amlinellir yn y Papur Gwyn? Mewn ymateb i lawer o'r cwestiynau y mae wedi eu codi, yr holl bwynt o gael Papur Gwyn ac ymgynghoriad yw oherwydd ein bod yn awyddus i geisio cael amrywiaeth eang o safbwyntiau ar y meysydd hyn.

Yn gyntaf oll, os caf i ddechrau drwy fynd yn ôl, rwyf am ddechrau gyda'r chweched dosbarth a byddwch yn ymwybodol nad yw'r cwestiwn yn y papur yn rhoi cynnig pendant ynglŷn â sut y gallai’r chweched dosbarth fod yn rhan o’r patrwm. Dywedodd Ellen Hazelkorn, yn ei hadroddiad, y byddai darpariaeth y chweched dosbarth, yn y rhan fwyaf o systemau, yn gorwedd y tu allan i PCET, ond mae yn rhan o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Felly, y cwestiwn yw: a ydym ni eisiau gwneud y rhan benodol hon o PCET yn ddarostyngedig i wahanol fath o drefn, un sy'n cael ei goruchwylio gan Estyn yn y bôn, ac sy’n rhan bwysig o'r system ysgolion, neu a ydym ni’n ei gweld fel yr hyn yw hi—sef rhan o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol? Felly, mae yna ddadl ddilys i'w chael am sut y gall darpariaeth y chweched dosbarth gael ei rheoleiddio orau.

Ond, gadewch i mi fod yn gwbl glir nad yw hyn yn ymwneud â dweud nad ydym ni’n mynd i gael chweched dosbarth, ac nid yw hyn yn ymwneud â dweud ein bod yn symud i fodel trydyddol. Mae hyn yn ymwneud â dweud, ar gyfer y rhai grwpiau arbennig o ddysgwyr hynny: sut y gall eu buddiannau—sut y gallwn ni ofalu amdanyn nhw a darparu cyfleoedd yn y modd hwnnw a fydd yn sicrhau ansawdd a’r materion yn ymwneud ag amcanion, gwneud yn siŵr bod pobl yn gwneud y cwrs iawn ar yr adeg iawn? Ceir cyfle gwirioneddol i roi adborth ar hynny.

Mae llais y myfyrwyr yn bwysig iawn i mi ar bob lefel. Rwy'n credu bod gwleidyddion o bob math wedi bod yn euog yn y gorffennol o ystyried myfyrwyr fel, efallai, pobl 18 mlwydd oed nodweddiadol sy'n gadael yr ysgol, sy'n cwblhau eu safon A ac yn mynd i ffwrdd i'r brifysgol. Yr hyn a wyddom, a'r hyn y mae ein heconomi yn galw amdano, yw bod angen i bobl allu cael gafael ar gyfleoedd am hyfforddiant ac addysg drwy eu holl fywyd, a bydd pobl yn gwneud gwahanol ddewisiadau o ran pryd y mae astudio yn iawn ar eu cyfer nhw—byddan nhw’n gorfod ei gyfuno â chyfrifoldebau gofalu yn aml, efallai. Felly, mae amrywiaeth yn llais y myfyrwyr yn bwysig iawn, ac rydym yn cydnabod, fel Llywodraeth Cymru, wrth i ni geisio symud tuag at system newydd o gymorth i fyfyrwyr a fydd yn rhoi cydraddoldeb i israddedigion pa un a ydynt yn astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser, neu pa un a ydyn nhw’n israddedigion neu’n ôl-raddedigion. Rydym ni’n cydnabod yr amrywiaeth yn hynny.

O ran y mater o newidiadau yn Lloegr, mae’n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod fy mod i’n bryderus iawn am y newidiadau sy'n deillio o ddeddfwriaeth newydd yn Lloegr a'r hyn y gallai hynny ei olygu i ni. Felly, er enghraifft, o ran Ymchwil ac Arloesedd y DU, mae’r Aelod yn dweud, 'Rhowch enghraifft i mi o pam y dylech chi bryderu am hyn.' Mae anhyblygrwydd llwyr y Gweinidog blaenorol, ac rwy'n credu mai ef yw’r Gweinidog o hyd—mae Jo Johnson wedi ei ailbenodi— i gydnabod y dylai fod cynrychiolydd o Gymru ar y corff hwnnw, ac, yn wir, y dylai fod cynrychiolydd o’r Alban ar y corff hwnnw, yn fy llenwi â phryder. Mae’r ffaith na fydd pob Llywodraeth ddatganoledig yn cael ei chynrychioli ar y corff hwnnw yn achos pryder i mi.

Rydym ni’n gofyn am lawer iawn gan y bobl hyn sy'n ymwneud ag Ymchwil ac Arloesedd yn y DU (UKRI). Y rhan fwyaf o'r amser, corff Lloegr yn unig fydd hwn—byddan nhw’n meddwl am anghenion Lloegr yn unig. Ond, o bryd i'w gilydd, bydd yn rhaid iddyn nhw newid eu ffordd a bydd yn rhaid iddyn nhw feddwl am fodel y DU. Ac, mae hyn yn llawer i’w ofyn gan rywun. Mae hyn yn llawer i’w ofyn gan bobl. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau ein bod yn diogelu ein buddiant. Mae’n rhaid inni hefyd gydnabod, wrth sicrhau bod arian ar gael, efallai bod y cyfeiriad strategol a'r blaenoriaethau ar gyfer y corff hwnnw yn gwasanaethu economi Lloegr, ond nid dyna o reidrwydd sydd ei angen arnom ar gyfer ein heconomi ni nac ar gyfer anghenion ymchwil ein heconomi ni. Ni allwn ni wrthod bod yn gyfrifol am hynny, a dyna pam rwyf i’n hynod ofalus a pham rwyf i’n teimlo bod angen i ni geisio gwarchod buddiannau Cymru yn y maes penodol hwn.

Nid wyf yn dweud am funud na all ein sefydliadau gystadlu am y cyllid hwn. Yr hyn yr wyf yn ei ddweud yw bod angen i ni warchod buddiannau Cymru a rhoi ein hunain yn y sefyllfa gryfaf i fanteisio ar y materion hyn, gan fod ymchwil yn gwbl hanfodol i ni fel Llywodraeth, ac yn hanfodol i ni fel cenedl. Mae angen i ni wneud yn siwr bod ymchwil yn rhan annatod o waith y corff penodol hwn. A gaf i ei gwneud yn glir nad yw hyn yn ymwneud â chamu ar yr egwyddor bwysig iawn o annibyniaeth sefydliadol na gwarantu rhyddid academaidd? Mae'r rheini yn agos iawn i’m calon i. Ond bydd y comisiwn yn adeiladu ar gryfderau presennol ac yn annog mwy o waith ymchwil ac arloesedd mewn cwmnïau a sefydliadau eraill, oherwydd os ydym ni’n onest, nid ydym yn y lle y byddem yn dymuno i Gymru fod ynddo, yn enwedig o ran buddsoddiad gan y sector preifat mewn ymchwil ac arloesedd. Nid ydym yn y lle yr hoffem fod ynddo. Mae angen safbwynt newydd ar hyn a dyna pam yr wyf i wedi gwahodd, ynghyd â'm cydweithwyr, ymchwiliad Reid i edrych ar yr hyn y byddai orau i ni ei wneud, ac mae hyn yn eistedd ochr yn ochr â'r darn penodol hwn o waith.

Cododd yr Aelod y broblem o ddyblygu hefyd. Wel, diben cael un corff yn y modd hwn yw ceisio sicrhau ein bod yn symud i ffwrdd o broblemau sy’n ymwneud â dyblygu a dryswch. A phroblemau sy’n ymwneud ag ansawdd, unwaith eto, gadewch i ni fod yn gwbl glir: oherwydd newidiadau sydd wedi digwydd dros y ffin, mae'n rhaid i ni achub ar y cyfle hwn i weld a oes angen i ni amddiffyn ein hunain i sicrhau ansawdd. Felly, er enghraifft, ar hyn o bryd, gall myfyriwr wneud cais i sefydliad yn Lloegr nad oes ganddo bwerau dyfarnu graddau. Felly, gallech ddechrau, fel myfyriwr mewn sefydliad—. Oherwydd y marchnadeiddio yn y sector penodol, gallech ddechrau ar gwrs heb wybod pa un a fydd y cwrs hwnnw yn arwain at radd gan nad oes gan y sefydliad hwnnw bwerau dyfarnu graddau. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod materion o’r fath ac ansawdd a sicrwydd i fyfyriwr yn sylfaen i’n system, ac mae'r Papur Gwyn hwn yn rhoi cyfle i wneud yn siŵr ein bod hynny gennym.

Rwy'n croesawu’n fras y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw. Cyn i mi fanylu ar y datganiad, rwyf eisiau, gan fod Ysgrifennydd y Cabinet yma, sôn am un peth wrthi hi a dod ag ef i'w sylw. Mae yna erthygl gamarweiniol iawn yn y papur newydd' The Guardian 'heddiw ar addysg Gymraeg. Gallaf weld bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol ohoni. Y cyfan y gallaf ei ddweud wrthi hi yw fy mod i’n gobeithio y bydd hi'n ymateb neu y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn swyddogol i’r erthygl, gan ei bod yn ffeithiol anghywir ac anghywir yn ei hensyniadau hefyd.

A gaf i droi at yr adroddiad—y Papur Gwyn, ddylwn i ddweud—sydd gennym ger ein bron ar hyn o bryd? Fel y dywedais, mae Plaid Cymru wedi cefnogi rhoi parch cydradd i addysg alwedigaethol ac addysg academaidd ers talwm, ac fe wnaethom nodi yn ein maniffesto sut yr oeddem ni’n dymuno i adolygiad Hazelkorn weithio tuag at ddileu dyblygu a chystadleuaeth ddiangen ac at fwy o gydweithio yn y sector hwn. Mewn gwirionedd, rwyf wedi bod mor frwdfrydig drosto nes bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi fy nghyhuddo i yn wrthnysig yn y gorffennol o fod eisiau cymryd arian oddi wrth brifysgolion a’i roi i’r chweched dosbarth. Ond, rwy'n credu ein bod ni’n gwybod ble yr ydym ni. Rydym ni’n dymuno gweld dewis gwirioneddol i'n pobl ifanc sydd wir yn eu gwobrwyo yn y penderfyniadau y maen nhw’n eu gwneud, boed hynny’n addysg drwy’r brifysgol neu drwy brentisiaethau neu drwy hyfforddiant neu drwy’r chweched dosbarth neu drwy ôl-chweched dosbarth neu beth bynnag y bo.

Roedd gennyf nifer o gwestiynau wrth ddod i mewn ar gyfer y datganiad y prynhawn yma. Er, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei nodi’n ddefnyddiol, mae'r rhain i gyd yn gwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad ac nid oes gennym unrhyw atebion iddyn nhw hyd yma. Felly, byddaf yn ceisio egluro rhai ohonynt yr wyf yn credu efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi rhywfaint o arweiniad yn eu cylch ar hyn o bryd. Rwyf am ddechrau yn lle y gwnaethom ddod i ben, mewn gwirionedd, sef yr UKRI a'r cysylltiad rhwng y corff newydd hwn, yr awdurdod trydyddol a chyrff eraill ledled y DU—maen nhw i fod i weithredu ledled y DU, ond nid oes cynrychiolaeth o Gymru arnyn nhw. Mae gennym ni sefydliad, yr UKRI, mae gennym ni broblem wirioneddol o ran Brexit, gadael yr Undeb Ewropeaidd, a chronfeydd Ewropeaidd yr oedd prifysgolion Cymru yn gallu cael gafael arnyn nhw yn uniongyrchol. Cawsom ddiwrnod 'gwyddoniaeth yn y Cynulliad' llwyddiannus iawn dim ond wythnos neu ddwy yn ôl a oedd yn arddangos llawer o'r gwaith hwnnw, ac yn arddangos yn enwedig pa mor llwyddiannus yw cydweithio rhyngwladol rhwng ein prifysgolion, gan osgoi i ryw raddau yr hyn sydd wedi ei wneud ar lefel y DU oherwydd y mynediad uniongyrchol hwnnw at gydweithredu Ewropeaidd. Felly, ai bwriad y Llywodraeth yn y strwythur newydd hwn yw ceisio sicrhau ein bod yn cael mwy o arian ymchwil gan y cynghorau ymchwil? Oherwydd dyna oedd bwriad y Llywodraeth a hoffwn gael ailddatganiad o hynny, gan yr hoffwn i weld bod hynny mewn llythyr cylch gwaith, neu beth bynnag yw’r hyn sy’n cael ei ysgrifennu i’r corff newydd hwn yn y pen draw. Mae'n rhaid i ni yn sicr wneud iawn am rywfaint o'r arian sy'n diflannu o Ewrop, ond hefyd rhoi pwysau ar y galluoedd i Gymru weithredu ar y lefel honno.

Tybed hefyd a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud, gan ei bod bellach wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn, pa un a yw hi wedi edrych ar gynigion Diamond a’r hyn sydd yn y Papur Gwyn, ac a yw hi'n gweld unrhyw angen i ailgyfochri unrhyw un o gynigion Diamond neu unrhyw ran o'r amserlennu neu unrhyw un o'r materion sy’n ymwneud â Diamond, neu a yw hi'n fodlon, ar hyn o bryd, bod hynny i gyd wedi’i gyfochri â’i gilydd. Mae hi hefyd wedi crybwyll adolygiad Reid, er enghraifft. Mae angen i’r rhain i gyd i ddod at ei gilydd.

A gaf i dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar oruchwylio colegau addysg bellach yn arbennig, a oedd yn nodi, er eu bod yn gadarn yn gyffredinol, byddai eu cyllid yn elwa ar gael dull mwy hirdymor a mwy integredig? Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud bod y cynnig hwn yma heddiw yn ddull mwy integredig. O ran y tymor hir, fodd bynnag, tybed a oes unrhyw ystyriaeth o gyllid tair blynedd ar gyfer y corff hwn ac ar gyfer y sector hwn. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni erbyn hyn o leiaf wedi ei gynnig i gyrff iechyd. Ni allan nhw fanteisio arno oherwydd eu bod yn aneffeithiol ac yn methu â chyrraedd y safonau, ond mae wedi ei gynnig iddyn nhw ac roeddwn i’n meddwl tybed a fyddem ni’n edrych ar hynny ar gyfer y sector hwn hefyd, a fyddai'n rhoi rhywfaint o sicrwydd a rhai syniadau diddorol a allai ddod i'r amlwg o bosibl o ran buddsoddiad yn y dyfodol.

Nawr, fe wnaethom ni grybwyll y chweched dosbarth, ac rwy’n sicr yn derbyn bod hwn yn gwestiwn ymgynghoriad, ond yr hyn nad yw’n hollol glir i mi yw a oes gan y Llywodraeth ddewis penodol y mae’n ei ffafrio, os gallwn ni ei roi felly, o ran llywodraethu gwirioneddol y chweched dosbarth. Nid wyf yn sôn am y swyddogaeth strategol oherwydd, yn amlwg, bydd y corff newydd hwn yn dylanwadu’n strategol ar y chweched dosbarth—ond a ddylai'r llywodraethu barhau i fod ar lefel awdurdod addysg lleol, neu a yw hi yn dymuno mynd ymhellach, yn dymuno mynd ymhellach a mynd â’r llywodraethu hwnnw lefel yn uwch i gorff cenedlaethol hefyd, lle, rwy’n credu, efallai y gofynnir mwy o gwestiynau—mae’n gynnig diddorol.

Ac, wrth gwrs, mae hefyd yn ein harwain at y pwynt olaf bron—y pwynt olaf ond un sydd gennyf—sef a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi ystyried, wrth geisio gweithredu Hazelkorn ac ystyried yr awdurdod newydd hwn, pa un a ddylem ni godi oedran addysg orfodol yng Nghymru. Dylwn i ddweud 'addysg a hyfforddiant a phopeth arall', oherwydd nid ydym yn sôn am roi pobl anfodlon yn y chweched dosbarth; rydym ni’n sôn am y disgwyliad eich bod chi’n aros mewn addysg tan eich bod yn 18 oed. Mae hynny'n digwydd yn Lloegr ac mae’n symud ymlaen, mewn gwirionedd, ac efallai ei fod yn rhywbeth y dylem ei ystyried yng ngoleuni’r Papur Gwyn hwn hefyd.

Ac mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â rhywbeth arall yr wyf yn credu ei fod newydd ei grybwyll, ond hoffwn i glywed ychydig mwy am: pa gysylltiad fydd gan y corff newydd o ran sicrhau ansawdd mewn addysg prifysgol. Rydym ni wedi cael awgrymiadau yn y gorffennol o newidiadau i'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch a fyddai wedi effeithio ar brifysgolion Cymru ac effeithio ar natur y DU ar hyn. Mae hyn i gyd yn—. Efallai nad yw bellach yn debygol o ddigwydd, yn dilyn etholiad cyffredinol rhyfedd iawn, ond sut y bydd sicrhau ansawdd yn cael ei gynnal o fewn y corff newydd hwn? Ni fydd ganddo, yn fy marn i, y rheolaeth uniongyrchol, gan fod hynny'n dal i fod mewn man arall o fewn sector prifysgolion y DU, ond, yn amlwg, bydd ganddo swyddogaeth o ran sicrhau bod hynny'n digwydd, a swyddogaeth o gynnal enw da prifysgolion hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Simon. A gaf i ddechrau lle y gwnaethoch chi ddechrau sef gydag erthygl 'The Guardian'? Rwy’n hynod siomedig yn y pennawd camarweiniol ac yn yr anghywirdebau ffeithiol sydd ym mhob man yn y darn penodol hwn a elwir yn ddarn o newyddiaduriaeth. Mae'n siomedig iawn ac yn gamddisgrifiad llwyr o'r hyn sy'n digwydd yn y gymuned benodol honno ac, yn wir, uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'n destun gofid mawr i mi, a gallaf eich sicrhau, pryd bynnag y bydd materion ynghylch yr iaith yn codi, boed hynny o ran Prifysgol Warwick a sut y maen nhw’n ystyried Cymraeg Safon Uwch, neu erthyglau fel hyn, yna byddwn ni’n ceisio cywiro a rhoi'r argraff gywir o'r hyn sy'n digwydd yn ein system addysg ddwyieithog.

Os caf symud ymlaen at y pwyntiau pwysig am y datganiad—ie, bwriad y Llywodraeth yn bendant yw cael mwy o arian ymchwil i mewn i Gymru. Mae gennym rai sêr anhygoel. Mae ein rhaglen Seren, er enghraifft, yn rhoi enghraifft dda iawn o'r hyn y gellir ei gyflawni, ond mae angen i ni wneud yn well. Mae hynny'n arbennig o bwysig o ystyried canlyniadau Brexit yr UE i’r sector addysg uwch. Yn amlwg, felly mae hynny’n—. Rwy'n hapus iawn i ailddatgan mai dyna yw nod cyffredinol y Llywodraeth.

O ran cyfochri, rwy’n credu bod Diamond yn cyd-fynd â'r cynigion a nodir yma ac nid oes gennyf unrhyw fwriad i newid y terfynau amser o ran rhoi adroddiad Diamond ar waith. Mae'n bwysig ein bod ni’n gweld bod hwnnw ac adolygiad Reid yn ogystal â Phapur Gwyn y Llywodraeth ar weithredu Hazelkorn yn ymblethu â’i gilydd.

O ran y—ni allaf ddarllen fy ysgrifen fy hun—. O ran llywodraethu’r chweched dosbarth—. Mae’r mater yn ymwneud â’r chweched dosbarth yn un diddorol iawn, o ran y mater o lywodraethu, oherwydd, mewn gwirionedd, mae Simon yn sôn am swyddogaeth awdurdodau addysg lleol —mewn rhai ffyrdd mae’r chweched dosbarth wedi bod yn blentyn i neb, gan nad ydyn nhw’n cael eu hariannu mewn gwirionedd gan yr awdurdodau addysg lleol. Maen nhw’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol. Felly, mewn ffordd, mae llywodraeth leol bron wedi troi ei chefn arnyn nhw. Hefyd, nid ydynt wedi bod yn destun arolygiad Estyn. Felly, pan fo Estyn wedi mynd i mewn i ysgolion—hyd yn oed pan fo gan yr ysgol honno chweched dosbarth—nid oedd dyletswydd ar Estyn i adrodd ar y ddarpariaeth o fewn y chweched dosbarth hwnnw. Nid yw hynny’n dderbyniol i mi. Os ydym ni’n dymuno gweld cynnydd a chodi safonau ym mhob agwedd ar ein system addysg, mae’n rhaid i hynny gynnwys y chweched dosbarth. Felly, rwy'n falch iawn o ddweud y bydd Estyn bellach yn ystyried darpariaeth y chweched dosbarth yn yr ysgolion hynny lle y ceir chweched dosbarth, oherwydd fy mod i’n credu, mewn rhai ffyrdd, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae nhw wedi dod yn blentyn i neb ac efallai eu bod wedi syrthio drwy'r rhwyd ​​o ran sicrhau mewn gwirionedd eu bod yn gwneud gwaith da ar ran y myfyrwyr sydd ynddynt.

Y sicrwydd cyllid—dyna beth na allaf ei ddarllen: sicrwydd cyllid a chylch cyllido tair blynedd. Rwy'n cydnabod y byddai sefydliadau weithiau yn gwneud penderfyniadau gwahanol pe byddai ganddyn nhw olwg mwy hirdymor ar y cyllid a fyddai ar gael iddyn nhw. Mewn rhai ffyrdd, gall y rheini fod yn benderfyniadau strategol hirdymor gwell. Rwy’n ceisio, gan drafod â’m cyd-Aelod Cabinet dros gyllid, i wneud yr hyn y gallwn ni ei wneud i roi sicrwydd o gyllid pan fo hynny’n bosibl, ym mhob agwedd ar y system addysg. Mae hynny wedi bod yn eithaf anodd oherwydd, ceir sefyllfaoedd weithiau sydd y tu allan i'n rheolaeth ni o ran pryd y mae cyllidebau a datganiadau’r hydref yn cael eu cyhoeddi yn Llundain. Yn amlwg, mae yna ansicrwydd difrifol ar hyn o bryd. Roeddwn i wedi gobeithio, yn dilyn canlyniad yr etholiad a rhai o ynganiadau’r Prif Weinidog, na fyddai cymaint o gyni. Ond, os bydd rhywun yn gwrando ar araith Mansion House y Canghellor y bore yma, os oedd unrhyw un ohonom ag unrhyw gred bod hynny ar fin digwydd, rwy’n credu bod hynny wedi ei chwalu gan yr hyn yr oedd gan Philip Hammond i’w ddweud y bore yma. Rwy’n derbyn eich pwynt, a byddwn yn ceisio gweld beth y gallwn ni ei wneud i ddarparu’r golwg hirdymor hwnnw ar gyfer sefydliadau, gan fy mod yn cydnabod pa mor werthfawr yw hynny iddyn nhw.

Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ystyried codi oedran addysg orfodol y tu hwnt i 16 oed. O ran sicrhau ansawdd, bydd y corff hwn yn chwarae rhan allweddol. Yn wahanol i rai o'r newidiadau yr ydym wedi eu gweld yn Lloegr, er enghraifft, rydym yn awyddus iawn i barhau i gynnwys y Cyfrin Gyngor, er enghraifft, wrth sicrhau ansawdd, statws dyfarnu graddau a’r teitl prifysgol. Mae'r pethau hyn yn bwysig iawn i mi ac rwy'n mynd i achub ar y cyfle hwn i wneud yn siŵr eu bod yn y lle y byddem ni’n dymuno iddyn nhw fod a gwneud newidiadau, os bydd angen, er mwyn darparu’r sicrwydd hwnnw—i fyfyrwyr, myfyrwyr rhyngwladol, a darpar fuddsoddwyr mewn ymchwil ac arloesedd—bod gennym yr ansawdd hwnnw yn sail i'n sector addysg uwch.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad ar y diwygiadau i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae gennyf rai cwestiynau. Rwy’n sylweddoli efallai nad oes gennych ateb pendant ar hyn o bryd i rai ohonyn nhw, ac os yw hynny'n wir, hoffwn gael eich sicrhad y gofynnir i randdeiliaid am eu barn ar y pwyntiau hyn.

Nodaf y bwriad i greu comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil newydd i Gymru, a fydd yn disodli'r cyngor cyllido addysg uwch presennol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym beth yw'r costau cymharol ar gyfer y cyngor presennol a'r comisiwn newydd, ac a fydd y comisiwn yn arwain at ostyngiad neu gynnydd yn y gost gyffredinol o oruchwylio addysg ôl-orfodol? Pa mor fawr fydd y comisiwn fwy neu lai ac i bwy y bydd yn atebol? Os nad yw’r comisiwn yn cyflawni ei amcanion, pwy fydd yn gyfrifol am hynny?

Yn y blynyddoedd diweddar gwelwyd hyfforddiant galwedigaethol—a oedd yn arfer cael ei alw yn ‘cael gafael ar grefft’—yn gostwng mewn statws tra bod cymwysterau academaidd wedi eu trin bron fel yr ateb i bopeth. Mae hyn wedi arwain at genedlaethau o bobl ifanc dawnus sydd bron wedi cael eu taflu ar y domen neu eu hannog i astudio ar gyfer cyrsiau na fyddant o gymorth iddynt gyflawni eu potensial oherwydd nad yw eu sgiliau a'u galluoedd mewn meysydd academaidd traddodiadol. Er bod angen cael graddedigion academaidd, crefftwyr sy'n adeiladu ein hysgolion, ysbytai, tai, a phopeth arall a, hebddyn nhw, nid oes gennym unrhyw adeiladau, unrhyw ynni, unrhyw ffyrdd—dim byd.

Mae angen mynd i'r afael â’r diffyg o ran crefftwyr cymwysedig yng Nghymru gan sicrhau bod Cymru yn hyfforddi ei rhai ei hun. Rwyf felly'n croesawu’n llwyr amcan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod hyfforddiant galwedigaethol ac academaidd yn cael eu hystyried â’r un gwerth yn ein system addysg. Mewn amgylchedd gwaith lle y mae'n llai ac yn llai tebygol y bydd rhywun yn gadael yr ysgol ac yna treulio ei fywyd gwaith naill ai yn gweithio yn yr un swydd neu i'r un cyflogwr, mae'n hanfodol bod gan bobl yn cael y cyfle i ailhyfforddi neu uwchsgilio, felly eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd gwaith newydd. Os gall Ysgrifennydd y Cabinet wella mynediad at hyfforddiant ac addysg ar gyfer pobl sy'n awyddus i wella neu ddiweddaru eu sgiliau presennol neu ddysgu rhai newydd, byddaf yn ei chymeradwyo.

Hoffwn weld Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud darpariaeth i roi cyngor ac arweiniad i fusnesau yng Nghymru sy'n ymgymryd ag ymchwil a datblygiad er mwyn eu cynorthwyo i fanteisio ar y patentau y maent yn eu creu, yn ogystal â chynorthwyo prifysgolion a cholegau i wella ansawdd eu ceisiadau am gyllid ymchwil. Rwy’n nodi ei bod yn bosibl y bydd y ddarpariaeth chweched dosbarth yn cael ei chwmpasu gan y comisiwn newydd, ond efallai na fydd y ddarpariaeth chweched dosbarth honno yn cael ei chynnwys yn yr ymgynghoriad. Rwy’n deall eich rhesymau am hynny, ond, os yw’r chweched dosbarth yn mynd i gael ei gwmpasu gan y comisiwn newydd, pryd y bydd y cynnig hwnnw yn cael ei gyflwyno mewn ymgynghoriad, os nad yw'n cael ei gynnwys yn yr un presennol? Mae angen i bobl ifanc allu dewis yr amgylchedd chweched dosbarth iawn iddynt hwy. Bydd rhai yn dymuno mynd i chweched dosbarth mewn ysgol, bydd eraill yn awyddus i fynd i chweched dosbarth mewn coleg. A all Ysgrifennydd y Cabinet ein sicrhau ni y bydd pobl ifanc yn parhau i gael y dewis o astudio mewn coleg chweched dosbarth neu yn y chweched dosbarth mewn ysgol?

O ran yr ymgynghoriad ei hun, sut ydych chi wedi rhoi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad a sut ydych chi’n sicrhau bod y rhanddeiliaid cywir wedi cael gwybod amdano? Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad ar y comisiwn a'r diwygiadau sy'n cael eu hystyried a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw. Diolch.

Diolch yn fawr iawn i Michelle am ei chwestiynau. Mae’r costau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd â'r ymgynghoriad technegol, a fydd yn digwydd yn nes ymlaen eleni. Bydd y comisiwn yn atebol i Weinidogion Cymru. Mae parch cyfartal yn fater hollbwysig i mi. Un o'r rhesymau dros gael un corff unigol yn trefnu addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, ac â goruchwyliaeth strategol drostynt, yw cyflawni’r parch cyfartal hwnnw a chydnabod, fel yr ydych chi’n dweud yn gwbl gywir, bod y dyddiau o gael un swydd am oes ac aros mewn un man pan fyddwch yn gadael yr ysgol wedi dod i ben. Dyna un o'r rhesymau pam y mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn cynllunio ac yn trefnu addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny, er enghraifft, yn ei chynllun prentisiaeth i bob oedran y mae yn ei ddatblygu dros gyfnod y Llywodraeth Cymru benodol hon.

Mae Michelle yn gofyn a yw mater y chweched dosbarth wedi’i gynnwys yn y ddogfen ymgynghori a phryd yr ydym ni’n mynd i ymgynghori arno. Wel, mae yn y ddogfen ymgynghori. Rwy'n gwerthfawrogi—. Rwy'n pryderu nad yw'r Aelod wedi cael copi o'r Papur Gwyn efallai. Rwy'n credu ei fod wedi cael ei anfon ar e-bost at bob Aelod. Rwyf i yn sicr wedi ei weld yn fy mewnflwch AC fy hun ac mae'n amlwg iawn yn y ddogfen—mae’r cwestiynau ynghylch y chweched dosbarth yn yr ymgynghoriad ac mae'n gwestiwn dilys yr ydym yn ei ofyn i bobl.

Mae’r Aelod hefyd yn gofyn sut yr ydym ni’n rhoi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad. Wel, mae hyn yn rhan o'r rheswm pam yr ydym yn gwneud datganiad llafar heddiw—i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad yn dilyn y datganiad a wnes i yn gynharach heddiw. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae nifer o ddigwyddiadau i randdeiliaid yn parhau tan y bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ym mis Hydref, a byddwn yn cynnal ymgynghoriad i bobl ifanc yn benodol, oherwydd y mae gwneud pethau'n iawn ar gyfer y dysgwr wrth wraidd hyn ac mae angen iddyn nhw gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori hwn hefyd.

Cyn belled ag y gallaf i ei weld ar wefan CCAUC, mae'r niferoedd staffio presennol yn 50 o staff ar draws pedair cyfarwyddiaeth. A allwch chi gadarnhau a yw hynny'n gywir? Os felly, sut y byddai'r strwythur staffio a strwythur y sefydliad yn y dyfodol yn cymharu â threfniadau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar hyn o bryd?

Byddwn yn gobeithio bod gwefan CCAUC yn gywir ac yn rhoi disgrifiad cywir o'u harferion cyflogaeth, ond fe wnaf ofyn eto i'r prif weithredwr, a chadarnhau hynny i chi. O ran maint y comisiwn, rwyf bob amser yn credu'n gryf yn yr egwyddor bod ffurf yn dilyn swyddogaeth, ac ar hyn o bryd, wrth i ni ymgynghori ar ffurf y comisiwn, nid ydym ar hyn o bryd mewn sefyllfa i ddweud yn union sut y bydd yn edrych, oherwydd bydd hynny'n dibynnu ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol. Dyna pam yr ydym yn cynnal ymgynghoriad technegol ar ddiwedd y broses Papur Gwyn hon er mwyn ymgynghori ar y materion mwy technegol, manwl hynny a’r manylion yr ydych chi’n gofyn amdanynt yn ddiweddarach. Ond ar hyn o bryd, yr hyn sy'n bwysig i ni yw ein bod yn deall, a’n bod yn cytuno ar swyddogaethau’r corff hwn ac yna ein bod yn bwrw ymlaen ar ba mor effeithiol y bydd yn cael ei staffio. Yr hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, o dan y cynigion hyn, yw y bydd CCAUC yn peidio â bod a byddwn yn gweithio'n agos gyda CCAUC ac aelodau newydd y bwrdd, a chanddynt amrywiaeth ehangach o brofiadau, gobeithio, i bontio’n ddi-dor o un sefydliad i'r llall.

Diolch yn fawr am y datganiad ac am yr ymrwymiadau sydd ynddo. Rwyf yn gwerthfawrogi ein bod yn sôn yn bennaf am newid strwythurol, ond pwrpas y newid strwythurol yw gwella cyfleoedd ar gyfer dysgu, a dysgu sydd yn barod ar gyfer Cymru a fydd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth fyd-eang, os mynnwch chi, yn ogystal â hybu yr economi leol. Os yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg i gael unrhyw effaith, ymhellach ymlaen bydd gennym fusnesau sy'n chwilio am sgiliau Cymraeg—ni fyddwn yn dweud rhuglder o reidrwydd—ond tu hwnt i hynny, sgiliau ieithyddol eraill hefyd, yn enwedig ar ôl Brexit. Er mai Saesneg yw iaith ryngwladol busnes, mae'n bendant o gymorth i bobl yng Nghymru os ydynt yn gallu siarad mwy nag un iaith pan eu bod yn ceisio cymryd rhan mewn masnach ryngwladol. A allwch chi ddweud wrthyf i, felly, a fydd yr ymgynghoriad yn arbennig, a gwaith y comisiwn yn y dyfodol yn ystyried pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu medrus mewn addysg anstatudol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Suzy, am y cyfraniad yna. Fel y gwyddoch, mae cynyddu'r cyfleoedd i fyfyrwyr, disgyblion ysgol a’r rhai hynny sydd mewn AB ac AU i gaffael sgiliau iaith yn y Gymraeg a bod yn gallu defnyddio’r sgiliau hynny yn eu dull o astudio yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi. O ran addysg bellach, rydym ni ar hyn o bryd yn gofyn i Delyth Evans wneud darn o waith ynghylch pa un a ddylai swyddogaeth a chylch gwaith y Coleg Cymraeg ymestyn i'r sector addysg bellach, ac rydym yn disgwyl cael yr adroddiad hwnnw cyn toriad yr haf. Yn amlwg, bydd unrhyw sefydliad sy'n gyfrifol am gynllunio darpariaeth AU ac AB a dysgu seiliedig ar waith yn ein cenedl yn gorfod ystyried sut y byddant yn darparu hynny trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg.

O ran ieithoedd ehangach, nid wyf mewn sefyllfa ar hyn o bryd i ddweud beth fydd swyddogaethau a chyfrifoldebau y sefydliad hwn yn hynny o beth. Ond mae cynllunio cymwysterau a chynllunio a chomisiynu ystod o gymwysterau a chyrsiau iaith, boed hynny mewn ieithoedd tramor modern, yn y Gymraeg, neu yn y gallu i fynegi eich hun yn hyderus ac yn glir—efallai yn well nag yr ydw i'n ei wneud ar hyn o bryd—yn amlwg yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried o ran comisiynu cyrsiau a fydd ar gael. Ac rwy’n cydnabod bod y gallu i fynegi eich hun a chyfathrebu'n effeithiol yn bwysig, ac wrth gwrs dyna pam yr ydym ni wedi cadw arholiad llafar yn rhan o'n TGAU Saesneg iaith, er bod hynny wedi ei ddiddymu yn Lloegr.

Dim ond yng Nghymru y gallai'r ateb i'r cwestiwn arholiad ‘Sut yr ydym ni fel cenedl yn dod yn arweinydd byd ym maes arloesedd’ fod yn sefydlu nid yn unig pwyllgor—nid hyd yn oed pwyllgor—ond is-bwyllgor, oherwydd dyna beth yw Ymchwil ac Arloesedd Cymru mewn perthynas â'r corff newydd hwn. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod hyn yn gwbl groes i gyngor Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesedd y Llywodraeth ei hun, ac yn wir dau adroddiad gan arbenigwyr byd-eang ar bolisi arloesedd, a argymhellodd, i’r gwrthwyneb i hyn, y dylid creu corff arloesedd pwrpasol ar gyfer Cymru? A all hi ddweud felly beth yw sefyllfa adolygiad Reid ar ymchwil ac arloesedd yng Nghymru, a sefydlwyd o ganlyniad i'r adolygiad Hazelkorn, a’i bwrpas, a dyfynnaf, oedd darparu

cyngor ar ffurf adroddiad i Lywodraeth Cymru ar lywodraethu...rheoleiddio a goruchwylio ymchwil ac arloesedd a ariennir gan y Llywodraeth yng Nghymru?

Os yw Llywodraeth Cymru eisoes wedi dod o hyd i'r ateb, pam gofyn y cwestiwn i’r Athro Reid?

Yn gyntaf oll, nid pwyllgor yw hwn, comisiwn ydyw, a bydd ganddo’r statws hwnnw. Efallai mai’r cwestiwn y dylid ei ofyn yw: ‘Dim ond yng Nghymru, yr ateb i'r broblem yw cael corff arall eto’, sef yr hyn yr wyf i’n credu y mae’r Aelod o blaid ei greu. Mae gennym eisoes—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod gennym eisoes, ar y cyfrif diwethaf, 47 o gyrff unigol yng Nghymru a oedd â rhyw gylch gwaith neu gyfrifoldeb dros ymchwil ac arloesedd. Rwyf yn awgrymu nad ychwanegu un arall at y 47 hynny yw’r hyn sydd ei angen arnom. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i mi—a chlywais eich cwestiwn i'r Prif Weinidog yn gynharach—yw nad ydym yn creu maenoriaethau unigol, ond bod gennym ddull systematig sy'n golygu y gallwn gael y gorau o'r berthynas â’r sector addysg uwch ac â’r byd gwaith, ac nad oes angen i ni ddewis y naill neu’r llall.

O ran adroddiad Reid, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y berthynas o gyllid y Llywodraeth ar gyfer ymchwil yn iawn, ac i helpu i wneud hynny, mae’r Athro Reid yn cynnal ei adroddiad, a bydd ei adroddiad yn rhan annatod o sut yr ydym yn bwrw ymlaen â’r cynigion hyn. Ond mae’n rhaid i mi ddweud eto, Dirprwy Lywydd: pan fo gennym eisoes 47 o gyrff yn ystyried hyn a Chymru'n tanberfformio o ran arloesedd ac ymchwil, nid dim ond ychwanegu un arall yw'r ateb.

7. 6. Datganiad: TB Buchol

Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar TB mewn gwartheg, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i gyflwyno’r datganiad—Lesley Griffiths.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am ei adroddiad ar ein rhaglen i ddileu TB. Ymatebais yn ffurfiol i'r adroddiad y bore yma, ac roeddwn yn arbennig o falch o weld bod argymhellion y pwyllgor yn unol â'n cynigion, yr ymgynghorwyd arnynt yn hwyr y llynedd.

Gan adeiladu ar y cynnydd sydd wedi bod dros y naw mlynedd diwethaf, mae llawer ohonoch yn gwybod am yr effaith ariannol a chymdeithasol sylweddol y mae TB mewn gwartheg yn ei chael ar deuluoedd sy’n ffermio, ar eu busnesau nhw ac ar yr economi wledig. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fynd i'r afael â'r clefyd hwn i ddiogelu dyfodol y diwydiant a diogelu iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid. Roedd yr ymgynghoriad yn destun bron i 1,000 o sylwadau, ac rwyf am ddiolch i bawb a wnaeth ymateb. Roedd llawer yn cytuno bod angen dull mwy rhanbarthol o weithredu, ac felly, yn ddiweddarach eleni, byddaf yn pennu ardaloedd TB isel, canolradd ac uchel.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd gwirioneddol. Mae nifer yr achosion newydd wedi gostwng dros 40 y cant ers uchafbwynt yn 2009 ac erbyn hyn y mae’r nifer yn is nag y bu mewn 12 mlynedd. Trwy gynnal mwy o brofion, rydym yn awr yn canfod gwartheg heintiedig ynghynt, a bellach tua 5 y cant o fuchesi sydd â TB. Bydd y dull rhanbarthol yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gennym eisoes ac yn cyflymu’r cynnydd a wneir tuag at gael Cymru sy’n rhydd o TB.

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi dogfen y rhaglen i ddileu TB Cymru a'r cynllun cyflenwi cyntaf, sy'n darparu manylion y rheolaethau seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn berthnasol i bob rhanbarth. Nid yw’r clefyd wedi sefydlu yn yr ardal TB isel yn y gogledd. Yma, mae bod yn rhydd rhag TB o fewn cyrraedd yn y tymor byr i’r canolig. Bydd statws heb TB yn hybu cyfleoedd i fasnachu ac yn golygu y bydd angen profion TB yn llai rheolaidd ar fuchesi, gan leihau’r costau i ffermwyr a'r Llywodraeth. Mae ein tystiolaeth yn dangos mai symudiadau gwartheg i mewn i'r ardal yw prif yrrwr y clefyd sy’n digwydd yno ac felly, o 1 Hydref eleni ymlaen, bydd profion ar ôl symud yn cael eu cyflwyno. Bydd hyn yn helpu i warchod yr ardal drwy nodi anifeiliaid sydd wedi'u heintio ar y cyfle cyntaf, cyn iddyn nhw fynd yn eu blaenau i heintio eraill. Mae'r dystiolaeth yn dangos mai symudiadau gwartheg o ardaloedd TB uwch cyfagos yw un o brif yrwyr clefyd yn yr ardaloedd canolradd. Bydd profion ar ôl symud, felly, yn cael eu cyflwyno yn yr ardaloedd canolradd yn hwyr y flwyddyn nesaf.

Y flaenoriaeth ar gyfer yr ardaloedd TB uchel yw parhau i leihau nifer yr achosion TB a difrifoldeb pob achos. Yn yr ymgynghoriad, gofynnwyd am adborth ar gynnig i gyflawni profion ar fuches bob chwe mis yn hytrach na phob blwyddyn. Mae profion bob chwe mis wedi bod o fudd yn yr ardal triniaeth ddwys, lle mae’r driniaeth fwy aml yn canfod 22 y cant o'r holl fuchesi sydd wedi’u heintio. Mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus mewn rhaglenni dileu mewn gwledydd eraill. Fodd bynnag, gwn, ar ôl trafod â ffermwyr, y gall fod yn anghyfleus ac yn anodd yn ymarferol i alw’r gwartheg o dir pori yn ystod misoedd yr haf. Dyma pam rwyf wedi penderfynu y bydd yn ofynnol cynnal profion bob chwe mis yn unig ar y buchesi hynny sydd â'r risg fwyaf o gael eu heintio. Rydym yn casglu'r dystiolaeth sydd ei hangen i nodi’r buchesi hyn, ac felly am y tro, bydd profion blynyddol yn parhau ar gyfer Cymru gyfan.

Dywedodd ffermwyr wrthym eu bod am sicrhau bod yr wybodaeth ar statws TB buches ar gael fel y gallant farnu ar risg y gwartheg y maent yn eu prynu. Rydym yn gwybod bod cynlluniau masnachu sy’n seiliedig ar risg wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddileu TB yn Seland Newydd ac Awstralia. Bydd darparu gwybodaeth ar sail buches yn un o rannau pwysicaf y rhaglen wrth fynd ymlaen, gan ategu ein polisïau rhanbarthol. Rydym wedi dechrau trwy roi cyllid grant i farchnadoedd da byw i ddiweddaru eu cyfarpar ar gyfer derbyn ac arddangos gwybodaeth am TB. Yn y tymor hwy, dim ond system orfodol all sicrhau bod gwerthwyr gwartheg yn rhoi gwybodaeth am TB yn y man gwerthu. Byddwn yn chwilio am ffyrdd o gyflwyno hyn.

Bydd cynlluniau iechyd gwirfoddol TB Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg, a elwir yn CHeCS, hefyd yn chwarae rhan allweddol drwy ganiatáu i fuchesi ddangos eu bod yn llai o risg hyd yn oed os ydynt mewn ardal TB uchel. Bydd hyn yn helpu prynwyr i leihau'r risg o gyflwyno'r clefyd, a bydd y buchesi sy’n cymryd rhan a roddir yn y dosbarth lleiaf o risg yn cael eu heithrio o rai o'n rheolaethau. Rwy’n pwyso ar yr Aelodau i’m helpu i annog ffermwyr i ymuno â chynllun, ac i ofyn am wybodaeth TB y gwartheg y maen nhw’n eu prynu, ni waeth o ble y maen nhw’n dod.

Un o elfennau allweddol ein dull o ddileu clefyd TB yw ymdrin â TB mewn buchesi sydd wedi’u heintio yn hirsefydlog a buchesi sydd wedi’u heintio dro ar ôl tro. Mae rhai o'r buchesi sydd wedi’u heintio’n gronig â TB wedi bod dan gyfyngiadau TB ers blynyddoedd lawer. Bydd dileu clefyd yn y buchesi hyn yn lleihau’n sylweddol y costau a’r goblygiadau i'r trethdalwr, i berchnogion buchesi a buchesi cyfagos.

Rydym yn rhoi cynlluniau gweithredu ar waith wedi'u teilwra ar gyfer buchesi sydd wedi’u heintio’n gronig, gyda mesurau sydd wedi'u hanelu'n benodol at gael gwared â’r haint. O ran rhai o'r achosion cronig hyn o fuchesi wedi’u heintio, gellid nodi bod moch daear yn rhan o'r broblem. Ac oni bai ein bod yn derbyn bod y buchesi hyn yn aros yn gyson heintiedig, mae'n rhaid i ni gael ffyrdd o dorri’r cylch haint rhwng moch daear a gwartheg. Rydym yn ystyried ystod o ddewisiadau i wneud hyn, gan gynnwys, lle mae angen, ddal moch daear wedi’u heintio mewn cawell a’u lladd yn ddi-boen. Mae hwn yn ddull newydd ac nid yw'n debyg i’r difa adweithiol a ddefnyddiwyd o’r blaen yn Lloegr. Bydd y gwaith a gynlluniwyd ar gyfer dal, profi a chael gwared ar y moch daear yn gyfyngedig i'r buchesi hynny lle mae ymchwiliadau yn dangos bod yr haint ar foch daear yn yrrwr allweddol i’r clefyd parhaus. Byddwn hefyd ond yn cael gwared â’r moch daear sydd wedi’u profi’n bositif. Mewn ardaloedd lle mae modd profi nad yw’r moch daear yn cyfrannu at y clefyd, byddwn yn parhau â mesurau penodol i’r gwartheg, gan gynnwys mwy o fioddiogelwch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ynghyd â’r mesurau newydd hyn mae’n rhaid i ni fod yn ddarbodus yn ein cyllidebau hefyd, yn enwedig gyda cholli cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae'n bwysig ein bod yn peidio â rhoi gormod o werth ar anifeiliaid a laddwyd, gan fod hynny’n cynyddu'r gost i drethdalwr. Rwy’n bryderus oherwydd mae ein taliadau iawndal cyfartalog ni 60 y cant yn uwch nag yn Lloegr, ac felly rwy’n lleihau'r cap iawndal i £5,000 ac yn adolygu ein system iawndal. Byddaf yn edrych ar y rhai a ddefnyddir mewn gwledydd eraill i lywio unrhyw newidiadau.

Rwy’n deall yn llwyr pa mor anodd a niweidiol yw TB i ffermwyr. Fy neges i iddyn nhw yw hyn: mae pethau'n gwella, a thrwy weithio gyda'n gilydd gallwn gyflawni ein nod cyffredin o ddileu’r clefyd hwn.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac am roi cyfle i mi gyfarfod â swyddogion yn gynharach heddiw? Rwyf am ddatgan, er mwyn y cofnod, yr effeithiwyd ar fferm fy rhieni yng nghyfraith gan TB mewn gwartheg yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, a gwn o brofiad personol pa mor ddinistriol yw’r clefyd arbennig hwn.

Rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, yn croesawu'r datganiad heddiw a dogfen y rhaglen i ddileu TB Cymru a’r cynllun cyflawni. Rwy’n gobeithio, wrth iddi ymateb i’m cwestiynau i heddiw, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi mwy o fanylion i ni am ei thargedau cychwynnol ac amserlenni ar gyfer sicrhau nad oes TB yng Nghymru.

Rwy'n arbennig o falch o weld Ysgrifennydd y Cabinet yn dechrau cymryd y camau angenrheidiol i gael gwared â’r clefyd hwn o’n bywyd gwyllt, yn ogystal â mynd i'r afael â'r clefyd mewn gwartheg. Rwyf bob amser wedi credu bod dull cyflawn a chyfannol o weithredu yn angenrheidiol i ddileu'r clefyd hwn. Ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn awr, o'r diwedd, yn defnyddio’r dull hwnnw o weithredu, gan fod rhaglen ddileu gref yn dibynnu ar ymdrin â phob ffynhonnell sydd i'r clefyd. Felly, hoffwn longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei phenderfyniad yma heddiw i ddechrau cael gwared â moch daear wedi'u heintio.

Nawr, mae fy nghwestiwn cyntaf i Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwneud â’r penderfyniad i gael gwared â moch daear heintiedig o ffermydd sydd wedi eu heffeithio'n ddifrifol. A gaf i felly ofyn iddi pa drefniadau monitro sydd wedi eu rhoi ar waith ynglŷn â’r polisi hwn? Efallai y gallai roi mwy o fanylion penodol inni ar ymarferoldeb y mesurau newydd hyn, er enghraifft pa mor aml, yn ôl pob tebyg, y bydd moch daear yn cael eu dal mewn cawell ar ffermydd sydd wedi eu heffeithio'n ddifrifol, a faint o arian fydd yn cael ei ddarparu i roi’r mesurau newydd hyn ar waith. Yn wir, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y bydd hi’n adrodd am effeithiolrwydd y mesurau hyn fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod yr ymyriad yn cael ei dargedu'n briodol.

Nawr, mae’r datganiad heddiw yn cadarnhau dull fesul rhanbarth. Mae'n hanfodol fod y mesurau yn briodol i lefel y risg ym mhob ardal ac nad ydyn nhw’n arwain yn anfwriadol at fwy o faich a biwrocratiaeth i’r ffermwyr. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo’n llwyr i addo na fydd hynny'n digwydd. Fodd bynnag, mae yna rai pryderon dilys iawn o ran yr effaith a gaiff y dull gweithredu fesul rhanbarth ar fasnach—ac, yn benodol, y fasnach rhwng Cymru a Lloegr, a allai gael ei llesteirio o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn monitro unrhyw sgîl-effeithiau y gallai'r dull newydd eu cael ar farchnadoedd. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad hefyd o sut y byddai'r dull newydd hwn yn effeithio ar farchnadoedd da byw ledled Cymru.

Nawr, mae datganiad heddiw yn cyfeirio hefyd at y ffaith y bydd gwybodaeth am statws TB ar gael yn haws, yn debyg i'r system fasnachu seiliedig ar risg sydd yn Seland Newydd. Er fy mod yn cefnogi'r syniad o system sy'n hysbysu ffermwyr o statws y gwartheg y maen nhw’n eu prynu, a allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau sut yn union y bydd y system yn sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu yn erbyn ffermwyr y mae eu gwartheg wedi cael y clefyd ond y mae’r cyfyngiadau wedi dod i ben erbyn hyn? Yn wir, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod pryder ffermwyr mewn ardaloedd TB uchel am yr effaith lesteiriol a all fod ar eu masnach? A hefyd, sut all Llywodraeth Cymru gadw trefn ar y system hon fel na all ffermwyr honni bod eu buches wedi bod yn rhydd o’r clefyd pan nad yw hynny’n wir?

Nawr, mae’r datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at brofion a gynhelir ar ôl symud mewn ardaloedd TB isel a chanolradd. Mae'n hanfodol fod unrhyw fesurau newydd i brofi yn cael eu rhoi ar waith yn y modd hwylusaf posibl er mwyn lleihau’r amharu ar ffermwyr yn yr ardaloedd hynny. Deallaf na fydd hyn yn boblogaidd ymhlith y ffermwyr yn yr ardaloedd sy'n teimlo y gallai gostio llawer i'r diwydiant. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa asesiad y mae hi wedi ei wneud o’r effaith ariannol y gallai unrhyw brofion ychwanegol ei chael?

Yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, cafwyd cynigion ar gyfer cyfyngu gydol oes oherwydd adweithyddion amhendant mewn ardaloedd TB uchel, fel Sir Benfro, yn fy etholaeth i, ac mewn mannau eraill. Cafwyd pryderon lu oherwydd y mater arbennig hwn, gyda phob cyfiawnhad. Mae’r cysyniad cyffredinol am unrhyw gyfyngiad gydol oes wedi peri pryder i ffermwyr, sy'n credu bod cyfyngu adweithyddion amhendant nid yn unig yn tanseilio’r prawf croen cyfredol ond hefyd o bosibl yn achosi i’r fuches gael ei heintio os caiff ei gadael ar ddaliad. Felly, o ystyried bod y datganiad yn cyfeirio at adweithyddion amhendant, a allai Ysgrifennydd y Cabinet daflu rhywfaint o oleuni, y mae ei angen yn fawr, ar y mater hwn a chadarnhau nad yw’r cyfyngiadau gydol oes hyn bellach yn cael eu hystyried?

Mae ffermwyr hefyd wedi bod yn pryderu am brofion buches gyfan bob chwe mis mewn ardaloedd TB uchel, ac mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru yn awr yn edrych ar brofion mwy cymesur yn yr ardaloedd hyn. Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi edrych eto ar y cynnig penodol hwn. Er hynny, byddai gennyf ddiddordeb o hyd mewn unrhyw ymchwil a wnaed am yr effaith a fyddai gan brofion buches gyfan bob chwe mis mewn ardaloedd TB uchel ar fasnachu gyda ffermwyr tu allan i Gymru ac ar iechyd a diogelwch. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi mwy o fanylion am effaith profion buches gyfan bob chwe mis mewn ardaloedd TB uchel.

Nawr, mae'r datganiad hefyd yn cadarnhau cap iawndal o £15,000 i £5,000, a fydd yn effeithio’n sylweddol ar rai ffermwyr yng Nghymru. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfrif am unrhyw bwysau ychwanegol a roddir ar ffermwyr, yn ogystal â sut y bydd y Llywodraeth mewn gwirionedd yn cydnabod stoc pedigri?

Llywydd, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, am ei datganiad y prynhawn yma; ac a gaf i, unwaith eto, gofnodi fy nghefnogaeth gyffredinol i gynigion Llywodraeth Cymru? Mae’r Aelodau i gyd yn ymwybodol o bwysigrwydd dileu TB mewn gwartheg. Mae'r diwydiant amaethyddol wedi ei gwneud yn gwbl glir, oni bai i gamau brys a rhagweithiol gael eu cymryd i reoli ffynhonnell yr haint mewn gwartheg a bywyd gwyllt, y gallai trafodaethau masnach wedi Brexit gael eu rhoi mewn perygl mawr. Felly, rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â'r clefyd hwn mewn modd cyfannol, gan gynnwys mynd i'r afael â'r llwybrau trosglwyddo rhwng gwartheg a bywyd gwyllt, ac edrychwn ymlaen at graffu’n adeiladol ar y cynigion hyn wrth iddyn nhw ddatblygu.

Rwy’n diolch i Paul Davies am ei groeso cyffredinol i’r rhaglen dileu TB ar ei newydd wedd. Roeddech chi’n dechrau trwy siarad am dargedau, a byddwch yn gwybod fy mod wedi ymateb y bore yma i'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Rwy'n credu mai argymhellion 1 a 2 oedd yn ymwneud â thargedau, ac roeddwn yn hapus iawn i dderbyn yr argymhellion hynny. Byddaf yn cyflwyno rhai targedau, a thargedau interim hefyd, erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

O ran monitro, bydd hynny’n digwydd yn gyson. Y syniad o gael cynllun cyflenwi cyntaf oedd cael y ddogfen strategol drosfwaol yn y rhaglen ddileu, ond yna, o dan hynny, gael cynllun cyflawni, a all fod yn hyblyg. Felly, os bydd angen inni ymateb i batrwm newidiol, er enghraifft, byddem yn gallu gwneud hynny’n gyflym. Nid wyf yn dymuno i’r cynllun cyflenwi hwnnw fod yn ddogfen gan Lywodraeth Cymru. Rwyf yn dymuno i hynny fod ar y cyd â'r sector i raddau helaeth iawn, gyda ffermwyr a chyda'r proffesiwn milfeddygol. Byddwch yn ymwybodol o'r cynlluniau pwrpasol yr ydym yn mynd i’w cael o ran buchesi wedi’u heintio’n gronig. Mae 10 y cant o'n buchesi heintiedig yn fuchesi wedi’i heintio’n gronig, h.y. dros 18 mis—rai ohonyn nhw ers 2001. Mae'n gwbl annerbyniol, ac fe ddywedais i hyn yn fy natganiad fis Hydref diwethaf, cyn i ni fynd i ymgynghoriad, roedd angen inni edrych ar y buchesi penodol hyn sydd wedi'u heintio’n gronig. Rwy’n cytuno’n llwyr: mae tryloywder yn hanfodol, ac unwaith eto, byddwn yn monitro’n flynyddol, a byddaf yn hapus iawn i adrodd yn ôl ar hynny.

O ran y dull rhanbarthol o weithredu, unwaith eto, roedd yr ymgynghoriad—roedd rhai o blaid, roedd rhai yn erbyn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yr ymgynghoriad hwn gennym, ac fel y dywedais yn fy natganiad, rwy’n credu ei bod o fewn ein cyrraedd i’r gogledd-orllewin, yr ardal isel honno, fod yn rhydd o TB, a byddai hynny'n wir yn cyhoeddi neges gadarnhaol iawn. Nid wyf yn dymuno rhoi mwy o faich ar ffermwyr nag sydd arnyn nhw’n barod. Dydw i ddim am weld mwy o reoleiddio. Er hynny, rydym yn dymuno sicrhau nad oes TB yng Nghymru, felly mae'n rhaid i ni gael y dull gweithredu cyfannol a newydd wrth ymdrin â'r clefyd.

Roeddech chi’n gofyn am y fasnach rhwng Cymru a Lloegr ac mae swyddogion yn ddiamau wedi siarad â DEFRA a chafwyd trafodaethau am hynny. Rwy'n hapus iawn gyda'r trefniadau sydd gennym yn eu lle ar hyn o bryd. Roeddech chi’n cyfeirio at y statws prynu ar sail gwybodaeth. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Felly, roedd gennym ryw fath o gynllun gwirfoddol, os mynnwch chi, ac rydym wedi rhoi cyllid grant i farchnadoedd da byw. Nid yw pob marchnad da byw wedi manteisio ar y cyllid grant. Byddwn yn dweud nad yw pob marchnad da byw yn dangos yr wybodaeth yr wyf yn credu y mae ei hangen ar brynwyr. Felly, rwy’n credu mai’r unig ffordd ymlaen, mewn gwirionedd, yw cynllun gorfodol, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar sut y gallem gyflwyno hynny.

Soniais yn fy natganiad fod gwiriadau yn bwysig iawn, yn enwedig i ffermydd. Wyddoch chi, gofynnwyd y cwestiwn i mi: os ydych chi mewn ardal TB uchel ond nad yw eich buches wedi’i heintio, sut mae rhoi gwybod i bobl eraill wedyn nad yw’ch buches chi wedi cael yr haint? Felly, rwy’n credu bod gwiriadau yn ffordd ymlaen ar gyfer gwneud hynny, ac fel y dywedais , byddwn yn annog pawb i annog ffermwyr i wneud hynny.

Roeddech chi’n holi am brofion ar ôl symud yn yr ardaloedd TB isel a chanolradd, a dywedais y byddwn ar 1 Hydref eleni, yn cyflwyno hynny yn yr ardal TB isel. Rwy’n credu’n syml bod angen i ni ganfod y clefyd mewn cyfnod cynharach. Nid ydym yn dymuno gweld y clefyd yn cael ei gyflwyno yn yr ardal TB isel. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu rhag hynny. A chan ein bod yn gwybod am y rhan fwyaf o'r ffyrdd y mae'n cael ei ledaenu o ardaloedd TB uchel i ardaloedd TB canolradd, rwy’n bwriadu cyflwyno hyn yno’r flwyddyn nesaf.

Rwy’n cytuno’n llwyr â chi am brofion bob chwe mis, ac rydym ni’n edrych ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Y cyngor a gefais i gan swyddfa'r prif swyddog milfeddygol oedd parhau i gynnal y profion blynyddol, ond, unwaith eto, byddwn yn amlwg yn monitro hynny.

O ran y cap iawndal, £15,000 oedd hwnnw, ac o hyn ymlaen bydd yn £5,000. O edrych ar ffigurau'r llynedd, byddai hynny'n effeithio ar tua 1 y cant o ffermwyr. Er hynny, mae problem ynglŷn â gwartheg pedigri, a byddwn yn annog pobl sy'n teimlo bod ganddynt wartheg mwy gwerthfawr i ystyried yswiriant.

Rydych chi’n holi ynglŷn ag adweithyddion amhendant. Unwaith eto, rydym wedi dweud y byddwn yn cael gwared â nhw yn ddi-oed yn y buchesi hynny sydd wedi’i heintio’n gronig, ond dim ond fel rhan o'r cynlluniau pwrpasol, ac mae gwaharddiad gydol oes wedi cael ei ddiystyru.

Diolch, Llywydd, ac rwy’n falch iawn gweld eich bod chi yn y gadair ar gyfer y datganiad arbennig hwn. A gaf i ddechrau drwy ddweud wrth yr Ysgrifennydd Cabinet ein bod ni’n falch ei bod hi wedi bennu ei datganiad gyda chydnabyddiaeth o’r effaith andwyol mae’r clwyf yma’n cael ar ffermwyr ac ar y diwydiant yn gyffredinol? Rwy’n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth yn dal i barhau i gydnabod hynny, achos mae’r clwyf yma yn taflu cysgod hir a thywyll dros ardaloedd eang o Gymru, gan gynnwys nifer o ardaloedd rwyf i’n eu cynrychioli fel Aelod rhanbarth y canolbarth a’r gorllewin.

Rwy’n credu er y bydd nifer yn cwestiynu agweddau ar y datganiad heddiw, mae Plaid Cymru yn sicr yn mynd i yn mo’yn gweithio gyda'r graen sydd yma i lwyddo i weld bod yna ddynesiad at waredu’r clwyf yma sydd yn cymryd yn llwyr i ystyriaeth lles anifeiliaid go iawn, sef lles anifeiliaid y buchesi yn ogystal â moch daear. Mae’r clwyf yma i gael mewn anifeiliaid rydym ni yn edrych ar eu hôl ac anifeiliaid gwyllt, ac mae angen edrych i gael gwared ar y clwyf o’r ddau sector. Ac yn y cyd-destun yna, rwy’n croesawu beth sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i’w ddweud.

Jest ychydig o gwestiynau sydd gen i, achos rwy’n meddwl bod y rhan fwyaf wedi cael eu holi ac wedi cael eu hateb eisoes, ond mae yna ambell i agwedd y byddwn i’n licio clywed ychydig mwy amdanyn nhw. Fe fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod bod argymhelliad cryf gan y pwyllgor y mae hi wedi ateb iddyn nhw'r bore yma parthed sicrhau gan Lywodraeth San Steffan fod statws TB Cymru ddim yn mynd i fod yn unrhyw fath o rwystr mewn trafodaethau masnachu gyda gweddill yr Undeb Ewropeaidd wrth inni ymadael â’r undeb. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud yn gadarnhaol y bydd hi yn gwneud hynny, ond, wrth gwrs, gyda’r Llywodraeth newydd nawr, rwyf jest eisiau sicrhau bod hynny’n cael ei wneud fel mater o frys a bod y materion yma yn cael eu gwyntyllu gyda’r Llywodraeth sydd yn negodi masnach ar ein rhan ni.

Hoffwn i glywed ychydig mwy am sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu adrodd nôl i ni fel Cynulliad neu i’r pwyllgor sy’n gyfrifol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gweledig, parthed yn arbennig yr agweddau newydd yn yr adroddiad yma, sef mynd i’r afael â moch daear ar ffermydd penodol lle mae yna dorri i lawr gyda’r haint wedi digwydd dros gyfnod hir, dros 18 mis a mwy, fel roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio. Mae hi wedi addo eisoes, wrth ymateb i’r pwyllgor, i ddod yn ôl mewn blwyddyn, ond fe fyddwn i’n licio gweld hynny’n dod yn rhyw fath o system adrodd nôl cyson, pob chwe mis neu bob blwyddyn, fel ein bod ni’n gallu monitro'r hyn sy’n cael ei wneud.

A jest yn y cyd-destun o fynd i’r afael â moch daear lle mae yna gyswllt rhwng bodolaeth moch daear ar fferm a’r ffaith bod yr haint yn cael ei drosglwyddo dro ar ôl tro, pwy sy’n mynd i benderfynu bod y cyswllt yna’n bodoli? Mae modd mynd i fferm, mae modd cael ecolegwyr yna i gerdded y fferm, mae modd canfod lle mae’r moch daear a lle maen nhw mewn perthynas â’r borfa ac ati, ond pwy sydd yn y pen draw yn penderfynu, ‘Ie, mae yna gyswllt fan hyn’? Pwy sy’n mynd i gymryd y penderfyniad yna? Ac wedyn, wrth gwrs, mae rhai o’r penderfyniadau sy’n deillio yn sgil hynny, gan gynnwys difa’r moch daear lle mae’n briodol.

A gaf i jest ofyn am fasnachu ar sail risg? Rwy’n credu bod yna rhyw dinc o dristwch gyda’r Ysgrifennydd Cabinet nad yw mwy o’r diwydiant wedi cydio yn y cyfle yma i wneud mwy o wybodaeth yn hysbys mewn marchnadoedd ac ati, ac er nad yw hi’n bwriadu gwneud hynny yn orfodol ar hyn o bryd, pa gamau fydd hi’n cymryd yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf i osod system masnachu ar sail risg ar seiliau mwy cadarn yng Nghymru, fel ein bod ni’n gallu monitro hefyd a ydy hynny’n gwneud gwahaniaeth wrth sicrhau bod y clwyf yn diflannu yn rhanbarthol, o leiaf, mewn rhannau o Gymru?

Ac a gaf i ofyn a ydy hi’n bwriadu cadw’r cap? Rydym wedi trafod y cap a’r effaith ar fridio yn arbennig, ond a ydy hi’n bwriadu cadw’r cap o dan adolygiad, rhag ofn bod sgileffeithiau annisgwyl yn deillio o hynny?

Y cwestiwn olaf sydd gen i—. Rwy’n croesawu yn gyffredinol y ffaith ei bod, wrth ymateb i’r ymgynghoriad, yn ymddangos i mi fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi symud o system, er enghraifft, sy’n chwe mis i bawb yn yr ardal ddwys ac ati i system sy’n fwy seiliedig ar risg. Ond, yn sgil hynny, wrth gwrs, bydd yn rhaid bod yn fwy sicr o’r risg—hynny yw, mae’n rhaid bod yn sicr pa ffermydd a pha fuchesi sydd wir o dan risg a pha rai sydd mewn sefyllfa wahanol. Mae hynny yn gofyn cwestiwn ynglŷn ag adnoddau a staff, a sut mae hynny’n cael ei wneud, a byddwn yn hoffi clywed bach yn fwy gan yr Ysgrifennydd Cabinet o ran sut y bydd hi’n gallu gwneud yn siŵr bod y safonau gwarantu’r risg yma ynghlwm wrth y cynllun newydd.

Diolch, Simon Thomas, eto, am ei groeso cyffredinol i’r rhaglen ddileu newydd ac am ei gwestiynau. Rwy’n cytuno’n llwyr â chi am yr effaith andwyol. Testun rhai o'r sgyrsiau mwyaf digalon yr wyf i wedi eu cael gyda ffermwyr ers i mi fod yn y swydd dros y flwyddyn ddiwethaf yw TB, felly rwy’n cytuno'n llwyr â chi ar y pwynt hwnnw.

O ran y dull newydd gyda’r buchesi wedi’u heintio’n gronig a moch daear, rwy’n credu y byddai'n beth da i’r boblogaeth moch daear hefyd. Felly, mae’r cwestiwn wedi ei ofyn i mi—mae hyn yn dod yn ôl at eich pwynt diwethaf—'Pam nad ydych chi’n gwneud hynny ym mhobman? ' Nid oes gennym yr adnoddau na'r arian i wneud hynny, ond byddwn wedyn yn gallu cael rhywfaint o wybodaeth, gan weithio gyda ffermwyr a'u milfeddyg preifat, er mwyn dod â’u cynllun gweithredu pwrpasol ynghyd—dyna sut y byddwn yn gwybod a yw’r cysylltiad hwnnw’n bodoli rhwng bywyd gwyllt a gwartheg wrth iddynt ddod at ei gilydd.

Ynglŷn â’r cwestiwn am ein statws TB a masnach gyda Llywodraeth y DU, rwyf mewn gwirionedd yn credu wir ein bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant. Ers i ni gael y rhaglen ddileu yn ôl yn 2008, rydym wedi gweld gostyngiad o 40 y cant yn nifer yr achosion. Felly, nid wyf yn credu y byddai Ewrop, nac unrhyw wlad arall sy'n awyddus i fasnachu â ni nac unrhyw ran arall o'r DU, yn ystyried hynny’n fethiant, ond mae yn rhywbeth—.Yn ein cyfarfodydd gweinidogol ar lefel amaethyddol, rydym yn cael golwg ar fasnach yn benodol, sydd—

Ie, rwy'n gobeithio y bydd hynny’n fuan—. Rwy'n mynd i gael sgwrs gyda Michael Gove yn y bore, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu ailgychwyn ein cyfarfodydd misol cyn gynted â phosibl.

Rydych chi’n holi sut y byddaf yn adrodd i'r lle hwn, boed hynny yn y Siambr neu gyda'r pwyllgor. Rwy'n sicr yn credu bod angen i mi adrodd yn flynyddol, felly gallwn ystyried ai yma neu yn y pwyllgor y bydd hynny. Un o'r rhesymau nad oeddwn yn arbennig o awyddus i gael cynllun cyflwyno blynyddol oedd fy mod yn credu bod angen i'r cynllun fod yn hyblyg a chyfnewidiol. Ond rwyf i o’r farn fod angen i mi adrodd yn flynyddol i'r Aelodau, er mwyn iddyn nhw fod yn ymwybodol o lwyddiant y dull newydd.

O ran y cap iawndal, fel y dywedais yn fy ateb i Paul Davies, £15,000 oedd hwnnw ac mae wedi gostwng i £5,000 erbyn hyn. Byddai wedi effeithio ar 1 y cant o bobl—o ffermwyr—y llynedd. Serch hynny, byddai'n arbed £300,000, ac rwy’n pryderu bod ein cyfradd iawndal 60 y cant yn uwch nag yn Lloegr. Mae'n rhaid i ni fod yn ymarferol ynglŷn â hyn. Rydym yn mynd i golli cyllid yr UE, sydd ar hyn o bryd tua £4 miliwn, ymhen ychydig o flynyddoedd. Rwyf i'n mynd i ddal Llywodraeth y DU yn atebol i’r hyn y maen nhw’n ei ddweud, ond mae'n rhaid i ni gynllunio rhag ofn na fyddwn yn cael yr arian hwnnw. Gwariais £11 miliwn y llynedd ar iawndal, felly mae'n rhaid i ni edrych ar hyn. Ond, eto, rwy'n hapus iawn, wyddoch chi, mae angen i'r rhaglen dileu gyfan gael ei monitro, ac rwy'n hapus iawn i gynnwys hynny yn yr adroddiad i'r Aelodau.

Wel, roedd Simon Thomas yn gresynu ar ddechrau ei sylwadau nad oedd llawer o gwestiynau ar ôl i'w gofyn ac erbyn hyn mae llai fyth hyd yn oed. Ond hoffwn ymuno â phawb arall wrth groesawu'r datganiad hwn, gan longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet mewn gwirionedd am ei pharodrwydd i ymgysylltu â ffermwyr a gwrando ar bob barn, ac am hyblygrwydd ei dull hi o weithredu. Rwyf i o’r farn bod y ddogfen hon, o’i hystyried yn ei chyfanrwydd, yn gam sylweddol tuag at ddileu TB.

Yn ddiamau, bydd llawer o gwynion am rannau unigol y pecyn, ond rwy’n credu, yn ei gyfanrwydd, ei fod yn cynrychioli cynnydd mawr iawn yn wir, yn enwedig y penderfyniad anodd gwleidyddol—rwy’n cydnabod hynny o’r cychwyn cyntaf—o ystyried lladd moch daear, er bod hynny mewn modd cyfyngedig. Nid oes unrhyw unfrydedd ar werth hyn yn fy ngrŵp i fy hun hyd yn oed, felly rwy’n deall yr anawsterau y bu raid i Ysgrifennydd y Cabinet ymdopi â nhw ynglŷn â’r agwedd benodol honno ar y mater.

O ran y rhanbartholi, rwy'n credu bod hynny’n ddull synhwyrol, a bydd croeso iddo yn benodol, wrth gwrs, yn y gogledd-orllewin. Ac mae’r gymuned ffermio yn ofni, wrth gwrs,—yn y meysydd risg uchel yn arbennig—fod hyn yn mynd i’w staenio nhw, mewn ffordd, a chynyddu eu costau nhw a chael effaith andwyol ar brisiau. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud cymaint ag y gallwn i esbonio i'r cyhoedd, ac eraill sydd yn rhanddeiliaid â diddordeb yn hyn, nad yw hyn o reidrwydd yn rhywbeth sy'n gwneud y cig a chynnyrch fferm arall sy'n cael ei gynhyrchu yn yr ardaloedd hyn yn amhosibl ei werthu na’i fwyta. Credaf ei bod yn bwysig iawn i barhau â'r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn ei gyflawni, sef dwyn y diwydiant ffermio gyda ni mewn menter ar y cyd tuag at yr amcan yr ydym i gyd yn dymuno ei weld.

O ran y cap iawndal, clywais yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am—. A dweud y gwir, rwy'n credu mai’r ffigwr oedd 95 o anifeiliaid yn unig ynghlwm yn hyn o beth y llynedd, dros £5,000. Ond mae yna annhegwch penodol i rai unigolion, yn arbennig pan maen nhw wedi buddsoddi arian mawr yng ngeneteg anifeiliaid. Rwy'n falch o glywed y bydd hi'n parhau i adolygu hyn, ac os yw’n wir bod unigolion yn colli symiau mawr o arian, o ystyried natur fregus incwm ffermio, rwy’n credu y byddai'n dderbyniol iawn pe gellid ystyried hynny eto cyn gynted ag y bydd digon o wybodaeth i’w chael.

O ran swyddogaeth bywyd gwyllt, rwy’n nodi bod y ddogfen yn dweud y gall TB heintio pob anifail ac mae rhai yn cael eu hystyried gan arbenigwyr milfeddygol yn gronfeydd, a gall hynny arwain at y clefyd yn mynnu parhau. Wrth gwrs, mae hyn yn cynnwys moch daear yn enwedig. Gwyddom o arolwg diweddaraf Cymru 'mochyn daear wedi’i gael yn farw' fod cyfradd heintio o bron 7 y cant, sy'n llawer uwch na'r hyn a geir mewn gwartheg, ac mewn rhai ardaloedd yng Nghymru mae tua un o bob pum mochyn daear a brofwyd yn yr arolwg hwn yn dangos eu bod yn dioddef o'r clefyd. Credaf ei bod yn bwysig iawn y dylem ystyried hyn yn fater lles anifeiliaid i foch daear a bywyd gwyllt arall, yn ogystal â gwartheg. Mae angen esbonio bod TB yn glefyd ofnadwy i foch daear yn ogystal â gwartheg, ac mae materion eraill sy'n ymwneud â’r cynnydd mawr a sydyn yn niferoedd moch daear hefyd. Rydym yn derbyn bod angen difa ceirw. Nid oes llawer iawn o ddadlau am hynny. O ystyried nad oes gan foch daear unrhyw ysglyfaethwyr hysbys a bod cwymp mawr wedi bod yn niferoedd draenogod a phroblemau sylweddol gydag adar sy'n nythu ar y ddaear, mae rhesymau eraill dros reoli moch daear hefyd. Mae'r rhain yn faterion, yn fy marn i, y mae'n rhaid eu hwynebu os ydym am gael bioamrywiaeth wirinoeddol yng nghefn gwlad. Rwy'n gwybod nad yw hynny'n berthnasol yn uniongyrchol i'r datganiad arbennig hwn ond mae'n rhan bwysig, rwy’n credu, o’r ddadl i geisio cael y cyhoedd ar ein hochr ni gyda’r hyn sydd, rwy’n gwybod, yn fater anodd iawn.

Felly, rwy’n ailddweud yr hyn a ddywedais yn gynharach, nad wyf yn credu bod hyn yn newid cyfeiriad sylweddol i Lywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r broblem hon, ac rwy'n llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am fynd i’r afael â hyn.

Diolch i chi, Neil Hamilton, unwaith eto am eich croeso i'r rhaglen dileu TB ar ei newydd wedd ac am eich cwestiynau. A dweud y gwir, roeddech chi’n dweud am Simon Thomas, wnes i ddim cyfeirio at y cwestiwn am y cynllun prynu ar sail gwybodaeth a ofynnodd Simon, ac roeddech chi’n dweud eich bod yn meddwl fy mod wedi ateb Paul Davies gyda thristwch. Cyflwynwyd y cyllid grant hwn yn y gobaith y byddai pob marchnad da byw yn ei gymryd ac yna’n ei ddefnyddio yn y ffordd y byddem yn ei dymuno. Ac fel y dywedais o'r blaen—rwy’n credu mai wrth Paul Davies oedd hynny—nid wyf i’n credu y cyrhaeddwn ni unrhyw le; rwy'n credu y bydd yn rhaid inni gael cynllun gorfodol. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y modd y gellid cyflwyno hynny, drwy ddeddfwriaeth yn ôl pob tebyg. Felly, bydd yn rhaid i ni adeiladu ar hynny.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn gweithio ar y cyd ac mae'n rhywbeth yr rwyf wedi ei wneud erioed. O ran y cynllun cyflawni, soniais nad cynllun cyflenwi Llywodraeth Cymru mohono, mae'n eiddo i ni yn ogystal â ffermwyr a’r proffesiwn milfeddygol hefyd. Rwyf o’r farn mai dyna'r unig ffordd y gallwn sicrhau nad oes byth TB yng Nghymru, sef yr hyn yr ydym i gyd yn dymuno ei weld. Byddwch yn ymwybodol, pan wneuthum fy natganiad ym mis Hydref, roeddwn yn siarad am Ogledd Iwerddon a'r hyn y maen nhw’n ei wneud o ran dal moch daear a chynnal profion arnynt. Os oedd y canlyniad yn gadarnhaol, roedden nhw’n cael eu lladd yn ddi-boen ac os oedd yn negyddol, roedden nhw’n cael eu brechu. Nid yw’r brechlyn ar gael i ni ar hyn o bryd. Mae'n rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y bydd yn dod yn ei ôl y flwyddyn nesaf, efallai yn ddiweddarach yn y flwyddyn nesaf, ac yna byddwn yn ei ddefnyddio’n gyfannol fel rhan o'r rhaglen.

O ran y cap iawndal, roeddech yn ailadrodd yr hyn a ddywedais i, ac rwyf yn deall bod rhai pobl wedi buddsoddi symiau mawr o arian mewn gwartheg pedigri. Ond, fel y dywedais, byddwn yn parhau i’w fonitro, ond mae angen iddynt ystyried yswirio hynny.

Rydych chi'n iawn ynglŷn ag iechyd a lles anifeiliaid, ac fel y dywedais yn fy ateb i Simon Thomas, rwy’n credu y bydd y ffordd hon yn llesol i boblogaeth y moch daear hefyd. Felly, er fy mod yn diystyru’n llwyr ddifa yn null Lloegr, gan nad wyf yn credu bod hynny’n gweithio, ac mae'r wyddoniaeth a'r dystiolaeth yn dangos hynny, rwyf yn credu bod yn rhaid i ni chwalu’r buchsesi hynny sydd wedi’u heintio’n gronig. Ni ddylai fod gennym ni fuchesi wedi’u heintio am 16, 17 mlynedd; mae hynny’n gwbl annerbyniol i'r ffermwyr ac i'r trethdalwr, felly mae'n rhaid i ni gael y dull newydd hwn.

Rwy’n diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwyf i’n croesawu rhai elfennau ynddo a byddaf yn codi pryderon am rai eraill.

Mae'r ardal triniaeth ddwys—yr IAA—yn cwympo o fewn y rhanbarth yr wyf wedi ei gynrychioli ers 10 mlynedd erbyn hyn, felly rwyf i’n gwybod yn iawn cymaint o falltod yw TB buchol, ac mae'r clefyd wedi bod yn flinder cronig a niweidiol i lawer o ffermwyr am flynyddoedd lawer. Rwyf wedi fy nghalonogi, er hynny, fod nifer yr achosion o TB buchol yn yr IAA wedi gostwng 35 y cant. Mae hynny’n 12 y cant yn fwy na'r ffigur mewn ardaloedd cyfagos. Mae hynny'n awgrymu i mi bod y mesurau sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd, yn wir, yn cael effaith gadarnhaol iawn, ac rwy’n croesawu eich bod wedi penderfynu gweithredu’n wahanol i'r polisi di-drefn sydd ar mewn rhannau o Loegr. Mae gennyf i amheuon, fodd bynnag, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn gallu tawelu fy meddwl o ran nifer o bwyntiau.

Bydd aelodau yn y Siambr hon yn ymwybodol o’m safbwynt ar y mater hwn yn y gorffennol, ac rwyf wedi siarad a phleidleisio yn unol â'r dystiolaeth wyddonol. Daw’r unig dystiolaeth gredadwy sydd gennym o ran difa moch daear a'i effaith ar ledaeniad TB buchol o'r treialon difa moch daear a gynhaliwyd ar hap am 10 mlynedd gan Arglwydd Krebs. Daethpwyd i'r casgliad bod yn rhaid, er mwyn cael hyd yn oed gostyngiad bach mewn TB buchol, lladd 70 y cant o boblogaeth moch daear mewn ardal heb fod yn llai na 150 cilomedr sgwâr, a bod yn rhaid i hynny gael ei wneud mewn cyfnod byr o amser—dyna inni tua chwe wythnos bob blwyddyn. Ond mae hefyd yn mynd ymlaen i ddweud, os caiff gormod o foch daear eu lladd, fod yna risg uchel o’u difodiant yn lleol ac, yn wir, fe ddigwyddodd hynny mewn rhai ardaloedd o Weriniaeth Iwerddon. Mae hefyd yn mynd ymlaen i ddweud, os nad ydych chi’n lladd digon o foch daear, rydych mewn perygl o aflonyddu a gwasgaru, ac mae hynny'n lledaenu’r clefyd ymhellach ac yn ehangach, hyd yn oed. Felly, mae’n rhaid i mi ofyn cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet: sut y mae'r camau arfaethedig i ddal a difa moch daear sydd wedi'u heintio, a gosod microsglodyn ynddyn nhw o bosibl, yn dal dŵr o’u cymharu â’r argymhellion hynny gan Krebs, a sut y gall hynny mewn gwirionedd wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl? Rydych chi’n ymwybodol o fy safbwyntiau i ar ddifa moch daear, ac fe ddywedaf unwaith yn rhagor; nid fyddaf yn ei gefnogi.

Rwyf hefyd yn awyddus i godi cwestiynau eraill am ledaeniad TB buchol mewn cysylltiad â slyri ar ffermydd. Rwy’n deall nad yw pori ar dir lle mae tail a slyri wedi e’i daenu yn cael ei argymell am ddau fis, a hynny oherwydd bod yr haint yn gallu aros mewn tail a slyri am hyd at chwe mis. A wnewch chi egluro felly a ydyw'n orfodol i storio’r holl dail a slyri am chwe mis cyn gwasgaru? A fyddech yn ystyried gorfodi’r moratoriwm ar bori am ddau fis fel yr argymhellir ar hyn o bryd?

Y pwynt olaf sydd gennyf i’w ofyn yw: pa asesiadau eraill yr ydych chi wedi eu gwneud ynghylch lledaeniad TB buchol i wartheg gan gŵn hela? Roedd pump ar hugain o gŵn hela o helfa Kimblewick wedi cael prawf positif am TB buchol yn gynharach eleni. Nid wyf yn gwybod a ydym wedi gwneud unrhyw beth yng Nghymru ynglŷn â phrofi cŵn hela yng Nghymru, ond mi wn fod oddeutu 20 o helfeydd yng ngorllewin Cymru. Onid ydych chi’n meddwl, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, y gallai hi fod yn beth doeth mewn gwirionedd i atal hela â chŵn hyd nes i’r risgiau gael eu hasesu'n iawn o leiaf?

Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiynau ac rwy'n gwybod yn iawn beth yw ei barn hi am ddifa moch daear, lawn cymaint ag y mae hi'n gwybod beth yw f’un innau. Byddwch yn ymwybodol iawn mai ystyried y buchesi wedi’u heintio’n gronig yn unig a wna hyn. Mae'r cynlluniau hyn, mae'r cynlluniau gweithredu pwrpasol hyn, a gaiff eu llunio—a fydd, os caiff ei brofi bod yna, neu os oes tystiolaeth bod cysylltiad rhwng moch daear a gwartheg a allai fod yn cyfrannu at ledaenu’r clefyd, byddwn wedyn yn gwneud y gwaith trapio hwn. Gallai fod nad yw rhai ffermwyr yn dymuno trin y moch daear felly, a bydd y cynllun gweithredu pwrpasol yn cael ei gyflawni’n unig mewn ymgynghoriad â'r ffermwr a chyda'i filfeddyg preifat.

Roeddech chi’n sôn am ficrosglodion. Rwy'n ymwybodol bod hynny wedi ei wneud mewn gwledydd eraill, mewn achos, os yw mochyn daear wedi ei ddal a'i brofi'n negyddol, rhoddir microsglodyn arno, felly, os bydd y clefyd wedyn i’w gael ar y fferm honno, er enghraifft, a byddwch yn mynd yn eich ôl, ac yn dal y mochyn daear sydd â’r microsglodyn arno, bydd hanes blaenorol y mochyn daear hwnnw, os mynnwch chi, yn hysbys.

Roeddech chi’n trafod aflonyddu a gwasgaru. Mae'n rhaid i mi ddweud nad oes llawer o wybodaeth i’w chael am effaith aflonyddu a gwasgaru ar y clefyd ac rwy'n credu bod angen gwneud gwaith sylweddol ynglŷn â hynny. Rwy'n credu mai un maes yr ydym wedi elwa arno yw’r ' arolwg o foch daear marw'. Mae wedi rhoi inni dystiolaeth dda iawn o ran yr ardaloedd ledled Cymru, ac rwyf wedi dweud y bydd hynny'n parhau, yr arolwg hwnnw, wrth symud ymlaen.

Rydych chi’n holi ynglŷn â slyri ac rydych yn dyfynnu'r rheoliadau ynglŷn â slyri ac a ellid ei gwneud hi’n orfodol, oherwydd, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth—wyddoch chi, y mae’n rhaid i’r ffermwyr gymryd camau o ran hynny. Maen nhw’n gwybod beth yw’r peryglon a pha mor hir y dylid ei storio, ac yn y blaen, er mwyn cael gwared ar y lefelau uchel o leithder, ond mae'n rhywbeth y gallwn yn sicr ei ystyried wrth symud ymlaen.

Rydych chi’n gofyn am gŵn hela. Nawr, dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw brofion sydd wedi’u cynnal ar gŵn hela, ond byddwn i'n hapus iawn i ystyried hynny ac i ysgrifennu at yr Aelod a rhoi copi yn y Llyfrgell.

Rwy'n credu, ar y pwynt olaf, y dylech ddilyn y dystiolaeth wyddonol—byddwn i’n cymeradwyo hynny. Rwy'n credu ei bod braidd yn rhyfedd bod Aelod yn dyfynnu’r angen i ddilyn tystiolaeth wyddonol ac yna’n taflu rhywbeth i’r ddadl nad yw wedi ei archwilio gan y pwyllgor yn sicr, nac, fe ymddengys, gan Lywodraeth Cymru. Ond, fel y dywedais i, mae’n rhaid cymryd tystiolaeth o ddifrif pan fo'n gadarn.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod targedau wedi’u gosod. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ein bod yn gosod targed cenedlaethol ac wedyn bod gennym dargedau interim ar gyfer y tri rhanbarth. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni’n pwysleisio, yn y ddau ranbarth nad ydyn nhw, yn anffodus, yn agos iawn at statws heb TB, y gwneir pob ymdrech yn ystod cyfnod y targed, ac na fyddwn yn ildio. Rydym ni wedi penderfynu cael Cymru heb TB buchol. Felly, rwy’n credu bod angen sicrwydd arnyn nhw gan fy mod yn credu bod rhai o’r farn os bydd y gogledd yn cael ei dynodi yn ardal heb TB, yna bydd y mater yn colli ei bwysigrwydd ar sail Cymru gyfan. Rwy'n gwybod nad dyna yw eich bwriad, ond mae'n rhywbeth sy'n cael ei grybwyll gan undebau’r ffermwyr er enghraifft, felly mae angen i ni gadw hynny mewn cof.

Credaf ei bod yn briodol trapio, profi, a chael gwared ar foch daear wedi'u heintio mewn ardaloedd risg uchel. Yn sicr, byddai'n benderfyniad rhyfedd ar y naw o ran lles anifeiliaid i ryddhau’r moch daear hynny yn ôl i'r gwyllt os ceir eu bod yn heintus iawn. Felly, rwy’n credu bod hwn yn ddull priodol. Daeth y pwyllgor o hyd i dystiolaeth yn hyn o beth, yn Lloegr ond hefyd ledled y byd, fod rhywfaint o ymwared yn briodol yn y gronfa bywyd gwyllt, ac, unwaith eto, rydym yn agored i'r dystiolaeth bob amser.

Rwy'n credu bod angen monitro a gwerthuso’r strategaeth newydd yn effeithiol. Edrychodd y pwyllgor ar hynny’n fanwl iawn ac rwy’n croesawu'r ffaith eich bod yn mynd i wneud datganiadau rheolaidd, blynyddol o bosibl—nid ydych wedi penderfynu hynny eto—ac rwy'n credu ei bod yn beth priodol i'r Cynulliad ddychwelyd ato ar y sail honno hefyd.

A gaf i ddweud, am iawndal digonol, rwy'n credu mai un ffordd y gallwn ymateb i'r drychineb hon, mewn gwirionedd—os edrychwch chi ar fap o ledaeniad TB yn y 1960au ac yn edrych ar y sefyllfa yn awr, mae’r clefyd wedi lledaenu yn ofnadwy dros y cyfnod hwnnw. Ond, un peth y gallem ni ei wneud, wrth i ni symud ymlaen tuag at statws heb TB, yw gwella ansawdd y stoc, ac yn hyn o beth mae bridio pedigri yn bwysig. Felly, byddwn yn gofyn i chi ystyried hynny’n ofalus iawn, gan fod hynny wedi’i godi’n benodol gyda ni yn y pwyllgor.

Diolch i chi, David Melding, am y cwestiynau hynny. Rydych chi yn llygad eich lle. Gwnaethpwyd hyn i gyd ar sail tystiolaeth—dyna sut y dylem ni wneud ein penderfyniadau. Ond rwy’n hapus iawn i edrych ar unrhyw beth y mae unrhyw un yn ei awgrymu er mwyn gyrraedd y nod hwnnw yr ydym ni’n dymuno ei gyrraedd, a Chymru heb TB yw hwnnw.

Rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch am ofid yr ardaloedd risg uchel, wyddoch chi, os yw’r gogledd-orllewin yn cael ei dynodi'n ardal heb TB—. Rwyf i o’r farn arall. Rwy'n credu y byddai hynny’n rhoi hwb i ni wir, ac rwy’n credu, fel y dywedais i, y mae hynny o fewn ein cyrraedd yn y tymor byr i ganolig, ond yn fwy tebygol yn y tymor byr. Felly, rwy’n gobeithio fy mod wedi cynnig y sicrwydd hwnnw.

Ynglŷn â’r iawndal, rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch am wella stoc a stoc pedigri, a gwn fod rhai wedi buddsoddi'n helaeth ynddo, ond, i'r un graddau, mae'n rhaid i ni ystyried pam y mae ein cyfraddau iawndal mor uchel o'u cymharu â Lloegr. Chwe deg y cant, nid wyf yn credu bod hynny’n dderbyniol. Nid wyf yn credu y byddai'n dderbyniol i drethdalwyr Cymru, ac, os wyf yn gorfod ystyried lleihau cyllid—nid fi yn bersonol yn lleihau cyllid, ond pe byddai fy nghyllideb yn gweld gostyngiad yn ei chyllid, os byddwn yn colli’r arian hwnnw oddi wrth yr UE, bydd yn rhaid i ni edrych ar y mater hwnnw yn ofalus iawn.

Rwy’n cytuno’n llwyr am iechyd a lles anifeiliaid, ac rwy’n credu, yn y buchesi hynny sydd wedi’u heintio’n gronig, os gallwn ni brofi neu os bydd y dystiolaeth ar gael i ddangos bod moch daear yn cyfrannu at y clefyd yn y fuches honno, ein bod yn cymryd y camau sydd yn briodol a chymesur yn fy marn i.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod hwn wedi bod yn ymgynghoriad gwirioneddol, ei bod hi wedi gwrando ar ffermwyr a’r grwpiau sy’n eu cynrychioli a bod y polisi wedi cryfhau wrth i hynny ddatblygu? Rai misoedd yn ôl, roeddwn yn amheus o ymholiad gan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar hyn; roeddwn yn ofni y byddai pobl yn ddi-wyro yn eu safbwyntiau ac na fyddai llawer o symud wrth ymateb i gryn dipyn o dystiolaeth gan dystion. I’r gwrthwyneb yn llwyr y gwelais i, ac felly y bu gydag Ysgrifennydd y Cabinet a’r hyn y mae hi wedi'i wneud ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn.

Rydym wedi cael datganiadau i'r wasg gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn croesawu'r camau cadarnhaol i fynd i'r afael â TB mewn bywyd gwyllt ac yn dweud ei bod yn gam ymlaen at gael Cymru heb TB. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi, rwy’n credu, ailgyhoeddi eu datganiad i'r wasg, ond, serch hynny, mae datganiad ynddo bod y rhaglen yn parhau i ganolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar reoli gwartheg heb fesurau sylweddol i fynd i'r afael â'r clefyd mewn bywyd gwyllt. A yw hi'n cytuno â mi nad yw hynny'n asesiad teg o'r rhaglen? Efallai os ydych yn edrych ar ei maint a’r cyfan a ysgrifenwyd, ‘rwy’n gallu deall eu safbwynt. Ond, ar y papur cyflenwi yr ydych wedi ei gyhoeddi heddiw, mae'n dweud

lle mae Llywodraeth Cymru yn barnu bod moch daear yn cyfrannu at gyndynrwydd y clefyd mewn buchesi sydd wedi’u heintio’n gronig, bydd moch daear yn cael eu trapio a'u profi ar fferm y fuches honno a bydd moch daear sy’n profi’n bositif yn cael eu lladd yn ddi-boen.

Mae hynny'n ddatblygiad gwirioneddol, ei fod yn mynd i'r afael â TB mewn bywyd gwyllt, ac nid yw’n gam hawdd iddi ei gymryd ac ni fydd yn destun cymeradwyaeth gyffredinol o fewn ei phlaid hi ei hun—ond ei bod hi, fel y gwnaeth y pwyllgor, wedi edrych ar y dystiolaeth. Roeddwn i’n teimlo rhywfaint o rwystredigaeth â'r ffordd y disgrifiodd rhai tystion ac eraill adroddiad Krebs a'r treialon rheoli moch daear ar hap, bron fel pe baent yn llechi wedi eu hanfon o'r nef, a, do, cafodd llawer iawn o arian ei wario ar y treialon hynny, ond mae rhai problemau difrifol mewn gwirionedd ynglŷn â’r modd y cawsant eu cynnal, ac fe gawson nhw eu stopio—pan oedd hi’n ymddangos bod yna aflonyddu a gwasgaru, mewn gwirionedd, fe roddon nhw'r gorau i’w fesur, ac mae treialon eraill wedi bod a thystiolaeth arall sydd wedi dangos bod effaith yr aflonyddu a gwasgaru yn gwanio. Rwy’n credu, fel yr edrychodd y pwyllgor yn fwy ar hyn, gwelsom fod Christianne Glossop, eich prif filfeddyg rhagorol, yn amheus o faint y pwyslais a roddwyd ar yr aflonyddu a gwasgaru yn yr RBCT. Yn arbennig, aeth tri aelod o'r pwyllgor yr oeddwn yn ei gadeirio ar y pryd, a minnau, i Weriniaeth Iwerddon a gwelsom, mewn gwirionedd, o ran eu hymagwedd, eu hasesiad nhw oedd bod aflonyddu a gwasgaru gryn dipyn yn llai o broblem nag yr oedd yr RBCT wedi'i ddweud.

Felly, a wnaiff hi gadarnhau y byddwn ni’n parhau i ganfod a datblygu tystiolaeth? Ac, mewn gwirionedd, mae gwyddoniaeth yn ymwneud ag edrych, a phrofi, a gwneud pethau newydd ac asesu sut yr ydych chi'n gwneud hynny. Rhan allweddol o'r strategaeth fydd gweld, pan geir gwared ar foch daear yn y modd hwn, pa effaith a gaiff hynny, gan sicrhau nad yw effaith yr aflonyddu a gwasgaru yn rhy fawr, a symud pethau ymlaen drwy benderfyniad gan y Llywodraeth sy'n ymateb i dystiolaeth, yn ymateb i ffermwyr, yn ymateb i'r pwyllgor, ac ar hynny hoffwn longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolch i chi, Mark Reckless, am eich cyfraniad. Rydych chi yn llygad eich lle; roedd yn rhaid iddo fod yn ymgynghoriad ystyrlon. Efallai eich bod yn cofio pan ddeuthum i’r pwyllgor ychydig cyn y Nadolig—lansiwyd yr ymgynghoriad gennym ym mis Hydref ac rwy'n credu iddo redeg hyd ganol mis Ionawr, ac roeddwn yn bryderus iawn am ein bod ni wedi cael, yn y cyfnod cyn y Nadolig, rhywbeth tebyg i 15 o ymatebion. Roeddwn yn gwybod pa mor bwysig oedd y mater hwn i ffermwyr, felly rwy’n credu fy mod wedi apelio yn y Cabinet, ac yna, yn erbyn inni orffen yr ymgynghoriad ym mis Ionawr, roeddem wedi cael dros 1,000 o ymatebion. Rydym wedi cymryd ein hamser i edrych ar yr ymatebion hynny, gan fy mod yn credu bod hynny’n bwysig iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gweld nad oeddwn i’n sicr yn ddi-wyro fy marn, ac mae’r ffaith ein bod ni wedi gwrando—roeddwn i’n sôn o'r blaen am y cwestiwn ymgynghori am brofion buches bob chwe mis, ac nid ydym am wneud hynny erbyn hyn gan fod ffermwyr wedi dweud, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, ei bod hi’n rhy anodd i alw gwartheg i mewn o'r borfa. Felly, rwy’n gobeithio y bydd pobl yn cydnabod hynny.

Roeddech chi’n sôn bod y ddau brif undeb ffermwyr yn gweld pethau ychydig bach yn wahanol i’w gilydd, ond ni allwch blesio pawb bob amser. Roeddwn yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru ddoe, a siaradais am hynny, ac yn sicr rwy'n credu bod croeso cyffredinol i hyn, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn ei fonitro. Roedd rhywun yn sôn o'r blaen nad wyf i wedi penderfynu pa mor aml yr ydw i’n mynd i adrodd yn ôl—wel, mi rydw i, byddaf yn adrodd yn flynyddol, y cwestiwn yn syml yw a wyf am adrodd yn ôl i'r Siambr neu i'r pwyllgor. Roeddech chi’n sôn am adroddiad y pwyllgor, ac rwy'n siŵr eich bod yn falch iawn o weld bod yr holl argymhellion naill ai wedi eu derbyn neu—dau rwy’n credu—wedi eu derbyn mewn egwyddor, gan fy mod o’r farn bod adroddiad y pwyllgor yn cyd-fynd â'n cynigion ni.

Diolch i chi, Llywydd. Mae gennyf i ddau gwestiwn byr a phenodol iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi cadarnhau y byddwch yn lleihau'r cap am iawndal o £15,000 i £5,000. Nawr, mi fydd yna, wrth gwrs, rai ffermwyr sydd wedi buddsoddi mewn pethau uchel eu gwerth o ran geneteg i wella'r gwerth genetig a chynhyrchiant eu buches. Sut y mae’r Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod ffermwyr yn y sefyllfa benodol hon yn cael gwerth sy’n deg? Ac, yn ail, a wnewch chi gadarnhau pryd fydd y rhaglen trapio mewn cawell a lladd moch daear heintiedig yn ddi-boen yn dechrau?

I ymateb i'r cwestiwn cyntaf, rwy’n credu fy mod i wedi ateb hynny, ond, os yw unrhyw ffermwr yn credu bod ganddo wartheg sy'n werth mwy na £5,000, byddwn yn awgrymu ei fod yn ystyried yswiriant. Fodd bynnag, mae'r cap newydd ar iawndal yn rhywbeth y byddwn yn parhau i’w fonitro.

Y cynlluniau gweithredu pwrpasol o ran y buchesi wedi’u heintio’n gronig, rydym wedi dechrau tynnu’r rheini at ei gilydd. Felly, mae 10 y cant o’r buchesi sydd gennym yn fuchesi wedi’u heintio’n gronig, sef rhwng 50 a 60—yn sicr yn ôl y ffigurau chwarterol diwethaf a welais i. Rwy'n credu ein bod eisoes wedi ymweld ag oddeutu 40 o ffermydd, er mwyn dechrau tynnu’r cynlluniau gweithredu hyn at ei gilydd. Rwy'n credu ein bod wedi cwblhau 10 o gynlluniau gweithredu. Felly, lle, fel y dywedais, y mae gennym y dystiolaeth i ddangos bod yna gysylltiad rhwng moch daear, bywyd gwyllt, â'r clefyd, byddwn yn dechrau ar hynny—cyn gynted ag y bydd y cynllun gweithredu wedi ei lunio gyda'r ffermwr a chyda milfeddyg preifat y ffermwr, byddwn yn dechrau’r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny, a bydd hynny’n rhan o'r broses.

8. 7. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r Rheoliadau ar Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2017. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig—Carl Sargeant.

Cynnig NDM6330 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Nid oes siaradwyr, ac felly nid oes angen i mi ofyn am ymateb i’r ddadl. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 8. Cyfnod Pleidleisio

Yr eitem nesaf, felly, yw’r cyfnod pleidleisio, ac mae yna un cynnig i bleidleisio arno, y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i, ac i ddweud, fel sy’n ofynnol o dan Rheol Sefydlog 17.2D, ni chaniateir pasio’r cynnig yma oni bai fod o leiaf dwy rhan o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn ei gefnogi. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, fe dderbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 41, Yn erbyn 12, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6337.

Cyn i ni symud at y ddadl Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), byddaf yn gohirio’r trafodion am 10 munud, ac fe gaiff y gloch ei chanu pum munud cyn i ni ailymgynnull. Byddwn i’n awgrymu bod, ac yn annog, Aelodau i ddychwelyd i’r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda. Felly, mae’r sesiwn wedi ei gohirio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:00.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 18:10, gyda’r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

10. 9. Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Grŵp 1: Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Gwelliannau 2, 32, 52)

Grŵp 1 yw'r cynllun cymunedau treth gwarediadau tirlenwi. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 2, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Ysgrifennydd y Cabinet.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Mark Drakeford).

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gan mai hwn yw fy nghyfraniad cyntaf i’r trafodaethau heddiw, hoffwn i wneud ychydig o sylwadau cyffredinol i ddechrau. Ein nod yn y Bil yma oedd adeiladu’r fframwaith gweinyddol a gafodd ei sefydlu gan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Rydym ni’n gwneud hynny trwy nodi'r fframwaith gweithredu ar gyfer cyflwyno’r dreth gwarediadau tirlenwi yng Nghymru a fydd yn cymryd lle’r dreth tirlenwi ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Rydw i’n credu ein bod ni i gyd yn gytûn bod angen i’r dreth rydym ni’n ei sefydlu ar gyfer gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi yng Nghymru fod yn un y gellir ei rheoli a’i chasglu yn effeithiol. Bydd angen i hynny ddigwydd o fewn system drethi sy’n diogelu refeniw ac sydd hefyd yn glir, agored a theg i’r trethdalwr.

Hoffwn ddiolch i holl Aelodau’r Cynulliad, yn enwedig aelodau’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, am eu gwaith hyd yma yn craffu ar y Bil. Mae hyn wedi bod yn gyfraniad gwerthfawr iawn i’r gwaith o lunio’r gyfraith hon ar drethu.

Rydw i’n ddiolchgar iawn hefyd i bawb sydd wedi bod yn barod i drafod gyda ni a chyfrannu syniadau wrth i ni ddatblygu’r ddeddfwriaeth ar y dreth gwarediadau tirlenwi. Trwy gydol y broses, rydw i’n meddwl ei fod yn deg i ddweud, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar farn rhanddeiliaid ac Aelodau. Roeddwn i’n falch o allu derbyn bron y cyfan o argymhellion y pwyllgor. Lle yr oedd modd hefyd, fe wnes i gyflwyno gwelliannau Llywodraeth yng Nghyfnod 2 er mwyn delio â’r materion a godwyd.

With that said, Dirprwy Lywydd, I’ll turn to the specific amendments in group 1. I’d like to move and to speak to the two Government amendments in this group, and also to address Nick Ramsay’s amendment 52.

Both Government amendments in this group are relatively technical, and are needed to reflect changes agreed at Stage 2 proceedings. It has always been the Government’s intention to offer a communities scheme as part of landfill disposal tax. The Finance Committee’s Stage 1 report recommended that a reference to the scheme be placed on the face of the Bill. The Government tabled an amendment in response to that recommendation, and that amendment was supported at Stage 2, and, on 13 June, we published an updated explanatory memorandum and regulatory impact assessment, incorporating detail about the communities scheme.

Today, amendment 2 reflects that development by adding a reference to the communities scheme into the Bill’s overview section. Amendment 32 is also needed to ensure a consistency of drafting style across the Bill, and I ask Members to support both Government amendments in this group.

I’ll have to anticipate a little of what I think Nick Ramsay might be about to say, having heard his contributions at Stage 2, and his amendment, as Members will see, aims to place more detail about the scheme on the face of the Bill. I want to be clear this afternoon that I have no objection to the ideas encapsulated in that amendment. They’re very consistent with the discussions already held in committee on the detail of the scheme. My reason for not asking Members to support amendment 52 is because I want to remain consistent with a commitment I made at Stage 2, which I restated in a letter to the Chair of the Finance Committee on 5 June, and that was a commitment to continue to work with the Finance Committee in developing the details of the scheme.

A briefing has been offered to the committee, following the summer recess, to provide Members with the most up-to-date information. That briefing will include details of the procurement exercise for the distributive body for the scheme, and that procurement exercise has already begun. I do think it is important to allow potential distributive bodies to bring their views to the table as to how they would manage the grant award process and assess individual applications.

Nick Ramsay’s amendment 52, while a very useful contribution to that discussion, could have an unintended consequence of limiting their contributions, if it were passed at this stage. While I’m very keen to give a commitment this afternoon that the substance of amendment 52 will form part of the ongoing discussion on the detail of the community scheme, I hope that Members will not constrain its development by placing this amendment on the face of the Bill this afternoon.

A gaf i yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, groesawu cyflwyno Cam 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)? Rydym wedi treulio amser hir yn siarad am ba mor hanesyddol oedd cyflwyno Treth Gwarediadau Tirlenwi fel y dreth Gymreig gyntaf mewn cannoedd o flynyddoedd, ac yn amlwg mae hwn hefyd yn hanesyddol—yr ail, ac am wn i, y Buzz Aldrin i Neil Armstrong, os oeddech yn chwilio am gyfatebiaeth gofod, y gallech fod, ond, wrth gwrs, efallai na fyddwch. Gallaf weld bod Mike Hedges wedi hoffi’r gyfatebiaeth beth bynnag. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi croesawu eich cydweithio agos yn ystod y camau blaenorol ac, yn wir, gweithio gyda'ch swyddogion. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda'ch swyddogion a chi eich hun a staff cymorth grŵp y Ceidwadwyr Cymreig Cymru hefyd—ac mae hynny wedi bod yn fuddiol iawn. Rydym yn gwybod bod y dreth hon, fel y Dreth Trafodiadau Tir, yn hanfodol yn y ffaith, ym mis Ebrill 2018, bydd yr hyn sy'n cyfateb iddi yn y DU, yr ydym wedi bod yn gweithredu oddi tani hyd yn hyn, a hyd at fis Ebrill y flwyddyn nesaf, yn cael ei diffodd. Felly, does dim amheuaeth o gwbl bod angen y dreth hon.

Gan droi at grŵp 1 a’r cynllun cymunedau, y dywedwch yn briodol sydd yn bwysig iawn, byddwn yn cefnogi'r prif welliant yn y grŵp ac, yn wir, ail welliant y Llywodraeth hefyd. Ond gan droi at y gwelliant mwy dadleuol—ein gwelliant 52—y gwnaethoch roi coel arno, rwy’n cydnabod eich bod yn credu bod pethau da o fewn y gwelliant hwnnw. Roeddech yn llygad eich lle i ddweud ein bod wedi cael cryn dipyn o drafodaeth am hyn yng Nghyfnod 2, yn ystod y cam pwyllgor, ac mae’r sylwadau a fynegais ar y pwynt hwnnw ar gyfer gosod hyn ar wyneb y Bil yn parhau. Credaf fod gwelliant 2 yn culhau’r meini prawf ar gyfer ceisiadau ychydig ar wyneb y Bil. Does dim sôn am y meini prawf cymhwyster eu hunain ar wyneb y Bil. Er y bydd hwn yn gynllun ar wahân i'r Gronfa Cymunedau Tirlenwi traddodiadol sy’n berthnasol yn Lloegr a'r Alban, sydd wedi ei seilio ar dalebau, mae angen culhau’r meini prawf, rwy’n teimlo, ar gyfer cymhwyster, sydd wedi eu lleoli mewn deddfwriaeth bresennol ac a fyddai’n arwain gwaith y pwyllgor ar y cynllun. Ar hyn o bryd, mae gan yr Alban Gronfa Cymunedau Tirlenwi'r Alban, sydd â nifer o bwyntiau manwl am gymhwysedd i'r gronfa, sy'n cael eu hamlinellu dan Ran 7 o Reoliadau Treth Dirlenwi'r Alban (Gweinyddu) 2015, gan gynnwys gwarchod yr amgylchedd, ailgylchu yn y gymuned , prosiectau ailddefnyddio ac atal gwastraff a phrosiectau cadwraeth. Mae'r gwelliant hwn hefyd yn egluro sefyllfa cyrff lleol wrth wneud cais am grant dan y cynllun cymunedau tirlenwi. Ar ben hynny, wrth edrych ar y ddarpariaeth o grantiau a gallu elusennau lleol llai i wneud cais, mae'n hanfodol bod canllawiau clir ar gael er mwyn iddynt gael maes chwarae cyfartal. Er enghraifft, mae Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wedi darparu canllawiau hygyrch i sefydliadau, gan gynnwys eu gwybodaeth ariannol a disgrifiad o’r prosiect.

Fel yr wyf yn dweud, cawsom drafodaeth deg am hyn yng Nghyfnod 2, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n gwerthfawrogi eich rhesymau dros beidio â bod eisiau clymu eich dwylo, yn eich geiriau chi, drwy roi hyn ar wyneb y Bil. Rwyf, fodd bynnag, yn dal i gredu ei fod yn ddefnyddiol i ni gael gwelliant yn y lle hwn yng Nghyfnod 3 fel, yn gyntaf, y gallwch wneud eich pwyntiau yn rymus, yr ydych wedi gwneud, ac rwyf yn siŵr y bydd llawer o Aelodau'n cytuno â nhw, ond hefyd fel y gallwn nodi ein rhesymau dros ddymuno i’r wybodaeth hon gael ei hegluro cyn gynted â phosibl. Un ffordd o wneud hynny fyddai drwy ei rhoi ar wyneb y Bil. Felly byddwn yn dal i hoffi bwrw ymlaen â'r gwelliant hwn, er fy mod yn deall yn llwyr resymau Ysgrifennydd y Cabinet dros wrthwynebu. Os yw’r gwelliant hwn yn methu, yna gobeithio y gall y Pwyllgor Cyllid barhau gyda'r broses o weithio gyda chi i ddatblygu dewis arall rhesymol, derbyniol a chynaliadwy.

Jest yn fyr iawn, i ddweud ein bod ni, ar y meinciau yma, yn gefnogol iawn i’r egwyddor y tu ôl i welliant 52 yn enw Nick Ramsay, sef i sicrhau bod cronfa gymunedol yn gweithio er lles ac er budd cymunedau, ond, ar yr achlysur yma, byddwn ni yn ymatal ar y bleidlais achos rydym ni’n meddwl ei bod hi’n bwysig inni ddal Ysgrifennydd y Cabinet wrth ei air ei fod e am gydweithio gyda’r pwyllgor cyn yr haf, a hefyd i ddod â’r cyrff perthnasol ar lefel cymunedol i mewn i’r drafodaeth ynglŷn â sut y gallwn ni weithredu ar gronfa gymunedol yn y dyfodol. Dim byd o gwbl yn erbyn yr egwyddor y tu ôl i welliant Nick Ramsay—ond ein bod ni ddim eisiau cyfyngu, yn y cyfnod yma, ar beth gallwn ni ei wneud yn y dyfodol gyda thrafodaeth well rhwng y pleidiau i gyd.

Rydw i jest eisiau mynegi fy niolchgarwch fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac ar ran y Pwyllgor Cyllid i gyd, rydw i’n meddwl, am barodrwydd yr Ysgrifennydd Cabinet i weithio gyda ni ar y Bil yma. Rydw i’n credu bod y Bil wedi gwella yn sgil y craffu a gafodd e yn y pwyllgor, ond rydw i hefyd yn meddwl bod yna elfen o gyd-ddeddfu wedi digwydd ar y Bil yma. Wrth inni edrych ar y posibiliadau am drethi newydd—trethi arloesol, ffurf newydd o ddefnyddio’r pwerau newydd sydd gyda ni—rydw i’n credu bod y cynsail y tu ôl i’r Bil yma, a hefyd, i fod yn deg, y Bil blaenorol a oedd yn ymwneud â thrafodion tir, yn gynsail y byddwn ni’n gobeithio y byddai nid jest yr Ysgrifennydd Cabinet presennol, ond pob Ysgrifennydd Cabinet o unrhyw Lywodraeth ac unrhyw blaid, yn mynd i ddymuno ei dilyn ar y cyd gyda’r Cynulliad hwn, wrth i ni ddatblygu yn Senedd.

Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod e wedi derbyn pob un o’n hargymhellion ni mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Mae hynny’n wir, ac mae’n braf i weld bod casglu tystiolaeth, trafod tystiolaeth a dod â thystiolaeth yn ffordd i berswadio’r Llywodraeth i edrych o’r newydd ar y Bil. Wedi dweud hynny, nid oedd e’n Fil gwael iawn yn y lle cyntaf; mae eisiau fod yn glir ar hynny. Rŷm ni ond wedi craffu arno fe, wedi sylwi ar ambell i beth a oedd ar goll, ambell i beth a oedd yn anghywir, ac yng nghyd-destun arbennig y gwelliannau hyn, ar rywbeth nad oedd yno yn y lle cyntaf. Ond drwy ddwyn perswâd ar yr Ysgrifennydd Cabinet, mae yna nawr ymrwymiad penodol yn y Bil, wrth iddo gael ei ddatblygu, fod yna gynllun cymunedau treth gwarediadau tirlenwi, ac rydw i’n meddwl bod hynny’n gyrru neges bositif iawn i’r cymunedau hynny sy’n cael eu heffeithio gan orsafoedd tirlenwi, neu orsafoedd trosglwyddo gwastraff, sydd yn gallu bod yn bla ar rai cymunedau o bryd i’w gilydd.

Fel y mae Steffan Lewis newydd amlinellu, nid ydym ni cweit yn barod i dderbyn y gwelliant gan Nick Ramsay fel Plaid Cymru ar hyn o bryd. Rydw i’n credu bod yr egwyddorion yn y gwelliant yn rhoi canllawiau pwysig, ac fe fyddwn i’n dymuno bod y Pwyllgor Cyllid yn defnyddio’r egwyddorion hynny i lywio’r drafodaeth a fydd gyda ni nawr rhwng y pwyllgor a’r Ysgrifennydd Cabinet.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau hynny sydd wedi siarad am eu harwyddion o gefnogaeth i welliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn.

Disgrifiodd Nick Ramsay ei welliant 52 fel gwelliant dadleuol, ac rwyf am fod yn glir unwaith eto nad cynnwys y gwelliant sydd yn ddadleuol.

I’m not against the principles behind the amendments at all. The problem is the timetable.

Mae’r broblem yn un o amseru. Fel y dywedodd Nick Ramsay, mae ei welliant yn anelu at gulhau’r meini prawf a rhoi cnawd ar esgyrn y manylion, a barn y Llywodraeth yw y byddwn yn dod i bwynt pan fydd hynny’n angenrheidiol. Ond rwy’n awyddus i’w wneud mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor Cyllid, ac mewn cael ystod ehangach o safbwyntiau, sydd yn dal i gael eu casglu mewn cysylltiad â manylion y cynllun.

Dirprwy Lywydd, rwy'n hapus iawn i ddweud eto wrth Nick Ramsay, pe byddai ei welliant yn methu y prynhawn yma, yna bydd ei gynnwys, yn ogystal â'r parodrwydd cyffredinol i barhau i lunio'r cynllun ynghyd, yn sicr yn rhan o’r trafodaethau yr wyf yn awyddus i’w cael gydag aelodau o'r Pwyllgor Cyllid fel y bydd y cynllun hwn yn dwyn ffrwyth.

Y cwestiwn yw bod gwelliant 2 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na Felly, caiff gwelliant 2 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 2: Diffiniad o Fwriad (Gwelliant 50)

Rydym yn symud i grŵp 2, sy’n ymwneud â diffiniad o fwriad. Y prif welliant a’r unig un yn y grŵp hwn yw gwelliant 50, a galwaf ar Nick Ramsay i gynnig a siarad am y gwelliant. Nick Ramsay.

Cynigiwyd gwelliant 50 (Nick Ramsay).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o siarad am y prif welliant ac i gynnig prif welliant grŵp 2 ar y diffiniad o fwriad. Rydym wedi cyflwyno'r gwelliant hwn—adran 6, tudalen 3, llinell 29, os ydych am yr union fanylion—gan ddweud mai ar ôl 'gwastraff' dylem fewnosod 'a'r diffiniad o fwriad', gan ei fod yn darparu ar gyfer hyblygrwydd i ailedrych ar y mater o fwriad. Roedd hwn yn fater a godwyd gan y ddau dyst a'r Pwyllgor Cyllid yn ystod Cyfnod 1 y Bil. Yn ystod Cyfnod 2, cyflwynais ddiffiniad amgen o wastraff a bwriad. Fodd bynnag, gwrthododd Ysgrifennydd y Cabinet â derbyn hyn, gan ddweud nad oedd am beryglu ymgyfreitha ac ailadrodd ei farn bod y darpariaethau presennol ar fwriad yn ‘gytbwys’—dyna oedd y derminoleg a ddefnyddiwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet.

Felly mae’r gwelliant hwn ger ein bron heddiw yn gyfaddawd i Lywodraeth Cymru ac mae’n sicrhau nad yw deddfwriaeth sydd ar ddod gan Lywodraeth y DU ar dreth dirlenwi, yn seiliedig ar gyfraith achosion diweddar, yn gwrthdaro â diffiniadau Llywodraeth Cymru.

Mae cael gwared ar ddeunydd fel gwastraff a'r bwriad i daflu wedi bod yn faes technegol a chymhleth o’r Bil, yn ogystal â bod yn faes cyfreithgar y tu allan i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor ac i'w aelodau am roi ystyriaeth mor fanwl i fater mor bwysig. Ymatebais i argymhelliad 5 y pwyllgor fod y Llywodraeth yn ystyried y diffiniad o waredu deunydd fel gwastraff gyda nodyn technegol manwl yn nodi rhesymeg sy'n sail i bob cydran o adran 6 o'r Bil, sy'n ymdrin â'r mater hwn, a'r broses i gyrraedd y drafft hwnnw. Darperais grynodeb hefyd i’r pwyllgor o ymgyfreitha tirlenwi perthnasol y DU.

Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r diffiniad o warediad trethadwy, ac yn arbennig yr amgylchiadau lle mae amod gwaredu deunyddiau fel gwastraff wedi cael ei fodloni, wedi cael eu llunio'n ofalus er mwyn lleihau'r risg i'r refeniw. Roeddwn yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid a'i Aelodau am eu cydnabyddiaeth i’r dull hwn pan oeddem yn pleidleisio ar welliannau yn y maes hwn yng Nghyfnod 2.

Rwy'n cydnabod bod gwelliant 50 Nick Ramsay yn ddatblygiad o'r gwelliant a gyflwynodd yng Nghyfnod 2. Mae yn awr, rwy’n credu, yn derbyn y gallai gwneud newidiadau i sylwedd y Bil beri risg i'r refeniw yn y ffaith nad yw bellach yn ceisio newid unrhyw un o'r darpariaethau yn nodi beth yw gwarediad trethadwy, ond yn hytrach mae'n ymddangos i fod eisiau diogelu’r Bil at y dyfodol drwy ychwanegu at y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 6 (4) o'r Bil, er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru addasu ystyr 'y diffiniad o fwriad'. Y broblem gyda'r gwelliant yw nad yw naill ai adran 6 na'r Bil ehangach yn cyflwyno diffiniad o fwriad. Felly, nid yw gwelliant i addasu rhywbeth nad yw yn y Bil yn ymarferol nac, rwy'n credu, yn ddymunol.

Bydd aelodau'r Pwyllgor Cyllid yn ymwybodol iawn bod ymagwedd y Bil i p’un a fu gwaredu deunydd fel gwastraff yn cynnwys nifer o elfennau o fewn adran 6. Mae'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 6 (4) fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd yn caniatáu i Weinidogion Cymru addasu ystyr gwaredu deunydd fel gwastraff, trwy ddiwygio adran 6. Byddai’r pŵer hwn yn caniatáu i'r prawf bwriad i waredu sy'n sail i'r diffiniad o waredu deunydd fel gwastraff gael ei symud, ychwanegu ato, neu ei newid fel arall, ac wrth wneud hynny gellir gwneud newidiadau eisoes i bob un o gydrannau adran 6 .

Mewn geiriau eraill, mae'r Bil eisoes yn rhoi pŵer i Weinidogion i gyflawni'r hyn sydd y tu ôl i welliant Nick Ramsay, ond, rwy’n credu, mewn ffordd fwy ymarferol a dichonadwy. Am y rhesymau hynny, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n derbyn bod y Bil fel y'i drafftiwyd eisoes wedi’i ddiogelu at y dyfodol yn ddigonol i ganiatáu ar gyfer newidiadau yn y maes hwn ac yn cytuno nad yw gwelliant 50 yn ymarferol. Ar sail hynny, gofynnaf i Aelodau beidio â chefnogi'r gwelliant hwn.

Diolch. Fel y dywedais wrth agor y grŵp hwn, grŵp 2, a chynnig y gwelliant hwn, mae'r gwelliant hwn mewn gwirionedd yn gyfaddawd ar y gwelliant gwreiddiol a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2, pwynt a gydnabyddir gan Ysgrifennydd y Cabinet, ac nid yw ond yn ceisio egluro diffiniadau a sicrhau nad yw deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn gwrthdaro â deddfwriaeth y DU. Mae'r materion y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cyflwyno heddiw yn debyg i'r materion a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2, yn y ffaith bod pryder, rwy’n gwybod, am ymgyfreitha yn y dyfodol ac am y modd y gallai’r gwelliant wedyn, a’r gwelliant hwn, mewn gwirionedd wneud pethau yn fwy cymhleth.

Gwrandewais ar Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod Cyfnod 2 yn ofalus, a dyna pam na wnes i fwrw ymlaen â geiriad y gwelliant hwnnw ar hyn o bryd. Rwyf wedi gwrando arnoch chi eto heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Ar sail yr hyn yr ydych wedi'i ddweud, dwi'n hapus i beidio â chynnig y gwelliant hwn. Fodd bynnag, byddaf yn gwneud hynny ar sail y gallem barhau trafodaethau, gan fy mod yn teimlo bod problem yma nad yw wedi ei thrin yn foddhaol naill ai yng Nghyfnod 2 neu Gyfnod 3, a hoffwn i weld mwy o weithio arno. Fodd bynnag, rwy’n gwerthfawrogi nad yw Llywodraeth Cymru—neu Lywodraeth Cymru'r dyfodol—yn awyddus i ymdrin â phroblem ymgyfreitha yn y dyfodol, felly os gallwn i awgrymu fel ffordd ymlaen, efallai y gallwn—. Wel, dwi'n hapus i beidio â—ai tynnu'n ôl ydyw neu beidio â chynnig? Rwyf bob amser yn drysu.

Iawn. Rhaid i mi ofyn: a oes unrhyw un yn gwrthwynebu tynnu’r gwelliant hwn yn ôl? Neb. Diolch.

Tynnwyd gwelliant 50 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Grŵp 3: Technegol (Gwelliannau 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 12, 14, 17, 19, 20, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 35, 36, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47, 48, 1)

Mae'r grŵp nesaf yn cynnwys gwelliannau technegol. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 3. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp—Ysgrifennydd y Cabinet.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Mark Drakeford).

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i gynnig a siarad am bob un o 33 gwelliant y Llywodraeth yn y grŵp hwn, ond nid pob un yn unigol. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai sy'n gyfrifol am drefnu’r pethau hyn am gytuno i roi'r holl newidiadau technegol i mewn i’r un grŵp hwn. Ysgrifennais at yr Aelodau yn gynharach heddiw i roi rhywfaint o gefndir o ran y diben y tu ôl i newidiadau technegol y Llywodraeth a nodir yn y grŵp hwn.

Yn fyr iawn, felly, mae'r gwelliannau yn syrthio i mewn i nifer o wahanol gategorïau. Mae un gwelliant—gwelliant 5—sydd ei angen i adlewyrchu newidiadau i'r Bil a wnaed yng Nghyfnod 2; mae 18 o welliannau sy'n diweddaru cyfeiriadau yn y Bil hwn at baragraffau yn Neddf Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017; mae saith gwelliant sy'n cywiro mân faterion gramadegol neu arddull drafftio; mae pedwar gwelliant sy'n egluro drafftio; mae dau welliant sy'n sicrhau croesgyfeirio cywir yn y Bil; ac yn olaf, mae un gwelliant sy'n newid y disgrifiad yn nheitl hir y Bil i 'waredu deunydd fel gwastraff drwy dirlenwi', sydd yn ddisgrifiad cywir o'r cymhwysedd yn y maes hwn ac mae'n adlewyrchu drafftio mewn mannau eraill yn y Bil hwn.

Nid yw'r un o'r gwelliannau hyn, Dirprwy Lywydd, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i sylwedd y Bil fel y craffwyd arno hyd yma, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n teimlo'n fodlon eu derbyn.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am hynny. Nid oes gennyf unrhyw awydd i fynd drwy’r rhan fwyaf o'r gwelliannau hyn chwaith, oherwydd, fel y mae fy mhrif chwip wedi dweud, mae'n heulog y tu allan ac nid ydym yn awyddus i fod yma tan yr oriau tywyll. Fodd bynnag, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi pob un o'r gwelliannau hyn, ar wahân i—mae gennym broblem gyda'r gwelliant cyntaf, y prif welliant, ac efallai y gallwch ddarparu eglurhad ar hyn.

Mae’r prif welliant yn cyfeirio at y cyfnod hwyaf a bennwyd yn yr hysbysiad sy'n dynodi'r fan dan adran 54 (3). Fodd bynnag, nid yw gweddill adran 54 yn cyfeirio at uchafswm cyfnodau o rybudd. Mae hyn yn ymddangos i wneud y cyfeirio yn fwy cymhleth, i mi, a byddwn yn ddiolchgar am eglurhad ar y rheswm am hyn—mae'n ymddangos i fod yn anghywir, o ystyried bod y gwelliannau eraill yn ymddangos i fod yn eithaf derbyniol.

Fy nealltwriaeth i yw bod y gwelliant y mae Nick Ramsay yn cyfeirio ato yn un sy'n sicrhau croesgyfeirio cywir yn y Bil. Bydd man nad yw at ddibenion gwaredu yr ymdrinnir ag o yng ngwelliannau 3 a 25 yn cael ei ddynodi drwy gyfrwng hysbysiad a roddir dan adran 54. Nid wyf yn credu bod anghysondeb yn y Bil o ganlyniad. Rwy'n hapus iawn, wrth gwrs, ar ôl heddiw i wneud yn siŵr ein bod yn gallu ymateb yn fwy manwl at y pwynt y mae’r Aelod wedi’i wneud ac i gymryd unrhyw gamau, os oes angen unrhyw gamau, ond nid wyf yn credu y bydd.

Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 3 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Byddwn yn symud i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais.

Iawn. Felly, caewch y bleidlais, felly. O blaid y cynnig 42, 13 yn ymatal. Felly, caiff gwelliant 3 ei basio.

Derbyniwyd gwelliant 3: O blaid 42, Yn erbyn 0, Ymatal 13.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 4 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 4 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 5 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 5 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 5 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 6 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 6 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 7 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 7 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 7 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 8 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 8 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 9 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 9 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 9 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 4: Deunydd Cymwys (Gwelliannau 10, 11, 53)

Grŵp 4—deunyddiau cymhwyso. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 10 a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig a siarad am y prif welliant a gwelliannau eraill yn y grŵp hwn—Ysgrifennydd y Cabinet.

Cynigiwyd gwelliant 10 (Mark Drakeford).

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, hoffwn i gynnig dau welliant y Llywodraeth, gwelliannau 10 a 11, yn y grŵp hwn a rhoi sylw i newid 53 Nick Ramsay, sydd heb fod yn un y Llywodraeth. Os siaradaf yn gyntaf am y gwelliant nad yw’n un y Llywodraeth, a gaf i ddweud fy mod yn ddiolchgar i Nick Ramsay am gyflwyno'r gwelliant, sydd mewn gwirionedd yn ehangu ar y Bil mewn cysylltiad ag Atodlen 1? Mewnosodwyd yr Atodlen hon o ddeunydd cymwys o ganlyniad i welliant gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2. Mae gwelliant Nick Ramsay yn ddefnyddiol yn ymestyn y rhestr o ddeunydd a gynhwysir yn yr Atodlen honno. Rwy'n ddiolchgar iddo am ei gyflwyno a bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant hwnnw'r prynhawn yma.

Dirprwy Lywydd, mae gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn yn ymateb i fater penodol iawn, ond un sydd wedi cael ei ymarfer yn rheolaidd yn ystod hynt y Bil ac, yn wir, o flaen y llysoedd cyfraith. Mae dau welliant y Llywodraeth yn ymwneud â’r hyn a elwir yn ddirwyon. Yn y cyd-destun hwn, nid cosb ariannol yw dirwy, ond y gronynnau a gynhyrchwyd drwy broses trin gwastraff sy'n cynnwys triniaeth fecanyddol. Mae natur y deunydd yn golygu y gall fod yn anodd pennu union natur y llwyth o ddeunydd ac mae hyn wedi cyflwyno cyfleoedd i gynhyrchwyr gwastraff, cludwyr neu weithredwyr diegwyddor honni bod llwyth yn gymwys ar gyfer y gyfradd is o dreth pan ddylai, mewn gwirionedd, fod wedi cael ei drethu ar y gyfradd uwch, safonol. Mewn ymateb i'r mater hwn, cyflwynwyd yr hyn a elwir yn system brawf colled wrth danio ar gyfer treth dirlenwi yn y DU ym mis Ebrill 2015, ac ar gyfer treth dirlenwi’r Alban ym mis Hydref 2016. Mae'r system brawf yn cynorthwyo gweithredwyr safleoedd tirlenwi wrth benderfynu ar y rhwymedigaeth dreth gywir o ddirwyon a gwella cydymffurfiad yn y maes hwn. Fel yr eglurais wrth y Pwyllgor Cyllid yn gynharach ym mhroses y Bil, rwyf wedi bod yn awyddus i sicrhau ein bod yn gallu dysgu oddi wrth weithrediad y systemau prawf hyn, yn yr Alban a'r Deyrnas Unedig, cyn cyflwyno ein trefniadau ein hunain yng Nghymru. Mae dau welliant y Llywodraeth yn y grŵp hwn yn sicrhau bod y Bil yn caniatáu i ni wneud hynny.

Mae'r gwelliant cyntaf yn y grŵp, gwelliant 10, yn welliant technegol. Gwelliant 11 yw'r prif welliant ac mae'n gwneud tri pheth. Yn gyntaf, mae'n darparu rhestr wedi'i diweddaru o ddarpariaethau y gellir eu gwneud mewn cysylltiad â rheoliadau profion colled wrth danio er mwyn adlewyrchu dysgu pellach yn y maes hwn. Yn ail, mae gwelliant 11 yn sicrhau y gall rheoliadau a wnaed mewn cysylltiad â phrofion colled wrth danio ddarparu ar gyfer cosbau neu adolygiadau, ac apeliadau os oes angen. Ac, yn drydydd, mae’r gwelliant yn caniatáu i reoliadau a wneir dan adran 17 ymdrin â hysbysiadau. Mae hysbysiadau wedi cael eu mabwysiadu yng nghyd-destun dirwyon ac yn arbennig o ran gofynion profion colled wrth danio gan CThEM a Chyllid yr Alban. Ac rwy’n credu ei bod yn synhwyrol sicrhau bod pwerau yn bodoli i alluogi dull tebyg yng Nghymru.

I grynhoi, Dirprwy Lywydd, byddai'r gwelliannau y mae'r Llywodraeth wedi’u cyflwyno yn caniatáu i reoliadau sy'n ymwneud â chymysgeddau o ddirwyon a system brofion colled wrth danio, yn arbennig, gael eu gwneud fel eu bod yn effeithiol ac yn seiliedig ar bwerau sydd â digon o hyblygrwydd ynddynt fel eu bod yn gadarn ac yn ymarferol ar lefel weithredol. Drwy gydol hynt y Bil, mae wedi bod yn amlwg bod y profion o ddirwyon yn faes polisi newydd, ac y gall y gwersi a ddysgwyd y tu allan i Gymru lywio'r ymagwedd at y rheoliadau a'r drefn sylfaenol yn y maes hwn. Mae'r gwelliannau hyn wedi cael eu cynllunio i ganiatáu i hynny ddigwydd, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n eu cefnogi'r prynhawn yma.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r prif welliant yn y grŵp hwn, sy'n ymddangos, fel yr awgrymasoch, i newid drafftio—i gywiro, dylwn ddweud—mater drafftio yn y ddarpariaeth wreiddiol.

Gan droi at ein gwelliant 53, rwy'n falch iawn o glywed eich bod wedi penderfynu derbyn y gwelliant hwnnw; roeddwn i'n credu mai dyna fyddai eich safbwynt o ystyried yr arwydd a roesoch imi yn gynharach. Mae gennym bryderon bod nifer o ddeunyddiau wedi cael eu gadael allan o'r rhestr o ddeunyddiau cymwys, deunyddiau gan gynnwys ffibrau gwydr, silica, sgraffinyddion mwynau—gallwn fynd ymlaen, ond ni wnaf, oherwydd bod amser yn brin ac nid ydym i gyd yn arbenigwyr ar dirlenwi. Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno bod y rhain yn hepgoriadau. Rwy'n deall bod y rhain i’w gweld yn y dreth dirlenwi gyfredol yr ydym ar fin ei disodli, felly mae'n amlwg yn amryfusedd yr ydych wedi cytuno i'w gywiro. Felly, rwy'n falch eich bod wedi derbyn hynny, ac rwy'n hapus i dderbyn y prif welliant hefyd.

Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 10 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 10 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 11 (Mark Drakeford).

Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 11 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, rydym yn symud i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 42, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, caiff gwelliant 11 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 11: O blaid 42, Yn erbyn 13, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 11.

Cynigiwyd gwelliant 12 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 12 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 12 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 5: Pwysau Trethadwy Deunydd (Gwelliannau 13, 15, 16, 18)

Grŵp 5 yw pwysau trethadwy deunydd a'r prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 13. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp—Ysgrifennydd y Cabinet.

Cynigiwyd gwelliant 13 (Mark Drakeford).

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae pob un o'r tri grŵp nesaf, Dirprwy Lywydd, yn ymdrin â mater sydd yn gymharol gul mewn bwriad, ond ym mhob achos yn edrych i ddod ag eglurder neu degwch ychwanegol i drethdalwyr. Yn y grŵp hwn, mae tri phrif welliant—gwelliannau 13, 16 a 18—sy'n ymwneud â phwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwy.

Mae gwelliant 13 yn diwygio adran 18 o'r Bil. Lle mae'r gweithredydd neu Awdurdod Cyllid Cymru, neu'r ddau ohonynt, yn cyfrif pwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwy, mae darpariaeth adran 18 a ddiwygiwyd yn nodi pa un o'r cyfrifiadau hynny fydd yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo faint o dreth a godir ar y gwarediad. Mae'r gwelliant hwn yn rhoi mwy o eglurder i'r trethdalwr, yn enwedig lle mae’r gweithredwr ac Awdurdod Cyllid Cymru yn cyfrifo'r pwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwy.

Dirprwy Lywydd, o ganlyniad i adolygu'r darpariaethau mewn perthynas â phwysau trethadwy deunydd, a gynhaliwyd yng ngoleuni'r trafodaethau ar y pwnc hwn yn ystod camau cynharach yn y Bil, rydym wedi cyflwyno gwelliant 16 i gael gwared ar y pŵer i wneud rheoliadau cyfredol mewn perthynas â disgownt dŵr, ac yn ei le gyflwyno pŵer i wneud rheoliadau ehangach trwy welliant 18. Bydd pŵer o'r fath yn sicrhau y gall profiad gweithredol, newidiadau polisi neu newidiadau yn y dyfodol yn y dechnoleg yn y maes hwn gael eu hadlewyrchu yn y ddeddfwriaeth.

Mae gwelliant 15 yn y grŵp yn welliant technegol arall sy'n sicrhau y gall Awdurdod Cyllid Cymru bennu naill ai ffurf cofnod disgownt dŵr neu wybodaeth sydd ei hangen ynddo, heb gael eu gorfodi i wneud y ddau. Gofynnaf i Aelodau gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech yn dweud ar welliant 18 eich bod yn cymryd pŵer ehangach, drwy reoliad, i addasu darpariaethau sy'n ymwneud â phwysau trethadwy deunydd. Roeddwn i eisiau gofyn i chi: oeddech chi'n rhagweld defnyddio hwn mewn perthynas â'r mater pan fydd y deunydd yn cael ei bwyso—mater a drafodwyd gennym yng Nghyfnod 1—gan fod y Bil cychwynnol, yn adran 20, yn dweud bod

Rhaid i weithredydd safle tirlenwi awdurdodedig benderfynu pwysau'r deunydd mewn gwarediad trethadwy cyn i’r gwarediad gael ei wneud?

Pan ymwelodd y pwyllgor Cyllid â safle Lamby Way, darganfyddwyd mai’r arfer yno oedd pwyso’r deunydd ar y lori lwythog wrth iddi fynd i mewn ac yna pwyso'r lori wag ar y ffordd allan, y gwahaniaeth wedyn oedd yn pennu’r pwysau. Nawr bod y gwelliannau yng Nghyfnod 2 wedi cael eu gwneud, yn 20 (2) (a) dywedir

Bod y deunydd yn cael ei bwyso ar y bont bwyso cyn gwneud y gwaredu.

Allwch chi egluro eich bod yn gweld hynny yn gyson â'r arfer a welsom yn Lamby Way, a bod pwyso’r deunydd yn y lori a dim ond wedyn ei benderfynu wrth gymharu hynny â phwysau’r lori wag yn unol â'r Bil fel y mae yn awr, neu a ydych chi’n ystyried y gallai fod angen defnyddio pŵer rheoleiddio hwnnw yn y dyfodol i amrywio hwnnw?

Gwn pan oedd Mark Reckless yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, ei fod wedi cymryd diddordeb arbennig yn y mater o pryd y dylai pwysau gwarediad trethadwy gael ei nodi, ac yn wir mewn darpariaethau dŵr, a sut y dylem wneud yn siŵr eu bod yn cael eu hadlewyrchu yn effeithiol yn y Bil, a chafodd gwelliannau eu cynnig yn ystod Cyfnod 2 i ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaeth mewn trafodaethau cynharach. Felly, mae’r ffordd y mae'r Bil, fel y'i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2, yn ymdrin â phryd y dylai deunydd gael ei bwyso yn awr yn gyson â'r hyn a welodd aelodau'r Pwyllgor Cyllid pan oeddent yn Lamby Way. Felly nid wyf yn rhagweld y byddai angen y pŵer hwn i wneud rheoliadau ar unwaith i ymateb i hynny. Ond fel y clywodd aelodau o'r pwyllgor yn ystod yr ymweliad hwnnw ac oddi wrth dystion arbenigol eraill, mae technoleg yn y maes hwn yn newid drwy'r amser ac efallai y bydd rhai dulliau eraill, mwy cywir o bwyso deunydd sy’n mynd i safleoedd tirlenwi yn cael eu dyfeisio yn y dyfodol, a byddai’r pŵer hwn i wneud rheoliadau yn caniatáu i Weinidogion wneud yn siŵr y byddai'r ffordd y mae'r gyfraith yn gweithio yng Nghymru yn gyson â'r arfer gorau yn y maes. Dyna pam ein bod yn gobeithio mynd â’r gwelliant drwy'r Cynulliad y prynhawn yma.

Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 13 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 13 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 14 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 14 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 14 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 15 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Byddwn yn symud ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 40, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, caiff y gwelliant ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 15: O blaid 40, Yn erbyn 13, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 15.

Cynigiwyd gwelliant 16 (Mark Drakeford).

Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 16 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 16 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 16 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 17 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 17 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 17 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 17 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 18 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 18 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 18 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 19 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 19 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 19 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 19 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 20 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 20 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 20 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 20 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 6: Cyfrifo Treth (Gwelliannau 21, 22, 33, 34, 37)

Grŵp 6 yw cyfrif am dreth. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 21 a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp— Ysgrifennydd y Cabinet.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Mark Drakeford).

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Mae gwelliannau 21 a 22 yn welliannau sylweddol yn y grŵp hwn ac maent yn diwygio adrannau 38 a 39 o'r Bil.

Mae gwelliant 21 yn ceisio diwygio adran 38. Mae Adran 38 o'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfnodau cyfrifo sy'n berthnasol i weithredwyr cofrestredig ac anghofrestredig safleoedd tirlenwi awdurdodedig. Rydym wedi dod i'r farn nad yw'r ddarpariaeth bresennol yn ymdrin yn llawn â’r amgylchiadau hynny lle mae gweithredwr anghofrestredig sydd wedi cynnal gweithrediadau trethadwy, yn cael eu cofrestru wedyn. Fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, efallai y bydd y Bil yn cael yr effaith annymunol o'i gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr cofrestredig roi cyfrif ar gyfer gwarediadau y maent eisoes wedi eu cyfrif pan oeddent yn anghofrestredig. Mae gwelliant 21 y Llywodraeth yn egluro’r sefyllfa honno drwy sicrhau, pan fo gweithredwyr anghofrestredig wedyn yn cael eu cofrestru, na fydd yn rhaid iddynt roi cyfrif am unrhyw warediadau trethadwy y maent eisoes wedi’u cyfrif pan oeddent heb eu cofrestru. Mae'r gwelliant hwn hefyd yn egluro dyddiad ffeilio a chyfnodau cyfrifyddu sy'n berthnasol pan fo Awdurdod Refeniw Cymru wedi amrywio’r dyddiadau neu'r cyfnodau dan adran 39 y Bil.

O ganlyniad i roi ystyriaeth i adrannau 38 a 39, rydym hefyd yn ceisio cael gwared ar adran 39 (3) (b) o'r Bil i sicrhau bod Awdurdod Cyllid Cymru yn gallu cyhoeddi hysbysiad amrywio o ran dyddiadau ffeilio yn gyffredinol a chyflawnir hyn drwy welliant 22.

Mae’r gwelliannau eraill yn y grŵp—gwelliannau 33, 34 a 37—i gyd yn ganlyniadol ar welliant 21 ac yn gwneud gwelliannau i adran 94 ac Atodlen 4 y Bil. Yn ystod Cyfnod 2, o ganlyniad i argymhellion y Pwyllgor Cyllid ac ymgysylltu parhaus gydag arbenigwyr ac ymarferwyr yn y maes arbenigol iawn hwn, cyflwynwyd nifer o welliannau Llywodraeth i gryfhau'r tegwch i'r trethdalwr yn y defnydd ymarferol o dreth gwarediadau tirlenwi. Mae'r gwelliannau yn grŵp 6 yn ymdrechion pellach i gyflawni'r un canlyniad a gofynnaf i’r Aelodau eu cefnogi.

Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 21 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Caiff gwelliant 21 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 21 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 22 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 22 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 22 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 22 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 23 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 23 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 23 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 23 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 24 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 24 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly, caiff gwelliant 24 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 24 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 25 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 25 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Byddwn yn symud ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 42, 12 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, caiff gwelliant 25 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 25: O blaid 42, Yn erbyn 1, Ymatal 12.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 25.

Cynigiwyd gwelliant 26 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 26 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 26 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 26 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 27 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 27 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 27 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 27 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 28 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 28 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 28 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 28 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 29 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 29 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 29 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 29 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 7: Marwolaeth, Analluedd ac Ansolfedd (Gwelliannau 30, 31)

Group 7 is death, incapacity and insolvency and the lead amendment in this group is amendment 30. I call on the Cabinet Secretary to move and speak to the lead amendment and the other amendment in the group. Cabinet Secretary.

Cynigiwyd gwelliant 30 (Mark Drakeford).

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig y ddau welliant yn y grŵp hwn, sy'n codi o fater a nodwyd gydag adran 84 o'r Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd.

Mewn achosion lle mae newid yn y person sy'n rhedeg busnes tirlenwi oherwydd marwolaeth, analluogrwydd neu ansolfedd gweithredydd safle tirlenwi, mae adran 84 yn caniatáu i Awdurdod Refeniw Cymru allu trin person arall sy'n cynnal y busnes fel pe bae’n drethdalwr mewn rhai amgylchiadau. Mae adran 84 (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Refeniw Cymru roi rhybudd i'r person sydd yn mynd i gael ei drin fel trethdalwr. Ond nid oes angen rhybudd tebyg yn benodol i gael ei ddarparu i'r person nad yw bellach yn gyfrifol am dalu'r dreth. Ar ben hynny, pe digwydd i’r sefyllfa gael ei gwrthdroi, fel bod Awdurdod Cyllid Cymru yn rhoi’r gorau i drin person fel pe bae’n drethdalwr, gan olygu bod y trethdalwr gwreiddiol yn ailafael yn y statws, nid yw’r Bil fel y mae ar hyn o bryd yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddau barti gael gwybod am y newid hwnnw. Nid yw ond yn ofynnol i'r person sydd bellach yn cael ei drin fel y trethdalwr i gael ei hysbysu.

Mae gwelliannau 30 a 31 yn rhoi sylw i’r sefyllfa honno, maent yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Cyllid Cymru gyhoeddi rhybuddion i'r ddau barti lle byddai hynny'n briodol. Credaf fod y gwelliannau hyn yn sicrhau tegwch a thryloywder i'r trethdalwr, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliannau’r Llywodraeth yn y grŵp hwn.

Diolch. Nick Ramsay. Na? Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 30 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 30 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 30 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 31 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 31 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly caiff gwelliant 31 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 31 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 8: Gweinidogion Cymru yn arfer Pwerau a Dyletswyddau o Dan y Ddeddf hon (Gwelliant 49)

We move to group 8. The next group relates to Welsh Ministers’ exercise of powers and duties under this Act. The lead and only amendment in this group is amendment 49. I call on Steffan Lewis to move and speak to the amendment. Steffan.

Cynigiwyd gwelliant 49 (Steffan Lewis).

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n cynnig yn ffurfiol. Mae gwelliant 49 yn rhoi amcan datganedig ar wyneb y Bil hwn, sef lleihau swm y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. O'i gyflwyno, mae’r Bil hwn wedi cael ei ddisgrifio fel un sydd â diben amgylcheddol yn hytrach nag un ariannol. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud mai bwriad y Bil yw helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nod o Gymru ddiwastraff—nod yr ydym yn ei rannu. Gall fod yn anarferol i dreth gael ei dibenion cyllidol a pholisi yn gysylltiedig yn y modd hwn, ond yn yr achos hwn mae'r dreth yn ymwneud yn fwy â’r effaith a gaiff ar ymddygiad y cyhoedd na’r arian y bydd yn ei godi. Felly, rydym yn credu ei bod yn briodol i amcan polisi’r dreth hon gael ei ymgorffori ar wyneb y Bil.

Fel y dywedodd Aelodau eraill yn ystod y craffu ar y Bil hwn yn ystod y cam pwyllgor, mae treth gwarediadau tirlenwi yn anarferol oherwydd ei bod yn ceisio bod yn llai buddiol yn ariannol dros gyfnod o amser, ac oherwydd y dylai’r dreth hon leihau swm y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi, bydd y swm o arian a godir hefyd yn lleihau. Mae'n bosibl ar ryw bwynt ragweld adeg pan all cost gweinyddu'r dreth hon fod yn fwy na'r refeniw a godir, ond mae'n hanfodol na roddir y gorau i’r dreth ar y pwynt hwn. Byddai hynny'n cael yr effaith groes o ail-gymell tirlenwi ac o bosibl ddadwneud y cynnydd amgylcheddol yr ydym yn gobeithio ei wneud.

Pan fyddwn yn cyrraedd y pwynt lle mae angen ail-werthuso'r dreth hon, rhaid i’w diben polisi barhau i fod yn ganolog i'r ail-werthuso. Rwy'n deall y gall fod eithriadau mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, felly mae gwelliant 49 yn cynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru roi sylw i faterion eraill y maent yn credu sy'n briodol wrth arfer eu pwerau o dan y Bil, yn ogystal, wrth gwrs, â'r amcan amgylcheddol sylfaenol. Trwy sicrhau bod yr amcan amgylcheddol yn cael ei gadw ar wyneb y Bil, gallwn fod yn sicr y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn parhau i gael amcan amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol. Mae'n bwysig diogelu’r ddeddfwriaeth hon at y dyfodol, fel y bydd yn ofynnol i unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol a allai geisio rhoi'r gorau i'r amcan amgylcheddol newid y gyfraith a chymeradwyaeth Senedd Cymru er mwyn gwneud hynny.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gwelliant hwn mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae Steffan Lewis—byddwn yn dweud yn anfwriadol, ond mae'n debyg yn fwriadol—wedi taro ar agwedd ddiddorol â'r ffordd yr aeth y dreth hon yn ei blaen yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2. Cawsom drafodaethau am y cydbwysedd hwnnw, y cydbwysedd pwysig iawn rhwng cael treth sydd yno i godi arian, ac rydym yn gwybod ein bod ni'n mynd i golli arian o'r grant bloc pan fydd y dreth hon wedi'i datganoli, felly dyna ei phrif amcan, o’i chymharu ag agwedd amgylcheddol y dreth, yr oedd eraill yn dadlau yw'r prif nod. Nid oeddwn yn gwbl hyderus yn y trafodaethau Cyfnod 2 a wnaethom ein bod yn hollol glir ynghylch ble’r oedd y cydbwysedd hwnnw’n gorwedd. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedasoch, Steffan, fod hon yn bennaf yn dreth amgylcheddol ac felly dylai ei swyddogaeth o ran lleihau tirlenwi yn y dyfodol gael ei diogelu ar bob cyfrif. Byddaf yn ildio i Mike Hedges.

Pan gafodd ei chyflwyno yn gyntaf fel treth dirlenwi, y rheswm oedd atal awdurdodau lleol rhag dympio yn unig, i'w gwneud yn aneconomaidd yn ymarferol iddynt i ddim ond dympio, ac mae'r gost ychwanegol yn golygu bod pobl yn dechrau ailgylchu, ac mae wedi cael effaith fawr ar ailgylchu. Felly, pan gafodd ei chyflwyno yn gyntaf dan Lywodraeth San Steffan, y nod oedd, bron yn gyfan gwbl, ceisio newid arferion.

Ie, rydych yn hollol gywir. Pan gafodd treth y DU ei chyflwyno, dyna oedd y rheswm. Ond, wrth gwrs, mae hon yn dreth ddatganoledig ac rydym yn colli arian drwy'r grant bloc ar ôl ei datganoli. Felly, dros gyfnod o amser, gan fod y dreth yn lleihau, yna, yn amlwg, byddai’r swm hwnnw yn lleihau. Nawr, nid wyf yn dweud nad yw hynny yn digwydd ar lefel y DU. Yn amlwg, mae gostyngiad yn y dreth, ond mae gennym—. A'r rheswm dros siarad ar y gwelliant hwn yw oherwydd dydw i ddim yn dweud ein bod yn gwrthwynebu hyn mewn unrhyw ffordd, Steffan Lewis, ond rydym yn credu ei fod yn codi nifer o faterion diddorol am y ffordd y mae treth ddatganoledig yn gweithredu, a'r ffordd y gallai Llywodraeth yn y dyfodol geisio ei defnyddio. Mae goblygiad refeniw i hyn, a Bil treth yw hwn yn bennaf. Nid Bil amgylcheddol yn bennaf. Rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol, wrth symud ymlaen, pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno trethi yn y dyfodol—gan fod gennych yr hawl i ddatblygu eich trethi eu hunain yn Llywodraeth Cymru, yn annibynnol ar y rheini; rydym yn gwybod bod hynny'n rhan o'r setliad presennol—bod y mathau hyn o faterion yn cael eu datrys yn y dyfodol. Ond rydym yn barod i gefnogi'r gwelliant hwn.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Bydd Aelodau eraill wedi cael blas bach o ddadl ehangach sydd wedi mynd ymlaen yn y Pwyllgor Cyllid byth ers i’r Bil hwn gael ei gyflwyno gyntaf. Mae'n Fil, am wn i, y byddwn yn ei ddisgrifio fel Bil treth gyda phwrpas amgylcheddol wrth ei wraidd.

Cyflwynodd Steffan Lewis welliant i'r perwyl hwn yng Nghyfnod 2. Dywedais ar y pryd bod rhai materion technegol a chyfreithiol gyda’i ddrafftio, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Steffan Lewis am y sgyrsiau adeiladol a defnyddiol yr ydym wedi eu cael rhwng Cyfnodau 2 a 3, ac mae'r gwelliant o flaen y Cynulliad y prynhawn yma yn un y mae ochr y Llywodraeth yn barod iawn i’w gefnogi.

Fel y clywsoch gan Steffan, bydd y gwelliant yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth arfer pwerau a dyletswyddau o dan y Ddeddf, i ystyried yr amcan o leihau gwarediadau tirlenwi yng Nghymru. Mae'n ddyletswydd statudol felly, sy'n sicrhau bod hwn yn ymrwymiad cadarn sydd ar waith ar gyfer hyn, a Llywodraethau'r dyfodol. Mae cynnwys isadran (1) (b) yn bwysig oherwydd ei fod yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi sylw i faterion eraill, sydd, mewn setiau cymharol gyfyngedig o amgylchiadau, yn bwysig. Rydym yn falch iawn i gefnogi gwelliant 49, yr wyf yn gobeithio sy’n arddangosiad ymarferol o'r hyn a ddywedodd Simon Thomas yn gynharach pan soniodd am yr ysbryd o gydweithio sydd wedi nodweddu datblygiad y darn hwn o ddeddfwriaeth.

Dirprwy Lywydd, yn yr ysbryd hwnnw, roeddwn eisiau cofnodi canlyniadau cyfres arall o sgyrsiau sydd wedi mynd ymlaen rhwng Cyfnod 2 a Chyfnod 3. Yng Nghyfnod 2, cynigiodd Nick Ramsay set o welliannau mewn perthynas ag adolygiad o’r dreth hon. Rydym wedi llwyddo i gael trafodaethau pellach gyda Steffan Lewis a Nick Ramsay rhwng Cyfnod 2 a Chyfnod 3. O ganlyniad, rwyf eisiau cofnodi ein cytundeb y dylid cynnal adolygiad annibynnol tebyg o dreth gwarediadau tirlenwi fel y cytunwyd yn y cyd-destun treth trafodiadau tir, ond dylid cynnal adolygiad annibynnol sy'n cwmpasu pob rhan o'r dreth, gan gynnwys y gwarediadau newydd heb awdurdod a'r cynllun cymunedau, ac y dylem gynnal yr adolygiad annibynnol i'r un amserlen ag a gytunwyd ar gyfer Deddf Treth Trafodiadau Tir. Rwy'n credu bod y set honno o gytundebau yn gyfraniad pwysig arall i sicrhau bod y dreth hon yn gadarn iawn; mae'n adlewyrchu'r cytundebau yr ydym wedi’u cyrraedd yn ystod y cyfnod rhwng Cyfnodau 2 a 3, ac rwy'n falch o gael y cyfle i'w rhoi ar y cofnod y prynhawn yma.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n galw ar Steffan Lewis i ymateb i'r ddadl. Na? Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 49 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 49 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 49 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 9: Canllawiau ACC (Gwelliant 51)

Mae'r grŵp olaf yn ymwneud â chanllawiau Awdurdod Cyllid Cymru. Y prif welliant a’r unig un yn y grŵp hwn yw gwelliant 51. Galwaf ar Nick Ramsay i gynnig a siarad am y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 51 (Nick Ramsay).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch i gynnig prif welliant y grŵp terfynol.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi darparu gwybodaeth am Awdurdod Cyllid yr Alban yn rhannu swyddogaethau swyddfa gefn yng ngoleuni Deddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013. Oherwydd cyllid cyhoeddus cyfyngedig a'r angen i ddarparu gwerth am arian, dylai Awdurdod Cyllid Cymru ddechrau, rydym yn teimlo, fel y mae'n bwriadu parhau, drwy rannu swyddogaethau swyddfa gefn. Mae hyn, yn ein barn ni, yn hanfodol i’w sefydlu ar hyn o bryd. Fel rhan o'r gwaith craffu ariannol ar y Bil LBTT, amlinellwyd nifer o arbedion cost, a all fod o gymorth ar gyfer y Bil Treth Trafodiadau Tir o ran arbedion swyddfa gefn drwy rannu swyddogaethau, ac yn wir y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi. Roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y refeniw canlynol ar gyfer treth dirlenwi ym mis Tachwedd 2016: o 2018 ymlaen bydd Llywodraeth Cymru yn casglu tua £27 miliwn y flwyddyn, cyn ystyried polisi 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Disgwylir i hyn ddisgyn i £24 miliwn erbyn 2020-21.

Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay ac nid oes gen i unrhyw anhawster derbyn byrdwn ei sylwadau yn y ffaith y bydd yn sicr yn wir y byddwn am i Awdurdod Refeniw Cymru allu gweithredu ar y cyd â sefydliadau eraill a rhannu adnoddau ystafell gefn gyda nhw os yw hynny'n helpu Awdurdod Cyllid Cymru yn ei ddyletswyddau. Mae'r gwelliant, fodd bynnag, yn dweud rhywbeth, rwy'n credu, ychydig yn wahanol i hynny. Mae'n welliant a fyddai'n caniatáu i Awdurdod Cyllid Cymru gyhoeddi canllawiau i gyngor sir neu Adnoddau Naturiol Cymru i fabwysiadu arfer gorau o ran gweinyddu'r dreth gwarediadau tirlenwi. Rydym wedi cael llawer o drafodaethau yn ystod taith y Bil ynghylch yr angen i Awdurdod Cyllid Cymru roi arweiniad—arweiniad i drethdalwyr ar y Bil hwn ac mewn perthynas â Deddf Treth Trafodiadau Tir—ac roeddwn yn falch o allu rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor Cyllid bod darparu canllawiau o'r fath wedi'u cytuno gyda chadeirydd newydd Awdurdod Cyllid Cymru. Felly, er fy mod yn gryf o blaid yr egwyddor o ganllawiau, nid wyf yn credu bod y gwelliant hwn yn gwneud synnwyr da. Mae'n ceisio mewnosod adran newydd i alluogi Awdurdod Cyllid Cymru i gyhoeddi canllawiau i Gyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru mewn cysylltiad â mabwysiadu arfer gorau o ran gweinyddu'r dreth gwarediadau tirlenwi. Y broblem yw, fel y nodir yn Neddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, mai Awdurdod Cyllid Cymru fydd yn gyfrifol am weinyddu treth gwarediadau tirlenwi, nid Cyfoeth Naturiol Cymru neu awdurdodau lleol.

Yn awr, rwy’n llwyr gytuno y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y maes tirlenwi, ond ni fydd y berthynas rhyngddynt ac Awdurdod Cyllid Cymru, tra bod angen iddi fod yn gryf ac o fudd i bawb, yn cael ei gwella trwy ddarparu arweiniad iddynt ar rywbeth nad oes ganddynt gyfrifoldeb i’w gynnal. Nid oes pŵer penodol yn angenrheidiol i ganiatáu darparu canllawiau, ac, yn eithaf sicr, ni fydd yn synhwyrol i Awdurdod Cyllid Cymru gyhoeddi canllawiau i Gyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol ar sail gwelliant 51, gan nad yw cyrff hyn yn mynd i fod yn gyfrifol am weinyddu Treth Gwarediadau Tirlenwi. Felly, fy mhroblem, rwy’n credu, Dirprwy Lywydd, ar ôl gwrando ar yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay, yw bod gennyf lawer o gydymdeimlad â'r hyn oedd ganddo i'w ddweud am rannu swyddogaethau swyddfa gefn ac effeithlonrwydd gweinyddol—dwi ddim yn credu bod y gwelliant, fel y mae gerbron y Cynulliad y prynhawn yma, o reidrwydd yn cael yr effaith honno, ac nid yw'n atal Awdurdod Cyllid Cymru rhag cyflawni'r canlyniadau hynny â'r gyfres o bwerau sydd ganddo eisoes. Felly, rwy'n mynd i ofyn i Aelodau beidio â chefnogi gwelliant 51.

Diolch. Roedd hwn, mewn sawl ffordd, yn welliant treiddgar. Cawsom y drafodaeth hon, fel y dywedasoch, yng Nghyfnod 2, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd i gyd yn rhan o'r drafodaeth ynghylch pa mor annibynnol yw Awdurdod Cyllid Cymru, faint o gorff hyd braich fydd yr Awdurdod, neu i ba raddau y bydd yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru. Fel yr wyf wedi dweud gyda’r gwelliant blaenorol a gyflwynwyd gan Steffan Lewis, nid wyf yn hollol siŵr ein bod yn dod i gasgliad boddhaol ynghylch lle mae’r cydbwysedd hwnnw rhwng cael eu harwain gan Lywodraeth Cymru a chaniatáu’r annibyniaeth neu’r ymreolaeth angenrheidiol hwnnw i Awdurdod Cyllid Cymru. Ond rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedasoch am nad ydym am fod yn rhy llawdrwm gydag Awdurdod Cyllid Cymru, yn enwedig yn y cyfnod cynnar. Felly, os ydych yn barod i roi ymrwymiad pellach, wrth i Awdurdod Cyllid Cymru gael ei ddatblygu ac wrth i'r trethi newydd ddod ar-lein, y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r sefyllfa i sicrhau bod hyn yn gweithio'n effeithiol, ac mae'n gwneud hynny yn absenoldeb canllawiau yr wyf yn deall eich rhesymau dros beidio â bod eisiau eu rhoi, yna dwi'n hapus i dynnu’r gwelliant hwn yn ôl, ond, fel y dywedais, rwy’n credu bod angen i ni gadw llygad ar hyn.

Diolch. Oes rhywun yn gwrthwynebu i welliant 51 yn cael ei dynnu'n ôl? Na, Diolch yn fawr am hynny.

Tynnwyd gwelliant 51 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Cynigiwyd gwelliant 32 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 32 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 32 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 32 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 52 (Nick Ramsay).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 52 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, rydym yn symud ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 15, wyth yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, nid yw'r gwelliant wedi'i dderbyn.

Gwrthodwyd gwelliant 52: O blaid 15, Yn erbyn 32, Ymatal 8.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 52.

Cynigiwyd gwelliant 33 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 33 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 33 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 33 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 34 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 34 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 34 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 34 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 53 (Nick Ramsay).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 53 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 53 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 53 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 35 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 35 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 35 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 35 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 36 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 36 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 36 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 36 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 37 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 37 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 37 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 37 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 38 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 38 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 38 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 38 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 39 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 39 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 39 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 39 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 40 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 40 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 40 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 40 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 41 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 41 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 41 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 41 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 42 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 42 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 42 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 42 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 43 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 43 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 43 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 43 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 44 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 44 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 44 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 44 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 45 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 45 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 45 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 45 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 46 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 46 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 46 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 46 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 47 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 47 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 47 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 47 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 48 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 48 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 48 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 48 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Mark Drakeford).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 1 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff gwelliant 1 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Rydym wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Rwyf yn datgan yr ystyrir bod pob adran ac Atodlen o'r Bil wedi eu derbyn.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:14.